Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

22/06/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf, Sian Gwenllian.

Prosiectau Ynni Cymunedol

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â rôl prosiectau ynni cymunedol fel rhan o strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0014(ERA)[W]

Diolch. Mae’n bosibl mai newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i genedlaethau’r dyfodol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau net Cymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Bydd gan brosiectau ynni lleol, a lleihau pellteroedd rhwng cynhyrchu a defnydd yn fwy cyffredinol, ran hanfodol i’w chwarae yn cyflawni hyn.

Diolch. Yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, mi wnaeth fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, weithio’n ddiflino er mwyn sicrhau llwyddiant dau gynllun hydro cymunedol wrth iddyn nhw ddechrau’r broses o gynnig cyfle i’r cyhoedd brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau yma. Maen braf gen i ddatgan bod y prosiectau yma wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan ddenu nifer o gymdogion y cymunedau hynny i brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau, ac mae Ynni Ogwen Cyf ac YnNi Padarn Peris bellach yn mynd ar eu taith. Mae Ynni Anafon yn Abergwyngregyn hefyd yn gynllun hydro cymunedol llwyddiannus iawn. Ond, efo’r prosiect Ynni Ogwen yn benodol, mi wnaeth hi gymryd dwy flynedd i’r cynllun dderbyn ei drwydded echdynnu dŵr, sef yr ‘abstraction licence’ gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n mynd yn bell tu hwnt i’r pedwar mis sydd yn eu canllawiau statudol nhw i brosesu ceisiadau o’r math yma.

Mewn sesiwn dystiolaeth i’r pwyllgor amgylchedd fis Tachwedd y flwyddyn ddiwethaf, mi ddywedwyd bryd hynny mai diffyg staff ac adnoddau gan Gyfoeth Naturiol Cymru oedd ffynhonnell y broblem. A ydy’r Gweinidog wedi gwneud unrhyw asesiadau o’r adnoddau sydd eu hangen gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei rwymedigaethau yn llawn, ac, os felly, a ydych chi’n fodlon fod ganddo fo’r adnoddau digonol i wneud hynny, ac, os na, a fedrwch chi ymrwymo i wneud asesiad o’r fath yma ac adrodd yn ôl i’r Cynulliad, os gwelwch yn dda?

Diolch. Roeddwn yn falch iawn ein bod yn cefnogi Ynni Ogwen ym Methesda. Dyna’r cynllun peilot cyntaf o’i fath yn y DU, felly rwy’n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu ohono yn ôl pob tebyg, o ystyried mai hwnnw yn amlwg oedd y cyntaf, ac rwy’n gwybod eu bod yn treialu model o annog defnydd lleol o ynni drwy gynhyrchu gwasgaredig. Fe fyddwch yn derbyn fy mod yn newydd iawn yn y portffolio. Rwyf wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn amlwg, maent yn cael cyllid sylweddol gennym a’u cyfrifoldeb hwy yw trefnu a sicrhau bod ganddynt y staff sy’n angenrheidiol i gwmpasu pob rhan o’r prosiect. Ond mae’n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei drafod gyda hwy yn fy nghyfarfod nesaf a gynhelir yr wythnos nesaf, rwy’n credu. Ond gan ei fod yn gynllun peilot, rwy’n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu gan Ynni Ogwen ym Methesda.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r strategaeth hinsawdd hefyd yn gosod targedau ar gyfer gwella defnydd effeithlon o ynni yn ein cartrefi. Mae rhan o’r dull o gyflawni hyn yn cynnwys rhoi cladin allanol ar rai o’r adeiladau sy’n cael eu defnyddio’n eang, ond hefyd ar stoc a adeiladwyd cyn 1919, sy’n adeiladau bloc solet neu waliau solet yn bennaf. Mae’r cladin allanol yn ei gwneud hi’n bosibl i’r eiddo hwnnw ddefnyddio ynni’n effeithlon, ond gallai hefyd gyfyngu ar allu’r eiddo hwnnw i anadlu, sy’n achosi anawsterau. A wnewch chi gomisiynu ymchwil ar effaith y cladin allanol ar y mathau hyn o adeiladau, fel y gallwn sicrhau nad yw’n achosi problemau hirdymor i ni, ond yn hytrach ei fod yn rhoi manteision hirdymor i ni?

Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni wybod a yw’n mynd i achosi anawsterau neu fanteision i ni, felly, os nad yw’r ymchwil hwnnw wedi’i wneud o’r blaen, byddaf yn sicr yn ystyried ei roi ar waith.

Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi o’r blaen am fanteision cymunedol cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf am ofyn i chi eto am ei fod yn fater pwysig iawn i fy etholwyr. Pan oedd fferm solar yn cael ei chynllunio yn Llanfable rhwng Trefynwy a’r Fenni yn fy ardal, fe’i gwrthwynebwyd gan bobl leol. Ar ôl i’r cynllun gael ei basio, daethant i wybod yn ddiweddarach eu bod wedi colli’r cyfle i lobïo dros y buddion cymunedol sydd fel arfer yn gysylltiedig â chynlluniau o’r fath, ac nid yw’r cwmni dan sylw wedi ymateb rhyw lawer i’w hymholiadau. Rwy’n sylweddoli bod yna agwedd ar hyn sydd heb ei datganoli, ond a wnewch chi ddweud wrthyf ym mha ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cryfhau’r gweithdrefnau a’r canllawiau hyn fel na all cwmnïau osgoi darparu buddion cymunedol gwerthfawr pan fo cynlluniau’n cael eu hadeiladu mewn cymunedau?

Ie, os ydym am sicrhau bod gennym y prosiectau cymunedol hyn, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall eu manteision—ei fod yn real iawn iddynt, a’u bod yn gallu cymryd rhan ynddo. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Rwy’n credu fy mod eisoes wedi dechrau edrych ar hynny. Y tro cyntaf i chi ddwyn y mater i fy sylw, gofynnais i swyddogion. Fel y dywedwch, mae rhan o hyn wedi’i gadw’n ôl, ond unwaith eto, byddaf yn hapus iawn i gyflwyno sylwadau i’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth y DU.

Risg o Lifogydd yng Ngorllewin Clwyd

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau sy’n cael eu cymryd i leihau’r risg o lifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OAQ(5)0005(ERA)

Diolch. Mae Gorllewin Clwyd wedi elwa o dros £20 miliwn o fuddsoddiad dros dymor y Llywodraeth ddiwethaf, gyda chynlluniau i leihau perygl llifogydd wedi’u cyflawni’n llwyddiannus ym Mae Colwyn, Bae Cinmel a Rhuthun. Rydym yn asesu cynlluniau posibl yn Abergele, Llansannan a Mochdre ac mae gwaith dichonoldeb cyllid yn cael ei wneud mewn ardaloedd eraill ar draws Gorllewin Clwyd.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n ddiolchgar iawn am fuddsoddiad y Llywodraeth flaenorol i fynd i’r afael â materion perygl llifogydd yng Ngorllewin Clwyd, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod, ar sawl achlysur, wedi croesawu’r buddsoddiad hwnnw. Rwy’n bryderus ynglŷn â’r ardaloedd a restrwyd gennych hefyd i ddweud eu bod dan ystyriaeth ar hyn o bryd, ond cefais fy siomi gan y ffaith na chlywais unrhyw gyfeiriad at y promenâd ac amddiffynfeydd llifogydd Hen Golwyn, sydd wrth gwrs yn amddiffyn seilwaith trafnidiaeth hanfodol a hollbwysig gogledd Cymru, yn enwedig cefnffordd yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru. A allwch roi rhywfaint o sicrwydd i ni eich bod hefyd yn ystyried y materion rheoli perygl llifogydd yn yr ardal benodol honno, a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau eu bod yn mynd i gael eu gwneud mewn modd amserol, oherwydd maent wedi cael eu peledu gan stormydd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny wedi tanseilio’r amddiffynfeydd hynny’n ddifrifol?

Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ar gyllid ar gyfer Hen Golwyn. Er mwyn datblygu hyn, mae angen i’r holl bartneriaid weithio gyda’i gilydd, felly rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth sydd angen i chi ei ystyried hefyd. Rwy’n gwybod bod fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae’n bwysig iawn ein bod yn dod â phawb at ei gilydd i ddod o hyd i ateb priodol. Felly, fel y dywedais, pe bai’r Aelod hefyd yn gallu cynorthwyo yn y modd hwnnw, byddai hynny’n ddefnyddiol iawn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer o rannau o ogledd-ddwyrain Cymru wedi dioddef llifogydd sydyn ar ôl glaw trwm a pharhaus dros yr wythnosau diwethaf. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â thrigolion a busnesau ym Magillt sydd wedi’u hanrheithio gan lifogydd, ac mae’n destun pryder fod hon yn ardal sydd eisoes wedi dioddef llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Chyngor Sir y Fflint er mwyn rhoi camau ataliol ar waith mewn ardaloedd o’r fath sy’n dueddol o gael llifogydd, pa gymorth sydd ar gael i ddioddefwyr ac a fyddwch chi’n ystyried ymweld â’r ardaloedd?

Diolch i chi am y cwestiwn, Hannah Blythyn. Rwy’n gwybod eu bod wedi cael llifogydd sydyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yr wythnos diwethaf ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r busnesau a’r tai a ddioddefodd yn sgil y llifogydd sydyn ar ôl y glaw trwm yr wythnos diwethaf. Rwy’n gwybod fod Bagillt yn arbennig wedi dioddef, ac mae fy swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint yn ogystal â’r gwasanaethau brys—rydym am ddiolch iddynt gan eu bod wedi lliniaru’r perygl uniongyrchol i beth o’r eiddo. Rwy’n credu y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal yn awr i geisio darganfod sut y digwyddodd y llifogydd yn dilyn y glaw trwm, ac mae angen i ni ddeall pa ffactorau oedd ynghlwm wrth hyn fel y gallwn roi camau posibl ar waith i leihau’r perygl y bydd llifogydd o’r fath yn digwydd eto.

Mae llawer iawn o’r arian, wrth gwrs, sy’n cael ei fuddsoddi i fynd i’r afael â’r her o lifogydd yn dod o ffynonellau Ewropeaidd, wrth gwrs. A fyddech chi’n cytuno â mi felly, Ysgrifennydd Cabinet, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gadael nifer o’r cymunedau hyn hyd yn oed yn fwy ‘exposed’ i’r risg o ddioddef gorlifo, yn enwedig mewn ardaloedd fel Gorllewin Clwyd?

Yn hollol. Cytunaf yn llwyr â Llyr Huws Gruffydd y buasai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn sicr yn torri ein cyllid yn sylweddol, yn fy mhortffolio i’n arbennig. Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr effaith, ac mae’n sylweddol tu hwnt. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rwy’n galw nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

The Cabinet Secretary will be aware that one of the big problems in rural areas and in my vast and scattered region of Mid and West Wales in particular is the vexed question of broadband download speeds. I have constituents who’ve written to me with typical rates of 1 Mbps, compared with 15 Mbps which is the UK average. I wonder if the Cabinet Secretary could give us a rundown on what action the Welsh Government is presently taking to improve broadband download speeds in rural areas.

Mae hyn yn anhawster i rai rhannau o’r ardaloedd gwledig, ac rwy’n credu ei fod yn ymwneud â gwella’r seilwaith ar gyfer yr ardaloedd hynny. Byddaf yn gweithio’n agos gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a chyd-Aelodau eraill y Llywodraeth er mwyn sicrhau ein bod yn cael band eang cyflym mewn ardaloedd gwledig cyn gynted â phosibl.

Maddeuwch i mi am nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yr ymateb hwnnw braidd yn brin o fanylion. Yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw achosion hirdymor o addewidion wedi’u torri gan y cwmnïau dan sylw. Mae gennyf etholwr a ysgrifennodd ataf o Abergorlech, yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a gafodd addewid o uwchraddiad i fand eang ffeibr yn 2015; ni ddigwyddodd hynny. Yna cafodd addewid y buasai’n digwydd erbyn mis Mehefin eleni; nid yw hynny wedi digwydd. Cafodd wybod yn ddiweddar y bydd yn rhaid iddo aros tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf cyn y bydd unrhyw obaith o welliant. Felly, tybed pa gamau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i roi pwysau ar y cwmnïau sy’n gyfrifol am gyflwyno band eang yn yr ardaloedd hyn?

Yn amlwg, ni allaf roi sylwadau ar yr achos unigol hwnnw. Mae’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fand eang wedi clywed eich sylwadau. Os hoffech ysgrifennu ati ynglŷn â’r achos penodol hwnnw, rwy’n siŵr y gallai gysylltu â’r cwmni i drafod y mater.

Un o’r problemau mawr yma yw bod gan Openreach afael haearnaidd ar y seilwaith i bob pwrpas, ac mae’n debyg bod hyn i gyd yn mynd yn ôl i’r modd y cafodd British Telecom ei breifateiddio flynyddoedd lawer yn ôl. [Torri ar draws.]

Rwy’n credu y dylai’r anrhydeddus Aelod fod yn drugarog wrth dderbyn fy mea culpa. Ond wrth gwrs, 30 mlynedd yn ôl, ni allem ragweld y dyfodol gyda’r sicrwydd sydd gan Aelodau heddiw mewn perthynas â dyfodol yr Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, lle cafwyd camgymeriad flynyddoedd mawr yn ôl, efallai y dylem yn awr ailystyried yr opsiynau hynny, ac rwy’n meddwl tybed a fuasai Llywodraeth Cymru yn ystyried hynny hefyd.

Wel, unwaith eto, rwy’n siŵr fod y Gweinidog wedi eich clywed. Yn fy etholaeth i, gwn fod yna gwmnïau eraill yn ei ddarparu, ond fel y dywedais, os hoffech ysgrifennu at y Gweinidog sy’n gyfrifol am y mater, Julie James, rwy’n siŵr y cewch yr ateb.

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae yna dîm pwysig arall wedi bod ym Mharis, o flaen y tîm pêl-droed, yr oeddem ni yn ei longyfarch ac yn dymuno’n dda iddyn nhw gynnau bach, sef y tîm wedi’i arwain gan y cyn-Weinidog a aeth i’r trafodaethau newid hinsawdd ym Mharis cyn y Nadolig y llynedd. Yn sgil y trafodaethau hynny, a ydy’r Llywodraeth hyn—eich Llywodraeth chi—yn ystyried ei hunan wedi’i hymrwymo, os nad yn gyfreithlon o leiaf yn foesol, i gyrraedd y targedau a osodwyd yng nghytundeb Paris?

Diolch am y cadarnhad hwnnw. Wrth gwrs, mae’r cytundeb hwnnw’n gosod cwrs i fynd at allyriadau carbon o sero, dim, erbyn ail hanner y ganrif hon ac i ddal allyriadau carbon i dyfiant o 1.5 y cant tan hynny. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae newyddion wedi dod ein bod ni ar fin pasio’r trothwy symbolaidd ond pwysig o 400 rhan y filiwn o allyriadau carbon, sy’n dangos bod yr holl fyd yn bell oddi ar y targed. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yr oedd eich Llywodraeth yn gyfrifol amdano yn y Cynulliad diwethaf, yn gosod allan targed ar ostwng allyriadau carbon erbyn 2050. A ydych chi’n dal i ystyried y targed yma’n ddigonol i gwrdd â’r uchelgais yng nghytundeb Paris?

Ar hyn o bryd, ydw. Fel y dywedwch, mae Deddf yr amgylchedd yn gosod targed o 80 y cant o ostyngiad fan lleiaf mewn allyriadau erbyn 2050. Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth sydd angen i ni ei wylio’n agos iawn ac rwy’n ymrwymo i wneud hynny.

Diolch i chi am y cadarnhad hwnnw, ond rwy’n credu bod angen i ni barhau i adolygu’r targedau hyn, oherwydd mae’n bosibl na fydd targed o 80 y cant o ostyngiad yn ddigon mewn gwirionedd i gyfrannu at uchelgais Paris yn gyffredinol. Ond un o’r ffyrdd allweddol y gallem ni yng Nghymru gyfrannu tuag at ein targedau ein hunain a thargedau byd-eang yw drwy ynni adnewyddadwy wedi’i ddatblygu’n well. Rydym eisoes wedi clywed ychydig am hynny o ogledd Cymru. Oni fyddai’n well, felly, pe bai gennym reolaeth dros brosiectau ynni o dan Fil Cymru heb unrhyw gyfeiriad at drothwyon o gwbl? Felly, er enghraifft, gallem roi gwell cefnogaeth a hyder i syniadau cyffrous a gwych megis y morglawdd ym mae Abertawe, ac rwy’n datgan buddiant fel cyfranddaliwr cymunedol yn y prosiect hwnnw.

Fe fyddai, ac yn sicr fe fyddwch yn ymwybodol o’r sylwadau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, a disgwyliwn yn eiddgar i glywed beth a ddaw o San Steffan yn awr.

Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n dymuno’n dda i chi gyda’ch portffolio newydd. Rwy’n edrych ymlaen at eich cysgodi yn y maes pwysig hwn o bolisi cyhoeddus. Rwy’n ofni bod rhaid i mi gychwyn ar nodyn sur, yn anffodus. Rwyf wedi sylwi nad yw ansawdd aer wedi’i restru fel un o’ch cyfrifoldebau ar wefan swyddogol Llywodraeth Cymru—nid yw wedi cael ei restru’n benodol; byddwch yn dadlau ei fod yno’n enerig, wrth gwrs—er bod polisi sŵn, er enghraifft, sy’n bwysig iawn, wedi’i restru’n benodol. A yw hyn yn arwydd o agwedd ddi-fflach tuag at ansawdd aer ar ran Llywodraeth Cymru?

Rwy’n siomedig iawn eich bod wedi dechrau ar nodyn mor sur. Mae’n bendant yn gyfrifoldeb i mi a gallaf sicrhau David Melding fod gwella ansawdd aer yn sicr yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru.

Rwy’n siŵr eich bod yr un mor bryderus â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â’r dystiolaeth wyddonol gynyddol sy’n dangos bod gronynnau diesel yn peri risg sylweddol iawn i iechyd y cyhoedd. Rydym wedi arfer sôn am beryglon ysmygu goddefol, er enghraifft, ond mae’n fwy na thebyg fod y gronynnau hyn yn creu perygl mwy difrifol i ystod eang o’r boblogaeth. Pa fesurau sy’n cael eu cynllunio i wella ansawdd aer o ganlyniad i’r dystiolaeth hon?

Wel mae hyn yn rhan o’r holl beth rwy’n edrych arno mewn perthynas ag ansawdd aer, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod gan awdurdodau lleol ddyletswyddau, yn amlwg, o dan y gyfundrefn rheoli ansawdd aer lleol, a gwn fy mod wedi cael fy lobïo gan Aelodau Cynulliad mewn ardaloedd penodol, yn gynnar iawn yn y portffolio, ynglŷn ag ardaloedd penodol mewn awdurdodau lleol penodol. Yr hyn rwyf wedi’i wneud yw gofyn i swyddogion fonitro awdurdodau lleol yn ofalus iawn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau i gynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer ansawdd aer, er mwyn i ni allu edrych i weld pa fesurau penodol y mae pob un ohonynt yn eu gwneud, ac yn amlwg bydd yr ymchwil wyddonol rydym yn ei chael yn awr mewn perthynas â diesel yn rhan o hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch o nodi hynny, ond a ydych yn credu, mewn ystyr fwy ymarferol, ei bod hi’n bryd i ni yng Nghymru, ac ym Mhrydain yn gyffredinol, wynebu rhai o ganlyniadau ymarferol cludo plant i’r ysgol, er enghraifft? Rwy’n credu ein bod yn perthyn i’r un genhedlaeth, ac yn fy amser i, y rhai a oedd yn sâl neu’n dueddol o gamymddwyn a gâi eu cludo i’r ysgol gan drafnidiaeth breifat. Mae hyn yn cael effaith fawr, gan mai plant sy’n mynd i’r ysgol, y bwystfilod diesel hyn sy’n gyrru llawer o blant eraill yno, ac yna maent yn anadlu’r llygryddion ofnadwy hyn. Mae angen i ni wneud rhywbeth am y peth, oherwydd nid yw’n normal i gynifer o’r boblogaeth ysgol gael eu gyrru i’r ysgol ac yn ôl.

Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy’n cofio cerdded tua milltir a hanner o leiaf, rwy’n credu, bob ffordd i’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Rydych yn llygad eich lle, mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i annog pobl i beidio â defnyddio’u cerbydau, ac i wneud yn siŵr fod gennym y llwybrau beicio sydd eu hangen, ac i annog mwy o gerdded, ac mae hynny’n amlwg yn cyd-fynd â ffordd o fyw iachach a lles yn ogystal.

TB mewn Gwartheg

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg? OAQ(5)0002(ERA)[W]

Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad am fy nghynlluniau i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg yn yr hydref. Bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn adeiladu ar y rhaglen gyfredol i ddileu TB ac yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, gan fynd i’r afael â holl ffynonellau’r haint er mwyn parhau â’r duedd ostyngol hirdymor yn nifer yr achosion o’r clefyd.

Diolch i chi am eich ateb. Roeddwn yno neithiwr yn gwrando’n astud ar eich araith yn nigwyddiad Cymdeithas Milfeddygon Prydain. Roeddech yn siarad yno am eich dymuniad i sicrhau bod yna raglen gynhwysfawr i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg, ac yn sicr, yr argraff oedd bod yr holl opsiynau ar y bwrdd. A wnewch chi gadarnhau i’r Cynulliad y prynhawn yma nad ydych yn diystyru’r posibilrwydd o gyflwyno elfen o ddifa moch daear yn rhan o’r strategaeth honno?

Wel, fe wyddoch fod gennym raglen dileu TB gynhwysfawr iawn ar waith ers 2008. Rwy’n gwbl ymrwymedig i fabwysiadu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Rwyf am weld TB mewn gwartheg yn cael ei ddileu—credaf fod yr ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos ein bod wedi gweld sefyllfa sy’n gwella ledled Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Rwy’n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi fy mod yn cael llawer iawn o wybodaeth a chyngor ar y mater hwn, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod £3.7 miliwn wedi’i wario ers 2011 ar frechu moch daear yn yr ardal triniaeth ddwys yn fy etholaeth, ac yn amlwg mae’r polisi brechu wedi methu. Nawr, mae’r adroddiad gwyddonol diweddaraf yn dangos cynnydd o 78 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd yn Sir Benfro o ganlyniad i TB mewn gwartheg. O ystyried y cynnydd yn nifer y gwartheg a laddwyd yn fy ardal, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau y mae’n bwriadu eu cael gyda ffermwyr yn Sir Benfro? A charwn ei hannog i gyflwyno datganiad cyn yr hydref, gan fod ffermwyr yn awyddus i wybod beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.

Wel, rwy’n credu bod ffermwyr yn ymwybodol iawn o’n polisi ar y mater hwn. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â ffermwyr. [Torri ar draws.] Fel y dywedais, rydym yn ymrwymedig iawn i ddarparu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Ymddangosodd yr ystadegau yr wythnos diwethaf: maent wedi dangos sefyllfa sy’n gwella ar draws Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae’r nifer o achosion newydd o TB wedi gostwng yn sylweddol ers 2009. Mae gennym adolygiad o’r strategaeth gan Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, ac rwy’n disgwyl argymhellion drafft er mwyn adnewyddu’r strategaeth a strategaeth newydd yn ddiweddarach y mis hwn, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref.

Yr Amgylchedd Ffisegol

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar sicrhau bod amgylchedd ffisegol Cymru yn agored i bawb? OAQ(5)0008(ERA)

Diolch. Drwy’r systemau cynllunio a rheoli adeiladu, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod datblygiadau newydd yn hygyrch i bob aelod o’r gymdeithas. Er mwyn cadarnhau pwysigrwydd mynediad i bawb, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid yn ddiweddar ar gyfer hyfforddiant ar y mater a fynychwyd gan 160 o weithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mewn perthynas â’r gwaith torri coed ar ffordd goedwig hardd Cwmcarn, sy’n saith milltir o hyd, a gaewyd dros dro ym mis Tachwedd 2014, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan fod hwn yn waith hirdymor a allai gymryd rhwng tair a phedair blynedd i’w gwblhau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailadrodd penderfyniad diamod a digamsyniol Llywodraeth Cymru y bydd un o ryfeddodau naturiol amgylchedd Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac y bydd yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau y bydd y ffordd ar gael i’r cyhoedd unwaith eto?

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o werth ffordd goedwig Cwmcarn i’r cymunedau lleol ac i ymwelwyr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi sefydlu gweithgor i edrych ar y cyfleoedd hirdymor yno, gan gynnwys sut y gellir ariannu llwybrau cerdded a beicio, a meysydd gwersylla, yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Mae pob un ohonom yn cydnabod y fantais o gynyddu mynediad i gefn gwlad mewn perthynas â hamdden a gwella iechyd a lles y cyhoedd. Fodd bynnag, mae grwpiau fel y Gynghrair Cefn Gwlad wedi rhybuddio y gallai mynediad anghyfyngedig i gefn gwlad effeithio’n amgylcheddol ar gynefinoedd afon, difrodi tiroedd a chyfyngu ar allu tirfeddianwyr i reoli a diogelu eu tir. Weinidog, mae gennyf ffrind sy’n byw ychydig y tu allan i ffin fy rhanbarth, Dr Randhawa, ac mae’n cynnal yr holl lwybrau sy’n croesi ei dir. Nid yw’r cyngor byth yn rhoi ceiniog tuag at y gwaith, ond mae bob amser yn cael trafferth gyda’r cyngor lleol a biwrocratiaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno bod yn rhaid i unrhyw gynnig i agor mynediad at gefn gwlad ystyried barn y rhai sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru, a’r rhai sy’n ei gynnal?

Rwy’n credu ei fod yn ymwneud â chael cydbwysedd. Mae’n ymwneud â phobl yn cael mynediad, mae’n ymwneud â’r amgylchedd, mae’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid. Yn y Llywodraeth flaenorol, fe wyddoch ein bod wedi cael Papur Gwyrdd ynglŷn â mynediad. Byddaf yn edrych ar yr argymhellion a’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gawsom mewn perthynas â hynny cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.

Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd

5. Sut y bydd cynllun datblygu lleol Caerdydd yn gwella’r amgylchedd lleol? OAQ(5)0006(ERA)

Diolch. Bydd cynllun datblygu lleol Caerdydd yn chwarae rhan ganolog yn y broses o ffurfio lle a gwella ansawdd bywyd drwy ddarparu adeiladau a gofod cyhoeddus o ansawdd uchel ac wedi’u cynllunio’n dda. Mae trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded wedi’u cynllunio’n dda a gyflwynir drwy’r CDLl yn galluogi mynediad cynaliadwy at swyddi, ysgolion a siopau.

Iawn. Rwy’n credu mai’r realiti yw bod y cynllun yn rhagweld cynnydd enfawr mewn traffig, mae yna adeiladu ar raddfa eang ar safleoedd tir glas, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn drychineb amgylcheddol. Y cwestiwn i chi yw: yn eich barn chi, sut y gellir defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i wella’r amgylchedd lleol mewn perthynas â’r cynllun datblygu lleol?

Wel, yn amlwg, mae Caerdydd wedi cyflwyno eu CDLl. Rwy’n gwybod ei fod yn gydbwysedd bregus iawn rhwng bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau ar gyfer tai a gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n tyfu, ac amddiffyn y pwyntiau rydych newydd eu crybwyll. Rwy’n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yno, a gallwn weld yr amcanion yn glir iawn, a chyfrifoldeb fy swyddogion yw gwneud yn siŵr eu bod yn monitro’r holl Gynlluniau Datblygu Lleol a ddaw i law. Rwy’n credu ein bod yn dal i aros am chwech ohonynt ledled Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion y Ddeddf.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae proses y CDLl yn amlwg yn destun dadlau mawr mewn sawl ardal a dyna hefyd yw’r sail a ddefnyddir i ddatblygu, ysgogi ac adfywio ardaloedd mawr yn ogystal. Ond mae un o’r materion mwyaf dadleuol yn fy rhanbarth etholiadol i, sef Canol De Cymru, yn ymwneud â’r amcanestyniadau tai y mae cynghorau yn eu defnyddio i benderfynu ar eu dyraniadau CDLl. Daw’r amcanestyniadau hynny gan Lywodraeth Cymru. Wrth i chi edrych yn gyntaf ar yr amcanestyniadau hyn a ddarperir ar ran Llywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol, sut y teimlwch ynglŷn â bwrw ymlaen â’r broses hon? A ydych yn fodlon fod yr amcanestyniadau hynny’n gadarn, neu a oes angen ailedrych arnynt, a’u hailwerthuso yn y pen draw, yn sgil rhai o’r sylwadau a wnaed gan gynghorau yn fy rhanbarth etholiadol yng Nghanol De Cymru?

Wel, mater i bob awdurdod lleol unigol yw’r CDLl. Rwyf am gael Cynlluniau Datblygu Lleol wedi’u mabwysiadu ar waith ac rwy’n credu bod yna chwe awdurdod lleol nad ydynt wedi gwneud hyn eto. Rwyf wedi gofyn iddynt fwrw ymlaen â hyn. Os nad oes gennym y Cynlluniau Datblygu Lleol hynny ar waith, fel y gwn yn fy etholaeth fy hun, mae gennych ddatblygwyr yn dod â chynlluniau nad ydynt yn cyd-fynd â’r hyn y mae’r boblogaeth leol ei eisiau a’i angen. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn rhoi’r cynllun datblygu lleol ar waith. Fel rwy’n ei ddweud, nid fy lle i yw ei lunio, nac unrhyw un o fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet; cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw gwneud hynny eu hunain. Yr hyn y mae’r CDLl yn ei wneud yw darparu’r fframwaith polisi i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn darparu’r seilwaith cymunedol angenrheidiol.

Cymorthdaliadau Cyhoeddus

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa mor bwysig yw cymorthdaliadau cyhoeddus i ffermwyr Cymru? OAQ(5)0009(ERA)

Gwnaf. Mae taliadau polisi amaethyddol cyffredin o £350 miliwn bob blwyddyn yn chwarae rhan hanfodol bwysig yn cynnal hyfywedd ffermydd Cymru a gwireddu gweledigaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ynghylch diwydiant amaethyddol ffyniannus a gwydn yng Nghymru.

Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod cymhorthdaliadau ​​wedi bod yn elfen bwysig yn incwm ffermwyr drwy gydol fy oes, cyn i ni fynd i mewn i’r farchnad gyffredin, fel y’i gelwid bryd hynny, ac ers hynny wrth gwrs, ac os yw’r wlad yn pleidleisio dros adael yfory, yna byddai cymhorthdaliadau cyhoeddus yn parhau ar eu lefel bresennol fan lleiaf oherwydd ein bod yn talu £2 i mewn ac ond yn cael £1 yn ôl. Roedd gennym system dda o gymhorthdaliadau ​​yn seiliedig ar daliadau diffyg cyn 1973 a oedd yn cynnal incwm ffermydd gan sicrhau bwyd rhad i’r bobl.

A gaf fi gyflwyno ambell ffaith i chi, Weinidog? A gaf fi eich cyfeirio at erthygl yn yr ‘Agricultural History Review’, o dan y pennawd ‘Measuring Regional Variation in Farm Support: Wales and the UK, 1947-72’? Dyma oedd casgliad yr erthygl hon: roedd cymorthdaliadau blaenorol i ffermydd cyn ffurfio’r UE yn cosbi Cymru pan oedd maint y fferm yn llai ar gyfartaledd nag yn y DU gyfan. Y ffaith yw bod gan ffermwr yng Nghymru fwy yn gyffredin â ffermwyr ledled gweddill yr UE nag sydd ganddo â chriw o Dorïaid asgell dde sy’n cefnogi preifateiddio a heb ddiddordeb mewn dim heblaw chwyddo a hyrwyddo’u lles eu hunain. Mae’n well i ffermwyr Cymru aros yn yr UE. Dyna gasgliad llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr heddiw, yma yn y Cynulliad hwn, yn ogystal ag Undeb Amaethwyr Cymru. Rwy’n gobeithio y byddwn, yn ystod y 24 awr olaf, yn gweithio’n galed i ddarparu’r sicrwydd y mae’r gymuned amaethyddol ei hangen y byddwn yn gwarchod eu buddiannau, ond fel rhan o Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig.

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Roeddwn yn y digwyddiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwyf wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, sydd wedi anfon neges gadarnhaol iawn i’w haelodau y dylent bleidleisio dros aros yn yr UE yfory. Gwyddom fod y farchnad sengl yn gwbl allweddol i’n sectorau ffermio a bwyd ac rwy’n credu bod y peryglon sy’n gysylltiedig â’r posibilrwydd o adael yn sylweddol. Nid ydym yn gwybod, ac mae’r hyn a glywn gan rai gwleidyddion, fel rwy’n ei ddweud, yn seiliedig ar ddamcaniaeth lwyr a gwyddom fod 81 y cant o elw busnesau ffermio yng Nghymru yn deillio o’r cymorthdaliadau y maent yn eu derbyn gan yr UE.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae penderfyniad Llywodraeth flaenorol Cymru i symud i’r gyfradd fodiwleiddio o 15 y cant wedi’i gwneud yn llawer anos i rai ffermwyr yng Nghymru gystadlu yn y farchnad yn erbyn cynhyrchwyr bwyd o wledydd eraill. O ystyried yr amgylchiadau hyn, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i sicrhau bod ffermwyr yn cael cyfle i gael mynediad uniongyrchol at y cronfeydd hyn o dan y cynllun datblygu gwledig er mwyn gwneud iawn am golli enillion o dan golofn 1?

Wel, mewn gwirionedd, wyddoch chi, rwyf ar ganol fy mis cyntaf yn y portffolio ac rwy’n credu eu bod yn cael mwy na’r 15 y cant yn ôl mewn gwirionedd. Rydym yn y broses o sefydlu’r cynllun grantiau bach ac mae’r ffermwyr yn hapus iawn â’r hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â hynny.

Y Cynllun Datblygu Gwledig

7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y cynllun datblygu gwledig? OAQ(5)0012(ERA)[W]

Mae rhaglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru 2014-20 yn cefnogi cymunedau gwledig a’r economi gyda chyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a’r UE. Mae pymtheg o gynlluniau wedi agor yn barod a bydd grantiau bach Glastir yn agor ar 27 Mehefin. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fireinio a datblygu’r rhaglen.

Diolch. Mi oedd hi’n dda gweld yr NFU yma yn y Senedd heddiw yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y diwydiant. Ond, beth mae’r NFU, fel ffermwyr ledled Cymru, yn chwilio amdano fo ydy nid yn unig geiriau o gefnogaeth gan y Llywodraeth, ond gweithredoedd hefyd. Rŵan, mi gafwyd addewid gan Weinidog blaenorol y byddai’r gallu gan y cynllun datblygu gwledig newydd i fod yn drawsnewidiol o ran yr economi wledig ac o ran y diwydiant amaeth. Ddwy flynedd i mewn i’r rhaglen, mae cael dim ond llond llaw o brosiectau wedi’u cymeradwyo ymhell iawn, iawn o fod yn drawsnewidiol. Mae ffermwyr yn fy etholaeth i yn Ynys Môn, fel ledled Cymru, yn dal i aros. Pa bryd mae’r trawsnewid am ddigwydd ac a wnaiff y Gweinidog rannu ei gweledigaeth ynglŷn â’r potensial i’r cynllun datblygu gwledig newydd?

Rwy’n credu eich bod yn hollol gywir. Mae angen i ni weld llawer mwy o newid trawsnewidiol, ac mae angen i ni wneud hynny mewn partneriaeth â’r ffermwyr. Yn sicr, o fy nhrafodaethau gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, maent yn barod iawn ar gyfer hyn. Rwy’n credu eu bod am weld rhywfaint o gyflymder wrth symud ymlaen. Un o’r pethau rwyf wedi’u trafod gyda hwy yw’r mentrau strategol, a chael y mentrau strategol hynny i redeg ar draws y Cynllun Datblygu Gwledig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwella sgiliau er enghraifft. Rwyf hefyd yn credu bod angen i ni edrych ar sut y gallwn eu helpu gyda chynaliadwyedd a gwydnwch eu busnesau, ac edrych ar yr ochr fusnes, oherwydd rwy’n credu efallai nad ffermwyr, yn sicr yn y trafodaethau cynnar iawn a gefais gyda hwy, yw’r bobl orau i redeg busnes o bosibl. Nid oes ganddynt y math hwnnw o weledigaeth fusnes, ac eto maent yn awyddus i weithio gyda ni mewn perthynas â hynny. Rhai’n unig o’r ffermwyr y siaradais â hwy’n gynnar yn y portffolio yw hyn—nid wyf yn dweud bod pob ffermwr felly o gwbl. Ond dyna’r hyn y maent yn dweud wrthyf eu bod eisiau cymorth gydag ef, a dyna ble rwy’n credu y gallwn helpu, gyda mentrau strategol ar draws y Cynllun Datblygu Gwledig.

Weinidog, buaswn yn cymeradwyo sylwadau’r siaradwr gwreiddiol ar hyn ynglŷn â chyflymder rhyddhau’r arian o’r cynllun datblygu gwledig i’r gwahanol gynlluniau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar rai o’ch sylwadau yn yr ateb diwethaf a dweud: a ydych yn fodlon ar y cyflymder sy’n cael ei ddatblygu y tu ôl i’r cynllun datblygu gwledig i greu’r agenda drawsnewidiol rydych yn sôn amdani? Oherwydd mae pobl yn cefnogi llawer o’r teimladau, ond buaswn yn awgrymu bod yna dagfa enfawr yn y system o brosesu ceisiadau i’r Cynllun Datblygu Gwledig, ac yn anad dim, o ran bod pobl yn cael mynediad at yr arian yn y lle cyntaf. Felly, beth yw eich asesiadau cychwynnol, o ystyried eich bod wedi bod yn y swydd ers sawl wythnos bellach?

Wel, ym mis Mai y llynedd y cafodd ei gymeradwyo, felly ychydig dros flwyddyn yn unig sydd wedi bod. Rydym wedi agor 15 o gynlluniau: agorais gynllun pellach yr wythnos diwethaf. Mae gennym dros £260 miliwn o gyllid wedi’i ymrwymo ar draws pob sector. Felly, fel rwy’n dweud, rwy’n credu bod potensial aruthrol ar gyfer y sector. Rwyf eisiau gweithio’n iawn ar y mentrau strategol hynny ar draws y sector. Mae’n debyg y gallwn bob amser wneud pethau’n gyflymach, ond nid wyf am weld tagfeydd ac rwyf eisiau gweld yr arian allan yno cyn gynted â phosibl, ac rwyf wedi addo gwneud hynny.

Ansawdd Aer

8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal lefelau ansawdd aer? OAQ(5)0010(ERA)

Diolch. Mae gwella ansawdd aer yn lleol yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt fonitro ansawdd aer a chyflawni cynlluniau gweithredu i’w wella mewn ardaloedd a effeithir gan lefelau uchel o lygredd.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr A472 yng Nghrymlyn: yn ôl data’r Llywodraeth, y lefelau o nitrogen deuocsid a gofnodwyd yma yw’r rhai uchaf a gofnodwyd yn y DU y tu allan i Lundain. Yr unig le y gwelir lefelau uwch yn Lloegr yw ar fonitor tebyg ar Marylebone Road yng nghanol Llundain, ac yn ôl Asthma UK Cymru, mae 314,000 o bobl yn dioddef o asthma yng Nghymru, gan gynnwys 59,000 o blant: bron un o bob 10 plentyn. Mewn adroddiad gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2015, nodwyd bod canran y cleifion y cofrestrwyd gan eu meddyg teulu eu bod yn dioddef o asthma a COPD, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, yn uwch nag yn Lloegr, a bod rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. Pa gamau brys y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a rhanddeiliaid eraill i gael gwared ar broblem llygredd aer?

Diolch. Mae fy swyddogion wedi ceisio sicrwydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer yr A472 ger Crymlyn a grybwyllwyd gennych, o ran y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yn lleol. Mae’r cyngor yn trefnu cyfarfod grŵp llywio fis nesaf, fel rydych yn gwybod mae’n siŵr, a byddant yn cael mewnbwn gan grwpiau lleol a thrigolion lleol, ac rwy’n credu bod hynny’n wirioneddol bwysig. Wedyn, maent am sicrhau bod cynllun gweithredu ansawdd aer yn cael ei ddatblygu. Bydd hynny hefyd yn cynnwys rhestr o opsiynau rheoli traffig ar gyfer yr ardal er mwyn mesur ansawdd aer yn yr ardal. Mae’r cyngor wedi rhoi dyddiad cychwynnol i ni ar gyfer gweithredu hyn, sef mis Tachwedd, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion fonitro hynny’n ofalus iawn i sicrhau eu bod yn cadw at yr amserlen honno.

Mae ffordd ddosbarthu’r cyrion ym Mhort Talbot, a agorwyd i leddfu galw traffig lleol ar yr M4, wedi bod yn weithredol ers oddeutu tair blynedd bellach. Pa ddata y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael gan yr awdurdod lleol, neu wedi’i dynnu o waith y Llywodraeth ei hun yn ystod arbrawf cyffordd 41, ynglŷn â newidiadau i symudiadau traffig ac ansawdd aer yn benodol? A allwch ddweud wrthyf pa newidiadau parhaol a nodwyd o ran ansawdd aer ac a yw’r rheini’n dylanwadu ar eich penderfyniad terfynol ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd i gyffordd 41?

Rwy’n ofni nad oes gennyf y data hwnnw ar hyn o bryd, ond byddaf yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda hynny.

Yn dilyn y cwestiwn hwnnw, mae’n amlwg fod yr ansawdd aer ym Mhort Talbot, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael sylw fel un o’r gwaethaf yng Nghymru. Yn wir, dywedodd adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai dyna’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU mewn perthynas â rhai gronynnau, ac yn sicr mae’n un o’r rhai gwaethaf yn y DU. Rwy’n deall y problemau sydd gennym. Mae gennym ardal ddiwydiannol iawn, mae gennym lain arfordirol gul gyda’r M4 yn rhedeg drwyddi, ac maent yn effeithio ar lefelau llygredd a gronynnau, ond mae angen i ni wneud mwy mewn gwirionedd i leihau unrhyw gynnydd.

Rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith gan Brifysgol Birmingham a Choleg y Brenin, Llundain i edrych ar oblygiadau ansawdd aer. A allech roi datganiad am ganlyniadau’r gwaith ymchwil hwnnw ac a allwch sicrhau hefyd y bydd modd gwella’r problemau sy’n codi o ansawdd aer ym Mhort Talbot, am ein bod yn wynebu rhai o’r heriau sydd o’n blaenau?

Unwaith eto, mae’n ddrwg gennyf nad oes gennyf y wybodaeth ynglŷn â’r gwaith ymchwil o fy mlaen, ond byddaf yn ysgrifennu atoch.

Atal Llifogydd yng Nghwm Cynon

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddulliau Llywodraeth Cymru o atal llifogydd yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0007(ERA)

Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad yr wythnos nesaf ar reoli perygl llifogydd ac arfordirol ar gyfer Cymru gyfan. Yn ddiweddar cyhoeddwyd cynlluniau rheoli perygl llifogydd Rhondda Cynon Taf a Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n nodi’r dull manwl o reoli perygl llifogydd yng Nghwm Cynon.

Diolch. Mae perygl llifogydd i eiddo yn Abercynon, Aberaman, Cilfynydd, Cwm-du ac Ynysboeth yn fy etholaeth wedi cael ei leihau drwy raglen lliniaru llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd Rhondda Cynon Taf, a ariennir gan raglen gyfalaf y cyngor, arian Llywodraeth Cymru a chyllid datblygu rhanbarthol Ewrop. A ydych chi’n cytuno y gallai’r cynlluniau hyn i ddiogelu cartrefi a theuluoedd rhag y dinistr a achosir gan lifogydd fod mewn perygl pe na baem yn rhan o’r UE?

Ydw, rydych yn hollol gywir. Mae’r llefydd hyn wedi elwa o gyfraniadau cyllid yr UE ar gyfer cynlluniau rheoli perygl llifogydd. Maent wedi ategu ein cyllid ein hunain hefyd, ac maent wedi ein galluogi i gynyddu nifer yr eiddo sy’n cael eu hamddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwella a chynnal a chadw cwlfertau yn allweddol i amddiffyn rhag llifogydd yn effeithiol, ac os oes unrhyw un yn ardaloedd cymoedd fel Cwm Cynon wedi gweld pa mor gyflym y gall y cyrsiau dŵr hynny symud, mae’n wirioneddol frawychus. Mae yna lawer y gallwn ei wneud i gynnal cwlfertau drwy ddefnyddio technoleg newydd a chamerâu. Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud, gyda lefel uchel o wyliadwriaeth, ac mae’n galw am fuddsoddiad helaeth wrth gwrs.

Ydy, cytunaf yn llwyr. Wrth i ni edrych ar ba gynlluniau y byddwn yn eu hariannu dros y blynyddoedd nesaf, mae’n rhywbeth y gallwn edrych arno—y mater penodol hwnnw. Mae yna bob amser dechnoleg ac ymchwil sy’n dangos ffyrdd newydd o wneud hynny i ni, ac mae’n bwysig iawn fod gennym yr hyblygrwydd i allu gwneud hynny.

Cynyddu Bioamrywiaeth

10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gynyddu bioamrywiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0011(ERA)

Diolch. Mae cynllun adfer natur Cymru yn amlinellu ein hamcanion a’n camau gweithredu ar gyfer cyflawni ein huchelgais i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020. Bydd hyn yn cyfrannu at les y genedl a rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod yr Ymddiriedolaethau Natur wedi lansio strategaeth hyrwyddwyr rhywogaethau yn ddiweddar. Rwyf fi ac Aelodau eraill o’r Cynulliad yn hyrwyddo rhywogaethau yng Nghymru. Llygoden y dŵr—[Torri ar draws.]—yw fy rhywogaeth benodol i, ond bydd llawer o rai eraill yn helpu gyda’r ymdrechion. Ond a fyddech yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod angen i ni ddiogelu ein bioamrywiaeth a’r rhywogaethau hyn, gan gynnwys llygod y dŵr, ar wastadeddau Gwent, ac un agwedd ar hynny yw ymgysylltu â phobl leol a phlant lleol? Mae ysgolion wedi’u swyno’n fawr gan lygod y dŵr ac mae’n arwain at werthfawrogiad gwell o fioamrywiaeth a natur. Felly, rwy’n credu bod llawer o agweddau ar strategaeth Llywodraeth Cymru y gellir eu hyrwyddo drwy’r cynllun hwn.

Roeddwn yn falch iawn o weld hynny yr wythnos diwethaf. Cefais gynnig y draenog, ond penderfynais y buaswn yn hyrwyddo holl fioamrywiaeth Cymru. [Torri ar draws.] Roeddwn yn tybio efallai ei fod braidd yn bigog. [Chwerthin.] Ond rwy’n cefnogi rôl hyrwyddwyr rhywogaethau. Rwy’n credu ei bod yn fenter wirioneddol dda, gan y bydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhywogaethau, eu hanghenion cynefin, a’r rhan gwbl hanfodol y maent yn ei chwarae mewn ecosystemau iach, gweithredol.

Rwy’n credu bod hyn yn rhan annatod o ymagwedd ehangach y mae angen i ni ei chael mewn perthynas â rheoli ein hadnoddau yn gynaliadwy, ac rydych yn hollol gywir am ysgolion a phlant ifanc a phlant yn eu harddegau. Rwy’n credu nad oes ond angen i chi edrych ar y ffordd y mae ailgylchu—. Rwy’n credu bod hynny wedi mynd i mewn i’r ysgolion yn gynnar iawn, ac yn awr i’r plant hynny, wrth iddynt dyfu, mae ailgylchu yn rhan o’u bywydau bob dydd. Felly, os gallwn ddechrau eu hannog yn ifanc, credaf ei fod yn syniad da iawn, ac mae’r Gweinidog addysg yn y Siambr ac yn clywed hyn, felly rwy’n siŵr y bydd hi’n ystyried hynny, hefyd.

Fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yng Nghymru, rwy’n falch iawn fod un o’r poblogaethau mwyaf o wiwerod coch yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth. Fe fyddwch yn gwybod bod gwaith coedwigaeth yn cael ei reoli gan sefydliad a ariennir gan y trethdalwr, Cyfoeth Naturiol Cymru. Pa waith rydych yn ei wneud i sicrhau, lle mae yna dir sy’n eiddo cyhoeddus, ei fod yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn benodol, poblogaeth y wiwer goch?

[Anghlywadwy.]

Roeddwn am ddweud fod hwnnw, yn fy amser i, yn cael ei alw’n Tufty. Rwy’n credu eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod coedwigaeth. Mae’n hynod bwysig i’n gwlad, felly rwy’n hapus iawn i fwrw ymlaen â hynny.

Llif Biswail

11. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad pan lifodd biswail i lednant afon Taf yn sir Gaerfyrddin ym mis Mai, gan ladd 230 o bysgod? OAQ(5)0016(ERA)

Diolch. Roedd hwn yn ddigwyddiad o lygredd dŵr difrifol a achoswyd gan gyfaint anhysbys o fiswail fferm yn llifo i mewn i gwrs dŵr o fferm leol, gan ladd 380 o bysgod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried camau gorfodi ffurfiol yn dilyn adolygiad o ffeithiau’r achos a ffactorau budd y cyhoedd.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fel y dywedwch, amcangyfrifiwyd bod nifer fawr o bysgod wedi’u lladd. Ond un digwyddiad yn unig yw hwn, neu’r digwyddiad diweddaraf, ar y rhan honno o’r dŵr, ac nid dyma’r tro cyntaf y cafwyd digwyddiad o’r fath. Cafwyd digwyddiad arall pan ollyngodd tua 10,000 galwyn o fiswail i nant yn nyffryn Tywi ym mis Mawrth 2015. Wrth gwrs, rwy’n croesawu’r ffaith fod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i ffynhonnell y biswail a hefyd mae’r llygredd hwnnw bellach wedi dod i ben, ond fy nghwestiwn i chi yw: pa asesiad a wnaed, neu a fydd yn cael ei wneud, o ran yr effaith ar adferiad hirdymor y rhan honno o’r dŵr? Ac a allwch hefyd gadarnhau pa waith sy’n cael ei wneud i leihau’r tebygolrwydd y bydd gollyngiadau biswail tebyg yn digwydd yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy’n niweidio ein hamgylchedd gwych yn cael eu dwyn i gyfrif am wneud hynny?

Diolch. Fe wyddom y bydd yr ocsid nitraidd mewn pysgod yn effeithio ar niferoedd wyau yn y dyfodol, ond y gobaith yw y bydd yr afon yn adfer yn naturiol ymhen amser. Soniais fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r ffermwr i weithredu mesurau atal llygredd—er mwyn gwella’r seilwaith ar y fferm a lleihau’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau pellach o lygredd. Maent wedi casglu tystiolaeth mewn ymateb i’r digwyddiad, ac fel rwy’n dweud, maent yn ymchwilio ac yn penderfynu pa gamau pellach a roddir ar waith. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu rhaglen i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau. Mae angen i ni hefyd edrych i weld a oes unrhyw beth sydd angen i ni ei wneud yma, boed yn ddeddfwriaethol neu anneddfwriaethol, i gynorthwyo yn y dyfodol.

Ni ofynnwyd cwestiwn 12, OAQ(5)0004(ERA)[R].

Llygredd Traffig mewn Ardaloedd Gwledig

13. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau llygredd traffig mewn ardaloedd gwledig? OAQ(5)0013(ERA)

Diolch. Yn gyffredinol, nid yw ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio gan lefelau sylweddol o lygredd o ganlyniad i draffig, oherwydd y cyfeintiau llai o draffig mewn lleoliadau gwledig. Mae gan nifer fach o drefi gwledig lefelau uchel o lygryddion a gynhyrchir gan draffig. Mae awdurdodau lleol yn rhoi cynlluniau gweithredu ansawdd aer ar waith er mwyn lleihau llygredd yn y lleoliadau hyn.

Mewn ardaloedd yn fy etholaeth, megis Caerllion a Maerun, maent wedi gweld cynnydd yn nifer y cerbydau nwyddau trwm sy’n gyrru drwy eu hardaloedd. Mae’r ffyrdd yn aml yn anaddas ar gyfer y math hwn o draffig, ac eto maent yn aml yn cael eu defnyddio fel llwybrau byr. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith traffig o’r fath ar lefelau llygredd aer a llygredd sŵn yn y mathau hyn o ardaloedd?

Wel, yn amlwg, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw’r ffyrdd dan sylw. Gwn fod swyddogion wedi bod yn siarad â Chyngor Dinas Casnewydd, sydd wedi comisiynu asesiad traffig ac ansawdd aer yng Nghaerllion yn ddiweddar. Yr hyn y maent eisiau ei wneud yw nodi mesurau sy’n gysylltiedig â thraffig, a fuasai, pe gellid eu rhoi ar waith, yn gwella ansawdd aer, a sŵn hefyd o bosibl. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gadw mewn cysylltiad agos â hwy er mwyn bwrw ymlaen â hyn.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rŷm ni’n symud nawr i eitem 2, cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a’r cwestiwn cyntaf yr wythnos yma, Adam Price.

Dyfodol Mentrau Adfywio Cymunedol

1. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ran dyfodol mentrau adfywio cymunedol pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0013(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn amlwg yn elwa o’r ffaith fod y DU yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, drwy swyddi sy’n dibynnu ar fynediad rhydd i’r farchnad sengl a thrwy gyllid gwarantedig yr UE. Bydd y swyddi hynny a’r £500 miliwn y mae cymunedau yng Nghymru yn ei dderbyn bob blwyddyn gan yr UE mewn perygl pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd e’n hysbys i’r Ysgrifennydd bod Cymru’n derbyn £2.4 biliwn o’r cronfeydd strwythurol yn y cyfnod presennol, rhyw chwarter o’r cyfan ar gyfer y Deyrnas Unedig a mwy na’r holl gynulliadau datganoledig eraill—yr Alban, Gogledd Iwerddon a Llundain—gyda’i gilydd. A ydy’r Ysgrifennydd yn cytuno gyda fi fod hyn yn adlewyrchu un o werthoedd craidd y prosiect Ewropeaidd, sef cydlyniad—’solidarity’—rhwng gwledydd a rhanbarthau y Gymuned Ewropeaidd, o ddefnyddio’i henw gwreiddiol, a bod hyn yn cymharu’n anffafriol i’r eithaf gydag agwedd Llywodraethau y Deyrnas Unedig, boed hynny Llywodraeth Thatcher, a gafodd wared ar bolisi rhanbarthol fel un o’i gweithredoedd cyntaf yn 1979, neu Lywodraeth Tony Blair, a wrthododd arian matsio ar gyfer rhaglen Amcan 1 nes i’r Senedd yma wrthryfela drwy ddiorseddu Alun Michael? Onid ffolineb hunanddinistriol fyddai i’r wlad fach Ewropeaidd hon roi tameidyn o ffydd ym mandariniaid Whitehall neu feistri Westminster i ofalu am ddyfodol ein cymunedau?

Rwy’n credu y dylai pobl y DU a phobl Cymru fod yn glir iawn yfory—mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ein barn fod bod yn rhan o’r UE yn hanfodol ar gyfer ffyniant Cymru. Os yw’r DU yn pleidleisio dros adael, rydym yn asesu y bydd cymunedau Cymru yn waeth eu byd. Mae angen buddsoddiad busnes a gweithlu medrus i gymunedau allu ffynnu. Felly, gadewch i ni beidio â dibrisio grym y bleidlais yfory dros aros i mewn er mwyn sicrhau buddsoddiad a dyfodol Cymru—mae’n bleidlais bwysig.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o brosiectau adfywio cymunedol yn fy etholaeth wedi cael eu cefnogi gan gyllid yr UE, o Lansawel a Sandfields i ddyffryn Afan. Maent yn amrywio o gynorthwyo pobl yn ôl i waith i adeiladu canolfannau ar gyfer gweithgareddau cymunedol. Mae’r rhain wedi bod yn hanfodol i gryfhau’r cymunedau hynny. Fodd bynnag, mae llawer yn awr yn wynebu heriau pellach o ganlyniad i galedi gan Lywodraeth y DU, a bydd colli cyllid yr UE yn taro ein cymunedau mwyaf agored i niwed yn galetach hyd yn oed. A ydych yn cytuno bod y bleidlais i aros yfory yn bleidlais a fydd yn helpu ein cymunedau i gymryd cam mwy cadarnhaol ymlaen?

Yn wir. Mae cymunedau ledled Cymru yn elwa o filiynau o gyllid yr UE—dros £500 miliwn y flwyddyn. Mae adfywiad llawer o drefi a chymunedau ar draws Cymru yn cael ei gefnogi—Pontypridd, Llanelli, Y Rhyl, i enwi rhai yn unig. Disgwylir y bydd campws arloesedd Abertawe a gefnogir gan yr UE yn creu £10 biliwn o effaith economaidd yn rhanbarth y de-orllewin yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Bydd pob un wedi cael ei roi mewn perygl yn ddiangen os byddwn yn gadael yfory.

Diolch. Dyna’r tro cyntaf i mi gael fy nisgrifio fel cwestiwn, ond rwy’n hapus iawn i gael fy nisgrifio gan berson mor huawdl â chi.

Cynlluniodd y Comisiwn Ewropeaidd i ddyrannu cronfeydd strwythurol ar gyfer y cyfnod 2014-20 i Gymru, gan gynnwys toriad o 27 y cant, sy’n dangos diffyg gwybodaeth am Gymru. Dyrannodd Llywodraeth y DU rywfaint o’r cyllid o Loegr i ailgydbwyso rhywfaint o’r diffyg hwnnw, ond dioddefodd gorllewin Cymru a’r Cymoedd doriad o 16 y cant er hynny, sy’n dynodi, neu’n dangos, efallai, fod diffyg gwybodaeth y Comisiwn yn dangos y byddai Cymru’n well ei byd y tu allan i’r DU, gyda’r cyllid ar gyfer y mathau hyn o brosiectau yn y dyfodol yn cael ei benderfynu gan wleidyddion sy’n atebol i etholwyr Cymru ar ein hynys yn Llundain a Chaerdydd. Felly sut rydych yn ymateb i’r datganiad gan AS Llafur John Mann—sydd prin yn asgell dde eithafol—a ddywedodd, os ydych yn bleidleiswyr Llafur, y gallwch bleidleisio gyda balchder ar werthoedd Llafur i adael yr Undeb Ewropeaidd?

Gallaf weld yn glir pam eich bod yn eistedd mor agos at eich cyd-Aelodau yn UKIP. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod—gadewch i mi atgoffa’r Aelod am yr etholaeth y mae’n ei chynrychioli yn Ynys Môn. Gadewch i mi ei atgoffa y bydd £10 miliwn o arian yr UE ar gyfer y prosiect sgiliau a chyflogaeth a chyflogeion yn helpu 500 o fusnesau a 7,000 o bobl ar draws gogledd Cymru. A wyddai fod arian yr UE wedi helpu gweithwyr gorsaf bŵer yr Wylfa i ennill sgiliau newydd a dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth newydd? Mae’r Aelod yn rhoi hynny i gyd mewn perygl a dylai gofio hynny pan fydd yn mynd i’r blwch pleidleisio.

Amddiffyniad Cosb Resymol

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â deddfwriaeth yn ymwneud â chael gwared ar amddiffyniad cosb resymol? OAQ(5)0012(CC)[W]

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ein bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu’r amddiffyniad ‘cosb resymol’, a fydd yn cadarnhau ein hymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant. Bydd trafodaethau’n cael eu cynnal â’r wrthblaid a bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn amodol ar y broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys ymgynghori â rhieni a rhanddeiliaid.

Diolch, Weinidog, am yr ateb. Byddwch yn gwybod, Weinidog—o’r profiad gawsom ni yn y Cynulliad diwethaf pan oedd, rwy’n meddwl, y mwyafrif ar draws y pleidiau am gael gwared ar yr amddiffyniad yma—nad oedd modd cyflawni hynny yn y ffordd yr aed o’i chwmpas hi gan y Llywodraeth ac yn y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio yma. Tra fy mod yn derbyn yn llwyr bod yn rhaid—wel, dim bod yn rhaid, ond, yn y cyd-destun yma, ei bod yn briodol—i’r Llywodraeth gynnig deddfwriaeth inni ei thrafod, ym mha ffordd y gallai’r Llywodraeth adeiladu’r consensws trawsbleidiol yna i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn llwyddo a’n bod yn gallu delifro ar y ‘commitment’ yma?

Wrth gwrs, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr Aelod yn tynnu sylw at fater ymgysylltu â rhanddeiliaid. Byddaf yn dechrau trafodaethau gyda’r gwrthbleidiau er mwyn creu llwybr i allu cyflwyno Bil llwyddiannus. Mae’r un mor bwysig i’r grwpiau gwleidyddol ddod at ei gilydd mewn perthynas â hyn yn y ffordd orau y gallant, ond hefyd rhianta, a rhanddeiliaid yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau hefyd er mwyn ein helpu yn y broses.

Rwy’n croesawu’r ffaith fod y Llywodraeth am symud ymlaen ar y ddeddfwriaeth hon ar sail drawsbleidiol yn fawr iawn ac rwy’n siŵr y byddwn yn gallu cael consensws er mwyn cyflwyno hyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw’n credu bod yna gymalau cadw yn y Bil Cymru drafft a fyddai’n effeithio ar gymhwysedd Llywodraeth Cymru i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol?

Diolch i Julie Morgan, a fu’n ymgyrchu ers amser maith ar yr union fater hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi hefyd. Os asesir cymhwysedd ar sail y gwelliannau a wneir i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Fil Cymru fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, nid yw’r ddadl fod darpariaeth ynglŷn â smacio plant y tu allan i gymhwysedd am ei fod yn diwygio’r gyfraith droseddol yn debygol o fod yn broblem mwyach. Mae materion eraill sy’n berthnasol i gymhwysedd, fodd bynnag, megis i ba raddau y mae’n cyd-fynd â’r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, a fydd yn aros yr un fath. Mae’r rhain i gyd yn faterion cymhleth yn gyfreithiol, ond rydym yn gweithio drwyddynt ac yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni’r canlyniad cadarnhaol y mae’r Aelod yn gobeithio’i gael.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn derbyn bod llawer o rieni sy’n caru eu plant yn defnyddio ychydig bach o gosb resymol fel modd o ddisgyblu eu plant, ac y gall defnydd gormodol o ffurfiau eraill ar ddisgyblaeth hefyd fod yr un mor gamdriniol i blant o’u defnyddio’n anghywir? Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth i sicrhau ffocws ar sgiliau rhianta cadarnhaol a’u bod yn cael eu hegluro ar draws y wlad i roi cyfle i rieni sy’n defnyddio cosb resymol allu defnyddio dulliau eraill o geryddu? Gwn fod rhywfaint o waith wedi’i wneud ar hyn yn y gorffennol ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn ceisio ymestyn y rhaglen rhianta cadarnhaol i bob rhan o Gymru yn y dyfodol.

Gadewch i ni fod yn glir iawn yma: nid yw hyn yn ymwneud â deddfwriaeth i droseddoli rhieni. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yma yw rhoi cyfle i bobl gael profiadau rhianta cadarnhaol. Fel Llywodraeth, byddwn yn darparu pecyn o adnoddau a fydd yn annog rhieni i ddefnyddio Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, yr ymgyrch ‘Rhowch amser iddo’—mae nifer o rai eraill—y ceisiwn ddatblygu cymhwysedd yn eu cylch er mwyn rhoi hyder i rieni ynglŷn â’r ffordd y mae eu teuluoedd yn tyfu i fyny. Ar wahân i hynny, byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth ar amddiffyniad cosb resymol. Byddwn yn cyflwyno pecyn o adnoddau i’r Siambr, nid dewis rhwng un neu’r llall.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rwy’n galw yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, yr wythnos yma, llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.

Diolch i chi a phob lwc yn eich portffolio, Weinidog. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gael golwg wrthrychol ar y cam penodol hwn ar natur eich portffolio, yn enwedig mewn perthynas â’r agenda tlodi. Cafwyd adroddiad damniol iawn flwyddyn yn ôl, ac adroddiad hefyd yn ystod y tymor diwethaf, gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y diffyg data cadarn mewn perthynas â rhai o’ch cynlluniau gwrthdlodi. Er na fyddai neb yn gallu dadlau ynghylch natur y cynlluniau penodol hynny a’r prosesau meddwl sy’n sail iddynt, mae’n bwysig iawn i ni ddeall sut rydych yn dadansoddi’r data hwnnw er mwyn i chi weld, wrth symud ymlaen, pa mor llwyddiannus yw’r prosiectau hynny. Weinidog, a allwch ddweud wrthym, ar ôl ychydig wythnosau o fod yn y swydd, beth rydych yn bwriadu ei wneud mewn perthynas â data a sut y byddwch yn ei gyflwyno’n effeithiol i Aelodau’r Cynulliad?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’i neges o ewyllys da, ac yn yr un modd i’r Aelod a fydd yn fy nghysgodi. Mae tlodi bellach yn gyfrifoldeb i bob un o Ysgrifenyddion y Cabinet a holl Weinidogion y Llywodraeth, ac mae gennym oll rôl ar y cyd. Mae gennyf faterion penodol sy’n ymwneud â thlodi gyda chymunedau, a byddaf yn gweithio gyda fy nhîm yn y Llywodraeth i ddatrys rhai o’r problemau hynny. Byddaf yn gwneud datganiad cyn bo hir am egwyddorion yr adran hon a’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni. Rwy’n credu bod mynd i’r afael â thlodi yn heriol iawn i unrhyw Lywodraeth. Yn y 17 mlynedd rydym wedi bod mewn grym yma, mae yna bethau y gallwn eu lliniaru a cheisio lliniaru yn eu herbyn, ond nid yw’r holl ddulliau ar gyfer mynd i’r afael â’r tasgau heriol sydd o’n blaenau yn ein meddiant ni. Rwy’n ceisio canolbwyntio fy mhortffolio yn awr yn benodol ar ddau faes: y cyntaf yw adfywio economaidd, a’r ail yw lles. Mae’r agwedd les ar hyn yn ymwneud â mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan fy mod yn credu, os gallwn drwsio cymunedau ar oedran ifanc—ymyrraeth gynnar gyda phobl ifanc—mae gennym lawer gwell cyfle yn y tymor hir. Ond byddaf yn dod yn ôl i’r Siambr gyda mwy o fanylder, ac rwy’n hapus i rannu mwy o fanylion â’r Aelod mewn cyfarfod preifat os yw’r Aelod yn dymuno hynny.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, nid wyf yn erbyn i Weinidogion eraill gael tlodi yn eu portffolios, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr, yn y pen draw, fod yna un Gweinidog a fydd yn gyfrifol. Rydym wedi cael profiadau mewn pwyllgorau lle rydym wedi gofyn cwestiynau am dlodi i amryw o Weinidogion, ac maent bob amser o bosibl heb ateb y cwestiynau hynny am nad yw wedi bod yn rhan o’u briff penodol.

Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud ag agwedd economaidd eich ateb. Dywedodd y Gweinidog blaenorol, Lesley Griffiths, ei bod wedi bod yn targedu Cymunedau yn Gyntaf yn fwy ar gael pobl yn ôl i mewn i waith. Er fy mod, unwaith eto, yn credu bod hynny’n ardderchog, mae angen i ni weld sut y caiff ei fesur a sut y mae’r targedau hynny wedyn yn cael eu dilyn i wneud yn siŵr fod y cynlluniau hyn yn cael eu cyfeirio yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn sicrhau bod pobl yn ein cymunedau Cymunedau yn Gyntaf yn dod o hyd i waith. A allwch ddweud wrthym sut, o bosibl, y byddwch yn newid pwyslais Cymunedau yn Gyntaf mewn perthynas â’r agenda benodol honno, wrth symud ymlaen, a sut y byddwch yn annog pleidiau eraill i gymryd rhan yn y drafodaeth?

Mae gennym lawer o raglenni gwrthdlodi a rhaglenni sgiliau ac rwy’n gweithio gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am hynny. Un o’n hymrwymiadau yw creu 100,000 o brentisiaethau newydd, gan weithio gyda’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a Cymunedau am Waith. Mae Cymunedau am Waith yn cael ei roi mewn perygl mawr oherwydd y refferendwm yfory. Os byddwn yn gadael yr UE, beth fydd yn digwydd i’r cynllun, o ran y bobl sy’n rhan o’r rhaglenni hynny, a rhaglenni ar gyfer y dyfodol? Mae gennyf ystadegau ar gyfer y rhaglenni a oedd gennym yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf, a byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod a’u rhoi yn y Llyfrgell, Lywydd.

Diolch am yr ateb hwnnw. Mae’r trydydd cwestiwn, ac rwy’n siŵr eich bod chi’n gwybod yn iawn am hyn—. Roedd Bil gen i am gynhwysiant ac addysg ariannol y tymor diwethaf. Roeddwn wedi gweithio eto gyda’r cyn-Weinidog a’r grŵp a oedd yn gweithio ar syniadaeth a strategaeth newydd ar gyfer cynhwysiant ariannol. A allaf ofyn beth sydd yn digwydd yn awr gyda’r gwaith tyngedfennol hwnnw? Roedd gen i gynrychiolydd ar y grŵp hwnnw. A fydd y cynrychiolydd hwnnw’n parhau i weithio gyda mi a chi, fel Gweinidog? Beth yr ydych yn bwriadu ei wneud yn hynny o beth, gan ei bod yn agenda mor bwysig?

Mae cynhwysiant ariannol a llythrennedd ariannol yn rhywbeth rydym yn ceisio’u cynnwys yn rhaglen y cwricwlwm. Byddaf yn gweithio gyda’r Gweinidog addysg i weld sut y gallwn hyrwyddo hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Efallai y byddai’r Aelod hefyd yn hoffi ysgrifennu at y Gweinidog addysg i ddweud sut y gallai ei helpu i roi sylw blaenllaw i hynny yn ein hysgolion a’n colegau ledled Cymru.

Diolch. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf gan y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant, ‘State of the Nation 2015: Social Mobility and Child Poverty in Great Britain’, dan gadeiryddiaeth Alan Milburn, gwleidydd a berchir yn fawr, wedi dangos bod tlodi plant absoliwt yng Nghymru—mae plant sy’n byw yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi parhaus, ac roedd nifer y plant mewn aelwydydd di-waith yng Nghymru yn uwch nag yn unman arall ym Mhrydain. Roedd yr adroddiad yn gwneud tri argymhelliad penodol i Lywodraeth Cymru. Sut rydych yn ymateb, o ystyried eich ymateb i lefarydd Plaid Cymru mai chi yw’r pwynt cyswllt unigol ar y mater hwn ar ran Llywodraeth Cymru, i argymhelliad 1, a oedd yn argymell dull mwy trylwyr yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gostwng lefelau tlodi? Mae’n datgan:

Os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni’r effaith fwyaf o’i pholisïau a’i rhaglenni, mae angen iddi gynnal adolygiad er mwyn sicrhau: bod eglurder ynghylch pa broblem y mae’r polisïau yn ceisio mynd i’r afael â hi, yr hyn y byddant yn ei gyflawni a sut y byddant yn ei gyflawni... fod polisïau’n gosteffeithiol ac wedi’u targedu’n briodol er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf... Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru dreialu polisïau a rhaglenni newydd er mwyn asesu effaith a gwerth am arian cyn iddynt gael eu gweithredu ledled y wlad.

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond, edrychwch, ni allwch gadw eich dwylo yn lân ar hyn, Mark. Dywedais yn gynharach fod trechu tlodi yng Nghymru yn arbennig o anodd am nad oedd gennym yr holl ddulliau yn ein meddiant. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi torri £1.2 biliwn oddi ar gyllid Cymru, ac mae hynny’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Felly, er y byddwn yn ceisio ac yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i gyflawni gwell canlyniadau ar gyfer ein teuluoedd ledled Cymru, carwn ofyn hefyd i’r Aelod gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i chwilio am gyllid teg i Gymru, fel y gallwn ei drosglwyddo ymlaen i deuluoedd yma yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae polisi Llywodraeth y DU yn berthnasol ar draws y DU, ond nododd yr adroddiad hwn mai yng Nghymru roedd y lefelau uchaf o bobl heb waith, y lefelau uchaf o dlodi plant, a’r lefel isaf o ffyniant o blith gwledydd y DU. Ni all hynny ond deillio o’r materion a gyflawnwyd ar lefel ddatganoledig yng Nghymru dros y 17 mlynedd diwethaf. Felly, sut rydych yn ymateb i argymhelliad 2?

Gwella ansawdd y gweithlu mewn ysgolion... Mae sicrhau bod gan blant athrawon o ansawdd uchel ym mhob pwnc yn hanfodol er mwyn gwella eu cyfleoedd bywyd.

Roeddent yn dweud,

Y cam cyntaf i gyflawni hyn yw gwneud addysgu yng Nghymru yn fwy deniadol i athrawon o ansawdd da... mecanweithiau gwell i annog myfyrwyr newydd i ymgymryd â hyfforddiant athrawon yng Nghymru ac athrawon newydd gymhwyso i weithio yng Nghymru... gwella hyfforddiant athrawon yng Nghymru... fel y byddai gwella prosesau nodi, darparu ac asesu datblygiad parhaus athrawon.

Dyna oedd eu hail argymhelliad. Fel y pwynt cyswllt yn Llywodraeth Cymru, buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi sylwadau ar hynny.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw, ond rwy’n credu mai’r pwynt rydych wedi colli golwg arno’n llwyr oedd y ffaith fod angen cyllid i weithredu llawer o’r rhaglenni hyn. Ac rydym yn wynebu heriau eithriadol yn y ffordd rydym yn rheoli ein cyllidebau oherwydd yr her y mae Llywodraeth y DU wedi ei gosod i ni. Rydym yn edrych gyda’n gilydd ar sut rydym yn trechu tlodi ar draws Ysgrifenyddiaeth y Cabinet. Byddwn yn parhau i wneud hynny er lles gorau ein plant.

Mae’r amgylchedd cyllidebol a bennwyd gan Lywodraeth y DU yn bodoli yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd, ond mae Cymru ar ei hôl hi yn y meysydd hyn. Y trydydd argymhelliad a’r argymhelliad olaf a osododd y comisiwn ar gyfer Llywodraeth Cymru oedd cynnwys busnes yn ei hymgyrch i leihau tlodi plant a chynyddu symudedd cymdeithasol. Roeddent yn dweud y dylech gynyddu ymdrechion i weithio gyda chwmnïau, gan gynnwys cyflogwyr mawr yng Nghymru, er mwyn creu compact busnes i hyrwyddo mynediad tecach at gyflogaeth o ansawdd uchel, ac roeddent yn dweud y dylid annog busnesau i ymgysylltu’n strategol â phobl ifanc mewn ysgolion, cadw at arferion gorau mewn perthynas ag interniaethau a phrentisiaethau; diwygio’r broses ddethol i ddileu rhagfarn anymwybodol; agor llwybrau wedi’u strwythuro’n dda ar gyfer pobl nad oes ganddynt radd i yrfaoedd o safon uchel; monitro a gwerthuso perfformiad ar wella mynediad; a chefnogi’r cyflog byw—rhywbeth y byddwch yn cytuno ag ef. Nawr, roedd hyn ym mis Rhagfyr, ar ôl 16 mlynedd a hanner o Lywodraeth Lafur, ac ar ôl pedair blynedd a hanner o’r Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau sut y mae’r Llywodraeth Lafur hon yn mynd i wneud pethau’n wahanol er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Cyfeiriaf yr Aelod at y strategaeth trechu tlodi a’r strategaeth tlodi plant y byddwn yn eu hadnewyddu eleni.

Diolch, Lywydd. Yn ystod ei ymweliad â Stadiwm Dinas Caerdydd ddoe, dywedodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru, yn dilyn pleidlais dros adael, yn datblygu ei pherthynas ar wahân ei hun gyda’r Undeb Ewropeaidd. A yw’r Gweinidog yn gwybod beth a olygai, neu sut y bydd hyn yn effeithio ar ei bortffolio?

Efallai y byddai’r Aelod yn dymuno gofyn y cwestiwn i’r Prif Weinidog, gan mai rhywbeth a ddywedodd ef oedd hynny nid rhywbeth a ddywedais i. Ond mae gennyf farn ar hyn; mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â phwysigrwydd bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ac i Gymru fod yn aelod o’r UE. Mae’r Aelod—rwy’n gwybod nad yw’n byw yng Nghymru yn draddodiadol, ac nad oes ganddo ddiddordebau Cymreig—ond yr hyn sydd gennym yma, a’r hyn y mae’r Prif Weinidog yn awyddus iawn i’w wneud, yw sicrhau ei fod yn cynrychioli pobl Cymru’n dda, a thrwy fod yn rhan o’r UE y mae gwneud hynny.

Rwy’n byw yng Nghymru. Rwyf braidd yn bryderus nad yw’r Gweinidog yn ymwybodol o’r hyn y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu ei wneud yn y maes hwn. Mae wedi siarad yn huawdl am gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ac adfywio cymunedol, ond mae’n ymddangos ei fod ef a’i Lywodraeth yn dilyn trywydd ymwahanol drwy’r cydweithio hwn â Phlaid Cymru. Tybed oni wneid defnydd gwell ohono’n gweithio gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau ein bod, yn ogystal â pharhau i gael yr holl arian hwn yn llifo i Gymru, ein bod hefyd yn cael ein cyfran o’r difidend annibynniaeth o £10 biliwn sy’n ddyledus?

Nid yw sylwadau’r Aelod yn syndod o ystyried y blaid y mae’n rhan ohoni’n awr. Y ffaith yw bod gweithio gyda phlaid arall—gyda San Steffan—yn rhywbeth rydym yn ei wneud yn rheolaidd. Nid yw’n beth newydd i weinyddiaeth ddatganoledig wneud hynny, ond nid yw’n amhosibl i ni weithio gyda’n cyfeillion ar draws Ewrop chwaith, a dyna ddylai’r Aelod feddwl amdano’n ofalus yfory.

Ac ar y prosiectau y mae’r Gweinidog yn sôn amdanynt—adfywio cymunedau a thu hwnt—lle y dywedir wrthym pa mor wych yw’r arian Ewropeaidd, mae’n aml yn dod gydag amodau a chyfyngiadau ynghlwm wrtho. Rwy’n meddwl tybed a oes yna unrhyw un o’r prosiectau hynny y mae’r Gweinidog yn credu y gellid ei wneud yn well pe bai Llywodraeth Cymru yn ddilyffethair o ran y modd y caiff wario’r arian hwnnw?

Nid yw’r Aelod wedi ymddangos yng Nghymru nes yn ddiweddar, cyn yr etholiad, ac mae’n debyg nad yw’n gyfarwydd iawn â llawer o’r ardaloedd rydym i gyd yn eu cynrychioli yn y Siambr hon. Ond gadewch i mi dynnu sylw at un ardal yn Sir Fynwy, sydd yn ei ranbarth ef rwy’n credu, lle mae 305 o fentrau wedi’u cynorthwyo a 430 o fentrau wedi’u creu, gyda 865 o swyddi yn Nhrefynwy ei hun, diolch i’r cyllid UE rydych chi a’ch cyd-Aelodau yn ei roi mewn perygl.

Newidiadau i Nawdd Cymdeithasol

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ynghylch effaith newidiadau i nawdd cymdeithasol ar gymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0001(CC)

Diolch i Steffan Lewis am ei gwestiwn. Nid wyf wedi clywed y term ‘nawdd cymdeithasol’ yn cael ei ddefnyddio ers cryn dipyn o amser, mewn gwirionedd, ond diolch iddo am ei gwestiwn. Drwy weithio gydag ystod eang o randdeiliaid, rydym yn parhau i drafod ac asesu effaith sylweddol diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, ar sawl achlysur, wedi cyflwyno sylwadau i Weinidogion y DU, gan godi materion sy’n peri pryder pan fo’n amlwg y bydd pobl sy’n agored i niwed yn cael eu rhoi dan anfantais bellach.

Diolch iddo am yr ateb hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru, fesul cam, yn dod yn gyfrifol am fwy a mwy o elfennau o ddiogelwch cymdeithasol, os caf ddefnyddio term retro arall, o gymorth gyda’r dreth gyngor i’r gronfa taliadau yn ôl disgresiwn a’r Rhaglen Waith. Er gwaethaf hynny, fodd bynnag, mae dinasyddion yn y wlad hon yn dal i ddioddef yn sgil effeithiau polisïau lles atchweliadol a chosbol o Whitehall. Fel y mae wedi crybwyll ar sawl achlysur y prynhawn yma, nid oes ganddo lawer o ddulliau yn ei feddiant yn y maes hwn. Gan fod y maes polisi hwn yn biler mor hanfodol ym mholisi cyhoeddus Cymru, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i gyhoeddi rhaglen ar wahân sy’n amlinellu sylfeini gwladwriaeth les i Gymru, a fyddai’n cynnwys y cyfeiriad teithio ar gyfer polisi gyda’r setliad datganoli cyfredol, yn ogystal â gweledigaeth ar gyfer lles yng Nghymru yn sgil trosglwyddo pwerau diogelwch cymdeithasol pellach yma?

Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn diddorol iawn ac mae’n un cymhleth iawn o ran y berthynas ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth y DU a ninnau a’r hyn y gallwn ei liniaru. Credaf mai’r hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yw ein bod yn fodlon cymryd rhai agweddau ar bwerau, ar yr amod ein bod yn cael cyllid teg i ymdrin â hynny. Credaf fod hwnnw’n ffactor pwysig sy’n rhaid i ni ei ddatrys ymlaen llaw.

Rwy’n cael fy nenu gan argymhelliad yr Aelod o ran y cynnig a’r hyn y gall Cymru ei wneud. Rwyf am ystyried ymhellach pa un a allwn roi rhywbeth at ei gilydd i helpu pobl i ddeall beth yw cyfrifoldebau Cymru a sut y gallwn helpu pobl.

Weinidog, byddwch wedi gweld bod y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi adroddiad damniol yn ddiweddar ar effaith mesurau caledi Llywodraeth y DU ar dlodi plant yn y DU. Yn wir, fe’i disgrifiwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant fel darllen

Cyhuddiad o fethiant y llywodraeth i roi blaenoriaeth i blant yn ei phenderfyniadau ar nawdd cymdeithasol.

A ydych yn rhannu fy mhryderon ynglŷn â hynny? A wnewch chi ddwyn y pryderon hynny i sylw’r gweinidog cyfatebol yn San Steffan? Ond ar ben hynny, a ydych hefyd yn rhannu fy mhryderon, os ydym yn pleidleisio dros adael yr UE yfory, y bydd yr effaith ar ein heconomi yn golygu bod plant yn debygol o ddwyn mwy fyth o faich polisïau caledi’r DU?

Yn wir, ac mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater. Deddfodd y Llywodraeth hon y llynedd ynglŷn â llesiant cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau bod pobl ifanc wrth wraidd ein penderfyniadau wrth i ni symud ymlaen, gan gynllunio ar gyfer y tymor hir. Rwy’n meddwl mai’r hyn a fydd yn digwydd wrth i swm yr arian gael ei leihau—ac mae refferendwm yr UE yn berthnasol iawn i hyn—yw y bydd yn effeithio ar ein lles economaidd a bydd yn effeithio ar deuluoedd, a phlant yn bennaf. Mae’n rhywbeth y dylem i gyd fod yn ofalus iawn yn ei gylch.

Canfu gwaith ymchwil diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod credyd cynhwysol yn gwneud llawer i helpu i wneud i waith dalu i lawer o’r rheini sydd ar hyn o bryd yn wynebu’r datgymhellion mwyaf difrifol. Aethant ymlaen i ddweud y bydd nifer y bobl sy’n wynebu cymhellion gwan iawn i gael gwaith yn gostwng dwy ran o dair. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â’r sefydliad pan ddywed:

dylai credyd cynhwysol wneud y system yn haws ei deall, lleddfu’r broses o bontio rhwng bod mewn gwaith a bod allan o waith, a chael gwared i raddau helaeth ar y datgymhellion mwyaf eithafol i weithio neu i ennill mwy a grëwyd gan y system bresennol?

Yr hyn sy’n fy mhoeni’n wirioneddol yw’r modd y mae’r DU yn diystyru pobl; y ffaith amdani yw eu bod yn newid polisïau’n hawdd iawn, sy’n cael effaith enfawr ar gymunedau ac unigolion, a byddwch i gyd wedi’i weld. Rwy’n disgwyl bod gan hyd yn oed yr Aelod waith achos sy’n ymwneud â thaliadau annibyniaeth bersonol—pobl nad ydynt yn gallu cael arian oherwydd y prosesau diangen a bennwyd gan Lywodraeth y DU. Rwy’n credu y dylai cwestiwn cychwynnol Steffan Lewis ynglŷn â nawdd cymdeithasol a’r wladwriaeth les, ynglŷn â sut rydym am ymdrin â hynny, gael ystyriaeth lawer iawn pellach gan Lywodraeth y DU cyn iddynt dincran ag ef.

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddwch yn ymwybodol o adroddiad diweddar gan Ganolfan ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol Prifysgol Sheffield Hallam. Roeddent yn tynnu sylw at effaith anghymesur toriadau i fudd-daliadau lles ar bobl Cymru o’i gymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd—credaf mai dyna’r pwynt sydd eisoes wedi cael ei wneud—ac mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg yn y Cymoedd. Mae’n nodi y bydd y newid arfaethedig i’r lwfans tai lleol yn gwaethygu’r anghydraddoldebau hyn drwy effeithio fwyaf ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig eisoes, a’r pwynt cyfeirio ar gyfer gosod cyfradd y Lwfans Tai Lleol fydd 30 y cant isaf y rhenti sector preifat, mewn ardal lle mae rhenti sector preifat eisoes yn isel iawn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael i sicrhau nad yw’r rhai sy’n cael lwfansau tai lleol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o dan anfantais anghymesur ar sail y cyfrifiad o’r rhent cyfartalog a fydd yn pennu’r Lwfans Tai Lleol?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae’n rhywbeth y cefais fy rhybuddio yn ei gylch gan fy swyddogion pan ddeuthum yn Ysgrifennydd y Cabinet. Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am lwfans tai lleol, sy’n fater heb ei ddatganoli, fel y mae’r Aelod yn gwybod. Ond mae hyn, unwaith eto, yn adlewyrchiad o’r hyn a ddywedais yn gynharach; y ffaith amdani yw bod Llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau i’r wladwriaeth les, ac mae’r newidiadau hynny’n effeithio ar wasanaethau datganoledig. Felly, nid yw hyn yn cael gwared ar y pwysau yn y system—dim ond symud y pwysau. Yr hyn sy’n anffodus am hyn yw bod pobl yn rhan o’r broses gyfan. Mynegodd Llywodraeth Cymru bryderon ynglŷn â’r newidiadau hyn wrth Weinidogion y DU ar y pryd, ac rydym yn parhau i dynnu sylw Llywodraeth y DU at fater asesiadau effaith.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

4. Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu gweithio gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0016(CC)

Diolch i’r Aelod dros Orllewin Casnewydd am ei chwestiwn. Yn fuan byddaf wedi cynnal trafodaethau â phob un o gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Rwy’n benderfynol o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddaf yn gweithio gyda’r comisiynwyr er mwyn gwneud hyn.

Diolch. Mae presenoldeb gweladwy swyddogion mewn iwnifform yn ein cymunedau yn rhoi tawelwch meddwl ac yn chwarae rôl hanfodol wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gyda thoriadau Llywodraeth San Steffan i blismona, mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn ffordd o gefnogi ein heddlu a gwasanaethu ein cymunedau. Mae’r 101 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu ar gyfer Gwent yn gwneud gwahaniaeth pwysig ac yn cyfrannu’n sylweddol at blismona yn yr ardal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd yn gweithio gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu i sicrhau bod hynny’n parhau, a bod trechu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth?

Wrth gwrs, mae’r Aelod yn iawn i nodi hyn. Mae ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru i ddarparu 500 swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yn rhywbeth a oedd yn boblogaidd iawn ar garreg y drws pan aethom at yr etholwyr y tymor diwethaf. Gan barhau â’r 101 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Ngwent y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt, rwy’n cytuno y bydd y cyllid hwnnw’n parhau i wneud gwahaniaeth hollbwysig. Mae’n rhaid i ni ystyried sut y bydd y comisiynwyr heddlu a throseddu yn gweithredu mewn perthynas â swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu; mater gweithredol iddynt hwy yw hwn. Ond mae’n rhywbeth lle rwy’n edrych ymlaen at weithio ar bolisïau ar y cyd gyda’n gilydd, a sut y gallwn fynd i’r afael â blaenoriaethau comisiynwyr heddlu a throseddu a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gyda’i gilydd.

Mae ffigurau’r heddlu, yn anffodus, yn datgelu mai Stryd y Gwynt yn Abertawe, gyda’i heconomi nos adnabyddus, sydd â’r gyfradd uchaf o droseddau o holl strydoedd Cymru. Mae cynlluniau adfywio ar y gweill ac yn cael eu datblygu a’u hystyried ar gyfer ardal Sgwâr y Castell gerllaw. Pan fyddwch yn cael eich trafodaethau nesaf gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu, a wnewch chi gynnwys eitem ar bwysigrwydd cyfraniad yr heddlu i ddylunio trefol, fel bod gwaith adfywio yn gwrthsefyll cyfleoedd ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gwirionedd?

Diolch am gwestiwn yr Aelod. Byddwn yn gofyn i’r Aelod fyfyrio ar yr ystadegau sydd ganddi oherwydd cefais rywfaint o gyfarwyddyd yn ddiweddar ynglŷn â Stryd y Gwynt yn arbennig. Ceir prosiect yno mewn partneriaeth â’r comisiynydd heddlu a throseddu, Alun Michael, a’r bwrdd iechyd lleol a’r gwasanaeth ambiwlans yn ymwneud â sut y maent yn rheoli’r economi nos. Mae wedi cael canlyniadau gwych o ran lleihau nifer yr achosion o droseddu a chamddefnyddio alcohol yn yr ardal benodol honno. Rwy’n credu eu bod yn ei alw’n Fan Cymorth. Cyfeiriaf yr Aelod at hynny, ac efallai ei fod yn rhywbeth y byddai’n hoffi edrych arno am ei fod yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei wneud mewn cymunedau lle y ceir pwysau o ganlyniad i’r economi nos, gyda Stryd y Gwynt yn un ohonynt. Ond rwy’n credu ei fod yn newid o fod yn un o’r mannau lleiaf diogel i fod yn un o’r mannau mwyaf diogel yn y DU. Felly, byddwn yn gofyn i’r Aelod ddiweddaru’r ystadegau sydd ganddi o bosibl.

Mynd i’r Afael â Thlodi

5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(5)0008(CC)

7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i fynd i’r afael â thlodi yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0015(CC)

Diolch. Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i grwpio cwestiynau 5 a 7 heddiw. Mae trechu tlodi yn gyfrifoldeb i bob Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidog Cymru, gan alluogi ymagwedd wirioneddol drawslywodraethol sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi. Bydd y blaenoriaethau yn fy mhortffolio yn rhoi’r dechrau gorau i blant mewn bywyd ac yn cynorthwyo’r rhai sydd bellaf o’r farchnad waith i gael gwaith cynaliadwy.

Diolch i chi am hynny. Roedd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol ar wella cyfleoedd bywyd yn annog Llywodraeth y DU i ystyried y pum prif lwybr at dlodi—chwalfa deuluol, diweithdra, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, dyled bersonol ddifrifol a methiant addysgol—ac yn dilyn hynny lansiodd Llywodraeth y DU ei strategaeth cyfleoedd bywyd. Mae hon yn dechrau gyda’r gred sylfaenol nad beichiau i’w rheoli yw pobl sy’n byw mewn tlodi, fod pob person yn ased i’w wireddu ac y dylid meithrin potensial pobl. Os ydych yn cytuno â hynny, ac rwy’n gobeithio eich bod, a wnewch chi edrych ar y dystiolaeth a chwilio am wybodaeth i weld a allech, a sut y gallech gyflwyno strategaeth cyfleoedd bywyd wedi’i gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru?

Gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yng nghylch gwaith Rebecca Evans, efallai fod gennym strategaeth hyd yn oed yn well yma, ac rwy’n gwahodd yr Aelod i daro golwg ar y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y maent eisoes yn ei datblygu. Soniais yn gynharach am fy adran a sut rydym yn gosod y naratif ar gyfer dylanwadu ar newid a chydnerthedd cymunedol. Bydd un o’r heriau hynny’n ymwneud â chyflawniad y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sicrhau bod y materion y mae’r Aelod yn eu crybwyll ynglŷn â thrais yn y cartref, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, rhieni’n gwahanu ac eraill—. Sut y gallwn ymyrryd ar y pwynt hwnnw yn gynnar mewn bywyd i gynorthwyo teuluoedd wrth iddynt dyfu i fyny? Rwy’n gyfarwydd â’r rhaglen cyfleoedd bywyd, ond rwy’n meddwl bod gennym gynnyrch gwell wedi’i wneud yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r 1,000 diwrnod cyntaf yn hanfodol ar gyfer datblygiad iaith ac ar gyfer darllen ac addysg a datblygiad cyffredinol, a cheir ystadegau sy’n dangos bod plant sy’n byw mewn tlodi parhaus ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio’n is na’r cyfartaledd mewn perthynas â chaffael iaith yn bump oed na’u cyfoedion mwy cefnog. Mae materion a nodwyd ar gyfer ymdrin â hyn yn cynnwys buddsoddi mewn ansawdd yng ngweithlu addysg y blynyddoedd cynnar, cefnogi rhieni’n well ac yn wir, arweinyddiaeth yn gyffredinol. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran trechu tlodi drwy fynd i’r afael â’r materion hyn yn ymwneud â datblygiad a chaffael iaith yn y blynyddoedd cynnar yn benodol?

Cwestiwn amserol iawn gan yr Aelod—cyfarfûm â therapyddion lleferydd ac iaith ddoe ac roeddent hwy’n tynnu fy sylw at yr union fater hwn. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn mapio’r mentrau polisi amrywiol ar draws addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i lywio’r gwaith o ddatblygu dull cydlynol sy’n canolbwyntio ar ddarpariaeth addysgol o gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu. Gwn fod y therapyddion ddoe yn bendant iawn ynglŷn â chyfleoedd bywyd unigolyn. Os nad ydynt yn cael hyn yn gynnar, mae’n effeithio ar eu bywydau a’u cyfleoedd yn nes ymlaen. Rwy’n croesawu’r cwestiwn gan yr Aelod a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod.

Mae hanes strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi yn ymddangos i mi, beth bynnag, yn un o osod dyheadau tymor hir er mwyn rhoi terfyn ar dlodi, ond heb osod targedau penodol byrdymor ac adnoddau priodol ar gyfer eu cyflawni. Yn aml iawn, mae’r dyheadau yn cael eu gohirio neu’u gollwng yn gyfan gwbl pan fydd y Llywodraeth yn sylweddoli nad yw hi’n bosib i’w cyflawni. Oherwydd bod amgylchiadau heddiw yn wahanol iawn i’r hyn yr oeddent ddegawd yn ôl, onid ydy hi rŵan yn bryd i ailfeddwl a chanolbwyntio ar brosiectau a pholisïau sy’n mynd i’r afael â thlodi mewn gwirionedd ac mewn modd mesuradwy?

Darpariaeth Dechrau’n Deg yng Nghwm Cynon

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y ddarpariaeth Dechrau’n Deg yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0010(CC)

Diolch i’r Aelod dros Gwm Cynon am ei chwestiwn. Gwyddom fod Dechrau’n Deg yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn Rhondda Cynon Taf. Eleni, rydym wedi ymrwymo dros £6.8 miliwn, gan alluogi’r awdurdod lleol i gynorthwyo tua 3,270 o blant a’u teuluoedd.

Diolch. Mae Dechrau’n Deg wedi cael effaith drawsnewidiol ar fywydau degau o filoedd o blant ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth, sef Cwm Cynon, yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad. Fodd bynnag, gwn fod pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â’r sail ddaearyddol ar gyfer dyrannu’r cymorth. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y plant sydd fwyaf o’i angen?

Rwy’n credu bod yr Aelod yn gofyn cwestiwn rwy’n gyfarwydd ag ef o rannau eraill o’r gwasanaethau sydd wedi’u targedu. Rwy’n gwybod bod eich cyd-Aelod Mike Hedges yn arfer cyfeirio at hynny mewn perthynas â Cymunedau yn Gyntaf, unwaith eto, ynglŷn â ffiniau, ond mae yna bob amser rai sydd i mewn a rhai sydd allan. Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen ardderchog, ond caiff ei thargedu drwy ddefnyddio data incwm a ddarparwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac mae’r data’n caniatáu i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar yr ardal ddaearyddol sydd â’r gyfran uchaf o blant dan bedair oed yn byw mewn cartrefi budd-dal incwm fel dangosydd tlodi. Mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych arno—y strategaeth gyfan sy’n ymwneud â’n hymyrraeth ar sail tlodi mewn cymunedau, felly Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg: beth a wnant a’r ffordd orau i ni fynd i mewn i’r cymunedau hynny? Felly, rwy’n deall eich cwestiwn; mae’n rhywbeth rydym yn ei ystyried ond ar hyn o bryd, mae’n seiliedig ar ystadegau a bydd rhai pobl ifanc ar eu colled yn hyn o beth. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn ceisio datrys y materion hynny.

Weinidog, yn amlwg, mae gan y Llywodraeth ymrwymiad mewn perthynas â gofal plant—cael polisi gofal plant cyffredinol o hyd at 30 o oriau—ac mae’n rhywbeth rydym yn ei groesawu ac mae’n debyg i’r hyn a oedd gennym yn ein maniffesto ein hunain. A oes asesiad effaith wedi’i wneud—rwy’n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Llywodraeth—ynghylch y gallu i gomisiynu’r ddarpariaeth honno ac nad oes unrhyw risg o beryglu’r ddarpariaeth bresennol, megis mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, megis Cwm Cynon ac ardaloedd eraill yn fy rhanbarth etholiadol? Mae yna broblem o ran y capasiti, yn amlwg, i allu cyflawni’r ymrwymiad cyffredinol hwnnw, ac nid ydym eisiau peryglu cynlluniau presennol os oes angen i’r capasiti dyfu yn y lle cyntaf.

Diolch i’r Aelod am grybwyll un o’n hymrwymiadau arloesol o ran gofal plant. Gallaf sicrhau’r Aelod nad yw’n debyg o gwbl i gynnig gofal plant y Ceidwadwyr; roedd yn un penodol iawn a gyflawnwyd gan Lafur Cymru. Rwy’n gweithio gyda fy nhîm a chyd-Aelodau yn y Cabinet ar y ffordd orau o gyflwyno’r rhaglen hon. Capasiti: mae’r Aelod yn iawn—mae capasiti yn fater sy’n ymwneud â sut rydym yn cyflawni hynny, ond mae’n rhywbeth a fydd, gan weithio gyda’r sector preifat a’r sector cyhoeddus i’w gyflwyno, o fudd i deuluoedd, ond yn bwysicach, bydd o fudd i blant.

Mynd i’r Afael â Thlodi yng Nghaerffili

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi yng Nghaerffili? OAQ(5)0018(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Yn fy mhortffolio, rydym yn cysoni rhaglenni allweddol i gynorthwyo’r rhai sy’n byw mewn cartrefi incwm isel ledled Cymru, gan gynnwys Caerffili. Mae Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a’r rhaglen Cefnogi Pobl yn gweithio tuag at y nodau cyffredin o greu Cymru fwy ffyniannus a chyfartal.

Diolch. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Gwm Cynon, Vikki Howells, canmolodd Ysgrifennydd y Cabinet waith Ymddiriedolaeth Trussell a’r gwirfoddolwyr sy’n cyflawni’r gwaith hwnnw ledled Cymru. Bydd llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol o waith cadeirydd Cymru yn Ymddiriedolaeth Trussell a chadeirydd Gogledd Iwerddon hefyd yn wir, Tony Graham, sy’n digwydd bod yn un o fy etholwyr. Mae wedi siarad am raglen More Than Food Ymddiriedolaeth Trussell sy’n mynd â’r gwaith y maent yn ei wneud y tu hwnt i fanciau bwyd i ddarparu gwasanaethau megis cyngor ar ddyledion, cyrsiau sgiliau coginio a chyllidebu. A wnaiff y Gweinidog ganmol y gwaith y mae Ymddiriedolaeth Trussell yn ei wneud, a chroesawu hefyd y gwasanaethau ychwanegol hyn sy’n darparu cymorth hanfodol i unigolion yn ein cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn arbennig gan gosbau Llywodraeth y DU o ran budd-daliadau, a chydnabod bod y gwaith hwn yn hollbwysig er mwyn gwneud iawn am y problemau hynny?

Yn wir, ac fel yr Aelod, hoffwn gofnodi fy niolch i aelodau Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n gweithio ledled y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, am y gwaith da y maent yn ei wneud, ac effaith estynedig Ymddiriedolaeth Trussell, nad yw’n ymwneud â banciau bwyd yn unig, ond y pethau eraill y maent yn eu gwneud yn ogystal—y cyngor a’r cymorth ariannol. Caiff gwasanaethau eirioli Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda’n gilydd i gynorthwyo’r rhai sydd mewn angen, eu hadlewyrchu yn ein strategaeth cynhwysiant ariannol. Gall cydweithrediad rhwng banciau bwyd a gwasanaethau cynghori gyda sicrwydd ansawdd gynnig help i bobl drwy gyfnod o argyfwng, ac mae Ymddiriedolaeth Trussell yn ei wneud yn dda iawn.

Mae tlodi bwyd yn parhau i fod yn broblem i lawer o aelwydydd yng Nghaerffili a ledled Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet. Y gaeaf diwethaf, elwodd mwy na 2 filiwn o’r bobl fwyaf agored i niwed o £310 miliwn o gymorth gyda’u biliau tanwydd drwy gynllun disgownt cartrefi cynnes Llywodraeth y DU. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ategu fy nghroeso i’r newyddion fod newidiadau i’r cynllun yn golygu y bydd 70,000 yn fwy o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd, cwsmeriaid anabl a phobl eraill sy’n agored i niwed yn gymwys i wneud cais am gymorth i gynhesu eu cartrefi yng Nghymru y gaeaf hwn?

Am eiliad roeddwn yn meddwl fy mod wedi gweld dagrau crocodeil gan yr Aelod mewn perthynas â’i gwestiwn. Mae’n fy mhoeni bod y synnwyr o eironi a ddaw o’r meinciau hynny, o olchi eu dwylo o’r effaith a gaiff ei Lywodraeth yn y DU ar ein hetholwyr yma yng Nghymru—y rhai y mae’n honni ei fod yn eu cynrychioli yng Nghaerffili yw’r union rai sy’n aelodau, fel Hefin David—. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gael y budd mwyaf i’n cymunedau, ond byddwn yn gofyn i’r Aelod ystyried ei gwestiynau a gofyn i’w gydweithwyr yn y DU efallai am ffrwd gyllido deg i Gymru.

Blaenoriaethau ar gyfer Portffolio Cymunedau a Phlant

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y portffolio cymunedau a phlant yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ(5)0005(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Fy mlaenoriaethau ar gyfer cymunedau a phlant yw lles a ffyniant economaidd, a chyflawni’r canlyniadau hynny i unigolion ac i gymunedau.

Mae lles yn rhan bwysig iawn o’ch portffolio, Weinidog, ac fel rwy’n siŵr eich bod yn gwybod, mae adroddiad blynyddol NSPCC, ‘How Safe are our Children?’, yn tynnu sylw at gynnydd o 26 y cant yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant o dan 16 oed yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf—ffigurau sydd wedi dyblu dros y degawd diwethaf. A wnewch chi ategu fy nghroeso i’r adroddiad hwn, ac a wnewch chi ystyried gweithredu ar argymhelliad yr NSPCC y dylid datblygu cynllun cynhwysfawr mewn perthynas â cham-drin plant yn rhywiol, a gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth, fel y gellir diwallu anghenion plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol, a’u teuluoedd?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn pwysig. Rwyf i fod i gyfarfod â’r NSPCC yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac rwy’n siŵr y bydd hynny ar yr agenda. Byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod o’r gwasanaethau cymdeithasol, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ein hamcan ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hyn yn benodol mewn perthynas â phlant. Soniais yn gynharach y bydd fy adran, a llawer o fy nghyd-Aelodau, yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lleihau eu heffaith ar gyfleoedd bywyd plant wrth i ni symud ymlaen. Mae lles a ffyniant economaidd y bobl hyn yn y dyfodol yn rhan bwysig o agenda’r Llywodraeth hon.

Gwasanaethau Mabwysiadu

10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hynt y gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru? OAQ(5)0017(CC)

15. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru? OAQ(5)0004(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Lywydd, rwy’n deall eich bod hefyd wedi grwpio 10 a 15, ac wedi cytuno i’r rheini gael eu grwpio heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddatblygu a chryfhau cyfeiriad strategol gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru ymhellach. Rydym am sicrhau bod gan deuluoedd sy’n mabwysiadu fynediad at wasanaethau mabwysiadu amserol a phriodol, pa le bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw, ac rwy’n llongyfarch y Llywodraeth ar y cynnydd a wnaed gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae rhieni sy’n mabwysiadu yng Nghymru sy’n pryderu ynglŷn â’u statws mewn achosion mabwysiadu a ymleddir wedi cysylltu â mi. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio diwygio cymal 9 y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol wrth iddo fynd drwy broses seneddol y DU, er mwyn sicrhau y cynhwysir darpar rieni sy’n mabwysiadu yng Nghymru yn y diffiniad o ‘berthynas’, oherwydd, os na wnewch hyn, mae’n golygu na fydd y llys yn ystyried y berthynas rhwng y plentyn a’i ddarpar rieni mabwysiadol mewn achosion mabwysiadu a ymleddir?

Rwy’n ymwybodol o bryderon yr Aelod. Mae fy swyddogion yn ystyried y materion sy’n codi o gymal 9 y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, ac maent mewn cysylltiad â San Steffan i sicrhau bod y diwygiadau a wneir er lles gorau plant Cymru sy’n aros i gael eu mabwysiadu a’u darpar rieni mabwysiadol. Rydym wedi ymrwymo, fel y mae’r Aelod yn sôn, i fabwysiadu fel opsiwn pwysig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, plant nad yw eu teulu biolegol yn gallu gofalu amdanynt. Rydym yn cydnabod y rôl heriol, ond gwerthfawr, y mae rhieni sy’n mabwysiadu yn ei chwarae yn darparu cartrefi cariadus a pharhaol i’r plant hyn, ac mae’n rhywbeth y byddaf yn parhau i gadw llygad arno wrth i’r Bil fynd yn ei flaen.

Yn gynharach eleni, mynegodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bryderon ynglŷn â diffyg cymorth ôl-fabwysiadu a’r effaith sylweddol a difrifol iawn y gallai hyn ei gael ar blant a theuluoedd o bosibl. Maent hefyd yn pryderu am y modd y mae cymorth ôl-fabwysiadu yn amrywio rhwng un rhanbarth a’r llall drwy Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad o wasanaethau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y mater hwn?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Ers sefydlu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2014, mae’r amser cyfartalog rhwng bod plentyn yn derbyn gofal ac yn cael ei leoli i’w fabwysiadu wedi parhau i ostwng. Mae ffigur perfformiad chwarter olaf 2015-16, sef 15.2 mis, yn is nag y mae wedi bod ers 2002. Mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud o ran darparu deunyddiau taith bywyd ers 31 Mawrth 2016, gyda 49 y cant o blant yn derbyn y deunyddiau erbyn eu hail adolygiad mabwysiadu a dim mwy na thri mis ar ôl eu hadolygiad cyntaf, o’i gymharu â 24 y cant y flwyddyn cynt. Mae llawer iawn o waith i’w wneud o hyd, ond byddaf yn ceisio parhau â grŵp cynghori er mwyn dylanwadu ar y Llywodraeth a gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer pobl ifanc yn y sefyllfa hon.

Weinidog, rwy’n falch fod Julie Morgan wedi gofyn y cwestiwn hwn; mae’n faes pwysig a sensitif. Mae mabwysiadu yn beth gwerthfawr, ond hefyd yn beth heriol i unrhyw un ei wneud. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn amlwg yn elfen hanfodol o’r gwasanaethau cymorth a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Sut rydych yn cryfhau’r rhwydweithiau i sicrhau bod gan fabwysiadwyr fynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt?

Dyna gwestiwn gwirioneddol bwysig—er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym y capasiti i gefnogi rhieni sy’n dymuno cymryd y cymeriadau cariadus o ran y gwasanaethau mabwysiadu. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm feddwl am raglen i gefnogi’r ddarpariaeth, ac unwaith eto, gan weithio gyda Gweinidogion eraill ar draws yr adran hon, i feddwl sut y gallwn sicrhau bod gennym y darpariaethau cywir yn y lle cywir, gan gynnwys gwasanaethau’n ymwneud â materion iechyd meddwl hefyd gan wneud yn siŵr y gallwn ddarparu cefnogaeth i unigolion.

Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf

11. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid Teuluoedd yn Gyntaf? OAQ(5)0007(CC)[W]

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae £42,578,000 wedi’i ddyrannu ar gyfer y gwaith o gyflwyno’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod 2016-17, sy’n cynnwys £3 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer cyllido’r ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan anableddau.

Diolch. Mae tîm o amgylch y teulu yn un o bum prif elfen rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Mi ddaeth etholwraig i’m gweld i i rannu ei phryder hi ar ôl clywed bod y gwasanaeth tîm o amgylch y teulu yn Ynys Môn yn dod i ben o fis Mawrth 2017. Mi oedd hi’n canmol yn fawr y gofal a’r gefnogaeth yr oedd hi wedi eu derbyn gan y tîm yn lleol yn sgil problemau iechyd meddwl ei merch ac effaith hynny ar y teulu. Mae hi’n dweud yn berffaith glir na fyddai hi wedi gallu ymdopi heb y cymorth hwnnw. Pa fwriad sydd gan y Gweinidog i ailedrych ar ddyfodol tîm o amgylch y teulu a sicrhau ei barhad er mwyn fy etholwraig a llawer iawn tebyg iddi hi wedi mis Mawrth y flwyddyn nesaf?

Wel, nid wyf yn gyfarwydd â’r cyfarwyddyd hwnnw gan unrhyw Weinidog nac o fy adran o ran bod hwnnw’n dod i ben yn 2017. Yn sicr, cynnig o gyllid am un flwyddyn a gafwyd ar gyfer y cynllun, ond rydym yn ailystyried hynny wrth i ni symud ymlaen. Felly, efallai nad yw eich etholwr yn gywir ynglŷn â’r ffaith ei fod yn mynd i ddod i ben. Nid ydym wedi dweud hynny.

Canlyniadau ar gyfer Plant sy’n derbyn Gofal

12. Pa flaenoriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi ar bolisïau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal? OAQ(5)0003(CC)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Dylai pob plentyn mewn gofal gael yr un cyfleoedd bywyd â phlant eraill. Mae hon yn flaenoriaeth allweddol i mi, a byddaf yn ailgynnull y grŵp strategol gwella canlyniadau ar gyfer plant i barhau ei waith a rhoi cyngor ar y ffordd orau i ni ddarparu dull cenedlaethol o weithredu mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal.

A gaf fi ganmol ei ddatganiad cyffredinol: y dylai ein disgwyliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal fod yn debyg, os nad yn union yr un fath, â’r hyn ydynt ar gyfer gweddill y boblogaeth? Rwyf wedi bod yn y Cynulliad hwn bellach ers ychydig dros 17 mlynedd, ac rwyf wedi clywed Gweinidogion yn dweud dro ar ôl tro ein bod ar fin torri tir newydd mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal. Nid yw erioed wedi digwydd. Mae’n gyfrifoldeb arnom i gyd—y rheini sy’n craffu ar y polisïau hyn lawn cymaint â’r Gweinidogion. Ond mewn gwirionedd, gallai Cymru arwain y ffordd yn y DU ac yn wir, yn Ewrop, o ran cael y maes hanfodol hwn o bolisi cyhoeddus yn iawn.

Rwy’n cytuno â’r Aelod. Rwy’n benderfynol o weithio gydag ef er mwyn i ni allu darparu’r sicrwydd y mae’n ei geisio.

Anghenion Tai Pobl Anabl

13. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod tai yng Nghymru yn diwallu anghenion pobl anabl? OAQ(5)0009(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym yn darparu canllawiau i awdurdodau lleol ar asesu anghenion tai ac i alluogi mynediad i gartrefi hygyrch ac ar ddyluniad tai cymdeithasol newydd.

Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â fy etholwr ysbrydoledig, Mia Thorne, sydd ond yn naw oed, ac sy’n llysgennad dros Caudwell Children Wales. Yn ystod ein trafodaeth, mynegodd Mia bryderon ynglŷn ag anghysondebau mewn rheoliadau adeiladu, er enghraifft o ran lled drysau fel bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu llywio o gwmpas eu cartref eu hunain. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl anabl i sicrhau bod tai yn addas i’w anghenion?

Dyna gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â gwrando ar unigolion a’u profiadau a dysgu ganddynt, ac fel Gweinidog, rwy’n awyddus iawn i wella’r cyfle hwnnw. Mae gwrando ar farn pobl ag anableddau yn bwysig, ac rwy’n croesawu’r pwyntiau a godwch drwy Mia Thorne heddiw. Rydym hefyd yn awyddus i gydweithio’n agos â sefydliadau eraill i gyflwyno sylwadau pan fyddant angen i ni wneud hynny. Mae rhan M y rheoliadau adeiladu yn ei gwneud yn ofynnol i bob tŷ newydd gael llwybr hygyrch i’r brif fynedfa, cyfleusterau toiled y gellir eu defnyddio ar lefel y fynedfa, a lled drws a choridor addas i’w gwneud yn hygyrch ar gyfer ystod o anableddau. Rwy’n credu mai’r hyn sydd angen ei wneud yw parhau i ddysgu am brofiadau pobl o ddydd i ddydd, a bydd hynny’n dylanwadu ar bolisi’r Llywodraeth yn y tymor hir.

Taliadau Gwasanaeth ar gyfer Tenantiaid Tai Cymdeithasol

14. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno taliadau gwasanaeth ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol? OAQ(5)0011(CC)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i landlordiaid cymdeithasol gyflwyno taliadau gwasanaeth newydd neu ychwanegol ar gyfer eu tenantiaid. Rydym wedi gofyn i landlordiaid cymdeithasol wahanu rhenti a thaliadau gwasanaeth lle y defnyddiwyd system cronfa rent. Mae hyn er mwyn cynyddu didwylledd a thryloywder ar gyfer eu tenantiaid.

Mynychais gyfarfod y cefais wahoddiad iddo yng ngogledd Corneli—diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, roeddent yn pryderu bod taliadau gwasanaeth megis torri gwair a chodi sbwriel yn cael eu cynnwys yn eu rhent. Yn ddiweddar, roeddent wedi derbyn, gan Valleys to Coast, y taliadau gwasanaeth a gyflwynwyd ar gyfer codi sbwriel. Mae hyn wedi achosi llawer o ofid i’r etholwyr hyn, yn enwedig gan nad oedd eu cymdogion sydd efallai wedi prynu eu tŷ yn gorfod talu yn y ffordd hon. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ni ddylid cyflwyno taliadau fel y rhain, yn enwedig gan eu bod yn cael eu codi ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas.

Wel, fel y dywedais yn gynharach, nid oedd hyn ar sail cyflwyno taliadau newydd; dadansoddiad ydoedd o’r tâl a gâi ei godi arnynt eisoes. Felly, gallai eich etholwyr fod yn sicr ynglŷn â’r hyn roeddent yn talu amdano neu beidio. Mae’r broses o godi tâl arnynt bellach am dorri gwair—. Roedd tâl yn cael ei godi arnynt eisoes am dorri gwair ond mae’n debyg nad oeddent yn gwybod am y peth. Câi ei fwndelu fel un tâl ond erbyn hyn maent yn fwy ymwybodol. Os oes gan yr Aelod faterion penodol y mae’n dymuno eu dwyn i fy sylw, rwy’n fwy na hapus i fynd ar eu trywydd yn fy adran.

3. 3. Cynnig i Gynnig Teitlau a Chylch Gwaith Pwyllgorau

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cynnig i gynnig teitlau a chylch gwaith pwyllgorau. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies.

Cynnig NDM6031 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:

1. Yn sefydlu Pwyllgor Cyllid i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 19; swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11; ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â Chronfa Gyfunol Cymru.

2. Yn sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 ac 18.3 ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y cafodd adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes yna unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. 4. Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgor

Yr eitem nesaf yw eitem 4, sef y cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor. Rwy’n galw eto ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6049 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i) Mike Hedges (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid; a

(ii) Simon Thomas (Plaid Cymru) yn Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Paul Davies a gwelliant 4 yn enw Caroline Jones.

Yr eitem nesaf, felly, yw dadl yn enw Plaid Cymru ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy’n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6029 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r heriau i’r gwasanaeth iechyd o ran gofalu am boblogaeth hŷn.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) symud ymlaen gyda mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol; a

b) cynyddu nifer y meddygon teulu, gan ganolbwyntio ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd o amddifadedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Lywydd, diolch am y cyfle i agor y ddadl yma ar gynnig a gafodd ei gyflwyno yn enw Simon Thomas. Dadl ydy hon sy’n gofyn i’r Cynulliad nodi y sialensiau demograffig sy’n wynebu’r NHS yng Nghymru ac sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb rŵan i’r heriau hynny, yn cynnwys symud tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â gweithredu ar frys efo cyfres o gamau i gynyddu’r niferoedd o staff, yn cynnwys meddygon teulu, a fydd ar gael yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn blynyddoedd i ddod. Rwy’n gwybod nad ydy ‘crisis’ yn air y mae’r Llywodraeth yn licio ei glywed. Rwy’n gwybod bod y Gweinidog yn gyndyn iawn o gydnabod cyhuddiadau o grisis, ac mae o’n sicr yn air na ddylai gael ei ddefnyddio yn ysgafn—rwy’n cytuno â hynny. Ond, yn wir mi fydd sefyllfa argyfyngus o fewn yr NHS yn sicr o ddatblygu a dyfnhau heb i gamau pendant iawn a chynllunio strategol gofalus gael eu cyflwyno ar gyfer y dyfodol.

Mae rhagolygon poblogaeth ar gyfer Cymru yn awgrymu y bydd niferoedd a’r ganran o’n poblogaeth ni sydd dros 65 yn cynyddu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd nesaf. Erbyn 2037, mae disgwyl i’r nifer dros 65 oed fod yn 47 y cant o’r boblogaeth, o’i gymharu â 30 y cant rŵan, a’r ganran dros 85 oed yn mwy na dyblu i 10 y cant o’r boblogaeth oedolion. Os ydy cyfraddau presennol o afiechydon ac anghenion gofal cymdeithasol yn y boblogaeth yn parhau yn debyg, ond o fewn patrwm demograffig newydd o boblogaeth hŷn, mae’n amlwg yn mynd i olygu cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ychwanegol a gwahanol yn y dyfodol. Mi fydd pobl yn byw’n hirach, efo mwy o gyflyrau cronig y bydd angen eu rheoli a’u monitro y tu allan i’r ysbyty. Bydd hyn yn golygu’r angen am lawer mwy o wasanaethau o fewn iechyd sylfaenol, yn cynnwys rhagor o feddygon teulu i gynnig cefnogaeth feddygol, mwy o nyrsys ardal a chymunedol, a gofal cymdeithasol i gadw pobl efo’r cyflyrau hyn yn byw yn annibynnol. Wrth gwrs, bydd angen integreiddio: ni allwn wastraffu amser, nac, yn allweddol, wastraffu arian ar frwydrau biwrocrataidd ynglŷn â phwy sy’n talu am ofal neu gael cyfarfodydd hirfaith mewn byrddau partneriaeth sy’n arwain efallai at ambell gynllun peilot a fawr ddim arall.

Ond peidiwch â gadael inni fod yn gwbl negyddol. Yn ystod y cyfnod a ddaw o gynnydd o bwysau am wasanaethau, mi ddaw yna hefyd datblygiadau technolegol—technoleg triniaethau, aps iechyd i ffonau symudol, er enghraifft. Mi fydd datblygiadau o’r math yma yn rhoi cyfleon i ddelifro gwasanaethau iechyd a gofal mewn ffyrdd sy’n hybu byw yn annibynnol, a hynny ar gost is a gobeithio efo gwell canlyniadau. Mi allwch chi hefyd ystyried pethau fel y cynnydd mewn capasiti ymhlith poblogaeth hŷn i wirfoddoli, i ofalu am blant ac aelodau eraill o’r teulu, yn ogystal â chynnydd mewn cyfraniadau at fywyd diwylliannol, economaidd a chymdeithasol Cymru.

The challenges are great. There are some opportunities too, as I’ve mentioned, but let me mention a few things that need to happen—a small number of steps, but significant ones that need to be pursued. You won’t be surprised to hear a Plaid Cymru health spokesman starting with recruitment, training and retention of staff. We need more GPs, community nurses and other health professionals. Unfortunately, there are fewer GPs now than in 2013, and the statistics show a decline in district nurses, though we are aware there could be some statistical issues around this, reflecting, I think, the need for more transparency and better data.

On GPs, specifically, the number of GPs in Wales has been falling in recent years—the number has now fallen under 2000. But what is frankly frightening is that around a quarter of those GPs we have say that they plan to retire in the next 10 years. Demands on GPs are rising, stress levels are getting worse, our training places aren’t getting filled—they are there, but they’re not getting filled—and it’s worse in some of the most deprived and rural areas. Plaid’s outlined several policies to try to attract and retain existing doctors: paying off student debt of doctors who agree to complete training and spend their early careers in certain areas or specialisms; employing more directly salaried GPs to fill vacancies in rural and peripheral areas for those doctors who don’t want the hassle, frankly, of running their own businesses. But we also have to get more young people into medicine and wanting to become a GP. I don’t know how many of you saw the University of Nottingham study of 2014, which was truly shocking: 50 per cent of all further education colleges and sixth forms had nobody, not a single person, applying to medical school over a three-year period—not a single person. Many more that did have applicants only had maybe one or two applicants, and the distribution of this, unsurprisingly, once again reflects patterns of deprivation. These are issues we have to address. We have to encourage our talented young people to think about medicine, and, once in medicine or, better still, before they start their medical studies, to think about being a GP. We have to ensure that newly trained doctors in Wales have exposure to primary care in their initial post-qualification period. It’s not happening enough in Wales, but it is happening elsewhere. Without GPs, we have no chance to change our health service to one that is able to look after an older population and keep them active. I have focused on GPs there, other colleagues will focus on other elements of the primary care workforce that, of course, are equally important.

I’ll mention secondly, as a step that needs to be taken, that the share of the budget going into primary care is going down when it should be going up. The latest figures show that 7.4 per cent of NHS funding goes to primary care. That’s down from nearly 9 per cent a decade or so ago. In England, the level is around 10 per cent; the Welsh historic level is around the 11 per cent mark. So, we know we want more out of our primary care sector, but proportionally we’re putting less in. The Royal College of General Practitioners here in the Senedd yesterday pointed out that 90 per cent of patient contact takes place at primary level—90 per cent of contact, 7.4 per cent of funding. And yes, of course there are higher costs in secondary care and secondary care is more vulnerable to cost inflation, but I genuinely believe that the current situation is unsustainable.

Thirdly, we need to get far better at innovation and at adopting new technologies, such as apps, telemedicine, and a paperless NHS. The NHS is too often far behind most other services and industries. It can’t be right that hospitals are still employing people to push trolleys of paperwork around.

Fourthly, we need a more integrated health and social care system that’s appropriate for the needs of a rural and scattered population, not the needs of NHS managers being shuffled around to impose urban models of care in areas where that is not suitable. This must also include access to specialist services, like accident and emergency departments, close to where people live, and an ambulance service that spends its time responding to emergency calls, rather than queued up in hospitals or transferring patients on long journeys away from home. My colleagues will elaborate on many of those points this afternoon.

Turning to the amendments, we’ll abstain on amendment 1. We’re not exactly sure what the Conservatives mean by these voluntary assessments and, in any case, our understanding is that versions of these assessments occur anyway. But, no doubt we’ll hear more from the Conservatives. We’ll support the other amendments. We need a new plan for services in rural communities; the Older People’s Commissioner for Wales should be reviewed, of course, to make it more effective, and that should happen regularly; and community hospitals, of course, can play an essential role in smoothing the transition back to the community for many people, although quite how UKIP intend to staff their post-EU health service when our existing service has so many migrant workers playing an essential role is something to reflect upon this afternoon. I look forward to all your— [Interruption.] I’m winding up. I look forward to your contributions; you’ll have an opportunity in a second to make your points, no doubt. I look forward to all Members’ contributions this afternoon. This is one of the most important debates we face in Wales and one of our biggest challenges.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch. Cyn i ni fynd ymlaen, a wnaiff pawb ohonoch edrych ar eich ffonau symudol? Os oes gennych ffôn symudol ymlaen, a wnewch chi ei ddiffodd os gwelwch yn dda? Mae’n effeithio ar y darlledu a’r sŵn yn y Siambr. Diolch yn fawr iawn.

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Suzy.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno asesiadau aros yn y cartref gwirfoddol i hybu byw’n annibynnol a chynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun newydd, cyn gynted â phosibl, ar gyfer mynediad at wasanaethau iechyd a seilwaith gwasanaeth iechyd ar gyfer cymunedau gwledig.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu rôl y Comisiynydd Pobl Hŷn.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig ein gwelliannau i’r ddadl eang iawn ond hynod o ddefnyddiol hon.

Bloedd rhyfel arweinydd Plaid Cymru yn yr etholiad oedd nad oedd gan ei phlaid unrhyw beth yn gyffredin â’r Torïaid ac na fyddai’n gweithio gyda ni. Eto i gyd, yr wythnos diwethaf yn unig, galwasant am gorff hyd braich ar gyfer datblygu economaidd—polisi hirsefydlog y Ceidwadwyr Cymreig—a dyma ni, unwaith eto, yn tynnu sylw at achos cyffredin, gan adlewyrchu’r hyn a allai fod ychydig yn anghyfforddus i Leanne Wood, ond sy’n ffynhonnell o obaith, rwy’n meddwl, i’r pleidleiswyr: y gall gwrthbleidiau weithio gyda’i gilydd i herio’r hen status quo. Rydym yn cefnogi’r cynnig hwn, ac rydym yn cefnogi gwelliant 4.

Nid oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng cartrefi gofal meddygol GIG Plaid Cymru a’n cynlluniau ar gyfer y defnydd arloesol o ysbytai cymunedol, wedi’u cefnogi gan gronfa ddatblygu. Wrth gwrs, bydd rhai o’r adeiladau hynny yn anaddas ar gyfer cynnig ffyrdd newydd o ddarparu triniaeth leol mewn gofal, ac mae’r ddadl yn parhau felly dros gael adeiladau amlbwrpas cynaliadwy yn eu lle. Fodd bynnag, cafodd cyfleusterau mwy modern, fel Gellinudd, Cimla a Maesgwyn yn fy rhanbarth i, eu cau, gyda’r colli gwelyau anochel a ddigwyddodd yn sgil hynny, er mwyn helpu i gyfiawnhau’r tanddefnydd o’r ysbyty menter cyllid preifat ym Maglan ac i osgoi sefydliadu cleifion. Wel, bellach, mae gormod o gleifion oedrannus a bregus yn cael eu sefydliadu mewn gwelyau acíwt drud gan fod gofal llai dwys yn brin a chaiff pecynnau gofal cartref eu gohirio. Weithiau nid yw’r gofal yn y cartref yn diwallu anghenion, gydag aildderbyniadau yn sgil methiannau cymorth. Felly, rydym yn cytuno â phwynt 2(a) y cynnig wrth gwrs. Byddai comisiwn trawsbleidiol ar ddarparu gofal cynaliadwy hirdymor yng Nghymru, fel y galwodd y Ceidwadwyr Cymreig amdano, yn helpu i gasglu’r dystiolaeth a nodi a fyddai’r newidiadau y mae Plaid Cymru yn eu cynnig yn gweithio ai peidio. Byddai comisiwn o’r fath yn casglu’r dystiolaeth a fyddai’n sail i ddeddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio, gan ddarparu integreiddiad mwy organig o’r ddwy system yn hytrach na tswnami strwythurol enfawr. O dan ein cynigion, byddai gan Gymru gronfa arloesi gofal gwerth £10 miliwn i hybu’r cydweithio hwnnw ar bob lefel, gan gynnwys ymadfer ac ailalluogi, ac a fyddai’n ymateb i heriau daearyddol.

Mae’n dda, onid yw, fod maniffestos y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi ymrwymo—y ddwy ohonom—i gyflwyno arbenigedd o ran y modd y caiff meddygaeth ei darparu yn yr ardaloedd gwledig? Tybed a ydych wedi codi’r tir cyffredin braidd yn anghyfleus hwnnw drwy gytuno y byddai unedau symudol yn darparu triniaeth ganser yn gyfraniad defnyddiol tuag at gydraddoli mynediad at driniaethau mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig, neu a ydych yn mynd i anghytuno â ni er mwyn ymbellhau oddi wrthym? Fy hun, rwy’n meddwl y byddai cefnogi ein hail welliant yn arwydd calonogol iawn i bleidleiswyr Cymru bod ein nifer cyfartal o bleidleisiau yn y Siambr hon yn cael eu defnyddio i ddwyn y Llywodraeth Lafur hon i gyfrif am ei methiant mewn perthynas â mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd.

Felly, gadewch i ni beidio ag anghofio ein gwelliant cyntaf. Byddai’r asesiadau aros yn y cartref yn helpu i atal argyfyngau sydd angen ymyrraeth iechyd a gofal cymdeithasol ddwys drwy helpu dinasyddion i gynllunio ymlaen llaw—dyna’r gwahaniaeth o ran yr hyn sy’n digwydd yn bennaf yn awr—ffyrdd o uchafu eu gobaith o fyw’n annibynnol pan allai digwyddiadau a chyflyrau meddygol, corfforol neu feddyliol, sy’n gysylltiedig ag oedran, wneud byw gartref yn anos, yn y ffordd a ddymunant. Ni fyddai ond yn costio rhan fach iawn o’r £21 miliwn y mae ein GIG ar hyn o bryd yn ei wario ar gadw pobl mewn gwelyau acíwt am 27 diwrnod ar gyfartaledd, o ganlyniad i oedi wrth drosglwyddo gofal. Wrth gwrs, bydd yn helpu rhai ohonynt i osgoi’r angen i symud i ofal preswyl yn y lle cyntaf—ac ar hynny, mae’r gymdeithas fawr yn dal yn fyw ac yn iach ar y meinciau hyn mewn perthynas â gofal personol. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gweld y manteision o gynnwys mentrau cydfuddiannol a chydweithredol ar gyfer darparu gofal o’r radd flaenaf—rhywbeth arall, er mawr embaras, sydd gan Blaid Cymru a’r Torïaid eraill yn gyffredin.

Rydym hefyd yn cydnabod uchelgais Plaid Cymru i gynyddu nifer y meddygon teulu, a’r angen cyffredinol am ragor o leoedd hyfforddi yng Nghymru i wella capasiti’r GIG lle mae angen gwneud hynny, gan gynnwys yn yr ardaloedd a nodoch. Byddwn yn parhau i ddadlau dros ragor o nyrsys arbenigol, nyrsys sy’n rhagnodi a nyrsys ymgynghorol yn y GIG yng Nghymru hefyd. A ydych yn cytuno â ni ar hynny, neu a yw hynny’n rhy Dorïaidd i chi hefyd?

Yn olaf, mae’r cynnig yn cydnabod bod mwy o angen y gwasanaethau iechyd ar bobl hŷn nag ar y rhan fwyaf o bobl eraill. Bydd y comisiynydd pobl hŷn yn hyrwyddo nifer cynyddol o bobl dros y ddau ddegawd nesaf ac mae angen i’r comisiynydd fod yn fwy pwerus er mwyn gwneud ymyriadau pwerus. Nid yw hynny ond yn un o’r rhesymau pam y cred y Ceidwadwyr Cymreig y dylid adolygu rôl y comisiynydd pobl hŷn, a gwneud y comisiynydd yn atebol i’r Cynulliad hwn—cyfaill beirniadol i’r Llywodraeth, ond yn atebol i bobl Cymru. Byddai diddordeb gennyf wybod, ar sail hynny a fyddwch yn barod i gefnogi’r gwelliant hwn, neu a fyddwch yn dangos eich bod yn wahanol i’r Torïaid, yn gyfaill anfeirniadol i’r Blaid Lafur, y blaid y mae ei rhyfelgri wrth-Dorïaidd yn boddi galwad Cymru am wrthbleidiau adeiladol a chydweithredol i herio a chraffu ar y Llywodraeth. Diolch.

Gwelliant 4—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gau ysbytai cymuned ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ac ailsefydlu ysbytai cymuned pan fydd hynny’n bosibl er mwyn dwyn gwasanaethau yn nes at gartrefi pobl.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch, Lywydd. Hoffwn hefyd ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig iawn hon ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae fy ngwelliant yn ceisio ychwanegu at y ddadl heb dynnu dim oddi wrth y cynnig yn gyffredinol. Credaf yn gryf fod ysbytai bwthyn neu ysbytai cymunedol yn rhan o’r ateb i leihau’r baich ar ein hadrannau achosion brys, lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal a lleihau’r pellteroedd y mae’n rhaid i bobl deithio er mwyn cael gofal. Rwy’n eich annog i gefnogi gwelliant UKIP.

Gan symud at welliannau’r Ceidwadwyr Cymreig, bydd UKIP yn cefnogi gwelliannau 2 a 3. Mae’n amlwg fod angen mynd i’r afael â mynediad at wasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru. Efallai y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ein galwadau i ailsefydlu ysbytai bwthyn. Rydym hefyd yn cefnogi galwad y Ceidwadwyr Cymreig i adolygu rôl y comisiynydd pobl hŷn. Fel y mae eraill wedi dweud, mae Sarah Rochira yn gwneud gwaith anhygoel, ond mae angen cryfhau ac ehangu ei rôl a’i chylch gwaith. Mae UKIP hefyd yn cytuno â’r Ceidwadwyr Cymreig y dylai’r comisiynydd fod yn atebol i’r Cynulliad, nid i Lywodraeth Cymru.

O ran gwelliant cyntaf y Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn ymatal. Nid ydym yn argyhoeddedig y gall yr asesiadau aros yn y cartref gyflawni’r canlyniad dymunol a rannwn, sef hybu byw’n annibynnol a chynorthwyo pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd.

Lywydd, mae ein GIG yn dioddef oherwydd ei lwyddiant ei hun. Diolch i ddatblygiadau mewn gofal clinigol, rydym yn byw’n hwy. Rhagwelir y bydd nifer y bobl 65 oed a throsodd yn cynyddu 44 y cant erbyn 2039. Yn anffodus, fel y gŵyr llawer ohonom yn rhy dda, daw rhagor o broblemau iechyd wrth fynd yn hŷn. Mae’r ffaith hon ar ei phen ei hun yn amlygu’r angen am integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gormod o lawer o bobl hŷn yn dioddef oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal ac yn aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sydd angen.

Mae ffigurau ar gyfer Ebrill 2016 yn dangos cyfanswm o 495 achos o oedi wrth drosglwyddo gofal: roedd dros hanner y rheini’n achosion o oedi am dair wythnos neu fwy; bu dros 20 o bobl yn aros am 26 wythnos neu fwy. Dylai fod yn destun pryder mawr i bob un ohonom fod cynifer o bobl yn aros yn yr ysbyty am wythnosau’n hwy nag sydd angen. Mae’r oedi diangen yn costio miliynau o bunnoedd i’n GIG bob blwyddyn, ond mae’r gost i’r unigolyn yn anfesuradwy. Yn ôl Age Cymru, mae’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am oedi wrth drosglwyddo gofal yn cynnwys diffyg cyfleusterau priodol ar gyfer ailalluogi ac ymadfer, oedi hir wrth drefnu gwasanaethau i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi eu hunain, a’r rhwystrau sy’n bodoli rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’n werth nodi bod y rhan fwyaf o arweinwyr y GIG wedi dweud bod diffyg yng ngwariant awdurdodau lleol wedi effeithio ar eu gwasanaethau. Rwy’n derbyn nad oes un ateb syml. Nid oes pilsen hud, ac yn sicr, nid oes ateb cywir i ddatrys y broblem gydag oedi wrth drosglwyddo gofal. Fodd bynnag, mae rhai atebion syml a fyddai’n gwneud llawer i geisio dileu oedi wrth drosglwyddo gofal. Bydd mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu. Mae llawer o ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr wedi lleihau oedi wrth drosglwyddo drwy weithio gydag awdurdodau lleol i gadw lleoliad mewn cartref gofal ar agor am 48 awr.

Yn draddodiadol, pan gaiff unigolyn ei dderbyn i’r ysbyty, daw cyfnod ei leoliad gofal i ben a rhaid sicrhau lleoliad newydd pan fydd y claf yn barod i gael ei ryddhau. Mae hyn yn cymryd amser. Mae’r newid syml hwn wedi lleihau oedi diangen yn sylweddol. Bydd rhagor o arian ar gyfer gofal cymdeithasol yn helpu hefyd. Fel y soniais yn gynharach, mae Cydffederasiwn y GIG yn credu bod diffyg yng ngwariant awdurdodau lleol wedi effeithio ar wasanaethau’r GIG. Mae ein timau gwasanaethau cymdeithasol dan ormod o bwysau, ac os ydym am gael unrhyw obaith o ateb heriau poblogaeth sy’n heneiddio, mae angen i ni fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol.

Yn olaf, bydd rhagor o ddefnydd ar ysbytai cymunedol yn helpu. Mae llawer o bobl hŷn angen aros yn yr ysbyty am gyfnodau estynedig ar gyfer cynnal arsylwadau ac yn sgil anghenion gofal cymdeithasol. Yn draddodiadol, arferem ddefnyddio ysbytai bwthyn ar gyfer ymadfer. Gadewch i ni ailsefydlu’r ysbytai bwthyn hyn er mwyn lleihau’r baich ar wardiau prysur ein hysbytai lleol.

Lywydd, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant ac i gefnogi cynnig Plaid Cymru. Diolch yn fawr.

Mae’n bleser gennyf i gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig hon y prynhawn yma, ac rwy’n falch o weld y Ceidwadwyr yn cyfeirio at Blaid Cymru yn aml iawn yn eu haraith y prynhawn yma.

Fel rydym wedi clywed yn barod gan Rhun, mae yna nifer o heriau yn wynebu’r gwasanaeth iechyd, ac yn aml mae’r heriau hynny ar eu mwyaf dwys yn yr ardaloedd gwledig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae’n hollol amlwg, ers tro, fod angen system gofal ac iechyd integredig yng Nghymru. Fedrwn ni ddim gwastraffu arian ac amser yn brwydro dros bwy sy’n talu am beth a phwy sydd am wneud beth tra bo’r person a’r teulu sydd angen y gwasanaeth yn cael eu hanghofio yng nghanol y broses fiwrocrataidd.

Fel teulu, fe gawsom ni brofiad uniongyrchol o’r dadlau sydd yn codi yn llawer rhy aml wrth i becyn gofal gael ei lunio ar gyfer unigolyn. Roeddem ni’n ceisio cael fy nhad adref o’r ysbyty ar ddiwedd ei oes. Cymrodd gryn egni i symud pethau ymlaen, i gael cytundeb ynglŷn â phwy oedd yn talu am ba elfen o’r gofal, a byddai llawer un wedi rhoi’r ffidil yn y to. Mi fyddai hynny wedi mynd yn groes i ddymuniad fy nhad, y claf. Byddai hefyd wedi golygu costau sylweddol uwch i’r gwasanaeth iechyd, gan fod cadw claf mewn gwely yn yr ysbyty llawer drytach, wrth gwrs, na gofalu amdano fo neu hi yn ei gartref neu chartref ei hun. Wedi i fy nhad gael ei ryddhau o’r ysbyty o’r diwedd, cafwyd gwasanaeth heb ei ail, efo’r gwasanaeth iechyd, y sector gwirfoddol, y gwasanaethau cymdeithasol, a ninnau fel teulu yn gweithio efo’n gilydd. Y broblem oedd cyn hynny, sef cyrraedd y pwynt lle roedd y cydweithio yna’n bosib. Felly, mae’n bryd i ni fynd ati o ddifrif i integreiddio’r gwasanaethau, a hynny mewn ffordd real, ar lawr daear, yn hytrach nag mewn byrddau partneriaeth a siopau siarad.

Ac mae yna esiamplau o ymarfer da ar gael—gwasanaethau wedi eu llunio efo’r person yn y canol. Mae yna un cynllun gwych ar waith yn Ysbyty Alltwen yng Ngwynedd, er enghraifft, a da o beth fyddai dysgu o’r profiad yn y fan honno ac mewn mannau eraill, ac, yn bwysicach, gweithredu ar yr hyn sydd yn gweithio. Wrth i’r Llywodraeth ailedrych ar sut fydd llywodraeth leol yn edrych i’r dyfodol, dyma ni gyfle gwych i fynd i’r afael â hyn o ddifrif. Dyma gyfle ardderchog i ailstrwythuro mewn modd sydd wir yn gwella’r ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaethau i’n pobl, a hynny ddylai fod wrth wraidd unrhyw ad-drefnu. Rydym ni i gyd yn byw yn hirach—newyddion ardderchog, ond, yn aml, rydym ni’n byw yn hirach tra’n wynebu cyflyrau cronig sydd angen eu rheoli tu allan i’r ysbyty, ac mae hyn, fel mae Rhun wedi sôn amdano eisoes, yn golygu mwy o wasanaethau yn y sector gofal sylfaenol, yn cynnwys mwy o feddygon teulu, mwy o nyrsys cymuned, a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cydlynu.

Mi wnes i sôn ar y cychwyn am yr heriau sy’n wynebu’r ardaloedd gwledig, ac mae Rhun wedi sôn i ni beidio defnyddio’r gair ‘argyfwng’ yn rhy ysgafn. Ond rwyf am ei ddefnyddio fo am yr amgylchiadau sydd yn rhai o’r ardaloedd. Mae gwir argyfwng mewn mannau oherwydd diffyg meddygon teulu. Yn Nwyfor, er enghraifft, mae bron i hanner y meddygon ar fin ymddeol. Mae Plaid Cymru wedi amlinellu nifer o bolisïau i ddenu a chadw doctoriaid. Mae angen cynllun tymor hir hefyd ar gyfer hyfforddi doctoriaid, yn cynnwys meddygon teulu, yng Nghymru. Mae angen datrysiad cenedlaethol i ehangu’r ddarpariaeth yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac i greu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd fel rhan o gynllun Cymru-gyfan.

Mae doctoriaid yn aros i weithio lle mae nhw’n cael eu hyfforddi—mae llawer o dystiolaeth i gefnogi hyn. Mae’r syniad o ysgol feddygol i’r Gogledd yn denu cefnogaeth yn gyflym. Rydw i’n credu bod modd creu model o ysgol feddygol unigryw sydd â ffocws ar feddygaeth wledig. Mae modd i Gymru fod ar flaen y gad efo hyn, yn arloesi efo’r defnydd o’r dechnoleg newydd, er enghraifft, ac yn creu modelau newydd o ddarpariaeth meddygol wledig. Diolch am gael cymryd rhan, a gobeithio gwnaiff pawb gefnogi’r cynnig.

Mae addasu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio sy’n cynyddu yn ei maint, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig, yn un o’r heriau allweddol sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein poblogaeth yn tyfu’n raddol, ond mae hefyd yn heneiddio’n raddol. Mae ystadegau diweddar gan Gydffederasiwn y GIG yn dangos y bydd nifer y boblogaeth ar draws y DU sydd dros 65 oed yn codi i bron 18 miliwn ymhen 20 mlynedd, gyda nifer y boblogaeth sydd dros 85 oed yn dyblu yn ystod yr un cyfnod i bron 4 miliwn. Ac fel yr amlygwyd eisoes gan lefarydd iechyd Plaid Cymru, yng Nghymru, rydym yn amcangyfrif y bydd y ffigur hwnnw dros 1 filiwn o ran y boblogaeth sydd dros 65 oed. Mae’n mynd i fod yn elfen bwysig o’n ffigurau.

Nawr, bydd y newidiadau ehangach hyn yn y boblogaeth, heb os, yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda mwy a mwy o bobl angen cymorth ychwanegol mewn cyfnod pan fo’n hadnoddau gwariant cyhoeddus yn cael eu lleihau ar sail barhaus gan Lywodraeth y DU. Mewn gofal eilaidd yng Nghymru, mae cyfartaledd oedran claf ysbyty yn 80 mlwydd oed, ac mae 10 y cant o’r cleifion sydd mewn ysbytai dros 90 oed. Nawr, yn ychwanegol at hyn, mae’r cyfnod aros yn yr ysbyty yng Nghymru yn saith diwrnod ar gyfartaledd. Gallwn weld yr effaith y mae hyn yn ei chael ar ein gwasanaethau gofal eilaidd. Mae’r ffigurau hyn yn rhoi syniad clir i ni o’r effaith bosibl ar ein gwasanaethau. Mae’n anochel fod cynnydd yn y galw yn golygu amseroedd aros hwy am apwyntiadau ac oedi posibl wrth drosglwyddo gofal, ac mae poblogaeth sy’n heneiddio, yn ddieithriad, yn golygu cynnydd yn nifer y cleifion â chyflyrau hirdymor sydd angen sylw parhaus, ynghyd ag amlforbidrwydd. Mae gan ddwy ran o dair o’n poblogaeth sydd dros 65 oed o leiaf un cyflwr cronig, gyda thraean yn dioddef o fwy nag un cyflwr cronig, a phob un ohonynt yn anochel angen triniaethau mwy a mwy cymhleth a phrosesau ymgynghori hwy. Mae’r pwysau cynyddol ar ein hadnoddau cynyddol gyfyngedig yn golygu bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau strategol, cynaliadwy ac arloesol ynghylch cynllunio’r gweithlu.

Mae llif cleifion drwy leoliad gofal eilaidd yn hanfodol er mwyn darparu pecynnau gofal o ansawdd uchel mor gyflym ag y bo modd, ond ni ddylid diystyru rôl gofal yn y gymuned. Rydym wedi siarad droeon yn y Siambr hon am yr angen i fynd yn ôl at ein cymunedau a darparu gwasanaethau mor lleol â phosibl i bobl, gan eu galluogi i aros mewn amgylcheddau cyfarwydd gyda chefnogaeth gymdeithasol gan deulu a ffrindiau, a gwneud defnydd llawn o’r gwasanaethau cymunedol a ddarperir.

Wrth drafod trosglwyddo i ofal yn y gymuned, ni allwn esgeuluso rhybuddion Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ynghylch recriwtio meddygon teulu. Gwyddom ein bod yn wynebu her o ran recriwtio meddygon teulu yng Nghymru, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig, ond mewn llawer o ardaloedd trefol difreintiedig hefyd, ac mae’r heriau hyn yn dra hysbys a rhaid mynd i’r afael â hwy os ydym am sicrhau newid ar draws y system gyfan. Mae’n rhaid i ni recriwtio meddygon teulu newydd, nid yn unig i lenwi’r lleoedd gwag, ond hefyd i gymryd yr awenau gan gydweithwyr hŷn, gyda 23 y cant ohonynt dros 50 oed, fel y nodwyd eisoes. Maent yn heneiddio’n gynt nag yr ydym yn hyfforddi meddygon newydd i gymryd eu lle, gyda dim ond 107 o’r 125 lle hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi’u llenwi y llynedd. Mae’n rhaid i ni wneud mwy i gymell ein gweithwyr proffesiynol meddygol ifanc dan hyfforddiant i ddod yn feddygon teulu, a rhoi’r hyfforddiant a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu mynd i’r afael â’r materion hyn. Mae’n rhaid i ni gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael o’r 136 presennol. Mae’n rhaid ymdrin â hynny gyda’r ddeoniaeth, ac mae’n rhaid i ni edrych hefyd am leoedd hyfforddi mewn practisau meddygon teulu ar eu cyfer.

Mae’n rhaid i ni hefyd osgoi canolbwyntio ar ddarparu meddygon teulu yn unig, wrth i ni geisio darparu model holistaidd o ofal cymunedol fel y gwelsom yn ddiweddar ym Mhrestatyn. Mae’n rhaid i ni ddibynnu ar ein deintyddion cymunedol, ein fferyllwyr cymunedol, ein nyrsys ardal a’n ffisiotherapyddion i ddarparu gofal rhagorol lle nad oes angen meddygon teulu. Yn hyn o beth, mae’n rhaid i ni ddilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus er mwyn gwneud defnydd llawn o’u holl gydweithwyr a sicrhau nad ydynt ond yn gwneud yr hyn na all neb ond hwy ei wneud. Felly, mae angen i ni fynd i’r afael â hyfforddi’r proffesiynau hyn yn ymarferol hefyd: nyrsys mewn practisau, nyrsys ardal, uwch-ymarferwyr nyrsio a nyrsys practis eraill. Efallai y gallwn gysylltu ac annog llwybrau hyfforddiant amgen ar gyfer y proffesiynau hyn.

Croesawaf gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol, a fydd yn cefnogi camau i greu darpariaeth ehangach o wasanaethau mewn practisau ar draws y sector ac edrychaf ymlaen at ei gyflwyno’n llwyddiannus. Mae’r rhain yn amlwg wedi’u targedu tuag at fynd i’r afael â rhai o’r pryderon hyn. Ond mae’n rhaid i ni edrych hefyd ar ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus, gan fod rhaid cynorthwyo’r boblogaeth hŷn yn eu cymunedau i fyw bywydau llawn a hapus. Gwyddom fod unigrwydd ac arwahanrwydd yn peri risgiau iechyd difrifol, fel y mae tybaco ac yfed gormod o alcohol. Mae’n rhaid i ni gefnogi ymgyrchoedd sy’n mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a hyrwyddo grwpiau cyfeillio ar draws ein cymunedau. Ymhellach, mae’n rhaid i ni barhau i annog ein poblogaeth i wneud dewisiadau byw’n iach, gan ddarparu’r amgylcheddau cymdeithasol, diwylliannol a chwaraeon sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau egnïol a chynaliadwy, gan leihau’r tebygolrwydd o ddatblygu cyflyrau meddygol a gorfod troi at ein gwasanaethau ysbyty yn y pen draw.

Yn olaf, mae’n rhaid i ni gofio nad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig sy’n wynebu heriau poblogaeth sy’n heneiddio. Mae’n rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd fwy cyflawn tuag at wneud penderfyniadau, sy’n cwmpasu tai ac addysg, a dysgu gydol oes yn arbennig, a gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd, gan annog cydweithio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n rhaid i ni edrych ymhellach i’r dyfodol, gan sicrhau bod yr egwyddorion a ymgorfforwyd yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sail i’n camau gweithredu ym mhob maes portffolio i helpu ein poblogaeth sy’n heneiddio.

Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gyfrannu i’r ddadl bwysig yma. Efallai fy mod wedi sôn o’r blaen fy mod i’n feddyg teulu, ond jest rhag ofn nad wyf wedi sôn digon am y ffaith honno, rwy’n ailadrodd y peth eto’r prynhawn yma. Ond, yn y bôn, wrth gwrs, mae’r ffaith bod pobl yn byw yn hirach yn destun clod i’r gwasanaeth iechyd, os rhywbeth. Rydym ni wedi hen arfer ar glywed pobl yn beirniadu’r staff a beirniadu’r gwasanaeth iechyd, ond, o leiaf, pan fo tystiolaeth a’i fod yn ffaith gadarn ein bod ni i gyd yn byw yn hirach, dylai fod yn destun clod i’n gwasanaeth iechyd cenedlaethol.

Wrth gwrs, y feddygfa ydy, fel rheol, y lle cyntaf y mae pobl yn troi ato pan fônt mewn cyfyngder—y ‘first port of call’ felly. Beth rydym ni’n ei ffeindio yn gynyddol ydy fod y gwasanaeth yna yn y feddygfa o dan straen anhygoel. Ydym, rydym ni’n gwybod y ffigurau: mae yna 90 y cant o’n cleifion ni yn cael eu gweld yng ngofal cynradd—roeddem ni’n arfer dweud ar 10 y cant o’r gyllideb, ond, fel yr ydym ni wedi ei glywed eisoes, mae’r ganran honno o’r gyllideb yn awr wedi llithro i lawr i 7.45 y cant. Mae yna ofyn, felly, i feddygon teulu a’u staff wneud fwy efo llai o adnoddau. Wedyn, yn dilyn beth mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi bod yn ei ddweud dros y misoedd—a’r BMA—mae eisiau rhyw fath o arallgyfeirio, neu newid cyfeiriad, yn y gyllideb yna, a hynny yn ôl i rywbeth fel yr oedd: rhywbeth fel 11 y cant o gyllideb y gwasanaeth iechyd, achos, yn y bôn, mae nifer y cyfweliadau yr ydym yn eu cael gyda’n cleifion yn cynyddu. Mae’r cyfweliadau hynny yn ddwysach ac yn fwy cymhleth achos natur y salwch, fel yr ydym wedi’i glywed gan David Rees. Mae pobl hŷn efo mwy nag un salwch cronig, ac mae yna her sylweddol i ddelio efo nhw i gyd mewn 10 munud. Ar ddiwedd y dydd, beth yr ydym yn poeni yn ei gylch fel meddygon yw ein bod ni eisiau gwella ansawdd y drafodaeth yna rhwng y claf a’r meddyg neu’r nyrs, a 10 munud sydd gyda ni, ac mae hynny ar ddiwrnod da. Ar gyfartaledd, rydym ni’n gweld rhwng 50 ac 80 o gleifion bob dydd. Beth yr ydym eisiau gweld yw gwella ansawdd y 10 munud yna sydd gyda ni. Dyna pam mae eisiau rhagor o arian ac adnoddau: er mwyn inni allu cyflogi rhagor o feddygon teulu yn y lle cyntaf, ond hefyd rhagor nyrsys a rhagor o ffisiotherapyddion ac ati, a hefyd gweithwyr cymdeithasol yn ein practisiau, a hefyd, y buaswn yn dweud, ar bob ward yn ein hysbytai. Dyna lle mae’r cydweithio efo gwasanaethau cymdeithasol yn dod i fewn, ac mor bwysig.

Nid oes eisiau rhyw adrefnu costus. Rydym ni eisiau gweithwyr cymdeithasol efo ni yn y feddygfa sy’n gallu trefnu pethau cymdeithasol i’n cleifion, ond hefyd ar y wardiau yn yr ysbyty—cael un gweithiwr cymdeithasol fanna sy’n gallu trefnu sut y mae’r claf yn mynd i adael yr ysbyty yn gynnar a chyda’r holl drefniadau yn eu lle. Dyna pam mae angen cyflogi rhagor o weithwyr ar y llawr. Dyna pam mae eisiau i ran fwy o’r gyllideb honno ddod i ofal cynradd. Mae eisiau ei chynyddu o 7.45 y cant yn ôl i fel yr oedd, rhywbeth fel 11 y cant. Mae 90 y cant o’r cleifion yn cael eu gweld yng ngofal cynradd, ac rydym ni eisiau’r adnoddau i gynnig gwasanaeth gwell. Mae’r adnoddau yna yn cynnwys cyflogi rhagor o feddygon teulu. Fel y mae David wedi’i ddweud eisoes, mae yna rhai pethau dim ond meddyg teulu y gall eu gwneud. Mae’n rhaid inni gael rhagor ohonyn nhw. Ond mae’n rhaid inni wneud y gwaith—y swydd—yn fwy deniadol i’n meddygon ifanc ni sydd yn awr yn ein hysbytai. Mae’n rhaid iddyn nhw gael eu dylanwadu’n well nag y maent ar hyn o bryd i ddod yn feddygon teulu. Mae’n rhaid i’r holl gynlluniau yna sydd gennym ar hyn o bryd i ddenu meddygon yn ôl i fod yn feddygon teulu—mae’n rhaid eu gwella ac mae’n rhaid inni ei gwneud yn haws i ddenu ein meddygon teulu mwyaf disglair yn ôl i feddygaeth deuluol, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf gwledig a mwyaf difreintiedig ni.

Felly, mae yna sawl her, fel yr ydym wedi’u clywed, ond mae’n rhaid inni fynd i’r afael â nhw. Ar ddiwedd y dydd, mae ein gwasanaeth iechyd ni yn dibynnu ar feddygaeth deuluol sydd hefyd yn ffres ac yn egnïol, ac sy’n gallu datrys y rhan fwyaf o broblemau yn ein cymunedau. Pe bai ni’n arallgyfeirio jest rhyw ganran fechan yn uwch o’n cleifion yn syth i’r ysbytai, byddai ein hysbytai ni o dan hyd yn oed fwy o bwysau nag y maent ar hyn o bryd. Wrth fuddsoddi rhagor o arian mewn gofal cynradd, byddem yn gallu atal lot o bobl rhag gorfod mynd i adrannau damweiniau neu rhag bod ar restrau aros yn y lle cyntaf, achos bod gyda ni’r adnoddau a’r ddysg i drefnu a gwneud pethau i’n cleifion yn y gymuned ond mae’n rhaid inni gael rhagor o help. Buaswn yn falch o glywed gan y Gweinidog a fuasai’n fodlon cyfarfod efo arweinyddion meddygon teulu yng Nghymru er mwyn trafod y ffordd ymlaen. Diolch yn fawr.

Mae’n dda gen i ddychwelyd at beth fydd, yr wyf yn gobeithio, yn ddadl gadarnhaol dros y gwasanaeth iechyd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf innau, fel sawl un, rwy’n siŵr, wedi bod yn delio efo etholwyr sydd yn poeni yn ddirfawr ynglŷn â’r ffaith bod yna bwysau cynyddol ar feddygfeydd lleol, eu bod yn gorfod aros 10 diwrnod neu bythefnos i gael apwyntiad gyda meddyg teulu, a bod y gwasanaethau yn yr ysbyty lleol wedi cael eu lleihau. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni fan hyn yn cydnabod bod hynny’n deillio yn uniongyrchol o benderfyniadau’r Llywodraeth, a Llywodraeth Cymru yn hynny o beth.

Er da neu er drwg, penderfyniadau rydym ni wedi eu cymryd dros y blynyddoedd sy’n gyfrifol am hyn, ac nid mewnfudwyr o’r tu allan fel sydd wedi cael ei greu yn ystod y ddadl yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydych yn llawer fwy tebygol yng Nghymru o gael eich trin gan rywun o’r tu allan i Gymru a thu allan i’r Deyrnas Gyfunol fel rhan o’r gweithlu sydd ei angen o’r tu allan i’r Deyrnas gyfunol, na gorwedd mewn gwely mewn ysbyty wrth ochr mewnfudwr o’r tu allan. Felly, dyna’r cyd-destun rydym yn ei drafod fan hyn.

Rwy’n credu bod y ddadl gan Blaid Cymru heddiw yn cydnabod dau beth: ein bod ni wedi cymryd tro gwag rhywbryd yn y gorffennol, un ynglŷn â diffyg cynllunio ar gyfer recriwtio a chadw meddygon teulu yng Nghymru, ac un tro gwag arall—diffyg cynllunio ynglŷn â dyfodol rhai o’n hysbytai cymunedol ni, a methiant i gydnabod, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad, bod angen ysbytai cymunedol, efallai ar wedd newydd—nid fel yr hen ysbytai bwthyn fel oedd hi efallai—ond bod angen yr adeiladau hyn a’r presenoldeb yn y cymunedau i gynnal gwe o wasanaethau lleol y mae pobl leol yn eu gwerthfawrogi, ond sydd hefyd yn ychwanegu at iechyd y cyhoedd.

Un enghraifft o hyn oedd llwyddiant digamsyniol, rwy’n meddwl, y cytundeb a darwyd rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth Lafur flaenorol i sefydlu cronfa gofal canolradd. Ar y pryd, nid oedd y Llywodraeth wedi cydnabod bod angen cronfa o’r fath i ddarparu ar gyfer integreiddio rhwng gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal ac iechyd. Ac erbyn hyn mae’r gronfa yna yn cael ei chydnabod fel rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiant ac wedi cynnal nifer o bobl i aros yn eu cartrefi, ac wedi bod yn ffordd i integreiddio rhwng y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Felly, rwy’n meddwl ein bod ni wedi methu cyfle i adeiladu ar ein hysbytai cymunedol ni.

Nawr, mae yna gyfleoedd i wella. Mae cyd-bartneriaeth canolbarth Cymru wedi ei sefydlu yn ddiweddar gan y cyn Weinidog iechyd, ac mae’n dechrau bod yn llwyddiannus; mae’n dechrau dod â syniadau newydd i mewn i weld beth all gwasanaethau ysbytai a gwasanaethau sylfaenol fod mewn ardaloedd cefn gwlad. Mae yna enghreifftiau wedi cael eu portreadu yn ystod cyfarfodydd y cyd-bartneriaeth yna o’r tu hwnt i Gymru—lleoedd yn Sgandinafia, lleoedd yng Ngogledd America—ond nid oes rhaid mynd ymhellach na swydd Efrog, a dweud y gwir, i weld beth allem ni wneud gydag ysbytai cymunedol yng Nghymru. Fe sefydlwyd yn Pontefract ysbyty cymunedol cwbl newydd gyda 42 o welyau, er mwyn lleihau’r pwysau ar y wardiau aciwt. Ac mae’r ysbyty newydd yna, sydd ond newydd agor, llai na blwyddyn yn ôl, eisoes yn cyfrannu at arbed arian, ac yn galluogi pobl i fynd yn ôl o driniaeth mewn ysbytai trydyddol yn fwy llwyddiannus. Felly, dyma enghreifftiau o’r rôl y gallai ysbytai cymunedol yng Nghymru, yn fy etholaeth i, mewn lleoedd fel Blaenau Ffestiniog a Dinbych-y-Pysgod, efallai eu chwarae ar gyfer y dyfodol.

Ac wrth edrych ar Ddinbych-y-Pysgod yn benodol, dyma enghraifft arall o ysbyty cymunedol a gollodd uned mân anafiadau yn anffodus, a gafodd ei chau am resymau diogelwch—rydym wedi clywed hynny sawl gwaith—ac sydd wedi dod yn ôl fel peilot yr uned mân anafiadau dros y Pasg diwethaf, ac a oedd yn llwyddiant ysgubol, lle roedd y meddygon teulu lleol hefyd yn dymuno gweld hynny yn cael ei sefydlu.

Felly, mewn ardaloedd gwledig—er enghraifft, mae 60 y cant o’r boblogaeth yng Ngheredigion a 53 y cant o’r boblogaeth yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ymhellach i ffwrdd o’r meddyg teulu na 15 munud—mae angen edrych yn ddifrifol ar sut y gallwn ni adeiladu rhwydwaith rhwng ysbytai cymunedol yn ogystal.

Rydym ni’n galw yn y ddadl yma am ailedrych ar y ffordd mae ysbytai cymunedol a’n meddygon teulu ni yn gallu gwasanaethu, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. A allwn ni roi o’r neilltu, efallai am y tro, rai o ddadleuon y gorffennol, gan edrych ymlaen at agwedd fwy cadarnhaol gan y Llywodraeth newydd hon?

Rwyf ychydig yn betrusgar wrth godi i siarad ynghylch integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, o ystyried y cyfraniad enfawr a wnaed yn y maes polisi penodol hwn yng Nghymru gan fy rhagflaenydd, Gwenda Thomas, yr Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, ac yn enwedig mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, manteisiaf ar y cyfle hwn i dalu teyrnged iddi am ei hetifeddiaeth wleidyddol yn y lle hwn, a fydd yn sicr o fod o fudd i gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru.

Fel nifer o’r Aelodau, rwy’n siŵr, roedd mynediad at feddyg teulu yn bwnc a gododd dro ar ôl tro ar garreg y drws yn ystod yr ymgyrch etholiadol rydym newydd fod yn ei hymladd, ac mae’n dal i godi. Un mater y credaf ei bod yn bwysig i ni ei gydnabod, fel y gwnaeth Dai Lloyd eisoes, yw bod y niferoedd cynyddol o bobl hŷn sydd angen i’n GIG a’n gwasanaethau gofal ddarparu ar eu cyfer yn ganlyniad darpariaeth gofal iechyd gwell dros y blynyddoedd. Ac yn hynny o beth, mae’n ganlyniad i lwyddiant. Rwyf bob amser yn ymwybodol o’r iaith a ddefnyddiwn wrth siarad am anghenion cleifion hŷn a disgrifio’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym oll yn gytûn fod y ffaith ein bod yn gallu darparu ar gyfer anghenion cenhedlaeth o bobl hŷn sy’n byw’n hwy yn amlwg yn beth da, ac yn rhywbeth i’w ddathlu.

Ond mae’r heriau gweithredol wrth fynd i’r afael â’r angen hwn yn fater arall, ac mae angen mwy o feddygon teulu er mwyn diwallu anghenion ein poblogaeth, ac mae hon yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth, fel y dylai fod. Ond mewn gwirionedd, dylid anelu’n bennaf at sicrhau gwasanaeth gofal sylfaenol sy’n darparu’r math cywir o ofal, boed wedi’i ddarparu gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall sydd efallai wedi’i gyfarparu’n well i wneud hynny. Mae datblygu practisau amlddisgyblaethol gyda fferyllwyr, nyrsys practis a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio ochr yn ochr â meddygon teulu yn cynnig potensial i ddarparu’r math o ofal y mae’r claf ei angen, gan alluogi’r meddyg teulu i ganolbwyntio ar gleifion sydd angen gweld meddyg teulu oherwydd anghenion clinigol penodol. Cyfeiriaf at y model arloesi rhagorol ym mhractis Aman Tawe yn fy etholaeth, sydd hefyd yn ymestyn i etholaeth Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ymddengys i mi fod ethos ymarfer cryf a pharch cydradd rhwng ymarferwyr yn hanfodol i lwyddiant y model hwnnw, ac nid gofal sy’n diwallu anghenion y boblogaeth yn well yw’r unig wobr, ond efallai fod hynny hefyd yn ei gwneud yn haws denu meddygon teulu i’r practisau hynny. Pwysleisiaf nad yw hyn yn gwadu’r ffaith fod angen i ni recriwtio rhagor o feddygon teulu. Mae’n amlwg fod angen i ni wneud hynny, ac mae’n rhaid i ni barhau i helpu’r practisau sy’n ei chael yn anodd, am ba reswm bynnag, i lenwi’r swyddi hynny.

Un o’r materion allweddol, ymddengys i mi, yw mai un rhan o’r hafaliad yw ad-drefnu’r practisau hynny. Ond y rhan hanfodol arall yw rôl y claf, a disgwyliadau’r claf yn arbennig. Gall fod yn ddealladwy i glaf sydd wedi arfer gweld meddyg teulu dros y blynyddoedd deimlo nad yw gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall gystal neu’n well yn wir na gweld meddyg teulu. Bydd gan lawer ohonom enghreifftiau o bryderon a leisiwyd ynglŷn â threfniadau brysbennu yn arbennig. Felly, ymddengys i mi fod yn rhaid i ni ganfod ffyrdd o ymgysylltu’n ddilys ac yn dreiddgar â chymunedau lleol fel partneriaid yn y broses o wella’r ddarpariaeth iechyd a gofal. Ceir perthynas o ymddiriedaeth ganolog rhwng y meddyg a chlaf nad yw’n hawdd ei hail-greu. Ond yn yr un modd, ymddengys i mi fod trefniadau amlddisgyblaethol llwyddiannus yn dibynnu ar lefel dda o lythrennedd iechyd yn y boblogaeth gyffredinol. Efallai nad yw’r ddealltwriaeth o risg a’r elfen o hunanymwybyddiaeth gorfforol a meddyliol gystal ag y mae angen iddynt fod er mwyn i rai o’r practisau hyn weithio yn y ffordd orau. Felly, mae’r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill yn ei wneud i geisio gwella llythrennedd iechyd yn allweddol.

Dymunaf ddweud rhywbeth am y berthynas rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’r gwaith a wnaed gan grŵp cynghori’r Llywodraeth ar fysiau yn cydnabod pwysigrwydd alinio llwybrau â sbardunau teithiau allweddol fel canolfannau iechyd. Dylem hefyd ystyried y potensial i’r canolfannau gofal sylfaenol eu hunain bartneru â darparwyr cludiant cymunedol gwirfoddol rheoledig er mwyn ei gwneud yn haws i gleifion allu mynychu apwyntiadau. Yn wir, dylem edrych hefyd ar sut y gellid cynorthwyo practisau gofal sylfaenol yn gyffredinol i weithio’n agosach gyda’r sector gwirfoddol fel partneriaid cyfartal, fel y soniodd Sian Gwenllian yn ei chyfraniad. Mae’n bwysig canolbwyntio ar hyn ar lefel gymunedol. Bydd llwyddo yn hyn o beth yn cefnogi integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel gofal sylfaenol yn ogystal ag ar lefel eilaidd, ac mae’n rhaid i’r broses o gynllunio gofal ganolbwyntio ar anghenion holistaidd y claf, gan ystyried rôl gwasanaethau cymdeithasol yn y gymuned, ac yn wir, rôl ac anghenion gofalwyr eu hunain. Fel y crybwyllodd llawer o siaradwyr, ceir enghreifftiau ardderchog o hyn ledled Cymru, ac mae’r gronfa gofal canolraddol yn bodoli er mwyn cefnogi’r ffordd honno o weithio. Ond yn hyn o beth, fel yn y meysydd eraill y soniais amdanynt, mae’n rhaid i ni sicrhau bod arferion gorau yn cael eu nodi a’u rhoi ar waith ym mhopeth a wnawn.

Mae polisi Llywodraeth Cymru ar wasanaethau iechyd cymunedol a thoriadau yn y gyllideb iechyd, a ddisgrifiwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fel rhai ‘digynsail yn hanes y DU’, wedi rhoi mwy o bwysau ar ein hysbytai cyffredinol. Roedd maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer 2016 yn cynnwys argymhellion i hybu mwy o integreiddio rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chymunedau. Dywedasom hefyd y byddem yn creu cronfa datblygu ysbytai cymuned ac yn ailsefydlu unedau mân anafiadau i unioni’r difrod a achoswyd gan y Blaid Lafur yn cael gwared ar welyau cymunedol a chau unedau mân anafiadau. Ym mis Mawrth 2010, dywedodd Gweinidog Iechyd y Blaid Lafur ar y pryd, ‘Ni wn am ddim bygythiadau i ysbytai cymunedol ar draws Cymru.’ Mewn gwirionedd, roeddwn wedi sefydlu CHANT Cymru—Ysbytai Cymuned yn Gweithredu’n Genedlaethol Gyda’i Gilydd—a ymgyrchodd yn llwyddiannus i atal cynlluniau Llafur i gau ysbytai cymuned yn 2007. Fodd bynnag, pan ddychwelodd Llafur i rym un blaid yng Nghaerdydd yn 2011, aethant ati eto i fwrw ymlaen â’u rhaglen i gau ysbytai a gwelyau cymunedol.

Ysgrifennodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru at y Gweinidog Iechyd ar y pryd yn mynegi pryderon ynghylch safon y wybodaeth a ddarparwyd gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, ac a ddefnyddiwyd ganddynt i lywio eu penderfyniadau i gau ysbytai cymuned yn y Fflint, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Phrestatyn. Collwyd dwsinau o welyau cymunedol, er bod lefelau defnydd gwelyau yn 95 y cant ac yn uwch. Dywedodd y meddyg teulu a sefydlodd y cynllun peilot gofal estynedig yn y cartref gyda’r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru y byddai hyn yn llorio gwasanaeth sydd eisoes yn aml dan bwysau ar hyn o bryd, ac na fydd rhan ganolog o’r ad-drefnu arfaethedig ym maes gwasanaethau iechyd—darparu mwy o ofal yng nghartrefi pobl—yn llenwi’r bwlch o ganlyniad i gau ysbytai cymuned.

Anwybyddodd y Llywodraeth Lafur refferendwm y Fflint, lle y pleidleisiodd 99.3 y cant o blaid adfer gwelyau i gleifion mewnol yn y Fflint, ac yna anwybyddodd refferendwm Blaenau Ffestiniog, lle y pleidleisiodd mwyafrif llethol o blaid adfer gwelyau yno. Pan ymwelais ag Ysbyty Treffynnon, dywedodd staff wrthyf y byddai buddsoddiad ychwanegol yn ein hysbytai cymuned lleol, fel Treffynnon, a gwelyau GIG cymunedol yn y Fflint, yn tynnu’r pwysau oddi ar ein hysbytai cyffredinol, yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn galluogi’r bwrdd iechyd i ddefnyddio’i adnoddau yn fwy effeithlon.

Fel y dywedodd pennaeth y GIG yn Lloegr heb fod mor bell yn ôl, dylai ysbytai cymuned llai o faint chwarae rhan fwy, yn enwedig yng ngofal cleifion hŷn. Mewn briff gan Gymdeithas Feddygol Prydain Cymru yn y Cynulliad ym mis Mehefin 2014, rhybuddiodd cadeirydd Pwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru ei bod yn argyfwng ar bractisau cyffredinol yng ngogledd Cymru, fod nifer o feddygfeydd wedi methu â llenwi swyddi gwag, a bod llawer o feddygon teulu o ddifrif yn ystyried ymddeol. Yn gynnar eleni, ysgrifennodd meddygon teulu yng ngogledd Cymru at y Prif Weinidog yn ei gyhuddo o fod wedi colli gafael ar realiti’r heriau sy’n eu hwynebu.

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn nodi bod ymarfer meddygol cyffredinol yng Nghymru yn darparu 90 y cant o ymgynghoriadau’r GIG, fel y clywsom, a 7.8 y cant yn unig o’r gyllideb. Maent yn dweud bod tanfuddsoddi hirdymor wedi golygu bod cyllid i ymarfer meddygol cyffredinol wedi bod yn gostwng o’i gymharu â’r GIG yng Nghymru yn gyffredinol, ac eto rydym yn wynebu heriau sylweddol poblogaeth sy’n heneiddio ac yn tyfu. Fel y dywedant, mae ymgynghoriadau yn mynd yn hwy ac yn fwy cymhleth wrth i ni ddelio â nifer cynyddol o gleifion gyda mwy nag un cyflwr cronig. Fel y dywedasant yng nghyfarfod y Cynulliad ddoe, mae bron i bedwar o bob 10 claf yng Nghymru yn ei chael yn anodd gwneud apwyntiad cyfleus i weld meddyg teulu—cynnydd o 4 y cant mewn dwy flynedd; mae 84 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn poeni eu bod yn mynd i fethu â sylwi ar broblem ddifrifol gyda chlaf oherwydd pwysau; ac mae dros 52 y cant o bractisau meddygon teulu yn wynebu problemau recriwtio sylweddol, gyda Chymru angen cyflogi mwy na 400 o feddygon teulu ychwanegol.

O ystyried y prinder meddygon teulu, rydym wedi clywed bod angen modelau megis y practis amlddisgyblaethol a gyflwynwyd ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, clywsom hefyd fod hwn yn seiliedig ar fodel tramor, a oedd â chymhareb uwch o feddygon teulu i ddisgyblaethau eraill; y byddwn yn colli’r ymagwedd holistaidd a’r parhad a ddarperir gan feddygon teulu, gan niweidio lles cleifion; ac na fydd y bwrdd iechyd yn ymyrryd hyd nes y ceir argyfwng neu drychineb. Clywsom y bydd 100 y cant o feddygon iau ym Manceinion yn treulio amser mewn practisau cyffredinol, o gymharu â 13 y cant yn unig yng Nghymru, ac y dylai pob meddyg iau yng Nghymru gael profiad o ymarfer meddygol cyffredinol. Clywsom fod angen i ogledd Cymru ganolbwyntio, unwaith eto, ar recriwtio meddygon teulu o brifysgolion Manceinion a Lerpwl; bod angen cymorth ar bractisau sy’n ei chael hi’n anodd a meddygon teulu unigol sy’n dioddef o orweithio; a bod gwelyau GIG cymunedol yn ychwanegu at y nifer o bethau y gall meddygon teulu eu gwneud, gan gynorthwyo’r sectorau sylfaenol ac eilaidd fel ei gilydd.

Felly, gadewch i ni obeithio y bydd y Llywodraeth Lafur hon, wedi’i had-drefnu, yn dechrau gwrando o’r diwedd, ac yn darparu’r atebion y gŵyr y gweithwyr proffesiynol sydd eu hangen arnom.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon ac am y modd adeiladol y mae’r Aelodau ar draws y pleidiau wedi cymryd rhan ynddi at ei gilydd. Yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod mwy na chwarter ein poblogaeth dros 50 oed, a bydd hyn yn codi fwy na thraean dros y 20 mlynedd nesaf. Yn anochel, bydd ein poblogaeth sy’n heneiddio yn cynyddu’r galw ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Yn 2015-16, roedd dros hanner yr holl oedolion a dderbyniwyd i’r ysbyty yn gleifion dros 65 oed. Mae hynny’n cyfateb i dros 70 y cant o gyfanswm y dyddiau gwely yn ein gwasanaeth iechyd.

Dylai cyfnodau yn yr ysbyty, wrth gwrs, gael eu cadw mor fyr â phosib, ond yn yr achos hwn mae’n briodol gwneud sylwadau ar rai o’r pwyntiau a wnaed ynghylch oedi wrth drosglwyddo. Mae’r darlun sydd gennym yma yng Nghymru yn un sy’n gwella, yn hollol wahanol i Loegr, sydd â’r ffigurau uchaf—y ffigur uchaf ers iddynt ddechrau cadw cofnodion. Rwy’n falch o weld bod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yma yng Nghymru yn cydnabod yr her gyffredin yn y maes hwn, ac mae’n deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir bob tro. Mae lle i fod yn optimistaidd, yn ogystal â lle i drylwyredd a mwy o her i wella. Rydym yn cydnabod bod angen i ni sicrhau bod pobl hŷn yn gallu aros yn annibynnol, a chanolbwyntio ymdrechion ar sicrhau bod pobl yn dychwelyd i’w cartref gyda gofal a chymorth priodol.

Felly, mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd i wella canlyniadau a lles pobl hŷn. Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddwyd ein fframwaith integredig ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Nawr, roedd hwnnw’n canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau gofal a chymorth integredig yn cael eu datblygu a’u darparu i bobl hŷn, yn enwedig pobl eiddil oedrannus.

Mae’r gronfa gofal canolraddol, a grybwyllwyd sawl gwaith yn y Siambr heddiw, wedi bod yn sbardun allweddol i integreiddio. Sefydlwyd y gronfa, fel y crybwyllwyd, mewn cytundeb cyllidebol blaenorol i wella gwasanaethau gofal a chymorth, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn, drwy weithio mewn partneriaeth ag iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, tai, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Eleni, mae dros £60 miliwn o gyllid wedi’i ddarparu, ac rydym wedi parhau gyda’r gronfa a’i bodolaeth, a dylai barhau i ariannu mentrau a fydd yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol, osgoi mynd i’r ysbyty’n ddiangen ac atal oedi cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Ceir enghreifftiau llwyddiannus ledled y wlad.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drawsnewidiol a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni, ac roeddwn yn falch o glywed cydnabyddiaeth i etifeddiaeth yr Aelod blaenorol dros Gastell-nedd a gyflwynodd y ddeddfwriaeth honno. Un o egwyddorion allweddol y fframwaith cyfreithiol newydd hwn yw’r angen am wasanaethau gofal a chymorth integredig a chynaliadwy. Nawr, er fy mod yn sicr fod pawb wedi darllen y rheoliadau o dan Ran 9 y Ddeddf, maent wedi sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol. Bydd y rhain yn ysgogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau integredig effeithlon ac effeithiol. Nid ydynt am fod yn siopau siarad biwrocrataidd. Byddant yn rhan allweddol o wireddu partneriaethau a chyflwyno newid ar lawr gwlad.

Mae’r canllawiau statudol ategol yn nodi bod yn rhaid i’r byrddau partneriaeth rhanbarthol hyn—nid ‘byddant’ neu ‘gallant’, ond bod yn ‘rhaid’ iddynt—flaenoriaethu integreiddiad gwasanaethau mewn nifer o feysydd. Mae hynny’n cynnwys ffocws parhaus ar bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia.

Mae ail ran y cynnig yn ymwneud â niferoedd meddygon teulu, ac fel rhan o’r compact y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru i symud Cymru ymlaen, mae’r Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd sylfaenol ledled Cymru. Un o’r ymrwymiadau allweddol yw cyflwyno camau gweithredu er mwyn helpu i hyfforddi, recriwtio a chadw meddygon teulu, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig. Mae gennym fwy o feddygon teulu ar hyn o bryd nag erioed o’r blaen, wedi’u cyflogi mewn gwahanol ffyrdd, ond yng Nghymru, rydym hefyd yn llenwi mwy o’n lleoedd hyfforddi na Lloegr neu’r Alban. Ond gwyddom fod hyn yn dal i fod yn her, ac nid ydynt yn llenwi pob lle gwag. Mae’n her i’w hwynebu a mynd i’r afael â hi, nid ei hanwybyddu. Felly, byddwn yn parhau i wrando ar gynrychiolwyr y gweithlu ac eraill, wrth i ni symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Gallaf hefyd gadarnhau, o ystyried y cwestiwn uniongyrchol, fy mod eisoes wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain, ac edrychaf ymlaen at berthynas waith adeiladol gyda hwy. Mewn gwirionedd, roeddent yn frwd eu cefnogaeth i’r mesurau y mae’r Llywodraeth yn dymuno eu rhoi ar waith. Eu her allweddol i ni yw cyflawni’r cynllun y maent yn cytuno ag ef.

Felly, byddwn yn parhau i roi sylw i bryderon ynglŷn â llwyth gwaith ac yn cefnogi datblygiad modelau gofal newydd. Mae angen i ni sicrhau hefyd ein bod yn recriwtio, hyfforddi a chadw gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill sy’n gallu cynorthwyo meddygon teulu. Enghreifftiau da o’r rhain yw fferyllwyr, nyrsys a therapyddion clinigol, er enghraifft ffisiotherapyddion, sy’n gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod anghenion pobl yn cael sylw priodol mewn lleoliadau cymunedol, gan osgoi’r angen i bobl fynd ar restrau aros orthopedig. Yr her yw pa mor gyson rydym yn rhannu’r arfer da hwnnw, ac rwy’n dal i fod eisiau sicrhau’r gwelliant hwn ar draws y system gyfan.

Mae rôl y meddyg teulu, wrth gwrs, yn hollbwysig, ac yn rôl arweiniol o fewn y trefniadau clwstwr newydd hynny, ond ceir cydnabyddiaeth ehangach fod yn rhaid i’w rôl esblygu er mwyn iddynt allu mynd ati yn y ffordd orau i ganolbwyntio ar gleifion gyda’r anghenion mwyaf cymhleth—fel y mae nifer o bobl wedi’i ddweud heddiw ac ar achlysuron eraill, er mwyn iddynt wneud yr hyn nad ellir ei wneud gan neb ond meddyg teulu, a darparu’r arweinyddiaeth honno yn y practis ac yng ngweithgarwch y clwstwr. Rwy’n arbennig o falch o weld y croeso cadarnhaol at ei gilydd y mae’r clystyrau wedi’i gael gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, a byddwn yn datblygu’r hyn a ddysgwyd dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Rwy’n disgwyl i wasanaethau symud tuag at ofal sylfaenol ac i adnoddau gael eu symud gyda hwy. Rydym yn cydnabod bod y broses o recriwtio meddygon teulu yn her, ac nid yw’n her sy’n gyfyngedig i Gymru. Bydd cynllun i fynd i’r afael â’r mater hwn yn cael ei ddatblygu yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon er mwyn cyflawni’r ymrwymiad a roddwyd gan y Prif Weinidog. Bydd y gwaith, wrth gwrs, yn cael ei ategu gan gronfa genedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol sy’n werth £40 miliwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, arweiniodd hyn at welliannau mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys cynnydd yn nifer yr apwyntiadau meddygon teulu yn nes ymlaen yn y dydd.

Dylwn droi yn awr at y gwelliannau. Ni fyddwn yn cefnogi’r gwelliant cyntaf. Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) broses asesu gofal a chymorth i bawb, gan gynnwys pobl hŷn. Mae’r asesiad hwnnw’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar y canlyniadau personol y maent am eu cyflawni. Wrth wraidd y broses hon mae sgwrs gyda’r unigolyn i gytuno ar ffyrdd o’i helpu i gadw neu adennill ei annibyniaeth. Mae deall yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn a chytuno ar sut i gyflawni’r canlyniad hwnnw mewn modd llawer mwy cyson yn her wirioneddol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, neu o’i roi mewn ffordd arall, sut i weithio gydag unigolion yn hytrach na darparu ar eu cyfer yn unig.

Ni fyddwn ychwaith yn cefnogi gwelliant 2. Mae Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth eisoes yn rhoi camau ar waith i wella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys recriwtio a chadw meddygon teulu. Mae eisoes wedi datblygu ystod o atebion arloesol, a fydd yn gyfle dysgu ehangach i ardaloedd gwledig eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi symud gofal yn agosach at y cartref, drwy fentrau megis cynllun wardiau rhithwir, ac yn wir, gwaith ar y gwasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys i sicrhau y gall pobl gael eu trosglwyddo i’r lleoliad mwyaf priodol. Yma, hoffwn grybwyll y cynllun ar Ynys Môn y soniais amdano o’r blaen—y cynllun gofal estynedig sy’n cael ei ddarparu rhwng meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol, uwch-ymarferwyr nyrsio ac Ysbyty Gwynedd. Y gwelliannau a welais yn cael eu cyflwyno’n uniongyrchol yn y rhan honno o Gymru—mae gwersi yno ar gyfer gweddill y wlad.

Byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 3. Rydym wrthi’n ystyried adolygiad Mike Shooter ar rôl y comisiynydd plant. Mae hwnnw’n cynnwys gwersi i ni ar rôl pob comisiynydd, gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn.

Ac yn olaf, byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 4. Mae canolfannau adnoddau gofal sylfaenol modern wedi cymryd lle nifer o ysbytai cymuned a oedd wedi dyddio. Rydym yn cydnabod yr her sy’n ein hwynebu. Gwyddom nad allwn ddarparu’r un model gofal a gwella canlyniadau ar gyfer ein poblogaeth wrth i ni wynebu’r ddemograffeg newidiol sydd ohoni. Gyda’r Llywodraeth hon, bydd mwy o ffocws ar integreiddio, gyda gofal yn agosach at y cartref i atal a thrin problemau. Mae ein huchelgais yn glir: diwallu anghenion newidiol pobl ledled Cymru, er mwyn darparu gwasanaethau gwahanol ond gwell gyda gwell gofal a gwell canlyniadau. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl yn y Siambr a thu allan iddi i wneud yn union hynny.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth, y ddadl yma, y prynhawn yma? Rwy’n cytuno efo’r Gweinidog ei bod hi wedi bod yn ddadl a fu ar y cyfan yn adeiladol iawn. Nid wyf yn siŵr iawn pam fod Suzy Davies, ar ran y Ceidwadwyr, yn teimlo mor bigog heddiw. Nid oes yna, yn sicr, ddim byd ynof i sydd yn gosod rhwystr ar gyfer cydweithio gyda phleidiau eraill ar gyfer cyd-gytuno ar feysydd lle mae yna fodd inni gytuno ar wthio’r agenda ymlaen ar gyfer y gwasanaeth iechyd, oherwydd lles ac iechyd ein pobl ni yng Nghymru sy’n bwysig yn y fan hyn, nid gwleidyddiaeth bleidiol.

Ar y gwelliant yn benodol, yr oedd yna alw arnom ni i newid ein meddwl a’i gefnogi. Wnes i ddim clywed unrhyw beth a wnaeth fy mherswadio i yn benodol yn yr hyn a ddywedwyd gan Suzy Davies i newid fy meddwl, ond rwy’n gobeithio bod y ffaith ein bod ni yn cefnogi gwelliannau eraill y Ceidwadwyr yn dangos ein bod ni yn barod iawn i gydweithio lle y mae hynny yn briodol a’n dweud rhywbeth wrthym ni. Rwy’n meddwl bod y ffaith ein bod ni’n cefnogi gwelliant UKIP yn golygu ein bod ni, yn sicr, yn fodlon edrych ar faterion o bwys yn y fan hyn, sef, fel rwy’n ei ddweud, lles poblogaeth Cymru.

Felly, a gaf i ddiolch, fel rwy’n ei ddweud, wrth bawb a wnaeth gyfrannu yn adeiladol er weithiau yn bigog tuag at y drafodaeth? Sian Gwenllian—diolch am amlinellu y pwysau ar ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn benodol. Mae Sian, fel cymaint ohonom ni wrth gwrs, yn gallu siarad o brofiad personol. Mae gan bob un ohonom ni brofiad sydd yn gyrru yr angen sydd yna i wella yn y meysydd yr ydym ni’n eu trafod y prynhawn yma. A gaf i ategu’r hyn a ddywedodd Sian Gwenllian ynglŷn â’r coleg meddygol ym Mangor? Rwy’n gwybod nad ydy hynny’n rhywbeth sy’n mynd i gael ei ddelifro dros nos. Rwy’n gwybod bod yna nifer o sialensiau sydd rhyngom ni a darparu coleg meddygol ym Mangor, ond rwy’n meddwl bod y pwynt a wnaeth Sian Gwenllian ynglŷn â’r angen i’r coleg arfaethedig hwnnw fod yn arloesol yn un pwysig iawn. Nid ceisio ail-greu modelau o lefydd eraill ym Mangor ydy hyn, ond bod yn arloesol.

Roedd David Rees—fel mor aml mewn dadleuon ar nifer o bynciau—hefyd wedi sôn am arloesedd. Rwy’n gwybod bod arloesedd mewn addysg yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i’r Aelod dros Aberafan. Un peth na chafodd ei grybwyll heddiw, o bosib, oedd yr angen i ystyried pynciau STEM mewn ysgolion yng nghyd-destun yr angen i berswadio mwy o bobl ifanc i fynd ymlaen i feddygaeth.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Dai Lloyd am bwysleisio’r pwynt a wnes i ynglŷn â’r angen i gydbwyso’r gwariant rhwng yr arian sy’n mynd i ysbytai o fewn yr NHS a’r arian sy’n mynd i iechyd sylfaenol. Mae yna ddirywiad amlwg wedi bod yn y gyfran sy’n mynd i ofal iechyd sylfaenol yn y blynyddoedd diweddar ac, fel y dywedais i, nid yw hyn yn gynaliadwy.

I’ll turn to the Minister’s comments briefly. I think, on integration, we are keen to see action that is universal across Wales. Plaid Cymru put forward our proposals for integration in the recent election, and they were proposals that were up for debate and many people agreed with them; others disagreed with them. But I think what we have to move towards is a situation where we have specific proposals that can lead to genuine integration in Wales. And on integration, I think we need to remember the need to integrate primary and secondary care as well, not just health and social care. So, I note the examples of integration that you mentioned. I note the examples also of the tackling of delayed transfers of care; I note your ambitions on GP recruitment, and we are pleased that we were able to make GP recruitment one of the key areas in our post-election agreement. But, as Jeremy Miles said, we need to look at best practice and, once it has been identified—be it in primary care in Ynys Môn, or elsewhere—how that then can be universalised throughout Wales and make sure that best practice is replicated across Wales.

We need to move to a new era, I think, of urgency, when it comes to tackling the issues that we are discussing this afternoon. I think it has been clear from the debate this afternoon that these issues are ones that are shared throughout the country and they are issues that worry us all, whichever party we represent here in the National Assembly. We will be constructive in Plaid Cymru in working with Government on seeking new ways forward, but we will be relentless in putting pressure on Government to bring forward that new urgency that we need, be it in developing primary care or the integration of health and social care, and in tackling this huge challenge that we face of a changing population in years to come.

Finally, I am very pleased to hear that the Minister expects resources to be shifted in years to come towards primary care. I think this is vital if we are to face up to the challenges that we face. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Cafwyd gwrthwynebiad, felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llywodraeth Leol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Simon Thomas.

The next item on our agenda is the Welsh Conservative debate on local government. I call on Janet Finch-Saunders to move the motion.

Cynnig NDM6032 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled Cymru.

2. Yn nodi â phryder yr ansicrwydd y mae diffyg eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o ran darparu gwasanaethau effeithiol.

3. Yn cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod nifer y bobl a wnaeth fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2012 yn isel, sef cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na’r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu amserlen dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gadarn.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch ar eich rôl newydd?

Mae’n bleser mawr gennyf arwain dadl grŵp gwrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, a diolch, wrth wneud hynny, i arweinydd fy ngrŵp yn y Cynulliad, Andrew R.T. Davies AC, am ei hyder yn fy ailbenodi’n llefarydd yr wrthblaid ar lywodraeth leol. Hoffwn longyfarch Mark Drakeford AC hefyd ar ei benodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ac edrychaf ymlaen at eich cysgodi mewn modd adeiladol wrth i ni weithio gyda’n gilydd, lle bo modd, i wynebu llawer o’r anawsterau a’r ansicrwydd sydd bellach yn wynebu llywodraeth leol yng Nghymru.

Yn ystod tymor olaf y Cynulliad hwn, mae diffyg parhad y cyfrifoldeb gweinidogol wedi gadael y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu cymaint o’n gwasanaethau hanfodol yn teimlo’n ddryslyd, wedi’u dibrisio ac yn wynebu llawer o ansicrwydd. Yn 2013, ac ar gost i’r trethdalwr o £130,000, gwelsom gyhoeddi adroddiad comisiwn Williams, yn rhoi 62 o argymhellion, a phob un yn cael ei ystyried yn angenrheidiol i ddatblygu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. Mae llawer o’r argymhellion hynny bellach wedi’u hanwybyddu i raddau helaeth.

Roedd hwn yn gylch gwaith ehangach o lawer na llywodraeth leol ac yn cynnwys llawer o’r rhai sy’n gyfrifol am ddarparu ein holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid oedd yn canolbwyntio ar lywodraeth leol fel yr unig faes sydd angen ei ddiwygio ar frys. Fel Aelodau, roeddem yn credu’n wirioneddol y byddai’r gwaith hwn yn gatalydd ar gyfer newid gwirioneddol, ac yn cynnig rhaglen gyflawni well ar gyfer ein holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ystyrid bod integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol bwysig, ac eto edrychwch cyn lleied o gynnydd a wnaed gennym.

Ar ôl methu gyda’r agenda gydweithredu, aeth Llywodraeth Cymru ati i ddechrau gwaith ar raglen nas gwelwyd ei thebyg erioed o’r blaen o newid ac ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru—gan anwybyddu sawl un, yn cynnwys y cymunedau sydd mor aml yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hyn a gelyniaethu ar yr un pryd ein haelodau etholedig, ein gweithwyr rheng flaen, ein huwch- swyddogion a’n cymunedau eto fyth yn y modd mwyaf didrugaredd. Roedd y comisiwn yn galw’n benodol ar awdurdodau lleol i uno’n unedau mwy o faint, drwy uno awdurdodau lleol presennol, a’u pennu drwy beidio ag ailosod ffiniau. Unwaith eto, cafodd ei anwybyddu. Ystyriwyd uno gwirfoddol fel ffordd ymlaen, ac opsiynau ad-drefnu i’w penderfynu a’u gweithredu ar frys, i’w cytuno gan randdeiliaid allweddol a Llywodraeth Cymru heb fod yn hwyrach na Phasg 2014. Ni ddigwyddodd.

Galwodd y comisiynwyr ar y Llywodraeth i gefnogi a chymell mabwysiadwyr gynnar a oedd am weld menter o’r fath, drwy ddechrau proses o uno gwirfoddol i’w chwblhau erbyn 2017-18. Eto i gyd, dyfeisiodd y Gweinidog ar y pryd ei ffiniau newydd ei hun, i gynnwys map o wyth neu naw awdurdod yn unig, ac yn lle hynny dewisodd wrthod yn llwyr y cynigion wedi’u costio a ddaeth i law gan chwe awdurdod lleol, erbyn y dyddiad gofynnol, a gyda’r meini prawf gofynnol—gan gynnwys Conwy a Sir Ddinbych, fy awdurdod i. Gwastraff cyfle a dweud y lleiaf. A dyma ni heddiw, yn dal i fod heb weledigaeth, heb gyfeiriad, ac yn wynebu llawer o ansicrwydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n eich annog i roi blaenoriaeth uniongyrchol i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon. Gweithiwch gyda’n swyddogion, ymgynghorwch â’n cymunedau, gweithiwch gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn bwysicaf oll, siaradwch â’r Aelodau yma. Mae gennym i gyd ddiddordeb uniongyrchol ym mha mor dda y mae ein hawdurdodau lleol yn perfformio ac yn gallu delio â’r heriau sy’n codi. Ym mis Mai 2017 bydd ein hetholwyr yn pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol. Yn y flwyddyn 2012, yn anffodus, 38 y cant oedd canran y bobl a bleidleisiodd, gostyngiad o 4 y cant, gyda 99 o seddi diwrthwynebiad ar lefel cyngor sir, a nifer anhygoel o 3,600—45 y cant—o seddi diwrthwynebiad ar lefel tref a chymuned. Mae 12 i 15 y cant ohonynt yn dal yn wag.

Fel rhan o fy ngwaith gyda chi yn y dyfodol, byddwn yn sicr yn hoffi i chi fynd i’r afael â’n cynghorau cymuned a’u gwaith. Wrth gwrs, hon yw’r lefel gyntaf o lywodraethu democrataidd yng Nghymru, ac mae’n effeithio ar ein dinasyddion, ac ydy, mae’n cynnwys praeseptau y gellir codi tâl amdanynt. Ar draws Cymru mae llawer yn teimlo eu bod wedi’u difreinio ar y lefel hon, yn aml oherwydd diffyg eglurder ynghylch pwy sy’n gwneud beth, ac mae llawer yn gwbl anymwybodol o’r swyddogaethau a’r materion llywodraethu cysylltiedig. Yn aml, fe’i gwelir gan rai fel siop gaeedig a cheir rhai nad ydynt yn cyhoeddi agendâu neu gofnodion, ac nid oes ganddynt wefan, er eu bod wedi cael cyllid i wneud hyn.

Mae eraill o’ch blaen wedi addo llawer o ddiwygio ac adolygu mawr ei angen, heb unrhyw lwyddiant. Erbyn hyn ceir llawer o ansicrwydd ymhlith ein clercod tref a chynghorwyr cymuned, ynghylch ffiniau cynghorau a gefnogir gan y gymuned, o ganlyniad i adolygiad ffiniau isel iawn ei broffil sy’n arwain at dorri’r nifer bresennol o seddau, ond unwaith eto, nid oes dim i’w weld yn bendant. Nid yw rhai ohonynt hyd yn oed yn gwybod faint o seddau y byddant yn eu hymladd. Mae angen eglurder yn awr. Mae’n bryd bywiogi ein hetholwyr, ar bob lefel o ddemocratiaeth, drwy ailymgysylltu â hwy, gan weithio gyda hwy, a rhoi rheswm iddynt fod â hyder mewn system llywodraeth leol sy’n gweithio’n effeithlon, yn effeithiol a gyda diwydrwydd dyladwy.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn ymwybodol o’n galwad ar y meinciau hyn mewn perthynas â hawliau cymunedol. Mae hawliau cymunedol drwy eu natur yn gyfle arall i lywodraeth fawr ymgysylltu â’n cymunedau, eu grymuso a’u bywiogi. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gweld cymaint o gyfleoedd yn cael eu colli, wrth i neuaddau cymuned, tafarndai lleol a llyfrgelloedd gael eu colli, a’r cyfan er mwyn torri costau, heb fawr o ystyriaeth i werth enfawr y cyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer ein cymunedau. Mae Deddf Lleoliaeth 2011, a roddwyd mewn grym dros y ffin, wedi rhyddhau cymaint o’n cymunedau, gan ddatganoli grym oddi fry i’r union gymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Fe’ch anogaf i edrych ar hyn o’r newydd a gweithio i sicrhau ein bod yn mabwysiadu mwy o’r erthyglau yn y Ddeddf hon. Mae dull blaenorol o’r brig i lawr Llywodraeth Cymru o ymgysylltu â’r gymuned drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r ddogfen ‘Egwyddorion ar gyfer gweithio gyda chymunedau’, a ddosbarthwyd i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, wedi’u cysylltu, yn anffodus, ag amharodrwydd i gyflwyno agenda lleoliaeth, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr a’r Alban, lle mae cymunedau yn arfer hawliau drwy’r Ddeddf hon a Deddf Ymrymuso’r Gymuned (yr Alban) 2015.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i’r hawliau hyn gael eu rhoi ar waith yma yng Nghymru. Mae pobl Cymru eisiau’r hawliau hynny hefyd. Rydym i gyd yn gwybod am hyrwyddwyr cymunedol gweithgar yn ein hetholaethau sy’n barod i feddiannu’r asedau lleol hyn, gan weithio gydag eraill i’w hatal rhag cael eu colli. Ymatebodd 78 y cant o ymatebwyr i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiogelu asedau cymunedol mewn gwirionedd, ac roeddent yn barod iawn eu cefnogaeth i’r fenter hawl i wneud cais ac yn barod i estyn llaw i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’u hawdurdodau lleol eu hunain er mwyn gwarchod y cyfryw asedau, ond ychydig iawn o gydnabyddiaeth a gafodd hyn, ac nid oes fawr ddim wedi’i ddatblygu. Unwaith eto, rwy’n eich annog, Weinidog: gweithiwch gyda ni, gweithiwch gyda’n cymunedau. Ychydig o help, cefnogaeth ac arweiniad y mae’n ei gymryd i sicrhau bod ein cymunedau gwledig yn arbennig yn cael cyfleoedd gwell nag erioed o’r blaen. Mae Gwent bellach yn treialu’r cynllun i ariannu swyddog trosglwyddo asedau cymunedol. Rwy’n croesawu’r fenter hon ac yn gofyn eto i chi weithio i sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cofnodi ac yn rhestru pob un o’n hasedau cymunedol gwerthfawr, gan ganiatáu ar gyfer y dyfodol a’r posibilrwydd o ddiogelu yn hytrach nag aberthu’r cyfleusterau pwysig hyn.

Nawr, roedd yr agenda gydweithredu aflwyddiannus y cyfeiriais ati yn gynharach yn gyfle arall a wastraffwyd, ac rwy’n gofyn i chi fynd yn ôl i’r cychwyn i weld lle y gall a lle y bydd cydwasanaethau yn gweithio. Yn Lloegr, arbedwyd £462 miliwn drwy gytundebau cydwasanaethau ar draws awdurdodau lleol. Nododd adroddiad KPMG yma yng Nghymru £151 miliwn o arbedion ystafell gefn y gellir eu cyflawni heb unrhyw broses uno. Nawr yw’r amser i feithrin twf a hyder yn ein hawdurdodau, gan eu galluogi i fod yn ddewr, i roi camau beiddgar ar waith er mwyn cyflwyno modelau darparu eraill, a’u grymuso i weithio gydag awdurdodau cyfagos os oes galw. Rhowch gefnogaeth ac arweiniad iddynt a rhowch obaith iddynt na fydd eu hymdrechion yn ofer.

Ar ben hynny, mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn amcangyfrif y bydd yr agenda trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr o bosibl wedi cyflwyno budd blynyddol net o rhwng £4.2 biliwn a £7.9 biliwn o arbedion erbyn tua 2018-19. Nid briwsion yw’r rhain. Yn yr Alban hefyd, mae darparu cydwasanaethau yn gweithio. Mae disgwyl i’r Ayrshire Roads Alliance rhwng cynghorau De Ayrshire a Dwyrain Ayrshire arbed £8 miliwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rhoddwyd y syniad o gydwasanaethau a chytundebau cydweithio ar waith yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl yn adolygiad Beecham. Fodd bynnag, roedd ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gynnydd cydweithio mewn llywodraeth leol yn dilyn adroddiad Simpson yn nodi’r angen cryf i roi hwb pellach i’r agenda gydweithredu, yr angen am fwy o eglurder, mwy o gyfeiriad a mwy o arweiniad gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, gan osod pwyslais ar yr union angen i roi camau ar waith yn wyneb dyfodol ariannol anodd i lywodraeth leol. Yn anffodus, cafodd argymhellion dethol comisiwn Williams a map dilynol y Gweinidog blaenorol eu gwthio ymlaen yn unochrog ac yn aflwyddiannus.

O ran y gwelliannau a gyflwynwyd i’r ddadl, rydym yn cydnabod adroddiad Sunderland wrth gwrs, er bod rhaid i mi ddweud ei fod yn adroddiad hen ffasiwn iawn. Rydym yn parhau i gymeradwyo llawer o’i brif egwyddorion, megis hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o lywodraeth leol, a mentrau megis dinasyddiaeth weithredol i roi hwb i ymgysylltiad â phroses llywodraeth leol. Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i wrthwynebu gweithredu pleidlais sengl drosglwyddadwy fel y system bleidleisio a ffefrir. Ni fyddwn, felly, yn pleidleisio o blaid gwelliant 2, sy’n galw am hyn.

Rydym ar ddechrau pumed tymor y Cynulliad. Llywodraeth leol yw’r rhan o’ch cyfrifoldeb Cabinet sydd â’r gyllideb fwyaf ond un ac mae’n gyfrifol am lawer o lesiant ein cymdeithas. Er eich bod yn newydd i’r rôl hon, rwy’n credu y bydd eich profiad blaenorol gyda llywodraeth leol yn golygu y gallwch wneud gwahaniaeth. Gweithiwch gydag Aelodau’r Cynulliad, ymgysylltwch yn ystyrlon â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, siaradwch â chydweithwyr ac aelodau’r meinciau cefn yma ac yn bennaf oll, gweithiwch gydag awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, gadewch i ni i gyd weithio tuag at fodel llywodraeth leol sy’n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn effeithiol. Diolch yn fawr.

Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Sian.

Gwelliant 1—Simon Thomas

Mewnosod ar ôl pwynt 3:

Yn nodi cynnwys adroddiad Sunderland ar drefniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru.

Gwelliant 2—Simon Thomas

Mewnosod ar ôl pwynt 3:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt wleidyddol.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch. Hoffwn, ar ran Plaid Cymru, gyflwyno ein gwelliannau ni, felly, i’r ddadl yma ar ddiwygio awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn amlwg, mae yna gryn dipyn i’w ddweud am y pwnc yma. Ond, heddiw, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar ddwy agwedd benodol a gafodd eu cynnwys fel rhan o bolisi Plaid Cymru yn ystod etholiad y Cynulliad ym mis Mai. Hynny yw, yn gyntaf, yr angen i Lywodraeth Cymru i weithredu i gynnwys pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn y dyfodol. Ac, yn ail, yr angen i unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol gynnwys awdurdodau rhanbarthol er mwyn rhoi cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol ac i rannu arferion gorau ar draws awdurdodau gwahanol.

Fel unrhyw genedl, mae Cymru angen arweinyddiaeth ranbarthol i roi cyfeiriad strategol sy’n adlewyrchu set o flaenoriaethau ledled Cymru, ynghyd â llywodraeth leol gref i sicrhau atebolrwydd lleol a chydlynu ar lefel y gymdogaeth. Ein cynnig ni yw esblygu graddol gan ddefnyddio strwythurau presennol i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel ranbarthol a chymunedol. Rydym hefyd, fel y gwnaethom ni sôn yn y ddadl roeddem ni’n ei chynnal yn y Siambr yn gynharach, eisiau gweld integreiddio llawer iawn mwy pwrpasol a synhwyrol rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un fantais amlwg o wneud hynny ydy creu atebolrwydd yn y maes iechyd yn ogystal â gwella’r ddarpariaeth i’n pobl ni.

Mae Plaid Cymru o’r farn bod angen creu awdurdodau rhanbarthol cyfunol, wedi’u cyfansoddi o gynghorau lleol sy’n bodoli yn barod. Mae angen anghofio am y map ac ymgynghori ar sut y byddai’r weledigaeth ranbarthol newydd yma’n edrych a beth fyddai’r union ddyletswyddau ar y lefel honno.

Mae’n gwelliannau ni i’r ddadl yma heddiw yn canolbwyntio ar yr angen i gyflwyno system etholiadol newydd, sef pleidlais sengl drosglwyddadwy, STV, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt gwleidyddol.

Mi gyhoeddwyd adroddiad Sunderland yn 2002. Ydy, mae hynny gryn amser yn ôl. Ond, mi oedd yn adroddiad trwyadl iawn ac mi ddaethpwyd i’r casgliad mai ffurf y bleidlais sengl drosglwyddadwy oedd fwyaf addas i ddiwallu gofynion amrywiol pobl leol o ran system etholiadol leol. Ac, roedd hynny ar ôl i’r comisiwn brofi saith o systemau etholiadol eraill.

Yn fy marn i, cyflwyno STV i etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban yw un o’r datblygiadau mwyaf cadarnhaol ers oes datganoli. Yn yr Alban, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer iawn mwy bywiog a mwy diddorol. Mae llawer iawn mwy o bobl yn cystadlu ar gyfer y seddi yno ac mae llywodraeth leol ei hun, yn sgil hynny, yn plethu ei hun yn agosach at ddymuniadau y boblogaeth.

Mae’r Llywodraeth yma wedi cael cyfle i weithredu ar argymhellion adroddiad Sunderland yn barod yn y gorffennol. Ac, fel cenedl, os ydym wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna dylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, fod pob pleidlais yn gyfartal. Hyd y gwelaf i, nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Felly, rydym yn gofyn ichi gefnogi’r gwelliannau. Diolch.

Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Mae gwasanaethau cyhoeddus, a darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn elfen hanfodol o gymorth i lawer o bobl ar hyd a lled Cymru, ac mae llywodraeth leol yn amlwg yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Roeddwn o ddifrif yn fy sylwadau i’r Prif Weinidog yn ystod wythnosau cyntaf y Llywodraeth hon, pan ddywedais wrtho ein bod yn dymuno’n dda i’r Llywodraeth yn ei chenhadaeth—ac i Ysgrifenyddion y Cabinet yn eu cenhadaeth—i gyflawni’r dyheadau yn eu maniffesto, oherwydd, os yw Llywodraeth yn methu, yna bydd y gwasanaethau y mae pob Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol am eu darparu wedi methu i’r bobl sydd angen y gwasanaethau hynny i’w cynnal yn eu bywydau bob dydd. Ein gwaith ni, fel gwrthblaid, yn amlwg, yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ac i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig dewis arall yn ogystal, gan ei bod yn hawdd cecru o’r ymyl, ond mae angen i chi ddweud beth yn union y byddwch yn ei wneud os ydych o ddifrif am fod yn Llywodraeth un diwrnod.

O’r meinciau hyn, dros wythnosau a misoedd cynnar y Cynulliad hwn, byddwn yn sicr yn ymgysylltu ac yn ceisio ymwneud yn gadarnhaol ag Ysgrifennydd newydd y Cabinet ar yr agenda ar gyfer llywodraeth leol, oherwydd bod cymaint o ynni ac amser wedi’i dreulio yn y Cynulliad hwn yn ystod y tymor diwethaf yn ymdrin â mapiau a llinellau ar fapiau—fel y soniodd y siaradwr arweiniol, Janet Finch-Saunders—nad oeddent mewn gwirionedd yn golygu fawr iawn i’r cymunedau a oedd yn mynd i gael gwasanaeth neu gyfleuster wedi’i ddiddymu, ac yn y pen draw nid oedd fawr o gefnogaeth iddo os o gwbl. Mae’n dipyn o beth pan fo arweinydd y Ceidwadwyr yn mynd i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn cael mwy o gymeradwyaeth nag a gafodd y Gweinidog Llafur yn Abertawe—gan gofio bod 16 o’r 22 o arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru, rwy’n meddwl, yn arweinwyr Llafur. Ond roedd hynny ar anterth y sôn am fap y Gweinidog blaenorol ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol wrth gwrs. Gobeithio y bydd y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n ddrwg gennyf—yn glynu at y sylwadau a wnaeth yn gyhoeddus hyd yn hyn, yn yr ystyr ei fod am gael y drafodaeth honno, a’i fod eisiau cydweithio â’r rhai ar y rheng flaen mewn llywodraeth leol, yn hytrach na mynd i’r cyfarfodydd hynny yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf a dweud wrthynt beth fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, oherwydd rwyf eto i ddod o hyd i rywun sydd o ddifrif yn awyddus i ddinistrio llywodraeth leol.

Ceir llawer o syniadau ynglŷn â pha fodel y dylem edrych arno—y model cyfun y soniodd Plaid Cymru amdano, y model sirol y mae eraill yn cyfeirio ato ac yn y pen draw, model 1974 roedd y Llywodraeth flaenorol yn amlwg yn ei gefnogi. Ond gyda’r pwysau o ran costau ar ddarparu gwasanaethau, a’r galw cynyddol am y gwasanaethau sy’n rhaid i lywodraeth leol eu darparu, yr hyn sy’n hollol amlwg yw nad yw’r status quo yn opsiwn. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud, fel y ddeddfwrfa sylfaenol yma yng Nghymru gyda chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, yw dod o hyd i ateb er mwyn sicrhau bod map cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru.

Bob oddeutu 20 mlynedd, mae’n ffaith fod Llywodraethau blaenorol—o bob lliw a llun—wedi ailgynllunio llywodraeth leol yng Nghymru. Ni all hynny fod yn fodel da ar gyfer llywodraethu, ni all fod yn fodel da ar gyfer cyflawni, ac yn y pen draw, ni all fod yn fodel da ar gyfer y rhai sy’n gweithio o fewn y gwasanaeth, a’r rhai sy’n dibynnu’n sylfaenol ar y gwasanaethau hynny i ddarparu eu cymorth o ddydd i ddydd. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig heddiw yn y ddadl hon yw bod y Gweinidog yn achub ar y cyfle i ymateb yn yr wythnosau cynnar hyn ynglŷn â sut y bydd yn symud y trafodaethau yn eu blaen. Yn bwysig, gyda’r etholiadau fis Mai nesaf, a yw’n fwriad gan y Llywodraeth, os oedd consensws yn mynd i fod ar ad-drefnu, i sicrhau bod y mandadau y bydd gwleidyddion yn eu ceisio gan yr etholwyr yn fandadau llawn—h.y. a fyddant yn para am y tymor llawn o bum mlynedd ar gyfer llywodraeth leol? Oherwydd byddant yn cyflwyno maniffestos i’r etholwyr mewn ychydig dros 9 neu 10 mis, maniffestos y bydd yr etholwyr yn pleidleisio ar eu sail. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n ddrwg gennyf—yn rhoi’r eglurder hwnnw ynghylch y sicrwydd y bydd ei angen ar ymgeiswyr a deiliaid swyddi pan fyddant yn cael y dadleuon hynny ac yn cael y trafodaethau ynglŷn â sut olwg fydd ar lywodraeth leol dros y pum mlynedd nesaf, ac yn wir, fel y dywedais yn gynharach, ynglŷn â’r trafodaethau y mae’n bwriadu eu harwain gydag awdurdodau lleol, a rhoi’r ymrwymiad dilys mai trafodaeth fydd hi yn hytrach na darlith, fel y cafwyd gan ei ragflaenydd, yn anffodus, ar ddechrau’r trafodaethau hyn yn y pedwerydd Cynulliad.

Hefyd, yn bwysig, rwyf eisiau crybwyll y nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Yn anffodus, roedd i lawr 4 neu 5 y cant yn 2012, ac etholwyd nifer i seddau yn ddiwrthwynebiad, mewn gwirionedd, fel y soniodd Janet Finch-Saunders. Mae’n hanfodol fod yna ymwybyddiaeth ynglŷn â’r rôl allweddol y gall cynghorwyr lleol ac ymgeiswyr, yn wir, ei chwarae yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad ac ar ôl yr etholiad, yn cefnogi pentrefi, trefi a chymunedau mewn unrhyw ran o Gymru. Felly, edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog ac rwy’n gobeithio y bydd yn defnyddio’r ddadl hon fel cyfle i roi cnawd ar esgyrn rhai o’r syniadau a allai fod ganddo.

Rwy’n falch fod y Ceidwadwyr wedi cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol o’r diwedd. I’r rhai sydd wedi bod yma dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi’u clywed yn ceisio mynd ag arian oddi wrth lywodraeth leol a’i roi i iechyd, sy’n cyfateb i brynu car, peidio â’i gynnal a’i gadw, ond gwario arian ar atgyweiriadau. Mae gwariant ar gyfleusterau chwaraeon, iechyd yr amgylchedd a gofal henoed yn helpu i gadw pobl rhag bod angen gofal mewn ysbyty.

Mae llywodraeth leol yn darparu amrywiaeth enfawr ac ystod eang o wasanaethau. Ceir llyfryn o’r enw A i Y o wasanaethau’r amgylchedd—ar gyfer y rhai nad ydynt wedi’i weld, nid yw’n llyfryn tenau, ac un maes yn unig o lywodraeth leol yw hwnnw. Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn effeithio ar bawb a phob un bob dydd: mae ffyrdd, palmentydd, casglu sbwriel, cael gwared ar sbwriel, addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn effeithio’n ddyddiol ar fywydau’r bobl sy’n byw mewn ardal. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru dan fwy o bwysau ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac rwy’n cynnwys y gwasanaeth iechyd yn hynny. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw yn hwy, yn aml gydag anghenion gofal sylweddol sy’n rhaid eu darparu y tu allan i ysbytai. Y rheswm pam y mae llywodraeth leol yn torri’n ôl ar wasanaethau eraill yw oherwydd bod angen gwasanaethau cymdeithasol mor fawr ac mae’n rhaid ei ddiwallu.

A gaf fi ddyfynnu Canolfan Ymchwil i Lywodraeth Leol a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd? Cynhaliodd y dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o effaith maint ar berfformiad awdurdodau lleol. Datblygodd y tîm fodel arloesol sy’n defnyddio sgoriau arolygon, dangosyddion perfformiad cenedlaethol, hyder y cyhoedd a mynegai gwerth am arian. Dangosodd y canlyniadau nad oes maint sy’n ddelfrydol ar gyfer awdurdodau lleol. Mae gan gynghorau mwy o faint lai o orbenion gweinyddol canolog, ond roedd effeithiau maint yn amrywio rhwng gwasanaethau. Gwelodd ymchwil dilynol y gallai cynghorau mwy o faint a gynhyrchwyd drwy ad-drefnu darfu ar berfformiadau. Gwyddom hefyd fod yr awdurdod lleol mwyaf yn Ewrop—Birmingham—wedi cael problemau difrifol gyda’i adran gwasanaethau cymdeithasol. Felly, nid yw mawr bob amser yn well.

Cynhaliwyd profion ganddynt ar effaith maint y boblogaeth a gosodasant reolaethau ar gyfer gwahaniaethau yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys amddifadedd ac amrywiaeth anghenion gwasanaethau. Dangosai canlyniad y dadansoddiad hwn nad oedd maint y boblogaeth yn effeithio fawr ddim ar sgoriau Asesu Perfformiad Corfforaethol, ond roedd yn effeithio ar oddeutu hanner y mesurau arolygu gwasanaethau a’r rhan fwyaf o fesurau boddhad defnyddwyr. Mae hefyd yn effeithio ar fesurau gwerth am arian. Ond mae’r berthynas rhwng maint a pherfformiad yn gymhleth. Mewn rhai achosion, roedd awdurdodau mwy o faint yn perfformio’n well, ac mewn eraill, roedd cynghorau llai’n perfformio’n well, ac mewn eraill, awdurdodau canolig eu maint a gâi’r canlyniadau gorau. Yn wir, os edrychwch ar ddangosyddion perfformiad Cymru ar draws awdurdodau lleol, awdurdodau o faint canolig sy’n gwneud orau mewn gwirionedd ac sy’n cael fwyaf o sgoriau gwyrdd.

Gwyddom nad yw maint yn gymesur â pherfformiad. Nid yw pawb yn edrych ac yn dweud, ‘Pe gallai pob cyngor fod fel Caerdydd a Rhondda Cynon Taf, yna byddai gennym set wych o awdurdodau lleol yng Nghymru’. Mae awdurdodau lleol wedi colli rheolaeth ar nifer fawr o’r meysydd gwasanaeth a oedd ganddynt pan gefais fy ethol yn gynghorydd gyntaf yn 1989. Maent wedi colli sefydliadau addysg uwch a’r colegau polytechnig, colegau addysg bellach, rheolaeth uniongyrchol ar ysgolion, mwyafrif ar bwyllgorau heddlu, Maes Awyr Caerdydd, ac mewn llawer o ardaloedd cyngor, tai. A oes unrhyw un mewn gwirionedd yn credu bod y newidiadau hyn wedi bod er gwell o ran darparu gwasanaethau?

Ar y nifer sy’n pleidleisio, mae hon yn broblem yn holl etholiadau Cymru, gan gynnwys, yn anffodus, etholiad y Cynulliad. Mae’n anodd cymharu rhwng etholiadau cyngor ac etholiadau’r Cynulliad, oherwydd yn yr ardaloedd sydd â’r nifer uchaf o bobl yn pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad yn draddodiadol, mae llawer yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad i seddau’r cyngor. Gwyddom fod y nifer sy’n pleidleisio i etholiadau’r cyngor yn sylweddol uwch na’r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau Ewropeaidd, a phan gânt eu cynnal ar wahân, yn etholiadau comisiynwyr yr heddlu. Un ateb amlwg i gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol fyddai rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol a llai o gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r bleidlais sengl drosglwyddadwy, a elwir hefyd yn ‘Dyfalwch faint o seddau rydych yn mynd i’w hennill?’, gan greu wardiau mawr mewn ardaloedd gwledig, a symud llywodraeth leol i ffwrdd oddi wrth bleidleiswyr—ni allaf feddwl am ffordd well o leihau’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol na chyflwyno’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Nodaf nad ydych yn gofyn am gael refferendwm arno, oherwydd credaf fod pobl yn gwybod beth fyddai’r canlyniad. Cawsom refferendwm ar newid y system bleidleisio, ac roedd canlyniad hwnnw’n bendant yn erbyn newid. Felly, yn amlwg nid oes arnom eisiau un arall—gadewch i ni ei orfodi oddi fry.

Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y canlynol: rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol, rhywbeth y mae llywodraeth leol wedi gofyn amdano ers cyn cof, darparu llai o reolaeth ganolog dros wasanaethau—gadewch i benderfyniadau gael eu gwneud yn lleol—hyrwyddo cydweithio ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ond ar yr un ôl troed. Mae pob Gweinidog sy’n cymryd portffolio gwahanol yn creu eu hôl-troed bach eu hunain ar gyfer pob gwasanaeth; mae angen i ni gael gwasanaethau’n cwmpasu’r un ardal. Ceisiwch gael awdurdodau lleol i gydweithio ar gynllunio rhanbarthol ar gyfer tai a datblygu economaidd. Mae gennym gynllun datblygu ar gyfer pob awdurdod lleol, ac rydym i gyd yn gwybod, onid ydym, y bydd y newidiadau sy’n cael eu gwneud yn Abertawe yn effeithio ar Gastell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin ac fel arall. Felly mae angen i ni gael rhyw fath o bolisi rhanbarthol er mwyn i ni i gyd wybod lle rydym. Dylem geisio uchafu nifer y gwasanaethau o dan reolaeth uniongyrchol llywodraeth leol. Rwy’n credu’n gryf mewn llywodraeth leol ac rwy’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gadael i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar ran eu pobl leol ac yna, os nad yw’r bobl yn eu hoffi, gallant gael gwared arnynt.

Daeth traddodiad gwleidyddol radicalaidd Cymru o gymunedau lleol wedi’u grymuso i gael eu cynrychioli yn y cyfnod modern gan ein hawdurdodau lleol, gan gynrychiolwyr etholedig, sydd mewn rhai achosion, yn ennyn cyn lleied o ddiddordeb y trigolion y maent yn eu gwasanaethu fel eu bod weithiau’n gallu dal eu gafael ar ddylanwad dinesig am ddegawdau. A gallant ddal eu gafael ar ideolegau am ddegawdau hefyd: y sector cyhoeddus yn unig a all ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, mae contractau tymor byr gyda’r trydydd sector yn iawn cyn belled â bod y cynghorau’n rheoli’r arian ac y gellir eu hepgor os nad ydynt yn ddymunol, ac mewn rhai achosion, ni allwch grybwyll y sector preifat hyd yn oed. Hyd yn oed heddiw, nid yw strwythurau monolithig gormesol awdurdodau lleol yn gweithredu mwyach fel model ar gyfer grymuso cymunedau. Mae angen i ddiwygio llywodraeth leol ymwneud â mwy nag uno; mae’n ymwneud â chydbwysedd newydd rhwng awdurdodau lleol, y gymdeithas a’r dinesydd.

Nawr, wrth gwrs ein bod angen i’r sector cyhoeddus fod yn rhan ganolog o’r ffordd y mae ein cymunedau yn cael eu gwasanaethu, ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen o ddiwylliant o ‘O, gwaith y cyngor yw hynny’ neu ‘O, ni fydd y cyngor yn gadael i chi wneud hynny.’ Nid yw hyn yn fater o leoliaeth yn unig, a nodweddir gan y math o drosglwyddo asedau y buom yn siarad amdano—yn amlwg mae hynny’n rhan ohono. Mae’n ymwneud â chydnabod na all awdurdodau lleol wneud y cyfan. Mae’n ymwneud â chydnabod potensial cydgynhyrchu. Mae awdurdodau lleol yn gartref i swyddogion a chyflogeion ymroddedig, i arbenigedd, i amrywiaeth o sgiliau proffesiynol, meddylwyr strategol yn ogystal, ond drwy adael cymaint o heriau ar risiau’r Neuadd y Sir, rydym yn anwybyddu’r hyn rydym ni fel dinasyddion, fel unigolion a gyda’n gilydd, a sefydliadau a chyrff eraill yn gallu ei wneud i ateb gofynion ein cymunedau. Mae’r galwadau cynyddol a’r cyllidebau sy’n crebachu a nododd Mike Hedges yn golygu ein bod i gyd ar ein colled pan fo gwasanaethau anstatudol yn cael eu bygwth gan y pwysau ar gynghorau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol yn gyntaf. Mae anfodlonrwydd y cyhoedd â’r ‘cyngor’ yn tyfu, mae’r datgysylltiad rhwng darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau’n tyfu. Mae’r eirfa a ddefnyddiwn ar gyfer hyn yn atgyfnerthu hynny. Beth ar y ddaear a ddigwyddodd i ‘bobl’? Cymerwch wasanaethau cymdeithasol i oedolion: mae un o bob pump ohonom eisoes dros 65 oed a bydd ymhell dros chwarter erbyn 2033. Yng Nghonwy, mae chwarter y boblogaeth eisoes yn bensiynwyr. Efallai y bydd gan y wladwriaeth amrywiaeth o negeseuon iechyd y cyhoedd i’n helpu i gadw’n heini ac yn iach am gyfnod hwy, ond mae angen cyfrifoldeb personol i allu cymryd y negeseuon a gwneud iddynt weithio ar ein cyfer ni a’n teuluoedd a’n cymunedau.

Bydd awdurdodau lleol yn dod o dan bwysau aruthrol i ddarparu cymorth a gofal drwy’r llwybrau gofal traddodiadol i oedolion, heb sôn am gyflawni eu rhwymedigaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill. Felly, a ydym yn mynd i adael y cyfan iddynt hwy mewn gwirionedd? Mae Llafur wedi colli ei brwdfrydedd dros y lleoliaeth a oedd yn sail i’r model cydweithredol o ddatblygu economaidd amser maith yn ôl, gan roi ei ffydd yn lle hynny mewn canoli’r wladwriaeth. Yn hytrach nag arwain y ffordd yn y DU, mae’r economi gydweithredol yng Nghymru yn llai fesul pen o’r boblogaeth nag ydyw yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyd yn oed y cynlluniau ar gyfer y corff dielw i redeg ein rheilffyrdd ag olion bysedd y Llywodraeth drostynt i gyd.

Mae Dr Dan Boucher yn gywir pan ddywed na chaiff yr her bresennol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus

‘ei helpu gan fethiant Llafur i groesawu’r cyfle i chwistrellu mesur mwy o gydfuddiannaeth i mewn i drefniadaeth ein gwasanaethau cyhoeddus drwy ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus cydfuddiannol.’

Er bod Lloegr wedi elwa o ddatblygu 106 o wasanaethau cyhoeddus cydfuddiannol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan ddarparu gwerth dros £1 biliwn o wasanaethau cyhoeddus, ni welwyd unrhyw wasanaeth cyhoeddus cydfuddiannol yn cael ei greu yng Nghymru dros yr un cyfnod. Mae hynny’n eithaf rhyfedd gan fod cynllun gweithredu’r Llywodraeth Lafur ar gyfer mentrau cymdeithasol yn 2009 yn dweud yn benodol y dylai cyrff cyhoeddus ystyried a allai mentrau cymdeithasol gyflawni unrhyw agwedd ar eu rolau yn well. Yn 2014, cefnogodd ei Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol yng Nghymru gamau i ehangu cwmnïau cydfuddiannol yn yr economi a gwasanaethau cyhoeddus. Yn wir, dywedodd y comisiwn fod cwmnïau cydfuddiannol yn rhagori ar ddarpariaeth y wladwriaeth ym maes tai, Mike Hedges, a thynnodd sylw at gyfleoedd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd. Fodd bynnag, fis Mawrth, ar y noson cyn etholiad y Cynulliad, roedd cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn nodi’n blaen:

‘Rydym yn cefnogi modelau darparu cydweithredol a chydfuddiannol a modelau darparu amgen eraill dim ond fel dewis yn lle dirwyn gwasanaethau i ben neu eu preifateiddio, fel yr opsiwn ‘lleiaf gwael’.’

Nawr, rwy’n meddwl y byddai gan Robert Owen gywilydd fod Llywodraeth Cymru wedi dangos mor glir ei bod yn bendant yn parhau i gefnogi canoli’r wladwriaeth.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mai un o’r allweddi ar gyfer llwyddo i sicrhau polisïau yw ystyriaeth o’n diwylliant. Byddwn yn parhau, ein hunain, i hyrwyddo cydgynhyrchu, gan gynnwys cwmnïau cydfuddiannol, lle bo’n briodol, nid oherwydd mai cwmnïau cydfuddiannol yw’r opsiwn lleiaf gwael, ond oherwydd mai dyna’r dewis gorau, ar gyfer y gwasanaethau penodol dan sylw a hefyd oherwydd y ffordd y maent yn asio â’n diwylliant ein hunain a’n hunaniaeth genedlaethol.

Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg ymgysylltiad â’r gymuned. Mae’r diffyg ymgysylltu wedi arwain at ddifaterwch ymhlith pleidleiswyr a’r ganran isel a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol olynol. Yn yr etholiad lleol diwethaf yn 2012, roedd cyfartaledd y ganran a bleidleisiodd o dan 39 y cant—gostyngiad o 4 y cant ers yr etholiad blaenorol yn 2008. Yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, nid oedd 88 y cant o bobl wedi cysylltu â’u cynghorwyr dros y 12 mis blaenorol. Yn fwy pryderus, roedd 59 y cant o ymatebwyr naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r datganiad y gallent ddylanwadu ar benderfyniad sy’n effeithio ar eu hardal leol. Mae’r difaterwch hwn tuag at lywodraeth leol yn wahanol iawn i’r ymgyrchoedd cyhoeddus a’r protestiadau pan fydd asedau awdurdodau lleol yn wynebu bygythiad o gael eu cau.

Cafodd Llywodraeth Cymru gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon pan basiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae’n siomedig, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu’r agenda hawliau cymunedol yng Nghymru. Mae hawliau cymunedol yn ymwneud â grymuso cymunedau, er mwyn iddynt gael mwy o lais yn y materion sy’n bwysig iddynt. Trwy gyfres o fesurau, aeth y Ddeddf Lleoliaeth ati i sicrhau bod pŵer sylweddol yn trosglwyddo i bobl leol. Dau o’r mesurau hyn oedd yr hawl gymunedol i herio a hawl y gymuned i wneud cais.

Yn gyntaf, yr hawl gymunedol i herio, Weinidog. Efallai y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n wynebu cyfyngiadau cyllidebol yn ceisio lleddfu’r pwysau drwy ollwng gafael ar asedau megis canolfannau hamdden. Heb hawl gymunedol i herio, i ganiatáu i gymunedau ysgwyddo’r gwaith o redeg gwasanaethau, gallai’r asedau hyn gael eu colli am byth. Mae’r cynghorau gorau yng Nghymru yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd a gwell o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau lleol. Mae llawer yn cydnabod potensial mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n werth da am arian. Dylent weithio gyda’i gilydd i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Yn ail, yr hawl gymunedol i wneud cais. Mae pob cymuned yn gartref i adeiladau neu gyfleusterau sy’n chwarae rôl hanfodol mewn bywyd lleol. Mae’r rhain yn cynnwys canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, pyllau nofio, siopau pentref, marchnadoedd a thafarndai. Gall cau’r asedau hyn olygu bod y gymuned ar ei cholled. Yn aml mae grwpiau cymunedol angen mwy o amser i drefnu cais ac i godi arian na’r mentrau preifat a allai fod yn gwneud cais yn eu herbyn. Mae’r hawl gymunedol i wneud cais yn rhoi cyfle chwe wythnos i gymunedau fynegi diddordeb mewn prynu ased. Os ydynt yn gwneud hynny, mae cyfnod pellach o bedwar mis a hanner o gyfle i gymunedau allu cael amser i godi arian i brynu’r ased. Er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol, mae arnom angen rhestr o asedau o werth cymunedol wedi’i henwebu gan y cymunedau lleol eu hunain. Fodd bynnag, nid oes rhaid i gynghorau yng Nghymru gadw cofrestr o asedau o werth cymunedol ac nid oes rhaid iddynt drosglwyddo asedau cymunedol. Rwy’n credu y dylai’r hawliau hyn y mae Lloegr yn manteisio arnynt gael eu hymestyn i Gymru i wella’r broses bresennol o drosglwyddo asedau cymunedol a’r rhaglenni cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol.

Ddirprwy Lywydd, bydd caniatáu i gymunedau herio’r awdurdodau lleol hyn ynglŷn â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu neu adeiladau y maent yn berchen arnynt yn gwella cyfranogiad ac ymgysylltiad â’r gymuned yn fawr. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu’r agenda hawliau cymunedol ac yn gweithredu’r Ddeddf Lleoliaeth yn llawn yng Nghymru.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae yna un maes rwy’n cael trafferth ag ef yn rheolaidd yn fy swyddfa. Pan fydd pobl yn cysylltu â’r cyngor, mae yna bob amser alwad ffôn leol. Yng Nghasnewydd, mae’n 656656 i ganolfan alwadau. Fel arfer, bydd rhaid aros o leiaf 10 munud a gwrando ar gerddoriaeth ac yna, hanner yr amser, ni fyddwch yn cael eich cysylltu â’r person cywir sy’n rhaid i chi siarad â hwy. Hoffwn wybod faint o arian y mae’r cyngor lleol yn ei wneud gan bobl sy’n aros ar y ffôn pan fyddant yn ffonio’r cynghorau. Rwy’n credu y dylai cynghorau sylweddoli bod pobl dlawd yn ffonio ynglŷn â’u problemau—nid am y gost o aros i gyflwyno’u problemau i’r cynghorau. Rwy’n credu bod hwn yn faes lle mae cysylltedd rhwng y bobl a’r cynghorau hefyd yn brin yng Nghymru. Diolch.

Mae wedi bod yn drafodaeth ddiddorol hyd yn hyn, ac mae wedi bod yn dda clywed cymaint o bobl yn siarad ac yn lleisio barn angerddol ar y pwnc hwn. Yma yng ngrŵp UKIP, rydym yn sicr yn cydnabod bod gan lywodraeth leol ran bwysig i’w chwarae ym mywydau pob dydd pobl. Felly, mae’n bwysig, os ydym yn mynd i gael newid mawr arall i lywodraeth leol—ac fel y nodwyd yn gynharach gan R.T. Davies, ymddengys ein bod yn cael un bob 20 mlynedd, yn eithaf cyson—yna mae angen gwneud yn siŵr y tro hwn ein bod yn ei gael yn iawn a hefyd, nad ydym yn mynd ati’n systematig i symud gwasanaethau ymhellach ac ymhellach i ffwrdd oddi wrth y bobl y maent i fod i’w gwasanaethu.

Rydym yn cefnogi rhywfaint o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, ond y gostyngiad enfawr i naw cyngor a argymhellodd y Gweinidog blaenorol—credwn fod hwnnw’n ostyngiad rhy fawr a byddai’n golygu bod gwasanaethau cyngor yn cael eu diraddio’n helaeth. Yn gyffredinol, rydym yn cefnogi ad-drefnu o’r gwaelod i fyny, yn hytrach na model o’r brig i lawr, y math o fodel roedd Leighton Andrews yn awyddus i’w orfodi ar y cynghorau yng Nghymru. Pan ddaeth Cyngor Bro Morgannwg i gytundeb gwirfoddol gyda’u hawdurdod cyfagos ym Mhen-y-bont ar Ogwr, siom i ni oedd nodi bod uchelgeisiau’r cynghorau hynny wedi cael eu gwrthod yn ddisymwth braidd gan y Gweinidog perthnasol, sydd wedi gadael bellach, a diolch am hynny o bosibl, er fy mod yn siŵr ei fod wedi gwneud pethau da yma hefyd wrth gwrs.

Yr hyn nad yw pobl yn y Fro ei eisiau yw cael eu suddo gan gyngor Caerdydd ac yna’u boddi gan ddatblygiadau tai enfawr ar eu meysydd gwyrdd. Mae hon yn broblem sydd eisoes yn ein hwynebu ar gyrion Caerdydd, fel y mae Aelod rhanbarthol newydd Plaid Cymru wedi sôn dro ar ôl tro, a hynny’n briodol. Yn sicr, nid ydym eisiau i’r broblem ymestyn i Fro Morgannwg hefyd drwy uno gorfodol gyda Chaerdydd. Gallaf ddweud wrthych y byddai awdurdod Caerdydd dan arweiniad Llafur wrth ei fodd yn cael ei ddwylo ar y caeau hyfryd hynny ym Mro Morgannwg.

Yn yr un modd, ni ddylai cyngor Rhondda Cynon Taf gael ei orfodi i uno gyda Merthyr. Mae Rhondda Cynon Taf eisoes yn un o’r cynghorau mwyaf yng Nghymru o ran ei boblogaeth, ac mae’n ddigon abl, yn ein barn ni, i sefyll ar ei draed ei hun.

Nawr, gan gyfeirio at bwyntiau eraill a wnaed yn ystod y ddadl, crybwyllodd Janet nifer y seddi diwrthwynebiad, sy’n destun pryder amlwg. Os oes gennych uno gorfodol o’r fath, yn arwain at uwch-gynghorau, credwn y byddant yn rhy fawr. Bydd hyn yn arwain at gynyddu’r diffyg diddordeb ymhlith yr etholwyr yn yr etholiadau hyn, ac mae’n debygol y bydd gennych nifer is yn pleidleisio yn sgil hynny. Mae’r Ddeddf Lleoliaeth yn ddiddorol; dyna bwynt diddorol. Rydym yn tueddu i gytuno bod angen i ni feddwl am fabwysiadu mwy o erthyglau o’r Ddeddf honno yma yng Nghymru, ac efallai y bydd dadl yma’n fuan ar gyfran o’r Ddeddf honno.

Mae gennym hefyd fater yn codi ynglŷn â thymor y cyngor nesaf, a grybwyllwyd gan R.T. Davies. Rwy’n cofio etholiadau a gawsom yn 1993; fe’u cynhaliwyd er gwaethaf ad-drefnu llywodraeth leol a oedd ar fin digwydd ar y pryd. Cawsom etholiadau’r cyngor sir yn 1993; ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu’n rhaid i ni gael etholiadau’r awdurdod unedol—o ddifrif, roedd yn wastraff arian sylweddol. Yn y cyfnod hwn o doriadau i awdurdodau lleol, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn osgoi’r math hwnnw o ddyblygu a’r math hwnnw o wastraff arian y tro hwn.

Soniodd Oscar Asghar am fater y canolfannau galwadau. Clywais si o’r ochr honno nad yw rhifau’r cyngor yn costio dim i’r defnyddiwr ei dalu pan fydd yn ffonio, ond rwy’n meddwl bod y broblem yn ei hanfod yn ymwneud ag anhygyrchedd, gan ei bod yn cymryd amser hir i bobl gael gafael ar y cyngor. Maent yn cael eu trosglwyddo i ganolfan alwadau. Nid ydynt ar linell uniongyrchol i switsfwrdd unrhyw gyngor—. Wel, switsfwrdd ydyw yn ei hanfod. Weithiau hefyd, mae’r canolfannau galwadau hyn yn gwasanaethu mwy nag un cyngor; felly, efallai y gwelwch eich bod yn ffonio canolfan alwadau i holi am wasanaethau yng Nghaerdydd a byddwch yn siarad â rhywun mewn canolfan alwadau yn Wrecsam nad yw’n gwybod dim am yr hyn rydych yn sôn amdano. Felly, mae angen i ni edrych ar hynny, ac mae angen i ni edrych i weld a oes angen i ni gael rhywfaint o ddarpariaeth statudol er mwyn cael canolfannau galwadau gyda phobl leol yn ateb y ffôn, o leiaf, fel na fydd gennych bobl yn ffonio’r llinellau hyn a gweld eu bod yn siarad â phobl heb wybodaeth leol.

O ran y cwestiwn yng ngwelliant Plaid Cymru ynghylch diwygio pleidleisio, mae hwn yn fater pwysig iawn. Er mwyn annog nifer uwch o bleidleiswyr yn yr etholiadau yng Nghymru credwn fod angen i ni gefnogi camau i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy yn etholiadau’r cynghorau yng Nghymru. [Torri ar draws.] Yn wir, efallai fod hynny’n wir, ond rydym ni’n sicr yn cefnogi hynny, ac rydym yn barod i gydweithio â phwy bynnag arall sy’n ei gefnogi. Felly, Sian, os ydych am gael sgwrs, yna ar bob cyfrif gwnewch hynny, ond wrth gwrs byddai’n golygu cydweithio â ni yma yn UKIP, a allai fod yn syniad ofnadwy i chi. Diolch.

Mae’n rhaid i ni gydnabod bod Cymru eto i ddioddef graddau’r toriadau a brofwyd yn Lloegr. Yn Lloegr, torwyd cyllidebau cynghorau 10 y cant mewn termau arian parod dros y pum mlynedd diwethaf ond yng Nghymru yn gyffredinol maent wedi codi 2.5 y cant. Mae hynny oherwydd bod cyllid ar gyfer ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol wedi’i glustnodi, gan osgoi’r toriadau a welwyd mewn gwasanaethau eraill, ond yn amlwg cafwyd heriau enfawr wrth geisio darparu’r gwasanaethau eraill na chafodd eu clustnodi. Nid yw’n mynd i fod yn haws. Ni all fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, oherwydd y cyllidebau sy’n lleihau a ddaw gan Lywodraeth Dorïaidd y DU.

Erbyn 2020, bydd cyllideb Cymru bron £1.5 biliwn yn is mewn termau real nag yn 2010. Felly, rhaid diwygio’n sylfaenol y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu a’u trefnu ar draws Cymru a rhaid gwneud hynny nawr. Eisoes, cafwyd toriadau tameidiog a diddymu gweithgareddau nad ydynt yn hanfodol. Mae’r toriadau mwyaf amlwg wedi’u gwneud. Felly, mae parhau i wneud llai yn annhebygol o gymell dim heblaw siom cyhoeddus. Mae awdurdodau lleol yn mynd i orfod gwneud pethau’n wahanol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ystod o syniadau yn y Bil llywodraeth leol drafft i wella agwedd agored, tryloywder ac atebolrwydd i’r cyhoedd mewn llywodraeth leol. Mae’n hen bryd gwneud hynny. Yn y pum mlynedd diwethaf cawsom gymaint â thri chyngor lle roedd y prif weithredwyr a rhai uwch-swyddogion yn ysgrifennu eu cynlluniau cydnabyddiaeth ariannol eu hunain, a diffygion pendant ymhlith aelodau etholedig a fethodd atal lefel mor eithriadol o uchel o gamweinyddu. Bu’n rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ymyrryd er mwyn amlygu’r methiannau hyn yn y trefniadau llywodraethu.

Mae sgandalau o’r fath yn tanseilio hyder staff a’r cyhoedd ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac mae angen i ni adael rhywfaint o oleuni i mewn os ydym yn mynd i ddenu mwy o bobl sydd am wasanaethu mewn llywodraeth leol. Credaf fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus a’u rhwymedigaethau o dan Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol yn darparu chwa o awyr iach a chydweithio angenrheidiol os ydynt yn mynd i gyflawni eu rhwymedigaethau. Yn ogystal â hynny, mae’r ddadl refferendwm chwerw rydym i gyd wedi dioddef yn ei sgil yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi datgelu rhai materion heriol, na fydd yn diflannu waeth beth fydd y canlyniad yfory. Mae pobl wedi dod i arfer â chlicio eu dewisiadau ar-lein yn hytrach na thynnu eu siacedi a helpu i ddatrys problemau. A yw’n wir mewn gwirionedd ei fod bob amser yn gyfrifoldeb i rywun arall? Nid yw’n anodd beio pa lefel bynnag o lywodraeth, ond yn lle hynny mae angen i ni gael pobl i feddwl ynglŷn â’r hyn y gallant ei wneud i helpu i ddatrys problemau.

Gallaf gytuno â Suzy Davies nad yw’r status quo yn opsiwn. Darluniwyd rhai o’r pethau y gall awdurdodau lleol ei wneud i fachu ar y cyfle i wneud pethau’n wahanol yn yr adroddiad ar ynni craffach i Gymru, a nodai’r cyfleoedd sydd ar gael i awdurdodau lleol harneisio ein hadnoddau naturiol er lles cymunedau lleol. Yn anffodus, ychydig o awdurdodau lleol ar unrhyw lefel sydd wedi manteisio ar y cyfle a’r arian. Yn wir, mewn llawer o ardaloedd, mae awdurdodau lleol yn mynd ati i rwystro cynlluniau ynni dan arweiniad y gymuned, yn hytrach na chroesawu’r mentrau hyn er mwyn gwella lles ac incwm eu poblogaethau.

Roedd Suzy Davies yn cydnabod bod yn rhaid cydgynhyrchu, a bod gofyn i ni ymddiried mewn pobl, a disgwyl hefyd y byddant yn chwarae eu rhan, yn hytrach na hawlio’n unig. Nid awdurdodau lleol sy’n taflu sbwriel, ond pobl; nid awdurdodau lleol sy’n dryllio’r ffyrdd a chreu tyllau, ond cerbydau, yn enwedig cerbydau nwyddau trwm, sy’n amharod i dalu’r gost yn eu trwyddedau a ddylai adlewyrchu’r niwed y maent yn ei wneud. Nid oes diben i Mohammad Asghar alaru am wasanaethau a gollir; mae’n rhaid i ni feddwl beth rydym yn mynd i wneud am y peth. Yn ddi-os, mae gan gymdogaethau tlotach lai o gronfeydd wrth gefn i ddisgyn yn ôl arnynt pan fydd newidiadau’n cael eu hargymell. Er enghraifft, nid yn unig y mae llyfrgell Rhydypennau yng Nghyncoed, sy’n ardal gymharol lewyrchus, a oedd dan fygythiad o gau wedi cael ei chadw ar agor, ond mae’r gymuned leol wedi gwella’r gwasanaeth yn aruthrol, gydag amrywiaeth enfawr o gyngherddau, digwyddiadau codi arian a darlleniadau, wedi’u cefnogi’n fedrus gan lyfrgellydd rhagorol, sy’n teithio’r filltir ychwanegol i gyflawni ar ran y cyhoedd. Gan ei bod yn Ddiwrnod Gwasanaethau Cyhoeddus yfory, credaf y dylem gydnabod hynny.

Rwy’n credu bod yn rhaid i uno rhithwir ac uno gwirfoddol fod yn ffordd ymlaen, i wneud i bobl o wahanol sefydliadau deimlo’n gyfforddus gyda’i gilydd, ac rwy’n aros gyda diddordeb, er enghraifft, i glywed am y cydweithio cynyddol rhwng awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol ym Mhowys, i gael gwybod a allai hwnnw fod yn fodel ar gyfer y dyfodol i awdurdodau lleol eraill hefyd.

Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’w swydd a chroesawu’n fawr ei ddull a’i ymrwymiad tuag at y broses gydgynhyrchu wrth edrych tua’r dyfodol. O ran atgyfnerthu’r pwyntiau sydd newydd eu gwneud, ydw, rwy’n credu nad oes amheuaeth nad yw Cymru wedi cario baich y toriadau y mae awdurdodau lleol wedi’u cario yn Lloegr. Rydym wedi crybwyll eisoes y toriad o 10 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a’r ffaith fod un o’r Aelodau Ceidwadol gyferbyn wedi ceisio siarad am hoffter o gwmnïau cydfuddiannol; rwy’n credu bod gan gwmnïau cydfuddiannol le pendant yng Nghymru, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw mai’r realiti yn Lloegr yw mai cwmnïau preifat er elw sy’n cymryd y gwaith o redeg gwasanaethau cyhoeddus ac nid ydynt yn gwneud gwaith da o gwbl mewn rhai mannau.

Torrwyd £1.5 biliwn oddi ar gyllideb Cymru, felly mae angen edrych ar hyn gyda llygaid ffres a symud ymlaen mewn ffordd adeiladol. Rwy’n croesawu’n fawr y modd y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfarfod ag arweinwyr cynghorau ac awdurdodau lleol mor gynnar yn ei swydd. Ydy, mae’n mynd i fod yn ffordd ddiddorol ymlaen, ond rwy’n gwybod yn iawn fod gennym y dull, y parodrwydd, y broses gydgynhyrchu yn ei lle a fydd yn darparu ar gyfer pobl Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad am ddefnyddio’u hamser y prynhawn yma i gyflwyno’r ddadl hon? Rwyf wedi gwrando’n ofalus iawn ar bob cyfraniad, ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn i drafod dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ac i amlinellu rhai o fy syniadau cynnar fy hun.

Fy man cychwyn, ddirprwy Lywydd, yw bod llywodraeth leol dda yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau bron bob dinesydd yng Nghymru, o flynyddoedd cynharaf addysg feithrin a’r cyfnod sylfaen i ofal cymdeithasol a ddarperir i’r bobl hynaf a mwyaf agored i niwed. Fel yr awgrymodd Mike Hedges, mae gan bob un ohonom ddiddordeb uniongyrchol yn y ffordd y caiff ein sbwriel ei gasglu, a’n strydoedd eu cadw’n lân, yn y modd y caiff ein ffyrdd eu cynnal a sut y caiff ein plant eu haddysgu, ac mae pob un o’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan ein hawdurdodau lleol.

Nawr, ddirprwy Lywydd, yn rhannol o ganlyniad i’r sylw manwl iawn a roddwyd i hyn gan fy rhagflaenwyr, rwy’n ffodus fy mod yn mabwysiadu’r portffolio hwn ar adeg pan fo llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod yn gwella, er gwaethaf yr heriau real iawn. Bydd y rhan fwyaf o’r Gweinidogion llywodraeth leol blaenorol wedi etifeddu sefyllfa lle y bu angen ymyrryd mewn mwy nag un cyngor yng Nghymru mewn perthynas â’u haddysg neu eu gwasanaethau cymdeithasol, neu eu trefniadau llywodraethu corfforaethol eu hunain. Heddiw, nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru yn y sefyllfa honno, ac rwy’n awyddus iawn i adlewyrchu’r patrwm hwn o welliant yn ein trafodaeth ar lywodraeth leol.

Pan gyfarfûm ag arweinydd Cyngor Ynys Môn, y tro cyntaf i mi grybwyll ei awdurdod ar lawr y Cynulliad hwn, gofynnodd i mi beidio â disgrifio ei awdurdod fel un sy’n methu, ond yn hytrach y dylwn ganolbwyntio ar y llwyddiant sylweddol y mae ei gyngor wedi’i gyflawni dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r awdurdod hwnnw mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw i’r un roedd ynddi ar ddechrau tymor diwethaf y Cynulliad, ac rwy’n falch iawn o allu gwneud hynny—dweud rhywbeth am yr ymdrechion, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, drwy ymyrraeth rheoleiddwyr a chynghorau eu hunain, yr holl ymdrechion hynny sydd wedi helpu i sicrhau’r darlun gwell hwn.

Nawr, nid oes dim o hyn yn awgrymu nad oes heriau gwirioneddol yn parhau, ac ni allem gredu o gwbl ychwaith fod darparu gwasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru fel y byddem yn dymuno iddo fod ym mhob man am nad oes unrhyw awdurdod lleol ar hyn o bryd yn perfformio islaw’r safon sy’n ofynnol ganddo. Bydd yr holl Aelodau yma yn gyfarwydd â’r safbwynt sylfaenol. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dda am wneud rhywbeth. Mae’r rhan fwyaf yn dda am lawer o bethau. Nid oes yr un yn dda am bopeth. Yr her, felly, fydd parhau i sicrhau gwelliant mewn dyfodol a fydd yn heriol iawn yn wir. Mae awdurdodau lleol yn wynebu galw cynyddol am lawer o’u gwasanaethau, ac maent hwy a ninnau’n gwybod fod yr arian i ddiwallu’r anghenion hynny’n lleihau, ac yn ôl cynlluniau Llywodraeth ganolog ar hyn o bryd, fel y nododd Jenny Rathbone, bydd yn parhau i leihau ym mhob blwyddyn o’r tymor Cynulliad hwn.

Nid oes neb rwyf wedi cyfarfod â hwy yn fy nghyfarfodydd gydag awdurdodau lleol hyd yn hyn yn dadlau y gellir cynnal y status quo. Mae natur y broblem wedi’i deall a’i rhannu’n eang; mae creu atebion iddi wedi bod yn llai hawdd. Ceisiodd y Llywodraeth ddiwethaf arwain, llunio agenda, gosod ffordd ymlaen a pherswadio eraill i ddilyn. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael yr ymrwymiad cyson i newid pe na bai’r gwaith hwnnw wedi’i wneud.

Nawr, nid oedd un agwedd ar yr ateb arfaethedig, y map, yn creu consensws. Mae llawer o agweddau eraill ar y Bil drafft a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd wedi cael croeso eang, yn y Siambr hon a thu hwnt. Crybwyllodd Mike Hedges y pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol, ond roedd y Bil hefyd yn cynnwys rhagor o eglurder ynghylch y berthynas rhwng arweinyddiaeth weithredol a gwleidyddol, cryfhau rôl arweinyddiaeth gymunedol cynghorwyr unigol, a mesurau i wella ymatebolrwydd cynghorau lleol, i ateb y materion a nododd Mohammad Asghar.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae’r rhain i gyd yn parhau i fod yn gynhwysion pwysig wrth sicrhau llywodraeth leol effeithiol ar gyfer y dyfodol. O ran y map, rwyf wedi bod yn glir yn fy nhrafodaethau gydag awdurdodau lleol ac eraill mai fy mwriad yw treulio’r wythnosau cynnar hyn yn siarad, gwrando a dysgu. Fy nod fydd ceisio consensws, os yw hynny’n bosibl o gwbl, ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn awyddus iawn i’r consensws hwnnw gynnwys pleidiau gwleidyddol eraill yn y Cynulliad hwn lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â’r Aelod dros Arfon yr wythnos diwethaf ac am drafodaeth gyntaf a chynnar ar y materion hyn. [Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd. Rwy’n falch o glywed eich bod yn chwilio am gonsensws ar hyn. Nid dyna oedd ymagwedd eich rhagflaenydd bob amser. A fyddech yn cytuno bod cynghorau fel Sir Fynwy wedi cyflwyno syniadau diddorol o ran darparu awdurdod cyfunol lle na fyddai gennych y gost o ad-drefnu, ond byddech yn gwneud yn siŵr fod yr awdurdodau hynny’n gweithio gyda’i gilydd?

Lywydd, roeddwn yn falch iawn o gyfarfod ag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Sir Fynwy 10 diwrnod yn ôl. Roedd yn gyfarfod adeiladol iawn. Mae ganddynt gyfres o syniadau diddorol, ac maent wedi addo rhoi rhagor o wybodaeth i mi amdanynt. Roeddwn yn falch iawn o dderbyn eu gwahoddiad i ymweld â Mynwy eto i weld peth o’r gwaith ymarferol y maent yn ei wneud mewn perthynas â chanolfannau cymunedol. Rwy’n awyddus i gymryd syniadau ble bynnag y maent i’w cael ac i weld faint y gallwn wneud ohonynt. Yn fy nghyfarfod â’r Aelod dros Arfon, roedd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am yr argymhellion a nodir ym maniffesto Plaid Cymru ynglŷn â’r dull rhanbarthol y mae wedi’i drafod yma y prynhawn yma, a’r materion ynghylch atebolrwydd sydd ymhlyg mewn unrhyw drefniant democrataidd. Yn yr un ysbryd, rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â Janet Finch-Saunders yn ystod yr wythnosau nesaf, ac roeddwn yn ddiolchgar am ei chynnig i gydweithredu lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin, er enghraifft, wrth ystyried dyfodol cynghorau cymuned. Lle mae cyfraniad adeiladol i’w wneud, byddaf yn sicr yn awyddus i ymateb yn yr un ysbryd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn dod i ddiwedd cyfraniad y Gweinidog. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau ar gyfer yr etholaeth y flwyddyn nesaf y bydd y mandad a roddir i aelodau etholedig yn fandad pum mlynedd lawn ac nad oes angen cwtogi’r mandad hwnnw yn eich barn chi—fel bod pobl yn gwybod dros bwy y maent yn pleidleisio pan fyddant yn gwneud hynny fis Mai nesaf.

Lywydd, rwy’n effro iawn i’r effaith gyrydol y mae ansicrwydd yn ei chreu i’r rheini sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a’r rhai sy’n sefyll etholiad. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yfory. Roeddwn eisiau aros nes fy mod wedi clywed beth oedd pobl wedi’i ddweud heddiw cyn cwblhau’r datganiad hwnnw, ond rwy’n hapus i gadarnhau, i ateb cwestiwn Andrew Davies yn uniongyrchol, y bydd y datganiad ysgrifenedig yn dweud y bydd etholiadau’n cael eu cynnal ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru ym mis Mai y flwyddyn nesaf ac y gall y rhai a etholir ddisgwyl gwasanaethu am dymor llawn o bum mlynedd.

Lywydd, mae yna fanylion yn y cynnig gerbron y Cynulliad y prynhawn yma y gallai’r Llywodraeth fod wedi’u geirio’n wahanol. Er enghraifft, ceir ffyrdd gwell o esbonio’r cyfraddau cyfranogiad isel sy’n peri pryder gwirioneddol mewn awdurdodau lleol na galw pleidleiswyr yn apathetig. Un o’r pethau rwy’n edrych ymlaen atynt fwyaf yn fy nghyfrifoldebau newydd fydd defnyddio’r pwerau y gobeithiwn y cânt eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol drwy Fil Cymru, er mwyn rhoi set wirioneddol radical o gynigion ger eich bron ar gyfer diwygio’r ffordd y caiff etholiadau eu cynnal yng Nghymru—gan symud o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i’r unfed ganrif ar hugain ac ailfywiogi ymwneud democrataidd wrth i ni wneud hynny. Ond yn yr ysbryd ehangach o fod eisiau creu consensws, cymryd rhan mewn deialog, a dilyn llwybr sy’n gadarnhaol ac yn adeiladol, bydd ochr y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig hwn y prynhawn yma.

Diolch am eich cyfraniadau, bawb, ac rwy’n croesawu sylwadau terfynol y Gweinidog yn fawr iawn.

Dechreuodd Janet Finch-Saunders drwy ein hatgoffa bod argymhellion comisiwn Williams i symud y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ei blaen wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth, mai ychydig iawn o gynnydd a gafwyd ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, fod ein cynghorwyr cymuned a’n swyddogion llywodraeth leol wedi’u sathru dan draed, fod y rhai a fabwysiadodd uno gwirfoddol yn gynnar wedi cael eu gwrthod, a gyda chanran isel yn pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a seddau cynghorau tref a chymuned yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad, ei bod hi’n bryd ailymgysylltu â’r etholwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn adfywio llywodraeth leol. Hefyd, nododd fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu’r pwerau o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 y DU, a allai fod wedi grymuso cymunedau yng Nghymru fel y maent wedi’i wneud yn Lloegr a’r Alban.

Cyflwynodd Sian Gwenllian yr achos dros bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn etholiadau llywodraeth leol. Cawsom ein hatgoffa gan Andrew R.T. Davies nad yw llinellau ar y map yn golygu llawer i gymunedau ac mae’n rhaid i ni ymgysylltu yn hytrach na datgan beth fydd yn digwydd. Dywedodd Mike Hedges wrthym fod cyfleusterau chwaraeon yn dda i iechyd. Diolch am hynny, Mike. Wrth gwrs, mae’r archwilydd cyffredinol wedi argymell, yn ei adroddiad ar wasanaethau hamdden, y dylai cynghorau wneud pethau’n wahanol. Dywed na cheir maint delfrydol ar gyfer cynghorau ac nid yw mawr bob amser yn well. Mae’n drueni fod cyd-Aelodau yn Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi methu â chydnabod hynny.

Soniodd Suzy Davies am yr angen i ddiwygio ymwneud â chydbwysedd rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol a dinasyddion, gan gydnabod na all awdurdodau lleol wneud y cyfan, a photensial cydgynhyrchu. Dywedodd ‘Beth yn y byd a ddigwyddodd i bobl?’, a bod Llafur yn rhoi canoli’r wladwriaeth o flaen cydfuddiannaeth o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus fel yr opsiwn gorau ac y byddai gan Robert Owen gywilydd. Soniodd Mohammad Asghar am yr angen i symud grym i’r bobl, gan roi hawl i gymunedau herio a darparu gwasanaethau o safon uchel ac o werth da am arian.

Siaradodd Gareth Bennett am yr angen i beidio â mynd ati’n systematig i symud gwasanaethau oddi wrth y bobl y maent i fod i’w gwasanaethu a’r angen i gefnogi ad-drefnu o’r gwaelod i fyny. Soniodd Jenny Rathbone am yr angen i ddiwygio’n sylfaenol y modd y darparwn wasanaethau yng Nghymru a’r angen i hynny gael ei gyflawni yn awr; Rhianon Passmore, yr angen am agwedd gydgynhyrchiol; ac Ysgrifennydd y Cabinet, yr angen i ddathlu llwyddiant llywodraeth leol—wrth gwrs fod rhaid i ni—ond bod heriau gwirioneddol yn parhau, a’i fwriad i dreulio ei wythnosau cynnar yn ei rôl newydd yn siarad, gwrando, dysgu a chwilio am gonsensws.

Ar gam olaf sesiynau tystiolaeth Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol blaenorol, dywedodd arweinydd Gwynedd wrthym—un o’r bobl sy’n cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—yn gwbl gywir, mai’r cwestiynau i’w gofyn yw’r rhain: beth rydym eisiau ei gyflawni drwy wasanaethau cyhoeddus; beth rydym eisiau ei gyflawni drwy ein hawdurdodau lleol; ac yna, pa strwythur sydd ei angen? Ceir tuedd i’r ceffyl a’r cert fod yn y drefn anghywir yn y drafodaeth hon. Fel roedd adroddiad comisiwn Williams y cyfeiriwyd ato ar lywodraethu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ei ddweud:

‘yr unig ffordd hyfyw o ddiwallu anghenion a bodloni dyheadau pobl yw drwy symud y pwyslais o ran gwasanaethau cyhoeddus tuag at gydgynhyrchu ac atal.’

Fel y dywedodd rhwydwaith cydgynhyrchu Cymru sydd newydd ei sefydlu, sy’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymgysylltu ag ef: mae hyn yn ymwneud â thrawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr, gan eu darparu mewn perthynas gyfartal a dwyochrog rhwng gweithwyr proffesiynol, pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a’u cymdogion, gan alluogi gwasanaethau a chymdogaethau i ddod yn gyfryngau llawer mwy effeithiol ar gyfer newid. Wedi’r cyfan, fel yr awgrymodd Marcel Proust,

mae taith darganfyddiad go iawn yn galw nid yn unig am chwilio am dirweddau newydd, ond am gael llygaid newydd hefyd.

Gadewch i ni obeithio y bydd gan Lywodraeth Cymru a’r holl bleidiau lygaid newydd ar y mater hwn.

Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Undeb Ewropeaidd

Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl yn enw UKIP—y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd. Cyn imi ddechrau’r ddadl hon, hoffwn atgoffa’r Aelodau am yr hyn a ddywedais yr wythnos diwethaf ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr ar y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos diwethaf. Rwyf yn mawr obeithio y cawn ddadl mewn cystal ysbryd yr wythnos hon ag y cawson ni yr wythnos ddiwethaf. Rwy’n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6030 Neil Hamilton

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y byddai Cymru’n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai’n gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy’n meddwl, i ddechrau, y byddai’n deg cydnabod na fyddai’r refferendwm hwn yn digwydd o gwbl oni bai am fy mhlaid, ac ni fyddai fy mhlaid yn bodoli oni bai am yr ymchwydd o deimlad yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi bodoli ers peth amser.

Pan ymunasom â’r Gymuned Ewropeaidd, fel roedd bryd hynny, yn 1973, byddai unrhyw un yn meddwl, o’r hyn rydym wedi’i glywed yn ystod yr ymgyrch hon, fod Prydain yn wlad ymynysol. Yn wir, roeddem eisoes yn aelod o sefydliad rhyngwladol—Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop. Y ffordd y cafodd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd ei gwerthu i bobl Prydain yr holl flynyddoedd hynny’n ôl oedd fel rhyw fath o estyniad o’r ardal masnach rydd. Ond wrth gwrs, fel y gwyddom bellach, ac fel y byddai unrhyw un a oedd wedi gwneud unrhyw ymchwil ar yr hyn rydym yn awr yn ei alw’n Undeb Ewropeaidd wedi gwybod bryd hynny, yr hyn ydoedd o’r cychwyn oedd prosiect gwleidyddol i greu rhyw fath o unol daleithiau Ewrop. Nid oedd pobl Prydain erioed eisiau undeb gwleidyddol. Yn wir, gwnaeth Edward Heath, y Prif Weinidog yn 1973, yr honiad rhyfeddol nad oedd yn galw am ildio unrhyw sofraniaeth hanfodol. Wel, mae’r UE yn ateb o’r 1940au i broblem o’r 1930au. Wrth gwrs, nid oes neb eisiau rhyfel eto yn Ewrop, ond ni chredaf y gall neb, yn gredadwy, hybu’r rhagdybiaeth y byddai Almaen sy’n cryfhau â bwriadau tiriogaethol mewn perthynas â’i chymdogion. Felly, mae’r broblem y crëwyd yr UE i’w datrys yn gwbl amherthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain.

Pan ymunasom yr holl flynyddoedd hynny’n ôl, nid oedd neb yn disgwyl y byddai gennym, ar y dyddiad hwn, 28 o wledydd yn yr UE, gydag 19 ohonynt ag arian sengl. Ni fyddai neb wedi credu y byddai 500 miliwn o bobl â hawl awtomatig yn awr i ddod i’r wlad hon i fyw ac i weithio. Ac nid wyf yn credu y byddai neb wedi credu ychwaith y byddai’r UE yn gallu dweud wrthym pa fath o sugnwyr llwch y caem eu prynu yn y wlad hon, nac ychwaith y byddai’n rhaid i Brif Weinidog y wlad hon dreulio dyddiau lawer wedi’i gloi mewn ystafelloedd tywyll yn gofyn am ganiatâd yr UE i newid y rheolau ar bwy sydd â hawl i fudd-daliadau lles Prydain.

Felly, mae’r Undeb Ewropeaidd rydym ynddo yn awr yn wahanol iawn i’r un y disgwyliai pobl Prydain berthyn iddo o ganlyniad i ymuno yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. Wrth gwrs, yn y 1970au, roedd y Deyrnas Unedig yn anobeithiol yn economaidd, ac roedd Ewrop wedi gwneud lawer yn well yn economaidd yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Yn awr, mae’r gwrthwyneb yn wir. Yr UE sy’n anobeithiol yn economaidd ac mae Prydain ar gynnydd, i raddau o leiaf. Ers dechrau’r ganrif hon, ni chafwyd y nesaf peth i ddim twf economaidd yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn yr oddeutu 30 mlynedd ers 1980, mae cyfran yr UE o fasnach y byd wedi plymio. Roedd yn 30 y cant yn 1980. Mae bellach yn 15 y cant ac yn gostwng yn gyflym. Mae diweithdra ledled Ewrop yn gywilyddus: diweithdra o 49 y cant ymysg pobl ifanc Gwlad Groeg, 45 y cant yn Sbaen, 39 y cant yn yr Eidal, 30 y cant ym Mhortiwgal a 25 y cant yn Ffrainc oherwydd ardal yr ewro. Mae hyn yn rhan o’r prosiect gwleidyddol iwtopaidd a ddechreuwyd yr holl flynyddoedd hynny’n ôl, ac er gwaethaf y dinistr a achosodd i wledydd sydd wedi dod yn llai ac yn llai cystadleuol gyda’r Almaen yn y bôn, maent yn dal i wthio yn eu blaenau beth bynnag y gost mewn dioddefaint dynol. Erbyn hyn mae gan yr Almaen warged masnach endemig yn yr UE, ac mae gan yr holl wledydd eraill hynny ddiffyg masnach endemig. Gwaethygu’n unig y gall y broblem ei wneud, nid gwella.

Nawr, yr hyn y mae’r refferendwm hwn yn ymwneud ag ef yw democratiaeth, nid cenedlaetholdeb. A’r broblem yw nad yw’r UE yn ymateb i farn boblogaidd. Mae gennym un comisiynydd Ewropeaidd; rwy’n meddwl mai nifer fach iawn o bobl mewn gwirionedd a fyddai’n gallu ei enwi pe baech yn gofyn i bobl ar y stryd. Mae gennym 8 y cant o’r pleidleisiau yng Nghyngor y Gweinidogion, ac rydym yn ethol 73 o 751 Aelod o Senedd Ewrop. Nid oes unrhyw ddemos Ewropeaidd; felly, ni all Ewrop byth fod yn ddemocratiaeth.

Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, gwelsom brosiect ofn yn rhemp yn y wlad. Mae’r ansicrwydd o wneud y penderfyniad yfory i adael yr UE wedi bod yn y penawdau. Ychydig iawn o bobl sydd wedi siarad am y posibilrwydd na fydd yna bleidlais yfory dros y status quo. Beth bynnag fydd yn digwydd yfory, fe fydd yna newid, ac ni allwn ragweld beth fydd y newid yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae adroddiad y pum llywydd, a gyhoeddwyd heb fod mor bell yn ôl—ychydig fisoedd yn ôl—yn rhagweld eu bod yn mynd i symud tuag at integreiddio a chanoli pellach, ar gyfer yr 19 o wledydd yn ardal yr ewro fan lleiaf. Ni allwn fod yn ddiogel rhag canlyniadau hynny oherwydd byddwn yn un o’r 9 gwlad o 28 a fydd ar y tu allan i’r grym canolog hwnnw. Ac mae’r syniad y caiff Prydain ei heithrio rhag y grymoedd hynny’n nonsens wrth gwrs.

Dywedir wrthym y byddwn yn neidio i’r tywyllwch drwy bleidleisio dros annibyniaeth genedlaethol yfory. Mae’n rhyfedd meddwl am hanes y sylw hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, dyna a ddywedodd yr Arglwydd Derby am Fil diwygio Disraeli, a roddodd bleidlais i’r dosbarthiadau gweithiol diwydiannol. Dyna oedd y naid yn y tywyllwch bryd hynny. Ac wrth gwrs, byddai’n naid i’r tywyllwch mewn un ystyr yfory os byddwn yn adfer democratiaeth i’r wlad hon am yr un rheswm yn union. Ac am yr un rheswm yn union ag roedd Deddf diwygio 1867 yn llwyddiant, bydd gadael yr UE yn llwyddiant i Brydain yfory.

Y senario waethaf yw y byddai gennym, drwy adael y farchnad sengl, rwystr o 3 i 4 y cant o dariffau i’w goresgyn. Y canlyniad ar y llaw arall yw y byddai—.

Mae’n ddrwg gennyf, a gaf fi ymyrryd? Os ydych yn siarad am gydrannau ceir—ac mae llawer o gydrannau ceir yn cael eu gwneud yng Nghymru—mae’r ffigur hwnnw mewn gwirionedd yn 9.8 y cant, sef bron 10 y cant. Byddai hynny’n gwneud llawer o ffatrïoedd cydrannau ceir yng Nghymru yn anghystadleuol, a fyddai’n golygu bod swyddi’n cael eu colli ac mae hynny’n golygu y byddai yna lai o dreth, llai o arian i dalu am ein GIG a llai o arian i dalu am ein gwasanaethau yng Nghymru. Rwy’n credu ei fod yn annerbyniol.

Rwy’n hollol ffyddiog na cheir unrhyw dariffau ar gydrannau ceir modur oherwydd—.[Torri ar draws.] Wel, gadewch i mi roi’r ffeithiau i chi’n syml. Rydym yn mewnforio 820,000 o gerbydau y flwyddyn o’r Almaen ac mae gennym ddiffyg yn y fasnach ceir modur gyda’r Almaen sy’n £10 biliwn y flwyddyn i gyd. Nid wyf yn credu y bydd y Canghellor Merkel, wrth iddi wynebu etholiad yn yr Almaen y flwyddyn nesaf, yn hyrwyddo achos rhyfel masnach gyda Phrydain fel y ffordd orau i’w phlaid ennill. [Torri ar draws.] Mae Matthias Wissmann, llywydd cymdeithas ddiwydiant modurol yr Almaen yn dweud bod

cadw Prydain yn yr UE yn fwy arwyddocaol na chadw Gwlad Groeg yn yr ewro.

Mae ganddynt ddiddordeb mewn gwerthu ceir Almaenig i ni lawn cymaint ag y mae gennym ni ddiddordeb mewn gwerthu ceir Prydeinig iddynt hwy. Mae allforion peirianneg Almaenig i Brydain yn £7 biliwn y flwyddyn. Mae allforion ceir yn £18 biliwn y flwyddyn. Felly, nid wyf yn credu y ceir rhyfel masnach rhwng Prydain a’r Almaen. Fe ildiaf.

Diolch i’r gŵr bonheddig am ildio, ond a gaf fi ofyn iddo: beth y mae’n ei wybod nad yw rheolwr gyfarwyddwr Ford Europe a chyfarwyddwr fy ffatri leol yn ei wybod, a hwythau wedi ysgrifennu at eu gweithwyr i dynnu sylw at yr union risgiau y mae’n dweud eu bod nid yn unig ddibwys, ond nad ydynt yn bodoli hyd yn oed? Beth y mae’n ei wybod nad yw Toyota ym Mhrydain yn ei wybod? Beth y mae’n ei wybod nad yw Rolls-Royce yn ei wybod?

Ydym, rydym yn hoffi arbenigwyr. Mae’r dyfodol yn ei hanfod yn anrhagweladwy—fe wn i hynny—ond mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym na fydd yr Almaen eisiau rhyfel masnach gyda Phrydain pan fyddai’n eu brifo hwy’n llawer mwy nag y mae’n ein brifo ni [Torri ar draws.] Y Trysorlys—. Mae yna derfyn ar faint o weithiau y gallaf ildio.

Roedd rhagolwg Armagedon y Trysorlys ychydig wythnosau’n ôl yn unig yn rhagweld y gwaethaf y gallai George Osborne ei daflu atom, ac er eu bod yn honni y gallant ragweld sut gyflwr fyddai ar yr economi yn 2030, byddai’n braf pe gallent ragweld cyflwr yr economi yr wythnos nesaf. Nid yw erioed wedi cyflawni un o’i ragolygon ar gyfer twf economaidd neu ddiffyg y Llywodraeth yn yr oddeutu pum mlynedd y bu’n Ganghellor. Ond mae wedi honni ei fod yn gwybod, fel arbenigwr, beth sy’n mynd i ddigwydd yn y flwyddyn 2030, a’r hyn y mae’r adroddiad hwnnw’n ei ddweud yw, os ydym yn yr UE, gallwn ddisgwyl cael 37 y cant o dwf mewn incwm gwario yn yr oddeutu 15 mlynedd nesaf. Y tu allan i’r UE, byddai’n dwf o 29 y cant mewn incwm.

Felly, ni fydd yna gwymp yn yr economi. Hyd yn oed yn ôl senario waethaf rhagolwg y Trysorlys, byddai’n dwf o 29 y cant yn hytrach na 37 y cant. Ond nid wyf yn rhoi unrhyw sylw i’r amcanddyfaliadau hyn o gwbl, gan mai rwtsh i mewn a rwtsh allan ydyw gyda’r cyfrifiadur. Mae’r cyfan yn dibynnu ar y rhagdybiaethau a ddefnyddiwch. Felly, naw wfft i ragolwg David Cameron y byddai hyn yn dinistrio’r economi. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae wedi’i wneud, wrth gwrs, yw dinistrio’r gwir. Ac fel y disgrifiodd ei hun chwe blynedd yn ôl, fel etifedd i Blair, rwy’n meddwl, allan o enau plant bychain a’r rhai’n sugno.

Yr hyn y bydd pleidleisio i adael yr UE yfory yn ei wneud yw ein galluogi i adfer rheolaeth ar rai o’r penderfyniadau polisi pwysicaf sy’n effeithio ar y wlad hon, ac yn arbennig, wrth gwrs, rheolaeth ar ein ffiniau, oherwydd bod mewnfudo direolaeth, sy’n ychwanegu dinas o faint Caerdydd at boblogaeth y DU bob blwyddyn o gynnydd yn y boblogaeth yn unig, wedi gwasgu’n fawr ar gyflogau nes bod yr isafswm cyflog i filiynau o bobl bellach yn uchafswm cyflog. Ar gyfer cynnydd o 10 y cant mewn mewnfudo, mae ymchwil Banc Lloegr ei hun wedi dangos bod gostyngiad o 2 y cant yng nghyflogau pobl lled-grefftus a heb sgiliau.

Mae prisiau ynni wedi cael eu gwthio i fyny gan gynlluniau ynni gwyrdd gwallgof yr UE ac ardollau ynni gwyrdd. Yn ôl pob tebyg gallem haneru costau ynni Tata ym Mhort Talbot pe bai gennym reolaeth dros ein prisiau ynni ein hunain. Gallem gymryd rheolaeth ar ein polisi masnach ein hunain eto. Fel yr Unol Daleithiau, gallem osod ardoll o 522 y cant ar fewnforion dur wedi’i rolio’n oer o Tsieina, sy’n cael ei allforio’n is na chost ar farchnadoedd y byd, yn hytrach na’r 24 y cant y mae’r UE wedi’i argymell—

Unwaith eto, byddem y tu allan i holl reolau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd, sy’n ein rhwystro rhag rhoi cymorth i ddiwydiannau megis y diwydiant dur ym Mhort Talbot.

Byddem yn gallu rheoli ein trethi anuniongyrchol. Ni allodd y Llywodraeth Lafur dddiddymu’r TAW ar danwydd gwresogi domestig yn 1997, felly mae gennym bellach dâl o 5 y cant ar filiau gwresogi pawb, ac mae hynny oherwydd nad yw’r UE yn caniatáu i ni gael rheolaeth ar ein TAW ein hunain. Yr un modd ar damponau, sydd hefyd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, unwaith eto, ond yw? Felly, mae yna gymaint o wahanol ffyrdd y gall angenrheidiau bywyd fod wedi’u trethu ac nid oes gennym unrhyw ffordd o wneud penderfyniad i gael gwared arnynt.

O ran y prosiect ofn, nid oes gennym ddim i’w ofni ond ofn ei hun, gan fod hwn yn gyfle i Brydain ac yn gyfle i Gymru am y tro cyntaf ers 40 mlynedd, unwaith eto, i gymryd yr awennau yn ein gwlad ein hunain. Mae prosiect ofn wedi canolbwyntio yn y Siambr hon ar gronfeydd strwythurol i’r Cymoedd a gorllewin Cymru yn benodol; clywsom hynny eto y prynhawn yma yn ystod y cwestiynau. Wel, dros y chwe blynedd diwethaf, roedd hynny’n cyfateb i oddeutu £3.5 biliwn. Dyna £600 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd. Byddai’r cynnydd net a fyddai’n dod i Drysorlys Prydain o ganlyniad i adael yr UE yn £10 biliwn—byddai hynny ynddo’i hun yn dair gwaith y gyllideb honno. Gallem wneud popeth a wneir ar hyn o bryd gan yr UE, a llawer mwy, ond i ni adfer ein hannibyniaeth genedlaethol. Ac nid yw £3.5 biliwn mewn chwe blynedd ond yn ddiferyn yn y môr o gymharu â’r diffyg blynyddol o £75 biliwn o dwll sydd gan George Osborne yn y cyfrifon cyhoeddus.

Yn yr un modd, ar hawliau gweithwyr, byddech yn meddwl na fu erioed unrhyw hawliau gweithwyr gennym yn y wlad hon cyn i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ac eto cyflwynwyd y Ddeddf Cyflog Cyfartal yn 1970, Deddf Diogelu Cyflogaeth yn 1975 a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn 1975 hefyd.

Felly, yr hyn y mae’r pleidiau eraill yn y Siambr hon sydd yn erbyn gweld Prydain yn adennill ei hannibyniaeth yn dioddef ohono yw tlodi uchelgais. Yr hyn rydym yn ymladd drosto yma yw democratiaeth yn y wlad hon. Mewn gwirionedd, gan fod y Blaid Lafur wedi canolbwyntio ar fater hawliau gweithwyr, rhaid eu bod yn awgrymu na fydd yna byth Lywodraeth Lafur ym Mhrydain eto, a gyda Jeremy Corbyn yn arweinydd, pwy all eu beio am feddwl hynny? Ond y broblem y maent yn methu â’i nodi yw mai pobl Prydain, yn y pen draw, sy’n gwneud y penderfyniadau hyn, ac os bydd Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau nad ydynt yn eu cymeradwyo, mewn democratiaeth, gallwch gael gwared arnynt. Yn yr UE, ni allwch wneud hynny. Os nad ydych yn hoffi penderfyniadau’r Comisiwn Ewropeaidd, nid oes y nesaf peth i ddim y gallwch ei wneud i’w goresgyn. Felly, mae’n ddiffyg pathetig o hunanhyder ac ymddiriedaeth ym marn y bobl.

Ac am Blaid Cymru, mae’n ffurf hynod o ryfedd ar genedlaetholdeb i fod eisiau anfon pŵer nid i lawr ymhellach at y bobl, ond ymhellach i fyny ac i ffwrdd oddi wrthynt. Byddai’n well ganddynt gael eu llywodraethu o Frwsel nag o San Steffan, sy’n rhyfeddol a braidd yn—[Torri ar draws.] Sy’n syniad braidd yn eithriadol i blaid genedlaetholgar, oherwydd pe baem yn gadael yr UE, gallem ddatganoli’r polisïau y maent yn gyfrifol amdanynt o Frwsel i lawr yma i Gaerdydd. Roeddem yn arfer gweld graffiti wedi’i beintio ledled Cymru pan oeddwn yn fachgen—’Rhyddid i Gymru’—ac nid yw eu plaid, wrth gwrs, yn credu mewn rhyddid i Gymru, am eu bod yn credu na ddylem fod yn ddim mwy na rhanbarth o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn y bôn, yr hyn y mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn credu yw nad yw bobl y wlad hon yn gallu gwneud y gwaith o redeg ein gwlad ein hunain drosom ein hunain, ac yfory, bydd pobl y wlad hon yn cael cyfle i bleidleisio’n bendant dros adfer ein rhyddid unwaith eto.

Hoffwn geisio mynd i’r afael â dwy o brif ddadleuon y rhai hynny sydd eisiau i ni gerdded i ffwrdd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, pa bryd bynnag y pwysleisir manteision aelodaeth, mae’r bobl sydd am droi eu cefnau ar ein partneriaid Ewropeaidd yn dweud dro ar ôl tro, ‘Nid arian yr UE yw hwn, ond ein harian ein hunain rydym yn ei gael yn ôl’, ac rydym wedi’i glywed eto y prynhawn yma. Wrth gwrs, mae’r DU yn gwneud cyfraniad i’r UE; ac fe ddylem. Y rhai ohonom sy’n credu yn yr UE, rydym yn credu mewn undod. Rydym yn credu y dylai’r rhan wannaf o Ewrop gael ei helpu gan y rhannau cryfaf, ac mae Cymru’n elwa o hynny. Wrth gwrs, mae gan bob clwb ffi aelodaeth, ac yn gyfnewid am hynny, rydym yn cael manteision, nid yn lleiaf y mynediad heb dariff i’r farchnad sengl. Os byddwn yn tynnu’n ôl o Ewrop, byddwn yn dal i wynebu costau. Byddai’n dal yn rhaid i ni dalu am fynediad i’r farchnad hon, a hynny heb unrhyw allu i ddylanwadu ar ei rheolau.

Ond mae’r swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel, i ddefnyddio’r termau difrïol rydym wedi ymgyfarwyddo â hwy ar ôl 30 mlynedd o bropaganda tabloid a gwrth-Ewropeaidd, ac mae wedi naddu ymaith—mae’r swm o arian yn gymharol fach. Dywed y Trysorlys ein bod yn gwneud cyfraniad net o £8.4 biliwn y flwyddyn, sy’n llai nag 1 y cant o holl wariant y Llywodraeth. Felly, gadewch i ni edrych ar hyn yn rhesymol. Dyna faint ein cyfraniad. Dyna faint y swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel: 1 y cant o holl wariant Llywodraeth y DU, digon i ariannu’r GIG ar draws y DU am 19 diwrnod y flwyddyn.

Nawr, rwy’n meddwl ein bod wedi cael ymgyrch refferendwm gyfan gwbl anonest ac annymunol, ac yn goron arni cafwyd y lluniau ‘chwiban y ci’ gwarthus a ffiaidd o Nigel Farage yn sefyll o flaen posteri o ffoaduriaid, gan apelio at yr elfennau mwyaf gwael o anobaith pobl a achoswyd gan wleidyddiaeth caledi. Rwy’n credu y dylai UKIP fod â chywilydd llwyr ohonynt eu hunain am y lefel isel o wleidyddiaeth y maent wedi’i gyflwyno i’r ymgyrch hon.

Wel, mae gan y bobl ar garreg y drws, David Rowlands, gwynion dilys—cwynion dilys—ac nid yw gwleidyddiaeth y gwter a gafwyd gennych chi yn gwneud dim i ddod ag atebion i broblemau pob dydd—[Torri ar draws.] Os ydych am ymyrryd, codwch ar eich traed, ond nid yw brygawthan fel pysgodyn aur yn gwneud unrhyw les i neb. Mae pobl ar garreg y drws yn wirioneddol ofnus, ac rydych yn chwarae gyda’r elfennau gwaethaf a mwyaf gwael, a dim o’r—

Wel, nid oedd hynny’n werth aros amdano mewn gwirionedd, oedd e? [Chwerthin.] Rwy’n gwrando ar y bobl ar garreg y drws. Rwy’n cael trafodaethau hir a phoenus gyda phobl ar garreg y drws yn egluro wrthynt fod y problemau a wynebwn—ac mewn etholaethau fel Llanelli, rydym yn wynebu llwyth ohonynt—sy’n ymwneud ag ardaloedd wedi’u gadael ar ôl oherwydd y model economaidd sydd gennym yn y wlad hon, ac nid oes dim o hynny’n mynd i gael ei helpu drwy dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Neil Hamilton wedi siarad am weithgynhyrchu ceir y prynhawn yma. Yn Llanelli mae gennym ffatri gweithgynhyrchu ceir lwyddiannus, sy’n eiddo i gwmni tramor. Mae gennym chwaer ffatri mewn rhan arall o’r UE. Os ydym yn gadael, a ydym o ddifrif yn dweud bod y penderfyniadau yn y tymor canolig a’r tymor hir ynglŷn â buddsoddi cyfalaf sydd i’w gwneud gan bencadlys y gwaith hwnnw yn mynd i ffafrio ffatri y tu allan i’r bloc masnachu gyda thariffau neu y tu mewn i’r bloc masnachu heb dariffau? Nid yw pobl yn derbyn hynny. Rydych yn defnyddio gwleidyddiaeth anonest. Felly, gadewch i ni fod yn glir fod y—

Os mai’r cwmni y mae’n siarad â hwy yw Ford, onid yw’n ymwybodol fod gan Ford ffatri yn y wlad hon—yn y DU o leiaf, yn Southampton—a aeth yn lle hynny, a gaeodd yn Southampton, a symud i Dwrci, a thalwyd amdani ag arian yr Undeb Ewropeaidd, a dalwyd gan ein trethdalwyr ein hunain?

Rwy’n sylweddoli ei fod yn newydd i’r rhannau hyn, ond nid oes gan Ford ffatri yn Llanelli, ac mae’r grymoedd rydych yn eu disgrifio yn rymoedd byd-eang—grymoedd byd-eang rydym wedi’n harfogi’n well i ymdrin â hwy drwy fod yn rhan o floc masnachu cryf.

Felly, nid yw addewidion annidwyll yr ymgyrch i adael ynglŷn â’r hyn y byddent yn ei wneud gyda mynydd tybiedig o arian yn werth y papur y cawsant eu hysgrifennu arno.

Felly, daw hynny â mi at yr ail o’r dadleuon a glywsom yma gan yr asgell dde, ac nid y ffaith fod yr UE wedi sicrhau heddwch yn Ewrop dros y 70 mlynedd diwethaf, ond ein haelodaeth o NATO. Ac wrth gwrs, mae’r addewid o amddiffyniad milwrol Americanaidd wedi bod yn allweddol yn ystod y rhyfel oer, ond mae heddwch yn ymwneud â mwy nag absenoldeb rhyfel. Adeiladwyd tair cenhedlaeth o heddwch ar haenau o hyder a dealltwriaeth rhwng pobloedd ac yn hollbwysig—yn hollbwysig—ar y sefydliadau i ddatrys gwahaniaethau. Ar fy ngwyliau darllenais drwy lyfr hanes grymus Christopher Clark am y cyfnod yn arwain at y rhyfel byd cyntaf, ‘The Sleepwalkers’. Mae’n nodi mai un o’r rhesymau pam nad arweiniodd cythrwfl economaidd yr argyfwng yn ardal yr ewro at ymladd, er bod digwyddiadau 1914 wedi gwneud hynny, oedd bodolaeth sefydliadau goruwchgenedlaethol pwerus. Trwy fod yn rhan o’r UE, rwy’n falch ein bod wedi chwarae rhan mewn cynghrair sydd wedi dwyn sefydlogrwydd a ffyniant i gyfandir sydd â hanes o ansefydlogrwydd. Nid damwain mo hynny. Canlyniad integreiddio amyneddgar a phoenus ydyw: economaidd, democrataidd ac ie, biwrocrataidd. Ond rhowch gyfarwyddebau i mi yn lle demagogiaeth unrhyw ddiwrnod.

Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Yfory bydd cyfle i bob dinesydd dros 18 oed o bob rhan o’r DU benderfynu a ydym yn parhau i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu a ydym yn dod yn annibynnol unwaith eto. Democratiaeth yw hyn. Gall pobl benderfynu a gallant ddewis drostynt eu hunain. Ni fydd yn fawr o syndod i neb fy mod yn credu bod Cymru yn well ei byd allan o’r UE. Bydd fy nghyd-Aelodau yn cyflwyno’r dadleuon economaidd, y dadleuon ynglŷn â diogelwch a’r dadleuon gwleidyddol pam y byddai Cymru ar ei hennill y tu allan i’r UE.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar y dadleuon iechyd dros adael. O dan y gyfraith Ewropeaidd, mae Llywodraethau a dinasyddion o wledydd eraill Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ad-dalu’r DU am y gost o ddarparu triniaeth GIG i bobl y maent yn gyfrifol amdanynt, yn union fel y mae’r DU yn ad-dalu gwledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir am y gost o ddarparu triniaeth i bobl rydym yn gyfrifol amdanynt. Fodd bynnag, mae ffigurau a gafwyd gan yr AS Llafur, John Mann, yn dangos diffyg enfawr i’r DU. Talodd y DU y swm anhygoel o £674 miliwn i wledydd Ewrop am eu costau iechyd y llynedd, ond £49 miliwn yn unig a gawsom yn ôl. Rydym yn rhoi cymhorthdal ​​tuag at ofal iechyd gwledydd eraill yr UE. [Torri ar draws.] Mae’n wir.

Na, Huw, am fy mod i’n ceisio mynd drwy rywbeth. A yw hynny’n iawn?

Fodd bynnag, a yw’n iawn fod pobl y tu allan i’r Deyrnas Unedig nad ydynt yn talu treth ac yswiriant gwladol yn cael parhau i fanteisio ar ein gwasanaeth gofal iechyd rhad ac am ddim, neu a ddylem fynnu y dylai’r rhai sy’n byw y tu allan i’r DU gael yswiriant iechyd? A’r bygythiad mwyaf i’n GIG yw cyfarwyddebau’r UE. Yn 2011 cyflwynodd yr UE gyfarwyddeb gofal iechyd y rhybuddiodd ASau Llafur y gallai arwain at dranc y gwasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus. Mae trafodaethau’n parhau ar bartneriaeth fasnach a buddsoddi arfaethedig yr UE neu’r cytundeb TTIP arfaethedig gydag UDA, a allai effeithio’n ddifrifol ar y GIG ac arwain at breifateiddio ein gwasanaeth iechyd gwladol.

David Rees a gododd—

Yn ddiweddar rhybuddiodd ‘The British Medical Journal’ mai’r risg i’r GIG fyddai na allai byth fforddio dod â gwasanaeth yn ôl yn fewnol ar ôl ei roi allan ar gontract ac mae uwch-gwnsleriaid y frenhines wedi rhybuddio bod TTIP yn creu risg real a difrifol i benderfyniadau Llywodraeth y DU yn y dyfodol mewn perthynas â’r GIG. Os ydym yn parhau i fod yn yr UE, golyga hyn y bydd cadw’r GIG mewn dwylo cyhoeddus yn fwyfwy anodd. Ac mae gwleidyddion Llafur ar bob lefel a’r undebau llafur i gyd wedi ymosod ar TTIP, ac eto mae’r un gwleidyddion yn dadlau y dylem aros yn rhan o’r UE.

Nid yw’r UE yn gallu diwygio. Yn wyneb y posibilrwydd o adael yr UE, ni allent hyd yn oed gytuno ar y newidiadau pitw y ceisiodd ein Prif Weinidog llywaeth eu hennill. Mae’r UE o dan ddylanwad y corfforaethau mawr ac arian mawr. Mae hyn yn amlwg o’r trafodaethau TTIP a chyflwyno llawer o ddeddfau sy’n tanseilio’r GIG. Mae swyddogion yr UE wedi gosod cyfyngiadau drud a helaeth ar ddatblygu cyffuriau canser, gyda’r gyfarwyddeb treialon clinigol yn creu problemau difrifol, ac yn oedi’r gwaith o gynnal profion ar gyffuriau sy’n achub bywyd.

Bydd y llys Ewropeaidd yn gwneud defnydd cynyddol o’r siarter hawliau sylfaenol i reoli mwy ar iechyd y cyhoedd os byddwn yn pleidleisio dros aros. Mae parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn berygl clir a real i fodolaeth ein GIG. Rwy’n dweud: peidiwch â gadael i Frwsel gymryd rheolaeth ar ein GIG, peidiwch â chaniatáu iddynt fygwth diogelwch cleifion, ond yn anad dim, peidiwch â chaniatáu iddynt ddarostwng ein GIG i drachwant corfforaethau mawr yr Unol Daleithiau, a diogelwch ddyfodol ein GIG drwy bleidleisio dros adael yfory. Diolch yn fawr.

Mae ymgyrch refferendwm hir iawn ar fin dod i ben, diolch byth, ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn cytuno nad yw tôn, natur a chynnwys yr ymgyrch hon wedi bod yn hysbyseb arbennig o dda i ymwneud democrataidd. Wrth i’r ymgyrch wynebu ei horiau olaf, mae’n ymddangos bod yr ochr dros adael yn arbennig yn dymuno canolbwyntio ar ddau faes sylfaenol, sef mewnfudo a sofraniaeth. Yn anffodus, ar y ddau fater, mae’r ochr dros adael wedi ceisio eu gorau glas i beidio â gadael i’r ffeithiau fynd o ffordd stori dda. Clywyd y ffeithiau ar fater mewnfudo droeon, ac nid wyf yn dymuno treulio gormod o amser yn eu hailadrodd y prynhawn yma, heblaw i ddweud fy mod yn credu’n gadarn fod ymfudo wedi gwneud Cymru’n gyfoethocach mewn ystyr ddiwylliannol ac economaidd. Bydd yna bob amser her mewn cymdeithasau agored a democrataidd i sicrhau cydbwysedd rhwng amlddiwylliannedd ac integreiddio, ond nid yw termau dadl a thrafodaeth o’r fath ond yn ddefnyddiol pan gânt eu cynnal mewn ysbryd o oddefgarwch, yn hytrach na cheisio cynyddu ofnau’r ochr arall. Efallai y bydd cyd-destun o’r fath yn bodoli rhyw ddydd.

Hoffwn fynd i’r afael yn benodol â mater sofraniaeth, sy’n aml yn cael ei gyfuno’n fwriadol ag egwyddor democratiaeth gan lawer o’r rhai sydd eisiau i Brydain adael yr UE. Wrth wrando’n ofalus ar y rhai sy’n gwneud yr achos dros ailddatgan sofraniaeth y wladwriaeth, gelllid maddau i rywun am feddwl ein bod yng nghwmni Thomas Cromwell, yr holl ganrifoedd hynny’n ôl. Bryd hynny, roedd yna ddadleuon ynglŷn ag a oedd sofraniaeth y Senedd yn disodli’r ysgrythur; yn awr, mae’n fater o sofraniaeth seneddol yn erbyn rheoliadau’r UE.

Ni chafwyd erioed amser gogoneddus o sofraniaeth seneddol absoliwt, hyd yn oed yn ystod dyddiau’r ymerodraeth. Yn yr ugeinfed ganrif, yn dilyn dinistr rhyfel, cafodd cytuniadau rhyngwladol a oedd yn creu hawliau sylfaenol i unigolion a chonfensiynau byd-eang yn gwahardd hil-laddiad eu derbyn fel rhai cyffredinol a thu hwnt i’r hyn a elwid yn sofraniaeth unrhyw genedl neu wladwriaeth. Ac ar y cyfandir hwn, a olchwyd â gwaed dros lawer o’r ganrif ddiwethaf, penderfynodd cenhedloedd ddod at ei gilydd mewn ysbryd o heddwch ac undod. Ac ar y pwynt hwn, hoffwn bwysleisio fy mod yn ystyried yr awgrym y byddai i’r DU adael yr UE yn arwain at ryfel yn anneallus a di-chwaeth, ond peidiwch â gadael i neb fychanu’r ffaith fod yr Undeb Ewropeaidd wedi gosod y seilwaith ar gyfer heddwch sy’n gwneud rhyfel rhwng ei aelodau’n amhosibl.

O safbwynt Cymru, wrth gwrs, gallwn gymharu a chyferbynnu dau undeb gwahanol iawn rydym yn aelodau ohonynt. Mae’r DU yn seiliedig ar yr egwyddor fod y Senedd yn San Steffan yn oruchaf. Nid oes angen unrhyw gyfansoddiad ysgrifenedig arnom yma i wybod mai dyna’r realiti gwleidyddol yn wir. Yma mae gennym undeb anghyfartal, anwastad a adeiladwyd i bara, nid i ffynnu. Mae gan yr UE, er ei holl ddiffygion a’i amherffeithrwydd, a’r heriau y mae’n eu hwynebu, egwyddorion sybsidiaredd a chonsensws wedi’u hadeiladu i mewn i’w wead sylfaenol. I’r rhai ohonom sy’n caru Cymru, rhaid i ni ystyried lle y bydd y pŵer pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yfory. Bydd pleidlais dros adael yn gyfystyr â throsglwyddo swyddogaethau o’r bartneriaeth Ewropeaidd i ddwylo Whitehall, a fydd yn rhydd i wneud fel y mynn i gymunedau Cymru. Bydd pleidlais dros adael yn golygu bod Ewrop yn gadael Cymru ar ôl yng nghysgodion Palas San Steffan ym meddiant sefydliad wedi meddwi ​​ar hunanhyder newydd.

Nid wyf am ildio.

Mae ‘aros’ yn arwain at sicrhau’r cyfle gorau i’n cenedl gael dyfodol cenedlaethol ei hun mewn teulu priodol o genhedloedd. Diolch yn fawr iawn.

Bu’n ymgyrch hir, ac efallai mewn sawl ffordd, bydd pawb ohonom yn falch o weld ei chefn, beth bynnag yw’r canlyniad.

Ni allwch gnoi gwm pan fyddwch yn siarad â’r Cynulliad Cenedlaethol.

Diystyrwch unrhyw beth a ddywedwyd wrthych mewn man arall. Parhewch â’ch cyfraniad.

Diolch i chi, Lywydd. Ni fwriadwyd unrhyw amarch.

Caf fy nhemtio i ofyn: ble mae dechrau ar yr UE? Rydym wedi cael ein peledu â chymaint o ffeithiau a ffigyrau o’r ddwy ochr, y rhan fwyaf ohonynt yn gwrthdaro â’i gilydd wrth gwrs. Mae yna gymaint o agweddau ar y cwestiwn i’w hystyried. Rydym eisoes wedi trafod rhai ohonynt. Mae’n amhosibl cynnwys y cyfan ohono mewn un araith, felly cyfyngaf fy hun i’r mater y mae Aelodau Llafur yn aml yn ei godi, sef hawliau gweithwyr, ac maent yn gwbl gywir i wneud hynny. Ond yn fy marn i, rhaid i mi nodi nad oes unrhyw lefel o hawliau gweithwyr wedi’i hordeinio’n ddwyfol. Roedd gennym ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr yn y DU cyn i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, a bydd yn dal i fod gennym ar ôl i ni adael. Y cwestiwn yw: pa lefel o hawliau gweithwyr? [Torri ar draws.] Dyna yw’r cwestiwn yn wir, ond y pwynt yw hwn: mai mater yw hynny i Lywodraeth etholedig yn y DU ei benderfynu, nid criw anetholedig o fiwrocratiaid yr UE.

Os yw etholwyr y DU yn anghytuno â pholisïau cyflogaeth Llywodraeth etholedig y DU, gallant bob amser bleidleisio i gael gwared ar y Llywodraeth yn yr etholiad nesaf. Dyna yw’r hyn a elwir yn ddemocratiaeth, a dyna rydym wedi’i gael yn y wlad hon ers amser hir, ac mae bellach yn cael ei rwystro gan yr UE. Wrth gwrs, mae gan Aelodau Llafur bob cyfle i argyhoeddi etholwyr y DU ynglŷn â’r angen am raglen fwy adain chwith gan fod ganddynt yn awr arweinydd mor abl yn Jeremy Corbyn. Fy marn i ar hawliau gweithwyr yw bod yna ddwy fersiwn mewn gwirionedd. Ceir y fersiwn y mae’r Aelodau Llafur yn ei phedlera, sy’n dibynnu ar reoliadau a ddaw gan lywodraethau, a cheir fersiwn y byd go iawn, sy’n dibynnu ar alw a chyflenwad llafur yn y farchnad gyflogaeth. Yn senario’r byd go iawn, mae cyflogau ac amodau gwaith yn gwella wrth i’r galw am weithwyr gynyddu mewn diwydiant. Heb gyflenwad parod o lafur amgen, caiff penaethiaid eu gorfodi i dalu eu gweithwyr yn briodol, eu trin yn weddol dda a buddsoddi yn eu hyfforddiant hyd yn oed. Ond ers 1975, y tro diwethaf i ni bleidleisio mewn refferendwm Ewropeaidd, mae mwy na 200 miliwn o weithwyr wedi dod i mewn i farchnad lafur yr UE. [Torri ar draws.] Na. Yr effaith anochel fu ostwng cyflogau a gwaethygu amodau gwaith i weithwyr o Brydain. Mae mwy a mwy o dramorwyr yn cyrraedd ac yn cael eu defnyddio gan fusnesau mawr fel llafur rhad. Dyna un ffactor pwysig pam y mae cyflogau ar y pen gwaelod ar ei hôl hi, a pham y mae gennym yr hyn a elwir yn ‘ddiwylliant Amazon’. Mae’r realiti yn hunllef i weithwyr Prydeinig.

Nawr, mae Llafur wedi gwneud môr a mynydd ynghylch y bobl sy’n cefnogi’r ymgyrch dros adael. Wel, efallai ei fod yn griw brith o gymeriadau, ond mae’n anochel mewn refferendwm o’r fath fod rhai elfennau rhyfedd yn rhannu’r daith â chi. Rydych chi, y rhai sydd am aros, yn rhannu’r daith gyda David Cameron a George Osborne, penseiri caledi, fel rydych yn ein hatgoffa o hyd. Rydych hefyd yn rhannu’r daith gyda Goldman Sachs, J.P. Morgan, y Gronfa Ariannol Ryngwladol—a oes angen i mi barhau? Ar yr ochr sy’n ffafrio gadael, nid yn unig y mae gennych aelodau o UKIP a Cheidwadwyr—[Torri ar draws.]

Diolch i chi, Lywydd. Ar yr ochr sy’n ffafrio gadael, nid yn unig y mae gennych aelodau UKIP a’r Ceidwadwyr. Mae gennym hefyd bobl Llafur fel Frank Field, Gisela Stuart, John Mann a Dennis Skinner. Nid oes digon wedi’i wneud o’r ffaith fod David Owen, un o’r Ewroffiliaid mwyaf brwdfrydig tan yn ddiweddar, bellach yn argyhoeddedig ynglŷn â Phrydain yn gadael yr UE. Yn y pen draw, mae’n rhaid i chi benderfynu a ydych am ochri â’r gweithwyr neu’r rheolwyr.

I orffen, dyma ddau gyfweliad byr o ‘The Sunday Times’ flwyddyn neu ddwy yn ôl, sydd, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn egluro’r pwynt yn eithaf da yn fy marn i. [Torri ar draws.] Ie, wel mae’n rhaid iddo fod yn ddetholus—mae yna lawer o ddeunydd ar gael. Esgusodwch fi? Am bwynt asynnaidd.

Diolch. Yn gyntaf, y darn yn dyfynnu Darren Hunt, rheolwr cwmni adeiladu yn Scunthorpe. Dyma’i eiriau ef: ‘Mae’n anodd iawn cael pobl o Brydain i mewn. Mae’n ymddangos nad oes diddordeb gan bobl bellach mewn ennill cyflog drwy chwys eu hwyneb. Mae’n siomedig ein bod yn gorfod mynd i Ewrop i gael gweithwyr, ond nid oes gennym unrhyw ddewis. Y peth da am bobl dwyrain Ewrop yw bod ganddynt agwedd hen ffasiwn ac nid oes arnynt ofn gwaith caled. Nid ydynt yn poeni am weithio oriau hir ar benwythnosau ac maent yn barod i fwrw iddi.’

Felly, dyna safbwynt busnes. I gyferbynnu â hynny, dyma eiriau Eddie Sullivan, cogydd hyfforddedig 33 oed: ‘Rwyf wedi gweithio ers y diwrnod roeddwn yn 16 oed, ond erbyn hyn mae bron yn amhosibl dod o hyd i swydd dda yma. Roedd fy swydd ddiwethaf yn un ran amser mewn siop drydanol ar barc manwerthu. Cawn fy nhalu lai na £60 gros am 10 awr yr wythnos. Mae’r swyddi sydd i’w cael i’w gweld yn mynd i fewnfudwyr. Nid yw pobl leol yn cael cyfle. Mae cyflogwyr yn gwybod y bydd y tramorwyr yn derbyn unrhyw waith a byth yn cwyno na chwestiynu cyflogau, amodau—[Torri ar draws.]—Na, eisteddwch—

[Yn parhau.]—’a byth yn cwyno na chwestiynu cyflogau, amodau neu oriau.’

Felly, dyna ni. Ar ochr pwy rydych chi, chi waredwyr y dosbarth gweithiol? A ydych ar ochr y gweithwyr neu’r rheolwyr? Diolch.

Y bleidlais yfory yw’r penderfyniad pwysicaf i Brydain ei wneud ers cenhedlaeth. Bydd yn gosod cyfeiriad pendant ar gyfer ein gwlad, nid yn unig i’r genhedlaeth hon, ond i genhedlaeth ein plant hefyd. Mae’n hanfodol bwysig fod pawb sy’n bwrw eu pleidlais yn edrych ar y darlun hirdymor. Nid yw’r penderfyniad yn ymwneud â’r fan hon yn awr, ond bydd yn siapio’r 30 i 40 mlynedd nesaf o ddyfodol Prydain. Ni ddylai’r penderfyniad fod yn gystadleuaeth boblogrwydd rhwng gwleidyddion heddiw. Nid Boris neu Dave sy’n cyfrif, ond ein plant a’n hwyrion. Dyna pam y mae’n rhaid i bawb feddwl am hynny pan fyddant yn pleidleisio yfory.

Dyma pam rwyf am gyfeirio fy sylwadau at fy etholwyr yn Nhorfaen yn benodol ac at bobl Cymru yn ei chyfanrwydd. Yn Nhorfaen, rwyf am i chi feddwl yn galed am y rhagolygon ar gyfer eich plant a’ch wyrion. Hoffwn i chi gofio mai Brwsel, yn aml iawn, dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi sefyll gyda ni a’n plant pan oedd San Steffan wedi troi’i chefn a cherdded i ffwrdd. Meddyliwch am y prosiectau cyflogaeth fel Pontydd i Waith, sydd wedi arwain at £5.4 miliwn o gyllid yr UE ar gyfer darparu cyfleoedd a hyfforddiant i bobl ifanc yn Nhorfaen, neu arian yr UE sy’n helpu i ddarparu cymorth cyflogaeth achrededig yn lleol, megis yng nghanolfan Cwmbrân i bobl ifanc.

Os yw’r bleidlais yfory dros adael yr UE, beth fydd yn digwydd i’r math hwn o ymrwymiad parhaus i swyddi, sgiliau ac adfywio? A ydym eisiau dibynnu ar Farage, Gove neu Boris Johnson? Dyma’r bobl a drodd eu cefnau arnom, a roddodd y dreth ystafell wely i ni ac a fydd yn torri buddsoddiad fel mater o ideoleg. Gwn fod llawer yn poeni am gyflymder newid yn ein cymunedau, ond ni fydd pleidleisio dros adael yr UE yn ateb i’r pryderon hyn. Nid yw’r dadleuon ar fewnfudo gan yr ymgyrch dros adael yn ddim byd ond olew neidr.

Os telir cyflogau is i rai ar draul gweithwyr lleol, yr ateb yw cyflog byw gweddus—wedi’i orfodi a’i blismona’n briodol. Os ceir prinder sgiliau, yr ateb yw buddsoddi mewn hyfforddiant. Pan fydd y sefyllfa dai yn anodd, yr ateb yw cartrefi gweddus a fforddiadwy i bawb. Nid yw’r Cymoedd yn llawn—rydym wedi bod yn gwaedu pobl—mae ein poblogaeth wedi bod yn gostwng ers cenedlaethau. Rhaid i hynny ddod i ben os yw ein cymunedau yn mynd i oroesi. Ni allwn lywio ein ffordd drwy’r problemau a wynebwn drwy droi ein cefnau ar y byd a dymuno y bydd y problemau hynny’n diflannu. Rhaid i newid ddod, ond y ffordd orau o siapio’r newid hwnnw yw cadw ein sedd wrth y bwrdd Ewropeaidd.

I bleidleiswyr Cymru gyfan, rwy’n gofyn: pa fath o Gymru fyddwch chi’n pleidleisio drosti yfory? A fydd yn un sy’n croesawu’r £150 miliwn y mae Ewrop yn ei gynnig i fetro’r Cymoedd, neu’n un sy’n afradu’r buddsoddiad trawsnewidiol hwnnw? A fydd yn Gymru sy’n defnyddio’r £90 miliwn y mae Ewrop yn ei gynnig i gwblhau’r gwaith ar fand eang cyflym iawn ac yn mynd â Chymru gysylltiedig i mewn i’r unfed ganrif ar hugain, neu Gymru sy’n parhau’n gadarn yn yr ugeinfed ganrif?

A wnewch chi edrych ar y darlun hirdymor er lles eich plant a’ch wyrion? A ydych eisiau iddynt deimlo’n ymrwymedig i Ewrop rydd, ddemocrataidd a sefydlog—rhydd i deithio, astudio a gweithio yn yr economi rydd fwyaf ar y Ddaear, ac elwa o’r manteision enfawr y mae hynny’n ei gynnig? Neu a fyddwch yn cynnig ansicrwydd a dyfodol datgysylltiedig iddynt? A fyddant yn etifeddu Cymru wedi’i thorri i ffwrdd oddi wrth yr economi fwyaf yn y byd, ac a fyddwch yn gamblo gyda’u rhagolygon gwaith a’u ffyniant? Yfory, cofiwch pam y sefydlwyd yr UE a pham y mae ei sefydlogrwydd yn y dyfodol yn allweddol i’r dyfodol y bydd ein plant a’n hwyrion yn ei etifeddu. Cofiwch fod yr UE, yn anad dim, yn ymwneud â heddwch. Bydd UKIP yn dweud wrthych mai NATO sydd wedi cadw’r heddwch yng ngorllewin Ewrop ers 1945, ac maent yn gwadu rôl yr UE. Maent yn anghywir. Mae’n wir fod NATO wedi bod yn anhepgor yn y cylchoedd milwrol a gwleidyddol, ond mae’r UE wedi bod yn anhepgor hefyd, yn y meysydd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Mae cynghreiriau milwrol yn bwysig, ond ni allant gyflawni heddwch ar eu pen eu hunain. Roedd Ewrop yn 1914 yn fôr o gynghreiriau milwrol. Mae ein plant yn awr yn byw mewn Ewrop lle mae rhyfel rhwng gwledydd democrataidd Ewrop y tu hwnt i amgyffred, a hynny oherwydd bod ein UE wedi cysylltu dwylo, nid yn unig yn filwrol, ond yn gymdeithasol ac yn economaidd hefyd. Mae’r sefydlogrwydd hwnnw wedi rhoi 70 mlynedd o heddwch i ni. Peidiwch â gwadu’r cyfle gorau i gael 70 mlynedd arall o’r un peth i’n plant a’n hwyrion.

Os yw Prydain yn pleidleisio dros adael yfory, bydd yn bleidlais dros dorri buddsoddiad mawr iawn ei angen i fy etholaeth mewn swyddi, sgiliau a seilwaith, gan ein gollwng i bydew ansicrwydd economaidd a’n gwneud yn dlawd. Os yw Prydain yn pleidleisio dros adael yfory, yna rydym yn ansefydlogi’r UE ei hun, ac mae’r byd yn mynd ychydig yn fwy peryglus—efallai nad ar unwaith ac efallai nad i ni, ond i’n plant a’n hwyrion yn sicr. Felly, galwaf ar bawb i edrych ar y darlun hirdymor. Pan fyddwch yn sefyll yn y bwth pleidleisio, er bod y bleidlais yn gyfrinachol, ni fyddwch ar eich pen eich hun. Bydd dyfodol eich plant a’ch wyrion yn sefyll drws nesaf i chi. Peidiwch â gamblo â’r dyfodol hwnnw. Cadwch ef yn ddiogel.

Mae llawer wedi cael ei wneud, yn enwedig yn y Siambr hon, am y manteision i Gymru o’r hyn a elwir yn arian Ewropeaidd. Rydym wedi clywed Aelod yn dweud heddiw fod y £10 biliwn a roddwn i Ewrop yn gwbl amherthnasol. Ond pan fydd rhan o hynny’n dod yn ôl i Gymru, maent yn ei alw’n gwbl hanfodol i economi Cymru. Felly, nid yw un peth yn cyd-fynd â’r llall. Felly, a gaf fi geisio goleuo’r rhai sydd i’w gweld yn amddifad o’r gallu i amgyffred y ffaith syml iawn nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd? Yr arian y mae Cymru’n ei gael o Frwsel, fel gyda gweddill y DU, yw arian Prydain yn dod yn ôl i ni ar ôl i Frwsel fynd â mwy na 50 y cant i roi cymhorthdal i ​brosiectau ar draws tir mawr Ewrop gyfan. Mae’n dilyn felly, hyd yn oed i’r mwyaf di-glem ynghylch materion ariannol, os ydym am gadw’r holl arian hwn yn y DU, byddem i gyd yn elwa o gadw’r 50 y cant sy’n cael ei wario ar hyn o bryd gan Ewrocratiaid Brwsel. Mae’r pwys gormodol a roddir ar yr arian Ewropeaidd hwn yn aml yn arwain at y ddadl gyfeiliornus na fyddai Senedd Prydain, pe baem yn gadael y DU, yn rhoi ei chyfran deg i Gymru o’r £50 o fonws. [Torri ar draws.] Rwy’n galw hon yn ddadl gyfeiliornus gan fod rhaid bod y bobl sy’n ei lledaenu yn awgrymu bod y 40 o ASau sy’n cynrychioli Cymru yn San Steffan—gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn ASau Llafur wrth gwrs—yn ddirym i sicrhau nad yw Cymru yn wir yn cael ei chyfran deg o’r arian hwn. Ymhellach, a ydynt yn awgrymu bod y pedwar ASE sydd gennym yn y Senedd Ewropeaidd yn rym llawer mwy effeithiol na’r 40 rydym yn eu hanfon i San Steffan?

Yn olaf, ond nid yn lleiaf—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, na. Yn olaf, ond nid yn lleiaf, gadewch i ni osod yr arian Ewropeaidd hwn mewn persbectif go iawn. Ceir tystiolaeth o barodrwydd San Steffan i fuddsoddi yng Nghymru yn y ffaith fod Cymru yn derbyn tua £14.7 biliwn yn fwy gan Lywodraeth y DU nag y mae’n ei dalu mewn trethi. Mae hynny bob blwyddyn. Mae hyn, wrth gwrs, yn llawer mwy na chyfanswm yr arian y mae Cymru wedi’i gael o Ewrop dros yr 16 mlynedd diwethaf i gyd. Mewn unrhyw ddadansoddiad cywir a diduedd o’r ffeithiau, a heb unrhyw wleidyddiaeth plaid, mae’n dilyn y byddai Cymru ar ei hennill o adael yr archwladwriaeth Ewropeaidd hon.

O ran y mater hwn ynglŷn â’r archwladwriaeth Ewropeaidd, a gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn ei chael yn annealladwy fod y ddwy blaid a elwir yn bleidiau sosialaidd yn y Siambr hon yn cefnogi banciau mawr, busnesau mawr, ac elît gwleidyddol yn erbyn buddiannau’r dosbarthiadau gweithiol yng Nghymru?

Rwy’n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio ar ffeithiau ac nid ar brosiect ofn. Dylem ganolbwyntio ar brosiect—[Torri ar draws.]

Gyda llaw, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r Aelodau gnoi gwm—mae’n gweithio i Chris Coleman; efallai y dylem i gyd ddechrau.

Edrychwch, rwy’n meddwl y dylem ganolbwyntio ar y diddordeb cenedlaethol i Gymru, ac yn enwedig mewn perthynas â’r economi, rhaid i mi ddweud fy mod yn meddwl bod llawer ohonom yn iawn i ofni. Oherwydd, wyddoch chi, mae’n ffaith, onid yw—mae cyfansoddiad sectoraidd yr economi yng Nghymru yn wahanol? Mae gennym sector gweithgynhyrchu lawer mwy o faint, mae amaethyddiaeth yn bwysicach i ni, ac mae hynny’n arwain at batrwm masnachu gwahanol. Ni yw un o’r unig rannau o’r DU sydd â gwarged masnach sylweddol gyda’r UE. Fel y clywsom gan arweinydd UKIP, mae gan y DU ddiffyg masnach enfawr; nid yw’n wir am Gymru. Cymru, fesul y pen, sydd â’r gwarged masnach mwyaf gyda’r UE, ac o ganlyniad i hynny mae’n gwneud cyfraniad cadarnhaol hollbwysig i’n holl gynnyrch domestig gros. Hynny yw, os cofiwch eich economeg lefel A; wyddoch chi, Y = C + I + G + (X - M). Allforion net: yng Nghymru, mae gennym warged, sy’n cyfateb i tua 10 y cant o’n holl gynnyrch domestig gros o ran masnach mewn nwyddau. Rydym yn economi sy’n sensitif i allforio. Os yw’r gwarged masnach yn mynd i lawr, mae’n effeithio’n uniongyrchol ar ein cyfoeth economaidd a’n ffyniant. Gwelsom hynny eisoes, mewn gwirionedd, yn 2014. Cawsom gipolwg bach ar hynny; aeth allforion i lawr 11 y cant. Beth a ddigwyddodd? Cawsom—. Nid wyf am dderbyn rhagor o ymyriadau gennych. Beth a ddigwyddodd? Beth a ddigwyddodd o ganlyniad i hynny? Aeth twf gwerth ychwanegol gros i lawr yng Nghymru, iawn, gan fod perthynas uniongyrchol rhwng ein gwarged mewn masnach a’n heconomi yn ei chyfanrwydd.

Nawr, ni all neb wybod i sicrwydd beth fydd yn digwydd i’n heconomi o ganlyniad i Brydain yn gadael yr UE. Mae’r ymgyrch dros adael wedi cynnig pedair senario wahanol; nid ydym yn gwybod pa un a gawn. A dyna’r broblem. Mae ansicrwydd yn wenwynig i fusnes, i fuddsoddiad, yn enwedig mewn gweithgynhyrchu lle mae’r amseroedd arwain angenrheidiol ar gyfer prosiectau buddsoddi rhwng tair a saith mlynedd. Dyna’r allwedd. Nid yw’n fater o delerau masnach—wyddoch chi, pa un a fydd yn rhaid i ni dderbyn tariffau neu a fydd yna gwymp gyfadferol o ran y gyfradd gyfnewid; yr ansicrwydd fydd yn lladd economi Cymru o ganlyniad i adael yr UE. Ni chafwyd llawer o arbrofion pan fo cenhedloedd wedi troi cefn ar berthynas fasnachu lwyddiannus, ac mae yna resymau da pam. Pam y byddech y gwneud hynny? Yr unig enghraifft y gall economegwyr ddod o hyd iddi yw’r hyn a ddigwyddodd i economi’r Ffindir pan gollodd hanner ei hallforion i’r Undeb Sofietaidd dros nos yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd—cwymp o 55 y cant yn y buddsoddiad o ganlyniad i hynny—mewn gwirionedd, dyna’r cyfangiad economaidd gwaethaf a dyfnaf i wlad ddiwydiannol ers y 1930au. Dyna beth allai fod yn wynebu Cymru. Dyna’r ddadl economaidd; mae yna ddadleuon eraill yn ogystal, sydd yn nes at ein synnwyr o bwy rydym.

Pan fyddwn yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yng Nghymru, rydym yn ei chanu fel Ewropeaid Cymreig. Wyddoch chi, y Celtiaid oedd tadau Ewrop. Daethom i mewn, gyda llaw, drwy Asia Leiaf, a elwir erbyn hyn yn Dwrci. Do, crëwyd rhai o ogoniannau gwareiddiad Ewrop gennym ar y ffordd yn ein gorymdaith i’r gorllewin yn La Tène a Hallstatt. Mae Cymru ei hun yn gyfuniad o’r etifeddiaeth Geltaidd honno a gwareiddiad Rhufeinig. Pan fyddwn yn canu’r gân arall honno, ‘Yma o Hyd’, rydym yn golygu Ewrop hefyd, am ei bod yn cynnwys o’i mewn y chwedl wych am greu’r genedl Gymreig, mai Magnus Maximus—Macsen Wledig—llengfilwr Rhufeinig a aned yn Galicia a sefydlodd ein cenedl. Baner filwrol Rufeinig yw baner y ddraig goch y buom i gyd yn ei chwifio’n gynharach—’draco cocus’ mewn Lladin llafar a ddysgais, a chithau Neil Hamilton, yn Nyffryn Aman—y ddraig goch. A dau yn unig o’r mil o eiriau Lladin yn yr iaith Gymraeg yw’r rheini. Nid yn unig mai ni yw Prydeinwyr gwreiddiol yr ynysoedd hyn, ni yw’r Ewropeaid gwreiddiol hefyd. Nid yn unig eich bod yn ceisio ein torri i ffwrdd oddi wrth gyfandir, rydych yn ein torri i ffwrdd oddi wrth ein hanes ein hunain mewn gweithred o hunanladdiad torfol.

Os yw Prydain yn gadael yr UE yn erbyn ein hewyllys ein hunain, yna efallai y gallwn atgoffa ein hunain am eiriau Raymond Williams:

Rwyf am i’r Cymry—sy’n dal i fod yn bobl radical a diwylliedig—drechu, diystyru neu fynd heibio i Loegr.

Os yw Lloegr eisiau mynd ymaith i ryw arwahanrwydd ysblennydd, yna efallai fod arnom angen ymgyrch newydd, ‘ailymuno’, ond y tro hwn fel cenedl ein hunain yn Ewrop.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, mae yna gynnig gerbron Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma sy’n nodi tri phrawf ar gyfer penderfyniad i fynd â Chymru allan o’r Undeb Ewropeaidd, ac fel y dangoswyd yn ddiau yn ystod yr awr olaf, mae’r cynnig yn methu ar bob un o’r profion hynny y byddent am i ni eu derbyn. Ni fyddai Cymru yn gryfach, yn fwy diogel ac yn sicr ni fyddai’n fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel y mae’r cynnig hwn yn awgrymu.

Nawr, bydd y rhai ohonom sy’n cofio ac a oedd yn rhan o’r ymgyrch i sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cofio, er nad oedd gennym unrhyw gonfensiwn cyfansoddiadol o’r math a sefydlwyd yn yr Alban, roedd gennym grŵp trawsbleidiol a thraws-sector effeithiol iawn a ddadleuai’r achos yn y slogan a ddefnyddid ar y pryd—y byddai Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi llais cryfach i Gymru yn Ewrop. A diolch i waith llawer o’r Aelodau yma a llawer iawn o bobl eraill ar draws Cymru, cafodd y gosodiad hwnnw ei gyflawni’n uniongyrchol iawn. Mae ein hiaith a’n diwylliant yn gryfach drwy ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae ein sylfaen ymchwil mewn gwyddoniaeth ac yn ein prifysgolion yn gryfach oherwydd ein bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein hamddiffyniad cymdeithasol i weithwyr a defnyddwyr yn gryfach oherwydd y mesurau diogelu a sicrhawyd drwy’r Undeb Ewropeaidd.

Lywydd, mae Cymru’n fwy diogel hefyd. Mae ansawdd ein dŵr yn fwy diogel oherwydd camau gweithredu cyffredin ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Mae ansawdd a diogelwch bwyd yn fwy diogel oherwydd eu bod yn cael eu gwarchod gan ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae ein haelodaeth o’r rhwydweithiau ledled yr Undeb Ewropeaidd ar y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau yn gwneud ein dinasyddion yn fwy diogel yma yng Nghymru. Mae ein gallu i ymdrin â throseddau trawswladol a phla modern terfysgaeth, drwy beirianwaith Undeb Ewropeaidd, yn ein gwneud yn fwy diogel bob dydd. Dyna farn y ffigyrau uchaf yn y maes—pennaeth MI5, pennaeth MI6, pennaeth Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth, pump o gyn-benaethiaid NATO, pennaeth Europol ym Mhrydain, a’n cynghreiriaid yn Awstralia, Canada, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau.

Nawr, Lywydd, nid wyf yn rhy hoff o ddyfynnu gwleidyddion Ceidwadol, ond nid ydym wedi clywed llawer ganddynt y prynhawn yma. Felly, gadewch i mi wneud iawn am hynny, mewn ffordd fach iawn, drwy ailadrodd ac addasu yr hyn a ddywedodd Ruth Davidson, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd yr Alban, ddoe: os yw’n fater o ddewis rhwng gwrando ar yr holl bobl hynny a gwrando ar y rhai a gynigiodd y cynnig hwn, rwy’n mynd i bleidleisio dros yr arbenigwyr bob dydd o’r wythnos a ddwywaith ar ddydd Sul hefyd. Ac maent yn gwneud hynny, ac maent yn dweud hynny, am y rhesymau a fynegodd Lynne Neagle mor huawdl yma y prynhawn yma—am fod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn gwneud y dyfodol yn fwy diogel i’n plant a’n hwyrion hefyd.

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio? Rwy’n ofni bod yn rhaid i mi geisio’i helpu gan iddo gyfeirio at grŵp y Ceidwadwyr. Nid wyf yn siarad ar ei ran; rwy’n siarad fel unigolyn yn unig. Ond wrth siarad am fanteision yr Undeb Ewropeaidd, mae’r ochr sy’n ffafrio gadael yn dweud ei bod wedi ildio sofraniaeth hanfodol ac nad yw’n werth y pris, ond os ydym wedi ildio sofraniaeth hanfodol, sut ar y ddaear rydym yn cael refferendwm yfory ar aelodaeth?

Wel, dyna bwynt eithriadol o dda gan yr Aelod. Mae’n cysylltu â thrydedd ran y cynnig y cawn ein gwahodd i’w gefnogi y prynhawn yma, rwy’n credu: sef y byddem rywsut yn fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd; y byddem yn fwy llewyrchus heb y 500 o gwmnïau o wledydd eraill yr UE sydd â gweithfeydd yng Nghymru, ac yn darparu mwy na 57,000 o swyddi; y byddem, rywsut, yn fwy llewyrchus pe bai’r 70,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi elwa o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i’w helpu i gael gwaith—pe na bai hwnnw ar gael i ni; a phe bai ffermio yng Nghymru, rywsut, yn fwy llewyrchus heb y €300 miliwn o gyllid Ewropeaidd y mae’n ei gael bob blwyddyn. Mae’r syniad y byddai Cymru yn well ei byd y tu allan i Ewrop yn gynnyrch yr economeg fwdw a ddisgrifiwyd i ni y prynhawn yma. Yn ei lle, cawn gynnig dirwasgiad wedi’i wneud ein hunain a’i achosi gennym ni ein hunain, gweithred enfawr o ffolineb economaidd, encilfa rhag realiti cymhleth y byd rydym yn byw ynddo mewn gwirionedd; ac ar ei orau, encil i’r llinellau ochr ac i ymylon y byd go iawn; ar ei waethaf, encil i lurguniadau ffiaidd poster sy’n camfanteisio ar arswyd plant ac anobaith eu rhieni, wedi’u dal mewn digwyddiadau mor bell y tu hwnt i’w cyfrifoldeb neu eu rheolaeth eu hunain.

Felly, Lywydd, dyna ni: rydym am gael Cymru sy’n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy ffyniannus, ac rydym yn gwybod sut i gyflawni hynny hefyd. Mae Cymru’n elwa’n aruthrol o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru yn perthyn i Ewrop, mae angen i Gymru aros yn Ewrop ac yfory, gadewch i ni bleidleisio i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny.

Yn anffodus, munud yn unig sydd gennyf i ymateb, felly ni allaf—byddaf ar gael wedyn i barhau â’r drafodaeth. Ond rwy’n rhyfeddu at yr Aelodau eraill yn y tŷ hwn sydd â safbwynt gwahanol i fy un i ar yr Undeb Ewropeaidd. Eu gwangalondid a’u pesimistiaeth ynglŷn ag ysbryd a chymeriad y Cymry—eu bod, rywsut neu’i gilydd, yn analluog i wneud eu ffordd yn y byd. Am yr arbenigwyr honedig rydym i fod i ddibynnu arnynt: ai dyma’r un arbenigwyr a argymhellodd ein bod yn ymuno â’r ewro, yr un arbenigwyr a fethodd ragweld yr argyfwng bancio ac a oedd, mewn llawer o achosion, yn gyfrifol amdano? Pobl wych, onid ydynt? Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn hapus iawn i gael eu cyngor ar yr adeg hon.

Yn y bôn, yr hyn y mae’r ddadl hon yn ymwneud ag ef yw—mae rhwng democratiaeth a biwrocratiaeth. Y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau bob dydd: a ydych yn mynd i’w hethol ai peidio? Os ydynt yn gwneud y penderfyniadau anghywir, sut rydych chi’n cael gwared arnynt? Dyna oedd y cwestiwn roedd Tony Benn bob amser yn arfer ei ofyn pan fyddai’n cyfarfod â rhywun â phŵer: ‘O ble y cawsoch y pŵer? Sut rydych chi’n mynd i’w ddefnyddio ac os gwnewch gamgymeriad, sut rydym yn mynd i gael gwared arnoch?’ Sut rydych chi’n cael gwared ar y Comisiynwyr ym Mrwsel os ydynt yn gwneud set wahanol o benderfyniadau i’r rhai y maent yn eu gwneud yn awr, penderfyniadau rydych yn digwydd bod yn eu hoffi, mewn gwirionedd? Os nad ydych yn hoffi’r penderfyniadau a wnant, beth wnewch chi wedyn? Wedyn rydych chi’n gaeth. Gyda gwleidyddion etholedig, bob hyn a hyn o leiaf, gallwch bleidleisio i gael gwared arnynt, a dyna beth rydym yn mynd i’w wneud yfory: rhoi’r pŵer yn ôl yn nwylo’r bobl.

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch. Fe symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

Rwy’n galw’n gyntaf, felly, am bleidlais ar ddadl Plaid Cymru a’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 33, ymatal 4 ac 11 yn erbyn. Mae’r cynnig felly wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 33, Yn erbyn 11, Ymatal 4.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6029.

Symudwn yn awr felly at y cynnig yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37, 5 yn ymatal a 7 yn erbyn. Mae’r cynnig felly wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 37, Yn erbyn 7, Ymatal 5.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6032.

Symudwn ni ymlaen yn awr, felly, i’r cynnig yn enw Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 10, yn erbyn 38. Mae’r cynnig felly wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 10, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6030.

9. 9. Dadl Fer: Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE?

Rwy’n symud yn awr, felly, i’r ddadl fer. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn aros yn y Siambr ar gyfer y ddadl fer, os gwnewch chi adael yn dawel ac yn gyflym. Ac felly, rwy’n galw ar Julie Morgan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Julie Morgan.

Diolch. Diolch, Lywydd. Carwn ddweud ar ddechrau’r ddadl, fy mod wedi rhoi munud i Rhianon Passmore a munud i Joyce Watson ar ddiwedd fy araith. Teitl y ddadl a dewisais yw ‘Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE?’

Nawr, cyflwynais y ddadl hon cyn y digwyddiadau ofnadwy ddydd Iau diwethaf pan gafodd yr AS dros Batley a Spen, Jo Cox, ei lladd yn drasig yn ei hetholaeth. Rwy’n credu ei bod yn briodol i ni edrych ar y dylanwadau ar y farn gyhoeddus yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm yfory. Yn anffodus, rwy’n meddwl bod marwolaeth Jo wedi cael dylanwad ar y ddadl dros y penwythnos ac i mewn i’r wythnos hon. Roedd hi’n iawn ac yn briodol fod toriad wedi bod yn yr ymgyrchu dros y penwythnos, ond erbyn hyn rydym yn ôl wrthi’n go ffyrnig, fel y dangosodd y ddadl flaenorol, ond efallai fod yna dôn ychydig yn wahanol iddo ledled y DU.

Felly, rwy’n gobeithio, yng ngoleuni’r math o berson oedd Jo a’r hyn a ddywedodd ei gŵr, Brendan Cox, yn dilyn ei marwolaeth drasig, y byddai hi’n hapus ac yn awyddus i ni barhau â’r ddadl ar refferendwm yr UE a’r frwydr i aros yn yr UE oherwydd roedd hi, fel y dywedodd ei gŵr, yn cefnogi’r UE yn frwd ac yn ymgyrchu dros bleidlais ‘aros’. Felly, Lywydd, hoffwn ddweud ychydig am Jo, yn bersonol, a chysylltu ei chredoau wedyn â’r bleidlais y byddwn yn ei chael yfory.

Heddiw fyddai pen-blwydd Jo yn 42 oed, a chynhelir digwyddiadau ar draws y byd i gofio amdani. Roedd digwyddiadau yn Efrog Newydd, Brwsel, Buenos Aires, Dulyn, Llundain, a bydd teyrnged iddi yng Ngŵyl Glastonbury hyd yn oed. Mae yna wylnos golau cannwyll hefyd mewn elusen i fenywod yn Syria am fod Jo’n frwd ei chefnogaeth i hawliau menywod. Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael y digwyddiad trawsbleidiol i fenywod sy’n Aelodau o’r Cynulliad ar risiau’r Senedd ddoe, pan dynnwyd sylw at yr hyn y mae’r UE wedi’i wneud i fenywod oherwydd, fel y dywedais, credai Jo fod yr UE yn cyflawni ar gyfer menywod. A chynhelir digwyddiad ychydig i fyny’r ffordd yn awr—neu mae eisoes wedi digwydd—yn y Deml Heddwch ac Iechyd yma yng Nghaerdydd, yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ar y thema ‘Beth allwn ni ei wneud?’

Nid oeddwn yn adnabod Jo Cox, ond rwy’n teimlo fy mod yn ei hadnabod, ac fel y dywedodd un o fy nghydweithwyr yn ddiweddar, hoffwn pe bawn i wedi ei hadnabod. Rwy’n uniaethu â hi fel gwleidydd benywaidd ac fel mam, ac yn arbennig, gallaf ddychmygu’r cyffro a deimlodd, mae’n rhaid, wrth gyrraedd San Steffan ychydig dros flwyddyn yn ôl, ar ôl yr etholiad cyffredinol yn 2015. Gallaf gofio’r teimlad hwnnw pan gefais fy ethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn 1997. Rwy’n meddwl ein bod i gyd wedi’i deimlo, gwta chwe wythnos yn ôl, pan gawsom oll y wefr o gael ein hethol a dod i’r Siambr hon gyda’n cynlluniau i newid y byd. Mae dwyster yr hyn sydd wedi digwydd i’r holl obeithion hynny ac iddi hi fel unigolyn, rwy’n meddwl, yn fy nharo mor gryf, ond rwy’n credu mai’r pethau roedd hi’n credu ynddynt yw’r hyn sy’n rhaid i ni barhau â hwy.

Rhaid i mi ddweud, cefais fy nharo yn arbennig, wrth wrando ar yr ASau benywaidd presennol yn siarad am fod yn y Tŷ Cyffredin gyda Jo a sut roeddent i gyd yn arfer siarad am eu pryderon, ynglŷn â sut y maent yn sicrhau cydbwysedd yn eu bywyd teuluol, yn edrych ar ôl eu plant a gwneud gwleidyddiaeth, a’r euogrwydd mamol y mae hyn yn ei gynhyrchu, euogrwydd y mae llawer ohonom wedi’i deimlo. Mae’r drafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, yn y ffordd honno, yn taro tant gyda llawer ohonom. Yr hyn a ddaeth yn amlwg o’r darllediadau am fywyd Jo yw cymaint roedd hi’n caru ei theulu, ond roedd hi’n caru ei gwleidyddiaeth yn ogystal, ac nid oeddent yn gwrthdaro. Roedd yn ymgyrchydd brwd, ac roedd hi’n llawn o dosturi. Ymgyrchodd dros hawliau dynol, datblygu rhyngwladol, sefyllfa ffoaduriaid, sefyllfa pobl amddifad, a’i chefndir yn gweithio mewn sefydliadau anllywodraethol sy’n ymgyrchu, fel Oxfam. Wrth gwrs, rydym eisoes wedi clywed llawer am ei gallu i weithio ar sail drawsbleidiol, a dywedodd yr AS Ceidwadol Andrew Mitchell fod Jo yn

fenyw wirioneddol eithriadol y mae ei daioni a’i hymroddiad angerddol i werthoedd dyngarol wedi ysbrydoli pawb ohonom.

Dywedodd gŵr Jo, Brendan, ei bod hi, cyn iddi farw, yn gynyddol bryderus am dôn y ddadl yn ymgyrch refferendwm yr UE, ac rwy’n meddwl bod y teimladau hynny wedi cael eu hadlewyrchu yma y prynhawn yma yn y ddadl rydym eisoes wedi’i chael. Bedwar diwrnod cyn iddi gael ei lladd, ysgrifennodd Jo Cox erthygl yn rhybuddio yn erbyn y sbin ynglŷn â mewnfudo yn y ddadl ar yr UE. Ysgrifennodd

Ni allwn ganiatáu i bleidleiswyr gredu’r sbin mai pleidlais i adael yw’r unig ffordd o ymdrin â phryderon am fewnfudo.

Yn dilyn ei marwolaeth, yn ei deyrnged iddi yn Nhŷ’r Cyffredin, rhybuddiodd Stephen Kinnock fod ‘canlyniadau i rethreg’, a chredaf ei bod yn bwysig iawn i ni gofio hynny. Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn pan fyddwn yn sôn am faterion sensitif megis mewnfudo, gan fod canlyniadau i rethreg. Cyfeiriodd at y poster y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato’n gynharach heddiw a dywedodd y byddai Jo Cox wedi ffieiddio pe bai hi wedi byw i weld poster UKIP, a oedd yn dangos torf o ffoaduriaid yn dianc rhag y rhyfel cartref yn Syria fel ffordd o roi hwb i’r gefnogaeth i’r rhai sydd am adael y DU, ac:

Ni allaf ond dychmygu ymateb Jo pe bai wedi gweld y poster a gafodd ei ddadorchuddio oriau cyn ei marwolaeth—poster ar strydoedd Prydain a oedd yn pardduo cannoedd o ffoaduriaid diobaith, gan gynnwys plant newynog ac ofnus yn dianc rhag arswyd ISIS a bomiau Rwsia. Byddai wedi ymateb gyda dicter, ac wedi gwrthod yn gadarn y naratif bwriadol o sinigiaeth, ymraniad ac anobaith.

Ac rwy’n credu mai dyna yw’r dôn y mae’r refferendwm hwn wedi’i hannog, oherwydd mae mewnfudo wedi bod yn thema sydd wedi rhedeg drwy ymgyrch y refferendwm. Mae wedi cael sylw enfawr yn y papurau newydd, ar-lein ac yn y cyfryngau darlledu. Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi gweld y ddadl neithiwr ac fel y dywedodd Sadiq Khan yn nadl y refferendwm neithiwr, wrth yr ymgyrch dros adael, mewn perthynas â mewnfudo,

Nid prosiect ofn yw eich ymgyrch wedi bod, ond prosiect casineb.

Rwyf wedi bod allan yn ymgyrchu yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, a phan fyddaf yn siarad â phobl, rwy’n credu nad oes yna amheuaeth o gwbl fod tôn y ddadl wedi dylanwadu, ac yn dylanwadu ar farn pobl ynglŷn â mewnfudo. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn, pan fyddwn yn sôn am fewnfudo, pan fyddwn yn sôn am fewnfudwyr ac ymfudwyr, dylem feddwl am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl sy’n fewnfudwyr, sy’n ymfudwyr, sy’n byw yn y wlad hon. Beth yw eu barn am y ddadl hon? Beth yw eu hymateb? Nid oes amheuaeth o gwbl fod hyn yn effeithio ar bobl yn y sefyllfa honno. Maent yn teimlo nad oes neb eu heisiau yma. Mae pobl wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod yn ddinasyddion eilradd, ac rwy’n credu ei bod yn hollol warthus fod bodau dynol yn ein gwlad yn cael eu gwneud i deimlo fel hyn. Credaf ei bod yn bosibl cael dadl am fewnfudo, dadl iawn, gytbwys, ond nid yn y dôn y mae’r ddadl hon wedi’i fframio. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddichellgar, ac rwy’n credu ei bod wedi dylanwadu ar bobl pan fyddant yn ystyried sut y maent yn mynd i bleidleisio.

Hefyd, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael dadl sy’n seiliedig ar ffeithiau, a gwyddom fod y ffigurau sy’n cael eu rhoi, a thôn y ddadl, wedi’i gorliwio’n helaeth. Yn ôl ffigurau o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, 5.8 y cant yn unig yw canran y dinasyddion a aned y tu allan i’r DU yng Nghymru, ac mae canran yr ymfudwyr o oedran gweithio yng Nghymru yn 8 y cant o’r boblogaeth. Mae hynny’n cynnwys ceiswyr lloches, ffoaduriaid, 25,000 o fyfyrwyr rhyngwladol—a gwyddom cymaint rydym am annog myfyrwyr rhyngwladol yma—ac wrth gwrs, ymfudwyr sy’n gwneud gwaith sgiliau uwch a gwaith heb sgiliau. Gwyddom fod gweithwyr mudol yn debygol o fod yn iau, maent yn fwy tebygol o fod wedi’u haddysgu’n well, ac maent yn fwy tebygol o fod yn gyflogedig na’r boblogaeth a aned yn y DU. Rwy’n meddwl bod y ffigurau hynny’n dangos cyfraniad enfawr ymfudwyr i Gymru ac i’r DU.

Mae miloedd o ymfudwyr yn gweithio yn y GIG. Mae miloedd o ymfudwyr yn gweithio yn y diwydiant gofal. Beth pe baent i gyd yn penderfynu mynd adref am eu bod wedi cael llond bol ar y ffordd y cânt eu trin yn y wlad hon, am eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd? Wrth gwrs, ar draws y DU, mewnfudwyr o’r UE yw 10 y cant o feddygon cofrestredig, a gwyddom pa mor anodd yw hi i gael meddygon. Beth sy’n mynd i ddigwydd os ydynt yn penderfynu eu bod eisiau mynd adref? Hefyd, pam ddylai ymfudwyr sy’n byw yma gael y bai am unrhyw ddiffygion ym maes tai neu ysbytai neu ysgolion? Oherwydd dyna beth y mae pobl wedi’i lyncu o’r propaganda dichellgar hwn—maent yn dweud, ‘Maent yn cymryd ein tai; maent yn cymryd ein lleoedd mewn ysgolion.’ Rydym wedi gweld cyfnod estynedig o galedi gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, sydd wedi golygu ei bod yn anochel y gwelwn fwy o doriadau eto i wasanaethau awdurdodau lleol, ond nid yw’n fai ar ymfudwyr os nad oes digon o dai cyngor i’w cael, neu os yw llyfrgell leol yn cau. Mae hynny yn nwylo’r Llywodraeth—ein Llywodraethau ni yma yn y DU.

Mae’r dadleuon eraill sydd wedi cael eu gwyntyllu’n gadarn iawn yma y prynhawn yma yn ymwneud â sofraniaeth—y syniad y dylem adfer ein rheolaeth ar ein ffiniau, a ninnau eisoes yn gwybod nad ydym yn rhan o gytundeb Schengen, felly mae gennym reolaeth dros ein ffiniau—a hefyd y syniad fod swyddogion anetholedig yn yr UE yn gwneud polisi yma yn y DU, sy’n hollol anghywir, oherwydd ni all unrhyw beth basio oni bai ei fod wedi’i gytuno gan Gyngor y Gweinidogion, a gaiff eu hethol. Mae’n chwerthinllyd fod gwlad sy’n dal i feddu ar Dŷ’r Arglwyddi yn meddwl bod yr Undeb Ewropeaidd yn fiwrocrataidd ac yn anetholedig, oherwydd, mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf o’r gwledydd eraill yn meddwl ei fod yn hollol anhygoel fod gennym Dŷ’r Arglwyddi yma.

Felly, o ran gwaith a’r syniad fod mewnfudwyr yn mynd â swyddi pobl, dyma chwedl arall eto sydd wedi’i pharhau’n ddiddiwedd. Mae mwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru yn awr nag ar unrhyw adeg arall, ac mae mwy o bobl a aned yn y DU yn gweithio yn awr nag erioed. Mae hynny’n wir am Gymru a’r DU. Mae ymfudwyr yn rhan o’r llwyddiant economaidd. Felly, mae’r syniad hwn fod ymfudwyr a mewnfudwyr yn mynd â swyddi yn nonsens, ac rwy’n gobeithio, pan fydd pobl yn pleidleisio yfory, y byddant yn ystyried y ffeithiau pwysig hyn ac na chânt eu dylanwadu gan y sbin dichellgar sydd wedi’i roi ar yr holl ffeithiau hyn, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod rhaniad yn y wlad—rhaniad yn y ffordd y mae pobl yn mynd i bleidleisio. Beth bynnag fydd y canlyniad, rydym yn mynd i gael gwaith adfer cydlyniant cymunedol yn fy marn i. Ond rwy’n gobeithio y bydd pobl, wrth iddynt bleidleisio, yn meddwl am eu plant a’u hwyrion, fel y dywedwyd y prynhawn yma yn y ddadl, ac am obeithion a chyfleoedd ar gyfer eu plant a’u hwyrion, ac yn meddwl hefyd am y cyfraniad enfawr—y cyfraniad economaidd, y cyfraniad diwylliannol—y mae pob person sy’n byw yma yn ein gwlad, yng Nghymru, yn ei gyfrannu. Pan fyddwn yn dweud pethau, gadewch i ni gofio hynny.

Diolch, Lywydd. Gyda thristwch mawr rwyf finnau hefyd yn siarad yma heddiw am ddylanwadau ar y farn gyhoeddus. Y drasiedi yma yw bod hyn wedi bod yn rhagweladwy o ran y newid ar draws y cyfryngau yn arbennig o ran y papurau newydd tabloid sydd wedi tanio’r hiliaeth ddichellgar hon yn wir—gadewch i ni ei alw yr hyn ydyw. Rwy’n teimlo’n drist iawn, o ganlyniad i’r math hwn o gamwybodaeth, o ganlyniad i’r methiant i drosglwyddo ffeithiau’n effeithiol ynglŷn â mewnfudo, fod barn arbenigol bron bob corff economaidd y gwyddys amdano wedi cael ei diystyru o blaid ras ddichellgar i gyrraedd y gwter ar ran y blaid gyferbyn, nad yw hyd yn oed wedi trafferthu dod i’r ddadl fer hon heno neu’r prynhawn yma a dweud y gwir—. Yn bersonol, rwy’n teimlo ei bod yn drueni mawr fod hyn wedi cyfrannu at gynyddu rhaniadau yn ein cymdeithas, at ddiffyg cydlyniad cynyddol yn ein cymdeithas, a’r cynnydd mewn casineb hiliol sydd bellach wedi’i brofi gan y data mewn gwirionedd o ran yr hyn sy’n dod drwodd.

Mae’r lluniau di-chwaeth y cyfeiriodd sawl un atynt heddiw yn dal i fod allan yno; nid ydynt wedi cael eu tynnu’n ôl hyd y gwn. Gwn fod Unsain yn rhoi camau ar waith gyda’r heddlu metropolitanaidd mewn perthynas ag ysgogi casineb hiliol, ond yr hyn sy’n drasiedi yn fy meddwl i yw bod hyn mewn gwirionedd yn eithaf normal ac mae wedi cael ei normaleiddio. Mae tôn y ddadl hon wedi cyrraedd lle mor ofnadwy fel ein bod yma mewn gwirionedd yn y fan hon yn sôn am luniau o ffoaduriaid yn cael eu defnyddio fel porthiant gwleidyddol, fel y gallwn dargedu barn mewn gwirionedd yn seiliedig ar ffeithiau ffug ynglŷn â mewnfudo a dadl ffug ynglŷn â beth y mae hyn i gyd yn ymwneud ag ef.

Iawn, diolch. Felly, yn lle porthi’r materion hyn sy’n ymwneud â mewnfudo ac anwybyddu’r ffeithiau, y cyfan y byddwn yn ei ddweud, i orffen fy sylwadau yw hyn: er mwyn anrhydeddu’r cof am Jo Leadbeater—Jo Cox—a oedd yn sefyll dros driniaeth gyfartal ac achosion dyngarol, cymorth i ffoaduriaid a chyfryngau teg, mae’n rhaid i ni ddewis cydweithio a gweithio o fewn yr UE, nid y tu allan iddo. I ddefnyddio ei geiriau, rydym i gyd yn llawer gwell pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd na phan fyddwn yn rhanedig ar wahân, ac rwy’n credu bod hwn yn ddatganiad addas i ni ei ystyried ac i Gymru ei ystyried wrth i ni fynd ati i bleidleisio yfory.

Diolch i Julie Morgan, yn gyntaf, am gyflwyno’r ddadl hon ac yn ail, am roi munud i mi, a cheisiaf gadw ati. Rwyf fi, fel yr holl gyd-Aelodau sy’n b​resennol yn awr, eisiau talu teyrnged i Jo Cox. Cawsom i gyd ein syfrdanu gan yr hyn a ddigwyddodd, ond rydym hefyd, rwy’n gobeithio, wedi cael ein hysbrydoli gan yr hyn a adawodd ar ôl, ac rydym yn awyddus i gymryd yr hyn y credai ynddo a’r hyn y mae hi, gobeithio, wedi’i adael ar ôl fel nod, fel catalydd ar gyfer newid mewn trafodaethau gwleidyddol yn y dyfodol.

Nid oes amheuaeth nad yw’r drafodaeth wleidyddol wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn ymgyrch y refferendwm hwn, ond mae newid wedi digwydd. Y tristwch yw bod rhywun wedi gorfod marw er mwyn i’r newid hwnnw ddigwydd. Rwy’n credu—ac rwy’n siŵr fod pawb arall yma hefyd yn credu—mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud, beth bynnag fo’r canlyniad yfory, yw symud ymlaen i ddathlu’r amrywiaeth y mae’r gwahanol ddiwylliannau ac unigolion yn eu cyfrannu i’n cymdeithas. Mae’n rhaid i ni wneud addewid yma, heddiw, ar yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Jo, i beidio byth â hybu rhaniadau ac ofn, ond i uno gyda’n gilydd a symud ymlaen mewn gobaith a chariad.

Galwaf nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i aros a chlywed y ddadl fer hon. Roeddwn i’n meddwl bod cyfraniad Julie Morgan yn gwbl nodweddiadol feddylgar am y materion sy’n codi ac yn ymrwymedig i ddod o hyd i atebion ar gyfer y bobl sydd fwyaf o’u hangen.

Dechreuodd drwy sôn am fywyd Jo Cox, ac nid wyf yn credu bod unrhyw beth y gallwn ei ddweud a fyddai’n ychwanegu at y teyrngedau a roddwyd ddoe, ac eto yn y ddadl fer, i’w bywyd. Roeddwn i’n meddwl mai’r hyn y byddwn yn ei wneud yw meddwl, am funud neu ddau, am yr achosion y mae’r arian sydd wedi llifo i mewn yn dilyn ei marwolaeth—yr achosion y rhoddir yr arian hwnnw tuag atynt. Oherwydd mae’r arian hwnnw’n ffordd ddigymell y mae pobl sydd wedi’u cyffwrdd cymaint gan yr hyn a ddigwyddodd ac sy’n ei chael yn anodd gwybod beth y gallent ei wneud i ddweud unrhyw beth am eu hymateb iddo—mae cyfrannu ychydig o arian yn un ffordd y mae pobl yn teimlo y gallant wneud rhywbeth ymarferol, a cheir tri achos, fel y bydd pobl yn gwybod, y mae ei theulu eithriadol wedi penderfynu rhoi’r arian hwnnw tuag atynt.

Y cyntaf yw helpu gwirfoddolwyr i frwydro yn erbyn unigrwydd yn ei hetholaeth. Nawr cawsom ein hannog yn gynharach y prynhawn yma i wrando ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym ar garreg y drws. A phan fyddwn yn cwestiynu, fel y mae’n rhaid i ni, pam fod cymaint o bobl a fyddai mewn ffyrdd eraill yn rhannu llawer o bethau eraill y credwn eu bod yn bwysig yn bwriadu pleidleisio mewn ffordd wahanol i’r un y byddem yn ei obeithio yfory, yna—rwy’n meddwl, wrth i mi fynd o gwmpas yn curo drysau yn fy etholaeth ym mis Mawrth a mis Ebrill, po fwyaf y bydd pobl wedi’u gwahanu oddi wrth fywyd gweddill y gymuned o’u cwmpas, y mwyaf y maent yn teimlo nad oes ganddynt gysylltiad â phethau cyffredin a phrif ffrwd, yna’r mwyaf y bydd bobl yn debygol o ofyn i chi am y refferendwm a’r mwyaf tebygol y byddent o ddweud wrthych eu bod yn mynd i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Y clymau cymdeithasol sy’n ein cysylltu yn ein cymunedau yw’r un clymau cymdeithasol sy’n ein galluogi i deimlo’n hyderus i fod yn rhan o gymunedau, hyd yn oed y tu hwnt i’n rhai ni ein hunain. Mae’r gwaith y bydd yr arian yn ei wneud i helpu i wrthsefyll unigrwydd yn rhan o’r gwaith ar bwytho’r gwead cymdeithasol yn ôl at ei gilydd ar gyfer pobl sydd wedi’u datgysylltu oddi wrth gymdeithas gan effaith caledi, ond hefyd, ar gyfer pobl y soniodd Julie amdanynt sy’n dod i fyw yn ein cymdeithas ac sy’n aml yn ei chael yn anodd yn bennaf oll i deimlo bod croeso iddynt a bod ganddynt gysylltiadau y gallant adeiladu arnynt i greu dyfodol iddynt eu hunain ymhlith y gweddill ohonom, a bydd yr arian hwnnw’n eu helpu hwythau hefyd. A bydd yn eu helpu mewn ffordd y mae’r ail sefydliad y bydd yr arian hwnnw’n ei helpu yn ei esbonio’n dda iawn yn wir, oherwydd bydd yr arian yn mynd i HOPE not hate.

Fel y clywsom yn y Siambr hon y prynhawn yma, mae’n wir fod rhai o’r rheini sydd wedi ceisio perswadio pobl eraill i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn apelio at ofn a chasineb. Ni allwn greu dyfodol y byddem am ei weld i ni ein hunain neu’r rhai sy’n annwyl i ni yn seiliedig ar y ffordd honno o feddwl. Mae i deulu sydd wedi dioddef canlyniad yr hyn y gall casineb ei wneud yn uniongyrchol roi arian tuag at obaith, a gobaith ar gyfer y dyfodol, rwy’n meddwl bod hwnnw’n benderfyniad hollol eithriadol, ac mae’n cysylltu’r ffordd y mae pobl sy’n teimlo ar wahân i gymdeithas, ac felly’n agored i apêl fod yna ateb hawdd sy’n cynnwys beio rhywun arall am y trafferthion y maent ynddynt eu hunain yn—. Rwy’n credu bod dweud mai’r hyn sy’n rhaid i ni ei gynnig i’r bobl hynny yw gobaith iddynt eu hunain a’u cymunedau yn hytrach na chasineb tuag bobl eraill yn deyrnged wirioneddol i’w bywyd a’r hyn y mae wedi’i olygu.

Y trydydd sefydliad yw sefydliad White Helmets, sefydliad sy’n gweithredu, nid yn y wlad hon, heb sôn am ei hetholaeth, ond yn hytrach yn Syria—sefydliad sydd wedi achub 51,000 o fywydau pobl a gaethiwyd dan y rwbel sy’n deillio o fod dan fygythiad gwirioneddol o farwolaeth ac aflonyddwch. A’r trydydd ymdeimlad hwnnw o fod wedi’ch cysylltu, nid yn unig â bywyd pobl yn y gymuned sydd o’ch cwmpas, ond y ffordd y gall y gymuned honno fod wedi’i chysylltu at fywydau pobl sy’n dioddef pethau na allwn eu dychmygu bron, rwy’n meddwl mai dyna’r drydedd deyrnged hynod i’w bywyd, ond nid yn unig i’w bywyd hi, ond i’r pethau roedd hi’n eu hystyried yn bwysig yn ei bywyd, ac y byddai cymaint o bobl yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn uniaethu mor gryf â hwy.

Nawr, aeth Julie ymlaen i wneud ei chysylltiadau ei hun rhwng bywyd Jo Cox a’r penderfyniad sy’n mynd i gael ei wneud yn y wlad hon yfory. Yn ddiamau, mae’r cyhoedd wedi bod yn agored i amrywiaeth enfawr o wybodaeth yn ystod ymgyrch y refferendwm, a chymaint ohono’n hynod negyddol. Ond mae’r achos y byddem yn ei wneud, yr achos y byddai Llywodraeth Cymru am ei wneud, ac y byddai pobl eraill yn y Siambr hon yn dymuno ei wneud dros ddyfodol sy’n ein cynnwys yn yr Undeb Ewropeaidd yn un sy’n gyfan gwbl gadarnhaol. Mae bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Gymru yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.

Pan fyddwn yn meddwl am yr hyn a wyddom ynglŷn â sut y bydd pobl yn pleidleisio yfory, yna, yn ogystal â gwahaniaeth rhwng y bobl hynny sy’n teimlo’u bod wedi’u hynysu ac wedi’u torri i ffwrdd oddi wrth y bobl sy’n gallu byw bywydau cysylltiedig, bydd yna wahaniaeth, cyn belled ag y gallwn ddweud, rhwng penderfyniadau pobl hŷn, sy’n fwy tebygol o deimlo eu bod yn bell oddi wrth fywyd y gymuned, a sut y bydd pobl ifanc yn pleidleisio. Mae dyfodol yr Undeb Ewropeaidd i bobl ifanc yng Nghymru yn ymddangos i mi yn gwbl hanfodol o ran ei gwneud yn glir ein bod yn genedl yn y brif ffrwd yn Ewrop lle y gall ein pobl ifanc weithio, byw ac astudio mewn gwladwriaethau Ewropeaidd eraill, a gallu mynd, gallu mynd â chyfoeth y diwylliant sydd gennym yma yng Nghymru a dychwelyd i Gymru wedi’u cyfoethogi ymhellach gan y cyfleoedd y byddant wedi’u cael. Credaf mai’r ymdeimlad cadarnhaol hwnnw o beth yw bod yn Ewropead a ddylai fod wrth wraidd ein neges i bobl a pham rydym am iddynt bleidleisio yfory er mwyn i Gymru barhau i fod yn gysylltiedig mewn Undeb Ewropeaidd sy’n hanfodol i ffyniant presennol Cymru a’u ffyniant yn y dyfodol, sy’n hyrwyddo ac yn diogelu ein busnesau, addysg ein plant, ein hamgylchedd a’r gwasanaethau rydym yn dibynnu arnynt, sy’n amddiffyn hawliau ein gweithwyr, sy’n glir nad yw difrod amgylcheddol yn dod i ben gyda ffiniau gwledydd ac na ellir gwneud cynnydd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd er enghraifft, oni bai bod gwledydd yn gweithio gyda’i gilydd—Ewrop sy’n helpu i’n cadw’n fwy diogel ar adeg pan fo pawb yn teimlo ofnau dealladwy ynglŷn â diogelwch, Ewrop sy’n gweithredu gyda’i gilydd i fynd i’r afael â heriau mawr ein hoes ac sy’n gweithredu’n gadarnhaol i roi dyfodol i’n plant a’n cenedl o’r math y bydd y tri sefydliad y mae’r arian a godir er cof am Jo Cox yn ei wneud yn ei rhan hi o’r byd ac ar draws y byd yn gyfan. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet, a daw hynny â’n trafodion ni heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:43.