Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

15/06/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a’r cwestiwn cyntaf, Jayne Bryant.

Prosiectau Seilwaith Ynni Mawr

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision economaidd prosiectau seilwaith ynni mawr yng Nghymru? OAQ(5)0008(EI)

Gwnaf. Mae prosiectau seilwaith ynni mawr yn hynod fuddiol i economi Cymru. Ynni yw un o’n hanfodion economaidd pwysicaf. Mae gennym y potensial yng Nghymru i sicrhau buddsoddiad o £50 biliwn mewn cynhyrchu trydan carbon isel dros y 10 i 15 mlynedd nesaf.

Yn gyntaf, hoffwn groesawu Ysgol Uwchradd Casnewydd yn fy etholaeth i’r Siambr heddiw, i gadw llygad arnom. Mae morlynnoedd llanw yn creu ynni tragwyddol, glân a gwyrdd, mor gyson â’r llanw y mae’n dibynnu arno. Fel prosiectau seilwaith ynni ar raddfa fawr, gyda chynlluniau i adeiladu morlynnoedd llanw yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, byddant hefyd yn creu cannoedd o swyddi. A fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y prosiectau hyn yn digwydd, ac yn trafod ffyrdd o ddefnyddio’r gweithlu lleol er mwyn i’r manteision gael eu teimlo yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd?

Yn sicr, a diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’i diddordeb brwd yn y pwnc hwn. Gallai’r math o ddatblygiad rydym yn sôn amdano gynnig gyrfaoedd gydol oes i’r bobl ifanc sy’n ymuno â ni yn yr oriel heddiw, o etholaeth yr Aelod. Rydym yn cydnabod y cyfle y mae cynhyrchu ynni’r llanw yn ei roi i economi Cymru, ac rwy’n gobeithio cael cyfarfod cynnar gyda morlyn llanw bae Abertawe i drafod agweddau economaidd y prosiect. Nawr, gydag adolygiad annibynnol Llywodraeth y DU o'r morlyn llanw ar y gweill, mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd â Tidal Lagoon Power a Llywodraeth y DU i sicrhau bod busnesau Cymru, a’r economi leol, yn benodol, yn cael y budd mwyaf o’r prosiect.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth o bob ochr i’r Cynulliad yn yr ymdrechion hyn? Oherwydd yr hyn y mae ynni’r llanw yn ei gynnig i ni yw cyfle i fod yn flaengar, arwain y byd yn y pen draw ar harneisio’r ffynhonnell bwerus hon o ynni, a’r beirianneg a’r sgiliau sydd eu hangen i’w ddatblygu. Ac yn arbennig, os na fwrir ymlaen â’r morlyn yn Abertawe, os nad yw’r prosiect hwn yn llwyddiannus, dylem adnewyddu ein hymdrechion i weld a datblygu lle y bydd y dechnoleg hon yn effeithiol o amgylch arfordir Cymru.

Ie, a diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a hefyd am y gefnogaeth i’r cynllun hwn ar draws y Siambr. Mae’r sector ynni a’r amgylchedd yng Nghymru yn hynod o bwysig i’n dyfodol. Ar hyn o bryd, mae’n cyflogi tua 58,000 o bobl ac yn darparu cyfleoedd i fwy na 2,000 o gwmnïau, gyda throsiant o fwy na £2.3 biliwn. Wrth i ni ddatblygu strategaeth economaidd newydd i Gymru, un yn seiliedig ar sylfaen ganolog o ffyniant a diogelwch, rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod diogelwch ynni yn greiddiol i’r strategaeth honno.

Rwy’n cytuno’n llwyr â’r sylwadau a wnaed eisoes ar Tidal Lagoon a’r potensial i Gymru, yn economaidd ac fel arweinydd byd-eang yn y ffynhonnell hon o greu ynni. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod seilwaith ynni mawr yn aml yn cael ei ddiffinio yn nhermau cynhyrchu ynni, ond hoffwn ofyn i’r Gweinidog pa ystyriaeth hirdymor a roddir i arbed ynni fel seilwaith ynni mawr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru i’w chanmol am ei chefnogaeth gadarn i fentrau arbed ynni sy’n targedu cwsmeriaid domestig a busnesau, a sefydliadau yn y sector cyhoeddus; y buddsoddiad cynyddol ym menter Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd; y wybodaeth, y cyngor a’r cymorth drwy Cymru Effeithlon; cymorth i fusnesau drwy Busnes Cymru, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru yn gwybod yn fwy na’r mwyafrif—mewn gwirionedd, maent yn cyfeirio ato yn eu strategaeth ddiweddar—fod y bwlch sydd i’w gau rhwng ein huchelgais a’r realiti mewn perthynas ag arbed ynni yn fawr. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld unrhyw rôl i ddiffinio arbed ynni fel seilwaith mawr fel un ffordd o gau’r bwlch hwnnw, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, helpu i ddatgarboneiddio drwy leihau’r angen i adeiladu mwy o orsafoedd pŵer, a chynhyrchu capasiti?

Yn sicr, a diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac am nodi’n gywir fod gennym hanes balch o gefnogi cynlluniau arbed ynni domestig a busnesau yng Nghymru? Efallai fod gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod bod gennym brosiectau arbed ynni ar raddfa fawr sy’n cydymffurfio â chymorth gwladwriaethol yn cael eu cynllunio a’u cymeradwyo gan Ewrop yn awr ac maent yn cynnig atebion arloesol a allai fod yn bwysig iawn i ddiwydiannau ynni-ddwys, fel dur. Ac wrth i mi ystyried fy ateb i David Melding, byddwn yn dweud hefyd, o ran arbed ynni domestig, byddai hynny hefyd yn ffurfio un o agweddau craidd y strategaeth economaidd newydd a diogelu ffynonellau ynni yn benodol.

Cydgysylltu Trafnidiaeth Trawsffiniol

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydgysylltu trafnidiaeth trawsffiniol? OAQ(5)0011(EI)

Gwnaf. Rwy’n cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw cysylltedd trawsffiniol er lles cymdeithasol ac economaidd y ddwy ochr i’r ffin. Rydym yn ymwneud ag amryw o bartneriaid ar draws pob modd i geisio sicrhau’r manteision mwyaf y gall cysylltedd eu creu ledled Cymru gyfan.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymwybodol o fater hirsefydlog yn fy etholaeth ynghylch ffordd osgoi arfaethedig yn ardal Llanymynech a Phant, a bûm yn gohebu o’r blaen gyda’ch rhagflaenydd, Edwina Hart, ynglŷn â hyn. Cyfarfûm yn ddiweddar ag Andrew Jones, Gweinidog dros Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, yn Llanymynech, gyda chynrychiolwyr ar ran y gymuned. Yn sicr, mynegodd barodrwydd i gyfarfod â chi i drafod y prosiect penodol hwn. A fyddech yn cytuno i gael y cyfarfod hwnnw, a hefyd a fyddech yn cytuno i ddarparu rhywfaint o wybodaeth am y cynnydd a wnaed ar y cynllun penodol?

Byddwn yn cytuno i’r cyfarfod hwnnw, a diolch i’r Aelod am dynnu fy sylw at hyn. Gwn ei fod wedi rhoi cryn dipyn o sylw iddo yn ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, ac rydym yn parhau i weithio gyda Highways England mewn perthynas â’r darn hwnnw o ffordd, a byddwn yn parhau i’w cyfarfod er mwyn hyrwyddo gweithio ar y cyd ac i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb ar gyfer cynlluniau trawsffiniol yn y dyfodol. Hefyd, mae fy swyddogion yn ystyried gwaith Highways England ar eu hastudiaeth o goridor yr A5, gan y gallai’r canlyniad beri goblygiadau i’r cynllun y mae’r Aelod yn ei drafod.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn gwybod cystal â minnau, er mwyn i ogledd Cymru ffynnu yn economaidd, mae angen cysylltiadau trafnidiaeth cryf ac effeithiol ar draws y rhanbarth, ac ar draws y ffin gyda’n cymdogion agos yng ngogledd-orllewin Lloegr hefyd. Mae gwella cysylltiadau ffordd fel yr A55 a’r A494 yn hanfodol, ond mae angen cynllun trafnidiaeth ehangach arnom i gefnogi cydweithredu economaidd trawsffiniol hanfodol gyda gogledd-orllewin Lloegr. A wnewch chi, felly, roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â datblygiad metro gogledd-ddwyrain Cymru ochr yn ochr â hynny i hybu cydweithredu economaidd trawsffiniol?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac a gaf fi ddweud bod gan economi gogledd Cymru botensial rhyfeddol? Dyna yw ein porth i’r byd a hoffem ei weld yn llwyddo. Rydym wedi dechrau gweithio i hybu datblygiad system metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’n bwysig fod gennym gysylltedd ar draws y rhanbarth i gyd i wneud y gorau o’r cyfleoedd ymhellach i’r gorllewin ac i ddarparu cysylltedd dibynadwy, effeithlon ac o ansawdd da, i’r de ac ar draws y ffin. Mae cynigion amlinellol yn cael eu paratoi, a byddwn yn cyflwyno’r weledigaeth honno o fewn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon. Yn yr un modd, rwy’n awyddus i sicrhau bod datblygu economaidd trawsffiniol yn un o’r pethau y bydd fy ngwaith yn canolbwyntio arno, ac rwy’n bwriadu cynnal uwchgynhadledd ym mis Gorffennaf i bawb sydd â diddordeb, ar ochr Cymru a Lloegr i’r ffin.

Cabinet Secretary, you’ll be aware that I haven’t been an Assembly Member for five years—there was a gap of five years in my membership—but I remember raising in the third Assembly the grave need to electrify the railway between London and Swansea. In the meantime, I have seen virtually no development in that area. So, could I have an update on the plan for the electrification of the line from London to Swansea?

Yn gyntaf oll, a gaf fi groesawu’r Aelod yn ôl i’r Siambr, a dweud bod trydaneiddio’r rheilffyrdd yn hanfodol bwysig i economi de Cymru, ac i economi Cymru gyfan yn wir, a byddaf yn falch o allu cyflwyno diweddariad ysgrifenedig i’r Aelodau ar y mater hwn?

Mae tollau croesi Afon Hafren ar y ffin yn cyfyngu ar economi de Cymru ac yn achosi tagfeydd. A fyddech yn cytuno y dylai’r croesfannau hynny ddod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo modd a phan fydd hynny’n digwydd, y dylid diddymu’r tollau i leddfu’r cyfyngiad hwnnw ar yr economi leol a rhoi diwedd yn wir ar yr anghyfiawnder maith sydd wedi gwylltio llawer iawn o bobl a sefydliadau ers amser hir?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac a gaf fi ddweud ein bod wedi datgan yn gyhoeddus iawn ein bod yn credu y dylai’r tollau fod yn nwylo Llywodraeth Cymru? Nawr, amcangyfrifir y byddai cael gwared ar y tollau yn hybu cynhyrchiant yng Nghymru rywle oddeutu £100 miliwn neu fwy bob blwyddyn, ac ni allaf weld unrhyw gyfiawnhad dros barhau i beri anfantais i fusnesau Cymru pan ddaw’r consesiwn i ben. Nawr, ein bwriad ni, pe baem yn gallu, yw gostwng lefelau’r tollau, gan leddfu’r baich ar yr economi, ond mae’r Aelod hefyd yn nodi’n gywir fod y tollau’n achosi tagfeydd. Felly, mae angen i ni sicrhau hefyd, os ydym yn cael gwared ar achos y tagfeydd, nad ydym yn ychwanegu at y baich a’r trafferthion a achosir yn nhwnelau Bryn-glas a’n bod yn sicrhau yn lle hynny, ein bod yn datrys problem yr M4 hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet yn ffurfiol ar ei benodiad a dymuno pob llwyddiant iddo mewn rôl sy’n hanfodol bwysig.

Nawr, ni allwch reoli’r hyn na allwch ei fesur, yn ôl y dywediad. Pan ddaeth yn amlwg nad oedd Cymru yn mynd i gyrraedd y targed o gau’r bwlch, o gymharu â’r DU, ar gyfer gwerth ychwanegol gros, yn hytrach na newid y strategaeth, penderfynodd un o’i ragflaenwyr fel Gweinidog dros yr Economi newid y targed yn lle hynny.

Nawr, yn y tymor diwethaf, disgrifiodd y Llywodraeth incwm gwario gros aelwydydd y pen yn ei hadroddiad blynyddol fel y mesur gorau o les economaidd. O ystyried y ffaith, yn y ffigurau diweddaraf, bod incwm gwario gros aelwydydd yng Nghymru, o’i gymharu â’r DU, wedi gostwng yn y ddwy flynedd ddiwethaf y ceir ffigurau ar eu cyfer—mae bellach i lawr i’w lefel isaf ers 2002—a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn, yn ôl yr hyn sy’n ffon fesur llwyddiant i’w Lywodraeth ei hun, ei fod yn gwneud cam ag economi Cymru? Beth y bydd ef, fel yr Ysgrifennydd newydd dros yr Economi, yn penderfynu ei wneud—newid y strategaeth neu newid y targed unwaith eto?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i longyfarch hefyd ar ei benodiad? Yn wir, a gaf fi longyfarch y ddau Aelod arall o Blaid Cymru sydd wedi’u penodi i fy nghysgodi? Mae cael tri chysgod yn gwneud i mi deimlo fel dyn â nod ar ei dalcen, mae’n rhaid i mi ddweud.

O ran y cwestiynau penodol y mae’r Aelod yn eu crybwyll, byddwn yn datblygu strategaeth economaidd newydd a byddwn yn gobeithio y byddech yn gallu cyfrannu ati, a byddwn yn adolygu’r targedau hynny. Ceir llawer o ddangosyddion llwyddiant economaidd o bwys a gadewch i ni ei wynebu, mae lefelau cyflogaeth bellach yn uwch nag erioed yng Nghymru. Mae diweithdra yn gostwng yn gyflymach yma nag yng ngweddill y DU. Os edrychwch ar y ffigurau ar gyfer twristiaeth hefyd, fe welwch ein bod hefyd yn llwyddo’n well nag erioed ar fewnforion, ar allforion ac ar fewnfuddsoddiad—mae Cymru’n perfformio’n well heddiw nag ar unrhyw adeg arall yn ystod datganoli.

Rwy’n synnu gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at allforion fel symbol o lwyddiant Cymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae allforion o Gymru wedi gostwng dros £2.6 biliwn. Dyna ostyngiad o 20 y cant i gyd. Gadewch i ni roi hynny mewn cyd-destun. Mae’r gostyngiad hwnnw mewn allforion, yn gyfrannol, yr un faint ag y profodd y DU yn yr argyfwng economaidd rhwng 2008 a 2009. Mae’n cyfateb i’n gwarged presennol mewn masnach gyda’r UE. Nawr, rwy’n cytuno ag ef y byddai Prydain yn gadael Ewrop yn drychineb gwirioneddol i allforion o Gymru, ond beth am y trychineb a ddigwyddodd o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth hon? A yw’n mynd i gynnal ymchwiliad brys i’r achosion dros y cwymp yn allforion Cymru, ac a fydd hefyd yn edrych, Lywydd, ar y colledion i economi Cymru o ganlyniad i fewnforion? A all yr Ysgrifennydd gadarnhau fod dur arbenigol o’r Almaen a Sbaen yn cael ei ddefnyddio yn y prosiect ffordd ddosbarthu ddwyreiniol, a ariennir gan ei adran—ffordd sydd lathenni yn unig o’r adeilad hwn, ffordd y lleolwyd gwaith dur Cymru arni, yn eironig? Os mai ei ​​ateb yw na all cwmnïau o Gymru gynhyrchu’r cynhyrchion arbenigol hyn ar hyn o bryd, onid yw hynny’n dangos yr angen am dîm o arbenigwyr, yn gweithio gyda busnesau yng Nghymru, i nodi cyfleoedd caffael sydd ar y gweill, fel y tîm a oedd gennym tan i’w Lywodraeth eu cyfnewid ym mis Ionawr eleni am gwpl o staff rhan-amser, ychydig o seminarau a rhif ffôn.

Wel, wel, wel, ni ddylem synnu bod yr Aelod yn dymuno bychanu economi Cymru, ond y gwir amdani yw, pan anwybyddwn y ffigurau detholus y mae’n dewis eu mabwysiadu a phan edrychwn ar yr hyn sydd wedi digwydd ers 1999, sy’n ddangosydd teg i ddechrau, bu cynnydd o 89 y cant mewn allforion o Gymru, o’i gymharu â chynnydd o 69 y cant yn unig ar gyfer y DU gyfan. Rydych yn siarad am Brydain yn gadael Ewrop, ond beth fyddai gadael Prydain Fawr yn ei wneud i economi Cymru? Pa fath o ddifrod fyddai hynny’n ei achosi i’r wlad hon, i filiynau o bobl sydd angen economi Prydain ar gyfer gwaith ac ar gyfer ffyniant?

Lywydd, mae’r ffeithiau’n siarad drostynt eu hunain: roedd allforion Cymru yn chwarter cyntaf 2016 yn uwch eu gwerth nag yn y chwarter blaenorol, cynnydd o 2.9 y cant o’i gymharu â gostyngiad o 2.7 y cant yn y DU. Mae hwnnw’n ystadegyn allweddol y mae’r Aelod yn dewis ei anwybyddu. Yn ogystal, yr hyn a wyddom o ffordd gyswllt dwyrain y bae yw hyn: er bod darnau o sgaffaldiau yn dod o’r Almaen, a phethau dros dro ydynt, mae 89 y cant o’r dur ar gyfer y barrau atgyfnerthu, a fydd yn aros yn eu lle, yn dod o Gymru. Mae hynny’n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono; mae hynny’n rhywbeth y dylem ei hyrwyddo. Rwy’n gwneud hynny. Hoffwn pe bai’r Aelod yn gwneud hynny hefyd.

Wel, rwy’n meddwl mai’r cwestiwn ar feddyliau’r mwyafrif ohonom yw: beth fyddai newid Llywodraeth Cymru yn ei wneud i economi Cymru? Go brin y gallent wneud yn waeth na’r weinyddiaeth bresennol. [Torri ar draws.] Edrychwch, er mwyn—[Torri ar draws.]

Gadewch i’r Aelod gael ei glywed a dod at ei gwestiwn yn gyflym. Diolch, Adam.

Er mwyn bod yn garedig, rwy’n credu y byddai’n anghywir disgwyl bod yr holl atebion gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet ar ei dro cyntaf yn y cwestiynau gweinidogol. Yn wir, mae hynny’n wir am y rhan fwyaf o lywodraethau. Dyna pam fod gan y mwyafrif o Lywodraethau’r byd asiantaeth weithredol i’w helpu i gyflawni eu strategaeth economaidd. Nawr, rwy’n sylweddoli y byddai’n anodd i’r Llywodraeth hon ddod ag Awdurdod Datblygu Cymru yn ei ôl, gan y byddai hynny’n gyfaddefiad eu bod wedi gwneud camgymeriad, sy’n rhywbeth y maent yn amlwg yn amharod i’w wneud. Ond a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod y Llywodraeth, yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb gynharach, bellach wedi comisiynu cynllun busnes manwl ar gyfer corff arloesi cenedlaethol i Gymru—un arall o bolisïau Plaid Cymru’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Lafur? A all hefyd gadarnhau bod cwmpas yr astudiaeth hon yn cynnwys archwilio’r achos dros ehangu cylch gwaith y corff hyd braich hwn i gynnwys swyddogaeth ddatblygu economaidd ehangach? Efallai y byddai rhai ohonom yn cael ein temtio i alw hwnnw’n Awdurdod Datblygu Cymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Plaid Cymru sydd am fynd yn ôl i’r 1980au i greu Awdurdod Datblygu Cymru a dychwelyd i nefoedd y cwangos: na, mae’n well gennym ni atebolrwydd yn Llywodraeth Cymru. O ran allforion, un ffactor arall sy’n werth ei chofio yw ein bod wedi gweld rhai categorïau yn esgyn i’r entrychion yn ddiweddar—gwelsom gynnydd o 30 y cant mewn allforion peiriannau wedi’u harbenigo ar gyfer diwydiannau penodol, gwelsom gynnydd o 21 y cant mewn cerbydau ffordd, gwelsom gynnydd o 46 y cant mewn allforion i Qatar. Dyna pam—[Torri ar draws.] Efallai y byddant yn ei ddeall. Dyna pam y mae pobl—[Torri ar draws.] Gadewch i ni obeithio eu bod yn deall hyn: mae prisiau nwyddau wedi gostwng. Mae gwerth cynhyrchion petrolewm hefyd wedi achosi i allforion yn y DU, ac allforion mewn llefydd eraill hefyd, i ostwng yn eu gwerth. Dyna’r gwir amdani. Dyna’r realiti o amgylch y byd. Ni fydd sefydlu cwango arall yn datrys problem prisiau nwyddau neu brisiau petrolewm.

A gaf fi hefyd longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn adeiladol, lle bo’n briodol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfeiriadur Llywodraeth Cymru o gwmnïau chwaraeon modur yng Nghymru yn datgan bod gan Gymru sector moduro sydd wedi’i hen sefydlu, ac sy’n cynhyrchu trosiant o dros £3 biliwn y flwyddyn. Yn wir, un o lwyddiannau mawr y diwydiant twristiaeth yw ein cefnogaeth i’r ralïo yng nghoedwigoedd Cymru, sy’n werth tua £15 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Felly mae chwaraeon modur, wrth gwrs, o bwysigrwydd economaidd hanfodol, a thybed a wnewch chi amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu a diogelu’r diwydiant chwaraeon modur yng Nghymru.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i longyfarch ar ei benodiad hefyd? Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod gennym economi gryfach, fwy diogel yng Nghymru. Mae’r sector modurol yn sector hollbwysig ledled Cymru. Yn benodol, o ran twristiaeth, mae’n cyfrannu’n aruthrol at lwyddiant ein portffolio digwyddiadau mawr, sydd, yn ei dro, yn denu 800,000 o bobl i Gymru bob blwyddyn ac yn cynhyrchu tua £125 miliwn o ran ei effaith economaidd.

Wel, diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch o glywed eich bod yn ymwybodol o’r wybodaeth honno hefyd. Mae dyfodol hirdymor ralïo yng nghoedwigoedd Cymru o dan fygythiad difrifol o ganlyniad i gynnig Cyfoeth Naturiol Cymru i ddyblu’r costau bron i’r diwydiant am ddefnyddio a chynnal a chadw ffyrdd. Nawr, mae’n ymddangos, yn Lloegr a’r Alban, fod cytundeb eisoes wedi’i wneud, gyda chynnydd cymedrol mewn taliadau o 0.7 y cant yn unig. Nawr, a fyddech yn cytuno bod manteision economaidd ehangach i ddigwyddiadau chwaraeon modur, ac na ddylid rhoi dyfodol y diwydiant yng Nghymru yn y fantol? Tybed a fyddech yn cytuno—ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd—i ymyrryd yn bersonol mewn trafodaethau ar y contract rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Motor Sports Association, a fyddai, wrth gwrs, yn caniatáu i’r diwydiant barhau i ffynnu yng Nghymru, yn hytrach na dod i ben?

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn atodol a dweud bod hyn yn rhan o drafodaeth sy’n digwydd—o ran y trafodaethau masnachol sy’n digwydd—yn y fath fodd fel na allaf roi sylwadau ar y manylion. Fodd bynnag, rwyf bellach wedi cael cyfarfod â’m cyd-Aelod, Lesley Griffiths, i drafod hyn, ac o ganlyniad i hynny, rwy’n falch o ddweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Motor Sports Association yn dal i drafod ffïoedd er mwyn galluogi ralïo i barhau ar ystadau coedwigaeth Cymru, ac rwy’n hyderus erbyn hyn, yn sgil y trafodaethau rydym wedi’u cael, y gellir cyrraedd cyfaddawd derbyniol i’r ddwy ochr. Nid oes amheuaeth fod ralïo yng nghoedwigoedd Cymru yn eiconig, ac mae Rali Cymru GB, yn arbennig, yn rhan o’n proffil rhyngwladol. Rydym am iddo lwyddo a pharhau.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod hwnnw’n ymateb calonogol, felly efallai y byddai’n amserol pe gallem gael datganiad dros yr wythnosau nesaf, wrth i’r trafodaethau ddod i ben mewn ffordd bositif fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei awgrymu ac efallai, ar ryw adeg, y byddai’n barod i ymweld ag un o’r camau yn y canolbarth gyda mi hefyd—efallai y gallem gael ras yn erbyn ein gilydd; nid wyf yn gwybod.

Gan aros ar thema twristiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n deall bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi adolygu’r opsiynau ar gyfer sut y darperir gwasanaethau yng nghanolfan ymwelwyr y parc cenedlaethol yn ddiweddar. Nawr, ymhlith y newidiadau, mae wedi argymell cau elfen ddarparu gwybodaeth a manwerthu’r ganolfan, a chreu man gwybodaeth heb staff yn ei le. Weinidog, hoffwn ofyn i chi gyflwyno sylwadau i awdurdod y parc cenedlaethol yn ailystyried y penderfyniad hwn ar frys, gan fy mod yn sicr yn credu y byddai’n niweidio twristiaeth, nid yn unig yn yr ardal, ond yn economi ehangach canolbarth Cymru.

Iawn, fe ymrwymaf i wneud hynny. Mewn gwirionedd, mae awdurdod y parc cenedlaethol ar fy mhwyllgor llywio ar gyfer y Flwyddyn Antur, felly byddaf yn gallu ei drafod gyda phobl wyneb yn wyneb hefyd, a hoffwn ymrwymo hefyd i ddarparu datganiad ynglŷn â Rali Cymru GB a dyfodol chwaraeon modur yng Nghymru.

Diolch i chi, Lywydd. Rwyf eisoes wedi cael y cyfle i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad, ond ni allwch gael gormod o beth da, felly fe’i llongyfarchaf eto heddiw a mynegi gobaith, dan ei arweiniad, y bydd economi Cymru wir yn gwisgo’i ‘skates’—bwm, bwm. [Chwerthin.] Yn ôl y polau piniwn, mae’n edrych yn debyg iawn y bydd Prydain yn pleidleisio dros adael yr UE yr wythnos nesaf, a thybed felly a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y bydd yn gwario difidend Prydain yn gadael y DU a ddaw i Gymru yn sgil y digwyddiad hwnnw. Oherwydd, gan gymryd un mesur yn unig o gyfraniad net Prydain i’r UE—dyna’r arian a rown i Frwsel i’w wario yn rhywle arall yn yr UE sef £10 biliwn y flwyddyn ar sail cyfrifiad fesul y pen o’r boblogaeth—mae hynny oddeutu £500 miliwn y flwyddyn a fydd yn dod i Gymru a Llywodraeth Cymru i’w wario. Byddai’n ddiddorol gwybod a oes ganddo unrhyw syniadau ynglŷn â sut y gallwn wario rhan o’r arian hwnnw hyd yn oed.

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei sylwadau caredig am fy mhenodiad a dymuno’n dda iddo hefyd yn ei rôl yn y Cynulliad? Ni ellir gwarantu y byddai’r arian hwnnw’n dod i Gymru. Rwy’n ofni y bydd yn cael ei hel i lefydd fel Wiltshire yn hytrach na’n dod yma i Gymru. Rwy’n meddwl y byddai’n debygol o fynd i’r Cotswolds yn hytrach na Chymru. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai Cymru yn elwa o arian yr UE a ddychwelir yn ôl i’r DU. A ydym o ddifrif eisiau peryglu, yn awr, yr wythnos nesaf, y cynnydd rydym wedi’i wneud ar ddur, sy’n sefyllfa hynod o sensitif? Byddem yn gwthio’r argyfwng hwnnw hyd yn oed yn ddyfnach i mewn i’r gors pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE. Byddem yn colli 18,000 o swyddi, a fyddai’n sicr mewn perygl, pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE. Byddem yn peryglu 52,000 o brentisiaethau y mae pobl yn mynd i fod yn ceisio’u llenwi yn y pum mlynedd nesaf pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE. Byddem hefyd yn peryglu ReAct, sydd wedi darparu cyfleoedd. Mae wedi rhoi gobaith i 19,000 o bobl sydd wedi wynebu cael eu diswyddo. Dyna pam y mae Ewrop yn bodoli: er mwyn rhoi gobaith i bobl sydd ei angen. A ydym o ddifrif eisiau pleidleisio dros adael Ewrop a pheryglu’r math hwn o gyfle i filiynau o bobl ym Mhrydain?

Wel, rwy’n meddwl y bydd yn syndod i bobl Gwlad Groeg, Sbaen, yr Eidal, Portiwgal a Ffrainc fod Ewrop yn cynnig gobaith, ac rwy’n sicr yn gwrthwynebu barn or-ffyddiog Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, ni all fod unrhyw sicrwydd ynglŷn â’r dyfodol; nid oes sicrwydd y bydd unrhyw un ohonom yn fyw yr adeg hon yr wythnos nesaf. Serch hynny, mae’n rhesymol tybio y bydd Cymru’n cael cyfran eithaf uchel o’r hyn sy’n ddyledus iddi fesul y pen o’r boblogaeth os ydym yn gadael yr UE, ac os ychwanegwn y £5 biliwn ar ben y £10 biliwn a gaiff ei wario mewn mannau eraill yn yr UE—yr arian y mae’r UE yn ei wario ym Mhrydain ar eu blaenoriaethau hwy, nid ein blaenoriaethau ni—mae’n cynnig cyfle enfawr i Lywodraeth Cymru wario ar bethau sydd o bwys i bobl Cymru, yn hytrach nag i fiwrocratiaid Brwsel.

Mae’r Aelod yn honni nad yw Ewrop wedi cynnig gobaith—yr hyn y mae Ewrop wedi’i gynnig yw’r cyfnod hiraf o heddwch parhaus yn hanes y cyfandir. Mae wedi cynnig gobaith ac mae wedi sicrhau heddwch a ffyniant ledled y cyfandir. Byddai pleidleisio dros adael Ewrop yr wythnos nesaf yn sicr yn peryglu’r diwydiant dur yng Nghymru a’r DU. Efallai na fydd yr Aelod yn dymuno fy nghredu, ond dylai gredu Tata eu hunain sy’n dweud, ac rwy’n dyfynnu’n uniongyrchol:

‘Yr UE yw ein marchnad allforio fwyaf o bell ffordd, gyda thros draean o’n dur yn y DU yn mynd yno, ac nid yw hynny’n cynnwys y dur sy’n mynd drwy ein cwsmeriaid, felly mae mynediad i’r farchnad honno’n hanfodol i’n busnes’.

Pe bai’r DU yn gadael yr UE a’n bod yn gosod rheolau i ni ein hunain, mae’n debygol y byddai’n dal i fod angen i ni gadw at reolau’r UE i fynd i mewn i’r farchnad honno. Y gwahaniaeth: ni fyddai gennym lais mwyach yn y modd y cânt eu llunio neu eu cymhwyso. Mae’r UE yn ffynhonnell o arian ar gyfer y sector busnes yn y DU, cyllid ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, datblygu seilwaith, ac ymchwil a datblygu. A fyddai’r Aelod heddiw yn dymuno dweud wrth weithwyr dur y byddai’n dymuno peryglu eu swyddi a’u dyfodol i bleidleisio dros adael Ewrop yr wythnos nesaf?

Wel, ni fyddai gadael yr UE yn peryglu swyddi dur o gwbl wrth gwrs. Byddai gennym y rhyddid i wneud yr hyn y mae’r Unol Daleithiau wedi’i wneud a gosod toll o 522 y cant ar ddur wedi’i rolio’n oer yn hytrach na’r doll o 24 y cant y mae’r UE wedi’i hargymell. Ond tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro wrthyf pam y byddai’r UE yn awyddus i osod unrhyw rwystrau masnach yn erbyn y DU pan fo’r ffigurau a gyhoeddwyd rai dyddiau’n ôl yn unig yn dangos bod gennym ddiffyg ariannol o £24 biliwn yn ein masnach mewn nwyddau yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon yn unig. Mae ganddynt lawer mwy i’w golli mewn rhyfel masnach nag sydd gennym ni.

Gadewch i ni feddwl am ein sefyllfa ar hyn o bryd. Heb amheuaeth, yn fy marn i, ceir momentwm newydd yn economi Cymru. Rwyf eisoes wedi crybwyll ffigurau twristiaeth—maent ar gynnydd, mae cyflogaeth ar gynnydd, mae Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor ar gynnydd, mae allforion ar gynnydd, mae cyfraddau busnesau newydd ar gynnydd, mae niferoedd teithwyr maes awyr ar gynnydd. Cyfraddau cwblhau prentisiaethau—mae’r rheini ar gynnydd hefyd. Yr unig beth y gallem ei sicrhau pe baem yn gadael Ewrop yr wythnos nesaf yw y byddai pob un o’r ystadegau hyn yn gostwng. Byddwn yn annog pobl Cymru a phobl Prydain i bleidleisio dros aros.

Gwelliannau i’r Rhwydwaith Ffyrdd yn Arfon

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i’r rhwydwaith ffyrdd yn Arfon? OAQ(5)0004(EI)[W]

Caiff ein blaenoriaethau trafnidiaeth eu nodi yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, sy’n cynnwys nifer o welliannau ffyrdd ar gyfer gogledd Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Hoffwn i dynnu eich sylw chi at gynllun i adeiladu ffordd osgoi 9 km o hyd yn fy ardal i, yn Arfon, yn ardal Caernarfon a Bontnewydd, cynllun a gafodd ei sicrhau gan fy rhagflaenydd i, Alun Ffred Jones, yn y Cynulliad diwethaf, a fydd yn hwb sylweddol i’n hardal ni. Hoffwn i wybod gennych chi a ydych chi’n ymwybodol o’r oedi sylweddol sydd yn digwydd i’r prosiect yma. Nid oes yna gyhoeddiad wedi’i wneud. Mi oedd y gorchmynion i fod i gael eu cyhoeddi ddechrau’r flwyddyn. Nid ydyn nhw wedi cael eu cyhoeddi, ac mae’n debyg rŵan na fydd y cynllun yma yn mynd yn ei flaen am o leiaf 12 mis arall. A ydych chi’n ymwybodol mai’r broblem sydd wedi codi fan hyn ydy anghytuno rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr un llaw a pheirianwyr y cynllun ar y llaw arall? Rwy’n deall mai’r broblem ydy methu cytuno ar beth i wneud ynglŷn ag ystlumod. A ydych chi yn siomedig, fel rydw i, bod yr oedi yma yn digwydd? A fedrwch chi fy sicrhau y byddwch chi a’ch Llywodraeth yn gwneud bob dim posib i gael gwared ar yr anghytundeb yma fel y gwelwn ni y cynllun yma yn mynd yn ei flaen cyn gynted â phosib, os gwelwch yn dda?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac a gaf fi ddweud mai’r bwriad gwreiddiol yn wir oedd cyhoeddi gorchmynion drafft yn ystod y gwanwyn eleni, ond oherwydd y trafodaethau parhaus a grybwyllodd yr Aelod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â mesurau lliniaru amgylcheddol, mae’r dyddiad cyhoeddi yn awr wedi’i gynllunio ar gyfer mis Awst, yn amodol ar fy nghymeradwyaeth? Ond gallaf sicrhau y byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod ynglŷn â datblygiadau ac yn symud mor gyflym ag y bo modd.

Yn wir, mae tair blynedd ers i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn y Llywodraeth flaenorol gyhoeddi ei llwybr diwygiedig a ffefrir, gan barhau i ymchwilio i asesiad effaith ar fusnes, er gwaethaf pryderon a fynegwyd gan fusnesau a chyflogwyr lleol y byddai’r llwybr diwygiedig a ffefrir a’i ragflaenydd yn niweidio busnesau a swyddi lleol, ac roedd yna lwybr arall na fyddai’n gwneud y naill na’r llall. Fis Gorffennaf diwethaf, dosbarthwyd hysbysiadau gan Lywodraeth Cymru i dirfeddianwyr ar lwybr a ffefrir Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai arolygon amgylcheddol yn cael eu cynnal, a fis Medi diwethaf, dywedodd eich rhagflaenydd, mewn datganiad i’r Cynulliad hwn, fod gwaith ar ffordd osgoi’r A487 Caernarfon a Bontnewydd yn mynd rhagddo’n dda. Yn ogystal ag ystyried yr effaith amgylcheddol, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, fel rydych yn nodi, a wnewch chi unwaith eto roi sicrwydd i fusnesau lleol ar lwybr a ffefrir Llywodraeth Cymru y byddwch o’r diwedd yn ymgysylltu â hwy ac yn gwrando ar eu pryderon dilys sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ystyried hynny wrth wneud eich penderfyniad terfynol?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac rwy’n pwysleisio ein bod wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau lleol drwy gydol y broses hon, a gyda thirfeddianwyr yn ystod y broses o ddylunio a datblygu, er mwyn deall effaith debygol y cynllun ar eiddo a busnesau yn yr ardal, ac rydym yn awyddus i barhau’r ymgysylltiad hwn yn y dyfodol.

Busnesau Ar-lein

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud busnesau ar-lein yn ymwybodol o’r rheoliadau dull amgen o ddatrys anghydfod a ddaeth i rym eleni? OAQ(5)0017(EI)

Rydym wedi gwneud sefydliadau cynrychioli busnesau yn ymwybodol o’r dulliau amgen o ddatrys anghydfodau, yn ystod proses ymgynghori Llywodraeth y DU ac ers ei weithredu.

Diolch i’r Gweinidog am ei ymateb. Mae mwy a mwy o fusnesau yn gwerthu ar-lein, o bethau bach iawn—bwydydd—i geir. Mae hyn yn digwydd yn y DU ac ar draws yr UE, yn amlwg. A fyddai’r Gweinidog yn cytuno bod y rheoliadau anghydfodau ar-lein newydd yn gyfle i gynyddu hyder defnyddwyr a masnachwyr, ac i fusnesau Cymru allu dangos eu bod yn cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid? Bydd y rheoliadau newydd yn sicrhau bod yna gymrodeddwr annibynnol a theg a bydd yn osgoi’r broses gostus iawn o fynd i’r llys.

Byddwn. Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn ar fater pwysig iawn. Gall ffyrdd amgen o ddatrys anghydfodau gyflymu setliad, sy’n golygu llai o gostau, llai o amser a llai o straen nag a geid wrth fynd â materion i’r llys. Mae’n llwybr ychwanegol defnyddiol i ddefnyddwyr pan fo’n briodol. Mae’n bwysig i ddefnyddwyr gael hyder yn eu trafodiadau. Mae mwy o hyder defnyddwyr o fudd i bob busnes, a gyda mwy a mwy o fusnes yn cael ei wneud ar-lein, mae datrys anghydfodau ar-lein yn arbennig o bwysig i fusnesau sy’n masnachu ar-lein.

Weinidog, rwy’n derbyn bod cyfraith cyflogaeth a materion yn ymwneud â chyflogaeth yn faterion a gadwyd yn ôl, ond mae’r cyngor busnes y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi, yn enwedig i fusnesau newydd a busnesau sy’n dechrau, yn benodol, yn elfen hanfodol o allu rhybuddio cyflogwyr a gweithwyr yn y busnesau hyn sut i osgoi rhai sefyllfaoedd difrifol sy’n costio arian enfawr i’r busnesau newydd hynny ar gyngor cyfreithiol a phrosesau cymrodeddu. Pa sicrwydd sydd gennych fod y cyngor rydych yn ei roi i fusnesau newydd yn ystyried rhai o’r materion cyflogaeth y mae angen iddynt eu hystyried? Oherwydd mae hynny gyn bwysiced â’r marchnata a’r strategaeth ac unrhyw beth arall sy’n ymwneud â sefydlu’r busnes, ac mae’n amlwg yn barhaus ac yn ffocws ym meddyliau cyfarwyddwyr y cwmnïau hynny.

Byddwn yn hapus i adolygu effeithiolrwydd y cymorth a’r cyngor a ddarparwn ac i ysgrifennu at yr Aelod gyda chanlyniad yr adolygiad hwnnw.

Ardal Fenter Port Talbot

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfleoedd a gaiff eu cynnig drwy’r Ardal Fenter ym Mhort Talbot? OAQ(5)0016(EI)

Gwnaf. Bydd ardal fenter glannau Port Talbot yn ein helpu i fanteisio ar gyfleoedd economaidd newydd a chefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli. Rydym eisoes wedi lansio cynllun ardrethi busnes, sydd, ynghyd â’n cefnogaeth ehangach, yn darparu cymhelliad gwell ar gyfer buddsoddiad newydd a thwf.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Ym Mhort Talbot, mae effaith penderfyniad Tata i werthu’r gwaith dur a hefyd i leihau’r gwaith sy’n cael ei roi ar gontractau allanol i fusnesau lleol yn creu heriau enfawr i gwmnïau lleol, sydd bellach yn wynebu cyfnod anodd i allu parhau i gynnal eu busnesau—fel Fairwood Fabrications, a welsom ar y rhaglen deledu gyda Michael Sheen, sydd eisoes wedi torri nifer eu staff yn ei hanner ac yn wynebu amseroedd heriol iawn i allu parhau i fodoli. Wrth iddynt geisio arallgyfeirio ac ennill contractau newydd mewn llefydd eraill, mae angen cymorth arnynt i allu sicrhau dyfodol eu gweithwyr. Nawr, gallai statws yr ardal fenter ddenu’r cyfleoedd hynny iddynt, ond nid yw hynny’n mynd i ddigwydd dros nos. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i’r cwmnïau hyn er mwyn iddynt allu goresgyn yr heriau sy’n eu hwynebu yn awr, fel y gallant fod mewn sefyllfa i elwa o’r ardal fenter pan ddaw’n weithredol?

Mae iechyd y gadwyn gyflenwi yn hynod o bwysig i’r rhanbarth. Gan weithio ar y cyd gydag is-grŵp cadwyn gyflenwi’r tasglu, mae 55 o fusnesau sy’n gysylltiedig â chadwyn gyflenwi Tata wedi gofyn am gymorth ychwanegol; ymwelwyd â 44 o fusnesau, a gwnaed diagnosis pwrpasol o angen pob un. Fel y mae’r Aelod yn ymwybodol, rydym wedi darparu cymorth ardrethi busnes, sy’n werth hyd at £55,000 y flwyddyn i bob Busnes Bach a Chanolig cymwys yn ardal fenter Port Talbot. Byddai’r Aelod yn dymuno gwybod mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r holl geisiadau yw 30 Medi. Ar ddechrau mis Mehefin, cynhaliwyd ymarfer llythyru uniongyrchol i hyrwyddo’r cynllun i fwy na 223 o fusnesau wedi’u lleoli o fewn yr ardal fenter a allai elwa o gymorth ar gyfer y cynllun. Dylwn hefyd hysbysu’r Aelod fod saith ymholiad wedi dod i law ers dechrau ardal fenter Glannau Port Talbot, naill ai’n uniongyrchol gan fusnesau allanol neu drwy swyddogion yr awdurdod lleol a’n sectorau, yn holi am wybodaeth am gymorth ynglŷn â thwf neu leoliadau newydd. Mae’n ddyddiau cynnar o ran yr ymgysylltiad â’r rhain; fodd bynnag, gallai dau o’r ymholiadau hyn gynnwys mewnfuddsoddiad a allai fod yn arwyddocaol.

Yn y Cynulliad diwethaf, fe wnes i godi’r pwynt gyda’r Gweinidog ynglŷn â thir sydd gyferbyn â Harbour Way a fydd, rwy’n siŵr, yn rhan o’r parth busnes newydd—bod yna dir yna a fydd yn gallu cael ei ‘util-eiddio’ ar gyfer busnesau newydd. A ydych chi wedi siarad gyda busnesau yn lleol i’w hennyn nhw i allu marchnata i gael y tir hwnnw am bris llai o fewn yr amgylchiadau newydd yma o barth menter ym Mhort Talbot, er mwyn inni hwyluso datblygiad yr ardal benodol honno?

Gwn fod fy swyddogion mewn trafodaethau cyson gyda busnesau lleol, ond fe holaf ynglŷn â’r achos penodol hwnnw. Rydym wedi sefydlu’r ardal fenter ym Mhort Talbot yn seiliedig ar y safleoedd cyflogaeth posibl a rhai sy’n bodoli eisoes yn yr ardal, sydd â chapasiti sylweddol ar gyfer cefnogi buddsoddiad busnes pellach. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol mai parc ynni Baglan, ystad ddiwydiannol Baglan a Harbourside yn nociau Port Talbot yw’r rhain. Ond rwy’n sicrhau’r Aelod y byddaf yn mynd ar ôl y pwynt y mae’n ei grybwyll ac yn cysylltu â hi ar ôl i mi wneud ymholiadau.

A gaf fi eich llongyfarch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae behemoth o wefan Llywodraeth Cymru yn gwahodd busnesau yn yr ardal fenter i wneud cais am gymorth ariannol tuag at gost ardrethi busnes, neu i wrthbwyso yn erbyn ardrethi busnes, ar gyfer 2016-17. Mae’r cynllun hwnnw wedi bod ar agor ers 4 Ebrill, sydd ychydig yn gynt na rhai o’r lleill a grybwyllwyd heddiw. Clywais eich ateb i David Rees, ond faint o fusnesau sydd wedi gwneud cais yn benodol am ryddhad ardrethi busnes, os caf ei alw’n hynny? O’r tua 200 o fusnesau rydych wedi cysylltu â hwy, mae’n ymddangos bod camau dilynol wedi’u rhoi ar y gweill gyda 44 ohonynt. Pa gamau dilynol a roesoch ar y gweill gyda’r rhai nad ydynt wedi ymateb i lythyru uniongyrchol, ac a fyddwch yn cynllunio i wneud hynny yn y dyfodol agos os nad ydych wedi’i wneud eto?

Gallaf ddilyn y cwestiwn gyda dadansoddiad o’r hyn y mae’r 44 o fusnesau sydd wedi derbyn ein cynnig o gymorth yn dymuno cael cymorth gydag ef mewn gwirionedd; mae’n ddigon posibl mai ardrethi busnes yw hynny neu gallai fod yn fath arall o gymorth y gallwn ei gynnig. Byddaf yn rhoi cymaint o wybodaeth i’r Aelod ag y gallaf yn rhesymol ei wneud, fel ein bod i gyd yn fwy gwybodus ynglŷn â’r hyn y mae busnesau yn yr ardal ei angen.

O ran yr 11 o fusnesau sy’n gysylltiedig â chadwyn gyflenwi Tata nad ydynt wedi gofyn am gymorth ychwanegol, mae yna nifer o resymau dros hynny, ond unwaith eto, byddaf yn gwneud fy ngorau i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â pham y maent wedi dewis peidio â manteisio ar ein cynnig o gymorth ychwanegol.

Busnesau Bach yng Nghaerffili

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau bach yng Nghaerffili? OAQ(5)0019(EI)

Mae cefnogaeth eang ar gael drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru i fusnesau bach yn ardal Caerffili a ledled Cymru. Rydym yn parhau i ganolbwyntio’n llwyr ar gefnogi menter, swyddi a’r economi.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Er mwyn i fusnesau barhau’n rhai hirdymor a chynaliadwy, mae angen iddynt adeiladu cysylltiadau cadarnhaol â’i gilydd. Mae Canolfan Arloesi Menter Cymru, yn fy etholaeth, yn ganolfan arloesi rhwng cymheiriaid ar gyfer menter, lle y ceir llwyth o fusnesau yno i gefnogi ei gilydd. Yn wir, heddiw, roedd gan gapten arloesi, ac arweinydd Canolfan Arloesi Menter Cymru, erthygl yn y Western Mail o dan y pennawd ‘Everyone’s talent needed to secure future of Wales’; Gareth Jones yw hwnnw. Mae Canolfan Arloesi Menter Cymru yn gwneud cyfraniad gwerth ychwanegol gros net i’r economi o £13.8 miliwn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet longyfarch Canolfan Arloesi Menter Cymru ar y llwyddiant y maent wedi’i gael, a meddwl hefyd sut y gallwn feithrin y cysylltiadau busnes hyn, yng Nghaerffili ac wrth gwrs, ymhellach i ffwrdd yn yr ardal ehangach, i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol?

A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a chytuno hefyd fod Gareth Jones yn gapten gwych ar Ganolfan Arloesi Menter Cymru? Mae hefyd yn frodor o etholaeth De Clwyd. Mae rhwydweithio a rhannu gofod yn rhan allweddol o’r dull sy’n cael ei ddatblygu o dan y rhaglen cyflymu entrepreneuriaeth ranbarthol, a gadeirir gan Simon Gibson. Fel rhan o’r dystiolaeth sy’n cael ei hystyried, mae rhaglen gyflymu 12 wythnos o hyd i fusnesau cyn iddynt gychwyn yn cael ei darparu drwy raglen cyflymu twf Busnes Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Menter Cymru. Hoffwn longyfarch gwaith Canolfan Arloesi Menter Cymru, yn enwedig eu llwyddiant rhyfeddol hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen at gyflawni addewid maniffesto Llafur Cymru i greu canolfannau tebyg ledled Cymru er mwyn hybu arloesedd, creadigrwydd a menter.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo 100,000 o brentisiaethau ychwanegol dros y cyfnod nesaf. Pa gamau penodol ydych chi am eu cymryd i sicrhau bod busnesau bach yn gallu manteisio o’r cyfleoedd o ganlyniad i’r addewid yna?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’n hanfodol bwysig i economi Cymru ein bod yn creu 100,000 o brentisiaethau o safon. Amcangyfrifir y bydd pob prentisiaeth yn werth oddeutu £130,000 ar gyfartaledd dros yrfa gyfan, felly bydd yn creu buddiannau economaidd sylweddol i economi Cymru.

Bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn gyfrifol am sicrhau bod 100,000 o brentisiaethau yn cael eu creu a’u llenwi. Mae gennym hanes balch iawn yng Nghymru o ran cyfraddau cwblhau: maent yn llawer uwch nag yn Lloegr, ac oddeutu 85 y cant yma yng Nghymru ar hyn o bryd o’i gymharu â’r ffigwr isel i ganolig o 70 y cant yn Lloegr. Felly, byddaf yn gweithio gyda’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i sicrhau bod busnesau o bob maint, ym mhob rhan o Gymru, yn ymwybodol o’r cyfleoedd y mae’r system brentisiaethau yng Nghymru yn eu cynnig.

Rwy’n dymuno’r gorau i’r Gweinidog ar gyfer dringo mynydd economaidd Cymru. Roedd arolwg diweddar gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru yn holi aelodau am y blaenoriaethau allweddol y buasent yn hoffi eu gweld gan Lywodraeth Cymru. Roedd ugain y cant o’r ymatebwyr yn awyddus i weld un corff yn cael ei greu i gefnogi busnesau bach yng Nghymru. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i sefydlu un corff y gall cwmnïau droi ato i gael gwybodaeth er mwyn cydlynu cymorth i fusnesau bach yng Nghaerffili a gweddill Cymru?

Diolch i’r Aelod am ei sylwadau caredig a’i gwestiwn. Wel, wrth gwrs, mae gwasanaeth £61 miliwn Busnes Cymru yn parhau i gynnig un man o’r fath i fusnesau bach droi ato. Lansiwyd cam diweddaraf Busnes Cymru ym mis Ionawr, gyda’r nod o greu 10,000 o fusnesau newydd a 28,300 o swyddi newydd a darparu cymorth i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc ac i helpu busnesau bach a chanolig sy’n bodoli eisoes i dyfu. Mae hynny’n rhywbeth y mae Busnes Cymru wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus yn ei gyflawni hyd yma—fel y dangosir yn ein ffigurau cyflogaeth, ein ffigurau diweithdra a’n ffigurau ar gyfer busnesau bach newydd. Felly, mae gennym fesur o lwyddiant hyd yma yn hyn o beth, ond rwy’n awyddus i sicrhau bod Busnes Cymru yn parhau i ddarparu ar gyfer busnesau a phobl ein gwlad.

Cefnogi Busnesau

7. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi busnesau yng Nghymru yn y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0001(EI)

Rydym yn Llywodraeth sy’n cefnogi busnesau ac un o fy mlaenoriaethau cyntaf fydd siarad â busnesau mawr a bach, yn ogystal â phartneriaid allweddol, am eu safbwyntiau ynglŷn â datblygu’r dull cywir o dyfu ffyniant a darparu diogelwch ariannol gwell i fusnesau ac unigolion, ar hyd a lled Cymru.

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd. Mae’n bosibl mai ardrethi busnes yw un o’r costau mwyaf i gwmni ar ôl cyflogau a rhent. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi rhybuddio y gallai manwerthwyr Cymru wynebu’r cynnydd serthaf mewn ardrethi busnes yn y Deyrnas Unedig o’r flwyddyn nesaf ymlaen, yn sgil ailbrisio eiddo. A yw’r Gweinidog yn cytuno ei bod hi’n bryd cael adolygiad radical o ardrethi busnes, er mwyn gwneud y system yn deg, yn effeithiol ac yn effeithlon, ac yn fwy cysylltiedig â gallu cwmni i dalu yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn ynglŷn ag ardrethi busnes. Wrth gwrs, y rheswm pam ein bod wedi gwneud gostyngiad yn y dreth ar fusnesau yn un o’n prif flaenoriaethau oedd oherwydd gwerth busnesau bach i’r economi ar draws y wlad. Mae Chris Sutton yn gwneud gwaith pwysig yn hyn o beth ac rwy’n cymryd ei gyngor o ddifrif ac yn craffu ar yr hyn sydd ganddo i’w gynnig yn ofalus iawn ac wrth gwrs, os yw’n dychwelyd gyda mwy o gyngor ar hyn byddaf yn ei ystyried yn briodol.

Datblygu Croesiad y Fenai

8. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ddatblygiad croesiad y Fenai? OAQ(5)0006(EI)[W]

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu achos busnes ar gyfer trydydd croesiad dros y Fenai ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gyflwyno argymhellion ar gyfer astudiaeth ar y llwybr a ffefrir.

Diolch yn fawr iawn. Mae’r Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi bod yn gwthio yn gyson am fuddsoddiad mewn trydydd croesiad neu ddeuoli y Britannia, yn dibynnu pa ffordd rydych chi eisiau ei weld o. Mi oeddwn i’n ddiolchgar iawn o weld y Llywodraeth yn cytuno i fwrw ymlaen â’r astudiaeth fusnes yn ddiweddar ac rwy’n siŵr y bydd y cynlluniau yn dod rhagddyn nhw yn fuan.

Rŵan, heddiw mae’r National Grid wedi cyhoeddi’u cynlluniau diweddaraf ar gyfer trosglwyddo trydan ar draws Ynys Môn a’r Fenai. O ran croesi Ynys Môn, mae’r grid yn gwbl ddigyfaddawd o ran ei benderfynoldeb i gadw’r gwifrau uwchben y ddaear. Maen nhw am fynd o dan y Fenai—mi fyddem ni’n disgwyl iddyn nhw wneud hynny; nid oedd ganddyn nhw fawr o ddewis. Ond onid oes yna gyfle yn y fan hyn i gael ychydig o gydweithio rhwng gwahanol adrannau, os hoffwch chi, sef drwy fynd â’r gwifrau ar draws pont newydd ar draws y Fenai a chael y grid i gyfrannu at y gost honno? Rwyf yn ymwybodol bod yna broblem yma o ran yr amseru, ond a wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad i wneud popeth o fewn ei allu i oresgyn y problemau hynny, achos mae yna gyfle go iawn i ladd dau dderyn efo un garreg yn fan hyn?

Yn bendant. Mae’r Aelod yn graff ac yn gywir yn ei sylwadau a’i argymhellion. Cyfarfûm â’m swyddogion heddiw i drafod yr union fater hwn. Rydym yn croesawu’r newyddion diweddaraf ar y prosiect heddiw, a gyhoeddwyd gan y Grid Cenedlaethol. Mae wedi darparu mwy o fanylion ynglŷn â’r opsiynau tanddaearol ar gyfer croesi’r Fenai, ac mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â’r Grid Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod unrhyw ateb yn addas i’r diben, nid yn unig ar gyfer creu cysylltiad ond er mwyn diogelu a bod yn ymwybodol o’r amgylchedd lle caiff ei roi. Felly, bydd dimensiwn y grid yn cael ei ystyried yn rhan o’r achos busnes.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Rŷm ni nawr yn symud ymlaen at gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Mae’r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden.

Gwella Iechyd a Llesiant Pobl Cymru

Diolch i chi, Lywydd. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei gweld ar gyfer chwaraeon—

O, mae’n ddrwg gennyf. [Chwerthin.] Y Gweinidog. [Torri ar draws.] Ie, wel, un diwrnod, Becs, un diwrnod. [Chwerthin.] Mae’n ddrwg gennyf, rwyf am ddechrau eto.

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei gweld ar gyfer chwaraeon o ran helpu i wella iechyd a llesiant pobl Cymru? OAQ(5)0015(HWS)

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol drwy chwaraeon. Chwaraeon Cymru yw ein hasiant cyflenwi allweddol ac maent yn gweithio gydag ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â’n hagenda o wneud Cymru yn genedl fwy heini ac iach.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae cyngor Merthyr wedi sicrhau cyllid o bron i £12.9 miliwn o dan raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau adfywio ym Merthyr Tudful. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i ganmol menter Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful a chyngor Merthyr Tudful am ddefnyddio grant o’r trefniant cyllid hwn i gefnogi datblygiad cyfleuster modern ym Mharc Penydarren, gan ddarparu menter chwaraeon cymunedol cynaliadwy, sy’n annog mwy o ymgysylltiad rhwng y cyhoedd a’r clwb yn ogystal â sicrhau manteision economaidd lleol ychwanegol, wrth gwrs, sy’n codi o’r contract adeiladu a ddaeth gyda hynny?

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n sicr yn ymuno â chi i ganmol Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful a chyngor Merthyr Tudful am weithio mewn partneriaeth i sicrhau dyfodol cynaliadwy i chwaraeon cymunedol yn yr ardal, ac rwy’n hynod o falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu chwarae ei rhan drwy ddarparu dros £2 filiwn o’r cyllid ar gyfer Parc Penydarren drwy ein rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae hynny’n dangos ein hymrwymiad i ddarparu cyfleuster hyblyg newydd ar gyfer hamdden yn ogystal ag addysg a hyfforddiant yn yr ardal. Hoffwn ychwanegu pa mor falch wyf fi fod UEFA wedi cyhoeddi mai Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful oedd y clwb llawr gwlad gorau yn Ewrop y llynedd. Rwy’n credu bod hwnnw’n gyflawniad aruthrol.

Weinidog, mae rhan chwaraeon yn gwella iechyd y cyhoedd yn wirioneddol werthfawr, ond mae’n ymddangos nad yw un sector o’n cymdeithas yn cymryd rhan i’r un graddau â’r rhan arall, sef dynion yn erbyn menywod—. Mewn arolwg cenedlaethol, dangoswyd bod 100,000 yn llai o fenywod na dynion yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Cafwyd ymgyrch weithredol ar draws y DU o’r enw This Girl Can i godi lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon drwy symud y tu hwnt i rai o’r modelau ystrydebol o bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a dangos bod chwaraeon i bawb mewn gwirionedd. A oes gan Lywodraeth Cymru safbwynt ar yr ymgyrch benodol hon ac yn wir, a yw Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i lunio camau gweithredu mewn perthynas â’r ymgyrch fel y gallwn gyrraedd pob cymuned a dangos nad yw chwaraeon yn weithgaredd ar gyfer math penodol o unigolyn—ei fod i bawb?

Yn bendant. Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n falch fod gennym eisoes dros 3,500 o chwaraewyr pêl-droed benywaidd o dan 18 oed wedi’u cofrestru yn ogystal â bron i 1,500 o fenywod sy’n oedolion. Credaf efallai y bydd y gemau presennol yn ysbrydoli mwy ohonynt i ystyried cymryd rhan yn hynny. Ond rydych yn hollol gywir fod chwaraeon yn chwarae rhan bwysig ym maes iechyd y cyhoedd, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfuno chwaraeon ac iechyd y cyhoedd yn yr un portffolio. Rwy’n awyddus iawn i gael gwybod mwy am y rhaglen This Girl Can; efallai y gallwn gael cyfarfod i drafod hynny ymhellach, oherwydd rwy’n awyddus iawn i weld beth y gallwn ei wneud i annog merched a menywod i fod â mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a hamdden yn ogystal.

Rwy’n ymwybodol ein bod yn gwneud gwaith gwych drwy Street Games, sy’n annog merched yn benodol i gymryd rhan mewn dawnsio stryd a mathau eraill o weithgaredd sydd y tu hwnt i’r pêl-rwyd a’r hoci traddodiadol, nad ydynt yn apelio at bawb, rwy’n gwybod.

Yn Nwyrain Casnewydd, rydym wedi bod yn cyfarfod yn lleol—fi, y bwrdd iechyd lleol, yr ymddiriedolaeth hamdden, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, y cyrff chwaraeon lleol a llu o rai eraill—i weld sut y gallwn gael y boblogaeth leol yn fwy corfforol egnïol. Felly, tybed a fuasech yn cytuno, Weinidog, y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r ymdrechion hynny, oherwydd os ydym am fod yn fwy rhagweithiol a bwrw ymlaen gydag iechyd ataliol, mae angen i ni ddod â phartneriaid at ei gilydd i gyflawni camau gweithredu ystyrlon yn lleol, ar hyd a lled Cymru.

Rydych yn hollol gywir i nodi mai gweithio mewn partneriaeth yw’r ateb a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru, gyda Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi penodi cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol ar gyfer Cymru, ac mae’r cyfarwyddwr hwnnw yn paratoi cynllun gweithredu ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ymlaen at gael hwnnw tua diwedd y tymor hwn. Byddaf yn treulio’r haf yn ei ystyried ac yn siarad â rhanddeiliaid amdano, gyda golwg ar ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn yr hydref, a nodi’r camau gweithredu ar gyfer y camau nesaf.

Gwella Gwasanaethau Diabetes

2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau i bobl yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad, sydd â diabetes? OAQ(5)0002(HWS)

Diolch am y cwestiwn yn ystod Wythnos Diabetes. Rydym yn buddsoddi bron i £100 miliwn bob blwyddyn mewn gofal diabetes penodol a byddwn yn parhau i fuddsoddi £1 filiwn y flwyddyn ar gyfer gwella drwy’r grŵp gweithredu diabetes a arweinir gan y GIG. Rydym yn disgwyl gweld canlyniadau gwell i gleifion drwy gyrraedd safonau gwasanaeth cenedlaethol yn gyson, cynorthwyo cleifion i hunanreoli drwy raglenni addysg a helpu i atal pobl sy’n wynebu risg uchel rhag datblygu diabetes.

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd busnes. Mae ffigurau gan Diabetes UK Cymru yn datgelu bod nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru yn uwch nag erioed. Mae eu cyfarwyddwr wedi tynnu sylw at y diffyg dealltwriaeth o ran ymwybyddiaeth pobl o ddifrifoldeb diabetes. O ystyried mai Cymru sydd â’r gyfradd waethaf o ordewdra ymysg plant, a yw’r Gweinidog yn cytuno bod angen i ni atal plant rhag mynd dros bwysau er mwyn gostwng lefelau diabetes? Pa gynlluniau sydd ganddo i weithio gydag ysgolion a rhieni i wella’r wybodaeth sydd ei hangen i gyflawni’r nod hwn yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn dilynol. Wrth gwrs, mae gennym ddau fath o ddiabetes: math 1, nad yw’n gysylltiedig o gwbl â ffactorau’n ymwneud â ffordd o fyw unigolyn, a math 2, sydd, a bod yn onest, yn gysylltiedig â ffactorau sy’n ymwneud â ffordd o fyw unigolyn. Felly, mae angen i ni ymdrin â’r ddau fater hwnnw. Mae nifer o blant o wahanol oedrannau yn deall bod ganddynt ddiabetes math 1 ac mae angen i ni wneud yn siŵr fod y gofal a’r cymorth y maent yn ei gael yn briodol, a hefyd, o ran diabetes math 2, mae’n ymwneud llawer mwy ag atal. Felly, gadewch i mi fynd i’r afael â’r ddau bwynt hwnnw. Gyda math 2, mae’n ymestyn ar draws ystod o fesurau iechyd cyhoeddus; nid cyfrifoldeb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn unig mohono na chyfrifoldeb chwaraeon hyd yn oed—mae gan amrywiaeth eang o bobl eraill ran i’w chwarae yn hyn, er enghraifft, y gwaith rydym yn ei wneud ar ysgolion iach a’r ffordd y mae ysgolion yn ymgysylltu. Ym mhob ysgol rwy’n ymweld â hwy yn fy etholaeth fy hun a ledled y wlad, fe welwch neges glir iawn ar fwyta ac yfed yn iach ac ymwybyddiaeth o siwgr yn arbennig. Felly, mae amryw o’r pethau rydym yn eu gwneud i annog pobl i wneud dewisiadau gwahanol yn bwysig. Mae’n rhaid i ni weithio gyda rhieni yn ogystal, oherwydd beth bynnag y mae plant yn ei gael yn yr ysgol, gwyddom fod dylanwad llawer mwy y tu allan i giatiau’r ysgol hefyd.

I ailadrodd canlyniadau difrifol diabetes, ddoe disgrifiodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro fenyw yn ei 50au a oedd wedi colli ei golwg mewn un llygad; roedd ganddi ddiabetes math 1. Ni lwyddodd i reoli ei chyflwr yn dda yn ei 20au a 30au ac erbyn hyn mae hi wedi colli ei golwg yn ei llygad. Mae hi’n annog pobl i fanteisio ar y rhaglenni addysg i gleifion sydd ar gael. Mae yna amrywiaeth eang o bobl yn wynebu risg, ac ystod eang o negeseuon a chamau sydd angen i ni i gyd eu rhoi ar waith. Mae’n fater cymhleth, ond yn un na allwn ei osgoi.

Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, fe glywoch chi a minnau gan bobl sydd â diabetes am y gwelliannau sydd wedi digwydd yn y gwasanaethau ledled Cymru. Mae hynny i’w ganmol ac i’w ddathlu—y gwaith a wnaeth eich rhagflaenydd, Mark Drakeford, ar weithredu’r cynlluniau diabetes. O ganlyniad, rydym yn awr yn destun eiddigedd hyrwyddwyr negeseuon diabetes yn Lloegr, am fod gan bob bwrdd iechyd arweinydd ar gyfer diabetes, ac rwy’n siŵr fod hwnnw’n un o’r rhesymau pam y gwelsom gymaint o welliant yn y ffordd rydym yn gofalu am bobl sydd â diabetes. Ond fe fyddwch hefyd yn cofio i ni glywed gan fam i blentyn a fu farw o ddiabetes math 1 na wnaed diagnosis ohono, ac roeddwn yn meddwl tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda gwasanaethau eraill i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r ffactorau risg posibl a’r arwyddion a allai ddynodi fod rhywun â diabetes math 1.

Diolch am y cwestiwn. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi yn y digwyddiad ddoe i dynnu sylw at Wythnos Diabetes a’r gwaith y maent yn ei wneud yma yng Nghymru i wella’r sefyllfa. Mae’r pwynt am ddiabetes na wnaed diagnosis ohono yn berthnasol i fath 1 a math 2 a’r ffactorau risg sy’n codi. Mae’n achos arbennig o anodd, a byddaf yn hapus i gyfarfod â chi a’r grŵp trawsbleidiol eto. Rwy’n deall y bydd y fam yn mynychu’r grŵp trawsbleidiol nesaf i egluro ei phrofiadau ei hun. Mae yna neges yma am ymwybyddiaeth rhwng iechyd ac addysg, am ffactorau y gellid bod wedi sylwi arnynt yn gynharach. Rwy’n falch iawn o weld bod y fam yn awyddus i sicrhau bod pobl eraill yn dysgu’r gwersi ac yn deall ac yn adnabod mwy o’r arwyddion; mae yna neges gadarnhaol yno. Ond rwy’n wirioneddol falch o’ch clywed yn cydnabod y gwelliannau rydym wedi’u gwneud mewn gofal cleifion yma yng Nghymru. Yn benodol, roedd Diabetes UK yn glir iawn ynglŷn â’r ffaith fod yna fomentwm go iawn yma yng Nghymru o ran gwella gofal, a’u bod am weld hynny mewn rhannau eraill o’r DU. Felly, mae rhywfaint o newyddion da i ni yma yng Nghymru, ond i’r un graddau, ceir cydnabyddiaeth fod llawer mwy i’w wneud.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet ac, yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer yr achosion o ganser yn cynyddu, gyda disgwyl y bydd un o bob dau unigolyn a anwyd ar ôl 1960 yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes. Felly, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod sgrinio cynnar yn hanfodol. Diau y byddwch yn ymwybodol ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol yr wythnos hon. Canser ceg y groth yw’r canser mwyaf cyffredin mewn menywod o dan 35 oed, ond y newyddion da yw bod y gyfradd farwolaethau ar gyfer y math hwn o ganser yn gostwng ac yn is nag oedd rai blynyddoedd yn ôl. Dyna pam rwy’n rhannu pryder elusennau canser, gan fod cyfraddau sgrinio ledled Cymru ar gyfer menywod o bob oed o ran canser ceg y groth yn disgyn. Weinidog, a allwch ddweud wrthyf beth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i annog menywod yng Nghymru i gael eu sgrinio am arwyddion posibl o’r clefyd hwn?

Diolch am y cwestiwn. Mae’n bwynt teg i’w nodi ynghylch yr hyn y mae angen i ni ei wneud, ond nid yn gymaint o ran ymateb y gwasanaeth iechyd i’r cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau canser—yn wir, dros y saith mlynedd diwethaf, mae nifer yr atgyfeiriadau canser brys i mewn i’r GIG wedi dyblu, ac mae’n gyflawniad hynod ei fod wedi llwyddo i ymdrin â’r rheini yn y fath fodd amserol, o ystyried y cynnydd yn y niferoedd—ond mae yna bwynt am ein dealltwriaeth ni fel dinasyddion unigol o negeseuon gofal iechyd a’r ffactorau risg sydd gennym, a manteisio ar y cyfle hwnnw i gael ein sgrinio fel sy’n cael ei ddarparu gan ein rhaglenni mewn gwirionedd. Felly, mae angen deall lle’r ydym yn awr, rhywbeth y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych arno, ac mae angen i ni bob amser adolygu a deall lle’r ydym yn llwyddo, beth sydd angen i ni wneud mwy ohono ac yn yr un modd, lle nad ydym yn cyflawni’r hyn y disgwyliwn ei gyflawni. Mae’n rhywbeth rwyf wedi’i ddwyn i’w sylw, nid yn unig mewn perthynas â sgrinio serfigol ond hefyd mewn perthynas â chanser y coluddyn, er enghraifft, hefyd, o ran beth arall y gallem ei wneud. Weithiau, mae’n ymwneud â’r prawf ac felly mae’n ymwneud â pherswadio pobl i wneud mwy i ddiogelu eu gofal iechyd eu hunain, yn awr ac yn y dyfodol.

Diolch am hynny, er fy mod yn credu, Weinidog, ein bod ein dau’n gwybod lle rydym yn sefyll ar hyn. Mae’r cyfraddau’n gostwng ac mae angen i ni wneud pobl yn fwy cyfrifol am eu hiechyd eu hunain. Mewn gwirionedd, fy nghwestiwn oedd beth y gallwch ei wneud i annog pobl i gael y prawf sgrinio hwn. Felly, os symudwn at ganser y coluddyn, fel rydych eisoes wedi’i grybwyll, un o’r syniadau yw bod prawf sgrinio canser y coluddyn ar hyn o bryd yma yng Nghymru er enghraifft yn cael ei wneud bob dwy flynedd i rai rhwng 60 a 74 oed; mae’r Alban yn cynnal y prawf sgrinio hwn o 50 oed ymlaen; ac mae Lloegr ar hyn o bryd yn cyflwyno ail brawf sgrinio ar y coluddyn, y profwyd ei fod yn lleihau’r risg y bydd unigolyn yn datblygu canser y coluddyn 33 y cant, ac mae’r Alban hefyd yn bwriadu treialu hwn. Felly, unwaith eto, Weinidog, ar fath arall o ganser, rwy’n gofyn i chi: pam y dylai’r rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf o gael canser y coluddyn gael llai o gyfle i gael diagnosis cynnar yma yng Nghymru? Mae’r ddau ohonom yn gwybod bod rhaid i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb am ein hiechyd, ond beth y gallwch chi fel Llywodraeth ei wneud i wella’r cyfraddau sgrinio ar gyfer canser ceg y groth a chanser y coluddyn?

Wel, rwy’n credu bod yna ymwybyddiaeth eithaf uchel o sgrinio canser ceg y groth a sgrinio canser y coluddyn hefyd. Yr her yw sut y gallwn ei gwneud yn hawdd i bobl fanteisio ar y cyfleoedd hynny. O ran canser y coluddyn yn arbennig, nid yw’n ymwneud yn gymaint â’r cyngor y mae pobl yn ei gael, oherwydd byddwn yn dilyn y cyngor rydym yn ei gael ynglŷn â’r man mwyaf priodol i bobl gael eu sgrinio, ond mae’n ymwneud â’r prawf. Oherwydd, a dweud y gwir, nid yw’r prawf yn un dymunol iawn i orfod ei wneud ar hyn o bryd; ni wnaf ei ddisgrifio. Ond y realiti yw bod yna botensial ar gyfer prawf newydd—bydd yn haws i’w gyflawni, ac rydym felly yn llawer mwy tebygol o weld llawer mwy yn manteisio arno, a llawer mwy o wyliadwriaeth a rhybudd cynharach i bobl mewn gwirionedd. Felly, mae rhywbeth ynglŷn â sut y gall technoleg a newid helpu pobl i gael prawf sgrinio, a manteisio ar adnoddau sgrinio sydd ar gael. Felly, mae angen i ni ystyried y cynnydd a wnaed a deall os yw’r dystiolaeth yn dweud y bydd yn gwneud gwaith gwell, bydd angen i ni wneud yn siŵr wedyn ei fod yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gyson ledled y wlad.

Rwy’n cytuno â chi mai’r unig beth rwyf wedi’i glywed am y prawf yw ei fod yn annymunol iawn. Fodd bynnag, cael prawf neu gael canser, mae’n ddewis amlwg a byddaf yn gwneud unrhyw beth i’ch cynorthwyo i geisio lledaenu’r neges y dylai pobl fod yn gwneud hyn. Oherwydd canser y coluddyn, canser yr ysgyfaint, canser y prostad a chanser y fron yw dros 50 y cant o’r diagnosis a wneir yng Nghymru. Fel y dywedoch chi’n gynharach, mae nifer blynyddol yr achosion o ganser yn parhau i godi. Nid yw’r targed o 95 y cant ar gyfer cleifion canser newydd gael diagnosis a atgyfeiriwyd drwy’r llwybr brys i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i gael eu hatgyfeirio wedi cael ei gyrraedd ers 2008. Felly, sut y byddwch chi, Weinidog, yn ceisio mynd i’r afael â’r meysydd hyn pan fyddwch yn llunio eich cynllun cyflawni newydd ar gyfer canser sydd i’w gyhoeddi yn nes ymlaen eleni? Ac o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi’i chael hi’n anodd cyflawni’r cynllun blaenorol, sut y gallwn fod yn hyderus y byddwch yn llunio ac yn gweithredu cynllun newydd yn drwyadl ac yn llwyddiannus?

Wel, diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Nid wyf yn rhannu eich asesiad optimistaidd y bydd pobl yn manteisio ar y prawf cyhyd â’u bod yn deall bod prawf yn bodoli neu’n deall y risg o ganser. Nid wyf yn siŵr nad oes llawer o bobl yn gwneud y dewis hwnnw hyd yn oed. Felly, mae yna lawer o ffactorau risg i ganlyniadau iechyd y mae pobl yn eu hanwybyddu. Yn aml ceir ymwybyddiaeth uchel iawn o batrymau ymddygiad iechyd a’u heffeithiau. Yr her felly yw sut rydym yn perswadio pobl i newid eu hymddygiad eu hunain, a sut rydym yn ei gwneud hi’n hawdd iddynt wneud hynny, boed yn smygu, yfed, ymarfer corff—amrywiaeth eang o ffactorau.

Hefyd, yn arbennig o ran y targed 62 diwrnod, rwy’n cydnabod nad ydym wedi cyrraedd ein targed ymestynnol. Wrth gwrs, mae’n un o’r pethau hynny—mae gennym darged uwch na Lloegr; pe bai gennym darged Lloegr, byddem yn ei gyrraedd yn rheolaidd. Felly, mae rhywbeth i’w ddweud o hyd, nid yn unig dros gymharu ein hunain â Lloegr, ond dros gael uchelgeisiau gwirioneddol i sicrhau canlyniadau. Oherwydd un o’r pethau y gallwn gael cysur gwirioneddol ac optimistiaeth ohono, yw hyn: nid yn unig y mae mwy a mwy o bobl yn cael diagnosis, yn cael eu gweld a’u trin, ond hefyd mae cyfraddau goroesi canser yn gwella.

Ond mae’n rhaid i ni ei gwneud yn her, ac yn uchelgais, yn y cynllun cyflawni newydd ar gyfer canser i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gynaliadwy, fel ein bod yn mynd i’r afael â’r ôl-groniadau ar restrau aros am driniaeth, a lle mae’r triniaethau gorau ar gael yn gyson. Mewn gwirionedd, ein huchelgais yw cael cyfraddau goroesi canser sy’n cymharu â’r gorau yn Ewrop oherwydd, ar draws y DU, nid ydym yn gwneud yn ddigon da, ac mae angen gonestrwydd a chydnabyddiaeth mai dyna lle rydym yn awr, er mwyn gweld y budd a’r gwelliant a gawsom, ac er mwyn cydnabod hynny hefyd, ond ar yr un pryd, mae angen cael uchelgais go iawn ynglŷn â’r dyfodol ac yna canfod ffordd ymarferol o symud ymlaen ar hynny. Ni fydd y cynllun cyflawni yn rhywbeth a fydd yn nwylo Llywodraeth yn unig. Bydd gennym bartneriaeth draws-sector, gan gynnwys y sector gwirfoddol hefyd, yn ogystal â’r GIG, yn ogystal â Llywodraeth, i symud y cynllun yn ei flaen, a gwneud yn siŵr, gobeithio, ein bod yn ei weld yn cael ei weithredu’n llwyddiannus ym mhob man.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am help ar gyfer salwch meddwl, beth fydd y Llywodraeth newydd yn ei wneud i wella amseroedd aros ar gyfer mynediad at ofal iechyd meddwl?

Diolch am y cwestiwn. Mae iechyd meddwl yn faes blaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Fel y dywedais ddoe, wrth ymateb i ystod o gwestiynau, byddwn yn adnewyddu’r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl. Bydd hynny’n digwydd eleni hefyd, felly nid yw wedi mynd yn angof. Hefyd, yn hollbwysig, wrth gynnal yr ymgynghoriad a chyflawni’r cynllun gweithredu, byddwn yn siarad ac yn gwrando ar ddefnyddwyr y gwasanaethau eu hunain. Dyma oedd un o gryfderau’r hyn rydym wedi llwyddo i’w wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, er mwyn deall effaith presennol y gwasanaeth, a’r pethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth iddynt. Mae amrywiaeth o bethau i ni eu gwneud, ac mewn gwirionedd, iechyd meddwl yw’r maes gwariant unigol mwyaf yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, mae’n cael blaenoriaeth go iawn.

Rydym wedi newid ein safonau ar gyfer amseroedd aros iechyd meddwl er mwyn eu gwneud yn fwy llym ac mewn gwirionedd, rydym mewn sefyllfa well na Lloegr. Mae gennym wahanol safonau ar gyfer amseroedd aros—sy’n llawer mwy trylwyr—ac mae mwy o bobl yn cael eu gweld o fewn yr amser targed. Yr her i ni—yn dilyn y cwestiwn cynharach—yw cydnabod y cynnydd rydym wedi’i wneud, ac ar yr un pryd, deall beth arall sydd angen i ni ei wneud. Mae yna rywbeth am recriwtio a chadw staff, yn y gwasanaeth cymunedol yn ogystal ag yn y gwasanaeth gofal eilaidd. Felly, ein her nesaf yw wynebu hynny. Ond unwaith eto, drwy weithio gyda’r trydydd sector, a defnyddwyr y gwasanaethau eu hunain, rwy’n hyderus y byddwn yn parhau i weld gwelliant mewn triniaethau a chanlyniadau iechyd meddwl yma yng Nghymru.

Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae rhan o’r broblem gydag amseroedd aros am ofal iechyd meddwl yn ymwneud â chyllid. Iechyd meddwl yw’r perthynas tlawd yn ein GIG. A ydych yn cytuno y dylid clustnodi cyllid iechyd meddwl ar lefel lawer uwch na’r gwariant presennol?

Diolch am y cwestiwn. Tybed a oeddech yn meddwl eich bod yn gofyn cwestiwn am y system yn Lloegr, oherwydd yng Nghymru mae cyllid iechyd meddwl wedi’i glustnodi, ac fel y dywedais yn gynharach, hwnnw yw’r maes gwariant unigol mwyaf yn y GIG yng Nghymru. Rwyf wedi gweld ymgyrchoedd ar sail Cymru a Lloegr, ac mewn gwirionedd, maent yn siarad am y system yn Lloegr. Rwy’n cofio ymateb i lythyrau fel Dirprwy Weinidog ac ysgrifennu’n ôl at Aelodau Seneddol yn dweud, ‘Rydych yn ysgrifennu ataf am Loegr ac rydym yn gwneud pethau’n wahanol yma.’ Yr her i Loegr yw cau’r bwlch rhyngddi a Chymru yn y maes hwn, felly rwy’n credu’n wirioneddol fod gennym stori dda i’w hadrodd, ac nid o safbwynt y Llywodraeth yn unig, ond mae cymaint o hyn yn llifo o waith a wnaed yn y trydydd Cynulliad pan basiwyd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Ein safbwynt ar y pryd oedd bod angen rhoi mwy o flaenoriaeth i’r maes penodol hwn o’r gwasanaeth a’r effaith y mae’n ei chael, ac rwy’n falch iawn ein bod yn cyflawni ar hynny. Nid yw’n berffaith, ond rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol, a’r her yw sut yr awn ati i sicrhau gwelliant pellach i’r hyn rydym eisoes yn ei wneud.

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae toriadau i wariant awdurdodau lleol yn bygwth gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gymell cynghorau yng Nghymru i ddiogelu’r gwasanaethau iechyd meddwl a ddarparant, ac i wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector?

Nid wyf yn credu bod llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl uniongyrchol, ond maent yn darparu gwasanaethau sy’n effeithio ar iechyd meddwl a lles. Rydym i gyd yn cydnabod hynny. Er enghraifft, y sgwrs yn gynharach am iechyd a gweithgarwch corfforol: mae bod yn heini yn llesol i’ch iechyd corfforol, ond mae hefyd yn anhygoel o dda i’ch iechyd meddwl a’ch lles hefyd. Ac mae yna her onest yma hefyd i bob un ohonom yn y Siambr hon. Pan fyddwn yn sôn am gyllidebau—ac fe sonioch am doriadau i lywodraeth leol—y gwir plaen yw ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniad anodd er mwyn cynnal lefel uchel o wariant yn y GIG a gofal cymdeithasol—fel rydym wedi’i wneud—ac rwy’n falch ein bod wedi gwneud hynny. Ac mae gwneud hynny, cael 48 y cant o wariant y Llywodraeth yn yr adran benodol hon, yn golygu bod llai o arian wedi bod ar gael i’w wario ar lywodraeth leol. Roedd hwnnw’n benderfyniad gonest a wnaethom. Os yw pobl am ddod ataf fi neu at unrhyw un arall a dweud, ‘Rydym am weld mwy o arian i lywodraeth leol,’ mae’n rhaid i chi ddod o hyd iddo yn rhywle arall, ac mae hynny’n golygu cyfaddawdu mewn meysydd gwasanaeth eraill.

Mewn gwirionedd, rwy’n cydymdeimlo’n fawr â phobl mewn llywodraeth leol o bob lliw gwleidyddol, sy’n arwain awdurdodau lleol, am y penderfyniadau anodd iawn y byddant yn eu gwneud. Dyna yw’r ystyriaeth onest o gael lefel ostyngol o gyllid ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn gyffredinol: penderfyniadau anodd iawn i’w gwneud. Nid yw’n ymwneud yn unig â gwneud gwasanaethau’n fwy effeithiol gyda llai o arian, ond y gwir gonest fod pobl yn awr yn dewis beth i beidio â’i wneud. Felly, nid wyf am roi ateb slic drwy ddweud yn syml fod awdurdodau lleol angen gwella; mae angen i ni i gyd wneud yr hyn a allwn i wella gwasanaethau a chanlyniadau; mae angen i ni i gyd wynebu’r realiti fod llai o arian i’w wario, ac rydym yn gwneud penderfyniad i ariannu’r GIG, ac mae hynny’n golygu llai o arian ar gyfer llywodraeth leol.

Diolch, Lywydd. Ddwy flynedd yn ôl, mi wnaeth Plaid Cymru dynnu sylw at amseroedd aros brawychus ar gyfer sganiau MRI yng Nghymru o’u cymharu efo Lloegr a’r Alban. Roedd dros 40 y cant o gleifion bryd hynny yn aros dros chwech wythnos yma, o’u cymharu efo 1 y cant yn Lloegr a 2 y cant yn yr Alban. Rŵan, yn dilyn hynny a chryn sylw yn y wasg ar y pryd, mi wnaethoch chi ymdrech i daclo’r mater ac mae’r amseroedd aros rŵan wedi gostwng— rhyw 17.6 y cant o gleifion sy’n aros dros chwech wythnos am sgan bellach. A ydy’r ffigur yna yn dderbyniol, a pha sicrwydd a allwch chi ei roi y bydd y patrwm o fyrhau amseroedd am sgan MRI yn parhau?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at faes lle rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf. Oherwydd ar y pwynt uchaf a gyrhaeddwyd gennym yn ystod yr haf y llynedd, roeddem yn wynebu her wirioneddol o ran deall yr hyn a allai ac a ddylai ddigwydd i leihau’r amseroedd aros diagnostig. Rydym yn awr mewn lle llawer gwell ac mae MRI yn enghraifft dda: mae ar sero i bob pwrpas mewn sawl bwrdd iechyd—o leiaf ddau—felly nid oes yna bobl sy’n aros yn hwy na’r amser targed, ond mae gennym her go iawn yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru, lle mae llawer gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir. Felly, rwy’n llawn ddisgwyl ei bod yn neges y mae’r gwasanaeth yn ei deall yn iawn. Bydd y cynnydd rydym wedi’i wneud, yn enwedig dros chwe mis olaf y llynedd, yn parhau eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ffigurau’r chwarter cyntaf, ac yn enwedig ail chwarter y flwyddyn hon, er mwyn deall a yw’r uchelgais o fewn y gwasanaeth yn cael ei wireddu, oherwydd rwy’n sicr yn disgwyl gweld hynny.

Beth mae’r gwelliant, wrth gwrs, yn ei ddangos yw bod ymdrechu yn talu, ac na ddylen ni fyth dderbyn rywsut fod cyfyngiadau cyllidol, neu gynnydd mewn galw, yn arwain yn anochel at amseroedd aros hirach. Fel y dywedais i, fe gafodd sganiau MRI dipyn o sylw yn y wasg gwpwl o flynyddoedd yn ôl. Mae profion diagnostig eraill sydd ddim mor ddeniadol mewn penawdau, efallai, lle mae problemau mawr yn parhau, er enghraifft, colonosgopi neu ‘cystoscopy’. Mae perfformiad yn y rheini cynddrwg rŵan ag yr oedd ddwy flynedd yn ôl, efo tua hanner y cleifion yn aros dros chwech wythnos, o’i gymharu â 6 y cant yn Lloegr a 12 y cant yn yr Alban. Mae’r offer yn rhatach ar gyfer gwneud y profion, mae yna lai o alw am y profion ac mi all rhai syrjeris GP wneud y profion eu hunain. Rŵan, ar wahân i aros am benawdau papur newydd, beth wnaiff i chi roi yr un sylw i brofion colonosgopi a ‘cystoscopy’ ag a wnaethoch chi i brofion MRI?

Diolch i’r Aelod am ei ail gwestiwn ar y maes. Ar hyn, mae dau bwynt y byddwn yn eu gwneud, a’r cyntaf yw hwn: yn rhai o’r meysydd diagnosteg sydd ag amseroedd aros, mae’n ymwneud â’r gweithlu. Felly, mae yna heriau yn ein hwynebu, er enghraifft, o ran hyfforddi mwy o sonograffwyr yng Nghymru. Lle y cânt eu hyfforddi ar hyn o bryd, rydych yn tueddu i weld gwell canlyniadau. Er enghraifft, mae Abertawe a gorllewin Cymru yn gwneud yn well ar hyn na de-ddwyrain Cymru ac mae llawer o’r hyfforddiant yn cael ei gyflawni yn Abertawe. Felly, ni ddylai hynny fod yn syndod. Mae rhywbeth ynglŷn â’n cynllunio ar gyfer y gweithlu a deall ble a sut rydym yn hyfforddi mwy o staff, yn ogystal â denu pobl i mewn i’r wlad.

Yr ail bwynt y buaswn yn ei wneud yw hwn: o ran y sylw a roddir iddo, nid yw’n ymwneud â’r prif faterion mewn gwirionedd oherwydd, unwaith eto, yn fy rôl flaenorol ac yn y rôl hon, mae’n rhywbeth y bûm yn ei drafod yn rheolaidd gyda chadeiryddion a phrif weithredwyr byrddau iechyd ac yn sicr nid oedd diffyg ffocws ar yr angen i weld gwelliant. Dyna a welsom yn ystod hanner olaf y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n hynod, hynod glir gyda byrddau iechyd a’r cyhoedd fy mod yn disgwyl gweld gwelliant pellach. Mae yna rywbeth ynglŷn â deall sut y gallwn wella ein prif gyfraddau ar hyn o bryd a’r hyn sydd angen i ni ei wneud i wella’r system sy’n sail iddo—felly, gwella triniaeth ddiagnostig a lle y dylai hynny ddigwydd, oherwydd rydych yn gwneud pwynt teg wrth ddweud y gallai rhai o’r rhain ddigwydd mewn gofal sylfaenol. Dyna sy’n rhaid i ni ei wneud ar yr un pryd. Nid ydynt o reidrwydd yn bethau hawdd i’w gwneud: cynnal y prif berfformiad ar lefel dderbyniol a diwygio’r system, sy’n golygu gwneud rhai penderfyniadau anodd ac amherffaith ar adegau, ond dyna’n bendant rwy’n disgwyl i’r gwasanaeth ei wneud.

Ond mae yna gamau arloesol y gellid eu cymryd wrth gwrs. Wythnos diwethaf, mi wnaeth sefydliad Cancer Research gyhoeddi adroddiad ar y camau nesaf y maen nhw’n dymuno eu gweld yn cael eu cymryd ar gyfer strategaeth canser i Gymru. Maen nhw’n gofyn am gyflwyno targed pendant 28 diwrnod fel ein bod ni’n gallu gwella cyfraddau goroesi a, drwy hynny, maen nhw’n ychwanegu at y corws o adroddiadau awdurdodol eraill sy’n cefnogi ein polisi ni, fel Plaid Cymru, am gyflwyno targed diagnosis 28 diwrnod.

Cyn yr etholiad, mi wnaeth eich Llywodraeth chi wrthod y targed yna, er bod prif oncolegwyr Prydain i gyd, mwy neu lai, yn galw amdano. Rŵan, er mwyn cyrraedd y fath darged, mi fyddai angen gwell amseroedd aros ar gyfer llawer o brofion, gan gynnwys rhoi gwell mynediad uniongyrchol i feddygon teulu, i’r system brofi ac i arbenigedd mewn profi. A wnewch chi, felly, edrych eto ar bolisi Plaid Cymru o sefydlu tair canolfan ddiagnostig, amlddisgyblaeth o’r math sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Denmarc, fel rhan o strategaeth i leihau amseroedd am y profion diagnostig, cwbl allweddol yma?

Diolch am y trydydd cwestiwn. Cafwyd cydnabyddiaeth glir ar draws y pleidiau ac yn y gwasanaeth ers tro bod angen i ni wella mynediad at sicrwydd diagnostig er mwyn gwella canlyniadau canser, ond yr hyn nad ydym yn ei wneud mewn gwirionedd yw gweithredu targed gwahanol ar ddiagnosteg o fewn y llwybr canser. Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd hynny’n ein helpu mewn gwirionedd i gyrraedd lle rydym am fod o ran canolbwyntio ar yr amser y mae’n ei gymryd i gyrraedd triniaeth gyntaf, ond hefyd wedyn o ran canlyniadau i gleifion canser yn ogystal. Dyna lle mae ein ffocws yn mynd i fod.

Rydym eisoes wedi bod yn—. Mae swyddogion eisoes wedi bod yn Copenhagen yn edrych ar y gwaith y maent yn ei wneud i ddeall sut y mae ganddynt lwybr gwahanol a sut y mae hynny’n cyflymu mynediad at driniaeth a chanlyniadau, felly nid oes dim yn newydd yn yr ystyr honno ac mae’n rhan o’r hyn rydym wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf beth bynnag. Bydd ein ffocws, fodd bynnag, ar ganlyniadau er mwyn deall beth sydd angen i ni ei wneud i wella canlyniadau i gleifion. Mae peth o’r gwaith gwirioneddol ddiddorol rwy’n gobeithio y byddwch yn ei weld pan welwch y cynllun cyflawni ar gyfer canser ar ei newydd wedd yn edrych ar un llwybr mewn gwirionedd, a bydd hynny’n galw am ffocws gwahanol a newid yn y ffordd rydym yn deall ac yn edrych ar ein targedau. Dylai olygu ein bod yn edrych yn fwy penodol a mwy priodol ar yr hyn fydd yn gwneud gwahaniaeth ar y llwybr canser y bydd y clinigwyr yn ei gefnogi ac y bydd y cleifion yn ei gefnogi hefyd, sef cyflawni canlyniadau gwell y bydd pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau eu gweld. Un rhan o wella’r llwybr hwnnw yw diagnosteg.

Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro

4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(5)0004(HWS)

Diolch am y cwestiwn. Ein nod yw sicrhau bod gwasanaethau iechyd tosturiol o safon uchel yn cael eu darparu i bobl Sir Benfro. Byddwn yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i gleifion ac wrth wneud hynny, cawn ein harwain gan y cyngor a’r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf.

Wrth gwrs, mae’n gwbl hanfodol fod gwasanaethau iechyd brys priodol wedi’u lleoli yn Sir Benfro yn y dyfodol mewn gwirionedd. Fe fyddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi cael fy ailethol gyda mandad cryf ym Mhreseli Sir Benfro drwy sefyll dros ailgyflwyno gwasanaethau pediatrig amser llawn a’r uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg. O ystyried y gefnogaeth gyhoeddus glir yn fy etholaeth i ailsefydlu’r gwasanaethau hyn, a ydych yn awr yn barod i wrando ar bobl Sir Benfro drwy ystyried ailsefydlu’r gwasanaethau penodol hyn?

Diolch am y cwestiwn. Cawsom y ddadl hon cyn yr etholiad ac rwy’n siŵr y byddwn yn ei chael fwy nag unwaith ar ei ôl. Nid wyf yn gweld y ffaith fod yr Aelod wedi’i ailethol yn ei etholaeth yn refferendwm ar y mater penodol hwn. Mae yna heriau go iawn yn yr ardal hefyd rhwng galw clir iawn am gadw gwasanaethau’n lleol ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi adolygu’r newidiadau a wnaed i’r gwasanaethau, mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ac maent wedi cadarnhau na pheryglwyd gofal neb, ni ddioddefodd neb unrhyw niwed clinigol o ganlyniad i’r newidiadau ac mewn gwirionedd, roedd wedi gwella’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i’ch etholwyr. Nawr, dyna’r cyngor a’r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw Weinidog o unrhyw blaid yn y sefyllfa hon, ar sail y dystiolaeth honno, yn penderfynu newid y gwasanaeth, gan y buasai gwneud hynny’n mynd yn groes i’r dystiolaeth honno ac yn fy marn i, yn gyfystyr â chytuno i ddarparu gwasanaeth salach i bobl Sir Benfro oherwydd y twrw cyhoeddus a gafwyd oherwydd eu bod eisiau i wasanaethau gael eu darparu’n lleol. Mae angen i ni gael cydbwysedd o ran deall y gwasanaethau sydd angen eu darparu mewn canolfannau arbenigol. Rydym angen llai o’r rheini ar draws y wlad er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i’n pobl ac ar yr un pryd, er mwyn deall pa wasanaethau y mae gwir angen i ni eu darparu’n lleol a chael mwy o’r gwasanaethau hynny mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol lle bo hynny’n bosibl. Rwy’n sylweddoli fy mod yn annhebygol o ddwyn perswâd ar yr Aelod i newid ei safbwynt yn y drafodaeth heddiw, ond fel y dywedais yn fy ymateb cyntaf, byddaf yn cael fy arwain gan y cyngor a’r dystiolaeth glinigol orau a diweddaraf, a phan fo hynny’n dweud wrthyf nad newid y gwasanaeth yn ôl i’r ffordd yr arferai fod yw’r peth iawn i’w wneud ar gyfer pobl Sir Benfro, ni fyddaf yn gwneud hynny gan nad wyf yn credu bod hynny’n beth cyfrifol i mi ei wneud.

Hoffwn longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad ond rwyf hefyd yn awyddus i dalu teyrnged i’r Gweinidog blaenorol, a oedd â swydd anodd iawn ac fe gyflawnodd rywfaint o newid. Nid llongyfarchiadau ffug mohono, gallaf eich sicrhau. Fodd bynnag, os caf symud ymlaen yn gyflym, ddydd Gwener diwethaf ymwelais ag ysbyty Llwynhelyg a siaradais â staff a chleifion am y gwasanaethau newydd a’r modd y maent yn ymwreiddio. Rwy’n falch o adrodd, ar ôl gwneud hynny, fod y darlun yn eithriadol o gadarnhaol. Siaradais â menyw a oedd wedi newydd roi genedigaeth i’w chweched babi yn yr uned newydd ac roedd hi’n llawn canmoliaeth i’r bydwragedd, y staff a’r cyfleusterau a ddefnyddiodd. Ond roedd un mater yn codi, sef dyfodol y cerbyd ambiwlans penodedig 24/7, neu’r DAV, a gyflwynwyd ar gyfer trosglwyddiadau brys rhwng ysbytai Llwynhelyg a Glangwili fel rhan o’r broses o gyflwyno mesurau diogelwch fesul cam a gefnogai’r Gweinidog blaenorol. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda wedi ymestyn y contract hwnnw gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, ond mae i fod i ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ysgrifennydd y Cabinet, er bod y gwasanaeth yn cael llai o ddefnydd na’r hyn a ddisgwylid, efallai—ond mae’n cael ei rannu gyda gwasanaethau eraill—dywedodd y staff ei fod yn cael ei werthfawrogi a bod ei angen. Fy nghwestiwn, felly, yw hwn: a fyddech yn ymrwymo i drafod gyda bwrdd iechyd Hywel Dda yr opsiwn o roi’r gwasanaethau hanfodol hynny ar sail barhaol? Hefyd, Weinidog, rwyf wedi siarad â chi ynglŷn ag ymweld ag ysbytai Glangwili a Llwynhelyg, ac rydych wedi cytuno i hynny, ond hoffwn gael eich cytundeb wedi’i gofnodi. Diolch.

Diolch i chi am y ddau gwestiwn. Ydw, rwy’n hapus i drefnu amser cyfleus i ymweld â’r ddau ysbyty ac i gwrdd â staff yn yr unedau bydwreigiaeth. O ran eich pwynt penodol am y cerbyd ambiwlans penodedig, roedd hyn yn rhan bwysig o sicrhau hyder yn y gwasanaeth er mwyn gwneud yn siŵr fod modd trosglwyddo ar frys, lle bo angen, ar gyfer cludo menywod a’u babanod i Ysbyty Glangwili. Mewn sawl ffordd, rwy’n falch ei fod wedi cael ei ddefnyddio lai na’r disgwyl oherwydd mae hynny’n tanlinellu ac yn cadarnhau’r ffaith fod gofal diogel yn cael ei ddarparu yn yr uned dan arweiniad bydwragedd. Cafodd dros 200 o fabanod eu geni yn yr uned dan arweiniad bydwragedd yn Llwynhelyg yn y flwyddyn galendr ddiwethaf: menywod a’u babanod yn cael eu geni’n ddiogel gyda gofal o ansawdd uchel. Dyna ganmoliaeth go iawn i’r bydwragedd eu hunain. Roeddwn hefyd yn awyddus i ganmol y parafeddygon nad ydynt yn eistedd gyda’u traed i fyny yn cael paned o de pan nad ydynt yn cael eu defnyddio i drosglwyddo pobl i Glangwili. Mewn gwirionedd maent yn gwneud gwaith yn yr ysbyty mewn gwahanol dimau, gan ddefnyddio’u sgiliau mewn ffordd sydd o fudd i’r gwasanaeth cyfan. Felly, mae’n enghraifft wirioneddol dda o’r modd y gall integreiddio weithio yn y broses o gynllunio’r gwasanaeth. Byddaf yn bendant yn codi’r mater ac yn trafod gyda bwrdd iechyd Hywel Dda ac ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru er mwyn ceisio rhoi dyfodol y gwasanaeth hwnnw ar sail fwy cyson.

Nid ŷm ni wedi anghofio’r etholiad yr ŷm ni newydd fynd drwyddo. Rwy’n cofio’n glir iawn ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn siarad yn glir iawn, ac yn addo, pe byddai e’n cael ei ethol, y byddai’n dod i’r lle hwn ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau mamolaeth i ysbyty Llwynhelyg, ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau pediatreg i ysbyty Llwynhelyg. Felly, a oedd e yn edrych i gamarwain pobl yr etholaeth, a beth mae’r Gweinidog yn mynd i’w wneud nawr i sicrhau bod gwasanaethau pediatreg, yn arbennig, yn saff ac yn ddiogel yn Llwynhelyg er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau brys hefyd yn saff ac yn ddiogel?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. I ddeall yr hyn rydym yn ei wneud, rwy’n mynd yn ôl i ddweud bod yn rhaid i ni gael ei arwain gan y dystiolaeth a’r cyngor. I wneud i hyn weithio, mae’n werth edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Ysbyty’r Tywysog Philip—nid ar y model penodol yno, ond ar y ffaith fod Ysbyty’r Tywysog Philip wedi peidio â bod yn broblem gan fod clinigwyr yno wedi trafod yr hyn oedd yn bosibl. Rhoesant y gorau i fychanu’r hyn roeddent yn ei wneud. Rhoesant y gorau i ddadlau yn y dafarn a dweud, ‘Beth allwn ni ei wneud? Beth allwn ni ei wneud yn ddiogel? Beth rydym ni am ei wneud, a sut mae cyrraedd yno?’ Cawsant drafodaeth ymysg ei gilydd ynglŷn ag arwain gofal ac ynglŷn ag arwain newid o fewn yr ysbyty hwnnw fel model, nawr, nad oes fawr iawn o sŵn amdano. At ei gilydd, mae pobl yn cefnogi’r hyn sydd wedi digwydd yno.

Rwy’n falch iawn fod yr ymgysylltiad hwnnw â’r gymuned glinigol yn Llwynhelyg yn dal i ddigwydd. Er enghraifft, ar ddechrau mis Mai, cafwyd diwrnod gweithdy yn cynnwys amryw o glinigwyr—gofal sylfaenol yn ogystal â gofal eilaidd a’r cyngor iechyd cymuned—i edrych ar ble y maent a ble y maent am fod hefyd gydag amrywiaeth o’r gwasanaethau hyn. Mae’n rhaid iddynt gael y drafodaeth adeiladol honno oherwydd os na allant gytuno ymysg ei gilydd beth sy’n briodol a beth sy’n angenrheidiol ar gyfer y rhan benodol honno o’r byd a sut y gallant fynd ati i’w ddarparu, rydym yn annhebygol o allu eu cynorthwyo neu wneud dewisiadau y byddai pobl Sir Benfro am eu gweld. Felly, mae deall yr hyn y maent ei eisiau, cael trafodaeth adeiladol a bod yn barod i arwain y newid hwnnw—neu gefnogi dewisiadau anodd os oes rhaid eu gwneud—yn rhan o’r hyn rwy’n meddwl y dylem ei ddisgwyl, ac rwy’n wirioneddol falch o weld bod hyn bellach yn digwydd ar sail fwy cyson yn Llwynhelyg. Mae’n beth da i’r clinigwyr a’r cyhoedd a wasanaethant.

Cronfa Cyffuriau Canser

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cronfa cyffuriau canser? OAQ(5)0013(HWS)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Ni fyddwn yn sefydlu cronfa cyffuriau canser yng Nghymru. Bydd y gronfa cyffuriau canser yn Lloegr yn cael ei diddymu ddiwedd y mis hwn. Rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o sefydlu cronfa triniaethau newydd fel un o’n hymrwymiadau allweddol yn y 100 diwrnod cyntaf. Rwy’n disgwyl gallu dweud rhagor wrth yr Aelodau amdani. Bydd y gronfa’n cefnogi’r broses o fynd ati’n gyflym i gyflwyno triniaethau arloesol ac effeithiol sy’n costio llawer ar gyfer clefydau sy’n bygwth bywyd.

Weinidog, byddai ein hargymhellion ein hunain ar gyfer cronfa triniaethau canser Cymru nid yn unig wedi gwella mynediad at feddyginiaethau newydd, modern, ond byddai hefyd wedi gwneud triniaethau canser yn fwy hygyrch i gleifion drwy sefydlu uned trin canser symudol. Mewn rhannau gwledig o Gymru, megis fy etholaeth fy hun yn Sir Drefaldwyn, byddai’n wasanaeth amhrisiadwy wrth gwrs. Fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i sefydlu gwasanaeth trin canser symudol?

Wel wrth gwrs, rydym eisoes yn ymgymryd ag ystod o wasanaethau trin canser symudol, ac fe fyddwch yn ymwybodol iawn o’n huchelgais i gyflawni mwy o ofal yn y gymuned—y newid hwnnw o ofal eilaidd i ofal sylfaenol. Mae’n rhan bwysig o’r hyn rydym am ei wneud. Byddai hynny’n sicr yn wir mewn gwasanaethau canser yn ogystal. Rydym wedi cael rhaglenni sefydledig, gan weithio gyda Chymorth Canser Macmillan, er enghraifft, ar ddeall gwasanaethau oncoleg gofal sylfaenol. Rydym yn gweithio gyda’n clinigwyr i wella’r hyn a wnânt ac i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn y lleoliad mwyaf priodol. Nid wyf yn ymddiheuro am beidio â derbyn neu ddilyn argymhellion y Torïaid ar gronfa cyffuriau canser yng Nghymru. Nid ydym yn credu mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Nid yn unig hynny: dywedodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin nad oedd unrhyw dystiolaeth fod y gronfa yn Lloegr wedi arwain at ganlyniadau gwell, ac mae Syr Bruce Keogh, gŵr y mae’r Torïaid yn aml yn hoff o’i ddyfynnu yn y Siambr hon, wedi disgrifio’r gronfa cyffuriau canser fel cynllun nad yw’n gwneud defnydd doeth a chynaliadwy o arian. Roedd yn cydnabod bod mwy o’r gyllideb yno yn cael ei gwario ar feddyginiaeth lai effeithiol. Mae hwnnw’n fodel gwael i ni ei ddilyn, ac rwy’n falch o’r hyn rydym eisoes yn ei wneud a’r hyn rydym wedi ymrwymo i’w wneud gyda’r gronfa triniaethau newydd.

Fel yn nodoch, Ysgrifennydd Iechyd, nid yw’r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr wedi gweithio ac mae’n cael ei diddymu yr wythnos hon. Fodd bynnag, rwyf wrth fy modd fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gronfa triniaethau newydd, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i adolygiad pellach o’r system ceisiadau cyllido cleifion unigol hefyd. Fel y gwyddoch, ers amser maith rwyf wedi cefnogi’r angen i newid i banel cenedlaethol a fyddai’n sicrhau cysondeb a thegwch wrth wneud penderfyniadau, a hoffwn weld diwedd ar y prawf eithriadoldeb hefyd, gan nad wyf yn credu bod llawer o glinigwyr yng Nghymru yn ei gefnogi. Pa sicrwydd y gallwch ei gynnig y bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal yn gyflym, ond hefyd y byddwch yn sicrhau bod safbwyntiau clinigwyr a chleifion yn cael eu hystyried?

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac mae hi’n iawn; mae hi wedi dangos diddordeb cyson iawn yn y maes penodol hwn. Yn y trafodaethau a gawsom cyn ffurfio’r Llywodraeth hon, yn y compact gyda Phlaid Cymru, fe fyddwch yn ymwybodol fod adolygiad o’r system ceisiadau cyllido cleifion unigol yn un o’r pethau y cafwyd cytundeb yn ei gylch rhwng ein pleidiau. Rwy’n disgwyl gallu cyflwyno rhai cynigion, ar ôl cael trafodaeth—cyn y toriad, gobeithio—ynglŷn â sut beth fydd yr adolygiad o’r system ceisiadau cyllido cleifion unigol a gosod amserlen ymhen rhai misoedd i hynny allu digwydd. Mae’n bwysig i mi fod yr adolygiad yn ennyn cefnogaeth glinigol briodol gan glinigwyr gydag arbenigedd yn y maes a bod gan gleifion lais priodol yn rhan o’r broses o gasglu tystiolaeth. Felly, gallaf gadarnhau hefyd, mewn unrhyw adolygiad yn fy marn i, er mwyn sicrhau bod yr adolygiad hwnnw’n wirioneddol ystyrlon, rhaid iddo ystyried eto y pwyntiau ynglŷn ag a ddylid cael panel cenedlaethol ai peidio—byddwch yn deall bod yr adolygiad blaenorol wedi penderfynu yn erbyn cael panel cenedlaethol, am resymau ymarferol lawn cymaint ag unrhyw beth arall—ond hefyd, i edrych eto ai’r meini prawf eithriadoldeb yw’r ffordd iawn i fwrw ymlaen. Felly, rwy’n fodlon cadarnhau fy mod yn disgwyl i’r ystyriaethau hynny fod yn rhan o’r adolygiad ac y byddwn yn gallu adrodd yn ôl y brydlon i’r lle hwn, a gwneud unrhyw newidiadau wedyn, os mai dyna y mae’r adolygiad ei hun yn ei argymell.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych wedi’i ddatgan yn aml, a’i ailadrodd y prynhawn yma, mae’r angen am gronfa triniaethau yn ymestyn y tu hwnt i fater cyffuriau canser a dylai ymgorffori ystod eang o driniaethau, gan gynnwys ffurfiau newydd ar radiotherapi, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi hyrwyddo hynny yn y Cynulliad diwethaf—radiotherapi stereotactig CyberKnife ar y corff, a therapi pelydr proton, ac mae digwyddiad gwybodaeth yn cael ei noddi gan Bethan Jenkins ar y mater hwn yfory mewn gwirionedd. Ond maent yn dibynnu ar offer a gweithlu wedi’i hyfforddi. Felly, pa strategaethau buddsoddi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod rhagor o driniaethau o’r fath ar gael ledled Cymru, a pha anghenion gweithlu a nodwyd ar gyfer darparu’r rhain?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Un o’r pwyntiau a wnaf yw bod gennym hanes da o ddatblygiadau ym maes gwyddorau bywyd a’r diwydiant gwyddorau bywyd yma mewn gwirionedd, ac mae’r datblygiadau pelydr proton a allai ddigwydd yn ne-ddwyrain Cymru yn cael eu harwain gan y sector preifat, a gallai hynny arwain at wella mynediad yn y GIG yma yng Nghymru a gwella costau hefyd o bosibl. Gallem weld pobl yn dod i mewn o rannau eraill o Loegr i ddefnyddio gwasanaeth yno. Felly, bydd y comisiynu’n bwysig, ac edrychaf ymlaen at gael trafodaethau adeiladol ar y diwydiant gwyddorau bywyd gyda fy nghyd-Aelod Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â chynllunio’r gweithlu, wrth gwrs mae yna broblem yma ynghylch sicrhau bod gennym y gweithlu cywir, sy’n meddu ar y sgiliau cywir i ymgymryd â’r gofal iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ac rwy’n falch iawn o atgoffa’r Aelodau o’r penderfyniad a wnaed ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf gan fy rhagflaenydd, ynglŷn â hyfforddiant meddygol. Byddwn yn hyfforddi mwy o nyrsys nag erioed o’r blaen, a mwy o radiolegwyr nag erioed o’r blaen, felly rydym yn gweld lle mae angen cael mwy o bobl yn dod i mewn i’r gwasanaeth sydd â’r sgiliau cywir i ddarparu’r math o wasanaeth gofal iechyd modern sydd ei angen arnom. Mae angen meddygon, nyrsys, ac ystod gyfan o broffesiynau eraill i sicrhau y gallwn ddarparu’r math o wasanaeth y mae pob un ohonom am ei weld.

Amseroedd Aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys (Canol De Cymru)

6. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gweithredu er mwyn mynd i’r afael ag amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0006(HWS)

Rwy’n disgwyl i’r byrddau iechyd weithio gyda’u partneriaid i sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at wasanaethau gofal brys pan fyddant eu hangen. Mae’r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu yn gyrru dull gweithredu ar sail system gyfan i hwyluso newid cynaliadwy a gwella gwasanaethau iechyd a gofal heb ei drefnu ar draws Cymru.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Mawrth, dangosai amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys fod 380 o bobl wedi aros 12 awr neu fwy yn Ysbyty Athrofaol Cymru, o gymharu â 111 o bobl ym mis Ionawr. Yn amlwg, mae’r ffigurau hyn yn peri pryder mawr, ac er gwaethaf yr hyn rydych newydd ei ddweud yn eich ateb cyntaf i mi, mae rhywbeth yn mynd o ymhell o’i le wrth ddarparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yma yng Nghaerdydd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi na fydd y ffigurau hynny’n parhau i godi, ac y bydd pobl yn cael eu gweld o fewn targedau Llywodraeth Cymru ei hun mewn gwirionedd, ac y gallwn fod yn hyderus wrth i ni wynebu’r gaeaf, na fydd senario pwysau’r gaeaf yn gwaethygu’r ffigurau hyn rwyf newydd eu dyfynnu i chi?

Diolch am y cwestiwn dilynol. Pan gaiff y ffigurau eu cyhoeddi ar gyfer mis Ebrill, rwy’n disgwyl y byddwn yn gweld gwelliant pellach o ran y nifer sy’n aros 12 awr, ac mewn gwirionedd, mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gwneud gwaith cymharol dda yn lleihau nifer y bobl sy’n aros 12 awr. Maent yn gwybod, o fy safbwynt i, fy mod yn disgwyl gweld cynnydd pellach fel bod llai a llai o bobl yn aros 12 awr mewn unrhyw un o’n hysbytai yma yng Nghaerdydd a’r Fro. Felly, gwnaed cynnydd, ond mae angen gwneud llawer mwy o gynnydd eto, dyna yw’r pwynt rwy’n meddwl.

Mae’n bwysig i mi fod y system yn gytbwys cyn i ni wynebu’r gaeaf. Nid wyf am weld system gofal heb ei drefnu nad yw wedi gwella ac nad yw’n sefydlog cyn i ni wynebu misoedd y gaeaf a phwysau’r gaeaf sy’n anochel. Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau’r gaeaf ar draws gwledydd y DU yn golygu bod newidiadau yn niferoedd y bobl sy’n dod i mewn ac aciwtedd y bobl sy’n dod i mewn i’n system gofal heb ei drefnu a faint o amser y mae’n aml yn ei gymryd i drin y bobl hynny hefyd. Nid ydym yn wynebu her sy’n unigryw yn yr ystyr honno, ond nid yw’n ymwneud yn unig â’r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys: mae’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd yn y gymuned i osgoi gorfod derbyn pobl i uned ddamweiniau ac achosion brys yn y lle cyntaf, a hefyd yr hyn sy’n digwydd ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal, fel bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fo’n briodol iddynt wneud hynny. Felly, rhaid ystyried gweithredu ar sail system gyfan, nid yn unig ar sail ffigurau mewn uned ddamweiniau ac achosion brys o ran y ffigurau pedair awr a 12 awr, ond er mwyn deall yr hyn y gallwn ei wneud ar sail dull system gyfan o weithredu. Fel rwy’n dweud, rwy’n meddwl y byddwch yn gweld gwelliant eto pan gyhoeddir y ffigurau ar gyfer mis Ebrill.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cysylltiad rhwng heriau damweiniau ac achosion brys a’r cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion wedi’i hen sefydlu. Gwelsom yr argyfwng sydd wedi digwydd o ran niferoedd derbyniadau damweiniau ac achosion brys yn Lloegr oherwydd toriad o 8 y cant mewn termau real yn y cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yna gymorth digonol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru er mwyn atal y problemau sydd wedi achosi argyfwng yn Lloegr rhag digwydd yng Nghymru?

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae’n tynnu sylw at y ffaith fod pwysau ar draws y DU, ac rydym yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol i oresgyn y pwysau hynny. Yn Lloegr, maent wedi mabwysiadu dull o weithredu sydd wedi lleihau cyllid ar ofal cymdeithasol i oedolion. Rydym yn gwario 7 y cant y pen, neu £172, yn fwy yng Nghymru nag yn Lloegr ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Rydym hefyd wedi mabwysiadu dull gwahanol oherwydd y ffordd y caiff ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu trefnu. Nid oes gennym y berthynas gystadleuol, a gelyniaethus ar adegau, rhwng darparwyr yn Lloegr, er enghraifft. Mae hynny’n golygu ein bod wedi gallu edrych ar oedi wrth drosglwyddo gofal drwy weithredu ar sail system gyfan, gan weithio gyda system ofal nad yw wedi’i flingo o gyllid, ac mewn gwirionedd mae morâl staff yn Lloegr yn arbennig o anodd. Dyna pam ein bod wedi gweld gostyngiad yn ystod y misoedd diwethaf yn lefelau oedi wrth drosglwyddo yma yng Nghymru, sy’n uwch nag erioed yn Lloegr ers i’r ffigurau ddechrau mewn gwirionedd. Felly, mae yna wersi go iawn i’w dysgu o’r hyn rydym yn ei wneud yma yng Nghymru, a’r pwyntiau cadarnhaol ynghylch hynny, ond nid oes hunanfoddhad yma, oherwydd yr hyn rydym wedi’i wneud yw rheoli’r hyn sydd angen i ni ei wneud a deall mwy am yr hyn a wnawn fel nad yw pobl yn cael profiad gwael o fynd i mewn i’r system gofal heb ei drefnu, ac yn yr un modd, maent yn symud i le priodol yn y system ofal sy’n diwallu eu hanghenion ac yn deall beth y gallem a beth y dylem ei wneud i’w cynorthwyo i aros mor annibynnol ag y bo modd. Mae llawer o hynny’n ymwneud â sut rydym yn atal pobl rhag mynd i ysbyty yn y lle cyntaf.

Smygu

7. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran cyflawni ei hamcanion o leihau nifer y bobl sy’n smygu yng Nghymru? OAQ(5)0017(HWS)

Mae arolwg iechyd Cymru 2015 yn nodi bod 19 y cant o oedolion yn smygu. Mae’r gostyngiad hwn yn golygu bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhagori ar ei nod o leihau cyfraddau smygu i 20 y cant erbyn 2016, ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol i ostwng y lefelau i 16 y cant erbyn 2020.

Diolch. Mae’n newyddion da iawn, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer 2016 o ostwng lefelau smygu i 20 y cant. Sut rydych chi’n bwriadu cyrraedd ein targed uchelgeisiol ar gyfer gostwng y lefelau hynny i 16 y cant erbyn 2020?

Diolch. Rydym yn bwriadu adeiladu ar ein llwyddiant hyd yn hyn gyda’r bwrdd strategol rheoli tybaco newydd a sefydlwyd i oruchwylio’r camau nesaf. Mae gennym dri is-grŵp penodol sy’n edrych ar yr arferion gorau o ran atal smygu, rhoi’r gorau i smygu a dadnormaleiddio patrymau ymddygiad sy’n ymwneud â smygu hefyd, i’w wneud yn arbennig o anatyniadol i bobl ifanc. Hefyd, mae gennym grŵp gorchwyl a gorffen ar wahân sy’n edrych ar ffyrdd o leihau’r galw am dybaco anghyfreithlon, a bydd yr is-grwpiau hyn yn dod at ei gilydd i ddarparu argymhellion ar gyfer cynllun cyflawni ar reoli tybaco ar ei newydd wedd i fynd â ni ar hyd y camau nesaf hynny tuag at 2020. Ac wrth gwrs, mae’r dull hwn o weithredu yn mynd ochr yn ochr â’r holl waith sy’n digwydd gyda’n gilydd ar lefel y DU, fel pecynnu safonol i sicrhau dull cydlynol a chynhwysfawr o reoli tybaco yng Nghymru.

3. 3. Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i Sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro

Yr eitem nesaf yw’r cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies.

Cynnig NDM6023 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:

Yn sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy’n gysylltiedig â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. 4. Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgor

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cynnig i ethol aelodau i bwyllgor. Galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies.

Cynnig NDM6028 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

(i) Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro; a

(ii) David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): yr Undeb Ewropeaidd

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.

Yr eitem nesaf yw’r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv). Cyn inni ddechrau ar y ddadl yma, rydw i eisiau atgoffa Aelodau am fy nisgwyliadau o ran ymddygiad yn y Siambr. Mae hwn yn bwnc lle mae barn gryf ar y ddwy ochr, a hynny ar fater sy’n amserol iawn. Dylai hynny olygu ein bod yn cael dadl nawr sy’n ddiddorol, yn ddifyr ac yn angerddol. Ond nid yw hynny’n esgus dros heclo neu siarad dros siaradwyr neu unrhyw fath o ymddygiad a fyddai’n amharu ar urddas y lle yma. Rydw i hefyd eisiau atgoffa Aelodau, o ystyried lefel y diddordeb yn y ddadl a’r pwnc yma, fy mod i am alw cynifer o Aelodau â phosibl. Byddaf felly’n cyfyngu’r siaradwyr i dri munud yr un, ac eithrio’r rhai sy’n agor a chau’r ddadl, a’r Gweinidog sy’n ymateb. Gan mai dadl Aelodau unigol yw hon, byddaf hefyd yn ymdrechu i sicrhau adlewyrchiad teg o’r ddau safbwynt wrth alw Aelodau, yn hytrach na’r cydbwysedd pleidiol, fel y byddwn yn arfer. Felly, rydw i’n galw, i wneud y cynnig, Eluned Morgan.

Cynnig NDM6020 Eluned Morgan, Dawn Bowden, Dafydd Elis-Thomas

Cefnogwyd gan David Melding [R]

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y byddai Cymru’n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai’n parhau’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Ymhen dros wythnos, fe fydd gan bobl Cymru gyfrifoldeb anferth: cyfrifoldeb i benderfynu pa fath o ddyfodol maen nhw ei heisiau i’n gwlad. A ydym ni eisiau byw mewn gwlad fewnblyg, gul neu a ydym ni eisiau gwlad sy’n edrych allan a gwlad sy’n deall, os ydym ni eisiau dylanwadu yn y byd, mae angen inni gydweithredu gyda’n cymdogion agosaf? Fe fydd y penderfyniad yma’n effeithio ar ein dyfodol am genedlaethau i ddod. Rwyf eisiau tanlinellu heddiw fy mod i’n credu ein bod ni’n elwa yng Nghymru yn fwy nag unrhyw fan arall o’r Deyrnas Unedig o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Rydym ni’n fwy llewyrchus, yn fwy diogel ac yn fwy dylanwadol oherwydd ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

The Wales football team gave us great pride last week. They’ve also reminded us that together we’re stronger. We’re stronger on the football pitch together and we also need to understand that we’re stronger when we act together with our nearest neighbours. The fact is that Wales is better off financially thanks to our membership of the European Union. We receive much more back than we put in: £79 per head according to a recent report. Our infrastructure has been rebuilt thanks to European money. People have been trained—200,000 of them—thanks to European funding and jobs have been created by the thousands thanks to EU cash.

Theoretically, we could continue to receive this highest tier of funding until 2020. We’ve already earmarked the money to regenerate our communities, to support the unemployed and to rebuild our infrastructure, including transport links like the metro. We have no idea if this funding will be honoured. These projects could be in jeopardy and I, for one, have no confidence at all that a right-wing Government in London who is short changing us already through the Barnett formula will make up for what’ll be taken from us if we were to leave the EU.

Some on the ‘Out’ campaign are making promises to farmers that would not be in their gift to determine. Agriculture, they clearly haven’t worked out, is a devolved area. But this funding is not the key economic reason for us to remain in the EU. We should try and improve our wealth so we don’t need this funding. But the security of belonging to the biggest economic market in the world—500 million people—giving us opportunities to sell our goods and giving us opportunities that haven’t begun to be realised in the service sector yet, are things that we should not put in jeopardy.

This week, we’ve heard that Wales again has reached record levels of inward investment. These companies are choosing to base themselves here because it gives them a platform to enter that single market. We know that 150,000 jobs are dependent on that relationship. Now, nobody’s suggesting that those jobs are going to disappear overnight, but if you are sitting in Ford’s headquarters then you need to make a decision in future years whether you’re going to base yourselves in Spain, where they also have a plant, or here in Wales. If you look at the mark-up you need to enter that market—almost 10 per cent if we were outside the single European area—then you’ve got to ask, ‘Which choice are they likely to make?’ How many of our own export companies can really remain competitive when their mark-up is almost 10 per cent more than their European rivals?

Ninety-four per cent of Welsh lamb is exported to the European Union. And you know what? A lot of farmers I know have said, ‘Look, let’s ditch the European Union, let’s ditch the red tape’, but they’re living in cuckoo land if they think that they’ll be able to continue to export and tear up the rules and regulations that they need to adhere to if they want access to that market. The big difference is that they will have no say and no voice on what those rules will look like.

Our universities would suffer grievously from the absence of research and development funding. These are creating the jobs of the future, the jobs that will be paying for our social model, paying for our pensions and our health systems. And there will be an immediate price to pay. The Institute for Fiscal Studies has suggested around £30 billion could be wiped off the economy if we leave—£30 billion that currently is being spent on our health and education systems. And it won’t be the likes of Boris and Gove who’ll suffer; it’ll be the most vulnerable and the poorest in our society who will bear the brunt of these cuts. The ‘Leave’ campaign even at this late stage has given us no idea of what their vision of ‘leave’ looks like. You wouldn’t swap your house for another without seeing it first, without being sure of the location and the amenities where it was appropriate. This leap in the dark I think is madness.

And the idea of any individual country being able to call the shots in today’s globalised world is a fantasy. When the planes ploughed into those Twin Towers, it took minutes for it to affect our stock market. Already the insecurity of not knowing what’s going to happen next week has wiped billions off the stock market; it’s reduced the value of the pound. We are not controlling that. Sovereignty in today’s globalised society is an illusion. It’s like imagining Tim Peake boasting up there in his space station, independent, making his decisions, but the reality is he wouldn’t be there without a whole load of different communities and countries co-operating together, making sure he’s able to do his job.

Now, the EU is far from perfect, but, having sat in a gilt-clad chamber where people were there purely because of an accident of birth, I can tell you we should not be throwing stones. Labour, of course, wants to see an EU committed to social justice, protective of people’s rights as workers, as citizens, as consumers, an EU that understands the need for environmental protection, the need to tackle climate change and the need to respect sustainable development. We’ve benefited from a host of European laws. We have some of the cleanest beaches in Europe. We have high standards for recycling rates. We’ve got cleaner air. Would we be allowed to pursue criminals abroad, monitor extremists and work with Europol? The fact is nobody knows.

And today’s Tory cry of ‘red tape’ is our cry for protecting workers. The think tank Open Europe, on which much of the ‘Out’ campaign’s figures have been based, have calculated the costs of this so-called red tape. Let me just give you one example. They say that the working time directive, which limits working hours to 48 hours a week, costs the country £4 billion. They say the benefits are zero. Well, tell that to the cleaner who has no say over whether she’s allowed to do overtime. Tell that to the overworked mother who wants to go and see her children. Tell that to people like my husband who, when he was a trainee doctor, had to work 110 hours for the NHS. I for one am happy to relinquish a degree of sovereignty to give us the protection we need that we know we won’t receive from a Government hellbent on reducing workers’ rights, as we’ve seen in their introduction of the Trade Union Bill. But I think we’ve got to remember that, in this talk of markets, of rights and of the environment, the EU is the most successful example of a peace-making institution in history.

You know, 75 years ago, about two miles away from this very spot, my father’s house was totally obliterated by a German bomb. Who can imagine the terror of that poor child and other children around him? They thought they were safe and secure in their homes here in Wales and they became the target for an enemy. In this world full of instability, of threats, of new global challenges, we take that peace for granted at our peril. I hope that next week the people of Wales will think very carefully and chose to vote for prosperity, for peace and security and to remain a part of the European Union.

O, diar. Diolch. Ymddiheuriadau, Lywydd. Nid oes angen i ni fod yn yr UE i gydweithredu gyda phartneriaid Ewropeaidd. Rhaid i Gymru ym Mhrydain fod yn bartner sofran i Ewrop nid yn dalaith o’r UE fel rhan o gymuned fyd-eang sy’n edrych tuag allan. Os byddwn yn gadael, nid oes newid yn digwydd ar unwaith yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. Byddai cymorth ffermio a chyllido strwythurol wedyn yn fater i Lywodraeth y DU mewn ymgynghoriad â’r gweinyddiaethau datganoledig. Oherwydd bod y DU yn un o gyfranwyr net mawr i’r UE, byddai mwy o arian ar gael.

Pan gynlluniodd Comisiwn yr UE i ddyrannu cronfeydd strwythurol ar gyfer y cyfnod 2014-2020, ceisiodd sicrhau toriadau o tua 27 y cant i Gymru. Ailddyrannodd Llywodraeth y DU ran o’r cyllid ar gyfer Lloegr er mwyn ailgydbwyso rhywfaint o’r diffyg hwnnw. Gyda Chymru allan o’r UE, gwleidyddion atebol i etholwyr Cymru fydd yn pennu cyllid yn y dyfodol.

Rhoddai’r DU gymhorthdal ​​i’w ffermwyr cyn iddi ymuno â’r UE a byddai’n gwneud hynny ar ôl i ni bleidleisio dros adael, gyda Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am osod polisïau newydd i helpu ffermwyr yn lle rheoliadau fferm yr UE sydd wedi’u cynllunio’n wael. Eglurodd Gweinidog ffermio’r DU y byddai Llywodraeth y DU yn parhau i roi o leiaf yr un faint o gymorth ag y maent yn ei gael yn awr i ffermwyr ac i’r amgylchedd. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog wedi dweud hynny’n glir.

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wrth gwrs, gwrandewais ar y cyfweliad a wnaeth y person hwnnw mewn gwirionedd, a phan gafodd ei herio yn ei gylch dywedodd na allai roi unrhyw sicrwydd. A ydych yn dweud y gallai roi sicrwydd neu a ydych yn cytuno ag ef na all roi sicrwydd, dim ond rhestr o ddymuniadau?

Fel Gweinidog gall gyflwyno cynigion ac os yw Tŷ’r Cyffredin yn ei basio fel corff sofran gyda gwleidyddion etholedig, fe fydd yn digwydd, ac mae’r Prif Weinidog ei hun wedi gneud yr ymrwymiad hwnnw. Wedi’r cyfan, mae gwledydd y tu allan i’r UE fel y Swistir a Norwy yn rhoi mwy o gymorth i’w ffermwyr mewn gwirionedd nag y mae’r DU a Chymru yn ei wneud.

Mae’r UE yn farchnad sy’n crebachu i’r DU, gydag allforion nwyddau a gwasanaethau i’r UE yn gostwng o 54 y cant yn 2006 i 44 y cant heddiw. Mae dros 60 y cant o allforion o Gymru bellach yn mynd i wledydd nad ydynt yn aelodau o’r UE. Yn 2014, roedd cyfran allforion nwyddau’r DU a oedd yn mynd i wledydd y tu allan i’r UE yn uwch na phob un o aelod-wladwriaethau eraill yr UE ac eithrio Malta. Mae cydbwysedd masnach rhwng y DU a’r UE wedi ffafrio gweddill yr UE bob blwyddyn ers i ni ymuno ac eithrio 1975, ac erbyn hyn mae gan y DU ddiffyg masnach mwy nag erioed gyda’r UE. Y DU yw partner allforio mwyaf yr UE, ac mae’n gwarantu miliynau o swyddi’r UE. Byddai o fudd enfawr i’r UE greu cytundeb masnach rydd cyfeillgar rhwng y DU a’r UE.

Fel y dywedodd cyn-ddirprwy gyfarwyddwr adran ymchwil Ewropeaidd y Gronfa Ariannol Ryngwladol bythefnos yn ôl, os awn yn ôl at yr egwyddorion economaidd craidd,

‘mae economeg yn niwtral ynglŷn ag a ddylid gadael neu aros’.

Wrth gefnogi undeb ffederal Ewropeaidd, pwysleisiodd Churchill na allai Prydain Fawr byth fod yn rhan ohono, gan ddatgan,

‘Rydym gydag Ewrop, ond heb fod yn rhan ohoni. Rydym yn gysylltiedig ond heb fod wedi’n cyfuno. Mae gennym ddiddordeb a chysylltiad ond nid ydym wedi’n hamsugno.’

Wel, mae’n bryd rhoi sofraniaeth o flaen y codwyr bwganod, democratiaeth o flaen y daroganwyr gwae a rhyddid o flaen ofn. Mae’n bryd i ni gymryd ein Teyrnas Unedig yn ôl.

Lywydd, rwy’n ffan mawr o’r grŵp The Clash. Rwy’n cofio eu gweld yng Ngerddi Soffia pan oeddwn yn 17 oed. Ni allaf fynd i mewn i’r trowsus lledr maint 28 hynny mwyach—os gallwn i byth—er bod y canu yn fy nghlustiau, ac mae yna, mae’n atgoffa’n barhaol efallai fy mod wedi cael gorddos o gerddoriaeth uchel yn y cyngherddau hynny—Siouxsie and the Banshees, The Damned, Tom Robinson ac wrth gwrs, The Clash. Felly, mae’n dda clywed un o’u traciau totemaidd, ‘Should I Stay or Should I Go’, ar yr awyr ac yn y newyddion cymaint yn ddiweddar. O Radio 4 i Radio Wales i erthyglau barn yn y cylchgrawn ‘Time’ a’r ‘Norfolk Eastern Daily Press’. Rwy’n siŵr na feddyliasant erioed y byddai’r trac roc pync bachog hwn yn dod yn gefndir i ddadl ar ddyfodol aelodaeth y DU yn yr UE yn y pen draw.

I Gymru, i dde Cymru, i fy etholaeth sef Ogwr, mae yna resymau clir pam y mae’n well peidio â chael drws yr UE wedi’i gau’n glep yn ein hwynebau, a’r cyntaf yw’r grym gwario. Un o fanteision yr UE yw y gellir dyrannu arian i ranbarthau lle y ceir mwy o angen, felly rydym yn bendant yn well ein byd yn ariannol yn yr UE gan ein bod yn derbyn cronfeydd strwythurol ar gyfer y Cymoedd ac ar gyfer cronfeydd datblygu gwledig ac yn y blaen i raddau llawer mwy na’r hyn a rown i mewn—llawer mwy na’r hyn rydym yn ei roi i mewn. Ac ie, ein harian ni yw hwn, ond ein harian ni yn dod yn ôl gyda hyd yn oed mwy wedi’i ychwanegu ato i dde Cymru a’r gorllewin a’r Cymoedd. Mae unrhyw un sy’n dadlau dros adael yn dadlau (a) dros gael llai o arian rhanbarthol a datblygu gwledig yn dod i orllewin Cymru a’r Cymoedd a chymunedau gwledig neu (b) wedi cael trafodaethau cyfrinachol gyda’r Canghellor i warantu y bydd yn ychwanegu at y grant bloc i Gymru wneud iawn am yr arian a gollwyd ac fel rydym newydd glywed, nid oes unrhyw sicrwydd.

Aeth tua £1.8 miliwn o’r cyllid hwnnw tuag at adfywio marchnad Maesteg, gwaith a gefnogwyd hefyd gan yr awdurdod lleol Llafur. Aeth tuag at y cynllun Pontydd i Waith, sydd o fudd i hyd at 2,000 o bobl yn Ogwr ac ar draws Cymoedd de Cymru, gan wella hyfforddiant a mentora sgiliau ar gyfer gwaith. Ac aeth £1.7 miliwn i’r cynllun STEM Cymru, sy’n hyrwyddo gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i’n pobl ifanc. Ac i wardiau gwledig—sef pob un ond dwy o’r wardiau yn fy etholaeth yn Ogwr—mae’n mynd tuag at welliannau go iawn yn y mannau rydym yn byw ynddynt, drwy’r rhaglen datblygu gwledig a weinyddir gan Lywodraeth Cymru ac a ariennir gan yr UE, gan greu pethau fel campfa gymunedol mewn neuadd eglwys a adnewyddwyd ym Mlaengarw neu adnewyddu neuadd bentref Llangynwyd, gan ei throi o fod yn gragen led-adfeiliedig na châi ei defnyddio i fod yn ofod cymunedol ffyniannus sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu paned hyfryd o de a chacen hefyd. Caiff hyn ei ymestyn gyda chynllun newydd Cymunedau Gwledig Ffyniannus Pen-y-bont a hyrwyddir gan gyngor Llafur Pen-y-bont, gan gynnig cymorth a grantiau o hyd at £100,000 i syniadau ar gyfer gwella ac adfywio ein cymunedau. Gallwn fynd ymlaen.

Felly, a ddylem aros neu a ddylem adael? Wel, efallai fod yna awgrym yn y gân ei hun, wedi’i guddio’n gynnil. Yng nghynddaredd y riff roc a’r geiriau sy’n cael eu bloeddio, mae’n hawdd methu’r ffaith fod y cytgan yn cael ei ganu ar yr un pryd mewn Tex-Mex a Sbaeneg Castiliaidd gan Joe Ely a’r diweddar Joe Strummer gwych. Sbaeneg Castiliaidd mewn clasur o gân roc pync nodweddiadol Brydeinig. Efallai ei bod yn ceisio dweud rhywbeth wrthym: rydym yn well ein byd yn aros gyda’n gilydd.

Nid yw’n ymddangos bod Aelodau Llafur wedi clywed y newyddion nad yw prosiect ofn yn gweithio. Edrychwch ar y polau piniwn. Nid yw’r cyhoedd yn eich credu mwyach. Wrth gwrs, y gwir amdani yw mai ein harian ni yw pob ceiniog a werir gan yr Undeb Ewropeaidd ar bob un o’r prosiectau mawr y clywsom eu rhestru y prynhawn yma. Ac ar ben hynny, rydym yn anfon £10 biliwn y flwyddyn i’r UE ac maent hwy’n ei wario yn rhywle arall. Mae hynny’n £10 biliwn y gellid ei ychwanegu at yr holl brosiectau a ddisgrifiwyd heddiw. Y gwir amdani yw nad yw’r UE yn mynd i unman yn economaidd. Yn 1980, roedd ei chyfran o fasnach y byd yn 30 y cant; heddiw, nid yw ond yn 15 y cant ac mae’n lleihau. Yr UE yw’r unig ran o’r byd—yr unig gyfandir—sydd heb weld twf o gwbl yn y ganrif hon, ar wahân i Antarctica. Mae pob un o’r cyfandiroedd eraill yn y byd wedi bod yn bwrw yn eu blaenau. O ran masnach rhwng y DU a’r UE, mae’r syniad y daw i ben pe baem yn gadael ar ôl y bleidlais ar 23 Mehefin yn nonsens llwyr.

Nid wyf yn tybio bod Aelodau Llafur wedi clywed y newyddion arall yr wythnos hon fod gennym ddiffyg masnach o £24 biliwn gyda’r UE yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon yn unig. Dyna ddiffyg masnach o £100 biliwn y flwyddyn. Pam ar y ddaear y byddai’r UE yn awyddus i godi rhwystrau masnach yn ein herbyn a hwythau’n ennill cymaint o fasnachu gyda ni, oni bai eu bod yn gweithredu’n afresymol? Ac os ydynt yn gweithredu’n afresymol, pam y byddem eisiau cael ein clymu at bobl nad ydynt yn rhesymegol? Mae’r holl beth yn nonsens. Roedd ein hallforion i’r UE yn 2000 yn 60 y cant o gyfanswm ein hallforion byd-eang. Heddiw, fel y mae Mark Isherwood wedi nodi, 44 y cant yn unig ydynt. Y rheswm am hynny yw bod ardal yr ewro yn drychineb llwyr, ac i’r bobl hynny druain yn Sbaen, ym Mhortiwgal, yng Ngwlad Groeg, yn yr Eidal ac yn Ffrainc sy’n gweld eu gwledydd yn mynd rhwng y cŵn â’r brain, yn sicr nid yw’n hawdd iddynt gan eu bod yn talu’r pris am wallgofrwydd yr ewro.

Mae’r syniad ein bod yn mynd i gael ein heithrio o fasnach Ewropeaidd yn nonsens. Hyd yn oed pe na baem yn masnachu—

Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wrth gwrs, un o’r dadleuon nad ydych wedi crybwyll yw pwysigrwydd diogelu hawliau gweithwyr drwy Ewrop. Roeddech yn aelod o Lywodraeth Thatcher yn yr 1980au a aeth ati i ddinistrio undebau llafur, i chwalu hawliau gweithwyr, a malu Undeb Cenedlaethol y Glowyr a’r diwydiant glo; cyn y gellir sicrhau unrhyw hyder neu gred y bydd eich ymgyrch yn gwneud unrhyw beth i gefnogi hawliau gweithwyr, onid ydych yn credu y dylech ymddiheuro am eich rôl yn Llywodraeth Thatcher yn yr 1980au?

Wel, mae hyn ond dangos i ba raddau y mae Llafur yn byw yn y gorffennol—onid yw—ein bod yn dadlau heddiw am yr hyn ddigwyddodd oddeutu 30 o flynyddoedd yn ôl yn hytrach na beth sy’n digwydd yn y byd heddiw. Ond yr hyn rwy’n ei nodi yw nad yw’r Llywodraeth Lafur dros y 30 mlynedd ddiwethaf, rwy’n meddwl, wedi gwneud unrhyw beth i ddiddymu unrhyw rai o’r mesurau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd yn yr 1980au. Felly, naw wfft i’r ddadl honno.

Ond i ddychwelyd at y pwynt roeddwn yn ei wneud am fynediad i’r farchnad sengl pe baem yn gadael, byddai’n rhaid i ni neidio dros dariff o 3 y cant ar gyfartaledd, sy’n nonsens. Mae hyn yn ymwneud yn llwyr ag adfer rheolaeth ar ein gwlad ein hunain a rhoi rheolaeth am bolisi cyhoeddus i bobl y gallwn eu hethol a chael gwared arnynt, nid biwrocratiaid anetholedig di-wyneb ym Mrwsel na allwn eu henwi hyd yn oed.

Mae’n debyg fod gennym oll brofiadau sy’n ein helpu i lunio barn benodol ar gwestiwn ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Yn fy achos i, rwy’n pwyso ar 30 mlynedd o brofiad fel swyddog undeb llafur cyn cael fy ethol i’r Cynulliad hwn. Gwn o brofiad uniongyrchol fod gweithwyr yng Nghymru a’u teuluoedd yn well eu byd oherwydd bod yr UE yn darparu ar gyfer ystod sylfaenol o hawliau gweithwyr. Mae’r rhain yn cynnwys—ac nid yw hon yn rhestr lawn; nid yw’n rhestr gyflawn—rheoliadau trosglwyddo ymgymeriadau; hawliau lleiafswm gwyliau; cyfreithiau gwrth-wahaniaethu; hawliau mamolaeth a thadolaeth; terfyn uchaf ar oriau gwaith; seibiannau gorffwys gwarantedig; rheoliadau iechyd a diogelwch a thriniaeth gyfartal i staff dros dro, staff asiantaeth a staff rhan-amser, gan gynnwys mynediad at bensiynau, y bu’n rhaid i ni ymladd drostynt, gyda llaw, drwy’r llysoedd Ewropeaidd. Mae llawer o’r rhai sydd eisiau i Brydain adael Ewrop yn gweld y safonau gofynnol hyn fel biwrocratiaeth neu gostau i fusnesau. Pe gallai’r DU gael gwared ar y safonau gofynnol hyn, dywedir wrthym y byddai pethau’n gwella’n rhyfeddol rywsut i weithwyr.

Wel, rwy’n cofio llawer o’r un lleisiau yn gwrthwynebu’r isafswm cyflog cenedlaethol a phan ofynnwyd iddynt am ddeddfwriaeth gwahaniaethu, dywedasant y byddent yn cael gwared ar y rhan fwyaf ohoni. Felly, nid wyf fi’n mynd i gymryd unrhyw argymhelliad ganddynt ynghylch hawliau gweithwyr yn Ewrop. Fy neges i weithwyr ar draws Cymru yw hon: y mater o bwys yn ein heconomi yw ymladd yr amodau sy’n caniatáu i weithwyr barhau i gael eu hecsbloetio, nid cael gwared ar yr hawliau y mae’r gweithwyr hynny’n eu mwynhau ar hyn o bryd. Y peth olaf sydd ei angen ar weithwyr yng Nghymru yw Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn cael cyfle i ddechrau ar ymosodiad arall ar hawliau cyflogaeth a enillwyd drwy waith caled. O gael eu gadael i wneud fel y mynnant, yr hyn y mae Torïaid yn ei gyflwyno yw deddfau llym fel y Ddeddf Undebau Llafur yn ddiweddar. Beth arall fyddai’n dilyn pe baem yn pleidleisio dros adael yr undeb ar 23 Mehefin?

Lywydd, hoffwn droi yn awr at fudd economaidd ein haelodaeth o’r UE yn fy etholaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni. Ym Merthyr Tudful ei hun, mae prosiectau a ariennir gan yr UE wedi helpu dros 4,000 o bobl i gael gwaith, gyda thros 2,000 arall yn elwa ar brentisiaethau a ariennir gan yr UE. Mae’r UE wedi cyfrannu at nifer o brosiectau sydd wedi bod o fudd i’r economi leol, gan gynnwys adfywio canol y dref, gan greu sgwâr Penderyn, ailddatblygu’r Redhouse ac ardal adfywio Taf Bargoed. Mae gennym Barc Beicio Cymru, y llwybr cerdded ar lan yr afon yn Rhymni, amgueddfa’r Tŷ Weindio—pob un yn atyniad gwych i’w fwynhau, ac wedi’i ariannu’n rhannol gan arian Ewropeaidd.

O ran trafnidiaeth, rydym yn croesawu’r buddsoddiad parhaus yn ffordd Blaenau’r Cymoedd, uwchraddio gorsaf Rhymni a’r buddsoddiad yn y rheilffordd o Ferthyr i Gaerdydd, sy’n darparu sail i waith pellach ar gyflawni’r metro. Ac wrth gwrs, yng nghyd-destun presennol y cyffro ynglŷn â thîm pêl-droed Cymru, byddai’n esgeulus peidio â sôn am y gwaith o ailddatblygu Parc Penydarren Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful.

I mi, mae yna gwestiwn sylfaenol wrth wraidd y ddadl hon ar yr UE: a ydych chi wir yn teimlo y byddai Llywodraeth Dorïaidd yn darparu’r lefel o gefnogaeth a welwn ar hyn o bryd ar gyfer cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, ac y byddwn yn mwynhau’r un hawliau gweithwyr ar draws y DU pe na baem yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd? Lywydd, fy nghasgliad i yw na fyddem.

Diolch i Neville Chamberlain ein bod wedi cael tâl gwyliau. Diolch i fenywod Dagenham, ac i Barbara Castle ein bod wedi cael cyflog cyfartal yn y gwaith. Lywydd, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad. Wrth i ni siarad, mae Prif Weinidog Cymru yn sefyll ochr yn ochr â David Cameron—yn unedig yn erbyn pobl sy’n llywodraethu eu hunain, yn unedig dros symud yn rhydd a mewnfudo digyfyngiad, yn unedig gyda Phrif Weinidog a geisiodd ddiogelu cyllideb yr UE mewn termau real, nes iddo golli pleidlais yn y Senedd. Yn ddiweddarach, collodd rai seddi yn y Senedd, er iddo ennill fy un i yn ôl. Yn wir, siaradodd am hyn heddiw, yn yr hyn a allai fod yn sesiwn gwestiynau olaf iddo fel Prif Weinidog. ‘Dyddiau da’, meddai, wrth iddo hel atgofion am fy methiant. Efallai y byddwn hel atgofion am ei fethiant ef yn fuan.

Mae ef a’i Ganghellor eisiau aros, beth bynnag fo’r pris i’r gwirionedd, a beth bynnag fo’r pris i swyddi pobl eraill, am eu bod am ddiogelu eu swyddi, a’u statws. Efallai fod gennyf fewnwelediad i’r rheswm pam y mae’r Canghellor yn gweithredu fel y gwnaeth. Cyfarfûm â’r Canghellor gyntaf adeg wythnos y glas yn Rhydychen. Siaradais mewn dadl, gan ddadlau dros ddiffyg hyder mewn Llywodraeth Geidwadol a oedd newydd ymuno â’r mecanwaith cyfraddau cyfnewid Ewropeaidd, i groeshoelio ein heconomi wrth allor ei phrosiect Ewropeaidd. Wedyn, dywedodd George Osborne wrthyf, er fy mod yn gywir ynglŷn â’r economeg o bosibl, y byddai bob amser yn cefnogi Ewrop, am ei fod yn teimlo bod ganddo fwy yn gyffredin ag aristocratiaeth Ewropeaidd nag â’r dosbarth gweithiol ym Mhrydain. Ddydd Iau nesaf, efallai y bydd y dosbarth gweithiol ym Mhrydain yn brathu’n ôl, am y byddwn yn well ein byd, am ein bod yn ddigon da i lywodraethu ein hunain, am ein bod yn fwy na seren ar faner rhywun arall.

A ydych yn mynd i sôn am Gymru o gwbl yn ystod eich araith, neu a ydych chi’n bradychu’r ffaith nad ydych ond yn defnyddio Cymru fel cerbyd i wthio eich agenda eich hun?

Bydd Cymru, yn fwy, rwy’n meddwl, nag unrhyw ran o’n Teyrnas Unedig, rwy’n falch o ddweud, yn well ei byd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Cawn £600 neu £700 miliwn o’r UE, mae rhai yn dadlau ar yr ochr honno, ac eto, fesul y pen, mae ein cyfraniad yn £1 biliwn y flwyddyn, o’i gymharu â thua £16 biliwn rydym yn ei dalu mewn trethiant i Drysorlys y DU, o’i gymharu â’r £32 biliwn a gawn yn ôl mewn gwariant—bwlch o £16 biliwn efallai, o gymharu ag, ar y gorau, £200 miliwn neu £300 miliwn, un ffordd neu’r llall. Eto i gyd, mae ei blaid eisiau gadael y Deyrnas Unedig, pan fyddwn yn well ein byd fel Prydain annibynnol, mewn cymuned o’r byd, gan godi ein llygaid at y gorwel, yn well ein byd allan—[Torri ar draws.]—yn masnachu gydag Ewrop—

Yn wir, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad, a phobl sy’n byw yn y gorffennol yw’r rhai sy’n gadael, nid y rhai sy’n aros. Rwyf yn y sefyllfa ryfedd heddiw o gytuno â George Osborne, sy’n dweud, os ydych yn gyfoethog ac nad ydych yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yna gallwch fforddio chwarae gyda’r syniad o rygnu ymlaen am oes a fu, pan oedd Prydain yn rheoli’r tonnau, a’r haul byth yn machlud ar yr ymerodraeth Brydeinig. Oherwydd dyna’r cyfeiriad y mae’r rhai sydd am adael yn awyddus i fynd â ni. Maent yn awyddus i fynd â ni yn ôl mewn capsiwl amser. Fe gofiwch 60 mlynedd yn ôl, a dyddiau budr y 1950au, pan oedd niwl cawl pys mor drwchus fel na allech weld eich drws ffrynt eich hun hyd yn oed? Ie, Deddf Aer Glân 1956 a ddechreuodd y glanhau, ond bellach cyfarwyddeb ansawdd aer 2008 sy’n mynd i ddwyn Boris Johnson i gyfrif am fod wedi ffidlan y ffigurau ar lygredd aer yn y brifddinas.

Hanner can mlynedd yn ôl—gadewch i ni fynd yn ôl 50 mlynedd at drychineb Aberfan. Amhosibl heddiw, o ganlyniad i gyfarwyddeb rheoli gwastraff y diwydiannau echdynnol 2006, sydd mewn gwirionedd yn dyfynnu trychineb Aberfan fel un o’r pethau sy’n sail iddi. Gadewch i ni fynd yn ôl 40 mlynedd, pan oedd ein traethau yn llawn o garthion amrwd, a heddiw, ers cyfarwyddeb dŵr ymdrochi 1976, mae gennym bellach draethau glân, a llawer iawn ohonynt yng Nghymru y gallwn fod yn falch ohonynt.

Y bobl sy’n torri eu boliau eisiau gadael yr UE yw’r llygrwyr diwydiannol, y bobl sy’n osgoi talu trethi, y llygrwyr bwyd, y cyflogwyr anghyfrifol ac ecsbloetiol. Nodaf fod llynges yr ymgyrch dros adael ar afon Tafwys yn cynnwys treill-long bysgota o’r enw Christina S, a oedd yn euog o dwyll pysgota gwerth £63 miliwn yn yr Alban. Dyma’r math o bobl sydd am i ni adael, ac yn anffodus, mewn sgwrs a gefais y diwrnod o’r blaen gydag uwch was sifil, dywedodd wrthyf yn breifat, pe baem yn pleidleisio dros adael, gallwn droi’r wlad hon yn hafan treth, fel y gallwn ddenu’r holl arian amheus o bob cwr o’r byd. Yn ddigon dychrynllyd, nid wyf yn meddwl ei fod yn cellwair; hyd yn oed yn fwy dychrynllyd, barnwr wedi ymddeol ydoedd. Cyferbynnwch ef a’r holl bobl farus, hunanol eraill ar frig y sefydliad nad ydynt byth angen defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, ar wahân i gasgliadau bin, â phobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi mewn Prydain lawn caledi, sydd rywsut yn meddwl, yn gamarweiniol, y bydd pleidleisio dros adael yn lleddfu eu dioddefaint. Er enghraifft, y person graddedig di-waith y siaradais ag ef neithiwr, sy’n bwriadu pleidleisio dros adael—yn drasig, mae’n credu y bydd ei sefyllfa’n gwella er mai’r gwrthwyneb sy’n wir mewn gwirionedd; hefyd y bobl yn fy etholaeth ar gontractau dim oriau y rhewyd eu cyflogau dros y nifer o flynyddoedd diwethaf, ac sy’n ofni y bydd mwy o fewnfudwyr yn arwain at gyflogau is byth; y pensiynwr sy’n credu y bydd ei wyron, drwy adael Ewrop, yn cael tŷ, yn wahanol i nawr. Dadl dros adeiladu mwy o dai yw hon, nid dros adael yr UE. Mae’r garfan dros adael wedi colli’r holl ddadleuon economaidd, nes eu bod bellach yn defnyddio bwgan truenus mewnfudo i bedlera eu gwenwyn. Mae hyn yn wirioneddol—

Gwnaf. Beth bynnag, dim ond dweud fy mod yn credu bod angen i ni gydnabod pan ffurfiwyd yr Undeb Ewropeaidd—i gadw ffasgiaeth rhag dychwelyd ac i gynrychioli’r dyfodol democrataidd sydd angen i ni i gyd ei gael. Mae angen i ni arwain ar Ewrop, nid ei gadael.

Rwyf eisiau dweud ychydig eiriau am y farchnad sengl, gan fy mod yn credu ei bod yn gyflawniad Prydeinig hynod ac yn rhywbeth sy’n parhau i gynnig cyfleoedd gwych i Gymru, a hyd yn oed yn fwy wrth iddi ehangu mwy i gynnwys gwasanaethau, ar ôl bod yn seiliedig ar nwyddau i ddechrau. Clywsom lawer o sôn ynglŷn â sut y bydd pethau bron yr un fath rywsut pe baem yn gadael, ond y bydd gennym lawer mwy o reolaeth dros yr adnoddau a thros ein democratiaeth. Wel, bydd pethau’n newid, neu fel arall prin ei bod yn werth gadael. Nid wyf yn credu y bydd y marchnadoedd yn ymateb yn bwyllog i benderfyniad y maent yn dweud wrthym fel mater o drefn y byddai’n niweidiol i economi Prydain, ac felly, i economi Cymru. Bydd rhywbeth yn digwydd i’r bunt, ac mae bron bawb yn dweud y bydd yn disgyn. Yn wir, mae rhai pobl sy’n ffafrio gadael yn croesawu hynny am y byddai’n gwneud ein hallforion yn rhatach. Ond rhaid wynebu’r ffeithiau hyn. Byddant yn cael effaith enfawr ar economi Prydain, ac economi Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Ac rydym yn clywed gan rai—roedd awgrym ohono yn yr hyn a ddywedodd Neil Hamilton—y bydd y farchnad sengl yn dal i fod yno i ni fanteisio arni. Wel, beth bynnag arall sy’n digwydd, ni fydd ein mynediad iddi mor broffidiol ag y mae heddiw. Mae’r farchnad sengl hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i Lundain, a phe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, effeithir ar ddyfodol Llundain, fel y ddinas fyd-eang gyntaf a’r fwyaf blaenllaw o hyd, a chredaf fod angen i economi de Cymru ddenu mwy a mwy o adnoddau o Lundain orboblog, a Llundain sy’n ehangu, wrth i ni weld ein gwasanaethau ein hunain yn cael eu cryfhau, yn enwedig yn y byd proffesiynol, a byddai hynny i gyd yn cael ei beryglu a byddai potensial Caerdydd, a’r ardal o amgylch Caerdydd, fel magnet economaidd yn llawer llawer gwanach.

Dyfeisiwyd y farchnad sengl yn y 1980au gan Lywodraeth Thatcher. Rwy’n meddwl efallai mai dyma ran o’r broblem euogrwydd sydd gan rai Ceidwadwyr—ei fod yn gweithio: trawsnewidiodd Ewrop am ein bod wedi gwthio’r egwyddor o bleidleisio mwyafrifol. Roedd yn syniad gan y Ceidwadwyr i gael Ewrop i symud, a bois bach, nid yn unig fe lwyddodd i gael Ewrop i symud, aeth ati wedyn i amsugno dwyrain Ewrop i mewn i’r Undeb Ewropeaidd presennol. Beth fyddai wedi digwydd pe bai dwyrain Ewrop wedi dod yn rhes o wladwriaethau aflwyddiannus, fel rydym yn ei weld yn awr o amgylch y Maghreb a’r dwyrain canol? Pa fath o fyd y byddem yn byw ynddo pe bai hynny wedi digwydd?

Cafwyd llwyddiannau mawr yn yr Undeb Ewropeaidd, nid yn unig yn y farchnad sengl, ond hefyd o ran ehangu a dylem ddiolch ein bod yn byw mewn byd mwy diogel o ganlyniad, beth bynnag fo’r heriau, ac rydym yn wynebu heriau. Ond a dweud y gwir, mae wynebu eich heriau heb eich cymdogion, yn fy marn i, yn strategaeth ddi-hid iawn yn wir. Hefyd, mae dweud eich bod am fod yn agored i’r byd, ond fel eich cam cyntaf tuag at fod yn agored, eich bod yn troi eich cefn ar eich cymdogion, yn wrthddywediad pendant ac rwy’n gobeithio y bydd yr etholwyr yn gweld drwy hynny wythnos i yfory.

Yn gyntaf oll, nid oes y fath beth ag arian Ewropeaidd—arian Prydeinig yn dod yn ôl i ni ar ôl iddynt ddwyn ei hanner ydyw. Ond yma hoffwn oedi a myfyrio efallai ar sefyllfa gyfansoddiadol Cymru o fewn Ewrop. Fel rydym i gyd yn gwybod, nid yw Brwsel ond yn cydnabod Cymru fel rhanbarth yn unig yn Ewrop; nid oes ganddi statws cenedlaethol, er bod bodolaeth y Senedd hon ynddi’i hun yn brawf o’n statws cynyddol fel cenedl o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, rwy’n awgrymu wrthych—[Torri ar draws.] Rwy’n awgrymu wrthych mai ffwl yn unig a fyddai’n cyfnewid bod yn genedl mewn undeb o genhedloedd a alwn yn Deyrnas Unedig am fod yn rhanbarth mewn cydgasgliad helaeth o ranbarthau sy’n ymestyn o Fôr y Baltig i Fôr Aegea ac sydd i’w ymestyn yn fuan i’r ochr draw i’r Bosphorus.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Felly, os mai eich dadl, yn gyfansoddiadol, yw eich bod yn cefnogi DU annibynnol, a ydych hefyd felly yn cefnogi Cymru annibynnol ac ar wahân?

Nac ydw, oherwydd yr hyn rwy’n dweud wrthych yw bod gennym yng Nghymru berthynas ardderchog â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig sydd wedi bod o fudd i ni. Nid oes mantais i ni o fewn Ewrop. [Torri ar draws.] Nid oes mantais i ni o fod yn Ewrop.

O ystyried y diffyg cyfansoddiadol hwn, pam nad yw’r rhai sy’n aelodau o’r sefydliad hwn yn teimlo na fyddwn yn cael ein cyfran deg o fonws ariannol yn sgil gadael Ewrop? [Torri ar draws.] Roeddwn yn dyfalu efallai y byddwch yn dweud hynny, ond mae yna fonws ariannol yn mynd i fod yn sgil gadael Ewrop. Ac a ydynt yn dweud y byddai’r 40 o ASau Cymru yn San Steffan yn methu â chyflawni eu dyletswyddau o ran sicrhau’r cronfeydd hynny i Gymru? Mae’r rhan fwyaf o’r ASau hynny, wrth gwrs, yn ASau Llafur.

Mae Aelodau wedi sôn llawer am hawliau gweithwyr. Pa hawliau sydd gan y rheini sydd ar gontractau asiantaeth neu’n waeth na dim, ar gontractau dim oriau—y math mwyaf anghyfiawn o gyflogaeth er pan oedd gweithwyr y dociau’n dod at giatiau’r dociau i gael eu llogi ar gyfer gwaith un diwrnod neu beidio? Naw wfft i hawliau gweithwyr o dan y Senedd Ewropeaidd. Mae Llafur, mewn difrif, wedi gwerthu eu heneidiau i fusnesau mawr, bancwyr ac elît gwleidyddol Ewrop. Diolch.

Hoffwn fynegi fy nghefnogaeth i’r rhai sy’n ymgyrchu dros bleidlais ‘aros’ yn y refferendwm hwn. Nid fy lle i yw beirniadu’r rhai sy’n dymuno gadael, ond yn hytrach rwyf am wneud achos cadarnhaol dros pam rwyf wedi gwneud penderfyniad gwahanol ar ôl meddwl lawer. Yn bennaf oll yn fy meddwl mae lles a ffyniant pobl Caerffili. Dywedodd prif weithredwr Catnic, cwmni wedi’i leoli yn fy etholaeth, fod tua 30 y cant o’u masnach gyda’r Almaen, Ffrainc ac ardal Benelux, ac mae’r UE yn galluogi’r fasnach honno. Dyna ddyfyniad uniongyrchol oddi wrthynt. Bydd penderfyniad i newid ein perthynas fasnachu yn radical yn effeithio’n negyddol ar Catnic yn uniongyrchol.

Rwyf hefyd wedi siarad â chyflogwyr busnesau bach, sydd wedi defnyddio, er enghraifft, Twf Swyddi Cymru i logi staff, ac maent yn ofni y bydd diwedd ar y £396 miliwn o gyllid Ewropeaidd yn cyfyngu ar eu gallu i logi a hyfforddi. Daw hynny’n uniongyrchol gan gwmni bach yn fy etholaeth. Fel y dywedodd Eluned, nid wyf yn credu Boris a Gove pan ddywedant y byddant yn digolledu’r cyllid hwnnw pe baem yn gadael. Nid wyf yn credu hynny.

Ond heb os, yng Nghaerffili mae yna deimlad gwrth-UE, a rhaid i ni ddweud bod UKIP wedi gwneud eu gorau i fanteisio arno. Mae pobl yn fy etholaeth wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo—[Torri ar draws.]—bod yr elît yn yr UE—. Nid wyf yn mynd i dderbyn ymyriad, gan mai tri munud yn unig sydd gennyf; rwyf am fynd drwyddo. Mae pobl yn fy etholaeth wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo bod yr UE yn bell yn llythrennol ac yn ffigurol o brofiadau ein cymuned o ddydd i ddydd. Os pleidleisiwn dros aros, mae’n rhaid i hyn newid, a byddaf yn gweithio i newid hynny.

Yn wir, rwy’n cofio 20 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn y chweched dosbarth ym Margoed, daeth academydd o Brifysgol Caerdydd i siarad â ni ynglŷn ag ymuno â’r ewro. Daliodd ddarn punt i fyny a dywedodd, ‘Sut y gall unrhyw un ohonoch fod ag ymlyniad emosiynol i’r darn hwn o fetel am fod wyneb y Frenhines arno?’ Rwy’n cofio teimlo’n anghrediniol ac wedi fy mychanu. Gallaf ddychmygu y byddai Leanne Wood yn teimlo yr un fath; mae hi’n edrych arnaf yn awr. Yn fy marn i, methodd yn llwyr â mynd i’r afael er hynny â’r broblem allweddol gydag arian sengl, sef bod cyfraddau llog yn cael eu gosod ar gyfer yr Almaen, ac ni fydd hynny’n helpu Gwlad Groeg. Eto i gyd, ni wnaethom ymuno â’r ewro. Roedd ein democratiaeth seneddol a’n sofraniaeth yn Ewrop yn ddigon cryf i wrthsefyll y ffwlbri mwyaf hwn a dyma un o’r rhesymau pam rwy’n hyderus i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ac yn hyderus y dylem aros.

Yn yr un modd, pan etholwyd Llywodraeth Geidwadol yn 1992, er mawr siom i mi, roeddent yn gallu ein heithrio o gyfraith yr UE yn seiliedig ar egwyddorion cyflog teg a hawliau cyfartal, a grybwyllwyd eisoes gan Dawn Bowden. Fodd bynnag, yn 1997, pan gawsom Lywodraeth Lafur, fe ymrwymasom i’r egwyddorion hynny. Unwaith eto, democratiaeth oedd hynny. Roedd yn ddewis democrataidd gan bobl y wlad hon—dewis sofran. Sy’n dod â mi—ac rwy’n teimlo bod y penderfyniadau democrataidd hyn wedi tanio ymgyrchoedd yr adain dde yn rhannol i bleidleisio dros adael.

Sy’n dod â mi yn olaf at fewnfudo. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r pryderon hyn. Credaf na fydd gadael yr UE ond yn arwain, ar y gorau, at ychydig iawn o newid yn ein gallu i reoli ein ffiniau ac efallai y byddwn yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth. Nid yn unig y bydd Ewrop heb Brydain yn Ewrop lai sefydlog, bydd hefyd yn cael gwared ar unrhyw gymhelliad sydd gan wledydd fel Ffrainc i blismona a diogelu ein ffiniau.

Mae’n rhaid i ni gyflwyno achos cadarnhaol dros aros, un sy’n cwmpasu’r manteision i’n heconomi, ein democratiaeth a’n ffiniau. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i bleidleisio dros ‘aros’ heddiw.

Rwy’n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelodau hynny sydd wedi cyflwyno’r ddadl bwysig hon ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma? Fy ngwaith i yw gosod safbwynt Llywodraeth Cymru, ac mae’r safbwynt hwnnw’n gwbl glir. Mae parhau ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i’n dyfodol yn ei holl ddimensiynau sylfaenol.

Nawr, clywsom gyfres o gyfraniadau y prynhawn yma yn nodi’r union achos hwnnw ym maes cyfiawnder troseddol, gwarchod yr amgylchedd, diogelwch bwyd, hawliau cyflogaeth a diogelwch rhag gwahaniaethu. Rwyf am ddechrau drwy ein hatgoffa am yr achos diwylliannol: mae Cymru’n genedl Ewropeaidd. Mae’r ffaith fod dwy iaith yn cael eu defnyddio’n ddyddiol yng Nghymru yn ein gosod yn gadarn yn y brif ffrwd Ewropeaidd. Mae’r ffaith ein bod yn Gymry yn golygu ein bod yn gyfforddus gyda hunaniaethau lluosog. ‘O ble rwyt ti’n dod?’—y cwestiwn cyntaf a ofynnwn i’n gilydd. Rydym yn deall y gall yr ateb fod yn dref neu’n bentref, yn wlad neu’n wir, yn gyfandir rydym yn perthyn iddynt. Rydym yn deall y gallwn berthyn i fwy nag un lle ar yr un pryd.

Yn ogystal â’r cysylltiadau diwylliannol hynny, fel y clywsom, mae’r Undeb Ewropeaidd yn sicrhau manteision i ni sy’n gymdeithasol, yn economaidd ac yn wleidyddol. Yn gymdeithasol, rydym ni ar yr ochr hon yn credu mewn Ewrop o undod, Ewrop o hawliau wedi’u diogelu a’u hymestyn i bobl sy’n gweithio ac amddiffyniad cryf i bobl sy’n agored i niwed yn y gymdeithas. Clywsom gan Dawn Bowden ac eraill am y ffordd ymarferol y mae’r hawliau cymdeithasol hynny’n gadael eu hôl ar fywydau pobl sy’n gweithio yma yng Nghymru.

Yn economaidd, fel y mae llawer o bobl yn y ddadl hon wedi’i ddweud, mae’r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i ni yng Nghymru—mewn amaethyddiaeth, mewn diwydiant, mewn buddsoddiad strwythurol, mewn ymchwil prifysgol. Dechreuodd Eluned Morgan drwy eu hamlinellu i gyd, ac aeth eraill, megis Huw Irranca-Davies, ymlaen i osod y manteision economaidd ymarferol hynny yn uniongyrchol yn y cymunedau rydym yn eu cynrychioli.

Mae’r cyllid uniongyrchol i Gymru o’r Undeb Ewropeaidd yn werth mwy na £500 miliwn bob blwyddyn. Mae gan dros 500 o gwmnïau o wledydd Ewropeaidd eraill weithrediadau yma yng Nghymru, ac mae’r gweithrediadau hynny’n darparu mwy na 57,000 o swyddi. Byddai pleidlais i adael yr UE yn anochel yn achosi pryderon mawr ynghylch y math hwnnw o fuddsoddiad rhyngwladol. Nonsens llwyr yw awgrymu na fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio dim ar economi Cymru. Fe fyddai. Byddai’n dechrau digwydd y diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o’r fath, a byddai’r effaith yn niweidiol iawn.

Ond Lywydd, efallai mai yn wleidyddol—a fforwm gwleidyddol yw hwn, wedi’r cyfan—y gwneir yr achos mwyaf pwerus dros yr Undeb Ewropeaidd. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn hynod o ffodus o fod wedi byw am dros 70 mlynedd heb ryfel rhwng gwledydd Ewrop. Yn union fel y clywsom gan Eluned ar y dechrau, rwy’n meddwl am fy nheulu fy hun. Roedd fy nau daid yn ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. Yn blentyn yn yr ysgol gynradd, rwy’n cofio’n glir cael clywed gan lygad-dystion a welodd Abertawe’n llosgi o Gaerfyrddin, 30 milltir i ffwrdd. Pan glywais y stori honno roedd llai o flynyddoedd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau ofnadwy hynny nag a aeth heibio ers agor y Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf. Mae’r syniad fod gwrthdaro yn perthyn i’r gorffennol pell, fod 70 mlynedd o heddwch rywsut yn fwy nodweddiadol na 1,000 o flynyddoedd o ryfela, yn mynd yn groes i hanes. Sefydlwyd Cymuned Glo a Dur Ewrop, rhagflaenydd yr undeb heddiw, yn 1951 yn benodol i sicrhau na fyddai gïau rhyfel, fel y’u gelwid—glo a dur—byth eto’n cael eu defnyddio ar gyfer rhyfeloedd rhwng cymdogion Ewropeaidd. Ewrop heddiw, gyda’i sicrwydd o werthoedd democrataidd a rennir a hawliau dynol sylfaenol yw ein sicrwydd ninnau hefyd mai drwy wleidyddiaeth y caiff gwahaniaethau eu datrys nid drwy rym. Mae’n annirnadwy ein bod ar hyn o bryd yn wynebu peryglu’r fantais honno ar drywydd rhyw droi cefn chwerw ar y byd.

Lywydd, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad. Nid oes gennyf unrhyw gyngor ar gyfer y dosbarth gweithiol yng Nghymru o ffair y glas yn Rhydychen. [Chwerthin.] Ond gwn fod y grŵp o benboethiaid adain dde sy’n arwain yr ymgyrch i dynnu Cymru a’r Deyrnas Unedig allan o Ewrop yn ymgasglu o amgylch y bwrdd gamblo. Maent yn barod i gamblo gyda’n dyfodol ni—dyfodol ein plant a’n gwlad. Gadewch i’r neges seinio’n glir o’r Cynulliad hwn y prynhawn yma: mae Cymru yn well yn Ewrop. Mae Cymru yn perthyn i Ewrop, a dyna yw’r dewis sydd angen i ni ei wneud yr wythnos nesaf. [Cymeradwyaeth.]

Diolch yn fawr, Lywydd. Anodd iawn yw ymateb, ac yn sicr grynhoi, dadl fel hon, ond rydw i’n ddiolchgar i’r Aelodau i gyd am i ni gael dadl resymol a gweddol resymegol yn y cyfraniadau a wnaed. Fe ddechreuom ni gyda Mark Isherwood yn cyfeirio at y dadleuon amaethyddol a’r math o ddadleuon rwyf wedi clywed llawer ohonyn nhw yn yr ardal rwyf i’n ei chynrychioli, ac ar hyd y gorllewin: y syniad yma y gallwn ni sicrhau diogelwch i amaethyddiaeth a physgodfeydd Cymru drwy ddychwelyd i gyfundrefn y mae llawer ohonom ni yn ei chofio hi’n iawn, cyn inni gael pethau fel ‘regime’ cig oen yr Undeb Ewropeaidd i ddiogelu a datblygu ein diwydiant, yn yr un modd ag y mae ein pysgodfeydd ni bellach yn cael eu gwarchod drwy’r gyfundrefn sydd gennym ni. Oherwydd beth sy’n bwysig inni gofio am yr Undeb Ewropeaidd yw ei bod hi’n undeb sydd wedi newid ac wedi diwygio ar hyd ei hamser. Fe bwysleisiwyd hynny gan Huw Irranca-Davies—y pwysigrwydd o’r buddsoddiad yn ei gymuned o, cyfraniad y cronfeydd strategol i economi Cymoedd Cymru drwodd a thro.

Yna, fe ddaethom ni at gyfraniad difyr a digrif, fel y mae o hyd, gan Neil Hamilton. Roedd o’n ceisio pwysleisio, ar yr un llaw, y byddai sicrhau bod yr Undeb Brydeinig—y Deyrnas Unedig—yn dod mas o’r Ewrop unedig rhyw fodd yn sicrhau y byddai mwy o reolaeth dros beth sy’n digwydd yng Nghymru, yn Lloegr, yn Iwerddon ac yn yr Alban. Mae hon yn ddadl yr wyf wedi methu ei deall, oherwydd mae hi’n gwrthod imi y ddadl bwysicaf ynglŷn â beth y mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei gynnig i ni. Rydym yn byw mewn byd sydd yn fyd-eang. Dyna natur yr hyn sydd wedi datblygu ar draws y byd. Mae gyda ni ranbarthau economaidd enfawr drwy’r byd i gyd. Ac eto, mae’r ddadl yma yn cael ei chyflwyno y byddai i ni, fel teyrnas, i fod y tu fas i ranbarth byd-eang o fyd sydd yn farchnad gyfan yn rhyw fodd yn fanteisiol. Felly, nid wyf yn derbyn y ddadl honno bod y diffyg masnachol sydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r tir mawr a’r Deyrnas Unedig yn mynd i fod yn warant o gwbl y bydd modd cael marchnad rydd o’r newydd yn y farchnad sengl.

Dyma sy’n bwysig, rwy’n credu, i ni gofio bod yna bedwar rhyddid mawr sydd yn sylfaenol i’r Undeb Ewropeaidd: rhyddid nwyddau i symud; rhyddid gwasanaethau i symud; rhyddid cyfalaf i symud; a rhyddid pobl i symud. Dyma lle mae’r ddadl ynglŷn â mewnlifiad yn tywyllu ac yn drysu pobl yn fwy nag unrhyw ddadl arall. Nid mewnlifiad yw bod pobl yn dod o dir mawr Ewrop sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd i weithio yng Nghymru. Nid mewnlifiad ydy hynny. Beth ydy o ydy pobl sydd yn gyd-ddinasyddion o gyfandir cyfan yn gallu rhannu gwaith, fel yr ydw i’n gallu rhannu gwaith os ydw i’n mynd mas i weithio yn yr Undeb Ewropeaidd, neu fel y myfyrwyr sydd yn gweithio o Brifysgol Bangor, lle’r wyf i’n—

David Rowlands a gododd—

Diolch. Mae’n anhygoel i mi mai dwy blaid a elwir yn bleidiau sosialaidd sy’n poeni am y dosbarth gweithiol yw’r pleidiau sy’n dadlau dros gael nifer fawr o bobl yn arllwys i mewn i’r wlad hon. Nid oeddent yn cymryd swyddi prif weithredwyr. Nid oeddent yn cymryd swyddi uwch-weision sifil. Nid oeddent yn cymryd swyddi bancwyr. Roeddent yn cymryd swyddi dosbarth gweithiol. Lle nad oeddent yn cymryd y swyddi hynny, maent wedi gorfodi pris llafur i lawr i’r fath lefel fel mai’r cyflog byw yn awr yw’r cyflog safonol. Gwarthus—bawb ohonoch.

Yr unig beth a ddywedaf wrthych, David: heb y bobl hynny, beth fyddai’n digwydd i’r diwydiant cig ffres yng Nghymru? A’r GIG?

Pwysleisiodd Dawn Bowden y mater sylfaenol yma ynghylch hawliau a safonau gweithwyr, ac roeddwn yn falch iawn o glywed y ddadl honno. Yna daethom at Mark Reckless, a roddodd uchafbwyntiau wedi’u golygu o’i hunangofiant. Rwyf bob amser wedi ystyried mai ffuglen yw hunangofiannau, felly fe’i gadawn yn y fan honno. Pwysleisiodd Jenny Rathbone bwysigrwydd y cyfraniad amgylcheddol, o ran ansawdd aer, traethau glân ac wrth gwrs, diogelwch gwastraff mwyngloddio.

Then, my colleague David Melding. David Melding has led on the European question over the years. I made an error in the first referendum. Despite the efforts of Dafydd Wigley and others to persuade me, I voted against remaining in in 1975, and I have regretted that every day since then. And David is entirely right in making the case that the single market is a British Conservative project, and the contribution of the Thatcher Government had been significant.

Rhoddodd David Rowlands ddarlith i ni hefyd ar sefyllfa gyfansoddiadol Cymru. Rwy’n ofni fy mod yn gweld hyn ychydig yn wahanol, oherwydd bûm yn eistedd yn y Gadair am gyfnod ac yn treulio llawer o amser yn trafod â rhanbarthau Ewropeaidd. Ewrop o ranbarthau yw Ewrop, a bydd yn parhau i fod yn Ewrop o ranbarthau, lle bynnag y bydd Cymru yn penderfynu gosod ei hun. Ac ym Mhwyllgor y Rhanbarthau, rydym wedi cael ein cynrychioli’n fedrus iawn gan fy ffrind agos yma, Mick Antoniw, a allodd siarad o brofiad personol yn ystod yr argyfwng yn yr Ukrain.

Ac yn olaf, dof at gyfraniad Hefin David, lle soniodd am y teimlad gwrth-UE sy’n bodoli yng Nghymru. A wyddoch chi, os collwn yr un yma, ni fydd wedi’i cholli, y dosbarth gwleidyddol yng Nghymru fydd wedi’i cholli am nad ydym wedi cyflwyno’r ddadl yn ddigon cryf ac am nad ydym yn benodol wedi cyflwyno’r ddadl y gorffennodd Mark Drakeford, ein Gweinidog â hi—y ddadl dros hunaniaeth luosog.

The Welsh language is a co-official language in the European Union. It is not a co-official language in Westminster, and that’s a sufficient argument for me to stay in Europe forever.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Etifeddiaeth Iechyd y Cyhoedd o Ewro 2016

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Simon Thomas.

Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, ac rwy’n galw ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6021 Paul Davies

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi llwyddiannau enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc ar hyn o bryd.

2. Yn cydnabod y rôl y gallai rhan Cymru yn y bencampwriaeth ei chwarae o ran hybu cyfranogiad mewn chwaraeon, gwella lefelau iechyd y cyhoedd a chreu etifeddiaeth barhaus ar gyfer ein hathletwyr elitaidd.

3. Yn mynegi pryder at ganfyddiadau Arolwg Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio maint yr heriau o ran iechyd y cyhoedd sy’n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu’n ordew.

4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i ddefnyddio digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, ac wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Euro 2016, i wella iechyd y cyhoedd ac ysgogi mwy o gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Gobeithiaf y bydd y drafodaeth hon ychydig yn llai dadleuol na’r olaf, ond byddaf yn sôn am Ewrop sawl gwaith yn y ddadl hon. Rwy’n falch o gyflwyno’r ddadl hon ar effeithiau’r pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd ar Gymru, yn ogystal ag ôl-effeithiau hirdymor y digwyddiad ar iechyd, ac i gynnig y cynnig yn enw Paul Davies. Rwy’n falch o ddynodi cefnogaeth i’r gwelliant i’n cynnig yn enw Simon Thomas hefyd.

Roeddwn eisiau dechrau’r ddadl heddiw drwy longyfarch tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Rwy’n siwr ein bod, fel pawb arall yn y Cynulliad heddiw, yn hynod o falch o gyflawniadau ein tîm yn cyrraedd eu pencampwriaeth bêl-droed rhyngwladol cyntaf ers y Cwpan y Byd 1958 yn Sweden, ac mae’r balchder yn dwysáu yn dilyn eu buddugoliaeth, wrth gwrs—eu buddugoliaeth 2-1 dros Slofacia ddydd Sadwrn—ac nid ydym ond un canlyniad yn unig i ffwrdd o’r cam bwrw allan yn y bencampwriaeth, ac oni fyddai mor felys pe bai’r canlyniad hwnnw’n dod yn erbyn ein cymdogion Seisnig yfory?

Mae gan Gymru hanes balch o lwyddiant yn y byd chwaraeon yn cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr sy’n fwy o lawer na’r norm ar gyfer gwlad o’i maint. Cynaliasom Gwpan Rygbi’r Byd yn 1999, rowndiau terfynol Cwpan yr FA rhwng 2001 a 2005, dwy gêm brawf Cyfres y Lludw, cam blynyddol ym mhencampwriaethau ralïo’r byd, yn ogystal â Chwpan Ryder 2010, ac rydym hefyd wedi sicrhau’r hawliau i gynnal rownd derfynol cynghrair y pencampwyr 2017. Rwy’n gobeithio nad wyf wedi anghofio unrhyw beth. Os ydw i, croeso i chi ymyrryd. Ond mae llawer o bencampwyr yng Nghymru, o Gareth Bale a Geraint Thomas i’r enillydd medal aur, Jade Jones, wedi codi i frig eu meysydd ac wedi cynrychioli ein gwlad gyda rhagoriaeth ar draws y byd. Nawr, er gwaethaf y llwyddiannau hyn, mae’r cyfraddau sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ledled Cymru yn bryderus o isel. Pan gyhoeddodd Llywodraeth flaenorol y strategaeth ‘Dringo’n Uwch’ yn 2005, dywedodd mai ei dymuniad oedd gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ganolog i fywyd Cymru. Nawr, mae arolygon diweddar yn dangos mai ychydig iawn o gynnydd a fu yn y gyfran o oedolion sy’n gwneud mwy na 150 munud o chwaraeon yr wythnos, ac er bod y canfyddiadau hyn i’w croesawu wrth gwrs, rwy’n credu eu bod hefyd yn tynnu sylw at nifer o feysydd y mae angen i’r Llywodraeth ganolbwyntio arnynt.

Un o’r prif faterion y mae angen mynd i’r afael ag ef yn ddybryd yw’r cysylltiad clir rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon a chefndir economaidd-gymdeithasol. Mae pobl sy’n ennill cyflogau is yn llawer llai tebygol o wneud ymarfer corff yn rheolaidd, ac wrth gwrs, rwy’n meddwl y gallwn i gyd gytuno bod rhaid unioni hynny. Ar lefel plant cynradd, mae’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ysgolion cynradd ledled Cymru yn amlwg wedi gostwng. Mae addysg gorfforol, wrth gwrs, yn hanfodol i fagwraeth plant ledled Cymru, ac mae’n galonogol fod ffordd iach o fyw yn cadw plant yn heini ac yn llawn cymhelliant i barhau i wneud ymarfer corff yn eu bywydau fel oedolion. Ar adeg pan fydd pob llygad wedi’i hoelio ar gampau ein bechgyn yn Ffrainc, dylid gofyn o ble y daw Gareth Bales y dyfodol os yw’r amser a roddir i addysg gorfforol plant cynradd yn parhau i leihau.

Nawr, o ran effaith chwaraeon yng Nghymru ar y nifer sy’n gwneud ymarfer corff, rwy’n arbennig o bryderus fod y Llywodraeth flaenorol wedi torri cyllid i weithgarwch corfforol ledled Cymru yn y gyllideb ddiweddar. Yn ogystal, mae cyllid cymunedol i glybiau chwaraeon a hamdden ar draws Cymru wedi parhau i ddirywio, felly ar yr un pryd ag y mae ffioedd yn codi ar gyfer ein caeau pêl-droed a rygbi—gwn ei bod yn costio £55 yn awr am gae pêl-droed, a £75 am gae rygbi. Mae’r cynnydd hwn yn rhwystrau wrth gwrs i gymryd rhan mewn chwaraeon. Nawr, gyda’r cysylltiad rhwng y niferoedd cynyddol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ac iechyd da, mae’n dilyn yn naturiol fod cyfraddau cyfranogiad isel yn niweidiol i iechyd y cyhoedd. Yn 2015, roedd 24 y cant o boblogaeth Cymru wedi’u categoreiddio’n ordew, ac roedd 59 y cant o’r boblogaeth dros bwysau. Mae problemau pwysau, wrth gwrs, yn creu problemau iechyd ychwanegol fel diabetes a phwysedd gwaed uwch, dau gyflwr sydd wedi cynyddu’n ddramatig yng Nghymru dros y degawd diwethaf.

Nawr, yn economaidd, mae ein llwyddiant yn Ewro 2016 hefyd yn creu cyfle gwych i hysbysebu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, nid yn unig i Ewropeaid, ond hefyd o amgylch y byd. Roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i arddangos cyrchfannau twristaidd ein cenedl ym Mhentref Ewrop, ac wedi buddsoddi mewn hysbysebion mewn nifer o ieithoedd i farchnata’r wlad wych hon, ac rwy’n gobeithio eu bod yn llwyddo i ddenu ymwelwyr. Nawr, yn ddomestig wrth gwrs, mae’r bencampwriaeth Ewropeaidd hefyd yn hwb da i’n clybiau a’n bariau a’n tafarndai lleol, ac rwy’n gwybod y byddaf yn gwneud fy rhan i helpu economi leol Sir Drefaldwyn am 2 o’r gloch yfory.

Felly, gyda llawer o lygaid yn gwylio’r tîm mewn lolfeydd a thafarndai a pharthau cefnogwyr ar draws Cymru, ond hefyd yn Ffrainc, mae Ewro 2016 yn darparu cyfle gwych i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar draws Cymru yn awr ac yn y dyfodol, ac rwy’n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru, gan weithio wrth gwrs mewn partneriaeth â chyrff eraill y Llywodraeth, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol, yn adeiladu ar lwyddiant ein tîm pêl-droed er mwyn cynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig ymysg y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a bod camau’n cael eu rhoi ar waith i wella iechyd cyhoeddus dynion Cymru a merched Cymru.

Yn olaf, mae digwyddiadau fel hyn yn dod ag ymdeimlad enfawr o falchder cenedlaethol, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i’n tîm pêl-droed yfory ac ar gyfer gweddill y bencampwriaeth. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch.’]

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Felly galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Dai Lloyd.

Gwelliant 1—Simon Thomas

Cynnwys fel pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at doriadau i chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i Russell am agor y ddadl yma a hefyd am dderbyn ein gwelliant ni, sydd yn ffeithiol, a dweud y gwir. Rydym ni yn gresynu bod yna doriadau wedi bod mewn chwaraeon ar lawr gwlad achos toriadau cyllidol. Ac wrth gwrs mae’n bwysig inni hefyd ymuno wrth longyfarch tîm pêl-droed Cymru, a wnaeth gael llwyddiant eithriadol dros y penwythnos. Ac, wrth gwrs, mae hwn yn hwb sylweddol i’n hiechyd meddwl i gyd, buaswn i’n meddwl, gan ein bod yn sôn am effaith mabolgampau, chwaraeon, ac ati ar ein hiechyd ni—nid jest iechyd corfforol, ond wrth gwrs iechyd meddwl. Mae pawb yn hapusach eu byd pan fydd ein timau cenedlaethol ni yn cael llwyddiant, ac yn arbennig, felly, pan oedd ar un adeg yn yr ail hanner yna yn edrych yn go ddu, ac wedyn roedd y bechgyn yn troi pethau rownd, ac yn lwyddo i ennill ar ddiwedd y dydd.

Ond rwy’n mynd i sôn nawr, yn yr amser sydd gyda fi, jest am bwysigrwydd ymarfer corff. Ffitrwydd, hynny yw: ffitrwydd, a’r angen i bawb gadw’n heini er mor anodd mae hyn yn gallu bod i nifer fawr ohonom ni. Ond rydym ni wastad yn gallu cerdded i lefydd, er enghraifft, yn lle defnyddio’r lifftiau. Achos mae yna sawl ymchwil meddygol wedi dangos rŵan bod cadw’n heini—bod yn ffit, hynny yw—yn eich diogelu chi rhag ddatblygu pethau fel dementia, yn lleihau graddfeydd o glefyd melys, pwysau gwaed a strôc ac ati—nifer o afiechydon rydym ni’n brwydro’n hir i ddatblygu tabledi newydd i’w trin nhw. Ac eto, os ydych chi’n ffit, rydych chi’n dueddol o ddioddef llai o’r afiechydon yna. Pe bai cadw’n ffit yn dabled, byddem ni i gyd yn mynnu bod NICE yn cytuno i feddygon fel fi i’w presgreibio. Ond mae bod yn ffit yn llawn fwy effeithiol na’r rhan fwyaf o dabledi sydd gyda ni ar hyn o bryd i fynd i’r afael â dementia a strôc ac ati.

Felly, cerdded 10,000 o gamau bob dydd ydy’r peth—10,000 ohonyn nhw. Mae’n ddigon hawdd i’w gyflawni, ond mae’n gallu bod yn her.

Nid wyf yn gwybod os wyf wedi sôn eto fy mod wedi bod yn Aelod o’r Cynulliad yma o’r blaen. Rhyw chwe mlynedd yn ôl yn awr, fe wnes i gael llwyddiant efo pasio Mesur yn diogelu ein meysydd chwarae ni yng Nghymru. Roeddwn yn ddiolchgar iawn am bob cefnogaeth o bob plaid bryd hynny i ddiogelu dyfodol ein meysydd chwarae ni, i wneud yn siŵr bod y genhedlaeth nesaf o Gareth Bales ac ati yn gallu cael rhywle i redeg o gwmpas, hyd yn oed yng nghanol ein dinasoedd mwyaf ni.

Ac, wrth gwrs, i orffen, fel rydym ni i gyd yn heneiddio, mae’r cyflymder treiddgar oedd gyda ni pan oeddem ni’n ifanc wrth chwarae rygbi neu bêl-droed ac ati yn dechrau mynd yn ddiffygiol rŵan fel rydym ni’n mynd yn hŷn, yn naturiol. Ond, wrth gwrs, mae yna bethau eraill yn datblygu, fel pêl-droed wrth gerdded—’walking football’. Mae’n datblygu mewn sawl rhan o Gymru ac mae’n bwysig i’r rhai ohonom ni sy’n heneiddio a ddim yn gallu rhedeg o gwmpas cweit mor gyflym ag yr oeddem ni ers llawer dydd. Wrth gwrs, mae hwnnw hefyd yn edrych am gefnogaeth, fel pob camp arall.

I ddiweddu hefyd—tîm rygbi’r Cynulliad. Mae yna sawl Aelod yn fan hyn sy’n gallu chwarae rygbi i’r Cynulliad. Mi fyddaf yn gwneud ‘pitch’ i fod ar yr asgell chwith unwaith eto, am resymau amlwg. Ond, wrth gwrs, mae aelodaeth y tîm yna ar agor i bawb. Rwy’n edrych ar fy nghyd-Aelodau hefyd i ddatblygu’r ffitrwydd yna, i ddod yn rhan annatod o dîm rygbi Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Diolch yn fawr iawn ichi.

A gaf fi ddechrau heddiw drwy gofnodi diolch pawb ohonom, rwy’n siŵr, i Athro Laura McAllister ac i’w llongyfarch ar yr anrhydedd a dderbyniodd yn y rhestr anrhydeddau pen-blwydd ychydig ddyddiau yn ôl?

Gall yr Aelodau sy’n dychwelyd gofio dadl ym mis Tachwedd 2014 pan rennais fy syndod ynghylch y datgeliad fy mod bellach yn cael fy ystyried yn berson hŷn. Efallai mai’r rhan waethaf o’r deffroad hwnnw oedd y darganfyddiad fy mod yn briod â pherson hŷn hefyd. Yn wir, mae mor hen fel bod ganddo yntau hefyd grys-T The Clash; mae wedi’i guddio yn ei gwpwrdd dillad. Mae nifer o flynyddoedd yn hŷn na’r tŷ y symudasom i mewn iddo bron 26 mlynedd yn ôl, ond yn anffodus nid oes unrhyw drowsus lledr i’w ganfod yno—yn wahanol i gartref Huw Irranca-Davies, mae’n ymddangos.

Fodd bynnag, mae’r crysau a gadwodd ers ei ddyddiau fel chwaraewr gyda thimau pêl-droed a rygbi yng nghanolbarth Cymru, o’i blentyndod i’r timau ieuenctid ac yn y pen draw fel oedolyn, yn hŷn na hynny hyd yn oed. Nid ydynt yn dimau enwog. Hyd yn oed yn awr, mae yna rannau o Gymru lle mae talent a allai fod yn elitaidd yn llithro drwy’r rhwyd ​​oherwydd ei bod yn anodd datblygu talent elît mewn ardaloedd prin eu poblogaeth. Mae’n daith 60 milltir i’r academi bêl-droed agosaf ac yn ôl i ble mae fy nheulu yn byw, er enghraifft, ac ni cheir cludiant cyhoeddus o unrhyw werth. Wrth gwrs, os ydych yn gallu gwneud y daith, mae’n bosibl y caiff ei dilyn gan daith o bron i 200 milltir i gyd i chwarae gêm. Mae’n her i’r chwaraewyr a’u tacsis mam a dad yn rhywle fel Pen-y-bont yn fy rhanbarth i pan fyddant yn mynd i Aberystwyth unwaith y flwyddyn. Ond i chwaraewyr a thacsis mam a dad yn Aberystwyth, mae’r teithiau hir hynny’n wythnosol a thalent yn cael ei golli wrth i’r amynedd dreulio. Os yw’r Sophie Ingle neu’r Gareth Bale nesaf yn dod o Gribyn neu Lanbryn-mair, dyweder, a ydym yn siŵr ein bod yn mynd i ddod i wybod amdanynt mewn gwirionedd?

Fodd bynnag, mae’r hen ddyn fy nhad—rwy’n cael ei alw’n hynny bellach—wedi gwirioni ar chwaraeon. Mae’n gweiddi ar y teledu ac yn cynnwys y gath yn rhan o’i bynditiaeth ryfeddol o’i gadair freichiau: tan yn ddiweddar, roedd yn hyfforddi plant y dref a thimau pêl-droed ieuenctid a phob wythnos mae’n ymuno â chriw o, wel, fe’u galwaf yn hen lawiau, i fod yn garedig, i chwarae pêl-droed pump bob ochr. Efallai fod ganddo docyn tymor at yr osteopath lleol o ganlyniad i hyn, a llawer o bobl eraill sy’n ymuno ag ef, ond iddo ef a’r dynion hŷn hynny, nid ymwneud â ffitrwydd yn unig y mae’r chwaraeon hyn; mae’n ymwneud â chael gwared ar straen; mae’n ymwneud â chadw cyfeillgarwch maith rhwng dynion; mae’n ymwneud â’r dafarn bob amser wedi’r gêm; mae’n fath o sied y dynion mewn cit pêl-droed Barcelona rhad. Ac felly mae ymgyrchoedd fel ‘Ry’n ni’n gwisgo’r un crys’ wedi helpu i dynnu sylw at werth chwaraeon i iechyd meddwl dynion yn benodol, ond mae ei hegwyddorion yn berthnasol hefyd i bobl hŷn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos mai’r siroedd mwyaf prin eu poblogaeth yng Nghymru yw’r rhai lle mae’r gyfran fwyaf o bobl hŷn yn byw, gydag arwahanrwydd yn arwain at unigrwydd a dirywiad mewn iechyd meddwl ac iechyd corfforol.

Nawr, nid yw fy ngŵr ond yn ei bumdegau, ond mae rhwng un o bob tri ac un o bob pump o bobl dros 65 oed hefyd yn honni eu bod wedi gwirioni ar chwaraeon. Ac fel y clywsom gan Russell George yn gynharach, nid yw’r ffigurau o reidrwydd yn argyhoeddi ar hyn, ac rwy’n meddwl bod yna ychydig o waith i’w wneud o hyd ar yr ystadegau fel y gallwn fod yn hollol siŵr beth yw’r sefyllfa mewn gwirionedd. Hynny yw, roeddwn yn meddwl bod y ffigurau’n swnio’n eithaf uchel pan edrychais arnynt, hyd yn oed pan ydych yn cydnabod eu bod yn cynnwys bowls, nofio, defnyddio peiriant ymarfer corff a golff. Ond os edrychwch ychydig yn agosach, dim ond 7 y cant o rai dros 65 oed sy’n gwneud chwaraeon neu ymarfer corff ddwywaith yr wythnos, er bod 18 y cant ohonynt yn aelodau o glybiau chwaraeon, ac rwy’n credu bod hynny’n eithaf diddorol. Nid yw dros hanner y bobl dros 65 oed yn gwneud unrhyw chwaraeon neu ymarfer corff wedi’i drefnu, ac mae’r patrwm yn cychwyn gryn dipyn yn gynt gyda llai na hanner y rhai rhwng 55 a 64 oed yn gwneud unrhyw chwaraeon. Eto i gyd, mae dros draean yn dweud eu bod yn cymryd rhan dair gwaith yr wythnos. Mae’n edrych fel naill ai’r cyfan neu ddim o gwbl, onid yw? Mae’r rhai sy’n gwirioni ar chwaraeon i’w gweld yn gwirioni go iawn.

Cynhelir hanner marathon Abertawe ar 26 Mehefin, ac er nad yw pawb sy’n cymryd rhan yn dod o Gymru wrth gwrs, byddech yn synnu clywed faint o bobl hŷn a gymerodd ran yn y ras honno y llynedd. O 3,441 o redwyr, roedd 241 ohonynt yn ddynion rhwng 50 a 60, a 51 o ddynion dros 60 oed. Cymerodd 40 o fenywod dros 45 oed ran hefyd; mae hynny’n golygu bod ychydig o dan 10 y cant o’r rhai a gymerodd ran yn bobl hŷn. Y ffigur llawer is ar gyfer menywod sy’n cymryd rhan yw’r hyn rwy’n dod ato i orffen hyn, oherwydd mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod gwerth chwaraeon yn mynd y tu hwnt i weithgarwch corfforol, ac mae’n arbennig o werthfawr i fenywod sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol. Ac mae hefyd yn honni bod menywod yn dda iawn am ymateb i ddarpariaeth briodol.

Felly, gorffennaf fy nghyfraniad gyda hyn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n canmol yr holl waith sy’n digwydd ar iechyd meddwl dynion a gwaith y gwneuthurwyr polisi sy’n cael ei wneud ar annog merched ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon, ond sut y gallwn helpu menywod, a menywod hŷn, sydd mewn perygl o fynd yn ordew—menywod fel fi—i oresgyn embaras y dyddiau a fu yn hen gampfa’r ysgol a dod i wirioni ar chwaraeon yn ddiweddarach mewn bywyd, hyd yn oed os mai pêl-droed yw’r chwaraeon?

Hoffwn ddechrau drwy gydnabod cyflawniad enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan yn Ewro 2016 yn Ffrainc. Ac fel y mae pawb wedi dweud, dyma’r tro cyntaf ers 58 mlynedd i Gymru gyflawni hynny. Ac oedd, roedd y fuddugoliaeth 2-1 yn erbyn Slofacia yn eu gêm gyntaf yn drawiadol, ac ni allwn sôn am y gêm heb hefyd sôn am un chwaraewr, Joe Allen o Hwlffordd.

Ond mae llwyddiant Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf eisoes wedi ysbrydoli pobl ar draws y wlad yn wir i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon. A derbynnir yn eang eisoes y gall digwyddiadau chwaraeon mawr fod â photensial i hybu cyfranogiad y cyhoedd mewn chwaraeon, a hefyd i gynyddu twristiaeth yn sgil hynny. Nid wyf yn mynd i redeg drwy’r rhestr o bethau y mae Cymru wedi bod yn ymwneud â hwy oherwydd gwnaeth Russell George hynny ar fy rhan. Ond mae angen i ni fanteisio ar y momentwm sydd wedi’i greu gan gyfranogiad Cymru yn Ewro 2016, a’i rhan yn cynnal ac yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hynny a gafodd eu crybwyll yn flaenorol. A rhaid i ni annog rhagor eto o blant, pobl ifanc ac oedolion i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i barhau i wneud ymarfer corff.

Rhaid i ni hefyd fedi’r manteision economaidd a’r budd i iechyd sy’n llifo’n naturiol o hynny. Ond rhaid i ni hefyd adael etifeddiaeth barhaus i’n hathletwyr elitaidd. Mae hynny, mewn unrhyw achos, yn llawer iawn i’w ofyn. Ond ers 2008, mae’n wir fod yr arolwg ar oedolion egnïol yn dangos bod 41 y cant o oedolion bellach yn cymryd rhan dair gwaith yr wythnos mewn rhyw fath o weithgaredd, a dim ond 29 y cant oedd y ffigur yn 2008. Mae hefyd yn wir fod gweithgaredd cynyddol, o’i briodoli i bobl ifanc, yn fwy byth.

Nid oes amheuaeth fod angen i ni wella’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn rhai meysydd ac mae angen i ni edrych ar pam nad yw rhai o’r unigolion a’r grwpiau hyn o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon mewn gwirionedd neu’n cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon gymaint ag y gallent. Serch hynny, rydym wedi cael gwelliannau ac mae rhai o’r gwelliannau hynny i’w priodoli’n rhannol i ymwneud Llywodraeth Lafur Cymru mewn ystod o waith sy’n hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae hynny wedi llwyddo i wella mynediad at gyfleoedd, mae wedi sicrhau bod addysg gorfforol yn diwallu anghenion ein plant a’n pobl ifanc ac mae hefyd wedi helpu i gefnogi chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol.

Ond rhan o’r darlun yn unig yw hynny. Rwy’n meddwl na allwn fynd drwy’r ddadl hon heddiw heb gydnabod cyfraniad aruthrol y llu o wirfoddolwyr—roedd Suzy Davies yn eu galw’n dacsis mam a dad—ond gwirfoddolwyr ydynt er hynny. Maent yn helpu i sicrhau bod yna nifer enfawr o 235,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru. Mae’n wir fod 10 awr neu fwy bob mis yn cael eu treulio’n gwirfoddoli. Mae hwnnw’n gyfraniad enfawr ac yn un, rwy’n teimlo, sy’n deilwng i gael ei ddatgan yma heddiw. Pe baem yn rhoi pris ar y cyfraniad hwnnw, byddai’n £300 miliwn neu’n 15,000 o weithwyr amser llawn. Felly, mae hynny’n rhoi syniad o faint y cyfraniad hwnnw.

Gan symud ymlaen at y bylchau mewn chwaraeon. Rwy’n credu bod rhaid i ni dynnu sylw at y ffaith fod yna fwlch rhwng y rhywiau; mae lefelau ymhlith merched i’w gweld yn disgyn wrth iddynt droi’n oedolion ifanc. Mae’n wir fod yna fylchau, a soniwyd am rai ohonynt, lle nad yw plant tlotach, plant ac unigolion anabl hefyd yn cymryd rhan mor aml ag y gallent. Gan symud yn ôl at yr hyn a ddywedodd Dai ar y dechrau un, mae’n wir fod pobl sy’n cadw’n heini, yn cadw’n iach. Ac os ydynt yn cadw’n ffit ac yn iach, nid ydynt yn mynd i fod angen gofal. Nid ydynt yn mynd i fod yn ordew ac o ganlyniad nid ydynt yn mynd i gael rhai o’r clefydau sydd mor gyffredin ac mor anodd gwneud unrhyw beth yn eu cylch.

O ystyried bod gennyf blant sy’n Gymry, gŵr o’r Alban a thad o Loegr, rwyf wedi dysgu troedio mewn modd cynhwysol iawn ynghylch mater chwaraeon tîm. Fodd bynnag, rwy’n meddwl y gallaf ddweud yn ddiogel fod perfformiad tîm Cymru yn Ffrainc yn ysbrydoliaeth i lawer o fechgyn a merched ifanc ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn adeiladu ar y brwdfrydedd a’r diddordeb hwn ac nad yw’n cael ei wastraffu. Rwy’n credu y gallem edrych ar lwyddiant y Gemau Olympaidd yn Llundain, gan fod cynnydd enfawr wedi bod yn y lefelau a oedd yn cymryd rhan mewn rhai o’r chwaraeon yno yn ystod y flwyddyn yn syth ar ôl y gemau. Unwaith eto, mae’n bwysig i ni nodi, er y bydd hyn yn gwanychu dros amser, ac er ei fod yn lleihau, mae yna bob amser gynnydd cynyddrannol sy’n parhau ac mae’n werth defnyddio hwnnw fel lifer i adeiladu arno dro ar ôl tro.

Mae tenis yn enghraifft berffaith o sut y mae chwaraeon yn bachu sylw ychwanegol ar y cyfryngau ar adegau penodol o’r flwyddyn, gyda chlybiau tenis yn gyffredinol yn gweld cynnydd yn eu haelodaeth yn ystod yr wythnosau yn syth ar ôl y pencampwriaethau cyrtiau glaswellt yn Wimbledon. Yn fwy lleol, yn fy etholaeth i, mae digwyddiadau fel Ironman Cymru a’r Penwythnos Cwrs Hir yn ysbrydoli pobl, a phobl ifanc yn arbennig, i ymuno. Mae fy mhlant wedi cofrestru gydag Ironkids y tro hwn ac nid yw’n hawdd iawn o gwbl mewn gwirionedd. Nid wyf yn hollol siŵr y buaswn yn llwyddo i gyflawni Ironkids heb sôn am Ironman ei hun.

Mae’n dorcalonnus gweld bod cysylltiad anorfod rhwng y nifer sy’n gwneud ymarfer corff a ffactorau economaidd-gymdeithasol a chyffyrddodd Joyce Watson ar hyn yn eithaf manwl. Mae’n un o ffeithiau bywyd: po isaf i lawr yr ysgol economaidd-gymdeithasol y byddwch, yr anoddaf yw hi i chi gymryd rhan mewn chwaraeon. Ond mae yna gyfleoedd rhad ac effeithiol iawn y gallwn fanteisio arnynt. Mae pethau fel parkrun yn enghraifft dda iawn o sut y mae modd gwneud ymarfer corff torfol am gost fach iawn. Weinidog, hoffwn ddeall beth y teimlwch y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo mentrau megis parkrun.

Soniodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies rywfaint am blant sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Credaf fod hwnnw’n faes hynod o bwysig i ddechrau ag ef, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae beth bynnag y byddwn yn ei ddysgu yn ystod ein plentyndod yn tueddu i fynd ymlaen gyda ni i oedran hŷn. Felly, mae’n annhebygol iawn y byddaf yn sydyn yn dechrau gwneud taekwondo neu beth bynnag y’i gelwir ac mae’n syniad sy’n peri cryn dipyn o ofn, a bod yn onest. Fodd bynnag, pe bai fy mhlentyn 11 oed yn dechrau ei wneud, dyna’r math o gyfundrefn ffitrwydd y byddai’n dod i arfer â hi ac yn 20 oed, byddai’n mynd i’r gampfa ac yn y blaen gobeithio. Felly, os gallwn fachu ein pobl ifanc yn ifanc iawn, mae gennym lawer gwell gobaith o allu cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon.

Credaf fod Russell George wedi cyffwrdd ar y ffaith fod faint o amser a roddir i chwaraeon mewn ysgolion cynradd yn gostwng ac yn gostwng yn eithaf sylweddol. Os edrychwn ar Ffrainc, lle mae tîm rygbi Cymru—tîm pêl-droed Cymru; maddewch i mi os gwelwch yn dda, yr holl bobl bêl-droed hynny sy’n caru’r gêm hardd—. Lle mae tîm pêl-droed Cymru ar hyn o bryd, yn Ffrainc, mae’n bedair awr yr wythnos ar gyfer plentyn ysgol gynradd. Yng Nghymru, maent yn lwcus os ydynt yn cael dwy awr yn iawn. Mewn gwledydd Sgandinafaidd, mae’n bedair i bum awr yr wythnos o chwaraeon, gyda phwyslais mawr ar gynnwys pawb yn yr ysgol mewn gweithgaredd chwaraeon ar y penwythnos.

Mae hyn yn bendant yn brifo pobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau gwledig lle mae’n hawdd iawn i dlodi fod yn guddiedig. Os ydych chi’n byw ar aelwyd lle nad oes incwm uchel a dim ond un car a bod y car hwnnw allan yn y gwaith gydag un o’r rhieni, ni allwch ond dal y bws ysgol i’r ysgol ac yn ôl eto; nid ydych yn cael cyfle i aros ar ôl a chymryd rhan mewn chwaraeon tîm. Nid ydych yn cael cyfle mor wych ar y penwythnos i fynd yn ôl, ymuno â chlwb nofio a gwneud yr holl bethau eraill. Felly, os ydym eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i’n hiechyd fel cenedl, i’r ystadegau ofnadwy sydd gennym ar ordewdra, ar smygu, ar y canserau y siaradais amdanynt yn gynharach y prynhawn yma gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd—ym mhob un o’r cyfraddau cynyddol hyn sydd gennym—. Mae un o bob dau o bobl a anwyd ar ôl 1960 yn mynd i gael canser. Mae hwnnw’n ystadegyn arswydus. Y ffordd i wneud gwahaniaeth yw bachu’r bobl ifanc, ennyn eu diddordeb—peidio â gadael i neb ddianc; peidio â gadael iddynt fynd i fyw yn Angle a methu â dod oddi yno. Gadewch i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddod â chwaraeon i deuluoedd ifanc, chwaraeon i bobl ifanc, oherwydd, drwy wneud hynny, nid yn unig ein bod yn mynd i’w hamddiffyn fel unigolion ond byddwn yn cymryd baich mor enfawr oddi ar ein gwlad yn y dyfodol. Mae iechyd y cyhoedd yn wynebu tipyn o argyfwng. Mae angen llawer o arian i geisio datrys y broblem. Efallai nad oes llawer y gallwch ei wneud i rywun yn fy oedran i—gallaf ddweud hynny wrthych yn awr. Ond mae gan fy mhlant—fy mhlant 11 oed a 13 oed—mae ganddynt gyfle gwirioneddol. Buddsoddwch yr arian yn y plant a gadewch i ni fynd ati o ddifrif i geisio cael chwaraeon ar eu traed ar lawr gwlad. Mae’r manteision i’n cymdeithas yn anfesuradwy.

Ydy, mae’n gamp sylweddol fod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewrop, fel y nodwyd yn y Siambr yr wythnos diwethaf hefyd. Byddai’n braf dychmygu y bydd y math hwn o gyflawniad mewn chwaraeon proffesiynol yn sbarduno cynnydd mawr yn y nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon amatur ar lefelau ieuenctid a llawr gwlad. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Mae llawer yn cael ei wneud y dyddiau hyn o’r hyn a fydd yn etifeddiaeth digwyddiad chwaraeon penodol—er enghraifft, y ffaith fod Llundain wedi cynnal y Gemau Olympaidd yn 2012. Yn anffodus, fodd bynnag, mae cynnal digwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd yn costio cryn dipyn o arian, a gwelodd y bwrdeistrefi yn Llundain wedyn fod eu cyllidebau ar gyfer cyfrannu at chwaraeon ar lawr gwlad wedi cael eu torri mewn gwirionedd. Felly, gall fod yn wir nad oes unrhyw etifeddiaeth gadarnhaol go iawn i ddigwyddiad o’r fath. Er mwyn diogelu a gwella chwaraeon ar lawr gwlad, dylem yn gyntaf gydnabod y gellir gweld buddsoddiad yn y maes fel rhywbeth sy’n arwain at arbed costau hirdymor gan fod pobl ifanc ac oedolion iach sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn llawer llai tebygol o ddod yn oedolion nad ydynt yn ffit neu’n oedolion gordew yn nes ymlaen mewn bywyd. Gallai fod arbedion mawr i filiau’r GIG yn y dyfodol yn gyfnewid am fuddsoddiadau cymharol fach yn awr.

Yn hytrach na thorri cyllid chwaraeon, mae angen i ni fuddsoddi. Ond buddsoddi ymhle? Wel, mae angen cryfhau lle addysg gorfforol mewn ysgolion, mae angen i ni wella’r cysylltiadau rhwng yr ysgolion a chlybiau chwaraeon; dylai athrawon addysg gorfforol gael eu hannog i ddatblygu’r cysylltiadau hyn. Gallai fod rhaglen o ymweliadau rheolaidd gan hyfforddwyr clybiau â gwersi addysg gorfforol ysgolion yn ardal pob awdurdod lleol. Mae angen annog pobl ifanc o alluoedd amrywiol i gofrestru â chlybiau chwaraeon, nid yr elît yn unig, a gallai grantiau i glybiau adlewyrchu’r math hwn o amrywiaeth ym maes chwaraeon.

Mae Angela newydd sôn am y parkruns. Mae hyn wedi cael sylw yn y wasg genedlaethol yn ddiweddar. Rwy’n credu bod parkruns wedi’u trefnu yn Hampstead Heath, a pharciau eraill o bosibl, yn Llundain, ac roedd yna gwestiwn pa un a fyddai tâl yn cael ei godi arnynt gan gynghorau lleol—y bobl sy’n trefnu’r parkruns—am ddefnyddio parcdiroedd cyhoeddus, sydd, i mi, yn ymddangos yn hollol chwerthinllyd. A dyna lwybr y mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydym yn ei ddilyn yng Nghymru. Dylem fod yn annog y math hwn o weithgarwch gwirfoddol a allai gael llawer o bobl nad ydynt yn gwneud llawer o ymarfer corff—gallai eu cael i gymryd rhan mewn chwaraeon, gan ei fod yn ddigwyddiad cyfranogaeth dorfol. Nid oes rhaid i chi fod yn dda i gymryd rhan mewn parkrun; bydd yna bobl yr un mor araf â chi yno os ydych ymhlith yr arafaf. Felly, mae angen i ni annog y math hwnnw o weithgaredd, fel yr awgrymodd Angela.

Yn olaf, mae yna lawer o oedolion ifanc yng Nghymru sydd wedi graddio mewn gwyddor chwaraeon yn y blynyddoedd diwethaf nad ydynt yn gyflogedig yn y maes hwn. Mae angen harneisio’u doniau a’u brwdfrydedd ynglŷn â chwaraeon ac mae angen i ni feddwl yn adeiladol ynglŷn â sut y gallwn fuddsoddi yn y ffordd orau o ddefnyddio’r gronfa hon o dalent segur.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Cymru ar ennill ei lle yn Ewro 2016—y bencampwriaeth bêl-droed fawr gyntaf o bwys i ni fynd drwodd i’w rowndiau terfynol ers Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958? Mae wedi cymryd bron i hanner canrif i gyflawni’r nod hwn ac mae’n nod gwych a hoffwn longyfarch y tîm, y rheolwyr a phawb a wnaeth ymdrech i fod yno. Rwy’n gobeithio y byddant yn ennill yfory yn erbyn Lloegr.

Mae pob digwyddiad chwaraeon mawr yn cynyddu diddordeb pobl mewn cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag adeiladu ar symbyliad llwyddiant chwaraeon Cymru. Mae strategaethau megis ‘Dringo’n Uwch’ a ‘Creu Cymru Egnïol’ yn llawn bwriadau da, ond mae cyfraddau anweithgarwch yn dal i fod yn uchel.

Mae’r nifer sy’n gwneud ymarfer corff yn parhau i fod yn gysylltiedig â ffactorau economaidd-gymdeithasol, ac ni cheir cynnydd yn y nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith grwpiau sy’n agored i niwed. Mae hyn wedi cael effaith andwyol ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Cadarnhaodd canlyniadau arolwg iechyd Cymru yn 2015 mai iechyd yw’r her fwyaf y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu o hyd. Mae Cymru’n wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus gydag oddeutu 60 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn rhy drwm a thua’u chwarter yn ordew. Ond mae rhywfaint o newyddion da yn yr arolwg hefyd, Ddirprwy Lywydd. Mae nifer yr oedolion sy’n smygu wedi gostwng i 19 y cant ac mae goryfed mewn pyliau hefyd wedi gostwng. Fodd bynnag, mae’r darlun cyffredinol o iechyd ein cenedl yn un llwm. Mae cyfraddau cynyddol o ordewdra wedi arwain at gynnydd mewn diabetes math 2, ac mae cyfraddau canser a chlefydau’r galon wedi cynyddu.

Ers 1996, mae nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru wedi mwy na dyblu. Mae dros 180,000 o bobl yng Nghymru bellach yn dioddef o ddiabetes ac mae’n cynyddu. Os na wnawn unrhyw beth, Weinidog, yn 2025, bydd bron i 300,000 o bobl â diabetes. Am ffigur syfrdanol. Mae’n rhaid i chi annog ein pobl. Pan oeddwn yn ifanc, roeddwn yn rhedwr pellter hir, fe es am rediad fflam Olympaidd yn ôl adref, a gallaf eich sicrhau, rwy’n 70 mlwydd oed a dyna yw’r ffrwyth rwy’n ei fedi yn awr mewn gwirionedd. Rwy’n cynghori pob unigolyn a phob teulu yn y wlad hon i annog eu plant i gymryd rhan mewn chwaraeon—dyna’r rysáit gorau ar gyfer hirhoedledd. Gallaf eich sicrhau bod y cyngor hwn i bob teulu yn werth mwy na gwario miliynau a biliynau o bunnoedd ar chwaraeon.

Ond mewn chwaraeon hefyd, peth arall sy’n hanfodol iawn yw diogelwch i’n plant. Mae’n hollbwysig. Gallaf eich sicrhau, Weinidog, fod tri maes y byddaf yn sôn amdanynt yn awr y bydd yn rhaid i chi gymryd camau yn eu cylch. Un yw sicrhau bod ein plant yn cael mynediad am ddim i gaeau chwarae. Rhaid cael ffïoedd is i leoliadau chwaraeon. Mae cynghorau lleol yn dyblu’r ffïoedd ar gyfer naill ai criced, pêl-droed, rygbi neu beth bynnag ydyw. Nid wyf eisiau dibynnu ar ffigurau, ond gallaf eich sicrhau, yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r symiau a godir am y caeau hyn wedi treblu ac mae’r plant yn gadael chwaraeon—yn enwedig lleiafrifoedd ethnig—am na allant eu fforddio.

Rhif 2, hefyd, yng Nghymru, rhaid i ni ddeddfu bod yn rhaid i’r holl siopau cadwyn bwyd cyflym hyn ddefnyddio colestrol isel neu safon isel o golestrol yn eu holew. Nid yw’n ddigon da fod faniau byrgyrs yn parcio y tu allan i’n hysgolion cynradd ac uwchradd. Dylid rhoi diwedd ar hynny hefyd.

Hefyd, y trydydd, sy’n bwysig iawn—yn y misoedd diwethaf, rwyf wedi gorfod mynd i’r ysbyty i weld etholwyr ac aelodau o’r teulu. Yr hyn a welais yno yn y ffreuturau, yn y bwyty, mewn ysbytai, ysbytai’r GIG—roedd ansawdd y bwyd yn wych, ond câi’r siocled, yr hufen iâ, y sglodion wedi’u ffrio a phopeth eu rhoi’n garedig gan y staff, ond nid yw hynny’n ddigon da. Nid yw hynny mewn gwirionedd yn cyfleu neges iach i’r bobl hyn, ond mewn gwirionedd, mae’n effeithio’n gwbl groes i hynny ar bobl. Rwyf wedi adnabod pobl sy’n mynd i’r bwytai hyn i gael bwyd am mai dyna un man lle y gall pobl gael bwyd da iawn am bris rhesymol iawn, ond byddwn yn gofyn i’r Gweinidog wneud yn siŵr fod y bwyd y mae ein hysbytai yn ei gaffael yn iach, a’u bod yn prynu bwydydd a chynnyrch lleol.

Hefyd, mae yna feysydd eraill penodol, Weinidog, y—. Canlyniad yr arolwg iechyd roeddwn yn sôn amdano yn 2015—fodd bynnag, mae’r darlun cyffredinol yn llwm o ran iechyd ein cenedl: cyfraddau cynyddol o ordewdra ac afiechyd. Cynyddodd digwyddiadau chwaraeon ddiddordeb y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag adeiladu ar symbyliad llwyddiannau chwaraeon yng Nghymru. Weinidog, gwn nad oes amser, ond mae angen mwy o amser ar y ddadl hon i fwydo i mewn mai chwaraeon yw un o’r pethau gorau er lles ein hiechyd cenedlaethol. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn sicr, roedd yn gamp aruthrol i dîm pêl-droed Cymru ennill ei le yn rowndiau terfynol Ewro 2016 ar ôl sawl degawd o aros, a dyna’n union sut y teimlai yn Bordeaux ddydd Sadwrn. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yno gydag Aelodau eraill o bob un o’r pleidiau, ac rwy’n meddwl y gallaf ddweud ar ran pob un ohonom, ddirprwy Lywydd, fod y ffordd y perfformiodd tîm pêl-droed Cymru ar ac oddi ar y cae a’r modd y gwnaeth y cefnogwyr ymddwyn yn hollol wych ac yn adlewyrchiad gwych ar ein cenedl. Yn sicr roedd y Ffrancwyr a chefnogwyr timau pêl-droed eraill a oedd yn bresennol yn credu hynny. Felly, mae wedi bod yn stori gadarnhaol tu hwnt sy’n rhaid i ni adeiladu arni.

Un ffordd y credaf y gallwn wneud hynny, efallai, ddirprwy Lywydd, yw adfywio tîm pêl-droed ein Cynulliad. Soniodd rhywun am y tîm rygbi yn gynharach. Wel, roedd gennym dîm pêl-droed ac fe chwaraeasom yn erbyn Senedd yr Alban, San Steffan a Chynulliad Gogledd Iwerddon, ac yn wir, enillasom y twrnament ar o leiaf un achlysur. Felly, efallai y gallwn adfer hynny gyda rhai o’r aelodau newydd iau a gawsom yn yr etholiad diwethaf, a dangos esiampl dda.

A gaf fi ddweud hefyd, ddirprwy Lywydd, fy mod yn credu ein bod, yng Nghasnewydd, fel y soniais yn gynharach, yn gwneud rhai pethau da mewn perthynas â gweithgarwch corfforol? Mae’n cynnwys pêl-droed a’r clybiau chwaraeon lleol, ac mae’n ymwneud â thynnu pawb at ei gilydd: y sector iechyd, yr ymddiriedolaeth hamdden, yr awdurdod lleol, clybiau chwaraeon, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cartrefi Dinas Casnewydd, a nifer o gyrff eraill yn ogystal, i weithio ar sut y gallwn gael ein poblogaeth leol i wneud mwy o ymarfer corff. Gwn fod Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd y Gweinidog yn gynharach, yn cefnogi’r ymdrechion hyn ac y bydd yn cefnogi’r ymdrechion hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar yr ymdrechion lleol hynny.

Yn olaf, ddirprwy Lywydd, o ran yr etifeddiaeth y mae’r cynnig yn gywir i sôn amdano hefyd, mae’n anodd adeiladu etifeddiaeth barhaol, ond dyma gyfle gwych, onid e, gan iddi gymryd cyhyd i ni fynd drwodd? Ond nid yn unig ein bod yno o’r diwedd yn Ffrainc, rydym hefyd wedi perfformio’n eithriadol o dda yn wir, ac rwy’n gobeithio, fel pawb arall, y gallwn adeiladu ar hynny a mynd ymlaen i’r rowndiau bwrw allan. Ond yr hyn a welsom yn lleol o ran yr ymdrechion a grybwyllais yng Nghasnewydd yw bod gan rai clybiau uchelgais i dyfu—nid pob un, ond mae gan rai uchelgais i dyfu—ac mae angen cefnogaeth ar y clybiau hynny os ydym am adeiladu ar yr etifeddiaeth. Weithiau mae’n golygu cyngor cyfreithiol, weithiau mae’n golygu cymorth gyda chyfrifyddiaeth, weithiau mae’n golygu helpu i sefydlu ymddiriedolaeth neu elusen; ond rwy’n credu bod arnom angen i Chwaraeon Cymru ymateb i’r her, ac i awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden ymateb i’r her, a nodi’r clybiau sy’n uchelgeisiol yn lleol a’u galluogi i dyfu a datblygu. Byddant yn darparu cyfleoedd, fel y mae pobl wedi sôn, ar gyfer ardaloedd sydd ar eu colled ar hyn o bryd o ran amddifadedd, a hefyd ar gyfer merched, lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Os rhown gefnogaeth iddynt, byddant yn cyflawni’r uchelgeisiau sydd gennym i gyd.

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.

Diolch. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am yr hyn a fu’n ddadl wirioneddol adeiladol a defnyddiol y prynhawn yma yn fy marn i. Mae’n rhoi pleser mawr i mi ddechrau drwy ymuno â’r Aelodau i ganmol llwyddiant tîm pêl-droed cenedlaethol ein dynion, ar ennill eu lle mewn pencampwriaeth fawr ac am ddangos i’r byd sut y gall chwaraeon uno cenedl. Mae’n gamp aruthrol ac mae’n dangos sut y mae’r garfan gyfan wedi gweithio gyda’i gilydd ac wedi’i symbylu gan arweinyddiaeth eu rheolwr, Chris Coleman.

Mae’r bencampwriaeth Ewropeaidd yn un o’r digwyddiadau chwaraeon sydd â’r proffil mwyaf yn y byd, gyda chynulleidfa deledu gyfanredol o 1.9 biliwn yn 2012. Bydd cynulleidfa fyd-eang o’r fath yn helpu i wella proffil Cymru, nid yn unig fel cenedl chwaraeon ond hefyd fel gwlad fach lle mae cydweithio i gyflawni nodau cyffredin yn parhau i olygu ein bod yn rhagori ar ein disgwyliadau ein hunain ac eraill.

Mae pêl-droed yn hynod o boblogaidd yng Nghymru, ac i gydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i ddatblygu’r gêm ar lawr gwlad. Caiff y gwaith hwn ei yrru ymlaen gan Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn ceir 105,000 o chwaraewyr pêl-droed cofrestredig ar draws Cymru, gan gynnwys 5,000 o fenywod ac 800 o chwaraewyr anabl. Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn gweithio i ddefnyddio’r pencampwriaethau Ewropeaidd fel catalydd i ysgogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn pêl-droed. Mae hon yn enghraifft amlwg o ddefnyddio’r momentwm y mae Joyce Watson ac Angela Burns wedi’i ddisgrifio yn eu cyfraniadau.

Mae’r ymddiriedolaeth wedi sefydlu seilwaith hyfforddi o’r radd flaenaf, gan ddenu hyfforddwyr o bob rhan o’r byd. Maent yn darparu 4,000 o gyfleoedd hyfforddi bob blwyddyn, a Chymru yw’r wlad gyntaf i ddarparu addysg ar-lein i hyfforddwyr. Bydd llawer o chwaraewyr ifanc wedi cael eu hysbrydoli gan y tîm cyfredol, a bydd sefydlu’r math hwn o seilwaith yn helpu i ddatblygu ein chwaraewyr mwy talentog, ble bynnag y maent neu ble bynnag y maent yn byw. Gwrandewais yn ofalus ar gyfraniad Suzy Davies, ac un Angela Burns, oherwydd yn sicr nid wyf am weld talent yn cael ei golli neu gyfleoedd heb fod ar gael a hynny’n unig am fod y bobl ifanc yn byw mewn ardal wledig.

Gall digwyddiadau chwaraeon mawr ddarparu cyfleoedd da i gyfleu negeseuon ynglŷn â gwneud mwy o ymarfer corff a’r manteision y gallai hyn eu creu. Er enghraifft, mae digwyddiadau cyfranogaeth dorfol, megis hanner marathon y byd a’r rhestr hir a roddodd Russell George i ni, yn cynnig llwyfannau proffil uchel ar gyfer hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Chwaraeon Cymru a chyrff llywodraethu cenedlaethol i fanteisio ar y mathau hyn o gyfleoedd i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy aml. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i’n pobl ddawnus ym maes chwaraeon allu cystadlu yn erbyn goreuon y byd gartref, a chyfleoedd i fynd drwodd i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd.

Mae’n amlwg fod chwaraeon yn rhan enfawr o ddiwylliant Cymru ac yn sicr yn helpu i’n diffinio fel cenedl. Fodd bynnag, mae gwerth chwaraeon mynd y tu hwnt i fwynhad a boddhad personol; mae’n arf pwerus iawn a all ein helpu i gyflawni nodau uchelgeisiol. Un testun pryder sy’n her i Lywodraethau o gwmpas y byd yw’r cynnydd araf ond cyson yn lefelau gorbwysau a gordewdra ymysg y boblogaeth sy’n oedolion. Dangosodd y ffigurau diweddar a ryddhawyd ar gyfer 2015 o arolwg iechyd Cymru fod 59 y cant o oedolion dros bwysau neu’n ordew, o’i gymharu â 54 y cant yn 2003-04. Roedd y lefelau hefyd yn codi gyda lefelau amddifadedd, ac roeddent ar eu huchaf ymhlith pobl ganol oed.

Gwyddom nad yw newid ffordd o fyw yn digwydd dros nos ac mae’n rhaid i ni barhau i gynorthwyo ein poblogaeth sy’n oedolion i fod yn iachach. Fodd bynnag, mae’n galonogol fod y rhan fwyaf o blant yn cynnal pwysau iach. Mae data diweddar o’r rhaglen mesur plant yn dangos bod nifer yr achosion o blant oedran derbyn sydd dros bwysau ac yn ordew yng Nghymru yn sefydlog, gyda 72.9 cant yn cynnal pwysau iach. Mae hyn yn bwysig gan ein bod yn gwybod y gall patrymau ymddygiad cynnar mewn bywyd barhau wrth dyfu’n oedolyn a dylanwadu ar bwysau yn ddiweddarach mewn bywyd. Felly, mae’r mwyafrif hwn sy’n iach yn arwydd calonogol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn yr un modd, mae oedolion yn fwy tebygol o wneud mwy o ymarfer corff os daw’n rhan o’u bywydau cyn iddynt gyrraedd saith oed. Mae arolwg chwaraeon ysgolion Chwaraeon Cymru yn dangos bod nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd bellach yn 48 y cant, i fyny o 27 y cant yn 2011. Felly, rydym yn gwneud cynnydd, ond mae mwy i’w wneud.

Fel y mae Dr Dai Lloyd a Mohammad Asghar wedi ein hatgoffa, mae’r dystiolaeth yn amlwg yno, gan ddangos y gall mynd i’r afael â gordewdra chwarae rôl sylweddol yn lleihau effeithiau a nifer yr achosion o glefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, dementia a rhai mathau o ganser, yn ogystal â helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol yn gyffredinol. Roedd Gareth Bennett yn iawn i sôn am y gost sy’n cael ei harbed i ni os awn i’r afael â hyn. Roedd ein maniffesto yn dangos yn glir ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r mater hwn drwy gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gwella ein diet. Rhai yn unig o’r pethau y gallwn eu rhoi ar waith yw addysg i lywio dewisiadau gwell, nofio am ddim, mwy o deithio llesol, cyfyngu ar faint ac argaeledd bwyd afiach mewn lleoliadau allweddol, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall canlyniadau dewisiadau ffyrdd o fyw llai iach, a chyfraddau cynyddol o fwydo ar y fron er mwyn cynorthwyo ein poblogaeth ar sawl lefel.

Mae datblygiadau eraill yn cynnwys cydweithio agos rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd i ddatblygu ymyrraeth effeithiol yn y blynyddoedd cynnar, gan ddefnyddio cysyniadau o’r rhaglen ‘10 Cam i Bwysau Iach’. Bydd Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i gydariannu cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol, sydd wedi llunio cynllun gweithredu newydd ar weithgarwch corfforol. Mae’r cynllun hwn yn cael ei ystyried gan y tri chorff ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at weld y drafft terfynol cyn bo hir. Rwy’n bwriadu rhoi amser dros yr haf i ystyried y ddogfen a’i thrafod gyda’n rhanddeiliaid allweddol, gyda golwg ar ei lansio ym mis Medi.

Y cefndir i’r ddadl hon yw ein hymwneud yn un o’r cystadlaethau pêl-droed mwyaf. Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod yn fy nghefnogi wrth i mi ddymuno pob lwc i Chris Coleman, y chwaraewyr, y staff cefnogi a’r FAW. Mae’n amser gwych i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru ac yn amser cyffrous i fod yn Weinidog â chyfrifoldeb dros chwaraeon. Ni fydd angen atgoffa neb yma fod Cymru yn chwarae Lloegr yfory, ac mae’n argoeli i fod yn gêm gyffrous iawn. Rwy’n ddiolchgar am ymyrraeth y Prif Weinidog gydag awdurdodau Ffrainc ynglŷn â diogelwch ein cefnogwyr yn ystod gweddill y bencampwriaeth. Cadw ein pobl yn ddiogel yw ein blaenoriaeth gyntaf, ac rwy’n siŵr y bydd y mesurau diogelwch gwell a roddir ar waith yn golygu y bydd ein cefnogwyr yn parhau i weithredu fel llysgenhadon gwych dros Gymru fel y soniodd John Griffiths, ac yn cael profiad diogel a phleserus. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ymateb i’r ddadl a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, a dymuno’n dda i’r Gweinidog yn ei phortffolio newydd? Rydym wedi cael cyfres o ddadleuon y prynhawn yma. Yn amlwg, cawsom y ddadl Ewropeaidd fel dadl y meinciau cefn, ac rydym yn mynd i gael y ddadl ar Fil Cymru ar ôl hyn. Mewn gwirionedd, os edrychwch ar rai o’r pwysau yn y ddadl hon—iechyd y cyhoedd, bom amser diabetes a hefyd y rôl bwysig y mae chwaraeon yn ei chwarae yn sbarduno datblygiad economaidd mewn rhannau o Gymru—mae llawer o’r nodweddion yn y ddadl hon yn hollbwysig i lawer o gymunedau ar hyd a lled Cymru. Er bod llawer o hyn yn amlwg yn dda—yn enwedig dymuno’n dda i dîm Cymru, fel rydym i gyd yn ei wneud, gan sefyll ysgwydd yn ysgwydd â hwy, a gobeithio am berfformiad da yfory ar y cae a mynd ymlaen yn y pen draw i’r rownd nesaf—mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau ein bod yn edrych ar yr holl faterion eraill sydd wedi’u cynnwys yn y ddadl hon.

Fel y crybwyllodd Dr Dai Lloyd, mae negeseuon iechyd y cyhoedd yn hanfodol bwysig. Ddoe, gan ei bod yn Wythnos Diabetes Cenedlaethol, mae’r ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud fel unigolion dros ein hiechyd personol ac iechyd y cyhoedd yn elfen hanfodol wrth fynd ati i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwirionedd. Cyflwynodd Mohammad Asghar ffigurau ar ddiabetes, ac os na fyddwn yn cymryd camau erbyn 2025, bydd 300,000 o bobl wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yng Nghymru. Naw mlynedd sydd yna tan hynny. Ar hyn o bryd, mae’r ffigur yn—ac mae hwn yn ffigwr eithaf syfrdanol ynddo’i hun—185,000. Dyna ddiabetes math 2. Mae math 1 ar ben hynny hefyd, felly nid dyna’r holl achosion o ddiabetes. Bydd y ffigurau hynny’n her enfawr i’r gwasanaeth iechyd fynd i’r afael â hi a gweithio gyda phobl i reoli’r cyflwr hwnnw.

Bydd chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o wneud pobl yn fwy heini ac yn iachach. Am fy mhechodau, rwy’n dal i chwarae rygbi hŷn dros y Cynulliad. Unrhyw un o’r Aelodau newydd sydd wedi dod yma y tymor hwn, byddem yn eich gwahodd i ddod draw i unrhyw un o’r gemau y byddwn yn eu chwarae. [Torri ar draws.] Byddaf yn cadw fy nghrys amdanaf y tro nesaf rwy’n chwarae, diolch i chi, Darren. [Chwerthin.] Rwy’n credu fy mod wedi peri trawma adeg y wobr wleidyddiaeth yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr. Ond mewn gwirionedd, o’r hyn roedd Suzy Davies yn ei ddweud am ei gŵr Geraint a’r holl femorabilia sydd ganddo o’i ddyddiau chwarae, yn ogystal â chynnig profiad hyfforddi hanfodol wrth gwrs, roedd yn fy atgoffa o beth o’r memorabilia sydd gennyf o fy nyddiau chwarae i. Aethom ar wyliau wythnos y Sulgwyn, a dywedwyd wrthyf am ddod o hyd i fy nhrowsus nofio, ac mewn gwirionedd, deuthum o hyd i bâr o Speedos—ni fyddwn yn awyddus i roi’r darlun hwnnw i chi—a dywedodd fy merch 14 oed wrthyf yn bendant iawn os oedd y rheini’n dod gyda mi ar wyliau, yna’n sicr ni fyddai hi’n dod ar wyliau hefyd. Ond yn ganol oed, rydym i gyd yn wahanol, ddywedwn ni, i pan oeddem yn 18, 19, 20, ond mewn gwirionedd, ni ddylai chwaraeon gael ei gadw rhagom oherwydd ein hoed, fel y soniodd Angela Burns. Mae’n hanfodol fod pob rhan o gymdeithas yn teimlo, os ydynt am gymryd rhan mewn chwaraeon, boed yn—[Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad.

Rydych wedi sôn am y berthynas rhwng oed a’r nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. A fyddech yn cytuno mai un o’r chwaraeon gorau fel gweithgaredd sy’n pontio’r cenedlaethau mewn gwirionedd yw bowlio lawnt goron, sydd, wrth gwrs, yn cael ei chwarae’n eang ar draws gogledd Cymru—ac ychydig iawn yn y de? Ac wrth gwrs, mae yna gyfleusterau ardderchog yn etholaeth y Dirprwy Lywydd yn nhref y Rhyl. A ydych yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru roi camau ar waith i hybu bowlio lawnt goron fel un o’r chwaraeon hynny sy’n pontio’r cenedlaethau a all gael pobl i wneud rhagor o ymarfer corff?

Yn bendant, a byddwn yn cytuno’n llwyr gyda’r Aelod yn cyflwyno’r achos dros fowlio lawnt goron. Yn Ninas Powys, er enghraifft, yn y Bont-faen, ceir timau bowlio da iawn, gyda thimau sy’n pontio’r cenedlaethau a dynion a menywod yn chwarae hefyd, ac yn y pen draw, adeg Gemau’r Gymanwlad roedd yn bleser go iawn cael mynd i Glwb Bowlio Dinas Powys, lle’r oedd tîm Seland Newydd, lle roedd y tîm Gwyddelig, yn ogystal â bod tîm Cymru yn ymarfer yno cyn Gemau’r Gymanwlad. Ac felly, mae yna draddodiad cyfoethog ar hyd a lled Cymru y gallwn edrych arno.

Ond y peth pwysig yma, fel y mae nifer o’r Aelodau wedi nodi, yw’r gyd-ddibyniaeth rhwng y gwasanaeth iechyd a chwaraeon a’r gallu i wella iechyd a’i drawsnewid yn sylweddol, a dyna pam rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn ein dadl i fynd ati i weithio gyda’r cyrff llywodraethu—nid y cyrff llywodraethu atyniadol sydd â’r seilwaith mawr, ond y cyrff ar gyfer rhai o’r chwaraeon llai hefyd, yn y pen draw, sy’n gallu codi arian sylweddol drwy geisiadau i’r loteri, er enghraifft, neu roddion gan y cymunedau eu hunain, er mwyn darparu’r asedau hyn yn y gymuned. Oherwydd, unwaith eto, y pwynt a wnaed yn glir gan Angela Burns oedd hwn: os ydych yn byw mewn amgylchedd gwledig ac nad oes gennych fwy nag un car yn y teulu, yn aml iawn, ac yn ddealladwy, caiff y car ei ddefnyddio ar gyfer mynd i’r gwaith ac yn ôl, yn hytrach na mynychu’r clwb ar ôl ysgol efallai. Cefais fy nghalonogi’n fawr gan y Gweinidog yn dweud y byddai’n edrych ar yr agwedd benodol hon o gludiant ysgol, cludiant ôl-ysgol, i ganiatáu i fwy o blant gymryd rhan, gan ei fod yn rhwystr mawr, yn enwedig os edrychwch ar ddemograffeg ar y raddfa economaidd-gymdeithasol. Yn amlwg, yn anffodus, mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith aelwydydd tlotach yng Nghymru, yn is, ac mae hwnnw’n faes hanfodol sydd ei angen arnom oherwydd, yn amlwg, os edrychwch wedyn ar yr ystadegau iechyd, mae’r ystadegau iechyd yn dangos bod canran lawer uwch o achosion o ganser, clefyd y galon, ac ati yn y cymunedau hynny mewn gwirionedd.

Cyffyrddodd Gareth Bennett ar faterion yn ymwneud ag etifeddiaeth. Yn amlwg, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o’r materion etifeddiaeth mewn perthynas â Gemau Olympaidd Llundain, ond yn y pen draw, oni bai bod y rheini’n cael eu parhau, yn aml iawn mae’r ardaloedd lle y cynhelir y digwyddiadau yn gweld eu cyllidebau’n dioddef, oherwydd pan fydd y digwyddiad mawr wedi symud o’r dref, yn aml iawn rhaid talu’r dyledion. Ac felly, etifeddiaeth unrhyw ddigwyddiad mawr—yn amlwg mae Caerdydd yn cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y flwyddyn nesaf, er enghraifft, a bydd Llywodraeth Cymru, gobeithio, yn gweithio gyda chyrff llywodraethu eraill i gyflwyno cais am Gemau’r Gymanwlad yn 2026, a gwn ein bod wedi siarad am hyn yn y Siambr hon, ac mae’r materion hynny sy’n ymwneud ag etifeddiaeth yn bwysig iawn er mwyn gwneud yn siŵr nad sioe sy’n dod i’r dref dros yr wythnosau a’r misoedd y caiff ei chynnal yw hi, sblash mawr, ac yna, yn y pen draw, flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, mae’r mynegeion iechyd a’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn diflannu.

Roedd yn siomedig ein bod wedi cael dadl ar chwaraeon heb Mike Hedges i gynnig ei ddealltwriaeth o bêl-droed. Rwy’n teimlo ein bod yn bendant wedi colli rhywbeth y prynhawn yma, oherwydd, yn amlwg, mae gan Mike ddealltwriaeth wych o hyn o’i ddyddiau fel chwaraewr. Ond yn y ddadl hon heddiw, er bod tipyn o hwyl i’w gael, mae yna neges ddifrifol i’w chyflwyno. Os edrychwch ar gyfraddau canser ymhlith menywod yn arbennig, dyna lle y gwelwyd y cynnydd mwyaf dros y 10 mlynedd diwethaf, yn enwedig ymhlith menywod 65-69 oed, lle mae’r cyfraddau wedi codi’n sylweddol, 57 y cant. Mae hwnnw’n gynnydd aruthrol, ac yn y pen draw, yn y cwestiwn a ofynnais i’r Gweinidog yn ystod y cwestiynau i’r gweinidogion heddiw, o ran menywod, gwyddom eu bod yn llusgo y tu ôl i’r dynion o ran y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Yn y pen draw, yng Nghymru, mae’r bwlch oddeutu 100,000; ar draws y DU mae’n 2 filiwn o bobl. Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y rhaglen a grybwyllais, y rhaglen This Girl Can, i geisio ymgorffori hynny yn ei pholisïau ac yn ei hargymhellion. Ond yn anffodus, yn y cylch cyllidebol diwethaf, mae’n ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi torri 7 y cant oddi ar ei chyllideb i’w mentrau chwaraeon. Felly, os ydym am wneud gwahaniaeth yma mewn gwirionedd, er nad yw’n ymwneud ag arian yn unig, mae’n rhaid iddo weithio gyda’r cyrff llywodraethu a darparu ar gyfer cymunedau. Fel y mae’r Gweinidog iechyd wedi dweud yn glir yn ei ymateb i’r cwestiynau y prynhawn yma, mae’n ymwneud â’r blaenoriaethau. Swm cyfyngedig o arian sydd gan y Llywodraeth, rwy’n derbyn hynny, ond gallwch siarad faint a fynnwch yn y Siambr hon; oni bai eich bod yn barod i roi adnoddau y tu ôl i hyn, yna mae’n mynd i fod yn anodd cyflwyno’r prosiectau a’r rhaglenni hynny. Yn amlwg, gyda thoriad o 7 y cant yn y gyllideb y llynedd, nid oedd y Llywodraeth ddiwethaf yn gweld hon fel llinell allweddol i’w chyflenwi.

Rwyf am gyflwyno’r pwynt olaf, os caf: mae angen i ni edrych ar bobl ifanc a phlant. Os edrychwch mewn gwirionedd ar y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn ysgolion cynradd, a nodwyd hyn gan rai siaradwyr yn gynharach, yn anffodus dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan yn yr ysgolion wedi gostwng yn ddramatig yng Nghymru. Mae chwarter awr yr wythnos wedi cael ei dynnu oddi ar weithgarwch corfforol mewn ysgolion, gan ostwng o 115 munud ar gyfartaledd i 101 munud. Dyna’r cyfeiriad teithio. Yn anffodus, y cyfeiriad teithio, fel y tynnais sylw ato ym maes iechyd y cyhoedd, yw bod nifer o’r amodau yn mynd allan o reolaeth, ac ar ben arall y sbectrwm, mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn gostwng yn llawer o’n cymunedau. Mae angen i ni gydgysylltu a’i gael yn gydlynus a chyflwyno strategaeth gydlynol, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog newydd yn gwneud hynny, ac yn fwy llwyddiannus na’i rhagflaenwyr, a dyna pam rwy’n eich annog i gefnogi’r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, felly rwy’n gohirio’r pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Bil Cymru

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.

Gadewch i ni symud ymlaen, felly, at eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar Fil Cymru. Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig y cynnig. Steffan.

Cynnig NDM6022 Simon Thomas

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru;

2. Yn gresynu bod datganoli plismona wedi’i hepgor;

3. Yn gresynu at fethu â sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol benodol neu ar wahân; a

4. Yn gresynu at y cyfle a gollwyd i ddatganoli gweinyddu cyfiawnder.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Mae’n dymor gwleidyddol newydd, a dyma ni unwaith eto gyda Mesur Cymru newydd gan San Steffan. Unwaith yn rhagor, mae hi’n siom bod San Steffan wedi penderfynu gwrthod trosglwyddo cyfrifoldebau i Gymru a fydd yn gwella canlyniadau polisi i’n pobl, yn sicrhau atebolrwydd gwell ac, yn bwysig, yn delifro cydraddoldeb gwleidyddol i Gymru.

Lywydd, rwyf am ganolbwyntio ar yr elfen blismona yng nghynnig Plaid Cymru y prynhawn yma. Yn hanesyddol, wrth gwrs, mae plismona yr ynysoedd yma wedi esblygu dros y tair canrif ddiwethaf: yn y dechrau gyda’r gwasanaeth heddlu cyntaf yn Glasgow, ac yn yr ail ganrif ar bymtheg dros Brydain i gyd. Yn wir, dilynodd plismona proffesiynol patrwm o ddatblygu yn lleol iawn, iawn, gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am blismona erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn fuan, daeth fframwaith ar gyfer plismona ar lefel llywodraethol dros Gymru a Lloegr gyda deddfwriaeth ar wahân, wrth gwrs, i’r Alban yn adlewyrchu’r cyfansoddiad ar y pryd. Nawr, onid yw hi’n amser i’r plismona yng Nghymru adlewyrchu’r realiti cyfansoddiadol a pholisi cyfoesol gan, wrth gwrs, gadw wrth wraidd yr elfen hanesyddol o atebolrwydd lleol?

Yn ystod proses y comisiwn Silk—rydych chi’n cofio hynny, rwy’n siŵr—derbyniwyd tystiolaeth am sut y mae’r fframwaith polisi yn cael ei osod ar ran Cymru gan San Steffan. Yn fwyfwy, mae’r fframwaith yna yn fetropolitan yn ei weledigaeth. Er bod y gwasanaethau argyfwng yng Nghymru yn cydweithio yn dda, cafwyd tystiolaeth gan Silk y byddent yn gweithio’n well fyth drwy ddatganoli plismona. Yn wir, mae plismona, fel y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân ac achub, yn rhan o wasanaethau dydd i ddydd, fel addysg ac iechyd, yn rhan annatod o’r gwasanaethau cyhoeddus, ac mae’n ‘anomaly’ felly fod plismona yng Nghymru yn wahanol i bob un prif wasanaeth cyhoeddus arall, yn y ffaith nad ydyw wedi’i ddatganoli.

Mae pob un o’r gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio yn agos iawn gyda’i gilydd. Mae pob un yn cael effaith ar y llall, ac er lles cysondeb a gwell gwasanaeth i ddinasyddion, byddai cysondeb yn eu hatebolrwydd o fudd i bawb.

Yn wir, mae’r ffaith bod plismona yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru ei hunan yn cyfrannu yn sylweddol tuag at blismona yn ariannol, er nad oes ganddi grym uniongyrchol gwleidyddol na chyfreithiol yn y maes. Llywodraeth Cymru yw’r unig Lywodraeth yr ynysoedd yma sydd yn cyfrannu yn ariannol tuag at blismona heb rym uniongyrchol dros y maes yna.

Hoffwn hefyd gyfeirio at y pwynt ehangach o’r angen am Fesur Cymru sydd yn gynaliadwy. Er fy siom gyda’r Mesur diweddaraf, fel y Mesur cyn hynny, a’r un cyn hynny, a’r un cyn hynny, rwy’n gobeithio’n fawr iawn bod modd i’r pleidiau gydweithio i sicrhau cydraddoldeb cenedlaethol i Gymru gyda’r cenhedloedd eraill yn y wladwriaeth yma. Yn wir, ym maes plismona, mae Cymru y tu ôl, yn awr, hyd yn oed Manceinion a Llundain.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Llywydd, in calling for the devolution of policing to its natural place, Plaid Cymru recognises that that would involve sensible and mature co-operation between Welsh Government and Westminster. It is vital that at the heart of the process is a framework for close co-operation between Welsh and Westminster policing Ministers and between forces in Wales and forces in England, beyond its devolution. A clear and robust framework for mutual aid will be vital and indeed we already have good examples of mutual aid agreements between services that are devolved to Wales and their counterparts in England and across these islands. Mutual aid agreements exist between Scotland and Westminster and there is close co-operation between the police service of Northern Ireland and the An Garda Síochána, particularly following the Patten report. The very complex challenges facing law enforcement across the world make co-operation essential.

Plaid Cymru support for devolution of policing isn’t motivated by some narrow dream of digging a policing Offa’s Dyke, but rather to deliver better outcomes for citizens, coherence across Welsh public service delivery and greater accountability. Plaid Cymru’s vision for policing in Wales would seek to build upon the very best of Peel’s principles of policing by consent and his central principle that the police are the public and the public are the police. In that spirit, we can build on the work already done by Welsh forces in being innovative and sharing best practice with partners elsewhere in the United Kingdom and beyond.

I hope that, in this debate today, Members from all parties can support Plaid Cymru’s motion. I am particularly looking forward to hearing the Welsh Government’s position, its vision for how the current Wales Bill can be salvaged to secure greater devolution to Wales, and I would particularly appreciate an explanation from the First Minister on the position of his colleagues in the Labour Party in Westminster following the amendment put down by Plaid Cymru in the House of Commons this week on the devolution of policing to Wales. Diolch yn fawr.

Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, ac rydw i’n galw ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r Bil fel sylfaen ar gyfer setliad cyfansoddiadol llawnach.

Yn cymeradwyo datganiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithredu yn ystod y broses ddeddfwriaethol i sicrhau’r canlyniad gorau i bobl Cymru.

Yn credu bod y Bil yn cynnig cyfle i sicrhau gwell cydbwysedd i gyfansoddiad Prydain a thrwy hynny gryfhau’r Undeb.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Steffan Lewis ar araith hynod o glir? Rwy’n meddwl y bydd unrhyw un sy’n dyfynnu Robert Peel yn dod o hyd i rywfaint o gefnogaeth ar y meinciau hyn. Efallai fod yna gydymdeimlad â’r Torïaid yn llechu’n ddwfn yn eich enaid gwleidyddol. Dim ond awgrymu hynny rwyf fi, gyda llaw; rwy’n gobeithio nad yw’n lleihau’r awdurdod a fydd gennych yn awr, rwy’n siŵr, i siarad yn eich grŵp. Roedd yn gyfraniad ardderchog.

Dychwelaf at fater plismona a gweinyddu cyfiawnder ar y diwedd, ond os caf ganolbwyntio ar gynnwys gwelliant y Ceidwadwyr, rwy’n meddwl mai’r lle cyntaf i ddechrau yw bod angen i ni weithio tuag at setliad cyfansoddiadol llawnach, a’r ffordd orau yw cymryd y Bil cyfredol fel y’i cyflwynwyd a’i wella. Mae eisoes yn welliant mawr ar y Bil drafft, ond dyma fydd y pedwerydd darn o gyfraith gyfansoddiadol a gawsom yng Nghymru mewn 18 neu 19 mlynedd, felly mae angen iddo fod yn setliad mor llawn ag y gallwn sicrhau consensws rhesymol ar ei gyfer ar hyn o bryd. Cefais fy nghalonogi fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd ac i’w gweld yn rhannu’r uchelgais aruchel hwn.

Nawr, mae’n wir fod yna rai meysydd lle y ceir gwahaniaeth sylweddol o hyd. Yn wir, mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i amlinellu rhai o’r materion y mae’n dal i feddwl bod angen mynd i’r afael â hwy, ac mae wedi cyfeirio at fater awdurdodaeth sengl. Mae’r Bil yn awgrymu ffordd o symud ymlaen ychydig yn y maes hwn, a chydnabod corff o gyfraith Gymreig. Rwy’n credu y gallwn ddadlau am y gwahaniaethau athronyddol yma, ond rwy’n meddwl ei fod yn cydnabod bod corff o gyfraith a deddfwrfa Gymreig yn mynd i gael eu cydnabod ar ryw bwynt mewn perthynas â’r eirfa gyfreithiol fel rhywbeth sy’n agosáu at awdurdodaeth sengl.

Mae nifer y cymalau cadw, ym marn Llywodraeth Cymru, yn dal yn rhy uchel ac rwy’n amau, wrth i ni graffu ar y Bil, mai dyna fydd y farn yn fwy cyffredinol yn y Cynulliad hwn. Gwnaed cynnydd rhannol ar gydsyniadau gweinidogol y DU. Unwaith eto, credaf y byddai unrhyw beth y gallwn ei wneud i gael rhaniad mwy cyflawn a rhesymegol mewn meysydd o’r fath yn hybu eglurder y setliad cyfansoddiadol. Ac ym marn y Prif Weinidog, mae angen cysylltu pwerau i godi trethi â chyllid teg. Fy hun, nid wyf yn argyhoeddedig fod angen eu cysylltu’n awtomatig, ond mae’n amlwg yn llywio’r ddadl a pha bwerau bynnag a gawn i godi trethi, mae’n amlwg fod mater fformiwla deg—fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion, yn y bôn—ar gyfer dosbarthu arian a gesglir yn ganolog o fewn gwladwriaeth y DU yn eithriadol o bwysig. Mae gan bob undeb gyllidol gref hyn; mae’n rhan hanfodol o ffurf effeithiol ar ddatganoli cyllidol.

Felly, credaf fod angen i ni weithio gyda’n gilydd i wella’r Bil wrth iddo symud ymlaen yn awr drwy ei gamau seneddol, ac wrth gwrs, cawn gyfle yma yn y Cynulliad i wneud rhywfaint o’r gwaith hwnnw hefyd ac i anfon ein casgliadau i San Steffan. Ac er mwyn bod yn effeithiol yn hyn o beth, rwy’n meddwl y byddwn yn dod â mwy o gydbwysedd i’r cyfansoddiad Prydeinig ac felly’n cryfhau’r undeb. Nawr, rwy’n sylweddoli nad yw hwn yn fudd uniongyrchol o ran Plaid Cymru, ond i’r graddau ein bod yn parhau i fod mewn undeb rwy’n siwr y byddwch eisiau sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol mor gadarn â phosibl.

Mae cynnig Plaid Cymru yn canolbwyntio’n bennaf ar blismona a gweinyddu cyfiawnder. Yr hyn a ddywedwn yma yw bod hon yn ddadl y mae angen ei chael, ond mae angen ei chael, rwy’n credu, ar wahân i’r drafodaeth bresennol ar y Bil, oherwydd mae yna faterion pwysig i’w trafod. Mae’n rhywbeth y mae angen i ni fod yn ymwybodol ei fod yn rhan o’r setliad datganoli yn yr Alban, ac mae’n awr yn gynyddol yn rhan o’r setliad datganoli yng Ngogledd Iwerddon. Felly, fy hun rwy’n meddwl y dylid ei drafod, ac yn wir cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar hyn dan fy nghadeiryddiaeth yn y pedwerydd Cynulliad. Ond mae’n gwestiwn gwleidyddol mawr. Mae plismona cymunedol yn y rhan fwyaf o wladwriaethau ffederal wedi’i ddatganoli; hynny yw, rhaid cydnabod hynny. Ond fel y casglodd ein hadroddiad, os edrychwch ar y meysydd hyn, yna mae’n bendant yn gwneud synnwyr i roi sylw iddynt yn gyflawn a datganoli cyfiawnder troseddol a pholisi dedfrydu. Ac nid wyf yn siŵr fod etholwyr Cymru yn barod i wneud y penderfyniad hwnnw. Yn sicr mae angen i ni gael dadl lawn am y peth. Mae’n un lle mae gennyf farn nad yw bob amser yn cytuno’n llwyr ag un fy nghyd-Aelodau ar y funud, ond fe fyddwch yn deall, fel llefarydd swyddogol ar y cyfansoddiad ar ran fy ngrŵp, ni allaf fanylu mwy ar y materion hynny yn awr.

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth yma ar bwnc hanfodol bwysig, ac i rannu rhai o mhryderon i, a dweud y gwir. Nid oes raid pwysleisio pa mor bwysig ydy rheolaeth y gyfraith yn ein bywydau ni. Mae’n ganolog i weithrediad effeithiol unrhyw wladwriaeth wrth sicrhau diogelwch a hawliau ein dinasyddion.

Mae mynediad i’r system gyfiawnder yn rhan annatod a sylfaenol o reolaeth y gyfraith. Heb fynediad, byddai rheolaeth y gyfraith yn gysyniad ac yn ddelfryd yn unig. Ond, yn dilyn toriadau a rhaglen ddiwygiol y system gyfiawnder gan Lywodraeth San Steffan, mae Cymru yn colli allan rhag cael mynediad llawn at system gyfiawnder effeithiol. Rhwng 2010 a 2015, fe gaewyd 15 o lysoedd ledled Cymru gan y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac ers 2015 mae 14 arall naill ai wedi cau neu mae bwriad i’w cau nhw dros y blynyddoedd nesaf. Mae cau llys ynadon Dolgellau, er enghraifft, yn etholaeth fy nghydweithiwr o Ddwyfor Meirionydd, yn golygu y bydd achosion yn cael eu trosglwyddo i Gaernarfon neu Aberystwyth. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â’r rhan yna o’r byd, mae hynny’n golygu taith o dros awr mewn car, os oes gennych chi gar. Fel y gwyddom ni, mae cludiant cyhoeddus yn annigonol yng Nghymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ac yn golygu y bydd hi’n amhosibl i bobl sy’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus gyrraedd y llys ynadon er mwyn cychwyn am 9.30 a.m.

Mae Llywodraeth San Steffan yn amddiffyn eu penderfyniadau drwy honni nad ydy’r llysoedd yn cael eu defnyddio yn ddigonol, ond mae yna dystiolaeth o sawl ffynhonnell wahanol yn dangos bod achosion llys yn cael eu symud er mwyn ystumio’r ffigurau hyn a chyfiawnhau cau’r llysoedd. Ac os nad diffyg galw ydy’r cyfiawnhad am hyn yna mae’n rhaid dod i’r casgliad ei fod o’n rhan o obsesiwn y Torïaid yn San Steffan i arbed arian heb roi ystyriaeth lawn i’r effaith ar y boblogaeth.

Bydd cau llysoedd yng nghefn gwlad Cymru hefyd yn cael effaith andwyol iawn ar allu person i gynnal eu busnes drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cau llysoedd a’r gostyngiadau mewn lefelau cymorth cyfreithiol, gan gynnwys rhoi contractau cymorth cyfreithiol i gyfreithwyr lleol, yn gwaethygu y duedd lle rydym ni’n gweld cwmnïau bychain annibynnol yn adleoli neu’n cau yn gyfan gwbl. Yng nghadarnleoedd y Gymraeg mi fydd hi bron yn amhosib i drigolion gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chynnal eu busnes drwy gyfrwng yr iaith o’u dewis. Mi ddylai’r Gymraeg, wrth gwrs, fod yn ystyriaeth hanfodol wrth benderfynu os dylai llysoedd penodol gael eu cau ai peidio. Yn wir, mae cynnal y gwasanaethau yma yn y Gymraeg yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Ond, er bod y Llywodraeth ar adegau wedi derbyn hynny ac wedi gwneud tro pedol, mae’n hen bryd i’r penderfyniadau yma gael eu gwneud gan ein Llywodraeth ni yma ar dir Cymru, a fyddai’n llawer mwy effro i anghenion ein cymunedau ni.

Mae’n amlwg bod diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu, ac os ydy mynediad i’r system gyfiawnder yn parhau i fod yn anhygyrch yna bydd rheolaeth y gyfraith yn dod yn ddiystyr.

Fe gafwyd cytundeb unfrydol ymhlith nifer o arbenigwyr cyfreithiol, pan roddwyd tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig yn ystod y cyfnod cyn deddfu ar Fesur Cymru drafft, y dylid sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yma yng Nghymru. Ond, er i’r Mesur fethu â derbyn cefnogaeth yma yn y Cynulliad yn ystod tymor y pedwerydd Cynulliad, mae Llywodraeth San Steffan, fel rŷm ni gyd yn ei wybod, wedi dod yn hôl efo Mesur arall sy’n dal i wrthod nid yn unig y cyngor gan arbenigwyr ond hawl sydd eisoes wedi’i rhoi i genhedloedd datganoledig eraill yr undeb. Pa fath o gydraddoldeb ydy hynny?

Efallai nad oes disgwyl i Aelodau’r gwrthbleidiau gefnogi ein cynigion ni heddiw, er rydw i’n gobeithio y gwnaiff rhai ohonoch chi wneud hynny. Ond rydw i’n galw ar y Llywodraeth—er gwaethaf gweithredoedd eich cydweithwyr yn San Steffan yr wythnos hon, rydw i’n galw arnoch chi i gefnogi ein cynnig ni heddiw er mwyn sicrhau tegwch i Gymru, tegwch sydd wedi’i roi eisoes i’r Alban, Gogledd Iwerddon a hyd yn oed rai o ddinasoedd Lloegr—tegwch a fyddai’n sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan sefydliad democrataidd sydd yn uniongyrchol atebol i bobl ein cenedl ni.

Diolch i chi am y cyfle i siarad ar hyn eto. Mae hwn yn destun y byddwn yn ddi-os yn ei drafod fesul llinell yn fanwl, gan ei fod yn eithriadol o bwysig mewn gwirionedd. Os nad ydym yn gwybod beth yw fframwaith y pwerau y gweithredwn o’u mewn, sut yn y byd y gallwn ddatblygu polisi priodol ar gyfer y dyfodol a chynrychioli’r bobl sy’n ein hethol?

Rwy’n croesawu’r Bil hwn, yn yr ystyr fod y Bil diwethaf yn gwbl anymarferol. Credaf fod hynny’n cael ei gydnabod bron ar draws pob un o’r pleidiau gwleidyddol. Mae rhai diffygion sylweddol iawn yn y Bil hwn, ond mae’n rhoi sail i gael rhywbeth a all fod yn ymarferol ac yn gynaliadwy. Felly, i’r graddau hynny, rwy’n ei groesawu.

A gaf fi wneud rhai sylwadau ar y Bil, oherwydd bydd llawer o faterion manwl y bydd angen i ni eu trafod ar ryw adeg? Y cyntaf yw mai’r peth sydd bob amser wedi peri pryder i mi ynglŷn â’r ffordd y mae’r Biliau hyn wedi ymddangos yw’r ffaith na cheir unrhyw resymeg neu esboniad priodol dros unrhyw gymalau cadw sydd ynddo—pam y cedwir mater yn ôl yn hytrach na pham na chedwir mater yn ôl. Credaf fod hynny bob amser wedi bod yn ddiffyg, oherwydd os ydych yn gweithio ar y cyd i geisio cyflawni deddfwriaeth ymarferol rhaid i chi wybod beth yw’r rhesymeg rhwng y rhai sydd wedi drafftio hwn mewn gwirionedd a ble y mae’n mynd. Wel, gobeithio y daw hynny’n gliriach. Rwyf am gynnwys y cais sydd gennyf bob amser mewn perthynas â’r rhain, sef fy mod yn gobeithio ein bod yn cael hapchwarae a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog, y gallu i oruchwylio hynny, oherwydd mae yna broblem iechyd ddifrifol yn codi o hyn. Mae yna faterion rydym am eu cael wedi’u datganoli i ni oherwydd eu bod yn codi materion cyhoeddus difrifol.

A gaf fi hefyd grybwyll un mater arall rwyf wedi tynnu sylw ato sawl gwaith, sef fy mod yn dal i feddwl y gallai fod yna gyfle mewn perthynas â mater pwerau cyllidol—?[Torri ar draws.] Rwy’n ymddiheuro.

Diolch yn fawr iawn i’r Aelod am ildio. Bu’n siarad am y cymalau cadw a’r rhesymeg sy’n sail iddynt ac roeddwn i’n meddwl tybed a yw wedi cael cyfle i ystyried y cymalau cadw yn yr adran ar berthnasoedd teuluol a phlant, sydd i’w gweld yn cynnwys mabwysiadu a rhai rhannau o’r Ddeddf Plant, ac achosion yn ymwneud â gofal, goruchwyliaeth neu amddiffyn plant. Efallai fy mod yn dehongli hyn yn anghywir ar yr wyneb, ond yn amlwg mae’n peri rhywfaint o bryder i mi ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd wedi cael cyfle i feddwl am hynny.

Rwy’n credu bod yr Aelod yn llygad ei lle fod yna adrannau wedi’u cadw yn y Bil nad yw’n gwbl amlwg beth y maent yn ei olygu. Er enghraifft, pam, yn adran 175, y byddai gennych fagu plant, cyfrifoldeb rhiant, trefniadau plant a mabwysiadu fel materion a gedwir yn ôl, er ei bod yn amlwg fod gennym gyfrifoldebau mawr sy’n gorgyffwrdd yn y meysydd hynny? A cheir nifer o’r rheini. Dyna pam y mae’n bwysig ein bod yn archwilio’r rheini’n hynod o fanwl.

Roeddwn yn sôn am y pwynt ynghylch pwerau cyllidol oherwydd, fel y gwyddom, fe fethodd y Bil asbestos, a gyflwynais fel Bil Aelod preifat y tymor diwethaf, yn bennaf am nad oedd gennym bwerau cyllidol. Mae’n ymddangos i mi fod pwerau cyllidol mewn perthynas â materion datganoledig yn faes a allai fod yn bwysig. Wrth gwrs, roedd llawer ohonom yng nghyfarfod briffio defnyddiol iawn Sefydliad Bevan a oedd yn edrych ar feysydd trethiant, y byddai llawer ohonynt yn galw am ddatganoli pwerau cyllidol neu ddefnyddio pwerau mwy cymhleth o dan Ddeddf 2014. Mae yna ffordd o symleiddio ac egluro’r agwedd honno ar y gyfraith.

A gaf fi ddychwelyd at y pwynt ynglŷn â’r awdurdodaeth, gan ei fod wedi’i grybwyll, ac mae’n bwysig ac yn eithaf allweddol o ran ble rydym yn mynd? I ailadrodd y pwynt, mae hwn, mewn sawl ffordd, yn fater gweinyddol. Mae yna ddirgelwch wedi bod ynghlwm wrth awdurdodaeth. Yn ei hanfod, yr hyn yw awdurdodaeth yn syml yw’r ardal ddaearyddol lle mae’r gyfraith yn gymwys ynddi a lle y gwrandewir ar achosion llys. Felly, y syniad, yn awr fod gennym ein deddfwrfa hunain yng Nghymru yn pasio deddfwriaeth; mae’n ymddangos i mi nad oes modd ateb y rhesymeg dros gael awdurdodaeth. Mae’n fater na ddylai achosi dadlau mawr. Yn ystod y tymor diwethaf, gallais gadeirio grŵp rhanddeiliaid ar gyfiawnder, ac mae yna adroddiad y byddwn yn argymell i’r Aelodau ei ddarllen. Os caf ddarllen y rhan a oedd yn berthnasol ynddo, oherwydd credaf ei fod yn crynhoi’r mater yn dda iawn. Mae’n dweud, ‘Yn ein barn ni, ni ellir osgoi’r angen bellach i ddatrys materion yn ymwneud â’r awdurdodaeth. Nid ydym, ar hyn o bryd, yn ystyried ei bod yn angenrheidiol na’n ymarferol i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, a fyddai’n golygu newid sefydliadol sylweddol. Yr hyn y mae’r grŵp yn ei ffafrio yw gwneud newidiadau gweinyddol syml o fewn y system unedig bresennol o lysoedd a thribiwnlysoedd a’r farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr drwy ddynodi achosion Cymreig i’w dyfarnu gan farnwyr yn eistedd mewn llysoedd a ddynodwyd yn llysoedd Cymreig.’

A phe bai angen unrhyw awdurdod mwy ar hyn, mewn araith gan Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas, ym mis Hydref 2015, gwnaeth hyn yn glir iawn pan ddywedodd,

‘Mae’n iawn i mi ddweud nad oes unrhyw reswm pam na all system llysoedd unedig sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr wasanaethu dwy awdurdodaeth gyfreithiol.’

Nawr, rwy’n gobeithio y bydd y math hwn o ddiddordeb ynghylch dirgelwch awdurdodaeth yn cael ei ddatrys mewn gwirionedd, gan mai mater gweinyddol syml ydyw. Efallai hyd yn oed nad yw’n ddim mwy na blwch ticio pan fydd ceisiadau cyfreithiol yn dod gerbron y llysoedd: ‘A yw’r achos hwn yn ymwneud â chyfraith Cymru neu Gyfraith Lloegr?’ Os felly, yna caiff ei ddynodi a’i weinyddu yn y ffordd gywir. Rwy’n gobeithio y bydd y gweithgor a sefydlwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn datrys hyn yn gyflym, oherwydd mae angen datrys mater yr awdurdodaeth mewn perthynas â’r Bil hwn cyn y gall barhau â’i daith yn briodol.

Diolch am y cyfle i gyfrannu i’r ddadl hon a diolch am rai cyfraniadau arbennig, yn enwedig oddi wrth Steffan a Sian, a hefyd oddi wrth Mick yn ddiweddar nawr.

Roeddwn i’n mynd i ganolbwyntio hefyd yn sylfaenol ar yr elfen yma o blismona a’r system gyfiawnder, achos pan oeddem ni’n dechrau yma ym 1999, roedd un o’n tri phrif wasanaeth 999 ni wedi’i ddatganoli, sef y gwasanaeth ambiwlans. Bydd y Dirprwy Lywydd yn cofio, rhai blynyddoedd wedyn, cawsom ddatganoli’r ail brif wasanaeth 999, sef y gwasanaeth tân, sy’n gadael nawr dim ond un o’r rheini ar ôl, sef yr heddlu. Felly, yn rhesymegol, mae’n gwneud synnwyr hefyd fod yr heddlu wedi ei ddatganoli yma, fel y ddau brif wasanaeth 999 arall sydd eisoes wedi eu datganoli. Mae’n gwneud synnwyr perffaith, ac fel rydym ni wedi clywed, mae’r heddlu eisoes wedi cael ei ddatganoli i Ogledd Iwerddon, i’r Alban, i Lundain ac i Fanceinion. Felly, mae’n rhaid ichi ofyn y cwestiwn, ‘Beth sy’n bod arnom ni?’ ar ddiwedd y dydd. Achos dyma ni, rydym ni’n gyfundrefn sefydlog yn fan hyn, yn gallu deddfu, ac eto, nid oes gennym ni’r hawl i edrych dros ein system blismona ni ein hunain.

Achos ar ddiwedd y dydd, ac i ddod â’r holl beth o dan un adeilad, felly, rydym ni’n awyddus iawn i drio atal aildroseddu. Pan oeddwn i yma o’r blaen, gwnaethom ni sawl adolygiad ar sut i atal aildroseddu. Pan mae rhywun yn gadael y carchar, mae yna her sylweddol i’r unigolyn hwnnw a her sylweddol i gymdeithas i sicrhau bod y person hwnnw ddim yn aildroseddu a ffeindio’i hunan nôl mewn carchar. Nawr, wrth gwrs, mae yna lot o waith cydlynu sydd angen ei wneud i sicrhau bod yna ddyfodol adeiladol o flaen yr unigolion hynny. Yn rhannol, mae hynny yn ein gwasanaeth iechyd ni, yn ein system dai ni a’n gwasanaethau cymdeithasol ac ati, sydd eisoes wedi eu datganoli, ond hefyd, wrth gwrs, mae’r gwasanaeth prawf, y carchardai eu hunain a’r system gyfiawnder ei hunan heb eu datganoli. Wedyn mae yna her sylfaenol yn y fan yna i gydlynu’r gwasanaethau yna sydd wedi eu datganoli’n barod—i gydlynu eu gwaith gogyfer yr unigolyn yna â’r gwasanaethau yna sydd heb eu datganoli. Nid ydy’r peth yn gwneud synnwyr. Mae eisiau i’r cwbl lot fod wedi ei ddatganoli. Dyna beth ydym ni eisiau ei weld a dyna beth fydd yn sicrhau gwell gofal i’n pobl mwyaf bregus ni.

Felly, ar ddiwedd y dydd, mae’n rhaid i synnwyr cyffredin reoli yn fan hyn. Nid ydym ni’n gofyn am ddim bydd sydd ddim wedi digwydd eisoes mewn llefydd fel Gogledd Iwerddon, yr Alban, Llundain a Manceinion. Felly, cefnogwch ddadl Plaid Cymru. Diolch yn fawr.

Mae hepgor datganoli plismona o Fil Cymru yn rhywbeth i’w groesawu. Cymerais ran mewn dau adolygiad pwyllgor o strwythur yr heddlu ddegawd yn ôl yma. Adroddodd nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol. Wrth sôn am alwadau i ddatganoli’r heddlu ym Mil Cymru, dywedodd fy nghysylltiadau yn Heddlu Gogledd Cymru a Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru fod ganddynt gysylltiad agosach â gogledd-orllewin Lloegr na gweddill Cymru a bod yna ddiffyg cymhwysedd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â datganoli plismona. Fel y maent wedi fy atgoffa dro ar ôl tro, mae gan y rhan fwyaf o bobl sy’n byw ar hyd coridorau’r M4 a’r A55, wedi’u gwahanu gan ardal wledig eang, anghenion plismona gwahanol iawn, a’u blaenoriaeth weithredol yw gweithio ar draws y ffin gyda gogledd-orllewin Lloegr.

Fel yr ysgrifennodd dirprwy brif gwnstabl Gwent, Mick Giannasi,

‘er y gallwn weld y gallai fod rhai manteision strategol o ddatganoli’r heddlu, mae yna risg weithredol ddifrifol hefyd... mae’r rhestr o fanteision posibl i mi yn un gymharol fyr’.

Roedd hefyd yn cwestiynu a oedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r adnoddau a’r profiad i oruchwylio plismona ac er ei fod wedi nodi bod y berthynas rhwng y pedwar heddlu yng Nghymru a Llywodraeth Cymru wedi bod yn adeiladol, pe bai rôl Llywodraeth Cymru yn newid i fod yn un o atebolrwydd a darparu, credai y byddai hynny’n anochel yn arwain at newid yn natur ei pherthynas â’r gwasanaeth heddlu, ac un a allai fod yn llai cynhyrchiol yn y pen draw.

Roedd cyflwyno comisiynwyr heddlu a throseddu yn arwydd o ddatganoli go iawn a oedd yn grymuso cymunedau lleol i ddweud eu barn ar flaenoriaethau plismona ac i ddwyn cynrychiolydd etholedig i gyfrif. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’n cyd-Aelod blaenorol, Jeff Cuthbert, yn ei rôl newydd fel comisiynydd.

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am ildio. Mae newydd grybwyll y comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae pedwar ohonynt newydd gael eu hethol yng Nghymru: dau o Blaid Cymru, dau Lafur, a phob un o’r pedwar o blaid datganoli’r heddlu.

Cawn weld am hynny pan fyddant wedi cael eu traed danynt yn eu swyddi, oni chawn? Fe addasodd y pedwar blaenorol eu barn rywfaint am hyn.

Byddai galwad Llafur am ddatganoli plismona, a gefnogir gan yr ymwahanwyr, yn cyflawni’r gwrthwyneb i ddatganoli go iawn mewn gwirionedd. Mae’r Prif Weinidog yn cyfeirio at yr argymhelliad i ddatganoli plismona i faer Manceinion yn y dyfodol fel model ar gyfer Cymru, ond wrth gwrs pwerau comisiynwyr heddlu a throseddu yn unig yw’r rheini, ac rydym eisoes wedi datganoli iddynt yng Nghymru. Felly, yr hyn y mae’r Prif Weinidog yn sôn amdano mewn gwirionedd yw cymryd mwy fyth o bŵer o’r rhanbarthau yng Nghymru a chanoli’r pwerau hynny yng Nghaerdydd, gan roi rheolaeth iddynt eu hunain dros benodi prif gwnstabliaid, atal prif gwnstabliaid o’u gwaith, galw ar brif gwnstabliaid i ymddeol neu ymddiswyddo, gosod cynlluniau pum mlynedd ar gyfer heddlu a throseddu, a gosod praeseptau a chyllidebau blynyddol i heddluoedd. Nid yw hynny’n rhywbeth rwy’n ei ystyried yn gynnig deniadol i Lywodraeth Cymru, o gofio bod y modd y mae Llafur yn mynd ati i wleidyddoli gwasanaethau cyhoeddus datganoledig mewn modd ymgripiol, a bygythiol yn aml, yn ddamniol, ac mae’r perygl y bydd hyn yn heintio plismona yn rhy fawr.

Mae ymroddiad Plaid Cymru i ddatganoli plismona yn darparu tystiolaeth bellach fod eu nod ideolegol—dinistrio’r Deyrnas Unedig a rhannu ei phobloedd—yn cael blaenoriaeth dros anghenion y bobl ledled Cymru, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn byw mewn rhanbarthau troseddol trawsffiniol.

Os mai amcan yr argymhelliad yw dinistrio’r Deyrnas Unedig, ai nod datganoli plismona i Fanceinion yw dinistrio strwythur Lloegr?

Rwyf fi wedi gorffen fy araith mewn gwirionedd. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’].

Rwy’n ymddiheuro i Mark Isherwood. Roeddwn wedi meddwl eich bod yn cymryd yr ymyriad ac ymddiheuraf am hynny, ond mae’r pwynt wedi’i wneud ac mae wedi’i gofnodi. Galwaf ar Rhianon Passmore.

Diolch i chi, Lywydd. O ran y terfynau amser i allu craffu ar Fil Cymru drwy’r toriad a thu hwnt, a ydym yn argyhoeddedig fod yna ddigon o amser i ni allu gwneud hynny a chynhyrchu deddfwriaeth dda? Diolch.

Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y system cyfiawnder troseddol a’r gwasanaeth prawf yn arbennig. Dros wyth mlynedd yn ôl erbyn hyn—yn ôl yng ngwanwyn 2008—cynhyrchais bapur polisi ar ran Plaid Cymru, o’r enw ‘Gwneud Ein Cymunedau’n Fwy Diogel’. Diben y papur hwnnw oedd gwella diogelwch cymunedol, ac roedd yn argymell datganoli’r system cyfiawnder troseddol fel y gallai Cymru, ymysg pethau eraill, fynd ar drywydd system cyfiawnder troseddol wahanol a oedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion troseddu. Roeddwn yn pwyso ar fy mhrofiad o weithio fel swyddog prawf yn ymdrin â throseddwyr, yn ogystal â’r wybodaeth ddamcaniaethol a oedd gennyf, ar ôl ymarfer fel tiwtor proffesiynol gwaith cymdeithasol ym maes prawf. Roedd gennyf ddealltwriaeth dda o’r hyn oedd yn gweithio, a’r hyn nad oedd yn gweithio, i ffurfio llawer o’r casgliadau a nodwyd yn y papur hwnnw.

Rwy’n siŵr fod llawer o’r Aelodau yma yn cofio comisiwn Silk, a bod y comisiwn hwnnw wedi argymell y dylai rheolaeth dros gyfiawnder ieuenctid a phlismona gael eu datganoli ac y dylai pwerau cyfiawnder troseddol eraill ddilyn yn y dyfodol. Fel y gwyddom, mae Silk wedi cael ei roi i’r naill ochr. Ers hynny mae diffyg gweithredu ar elfennau cyfiawnder troseddol yr agenda honno wedi arwain at werthu a phreifateiddio rhan fawr o’r gwasanaeth prawf, a’i hollti gan Lywodraeth glymblaid yn San Steffan na chafodd unrhyw fandad gan Gymru i lywodraethu. Nid oedd unrhyw gymhelliad cryf dros yr ad-drefnu hwn, a phrin ei fod wedi bod yn llwyddiant.

Yn 2013, graddiodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bob un o’r 35 ymddiriedolaeth prawf yn y wlad hon ac yn Lloegr fel rhai da neu ardderchog. Felly, nid oedd unrhyw gyfiawnhad o gwbl dros ad-drefnu ar sail perfformiad. Mae canlyniadau’r newid hwn, sydd wedi’i gymell gan ystyriaethau ideolegol, yn fawr ac yn bellgyrhaeddol ac efallai’n wir na chânt eu gwireddu’n llawn am flynyddoedd lawer i ddod. Mae morâl ymhlith nifer o fy nghyn-gydweithwyr ar ei lefel isaf erioed. Mae staff yn y cwmni adsefydlu cymunedol—neu CRC—yng Nghymru wedi cael rhybudd y gallant ddisgwyl y caiff hyd at 44 y cant o’r staff eu diswyddo. Ceir rhaniad rhwng CRC a’r staff sy’n gweithio i’r gwasanaeth prawf cenedlaethol sy’n delio â throseddwyr risg uwch. Cyn preifateiddio, nid oedd unrhyw raniad o’r fath yn y gwasanaeth, a’r hyn sy’n werth ei ddeall yma yw bod pobl yn gallu newid gydag amser o ran y risg y maent yn ei greu. Felly, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i rannu gwaith adsefydlu troseddwyr yn y modd hwn. Mae gwybodaeth a rennir rhwng CRC a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn llawn anawsterau bellach, pan ddylem fod yn gwneud cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol mor hawdd â phosibl, yn enwedig pan fyddwn yn sôn am bobl beryglus. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd preifateiddio’r gwasanaeth prawf yn arwain at ganlyniadau gwaeth i droseddwyr, yn ogystal â chanlyniadau gwaeth i’r cymunedau y mae’n ddyletswydd ar bawb ohonom eu gwasanaethu.

Ysgrifennais at y Prif Weinidog ar dri achlysur gwahanol yn ystod y Cynulliad diwethaf ynglŷn â fy mhryderon ynghylch preifateiddio’r gwasanaeth prawf a’r niwed y byddai’n ei achosi. Roedd yn cytuno â llawer o’r pwyntiau a wneuthum. Roedd hi’n drueni er hynny nad oedd y Blaid Lafur yn San Steffan yn cytuno hefyd, ac yn gwneud rhywbeth effeithiol yn ei gylch. Rwy’n gobeithio y gallwn ddysgu o hyn. Hoffwn feddwl y gallwn gytuno mai’r lle gorau i gadw pwerau ar hyn a phopeth arall yw yn y mannau sydd agosaf at y bobl y mae’r penderfyniadau’n effeithio arnynt. Collwyd cyfle gwych i ddiogelu cadernid ac uniondeb y gwasanaeth prawf. Yn ddi-os, byddwn yn talu pris am hynny, ond ni ddylem ganiatáu i gyfleoedd o’r fath gael eu colli eto.

Ymhlith y cwestiynau yn y Mesur hwn a fydd yn teimlo yn bell o fywyd pob dydd yw’r cwestiwn o awdurdodaeth. I lawer, bydd yn teimlo fel pryder i gyfreithwyr ac academyddion yn unig, ond mae agweddau ymarferol iddo y dylid mynd i’r afael â nhw yn y Mesur hwn os ydym o ddifri am gryfhau cynseiliau datganoli i ddelio â’r cynnydd yn y pwerau a ddaw i’r Siambr hon.

In the debate over the question of jurisdiction, it isn’t clear to me what the rationale is for maintaining the status quo. I hope it isn’t an instinct to put it in the ‘too difficult’ box, because it isn’t. The issue of maintaining the single jurisdiction for England and Wales runs the risk of being the legal equivalent of the idea of parliamentary supremacy—a sort of constitutional comfort blanket that has been held on to out of fear or inertia and that, frankly, fails to address the increasing complexities of the current democratic arrangements. A distinct legal jurisdiction for Wales is a limited legal change with significant practical advantages.

Just to be clear, I’m not arguing for the complete separation of courts and of judges. This isn’t a question about buildings or about people, or the colour of the robes or the crest above the chamber. In fact, there will be significant advantages for litigants and for the public if the legal personnel, be they judges or practitioners, are the same individuals, operating seamlessly in parallel jurisdictions of Wales and of England. It is not at all unusual in our common law tradition for lawyers to be dual-qualified in this way, so this is not an innovation. But with an expanding body of Wales-only law, coupled with a distinct geography, it would seem common sense, let along legally attractive, for this to be accompanied by a rule that the laws passed by this body affect only devolved Welsh laws and do not affect English law—otherwise known to all intents and purposes as a distinct Welsh jurisdiction. This is a pragmatic change, and it will have a positive effect of helping to avoid some of the border skirmishes, if you like, that are otherwise inevitable in drafting the law and in operating it.

But there is another issue to be considered as well. In the common law tradition to which we in Wales and England belong, judges are bound by precedent when interpreting the law. They are bound to follow the decisions of judges of higher courts in the same jurisdiction. With a single legal jurisdiction, precedent created in an English court on a matter that, in Wales, is devolved could affect a judge adjudicating a case in Wales, by virtue of being part of the same jurisdiction. This is actually more likely to happen with the proposed devolution of aspects of criminal contract and property law. It is very important that we have clear boundaries about what factors judges in Wales look to when deciding cases. This is in the interest of the public. The way to solve this is to recognise, at least with regard to devolved matters, that the law of Wales and the law of England are distinct. Judges deciding cases under Welsh law would not inadvertently affect English law, any more than judges deciding cases under English law would inadvertently bind judges in Wales. As the body of Welsh law expands, this will become more, not less, of an issue. It is not hard to solve. The work done in relation to the Welsh Government’s draft Bill, and the analysis of the recent stakeholder group, chaired by Mick Antoniw, offers a route-map here, and, importantly, this approach has benefits for both England and Wales.

One final point: this Bill seems to me to want to give the impression of a distinct jurisdiction without actually establishing it. The acknowledgement in the opening sections of the Bill, that a body of Welsh law exists, points to that. I believe that we need to take that acknowledgement one step further and introduce in this Bill a distinct Welsh jurisdiction.

A gaf fi ddweud ar y cychwyn fy mod yn sicr yn cefnogi byrdwn y cynnig hwn a hefyd yn gresynu nad yw Bil drafft Cymru yn darparu ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder? Arweiniodd toriadau Llywodraeth Dorïaidd y DU i gyllid plismona yn Lloegr at ostyngiadau sylweddol yn niferoedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yno. Felly, dylem longyfarch Llywodraeth Lafur ddiwethaf Cymru ar gytuno i ariannu’r cynllun i gyflogi Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol yma, er gwaethaf y toriadau a orfodir ar awdurdodau heddlu Cymru gan y Swyddfa Gartref. Hefyd, dioddefasom yn sgil camau trychinebus San Steffan i breifateiddio’r gwasanaethau prawf, rhywbeth na fyddai wedi digwydd yma pe bai cyfrifoldeb dros y gwasanaeth prawf wedi cael ei ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, rwy’n gobeithio, Lywydd, y maddeuwch i mi am symud at un neu ddau o feysydd eraill y Bil yr hoffwn eu trafod, er mwyn cychwyn y drafodaeth ar un neu ddau o bethau eraill efallai ar gyfer dadl bellach.

Y cyntaf yw pleidleisiau i rai 16 i 17 oed, gan fy mod wedi cwrdd â nifer o bobl ifanc yn fy etholaeth, a gwnaeth eu lefel o ymwneud a diddordeb yn y broses wleidyddol a gwaith y Cynulliad Cenedlaethol argraff arnaf. Ac rwy’n meddwl ei bod yn hanfodol ein bod ni yma yn y Cynulliad nid yn unig yn canmol y lefel honno o ymwneud, ond hefyd yn adeiladu arni a sicrhau ei bod yn cael ei meithrin a’i chynnal. Yn y Bil Cymru drafft, mae cyfle i godi’r raddfa hon o ymwneud i uchelfannau newydd, gan fod y Bil yn rhoi potensial i ymestyn hawliau pleidleisio yn etholiadau Cymru i rai 16 a 17 oed. Mae rhai yn dadlau nad oes gan rai 16 a 17 oed brofiad bywyd i allu ysgwyddo’r cyfrifoldeb o bleidleisio. Rwy’n ofni nad wyf yn cytuno â hynny. Er enghraifft, yn ystod yr ymgyrch gyfredol ar gyfer refferendwm yr UE, rwyf wedi bod yn dyst i bobl ifanc yn dod at ei gilydd i drafod y materion. Mae eu trafodaethau wedi bod yn adeiladol ac wedi canolbwyntio ar obeithion a dyheadau ar gyfer ymwneud y DU ag Ewrop yn y dyfodol, yn hytrach na chodi bwganod a lledaenu camwybodaeth ar faterion fel mewnfudo. Byddai’n fantais enfawr i Gymru pe baem yn gallu buddsoddi’r raddfa honno o ymddiriedaeth yn ein pobl ifanc i’w galluogi i gymryd rhan lawn yn ein prosesau democrataidd gwleidyddol drwy ymestyn yr hawl i bleidleisio iddynt.

Fel y gwyddom, mae yna hefyd feysydd eraill yn y Bil sy’n galw am eglurhad wrth i ni symud ymlaen. Yn dilyn yr etholiad cyffredinol y llynedd, bydd fy nghyd-Aelodau’n gwybod bod y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan wedi lansio ymosodiad arall ar bobl sy’n gweithio drwy gyhoeddi’r Bil Undebau Llafur—ymosodiad sinigaidd a dialgar ar undebau llafur a oedd yn mynd ati’n arbennig i dargedu undebau fel fy un i, sef Unsain, sy’n trefnu ac yn cynrychioli gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus. Felly, rwyf am ddiolch i Lywodraeth flaenorol Cymru ac yn arbennig y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus blaenorol am y safiad cadarn a ddangoswyd nid yn unig wrth ymgyrchu yn erbyn y Bil hwnnw, ond hefyd o ran ei gwneud yn glir y byddai’r rhannau o Fil Cymru sy’n ymwneud â’r Bil Undebau Llafur mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gwrthwynebu yma yng Nghymru.

Ar ôl ennill yr anghydfod gyda Llywodraeth y DU ynghylch diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol, rwy’n hyderus y bydd y Cynulliad presennol yn arddel safbwynt yr un mor gadarn pan fydd yn ystyried ei safiad ar y rhannau o’r Bil Undebau Llafur mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy’n dal yno, er gwaethaf y camu’n ôl a welwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd ar nifer o’i chynigion cychwynnol. Mae gennym sail gref dros barhau’n hyderus ynglŷn â’n safbwynt cyfreithiol yn y maes hwn, ac rwy’n gobeithio, felly, y bydd Bil Cymru yn y pen draw yn cau’r drws ar y mater hwn ac yn cadarnhau ei bod yn amlwg nad yw materion cyflogaeth sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn faterion i’w cadw’n ôl a’u bod dan reolaeth lwyr Llywodraeth Cymru ddatganoledig.

Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl ei hunan ac a gaf ddweud ar y dechrau ein bod ni’n cefnogi, ar y meinciau hyn, gynnig Plaid Cymru ac yn gwrthod gwelliant y Torïaid?

A gaf i ddechrau gan ddelio â rhai o’r pwyntiau y gwnaeth Steffan Lewis eu codi ynglŷn â phlismona? Wel, rŷm ni o blaid datganoli plismona. Mae’n wir i ddweud, yn San Steffan yr wythnos hon, fod y Blaid Lafur wedi ymatal, ond dim ond o achos y ffaith ein bod ni’n credu bod hwn yn rhywbeth a ddylai gael ei ddelio ag e o dan Fesur Cymru, ac nid o dan Fesur arall. Pam na ddylai pobl Cymru gael yr un hawliau â phobl yr Alban, Gogledd Iwerddon, a hyd yn oed pobl Llundain? Nid wyf erioed wedi clywed unrhyw ddadl sydd yn cefnogi pam dylai hynny digwydd.

Wrth gwrs, ynglŷn ag awdurdodaeth, mae sawl siaradwr wedi siarad am hynny, a’r ffaith bod awdurdodaeth yn rhywbeth sydd â ‘mystique’, fel y dywedodd Mick Antoniw, ond mae’n rhywbeth sydd yn hollol arferol: lle mae gyda chi gorff sydd yn pasio deddfwriaeth, mae awdurdodaeth yn tueddu i ddilyn yn awtomatig. Nid felly mae wedi bod yng Nghymru, ond felly mae wedi bod ym mhob rhan arall o’r byd, ac nid wyf yn deall pam ddylai Cymru fod yn wahanol, felly.

In terms of the Bill itself, well, it’s an improvement on the previous Bill. It was a low bar that the previous Bill had set. Let’s remind ourselves—the issue with the single jurisdiction came into focus because the obsession with preserving the jurisdiction was so strong under the previous Bill that it actually reversed the devolution process back before 1999 in some instances. Now we have before us a Bill that has potential but needs a lot of work. There’s a great deal of detail in the Bill that needs to be examined. We are already in the process of doing that, although I’m concerned about the timetable that’s been allocated for the Bill within the House of Commons—apparently two days in committee is going to be allocated. That causes us great concern. This can’t be rushed because this is a fundamental change in the devolution structure that needs proper scrutiny and should not be rushed, then, through the House of Commons.

There are some areas where there appear to be anomalies. For example, most of the criminal law will be devolved, the law on public order will be devolved, and yet alcohol licensing will not be devolved. One of the reasons given to me why licensing couldn’t be devolved was because of public order. Public order will be devolved. Teachers’ pay and conditions—there is already an agreement in principle to devolve that, yet it appears on the face of the Bill as something that would be reserved. If it stays there, then in order to devolve those powers, as agreed to this institution, there would need to be an Act amending the Bill in its current form.

Then, of course, we have the justice impact test and the justice impact assessments, which appear to serve no purpose at all other than to provide an exercise for Government to assess what a particular Bill means for the justice system. And then nothing happens—it simply runs into the sand. I am not clear what possible reason those justice impact assessments are there for, nor what purpose they serve, because they don’t appear elsewhere in other devolution settlements.

When it comes to income tax, I’m not content that income tax devolution can occur without the consent of this Assembly. There would need to be, for example—and the Scots have done this—at least an agreement on the fiscal framework before that devolution takes place. I think that it’s important that there’s the consent of this elected Parliament, as it soon will be, I hope, on behalf of the people of Wales.

Can I turn to what Mark Isherwood said? [Interruption.]

Diolch i chi am ildio, Brif Weinidog. Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch ar fater datganoli treth incwm, ond a fyddech hefyd yn cytuno ei bod yn bwysig i ni gael eglurder ar y mecanwaith a ddefnyddir i ostwng y grant bloc yn sgil datganoli treth incwm, fel na fydd Cymru ar ei cholled mewn gwirionedd yn y tymor hir?

Dyna’r fframwaith cyllidol. Ond mae angen cael cytundeb ar waith fel nad yw Cymru ar ei cholled, os caf ei roi yn y termau hynny. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, gallai’r Bil fel y mae wedi’i eirio osod dyletswydd arnom heb fframwaith priodol yn ei le. Nid wyf yn credu bod hynny’n iawn, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cytuno bod angen gosod fframwaith ar waith fel nad yw pobl Cymru ar eu colled.

Gadewch i mi ymdrin â Mark Isherwood. Nawr, fe wnaeth—[Torri ar draws.]. Na, na—mae’n haeddu ymateb, a bod yn deg. Yr anawsterau gyda’r dadleuon y mae’n eu cyflwyno yw hyn: bydd y rhan fwyaf o’r gyfraith droseddol yn cael ei datganoli. Y rhan fwyaf ohoni. Felly byddwn yn wynebu sefyllfa, pe bai’n cael ei ffordd, ymhen 20 neu 30 mlynedd o bosibl, pan fydd y broses o lunio cyfraith droseddol yn fater ar gyfer y sefydliad hwn yn bennaf, ond byddai’r broses o’i gorfodi’n cael ei chyflawni gan yr heddlu, a fydd yn atebol i Whitehall yn unig. Nid yw hynny’n gwneud synnwyr, yn fy marn i. Felly, mewn geiriau eraill, mae gennych awdurdodau gorfodi heb unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o gwbl i’r ddeddfwrfa sy’n pasio’r cyfreithiau yn y lle cyntaf. Ni all hynny fod yn iawn, does bosibl? Rwy’n siŵr ei fod yn gweld hynny.

Mae’n gweld hon fel dadl ymwahanol, wel, nid wyf yn ei gofio’n dadlau’n gryf na ddylai plismona gael ei ddatganoli i Ogledd Iwerddon am y rheswm hwnnw. Nid wyf yn cofio iddo ddadlau’n gryf y dylai plismona gael ei dynnu o gymhwysedd Llywodraeth a Senedd yr Alban gan y byddai’n arwain, yn anochel, at annibyniaeth i’r Alban. Nid wyf yn ei gofio’n mynnu y dylid diddymu pwerau Maer Llundain mewn perthynas â’r Heddlu Metropolitanaidd am y byddai hynny’n anochel yn peri i’r Deyrnas Unedig gael ei thanseilio. Nid yw hon yn ddadl ymwahanol. Mae hon yn ddadl y dylai Cymru gael ei thrin yn yr un modd â’r Alban a Gogledd Iwerddon. [Anghlywadwy] Wrth gwrs.

Mae’n ddrwg gennyf os rhoddais yr argraff fy mod wedi dweud ei bod yn ddadl ymwahanol. Nid oeddwn yn dweud ei bod yn ddadl ymwahanol. Dywedais efallai mai dyna’r cymhelliad i’r blaid ymwahanol, yn hytrach na’r hyn sy’n eich cymell chi o bosibl.

Wel, mae ei blaid ef yn yr Alban o blaid gweld plismona’n cael ei drin yn yr Alban. Felly, a yw ei blaid yn yr Alban yn griw o ymwahanwyr am eu bod yn defnyddio’r ddadl honno felly? Nid wyf yn meddwl y gallwn gael safonau dwbl mwyach o ran datganoli i Gymru. Fel y dywedais o’r blaen, dylai Cymru gael ei thrin yn ôl yr un egwyddorion a’r un llinellau â’r Alban a Gogledd Iwerddon yn wir.

Felly, i mi, y cwestiwn yw hwn: mae’n gwneud y pwynt fod comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn cynrychioli elfen o ddatganoli, ac mae yna elfen o wirionedd yn yr hyn a ddywed. Ond i mi, mater i’r sefydliad hwn yw a ddylid cael comisiynwyr yr heddlu a throseddu ai peidio. Yn wir, ni chawsom ddewis; cawsant eu gorfodi arnom gan y Senedd yn San Steffan, pan allai’r penderfyniad fod wedi bod yn un ar gyfer pobl Cymru mewn gwirionedd. Efallai y byddent wedi penderfynu eu bod eu heisiau. Ond ni chafodd y penderfyniad hwnnw ei roi gerbron pobl Cymru. Rwy’n ei atgoffa hefyd, wrth gwrs, fod yr holl ymgeiswyr yn etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throseddu nad oedd eisiau gweld plismona’n cael ei ddatganoli i gyd wedi colli, gan gynnwys, wrth gwrs, ei gomisiynydd heddlu a throseddu ei hun yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru nad oedd eisiau datganoli plismona, ond a oedd hefyd eisiau i’r gwasanaeth tân fod heb ei ddatganoli, ac fe gollodd o gryn dipyn. Dylai hynny ddweud wrtho lle mae pobl Cymru’n sefyll ar y mater hwn.

Crybwyllwyd mater ehangach y system gyfiawnder. Rwy’n gwybod bod gan arweinydd yr wrthblaid farn gref ar y gwasanaeth prawf, fel rhywun sydd wedi gweithio yn y gwasanaeth prawf, ac rwy’n cytuno â llawer o’r hyn y mae wedi’i ddweud. Fe fydd yn gwybod bod y Bil drafft a gyflwynwyd gennym yn edrych ar ddatganoli’r system gyfiawnder, ond ymhen ychydig o flynyddoedd. Y rheswm pam y mae hynny’n synhwyrol i mi yw y gall datganoli’r heddlu ddigwydd yn weddol hawdd. Mae’n fater syml o fabwysiadu strwythur sy’n bodoli eisoes. O ran y system gyfiawnder, yn enwedig y carchardai, ni fu gan Gymru system garcharau integredig erioed, yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai’n rhaid iddi gael ei chreu ac mae hynny’n cymryd amser. Felly, mae angen gwneud rhagor o waith ar sut y gallai’r system gyfiawnder gael ei ffurfio yn y dyfodol. Ond rwy’n rhannu ei phryderon ynglŷn â’r gwasanaeth prawf. Rwy’n rhannu ei phryderon nad yw cyfiawnder ar gael i bobl mwyach.

Bûm yn gweithio mewn rhan wahanol o’r system iddi hi, ac rwy’n cofio dyddiau pan oedd pobl yn cael cynrychiolaeth. Nid yw hynny’n wir yn awr. Mae’r llysoedd yn llawn o ymgyfreithwyr drostynt eu hunain yn awr. Rhaid egluro’r gyfraith iddynt. Mae hynny’n golygu, wrth gwrs, fod gennych bobl yn eithaf aml yn y llysoedd teulu sydd am sicrhau eu bod yn gallu gweld eu plant—mae’n bosibl fod eu plant mewn gofal—maent yn ymgyfreithwyr drostynt eu hunain ac maent yn cystadlu yn erbyn cyfreithwyr awdurdodau lleol. Nid oedd hynny’n digwydd yn y gorffennol oherwydd bod cymorth cyfreithiol ar gael. Nid yw hynny’n deg. Mae gennym lysoedd troseddol yn llawn o bobl heb gynrychiolaeth; rhaid egluro’r gyfraith iddynt ac maent yn cystadlu yn erbyn erlynwyr sy’n gyfreithwyr. Nid yw hynny’n deg. Mae hefyd yn golygu bod y llysoedd bellach yn treulio llawer iawn o amser yn egluro’r gyfraith i bobl ac mae hynny’n arafu gwaith y llysoedd. Felly, mewn gwirionedd, os ydych yn arbed arian, mae’n ymddangos, drwy dorri cymorth cyfreithiol, nid yw ond yn golygu mwy o gost yn y system llysoedd. Mae’r hyn a digwyddodd gyda chymorth cyfreithiol wedi bod yn warthus. Mae cynrychiolaeth wedi diflannu.

Mae’r system gyfiawnder wedi rhoi’r argraff fod Cymru yn rhyw fath o atodiad i’r system gyfiawnder. Ceir llawer llai o lysoedd ac mae’n llawer anoddach sicrhau mynediad at gyfiawnder bellach. Mae yna ddadleuon, i mi, dros edrych ar ddatganoli’r system gyfiawnder, er bod yn rhaid i mi ddweud, o fy safbwynt i, byddai’n rhywbeth a fyddai’n cymryd peth amser. Byddai’r awdurdodaeth ar wahân yn golygu system llysoedd ar wahân. Rwy’n credu ei fod yn ateb deniadol i gael awdurdodaeth benodol yn ffurfiol, ond rhannu’r system llysoedd. Ond nid rhannu’r system llysoedd o ran peidio â chael unrhyw lais ynddi ac nid rhannu system llysoedd sy’n cael ei gweinyddu’n gyfan gwbl o Whitehall, ond system llysoedd wedi’i rhannu go iawn a all ddarparu system gyfiawnder i bobl Cymru.

Wel, gwyddom fod yna rywfaint o drafodaeth i ddod ar y Bil hwn. Mae yna nifer o feysydd lle bydd cytundeb. Mae rhai meysydd lle na fydd fawr o gytundeb, yn amlwg. A yw’r Bil yn rhoi cyfle i symud Cymru ymlaen o ran datganoli pwerau pellach? Yr ateb yw ‘ydy’, ond y peth trist yw na all fod yn setliad cynaliadwy oherwydd y gwrthwynebiad i bethau fel awdurdodaeth, y gwrthwynebiad i bethau fel plismona. I mi, byddai’n well manteisio ar y cyfle yn awr i gael Bil sy’n gallu gwrthsefyll prawf amser yn hytrach na gweld ein hunain, fel rwy’n amau ​​y byddwn, yn ôl ymhen pum mlynedd yn edrych ar y materion roedd y Bil hwn ar ei ffurf bresennol yn methu â mynd i’r afael â hwy. Rwy’n credu bod hynny’n drueni, ond rwy’n edrych ymlaen at y trafodaethau yn y Senedd hon a Senedd y DU, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cael y pwerau cywir i allu cyflawni dros bobl Cymru.

Diolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Diolch i David Melding am ei sylwadau caredig, er bod yn rhaid i mi ddweud wrtho fy mod wedi dyfynnu Robert Peel er mwyn cynnwys naws hanesyddol yn unig ac nid o unrhyw gydymdeimlad at ei blaid. Ond mae’n codi pwynt pwysig ynghylch yr angen am lefel o gysondeb ar draws cyfansoddiad y Deyrnas Unedig, ac mae’n hollol iawn i ddweud, er ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn cefnogi sefydlu gwladwriaeth Gymreig, cyhyd ag y bo Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig rydym am iddi weithio cystal ag y gall dros bobl y wlad hon.

Soniodd Sian Gwenllian am fynediad at gyfiawnder. Sylfaen waelodol democratiaeth yw cael mynediad at gyfiawnder, ac roedd hi’n cysylltu hynny, wrth gwrs, â’r hawl i gael mynediad at gyfiawnder yn ein dwy iaith swyddogol.

O ran cyfraniad Mick Antoniw, croesawaf yn fawr ei optimistiaeth ac rwy’n cytuno’n llwyr fod y rhesymeg sydd wrth wraidd rhestr Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gymalau cadw angen peth eglurhad. Ac rydym yn cytuno, wrth gwrs, â’r eglurhad a roddodd o weithrediad ymarferol awdurdodaeth benodol.

Crybwyllodd Dai Lloyd y pwynt hanfodol hwn: er mwyn mynd i’r afael o ddifrif â phroblem aildroseddu, sy’n dal ar lefel uchel yng Nghymru, mae’n gwneud synnwyr perffaith i ddod â’r holl asiantaethau sy’n gyfrifol at ei gilydd yn rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymreig cydlynus wedi’i ddatganoli. Ac wrth gwrs, aeth arweinydd yr wrthblaid i’r afael â sgandal preifateiddio’r gwasanaeth prawf, a siaradodd am y rhwystrau artiffisial sy’n bodoli rhwng gwahanol asiantaethau sy’n ymdrin â gwahanol droseddwyr, a rhoddodd rybudd sobreiddiol i ni am ddyfodol y gwasanaeth prawf ar ôl datganoli.

Gwnaeth Jeremy Miles y pwynt dilys fod corff cynyddol o gyfraith Cymru yn galw am ddiweddaru ein system gyfreithiol mewn modd pragmataidd, a’r her a gododd ynghylch system cyfraith gyffredin o osod cynsail mewn un rhan o’r awdurdodaeth a fyddai’n cynnwys pob rhan ohoni. Ehangodd Dawn Bowden y ddadl ar ddyfodol datganoli i gynnwys ymestyn yr etholfraint etholiadol i gynnwys rhai 16 a 17 oed. Wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth rwyf fi a grŵp Plaid Cymru yn ei gefnogi’n llwyr.

Rwy’n croesawu’n fawr y gefnogaeth gan y Prif Weinidog i gynnig Plaid Cymru heddiw, er ei bod yn drueni ei bod yn ymddangos bod methiant Llafur i bleidleisio gyda Phlaid Cymru yn San Steffan yr wythnos hon yn seiliedig ar fater technegol yn fwy na dim byd arall. Ond roedd yn iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at yr anghysondebau yn y Bil Cymru cyfredol: mae yna faterion sydd wedi’u cysylltu’n annatod lle mae rhai wedi’u datganoli neu’n mynd i gael eu datganoli ac eraill yn dal i fod wedi’u cadw’n ôl. Unwaith eto, mae hynny’n mynd yn ôl at y pwynt a wnaed yn gynharach am y rhesymeg sydd wrth wraidd ymagwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at ei rhestr o gymalau cadw, yn arbennig, er ein bod yn gobeithio y bydd hynny’n cael sylw.

Mae’r asesiadau o’r effaith ar gyfiawnder yn offeryn a fydd yn berthnasol, mae’n ymddangos, i Gymru yn unig ac nid i unrhyw un o weinyddiaethau datganoledig eraill y Deyrnas Unedig, ac roedd y Prif Weinidog yn llygad ei le yn codi amheuon ynglŷn â hynny. Rwy’n croesawu’n fawr y cadarnhad a roddodd heddiw ei fod yn gefnogol i weld Cymru yn cael ei thrin fel cenedl gyfartal o fewn y Deyrnas Unedig, ac i setliad datganoli sy’n adlewyrchu hynny.

Ac yna Mark Isherwood. Roedd yr eironi o gael eich galw yn ymwahanwr gan ymynyswr gwrth-UE yn uchafbwynt arbennig. [Chwerthin.] Ond fe ddywedaf fy mod yn methu â deall pam y mae’n gwrthwynebu dod â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn nes at ei gilydd er mwyn gwella canlyniadau i bobl ac er mwyn sicrhau mwy o atebolrwydd, er bod hynny, fel y nododd y Prif Weinidog, yn rhywbeth sy’n cael ei dderbyn gan ei blaid yn yr Alban. [Torri ar draws.] Ni fyddaf yn cymryd ymyriad.

Mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen yn awr at weithio gydag eraill i ddarparu cenedligrwydd Cymreig cryfach sydd, yn ei dro, yn arwain at welliannau sylweddol i fywydau ein cyd-ddinasyddion o ddydd i ddydd. Ac i gloi, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i swyddogion yr heddlu heddiw am eu gwaith yn cadw ein cymunedau’n ddiogel ac yn wir, i holl aelodau ein gwasanaethau brys. Yn aml iawn yn y dadleuon hyn, mae eu hymdrechion yn cael eu hanwybyddu, ond hoffwn gofnodi diolch Plaid Cymru iddynt ac rwy’n siŵr y byddai’r Cynulliad cyfan yn ymuno â mi i wneud hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. 8. Cyfnod Pleidleisio

Symudwn ni ymlaen i’r cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

Fe fydd y bleidlais gyntaf ar y ddadl gan Aelodau unigol a’r cynnig yn enw Eluned Morgan, Dawn Bowden a Dafydd Elis-Thomas. Rwy’n agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 44, yn erbyn 9. Felly mae’r cynnig wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 44, Yn erbyn 9, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6020.

Pleidlais nawr ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ac rwy’n galw ar bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 45, yn erbyn 10. Felly derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 45, Yn erbyn 10, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6021.

Symud felly i’r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar Fesur Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 39, yn erbyn 16. Felly mae’r cynnig wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig: O blaid 39, Yn erbyn 16, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6022.

9. 9. Dadl Fer: Cyflawni Dyfodol Ynni Craffach i Gymru—Blaenoriaethau Polisi Ynni ar gyfer Llywodraeth Newydd Cymru

Rwy’n symud yn awr felly at y ddadl fer, ac mae’r ddadl fer heddiw yn enw Llyr Gruffydd. Rwy’n galw ar Llyr Gruffydd i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.

Wel, diolch yn fawr, Lywydd. Mae’n fraint a dweud y gwir cael cyflwyno dadl fer gyntaf y pumed Cynulliad. Rwyf wedi cytuno i Lee Waters a Jenny Rathbone gael cyfran o’r amser sydd wedi’i glustnodi ar gyfer fy nghyfraniad i i’r ddadl fer yma.

Nawr, ‘Cyflawni Dyfodol Ynni Craffach i Gymru—Blaenoriaethau Polisi Ynni ar gyfer Llywodraeth Newydd Cymru’ yw’r teitl rwyf wedi’i ddewis, teitl wrth gwrs sy’n cyfeirio at hwn, sef adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf. Adroddiad a gyhoeddwyd yn sgil ymchwiliad y pwyllgor a aeth ati i amlinellu gweledigaeth a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol ar ddyfodol ynni i Gymru sy’n gwireddu dyletswyddau moesol a chyfreithiol, o safbwynt newid yn yr hinsawdd, ond hefyd gwireddu y potensial economaidd sy’n dod o ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ni yn gyfrifol ac yn gynaliadwy ac mewn modd sy’n creu cyfoeth i bobl Cymru, ac sy’n mynd ati i greu llu o gyfleodd eraill o ran taclo tlodi tanwydd, ymbweru cymunedau lleol i fod yn fwy rhagweithiol wrth bennu eu dyfodol ynni nhw eu hunain, a phob math o agweddau positif eraill sy’n dod yn sgil hynny.

Nawr, mi gyhoeddwyd yr adroddiad tuag at ddiwedd y Cynulliad diwethaf, fel roeddwn i’n ei ddweud, gyda’r ddadl ar yr adroddiad yn digwydd ar ddiwrnod olaf y pedwerydd Cynulliad fan hyn yn y Siambr. Bwriad yr adroddiad oedd nid edrych yn ôl, nid ffeindio bai, yn sicr nid pwyntio bys mewn unrhyw ffordd, ond bod yn adeiladol, yn ymarferol, cynnig gweledigaeth a chyflwyno her i Lywodraeth nesaf Cymru ar y pryd, trwy amlinellu y cyfleoedd, y blaenoriaethu a rhyw deimlad o frys hefyd—’a sense of urgency’—sydd yna o ran cwrdd â’r her sydd o’n blaenau ni. Roedd yna gonsensws clir o gefnogaeth i argymhellion y pwyllgor yn y pwyllgor ei hunain, wrth gwrs, ac fe basiwyd y cynnig i nodi’r adroddiad yn unfrydol fan hyn yn y Siambr.

Yn naturiol ddigon, wrth ymateb i’r adroddiad, bach iawn cawsom gan y Gweinidog cyfrifol ar y pryd, ac roedd hynny’n ddigon teg oherwydd, wrth gwrs, roedd y neges yn glir mai mater i Lywodraeth Cymru nesaf fyddai mynd i’r afael â’r agenda sy’n cael ei amlinellu yn yr adroddiad. A dyna pam, felly, rydw i wedi dewis y pwnc yma heddiw ar gyfer fy nadl fer i. Nid wyf am i’r adroddiad yma fynd yn angof; nid wyf eisiau colli’r momentwm, yn sicr, a’r consensws y tu ôl i’r adroddiad yma ychwaith. Rydw i am weld y Llywodraeth newydd, yn deall, wrth gwrs, mai hwn yw un o’r blaenoriaethau pennaf sydd gennym ni o safbwynt economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, un o’r heriau pwysicaf sy’n ein hwynebu ni fan hyn yng Nghymru. A dyma’r cyfle cyntaf, felly, i’r Llywodraeth newydd a’r Ysgrifennydd newydd—ac rydw i’n ei llongyfarch hi ar ei phenodiad, wrth gwrs—i ymateb i argymhellion yr adroddiad ar sut y mae hi’n bwriadu mynd ati i gwrdd â’r heriau a gwireddu’r cyfleoedd yma sydd gennym ni a beth yw ei gweledigaeth hi a’i Llywodraeth o ran cyflawni’r dyfodol ynni craffach yna i Gymru.

Yn amlwg, ni fedraf restru popeth sydd yn yr adroddiad yn fy nadl fer heddiw, ond rydw i am dynnu sylw, yn fyr, at rai o’r prif bwyntiau. Un o’r argymhellion cryfaf sy’n dod o’r ymchwiliad, wrth gwrs, gan y pwyllgor, yw’r angen i Gymru bennu gweledigaeth gydlynol a strategol glir ar gyfer ei pholisi ynni yn y dyfodol, a hynny’n cynnwys targedau clir er mwyn sbarduno cynnydd, a’i bod hefyd yn cynnwys eglurder o ran y math o gymysgedd o ffynonellau ynni a fydd yn dod at ei gilydd i greu’r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom ni, ac, wrth gwrs, sut rŷm ni’n mynd i sicrhau rôl ganolog i ynni lleol yn hyn i gyd.

Mae’r adroddiad yn ei gwneud hi’n glir bod yn rhaid i Gymru osod targedau blynyddol i leihau’r galw am ynni a helpu pobl i’w ddefnyddio’n fwy effeithlon. Mae’r adroddiad yn gofyn am osod targedau i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac, yng nghyd-destun yr angen i leihau allyriadau carbon o leiaf 80 y cant erbyn 2050, mae’r adroddiad yn dweud y dylai Cymru bennu dyddiad targed ar gyfer hunangynhaliaeth ynni hefyd. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl bosib. Mae’r Almaen, er enghraifft, wedi ymrwymo, erbyn 2050, i sicrhau bod 80 y cant o’i ynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac, yn fwy na hynny, wrth gwrs, erbyn yr un flwyddyn, ei bod hi’n torri defnydd ynni mewn adeiladau 80 y cant ac yn creu miliynau o swyddi ac yn ychwanegu at ei GDP. Mae’n rhaglen drawsnewidiol sydd, wrth gwrs, yn dangos y ffordd ymlaen i nifer ohonom ni.

Mae’n werth edrych hefyd ar sut mae rhywle fel Uruguay, sydd â phoblogaeth debyg i Gymru, wedi llwyddo i sicrhau, mewn llai na 10 mlynedd, bod 95 y cant o’i trydan yn dod o ynni adnewyddadwy gan leihau, wrth gwrs, ei hôl-troed carbon, ond hefyd lleihau biliau i’w phobl ar yr un pryd. Maen nhw wedi dangos, gyda gweledigaeth ac arweinyddiaeth benderfynol, bod modd gwneud cynnydd sylweddol a sydyn tuag at economi carbon isel.

Mae angen gwneud penderfyniadau anodd, wrth gwrs, am y cydbwysedd rhwng buddsoddiad ynni mawr a bach, cynhenid a thramor, ac mi ddylai’r weledigaeth ar gyfer ynni craffach fod yn ddigon hyderus i flaenoriaethu datblygu systemau cyflenwi ynni lleol er budd ein cymunedau ni.

Nid oes angen, gyda llaw, i Gymru aros i gael rhagor o bwerau gan San Steffan cyn cyflawni’r rhan fwyaf o’r weledigaeth sydd yn yr adroddiad yma; mi allwn ni ddechrau ar lawer o’r gwaith yma nawr. Er enghraifft, lleihau’r galw am ynni yw’r rhan bwysicaf o drosglwyddo i ddyfodol ynni craffach yn fy marn i. Mae aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn gwario 80 y cant o’u costau ynni yn gwresogi ystafelloedd a dŵr yn y cartref. Mae angen, felly, i ni wneud yn siŵr bod cartrefi mor effeithlon ag sy’n bosib o ran ynni.

Nawr, o dan gyfarwyddeb perfformiad ynni adeiladau’r Undeb Ewropeaidd, mae’n rhaid i bob adeilad, wrth gwrs, bod yn agos at sero o ran allyriadau erbyn diwedd 2020. Yn wir, mae’n rhaid codi adeiladau cyhoeddus i’r safon hon erbyn diwedd 2018. Roedd hi’n siom i nifer ohonom ni fod y Llywodraeth ddiwethaf—ac rwyf i wedi gwneud y pwynt hwn sawl gwaith, rwy’n gwybod—wedi methu cyfle pan ddiwygiwyd y rheoliadau adeiladu ychydig flynyddoedd yn ôl. Er mynd allan i ymgynghori ar yr angen i bob tŷ gyrraedd safon perfformiad ynni sydd yn 25 y cant neu 40 y cant yn fwy effeithlon na safon 2010, mi aethpwyd yn y diwedd, wrth gwrs, am safon o ddim ond 8 y cant. Mae’n rhaid diwygio hyn ar frys; mae’r drefn bresennol, wrth gwrs, nawr, yn cloi aneffeithlonrwydd ynni i mewn i’r system am oes y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu.

Mae gwella effeithlonrwydd ynni ein stoc tai presennol ni hefyd, wrth gwrs, yn allweddol, trwy ôl-ffitio mesurau effeithlonrwydd ynni. Tra bod cynlluniau fel Arbed a Nyth yn gwneud cyfraniadau i’r dasg yma, cyfraniadau bach ydyn nhw, wrth gwrs, ac nid ydyn nhw unlle’n ddigon agos i faint yr her sydd yn ein hwynebu ni a lefel y buddsoddiad sydd ei angen mewn gwirionedd. Dyna pam, wrth gwrs, roedd yna ymrwymiad ym maniffesto Plaid Cymru i fuddsoddi biliynau o bunnau dros y ddwy ddegawd nesaf i gwrdd â’r her yna trwy gomisiwn isadeiledd cenedlaethol i Gymru. Gobeithio y bydd y trafodaethau sydd wedi bod rhyngom ni a’r Llywodraeth yn hwyluso, yn y pen draw, hynny i ddigwydd. Nawr, mae angen i Gymru godi ei gêm, yn sicr, yn hyn o beth, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed beth yw cynlluniau’r Llywodraeth newydd er mwyn gwneud hynny.

Ar draws Lloegr, mae awdurdodau lleol yn sefydlu hefyd, wrth gwrs, gwmnïau cyflenwi ynni dielw. Yng Nghymru, mae gennym ni brofiad o gwmni cyfleustodau dielw llwyddiannus iawn, sef Dŵr Cymru, ac mae’n bryd inni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn y maes ynni. Mi glywodd y pwyllgor sut y mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr, gan gynnwys Bryste a Nottingham yn benodol, yn gallu targedu tlodi tanwydd drwy gyflenwi ynni i aelwydydd yn eu hardaloedd ar gyfradd ostyngol. Yn Nottingham, mae Robin Hood Energy yn cynnig tariff ar gyfer trigolion dinas Nottingham yn unig a hefyd yn gallu gosod cyfraddau is mewn ardaloedd lle mae yna lawer o dlodi tanwydd.

Nawr, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, yn darparu rhwydweithiau gwres lleol ac mae cyngor Wrecsam wedi cyflawni’r cynllun ynni solar mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ond mae angen mynd ymhellach. Mae angen sefydlu cwmni gwasanaeth ynni ymbarél dielw. O dan yr ymbarél hon wedyn gall awdurdodau lleol neu gymunedau, hyd yn oed, gynnig cyflenwad ynni yn lleol a’r nod yn y pen draw, wrth gwrs, yw i gwmni o’r fath allu cael ei holl ynni o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru.

Nawr, allwn ni ddim sôn am bolisi ynni yng Nghymru heb sôn am y grid, ac rydw i wedi dweud droeon yn y Cynulliad yma bod yr amser wedi dod inni symud oddi wrth y model ‘hub and spoke’ o gynhyrchu ynni mewn pwerdai mawr ac yna’i drosglwyddo fe ar hyd a lled y wlad drwy grid hynafol, aneffeithlon a chostus. Mae angen inni symud i fodel o gridiau lleol, clyfrach, gyda’r ynni’n cael ei gynhyrchu yn nes at le mae’n cael ei ddefnyddio, rhwydweithiau sy’n fwy effeithlon yn cynnig mwy o gydnerthedd neu ‘resilience’ i’r gyfundrefn ynni, sy’n llai hagr ar y dirwedd, wrth gwrs, ac yn rhatach hefyd o ran cost cynnal a chadw. Nawr, mae diffyg capasiti ar y grid presennol yng Nghymru yn rhwystr sylweddol hefyd o safbwynt cynhyrchu ynni lleol. Mae angen, felly, i’r grid cenedlaethol, gweithredwyr y rhwydwaith dosbarthu—y DNOs—ac Ofgem chwarae eu rhan wrth ymateb i’r cynnydd ŷm ni am ei weld mewn cynhyrchu ynni gwasgaredig. Yn hynny o beth, wrth gwrs, mae’r adroddiad hefyd yn ei gwneud hi’n glir bod angen i Gymru gael llais llawer mwy cryf a llawer mwy ystyrlon ar y cyrff penodol yma.

Nawr, fe gychwynnodd y pwyllgor amgylcheddol ei waith ar ddechrau’r pedwerydd Cynulliad drwy edrych ar ynni a’r gyfundrefn cynllunio, ac roedd hynny yn ystyriaeth bwysig iawn, wrth gwrs, yn yr adroddiad rydw i’n canolbwyntio arno heddiw. Ni wnaf i ymhelaethu, dim ond ategu bod angen i’r gyfundrefn gynllunio fod yn llawer mwy effeithiol o safbwynt hwyluso projectau ynni lleol a chymunedol, yn arbennig bod yna fwy o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r sector yna—ymestyn hawliau datblygu a ganiateir, er enghraifft, er mwyn i’r projectau yma fynd yn eu blaen. Mae angen symleiddio’r broses, hefyd, o safbwynt ymgeisio ar gyfer cynllunio a chael caniatâd ar gyfer projectau o’r fath, a hefyd sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, er tegwch, y capasiti angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau yn y maes yma yn effeithiol ac yn amserol.

Un o’r ffyrdd pwysicaf o gefnogi ynni newydd, wrth gwrs, yw drwy gynyddu sicrwydd yn y farchnad ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac rŷm ni’n gwybod bod newidiadau diweddar i’r polisïau ar dariffau cyflenwi trydan a chymorth arall ar gyfer ynni adnewyddadwy wedi achosi ansicrwydd mawr i fuddsoddwyr, yn bennaf, wrth gwrs, o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. A Llundain sydd yn dal nifer o’r pwerau hyn. Ond mae yna ffyrdd gwbl ymarferol y gall Llywodraeth Cymru gyfrannu i wneud gwahaniaeth. Mae yna gyfleoedd i ddarparu tir sy’n berchen gan y Llywodraeth ar gyfer projectau ynni. Mae yna le inni fanteisio i’r eithaf, wrth gwrs, ar bob ffynhonnell posib o gyllid. Nawr, mae hyn yn cynnwys nifer o ffynonellau Ewropeaidd, ac mae rhywun yn gobeithio, wrth gwrs, yn dilyn yr wythnos nesaf, y bydd modd inni gael mynediad at ffynonellau megis cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, megis cyllid Horizon 2020, y rhaglenni datblygu gwledig ac yn y blaen. Mae yna le i gynllun benthyciadau, efallai, yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac rŷm ni’n gwybod am yr angen i ddarparu gwasanaethau dal llaw i gynorthwyo projectau lleol a phrojectau cymunedol.

Mae yna gyfleoedd o safbwynt hyfforddi a sgiliau ac mae yna nifer fawr o gyfleoedd eraill sydd yn cael eu crybwyll yn yr adroddiad. Mae’r agenda ynni yn amlwg yn un sylweddol. Mae’n faes eang sydd yn cyffwrdd ag ystod o feysydd polisi a phortffolios llawer i Ysgrifennydd Cabinet yn y Llywodraeth newydd, wrth gwrs. Yr un peth sy’n glir, serch hynny: mae’r cyfleoedd i Gymru o gael hyn yn iawn yn eithriadol o gyffrous—buddion a manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol arwyddocaol iawn, iawn. Mae’r her wedi ei osod fan hyn, yn yr adroddiad yma a’i argymhellion. Y cwestiwn nawr yw: sut y mae’r Llywodraeth newydd a’r Ysgrifennydd newydd am ymateb er mwyn gwireddu hyn drwy fynd ati i gyflawni dyfodol ynni craffach i Gymru?

Diolch i Llyr Gruffydd am y cyfle i siarad heno.

For those of us who take the scientific evidence seriously there is no argument that we need to make radical changes to the way we harness and consume energy. And for those of us who take economic evidence seriously, there can be little argument that, to begin narrowing the gap with the rest of the UK, we need to use our natural advantages to create wealth and jobs for our communities. Embracing the huge potential of renewable energy, and energy efficiency, meets both these objectives. We should aim to generate all our energy needs from renewable sources, and aim to export excess energy. And let us bring communities with us. There is no more than 1.5 MW of community-owned generation in Wales, compared with Scotland, where there is 504 MW of community and locally-owned energy. We need to change the way people think about energy, how they consume it and how we produce it. There are real challenges to overcome, but big gains within our grasp. Where there’s a will there’s a way. We need strong leadership from the Welsh Government and we need to work cross-party to make sure that, within the next five years, we’re not wringing our hands at further missed opportunities. Thank you.

Yn gyntaf, mae angen i mi ddatgan buddiant fel buddsoddwr yn Awel, sef menter gymdeithasol sy’n darparu ynni gwynt ar y tir yn nyffryn Aman. Rwyf am gofnodi mai’r mis diwethaf oedd y mis cyntaf mewn gwirionedd i ni gyflenwi mwy o ynni solar ar draws y DU nag ynni glo, ac felly rydym ar groesffordd yn awr. Mae pob un o’r cwmnïau ynni yn dechrau deffro i’r ffaith fod angen iddynt newid eu modelau, ac maent yn dechrau buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Mae’r cwmnïau olew hefyd yn dechrau buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Rwy’n bryderus iawn na allai Cymru achub ar y cyfle a’i bod yn cael ei gadael ar ôl yn hytrach na sicrhau bod gennym ynni adnewyddadwy mewn dwylo lleol. Yn amlwg, mae ynni’r llanw ar gyfer y bechgyn a’r merched mawr—mae hwnnw’n fuddsoddiad cyfalaf enfawr—ond gallem gael cynlluniau ar gyfer cynhyrchu ynni’n lleol ar draws ein holl gymunedau os gallwn achub y blaen ar hyn. Mae angen i ni gynorthwyo cymunedau lleol i weld hyn fel mantais, ac mae angen i ni hefyd newid ein perthynas â’r grid fel nad yw’r dosbarthwyr ynni’n lladd prosiectau cymunedol lleol drwy fynnu miliynau o bunnoedd i’w cysylltu â’r grid. Mae’n rhaid i ni allu gwerthu’r ynni yn lleol yn hytrach na’i gludo i ffwrdd i’r grid cenedlaethol yn rhywle.

Cytunaf hefyd â Llyr Gruffydd fod yn rhaid i ni edrych eto ar Ran L o’r Rheoliadau tai. Nid oes pwynt adeiladu tai newydd y bydd yn rhaid i ni eu hôl-osod er mwyn sicrhau’r arbedion effeithlonrwydd sydd angen i ni eu gwneud yn ein holl eiddo ar hyn o bryd beth bynnag. Mae angen i ni fachu ar gyfleoedd yn sgil y ffaith fod gan gyrff newydd ddiddordeb gwirioneddol yn hyn ac mae yna farchnad i bopeth y gallai Cymru ei gynhyrchu gyda’r holl adnoddau gwych a niferus sydd gennym.

Rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am gyflwyno’r ddadl fer hon. Fel y dywedoch, dyma’r gyntaf yn y pumed Cynulliad hwn, ac rwy’n credu ei fod yn bwnc pwysig iawn i’w ddewis ar gyfer y ddadl gyntaf.

Mae adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ynni craffach yn gyfraniad pwysig iawn, rwy’n credu, i’r ddadl ar y polisi ynni, ac rwy’n edrych ymlaen at ymateb iddo’n ffurfiol maes o law. Felly, rwyf am sicrhau Llyr a phawb o’r Aelodau na fydd yn cael ei anghofio, oherwydd mae wedi bod yn un o’r pethau cyntaf i mi ei ddarllen, mewn gwirionedd, ers cael y portffolio sy’n cynnwys ynni.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu llawer o weledigaeth y pwyllgor ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir, Llyr—mae’n adeiladol ac mae’n cyflwyno atebion ymarferol iawn, a chredaf fod angen i ni ei ystyried yn ofalus iawn. Rwy’n meddwl bod angen i ni edrych hefyd ar gyhoeddiad diweddar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar yr un pryd. Rwy’n cael cyngor hefyd gan y grwpiau gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn ystod y tymor Cynulliad diwethaf.

Rwy’n credu y dylem oll ymdrechu i greu Cymru lle mae ynni carbon isel yn sbardun allweddol mewn economi fywiog, lle mae’r sector ynni yn parhau i dyfu’n gryf ac yn creu swyddi o ansawdd da, a lle mae cymunedau yn ysgogi’r agenda ynni ac yn elwa’n uniongyrchol o gynhyrchu ynni’n lleol. Mae ynni’n sail i’n holl ffordd o fyw yng nghymdeithas heddiw, ac rwy’n meddwl bod y pwynt a wnaeth Lee Waters ynglŷn â’r angen i fynd â’r gymuned gyda chi—mae’n rhaid i chi eu cael i ddeall eu defnydd o ynni, a sut y gallwn fwrw ymlaen â hynny. Trwy gydol yr ymchwiliad rwy’n meddwl bod y pwyllgor wedi cael llawer iawn o dystiolaeth ar sut y gellid symud ymlaen gyda’r newid i system ynni craffach yng Nghymru, ac unwaith eto, rwy’n credu bod hyn yn gyfraniad gwerthfawr iawn i’r agenda hon.

Diolch i chi am ildio. Clywais yr hyn a ddywedoch o ran cymunedau lleol yn cael manteision o gynlluniau ynni adnewyddadwy lleol. Wrth gwrs, dyna beth y dylent ei gael, a dyna beth rydym am iddynt ei gael, ond cafwyd rhai achlysuron yn fy etholaeth pan na chafodd y manteision cymunedol hynny eu gwireddu, ac mae cwmnïau wedi ceisio peidio â rhoi’r lefel lawn o fanteision y dylent eu cael. Felly, a wnewch chi edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â hynny?

Dof at hynny mewn eiliad. Cefais gyfarfod y bore yma, mewn gwirionedd, gyda Carl Sargeant, sydd bellach yn gyfrifol am dai, wrth gwrs, pan fuom yn trafod yr union fater hwnnw. Ond byddaf yn cyfeirio at hynny yn nes ymlaen.

Rwy’n meddwl bod y system ynni eisoes yn cael ei thrawsnewid, ac mae hyn yn amlwg o’r adroddiad ar gynhyrchu ynni carbon isel a gyhoeddwyd gennym fis Tachwedd diwethaf. Roedd gan Gymru 2,280 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy wedi’i osod ar ddiwedd 2014, ac roedd wedi codi o 1,101 MW yn 2012; cyflawnwyd 14,380 o brosiectau ar draws Cymru, o fferm wynt ar y môr 576 MW Gwynt y Môr i bron 11,000 o araeau ffotofoltaidd solar. Gwyddom fod datblygiadau wedi parhau yn ystod y 18 mis ers hynny, ac rwy’n meddwl bod yna gyfleoedd ar gyfer y dyfodol, ac mae hynny’n cynnwys prosiect £12 biliwn Wylfa Newydd yng ngogledd Cymru ac wrth gwrs, y morlyn llanw ym mae Abertawe.

Mae angen i ni sicrhau bod gennym gymysgedd ynni hyblyg ac amrywiol iawn yma yng Nghymru, ac wrth i ni symud ymlaen tuag at economi carbon isel, mae angen i’n blaenoriaethau ynni gefnogi swyddi a sgiliau carbon isel, gan sicrhau bod datblygiadau ynni o fudd i bobl Cymru a bod y system reoleiddio yn gwarchod eu buddiannau. Ar y cyd ag adroddiad y pwyllgor, rwy’n gweld rôl bwysig a chynyddol i gynhyrchu a chyflenwi’n lleol yn seiliedig ar ffynonellau adnewyddadwy, gyda dulliau storio mwy clyfar a dulliau o reoli’r grid yn lleol, ac unwaith eto, dros y pum mlynedd diwethaf, rwy’n meddwl ein bod bellach wedi sefydlu fframwaith i bolisïau a deddfwriaeth a fydd yn galluogi’r newid hwnnw. Rydym wedi darparu arweinyddiaeth drwy’r set arloesol o ddeddfau sy’n defnyddio’r ysgogiadau sydd gennym. Cynlluniwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i gynyddu lles Cymru drwy sicrhau bod pob un o’n camau gweithredu yn darparu manteision cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol, ac mae’n rhaid i ni barhau i hyrwyddo camau gweithredu ar ynni, gan ddarparu manteision niferus a helpu i gyflawni’r nodau llesiant. Bydd hyn yn golygu symud y targed statudol ar newid hinsawdd a chyllidebu carbon sy’n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei flaen. Bydd gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus lleol rôl bwysig yn trosi targedau’n gamau gweithredu lleol, a bydd cynhyrchu ynni carbon isel ac arbed ynni yn elfennau craidd yn y broses o’u cyrraedd. Yn wir, bydd angen i ynni fod yn ystyriaeth sylfaenol mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Atgoffwyd awdurdodau lleol am y gofyniad hwn i gynllunio’n gadarnhaol ar gyfer ynni adnewyddadwy, a byddwn yn parhau i’w cynorthwyo i wneud hyn.

Mae’r newidiadau i’r cyfundrefnau cydsynio a addawyd drwy Ddeddf Ynni y DU 2016 a Bil Cymru, yn ogystal â gweithredu gweithdrefn ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, yn rhoi cyfle i wneud penderfyniadau am brosiectau ynni adnewyddadwy arwyddocaol er budd pobl Cymru. Rydym wedi cyhoeddi strategaeth arbed ynni a datganiad ar ynni lleol sy’n gosod cyfeiriad clir ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r polisi ynni a rheoleiddio’r farchnad yn faterion sydd wedi’u datganoli, felly rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, gyda gweithredwyr y grid ac Ofgem i sicrhau’r newid yn y rheoliadau ac yn y marchnadoedd sydd ei angen ar Gymru.

Ar gyfer adeiladau newydd, mae gwella perfformiad ynni drwy safonau adeiladu yn bwysig o ran cyflawni ein hamcanion llesiant. Soniais wrth Nick Ramsay fy mod wedi cyfarfod â Carl Sargeant bore yma. Ei bortffolio ef sy’n cynnwys adeiladu tai bellach, a buom yn siarad ynglŷn â’r modd y mae angen i ni adeiladu tai ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhaid i ni godi safonau mewn modd costeffeithiol sy’n cydnabod pwysigrwydd economaidd adeiladu tai yng Nghymru, ac rydym yn mynd i barhau i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau ein bod yn cydbwyso’r angen i leihau’r galw am ynni mewn tai newydd gyda’r angen i ateb y galw am dai. Nid wyf yn meddwl y gallwn barhau i adeiladu yr un math o dai a disgwyl na fydd ynni carbon isel yn rhan ohonynt, oherwydd yn amlwg, wrth i gostau ynni godi, nid y tai rydym wedi bod yn eu hadeiladu fydd yr hyn y bydd pobl eu heisiau yn y dyfodol.

A wnewch chi aros eiliad? Rwy’n credu hefyd fod angen i ni symleiddio cynllunio, a chyfeiriodd Jenny Rathbone a Lee Waters at fanteision ynni cymunedol. A chyfeiriodd rhywun—ni allaf gofio pwy—at dir. Ac unwaith eto, mae gan Lywodraeth Cymru dir ac rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, efallai, i gynnal cynllun peilot i weld pa fath o dai y gallwn eu creu. Fe ildiaf.

Diolch. Ar y model economaidd o berswadio adeiladwyr tai i adeiladu tai o safon uwch, mae gennym her sylweddol yn ein hwynebu o ran archwilio model economaidd gwahanol i ganiatáu i hyn ddigwydd, oherwydd ar hyn o bryd nid yw adeiladwyr tai mawr yn y sector preifat yn mynd i gydymffurfio ag unrhyw beth arloesol sy’n ychwanegu at gost y tai niferus y maent yn eu hadeiladu. Felly, pa ystyriaethau sydd gennych chi a’ch cyd-Weinidogion ar gyfer archwilio ffyrdd gwahanol o gyllido tai?

Dyna’r union beth roeddem yn ei drafod; mae gennym bum datblygwr mawr yng Nghymru na fyddent efallai yn cael eu perswadio i adeiladu’r math o dai rydym yn sôn amdanynt. Felly, yr hyn a wneuthum gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant y bore yma, a swyddogion, oedd siarad ynglŷn â sut y gallwn glustnodi awdurdod lleol o bosibl i ni allu cynnal rhyw fath o gynllun peilot gyda hwy. Byddai llawer o risg ynghlwm wrth hynny—rydym yn derbyn hynny—ond os ydym yn mynd i fod o ddifrif ynglŷn â gwneud hyn, rwy’n meddwl mai dyna’r math o beth sy’n rhaid i ni ei wneud.

I fynd yn ôl at fanteision cymunedol, mae gennyf fferm yn fy etholaeth yn Wrecsam sy’n cynnwys treulydd anaerobig, ac i ddychwelyd at y manteision cymunedol, roedd perchnogion fferm a adeiladodd y treulydd anaerobig yn ei chael yn eithaf anodd ymgysylltu â’r gymuned. Hynny yw, roedd hyn nifer o flynyddoedd yn ôl bellach, ac rwy’n credu ei bod yn llawer haws yn awr, mae’n debyg, wrth symud ymlaen.

Rydym hefyd wedi datblygu pibell sector cyhoeddus ar gyfer arbed ynni, ynni adnewyddadwy a phrosiectau gwres gyda gwerth cyfalaf o dros £400 miliwn. Er mwyn gwireddu’r cyfle hwn, rydym wedi datblygu pecyn cyllid twf gwyrdd buddsoddi i arbed, sydd wedi ymrwymo £13 miliwn o gyllid ad-daladwy ar gyfer prosiectau twf gwyrdd yn y sector cyhoeddus y flwyddyn ariannol hon, gan adeiladu ar fwy na £20 miliwn a ymrwymwyd yn flaenorol. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ailgylchu i mewn i brosiectau pellach wrth iddo gael ei ad-dalu.

Rydym hefyd wedi sefydlu ein gwasanaeth Re:fit Cymru i ddarparu ôl-osodiadau sy’n gwarantu arbedion ynni i gyrff cyhoeddus. Disgwylir i’r rhaglen hon ddarparu £30 miliwn o fesurau arbed ynni ac ynni adnewyddadwy yn ystod y tair blynedd nesaf.

Bydd angen i ni sicrhau bod rhwydweithiau pŵer yn addas ar gyfer y newidiadau rydym yn disgwyl iddynt ddigwydd dros y degawdau nesaf. Mae angen i ni weld mwy o asedau cynhyrchu mewn dwylo lleol, a mwy o fuddsoddi mewn diweddaru’r seilwaith ynni er mwyn ein galluogi i sicrhau cydbwysedd mwy effeithiol rhwng cyflenwad a galw lleol. Ac mae angen i ni fod yn glir iawn ynghylch yr heriau y byddai ynni lleol yn eu creu, gan gynnwys y capasiti a’r adnoddau sydd eu hangen i reoli’r system yn effeithiol, a’r angen am newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae’r diwydiant yn cael ei reoleiddio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd nifer o fanteision i hyn, a bydd yn creu swyddi da ac yn cadw costau i lawr drwy berchnogaeth leol.

Dylai storio ynni fod yn dechnoleg arbennig o werthfawr ar gyfer defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy, yn enwedig mewn ardaloedd o Gymru sydd â chyfyngiadau grid sylweddol, ac mae’n debygol o chwarae rhan gynyddol bwysig yn y system ynni. Mae storio’n rhan o’n dull o arloesi ar lefel leol, ac mae ein rhaglen byw yn glyfar yn cefnogi nifer o brosiectau arloesol a fydd yn darparu dysgu, yn ogystal â’n rhoi ar y map mewn byd sy’n defnyddio ynni’n fwy clyfar.

Mae gwasanaeth ynni lleol Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi prosiectau lleol arloesol. Mae’r gwasanaeth yn helpu cymunedau i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’r dewisiadau ynni cywir ar eu cyfer hwy, yn seiliedig ar eu hanghenion a’r adnoddau sydd ar gael.

Rydym eisoes yn darparu lefel uwch o gymorth grant nag yn yr Alban neu yn Lloegr ar gyfer y camau cynharaf o ddatblygu prosiectau, y camau sy’n cynnwys fwyaf o risg, ac mae ein cronfa benthyciadau cylchdroi yn fwy hyblyg na rhaglen CARES yr Alban. Gall y gronfa ddarparu benthyciadau ar gyfer datblygu a chyfalaf adeiladu, ac ar hyn o bryd mae gennym £4.5 miliwn ar gael ar gyfer buddsoddi.

Os ydym am drawsnewid y ffordd rydym yn meddwl am ynni, rwy’n meddwl ein bod i gyd yn derbyn bod angen i ni weithio gydag ystod o bartneriaid i rannu’r angen am newid, a’r manteision a ddaw ohono. Fel y dywedais ar y dechrau, rwy’n meddwl o ddifrif y bydd adroddiad y pwyllgor yn bwysig i fy nghynorthwyo i a gweddill y Llywodraeth wrth fynd ati i gyflawni’r newid hwn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag ystod eang o bobl, gan gynnwys yr holl Aelodau, ar ddatblygu’r maes polisi pwysig hwn yn fy mhortffolio. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:25.