Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

14/06/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.

1. Datganiad gan y Llywydd

Cyn i ni symud at y cwestiynau i’r Prif Weinidog, ac yn dilyn yr wylnos a gynhaliwyd y tu allan i’r Senedd neithiwr, ar ran y Cynulliad hoffwn fynegi ein cydymdeimlad â’r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y saethu yn Orlando. Rydym yn meddwl heddiw am y rhai sydd wedi’u hanafu a’r teuluoedd a’r ffrindiau hynny sy’n galaru. Fel Cynulliad, rydym yn dyheu am fyd sy’n rhydd o droseddau casineb o’r math yma. Gofynnaf i’r Aelodau sefyll am funud o dawelwch er cof.

Safodd Aelodau’r Cynulliad am funud o dawelwch.

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynlluniau Datblygu Lleol

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol? OAQ(5)0054(FM)[R]

Mae cynlluniau datblygu lleol wedi’u mabwysiadu cyfredol yn rhan hanfodol o system gynllunio effeithiol.

Diolch. Brif Weinidog, mae uniondeb, a ffydd pobl Cymru yn y Cynulliad hwn yn seiliedig ar y gallu i gredu yr hyn a ddywedir yn y Siambr hon. Ym mis Ebrill 2012, dywedasoch yn gyhoeddus y byddai Llafur yn gweithredu ei gynllun datblygu lleol. Roedd cynlluniau Llafur yn cynnwys caniatáu i fusnesau mawr osod concrit ar ddarnau mawr o safleoedd tir glas ac o ganlyniad i hynny cyhoeddais eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i osod concrit yng Nghaerdydd drwy ddweud y byddai eich plaid yn gweithredu ei Chynllun Datblygu Lleol. Dywedasoch yn y Siambr hon ar 24 Ebrill 2012 bod fy nghyhoeddiadau yn gwbl anwir ac yn gelwydd amlwg—eich geiriau chi, nid fy rhai i. Yr wythnos diwethaf—

Yr wythnos diwethaf, dywedasoch na wnaethoch ddweud yr hyn yr ydych eisoes wedi ei ddweud ar y cofnod.

Ydych chi'n meddwl ei bod yn gwbl dderbyniol i Brif Weinidog Cymru ddod yma a gwadu yr hyn yr ydych eisoes wedi'i ddweud? A wnewch chi ddweud y gwir?

Mae’r Aelod yn byw mewn byd ffantasi. Mae wedi bod yn byw yno dros y tair blynedd diwethaf ac ni ofynnodd gwestiwn priodol hyd yn oed.

Diolch, Lywydd. ‘Does gen i ddim syniad beth oedd hynna yn ymwneud ag ef. Nid siambr Cyngor Caerdydd yw hwn—Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw mater y 22 o gynlluniau datblygu lleol ledled de-ddwyrain Cymru, nad ydynt yn cysylltu yn dda iawn, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno Deddf Cynllunio 2015, y llynedd, i ddatrys y materion hynny. Gallai cynllun datblygu strategol de-ddwyrain Cymru gynnwys pob un o'r 10 o awdurdodau lleol, ac mae'n sicr yn wir gyda Rhanbarth Dinas Caerdydd, fod y 10 o arweinwyr yr awdurdodau lleol eisoes yn cymryd rhan ac yn gefnogol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddull o’r fath, ac a yw hefyd yn cytuno y gellir cyflawni hyn dim ond drwy weithio gyda'n gilydd, heb gefnogi gwleidyddiaeth eich plaid eich hun yn unig a bod yn llwythol, fel y mae Neil McEvoy mor benderfynol o’i wneud?

Mae heriau gwirioneddol wrth gwrs ar gyfer ardal gyfan de-ddwyrain Cymru. Ni ellir disgwyl i Gaerdydd ar ei ben ei hun, nac unrhyw awdurdod lleol arall, ddarparu tai ar gyfer y rhanbarth cyfan. Dyna pam mae hi'n gwneud synnwyr perffaith, fel y mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Gaerffili, yn ei ddweud, y dylai'r 10 awdurdod lleol weithio gyda'i gilydd er mwyn cael cynllun strategol sy'n mynd y tu hwnt i'r cynlluniau datblygu lleol, na fyddant fyth, ar eu pennau eu hunain, yn gallu bod yn ddigon i fodloni'r galw y bydd llwyddiant economi de-ddwyrain Cymru yn ei osod ar yr ardal leol.

Diolch. Wel, wrth gwrs, nid yw cynlluniau datblygu lleol yn adeiladu unrhyw dai. O gofio, yn Lloegr, bod cynlluniau lleol a lunnir mewn ymgynghoriad â'r gymuned wedi bod yn gonglfaen i ddiwygiadau cynllunio, sut y bydd eich Llywodraeth yn ymgysylltu â'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ynghylch y datganiad yn ei bapur etholiad Cymru, 'Adeiladu Cymunedau, Hybu Buddsoddi', oherwydd y gwelliannau lawer yn Lloegr, o ran llai o reoleiddio a mwy o dir ar gael, bod yr atyniad cymharol o fuddsoddi yn y tir a sgiliau angenrheidiol yng Nghymru wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf? Mae'r canlyniadau i'w gweld yn y data a gyhoeddwyd ddiweddaraf ar ganiatâd cynllunio, sy'n dangos bod nifer yr unedau preifat a gafodd ganiatâd cynllunio yng Nghymru er dechrau 2013 wedi gostwng gan 4 y cant, ond wedi cynyddu 49 y cant yn Lloegr.

Wel, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n ymddangos i mi fod y cynlluniau a geir yn Lloegr wedi'u llunio i rwystro datblygiadau tai ac nid i annog datblygiadau tai. Yr hyn sydd ei angen, wrth gwrs, yw cynllun datblygu a reoleiddir yn briodol fel bod pobl yn gallu gweld lle y bydd datblygu yn digwydd. Nid wyf yn credu bod cynlluniau datblygu lleol, ar eu pennau eu hunain, yn ddigonol mewn ardal economaidd ehangach, a dyna pam mae cynlluniau strategol, yn fy marn i, yn rymus iawn ac o lawer o gymorth wrth ystyried cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Cloddio Glo Brig

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gloddio glo brig yng Nghymru? OAQ(5)0043(FM)

Mae materion difrifol, fel y bydd hi'n gwybod, wrth gwrs, yn ymwneud â chloddio glo brig ac adfer safleoedd. Gwyddom, yn 1994, na wnaeth Llywodraeth y DU ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr neilltuo digon o arian ar gyfer adfer, ac felly mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb moesol i weithio gyda ni i sicrhau bod safleoedd yn cael eu hadfer.

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddar wedi cymeradwyo gwaith adfer rhannol o ardal glo brig Margam. Ond, wrth gwrs, adfer rhannol yw hwnnw, ac mae llawer o'r trigolion yno yn pryderu am y dyfodol a'r gwagle nad yw’n cael ei adfer, a hefyd, gan ei fod yn nwylo Celtic Energy, i’r gwaith adfer llawn hwnnw gael ei wneud. Roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi ymrwymiad inni yma heddiw, Brif Weinidog, er nad yw hynny'n rhan o'r cynllun, o ran y gwagle, a allech chi geisio dod â phobl at ei gilydd i edrych i adfer hwnnw yn y pen draw, oherwydd rwy’n credu bod pobl yn pryderu, yn enwedig gan fod pobl allweddol yn y cyngor hefyd yn bryderus bellach ynghylch sut y bydd yn cael ei adfer os bydd unrhyw broblemau llifogydd o fewn y gwagle hwnnw.

Wel, rwyf yn cytuno â'r pryder y mae hi’n ei fynegi. Bydd hi'n gwybod bod effaith ar fy etholaeth innau hefyd. Yn 1994, pan ddigwyddodd y preifateiddio, cafodd y cwmnïau hynny a gymerodd drosodd hen safleoedd Glo Prydain eu heithrio'n benodol rhag bod yn ofynnol iddynt roi arian o'r neilltu ar gyfer gwaith adfer, a dyma pam yr ydym ble yr ydym ni heddiw. Rydym yn croesawu adfer rhannol, ond nid yw'n adfer llawn, ac mae'n rhaid cael gwaith adfer llawn mewn amser. O gofio'r ffaith mai Llywodraeth y DU a greodd y broblem hon, nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod ganddynt gyfrifoldeb i weithio gyda ni er mwyn datrys y broblem.

Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ym mhob rhan o’r Siambr yn falch o groesawu gyda mi y ffaith i’r cais glo brig yn y Farteg, yn fy etholaeth i, gael ei dynnu'n ôl. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd y DU, a wahoddais i ymweld â'r safle y llynedd, ac i Cadw, am eu gwrthwynebiadau, a arweiniodd at i'r cais gael ei dynnu'n ôl. Ond, wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf o gymunedau yn gallu dibynnu ar gamau diogelu o ganlyniad i fod mewn Safle Treftadaeth y Byd ac mae angen iddynt ddibynnu arnom ni fel Cynulliad Cenedlaethol a'r camau diogelu yr ydym ni yn eu rhoi iddynt. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd yr adolygiad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2 yn cael ei ddwyn ymlaen fel mater o flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru?

Wel, gallaf sicrhau'r Aelod bod adolygiad â phwyslais o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2 wedi ei gyhoeddi gan y Gweinidog cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar orsafoedd pŵer glo, a bydd yr adolygiad hwnnw, wrth gwrs, yn mynd yn ei flaen, gan ein bod yn gwybod ei bod yn bwysig bod y canllawiau cynllunio mor gyfredol â phosibl.

Brif Weinidog, bydd yr Aelodau'n gwybod bod y cynlluniau adfer rhannol ar gyfer Parc Slip yn eithaf amhoblogaidd, ac ni fyddai neb ohonom am weld yr hanes y tu ôl i hynny’n cael ei ailadrodd. Ond roeddem yn sôn am hyn yn eithaf manwl dros flwyddyn yn ôl bellach. Mae'r awdurdod lleol yn honni’n gryf nad oes dewis arall i'r cynlluniau. Felly, a yw hysbysiad gohirio Llywodraeth Cymru o fis Ebrill eleni—blwyddyn gyfan yn ddiweddarach—yn arwydd o, efallai, achos cyntaf ac efallai bod dewis arall i’r hyn sy'n cael ei awgrymu gan Gastell-nedd Port Talbot, ac, os nad oes, pa derfynau amser statudol sy’n atal Llywodraeth Cymru rhag cynnig yr hysbysiad gohirio hwnnw yn gynharach?

Yr anhawster yn y safle, wrth gwrs, yw bod y safle ar hyn o bryd yn nwylo cwmni nad yw, mewn gwirionedd, yn bodoli. Mae wedi ei gofrestru yn Ynysoedd Virgin Prydain, a phe byddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn ei erbyn, nid oes gennyf unrhyw ffydd y byddai’r sefydliad yn parhau i fodoli, gan adael neb, fel y mae hi’n gwybod, y gellir cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn. Yn fy marn i, mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn cydnabod ei chyfrifoldebau. Ni chrewyd hyn gan Lywodraeth bresennol y DU, ond gan Lywodraeth y DU yn 1994. Nid oes amheuaeth bod y swm o arian yr ydym yn sôn amdano yma, dim ond i adfer un safle yn llawn ym Mharc Slip, yn enfawr. Ni all fod yn rhesymol i ddisgwyl i'r awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru dalu costau llawn y gwaith adfer hwnnw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Rwy’n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog, ac rwy’n galw’n gyntaf yr wythnos hon ar arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd.

The First Minister will know that Welsh farming is in crisis at the minute. Farm incomes across the board are down by 25 per cent and, in some sectors, like dairy, they’re down by as much as half. Of course, this is caused, to a great extent, by a collapse in commodity prices, but there are administrative reasons also behind it, in particular the chaos in the payments system and the basic payment scheme. There’s a particular problem for cross-border farmers with land in England as well as in Wales, where hundreds of them have still not been paid, and, indeed, the information they provided a year ago has still not been validated and yet they’re—[Interruption.]

Yr wyf yn awyddus i glywed cwestiwn pwysig ar ffermio. Gadewch i'r Aelod gael ei glywed.

Felly, rwy’n mynd i ofyn i'r Prif Weinidog: pa gynnydd pellach sydd wedi ei wneud, yn enwedig o ran yr asiantaeth taliadau yn Lloegr, i ddatrys y problemau hyn?

Mae'r mwyafrif helaeth o’r taliadau yng Nghymru wedi eu gwneud—dros 90 y cant, os cofiaf yn iawn. Mae, fel y dywed yr Aelod, rai ffermydd trawsffiniol sy'n aros am daliad, a hynny oherwydd ein bod yn aros am ddata. Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd, ond rydym yn aros am ddata gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig. Hyd nes bod y data hwnnw ar gael, nid yw'n bosibl gwneud taliad llawn, yn anffodus. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys yn gyflym.

Rwy’n cytuno’n llwyr â'r hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud, ond mae'n gwbl anhygoel na all dwy asiantaeth y Llywodraeth ddod o hyd i fodd o siarad â'i gilydd yn electronig er bod hyn yn digwydd yn eithaf naturiol yn y sector preifat ac, yn wir, yn ein bywydau preifat. Felly, tybed beth y gall ef ei wneud i geisio integreiddio'r trefniadau gweinyddol rhwng Cymru a Lloegr yn hyn o beth, gan fod ffermwyr ar y ffin mewn trafferthion ariannol enbyd iawn.

Wel, nid yw'r ateb yn ein dwylo ni. Rydym ni’n aros am ddata gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig. Rydym yn barod i dalu pan fydd y data hwnnw ar gael. Mae'n anodd iawn integreiddio'r gwaith gweinyddu o ystyried y ffaith bod y cynlluniau talu yn sylweddol wahanol, ac felly y dylai fod oherwydd bod natur ffermio yng Nghymru yn wahanol iawn i natur ffermio ar draws rhan helaeth o Loegr. Ond, cyn gynted ag y bydd y data hwnnw ar gael, byddwn wrth gwrs yn talu ein ffermwyr ac mae gennym hanes da iawn o wneud hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae problem fawr arall y mae angen mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, sef twf TB buchol. Yn wir, yn fy rhanbarth i, yn Sir Gaerfyrddin, mae achosion o wartheg a laddwyd o ganlyniad i TB buchol wedi cynyddu gan 87 y cant eleni ac yn Sir Benfro maent wedi cynyddu gan 78 y cant. Gan nad oes brechlyn ar gael, nid yw'r dewis a ffefrir ar gael i ni. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud mewn gwirionedd i geisio ymdopi â'r broblem gynyddol o TB buchol?

Mae’r Aelod yn gywir i nodi nad yw'r brechlyn ar gael ar hyn o bryd. Gwn fod y Gweinidog wedi cynnal cyfarfod yr wythnos hon—neu yn sicr ddiwedd wythnos diwethaf—i edrych ar y mater hwn. Mae angen symud ymlaen gyda’r gwaith o fynd i’r afael â TB buchol. Ni ellir ei adael i barhau. Mae'r Gweinidog yn edrych ar ba ddull gwyddonol a allai gael ei weithredu er mwyn gwneud yn siŵr bod gostyngiad ym mhresenoldeb TB buchol o leiaf ac, ymhen amser, wrth gwrs, ei ddileu.

Diolch, Lywydd. Rwy'n siŵr, Brif Weinidog, y byddwch wedi rhannu'r teimladau cynnes a deimlais i wrth weld lluniau o gefnogwyr Cymru yn Ffrainc yn canu ac yn cysylltu breichiau â chyd gefnogwyr. Roeddynt yn genhadon dros ein gwlad. Roeddwn i'n meddwl bod y delweddau hynny’n cyfleu rhywbeth am naturioldeb ein lle fel Cymru o fewn Ewrop, canu gyda phobl o Slofacia—pobl o genedl fach arall, dwyieithog ac yn y blaen. Wrth i ni nesáu at wythnos olaf yr ymgyrch—a bydd teuluoedd yn ymgasglu y penwythnos hwn i benderfynu ar y dewisiadau gorau ar eu cyfer nhw—mae gwybodaeth dda yn hanfodol er mwyn galluogi pobl i wneud dewis llwyr wybodus. Yr hyn y gallwch chi a'ch Llywodraeth ei wneud yn yr wythnos olaf yw gwneud yn siŵr bod pobl yn pleidleisio ar sail gwybodaeth gywir ac nid ar sail camsyniad a phropaganda?

Ni allwn anfon gwybodaeth allan fel Llywodraeth—mae hynny wedi ei gynnwys yn y cyfyngiadau yn ystod y cyfnod cyn etholiad—ond wrth gwrs, fel gwleidyddion, gallwn gyflwyno ein hachos. Byddaf yn cyflwyno yr achos, fel y gwn y bydd hithau hefyd, dros yr ychydig ddyddiau nesaf, ei bod yn well i Gymru fod yn y DU a'r UE—wel, efallai nid y DU yn ei hachos hi, ond yr UE. [Chwerthin.] Yr UE.

Rydym yn cytuno, Brif Weinidog, ar ein hundod o fewn Ewrop, a gadewch i ni ei gadael hi felly am y tro. Ni, yng Nghymru, yw’r wlad gyda'r ffigyrau allforio dwysaf yn y DU. Mae taliadau'r fantolen fasnach yn dangos gwarged o ran nwyddau gyda'r UE, ac nid yw hynny'n wir ar gyfer y DU. Bydd ansicrwydd, felly, yn effeithio mwy ar fusnesau Cymru ac economi Cymru. Byddwn yn cael ein heffeithio yn anghymesur yma. Rwy'n awyddus i ddeall pa gynlluniau wrth gefn sydd gan eich Llywodraeth os ceir pleidlais i adael yr UE yr wythnos nesaf. A allwch chi amlinellu pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i liniaru’r effeithiau gwaethaf ar economi Cymru a busnesau Cymru, yn enwedig busnesau sy’n allforio, pe byddai pleidlais i adael yr UE?

Mae'n anodd iawn llunio cynllun wrth gefn pan fo cymaint o ansicrwydd. Does neb yn gwybod beth fyddai'n digwydd pe byddai pleidlais i ‘adael’. Sylwais ar y ffaith fod Nigel Farage ei hun wedi dweud yr wythnos diwethaf nad oedd ots os oedd cytundeb masnach o gwbl yn bodoli â'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n drychinebus i'n ffermwyr ac i’n hallforwyr. I mi, rwyf wedi gweld y ddwy ymgyrch, ac yn y pen draw mae'n dod i hyn: pam y byddem ni’n rhoi rhwystr diangen y byddai'n rhaid i ni neidio drosto o’n blaenau o ran denu buddsoddiad i Gymru? Mae'n fantais enfawr i gael mynediad am ddim i farchnad enfawr, yr UE. Un rhan o ddeg o'r farchnad honno yw'r DU. Gallwn fynd i’r farchnad honno. Mae colli’r gallu i fynd i’r farchnad honno neu beryglu’r farchnad honno yn rhoi mur arall o'n blaenau wrth geisio denu buddsoddiad ac wrth allforio. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw ei gwneud yn anoddach i allforio yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu yng Nghymru, ac yn anoddach denu buddsoddiad i Gymru.

Rwyf yn rhannu eich pryderon, Brif Weinidog, ac rwyf yn credu bod angen i ni feddwl yn ofalus iawn am yr hyn a fyddai’n digwydd pe byddai pleidlais i adael yr wythnos nesaf. Nawr, gwnaeth y cyn Prif Weinidogion Blair a Major fwrw i mewn i'r ddadl gan ddweud mai un arall o'r canlyniadau tebygol o bleidlais i adael fyddai chwalu’r DU. Nawr, rwyf yn derbyn bod gan ein pleidiau ddwy farn wahanol iawn am hynny, ond rwyf yn siwr ein bod yn cytuno ein bod am atal sefyllfa lle mae Cymru ar drugaredd Llywodraeth Dorïaidd yn gyfan gwbl, nad ydym erioed, erioed yn y wlad hon, wedi pleidleisio drosti. Pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych chi ar gyfer Cymru os byddwn yn canfod ein hunain yn rhan o Deyrnas Unedig weddilliol lle y byddwn mewn perygl o wynebu Llywodraeth Dorïaidd, neu Lywodraeth hyd yn oed fwy asgell dde na'r un bresennol, ar sail barhaol? Pa gynlluniau sydd gennych chi i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau gorau Cymru yn y sefyllfa honno?

Unwaith eto, mae'n amhosibl rhagweld beth allai ddigwydd pe byddai pleidlais i adael. Mae canlyniadau difrifol i Ogledd Iwerddon—rhan o'r byd yr wyf yn gyfarwydd iawn, iawn â hi. Mae'r broses heddwch yn seiliedig ar aelodaeth o'r UE ac mae'n anodd rhagweld beth fyddai’n digwydd i'r broses heddwch. Mae'r ffin yn agored gyda thraffordd drosti, a’r ffin honno fyddai’r ffin rhwng y DU a'r UE. Byddai angen rheoli’r ffin a rheoli tollau, felly mae'n golygu cau traffordd, a chau'r rhan fwyaf o'r ffyrdd, fel y digwyddodd yn nyddiau’r Helyntion. Mae hynny'n hynod o anodd i bobl sy'n byw ar yr ynys honno.

Mae'n anodd gwybod beth fyddai barn pobl yr Alban, ond mae angen cynnal ailasesiad llawn o’r berthynas rhwng gwledydd y DU o leiaf—ac mae hyn yn wir beth bynnag fydd y canlyniad yr wythnos nesaf, ac rwyf wedi dweud hyn o’r blaen. Nid yw'r cyfansoddiad presennol yn gweithio. Nid yw'r cysyniad o sofraniaeth seneddol yn gweithio, yn fy marn i—rwyf wedi dweud hynny o'r blaen. Rwy'n credu bod angen i ni symud tuag at system o sofraniaeth a rennir. Mae'n digwydd yng Nghanada, ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai ddigwydd yma. Ond nid oes unrhyw amheuaeth, os ceir pleidlais i 'adael' yr wythnos nesaf, na fydd y DU yn gallu parhau fel o'r blaen. Nid yw hynny’n bosibl o gwbl os yw'n dymuno aros yn sefydlog.

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf mewn ymateb i fy nghwestiynau ar y fargen y gwnaethoch ei tharo gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, dywedasoch y byddai eich Llywodraeth yn sicrhau bod £42 miliwn ychwanegol ar gael i fodloni yr ymrwymiad hwnnw yn ychwanegol at yr ymrwymiad ym maniffesto Llafur o £100 miliwn i addysg. Aethoch ymlaen hefyd wedyn i ddweud, pe byddai gennych y cyfrifoldeb am dollau Pont Hafren, y byddech yn dileu tollau Pont Hafren, a byddai hynny ynddo'i hun yn achosi rhwymedigaeth o rhwng £15 a £20 miliwn i’ch Llywodraeth chi. Rydych chi'n bersonol wedi rhoi llawer o gyfalaf gwleidyddol i mewn i'r dewis drutaf ar gyfer ffordd liniaru'r M4, y llwybr du, sy'n unrhyw beth o £1 biliwn i £1.2 biliwn. Pa goeden arian y mae Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd iddi ym Mharc Cathays sy'n rhoi ffydd i chi eich bod yn mynd i ddod o hyd i’r holl arian newydd hwn yn sydyn i gyflawni'r ymrwymiadau hyn yr ydych yn eu gwneud yn ystod wythnosau agoriadol y pumed Cynulliad hwn?

Felly, mae ef yn erbyn mwy o wariant ar addysg; y mae yn erbyn diddymu tollau Pont Hafren; mae yn erbyn ffordd liniaru'r M4. Mae'r tri pheth hyn yn bethau yr oedd ef, mae'n debyg, o’u plaid yr wythnos diwethaf. Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli’r tollau. Byddem yn disgwyl y byddai setliad ariannol teg i adlewyrchu hynny, er mwyn i ni allu cael gwared ar y dreth hon ar bobl sy'n dod i mewn i Gymru. Dyna'r hyn yr ydym ni yn sefyll drosto fel Llywodraeth. Nid yw'n glir beth yw safbwynt ei blaid ef bellach.

Brif Weinidog, nid yw'n afresymol gofyn y cwestiwn: beth fydd yn rhaid ei ildio yn eich ymrwymiadau gwario i gyflawni eich ymrwymiadau newydd? Rwyf wedi nodi £42 miliwn yr ydych wedi ei ymrwymo iddo yr wythnos diwethaf; rhwymedigaeth posibl o £15 miliwn i £20 miliwn os ydych yn cael gwared ar dollau Pont Hafren ar ddiwedd y consesiwn cyhoeddus—y consesiynau i ddefnyddwyr presennol Pont Hafren; a, hefyd, os ydych yn adeiladu’r llwybr du, y rhwymedigaeth o £1 biliwn i £1.2 biliwn y bydd yn rhaid i chi fel Llywodraeth ei ariannu. Nawr, nid wyf yn credu bod hynny'n afresymol. Mae pobl yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin yn gofyn yr union gwestiynau hynny. Os bydd y prosiectau cyfalaf mawr yn ne-ddwyrain Cymru yn cael eu cymeradwyo, beth fydd yn rhaid ei ildio yn eu hardaloedd eu hunain? Felly, rwyf yn gofyn y cwestiwn i chi eto—ac nid yw hynny’n afresymol o’n sefyllfa ni o fod yn wrthblaid: ble ydych chi'n mynd i ddod o hyd i’r arian hwn i dalu am yr ymrwymiadau hynny yr ydych wedi'u datgan, oherwydd dim ond swm penodol o arian sydd ar gael i chi ? A wnewch chi ateb cwestiwn syml?

Ei fenthyg. Dyna'r holl bwynt. Bydd yr arian ar gyfer ffordd liniaru'r M4, sut bynnag y bydd hynny'n edrych, yn cael ei fenthyg. Pwynt hynny yw gwneud yn siŵr ein bod (a) yn gallu ei wneud, oherwydd ni fyddem yn gallu adeiladu ffordd liniaru i'r M4 ar unrhyw ffurf pe na byddem yn benthyg yr arian; ac, yn ail, drwy fenthyg yr arian, nid yw'n tynnu oddi ar y gyllideb ffyrdd. Felly, mae'n golygu bod cynlluniau ffyrdd mewn mannau eraill yn cael eu diogelu yng Nghymru, gallant symud ymlaen, ac mae hynny ar y sail na fyddai ffordd liniaru'r M4 yn cymryd darn o’r gyllideb ffyrdd. Felly, mae'n bosibl gwneud y ddau—fel y mae'r Prif Weinidog ei hun wedi ei ddweud.

Fel Ceidwadwr, rwyf yn deall yn llwyr y gallwch fenthyg, ond mae'n rhaid i chi ad-dalu benthyciadau ac mae cost i hynny ynddo'i hun, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond, fe wnes i hefyd eich holi am yr ymrwymiad a wnaethoch i addysg, ac rydym yn croesawu hynny. Gwnes sylw hefyd am y £15 miliwn i £20 miliwn y byddai'n rhaid i chi ei dalu pe byddech chi'n dileu tollau Pont Hafren, sydd, unwaith eto, mewn rhai mannau, yn cael ei gefnogi. Felly, sut y byddwch chi'n talu am y rhwymedigaethau hynny? Mae'r rheini'n gwestiynau gwbl ddilys. Fel cyfanswm, mae hynny'n £60 miliwn ychwanegol y bydd yn rhaid i chi ddod o hyd iddo allan o grant bloc Cymru. Bydd yn rhaid ildio rhai ymrwymiadau. Hefyd, o ran y llwybr du, mae cost ymlaen llaw na ellir benthyg yn ei herbyn a bydd yn rhaid i chi dalu am hynny allan o wariant o ddydd i ddydd. O'n sefyllfa ni o fod yn wrthblaid, ein gwaith ni yw gofyn y cwestiynau hyn i chi a byddwn yn gobeithio y byddai gennych chi fel Llywodraeth yr atebion y byddem eu hangen i fodloni ein hetholwyr. Neu, a ydych chi ond yn llunio atebion wrth i’r cwestiynau godi?

Na. Eisteddais yma—neu sefais yma, mewn gwirionedd—yn y Siambr cyn yr etholiad, yn gwrando ar arweinydd yr wrthblaid, fel yr oedd bryd hynny, yn dweud y byddent yn gwneud ymrwymiadau gwario ym mhob maes, heb wybod o ble y byddai’r arian hwnnw yn dod. Mae'n gwestiwn dilys ac mae dau ateb iddo. Yn gyntaf oll, ie, bydd yn rhaid inni edrych ar rai o'n hymrwymiadau gwario cyfredol—nid ein hymrwymiadau yn y maniffesto—a bydd hynny’n digwydd yn ystod proses y gyllideb, oherwydd bydd yn rhaid i'r arian ddod o rywle, mae hynny'n wir. Ond, yn ail, er y byddwn yn gweld toriadau mewn termau real yn y grant bloc a gawn, bydd cynnydd yn y swm o arian sydd ar gael. Felly, bydd arian ychwanegol, hyd yn oed os nad yw'n ddigon ar gyfer chwyddiant. Felly, bydd, bydd penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i ni eu gwneud yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, ond rydym yn hyderus y gallwn ddod o hyd i’r arian a bydd hynny’n dod yn amlwg yn ystod proses y gyllideb.

Aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd

3. Beth oedd y prif fanteision i Gymru yn ystod y pedwerydd Cynulliad o fod yn aelod o’r UE? OAQ(5)0055(FM)

5. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o bwysigrwydd aelodaeth Cymru o’r Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0040(FM)[W]

Diolch. Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 3 a 5 i gael eu grwpio. Mae’r manteision i Gymru o fod yn aelod o'r UE yn eang ac yn hanfodol i'n ffyniant. Rydym yn gwybod bod arian yr UE, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi cefnogi buddsoddiadau sylweddol yn yr economi a'r farchnad lafur yng Nghymru.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae gwyddonwyr a phrifysgolion yng Nghymru wedi mynegi’n gryf pa mor bwysig yw aros yn yr UE. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Prifysgol Caerdydd yn unig wedi derbyn cyllid Horizon 2020 ar gyfer 49 o brosiectau gwerth £16.9 miliwn, a bod yr arian hwn yn galluogi'r brifysgol i feithrin perthynas waith gydag arbenigwyr blaenllaw ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd ac i ddatblygu ymchwil arloesol pwysig iawn, megis profi brechlynnau arloesol ar gyfer diabetes math 1, dulliau o buro dŵr gyda phŵer yr haul ac ymchwilio i sut y mae'r ymennydd yn gweithio? A ydym ni eisiau taflu’r holl gyfleoedd hyn i ffwrdd?

Na, nid ydym eisiau gwneud hynny. Nid yw addysg uwch yn gweithredu ar fodel Prydain fach, ond ar fodel y byd. Mae'n bwysig bod cymaint o arian â phosibl ar gael a chymaint o bŵer ymennydd academaidd ag y bo modd ar gael. Wrth gwrs rydym hefyd yn gweld, er enghraifft, ym Mhrifysgol Abertawe, bod y campws newydd wedi ei adeiladu yn rhannol gyda chymorth arian Ewropeaidd. Nid torri ein hunain i ffwrdd o’r brif ffrwd yw'r ffordd o ddatblygu gwyddoniaeth yn y DU.

Fel y mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol, os bydd y wladwriaeth Brydeinig yn aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mi fydd yn dal llywyddiaeth cyngor yr undeb am chwe mis y flwyddyn nesaf. Byddai hynny’n gyfle euraidd i ddechrau’r broses o adnewyddu Ewrop a chreu partneriaeth sy’n gweithio yn well dros ein dinasyddion ni. A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno i sicrhau bod y llywyddiaeth yna yn un sydd ar y cyd rhwng Llywodraethau gwahanol Prydain, gyda Chymru’n chwarae rhan allweddol, a hyd yn oed ystyried cynnal uwch-gynhadledd Ewropeaidd yma?

Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn dal i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ar ôl wythnos nesaf. Mae’n bwysig dros ben i fod yn bositif ynglŷn â beth mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ei weithredu, sef, wrth gwrs, y ffaith bod democratiaeth wedi dod i wledydd dwyrain Ewrop; sef y ffaith bod arian wedi mynd i ardaloedd o Ewrop lle yr oedd eisiau’r arian hynny; sef, wrth gwrs, fod buddsoddiad wedi dod i sawl rhan o Ewrop na fyddai wedi gweld yr un lefel o fuddsoddiad o’r blaen. Byddai’n beth hynod o od petasai’r Deyrnas Unedig yn cymryd llywyddiaeth yr undeb ar y ffordd mas o’r undeb. Ac mae’n bwysig, wrth gwrs, ar ôl y refferendwm ddydd Iau nesaf, i sicrhau bod y neges bositif yna yn cael ei phregethu ar draws nid dim ond Cymru, ond Ewrop.

Brif Weinidog, efallai eich bod wedi gweld darllediad 'gadael' yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud y byddai cyfraniadau UE Prydain yn cael eu gwario ar y GIG pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd wedi clywed eu bod yn mynd i gael eu gwario ar warantu cymorth rhanbarthol i Gymru, maent hefyd yn gwarantu taliadau i ffermwyr, ac yn awr, o ryfeddod, o ryfeddod arian hud, mae'n mynd i warchod y symiau sydd yn mynd i brifysgolion Cymru. A ydych chi’n cytuno â mi mai ffordd well o gadw pob un o'r cyfraniadau gwerthfawr hyn i'n heconomi yw pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau nesaf?

Mae’r Aelod yn cyfleu hyn yn dda, ac ni allwn i wella ar hynny, ond mae’n iawn i ddweud bod gennym sicrwydd nawr; ni fydd gennym unrhyw sicrwydd os ydym yn dewis gadael ddydd Iau nesaf. Mae'n naid oddi ar ymyl y clogwyn. Nodais heddiw bod—. Gwelais lythyr wedi'i lofnodi gan wahanol rai o'r meinciau cefn a Gweinidogion o Lundain, yn dweud y byddai cyllid yn cael ei warantu, ond nid oes ganddynt unrhyw bŵer o’r fath—dim pŵer o’r fath—i gynnig y warant honno. O leiaf gyda'r adduned cyn y refferendwm yn yr Alban, roedd gan y rhai a'i llofnododd y pŵer i gyflawni hynny; nid oes gan y rhai a lofnododd y llythyr hwn ddim mwy o bŵer i gyflawni hynny na chath anwes fy mhlant.

O gofio mai un o fanteision mawr y Blaid Lafur o fod yn perthyn i'r Undeb Ewropeaidd yw'r ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr, yr honnir ei bod yn deillio o Frwsel, efallai y byddai'r Prif Weinidog yn dymuno rhoi sylwadau ar hawliau’r gweithwyr hynny a arferai gael eu cyflogi yn ffatri Bosch sy'n ffinio ar ei etholaeth, ac efallai y gallai adlewyrchu ar y ffaith mai arian Prydeinig, a ddefnyddiwyd mewn cymorth rhanbarthol, a adeiladodd y ffatri newydd sbon yn Hwngari mewn gwirionedd, a gostiodd iddynt eu swyddi, ynghyd, wrth gwrs, â’u holl hawliau gweithwyr.

Wel, y broblem gyda Bosch oedd bod—. Mae'n iawn i ddweud bod y ffatri wedi symud i Hwngari. Daeth y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn gweithio yno o hyd i swyddi mewn mannau eraill, mewn gwirionedd, yn gyflym iawn. Mae Renishaw erbyn hyn, wrth gwrs, yw perchennog y safle ac mae Renishaw yn datblygu'n gyflym iawn, iawn. Ond, mae angen i ni fod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd ein bod yn llwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad o wledydd eraill. Felly, mae'n gweithio y ddwy ffordd. Ac oes, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y rhai sydd wedi dioddef fwyaf o globaleiddio yn cael eu diogelu. Mae hynny wedi bod yn wendid, mae'n rhaid i mi ddweud, gan nad yw globaleiddio wedi bod yn fudd digamsyniol i lawer o weithwyr. Beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl dydd Iau, mae'n rhaid trechu'r syniad bod yn rhaid i ni fyw mewn cyfnod o gyni am byth a bod yn rhaid i ni fyw mewn cyfnod lle mae hawliau gweithwyr yn gyson yn cael eu lleihau, oherwydd ni fydd y bobl sy'n gweithio yng Nghymru a Phrydain yn derbyn hynny. Ond, bydd ef a minnau mewn sefyllfa wahanol o ran sut y byddwn yn datrys hynny. Nid wyf i’n ystyried mai gadael yr UE a’n rhoi ni yn nwylo'r rhai a lofnododd y llythyr hwnnw, sydd yn farchnatwyr rhydd anystywallt, nad ydynt yn poeni dim am hawliau gweithwyr, yw’r ffordd ymlaen mewn gwirionedd. Ond, mae’r dyddiau pan y gallem ddweud wrth bobl bod, 'Globaleiddio yn gyfan gwbl yn beth da' wedi mynd, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, ledled Ewrop, bod hawliau pobl yn cael eu diogelu, bod hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu, a bod pobl yn teimlo bod llywodraethau wirioneddol ar eu hochr nhw, ac mae llawer o Lywodraethau wedi colli eu ffordd yn hynny o beth.

Siaradodd yr Aelod blaenorol am un busnes; hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod 770 o fusnesau wedi eu creu ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, diolch i arian yr UE, gan gyflogi pobl leol a chyfrannu at yr economi leol. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi bod ein haelodaeth barhaus o'r UE a'r gefnogaeth y mae'n ei darparu yn hanfodol er mwyn cyfrannu at amgylchedd lle y gall busnesau yng Nghymru ffynnu?

Ydw, rwy’n cytuno. Rwyf yn meddwl bod yn rhaid i ni gofio bod yr arian Ewropeaidd yr ydym wedi ei weld yn dod i mewn i Gymru yn arian na chafodd ei ddarparu gan Lywodraethau Prydain olynol yn y 1980au a'r 1990au; ni ddaeth i Gymru. Mae hwn yn arian ychwanegol nad oedd y Torïaid yn y 1980au a'r 1990au yn fodlon ei ddarparu i Gymru. Mae gennym sefyllfa o hyd lle nad yw fformiwla Barnett wedi cael sylw priodol. O leiaf gallwn ddibynnu ar y cyllid Ewropeaidd hwnnw. Beth fyddai'n digwydd pe na fyddai yno? Byddai'r arian hwnnw yn y pen draw yn ôl yn fformiwla Barnett neu yn cael ei gadw yn Llundain, ac ni fyddai rhanbarthau o Loegr, yn ogystal â Chymru a'r Alban, yn gweld yr arian hwnnw; byddai'n cael ei gadw yn Whitehall. Nid wyf yn credu’r ddadl hon bod yr arian hwn rywsut yn arian a fyddai'n dod i Gymru; rwy'n credu y byddai’r arian hwn, os yw'n bodoli o gwbl—wyddoch chi, mae’r Aelod David Melding wedi gwneud y pwynt hwn—yn eistedd yn Whitehall ac ni fyddem yn gweld pob ceiniog yr ydym yn ei chael ar hyn o bryd, ac mae hynny'n beryglus i bobl Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach nad oedd eisiau gweld allforwyr yn wynebu rhwystrau uchel diangen, ac, wrth nodi’r heriau i'r diwydiant dur, mae wedi pwysleisio ei farn bod y bunt wedi bod yn rhy uchel. A fyddai felly'n croesawu lefel mwy cystadleuol ar gyfer y bunt, gan gynnwys yn erbyn yr ewro?

Wel, mae'n dibynnu beth yr ydych chi’n ei olygu wrth 'cystadleuol'. Os yw'n mynd i ddisgyn yn helaeth, byddai hynny, fel y gŵyr yn dda iawn, yn ysgogi chwyddiant, oherwydd ein bod yn mewnforio cymaint. Yn fwy na dim arall, yr hyn sydd ei angen ar y diwydiant dur yw marchnad, ac, os nad yw'n gallu mynd i mewn i'r farchnad Ewropeaidd neu unrhyw farchnad arall yn y byd heb i dariff cael ei osod, yna nid oes gan y diwydiant dur ddyfodol. Nid yw'r DU yn ddigon mawr i ysgogi’r galw ar gyfer diwydiant dur y DU. Ac, yn fy marn i, yr hyn sy'n fy mhoeni i yn fwy na dim arall yw nad wyf yn credu bod yna gynllun ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd os byddwn yn gadael. Mae Nigel Farage ei hun wedi dweud nad oes ots pa un a oes cytundeb masnach ai peidio. Mae hynny'n gwbl drychinebus i economi'r DU. Rydym yn allforio—[Torri ar draws.] Wel, rydym yn allforio hanner yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu. Rydym yn allforio ei hanner i'r UE: mae hanner ein hallforion yn mynd yno. Yn dod y ffordd arall, 7 y cant ydyw; dyna'r gwahaniaeth. Gall fod yn ffigwr uwch yn ariannol, ond fel canran rydym yn allforio llawer mwy nag sy’n dod yn ôl i mewn. A’r hyn sy'n fy mhoeni i yw y bydd ein marchnad allforio yn cael ei pheryglu, bydd cig oen Cymru yn cael ei daro gan ergyd ddwbl lle y byddai'n costio mwy i werthu cig oen o Gymru ar y cyfandir, ac eto rwyf yn clywed eich plaid chi yn dweud eich bod eisiau cytundeb masnach gyda Seland Newydd sy’n golygu y bydd llwythi o gig oen o Seland Newydd yn dod i mewn i Gymru yn rhad. Felly, mae rhai canlyniadau yma nad ydynt wedi eu hystyried yn ofalus. Byddai'n well, yn fy marn i, na fyddai gennym y rhwystrau i allforio y byddai gadael y DU yn eu hachosi. Byddai’n well peidio â chael hynny, ac yn well i gael sefyllfa lle, ydym, yr ydym yn gallu allforio yn rhydd ac rydym yn gallu cael gafael ar y cronfeydd arian hynny. Ni fyddwn yn cael y cronfeydd arian hynny ac ni fyddwn yn cael y mynediad gwarantedig hwnnw os byddwn yn gadael.

Datblygu Busnes

4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu busnes yng Nghymru? OAQ(5)0051(FM)

Fel Llywodraeth sydd o blaid busnes rydym yn cyflawni amrywiaeth o gamau i helpu busnesau newydd a phresennol i ddatblygu, tyfu a ffynnu.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac, fel yr ydych wedi tynnu sylw ato, nid oes dianc rhag y ffaith y bydd canlyniad y refferendwm yr wythnos nesaf yn cael effaith enfawr ar fusnesau Cymru—os ydych chi ond yn ystyried Twf Swyddi Cymru yn unig, rhaglen Llywodraeth Llafur Cymru, sydd, gyda chymorth ariannol yr UE, wedi galluogi cyflogwyr bach i gyflogi un neu ddau o bobl ac wedi helpu i gefnogi mwy na 15,000 o bobl ifanc i mewn i waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig. Rwy'n siŵr y byddwch wedi gweld llythyr ddoe a lofnodwyd gan 10 o brif unigolion busnes Cymru, gan gynnwys Laura Tenison, sylfaenydd JoJo Maman Bébé, a ddechreuodd ei busnes yn Nhorfaen, yn dadlau dros yr achos i Brydain aros yn yr UE . Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi a’r unigolion busnes arweiniol hynny yng Nghymru bod busnesau yng Nghymru yn gryfach, yn fwy diogel ac yn well eu byd yn yr Undeb Ewropeaidd?

Gwnaf. Fel yr wyf yn ei ddweud, mae hanner yr hyn yr ydym yn ei allforio yn mynd i'r UE—ei hanner. Mae’n beryglus i chi ymyrryd â'r farchnad honno. Mae llawer o'n cyflogwyr mwyaf—Ford, er enghraifft, yn fy etholaeth fy hun—yn rhan o weithrediad Ewropeaidd. Dyna pam y mae mynd i’r farchnad Ewropeaidd yn gwbl hanfodol ar eu cyfer; dyna pam y maent yn y DU. Does dim cymhelliant iddynt aros yn y DU os na allant fynd i’r farchnad Ewropeaidd. Nid oes cymhelliant i fuddsoddwyr ddod i mewn i'r DU, oherwydd bod ei marchnad yn rhy fach, os nad ydynt yn gallu mynd i’r farchnad Ewropeaidd. Rydym yn gwybod ein bod yn gallu allforio yn rhydd ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod ein ffermwyr—a'n ffermwyr cig oen yn arbennig, sydd yn gwbl ddibynnol ar allforio i'r UE—yn gallu gwneud hynny. Ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dweud, 'Rydym yn wlad gadarnhaol, hyderus, nid oes angen i ni i guddio y tu ôl i waliau, nid oes angen i ni roi ein pennau yn y tywod.' Ac arwydd o’r hyder hwnnw yw bod yn rhan o rywbeth mwy, gan sicrhau ffyniant i bawb.

Un o nodau’r Llywodraeth o ran datblygu busnes ydy cynyddu’r lefel o gaffael gan fusnesau Cymreig ac mae’n nod, wrth gwrs, y mae Plaid Cymru yn cytuno gydag e. Os felly, pam mae Busnes Cymru wedi torri’r nifer o gynghorwyr tendro roedden nhw’n eu hariannu i lawr o ryw 12 i 14 ychydig o flynyddoedd yn ôl i ddau neu dri nawr, a pha effaith y mae’r Prif Weinidog yn meddwl y bydd hynny’n ei chael ar allu busnesau Cymreig i ennill cytundebau yn y sector cyhoeddus fan hyn yng Nghymru?

Wel, y peth i ni, wrth gwrs, yw sicrhau bod yna fanc datblygu yn cael ei sefydlu, a defnyddio strwythur hynny er mwyn cryfhau’r cynghori sydd ar gael i fusnesau. Mae’n hen broblem, wrth gwrs, ynglŷn â chael mynediad i gaffael ac i gyfalaf. Rŷm ni, wrth gwrs, wedi gweithio’n galed gyda busnesau er mwyn sicrhau bod yna fwy a mwy o fusnesau o Gymru yn gallu cael cytundebau, yn enwedig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rŷm ni’n gweld bod y nifer hwnnw wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Wrth gwrs, mae yna sawl cynllun mewn lle er mwyn cryfhau’r sefyllfa ymhellach eto.

Prif Weinidog, lansiwyd Effaith Dyffryn Hafren bron i ddwy flynedd yn ôl, yn cwmpasu ardal dyffryn Hafren. Dylwn hefyd ddatgan buddiant gan fod gennyf ran yn y prosiect. Nawr, mae'r prosiect wedi helpu mwy na 75 o bobl i ddechrau neu i dyfu eu busnesau yn fy etholaeth i. Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac mae i fod i ddod i ben ym mis Awst, ac mae arian ychwanegol yn cael ei geisio i sicrhau dyfodol y gwasanaeth hwn. A wnewch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru i ystyried sut y gall llwyddiant y prosiect hwn gael ei ddefnyddio fel glasbrint i gefnogi mentrau mewn cymunedau eraill mewn rhannau eraill o Gymru, ac a gaf i hefyd ofyn i chi ystyried ymuno â mi i ymweld â phobl sydd wedi elwa ar y prosiect hwn y tro nesaf y byddwch chi yn Sir Drefaldwyn?

Pe byddai'r Aelod yn ysgrifennu ataf gyda'r gwahoddiad byddaf wrth gwrs yn ei ystyried. Mae'n cyflwyno achos cryf dros y cynllun y mae wedi'i grybwyll. Rydym bob amser yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar gynlluniau sydd wedi gweithio'n effeithiol ledled Cymru gyfan er mwyn gweld sut y gellir eu cyflwyno yng ngweddill y wlad.

Blaenoriaethau ar gyfer y GIG

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG? OAQ(5)0045(FM)

Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Un o'r ymrwymiadau a roesoch yn ystod cyfnod yr etholiad oedd y byddech, o fewn 100 diwrnod, yn ymgynghori ar y cwestiwn o ba un a ddylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei rannu'n ddau neu fwy o sefydliadau iechyd. A ydych chi wedi rhoi’r gorau i’r ymrwymiad hwnnw neu a ydym ni’n mynd i weld cynnig yn cael ei gyflwyno gan eich Llywodraeth newydd?

Nid ydym wedi rhoi'r gorau i'r ymrwymiad i ymgynghori â phobl ar strwythur y gwasanaeth iechyd yn y gogledd ar gyfer y dyfodol, na; mae’r ymrwymiad hwnnw yn parhau i fod mewn grym.

Ymhlith blaenoriaethau Plaid Cymru yn y Cynulliad yma bydd gwthio am fesurau gwirioneddol i daclo recriwtio o fewn y gwasanaeth iechyd, fel sy’n cael ei adlewyrchu, wrth gwrs, yn y cytundeb ar ôl yr etholiad. Ond a wnaiff y Prif Weinidog gydnabod, ynghyd â mi, yn y cyfamser, y cyfraniad sy’n cael ei wneud gan weithwyr iechyd proffesiynol o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd i ddelio â’r problemau recriwtio sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, a’r bygythiad i hynny gan yr ymgyrch i adael yr Undeb?

Mae’r Aelod yn iawn i ddweud taw marchnad fyd-eang yw meddyginiaeth a nyrsio; mae pobl yn teithio ar draws y byd gyda’r cymwysterau sydd gyda nhw, ac, wrth gwrs, mae yna sawl doctor a nyrs sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy’n dod o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd neu o’r tu fas i’r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft y nyrsys yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont sy’n dod o’r Philippines, lot fawr ohonyn nhw. Heb y bobl hynny, ni fyddai gwasanaeth iechyd gyda ni yng Nghymru nac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae’n bwysig dros ben nad oes yna rwystr yn cael ei rhoi o’u blaenau nhw fel eu bod nhw’n ffaelu dod i Gymru nac i weddill y Deyrnas Unedig, achos y cleifion fydd yn dioddef o achos hynny.

Brif Weinidog, rwyf wedi derbyn llythyr oddi wrth un o fy etholwyr sy'n weithiwr iechyd sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG am 19 mlynedd. Mae'n mynegi ei bryderon am Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae’n dweud bod y gwasanaeth yn methu oherwydd diffyg cyfeiriad strategol ac mae'n mynd ymlaen i ddweud bod effaith hyn yn golygu bod y straen yn ormod i unigolion bellach a’u bod yn camu o'r neilltu neu'n chwilio am ymddeoliad cynnar. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ddatrys y sefyllfa hon ac i ddarparu'r gwasanaeth iechyd y mae pobl y gogledd yn ei haeddu?

Rwy'n credu y byddai sylwadau'r Aelod wedi bod yn deg ar un adeg; nid wyf yn credu eu bod yn deg nawr. Yn amlwg, fe roesom Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Rydym yn gwybod bod problemau—

Rwyf yn derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Nid wyf yn credu bod y sylwadau'n gywir bellach. Rhoesom Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol—amseroedd ambiwlans, er enghraifft, yn un peth—o ran darparu gwasanaethau yn yr ardal. Ac mae hynny’n briodol oherwydd roedd yn eithaf amlwg i ni ar y pryd nad oedd y bwrdd iechyd lleol yn cyflawni fel y dylai—yn sicr nid oedd yn cyfathrebu â phobl fel y dylai. Mae'r sefyllfa bellach, yn fy marn i, wedi gwella'n sylweddol. Ond, serch hynny, mae'n bwysig ystyried sylwadau y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn achub ar bob cyfle i wella.

Pwerau Rheoleiddio Cynghorau Lleol

7. A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi canllawiau i gynghorau lleol i weithredu’n gyfrannol wrth arfer eu pwerau rheoleiddio? OAQ(5)0056(FM)

Mae’r canllawiau hynny yn bodoli eisoes. Mae cod y rheoleiddwyr yn nodi arferion da yn y modd y dylid gweithredu swyddogaethau rheoleiddio, ac mae awdurdodau lleol yn cael eu hannog i weithredu o fewn y cod.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond a yw'n ymwybodol o'r problemau y mae tafarn yr Union yn Nhremadog yn eu hwynebu yn y gogledd yn fy rhanbarth i lle, ar ôl bod ar gau am sawl mis o ganlyniad i lifogydd, yn ystod penwythnos gŵyl y banc , penderfynodd y dafarnwraig, oherwydd ei bod yn heulog, y byddai’n rhoi byrddau a chadeiriau allan ar gyfer yfwyr i yfed y tu allan, ac roedd hyn yn llwyddiannus iawn. Yn anffodus, daeth surbwch o gyngor sir Gwynedd yno a dweud wrthi i gael gwared ar y byrddau oherwydd, yn dechnegol, eu bod ar briffordd. Mewn gwirionedd, maes parcio ydyw fel arfer. Mae hon yn enghraifft wych o'r math o gamau gweithredu llawdrwm y gall awdurdodau lleol eu cymryd sy'n atal busnesau ac sy’n atal pobl rhag creu cyfoeth.

Nid oeddwn i’n ymwybodol. Rwy'n gwybod ble Mae'r Union yn Nhremadog. [Chwerthin.] Rwy'n gwybod yn iawn ble mae tafarn yr Union, ond mae'n rhaid i mi ddweud ei fod wedi fy nal yn y fan yna o ran y manylion. Byddaf yn ysgrifennu ato, wrth gwrs. Mae'n codi mater sy'n bwysig i dafarn yr Union, rwyf yn deall hynny—neu yn wir i unrhyw dafarn, ac mae tafarndai wedi wynebu anhawster ers blynyddoedd lawer oherwydd bod arferion yn newid. Fe wnaf ymchwilio i'r sefyllfa, ac fe wnaf, wrth gwrs, roi ateb llawn i'r Aelod.

Brif Weinidog, mae gwasanaethau rheoleiddio, wrth gwrs, yn wasanaeth pwysig iawn ac yn faes allweddol werthfawr o lywodraeth leol—iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, diogelwch bwyd, diogelu'r cyhoedd, darpariaethau tai rheoleiddiol, i enwi dim ond rhai. Ond mae llawer o'r ddeddfwriaeth newydd a basiwyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad, mewn gwirionedd, wedi rhoi hyd yn oed mwy o rwymedigaethau ar ein hadrannau a dim ond 1 y cant o wariant cynghorau ar gyfartaledd sy’n cael ei wario ar y gwasanaethau hyn ledled Cymru bob blwyddyn. Sut y byddwch chi’n gweithio gyda'r Aelod Cabinet newydd—yr Ysgrifennydd dros lywodraeth leol, Mark Drakeford, yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at ei gysgodi dros dymor y Cynulliad hwn—? Sut byddwch chi’n gweithio gydag ef i sicrhau bod ein hadrannau rheoleiddio yn cael cyllid priodol a digonol er mwyn cadw ein hetholwyr ledled Cymru yn wirioneddol ddiogel?

Ni fydd yn syndod i'r Aelod pan ddywedaf y byddaf yn gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ac, wrth gwrs, byddwn yn ceisio darparu llywodraeth leol gyda lefel briodol o gyllid, gan gofio lefel y cyllid yr ydym ni ein hunain yn ei gael gan Lywodraeth y DU.

Siaradwyr Cymraeg

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chynllun y Llywodraeth i gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru? OAQ(5)0046(FM)[W]

Mae sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yn parhau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau, wrth gwrs, i weithredu’r blaenoriaethau a nodir yn ‘Bwrw Mlaen’, gyda ffocws ar gynyddu defnydd o’r iaith gan bobl, ynglŷn â sicrhau ein bod yn gwella cynllunio a datblygu’r seilwaith drwy dechnoleg a safonau a chynyddu addysg Gymraeg.

Diolch. Rwy’n falch o glywed hynny, ond roedd eich maniffesto chi yn gosod targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050—rwy’n siŵr eich bod chi’n cytuno â hynny, ac mae hynny’n wych o beth, ac rwy’n eich longyfarch chi am osod y ffasiwn darged, sy’n golygu, 34 mlynedd o rŵan y bydd gennym ni ddwbl nifer y bobl sydd gennym ni ar hyn o bryd yn siarad Cymraeg, ond sut ydych chi’n mynd i symud ymlaen i wneud hynny, beth ydy’r camau gweithredol, ac ar beth yn union fyddwch chi’n canolbwyntio, a beth ydy’r amserlen ar gyfer y gweithredu? A fyddech chi’n cytuno â mi ei bod hi’n ymddangos i’r cyhoedd nad yw’r uchelgais gwleidyddol yno, o gofio eich bod chi, rŵan, wedi symud y Gymraeg allan o’r Cabinet? Mae yna Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg; nid wyf yn amau dim am ei ymroddiad o a’i arddeliad o ynglŷn â’r Gymraeg, ond nid yw, yn ganolog, yn rhan o’r Cabinet erbyn hyn, felly mae rhywun yn amheus o’r uchelgais yma erbyn hyn. A ydych chi’n cytuno efo fi ynglŷn â hynny a sut ydych chi’n mynd i symud pethau ymlaen? Sut ydych chi’n mynd i fy argyhoeddi i bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth yma?

Mae’r Gymraeg yn flaenoriaeth i fi, wrth gwrs, fel rhywun sy’n dod o deulu sy’n hollol Gymraeg ei iaith a rhywun sydd â phlant mewn ysgol Gymraeg. Felly, mae hynny’n rhywbeth sydd yn ffynnu ar draws Llywodraeth, er bod yna Weinidog, wrth gwrs, sydd â chyfrifoldeb unigol dros yr iaith. Fe fydd yna ddatganiad cyflawn yn ystod wythnos yr Eisteddfod ynglŷn â’r manylion am ba ffordd rŷm ni’n mynd i symud ymlaen. Ond, wrth gwrs, mae sicrhau bod mwy o addysg Gymraeg ar gael yn bwysig dros ben. Mewn rhai mannau o Gymru, mae’n anodd i fynd i ysgolion Cymraeg, yn enwedig ysgolion cyfun Cymraeg, sydd, efallai, yn bell o ble mae pobl yn byw. Mae’n rhaid i hynny newid dros y blynyddoedd a dyna pam, wrth gwrs, mae cynlluniau gan awdurdodau lleol i sicrhau bod hynny’n digwydd—ac, wrth gwrs, i sicrhau bod canolfan genedlaethol newydd sydd yn mynd i helpu ffynnu Cymraeg i oedolion yn gweithredu’n effeithiol yn y pen draw. Ond fe fydd yna ddatganiad cyflawn yn ystod mis Awst.

A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddymuno’n dda i ganolfan iaith Tŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe yn fy etholaeth i, sydd newydd lansio gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru? A yw’n cytuno bod rôl sylfaenol i ganolfannau iaith i ddatblygu’r galw yn ein cymunedau am wasanaethau cyhoeddus a busnes wedi’u darparu trwy’r Gymraeg?

Rwy’n croesawu’n fawr iawn agoriad y ganolfan ei hun—rydym wedi buddsoddi yn y ganolfan. Mae cwm Tawe yn ardal sydd wedi mynd o ardal a oedd yn ardal mwyafrif Cymraeg i ardal lle mae’r Gymraeg yn tueddu i gael ei siarad nawr ar ben y cwm—mewn 30 o flynyddoedd, byddwn i’n dweud, sy’n gwymp sylweddol. Mae’n bwysig dros ben, felly, ein bod yn gallu sicrhau bod yna fywoliaeth i’r Gymraeg islaw Ystalyfera tuag at Ynysmeudwy a Phontardawe, i lawr i Glydach ac ymhellach, er mwyn sicrhau bod yr etifeddiaeth Gymraeg yn yr ardal yn cael ei hailfywhau.

Brif Weinidog, yn ôl yr arolwg defnydd iaith 2013-15, a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth ddiwethaf chi, dangoswyd mai dim ond rhyw 50 y cant o bobl yn sir Benfro, a ofynnwyd, a oedd yn credu bod busnesau’n gefnogol o’r iaith Gymraeg. Yn sgil y ffigwr yma, beth mae’ch Llywodraeth newydd chi’n bwriadu ei wneud i sicrhau bod busnesau’n cael mwy o gefnogaeth er mwyn hybu’r iaith Gymraeg?

Mae yna brosiect peilot wedi cymryd lle yn nyffryn Teifi er mwyn sicrhau bod busnesau’n gweld nad yw’n anodd dros ben i sicrhau bod yna wasanaeth Cymraeg ar gael, a hefyd i weld bod hwn yn rhywbeth sydd o les iddyn nhw’n fasnachol, er mwyn eu bod yn gallu gweithredu gwasanaeth i bobl sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg a phobl sy’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yna wasanaeth ar gael. Felly, byddwn ni’n ystyried canlyniadau’r prosiect hynny i weld ym mha ffordd y gallwn sicrhau bod busnesau’n gweld ei bod yn fantais masnachol iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg yn eu busnesau nhw.

Cymorth Gofal Plant

9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithredu cymorth gofal plant ar gyfer rhieni yng Nghymru sy'n gweithio? OAQ(5)0050(FM)

Rydym yn ymrwymedig i gynnig 30 awr o ofal plant am ddim i blant tair a phedair blwydd oed i rieni sy'n gweithio am 48 wythnos y flwyddyn, y cynnig mwyaf hael yn y DU. Bydd cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwyf yn croesawu eich ymrwymiad i rieni sy'n gweithio. Gwn fod hwn yn fater pwysig i'm hetholwyr; mae wedi ei godi gyda mi dro ar ôl tro mewn gohebiaeth ac mewn sgyrsiau hefyd. Er ei bod yn wych ein bod yn cynnig y cymorth gofal plant mwyaf uchelgeisiol yn y DU, mae'n bwysig ei fod yn gweithio'n dda ac yn cyd-fynd â bywydau rhieni sy'n gweithio heddiw. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd cymorth gofal plant yn hyblyg ac y bydd y modd o’i ddarparu yn ystyried ac yn diwallu anghenion rhieni sy'n gweithio?

Dyna yn union y mae'n rhaid iddo ei wneud. Un peth y mae'n rhaid i mi ei ddweud yw nad oes bwriad i ddisodli darparwyr gofal plant presennol yn hyn. Yr hyn y bydd y cynllun yn ei wneud yw eu helpu, mewn gwirionedd, oherwydd bydd yn golygu y byddant yn cael mwy o incwm nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd, ac, mewn sawl rhan o Gymru, nid yw darpariaeth gofal plant yn bodoli, felly bydd yn helpu i ysgogi darpariaeth gofal plant mewn sawl rhan o Gymru hefyd. Rydym yn gwybod, i lawer o rieni, pan fydd eu plant yn dair a phedair blwydd oed, dyna'r adeg y mae pobl yn ystyried mynd yn ôl i'r gwaith a dyna'r adeg pan mae'n anoddaf a drutaf i gael gafael ar ofal plant, a dyna pam, wrth gwrs, y gwnaethom ni yr addewid hwn.

Mae creu’r ddarpariaeth yr ydych chi wedi cyfeirio ati i deuluoedd sy’n gweithio yn rhywbeth i’w groesawu, ond fe fyddwch chi’n ymwybodol iawn, wrth gwrs, y byddai’n ddymunol i ehangu’r ddarpariaeth i bob teulu, oherwydd mi fyddai hynny yn creu cyfle wedyn i rieni sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd, efallai, i fynd yn ôl i’r gweithle, fel y mae nifer ohonyn nhw am ei wneud. Felly, pa ystyriaeth rydych am ei roi i estyn y ddarpariaeth honno yn y pen draw?

Fe ofynnon ni i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru edrych ar hwn i weld beth fyddai’r ffordd orau o wneud hyn: ei wneud yn eang, neu ei dargedu at rieni sy’n gweithio. Fe ddywedon nhw, yn ôl eu tystiolaeth nhw, mai’r ffordd fwyaf effeithiol fyddai targedau’r rheini sy’n gweithio, o achos y ffaith bod gan y rhai sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd rwydweithiau anffurfiol sy’n eu helpu gyda phlant. Y peth rydym am ei sicrhau yw ein bod yn gallu hybu pobl yn ôl i mewn i’r gwaith, felly, wrth gwrs, maen nhw’n cael gofal plant am ddim. Dyna beth yw’r egwyddor y tu ôl i’r cynllun fel y mae e.

Brif Weinidog, yn Lloegr, wrth gwrs, mae eisoes hawl i werth 15 awr o ofal plant bob wythnos o’i gymharu â’r hawl i ddim ond 10 awr yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod rhai awdurdodau lleol yn darparu mwy na hynny ar hyn o bryd, ond yn sicr nid yw’n rhywbeth sy'n cyrraedd pob rhan o Gymru. O gofio bod eisoes cytundeb eilradd, fel petai, i rieni yma yng Nghymru, a gaf i ofyn i chi am amserlen glir iawn o ran erbyn pryd yr ydych yn disgwyl gallu newid i’r 30 awr hyn? A gawn ni weld naid ar unwaith i'r 15 awr fel bod gennym, o leiaf, sefyllfa gyffelyb rhwng Cymru a Lloegr?

Gwelais yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan ei blaid ef yn yr etholiad. Nid oeddwn yn ei ddeall oherwydd nad oedd yn glir. Roeddem yn hollol glir o ran yr hyn yr oeddem ni yn ei gynnig i rieni sy'n gweithio, ac adlewyrchwyd hynny yng nghanlyniadau gwahanol y partïon, byddwn yn dadlau. Byddwn yn cyflwyno hyn fel yr hyn a oedd y prif addewid o'n pum addewid cyntaf cyn gynted ag y gallwn.

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Bu nifer o newidiadau i'r datganiad busnes ar gyfer busnes yr wythnos hon, Lywydd. Mae busnes heddiw, erbyn hyn, hefyd yn cynnwys datganiadau llafar am wneud cynnydd ar ein llwyddiant ailgylchu ar gyfer economi gylchol, prentisiaethau yng Nghymru, wythnos wirfoddoli ac adroddiad ar weithgor y Gymraeg a llywodraeth leol. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ad-drefnu dadleuon prynhawn yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i’w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar yr ymgynghoriad 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddaeth i ben ychydig cyn y diddymu? Mae'r ddogfen yn ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd meddwl pwysig, ond y cynigion ynglŷn â gwlad sy’n ystyrlon o ddementia yr wyf yn dymuno canolbwyntio arnynt. Ar ôl arwain y ddadl fer ym mis Ionawr yn galw am strategaeth genedlaethol, gynhwysfawr i Gymru ar gyfer dementia, sydd wedi ei hadnoddu’n llawn, ymatebais i'r ymgynghoriad gan adleisio’r nodau a’r camau gweithredu y credaf sydd yn hanfodol: hyfforddiant ar ddementia, gweithwyr cymorth, ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, i enwi ond ychydig. O gofio bod yr ymgynghoriad hwn wedi cau erbyn hyn a bod Llywodraeth a Gweinidog newydd ar waith, byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad i roi diweddariad ar y cynnydd hyd yn hyn, gan nodi blaenoriaethau ac amserlenni wrth symud ymlaen.

Credaf fod Lynne Neagle wedi codi'r materion hyn yn gyson ac wedi chwarae rhan lawn o ran ymateb i'r ymgynghoriad, gan ei ystyried yng nghyd-destun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', y cynllun cyflenwi. Wrth gwrs, fel y dywedwch, mae’r ymgynghoriad ffurfiol wedi cau bellach. Felly, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu cynllun gweithredu strategol newydd i Gymru ar gyfer dementia, gan weithio'n agos â rhanddeiliaid allweddol. Bydd fersiwn derfynol y cynllun cyflenwi hwnnw yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.

Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Hoffwn i godi dau fater gyda chi, a gobeithio y bydd modd i’r Llywodraeth ymateb mewn datganiad i’r materion hyn.

Yn gyntaf oll, wrth gwrs, rydym heddiw yn nodi’r gyflafan a fu yn Orlando gyda munud o dawelwch yn y Siambr hon, ac roedd yn briodol, hefyd, gweld bod baneri’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ar eu hanner ddoe a heddiw, a baner enfys yn eu plith, wrth gwrs. A fedrwn ni, felly, gael datganiad pellach gan y Llywodraeth parthed ei pholisi cyhwfan baneri? Fe gofiwch, efallai, imi godi hwn ddiwethaf gyda chi adeg y bu Llywodraeth Cymru yn cyhwfan baneri ar eu hanner i nodi marwolaeth Brenin Saudi Arabia, digwyddiad a oedd i mi yn dwyn sarhad a sen ar bobl Cymru. Addawyd gan y Prif Weinidog bryd hynny y byddai adolygiad o’r polisi yn dilyn ac yn hytrach na dilyn yn slafaidd gyngor y weinyddiaeth dramor, y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu ei pholisi ei hun. Beth, felly, yw canlyniad yr adolygiad hwnnw? A gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog i esbonio’r canllawiau sy’n cael eu defnyddio bellach gan y Llywodraeth i benderfynu pryd i arddangos eu lliwiau, yn llythrennol?

Yr ail gwestiwn yr hoffwn ei godi gyda chi yw bod y Cynulliad hwn, wrth gwrs, ag enw arloesol ym maes deddfu a seneddu, os caf i fathu term, yn y ddwy iaith, a’r Llywodraeth yn dilyn. Roedd yn siom, felly, imi weld bod Chris Grayling, arweinydd y Tŷ arall, wedi gwrthod galwadau ar gyfer gwneud defnydd o’r Gymraeg yn uwch-bwyllgor Cymreig y lle hwnnw—galwadau a oedd wedi cael eu harwain, i fod yn deg, gan Chris Bryant. Mae modd defnyddio’r Gymraeg yn y pwyllgor hwnnw os yw’n cyfarfod yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod hynny achos rwyf i wedi ei wneud e fy hunan yng Nghwmbrân rai blynyddoedd yn ôl, ac mae’n hen bryd i ganiatáu’r un peth pan fo’r pwyllgor yn cyfarfod yn Nhŷ’r Cyffredin ei hunan. A oes modd, felly, i chi, fel y prif reolydd busnes yn y Cynulliad yma, arwain y ffordd i gynnig cymorth ymarferol i Dŷ’r Cyffredin i ddod dros y rhagdybiaethau sydd ganddynt yno yn erbyn defnyddio’r Gymraeg, cynnig cyngor gan y Llywodraeth i gyflawni hynny ac adrodd nôl yn y ffordd briodol i’r lle hwn?

Diolch yn fawr, Simon Thomas. Yn sicr, o ran eich pwynt cyntaf, credaf fod gwerth mewn treulio eiliad i gydnabod y trychineb a'r gyflafan yn Orlando a'r ffaith ein bod wedi dwyn ynghyd llawer o bobl ddoe y tu allan i'r Senedd—aelodau a chefnogwyr y gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, pobl o wahanol grefyddau, gan uno Cymru â chenhedloedd eraill i ddangos cryfder ac undod i bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr ymosodiad trasig a hynod drist yn Orlando. Wrth gwrs, roeddem yn gallu cael y munud o dawelwch hwnnw, yn briodol iawn, ar ddechrau'r sesiwn hon heddiw. Fel y dywedasoch, mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn adolygu'r polisi hwnnw, ac rwy'n sicr yn hapus i ddilyn yr un trywydd. Roedd yn dda iawn gweld y faner enfys gyda'r ddraig goch, a chydnabyddiaeth o hynny yn y ffordd y gwnaethom ni fel Cynulliad gyd-dynnu i ddangos ein cefnogaeth. Credaf y gwerthfawrogwyd hynnny yn fawr iawn neithiwr. Ond byddwn hefyd yn dweud, wrth gwrs, bod hyn yn ymwneud â sut mae Llywodraeth Cymru, y Cynulliad a Stonewall Cymru yn gweithio mor agos â'i gilydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol.

Rwyf eisiau dweud, ynglŷn â’ch ail bwynt, fy mod innau hefyd yn siomedig iawn. Byddaf yn sicr yn hapus, nid yn unig i fynd at Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, ond hefyd i weithio gydag arweinydd yr wrthblaid, Chris Bryant, ar y mater hwn. Unwaith eto, nid yn unig y mae’n peri siom, mae'n amharchus hefyd o ran yr Uwch Bwyllgor Cymreig, nid yn unig o ran yr hawliadau a’r hawliau hynny, ond hefyd o ran y parch tuag at y ffordd yr ydym ninnau yma, wrth gwrs, yn cydweithio gyda'n dwy iaith.

Arweinydd y tŷ, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig gyflwyno datganiad yn egluro dull newydd Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â TB buchol. Fel y dywedwyd eisoes yn y Siambr hon heddiw, mae ystadegau swyddogol y Llywodraeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos y bu cynnydd enfawr o 78 y cant o un flwyddyn i’r llall yn nifer y gwartheg a laddwyd yn Sir Benfro o ganlyniad i TB buchol. Nawr, yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf, dywedasoch, mewn ymateb i'r Aelod dros Ogledd Cymru, mai mater i Ysgrifennydd y Cabinet fydd hwn o ran un o'i hystyriaethau cynnar o’r sefyllfa. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi atal y rhaglen frechu, mae'n eithaf amlwg nad oes gan y Llywodraeth bolisi cyfredol i ddileu TB buchol. O dan yr amgylchiadau, a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gyflwyno datganiad ar y mater hwn cyn gynted ag y bo modd, fel y gall ffermwyr Cymru ddeall yn union sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â TB buchol mewn gwirionedd?

Paul Davies, rwyf i’n hapus iawn i ailadrodd, rwy'n siŵr, yr un geiriau a ddefnyddiais yr wythnos diwethaf o ran cwestiynau ynglŷn â’r datganiad busnes: mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni’r dull hwnnw ar sail gwyddoniaeth o ddileu TB buchol. Mae ein rhaglen gynhwysfawr i ddileu TB—sef ein polisi, dan arweiniad Llywodraeth Cymru—yn cynnwys profi gwartheg yn flynyddol, mesurau bioddiogelwch llym a rheolaethau symud. Nod y dull hwn, wrth gwrs, yw mynd i'r afael â holl darddiadau'r haint. Rwyf unwaith eto yn ailadrodd yr ystadegau hynny: rhwng mis Mai 2011 a mis Tachwedd 2015—dyna’r cyfnod diweddaraf y mae gennym ganlyniadau ar ei gyfer—gwelwyd gostyngiad o 19 y cant yn y duedd mewn achosion newydd o TB yng Nghymru. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y mater o gyflenwi’r brechlyn BCG yn cael ei ddatrys yn y tymor byr. Wrth gwrs, pan fydd ar gael, byddwn yn penderfynu ar y ffordd ymlaen o ran brechu yng Nghymru, ac yn parhau i weithredu'r polisïau. Daeth Gorchymyn TB newydd i rym ar 1 Ebrill, gan newid y ffordd o ddigolledu ffermwyr ar gyfer gwartheg a laddwyd oherwydd TB, a nod y newidiadau hynny yw lleihau'r risg o ledaenu’r clefyd drwy annog arfer gorau, ac mae hynny’n dilyn ymgynghoriad llawn â'r diwydiant. Wrth gwrs, mae'n fater o drafod â'r gymuned ffermio, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'n hymrwymiad o ran ein dull cadarnhaol yn ein rhaglen i ddileu TB.

Hoffwn ddiolch i Weinidog Busnes y Llywodraeth am ei datganiad. Mae gennym bum datganiad heddiw—pedwar ohonynt sydd newydd eu cyhoeddi. Roeddwn i’n meddwl tybed a yw nifer y datganiadau yn adlewyrchu'r ffaith ein bod wedi cael toriad, bod Gweinidogion wedi eu penodi yn ddiweddar ac efallai ei bod yn ymgynefino yn dilyn yr etholiad, a bod mwy o ddatganiadau nag y byddai rhywun fel arfer yn eu disgwyl, neu a wnaed penderfyniad penodol, gyda'r ddeddf hunanymwadiad ar ddeddfwriaeth ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf, rwy’n credu, i ddefnyddio’r cyfle i ddefnyddio amser y Llywodraeth i gyflwyno datganiadau ar ystod ehangach o faterion nag a fyddai'n arferol, efallai?

Mark Reckless, rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu'r ffaith bod datganiadau llafar gan nifer o Ysgrifenyddion y Cabinet heddiw. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a’n Hysgrifenyddion y Cabinet yn cael y cyfle i roi diweddariad i'r Cynulliad. Wrth gwrs, mae cwestiynau ynglŷn â fy natganiad o’r Pwyllgor Busnes bob amser yn codi materion eraill yr wyf yn gwybod yr hoffech i Ysgrifenyddion y Cabinet wneud datganiadau arnynt, ac, wrth gwrs, byddant yn ymddangos maes o law. Mae hwn yn gyfle, ac rwy'n siŵr y bydd y datganiad y prynhawn yma yn cael ei graffu yn drylwyr ar draws y Siambr.

Mae angen sylweddol yng Nghymru am dai o ansawdd da, yn enwedig yn Nwyrain Abertawe. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog sydd â thai yn rhan o'i bortffolio ar sut mae’n bwriadu cynyddu nifer y tai cymdeithasol a chydweithredol sydd ar gael, gan gynnwys cymorth i gynghorau fel Abertawe i adeiladu tai cyngor newydd?

Wel, gwn fod y Gweinidog, gyda chyfrifoldebau blaenorol am dai mewn portffolios blaenorol, yn ymrwymedig iawn, iawn i ddatblygu buddsoddiad, nid yn unig mewn tai cymdeithasol, ond hefyd yn y ffyrdd mwy arloesol o ddarparu tai cymdeithasol drwy'r dull cydweithredol. Wrth gwrs, bu cynlluniau arbrofol a dreialwyd gan y cyn Weinidog â’r cyfrifoldeb hwn, sef Lesley Griffiths, o ran tai cydweithredol fel un llwybr at ffyrdd y gallwn ddarparu’r tai fforddiadwy hynny, gyda ffyrdd newydd o allu eu rheoli hefyd.

Galwaf am ddatganiad unigol ar gymorth i gyn-filwyr lluoedd arfog Cymru, yn dilyn yr adroddiad 'Galw i Gof: Cymru', a gyhoeddwyd ar ddechrau'r mis hwn, a ddangosodd fod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru. Rhan fechan iawn yn unig o'r 10,000 o gyn-filwyr yr amcangyfrifir sydd yn byw â salwch meddwl o ryw fath yng Nghymru, sy’n cael eu hatgyfeirio i GIG Cymru. Comisiynwyd yr adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Forces in Mind, ond yr oedd yn seiliedig ar gyfweliadau â chyn-filwyr a'u teuluoedd a phobl sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol ac annibynnol. Roedd yr adroddiad yn galw am fwy o allu gan GIG Cymru i ymdrin â chyn-filwyr; cynyddu data i lywio, comisiynu a darparu gwasanaethau; gwneud mwy i gefnogi teuluoedd a gofalwyr; ac amlygodd y gwaith sydd ei angen i symud ymlaen ac i nodi'r angen am gyfranogi, cydgysylltu a gweithredu gyda phobl yn y lluoedd arfog, sy’n gwasanaethu ac/neu’n trosglwyddo i fywyd fel sifiliaid, ac yn cynnig y dylid rhoi ystyriaeth i anghenion iechyd meddwl ac anghenion iechyd cysylltiedig cyn-filwyr ac aelodau o'r teulu yn y ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf, megis y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Felly, a gaf i alw am ddatganiad? Mae angen datganiad arnom sy’n rhoi manylion am gynigion Llywodraeth Cymru a chynigion y Gweinidog iechyd newydd i wneud asesu anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr Cymru, a darparu ar eu cyfer, yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth Cymru hon.

Bydd y Llywodraeth Cymru hon yn falch iawn o ddarparu’r datganiad hwnnw, Mark Isherwood. Wrth gwrs, fel y dywedwch, er bod hyn dan arweiniad y Gweinidog cymunedau a phlant, bydd hefyd yn cynnwys Gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog iechyd, ac mae'n rhoi cyfle priodol i mi ymateb heddiw, wrth ateb y cwestiwn hwnnw ar y busnes datganiad, y byddwn ni’n llunio datganiad, fel y gwnaethoch alw amdano.

Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am bwynt o arfer ynghylch cyhoeddi datganiadau i wrthbleidiau cyn iddynt gael eu darllen yn y Siambr hon. Gwerthfawrogaf y cwrteisi yn hyn o beth, ac mae'n bwysig, yn fy marn i, y dylai trafodaeth a chraffu fod yn ddeallus, er mwyn i’r trafod a’r craffu hwnnw fod ar ei orau. Heddiw, derbyniais gopïau o'r datganiadau hyn am 13:20, felly ni roddodd hynny unrhyw amser o gwbl i'w darllen cyn dod yma i'r Siambr. Rwy’n sylweddoli nad yw datganiadau heddiw yn ddadleuol iawn, ond daw amser pan fyddant yn ddadleuol, pan fyddai angen ychydig o waith ymchwil er mwyn ymateb iddynt yn briodol. Felly, rwy'n gofyn a wnaiff arweinydd y tŷ sicrhau heddiw, y bydd Llywodraeth Cymru, yn y dyfodol, yn rhoi rhybudd priodol o ddatganiadau i wrthbleidiau, er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer y drafodaeth.

Wel, rwy'n hapus iawn i ddarparu eglurhad i arweinydd UKIP, Neil Hamilton, o sut yr ydym yn llwyddo i wneud hyn, sut yr ydym wedi llwyddo i wneud hyn yn y Senedd hon, ac i gynnig pob cwrteisi i chi, fel y gwnaf i bob rheolwr busnes. Mae copïau caled o'n datganiadau llafar yn cael eu dosbarthu i reolwyr busnes y pleidiau drwy eu swyddfeydd, mor agos at 1 o'r gloch ar ddiwrnodau y Cyfarfod Llawn ag y bo modd—rwy'n credu y bydd rheolwyr busnes yn cydnabod hynny—ac mae’n rhaid iddynt, yn amlwg, gael eu cymeradwyo gan Weinidogion. A swyddogaeth rheolwyr busnes unigol yw rhoi’r copïau hynny o'r datganiadau i'r llefarwyr perthnasol yn eu pleidiau. Felly, yn unol â hynny, gwn y cafodd y copïau caled eu rhoi i Mark Reckless, yn unol â'r arfer sefydledig a hir-sefydlog hwnnw. Ond, wrth gwrs, caiff copïau electronig o'r datganiadau llafar wedyn eu hanfon drwy e-bost at yr holl Aelodau, pan fydd y Gweinidog wedi dechrau eu cyflwyno. Rwy’n gobeithio y bydd hynny, unwaith eto, yn parhau yn unol ag arfer arferol.

Diolchaf i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Croesawodd y Llywodraeth yn y pedwerydd Cynulliad gasgliadau ac argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, dan gadeiryddiaeth Andrew Davies. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad yn amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd yn y pumed Cynulliad i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny?

Wel, rwyf yn gwybod am ddiddordeb Jeremy Miles yng ngwaith Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, wrth gwrs, dan gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Davies, cyn Aelod o'r Senedd hon. Fe wnaeth ailymgynnull y llynedd, ym mis Chwefror y llynedd, i edrych ar sut y mae'r argymhellion yn cael eu rhoi ar waith. Bu’n rhaid i bob Gweinidog ymateb wedyn, yn amlwg. Adroddwyd ar eu canfyddiadau yn gynharach eleni—ym mis Chwefror eleni. Bu cynnydd yn ystod y 18 mis hynny, ers cyhoeddi'r adroddiad cyntaf. Mae'n hanfodol bwysig i sicrhau ein bod yn gweld sut mae ffyrdd cydweithredol newydd o weithio a gwneud busnes yn dod yn arfer yn hytrach na bod yn eithriad. Ychydig o enghreifftiau, efallai: cyhoeddi'r cynllun gweithredu modelau cyflawni amgen—a ddeilliodd o'r adolygiad a gynhaliwyd gan Keith Edwards, 'Ai Cydfuddiannaeth yw’r Ffordd Ymlaen? Ffyrdd Newydd o Gynllunio a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru'—a hefyd cyfleuster cymorth newydd, Busnes Cymdeithasol Cymru. Nawr, yn ddiddorol, cyn belled ag y mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn y cwestiwn, prosiect cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop oedd hwnnw. Gwnaethom gyfrannu arian i’r prosiect gwerth £11 miliwn a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cefnogi mentrau a chwmnïau cydweithredol Busnes Cymdeithasol Cymru a ariennir gan yr UE.

A gaf i godi dau fater gyda chi, arweinydd y tŷ? Yn gyntaf: a fyddai modd i ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar y rhwymedigaeth sydd gan awdurdodau lleol, yn ei dyb ef, i gynnal a chadw ffyrdd cyngor? Ymddengys, ar hyd a lled rhanbarth de Cymru, bod cynghorau wedi rhoi'r gorau i lenwi tyllau yn y ffyrdd a chynnal arwynebau y briffordd gyhoeddus. Ac mae’r nifer o etholwyr sy’n sôn am y broblem hon i mi—a gallaf weld Aelodau penodol yn piffian chwerthin ar hyn, ond, mewn gwirionedd, mae’n fater eithaf pwysig i’r rhan fwyaf o Aelodau, ac i lawer o etholwyr, sy'n dioddef melltith y ceudyllau a’r arwynebau peryglus, mae'n debygol mai dyna un o'u blaenoriaethau pwysicaf wrth ddod i weld eu Haelodau etholedig. Byddwn i’n ddiolchgar—pan fo rhwymedigaeth ar yr awdurdod lleol i gynnal yr arwynebau hynny, beth yw disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran cyflawni’r rhwymedigaeth honno, ac, yn wir, pan fydd y Gweinidog yn neilltuo arian i awdurdodau lleol, a yw’n sicrhau—ac yn sicrhau yn bendant—bod yr awdurdodau lleol hynny yn gwybod bod dyletswydd arnynt i gynnal ffabrig y briffordd yn eu hardaloedd?

Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw ychwanegu llais at y pryderon a godwyd eisoes ynglŷn â’r strategaeth TB buchol—ac rwyf yn datgan buddiant fel ffermwr da byw—sydd gan Lywodraeth Cymru. Oes, mae llawer o reolaethau sydd ar waith ar hyn o bryd, ond un o elfennau canolog y strategaeth oedd y polisi brechu—a gallwn ddadlau rhinweddau’r strategaeth honno, ond, yn amlwg, dyna a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth flaenorol, ac rwyf yn cymryd mai polisi’r Llywodraeth bresennol yw cynnal hynny—ac mae'n ffaith nad yw cyflenwad y brechlyn ar gael bellach. Felly, mae un o elfennau canolog strategaeth y Llywodraeth i ddileu TB buchol yng Nghymru wedi ei dileu, ac mae'n hanfodol i ffermwyr da byw ddeall yn union sut y bydd y Llywodraeth newydd yn cyflwyno strategaeth gynhwysfawr sydd yn gydgysylltiedig yn hytrach na dim ond edrych yn dda. Yn y pen draw, mewn sawl rhan o Gymru, mae’r clefyd ofnadwy hwn yn dirwyn llawer o fusnesau i ben oherwydd y costau eithafol y mae’n rhaid eu talu a'r trawma emosiynol pan fydd TB buchol yn effeithio ar y busnes penodol hwnnw.

Andrew R.T. Davies, rwyf yn deall yn iawn pryderon etholwyr a phreswylwyr am gyflwr eu ffyrdd a'u ffyrdd lleol. Gwyddom fod hwnnw'n fater a gaiff ei godi gyda phob un ohonom fel Aelodau Cynulliad. Rwy'n falch iawn o'r ffaith mai Llywodraeth Lafur Cymru a weithiodd gyda llywodraeth leol i ddatblygu'r fenter benthyca i lywodraeth leol, a’n galluogodd wedyn i gefnogi a chynorthwyo benthyca awdurdodau lleol, nad oedd gennym ni, ac sydd ganddyn nhw bellach, i fuddsoddi’n gynhwysfawr mewn gwella strwythur y ffyrdd ledled Cymru gyfan, sy'n cynnwys pob un o'n 22 awdurdod lleol. Wrth gwrs, arweiniodd hynny at filoedd o swyddi adeiladu ac amgylcheddau gwell o lawer, yn enwedig mewn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Nawr, wrth gwrs, byddem yn hoffi parhau â’r mathau hynny o fentrau pe byddai gennym, wrth gwrs, setliad ariannol gwell gan Lywodraeth y DU, dan arweiniad eich plaid chi, gan fod y rhain yn faterion allweddol, y mae llywodraeth leol, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yn dymuno mynd i'r afael â nhw.

Rwyf wedi ymateb yn gynharach i’r cwestiynau ynglŷn ag ymrwymiad ein Llywodraeth i ddileu TB buchol. Wrth gwrs, dyma un o brif flaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet.

Yn dilyn y gyflafan yn Orlando a'r wylnos y tu allan i'r Senedd neithiwr, a wnaiff yr Ysgrifennydd Busnes ystyried amserlennu dadl i roi cyfle i Aelodau amlygu meysydd polisi lle y gellid gwneud cynnydd pellach o ran sicrhau mynd i’r afael â’r gwahaniaethu a ddioddefir gan aelodau o'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol? Yn yr wylnos neithiwr—a gwn fod y Gweinidog yno—roedd siaradwyr yn amlygu materion sy’n peri pryder yng Nghymru, gan gynnwys troseddau casineb, bwlio homoffobig, yr ydym wedi eu trafod yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mi wn, ac anghydraddoldeb o ran rhoi gwaed. Yng ngoleuni’r profiadau ofnadwy yn Orlando, a yw hi’n cytuno y dylem ni asesu ein perfformiad yng Nghymru o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb? Efallai y byddai cael dadl yn y Siambr yn rhoi cyfle i bob un ohonom rannu’r safbwyntiau hynny.

Diolchaf i Julie Morgan am godi hyn eto, yn dilyn cwestiynau Simon Thomas ynglŷn â’r datganiad busnes yn gynharach, ac, unwaith eto, pa mor bwysig oedd hi ein bod ni yno—aelodau'r Llywodraeth yn ogystal ag Aelodau’r Cynulliad—i wrando ar y negeseuon pwerus hynny a chlywed gan y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y drosedd casineb honno, a hefyd i weld erthygl dda iawn yn y 'Western Mail' heddiw gan Andrew White: sefyll gyda'n gilydd yn erbyn casineb ac edrych at ddyfodol gwell. Hefyd, a gaf i ddatgan pa mor bwerus y siaradodd Jeremy Miles, Hannah Blythyn ac Adam Price ddoe yn yr wylnos a'i roi ar y cofnod sut yr ydych chi wedi gwneud y safiad hwnnw ac i ni gael ein dwyn i gyfrif ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu a rhwystrau i gydraddoldeb Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru. Wrth gwrs, fel yr wyf wedi ei ddweud, mae’n ymwneud â gweithio'n agos â'n gilydd. Hefyd, credaf ei fod yn ymwneud â gweithgareddau mewn ysgolion, yn ogystal â gweithleoedd, a’r gymuned yn cydweithio â'n gwasanaethau cyhoeddus i fynd i'r afael â throseddau casineb.

Diolch. Arweinydd y tŷ, tybed a gaf i ofyn i chi am ddiweddariad gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros seilwaith a thrafnidiaeth ar ddatblygiad cynllun metro de Cymru. Bydd aelodau’r Cynulliad blaenorol yn cofio fy mhryder mawr pan gafodd Trefynwy ei hepgor o rai o fapiau metro de Cymru, ac wedyn ailymddangosodd ar eraill cyn cael ei hepgor o fapiau dilynol. Felly, byddwn i’n ddiolchgar am ddiweddariad ar ein sefyllfa o ran sicrhau bod metro de Cymru yn cyrraedd pob ardal o rwydwaith de Cymru y mae i fod i’w chyrraedd, gan gynnwys rhai o'r ardaloedd gwledig mwy anghysbell, nid yr ardaloedd trefol yn unig.

Yn ail, a gawn ni ddatganiad cyfredol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a llywodraeth leol ar ein sefyllfa o ran datganoli trethi ac yn benodol y gwaith o ddatblygu swyddogaeth trysorlys Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru? Yn eich swyddogaeth flaenorol, arweinydd y tŷ, roeddech yn ymwneud yn helaeth â hyn. Gwn eich bod wedi trosglwyddo’r awenau bellach i'r Aelod dros Orllewin Caerdydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth i amser fynd yn ei flaen, ein bod yn sicrhau ein bod yn symud tuag at y strwythurau y bydd eu hangen arnom pan fydd rhai trethi yn cael eu datganoli, fel y gall y Cynulliad Cymru hwn a’r Llywodraeth Cymru hon fwrw ati ar unwaith ar yr adeg honno. Mae amser yn prysuro yn ei flaen a chredaf fod angen i ni wybod ein sefyllfa ar hyn o bryd o ran datblygu’r swyddogaethau hynny.

Diolch i Nick Ramsay yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Wrth gwrs, bu ef yn eiriolwr cryf dros ei etholaeth Sir Fynwy a Threfynwy wrth gydnabod pwysigrwydd y metro, yn enwedig i Sir Fynwy. Rydych chi wedi codi hyn sawl gwaith ac rydym wedi cael diweddariadau neu ddatganiadau i'r Cynulliad, ac wrth gwrs bydd y Gweinidog dros yr economi a seilwaith yn dymuno dod i'r Siambr maes o law ac, wrth gwrs, gan ein bod wedyn yn symud i'r pwyllgorau yr ydym yn eu sefydlu, bydd rhagor o gyfleoedd, ac yn wir cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yfory, wrth gwrs, a fyddai'n briodol iawn.

O ran eich ail gwestiwn, wrth gwrs, mae fy nghyfaill Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol hefyd yn bwrw ati ar unwaith o ran symud ymlaen, gan wneud cynnydd da wrth baratoi at gyflwyno trethi datganoledig. Rydym wedi cael Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, yr oeddwn yn falch iawn o’i datblygu, gyda deddfwriaeth bellach ar drethi trafodiad tir a gwarediadau tirlenwi i’w cyflwyno yn ddiweddarach eleni. Ond yr hyn sydd hefyd yn hanfodol bwysig, Nick Ramsay, yw’r trafodaethau â Llywodraeth y DU, yn ceisio cael cytundeb ar y fframwaith cyllidol a fydd yn sail i’n trefniadau ariannu yn y dyfodol.

4. 3. Datganiad: Caniatâd Tybiedig ar gyfer Rhoi Organau—y Chwe Mis Cyntaf

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau—y chwe mis cyntaf. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Vaughan Gething.

Diolch ichi, Lywydd. Rwyf yn ddiolchgar am y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau chwe mis ar ôl cyflwyno Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 a chyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau ar ôl marw yng Nghymru. Daeth hyn i rym yn llawn ar 1 Rhagfyr 2015. Bydd yr Aelodau'n gwybod y tybir bellach bod pobl 18 mlwydd oed a throsodd sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na 12 mis ac sy'n marw yng Nghymru yn barod i roi eu horganau oni bai eu bod wedi nodi’n benodol nad ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Mae'r llwybr tuag at roi organau yn un cymhleth, ond yn y cam cydsynio y mae’r rhan fwyaf o roddion yn cael eu colli, ac rwyf yn hynod falch bod Cymru bellach yn arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i newid i system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau. Rwyf yn llwyr ddisgwyl y bydd y system newydd yn sicrhau newid sylweddol o ran cydsynio i roi organau yng Nghymru ac mae arwyddion cynnar mai dyna sy’n digwydd. Yn yr un modd ag mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill sydd â systemau tebyg, cyflwynwyd y gyfraith hon i fynd i'r afael â phrinder difrifol organau i'w trawsblannu sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Rwyf yn siŵr ein bod i gyd wedi clywed straeon torcalonnus am bobl ar restrau aros am organau. Fodd bynnag, yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, rydym yn rhagweld y bydd y system newydd yn golygu y bydd tua 25 y cant yn fwy o achosion o roi organau, neu 45 o organau ychwanegol y flwyddyn.

I baratoi at y newid yn y system gydsynio ar gyfer rhoi organau, gwnaethpwyd llawer iawn o waith i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ac i ymgysylltu â hwy. Yn y ddwy flynedd cyn rhoi’r ddeddf ar waith yn llawn, cynhaliwyd yr ymgyrch gwybodaeth iechyd y cyhoedd mwyaf a’r mwyaf pellgyrhaeddol yn hanes datganoli i esbonio'r newidiadau hyn. Yn awr, mae gwybodaeth reolaidd wedi ei chasglu am ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r gyfraith rhoi organau i fonitro effeithiolrwydd yr ymgyrch hwnnw. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ym mis Chwefror 2016 y gallai 74 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru ddisgrifio'r newidiadau yn ddigymell, o gymharu â 53 y cant yn 2012. Yn awr, mae hon yn lefel ddigynsail o ddealltwriaeth ynghylch rhywbeth yr oedd rhai’n ei ystyried yn gymhleth. Mae’r gwahaniaeth hwn o 21 y cant yn tystio i ymgyrch hynod effeithiol, a hoffwn ddiolch o galon i bobl Cymru nid yn unig am gofleidio’r ddeddfwriaeth hon sy'n torri tir newydd ond hefyd am roi o'u hamser i ystyried, i drafod ac i gofrestru eu penderfyniad ynghylch rhoi organau.

O 28 Mai 2016, mae ychydig dros 167,000 o bobl yng Nghymru, neu tua 5 y cant o'r boblogaeth, wedi eu cofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG i optio allan. Mae hynny'n llai o lawer nag a ragwelwyd ym mis Mehefin y llynedd, pan ddangosodd arolwg y byddai 14 y cant o drigolion Cymru’n optio allan. Mae'n bwysig iawn fod pobl sy’n dymuno optio allan yn gadarnhaol o'r system yn cael cyfle i wneud hynny. Ond, yn ogystal, erbyn hyn mae dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru, dros 35 y cant o'r boblogaeth, bellach wedi eu cofrestru yn gadarnhaol i optio i mewn i roi organau.

Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau niferus sy’n rhanddeiliaid am eu cefnogaeth ddiflino. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r holl gleifion a theuluoedd a helpodd â'n hymgyrch gwybodaeth gyhoeddus trwy rannu eu profiadau eu hunain, eu profiadau teimladwy, i bersonoli'r ymgyrch. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb waith caled a chefnogaeth nifer fawr iawn o bobl ledled Cymru a thu hwnt.

Roedd ailddatblygu'r gofrestr rhoddwyr organau yn rhan allweddol o'r gwaith yr oedd ei angen i ddarparu modd o gofnodi penderfyniad i optio allan. Cafodd y gwaith hwnnw ei wneud gyda Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG a gwledydd eraill y DU, a’i gyflwyno chwe mis cyn i'r gyfraith ddod i rym. Roedd hynny’n rhoi digon o amser i bobl i gofnodi eu penderfyniad. Gall pawb yn y DU yn awr gofnodi eu penderfyniad ynghylch rhoi organau, beth bynnag fo’r penderfyniad hwnnw. Ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth pobl ar draws y Siambr hon i ddatblygu a gweithredu’r Ddeddf.

Bydd angen parhau i hybu dealltwriaeth o'r system newydd a’r dewisiadau ynghylch rhoi organau sydd ar gael i bobl yng Nghymru: optio allan, optio i mewn neu wneud dim. Bydd y cynllun cyfathrebu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgyrsiau rhwng teuluoedd ac anwyliaid am eu penderfyniadau ynghylch rhoi organau, ac annog pobl hefyd i gofrestru eu penderfyniad ar y gofrestr rhoi organau.

Er bod cynnydd yn lefelau ymwybyddiaeth pobl yn fesur o lwyddiant, y prawf gwirioneddol fod ein deddfwriaeth wedi sicrhau’r canlyniad sydd ei angen fydd cynnydd yn nifer y rhoddwyr, a fydd yn golygu bod mwy o gleifion a theuluoedd yn elwa ar drawsblaniadau. Roedd canlyniadau’r chwe mis cyntaf ar ôl rhoi’r ddeddfwriaeth newydd ar waith, o 1 Rhagfyr y llynedd hyd at 31 Mai eleni, yn dangos y bu 18 o achosion o gydsynio tybiedig yng Nghymru. Aeth deg o'r rhain ymlaen i roi organau, ond roedd cyfanswm o 42 yn rhagor o roddwyr wedi cydsynio i roi organau yn y cyfnod hwnnw. Yn yr un cyfnod yn 2014-15, roedd 38 o roddwyr wedi cydsynio, a 31 yn 2013-14.

Os edrychwn ar y 18 o achosion o gydsyniad tybiedig, aeth 10 claf ymlaen i roi organau. O’r rhoddwyr hynny, rhoddwyd 37 o organau ac aeth 32 ymlaen i’w trawsblannu. O gymharu â'r ffigurau ar gyfer y cyfnod cyfatebol cyn y newid yn y gyfraith ar gyfer yr holl roddwyr yr aethpwyd ymlaen i drawsblannu eu horganau, mae’r niferoedd hyn yn edrych yn gadarnhaol iawn yn wir. Mae gwerthusiad ffurfiol o effaith y gyfraith newydd wedi ei gomisiynu a chaiff ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf.

Rwyf yn ddiolchgar i Aelodau o bob plaid am eu cyfraniadau dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod Cymru wedi gallu arwain y DU a datblygu system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau. Roedd angen gweddnewid y drefn ar gyfer sicrhau cydsyniad rhoddwyr a theuluoedd yng Nghymru, a chredaf fod rhoi Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 ar waith wedi sicrhau’r newid hwnnw. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau a chwestiynau’r Aelodau.

Yn ogystal â defnyddio’r cyfle cyntaf hwn yn y Senedd i longyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei benodiad a diolch iddo, wrth gwrs, am y datganiad yma, a gaf i longyfarch pob un sydd wedi’i gwneud hi’n bosibl inni gyrraedd y pwynt yma o ran rhoi organau yng Nghymru? Mi glywn ni, rwy’n gwybod, gan fy nghyd-Aelod i, Dr Dai Lloyd, yn y man. Rwy’n gwybod fod ganddo fo ychydig o gwestiynau i’w gofyn. Ond, mi fyddwn i’n licio rhoi teyrnged iddo fo a diolch iddo fo am gyflwyno’r cynnig i newid deddfwriaeth yn ôl yn 2007.

Rwy’n gobeithio bod yr ystadegau cynnar sydd wedi cael eu hamlinellu gan yr Ysgrifennydd yn dangos bod hwn yn gam sydd wedi bod yn werthfawr ac yn gam sydd wedi yn barod ac a fydd yn achub llawer iawn o fywydau. Mi fydd yn achub llawer o fywydau yma yng Nghymru. Ond, rwy’n gobeithio, fel sydd wedi’i weld efo sawl darn o ddeddfwriaeth arloesol yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, y bydd yn hwb i gyrff democrataidd eraill yn yr ynysoedd yma i weithredu mewn modd yr un mor flaengar.

A gaf i ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael efo Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig i wthio arnynt hwy i fabwysiadu system debyg, yn enwedig, wrth gwrs, o ystyried y gallai cleifion mewn rhannau eraill o’r ynysoedd yma fod wedi manteisio o’n Deddf newydd ni yng Nghymru a’r ystadegau positif sydd wedi dod ymlaen o ganlyniad i hynny?

A gaf i ofyn hefyd faint o bobl a allai fod wedi rhoi organau a oedd wedi optio allan yn y cyfnod yma? Rwy’n nodi o’r datganiad fod llawer llai wedi optio allan na’r disgwyl—rhyw 5 y cant o’i gymharu, o bosib, â 14 y cant a gafodd ei amcangyfrif mewn arolwg cynharach—ond mae pob un sy’n cael ei golli, wrth gwrs, yn gyfle yn cael ei golli i arbed bywyd. Felly, beth ydy’r ystadegau yn y fan honno? Ac, o ystyried, felly, fod angen parhau i hysbysu pobl am y pwysigrwydd o roi organau, pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i barhau â’r gwaith o addysgu pobl yn y maes yma, yn dilyn y newid deddfwriaethol?

Yn achos rhai nad oedd wedi nodi'r naill ffordd na’r llall, yn sawl achos gwnaed penderfyniad i beidio â rhoi organau wedi trafodaethau efo’r teulu, ac nid, hynny yw, ar sail feddygol? Ond, yn gyffredinol heddiw, wrth gwrs, fel pawb arall yma yn y Siambr, mae hon wedi bod yn drafodaeth sydd wedi codi cwestiynau moesol dyrys iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ond, fel rwy’n dweud, y canlyniadau sy’n cyfrif yn y pen draw, ac mae’n braf gallu edrych yn ôl ar gychwyn llwyddiannus i gyfnod dan y ddeddfwriaeth newydd yma.

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Yn benodol, rwyf yn cydnabod gwaith amryw o bobl yn y Siambr, fel y dywedais, gan gynnwys Dai Lloyd. Yn y cyfamser, ac yntau wedi’n gadael am gyfnod byr, llwyddasom i basio’r ddeddfwriaeth yr ydym yn awr yn ei thrafod heddiw.

I ddechrau, roedd tri phwynt a chwestiwn penodol i mi eu hateb. Roedd y cyntaf ynghylch Seneddau eraill a rhannau eraill o'r DU. Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod bwrdd Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG cyn yr etholiad, yng Nghaerdydd. Roedd yn ddiddorol, oherwydd roedd yno ddiddordeb gwirioneddol yn y system sydd gennym yma yng Nghymru a'r effaith y mae'n ei chael. Felly, mae diddordeb gwirioneddol ledled teulu’r GIG yn y Deyrnas Unedig ynglŷn â faint o wahaniaeth y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei wneud. Ni allaf siarad dros Seneddau eraill ynghylch a ydynt yn bwriadu dilyn ein deddfwriaeth, ond gwn fod diddordeb gwirioneddol ynddi. Yn bersonol, byddwn yn synnu pe na baem, ymhen 10 mlynedd, yn gweld darnau tebyg o ddeddfwriaeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, oherwydd os gwnaiff y gwahaniaeth yr ydym am iddi’i wneud, ac yr ydym yn credu ei bod wedi ei wneud eisoes yn y chwe mis cyntaf, yna byddech yn tybio y byddai pobl ar draws y pleidiau, mewn rhannau eraill o'r DU, yr un mor awyddus i weld dwsinau’n rhagor o fywydau’n cael eu hachub bob blwyddyn, oherwydd nid yng Nghymru’n unig y mae her sicrhau bod digon o roddwyr i gyd-fynd â’r bobl sy'n aros ar y rhestr aros am organau yn broblem.

O ran y bobl hynny sydd wedi optio allan ond a allai fel arall fod wedi bod yn rhoddwyr, nid wyf yn ymwybodol ein bod yn casglu’r wybodaeth neilltuol honno—ond fe holaf ynghylch hynny. Rhan o'r rheswm, wrth gwrs, yw bod amgylchiadau penodol lle y gall pobl fod yn rhoddwyr ar gyfer trawsblannu organau, ac nid wyf yn ymwybodol y gallwn gymryd yn ganiataol y gallai rhywun fod wedi bod yn rhoddwr oni bai am y ffaith ei fod wedi optio allan. Ond fe holaf ynghylch hynny a'r pwynt penodol yr ydych hefyd yn ei godi ynghylch nifer y bobl lle na chaiff yr organau eu rhoi oherwydd gwrthwynebiadau gan y teulu. Soniais mewn cyfweliadau yn gynharach heddiw am hyn, sef hyd yn oed ar gyfer pobl sydd wedi optio i mewn yn gadarnhaol ac sydd ar y gofrestr, mae'n dal yn bosibl na fydd eu horganau’n cael eu trawsblannu oherwydd y sgwrs â'r teulu tua adeg rhoi’r organau. Yn awr, mae hynny'n rhywbeth y mae rhai pobl yn teimlo’n rhwystredig iawn yn ei gylch, ond mae’n rhaid i ni feddwl am yr effaith ar y bobl sydd yma, nid dim ond y sawl sy'n dymuno i’r organau gael eu rhoi.

Y pwynt olaf yr wyf am ymdrin ag ef yw hyn: soniasoch am y bobl hynny sydd ag amheuon a'r bobl hynny nad oeddent yn gadarnhaol am y newid oedd yn cael ei wneud—roedd gan amryw o bobl o wahanol gymunedau a nifer o grefyddau bryderon am y newid i system cydsyniad tybiedig. Un o'r pethau yr wyf i’n falch iawn yn ei gylch yw'r gwaith a wnaethom yn benodol gydag ystod o grwpiau gwahanol, gan gynnwys cymunedau crefyddol a ffydd, i edrych ar yr hyn yr oedd y newidiadau’n ei olygu, ac, mewn gwirionedd, rydym wedi gweld math gwahanol o agwedd. Mae pobl wedi ymlacio mwy. Maent yn hapusach nad yw rhai o'r pryderon a oedd ganddynt ynghylch sut y gallai’r system weithio wedi cael eu gwireddu, a chredaf fod hynny'n rhan o'r rheswm pam nad ydym wedi gweld cymaint o bobl yn optio allan yn gadarnhaol i gofrestru nad ydynt am gymryd rhan yn y system rhoi organau. Ond mae'n rhywbeth lle y bydd angen inni, ar ôl chwe mis, ar ôl blwyddyn, ac ymhellach ymlaen, adolygu’r effaith a deall a ydym yn gwneud y gwahaniaeth yr ydym am ei wneud neu a allem wneud mwy eto.

Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy eich croesawu i'ch swydd? Rwyf yn gobeithio y cawn gyfle i weithio'n dda gyda’n gilydd i geisio gwella gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Rwyf yn ddiolchgar iawn am y datganiad hwn. I'r rhai hynny ohonoch a oedd yma yn y Cynulliad diwethaf, fe gofiwch fy mod yn amlwg iawn wedi gweithio'n galed iawn ar hyn fel Aelod unigol a rhoddais fy mhleidlais i’r Llywodraeth, ac rwyf yn falch iawn o weld, ar ôl chwe mis—oherwydd dywedais y byddwn i'n cadw golwg dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—fod pethau'n mynd cystal. Mae rhai meysydd, fodd bynnag, lle’r hoffwn rai cwestiynau, a hoffwn wneud y pwynt fy mod yn siarad ar fy rhan fy hun oherwydd, wrth gwrs, roedd gan y Ceidwadwyr Cymreig bleidlais rydd ar y mater hwn.

Weinidog, a ydych wedi rhoi ystyriaeth bellach i hyrwyddo hyn gyda'ch cydweithiwr, yr Ysgrifennydd Addysg, o ran cyfleu’r neges i bobl ifanc yn benodol? Cynhaliais waith ymchwil anwyddonol iawn dros y penwythnos pan welais y byddai hyn yn codi, a gofyn i gynrychiolwyr o un ysgol yn Sir Gaerfyrddin—ysgol uwchradd—dwy yn Sir Benfro a dwy ym Mro Morgannwg beth roeddent yn ei wybod am roi organau, a chefais atebion llugoer ac annelwig iawn, iawn. Yn awr, gwnaeth y Gweinidog blaenorol ymrwymiad fod cyllid newydd eisoes wedi’i neilltuo yn ein cynllun cyfathrebu i wneud ymdrech arbennig i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, ac, wrth gwrs, plant ysgol, y rhai sy'n paratoi i adael yr ysgol uwchradd a'r rhai sydd mewn colegau addysg uwch yw'r rhai sydd ar fin troi’n 18 oed a byddant wedyn yn gallu optio i mewn neu allan. Felly, hoffwn wybod beth rydych chi'n mynd i'w wneud i fynd ati o ddifrif i geisio gwella’r rhaglen gyfathrebu honno, a oes gennych gyllid wedi’i neilltuo, ac a allwch roi syniad inni o faint y gallai’r cyllid hwnnw fod.

Hoffwn holi ychydig am y 18 o bobl nad oedd wedi gwneud dewis y naill ffordd na'r llall. Dywedasoch fod 10 ohonynt wedi mynd ymlaen i roi organau, ac yn amlwg, roedd wyth heb wneud, felly tybed a wnaed rhywfaint o ymchwil ansoddol i’r rhesymau pam nad oedd y rhai na aeth ymlaen i roi organau wedi gwneud hynny. Mae’n bosibl nad oedd eu horganau’n cydweddu ac nad oedd ar neb eisiau eu horganau hwy, ond byddai'n ddiddorol iawn gweld a oes unrhyw dueddiadau yno efallai ynghylch grwpiau oedran neu gefndir o ran pam nad yw’r neges wedi eu cyrraedd.

Hoffwn wybod hefyd a ydych wedi gwneud neu a ydych yn bwriadu gwneud unrhyw ymchwil ansoddol ar y bobl hynny y cytunodd eu teuluoedd i ganiatáu i’w horganau gael eu rhoi oherwydd, wrth gwrs, un o'r pethau yr oedd llawer o sôn amdano y tro diwethaf oedd sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael i’r meddygon a'r nyrsys ym maes rhoi organau, ac mae'n fater o ddysgu gwersi. A ydym yn trin y bobl hynny’n effeithiol, yn garedig, yn dosturiol? Maent mewn cyfnod o straen personol mawr, a dyna pam yr wyf am eich holi am un sylw a wnaethoch, a barodd fymryn o anesmwythyd i mi, pan ddywedasoch fod rhwystredigaeth bod rhai pobl yn dweud 'na' ac nad oeddent yn gadael i’w horganau fynd yn eu blaen. Dylem dderbyn y rhwystredigaeth honno, fel rhan o'r rhyddid yr ydym yn ei roi i bobl, ac ni fyddwn yn hoffi i hynny fyth gael ei drosglwyddo i rywun yn y rheng flaen ac i unrhyw bwysau ar deulu. Yn y pen draw, dyma hawl y teulu. Rydym wedi ymgorffori hynny yn y darn hwn o ddeddfwriaeth, sef os nad oes cydsyniad tybiedig, fod y drafodaeth yn digwydd, a bod modd iddynt beidio â bwrw ymlaen. Ac ni ddylem ddangos dim pryder ynghylch hynny, oherwydd dyna a ddywedasom a dyna y mae'n rhaid i ni gadw ato.

Yn olaf, Weinidog, a wnewch chi amlinellu'r gyllideb sydd ar waith i hyrwyddo rhoi organau ac amlinellu a oes lle i fuddsoddi pellach, os yw ymchwil yn profi bod angen hynny arnom i symud y mater hwn ymlaen? Diolch.

Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Rwyf am ymdrin yn gyntaf â'r pwynt yr wyf yn credu oedd yn gamddealltwriaeth, yn anad dim, oherwydd roeddwn yn cyfeirio mewn gwirionedd at rôl y teulu wrth beidio â chefnogi rhoi organau, ond rhywun sydd wedi gwneud y penderfyniad i fynd ar y gofrestr i optio i mewn. Mae hynny'n dal i ddigwydd, ond mae hynny'n rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud. Mae'n rhan o sensitifrwydd y gweithwyr meddygol proffesiynol ac, yn arbennig, yn y cyfnod craffu ar hyn ac wedi hynny, y cofnod o rôl y nyrs arbenigol, o ran bod yn gadarnhaol wrth esbonio’r dewis a'r hyn y mae'n ei olygu i bobl ar y pryd, p’un a ydynt yn optio i mewn neu allan, p'un a ydynt yn cydsynio i’r organau gael eu rhoi a hefyd, yn benodol, y rhai sydd yn dweud 'ie', oherwydd un o’r pethau sydd wedi bod fwyaf teimladwy drwy'r broses hon yw cwrdd â theuluoedd ac anwyliaid y bobl sydd wedi mynd ymlaen i fod yn rhoddwyr. Felly, mae gan lawer ohonynt stori gadarnhaol i’w hadrodd am farwolaeth na fu’n ofer, a deall bod pobl eraill sydd wedi parhau â'u bywydau oherwydd y dewis sydd wedi ei wneud. Ac mae clywed hynny wedi bod yn ddiffuant iawn, ac yn ysbrydoliaeth.

O ran eich pwyntiau ehangach am ymchwil ynglŷn ag effaith hyn ac adolygiad, rydym, wrth gwrs, wedi ymrwymo i adolygu effaith y ddeddfwriaeth. Rwyf yn siŵr y bydd nifer o bobl sy'n dymuno gwneud eu hymchwil eu hunain ar effaith y gyfraith, ond mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu effaith y ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwneud hynny ar hyn o bryd oherwydd datganiad diweddaru yw hwn yn hytrach nag adolygiad ffurfiol o ble yr ydym yn y chwe mis cyntaf. Byddwn yn gwario tua £200,000 yn ystod y flwyddyn nesaf ar hyrwyddo’r hyn sydd wedi digwydd, yr ymgyrch wybodaeth, ond fel y gwyddoch, bydd y cyllid yn parhau i mewn i'r flwyddyn nesaf oherwydd bod y Cynulliad wedi ymrwymo i wario tua £7.5 miliwn dros 10 mlynedd pan basiwyd y ddeddfwriaeth hon.

Rwyf am ddechrau drwy gydnabod yr hyn a ddywedodd Angela Burns ar ddechrau ei chyfraniad, ac nid dim ond diolch—dylwn ddweud hynny wrth Rhun hefyd—ond dweud llongyfarchiadau wrthoch chi a Rhun ap Iorwerth ar y newid yn eich swyddogaeth, a chroeso i bortffolio diddorol iawn lle mae bron i hanner arian y Llywodraeth yn cael ei wario. Rwyf yn cydnabod, ar y mater penodol hwn, nid yn unig fod gan y Ceidwadwyr Cymreig bleidlais rydd, ond rwyf yn cydnabod ichi ddweud eich bod yn sgeptig, a’i fod yn gam mentrus cefnogi'r ddeddfwriaeth a oedd ar ddod. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr effaith y mae'r ddeddfwriaeth yn ei chael ac, yn yr un modd, ein bod yn deall bod mwy y gallem neu y dylem fod yn ei wneud i wella'r system. Ac nid mater o gynyddu nifer y rhoddwyr yn unig yw hynny, ond deall yn wirioneddol effaith unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â rhoi organau ar deuluoedd.

Ymdriniaf â’r ddau bwynt olaf yn eich sylwadau a'ch cwestiynau. Roedd y cyntaf yn ymwneud â sicrhau bod ymwybyddiaeth yn parhau, yn enwedig ymhlith pobl iau. Rydym eisoes yn bwriadu sicrhau bod pobl sy'n agosáu at eu pen-blwydd yn ddeunaw oed yn cael yr hyn a alwyd yn—nid wyf yn siŵr ai dyma’r derminoleg iawn—‘llythyr codi’n 18 oed'. Felly, mae pobl sy'n agosáu at eu pen-blwydd yn ddeunaw yn cael neges ffurfiol sy'n dweud wrthynt, yn eu hatgoffa, am y system newydd a beth yw eu dewisiadau ac yn eu hannog i siarad â'u hanwyliaid, i gael y sgwrs gyda phobl o'u cwmpas am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd. Yn yr un modd, ar gyfer y dyfodol, rydym yn edrych ar gofrestru â meddygon teulu. Nid yw'n barod eto, ond rywbryd dylem fod yn gallu gwneud rhywbeth lle bydd pobl yn cofrestru â'u meddygon teulu, fel y gall pobl gofrestru eu dewis yn y fan honno hefyd. Po fwyaf o gyfleoedd a roddwn i bobl, po hawsaf yr ydym yn ei gwneud i bobl gofnodi beth yw eu dewis—optio i mewn, optio allan neu wneud dim—gorau oll y bydd hi yn fy marn i i bob un ohonom. Dyna ran o'r llwyddiant y mae ei angen i’r ddeddfwriaeth hon ei gael, gweld yr effaith yr ydym am iddi ei chael, lle bydd mwy a mwy o fywydau’n cael eu hachub bob blwyddyn.

Hoffwn innau hefyd eich llongyfarch ar eich penodiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch ichi am eich datganiad. Mae'n newyddion da yn wir fod cydsyniad tybiedig wedi creu 10 yn rhagor o roddwyr a gyfrannodd at hanner y trawsblaniadau yn y chwe mis diwethaf. Rhoi organau yw’r weithred fwyaf o haelioni a thrugaredd y gall person ei gyflawni. Yn anffodus, mae gennym dros 200 o bobl sy’n dal i aros am drawsblaniad achub bywyd yng Nghymru, ac eto dim ond 35 y cant o bobl yng Nghymru sydd wedi optio i mewn i'r gofrestr rhoi organau.

Mae cydsyniad tybiedig yn gam mawr ymlaen ac mae 32 o organau wedi eu trawsblannu na fyddent efallai wedi eu trawsblannu pe na bai'r system ar waith. Ond mae gennym i gyd ddyletswydd i annog pobl i gofrestru fel rhoddwyr. Mewn 43 y cant o achosion lle mae rhoi organau yn bosibl, mae teuluoedd yn dweud 'na' i roi’r organau, am nad ydynt yn gwybod a oedd eu hanwyliaid am fod yn rhoddwyr. Gadewch inni gymryd y baich oddi ar ein teuluoedd sy’n galaru a chofrestru fel rhoddwyr organau. Pan fydd pobl yn cofrestru fel rhoddwyr, dylai eu dymuniadau, p’un a yw eu teuluoedd yn cytuno ai peidio, gael eu parchu ac ni ddylent gael eu diystyrru. Dim ond os byddwch yn marw yng Nghymru y bydd cydsyniad tybiedig yn berthnasol. Gadewch inni sicrhau ein bod yn gallu arbed bywydau ar ôl ein marwolaeth mewn mannau eraill yn y DU drwy optio i mewn i'r gofrestr rhoi organau.

Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i annog mwy o bobl i gofrestru fel rhoddwyr? Beth am gyngor rhieni i bobl ifanc sy’n paratoi i adael yr ysgol? Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella addysg am roi organau? Mae llawer o’r bobl sy’n gwrthwynebu rhoi organau yn gwneud hynny am resymau crefyddol. A yw Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda grwpiau crefyddol i helpu i addysgu pobl am gredoau bod yn rhoddwr organau? Mae'n anffodus, os na ellir cysylltu â theulu rhoddwr posibl, na ellir tybio cydsyniad i roi organau. Pa ystyriaeth y mae’r Llywodraeth wedi’i rhoi i ychwanegu manylion cysylltu mewn argyfwng i gofnodion meddygol claf?

Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond 157,000 o bobl sydd wedi optio allan o’r gofrestr rhoi organau. Gadewch inni ddefnyddio'r chwe mis nesaf i berswadio gweddill y cyhoedd yng Nghymru ei bod yn well os ydynt yn rhoi eu cydsyniad penodol i roi organau ac yn dweud wrth eu hanwyliaid beth yw eu dymuniadau na dibynnu ar ganiatâd tybiedig yn unig. Diolch.

Diolch am sylwadau llefarydd iechyd UKIP a chroeso i chithau i’ch rôl. Rwyf yn falch o glywed eich cefnogaeth glir iawn i’r ddeddfwriaeth a'r canlyniadau yr ydym am eu cyflawni. Rhan o'r hyn yr ydym yn ei wneud heddiw, ac y byddwn yn ei wneud drwy gydol gweddill y flwyddyn hon a gweddill yr amser y bydd gennym ymgyrch gyfathrebu, yw annog pobl i wneud dewisiadau—boed y dewis hwnnw i optio allan neu i optio i mewn neu gytuno i wneud dim byd ac o bosibl i ganiatáu i’w cydsyniad gael ei dybio. Rwyf wedi ymdrin ag amryw o'r pwyntiau yr ydych wedi’u codi ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud i geisio annog ystod wahanol o bobl i gael sgwrs â’u hanwyliaid i wneud yn siŵr bod y bobl y maent yn eu gadael ar eu holau yn gwybod beth yw eu dewisiadau’n benodol. Ac mewn ymateb i Angela Burns a Rhun ap Iorwerth, rwyf wedi crybwyll nifer o bethau yr ydym eisoes am eu gwneud.

O ran y ddau bwynt penodol y credaf y dylwn ymateb iddynt, mae un ynghylch manylion cysylltu mewn argyfwng â theulu neu rywun annwyl. Oherwydd yr amgylchiadau penodol lle mae pobl yn gallu bod yn rhoddwyr organau, mae'n debygol y bydd aelod o'r teulu neu rywun annwyl yno gyda hwy. Lle nad yw hynny'n digwydd, mae’n dal angen iddynt wirio bod rhoi organau yn bosibl, oherwydd mae angen ichi wybod digon am eu hanes meddygol i ddeall a ellid cynnig eu horganau i'w rhoi. Felly, mae pwyntiau ymarferol ynghylch hynny.

Ynghylch eich pwynt am gymunedau ffydd yn benodol, a chrybwyllais hynny’n gynharach, gallaf gadarnhau inni gyflogi cwmni ymgynghori arbenigol o'r enw Cognition, sydd â phrofiad o ymdrin ag ystod o wahanol gymunedau, ac maent wedi dod â phobl o wahanol gefndiroedd ffydd ynghyd er mwyn deall y pryderon a oedd ganddynt a sut y maent wedi llwyddo i’w goresgyn. Felly, credaf fod pobl yn fwy gwybodus erbyn hyn, ac mae hynny wedi bod yn rhan o lwyddiant y ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Roeddwn yn bresennol mewn gweithdy gydag amryw o wahanol bobl—nid oherwydd fy rôl benodol yn y Llywodraeth, ond hefyd yn arwyddocaol oherwydd fy etholaeth a’r amrywiaeth sydd yno—gyda gwahanol grwpiau ffydd i ddeall beth oedd eu pryderon, lle roeddent wedi dod i ddeall y system sydd ar gael a'r dewisiadau y gallant eu gwneud. Oherwydd, a dweud y gwir, mae gan ystod o bobl sy'n arweinwyr mewn cymunedau ffydd allu i ddylanwadu ar bobl, i edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wneud ac i wneud eu dewis—p'un ai i optio i mewn, optio allan neu wneud dim.

Felly, rwyf yn falch o ble yr ydym yn awr, chwe mis ers i’r ddeddfwriaeth ddod yn weithredol, ac edrychaf ymlaen at roi diweddariadau pellach i’r Aelodau ynghylch ble yr ydym wedi cyrraedd a ble yr ydym yn dal yn awyddus i’w gyrraedd yn y blynyddoedd a'r misoedd i ddod.

Rwy’n diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd am ei ddatganiad a hefyd am ei eiriau caredig. Yn naturiol, mae hwn yn esiampl o ddefnydd clodwiw o ddeddfwriaeth yn y lle hwn, ac mae’n werth nodi, heb y Cynulliad, fyddai yna ddim mo’r Ddeddf hon. Rwy’n gwybod bod hynny’n rhywbeth digon plaen i’w ddweud, ond mae yna lot o bobl yn holi beth y mae’r Cynulliad erioed wedi’i wneud iddyn nhw. Wel, dyma esiampl bur, glodwiw o ddeddfwriaeth sydd yn newid bywydau, sy’n achub bywydau, ac sy’n trawsnewid bywydau eraill.

A fyddech yn cytuno efo fi taw un o’r prif bethau ynglŷn â’r ddeddfwriaeth hon yw gosod y cynsail yn y drafodaeth rhwng y meddyg neu’r nyrs a’r teulu yn y sefyllfa ingol hon, pan fydd rhywun y maen nhw’n ei garu’n ddwfn iawn yn sylfaenol wedi marw, ac mae’n rhaid cael y sgwrs honno ynglŷn â beth sy’n digwydd i’r organau? Rwyf wedi bod yn y sefyllfa honno. Chi’n gwybod, os na fyddai’r ddeddfwriaeth yn y cefndir, hynny yw, bod ewyllys y wlad yn dweud mai’r disgwyl yw eich bod yn mynd i roi eich organau—. O’r blaen, cyn y ddeddfwriaeth hon, nid oedd disgwyl y byddech yn rhoi eich organau ac, fel meddyg, roeddech yn gallu swnio weithiau yn hynod galon galed yn y sefyllfaoedd gyfan gwbl ingol hynny, pan yr oedd yn rhaid ichi hefyd ofyn caniatâd am organau rhywun a oedd, ddwy awr ynghynt, yn berffaith byw ac iach. Dyna yw’r gwahaniaeth yn sylfaenol. Mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos, yn y sefyllfa gynt, fel yr oedd hi yn y wlad hon, pe bawn i fel meddyg yn gofyn caniatâd yn y sefyllfa anodd, anodd iawn honno, fod 40 y cant o deuluoedd yn gwrthod rhoi caniatâd. Ond, mewn gwledydd eraill, sydd eisoes wedi newid a chael yr un drafodaeth, ac sydd â’r cefndir hwnnw bod yna ddisgwyliad a dyna beth yw ewyllys y wlad, dim ond 15 y cant o deuluoedd sydd yn gwrthod rhoi eu caniatâd. Dyna’r math o ffigurau y buaswn yn disgwyl eu gweld yn awr.

Mae’n bwysig nodi hefyd, pan fydd un person yn marw ac yn cytuno rhoi ei organau, rydych yn trawsnewid bywyd saith person arall, gan gofio bod gennym i gyd ddwy aren, un afu, un pancreas, calon, ysgyfaint a dau ‘cornea’. Mae jest angen gwneud y ‘maths’. Felly, rwy’n falch iawn gweld llwyddiant y mesur hwn o ddeddfwriaeth. Roeddwn yn gallu rhagweld hynny’n digwydd lawr y blynyddoedd, pan gawsom drafodaethau dwys iawn yn y lle hwn a’r tu allan. Rwy’n falch iawn gweld y ffigurau hynny’n cadarnhau hyn. Buaswn yn pwysleisio, ac yn eich gwthio chi hefyd, i ddwyn perswâd ar Lywodraethau eraill yn yr ynysoedd hyn i ddilyn yr un trywydd. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi cael trafodaethau efo pobl yn Senedd yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon ac mae yna fudiadau yn fanna sydd hefyd yn dilyn y ffordd rydym ni’n gweithredu yn y fan hyn. Ond Lloegr ydy’r broblem fawr—wel, yn y cyd-destun yma, fel mewn ambell i gyd-destun arall, yn amlwg. Ond mi fuaswn i yn eich cefnogi chi i geisio dwyn perswâd ar y Llywodraeth yn Llundain hefyd i geisio mabwysiadu deddfwriaeth debyg. Diolch yn fawr.

Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau, Dai Lloyd. Rwyf yn fwy na hapus, fel y dywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, i barhau â'r sgwrs â Seneddau eraill a rhannau eraill o deulu’r GIG ledled y DU. Fel y dywedais, gwn eu bod yn ystyried hynt ein deddfwriaeth a'r effaith ymarferol ar nifer y bobl sy'n mynd ymlaen i roi organau, a bod ganddynt ddiddordeb yn hynny.

Credaf fod hyn yn enghraifft dda iawn o ddefnyddio ein pwerau’n greadigol yn y lle hwn at ddiben go iawn—gwahaniaeth ymarferol a gwell i ddinasyddion yng Nghymru. A chredaf fod rheswm trawsbleidiol gwirioneddol yma i gydnabod sut y gallem wneud pethau yn y dyfodol yn ogystal. Yn benodol, ynghylch eich pwynt fod pob rhoddwr yn helpu mwy nag un person: rydym wedi gweld 10 o bobl yn mynd ymlaen i roi organau, 32 trawsblaniad ychwanegol yn digwydd, yn y chwe mis cyntaf trwy gydsyniad tybiedig. Dyna nifer sylweddol o bobl sy'n cael eu helpu gan y ddeddfwriaeth hon ac rwyf yn gobeithio gweld gwelliant pellach yn hynny o beth yn y dyfodol hefyd. Ond byddwn yn dweud, hyd yn oed yn awr, os bydd hynny’n parhau yn y dyfodol, yna bydd y ddeddfwriaeth wedi bod yn werth chweil—llawer iawn, iawn o bobl yn y blynyddoedd i ddod sy'n gallu dweud bod eu bywyd wedi gwella neu ei achub oherwydd y dewis yr ydym wedi ei wneud i greu'r ddeddfwriaeth hon.

Ymdriniaf â'ch pwynt olaf ynglŷn â natur y sgwrs. Rydych yn llygad eich lle ein bod wedi llwyddo i basio’r ddeddfwriaeth, felly mae'n newid natur y sgwrs a'r ffordd y mae pobl yn mynd ati i gael sgwrs ar adeg anhygoel o anodd i unigolion wrth ffarwelio â rhywun annwyl a deall yr hyn a allai ddigwydd wedyn o ran rhoi bywyd i bobl eraill hefyd. Mae sicrhau bod y sgwrs yn dechrau o bwynt cadarnhaol ynghylch rhoi organau, os mynnwch, fel yr opsiwn diofyn i’w ddewis, yn rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn yr ymgynghoriad yn ystod taith y Bil ac mae wedi ei atgyfnerthu hefyd yn y cyswllt rhyngom a phobl drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, credaf fod rheswm da dros fod yn optimistaidd am hynny, ond rheswm yr un mor dda i weld a yw hynny'n dal i fod yn wir yn ymarferol, o ran y ffordd y mae gwahanol bobl y tu allan i’r lle hwn—cymunedau ffydd a gwirfoddol—ac, yn arbennig, cysylltu â phobl sy’n cael y sgyrsiau hynny, ynghylch a yw’r hyn yr ydym yn meddwl ein bod yn ei weld yn y chwe mis cyntaf yn cael ei gynnal neu a oes mwy y gallwn ei wneud i wella'r sefyllfa ymhellach.

Diolch yn fawr iawn, madam Llywydd. Weinidog, rwyf yn eich llongyfarch ar eich swydd newydd. Hoffwn ddweud bod rhoi organau’n beth anrhydeddus iawn. Canfu adroddiad annibynnol gan y tasglu rhoi organau fod pobl o dras Asiaidd ac Affro-Caribïaidd yn cyfrif am 23 y cant o'r rhestr aros am arennau, ond mai dim ond 3 y cant o'r rhoddwyr hynny sy’n dod o'r cymunedau hyn. Mae astudiaethau hefyd yn dangos bod materion diwylliannol yn ffactorau pwysig sy’n dylanwadu ar wneud penderfyniad ynghylch rhoi organau. Canfu astudiaeth ddiweddar yn Birmingham fod 60 y cant o Fwslimiaid yn dweud bod rhoi organau yn erbyn eu ffydd. Gallaf eich sicrhau, Weinidog, nad yw hynny'n wir. Yr ateb yw ymgysylltu ac addysgu ein cymunedau Mwslimaidd yng Nghymru gyda sefydliadau Mwslimaidd perthnasol. Pa gamau ydych chi’n mynd i’w cymryd? Rwyf o’m gwirfodd yn ceisio eich helpu, os yw hynny’n bosibl, i fynd i bob mosg yn y wlad hon i wneud yn siŵr bod Mwslimiaid yn gwybod am fanteision y nod anrhydeddus hwn.

Nid yw taflenni ysgrifenedig yn ddigon da—mae ganddynt wahanol ieithoedd mewn cymunedau Mwslimaidd, mwy na hanner dwsin. A gwneud yn siŵr eu bod yn deall yr iaith ac amcan y Llywodraeth hon i sicrhau bod ein gwaith anrhydeddus yn cael ei gyflawni yn y wlad hon a’n bod yn gosod esiampl—rwyf yn siŵr eich bod yn gwneud gwaith ardderchog, ond mae ffordd hir i fynd cyn cyflawni hynny. Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Mohammad Asghar am ei bwyntiau penodol mewn maes sy’n wirioneddol heriol i ni. Rwyf yn arbennig o ddiolchgar eich bod wedi tynnu sylw at y ffaith fod nifer sylweddol uwch na’r disgwyl o’r bobl sydd ar y rhestr aros, nifer sy’n sicr yn anghymesur â'r boblogaeth yn gyffredinol, yn bobl o gymunedau o bobl o darddiad du ac Asiaidd, ac eto, o’r bobl sydd wedi cofrestru ar y rhestr rhoi organau, mae nifer sylweddol lai nag yn y boblogaeth yn ogystal. Felly, mae her go iawn inni ac mae rhywfaint ohoni’n ddiwylliannol, rydych yn iawn. Gwn hefyd nad yw hyn yn grefyddol; nid oes gwaharddiad crefyddol ar fod yn rhoddwr. Ond mae her yn rhai o'r normau diwylliannol sydd wedi datblygu a sut mae goresgyn hynny. Dyna pam y mae gwaith gwybyddol wrth gynorthwyo’r sgwrs honno wedi bod mor bwysig.

Nid oes diben esgus bod y gwaith wedi ei gwblhau a bod popeth yn iawn nawr. Mae angen iddi fod yn sgwrs barhaus. Rydym yn awyddus i newid y diwylliant a'r ffordd y mae pobl yn cael y sgwrs honno. Dyna hefyd pam y mae straeon personol wedi bod mor bwysig ac mor bwerus. Mae deall pobl yn y cymunedau yr ydych yn byw ynddynt, gweld rhywun yn aros ar y rhestr, ac yna gweld rhywun a'i deulu sydd wedi gweld rhywun yn y teulu’n marw, ond yn dod yn rhoddwr organau, yn gymhellion pwerus iawn i herio’r ffordd y mae pobl yn teimlo am eu dewisiadau, ac mewn sawl ffordd, dyna’r ffordd fwyaf darbwyllol.

Felly, rwyf yn cydnabod bod mwy i'w wneud yn y maes hwn. Nid oes diffyg hunanfodlonrwydd, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein bod eisoes wedi cymryd camau, ac nid dim ond gyda phobl yn y gymuned Fwslimaidd; mae ystod o gymunedau pobl o darddiad du ac Asiaidd yn y ffydd Gristnogol, yn ogystal â'r gymuned Hindŵaidd a'r Sikhiaid yn ogystal, yr ydym wedi cael sgyrsiau â nhw hefyd—felly mae ystod eang o grefyddau y mae angen ymgysylltu â hwy yma hefyd, ond hefyd ystod eang o ieithoedd. Rydym wedi sicrhau bod ystod o wybodaeth ar gael mewn nifer o wahanol ieithoedd cymunedol. Nid yw hynny'n golygu bod popeth yn berffaith neu na ellir gwella ein hymgysylltiad ag ystod wahanol o gymunedau, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn deall beth arall y gallwn ei wneud i gyflawni’r union beth hwnnw, oherwydd nid wyf yn credu bod dim gwahaniaeth rhwng y pleidiau ar y mater hwn.

5. 4. Datganiad: Adeiladu ar ein Llwyddiant Ailgylchu i Greu Economi Gylchol

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar adeiladu ar ein llwyddiant ailgylchu ar gyfer economi gylchol. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths.

Diolch ichi, Lywydd. Rwyf am dynnu sylw'r Senedd at stori lwyddiant go iawn i Gymru a sut y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn ar gyfer y dyfodol. Yng Nghymru y mae’r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn y Deyrnas Unedig a phe byddai’n adrodd ar wahân, y bedwaredd gyfradd uchaf yn Ewrop. Hoffwn dalu teyrnged i’m rhagflaenydd, Carl Sargeant, am ei gyfraniad i gyflawniadau Cymru o ran ailgylchu a defnyddio adnoddau’n effeithlon a hefyd gydnabod ymdrechion awdurdodau lleol Cymru a'r cyhoedd yng Nghymru er mwyn cyflawni hyn.

Cyrhaeddodd cyfradd ailgylchu trefol Cymru 59 y cant yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2015 a 58 y cant yn nhrydydd chwarter blwyddyn lawn 2015-16. Mae hyn 5 y cant yn uwch nag yn yr un chwarter yn 2014-15. Yn y dadansoddiad cyfansoddol newydd o wastraff trefol, a gyhoeddwyd gan Raglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau heddiw, nodir bod tua chwarter yr hyn sydd yn y gwastraff bag du—gwastraff gweddilliol—yn wastraff bwyd, a chwarter arall yn ddeunydd ailgylchadwy sych. Pe gallem gadw hyd yn oed hanner y deunydd hwn, gallem yn gyfforddus gyrraedd ein targed o ailgylchu 70 y cant o wastraff trefol. Mae hyn yn dangos cynnydd mawr o ran rheoli gwastraff cynaliadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, ei arwyddocâd gwirioneddol yw bod gwastraff a defnyddio adnoddau’n effeithlon yn cynnig porth i'r economi gylchol.

Mae economi gylchol yn un lle gellir defnyddio deunyddiau mewn modd cynhyrchiol dro ar ôl tro, gan greu gwerth ychwanegol a manteision niferus law yn llaw â hynny. Gall y manteision hyn ein helpu i gyflawni nifer o'n nodau lles o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn arbennig felly Gymru lewyrchus, Cymru wydn a Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Mae astudiaeth ddiweddar gan Sefydliad Ellen MacArthur a WRAP wedi nodi buddion economaidd posibl o fwy na £2 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae astudiaeth bellach gan WRAP a’r Gynghrair Werdd yn darogan y gall hyd at 30,000 o swyddi newydd gael eu creu yng Nghymru drwy ddatblygu economi gylchol.

Mae miloedd o weithwyr Cymru’n cael eu cyflogi mewn cwmnïau cadwyn gyflenwi mawr a bach, sy'n ymwneud â chasglu, cludo, ailbrosesu ac ailweithgynhyrchu deunyddiau ledled Cymru. Gall dur, alwminiwm, papur, cardfwrdd, gwydr, plastig, tecstilau a nwyddau electronig i gyd gael eu hailgylchu, gan greu swyddi ac ychwanegu gwerth drwy’r economi gylchol.

Mae angen inni sicrhau bod cymaint o ddeunyddiau â phosibl yn cael eu hailddefnyddio o fewn economi gylchol Cymru. Mae angen i’r deunyddiau hyn fod o ansawdd da er mwyn bod yn ddeniadol i gwmnïau ailbrosesu lleol a chael y prisiau gorau. Drwy hynny, bydd awdurdodau lleol a deiliaid tai yn cyfrannu at ganlyniadau amgylcheddol ac economaidd gwell yn ogystal â mwy o ailgylchu.

Mae'n bwysig i ddeiliaid tai yng Nghymru wybod ble mae'r deunyddiau a gasglwyd oddi wrthynt yn cael eu hailgylchu. Mae adroddiad diweddar ar gyrchfannau terfynol y deunyddiau a gesglir i'w hailgylchu gan awdurdodau lleol Cymru yn dangos bod llai na’u hanner, yn ôl pwysau, yn cael eu hailgylchu yng Nghymru. Mae potensial aruthrol i roi hwb i economi Cymru a nifer y swyddi drwy ailbrosesu mwy o'r deunyddiau hyn yma yng Nghymru.

Felly, fy mwriad fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yw bwrw ymlaen â pholisïau er mwyn sicrhau economi gylchol yng Nghymru. Bydd hyn yn un o’m blaenoriaethau allweddol ac mae’n cyd-fynd â'n gwaith i ymateb i becyn yr economi gylchol sy'n cael ei gynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Byddaf yn edrych ar yr holl fecanweithiau angenrheidiol, gan gynnwys deddfwriaeth, i'w gwneud yn ofynnol sicrhau bod llawer iawn o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu mewn cynnyrch sy’n cael ei gaffael gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddaf hefyd yn edrych ar estyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd i sicrhau bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn rhannu beichiau rheoli gwastraff o gartrefi yn fwy cyfartal. Byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru a'r sector preifat i weld sut mae cyflawni'r nodau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi canlyniadau adolygiad o'r glasbrint casgliadau, sy'n cadarnhau dilysrwydd y dull hwn o weithredu. Mae fersiwn diwygiedig o'r glasbrint ar hyn o bryd yn cael ei baratoi, a byddwn yn ymgynghori ar hyn yn ddiweddarach eleni.

Mae angen inni ystyried buddion posibl gwasanaethau casglu gwastraff mwy cyson i ddarparu deunydd crai o ansawdd uwch am gost casglu is. Mae’r llwyddiant yr ydym wedi'i weld yn ganlyniad yn bennaf i eglurder a chyfeiriad y strategaeth wastraff genedlaethol 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a’i chynlluniau sector ategol. Mae'r cynllun sector trefol a’i lasbrint casgliadau yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch sut y gallant wella canlyniadau ariannol, amgylcheddol ac economaidd. Rwyf am barhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a rhanddeiliaid eraill yn y sector, gan gynnwys busnes a'r trydydd sector, er mwyn sicrhau bod cynnydd tuag at ein targedau yn cael ei gynnal, a’n bod yn datblygu ac yn darparu polisïau effeithiol i gyflawni ein hamcanion ehangach yn y maes hwn.

Rydym yn symud yn gyson tuag at ein nod cyffredinol o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Dywedasom yn ein maniffesto ein bod am weld Llywodraeth Cymru’n garbon-niwtral erbyn 2020. Mae'r nodau’n uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy ac yn golygu y bydd angen inni fel cenedl gynyddu ein hymdrechion o ran yr agenda rheoli gwastraff ehangach, nid dim ond ailgylchu, i leihau allyriadau ymhellach a hyrwyddo defnyddio adnoddau’n effeithlon drwy’r gadwyn gyflenwi gyfan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o strategaeth wastraff 2010 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd dros dro y llynedd ac ar hyn o bryd rydym yn paratoi papur trafod i gychwyn y drafodaeth ynghylch yr hyn y dylai'r strategaeth newydd ei gofleidio. Byddaf yn cyflwyno hyn i'r Senedd ac ar gyfer ymgynghori cyhoeddus ehangach erbyn diwedd eleni.

Mae gan Gymru hanes balch o ran ailgylchu trefol, a bydd y targedau sydd ar waith yn sicrhau bod Cymru'n parhau i symud tuag at fod â’r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn Ewrop. Bydd hyn yn dod â gweithgarwch economaidd ychwanegol, mwy o swyddi a mwy o ostyngiadau carbon. Mae'n rhaid inni gynnal y cynnydd hwn a sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gyfrannu tuag at y nodau sydd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyffrous iawn ym maes ailgylchu trefol a defnyddio adnoddau’n effeithlon, ac rwyf yn falch o gael cyfle i amlinellu’r agenda hon ichi heddiw. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu'r Ysgrifennydd newydd i'w swydd a chithau i swydd y Dirprwy Lywydd? Credaf mai dyma'r tro cyntaf i chi fod yn y Gadair, hefyd. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad. Hoffwn ddweud bod llawer iawn o sbwriel ynddo, ond golygaf hynny yn y ffordd gadarnhaol orau bosibl. [Chwerthin.] Fe arhosaf gyda’r jôcs gwael ar ôl honno.

Yr un peth yr oeddwn yn ei feddwl am y ffordd yr ydym yn disgrifio’r stori gadarnhaol iawn hon i Gymru, fodd bynnag, yw efallai fod angen inni fod ychydig yn fwy rhagweithiol yn y ffordd yr ydym yn gwneud hyn. Nid yw 'economi gylchol' yn taro deuddeg ar garreg y drws i mi. Pan fyddwch yn sôn am strategaeth dyfodol diwastraff, credaf fod pobl yn deall hynny, a phan fyddwch yn sôn am y swyddi a all ddod yn sgil ailddefnyddio’r deunyddiau craidd a ddefnyddir gennym yn ein heconomi, credaf fod pobl yn deall hynny. Mae 'economi gylchol’ yn fy ngadael yn oer, felly rwyf yn gobeithio y gall y Llywodraeth ddod o hyd i ffyrdd mwy cyffrous o ddisgrifio’r hyn sy’n stori newyddion da i'r Llywodraeth ac i Gymru fel cenedl.

Mae'r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn i'r Ysgrifennydd yn awr yn ymwneud â’r ffordd yr ydym yn mynd i symud yn nes at y targed hwnnw. Yn awr, roedd eich datganiad heddiw yn canolbwyntio ar ailgylchu, ac rwyf yn deall pam, ond o dan strategaeth dyfodol diwastraff, wrth gwrs, mae lleihau ac ailddefnyddio hefyd yn ddulliau allweddol o gyflawni hynny, ac, yn enwedig yn eich nodau carbon isel neu ddi-garbon chi fel Llywodraeth, rhaid i leihau ac ailddefnyddio fod yn fwy blaenllaw hyd yn oed nag ailgylchu. Felly, hoffwn glywed ychydig mwy am eich barn ynghylch sut yr ydych yn mynd i ddefnyddio’r offer hynny i hyrwyddo eich nodau ac, yn y cyd-destun hwnnw, a ydych yn rhoi pwyslais a sylw arbennig, er enghraifft, i gynllun blaendal-dychwelyd ar gyfer poteli plastig yng Nghymru? Cymerais ran mewn gweithgaredd glanhau traeth yn gymharol ddiweddar yn Llansteffan; roedd yn amlwg iawn fod bron pob yn ail eitem yr oeddem yn ei godi o'r traeth yn gaead potel ddiod blastig—caead chwaraeon. Hoffwn weld y Llywodraeth hon yn ystyried ffordd o annog pobl i ailddefnyddio deunyddiau o'r fath yng Nghymru, a bydd Plaid Cymru yn sicr yn dadlau o blaid hynny. A oes pethau, gan ein bod yn edrych tuag at yr haf, a bydd llawer o wyliau’n cael eu cynnal—rwyf wedi bod i un neu ddwy yn barod ac yn edrych ymlaen at ragor—a sioeau a digwyddiadau amaethyddol ac yn y blaen, lle y gallwn sicrhau bod ailddefnyddio ac ailgylchu’n rhan o hynny? Oherwydd mae llawer iawn o wastraff bwyd, a llawer iawn o wastraff plastig sy'n cael ei greu yn sgil ein digwyddiadau awyr agored. Maent yn bwysig iawn i’n cymunedau, ond byddai'n dda o beth sicrhau bod y strategaeth dyfodol diwastraff yn rhan ganolog o’r digwyddiadau cyhoeddus hynny yn ogystal.

Dywedasoch yn y datganiad—roedd yn eithaf diddorol, yn fy marn i—ei bod yn bwysig fod pobl Cymru’n deall yr hyn sy'n digwydd i'w gwastraff. Credaf fod hynny'n bwysig; clywaf lawer o fythau ar garreg y drws, yn llythrennol, lle mae pobl yn dweud eu bod yn rhoi’r compost allan ac nad yw’r compost ond yn cael ei losgi yn rhywle; nad yw a dweud y gwir ond yn diweddu mewn compost. Credaf fod angen inni ddeall ac esbonio hyn. A allwch ddweud, felly, sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod mwy o ailgylchu’n digwydd yma yng Nghymru, a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru a’r economi yma yng Nghymru?  Soniasoch yn y datganiad mai tua hanner ein hailgylchu sydd mewn gwirionedd yn digwydd yn ein gwlad ein hunain. Credaf y dylem gynyddu hynny, a hoffwn i'r Llywodraeth bennu targed penodol o fewn ei strategaeth wastraff i gynyddu hynny.

Yr ail elfen yr hoffwn eich holi amdani yw eich barn, neu farn y Llywodraeth, am losgi. Pa le, os o gwbl, sydd i losgi gwastraff yn y strategaeth dyfodol diwastraff? Yn fy marn i ni ddylai fod dim rôl strategol iddo o gwbl, a dylech fynd ar drywydd moratoriwm ar losgi gwastraff. Mae rhai mathau o wastraff, wrth gwrs, y mae'n rhaid eu llosgi, fel gwastraff llawfeddygol a gwastraff ysbyty, ond fel strategaeth lleihau gwastraff, a strategaeth ailgylchu gwastraff, ni ddylai fod dim lle i losgi. Credaf ein bod wedi cymryd rhai camau gwag yn y gorffennol drwy annog atebion lleol a rhanbarthol o ran strategaeth wastraff nad ydynt wedi mynd i'r afael â'n blaenoriaethau cenedlaethol. Rwyf yn gobeithio bod gwersi'r gorffennol wedi eu dysgu ac y byddwch yn pwyso ar unrhyw awdurdod lleol neu gonsortiwm sy'n dechrau defnyddio llosgi fel ffordd o ymdrin â'r maes hynod bwysig hwn, oherwydd, fel y mae eich datganiad yn nodi, mae ailgylchu ac ailddefnyddio’r deunyddiau hyn mewn gwirionedd yn golygu gwell bargen i’n cymunedau a'n heconomi.

Mae’r pwynt olaf yr wyf am ei godi â chi’n ymwneud ag ailgylchu masnachol. Credaf ein bod i gyd yn dal i fod yn rhwystredig iawn, gan ein bod yn gwneud ein gorau yn ein cartrefi ein hunain i gompostio, boed yn yr ardd neu yn y biniau, p’un a ydym yn ailgylchu ac yn rhoi cardfwrdd i’r naill ochr, yn rhoi poteli i’r naill ochr neu’n rhoi plastig i’r naill ochr, pan geisiwn brynu nwyddau—ac weithiau mae’n rhaid inni gael nwyddau newydd—rydym yn gweld eu bod wedi eu gor-becynnu a’u gor-gyflenwi yn y ffordd honno. Mae'n ymddangos, mewn gwirionedd, mai gweithredu cyfyngedig sydd yn y sector masnachol yn hyn o beth. Pa elfennau o'n llwyddiant sy’n ganlyniad i lwyddiant yn y sector masnachol, a beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod llai, yn gyntaf oll, ac yn bwysig iawn, yn y sector masnachol, o ddeunydd pecynnu diangen a gwastraff? Credaf ei bod braidd yn annheg, yn aml iawn, rhoi baich ar drethdalwyr domestig ac aelwydydd domestig, pan welwn mor glir nad yw llawer o gwmnïau, sy’n gweithredu, wrth gwrs, y tu allan i Gymru, yn ogystal, yn ystyried ein neges yma ynghylch lleihau ac ailddefnyddio.

Mae'n stori lwyddiant dda mai yng Nghymru y mae’r bedwaredd gyfradd uchaf yn Ewrop. Mae'n stori lwyddiant ragorol ein bod yn ailgylchu mwy na gweddill y Deyrnas Unedig. Roeddem yn arfer gwneud yn well ar ynni adnewyddadwy hefyd, ond cwympo’n ôl a wnaethom wedyn. Rwyf yn gobeithio na fyddwn yn cwympo yn ôl yn hyn o beth, ac rwyf yn gobeithio yn eich ymateb heddiw, ac yn eich gwaith fel Ysgrifennydd newydd, y byddwch yn llwyddo i gyflawni eich nod o sicrhau economi ddiwastraff yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei sylwadau ac edrychaf ymlaen at ei gael yn fy nghysgodi; rwyf yn gobeithio y bydd ei jôcs yn gwella dros y misoedd nesaf. Rwyf yn cytuno â chi am yr economi gylchol, oherwydd pan roddwyd teitl y datganiad o fy mlaen, fe betrusais ychydig. Ond credaf eich bod yn iawn; mae arnom angen rhywbeth y mae pobl yn ei ddeall yn iawn ac yn gallu cydio ynddo. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol, ac fel y dywedwch, mae'n stori newyddion da. Mae bod lle yr ydym yn y DU ac yn Ewrop yn llwyddiant go iawn. Wrth gwrs, mae angen inni wneud mwy i wthio dros y 59 y cant er mwyn cyrraedd ein targed. A chredaf fod mwy y gallwn ei wneud, ond mae'n fater o sicrhau bod y cyhoedd yn dod gyda ni yn hynny o beth.

Gofynasoch beth arall y gallwn ei wneud, oherwydd, yn amlwg, rydym yn ôl pob tebyg wedi dod i dipyn o fan gwastad, a bydd yn rhaid cymryd camau pellach er mwyn symud ymlaen. Holasoch yn benodol am gynllun adfer blaendal, a gwn fod hynny wedi cael ei ystyried. Efallai eich bod yn ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban ar hyn o bryd yn gwneud llawer iawn o waith ynghylch hyn, ac rydym mewn ffordd yn gweithio’n weithredol gyda Llywodraeth yr Alban—does dim pwynt dyblygu’r gwaith y maent hwy’n ei wneud—ac rydym yn aros am rywfaint o gyngor ganddynt. Mae swyddogion yn cydweithio'n agos iawn. Fy nealltwriaeth gynnar o gael cynllun adfer blaendal o'r fath yw y byddai'n hynod o gymhleth i'w gyflwyno. Ond, yn sicr, rwyf yn disgwyl cael y cyngor hwnnw, a gwn, unwaith eto, fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid ynghylch p’un a ddylem wneud hynny.

Roeddwn yn meddwl bod yr hyn a ddywedasoch am y gweithgaredd glanhau’r traeth yn ddiddorol iawn, ac rydych i’ch canmol am wneud hynny, a’r caeadau plastig oedd y drwg yn y caws. Cofiaf pan gefais fy ethol gyntaf, yn ôl yn 2007, nid gwneud cynllun traeth—nid oes gennym draethau yn Wrecsam—ond, wyddoch chi, mynd ar ymgyrch casglu sbwriel, lle y bagiau siopa oedd y drwg. A chredaf nad ydym erbyn hyn yn gweld llawer o fagiau plastig sbwriel yn benodol oherwydd y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan y lle hwn i leihau eu defnydd. Roedd y pwynt a wnaethoch hefyd am sioeau amaethyddol a gwyliau yn un da iawn. Ni ellir ailddefnyddio plastig yn ymarferol. Felly, credaf fod angen inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, wrth symud ymlaen.

Soniais am sicrhau bod pobl Cymru’n gwybod beth sy’n digwydd i'r cynhyrchion sy'n cael eu hailgylchu, a chredaf fod sgwrs y mae angen imi ei chael â’m cydweithiwr, y Gweinidog dros yr economi a seilwaith, ynghylch hyn. Ac, yn sicr, mae angen inni annog busnesau. Yn wir, yn etholaeth Ken Skates ei hun—rwyf wedi bod ar ymweliad fy hun—mae cwmni newydd sy'n ailgylchu prennau hongian cotiau, ac mae cannoedd o filoedd o brennau hongian cotiau yn llythrennol yn mynd drwyddo. Felly credaf fod hynny’n rhywbeth y gallem ei wneud, er mwyn annog busnesau newydd fel yna i ddod i Gymru.

Credaf, mewn perthynas â llosgi, mai atal yn amlwg yw’r allwedd, ond, unwaith eto, megis dechrau yr wyf yn fy mhortffolio. Mae angen imi gael golwg ar hynny, ond, yn sicr, credaf fod angen parhau i ganolbwyntio ar ble yr ydym wedi bod gyda hynny.

Gofynasoch am wastraff masnachol, a chredaf eich bod yn llygad eich lle—os ydym yn annog aelwydydd i wneud hyn, dylem fod yn annog busnesau. Maent yn cydnabod bod ailgylchu’n arbed arian iddynt. Ond credaf fod yn rhaid inni hefyd edrych ar estyn cyfrifoldeb y cynhyrchwyr, a sicrhau eu bod yn dylunio cynhyrchion a fydd yn para'n hirach, eu bod yn meddwl am yr hyn sy'n digwydd i'r cynhyrchion pan fyddant yn dod at ddiwedd eu hoes, sut y gallant wedyn gael eu hailgylchu neu eu hatgyweirio, a meddwl am y seilwaith y mae ei angen yn hynny o beth.

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad—datganiad mor gadarnhaol? Cyfeiriodd at y 30,000 o swyddi posibl yn y sector hwn. Fel y gŵyr hi efallai, mae Castell-nedd Port Talbot, yn fy ardal i, wedi sicrhau'r ail nifer uchaf o swyddi mewn ailbrosesu dan raglen ARID WRAP Cymru a ariennir gan yr UE, sy'n tynnu sylw at realiti ymarferol y potensial i greu swyddi yma. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r mathau o swyddi y gellid eu creu, a’r gymysgedd sgiliau sydd ei hangen, er mwyn gallu manteisio'n llawn ar yr economi gylchol yn ei holl ffurfiau, boed yn gasglu gwastraff, ailgylchu, ond hefyd ailweithgynhyrchu, ailddefnyddio ac atgyweirio?

Wel, nid wyf wedi ymgymryd â’r darn hwnnw o waith ym mis cyntaf y portffolio. Ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae’r posibilrwydd hwnnw o ddod â mwy o swyddi. Soniais y gallem fod yn edrych ar annog busnesau yn y ffordd yr wyf wedi’i chrybwyll ynglŷn ag etholaeth Ken Skates a’r busnes prennau hongian cotiau.

Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod ein bod wedi gwneud penderfyniad mawr yma yng Nghymru i fod yn genedl sy’n ailgylchu, ac mae angen inni sicrhau, pan fyddwn yn annog busnesau i ddod yma, ein bod yn dangos mai un o'r rhesymau pam yr ydym am fod yn genedl sy’n ailgylchu yw er mwyn cael y cadernid economaidd hwnnw. Felly gallaf eich sicrhau y byddaf, wrth symud ymlaen, yn cael y sgyrsiau hynny.

Ddirprwy Lywydd, a gaf i ychwanegu fy llongyfarchiadau ichi ar eich swydd? Nid wyf yn siŵr y byddech eisiau ailgylchu dim byd a wnaeth y dyn diwethaf, ond gwn y bydd gennych eich personoliaeth eich hun yn y swydd, ac rwyf yn gobeithio y byddwch yn anghofio'n fuan yr ambell achlysur pan fu inni wrthdaro pan oeddwn i’n eistedd yn y Gadair honno, yn enwedig os digwydd imi heclo braidd yn anfwriadol o bryd i'w gilydd, ar ôl clywed rhai o gyfraniadau’r fainc flaen.

Mae hefyd yn deimlad braidd yn rhyfedd fod yn rhaid imi wneud fy nghyfraniad cyntaf fel llefarydd, mewn maes nad wyf erioed wedi’i gysgodi o'r blaen, a gwneud hynny mewn maes lle mae’r Llywodraeth yn cyflawni’n uchel. A gaf i roi ar gofnod fy llongyfarchiadau i'r Llywodraeth, a hefyd i'r sawl y mae’n rhaid inni yn awr ei galw yn Ysgrifennydd Cabinet newydd? Cofiaf mai dyna oedd y term yn y Cynulliad cyntaf; felly, mae hyd yn oed hynny wedi ei ailgylchu. Ond rwyf yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich swydd ac y byddwch yn cyflawni llawer o'r pethau yr ydych yn gobeithio’u cyflawni yn y dyddiau cynnar hyn yn eich portffolio.

Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad yn y maes hwn, ac anfoesgar fyddai peidio â chydnabod hynny. Rydym yn awr mewn sefyllfa lle y gallem weld rhagor o uchelgais. Mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth â'r economi gylchol, sy’n mynd â ni ychydig ymhellach i ochr fasnachol pethau, wedi nodi’r hanes eithaf da o ran gwastraff trefol, hyd yn oed ar lefel Ewropeaidd, heb sôn am ar raddfa’r DU. Felly, credaf fod angen inni yn awr ganolbwyntio ar sut yr ydym yn mynd i ddefnyddio adnoddau mentrau bach a chanolig, yn arbennig, ac mae angen iddynt yn fy marn i fod yn ganolog i strategaeth sy'n ailgylchu’n effeithiol ac yn cadw mwy o ddeunydd wedi'i ailgylchu yng Nghymru. Oherwydd, yn eich datganiad clodwiw o onest, rydych yn cydnabod bod dros hanner y deunydd sy’n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd wedyn yn gadael Cymru. Felly, os edrychwn ar hynny fel adnodd, sef yr hyn yr wyf yn credu bod angen inni ei wneud, yn hytrach nag yn broblem i’w hallforio, yna credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi mwy o ran i fusnesau bach a chanolig. I wneud hynny, mae angen inni beidio â’u llethu â rheoleiddio, ond rhoi'r offer iddynt i weld y cyfleoedd ac i ddatblygu eu sgiliau ac i weld ble y gall fod mantais fasnachol.

Gan hynny, felly, mae gennyf un peth penodol, a dweud y gwir, i fynd ar ei drywydd, a hynny yw: rydych yn dweud eich bod yn edrych ar sut y gellir gwneud hynny a'ch bod yn llunio cynlluniau ar gyfer hynny, a hoffwn wybod sut y gellid defnyddio ERDF, ein harian o Ewrop, ynghyd â chyllid Horizon yr UE, oherwydd mae’n ymddangos i mi, wrth wella sgiliau a seilwaith allweddol yn yr economi, y gallai’r rhaglenni Ewropeaidd hynny fod yn addawol iawn, iawn ac yn faes lle y gallem mewn gwirionedd fod â mantais gystadleuol. Mewn cymaint o'r hyn sy'n digwydd yn economi Cymru, rydym yn ceisio efelychu arfer gorau mewn mannau eraill, ond mae'n debyg mai’r gwir uchelgais yr ydych yn ei mynegi'r prynhawn yma yw y gallwn arwain nid yn unig ar lefel y DU ond ar lefel Ewropeaidd yn ogystal. Os gallwn gyflawni’r uchelgais honno a minnau’n dal i fod yn y swydd, yna edrychaf ymlaen at allu cydnabod hynny a llongyfarch llwyddiant pellach fel y mae'n digwydd.

Diolch ichi, David Melding, am eich geiriau caredig. Ddoe ddiwethaf y sylweddolais—oherwydd, wrth gwrs, dim ond ers 2007 yr wyf yma—fod 'Ysgrifennydd Cabinet' yn arfer cael ei ddefnyddio. Felly, unwaith eto, roedd honno’n jôc well o lawer nag un Simon Thomas. [Chwerthin.] Rydych yn llygad eich lle, ac mae'n dda iawn eich bod yn cydnabod cyflawniad uchel y cyfraddau ailgylchu trefol. Dyna pam yr oeddwn mor onest am y sector masnachol. Yr hyn yr wyf am ei wneud yw adeiladu ar gynllun y sector diwydiannol a masnachol sydd gennym yn ein cynlluniau er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio gyda busnesau. Byddwch wedi fy nghlywed yn sôn o'r blaen am estyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd, ond credaf fod hyn yn fater o sicrhau ein bod yn gweithio gyda busnesau i sicrhau eu bod, wrth ddylunio eu cynnyrch a’u deunydd pacio, yn gallu lleihau gwastraff, ailddefnyddio mwy, gwella eu gallu i ailgylchu a chynyddu’r cynnwys sydd wedi'i ailgylchu.

Mae hefyd yn ymwneud â rheolaeth gynaliadwy ar wastraff gweddilliol, ac mae angen inni fod yn cael y sgyrsiau hynny gyda hwy. Soniasoch am arian Ewropeaidd. Unwaith eto, rwyf i fod i gwrdd â’m cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, i gael y trafodaethau hynny ynghylch sut y gallwn ddefnyddio arian Ewropeaidd—agwedd arall eto ar pam y dylem bleidleisio i aros, yn fy marn i, yr wythnos nesaf, i sicrhau bod y cyllid Ewropeaidd yn dal i fod yno, wrth symud ymlaen.

Credaf ein bod eisoes wedi cynnig llawer iawn o gymorth i lywodraeth leol, er enghraifft. Gwn fod llywodraeth leol yn eithaf sinigaidd am y targedau a bennwyd gennym ar ei chyfer o ran gwastraff trefol. Rwyf yn siŵr y byddaf, pan ddechreuaf gael y trafodaethau hynny â busnesau, yn dod ar draws yr un math o lefel. Felly, mae'n fater o beidio â chymryd llwyddiant yn ganiataol. Mae'n fater o weithio'n galed iawn gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn gwella'r gwasanaethau a’n bod yn gallu cyrraedd ein targed maes o law.

Rwyf yn estyn croeso i’r Ysgrifennydd Cabinet i'w swydd ac yn croesawu ei datganiad a'i hymrwymiad i economi gylchol. Yn amlwg, mae wedi canolbwyntio ar ailgylchu yn y datganiad hwn, a nodaf ei bod yn codi'r potensial ar gyfer ailgylchu pellach drwy ddadansoddi cynnwys y bagiau duon, sy'n dangos bod llawer mwy yno y gellid ei ailgylchu. Fodd bynnag, credaf y dylem, law yn llaw â pharhau i fynd ar drywydd yr hyn y gellir ei ailgylchu, edrych ar ailddefnyddio, a dylem fod yn edrych ar atal gwastraff. Gwn y bu cryn dipyn o drafod yma yn y Cynulliad blaenorol am gynllun poteli blaendal-dychwelyd—credaf fod William Powell wedi ei godi ym mhob dadl a gawsom—a nodaf yn eich ateb i Simon Thomas ichi ddweud eich bod yn trafod hyn gyda Gweinidog yr Alban ac yn gweld beth yw eu profiadau yn yr Alban. Yn amlwg, byddwch yn dadansoddi hyn yn ofalus, ond byddai'n ffordd uniongyrchol iawn o ailddefnyddio ac yn atal llawer iawn o’r gwastraff a geir mewn gwirionedd, pan ddadansoddir beth sy'n achosi sbwriel, er enghraifft. Felly, rwyf yn falch iawn fod hynny’n cael ei ystyried.

Y pwynt arall yr oeddwn am ei godi oedd gwastraff gardd, oherwydd rwyf bob amser yn bryderus iawn, yn enwedig yn y wlad, pan welwch wastraff gardd yn cael ei roi allan i'w gasglu gan awdurdodau lleol, a tybed faint o bwyslais y gellir ei roi ar gompostio a cheisio atal hyn, sy'n ymddangos i mi yn beth braidd yn ddiangen i awdurdodau lleol fod yn ei wneud. Dylem fod yn canolbwyntio ar annog ailgylchu gwastraff gardd yn yr ardd ei hun. Rwyf yn deall hynny mewn tref—hynny yw, ni allwch wneud hynny mewn tref lle mae gan bobl ardd fach neu iard neu bethau felly, efallai, ond yn y wlad, mae’n ymddangos i mi nad yw’n beth da i fod yn ei wneud.

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Rydych yn iawn—clywsoch fi’n dweud wrth Simon Thomas ein bod wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth yr Alban, ac yn sicr mae swyddogion yn gwylio’r hyn a wnânt yno. Byddant yn cyflwyno rhywfaint o gyngor y byddaf yn ei ystyried yn sicr cyn diwedd y flwyddyn, ond mae'n broses gymhleth iawn dechrau cynllun blaendal-dychwelyd o ddim. Credaf y byddai'n fenter fawr a byddai'n rhaid inni weithio allan a yw'r costau a'r buddion yn gytbwys. Credaf fy mod wedi sôn bod plastig yn eithaf anodd ei ailgylchu. Os feddyliwch chi am y peth, mae'r rhan fwyaf o’r poteli diodydd yn awr, y rhai gwydr, wedi eu disodli gan blastig, ac ni ellir defnyddio hwnnw’n ymarferol.

O ran compostio, credaf fod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo compostio gartref ymhlith deiliaid tai. Os feddyliwch chi am y peth, credaf y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cynhyrchu gormod o wastraff o'r ardd i reoli eu biniau compost eu hunain. Felly, credaf fod pobl yn wirioneddol yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu mewn perthynas â chasglu gwastraff gardd dros ben, ac os gall y compost hwnnw wedyn fod o fudd i arddwyr eraill, gallwch weld y broses yno. Credaf mai’r hyn y byddwn yn awyddus iawn i’w osgoi yw pobl yn llosgi eu gwastraff gardd, oherwydd gall hynny yn aml greu mwg gwenwynig iawn.

Weinidog, a gaf i ofyn ichi ynghylch cyfraddau ailgylchu yng Nghymru? Un o'r awdurdodau lleol oedd yn perfformio orau oedd Conwy, ac mae wedi llwyddo i sicrhau llwyddiant o ran ailgylchu gyda threfn ailgylchu gyfredol a bocs troli sy'n cael ei gasglu’n wythnosol, a gwahanol ddeunyddiau ailgylchu sy'n cael eu casglu wrth ymyl y ffordd a’u didoli wrth ymyl y ffordd, ac yna gasgliad bin du bob pythefnos. Yn awr, fel y gwyddoch efallai, mae’r awdurdod lleol yn bwriadu symud i gylch tair wythnos ar draws ardal yr awdurdod lleol, ac mae ar fin cynnal cynllun peilot hefyd, y mae'n bwriadu ei gychwyn yn ystod misoedd yr haf, ar gyfer casglu bob pedair wythnos.

Rwyf yn bryderus iawn am y cynllun peilot a'r effaith y gallai ei chael ar annog ymddygiad ailgylchu cadarnhaol ymysg y gymuned leol. Mae llawer o bryder y gallai hynny arwain at broblemau amgylcheddol yn sgil y rhai nad ydynt yn ailgylchu yn y ffordd y byddech chi a fi am iddynt ei wneud, ac nid oes darpariaeth yn y cynigion i ymdrin â gwastraff anifeiliaid anwes, sydd wrth gwrs yn gallu bod yn arbennig o annymunol os caiff ei adael i bydru mewn biniau du am yn hir. Felly tybed, Weinidog, pa ganllawiau y gallai Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi er mwyn sicrhau y darperir ar gyfer y pethau hyn yn iawn, felly os oes newid i wasanaeth casglu sbwriel cyffredinol bob pedair wythnos, nad yw’n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd ehangach, ar gymunedau lleol, ac yn wir ar yr economi ymwelwyr, yn enwedig mewn lle fel Conwy lle mae ymwelwyr yn hanfodol o ran rhoi hwb economaidd i’r ardal benodol honno?

Diolch i Darren Millar am ei gwestiwn. Roeddwn yn gwybod bod Conwy yn bwriadu cynnal cynllun peilot i dreialu casgliadau bob pedair wythnos. Credaf eu bod yn dechrau ddiwedd y mis nesaf. Nid oes gennym ni yn Llywodraeth Cymru bolisi ar gyfer casglu sbwriel na ellir ei ailgylchu yn fisol. Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu pa mor aml y maent yn casglu gwastraff a beth sydd orau i’w cymuned a'u poblogaethau lleol. Nid oes gennyf ddim cynlluniau i orfodi unrhyw drefniadau penodol arnynt ynghylch pa mor aml y cesglir gwastraff.

O ran gwastraff anifeiliaid anwes, nid yw hynny'n rhywbeth sydd wedi cyrraedd fy nesg yn y dyddiau cynnar hyn. Ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn am wastraff anifeiliaid anwes ac rwyf yn hapus i gael golwg ar hynny ac ysgrifennu at yr Aelod.

Mae gennyf ddau siaradwr arall ac mae gennym lai na munud i fynd trwyddynt. A gaf i ofyn i’r ddau siaradwr, felly, am gwestiynau yn unig ar yr achlysur hwn, os gwelwch yn dda? Jenny Rathbone nesaf.

Diolch yn fawr iawn, a chroeso, Weinidog. Hoffwn dalu teyrnged—rydych wedi dweud bod rhyw gymaint o wastraff bwyd yn dal i ymddangos mewn ailgylchu du, sydd yn amlwg yn fater iechyd mawr, yn ogystal ag yn hoff iawn gan y gwylanod—i’r gwaith y mae Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn ei wneud i ddargyfeirio bwyd rhag gorfod mynd i safleoedd tirlenwi a chael ei ddefnyddio’n gynhyrchiol gan sefydliadau. Credaf fod hynny’n bwysig iawn.

Hoffwn ofyn ichi am y cymhellion croes o ran ailgylchu seiliedig ar bwysau—Rhif 1—a hefyd pa ystyriaeth y gallech ei rhoi i sut y gallem roi ardollau ar y poteli plastig neu’r caeadau caniau sydd wedi eu crybwyll yn gynharach gan eraill fel ffordd o sicrhau nad ydym yn datrys un broblem a chreu un arall. Sut allwn ni gael y llygrwr i dalu—h.y. y rhai sydd yn taflu eu caniau ar y traeth? Sut mae atal hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf drwy efallai gael poteli diodydd y mae'n rhaid eu dychwelyd fel dewis amgen i hynny?

Diolch ichi, Jenny Rathbone. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud wrth Aelodau blaenorol am fy safbwyntiau ar gynlluniau blaendal-dychwelyd, o ran eich cwestiwn olaf. Mewn perthynas â thaflu yn ôl pwysau, roedd briff yr oeddwn yn ei ddarllen yn cofleidio’r hyn y mae gwledydd eraill yn Ewrop wedi ei wneud. Credaf fod Awstria a'r Eidal a rhannau o Wlad Belg yn ardaloedd lle'r oedd treth talu wrth daflu. Credaf fod hynny’n eithaf dadleuol. Wrth symud ymlaen, byddai'n rhaid inni ystyried modelau ar gyfer sut yr ydym yn ariannu awdurdodau lleol i ddarparu’r gwasanaethau uchel eu safon yr ydym wedi’u gweld. Ond, yn sicr, ni chredaf y byddai talu-wrth-daflu yn rhywbeth y byddwn am ei weld yma yng Nghymru.

Cytunaf yn llwyr ein bod yn gwybod y gallai 50 y cant o sbwriel yn ôl pob tebyg sy’n cael ei daflu i mewn i fin du gael ei ailgylchu. Mae'n fater o sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffordd o annog pobl i edrych ar yr hyn y maent yn ei daflu—edrych o gwmpas eu tŷ a gweld yr hyn y gallant ei daflu, a sicrhau eu bod yn taflu’r pethau iawn yn y mannau iawn ar yr adeg iawn. Efallai y bydd angen inni gael ymgyrch arall, er enghraifft, i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Credaf fod hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol. Ond mae'r rhain i gyd yn bethau y bydd yn rhaid imi eu hystyried er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y targed o 70 y cant.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae nodau Llywodraeth Cymru yn glodwiw, ond efallai’n afrealistig: ailgylchu 70 y cant erbyn 2025 a 100 y cant erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y 100 y cant, rhaid ichi ddod â deiliaid tai Cymru gyda chi. Rydych yn gweithio mewn ymateb i gyfarwyddeb fframwaith yr UE, sydd ddim ond yn gofyn am gyfradd ailgylchu o 65 y cant erbyn 2030. Dyma achos perffaith o oreuro deddfwriaeth yr UE, y mae Llafur yn cwyno cymaint amdani yn San Steffan, ac, yn sydyn, dyma ni, yn ei chael yng Nghymru.

Yn awr, mae dwy brif ffordd o gael pobl i ailgylchu yng Nghymru: gallwn ddefnyddio'r foronen neu gallwn ddefnyddio'r ffon. Rwyf yn ofni ei bod yn ymddangos ein bod yn dilyn llwybr y ffon yn rhy aml. Disgwylir i lawer o fy etholwyr yng Nghonwy ac, yn fuan, yn Ynys Môn, nid yn unig ddidoli eu sbwriel eu hunain ar ran y cyngor ond hefyd wneud y tro â chasglu biniau pob pedair wythnos. Yn awr, mae’r rhai ohonoch sy’n dioddef o’r system sydd gennym ar Ynys Môn yn gwybod, pan fydd y gwynt yn chwythu, fod y sbwriel wedi'i ailgylchu yn llythrennol yn diweddu yr holl ffordd i lawr y stryd, ac mae llawer o drigolion y stad lle yr wyf i’n byw, pan fydd hi’n wyntog, nad ydynt hyd yn oed yn trafferthu rhoi’r sbwriel wedi'i ailgylchu allan, gan ei fod yn chwalu i bob man. Onid yw'n llym iawn disgwyl i bobl â theuluoedd mawr roi eu sbwriel mewn bin yn union yr un maint ag aelwyd lle nad oes ond un person yn byw? Wrth gwrs, mae Caerdydd yn awr o bosibl yn wynebu'r pla pedair wythnos yn ogystal. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gymhelliad allwch chi ei gynnig i'n trigolion ynghylch ailgylchu, yn hytrach na bod hyn yn ddraenen yn ystlys gasgliadol y Cymry? Ac ar ben hynny, pam nad yw’n bosibl inni—?

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Nathan Gill am ei gwestiwn, er fy mod yn meddwl ei fod braidd yn sur. Roedd yn drueni mai dyna oedd y cwestiwn olaf i roi terfyn ar yr hyn yr wyf yn meddwl sydd wedi bod yn ddatganiad cadarnhaol iawn. Wyddoch chi, nid yw'r ystadegau’n ategu’r hyn yr ydych yn ei ddweud. Nid wyf yn credu ein bod wedi gorfod defnyddio moron a ffyn. Rwyf yn meddwl bod pobl wedi ymgysylltu â hyn yn wirioneddol. Rwyf yn derbyn ein bod wedi cyrraedd, gyda 58 neu 59 y cant, tipyn o fan gwastad, ac er mwyn cyrraedd y 70 y cant, bydd yn rhaid inni feddwl am bethau gwahanol, ynghylch sut mae cael y 50 y cant allan o'r gwastraff gweddilliol i mewn i’r blychau ailgylchu. Ond, wyddoch chi, mae pob awdurdod lleol yn ymgysylltu yn y ffordd y cyfeiriasoch ato yn Ynys Môn a Chonwy, nid dim ond y ddau awdurdod lleol hynny. Yn anffodus, mae gennym 22 o awdurdodau lleol, ac weithiau—nid wyf yn dweud bod gennym 22 o enghreifftiau o’r ffordd yr ydym yn gwneud hyn, ond, unwaith eto, gadewch inni edrych ar yr arfer gorau, gadewch inni sicrhau ein bod yn cael yr arfer gorau ledled Cymru i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau hynny. Maent yn uchelgeisiol, ond credaf eu bod yn gyraeddadwy, ac fel y soniais mewn ateb blaenorol, ein dewis ni oedd y targedau hynny; ein dewis ni oedd i Gymru fod yn genedl â lefelau uchel o ailgylchu. Diolch.

6. 5. Datganiad: Prentisiaethau yng Nghymru

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar brentisiaethau yng Nghymru, a galwaf ar Julie James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i chi ar eich swydd newydd, mewn ymdrech i geisio rhywfaint o ffafr? [Chwerthin.]

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi gwybod i aelodau am gynlluniau'r Llywodraeth ynghylch recriwtio prentisiaid dros y misoedd nesaf. Fel y bydd fy natganiad heddiw yn gwneud yn glir, rydym yn cymryd camau yn gyflym i gyflawni ein haddewid i gael 100,000 o brentisiaethau o ansawdd ar gyfer pob oedran yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu darparu ar sail hyblyg gyda phobl yn dechrau drwy gydol y flwyddyn, ond mae’r ymgyrch recriwtio fwyaf o bell ffordd yn digwydd yn unol â'r flwyddyn ysgol. Felly, bydd angen i newidiadau ddigwydd ar unwaith, fel y gellir defnyddio ymagwedd pob oedran at ein contractau prentisiaeth ar gyfer cyflenwi yn ystod y flwyddyn ysgol, sy'n dechrau yn gynnar ym mis Medi.

Fel y byddwch i gyd yn ddiau yn gwybod eisoes, mae'r rhaglen brentisiaeth yn perfformio'n dda iawn. Mae cyfraddau cwblhau yn gyson dros 80 y cant, gyda llawer ohonynt i fyny mor uchel ag 86 y cant. Mae adborth gan gyflogwyr a phrentisiaid yn gadarnhaol ac ansawdd y rhaglenni a gyflwynir yn cael ei ystyried yn uchel gan aseswyr allanol. O ystyried yr hanes da hwn, rwy’n bwriadu cadw fy mhwyslais ar ansawdd. Rydym yn ymrwymo i nifer targed isaf o brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf, ond nid wyf yn mynd i gael fy nhynnu i wneud ymrwymiadau i rifau na ellir eu cyflawni, ac nid wyf i'n mynd i beryglu ein hanes sefydledig o ansawdd uchel. Rwy'n credu mewn hyfforddiant ystyrlon sy'n cefnogi dilyniant gyrfa ar gyfer unigolion, sy’n cynyddu cynhyrchiant ar gyfer cyflogwyr ac yn ei dro yn bodloni anghenion sgiliau ein gwlad yn y dyfodol. Mae ein trefniadau caffael a chontractio a'n gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr wedi dangos ei fod yn effeithiol iawn yn ein hymgyrch i godi safonau a darparu hyfforddiant ystyrlon, o ansawdd uchel, a bydd hynny yn aros yn ddigyfnewid.

Dros y misoedd nesaf, rydym yn cymryd camau i ymgysylltu â phobl sy'n gadael yr ysgol. Un enghraifft yw ein rhaglen 'Have a Go', sy'n rhoi cyfle i ddefnyddio offer modern a thechnoleg y gweithle mewn amgylchedd diogel a llawn hwyl i bobl ifanc. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ehangu trwy weithio ar y cyd ag ysgolion, colegau, darparwyr prentisiaethau a Gyrfa Cymru. Rydym hefyd wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i'n darparwyr prentisiaethau i ymgysylltu â chyflogwyr a rhanddeiliaid er mwyn eu helpu i fod yn fwy ymwybodol o gyfleoedd prentisiaeth presennol a swyddi gwag newydd. Bydd y camau hyn yn sicrhau bod pobl sy'n gadael yr ysgol, gweithwyr sy’n symud rhwng swyddi a phobl sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur yn ymwybodol o'r cyfleoedd hyn ac yn cael digon o amser i wneud cais ar eu cyfer.

Rwyf eisiau sicrhau y gall pobl o unrhyw oed elwa ar y cyfleoedd a gynigir gan y prentisiaethau o safon yr ydym yn eu cynnig yng Nghymru, ond yn arbennig y rhai sy’n ceisio mynd i mewn neu ail-fynd i mewn i'r farchnad lafur. Rwyf hefyd eisiau i ni adeiladu ar ein hanes sefydledig o addysg a hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel gyda nifer cynyddol o brentisiaethau uwch. Mae ein prentisiaethau uwch ar lefel 4 ac uwch yn rhoi cyfle euraidd i ni ddatblygu sgiliau cryfach a dyfnach ymysg ein gweithlu presennol, a hefyd i ddarparu cyflogwyr â staff medrus y mae eu hangen arnynt i hybu cynhyrchiant, arloesi a pherfformiad busnes yn gyffredinol. Y llynedd, gwelsom gynnydd mawr yn nifer y prentisiaethau uwch yng Nghymru—22 y cant trawiadol o'r holl brentisiaethau a ddechreuodd. Wrth i ni gynyddu nifer y prentisiaethau uwch, byddwn yn parhau i gefnogi'r blaenoriaethau eang y sector a nodir gan ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn eu cynlluniau blynyddol a hefyd y blaenoriaethau cenedlaethol a bennir gan Weinidogion Cymru.

Fodd bynnag, rydym yn awyddus i wneud mwy. Rydym yn gwybod bod galw cynyddol am inni ehangu prentisiaethau lefel uwch, yn enwedig yn y sectorau gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg proffesiynol, gan fod tystiolaeth glir o brinder sgiliau ym mhob un o'r meysydd hyn. Rydym yn credu bod gennym ddyletswydd i bobl Cymru i gryfhau dilyniant i sgiliau lefel uwch; mae angen i ni weithio gyda'n rhwydwaith o ddarparwyr i ehangu eu gallu i gyflenwi, gan gynnwys cyflenwi drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal, byddwn yn parhau i sicrhau bod y grwpiau hynny nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn cael cyfleoedd cyfartal i elwa ar ein rhaglen, ac rydym wedi penodi hyrwyddwr ansawdd penodol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

Rwyf hefyd yn edrych ar sut y gallwn gynyddu gweithgarwch cyfwerth â gradd ar y rhaglen, a byddaf yn gweithio gyda'r canlyniadau o adolygiad Diamond i annog y datblygiad hwn. Bydd creu newid sylweddol yn golygu mathau newydd o weithio mewn partneriaeth sy'n cynnwys ysgolion, colegau, darparwyr dysgu yn y gwaith a'r sector addysg uwch. Yn ei dro, bydd angen i ni hefyd adolygu prentisiaethau lefel is, yn enwedig pan nad yw cyflogwyr yn adrodd am brinder sgiliau a bod llwyfan gwan ar gyfer dilyniant gyrfa.

Rydym eisoes wedi gofyn i gynghorau sgiliau sector i sicrhau bod y cynnwys dysgu ar ein fframweithiau prentisiaeth allweddol yn berthnasol i anghenion newidiol cyflogwyr mewn gwahanol sectorau diwydiant yng Nghymru. Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, bydd y cynghorau sgiliau sector yn sicrhau bod cyflogwyr yn cael mwy o fewnbwn i ddyluniad ein fframweithiau prentisiaeth gan gynnal ar yr un pryd system sy'n hyblyg ac yn ymatebol i anghenion economi Cymru sy’n newid yn fwy cyflym fyth.

Rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i safonau galwedigaethol cenedlaethol y DU a chynnwys cymwysterau mewn fframweithiau prentisiaeth, gan y gwyddom eu bod yn darparu sgiliau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Y llynedd, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn helaeth ar gyfochri ein model prentisiaeth gydag anghenion yr economi yng Nghymru a'r DU yn ehangach. Cyhoeddwyd ein hymatebion ymgynghori ym mis Gorffennaf 2015. Ers hynny, rydym wedi gohirio cyhoeddi ein cynllun gweithredu prentisiaeth i roi cyfle i ni ystyried yn briodol effaith cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer gweithredu'r ardoll brentisiaethau yn Lloegr, a'r newidiadau cysylltiedig i safonau prentisiaeth.

Ni all neb yn yr arena sgiliau ddianc rhag mater yr ardoll brentisiaethau. Mae'r ardoll yn fater o bryder sylfaenol i Lywodraeth Cymru. Heddiw, mae'n ddrwg gennyf ddweud ein bod yn dal heb gael eglurder llwyr gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y bydd y cynllun ardoll brentisiaethau arfaethedig yn gweithredu yn Lloegr a'r effaith yng Nghymru. Er bod pethau yn parhau i fod yn aneglur, ni ddylent ac nid ydynt yn dileu'r angen i ni geisio mwy o sicrwydd ac i ddechrau cynllunio darpariaeth prentisiaethau yma yng Nghymru yn fwy manwl ar gyfer blwyddyn gyntaf a blynyddoedd dilynol y tymor Cynulliad newydd hwn.

Mae'r cynlluniau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn cychwyn y broses o gyflawni ein haddewid o 100,000 o brentisiaethau pob oed, fel yr amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog ym mis Mai. Maent hefyd yn cefnogi ein gweledigaeth tymor hwy ar gyfer sut y mae prentisiaethau yn cyfrannu at Gymru fwy cydnerth, fwy ffyniannus a Chymru fwy cyfartal.

Prentisiaethau yw’r dewis mwyaf adnabyddus ac uchel ei barch o bell ffordd o 'ennill wrth ddysgu' ac mae’r buddion ar gyfer unigolion, cyflogwyr a'r economi ehangach yn dra hysbys. Mae prentisiaethau pob oed, ynghyd â'r rhaglen gyflogadwyedd bob oed, yn ganolog i'n diwygiadau sgiliau arfaethedig. Mae prentisiaethau yn llwybr profedig i gyflogaeth a ffyniant cynaliadwy. Bydd y blaenoriaethau a gyhoeddais heddiw—pwyslais di-baid ar ansawdd, cyfleoedd i bawb, ehangu sgiliau lefel uwch a mwy o ymgysylltu â chyflogwyr—yn sicrhau bod y Llywodraeth hon yn cyflawni ei haddewid i bobl Cymru.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i eich llongyfarch chi, Weinidog, ar eich penodiad, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gysgodi’r elfen sgiliau o’ch portffolio chi, ac a gaf i hefyd ddiolch i chi am y datganiad y prynhawn yma? Mi gychwynnaf drwy bigo fyny ar y sylwadau roeddech yn eu gwneud tuag at ddiwedd eich datganiad ynglŷn a’r lefi prentisiaethau. Roeddech chi’n dweud bod yna’n dal ddim eglurder llwyr. Wel, mi fyddwn i yn gwerthfawrogi bach fwy o gig ar yr asgwrn o safbwynt sefyllfa’r trafodaethau rydych chi’n eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn yn ddiolchgar am ddiweddariad efallai ar faint o drafod sydd yna i ddechrau, ac hefyd ai mater yn eich barn chi o ddiffyg rhannu gwybodaeth yw hi, neu a ydych chi’n meddwl bod yna broblem fwy sylfaenol o safbwynt dryswch ynglŷn a sut bydd y lefi yn gweithio, a goblygiadau hynny i Gymru. Byddwn i hefyd yn falch o glywed eich barn chi a fydd y lefi yn weithredol o fewn yr amserlen wreiddiol, neu a ydy hi’n debygol y byddwn ni’n gweld oedi, oherwydd mae yna sôn wedi bod am y posibilrwydd hynny yn Lloegr, beth bynnag.

Ac os yw’r lefi yn dod i Gymru, mae yna gwestiynau wedi bod ynglŷn ag, os oes arian ychwanegol, a fydd hwnnw yn cael ei Farnett-eiddio, a rhyw bethau felly. Ond os ydyw yn cael ei Farnett-eiddio, a fyddwch chi fel Llywodraeth yn amddiffyn yr arian ychwanegol yna ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru neu a fydd yr arian yna’n mynd i goffrau ehangach Llywodraeth Cymru?

Rŷch chi’n cyfeirio wrth gwrs at yr ymrwymiad clir i greu 100,000 o brentisiaethau yn y pum mlynedd nesaf ac mae hynny yn rhywbeth, wrth gwrs, rŷm ni yn ei rannu, ond mae yna, efallai, destun dadl ynglŷn â niferoedd y prentisiaethau sydd wedi’u creu dros y pum mlynedd ddiwethaf. Felly, er eglurder, mi fyddwn i’n gofyn i chi, efallai, jest i fod yn glir mai’ch bwriad chi fel Llywodraeth yw mynd y tu hwnt i’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni o safbwynt niferoedd yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf. Yn hynny o beth, a allwch chi ein sicrhau ni eich bod chi’n hyderus bod y capasiti yn bodoli ymhlith y cyrff perthnasol i gyflawni y lefel yna o brentisiaethau? Ac, am fod yr ymrwymiad rŷch chi wedi’i wneud yn eich maniffesto yn cyfeirio at ddarpariaeth i bob oed, o safbwynt prentisiaethau, a allwch chi hefyd roi sicrwydd i ni na fydd hynny’n cael unrhyw effaith negyddol ar y ddarpariaeth i’r rhai dan 25 oed?

Rŷch chi hefyd yn eich datganiad yn dweud eich bod chi am dyfu mathau arbennig o brentisiaethau, cynyddu cyfranogiad grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli—er enghraifft, mwy o ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna gyfeiriad penodol at hynny ac rŷm ni’n croesawu hynny yn amlwg, ond sut fyddwn ni’n gwybod sut y mae llwyddiant yn edrych? Beth yw’r mesur? A fydd yna darged i fesur y llwyddiant? Rŷm ni’n gwybod mai dim ond rhyw 3 y cant o brentisiaethau sy’n cael eu cyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd; beth yw nod eich Llywodraeth chi dros y pum mlynedd nesaf? I ba lefel yr hoffech chi weld y cynnydd yna yn ei gyrraedd? Wrth gwrs, wedyn, mae cwestiwn ehangach ynglŷn â sut rŷch chi’n bwriadu cyflawni hynny. Mi ddywedoch chi, er enghraifft, mewn datganiad yn ôl ym mis Ionawr yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf eich bod chi’n edrych o ddifrif ar sut i wella a chryfhau y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Byddwn i’n ddiolchgar am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw waith sydd wedi’i wneud ers hynny yn y maes arbennig yna.

You also said in a statement earlier this year that you intended rolling out shared apprenticeship schemes, which clearly are particularly valuable to smaller businesses. The proposed apprenticeships levy shouldn’t impact them as such, but clearly the wider disruption to the sector may well have implications. Maybe you could outline the progress you’ve made on shared apprenticeships or at least your intentions and aspirations in that respect over the next few years.

Finally, Minister, we know that the return on investment from apprenticeships is very significant with every £1 invested bringing benefits of up to £74 over a lifetime according to the National Training Federation Wales, compared with £57 when investing in higher education or a degree, maybe more specifically. So, would you agree with me that apprenticeships represent one of the best examples of the effective use of European structural funds in Wales, demonstrating a key and clear benefit of Wales’s membership of the European Union?

Diolch i chi am y cwestiynau yna.  Dechreuaf â'r un olaf: ydy, mae tua 25 y cant o'r rhaglen bresennol yn cael ei ariannu gan gronfeydd Ewropeaidd, ac rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud na fyddai'r rhaglen brentisiaeth y llwyddiant yw hi heddiw heb y cronfeydd hynny. Rydym hefyd wedi elwa ar aelodaeth o wahanol sefydliadau CVET ledled Ewrop ac yn wir rwyf wedi mynychu cynhadledd er mwyn dysgu o'r arfer gorau ledled Ewrop wrth weithredu cynlluniau prentisiaeth a chynlluniau dysgu yn y gwaith yn gyffredinol. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, yn fy meddwl i beth bynnag, bod ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi gwella ein hansawdd a’n gallu i dalu am ein rhaglen gyfredol.

Af yn ôl drwy eich cwestiynau oherwydd dyna’r ffordd yr wyf wedi eu hysgrifennu i lawr. O ran y cynlluniau prentisiaeth ar y cyd, mae gennym nifer o rai llwyddiannus. Un o'r pethau yr ydym yn ceisio ei wella yw defnyddio'r wybodaeth am y farchnad lafur a geir oddi wrth ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol, sydd mewn gwirionedd i gyd yn gweithredu o ddifrif erbyn hyn ac rydym yn edrych ymlaen at gael eu cynlluniau blynyddol unrhyw funud nawr—rwy'n credu mai diwedd y mis hwn fydd hynny, heb edrych yn fwy manwl; os ydw i'n anghywir byddaf yn cywiro fy hun, ond rwy’n meddwl mai diwedd y mis hwn fydd hynny. Yr hyn y maen nhw'n ei wneud yw sbarduno trefniadau rhanbarthol o'r math hwnnw ac rydym i gyd yn gwybod mai cyflogwyr bychan sy'n cael eu helpu fwyaf. Roedd cynllun ardderchog i fyny ym Mlaenau Gwent y bûm i yno gydag Alun Davies, lansio hynny ochr yn ochr â'r cyngor lleol, sydd yn esiampl dda iawn o sut y gall y cynlluniau hynny weithio.

Felly, ie, yr hyn yr ydym yn gobeithio'n fawr ei wneud yw cael yr hyn sy’n addas ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Felly, bydd y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn sbarduno llawer o'r gweithredu yn eu hardal ac mae hynny hefyd yn wir am y Gymraeg, oherwydd, fel y gwyddoch, mae llawer mwy o alw am brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru nag sydd , er enghraifft, yn Abertawe, y lle rwyf i’n ei gynrychioli, er bod rhywfaint o alw yno. Yr hyn y byddwn yn ei wneud yw gweithio gyda rhwydwaith o ddarparwyr i wneud yn siŵr lle mae prentisiaethau yn y Gymraeg yn ofynnol, neu lle mae bwlch sgiliau ar gyfer hynny, ein bod yn gallu llenwi'r bwlch hwnnw gyda darpariaeth briodol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Aelod wrth wneud hynny.

Nid ydym yn gwybod sut beth yw llwyddiant ar gyfer hynny ar hyn o bryd oherwydd mai un o'r pethau yr ydym am ei wneud rhwng nawr a mis Medi yw siarad eto â bob un o'n rhanddeiliaid am yn union hynny a sicrhau ein bod yn llunio'r rhaglen sydd ar y gweill yn gwbl gywir. Yr hyn yr wyf i’n ei gyhoeddi heddiw mewn gwirionedd yw'r cynllun i ymgynghori ar hynny dros yr haf ac i ddod yn ôl i'r Cynulliad hwn yn gynnar yn nhymor yr hydref gyda chynllun ar gyfer hynny.

O ran y niferoedd a'r mathau sy'n rhan o hynny, nid wyf i'n fodlon sôn am niferoedd oherwydd mae'n cymryd, er enghraifft, tair gwaith cymaint o arian i hyfforddi prentis peirianneg ag y mae i hyfforddi prentis proses fusnes. Felly, os byddaf yn dweud y bydd nifer penodol, mae'n bosibl wedyn y bydd yn rhaid i mi hyfforddi mwy o bobl nad ydym eu heisiau na'r bobl yr ydym eu heisiau er mwyn taro beth fyddai'n rhif targed ffug. Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw y bydd o leiaf 100,000. Dyna oddeutu'r lefel, gan ei fod wedi mynd i fyny ac i lawr ychydig dros dymor diwethaf y Cynulliad, ond mae'n cyfateb yn fras i’r lefel oedd gennym y tro diwethaf. Roedd hwnnw’n lefel da. Cafodd ei gynorthwyo gan nifer o gytundebau cyllideb gyda’ch plaid chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac rydym yn hapus iawn i fynd ymlaen ar y sail honno. Ond rwy’n awyddus iawn i gyfateb y ddarpariaeth prentisiaethau i’r angen yn yr economi am hynny ac i'r diffyg sgiliau a ragwelir.

Yna, yn olaf ond nid yn lleiaf, ar yr ardoll, rydym wedi cael cyfathrebu a thrafod helaeth, gyda swyddogion yn cwrdd. Rwyf wedi cwrdd â Gweinidogion fy hun. Nid oes gennym eglurder. Ein dealltwriaeth ar hyn o bryd yw y bydd yn gweithredu ar fformiwla Barnett yn yr un modd â’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Dioddefodd yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau doriad o tua 17 y cant, ac ni fyddai hynny'n rhoi unrhyw arian ychwanegol i ni o gwbl, ond nid yw’r trafodaethau hynny drosodd eto a byddaf i a'r Gweinidog cyllid yn siarad eto mewn peth dyfnder am sut y gallwn wneud y gorau ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid dim ond Cymru yw hyn. Yn Lloegr, mae'n amlwg erbyn hyn bod yr arian ardoll brentisiaeth yn disodli arian a oedd yn drethi cyffredinol yn flaenorol, a'r hyn yr ydym yn edrych arno mewn gwirionedd yw treth gyflogwr benodol, gan ddisodli arian a roddwyd i'r math hwn o gyllid gan arian trethi cyffredinol yn flaenorol.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Weinidog, cwrddais yn ddiweddar â phennaeth coleg Merthyr ac roedd ein deialog yn cynnwys trafodaethau ar raglenni prentisiaeth a gyflwynir ar y cyd â chyflogwyr megis General Dynamics ym Merthyr, sydd, gan weithio mewn partneriaeth â choleg Merthyr, yn creu dwy raglen prentisiaeth pob oed newydd yn cychwyn ym mis Medi 2016, pan fydd yr aelodau staff cyntaf yn dechrau ar eu cyflogaeth yn y cyfleuster hwnnw. Bydd y prentisiaethau hynny mewn gweithgynhyrchu, peirianneg a phrentisiaethau ffitiwr/crefft mecanyddol. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i gymeradwyo cynlluniau fel hwn, a fydd yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llafur Cymru i greu 100,000 o brentisiaethau newydd yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn? A yw hi hefyd yn cytuno y gallai cyflwyno prentisiaethau a ariennir gan bwrs y wlad—ac wrth hynny rwy’n golygu cyllid Llywodraeth Cymru ac Ewrop—drwy golegau addysg bellach fel Merthyr adfywio'r sector addysg bellach yn ogystal â chyflwyno gwerth gorau am arian drwy ailfuddsoddi yn y sector cyhoeddus?

Ydw, rwy’n hapus iawn i gytuno â'r Aelod dros Ferthyr Tudful fod y cynllun hwnnw yn dda iawn. Rwy'n gyfarwydd ag ef. Ymwelais â'r coleg fy hun yn y Cynulliad blaenorol i gael golwg ar rai o'r cynlluniau da yno. Yr hyn sy'n amlwg, yn ogystal yw bod gennym nifer o gyflogwyr sy'n argyhoeddedig o'r angen am hyfforddiant proffesiynol o ansawdd da, ar gyfer prentisiaethau ac ar gyfer dysgu yn y gwaith yn gyffredinol. Ond mae talcen caled o'n blaenau, ac mae adroddiad olaf Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau—oherwydd, yn anffodus, mae bellach wedi ei ddiddymu gan y Llywodraeth bresennol—. Roedd adroddiad diwethaf defnyddiol iawn Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn dangos i ni, lle mae cyflogwyr yn hyfforddi yng Nghymru, maent yn hyfforddi mwy yng Nghymru, ac mae ganddynt hyfforddiant o ansawdd uwch. Ond nid ydym yn ennill llawer iawn o dir o ran nifer y cyflogwyr sy'n hyfforddi—y nifer fawr ohonynt nad ydynt yn hyfforddi. Felly, byddwn yn cynyddu ein hymdrechion i estyn allan at y cyflogwyr drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a’r siambrau masnach a Ffederasiwn y Busnesau Bach a nifer o bartneriaid eraill i ddwyn cymaint o'r cyflogwyr hynny i mewn i’r gorlan hon ag y bo modd.

Diolch i chi, Madam Llywydd. Diolch hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae gweithlu medrus yn galluogi gwlad i ffynnu mewn marchnad fyd-eang sy'n fwyfwy cystadleuol. Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu ac yn addasu ein sylfaen sgiliau yng Nghymru. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau a rhoi diwedd ar yr anghydraddoldebau yn y system bresennol. Er mwyn gwneud hyn, mae'n hanfodol ein bod yn gallu mwstro rhwng pob agwedd ar y system addysg a busnesau i helpu pobl ifanc i fod yn fwy parod ar gyfer gwaith. Dro ar ôl tro, rydym wedi clywed sut y mae myfyrwyr Cymru yn gadael addysg heb y sgiliau iawn i'w helpu i wneud cynnydd yn y byd gwaith.

Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa gynlluniau sydd ganddi i gryfhau cysylltiadau rhwng addysg, cyflogaeth ac yn enwedig y gymuned fusnes, i sicrhau bod gan fyfyrwyr sgiliau sy'n eu gwneud yn barod am waith? Gall cryfhau cysylltiadau rhwng addysgwyr a chyflogwyr helpu i leihau'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn niwydiannau Cymru. Gallai'r cysylltiadau agosach hyn ddod â merched ifanc i gysylltiad esiamplau cadarnhaol mewn sectorau anhraddodiadol sy'n gallu hyrwyddo prentisiaethau fel dewis ymarferol arall yn hytrach na phrifysgol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth mae hi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem o anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn hyn o beth?

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn methu â chefnogi pobl hŷn i fanteisio ar sgiliau a chael mynediad at hyfforddiant. Mae comisiynydd pobl hŷn Cymru wedi rhybuddio am y toriadau i ddysgu gydol oes a'r angen i gadw ein pobl hŷn yn y gweithlu ac i ddod â nhw yn ôl i weithio yn ogystal. Mae pobl wedi ennill graddau pan eu bod yn eu hwythdegau, Weinidog, pam felly na allant gael rhywfaint o gyfle yma yng Nghymru i wneud yr un peth? A yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai prentisiaethau gael eu darparu ar sail angen yn hytrach nag ar oedran y person?

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu ati yn ddiweddar i nodi enghraifft o'r diffyg hyblygrwydd yn fformiwla cyfradd cynaliadwyedd Twf Swyddi Cymru. Er bod achos y cwmni hwn wedi ei gydnabod yn llwyddiannus, rwy’n pryderu y gallai cymhwyso anhyblyg y fformiwla hon atal cwmnïau yng Nghymru rhag cael caniatâd i dderbyn prentisiaid a darparu hyfforddiant a chyflogaeth y mae wir eu hangen. A wnaiff y Gweinidog gytuno i adolygu fformiwla cyfradd cynaliadwyedd Twf Swyddi Cymru i sicrhau bod y system yn gweithio a bod cymaint â phosib o swyddi a hyfforddiant yn dod i Gymru?

Diolch i chi am y cwestiynau yna. Ar yr un olaf, nid wyf yn mynd i gytuno i adolygu'r fformiwla cynaliadwyedd oherwydd ein bod yn credu ei fod yn gweithio yn eithriadol o dda ac yn un o'r rhesymau pam mae'r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus. Fodd bynnag, mae’r Aelod wedi nodi yn gywir—ac rwy’n cofio’r llythyr yn dda iawn—y ceir penderfyniadau yn achlysurol nad ydynt yn unol â'r fformiwla ac, wrth adolygu hynny, mae gennym enghreifftiau lle dylai cwmnïau fod wedi cael caniatâd i gymryd ymgeisydd Twf Swyddi Cymru ac, yn wir, yn yr achos y mae'r Aelod yn ei amlinellu, roedd yr adolygiad yn llwyddiannus a chafodd y cwmni ganiatâd i fwrw ymlaen.

Fodd bynnag, nid wyf yn credu bod yr adegau prin lle nad yw'r fformiwla wedi ei gymhwyso'n gywir yn y lle cyntaf yn rheswm da i adolygu'r fformiwla yn gyffredinol. Un o'r rhesymau pam mae'r cynllun wedi bod mor llwyddiannus—ac rydym yn edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol ohono a fydd yn dod i mewn yn fuan iawn; rwy’n gobeithio cyn toriad yr haf—yw bod yn rhaid i fusnesau ddangos y gallu i gadw pobl yn y swydd honno ac i dyfu eu hunain yn unol â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cymhorthdal ​​cyflogau y mae cynllun Twf Swyddi Cymru yn ei gynrychioli. Nid drws troi i dderbyn mwy a mwy o bobl ifanc a rhoi cyflogaeth anghynaladwy iddynt yw hyn. Felly, rwy’n falch iawn â'r ffordd y mae'r cynllun yn gweithio; rwy'n edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol. Ond rwy’n derbyn, mewn rhai achosion, bod angen adolygu ac, fel y gwelsoch, rydym yn hapus iawn i wneud yr adolygiad hwnnw.

O ran merched mewn sectorau anhraddodiadol, bydd yr Aelod yn gwybod bod hwn yn hoff bwnc i minnau hefyd; rwyf wedi siarad lawer gwaith yn y Siambr hon yn ei gylch. Yn wir, yn ystod yr wythnosau nesaf, rwy’n ymweld â nifer o weithleoedd i siarad am hynny ochr yn ochr ag ICE, Sefydliad y Peirianwyr Sifil, er enghraifft, sy'n cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn y blaen. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod yn ariannu Chwarae Teg i wneud rhaglen ynghylch cael merched i mewn i ddiwydiannau anhraddodiadol a hyrwyddo hynny mewn busnesau lle ceir anghydbwysedd rhwng y rhywiau. Ac, yn wir, mae gennym broblem debyg o ran iechyd a gofal cymdeithasol lle mae cydbwysedd rhwng y rhywiau y ffordd groes, a hoffem weld mwy o ddynion yn dod i mewn i rai meysydd o'r economi, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny yn agored i bawb.

O ran y pwynt pob oed, fel y clywodd yr Aelod pan wneuthum fy natganiad, rydym, wrth gwrs, wedi ymrwymo i gynllun prentisiaeth pob oed. Rydym yn cydnabod nad oedran yw'r unig reswm y dylech fynd ymlaen i gynllun prentisiaeth. Fodd bynnag, rydym yn dal i dargedu pobl 16 i 19 oed sy’n dod allan o'r ysgol i fynd i mewn i’r cynlluniau hynny ac mae gennym dargedau ar gyfer pobl sydd eisiau newid swyddi a phobl sy'n dychwelyd i'r gwaith. Y rheswm am hyn yw ein bod eisiau edrych yn ofalus iawn ar gyflogwyr sydd eisiau rhoi gweithwyr presennol ar gynlluniau y maent yn eu galw yn brentisiaethau, fel y gallwn fod yn sicr, mewn gwirionedd, mai prentisiaethau ydynt ac nid ail-labelu cynllun hyfforddi sy'n bodoli eisoes . Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gwerthfawrogi pam yr ydym eisiau gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â chael pobl i mewn i'r gweithlu a chael pobl wedi’u hyfforddi'n briodol pan eu bod yn y gweithlu; nid yw'n ymwneud â labelu rhywbeth i gael bathodyn ar ei gyfer.

Rwy’n credu, o ran y cysylltiadau, bod yr hyn yr ydym yn sôn amdano o ran y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ymwneud i raddau helaeth â dod ag addysg, cyflogwyr a chymunedau busnes ynghyd. Rydym hefyd yn rhedeg cynllun gyda chymorth a gefnogir gan fusnesau yn y gymuned. Rydym wedi cynnal cynllun arbrofol llwyddiannus iawn ar gyfer hynny i lawr yn Sir Gaerfyrddin—rwy'n gwybod bod rhai Aelodau yn gyfarwydd ag ef—ac rydym yn gobeithio cyflwyno hynny mewn mwy o ardaloedd o'r wlad mor gyflym ag y gallwn. Bwriad y cynllun hwnnw yw cael profiad gwaith o ansawdd da allan yna.

Rwyf am ymbil ar yr Aelod ac, yn wir, pawb arall sy'n bresennol yn y Siambr heddiw a dweud hyn: mae llawer o gyflogwyr yn dweud wrthyf— canran fawr iawn o gyflogwyr mewn gwirionedd, yn ôl arolwg Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, yn dweud—y byddent yn fwy parod i gymryd person ymlaen fel newydd-ddyfodiad i’w cwmni pe byddai ganddo brofiad gwaith da, ond mae nifer fawr iawn o bobl sy'n dweud hynny nad ydynt mewn gwirionedd yn darparu profiad gwaith. Felly, os oes gennych gwmnïau o'r fath yn eich etholaethau a’ch rhanbarthau, rwy’n eich cymell i'w hannog i ymuno â'n cynlluniau profiad gwaith ac i roi'r profiad i ystod ehangach o bobl ifanc.

Diolch, Weinidog, am y datganiad. Gan ddychwelyd at gwestiwn yr ardoll brentisiaeth am eiliad, cyfeiriasoch ato fel treth cyflogwr yn eich datganiad. A oes unrhyw ddadansoddiad o'r risg bosibl i swyddi yng Nghymru a achosir gan yr ardoll hon ar gyflogwyr, gan gofio mai pwynt prentisiaeth, wrth gwrs, yw cael pobl i mewn i swyddi sgiliau uchel, am gyflog gweddus?

Nid oes gennym hynny, hyd yma. Bydd y rhai hynny ohonom a oedd yn bresennol yn y Cynulliad blaenorol yn gwybod ein bod wedi pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ganiatáu i Gyllid a Thollau EM gasglu data yng Nghymru ac i rannu data â ni. Ar hyn o bryd, Cyllid a Thollau EM yw'r unig bobl sydd â'r data hwnnw ac rydym mewn trafodaethau gyda hwy ynglŷn â chostau rhyddhau’r data hwnnw i ni. Fodd bynnag, rydym yn gwybod, wrth sgwrsio â swyddogion o Lywodraeth y DU, ei fod wedi bod mor anodd ag yr oeddem ni'n tybio y gallai fod, ac yn fwy anodd nag yr oedden nhw yn meddwl y gallai fod, i nodi'n gywir pwy sy'n gweithio ac yn byw yng Nghymru, oherwydd , yn amlwg, mae gennym ffin hydraidd iawn, a bydd llawer o'r Aelodau yn ymwybodol o hynny. Rydym yn parhau i wthio Llywodraeth y DU yn drwm iawn ar hyn, ond mae'n rhaid dweud, hyd yn oed yn y cynllun yn Lloegr, fel y'i cynigir, maent yn amlwg yn disodli arian a arferai gael ei ariannu trwy drethi cyffredinol gydag arian a ariennir bellach trwy’r dreth cyflogwyr benodol iawn hon.

Hoffwn longyfarch ein Gweinidog a Llywodraeth Cymru ar yr ymrwymiad strategol parhaus i'r agenda brentisiaeth wrth sicrhau Cymru fwy ffyniannus a chydnerth a chyfartal. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi cael fy ethol ar ein haddewid maniffesto o tua 100,000 o brentisiaethau newydd, ac mae hynny y tu draw i lwyddiant Twf Swyddi Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr iawn y consensws trawsbleidiol yr wyf wedi ei glywed eto heddiw dros bwysigrwydd y rhaglenni prentisiaethau, ond mae perygl gwirioneddol sy'n amlwg iawn, ac mae eisoes wedi ei fynegi heddiw. Er fy mod yn sicr yn rhannu'r pryderon ynghylch yr ardoll brentisiaeth, mae angen i mi ddatgan y bydd 94,000 o brentisiaethau, fel y gwyddoch, yn ystod y pedair blynedd nesaf, yn cael eu cefnogi gan werth £83 miliwn o gronfeydd cymdeithasol yr UE. A yw'r Gweinidog yn credu y bydd cael gwared ar arian Ewropeaidd o Gymru drwy bleidlais i adael, mewn gwirionedd, fel y mae’r blaid gyferbyn yn dymuno ei weld, yn peryglu’r rhaglenni prentisiaeth gwerthfawr o'r fath sy'n newid bywydau ac, o ganlyniad yn peryglu economi Cymru gyfan?

Rwy’n cytuno’n llwyr y byddai colli arian strwythurol a chymdeithasol Ewrop i'r rhaglen brentisiaeth yn ergyd ddifrifol i Gymru, ond hoffwn i fynd â hyn ychydig ymhellach na dim ond yr arian. Fel y dywedais yn fy ateb blaenorol i Llyr, mewn gwirionedd, rydym wedi elwa'n aruthrol ar rannu arfer da ar draws Ewrop ac o allu bod yn rhan o'r teulu Ewropeaidd o ran datblygu rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol da. Rydym wedi ymweld â nifer o wledydd yn Ewrop sydd â rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol ardderchog. Efallai fod yr aelodau yn gyfarwydd â'r rhaglenni cymhwyster deuol yn yr Almaen, er enghraifft. Mae enghreifftiau rhagorol yn yr Iseldiroedd a nifer o rai eraill yr oeddem yn gallu manteisio arnynt. Yn wir, wrth lunio ein rhaglen brentisiaeth lwyddiannus iawn ein hunain, rydym wedi ystyried yr enghreifftiau da iawn hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n rheswm arall dros beidio â bod eisiau bod yn ynys fach anghysbell ar ymyl cyfandir mawr iawn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r addewid i greu myrdd a llawer mwy o brentisiaethau. Mae hyfforddiant o safon yn eithriadol o bwysig, ac mae'r bwriadau wrth greu’r prentisiaethau hyn yn ganmoladwy, ond mae ar brentisiaid angen gwaith i fynd iddo ar ôl iddynt orffen eu prentisiaethau. Felly, heb y swyddi hynny i fynd iddynt, mae'r brentisiaeth o werth personol ar gyfer y prentis, ond dim ond edrych yn dda mae hynny i raddau helaeth heb swydd i fynd iddi. Felly, yr hyn yr hoffwn i ofyn i'r Gweinidog yw: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog creu swyddi i’r prentisiaid hyn i fynd iddynt ac i sicrhau y gall y prentisiaid hyn ddefnyddio eu hyfforddiant i ennill bywoliaeth weddus? Pa gymorth y gallwch chi ei roi i gyflogwyr er mwyn eu hannog i roi gwaith i'r prentisiaid hyn ar ôl iddynt orffen eu hyfforddiant? Diolch.

Felly, bydd yr Aelod wedi clywed yn fy natganiad mai’r hyn yr wyf i’n siarad amdano yw annog darpariaeth prentisiaeth mewn meysydd prinder sgiliau yng Nghymru, fel y nodwyd trwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ar gyfer y tri rhanbarth o Gymru lle mae gennym y partneriaethau ac ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd. Efallai fod yr Aelod wedi clywed fy atebion i Aelodau eraill am ein tristwch bod arolwg Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau wedi ei atal gan Lywodraeth y DU. Rydym mewn sgwrs gyda'r gwledydd datganoledig eraill ynghylch pa un a allwn fwrw ymlaen â hynny ar ein pennau ein hunain, oherwydd roeddem yn defnyddio’r arolwg hwnnw i raddau helaeth i lunio ein darpariaeth, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflogi prentisiaid mewn ardaloedd lle gwyddom fod prinder sgiliau ac, felly, swyddi iddynt fynd iddynt ar ôl iddyn nhw gael eu hyfforddi. Efallai fod yr Aelod hefyd wedi fy nghlywed yn crybwyll ein bod yn adolygu rhai o'n darpariaethau prentisiaid lefel 2 lle y gwyddom ein bod yn gor-ddarparu mewn rhai meysydd a'n bod eisiau annog y rhwydwaith o ddarparwyr i beidio â darparu nifer fawr iawn o brentisiaid lefel 2 mewn meysydd lle'r ydym yn gwybod bod gorddarpariaeth ac, yn hytrach, ailgyfeirio eu hymdrechion i feysydd lle'r ydym yn gwybod bod tanddarparu. Mae hynny hefyd yn golygu—oherwydd gwyddom fod tanddarparu yn bennaf yn y meysydd sgiliau uwch hynny—ein bod eisiau annog prentisiaethau, nid yn unig ar y lefel mynediad, lefel 2, neu bod arnom eisiau i’r rhai sy’n gadael yr ysgol fynd i mewn i’r rheini, ond rydym yn awyddus i gael system brentisiaeth bob oed sy'n annog pobl ar lefel 3, cyfwerth â lefel A, a lefel 4, gradd sylfaen ac uwch, i fynd i mewn i'r system brentisiaeth hefyd i lenwi'r prinder sgiliau lefel uwch y mae cyflogwyr yn adrodd amdano drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol ac, yn wir, mewn gwirionedd, hyd at eleni, drwy Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau Felly, mae gennym strategaeth ar gyfer hynny.

Hefyd, mae'n rhaid i brentis fod wedi ei gyflogi yn y lle cyntaf, yn amlwg, er mwyn bod yn brentis, ac mae nifer fawr o'r cynlluniau prentisiaeth ar y cyd sydd gennym yn ffyrdd o drefnu hynny drwy—. Er enghraifft, Blaenau Gwent—cynllun blaengar iawn lle mae'r cyngor yn gallu gweithredu fel y cyflogwr ar gyfer nifer o brentisiaid a rennir ar gyfer busnesau bach a chanolig bychan iawn na fyddai fel arall yn gallu fforddio'r costau cyflogi. Felly, rydym yn edrych ar hynny yn fanwl iawn. Mae'r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac rydym yn parhau i edrych ar hynny drwy ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Dyna ni, rydym wedi achub ein cam a mwy—rwyf innau wedi achub cam fy hun drwy beidio â mynd dros amser.

7. 6. Datganiad: Wythnos Wirfoddoli

Yr eitem nesaf ar yr agenda felly yw eitem 6, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant—wythnos gwirfoddoli. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl ei bod yn bwysig i gymryd eiliad ar ddechrau'r pumed tymor hwn i ddweud 'diolch' wrth yr holl bobl sy'n gwirfoddoli yma yng Nghymru. Mae llawer ohonyn nhw yn sicr. Mae traean o Gymry yn gwirfoddoli yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i feddwl am y gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr wedi ei wneud i'n bywydau ac i'n cymunedau, ac i annog hyd yn oed mwy o bobl i wirfoddoli.

Eleni, bu dathliadau ledled Cymru, gan gynnwys gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn cenedlaethol yng nghastell Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, a hoffwn i ni gymryd eiliad i gydnabod ymroddiad a chyflawniadau dim ond rhai o'r enillwyr hynny. Mae Sue Osman, nyrs y newydd-anedig sydd wedi ymddeol, yn treulio ei hamser, ar ôl ymddeol, yn helpu teuluoedd plant sydd ag anableddau. Mae Sue yn gwirfoddoli yng nghanolfan plant Casnewydd i helpu teuluoedd a phlant yn ystod rhai o'r adegau anoddaf y maent erioed wedi eu hwynebu. Mae pobl yn defnyddio geiriau fel 'ysbrydoledig' a ​​'braint' pan fyddant yn siarad am weithio gyda hi.

Mae grŵp o bobl ifanc, sy’n gweithredu fel cenhadon treftadaeth y byd, yn gweithio i hyrwyddo tref treftadaeth y byd Blaenafon, ac yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i arwain yn y gymuned. Mae Imogen, merch ifanc o Drefynwy, yn gwirfoddoli yng nghlwb ieuenctid cynhwysol Caerwent. Mae Imogen yn helpu pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth. Mae cydweithwyr Imogen yn dweud ei bod hi'n gennad gwirioneddol o ran ymroddiad, cymhwysedd a pharodrwydd i helpu gwirfoddolwyr ifanc eraill â'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Mae Valerie o Gaerdydd wedi bod yn allweddol, fel aelod o Ymddiriedolaeth Llys Insole, wrth achub adeilad hanesyddol, Llys Insole, er budd y cyhoedd. Unigolyn arall allweddol yw Michael Baker o Bontypridd sy’n cael ei ddisgrifio fel un o'r gwirfoddolwyr mwyaf ymroddedig yn y gwaith o gynnal y prosiect ‘Too Good To Waste’. Mae Michael wedi goresgyn anawsterau gwirioneddol i helpu eraill mewn prosiectau sy'n canolbwyntio ar wella'r amgylchedd drwy ailgylchu. Ers mis Ionawr 2010, mae Michael ei hun wedi gwirfoddoli am y nifer anhygoel o fwy na 7,500 o oriau.

Mae nifer di-ri o sefydliadau yn werthfawrogol o gyfraniad eu gwirfoddolwyr. Yn ogystal â'r gwobrau cenedlaethol, cymerodd nifer fawr o enwogion lleol ran yr wythnos diwethaf. Er enghraifft, cynhaliodd Groundwork Gogledd Cymru ddigwyddiad gwirfoddolwyr i ddweud ‘diolch’ am yr holl gymorth a’r gwaith caled a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fel y soniais, mae oddeutu traean o'n dinasyddion yn gwirfoddoli—mae hynny'n bron i filiwn o bobl yn gwirfoddoli bob blwyddyn, yma yng Nghymru. Mae'n anodd bod yn fanwl gywir gan fod cymaint o weithredu gwirfoddol yn cael ei wneud gan bobl nad ydynt hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn gwirfoddoli. Serch hynny, mae hwn yn ffigwr y dylem ei glodfori. I ddefnyddio cymhariaeth o fyd chwaraeon i ddangos y rhifau, ac rwyf yn gwybod efallai y bydd fy nghydweithwyr yn y gogledd yn ei gwerthfawrogi, gallech lenwi Stadiwm Glannau Dyfrdwy 624 o weithiau a mwy gyda nifer y gwirfoddolwyr a gofnodir bob blwyddyn—presenoldeb y byddai fy nhîm lleol, y Crwydriaid, yn falch iawn o’i gael, rwy'n siŵr. Ond bu gan Gymru, wrth gwrs, ysbryd cymunedol cryf erioed. Mewn sawl ffordd, mae hyn yn ffurfio cymeriad ein cenedl, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin a manteisio ar yr elfen gyfoethog hon o ysbryd cymunedol.

Lywydd, hoffwn gydnabod y gwerth y mae gwirfoddoli yn ei gyfrannu at ein heconomi a'n cymdeithas, a hefyd yr unigolion dirifedi hynny sydd, bob dydd, yn darparu cymorth hanfodol i aelodau o'r teulu, cymdogion a ffrindiau sydd mewn angen. Mae’n anoddach fyth pennu rhif pendant ar gyfer hyn nag ydyw i gyfrifo union nifer y gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, gallwn ddychmygu’r straen ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus pe na byddai’r amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol ac elusennau yno ar y rheng flaen, y mae pob un ohonom yn eu gweld.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymrwymedig i annog a chefnogi gwirfoddolwyr. Ailddatganwyd yr ymrwymiad hwn y llynedd yn ein polisi gwirfoddoli, 'Cefnogi Cymunedau, Newid Bywydau'. Mae Llywodraeth Cymru yn glynu wrth yr egwyddorion a nodir yn y ddogfen honno, sy'n cadarnhau ein bod eisoes yn gwneud y pethau iawn. Er enghraifft, cefnogi gwirfoddolwyr newydd drwy ddyfarnu grantiau—ac eleni mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dros £5 miliwn i gefnogi grantiau gwirfoddoli a chynghorau gwirfoddol sirol. Trefnwyd dros 8,000 o leoliadau gwirfoddoli y llynedd, gyda chyllid ar gyfer 417 o bobl ifanc yn derbyn 200 awr o dystysgrifau Gwirfoddolwyr y Mileniwm—gan alluogi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynnal cronfa ddata o dros 5,000 o gyfleoedd gwirfoddoli, a hyfforddi pobl i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar wirfoddolwyr. Y llynedd, cyfrannodd ein cyllid at hyfforddi 5,000 o ymddiriedolwyr.

Ceir camau gweithredu newydd sydd i’w datblygu hefyd. Rwyf am grybwyll dim ond rhai ohonynt heddiw. Gall gwirfoddoli hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Mae angen gwell gwybodaeth arnom ynglŷn â’r rhwystrau sy'n atal rhai pobl rhag gwirfoddoli—yn enwedig y rhai hynny sydd ag anghenion cymorth uwch. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall y rhwystrau hyn yn well ac i fynd i'r afael â nhw. Mewn rhai amgylchiadau, gall gwirfoddoli fod yn llwybr i gyflogaeth. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn helpu gwirfoddolwyr i ddangos y sgiliau y maent wedi eu datblygu a byddwn yn nodi ffordd addas ar gyfer gwneud hynny hefyd.

Rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod y cyllid yr ydym yn ei fuddsoddi i gefnogi gwirfoddolwyr yn darparu'r gwerth gorau am arian. Byddwn yn sicrhau bod cynigion gwirfoddoli presennol yn symlach, gan wneud dysgu mwy drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu’r rhyngrwyd neu fynd i’r ganolfan wirfoddoli lleol yn syml, yn effeithiol ac yn hygyrch. Mae gan gyflogwyr hefyd swyddogaeth wrth annog gwirfoddoli. Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol y rhoddir hyd at bum diwrnod y flwyddyn i weision sifil yn Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau gwirfoddol, gan rannu eu harbenigedd â chymunedau a mudiadau gwirfoddol. Mae gweision sifil yn cael eu hannog i ddefnyddio gwirfoddoli fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a chyflwyno Llywodraeth Cymru i gymunedau, ac i ddysgu eu hunain, o brofiad y rhaglenni. Gall hyn fod yn rhywbeth yr hoffech ystyried ei wneud eich hun—neu eich aelodau staff eich hun, fel Aelodau a chydweithwyr. Mae cymorth ar gael ar wefan gwirfoddolicymru.net, lle y ceir mwy na 5,000 o gyfleoedd gwirfoddoli.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy'n awyddus i adnewyddu ein perthynas glós gyda'r trydydd sector a gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer gwirfoddoli. Hoffwn weld hyd yn oed mwy o wirfoddolwyr. Pobl yn rhoi o'u hamser eu hunain er budd pobl eraill, gan wneud gwahaniaeth mawr i gymunedau a'r bobl sy'n byw ynddynt.

Lywydd, mae'n ddiwrnod i glodfori a chydnabod y gwaith gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn i gofnodi ein diolch oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Diolch, Weinidog, am y datganiad. Yn gyntaf oll, rwyf yn credu ei bod yn bwysig y dylem ni, yng nghyd-destun y pencampwriaethau Ewropeaidd yn Ffrainc ar hyn o bryd, gydnabod yr holl wirfoddolwyr chwaraeon, yn enwedig o ran pêl-droed ar lawr gwlad, sy'n gwneud cymaint i sicrhau y gall chwaraewyr ddatblygu mewn cymunedau, oherwydd, yn aml iawn, mae llawer o bobl ifanc yn serennu yn y timau penodol hynny o ganlyniad i waith da y gwirfoddolwyr, ac ni fyddent yn gallu gwneud hynny heb y gwaith allweddol hwnnw. Ar ôl bod yn bresennol yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, ynghyd ag Aelodau eraill y Cynulliad, ym mis Rhagfyr y llynedd, yr oedd yn amlwg faint o bobl o bob oed sy’n cymryd rhan yn wirfoddol mewn chwaraeon ar lawr gwlad.

Weinidog, mae eich datganiad yn sôn am waith i ddeall ac i fynd i'r afael â rhwystrau ar gyfer gwirfoddoli. Un o'r rhwystrau yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol ohono yw bod llawer o bobl yn cael eu cosbi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau os byddant yn cymryd rhan mewn rhai mathau o wirfoddoli. Yn amlwg, rwyf yn llwyr anghytuno â hyn, ac rwy'n siŵr y byddech chithau hefyd, o ran pobl yn dangos parodrwydd i fynd allan i'w cymunedau ac yn cael eu cosbi am hynny. Felly, tybed a allech chi ymgysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â hyn i ofyn iddynt greu ymgyrch gyhoeddusrwydd i geisio annog pobl i wirfoddoli mewn ffordd gadarnhaol, yn hytrach na chodi ofn arnynt. Maent yn bryderus ynghylch y syniad o wirfoddoli ar hyn o bryd, o ganlyniad i agwedd rhai mewn cymdeithas.

A wnewch chi sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y trydydd sector yn cynnwys ariannu swyddi rheolwyr gwirfoddolwyr, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth recriwtio ac ailhyfforddi gwirfoddolwyr, a bod y cyllid hwn yn hirdymor, ac nad yw’n seiliedig ar gontract? Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi ei dynnu i fy sylw yn gynharach yn y swydd hon. Mae’n rhaid nodi na all ac na ddylai gwirfoddoli fyth gymryd lle darpariaeth yn y sector cyhoeddus gan staff cyflogedig. Roedd newyddion beth amser yn ôl am fwrdd iechyd penodol yn cynnig bod gwirfoddolwyr yn cyflenwi ac yn dosbarthu prydau mewn ysbyty penodol, a hoffwn gael sicrwydd gan y Gweinidog nad dyma'r cyfeiriad yr ydych am weld gwirfoddoli yn ei ddilyn o gwbl.

Rwyf yn gwerthfawrogi hefyd realiti'r sefyllfa lle mae trosglwyddo asedau yn digwydd ar draws cynghorau yng Nghymru, ac rwyf yn gwerthfawrogi bod y cyn Weinidog wedi dosbarthu canllawiau ynglŷn â phobl sy'n rhedeg gwasanaethau o'r fath, ond er hynny rwyf yn credu ei bod yn bwysig os yw pobl yn cyflawni swyddogaethau ychwanegol yn eu cymunedau, megis rhedeg canolfannau cymunedol, pyllau nofio a chanolfannau chwaraeon, fod hynny'n cael ei gydnabod ac na chymerir mantais arno. Yn aml iawn byddwn yn mynychu grwpiau lleol, ac yr un bobl sy’n gwneud popeth. Maent yn blino ac yn mynd dan bwysau o ganlyniad i’r union ffaith honno. Felly, rwy’n credu, ydy, mae gwirfoddoli yn rhywbeth pwysig iawn i'w wneud, ond mae’n rhaid inni hefyd sicrhau cydbwysedd o ran straen bywyd a lles yr unigolyn yn hynny o beth.

Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud i gloi, hefyd ynglŷn â’r agwedd lles, yw pobl ifanc. Wrth ymchwilio’r datganiad hwn heddiw gwelais fod llawer o bobl ifanc yn gwneud gwaith di-dâl sydd yn amlwg yn cael ei ddiffinio fel gwirfoddoli, ond mewn gwirionedd, dylent o bosibl gael eu talu am y gwaith hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny yn rhywbeth y gallwch ymchwilio ymhellach iddo, Weinidog.

Yn gyntaf oll, diolchaf i'r Aelod am ei chwestiynau a’i chyfraniad heddiw. Cytunaf yn llwyr â'r Aelod o ran cefnogi gwirfoddolwyr ledled Cymru a'r DU. Yn arbennig, hoffwn dalu teyrnged i ddau o’m ffrindiau da, Leanne a Bernie Attridge, a oedd yn gosod y rhwydi yn y clwb pêl-droed lleol boed law neu hindda, a hebddynt ni fyddai'r gêm yn dechrau. Felly, diolch yn fawr iawn i bobl yn union fel nhw. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig, ni waeth beth maent yn ei wneud, y ceir gweithredoedd sy'n helpu ysbryd ac agosatrwydd cymunedol.

Byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar y mater o gosbau. Rwy'n credu bod gwirfoddoli yn rhoi cyfle i lawer o bobl sydd wedi eu heithrio yn gymdeithasol. Mewn gwirionedd; mae'n aml yn gyfle i bobl ddod yn rhan o’r gymuned unwaith eto, ac rwy’n credu y byddai’n rhywbeth y byddwn i’n bryderus iawn yn ei gylch pe byddai gan yr Adran Gwaith a Phensiynau farn negyddol ar hynny. Byddaf yn rhoi sylw i hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn dilyn y sgwrs honno.

Ni allaf warantu—gwn fod yr Aelod wedi gofyn ac mae hynny'n briodol, ac mae hi wedi bod yn lobïo—ni allaf warantu unrhyw gyllid hirdymor ar gyfer rheolwyr mewn swyddi mewn unrhyw le ar draws fy adran. Y gwirionedd yw bod cyllid yn heriol iawn. Ond yr hyn yr wyf yn ei gydnabod yw'r gwaith y mae rheolwyr a sefydliadau yn ei wneud o ran sicrhau mwy o gyfle am hyfforddiant a chymorth i wirfoddolwyr ar lawr gwlad. Felly, rwy’n cydymdeimlo, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu, ond ni allaf addo cyllid hirdymor i’r Aelod yn y modd hwnnw.

Ni ddylai gwirfoddoli fod yn ddewis amgen i wasanaethau cyhoeddus, ond mae cydbwysedd o ran ei phwynt arall ynglŷn â throsglwyddo asedau hefyd. Yr hyn yr hoffwn weld mwy ohono yw partneriaeth y gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'r sector gwirfoddol, a sut y gallwn weithiau sicrhau rhai asedau gwych yn ein cymunedau, megis pyllau nofio. Rwyf yn gwybod ein bod wedi gweld grwpiau cymunedol yn cymryd rheolaeth dros byllau nofio sy'n eiddo cyhoeddus yn eu cymuned, ac maent yn gwneud gwaith da iawn yn hynny o beth hefyd, sefydliadau dielw. Ond mae hyn yn ymwneud â galluogi, gan wneud yn siŵr ein bod yn gallu helpu i gefnogi pobl sydd â'r ewyllys i wneud hyn ac sy’n awyddus i'w wneud. Sut y gallwn ni fel Llywodraeth a sefydliadau eu helpu i gael yr hyder i wneud yn siŵr eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau? Mae gennym gymaint o wirfoddolwyr, yn hen ac ifanc, ac mae’r brwdfrydedd y mae ein gwirfoddolwyr ifanc yn ei roi i gymunedau wedi creu argraff fawr arnaf. Rwyf wedi gweld rhai prosiectau gwych eisoes mewn amser byr iawn yn y portffolio hwn ar hyn o bryd, ond yn fy swydd flaenorol, pan oeddwn yn gyfrifol am wirfoddolwyr o'r blaen, gwelais rai prosiectau gwych ac anhygoel lle'r oedd pobl ifanc yn rhyngweithio â phobl hŷn, ac rwy'n credu ei fod yn cael gwared ar rai o rwystrau arwyddocaol—gellir diddymu’r pryder personol rhwng y ddau grŵp drwy eistedd gyda phaned o de a siarad am bethau gyda'i gilydd. Felly, rwyf wirioneddol yn diolch i'r gwirfoddolwyr ledled Cymru ac yn diolch i chi am eich cyfraniad.

Rwy’n falch o ymuno â chi i glodfori'r cyfraniad gwych a wneir gan bron i filiwn o wirfoddolwyr yng Nghymru. Nodaf fod Wythnos Gwirfoddoli wedi’i hymestyn eleni o 1-12 Mehefin ac mae'n rhaid i ni hefyd ddathlu’r estyniad sy'n gysylltiedig â phen-blwydd y Frenhines yn naw deg a’i chyfraniad hithau, fel noddwr mwy na 600 o elusennau a sefydliadau.

Fel y dywedasoch, gall pob un ohonom ddychmygu’r straen ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus pe na byddai’r amrywiaeth o grwpiau cymunedol ac elusennau yno yn y rheng flaen. Fel y dywedasoch yn gywir, rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod yr arian yr ydym yn ei fuddsoddi mewn cymorth i wirfoddolwyr yn cynnig y gwerth gorau am arian, ac, rydych yn awyddus i adnewyddu eich perthynas glós gyda'r trydydd sector a gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer gwirfoddoli—ac mae’r cyfle yn sicr yn bodoli ar gyfer hynny. Sut y byddwch yn mynd i'r afael â phryderon nad yw’r dull callach, gwerth gorau am arian, buddsoddi i arbed hwnnw wedi’i gofleidio? Ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf, er enghraifft, bydd toriadau Llywodraeth Cymru i ganolfannau cyswllt plant a thoriadau i gyllid ar gyfer gwasanaethau ymyrraeth arbenigol i gefnogi teuluoedd pan fo perthynas yn chwalu yn effeithio ar wasanaethau eraill, gan achosi costau uwch o lawer, er enghraifft, ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol; neu’r toriad o 9 y cant i elusennau gwirfoddol sirol lleol, y dywedodd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint mewn llythyr ataf y byddai’n dinistrio eu gallu i gefnogi mwy o wasanaethau ataliol a chost-effeithiol a arweinir gan ddefnyddwyr. Mewn geiriau eraill, gan ddefnyddio'r arian mwy cyfyngedig yn gallach, gallwn ddiogelu'r gwasanaethau hynny drwy weithio mewn modd gwahanol.

Sut yr ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru a'r sector adfywio mecanweithiau ymgysylltu presennol, i ddatblygu, hyrwyddo a monitro rhaglen ar gyfer gweithredu yn seiliedig ar gyd-gynhyrchu a thir cyffredin? Mae eu hadroddiad ar gymorth a gyfarwyddir gan ddinasyddion yn dweud bod cyfle i awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r trydydd sector weithio'n llawer mwy dychmygus i ddatblygu gwasanaethau gwell sy'n agosach at bobl, yn fwy ymatebol i anghenion, ac ychwanegu gwerth drwy dynnu ar adnoddau cymunedol. Mewn gwirionedd, disodli hierarchaethau, pŵer a rheolaeth gydag ymgysylltiad gwirioneddol, bywydau gwell a chymunedau mwy cydlynol.

O ran eich addewid, neu eich uchelgais, i weithio'n agosach gyda'r sector yn eich datganiad, sut y byddwch yn ymgysylltu â'r rhwydwaith cyd-gynhyrchu sydd newydd ei lansio ar gyfer Cymru? Roeddwn yn westai yn y lansiad ar 26 Mai yn y canolbarth gyda chynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector o bob cwr o Gymru—digwyddiad a oedd dan ei sang, gyda chyflwyniadau yn amrywio o rai gan Gyngor Sir Fynwy i sesiwn a gyd-gadeiriwyd gennyf i a swyddog o Gyngor Sir y Fflint. Roedd y canfyddiadau a adroddwyd gan y grŵp hwnnw yn cynnwys: ymgyrchu dros newid o fewn Llywodraeth Cymru, gan droi’r system wyneb i waered, a herio pobl a'r systemau sy'n cyfyngu arnom. Fel y dywedais, fi oedd yn cyd-gadeirio’r gweithgor hwnnw, a gwnaethpwyd y cyflwyniad gan swyddog. Fi oedd yr unig wleidydd o amgylch y bwrdd, felly nid oedd hwn yn ddigwyddiad pleidiol o gwbl. Wrth ymateb, efallai, i’r Athro Edgar Cahn, y cyfreithiwr hawliau sifil o Washington a ddatblygodd y cysyniad o gyd-gynhyrchu i esbonio pa mor bwysig yw systemau cymorth ar lefel y gymdogaeth ar gyfer teuluoedd a chymunedau a sut y gellir eu hailadeiladu—siaradodd ef yn y digwyddiad hwnnw. Mae hwn yn fudiad a ddechreuodd yn y 1970au; nid ymateb i gyni cyllidol ydoedd, ond ystyriaeth o sut i fynd i'r afael â phroblemau wedi’u gwreiddio'n ddwfn mewn cymunedau—yn yr achos hwnnw, problemau mewn cymdeithasau yn America, ond maent hefyd yn bodoli yma. Gorffennaf â’r pwynt hwnnw.

Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Credaf fod y Prif Weinidog yn glir iawn, pan ddaeth yn Brif Weinidog yn y pumed tymor, ynglŷn â chael sgwrs wahanol iawn gyda phartïon gwleidyddol ac aelodau'r cyhoedd. Credaf fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn gwirionedd yn nodi mewn deddfwriaeth y telerau ac amodau y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â nhw fel Llywodraeth, ynglŷn ag ymgysylltu â dinasyddion. Dyna’n sicr yw’r hyn yr wyf i eisiau ei wneud. Rwyf eisiau gwrando ar bob sector y tu allan i'r Llywodraeth a gwrando hefyd ar y pryderon yr ydych chi wedi’u lleisio ar eu rhan. Mae yna lawer o fudiadau yr wyf yn gwybod eu bod yn gwneud gwaith aruthrol o fewn ein cymunedau i gyd, ond y gwir yw, Mark, yn ystod tymor diwethaf y Llywodraeth, cawsom ein cyfyngu o ganlyniad i £1.9 biliwn yn llai o arian yn cael ei fwydo i economi Cymru oherwydd Llywodraeth y DU.

Ni allaf gael gwared ar yr effaith honno na'i lliniaru, a'r ffaith felly yw bod gostyngiad o 9 y cant ar gyfer rhai o'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn anochel. A dweud y gwir, mewn rhai ardaloedd, mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau ac maent yn rhai anodd iawn. Mewn gwleidyddiaeth—a Mark, rydych chi wedi bod yn y gêm hon ers talwm, fel finnau—hwn mae'n debyg, yw un o'r cyfnodau mwyaf heriol i ni fel Llywodraeth gan nad yw’r cyllid ar gael. Mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol iawn, iawn, ac rwy'n barod i gael y sgwrs hon gydag amrywiaeth eang o bobl sydd yn awyddus i wneud pethau gwahanol yn eu cymunedau, ond sydd hefyd â’r un amcanion â’r Llywodraeth hon ynglŷn â lles cymunedau ledled Cymru.

Credaf fy mod wedi siarad am yr elfen hon gyda Bethan Jenkins yn gynharach. Credaf fod fy swyddogaeth i a swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn ymwneud â galluogi pobl i wneud mwy, ac os gallwn ddim ond cefnogi pobl i wneud yn dda yn eu cymunedau fel Llywodraeth, credaf ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni’r swyddogaeth honno. Ni allaf ymrwymo i gynyddu cyllid ar gyfer sefydliadau pan nad oes gennym y cyllid i wneud hynny. Ond rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef a rhai o'r grwpiau y mae’n eu cynrychioli yma heddiw.

Mae llawer o drigolion yn fy etholaeth i, sef Cwm Cynon, ymhlith yr 1 miliwn neu fwy o bobl ledled Cymru sy'n rhoi'n hael o'u hamser i wella eu cymunedau a bywydau eu cymdogion. Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ni ddweud 'diolch' wrthynt ac i dynnu sylw at eu cyfraniad. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y 40,000 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r DU a weithiodd gydag Ymddiriedolaeth Trussell y llynedd i ddarparu banciau bwyd ledled Cymru, am eu rhan wrth helpu’r sefydliad i fod y prif enillydd yng Ngwobrau Elusennau 2016?

Yn ail, mae gwirfoddolwyr yn gorfod cymryd cyfrifoldeb am ddarparu mwy o wasanaethau lleol a darparu gwasanaethau lleol cynyddol gymhleth o ganlyniad i doriadau gwariant yn y sector cyhoeddus, er enghraifft drwy drosglwyddo asedau cymunedol. Yn aml, gall fod angen sgiliau rheoli cymhleth ar gyfer hyn. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwirfoddolwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn?

Yn olaf, mae astudiaethau wedi dangos bod gwirfoddoli yn gallu gwella iechyd meddwl unigolyn. Sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo hyn orau o fewn ei pholisi gwirfoddoli?

Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Gwn ei bod yn cynrychioli Cwm Cynon yn dda iawn, ac yn cynrychioli’r nifer o bobl sy'n gwirfoddoli yn ei chymuned; rwyf hefyd yn 'diolch' iddynt hwythau. Roedd braidd yn drist, mewn gwirionedd mai un o'r busnesau a dyfodd gyflymaf y llynedd oedd banciau bwyd, a chredaf mai cyni cyllidol sy’n peri i hyn ddigwydd mewn gwirionedd. Ond mae 40,000 o bobl yn neilltuo amser i gefnogi ei gilydd yn ein cymuned; dylem, unwaith eto, fod yn falch iawn o hynny, a hoffwn gofnodi fy niolch i fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell a’r holl fanciau bwyd sy'n gweithredu ar draws ein cymunedau. Mae'n adlewyrchiad trist iawn ein bod eu hangen, ond maen nhw gennym ac maen nhw'n cael eu rhedeg yn dda iawn.

Mae trosglwyddo asedau cymunedol yn elfen arall o raglenni cymhleth. Yr hyn yr wyf yn awyddus i’w wneud—a gallai hyn swnio'n heriol—credaf ein bod yn colli cyfle gan fod rhai o'n cymunedau, y rhai hynny sydd angen yr asedau hyn fwyaf, yn gymunedau sydd wedi eu galluogi. Mewn gwirionedd, mae gennym sawl agwedd ar ymgysylltu â'r gymuned lle mae gennym bobl cyn-broffesiynol sydd wedi ymddeol sy'n gallu rheoli'r cyrff hyn yn dda iawn, ond mae'r cymunedau lle nad yw’r bobl hyn yn byw ynddynt, mewn gwirionedd yn cynnwys y bobl sydd eu hangen fwyaf, a dyna lle y dylem ni, heb os, ganolbwyntio fwyaf, gan edrych ar gynnal ein cymunedau sydd fwyaf dan fygythiad, lle y dylem fod yn annog mwy o wneud hyn.

Mae'r Aelod yn hollol gywir i godi'r mater ynghylch lles ac iechyd meddwl hefyd. Dywedais wrth yr Aelodau yn gynharach fy mod yn credu bod y gallu i wirfoddoli yn cyflwyno dewis haws i bobl o bosibl i gychwyn gweithio nes ymlaen, ond hefyd mae’n eu datblygu ymhellach i allu adeiladu perthynas gyda chymunedau, a chydag unigolion eraill, pan allai fod ganddynt weithiau faterion personol heriol iawn eu hunain. Felly, credaf mai gwirfoddoli yw’r llwybr cywir, a dylem annog pobl o bob rhan o gymdeithas. Ond, mewn gwirionedd, o ran y mater ynghylch cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl, gall gwirfoddoli fod yn ddewis gwych.

Rwy’n cymryd y cam anarferol i mi o siarad Cymraeg yma yn y Siambr heddiw, nid oherwydd fy mod yn siarad Cymraeg yn rhugl ond oherwydd nad wyf yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac rwy’n ceisio cyrraedd y nod. Felly, os yw Aelodau yn fodlon bod yn amyneddgar, byddaf yn gwneud fy ngorau glas i gymryd fy nghamau cyntaf tuag at siarad Cymraeg yn rhugl ar lwyfan cyhoeddus iawn. Sôn am gymryd risg. [Chwerthin.]

Yn ardal Pen-y-bont ac Ogwr, fel llawer o ardaloedd eraill, mae yna gymaint o bobl mewn nifer fawr o sefydliadau sy’n cyfrannu o’u hamser a’u hegni i sicrhau bod pethau ychydig yn well ac ychydig yn rhwyddach mewn cymaint o ffyrdd. O’r Wombles ym Mhontycymer ac Ogmore Valley Pride ym Mro Ogwr, sy’n tacluso eu hamgylchedd lleol, i’r Caerau Community Growers yn cynnig bwyd ffres a sgiliau garddwriaeth i’w cymunedau, o Samariaid Pen-y-bont, sy’n gwrando ar bobl pan fo pethau’n mynd yn ormod, i’r llu o wirfoddolwyr mewn banciau bwyd ym mhob tref a phentref bron: adlewyrchiad trist o’r adeg hon o ‘austerity’, ond adlewyrchiad hefyd o garedigrwydd ein cymunedau.

Felly, a fyddai’r Gweinidog yn cymeradwyo gwaith yr holl sefydliadau a’r gwirfoddolwyr hyn, y cwmnïau a chyflogwyr sy’n aml yn rhyddhau eu staff i wirfoddoli, a’r sefydliadau fel BAVO ym Mhen-y-bont sy’n cydlynu’r gwaith hwn?

A fyddai’r Gweinidog yn cytuno â mi nad y gwerth caled o ran punnoedd a cheiniogau sy’n bwysig yma, ond y gwerth dynol o roi a bod ar gael pan fo’ch angen gan eraill? Mae hynny’n digwydd bob awr o bob dydd ledled Cymru, ac mae’n bwysig ein bod ni’n dathlu hynny yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr.

Diolch yn fawr i chi. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad, Huw. Mae eich Cymraeg yn rhagorol o’i gymharu â’m Cymraeg i, os caf i ddweud?

Yn gyntaf oll, nid oes unrhyw beth yr ydych wedi'i ddweud y gallaf anghytuno ag ef. Rwy'n credu eich bod yn ymwneud â llawer o'r gweithgareddau cymunedol yn yr ardal yr ydych yn ei chynrychioli. Rwyf yn gyfarwydd â rhai o'r sefydliadau hynny ac mae'n wir i ddweud hefyd fod rhai cwmnïau yn mynd ati i geisio ymgysylltu â'u gweithwyr, yn eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn dod â mwy yn ôl i’r cwmni hefyd. Nid yw yn eich etholaeth chi, ond roeddwn gyda gwirfoddolwyr o GE ddoe, ac roedd Jo Foster yn arwain tîm o wirfoddolwyr o amgylch y lle. Mae llawer o sefydliadau eraill sy'n gwneud hynny.

Rwy'n credu mai beth y mae hyn yn ei ddweud yw—ac rwyf yn credu eich bod wedi cyfeirio at hyn—nid yn unig y mae gwirfoddoli yn brofiad cadarnhaol ar gyfer ein cymunedau ond, mewn gwirionedd, gwirfoddoli yw craidd ein hysbryd Cymreig cymunedol. Mae’n ein diffinio ni. Rwy’n credu bod modd i ni roi, ac nid wyf yn sôn am arian, yn hytrach rwy’n sôn am ryngweithio cymdeithasol. Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir: dylem ddathlu cyfraniad y gwirfoddolwyr yn eich cymuned ac mewn llawer o gymunedau ledled Cymru.

Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gyflwyno’r datganiad hwn heddiw. Rwy'n credu ei bod ond yn iawn ein bod yn talu teyrnged fel Cynulliad i ymdrechion aruthrol gwirfoddolwyr ledled Cymru. Ond rwyf ychydig bach yn siomedig oherwydd yr un grŵp sylweddol o wirfoddolwyr na soniasoch amdanynt, oedd y rhai mewn grwpiau ffydd ar draws y wlad mewn eglwysi, mosgiau a lleoliadau eraill. Dylech fod yn ymwybodol, oherwydd eich ymgysylltiad gweinidogol blaenorol â grwpiau o'r fath, eu bod yn gwneud cyfraniad aruthrol ledled Cymru mewn sawl gwahanol ffordd, boed hynny drwy gyfrwng grwpiau ieuenctid, bod yn geidwaid rhai adeiladau gwych neu yn syml drwy wasanaethu'r henoed neu’r rhai sydd dan anfantais yn ein cymunedau.

Roedd adroddiad, wrth gwrs, a gyhoeddwyd yn ôl yn 2008—ac mae pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol ers hynny—a oedd yn nodi bod unigolion o'r fath yn gwirfoddoli 80,000 o oriau yr wythnos yma yng Nghymru, ac roedd hynny'n 42,000 o wirfoddolwyr a oedd wedi penderfynu gwirfoddoli mewn rhyw ffordd o ganlyniad i'w ffydd a'r ffaith eu bod yn ymgysylltu â chymunedau ffydd ledled Cymru. Felly, tybed, Weinidog, beth yr ydych chi'n ei wneud i gynyddu gallu grwpiau ffydd i ehangu eu hymdrechion gwirfoddoli a beth ydych chi'n ei wneud yn benodol fel Llywodraeth i gydnabod eu cyflawniadau ac i ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad i gymdeithas yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddech yn dymuno gwneud hynny yn awr yn y Siambr.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? I fynd i’r afael ag un mater, roeddwn yn amhenodol ynglŷn â gwirfoddolwyr—sôn oeddwn i am sefyllfa gyffredinol gwirfoddoli ac, wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr oriau di-rif, yr oriau nad ydynt wedi’u cofnodi, mewn gwirionedd, y mae grwpiau ffydd a sefydliadau eraill yn eu neilltuo ar gyfer gwirfoddoli. Yn wir, roeddwn yn aelod, flynyddoedd lawer yn ôl, o Gorfflu Antur Bechgyn Byddin yr Iachawdwriaeth—llawer iawn o flynyddoedd yn ôl—ond dim ond oherwydd bod gwirfoddolwyr yn barod i redeg y clwb hwnnw ar gyfer unigolion y digwyddodd hynny. Ymwelais â'r gegin gawl yng Nghaerdydd, sy’n gofalu am bobl ddigartref, a redir gan Fyddin yr Iachawdwriaeth eto. Felly, rwy’n cydnabod bod gan y sector ffydd gymaint o gyfleoedd hefyd.

Unwaith eto, gan fod yn amhenodol, credaf mai’r hyn y dylem ni i gyd ei wneud yw annog pob gwirfoddolwr o bob cefndir i gymryd rhan, ac mae'n rhywbeth y bydd y Llywodraeth Cymru hon yn parhau i’w wneud.

8. 7. Datganiad: Y Gymraeg a Llywodraeth Leol

Nawr, yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar yr iaith Gymraeg a llywodraeth leol. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Lywydd. Heddiw, rwy’n cyhoeddi ‘Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog’, adroddiad y gweithgor ar y Gymraeg ym maes datblygu economaidd a gweinyddu llywodraeth leol. Comisiynwyd yr adroddiad hwn ym mis Rhagfyr 2015 gan fy rhagflaenydd, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd hyn mewn ymateb i sylwadau am yr iaith Gymraeg a godwyd gan Aelodau’r Cynulliad yn ystod craffu ar Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015. Rwy’n dymuno estyn fy niolch a’m gwerthfawrogiad i gadeirydd y gweithgor, Rhodri Glyn Thomas, ac i aelodau’r gweithgor am lunio’r adroddiad hwn mewn cyfnod byr o amser. Mae hyn yn rhoi cyfle amserol i Weinidogion Cymru ystyried canlyniadau’r adroddiad ar ddechrau tymor newydd y Cynulliad, ac o fewn fframwaith ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Roeddwn i’n arbennig o falch i gwrdd â Rhodri Glyn Thomas yr wythnos diwethaf ac i glywed yn uniongyrchol ganddo fe am y ffordd yr aeth y gweithgor at ei waith, a sut y daethant at eu casgliadau.

Mae’n bwysig i osod cyd-destun i’r adroddiad, fel y mae’r awduron yn ei ganfod. Maen nhw’n dweud yn y rhagymadrodd:

‘Gofynnwyd i ni i edrych yn benodol ar yr iaith Gymraeg yn ei chynefinoedd traddodiadol yn y gorllewin a’r gogledd, a hynny drwy lens Llywodraeth Leol. Bu Llywodraeth Leol yn ganolog i weithredu polisïau cenedlaethol ac yn arbennig, i gyflenwi cyfundrefn addysg Gymraeg. Mae ein dyled i Lywodraeth Leol yn fawr. Mae Awdurdodau Lleol y gorllewin—Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin—yn flaengar eu cefnogaeth i’r iaith ond mae arfer da i’w weld ym mhob rhan o Gymru.’

Yn erbyn y cefndir hwnnw, mae’r adroddiad yn adnabod sut y mae rôl awdurdodau lleol yn allweddol mewn amryw o ffyrdd. Mae awdurdodau lleol ar y rheng flaen yn hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Maent yn darparu gwasanaethau hanfodol mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dysgu Cymraeg mewn ysgolion. Mae ganddynt gyfrifoldebau eang am blant a theuluoedd, gofal plant a darpariaeth feithrin, gwasanaethau cymdeithasol a chefnogaeth i bobl hŷn. Mae awdurdodau lleol yn cefnogi cymunedau iaith Gymraeg cryf drwy eu swyddogaethau cynllunio, datblygu economaidd, tai ac adfywio. Mae llywodraeth leol yn gyflogwr sylweddol ym mhob rhan o Gymru, yn cynnig swyddi o ansawdd uchel, gyrfaoedd proffesiynol i bobl leol a chyfle i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac i wasanaethu’r cyhoedd yn y Gymraeg. Rôl llywodraeth leol, felly, yw i sicrhau dyfodol yr iaith drwy addysg, i sicrhau presenoldeb yr iaith bob dydd drwy waith a gwasanaethau, ac i sicrhau cadernid yr iaith mewn cymunedau llewyrchus.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 14 o argymhellion, argymhellion sydd, yn ôl y cadeirydd yn ei ragair, ‘yn heriol ond yn ymarferol’.

The recommendations, Llywydd, are grouped under a number of headings. These include leadership, at both the national and the local level, touching on the responsibilities of the Welsh Government, the commissioner for the Welsh language and leadership teams in local government. The sections on a bilingual workforce and training relate to the Welsh-language capability of the public service workforce. The section on technology deals with the exciting opportunities that digital translation technologies are beginning to offer and, under the heading of changing behaviour, the report examines the opportunities for using behavioural insight and nudge theories in the context of the workplace and the use of services in Welsh. The final section of the report relates to local government’s role in economic development and in the creation and sustaining of resilient communities.

Mae pethau i’w gwneud sy’n deillio o’r argymhellion yn disgyn i amryw o gyrff. Byddai deddfwriaeth yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae argymhellion am recriwtio a chynllunio gweithlu yn disgyn i awdurdodau lleol, tra bod y rhai sy’n ymwneud â hyfforddiant yn cyffwrdd â swyddogaethau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae sawl argymhelliad am ymchwil a thystiolaeth sy’n adnabod gweithredoedd i’n prifysgolion.

Ni chefnogwyd pob argymhelliad yn unfrydol gan bob aelod o’r gweithgor, ond y mae pob un yn sicr o fod o ddiddordeb uniongyrchol i’r rhai sy’n cyflenwi gwasanaethau awdurdodau lleol a’u partneriaid. Am y rheswm yma, rwy’n cyhoeddi’r adroddiad heddiw am gyfnod o ymgysylltu dros yr haf.

Llywydd, mae cwmpas yr adroddiad yn eang ac mae’n cyffwrdd â meysydd polisi ar draws y Llywodraeth. Rwy’n croesawu’r cyfle i wrando ar farn llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill wrth i ni ystyried casgliadau’r adroddiad, a chyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru yn yr hydref.

A gaf i’ch llongyfarch chi, Mark Drakeford, ar eich penodiad diweddar ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio efo chi? Rwyf i a Phlaid Cymru’n croesawu’r adroddiad yma heddiw. Mae yna argymhellion clir a chadarn yma, ac rydym yn llongyfarch gwaith gwych Rhodri Glyn Thomas, sy’n gyn-Aelod y lle yma, wrth gwrs, a’i gyd aelodau ar y gwaith.

Rydych chi’n cytuno, rwy’n siŵr, y gall gwasanaeth cyhoeddus dwyieithog cyhyrog gyfrannu’n enfawr tuag at adferiad y Gymraeg. Rwy’n meddwl bod yna dri phwynt pwysig i feddwl amdanyn nhw yn y maes yma. Mae cryfhau hawliau defnyddwyr gwasanaeth yn y sector cyhoeddus yn codi hyder y bobl sydd yn siarad Cymraeg, yn ogystal â chryfhau’u hawliau nhw. Mae caniatáu a chryfhau gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan o waith pob dydd pobl sy’n siarad Cymraeg yn codi hyder hefyd.

Mae hefyd yn bwysig nodi, rwy’n meddwl, fod gwneud y Gymraeg yn sgìl hanfodol yn creu pwrpas hollol ymarferol ynglŷn â siarad Cymraeg, ynglŷn ag addysg Gymraeg ac yn rhoi pwrpas i ddysgu Cymraeg. Ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno efo fi fod creu marchnad lafur Gymraeg yn bwysig iawn yn y broses o adfer yr iaith Gymraeg.

Rwyf i, tan yn ddiweddar iawn, wedi bod yn gynghorydd efo Cyngor Gwynedd, ac mae llawer ohonom ni’n gwybod am bolisïau goleuedig y cyngor hwnnw, ac nid yw’n ddamwain bod rhai cymunedau o gwmpas pencadlys y cyngor sir hwnnw wedi gweld cynnydd, yn groes i beth sydd wedi digwydd ar draws Cymru. Mae yna rai cymunedau wedi gweld cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg ers y cyfrifiad. Er enghraifft, ym mhentref Waunfawr, bu cynnydd o 73 y cant i 75 y cant o siaradwyr Cymraeg. A ydych chi’n cytuno efo fi, felly, fod yna awdurdodau lleol eraill rŵan yng nghadarnleoedd y Gymraeg eisiau symud ymlaen i ddatblygu ymhellach ar eu polisïau nhw a bod angen i’r arweiniad ar gyfer gwneud hynny ddod o Lywodraeth Cymru, fel y mae’r gweithgor yn nodi?

Rwyf yn croesawu’r argymhellion ynglŷn â chynllunio gweithlu, yn sicr, ond mae yna ddau beth yn peri pryder. Sut mae modd i chi weithredu’r argymhellion os na fydd y cyfrifoldeb am y Gymraeg yn y gweithlu gyda chorff y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn y dyfodol? Y tebygrwydd ydy y bydd dysgu Cymraeg yn y gweithle yn mynd i gorff arall. Mae yna lawer o ansicrwydd ynghylch hynny. Rwy’n meddwl y bydd hi’n anodd gweithredu rhai o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad. Y broblem arall, wrth gwrs, ydy’r adnoddau ariannol. Rydym wedi gweld yr adnoddau adrannol ar gyfer y Gymraeg yn cael eu torri. A ydych chi, felly, yn rhannu fy mhryder am weithredu rhai o argymhellion yr adroddiad yma, cadarn fel ag y maen nhw? Rydym yn eu croesawu nhw’n fawr iawn, ond eu gweithredu rŵan sydd angen ei wneud. A ydych yn rhannu fy mhryder i efallai nad ydy hi’n mynd i fod yn bosib i’w gweithredu nhw o dan yr amgylchiadau presennol?

Diolch yn fawr iawn i Sian Gwenllian am y sylwadau. Diolch am y croeso y mae hi wedi’i roi i’r adroddiad. Wrth gwrs, rwyf yn cytuno: mae cryfhau hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn codi hyder pobl i wneud yr un peth. Beth mae’r adroddiad yn ei ddweud yw y sialens fwyaf yw creu sefyllfa lle mae pobl yn defnyddio’r iaith pan maen nhw’n dod i mewn i wasanaethau, a drwy wneud hynny i fod yn glir gyda’r bobl sy’n darparu gwasanaethau bod y sgiliau sydd ganddynt i wneud pethau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn bethau rŷm ni’n eu gwerthfawrogi ac y bydd hynny’n rhywbeth pwysig iddyn nhw pan fyddan nhw’n creu dyfodol i’w hunain.

Rwy’n siŵr, pan rwyf wedi bod yn siarad â phobl ifanc, pobl sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ei fod yn bwysig i’w perswadio nhw bod y ffaith eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg yn rhywbeth y maen nhw’n gallu ei werthu yn y gweithle. Mae’n rhywbeth, nid jest yn y pwnc mae’n nhw’n ei ystyried neu’n ei ddysgu, ond mae’n rhywbeth cyffredinol mae’n nhw’n gallu ei roi ar waith yn y gweithle yma yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at beth sydd wedi digwydd yng Ngwynedd. Mae’n tynnu sylw at Geredigion a Chaerfyrddin lle mae pethau sy’n dod ar ôl yr arweinydd, Gwynedd, yno’n barod. Mae’n dweud hefyd—ac mae hyn yn bwysig—nad yw’r sefyllfa ledled Cymru yr un peth. Nid yw pethau sy’n mynd i weithio yng Nghaerfyrddin yn mynd i weithio jest yn yr un ffordd, er enghraifft, yn Nhorfaen. Mae’r adroddiad yn dweud hynny’n glir.

Of course, there are challenges in the recommendations. The chair of the working group makes that clear in his own introduction, when he says that the recommendations are challenging. But, the purpose of putting the report into the public domain today, to invite observations on it from local authorities across Wales and those people who work with local authorities and those people who use local authority services, is to help us to identify those challenges, to think of ways that we can respond to them and then to make the Government’s response to the report, which will follow in the autumn, enriched by that wider range of contributions.

Llongyfarchiadau wrthyf i, hefyd, Ysgrifennydd newydd. A allaf ddweud diolch yn fawr, hefyd, am y datganiad heddiw a’r adroddiad? Wrth gwrs, nid wyf wedi cael y siawns i edrych drosto fel y mae’n haeddu. Hoffwn wneud hynny’n fanwl cyn bo hir. Rwy’n falch o weld ei fod yn glir, o rai o’r geiriau rwyf wedi’u gweld yn barod, nad yw’r gwaith yma yn dyblygu gwaith sydd wedi cael ei wneud yn barod yn y maes yma, felly mae yna siawns inni symud ymlaen gyda’r argymhellion yma. Mae yna rywbeth i’w ddathlu, rwy’n credu. Fel y dywedoch chi, mae’n mynd i fod yn dipyn bach o her i rai ohonom ni, ond ar ôl edrych drwyddynt yn fanwl, fe gawn ni siawns i gael syniadau clir am le rydym ni’n sefyll fel plaid arnyn nhw.

A allaf i droi, i ddechrau, i’r safonau, achos mae Sian wedi codi mater hawliau? Hoffwn i, yn bersonol, weld y safonau yn gweithio yma yng Nghymru, ac mae wedi bod yn siomedig, rhaid imi ddweud, fod yna gymaint o apeliadau wedi mynd at y comisiynydd, rwy’n credu, oddi wrth rai o’r cynghorau yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’n siomedig ar ôl y gwaith sydd wedi cymryd lle rhwng swyddfa’r comisiynydd, y Llywodraeth a’r cynghorau. Fel y dywedais i, hoffwn i weld y safonau’n gweithio, felly rwyf i eisiau lleihau’r nifer o apeliadau a’r risg o, efallai, adolygiadau barnwrol. Nid wyf i eisiau gweld y rheini. Felly, a fydd e’n bosibl, a ydych chi’n ei feddwl, mewn ymateb i’r adroddiad yma, i ddweud rhywbeth am y prawf yr ydych chi fel Llywodraeth yn ei ddefnyddio, ‘really’, i fod yn siŵr bod y rheoliadau sy’n cyflwyno’r safonau yn ei wneud yn glir pam rydych chi fel Llywodraeth wedi eu ffeindio nhw’n rhesymol a chymesur, achos wrth gwrs dyna bwynt sylfaenol y safonau, jest i osgoi apeliadau yn dod drwyddo eto?

Rydych chi’n sôn yn y datganiad am gymorth i bobl sy’n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig y cynghorau, ac rwy’n cytuno â hynny, ond nid am adnoddau yn unig, a gawn ni ddweud, achos mae’n bwysig i bawb gael y rhain. Os ydyn nhw eisiau siarad Cymraeg, dylen nhw gael y siawns i siarad a dysgu Cymraeg yn ein cynghorau. Ond, roeddwn i’n meddwl mwy am newid diwylliannol, achos, fel rydych chi’n gwybod, nid yw pob cyngor yng Nghymru wedi cymryd yr agenda yma ac mae yna o hyd dipyn o frwydr calonnau-meddyliau, a gawn ni ddweud, gyda rhai o’n cynghorau—a chynghorwyr yn arbennig. Fe welais i eiriau yn yr adroddiad ynglŷn ag arweinyddiaeth ein swyddogion uwch ac mae yna gwestiwn yma am beth sy’n mynd i fod yn berthnasol iddyn nhw, ond hoffwn i wybod mwy am sylwadau ar ddull o ymdrin ag agwedd tuag at yr iaith ein haelodau etholedig mewn rhai llefydd a rhai o’n swyddogion, gan ddibynnu lle maen nhw’n gweithio. Mae hyn yn gallu bod yn anodd erbyn hyn, mae’n drist imi ddweud.

I ddiweddu, a gaf i ddweud rhywbeth am ddatblygiad economaidd, achos nid oes lot yn y datganiad ond, wrth gwrs, mae yna lot yn yr adroddiad, ac nid wyf wedi cael siawns i edrych drwyddynt? Mae Sian Gwenllian yn hollol gywir am hynny am bwynt dysgu Cymraeg—jest i weld pam mae’n bwysig a sut y mae’n fantais yn ein bywyd bob dydd, yn arbennig yn ein gweithle. Mae gennyf fi—nid oes syndod, ‘really’—ddiddordeb yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Rwyf i wedi gweld bod yna rywbeth yn yr adroddiad ynglŷn â rhai cymunedau yng ngorllewin yr ardal yna, ond hoffwn i wybod beth fydd strategaeth ieithyddol economaidd yn ei feddwl yn y cymunedau di-Gymraeg, achos mae lot ohonyn nhw yn fy rhanbarth i. Os ydych chi’n edrych ar sgiliau Cymraeg fel offeryn yn erbyn tlodi, mae yna gwestiwn am beth mae strategaeth ieithyddol economaidd yn mynd i feddwl mewn cymunedau tebyg. Diolch.

Diolch yn fawr i Suzy Davies am y sylwadau yna. Mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud yn yr adroddiad nad oedden nhw eisiau jest mynd ar ôl y tir yr oedd pobl wedi ei wneud yn barod. Roedden nhw eisiau symud y ddadl ymlaen a thrio casglu pethau mas o’r gwaith sydd wedi ei wneud yn barod, ond rhoi rhai pethau newydd i ni feddwl amdanynt a rhai pethau ymarferol hefyd i bobl eu gwneud. Dyna pam mae’r argymhellion yn bwysig, rwy’n meddwl. Mae’r gweithgor wedi delio â’r safonau. Mae yn y rhagymadrodd, beth maen nhw’n ei ddweud, ond rwyf i wedi clywed beth mae’r Aelod wedi ei ddweud y prynhawn yma ac rwy’n gwybod bod Alun Davies wedi clywed beth mae Suzy wedi ei ddweud hefyd.

Maen nhw’n dweud yn yr adroddiad hefyd, fel y mae Suzy Davies wedi ei ddweud, bod mwy nag adnoddau ariannol yma. Mae pethau fel agweddau yn bwysig. Ond maen nhw’n dweud hefyd, pan oedden nhw mas yn siarad â phobl, nid oedd diffyg ewyllys da. Ambell waith, y broblem oedd helpu pobl i droi’r ewyllys da yn bethau maen nhw’n gallu eu gwneud i hybu’r iaith Gymraeg. Nawr, rydw i’n cydnabod nad yw pethau yn yr un lle ym mhob man yng Nghymru, ond dyna beth mae’r adroddiad yn ei ddweud: nid diffyg ewyllys da yw’r broblem, ond helpu pobl i adeiladu ar hynny i wneud pethau ymarferol sy’n gallu helpu pobl sydd eisiau defnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, a hefyd i fod yn glir gyda’r bobl sy’n darparu’r gwasanaethau sut y mae sgiliau yn y Gymraeg yn mynd i fod yn bethau maen nhw’n gallu adeiladu arnynt yn y gweithlu.

As far as the economic development aspects of the report are concerned I think it’s fair to say that the steer that the group was given was that they were to concentrate on those parts of Wales where the proportion of Welsh speakers are highest. They do—as Suzy Davies said—draw particular attention to the importance of the Swansea region and the way in which economic development opportunities matched to the needs of Welsh-speaking communities ought to be given particular attention there. There are recommendations about how some of those thoughts could be taken further, and I’m sure that, as we think these things through across the summer, the points that Suzy Davies made about those parts of communities where Welsh speaking is not at the same level, but in the same area, will be part of what we will want to think through.

Yn gyntaf, a gaf i ddatgan buddiant? Mae gennyf ferch sy'n mynychu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac wyres yn mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan.

Rwyf yn croesawu'r adroddiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog i'r Gymraeg. Rwyf yn credu bod addysg yn allweddol i barhad y Gymraeg fel iaith gymunedol. Rwyf yn falch o dwf addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn y de, a arweinir gan awdurdodau lleol a reolir gan Lafur. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw wrth ateb cwestiwn gan Jeremy Miles, mae'r ardal sy'n siarad Cymraeg wedi bod yn symud i fyny cwm Tawe—efallai gan adael Craig Cefn Parc a rhannau o Bontarddulais ar ôl—am gryn amser. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen yn gyntaf ei atal ac yna ei wrthdroi, gan wneud y Gymraeg yr iaith gymunedol ledled cwm Tawe unwaith eto. Gall fy ngwraig ddweud wrthych am bryd oedd hi'n ifanc ac yn yr ysgol—yn Ynystawe, lle'r wyf yn byw, Cymraeg oedd iaith y gymuned. Nid yw hynny'n wir mwyach yn anffodus.

Mae gennyf dri chwestiwn yn ymwneud â llywodraeth leol a'r Gymraeg. Mae dau o'r rhain yn—y mae'r Gweinidog yn mynd i'w ddweud—nad ydynt mewn gwirionedd yn rhan o'i bortffolio, felly, ymddiheuriadau am hynny. Yn gyntaf, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod rhieni yn cael y cyfle cyfrwng Cymraeg, pan fydd eu plant yn Dechrau'n Deg? Dyna ddechrau addysg i lawer iawn o blant, ac os ydynt yn cael eu rhoi mewn cylch Dechrau'n Deg cyfrwng Saesneg y tebygrwydd yw y byddant yn mynd drwy addysg cyfrwng Saesneg drwy gydol eu taith addysgol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y cyfle ar gael. Rwyf wedi gorfod ymgymryd ag achosion ar ran etholwyr, sydd yn y pen draw, wedi mynd a nhw i mewn i gylch Dechrau'n Deg Cymraeg, ond maent wedi gorfod rhoi llawer iawn o ymdrech i wireddu hynny ond, mewn gwirionedd, dylai fod yn fater o ddewis unigol.

Yn ail, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau darpariaeth ddigonol o ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol? Yn drydydd, er fy mod yn ei chael hi'n anodd iawn siarad Cymraeg mewn amgylchedd gwleidyddol a thechnegol, mae rhai sydd wedi eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwybod rhai geiriau technegol yn y Gymraeg yn unig. A yw pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ateb gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mor gyflym â gohebiaeth yn Saesneg?

Hoffwn ddiolch i Mike am y cwestiynau yna? Mae'n tynnu sylw at un o ryfeddodau gwych ein hoes—twf addysg cyfrwng Cymraeg. Yma yn ninas Caerdydd, pan ddechreuais i gadeirio gweithgor cyfrwng Cymraeg De Morgannwg yn y 1980au, roedd nifer y bobl ifanc a oedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn llythrennol yn fymryn bach o'i gymharu â'r nifer sydd yno heddiw. Mae cael pobl ifanc yn yr oedran cynharaf un i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg, pan mai dyna'r hyn y bydden nhw a'u rhieni yn ei ddymuno ar eu cyfer, rwyf yn deall, yn hynod o bwysig ac yn arbennig o bwysig i'r bobl ifanc hynny sy'n manteisio ar y rhaglen Dechrau'n Deg. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod y pwyntiau y mae ef wedi eu gwneud am hynny ac am dwf yr hawl i gael addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru—rwy'n siwr y bydd yr Ysgrifennydd dros Addysg yn awyddus i glywed yr hyn a ddywedodd am hynny.

O ran ateb gohebiaeth a dderbyniwyd trwy gyfrwng y Gymraeg mor gyflym â'r hyn a dderbynnir yn Saesneg, rwyf yn dychmygu mai'r ateb yw nad yw'n digwydd yn yr union ffordd honno ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, a fydd yn dibynnu ar i lythyr gael ei gyfieithu i'r Saesneg, llunio ateb yn Saesneg a'i ailgyfieithu i'r Gymraeg. Ond rwyf yn meddwl y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn effro i'r angen i wneud mwy yn y maes hwn. Bydd newidiadau mewn technoleg ar gyfer cyfieithu o gymorth iddyn nhw yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill, a bydd adroddiad hwn, y byddant yn ei astudio dros yr haf, yn eu helpu yn y maes hwnnw, hefyd.

Rwy’n croesawu’n fawr iawn y ffocws clir yn yr adroddiad yma ar y cyswllt hanfodol rhwng iaith a datblygu economaidd. I rai ohonom sydd wedi bod yn ymgyrchu ers degawdau dros ddyfodol hyfyw i’r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol yn y bröydd traddodiadol Cymraeg yn y gorllewin, mae’n hollol allweddol, wrth gwrs, i sylweddoli, oni bai ein bod ni’n ateb y cwestiwn yna, nid oes yna ddyfodol i’r iaith Gymraeg i’r un graddau fel iaith gymunedol. Er gwaetha’r cynnydd yr ydym yn ei weld yn rhannau eraill o Gymru, wrth gwrs, rŷm ni’n colli adnodd allweddol i’r adfywiad yna ar lefel genedlaethol os collwn ni hyfywedd ieithyddol diwylliannol traddodiadol y gorllewin. Rwy’n cofio, 20 mlynedd yn ôl, yn Eisteddfod Casnewydd bryd hynny, meddiannu byngalo gydag Alun Davies tu fas i Garmel, rwy’n credu—roedd e’n ‘executive bungalow’, ond oedd e; roedd tapiau aur yn perthyn iddo. Ond beth oedd y slogan? Hynny yw, ‘tai a gwaith i achub iaith’. Mae’r slogan wedi bod yno yn ddigon hir. Mae’n amser i gael gweithredu nawr, ond yw hi? Rwy’n gweld bod argymhelliad 10 yn galw am strategaeth economaidd ieithyddol ar gyfer siroedd y gorllewin i gyd, a’r ffocws yma, wrth gwrs, ar hybiau, ar drefi twf, sy’n allweddol bwysig os ŷm ni’n meddwl am y brif her, wrth gwrs, sef cadw ein pobl ifanc â ni, a chreu sylfaen economaidd iddyn nhw.

Fy nghwestiwn i i’r Gweinidog ydy hyn: mae’r strategaeth yn un peth, ond oni bai bod yna strwythur, wrth gwrs, nid ydych chi’n mynd i fedru ei chyflawni hi. Yng nghyd-destun llywodraeth leol, wrth gwrs, mae gyda ni’r dinas-ranbarthau yn y de—rwy’n eu croesawu nhw’n fawr iawn—ond ble mae ein rhanbarth ni yn y gorllewin? Beth sy’n cyfateb o ran rhoi inni'r màs critigol a’r cyfrwng er mwyn gwireddu’r strategaeth ieithyddol economaidd mae’r adroddiad yma yn galw amdano?

Wel, rydw i’n cydnabod beth oedd yr Aelod yn ei ddweud, i ddechrau. Rydw i wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yr un peth dros y blynyddoedd am y pwysigrwydd o gymunedau traddodiadol lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio bod dydd.

On the wider point that he ended with, he’ll appreciate that those are part of wider debates that we are having and will want to go on having. There are a number of different forums, a number of different economic development organisations, that see themselves as being part of this picture. It is part of the reason why the previous Minister asked for this piece of work to be done—to help us to think through some of those issues to make sure that we have the structures in place that can assist those communities in the west and the south of Wales where the relationship between the way that services are provided, the way that languages are used, and the way that economic futures for those communities can be fashioned really do come together in a way that we need to make each strand reinforce the others, rather than pull apart from them. I am hopeful that this report will be of significant help to us in doing that. Today is simply about putting that report into the public domain and making sure that we have as fruitful a response to it as we are able to achieve.

9. 8. Cynnig i Ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016

Yr eitem nesaf o fusnes yw’r cynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016. Rydw i’n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.

Cynnig NNDM6019 Mark Isherwood

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2016, yn cael eu dirymu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch—diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi galw ers amser, am flynyddoedd lawer, am fathodynnau glas dros dro, wrth gynrychioli barn etholwyr a sefydliadau, ac, yn amlwg, mae'r rheoliadau diwygio a fwriedir yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell o lawer, ac rwyf am esbonio hynny'n fyr.

Rwyf wedi derbyn llawer o eitemau o ohebiaeth gan etholwyr dros y blynyddoedd sydd wedi cael nam dros dro, yn golygu bod yn rhaid iddynt ddibynnu ar efallai gadair olwyn neu ffon gerdded oherwydd gallu cyfyngedig am gyfnod—oherwydd damwain, oherwydd llawdriniaeth, yn bennaf, ond ffactorau eraill hefyd weithiau—ac mae'r effaith ar eu bywydau wedi bod yn aruthrol, a dyna pam y codais hyn dro ar ôl tro yn ystod y Cynulliad diwethaf, ymysg pethau eraill, fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, a chefais ymateb cynnes a chadarnhaol iawn gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y mater hwn, Edwina Hart. Nawr, rwyf am ddyfynnu dim ond un o'r llythyrau gan etholwyr. Roedd hwn, mewn gwirionedd, yn un y cafodd bob un o Aelodau Gogledd Cymru ar y pryd gopi ohono, ym mis Rhagfyr 2013. Dywedodd:

Torrais fy nghoes (niwed i'r pen-glin a'r ffêr) ddydd Mawrth 5 Tachwedd ...Nid wyf yn cael rhoi DIM pwysau arni am WYTH wythnos .... Pam nad yw pobl fel fi ddim yn cael "bathodyn parcio glas ar gyfer Anabledd" DROS DRO. Mae'r angenrheidrwydd i ddod â'r gadair olwyn yr holl ffordd o gwmpas y car at y drws teithiwr sydd ar agor i'r eithaf bron yn amhosibl mewn 99.9 y cant o leoedd parcio. Mae meddwl am law rhewllyd y gaeaf yn achosi pryder mawr i mi tra fy mod yn y cyflwr hwn; a phryder arall yr un mor fawr yw'r pwysau a'r anhawster corfforol ar fy annwyl ŵr gan ei fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â mi yn ogystal â'i salwch tymor hir eu hun'.

Nawr, ym mis Mai 2014, wrth siarad yn y Siambr hon, dywedais wrth y Gweinidog, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, fy mod wedi ysgrifennu ati ynglŷn â'r mater hwn yn y mis Rhagfyr blaenorol, a bod ei hateb yn ddefnyddiol gan ei chyfeirio at y grŵp adolygu bathodynnau glas a datgan ei fod wedi nodi rhwystrau i fathodynnau dros dro, megis cael y bathodyn yn ôl pan nad oedd ei angen mwyach, a'r potensial o'i gamddefnyddio wedyn. Gofynnais pa ystyriaeth oedd wedi ei roi, neu y byddai yn cael ei roi, neu y gellid ei roi, i ddarparu bathodynnau dros dro â dyddiadau cyfnod penodol neu ddyddiad dod i ben neu ddyddiad adnewyddu arnynt fel na ellid eu hailgylchu yn y ffordd honno. Unwaith eto, gwnes hynny ar ran etholwyr a awgrymodd fy mod yn gofyn y cwestiwn. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n anfon fy nghyfraniad at ei swyddogion i'w drafod.

Ar 17 Mehefin, 2014, ysgrifennodd y Gweinidog at holl Aelodau'r Cynulliad, gan ddatgan, yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 21 Mai, bod Mark Isherwood AC wedi gofyn pe gellid rhoi ystyriaeth i gyflwyno bathodynnau glas dros dro ac roeddwn eisiau diweddaru'r holl Aelodau ar hyn. '

A gorffennodd drwy ddweud, 'Mae hwn yn faes lle y mae angen mwy o waith, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion archwilio'r mater hwn, gan gynnwys yr awgrym o gyflwyno bathodynnau â therfynau amser byrrach.'

Ym mis Ebrill 2015, wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog hwnnw ar fathodynnau glas eto yn y Siambr hon, dywedais:

'Y llynedd, codais achos etholwr gyda chi a oedd wedi bod yn anabl dros dro ac a oedd mewn cadair olwyn ... yn dilyn anaf difrifol, gan ofyn pa ystyriaeth y gellid ei roi i ddarparu bathodynnau dros dro, â dyddiadau cyfnod penodol, dyddiadau dod i ben , neu ddyddiadau adnewyddu ... fel na ellid eu hailgylchu, neu ei ddefnyddio pan nad oedd rhywun bellach yn gymwys. Gwnaethoch gadarnhau y byddech yn anfon y cynnig hwn at eich swyddogion ar gyfer trafodaeth. Gan nad wyf wedi clywed dim ar y pwynt penodol hwnnw ers hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallech wneud sylw. '

Rwyf hefyd yn croesawu ei chyhoeddiad ei bod yn penodi grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar hyn. Dywedodd y byddai'n rhaid iddi edrych ar y newidiadau i'r rheoliadau, o bosibl ym mis Hydref 2015. Ym mis Rhagfyr 2015, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ar adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen y bathodyn glas. Dywedodd ei bod wedi penodi'r grŵp, o dan gadeiryddiaeth y cyn AC Val Lloyd ac roedd hi'n cyhoeddi'r adroddiad a'r argymhellion ar y pwynt hwnnw. A hi a ddywedodd, er mwyn bwrw ymlaen ag argymhellion yr oedd wedi ffurfio grŵp gweithredu bathodyn glas. Dywedodd:

'Rydw i wedi datgan yn flaenorol hoffwn weld newidiadau i'r cymhwyster i gynnwys pobl â chyflyrau dros dro ag angen triniaeth helaeth ac adsefydlu sy'n effeithio ar eu gallu i symud.'

Yna, ym mis Ionawr eleni, unwaith eto mewn datganiad busnes, galwais am ddatganiad am gynllun y bathodyn glas. Dywedais:

'Mae cwestiynau pellach ar rywbeth yr wyf i wedi bod yn holi'r Gweinidog yn gadarnhaol am nifer o flynyddoedd drosodd, sef bathodyn glas ar gyfer pobl â chyflyrau dros dro'.

Mae'r memorandwm esboniadol at y rheoliadau ar gyfer y gwelliant yr ydym yn ei drafod heddiw yn iawn yn datgan:

'Ar hyn o bryd, Bathodynnau Glas yn unig y gellir rhoi i bobl y mae eu symudedd â nam parhaol. Fodd bynnag, mae amodau a namau dros dro eraill sy'n gallu effeithio'n ddifrifol ar symudedd trwy gydol y nam neu gyflwr. '

Dyna ganolbwynt y mater; hwnna yw'r union bwynt. Y broblem yw yr hyn y mae’n mynd ymlaen i’w ddweud wedyn. Oherwydd bod Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth, yn gyfyngol gan nad ydynt ond yn caniatáu i fathodynnau glas gael eu cyflwyno am flwyddyn i berson nad yw’n gallu cerdded, sydd yn cael cryn anhawster i gerdded, oherwydd anhawster dros dro ond sylweddol y disgwylir iddo bara am gyfnod o 12 mis o leiaf. Byddai hynny, er enghraifft, wedi annilysu'r llythyr a ddarllenais yn gynharach, a sbardunodd yr holl broses hon gyda'r Gweinidog ar y pryd.

Mae hyn yn torri’r ymrwymiadau y gwnaeth Llywodraeth Cymru eu datgan yn gyhoeddus i gymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i fyw'n annibynnol ac i'r model cymdeithasol o anabledd. Mae'r model cymdeithasol yn nodi'r gwahaniaeth pwysig rhwng nam ac anabledd. Mae wedi ei lunio gan bobl anabl eu hunain, sy'n dweud bod 'y rhan fwyaf o'r problemau yr ydym yn eu hwynebu yn cael eu hachosi gan y ffordd mae cymdeithas yn cael ei threfnu, ond rhwystrau i fynediad a chynhwysiad, nid nam ar ein cyrff, yw prif achosion problemau analluogi; mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys agweddau pobl tuag at anabledd a rhwystrau ffisegol a sefydliadol.’ Rwy'n dyfynnu Anabledd Cymru yn y fan yna, a dyna, os caf i ddweud, yw’r rhwystrau y bydd y rheoliadau hyn, os byddant yn mynd trwodd, fel y maent wedi eu drafftio ar hyn o bryd, yn eu rhoi ar waith.

Mae swyddog polisi ac ymchwil Anabledd Cymru wedi dweud wrthyf, 'Rwy'n cytuno y dylai bathodynnau glas yn ddelfrydol fod â chyfnod amser sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn i adlewyrchu ei nam unigol, yn hytrach na'r un dull ar gyfer pawb am gyfnod o flwyddyn; byddai cyflawni hyn yn gam i'r cyfeiriad cywir'. Ac ysgrifennodd cynghorydd polisi Age Cymru ataf hefyd gan ddweud, 'Rwy'n ysgrifennu atoch ynglŷn â’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn’­—y ddadl Cyfarfod Llawn hon, y cynnig i ddirymu'r rheoliadau diwygio. Mae hi'n dweud: 'Mae Age Cymru yn croesawu ymestyn y cyfnod y bydd bathodyn ar gael ar gyfer pobl â nam dros dro ar eu symudedd. Rydym yn cytuno â chi y dylai fod hyblygrwydd o ran y cyfnod y bydd y bathodynnau dros dro yn cael eu cyflwyno, ac rydym o’r farn y dylai cyfnod y bathodyn mewn amgylchiadau o'r fath fod yn seiliedig ar gyfnod adfer yr ymgeisydd, ac adborth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol'. Maent hefyd yn credu, roeddynt yn dweud, bod yn rhaid i'r weithdrefn llwybr cyflym fod ar gael gan bob awdurdod lleol, neu fel arall gallai pobl golli elfen sylweddol o'r amser y mae angen cymorth arnynt. Gwnaethant atodi copi o'u hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y mater hwn ym mis Chwefror 2016, gan gadarnhau bod y pwyntiau hyn wedi'u codi gyda Llywodraeth Cymru ar yr adeg honno.

Rwy’n croesawu’r ffaith fod y Gweinidog busnes wedi fy ffonio yr wythnos diwethaf i gael eglurhad ar y bwriad sydd y tu ôl i mi'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Ac eglurais yr hyn yr wyf wedi'i egluro heddiw—oherwydd nad oedd yn mynd yn ddigon pell, nid oherwydd ein bod yn dymuno dadwneud a chael gwared ar y cyfle i gyflwyno bathodynnau glas dros dro. Cynigiodd y Gweinidog efallai y gallwn ystyried yn hytrach ddatganiad i gael ei ddarparu yn y Cynulliad, ac eglurais ac eglurais y gallem gael hynny, ond nid yw'n rhoi'r Llywodraeth dan ymrwymiad. Ond dywedais pe byddai'r Gweinidog yn gallu dod yn ôl ataf gyda chynnig a fyddai'n ein galluogi ni i symud ymlaen â hyn yn ystod y tymor Cynulliad hwn, byddwn yn falch o ystyried hynny o bosibl ac i drafod hynny â hi gyda golwg, o bosibl, ar gael gwared ar gynnig heddiw. Wel, chlywais i ddim, ac felly rwyf wedi mynd ymlaen â'r cynnig fel y'i cynigiwyd.

Fel y dywedais, mae'r rheoliadau diwygio hyn yn cynrychioli cynnydd, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell oherwydd eu bod yn dal i analluogi gormod o bobl. Galwaf felly ar Lywodraeth Cymru i ohirio dros dro cyflwyno'r rheoliadau hyn er mwyn darparu'r hyblygrwydd y mae cymaint o'r sector a'r bobl yr effeithir arnynt yn galw amdano.

Os nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon gwneud hynny heddiw, galwaf ar yr aelodau i sicrhau bod eich cefnogaeth heddiw i alluogi Llywodraeth Cymru i symud ymlaen, neu beidio, yn seiliedig ar ei hymrwymiad, ar ôl heddiw, i fynd ymaith ac ystyried ac adolygu'r rheoliadau cyfredol a allai fynd yn eu blaenau o hyd os na fyddwch yn fy nghefnogi i, gyda'r bwriad o greu'r hyblygrwydd sydd cymaint ei angen gan gymaint o bobl ac yn baradocsaidd, a sbardunodd y broses gyfan hon yn y lle cyntaf gyda'r Gweinidog blaenorol. Os byddwch yn fy nghefnogi i, gall hyn fynd drwodd gyda'r ymrwymiad hwnnw a wnaed yn gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ond os byddwch yn anwybyddu'r hyn yr wyf yn ei ddweud yna bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r rheoliadau heb unrhyw ymrwymiad i gyflwyno hyblygrwydd y mae cymaint o bobl ei angen. Gadawaf y mater gyda chi. Rwy'n gobeithio y byddwch yn gwneud y peth iawn fel y gallwn gyflawni gyda'n gilydd yr hyn yr wyf yn ei gredu, yn eich calonnau, y mae pob un ohonom yn dymuno ei gyflawni, sef cael gwared ar y rhwystrau hynny i fynediad a chynhwysiad sy'n wynebu pobl â namau ac sy'n analluogi gormod ohonynt. Diolch.

Mae gen i bob cydymdeimlad efo’r awydd yma i fod yn fwy hyblyg efo cyhoeddi bathodynnau dros dro, ond rwy’n anghytuno efo’r ffordd mae’r Aelod yn mynd o’i chwmpas hi. Mae cefnogi ei gynnig o yn golygu un peth: dim hawl i gael bathodyn glas dros dro, sef sefyllfa sydd llawer iawn yn waeth nag ydym ni ynddi rŵan. Felly, rwy’n eich annog chi i bleidleisio yn erbyn. Nid oes rheswm i atal pobl efo anableddau rhag cael bathodyn glas dros dro, gan atal annibyniaeth pawb sy’n gwella o gyflwr sy’n rhwystro eu symudedd. Wrth gwrs, nid oes gan y Torïaid record dda iawn yn y maes yma. A gaf i jest eich atgoffa chi—? [Torri ar draws.] A sawl maes arall. Toriadau budd-daliadau anabledd a threth llofftydd, dim ond i enwi dau. Mae Plaid Cymru yn mynd i fod yn parhau i frwydro dros hawliau pobl anabl ac nid ydy’r cynnig yma heddiw yn helpu hynny.

Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Diolch i chi, Lywydd. I grynhoi ar gyfer yr Aelodau hynny nad oeddent yn rhan o'r pedwerydd Cynulliad, bydd y rheoliadau yn galluogi pobl â nam sy'n para am o leiaf 12 mis i gael defnyddio mannau parcio i bobl anabl yn yr un ffordd yn union ag y byddent pe byddai eu cyflwr yn barhaol. Nawr, bwriad cynllun y bathodyn glas yw galluogi'r rhai na allant gerdded neu sy'n cael anhawster sylweddol i gerdded i gael defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau, gan eu cynorthwyo felly i fyw'n annibynnol. Cyflwynir bathodynnau glas gan yr awdurdodau lleol a nhw sy'n gyfrifol am asesu ymgeiswyr a phenderfynu ar ba un a ddylid rhoi bathodyn. Nid oes llwybr ffurfiol i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol y tu hwnt i broses gwyno gyffredinol yr awdurdod lleol.

Prin yw pwerau Gweinidogion Cymru yn y maes hwn. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau anstatudol ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hyrwyddo gwasanaeth o ansawdd uchel a chyson i ymgeiswyr. Byddai cyhoeddi canllawiau statudol neu newid y trefniadau cyflwyno, megis creu corff asesu a dyfarnu canolog, yn golygu gorfod newid deddfwriaeth sylfaenol, ond gellid gwneud hynny pe byddai'r trefniadau presennol yn anfoddhaol.

O ran y cwestiwn 12 mis neu chwe mis, cafodd yr ymagwedd ei chymeradwyo gan argymhelliad y grŵp gorchwyl a gorffen yn 2015 pan ddywedasant,

'Dylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu system bathodyn dros dro pan fo amodau cymhwyso yn debygol o barhau am o leiaf 12 mis.'

O ran pam mae bathodynnau yn cael eu cyflwyno am 12 mis yn hytrach nag am gyfnodau byrrach neu hwy, neu yn wir am gyfnodau mwy hyblyg o amser, un o'r blaenoriaethau oedd cyflwyno cynllun y gellid ei gyflawni ac a fyddai'n ymarferol hefyd. Ceisiodd yr ymgynghoriad farn ar weinyddu bathodynnau dros dro yn effeithiol gan yr holl randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, a fydd yn gyfrifol am gyflwyno'r bathodynnau hynny. Mae dros 80 y cant o ymatebwyr a fynegodd farn ar y pwnc hwn yn teimlo mai cyfnod cyflwyno arferol o 12 mis fyddai'r dull gorau o weithredu. Dyma hefyd oedd barn y grŵp gweithredu a gafodd y dasg o oruchwylio cyflawni argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen yn effeithiol.

A gaf i gefnogi Sian Gwenllian a diolch iddi am ei hapêl i'r Aelodau beidio â chefnogi ymgais Mark Isherwood i ddiddymu'r rheoliadau? Ond a gaf i awgrymu hefyd i Mark Isherwood, os yw'r Aelodau yn dymuno trafod a dadlau cynllun y bathodyn glas yn fwy manwl, yna rwyf yn fwy na pharod i wneud datganiad llafar am y cynllun? Bydd hyn yn rhoi cyfle ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth bellach.

Diolch. Yn amlwg, byddai'r cyfle i gael trafodaeth bellach yn cael ei groesawu os bydd hyn yn mynd drwodd. Yn anffodus, unwaith eto, ni fydd hynny'n cynrychioli ymrwymiad. Rwy'n gobeithio y gwnewch gadarnhau, os bydd y dadleuon y byddwch yn eu clywed—rhai ohonynt yr wyf fi wedi eu cyflwyno heddiw—yn argyhoeddiadol, y gallai hynny mewn gwirionedd arwain at Lywodraeth Cymru yn ailedrych ar hyn wedyn gyda'r bwriad o wneud rheoliadau ychwanegol neu ddiwygiadau ychwanegol i'r rheoliadau yn unol â hynny.

Dywedaf wrth Blaid Cymru fy mod yn cefnogi'r amcan y tu ôl i fathodynnau glas dros dro. Mae hyn er mwyn helpu a manteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael i bobl anabl—wedi'u gwneud yn anabl gan y rhwystrau y mae cymdeithas yn eu gosod arnynt. Pe byddech wedi sefyll gyda mi, efallai y gallem fod wedi perswadio Llywodraeth Cymru heddiw i gytuno i gyflwyno ystyriaeth o fesurau mwy hyblyg wedi hynny, ac wedyn gallwn fod wedi tynnu'r cynnig yn ôl gan wybod eu bod wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw. Ond, oherwydd eich bod wedi rhoi eich sêl bendith iddynt, nid oes gennym yr ymrwymiad hwnnw. Y cyfan sydd gennym nawr yw datganiad gyda chanlyniad heb fod ymrwymiad iddo. Felly, rwyf yn gresynu nad ydych wedi defnyddio efallai y crebwyll gwleidyddol hwnnw i fwrw ymlaen â hynny ar y sail honno, ond dyna ni. Efallai, dros amser, bydd pethau'n newid.

Y cwestiwn yw, felly, a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio i’r cyfnod pleidleisio.

And now we’ve reached voting time. It was agreed that voting time would take place after the last item of business. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time.

10. 9. Cyfnod Pleidleisio

Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig, 16, yn ymatal, 0, ac yn erbyn y cynnig, 38. Mae’r cynnig, felly, wedi ei wrthod.

Gwrthodwyd y cynnig: O blaid 16, Yn erbyn 38, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NNDM6019.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:43.