Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

11/05/2016

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Y Fonesig Rosemary Butler) yn y Gadair.

Prynhawn da. Prynhawn da, bawb. Prynhawn da.

Welcome to the National Assembly for Wales.

A chroeso i gyfarfod cyntaf y pumed Cynulliad.

1. 1. Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6

Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw ethol Llywydd, o dan Reol Sefydlog 6. Felly, rwy’n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6. A oes gennym unrhyw enwebiadau? Ac mae'n rhaid i ni gael Aelod o blaid wleidyddol wahanol i eilio unrhyw enwebiad. Felly, eich enwebiadau os gwelwch yn dda.

Mae'n ddrwg gennyf. Diolch i chi, Dai Lloyd—nid oeddwn yn eich gweld yn y fan honno. Elin Jones. A oes eilydd o blaid wleidyddol wahanol?

Diolch i chi, Jane Hutt. A oes unrhyw enwebiadau eraill?

Dafydd Elis-Thomas. A oes eilydd o blaid arall?

Hoffwn eilio enwebiad Dafydd Elis-Thomas ar gyfer y Dirprwy—ar gyfer y Llywydd, mae'n ddrwg gennyf.

A ydych chi’n siŵr?

Iawn, diolch. Mae'n helpu os tynnwch eich clustffonau, wyddoch chi—nid ydych yn clywed eich hun.

A oes unrhyw enwebiadau eraill? Dim enwebiadau eraill ar gyfer y Llywydd. Gan fod gennym ddau enwebiad, hoffwn wahodd y ddau ymgeisydd i sefyll a dweud ychydig o eiriau amdanynt eu hunain, ac rwy’n gobeithio nad oes rhaid i mi arfer hawl y Llywydd i ddatgan bod eich amser ar ben y prynhawn yma; fe fyddaf yn hael. Yr enwebiad cyntaf oedd Elin Jones. Felly, galwaf ar Elin Jones i annerch y Cynulliad. Elin Jones.

Diolch, Lywydd. Croeso, bawb, i’r Cynulliad—y rhai ohonoch chi sydd yn newydd-ddyfodiaid, a’r rhai ohonoch chi sydd yn dychwelyd.

A gaf i ddweud fy mod i’n ei ffeindio hi’n anrhydedd fawr i gael fy nghynnig fel darpar Lywydd ac i roi fy enw ymlaen ger eich bron chi ar gyfer pleidlais? Mae rhai ohonoch chi yn fy adnabod i yn dda iawn, ac nid yw rhai ohonoch chi yn fy adnabod i o gwbl. Felly, cyn symud at bleidlais, fe wnaf i amlinellu rhai o’r egwyddorion a fydd yn sylfaen i fy nghyfnod i fel Llywydd, os byddaf i’n llwyddiannus.

Yn gyntaf, fe fyddwn i’n ceisio bod yn deg—yn deg—â phob un Aelod o’r Cynulliad yma, i drin pawb yn gyfartal, ac i ddiogelu hawliau pob un Aelod unigol. Yn ail, fe fyddwn i yn hyrwyddo a diogelu enw da y Cynulliad yma, ac i wneud hynny yma yn y Siambr, a thu hwnt, ym mhob rhan, ym mhob cymuned, yng Nghymru. Ac fe fyddwn i eisiau caniatáu trafodaeth ddemocrataidd, fywiog, iach yma yn y Cynulliad, ac yn dryloyw ar bob adeg. Ac, yn olaf, fe fyddwn i eisiau sicrhau hefyd bod y Senedd yma yn chwarae rhan adeiladol, gydweithredol gyda’n cyd-senedd-dai o fewn y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt i hynny. Ac rwy’n gobeithio, y prynhawn yma, am eich cefnogaeth chi i fod yn Llywydd arnoch chi.

Diolch. Galwaf yn awr ar Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr, Lywydd. Cryfhau cyfansoddiad Cymru yw prif bleser fy mywyd i wedi bod. Ac mae’r cyfle, os annisgwyl, i barhau â’r gwaith yma, drwy lywyddu dros y pumed Cynulliad, yn un rwy’n meddwl sy’n allweddol. Oherwydd, dyma’r Cynulliad a fydd yn symud y Senedd hon o fod yn Senedd gymharol is-raddol o fewn y Deyrnas Unedig i fod yn bartner cyfartal. Dyma’r Senedd ble bydd y cyfrifoldeb dros ein holl weithdrefnau seneddol yn cael ei ddatganoli i ni—gobeithio yn fuan, ar ôl yr holl arafwch sydd wedi bod yn cytuno Bil Cymru, ac af i ddim i ddadlau ar bwy mae’r bai ar un ochr na’r llall mewn araith fel hon.

Yn ogystal â hynny, fe fydd gyda ni’r cyfrifoldeb dros ein cyfundrefn etholiadol. Ac mae’n ymddangos i mi, ar ôl bod mewn llawer o fythau pleidleisio, fel ymgeisydd dros etholaeth, fod yna achos inni edrych unwaith eto—am y tro cyntaf o’n safbwynt ni’n hunain fel corff—ar y drefn bleidleisio a cheisio gweld a oes yna drefn fwy cyfranogol mewn gwirionedd a mwy democrataidd y gallem ni ei sefydlu.

Yr her arall, wrth gwrs, yw sicrhau bod y Senedd hon yn Senedd sydd yn gweithio yn effeithlon. Mae’n rhaid imi ddweud, ar ôl treulio amser yn y gadair ac amser fel Aelod unigol a Chadeirydd pwyllgor, nad ydym ni eto wedi datblygu’r cydbwysedd aeddfed rhwng craffu ar y Llywodraeth a chael y busnes drwodd. Mae’r ddwy agwedd yna ar rôl senedd yr un mor bwysig er mwyn bod yn senedd effeithlon.

Mi fydd hyn hefyd yn gyfnod pryd bydd y cyfrifoldeb arnom ni, mae’n bur debyg, o benodi prif weithredwr newydd i’r sefydliad yma, ac mae hynny’n gyfle inni nid yn unig i ddiolch i’r prif weithredwr presennol, ond i ddiolch iddi am yr ysbrydoliaeth sydd wedi’i gosod i staff o safon uchel yn y lle hwn. Mae nifer ohonoch chi a oedd yn gyn-Aelodau, fel finnau, mewn lle arall, wedi dweud wrthyf mor hapus ydych chi i weld safon broffesiynol y gwaith sy’n cael ei wneud yma. Mae gen i ymrwymiad llwyr i sicrhau bod y rhai sy’n gweithio i ni yn cael y gydnabyddiaeth briodol. Diolch yn fawr i chi.

Diolch yn fawr iawn. Gan fod gennym ddau ymgeisydd, fe gynhaliwn bleidlais gudd. Felly, gohiriwn y cyfarfod yn awr er mwyn caniatáu i’r bleidlais honno ddigwydd. Bydd yr Aelodau’n cael 30 munud i fwrw eu pleidlais. Bydd y pleidleisio’n digwydd yn ystafell briffio 13 ac mae tywyswyr wrth law i gyfeirio'r Aelodau at yr ystafell honno. Amlinellir canllawiau ar y weithdrefn hon yn y ddogfen rydych eisoes wedi’i derbyn a chenir y gloch i ddynodi bod y bythau pleidleisio ar agor.

Y Clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau. Yn dilyn y bleidlais gudd, byddaf yn trefnu i'r gloch gael ei chanu am yr eilwaith bum munud cyn i ni ailymgynnull yn y Siambr. Wedyn, byddaf yn cyhoeddi'r canlyniadau. Efallai y byddwn yn ailymgynnull cyn pen 30 munud, os yw'r holl Aelodau wedi pleidleisio cyn hynny. Felly, rwy’n gohirio'r cyfarfod yn awr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:37.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 14:15, gyda’r Llywydd yn y Gadair.

Dyma ailddechrau trafodion y Cynulliad, ac mae canlyniad y bleidlais gudd fel a ganlyn. Pleidleisiodd pob un o'r 60 o Aelodau: Elin Jones, 34, Dafydd Elis-Thomas 25, ac 1 yn ymatal. Felly, rwy’n datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Elin Jones wedi’i hethol yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwy’n ei gwahodd i gymryd y Gadair. [Cymeradwyaeth.]

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Rydych i gyd yn edrych yn wahanol iawn o fyny fan hyn. [Chwerthin.]

It is an honour and a privilege to have been elected to this role and I thank the Assembly very much for your support. Before we proceed to the election of a Deputy Presiding Officer, I would like to place on record this Assembly’s thanks to the former Presiding Officer, Dame Rosemary Butler. She has been an excellent ambassador for the Assembly over the past five years. She has broken down barriers to participation in the democratic process, particularly amongst women through her Women in Public Life campaign and her work to encourage more young people to play their part at the centre of Assembly business. Thank you very much, Rosemary, from all of us, and we wish you well for the future. Thank you very much indeed, Rosemary. [Applause.]

2. 2. Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6

Fe symudwn ni nawr at ethol y Dirprwy Lywydd. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.12, hoffwn atgoffa Aelodau mai dim ond os yw enwebiad o grŵp gwleidyddol gwahanol i fy un i ac o grŵp â rôl Weithredol y bydd enwebiadau ar gyfer Dirprwy Lywydd yn ddilys yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, gellir datgymhwyso’r rheol hon gyda chefnogaeth dwy ran o dair o’r Aelodau unwaith y bydd yr enwebiadau yn hysbys. A oes gennym Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol—? A oes yna enwebiad ar gyfer y Dirprwy Lywydd?

Lywydd, a gaf fi enwebu John Griffiths ar gyfer swydd y Dirprwy Lywydd?

Diolch am hynny. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Gwelaf felly nad oes unrhyw enwebiad arall. Cynigiaf felly yn unol â Rheol Sefydlog 6.8—na. Dyna fy nghamgymeriad cyntaf. Os oes mwy nag un enwebiad—olréit. Felly, mae yna ddau enwebiad ar gyfer y swydd, ac fe gynhelir pleidlais gudd o dan Reol Sefydlog 6.8. Cyn hynny, byddaf nawr yn gwahodd yr ymgeiswyr a enwebwyd i annerch y Cynulliad, a byddaf yn eu galw nhw yn y drefn y cawsant eu henwebu. Felly, galwaf yn gyntaf ar John Griffiths i annerch y Cynulliad.

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi yn gyntaf eich llongyfarch ar eich ethol i swydd y Llywydd, ac ychwanegu hefyd fy ngwerthfawrogiad o waith Rosemary Butler, y cyn-Lywydd? Credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno ei bod wedi gwneud llawer iawn o waith da dros y pum mlynedd flaenorol ac yn esiampl dda iawn i'w dilyn.

I’r un perwyl, a gaf fi ddweud hefyd y bydd yn her fawr, os dof yn Ddirprwy Lywydd, i ddilyn y rôl a osodwyd ac a gyflawnwyd gan David Melding? Unwaith eto, Lywydd, credaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel Dirprwy— [Cymeradwyaeth.]—cyflawni ei rôl fel Dirprwy yn anrhydeddus iawn.

Lywydd, mae llawer ohonom wedi bod ar daith hir gyda datganoli. Rwyf wedi bod yma ers y dechrau yn 1999 a bu’n fraint aruthrol gwylio datganoli’n tyfu a datblygu a’r sefydliad hwn yn tyfu a datblygu—yn datblygu ei bwerau, yn datblygu ei rôl a gwella’i enw da ymhlith pobl Cymru. Yn y dyfodol, yn ystod y pum mlynedd nesaf, fe welwn gynnydd pellach yn y pwerau hynny a gwella enw da Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymhellach, gobeithio. Rwy'n credu ei bod yn adeg gyffrous iawn gyda Deddf Cymru a’r trefniadau etholiadol sydd i'w penderfynu yma yn cynnig posibiliadau newydd o ran y ffordd rydym yn trefnu ein hunain ac yn ymwneud â phobl Cymru.

Pe bawn yn dod yn Ddirprwy Lywydd, byddwn yn awyddus iawn i chwarae rôl yn datblygu’r gwaith hynod bwysig hwn. Credaf fod gennyf brofiad pwysig, o fod wedi bod yma ers 1999 a hefyd o fod wedi bod yn arweinydd y rhaglen ddeddfwriaethol ac yn Gwnsler Cyffredinol, yn ogystal ag Aelod o’r meinciau cefn yn fwy diweddar wrth gwrs. Felly, rwy’n meddwl bod gennyf lawer iawn o brofiad perthnasol a chredaf hefyd fod gennyf y gallu i gyflawni'r rôl hon yn effeithiol.

Lywydd, a gaf fi ddweud yn olaf ei bod hi’n amlwg yn bwysig iawn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng y Llywodraeth a'r gwrthbleidiau ac yn fy marn i, yn fwy hanfodol i sicrhau bod hawliau Aelodau’r meinciau cefn nid yn unig yn cael eu gwarchod, ond yn cael eu gwella? Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud i gloi yw hyn; pe bawn yn dod yn Ddirprwy Lywydd, fy mlaenoriaeth bennaf un fyddai bod yn ddiduedd ac yn deg â phawb, a gofynnaf am eich cefnogaeth ar y sail honno.

Diolch, Lywydd, a llongyfarchiadau.

Can I add my thanks to both Rosemary Butler and to David Melding for the times that they were in the Chair during the last Assembly? I’ve come to this fifth Assembly, like John, having been here since 1999, but having grown up with the devolution journey, having grown up being frustrated with the devolution journey on the way, but nevertheless having seen this institution become very much part and parcel of the people of Wales’s legislative programme, but also a way in which we now in Wales can do things differently and separately.

I’d like to echo what John has said. You will all know my frustration, but you’ll also know that I’m an independent-minded person—you’d better ask the front row about how independent minded I was in the last Assembly or Assemblies before—but I have always thought that there is a place here for people who can develop those ideas, develop those skills and be fair to backbenchers. I think John and I both feel that as backbenchers.

I want to develop the women in political life and the Women in Public Life that the former Presiding Officer took—. But I also want to see—. We’re under-represented for people with disabilities and I think we still have a long way to go in the field of disability in accessing people with disabilities—actually allowing them to come forward and play their role in society.

So, I’m asking for support today. I’ve done 17 years. I feel that now is the time for me to come and support the Presiding Officer in changing this fifth Assembly, which will be different. Each one has been different. And I think that this is the time now for me to say: I think I’ve got some new ideas, I’ve got some independent ideas, but I want to listen to all your ideas as well and I want to take them forward together, collectively, as an Assembly, as an institution, but, above all, while remembering that the people of Wales are there and we should be there to serve them. Diolch yn fawr iawn.

Byddwn nawr felly yn gohirio’r cyfarfod er mwyn caniatáu i’r bleidlais gudd gael ei chynnal. Bydd yr Aelodau unwaith eto’n cael 30 munud i fwrw eu pleidlais, ac, unwaith eto, bydd y pleidleisio yn digwydd yn ystafell friffio 13. Rwyf felly yn gohirio y cyfarfod.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 14:25.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 14:58, gyda’r Llywydd yn y Gadair.

Gynulliad, rwyf nawr mewn sefyllfa i adrodd ar ganlyniad y bleidlais gudd ar gyfer y Dirprwy Lywydd. Fe gafodd John Griffiths 29 pleidlais ac Ann Jones 30 pleidlais. Rwy’n datgan, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Ann Jones wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Unwaith eto, cyn symud ymlaen, rwy’n credu ei bod hi’n briodol ein bod ni’n cydnabod gwaith y cyn-Ddirprwy Lywydd, David Melding: gwaith craff a diwyd yn ystod y Cynulliad diwethaf yma, yn y Siambr yma, y tu hwnt i’r Siambr yma, ac yn ei waith hefyd fel Cadeirydd amryw o bwyllgorau’r Cynulliad. Felly, a gaf i gymryd y cyfle i ddiolch i David Melding yn fawr iawn ar ran y Cynulliad yma? [Cymeradwyaeth.]

Rwy’n llongyfarch Ann Jones ar gael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd, ac yn gofyn iddi, os ydy hi’n dymuno gwneud hynny, i roi ychydig eiriau i’r Cynulliad.

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddweud, 'Diolch, John', gan fod John a minnau wedi treulio llawer o amser yn cerdded coridorau—onid ydym, John—dros y diwrnodau diwethaf? A hoffwn ddiolch i John, oherwydd credaf mai’r hyn a wnaethom oedd gweithio gyda'n gilydd er lles y Cynulliad hwn yn y bôn. Ac ni chefais fwyafrif mor fain—cefais fwyafrifoedd main o’r blaen—ond ni chefais fwyafrif mor fain â hyn, ond er hynny, a gaf fi ddiolch i bawb am eu hyder ynof? Rwy’n addo na fyddaf yn eich siomi, ac rwy’n addo y byddaf yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr fod y sefydliad hwn yn cael ei gydnabod fel y dylai, a’r hyn ydyw mewn gwirionedd, sef y gorau o'r sefydliadau ar draws y DU. Felly, diolch yn fawr iawn; diolch. [Cymeradwyaeth.]

3. 3. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8

Rydym yn symud ymlaen felly at y busnes nesaf ar yr agenda, sef i enwebu’r Prif Weinidog. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, y bwriad yw dwyn ymlaen enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, yna fe gymerwn ni yr enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A gaf i ofyn felly a oes yna unrhyw enwebiadau ar gyfer enwebu’r Prif Weinidog?

Gan fod dau enwebiad felly, byddaf yn cynnal nawr bleidlais drwy alw’r gofrestr, ac yn gwahodd pob Aelod sy’n bresennol i bleidleisio dros ymgeisydd. Byddaf yn galw pob Aelod sy’n bresennol yn nhrefn yr wyddor, a dywedwch enw’r ymgeisydd yr ydych yn ei gefnogi yn glir pan gewch eich galw, neu dywedwch yn glir eich bod yn dymuno ymatal. Yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, ni chaniateir i’r Dirprwy Lywydd na minnau bleidleisio. Ac felly, yn nhrefn yr wyddor, fe rydw i yn galw chi i enwebu un o’r ddau ymgeisydd, neu i ymatal. Ac Mick Antoniw, felly, i ddatgan.

Dyna ni, felly, gymryd y bleidlais. Rhowch ychydig eiliadau i ni gasglu’r canlyniad.

Canlyniad y bleidlais ar gyfer yr enwebiad ar gyfer Prif Weinidog oedd Carwyn Jones, 29, Leanne Wood, 29. Yn sgil y ffaith nad oes yna fwyafrif, fe rydwyf felly yn gohirio gweddill y cyfarfod yma am nawr ac yn cau’r cyfarfod.

Ataliwyd y cyfarfod am 15:08.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 15:47, gyda’r Llywydd yn y Gadair.

Trefn, felly, Gynulliad.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r grwpiau yma, mae’n amlwg imi na fyddai ail-agor enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog heddiw yn dod â chanlyniad gwahanol i’r hyn a gafwyd ynghynt y prynhawn yma. Rwyf i, felly, yn dod â’r cyfarfod i ben, ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.8, byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau’n cael gwybod mewn da bryd am ddyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Daeth y cyfarfod i ben am 15:48.