Y Cyfarfod Llawn

Plenary

10/11/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, bawb. Rydyn ni'n dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, cwestiwn 1, Gareth Thomas.

Cyfamod y Lluoedd Arfog

1. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gyflawni cyfamod y lluoedd arfog ar gyfer cyn-filwyr ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, o ystyried mai gwirfoddol yw cyfranogiad yn y cynllun practisau meddygon teulu cyfeillgar i gyn-filwyr? OQ64909

13:35

Ni ofynnwyd cwestiwn 2 [OQ64879].

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Symudwn yn syth, felly, at y cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau. Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Helen Jenner. 

13:40
13:45
13:50
Gwrthsemitiaeth mewn Ysgolion a Cholegau

3. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith canfyddiadau adolygiad annibynnol Syr David Bell i wrthsemitiaeth mewn ysgolion a cholegau ar Gymru? OQ64903

13:55
Digartrefedd Ymhlith Cyn-filwyr

4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith cyn-filwyr? OQ64884

14:00
14:05
Addysg Bellach

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gynaliadwyedd y sector addysg bellach? OQ64873

Llythrennedd a Rhifedd

7. A wnaiff y Prif Weinidog gyflwyno profion wedi'u safoni o dan amodau rheoledig ar gyfer llythrennedd a rhifedd fel y gellir mesur cynnydd yn erbyn targedau? OQ64885 [R]

14:10
Gwariant Rhyngwladol

8. Pa bwysigrwydd mae'r Prif Weinidog yn ei roi ar flaenoriaethu anghenion Cymru a'i thrigolion dros ymrwymiadau gwariant rhyngwladol wrth ddyrannu arian trethdalwyr Cymru? OQ64908

14:15
'Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol'

10. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o rôl chwarae yn y cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol newydd? OQ64911

Datblygiadau Ynni ym Mangor Conwy Môn

11. Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod datblygiadau ynni ym Mangor Conwy Môn yn darparu buddion economaidd a chymunedol i bobl leol a busnesau lleol? OQ64868

14:20
Ysgolion Gwledig

12. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu addysg ac ysgolion gwledig yn Sir Gaerfyrddin? OQ64880

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad

Symudwn nawr at eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad. Cwestiwn 1, Zaynub Akbar.

Cyfrifoldeb Byd-eang

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cymru'n gyfrifol ar lefel fyd-eang drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OQ64863

14:25
Cyllideb Llywodraeth y DU

2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu? OQ64862

Diolch am y cwestiwn. Nid yw hon yn gyllideb Llywodraeth Prydain sy'n cyflawni dros bobl Cymru. Mae'n siomedig, er i'r Canghellor ddatgan ei fwriad i symud pŵer a chyllid allan o San Steffan, na chafodd hynny ei ymestyn i Gymru. Dŷn ni bellach wedi ystyried y goblygiadau'n llawn wrth inni gwblhau penderfyniadau cyn cyhoeddi cyllideb Cymru yr wythnos nesaf.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Adrian Mason.

14:35

Weinidog, rŷn ni chwe mis i mewn i'ch cyfnod chi fel Llywodraeth—un wythfed o'r ffordd drwy'r tymor. Gadewch i ni edrych ar sut rydych chi’n perfformio, gan ddefnyddio eich mesurau chi eich hunain. 

14:40
14:45
Datganoli Cyllid Cymorth Cyflogaeth

3. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli cyllid cymorth cyflogaeth? OQ64858

14:50
Datganoli Pwerau Lles

4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pwerau lles yn cael eu datganoli ymhellach? OQ64871

Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo ni i ddatblygu system les dosturiol i Gymru. Rŷn ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ac yn edrych ar gyfleoedd i geisio mwy o bwerau lles i Gymru. Mi fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn gwneud datganiad llafar ar y mater hwn cyn bo hir, ac felly dwi ddim am achub y blaen ar y datganiad pwysig hwnnw.

14:55
Cyllideb y DU a Datganoli Seilwaith Rheilffyrdd

5. Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o oblygiadau cyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer datganoli seilwaith rheilffyrdd? OQ64861

Mae cyllideb hydref y Deyrnas Unedig yn atgyfnerthu ein penderfyniad i sefyll dros Gymru a phwyso'r achos dros gyllid rheilffyrdd tecach a llwybr

a llwybr i ddatganoli llawn. Mae Cymru'n barod i gyflawni, ond mae angen y pwerau a'r cyllid arnom ni i gyd-fynd â'r uchelgais hwnnw a chyflawni canlyniadau gwell i deithwyr.

15:00
15:05
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

6. Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yng ngogledd Cymru? OQ64865

Rhaglen Lywodraethu

7. Sut bydd y Gweinidog Cabinet yn mesur llwyddiant rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru? OQ64872

15:10
Gwella Cynhyrchiant

8. Beth mae'r Gweinidog Cabinet yn ei wneud i wella cynhyrchiant gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru a chyrff eraill a ariennir yn gyhoeddus? OQ64850

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Ymlaen i'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae yna dri newid i fusnes yr wythnos hon. Mae yna ddatganiadau llafar ar Gomisiwn Cenedlaethol Cymru a chostau byw wedi eu hychwanegu at agenda heddiw. Bydd Aelodau hefyd wedi sylwi, dwi'n siŵr, fod cwestiynau'r Prif Weinidog wedi'u hymestyn i awr i adlewyrchu'r arfer presennol yn fwy cywir. Mae busnes ddrafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Diolch am godi'r mater hynod o bwysig hwnnw. Mi wnaf i wneud y Gweinidog Cabinet dros lywodraeth leol yn ymwybodol eich bod chi wedi codi hwn, a gweld sut y byddwn ni'n gallu mynd â hyn rhagddo.

15:15

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwn. Mae'r Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn mynychu COP26 wythnos hon, ac mae tanau gwyllt yn rhywbeth fydd ar yr agenda. Mae'n bwysig bod ni yn rhannu arfer da, yn dysgu o arfer da rhyngwladol hefyd, ac yn sicr, mi fyddwn ni'n diweddaru'r Siambr wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mi fyddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn bersonol yn datgan ein bod ni yn cymryd hyn o ddifrif, ac yn sicr mi wnaf i o'n ymwybodol bod chi wedi codi'r mater hwn efo fi eto heddiw.  

Diolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwn. Mi roedd adroddiad Stonewall, wrth gwrs, yn cynnig darlun cymysg o'r sefyllfa i bobl LGBTQ+ yng Nghymru. Dwi'n gobeithio bod chi wedi clywed yn ddiamwys y Prif Weinidog yn gynharach heddiw yn dweud bod ni fel Llywodraeth yn gwrthod unrhyw wahaniaethu, boed hynny ar sail rhywioldeb neu ar sail hil. Mae'n bwysig bod pawb yn teimlo yn ddiogel yma yng Nghymru ac yn cael eu cefnogi. Felly, yn sicr, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi clywed eich sylwadau chi pnawn 'ma. Ond gadewch i mi fod yn ddiamwys bod y rhaglen llywodraeth yn gosod ymrwymiad arnom ni i weithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd uniongyrchol i hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys cydraddoldeb LGBTQ+, cryfhau darpariaeth ac atebolrwydd, ac adrodd ar gynnydd ac effaith.

15:20

Diolch i'r Aelod am godi dau fater. O ran y mater cyntaf, mae yna ymrwymiad wedi bod i sicrhau y bydd yna ddiweddariad unwaith mae'r Gweinidog Cabinet wedi ystyried yr argymhellion o ran bovine TB, ac mi wnaf i yn sicr gael trafodaeth efo fo o ran hynny. Dwi yn ymwybodol ei fod o'n bwriadu dod â datganiad yn fuan iawn.

O ran y pwyntiau pellach rydych chi wedi’u codi, rydyn ni yn croesawu fel Llywodraeth y cyhoeddiad y bydd yna uwchgynhadledd yn cael ei chynnal ar yr 20 Tachwedd. Mae'r Undeb Ewropeaidd, fel byddwch chi'n ymwybodol, yn parhau i fod y partner masnachu mwyaf a phwysicaf Cymru. Felly, mi wnaf i yn sicr bod y Gweinidog yn ymwybodol o’r sylwadau rydych chi wedi’u codi heddiw.

Diolch i'r Aelod am godi dau fater. Yn amlwg, o ran y pwynt cyntaf rydych chi'n ei godi, mi fyddwn ni fel Llywodraeth yn gadarn na ddylai neb wynebu'r math sefyllfa o fod yn ymwneud â'i gwaith o ddydd i ddydd. Rydyn ni wedi gweld ystadegau sydd yn bryderus dros ben dros y blynyddoedd diwethaf yma. Dwi, fel amryw o Aelodau, dwi'n siŵr, wedi clywed yn uniongyrchol gan bobl sydd wedi dioddef trais tra yn y gwaith, ac mae hynny'n gyfan gwbl annerbyniol. Mi wnaf i wneud, wrth gwrs, y Gweinidog Cabinet yn ymwybodol o'r hyn rydych chi'n ei godi heddiw.

O ran yr ail bwynt, yn amlwg o ran parcio ar balmentydd, mae hwnna yn rhywbeth lle dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi cael trigolion lleol yn cysylltu â ni amdano fo. Dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yn edrych ar hyn. Mae o'n waith, wrth gwrs, a oedd yn digwydd o dan y Llywodraeth flaenorol, ac yn sicr, mi fydd yna ddiweddariad yn cael ei roi wrth i’r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.

Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod gennym ni Weinidog Cabinet dros effeithiolrwydd Llywodraeth sydd newydd fod yn ateb cwestiynau'r prynhawn yma, oherwydd dyna'r union fath o beth rydyn ni eisiau mynd i'r afael â fo, i sicrhau bod pob punt sy'n cael ei wario 

sy'n cael ei wario yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni yn mynd tuag at y gwasanaethau hynny. Os oes gan yr Aelod enghreifftiau o bethau y dylen ni fod yn edrych arnyn nhw, yn sicr mi fyddwn i'n eich annog chi i fod yn sicrhau bod y Gweinidog Cabinet dros iechyd yn ymwybodol o hyn, os nad ydy o yn barod. Mi fedraf hefyd eich sicrhau chi fod y Gweinidog Cabinet dros iechyd yn edrych yn ofalus iawn ar hyn. Mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau gwerth am arian, a dwi'n gobeithio bod ymrwymiad y Llywodraeth hon i fod yn gwneud hynny yn rhywbeth dwi'n siŵr bod y Gweinidog Cabinet dros Gyllid yn gallu ei atgyfnerthu hefyd. Mae'n flaenoriaeth i bob un Gweinidog, nid dim ond o ran yr adran iechyd.

15:25

Drefnydd, gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth—dwi'n falch iawn o'i weld e'n y Siambr gyda ni heddiw—o ran diweddariad ar yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008? Rwy'n parhau i glywed pryderon gan rieni a dysgwyr am ddibynadwyedd a diogelwch y trefniadau presennol. Mewn un digwyddiad diweddar, torrodd bws i lawr yn Rhondda Cynon Taf ar heol lle mae'r terfyn cyflymder yn 40 mya. Roedd y bws yn llawn myfyrwyr a dywedwyd wrthynt i gerdded. Ni chynigiwyd ad-daliad na thrafnidiaeth amgen iddynt. Oherwydd hyn, roedd rheini yn gorfod gadael y gwaith i ôl eu plant. Mae'n rhoi dysgwyr dan anfantais ar adeg hollbwysig yn eu bywydau. Byddai'n ddefnyddiol cael diweddariad ar yr adolygiad ynghyd â sicrwydd y bydd profiadau rheini, dysgwyr, ysgolion ac awdurdodau lleol yn helpu i lunio dull mwy cydgysylltiedig a dibynadwy o ran teithio dysgwyr. Diolch.

Diolch i'r Aelod am godi'r esiampl yna, ond dwi'n gwybod bod yna amryw o esiamplau eraill ledled Cymru. Gadewch i fi fod yn glir: fel Llywodraeth, rŷn ni'n disgwyl i awdurdodau lleol gydymffurfio â'u dyletswyddau statudol a sicrhau bod y penderfyniadau'n deg, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar anghenion unigol y dysgwyr. Dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yn cyfarfod â chyd-Weinidogion yn y Cabinet yr wythnos nesaf i drafod teithio gan ddysgwyr. Mae o'n rhywbeth y mae nifer ohonom ni fel Gweinidogion wedi bod yn ei gyd-drafod yn barod hefyd, ac mi fydd yna ddiweddariad wedi'r cyfarfod hwnnw.

Diolch i'r Aelod. Gaf i ofyn yn garedig, Ddirprwy Lywydd, i Aelodau gymryd eu cyfrifoldeb o edrych ar beth sydd ar yr agenda cyn codi yn gofyn am ddatganiad? Mi ddigwyddodd hyn yr wythnos diwethaf hefyd, lle'r oedd yna ddatganiad ar COVID ar yr agenda. Prynhawn yma, mae'r datganiad nesaf ar yr union fater hwn. Felly, mae yna gyfle i'r Aelod godi'r mater hwn efo'r Gweinidog. Holl fwriad y datganiad busnes ydy i ofyn am ddatganiadau nad ydyn nhw ar yr agenda. Rydyn ni'n cyhoeddi'r agenda. Mae'r agenda ar gael am dair wythnos i ddod hefyd. Mae'n gyfrifoldeb ar bob Aelod i fod yn gwirio'r agenda honno.

15:30

Diolch i'r Aelod am godi'r ddau fater hwnnw. O ran y pwynt cyntaf, fe fyddwch chi'n ymwybodol mai disgwyliad Llywodraeth Cymru ydy bod ymgynghoriad yn digwydd, fel y dylai fod. Os oes gennych chi bryderon penodol, rwy'n gobeithio eich bod chi wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal o ran hynny, ond byddwn i hefyd yn eich annog chi, gan mai cyfrifoldeb y bwrdd iechyd ydy'r ymgynghoriad, i godi unrhyw bryderon gyda'r prif weithredwr a'r bwrdd, oherwydd mae yna ddyletswydd ar bob ymgynghoriad i gael ei wneud mewn ffordd lle mae pobl efo hygrededd yn y broses honno, a bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ac, fel rydych chi wedi datgan, eu cefnogi.

O ran y diweddariad o ran rhestrau aros a mynediad at ofal iechyd trawsffiniol, mi fyddwch chi'n ymwybodol ein bod ni'n diweddaru'n rheolaidd o ran y rhestrau aros am fynediad. Mi wnaf i godi'r pwynt penodol rydych chi wedi ei godi efo fi efo'r Gweinidog Cabinet dros iechyd.

Yr wythnos diwethaf, fe wnes i ymweld â Barnardo's ar y Gurnos ym Merthyr Tudful. Ro'n i wedi cael cyfle, ar ôl gweld a chlywed am y gwaith ffantastig y maen nhw'n ei wneud, i eistedd lawr gyda nhw i siarad am beth sydd yn ei wynebu nhw yn ein cymuned ni. Un o'r pethau roedden nhw'n sôn amdano oedd y costau cudd o fynd i'r ysgol, basically. Roedden nhw'n sôn am y ffaith fod pobl yn rili stryglo i dalu am gwisgoedd, teithio, a phob math o bethau eraill. Wedyn, pan nad ydyn nhw'n mynd i'r ysgol oherwydd nad ydyn nhw'n gallu fforddio mynd i'r ysgol, maen nhw'n cael dirwyon am beidio mynd i'r ysgol, dirwyon absenoldeb. Mae hyn yn effeithio ar deuluoedd sydd yn byw yn fy nghymuned i. A all y Gweinidog plîs ofyn i'r Gweinidogion dros gyfiawnder cymdeithasol ac addysg roi datganiad ar ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw polisïau gwisg ysgol yn creu rhwystrau i blant a theuluoedd incwm isel gael mynediad at addysg?

Diolch am godi'r mater hwn. Y peth cyntaf i'w ddweud ydy ein bod ni yn cydnabod bod yna rwystrau ar y funud, er gwaethaf y ffaith fod y Llywodraeth flaenorol wedi creu canllawiau statudol yn nodi na ddylai gwisg wedi'i frandio, gan gynnwys defnyddio logos ac ati, fod yn ofyniad gorfodol i ddisgyblion. Mae hyn dal yn digwydd. Mi fyddwn i'n atgoffa pawb sy'n lywodraethwyr ysgol o'u cyfrifoldebau a'u bod nhw'n edrych ar y canllawiau statudol hyn ac yn adlewyrchu hynny o ran eu polisïau nhw.

Hefyd, fe fyddwn i yn hoffi rhoi sicrwydd i'r Aelod ac i'r holl Aelodau yma fod hon yn drafodaeth fyw iawn wrth i ni, yn drawsweinidogol, gefnogi'r Dirprwy Brif Weinidog yn ei gwaith o arwain ar y strategaeth tlodi plant newydd. Dŷn ni i gyd, ym mhob portffolio, yn benderfynol o chwarae ein rhan. Mae hynny'n cynnwys Anna Brychan fel y Gweinidog Cabinet dros addysg. Dwi, fel Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, eisiau sicrhau bod y rhwystrau sydd yna o ran cyfranogiad yn ganolog i'r gwaith hwnnw hefyd. Mae'r cydweithio hwnnw, i sicrhau ein bod ni'n cael gwared o'r rhwystrau hynny sydd yn bodoli, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.

15:55