Y Cyfarfod Llawn

Plenary

04/11/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Prynhawn da, Aelodau. Rydym yn cychwyn heddiw efo cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb. Cwestiwn 1, Sarah Rees.

Siarter Budd-daliadau Cymru

1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran a yw gweithredu siarter budd-daliadau Cymru yn gwella mynediad pobl ym Mhen-y-Bont Bro Morgannwg at gymorth? OQ64830

Member (w)
Sioned Williams 13:30:22
Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Dangosodd adolygiad diweddar fod awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg yn gwneud cynnydd da o ran rhoi egwyddorion siarter budd-daliadau Cymru ar waith wrth ddarparu budd-daliadau. Maen nhw'n symleiddio'r prosesau gweinyddu i'w gwneud yn haws i bobl fanteisio ar ostyngiadau'r dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol.

Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig yna.

Nid da lle gellir gwell. Fe wnes i ddweud yn rhan gyntaf fy ateb fod cynnydd da yn cael ei wneud. Fe wnaethom ni wneud adolygiad o'r gwaith a'r cynnydd ar y siarter dros yr haf, ac roedd y cynnydd yn galonogol ledled Cymru—pob awdurdod lleol, gan gynnwys y ddau sydd yn eich etholaeth chi, wedi cymryd camau i symleiddio'r ffordd y bydd budd-daliadau Cymru yn cael eu gweinyddu, gan roi mwy o bwyslais ar ddarparu cymorth sy'n diwallu anghenion unigolion.

Rŷn ni'n gwybod bod data, rhannu data a chael mynediad at ddata wir yn bwysig i hyn, achos dyna, mewn gwirionedd, sy'n mynd i'w gwneud hi'n haws i fedru dweud wrth bobl a gwybod bod pobl yn gymwys am rywbeth—does dim rhaid iddyn nhw ddweud eu stori fwy nag unwaith. Mae Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg bellach yn defnyddio data'r Adran Gwaith a Phensiynau i nodi pobl sy'n gymwys ar gyfer y gostyngiad yn y dreth gyngor yn awtomatig, felly does dim angen iddyn nhw wneud cais ar wahân. Dwi eisiau gweld hynny. Dyna'r her dwi wedi ei rhoi i'r grŵp sy'n llywio'r gwaith yma, i sicrhau ein bod ni'n gwneud cynnydd. Dwi hefyd yn pwyso ar y DWP i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhannu'r data sydd ei angen, i helpu gwaith y cynghorau i wneud hynny.

13:35
Cyfamod y Lluoedd Arfog

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyfamod y lluoedd arfog yn cael ei gynnal yng Nghymru? OQ64802

Diolch. Rŷn ni wedi cynnwys ein cefnogaeth i gyfamod y lluoedd arfog fel ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu. Ymhlith y camau rŷn ni'n eu cymryd ar hyn o bryd mae darparu cyllid ar gyfer swyddogion cyswllt y lluoedd arfog a GIG Cymru i Gyn-filwyr. Rŷn ni hefyd yn paratoi at ehangiad disgwyliedig y cyfamod y flwyddyn nesaf.

Rydyn ni yn Abertawe wedi bod yn gweithio gyda'r Swansea Veterans Hub, sydd wedi tynnu sylw at bryderon gwirioneddol iawn am gyn-filwyr sy'n dioddef o PTSD ac wedi'u gadael heb fawr o gefnogaeth i ddelio â'r cyflwr ofnadwy hyn, sydd wedyn yn gysylltiedig â throseddau a cham-drin cyffuriau. Ymwelais hefyd â Brynawel i weld y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud wrth ddelio â complex PTSD y milwyr, er eu bod nhw wedi'u rhwystro gan drefniadau ariannu y byrddau iechyd a'r fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â hyn.

Mae hyn mor annheg. Mae pobl sy'n rhoi eu bywydau a'u hiechyd ar y llinell dros ein gwlad yn haeddu cymaint mwy. Rhaid i ni ofalu amdanyn nhw. Rydyn ni'n ddyledus iddyn nhw. Mae'r cyfamod a amlygwyd gan Darren Millar yn union hynny: cwlwm cysegredig rhwng ein milwyr a'r bobl y maen nhw'n eu hamddiffyn. A gaf i wahodd y Gweinidog Cabinet i ymweld â'n cyn-filwyr yn Abertawe ac ymrwymo i weithio gyda nhw i ddeall y PTSD cymhleth y maen nhw'n dioddef, er mwyn eu gwasanaethu'n well fel rhan o'r cyfamod cysegredig hyn?

Diolch yn fawr am godi'r mater pwysig yma o ran iechyd meddwl cyn-filwyr. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol wedi ymweld â chanolfan adsefydlu breswyl Brynawel yn ddiweddar i weld y gwaith da sy'n cael ei wneud yno. Roedd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys y gwaith y maen nhw'n ei wneud gyda chyn-filwyr. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod yn trefnu ymweliad â chanolfan cyn-filwyr Abertawe ar hyn o bryd. Dwi wastad yn falch hefyd i siarad gyda chyn-filwyr am eu profiadau. Felly, ar ôl i'r Dirprwy Weinidog ymweld, byddwn i'n hapus hefyd i ymgysylltu gyda'r cyn-filwyr yno yn eich etholaeth. Dwi'n siŵr y bydd ei hymweliad hi yn rhoi gwell dealltwriaeth, a dealltwriaeth allweddol, o'r heriau sy'n wynebu cyn-filwyr wrth gael mynediad at gymorth ar gyfer iechyd meddwl. Mae'r ganolfan yna yn Abertawe yn rhan o'r rhwydwaith Valour yng Nghymru, a dwi'n edrych ymlaen at gael cwrdd â nhw yng nghynhadledd cyfamod Cymru ar 19 Tachwedd yn Abertawe.

Felly, mae gyda ni rwydwaith ardderchog o ganolfannau cyn-filwyr ledled Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed yn uniongyrchol ganddyn nhw yn y gynhadledd genedlaethol honno. Nhw yw'r arbenigwyr ar y rheng flaen ac rŷn ni yn gwrando arnyn nhw. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £920,000 bob blwyddyn i Veterans' NHS Wales, sy'n gweithio gyda chyn-filwyr sydd ag anhawsterau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth milwrol.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Cristiana Emsley.

13:45
13:50
13:55

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'n hynod o bwysig yn ystod y cyfnod yma o gofio—cofio am yr aberth sydd wedi bod gan rai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac wedi gweld rhyfel a brwydro a'r effaith mae hynny wedi ei gael arnyn nhw o ran eu lles corfforol a'u lles meddyliol, fel yr oedden ni'n trafod yn gynharach. Ond mae hefyd angen inni gofio bod yna fywyd wedyn ar ôl gwasanaethu a bod yna hefyd deuluoedd ynghlwm wrth yr aberth yna. Mae'n gallu bod yn aberth nid yn unig o ran colled, o ran colli aelodau o'r teulu, ond hefyd o ran beth mae'r gwasanaeth yna wedi meddwl i deuluoedd.

Dwi wedi siarad â nifer o bartneriaid i filwyr sy'n gwasanaethu nawr ac i gyn-filwyr, ac maen nhw wedi disgrifio i fi pa mor anodd mae'n gallu bod iddyn nhw a'u teuluoedd. Hyd yn oed os dyw'r partner ddim yn mynd i ryfel, maen nhw'n gorfod symud weithiau ar fyr rybudd ac mae'r plant yn gorfod setlo'n gyflym iawn mewn ysgolion gwahanol a symud ac yn y blaen. Weithiau, mae rhai o'r merched hefyd yn dweud wrthyf ei bod hi'n anodd iawn i gael gwaith. Maen nhw'n bobl sydd eisiau gweithio, pobl sydd â chymwysterau a rhywbeth i'w gynnig, ond dydyn nhw ddim yn gallu. Os ydyn nhw'n cael eu postio i'r Almaen, er enghraifft, maen nhw ond yn gallu gweithio ar y base. Felly, maen nhw'n ffeindio weithiau bod hwnna'n gallu bod yn rhwystredigaeth ac yn aberth er lles gyrfa eu partneriaid.

Mae'r Llywodraeth yma'n hollol glir bod gyda ni ddyled i aelodau ein lluoedd arfog. Mae sicrhau ein bod ni'n cefnogi cyfamod y lluoedd arfog ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yn ein rhaglen lywodraethu. Rwy'n ei weld e fel mater sydd yn berthnasol iawn i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau, achos beth rŷn ni'n ceisio gwneud drwy'r hyn rŷn ni'n ariannu ac yn cefnogi yw lleihau unrhyw fath o anfantais sydd gan aelodau o'r lluoedd arfog. Byddaf i'n mynd â phapur i'r Cabinet am hyn a'r gweithredoedd pellach y gallwn ni eu cymryd ar hyn ar ddiwedd y mis.

Prydau Ysgol am Ddim

3. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ynghylch sicrhau bod disgyblion ysgolion uwchradd y mae cyfyngiadau heb hawl i gyllid cyhoeddus yn effeithio arnynt, yn gallu cael gafael ar brydau ysgol am ddim? OQ64813

14:00
14:05
Rhoi Terfyn ar Dlodi

4. Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar waith Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar dlodi? OQ64829

Diolch yn fawr. Fe allai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fod wedi cymryd y camau pellach yna i dargedu cefnogaeth ar gyfer y rheini sydd ei angen e fwyaf, a dwi yn meddwl mai un o'r bylchau mwyaf amlwg o ran darparu'r gefnogaeth yna yng nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yw'r penderfyniad yna i beidio â dadrewi'r local housing allowance. Dŷn ni'n ystyried y byddai adfer LHA, ochr yn ochr â'r sefyllfa sydd yn y farchnad rentu ar hyn o bryd, fel y gwnaethoch chi sôn, wedi cael cymaint o effaith ar atal digartrefedd ac ar atal cysgu ar y stryd—rhywbeth y gwnaeth y Prif Weinidog a'r Canghellor sôn oedd yn rhywbeth roedden nhw eisiau ei weld yn ganolog i'w gweledigaeth nhw. 

14:10
Y Cynllun Hawliau Pobl Anabl

5. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni i weithredu'r ymrwymiadau ar gynhwysiant digidol yn y cynllun hawliau pobl anabl? OQ64832

Cefnogaeth i Bobl sy'n Gadael y Carchar

6. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i bobl sy'n gadael y carchar? OQ64812

Er bod cyfiawnder wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd, rŷn ni'n gweithio'n agos â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyfiawnder eraill i helpu pobl sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar i gael mynediad at lety, gofal iechyd, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a chymorth ehangach. Mae ailsefydlu llwyddiannus yn allweddol i leihau aildroseddu, gwella canlyniadau a helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau yn eu cymunedau.

Diolch yn fawr iawn. A dyna'r pwynt, yndê, ein bod ni'n gyfrifol am y gwasanaethau ar ôl iddyn nhw adael y carchar.

Diolch. Dwi eisiau rhoi ar y record y ddyled sydd gyda ni i'r academwyr fel Dr Rob Jones sydd yn tynnu sylw parhaus. Beth fyddem ni'n ei wneud heb yr academwyr yna yn ein prifysgolion sy'n ein helpu ni i ddeall canlyniadau polisïau a sut gallwn ni edrych i wella yr hyn dŷn ni'n ei wneud er budd pobl Cymru, fel pobl sy'n gadael carchar? Wrth gwrs, fel gwnaethon ni sôn, mae'n maniffesto ni a'n rhaglen lywodraethu ni wedi ailddatgan ein hymrwymiad hirsefydlog i ddyfalbarhau i geisio datganoli cyfiawnder. Mae e'n rhywbeth, wrth gwrs, mae canfyddiadau'r adroddiad yma sydd wedi'i gyhoeddi gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn cryfhau'r achos drosto, onid yw e, fel ein bod ni'n gallu pwytho yn well y gwasanaethau hyn at ei gilydd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu ymateb i anghenion a sefyllfaoedd carcharorion sy'n cael eu rhyddhau yn well. Mae'r angen yna am fwy o gydlyniant rhwng y system gyfiawnder a chyfrifoldebau datganoledig mor glir; byddai'n lleihau aildroseddu ac yn gwella, wrth gwrs, y canlyniadau ar gyfer y bobl sydd yn cael eu rhyddhau.

Felly, rŷn ni eisiau gwneud yn siŵr—. Ein blaenoriaeth ni wastad yw atal digartrefedd. Mae angen sicrhau ein bod ni'n nodi anghenion tai yn gynharach, yn gynt, bob amser, a disgwyl wedyn i wasanaethau gydweithio cyn i unigolyn adael y ddalfa. Rŷn ni'n gwybod yn rhy aml does dim digon o rybudd yn cael ei roi ac wedyn mae pobl yn ffeindio eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw'n ddigartref. Ac mae hynny yn amlwg. Fel rŷn ni'n gwybod am bwysigrwydd cartref a thŷ sefydlog, ontefe, mae e'n gallu arwain at bob mathau o bwysau ar unigolion ac mae'n gallu arwain at y ffaith bod—. Os nad oes gyda chi unrhyw le i fyw, rŷch chi efallai yn mynd i droi at dorcyfraith. Weithiau rŷn ni wedi cael enghreifftiau, onid ŷn ni, o bobl yn gwneud hynny er mwyn cael to uwch eu pen. Felly, mae e'n sefyllfa mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag e. Rŷn ni'n ddiolchgar am ganfyddiadau'r adroddiad a bydd hyn yn pwytho i mewn i'n gwaith ni o ran y pethau rŷn ni yn gallu eu rheoli, ond mae e eto yn gwneud y ddadl yna dros ddatganoli cyfiawnder hyd yn oed yn gryfach.

14:15
Diogelwch Menywod a Merched

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch menywod a merched? OQ64800

O fewn ein 100 diwrnod cyntaf, fe gynhalion ni adolygiad o strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rŷn ni'n gweithredu ar ei ganfyddiadau i gyhoeddi erbyn yr haf nesaf gamau i roi terfyn ar drais a cham-drin, sy'n canolbwyntio ar ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae hyn yn galw am weithredu ar y cyd i wneud Cymru yn lle mwy diogel i fenywod a merched.

Byddwn i jest yn gofyn i'r Aelod bwyllo a deall bod y rhain yn faterion sensitif iawn. Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig nad ydyn ni, yn y lle cyntaf, yn drysu hawliau merched yn gyfan gwbl gydag unrhyw beth sy'n ymwneud â diogelu diogelwch menywod, rhywbeth sydd, fel roeddwn i wedi sôn yn fy ateb cychwynnol i chi—. Mae'n blaenoriaeth ni yn glir: atal trais a cham-drin a diogelu menywod a merched. Mae hynny yn ein rhaglen lywodraethu ni, sicrhau bod y dioddefwyr a goroeswyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

O ran dyfarniad y Goruchaf Lys, wrth gwrs, rŷn ni yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cydymffurfio â'r gyfraith fel y'i heglurwyd gan y llys, ac wedyn dyna beth rŷn ni'n ei wneud er mwyn sicrhau ein bod ni'n parchu pawb yn ein cymdeithas a chadw pawb yn ein cymdeithas yn ddiogel.

14:20

Diolch. A'r cwestiwn olaf i chi, Ddirprwy Prif Weinidog, cwestiwn 8—Marc Jones.

Digartrefedd

8. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng rhyddhau carcharorion a'r lefelau cynyddol o ddigartrefedd? OQ64833

Diolch yn fawr. Mae ein blaenoriaeth ni yn glir: ddylai pobl ddim eu cael eu hunain yn ddigartref wrth adael y carchar. Er mai mater i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yw cyfiawnder ar hyn o bryd, mae penderfyniadau am ryddhau carcharorion yn effeithio'n uniongyrchol ar wasanaethau datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, tai. Rŷn ni'n parhau i weithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a phartneriaid cyfiawnder i wella'r cynlluniau ar gyfer pobl Cymru sy'n gadael y ddalfa.

Diolch yn fawr iawn. Mae Jane Dodds wedi cyfeirio at hyn yn barod, felly dwi'n mynd i ofyn cwestiwn ychydig bach yn wahanol, yn seiliedig ar y sefyllfa yn lleol yn Wrecsam. Ni ddylai neb adael y carchar i gysgu ar y stryd, a dyna beth ddigwyddodd i chwech allan o 10 carcharor a adawodd carchar Berwyn y llynedd. Mae hwnna'n anfaddeuol. Mae'r nifer o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn Wrecsam ar gynnydd. Llynedd, cafodd 215 o garcharorion Berwyn eu rhyddhau i gysgu ar y stryd ar eu noson gyntaf. Ac mae'r ffigurau arswydus yma cyn y cynlluniau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ryddhau carcharorion yn gynnar. So, dwi'n poeni ein bod ni'n mynd i weld y sefyllfa yn gwaethygu, a dyna pam dwi eisiau codi'r cwestiwn, oherwydd mae'n cael effaith andwyol iawn ar y gwasanaethau sydd gennym ni yn lleol yn trio delio efo problemau'r cyn-garcharorion yma. [Torri ar draws.] Sori, mi oedd yna gwestiwn i ddod. Pa wybodaeth ydych chi wedi ei chael gan y Llywodraeth yn Llundain i helpu lleihau'r nifer o gyn-garcharorion sy'n gorfod cysgu ar y stryd?

Diolch. Wnaf i ddim ailadrodd nifer o'r pwyntiau gwnes i mewn ymateb i Jane Dodds, ond jest i gadarnhau ac i danlinellu nad yw hyn yn sefyllfa dderbyniol yng ngolwg y Llywodraeth yma. Mae'r penderfyniadau yma ynglŷn â rhyddhau carcharorion yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau tai a digartrefedd yng Nghymru, ac rŷn ni wrth gwrs yn cydnabod bod digartrefedd ymhlith pobl sy'n gadael y ddalfa wir yn her, ond hefyd yn gwbl annerbyniol. Felly, mae'r Llywodraeth yn parhau i geisio gweithio'n agos gyda HMPPS ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y cynllunio yna cyn rhyddhau pobl o'r ddalfa yn cael ei wella. 

Ac o ran yr hyn rydyn ni'n ei wneud, mae yna grŵp, y post-custody working group, sy'n cael ei gyd-gadeirio gan uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru a HMPPS, sydd wedi cael ei sefydlu ac mae yna ffocws penodol gan y grŵp yma ynglŷn â cheisio gwella'r cynllunio yna, gwneud hynny llawer ynghynt, ar y cyfnod cynharaf posibl, fel bod cysgu ar y stryd a digartrefedd yn cael ei osgoi yn gyfan gwbl. 

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Symudwn ymlaen at gwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd. Cwestiwn 1—Joe Martin. 

Lles Anifeiliaid

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu lles anifeiliaid? OQ64803

14:25
14:30
Llifogydd

2. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i leihau'r risg o lifogydd yn Sir Fynwy Torfaen? OQ64810

Drwy ein rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, mae yna dros £1.4 miliwn wedi ei ddarparu yn Sir Fynwy Torfaen y flwyddyn ariannol yma yn benodol. Rŷn ni'n amcangyfrif bod tua 947 eiddo wedi elwa o hynny, ac, wrth gwrs, mae e wedi helpu cymunedau, gobeithio, i addasu i newid hinsawdd.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Laura Anne Jones.

14:40
14:45
14:50
Tanau Gwyllt

3. Pa gamau mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr y mae'r tanau gwyllt yr haf hwn wedi effeithio arnynt? OQ64817

14:55
TB sy'n Gysylltiedig â Bywyd Gwyllt

4. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar yr amserlen ar gyfer derbyn a chyhoeddi papur cyngor grŵp cynghori technegol TB gwartheg Cymru ar TB sy'n gysylltiedig â bywyd gwyllt? OQ64811

15:00
Newydd-ddyfodiad i Fyd Ffermio

5. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi newydd-ddyfodiaid i fyd ffermio? OQ64836

15:05
Agor Llwybr yr Arfordir ym Maglan

6. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar agor llwybr yr arfordir ym Maglan, Afan Ogwr Rhondda? OQ64838

Mae llwybr arfordir Cymru yn parhau i fod ar agor trwy Faglan, gyda dau opsiwn y gallwch eu dilyn nawr. Rŷn ni hefyd wedi cytuno ar lwybr caniataol newydd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Mi fydd hyn yn gwella mynediad at yr arfordir, gan osgoi'r hen lwybr ar hyd glan yr afon, sy'n parhau i fod yn anniogel oherwydd bod yna ansadrwydd difrifol ar y tir yn fanna.

Gwasgaru Slyri a Mathau Eraill o Dail Organig sydd â Chyfran Uchel o Nitrogen sydd ar gael yn Rhwydd

7. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i ddileu'r cyfnodau gwaharddedig o ran gwasgaru slyri a mathau eraill o dail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen sydd ar gael yn rhwydd? OQ64799

15:10

A'r cwestiwn olaf, Weinidog Cabinet, cwestiwn 8, Sarah Edwards.

Yr Ymateb i Danau Gwyllt yn y Dyfodol

8. Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r potensial i Uwchgynhadledd Gwytnwch Tân Cymru wella'r modd mae'r ymateb i danau gwyllt yn y dyfodol yn diogelu'r dirwedd amaethyddol? OQ64825

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

Pwynt o Drefn
3. Cwestiynau Amserol

Symudwn yn awr at yr eitem nesaf, eitem 3, cwestiynau amserol. Jane Dodds.

Dŵr Cymru

Diolch yn fawr iawn. Prynhawn da eto, Weinidog. Diolch am aros ar gyfer hyn.

1. A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad ar berfformiad Dŵr Cymru yn dilyn adroddiad perfformiad gweithredol diweddaraf Ofwat? TQ1513

15:15
15:20
15:25
4. Datganiadau 90 eiliad
15:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

5. Dadl ar ddeiseb P-07-1611, 'Dyrannu'r swm llawn o gyllid canlyniadol i Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)'

Symudwn ymlaen i eitem 5, dadl ar ddeiseb P-07-1611, 'Dyrannu'r swm llawn o gyllid canlyniadol i Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)'. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i wneud y cynnig—Jason O'Connell.

15:35

Cynnig NDM9341 Jason O'Connell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-07-1611, 'Dyrannu'r swm llawn o gyllid canlyniadol i Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)' a gasglodd 11,451 o lofnodion.             

Cynigiwyd y cynnig.

15:40
15:45
15:50
15:55
16:00
16:05

Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, a hefyd i bwyllgor y bobl am ddod â'r ddadl yma gerbron. Dwi hefyd yn moyn cydnabod yr holl bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon. Mae'n dangos y pryder go iawn sydd gan deuluoedd, ymarferwyr a chymunedau ledled Cymru am y pwysau sy'n wynebu plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd a'r gwasanaethau sy'n eu cefnogi nhw. Rwy'n deall ac yn cydnabod y pwysau hynny. Rwyf hefyd am gymryd y cyfle i gydnabod bod yr effaith ar deuluoedd ac unigolion sydd wedi rhannu eu profiadau y prynhawn yma yn ddwys ac, yn hollol gywir, yn ganolog i waith y Llywodraeth hon.

16:10

Ond allwn ni ddim gwneud y gwaith hwn ar ein pennau ein hunain, ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i wireddu'r weledigaeth sydd gyda ni ar gyfer addysg yng Nghymru. Rwyf wedi clywed tipyn o barodrwydd i ymroi i’r gwaith hwnnw y prynhawn yma. Rŷn ni’n bwrw ymlaen gyda'r gwaith yma mewn partneriaeth gyda'r sector, gan gydlunio camau gweithredu ymarferol dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy.

Ddirprwy Lywydd, rŷn ni wedi cefnogi ein hymrwymiad gyda buddsoddiad, ac mae camau ymarferol eisoes ar y gweill. Ond mae ein huchelgais ni yn mynd ymhellach. Rŷn ni'n benderfynol o ymateb i'r pwysau sy'n wynebu'r system heddiw, yn ogystal â chreu system addysg wirioneddol gynhwysol a chynaliadwy, sy'n addas ar gyfer y dyfodol, a byddwn i’n gwahodd pawb i ddiddori yn y gwaith hwnnw. Diolch yn fawr.

16:15

Diolch, Weinidog Cabinet. Galwaf ar Jason O'Connell i ymateb i'r ddadl.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

16:20
16:25

Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Diolch yn fawr.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl Reform UK: Defnyddio ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Symdwn nawr at eitem 6, dadl Reform UK: defnyddio ffonau symudol mewn ystafelloedd dosbarth. Galwaf ar Stephen Senior i wneud y cynnig.

Cynnig NDM9342 Llŷr Powell

Cefnogwyd gan Andrew Griffin, John Clark

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol i ffonau symudol gael eu gwahardd mewn ystafelloedd dosbarth, ac eithrio lle bo angen yn feddygol neu'n addysgol.

Cynigiwyd y cynnig.

16:30

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar ganllawiau statudol ynghylch cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion ac yn cydnabod pwysigrwydd ystyried yr ystod lawn o farn rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y canllawiau.

2. Yn cefnogi dull gweithredu Llywodraeth Cymru o osod disgwyliadau cenedlaethol clir ar gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol gan alluogi ysgolion i weithredu polisïau sy'n adlewyrchu eu hamgylchiadau lleol ac anghenion dysgwyr unigol, gan gynnwys pan fo angen eu defnyddio am resymau meddygol neu addysgol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

16:35
16:40
16:45
16:50
16:55
17:00
17:05

Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon ac yn falch o weld diddordeb yr Aelodau mewn sicrhau bod ein hysgolion ni'n parhau i gynnig amgylcheddau dysgu diogel a chefnogol lle gall dysgwyr ganolbwyntio. Rwy'n credu bod rhai o'r cyfraniadau efallai wedi mynd yn ehangach na'r ddadl gerbron heddiw, ac rwy'n siŵr y daw cyfle pellach i drafod rhai o'r elfennau hynny yn y dyfodol hefyd.

Mae'r Llywodraeth hon eisoes wedi cymryd camau pendant ar ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru. Fe wnes i ddatganiad llafar ym mis Mehefin, chwe wythnos ar ôl inni gael ein hethol, yn nodi fy mwriad i gyflwyno canllawiau statudol newydd i gyfyngu ar ddefnydd ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Fe wnes i hefyd yn glir bryd hynny, ac wedi gwneud sawl gwaith yn dilyn hynny, fy mod i yn cefnogi penaethiaid i gymryd camau clir a chadarn, gan gynnwys cyfyngu'n llwyr ar ffonau symudol ar draws safle'r ysgol i greu amgylcheddau tawelach yn yr ysgol sy'n canolbwyntio ar ddysgu a lles.

Lywydd, dwi wedi nodi'n glir ein huchelgais ni i greu system addysg wirioneddol gynhwysol yng Nghymru, system sy'n seiliedig ar yr un disgwyliadau uchel i bob dysgwr, sy'n nodi ac yn goresgyn y pethau sy'n rhwystro cyfranogiad, ymgysylltiad a chyflawniad. Mae'r ffordd rŷn ni'n mynd i'r afael â ffonau symudol yn ystyriaeth bwysig yn y cyd-destun hwn, a bydd yn ein helpu ni i greu amgylcheddau croesawgar, addas i ddysgu, lle gall y dysgwyr ganolbwyntio yn addas ar eu gwaith nhw.

Ond wrth wraidd hyn i gyd mae uchelgais syml, sef sicrhau bod pob plentyn a phob person ifanc yn gallu cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol, yn gallu meithrin perthnasau cadarnhaol ac yn gallu cyflawni eu potensial. Dyna'r ffordd mae'r Llywodraeth hon yn mynd ati, ac rwy'n credu mai dyma'r ffordd addas a chywir ymlaen i Gymru hefyd. Diolch yn fawr.

17:15
17:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Reform UK: Canllawiau ar sut i gydymffurfio â diffiniad cyfreithiol rhyw

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Nesaf, eitem 7, dadl Reform UK: canllawiau ar sut i gydymffurfio â diffiniad cyfreithiol rhyw. Galwaf ar Cristiana Emsley i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM9343 Llŷr Powell

Cefnogwyd gan Andrew Griffin, John Clark

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i sefydliadau a chyrff cyhoeddus ar gydymffurfio â dyfarniad y Goruchaf Lys bod rhyw yn fiolegol.

Cynigiwyd y cynnig.

17:30

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi dyfarniad y Goruchaf Lys yn achos For Women Scotland Ltd v Gweinidogion yr Alban ynghylch y dehongliad o ryw yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

2. Yn nodi bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn parhau i ddiogelu pobl rhag gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd.

3. Yn nodi mai’r Cod Ymarfer statudol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r canllaw cyfreithiol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer cyrff cyhoeddus mewn perthynas â chydymffurfio â dyfarniad y Goruchaf Lys.

4. Yn nodi nad yw canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru yn ofynnol felly.

5. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydymffurfio â’i dyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010, a’i disgwyliad bod cyrff cyhoeddus perthnasol sy’n gyfrifol am wasanaethau datganoledig yn gweithredu’n gyson â’r gyfraith ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau yn eglur, yn urddasol a chan ddangos parch at bawb yr effeithir arnynt.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Member (w)
Sioned Williams 17:32:12
Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Yn ffurfiol.

17:35
17:40
17:45
17:50
17:55
18:00
18:05
18:10

Galwaf yn awr ar y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams.

Member (w)
Sioned Williams 18:11:39
Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Diolch yn fawr, Lywydd. Dwi’n croesawu unwaith eto, Lywydd, y cyfle i esbonio approach Llywodraeth Cymru at ddyfarniad y Goruchaf Lys, a’r canllawiau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus a sefydliadau, ac mae fy ymateb i’r ddadl hon, a sail ein gwelliant, wedi’i osod gan y sefyllfa gyfreithiol. Gan fod hynny yn fater technegol a sensitif, ac mae’n bwysig ei osod allan yn gywir ac yn eglur, ni fyddaf yn cymryd unrhyw ymyriadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn parchu penderfyniad y Goruchaf Lys ac yn cydymffurfio â’r gyfraith. Rydym ni’n disgwyl i gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill yng Nghymru fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol eu hunain. Ar 16 Ebrill 2025, cyflwynodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad yn achos For Women Scotland Ltd v. Scottish Ministers. Dyfarnodd fod y termau ‘dyn’, ‘menyw’ a ‘rhyw’ yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at ryw biolegol. Mae’r eglurhad hwnnw’n gymwys i ddehongli'r Ddeddf Cydraddoldeb. Dyw e ddim yn benderfyniad ar ystyr y termau hynny at bob diben ym mhob darn o ddeddfwriaeth, ac ni ddylai gael ei gyflwyno felly.

Fe wnaeth y dyfarniad hefyd gadarnhau bod pobl draws yn parhau i gael eu hamddiffyn o dan y Ddeddf Cydraddoldeb drwy nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd. Dyw’r amddiffyniad hwnnw ddim yn dibynnu ar ddal tystysgrif cydnabod rhywedd. Mae angen deall y pwyntiau yma gyda’i gilydd. Rhaid i gyrff cyhoeddus gydnabod ystyr 'rhyw' o dan y Ddeddf, a rhaid iddynt hefyd fodloni eu rhwymedigaethau tuag at bobl â nodweddion gwarchodedig eraill.

Mae’r cynnig yn gofyn am ganllawiau. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bellach wedi cyhoeddi cod ymarfer statudol diwygiedig ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Daeth i rym ar 5 Awst 2026 ac mae’n gymwys yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r cod, a gyhoeddwyd gan y rheoleiddiwr, yn darparu canllawiau ymarferol i helpu sefydliadau, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, i ddeall a chydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb. Pasiodd drwy broses gymeradwyo weinidogol a chafodd ei osod gerbron Senedd y Deyrnas Gyfunol cyn dod i rym ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Nid yw’n gwneud cyfraith newydd nac yn creu rhwymedigaethau cyfreithiol newydd. Mae’r rhwymedigaethau cyfreithiol yn deillio o’r ddeddfwriaeth fel y’i dehonglir gan y llysoedd.

Mae hefyd yn bwysig bod yn fanwl gywir am ei bwrpas. Mae'r cod hwn yn ymwneud â gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau. Mae ysgolion a chyflogaeth yn cael eu cwmpasu gan rannau eraill o'r Ddeddf, ac efallai y bydd angen i sefydliadau ystyried canllawiau technegol perthnasol, codau eraill a deddfwriaeth sector benodol ochr yn ochr ag ef.

Y comisiwn yw'r rheoleiddiwr cydraddoldeb annibynnol. Mae ganddo gyfrifoldebau statudol am ddarparu canllawiau a hyrwyddo a gorfodi cydymffurfiaeth a chyfraith cydraddoldeb. Mae eisoes yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, fel y'i dehonglir gan y Goruchaf Lys. Mae cod ymarfer statudol y comisiwn yn darparu canllawiau ar gyflawni'r rhwymedigaethau hynny wrth ddarparu gwasanaethau ac arfer swyddogaethau cyhoeddus. Felly, rŷn ni'n anghytuno'n sylfaenol y byddai canllawiau ar wahân gan Lywodraeth Cymru ar ystyr gyfreithiol rhyw yn darparu mwy o eglurder. Byddai'n creu risg o ddyblygu'r cod a dryswch ynghylch y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol presennol.

Dylai unrhyw ddeunydd gan Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar weithredu cyffredinol mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a chyfeirio cyrff cyhoeddus at y cod a chanllawiau perthnasol y comisiwn. Nid yw hynny yr un peth â dweud nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw gyfrifoldebau yn y maes hwn. Rŷn ni'n ddeiliaid dyletswydd ein hunain. Mae gyda ni hefyd gyfrifoldebau o fewn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ac mae'n rhaid i'n polisïau a phenderfyniadau ein hunain adlewyrchu'r gyfraith.

Ers y dyfarniad, mae pob maes polisi yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am sicrhau ei fod wedi ystyried yn ofalus unrhyw bolisïau, deddfwriaeth a threfniadau y gallai eglurhad y Goruchaf Lys o'r gyfraith effeithio arnyn nhw. Ac rŷn ni'n disgwyl i bob corff cyhoeddus a phob darparwr gwasanaeth wneud hyn gan fod pob sefydliad yn gyfrifol am sicrhau bod eu penderfyniadau a'u gweithredoedd yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, ynghyd ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol eraill. Pan fo angen, dylai sefydliad gael cyngor ar ei amgylchiadau penodol.

Mae cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod eu penderfyniadau yn cydymffurfio â'r gyfraith, gan ystyried y cynllawiau sydd ar gael gan y comisiwn. Bydd y gweithredu yn amrywio rhwng lleoliadau. Rhaid i benderfyniadau ynghylch gwasanaethau, cyfleusterau a mynediad fod yn seiliedig ar y darpariaethau cyfreithiol cymwys ac amgylchiadau'r gwasanaeth. Pan fo'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol cael cyfiawnhad neu gymesuredd, rhaid i'r asesiad hwnnw gael ei wneud yn iawn.

Ni all datganiad cyffredinol ddim gwneud pob penderfyniad mewn ysbyty, ysgol, canolfan hamdden neu sefydliad gwirfoddol. Yn yr un modd, nid oes modd defnyddio ystyriaeth o amgylchiadau unigol i ddiystyru ystyr rhyw a sefydlwyd gan y dyfarniad mewn perthynas â'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rhaid i gyrff cyhoeddus hefyd gyflawni dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a rhoi sylw dyladwy i'r angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cydberthnasau da.

I Lywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu cydnabod rhyw ac ailbennu rhywedd fel nodweddion gwarchodedig gwahanol, ystyried tystiolaeth berthnasol ac asesu effeithiau penderfyniadau ar bawb y mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn effeithio arnyn nhw. Hoffwn atgoffa'r Aelodau o sylwadau'r Arglwydd Hodge wrth gyflwyno'r dyfarniad, ac rwy'n dyfynnu: 'Ni ddylid ystyried y penderfyniad yn fuddigoliaeth i un grŵp ar draul grŵp arall.' Pwysleisiodd hefyd bod pobl drawsryweddol yn parhau i gael amddiffyniad rhag gwahaniethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Fel y dywedais i, mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i roi sylw dyladwy i'r angen i feithrin perthynas da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydyn nhw. Yn arbennig, mae'r Ddeddf yn nodi hyrwyddo dealltwriaeth a mynd i'r afael â rhagfarn fel rhan o'r cyfrifoldeb hwnnw.

Rhaid i'r ffordd rŷn ni'n gweithredu, felly, gyfuno cydymffurfedd â'r gyfraith gydag ystyriaeth ofalus o sut gall ein penderfyniadau a'n hymdrechion i gyfathrebu gefnogi dealltwriaeth a chydberthnasau parchus. Ein cyfrifoldeb ni yw cymhwyso'r dyfarniad, gan gynnal hawiau ac urddas pawb sy'n cael eu heffeithio, ac rydym ni'n disgwyl i gyrff cyhoeddus gyd-fynd â'r egwyddor hon wrth sicrhau Cymru fwy cyfartal, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rŷn ni'n cydnabod y gall materion sy’n ymwneud â gweithredu gael canlyniadau ymarferol sylweddol. Mae gwaith ymgysylltu blaenorol wedi cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli menywod a sefydliadau sy'n cynrychioli pobl draws. Mae'r safbwyntiau hynny yn gallu helpu i nodi effeithiau ymarferol. Fodd bynnag, y fframwaith cyfreithiol yw'r sail o hyd ar gyfer penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan gyrff cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Ein harfer bresennol yw gwneud yn siŵr bod unrhyw gamau gweithredu yn dilyn y dyfarniad yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn cael eu cymryd gyda pharch, tosturi a charedigrwydd tuag at bawb sy'n cael eu heffeithio. Dylai pobl allu deall y sail ar gyfer darparu gwasanaethau. Dylen nhw gael eu trin ag urddas, dylai eu preifatrwydd gael ei barchu, a dylen nhw gael eu gwarchod rhag gwahaniaethu ac aflonyddu anghyfreithlon.

I grynhoi, mae'r Goruchaf Lys wedi egluro dehongliad y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae'r comisiwn wedi cyhoeddi cod statudol wedi'i ddiweddaru o fewn ei faes cyfrifoldeb. Mae cyrff cyhoeddus a sefydliadau yn parhau i fod yn gyfrifol am gydymffurfio, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn arfer ei swyddogaethau ei hun yn gyfreithlon. Ein dull felly yw cymhwyso'r dyfarniad, defnyddio'r canllawiau statudol perthnasol, adolygu ein deunydd ein hunain pan fo angen, a gwahaniaethu'n glir rhwng cyfrifoldebau'r rheoleiddiwr annibynnol a chyfrifoldebau Gweinidogion Cymru, a'r rhai sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd. Diolch yn fawr.

18:20
18:25
18:30

Iawn, ocê. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod pum Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Iawn. Yn gyntaf, eitem 6. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.  Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 38, neb yn ymatal, yn erbyn 50. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl Reform UK - Defnyddio ffonau symudol mewn ystafelloedd Dosbarth. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 50, neb yn ymatal, yn erbyn 38. Mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl Reform UK - Defnyddio ffonau symudol mewn ystafelloedd Dosbarth. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 50, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM9342 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar ganllawiau statudol ynghylch cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion ac yn cydnabod pwysigrwydd ystyried yr ystod lawn o farn rhanddeiliaid cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y canllawiau.

2.  Yn cefnogi dull gweithredu Llywodraeth Cymru o osod disgwyliadau cenedlaethol clir ar gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol gan alluogi ysgolion i weithredu polisïau sy'n adlewyrchu eu hamgylchiadau lleol ac anghenion dysgwyr unigol, gan gynnwys pan fo angen eu defnyddio am resymau meddygol neu addysgol.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 51, neb yn ymatal, yn erybyn 36. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Dadl Reform UK - Defnyddio ffonau symudol mewn ystafelloedd Dosbarth. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 51, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Symudwn nawr at bleidleisio ar eitem 7, dadl Reform UK. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 38, neb yn ymatal, yn erbyn 50. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

18:35

Eitem 7. Dadl Reform UK - Canllawiau ar sut i gydymffurfio â diffiniad cyfreithiol rhyw. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 50, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 50, neb yn ymatal, yn erbyn 38. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl Reform UK - Canllawiau ar sut i gydymffurfio â diffiniad cyfreithiol rhyw. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 50, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM9343 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi dyfarniad y Goruchaf Lys yn achos For Women Scotland Ltd v Gweinidogion yr Alban ynghylch y dehongliad o ryw yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

2. Yn nodi bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn parhau i ddiogelu pobl rhag gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd.

3. Yn nodi mai’r Cod Ymarfer statudol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r canllaw cyfreithiol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer cyrff cyhoeddus mewn perthynas â chydymffurfio â dyfarniad y Goruchaf Lys.

4. Yn nodi nad yw canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru yn ofynnol felly.

5. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydymffurfio â’i dyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010, a’i disgwyliad bod cyrff cyhoeddus perthnasol sy’n gyfrifol am wasanaethau datganoledig yn gweithredu’n gyson â’r gyfraith ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau yn eglur, yn urddasol a chan ddangos parch at bawb yr effeithir arnynt.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 50, neb yn ymatal, yn erbyn 38. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl Reform UK - Canllawiau ar sut i gydymffurfio â diffiniad cyfreithiol rhyw. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 50, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer

Ar y ddadl fer, nid oes pwnc wedi'i gyflwyno, felly daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:37.