Y Cyfarfod Llawn
Plenary
07/10/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso i'r Siambr. Eitem 1 ar yr agenda, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal. Cwestiwn 1, Anna Nicholl.
1. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi gofal integredig mewn ardaloedd gwledig? OQ64669
Diolch am y cwestiwn. Yn unol â'n hymrwymiad ni yn y rhaglen lywodraethu, mae ein fframwaith system gofal cymunedol integredig yn dod â phartneriaid o'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, tai a'r trydydd sector ynghyd i edrych ar anghenion lleol. Drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol a'r gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso, rydyn ni’n cefnogi gwasanaethau ataliol, gofal yn agosach at y cartref a chanolfannau lles integredig, gan gynnwys mewn cymunedau gwledig.
Diolch. Weinidog Cabinet, dwi eisoes wedi codi pa mor bwysig yw canolfannau gofal integredig wrth ddarparu gofal yn agosach i gartref. Ond gall system integredig ddim llwyddo heb isadeiledd gofal sylfaenol cynaliadwy. Yn rhy aml, mae meddygfeydd yn gweithio o hen adeiladau sydd ddim wedi eu dylunio ar gyfer gwasanaethau rydym ni bellach yn ei disgwyl. Ac mae fy etholwyr yn cysylltu nid yn unig ynglŷn â'r anhawster o gael apwyntiad meddyg, ond am feddygfeydd yn cau i lawr yn gyfan gwbl. Dwi wedi clywed y gofidion yma gan etholwyr yn Nhyddewi, Cei Newydd, Solfach, Doc Penfro, ac ar draws Ceredigion Penfro. O ystyried ymrwymiad y Llywodraeth i atal a lleihau pwysau ar ysbytai, ydy'r Gweinidog Cabinet yn cytuno y dylid gweld buddsoddiad mewn gofal sylfaenol fel rhan greiddiol o ofal integredig?
Diolch. Ddirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn fanna o ran rôl gofal integredig yn agosach i gartref ac, wrth gwrs, dyna rydym ni'n trio ei wneud ar hyn o bryd. Mi rydyn ni wedi delifro ar yr ymrwymiad a wnaethom ni yn ystod y 100 diwrnod cyntaf er mwyn cael y byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau er mwyn sifftio'r adnoddau i'r gymuned—0.5 y cant o'r ariannu blynyddol yna ydy'r gofyniad, ac maen nhw'n dod â chynlluniau ger fy mron i cyn bo hir. Dwi wedi ei wneud yn glir mai'r disgwyliad ydy eu bod nhw'n gwneud hynny yn fuan.
Un o'r ymrwymiadau wnaethom ni yn y rhaglen lywodraethu, os ydych chi'n cofio, Ddirprwy Lywydd, ydy sicrhau bod mwy o ofal integredig yn cael ei ddelifro yn agosach i gartref er mwyn sicrhau gofal yn agosach i gartref, gofal ataliol yna, mwy o gefnogaeth diagnosis cynt, ac atal pobl rhag mynd i'r ysbyty. Felly, mae hynna'n rhan ganolog o'r hyn rydym ni'n ei wneud.
Mi ydyn ni wedi sicrhau bod yna ddatblygiad yn mynd i fod yn sir Benfro, yn ardal yr Aelod, gydag arian cyfalaf o £1.6 miliwn yn cael ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn datblygu cynllun busnes ar gyfer canolfan o'r fath yn Abergwaun, a dwi'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau yn dod ger fy mron. Byddwn i'n hapus i gadw'r Aelod yn wybyddus o beth sy'n digwydd os ydy hi'n dymuno. Diolch.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro achosion lle mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn canslo cludiant cleifion nad yw’n gludiant brys ar fyr rybudd yn Sir Fynwy Torfaen? OQ64614
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Benjamin Hodge Mckenna.
Llefarydd Llafur Cymru, Ken Skates.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar.
3. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod? OQ64635
Diolch, Vikki. That's also a really timely and important question, and I agree utterly with what you said there, that the devastation and grief that a parent, a family, goes through can never be defined by something arbitrary like a calendar.
I think that there are many ways in which we can ensure, whether that is—. I'd be interested to see what we can do in terms of signs, and things like that, in areas of hospital wards. But I think that's a really important challenge, actually, and I'd like to go away and think a bit more about how we can use every possible opportunity to ensure that families know that that is there. Because there's no point in it being there if—. This theme comes up very often in the Chamber. If people don't know it's available, then what on earth is the point of it being there in the first place? I'll take that challenge. Thank you for raising that to see how we can use every opportunity to make sure families know about it. Diolch, Vikki.
Dwi'n moyn rhoi ar y cofnod fy mod i'n estyn fy nghariad tuag at unrhyw riant neu deulu estynedig sydd wedi delio â hwn. Wythnos diwethaf, mynychais uwch-gynhadledd Colli Babi a Thu Hwnt yma yn y Senedd, a drefnwyd gan Better Maternity Cymru. Hoffwn gydnabod yr ymgyrchwyr, yr elusennau a'r bydwragedd profedigaeth a oedd yn bresennol o fy etholaeth fy hun, gan gynnwys Danika o William's Embrace, Jade o Sefydliad Mitchell a Ruth o Sands Merthyr. Mae llawer ohonynt yn rhieni mewn profedigaeth eu hunain ac yn defnyddio eu profiad personol a'u harbenigedd i wella'r gofal a ddarperir i deuluoedd eraill.
Rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i wella gofal mamolaeth a gofal profedigaeth, a'n huchelgais ar y cyd i sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Wrth wrando ar rieni a gweithwyr proffesiynol, daeth yn amlwg pa mor bwysig yw sicrhau bod gan y rhai sy'n cefnogi teuluoedd yr adnoddau sydd eu hangen i barhau â'r gwaith hwn. Mae bydwragedd profedigaeth yn darparu gofal arbenigol hanfodol a chymorth parhaus, ond lle mae'r gwaith hwn yn gyfrifoldeb ar un unigolyn neu ddau unigolyn yn rhannu'r un swydd, mae capasiti yn gyfyngedig.
Allwn ni gael y cwestiwn, plis? Sori.
Wrth gwrs. A all y Gweinidog nodi sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn darparu cymorth profedigaeth cyson o ansawdd uchel, gan sicrhau lefelau staffio a chapasiti bydwragedd profedigaeth safonol, fel bod pob teulu yn cael profiad cyson o'r un safon ym mhob cwr o Gymru? Diolch yn fawr. Sori am fynd dros amser.
Diolch am hwnna, Sara, ac ymddiheuriadau unwaith eto fy mod i'n gorfod cael fy nghefn tuag atoch chi pan dwi'n eich ateb chi. Fel roedd Sara'n dweud, byddwn i eisiau estyn fy nghariad innau hefyd at y rhieni hynny sydd yn gwylio, ac i ddiolch i drefnwyr nid yn unig y digwyddiad mae Sara wedi sôn amdano, ond trefnwyr digwyddiadau dros Gymru sydd yn digwydd ac sy'n rhoi cymaint o gefnogaeth i rieni sydd yn dioddef.
4. A wnaiff y Gweinidog Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â chlefydau cardiofasgwlaidd yn Afan Ogwr Rhondda? OQ64659
5. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i wella cyfathrebu rhwng sefydliadau'r GIG a chleifion ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg a ledled Cymru? OQ64657
6. Pa gamau y mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd i ddatgarboneiddio'r sector iechyd a gofal? OQ64662
7. A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau'r Llywodraeth i ddatblygu hybiau llawfeddygol? OQ64654
Y cwestiwn olaf, cwestiwn 8, John Davies.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch seilwaith digidol a data y GIG? OQ64658
The Welsh Government works with Digital Health and Care Wales and all NHS bodies to protect digital infrastructure and patient data. National monitoring, independent assurance, clear legal duties, incident response and improvement plans support a defend-as-one approach, while continued investment strengthens resilience, workforce capability and accountability across NHS Wales.
Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Symudwn nawr at eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Lleol, Tai a Chynllunio. Cwestiwn 1, John Davies.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o ddigonolrwydd mecanweithiau atebolrwydd ar gyfer datblygwyr tai? OQ64667
Prynhawn da. Rydyn ni'n credu y dylai cartrefi fodloni'r safonau disgwyliedig, fod yn ddiogel ac o ansawdd da ar y diwrnod y mae unigolion neu deuluoedd yn symud i'w cartref newydd. Rhaid i berchnogion tai allu cael mynediad at drefniadau effeithiol a syml. Os oes angen datrys problem, rhaid i ddatblygwyr, darparwyr gwarant, asiantau rheoli a chwmnïau rheoli i gyd chwarae eu rhan i fod yn atebol am eu gwasanaethau.
Diolch yn fawr am dynnu sylw at y mater pwysig yma. Hoffwn i ymuno efo chi yn canmol cymdeithas trigolion Swansea Point. Mi ges i'r pleser o gwrdd ag un o'u cynrychiolwyr nhw bythefnos yn ôl, a dwi'n cofio yn glir ei ddisgrifiad o o'r straen a'r sefyllfa hynod rwystredig mae lesddeiliaid Swansea Point wedi profi ers rhagor na 18 mis. Diolch hefyd am groesawu grant larymau mesur interim Cymru. Roeddwn i'n falch o allu cynnig rhywfaint o gysur o leiaf i'r cynrychiolydd o Swansea Point a ddaeth i mewn i'n gweld ni—rhywfaint o gysur iddo fo a lesddeiliaid eraill Swansea Point a rheini ledled Cymru sy'n wynebu biliau echrydus am fesurau interim tra bod gwaith cyweirio rhag tân yn cael ei wneud. Mae'r grant ar agor i geisiadau, felly dwi'n annog pobl i edrych ar hynny.
O ran eich cwestiwn pwysig am atebolrwydd datblygwyr yn yr holl faes diogelwch adeiladau, mi wnes i gwrdd efo nhw i gyd, yr holl ddatblygwyr sydd wedi arwyddo contract Llywodraeth Cymru. Mi wnes i gyfarfod â nhw bythefnos yn ôl. Roeddwn i'n hollol glir efo nhw yn y cyfarfod yna bod angen cyflymu'r gwaith cyweirio. Mi wnes i eu rhybuddio nhw yn y cyfarfod hwnnw y byddwn i'n rhoi adroddiad cynnydd i chi yma yn y Senedd yn y flwyddyn newydd. Dwi'n edrych ymlaen at gael yr adroddiad cynnydd yna. Mi fydda i'n fwy na pharod i enwi unrhyw ddatblygwyr sydd ddim yn gwneud eu dyletswydd i gyweirio yn unol â'r contract, yn unol â'r disgwyliad bod y gwaith yn dechrau cyn diwedd y flwyddyn yma. Os nad ydyn nhw wedi cyrraedd y sefyllfa yna, mi fydd yn rhaid i fi enwi pobl yn y Siambr yn fan hyn.
Diolch yn fawr iawn. Dydw i ddim yn gyfarwydd â'r enghraifft benodol yna, ond mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol gynllunio ar gyfer darparu'r seilwaith sydd ei angen i ddiwallu anghenion cymunedau pan fydd datblygiadau tai newydd yn cael eu hystyried. Felly, mae hi yn ofyniad ar awdurdodau lleol i edrych ar y seilwaith. Mae seilwaith digonol ac effeithlon, gan gynnwys y mathau o bethau rydych chi'n sôn amdanyn nhw, yn hanfodol i ddarparu datblygiadau tai newydd sydd yn diwallu'r anghenion ar gyfer y preswylwyr presennol, a hefyd i'r dyfodol.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna a diolch yn fawr iawn i chi am y gwaith rydych chi'n ei wneud ac yn parhau i wneud yn eich etholaeth chi. Dwi'n gyfarwydd, fel Aelod lleol, â'r math yma o sefyllfa hefyd, o ran y datblygiadau yma ddim yn cael eu cwblhau'n briodol, ac yn enwedig y mater yma o lonydd ddim yn cael eu mabwysiadu'n iawn a'r gwaith ddim yn cael ei orffen ar amser, ac weithiau ddim yn cael ei orffen i'r safon angenrheidiol chwaith. Mae'r Llywodraeth yma yn awyddus iawn i weithio efo chi ac efo Aelodau eraill i geisio mynd i'r afael â'r broblem yma. Yn sicr, mi fyddwn i'n hoffi cael sgwrs efo chi ymhellach, i weld os oes gennych chi syniadau penodol ynglyn â sut i gael y maen i'r wal yn gynt yn yr achosion yma.
2. Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ym Mhontypridd Cynon Merthyr? OQ64660
Diolch am y cwestiwn. Rydyn ni’n cefnogi aelwydydd ledled Pontypridd Cynon Merthyr i wella perfformiad eu cartrefi o ran ynni, gwella safonau byw, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon. Dwi wedi dyrannu £17 miliwn o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn yma i hybu hyn ledled Cymru, gan gynnwys o leiaf £1.6 miliwn o fuddsoddiad yn eich etholaeth chi.
Diolch, Weinidog Cabinet. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru ynghylch cartrefi cynnes ac effeithlonrwydd ynni. Gwyddom fod cartref cynnes, diogel a fforddiadwy yn sylfaenol i fywyd iach a hapus, ac eto mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn her sylweddol mewn cymunedau ledled Pontypridd Cynon Merthyr. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi nodi bod tua 65 y cant o gartrefi yn ynni aneffeithlon, sy'n adlewyrchu'r stoc dai hŷn yn yr ardal, tra bod tlodi tanwydd yn parhau i effeithio'n anghymesur ar deuluoedd incwm isel, pobl anabl a phreswylwyr hŷn. Sut y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru o fudd i aelwydydd ym Mhontypridd Cynon Merthyr yn benodol? A pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau y bydd y gwaith o wella effeithlonrwydd ynni yn helpu i ostwng biliau ynni, gwella iechyd a lles pobl a sicrhau gostyngiad parhaol mewn tlodi tanwydd? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am amlinellu mwy am eich cwestiwn yn y fanna. Tra bod rhai o'r cynlluniau sydd yn bodoli'n barod wedi dod â rhai deilliannau positif—rydym ni i gyd yn gwybod am rai enghreifftiau da lle mae cynlluniau ynni effeithiol wedi creu gwahaniaeth mawr ac wedi llwyddo i ddod â biliau i lawr i bobl—mae yna lot mwy i wneud, ac mae yna ormod o dai yn parhau i fod yn aneffeithiol ac felly efo biliau sydd yn llawer iawn rhy uchel. Mewn argyfwng costau byw, mae'n hollbwysig ein bod ni'n rhoi sylw penodol i hynny i gyd.
Ar hyn o bryd, efallai nad ydy pobl yn hollol siŵr pa ddulliau o wella effeithlonrwydd yn eu cartrefi nhw sydd orau ar gyfer eu cartrefi nhw. Dŷn nhw ddim yn gwybod lle i fynd i gael cyllid na pha gontractwyr i ddefnyddio yn lleol chwaith. Ond dwi yn benderfynol o gael gwared ar y rhwystrau yma, fel bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n hyderus i fedru buddsoddi mewn uwchraddio eu cartrefi i fod yn llawer mwy effeithiol o ran ynni, tra hefyd, wrth gwrs, mae yna gynlluniau ar gyfer cartrefi sydd ar incwm isel. Mae cartrefi Nyth, Nest, wedi profi'n llwyddiannus yn hynny o beth. Ond dŷch chi'n sôn am ehangu, onid ydych, i mewn i gynlluniau ar draws ardaloedd ac ar draws gwahanol denantiaethau, ac mae hwnna'n ganolog i'r gwaith dŷn ni'n ei ddatblygu rŵan o fewn y Llywodraeth. A dwi'n awyddus i'r broses orau oll ar gyfer cymunedau gael ei rhoi ar waith, a dyna pam y byddaf yn gweithio—wel, dwi yn ar hyn o bryd—efo partneriaid i fod yn meddwl ymlaen am y rhaglen sydd angen dod ymlaen.
Roeddwn i'n sôn am fuddsoddiad newydd, ac yn rhan o'r buddsoddiad newydd, mae yna £4 miliwn wedi cael ei neilltuo i gefnogi cynlluniau peilot, sydd yn edrych ar fodelau ar sail ardal. Ac mae yna un yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn symud ymlaen. Mae ceisiadau ar agor ar gyfer y cynllun peilot yma i awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a chyrff llywodraethu rhanbarthol. Mae'r pot yna o arian ar agor tan 14 Hydref, a dwi'n annog unrhyw sefydliad cymwys i wneud cais i gymryd rhan yn y peilot yma.
Galwaf nawr ar lafarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Francesca O'Brien.
Llefarydd Llafur Cymru, Jayne Bryant.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. A dwi’n cofio pan ddaeth y cynllun yma i mewn, ac, ar y pryd, roedd o’n cael ei ddisgrifio fel cynllun pum mlynedd a oedd efo pwrpas penodol o fedru dod â mwy o dai i fyny i safon fel eu bod nhw’n gallu cael eu defnyddio i helpu efo’r sefyllfa ddigartrefedd.
Mae’r cynllun i ddod i ben yn fuan, ond mae’r eiddo sydd o fewn y cynllun yna’n barod a’r ceisiadau sydd o fewn y pipeline yna yn dal i fodoli. Y gwir amdani ydy bod y cynllun yna wedi dod â phwrpas iddo fo, ac o fewn y cyfyngiadau ariannol y mae’r Llywodraeth yma’n eu hwynebu, mae o’n un o’r pethau dŷn ni’n edrych arno fo o ddifrif rŵan, ynglŷn â dyfodol y cynllun.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. Fel mae'n digwydd, dwi'n mynd i fod yn cyhoeddi yfory gyllid ychwanegol ar gyfer nifer o drefi, ac un ddinas, yng Nghymru o dan gyllid Transforming Towns. Felly, mae'r cyllid yna wedi bod yn fodd arbennig o effeithiol o fedru caniatáu i drefi a dinasoedd wella canol eu trefi.
Ar hyn o bryd, dŷn ni wedi, fel dŷch chi'n gwybod, sefydlu'r tasglu sydd yn edrych ar bob agwedd o'r hyn sydd angen ei wneud wrth inni ailddychmygu canol ein trefi. Roeddech chi'n gofyn beth fydd cwmpas gwaith y tasglu. Bydd y tasglu yn edrych ar bopeth, yn mynd ar draws ffiniau traddodiadol, efallai, ond yn dod â phopeth at ei gilydd, o ran cynllunio, o ran trethi busnes, o ran canfod cyfalaf ychwanegol—yr holl faterion yna.
Mae'r tasglu wedi cyfarfod. Mi wnes i fynd atyn nhw ar ddechrau eu cyfarfod nhw yr wythnos diwethaf. Yr adborth dwi wedi ei gael o'r cyfarfod yna ydy eu bod nhw wedi bod wrthi drwy'r dydd yn adnabod y themâu pwysig yma sydd angen eu rhoi ar waith. Fy neges i ar ddechrau eu cyfarfod nhw oedd hyn: dwi ddim eisiau i chi ddisgrifio'r broblem i fi, dwi ishio ichi ddod â datrysiadau. Dwi ishio ichi ddod ag argymhellion clir ymlaen o beth fedrwn ni ei wneud fel Llywodraeth yng Nghymru. Mae rhai materion—yn ymwneud efo'r economi ac ati—y tu hwnt i'n gallu ymarferol ni yn fan hyn. Felly, roeddwn i'n rhoi'r pwyslais yn glir ar beth fedrwn ni ei wneud yng Nghymru i wella'r ffordd y mae canol ein trefi ni'n datblygu ac i roi bywyd newydd iddyn nhw.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox.
Diolch am y cwestiwn. Yn ein rhaglen lywodraethu ni, fe welwch chi fod yna ymrwymiad yn y fan yna i ddiwygio'r system gynllunio, i wneud y system gynllunio yn fwy atebol i gymunedau, a hefyd i weld sut y medrwn ni gyflymu'r broses o ganiatâd cynllunio a thynnu rhai o'r rhwystrau oddi yno. Felly, mae cynllunio yn faes allweddol, a dŷn ni'n cydnabod bod ganddo fo rôl allweddol o ran cyflawni nifer o bolisïau eraill—tai yn enwedig.
Ond hefyd, mae cynllunio yn medru ein helpu ni i fynd i'r afael â gwrthdaro rhwng polisïau, lle mae'n codi. Felly, dwi'n grediniol fod angen i ni roi sylw penodol i hyn. Dwi wedi cyhoeddi yr wythnos diwethaf ein bod ni'n ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. O dan hwnna mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gorwedd. Mi fyddaf i hefyd yn gwneud galwad am dystiolaeth o gwmpas sut y medrwn ni'n wirioneddol symud ymlaen efo'r hyn rydyn ni'n cytuno efo'n gilydd arno fo, sef yr angen i ddiwygio ymhellach y system gynllunio. Mi fyddwn i wrth fy modd petaech chi yn dod â rhai o'ch syniadau ymlaen, o gwmpas 106, yn sicr, ond am faterion eraill hefyd. Dwi'n annog pawb yn y Siambr yma sydd efo syniadau ar sut i wneud y system yn fwy atebol i ddod â syniadau ymlaen.
Diolch i chi am y cwestiwn. Dwi am gymryd y cyfle i ddiolch unwaith eto i'n diffoddwyr tân ni, i'r heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru, cymunedau a'r asiantaethau i gyd a wnaeth weithio mor, mor galed yn ystod y tanau gwyllt dros yr haf. Cefais i gyfle i fynd yn uniongyrchol i sefyllfa anodd iawn, iawn a gweld y diffoddwyr tân wrthi mewn amgylchiadau anodd iawn yn ceisio diffodd y fflamau.
Rydych chi'n hollol iawn, mae'r gwaith ataliol sydd yn digwydd drwy'r gwasanaethau tân ac achub yn holl, holl bwysig. Maen nhw'n mynd i mewn i'n hysgolion ni ac mae ganddyn nhw wasanaeth cymunedol. Nid Llywodraeth Cymru sy'n ariannu'r gwasanaeth tân ac achub, wrth gwrs. Jest i'ch atgoffa chi, ar 22 Hydref, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal uwchgynhadledd, summit, am y tanau gwyllt. Bydd y Prif Weinidog yn cadeirio hwnnw ac mi fyddaf i a'r Gweinidogion eraill a fuodd ynghlwm wrth yr holl danau gwyllt dros yr haf yn rhan o'r summit yna. Yn sicr, mae yna themâu pwysig i'w trafod yn sgil y tanau a ddigwyddodd. Mae angen cynllunio yn ofalus ar gyfer y ffordd ymlaen, gan gynnwys y ffordd ymlaen ar gyfer y gwasanaethau tân ac achub. Diolch.
Diolch. Mi wnaf i gadw hwn yn fyr.
3. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gwella gwaith ymgysylltu â'r gymuned ar gynlluniau datblygu lleol? OQ64665
Dwi wedi ymrwymo i ymgysylltu'n fwy effeithlon â'r gymuned am y broses cynlluniau datblygu lleol. Mi fyddaf i’n dechrau sgwrs cyn hir ar sut i ailddychmygu cynlluniau datblygu lleol fel eu bod nhw'n adlewyrchu dyheadau ein cymunedau'n well. Fe fydd ymgynghoriad ar opsiynau a chynigion ar gyfer newid yn dilyn maes o law.
Diolch yn fawr iawn i chi, Marc, ac i Carrie Harper sy'n eistedd drws nesaf i chi. Dwi'n gwybod am y gwaith pwysig wnaethoch chi ei wneud yn ystod yn cyfnod yna, a ddylai neb, byth eto, fod yn wynebu carchar ac yn wynebu'r math yna o sefyllfa am fod yn llais i ddemocratiaeth yn lleol. Felly, dwi'n gobeithio eich bod chi'n cymryd hynny a bod pawb yn deall pwysigrwydd y neges yna.
Mae hi'n bwysig, wrth i'r LDP newydd gael ei chreu, bod gwersi o'r profiad blaenorol yn cael eu dysgu, gan adeiladu ar yr hyn wnaeth weithio ac yn edrych yn benodol ynglŷn â beth wnaeth ddim gweithio fel bod y plan newydd yn ennyn mwy o gefnogaeth a mwy o hyder ymhlith y cymunedau, ac yn rhoi sylfaen gref ar gyfer dyfodol Wrecsam.
Gan fod gen i bwerau o fewn y broses LDP, fedraf i ddim cymryd rhan uniongyrchol yn y broses o ddatblygu'r cynllun newydd yma, ond dwi'n hapus i roi cefnogaeth ymarferol i'r broses yna, a buaswn i'n hapus iawn i gyfarfod efo chi i glywed sut ydych chi'n meddwl y gall yr ymgysylltu cymunedol yna weithio. Mae'r Design Commission for Wales hefyd yn gallu bod o gymorth, ac mi fyddaf i'n cyfarfod efo nhw yr wythnos nesaf, felly mae'n siŵr bod yna syniadau yn fanna hefyd y gallwn ni eu cymryd i fyny.
Diolch yn fawr iawn. Mae hi'n bwysig bod y broses o greu cynllun lleol yn cynnwys pawb, onid ydy, ac anghenion pawb o fewn y gymdeithas yna. O brofiad personol, o fod yn rhan o ddatblygu cynllun datblygu lleol yn fy mhentref i, roedd y broses o ymgysylltu efo'r gymuned gyfan a dangos i'r gymuned gyfan fod yna anghenion tai, er enghraifft, yn y gymuned honno, roedd hynny'n sicrhau bod gennym ni gynllun a oedd yn gadarn ar gyfer y dyfodol. A phan ddaeth cynlluniau tai ymlaen a oedd yn rhai cymesur—ac, wrth gwrs, dyna ydy'r broblem, onid e, dydyn nhw ddim bob tro yn gymesur—ond pan oedd cynlluniau yn dod ymlaen oedd yn gymesur efo maint y pentref ond hefyd efo'r angen lleol, doedd yna ddim cwyno amdano fo. Felly, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cynnwys pawb, gan gynnwys y lleisiau hynny sydd ddim yn cael eu clywed. Rydw i'n meddwl bod gennym ni fel cynghorwyr lleol le i arwain a bod yn llais i'r anghenion yna sydd yn aml yn cael eu hanghofio.
4. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran ei chynlluniau i amddiffyn hawliau rhentwyr? OQ64622
Mae cryfhau hawliau tenantiaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth yma. Mae rhentwyr yn haeddu cartref diogel, cynnes a fforddiadwy, ac fe ddylen nhw deimlo'n hyderus yn herio amodau gwael. Mae newid cadarnhaol yn gofyn am gyfraith dda, a bydd cam cyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol yn amddiffyn tenantiaid yn well, yn mynd i'r afael â landlordiaid gwael ac yn gwneud rhentu yn fwy diogel.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Mae'r sector rhentu preifat yn chwarae rhan hanfodol yn ein system dai ni, efo tua un rhan o chwech o aelwydydd yn rhentu, ac felly mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi sylw penodol i bobl sydd yn wynebu costau cynyddol yn y rhent ac felly yn eu costau byw. Mi ydym ni, fel Llywodraeth, yn bwriadu gwneud hyn fesul cam. Fe fyddwch chi'n sylweddoli mai Llywodraeth leiafrifol ydym ni, ac felly efallai fydd yr uchelgais yr ydych chi a fi yn ei rannu ddim yn mynd i fod yn bosib yn llwyr, ond dwi'n benderfynol o wella amodau ar gyfer rhentwyr. Y Bil rhentwyr cyntaf fydd y cam cyntaf mewn rhaglen fydd yn datblygu wrth i ni symud ymlaen. Mi fydd y Bil rhentwyr cyntaf yn ein galluogi ni i gasglu'r data angenrheidiol sydd ei angen ar gyfer gweld beth yn union ydy'r sefyllfa rhentu ar draws Cymru mewn gwahanol ardaloedd. Bydd hwnna wedyn yn rhoi sylfaen i ni adeiladu arni ar gyfer ail a thrydydd Bil. A'r nod yn y pen draw, wrth gwrs, ydy ein bod ni'n rhoi mewn cyfraith yng Nghymru yr hawl i gartref digonol, a bod hwnna'n rhan bwysig o gyfraith a deddfwriaeth yng Nghymru.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gofynion ansawdd datblygu ar ddarpariaeth tai? OQ64666
Mae gofynion ansawdd datblygu Cymru yn sicrhau bod cartrefi cymdeithasol newydd yn darparu amgylchedd lle gall aelwydydd ffynnu, ac sy'n addasu i'w hanghenion newidiol. Mae gennym ni gyflenwad cryf o dai sy'n bodloni'r safonau yma, gan ddarparu cartrefi sy'n gynaliadwy, yn fforddiadwy i'w rhedeg, gan helpu i greu cymunedau bywiog ledled Cymru.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod seilwaith yn cadw i fyny â thwf tai? OQ64672
Diolch. Mae'r polisi cynllunio yn nodi bod angen i awdurdodau cynllunio lleol gefnogi'r gwaith o ddarparu pob math o seilwaith sydd ei angen i ddiwallu anghenion cymunedau pan fydd datblygiadau tai newydd yn cael eu hystyried.
Gweinidog Cabinet.
Fel rydych chi'n dweud, mi ddylai hynna fod yn digwydd, a dwi yn cyd-fynd efo lot o'r hyn roeddech chi'n ei ddweud ar hyn. Mi ddylai awdurdodau cynllunio, ar y cyd â darparwyr allweddol, gymryd agwedd strategol a hirdymor tuag at ddarparu seilwaith wrth lunio cynlluniau. Gall hynny, wrth gwrs, gynnwys cydweithio rhwng awdurdodau lleol a darparwyr seilwaith allweddol i sicrhau bod hwnnw'n gynaliadwy ac yn addas i ddiben. Felly, mae fy neges i'n glir, ond, wrth gwrs, gwaith yr awdurdodau lleol ydy creu'r cynlluniau datblygu lleol. Dwi yn meddwl y dylai pob un ohonom ni gymryd llawer mwy o sylw pan fo'r cynlluniau datblygu lleol yma yn cael eu creu, ac yn cymryd rhan yn y broses fel Aelodau o'r Senedd, fel cynghorwyr, fel cynghorwyr cymuned, fel ein bod ni, ein llais ni, ynglŷn â seilwaith ac ynglŷn â materion eraill, yn cael ei glywed.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith adeiladu tai yng Ngŵyr Abertawe? OQ64671
Diolch. Mae Cyngor Abertawe wedi cael dros £38 miliwn o'r grant tai cymdeithasol a £9.5 miliwn drwy raglen gyfalaf llety trosiannol eleni yn unig. Efo'i gilydd, bydd hynna yn cyfrannu at ddarparu 541 o gartrefi ychwanegol ar draws y tymor seneddol hwn.
Dwi jest yn mynd i ddweud unwaith eto fod tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu yn ôl angen, ddim yn ôl cenedligrwydd. Pan ydych chi'n defnyddio y term 'foreign nationals', dwi ddim yn siŵr yn union beth rydych chi'n cyfeirio ato fo yn fanna. Mae 'foreign nationals' yn cynnwys pobl, teuluoedd, plant, sydd yn gweithio yn ein NHS ni, sydd yn gweithio yn ein cartrefi gofal ni, sydd yn dreifio'n bysys ni, sydd yn gwneud gwaith arbennig, gwaith pwysig sydd angen ei gyflawni yma yng Nghymru. Mae eu hanghenion nhw ar gyfer tai cymdeithasol yn cael eu hystyried yn union yr un fath ag anghenion pawb arall. Mae pawb sydd yn byw yng Nghymru yn haeddu cael cartref digonol, waeth beth ydy eu cenedligrwydd nhw, waeth beth fo'u cefndir nhw neu waeth beth fo'u rhywedd nhw. Mae pawb sydd yn byw yng Nghymru yn haeddu cael tŷ cymdeithasol.
8. Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i gyflymu'r gwaith o brosesu ceisiadau cynllunio gan awdurdodau lleol? OQ64640
Diolch yn fawr. Mae yna dipyn o ddiddordeb yn hyn heddiw. Rhaid i’n system gynllunio ni weithredu mewn modd amserol, ond rhaid iddi hefyd, wrth gwrs, wneud penderfyniadau cadarn i gyflawni ein huchelgeisiau ni ar gyfer Cymru, yn arbennig o ran yr economi a chymunedau. Dyna pam mae ein rhaglen lywodraethu ni yn ein hymrwymo ni i ddiwygio’r system gynllunio.
Diolch, Weinidog Cabinet.
Symudwn yn awr at eitem 3, cwestiynau amserol. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Eitem 4 nesaf, datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Elwyn Vaughan.
Diolch, Lywydd. 'Go, Elfyn, go': dyna oedd y gri wythnos yma ym mhentref Dinas Mawddwy, ac ar hyd a lled Cymru y benwythnos hon. Wrth i genedl gyfan ddal eu gwynt, croesi bysedd a gwylio pob car a phob cornel, daeth y freuddwyd yn realiti yn haul Sardinia: Elfyn Evans a Scott Martin, pencampwyr ralio’r byd. Llongyfarchiadau iddynt. Ac am ddiweddglo. Ar ôl blynyddoedd o ddod mor agos—ar ôl boddi wrth y lan dro ar ôl tro ar ôl tro—am bleser oedd hi o’r diwedd gweld Elfyn yn codi’r tlws arbennig, a hynny o dan yr amgylchiadau mwyaf dramatig posib.
A thra mor felys fu’r fuddugoliaeth, am wych oedd gweld y ddrama’n datblygu’n fyw ar S4C, gan ganiatáu i genedl gyfan rannu’r cyffro, y nerfau a’r dathlu drwy gyfrwng y Gymraeg. 'Drama yn y diwedd' ebychodd sylwebydd Ralio, Howard Davies, geiriau sydd bellach wedi eu clywed ledled y byd.
Llongyfarchiadau mawr, Elfyn, Cymro a'r Prydeiniwr cyntaf i gyflawni’r gamp ers chwarter canrif. Rydym i gyd mor falch o dy lwyddiant haeddiannol—neb llai, wrth gwrs, na dy dad, Gwyndaf, yntau’n gyn-bencampwr rali Prydain, ac sydd wedi dy ddilyn ar hyd y daith. O Ddinas Mawddwy i binacl y byd—am stori, am dymor, ac am fuddugoliaeth. Y Cymro balch o wlad y Gwylliaid bellach yn bencampwr y byd. Diolch.
Diolch, bawb.
Cynnig NNDM9315 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Art Wright, Gareth Beer
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Gareth Beer (Reform UK) yn lle Helen Jenner (Reform UK) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon.
Cynnig NNDM9316 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Art Wright, Gareth Beer
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Laura Anne Jones (Reform UK) yn lle Gareth Beer (Reform UK) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig.
Cynnig NNDM9318 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Art Wright, Gareth Beer
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Gareth Thomas (Reform UK) yn lle John Clark (Reform UK) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Ynni a Chysylltedd.
Cynnig NNDM9319 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Art Wright, Gareth Beer
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Clark (Reform UK) yn lle Laura Anne Jones (Reform UK) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Cynnig NNDM9322 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Art Wright, Gareth Beer
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Benjamin Hodge Mckenna (Reform UK) yn lle Gareth Thomas (Reform UK) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cynnig NNDM9323 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Art Wright, Gareth Beer
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Llŷr Powell (Reform UK) yn lle Joe Martin (Reform UK) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
Cynnig NNDM9324 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Art Wright, Gareth Beer
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Iain McIntosh (Reform UK) yn lle Cai Parry-Jones (Reform UK) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
Cynnig NNDM9325 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Art Wright, Gareth Beer
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Cai Parry-Jones (Reform UK) yn lle Iain McIntosh (Reform UK), a Dan Thomas (Reform UK) yn lle Benjamin Hodge McKenna (Reform UK) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid.
Cynnig NNDM9326 Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan Art Wright, Gareth Beer
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Clark (Reform UK) yn lle Cristiana Emsley (Reform UK), ac Art Wright (Reform UK) yn lle Paul Marr (Reform UK) yn aelodau o Bwyllgor y Cyfansoddiad, Cyfiawnder a Materion Allanol.
Cynigiwyd y cynigion.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn at eitem 5 nawr, cynnig i ddirprwyo awdurdod ar gyfer gwneud y trefniadau i recriwtio comisiynydd safonau newydd i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Galwaf ar Elyn Stephens i wneud y cynnig yn ffurfiol ar ran y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cynnig NDM9308 Lindsay Whittle
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 3 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, a pharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Mesur hwnnw, yn dirprwyo’r gwaith o wneud trefniadau fel y nodir ym mharagraff 1 ar gyfer recriwtio’r Comisiynydd Safonau (ond nid ar gyfer penodi’r person a nodir) i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Symudaf y cynnig yn ffurfiol yn enw Lindsay Whittle.
Diolch yn fawr. Y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn nawr at eitem 6, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol. Galwaf ar Tom Montgomery i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9297 Tom Montgomery, Jane Dodds, Natasha Asghar, Sarah Cooper-Lesadd
Cefnogwyd gan Art Wright, Helen Jenner, Iain McIntosh, John Clark, Louise Emery
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu nad oes Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol (FDAC) wedi bod yng Nghymru ers mis Tachwedd 2023.
2. Yn nodi argymhelliad 35 yn yr adroddiad Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru ym mis Hydref 2019, sef y dylid sefydlu Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru.
3. Yn cydnabod yr argymhelliad yn adroddiad Gwerthusiad o Gynllun Peilot y Llys Cyffuriau ac Alcohol i Deuluoedd yng Nghymru ym mis Mawrth 2024, sef y dylai cynlluniau i ehangu FDAC ymhellach yng Nghymru gael eu datblygu.
4. Yn croesawu’r canfyddiadau o’r treial yng Nghymru:
a) bod rhieni yn hynod gadarnhaol ynghylch eu profiad o fod yn rhan o achos FDAC;
b) bod nifer y rhieni oedd yn camddefnyddio sylweddau ar ddechrau achos FDAC wedi gostwng o 83 y cant i 54 y cant; ac
c) bod nifer y plant oedd yng ngofal un neu’r ddau o’u rhieni wedi mwy na dyblu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithredu’r argymhelliad i fwrw ymlaen â chreu FDACs ledled Cymru;
b) sicrhau bod FDACs yn rhan o strategaeth sy’n helpu i gadw plant allan o ofal; ac
c) dysgu o brofiad y 13 tîm FDAC arbenigol sy’n gweithredu ar hyn o bryd, sy'n gweithio mewn 18 llys ac yn cefnogi teuluoedd mewn 35 awdurdod lleol yn Lloegr.
Cynigiwyd y cynnig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.
Diolch i chi. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A diolch i Tom am ddod â'r ddadl yma gerbron y Senedd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl eithriadol o bwysig yma. Fel pobl eraill, fe wnes i ddilyn datblygiad y cynllun peilot a chael fy hun yn gofyn cwestiynau tebyg i rai o'r cwestiynau sydd wedi cael eu codi heddiw.
Mae'r dystiolaeth i gefnogi'r model yn gryf. Daeth gwerthusiad y cynllun peilot i'r casgliad y dylid ehangu'r ddarpariaeth yng Nghymru, fel rydyn ni wedi clywed. Mae'r profiad o'r llysoedd hyn yn Lloegr yn dangos canlyniadau cadarnhaol tu hwnt. Fe wnaeth comisiwn Thomas hefyd argymell y dylai dulliau datrys problemau gael eu defnyddio fel mater o drefn, ac y dylai llysoedd o'r fath gael eu sefydlu yng Nghymru.
Wrth gwrs, roedd y gwerthusiad hefyd yn nodi bod sawl rhwystr a chymhlethdod yn perthyn i fodel y llysoedd. Mae hynny yn arbennig o wir yng Nghymru oherwydd y cyfuniad o gyfrifoldebau wedi eu datganoli a heb eu datganoli. Fe wnaeth y comisiwn argymell y dylai'r gyfraith sydd yn ymwneud â phlant a chyfiawnder teuluol yng Nghymru gael ei dwyn ynghyd mewn un system gyfreithiol gydlynol sy'n cyd-fynd â swyddogaethau ym maes iechyd, addysg a lles.
Byddai datganoli cyfiawnder yn creu cyfleoedd i gynllunio gwasanaethau o amgylch anghenion Cymru, yn hytrach na dim ond atgynhyrchu trefniadau sydd wedi'u datblygu mewn mannau eraill. Mae'r profiad gyda'r llysoedd hyn yn dangos mai dim ond un ystyriaeth yw effeithiolrwydd, mae'n rhaid hefyd pwyso a mesur cynaliadwyedd, gofynion y gweithlu a chostau cyfle wrth benderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o ddefnyddio adnoddau.
Felly, nid yw hyn yn syml, ond mae gwaith yn mynd yn ei flaen yn y cyd-destun yma. Mae'r model yn gofyn am ymrwymiad gan awdurdodau lleol, y farnwriaeth a'r llysoedd. Mae'n gofyn hefyd am flaenoriaeth gan lawer o wasanaethau, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig ac iechyd meddwl.
So, diolch, Jane, am hwnna. Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi bod atal ac ymyrryd yn gynnar yn ganolog i bob proses o ddatblygu polisi. Rŷn ni am weld system cyfiawnder teuluol sy'n cefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd ac sy'n atal plant, eu rhieni a'u teuluoedd ehangach rhag mynd trwy drawma achosion llys.
Mae llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yn cynnig model o gymorth dwys i deuluoedd pan fydd achosion llys wedi cael eu cychwyn. Ond yng Nghymru, mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 eisoes yn cynnwys model tebyg, sef y gwasanaeth integredig cymorth i deuluoedd. Mae hwnna'n ymyrryd yn gynharach drwy roi cymorth dwys i deuluoedd sydd ag anghenion lluosog. Mae'r model hwn wedi esblygu ac mae yna ffurfiau gwahanol ohono ar gael ar draws Cymru. Felly, rwy'n bwriadu adolygu'r gwasanaeth hwn a chael trafodaeth agored am ba elfennau sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen gweithio yn well. Mae'n amlwg fod rhai o'r rheini.
Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatblygu dull o ddatrys problemau mewn llysoedd teulu. Rŷn ni wedi dangos sut y gallwn ni sbarduno newid drwy gyflwyno llysoedd sy'n canolbwyntio ar y plentyn ledled Cymru, ac mae'r data wedi dangos bod hyn yn llwyddiannus. Fe wnaeth hyn sefydlu ffordd o weithio sy'n rhoi'r plentyn wrth galon y broses ac yn defnyddio dull datrys problemau. Mae hynny'n ein rhoi mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y profiad a'r dysgu hwnnw yn y dyfodol.
Dwi eisiau sicrhau yr Aelodau, Ddirprwy Lywydd, y bydd ein system cyfiawnder teuluol yn parhau i ganolbwyntio ar gadw plant yn ddiogel gyda'u teuluoedd ble bynnag mae hynny yn bosibl. Bydd gwasanaethau yn gweithio gyda'i gilydd i atal anghenion rhag dwysáu ac i helpu teuluoedd i wneud newidiadau y gellir eu cynnal. Pan fydd teuluoedd yn dod i gysylltiad â'r llysoedd, rydyn ni eisiau profiad mwy empathetig sy'n canolbwyntio ar y canlyniadau gorau i'r plentyn.
Wrth gwrs, mae'r cyfrifoldebau hyn yn ymestyn ar draws gwahanol rannau o'r Llywodraeth a bydd angen cyfraniad gan y farnwriaeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd angen manteisio hefyd ar yr hyn sy'n cael ei ddysgu o'r model llys teulu cyffuriau alcohol a theuluoedd sydd â phrofiad uniongyrchol, a dwi'n dod i ben yma. Er bod y newid hwn yn gymhleth, dwi'n credu bod ein partneriaid yn rhannu'r un brwdfrydedd dwi wedi ei glywed ar draws y Siambr y prynhawn yma i gydweithio ac i symud y gwaith hwn yn ei flaen ar frys. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Galwaf ar Tom Montgomery i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Symudaf ymlaen i eitem 7, Reform UK, rygbi rhanbarthol. Galwaf ar Louise Emery i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9312 Llŷr Powell
Cefnogwyd gan Andrew Griffin, John Clark
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Undeb Rygbi Cymru yn diogelu dyfodol pedwar rhanbarth rygbi Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Trefnydd, Prif Chwip, a Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw ei hun.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn parchu’r ffaith bod Undeb Rygbi Cymru yn sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am wneud ei benderfyniadau ei hun.
2. Yn nodi’r drafodaeth a’r ohebiaeth sy’n parhau rhwng Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, lle mae’r Llywodraeth wedi cynrychioli’n gyson sylwadau a phryderon y cefnogwyr, y cymunedau a’r rhanddeiliaid eraill y bydd y cynigion yn effeithio arnynt.
3. Yn cydnabod pryderon gwirioneddol chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr, staff a gwirfoddolwyr y mae penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i leihau nifer y rhanbarthau proffesiynol o bedwar i dri wedi effeithio arnynt.
4. Yn credu bod yn rhaid i benderfyniadau mor arwyddocaol fod yn seiliedig ar ystyriaethau ariannol ac ystyriaethau o ran y gamp a hefyd ar asesiad llawn o’r canlyniadau cymdeithasol, cymunedol ac economaidd.
5. Yn galw ar Undeb Rygbi Cymru i barhau i ymgysylltu mewn modd ystyrlon a thryloyw a chan ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys sylwadau’r cefnogwyr, y cymunedau lleol, y clybiau a’r rhanddeiliaid eraill, wrth iddo ystyried dyfodol y gêm broffesiynol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Cynnig yn ffurfiol, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Dwi eisiau bod yn glir ar y dechrau nad ydw i'n meddwl bod yna unrhyw wahaniaeth barn wedi'i fynegi yn y Siambr hon, ac yn sicr ni fyddaf yn mynegi unrhyw wahaniaeth barn o ran yr hyn sydd wedi'i nodi. Dwi'n rhannu'r pryderon sydd wedi'u mynegi. Dwi wedi gwneud hynny'n glir dro ar ôl tro. Ond os ydym ni'n edrych ar eiriad y cynnig gan Reform, dyna lle mae'r anghytundeb:
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny. Fedraf i ddim rhoi'r sicrhad hwnnw. Dyna rydych chi'n gofyn imi ei wneud: fy mod i'n rhoi'r sicrhad hwnnw. A dyna pam dwi'n credu bod ein gwelliant ni'n adlewyrchu'r hyn rydyn ni wedi'i glywed heddiw, sydd yn creu cytundeb rhyngom ni i gyd. Rydyn ni i gyd eisiau tryloywder. Rydyn ni i gyd yn mynnu tryloywder. Rydyn ni hefyd, yn iawn, yn craffu ar y penderfyniadau hyn, ond byddwch chi'n ymwybodol hefyd mai fi sydd yma fel Gweinidog a bod nifer o'r cwestiynau sydd wedi codi heddiw yn gwestiynau i Undeb Rygbi Cymru. Yn sicr, mae hi'n iawn bod pawb o bob plaid yn gofyn y cwestiynau hyn, ac mi hoffwn i ei gwneud hi'n glir hefyd fy mod i'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod Undeb Rygbi Cymru yn gwrando ar y ddadl hon heddiw ac yn ymateb i'r pryderon hynny.
Fel rydyn ni eisoes wedi clywed, mae rygbi yn bwysig iawn i gymunedau ledled Cymru. Mae amryw ohonoch chi wedi sôn ei fod o'n rhan o hunaniaeth cynifer o bobl—eu bod nhw'n rhan o glwb, yn gwirfoddoli, yn chwarae neu'n cefnogi ym mhob cornel o'n gwlad ni. Mae nifer ohonoch chi wedi sôn yn iawn hefyd ei fod o'n rhan o'n hunaniaeth ni fel cenedl. Mae cryfder y teimladau a'r pryderon gwirioneddol am hyn yn glir, a dwi'n eu cydnabod nhw oll. Mae'r newidiadau hyn yn mynd i olygu, os byddan nhw yn dod i rym, fod yna effaith yn gymdeithasol, yn ieithyddol ac yn economaidd. A dyna pam yr ydw i fel Gweinidog wedi herio Undeb Rygbi Cymru i ddangos bod eu penderfyniadau yn dryloyw, eu bod nhw yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gynaliadwy, a bod effaith unrhyw newidiadau ar chwaraewyr, cefnogwyr, staff, cymunedau a'r gêm ehangach wedi'u hystyried yn llawn, a hynny, fel mae nifer wedi gofyn yma, cyn i unrhyw benderfyniad pellach gael ei wneud—nid wedi, ond cyn. Ond fedrwn ni fel Llywodraeth ddim cyfarwyddo Undeb Rygbi Cymru i gadw strwythur penodol ar gyfer y gêm broffesiynol.
Dwi wedi clywed nifer ohonoch chi'n dweud nad ydych chi eisiau i mi fod yn gyfrifol am bigo'r tîm, a dwi'n falch nad yw'r cyfrifoldeb hwnnw gen i. Yn sicr, dwi ddim yn arbenigwraig. Ond does gen i ddim ychwaith y grym i gyfarwyddo. Mae Undeb Rygbi Cymru yn gorff llywodraethu annibynnol sy'n atebol drwy ei drefniadau cyfansoddiadol ei hun, ac Undeb Rygbi Cymru sy'n gyfrifol am weinyddu rygbi yng Nghymru. Mae ei annibyniaeth hefyd yn cael ei gydnabod o fewn y fframwaith rhyngwladol a sefydlwyd gan World Rugby. Mae'r annibyniaeth hon yn bwysig, ac mae'n bwysig i'w chydnabod. Byddai cyfarwyddyd gwleidyddol dros benderfyniadau yn ymwneud â chwaraeon yn codi cwestiynau cyfreithiol a llywodraethiant difrifol, ac yn bygwth tanseilio'r annibyniaeth y mae chwaraeon rhyngwladol yn dibynnu arni.
Mae'r ymrwymiad a geisir gan y cynnig hwn, felly, yn un na all Llywodraeth Cymru ei sicrhau. Dyna pam, felly, o ran y gwelliant, rydw i wedi cyfleu'r farn y dylai unrhyw newid sylweddol fel hyn gael ei gefnogi gan achos clir, hirdymor, yn hytrach nag ymateb tymor byr i'r heriau presennol. Rydym yn disgwyl i Undeb Rygbi Cymru egluro sut y byddai unrhyw newid yn cefnogi dyfodol y gêm yng Nghymru, a sut y byddai cynnydd yn cael ei fesur hefyd.
Mae'n rhaid i'r undeb ymgysylltu'n ystyrlon â'r rhai y mae eu cynlluniau arfaethedig yn effeithio arnyn nhw, gan ymgynghori'n llawn ac esbonio'r dystiolaeth y tu ôl i'w cynlluniau, a bod yn glir ynghylch sut y bydd y risgiau'n cael eu rheoli. Mae cefnogwyr a chymunedau yn haeddu mwy na sicrwydd drwy eiriau yn unig. Mi ydych yn iawn—mae nifer ohonoch chi wedi sôn bod angen tryloywder am yr opsiynau sydd dan ystyriaeth, ein bod ni angen gwybod y sail ar gyfer unrhyw benderfyniadau a sut y bydd dyfodol hirdymor y gêm broffesiynol a chymunedol yn cael ei ddiogelu.
Fel dwi wedi'i ddweud a'i rannu yn y sesiwn gwestiynau flaenorol, mi wnes i gyfarfod â'r undeb ym mis Awst, a defnyddio'r cyfle hwnnw i gyfleu'n uniongyrchol iddynt rai o'r pryderon a godwyd gyda mi drwy ohebiaeth. Yn ychwanegol at hynny, yn dilyn trafodaethau yn y pwyllgor diwylliant a chwaraeon, yr holl gwestiynau a godwyd yn y Siambr hon fis diwethaf, a'r ystod o ohebiaeth sydd wedi fy nghyrraedd gan Aelodau o'r Senedd ar ran eich etholwyr, mi wnes i ysgrifennu at yr undeb yn gofyn am ragor o wybodaeth am eu hymgysylltiad â chefnogwyr a chymunedau, am y dystiolaeth sy'n llywio eu dull gweithredu, a sut y bydd yr undeb yn asesu a chyfathrebu goblygiadau penderfyniadau sy'n effeithio ar y gêm ranbarthol. Dwi dal yn disgwyl ymateb i'r llythyr hwnnw, ac, wrth gwrs, mi fyddaf yn diweddaru'r Senedd unwaith rwyf wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach.
Mae angen i ni fod yn glir, felly, nad rôl Llywodraeth Cymru ydy rhedeg rygbi Cymru o ddydd i ddydd, ond dwi eisiau rhoi'r sicrwydd hwn: dydy hyn ddim yn golygu nad ydyn ni'n barod i godi llais, herio a chraffu. Mi fyddwn ni'n parhau i gefnogi cyfranogiad, buddsoddi mewn cyfleusterau a gweithio gyda phartneriaid i gryfhau'r gêm ar bob lefel. O ran y ffigur a nodwyd gan rai, o ran y £434,945 yn 2025-26 a ddarparwyd gan Chwaraeon Cymru, mi oedd hyn, i fod yn glir, i gefnogi datblygiad y gêm ar lawr gwlad. I ni roi hyn mewn cyd-destun, mae hyn yn cynrychioli 0.4 y cant o gyfanswm trosiant Undeb Rygbi Cymru, felly o ran datblygiad y gêm ar lawr gwlad oedd hwnnw.
Mae yna sôn hefyd wedi'i wneud ynglŷn â buddsoddiad a wnaed yn ystod COVID. Mi oedd hynny ynglŷn â grant drwy'r gronfa diogelu chwaraeon gwylwyr. Mi gyfeiriwyd hefyd at y benthyciad masnachol o £18 miliwn a gafodd ei ad-dalu'n llawn yn 2025. Felly, dydy Llywodraeth Cymru na Chwaraeon Cymru ddim yn darparu cyllid ar gyfer y gêm broffesiynol.
Heddiw, mi ydych chi, fel Aelodau, wedi mynegi ar draws y Siambr hon eich pryderon ac wedi cynnig datrysiadau amrywiol, ond yr un peth dwi'n meddwl sydd yn glir rhyngom ni oll ydy bod yna dir cyffredin a'n bod ni eisiau gweld dyfodol llewyrchus i'r gêm yma yng Nghymru, a'n bod ni'n cydnabod y pryderon gwirioneddol sydd yna. Mae hynny'n gofyn am arweinyddiaeth, ymddiriedaeth a gweledigaeth glir gan yr undeb. Mae'n rhaid iddyn nhw drin cefnogwyr fel partneriaid yn y sgwrs honno, nid dim ond eu hysbysu ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud.
Mae teyrngarwch cefnogwyr wedi cynnal y gêm drwy'r amseroedd da a'r cyfnodau anodd, a dylai eu lleisiau nhw fod yn ganolog i helpu i lunio ei dyfodol. Felly, tra ein bod ni'n cydymdeimlo ag ysbryd y cynnig, ni allwn gefnogi cynnig sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru warantu canlyniad nad oes ganddi awdurdod cyfreithlon i'w orfodi. Ond nid yw gwrthod y cynnig hwnnw yr un peth â pheidio â chydnabod y pryderon y tu ôl iddo; mae'r pryderon hynny'n real, maen nhw'n haeddu cael eu clywed ac mae'n hollbwysig i'r undeb eu hateb. Am y rhesymau hynny, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y cynnig ond cefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru, fel ein bod yn uno yn ein galwadau ar Undeb Rygbi Cymru i ymgynghori'n drylwyr ac yn dryloyw, a gan gymryd lleisiau'r cefnogwyr, y clybiau a'r cymunedau i ystyriaeth wrth iddyn nhw lunio dyfodol y gêm yma yng Nghymru.
Galwaf ar Llŷr Powell i ymateb i'r ddadl.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Gaf i ofyn ar ba sail gyfreithiol ydych chi'n meddwl fy mod i'n gallu gorfodi Undeb Rygbi Cymru i wneud yr hyn rydych chi'n ei ofyn? Dwi'n credu bod y gwelliant yn cynnig popeth rydych chi newydd ei amlinellu. Onid ydy o'n amser i ni uno, yn drawsbleidiol, i sicrhau ein bod ni'n cael yr hyn rydyn ni i gyd yn ei ddeisyfu? Mae'n rhaid ichi adnabod nad oes gen i'r grym cyfreithiol rydych chi newydd ddweud eich bod chi'n credu sydd gen i.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enwau Heledd Fychan a Lynne Neagle, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Symudwn nawr at eitem 8, dadl Reform UK: mynediad at dai amlfeddiannaeth a thai cymdeithasol i wladolion tramor. Galwaf ar Francesca O'Brien i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9313 Llŷr Powell
Cefnogwyd gan Andrew Griffin, John Clark
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailwampio trefniadau trwyddedu tai amlfeddiannaeth a rheolau cymhwysedd tai cymdeithasol i roi terfyn ar allu gwladolion tramor i gael mynediad at Dai Amlfeddiannaeth a thai cymdeithasol, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU lle bo angen.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enwau Heledd Fychan a Lynne Neagle.
Gwelliant 1—Heledd Fychan, Lynne Neagle
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu gan awdurdodau lleol yn unol â deddfwriaeth a chynlluniau dyrannu lleol, gyda blaenoriaeth yn cael ei phennu yn ôl yr angen am dai a chategorïau blaenoriaeth statudol.
2. Yn cydnabod bod cymhwysedd ar gyfer tai cymdeithasol a chymorth digartrefedd yn cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth, gan gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â statws mewnfudo a phreswyliad cyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.
3. Yn credu bod penderfyniadau sy'n ymwneud â thrwyddedu a rheoli tai amlfeddiannaeth yn cael eu gwneud orau gan awdurdodau lleol o fewn y fframwaith a sefydlwyd gan ddeddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
4. Yn nodi bod penderfyniadau ynghylch gwasgariad a llety pobl sy'n ceisio lloches yn cael eu cadw i Lywodraeth y DU ac yn credu y dylai trefniadau gwasgaru effeithiol ystyried capasiti lleol, effaith debygol ar gydlyniant cymunedol a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.
5. Yn cefnogi ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i hyrwyddo trefniadau gwasgaru teg a chynaliadwy ac i gefnogi integreiddio a chydlyniant cymunedol llwyddiannus ledled Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf nawr ar Peter Fox i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU lle bo angen, i:
a) diwygio rheolau cymhwysedd tai cymdeithasol, tra'n diogelu hawliau dinasyddion Prydain ac Iwerddon a phobl a ddiogelir gan Gytundeb Ymadael â'r UE; a
b) rhoi terfyn ar y defnydd o dai amlfeddiannaeth i ddarparu ar gyfer pobl sy'n bresennol yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl sy'n cyrraedd y DU yn anghyfreithlon.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Lywydd. Dwi'n gwrthod y cynnig yma yn gryf. Diolch i Lynne Neagle am gydgyflwyno'r gwelliant. Dwi'n falch o gydweithio ar fater mor bwysig. Mae nod y Llywodraeth yma yn glir. Dylai pawb yng Nghymru gael mynediad at gartref diogel, cynnes a fforddiadwy. Fe all tai amlfeddianaeth, HMOs, o ansawdd da chwarae rhan yn hynny, cyn belled â'u bod yn cael eu rheoleiddio a'u rheoli'n lleol. Rhaid i benderfyniadau am dai cymdeithasol ddilyn ein fframwaith cyfreithiol, a rhaid iddyn nhw fod yn deg ac yn adlewyrchu'r angen am dai—hynny ydy, anghenion pawb sy'n gymwys yn gyfreithiol i fyw yma yng Nghymru.
Dwi yn deall y rhwystredigaeth sy'n cael ei hachosi drwy aros yn hir am dai a gan gartrefi sy'n cael eu rheoli'n wael. Yr ateb ydy cynyddu'r cyflenwad o dai cyhoeddus, atal digartrefedd, cynnal safonau a chefnogi awdurdodau lleol, nid rhannu cymunedau na gosod grwpiau o bobl yn erbyn ei gilydd. Mae'r ciw am gartrefi cymdeithasol yn rhy hir, ond peidiwch â chreu rhaniadau diangen. Peidiwch â gosod pobl mewn angen yn erbyn ei gilydd. Yn hytrach, gweithiwn efo'n gilydd i greu mwy o gartrefi cyhoeddus i Gymru.
Mae'r cynnig gan Reform yn galw am gyfyngu ar fynediad at dai cymdeithasol ar sail cenedligrwydd. Allwn ni ddim, wrth gwrs, gefnogi'r cynnig yma. Mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu ar sail yr angen am dai ymhlith y rhai sy'n gymwys yn gyfreithiol. Dydyn nhw ddim yn cael eu dyrannu ar sail cenedligrwydd, ethnigrwydd na man geni. Mae deddfwriaeth eisoes yn rheoli'r hawl i gael tai cymdeithasol. Mae statws mewnfudo a man preswylio cyfreithlon eisoes yn ystyriaethau allweddol sy'n cael eu defnyddio i benderfynu ar gymhwystra rhywun. Dim ond pobl sydd â'r hawl i aros sydd yn gymwys i gael cymorth tai a thai cymdeithasol.
Dydy tai cymdeithasol ddim yn cael eu dyrannu i bobl sy'n ceisio lloches. Rydyn ni wedi clywed hynna dro ar ôl tro. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu llety dros dro tra bo cais yn cael ei ystyried. Os bydd rhywun yn cael statws ffoadur—a dwi'n atgoffa'r Aelodau fod hynny'n golygu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi canfod bod yr unigolyn wedi ffoi rhag rhyfel, ofn neu erledigaeth—yna gallan nhw wneud cais am gymorth tai o dan yr un rheolau ag aelwydydd eraill.
Mae'r cynnig yma, felly, yn camliwio'r system bresennol. Mae'r her sy'n ein hwynebu ni yn ymwneud â chyflenwad tai, a'r ateb ydy adeiladu mwy o gartrefi a gwneud y defnydd gorau o'r cartrefi sydd ar gael. Lle mae polisi Reform ar gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol? Does gennych chi ddim polisi ynglŷn â hynny. Dydy pobl sydd yn chwilio am noddfa a phobl o wledydd eraill sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru ddim yn cael unrhyw ffafriaeth o ran tai, a dydyn nhw ddim yn gyfrifol am y prinder tai fforddiadwy rydyn ni'n ei brofi ar hyn o bryd. Ac mae achosion y pwysau ar y cyflenwad tai yng Nghymru'n gymhleth, wedi bodoli ers amser maith, a dydy o ddim yn gwneud synnwyr—dydy'r ffeithiau ddim yn cyd-fynd â'r awgrym bod modd datrys yr heriau drwy eithrio grwpiau penodol. Dydy gwneud i grwpiau gwahanol gystadlu â'i gilydd ddim yn creu cartrefi nac yn lleihau pwysau ar wasanaethau.
Mi wnaf i droi wrth gloi at dai amlfeddiannaeth. Math o gartrefi sy'n cael eu rhannu ydy'r rhain, nid categori mewnfudo. Maen nhw'n darparu cartref i fyfyrwyr, gweithwyr proffesiynol ifanc a phobl eraill sydd angen tai, a dim ond lleiafrif bach sy'n cael eu defnyddio i letya ceiswyr lloches. Mae gan Gymru system reoleiddio glir. Mae angen trwydded ar gartrefi sy'n cael eu rhannu sydd o faint mwy ac yn wynebu risg uwch, ac fe all awdurdodau lleol ehangu'r gofynion trwyddedu pan fydd y dystiolaeth leol yn cyfiawnhau hynny. Fe allan nhw osod amodau, archwilio eiddo, gofyn am welliannau, gosod cosbau, atal cartrefi anniogel rhag cael eu defnyddio, ac erlyn landlordiaid. Fe allan nhw hefyd ddefnyddio pwerau cynllunio pan fydd hynny'n briodol.
Dydy llety sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pobl sy'n ceisio lloches ddim wedi'i eithrio rhag gofynion cynllunio neu drwyddedu, ond yr awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddefnyddio'r pwerau hyn am eu bod nhw'n deall y sefyllfa dai lleol a'r pwysau ar gymunedau. Dŷn ni yn parhau i weithio efo cynghorau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i asesu a ydy'r fframwaith yn effeithiol ac a oes angen cymorth pellach, a dwi wedi gwneud yn glir y dylai trwyddedu amddiffyn preswylwyr a sicrhau camau rheoli priodol.
Mae'n safbwynt ni'n hollol glir: mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu yn ôl yr angen ac yn unol â phwy sy'n gymwys yn ôl y gyfraith. Mae awdurdodau lleol yn rheoli prosesau trwyddedu a chynllunio mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth o fewn y fframwaith cenedlaethol. Y Swyddfa Gartref sy'n penderfynu ble mae llety i geiswyr lloches yn cael ei ddarparu. Mae'r cynnig gwreiddiol yn awgrymu dull o ymdrin â phroblem dai gymhleth sydd yn llawer iawn rhy syml ac yn creu rhwygiadau. Mae gwelliant y Llywodraeth, efo cefnogaeth Lynne Neagle a'r grŵp Llafur, yn adlewyrchu'r gyfraith, yn parchu cyfrifoldebau pob haen o lywodraeth ac yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, dwi'n gofyn i'r Aelodau wrthod y cynnig a chefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Galwaf yn awr ar Tom Montgomery i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Diolch.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i'r Gadair.
Cyfnod pleidleisio: oni bai bod pum Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Gwych, diolch.
Felly, cyfnod pleidleisio: eitem 6—dadl Aelodau. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), llysoedd cyffuriau ac alcohol teuluol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Tom Montgomery, Natasha Asghar, Jane Dodds a Sarah Cooper-Lesadd. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 71, yn ymatal 16 ac yn erbyn 0. Mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Eitem 6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol: O blaid: 71, Yn erbyn: 0, Ymatal: 16
Derbyniwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar gynnig dadl Reform UK, rygbi rhanbarthol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 43, yn ymatal un ac yn erbyn 44. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Reform UK - rygbi rhanbarthol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 43, Yn erbyn: 44, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais.
O blaid 44, yn ymatal sero ac yn erbyn 44. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, mae'r gwelliant wedi cael ei wrthod.
Eitem 7. Dadl Reform UK - rygbi rhanbarthol. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 44, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.
Dadl Reform UK, mynediad at dai amlfeddiannaeth a thai cymdeithasol i wladolion tramor. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, yn ymatal dim, ac yn erbyn 57. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 8. Dadl Reform UK - mynediad at dai amlfeddiannaeth a thai cymdeithasol i wladolion tramor. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 31, Yn erbyn: 57, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan a Lynne Neagle. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, yn ymatal dim ac yn erbyn 37. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl Reform UK - mynediad at dai amlfeddiannaeth a thai cymdeithasol i wladolion tramor. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan a Lynne Neagle: O blaid: 51, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM9313 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu gan awdurdodau lleol yn unol â deddfwriaeth a chynlluniau dyrannu lleol, gyda blaenoriaeth yn cael ei phennu yn ôl yr angen am dai a chategorïau blaenoriaeth statudol.
2. Yn cydnabod bod cymhwysedd ar gyfer tai cymdeithasol a chymorth digartrefedd yn cael ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth, gan gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â statws mewnfudo a phreswyliad cyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.
3. Yn credu bod penderfyniadau sy'n ymwneud â thrwyddedu a rheoli tai amlfeddiannaeth yn cael eu gwneud orau gan awdurdodau lleol o fewn y fframwaith a sefydlwyd gan ddeddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
4. Yn nodi bod penderfyniadau ynghylch gwasgariad a llety pobl sy'n ceisio lloches yn cael eu cadw i Lywodraeth y DU ac yn credu y dylai trefniadau gwasgaru effeithiol ystyried capasiti lleol, effaith debygol ar gydlyniant cymunedol a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.
5. Yn cefnogi ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i hyrwyddo trefniadau gwasgaru teg a chynaliadwy ac i gefnogi integreiddio a chydlyniant cymunedol llwyddiannus ledled Cymru.
Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, yn ymatal dim ac yn erbyn 37. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Eitem 8. Dadl Reform UK - mynediad at dai amlfeddiannaeth a thai cymdeithasol i wladolion tramor. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 51, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Ocê. Os yw pobl yn gallu symud allan yn sydyn ac yn dawel er mwyn i ni symud ymlaen i'r ddadl fer. Diolch yn fawr iawn. Diolch—er mwyn chwarae teg i'r rhai sy'n aros am y ddadl fer, er mwyn i ni gael clywed.
Felly, symudaf nawr i ddadl fer heddiw. Galwaf ar Benjamin Hodge Mckenna i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Ac yn olaf, Steve Bayliss. Sori, Mark. [Chwerthin.]
Barod, Weinidog? Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Mark Hooper.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r ddadl am bwysigrwydd porthladdoedd a thrafnidiaeth forol i economi Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Diolch yn fawr iawn, Benjamin, am ddod â'r ddadl fer i'r Siambr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.