Y Cyfarfod Llawn

Plenary

16/09/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) yn y Gadair.

1. Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon

Prynhawn da. Allaf i gymryd y cyfle hwn i'ch croesawu chi nôl i'r tymor? Eitem 1 yw cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon. Cwestiwn 1, Ken Skates.

Diwydiannau Creadigol

1. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog Cabinet i wella'r gefnogaeth i ddiwydiannau creadigol Cymru? OQ64464

Mae gwaith ar y gweill i gyflwyno strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd ar gyfer Cymru. Trwy'r strategaeth newydd, byddwn yn cydnabod bod y diwydiannau creadigol yn ganolog i fywyd diwylliannol, twf economaidd a phroffil rhyngwladol Cymru. Mi fydd Cymru Greadigol yn parhau i gefnogi talent, sgiliau, twf busnes a chyfleoedd ledled sectorau creadigol Cymru.

Wel, yn sicr, mae gennych chi etholaeth greadigol dros ben. Roeddwn i'n falch iawn o fod yn Wrecsam ddydd Sadwrn diwethaf ar gyfer agoriad—wel, ailagor—Amgueddfa Wrecsam, ond agoriad yr amgueddfa bêl-droed, yr elfen yna. Dwi'n mynd i fod yn ymweld efo Wrecsam eto'n fuan. Dwi wedi bod yn ymgysylltu o ran UK City of Culture. Rydyn ni i gyd yn croesi'n bysedd, wrth gwrs, o ran hynny, ac fe fyddwn i'n hapus iawn i ymgysylltu efo'r Aelod. Yn sicr, mae yna bethau cyffrous iawn yn digwydd yn Wrecsam. Rydyn ni eisiau i bethau cyffrous barhau i ddigwydd yn Wrecsam, a dwi'n falch iawn i weithio efo unrhyw Aelod sy'n cynrychioli Wrecsam er mwyn cyflawni'r potensial hwnnw'n bellach.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gaf i fod yn glir? Mae yna greadigrwydd ym mhob cornel o Gymru, ond, oherwydd diffyg cefnogaeth flaenorol, diffyg strategaeth a diffyg eglurder o ran cefnogaeth gan Lywodraeth, dydy'r potensial hwnnw ddim wastad wedi'i wireddu. Yr hyn y bydd yr Aelod wedi ei glywed yn fy ateb cychwynnol ydy ymrwymiad y Llywodraeth hon i gael strategaeth ddiwylliant iawn i Gymru, un sy'n cynnwys y diwydiannau creadigol, sy'n edrych ar sgiliau, sy'n edrych ar gyfleoedd i bobl yng Nghymru i aros yma yng Nghymru a bod yn greadigol. Dyna'r gwahaniaeth y gwelwch chi gan Lywodraeth Plaid Cymru—ein bod ni'n gwerthfawrogi'r diwydiannau creadigol, ein bod ni eisiau gweithio efo nhw, ein bod ni eisiau eu datblygu nhw a hefyd sicrhau mwy o gyfleoedd i bobl weithio mewn maes sydd o bwys economaidd mawr i'n cenedl ni.

13:35

Diolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny. Mae'n hyfryd clywed am yr holl bethau gwych sy'n digwydd mewn gwahanol etholaethau. Mae Cymru Greadigol wedi cefnogi bwrsariaethau i artistiaid a chynorthwywyr cynhyrchu o Gymru i fynychu gweithdai yn Rockfield Studios, gan agor mynediad at arbenigedd y diwydiant wrth gefnogi gweithgarwch lleol a chryfhau'r ecosystem greadigol ehangach. Dwi'n credu mai'r pwynt rydych chi'n ei wneud ydy dydy pethau fel hyn ddim yn digwydd ar hap. Mae angen strategaeth, mae angen buddsoddi, mae angen cydweithio. Yr hyn rydyn ni'n ei weld ydy bod yna fandiau mawr wedi bod yn y gorffennol ond nid yw hynny'n golygu ein bod ni'n bendant yn mynd i fod â'r bandiau hynny yn y dyfodol. Mae e'n fy mhryderu i, a dwi wedi codi'r pryder yma o'r blaen, fod yna'n lai o bobl ifanc, er enghraifft, yn cymryd TGAU mewn cerddoriaeth a drama, fod yna lai o gyfleoedd a chyrsiau o ran mynd rhagddo efo cerddoriaeth, ond hefyd y cyfleoedd i berfformio, sydd yr un mor bwysig. Rydyn ni'n lwcus iawn yng Nghymru bod yna bethau fel Brwydr y Bandiau pan fo hi'n dod i Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol ac ati. Mae'r rhain yn rhoi cyfleoedd. Ond, yn sicr, fel rhan o strategaeth hirdymor o ran cerddoriaeth, mae'n rhaid i ni fod yn meithrin talent newydd a chreu y seilwaith yna. Fel rydych chi'n sôn, mae cyhoeddiad ddoe yn mynd i fod yn help o ran lleoliadau lle mae cerddoriaeth fyw yn digwydd. Mae'n rhaid i ni barhau i weithio'n agos gyda phethau fel y Music Venue Trust er mwyn sicrhau bod dyfodol pwysig iddyn nhw.

Chwaraeon ar Lawr Gwlad

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda chyrff llywodraethu chwaraeon ynghylch diogelu plant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad? OQ64436

Mae Chwaraeon Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, yn gweithio'n agos gyda chyrff llywodraethu, clybiau a darparwyr chwaraeon cymunedol i hyrwyddo polisïau, hyfforddiant a gweithdrefnau diogelu cadarn. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r holl gyrff llywodraethu chwaraeon gymryd diogelu o ddifrif, gweithredu'n brydlon ar bryderon, a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan yn ddiogel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio efo Llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig. Roedd yna adroddiad prosiect ar chwaraeon diogel a gyhoeddwyd yn 2025. Comisiynwyd hwn ar ôl ymgynghoriad helaeth efo cyrff llywodraethu, cynghorau chwaraeon, athletwyr a phobl sydd â phrofiad byw. Chwaraeon Cymru sy'n cynrychioli Cymru o ran y gwaith hwn. Mi wnes i, yn fy nghyfarfod rhynglywodraethol cyntaf efo Gweinidogion chwaraeon eraill y Deyrnas Unedig, drafod hyn yn Glasgow yng Ngemau'r Gymanwlad. Mae hwn yn fater o bwys. Mae o'n fater sydd ddim dim ond yn berthnasol i Gymru. Yn amlwg, fe fyddaf yn sicrhau bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Wrth gwrs, os oes yna unrhyw Aelod yn ymwybodol o le mae yna bryderon, mae'n ddyletswydd arnom i gyd fod yn adrodd ar hynny ac mi fyddwn i yn annog unrhyw un i sicrhau hynny.

13:40

Diolch am godi'r pwyntiau pwysig hynny. Yn ganolog i holl weledigaeth y Llywodraeth hon, o ran chwaraeon a diwylliant, mae sicrhau cyfranogiad i bawb a dim rhwystrau. Mae hwnna'n rhan o'n galwad ni am dystiolaeth ar y funud, sydd ar agor tan 19 Rhagfyr, felly plîs a wnaiff pawb annog pobl i gyflwyno tystiolaeth, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod yna rhwystrau'n bodoli ar y funud. Rydych chi wedi crybwyll rhai ohonyn nhw, ond mae yna eraill. Os ydym ni eisiau i bawb gael y cyfleodd hynny, yna, dwi yn cytuno efo'r Aelod, mae'n rhaid gweithredu. Felly, dwi'n mawr obeithio, yn dod allan o'r strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd yma, y bydd sicrhau cyfranogiad i bawb yn rhan ganolog o hynny, a chydweithio efo Gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog addysg a'r Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol hefyd. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf y nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Louise Emery.

Dwi ddim yn gwybod os ydy fy swyddogion i wedi cael cyfle i rannu gyda'r pwyllgor eto yr ystod o dystiolaeth roeddwn i'n cyfeirio ato fo yn ystod fy sesiwn ateb cwestiynau. Mi wnes i gyfeirio at adroddiad yr IWA, yr Institute of Welsh Affairs, a oedd yn annibynnol a ddim wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth. Mi wnes i gyfeirio at ymchwil academaidd sydd hefyd ddim wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth. Mae yna ystod o dystiolaeth eang yma. Mi oedd y gwaith a wnaed o ran y cytundeb cydweithio yn deillio o hynny.

Mi fyddwn i hefyd yn annog Aelodau i edrych ar waith a wnaed yn ystod y pumed Senedd gan y pwyllgor rydych chi rŵan yn aelod ohono fo a ddangosodd yn drawsbleidiol, ddim gan y Llywodraeth—. Roedd yn waith craffu gan Aelodau blaenorol o'r Senedd hon a oedd yn cadarnhau nad yw darlledu yn gweithio i Gymru fel ag y mae o ac yn annog bod angen i'r Llywodraeth weithredu. Felly, yr hyn dwi'n ei wneud fel Gweinidog ydy gweithredu ar argymhellion annibynnol—yn gweithredu a gwrando—a dyna dwi'n gobeithio buasai unrhyw Weinidog yn ei wneud yn fy sefyllfa i.

Dwi'n credu, a byddwn i'n gobeithio bod pob Aelod yma yn credu, y dylem ni gael llais yma yng Nghymru ac y dylai penderfyniadau ynglŷn â Chymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae'r ffaith nad oes gennym ni lais fel Llywodraeth o ran yr hyn sy'n digwydd o ran siarter y BBC ar y funud, ein bod ni'n cael ein hymgynghori fel y mae unrhyw unigolyn yng Nghymru, ac nad oes gennym ni lais yn anghyfiawnder—bod dyfodol S4C yn ddibynnol ar benderfyniadau mewn Senedd sydd ddim yma yng Nghymru, heb unrhyw angen i gymryd ystyriaeth eich barn chi o ran craffu na fy marn innau fel Gweinidog. Dydy o ddim yn gweithio. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn mynd ati i edrych ar y dystiolaeth o ran sefydlu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol, er mwyn edrych ar sut y byddai'n gweithio yma yng Nghymru. Gwneud y gwaith caib a rhaw i fynd i'r afael â phroblemau—dyna ydy bwriad hwn.

13:45

Fel y gwnes i eich ateb chi pan wnaethoch chi godi hwn y tro diwethaf, mae yna gefnogaeth wedi bod, yn ariannol, gan Cadw tuag at addoldai. Mi rydyn ni wedi bod yn gwneud y gwaith pellach. Mae yna gyngor ar ei ffordd i fi. Unwaith dwi wedi ystyried hwnnw, mi fydd y wybodaeth yna yn cael ei rannu gyda'r holl Aelodau o ran y camau nesaf. Ond i fod yn glir, mae yna gyllid wedi bod yn cael ei roi i gefnogi addoldai—ddim yr un math o gyllid, ond mi fyddaf yn ystyried y cyngor a ddaw ger fy mron i yn fuan iawn. Diolch. 

Mae Cadw yn ymgysylltu yn weithredol ag enwadau ffydd a chynrychiolwyr y sector i ddeall yn well cyflwr mannau addoli hanesyddol a'r pwysau ehangach y mae nhw'n eu hwynebu, gan gynnwys ffabric sy'n heneiddio, defnydd sy'n newid, cynulleidfaoedd sy'n gostwng, costau cynnal a chadw, a mynediad at sgiliau arbenigol. Mae Cadw yn parhau i ddarparu cymorth uniongyrchol drwy ei raglenni grant ei hun. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae yna fwy na £2 filiwn o gyllid grant adeiladau hanesyddol Cadw wedi cefnogi mannau addoli, sy'n cynrychioli tua 20 y cant o'r gyllideb grantiau. Mi fyddwch chi hefyd wedi clywed fy ymateb i i'r Aelod blaenorol. Dwi yn disgwyl cyngor pellach o ran hyn, ac mi fyddaf yn rhannu diweddariad unwaith dwi wedi derbyn hwnnw. 

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae'r ffaith ein bod ni yn ymgynghori ar y funud o ran strategaeth ddiwylliant a chwaraeon newydd, a'n bod ni yn edrych yn strategol, yn gyfle perffaith i bob Aelod yma i fod yn annog etholwyr, i fod yn annog unrhyw gymdeithasau, ac Aelodau eu hunain, i fod yn cyfrannu syniadau tuag at y strategaeth honno. Felly, byddwn ni yn eich annog chi i gyflwyno'r syniadau hyn, a byddwn ni wedyn yn gallu edrych ar yr holl ystod o bethau yr hoffai pobl yng Nghymru ein gweld ni'n buddsoddi ynddyn nhw. Un peth y byddwn i yn ei ddweud yw eich bod chi'n berffaith iawn i fod yn cydnabod pwysigrwydd cymaint o'n haddoldai ni, a'r amrywiaeth a'r stori mae nhw'n ei ddweud ynglŷn â Chymru. Felly, diolch i chi am godi'r pwyntiau hynny. 

13:50

Dwi bendant yn cytuno efo chi. Mi oeddwn i'n falch iawn o dîm Cymru, ac nid dim ond y rhai a enillodd y medalau; mi oedd yna berfformiadau rhagorol yna, ac mi ddylem ni fod yn falch iawn o'r holl dîm. Fel roeddwn i'n sôn gerbron y pwyllgor, pan roeddwn i yn Glasgow, roedd gweld bod Cymru wedi creu cymaint o argraff, eu bod nhw'n ail hoff dîm pawb nad oeddent o Gymru, yn sicr wedi bod yn wych i'w weld. Yn amlwg, mi oedd yna newyddion trist iawn dros yr haf hefyd, ac mi fyddwn i'n hoffi cymryd y cyfle yma i sôn am Fin Tarling. Mae ein meddyliau ni i gyd efo'i deulu a'i ffrindiau. Roedd hynny'n drychinebus dros yr haf.

O ran ein strategaeth ni rŵan, dwi eisiau sicrhau, o ran digwyddiadau mawr—. Roeddwn i'n falch iawn ddoe ein bod ni wedi gweld bod Champions League y menywod yn dod i Gymru yn 2029. Dwi'n falch i ddweud mai un o fy mhenderfyniadau i fel Gweinidog oedd cefnogi hwnna, ac mae hwnna'n dangos ein bod ni'n gweithredu. Ond dwi wedi bod yn glir iawn hefyd fod yn rhaid i'r holl ddigwyddiadau mawr rydyn ni'n mynd amdanyn nhw fod i bwrpas a'n bod ni wedi ystyried, cyn ein bod ni'n ymgeisio, beth fydd y buddsoddiad, ond hefyd beth ydy'r gwerth yn economaidd, yn gymdeithasol a'r deilliannau o ran hynny.

Mi ydych chi a minnau wedi bod yma yn y gorffennol a gweld Llywodraethau efallai'n methu â dweud beth ydy'r mesurau, sut rydyn ni'n mesur llwyddiant, ac mae hwnna'n sicr yn rhywbeth dwi'n edrych arno rŵan fel Gweinidog o ran y Tour de France a hefyd Ewros 2028. Ond mi ddylai'r mesurau yna fod yn eu lle cyn inni fod yn ymgeisio, a syniad o beth rydyn ni eisiau cael allan ohonyn nhw. Felly, mi ydyn ni'n ailedrych ar y strategaeth digwyddiadau mawr hefyd, ac mi fydda i'n mynd â'r gwaith yma rhagddo. Mae gwaith wedi dechrau, ond rydyn ni'n mynd â hwnna ymhellach hefyd.

Undeb Rygbi Cymru

3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynghylch ei gynlluniau i gwtogi nifer y rhanbarthau? OQ64440

13:55

Mi wnes i gwrdd â chynrychiolwyr o Undeb Rygbi Cymru ym mis Awst a thrafod eu cynlluniau ar gyfer dyfodol y gêm broffesiynol. Fe wnes i wneud yn glir bwysigrwydd ymgysylltu agored ac ystyrlon gyda rhanbarthau, cefnogwyr a chymunedau, a sicrhau bod unrhyw benderfyniadau yn dryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ystyried yr effaith ehangach ar rygbi Cymru.

A gaf i ddiolch i'r Aelod, yn gyntaf, am y cyfathrebu rydych chi wedi'i wneud efo fi dros y pwnc yma, ynghyd â'ch Aelodau chi dros Ŵyr Abertawe, a hefyd i bob Aelod sydd wedi ymgysylltu efo fi dros y mater pwysig hwn? Mae rygbi yn fwy na champ, onid ydy? Mae pobl yn ei deimlo fo i'r byw; mae o'n rhan o hunaniaeth cymunedau, fel rydych chi wedi sôn fan hyn. Mae'r tryloywder yna'n bwysig, oherwydd mae hyn am fwy na lleoliad, mae'n fwy nag effaith economaidd; mae ynglŷn â'r ymdeimlad cymunedol yna. Felly, yn sicr, fel y gwnes i ddweud yn fy ymateb cychwynnol, mi ddywedais i'n glir wrth Undeb Rygbi Cymru ein bod ni'n disgwyl y tryloywder yna, ein bod ni'n disgwyl y cydweithio efo cymunedau, a dyna fy neges i eto heddiw.

Tîm Rygbi Proffesiynol ar gyfer Gogledd Cymru

4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi datblygiad tîm rygbi proffesiynol yng ngogledd Cymru? OQ64432

Fel dwi wedi amlinellu eisoes heddiw, mae Undeb Rygbi Cymru yn gorff llywodraethu annibynnol ar gyfer rygbi yng Nghymru ac mae'n gyfrifol am benderfyniadau ynghylch strwythur a datblygiad y gêm broffesiynol, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu timau chwaraeon proffesiynol, ond trwy Chwaraeon Cymru rydyn ni yn cefnogi'r gymuned a'r gêm ar lawr gwlad.

14:00

Fel gwnes i ddweud yn fy ymateb cyntaf, Undeb Rygbi Cymru ydy'r corff llywodraethu annibynnol a nhw sydd efo'r cyfrifoldeb, ond mae gen i, wrth gwrs, gyfleoedd yn fy nghyfarfodydd gyda nhw i fynegi unrhyw bryderon sy'n cael eu codi gyda ni.

O ran rygbi gogledd Cymru, dwi yn cydnabod yr uchelgais gref a'r cyfranogiad rygbi cynyddol ledled gogledd Cymru, a dwi'n cefnogi datblygiad y gêm ar bob lefel. Mi ydyn ni eisiau i chwaraewyr talentog o ogledd Cymru gael llwybrau clir i gyrraedd lefelau uchaf y gêm o fewn eu cymunedau, heb orfod symud o ogledd Cymru. A dwi wedi darllen y pryderon nad ydy hynny'n bosib ar y funud, felly diolch i'r Aelod am godi hynna gyda fi.

Diolch. Fel oeddwn i'n dweud, nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru mo hynny, ond yn sicr mi fyddwn ni eisiau cydweithio efo Undeb Rygbi Cymru a gwahanol gyrff llywodraethu eraill o ran mynediad cyfartal i chwaraeon. O ran y pwyntiau dŷch chi'n eu codi, mi fyddwn i'n argymell eich bod chi'n eu codi nhw hefyd efo Undeb Rygbi Cymru yn uniongyrchol. Mae'n bwysig ein bod ni yn gweithredu ar ran etholwyr o ran clybiau lleol. Ond yn sicr, fel dywedais i wrth Janet Finch-Saunders, dŷn ni eisiau cyfleoedd i bobl ifanc allu parhau yma yng Nghymru i chwarae ar y lefel uchaf, a dŷn ni'n cydnabod nad yw hynny yn digwydd ar y funud.

Rygbi yng Nghlwyd

5. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cyfranogiad mewn rygbi yng Nghlwyd? OQ64473

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyfranogiad rygbi yng Nghlwyd drwy ein buddsoddiad mewn chwaraeon ar lawr gwlad, a ddarperir drwy Chwaraeon Cymru. Mae hyn yn helpu clybiau i wella cyfleusterau, lleihau costau rhedeg a chreu mwy o gyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir gymryd rhan.

14:05

Nid Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar y buddsoddiad hwnnw. Mae e'n fater i gyrff chwaraeon unigol ond hefyd i Chwaraeon Cymru. Yr hyn sydd gennym ni fel ymrwymiad fel Llywodraeth ydy ein bod ni eisiau sicrhau bod yna fuddsoddiad ledled Cymru, cyfle i bawb gyfranogi lle bynnag eu bod yn byw yng Nghymru. Ac mae'r adolygiad strategol dŷn ni'n ei wneud o ran lle mae angen buddsoddiad yn cydweithio gydag Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Nofio Cymru ac eraill i sicrhau bod hwnnw'n gynllun sy'n cael ei gefnogi gan bawb, nid dim ond gan y Llywodraeth ond gan y cyrff hyn hefyd. Bydd yna waith hefyd i weithio efo awdurdodau lleol o ran hynny. 

Diolch am godi'r pwyntiau pwysig yna. Wrth gydweithio gydag Undeb Rygbi Cymru dŷn ni eisiau sicrhau—. Fel roeddwn i'n dweud, mae'n bwysig iawn fod pawb yn cael y cyfle i gyfranogi, a phan mae yna rwystrau i hynny, yna mae hwnna'n her dwi'n barod iawn i'w rhoi i Undeb Rygbi Cymru neu ei rhoi i unrhyw gorff lle nad yw hynny'n gweithio.

Mae peth data yn dangos bod yna beth newydd da o ran merched yng Nghymru. Mae 90 y cant o chwaraewyr rŵan yn symud o'r pathway dan 14 i dan 16 o ran rygbi, sydd yn gam pwysig yn ei flaen. Ond, yn amlwg, mae angen deall wedyn beth arall sydd angen cael ei wneud, ac mae hwn yn rhywbeth byw iawn o ran trafodaethau rhwng swyddogion, Undeb Rygbi Cymru a holl gyrff chwaraeon yng Nghymru.

Cyfleusterau Llyfrgell

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyfleusterau llyfrgell yng Nghasnewydd Islwyn? OQ64455

Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi cyfleusterau llyfrgell yng Nghasnewydd Islwyn drwy gyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer datblygu llyfrgelloedd. Mae hyn yn cynnwys £200,000 o gyllid cyfalaf i drawsnewid y llyfrgell i blant yn Llyfrgell Ganolog Casnewydd. Mae llyfrgelloedd Casnewydd Islwyn hefyd wedi elwa o dros £22,000 ar gyfer cyllid prosiectau grantiau bach. 

Dŷch chi'n codi pwynt pwysig dros ben, a does gen i ddim y pwerau i ymyrryd yn y fath fodd, ond yr hyn yr ydw i'n ei wneud ar y funud, trwy'r gwaith dŷn ni'n ei wneud, ydy deall beth yw'r sefyllfa o ran llyfrgelloedd ledled Cymru. Maen nhw'n wasanaeth statudol. Dŷn ni'n gwybod bod yna doriadau wedi bod ledled Cymru. Mae nifer o Aelodau yma wedi ymgyrchu o ran ceisio cadw llyfrgelloedd lleol ar agor, a dwi yn poeni yn fawr ynglŷn â dyfodol ein llyfrgelloedd ni—y dyfodol o ran y buddsoddiad hwnnw.

Mae angen inni ddeall beth ydy'r sefyllfa, a dyna pam, o ran cael gweledigaeth a strategaeth hirdymor a bod yn glir o ran y buddsoddiad hirdymor sydd ei angen, y medraf roi'r sicrwydd i'r Aelod fy mod i'n credu bod llyfrgelloedd yn bwysig, bod y gwaith hwn yn digwydd, ac mi fyddwn ni eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol, yn sicr, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau iawn yn ein cymunedau ni a bod yna fynediad i'n llyfrgelloedd ni. 

Treftadaeth a Diwylliant Cymru

7. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru? OQ64444

Mae'r gwaith o lunio strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd i Gymru yn digwydd ar y funud, ac mae treftadaeth a diwylliant cyfoethog ein cenedl yn rhan ganolog o hyn. Mae gennym ni weledigaeth glir ynghylch datblygu Cymru i fod yn bwerdy diwylliant a chwaraeon. Rydyn ni wedi ymrwymo i wireddu hynny. 

14:10
Pobl Ifanc mewn Chwaraeon

8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon yn dilyn Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop Dan-19 UEFA 2026 a gynhaliwyd yng ngogledd Cymru yr haf hwn? OQ64451

Mae digwyddiadau chwaraeon fel pencampwriaethau dan-19 UEFA yn gyfleoedd pwerus a phwysig i ysbrydoli pobl ifanc ac annog mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon. Mi fyddwn yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Sefydliad Pêl-droed Cymru, i adeiladu ar y momentwm o'r twrnamaint trwy gefnogi pêl-droed ar lawr gwlad, gwella mynediad at gyfleusterau a chryfhau cysylltiadau rhwng ysgolion, clybiau a chymunedau.

14:15
Undeb Rygbi Cymru

9. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ei pherthynas ag Undeb Rygbi Cymru? OQ64445

Fel Gweinidog newydd, dwi wedi mynd ati i geisio perthynas adeiladol gydag Undeb Rygbi Cymru, yn barod i herio pan fo angen, yn barod i gydweithio hefyd, tra'n parchu ei annibyniaeth. Mi ydym ni'n ymgysylltu'n rheolaidd ynglŷn â blaenoriaethau a rennir a datblygu'r gêm, gan gynnwys cyfranogiad, cyfleusterau, datblygu ar lawr gwlad a digwyddiadau mawr.

Wel, fel dwi wedi pwysleisio yn ystod y sesiwn hwn, mae'r rhain yn faterion annibynnol, a drwy Chwaraeon Cymru rydyn ni'n ariannu unrhyw gorff. Yn sicr, os oes gennych chi bryderon, mi fedraf i ofyn i Chwaraeon Cymru fod yn darparu rhagor o wybodaeth i chi. Dwi'n meddwl yr hyn sydd yn glir iawn o sesiwn heddiw ydy bod yna nifer o gwestiynau gan Aelodau ynglŷn ag Undeb Rygbi Cymru. Dwi'n awyddus iawn i gydweithio efo Aelodau ynglŷn ag unrhyw bryderon sydd gennych chi, a dwi'n hapus iawn i fod yn codi'r rhain yn uniongyrchol efo Undeb Rygbi Cymru. Pan oeddwn i'n llefarydd ar ran chwaraeon, mi oeddwn i'n ddigon parod i ofyn cwestiynau a herio hefyd, ac, fel Gweinidog, dwi'n barod iawn i wneud hynny.

Dwi'n falch iawn bod cymaint ohonoch chi yn pryderu am ddyfodol y gêm yng Nghymru gydag angerdd, ac, os cawn ni weithio gyda'n gilydd, yna dwi'n meddwl bod hwnna'n le da i ddechrau.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Symudwn ymlaen i eitem 2, cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid. Cwestiwn 1—Andrew R.T. Davies.

Cyllidebau yn y Dyfodol

1. Pa wersi y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u dysgu ers methu â phasio'r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2026-27, a sut y bydd hyn yn llywio dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran cyllidebau yn y dyfodol? OQ64442

14:20
14:25
Y Diwydiant Twristiaeth

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei galluoedd ariannol i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion Penfro? OQ64430

Mae cronfa buddsoddi twristiaeth Cymru, a mentrau eraill, yn buddsoddi bron i £60 miliwn yn uniongyrchol yng Nghymru. Mae llawer o fusnesau'n derbyn rhyddhad ardrethi annomestig neu byddant yn elwa o'r lluosydd is estynedig o 2027 ymlaen, fel y cyhoeddais i ddoe. Rŷn ni hefyd yn ymgynghori ar newidiadau posib i'r trothwy 182 diwrnod ar gyfer eiddo hunanarlwyo.

Wel, mae e wastad wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn bwnc trafod yn y Senedd yma, a chyda Plaid Cymru hefyd, lle mae'r pwynt yna lle mae'r cydbwysedd yn y farchnad dai yn gorwedd rhwng y stoc dai sydd ar gael i ni ar gyfer pobl i fyw ynddyn nhw, a hefyd y stoc dai sydd yna ar gyfer y sector twristiaeth a hunanarlwyo, ac mae cael y balans yna, fel nad yw un yn effeithio'n negyddol ar y llall, cael y balans yna yn gywir, yn bwysig. A dyna beth ŷn ni yn gobeithio ei gyflawni drwy ymgynghori ar hyn.

Dwi eisoes wedi trafod gyda rhai sy'n cynrychioli'r sector hunanarlwyo, sydd, yn amlwg iawn, yn credu bod y balans yn gorwedd yn is na'r 152 o ddiwrnodau yna sydd yn yr ymgynghoriad, ac rŷch chi hefyd, mae'n bosib, yn teimlo yr un fath. Dwi'n agored i gael y drafodaeth yna. Dwi'n synhwyro y bydd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn dangos bod y sector ei hun, a'r bobl sydd yn y sector, yn meddwl bod eisiau mynd yn ddyfnach na'r hyn sydd yn yr ymgynghoriad, ond fe fydd y Llywodraeth eisiau taro'r balans cywir. Dydyn ni ddim eisiau creu bwgan arall i ni ein hunain drwy osod y trothwy yma'n rhy isel. Ond rwyf i'n awyddus ein bod ni'n cyrraedd sefyllfa lle mae'r gyfundrefn yma sydd yn effeithio ar ein sector tai ni, ond hefyd ar ein sector hunanarlwyo, ein sector twristiaeth ni, yn cyrraedd pwynt lle mae'n gallu bod yn ganlyniad parhaol wedyn i'r pwnc yma. Felly, dwi'n agored iawn i drafod gyda chi hefyd ynglŷn â sut y mae cael y canlyniad i'r ymgynghoriad yma i gyrraedd rhywle sydd yn rhywbeth sydd yn cynnal mwyafrif y gefnogaeth yn y lle yma.

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog Cabinet. Llefarydd Reform UK, Cai Parry-Jones.

14:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae arnaf i ofn fod Cai Parry-Jones wedi bod yn copïo fy ngwaith cartref i, achos roeddwn i hefyd yn mynd i'ch holi chi am eich sylwadau chi ar Politics Wales. Roedd hi'n syndod i fi hefyd glywed am y sioc roeddech chi'n ei theimlo o ran y pwysau y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu.

Dwi'n meddwl bod y cwestiwn yna yn un gwirioneddol ddiddorol, ac yn wirioneddol yn gwestiwn sydd yn ein hwynebu ni fel Llywodraeth, sy'n Llywodraeth am y tro cyntaf. Rydym ni wedi etifeddu cyllidebau sydd wedi cael eu cynllunio gan bleidiau eraill a Llywodraethau o'n blaenau ni, er ein bod ni fel plaid hefyd wedi cefnogi agweddau o'r cyllidebau hynny. Mae'n wir i ddweud ein bod ni fel Llywodraeth a Gweinidogion y Llywodraeth yma yn edrych ar draws holl gyllidebau'r Llywodraeth ar hyn o bryd i weld beth sydd yn gweithio'n effeithiol, beth sydd angen ei newid, a lle mae toriadau. Gyda llaw, byddwch chi'n dod i wybod hyn, dwi ddim yn Weinidog cyllid sy'n ofni defnyddio'r gair 'toriadau'. Mewn rhai llefydd, mae toriadau yn beth da. Mewn llefydd eraill, dydyn nhw ddim. Ond dwi ddim yn mynd i osgoi defnyddio'r term.

14:40

A wnewch chi ymrwymo, Weinidog, i ailsefydlu'r grŵp yma a chomitio i ymgysylltu ystyrlon â mudiadau cydraddoldeb wrth gynllunio'r gyllideb, ac nid i simply ymgynghori ar ôl i'r penderfyniadau mawr gael eu gwneud? 

Dwi yn fodlon ymrwymo i edrych ar y mater yma. Dyw e ddim yn fater dwi'n hollol gyfarwydd ag e. Dwi yn gweld y gwerth sydd yna a dwi'n ymwybodol iawn bod fy nghyd-Weinidogion yn ymwybodol iawn bod impact unrhyw newidiadau cyllid angen cael eu hasesu ac angen mynd drwy'r lens yna rŷch chi'n sôn amdano. Dŷn ni ddim eisiau gweld taw'r bobl fwyaf difreintiedig neu anghenus fydd yn dioddef o unrhyw newidiadau i'r gyllideb. Felly, mae hwnna'n rhywbeth rŷn ni'n mynd i eisiau iddo fod yn ffactor allweddol yn sut rŷn ni'n gwneud yr asesiadau cyllidol yma. Ac felly, mi wnaf i edrych yn benodol ar y grŵp rŷch chi newydd sôn amdano i weld sut gallwn ni fod yn dwyn y drafodaeth yn ei blaen gyda'r arbenigwyr yna.

14:45
Polisi Cyllid Llywodraeth Leol

3. A wnaiff y Gweinidog Cabinet nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran polisi cyllid llywodraeth leol yn ystod y Senedd hon? OQ64434

Diolch. O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r cyfrifoldeb am lywodraeth leol yn dod o dan fy nghydweithiwr, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio. Gan weithio gyda llywodraeth leol, rŷn ni wedi cyflawni ein hymrwymiad 100-diwrnod i gomisiynu adolygiad o fformiwla gyllido llywodraeth leol.

14:50

Diolch i'r Aelod am ofyn y cwestiwn. Mae'r llu o grantiau bach sy'n cael eu dyrannu i awdurdodau lleol o flwyddyn i flwyddyn yn creu heriau gwirioneddol o ran cynllunio ymlaen llaw. Trwy ddiwygio'r grant cynnal refeniw i'w wneud yn decach ac yn fwy tryloyw, gellid sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen. Nawr, dwi'n siŵr nad yw'r Gweinidog eisiau rhagdybio unrhyw adolygiad, ond ydy'r Gweinidog yn meddwl, drwy symleiddio'r ffordd y caiff llywodraeth leol ei hariannu, y gallai hynny wella'r sefyllfa bresennol?

Ie, dwi'n meddwl bod y pwyntiau yna'n sicr o werth i awdurdodau lleol wrth iddyn nhw feddwl amboutu ariannu'r cynlluniau yna a'r gwasnaethau yna y maen nhw'n eu delifro. Ac felly, y lens yna rŷn ni'n moyn ei roi ar siẁd mae'r setliad ar gyfer llywodraeth leol yn gweithio'n fwy effeithiol, ond hefyd siẁd mae'r model o ariannu yn fwy cynhwysfawr yn gweithio hefyd. 

Mae rhoi'r rhyddid yna i lywodraeth leol i fedru penderfynu ar eu blaenoriaethau nhw eu hunain yn bart o ddatganoli o fewn Cymru, wrth gwrs, ac felly, os ydyn ni'n gallu cyflawni yr hyn rŷn ni eisiau trwy rymuso llywodraeth leol i fod yn arwain ar siẁd mae datblygu a chyflenwi gwasanaethau yn eu hardaloedd nhw, yna, fel Llywodraeth, byddwn ni'n falch iawn i glywed am syniadau sy'n dod wrth lywodraeth leol, ac yn dod o'r Senedd yma, fel y gallwn ni sicrhau bod y pecyn mwyaf effeithiol o ariannu yn cyrraedd llywodraeth leol, achos, fel dwi wedi dweud eisoes, nhw sy'n delifro gwasanaethau, ac maen nhw angen yr arfau hynny a'r pwerau hynny i fedru gwneud hynny'n effeithiol. 

Tanau Gwyllt Diweddar

4. Sut mae'r Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr y Cabinet i ddarparu cymorth ariannol i gominwyr a phobl eraill sydd wedi'u heffeithio gan y tanau gwyllt diweddar? OQ64453

Dwi'n ymwybodol o effeithiau helaeth y tanau gwyllt ar ffermwyr a commoners hefyd. Os yn briodol, byddwn yn caniatáu eithriadau i ofynion cynllunio er mwyn helpu ffermwyr sydd wedi eu heffeithio. Mae ystyriaeth bellach yn cael ei roi hefyd i sut i gefnogi gwydnwch y sector yn wyneb pwysau sylweddol yr haf hwn.

14:55

Weinidog, fel gwnes i sôn wrth y Prif Weinidog ddoe, fe wnaeth y tân dinistriol yn Pantside ddangos yn glir iawn sut mae'r perygl o danau wedi newid. Cafodd cartrefi yn fanno eu dinistrio ac, a dweud y gwir, roeddem ni'n lwcus iawn bod neb wedi colli eu bywydau. Mae'r diffoddwyr tân dwi wedi siarad efo nhw trwy'r Fire Brigades Union yn glir bod y digwyddiadau hyn yn cynyddu o ran maint, cymhlethdod a'r adnoddau sydd eu hangen i ymateb iddyn nhw. Felly, ochr yn ochr â chymorth i'r commoners ac i'r ffermwyr sydd wedi dioddef colledion, pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o oblygiadau ariannol ehangach tanau yr haf yma?  

Diolch am y cwestiwn a diolch am ein hatgoffa ni o'r golygfeydd ofnadwy yna welon ni yn Pantside yn eich ardal chi, gyda'r tanau yna yn y gymuned yna yn dangos bod eiddo a thai hefyd mewn peryg mewn sefyllfaoedd o’r math yma. Mae’r Gweinidog llywodraeth leol eisoes wedi cytuno i agor yr emergency financial assistance scheme. Felly, mae hwnna ar gael ar gyfer yr awdurdodau lleol a’r awdurdodau tân i asesu maint y gwariant ychwanegol yr oedden nhw wedi gorfod ei wynebu yn ystod yr haf yma, a sut y gallan nhw, os oes angen, ddefnyddio’r cynllun yna. Rŷn ni’n derbyn bod y gwaith maen nhw wedi'i wneud fel diffoddwyr tân, fel awdurdodau lleol, fel cymunedau lleol, yn arbennig o bwysig yn ein cymdeithas ni, ac rŷn ni'n ddiolchgar am y gwaith yna yn ystod yr haf. Felly, rŷn ni'n barod i edrych gyda'r awdurdodau perthnasol ar sut mae'n bosib ariannu unrhyw arian sydd ei angen arnyn nhw. Byddwn ni'n cydweithio gyda nhw ar hynny.

15:00

Dwi'n ymwybodol iawn o'r amser, a hoffwn i gyrraedd o leiaf hanner ffordd lawr y rhestr. Felly, byddaf i'n methu â chymryd cwestiynau atodol. Cwestiwn 5, Anna Nicholl.

Ardrethi Busnes ar gyfer Busnesau Lletygarwch

5. Pa waith y mae'r Gweinidog Cabinet yn ei wneud i ddiwygio ardrethi busnes ar gyfer busnesau lletygarwch? OQ64459

Ddoe, roeddwn i'n falch iawn i gyhoeddi cymorth ardrethi annomestig newydd i fusnesau lletygarwch a hamdden, sydd wrth galon ein huchelgais i adfywio canol trefi. O 1 Ebrill 2027 ymlaen, bydd busnesau cymwys yn elwa ar ostyngiad parhaol o 30 y cant yn eu biliau ardrethi. 

Diolch. Ces i gic gan y Dirprwy Lywydd, dwi'n meddwl, i gadw fy atebion i'n fyrrach. Felly, fe wnaf i ymdrechu i wneud hynny. Ni wnaf i ddim ail-ddweud dim gwnes i ei ddweud ddoe yn Senedd, pan oeddem ni'n trafod y gostyngiad treth yma o 30 y cant. Dwi'n gobeithio ei fod e'n cyflawni dau beth. Dwi'n gobeithio ei fod e'n gwneud gwahaniaeth realistig i'r busnesau yma a fydd yn elwa o hyn, ac y byddan nhw yn teimlo ei fod e'n eu galluogi nhw i gynllunio'n well ar gyfer y dyfodol oherwydd bod hyn yn barhaol. Ond hefyd gobeithio ei fod e'n cyflawni neges o gefnogaeth oddi wrth y Llywodraeth yma, a'r Senedd yma os bydd pawb yn cytuno i'r rheoliadau, ein bod ni o ddifri yn moyn gweld y sector yma yn cael ei chefnogi ac yn elwa ac yn datblygu yn y cymunedau yna ar draws Cymru sy'n mynd i elwa—nid dim ond y rhai arfordirol yn eich etholaeth chi a fi, ond hefyd y canol trefi yna, y swbwrbia yna hefyd, yn ein dinasoedd ni ac yn ein cymunedau ôl-lofaol ni.

Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol

6. Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o gynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol? OQ64463

O fewn Llywodraeth Cymru, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio sy'n uniongyrchol gyfrifol am lywodraeth leol, ond rŷn ni'n ymwybodol ar draws y Llywodraeth o'r pwysau ariannol ar gynghorau sir wrth iddynt ddelifro gwasanaethau cyhoeddus pwysig. 

15:05

A'r cwestiwn olaf i chi, Weinidog, yw cwestiwn 7, Mike Hedges.

Cyllid Llywodraeth Cymru

7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer Llywodraeth Cymru? OQ64438

Mae'r rhagolygon ar gyfer cyllideb Cymru yn dal i fod yn hynod heriol. Mae disgwyl i’r cyllid adnoddau ostwng 0.7 y cant mewn termau real yn 2027-28 a bydd cyllidebau cyfalaf yn gostwng dros y tair blynedd nesaf, o’i gyferbynnu â'r twf cyfartalog o 3.5 y cant y flwyddyn mewn termau real a welwyd ddechrau'r degawd. 

15:10
4. Datganiadau 90 eiliad

Symudwn ymlaen, felly, i'r datganiadau 90 eiliad. Kiera Marshall.

Daeth y Llywydd (Huw Irranca-Davies) i’r Gadair.

15:15
5. Dadl Reform UK: Gangiau grŵmio

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies.

Cynnig NDM9293 Llŷr Powell

Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Cristiana Emsley, Helen Jenner, John Clark

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn euogfarnau am droseddau sy'n ymwneud â chamfanteisio'n rhywiol gan gangiau grŵmio yng Nghymru.

2. Yn credu bod pawb sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol gan gangiau grŵmio yng Nghymru yn haeddu cyfiawnder.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei hymchwilio cyn gynted â phosibl fel rhan o'r Ymchwiliad Annibynnol Statudol i Gangiau Grŵmio.

Cynigiwyd y cynnig.

15:25

Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu popeth ar ol pwynt 1 a rhoi yn ei le:

O’r farn bod pawb yng Nghymru sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol gan gangiau grŵmio yn haeddu cyfiawnder a chymorth.

Yn nodi bod Cymru’n dod o fewn cwmpas yr Ymchwiliad Annibynnol Statudol i Gangiau Grŵmio.

Yn nodi ymrwymiad sydd wedi’i ddatgan gan Lywodraeth Cymru i ystyried yn ofalus unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion o ran Cymru a datblygu unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol.

Yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol drwy’r Strategaeth Genedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026, gan gynnwys rhoi ar waith y camau gweithredu a nodir yn ei Chynllun Cyflawni.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Dwi'n cynnig yn ffurfiol.

Diolch. Galwaf nawr ar Darren Millar i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad gangiau grŵmio Cymru gyfan i feysydd cymhwysedd datganoledig.

Cynigiwyd gwelliant 2.

15:30
15:35
15:40
15:45
15:50
15:55
16:00
16:05

Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, Delyth Jewell.

Diolch, Lywydd. Dwi'n ddiolchgar i bob Aelod sydd wedi cyfleu rhai profiadau eithriadol o bersonol y prynhawn yma.

Mae'r ddadl hon yn ymdrin â rhai o'r niweidiau mwyaf difrifol, mwyaf erchyll mae plentyn yn gallu eu profi. Mae cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio rhywiol ar blant yn gallu cael effaith ddofn a gydol oes ar bob agwedd ar fywyd person. Maen nhw'n gallu effeithio ar addysg, perthnasoedd, cyflogaeth, iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant unigolyn ymhell i'w fywyd fel oedolyn. Rhaid i'r rhai sy'n cyflawni y troseddau hyn gael eu dal i gyfrif. Mae pob dioddefwr a goroeswr yn haeddu cyfiawnder a chymorth.

Bydd dysgu gwersi o’r ymchwiliad hwn yn hanfodol, ond mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn ymateb i realiti heddiw. Dyw’r plant sy’n wynebu risg heddiw ddim yn gallu aros am gasgliadau’r ymchwiliad. Ochr yn ochr â’n gwaith ar gyfer yr ymchwiliad, dŷn ni’n gwneud llawer o waith i gryfhau trefniadau diogelu ar draws Cymru, a bydd Aelodau yn clywed rhagor am hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno hynny.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno gwelliant yn galw am ymchwiliad Cymru gyfan ac ar wahân i faterion wedi’u datganoli. Dwi’n deall y bwriad tu ôl i’r cynnig—dwi yn deall hynny. Mae’n bwysig ei gwneud yn glir, fel dwi wedi dweud, bod yr ymchwiliad ar gyfer Lloegr a Chymru. Mae Cymru’n rhan ganolog o’i gylch gwaith. Mae gan yr ymchwiliad y gallu i gynnal ymchwiliadau lleol yng Nghymru, ac mae’n cydnabod y cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli ac sydd ddim wedi'u datganoli. Roeddech chi'n sôn am ymgynghoriad COVID, a dwi'n meddwl mai dyna ydy'r gwahaniaeth mawr, oherwydd roedd hynna'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yn bennaf, ac mae hwnna dan orchwyl Llywodraeth Cymru. Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Mae Darren eisiau dod i mewn. 

16:10

Os gallaf ffeindio lle'r oeddwn i nawr. 

Mi fydd angen dull gweithredu system gyfan, gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus, partneriaid diogelu, cymunedau a goroeswyr at ei gilydd. Mi fyddwn ni’n rhoi fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar waith, yn cryfhau cymorth i ymarferwyr a goroeswyr, ac yn gwella gwasanaethau ledled Cymru.

Ym mis Medi yn unig, daeth mwy na 400 o weithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru a phartneriaid ac arbenigwyr diogelu at ei gilydd i gryfhau gwybodaeth, gwella ymarfer a hybu’r gwaith o weithredu’r strategaeth. Ar ddechrau’r flwyddyn nesaf, mi fydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol flynyddol yn cael ei lansio i helpu pobl i adnabod arwyddion o gam-drin a deall y camau y gallan nhw eu cymryd.

Oherwydd mae diogelu yn fusnes i bawb. Er bod plismona a chyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn faterion a gedwir yn ôl, rŷn ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid ar draws gwasanaethau cyhoeddus i atal niwed, lleihau troseddu ac adeiladu cymunedau mwy diogel ledled Cymru. Mae’r gwaith hwn hefyd yn cyd-fynd â’n hymrwymiad ehangach i atal trais, cam-drin a chamfanteisio ac i greu cymunedau mwy diogel ledled Cymru.

Mi fyddwn ni’n cyhoeddi strategaeth newydd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod yr haf flwyddyn nesaf.

Yn gynharach eleni, fe wnes i rannu fy mlaenoriaethau â’r Senedd. Mae cryfhau trefniadau diogelu i amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn dal i fod yn un o’m prif flaenoriaethau. Rhaid i leisiau plant fod yn ganolog i benderfyniadau diogelu, gan gynnwys pan fo pryderon yn bodoli ond dyw'r plentyn ddim wedi datgelu hynny’n ffurfiol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno dyletswyddau newydd o ran rhoi gwybod am gam-drin plant yn rhywiol, cryfhau safonau diogelu a sicrhau bod gwersi o bryderon diogelu yn arwain at welliant ledled Cymru. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd yr Aelodau yn cael clywed rhagor am sut rŷn ni’n bwriadu cyflawni’r ymrwymiadau hynny ar lawr y Senedd.

16:20
16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl Reform UK: Anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Heledd Fychan, gwelliant 3 yn enw Paul Davies, a gwelliant 4 yn enw Lynne Neagle.

Symudwn ymlaen nawr at eitem 6, dadl Reform UK, anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Galwaf yn awr ar Benjamin Hodge Mckenna i wneud y cynnig. Benjamin.

Cynnig NDM9294 Llŷr Powell

Cefnogwyd gan Andrew Griffin, Cristiana Emsley, John Clark, Sarah Cooper-Lesadd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at yr anghydfod cyflog parhaus rhwng ymwelwyr iechyd yng Nghymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i hwyluso datrysiad boddhaol i'r anghydfod, gan gynnwys cynnig cyflog teg, ac i roi terfyn ar y streic.

Cynigiwyd y cynnig.

Galwaf yn awr ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal i gynnig yn ffurfiol gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:

sy'n rhagflaenu'r llywodraeth bresennol ac sydd wedi parhau heb ei ddatrys ers nifer o flynyddoedd.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Unite dro ar ôl tro i ddod ynghyd i ddatrys yr anghydfod hwn er mwyn lleihau'r effaith ar fabanod, teuluoedd a staff, a'i fod yn parhau'n ymrwymedig i hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth gadarnhaol ar bob lefel ac i ddatrys anghydfodau lleol drwy drafod cyn gynted â phosibl.

Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau gweithlu ymwelwyr iechyd diogel a sefydlog ledled Cymru, a bod Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi comisiynu gwaith i adolygu ac ystyried y ffordd y darperir gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y model yn parhau i ddiwallu anghenion plant, teuluoedd a chymunedau.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch yn fawr. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu fel pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r llythyr ar y cyd a lofnodwyd gan y Prif Weinidog fel arweinydd Plaid Cymru ar ran Plaid Cymru yn ystod etholiad diweddar y Senedd sy'n galw ar y bwrdd iechyd i anrhydeddu prosesau a gytunwyd ac uwchraddio pob ymwelydd iechyd Band 6 i Fand 7, ac adfer egwyddorion gweithio mewn partneriaeth.

Yn gresynu bod Plaid Cymru mewn llywodraeth wedi methu, hyd yn hyn, ag anrhydeddu'r ymrwymiad a gynhwysir yn y llythyr.

Cynigiwyd gwelliant 3.

16:35

Galwaf ar Vikki Howells i gynnig gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle.

Gwelliant 4—Lynne Neagle

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod rôl sylfaenol ymwelwyr iechyd wrth roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, gan gynnwys eu rôl hanfodol wrth ddiogelu babanod a phlant, ac yn annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddatrys yr anghydfod a chael ymwelwyr iechyd yn ôl i'r gwaith.

Cynigiwyd gwelliant 4.

16:40
16:45
16:50

Galwaf nawr ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor.

Diolch, Lywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl yma. Mi wnaf i ddechrau drwy ategu'r hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud am y rôl hanfodol sydd gan ymwelwyr iechyd wrth gefnogi babanod, plant a theuluoedd ledled Cymru. Yn aml, mae eu gwaith yn cael ei wneud gyda rhai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad amhrisiadwy i wella canlyniadau a lleihau anghydraddoldeb.

Dwi hefyd eisiau cydnabod yr effaith mae'r anghydfod parhaus yma wedi'i chael ar yr ymwelwyr iechyd eu hunain, ar deuluoedd sy'n dibynnu ar y gwasanaethau ac ar gydweithwyr sy'n gweithio ar draws y system iechyd a gofal ehangach. Dwi'n gwybod na fyddai'r penderfyniad i streicio wedi bod yn benderfyniad hawdd iddyn nhw. Mae'r Llywodraeth yn deall cryfder y teimladau ynglŷn â'r mater yma a'r pryder sydd wedi'i fynegi gan Aelodau ar draws y Siambr.

Er hynny, mae'n bwysig bod y ddadl yma yn cael ei seilio ar ffeithiau. Wnaeth yr anghydfod hwn ddim codi dros nos. Mae'n rhagflaeni'r Llywodraeth bresennol ac mae'n fater sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers sawl blwyddyn. Wrth wraidd yr anghydfod mae anghytundeb rhwng Unite a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynglŷn â gwerthuso rolau ymwelwyr iechyd a'r trefniadau band cyflog priodol.

Yn ogystal ag ymateb i'r sefyllfa fel y mae hi, mae'n rhaid inni hefyd ystyried dyfodol gwasanaethau ymwelwyr iechyd. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnal gweithlu ymwelwyr iechyd sicr a chynaliadwy ar draws Cymru. Dyna pam mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi comisiynu gwaith i adolygu ac ystyried y ffordd y bydd gwasanaethau ymwelwyr iechyd a threfniadau ehangach ar gyfer y gweithlu yn cael eu trefnu yn y dyfodol, gan sicrhau eu bod nhw'n parhau i ddiwallu anghenion plant, teuluoedd a chymunedau yn y blynyddoedd i ddod.

Lywydd, mae pob un Aelod o'r Senedd hon eisiau gweld yr anghydfod yn dirwyn i ben. Rydym ni i gyd eisiau i blant a theuluoedd gael y gefnogaeth maen nhw ei hangen ac eisiau i staff deimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Am y rhesymau hynny, dwi'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant y Llywodraeth sy'n adlewyrchu realiti'r anghydfod a'r camau mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd i annog datrysiad, tra'n parhau i ddiogelu gwasanaethau a chefnogi dyfodol y gwasanaethau ymwelwyr iechyd yng Nghymru. Diolch.

16:55
17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Oni bai bod pum Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Mae yna bum Aelod. 

Canwyd y gloch i alw’r Aelodau i’r Siambr.

17:10
7. Cyfnod Pleidleisio

Yn gyntaf, galwaf am bleidlais ar y cynnig o dan eitem 5, y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 47 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 5. Dadl Reform UK - gangiau grwmio. Cynnig heb ei ddiwygio.: O blaid: 37, Yn erbyn: 47, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Symudwn nawr i welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 47, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Eitem 5. Dadl Reform UK - gangiau grwmio. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.: O blaid: 47, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 37, neb yn ymatal, 47 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.

Eitem 5. Dadl Reform UK - gangiau grwmio. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.: O blaid: 37, Yn erbyn: 47, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM9293 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn euogfarnau am droseddau sy'n ymwneud â chamfanteisio'n rhywiol gan gangiau grŵmio yng Nghymru.

2. O’r farn bod pawb yng Nghymru sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol gan gangiau grŵmio yn haeddu cyfiawnder a chymorth.

3. Yn nodi bod Cymru’n dod o fewn cwmpas yr Ymchwiliad Annibynnol Statudol i Gangiau Grŵmio.

4. Yn nodi ymrwymiad sydd wedi’i ddatgan gan Lywodraeth Cymru i ystyried yn ofalus unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion o ran Cymru a datblygu unrhyw gamau gweithredu angenrheidiol.

5. Yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol drwy’r Strategaeth Genedlaethol ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026, gan gynnwys rhoi ar waith y camau gweithredu a nodir yn ei Chynllun Cyflawni.

Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 47, yn ymatal 29, yn erbyn wyth. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

17:15

Eitem 5. Dadl Reform UK - gangiau grwmio. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 47, Yn erbyn: 8, Ymatal: 29

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Pleidleisiwn yn awr ar eitem 6. Galwaf yn gyntaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Llŷr Powell. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 38, neb yn ymatal ac yn erbyn 46. Mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 46, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rŷn ni'n mynd yn awr at welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 48, neb yn ymatal ac yn erbyn 36. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 48, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 42. Felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Dyma'r canlyniad: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 43. Mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.

17:20

Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 42, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 42. Felly, unwaith eto, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. A nawr, dyma'r canlyniad: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 43. Mae gwelliant 3 wedi'i wrthod. 

Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 42, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 4 nawr. Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 84, neb yn ymatal, neb yn erbyn hefyd. Mae gwelliant 4 wedi'i dderbyn.

17:25

Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle: O blaid: 84, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM9294 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at yr anghydfod cyflog parhaus rhwng ymwelwyr iechyd yng Nghymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy'n rhagflaenu'r llywodraeth bresennol ac sydd wedi parhau heb ei ddatrys ers nifer o flynyddoedd.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i hwyluso datrysiad boddhaol i'r anghydfod, gan gynnwys cynnig cyflog teg, ac i roi terfyn ar y streic.

3. Yn cydnabod rôl sylfaenol ymwelwyr iechyd wrth roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, gan gynnwys eu rôl hanfodol wrth ddiogelu babanod a phlant, ac yn annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddatrys yr anghydfod a chael ymwelwyr iechyd yn ôl i'r gwaith.

Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 42. Felly, unwaith eto, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi'i ddiwygio. Felly, dyma ganlyniad y bleidlais: o blaid 42, neb yn ymatal, yn erbyn 43. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i wrthod. Diolch yn fawr iawn. 

Eitem 6. Dadl Reform UK - anghydfod cyflogau ymwelwyr iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 42, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

8. Dadl Fer: Nid yw tagfeydd yn anochel: Sut y gall Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd wella bywydau modurwyr yng Nghaerdydd a'r rhanbarthau cyfagos

Symudwn yn awr at ddadl fer heddiw, eitem 8, a galwaf ar Cai Parry-Jones i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Cai.

17:30
17:35
17:40

Diolch. Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth i ymateb i'r ddadl. Mark Hooper. 

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gael cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Mae tagfeydd yn fater diddorol i lawer o bobl yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.

Mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i wneud trafnidiaeth yn haws ac yn fwy dibynadwy. Mae hyn yn bwysig i yrwyr, teithwyr, busnesau a chymunedau. Diolch.

17:50

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:53.