Y Cyfarfod Llawn

Plenary

30/06/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant wrth gyflwyno’r busnes.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Croeso nôl. Rydyn ni'n dechrau nawr gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, cwestiwn 1, Francesca O'Brien.

Recriwtio yn y Sector Addysg

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio yn y sector addysg? OQ64315

Mae ysgolion yn Ngŵyr Abertawe yn nodi cynnydd mewn absenoldeb, sy'n arwain at gynnydd mewn pryderon ynghylch anxiety—pryder—a iechyd meddwl sy'n gysylltiedig. Mae clod mawr i John Davies fan hyn, achos ei synied ef oedd e ein bod ni'n mynd rownd ysgolion Gŵyr Abertawe i weld beth oedd y problemau, so ein bod ni'n gallu gweld beth rydyn ni'n gallu gwneud amdanyn nhw. Mae'r absenoldebau yn achosi problemau dysgu, problemau i rieni a phroblemau i athrawon. Yn amlwg, mae'r rhain i gyd yn gwneud dysgu yn anoddach fyth, ac yn effeithio ar nid dim ond recriwtio ond ar gadw athrawon yn y swydd hefyd. Pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi athrawon gyda hyn a’u helpu i aros mewn swyddi? Diolch.

Dwi'n llongyfarch yr Aelodau lleol am sicrhau eu bod nhw'n mynd i ysgolion i ddeall beth ydy'r heriau sy'n cael eu hwynebu. Mae presenoldeb rheolaidd, rydyn ni'n gwybod, yn hanfodol ar gyfer cyfranogiad, ar gyfer cyflawniad addysgol a lles disgyblion. Rydyn ni'n canolbwyntio ar nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau hynny cyn gynted â phosib, gan alluogi plant a phobl ifanc i fynychu'r ysgol, cymryd rhan mewn dysgu a chyflawni eu potensial llawn. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn gweithio i fynd i'r afael yn benodol ag achosion sylfaenol absenoldeb, gan gynnwys drwy rannu gwybodaeth yn well a thynnu ynghyd y partneriaid sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen yn y maes yma—gwasanaethau addysg, lles a chymorth—gwella ymgysylltu drwy wneud hynny, ac, yn y pen draw, gobeithio lleihau absenoldeb.

Felly, Brif Weinidog, allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau gawsoch chi gydag undebau llafur athrawon cyn cyhoeddi'r cynlluniau yma? Rydych chi wedi dweud eich bod chi eisiau gweithio mewn partneriaeth. Beth oedd y trafodaethau gafwyd? Pam na wrandawoch chi ar y consýrn maen nhw wedi ei godi, os gwnaethoch chi gwrdd â nhw? Os na wnaethoch chi gwrdd â nhw, yna sut ydych chi nawr yn mynd i ddysgu'r gwersi?

13:35

Beth wnaf i ddweud ydy, wrth gwrs, fod y Gweinidog dros addysg yn cyfarfod cynrychiolwyr undebau drwy'r amser. Mae partneriaeth efo undebau yn rhywbeth pwysig. Mae'n Weinidog sydd, yn digwydd bod, â phrofiad o weithio yn y maes hwnnw ei hun. Felly, all neb gyhuddo'r Gweinidog addysg yma o beidio parchu'r berthynas efo undebau'r athrawon. Ar ddiwedd y dydd, mae yna fwriad neu mae yna nod gennym ni yma, fel Llywodraeth, i fynd i'r afael â'r heriau recriwtio, a cham cyntaf ydy hwn, wrth gwrs, fydd yn arwain at adeiladu'r incentives rydyn ni'n bwriadu eu rhoi mewn lle, oherwydd mae athrawon presennol angen gwneud yn siŵr eu bod nhw yn cael eu cefnogi. A rhan fawr o'r gefnogaeth yna ydy gwneud yn siŵr bod yna wytnwch ar draws y gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd.

Y Diffiniad o Ryw Fiolegol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw fiolegol? OQ64253

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog. Yn gyntaf, arweinydd Reform UK, Dan Thomas. 

13:45
13:50
13:55

Mae cwestiynau 3 ac 8 wedi eu grwpio. Yn gyntaf, cwestiwn 3, Laura Anne Jones.

Diogeledd Bwyd

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau diogeledd bwyd? OQ64317

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau diogeledd a gwydnwch bwyd? OQ64237

14:00
14:05
Lles Anifeiliaid

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ64236

Cymorth i Ofalwyr Di-dâl

5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl? OQ64295

14:10
14:15
Adolygiad o Addysg Uwch

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o addysg uwch? OQ64284

Mae adolygiad o addysg uwch yn un o’n hymrwymiadau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth, a dwi’n falch o ddweud bod y gwaith yn datblygu’n dda. Mi fydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn rhannu rhagor o fanylion am hyn maes o law.

Diolch am yr ymateb, Brif Weinidog. Rydym i gyd yn y Siambr hon yn gwybod bod addysg uwch yng Nghymru yn wynebu heriau ariannol sylweddol am nifer o resymau, tra bod y gyfran o bobl 18 oed sy'n dewis mynd i'r brifysgol yn parhau i ostwng. Mae data diweddar UCAS yn dangos bod y gyfradd mynediad i addysg uwch yng Nghymru ar ei lefel isaf ers degawd. Fy etholaeth i, Afan Ogwr Rhondda, sydd â'r bwlch cyfranogiad mwyaf o unrhyw etholaeth yng Nghymru, sy'n sefyllfa go ddifrifol y mae'r Llywodraeth hon wedi ei hetifeddu. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mynd i'r afael â'r bwlch cyfranogiad rhwng dysgwyr o gymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru yn rhan ganolog o'r adolygiad sector eang o addysg uwch?    

14:20

Mae’r gwahaniaeth cyfranogiad yna yn rhywbeth a ddylai ein pryderu ni i gyd. Dwi’n anghofio’r union leoliad, ond mi oedd yna ystadegyn roeddwn i’n edrych arno fo yn y misoedd diwethaf a oedd yn dangos bod 18 y cant o ddisgyblion o un ysgol uwchradd neu ardal yng nghymoedd Gwent yn mynd i brifysgol, ac 80 y cant o ddisgyblion o un ysgol uwchradd arbennig yng Nghaerdydd. Mae'n frawychus bod cyfleon bywyd yn cael eu gosod allan mewn ffordd lle mae yna gymaint o wahaniaeth â hynny.

Mae cyfranogiad yn un o'r meysydd sydd yn mynd i fod yn cael sylw yn yr adolygiad. Dydy o ddim yr unig elfen ohono fo. Mae sut i sicrhau bod myfyrwyr drwyddi draw yn cael cefnogaeth ddigonol mewn addysg uwch yn bwysig, ac mae cefnogi ein sefydliadau addysg uwch ni yn gwbl, gwbl hanfodol. Oni bai bod camau yn cael eu cymryd, dydy hi ddim yn anodd dychmygu sefyllfa lle fyddai yna ddim sefydliadau addysg uwch i ddisgyblion fynd iddyn nhw yng Nghymru. Dydyn ni ddim cweit ar y pwynt hwnnw eto, ond dyna ddifrifoldeb y sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu. Mae cynyddu cyfleon am gyfranogiad fel bod y myfyrwyr yma yn gallu mynd yn fyfyrwyr, yn cynllunio ar gyfer eu bywydau, yn gosod uchelgais ar gyfer eu hunain mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, yn rhan o’r ateb i hyfywedd ein sefydliadau addysg uwch. Felly, mae yna gylch yma rydyn ni angen ei gau. Mi fydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn ynglŷn â sut y bydd y materion yma yn cael eu cymryd ymlaen.

Ynni Glân

7. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y trawsnewidiad i ynni glân o fudd i gymunedau lleol yng Ngheredigion Penfro? OQ64288

14:25
Meddyginiaeth Atal y Glasoed

9. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu meddyginiaeth atal y glasoed i blant 11 oed? OQ64316

Y Diwydiant Twristiaeth

10. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion Penfro? OQ64286

14:30
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Rydyn ni'n symud nawr i eitem 2, cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Rydw i'n siarad yn araf achos efallai bod y Cwnsler Cyffredinol yn dod i mewn i'r Siambr. 

Cwestiynau nawr i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae cwestiwn 1 a chwestiwn 6 wedi eu grwpio. Cwestiwn 1, Sarah Cooper-Lesadd.

Cyfrifoldebau Rhianta Corfforaethol

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i estyn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol i ystod ehangach o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys cyrff nad yw eu swyddogaethau wedi'u datganoli, yng ngoleuni darpariaethau Deddf Lles Plant ac Ysgolion 2026? OQ64254 [R]

6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut mae'r fframwaith rhianta corfforaethol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cymharu, o ran effaith gyfreithiol a gorfodadwyedd, â'r dyletswyddau statudol cryfach sydd bellach mewn grym yn Lloegr? OQ64255

14:35
Confensiwn Sewel

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â rhoi Confensiwn Sewel ar sail statudol? OQ64260

14:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Cwnsler Cyffredinol. Yn gyntaf, llefarydd Reform UK, Adrian Mason. 

14:45
14:50
14:55
Dyletswyddau Cyfreithiol Cyrff Cyhoeddus

3. Pa rôl sydd gan y Cwnsler Cyffredinol o ran sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol? OQ64242

Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol

4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gapasiti Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol i gefnogi rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth mewn Senedd fwy o faint gyda 96 Aelod? OQ64245

15:00
Trefniadau Gofal Iechyd Trawsffiniol

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar i ba raddau y mae trefniadau gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn cael eu hategu gan gytundebau gweinyddol, neu rwymedigaethau statudol neu gontractiol gorfodadwy? OQ64238

15:05

Croeso arbennig i'r Cwnsler Cyffredinol i'w swyddogaeth newydd yma heddiw. Mi wnaf i ofyn hwn yn Saesneg, er syndod i sawl un.

15:10
Achosion Cynllunio

Diolch yn fawr, Lywydd. A llongyfarchiadau, Gwnsler Cyffredinol, ar eich rôl newydd.

7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i herio achosion cynllunio a gymeradwywyd gan awdurdodau lleol er gwaethaf gwrthwynebiad lleol cryf? OQ64265

Datganoli Ystad y Goron

8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron? OQ64256

15:15
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Nawr, eitem 3, datganiad a chyhoeddiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd, Heledd Fychan.

Diolch, Lywydd. Mae yna un newid i fusnes yr wythnos hon: mae datganiad llafar wedi'i ychwanegu at agenda heddiw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae busnes ddrafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r holl Aelodau yn electronig.

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Yn amlwg, mi oeddech chi yma pan wnaeth y Gweinidog wneud y datganiad blaenoriaethau ac ati. Mae yna gyfleoedd eraill yn mynd i fod i'w holi hi, a dechrau craffu drwy'r pwyllgorau hefyd. Mae hwn yn fater mae gennym ni i gyd ddiddordeb ynddo fo, dwi'n siŵr, oherwydd mae tai yn fater y byddem ni i gyd yn ei gael fel gwaith achos. Ac o ran gweld tai gwag, mae angen inni fod yn mynd i'r afael â hynny ac, yn sicr, mae yna gynlluniau felly. Felly, mi fydd yna gyfle i fod yn craffu a holi'r Gweinidog, mae hynny'n sicr, ac mi fydd hynny drwy'r pwyllgorau ac yn uniongyrchol drwy ofyn cwestiynau iddi hi.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, mi glywsoch chi y Gweinidog perthnasol yn gwneud datganiad blaenoriaethau yn ddiweddar yma—hynny gan Adam Price fel y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Mae yna ymrwymiadau, wrth gwrs, yn ein cynllun 100 diwrnod ni, ac mi fyddwn ni yn diweddaru'r Senedd wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.

15:20

Gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater yna? Yn amlwg, mi fydd nifer ohonom ni wedi cael aelodau o'r cyhoedd yn cysylltu efo ni ar y mater hwnnw. Gaf i ofyn, gan fod gennych chi bobl benodol yn eich etholaeth wedi cysylltu, a fyddech chi'n fodlon rhannu hynny a'r profiadau byw hynny gyda'r Gweinidog Cabinet fel y gall o edrych yn bellach mewn i hynny, os gwelwch yn dda?

Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn. Byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru yn rhannu eich uchelgais chi o ran sicrhau bod gan bob teulu fynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel, oherwydd bod hyn yn datgloi cyfleoedd. Mae hwn yn rhywbeth sydd wrth galon ein cynllun ni yn y Llywodraeth. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod gwelliant Plaid Cymru yn y ddadl ddiweddar yma, oedd yn ymrwymo i fod yn cyhoeddi mwy o fanylion o fewn y 100 diwrnod, wedi pasio'n ddiweddar yma. Dydy'r ymrwymiad hwnnw heb ddiflannu.

Dwi'n gobeithio bod y ffaith ein bod ni wedi cyhoeddi yn y gyllideb atodol £55 miliwn er mwyn dechrau'r gwaith ehangu hwnnw yn dangos i'r Aelod ein bod ni o ddifrif o ran mynd ati efo'r gwaith hwn, ac mae'r ffaith bod y Gweinidog Cabinet wedi ymrwymo i roi diweddariadau rheolaidd hefyd, gobeithio, yn rhoi'r sicrwydd mae'r Aelod yn gofyn amdano fo. Byddwn i'n gobeithio felly y bydd yr Aelod yn fodlon cefnogi ein cyllideb atodol ni pan ddaw i hynny, oherwydd, yn amlwg, mae'r £55 miliwn yna yn gam cyntaf pwysig dros ben er mwyn mynd â'r uchelgais honno ymlaen.

Diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog yn y Siambr ac wedi clywed hynny, neu fel arall byddwn i'n gofyn i chi ysgrifennu ato fo. Yn amlwg, ar ôl i ni basio fel Senedd yn y chweched Senedd yr holl ddiwygiadau o ran gwasanaethau bws, mae ymrwymiad Plaid Cymru yn ddiamwys o ran yr angen i wella cysylltiadau. Mae yna gyhoeddiad yn hwyrach heddiw, ond nid dyna ddiwedd y daith o ran lle rydym ni eisiau gweld hyn. Mae bysys yn eithriadol o bwysig. Rydym ni wedi gweld lot o ganolbwyntio ar drenau yn y gorffennol hefyd, ond mae bysys yn eithriadol o bwysig am y rhesymau mae'r Aelod wedi'u nodi fan hyn. Felly, dwi'n gobeithio eich bod chi'n falch o'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi clywed hynny yn benodol.

15:25

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. Mae hwn yn fater sydd yn fyw iawn o fewn fy mhortffolio i ar y funud. Yn amlwg, rydych chi wedi cyfeirio at y cyllid sydd wedi bod ar gael drwy Cadw er mwyn buddsoddi yn yr adeiladau hyn, oherwydd, hyd yn oed pan fyddan nhw'n stopio bod yn addoldai, maen nhw hefyd yn adnodd cymunedol o bwys. Rydym ni wedi gweld hynny yn digwydd ledled Cymru pan fyddan nhw'n cael eu hailbwrpasu a'u hailddychmygu. Yn sicr, mi wnaf i ymrwymo i ysgrifennu at yr Aelod efo diweddariad o ran y gwaith rydyn ni'n ei wneud. Mae hwn wedi cael effaith, dwi’n deall hynny, y newid ar lefel Prydeinig, ond mae yna bethau rydym ni wedi bod yn eu gwneud trwy Cadw i asesu beth yw goblygiadau hynny a beth rydym ni'n gallu ei wneud i gefnogi yma yng Nghymru.

Drefnydd, mae'r sylwadau a wnaethpwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn y Siambr hon ryw bythefnos yn ôl wedi peri cryn ddryswch o fewn llywodraeth leol, pan honnodd y Gweinidog fod rhanbartholrwydd—regionalism—wedi digwydd yn raddol, trwy'r drws cefn. Go brin byddwn i’n disgrifio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fel drws cefn.

Wel, mae'r hyn rydych chi'n gofyn amdano fo yn swnio fel cwestiwn perffaith i ofyn i'r Gweinidog pan mae gennym ni sesiynau holi Gweinidogion. Mae o'n benodol iawn, ac mi fyddwn i'n awgrymu eich bod chi'n rhoi'r cwestiwn hwnnw yn y balot pan mae'n dod i hynny. Ac wrth gwrs, mae yna wastad cyfleodd i holi a chraffu Gweinidogion o ran hyn. 

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw. Dwi’n gwybod y gwnaeth Jane Dodds ofyn i mi bythefnos yn ôl hefyd, ac mi fyddwn ni'n nodi'r pwyntiau y gwnes i bryd hynny o ran pwysigrwydd deintyddiaeth, a’n bod ni'n cydnabod yr heriau gwirioneddol sydd yna. Mae'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn sicrhau bod adolygiad contract newydd yn digwydd yn yr hydref, ac mae'r dental access portal yn helpu pobl i ffeindio deintydd hefyd. Dwi'n cydnabod bod yna heriau fan hyn, ac rydyn ni yn ymrwymo i geisio mynd i'r afael â nhw.

15:30

A gaf i ddiolch i'r Aelod am godi'r mater hwn? Yn amlwg, mae dyfodol ein canol trefi ac adfywio canol trefi yn bwysig dros ben. Mae o'n bwysig i Blaid Cymru. Mi oedd yna nifer o ymrwymiadau yn ein maniffesto ni. Mi oedd o hefyd wedi ei grybwyll gan y Gweinidog Cabinet dros effeithiolrwydd—na, yr un anghywir, sori. Cafodd ei grybwyll gan Adam Price fel y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, pan oedd o'n sôn ynglŷn â'i flaenoriaethau o. Yn sicr, mi fydd y gwaith hwnnw yn mynd rhagddo. Mae yna nifer o fesurau y byddwn ni'n eu cymryd. Does yna ddim un datrysiad. Mae yna nifer o heriau yn wynebu ein strydoedd mawr ni—yn edrych ar heriau o ran llifogydd mewn rhai, a'r heriau hynny y mae'r Aelod wedi'u nodi. Felly, mi fedraf ei sicrhau bod y gwaith hwnnw yn mynd heibio. Mi fydd tasglu canol trefi yn cael ei sefydlu fel rhan o'n cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf. Mi fydd hwn yn archwilio'r opsiynau ar gyfer cyfraddau busnes diwygiedig sy'n cefnogi adfywio'r stryd fawr yn well.

Diolch. Os caf i nodi, o ran y pwynt cyntaf, mi gafodd y gwelliant a gyflwynodd y Llywodraeth ei basio ar yr ymrwymiad hwnnw o ran mwy o wybodaeth o fewn y 100 diwrnod cyntaf. Dwi'n gobeithio bod y ffaith bod yna £55 miliwn yn y gyllideb atodol, fel roeddwn i'n sôn wrth Jane Dodds, yn rhoi'r sicrwydd y mae Aelodau yn chwilio amdano fo fod y gwaith yn mynd rhagddo. Mi wnaeth cyfarfod cyntaf y grŵp llywio arbenigol ehangu gofal plant newydd ddigwydd ar 25 Mehefin. Mi gadeiriwyd hwnnw gan y Dirprwy Brif Weinidog. Mi wnaf i holi o ran sicrhau eich bod chi yn cael yr ymateb hwnnw o ran yr aelodaeth.

O ran yr ail bwynt, mi fyddwn ni yn edrych i ddod â diweddariad i'r Senedd am y gwaith a'r ymrwymiadau oedd gennym ni yn ein maniffesto ni yn fuan iawn.

15:35

Wel, diolch. Mi wnaf gyfeirio'r Aelod at faniffesto Plaid Cymru, lle roedd o'n glir—a'r ymrwymiad a wnaed yn gweithio efo COVID bereaved families—yr hyn y byddem ni'n ymrwymo iddo fo. Felly, yn sicr, mi fydd yna ddiweddariad pan fydd y gwaith hwnnw yn mynd rhagddo. Ond mi fydd yr Aelod yn gwybod yn glir ein bod ni wedi sefyll ar ein maniffesto, bod yna gydweithio wedi bod efo'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio. Bydd o hefyd yn gwybod ei bod ni wedi cyd-sefyll ac wedi bod yn galw am wersi wedi'u dysgu. A dyna sydd angen digwydd fan hyn: gwersi i'w dysgu, fel bod y paratoadau yn well at y dyfodol pan fydd—pan fydd—rhywbeth cyffelyb yn digwydd yn y dyfodol, oherwydd mae'r tebygolrwydd yn uchel, ac mae'n sicr ein bod ni wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi hynny. 

Wel, nid fy lle i ydy ymateb i'r hyn mae Aelodau Seneddol o blaid wahanol wedi ei ddweud mewn siambr wahanol i hon, yn y lle cyntaf. Ac mi fyddwn i'n cyfeirio yr Aelod at y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw, a hefyd nodi o ran awdur y Cass review a'u barn nhw ar y mater hwn. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Kerry Ferguson) i’r Gadair.

Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Mi ddylwn i ddatgan bod hwn o fewn yr etholaeth dwi'n ei chynrychioli hefyd. Mae o'r ail waith mae'r Aelod wedi codi hyn yn ystod datganiadau busnes. Wn i ddim os ydy'r Aelod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni a gofyn am gyfarfod. Oherwydd natur hyn, dyna fyddwn i'n credu byddai'r peth mwyaf buddiol, oherwydd bod pethau yn symud yn gyflym hefyd.

4. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Gwella Arweinyddiaeth a Pherfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Symudwn ymlaen, felly, i ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: gwella arweinyddiaeth a pherfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor. 

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod ar lefel uwchgyfeirio uchel ers 11 mlynedd, ac ar y lefel bresennol, sef lefel 5, ers mis Chwefror 2023. Er bod y bwrdd wedi cael lefel sylweddol o gyllid a chymorth wedi'i dargedu dros y tair blynedd diwethaf, mae’n wynebu heriau sylweddol o hyd o ran arweinyddiaeth, llywodraethiant, perfformiad a chyflawni, ynghyd â chanlyniadau sy'n dal i fod yn is na'r safon y dylai pobl y gogledd ei disgwyl.

Dwi eisiau bod yn glir iawn ar y dechrau fy mod i'n ddiolchgar am yr ymroddiad a'r ymrwymiad y mae staff yn eu dangos bob dydd, a hynny'n aml mewn amgylchiadau anodd a heriol. Mae'r saga druenus yma wedi effeithio arnynt hwythau lawn gymaint â'r cleifion.

Dro ar ôl tro, mi wnaeth y Llywodraeth flaenorol roi cynnig ar gynlluniau hyd braich i geisio gwneud gwahaniaeth, ond heb lwyddo i gynnal llwyddiant. Allwn ni ddim a wnawn ni ddim caniatáu i'r diffyg cynnydd yma barhau. Yn ddiweddar, mi wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddynodi adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn wasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol, ei lefel fwyaf o bryder, lai na dwy flynedd ers i'r adran gael ei thynnu o'r statws hwn.

Mae pobl y gogledd hefyd yn aros yn rhy hir i gael mynediad at y gofal a'r driniaeth y maen nhw eu hangen. Dydy hyn ddim yn realiti y dylid gofyn i’r cyhoedd ei dderbyn, a dydy o ddim chwaith yn realiti y bydd y Llywodraeth hon yn ei dderbyn. Wnaiff y Llywodraeth hon ddim goddef methiannau'r 11 mlynedd diwethaf. Mae o'n anghyfiawnder i gleifion, i'w teuluoedd ac i'r staff gweithgar sy'n gweithio ar draws y maes iechyd a gofal yn y gogledd.

Fel y soniais i wrth ymateb i arolygiad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, dwi wedi cael llond bol ar glywed y gair 'Betsi' yn cael ei ddefnyddio i gyfleu diffygion gweithredol a dirywiad mewn safonau, gan bardduo enw da’r NHS a’i staff gweithgar yr un pryd. Dyna pam yr ydw i heddiw yn cyhoeddi fy mhenderfyniad i roi mesurau newydd ar waith i sefydlogi gwasanaethau, cryfhau arweinyddiaeth a dal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyfrif am welliant parhaus, fel rhan o'r trefniadau uwchgyfeirio lefel 5 sy'n parhau yn y bwrdd iechyd.

Yn bwysig, mae'r ymyriad hwn wedi'i gynllunio nid yn unig i ymdrin â'r pwysau uniongyrchol o ran perfformiad, ond hefyd yr achosion sylfaenol sydd wrth wraidd y methiant hwn dro ar ôl tro. Mi fydd yn archwilio a oes gan y sefydliad y capasiti arweinyddol, y gallu a'r diwylliant sydd eu hangen i gynnal gwelliant dros y tymor hirach. Mae hyn yn arwydd o symud clir tuag at gymorth ac atebolrwydd mwy uniongyrchol, efo pwyslais cryf ar ganlyniadau mesuradwy a gwelliant parhaus i bobl y gogledd.

Fis diwethaf, mi wnes i ysgrifennu at gadeirydd y bwrdd iechyd yn nodi fy mhryderon am y diffyg cynnydd. Ym mis Gorffennaf, mi fyddaf i'n cadeirio cyfarfod gydag aelodau bwrdd a thîm gweithredol y bwrdd iechyd, i'w gwneud yn glir iddyn nhw mai fy nisgwyliad i ydy bod yn rhaid iddyn nhw gymryd perchnogaeth o'r problemau hirsefydlog o fewn y bwrdd iechyd a gwneud y gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer y bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Er bod y Llywodraeth hon yn camu i mewn yn fwy uniongyrchol, dydy hynny ddim yn tynnu cyfrifoldeb oddi ar y bwrdd iechyd—i'r gwrthwyneb, mae'n cryfhau'r disgwyliadau. Rhaid i'r bwrdd a'r tîm gweithredol gymryd perchnogaeth lawn o'r materion y maen nhw'n eu hwynebu, a gweithio'n gyflym i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen, a hynny gyda chymorth, ond her gadarn hefyd, yr ymyriad yma. Dwi'n disgwyl i adroddiad terfynol yr adolygiad 'arwain yn dda' gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Hydref eleni.

Dwi wedi tanlinellu'r angen i’r gwaith yma gael ei gyflymu’n sylweddol, a dwi’n disgwyl felly i ganfyddiadau interim gael eu hadrodd yn fisol, i lywio'r camau ymyrryd a chymorth sydd ar y gweill. Bydd yr adroddiad a'i ganfyddiadau yn cael eu defnyddio i sbarduno unrhyw ymyriad a chyfeiriad pellach y bydd eu hangen, ac mi fyddwn ni'n gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar yr allbynnau i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd. Mi fyddwn ni'n parhau i gydweithio â'r bwrdd i sicrhau bod y camau ymyrryd yn effeithiol ac yn arwain at welliant hirdymor yng nghanlyniadau'r gwasanaethau.

Ddirprwy Lywydd, nid o dan ein gofal ni y dechreuodd yr helbulon a'r trafferthion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ond dwi wedi ymrwymo i droi pethau o gwmpas. Dyma gyfle olaf y bwrdd i ddangos eu bod nhw'n gallu sicrhau’r safonau gofal uchel a chyson y mae pobl y gogledd yn eu haeddu. Fel y mae'r Prif Weinidog a minnau wedi datgan yn hollol glir, bydd yr holl opsiynau’n cael eu hystyried os na fydd cynnydd yn cael ei wneud ar y raddfa a'r cyflymder rydyn ni'n disgwyl ei weld. Mi fyddaf i'n cadw goruchwyliaeth fanwl ac yn rhoi diweddariadau i'r Aelodau am hynt y gwaith. Diolch.

15:45
15:50
15:55
16:00
16:05

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gaf i gychwyn drwy ddatgan diddordeb? Mae fy ngwraig i'n gweithio fel nyrs ym Metsi Cadwaladr.

Mae’r sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn adlewyrchiad clir o wendidau systemig sydd wedi datblygu dros gyfnod hir o dan y Llywodraeth flaenorol. Mae yna fethiant dros ddegawd a mwy i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn y lle cywir, yn enwedig mewn lleoliadau cymunedol, sydd wedi arwain at bwysau sylweddol ar ysbytai ac, yn anffodus, at ganlyniadau gwaeth i gleifion. O ganlyniad, dŷn ni wedi gweld patrwm cyfarwydd yn datblygu: diffyg capasiti yn y gymuned, galw cynyddol ar wasanaethau mewn ysbytai cyffredinol ac yna'r angen i ymateb i argyfyngau yn hytrach na'u hatal nhw. Dydy o ddim yn syndod, felly, fod Betsi Cadwaladr unwaith eto mewn rhyw fath o fesurau ychwanegol, sy'n tanlinellu'n glir nad ydy'r dull blaenorol wedi bod yn ddigon cadarn nac yn gynaliadwy.

Mae'r datganiad yma yn arwydd clir fod y sefyllfa bresennol yn mynnu mwy o her, mwy o graffu ac yn fwy na dim byd, mwy o atebolrwydd clir. Dwi'n falch bod y Llywodraeth yma'n barod i wynebu'r realiti mor fuan yn eu tymor ac i edrych o'r newydd ar y fframwaith presennol er mwyn cryfhau llywodraethiant ac ailsefydlu atebolrwydd.

Weinidog Cabinet, dydy hyn ddim yn ddim byd newydd, nac ydy? Dŷn ni'n gwybod ein bod ni wedi bod yn ymgyrchu ers degawd a mwy i wella safonau iechyd yn y gogledd.

16:10

Ond a gaf i hefyd ddweud: dwi'n mynnu eich bod chi'n gwrando ar lawr gwlad; fuasai fy ngwraig i ddim yn maddau imi petaswn i ddim yn dweud hynny. Plis gwrandewch ar lawr gwlad; nhw sy'n gwybod orau sut i ddelio efo hyn. Y cwestiwn fuasai, felly: wnewch chi egluro sut yn union y bydd yr escalation yma yn sefydlu diwylliant newydd o arweinyddiaeth gadarn, tryloywder ac atebolrwydd hirdymor er budd cleifion ledled y gogledd? Diolch yn fawr.

Ddirprwy Lywydd, ddaru'r Aelod ddechrau drwy gyfeirio at ei wraig, sydd yn y bwrdd. A gaf i gymryd ennyd i ddiolch iddi hi a phob nyrs a bydwraig arall sydd yn gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn yn y gogledd? Mae eu gwaith nhw'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi gan y Llywodraeth yma.

Dwi'n rhannu'r pryderon ddaru'r Aelod godi am Betsi Cadwaladr. Roedd e'n gywir i ddweud ein bod ni wedi bod yn ymgyrchu er mwyn gwella ansawdd iechyd a gwasanaethau iechyd yn y gogledd ers dros ddegawd. Ac er gwaetha'r buddsoddiad sylweddol ddaru'r Llywodraethau blaenorol roi i mewn i Betsi Cadwaladr, mae'r bwrdd wedi methu â dangos y lefel o gynnydd angenrheidiol.

Dydy'r tîm cefnogaeth dwys dwi wedi ei gyhoeddi heddiw erioed wedi cael ei gyhoeddi o'r blaen. Dydyn ni erioed wedi comisiynu'r math hwn o gorff o'r blaen, yn enwedig pan fo'n dod i'r gwaith yn Betsi Cadwaladr. Mi fyddan nhw'n cael eu cyfarwyddo i wneud y gwaith gan y Llywodraeth er mwyn edrych a chynorthwyo yn benodol, gyda gwella llif y cleifion, trwy leihau amseroedd trosglwyddo'r ambiwlansys, fel y gwnes i sôn, lleihau'r rhestr aros ar gyfer triniaethau a diagnostics, a gwella rhestrau aros diagnosis a thriniaeth canser. Mae hynny'n mynd i fod yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael newid diwylliant, bod pobl ar haen reoleiddiol y bwrdd yn gwybod bod angen gweithredu efo brys pan fo'r bwrdd yn dod â chynlluniau o flaen, a'u bod nhw'n gweithredu ar y cynlluniau yna, yn lle gadael i'r cynlluniau aros ar y silff heb weithredu arnyn hwn. Rwyf wedi gofyn hefyd i'r swyddogion ddatblygu gweithredoedd pellach os na fydd y bwrdd yn cyrraedd ein disgwyliadau ni.

16:15
16:20

Rydym ni'n gwybod bod perfformiad y GIG ledled Cymru wedi bod o dan bwysau sylweddol dros nifer o flynyddoedd, yn enwedig o dan y cyn-Lywodraeth Lafur, gyda rhestrau aros hir, anghysondeb mewn safonau, a phryderon parhaus ynghylch arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws y system. Mae’r heriau hyn wedi’u hamlygu’n arbennig o glir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn fy etholaeth i. Hoffwn bwysleisio o’r cychwyn nad yw hon yn feirniadaeth o staff y GIG; maent yn gweithio yn eithriadol o galed o dan amgylchiadau hynod o heriol. Yn hytrach, mae’r broblem yn gorwedd mewn systemau sydd, dros gyfnod hir, wedi bod yn rhy ymatebol i fethiant yn hytrach na’i atal, gyda diffyg eglurder o ran atebolrwydd a chydlyniant mewn arweinyddiaeth.

Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi, Weinidog, yn ceisio gosod disgwyliadau clir a newid y diwylliant systemig hwnnw. Ac yn awr, mae'n gadarnhaol gweld camau pendant i gryfhau safonau arweinyddiaeth a gwella tryloywder perfformiad. Felly, a allwch amlinellu yn benodol pa gamau trafod a gweithredu sydd wedi’u cymryd i sicrhau gwelliant gwirioneddol a chynaliadwy i gleifion, a pha newidiadau a wneir i’r fframwaith presennol er mwyn sicrhau atebolrwydd cliriach a chanlyniadau gwell? Diolch.

Bwriad neu, yn wir, pwrpas mesurau estynedig, Ddirprwy Lywydd, ydy er mwyn dal y bwrdd iechyd—unrhyw fwrdd iechyd—i gyfrif ar y delifri o wasanaethau iechyd. Dwi wedi gosod ein disgwyliadau o'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn gwbl, gwbl glir o ran delifro gwelliannau sy'n ddisgwyliedig, ac mi fyddaf i'n atgyfnerthu hyn pan fyddaf i'n cadeirio cyfarfod nesaf y bwrdd estynedig fis nesaf. Fel rhan o ymrwymiad Plaid Cymru, y 100 diwrnod, dwi wedi datblygu opsiynau ar gyfer adolygu y fframwaith hynny yn barod, ar y cyd gydag Archwilio Cymru a HIW, ynghylch effeithlonrwydd y drefn bresennol, ac mi fyddaf i'n penderfynu ar ac yn cyhoeddi yr opsiwn gorau o fewn yr wythnos. Bydd y gwaith hynny yn cynnwys asesiad brys o'r fframwaith presennol cyn, wedyn, cyhoeddi fframwaith newydd fydd yn sicrhau effeithlonrwydd, tryloywder a chymesurwydd. Yn ganolog i hyn i gyd, byddwn ni'n edrych ar a ydy'r mesurau estynedig yn arwain ar wella canlyniadau, sef beth ydy'r hyn rydym ni i gyd eisiau ei weld ar ddiwedd y dydd.

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n diolch i'r Gweinidog Cabinet am ei ddatganiad ac am gymryd camau cadarn mor fuan i mewn i'r tymor seneddol i fynd i'r afael â'r heriau dwys sydd yn wynebu Betsi Cadwaladr. Un elfen o'r datganiad roeddwn i yn ei chroesawu yn benodol oedd yr ymrwymiad i gyflwyno tîm arbenigol i roi cymorth yn y meysydd gofal wedi ei gynllunio, canser a gofal brys. Mae'n amlwg o'r ohebiaeth dwi wedi ei derbyn gan etholwyr fod y rheini oll yn feysydd sydd wedi cadw'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig cyhyd. Pa welliannau penodol felly mae'r Gweinidog yn gobeithio eu gweld wrth gyflwyno'r tîm arbenigol, a phryd mae'n gobeithio gweld y gwelliannau hynny yn cael eu gweithredu? 

Ddirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn berffaith iawn i ddweud bod angen i ni weld gwelliannau, a hynny ar fyrder, a dwi'n cytuno ac yn cydymdeimlo efo'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud. Dyna pam fy mod i wedi rhestru yn glir ein disgwyliad ni o'r bwrdd er mwyn iddyn nhw ddod allan o lefel 5 a mynd i lawr i lefel 4. Mae hynny'n cynnwys edrych ar y gofal wedi ei gynllunio. Mae angen i ni weld gweithredu'r cynlluniau sydd wedi cael eu creu, ond ddim eto wedi cael eu gweithredu. Mae hynny'n golygu, o'u gweithredu nhw, mi fyddwn ni'n gweld y rhestrau aros yn disgyn erbyn diwedd mis Medi, gan barhau i ddisgyn erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae hynny'n edrych ar ganser, yr ystadegau roedden ni'n sôn amdanynt ynghynt, lle rydym ni'n edrych ar gynyddu o 52.5 y cant i 55 y cant, a chadw hynny i fynd am y pedwar mis dilynol. Ac yn yr un modd, gan edrych ar ofal brys, rydym ni'n gwybod bod y bwrdd wedi cytuno bellach i fuddsoddi £3.9 miliwn er mwyn gwella a chryfhau'r gweithlu yn yr adrannau brys. Mi fyddwn ni'n disgwyl gweld gwelliannau yn delifro yn yr adrannau brys, a hynny ar fyrder.

Felly, dwi'n disgwyl gweld gwella, a hynny erbyn diwedd mis Medi, a chynnal hyn am fisoedd y gaeaf.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: Trafnidiaeth Integredig: Gwasanaethau Coetsys Gogledd-De

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth—trafnidiaeth integredig, gwasanaethau coetsys gogledd-de. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper. 

Ddirprwy Lywydd, rydw i'n falch o ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd rydym yn ei wneud wrth gyflawni dau ymrwymiad 100 diwrnod cyntaf i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru. Mae ymrwymiadau hyn yn glir: cryfhau cysylltedd rhwng gogledd a de Cymru, a chyflymu ein gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru i greu system drafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig, hygyrch a theg i bawb.

Dyma pam yr ydym wedi cymryd camau ar unwaith, gan gyflawni ein hymrwymiadau 100 diwrnod, a pham y byddaf yn ceisio cynnal cyflymder ac uchelgais ein hymdrechion i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Diolch.

16:35
16:40
16:45
16:50
16:55

Gaf i groesawu'r cyhoeddiad arbennig yma heddiw? Am lawer rhy hir, mae'r cysylltiad rhwng gogledd a de Cymru wedi bod yn annigonol, a dweud y lleiaf, o'i gymharu â chysylltiadau trawsffiniol. Mae'n parhau i fod yn sefyllfa hurt bost fod teithio o fewn ein gwlad ein hunain yn aml yn fwy anodd ac yn llai effeithlon na theithio drwy Loegr, rhywbeth sy'n tanseilio cydlyniant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Mae potensial gwirioneddol yma i drawsnewid y ffordd mae pobl yn symud ar hyd echelin gogledd-de Cymru, yn clymu Cymru'n un.

Hoffwn dynnu sylw at y gwerth o gynnwys lleisiau cymunedau lleol yn y broses o gynllunio a gweithredu. Drwy weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, defnyddwyr a busnesau, gall y Llywodraeth sicrhau bod y gwasanaeth yn adlewyrchu patrymau teithio go iawn ac yn ateb anghenion pobl o ddydd i ddydd. Yn ogystal, mae amlder y gwasanaeth yn allweddol i'w lwyddiant. Mae gwasanaeth cyflym yn gam mawr ymlaen, ond ei werth gwirioneddol ddaw pan fo'n rhedeg yn ddigon aml i fod yn ddewis ymarferol i bobl bob dydd.

Byddai'n gadarnhaol clywed sut bydd y Llywodraeth, mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru, yn sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn gallu ymateb ac esblygu yn unol â'r galw, yn enwedig ar adegau prysur neu yn ystod digwyddiadau mawr. Gaf i hefyd ychwanegu fy mod i'n croesawu'n fawr iawn brwdfrydedd fy nghydweithiwr i'r chwith i mi am yr angen am fuddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau yng Nghymru? Mae'n bechod o'r mwyaf nad oes gennym ni ddim mynediad at gronfeydd cyfalaf Ewropeaidd bellach i wireddu hynny.

17:00
17:05
6. Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: Parodrwydd gaeaf 2026-27 ar gyfer iechyd a gofal

Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal: parodrwydd gaeaf 2026-27 ar gyfer iechyd a gofal. Galwaf ar y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n amlinellu heddiw sut rydyn ni'n paratoi ar gyfer gaeaf 2026-27. Rydyn ni wedi cynnal adolygiad llawn o aeaf 2025-26, a hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i staff ar draws yr NHS, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol am eu hymrwymiad a'u gwydnwch yn ystod gaeaf heriol. Ond mae'n rhaid inni fod yn onest hefyd. Roedd pwysau gweithredol sylweddol yn parhau ac roedd gormod o bobl yn profi oedi o ran cael gofal amserol. Roedd y pwysau hynny i'w weld yn yr oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, amseroedd aros hir mewn adrannau brys, gofal mewn coridorau a chyfnodau parhaus o bwysau dwys. I gleifion, mae'r pwysau hynny'n effeithio ar eu diogelwch, eu profiad a’u canlyniadau.

Fel Llywodraeth newydd, rydyn ni'n cymryd camau newydd i wneud yn siŵr bod gwersi'n cael eu dysgu o'r gaeaf diwethaf, a bod y paratoadau ar gyfer y gaeaf hwn yn digwydd yn gynharach, eu bod nhw’n gryfach a’u bod nhw’n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau gwell. Er hynny, mae'r pwysau rydyn ni wedi eu gweld ar draws y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn ystod y cyfnod diweddar o wres eithafol yn ein hatgoffa ni nad her ar gyfer y gaeaf yn unig ydy gwydnwch y system. Mae'r galw a'r risg yn amrywio drwy gydol y flwyddyn, ond yn aml iawn mae modd rhagweld y rhain, boed yn salwch sy'n gysylltiedig â gwres, pwysau salwch anadlol y gaeaf neu ddigwyddiadau byr o benllanw sy'n gysylltiedig â phoblogaethau dros dro.

Dyna pam mae'r Llywodraeth newydd hon yn symud i ddull mwy aeddfed, gydol blwyddyn, gan wneud yn siŵr bod capasiti yn cyd-fynd â'r galw a ragwelir a bod gwasanaethau yn barod ar gyfer pwysau tymhorol ble bynnag y byddan nhw'n codi. Mae hyn yn golygu symud y tu hwnt i ganolbwyntio’n gul ar y gaeaf, gan ddefnyddio dull cynllunio parhaus sy'n seiliedig ar ddata, lle mae modd addasu i risgiau sy'n newid drwy gydol y flwyddyn.

Rydyn ni’n disgwyl i fyrddau iechyd a phartneriaid gynllunio ar sail rhagolygon credadwy ynglŷn â'r galw, addasu capasiti yn gynharach a gweithredu cyn i'r pwysau effeithio ar ofal cleifion. Erbyn 2030, dylai'r dull hwn fod wedi’i ymgorffori'n llawn, fel bod gwasanaethau'n barod, pwysau yn cael eu rhagweld a chleifion yn cael gofal o ansawdd uchel bob dydd, ymhob man. Bydd hynny'n lleihau pwysau dwys y mae modd ei osgoi, yn gwneud yn siŵr bod cleifion yn ddiogel ac yn cryfhau gwydnwch drwy gydol y flwyddyn.

Mae’n rhaid i fyrddau iechyd a phartneriaid gefnogi a chynnal eu gweithlu, gan wneud yn siŵr bod staff yn cael eu harwain yn dda, yn cael eu defnyddio'n dda ac yn cael eu cefnogi'n briodol fel y gallan nhw barhau i ddarparu gofal diogel ac amserol o dan bwysau. Ddirprwy Lywydd, ni all yr un sefydliad wneud y pethau yma ar ei ben ei hun. Mae gwydnwch y gaeaf yn dibynnu ar gael system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cydweithio'n effeithiol. Rydym ni wedi gosod disgwyliadau clir yn genedlaethol fod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn rhannu gwybodaeth reolaidd am y gwasanaethau sydd ar gael a'u capasiti, gyda chefnogaeth cydweithio gryfach drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae cynlluniau ar gyfer dull cyfathrebu cenedlaethol newydd a chydgysylltiedig yn cael eu datblygu, gyda’r nod o roi cyngor clir i'r cyhoedd ar sut i gael mynediad at ofal, helpu pobl i gael y gefnogaeth iawn y tro cyntaf a lleihau'r pwysau y mae modd ei osgoi ar wasanaethau rheng flaen.

Yn olaf, mi fyddwn ni'n canolbwyntio’n gryf ar gyflawni a chanlyniadau. Mae’n rhaid cael disgwyliadau clir a sicrwydd rheolaidd bod cynlluniau'n arwain at well canlyniadau. Dwi wedi gofyn am asesiad parodrwydd ar gyfer y gaeaf ar gyfer pob rhanbarth erbyn dechrau'r hydref, a bydd hynny'n llywio unrhyw gamau pellach sydd eu hangen ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.

Mae ein huchelgais yn glir: gofal brys ac argyfwng mwy diogel, sy'n canolbwyntio ar y person ac sy’n wydn. Mi fyddwn ni'n cyflawni hyn drwy leihau cyfnodau o bwysau dwys, mynd i'r afael â gofal mewn coridorau, gwella llif drwy ysbytai a chryfhau gofal cymunedol, yn enwedig i bobl hŷn a'r rheini sy'n byw gyda bregusrwydd. Bydd y system gofal cymunedol integredig yn ganolog i gyflawni'r uchelgais hwnnw, gan gefnogi mwy o wasanaethau cymunedol di-dor fel y gall mwy o bobl aros gartref neu ddychwelyd adref yn gynt ar ôl arhosiad heb ei gynllunio yn yr ysbyty. Bydd hyn yn gofyn am gydweithio parhaus ar draws yr NHS yng Nghymru, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol, ac mi fyddwn ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod y system yn barod ac yn wydn. Byddaf i'n rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau yn yr hydref.

17:15
17:20
17:25
17:30
17:35
17:40
17:45

Mae'r neges yn berffaith glir gan yr Aelod—ni ddylai neb orfod dewis rhwng gwresogi eu tai a gwarchod eu hiechyd. Mae sicrhau bod y Llywodraeth yma yn gweithredu yn drawsadrannol er mwyn sicrhau ei bod yn gwella canlyniadau iechyd pobl Cymru yn greiddiol i'n cenhadaeth ni. Dyna pam fod y Prif Weinidog wedi penodi Dirprwy Weinidog gyda chyfrifoldeb dros atal afiechyd a iechyd cyhoeddus, gan weithio efo'r gwahanol Weinidogion ar y meinciau yma, er enghraifft y Gweinidog tai a chynllunio ar wella ansawdd tai trwy gynyddu retrofit. Mi fyddwn ni hefyd yn cyflwyno cynlluniau wedi'u targedu, ymyriadau iechyd cyhoeddus effeithiol, ac integreiddio gwell rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a chefnogaeth ynni, er mwyn cynorthwyo cynifer o bobl â phosib i aros yn gynnes, yn iach ac yn ddiogel. 

17:50

Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n berffaith iawn dweud bod angen canolbwyntio ar ofal cymdeithasol a gwneud yn siŵr bod gennym ni y ddarpariaeth yna er mwyn bod pobl yn medru mynd allan. O ran niferoedd gwelyau, rydyn ni wedi ymrwymo i edrych, fel ro'n i'n sôn, ar y gwelyau sydd gennym ni yn y system i gyd er mwyn adnabod beth ydy'r angen, ble mae angen y gwelyau hynny. Ond pan mae'n dod i'r gymuned, rydw i wedi bod yn berffaith glir bod darpariaeth gwasanaethau step down, er enghraifft, ar gyfer helpu pobl rhwng bod yn yr ysbyty yn cael eu triniaeth a mynd adref, yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth iechyd sydd gennym ni. Dydy o ddim ar gyfer pawb. Y gobaith ydy cael cynifer o bobl adref â phosibl, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu rhoi gofal yn y cartref iddyn nhw. Ond i'r rhai hynny sydd angen gofal ychydig yn fwy dwys, mae angen y ddarpariaeth step down yna yn ein cymunedau ni, ac mi rydyn ni'n edrych ar hynny fel rhan o'r datrysiad.

Diolch, Weinidog, a diolch i chi am eich cyfraniadau heddiw. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:52.