Y Cyfarfod Llawn

Plenary

19/05/2026

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Huw Irranca-Davies) yn y Gadair. 

1. Cynnig i benodi Aelodau i'r Pwyllgor Busnes

Croeso cynnes i bawb, a chroeso i'r sesiwn hwn o'r Senedd y prynhawn yma. Rydyn ni'n dechrau gyda'r cynnig i benodi Aelodau i'r Pwyllgor Busnes. Felly, galwaf ar y Trefnydd i wneud y cynnig—Heledd Fychan. 

Cynnig NNDM9236 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:

Yn penodi'r Llywydd, Heledd Fychan (Plaid Cymru), Llŷr Powell (Reform UK), Lynne Neagle (Llafur Cymru), a Paul Davies (y Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n symud y cynnig ac yn gwahodd Aelodau'r Senedd i gytuno ar benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes.

Diolch yn fawr iawn, Heledd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig i benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

2. Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i eitemau gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf

Nesaf—. Rydyn ni'n joio'r dechnoleg yma. [Chwerthin.] Rydyn ni'n symud nawr i'r cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i eitemau gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf. Galwaf ar y Trefnydd i wneud y cynnig—Heledd Fychan. 

Cynnig NNDM9237 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd, o dan Reol Sefydlog 12.10(ii), yn cytuno i'r cynnig i'r eitemau canlynol gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf:

Cwestiynau i’r Prif Weinidog;

Cynnig o dan Reol Sefydlog 9.1 i gytuno i argymhelliad y Prif Weinidog i'w Fawrhydi i berson gael ei benodi'n Gwnsler Cyffredinol;

Datganiad a chyhoeddiad busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n symud y cynnig ac yn gwahodd Aelodau'r Senedd i gytuno bod cwestiynau i'r Prif Weinidog a chynnig i gytuno ar argymhelliad y Prif Weinidog i'w Fawrhydi o berson i'w benodi yn Gwnsler Cyffredinol yn cael eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer ein Cyfarfod Llawn nesaf. 

Diolch yn fawr iawn, Heledd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Blaenoriaethau'r Prif Weinidog

Felly, nawr rydym ni'n symud i eitem 3 ar yr agenda. Eitem 3 ar yr agenda yw'r dataganiad gan y Prif Weinidog: blaenoriaethau'r Prif Weinidog. Galwaf ar y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth. 

Diolch yn fawr iawn. Llywydd, gyd-Aelodau'r Senedd, â ninnau’n cyfarfod am yr ail waith fel Senedd ers yr etholiad lai na phythefnos yn ôl, dwi’n gobeithio bod awydd fy Llywodraeth i gynnal momentwm ac i fwrw ati ar unwaith i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn glir i bawb ei weld.

Pleser oedd cyhoeddi fy nhîm gweinidogol egnïol a dawnus dros y dyddiau diwethaf, a dwi’n falch o ddweud ein bod ni eisoes wedi cyfarfod i drafod blaenoriaethau’r weinyddiaeth newydd hon ac i dderbyn diweddariad ar effaith y rhyfel yn y dwyrain canol ar gostau byw aelwydydd Cymreig.

Llywydd, addawais arwain Llywodraeth a fyddai'n dod ag egni newydd, syniadau newydd ac arweinyddiaeth newydd, ac rwy'n falch bod ein hwythnos gyntaf yn y swydd wedi gwneud datganiad clir o fwriad yn hynny o beth.

Roeddwn yn falch o gael siarad â'r Prif Weinidog Keir Starmer yr wythnos diwethaf i nodi'r pwysigrwydd yr wyf yn ei roi ar berthynas adeiladol â Llywodraeth y DU, ac i bwyso'r achos am drafodaeth bellach ar sut y gall mwy o ddatganoli a chyllid teg wella bywydau pobl Cymru, gan ein harfogi â'r offer i fynd â Chymru ymlaen. Fel yr wyf wedi pwysleisio sawl gwaith, rwy'n disgwyl i'n cenedl gael ei thrin fel partner cyfartal yn y trafodaethau hynny, ac i'r camau gweithredu sy'n dilyn gan Lywodraeth y DU adlewyrchu hynny'n wirioneddol, nid yn unig mewn rhethreg. Nid yw honni bod hwn yn undeb cyfartal yn ddigon, oherwydd mae unrhyw ddadansoddiad o'r realiti yn amlygu mai geiriau gwag yw'r geiriau hynny. Rwyf eisiau gwneud cynnydd cynnar ar ddatganoli cyfiawnder a phlismona, Ystad y Goron, a datblygu fformiwla ariannu teg, gan gynnwys materion fel rheilffyrdd, i fynd i'r afael ag anghyfiawnder HS2—pob mater sydd â chefnogaeth y mwyafrif yn y Siambr hon.

Llywydd, roeddwn bob amser yn glir y byddai'r Llywodraeth y byddwn i'n ei harwain yn chwistrellu cyflymder i mewn i'r gwaith o droi polisi yn arfer, ac rwy'n falch ein bod eisoes yn gwneud cynnydd ar ein cynllun 100 diwrnod cyntaf. Mae Swyddfa'r Cabinet eisoes wedi'i chryfhau, wedi'i strwythuro i roi pwyslais newydd ar effeithiolrwydd a chanlyniadau'r Llywodraeth, gan feithrin mwy o gydlyniant rhwng adrannau, gyda'r nod cyffredin o gyflawni ein cenhadaeth fel un. Mae tîm craidd o Weinidogion wedi cael y dasg o sicrhau cynnydd ar ein blaenoriaethau allweddol gan adrodd yn rheolaidd i'r Cabinet.

A yw'r bobl iawn yn y lleoedd iawn yn canolbwyntio ar y pethau iawn? Mae hwnnw'n gwestiwn a esgeuluswyd dros amser rhy hir, rwy'n credu, gan weinyddiaethau blaenorol. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Parhaol am symud mor gyflym i roi strwythurau newydd, addas i'r diben yn ystod y dyddiau cynnar hyn i'n galluogi i gyflawni'r canlyniadau gorau i'r bobl a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Ni fydd atebolrwydd yn rhyw fri-air haniaethol yn unig, ond yn hytrach yn rhywbeth rydyn ni'n ei brofi fel Llywodraeth wythnos ar ôl wythnos.

Lywydd, does gen i ddim bwriad anghofio gwerth a grym geiriau. Dwi yma i anrhydeddu’r addewidion dwi wedi eu gwneud i bobl Cymru, a dwi’n gwybod fy mod i’n siarad ar ran y Llywodraeth gyfan wrth ddweud hynny. Fydd y llwybr ddim bob amser yn llyfn a di-rwystr, ond mi wynebwn ni’r heriau efo’n gilydd, efo’r amcan o ddweud ein bod ni wedi gwneud ein gorau dros Gymru bob amser.

13:40

Diolch, Brif Weinidog. Nawr, yn unol â'r drefn arferol, bydd gan y siaradwyr cyntaf o bob grŵp bum munud i gyfrannu, a bydd gan bob siaradwr arall un funud. Nawr, galwaf ar Dan Thomas.

13:45
13:55
14:00
14:05

Diolch. Dwi'n rhoi llawer o latitude y prynhawn yma. Ond nawr, yn bwysig iawn, i'r Aelodau eraill, un funud, os gwelwch yn dda—un funud. Ac yn gyntaf, Zaynub Akbar.

14:10

Fel rhywun sydd dod yn syth o swydd dysgu yn y dosbarth i'r Senedd, dwi'n gwybod pa mor bwysig yw athrawon i ddyfodol Cymru. Bob dydd, mae athrawon yn gwneud llawer mwy na dysgu. Maen nhw'n cefnogi pobl ifanc, yn helpu teuluoedd ac yn gweithio o dan bwysau mawr. Ond, fel y gwn i, mae llawer o athrawon heddiw yn wynebu straen, problemau ymddygiad gan ddisgyblion a llwyth gwaith cynyddol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd cadw staff profiadol ac annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa yn y proffesiwn. Felly, Brif Weinidog, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a chefnogi athrawon yn y gweithle a sicrhau bod addysg yn yrfa ddeniadol yng Nghymru? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, a dwi'n croesawu'r Aelod dros Fangor Conwy Môn i'r Senedd yma. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod ni'n meddwl, wastad, am y disgyblion a’r hyn rydyn ni am eu galluogi nhw i’w gyflawni, ond bob amser yn cyflawni i'r rheini sydd yn gefn iddyn nhw ac yn galluogi'r llwyddiant hwnnw. Dwi wedi bod yn ddisgybl ac yn rhiant, felly mae'r ochr disgyblion a'u lles nhw yn rhywbeth sydd yn fyw iawn i fi. Roedd fy nau riant i yn athrawon, a'r ddau ohonyn nhw'n llywyddion undeb athrawon, felly mae materion yn ymwneud â lles athrawon yn rhywbeth sydd wedi bod o fy nghwmpas i drwy gydol fy mywyd.

Rydyn ni wedi disgrifio gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru yn dyrchafu pwysigrwydd addysg eto o fewn y genedl yng Nghymru. Yn rhy aml mae addysg wedi cael ei adael i lithro, dwi'n meddwl, yn y rhestr o flaenoriaethau cenedlaethol. Wnaiff y Llywodraeth yma ddim caniatáu i hynny ddigwydd. Ac rydyn ni wedi sôn, onid ydyn, am y cynllun llythrennedd a rhifedd fydd yn galluogi disgyblion i gyrraedd eu potensial. Ond mae cefnogi athrawon, recriwtio rhagor o athrawon, sicrhau bod y proffesiwn yn ddeniadol, yn gwbl, gwbl angenrheidiol er mwyn gwireddu'r weledigaeth honno. Heb athrawon da, fydd plant ddim yn llwyddo. Ac, yn gweithio efo'r Gweinidog Cabinet, mi wnawn ni'n siŵr, ym mhob modd rydyn ni'n gweithredu, fod athrawon yn deall bod hon yn Llywodraeth sydd ar eu hochor nhw.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn ac, unwaith eto, croeso i'r ail Aelod o Gaerdydd Ffynnon Taf yma i'r Senedd.

14:15

Prynhawn da i chi, Brif Weinidog, a chroeso mawr i'r swydd hefyd. Diolch yn fawr iawn am osod allan y blaenoriaethau, and dwi'n eu croesawu nhw i gyd—

14:20

Mae economi Cymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol, gyda Chymru yn agos at waelod tablau cynghrair y Deyrnas Unedig ar fesurau fel gwerth ychwanegol gros y pen, cynhyrchiant, cyfraddau cyflogaeth ac incwm gwario. Yn fy etholaeth i, Gwynedd Maldwyn, mae'r dangosyddion hyn hyd yn oed yn is na chyfartaledd Cymru, ac mae gormod o bobl ifanc yn parhau i fod allan o waith, addysg neu hyfforddiant. Rwy'n gwybod y bydd fy etholwyr yn elwa o ffocws o'r newydd ar dwf economaidd drwy greu asiantaeth ddatblygu newydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai pobl ym mhob rhan o Gymru, trefol a gwledig fel ei gilydd, ddisgwyl yr un cyfleoedd o ran swyddi a chyflog da a sgiliau uchel? Ac a all e amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y buddion hynny yn cael eu teimlo ar draws pob cymuned? 

Ie, y geiriau pwysig yn fanna ydy 'pob rhan', 'pob cymuned', ac mae honno'n egwyddor rydyn ni wedi ceisio ei gwneud hi'n glir sydd yn mynd i fod yn bwysig iawn i ni. Mae'n rhaid i bobl ym mhob rhan o Gymru, pa un ai ym Maldwyn wledig neu yn ein dinasoedd ni, yn y Cymoedd, mewn pentrefi a threfi ledled y wlad, mae'n rhaid i bobl deimlo bod ganddyn nhw fynediad at yr un cyfleon am swyddi da wedi eu talu'n dda. Rydyn ni wedi dechrau gweithio'n barod o fewn y cynllun 100 diwrnod. Rydyn ni'n cymryd camau buan iawn i drio datgloi potensial economaidd Cymru: cefnogi busnesau wedi'u perchnogi yng Nghymru, gosod sylfeini ar gyfer twf cynaliadwy mewn blynyddoedd i ddod.

Rydyn ni'n gwybod bod economi Cymru wedi tanberfformio yn erbyn cymaint o fesurau dros y blynyddoedd—GVA, lefelau incwm, lefelau cynhyrchiant, ac ati. Pan fydd rhywun yn gweld wedyn cymunedau penodol, yn cynnwys rhai gwledig, yn dioddef yn arbennig, a'r problemau yn fwy dwys, mae hynny yn fy ngyrru i ymhellach i drio rhoi camau mewn lle i ymateb, ac, ydy, mae'r asiantaeth ddatblygu newydd yma wrth graidd hynny. Dwi wedi bod yn eithaf meddwl agored ynglŷn â manylder sut y gallai'r corff hwn weithio. Mae'r gwaith yn dechrau ar unwaith o osod y cylch gorchwyl, ond mae yna un peth dwi wedi mynnu o'r dechrau, bod yn rhaid i'r syniad o effaith gyfartal ar draws Cymru fod yn egwyddor gwbl, gwbl sylfaenol i'r holl waith y mae o'n ei wneud.

14:25

Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i chi yn eich swydd newydd, Brif Weinidog. O’m rhan i, mae’n fraint ac yn anrhydedd o'r mwyaf i gael sefyll yma yn cynrychioli Caerdydd a Phenarth. O draethau Sblot a Phenarth i gopa’r Garth, o waith dur Tremorfa i swyddfeydd canol y ddinas, ac o Stadiwm Cardiff City i Ganolfan Mileniwm Cymru, mae'r etholaeth hon, dwi'n credu, yn cyfuno'r gorau o brydferthwch naturiol, diwylliant a diwydiant Cymru.

Diolch yn fawr iawn, a gaf i groesawu'r Aelod i'r Senedd? Ydy, mae o'n cynrychioli rhan hyfryd o'r brifddinas hyfryd dwi mor falch ohoni, a da cael crybwyll Stadiwm Dinas Caerdydd i mewn hefyd, er y bydd cael amser i fynd yno, mae'n debyg, yn eithaf anodd.

14:30

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, a chroeso yma i'r Senedd.

14:35
14:40
14:45
14:50

Diolch, Brif Weinidog, a diolch, bawb, hefyd.

Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Dyddiad y Cyfarfod Llawn nesaf fydd 2 Mehefin. Diolch i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 14:50.