Y Cyfarfod Llawn
Plenary
14/01/2026Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:35 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r cyfarfod yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.
1. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda National Highways ynglŷn â'r gwaith parhaus ar y ddwy bont dros yr Hafren? OQ63637
2. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag atgyfeirio cleifion o Ogledd Cymru i Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yng Ngobowen? OQ63663
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
3. Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau nad yw cyn-filwyr yn wynebu anfanteision wrth gael mynediad at wasanaethau'r GIG? OQ63631
4. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ddiogelwch yr A470? OQ63661
Mae'n dda clywed am yr asesiadau yna o gyflymder ddaru chi sôn amdanynt yn Nhrawsfynydd, a gan nad ydych chi'n cynrychioli Gwynedd, gwnaf i gymryd eich bod chi ddim yn adnabod yr A470 yn y rhan yna o Gymru. Ond os ydych chi'n teithio o Gellilydan i'r gogledd drwy Drawsfynydd, heibio'r rhan yna sy'n cael ei alw'n Stesion, mae o'n ffordd syth iawn ac mae ceir yn mynd yn andros o sydyn. Mae yna bobl yn byw yn ochr Stesion sydd yn gorfod teithio a chroesi ffordd yr A470 er mwyn mynd i'r pentref i wneud eu siopa, er mwyn gweld eu hanwyliaid ac yn y blaen, ond yn benodol, felly, y plant sy'n gorfod croesi er mwyn mynd i Ysgol Bro Hedd Wyn. Mae o'n beryglus iddyn nhw, ac maen nhw'n gorfod cymryd eu bywydau i'w dwylo bob bore a bob prynhawn, felly mae angen gweithredu er mwyn gwneud yn siŵr bod y plant a phawb sydd yn gorfod croesi'r ffordd yna'n cael eu diogelu. A wnewch chi, ymhellach i'r asesiadau o gyflymder, edrych i weld pa gamau y gellir eu cymryd er mwyn gwneud y croesi yna'n fwy diogel i bobl ardal Stesion o Drawsfynydd, os gwelwch yn dda?
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiogelu gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru? OQ63639
6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar rôl Maes Awyr Caerdydd ym mholisi hedfan Llywodraeth Cymru? OQ63653
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys i wella diogelwch cerddwyr, gan gynnwys pont droed newydd ar bont Caersŵs? OQ63647
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau a threnau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ63654
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yn Nwyrain De Cymru? OQ63657
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi yn Nwyrain De Cymru? OQ63640
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Altaf Hussain.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraddau tlodi tanwydd yng Nghymru? OQ63655
4. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu drwy'r cynllun hawliau pobl anabl? OQ63648
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw ei pholisïau ar geiswyr lloches a ffoaduriaid yn annog pobl i ddod i mewn i'r DU drwy ddulliau anghyfreithlon? OQ63630
6. Pa gyllid mae cymunedau yn Islwyn wedi'i gael gan y Loteri Genedlaethol dros y pum mlynedd diwethaf? OQ63662
7. Ydy Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymgorffori’r hawl i fwyd yng nghyfraith Cymru? OQ63642
Ac yn olaf cwestiwn 8, Russell George.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cyfleusterau cymunedol yng nghanolbarth Cymru? OQ63645
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd sydd nesaf. Bydd y cwestiynau yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Hannah Blythyn.
1. Beth yw polisi'r Comisiwn ar ddefnyddio cytundebau peidio â datgelu? OQ63650
Nid oes gan y Comisiwn bolisi penodol ar gytundebau peidio â datgelu. Pan fydd aelod o staff y Comisiwn yn gadael y sefydliad, y disgwyliad yw i'r ddwy ochr gadw manylion yn gyfrinachol am gyflogaeth gweithwyr unigol.
2. Pa gefnogaeth mae'r Comisiwn yn ei ddarparu i Grwpiau Trawsbleidiol? OQ63634
Mae'r rheolau ar gyfer gweithredu grwpiau trawsbleidiol y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn nodi'r gefnogaeth y mae'r Comisiwn yn ei darparu i grwpiau trawsbleidiol. Mae gan grwpiau trawsbleidiol fynediad at gyfleusterau ac adnoddau'r Senedd, gan gynnwys ymneilltuo ystafelloedd a'r trefniadau sy'n gysylltiedig ar gyfer cyfarfodydd a darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Mae'r rheolau ar gyfer gweithredu grwpiau trawsbleidiol yn cael eu gweinyddu gan y Swyddfa Gyflwyno, sydd bob amser ar gael i gynghori Aelodau os oes ganddynt unrhyw ymholiadau. Ond mae'n bwysig cofio, wrth gwrs, taw Aelodau sy'n arwain a hwyluso'r grwpiau trawsbleidiol, nid y Comisiwn.
Diolch i'r Llywydd.
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Un cwestiwn yn unig, gan Siân Gwenllian.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar Consumer Energy Solutions yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? TQ1425
Diolch yn fawr. Mae bron i 300 o bobl wedi colli eu swyddi, heb rybudd, yn sgil y newyddion fod Consumer Energy Solutions wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae hyn yn newyddion hynod anodd ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd, a dwi yn mawr obeithio, fel rydych chi'n amlinellu, fod yna gymorth yn cael ei roi iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd a phryderus yma.
Mae'r newyddion hefyd, wrth gwrs, yn anodd ac yn bryderus i'r aelwydydd hynny sydd wedi cael ei gadael yn sydyn efo gwaith ar ei hanner neu efo gwaith sydd yn is-safonol, ac maen nhw eisiau gwybod sut maen nhw i unioni'r problemau hynny rŵan fod y cwmni ddim ar gael. Mae fy nghyd-Aelod yn San Steffan, Liz Saville Roberts, yn delio efo nifer fawr o achosion o'r math yna yn ei hetholaeth hi. Felly, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig am sut i sicrhau y bydd y gwaith ddechreuwyd gan CES yn cael ei gwblhau, fod y gwaith adfer sydd ei angen ar rai tai yn digwydd, neu fod pobl yn derbyn yr iawndal maen nhw yn ei haeddu?
Mae yna enghreifftiau cwbl annerbyniol o bobl yn byw heb wres a heb ddŵr. Ac mae'n rhaid i ni gofio bod y rhain ymhlith y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni. Beth all y Llywodraeth ei wneud i gefnogi unigolion a theuluoedd sydd wedi cael eu effeithio? Mae Plaid Cymru yn galw am ymchwiliad i'r holl sefyllfa. Ydy Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal ymchwiliad, neu a fedrwch chi bwyso am ymchwiliad gan gorff megis y swyddfa cyfrifo cenedlaethol?
Mae ECO4 yn dod i ben heb y sicrwydd o gynlluniau amgen yn rhoi pwysau enfawr ar bob busnes yn y maes yma hefyd. Felly, sut ydych chi'n mynd i fynd ati i ailadeiladu hyder yn y gymuned fusnes ac ymhlith y cyhoedd fel bod buddsoddi yn parhau i ddigwydd i ddatblygu'r sgiliau a'r cadwyni cyflenwyr lleol sydd eu hangen i gyflawni rhaglenni ôl-ffitio Llywodraeth Cymru?
A Heledd Fychan.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad. Galwaf ar John Griffiths.
Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar ddeiseb P-06-1555, 'Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Carolyn Thomas.
Cynnig NDM9101 Carolyn Thomas
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb P-06-1555, 'Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg.', a gasglodd 11,790 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch o galon i'r deisebydd am y ddeiseb yma ac am ei chymorth i mi wrth baratoi'r araith y prynhawn yma. Mae'n rhaid i fi ddweud o'r cychwyn dwi'n ddigon ffodus i allu cerdded fy merch bum mlwydd oed i'r ysgol ar hyd ffordd ddiogel, neu, i fod yn fanwl gywir, rhedeg ar ei hôl hi wrth iddi hi seiclo o fy mlaen i i'r ysgol. Ac mae hyn yn gam enfawr ymlaen, wrth gwrs, i addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, achos roeddwn i ar y bws am dros awr i'r ysgol gynradd nôl yn y 1990au. Mae'n deg i ddweud bod y mater yma wedi cael ei godi yn gyson yn y lle hwn, a dwi'n cydnabod nad yw e'n fater syml. Mae'r gost yn fawr ac mae'n rhaid tynnu'r llinell yn rhywle, ac mae'r llinell yn mynd i adael rhai yn hapus ac eraill yn anfodlon. [Torri ar draws.]
Lansiodd Llywodraeth Cymru adolygiad o drefniadau teithio gan ddysgwyr nôl yn 2019, cafwyd dadl gan wrthblaid yma nôl yn 2021, Papur Gwyn yn 2023, dadl arall gan wrthblaid yn 2023, ac yna gyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2024, adroddiad ynglŷn â mynediad i addysg. Flwyddyn ddiwethaf, cafodd hwn ei godi mewn dadl fer yn y lle hwn. Y diweddaraf, wrth gwrs, yw ein bod ni'n aros i gael gwybod yr ymatebion i'r ymgynghoriad a wnaed ym Mehefin a Thachwedd 2025. Mae cysondeb y materion yma yn codi yn dangos, yn amlwg, fod yna broblem, ac mae hyn yn cael ei ategu yn y ffaith, fel mae Carolyn Thomas wedi dweud, fod y comisiynydd plant wedi sôn am hyn, mae'r Comisiynydd y Gymraeg wedi sôn am hyn yn gyson, a heddiw mae gyda ni ddeiseb sydd gyda bron i 12,000 o lofnodion. Dyw hwnna ddim yn beth sy'n digwydd mor aml â hynny, fod y teimladau mor gryf eu bod nhw'n cael 12,000 o lofnodion.
Ond y ddadl gryfaf, yn fy marn i, yw tystiolaeth y bobl ifanc eu hunain. Dyma ond ychydig o'r 500 o ymatebion gan blant Rhondda Cynon Taf, rhai o'r plant mor ifanc â blwyddyn 1. Dyma un ohonyn nhw: 'Mae fy nhad mewn trafferth yn y gwaith gan fod yn rhaid iddo adael yn gynnar i'm casglu a gweithio o gartref, sydd ddim yn ddelfrydol, a dyw fy mam ddim yn gyrru.' Dyna bwysau ar blentyn ifanc, fod ei dad mewn trafferth yn y gwaith. Un arall: 'Mae gennyf i ofn y bydd yn rhaid imi gerdded i Bonty yn y tywyllwch. Mae yna bobl yn cymryd cyffuriau'—yn ymwneud â phwynt Lee Waters a Heledd Fychan. Un arall: 'Nid oes palmant ar y briffordd.' Mae hyd yn oed y tri llais yma yn profi pa mor eang yw'r broblem, a hefyd pa mor heriol, efallai, yw'r datrysiad.
Yn ddealladwy, mae cwestiynau’n codi am oriau ysgol a sut maent yn cyd-fynd ag oriau gwaith. Fel pob Aelod, dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwybod am y gwaith gwych mae ysgolion, gan gynnwys ysgol fy merch i, yn ei wneud gyda chlybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol. Ond, yn aml iawn, mae'n anodd cael llefydd yn y clybiau yma. A oes modd inni wneud mwy i helpu ein hysgolion? Mae angen inni barhau i gydweithio â'r heddlu—pwynt Joel, dwi'n credu. Yn amlwg, mae rôl bwysig i'r ysgolion gydweithio gyda'r heddlu, fel gwnaeth ysgol fy merch yn ddiweddar, trwy ddweud wrth yr heddlu, 'Mae yna broblem wrthgymdeithasol yn digwydd yn y fan yma.' Ac mae'r heddlu wedyn yn gallu mynd i'r lle yn ystod yr oriau mae plant a phobl ifanc yn cerdded nôl ac ymlaen o'r ysgol.
Hefyd, dwi ddim yn deall pam mae rhieni'n cael eu gwrthod rhag gallu talu am le pan mae yna le gwag ar fws. Os oes lle gwag ar fws, dyw e ddim yn gwneud dim sens i fi bod rhieni'n cael eu gwrthod rhag hyd yn oed talu am y lle yna.
Yn olaf, dwi'n credu bod yn rhaid inni adolygu'r ddeddfwriaeth er mwyn creu mwy o hyblygrwydd pan mae'n dod i reolau dwy filltir ysgol gynradd a thair milltir i ysgol uwchradd. Nawr, wrth gwrs dwi'n ymwybodol bod modd gwneud apêl, ond nid yn aml mae'r apeliadau yma yn llwyddiannus, ac yn sicr barn rhieni yw bod cost yn cael y flaenoriaeth dros ddiogelwch. So, dwi'n credu cam mawr i helpu fyddai adeiladu ar ganllawiau gweithredol, 'Teithio gan Ddysgwyr, Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol', Mehefin 2014, i'w wneud nid dim ond yn argymhelliad ond yn ofynnol i lwybrau fod yn droetffordd addas barhaus ar ffyrdd sydd â llif traffig cymedrol i drwm; i lwybrau fod â mannau camu ar ffyrdd sydd â llif traffig isel a llinellau gweld addas i roi digon o rybudd ymlaen llaw i yrwyr a cherddwyr; ac, yn olaf, i lwybrau ar ffyrdd â llif traffig isel iawn fod â llinellau gweld sy’n ddigon da i roi rhybudd ymlaen llaw.
Dwi'n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau, yn enwedig yr Ysgrifennydd Cabinet. Mae llawer o oedi wedi digwydd ac mae angen gweithredu. Diolch yn fawr.
Heddiw, Dirprwy Lywydd, dwi am ganolbwyntio'n benodol ar sut mae'r canllawiau hyn yn creu rhwystr i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Heledd wedi cyfeirio at nifer o'r pwyntiau dwi eisiau eu codi yn barod, felly dwi'n mynd i fod yn gryno.
Yn aml iawn, rŷn ni'n siarad gyda balchder yn y Siambr yma am yr iaith, ei dyfodol a'n huchelgais ni i gyd i greu o leiaf 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn wir, fe gafodd yr uchelgais honno ei chyflawni drwy ddeddfwriaeth pan basiwyd yn unfrydol Fil y Gymraeg gan Aelodau yn y lle hwn. Rydyn ni am weld pob plentyn yng Nghymru yn dod yn siaradwr Cymraeg yn hyderus, ond dyw'r ddeddfwriaeth yma ar ei phen ei hun ddim yn ddigon.
Ar draws Cymru, mae rhieni'n dweud wrthym ni dro ar ôl tro eu bod nhw eisiau anfon eu plant i addysg Gymraeg, ond dyw'r daith i'r ysgol Gymraeg leol agosaf ddim yn un ymarferol a hwylus. O ganlyniad, mae gormod o deuluoedd yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwthio i ddewis addysg trwy gyfrwng y Saesneg—nid oherwydd mai dyna yw eu dymuniad nhw, ond oherwydd dyna'r unig opsiwn realistig sydd ar gael iddyn nhw o dan yr amgylchiadau maen nhw'n ffeindio eu hunain ynddynt.
Nid rhoi dewis go iawn yw hynny, ond, mewn gwirionedd, cyfyngu ar ddewis i rieni mae hynny'n ei wneud. Os ydyn ni o ddifrif am gryfhau'r iaith Gymraeg, yna mae'n rhaid i fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg weithio yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Nid yw system sy'n hyrwyddo addysg Gymraeg ar y naill law, ond tynnu trafnidiaeth i ffwrdd o addysg Gymraeg ar y llaw arall, yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Dyna pam mae angen adolygu'r canllawiau hyn.
Mae'n rhaid iddyn nhw adlewyrchu realiti teuluoedd a realiti Cymru, ein daearyddiaeth ni, ein cymunedau gwledig ni a'n huchelgais genedlaethol ar gyfer yr iaith. Mae'n rhaid inni dderbyn nad yw addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn ychwanegol ond yn rhan ganolog o ddyfodol y genedl hon. Os na fyddwn yn cael gwared ar y rhwystrau trafnidiaeth hyn, byddwn yn methu â chefnogi'r teuluoedd hynny sy'n dymuno magu eu plant trwy gyfrwng y Gymraeg, ac, yn y pen draw, byddwn ni'n methu â chyflawni'n huchelgais o ran creu 1 miliwn o siaradwyr.
I gloi, Dirprwy Lywydd, dylai addysg agor drysau, nid gosod rhwystrau. Mae'n bryd i'n system teithio i ddysgwyr wneud yr un peth.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Galwaf ar Carolyn Thomas i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod un gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dreth trafodiadau tir. Galwaf ar Joel James i wneud y cynnig.
Cynnig NDM9100 Paul Davies
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i ddileu treth trafodiadau tir ar gyfer prif breswylfeydd yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Heledd Fychan i gynnig gwelliant 1 yn ei henw ei hun.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) archwilio diwygio pellach i'r system dreth fel dull o ddisodli’r dreth trafodiadau tir yn y pen draw mewn modd cynaliadwy; a
b) mynnu datganoli pellach o bwerau treth i Gymru gan San Steffan, gan gynnwys y gallu i gyflwyno treth tir gwag a'r gallu i osod bandiau treth incwm penodol i Gymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid nawr sydd yn cyfrannu.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i wedi gwrando gyda diddordeb ar gyfraniadau yn y ddadl, ond mae'n bwysig dweud ar y dechrau bod trethi yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith hanfodol ar gyfer ein cymunedau. Mae'r refeniw o drethi'n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod ein cymdeithas yn gyffredinol yn gallu gweithredu a ffynnu. Mae hyn yn cynnwys tai fforddiadwy, athrawon, nyrsys, ffyrdd, cludiant cyhoeddus a chefnogi grwpiau bregus. Mae refeniw treth hefyd yn helpu busnesau yng Nghymru i dyfu a datblygu, gan ddarparu amodau ar gyfer llwyddiant. Mae gan Lywodraeth Cymru egwyddorion craidd sy'n sail i'n gwaith ar drethi. Pwrpas y rhain yw gwneud ein system dreth gyffredinol yn gyson ac yn glir drwy sicrhau bod trethi Cymru'n codi refeniw yn deg, eu bod yn cefnogi polisïau ehangach a'u bod yn glir, sefydlog a syml, yn annog cysylltu eang ac yn helpu i greu Cymru fwy cyfartal i genedlaethau'r dyfodol.
Sam Rowlands nawr sy'n ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni ohirio'r bleidlais, felly.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 8 sydd nesaf. Dadl Plaid Cymru yw hon ar etholiad y Senedd, a Rhun ap Iorwerth sy'n cyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM9102 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026.
2. Yn credu bod etholiad y Senedd yn rhoi cyfle i arwain Cymru o’r newydd.
3. Yn galw am weithredu cynigion Plaid Cymru i:
a) cyflwyno cynllun rhestrau aros i glirio'r ôl-groniad presennol, i roi'r GIG ar sylfaen fwy cynaliadwy a sicrhau nad yw cleifion yn aros blynyddoedd mewn poen am driniaeth;
b) sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol newydd, gan ddarparu 'siop un stop' ar gyfer cymorth busnes, gan gefnogi a thyfu busnesau Cymreig ym mhob cam o'u datblygiad;
c) cyflwyno cynnig gofal plant sy’n darparu o leiaf 20 awr yr wythnos i bob plentyn, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant a chaniatáu i rieni ddychwelyd i'r gwaith;
d) cyflwyno cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol i sefydlu meincnodau cenedlaethol, darparu cefnogaeth wedi'i thargedu, a sicrhau addysgu o ansawdd uchel a thracio cynnydd tryloyw; ac
e) cyflwyno bil Cymru newydd i sicrhau cydraddoldeb pwerau datganoledig â'r Alban, fel dull angenrheidiol i ddatgloi potensial Cymru.
4. Yn gresynu bod 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru wedi arwain at:
a) dros 8,700 o lwybrau gofal yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, er gwaethaf y targed i ddileu amseroedd aros o'r fath yn llwyr erbyn mis Mawrth 2023;
b) cyfraddau incwm gwario gros isaf y pen ac incwm sylfaenol y pen yng Nghymru sydd yr ail isaf o holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU, gyda'r ddau yn gostwng fel cyfran o gyfartaledd y DU; ac
c) sgoriau PISA Cymru mewn llythrennedd a rhifedd sydd yr isaf erioed ers cymryd rhan yn y rhaglen am y tro cyntaf yn 2006, a'r isaf ymhlith cenhedloedd y DU am y pumed tro yn olynol.
5. Yn gresynu ymhellach fod partneriaeth mewn pŵer Llafur wedi gadael Cymru i lawr.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n falch o agor dadl gyntaf Plaid Cymru yn 2026, blwyddyn sy'n addo bod yn un arwyddocaol iawn yn hanes gwleidyddiaeth ein cenedl a'r gred go iawn, rŵan, bod newid cyfeiriad yn bosib ym mis Mai. Ac rydyn ni'n ymddiried ym mhobl Cymru i wneud y dewis iawn. Ydyn, mae'r arolygon barn yn adrodd stori. Maen nhw'n rhoi blas o farn y cyhoedd ar hyn o bryd, ond tra fy mod i'n sicr yn cymryd dim yn ganiataol, beth sydd gennym ni ydy stori am ba mor eiddgar ydy pobl rŵan am newid positif, pa mor barod ydyn nhw i droi eu cefnau ar status quo Llafur, ac arwyddion mor glir sydd yna eu bod nhw yn barod i gefnogi gweledigaeth Plaid Cymru fel Llywodraeth sydd yn benderfynol o sefyll bob amser dros fuddiannau Cymru, a hynny yn ddiamod. Ac fel mae cynnig Plaid Cymru yn gosod allan y prynhawn yma, rhwng y methiannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus, absenoldeb polisïau arloesol a beiddgar i fynd i'r afael â'r heriau o fewn ein cymunedau a'r amharodrwydd parhaus yna i sefyll i fyny i Keir Starmer, does yna ddim syndod bod pobl Cymru wedi colli ymddiriedaeth yn arweinyddiaeth Llafur.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Rwyf wedi dethol gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026.
2. Yn credu bod etholiad y Senedd yn rhoi cyfle i arwain Cymru o’r newydd.
3. Yn gresynu bod 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi arwain at:
a) un o bob pedwar o boblogaeth Cymru ar restr aros GIG;
b) y gyfradd ddiweithdra uchaf a'r cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig;
c) canlyniadau PISA Cymru yn gostwng i'r lefel isaf erioed mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth, yr isaf o holl wledydd y DU am y pumed tro yn olynol;
d) arian trethdalwyr yn cael ei wastraffu ar wariant nad yw'n ddatganoledig ac ehangu'r Senedd;
e) economi Cymru yn cael ei ddal yn ôl gyda'r cynnig ardrethi busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain Fawr, y terfyn cyflymder 20mya diofyn, a chyfraddau treth trafodiadau tir sy'n mygu'r farchnad dai;
f) teuluoedd sy'n gweithio yn cael eu taro â'r costau gofal plant uchaf a'r cynnig gofal plant gwaethaf ym Mhrydain Fawr; a
g) y cynllun ffermio cynaliadwy sy'n peryglu colli swyddi a bywoliaethau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i:
a) datgan argyfwng iechyd yn y GIG yng Nghymru, dileu amseroedd aros gormodol mewn adrannau brys, ar gyfer ambiwlansys, profion a thriniaeth, cyflwyno gwarant aros meddygon teulu, a hyrwyddo dewis cleifion fel sbardun ar gyfer gwella gofal iechyd;
b) sicrhau bod economi Cymru yn symud drwy dorri'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm, dileu ardrethi busnes i fusnesau bach, adfer y terfyn cyflymder diofyn i 30mya, buddsoddi mewn seilwaith ffyrdd, a dileu'r dreth trafodiadau tir ar gyfer prif gartrefi;
c) gwella deilliannau addysg yng Nghymru drwy adfer disgyblaeth a pharch mewn ysgolion yng Nghymru, bod yn llym ynghylch trais ac ymddygiad gwael, gwahardd ffonau symudol yn ystafelloedd dosbarth Cymru, grymuso athrawon, a galluogi sefydlu ysgolion academi;
d) rhoi'r gorau i wario arian trethdalwyr ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, a gwrthdroi ehangu'r Senedd;
e) cefnogi teuluoedd sy'n gweithio trwy gael cynnig gofal plant cyfatebol i'r hyn sydd ar gael yn Lloegr; ac
f) dileu a disodli'r cynllun ffermio cynaliadwy gyda chynllun gwirioneddol gynaliadwy sy'n diogelu swyddi gwledig ac sydd â diogelwch bwyd wrth wraidd y cynllun.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn cydnabod bod polisïau Llywodraeth Lafur Cymru dros dymor y Senedd hon wedi arwain at:
a) 18,652 o gartrefi ychwanegol yn cael eu darparu i’w rhentu yn y sector cymdeithasol;
b) 46,000 o swyddi yn cael eu cefnogi;
c) bron i 60 miliwn o brydau ysgol am ddim yn cael eu gweini i blant oed cynradd a gwelliannau diweddar mewn cyrhaeddiad addysgol;
d) y cynnig cymorth mwyaf blaengar a hael i fyfyrwyr yn y DU, sy'n golygu nad yw incwm aelwydydd yn penderfynu i ba brifysgol y bydd myfyrwyr yn mynd;
e) amseroedd aros hir ar gyfer triniaeth a phrofion yn gostwng a'r GIG ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol eleni;
f) coedwig Genedlaethol yn cael ei phlannu a chamau yn cael eu cymryd i ddiogelu cymunedau rhag gwaddol mwyngloddio; a
g) mwy na £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi i drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd yn system metro fodern.
3. Yn credu bod Cymru yn barod ar gyfer cyfnod newydd o fuddsoddiad o dan Lafur, yn dilyn mwy na degawd o lymder Torïaidd.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Un o ddyletswyddau sylfaenol unrhyw lywodraeth ddylai fod sicrhau dyfodol gwell i genedlaethau'r dyfodol a rhoi iddyn nhw'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer datblygiad personol, diogelwch swyddi a chyfleoedd bywyd gwell.
Yn anffodus, ar y metrig hollbwysig hwn, does dim amheuaeth bod Llafur dros y 26 mlynedd diwethaf wedi methu ein plant a'n pobl ifanc yn ofnadwy, ac yn eu tro wedi gwastraffu potensial anferthol ein cenedl ni. Fe ddylai'r canlyniadau PISA diweddaraf, sydd yn dangos Cymru ar ei lefel isaf erioed o ran cyrhaeddiad llythrennedd a rhifedd, gael eu hystyried fel gwarth cenedlaethol ac adlewyrchiad damniol o gamreolaeth Llafur ar y sector allweddol hwn.
Dim ond un arwydd o broblemau ehangach yw hyn. Mae gyda ni argyfwng recriwtio athrawon yng Nghymru sy'n parhau yn ddi-baid—sefyllfa sydd wedi gwaethygu oherwydd diffyg strategaeth glir gan y Llywodraeth. Mae'r costau cynnal a chadw hanesyddol yn ein hysgolion wedi cyrraedd lefelau arswydus o uchel, gyda llawer gormod o adeiladau addysgol ar draws y wlad mewn cyflwr truenus. Mae ein prifysgolion ni'n wynebu argyfwng ariannol dirfodol yn sgil diffyg gweledigaeth a chynllun gan y Llywodraeth i annog mwy o fyfyrwyr Cymreig i astudio yma yng Nghymru.
Mae'n hen bryd i ni newid cyfeiriad ac i droi tudalen lân ar ôl chwarter canrif a mwy o fethiannau gan Llafur. Plaid Cymru sy'n arwain y ffordd at ddyfodol mwy disglair i'n pobl ifanc drwy ein strategaeth drawsnewidiol i adnewyddu safonau addysg. Mi fyddwn ni'n datblygu cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol newydd a fydd yn cynnwys meincnodau cenedlaethol, cefnogaeth dargedig, addysgu o ansawdd uchel, a thracio cynnydd yn gyson.
Mi fyddwn ni'n darparu llyfrgell ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru er mwyn meithrin dwyeithrwydd a chariad gydol oes at ddarllen ymysg ein plant. Byddwn hefyd yn hybu dulliau darllen ar draws y cwricwlwm gan ymgyrffori llythrennedd ym mhob pwnc yn ein hysgolion uwchradd, a chefnogi hefyd ddisgyblion yn ystod y cyfnod pontio hollbwysig hwnnw o addysg gynradd i addysg uwchradd. Bydd Llywodraeth Paid Cymru'n buddsoddi yn nyfodol addysg Cymru drwy gynnig cymhellion teg a chystadleuol i ddenu a chadw'r athrawon sydd eu hangen ar ein hysgolion ni, gan gau'r bwlch â Lloegr yn raddol, gan sicrhau nad yw athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru dan unrhyw anfantais ariannol os ydyn nhw'n dewis astudio a gweithio yma.
Nid mesurau dros dro yw'r rhain, fel rydym ni wedi dod i hen arfer o dan Llafur, ond rŷn ni am osod sylfeini angenrheidiol cyntaf tuag at greu system addysg fwy cynaliadwy, sy'n rhoi'r cyfle i'n plant a'n pobl ifanc i ffynnu a chyflawni eu potensial yn llawn. Dim ond Llywodraeth dan arweiniad Paid Cymru all gynnig y gobaith hwn i'n cenhedlaeth bresennol o blant. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf nawr ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. From the debate this afternoon, one thing is crystal clear: we all recognise that the Senedd election on 7 May 2026 is a pivotal moment for Wales. But it's also clear that we have yet another motion from the perpetual doomscrollers of Welsh politics on the Plaid Cymru benches. Plaid Cymru are once again choosing to talk Wales down, as are the Tories too. They may be happy to do that, but that will never be Welsh Labour's way, because we know we have more to do, but we also believe in Wales and the people of Wales, and the potential of Wales too.
What is striking about Plaid Cymru's motion is not what it includes, but what it ignores. It totally ignores the political and the economic context that this and past recent Labour Governments have been operating in. Over the last decade and more, we saw the UK Tory Government reigning over swingeing cuts and chaos. They slashed public services, crashed the economy, sent interest rates soaring, they made it dramatically harder and more expensive to build homes, invest in infrastructure or to support the essential services that we all rely on.
Against the backdrop of Tory cuts and chaos, Welsh Labour has provided serious and stable government, standing up for Wales and defending Wales from the worst harms of Tory mayhem. Welsh Labour stepped in to put more PCSOs on our streets when the UK Tory Government was cutting police. We provided and protected free prescriptions and hospital parking. When austerity made children's lives bleaker, we provided free school breakfasts to make sure that children were fed and ready to learn. With local government colleagues, we kept core services running against the relentless Tory attacks. And for over a decade, we defended people as best we could from the cuts being imposed on them from the Tory shires and squires. [Interruption.] I believe there was an intervention.
A galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw.
Mi wnaf i ddechrau, dwi'n meddwl, drwy fyfyrio eto ar y cynnig mae Plaid Cymru wedi'i gyflwyno y prynhawn yma, gan ei fod o'n gosod allan y dewis fydd yn wynebu pobl Cymru mewn llai na phedwar mis. Ar yr un llaw, mae gennym ni restr yma sydd yn crisialu record y Llywodraeth bresennol—y gwasanaeth iechyd ar ei liniau, system addysg sy'n methu ein pobl ifanc ni, economi yn tanberfformio, a'r berthynas unochrog yna efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n caniatáu iddyn nhw danseilio datganoli ar bob cyfle.
Ar y llaw arall, beth sydd gennym ni yma ydy cynnig, neu flas o gynigion uchelgeisiol Plaid Cymru i bobl Cymru, polisïau arloesol yn barod i’w rhoi ar waith—y cynnig gofal plant, fel clywon ni, fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, yn newid bywydau a newid cyfleon i deuluoedd; cynllun rhestrau aros i daclo backlog y gwasanaeth iechyd; asiantaeth ddatblygu newydd i dyfu busnesau Cymreig; cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol i godi safonau addysg; a Bil Cymru newydd i sicrhau cydraddoldeb efo’r Alban a dechrau datgloi potensial ein cenedl.
Rŵan, rydyn ni i gyd yn ei weld o, ar lawr gwlad—
Before I carry on, yes.
Rydyn ni'n gweld, onid ydyn ni, ar garreg y drws—bob un ohonom ni, feiddiaf i ddweud, o ba bynnag blaid—rydyn ni'n ei weld o mewn arolygon barn: mae mwy a mwy o bobl yn troi at weledigaeth Plaid Cymru er mwyn sicrhau'r arweinyddiaeth newydd y mae Cymru ei hangen. Rydyn ni i gyd yn gweld bod pobl eisiau newid. Dyna'r neges glir gan bobl Cymru. Ond fyddech chi ddim yn credu hynny wrth ddarllen gwelliant y Llywodraeth heddiw nac wrth glywed cyfraniadau Aelodau Llafur.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Treth Trafodiadau Tir. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 12, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Treth Trafodiadau Tir. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.
Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 8, dadl Plaid Cymru ar etholiad y Senedd. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 8: Dadl Plaid Cymru—Etholiad y Senedd. Cynnig heb ei ddiwygio. : O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1, yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 8: Dadl Plaid Cymru—Etholiad y Senedd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 12, Yn erbyn: 38, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Etholiad y Senedd. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM9102 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi etholiad y Senedd sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026.
2. Yn cydnabod bod polisïau Llywodraeth Lafur Cymru dros dymor y Senedd hon wedi arwain at:
a) 18,652 o gartrefi ychwanegol yn cael eu darparu i’w rhentu yn y sector cymdeithasol;
b) 46,000 o swyddi yn cael eu cefnogi;
c) bron i 60 miliwn o brydau ysgol am ddim yn cael eu gweini i blant oed cynradd a gwelliannau diweddar mewn cyrhaeddiad addysgol;
d) y cynnig cymorth mwyaf blaengar a hael i fyfyrwyr yn y DU, sy'n golygu nad yw incwm aelwydydd yn penderfynu i ba brifysgol y bydd myfyrwyr yn mynd;
e) amseroedd aros hir ar gyfer triniaeth a phrofion yn gostwng a'r GIG ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o lawdriniaethau cataract ychwanegol eleni;
f) coedwig Genedlaethol yn cael ei phlannu a chamau yn cael eu cymryd i ddiogelu cymunedau rhag gwaddol mwyngloddio; a
g) mwy na £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi i drawsnewid llinellau craidd y Cymoedd yn system metro fodern.
3. Yn credu bod Cymru yn barod ar gyfer cyfnod newydd o fuddsoddiad o dan Lafur, yn dilyn mwy na degawd o lymder Torïaidd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Etholiad y Senedd. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r ddadl fer. Galwaf ar Adam Price i siarad.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ysgrifennyd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd Cyfnod 3 y Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth).
Grŵp 1 o welliannau ar hyn yw'r grŵp sy'n ymwneud â hyfforddiant ar gyfer aelodau meddygol nad ydynt yn ymarfer. Gwelliant 2 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Adam Price i gynnig y prif welliant.
Cynigiwyd gwelliant 2 (Adam Price).
Y Cwnsler Cyffredinol.
Adam Price i ymateb.
Os gwrthodir gwelliant 2, bydd gwelliant 1 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 2 yn cael ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Adam Price).
Rydym ni wedi clywed Adam Price yn dweud ei fod yn symud gwelliant 1. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Mae gwelliant 1 hefyd wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n golygu ein bod ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 o Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) a dwi'n datgan bod pob adran o'r Bill wedi eu derbyn. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A, dwi'n gallu cadarnhau nad yw darpariaethau'r Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yn ymwneud â phwnc a warchodir yn fy marn i.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
Eitem 12, felly, yw Cyfnod 4 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth). Y Cwnsler Cyffredinol nawr sydd yn gwneud y cynnig yma. Julie James.
Motion
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.48:
Yn cymeradwyo'r Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth).
Cynigiwyd y cynnig.
Ydy'r Cwnsler Cyffredinol eisiau dweud gair pellach?
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, fel byddwch chi'n gwybod. Felly, oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, dwi'n barod i symud i'r bleidlais ar Gyfnod 4. Gallwn ni felly, ar gymeradwyo'r Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth), agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly, mae'r bleidlais yna ar Gyfnod 4 y Bil yna wedi'i chymeradwyo.
Eitem 12. Dadl: Cyfnod 4 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth): O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Diolch yn fawr i bawb, a nos da.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:42.