Y Cyfarfod Llawn
Plenary
16/12/2025Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Felly, awn ni ymlaen yn awr i'r eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, sef y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Brynhawn yma, mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd mabwysiadol? OQ63597
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r Bil Hawliau Cyflogaeth? OQ63621
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd ar yr A55 yn Nelyn? OQ63626
4. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru am sut y gall Swyddfa Cymru hyrwyddo statws y Gymraeg yng Nghaerdydd? OQ63623
Yn y 26 mlynedd ers i'r Blaid Lafur fod yn arwain yng Nghymru, mae'r gefnogaeth i'r iaith Gymraeg wedi gweddnewid. Mae hwn yn wir yng Nghaerdydd yn ogystal â gweddill y wlad. Y Blaid Lafur sydd wedi ei gwneud hi'n glir bod gyda ni nod o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ac mae ein polisïau ni ar draws y Llywodraeth yn adlewyrchu hynny.
Dwi'n falch o adrodd mai fy mam, cynghorydd Llafur, oedd yn gyfrifol am sicrhau bod Caerdydd wedi penodi swyddog y Gymraeg pan oedd hi yn gynghorydd yn y ddinas, sawl degawd yn ôl.
Mae'n hyfryd clywed hynny am eich mam, a dwi'n cytuno gyda beth rydych chi'n ei ddweud am y Blaid Lafur fan hyn yng Nghaerdydd, ond dyw'r un peth ddim yn wir, bob amser, am y Blaid Lafur yn San Steffan. Welon ni hynny yn sylwadau'r Ysgrifennydd Gwladol. Rwy'n gwybod eich bod chi'n browd iawn, fel fi, o fod yn Cardiffian sy'n siarad Cymraeg, a than yr 1840au, Cymraeg oedd iaith mwyafrif trigolion Caerdydd. Ac ar hyd y degawdau, mae hi wedi bod yn gartref i gymdeithas fyrlymus Gymraeg, ac rydyn ni wedi gweld twf aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf, ac rydych chi'n rhan o hynny fel un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Glantaf.
Mae'r Gymraeg yng Nghaerdydd yn fwy na jest un o nifer o ieithoedd, ac mae dweud bod bron pawb yn siarad Saesneg yn hen ddadl sy'n perthyn i'r gorffennol. Dwi ddim yn mynd i'ch holi chi a ydych chi'n cytuno â'r Ysgrifennydd Gwladol achos dwi'n gwybod eich bod chi ddim, ond y Nadolig yma, Brif Weinidog, a wnewch chi bach o waith cenhadu gyda'r Ysgrifennydd Gwladol? A wnewch chi ei holi hi i wneud adduned blwyddyn newydd y bydd ei gohebiaeth o nawr ymlaen yn adlewyrchu'r ffaith mai dyma brif ddinas ein cenedl ni a bod yna ddwy iaith gyda statws cyfreithiol yn y wlad yma? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a ni'n browd iawn bod hynny yn wir yma. Yn ei gwaith fel swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dwi'n meddwl bod Swyddfa Cymru yn defnyddio'r Gymraeg, ond byddwn i bob amser yn cynghori pobl i ymateb yn Gymraeg os ydy pobl yn cyfathrebu yn Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn deall hynny a bod yna gyfrifoldeb arnom ni, yn arbennig fel arweinwyr, i wneud beth allwn ni i gyrraedd y nod yna o filiwn o siaradwyr.
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwaith cymunedau ffydd yng Nghymru? OQ63613
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol i bobl ag anableddau cymhleth? OQ63603
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus? OQ63616
Mae agwedd tuag at y Gymraeg yn y gymdeithas wedi gweddnewid o dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur dros y 26 mlynedd diwethaf. Y ffaith yw ein bod ni wedi gweld cynnydd aruthrol yn y nifer o ysgolion Cymraeg ar draws ein gwlad, a fydd yn bwydo i mewn i ddelifro ein strategaeth 'Cymraeg 2050'. Mae'r nod o greu 1 miliwn o siaradwyr erbyn 2025, ynghyd â'r ymdrechion i gynyddu defnydd, yn creu newid go iawn.
Diolch yn fawr iawn. Brif Weinidog, rŷch chi'n gwybod, fel minnau, fod y Gymraeg yn iaith swyddogol gyfartal yma yng Nghymru. Mae'n rhan gwbl ganolog o'n hanes, o'n diwylliant a'n hunaniaeth ni ac yn rhywbeth gall pawb yng Nghymru ei pherchnogi ac ymfalchïo ynddi, yn siaradwyr Cymraeg neu beidio. Rŷn ni wedi gweld ymdrechion gwych yn y Siambr hon o bobl sydd yn dysgu'r iaith ac yn barod i'w defnyddio a'i pharchu hi.
Ond fel rŷn ni wedi'i glywed yn barod gan Rhys ab Owen, mae'n anffodus, felly, nad yw Jo Stevens, Aelod Seneddol sy'n cynrychioli ein prifddinas yma yng Nghaerdydd, sydd hefyd, yn digwydd bod, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac sydd i fod, mewn theori, yn cynrychioli Cymru a gwerthoedd Cymru yng Nghabinet Llywodraeth Prydain, yn cyd-weld â hyn, gan wrthod yn blaen i ddefnyddio'r iaith mewn gohebiaeth gydag etholwyr.
Yn syml, mae hyn yn dangos diffyg parch rhyfeddol ac agwedd ddeinosoraidd at y Gymraeg rôn i'n meddwl fyddai wedi hen ddiflannu o dir Cymru erbyn hyn. Yn sgil yr agwedd negyddol hon tuag at y Gymraeg, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'w hargyhoeddi hi o bwysigrwydd ein hiaith genedlaethol mewn bywyd cyhoeddus?
Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac mae'n dda i bobl allu defnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cyhoeddus ac aelodau etholedig. Yn sicr, dwi'n rhywun sydd yn awyddus iawn i sicrhau bod yr iaith yn cael ei gwthio ar bob cyfle, a dyma pam, yn uwchgynhadledd y British-Irish Council yn ddiweddar, roedd y Gymraeg yn ganolbwynt. Fe gawsom ni archdderwydd Cymru yn cyfarch pobl o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw glywed y Gymraeg, ac fe wnaeth hi rili gwneud impact ar y bobl oedd yno. Dwi'n rhywun, fel rŷch chi'n gwybod, sydd wastad eisiau annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg, a dwi'n falch i weld bod mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cwestiwn 8, yn olaf, Laura Anne Jones.
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu tafarndai ar hyn o bryd? OQ63628
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Mae'r datganiad yma i'w wneud gan y Trefnydd. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Mae'r Llywydd wedi penderfynu nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru), felly mae hwn wedi cael ei dynnu nôl. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad am y gofal sydd ar gael ar gyfer manau o'r gogledd sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl dwys yn sgil geni baban. Dwi'n deall bod yna ddau wely ar gael mewn uned mamau a babanod newydd yng Nghaer. Nid dyma'r model gorau ar gyfer gofalu am anghenion mamau, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, mae Caer yn bell iawn o Amlwch, Caergybi, Aberdaron a Tywyn. Ac yn ail, fydd yna ddim modd cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ystyrlon i famau mewn uned sydd y tu allan i Gymru. Mae polisi ‘Mwy na geiriau’ y Llywodraeth yma mewn grym yng Nghymru, ond does yna ddim polisi o’r fath yn Lloegr, wrth gwrs, a does yna ddim hawliau gan siaradwyr Cymraeg yn Lloegr chwaith.
Dwi wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd ym mis Medi eleni eto, efo nifer o gwestiynau am y pryder sydd gen i am y Gymraeg. Ches i ddim ateb. A dwi wedi gofyn am help Sarah Murphy, fel y Gweinidog perthnasol, i drio cael yr atebion, ond dwi dal heb gael ateb. Felly, dwi yn meddwl y byddai'n briodol i'r Llywodraeth yma sicrhau datganiad llawn am yr uned mam a’i phlentyn, fydd yn egluro sut, yn ymarferol, y bydd yr uned yma yn gallu gwasanaethu mamau yn fy etholaeth i, o gofio'r pellter ac o gofio'r problemau iaith. Diolch.
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda? Mae'r ddau ohonyn nhw'n perthyn i'w gilydd—un ar ariannu meddygfeydd teulu a'r llall ar rannu arfer da yn y gwasanaeth iechyd. Mae'r cwestiynau yma'n deillio o ymweliad y gwnes i'n ddiweddar â meddygfa Llanfyllin sy'n gwasanaethau ardal o tua 450 o filltiroedd sgŵar a 12,000 o bobl yn rhan ohoni. Mae ganddyn nhw feddygfeydd yn Llanfyllin, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Four Crosses, ond oherwydd methiant i ariannu meddygfeydd teulu yn gywir, maen nhw bellach yn gorfod ystyried cau cangen Llanrhaeadr-ym-Mochnant, a fydd yn hynod niweidiol i nifer fawr o bobl mewn ardal mor wledig. Mae'n enghraifft o'r heriau sydd yn wynebu meddygfeydd teulu, yn enwedig yng nghefn gwlad. Felly, a gawn ni ddatganiad ar ariannu meddygfeydd teulu?
Yn ail, yn perthyn i hynny, mae meddygfa Llanfyllin wedi datblygu prosiect llwyddiannus iawn—nifer ohonyn nhw, ac un ohonyn nhw'n edrych ar fodel bregusrwydd er mwyn atal pobl rhag mynd i ysbytai cyffredinol. Maen nhw wedi llwyddo i atal miloedd o bobl rhag gwneud hynny, ond mae'r projectau yma'n gorfod dirwyn i ben oherwydd methiant ariannu parhaol, sydd yn golygu bod project arfer da fel yna yn dirwyn i ben heb ei rannu. Felly, a gawn ni hefyd ddatganiad ar sut mae'n bosibl rhannu arferion da o'r math yna yn ehangach a'u cynnal nhw? Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Thank you, Trefnydd.
Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lefelau uwchgyfeirio sefydliadau'r NHS. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Mae'r datganiad hefyd yn nodi y bydd y tîm newydd hwn mewn lle am gyfnod cychwynnol o chwe mis. Ai cyd-ddigwyddiad ydy o fod y chwe mis yna yn dirwyn i ben jest cyn yr etholiad nesaf? Allwch chi felly roi sicrwydd i ni nad oes yna ystyriaethau gwleidyddol i hyn?
Yn ehangach, mae sefyllfa Betsi Cadwaladr yn symptom o broblem llawer dyfnach: nid oes yr un bwrdd iechyd yng Nghymru heddiw mewn sefyllfa o fusnes fel arfer. Mae hynny'n codi cwestiynau sylfaenol ynghylch priodoldeb, eglurder ac effeithlonrwydd y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd presennol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Llynedd, fe gyhoeddodd Plaid Cymru adroddiad manwl ar lywodraethiant y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys cyfres o argymhellion clir ar atebolrwydd, perfformiad ac arweinyddiaeth. Mae'n arwyddocaol bod nifer o'r arsylwadau hynny bellach wedi eu hadleisio gan adroddiad y grŵp cynghori gweinidogol ar berfformiad a chynhyrchiant y gwasanaeth iechyd. Un neges glir a ddaeth i'r amlwg o'r cyfweliadau gyda'r uwch arweinwyr a gyfrannodd at yr adroddiad oedd diffyg hyder a thryloywder yn y fframwaith presennol. Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod y teimlad yma o ansicrwydd?
Yn ogystal, mae cwestiwn dilys ynghylch a oes gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yr adnoddau, y capasiti a'r gallu gweithredol i ddarparu asesiadau perfformiad rheolaidd cadarn ac effeithiol yn erbyn safonau cenedlaethol. Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn hynny?
I gloi, yn unol ag argymhellion y grŵp cynghori gweinidogol ar berfformiad a chynhyrchiant, mae angen eglurder ar sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi mireinio a chysoni'r cyfarfodydd y mae'n eu cynnal gyda'r byrddau iechyd mewn ffordd sy'n cryfhau eu hatebolrwydd am berfformiad. Heb newid sylfaenol yn y ffordd y caiff perfformiad ei fonitro, ei herio a'i wella, bydd y system yn parhau i gylchdroi drwy'r un problemau gyda chanlyniadau difrifol i gleifion a staff fel ei gilydd. Tybed ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn hynny. Diolch.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 heddiw yw Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM9084 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Caffael 2023 (Cytundebau Rhyngwladol Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Symudaf y cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM9085 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Dirprwy Lywydd, symudaf y cynnig i gymeradwyo'r rheoliadau ardrethu annomestig.
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r rheoliadau, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan Reol Sefydlog 26C.18, i gytuno y dylai'r Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) fynd yn eu blaen fel Biliau cydgrynhoi, eu grwpio ar gyfer y ddadl hon, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi ddim wedi clywed gwrthwynebiad.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud cynnig—Julie James.
Cynnig NDM9081 Julie James
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18:
Yn cytuno y dylai'r Bil Cynllunio (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.
Cynnig NDM9082 Julie James
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26C.18:
Yn cytuno y dylai'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) fynd rhagddo fel Bil Cydgrynhoi.
Cynigiwyd y cynigion.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Ar ran Plaid Cymru, rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at ystyriaeth gychwynnol y Bil cynllunio a'r Bil cynllunio (darpariaethau canlyniadol). Yn gyntaf, dwi jest eisiau dweud bod y broses wedi bod yn un cadarnhaol iawn. Er bod Biliau cydgrynhoi, yn eu hanfod, yn dechnegol, mae'r gwaith craffu wedi bod yn drylwyr, a'r gwaith o baratoi y Biliau yn adeiladol. Derbyniwyd tystiolaeth, fel dŷn ni wedi ei glywed, gan wahanol rhanddeiliaid, cafwyd trafodaeth agored am sut i sicrhau cysondeb ag eglurder, a bu cydweithio proffesiynol a phositif rhwng y pwyllgor, y Cwnsler Cyffredinol a swyddogion.
Mae hyn yn bwysig, oherwydd mae cynllunio yn cyffwrdd ar bron pob agwedd o fywyd bob dydd, onid ydy, boed yn gartrefi neu fusnesau, tirweddau a hyder pobl a chymunedau yn y system. Felly, mae pwrpas Biliau cydgrynhoi, sef casglu'r gyfraith cynllunio mewn ffordd fwy hygyrch, cliriach a mwy cyson yn cryfhau ein system ddemocrataidd ni, ac mae hynny i'w groesawu. Dyw e ddim yn mynd i beri ar benawdau, efallai, ond mae'n waith hanfodol o ran ein seilwaith democrataidd. Pan fo'r gyfraith yn dameidiog neu'n anodd ei ddilyn, mae'n anoddach i bobl gyffredin gymryd rhan lawn ym mywyd y gymdeithas, ac mae'r system i gyd, wedyn, yn colli hyder. Felly, mae gwneud y gyfraith yn fwy darllenadwy a defnyddiol yn gam pendant a phwysig tuag at fwy o dryloywder a thegwch, ac mae'r Llywodraeth i'w llongyfarch, dwi'n credu, am ddod â'r Biliau yma ymlaen.
Ar sail gwaith y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr wyf yn aelod ohono, rŷn ni ym Mhlaid Cymru hefyd yn gallu derbyn casgliadau'r pwyllgor fel rhai cadarn—hynny yw, mae cwmpas y cydgrynhoi yn briodol, mae'r ddeddfwriaeth berthnasol wedi'i chynnwys ac mae'r cydgrynhoi ei hunan yn glir ac yn gyson o fewn y terfynau ar gyfer y Biliau hyn. Felly, o ran egwyddor, mae'n briodol, felly, fod y Biliau yma'n symud ymlaen i'r cam nesaf.
Mae e hefyd yn iawn, wrth gwrs, fod y pwyllgor wedi codi rhai mannau, a rhanddeiliaid, lle'r oedd angen sicrwydd pellach, neu eglurhad, ac rwy'n croesawu'n fawr ymateb y Llywodraeth i'r pwyntiau hynny, fel dŷn ni wedi'i glywed, ac yn eu hymateb i adroddiad y pwyllgor ar gymhwysedd a chydsyniad. Yn gyntaf, mae, wrth gwrs, yn bwysig bod y Senedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, ac rwy'n croesawu'r cadarnhad bod y cydsyniad angenrheidiol hynny wedi'i sicrhau. Yn ail, fel dŷn ni wedi clywed y cwestiwn yma o ran rhyngweithiad y Biliau hyn â Bil Cynllunio a Seilwaith Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rwy'n croesawu'r ymrwymiad roedd y Llywodraeth wedi'i roi a hefyd y diweddariad dŷn ni newydd ei glywed gan y Cwnsler Cyffredinol. Yn drydydd, rŷn ni'n croesawu'r eglurhad ynghylch adran 9 ar resymeg drafftio, fel bod rhanddeiliaid yn deall nad yw hyn yn newid effaith y gyfraith ond yn adlewyrchu arfer drafftio modern. Yn bedwerydd, o ran adran 19(ix), rwy'n croesawu'r dull pragmataidd i glirio'r niwl, os caf i ei roi e fel yna.
Wrth edrych ymlaen, mae dau beth yn bwysig, ac mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyffwrdd ar hyn: y map trywydd ar gyfer is-ddeddfwriaeth a gweithredu. Mae e'n bwysig iawn fod y Llywodraeth nesaf yn sicrhau bod y map trywydd yna yn dod yn gynnar ac mewn fformat sydd yn wirioneddol ddefnyddiol i ymarferwyr. Yr ail beth yw codeiddio cyfraith Cymru yn gyffredinol. Mae'r Bil yma yn gam pwysig tuag at god cynllunio, ond rŷn ni angen proses ehangach a mwy systemataidd ar draws holl gyfraith Cymru, ac mae eisiau hefyd sicrhau bod yna drefn cynnal a chadw, fel nad yw'r cod yn mynd yn hen yn rhy gyflym a bod trefniadau ac adnoddau mewn lle i sicrhau bod y cod yn aros yn hygyrch, yn ddwyieithog ac yn gyfredol.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 6? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 heddiw yw egwyddorion cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru), a galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM9086 Huw Irranca-Davies
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n bleser gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Llywydd, yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Gadeiryddion ac aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu manwl ar y Bil yn ystod Cyfnod 1, a’r gwaith o fewn amserlen dynn i lunio adroddiadau cynhwysfawr a defnyddiol iawn.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad fel Cadeirydd pwyllgor i ddechrau, wedyn gwnaf i rannu fy marn bersonol.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Efallai bod yna anghydweld am yr union ddata a'r union ffigyrau, ond mae anafiadau yn niferus, mae codymau yn digwydd yn gyson ar y trac, ac mae esgeulustod a diffyg ôl-ofal yn hollol amlwg. A dyna sydd wedi fy mherswadio fi i bleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil yma sydd ger bron, er gwaetha'r materion proses sydd wedi cael eu codi heddiw.
O fy mhrofiad i o filgwn, maen nhw’n gŵn eithriadol o addfwyn, tawel a thriw. Ydyn, maen nhw'n hoff o redeg, a dyna pam maen nhw'n cael eu defnyddio i rasio, a thrwy hynny, maen nhw’n cael eu hecsbloetio er budd y diwydiant gamblo. Dyna’r broblem waelodol yn fy meddwl i. Mae’r cŵn arbennig yma yn wynebu camdriniaeth er mwyn creu adloniant. Mae’r cŵn arbennig yma yn cael eu hecsbloetio am resymau masnachol. Sut fedrwn ni gyfiawnhau fod hynny'n parhau a bod hynny yn iawn? Yr unig ffordd i sicrhau gwell dyfodol i filgwn ydy drwy wahardd rasio milgwn unwaith ac am byth.
Dwi'n mynd i ddyfynnu dau o fy etholwyr i sydd wedi cysylltu efo fi heddiw. Mae'r cyntaf yn dweud:
'Mae gan Sion, fy mab, filgi ers rhai blynyddoedd, wedi cael ei achub gan Greyhound Rescue Wales. Cyn hynny, roedd o'n cael ei ddefnyddio fel ci rasio. Mae o'n anifail dof a diniwed iawn, mewn gwirionedd, ac mae eu defnyddio nhw fel cŵn rasio yn ffordd gwbl anwaraidd o'u trin nhw'.
Mae'r ail etholwr yn dweud hyn:
'Allaf i ddim gweld bod unrhyw achos cyfiawn i beri poen i unrhyw greadur arall yn ddiangen. Does gan y creaduriaid urddasol yma ddim llais, a dyna pam y dylem ni fod yn llais drostyn nhw. Dwi yn gobeithio y gallaf ddibynnu ar eich cefnogaeth yn y Senedd i ddileu'r arferiad creulon o rasio milgwn'.
Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn hefyd i'r Aelodau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi wedi clywed gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, rwyf wedi penderfynu nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru), felly mae eitem 9 wedi'i thynnu'n ôl.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Eitem 10 sydd nesaf, dadl ar gyllideb ddrafft 2026-27. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM9083 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 14 Hydref 2025 a 3 Tachwedd 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Pleser yw e i agor y ddadl flynyddol bwysig hon. Mae'n benllanw'r broses graffu. Hoffwn ddiolch i'r holl bwyllgorau, lle mae cymaint o waith gwerthfawr yn mynd ymlaen, ac yn enwedig i'r Pwyllgor Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sydd wedi arwain y broses. Diolch hefyd i gydweithwyr gweinidogol am y rhan hanfodol maent yn ei chwarae yn y broses.
Roeddwn yn falch iawn yn y flwyddyn hon o fod wedi gallu dychwelyd i'r broses dau gam am y tro cyntaf mewn nifer o flynyddoedd ar gyfer craffu, fel y cytunwyd gyda'r Pwyllgor Cyllid. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd gan y Senedd nesaf gyllidebau tair a phedair blynedd o'u blaenau yn hytrach na chyllidebau blynyddol, sef y patrwm sydd wedi'i ddilyn y tymor Senedd hwn am wahanol resymau. Er gwaethaf hyn, rydym ni wedi llwyddo i basio cyllideb drwy'r Senedd blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid sydd nesaf—Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd, a dwi'n falch o allu cyfrannu yn y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Cyllid heddiw. Dwi am ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau, rhanddeiliaid a'r cyhoedd am ymgysylltiad helaeth a luniodd ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yma, i'r rhai a gyflwynodd ymatebion i'n hymgynghoriad ac, wrth gwrs, i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymgysylltu yn ystod y craffu.
Cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, cynhaliwyd digwyddiadau i randdeiliaid, gweithdai gyda phobl ifanc, sesiynau cyhoeddus a grwpiau ffocws ledled Cymru, gan ddod ynghyd yn y ddadl ar flaenoriaethau'r gyllideb ym mis Gorffennaf. Ymunodd Aelodau Senedd Ieuenctid gyda'r Pwyllgor Cyllid a'r Ysgrifennydd Cabinet yn ein cyfarfod ar 16 Hydref. Cafwyd trafodaeth ddiddorol a bywiog iawn efo nhw, ac rydym yn gwerthfawrogi'n fawr eu cyfraniad i'n gwaith ni hefyd.
Am y tro cyntaf mewn saith mlynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y gyllideb ddrafft hon yn gynharach ac yn unol â phroses dau-gam protocol y gyllideb. Mae gweld y darlun cyffredinol yn gynharach wedi ein galluogi i ystyried materion yn fanylach ac i gynnal gwaith craffu ar draws nifer o feysydd strategol—datblygiad rydym yn ei groesawu. Fodd bynnag, mae cyhoeddi cyllideb cyn cyllideb yr hydref y Deyrnas Unedig wedi peri heriau. Er bod y gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru sy'n deillio o benderfyniad y Canghellor i'w groesawu, mae'r pwyllgor yn gresynu at y cyfle cyfyngedig i graffu ar sut y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu. Mae amseriad cytundeb y gyllideb yr wythnos diwethaf hefyd yn golygu nad ydym wedi gallu ystyried y newidiadau hyn fel rhan o'r gwaith. Er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddwyn y penderfyniadau hyn i gyfrif, rydym wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i fynychu'r pwyllgor unwaith y bydd y gyllideb derfynol wedi ei gosod, ac yn gofyn hefyd i'r ddadl ar y gyllideb derfynol gael ei ymestyn am yr un rheswm.
Y tu hwnt i'r meysydd hyn, gwnaeth y pwyllgor ragor o argymhellion i wella canlyniadau cyllidol a pholisi. O ran gwella gweithrediad fformiwla Barnett, rydym yn canmol y gwaith parhaus rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Llywodraethau datganoledig. Rydym hefyd yn croesawu'r cynnydd i derfynau benthyca a chronfa wrth gefn Cymru o 2026–27 ymlaen, a fydd yn cael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant wedyn. Mae'r newidiadau hyn wedi bod yn hir ddisgwyliedig. Fodd bynnag, ymddengys bod y cynnydd yn brin o ran adlewyrchu chwyddiant ers 2018–19 ac yn cael ei osod heb ymgysylltiad llawn Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn gofyn am ddiweddariad am y cynnydd yn y maes hwn.
Clywsom hefyd fod data cadarn, penodol i Gymru, yn hanfodol er mwyn deall twf a gwariant ar lefel ddatganoledig. Rydym yn pryderu ynghylch cynlluniau i leihau cwmpas y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ran ystadegau datganoledig, ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio ar y cyd â rhanddeiliaid i sicrhau bod y data hwn yn parhau i fod ar gael trwy ddulliau eraill.
Yn olaf, canolbwyntiodd ein gwaith ar wariant ataliol a chanfuwyd bod angen strategaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru i fapio, meincnodi a gwerthuso hyn ar draws meysydd portffolio.
I gloi, hoffwn nodi mai hwn yw adroddiad olaf y pwyllgor ar gyllideb ddrafft yn ystod y Senedd hon. Hoffwn ddiolch o galon i dim clercio y Pwyllgor Cyllid, yn ogystal â'r tîm ymchwil. Mae eu gwaith diflino dros gyfnod y gyllideb ddrafft hon, ac yn wir pob cyllideb arall ers cychwyn y chweched Senedd, wedi bod yn arbennig ac wedi fy ngalluogi i fel Cadeirydd, a hefyd aelodau'r pwyllgor, i wneud y gwaith craffu angenrheidiol yma.
Rydym wastad yn cael ein harwain gan farn y rhai sydd wedi cymryd yr amser i ymgysylltu â ni, ac nid yw'r flwyddyn hon yn eithriad. Gyda'n gilydd, mae ein barn a'n hargymhellion wedi eu hanelu at wella canlyniadau i'r cyhoedd, ac edrychwn ymlaen at graffu ar y gyllideb derfynol yn fanylach yn y flwyddyn newydd. Diolch yn fawr.
Diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rydyn ni i gyd yma yn y Senedd yn dymuno'n dda i ti wrth i ti barhau i wella yn dilyn dy ddamwain anffodus. Felly, pob dymuniad da i ti, a diolch am y cyfraniad y prynhawn yma.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Sam Rowlands nawr i gynnig y gwelliant.
Gwelliant 1—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol nawr. Peter Fox.
Delyth Jewell nawr, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Diolch, Llywydd. Mae'r pwyllgor wedi mynegi pryder ers blynyddoedd ynghylch sefyllfa diwylliant a chwaraeon o ran ariannu. Cyn craffu ar y gyllideb ddrafft eleni, fe wnaethom ni gynnal sesiynau tystiolaeth gyda'r prif sefydliadau diwylliant a chwaraeon sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Y dystiolaeth a glywsom oedd bod diwylliant a chwaraeon yn ei chael hi'n anodd yn dilyn degawd o doriadau mewn termau real, yn ystod cyfnod pan maen nhw wedi gwrthsefyll siociau allanol yn barod fel y pandemig, Brexit a’r argyfwng costau byw.
Ac eto, yn y gyllideb ddrafft eleni, yn gyffredinol, mae cyllid refeniw ar gyfer y meysydd wedi cynyddu 1.9 y cant. Mae mwyafrif y cynnydd hwn yn ganlyniad i gynnydd o 20 y cant mewn refeniw i Cymru Greadigol. Felly, mae'r cynnydd ar gyfer y meysydd eraill sy'n cael eu hystyried i gyd yn is na'r cynnydd refeniw cyfartalog ar draws cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru yn wynebu toriadau mewn termau real. Nid yw'r cynnydd bychan hwn mewn refeniw, gyda rhai’n is na’r rhagolygon chwyddiant, yn gwneud fawr ddim i wneud yn iawn am y tanariannu hirdymor ym maes diwylliant a chwaraeon gan un Llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru. Cyflwynir y gyllideb eleni fel cyllideb ‘busnes fel arfer’, ond mae busnes fel arfer ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn gyfystyr â rhagor o’r un peth.
Ym mis Mehefin eleni, daeth Cymru y genedl Marmot gyntaf, gan fabwysiadu wyth egwyddor yr arbenigwr iechyd cyhoeddus Syr Michael Marmot, sydd â'r nod o geisio dileu gwahaniaethau annheg y gellid eu hosgoi ym maes iechyd. Mae ein pwyllgor wedi gofyn ers tro i Lywodraeth Cymru esbonio sut mae'r nod o atal gwariant yn y dyfodol wedi dylanwadu ar ei phenderfyniadau cyllidebol. Rydyn ni wedi croesawu hyn am Marmot, ond nid ydym ni eto wedi cael ateb eglur sy'n ein sicrhau bod gan y Llywodraeth ddull strategol o ymdrin â'r mater hwn.
Mae gostyngiad mewn termau real yng nghyllid refeniw Chwaraeon Cymru yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynyddu buddsoddiad mewn chwaraeon i gydnabod ei rôl wrth atal afiechyd. Er mwyn bod yn ystyrlon, dylai penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod yn genedl Marmot, sydd yn beth rydyn ni wedi’i groesawu, gael ei adlewyrchu ar ffurf y Llywodraeth yn gwneud rhai pethau'n wahanol. Rydym ni wedi croesawu bod y Gweinidog wedi dweud bod cyfle i newid y sefyllfa rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, yn ogystal â dyheadau’r Llywodraeth i gynyddu cyllid yn y meysydd hyn. O ystyried y diffyg hirdymor yng nghyllido’r meysydd hyn, mae’n rhaid sicrhau bod newid yn dechrau heddiw.
O ran cysylltiadau rhyngwladol, rydym ni wedi cael ein siomi bod y Prif Weinidog, unwaith eto, wedi gwrthod ein gwahoddiad i roi tystiolaeth ar lafar. Mae'r Prif Weinidog wedi dilyn dull ei rhagflaenwyr o beidio ag ymddangos yn bersonol, er inni fel pwyllgor nodi fwy nag unwaith yn ein hadroddiadau blaenorol ar y gyllideb ddrafft fod gennym bryderon difrifol ynglŷn â hynny.
fod gennym bryderon difrifol ynglŷn â hynny. Mae'r Prif Weinidog yn atebol i'r Senedd am gysylltiadau rhyngwladol Cymru. Ein safbwynt o hyd yw mai mater i'r Senedd, nid Llywodraeth Cymru, yw penderfynu sut y dylid gwneud gwaith craffu o'r fath.
O ran y Gymraeg, tynnodd ein sesiwn graffu gyda'r Ysgrifennydd Cabinet sylw at benderfyniad i ddefnyddio cyllid ychwanegol i flaenoriaethu gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Mae hynny'n golygu, er gwaethaf y cynnydd yn BEL y Gymraeg, y bydd sefydliadau partner sy'n cael eu hariannu drwy'r grant yn debygol o gael cynnydd o lai na 2 y cant. Mae gwaith yr athrofa yn amlwg yn bwysig. Dŷn ni'n cytuno y dylai gweithredu'r Ddeddf fod yn flaenoriaeth hefyd. Fodd bynnag, rydym ni'n pryderu nad yw'r penderfyniad hwn i flaenoriaethu cyllid i un elfen o'r Ddeddf yn adlewyrchu pwysigrwydd hanfodol gwaith a gweithgareddau partneriaid eraill, fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cefnogi amcanion y Ddeddf.
Yn ein barn ni, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu'r cynnydd sylfaenol o 2 y cant i sefydliadau partner, gyda gofynion cyllido i weithredu'r Ddeddf yn cael eu bodloni drwy ddulliau eraill. Mae'n siŵr bod yr holl sefydliadau partner yn gwbl gefnogol o nodau'r Ddeddf, ond yn ein barn ni, ni ddylai hyn fod ar draul eu gwaith nhw a’u cynaliadwyedd nhw yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Buffy Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sydd nesaf. Buffy Williams.
Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am gael cyfrannu yn fy rôl i fel Cadeirydd Mae'r pwyllgor wedi gwneud 38 o argymhellion, ac fe wnaf i ganolbwyntio ar gwpwl o'r materion yna y prynhawn yma, gan gychwyn gyda newid hinsawdd.
Nawr, ŷn ni yn falch, fel pwyllgor, bod y Llywodraeth wedi cydnabod yr angen am fwy o gyllid ar gyfer gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Er hyn, fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog wrthym ni na fyddai cyllid cyhoeddus yn unig yn ddigon, a bod angen denu mwy o fuddsoddiad preifat—rhywbeth ŷn ni fel pwyllgor yn ei gydnabod, wrth gwrs. Ond fel pwyllgor, wedyn, ŷn ni yn awyddus i wybod pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth ar gyfer sicrhau mwy o gyllid i gynyddu’r gwaith o addasu i’r hinsawdd, yn enwedig drwy y buddsoddiadau preifat yma, a sut mae'r cynlluniau hynny yn cyd-fynd, wedyn, â'r egwyddorion buddsoddi cynaliadwy y mae'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio arnyn nhw.
Mae hefyd angen cynnydd mewn buddsoddiad mewn natur, wrth gwrs. Mae ein hadroddiad diweddar ni ar atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 yn gwneud nifer o argymhellion ar fuddsoddi mewn natur, ac mae’r gyllideb nesaf yma yn gyfle perffaith i fwrw ymlaen â’r gwaith yn y maes yma cyn y flwyddyn darged 2030. Mae’n siomedig, felly, bod y dyraniad adnoddau ar gyfer bioamrywiaeth a thystiolaeth wedi gostwng 3.9 y cant, o £11.53 miliwn i £11.07 miliwn, tra bod y dyraniad cyfalaf wedi gostwng 8 y cant, o £12.5 miliwn i £11.5 miliwn. Nawr, o ystyried ei fod yn debygol na fydd y targed 30x30 yn cael ei gyrraedd, ac o ystyried hefyd ein bod ni mewn argyfwng natur, mi ddylai’r Llywodraeth fod yn trio, beth bynnag, cynyddu dyraniadau ar gyfer bioamrywiaeth, nid eu lleihau. Yng ngeiriau’r Dirprwy Brif Weinidog ei hun, mae angen inni wneud mwy i gynyddu buddsoddiad mewn adfer natur.
Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur wedi ei gordanysgrifio, sydd wrth gwrs yn dystiolaeth bod angen cynyddu cyllid. Mae yna fylchau capasiti a sgiliau yn y sector ecoleg hefyd. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn honni bod buddsoddiad helaeth yn y maes yma, ond rŷn ni fel pwyllgor yn pryderu bod hwn yn dameidiog a bod angen i’r Llywodraeth ddatblygu dull mwy strategol o ddatblygu sgiliau ecolegol. Mae'r Senedd, fel ŷn ni'n gwybod, wedi datgan argyfwng natur, ac mae'n rhaid inni fynd ati, felly, o ddifri, onid oes e, i daclo yr argyfwng hwnnw.
Nawr, gan symud ymlaen at drafnidiaeth, sydd yn elfen arall, wrth gwrs, o waith craffu y pwyllgor, pan ofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet a oes ymrwymiadau mewn perygl yn ystod 2026-27, fe ddywedodd fod bygythiad i wasanaethau bysiau, fel TrawsCymru a Fflecsi. Fe nododd hefyd gyllid llywodraeth leol ar gyfer gwasanaethau bysiau fel pryder arbennig. Ac wrth drafod blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth yn y dyfodol, fe ddywedodd y bydd yn rhaid cael cynnydd sylweddol yn yr arian sydd ar gael i foderneiddio fflyd fysiau Cymru. Yng ngeiriau’r Ysgrifennydd Cabinet, 'y fflyd fysiau hynaf yn y Deyrnas Unedig' fel ag y mae hi ar hyn o bryd.
Nawr, mae’r sylwadau yma yn achosi pryder i ni, yn arbennig o ystyried y dystiolaeth a dderbynion ni yn ystod Cyfnod 1 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), a barn randdeiliaid bod lefelau cyllido yn risg i gyflawni masnachfreinio. Nawr, ŷn ni'n gweld tebygrwydd fan hyn i'r twf sylweddol mewn gwariant refeniw ar reilffyrdd sydd wedi bod yn ofynnol ers i Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ddechrau gweithredu gwasanaethau. Yn naturiol, felly, ŷn ni yn cwestiynu a fydd buddsoddiad tebyg mewn masnachfreinio bysiau ar y gweill. Mae dros £400 miliwn o gyllid refeniw wedi ei ddyrannu ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd, a buon ni'n trafod y lefel uchel o gymhorthdal ar gyfer rheilffyrdd, yn arbennig y bwlch yna sy'n bodoli rhwng refeniw prisiau a chostau gweithredu.
Fel ŷn ni'n gwybod, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ddiweddar wedi cyhoeddi y bydd prisiau tocynnau trenau rheoledig yn Lloegr yn cael eu rhewi yn y flwyddyn sydd i ddod. Nawr, dyw’r Cabinet ddim wedi penderfynu os ydyn nhw am wneud yr un peth yma yng Nghymru eto, ond unwaith mae penderfyniad wedi ei wneud, ŷn ni yn awyddus i wybod, wrth gwrs, beth fyddai goblygiadau refeniw hynny o safbwynt y gyllideb. Rŷn ni hefyd yn awyddus i wybod, yn arbennig wrth inni baratoi at ddiwygio bysiau, sut y mae goblygiadau refeniw hirdymor
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl.