Y Cyfarfod Llawn
Plenary
05/11/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Heledd Fychan.
1. Pa waith sydd wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (MTAN) Cymru 1: Agregau yn parhau yn addas i bwrpas? OQ63335
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod mewn cysylltiad rheolaidd â gweithgorau agregau rhanbarthol de a gogledd Cymru, sy'n cynnwys awdurdodau lleol, i drafod materion polisi a chynigion yn ymwneud â mwynau. Ni fu unrhyw arwydd gan y gweithgorau agregau rhanbarthol nad yw MTAN 1 yn parhau i fod yn addas i’r diben.
Diolch am eich ymateb. Y rheswm pam fy mod yn gofyn hyn yw bod cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan chwarela yn credu bod angen brys am adolygiad—er enghraifft, chwarel Craig-yr-hesg yn fy rhanbarth i, yng Nglyn-coch. Mae'r estyniad a ganiateir 130m oddi wrth ysgolion a chartrefi. Mae'r peiriant malu cerrig sy'n cynhyrchu llwch â chynnwys silica lai nag 20m o strydoedd a chartrefi. Mae pryder gwirioneddol ynglŷn â'r effaith yma. Wrth inni ddeall effaith chwarela yn well, does bosib nad yw'n bryd cynnal adolygiad a sicrhau bod MTAN 1 yn addas i’r diben, pe bai ond i roi sicrwydd i'r cymunedau hynny sy'n ofni'n wirioneddol fod chwarela yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd.
Fel y dywedais, mae'r gweithgorau'n credu bod MTAN 1 yn dal i gynnal y statws o fod yn addas i’r diben. Ond dylid ei ddarllen hefyd ar y cyd â 'Polisi Cynllunio Cymru'. Caiff hwnnw ei adolygu'n rheolaidd, ac mae'n nodi'r polisïau cyffredinol ar gyfer pob datblygiad mwynau. Y prif amcan wrth gynllunio ar gyfer darparu agregau yw sicrhau bod y cyflenwad yn cael ei reoli mewn ffordd gynaliadwy, fel ein bod yn cydbwyso'r ystyriaethau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ochr yn ochr ag effaith unrhyw echdynnu sy'n angenrheidiol ar amwynderau, a'n bod yn ceisio cadw'r effaith ar y gymuned leol mor fach â phosib.
Gwn y bydd yr amodau a'r monitro yn hollbwysig i bryderon cymunedau lleol. Mae amodau ynghlwm wrth roi caniatâd, ac maent yn cynnwys amodau, er enghraifft, yn ymwneud â'r oriau gweithredu, allyriadau sŵn, ond wrth gwrs, allyriadau llwch hefyd o'r safle ac o'r cerbydau sy'n cludo mwynau a deunyddiau o'r safle, yn ogystal â'r amseroedd ar gyfer gwaith ffrwydro. Gwn fod hwnnw'n fater sydd wedi'i godi yn y Siambr o'r blaen hefyd. Rwy'n falch nawr fod y gweithredwyr yn gweithio i sefydlu grŵp cyswllt cymunedol chwarel Craig-yr-hesg. Nod y grŵp hwnnw yw sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfnewid rhwng y gweithredwr a chynrychiolwyr y gymuned leol. Bydd yn cynnwys cynrychiolwyr etholedig lleol, swyddogion cyngor, aelodau'r gymuned leol a chynrychiolwyr cyrff statudol ac anstatudol. Credaf ei bod yn hen bryd sefydlu'r grŵp hwnnw, mewn gwirionedd, a bydd yn lle perffaith i gael y sgyrsiau hynny.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector lletygarwch annibynnol yn Nelyn? OQ63345
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lletygarwch annibynnol yn Nelyn drwy ryddhad ardrethi annomestig, gwasanaethau cynghori Busnes Cymru, a chyllid wedi'i dargedu. Mae'r mesurau hyn yn helpu busnesau i leihau costau, cael mynediad at gyllid a thyfu'n gynaliadwy fel y gallant chwarae eu rôl hanfodol yng nghanol ein trefi a'n cymunedau.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn y cyd-destun hwn, hoffwn nodi'n glir, pan fyddaf yn sôn am letygarwch, sy'n aml yn derm eang, fy mod yn sôn am y caffis a'r bariau annibynnol yr ydym yn aml yn eu canmol, ond maent hefyd yn rhan hollbwysig o ganol ein trefi, fel y dywedoch chi. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â bragdy Polly's ger yr Wyddgrug yn fy etholaeth i. Fe'i sefydlwyd yn ôl yn 2018, a'r llynedd, fe wnaethant agor bar cwrw hefyd yng nghanol y dref. Rwy'n bendant yn ei argymell, gan y gwn fod gennych ddiddordeb gwleidyddol, a diddordeb personol hefyd, fel finnau. Roedd yr ymweliad yn wirioneddol ddadlennol, nid yn unig gan y gallwch weld y broses y tu ôl i'r bragu a sut y mae'r bragdy wedi datblygu dros y blynyddoedd, ond i ddysgu beth y maent yn ei wneud i gefnogi eu staff hefyd. Roeddent yn dweud eu bod yn gweithio ar y sail, pan fydd eu staff yn hapus, fod hynny'n golygu cwrw gwell. Fel llawer o fusnesau, fe wnaeth COVID iddynt ailystyried eu safbwynt ar les staff. Felly, maent bellach yn gwneud pethau fel sicrhau bod yr holl staff yn mwynhau wythnos waith pedwar diwrnod fel man cychwyn, ymhlith pethau eraill. Ond yn amlwg, fe wnaethant sôn hefyd am rai o'r heriau y maent yn eu hwynebu fel sector a diwydiant, boed hynny'n gostau staff neu gostau gweithredol cynyddol, gan gynnwys ynni, neu bethau fel allforio'r cwrw nawr ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r agwedd bwysig hon ar y sector lletygarwch, a sicrhau mwy o gydraddoldeb, efallai, ag agweddau eraill ar fanwerthu a lletygarwch? Ond hefyd, pa sgyrsiau sy'n cael eu cynnal gyda Llywodraeth y DU, er enghraifft, ar bethau fel TAW, masnach a chostau ynni? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr argymhelliad i ymweld â bar cwrw Polly's. Rwyf wrth fy modd â'r syniad, pan fydd y staff yn hapus, mae'r cwrw'n blasu'n well. Credaf fod honno'n ffordd wych o fynd ati i weithio, ac yn rhan annatod o'n ffordd ni o weithio yn Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei harwain mewn sawl ffordd gan Hannah Blythyn o ran ein dull partneriaeth gymdeithasol a sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu yn y gweithle. Felly, mae'n wych clywed am hynny.
Rydym yn llwyr gydnabod pa mor bwysig yw lletygarwch annibynnol, yn enwedig ar gyfer bywiogrwydd a hyfywedd canol ein trefi. Bydd fy nghyd-Aelodau yn gyfarwydd â'n rhaglen Trawsnewid Trefi. Rydym yn cefnogi ardaloedd, gan gynnwys yr Wyddgrug a threfi eraill yn sir y Fflint, gyda chyllid adfywio, gyda grantiau gwella eiddo, a hefyd gyda grantiau creu lleoedd. Mae'r rheini o fudd uniongyrchol i fusnesau lletygarwch annibynnol. Hefyd, hoffwn dynnu sylw fy nghyd-Aelodau at ein cronfa gwrthsefyll tywydd newydd, sydd ar agor i'r sector lletygarwch ar hyn o bryd. Mae'n darparu grantiau o hyd at £20,000 i helpu busnesau i greu profiad gwell i gwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn, gan y gwyddom ei bod yn bwysig fod cwsmeriaid yn gallu cael mynediad at letygarwch ym mhob tywydd.
Rydym yn mynd ati'n weithredol i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar yr heriau sy'n wynebu'r sector—er enghraifft, mewn perthynas â TAW, masnach a chostau ynni—i geisio sicrhau gwell cymorth i fusnesau lletygarwch annibynnol. Ond hoffwn dynnu sylw hefyd at y gwaith a wnawn drwy Busnes Cymru a'r cymorth sydd ar gael i fentrau bwyd a diod, gan gynnwys cymorth allforio, er enghraifft—a allai fod yn rhan o ddyfodol Polly's—yn ogystal â chymorth arloesi i ficrofusnesau drwy ein rhaglen microfusnesau. Mae'r holl ymyriadau gwahanol hyn yn helpu'r busnesau lletygarwch annibynnol bach hynny i dyfu ac i addasu.
Wrth gwrs, rwy'n awyddus iawn i gefnogi bragdai cwrw iawn yn Nelyn a thu hwnt, gan gynnwys gŵyl Dachwedd yr Wyddgrug, sy'n dathlu bwyd lleol, cwrw iawn ac adloniant. Fodd bynnag, mae llawer o fusnesau lletygarwch hunanddarpar, busnesau dilys yn Nelyn, wedi cysylltu â mi, ar nodyn mwy difrifol, i ddweud wrthyf fod penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn eu gorfodi i gau. Mae Cymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU, gan lobïo gyda Chynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Wales a llawer o sefydliadau rhanbarthol, wedi ceisio atal effeithiau gwaethaf llawer o newidiadau Llywodraeth Cymru i ddeddfwriaeth a threthiant yng Nghymru, ac wedi darparu tystiolaeth i Lywodraeth Cymru ar y niwed y bydd y mesurau hyn yn ei achosi. Y llynedd, gwelwyd yr amodau masnachu gwaethaf mewn bron i ddegawd ar gyfer lletygarwch hunanddarpar. Felly, os ydych chi o ddifrif yn credu mewn cefnogi'r sector lletygarwch annibynnol yn Nelyn a thu hwnt, pryd fyddwch chi'n cynnal asesiad effaith ac adolygiad ffurfiol o'r trothwy 182 diwrnod? Pam eich bod wedi parhau i anwybyddu eu galwadau i ganiatáu esemptiadau pellach o bremiwm y dreth gyngor ar gyfer busnesau dilys ac i ohirio rhoi'r ardoll dwristiaeth ar waith hyd nes bod busnesau o leiaf yn adfer i lefelau cyn y pandemig? Mae'r rhain yn fusnesau ac eiddo lleol nad ydynt yn addas i bobl leol fel prif anheddau.
Ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, sy'n cael ei arwain gan yr Ysgrifennydd Cyllid ac sy'n ceisio barn pobl ar welliannau arfaethedig i'r ffordd y caiff eiddo hunanddarpar ei drin at ddibenion trethi lleol. Mae hwnnw'n cau ar 20 Tachwedd, a gwn y bydd fy nghyd-Aelodau yn manteisio ar y cyfle i gyfrannu ato.
O ran y mathau o bethau y mae'r Ysgrifennydd yn ystyried edrych arnynt yn y dyfodol, un o'r rheini yw caniatáu i berchnogion llety gwyliau ddefnyddio cyfartaledd o 182 diwrnod dros sawl blwyddyn. Golyga hynny y byddai'r rhai a allai fethu'r trothwy 182 diwrnod o drwch blewyn yn y flwyddyn ddiwethaf yn parhau ar yr ardrethi annomestig pe byddent wedi cyflawni hynny ar gyfartaledd dros y ddwy neu dair blynedd flaenorol. Mae hefyd yn ystyried caniatáu rhoi hyd at 14 diwrnod o wyliau am ddim i elusen i gyfrif tuag at y targed o 182 diwrnod, er enghraifft. Mae'r rheini ymhlith y cynigion sydd yn yr ymgynghoriad ar hyn o bryd. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn awyddus iawn i gael dwy flynedd o ddata gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn ystyried mireinio a gwneud gwelliannau i'r cynigion ac i'r rheolau gosod 182 diwrnod. Mae gennym y data hwnnw nawr, felly rydym yn gallu edrych yn ehangach ar yr effaith ar y sector. Gwyddom fod mwy na 60 y cant o eiddo wedi bod yn cyrraedd y trothwy hwnnw. Mae hynny'n uwch na'r hyn a ddywedodd y diwydiant wrthym y byddent yn ei gyflawni, a gwyddom hefyd fod yr eiddo hwnnw wedi'i wasgaru ledled Cymru hefyd. Felly, gyda mwy o wybodaeth, gallwn bellach edrych i weld a oes effaith ddaearyddol, er enghraifft, a beth yw'r effaith gyffredinol. Credaf fod gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata yn bwysig iawn yn y cyswllt hwn.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
Diolch, Lywydd. Hoffwn godi mater sy'n ymwneud â dosbarthiad cyllid i ddiwylliant ledled Cymru. Er bod ein sefydliadau cenedlaethol, sydd wedi'u lleoli raddau helaeth yma yn y de, yn parhau i dderbyn y gyfran fwyaf o fuddsoddiad cyhoeddus, mae gormod o theatrau cymunedol lleol, amgueddfeydd a grwpiau celfyddydau yn ein trefi a'n hardaloedd gwledig yn ei chael hi'n anodd cadw'r goleuadau ymlaen. Mae cyllid awdurdodau lleol ar gyfer diwylliant, treftadaeth a chwaraeon wedi gostwng bron 30 y cant mewn termau real dros y degawd diwethaf, ac mae Cymru bellach yn agos at y gwaelod yn Ewrop o ran gwariant y pen ar y sector diwylliant. Mae gwariant yn gyffredinol ar draws y sector diwylliant wedi bod yn rhy isel yn y degawd diwethaf, ond ar lefel awdurdodau lleol, mae'r sefyllfa'n fwy anobeithiol. Rydym yn newynu creadigrwydd ar lawr gwlad. Os yw diwylliant o ddifrif ar gyfer pawb yng Nghymru, ni all fod yn rhywbeth sy'n ffynnu yng Nghaerdydd wrth iddo bylu yng Nghaernarfon, Wrecsam neu'r Drenewydd. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau pendant y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ailgydbwyso cyllid diwylliannol, i sicrhau bod celfyddydau cymunedol a threftadaeth ranbarthol yn cael eu cyfran deg, a bod manteision diwylliant Cymreig yn cael eu rhannu'n gyfartal ar draws pob rhan o'n cenedl, ym mhob tref a phentref?
Rwy'n falch iawn fod ein cyllideb ar gyfer 2025-26 yn cynnwys £9.6 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer y celfyddydau, diwylliant, diwydiannau creadigol, treftadaeth a chwaraeon yng Nghymru. Mae hynny'n golygu ein bod wedi cynyddu ein gwariant dydd i ddydd ar y sector diwylliant ehangach 8.5 y cant eleni.
Mae ein buddsoddiad refeniw ychwanegol yn golygu bod ein rhanddeiliaid yn yr un sefyllfaoedd o ran cyllideb refeniw ag yn 2023-24. Roedd hynny cyn y gostyngiad a gyflwynwyd yn rhan o gyllideb 2024-25. Felly, mae hynny o ddifrif yn caniatáu inni barhau â'n cynlluniau buddsoddi, gan adfywio adeiladau ledled Cymru, ac asedau ein cyrff hyd braich, a chwblhau prosiectau sydd wedi'u nodi yn ein rhaglen lywodraethu, ond hefyd buddsoddiad newydd mewn asedau diwylliannol lleol, yn unol â'r blaenoriaethau a'r uchelgeisiau a nodwyd gennym yn 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig cydnabod bod gwaith gwych yn mynd rhagddo ledled Cymru ym maes diwylliant, a bydd llawer o gymunedau'n gallu cyfeirio'n uniongyrchol at fuddsoddiad a wnaed yn eu hardal leol. Pan lansiodd y Gweinidog 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' ym mis Mai, gwn iddo wneud ymrwymiad clir i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa o hynny, boed hynny drwy amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau, celfyddydau a diwylliant, neu'r amgylchedd hanesyddol hefyd. Ac aeth yn ei flaen i gyhoeddi cyllid pellach ar gyfer llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd nad ydynt yn sefydliadau cenedlaethol, gan gydnabod pa mor bwysig yw'r rheini mewn cymunedau ledled Cymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n falch ichi sôn am chwaraeon yn eich ymateb, gan fod rygbi'n fwy na dim ond camp yng Nghymru; mae'n rhan o'n hunaniaeth genedlaethol, ac mae'n mynd drwy gyfnod anodd yn ddiweddar, a dweud y lleiaf. Ond yn ddiweddar, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cynnig newidiadau radical i'r gêm, gyda'r posibilrwydd o leihau nifer y rhanbarthau proffesiynol o bedwar i dri. Dywedir wrthym fod hyn er mwyn creu cynaliadwyedd, ond yr hyn y mae'n ei greu mewn gwirionedd yw ansicrwydd dwfn i'r chwaraewyr, y staff a'r cymunedau sy'n dibynnu ar y clybiau sy'n rhan annatod o'n camp genedlaethol. Mae cyllid a llywodraethiant Undeb Rygbi Cymru wedi bod o dan y chwyddwydr ers blynyddoedd, ac eto mae Llywodraeth Cymru, sy'n buddsoddi arian cyhoeddus mewn chwaraeon a'i ddatblygiad ar lawr gwlad, wedi bod yn dawel i raddau helaeth. Mae Undeb Rygbi Cymru o dan straen ariannol sylweddol, ond beth bynnag fydd eu penderfyniad terfynol, bydd yn achosi llawer o dryblith i'r gamp, a bydd llawer o gefnogwyr, yn gywir ddigon, yn siomedig iawn ac yn teimlo eu bod wedi'u cau allan o'r broses o wneud penderfyniadau. Felly, a all Llywodraeth Cymru gadarnhau pa asesiad y maent wedi'i wneud o effaith gymdeithasol ac economaidd ailstrwythuro rhanbarthol arfaethedig Undeb Rygbi Cymru, pa oruchwyliaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar y mater, ac a fyddant yn ymrwymo i sicrhau na fydd rygbi ar lawr gwlad, clybiau cymunedol a rhanbarth gogledd Cymru yn dioddef yn sgil penderfyniad terfynol Undeb Rygbi Cymru ar y mater hwn?
Gwn fod pob un ohonom eisiau gweld Cymru'n wlad rygbi wirioneddol lwyddiannus. Mae'n rhan o'n treftadaeth, mae'n rhan o'n hunaniaeth ac mae'n rhan o bryd bynnag y bydd unrhyw un ohonom yn mynd dramor—mae'n debyg y byddwn yn cael sgwrs am rygbi gyda rhywun. Felly, mae'n rhan fawr o'r ffordd y cawn ein gweld. Mae'n rhan o'n cymell tawel yn rhyngwladol hefyd. Mae dyfodol y gêm broffesiynol yn fater i Undeb Rygbi Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd Undeb Rygbi Cymru yn parhau i wrando ar y clybiau a'r cefnogwyr, sef sylfaen y gêm yng Nghymru. Wedi dweud hynny, mae'n debyg nad oes llawer mwy y gallaf ei ddweud heddiw gan y gwn fod hwn yn fater byw, ond rydym yn gobeithio y bydd y cefnogwyr yn cael eu clywed.
Diolch eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn olaf, hoffwn droi at ein sector treftadaeth: ein cestyll, ein tai hanesyddol a'n tirnodau diwydiannol sy'n adrodd stori ein cenedl ac yn ein hadlewyrchu fel pobl. Mae gormod o'r safleoedd gwerthfawr hyn mewn perygl ac yn mynd i gyflwr gwael, ond mae gobaith pan fo arloesi a menter yn cydredeg â threftadaeth. Mae Castell Gwrych yng Nghonwy yn safle sydd wedi bod ar fin mynd â'i ben iddo nes i griw ffilmio a dos o ddychymyg droi pethau o gwmpas. Pan ffilmiwyd I'm a Celebrity...Get Me Out of Here! yno ar gyfer ITV, denodd sylw cenedlaethol, rhoddion haelionus a rhaff achub gwerth miliynau o bunnoedd o gronfeydd treftadaeth. Dyna enghraifft berffaith o sut y gall ffilmio a haelioni pobl roi bywyd newydd i safleoedd hanesyddol, gan greu swyddi, hybu twristiaeth, a diogelu treftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cyfrannodd cynyrchiadau Netflix yng Nghymru £200 miliwn at economi'r DU rhwng 2017 a 2022. Gyda phob £1 y mae Netflix yn ei gwario ar gynyrchiadau yng Nghymru, cynhyrchir 80c ychwanegol ar draws y gadwyn gyflenwi, ac eto nid oes strategaeth gydlynol gan Lywodraeth Cymru i ddenu mwy o'r partneriaethau hyn ar gyfer safleoedd treftadaeth. Felly, a all Llywodraeth Cymru nodi pa gamau gweithredol y mae wedi'u cymryd i ddenu mwy o gyfleoedd ffilmio a buddsoddiad haelionus yn ein safleoedd hanesyddol?
Wel, mae ein diwydiannau creadigol yn rhan ganolog o'n strategaeth economaidd, yn wir, mae'n rhan o strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, ac rydym wedi nodi ein sector creadigol fel un o'r rhai sy'n barod am dwf pellach eto. Mae'r ystadegau diweddaraf o 2023 yn dangos bod y rhan hon o'r economi yn parhau i berfformio'n dda, yn enwedig o ran nifer y busnesau creadigol sy'n gweithredu yma yng Nghymru. Felly, rydym yn awyddus iawn, pan fydd y cwmnïau rhyngwladol mawr hyn—Netflix, er enghraifft—yn dod i ffilmio yng Nghymru, gan fod gennym dirwedd mor anhygoel, henebion anhygoel ac ati, y gellir eu defnyddio fel cefndir trawiadol, fel bod pobl leol yn elwa o ddifrif. Felly, pryd bynnag y byddwn yn gweithio gyda'r cwmnïau hyn, rydym yn ceisio sicrhau bod cyfleoedd i weithwyr llawrydd o Gymru, er enghraifft, sy'n ffurfio rhan enfawr o'r sector creadigol hwnnw.
O ran y data diweddaraf, y cyfeiriais ato—sef 2023—gwyddom fod mwy na 3,500 o fusnesau yn y sector diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac roedd hwnnw'n gynnydd o 11.8 y cant ers 2018. Ac mewn gwirionedd, mae'n gynnydd uwch na'r cyfartaledd ar gyfer gweddill economi Cymru yn y cyfnod hwnnw. Felly, credaf ei fod yn sicr yn sector sy'n tyfu. Mae'n sector yr ydym am barhau i'w dyfu ymhellach, a bydd yn sector y byddwn yn ei arddangos yn uwchgynhadledd buddsoddi rhyngwladol y Prif Weinidog cyn bo hir i ddangos i'r byd yr hyn y gellir ei wneud yng Nghymru ac i nodi pam fod cymaint o gwmnïau rhyngwladol enfawr yn dewis ffilmio yng Nghymru
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Cyn yr haf, Ysgrifennydd y Cabinet, fe nodoch chi y byddai Llywodraeth Cymru yn troi ei ffocws at weithredu ar ôl i'r grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr gwblhau ei waith. Nawr, nododd adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen nifer o gamau gweithredu allweddol, ac roedd disgwyl i nifer ohonynt gael eu cwblhau erbyn hydref y flwyddyn hon. Felly, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar draws y meysydd hyn ac yn fwy cyffredinol am y gwaith sydd ar y gweill i weithredu argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw'n llawn?
Iawn, felly, roedd un o'r argymhellion allweddol o waith y grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr yn ymwneud â nodi beth yw'r cynnig i'n porthladdoedd yng Nghymru. Felly, yn ddiweddar iawn, cyhoeddais ein prosbectws porthladdoedd. Roedd honno'n ddogfen sy'n nodi, y bôn, beth yw galluoedd a chapasiti pob un o'n porthladdoedd yng Nghymru fel y gallant ddefnyddio'r ddogfen honno, gallwn ninnau ddefnyddio'r ddogfen honno, i ymgysylltu â busnesau i archwilio beth yw'r cyfleoedd yn y dyfodol, o ran ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, ond yn llawer ehangach na hynny hefyd mewn gwirionedd. Credaf mai dyna oedd un o'r sectorau allweddol a'r allbynnau allweddol, os mynnwch, o waith y grŵp gorchwyl a gorffen, sydd wedi parhau ers hynny, a hefyd y gwaith y buom yn ei wneud gyda sgiliau a chyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar swyddi crefftus yn y dyfodol—unwaith eto, mae hwnnw'n ddatblygiad pwysig tu hwnt.
Ers inni siarad ddiwethaf, rwy'n credu ein bod bellach wedi cael y cyhoeddiad am y cynigwyr llwyddiannus ar gyfer y ddwy rownd brydlesu yn y Môr Celtaidd—unwaith eto, cam mawr ymlaen. Gan ein bod bellach yn gwybod pa gwmnïau yr ydym yn gweithio gyda nhw, rydym yn sefydlu'r cysylltiadau hynny i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r manteision ac yn cadw cymaint o werth ag y gallwn yma yng Nghymru.
Diolch am yr ateb hynny.
Wrth gwrs, mae'r prosbectws yn chwarae rhan bwysig iawn. Roedd un o'r pwyntiau gweithredu yn y prosbectws porthladdoedd yn ymwneud yn benodol â swyddi, ac roedd rhai ffigurau trawiadol iawn mewn perthynas â chreu swyddi: 29,000 o swyddi posib yng Nghymru yn y sector hwnnw. Wrth gwrs, gwta fis yn ôl, dywedodd Ed Miliband a Jo Stevens y byddai Cymru yn elwa o 15,000 o swyddi ynni glân.
Nid yw addewidion am swyddi newydd yn rhywbeth newydd yma yng Nghymru, ac rwyf wedi dysgu dros y blynyddoedd i'w cymryd â phinsiad go fawr o halen. Rydym eisoes wedi gweld amcanestyniadau swyddi mewn cyhoeddiadau eraill gan y Llywodraeth yn cael eu diwygio i filoedd yn llai yn dawel bach. Nawr, yn y prosbectws, dywed Ysgrifennydd y Cabinet:
'Rydym yn barod, mae ein porthladdoedd yn barod, ac mae'r cyfle yno nawr.'
Ar ôl cael sgyrsiau gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector hwn, fodd bynnag, nid ymddengys eu bod yn credu bod y parodrwydd hwnnw yno o safbwynt y Llywodraeth, ac maent yn sôn yn benodol am ymrwymiad ariannol o ran buddsoddi yn ein porthladdoedd. Nawr, mae parodrwydd i dderbyn risg yn amrywio'n sylweddol yma, ond sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datrys y tensiwn hwnnw? Oherwydd heb fuddsoddiad cyhoeddus i bontio'r bwlch hwnnw, bydd y ddwy ochr yn aros i'r llall gymryd cam.
Mae rhai opsiynau wedi cael eu crybwyll: un yw grant adenilladwy gan yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net, a benthyciad pontio gan y gronfa gyfoeth wladol yw'r llall. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ble mae hi a'i swyddogion arni o ran sicrhau cytundeb gan un neu'r ddau o'r cyfryngau buddsoddi hyn i sicrhau cynnydd ar ddatblygu porthladdoedd yma yng Nghymru? Ni allwn fforddio nofio yn ein hunfan ar hyn mwyach.
Wel, rwy'n credu ein bod wedi gweld datblygiadau yn y maes hwnnw hefyd. Roeddem yn falch iawn fod hyd at £80 miliwn wedi'i gadarnhau yn adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar gyfer porthladd Port Talbot. Rydym wedi cydnabod pwysigrwydd ein porthladdoedd i gefnogi prosiectau gwynt ar y môr, ac roedd yn wych gweld Llywodraeth y DU yn cydnabod hynny wrth ddarparu'r cyllid hwnnw hefyd. Credaf fod hwnnw'n gam mawr ymlaen, ac unwaith eto, dylai roi hyder i'r diwydiant gwynt ar y môr, ond hefyd i'r porthladd, ei fod yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth y DU. Nid yw £80 miliwn yn swm bach o arian. Mae'n fuddsoddiad sylweddol.
Ac ar wahân i hynny, rydym wedi gweld buddsoddiadau ym mhorthladd Casnewydd hefyd i sicrhau bod y porthladd hwnnw'n gallu parhau i wneud ei waith pwysig. Dyma'r porthladd mewnforio dur mwyaf yn y DU gyfan. Mae hynny'n mynd i fod yn bwysig iawn i ddyfodol Tata hefyd. Felly, mae buddsoddiad yn digwydd yn y porthladdoedd, a chan fod gennym y prosbectws buddsoddi bellach, dogfen sy'n denu llawer iawn o ddiddordeb, rwy'n credu y cawn weld datblygiadau pellach yn y maes hwn hefyd.
Ar yr olwg gyntaf, wrth gwrs, nid yw £80 miliwn yn swm dibwys o arian neu fuddsoddiad, ond fel y soniais sawl gwaith yn y Siambr, rydym yn dechrau o sylfaen anhygoel o isel a thu ôl i lawer o genhedloedd eraill sydd wedi bod yn buddsoddi yn eu seilwaith porthladdoedd ers nifer o flynyddoedd bellach i baratoi ar gyfer ynni gwynt ar y môr.
Ac rydym yn wynebu'r un broblem yn union yma hefyd o ran sgiliau. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i dynnu sylw at sgiliau fel rhan bwysig o'n strategaeth parodrwydd porthladdoedd, ac wrth gwrs, croesawais y newyddion y mis diwethaf y bydd un o'r pum coleg rhagoriaeth dechnegol newydd yn cael ei sefydlu yn sir Benfro. Fodd bynnag, heb newidiadau i'r ffordd y mae'r sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith ehangach yn cael ei ariannu i ymdopi â gofynion newidiol economi Cymru, bydd y coleg hwn yn gyfyngedig ei effaith yn y pen draw. Mae'r gofynion sgiliau ar gyfer ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn eithriadol o eang, ac yn cwmpasu ystod o feysydd. Felly, roeddwn yn crafu fy mhen braidd wrth ddarllen adroddiad manwl y gyllideb ddrafft a chanfod mai prin y bydd yr arian a gyhoeddwyd ar gyfer y rhaglen brentisiaeth yn cefnogi darparwyr i gadw dysgwyr ar gyfer eu rhaglenni dwy flynedd, heb sôn am gefnogi twf ar gyfer y rhwydwaith mewn meysydd allweddol o ddatblygiad economaidd.
Nawr, gwn nad cyfrifoldeb i Ysgrifennydd y Cabinet yn unig yw hwn, ac rwyf wedi gwneud y pwynt sawl gwaith y dylai gael ei ysgwyddo gan nifer o Ysgrifenyddion y Cabinet ar draws pob portffolio Llywodraeth. Felly, yr hyn rwy'n wirioneddol awyddus i'w ddeall gan Ysgrifennydd y Cabinet yw pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau bod y system sgiliau wedi'i chyfarparu a'i hariannu'n briodol i gyflawni'r cyfleoedd y mae pob un ohonom eisiau eu gweld i Gymru.
Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn ein cynllun gweithredu sgiliau sero net yn 2023. Mae gwaith bellach wedi'i wneud ar y cynlluniau sgiliau sector y bwriadwn eu cyhoeddi cyn bo hir. Mae'r data'n dal i gael ei wirio, ond rydym yn gobeithio gallu eu cyhoeddi yn y dyfodol agos iawn. Byddant yn cynnwys prosiectau allweddol, y gofynion sgiliau ar eu cyfer, rhagolygon o faint y gweithlu ar gyfer y sectorau sy'n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy yn y lle cyntaf, ac yna byddwn yn edrych ar sgiliau gwyrdd eraill ar ôl hynny. A chredaf y bydd y cynlluniau hynny'n arbennig o berthnasol i Medr a phrosesau cynllunio Medr, ond hefyd i Gyrfa Cymru, ar gyfer hyrwyddo gyrfaoedd mewn swyddi gwyrdd, a gwn fod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am sgiliau wedi bod yn cael trafodaethau gyda Medr, yn enwedig, ynglŷn â'r mater hwn.
Yn y flwyddyn academaidd gyfredol, rydym wedi dyrannu dros £70 miliwn i golegau addysg bellach ar gyfer darpariaeth cyrsiau rhan-amser. Gwyddom y bydd hyn yn wirioneddol bwysig ar gyfer ailsgilio ac uwchsgilio unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hyn. Ond mae hefyd yn cynnwys buddsoddiad yn ein rhaglen gyfrifon dysgu personol flaenllaw, ac yn enwedig y rhan o'r rhaglen sy'n cynnwys cyfrif dysgu personol gwyrdd. Mae hwnnw yno i lenwi'r bylchau sgiliau sero net ym meysydd adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu a pheirianneg. Ac mae bron i 1,900 o unigolion eisoes wedi cael mynediad at y cyfrifon dysgu personol gwyrdd. Roedd hynny yn y flwyddyn academaidd 2023-24, yn ôl y ffigurau dros dro sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, mae'r gwaith hwn eisoes yn mynd rhagddo. Mae pobl eisoes, heddiw, yn elwa o'r buddsoddiad mewn sgiliau gwyrdd i sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar y swyddi pwysig a fydd yn dod cyn bo hir hefyd.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant gemau cyfrifiadurol? OQ63330
Ers 2020, mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi dros £5.2 miliwn yn y diwydiant gemau cyfrifiadurol yng Nghymru, ac rydym yn gyffrous ynglŷn â'r potensial sydd ganddo ar gyfer cyflogaeth hirdymor a datblygu sgiliau. Byddwn yn parhau i gefnogi cwmnïau Cymreig y sector i dyfu a masnachu'n rhyngwladol, yn ogystal â chwilio am gyfleoedd mewnfuddsoddi.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r diwydiant gemau cyfrifiadurol yng Nghymru yn tyfu. Mae mwy a mwy o ddatblygwyr yn ystyried Cymru yn wlad ddeniadol i sefydlu eu stiwdios. Mae llawer o hyn o ganlyniad i fuddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru yn y diwydiant drwy gyllid a grantiau, fel cronfa datblygu gemau cyfrifiadurol Cymru Greadigol. Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn wych gweld Hypertonic Games Limited yn sir Benfro yn cael cyllid yn rhan o gronfa datblygu gemau cyfrifiadurol Cymru Greadigol. Sut y parhawn i hyrwyddo'r diwydiant gemau cyfrifiadurol brodorol hwn mewn mannau fel sir Benfro?
Wel, yn ogystal â gallu gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau'r mewnfuddsoddiad hwnnw—er enghraifft, Rocket Science; darparwr gwasanaeth gemau fideo yn America a fydd yn gwasanaethu gemau a stiwdios AAA, ledled y byd, o'u pencadlys yma yng Nghaerdydd—. Felly, yn ogystal â gallu sicrhau'r math hwnnw o fuddsoddiad, fel y gwnaethom mewn taith fasnach flaenorol i'r ffair gemau cyfrifiadurol yn San Francisco—mewn gwirionedd, y nod gwreiddiol oedd creu 50 o swyddi yng Nghaerdydd, ond maent eisoes wedi darparu dros 60, ac mae hynny'n dyst i gryfder y sector yma yng Nghymru—. Felly, yn ogystal â'r mewnfuddsoddiad hwnnw, rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi busnesau, busnesau Cymreig, a phobl sydd â syniadau arloesol gwych yn y maes hwn i dyfu hefyd.
Felly, roedd Hypertonic Games yn llwyddiannus gyda'u cais am gyllid datblygu o £33,000 ar gyfer eu prosiect Nectar, gêm realiti rhithwir ymgollol am gadw gwenyn. Ond rydym hefyd wedi gallu cefnogi amrywiaeth o fusnesau eraill. Ac rydym hefyd wedi darparu cyllid pwrpasol a chynlluniau hyfforddi ar gyfer y sector, gan gynnwys cronfa uwchraddio gemau cyfrifiadurol Cymru—mae honno'n bartneriaeth gyda chronfa gemau cyfrifiadurol y DU, ac mae hwnnw'n ddatblygiad arwyddocaol i ni, sydd wedi cael ei groesawu'n fawr gan y sector, ac mae chwe stiwdio yng Nghymru wedi derbyn cyllid cronnol o £850,000 i ehangu datblygiad eu stiwdios a'u heiddo deallusol yma yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r diwydiant gemau cyfrifiadurol wedi gweld twf enfawr, yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Ledled y byd, mae'r diwydiant bellach yn gwneud mwy o arian na ffilmiau Hollywood, gyda bron i hanner poblogaeth y byd yn chwarae gemau fideo yn rheolaidd. Mae nifer y stiwdios gemau yng Nghymru yn drawiadol, ac mae fy rhanbarth i yn gartref i dimau e-chwaraeon sydd wedi ennill gwobrau. Fodd bynnag, nid yw dyfodol y diwydiant yn fêl i gyd. Yn yr ychydig fisoedd diwethaf, mae nifer enfawr o bobl ledled y byd wedi colli eu swyddi, mae stiwdios gemau cyfrifiadurol wedi cau, ac mae gemau AAA yn cael eu taflu ar y domen. Ymddengys bod y prif chwaraewyr yn y sector yn edmygu ac yn cael eu temtio gan y tegan sgleiniog newydd, sef deallusrwydd artiffisial. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fanteisio ar y newidiadau yn y sector ac i ddiogelu ein stiwdios domestig rhag y cythrwfl?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a'r gydnabyddiaeth o'r ffordd y mae'r sector wedi tyfu yma yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw hynny'n digwydd ar ddamwain. Mae wedi digwydd trwy fuddsoddiad a chymorth penodol wedi'i dargedu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar waith. Felly, ers ei sefydlu yn 2020, mae Cymru Greadigol wedi darparu dros £5.2 miliwn o gyllid i'r sector gemau fideo yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda chwmnïau unigol i'w cefnogi i fynychu ffeiriau masnach rhyngwladol. Er enghraifft, ym mis Mawrth eleni, mynychodd 15 o gwmnïau Gynhadledd y Datblygwyr Gemau Cyfrifiadurol yn San Francisco, ac roeddem yn gallu eu cefnogi gyda hynny. Ac mae yna daith fasnach newydd, yr ydym yn partneru â Games London a'r Adran Busnes a Masnach ar ei chyfer, i gefnogi busnesau i fynychu Slush yn Helsinki y mis hwn. Felly, mae llawer eisoes yn digwydd yn y maes.
Rwy'n gwybod ei fod yn sector sydd â llawer o ddyfeisgarwch yn perthyn iddo, ac rwy'n gwybod y byddant yn edrych i weld sut y gallant fanteisio ar ddeallusrwydd artiffisial er budd y gwaith y maent yn ei wneud ar ddatblygu gemau cyfrifiadurol. Felly, yn sicr, mewn sawl ffordd mae deallusrwydd artiffisial yn creu heriau, a chyfleoedd enfawr hefyd, ac rwy'n gwybod y byddant yn ceisio gwneud y mwyaf o fanteision deallusrwydd artiffisial.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dyfu'r economi yng ngogledd Cymru? OQ63339
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dyfu economi gogledd Cymru trwy bartneriaethau strategol a buddsoddiad wedi'i dargedu. Mae meysydd allweddol yn cynnwys gweithgynhyrchu uwch, arloesedd carbon isel, ac adfywio, gyda chefnogaeth y fargen twf, porthladdoedd rhydd, parthau buddsoddi, Trawsnewid Trefi a rhaglenni cyfalaf twristiaeth, i ddatgloi ffyniant rhanbarthol hirdymor.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond un maes o ddiddordeb posib yn economi gogledd Cymru na wnaethoch chi sôn amdano oedd y diwydiant niwclear, sydd â photensial sylweddol ar gyfer twf economaidd, creu swyddi ac adfywio cymunedau lleol yn y rhanbarth, yn enwedig trwy'r orsaf bŵer newydd bosib yn Wylfa, ac adweithyddion modiwlaidd newydd yn Nhrawsfynydd. Gallai'r prosiectau hyn ddod â channoedd o filiynau o bunnoedd o fewnfuddsoddiad, creu miloedd o swyddi, sicrhau manteision ehangach i economi gogledd Cymru gyfan, a llenwi'r bwlch diogeledd ynni sydd gennym yma yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod yn ennill y manteision hynny i'r economi ac i'n diogeledd ynni? A pham ar y ddaear na wnaethoch chi restru'r diwydiant niwclear fel un o'r sectorau blaenoriaeth allweddol pan restroch chi'r pethau hynny ar eich papur?
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn, ac rwy'n credu nad oes amheuaeth o gwbl am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i niwclear newydd yn Wylfa. Rydym wedi bod yn dadlau'r achos ers blynyddoedd lawer, ac rwyf wedi siarad yn uniongyrchol ag Ed Miliband am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hynny. Rydym yn gobeithio y bydd cyhoeddiad cadarnhaol gan Lywodraeth y DU ar hynny a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos cadarnhaol hwnnw drosto. Gallwn fod wedi parhau'n ddiddiwedd yn fy rhestr o bethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni ar gyfer gogledd Cymru, ond y pethau yr oeddwn yn canolbwyntio arnynt oedd y pethau sydd wthi'n cael eu cyflawni ar hyn o bryd, er enghraifft y porthladdoedd rhydd, a'r gwaith a gyflawnir gennym heddiw nawr ym maes gweithgynhyrchu uwch ac yn y blaen.
Rwyf am ddweud hefyd fod gan ogledd Cymru—a rhannau eraill o Gymru, mewn gwirionedd—botensial gwirioneddol i gyfrannu at y gadwyn gyflenwi. Ymwelais â Boccard yn ddiweddar a gwelais y gwaith da y maent hwy'n ei wneud gyda'r hyn a ddarparant ar gyfer Sizewell. Felly, roedd hwnnw'n gyfle da iawn. Rwy'n gwybod bod cyd-Aelodau eraill wedi ymweld i siarad am eu rhaglen brentisiaeth hefyd. Felly, mae'n ymwneud â mwy na'r un prosiect yn unig; mae'n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi, y sgiliau—yr holl werth ychwanegol yr ydym am fod yn barod amdano yma yng Nghymru.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar rôl Sir Fynwy yng nghynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OQ63328
Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi ein gweledigaeth hirdymor i greu economi ffyniannus, gynhwysol a chynaliadwy. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys prifddinas-ranbarth Caerdydd, awdurdodau lleol a busnesau i gyflawni'r genhadaeth hon ledled Cymru, gan gynnwys sir Fynwy, sy'n elwa o £4.8 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mewn cyfarfod diweddar gan Gyngor Sir Fynwy ar y cynllun datblygu lleol newydd, dywedodd y dirprwy arweinydd Llafur hyn: 'Rwyf wedi fy argyhoeddi'n bendant fod Llywodraeth Cymru yn anghywir. Roedd ganddynt hwy, Llywodraeth Cymru, gamsyniad ynghylch sir Fynwy, ei fod yn awdurdod ymylol heb unrhyw rôl sylweddol i'w chwarae yn nyfodol Cymru na'r rhanbarth, heb unrhyw rôl economaidd arwyddocaol i'w chwarae.' Mae'n arbennig o bryderus y byddai dirprwy arweinydd cyngor Llafur yn mynegi'r farn honno am Lywodraeth eu plaid eu hunain. Diolch byth, aeth y dirprwy arweinydd rhagddo i ddweud, yn ei farn ef, fod gan sir Fynwy rôl sylweddol i'w chwarae, yn rhanbarthol ac yn Lloegr. Ac rwy'n cytuno ag ef. Mae sir Fynwy yn arwain Cymru o ran cyflogaeth masnach gyfanwerthol a manwerthu, mae ganddi'r nifer mwyaf o fusnesau mewn gweithgareddau gwyddonol, mae'n chwaraewr pwysig ym maes adeiladu ac yn hyb amaethyddol allweddol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn glywed eich ymateb uniongyrchol i'r sylwadau hynny a'ch cadarnhad eich bod chi'n gweld sir Fynwy yn rhan annatod o ddyfodol Cymru.
Mae sir Fynwy yn rhan annatod o ddyfodol Cymru, ac wrth gwrs mae wedi'i lleoli mewn lle pwysig iawn ar y ffin. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod ni'n gweithio'n dda yn drawsffiniol â Lloegr.
Ond gallwch weld lefel y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i sir Fynwy drwy ein buddsoddiad yn Trawsnewid Trefi. Rwy'n credu bod hynny'n cydnabod pa mor bwysig ac annatod yw'r cymunedau hynny i Gymru. Er enghraifft, y buddsoddiad a wnaethom yn y Fenni, adnewyddu Theatr y Fwrdeistref sy'n adeilad rhestredig gradd 1. Yng Nghas-gwent, rydym wedi bod yn darparu gwelliannau i eiddo, gwelliannau i adeiladau'r stryd fawr a gwelliannau i gyfleusterau hamdden. Ac yn Nhrefynwy, mae cynllun siop dros dro wedi'i gyflwyno i leihau lefel yr unedau gwag yng nghanol y dref, gan roi cyfle cost isel a risg isel i fusnesau bach lleol brofi eu syniadau busnes. Felly, dyma rai enghreifftiau bach o'r pethau a wnawn drwy Trawsnewid Trefi yn sir Fynwy.
Ac os caf ychwanegu, mae arweinydd sir Fynwy yn cadeirio prifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae honno'n rôl wirioneddol bwysig. Ac mae hi'n ei arwain yn ofalus iawn, gan wneud yn siŵr, wrth gwrs, fod sir Fynwy yn ganolog i'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol hefyd, ochr yn ochr â'r rhannau eraill o'r rhanbarth hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi llwyddo i dawelu eich meddwl fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llwyr y rôl y mae sir Fynwy yn ei chwarae ym mhob sector, o adeiladu i amaethyddiaeth.
6. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cynnal gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ynghylch argymhellion adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gynllunio gwlad a thref a gyhoeddwyd yn Chwefror 2025? OQ63343
Rwyf wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg o leiaf ddwywaith i drafod y mater hwn, ac mae ein swyddogion yn parhau i fod mewn deialog reolaidd er mwyn datblygu ein hymateb.
Mae awduron yr adroddiad yn nodi bod cynllunio gwlad a thref yn greiddiol i ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, a bod yna gonsensws bod angen camau polisi newydd yn y maes cynllunio o safbwynt y Gymraeg, os ydyn ni am sicrhau cynaliadwyedd ieithyddol ein cymunedau. Mae yna 14 o argymhellion yn yr adroddiad—argymhellion pwysig. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu mwy ar y trafodaethau rydych chi'n eu cael er mwyn gweld beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn gweithredu'r argymhellion yma? Byddai'n drueni mawr petai'r adroddiad yma yn un o'r adroddiadau sy'n cael eu cyflwyno i'r Llywodraeth sydd jest yn aros ar y silff.
Mae'n adroddiad hynod o ddefnyddiol, ac rwy'n cytuno'n llwyr y gall polisi cynllunio fod yn offeryn pwysig iawn ar gyfer cefnogi'r Gymraeg. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi y gellir ystyried ystyriaethau'n ymwneud â'r Gymraeg yn rhan allweddol o'r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio'r cynllun datblygu lleol, ac felly'r strategaeth ar gyfer darparu tai yn y cynllun. Un o ganlyniadau allweddol creu lleoedd cynaliadwy 'Polisi Cynllunio Cymru' yw ein bod yn creu a chynnal cymunedau a fydd yn galluogi'r Gymraeg i ffynnu. Felly mae'n ganolog iawn i'n polisi cynllunio.
Hoffwn ddiolch i'r comisiwn am y ffocws y maent wedi'i roi i hyn ac am yr argymhellion penodol mewn perthynas â sut y gall cynllunio gwlad a thref gefnogi'r Gymraeg. Rydym yn aros nawr i broses yr adolygiad barnwrol ddod i ben cyn i ni allu ystyried yn ffurfiol sut i ymateb i'r argymhellion hynny, oherwydd gallai fod newidiadau pellach o ganlyniad i hynny. Ond fel y dywedaf, rydym yn croesawu'r argymhellion hynny a byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn.
7. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r heriau sy'n wynebu'r sector twristiaeth ym Mhowys? OQ63352
Mae Croeso Cymru yn mynd i'r afael â heriau twristiaeth wledig drwy hyrwyddo twf cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn a'r asedau naturiol a diwylliannol sy'n denu ymwelwyr i ardaloedd gwledig. Rydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y sector twristiaeth i sicrhau bod ein dull gweithredu yn cefnogi busnesau a chymunedau lleol ac yn gwella profiadau ymwelwyr ledled Powys.
Diolch yn fawr am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, mae llawer o'r busnesau twristiaeth yn fy etholaeth i yn teimlo dan warchae gan rai o'r polisïau sy'n dod i'r amlwg gan Lywodraeth Lafur Cymru, fel y trothwy 182 diwrnod, y dreth dwristiaeth a'r cynnydd i yswiriant gwladol yn San Steffan. Ysgrifennydd y Cabinet, byddai unrhyw un sydd ag owns o synnwyr cyffredin yn sylweddoli y bydd y polisïau hyn yn niweidio busnesau twristiaeth, gan arwain at golli swyddi a gorfodi busnesau i gau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda'r ansicrwydd sy'n wynebu ein hinsawdd economaidd ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig, a ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bryd i'r polisïau hyn gael eu dileu er mwyn inni allu dangos ein bod yn cefnogi ein busnesau twristiaeth ar draws Cymru?
Rwy'n falch iawn fod twristiaeth wedi'i nodi fel un o'r themâu allweddol ym margen twf canolbarth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £55 miliwn i'r fargen twf, ynghyd â £55 miliwn gan Lywodraeth y DU, felly disgwylir i fuddsoddiad cyfunol o £110 miliwn gynhyrchu cyfanswm buddsoddiad o hyd at £400 miliwn ar gyfer economi canolbarth Cymru erbyn 2032. Felly, yn amlwg, gyda thwristiaeth yn rhan ganolog o hynny, dylai'r sector elwa, ac mae tyfu'r sector gwledig yn rhan o'n strategaeth dwristiaeth ehangach. Mae 'Croeso i Gymru' yn un o'r ffyrdd yr awn ati i hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol, ac mae'r economi wledig yn rhan reolaidd o'n trafodaethau gyda fforwm yr economi ymwelwyr, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n effeithio ar dwristiaeth.
Gallai'r ardoll ymwelwyr fod o fudd uniongyrchol i Bowys, pe bai'n penderfynu ei wneud. Gallai helpu i ariannu gwell amwynderau, diogelu asedau naturiol a chefnogi swyddi lleol. Rwy'n gwybod bod Powys yn gofyn am farn gan ei hetholwyr ar hyn o bryd ynglŷn â'u safbwyntiau ar hynny yn y dyfodol, ac unwaith eto, rwy'n annog pobl i ddweud eu barn yn yr ymgynghoriad hwnnw.
Nid wyf yn cytuno o gwbl, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddai busnesau Powys yn elwa o'r ardoll dwristiaid, pe bai'r awdurdod lleol yn cytuno i'w weithredu; credaf y byddai'n niweidiol iawn i economi Powys. Ond yn benodol ar y rheol 182 diwrnod, mae honno'n rhwystro llawer o fusnesau bach, ac maent yn fusnesau, er fy mod yn gwybod nad dyna yw diffiniad Llywodraeth Cymru. A allech chi roi unrhyw ddiweddariad ynglŷn â pha bryd y gellid adolygu hynny a mabwysiadu dull synhwyrol o gael lefel lawer is o ofyniad, a gostwng y gofyniad 182 diwrnod sy'n bodoli ar hyn o bryd?
Fe fyddwch wedi clywed fy ymateb i siaradwr blaenorol y prynhawn yma ar y 182 diwrnod, a chyfeiriais at yr ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd ar addasiadau y gellid eu gwneud i'r ffordd y mae'r polisi hwnnw'n cael ei weithredu, ac unwaith eto, rwy'n annog pawb i ddweud eu barn ar hynny. Ond cyfeiriais hefyd at y ffaith bod gennym ddwy flynedd o ddata gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n ein helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r effeithiau.
Mae Powys wedi dweud nad yw'n bwriadu cyflwyno'r ardoll ymwelwyr, a dewis i Bowys yw hynny'n llwyr. Dyna un o'r pethau yr oeddem yn glir iawn yn eu cylch ers dechrau datblygu'r ardoll ymwelwyr yw mai'r awdurdodau lleol sydd i benderfynu, yn seiliedig ar yr hyn y maent hwy'n ei ddeall sydd orau i'w cymunedau lleol. Ond rwy'n credu ei bod yn gadarnhaol iawn fod Powys, ar ôl datgan ei bwriad cychwynnol, yn agored i wrando ar farn gan fusnesau, gan y gymuned, ac eraill ynglŷn â sut y gallent fwrw ymlaen i feddwl am y polisi hwnnw yn y dyfodol.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran datblygu cynllun datblygu economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd? OQ63351
Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd, gan archwilio cyfleoedd ar y cyd i wneud y mwyaf o gyfleoedd economaidd i Flaenau'r Cymoedd, gan ddefnyddio rhaglenni sefydledig a threfniadau llywodraethu. Mae'r dull hwn yn blaenoriaethu cyflawniad gan ddefnyddio egwyddorion a thystiolaeth a rennir i alinio buddsoddiad, cryfhau cyflawniad a gwneud y mwyaf o'r effaith ar draws ardal y Cymoedd gogleddol.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Fe fydd hi'n ymwybodol fy mod yn Wcráin yr wythnos diwethaf gyda'n cyd-Aelod Mick Antoniw, yn darparu cymorth i'r bobl sy'n ymladd goresgyniad Rwsia yn y wlad honno, ac fe ddangosodd yr ymweliad hwnnw i mi eto pa mor fregus yw ein heddwch a'r argyfwng sy'n wynebu'r gwaith o amddiffyn gorllewin Ewrop ar hyn o bryd.
Y bore yma, roeddwn yn General Dynamics ym Mhentre-bach ym Merthyr, lle maent yn lansio'r cerbyd arfog newydd, y system Ajax, a hefyd yn edrych ar ehangu ar draws Blaenau'r Cymoedd a gosod gwreiddiau cadarnach a dyfnach yng Nghymru. Mae'n amlwg i mi, dros y blynyddoedd nesaf, fod y sector amddiffyn yn mynd i fod yn sector twf mawr yn ein heconomi, gan ddarparu swyddi ac ymchwil o ansawdd uchel, yn ogystal â diogelu ac amddiffyn ein democratiaeth a'n gwerthoedd yn y lle hwn.
Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi nid yn unig General Dynamics, ond contractwyr amddiffyn eraill a chyflenwyr amddiffyn ar draws y sector cyfan i sicrhau ein bod ni ym Mlaenau'r Cymoedd yn gallu elwa o'r buddsoddiad sy'n digwydd gan Lywodraeth y DU, a sicrhau hefyd fod gennym gynllun datblygu sector ar gyfer y sector amddiffyn?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU wedi nodi Cymru fel un o'r rhannau o'r Deyrnas Unedig a fydd yn elwa o fargen twf amddiffyn. Rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar hynny ar hyn o bryd. Rydym yn meddwl bod gennym bethau yng Nghymru sy'n arbennig o unigryw i ni yng Nghymru, o ran ein galluoedd a hefyd o ran ein daearyddiaeth. Er enghraifft, mae gennym y gofod awyr arbennig, dros y tir a'r môr, sy'n ei gwneud hi'n bosib profi cerbydau awtonomaidd a dronau, ac yn y blaen. Rydym yn meddwl bod hynny'n arbennig iawn ac rydym yn gwybod y bydd Llywodraeth y DU eisiau gwneud y defnydd mwyaf o'r cyfleusterau hynny. Yr hyn sydd yr un mor bwysig, fodd bynnag, ac efallai'n fwy felly, yw bod yr arloesedd hwnnw'n troi'n swyddi yma yng Nghymru. Felly, rydym yn gwneud yn siŵr fod hynny'n ganolog i'n trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y fargen twf amddiffyn.
Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod gennym gadwyn gyflenwi fywiog iawn yma yng Nghymru; mae gennym fwy na 285 o fusnesau bach a chanolig yn y sector amddiffyn sy'n rhan o'r gadwyn gyflenwi. Cafwyd digwyddiad pwysig iawn yn HMS Cambria yr wythnos diwethaf, wedi'i drefnu gan y Llynges Frenhinol, a ddaeth â busnesau bach a chanolig at ei gilydd er mwyn iddynt allu siarad yn uniongyrchol â chynrychiolwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ac eraill ynglŷn â sut y gallant elwa o fuddsoddiad mewn amddiffyn yn y dyfodol. Felly, rydym yn mynd i weld cynnydd mewn gwariant amddiffyn yma yng Nghymru. Yr hyn sydd bwysicaf i ni nawr yw bod hynny'n trosi'n swyddi a thwf yn ein cymunedau.
Ymwelais â General Dynamics fy hun—ymweliad pwysig tu hwnt—a rhan o hynny oedd trafodaeth am eu cadwyn gyflenwi. Fe wnaethant ddangos map o ffordd Blaenau'r Cymoedd a'r holl gyflenwyr a phartneriaid gwahanol sydd ganddynt ar hyd-ddi. Roeddent yn ei disgrifio bron fel rhyw fath o goridor amddiffyn, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n enghraifft dda iawn o'r ffyrdd y mae busnesau'n cyflogi cadwyni cyflenwi lleol i ddiwallu eu hanghenion.
Diolch yn fawr i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar amseroedd aros ar gyfer ambiwlans ar draws Cymru? OQ63353
Mae'n galonogol gweld bod amseroedd ymateb ambiwlansys a pherfformiad trosglwyddo cleifion ambiwlans wedi gwella yn ystod y misoedd diwethaf. Rwy'n disgwyl i amseroedd ymateb ambiwlansys ostwng ymhellach ledled Cymru gyda gwelliant parhaus i'r amseroedd trosglwyddo cleifion.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o bobl yn fy etholaeth yn teimlo eu bod yn cael cam gan y ddarpariaeth ambiwlans. Clywais am nifer o achosion gan etholwyr, gyda rhai ohonynt yn aros am oriau ar y llawr am ambiwlans. Mewn gwirionedd, y ffordd newydd y mae'r system yn gweithio yw bod llawer o ambiwlansys Powys wedi'u lleoli mewn rhannau eraill o Gymru, weithiau'n gadael fy etholaeth i a Phowys gyfan heb unrhyw ddarpariaeth ambiwlans o gwbl.
Rwy'n gwybod bod hyn i'w deimlo'n arbennig yn achos gwasanaethau strôc. Rydym i gyd yn gwybod bod yn rhaid inni weithredu'n gyflym pan fydd strôc yn digwydd a gwneud yn siŵr fod pobl yn cael gofal amserol. Ond mae llawer o bobl yn fy etholaeth i'n wynebu dros awr a hanner ddim ond i gyrraedd yr ysbyty agosaf. Rydym yn gweld gwasanaethau strôc yn symud ymhellach i ffwrdd: mae gwasanaethau Henffordd yn mynd i Gaerwrangon, mae rhai Merthyr yn mynd i lawr i Lantrisant, a nawr mae'n bosib y bydd gwasanaethau Bronglais yn symud ymhellach i'r gogledd neu hyd yn oed ymhellach i'r de. Mae hyn yn mynd i roi mwy o straen ar bobl yn fy etholaeth i. Nid oes gennym ambiwlans awyr mwyach ar gyfer ein hardal chwaith, sy'n drueni enfawr.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod gennych pa gamau penodol a brys y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr etholwyr a gynrychiolaf ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ac etholwyr Powys gyfan yn gallu cael darpariaeth ambiwlans ddigonol, er mwyn sicrhau bod cymorth ar y ffordd pan fyddant yn ffonio am help.
Mae perfformiad amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfartaledd ar gyfer pobl yn y categori ambr ym Mhowys wedi bod y cyflymaf yng Nghymru dros y tri mis diwethaf. Yr amser ymateb cyfartalog ym mis Medi ym Mhowys oedd awr a 18 munud, sef 15 munud yn gyflymach na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mewn perthynas â'r perfformiad ymateb porffor a choch, roedd cyfradd adfer cylchrediad digymell, sy'n un o'r mesurau newydd, ar gyfer trigolion ym Mhowys yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ym mis Medi. Yn ardal y bwrdd iechyd yn ystod mis Medi, yr amser canolrifol i nodi ataliad ar y galon oedd ychydig dros funud.
Byddwn yn amlwg eisiau gwneud popeth yn ein gallu i adeiladu ar y cynnydd hwnnw ym mhob rhan o Bowys. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, fe wnaed buddsoddiad sylweddol yn y rhaglen 'Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng', a ledled Cymru, rhagorir ar y targed trosglwyddo cleifion ambiwlans o 45 munud, sy'n gynnydd da. Rwyf am weld hynny'n digwydd yn gyflymach, ond rydym yn gweld arwyddion da iawn o gynnydd ym mhob rhan o Gymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna rai adroddiadau erchyll am bobl yn aros amseroedd cwbl annerbyniol am ambiwlans. Cafwyd adroddiad diweddar yn sir Drefaldwyn am rywun yn dangos symptomau strôc yn aros am bum awr am ambiwlans. Felly, nid wyf yn cydnabod yn llwyr yr hyn a ddywedoch chi yn eich ateb cynharach.
Mae amseroedd ymateb yn mynd i waethygu heb ymyrraeth y Llywodraeth. Mae canolfannau ambiwlans awyr y Trallwng a Chaernarfon yn mynd i gau. Bydd hyn yn golygu y bydd dwsinau o gymunedau ar draws canolbarth a gogledd Cymru yn gweld amseroedd ymateb arafach ar gyfer ymyrraeth frys. Rwy'n gofyn i chi: a wnewch chi ymyrryd i sicrhau nad yw'r canolfannau hyn yn cau?
Os na, yn rhan o'r newidiadau arfaethedig, cyhoeddwyd mesurau lliniaru fel y'u gelwir, gan gynnwys defnyddio cerbydau ffordd ychwanegol ar gyfer ardaloedd canolbarth a gogledd Cymru. Byddai hynny'n dal i fod yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd. Fodd bynnag, a allwch chi gadarnhau, Ysgrifennydd iechyd, na fydd unrhyw ganolfannau ambiwlans awyr Cymru yn cau ledled Cymru hyd nes y bydd y cerbydau ffordd brys ychwanegol hynny wedi'u darparu ac ar waith?
Mae'n ddrwg gennyf glywed am brofiad etholwr yr Aelod a'r amser hir y bu'n aros. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol, ond mae'r data a ddarparais yn ddata cywir ac yn adlewyrchu, yn y categori ambr, mai ym Mhowys y cafwyd yr ymateb cyflymaf yng Nghymru dros y tri mis diwethaf, sy'n gadarnhaol. Yn amlwg, rydym eisiau gweld perfformiad sydd hyd yn oed yn well ym mhob rhan o Gymru.
Fe fydd yn gwybod bod dyfarniad wedi'i wneud yn y Llys Apêl mewn perthynas â'r newid gwasanaeth. Mae'r mater bellach wedi'i gyfreithio'n llawn, ar ôl cael penderfyniad y Llys Apêl i wrthod caniatâd i apelio i'r Uchel Lys. Felly, mae'r ddealltwriaeth gyfreithiol a'r dadansoddiad cyfreithiol o'r penderfyniad bellach wedi'i gwblhau. Bydd yr Aelod yn ymwybodol nad penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ydyw, ac ni fyddai'n briodol iddo fod.
Mae'r Aelod yn rholio'i lygaid, ond rwy'n siŵr nad yw'r rhan fwyaf o'r Aelodau eisiau i mi ddarparu ambiwlansys o fy swyddfa i bob rhan o Gymru. Mae mecanwaith sefydledig ar gyfer gwneud hyn ar lefel leol, sy'n adlewyrchu anghenion poblogaethau lleol. Penderfyniad Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yw'r un a wnaed, ond mae'n adlewyrchu disgwyliadau polisi Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau mynediad cyfartal a'r canlyniadau gorau posib i ddefnyddwyr gwasanaeth ledled Cymru.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y cynllun i sefydlu canolfan iechyd newydd yn Waunfawr yn Arfon? OQ63342
Cafodd cyllid ei ddyfarnu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan y gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso ym mis Ionawr eleni, i ddatblygu achos cyfiawnhad busnes ar gyfer hwb gofal sylfaenol Waunfawr. Mae fy swyddogion yn aros i'r achos busnes gael ei gyflwyno er mwyn symud ymlaen ymhellach gyda'r cynllun.
Mae meddygon a chleifion meddygfa Waunfawr wedi bod yn ymgyrchu ers 20 mlynedd i gael cyfleusterau iechyd newydd. Mae hi'n hollol annheg bod doctoriaid ardderchog y practis yn gorfod gweld cleifion mewn portakabins, yn y coridorau, a hyd yn oed yn y gegin.
Mae yna gynllun newydd ar y gweill ers tro, ac rydw i wedi gofyn ichi yn y Siambr yma—nid chi yn bersonol, ond rydw i wedi gofyn yn y Siambr yma droeon—am adroddiad cynnydd ar y cynllun. Mae yna bryder mawr eto rŵan yn lleol na fydd y ganolfan newydd yma yn mynd yn ei blaen. Does yna ddim arwydd o gwbl bod yna gychwyn ar yr adeiladu yn y tymor byr. Mae'r caniatâd cynllunio mewn peryg o redeg allan, ac mae hynny wedyn yn mynd i greu mwy o oedi.
Felly, er mwyn bod yn gwbl dryloyw, wnewch chi ymchwilio ymhellach i beth sydd wedi mynd ymlaen, esbonio wrth bobl leol beth sydd wedi digwydd ac, yn bwysicach, gyrru'r prosiect yma yn ei flaen, fel bod yna gyfleusterau newydd yn cael eu datblygu ar frys yn Waunfawr?
Mae'r gronfa sydd yn ariannu'r math yma o ddatblygiad, y gronfa integreiddio ac ailgydbwyso, fel y gwnes i sôn yn fy ateb cychwynnol, ar waith dros ogledd Cymru ac ar draws Cymru'n gyfan gwbl. Mae rhyw 15 cynllun yng ngogledd Cymru a rhyw 38 ar draws Cymru, felly mae'r gronfa yn gweithio i wneud y gwaith y mae angen iddi ei wneud.
O ran Waunfawr yn benodol, mae'r cynllun yn un diddorol ac mae'n un pwysig. Rŷn ni'n gwybod bod hyn yn gallu gwella'r ddarpariaeth ar gyfer cleifion, ond hefyd mae'n fwy atyniadol ar gyfer meddygon. Rŷn ni hefyd yn gwybod, o ran gwerth am arian, fod cyfleoedd yn hynny o beth hefyd. Ar hyn o bryd, mae'r achos busnes yn mynd trwy brosesau llywodraethiant y bwrdd iechyd, ac rŷn ni'n disgwyl cael cynllun pellach oddi wrthyn nhw yn y misoedd nesaf.
Mae rhwystredigaeth a dicter cyfiawn wedi'u mynegi am y diffyg cynnydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas â datblygu meddygfa bwrpasol newydd gyda gwell mynediad, parcio a gofod cymunedol yn Waunfawr, Gwynedd, i gymryd lle'r safle cyfyng ac anaddas presennol. Mae hwn yn fater sy'n codi drwy'r rhanbarth, ac fe'i gwelir hefyd, er enghraifft, ym meddygfa Hanmer, de Wrecsam, sy'n parhau i ymladd brwydr debyg fwy nag 11 mlynedd ar ôl i'r adeilad presennol gael ei ddatgan yn anaddas i'r diben.
Mae'r oedi, yr esgusodion a'r camgymeriadau y tu ôl i hyn yn ychwanegu at y prinder gofal sylfaenol yng ngogledd Cymru a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar adrannau damweiniau ac achosion brys y rhanbarth. Yn y cyfamser, mae toriadau i welyau cymunedol wedi gwaethygu oedi, derbyniodd y bwrdd iechyd fwy o adroddiadau am farwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi gan y crwner nag unrhyw sefydliad arall yng Nghymru, ac mae ganddo nifer uwch o achosion o oedi cyn rhyddhau cleifion nag unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru.
Mae grŵp o feddygon a nyrsys wedi ymddeol yn ymgyrchu i geisio gwrthdroi'r sefyllfa ddiangen bresennol gyda chynigion y gellir eu cyflawni, gan gynnwys dod â gwelyau cymunedol yn ôl. Pryd, os byth, y gwnewch chi ymyrryd a siarad a gweithio gyda'r meddygon hyn sydd wedi ymddeol, a'r meddygon teulu yn Waunfawr a Hanmer, i ddeall a gweithredu'r atebion sydd eu hangen?
Fel y soniais yn fy ateb i Siân Gwenllian, yr ateb sydd ei angen yw darparu gwasanaethau integredig ar lefel gymunedol mewn ffordd y byddai'r bwrdd iechyd eisiau ei gweld, ac yr ydym ni yn sicr eisiau ei gweld fel Llywodraeth Cymru. Fel y soniais yn gynharach, mae 38 o brosiectau wedi'u cymeradwyo ar gyfer cyllid cyfalaf. Mae 15 o'r 38 prosiect yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n awgrymu lefel sylweddol o fuddsoddiad yn yr union fath o gyfleusterau y mae'r Aelod yn dweud ei fod yn dymuno gweld mwy ohonynt.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, James Evans.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cyflwyno deiseb wedi'i llofnodi gan fwy na 10,000 o bobl ledled Cymru yn mynnu gweithredu brys i roi diwedd ar ofal anniogel mewn coridorau. Mae meddygon a nyrsys yn adrodd am gleifion yn aros am ddyddiau mewn coridorau, ystafelloedd ochr a hyd yn oed baeau ambiwlansys heb breifatrwydd, urddas na pharch. Ond mae amser o hyd inni fynd i'r afael â hyn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae gennym yr adroddiad 'Llesiant yn ystod y gaeaf: camau gweithredu ac effeithiau a rennir', a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae hwnnw'n tynnu sylw at y ffaith y bydd yna bwysau enfawr y gaeaf hwn. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflwyno system safonedig genedlaethol ar gyfer casglu data a chyhoeddiadau misol ar ofal mewn coridorau, sy'n dangos faint o gleifion sy'n cael eu trin y tu allan i wardiau priodol, am ba hyd a beth oedd eu canlyniadau iechyd, fel y gall y cyhoedd, clinigwyr a'r Senedd hon olrhain cynnydd a sicrhau nad oes gennym neb yn aros mewn coridorau yn ein hysbytai?
Nid wyf am weld unrhyw un yn cael ei drin mewn coridorau neu'n aros mewn coridorau am driniaeth. Ymwelais ag Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yn gynharach yr wythnos hon, lle rydym bellach yn gweld bron i 100 y cant o gydymffurfiaeth â'r targed 45 munud ar gyfer trosglwyddo cleifion ambiwlans, ac ar yr un pryd, nid oes unrhyw ofal yn cael ei ddarparu mewn coridorau. Dyna'r hyn yr hoffem ei weld ym mhob lleoliad ysbyty: cleifion yn cael eu cludo'n gyflym i'r ysbyty, ambiwlansys yn cael eu rhyddhau a chleifion na chânt eu trin mewn coridorau yn sgil hynny. Mae'n bosib cyflawni hynny. Mae'n heriol yn erbyn cefndir o bwysau anhygoel, ond nid yw'n ffordd dderbyniol o ddarparu gofal heblaw yn yr amgylchiadau mwyaf eithriadol, lle mae yna elfen o hynny mewn unrhyw system. Felly, rwyf wedi bod yn glir—a bydd yr Aelod yn cofio, efallai, o'r tro blaenorol iddo ofyn i mi ynglŷn â hyn, yn y drafodaeth a gawsom ar dryloywder ychydig wythnosau yn ôl—fod gwaith eisoes ar y gweill i nodi sut y gallwn gasglu'r data hwnnw yn y ffordd orau a sicrhau ei fod ar gael fel y gallwn gael sgwrs wedi'i llywio gan ddata ar lawr gwlad.
Mae'n ddiddorol eich bod yn sôn am Ysbyty'r Tywysog Siarl, gan fod ffrind i mi yno'n ddiweddar mewn ward orlawn, wedi'u gwthio yn erbyn sinc. Roedd gennyf etholwr arall yn Ysbyty'r Tywysog Siarl a dreuliodd bedwar diwrnod mewn cadair yn derbyn triniaeth. Felly, nid wyf yn siŵr pa ran o'r ysbyty yr ymweloch chi â hi, ond efallai y dylech fod wedi mynd i rannau eraill o'r ysbyty.
Ond mae'r ddeiseb honno hefyd yn galw'n glir am oedi cyn lleihau nifer y gwelyau ymhellach ledled Cymru hyd nes bod trefniadau amgen diogel ar waith. Ar yr un pryd, rhybuddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu hadroddiad y bydd pwysau'r gaeaf o ganlyniad i firysau anadlol, cartrefi oer ac oedi wrth ryddhau cleifion yn gwthio capasiti ysbytai y tu hwnt i ddirnadaeth. Gofal mewn coridorau yw symptom gweladwy problemau dyfnach yn ein system iechyd: dim digon o welyau wedi'u staffio ac ôl-groniadau mewn gofal yn y gymuned a gofal cymdeithasol. Felly, pa fesurau penodol i hybu capasiti a fydd gennych ar waith cyn bod pwysau'r gaeaf ar ei waethaf ym mis Ionawr, gan gynnwys gwelyau uwchgyfeirio wedi’u staffio, lolfeydd rhyddhau cleifion yn gyflym a chyfleusterau cam-i-lawr ledled Cymru, i sicrhau nad oes unrhyw gleifion yn cael eu gadael i aros mewn coridorau? A wnewch chi gadarnhau hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, faint o welyau ychwanegol wedi'u staffio a fydd yn weithredol ledled Cymru y gaeaf hwn, o gymharu â'r llynedd?
Mae gan bob ysbyty drefniadau ar gyfer capasiti ymchwydd. Fodd bynnag, nid oes a wnelo hyn â nifer y gwelyau mewn gwirionedd. Mae a wnelo â'r system yn gweithio'n fwy cytbwys a sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt heb orfod cael eu derbyn i'r ysbyty. Felly, mae yna gynlluniau sefydledig a datblygedig iawn. Fe wnaethom ddechrau cynllunio ar gyfer y gaeaf yn y gwanwyn eleni er mwyn sicrhau bod y capasiti cymunedol hwnnw'n cael ei gryfhau a bod y gwasanaeth ambiwlans yn gweithio law yn llaw ag ysbytai er mwyn sicrhau, lle nad oes yn rhaid cludo pobl i adrannau brys, nad yw hynny'n digwydd. Yn fwyaf arbennig, mewn perthynas â diffyg anadl, mae llwybr newydd wedi'i ddatblygu dros y misoedd diwethaf, a fydd yn galluogi cleifion i gael y cymorth sydd ei angen arnynt ar gyfer cyflyrau sy'n gysylltiedig â diffyg anadl, gan inni weld, y llynedd a'r flwyddyn cynt, mai dyna'r categori uchaf o alwadau coch i'r gwasanaeth ambiwlans. Mae llwybr newydd wedi'i ddatblygu mewn ymateb i hynny. Ac yn achos cleifion a gludir i'r ysbyty oherwydd cwymp, am eu bod yn eiddil, mae darpariaeth gynyddol bellach ar safleoedd ysbytai i sicrhau nad oes yn rhaid eu derbyn i adran achosion brys. Gellir eu trin ar wahân a'u rhyddhau'n gyflym, ac rydym yn dechrau gweld budd hynny.
Hoffwn ddweud wrtho unwaith eto mai un o'r heriau y gwnaeth fy herio yn eu cylch y llynedd, a hynny'n gywir ddigon, oedd nifer y cleifion yng nghefn ambiwlansys dros fisoedd y gaeaf yn aros i gael eu derbyn i'r ysbyty. Mae gennym y nifer isaf o oriau coll mewn ambiwlansys, sef y ffordd y disgrifir hynny, ar unrhyw adeg yn y pedair blynedd diwethaf o ganlyniad i'r ffocws y mae'r gwasanaeth iechyd wedi'i roi ar y mater pwysig hwn. Felly, ar drothwy misoedd y gaeaf, rydym mewn sefyllfa well o ran trosglwyddo o ambiwlansys nag ar unrhyw adeg yn y pedair blynedd diwethaf. Mae pob un ohonom yn rhagweld y bydd y gaeaf yn heriol. Y dasg sydd gennym yw paratoi cystal ag y gallwn ar ei gyfer. Rwy'n hyderus ein bod yn gwneud hynny a'n bod wedi gwneud hynny. Mae agweddau anrhagweladwy bob amser yn codi. Rydym yn modelu ar eu cyfer cystal ag y gall unrhyw Lywodraeth. Dyna'r sefyllfa sy'n ein hwynebu ar drothwy'r gaeaf.
Ond Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod wedi dweud nad oes a wnelo hyn â gwelyau, ond mae'n ymwneud â gwelyau, onid yw? Oherwydd mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi dweud bod a wnelo hyn â gwelyau, ac mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud bod a wnelo hyn â nifer y gwelyau, a nhw yw'r gweithwyr proffesiynol ar y rheng flaen. Gyda phob parch, buaswn yn cymryd eu gair nhw dros eich gair chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, gofynnaf eto: maent hwy'n dweud y bydd problemau capasiti digynsail yn ein hysbytai y gaeaf hwn, a bod angen inni sicrhau bod capasiti gwelyau yn cael ei gynyddu, nid ei leihau. Ni wnaethoch ateb fy nghwestiwn ar y pwynt hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae angen inni weld mwy o welyau yn ein hysbytai—mae hynny'n glir. Hoffwn glywed gennych: a ydych chi'n mynd i roi mwy o welyau yn ein hysbytai, neu a yw'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn mynd i barhau i leihau nifer y gwelyau ar draws ein hysbytai, sy'n golygu mwy o bobl mewn coridorau a mwy o bobl yn aros y tu ôl i ysbytai mewn ambiwlansys?
Tybed a glywodd yr Aelod yr ateb a roddais yn flaenorol, neu a oedd yn paratoi ar gyfer y cwestiwn nesaf? Y peth cyntaf un a ddywedais oedd bod gan bob ysbyty yng Nghymru gynlluniau ar gyfer capasiti ymchwydd. Ond yn y bôn, os yw'r Aelod yn credu mai'r ateb i'r broblem hon yw mwy a mwy o welyau, mae'n gwbl anghywir am hynny. Yr hyn a wyddom, ym mhobman, ledled y byd, yw os byddwn yn parhau i ddarparu gofal iechyd yn y rhan ddrytaf a lleiaf cyfleus o'r system i gleifion, byddwn yn methu. Y ffordd i ariannu, y ffordd i wneud y cynnydd yr ydym am ei weld, ac y mae'r Aelod yn dweud ei fod am ei weld, yw drwy gefnogi gwasanaethau yn y gymuned, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Llywydd. Ym mis Mehefin, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet becyn ariannu o £120 miliwn i fynd i'r afael â'r rhestrau aros, y diweddaraf mewn cyfres hir o fesurau drud y mae'r Llywodraeth wedi'u cyflwyno dros gyfnod tymor y Senedd yma er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad, sydd wedi chwyddo bron i 200,000 yn gyfan gwbl ers yr etholiad diwethaf. Mewn ymateb i gyfres o gwestiynau ysgrifenedig ar ddefnyddio'r cyllid yma, fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod £20 miliwn o'r gronfa yma yn cael ei ddefnyddio—a dwi'n dyfynnu—i gynnal y sefyllfa a gyflawnwyd ym mis Mawrth 2025 o ran arosiadau dwy flynedd, o leiaf, gan gefnogi gostyngiad pellach lle bynnag y bo modd.
I egluro sefyllfa mis Mawrth, roedd 8,400 o lwybrau yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth, tra bod yr ystadegau diweddaraf yn dangos 8,700 o arosiadau o'r fath. Felly, nid yn unig y mae'r lleiafswm a ddisgwyliwyd o'r buddsoddiad yma wedi methu â chael ei wireddu, mae'r sefyllfa wedi dirywio ymhellach fyth. Felly, beth ydy esboniad yr Ysgrifennydd Cabinet am pam nad ydy'r buddsoddiad yma wedi arwain at yr hyn a addawyd, a pham nad ydy'r Llywodraeth hon yn gallu cael gafael ar y sefyllfa?
Wel, dyw'r Aelod ddim yn disgrifio'r sefyllfa ar lawr gwlad fel y mae hi. Rŷn ni wedi gweld gostyngiadau sylweddol iawn o ran y bobl sy'n aros hwyaf yn ein system ers hydref diwethaf. Beth rŷn ni'n gweld, chwarter wrth chwarter, yw gostyngiad yn rhifau y bobl sydd yn aros dros ddwy flynedd. Mae gyda ni darged o symud hynny tuag at neb yn aros am y cyfnod hwnnw, ac rŷn ni'n gwneud cynnydd tuag at hwnnw. Byddwn ni hefyd yn gweld, pan gyhoeddwn ni'r ffigurau nesaf, gostyngiad sylweddol iawn mewn un mis yn rhifau y bobl sy'n aros am driniaeth ar ein rhestrau aros ni yma yng Nghymru.
Felly, beth rŷn ni'n gweld yw cynnydd, chwarter ar ôl chwarter, tuag at gyrraedd y nod. Mae'r buddsoddiad a roesom ni i mewn i'r system yn caniatáu i ni, ynghyd â diwygio'r ffordd rŷn ni'n darparu gwasanaethau, wneud y cynnydd hynny. Petasai e wedi bod lawr i'r penderfyniad oedd gyda chi, ni fyddem ni wedi cael mynediad at yr arian hwnnw i allu buddsoddi yn y system o gwbl.
Y nifer ym mis Mawrth oedd 8,400. Y nifer heddiw yw 8,700. Nid yw hynny'n welliant. Mae pethau'n gwaethygu. Wrth gwrs, roedd yr £20 miliwn y cyfeiriais ato yn fy nghwestiwn yn rhan o becyn cyllido ehangach, a gynlluniwyd, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau gostyngiad o 200,000 yn yr ôl-groniad cyffredinol erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddai dweud bod hwn yn darged uchelgeisiol iawn yn danddatganiad, ac mae'r ystadegau'n cadarnhau'r casgliad hwn. Fel y saif pethau, rydych chi wedi cyflawni llai na 2 y cant o'r gostyngiad disgwyliedig. Ar y gyfradd hon, bydd yn cymryd dros chwarter canrif i gyrraedd y targed, a fyddai'n dal i adael ôl-groniad o bron i 600,000. A allwch chi gadarnhau mai'r bwriad i sicrhau gostyngiad o 200,000 yn yr ôl-groniad erbyn mis Mawrth yw eich nod o hyd? Os felly, beth yn union ydych chi'n mynd i'w wneud yn wahanol i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni erbyn mis Mawrth?
Dyna'r nod. Bydd perfformiad y ffigurau, fel y nodais nawr, y tro nesaf y cânt eu cyhoeddi, yn dangos gostyngiad sylweddol mewn un mis, ac rydym yn disgwyl i hynny barhau fis ar ôl mis. Rwy'n siŵr y bydd ef, fel pob Aelod arall, yn clywed gan etholwyr eu bod yn cael eu galw i mewn am apwyntiadau gyda'r nos, ar nos Sul, ar brynhawn Sadwrn, mewn ffyrdd sy'n gwbl ddigynsail—dyna'r gwir amdani. Felly, mae a wnelo hyn â'r holl weithgarwch ychwanegol yn y gwasanaeth iechyd, sy'n darparu gweithgarwch cleifion allanol a gweithgarwch arall yn fwy effeithiol yn y ddarpariaeth graidd, gan gynyddu'r capasiti i ddarparu sesiynau ychwanegol gyda'r nos ac ar benwythnosau, ac wedi'i ategu drwy alw capasiti ychwanegol darparwyr annibynnol i ddefnydd cyhoeddus, os mynnwch, er mwyn cefnogi'r GIG cyhoeddus. Bydd cymysgedd o'r holl bethau hynny'n ein harwain at y lefelau o ostyngiad yr ydym am eu gweld. Gwelwyd gostyngiad, fis ar ôl mis, a byddwn yn gweld gostyngiad sylweddol uwch y mis nesaf, a disgwylir i'r patrwm hwnnw barhau tan fis Mawrth, ac rwy'n siŵr y bydd yn croesawu hynny.
Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at y rhestrau aros hir, heb os, yw'r pwysau parhaus y mae'r gweithlu'n ei wynebu, gyda llwythi gwaith anghynaliadwy di-baid a chynyddol. Mewn amgylchiadau o'r fath, fe fyddech chi'n naturiol yn disgwyl galw mawr ymhlith byrddau iechyd am staff ychwanegol, yn enwedig wrth inni agosáu at adeg brysuraf y flwyddyn i'r GIG. Ond mewn arwydd clir o'r gwahaniaeth rhwng yr adnoddau sydd ar gael ag anghenion y system, mae'r gwrthwyneb yn aml yn wir. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn ymwybodol o lythyr agored a lofnodwyd yn ddiweddar gan fyfyrwyr carfan mis Mawrth 2023 Prifysgol Abertawe, sydd, er bod pob un ohonynt wedi cwblhau dros 2,000 awr o ymarfer clinigol i'r GIG, wedi cael gwybod na fydd unrhyw swydd nyrs oedolion ar gael iddynt ym mwrdd bae Abertawe. Daw hyn ar adeg pan ydynt yn parhau i wario symiau enfawr ar nyrsys asiantaeth. A dim ond un enghraifft yw hon o batrwm ehangach o weithwyr meddygol proffesiynol ifanc yng Nghymru'n curo ar ddrws caeedig ar ôl drws caeedig wrth geisio dechrau eu gyrfaoedd. Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi cael fy llethu â negeseuon gan fyfyrwyr meddygol sydd newydd raddio ac sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith yng Nghymru. Mewn llawer o achosion, cawsant wybod wrth raddio yn yr haf fod recriwtio wedi'i rewi am hyd at chwe mis. Nid yw’n syndod, felly, fod Cymru’n gwneud yn arbennig o wael o ran cadw’r cyfoeth enfawr o dalent yr ydym wedi bod yn ei feithrin.
O ystyried bod y byrddau iechyd yn amlwg yn gofyn i brifysgolion ddarparu lleoedd hyfforddi meddygol, a allwch chi esbonio pam y mae sefydliadau fel bwrdd bae Abertawe bellach yn honni nad oes angen staff newydd arnynt mewn meysydd fel nyrsio oedolion, a bod nyrsys yn graddio heb fod swyddi ar gael iddynt?
Wel, mae hwn yn faes cymhleth, ac mae'r Aelod, ar achlysuron eraill, wedi bod yn dweud wrthym nad ydym yn hyfforddi digon o nyrsys. Felly, nid wyf yn siŵr beth yw ei ddadansoddiad o'r broblem, ond gadewch imi ddweud wrtho beth yw fy nadansoddiad i o'r broblem. Ni chredaf ei bod yn iawn dweud bod yr holl heriau sydd gennym yn rhai sy'n galw am staff ychwanegol. Felly, er enghraifft, efallai yr hoffech fynd i ymweld â rhai o'r enghreifftiau hyn. Roeddwn yn ysbyty Llandochau yn ddiweddar iawn, yn edrych ar yr hyn y maent wedi'i wneud yno mewn perthynas â thrawsnewid eu gwasanaethau cataract, gyda'r un nifer o staff, gyda'r un adnoddau ar gael, ond gan wneud defnydd deallus iawn o'r capasiti hwnnw, gan ei gydleoli gydag agweddau eraill ar y gwasanaeth. A bellach, maent ar y pen blaen drwy'r DU gyfan gyda disgwyliad y rhaglen Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf o ran nifer y triniaethau cataract y maent yn gallu eu cyflawni gyda'r un sylfaen adnoddau.
Nawr, yn amlwg, gyda chyfleusterau mwy o faint, mwy o adnoddau, gallent wneud mwy eto, ond credaf ei bod yn rhagdybiaeth anghywir fod yr holl heriau yn y system yn rhai sy'n creu angen am staff ychwanegol. A chredaf mai'r her i bob rhan o'r gwasanaeth iechyd yw sut y gallwn wneud defnydd o'r adnoddau helaeth sydd eisoes yn y system mewn ffordd sy'n darparu gwasanaeth hyd yn oed yn well i gleifion, ac sy'n ysgogi staff i wneud hynny.
Ar y pwynt penodol y mae'n ei godi mewn perthynas â bwrdd bae Abertawe, efallai ei fod yn ymwybodol fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru, er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r her sydd wedi codi, wedi ceisio ymestyn y cyfnod ymgeisio—y cyfnod lliflinio, fel y'i gelwir—sy'n dyrannu swyddi nyrsio i raddedigion, y tu hwnt i'r dyddiad cau yr wythnos hon, am dair wythnos arall, er mwyn galluogi mwy o amser i ddod o hyd i ateb i'r myfyrwyr. Ac mae fy swyddogion yn gweithio gydag AaGIC a bwrdd iechyd bae Abertawe i nodi a gallu cyhoeddi swyddi gwag pellach. Ac yn amlwg, mae myfyrwyr yn cael sicrwydd y byddant yn cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol y broses. Ac ar ddiwedd y broses honno, os nad oes digon o swyddi ar gael o hyd, ni fyddant yn cael eu clymu wrth amodau bwrsari GIG Cymru fel y byddent fel arall.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella proses gwyno y GIG i breswylwyr yn Nwyrain De Cymru? OQ63327
Yn ddiweddar, cytunodd y Senedd ar Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025, gan ddiwygio'r broses 'Gweithio i Wella' yng Nghymru. Mae'r broses gwyno gryfach, sydd wedi'i hailenwi yn 'Gwrando ar Bobl', yn canolbwyntio ar ddatrys yn gynnar a safonau cyfathrebu cliriach, wedi'u cynllunio i gefnogi pobl os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Dioddefodd un o fy etholwyr ddigwyddiad gwirioneddol annirnadwy, trasig ac annymunol yn eithaf diweddar wrth geisio cymorth meddygol i'w fam wedi iddi gael cwymp cas gartref. Rwyf wedi codi'r digwyddiad hwn gyda chi o'r blaen, Ysgrifennydd y Cabinet, felly nid wyf am fynd i ormod o fanylder, ond fel crynodeb byr i chi ac i Aelodau eraill yn yr ystafell, wynebodd mam fy etholwr oedi annerbyniol cyn cael cymorth, yn cynnwys arosiadau cywilyddus o hir am ambiwlans, meddyg na ddaeth ati am fod ei shifft wedi gorffen, a phan ddaeth yr ambiwlans, gorfodwyd mam 98 oed fy etholwr i aros mwy na naw awr yng nghefn ambiwlans cyn cael ei throsglwyddo i'r ysbyty. Ond efallai mai'r peth gwaethaf oedd bod y meddyg wedi ffonio fy etholwr, a oedd ym maes parcio'r ysbyty ar y pryd, i ddweud wrtho am fynd i'r ysbyty gan nad oedd gan ei fam lawer o amser i fyw. Ar ôl mynd i mewn i'r ysbyty ychydig bach yn ddiweddarach, dywedwyd wrtho fod ei fam wedi marw bedair awr ynghynt.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn gywir ddigon, mae fy etholwr eisiau atebion i'r cwestiynau sydd ganddo ynghylch ei brofiad cyfan, gan gynnwys yr hyn a ddigwyddodd ychydig cyn i'w fam farw, ac rwyf wedi bod yn ei helpu i gael yr atebion hynny. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru, yn ogystal â bwrdd iechyd Aneurin Bevan, wedi ymateb i'r gŵyn o'r diwedd, ond mae wedi cymryd wyth mis iddynt, Ysgrifennydd y Cabinet, a llawer o gymell gan fy nhîm. Nawr, mae fy etholwr wedi mynd drwy'r ymatebion a gafodd, ac mae'n pryderu eu bod yn cynnwys anwireddau a gwallau amlwg. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n credu ei bod yn dderbyniol fod fy etholwr yn ei brofedigaeth wedi gorfod aros wyth mis am atebion, a sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod sefydliadau iechyd yn darparu ymatebion amserol, ac yn bwysicach fyth, ymatebion cywir i gwynion y maent yn eu cael? Diolch.
Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am brofiad ei hetholwr, ac mae wedi codi'r mater gyda mi o'r blaen. Mae'n anodd imi wneud sylwadau ar fanylion y sefyllfa honno am resymau y gwn y bydd yn eu deall. Ond er mwyn gwella'r profiad y mae cleifion a'u teuluoedd yn ei gael pan fyddant yn gwneud cwyn neu pan fyddant yn codi pryder yw'r rheswm pam ein bod wedi diwygio, gyda chydsyniad y Senedd, y dull y mae'r GIG yn ei ddefnyddio i fynd i'r afael â chwynion.
Rwy'n hyderus—mae'n siŵr fod pob un ohonom, o ystyried y gefnogaeth y llwyddodd y rheoliadau i'w hennyn—y bydd y system newydd yn fwy ymatebol, yn fwy tryloyw i gleifion, a thrwy gyflwyno dull dau gam gyda lefel uwch o ddatrysiadau, ffigur uchaf uwch, bydd hynny'n ein galluogi i fynd i'r afael â phryderon cleifion a'u teuluoedd yn llawer cyflymach. A gallaf glywed o'i chwestiwn y byddai hynny wedi bod yn rhywbeth y byddai ei hetholwr, yn amlwg, wedi'i werthfawrogi yn y cyd-destun penodol hwnnw, ac mewn ffordd y credaf y byddai pob un ohonom yn ei chydnabod, gallai'r system bresennol fod yn gliriach ac yn haws ei defnyddio. Rwy'n hyderus y bydd y trefniadau newydd yr ydym yn eu rhoi ar waith yn cael yr effaith honno.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol i ehangu fferyllfeydd ar y safle mewn ysbytai? OQ63354
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i GIG a ariennir yn gyhoeddus, y telir amdano drwy drethiant cyffredinol, nad yw'n gorfodi cleifion i gael yswiriant preifat drud. Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o wasanaethau fferyllol clinigol mewn ysbytai yn GIG Cymru, mae byrddau iechyd wedi bod yn gweithio i weithredu argymhellion sy'n cefnogi cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach' a blaenoriaethau uniongyrchol y GIG.
Yn amlwg, nid oeddech yn gwrando arnaf, Ysgrifennydd y Cabinet, y tro diwethaf imi siarad â chi—bydd Reform mewn Llywodraeth fis Mai nesaf yn cadw'r GIG am ddim yn y man darparu, fel y mae nawr, i fod yn gwbl glir.
Nawr, yn ôl at fy nghwestiwn pwysig. Mae GIG Cymru'n crefu’n gyson am gapasiti, ond mae cleifion sy’n barod i fynd adref ac sy'n iawn i wneud hynny yn aml yn gorfod aros oriau, hanner diwrnod efallai, am eu meddyginiaeth. Mae hyn yn aneffeithlon, ac wrth gwrs, yn atal llawer o welyau rhag cael eu rhyddhau. Mae hon yn broblem arbennig ar wardiau dros y penwythnos yn ysbyty’r Faenor yn fy rhanbarth i, lle mae’r fferyllfa ar y safle yn cau am 12.30 y prynhawn ar benwythnosau. Mae’r lolfa drosglwyddo a rhyddhau yn ysbyty’r Faenor, lle mae cleifion yn aros i dderbyn meddyginiaeth a threfnu cludiant adref, yn syniad ardderchog am nifer o resymau, ond hefyd, wrth gwrs, i ryddhau gwelyau. Fodd bynnag, am ei bod hi mor brysur, rwy'n deall, yn ddelfrydol, y gallai wneud gyda rhagor o staff i reoli’r galw, ac wrth gwrs, yr anghenion acíwt sy’n ymgyflwyno yno. Mae’n syniad gwych, ond rhai wardiau'n unig sy’n anfon cleifion yno, nid pob un. Felly, mewn rhai wardiau, nid yw gwelyau’n cael eu rhyddhau fel y dylent.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n bwriadu gweithio gyda byrddau iechyd lleol, fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i ehangu darpariaeth eu lolfeydd trosglwyddo a rhyddhau i bob ward, a fyddai, wrth gwrs, yn galw am fuddsoddiad sylweddol, ond a fyddai'n talu ar ei ganfed? Neu a ydych chi'n bwriadu ehangu oriau agor fferyllfeydd mewnol ar benwythnosau, fel y gellir sicrhau bod gwelyau ar gael yn llawer cyflymach i'r rhai sydd eu hangen, ac wrth gwrs, fel y gall cleifion fynd yn ôl i'w cartrefi yn llawer cyflymach? Diolch.
Wel, Lywydd, er mwyn i'r cofnod fod yn glir, mae arweinydd Reform, Nigel Farage, wedi dweud yn glir iawn ar fwy nag un achlysur nad yw'n credu y dylid ariannu'r GIG o bwrs y wlad, drwy drethiant cyffredinol, a'i fod yn ffafrio cyflwyno system yswiriant preifat. Dim ond un canlyniad sydd i system yswiriant preifat: mae'n seiliedig ar y gallu i dalu—mae mor syml â hynny. Ni fydd y Llywodraeth hon byth yn caniatáu'r sefyllfa honno. Rydym yn credu mewn gofal iechyd am ddim, sy'n rhad ac am ddim lle caiff ei ddefnyddio ac nad yw'n gysylltiedig â gallu pobl i dalu. Ac mae'n destun cryn ofid i mi nad yw ei phlaid yn cytuno â'r egwyddor honno.
Ar y cwestiwn penodol a ofynnodd, fe fydd yn gwybod, fel y soniais yn fy nghwestiwn cynharach, fod adolygiad wedi'i gynnal o wasanaethau fferyllol clinigol a bod nifer o argymhellion wedi'u gwneud ynglŷn â sut i wella'r gwasanaeth y gall fferyllfeydd ei ddarparu i integreiddio timau fferyllfeydd yn fwy llawn mewn timau amlddisgyblaethol ehangach. Ac mae ysbytai ledled Cymru, yn cynnwys ysbyty'r Faenor, yn gweithredu'r argymhellion o'r adolygiad hwnnw.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylchlythyr iechyd Cymru sy'n nodi pum blaenoriaeth yn enwedig, y dylai ysbytai adrodd yn eu cylch. Er mwyn sicrhau bod pobl sy'n barod i adael yr ysbyty yn cael eu rhyddhau'n amserol, rwy'n derbyn ei bod hi'n bwysig iddynt allu cael y feddyginiaeth sydd ei hangen arnynt, a bydd yr argymhellion y mae ysbytai'n eu gweithredu yn cael yr effaith honno. Wrth gwrs, ni fyddai pwrs y wlad yn talu am ddim o hyn pe bai Reform yn cael eu ffordd.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt dilys ynglŷn â phobl yn wynebu oedi cyn gadael yr ysbyty am eu bod yn aros am eu meddyginiaeth. Credaf fod y rhan fwyaf ohonom wedi cael gwaith achos ar hynny, ac mae taer angen y gwelyau hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio a gwella offer digidol ar draws fferyllfeydd yng Nghymru, gyda syniadau newydd fel presgripsiynau electronig, gofal di-dor ac integreiddio apiau'n well. Mae'r gwelliannau hynny'n sicr yn berthnasol iawn y tu allan i ysbytai, ond i'r rhai y tu mewn i'r system, efallai na fyddant mor effeithiol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddai'r argymhellion yr ydych chi newydd fod yn siarad amdanynt yn sôn am offer digidol ychwanegol a allai fod ar gael i fferyllfeydd ein hysbytai, i leihau'r amser y mae cleifion yn aros am feddyginiaeth cyn cael eu rhyddhau?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn am y rôl sydd gan dechnoleg ddigidol i gefnogi fferyllwyr, ac yn bwysicaf oll, i gefnogi cleifion mewn perthynas â hyn. Nod y rhaglen drawsnewid meddyginiaethau digidol yw gwella mynediad at feddyginiaethau, gyda chynlluniau yn y dyfodol i bresgripsiynau gael eu hanfon yn electronig o ysbytai i fferyllfeydd cymunedol fel y gall pobl gael y mynediad mwy cyfleus sydd ei angen arnynt at driniaethau. Ond mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â mynediad at offer digidol o fewn lleoliadau hefyd. Mae'n iawn i ddweud mai un o'r argymhellion yn yr adolygiad, argymhelliad 36, oedd bod yn rhaid i systemau rheoli meddyginiaethau electronig sicrhau, ar sail gyson ledled Cymru, ar draws pob lleoliad, fod y gallu i ryngweithredu yn hanfodol i unrhyw gynlluniau ar gyfer gofal cleifion diogel ac effeithiol.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OQ63323
Y byrddau iechyd yng Nghymru'n sy'n gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau clinigol diogel, amserol ac o ansawdd uchel yn cael eu darparu i'w poblogaeth leol. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gynorthwyo byrddau iechyd i wneud gwelliannau drwy osod blaenoriaethau cenedlaethol strategol, cyllid ychwanegol ac ymyrraeth uniongyrchol pan fydd heriau'n codi.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad a gyhoeddwyd ychydig wythnosau'n ôl gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â gwasanaethau arbenigol ar gyfer cleifion epilepsi ag anableddau dysgu. Canfu'r adroddiad, pan ddaeth gwasanaeth epilepsi anabledd dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ben ym mis Mehefin 2021, nad oedd y bwrdd iechyd wedi adolygu'r cleifion ar ei restrau mewn modd amserol, ac nad oedd wedi darparu darpariaeth amgen ddigonol i ddiwallu eu hanghenion. Canfu'r ombwdsmon hefyd, bedair blynedd yn ddiweddarach, nad oedd llwybr priodol a hygyrch ar waith o hyd i sicrhau bod anghenion y grŵp hwn o gleifion yn cael eu diwallu'n ddigonol. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw hyn yn dderbyniol, ac mae’n rhaid cymryd camau brys i fynd i'r afael â chynllunio a chyfathrebu gwael y bwrdd iechyd ac i sicrhau bod llwybr clir a hygyrch ar gael i'r cleifion hyn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael ar frys â'r cynllunio gwasanaeth gwael o fewn y bwrdd iechyd? A allwch chi ddweud wrthym pa gymorth a fydd yn cael ei gynnig i sicrhau bod cleifion epilepsi agored i niwed yn gallu cael y gofal a'r cymorth priodol sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu?
Bydd yr Aelod yn gwybod bod y bwrdd iechyd wedi bod yn ymgynghori'n ddiweddar ar ystod o newidiadau i wasanaethau a'r cyfeiriad posib yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau clinigol yn ei ardal. Credaf ei bod yn ddyletswydd ar bob bwrdd iechyd, yn amlwg, i sicrhau bod y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a'u ffurfweddu yn diwallu anghenion eu poblogaeth leol. Rwy'n ymwybodol o'r adroddiad y cyfeiria'r Aelod ato, ynglŷn â chau'r gwasanaeth yn 2021. Rwy'n ymwybodol o'i gynnwys, ac rwy'n bwriadu codi'r pwynt penodol a gododd yr Aelod gyda chadeirydd y bwrdd iechyd yn fy nghyfarfod nesaf gydag ef.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at ofal iechyd sylfaenol? OQ63322
Mae gwella mynediad at y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir yn ymrwymiad gan y Llywodraeth. Ein strategaeth yw mwy o ofal ataliol gan wasanaethau mwy integredig, gyda phobl yn mynd i'r ysbyty am resymau diogelwch neu angen acíwt yn unig. Er mwyn gwella gwasanaethau contractwyr gofal sylfaenol, rydym yn gweithio gyda'r GIG a chynrychiolwyr proffesiynol i ddatblygu a chefnogi'r gwasanaethau mwyaf cyfarwydd a'r rhai sy'n cael y mwyaf o ddefnydd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol fod meddygfa Grŵp Meddygol Argyle, y fwyaf ond un yng Nghymru, gyda dros 20,000 o gleifion cofrestredig, yn fy etholaeth i. Fodd bynnag, dim ond naw meddyg teulu sydd ganddynt, tra bo gan feddygfeydd o faint tebyg bron ddwywaith hynny gyda 18 neu 17 o feddygon teulu. Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at Grŵp Meddygol Argyle yn ddiffuant, i gynnig cymorth gan fod hyn yn parhau i fod yn un o'r problemau mwyaf yn fy mag post—cael mynediad i weld meddyg teulu. Rwyf hefyd yn siomedig eu bod wedi gwneud y penderfyniad i gau'r grŵp cyfranogiad cleifion. Nawr, fel pob un o fy etholwyr, rwyf eisiau i'r feddygfa hon lwyddo. Mae eu llwyddiant yn llwyddiant i'r staff ac yn llwyddiant i'r cleifion. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gyfarfod â mi a'r bwrdd iechyd lleol i weld sut y gallwn helpu Grŵp Meddygol Argyle ar y cyd i fodloni anghenion y 22,000 o gleifion ar eu rhestr?
Wel, mae galw eithriadol o uchel am wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru, fel y gŵyr yr Aelod—oddeutu 1.6 miliwn o gysylltiadau â meddygfeydd teulu bob mis. Mae rhai meddygfeydd yn wynebu heriau wrth ddarparu'r lefel o fynediad y byddem yn dymuno iddynt ei darparu. Mae'r Llywodraeth yn glir iawn ynghylch y disgwyliadau sydd gennym mewn perthynas â'r ymrwymiad i fynediad, o ran y cyfleoedd sydd ar gael i gleifion wneud apwyntiad, yn ogystal â mecanweithiau amgen ar gyfer gwneud apwyntiadau. Roedd y trafodaethau contract diweddaraf gyda chynrychiolwyr meddygon teulu yn cynnwys darpariaeth i'r byrddau iechyd fonitro cydymffurfiaeth â'r safonau hynny ym mhob rhan o feddygaeth deulu. Rwy'n gobeithio y bydd y bwrdd iechyd yn gallu gweithio gyda'r practis i sicrhau'r lefel o fynediad y mae gan ei etholwyr hawl iddi, a byddaf yn cadw llygad manwl ar hynny.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o a yw lefelau staffio nyrsys arbenigol yn ddigonol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ63341
Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am osod eu lefelau gweithlu eu hunain i ddiwallu anghenion lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a sefydliadau’r NHS i gefnogi’r broses o gynllunio a recriwtio'r gweithlu. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda bellach yn cyflogi dros 3,100 o nyrsys cofrestredig, cynnydd o 25 y cant ers cyn y pandemig.
Diolch. Mewn trafodaethau diweddar gydag Endometriosis UK a theuluodd sy'n gofalu am unigolion ag epilepsi, rwyf wedi clywed am fylchau difrifol mewn darpariaethau nyrsio arbenigol ar draws bwrdd iechyd Hywel Dda. Mae'r unig nyrs arbenigol endometriosis, er enghraifft, ar hyn o bryd bant ar gyfnod mamolaeth a dŷn nhw ddim wedi penodi neb yn ei lle hi. Dim ond dwy nyrs arbenigol epilepsi sydd ar gael i weithio ar draws tair sir yn ne-orllewin Cymru.
Fel rydym eisoes wedi'i glywed gan Paul Davies, mae'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus eisoes wedi canfod bod Hywel Dda wedi methu darparu cymorth digonol i bobl ag anableddau dysgu ac epilepsi, ac mae'r gwasanaeth a gâi ei ddarparu'n flaenorol wedi cau'n gyfan gwbl yn dilyn ymddeoliad un nyrs arbenigol. Nawr, nid yw system sy'n dibynnu ar unigolion yn weithlu cynaliadwy na gwydn. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom yw'r hyn nad oes gennym, sef gwasanaeth cyffredin cydlynol a chydgysylltiedig.
Felly, pa ymyrraeth benodol mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud i recriwtio a chadw nyrsys arbenigol, a pha gamau a fydd yn cael eu cymryd i sicrhau bod y strategaeth gweithlu cenedlaethol yn cefnogi byrddau iechyd gwledig yn ddigonol i lenwi a chynnal y rolau arbenigol hyn?
Buaswn yn cytuno bod heriau wrth redeg gwasanaeth cynaliadwy pan fo gorddibyniaeth ar nifer bach iawn o weithwyr proffesiynol. Gwn fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cryfhau ei weithlu ac yn chwilio am ffyrdd arloesol o wneud hynny. Mae recriwtio nyrsys arbenigol yng ngorllewin Cymru'n parhau i fod yn her barhaus, yn anffodus, a chredaf fod angen atebion arloesol i ddiwallu gofynion unigryw'r gweithlu yn rhai o'n cymunedau gwledig. Gwn, er enghraifft, fod bron i 100 o nyrsys sydd wedi'u haddysgu'n rhyngwladol wedi ymuno â'r gweithlu ar draws sir Gaerfyrddin, Ceredigion a sir Benfro yn rhan o strategaeth recriwtio'r bwrdd iechyd.
Fel Llywodraeth, nid ydym yn pennu lefelau staffio nyrsys arbenigol ar gyfer sefydliadau unigol. Ein rôl ni, rôl yr ydym yn ei chyflawni, yw gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a GIG Cymru i fonitro'r gwaith o gynllunio'r gweithlu. Rydym yn rhoi dros £2 filiwn y flwyddyn i ariannu fframwaith proffesiynol sydd gan AaGIC i gefnogi datblygiad rolau nyrsio uwch yng Nghymru er mwyn gallu cefnogi'r gwaith hwnnw, ochr yn ochr â gwaith y cynllun gweithlu nyrsio strategol. Ond fel y dywedais, mae'n ddyletswydd ar y bwrdd iechyd i edrych ar ddulliau mwyfwy arloesol i ddiwallu anghenion y gwasanaethau y cyfeiria'r Aelod atynt.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Buffy Williams.
8. Sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff y GIG i leihau amseroedd aros i gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ63347
Yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a chefnogaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg dros y 12 mis diwethaf, bu gostyngiad o 75 y cant mewn amseroedd aros o ddwy flynedd, gostyngiad o 67 y cant yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans dros awr, a gostyngiad o 89 y cant yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans dros bedair awr.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn yr haf, ymwelais â'r uned theatr symudol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Cyfarfûm â'r milfed claf i gael triniaeth yno. Mae'r tîm yn gwneud gwyrthiau i leihau rhestrau aros yn gyflym, ac mae'n amlwg fod cyllid Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r cyfleusterau i staff y GIG ddarparu triniaeth yn gyflymach. Ni ddylai unrhyw un orfod aros mewn poen ac anghysur am eu llawdriniaeth, ond dros y misoedd diwethaf, clywais gymaint o straeon cadarnhaol gan drigolion yn y Rhondda sydd wedi cael eu galw am lawdriniaeth yn gynt na'r disgwyl. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol y theatrau symudol hyn, gan wybod am y gwahaniaeth y maent yn ei wneud i gleifion ac i staff?
Ymwelais yn fuan ar ôl iddi hi wneud, ac roedd y bwrdd iechyd yn dweud wrthyf eu bod wedi cael cyfle i ddangos yr Aelod o amgylch y cyfleusterau Vanguard. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn amlwg, fe gomisiynwyd yr uned theatr symudol yn dilyn y digwyddiad critigol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, a arweiniodd at gau pob un o'r wyth theatr ar y safle dros dro. Mae'r contract presennol ar gyfer yr uned theatr yn weithredol tan y gwanwyn, fel y bydd yr Aelod yn gwybod. O ganlyniad i'r gwaith cyfalaf a ariannwyd gennym, mae'r prif ystafelloedd theatr yn Ysbyty Tywysoges Cymru bellach wedi'u hailagor ac yn gweithredu'n llawn. Ond gall yr uned symudol gynorthwyo'r bwrdd iechyd ymhellach gyda'i gapasiti ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan fod gwaith cynnal a chadw ychwanegol a gwaith adnewyddu'n dechrau cyn bo hir ar brif floc theatr yr ysbyty. Felly, mae ganddo rôl bwysig iawn i'w chwarae o hyd. Mae'n galluogi'r bwrdd iechyd i barhau gydag ystod o lawdriniaethau cyffredinol, llawfeddygaeth wrolegol a thriniaethau clust, trwyn a gwddf tra bod y prif theatrau hynny'n cael gwaith uwchraddio hanfodol wedi'i wneud, fel y gallwn sicrhau bod pobl yn parhau i gael eu galw'n gynt na'r disgwyl am y triniaethau sydd eu hangen arnynt. Mater i'r bwrdd iechyd, felly, fydd ystyried a yw hynny'n rhywbeth a all barhau y tu hwnt i hynny i'r dyfodol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol—dau gwestiwn heddiw, y ddau i'w hateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newis Hinsawdd a Materion Gwledig, ac mae'r cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella diogelwch cymunedol yn sgil ymosodiad angheuol gan gi yn sir Fynwy? TQ1393
Diolch yn fawr, Pred. Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud ein bod yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â'r teulu a'r gymuned yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad trasig hwn yn sir Fynwy? Mae hwn yn achos hynod o ofidus. Fe fyddwch yn deall y bydd yn amhriodol i mi ddyfalu tra bod ymchwiliadau'n parhau, ond gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw polisi rheoli cŵn dan adolygiad manwl, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Rydych chi'n iawn, mae hwn yn ddigwyddiad gofidus iawn, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â theulu'r babi a fu farw yn y digwyddiad hwn, a bydd cymuned gyfan Rogiet wedi cael ei heffeithio hefyd. Mae'r ymchwiliad yn parhau, fel y dywedwch, ac nid ydym eto'n gwybod pa frîd oedd y ci yn yr ymosodiad, ac ni fyddai'n briodol i chi wneud sylwadau ar yr ymchwiliad hwnnw. Serch hynny, fe wyddom fod nifer y derbyniadau i'r ysbyty o ganlyniad i frathiadau gan gŵn ar gynnydd yng Nghymru. Yn wir, mae astudiaeth o Brifysgol Lerpwl yn dangos bod nifer y cleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty yn sgil brathiadau gan gŵn yng Nghymru bron â bod wedi dyblu rhwng 2014 a 2022, gyda'r nifer mwyaf o ddigwyddiadau yn digwydd yn y cartref. Yn fy rhanbarth i, cafwyd nifer o farwolaethau ac ymosodiadau difrifol gan gŵn ers fy ethol yn 2021. Dyma pam y gelwais yn flaenorol ar y Llywodraeth i gyflwyno mesurau i hyrwyddo diogelwch cymunedol mewn perthynas â chadw cŵn yn gyfrifol. A allwch chi roi gwybod i'r Senedd hon, yn ogystal â'r nifer o grwpiau lles anifeiliaid sy'n gwylio ac sydd hefyd yn pryderu am y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau gan gŵn yng Nghymru, beth sydd wedi'i gyflawni ac a ydych chi'n hyderus y bydd y mesurau a roddwyd ar waith yn arwain at well diogelwch cymunedol? Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch, Pred. Ac yn ogystal ag estyn ein cydymdeimlad â'r teulu a'r cymunedau yr effeithir arnynt, mae'n rhaid inni gydnabod nad dyma'r unig ddigwyddiad a welsom dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys yn y rhan hon o Gymru, ac mewn rhannau eraill o Gymru a'r Deyrnas Unedig hefyd. Felly, rhaid inni ddefnyddio pob mesur posib at ein defnydd i ddelio â mater cadw cŵn yn gyfrifol, a rheolaeth ar gŵn hefyd.
Felly, ers i Lywodraeth y DU weithredu yn 2023 o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull rhagweithiol iawn o weithredu, a'r hyn y byddem yn ei alw'n ddull amlasiantaethol mewn gwirionedd. Felly, rydym yn gweithio gyda llawer iawn o bobl arbenigol iawn allan yno i hyrwyddo diogelwch y cyhoedd a chadw cŵn yn gyfrifol. Felly, er enghraifft—. A Pred, diolch i chi hefyd am yr ymrwymiad a ddangoswyd gennych i'r maes hwn a'r diddordeb rydych chi wedi'i ddangos yn hyn. Felly, pethau fel y fenter ymwybyddiaeth amgylcheddol leol ar gŵn gyda heddlu Gwent, sy'n gweithio mewn ffordd fanwl a deallus iawn gyda pherchnogion i nodi unrhyw broblemau'n gynnar—nid wyf yn dweud ei fod yn gysylltiedig â'r achos hwn, ond nodi problemau—a allai ymwneud ag ymddygiad anifeiliaid neu, fel arall, ag ymddygiad perchnogion a cheidwaid yr anifeiliaid hynny hefyd, ac mae'n ymyrryd yn gynnar iawn.
Mae gennym hefyd y defnydd o gyrsiau ar gadw cŵn yn gyfrifol, sy'n cael eu hyrwyddo gan Blue Cross, un arall o'n partneriaid. Felly, y syniad yno yw eich bod chi'n ymgysylltu â'r perchnogion mewn ffordd debyg i'r hyn y byddech chi'n ei wneud gyda phethau fel troseddau cyflymder ac yn y blaen, ac rydych chi'n mynd i mewn yn gynnar ac yn dweud, 'Mae angen i chi ddeall beth sy'n digwydd yma. Gallwn eich helpu gyda chadw ci'n gyfrifol ac ymddygiad eich anifail hefyd.' Ac mae Hope Rescue yn gwneud gwaith dylanwadol yn y gymuned ac yn rhoi cefnogaeth i berchnogion cŵn ac i elusennau iechyd meddwl. Ac wrth gwrs, caiff hyn i gyd ei ategu gan yr hyn a wnawn drwy Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, a'u dull o orfodi, gan weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, bridwyr a'r cyhoedd.
Felly, mae yna lawer o bethau y mae angen inni barhau i adeiladu arnynt, a daw hyn i gyd at ei gilydd, rhaid i mi ddweud, yn ein fforymau ar gadw cŵn yn gyfrifol, pan fydd yr holl bobl hynny'n trafod ac yn dweud, 'Beth arall y gallwn ni ei wneud?' Oherwydd ni allwn fod yn hunanfodlon ar hyn. Ond mae'n drasiedi yr ydym wedi'i gweld yn digwydd unwaith eto yn ein cymunedau.
Ddirprwy Brif Weinidog, rwy'n siŵr, fel y clywsom, y byddai pob Aelod o'r Senedd yn cydymdeimlo'n llwyr â'r teulu yn y golled enfawr hon a'r galar na ellir ei ddychmygu y maent yn ei ddioddef ar hyn o bryd, ac yn hyderus fod yr holl gefnogaeth angenrheidiol yn cael ei darparu i'r teulu. Mae'r gymuned ehangach yn Rogiet, sy'n bentref eithaf clos, wedi cael ei heffeithio'n ddwfn gan hyn, ac rwy'n gwybod bod y gymuned honno'n dod at ei gilydd i ddarparu cefnogaeth i'w gilydd ar adeg mor anodd.
Fel y dywedwch, Ddirprwy Brif Weinidog, mae ymholiadau'r heddlu'n parhau ac ni fyddai'n iawn dyfalu mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd beth oedd union amgylchiadau'r digwyddiad hwn, ond rwy'n cytuno, yn fwy cyffredinol, ein bod yn gweld llawer gormod o broblemau'n deillio o gadw cŵn a chŵn yng Nghymru. Ac rwy'n credu—ac rwy'n gwybod bod Aelodau eraill yma wedi codi'r materion hyn yn fwy cyffredinol a sawl achlysur—fod angen i ni feddwl yn ddyfnach ac yn fwy difrifol ynghylch pa gamau pellach y gellir eu cymryd i ddelio â'r problemau yn gyffredinol. Ac yn ogystal â hynny, rwy'n siŵr y byddwn ni, maes o law, yn edrych ar amgylchiadau penodol y drasiedi hon i weld a oes unrhyw wersi i'w dysgu.
Diolch, John. Ac rydych chi'n iawn, ni fyddwn—. Nid lle unrhyw un ohonom yw dyfalu heddiw, ond bydd gwersi i'w dysgu o hyn pan fydd yr ymchwiliad wedi digwydd, rwy'n siŵr. Ac yn ogystal â'n cydymdeimlad â'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn y golled a'r drasiedi hon, rydym hefyd eisiau sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i'r teulu yr effeithiwyd arnynt hefyd, ac rwy'n gwybod y bydd y gymuned yn gefn iddynt.
Ond rydych chi'n iawn i ddweud eich bod chi, ymhlith eraill, wedi hyrwyddo dull mwy cydgysylltiedig o weithredu ar hyn. Felly, nid yw'n deillio'n syml o frîd cŵn ac yn y blaen, mae'n ymwneud â chadw cŵn yn gyfrifol ac mae'n ymwneud â dull o weithredu—. Rwyf wedi sôn am rai o'r pethau a wnawn gyda'r dull ymwybyddiaeth amgylcheddol leol ar gŵn (LEAD), am adnabod arwyddion pryderus yn gynnar o ran cadw anifeiliaid neu yn ymddygiad anifeiliaid. Ond mae hefyd yn ymwneud â'r hyn a wnawn gyda Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, oherwydd mae rhan o'r cyllid—a chyda llaw, rydym wedi ymestyn y cyllid ar gyfer Trwyddedu Anifeiliaid Cymru—yn ymwneud â'r mentrau hyfforddi a wnaethom gyda pherchnogion, mentrau sydd wedi ennill gwobrau, ond hefyd gyda'r cynlluniau gorfodi y maent yn eu gwneud pan fydd angen. Ond mae angen i'n dull o weithredu fod yn un cydgysylltiedig priodol, sy'n ymwneud ag addysg, oherwydd mae'n addysg gydol oes, gyda cheidwaid a pherchnogion anifeiliaid anwes a chŵn yn yr achos hwn. Mae'n cynnwys addysg, mae'n cynnwys gorfodi, ond mae hefyd yn cynnwys ymgysylltu â'r gymuned, a dyna lle mae elfennau fel y gwaith LEAD yn dod i mewn, fel bod y gymuned gyfan yn gweithio gyda'i gilydd gydag asiantaethau gorfodi, gyda'r rhai sy'n gallu addysgu perchnogion i ddweud, 'Rydym yn meddwl y gallai fod problem. Cyn iddi ddod yn ormod o broblem, a all rhywun helpu i roi'r gefnogaeth, i roi'r cyngor?' Ond nid yw'n tynnu oddi wrth yr achos penodol hwn, ac mae'n rhaid i ni weld yr ymchwiliad yn cael ei gwblhau, a'r drasiedi sydd wedi digwydd eto yma yng Nghymru.
Rwy'n cytuno â phopeth y mae fy nghyd-Aelod John Griffiths wedi'i ddweud. Rwy'n credu bod y digwyddiad yn Rogiet ddydd Sul yn hollol dorcalonnus, ac rwy'n cydymdeimlo'n ddwys â'r teulu sydd wedi colli plentyn mewn amgylchiadau mor ofnadwy. Rwy'n credu ei bod yn anodd i unrhyw un ohonom ddeall y boen y mae'n rhaid eu bod yn ei dioddef, ac rwy'n gwybod, fel y dywedwyd eisoes, ein bod ni i gyd ar draws y Siambr hon yn rhannu ein tristwch a'n cefnogaeth i'r teulu a'r gymuned. Ddirprwy Brif Weinidog, mae fy nghwestiwn yn syml: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r teulu hwnnw, y gymuned honno, a beth y gall ei wneud yn y sefyllfaoedd hyn sy'n digwydd yn rhy aml, yn anffodus?
Diolch am hynny, Peter. Rydych chi'n iawn i ddweud, fel y mae pawb wedi dweud heddiw, ei fod yn fwy na'r ymchwiliad sy'n mynd rhagddo a'r gwersi y gellid eu dysgu, oherwydd bydd pob un o'r trasiedïau hyn yn dod â phrofiadau dysgu gwahanol i ni y gallai fod angen i ni weithredu arnynt, ond hefyd y gefnogaeth sydd yno nawr i'r teulu, oherwydd mae hyn wedi arwain at golli babi—ni fyddai unrhyw un ohonom eisiau mynd trwy hynny—yn yr amgylchiadau mwyaf trasig. Felly, gallaf eich sicrhau bod y gefnogaeth honno'n cael ei darparu yn y gymuned gan y gwasanaethau statudol perthnasol, ond hefyd gan y gymuned a'r teulu yn ogystal â'r heddlu sy'n cynnal eu hymchwiliadau. Mae'n ddigwyddiad trist iawn. Gallwch fod yn sicr, Peter, y byddwn yn gwneud ein gorau glas yn y dyfodol i ganfod beth arall y gallwn ei wneud i geisio osgoi'r trasiedïau hyn. Rwy'n credu bod angen y dull cydgysylltiedig hwn a'r ffocws ar gadw cŵn yn gyfrifol, ymyrraeth gynnar lle bo angen, addysg, gorfodaeth a gweithio gyda'r gymuned.
Diolch, Dirprwy Brif Weinidog. Bydd yr ail gwestiwn amserol gan Adam Price.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y llifogydd eang yn sir Gaerfyrddin neithiwr, ac amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cymorth a mesurau ataliol yn y dyfodol i gymunedau yr effeithir arnynt? TQ1396
Diolch, Adam. Diolch am ofyn y cwestiwn hwn. Rydym yn cydymdeimlo â'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd a welsom dros yr oriau a'r dyddiau diwethaf. Gall yr effeithiau ar gartrefi a busnesau a bywydau fod yn ddinistriol. Rydym hefyd yn diolch i'n gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a llawer o rai eraill sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r bobl a'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt.
Ie, rwy'n credu y byddwn i gyd wedi gweld y lluniau torcalonnus o gymunedau yn fy etholaeth, ac mewn etholaethau cyfagos, ar y cyfryngau cymdeithasol dros nos: dŵr wedi gorlifo i dai, eiddo wedi'i ddifrodi y tu hwnt i'r gallu i'w atgyweirio. Rwy'n credu, yn fwy na dim, i lawer ohonynt—oherwydd nid dyma'r tro cyntaf y bydd hyn wedi digwydd iddynt—mae'n ymdeimlad cynyddol o arswyd y gallai'r glaw nesaf arwain at yr hunllef hon eto. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl wasanaethau cyhoeddus, staff yr awdurdod lleol a'r gwasanaethau brys ac eraill a weithiodd yn arwrol dros nos i achub trigolion agored i niwed a cheisio eu gorau glas i liniaru'r difrod.
Ond mae'n debyg mai'r hyn y bydd trigolion eisiau ei glywed gan y Llywodraeth yw sicrwydd ei bod yn gweithio mor galed ag y gall i sicrhau nad yw hyn yn parhau i ddigwydd i'r un cymunedau. Beth sydd ar waith, o ran buddsoddiad, i sicrhau ein bod ni'n diogelu'r cymunedau rhag mynd trwy'r un peth dro ar ôl tro eto?
Yn y tymor byr, buaswn yn gwerthfawrogi pe gallai'r Ysgrifennydd Cabinet roi unrhyw wybodaeth sydd ganddo i ni am effeithiolrwydd y system rhybuddio rhag llifogydd y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddi gydag CNC a'r Swyddfa Dywydd—y Ganolfan Darogan Llifogydd. Mae yna bryder yn lleol na chafodd difrifoldeb yr hyn a ddigwyddodd ei ragfynegi mewn modd digon clir ac amserol. Rwyf am ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: a oes ganddo unrhyw beth y gall ei rannu gyda ni ar hynny?
Pa gymorth ariannol y gellir ei ddarparu, i'r awdurdod lleol, ond yn uniongyrchol i unigolion hefyd? Mae llawer ohonynt heb yswiriant, a hynny am eu bod wedi cael llifogydd dro ar ôl tro. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymateb i adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar adeiladu gwydnwch rhag llifogydd yng Nghymru. Mewn rhai o'r ymatebion hynny, fe ddywedoch chi, 'Wel, fe wnawn y strategaeth 30 mlynedd yn y Senedd nesaf. Byddwn yn cyflwyno dull o weithredu yn ôl dalgylch, ond efallai'n cynnal cynllun peilot yn gyntaf.' Onid oes angen inni gyflymu hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?
A gaf i wneud apêl arbennig ar ran pentrefi fel Pontargothi? Rwy'n ei adnabod yn dda iawn. Roeddwn i'n byw yn y pentref nesaf, yn Llanegwad. Rwy'n adnabod llawer o'r trigolion yno sydd wedi cael llifogydd dro ar ôl tro. Eto i gyd, oherwydd eu bod yn gymunedau bach, nid ydynt yn cyrraedd y trothwy buddsoddi sy'n angenrheidiol i ddod yn flaenoriaeth ar gyfer rhaglen fuddsoddi rhag llifogydd Llywodraeth Cymru. Onid yw'n bryd nawr i ni gael pot penodol o arian ar gyfer y cymunedau gwledig llai hyn sy'n wynebu llifogydd enbyd dro ar ôl tro? Oni ddylent fod yn flaenoriaeth fel rhan o gynllun y Llywodraeth ledled Cymru gyfan?
Adam, diolch yn fawr. Fe geisiaf ymateb i'r holl gwestiynau a ofynnoch chi. Yn gyntaf, ar gymorth ychwanegol, rydym bob amser yn fyw, yn Llywodraeth Cymru, i natur unigryw unrhyw ddigwyddiadau llifogydd penodol. Deilliodd hyn o gyfuniad o law trwm, a llifogydd arfordirol hefyd mewn rhai ardaloedd, a oedd yn ymwneud â lefel y môr ar yr un pryd, sef y math gwaethaf o lifogydd. Fel bachgen a arferai fyw ar aber afon Llwchwr, rwy'n deall hynny'n iawn.
Ond rydym bob amser yn fyw iawn i'r galwadau gan gymunedau am gefnogaeth. Un o'r pethau y gallwn ei wneud yw sicrhau ein bod yn parhau â'r lefelau o fuddsoddiad a wnawn, o ran y cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd mawr, ond hefyd y mentrau llai hynny sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad, lle rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol ac yn rhoi cyllid i awdurdodau llifogydd lleol fel y gallant hwy fuddsoddi. Mae hynny'n aml yn digwydd mewn pethau na ellir eu gweld, y cwlfertau, y gwaith monitro, glanhau'r cwteri, a'r holl bethau hynny, yn ogystal â'r seilwaith trwm mawr. Rydych chi'n iawn i ddweud y byddwn yn bwrw rhagddi, yn gynyddol, nid yn unig ar y materion peirianneg galed hynny, ond atebion ar sail natur hefyd, lle byddwn yn delio â hyn yn yr ardaloedd i fyny'r afon yn ogystal.
Mae yna gynllun cymorth ariannol brys ar waith fel y gwyddoch. Mae pwyntiau sbarduno i hwnnw. Rydych chi'n dweud, 'Wel, a gawn ni edrych ar hynny yn nhermau —?' Mae'n ddrwg gennyf, mae hwnnw ar gael, ac rwy'n gwybod y bydd yr awdurdodau lleol, pan fyddant yn meddwl eu bod wedi cyrraedd y trothwyon ar hynny, yn cysylltu â ni os ydynt o'r farn y gallant hawlio arian o'r cynllun hwnnw.
Rydych chi'n sôn am fuddsoddi rhag llifogydd, y buddsoddiad rhag llifogydd a all fod yno ar gyfer cynlluniau ar raddfa lai. Wel, rydym yn gwneud hynny eisoes gydag awdurdodau lleol, drwy roi potiau penodol o arian lle maent yn ystyried bod yna flaenoriaethau. Ond unwaith eto, mae angen iddynt wneud eu dewisiadau blaenoriaethu o ran pa gymunedau yw'r rhai iawn i wneud y math hwnnw o fuddsoddiad ynddynt.
O safbwynt CNC, maent hwy'n gweithio yn ôl meini prawf penodol iawn. Rwy'n ei symleiddio, ond mae'n ymwneud i raddau helaeth â ble mae'r gwerth gorau am arian ar gyfer diogelu'r nifer mwyaf o gartrefi a busnesau a bywydau. Felly, bydd yna bob amser alwadau ychwanegol yn dweud, 'Ond rydym ychydig bach islaw'r trothwyon hynny', ond byddant yn dal i edrych arno, ac mae angen dadlau'r achos. Ond mae'n rhaid blaenoriaethu, hyd yn oed gyda'r cyllid mwy nag erioed yr ydym wedi'i roi.
Gallaf ddweud wrthych lle gwelwn fod hyn wedi gweithio. Yn ddiweddar, roeddwn wrth yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Rhydaman, sef un o'n cynlluniau mwyaf yng Nghymru, a hyd yn oed gyda'r ymchwydd ar hyd y darn hwnnw, rwy'n falch o adrodd bod cannoedd o adeiladau yno wedi'u diogelu. Roedd o fewn capasiti yr hyn y cynlluniwyd ar ei gyfer, ac yn y blaen, ac mae hynny'n bwysig. Felly, fe allwn wneud gwahaniaeth. Ond byddwn yn parhau i wrando, Adam. Ond fe fydd rhai cymunedau'n dweud, 'Rydym ychydig bach islaw trothwyon rhyw gynllun cyfredol.' Wel, mae angen inni glywed yr achos. Mae angen cyflwyno'r achos i CNC amdano.
A gaf i ddweud hefyd, i dawelu eich meddwl chi a'ch etholwyr yn enwedig, ein bod wedi sicrhau eleni fod £1.2 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? Dyna bedwar cynllun awdurdod lleol; un cynllun gan CNC. Fel y dywedais, rydym wedi cwblhau cynllun CNC yn Rhydaman. Dyna 386 o adeiladu wedi'u diogelu. Roedd hwnnw'n fuddsoddiad o £4.1 miliwn. Ond mae yna waith newydd wedi'i wneud yn ddiweddar—gwaith adeiladu—mewn ardaloedd y byddwch chi'n eu hadnabod yn eithaf da: Stryd Arthur a Chwarel Ffinant, gan leihau'r risgiau i bron 60 eiddo preswyl arall a 35 eiddo amhreswyl hefyd. Ac rydym yn cefnogi'r awdurdod lleol mewn cynlluniau pellach. Felly, er enghraifft, mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu cynlluniau yn Llanybydder a Glanyfferi hefyd. Felly, byddwn yn parhau i wneud hyn. Mae angen inni flaenoriaethu'r cyllid hwnnw, ond mae ar lefel uwch nag erioed gennym, ac mae angen i ni ei gadw i fynd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am sicrhau'r ddadl amserol hon, oherwydd mae'r golygfeydd a welsom yn sir Gaerfyrddin ac yn sir Benfro hefyd, yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn drasig. Rwy'n canmol y gwasanaethau brys, CNC, timau'r cynghorau lleol, a chynghorwyr sir lleol hefyd, sy'n aml yn bwynt cyswllt cyntaf i'r cymunedau hyn i'w cefnogi, a hefyd i'r gymuned amaethyddol, oherwydd mae llawer o ffermwyr wedi gweithio'n galed i gefnogi eu cymunedau, gan symud pobl drwy ddyfroedd llifogydd, ac ati.
Yn nhref Caerfyrddin ei hun, rydym wedi gweld llifogydd yn y cei unwaith eto, ac rwyf wedi codi'r angen i drin busnesau yn gyfartal â chartrefi o ran amddiffyn rhag llifogydd gyda'ch rhagflaenwyr sawl gwaith, Ddirprwy Brif Weinidog. Oherwydd mae'r busnesau hyn yn aml iawn yn fywoliaeth i'r unigolion hyn, ac yn y ffordd y mae cynlluniau amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cael eu drafftio ar hyn o bryd, caiff cymorth ei flaenoriaethu ar gyfer cartrefi, ac rwy'n deall hynny, ond mae diffyg cydnabyddiaeth i gymorth amddiffyn rhag llifogydd i fusnesau. Gwyddom fod y Cresselly Arms yn yr etholaeth sy'n ffinio â fy un i, sedd Adam Price, wedi dioddef llifogydd. Llifodd dŵr i nifer o fusnesau ar hyd y cei, ac yn sir Benfro hefyd. Felly, pa warantau y gallwch chi eu rhoi i'r Siambr hon ac i'n hetholwyr, yn dilyn y digwyddiad llifogydd hwn, y byddwch chi'n edrych i weld pa gymorth y gellir ei ddarparu, fel bod cydraddoldeb o ran amddiffyn rhag llifogydd i eiddo sy'n fusnesau hefyd?
Wel, yr her yma yw'r pwynt yr ydych chi newydd ei wneud ynghylch cydraddoldeb, oherwydd y berthynas agosaf i gydraddoldeb yw tegwch, ac rydym wedi ffurfio dull o weithredu sydd, fy marn i, yn cael ei gydnabod yn eang fel y mwyaf teg a chyfartal, sef ein bod yn canolbwyntio ar gartrefi a'r risg i fywydau o fewn cartrefi, yn ogystal â busnesau. Ond gadewch i mi ddweud yn glir iawn, oherwydd mae'n ymwneud â'r pwynt yr oedd Adam yn ei wneud hefyd, am y rhai nad ydynt yn gweld yr un lefel o gymorth â rhai o'r cynlluniau sy'n digwydd, fod yna, fel y dywedaf, lefel uwch nag erioed o fuddsoddiad.
Mae'r cei yn un diddorol, ac rwy'n gwybod eich bod wedi ei godi o'r blaen. Felly, CNC, fel yr awdurdod rheoli risg cyfrifol ar gyfer y risg o lifogydd o afon Tywi yng Nghaerfyrddin, sydd i farnu ynghylch cyflwyno cynllun lliniaru llifogydd yn y cei yng Nghaerfyrddin. Rhaid i'r holl gynlluniau sy'n derbyn cyllid rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru ddangos eu bod yn lleihau'r risg i fywyd drwy leihau'r risg i gartrefi, oherwydd dyna lle mae'r risg fwyaf arwyddocaol. Nawr, gall cynlluniau ddarparu dulliau o leihau risg i fusnesau hefyd, ac i seilwaith, fel budd ehangach. Fodd bynnag, cartrefi sy'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth ar gyfer cyllid. Gyda llaw, nid ydym yn bell o'r hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r DU ar hyn; mae'r ffocws ar gartrefi a bywydau yn ogystal â busnesau, ond cartrefi yw'r brif flaenoriaeth ar gyfer cyllid. Felly, bydd angen i unrhyw awdurdod rheoli risg sy'n gweithredu cynllun, yn cynnwys ar gyfer busnesau, gyfiawnhau pam ei fod yn dargyfeirio cyllid oddi wrth gymunedau risg uchel eraill mewn mannau eraill yn eich ardal chi neu yng Nghymru, a dyna'r penderfyniad y mae angen iddynt ei wneud.
Ond a gaf i ddweud hefyd fod swyddogion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn archwilio cyfleoedd gwydnwch ehangach, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig sy'n agored i lifogydd, i ddod o hyd i gyllid a buddsoddiad amgen i ddod yn fwy gwydn rhag llifogydd, gan eu helpu i dyfu ar yr un pryd? Hefyd, yn gysylltiedig â hynny, mae Banc Datblygu Cymru, er enghraifft, wedi cadarnhau y gall gefnogi busnesau llai yr effeithir arnynt gan lifogydd drwy gronfa microfenthyciadau Cymru, sy'n cynnig benthyciadau cyflym rhwng £1,000 a £50,000. Ac mae'n ddrwg gennyf, Adam, nid euthum i'r afael â'ch pwynt am yswiriant, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am gyfeirio pobl tuag at yr yswiriant Flood Re, sydd ar waith ar gyfer perchnogion tai, ond hefyd at Busnes Cymru ar gyfer y gefnogaeth a'r cyngor y gallant hwy eu rhoi i fusnesau.
Wrth gwrs, rydym wedi gweld tarfu eang. Rydym wedi gweld sawl ysgol yn cael eu gorfodi i gau yn sir Benfro a hefyd yn sir Gaerfyrddin, a hynny o ganlyniad i'r ffaith bod ffyrdd dan ddŵr. Rydym wedi gweld cyfadeilad tai Hendy-gwyn ar Daf, y cafodd pobl eu hachub ohono yn oriau mân y bore ac wrth gwrs, mae'r ymdrech a aeth i mewn i hynny wedi cael ei chanmol yma heddiw.
Ond mae yna rai pethau amlwg yma. Os ydych chi'n cael llawer o law a gwynt ar yr un pryd â lleuad lawn, pan fydd llanw uchel ar y ffordd, mae'r rhybudd yn mynd allan. Ac mae yna bethau amlwg eraill sydd angen mynd i'r afael â nhw. Pan fyddwch chi'n sôn am lifogydd dŵr wyneb, rhaid i chi sicrhau bod y ffosydd wrth ochr y ffyrdd yn glir, fod pawb sy'n gysylltiedig—tirfeddianwyr, cynghorau—o ddifrif ynghylch eu cyfrifoldebau, a bod gwaith yn digwydd ar y pethau hynny bob blwyddyn. Ac fe wyddom fod 14 mlynedd o gyni a llai o arian cyhoeddus wedi lleihau'r gallu i wneud hynny, ond rwy'n credu bod angen inni roi hynny yn ôl yn ei le ar frys. Felly, hoffwn wybod sut y mae'r pethau hynny'n mynd i gael eu hariannu.
Rydych chi'n iawn i ddweud, wrth gwrs, ac fe wneuthum ei wirio fy hun y bore yma, fod yr amddiffynfa rhag llifogydd gwerth £6 miliwn yn Rhydaman yn gwneud ei gwaith ac wedi diogelu'r tai y bwriadwyd iddi eu diogelu, ac mae hynny'n rhoi tawelwch meddwl, yn enwedig gan mai dyna y gobeithiem ei weld yn digwydd. Ond nid yw newid hinsawdd yn mynd i ddiflannu, ac rwy'n gofyn i chi, Ddirprwy Brif Weinidog, a oes angen i ni ailedrych ar rai o'r ceisiadau cynllunio sydd ar y bwrdd, a'r rheolau cynllunio, yng nghyd-destun y glaw trwm a welwn nawr a allai roi ardaloedd nad oeddent yno o'r blaen mewn gorlifdir, ac yn y tymor byr iawn, gan nad wyf yn credu mai mater ar gyfer y tymor byr ydyw.
Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol iawn, mae angen inni wneud yn siŵr drwy'r polisi cynllunio ond hefyd y penderfyniadau unigol sy'n cael eu gwneud ar lefel leol fod gwydnwch rhag llifogydd wedi'i adeiladu i mewn i unrhyw gymunedau newydd, oherwydd mae gennym ymgyrch i gael mwy o dai fforddiadwy mewn cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ond mae angen iddynt fod yn y lle iawn ac yn wydn rhag llifogydd, neu fel arall rydym yn pentyrru problemau ar gyfer y dyfodol.
Fe wnaethoch chi sôn am fater ffosydd a chyrsiau dŵr, sy'n rhywbeth yr ydych chi ac eraill, gan gynnwys Carolyn, ein cyd-Aelod, wedi'i godi yma yn rheolaidd. Rwyf am ailadrodd cyfrifoldeb perchnogion glannau afonydd mewn perthynas â chyrsiau dŵr, yn cynnwys ffosydd a draeniau ac yn y blaen, oherwydd os ydynt wedi'u blocio neu eu dargyfeirio, gallent ychwanegu at y broblem. Nid wyf yn sôn am yr amgylchiadau penodol hyn heddiw, ond mae'n egwyddor gyffredinol. Nid lle awdurdodau lleol a chyrff statudol yn unig yw mynd o gwmpas yn clirio pethau'n barhaus, mae gan berchnogion glannau afonydd gyfrifoldeb hefyd. Ond rhaid i mi ddweud, roedd pwynt Sam yn gysylltiedig â hynny, pan ddywedodd mai rhai o'r perchnogion glannau afonydd hynny yw'r ffermwyr sy'n gwneud y gwaith o helpu pobl allan o'r sefyllfaoedd hyn hefyd, felly rhaid inni roi clod lle mae'n ddyledus.
Roeddwn i eisiau cyffwrdd â'r agwedd arall yr ydych chi ac eraill wedi'i chrybwyll, sy'n ymwneud â'r hyn y gallwn ei wneud gyda rhybuddion ac yn y blaen. Mae'n bendant yn wir fod y £60 miliwn a roddwyd gennym tuag at uwchraddio'r rhybuddion yng Nghymru wedi bod yn arian a wariwyd yn dda, ond yr hyn sydd angen i ni ei wneud nawr yw gweithio gyda chymunedau i wneud yn siŵr, nid yn unig fod y rhybuddion yn mynd allan, ond bod pobl yn deall sut i ymateb iddynt, gyda'r tair lefel wahanol, a beth i'w wneud, ac i roi sylw iddynt, ac i weithio gyda'n gilydd ar sail gymunedol i ymateb. Oherwydd nid yw'n bob dyn, menyw a phlentyn drostynt eu hunain—nid felly y dylai fod. Dylai fod yn fater o sut ydych chi'n ymateb wedyn, lle mae'r asiantaethau statudol yn dod i mewn, a'r ymatebwyr, ond hefyd, sut y gall cymunedau helpu eu hunain, a chefnogi ei gilydd. Ond mae hwnnw'n waith sydd ar y gweill gennym, oherwydd mae rhoi'r dechnoleg ar waith, cael y rhybuddion i fynd allan, yn un agwedd ar y gwaith, ond y prif beth yw sut y mae pobl yn ymateb i hynny.
Rŷn ni i gyd wedi gweld y lluniau torcalonnus neithiwr a'r bore yma ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol. Dwi eisiau diolch yn fawr iawn i'r gwasanaethau brys hefyd am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud dros nos ac yn ystod y bore.
Yn digwydd bod, dwi'n byw ar lawr dyffryn Tywi. Ro'n i ar y ffôn gyda fy ngwraig y bore yma, ac rŷn ni wedi cael ein hynysu. Ond, yn anffodus, yn y cartref drws nesaf i ni, mae naw modfedd o ddŵr wedi mynd i mewn, ac mae hi'n cael llifogydd yn y tŷ bob tro y mae'r afon yn gorlifo. Felly, dwi eisiau dilyn y pwynt roedd Adam Price wedi ei godi ynglŷn â pha gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer perchnogion eiddo sydd o hyd ac o hyd yn dioddef llifogydd. Mae hi wedi ceisio cael cymorth ariannol ac mae hi wedi cael ei gwrthod dro ar ôl tro. Felly, dwi eisiau gofyn ichi am y cymorth yna sydd ar gael i eiddo mewn ardaloedd gwledig.
Wrth gwrs, mae ysgolion yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro wedi cau heddiw, a nifer o ddisgyblion i fod i sefyll arholiadau TGAU heddiw ac yfory. Felly, pa gefnogaeth sydd ar gael, a pha drefniadau sydd wedi cael eu gwneud, i sicrhau nad yw'r disgyblion yma'n dioddef mewn unrhyw ffordd oherwydd eu bod nhw wedi methu â sefyll yr arholiadau yna heddiw, ac, o bosibl, yfory?
Yn olaf, rŷn ni wedi gweld y lluniau o dafarn y Creseli ym Mhontargothi dan ddŵr a'r difrod difrifol fan yna. Felly, ydych chi'n gallu'n sicrhau ni bod yna ddigon o gapasiti gan NRW, er enghraifft, i gynnal a chadw glannau afonydd, er mwyn gwneud yn siŵr nad oes brigau mawr a choed yn cwympo i mewn i'r dŵr ac yn cael eu dal wrth y bont, sydd yn golygu bod y dŵr wedyn yn codi i lefel uwch nag arfer yn uwch i fyny'r afon? Felly, mae'r rhain i gyd yn bethau y gellid eu datrys a gwneud bywyd yn haws i bobl sydd yn byw yn yr ardaloedd yma.
Diolch yn fawr, Cefin. Fel bod pawb yn ymwybodol, gan ein bod wedi crybwyll rhai o'r llifogydd mwyaf dwys a welsom, yn y lluniau, fel y dywedwch yn gywir ddigon, dros y 24 awr ddiwethaf, cafwyd adroddiadau o ddifrod llifogydd i 60 eiddo preswyl, 28 ohonynt yn sir Gaerfyrddin, 12 yn sir Benfro, 18 yng Ngheredigion, a dau yn Abertawe. Felly, mae wedi bod yn eithaf eang.
Rydych chi'n gofyn ynglŷn â'r cymorth i ddeiliaid tai. Rwyf wedi sôn am Flood Re, sef yr yswiriant, ond mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi menter Ailgodi’n Gryfach Flood Re, yr ydym wedi sôn amdani yn y Siambr hon o'r blaen. Rydym wedi gofyn i'r awdurdodau rheoli risg ein helpu i hyrwyddo ymwybyddiaeth ohoni, gan ei bod yn caniatáu i yswirwyr sy'n rhan o'r fenter gynnig hyd at £10,000 tuag at fesurau gwydnwch rhag llifogydd i eiddo wrth atgyweirio cartrefi ar ôl llifogydd. Gallant fod yn ymyriadau syml ac uniongyrchol iawn i atal llifogydd i'r eiddo unigol hwnnw, neu, os ceir llifogydd eto, fod gennych bethau fel dim sgertins pren, a fydd yn cael eu golchi i ffwrdd, neu beth bynnag, mae gennych bwyntiau trydan wedi'u gosod yn uwch i fyny, ac ati, fel y gallwch fod yn ôl ar eich traed yn llawer cyflymach.
Fe wnaethoch chi godi mater ysgolion. Yn wir, cafodd sawl ysgol ei chau. Mae fy swyddogion a minnau wedi bod mewn cysylltiad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg hefyd, gan fod cwestiwn ynglŷn â'r rhai yr effeithiwyd ar eu haddysg, ac arholiadau heddiw, yn wir. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn cysylltiad ag ysgolion ar y mater hwnnw a sut y gellir mynd i'r afael â hynny, gan fod hwn yn ddigwyddiad annisgwyl, ond bydd angen ystyried y pethau hynny hefyd. Ar hyn o bryd, mae'r ymateb yn dal i fynd rhagddo, mae angen inni helpu busnesau a pherchnogion tai i ddychwelyd i'w heiddo cyn gynted â phosib, a'i adfer, yn ogystal â sicrhau bod yr addysg yn parhau'n ddi-dor hefyd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf, Sam Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, ar Ddiwrnod Strôc y Byd, cawsom ein hatgoffa o argyfwng iechyd nad yw gormod o bobl yng Nghymru'n ei ddeall yn iawn o hyd: strôc. Datgelodd ymchwil newydd gan y Gymdeithas Strôc nad yw dwy ran o dair o bobl yng Nghymru'n gwybod mai strôc yw prif achos anabledd cymhleth mewn oedolion.
Bob dydd yn y DU, mae 240 o bobl yn cael strôc, gan eu gadael yn aml yn methu symud, siarad, gweld na hyd yn oed llyncu. Strôc yw'r pedwerydd lladdwr mwyaf yn y DU o hyd, ond mae ymwybyddiaeth o'r effaith hirdymor yn frawychus o isel. Yma yng Nghymru, mae oddeutu 70,000 o bobl yn byw gydag effeithiau strôc, ac mae dwy ran o dair yn cael anabledd gydol oes. Yn syfrdanol, dim ond 35 y cant o oroeswyr sy'n cael yr adolygiad chwe mis hanfodol i asesu eu hanghenion adfer; dyna'r gyfradd isaf yn y chwe blynedd diwethaf.
Mae sefydliadau fel y Gymdeithas Strôc yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu i wneud gofal strôc yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae hynny'n golygu mynediad 24/7 at driniaethau sy'n achub bywydau, gwasanaethau iechyd meddwl gwell, ac adsefydlu parhaus i bob goroeswr, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
Gall strôc newid bywyd mewn amrantiad, ond gyda'r gofal a'r ymrwymiad cywir, mae adferiad yn bosib. Gadewch inni adeiladu ar neges Diwrnod Strôc y Byd a sicrhau bod pob goroeswr strôc yng Nghymru'n cael cyfle nid yn unig i oroesi, ond i fyw'n dda ac i ffynnu. Diolch.
Rio de Janeiro, Barcelona, Melbourne, Seattle: rhai o ddinasoedd llên UNESCO yw’r rhain. A nawr mae Aberystwyth wedi ymuno â’r rhestr. Yr wythnos diwethaf, daeth y newyddion gwych fod cais llwyddiannus y bartneriaeth leol wedi llwyddo, a bod Aberystwyth Ceredigion i'w dynodi yn ddinas llên UNESCO, y cyntaf yng Nghymru, y chweched o fewn y Deyrnas Gyfunol, ac yn un o ddim ond tua 50 ar draws y byd.
Bydd y rhai craff yn eich plith yn dweud, 'Ond dyw Aberystwyth ddim yn ddinas'. Cywir. Ddim yn ystyr ffurfiol y term. Ond mae’n bihafio ac yn perfformio fel dinas. Mae’n gartref i brifysgolion, i gyrff cenedlaethol diwylliannol a llenyddol, i siopau a gwyliau llyfrau, i gyhoeddwyr, awduron, dylunwyr—yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae yna draddodiad hir yn Aberystwyth a Cheredigion o lenydda, barddoni, cyhoeddi. Aberystwyth yw’r unig dref yng Nghymru i benodi bardd y dref. Felly, nid teitl yn unig yw’r dynodiad yma, mae’n adlewyrchu bwrlwm llenyddol presennol yr ardal, ac yn rhoi llwybr i ddefnyddio’r statws a'r sector i hybu'r economi leol ac i annog cynhwysiant a dysg i’r dyfodol.
Yng ngeiriau cadeirydd dinas llên Aberystwyth Ceredigion, Mererid Hopwood, 'O’n gwobr nawr i’n gwaith'. Felly, llongyfarchiadau, Aberystwyth Ceredigion. Drwy ffawd ffortunus, yn y rhestr rhyngwladol o ddinasoedd llên y byd, Aberystwyth sydd ar frig y rhestr. Mae’n handi, weithiau, cael enw sy’n dechrau gydag 'Ab'.
Diolch i chi'ch dau.
Eitem 5 yw'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, newidiadau sy’n deillio o Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025. Galwaf ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Paul Davies.
Cynnig NDM9033 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 1 Ionawr 2026.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cynnig yw diwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 yw'r cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, Rheol Sefydlog 17: pleidleisio mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan a chyfrifoldeb am fynediad i gyfarfodydd. Galwaf ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Paul Davies.
Cynnig NDM9032 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 17: pleidleisio mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan a chyfrifoldeb am fynediad i gyfarfodydd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2025.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cynnig yw diwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nesaf mae'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. Galwaf ar Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Paul Davies.
Cynnig NNDM9037 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 7, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil i wahardd defnyddio plastig untro ar ffrwythau a llysiau. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8985 Rhys ab Owen
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd defnyddio plastig untro ar gynnyrch ffres ar gyfer ffrwythau a llysiau sydd wedi cael eu profi i fod o ddim budd neu fod y budd yn ddibwys, o ran ymestyn oes silff pan fyddant wedi'u pecynnu mewn plastig.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) lleihau faint o blastig untro diangen sydd ar draws cadwyni cyflenwi Cymru, gan ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl;
b) lleihau gwastraff bwyd a lleihau'r baich ar gyllid cartrefi drwy ganiatáu i ddefnyddwyr brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnynt yn seiliedig ar bwysau.
3. Yn nodi y byddai'r Bil yn berthnasol dim ond wrth brynu ffrwythau a llysiau mewn symiau is na 1.5kg.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr am y cyfle i gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol yma. Dwi'n siŵr bod pob un ohonom ni sydd yn y Siambr y prynhawn yma, wrth i ni siopa, neu wrth i ni dderbyn pecyn yn y post, yn cwestiynu pam bod cymaint o becynnu ynghylch yr hyn rŷn ni'n ei dderbyn. Yn sicr, pan ŷn ni'n trio stwffio'r pecynnu i mewn i'r bin ailgylchu, ac yn aml i'r bin sydd ddim yn fin ailgylchu, achos bod dim modd inni ailgylchu'r pecynnu, rŷn ni'n diawlio hyd yn oed yn fwy pam yn y byd rŷn ni'n derbyn cymaint o becynnu plastig untro.
Mae'r peth hyd yn oed yn fwy rhyfeddol pan ŷn ni'n dod at ffrwythau a llysiau—pethau sydd yn aml â gorchudd naturiol yn barod, gorchudd llawer gwell nag unrhyw beth y mae dyn yn gallu ei gynhyrchu. Yn ôl yr elusen wrth-wastraff WRAP, nid yw pecynnu plastig yn gwneud unrhyw wahaniaeth i hirhoedledd dros 20 o ffrwythau a llysiau—nifer ohonyn nhw y ffrwythau a'r llysiau mwyaf poblogaidd sy'n cael eu defnyddio a'u bwyta fwyaf. Yn syml, mae pecynnu plastig yn aml yn wastraff llwyr, yn hollol ddiangen, ac yn hollol ddibwrpas. Dŷn ni ddim eu hangen nhw o gwbl.
Y cynnig hwn yw na ddylid pecynnu'r eitemau hynny mewn plastig. Dylid eu gwerthu yn ôl pwysau a'u rhoi mewn bag papur, os oes angen, i'w cludo adref. Oherwydd mae hyn yn fwy na mater amgylcheddol yn unig. Pan fydd pethau wedi'u pecynnu ymlaen llaw mewn plastig, fe wyddom fod yn rhaid i chi eu prynu fel y maent, ac mae'n rhaid ichi brynu'r hyn sydd eisoes yn y pecyn. Yn aml iawn, ni fyddai teulu angen popeth sydd eisoes wedi'i bennu ar eu cyfer ac sydd eisoes wedi'i roi yn y cynhwysydd plastig. Ac i'r rhai sy'n byw drwy argyfwng costau byw, mae hyn yn achosi caledi diangen iddynt. Maent yn gwario eu harian ar bethau nad oes eu hangen arnynt, ac mae hynny'n eu hatal rhag gwario arian ar bethau sydd eu hangen arnynt.
Mae ymchwil wedi canfod bod deunydd pecynnu plastig yn cyfrannu at werth £2.1 biliwn o wastraff bwyd yn y DU—gwerth £2.1 biliwn o wastraff bwyd bob blwyddyn. Mae eitemau sydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw'n ddiangen mewn plastig, mewn cyfeintiau penodol, yn dod ar draul gallu fforddio eitem wahanol. Mae mor syml â hynny. Mae'n eu hatal rhag prynu eitem wahanol a allai gyfrannu at ddeiet iachach a mwy amrywiol.
Fel y gŵyr pob un ohonom, bu cynnydd enfawr mewn banciau bwyd yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—cynnydd o 61 y cant yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell. Mae bwyd yn dod yn fwyfwy anfforddiadwy i lawer, a gall y gallu i brynu gwahanol fwydydd mewn cyfeintiau llai helpu i wneud y gwahaniaeth i gael yr holl gynhwysion sydd eu hangen ar gyfer pryd iach a phriodol.
Wrth awgrymu'r risg hon, roeddwn hefyd yn ystyried risg hirdymor plastig. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi'i godi gyda chi ar sawl achlysur, Ddirprwy Brif Weinidog. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae plastig yn dadelfennu mewn sawl ffordd wahanol, ac mae llawer ohonynt yn peri risgiau difrifol i iechyd a risgiau sydd heb eu profi. Pan fydd plastig yn dadelfennu'n ficroplastigion, caiff ei amsugno i'r corff dynol, ac mae bellach wedi'i ganfod ym mhob organ yn y corff, gan gynnwys ein hymennydd. Mae microplastigion hefyd wedi'u cysylltu ag anhwylderau ym mhob system yn y corff. Er enghraifft, canfu astudiaeth y llynedd gan y New England Journal of Medicine, pan ganfuwyd microplastigion a nanoplastigion yn y plac ar rydweli goronaidd, fod yr unigolyn yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon, strôc neu o farw. Mae hyn yn frawychus, ac yn ymwneud â phethau nad ydynt wedi'u profi ddigon yn y wlad hon.
Mae plastig o bob maint, o sbwriel gweladwy i ficroplastigion a'r cemegau am byth sy'n deillio o hynny, hefyd yn cael effaith ar yr amgylchedd a'n hecosystem. Effeithir ar anifeiliaid o bob maint mewn sawl ffordd. Yn 2023, cyhoeddwyd papur yn manylu ar sut y mae adar môr gwyllt yn dioddef o'r hyn a elwir yn 'plasticosis'. Nawr, math o ffeibrosis yw hwn a achosir gan blastig sy'n atal y system dreulio rhag gweithio'n iawn. Dim ond un enghraifft yw hynny. Felly, mae lleihau faint o blastig sy'n cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio a'i daflu yn hanfodol ar gyfer byd iach.
Er gwaethaf hyn, mae'r defnydd o blastig yn parhau i gynyddu ac mae wedi cynyddu'n sylweddol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Dyma'r ffigurau i chi: mae cynhyrchiant plastig blynyddol wedi cynyddu o 230 miliwn tunnell yn 2009 i dros 350 miliwn tunnell yn y flwyddyn 2019. Nawr, gall pob un ohonom yma gofio'r flwyddyn 2009. A oedd ein bywydau mor ddramatig o anghyfleus heb 100 miliwn tunnell ychwanegol o blastig? Wrth gwrs nad oeddent. Nid oes angen yn agos at faint o blastig sydd yn ein cadwyni cyflenwi ar hyn o bryd.
Nawr, mae rhai pobl yn edrych yn ôl tua'r gorffennol yn rhy aml, ond credaf fod hon yn enghraifft dda o edrych yn ôl tua'r gorffennol. Ac mae'n dal i ddigwydd mewn rhai mannau: mae siopau llysiau a ffrwythau, stondinau marchnad a llawer o siopau cornel eisoes yn gweithredu, ac wedi gweithredu dros y blynyddoedd, ar yr egwyddor o brynu'r hyn rydych chi ei eisiau'n unig o focs o gynnyrch nad yw wedi'i lapio mewn plastig. A dyna sut y mae ffrwythau a llysiau wedi cael eu prynu dros y canrifoedd. Dyna sut oedd ein neiniau a'n teidiau'n siopa. Dyna sut y dylem ni a'n plant siopa. O ran ymarferoldeb, rwy'n credu y byddai pasio Bil ar yr egwyddor hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu a thynnu eitemau oddi ar y rhestr pan fyddant yn gweld beth sy'n gweithio'n ymarferol a beth nad yw'n gweithio, ac ymateb i hynny wedyn.
Dyma gynnig a fydd yn adeiladu ar waith arloesol y Senedd pan mae'n dod i daclo plastig untro. Mawr obeithiaf y bydd y Senedd yn ystyried y ddeddfwriaeth yma yn y dyfodol. Mae'r manteision i fi yn hollol amlwg. Edrychaf ymlaen at wrando ar eich cyfraniadau. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am godi'r mater hwn a'i argymell fel cynnig deddfwriaethol. Rwy'n credu ei bod yn broblem fwy o lawer nag a sylweddolwn, ac mae'r halogiad hwn yn tarddu o amryw ffynonellau, drwy'r pridd a'r deunydd pecynnu plastig, gyda ffrwythau, llysiau, ynghyd â bwyd môr, yn cael eu heffeithio'n fwyaf arbennig. Felly, nid oes unrhyw reswm dros ei wneud, ac mae mwy a mwy o wybodaeth yn dod i'r amlwg, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn New Mexico a mannau eraill, i ddangos ei fod yn treiddio i'n hymennydd ac yn pasio drwy'r rhwystr gwaed-ymennydd. Roedd y samplau yn New Mexico, a gymerwyd yn 2024, yn sylweddol uwch nag yn 2016. Mae'r gwaith a wnaed gan Brifysgol Caerdydd, gan weithio gyda'r gwaith trin dŵr gwastraff yng Nghasnewydd, sy'n cael ei redeg gan Dŵr Cymru, yn dangos lefelau sylweddol iawn mewn dŵr gwastraff, sy'n aml, ledled Ewrop, yn cael ei wasgaru ar dir amaethyddol, ar ôl cael ei drin, ac mae hyn yn amlwg yn cyflwyno'r plastig yn ôl i'r system gynhyrchu bwyd.
Buaswn yn argymell yn arbennig i unrhyw un beidio ag yfed dŵr o boteli dŵr plastig—gall ychwanegu oddeutu chwe gwaith yn fwy o ficroplastigion i'ch system o gymharu â dŵr tap yn unig. Felly, mae'r holl bethau hyn yn cronni, a buaswn yn awgrymu nad er mwyn cadw'r ffrwythau a'r llysiau'n ffres yn unig y mae'r archfarchnadoedd yn gwneud hyn—maent yn gwneud hyn er mwyn plesio'r cyfrifwyr yn eu sefydliadau fel y gallant nodi'n union beth sy'n cael ei werthu a phryd.
Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni newid y ffordd y gwnawn bethau, ac os oes angen, lapio pethau mewn bagiau papur neu bapurau newydd, sy'n hawdd eu defnyddio am ddim. Felly, diolch yn fawr i chi am godi'r mater hwn, ac rwy'n gobeithio y gallwn ei ystyried o ddifrif ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol.
Ni wneuthum oedi o gwbl pan ofynnodd Rhys ab Owen i mi ei gefnogi ar hyn. Yn sicr, fel aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd dros y blynyddoedd, mae tystiolaeth a ddaeth i law yn profi sut y mae angen deddfwriaeth nawr a fyddai'n atal cymaint o blastig rhag cael ei ddefnyddio. Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) wedi rhoi ein cenedl ar y llwybr cywir, ond nid ydym wedi mynd yn ddigon pell. Yn 2013-14, cafodd 13,781 tunnell o blastig cymysg ei waredu o gartrefi. Ddegawd yn ddiweddarach, mae'r ffigur wedi cynyddu i 20,384 tunnell.
Mae digwyddiadau glanhau traethau'r Gymdeithas Cadwraeth Forol—ac rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl un—wedi nodi mai plastig yw 72 y cant o'r holl eitemau sbwriel a gofnodwyd yn 2024. Ni allwn anghofio bod llygredd microplastigion wedi'i ganfod mewn gwaed dynol, gyda gwyddonwyr yn canfod y gronynnau bach mewn bron i 80 y cant o'r bobl a brofwyd. Gorau po fwyaf y gallwn ei wneud i leihau'r defnydd diangen hwn o blastig. Byddai gwaharddiad ar ddefnyddio plastig untro ar gynnyrch ffrwythau a llysiau ffres yn gam i'r cyfeiriad cywir. Pwy ar y ddaear sydd angen bananas wedi'u lapio? Maent yn dod yn eu croen amddiffynnol eu hunain. Wyddoch chi, rydym hyd yn oed yn gweld wyau nawr mewn cynwysyddion polystyren a chaead plastig tebyg i bolystyren—nid oes ei angen. Mae tystiolaeth rhaglen weithredu'r cynllun gwastraff ac adnoddau (WRAP) yn dangos y gallai gwerthu afalau, bananas a thatws yn rhydd atal 8 miliwn llond basged siopa o fwyd rhag mynd yn wastraff, gyda'r fantais ychwanegol o ddileu gwerth oddeutu 1,100 o lorïau sbwriel o blastig y gellir ei osgoi bob blwyddyn. Byddai hefyd, fel y nodwyd yn gywir yn gynharach, yn arbed arian i'n trigolion. Mae bron i 1.7 miliwn tunnell o ffrwythau a llysiau bwytadwy yn cael eu taflu bob blwyddyn, gan gostio £4 biliwn i ni.
Felly, mewn argyfwng costau byw a hinsawdd, mae cefnogi cynnig deddfwriaethol sy'n grymuso trigolion i brynu'r hyn sydd ei angen arnynt a dim mwy, a lleihau unrhyw wastraff ar yr un pryd, yn synnwyr cyffredin. Mewn gwirionedd, byddai'r cynnig deddfwriaethol hwn yn gweithio. Am gannoedd o flynyddoedd, mewn marchnadoedd fel Llanrwst, Abertawe, Machynlleth, mae cynnyrch wedi cael ei werthu'n rhydd. Dyna sut y byddai pethau'n cael eu gwneud flynyddoedd lawer yn ôl, ac nid oedd unrhyw broblem bryd hynny. Mae pobl eisiau dewis yr hyn y maent eisiau ei brynu a'i angen. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na ddylid grymuso mwy o bobl i wneud hynny eto, ac felly diolch, Rhys, am gyflwyno hyn. Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i fwrw ymlaen â hyn. Gofynnaf i bob Aelod gefnogi'r cais synnwyr cyffredin hwn, a diolch i WRAP hefyd am y gwaith a wnânt. Diolch.
Hoffwn ddiolch hefyd i Rhys ab Owen am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol pwysig hwn heddiw. Roeddwn yn falch o'i gefnogi. Mae'r cynnig yn un syml, ond byddai ei effaith yn sylweddol, gan leihau faint o blastig diangen a ddefnyddir ledled Cymru a faint o fwyd cwbl fwytadwy sy'n mynd i'r bin. Mae Cymru bob amser wedi arwain y ffordd yn y gorffennol. Ni oedd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau plastig, ac fe weithiodd. Gostyngodd y defnydd o fagiau siopa fwy na 95 y cant a daeth y camau beiddgar hynny i fod yn fodel i eraill ei ddilyn. Gweithiais ochr yn ochr â Cyfeillion y Ddaear yn flaenorol i sicrhau ymrwymiadau gan y consortiwm manwerthu i osod drysau ar oergelloedd mewn archfarchnadoedd. Roedd yn gam ymarferol sy'n lleihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon. A chynnig heddiw yw'r cam rhesymegol nesaf i leihau effaith ein harchfarchnadoedd a'n cadwyni cyflenwi bwyd ar yr hinsawdd.
Mae tystiolaeth yn dangos ein bod yn dechrau colli tir, ac mae ymchwil gan yr elusen gwrth-wastraff WRAP yn datgelu mai dim ond 19.4 y cant o'n gwerthiant cynnyrch ffres sy'n cael ei werthu'n rhydd, o gymharu â 50 y cant ar dir mawr Ewrop. Mae Ffrainc eisoes wedi mynd gam ymhellach, gan basio deddfwriaeth i wahardd deunydd pecynnu plastig ar gynnyrch ffres yn gyfan gwbl. Os gall Ffrainc ei wneud, pam na all Cymru? Rydym wedi gwneud cynnydd ar ailgylchu plastig yn y blynyddoedd diwethaf, gydag archfarchnadoedd bellach yn casglu deunydd pecynnu i'w ailddefnyddio. Ond mae'r gwir yn llwm: mae oddeutu 70 y cant o'r plastig a gesglir yn dal i gael ei losgi. Nid ailgylchu mwy o blastig yw'r ateb gorau, ond creu llai ohono yn y lle cyntaf.
Bob blwyddyn, mae pobl yn y DU yn cael gwared ar werth oddeutu £2 biliwn o ffrwythau a llysiau, ac nid yw deunydd pecynnu'n datrys y broblem honno, mae'n ei gwaethygu. Mae astudiaethau'n dangos nad yw lapio ffrwythau a llysiau mewn plastig yn ymestyn eu hoes silff. Mae'n gorfodi cwsmeriaid i brynu mwy nag sydd ei angen arnynt, gan arwain at wastraffu 30 y cant o gynnyrch. Mae'r cyhoedd eisiau newid: mae 83 y cant o ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn poeni ynghylch faint o blastig sydd yn y bwyd y maent yn ei siopa, ac mae'r cynnig hwn yn ymateb yn uniongyrchol i'r pryder hwnnw. Drwy roi'r gorau i ddefnyddio pecynnu plastig dibwynt lle nad yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth i oes silff, gallwn leihau gwastraff, torri costau a diogelu ein hamgylchedd. Felly heddiw, Aelodau, mae gennym gyfle i gymryd cam balch arall ymlaen i adeiladu ar hanes Cymru o arwain mewn cynaliadwyedd a thegwch. Gadewch inni weithredu lle sydd bwysicaf i ni wneud hynny, a dangos unwaith eto y gall newidiadau bach, synhwyrol wneud gwahaniaeth parhaol. Diolch yn fawr.
Diolch i Rhys am gyflwyno'r cynnig hwn.
Ymadrodd braidd yn drwsgl, braidd yn hyll a ddefnyddir weithiau pan ddywedwn fod rhywbeth mor amlwg fel bod angen ei wneud yw ei fod yn 'no-brainer'. Mae'n teimlo fel pe bai hyn yn 'no-brainer', ond mae braidd yn erchyll clywed gan Jenny fod microplastigion bellach wedi'u canfod yn yr ymennydd; maent wedi'u canfod mewn llaeth y fron, maent wedi eu canfod yn ein gwaed. Mae hyn yn rhywbeth sy'n llythrennol yn treiddio i'n bywydau, ac mae'n rhywbeth y mae pobl ifanc yn teimlo mor angerddol yn ei gylch. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni warchod rhagddo er eu mwyn nhw. Mae'n rhywbeth y mae plant ifanc iawn yn teimlo'n angerddol yn ei gylch hefyd gan mor frawychus y bydd hyn iddynt. Mae mor bwysig ein bod yn newid hyn.
Hoffwn i ar y mater yna ddyfynnu eco-bwyllgor Ysgol y Lawnt yn fy rhanbarth, ac maen nhw wedi dweud, 'Rydym ni'n ceisio torri lawr ar faint o blastig untro dŷn ni'n defnyddio yn yr ysgol. Rydyn ni'n gwneud hyn oherwydd rydyn ni'n bryderus am yr effaith ar anifeiliaid, yn enwedig anifeiliaid yn y môr fel crwbanod, sy'n meddwl eu bod nhw'n llyncu pysgodyn jeli.' Mi wnaeth y plant ddarganfod taw'r caffi yn eu hysgol oedd y lle gwaethaf ar gyfer y plastig untro. Fe wnaethon nhw berswadio'r ysgol i ddefnyddio bagiau papur yn lle clingfilm am fyrbrydau. Ac mi wnaeth yr eco-bwyllgor hefyd ffeindio bagiau creision a bagiau plastig ar iard yr ysgol ac mewn afon gyfagos. Roedd y plant yn poeni bod y dŵr yn cario'r plastig i lawr i Gaerdydd, i mewn i'r môr. Mae'r plant yma eisiau gweld Llywodraethau yn codi treth ar blastig er mwyn sicrhau bod cwmnïau mawr yn defnyddio pacedi wedi eu gwneud mas o blanhigion yn lle plastig a pherswadio cwmnïau i ddefnyddio deunyddiau sydd yn fwy eco-gyfeillgar.
Hoffwn i ddiolch i'r plant yn yr ysgol hon am eu brwdfrydedd a phlant a phobl ifanc dros Gymru sydd yn credu mor gryf yn yr angen i leihau plastig untro. Gall y mesurau yn y cynnig hwn fod yn ddechreuad. Felly, er mwyn plant cenedlaethau'r dyfodol, er mwyn y plant sydd yn byw heddiw, rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Felly, diolch Rhys, dwi'n meddwl gall hyn wneud gwahaniaeth. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch hefyd i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac i'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau gwerthfawr heddiw ar y Bil arfaethedig i wahardd defnyddio plastig untro ar ffrwythau a llysiau ffres.
Rwy'n credu y bydd llawer o'r Aelodau yma yn y Siambr hwn—ac yn wir, llawer o aelodau'r cyhoedd yng Nghymru—yn rhannu'r dryswch a'r rhwystredigaeth y mae'r Aelodau yma'n aml yn ei deimlo wrth weld cymaint o'n cynnyrch ffrwythau a llysiau naturiol yn eu crwyn naturiol eu hunain yn cael eu lapio mewn plastig ar ben hynny. Felly, yr hyn rwy'n mynd i geisio ei wneud yn fy ymateb i'r ddadl hon yw mynd o dan groen y cynnig hwn a chynnig syniadau Llywodraeth Cymru yn ei gylch. Nawr, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru, fel y nododd Carolyn ac eraill, wedi sicrhau bod lleihau ac atal gwastraff yn cael lle canolog wrth lunio polisïau, boed hynny drwy fynd i'r afael â llygredd plastig neu annog ailgylchu, ac mae'n rhaid imi ddweud, lleihau gwastraff bwyd diangen. Rydym wedi bod yn falch o arwain y ffordd ledled y DU, fel y nodwyd. Felly, rydym yn gwneud cynnydd sylweddol ar hyn drwy'r rhaglen lywodraethu, ac mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023, sy'n arloesol—ac mae'n dal i fod yn arloesol—er enghraifft, eisoes wedi cyfyngu ar gyflenwad sawl cynnyrch plastig untro sy'n cael ei daflu fel sbwriel, fel gwellt, cyllyll a ffyrc a ffyn cotwm plastig. Ac rwy'n falch iawn fod y rheoliad ar weips gwlyb wedi cael cydsyniad y Senedd hon unwaith eto yr wythnos diwethaf. Felly, unwaith eto, rydym yn gwthio yn ein blaenau. Ac rydym yn falch o gael ein cydnabod—nid wyf byth yn blino ar ddweud hyn, Ddirprwy Lywydd—fel y gorau ond un drwy'r byd, yr ail o drwch blewyn, mewn perthynas ag ailgylchu trefol. Ac nid ydym yn bodloni ar hynny; rydym yn cyflwyno'r diwygiadau newydd i ailgylchu yn y gweithle ac yn treialu casglu plastig hyblyg hefyd, sy'n berthnasol i'r ddadl heddiw, i hybu ein cyfraddau ailgylchu yn fwy eto. Mae gwaith i'w wneud ar fater plastig hyblyg. Ac mae'n bwysig nodi hefyd fod y math hwn o ddeunydd pecynnu bwyd eisoes yn cael sylw drwy'r cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Nawr, mae hynny'n ddiddorol iawn, gan fod hynny'n rhoi cymhelliant i gynhyrchwyr leihau'r deunydd pecynnu diangen drwy eu gwneud yn gyfrifol am y costau cysylltiedig. Nawr, ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru'n derbyn £89 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i gefnogi'r gwaith o gasglu a rheoli'r deunyddiau hyn, ond mae'r cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, wrth gwrs, yn seiliedig ar yr egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu, felly mae'n rhoi cymhelliant i'r cynhyrchwyr hynny dros amser i leihau a lleihau deunydd pecynnu diangen ac osgoi costau iddynt hwy, yn ogystal â'r defnyddwyr.
Ac wrth gwrs, mae ein strategaeth economi gylchol, sef 'Mwy nag Ailgylchu', yn gosod targed uchelgeisiol ar gyfer gwastraff bwyd, sef gostyngiad o 60 y cant mewn gwastraff bwyd y gellir ei osgoi erbyn 2030. Wrth gwrs, ochr yn ochr â hyn, mae gennym yr ymgyrch Bydd Wych sy'n mynd i'r afael â gwastraff bwyd, yn grymuso aelwydydd, yn gweithio gydag aelwydydd, i wneud dewisiadau mwy doeth—mae sylwadau eisoes wedi'u gwneud gan Aelodau am y cyfeintiau enfawr o wastraff bwyd sy'n mynd i'r bin ar hyn o bryd; mae'n eithaf syfrdanol—felly, defnyddio'r hyn y mae pobl yn ei brynu a phrynu'n gyfrifol, a gwefan ac ymgyrch Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff, ac ymgyrchoedd ymarferol, yn cynnwys yr hyn a welwn yr wythnos hon, gyda llaw, gan Gweithredu ar Newid Hinsawdd—awgrymiadau ymarferol bob dydd i bobl i helpu i leihau gwastraff bwyd.
Ac wrth gwrs, rydym yn darparu cyllid i FareShare Cymru, sy'n ailddosbarthu bwyd dros ben, felly nid gwastraff mohono, ond bwyd dros ben, i achosion da, ac ers 2015—i atgoffa'r Senedd—maent wedi ailddosbarthu 7,000 tunnell o fwyd i greu 20 miliwn o brydau bwyd i bobl sydd eu hangen. Ond o ddifrif, Rhys, rwy'n deall ac yn cydnabod y bwriadau sy'n sail i'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon, sydd—rwy'n mynd i barhau ar drywydd lleihau gwastraff bwyd—yn cael gwared ar y deunydd pecynnu plastig gormodol o'r gadwyn gyflenwi. Nawr, fel rydych chi wedi'i nodi yn eich cynnig, gall cynnig ffrwythau a llysiau rhydd annog defnyddwyr i brynu'r hyn sydd ei angen arnynt yn unig. Yng Nghymru, fel y nodwyd, mae 80 y cant o'r bwyd yr ydym yn ei daflu yn fwytadwy. Mae'r aelwyd gyfartalog o bedwar yn taflu gwerth £84 y mis o fwyd. Felly, gallai mynd i'r afael â gwastraff bwyd helpu i leihau costau byw hefyd.
Fodd bynnag—ac mae yna 'fodd bynnag' yn hyn—mae yna sawl agwedd bwysig y mae angen inni eu harchwilio ymhellach cyn inni ystyried cyflwyno deddfwriaeth, er mwyn cael y canlyniad cywir, ac mae rhai o'r rhain, Rhys, fel y byddwch yn gwybod, wedi cael sylw gan WRAP mewn adroddiadau blaenorol. Er enghraifft—[Torri ar draws.] Rwy’n mynd i sôn am rai o'r pethau hyn yma, Jenny. Yn gyntaf oll, fe wnaethant godi, 'A fyddai gosod terfyn ar gyflenwi ffrwythau a llysiau rhydd o dan 1.5 kg yn annog defnyddwyr yn anfwriadol i brynu pecynnau mwy, gan gael yr effaith groes, o bosib, o gynyddu gwastraff bwyd, cynyddu defnydd nad oes ei angen, cynyddu pryniant nad oes ei angen a chynyddu, felly, gwastraff bwyd a chostau aelwydydd hefyd, tra bo gennym broblemau costau byw?' 'A oes goblygiadau cost eraill i ddefnyddwyr—', ac mae'r rhain wedi'u nodi gan WRAP, gyda llaw, '—nad ydynt yn amlwg ar hyn o bryd?' Felly, er mai bwriad y cynnyrch rhydd yw helpu i ostwng costau, fel rydych chi wedi'i nodi, mae risg y gallai prisiau uned gael eu codi wedyn i wneud iawn am y golled. Rydym yn deall sut y mae hyn yn gweithio yn y gadwyn fanwerthu. Nawr, gallai hyn effeithio'n anghymesur ar y rhai ar incwm is y mae eu biliau siopa bwyd yn tueddu i fod yn rhan fwy o'u hincwm cyfyngedig. Jenny, mae’n ddrwg gennyf.
Wrth inni gyrraedd diwedd y Senedd hon, roeddwn i'n meddwl tybed a yw'n bosib cynnwys targed ar gyfer cael gwared ar ddeunydd lapio plastig ar gyfer ffrwythau a llysiau ym Mil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru), oherwydd rwy'n gwybod bod yna dargedau y mae'n rhaid i chi eu hystyried.
Nid wyf yn credu o fewn y Bil llywodraethiant amgylcheddol, oherwydd mae'r targedau a luniwyd ar gyfer hwnnw wedi eu llunio ers amser maith, yn cynnwys gyda rhanddeiliaid sy'n ceisio cytuno ar y set o dargedau ystyrlon. Felly, nid nad wyf yn agored i hynny; dyma lle mae rhanddeiliaid ymhlith y sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol yn meddwl y dylai ein ffocws fod. Fodd bynnag, rydym mewn cyfnod lle mae pawb yn meddwl nawr, 'Wel, beth sy'n dod nesaf?', o ran cynigion polisi yn y dyfodol, ai deddfwriaeth neu dargedau eraill. Mae hwn yn gyfnod diddorol, lle mae llawer o syniadau'n cael eu cyflwyno. Yn y ddeddfwriaeth bresennol, byddai'n ddiddorol gweld a fyddai rhanddeiliaid amgylcheddol yn cytuno i dynnu hynny i mewn iddo rywsut ar y cam diweddar hwn.
A gaf i godi rhai o'r materion eraill y mae WRAP wedi'u nodi fel pethau sydd angen eu hystyried yma? Un o'r rheini yw canfyddiadau cyhoeddus o hylendid wrth drin ffrwythau a llysiau. Rydych chi'n nodi'n gywir fy mod wedi arfer mynd i siop groser leol, cyflenwr ffrwythau a llysiau lleol, llysiau rhydd yn cael eu rhoi mewn bag papur ac yn y blaen. I lawer, gan fy nghynnwys i, ni fyddai hyn yn broblem. Byddai'n gyfarwydd iawn. Dyma'r model traddodiadol o fynd i siop groser neu farchnad ac yn y blaen. Fodd bynnag, mae deall canfyddiadau cyhoeddus ehangach, yn enwedig mewn amgylcheddau manwerthu modern, yn ystyriaeth bwysig y mae angen inni feddwl amdani.
Yn olaf, mae angen inni feddwl hefyd am yr atebion amgen hynny: beth fydd defnyddwyr yn ei ddefnyddio i gario'r cynnyrch rhydd adref, ac a yw'r rhain, ynddynt eu hunain, yn creu heriau gwastraff newydd ai peidio, neu osgoi'r sefyllfaoedd hynny. Felly, mae'n rhaid i mi ddweud, fel llawer o gynigion polisi yr ydym yn eu hystyried, nid wyf yn credu bod y pryderon hyn o reidrwydd yn anorchfygol. Fodd bynnag—
Rwyf wedi rhoi cryn dipyn o amser i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.
O, mae'n ddrwg gennyf. Yn cynnwys yr ymyriad?
Yn cynnwys yr ymyriad.
O. Wel, gadewch i mi ddweud, i gloi, felly: i'r perwyl hwn, rydym eisoes wedi cysylltu â WRAP, ein sefydliad amgylcheddol anllywodraethol sydd ag arbenigedd yn y maes, a chyda swyddogion Llywodraeth ledled y DU i drafod sut y gellid datblygu'r argymhellion yn yr adroddiad—a byddwn i'n ei argymell—'Removing packaging from uncut fresh produce'.
Rwy'n deall y cymhellion sy'n sail i'r cynnig hwn, ond rwy'n credu bod yna bethau i'w hystyried cyn i ni greu risg o effeithio, o bosib, ar gostau i ddefnyddwyr mewn argyfwng costau byw, a rhai o'r agweddau ymarferol hefyd. Ond rwy'n cytuno â'r teimlad yma, sef bod angen inni leihau cymaint â phosib y deunydd lapio plastig ar ffrwythau a llysiau, sy'n aml wedi'u lapio'n naturiol eu hunain.
Diolch yn fawr i bawb am eu cyfraniadau. Fel mae rhai wedi dweud yn barod, diolch yn fawr i WRAP a Chyfeillion y Ddaear am eu cefnogaeth.
Soniodd Jenny am fwy a mwy o ymchwil yn y maes hwn, ac mae'r hyn a welsom eisoes yn frawychus. Wrth feddwl am yr hyn rydych chi wedi'i grybwyll, gallwn yn aml feddwl ei bod yn drueni nad wnaeth Llywodraethau yn y gorffennol weithredu ar yr hyn a wyddent, a chenedlaethau blaenorol o arweinwyr—mae'n drueni na wnaethant weithredu ar yr hyn a wyddent, a gweithredu'n gyflymach.
Ar fater llygredd plastig a'i effeithiau, fel y dywed Jenny ac arbenigwyr, mae'n debyg nad ydym yn agos at gyrraedd y corff o ymchwil y byddwn yn ei weld yn y dyfodol. Ond o'r hyn a welsom eisoes, rwy'n credu bod gennym ddigon. Gwyddom ddigon eisoes am ei effaith ar y corff dynol, ar gyrff anifeiliaid. Gwyddom fod sawl ffordd y mae gormodedd o blastig diangen yn niweidiol i gyllidebau cartrefi, i iechyd dynol ac i'n hamgylchedd. Rydym yn gwybod hyn oll eisoes. Nid oes angen rhagor o ymchwil arnom.
Janet Finch-Saunders, diolch am eich cefnogaeth fel arfer ac am ei alw'n synnwyr cyffredin. Rydym i gyd yn mwynhau clywed eich straeon am eich casgliadau sbwriel traeth rheolaidd, ond mae'n anhygoel ac yn frawychus fod 72 y cant o sbwriel ar draethau yn blastig. Rwy'n cytuno â chi, Janet. Mae'n hurt gweld bananas wedi'u pecynnu mewn plastig.
Pwynt arall: mae ffrwythau a llysiau wedi'u pecynnu ymlaen llaw yn golygu ei bod yn anodd sicrhau bod y bwyd a brynwch yn ffres ac o ansawdd da, a heb ei gleisio. Pan fyddaf yn mynd i farchnad ffrwythau Treganna, gallaf archwilio'r ffrwythau a'r llysiau cyn i mi eu prynu. Pan fydd wedi'i becynnu ymlaen llaw mewn plastig, ni allwn wneud hynny. Fel y dywedodd Carolyn, mae hwn yn gynnig syml, fel un a wnaethom yn y gorffennol, a bydd yn dod â ni'n agosach at y Gymru a'r byd yr ydym am fyw ynddynt.
Dwi'n cytuno gyda Delyth: mae yn no-brainer. Mae mor amlwg i blant ysgolion cynradd, onid yw e, y dylem ni wneud hyn. Roeddwn i'n falch dy fod ti'n sôn am Ysgol y Lawnt, ble buodd fy mam yn dysgu, ac, rwy'n credu, lle roedd hi'n gwrdd â dy fam di yn gyntaf—
Rhys, rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi hefyd.
Fe ddof i ben nawr. A gaf i roi sylw i ymateb Llywodraeth Cymru? Nawr, rwyf wedi hen arfer â 'fodd bynnag' y Dirprwy Brif Weinidog—a Gweinidogion eraill. Rwy'n arfer â, 'O, rwy'n cytuno â'r teimlad, fodd bynnag, mae angen inni archwilio hyn. Mae angen inni wneud gwaith ymchwil arall, comisiwn arall', neu beth bynnag. A gaf i roi neges i Lywodraethau'r dyfodol? Rwy'n credu bod angen llywodraethu mwy beiddgar yma yng Nghymru, lle mae pobl yn barod i wneud penderfyniadau, lle nad ydynt yn aros ac yn aros nes eu bod yn gwybod 100 y cant mai dyma'r peth iawn. Weithiau, mae angen inni fwrw ati a'i wneud. Diolch yn fawr.
A phwynt da i orffen.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Torri ar draws.]
A ydych chi'n gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ie, iawn.
Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 heddiw yw dadl ar yr adroddiad traws-bwyllgor ar yr adolygiad o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i wneud y cynnig—Delyth Jewell.
Cynnig NDM9034 Delyth Jewell
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad traws-bwyllgor y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol; y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig; a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: 'Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Medi 2025.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn roi fy niolch i ar y record i’r holl bwyllgorau, a’r timoedd cymorth tu ôl i’r pwyllgorau, sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hwn. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Sara Moran am ei harbenigedd a’i gwaith.
Dechreuaf heddiw drwy amlinellu, ar ran fy nghyd-Gadeiryddion pwyllgorau, y dull a gymerwyd ar gyfer yr ymchwiliad ar y cyd hwn i’r adolygiad o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Mae'r gwaith hwn yn ddigynsail. Gan adeiladu ar ymdrechion ein pedwar pwyllgor drwy gydol y chweched Senedd, mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, wedi dod at ei gilydd. Ein nod ar y cyd oedd ystyried yn fanwl y dull yr ymdriniodd Llywodraeth Cymru â’r adolygiad ac archwilio effeithiau go iawn y cytundeb masnach a chydweithredu ar Gymru.
Cafodd ein hymchwiliad ei lansio gan edrych tuag at yr adolygiad ffurfiol o'r cytundeb yn 2026. Ym mis Awst 2024, gwnaethom gyhoeddi ein cylch gorchwyl, a gwahoddwyd tystiolaeth ar brofiadau o'r cytundeb masnach a chydweithredu ers iddo ddod i rym. Fe wnaethom chwilio am farn ar ei effeithiolrwydd yn ymarferol, meysydd nad ydynt wedi'u gweithredu'n llawn, canlyniadau anfwriadol, a'r newidiadau yr hoffai rhai rhanddeiliaid eu gweld. Ym mis Gorffennaf 2025, eleni, ymwelodd Aelodau â Brwsel hefyd i ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau a rhanddeiliaid yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r adroddiad hwn yn dwyn tystiolaeth ynghyd ar draws ystod eang o feysydd polisi: artistiaid teithiol, cyfranogiad y DU yn rhaglenni'r UE, masnach rhwng Cymru a'r UE, lles anifeiliaid, yr amgylchedd, hinsawdd ac ynni. Mae hefyd yn ystyried materion cyfansoddiadol, yn cynnwys rhwymedigaethau rhyngwladol Cymru a chysylltiadau rhynglywodraethol y DU.
Drwy gydol ein trafodaethau, daeth themâu cyffredin i'r amlwg. Roedd y dystiolaeth yn glir: mae'r berthynas â'r UE yn parhau i fod yn bwysig iawn i Gymru. Er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan Brexit, yn cynnwys telerau'r cytundeb masnach a chydweithredu, mae awydd cryf i barhau i gydweithredu â'r UE. Awgrymodd ymatebwyr welliannau ymarferol, megis symleiddio prosesau, darparu arweiniad cliriach a chynnig gwell cefnogaeth. Galwodd eraill am newidiadau mwy sylfaenol, yn cynnwys ailymuno â'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau ac adfer rhyddid i symud. Hefyd, fe wnaethom archwilio rôl y cenhedloedd datganoledig mewn cysylltiadau rhwng y DU a'r UE, gan ailedrych ar ganfyddiadau blaenorol ynghylch trefniadau rhynglywodraethol a chynrychiolaeth Cymru mewn cyfarfodydd. Fe wnaethom ystyried rôl y Senedd yn goruchwylio a chraffu ar y trefniadau hyn, yn ogystal â deddfwriaeth sy'n gweithredu rhwymedigaethau rhwng y DU a'r UE.
Ers peth amser, mae pwyllgorau wedi codi pryderon am ddiffyg tryloywder a gwybodaeth ar faterion rhwng y DU a'r UE, yn ddomestig ac ar lefel y DU a'r UE. Yn olaf, fe wnaethom ailddatgan barn hirsefydlog y pwyllgor diwylliant a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad fod absenoldeb strategaethau pwrpasol yr UE ar lefel y DU a Chymru yn cyflwyno heriau ychwanegol i graffu'n effeithiol ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ei hun o ran yr UE.
Wrth inni orffen ein trafodaethau, cyhoeddodd y DU a'r UE y cytundeb dealltwriaeth gyffredin ym mis Mai 2025. Mae'r datblygiad hwn yn darparu fframwaith ar gyfer cydweithredu agosach a thrafodaethau yn y dyfodol, gan gynnwys ymrwymiadau i archwilio cynlluniau symudedd ieuenctid a chyswllt ag Erasmus+. Nawr, er bod y camau hyn i'w croesawu'n fawr, nid ydynt eto'n mynd i'r afael â llawer o'r pryderon a godwyd mewn tystiolaeth, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar y sectorau creadigol.
Gyda'i gilydd, fe wnaeth ein pwyllgorau 55 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Derbyniodd 34 ohonynt, derbyniodd 15 mewn egwyddor, gwrthododd bump, a chytunodd i un. Mae themâu allweddol ar draws yr ymateb. Yn gyntaf, mae nifer yr argymhellion a wnaed yn adlewyrchu prinder y wybodaeth a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ar y cytundeb masnach a chydweithredu, cysylltiadau rhwng y DU a'r UE ac ar ei blaenoriaethau o ran yr UE. Y gwir amdani, Ddirprwy Lywydd, yw mai'r unig reswm ein bod i gyd yn ymwybodol o'i flaenoriaethau o ran yr UE yw oherwydd bod fy mhwyllgor, yn ystod y chweched Senedd, wedi gwneud ceisiadau dro ar ôl tro i Lywodraeth Cymru amdanynt. Mae'r ymdrech a wneir gan bob un ohonom i ddod o hyd i'r wybodaeth fwyaf sylfaenol yn anghymesur â phwysigrwydd perthynas yr UE â Chymru.
Yn ail, mae'n anodd dirnad yn yr ymateb beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud yn wahanol o ganlyniad i'n gwaith—gwaith hanesyddol ein pedwar pwyllgor. Yn wyneb negeseuon mor llwm, mae'r rhai a roddodd dystiolaeth yn haeddu mwy.
Yn drydydd, ers 2021, mae fy mhwyllgor a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, wedi tynnu sylw at lais mwyfwy distaw rhanddeiliaid Cymru mewn cysylltiadau rhwng y DU a'r UE. Dylid cefnogi ein rhanddeiliaid i gymryd rhan, i lywio penderfyniadau, ac i gael sedd wrth y bwrdd, ond nid yw hyn yn digwydd. Mae'r ymateb yn dweud y cyfan. Dim cymorth ariannol, dim cofnod o sut yr hysbysebir aelodaeth o gyrff arbenigol, a dim ymdrech fwriadol i sicrhau bod grwpiau Cymreig yn cael eu cysylltu â grwpiau ledled y DU. Mae aelodaeth ddeuol yn cael ei gadael i ddigwydd ar hap, yn dibynnu ar ewyllys da ac adnoddau sefydliadau unigol. Nid yw'n syndod felly fod ein rhagfynegiadau dros y blynyddoedd o lai a llai o bresenoldeb Cymreig wedi'u gwireddu. Mae'n cael ei adael i ddigwydd ar hap. Caf fy atgoffa o eiriau Clare Dwyer Hogg yn ei cherdd am realiti Brexit caled ar y ffin yng Ngogledd Iwerddon, ac mae hi'n dweud,
'daw cyfle a gobaith ar ffurfiau fath â stêm a mwg.'
Yn bedwerydd, ac yn olaf, mae perthynas Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU yn amlwg yn y gwaith hwn. Mae'n ymddangos o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i gyhoeddi ei blaenoriaethau o ran yr UE. Gwrthododd wahoddiad gan ein pedwar Cadeirydd i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwn, a nawr nid yw wedi ymateb i'n hadroddiad fel y gofynnwyd. Buaswn yn croesawu barn Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y mae Llywodraeth y DU yn ystyried Cymru yn y berthynas rhwng y DU a'r UE, oherwydd nid yw'n edrych yn dda.
Ddirprwy Lywydd, bydd cynrychiolydd o bob pwyllgor yn siarad heddiw ynghylch y canfyddiadau a'r argymhellion sy'n ymwneud â'n gwahanol feysydd portffolio. Yn fyr, rwyf am gyflwyno canfyddiadau'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, a nodi pam y mae'r materion hyn yn galw am sylw brys a pharhaus wrth inni edrych tua'r dyfodol.
I lawer yn y Siambr, cadarnhaodd ein hymchwiliad yr hyn a wyddom: mae'r sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru wedi ysgwyddo cyfran fwy o'r heriau sy'n codi o ymadawiad y DU â'r UE. Mae artistiaid teithiol, gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau diwylliannol yn wynebu rhwystrau na ellid eu dychmygu cyn Brexit, rhwystrau sy'n cyfyngu ar symudedd, yn cynyddu costau, ac yn lleihau presenoldeb diwylliannol Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Mae'r dystiolaeth yn llwm. Disgrifir y trefniadau presennol ar gyfer teithiau diwylliannol fel rhai anymarferol. Mae'r rheol Schengen 90:180-diwrnod, gofynion trwydded a chyfyngiadau masnach arforol wedi creu gwe o gymhlethdod sy'n mygu cyfleoedd, creadigrwydd a chydweithio. Nid problemau haniaethol yw'r rhain. Maent yn effeithio ar bobl go iawn, busnesau go iawn a bywiogrwydd ein bywyd diwylliannol.
Clywodd ein pwyllgor ddadleuon cymhellol hefyd dros adfer mynediad at raglenni'r UE fel Erasmus+ ac Ewrop Greadigol. Mae'r rhaglenni hyn yn fwy na ffrydiau ariannu; maent yn byrth i gydweithio, teithiau cyfnewid a thwf. Maent yn cysylltu artistiaid, myfyrwyr a sefydliadau o Gymru â rhwydweithiau sy'n cyfoethogi ein cymdeithas a'n heconomi. Mae absenoldeb y cyfleoedd hyn yn cael ei deimlo'n fawr ledled Cymru. Tynnwyd sylw at y materion hyn a'u hadleisio yn ein hadroddiad diweddar, 'Sioc ddiwylliannol', ac maent yn parhau heb eu datrys.
Wrth adrodd ar ganfyddiadau'r ymchwiliad ar y cyd, fe wnaeth ein pwyllgor 10 argymhelliad, gan gynnwys adolygu a diweddaru blaenoriaethau o ran yr UE, datblygu strategaeth UE bwrpasol a dyfnhau ymgysylltiad â sefydliadau'r UE. Rydym wedi galw am fwy o dryloywder ar rôl Cymru mewn cyfarfodydd rhwng y DU a'r UE, ac adolygu blaenoriaethau ac adlewyrchu'r angen brys am ddatrysiad cynhwysfawr ar gyfer artistiaid teithiol. Mae ein hargymhellion hefyd yn pwyso am gynrychiolaeth weithredol i gadw symudedd diwylliannol ar yr agenda, rhestr lawn o raglenni'r UE y mae Cymru am ymuno â nhw, ac eglurder ynghylch pam na chytunwyd ar gyswllt ehangach yn y ddealltwriaeth gyffredin. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau a oes angen newidiadau i'r cytundeb masnach a chydweithredu ar gyfer cymryd rhan mewn rhaglenni, darparu amcangyfrifon cost ar gyfer Erasmus+ ac Ewrop Greadigol, a chyhoeddi dogfen safbwyntiau ar y cytundeb masnach a chydweithredu i lywio gwaith craffu a thrafodaethau yn y dyfodol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn llawer o argymhellion mewn egwyddor, ac wedi ailddatgan ei hymrwymiad i ymgysylltiad â'r UE. Mae hi wedi codi mater artistiaid teithiol mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol ac wedi mynegi cefnogaeth i gyswllt ag Erasmus+. Rydym yn croesawu hyn. Mae'r camau hyn yn bwysig, ond nid ydynt yn ddigon.
Mae cyhoeddi'r cytundeb dealltwriaeth gyffredin ym mis Mai yn cynnig cyfle gwirioneddol i gryfhau perthynas Cymru â'r UE. Mae'n nodi cynlluniau ar gyfer cynllun symudedd ieuenctid ac yn ymrwymo'r DU a'r UE i weithio tuag at gyswllt ag Erasmus+. Mae'r datblygiadau hyn yn gadarnhaol, ond nid ydynt eto'n mynd i'r afael ag anghenion dybryd y sector creadigol.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gweld bod fy amser yn brin felly rwyf am ei gadael yn y fan honno, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill yn ystod y ddadl hon. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch i fedru cyfrannu i'r drafodaeth yma, fel rŷch chi'n dweud, yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y pwyllgor, ac mi fuaswn i hefyd, fel Delyth, eisiau diolch i fy nghyd-Gadeiryddion ac i aelodau'r pwyllgorau sydd wedi cydweithredu i dynnu'r adroddiad ar y cyd yma at ei gilydd.
Mae'r pwyllgor wedi codi pryderon dro ar ôl tro fod gan Gymru fwlch llywodraethu amgylcheddol ers Brexit. Fe fyddwch chi'n gwybod fy mod wedi dweud hynny yn y Siambr sawl gwaith. Wrth gwrs, nid yw'r cytundeb masnach a chydweithredu yn cynnwys pennod benodol ar gydweithredu ar yr amgylchedd a'r hinsawdd. Yn hytrach, mae'n canolbwyntio ar yr amgylchedd yng nghyd-destun masnach. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn cynnwys rhai darpariaethau amgylcheddol lefel uchel, ond i raddau helaeth, adlewyrchu ymrwymiadau rhyngwladol presennol y mae'r rhain. Ac nid yw'r darpariaethau i sicrhau tegwch a'r ymrwymiadau dim atchwelyd yn cymryd lle cydweithredu amgylcheddol fel y'u profwyd pan oeddem yn aelod o'r UE.
Nid yw alinio ac ymwahanu o ran yr UE yn flaenoriaethau penodol i Lywodraeth Cymru o ran yr adolygiad. Mae dealltwriaeth gyffredin yn rhagweld aliniad y DU â rheolau'r UE mewn meysydd penodol, gan gynnwys ar fasnachu allyriadau a thrydan. Cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet fanteision posib aliniad agosach â'r UE ar sail achosion unigol, ond ceir diffyg eglurder ynglŷn â dull trosfwaol Llywodraeth Cymru o weithredu.
Galwodd rhanddeiliaid am alinio ar ddatgarboneiddio yng ngoleuni cyflwyno trethi carbon ar wahân ar draws ffiniau gan y DU a'r UE. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn ymrwymo'r DU a'r UE i ystyried cysylltu eu systemau masnachu allyriadau, a allai arwain at osgoi trethi carbon ar draws ffiniau ar fewnforion ac allforion y DU a'r UE. Clywsom alwadau am gyflymu cysylltiad, gan ddweud y byddai'n lleihau'r baich ar fusnesau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym eu bod wedi cynnal dadansoddiad mewnol cychwynnol ar oblygiadau posib treth carbon ar draws ffiniau yr UE ar gyfer allforion Cymru. Fodd bynnag, mae'n siomedig mai dim ond gwybodaeth gyfyngedig ar gysylltu systemau masnachu allyriadau sydd ar gael ar hyn o bryd, yn enwedig o ystyried effeithiau amgylcheddol a hinsawdd masnach, fel y cynnydd mewn llygredd aer ac i ôl troed carbon Cymru wrth gwrs.
O ystyried bod y cytundeb masnach a chydweithredu yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyswllt posib â chynllun masnachu gollyngiadau, ac yng ngoleuni galwadau cyson gan randdeiliaid am aliniad strategol rhwng systemau'r DU a'r UE, mae'n bryderus nad yw systemau masnachu allyriadau na threthi carbon ar draws ffiniau'n cael eu blaenoriaethu ar hyn o bryd yn agenda adolygu Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru gwblhau safbwynt clir ar gyswllt â'r cynllun masnachu gollyngiadau fel mater o flaenoriaeth, ac mae'n rhaid i mi ddweud, rydym yn siomedig mai dim ond mewn egwyddor y derbyniwyd hyn. Felly, gofynnwn i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar drafodaethau sydd ar y ffordd yn ymwneud â chyswllt â chynllun masnachu gollyngiadau, o leiaf.
Rydym yn falch fod trefniadau masnachu trydan mwy effeithiol a hirdymor yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu. Mae'r ddealltwriaeth gyffredin yn ymrwymo'r DU a'r UE i archwilio cyfranogiad y DU ym marchnad drydan sengl yr UE, gan gynnwys ei phlatfformau masnachu, y gobeithiwn y gallai leihau biliau ynni wrth gwrs.
Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu wedi newid natur cydweithrediad amgylcheddol rhwng y DU a'r UE yn sylfaenol, gan symud i ffwrdd, fel y dywedais ar y dechrau, o fframwaith llywodraethu a rennir i un wedi'i seilio'n bennaf ar fuddiannau economaidd. Rydym ni, fel pwyllgor, o ran y neges glir yr ydym am ei chyfleu, yn gobeithio'n ddiffuant na fydd negodi cytundebau masnach yn y dyfodol yn arwain at lai o ffocws ar newid hinsawdd fel blaenoriaeth bolisi. Diolch yn fawr.
Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw byddaf yn siarad ar ran y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig.
Ar hyn o bryd mae cyfanswm masnach nwyddau Cymru yn £37.6 biliwn, ac mae £17.6 biliwn o hwnnw, 47 y cant, gyda'r UE. Dyma ein partner masnachu mwyaf ac mae'n sylfaenol i'n heconomi. Mae angen i'r berthynas weithio. Gwyddom fod perthynas newydd y DU â'r UE wedi arwain at fwy o rwystrau masnach. Mae'r dystiolaeth a gawsom yn cadarnhau hyn. Mae ein hadroddiad yn dogfennu tystiolaeth o fwy o fiwrocratiaeth, costau, amser ac aflonyddwch i gadwyni cyflenwi, a chanlyniadau anfwriadol neu annisgwyl. Mae 90 y cant o fusnesau'n dal i ddelio â heriau. Yn ôl tystion i'r pwyllgor, mae prosesau'n achosi lefelau eithafol o gost, gweinyddiaeth, cymhlethdodau a cholled, annifyrrwch dwys, ac yn hynod o rwystredig. Felly, mae deall effaith lawn y cytundeb masnach a chydweithredu yn hanfodol er mwyn llywio penderfyniadau a chefnogaeth i fusnesau Cymru.
Roedd ein hargymhelliad cyntaf, a gafodd ei wrthod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu dogfen ragolygol ar y cytundeb masnach a chydweithredu yn unol â'i dull o ymdrin â chytundebau masnach ryngwladol eraill. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn honni bod y cytundeb masnach a chydweithredu wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn a bod dadansoddiad o'i effeithiau eisoes ar gael. Hyd y gwyddom, adroddiadau ein pwyllgor yw'r cyfrifon cyntaf o'r fath o effeithiau gweithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu sy'n benodol i Gymru. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet rannu rhestr o ddadansoddiadau y mae ymateb pwyllgor y Llywodraeth yn cyfeirio atynt, er mwyn llywio ein gwaith yn y dyfodol?
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud yr achos y bydd newidiadau posib o'r negodiadau presennol yn golygu y bydd unrhyw adroddiad uniongyrchol wedi dyddio bron ar unwaith. Fodd bynnag, ymddengys bod hyn yn gwrth-ddweud yr achos a wnaed i'r pwyllgor diwylliant fod negodiadau'n annhebygol o arwain at newidiadau i destun y cytundeb masnach a chydweithredu. Fel y nodir yn yr adroddiad, nid yw dogfen Llywodraeth Cymru ar y cytundeb masnach a chydweithredu wedi'i chyhoeddi ers 2021.
Clywsom mewn tystiolaeth y byddai busnesau'n elwa o fwy o wybodaeth, mwy o arweiniad a mwy o gefnogaeth gan y Llywodraeth. Gyda hynny mewn golwg, nid yw ymateb y Llywodraeth yn mynd i'r afael yn llawn â chwestiynau'r pwyllgor am gynlluniau i gefnogi'r sectorau yr effeithir arnynt y clywsom ganddynt. Gwyddom fod mwy na'r rhai y gwnaethom gymryd tystiolaeth uniongyrchol ganddynt, a byddai asesiad gan y Llywodraeth yn darparu darlun cliriach i weithio ohono.
Dealltwriaeth y pwyllgor yw bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith cymharol ar gyfer pob cytundeb masnach arall ar ôl Brexit, cytundebau gyda phartneriaid lle nad yw'r gwerth masnachu i Gymru yn dod yn agos at werth masnach yr UE i Gymru. Efallai, felly, y gallai Ysgrifennydd y Cabinet nodi heddiw pam y mae adnodd wedi'i neilltuo ar gyfer deall cytundebau masnach gyda phartneriaid masnach llai Cymru, ond nid y rhai mwyaf hyd yn hyn.
Gofynnwn hefyd am ddiweddariadau rheolaidd ar y negodiadau parhaus. Cytunodd y Llywodraeth y gallai hyn fod mewn sesiynau craffu cyffredinol gyda'n pwyllgor, ond a gawn ni awgrymu y gallai fod yn well defnydd o amser y Senedd i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau ysgrifenedig rheolaidd i'w trafod yn y pwyllgor?
Ddirprwy Lywydd, dangosodd tystiolaeth hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru yn glir ynglŷn â beth yw blaenoriaethau Llywodraeth y DU ar gyfer yr adolygiad. Mae'n hanfodol fod gan Lywodraeth Cymru fodd effeithiol o fod yn gyfarwydd iawn â blaenoriaethau Llywodraeth y DU ac yn yr un modd, fod ganddi fecanwaith ystyrlon i gynrychioli'r materion a godir gyda'n sectorau a'r effeithiau ar Gymru. Mae angen eglurder a thryloywder o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â masnach Gymreig allweddol.
Mae'n dal i fod yn aneglur hefyd faint o ran sydd gan Lywodraeth Cymru mewn negodiadau ar feysydd datganoledig: beth yw'r strwythur ar gyfer hyn, ac a oes strwythur o'r fath yn bodoli? Ar ddirprwyaeth pwyllgor i Frwsel ar gyfer yr adroddiad hwn, roedd yn bryderus clywed bod partneriaid yr UE, mewn rhai agweddau, yn anymwybodol fod rhai rhannau o fasnach, fel materion iechydol a ffytoiechydol, wedi'u datganoli. Ond gyda mwy o ymgysylltiad yn rhan o Gynulliad Partneriaeth Seneddol yr UE a'r DU, rydym yn gobeithio y gallwn newid a chynyddu'r ddealltwriaeth honno gyda'n gilydd.
Fel y genedl yn y DU sy'n fwyaf dibynnol ar allforio i'r UE, rydym yn fwy agored i heriau alinio ac ymwahanu. Mae monitro effeithiol yn hanfodol ac ni ddylid ei adael i Gymru yn unig. O ganlyniad, rydym yn falch fod ein dau argymhelliad terfynol sy'n ymwneud â monitro alinio ac ymwahanu o ran yr UE wedi'u derbyn, ond gofynnwn i Ysgrifennydd y Cabinet osod amserlen ar gyfer y gwaith hwn.
Hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr ar draws yr holl bwyllgorau am eu gwaith cyfunol ar yr adroddiad hwn. Mae cydweithio o'r fath yn arwydd o natur drawsbynciol y cytundeb masnach a chydweithredu a'i bwysigrwydd i Gymru. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cefais ychydig o broblem gydag agor y microffon. A gaf i ddechrau lle mae'r siaradwr diwethaf newydd ddod i ben a dweud ei bod yn braf gweld pedwar pwyllgor yn dod at ei gilydd i gynhyrchu'r adroddiad hwn? Gobeithio ei fod yn gosod cynsail ar gyfer y Senedd nesaf. Oherwydd nid ydym yn gweithio mewn seilos, ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd Hannah Blythyn pan roddodd yr adroddiad hwnnw.
Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn falch o gyfrannu at yr adroddiad ar yr adolygiad o weithrediad. Wrth wneud hynny, ystyriodd y pwyllgor elfennau cyfansoddiadol, materion allanol ac elfennau cysylltiadau rhynglywodraethol y cytundeb masnach a chydweithredu.
Mae'r berthynas rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit yn parhau i fod yn berthnasol iawn i waith y pwyllgor, o ystyried cymhlethdod cynyddol cytuniadau rhyngwladol lluosog, dros 30 o fforymau ar y cyd a deddfwriaeth sydd naill ai'n gweithredu neu'n cyffwrdd â materion rhwng y DU a'r UE mewn meysydd datganoledig. Credwn ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i nodi ei safbwynt ar faterion datganoledig ymhell cyn unrhyw gyfarfod rhwng y DU a'r UE. Roedd yn anffodus mai dim ond wythnos cyn yr uwchgynhadledd ailosod ym mis Mai y digwyddodd cyfarfod o'r grŵp rhyngweinidogol ar gysylltiadau rhwng y DU a'r UE—yn rhy hwyr i gael unrhyw effaith ystyrlon ar safbwynt negodi'r DU.
Rydym yn croesawu'r ymrwymiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am ddiweddaru cylch gorchwyl y grŵp. Efallai y gallai nodi amserlen ar gyfer y trafodaethau hyn. Roedd yn fwy pryderus nodi nid yn unig na chafodd Llywodraeth Cymru eu gwahodd i drafod a chytuno ar flaenoriaethau Llywodraeth y DU ar gyfer yr adolygiad, ond na chawsant wybod am unrhyw flaenoriaethau ymlaen llaw. Dywedodd y pwyllgor, felly, y dylai Llywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i amlinellu eu blaenoriaethau ar gyfer yr adolygiad fel mater o frys. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau yn ei hymateb fod Llywodraeth y DU yn dal heb wneud hynny'n gyhoeddus.
Mae statws arsylwr Llywodraeth Cymru mewn cyfarfodydd rhwng y DU a'r UE yn bryder difrifol arall. Er y gall swyddogion Llywodraeth Cymru gynnig eitem ar yr agenda a dylanwadu ar drafodaeth, mae'n amheus a yw'r statws hwn yn caniatáu iddynt gynrychioli Cymru'n llawn. Yn ein hadroddiad blaenorol ar lywodraethiant rhwng y DU a'r UE, daeth y pwyllgor i'r casgliad fod achos cryf a chymhellol, gyda chonsensws eang ymhlith rhanddeiliaid, dros gynnwys sefydliadau datganoledig ymhellach mewn strwythurau llywodraethu ffurfiol. Roeddem yn pryderu am farn Ysgrifennydd y Cabinet fod statws arsylwr yn ddigon ac yn gwrthod y ddadl a gyflwynwyd fod gan aelod-wladwriaethau'r UE statws arsylwr hefyd. Nid dyna'r pwynt allweddol. Nid yw cymhwysedd yr UE ond yn ymestyn cyn belled ag y'i rhoddir iddo gan yr aelod-wladwriaethau, sy'n golygu bod y cytundeb masnach a chydweithredu yn gyfan gwbl o fewn cymhwysedd yr UE. Mae'n gwbl groes i fodel materion a gedwir yn ôl cyfansoddiadol y DU, lle mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn torri ar draws cymwyseddau a gadwyd yn ôl a chymwyseddau datganoledig.
Ar alinio ac ymwahanu o ran rheolau'r UE, rydym yn croesawu'r ymrwymiad i weithio gyda Llywodraethau eraill i ddatblygu mecanwaith canolog ar gyfer monitro ac yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu amserlen ar gyfer y trafodaethau hyn.
Rwy'n mynd i symud ymlaen nawr at sut y mae rhanddeiliaid Cymru'n cael eu cynrychioli yn y berthynas rhwng y DU a'r UE. Yn 2021, nododd y pwyllgor diwylliant am y tro cyntaf fod cyfranogiad rhanddeiliaid Cymru yn y berthynas rhwng y DU a'r UE wedi lleihau ers Brexit a rhybuddiodd y byddai'n debygol o leihau ymhellach. Rydym wedi dod i'r un casgliad ar sawl achlysur ac yn nodi gyda thristwch nad yw Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn yn absenoldeb cyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi sefydliadau i gymryd rhan. Yn wir, mae'r ymagwedd gyffredinol at randdeiliaid yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'n hadroddiad yn peri pryder. Mae'r ymateb yn dweud nad oes ganddo unrhyw gofnod o sut y mae wedi ymgysylltu â'r adolygiad o aelodaeth y grŵp cynghori ar gytundeb masnach a chydweithredu y DU, nac o'r camau a gymerodd i godi ymwybyddiaeth o'r adolygiad hwnnw. Pan ofynnwyd iddo esbonio sut y mae'n cysylltu â'i grŵp cynghori ei hun, mae'r ymateb yn dweud yn rhyfeddol na wneir unrhyw ymdrech fwriadol i sicrhau cysylltiad o gwbl. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol, fel pawb ohonom, o'r heriau y mae sefydliadau Cymru yn eu hwynebu o ran adnoddau, a dylai fod yn mynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod llais y gymdeithas sifil yn cael ei glywed.
Yn olaf, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi unrhyw wybodaeth, cyngor na chanllawiau penodol i Gymru ar y cytundeb masnach a chydweithredu ers 2021. Mae hyn yn anghredadwy. Mae'n un o'r cytundebau rhyngwladol mwyaf arwyddocaol y bydd y Senedd yn ei ystyried byth. Fel Aelodau, rydym i gyd wedi gorfod llywio gwahanol agweddau ar ei 2,500 tudalen gyda chymorth ein swyddogion. Nid yw'n dasg hawdd. Yn yr ymateb, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i ddatblygu canllawiau pan fydd negodiadau rhwng yr UE a'r DU wedi dod i ben, ar gyfer yr adolygiad o weithrediad ac ar gyfer y cynllun diweddaraf yn y cytundeb dealltwriaeth gyffredin. Yn anffodus, mae hyn yn syrthio'n fyr o'r asesiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu y gofynnwyd amdano gan bwyllgor yr economi. Mae hefyd yn codi cwestiwn ynghylch pryd y caiff y canllawiau eu cynhyrchu.
Mae'r ddealltwriaeth gyffredin yn nodi'r trefniadau newydd sydd angen eu negodi nawr ac yn y dyfodol. Bydd negodiadau gwahanol a gwahanol drefniadau. Ar ba bwynt y bydd Llywodraeth Cymru yn tynnu'r llinell? Ai'r bwriad yw cynhyrchu canllawiau wrth i bob set o negodiadau ddod i ben? A fydd y rhain yn cael eu cyhoeddi neu eu rhannu gyda phwyllgorau'r Senedd? Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â'r cwestiynau hyn.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn deall bod llawer o agweddau ar y berthynas rhwng y DU a'r UE y tu allan i reolaeth a dylanwad Llywodraeth Cymru. Dyna pam ei bod hi mor bwysig fod Llywodraeth Cymru'n dweud wrthym heddiw, ac nid yn unig ni fel Aelodau o'r Senedd, ond y sefydliadau a'r cyhoedd sy'n gwylio, beth y mae'n ei wneud sydd o fewn ei rheolaeth.
Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gwrando ar y ddadl hon. Fel Aelod newydd—yn amlwg, nid oeddwn yma yn y Senedd flaenorol pan oeddem yn dal i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd—a ddaeth i mewn ar ôl pleidlais y refferendwm, mae deall rôl y Senedd yn y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yn rhywbeth yr wyf wedi mwynhau tyrchu iddo. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi mynychu Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a'r UE gyda fy nghyfaill Alun Davies a'r Dirprwy Brif Weinidog, pan oedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn flaenorol.
Dyna lle gwelais efallai nad yw llais Cymru yn cael ei gynrychioli. Anfonodd Alun a minnau lythyr ar y cyd yn dweud bod angen hawliau siarad arnom fel Senedd o fewn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig, ac mae'n rhywbeth rwy'n dal i feddwl, wrth fwrw ymlaen, y mae angen i ni ei hyrwyddo—ein gallu i gyfrannu yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Mae hwnnw'n ymrwymiad hirsefydlog yn fy marn i.
Dim ond drwy'r cysylltiadau a ffurfiwyd y tu ôl i'r llen gan y Dirprwy Brif Weinidog erbyn hyn, gennyf i fy hun, gan Alun Davies, gan Luke Fletcher hefyd—sy'n cynrychioli'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, ac sydd hefyd yn mynychu'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol rhwng y DU a'r UE—y gallasom gael pryderon Cymreig, cyfleoedd Cymreig, heriau Cymreig wedi'u codi yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Rwy'n credu bod hynny'n fuddiol, ond dylid ei ffurfioli. Felly, dyna un o'r prif bethau a ddysgais o hyn.
Roeddwn eisiau cadw fy sylwadau yn fyr. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae Hannah Blythyn wedi'i ddweud ar ran y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig. Ond yr hyn y teimlwn ei fod yn eithaf cadarnhaol—ac mae wedi cael ei bwysleisio sawl gwaith yma heddiw—oedd y croesweithio rhwng nifer o bwyllgorau, oherwydd mae ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn berthnasol i bob un o'r pwyllgorau sydd gan y Senedd ac sy'n cael ei gynrychioli. Felly, mae'n iawn, pan fydd rhywbeth mor bwysig â hyn yn dod at ei gilydd, ein bod ni fel Senedd yn gallu bod yn hyblyg o ran y ffordd y craffwn ar y Llywodraeth, y ffordd y'i heriwn, am mai dyna yw ein rôl ni fel aelodau o'r meinciau cefn, herio a chraffu ar y Llywodraeth a sicrhau ei bod yn gwneud ei gorau i gynrychioli buddiannau Cymru a Chymru. Felly, rwyf wedi mwynhau'r gallu i wneud hynny ar sail draws-bwyllgor o'r fath.
Rwyf am ganmol gwaith caled staff y Comisiwn hefyd, sydd wedi gweithio'n ddiflino ar hyn. Weithiau mae fel bugeilio cathod gyda ni fel aelodau pwyllgor a'r meinciau cefn, ond rwy'n credu bod ansawdd y gwaith a ddeilliodd o hyn yn dyst i gryfder gweithio yn y ffordd honno ac i gadeiryddiaeth pawb sy'n cadeirio'r pwyllgorau hefyd. Diolch yn fawr.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae'r adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu yn gyfle i ni asesu ble rydym arni. Rwy'n credu bod y pedwar pwyllgor i'w canmol am lefel y manylder yn yr adroddiad a'r 55 o argymhellion, ond os caf ei grynhoi, rydym mewn llanast, onid ydym? Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Sefydliad Masnach y Byd eu hadolygiad cyntaf ar ôl Brexit o fasnach y DU, ac roedd yn sobreiddiol, onid oedd? Dangosodd y dirywiad, a siarad yn gymharol, mewn allforion nwyddau. Rydym yn dal i fod, y DU, 17 y cant, o ran cyfanswm cyfaint allforion, yn is na lle roeddem yn 2018.
Ar yr un pryd, bu cynnydd enfawr, wrth gwrs, mewn allforion gwasanaethau—i fyny 73 y cant ers 2010—a'r hyn y mae hynny'n ei olygu yw mai'r DU bellach yw'r unig economi G7 lle mae allforion gwasanaethau yn fwy nag allforion nwyddau. Ac wrth gwrs, mae hynny wedi ei gyflymu gan Brexit. A lle mae hynny'n brifo? Wel, mae hynny'n brifo rhannau o'r DU fel Cymru, am ein bod yn fwy dibynnol ar allforion nwyddau gyda'n sylfeini gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, ac wrth gwrs, mae gennym gwmnïau llai ar y cyfan hefyd. Fel y nododd Sefydliad Masnach y Byd, gall cwmnïau mawr ymdopi â risg reoleiddiol a gwleidyddol ac ati, ac nid oedd unrhyw risgiau mwy na Brexit. Ni all cwmnïau llai wneud hynny, am nad oes ganddynt gapasiti na gallu i'w wneud. Felly, ni sydd wedi cael ein taro galetaf.
Nid oes unrhyw bwynt ymroi i lyfu clwyfau. Felly, beth a wnawn? Rwy'n credu y gallwn ddilyn esiampl Gogledd Iwerddon. Maent mewn sefyllfa lawer mwy ffodus na ni. Nhw yw'r bont, onid e? Nhw yw'r bont rhwng yr UE a'r DU. Wel, efallai y gallwn ni fod yn oleudy. Gallwn fod yn oleudy ar gyfer llywio'r DU. Gyda'n gilydd efallai, neu efallai y gall Cymru ar ei phen ei hun lywio llwybr yn ôl i'r UE, gam wrth gam. Nhw yw'r tŷ porth, gallwn ni fod yn dŷ gwydr o syniadau newydd, sector wrth sector, sy'n ein galluogi i ddod yn agosach at ein prif bartneriaid masnachu.
Er enghraifft, gallwn arwain drwy esiampl ar alinio amgylcheddol. Gwelsom swyddogion yr UE yn mynegi pryder yr wythnos diwethaf ynghylch y Bil seilwaith a chynllunio. Fe wnaethom drafod hynny ddoe—y gallai ceisio cymryd rhan, i bob pwrpas, mewn ras i'r gwaelod er mwyn hyrwyddo twf economaidd drwy dorri'n ôl ar safonau amgylcheddol dorri rheolau tegwch y cytundeb masnach a chydweithredu. Nid dyna'r ffordd i yrru datblygiad economaidd. Yr hyn y dylem ei wneud—ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth nesaf, Llywodraeth Plaid Cymru, yn gwneud hyn—yw pasio Deddf alinio fel y gallwn anfon neges i'r UE, yn ymarferol ac yn symbolaidd, ein bod am alinio â'r safonau amgylcheddol gorau oll, oherwydd dyna sut rydym am yrru datblygiad economaidd, drwy godi safonau.
Ar allforion, sut y gwnawn ni ymateb i'r gostyngiad, a siarad yn gymharol, yn yr allforion? Nid ydym yn gwneud yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud trwy ddiswyddo 20 y cant o'r swyddogion hyrwyddo allforion mewn llysgenadaethau ledled y byd. Gwallgofrwydd llwyr. Mae angen inni sefydlu ein hasiantaeth ddatblygu ein hunain gyda changen hyrwyddo allforion, gan gynyddu ein hôl troed o gynrychiolaeth mewn marchnadoedd allweddol fel y gallwn gynyddu allforion Cymru, drwy weithio gyda busnesau, sector wrth sector, ar hyd a lled Cymru.
Mae angen inni weithio'n agosach ag Iwerddon, ond gadewch inni grisialu hynny mewn ffordd ymarferol. Pan lofnodwyd y datganiad gwleidyddol, roedd yna ymrwymiad y byddai Llywodraeth y DU yn ailystyried cyfranogiad ym Manc Buddsoddi Ewrop. Roedd y banc yn arfer buddsoddi llawer yng Nghymru, mewn seilwaith a busnes. Nid oes unrhyw beth wedi'i wneud. Gadewch inni arwain ar hynny gydag Iwerddon, oherwydd mae digon o gyfleoedd buddsoddi ar y cyd yn y môr Celtaidd ac o ran seilwaith ac ati, lle gallwn, gyda Banc Buddsoddi Ewrop, fuddsoddi ar y cyd mewn prosiectau sydd o fudd i Gymru ac Iwerddon. Gallem ei wneud. Mae yna fecanwaith i wneud hynny yng nghyfansoddiad Banc Buddsoddi Ewrop. Maent eisoes yn buddsoddi yn y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd. Mae'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd y tu allan i'r UE. Maent wedi buddsoddi €800 miliwn yn y tair blynedd diwethaf yn y gwledydd Nordig. Pam na allai Cymru ddod at y bwrdd gyda Gweriniaeth Iwerddon, drwy'r cytundeb cydweithio sydd gennym gyda'r Weriniaeth, a dweud, 'Gadewch i ni gael Banc Buddsoddi Ewrop i fuddsoddi ar y cyd yng Nghymru ac Iwerddon'? Dyma'r math o syniadau ymarferol lle gallwn symboleiddio, mewn ffyrdd sy'n mynd i gyflawni ar ran ein cymunedau, ein bwriad i weithio mor agos ag y gallwn gyda'n partneriaid Ewropeaidd.
Rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn a ddywedwyd gan Aelodau eraill am bwysigrwydd pwyllgorau'n gweithio gyda'i gilydd a chydweithio ar y materion hyn. Roeddwn yn aelod o ddau o'r pedwar pwyllgor a archwiliodd hyn, felly fe wneuthum gryn dipyn o gydweithio â mi fy hun ar yr adroddiad hwn. Ond un o'r nodweddion mwyaf trawiadol o'r dystiolaeth a gasglwyd gennym—ac fe wnaethom gasglu tystiolaeth gan ystod eang o randdeiliaid ar y materion hyn—oedd unfrydedd y dystiolaeth a gawsom. Yn eithaf aml, wrth gwrs, gallwch gasglu tystiolaeth ar rywbeth fel hyn a chael dehongliadau a safbwyntiau gwahanol iawn, sy'n gwneud syntheseiddio'r adroddiad bron yn amhosib. Ond roedd unfrydedd ar hyn.
Ni allaf feddwl am unrhyw dyst a ddaeth ger bron ein pwyllgorau a ddywedodd fod Brexit wedi bod o fudd i Gymru. Ni allaf feddwl am un tyst. Ni allaf feddwl am unrhyw un a ddywedodd, 'Wyddoch chi beth? Mae Cymru wedi elwa o Brexit.' Fe wnaethom siarad â phobl o wahanol sectorau. Un o'r pethau mwyaf torcalonnus mewn gwirionedd oedd siarad â phobl fel cerddorion, a oedd wedi bod yn teithio o amgylch Ewrop, yn rhannu ein diwylliant ar draws cyfandir Ewrop—ein gwareiddiad cyffredin—ac fe wnaethant restru'r holl rwystrau i hynny nawr. Creu rhwystrau rhwng pobloedd: dyma'r peth mwyaf torcalonnus y gallaf feddwl amdano. Rydym wedi clywed—ac esboniodd Hannah y prynhawn yma—am y dirywiad yn y meintiau masnachu. Nawr, os oes angen i unrhyw un wybod pam ein bod yn y sefyllfa economaidd yr ydym ynddi heddiw, nid oes angen i chi wneud dim mwy na darllen y bennod honno o'r adroddiad. Mae'r meintiau masnachu llai yn arwain at y gostyngiadau yn y dreth sydd ar gael i'r economi ac i'r Llywodraeth, ac yn arwain yn uniongyrchol felly at rai o'r problemau sydd gennym yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn y mae Brexit wedi llwyddo i'w wneud, wrth gwrs, yw creu rhwystrau, costau a biwrocratiaeth. Mae yna nifer o bobl wedi siarad am y costau ychwanegol i fusnesau ac anallu busnesau i allforio yn y ffordd yr arferent ei wneud. Mae'r holl faterion hyn yn creu mwy o gymhlethdod mewn economi, a bydd unrhyw un sydd wedi rhedeg busnes yn dweud wrthych fod angen llai o gymhlethdod, llai o rwystrau, mae angen mwy o ffiniau agored, ac mae angen i chi allu masnachu i greu cyfoeth, y gellir ei ailddosbarthu wedyn. Deunydd TGAU yw hyn. Ac eto, creodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y pryd y rhwystrau hynny ac fe wnaethant ei ddisgrifio fel buddugoliaeth i ddemocratiaeth. Wel, yn sicr nid dyna beth oedd gan Winston Churchill mewn golwg pan siaradodd am greu Undeb Ewropeaidd yn ei araith yn Zurich ar ddiwedd yr ail ryfel byd. Ac yn sicr nid dyna a gynigiwyd i bobl Prydain yn 2016.
Felly, mae gennym unfrydedd yma, gan bwyllgorau ac o'r dystiolaeth a ddaeth i law. Felly, beth a wnawn er mwyn bwrw ymlaen â'r materion hyn? Rwy'n credu bod angen inni ailddyfeisio rhywfaint o'n democratiaeth ein hunain mewn gwirionedd, oherwydd un peth y mae'r Ddeddf ymadael yn ei ddangos yw pwysigrwydd craffu seneddol. Mae'r rhai ohonom a oedd yn Aelodau ar y pryd yn cofio cael ein galw'n ôl yma ar ôl y Nadolig, cyn y flwyddyn newydd—rwy'n siŵr y gwnaiff y Llywydd fy atgoffa'n union pryd oedd hi. Yn ôl yr hyn a gofiaf, diwedd mis Rhagfyr oedd hi; efallai fy mod i'n anghywir. Ond cawsom ein galw'n ôl yma am brynhawn i basio cynnig cydsyniad: cawsom ein galw'n ôl yma am brynhawn i basio cynnig cydsyniad mewn awr ar un o'r darnau mwyaf pellgyrhaeddol o ddeddfwriaeth y gallaf gofio i ni ei drafod yma yn lle hwn yn yr amser y bûm yn Aelod. Yn San Steffan, fe gawsant 12 awr. A'r hyn a welsom ers hynny, wrth gwrs, yw'r gwaith a wnaed gan Senedd Ewrop, lle roedd ganddynt sawl mis i wneud yr un darn o waith, ac fe fu modd iddynt nodi'r holl faterion sydd wedi plagio ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ers y dyddiad hwnnw. A dyna bwysigrwydd craffu seneddol.
Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni yma fel Senedd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i'n pwyllgorau, ein lleisiau, gael eu clywed pan fydd deddfwriaeth yn cael ei rhoi ger ein bron. Ond mae angen inni symud ymlaen wedyn. Roeddwn yn siomedig na roddodd y Prif Weinidog dystiolaeth ar y mater hwn, ac roeddwn i'n siomedig ynghylch ansawdd y dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, a bod yn onest. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith ardderchog. Mae gwaith Derek Vaughan ym Mrwsel yn rhagorol yn fy marn i. Ond mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru eisiau siarad amdano, ac rwy'n synnu ynghylch hynny. Rwy'n synnu nad yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru eisiau gosod amcanion go iawn ar gyfer y dyfodol. Sut olwg fydd ar ein perthynas yn y dyfodol? Beth y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei weld o'r berthynas hon? Rydym wedi bod drwy'r adolygiad, a gynhaliwyd y llynedd, nad yw wedi'i weithredu eto, wrth gwrs, ac mae perthynas well wedi bod ers etholiad cyffredinol 2024, mae hynny'n hollol glir. Ond mae yna broblemau sylfaenol o hyd a achoswyd gan drychineb Brexit, a'r hyn rwy'n ei obeithio—ac fe ddof i ben nawr, Lywydd—yw y gallwn ni ein hunain, fel Senedd, nodi'r llwybr yr ydym am i Gymru ei ddilyn.
Nawr, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet sy'n ymateb i'r ddadl hon lawn mor frwd â minnau, ac rwy'n gwybod—neu o leiaf, rwy'n meddwl fy mod yn gwybod—y byddai'n hoffi gweld Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Ac rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud fel seneddwyr yw dweud hynny'n uchel ac yn glir. Mae buddiannau gorau pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu drwy fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd a chymryd ein lle eto yn arweinyddiaeth y cyfandir hwn, a pheidio â chilio rhag y cyfrifoldebau a ddaw yn sgil yr arweinyddiaeth honno.
Hoffwn ddechrau drwy gydnabod gwaith caled y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn llunio ein rhan ni o'r adroddiad hwn, ynghyd â gwaith hanfodol y clercod a staff y pwyllgorau, ac yn wir, y rhai ar draws y pwyllgorau a gyfrannodd at yr adolygiad o weithrediad y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y DU a'r UE. Mae'n rhoi trosolwg gwerthfawr o sut y mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn parhau i lunio tirwedd ddiwylliannol a rhyngwladol Cymru, ond fel Ceidwadwyr a chefnogwyr Brexit, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod y sgwrs hon wedi'i gwreiddio mewn cyfle ac optimistiaeth, nid hiraeth am aelodaeth o'r UE. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a welsom fod llawer o sefydliadau a roddodd dystiolaeth yn dal i weld ailfynediad i'r farchnad sengl, yr undeb tollau neu hyd yn oed ryddid i symud fel atebion i'r heriau y maent yn eu hwynebu. Rwy'n parchu'r safbwyntiau hynny, ond mae'n rhaid i mi ddweud yn glir fod y ddadl ar y rheini drosodd. Pleidleisiodd pobl y Deyrnas Unedig, ac yn bwysicaf oll, pobl Cymru, o blaid gadael yr UE, a'n tasg ni yw gwneud i Brexit weithio i Gymru, nid ailredeg dadleuon 2016 neu lithro'n llechwraidd tuag at ailymuno.
Mae yna ddadleuon cryf dros ailwerthuso elfennau o'r farchnad sengl, ond byddai ailymuno â'r undeb tollau yn anhygoel o wirion, o ystyried mai dyma'r agwedd fwyaf niweidiol ar ein haelodaeth bob amser, yn enwedig gan ein bod yn gwerthu mwy y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd nag i'r UE, ac roedd hyn yn wir pan oeddem yn dal i fod yn aelod o'r UE ac yn rhywbeth y cawsom ein cosbi amdano. Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn rhoi rheolaeth lawn i'r DU dros ei masnach, ei ffiniau a'i chyfreithiau. Mae hefyd yn caniatáu inni deilwra atebion lle mae eu hangen, sy'n synhwyrol. A dyna'n union sut y dylem fynd i'r afael â materion fel y celfyddydau teithiol, symudedd creadigol a theithiau cyfnewid i ieuenctid, drwy gytundebau ymarferol wedi'u targedu, nid drwy gytuno i ildio sofraniaeth neu fesurau rheoleiddio.
Rwy'n croesawu dealltwriaeth gyffredin Llywodraeth y DU gyda'r UE yn gynharach eleni, a oedd yn cydnabod gwerth teithiau cyfnewid diwylliannol ac yn gosod y llwyfan ar gyfer trafodaethau adeiladol ar symudedd ieuenctid a theithio i artistiaid. Dyma'r mathau o gamau cynyddrannol a fydd yn cyflawni canlyniadau heb gyfaddawdu'r rhyddid a sicrhaodd Brexit. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud bod diffyg ffocws yn rhy aml yn null Llywodraeth Cymru o weithredu. Yn hytrach na galw am strategaethau UE ehangach neu awgrymu ein bod yn ailymuno â sawl rhaglen UE, dylai Gweinidogion ganolbwyntio ar sut i ddefnyddio'r pwerau sydd ganddynt eisoes. Mae rhaglenni fel Taith, a luniwyd ac a gyflwynir yma yng Nghymru, yn dangos nad yw teithiau cyfnewid rhyngwladol yn dibynnu ar Frwsel. Maent yn dangos y gallwn lunio rhywbeth mwy hyblyg, mwy cynhwysol ac sy'n fwy addas i anghenion Cymru.
Ac er ei bod yn iawn inni allu cynnal perthynas waith agos â phartneriaid Ewropeaidd, mae'n siomedig fod cymaint o rethreg Llywodraeth Cymru yn dal i awgrymu mai'r unig ffordd i lwyddiant yw drwy strwythurau'r UE. Ble mae'r partneriaethau newydd gyda Chanada, Japan neu Awstralia? Ble mae'r un egni ar gyfer cryfhau ein cysylltiadau byd-eang drwy gytundebau masnach newydd y DU? Rwy'n pryderu hefyd fod Aelodau Llafur o'r Senedd yn galw am weld Prydain yn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, a bod dau o'r Aelodau dan sylw wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol ar y pwnc. Felly, hoffwn i Lywodraeth Cymru egluro ai ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd yw safbwynt swyddogol Plaid Lafur Cymru, a hoffwn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu gwneud hynny'n glir yn ei hymateb i'r ddadl hon.
Ar ddiogelu data a digonolrwydd data hefyd, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd cydbwysedd. Mae angen sicrwydd ar fusnesau wrth fasnachu gyda'r UE, ond dylem ddathlu gallu'r DU hefyd i ddatblygu cyfundrefn ddata fwy cyfeillgar i arloesedd sy'n cefnogi twf ac nad yw'n ei dagu.
Felly, Lywydd, er bod yr adroddiad hwn yn codi materion dilys, yn enwedig ynghylch cyfathrebu rhwng Llywodraethau ac effeithiau diwylliannol y cytundeb masnach a chydweithredu, rhaid inni beidio â cholli golwg ar y darlun mwy. Mae Brexit wedi rhoi'r gallu i ni wneud pethau'n wahanol ac yn well os oes gennym hyder i ddefnyddio'r rhyddid hwnnw. Ac mae'r rhai sydd o blaid ailymuno â'r UE yn nodi Brexit fel y rheswm dros ein trafferthion economaidd, ond hoffwn nodi yn gyntaf mai'r diwrnod y daeth Brexit i rym, ar 31 Ionawr 2020, oedd y diwrnod y gwnaed diagnosis o'r ddau achos cyntaf o COVID yn y DU, gan arwain at y trychineb economaidd gwaethaf yn ein hanes ar adeg o heddwch, wedi'i achosi gan yr angen i dalu pobl i aros gartref am ddwy flynedd.
Mae'n werth nodi ein bod wedi tyfu y tu hwnt i ardal yr ewro ers i'r refferendwm gael ei gynnal yn 2016, felly yn hytrach na fframio'r cytundeb masnach a chydweithredu yn barhaus fel rhestr o'r colledion hynny, dylem chwilio am enillion, cyfleoedd allforio mwy creadigol, cysylltiadau cryfach â marchnadoedd y Gymanwlad a'r Einglsffer, a mathau newydd o ddiplomyddiaeth ddiwylliannol sy'n adlewyrchu lle Cymru mewn Prydain wirioneddol fyd-eang. Gall y sector diwylliannol elwa o Brexit o hyd, ond mae angen meddylfryd gwahanol, un sy'n canolbwyntio ar y cyfleoedd posib y tu allan i'r undeb, yn hytrach nag ystyried Prydain ar ôl Brexit fel prosiect rheoli niwed.
Felly, yn fyr, ac i gloi, gadewch inni wneud i Brexit weithio i'r celfyddydau, i'n pobl ifanc ac i economi Cymru drwy fod yn uchelgeisiol a thrwy edrych tuag allan, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae ei rhan yn hyn, yn hytrach nag edrych yn ôl i'r gorffennol.
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio nawr i gyfrannu i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r holl gyd-Aelodau a rhanddeiliaid a gyfrannodd at y gwaith hwn, ac am yr ymdrech a'r gofal sydd wedi mynd tuag at gynhyrchu'r adroddiad. Mae'n ddarn cynhwysfawr o waith, ac mae'n cwmpasu ystod eang iawn o feysydd pwysig, ac rwy'n canmol pob un o'r pedwar pwyllgor am weithio ar y cyd i gynhyrchu'r hyn y clywsom ei fod yr adroddiad ar y cyd cyntaf o'i fath gan y Senedd. Mae cwmpas yr adroddiad a'r angen am gyfranogiad y pedwar pwyllgor yn dangos faint o bynciau amrywiol y gall trafodaethau masnach eu cwmpasu.
Wrth i'r drafodaeth am y cytundeb masnach a chydweithredu fynd rhagddi, cyhoeddodd y DU a'r UE y cytundeb newydd ym mis Mai 2025, y cytundeb dealltwriaeth gyffredin, a oedd yn nodi'r ffordd ymlaen ar gyfer cydweithredu pellach rhwng y DU a'r UE. Tra bo Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad hwn, gan ein bod bob amser wedi dadlau dros gyswllt agosach â'r UE, rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn o ba mor gyflym y gall y dirwedd fasnach newid a sut y mae'n rhaid i ni fel Llywodraeth Cymru adolygu a diweddaru ein safbwyntiau'n gyson. Mae yna bob amser nifer fawr o argymhellion mewn adroddiad o'r math hwn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau'r Cadeirydd yn y rhagair fod y themâu cyffredin yn dechrau dod i'r amlwg mewn perthynas ag adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu, a thrwy hynny y gwaith ar gyfer negodiadau'r ddealltwriaeth gyffredin. Oherwydd y nifer fawr o argymhellion, fe geisiaf fynd i'r afael â rhai o'r themâu, gan ei bod yn amhosib mynd drwy bob un o'r argymhellion yn unigol.
Thema bwysig sy'n sefyll allan yw rôl y Senedd, a'r rôl y mae'n rhaid iddi ei chael i adolygu negodiadau masnach. Er mai dim ond Llywodraeth y DU a all gwblhau cytundebau cyfreithiol rwymol ar ran y pedair gwlad, mae llawer o gytundebau masnach y DU, fel cytundeb masnach a chydweithredu yr UE a negodiadau'r ddealltwriaeth gyffredin, mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Rwy'n cydnabod ei bod yn bwysig fod y Senedd yn cael cyfle i graffu a rhoi barn ar yr ystod o bynciau sy'n cael eu negodi. Ond mae'n rhaid cydbwyso hynny hefyd â'n rhwymedigaethau fel Llywodraeth Cymru i beidio â datgelu gwybodaeth a allai beryglu'r negodiadau hynny. Felly, rwy'n gobeithio fy mod i a fy swyddogion wedi taro'r cydbwysedd cywir yn hyn o beth drwy ddarparu gwybodaeth a diweddariadau i bwyllgorau sy'n caniatáu trosolwg o gyfeiriad y negodiadau, heb beryglu'r negodiadau hynny eu hunain.
A dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hefyd i gynhyrchu adroddiad, ein dogfen safbwyntiau, ar gytundebau masnach allweddol pan allwn ddarparu gwybodaeth, ac nid cyn hynny. Bydd yr adroddiadau hyn yn galluogi'r Senedd i ddeall a chraffu ar sut y gallai pob cytundeb effeithio ar Gymru, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i'w wneud ar gyfer negodiadau'r UE pan fyddant wedi'u cwblhau.
Hoffwn droi nawr i drafod sut y mae ein barn yn cael ei chynrychioli yn y trafodaethau parhaus rhwng y DU a'r UE, ac mae hyn yn rhywbeth yr oedd gan bob pwyllgor ddiddordeb ynddo. Rydym bob amser wedi bod yn genedl agored, sy'n edrych tuag allan, gydag allforion nwyddau rhyngwladol yn ffurfio cyfran uwch o'n heconomi yma yng Nghymru nag unrhyw genedl arall yn y DU. Ac er bod hyn wedi creu cyfleoedd, mae hefyd wedi creu risgiau yn ei sgil, gydag economi Cymru'n fwy agored efallai i newidiadau i gysylltiadau masnachu na mannau eraill yn y DU. Canfu'r Ganolfan Diwygio Ewropeaidd, ar ddiwedd 2024, fod dwysedd masnach y DU yn parhau i fod 3.5 y cant yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Yn ogystal, nid yw meintiau masnachu'r DU ond wedi tyfu 1 y cant o lefelau 2019 mewn termau real, o'i gymharu â thwf o 8 y cant yn y G7 a'r UE. Felly, mae hynny'n dangos perfformiad masnach cymharol wael y DU a Chymru oherwydd ymadawiad y DU â'r UE.
Mae effaith ymadael â'r UE wedi'i theimlo ledled Cymru, gan effeithio ar ystod o sectorau, cynyddu rhwystrau masnach i fusnesau Cymru, rhoi diwedd ar allu pobl i symud yn rhydd, ac effeithio ar allu pobl ifanc i fyw a theithio dramor. Yr UE yw ein partner masnachu pwysicaf o hyd, ac wrth i'r DU ddechrau ailosod ei pherthynas â'r UE, mae'n hanfodol fod barn y cenhedloedd datganoledig yn cael eu clywed yn y negodiadau hyn i sicrhau bod unrhyw drefniadau newydd yn cynrychioli pob rhan o'r DU ac o fudd iddynt.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ac yn datblygu perthynas weithredol â llawer o sefydliadau, rhanbarthau a rhwydweithiau'r UE. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu'n adeiladol â'r UE i sicrhau budd i'r ddwy ochr drwy gydweithredu parhaus. Mae cadw'r swyddfa ym Mrwsel yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu ac mae ein hymgysylltiad rhagweithiol wedi codi proffil a hygrededd Cymru ymhlith partneriaid yr UE, er gwaethaf cefndir heriol y berthynas rhwng yr UE a'r DU. Rydym yn hapus gyda chyfeiriad newydd, mwy cadarnhaol y berthynas rhwng yr UE a'r DU ac rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod blaenoriaethau penodol Cymru yn cael eu cynrychioli mewn trafodaethau rhwng yr UE a'r DU ar y cytundeb masnach a chydweithredu a chytundebau newydd sy'n deillio o uwchgynhadledd yr UE a'r DU yn gynharach eleni.
Mae ein timau yng Nghymru, Brwsel a ledled Ewrop yn ymroddedig i gyflawni cynllun cyflawni rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, sy'n canolbwyntio'n glir ar ymgysylltiad Ewropeaidd. Rwyf wedi clywed y pryder gan aelodau'r pwyllgor na fydd Llywodraeth y DU yn ymgysylltu'n ddigonol â ni ar y negodiadau sy'n dilyn y ddealltwriaeth gyffredin, yn enwedig mewn meysydd datganoledig. O ystyried nad yw'r negodiadau hyn wedi dechrau eto, mae'n amhosib i ni ddweud a fydd hyn yn wir, ond mae arwyddion cynnar a'r ymgysylltiad hyd yma yn awgrymu bod Llywodraeth y DU yn deall bod y materion hyn wedi'u datganoli mewn meysydd fel cynllun y taliad sengl, a bydd gweithredu unrhyw gytundeb yn gyfrifoldeb y Llywodraethau datganoledig, ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gael rhan yn y broses o ffurfio safbwynt y DU cyn y negodiadau a phenderfynu beth sy'n cael ei gytuno yn y pen draw.
Mae gennym ymgysylltiad gweinidogol â Llywodraeth y DU drwy strwythurau ein grŵp rhyngweinidogol, ond rydym yn ceisio sicrwydd y bydd y strwythurau hyn yn addasu i gyd-fynd â chyflymder y negodiadau. Ar lefel swyddogol, rydym hefyd wedi cael ymgysylltiad cadarnhaol hyd yma â Llywodraeth y DU ar y negodiadau sydd ar y ffordd, a gobeithiwn fod hynny'n arwydd o'r hyn sydd i ddod.
Felly, hoffwn ddiolch unwaith eto i Aelodau'r Senedd am yr amser y maent wedi'i roi i archwilio'r mater hwn. Mae polisi masnach yn faes cymhleth ac yn aml yn newid yn gyflym iawn, ac rwy'n gobeithio y gallwn barhau i weithio'n adeiladol gyda'n gilydd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Delyth Jewell nawr sydd yn ymateb i'r ddadl, Cadeirydd y pwyllgor.
Diolch, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Diolch i'r cynrychiolwyr o bob pwyllgor sydd wedi gosod mas y rhwystrau sy'n wynebu pob un o'n meysydd i ni, boed busnesau, ein hamgylchedd, llywodraethiant, a'n gallu i ddeall gweithrediad ein Llywodraethau.
Mae rhai anghysondebau wedi'u hamlygu hefyd yn y wybodaeth a roddwyd i'n gwahanol bwyllgorau ar yr un cwestiynau ar rai pwyntiau. Roedd yn ddefnyddiol clywed syniadau'r Aelodau eu hunain—syniadau Sam ynglŷn â'r Cynulliad Partneriaeth Seneddol a'r angen i lais Cymru gael ei glywed. Ac ydy, mae Alun yn iawn: roedd unfrydedd y dystiolaeth a gawsom yn glir. Rwy'n cytuno hefyd ynglŷn ag effaith dorcalonnus, ingol clywed am y rhwystrau gwrthnysig sy'n cael eu gosod mewn masnach, boed yn fasnach ariannol neu'n fasnach mewn syniadau, arloesedd, profiadau. Nid rhwystrau sydd eu hangen arnom, ond bod yn oleudy, fel yr awgrymodd Adam. Ni allaf anghytuno chwaith â chrynodeb llwm Adam o'r 55 argymhelliad, ein bod mewn llanast. Ond nid yw'n llanast a ddylai fod yn anorchfygol. Mae digon o syniadau yma. Mae mwy na digon o awydd am newid. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Nid wyf yn deall yn iawn o hyd, serch hynny, sut y bydd pethau'n newid o ganlyniad i'r gwaith hwn. Ni all hwn fod yn adroddiad arall sy'n cael ei adael ar silff. Dylai fod yn gyfle i newid pethau. Rhaid inni wneud yn well.
Wrth inni gloi'r ddadl hon, Lywydd, hoffwn fyfyrio ar yr hyn y mae'r ymchwiliad wedi'i ddysgu i ni fel pwyllgorau, a pham fod ei ganfyddiadau'n bwysig i ddyfodol Cymru. Mae'r ymchwiliad wedi dangos cymhlethdod y berthynas rhwng yr UE a'r DU a'i goblygiadau dwys i Gymru. Mae'r heriau o'n blaenau yn sylweddol, ond felly hefyd y cyfleoedd. Efallai mai dyma un o'r unig ffyrdd y buaswn yn cytuno â'r pwyntiau a wnaeth Gareth—rhaid inni edrych, wrth gwrs, ar y cyfleoedd a ddarperir ar yr adeg hollbwysig hon.
Mae'r cytundeb dealltwriaeth gyffredin yn arwydd o barodrwydd i ailosod cysylltiadau. Yn yr un modd, mae'r adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu sydd ar y ffordd yn darparu platfform ar gyfer dylanwadu a newid. Mae'n foment ar gyfer uchelgais, ac i Gymru beidio â bod yn arsylwr goddefol yn unig yn y prosesau sy'n digwydd. Rhaid inni chwarae rhan weithredol yn llunio canlyniadau sy'n bwysig i'n diwylliant, ein heconomi, ein hamgylchedd, ein cymunedau. Mae hynny'n golygu hyrwyddo atebion i fusnesau sy'n wynebu rheolau cymhleth—rhy gymhleth. Mae'n golygu eirioli dros weithwyr proffesiynol creadigol, sydd angen trefniadau teithio ymarferol. Mae'n golygu sicrhau bod pobl ifanc yn adennill cyfleoedd ar gyfer teithiau cyfnewid diwylliannol ac addysgol. Mae'n golygu y dylem wynebu heriau trawsffiniol gyda'n gilydd, o'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd i ddiogelwch ein cyflenwadau ynni.
Rhaid inni feddwl yn strategol. Nid moethusrwydd yw strategaeth bwrpasol ar gyfer yr UE; mae'n anghenraid. Byddai'n darparu eglurder, cydlyniant a fframwaith ar gyfer ymgysylltu. Heb strategaeth, rydym mewn perygl o lywio cymhlethdodau'r berthynas rhwng y DU a'r UE heb gynllun clir, heb y goleudy y soniodd Adam amdano. Felly, gadewch inni fanteisio ar yr adegau hyn gyda phenderfynoldeb a gweledigaeth. Mae'n ymwneud â mwy nag adfer yr hyn a gollwyd. Mae'n ymwneud ag adeiladu dyfodol sy'n gweithio i Gymru. Rhaid inni sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed a bod ein perthynas â'r UE yn adlewyrchu gwerthoedd a dyheadau'r bobl a wasanaethwn.
I gloi, Lywydd, bydd ein pwyllgorau’n parhau i fod yn wyliadwrus wrth sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli a bod y cyfleoedd sy’n deillio o’r prosesau hyn yn cael eu gwireddu’n llawn. Rwy’n cymeradwyo’r adroddiad i’r Senedd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r adroddiad yna wedi cael ei nodi.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 9 yw dadl Plaid Cymru ar wasanaeth gofal cenedlaethol. Mabon ap Gwynfor sy'n gwneud y cynnig.
Cynnig NDM9031 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, a gychwynnwyd gan Blaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio.
2. Yn gresynu bod cynnydd ar y rhaglen waith hon wedi bod yn araf o dan arweinyddiaeth Llywodraeth Lafur Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r cynnydd o ran diwygio'r system gofal cymdeithasol drwy wneud y canlynol:
a) penodi cyfarwyddwr ar gyfer Cymru gyfan gyda goruchwyliaeth strategol o drefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty;
b) datblygu cyllidebau cyfunol ar gyfer trefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty;
c) gosod byrddau partneriaeth rhanbarthol ar sail statudol gyda chylch gwaith clir i feithrin mwy o gydweithredu rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol;
d) sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn cael asesiad o anghenion o fewn cyfnod o 28 diwrnod; ac
e) ymgorffori o fewn cyfraith Cymru isafswm blynyddol cyfreithiol o ddiwrnodau seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mae'r gwasanaeth iechyd a gofal yng Nghymru wedi'i seilio ar dri philer: gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymdeithasol. O'r tri, gofal cymdeithasol yw'r mwyaf bregus o bosib, yr un sy'n cael y lleiaf o gymorth, ac yn aml, yr un sy'n cael ei anghofio fwyaf. Ac eto, mae'n wasanaeth y bydd pob un ohonom, ar ryw adeg yn ein bywydau, yn dibynnu arno. Boed yn rhiant sy'n heneiddio, yn bartner anabl, neu'n gymydog sydd angen cymorth dyddiol, mae gofal cymdeithasol yn cyffwrdd â phob un ohonom.
Wedi'r cyfan, rydym yn genedl sy'n heneiddio. Mae pobl yng Nghymru yn byw bywydau hirach, ond nid bywydau iachach o reidrwydd. Y bwlch rhwng disgwyliad oes iach a disgwyliad oes cyffredinol—bron i 18 mlynedd i ddynion a 22.5 mlynedd i fenywod—yw'r mwyaf ymhlith gwledydd y DU. Mae hynny'n golygu, am bron i ddau ddegawd o'u bywydau, fod gormod o'n dinasyddion yn byw gyda salwch, eiddilwch neu anabledd. Mae cyflyrau sy'n gysylltiedig ag oedran fel dementia eisoes ymhlith ein prif achosion marwolaeth. Erbyn 2040, bydd dros 53,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia difrifol. Dylai'r realiti hwnnw ynddo'i hun orfodi unrhyw Lywodraeth â phwrpas moesol i weithredu.
Mae bron i ddegawd wedi mynd heibio ers i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ddod yn gyfraith. Ac eto, mae ei bwriadau da yn parhau i fod heb eu gwireddu ar lawr gwlad. Mae gormod o hawliau'n bodoli ar bapur yn unig. Nid oes unrhyw strategaeth gydlynol, dim mewnwelediad ystyrlon nac unrhyw waith dilynol cyson gan y Llywodraeth hon. Y canlyniad yw loteri cod post o ofal ledled Cymru.
Nid oes gweithredu na buddsoddiad i gyd-fynd â'r rhethreg o lesiant ac atal. Bwriadwyd i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol bontio'r bwlch rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ond heb sail statudol nac atebolrwydd clir, mae eu heffaith yn gyfyngedig, a chaiff arian ei drosglwyddo o awdurdod lleol i fwrdd partneriaeth rhanbarthol ac yn ôl eto o fewn yr un diwrnod, yn amlach na pheidio heb wneud unrhyw effaith ystyrlon i wella bywydau pobl.
Mae rhanddeiliaid wedi galw dro ar ôl tro am gynllun ymarferol er mwyn sicrhau bod gofalwyr a phobl sy'n derbyn gofal yn gweld gwireddu'r hawliau y mae'r Ddeddf yma yn eu haddo. Yn rhy aml mae'r galwadau hynny wedi cael eu hanwybyddu. Mae'r methiant yma i fyw i fyny i'r Ddeddf yn amlwg i bawb pan fo'n dod at y diffyg cefnogaeth i ofalwyr di-dâl, y gweithlu cudd y byddai'n systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn chwalu hebddyn nhw. Mae tua 100,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru heddiw yn byw mewn tlodi. Mae nifer yn jyglo gwaith, gofal plant a chyfrifoldebau gofalu eraill heb gefnogaeth ariannol, heb seibiant digonol, a chyda rhy ychydig o gyfleoedd i orffwys neu wella.
O dan y Ddeddf, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd glir i asesu anghenion lles gofalwyr trwy asesiad anghenion gofalwyr, a gallant fod yn gymwys i baratoi a chyflwyno cynllun cymorth statudol. Dylai'r asesiadau hyn nodi nid yn unig pa gymorth sydd ei angen ar y gofalwyr o ddydd i ddydd, ond hefyd a oes angen seibiant arnynt—cydnabyddiaeth syml, ddynol. Ond dydy o ddim yn gweithio, a dim ond hyd at 8 y cant sy'n derbyn yr asesiadau yma, gyda channoedd o filoedd o ofalwyr yn byw eu bywydau heb y gefnogaeth angenrheidiol.
Rŵan, pan mae polisi'n gweithio, yna mae o'n gwneud gwahaniaeth. Mae'r cynllun seibiannau byr cenedlaethol wedi dangos beth sy'n bosibl pan fydd polisi da, sydd yn ddealladwy a ddim yn gofyn gormod, yn cael y gefnogaeth angenrheidiol. Mae gwerthusiad annibynnol wedi dangos ei fod o'n cyrraedd y rhai sydd yn fwyaf mewn angen, gan gynnwys cyrraedd gofalwyr sydd wedi mynd blwyddyn gyfan heb un seibiant o'u rôl gofalu. Mae hynny yn drawsnewidiol. Mae'n enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd bwriad cenedlaethol yn paru ag ymddiriedaeth a buddsoddiad lleol. Mae'n profi, pan fyddwn yn grymuso sefydliadau cymunedol ac yn gwrando ar ofalwyr eu hunain, y gallwn ni ddarparu gofal sy'n teimlo'n bersonol, yn dosturiol ac yn effeithiol.
Ochr yn ochr â hynny, mae cronfa cymorth i ofalwyr wedi profi i fod yn gefnogaeth hanfodol i'r rhai sydd yn dioddef yn fwyaf yn sgil tlodi. Dwi ddim yn un sydd yn osgoi dweud pryd mae pethau wedi cael eu gwneud yn dda. Mae angen cynnal yr arfer da hynny. Boed ein gofalwyr yn rhai cyflogedig neu'n rhai di-dâl, nhw ydy asgwrn cefn ein system gofal, ac eto yn rhy aml maen nhw'n cael eu tan-barchu, eu tan-dalu a'u hanwybyddu. I ormod o bobl sydd angen gofal, mae'r ddarpariaeth yn anghyson ar y gorau ac yn ddrud neu'n anhygyrch i ormod o bobl.
Fe gafodd gwasanaeth gofal cenedlaethol Llywodraeth Cymru, a ddechreuwyd drwy ein cytundeb cydweithredu efo'r Llywodraeth, ei gynllunio er mwyn newid hynny: i greu system cwbl integredig sy'n rhoi'r un gwerth i ofal ac i'n hiechyd. Y bwriad oedd sicrhau cyflog teg i weithwyr gofal, cefnogaeth briodol i ofalwyr di-dâl a phartneriaeth ddi-dor rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ond, o dan gyfarwyddyd y Llywodraeth hon, mae cynnydd wedi bod yn boenus o araf. Mae'r hyn a ddechreuodd fel gweledigaeth feiddgar wedi cael ei adael i lusgo'n ddi-gyfeiriad. Oherwydd mae unrhyw gynllun, dim ots pa mor deilwng, yn llipa heb yr ewyllys neu'r arweiniad gwleidyddol i'w wthio ymlaen. Mae angen gweithredu ar frys. Mae angen eglurder ynghylch yr uchelgais. Mae angen map er mwyn dangos sut y bydd y gwasanaeth gofal cenedlaethol yn dwyn ynghyd gwasanaethau, cyllid a'r atebolrwydd er mwyn cyflawni a sicrhau nad ydy pobl a'u teuluoedd yn cael eu gadael i lawr.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Dywedodd Rachel Reeves ddoe fod penderfyniadau poenus o'n blaenau. Mae'r hyn sy'n boenus i Ganghellor y Trysorlys sy'n eistedd yn Stryd Downing ar gyflog o £164,000 yn wahanol iawn i'r hyn sy'n boenus i unigolyn sy'n byw mewn poen cronig, sydd angen gofal ond sy'n gorfod dewis rhwng gwresogi, bwyta neu awr ychwanegol o gymorth. Mae gennym fwy o bobl yng Nghymru sydd angen gofal oherwydd ein hamgylchiadau hŷn, salach a thlotach. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru am hyrwyddo anghenion Cymru, ac mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn dawel yn ystod proses gyllidebol y DU ynglŷn â'r angen i sicrhau ein bod yn derbyn y cyllid sydd ei angen i ofalu am bobl Cymru.
Gofynnir i awdurdodau lleol wthio pobl i ymyl y dibyn, a chânt eu gorfodi i wneud penderfyniadau poenus eu hunain. Faint y byddant yn cynyddu’r dreth fwyaf atchweliadol, sy’n brifo’r tlotaf fwyaf? Pa wasanaethau y byddant yn eu torri? A fydd yn rhaid iddynt ddiswyddo gweithwyr allweddol? A dyna’r cyd-destun y disgwylir i ddarparwyr gofal cymdeithasol weithredu ynddo.
Felly, rhaid i'r ateb fod yn ddeublyg: buddsoddiad, ie, ond hefyd, cyfeiriad cenedlaethol clir, dealltwriaeth gyffredin nad cost i'w ffrwyno yw gofal cymdeithasol, ond gwasanaeth sy'n cynnal cymunedau, yn galluogi annibyniaeth ac yn cryfhau'r economi. Dychmygwch beth y gallai Cymru ei gyflawni pe baem yn trin gofal cymdeithasol nid fel argyfwng i'w reoli, ond fel ased cenedlaethol i adeiladu arno, lle nad yw mynediad pobl at ofal yn dibynnu ar ba mor ddwfn yw eu waledi; system lle mae gan ofalwyr hawliau go iawn a mynediad at seibiant, lle mae'r gronfa gymorth i ofalwyr a'r cynllun seibiant byr wedi'u hymgorffori yn bileri cymorth craidd, lle caiff arloesi lleol ei gefnogi gan ymrwymiad cenedlaethol. Dyna'r Gymru y mae Plaid Cymru eisiau ei gweld, Cymru lle mae gofal yn sylfaen i'n system iechyd, nid y piler sy'n cael ei anghofio.
Ddirprwy Lywydd, prawf moesol unrhyw Lywodraeth yw sut y mae'n trin y rhai sy'n rhoi gofal a'r rhai sydd ei angen. Mae'n bryd pasio'r prawf hwnnw. Felly, gadewch inni gyflymu'r broses tuag at wasanaeth gofal gwirioneddol genedlaethol, un sy'n cyflawni ei addewidion, yn gwerthfawrogi ei bobl, ac yn rhoi urddas i bob dinesydd y mae'n ei wasanaethu. Oherwydd pan fyddwn yn gofalu'n well, mae pob un ohonom yn byw'n well. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol. Galwaf ar James Evans i gynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn gresynu:
a) bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol wedi methu â chyflawni newid ystyrlon yn y sector gofal cymdeithasol;
b) bod baich treth cynyddol Llywodraeth Lafur y DU a roddir ar gyflogwyr, drwy godiadau yswiriant gwladol, yn bygwth hyfywedd llawer o ddarparwyr gofal;
c) bod Llywodraeth Cymru wedi methu cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu digonol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys mynediad digonol at hyfforddiant, a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru;
d) bod bwlch brawychus ac annerbyniol rhwng polisi ac ymarfer ar asesiadau ar gyfer gofalwyr a darparu cymorth; ac
e) bod problemau parhaus o ran mynediad at becynnau gofal sy'n arwain at oedi wrth ryddhau o'r ysbyty.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno hawl statudol i seibiant, gydag isafswm o 14 diwrnod y flwyddyn ar gyfer gofalwyr di-dâl; a
b) datblygu a chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol ystyrlon, yn y parth cyhoeddus, i gefnogi gwelliannau mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys mynediad at asesiadau, darparu cymorth amserol, mynediad at seibiant, a datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies. Fel y dywedwyd yn gywir ddigon, mae'r ddadl hon heddiw ar ofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn ddadl y mae angen i ni ei chael yn fwyfwy rheolaidd, gan ei bod yn system sy'n gweithio'n iawn i'r bobl sy'n dibynnu arni pan fo'n gweithio, a phan nad yw'n methu. Ond rwy'n credu bod angen inni gydnabod ei bod yn system sydd o dan straen enfawr. Mae'r bobl sy'n gweithio ynddi o dan straen enfawr, ac ni all y bobl sydd angen mynediad ati gael y mynediad amserol sydd ei angen arnynt, ac mae gwir angen i hynny newid.
Cyhoeddwyd rhaglen y Llywodraeth i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol, a ddatblygwyd drwy'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, gydag uchelgais, a chafodd ei chroesawu ar y meinciau hyn ar y pryd, ond mae'r cynnydd wedi bod yn araf. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni yn nes ymlaen ynglŷn â pha gynnydd a wnaed, oherwydd flynyddoedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i fod heb strwythur clir, atebolrwydd a chanlyniadau mesuradwy i'r hyn y bydd y gwasanaeth gofal cenedlaethol hwnnw'n ei gyflawni.
Mae ein gwelliant yn gresynu at gynllun Llafur a Phlaid Cymru, ei fod wedi methu cyflawni'r newid ystyrlon hwnnw. Fel y dywedais, mae'r sector yn parhau i fod o dan bwysau, ac mae'r bylchau rhwng polisi ac ymarfer yn parhau i dyfu, oherwydd dro ar ôl tro, mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi polisi, ac yn anffodus, nid yw'n cael ei weithredu ar lawr gwlad.
Mae problemau eraill yn wynebu ein sector gofal cymdeithasol, onid oes? Mae penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol wedi rhoi beichiau pellach ar gyflogwyr, gan fygwth hyfywedd llawer o ddarparwyr gofal bach a chanolig ledled Cymru. Cymorth sydd ei angen ar fusnesau gofal, nid costau ychwanegol, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod sy'n siarad â darparwyr gofal yn fy etholaeth sy'n dweud wrthym sut y mae'r cyfraniadau yswiriant gwladol yn rhoi pwysau gwirioneddol arnynt, ac ar eu gallu i gyflogi'r staff gwych sy'n gweithio yn ein sector gofal cymdeithasol. Mae'n siomedig iawn nad ydym wedi clywed llawer am hynny gan Lywodraeth Cymru, i wrthwynebu'r hyn y mae eu cymheiriaid wedi bod yn ei wneud i lawr yn San Steffan.
Ond credaf fod angen inni resynu hefyd at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i adeiladu a chadw gweithlu gofal cynaliadwy ledled Cymru, gan fod staff gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu cyflogau isel, dilyniant gyrfa gwael a mynediad cyfyngedig at hyfforddiant, er eu bod ar reng flaen llesiant cymunedol, oherwydd pe na bai gennym y staff hynny yno, ni fyddem yn gallu cefnogi'r bobl sydd angen y gofal hwnnw mewn gwirionedd. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw dilyniant gyrfa gwell i bobl yn ein system gofal cymdeithasol. Hoffwn eu gweld yn cael cyfleoedd hyfforddi gwell. Hoffwn eu gweld yn cael cyflog gwell am y gwaith a wnânt, gan fod y gwaith a wnânt yn gwbl wych, yn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
A chredaf mai'r hyn nad ydym wedi sôn llawer amdano—er i Mabon ei grybwyll—yw gofalwyr di-dâl, ac mae'r sefyllfa yr un mor wael i ofalwyr di-dâl. Mae gormod o ofalwyr yn dal i aros yn rhy hir am asesiadau o'u hanghenion, mae lefel y cymorth seibiant yn amrywio'n sylweddol rhwng yr awdurdodau lleol ledled Cymru, ac mae'r oedi hwn yn gwbl annerbyniol. Rydym wedi clywed nifer o adroddiadau sy'n nodi, pe baem yn rhoi'r gofalwyr di-dâl hynny yn y system ac yn eu talu, y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd yn fethdalwr. Mae'n gyfwerth â'r gyllideb iechyd. Felly, mae angen inni wneud mwy i gefnogi ein gofalwyr di-dâl, yn enwedig ein gofalwyr ifanc—y bobl hynny nad ydynt weithiau'n sylweddoli eu bod yn gofalu, y plant hynny sy'n gofalu am eu rhieni neu frodyr a chwiorydd cyn iddynt fynd i'r ysgol, pan fyddant yn dod adref, neu pan fyddant yn yr ysgol yn cael negeseuon testun yn dweud, 'Rhaid iti ddod adref gan fod angen help arnaf.' Dyna un peth y mae gwir angen inni ganolbwyntio arno, a sicrhau bod ganddynt ganlyniadau addysgol priodol, nad ydynt yn colli eu haddysg, fod cymorth iechyd meddwl ar gael iddynt. Hefyd, eu bod yn cael yr un cyfleoedd ag unrhyw unigolyn arall yn eu grŵp blwyddyn yn yr ysgol, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf fod gwir angen inni ganolbwyntio arno.
Ond un peth nad wyf am ei weld yw'r dadleuon sy'n gwneud imi deimlo'n hynod rwystredig—ac Aelodau eraill, rwy'n siŵr—a welwn rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd ynghylch pwy sy'n rheoli gofal rhywun. Hoffwn weld integreiddio llawer agosach na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd—yn ychwanegol at fodel y byrddau partneriaeth rhanbarthol sydd gennym yn ôl pob tebyg—gan fy mod yn credu ein bod, yn rhy aml, wedi gweld pobl yn dadlau yn ôl ac ymlaen am arian yn hytrach na rhoi anghenion yr unigolyn dan sylw yn gyntaf.
Felly, mae ein cynnig heddiw am gyflwyno hawl statudol i seibiant, gan warantu 14 diwrnod o ofal seibiant y flwyddyn i ofalwyr di-dâl. Hoffwn weld hynny'n mynd hyd yn oed ymhellach o bosib, gan fod gofalwyr yn haeddu hawl gyfreithiol i orffwys a chymorth, yn hytrach nag addewid o orffwys a chymorth yn unig gan awdurdodau lleol.
Yn ail, credaf fod angen inni ddatblygu a chyhoeddi dangosyddion perfformiad clir ar gyfer gofal cymdeithasol, fel y gallwn fesur gwelliannau i ddatblygu'r gweithlu a mynediad at asesiadau, darpariaeth seibiant ac amserlenni pecynnau gofal, oherwydd weithiau, heb ddata atebol a thryloyw, ni ellir sicrhau'r cynnydd gwirioneddol y mae angen i ni ei weld yn y system.
Gwn fod fy amser yn dod i ben yn fuan iawn, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n credu bod y camau gweithredu yn ein cynnig yn ymarferol, yn fesuradwy ac yn gyraeddadwy, ac y byddent yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofalwyr, cleifion a theuluoedd, ac yn y pen draw, i'r gweithlu sy'n sail i'n system ofal. Credaf y dylai pawb ar draws y Siambr, ym mhob un o'r pleidiau, wneud popeth yn ein gallu i gefnogi ein system gofal cymdeithasol, oherwydd os na chawn drefn ar ein system gofal cymdeithasol, nid awn byth i'r afael â rhai o'r problemau a wynebwn yn ein GIG.
Rwy'n gwybod bod fy amser ar ben, Ddirprwy Lywydd—
—ac rwy'n annog pawb heddiw i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig.
A galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i gynnig gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.
A ydych chi'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol?
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, sef ymrwymiad ar y cyd yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
2. Yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar raglen waith Cam 1 mewn partneriaeth, gan gynnwys:
a) sefydlu Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol gref, gan weithio ochr yn ochr â swydd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.
b) sefydlu'r egwyddorion a'r safonau cenedlaethol i lywio'r gwaith o drawsnewid i gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth mewn modd sy'n canolbwyntio ar y person;
c) deddfu ar ddileu elw o ofal plant ac estyn yr opsiwn o daliadau uniongyrchol i bobl sy'n cael gofal iechyd parhaus; a
d) sefydlu Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol a'i gwaith i ddatblygu fframwaith tâl a dilyniant.
3. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) cydgynhyrchu glasbrint ar gyfer System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru;
b) cryfhau llywodraethiant cenedlaethol a rhanbarthol i arwain a chefnogi system iechyd a gofal cymdeithasol fwy cydgysylltiedig yng Nghymru;
c) buddsoddi £278m y flwyddyn drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i feithrin capasiti ar gyfer gofal cymunedol integredig yn ogystal â buddsoddi £30m mewn llwybrau gofal, o ganlyniad i'r cytundeb cyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru;
d) cryfhau deddfwriaeth a chanllawiau mewn perthynas ag integreiddio a gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys cydgomisiynu a chyfuno adnoddau;
e) sbarduno'r gwaith o gyflawni'r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys y cynllun seibiannau byr i helpu gofalwyr gyda'u gweithgareddau hanfodol;
f) sefydlu Fforwm y Gweithlu Gofal Cymdeithasol a pharhau i ariannu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'n gweithlu gwerthfawr; a
g) cynnal y gyfundrefn fwyaf hael o ran codi tâl yn y DU gyda therfyn cyfalaf o £50,000 ar gyfer gofal preswyl a chap wythnosol o £100 ar gyfer gofal cartref.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol, mae’n ddrwg gennyf.
Diolch. Sioned Williams.
Ledled Cymru, mae mwy na 300,000 o bobl yn gofalu am anwyliaid. Mae'r gofalwyr di-dâl hyn yn dal teuluoedd at ei gilydd pan fydd y system o'u cwmpas yn methu, yn coginio prydau bwyd, yn rheoli meddyginiaeth, yn darparu gofal 24 awr y dydd, yn aml heb unrhyw gymorth, unrhyw orffwys nac unrhyw gydnabyddiaeth. Er bod eu gofal yn cadw gwasanaethau rhag cael eu llethu, ac yn werth dros £10 biliwn y flwyddyn, maent hwy eu hunain wedi ymlâdd, yn dioddef caledi ariannol ac yn rhy aml, yn anweledig.
Pan gyflwynwyd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fe addawodd well bargen i ofalwyr, yr hawl i lesiant, yr hawl i wybodaeth a chyngor, a'r hawl i asesiad o'u hanghenion. Ac eto, nid yw hawliau ond mor gryf â'r ffordd y cânt eu cyflawni, ac yng Nghymru mae'r gwaith o'u cyflawni yn ddiffygiol iawn. Mae'r Llywodraeth yn sôn am sbarduno cyflawniad yn eu gwelliant, ond mae arnaf ofn mai dyna ble mae'r broblem. Yn eu hadroddiad yn 2024, canfu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mai 2.8 y cant yn unig o ofalwyr yn y pedwar awdurdod lleol a archwiliwyd a oedd wedi cael asesiad o'u hanghenion, ac mai 1.5 y cant yn unig a oedd wedi cael cynllun cymorth.
Dywed Gofalwyr Cymru, oherwydd diffyg cyllid a galw cynyddol am gymorth, fod awdurdodau lleol yn aml yn methu cynnig unrhyw gymorth i ofalwyr, ac ond yn darparu cymorth cyfyngedig i eraill. Canfu eu harolwg a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Cyflwr Gofalu yng Nghymru 2025', nad oedd 75 y cant o'r rhai a ymatebodd wedi cael asesiad o anghenion gofalwyr yn y 12 mis diwethaf. Ni allwn adael i hyn barhau. Mae'r canlyniadau dynol ac ariannol yn gwbl anghynaliadwy.
Clywn gymaint am yr angen i fabwysiadu dull ataliol o weithredu iechyd a gofal cymdeithasol. Beth allai fod yn fwy ataliol na'r alwad yn ein cynnig i sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn cael asesiad o anghenion o fewn cyfnod o 28 diwrnod? Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i hynny? Ac os na wnewch, pam?
Mae'r adroddiad gan Gofalwyr Cymru yn datgelu darlun mor dorcalonnus, ond yn anffodus, mae'n ddarlun cyfarwydd iawn sy'n cael ei ddisgrifio mewn dadl ar ôl dadl, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'n destun gofid fod yr adroddiad yn dangos cynnydd o 53 y cant yn nifer y gofalwyr di-dâl yng Nghymru sy'n torri'n ôl ar hanfodion ers y llynedd. Pum deg tri y cant. Mae traean o ofalwyr yn torri'n ôl ar fwyd neu wresogi. Mae dwy ran o dair yn dweud bod eu sefyllfa ariannol yn niweidio eu hiechyd meddwl. Mae un o bob 10 eisoes mewn dyled oherwydd eu rôl fel gofalwyr. Ac wrth gwrs, y tu ôl i bob ystadegyn, mae pobl, pobl sy'n ei chael hi'n anodd. Mae'r profiadau sy'n cael eu cyfleu yn yr adroddiad yn dweud y cyfan. Dywedodd un, 'Dim ond ystafell fy ngŵr sy'n cael ei gwresogi; rwy'n gwisgo chwe haen o ddillad yn y gaeaf.'
Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd o dan Ddeddf 2014 i hyrwyddo lles gofalwyr, ac mae hynny'n golygu creu atebolrwydd pan na chaiff yr hawliau hynny eu cyflawni. Felly, a yw'r Llywodraeth yn cytuno â Phlaid Cymru ei bod yn bryd cael cynllun gweithredu diwygiedig, un sydd â chyllid wedi'i glustnodi, amserlenni clir ac atebolrwydd cadarn i wireddu'r hawliau hynny? Mae gormod o ofalwyr yn cael eu gadael heb ddigon o gymorth.
Y lwfans gofalwr yw'r isaf o holl fudd-daliadau Llywodraeth y DU, felly a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw sylwadau i'w phartneriaid yn San Steffan ynghylch cynyddu'r cymorth ariannol hwnnw? Mae'n amlwg hefyd fod gofalwyr di-dâl yn cael eu heffeithio gan fethiannau ac annigonolrwydd cymorth gofal cymdeithasol. Mae adroddiad 'Cyflwr Gofalu' yn dweud bod llawer yn cael eu gadael
'i ymdopi ag addewidion gwag. Mae eraill, os a phan fydd gwasanaethau ar gael, yn dioddef darpariaeth anghyson a chymhlethdodau ychwanegol a achosir gan system y mae gweithwyr proffesiynol cyflogedig yn ei chael hi'n anodd ei llywio, gan osod disgwyliad cwbl afrealistig ar ofalwyr heb lawer o amser i ymgysylltu'n llwyddiannus â nhw er mwyn sicrhau'r cymorth sydd ei angen arnynt.'
Hoffwn glywed ymateb y Gweinidog i hynny.
Mae Plaid Cymru'n cefnogi galwad Gofalwyr Cymru i gydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth lunio ymyriadau polisi gwrth-dlodi a chostau byw yn y dyfodol, ynghyd â'u galwadau ar y Llywodraeth i ymrwymo i gyllid hirdymor ar gyfer y cynllun seibiant byr. Oherwydd er bod y Llywodraeth wedi cydnabod pwysigrwydd seibiant, nid yw'n cael ei ddarparu'n gyson. Felly, rydym yn galw am ddyrannu isafswm cyfreithiol blynyddol o ddiwrnodau seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae'r profiadau a gofnodwyd yn adroddiad 'Cyflwr Gofalu' yn tanlinellu pam fod cymaint o angen am yr alwad hon:
'Dim cefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol. Methu cysylltu â nhw. Dim cymorth ganddynt beth bynnag, gan nad oes ganddynt unrhyw arian ar gael.'
'Dywedwyd wrthyf nad oedd unrhyw gartrefi gofal yn darparu gofal diwrnod llawn na seibiannau byr yn fy ardal i.'
Mae'n bryd cau'r bwlch rhwng rhethreg a realiti'r ffordd y caiff gofalwyr eu cefnogi. A yw'r Llywodraeth—
Mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda, Sioned.
Iawn, dyma fy mrawddeg olaf. A yw'r Llywodraeth yn falch o'i hanes o gefnogi gofalwyr di-dâl? A yw'n credu y byddai'r 52 y cant o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sy'n torri'n ôl ar fwyd a gwresogi yn falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn honni ei bod wedi'i gyflawni mewn perthynas â chymorth i ofalwyr dros y chwarter canrif y mae wedi bod mewn grym yng Nghymru? Diolch.
Rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon ar y gwasanaeth gofal cenedlaethol heddiw. Roeddwn yn falch iawn o weithio gyda Cefin Campbell. A yw—? Ydy, mae Cefin Campbell yno. Mae'r pileri hyn yn mynd o'r ffordd weithiau. Ond roeddwn yn falch iawn o weithio gyda Cefin ar hyrwyddo'r syniad o gael gwasanaeth gofal cenedlaethol fel rhan o'r cytundeb cydweithio, ac roeddwn yn gwerthfawrogi'r cynnydd a'r gwaith a wnaethom gyda'n gilydd yn fawr.
Fe wnaethom sefydlu grŵp arbenigol. Dyna sut y gwnaethom ddechrau, gyda'r ddwy blaid yn cynnig enwau a chael arbenigwyr annibynnol yn y maes a weithiodd yn galed iawn ar lunio cynllun. Y cynllun oedd y dylid cyflwyno gwasanaeth gofal cenedlaethol fesul cam dros 10 mlynedd, a dyna a gytunwyd. Y rhan gyntaf fyddai sefydlu swyddfa genedlaethol a datblygu safonau cenedlaethol, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gallu adrodd wrthym beth yn union sydd wedi digwydd gyda hynny. Ond rwy'n sicr yn credu ein bod wedi gwneud cynnydd tuag at symud at wasanaeth gofal cenedlaethol.
Ond credaf fod llawer o'r pethau y mae'r Llywodraeth wedi'u gwneud wedi cyfrannu at osod y paramedrau ar gyfer gwasanaeth gofal cenedlaethol. Un o'r pethau mawr a wnaed yw cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol, ac rwy'n credu bod hyn yn beth arloesol i'w wneud. Mae wedi'i gynyddu'n ddiweddar i £13.45 yr awr. Felly, dylai pob gweithiwr gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru fod yn cael cyflog byw gwirioneddol ar hyn o bryd. Oherwydd wrth gwrs, mae'r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail costau byw gwirioneddol. Credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ei ddathlu. Mae llawer iawn i'w wneud ac nid wyf yn gwadu bod her fawr o'n blaenau, ond credaf fod sefydlu'r llinell sylfaen hon yn rhan hanfodol o'r daith tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol.
Y mater arall yr hoffwn ei godi yw'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno cap o £100 yr wythnos ar ofal cartref. Credaf ei bod yn bwysig cofio nad oes cap yn Lloegr. Golyga hynny fod pobl gartref yng Nghymru yn gallu derbyn faint bynnag o ofal yn y cartref sydd ei angen arnynt, ac ni fydd yn rhaid iddynt dalu mwy na £100. Byddai'n well gennyf pe baent yn talu llawer llai na hynny. Mae llawer o bobl yn ei gael am ddim. Ond ymddengys i mi, os ydym yn symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol, fel yr ydym, un o'r ffyrdd o wneud hynny yw drwy leihau'r cap hwnnw. Credaf fod y ffaith ein bod wedi llwyddo i gadw'r cap £100 mewn cyfnodau anodd tu hwnt yn ganlyniad cadarnhaol iawn. Mewn gwirionedd, mae dadansoddwyr annibynnol wedi cadarnhau mai Cymru sydd â'r drefn godi tâl am ofal cymdeithasol fwyaf hael yn y DU, gyda'r cap hwnnw. Gall pobl mewn cartrefi gofal gadw £50,000 mewn cyfalaf fel y gellir diogelu asedau pobl, tra bo'r ffigur yn Lloegr yn £23,250, heb unrhyw gap ar daliadau gofal cartref.
Pan wnaethom sefydlu'r grŵp hwn, y nod oedd symud tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol a fyddai am ddim yn y man darparu yn yr un modd ag y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol am ddim. Yn amlwg, rydym wedi cael cyfnodau ariannol anodd iawn o ran symud tuag at hynny, ond credaf fod cadw'r cap ar £100 yn gyflawniad, a bod cadw'r £50,000 hefyd yn gyflawniad, ac rwy'n gobeithio y gallwn adeiladu ar hynny.
Wrth i chi sefydlu'r gweithgor arbenigol i geisio hyrwyddo hyn, roeddwn i'n meddwl tybed pa ystyriaeth y gwnaethoch ei rhoi i'r timau nyrsio cymunedol, sy'n wych pan fyddant yn gweithio'n dda. Oherwydd yn aml mae angen rhywfaint o ymyrraeth feddygol ar bobl yn ogystal â gofal cymdeithasol. Mae'n ymddangos bod hynny wedi dod i ben. Un o'r agweddau allweddol arno yw ei fod yn amlddisgyblaethol ac mae wedi'i gefnogi gan y system amserlennu, yr arferid ei galw'n Malinko, er mwyn osgoi gorfod ei wneud gan uwch staff. Mae'n system wych, ond nid yw'n ymddangos ei bod wedi cael ei chyflwyno yn y modd y buaswn wedi hoffi'i weld. Byddai wedi arbed swm enfawr o arian drwy gadw pobl allan o'r ysbyty.
Diolch yn fawr am yr ymyriad. Rwy'n credu bod y gwasanaeth nyrsio cymunedol yn hollol wych, fel y dywedwch. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid ei ddatblygu ac yn sicr, mae'n rhan allweddol o wasanaeth gofal cenedlaethol.
Hefyd, rhywbeth a grybwyllwyd yn gynharach oedd y diffyg cynnydd o ran proffesiynoli gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cofrestru pob gweithiwr gofal cymdeithasol, ac mae hynny, unwaith eto, wedi bod yn gam ymlaen. Felly, rwy'n credu bod yna lawer o bethau da'n digwydd.
Treuliwyd llawer o amser yn siarad am ofalwyr di-dâl. Rwy'n credu bod hyn yn rhan hollol allweddol o'r ddadl, oherwydd rwy'n siŵr fod mwy o bobl yn cael gofal gartref gan ofalwyr di-dâl na chan unrhyw un arall. O ran y seibiannau wedi'u personoli sy'n digwydd, cyfarfûm â llawer o'r bobl sydd wedi'u cael, ac maent wedi bod yn llwyddiannus iawn. A hefyd y gronfa gymorth i ofalwyr, y soniodd Mabon amdani.
Rwyf am orffen drwy hyrwyddo'r Ŵyl Gofalwyr Ifanc yr oeddwn yn falch iawn o'i chyflwyno. Rwy'n credu ei bod yn hollol allweddol. Tri diwrnod i ffwrdd gyda'u cyfoedion, gallu mwynhau bywyd, gwneud pethau hwyliog, siarad am sut beth yw bod yn ofalwr. Rwy'n credu mai dyna un o'r pethau rwyf eisiau eu gofyn i'r Gweinidog—a ellir ymgorffori hyn yn barhaol.
Ond rwy'n credu mai pethau felly sy'n dangos ein bod ni'n cydnabod hyn, ond nid wyf yn gwadu bod gennym ffordd bell iawn i fynd. Rwy'n credu ein bod ni wedi dechrau, ond mae gennym ffordd bell i fynd.
Diolch yn fawr iawn. Dwi am gychwyn drwy siarad am ofalwyr di-dâl. I lawer gormod bobl, mae bod yn ofalwr yn golygu gorfod cydbwyso anghenion unigolyn arall efo gwaith, teulu, a'u bywyd personol eu hunain. Mae 145,000 o bobl yng Nghymru yn ceisio cydbwyso gwaith efo gofal di-dâl, efo 121,000 ohonyn nhw'n gyflogedig, a 30,000 yn darparu dros 50 awr o ofal yr wythnos. Mae'r pwysau mae hyn yn ei olygu yn aruthrol, ac yn arwain at broblemau iechyd meddwl, nosweithiau di-gwsg, a'r pryder parhaus o geisio sicrhau'r gofal cywir. Mae 60 y cant o ofalwyr yn adrodd eu bod nhw'n teimlo dan straen yn aml neu drwy'r amser.
Rydw i'n cyfrif fy hun yn ofalwr. Rydw i'n treulio cyfnodau yn gofalu am fy mam, sydd yn fraint mawr ond yn straen hefyd. Mae'r rhan fwyaf o ofalwyr mewn sefyllfa llawer anoddach na mi, ac rydw i'n cydymdeimlo'n fawr efo'r gofalwyr hynny sy'n gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith, sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at gymorth, sydd yn byw mewn tlodi, ac sydd yn gorfod wynebu system lle nad ydyn nhw'n cael yr hawliau na'r cynlluniau saib y maen nhw'n eu haeddu.
Rydw i'n cefnogi etholwr yn Arfon sydd wedi bod yn gofalu'n llawnamser am ei gŵr ers dros 13 o flynyddoedd. Mae ei gŵr hi'n dioddef o Parkinson's fasgwlaidd. Mae o wedi cael strôc, ac mae'r etholwr yn teimlo dan straen sylweddol o ganlyniad i'r cyfrifoldeb parhaus o ofalu. Mae hi wedi bod yn ymchwilio i opsiynau am gyfnod o seibiant i'w gŵr mewn cartref, ond wedi cael trafferth mawr canfod gwely i'w gŵr, hyd yn oed yn y sector breifat neu drwy wasanaethau'r cyngor. Mae'r diffyg yma'n peri pryder mawr iddi hi, ac yn ei rhwystro hi rhag cael yr egwyl sydd yn hanfodol iddi hi ac i'w gŵr. Mi fuaswn i'n ddiolchgar clywed beth ydy cynlluniau'r Llywodraeth i gynyddu gofal ysbaid o'r math yma. Mae o'n wahanol i'r cynllun ysbaid byr, ond mae o'n rhywbeth sydd angen ei ddatblygu ymhellach, ac yn sicr yn gallu cael ei werthfawrogi'n fawr iawn pan mae o ar gael, a dydy o ddim ar gael yn llawer iawn rhy aml.
Dwi'n troi rŵan at y gofalwyr sy'n cael eu cyflogi i gefnogi unigolion bregus i fyw'n annibynnol yn ein cymunedau. Mae tua 88,000 o'r bobl yma'n gweithio yn y sector, ond mae hynny'n llawer llai na'r gofyn. Mae ymdrechion diweddar, megis cyhoeddi'r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gofalwyr, wedi gwella'r sefyllfa, ond mae statws y proffesiwn yn dal i fod ymhell y tu ôl i statws y rhai sy'n gweithio yn y sector iechyd. Mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi cyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr wedi gosod baich sylweddol ar y sector yma—sector sydd dan straen a than bwysau mawr yn barod. Dim syndod, felly, bod hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn swyddi gwag: bellach bron i 6 y cant o'r gweithlu gofal cymdeithasol cyfan.
I gloi, rydw i am dalu'r deyrnged uchaf posib i dîm gofalwyr oedolion Llŷn, gofalwyr cymunedol sy'n cael eu cyflogi drwy'r cyngor sir, ac sydd yn rhoi gofal arbennig iawn i fy mam yn ei chartref, a hynny ers misoedd lawer. Maen nhw'n gwneud gwaith arwrol, ac mae angen i ni gyd fel cymdeithas ac fel gwleidyddion drin gofalwyr efo'r parch uchaf posib, eu talu nhw'n briodol, a sicrhau amodau gwaith a llwybrau gyrfa pwrpasol. Wedi'r cyfan, dyma un o weithluoedd pwysicaf ein gwlad ni.
Diolch yn fawr i Blaid Cymru am wneud y ddadl yma, dadl bwysig iawn, ac mae'n bwysig nad ydyn ni ddim yn anghofio'r mater yma. Dwi eisiau canolbwyntio—ac mae eraill wedi gwneud yn barod—ar ofalwyr di-dâl. Dwi'n cytuno'n llwyr gyda'r hyn y mae James, Sioned, Julie a Siân wedi'i ddweud ar y mater yma. Mae nifer ohonom ni'n gyfarwydd â gofalu am aelodau o'n teuluoedd, a dwi’n siŵr bod ein meddyliau ni y prynhawn yma yn mynd at Eluned, y Prif Weinidog, sydd, yng nghanol holl brysurdeb ei gwaith beunyddiol, wedi bod mor ofalgar o'i mam yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Wrth gwrs, fel y dywedodd Siân, mae pobl mewn sefyllfa llawer, llawer yn waeth na ni, ond mae'n wir i ddweud mai un o'r pethau anoddaf dwi erioed wedi'i wneud oedd gorfod gofalu am fy nhad. Mae gweld rhywun rŷch chi'n ei garu yn colli'r gallu i wneud popeth yn anodd, yn dorcalonnus. Dim ond unwaith bob pythefnos ro'n i'n mynd i ofalu am fy nhad, er mwyn rhoi hoe i fy mam i, ond mae'r marciau yno o hyd. Mae wedi effeithio arnaf i hyd heddiw. Meddyliwch, felly, am y gofalwr sydd ar ei ben ei hun. Maen nhw yno. Maen nhw yn ein cymunedau ni. Efallai nad ydyn ni ddim yn clywed am lot ohonyn nhw. Efallai nad ydyn ni ddim yn clywed digon ohonyn nhw yn hala e-byst. Maen nhw'n rhy brysur i hala e-byst ac i ymgyrchu, ond maen nhw yno yn ein cymunedau ni—pobl sy'n gorfod gofalu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos am y bobl maen nhw'n eu caru. Mae'r effaith gorfforol a'r effaith feddyliol mae hynny'n ei chael ar unigolyn yn drychinebus.
Maent yn arbed, fel y dywedodd James, miliynau ar filiynau o bunnau i'n gwasanaeth iechyd ac i'n hawdurdodau lleol, ond eto, maen nhw'n teimlo fel eu bod nhw wedi cael eu hanghofio, fel bod neb yn eu cefnogi, a bod neb yn poeni. Ro'n i'n gefnogwr cryf o'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a'r Blaid, yn rhannol oherwydd y gwasanaeth gofal cenedlaethol. Roedd modd i fi fynd i ddweud wrth etholwyr fel Beti George, 'Rŷn ni'n gwneud rhywbeth. Mae rhywbeth yn digwydd.' Gwaetha'r modd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, er bod y blynyddoedd wedi pasio, dyw gofalwyr o hyd ddim wedi gweld dim cynnydd yn y gefnogaeth. Mae llusgo traed wedi digwydd, ac mae llusgo traed, yn anffodus, yn nodweddiadol o ddatganoli yng Nghymru hyd yn hyn. Tra bod hynny'n digwydd, tra bod y llusgo traed yn digwydd, pan ŷn ni'n cario ymlaen i drio cael mwy a mwy o dystiolaeth o bosib, mae pobl yn parhau i ddioddef, ac mae'r anobaith yn dyfnhau.
Mae'r bobl anhygoel hyn yn rhoi eu bywydau, o ddydd i ddydd, i ofalu am anwyliaid sydd eu hangen. Maent yn haeddu tirwedd bolisi lawn mor ymrwymedig i ofalwyr ag y mae gofalwyr i'w hanwyliaid. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd i ddangos i ofalwyr cymaint yr ydym yn eu gwerthfawrogi, pa mor ddiolchgar yr ydym am yr hyn a wnânt. Rhaid i ni sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir yn cael eu harwain gan brofiadau bywyd—profiadau bywyd gofalwyr, ond hefyd profiadau bywyd y rhai y gofalir amdanynt ledled ein gwlad.
Byddai gweithredu cyfarwyddwr ar gyfer Cymru gyfan yn caniatáu dull cydgysylltiedig o weithredu polisi a chynlluniau gofal. Ac mae James yn iawn, rwyf wedi cael llond bol ar gael e-byst am ddadleuon rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd ynghylch pwy ddylai helpu'r bobl hyn yn eu hangen. Maent angen help. Nid oes ots ganddynt pwy sy'n ei roi. Drwy greu fframwaith ar gyfer dull cenedlaethol o weithredu ar ofalwyr, gallwn gymryd cam mawr ymlaen, cam mawr ymlaen i ddangos i ofalwyr Cymru cymaint y maent yn ei olygu i ni a pha mor ddiolchgar yr ydym am eu gwaith, sy'n aml yn digwydd heb i neb sylwi.
Rhaid inni gadw gofalwyr a'u teuluoedd wrth wraidd ein dull o weithredu. Dyna pam rwy'n cytuno â galwad i ymgorffori diwrnodau seibiant yn gyfreithiol yng nghyfraith Cymru, ac asesiad o anghenion gofal i'w gynnal o fewn 28 diwrnod. Rwy'n credu ei bod yn drueni fod y gwelliant Ceidwadol wedi dileu popeth, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn gyfle i sicrhau undod ar draws y gwrthbleidiau. Rwy'n deall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud gyda'u gwelliant, ond ceisiwch ddweud hynny wrth y gofalwyr. Ceisiwch ddweud hynny wrth y bobl sy'n teimlo eu bod wedi cael eu hanghofio. Mae angen newid arnynt nawr, nid mewn pum mlynedd arall. Diolch yn fawr.
Wel, os na wnaf unrhyw beth arall heddiw, rwy'n falch iawn o daflu goleuni ar y ffordd y mae trosglwyddo o'r ysbyty i'r cartref yn hanfodol ar gyfer adferiad, ac rwyf am ddweud wrthych, efallai, ble rwy'n credu ei fod yn mynd o'i le. Gadewch i mi dynnu sylw at ddau achos yn gyflym iawn. Dioddefodd Claf M, 97 oed, gwymp. Mae hi yn yr ysbyty ac mae angen canllaw arni. Dyna'r cyfan. Wrth gwrs, mae gofyn cael asesiad ar gyfer hynny. Felly, roedd angen ymweliad â'r cartref. Roedd oedi o bythefnos a phedwar diwrnod nes i'r ymweliad cartref gymeradwyo'r canllaw—pythefnos a phedwar diwrnod. Roedd y claf yn 97 oed. A oes angen asesiad arnom ar gyfer rhywun sy'n 97 oed? Rwy'n ddyn ifanc— mae angen canllaw arnaf innau ar adegau, ac rwy'n credu bod hynny'n hollol ddiangen.
Gadewch i mi droi at glaf L, a oedd wedi dioddef strôc ddifrifol ac yn yr ysbyty. Ni allai siarad, câi ei bwydo â llwy, hylifau'n unig, ac roedd angen gofal personol cyson arni. Hanes meddygol o fethiant y galon, methiant yr afu, Crohn's, a dwy strôc fawr iawn cyn hynny. Cafodd ei hanfon adref heb unrhyw asesiad o gwbl, dim pecyn gofal o gwbl, am fod oedi. Dim ond am ychydig bach iawn o amser y gall claf L sefyll gyda chymorth. Anymataliaeth. Bedair wythnos yn ddiweddarach, mae claf L yn ôl yn yr ysbyty. Bum wythnos yn ddiweddarach, cafodd claf L ei rhyddhau o'r ysbyty eto a'i hanfon adref at ei merch, ei merch sengl, sydd, dros y pedair blynedd ddiwethaf, wedi aberthu ei gyrfa gerddorol ei hun i ofalu am ei mam. Mae claf L yn dal yr eryr. Mae Claf L yn disgyn allan o'r gwely ac yn treulio tri diwrnod arall yn yr ysbyty—wedi'i hynysu, a heb fwyd hylif i ddioddefwr strôc drwy'r dydd yn ysbyty'r Faenor. Gofynnodd teulu Claf L am wely ysbyty, a chynigiodd dalu am wely ysbyty hyd yn oed, gan gerdded heibio gwelyau ysbyty wedi'u pentyrru mewn coridorau. Mae parafeddyg dewr yn mynnu gweld gweithredu'n digwydd, a chafodd gwely ei ddarparu o fewn dau ddiwrnod, ac mae'r claf adref bellach. Ond sawl wythnos a dreuliodd claf L yn ddiangen—? O leiaf bum wythnos, mwy o bosib, a phe bai pecyn gofal wedi'i gytuno, ni fyddai wedi bod angen mynd i'r ysbyty. A faint o arian, rwy'n ailadrodd eto, y gellid bod wedi ei arbed?
Dywedais yn ystod yr isetholiad y buaswn yn sefyll dros y dynion, y menywod a'r plant cyffredin ar y stryd. Rydym wedi clywed eisoes gan dri Aelod, a gallaf warantu bod gan lawer mwy o Aelodau straeon tebyg i hon. Rhaid i chi faddau i mi, Ddirprwy Lywydd, gan mai fy chwaer yw claf L, rhywun a oedd yn gynghorydd yng Nghaerffili, ac a wasanaethodd ei chymuned yn dda iawn, a gallaf eich sicrhau bod claf L yn derbyn gofal cariadus, wrth gwrs. Ond mae yna lawer o broblemau y mae angen i ni eu datrys, a bydd Bil Plaid Cymru yma heddiw yn sicrhau y bydd hyn, efallai, yn dod yn haws i gleifion ledled Cymru gyfan. Mae gofal cymdeithasol yn allweddol ac mae'n debyg y bydd pob un ohonom ei angen yn y pen draw. Mae'n debyg y bydd pob un ohonom ei angen. Dyna realiti bywyd, mae arnaf ofn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn a rhoi cyfle i mi ailadrodd bod gennym ymrwymiad diwyro i gefnogi a thrawsnewid gofal cymdeithasol i bobl Cymru, gyda nod clir ac uchelgeisiol, sef creu gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol i Gymru? A hoffwn gofnodi fy niolch i fy rhagflaenydd, Julie Morgan, am y gwaith a wnaeth ar symud hyn yn ei flaen.
Mae gennyf lawer i'w ddweud mewn ymateb i hyn. Mae llawer o gyfraniadau da iawn wedi bod ac yn yr amser sydd ar gael i mi, rwy'n mynd i geisio mynd drwy gymaint ag y gallaf. Ond a gaf i ddechrau drwy gydnabod bod Plaid Cymru, yn rhan o'r cytundeb cydweithio, wedi gweithio gyda ni i sefydlu grŵp arbenigol i ddarparu camau ymarferol i fwrw ymlaen â'r flaenoriaeth a rennir o wasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol? Felly, roeddwn i'n synnu braidd o glywed y feirniadaeth o Lywodraeth Cymru am gynnydd araf, pan gytunodd Plaid Cymru ag argymhelliad y grŵp arbenigol, yn cynnwys y dull tri cham, gan ddechrau gyda'n cynllun gweithredu cychwynnol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023, ac mae'r cynllun hwnnw'n adlewyrchu cyngor y grŵp arbenigol y bydd hyn yn cymryd 10 mlynedd. Mae'n ddull fesul cam dros 10 mlynedd.
Ond mae ein gweledigaeth yn parhau: ein bod yn darparu gofal cynaliadwy, teg ac o ansawdd rhagorol; ein bod yn cefnogi gweithlu gwerthfawr sy'n cael eu talu'n deg; ein bod yn darparu gwasanaethau mewn partneriaeth â chymunedau lleol i gyflawni'r hyn sy'n bwysig i'n pobl. Ac ers mis Rhagfyr 2023, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Ym mis Ebrill 2024, gwta bedwar mis ar ôl cyhoeddi'r cynllun gweithredu, fe wnaethom sefydlu'r swyddfa genedlaethol gofal a chymorth i ddarparu arweinyddiaeth gref, ysgogi arloesedd a sicrhau bod lleisiau'r rhai sy'n dibynnu ar ofal yn cael eu clywed. Drwy'r prif swyddog gofal cymdeithasol, rydym wedi cryfhau ymgysylltiad â'r sector, dinasyddion a'n grŵp cynghori strategol. Fis Medi diwethaf, fe wnaethom weithredu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth, cod ymarfer statudol sy'n trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu comisiynu, sydd wedi cael ei groesawu gan ein partneriaid a rhanddeiliaid. Rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn gofal cymunedol lleol integredig—£278 miliwn bob blwyddyn drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol i adeiladu capasiti ar gyfer gwasanaethau rheng flaen cydgysylltiedig, a £30 miliwn ychwanegol drwy'r grant trawsnewid gofal, sy'n ailadrodd bob blwyddyn, i'w fuddsoddi mewn trawsnewid gofal cymdeithasol drwy adeiladu capasiti cymunedol, wedi'i sicrhau gyda chefnogaeth Jane Dodds. Lindsay, nid oeddech chi yma ar y pryd, ond pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn hynny yn y gyllideb ddiwethaf, felly peidiwch ag apelio arnom i wneud mwy yn y maes hwn pan nad oeddech chi'n barod i'w gefnogi pan gawsoch gyfle i wneud hynny.
Nawr, gan ein bod yn siarad am fyrddau partneriaeth rhanbarthol, mae'n werth atgoffa ein hunain eu bod yn statudol. Fe wnaethom ymgynghori ar ymestyn eu cyfrifoldebau cyfreithiol corfforaethol, ond cafodd hynny ei wrthod gan bartneriaid llywodraeth leol a byrddau iechyd. Er mwyn cryfhau llywodraethiant ar gyfer integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach, rydym wedi cydgynhyrchu glasbrint cenedlaethol ar gyfer gofal cymunedol integredig ac wedi sefydlu grŵp arweinyddiaeth cenedlaethol dan arweiniad Gweinidog ar gyfer gofal integredig. Rydym hefyd wedi cryfhau deddfwriaeth a chanllawiau i gefnogi integreiddio, comisiynu ar y cyd a chyfuno cyllidebau, sydd eisoes ar waith ledled Cymru. Ond mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i'n cynllun gweithredu cam 1. Clywsom lawer o hyn yng nghyfraniad Julie Morgan, ond mae'n werth ei ailadrodd, gan fod hyn i gyd yn ymwneud â'n cynnydd tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol. Fe wnaethom gyflwyno ac ariannu'r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal, a chreu fforwm y gweithlu gofal cymdeithasol, sy'n arwain ar y fframwaith tâl a dilyniant, ochr yn ochr â symud ymlaen ar gytundebau cyflog teg, o ganlyniad i Fil cyflogaeth Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, fe bleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n ein galluogi i wneud hyn. Fel y mae dadansoddwr annibynnol wedi cadarnhau, a soniodd Julie Morgan am hyn, Cymru sydd â'r trefniadau mwyaf hael o ran codi tâl yn y DU. Mae ein terfyn cyfalaf o £50,000 ar gyfer gofal preswyl a'r cap wythnosol o £100 ar gyfer gofal cartref yn diogelu asedau pobl ac yn sicrhau bod eu taliadau'n parhau i fod yn deg ac yn fforddiadwy. Gan edrych ymlaen, rydym yn paratoi ar gyfer taliadau uniongyrchol am ofal iechyd parhaus y GIG o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac rydym wedi cyflwyno ein deddfwriaeth arloesol i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny.
Nawr, rydym yn rhannu'r pryderon a godwyd gan nifer o'r Aelodau ynglŷn â seibiant i ofalwyr. Ond nid gosod isafswm dyraniad cyfreithiol o ddiwrnodau seibiant yw'r ateb. Ein blaenoriaeth yw gwella asesiadau a mynediad at seibiant i'r rhai sydd fwyaf o'i angen. Mae'r dull a weithredir yn yr Alban yn adlewyrchu hyn, gan ganolbwyntio ar anghenion pobl yn hytrach na lleiafswm penodol.
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae angen i mi fynd drwy hyn, James, am mai ychydig iawn o amser sydd gennyf.
Ar gyfer gofalwyr di-dâl, rydym yn parhau i ddarparu £6 miliwn ychwanegol eleni i gefnogi ein strategaeth genedlaethol. Cyflawnodd ein cynllun seibiant byr, y cyfeiriwyd ato ac sy'n ychwanegol at y ddarpariaeth statudol, dros 50,000 o seibiannau mewn tair blynedd, gan ragori'n helaeth ar y targedau a mynd i'r afael â bwlch allweddol mewn cymorth seibiant. Ac rwy'n falch iawn o gyhoeddi heddiw ein bod wedi ymrwymo i barhau â'r cynllun seibiant byr a'n cronfa gymorth i ofalwyr am dair blynedd arall o 2026 ymlaen. A gallaf gytuno'n llwyr â Julie Morgan ynglŷn â Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru, ac rwy'n gobeithio y gallwn barhau i gefnogi honno hefyd.
Ar asesiadau o anghenion gofalwyr, rydym yn sbarduno gwaith gwella cenedlaethol drwy'r grŵp cynghori gweinidogol ar gyfer gofalwyr di-dâl, sy'n cael ei arwain gan ofalwyr di-dâl, a bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2026. Mae hwn yn faes blaenoriaeth yn ein diweddariad o'r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, a bydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar y flwyddyn nesaf.
I gloi, Lywydd, rwy'n cydnabod ac yn croesawu rôl Plaid Cymru yn y gwaith o lunio trywydd ein gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol, felly rwy'n siomedig eu bod bellach yn ymddangos fel pe baent yn ymbellhau oddi wrth hynny. Cytunwyd ar y dull graddol 10 mlynedd rhyngom ar y cyd ac mae'n ein galluogi i gyflawni newid sy'n gynaliadwy. Mae newid yn cymryd amser, ond mae'n digwydd. Caiff ymarfer da ei gyflwyno ar raddfa fawr a chaiff capasiti cymunedol ei gynyddu gan gyllid parhaus, felly rwy'n gobeithio y gwelwn Blaid Cymru nawr yn cymryd rhan adeiladol yn y trafodaethau ar y gyllideb i'n helpu i gyflawni newid pellach mewn gofal cymdeithasol. Mae llawer mwy i'w wneud, ond rwy'n falch o'r cyflawniadau a'r gwelliannau yr ydym yn parhau i'w cyflawni.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma brynhawn yma. Mae wedi bod yn drafodaeth ddifyr iawn, ac yn un gwbl angenrheidiol, oherwydd yn llawer rhy aml, rydyn ni'n gweld y Senedd yma yn anwybyddu anghenion ein gofalwyr ni, ac maen nhw'n sector o'r gymdeithas sydd ddim yn cael y sylw teilwng.
Rŵan, dwi ddim yn mynd i fynd trwy bob dim sydd wedi cael ei ddweud, ond mi wnaf i drio pigo ambell beth allan fesul siaradwr; mae'n mynd i fod yn haws gwneud hynny.
James, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn. Fe wnaethoch chi sôn am nifer o bethau yn eich cyfraniad. Rwy'n credu mai chi oedd y cyntaf i dynnu sylw at y cynnydd i yswiriant gwladol a welsom gan Lywodraeth y DU ac effaith hynny ar ddarparwyr yng Nghymru. Yn sicr, dylem weld y Llywodraeth hon yn codi llais a dweud, 'Nid yw hynny'n iawn', a galw am gael ei wared. Byddem ni'n cefnogi hynny hefyd, oherwydd mae wedi niweidio'r darparwyr ac wedi arwain at beri i nifer o ddarparwyr feddwl am eu dyfodol ac i ystyried a allant barhau i ddarparu gofal yma yng Nghymru ai peidio.
Sioned, roeddet ti'n berffaith iawn. Roeddet ti wedi cyfeirio at enghreifftiau personol hefyd, a chreu'r darlun yna o sut mae bywyd i bobl sydd yn gorfod gofalu, ac yn pwyntio allan yn berffaith glir nad yw tri chwarter o ofalwyr Cymru yn cael yr asesiadau angenrheidiol. Rŵan, os nad ydy hynny'n digwydd, dŷn ni'n mynd i weld y bobl yna yn llosgi allan ac, yn y pen draw, fyddan nhw ddim yn gallu darparu'r gofal, a beth sydd yn digwydd i'w hanwyliaid nhw wedyn?
[Anghlywadwy.]—a dweud y gwir; 75 y cant o'r rhai yr holwyd ar gyfer yr arolwg oedd, a llawer llai na hynny—dim ond 6 y cant o holl ofalwyr Cymru maen nhw'n meddwl sy'n cael asesiad anghenion.
Ffigurau hyd yn oed yn waeth, felly.
Hyd yn oed yn waeth.
Ac os nad ydy'r bobl yna yn cael y saib sydd ei angen arnyn nhw, a'r gofal sydd ei angen arnyn nhw, yna mae'r rhai maen nhw'n gofalu amdanyn nhw'n gorfod mynd, yn y pen draw, i'r ysbyty, sydd yn rhoi mwy o fwrdwn ar y gwasanaethau iechyd hefyd.
Julie, rwy'n croesawu ac yn gwerthfawrogi'r gwaith yr ydych chi wedi'i wneud; rydych chi wedi bod ar flaen y gad yn y maes ac mae hynny wedi'i gydnabod. Fe wnaethoch chi nifer o bwyntiau yn eich cyfraniad, ond rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch fod y cyflog byw gwirioneddol yn £13.45, a'ch bod chi'n croesawu hynny, yn dda ac i'w groesawu, ond fel y dywedodd Siân, nid yw'n agos digon i gydnabod y rôl y maent yn ei chwarae ac i sicrhau bod gyrfa i bobl ym maes gofal. Felly, rwy'n credu bod angen edrych ar hynny. Unwaith eto, mae angen i'r Llywodraeth yma godi llais a dweud nad yw'n ddigon. Mae angen i Lywodraeth y DU gyflawni yn y maes hwn hefyd, ond rydych chi'n hollol iawn ynglŷn â Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru. Mae angen tynnu sylw at honno, ac rwy'n falch ei bod wedi'i chofnodi yma.
Siân, unwaith eto, ddaru ti gyfeirio at dy brofiad personol di, a dwi'n ymwybodol o'r hyn rwyt ti'n gorfod ei wneud, a'r hyn mae gymaint o bobl yn gorfod ei wneud fel gofalwyr yng Nghymru. Mi wnest ti gyfeirio'n benodol at dîm gofalwyr oedolion Llŷn a thalu teyrnged iddyn nhw, ac mae yna dimau fel yna ar draws Cymru. Ac mae'r hyn roeddet ti wedi sôn amdano, a'r ffaith eu bod nhw'n gwneud gwaith mor bwysig, yn atseinio'r hyn roeddwn i'n ei ddweud ynghynt, eu bod nhw ddim yn cael y gydnabyddiaeth angenrheidiol gan ein Llywodraeth ni fan hyn.
Rhys, roeddet ti'n iawn, dwi'n meddwl, a dwi eisiau ategu'r hyn roeddet ti'n ei ddweud yn cydnabod yr hyn mae'n Prif Weinidog ni'n mynd drwyddo ar hyn o bryd efo'i gofal hi, sydd unwaith eto yn atseinio cymaint o waith pobl ar draws Cymru, yn gorfod cynnal gofal di-dâl a ddim yn cael y gydnabyddiaeth angenrheidiol, ac nad yw cymaint o ofalwyr yn y sefyllfa yna—yn unig iawn, yn gorfod gwneud hynny ar ben eu hunain. Ble mae'r gefnogaeth i'r bobl yma er mwyn eu cynnal nhw yn ystod yr awr yna pryd mae angen cymorth arnyn nhw?
Ti, dwi'n meddwl, oedd wedi gwneud y pwynt yn glir—a hwn sy'n ganolog i'r cynnig ger ein bron ni—am y rhwyg yna rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ac nad yw pobl yn fodlon cymryd cyfrifoldeb. Ac i'r person sydd yn dioddef, dydyn nhw ddim yn poeni pwy sy'n cymryd cyfrifoldeb, pwy sydd yn talu am eu gwasanaeth nhw; maen nhw eisiau rhywun i'w cynorthwyo nhw heb y ffrae yma. A dyna pam yr ydym ni wedi gofyn yn wreiddiol i sefydlu'r bwrdd gofal yma yn un cenedlaethol, ac mae angen gweld brys ar hynny. Fel rwyt ti'n dweud, mae yna bobl allan yna'n gofyn lle mae'r gofal yma ar ein cyfer ni. Rŷn ni'n gwneud addewidion, mae'r Llywodraeth yma'n gwneud addewidion, ac maen nhw'n edrych yn dda ar bapur, ond dydyn nhw ddim yn cael eu cefnogi efo gweithredu neu efo'r ariannu, ac—
A hoffech chi dderbyn ymyriad?
Iawn. Nid wyf yn siŵr faint o amser sydd gennyf, ond ewch amdani.
Wel, wrth siarad am addewidion sy'n wych ar bapur, mae'n ymddangos eich bod chi'n awgrymu, yn hollol gywir, y dylai'r cyflog byw fod yn uwch—rwy'n cytuno â hynny—ond y pwynt yw, sut ydych chi'n mynd i dalu amdano pan fyddwch chi'n galw ar Lywodraeth y DU eich bod chi am adael. Rydych chi eisiau annibyniaeth. Mae'n mynd i gostio £7,000 i bob person sy'n byw—. Felly, sut ydych chi'n mynd i dalu amdano? At bwy ydych chi'n mynd i droi pan fyddwch chi wedi gadael y DU? At bwy ydych chi'n mynd i droi bryd hynny?
Diolch. Rydym ni'n talu trethi yng Nghymru hefyd, gyda llaw, nid wyf yn siŵr a wnaethoch chi ac eraill nodi hynny. Mae ein trethi'n mynd i'r Trysorlys. Rwy'n credu mai'r pwynt a wnewch yw sut y mae pobl yn mynd i dalu am lawer o'r pethau hyn. Sut ydym ni'n rhoi pethau ar waith? Roeddwn i'n mynd i fwrw ymlaen at y pwynt hwn, beth bynnag. Rydym newydd glywed y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad heddiw fod y gronfa gymorth i ofalwyr yn mynd i barhau—sut y mae hynny wedi'i addo? Oherwydd ein bod ni wedi gorfodi'r cynnig yn ei flaen ac oherwydd eich bod chi nawr wedi gorfod dod o hyd i ffordd o gyflawni. Mae'n wleidyddol—[Torri ar draws.] Mae'n ymwneud â beth yw eich uchelgeisiau a beth yw eich nodau fel Llywodraeth. Sut ydych chi'n ei ariannu? Rydych chi'n dod o hyd i ffordd.
Rwyf am wrando ar y cyfraniad gan yr Aelod ac ni allaf glywed. Mae'n sefyll yno yn ac ni allaf ei glywed oherwydd yr holl sŵn yn y Siambr. Gadewch iddo orffen ei gyfraniad. Mabon.
Rwy'n credu ei bod yn hollol amlwg fod y cyhoeddiad wedi'i ollwng yn ystod y ddadl hon. Felly, mae hynny'n wych, mae hynny'n i'w groesawu. Mae'n rhan o'r hyn rydym ni'n galw amdano. Diolch yn fawr iawn am hynny. [Torri ar draws.] Na, nid wyf yn credu eich bod wedi ei dynnu o'r awyr; mae'n fater o flaenoriaethau a dyna yw ariannu'r materion hyn. Mater o flaenoriaethau.
Nawr, yr un peth arall yr hoffwn ei nodi—. Fe wneuthum sôn am nifer o bethau da y mae'r Llywodraeth hon wedi'u gwneud, ac ni fydd arnom ofn tynnu sylw at yr hyn sy'n dda. Pan geir ymarfer da, pan fo pethau'n gweithio'n dda, gadewch inni barhau â nhw. Felly, gadewch inni gydnabod beth sy'n dda. Ond roedd llawer o'r hyn y soniodd y Gweinidog amdano'n adleisio'r hyn a glywais pan oeddwn i'n cerdded y strydoedd gyda Lindsay yng Nghaerffili, lle mae pobl yn clywed y Llywodraeth yn dweud yr holl bethau da hyn, ond mae'r profiad ar lawr gwlad yn hollol wahanol. Nid yr hyn a ddywedoch chi yw profiad bywyd pobl yma yng Nghymru. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr fod yr hyn sy'n edrych yn dda ar bapur yn cael ei gyflawni, a dyna rydym ni'n ei gynnig gyda'r cynnig hwn heddiw, ac rwy'n gobeithio, felly, y cawn gefnogaeth y Siambr i'n cynnig. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Mae'r bleidlais gyntaf heno ar eitem 7, y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, yn enw Rhys ab Owen. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, roedd 19 yn ymatal, saith yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Eitem 7: dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil i wahardd defnyddio plastig untro ar ffrwythau a llysiau: O blaid: 27, Yn erbyn: 7, Ymatal: 19
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn ymlaen yn awr at y bleidlais ar eitem 9, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, un yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 9: dadl Plaid Cymru—gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y cynnig
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 9: dadl Plaid Cymru—gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Symudwn ymlaen yn awr. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Eitem 9: dadl Plaid Cymru—gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod.
Does dim dadl fer heddiw. Felly, daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch yn fawr.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:07.