Y Cyfarfod Llawn

Plenary

02/07/2025

Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd. 

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. A gaf i gymryd y cyfle, gan taw hwn fydd y cyfarfod diwethaf cyn i fenywod Cymru chwarae pêl-droed yn yr Ewros, wrth i'r Ewros gychwyn, i ddymuno, ar ein rhan ni, fel Senedd, i gyd, bob llwyddiant i'n tîm cenedlaethol ni wrth iddyn nhw ymgymryd â'u tasg o gystadlu yn yr Ewros a'n cynrychioli ni ar blatfform rhyngwladol fel tîm cenedlaethol pêl-droed am y tro cyntaf. Felly, pob llwyddiant iddyn nhw i gyd. Rŷn ni i gyd yn falch iawn o'r hyn y maen nhw eisoes wedi'i gyflawni ar ein rhan ni. [Cymeradwyaeth.]

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Fe symudaf i ymlaen nawr at gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.

Ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd yr A465? OQ62948

Strydoedd mwy Diogel i Fenywod

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wneud y strydoedd yn fwy diogel i fenywod gerdded a beicio? OQ62962

13:35

Gaf fi ddiolch i Julie Morgan am godi'r mater pwysig dros ben yma? Mi fyddwch chi'n ymwybodol, Ysgrifennydd Cabinet, fod newidiadau ar waith o ran polisi trafnidiaeth ysgol Rhondda Cynon Taf i ddarparu'r hyn sy'n statudol, sef pellter o 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd, yn hytrach na 2 filltir fel sy'n cael ei ddarparu ar y funud. Mae diogelwch yn fater y mae nifer o rieni a disgyblion wedi ei godi gyda mi fel rhywbeth sy'n eu pryderu nhw'n fawr, yn arbennig merched, a hynny yn y gaeaf, pan fydd hi'n dywyll wrth iddyn nhw ddechrau cerdded neu seiclo i'r ysgol, ac ar y ffordd adref. Mae o hefyd yn fater sy'n dod drosodd yn glir yn y ddogfen hon, sef adroddiad gan rieni Rhondda Cynon Taf, sy'n seiliedig ar sylwadau'r gymuned. Pa ddisgwyliadau sydd gennych chi fel Llywodraeth o ran yr hyn y dylai awdurdodau lleol ei wneud i sicrhau bod polisïau trafnidiaeth ysgol yn sicrhau diogelwch dysgwyr a bod eu lleisiau nhw yn cael eu clywed pan fydd yna ymgynghoriadau? Mi ddylai pawb allu teimlo'n ddiogel wrth deithio i'r ysgol.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau'r llefarwyr fydd nesaf, ond, cyn i mi alw ar Gareth Davies i ofyn ei gwestiwn, mae’n bleser gen i groesawu Llywydd Senedd Deddfwriaethol De Cymru Newydd, sydd yn yr oriel gyhoeddus.

Felly, diolch yn fawr, a chroeso i chi i Gymru. [Cymeradwyaeth.]

Felly, Gareth Davies—cwestiynau'r llefarwyr. 

13:45
13:50
13:55
Buddsoddiad mewn Rheilffyrdd

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar fuddsoddiad mewn rheilffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OQ62932

14:00
14:05
Y Sector Ynni

4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch y sector ynni yng ngogledd Cymru? OQ62941

14:10

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod y defnydd o drydan yn cynyddu’n aruthrol ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gweld mwy o bobl yn cael eu hannog i gynhyrchu eu trydan eu hunain, a phobl yn prynu mwy o geir trydan ac yn eu tsiarjo nhw adref. Ond, ar yr un pryd, mae capasiti’r grid yng ngogledd Cymru yn gyfyngedig iawn, yn enwedig yn ardaloedd Llŷn ac Eifionydd, lle mae pobl yn pryderu nad oes capasiti’n mynd i fod yna ar gyfer cynhyrchu trydan neu ar gyfer defnydd mawr o drydan yn symud ymlaen i’r dyfodol agos. Felly, pa drafodaethau mae’r Llywodraeth yn eu cael efo’r grid cenedlaethol er mwyn cynyddu capasiti yn yr ardal yna a sicrhau ei fod o’n addas i’r dyfodol?

Cau Porthladd Caergybi

5. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynghylch cefnogi busnesau y mae cau porthladd Caergybi wedi effeithio arnynt? OQ62965

14:15
Capasiti Trafnidiaeth Gyhoeddus

6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus? OQ62947

Diolch yn fawr, Weinidog. Rhag ofn bod rhai Aelodau yma'n bresennol yn meddwl bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn wych, dyw e ddim. Mae ystadegau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos mai trenau Caerdydd yw’r ail fwyaf gorlawn yng Nghymru a Lloegr. Mae’r un peth yn wir am fysus. Dwi wedi dweud wrthych chi o’r blaen fy mod yn aml yn cael fy ngwrthod i fynd ar fws oherwydd bod pram gen i ar gyfer fy mhlentyn, sy’n 22 mis oed. Mae’r bws arall sy’n dod wedyn—. Rwy'n gorfod aros yn hir iawn. Yn wir, mae’n llawer haws defnyddio’r car.

Ond mae yna siawns wirioneddol nawr y bydd y galw am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd yn cynyddu yn ddifrifol. Fe welon ni, gydag ymosodiad Rwsia ar Wcráin, bris tanwydd yn cynyddu i’r lefelau uchaf erioed. Rŷn ni wedi gweld, yn yr ansefydlogrwydd yn y dwyrain canol yn ddiweddar, brisiau olew crude yn cynyddu’n sylweddol iawn yn y mis diwethaf.

Wrth gwrs, does gennych chi ddim rheolaeth ar ynni a thanwydd, ond mae gennych chi reolaeth dros sicrhau bod yna drafnidiaeth gyhoeddus sy’n ddibynadwy ac yn fforddiadwy i bobl Cymru. Sut ydych chi’n bwriadu ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn rhyngwladol, ar frys, ac a ydy hyn yn newid unrhyw gynlluniau sydd gennych chi? Diolch yn fawr. 

14:20
Trafnidiaeth Gyhoeddus

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ62959

Trafnidiaeth Gyhoeddus

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru? OQ62951

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.

14:25
Atal Troseddu Ieuenctid

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effeithiolrwydd y system cyfiawnder ieuenctid wrth atal troseddau ieuenctid? OQ62939

Member (w)
Jane Hutt 14:25:12
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
14:30
Pump Caerdydd

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag effaith gymunedol barhaus y camweddiad cyfiawnder a gaiff ei adnabod yn gyffredinol fel 'pump Caerdydd'? OQ62946

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
14:40
14:45
14:50
Troseddau Gwledig

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r rhesymau dros y cynnydd mewn troseddau gwledig yng Nghymru fel yr adroddwyd gan NFU Mutual? OQ62960

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Banciau Bwyd

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd i helpu teuluoedd yn Nwyrain De Cymru? OQ62937

14:55
Cymorth i Elusennau

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gymorth Llywodraeth Cymru i elusennau ym Mhreseli Sir Benfro? OQ62931

Member (w)
Jane Hutt 14:57:54
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
15:00
Tlodi Plant

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant ym Mlaenau Gwent? OQ62943

15:05
Cymunedau Ffydd

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cymunedau ffydd Cymru? OQ62961

15:10
Pobl Anabl

8. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau pobl anabl? OQ62958

15:15
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3 yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y ddau gwestiwn yn cael eu hateb gan y Llywydd. 

Gwella Ymgysylltiad Ar-lein

1. Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i roi i wella hygyrchedd ac amlygrwydd ar-lein gwybodaeth am waith y Senedd er mwyn cefnogi gwell ymgysylltiad cyhoeddus ar draws Cymru? OQ62955

Nod ein strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu yw codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o'r Senedd ac annog pobl i gymryd rhan yn ein gwaith. Mae sicrhau bod gwybodaeth yn glir ac yn hygyrch ar-lein yn rhan allweddol o hyn. Rydym yn cynnig teithiau ar-lein o amgylch y Senedd, yn ogystal â sesiynau addysg rhithwir, ac mae pwyllgorau'r Senedd yn sefydlu grwpiau ffocws ar-lein i drafod eu hymchwiliadau ac i gyfrannu at eu gwaith. Rydym yn adolygu ein gwefan er mwyn paratoi ar gyfer y seithfed Senedd, ac mae hyn yn cynnwys sicrhau ei fod e'n haws i'w ddefnyddio ac yn fwy hygyrch i'r cyhoedd.

Hygyrchedd Cofnodion Pleidleisio

2. Pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud i wella hygyrchedd cofnodion pleidleisio ar wefan y Senedd? OQ62952

Cyhoeddir cofnod o'r holl bleidleisiau a gynhelir yn ystod trafodion y Senedd yn unol â'r gofynion a nodir yn y Rheolau Sefydlog a deddfwriaeth. Ar gyfer trafodion y Cyfarfod Llawn a phwyllgorau, cyhoeddir cofnod manwl o'r holl bleidleisiau, gan gynnwys manylion am sut y mae pob Aelod wedi pleidleisio, fel rhan o Gofnod y Trafodion. At hynny, mae crynodeb o bleidleisiau yn cael ei gyhoeddi ar y wefan gyhoeddus ar gyfer pob Cyfarfod Llawn, fel arfer o fewn hanner awr i ddiwedd pob cyfarfod. Mae hyn yn manylu ar sut y pleidleisiodd pob Aelod a'u hymlyniad gwleidyddol, yn ogystal ag unrhyw bleidleisiau drwy ddirprwy sydd ar waith.

15:20
4. Cwestiynau Amserol
5. Datganiadau 90 eiliad

Rydyn ni'n symud ymlaen at eitem 5, datganiadau 90 eiliad. Dim ond un sydd heddiw, a dwi'n galw ar Heledd Fychan. 

Mi oedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod gwych ym Mhontypridd wrth i dros 300 o bobl heidio yno i gystadlu yn eisteddfod leol gyntaf erioed y dref. Fe ges i fodd i fyw yn y gynulleidfa yn gwrando ar lu o berfformiadau gydol y diwrnod, a dyma gyfle heddiw felly i rannu gyda chi pa mor arbennig oedd y diwrnod, a hefyd i ddiolch i bawb fu’n rhan o’r trefnu.

Rydym ni i gyd dwi’n siŵr yn cofio llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd y llynedd, a braf ydy gweld bod yr eisteddfod leol hon yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw wrth i’r gymuned leol ddod ynghyd a dathlu’r wledd o dalent a diwylliant yn yr ardal. O’r corau i’r unawdau o’r gwaith llenyddol i frwydr y bandiau, roedd hi’n wych bod yr eisteddfod yn rhoi llwyfan i gynifer rannu eu doniau. Roedd yn wych hefyd gweld cymaint o ddysgwyr yn cystadlu, a chymaint o bobl ddi-Gymraeg yn dod i fwynhau'r arlwy.

Ni fyddai digwyddiad fel hyn yn bosib, wrth gwrs, oni bai am waith caled ac ymroddiad y trefnwyr, y gwirfoddolwyr a’r noddwyr. Diolch o galon i bawb a gyfrannodd at y digwyddiad, gan gynnwys Capel y Bont a Chlwb y Bont am y lleoliadau rhagorol. Gwych hefyd oedd bod yr holl waith wedi talu ar ei ganfed, gyda’r lleoliadau’n orlawn drwy gydol y dydd. Mi oedd nifer o’r cystadleuwyr a'r cefnogwyr hefyd wedi mwynhau arlwy caffis, marchnad, bwytai a thafarndai y dref, gan roi hwb pwysig i fusnesau lleol.

Mae eisteddfodau lleol ledled Cymru mor bwysig o ran parhad y Gymraeg fel iaith fyw yn ein cymunedau, ac fel iaith i bawb fwynhau, a gobeithio’n fawr felly y gwelwn ni Eisteddfod Pontypridd yn parhau i’r dyfodol. Does dim dwywaith bod lle a chroeso iddi ar y calendr blynyddol o eisteddfodau Cymru, ac mae yna awch am fwy ym Mhontypridd.

15:25
6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Difrod a chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm: Canfyddiadau cychwynnol'

Eitem 6 yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Difrod a chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm: Canfyddiadau cychwynnol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Andrew R.T. Davies.

Cynnig NDM8946 Andrew Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Ebrill 2025, ac y gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru iddo ar 25 Mehefin 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

15:35
15:40

A gaf i ddiolch i’r pwyllgor am wneud y darn yma o waith, ac am wneud y darn yma yn brydlon wedi’r digwyddiad yma, a oedd mor niweidiol, wrth gwrs, o ran masnach drwy borthladd Caergybi, ac ar y dref ei hun a’r gymuned ehangach? Rôn i’n crybwyll yn gynharach heddiw yr effaith fawr—y gwymp mewn masnach, y gwymp yn nifer y bobl oedd yn pasio drwy’r dre a’r arian oedd yn cael ei wario yn ystod y cyfnod hwnnw.

Felly, mi oedd hwn yn fater difrifol iawn, ac mae argymhelliad cyntaf y pwyllgor yn dweud wrthym ni mai’r peth cwbl allweddol ydy bod gwersi yn cael eu dysgu o hyn. Mae’r adroddiad yma, ynddo’i hun, yn ddefnyddiol yn hynny o beth, ond beth mae o’n ei ddweud wrthym ni ydy bod rhaid i Lywodraeth Cymru, rŵan, barhau i gadw llygad barcud ar wytnwch y porthladd yma, i sicrhau ei fod o’n ffit am weddill y ganrif hon, a thu hwnt i hynny.

Mi wnaf i droi at argymhelliad 3 yn sydyn, a’r cyfathrebu fu ar y pryd, yn union wedi’r digwyddiad yma. Dwi’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet ei hun am y cyswllt gefais i yn ystod y cyfnod hwnnw. Mi rôn i’n canfod hynny yn ddefnyddiol iawn. Ond mae’n amlwg, onid ydy hi, fod yna aneglurder mawr wedi bod ynglŷn â lle ddylai cwmnïau cludo ddargyfeirio eu lorïau. Mae’r Road Haulage Association yn nodi mai Noswyl Nadolig oedd y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gysylltu efo nhw. Ac ar lawr gwlad, mi oedd busnesau a theithwyr yn clywed gan Lywodraeth Cymru fod y porthladd yn mynd i fod yn ôl yn gweithio o fewn dyddiau, ac wedyn, gan Lywodraeth Iwerddon, rybuddion na fyddai’r porthladd yn ailagor cyn y Nadolig. A dyma ni yn dal heb y porthladd wedi’i agor yn llawn eto. Ond mae’r trydydd argymhelliad yna ynglŷn â’r cyfathrebu, yn dilyn y math yma o ddigwyddiad yn y dyfodol, yn bwysig iawn, iawn.

Argymhelliad 4 wedyn—hwn yn adleisio’r cwestiwn y cefais i gyfle i’w ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet yn gynharach heddiw, ynglŷn â’r lefel o gefnogaeth sydd angen ei roi o hyd i’r gymuned a’r busnesau wnaeth golli allan oherwydd y digwyddiad yma. A dwi’n nodi, o ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet, fod yr achos terfynol wedi cael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ynys Môn i Lywodraeth Cymru, a bod yna ystyriaeth yn cael ei roi i gamau a all gael eu rhoi mewn lle. Ond, wir, mae angen penderfyniadau buan iawn, oherwydd rŵan mae angen yr help ar lawer o’r busnesau i wneud iawn am eu colledion nhw dros y misoedd diwethaf.

Mi wnaf i droi yn olaf at argymhelliad 6. Mae’r pwyllgor yn dweud y bydd o’n monitro gwaith y tasglu sydd wedi cael ei sefydlu. Felly, gair gen i ynglŷn â’r tasglu yma: i fi, fy nghonsérn i wedi’r digwyddiad oedd porthladd Caergybi, a gwytnwch porthladd Caergybi. Mae Samuel Kurtz yn hollol iawn i nodi bod yna borthladdoedd eraill yng Nghymru, ac mi ddefnyddiwyd y cyfle yma i ehangu, drwy’r tasglu, y golygon ar wytnwch y croesiad ar draws Môr Iwerddon yn fwy eang.

Mi wnaf i’r pwynt i’r gwrthwyneb o beth ddywedodd Samuel Kurtz. Mi ges i fy ngwahodd i un cyfarfod oedd i fod i drafod yn benodol beth oedd yn digwydd ym mhorthladd Caergybi. Beth glywais i oedd y drafodaeth yn y fan honno yn troi at borthladdoedd eraill Cymru. Felly, plis, plis, allwn ni, ar yr adegau pwysig hynny lle mae yna sylw i fod ar borthladd Caergybi, sicrhau bod y sylw yn aros ar borthladd Caergybi?

Ac mi wnaf i’r pwynt ehangach wedyn fod sôn am borthladd Caergybi yn golygu mwy na dim ond beth sy’n digwydd o gwmpas y môr ei hun. Oes, mae angen sicrhau bod gwersi wedi’u dysgu ynglŷn â pham oedd yna wendid yn y doc yn ei hun. Mae angen, o’r diwedd, plis, fynd i’r afael â’r ffordd i mewn ac allan o’r porthladd. Mi adeiladwyd yr A55 at borthladd Caergybi, ond nid i mewn i’r porthladd. Siawns ein bod ni wedi dysgu rŵan fod angen rhoi’r buddsoddiad i mewn.

Ymhellach i ffwrdd ychydig o’r porthladd, mae croesiad y Fenai, wrth gwrs. Mae yna ddiffyg gweithredu dybryd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chroesiad y Fenai. Do, mi wnaed y penderfyniad anghywir, dwi’n credu, i beidio â bwrw ymlaen â’r gwaith o adeiladu trydydd croesiad. Nid yn unig y cafodd hynny ei ganslo, ond does yna ddim byd wedi newid i deithwyr ar draws y Fenai ers hynny. Mae'n rhaid i ni weld gweithredu. Mae'n rhaid i ni weld rhagor o wytnwch yn yr holl elfennau hynny sydd yn creu porthladd, sydd mor bwysig. Hefyd, mae'n rhaid i mi sôn am yr adnoddau parcio lorïau ac ati a gollwyd yn sgil Brexit. Mae yna gymaint o gwestiynau sydd angen mynd i'r afael â nhw. Mae'n rhaid defnyddio'r sylw sydd wedi ei roi ar hyn yn sgil y digwyddiad ym mis Rhagfyr diwethaf i sicrhau ein bod ni yn adeiladu porthladd gwydn ar gyfer y dyfodol.

15:45
15:50
15:55
16:00

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar gyfer Cyfraith Owain

Eitem 7 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar gyfer cyfraith Owain. Galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8940 Hefin David

Cefnogwyd gan Altaf Hussain, Janet Finch-Saunders, Joyce Watson, Natasha Asghar, Rhianon Passmore, Rhys ab Owen

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar Gyfraith Owain, sydd wedi'i enwi ar ôl Owain James o Gaerffili, a fu farw yn 2024 o diwmor ar yr ymennydd.

2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai sicrhau:

a) bod yn rhaid cael cydsyniad gan y claf, neu'r perthynas agosaf lle bo'n briodol, i drin a storio meinwe tiwmor, a hynny cyn y llawdriniaeth;

i) dylai'r broses gydsyniad gynnwys esboniad ysgrifenedig clir o sut y bydd meinwe a dorrwyd allan yn cael ei storio ar ôl llawdriniaeth, ac archwiliad patholegol a histolegol; a

ii) dylai'r cydsyniad amlinellu y bydd yr holl feinwe sy'n weddill yn eiddo i'r claf, a dim ond caniatâd gan y claf, neu'r perthynas agosaf lle bo'n briodol, all benderfynu ar ei ddefnydd;

b) y bydd y swm lleiaf posibl o feinwe tiwmor a dorrwyd allan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dadansoddiad patholegol a histolegol, gan sicrhau cywirdeb diagnostig;

c) bod yn rhaid i'r meinwe tiwmor a dorrwyd allan sy'n weddill gael ei rhewi'n gyflym neu ei rhewi'n ffres, ar -80 gradd canradd, heb unrhyw gemegau na chadwolion (gan gynnwys halwynog neu baraffin). Dylid storio meinwe mewn sawl cyfnifer (aliquot), lle bo modd, er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posibl o feinwe yn y dyfodol at wahanol ddibenion; a

d) pan fydd sefyllfaoedd brys yn codi ac nad yw cydsyniad yn bosibl cyn llawdriniaeth, rhaid dilyn yr un protocol ar gyfer storio meinwe a rhaid cwblhau'r broses o gael cydsyniad o fewn 48 awr.

Cynigiwyd y cynnig.

16:10

Dwi am ddechrau drwy ddiolch i Hefin am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol yma heddiw. Mi allaf gadarnhau y byddwn ni fel plaid yn ei gefnogi'n llawn. Mae'n briodol ein bod ni'n dechrau drwy estyn ein cydymdeimladau dwysaf a mwyaf diffuant i deulu Owain James. Mae'n anodd dychmygu'r boen a'r golled y maen nhw wedi gorfod ei ddioddef. Mae'n amlwg iddo frwydro'n ddewr, ac mae'n gwbl briodol, felly, ein bod ni'n dangos y parch teilwng yma iddo drwy feddwl sut gallwn ni wella'r sefyllfa i eraill yma yng Nghymru.

Mae'r cynnig hwn yn adlewyrchu dwy egwyddor greiddiol sydd wrth galon ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Y cyntaf ydy bod yr NHS yn eiddo i’r cyhoedd, ein gwasanaeth ni i gyd, ac mai ei brif ddiben ydy gwasanaethu’r bobl. Yn ail, llais y claf, ei farn, ei ofnau a’i ddymuniadau a ddylai fod yn ganolog i bob penderfyniad. Dylai hynny fod yn wir bob tro, heb eithriad, heb esgus.

Mae’r ddadl yma heddiw yn rhoi cyfle i ni nodi rhai o’r heriau sydd yn wynebu cleifion tiwmor yr ymennydd yma yng Nghymru, yn benodol y broses boenus a hir cyn cael diagnosis, a’r problemau er mwyn cael y diagnosis hwnnw, ynghyd â phrinder teclynnau diagnosis hanfodol, megis peiriannau sganio. Hyd yn oed ar ôl derbyn diagnosis, mae gennym ni brinder canolfannau triniaeth arbenigol, gyda llawer gormod o’n cleifion yn gorfod teithio pellteroedd maith ar adegau o wendid er mwyn derbyn eu triniaeth.

Wythnos diwethaf, fe wnes i gyflwyno cynnig yn galw am wella cynllunio gweithlu’r allied health professionals, ac mae cyd-destun y ddadl yma heddiw yn crisialu pam fod angen hyn, oherwydd bod cynifer o’r therapyddion yma yn hanfodol ar gyfer cynorthwyo taith cleifion tiwmor yr ymennydd.

Mae canser yr ymenydd yn lladd mwy o blant a phobl ifanc na'r un canser arall, ond eto mae’n dioddef o’r ffaith nad oes yna lawer o bres ymchwil yn cael ei neilltuo i’r math arbennig yma o ganser.

16:15
16:25

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Argyfwng iechyd

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt.

Eitem 8 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar argyfwng iechyd. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8944 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng iechyd.

Cynigiwyd y cynnig.

16:30

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, yn enw Jane Hutt.

16:35

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd

1. Yn cydnabod bod y GIG yng Nghymru yn wynebu cynnydd yn y galw yn sgil newidiadau demograffig a goblygiadau lefelau gordewdra cynyddol a phroblemau iechyd cronig hirdymor, ond nid yw hyn yn golygu bod argyfwng iechyd.

2. Yn nodi'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn ac i wella iechyd pobl a gwella mynediad at ofal iechyd gan gynnwys:

a) £120m i leihau amseroedd aros a maint cyffredinol y rhestr aros;

b) newidiadau i'r contract meddygon teulu i ddarparu parhad yn y gofal i bobl â chyflyrau hirdymor; ac

c) Cymru yn dod yn Genedl Marmot i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Dwi am ddiolch i'r Ceidwadwyr am sicrhau y ddadl yma heddiw. Mi fyddwn ni ym Mhlaid Cymru yn pleidleisio o blaid y cynnig. Wedi'r cyfan, Plaid Cymru oedd y cyntaf i alw ar y Llywodraeth i ddatgan argyfwng iechyd, nôl ym mis Chwefror 2024, felly mae'n galonogol gweld y gwrthbleidiau eraill yn dilyn arweiniad y blaid.

Ar adeg ein dadl bryd hynny, roedd y rhestrau aros yn yr NHS yn cynnwys dros 762,000 o lwybrau triniaeth, gan effeithio ar 582,000 o unigolion. Roedd bron i 58,000 ohonyn nhw yn aros dros flwyddyn am apwyntiad cleifion allanol cyntaf. Roedd y rhestrau aros yn codi a chodi, gan gyrraedd record newydd bedair gwaith mewn blwyddyn.

Ers hynny, dros 15 mis yn ddiweddarach, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu eto fyth. Mae'r ffigurau bellach yn sefyll ar 789,929 o lwybrau triniaeth a 611,100 o unigolion yn disgwyl triniaeth. Mae hyn yn gyfystyr â chynnydd cyfartalog o 56 o bobl bob dydd ers ein dadl ni nôl ym mis Chwefror 2024.

Dros yr un cyfnod, mae rhestrau aros wedi torri record naw gwaith arall, ac mae pob un o'r saith bwrdd iechyd rhanbarthol wedi aros dan fesurau arbennig o ryw fath neu'i gilydd. Yn waeth byth, mae'r nifer sy'n aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf wedi cynyddu i 73,200, er gwaethaf y targed diwygiedig i ddileu'r holl achosion hyn erbyn y gwanwyn eleni.

Felly, er gwaethaf ein bod ni ar ein trydydd Prif Weinidog a thrydydd Gweinidog iechyd, a thargedau sy'n newid fel y gwynt, mae record methiant y Llywodraeth Lafur yma yn gyson, yn barhaus ac yn annerbyniol.

16:40
16:45
16:50
16:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:00
17:05
17:10
17:15
17:20
17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cymerwn ni bleidlais, oni bai fod tri Aelod o'r Senedd eisiau i fi ganu'r gloch.

9. Cyfnod Pleidleisio

Fe wnawn ni symud ymlaen i'r bleidlais gyntaf ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar argyfwng iechyd. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, yn ymatal neb, 26 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Argyfwng iechyd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Felly, fe wnawn ni bleidleisio ar y gwelliant. Gwelliant 1 sydd yn gyntaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Argyfwng iechyd. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8944 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod y GIG yng Nghymru yn wynebu cynnydd yn y galw yn sgil newidiadau demograffig a goblygiadau lefelau gordewdra cynyddol a phroblemau iechyd cronig hirdymor, ond nid yw hyn yn golygu bod argyfwng iechyd.

2. Yn nodi'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn ac i wella iechyd pobl a gwella mynediad at ofal iechyd gan gynnwys:

a) £120m i leihau amseroedd aros a maint cyffredinol y rhestr aros;

b) newidiadau i'r contract meddygon teulu i ddarparu parhad yn y gofal i bobl â chyflyrau hirdymor; ac

c) Cymru yn dod yn Genedl Marmot i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Argyfwng iechyd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: O wasanaeth i wewyr: Cyn-aelodau'r Llu Awyr Brenhinol a'u brwydr gudd â chanser

Fe fyddwn ni yn symud ymlaen nawr i'r ddadl fer. Os gall Aelodau adael y Siambr, os ydyn nhw'n gwneud, yn dawel.

17:35
17:40

Daeth y cyfarfod i ben am 17:41.