Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/05/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i’r Prif Weinidog fydd yr eitem gyntaf y prynhawn yma, ac mae’r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar.

Addysg Rhyw

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth addysg rhyw mewn ysgolion? OQ62732

Diolch yn fawr. Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n briodol yn ddatblygiadol yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae ein cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn darparu diogelu hanfodol i ddysgwyr ac yn eu helpu i greu perthnasoedd parchus, ag ymddiriedaeth trwy empathi, caredigrwydd a thosturi.

Diolch, Prif Weinidog. Mae gennym ni broblem ddifrifol gyda sut mae addysg rhyw yn cael ei haddysgu yn ein hysgolion a sut mae cynghorau Cymru, yn wir, yn ymyrryd ac yn gwastraffu arian trethdalwyr trwy ddweud wrth ysgolion sut i addysgu sut y dylai perthynas iach edrych. Rwy'n gwerthfawrogi popeth yr ydych chi newydd ei ddweud am ddosbarthiadau addysg perthnasoedd a rhyw, ond ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ddiweddar am safbwynt cwbl erchyll Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar dagu rhywiol, a sut, yn wir, y mae'n cael ei addysgu mewn ysgolion. Yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n datgan yn eglur, ac rwy'n dyfynnu,

'Ddydd Iau 24 Ebrill, gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu safbwynt yn eglur iawn na ddefnyddiwyd y deunyddiau dan sylw erioed gan ysgolion ac na chawsant eu gweld gan ddisgyblion, bod yr holl ddeunyddiau wedi cael eu fetio, gydag adrannau yn cael eu dileu neu eu diweddaru i ddisgrifio yn eglur bod tagu nad yw'n angheuol yn anghyfreithlon, yn beryglus ac yn droseddol, gan gyfeirio at Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. Derbyniodd un ysgol yn yr awdurdod lleol y cyflwyniad, gan ddefnyddio'r deunyddiau wedi'u diweddaru, priodol hyn.'

Ar y naill law, Prif Weinidog, dywedwyd wrthym ni na ddefnyddiwyd y deunyddiau hyn erioed yn yr ysgolion na chan ddisgyblion. Beth, felly, oedd eu pwrpas yn y lle cyntaf, a beth oedd y gost o gynhyrchu'r rhain? Prif Weinidog, rydym ni'n sôn am ddiogelwch plant yma. Nid oes unrhyw ffordd ddiogel o dagu rhywun yn ystod rhyw. Dylai fod yn achos eglur o, 'Na, nid yw hyn yn rhan o berthynas iach.' Dyna ni. Ei diwedd hi. Ac rwyf i wedi rhoi'r cyngor hwnnw yma am ddim i bawb yma heddiw. [Torri ar draws.] Croeso.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi heddiw bod hyn yn gwbl annerbyniol fel saga, ac wedi bod yn wastraff anferthol o amser ac arian, ac y byddai'n well canolbwyntio ymdrechion ar fynd i'r afael â materion pwysig yn ein hysgolion, fel ymlediad pornograffi ymhlith pobl ifanc yn hytrach? Diolch.

Natasha, rwy'n cytuno â chi—nid oes unrhyw le o gwbl i'r math hwnnw o gyfarwyddyd yn ein hysgolion. Ac rwyf i eisiau bod yn gwbl eglur bod unrhyw ddeunyddiau sy'n esgusodi, neu y mae'n ymddangos eu bod yn esgusodi unrhyw fath o ymddygiad rhywiol niweidiol, gan gynnwys tagu nad yw'n angheuol, yn gwbl annerbyniol mewn unrhyw ysgol. Felly, rwyf i eisiau gwneud hynny'n gwbl eglur. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cadw at y ffeithiau: ni rannwyd deunyddiau amhriodol ar unrhyw adeg i'w defnyddio mewn ysgolion ac ni chawsant eu gweld gan ddysgwyr.

Cyfranogiad Pleidleiswyr

2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu cyfranogiad pleidleiswyr yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026? OQ62721

Rydym ni i gyd yn rhannu diddordeb mewn annog pobl i ddeall eu hawliau ac i bleidleisio. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid allweddol i hyrwyddo ymgysylltu â democratiaeth a'r dydd Gwener hwn yw'r dyddiad cau ar gyfer rownd nesaf ein grant ymgysylltu â democratiaeth, sy'n ariannu gwaith arloesol i hyrwyddo cyfranogiad.

Mae hynny'n swnio'n wych, a dweud y gwir, ond nid yw'n golygu llawer i mi, ac nid wyf i'n siŵr beth mae'n ei olygu i'n pleidleiswyr allan yna. Nawr, rydym ni'n gwybod, yn draddodiadol, fod y ganran sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd yn llawer is na'r ganran sy'n pleidleisio mewn etholiad seneddol y DU. A dweud y gwir, nid ydym ni erioed wedi cyrraedd y targed o 50 y cant hyd yn oed. Yn sicr nawr, gyda'r system bleidleisio newydd sy'n cael ei chyflwyno, a'r ffaith nad yw nifer fawr o'r boblogaeth eisiau 36 o Aelodau ychwanegol yma, sut ydych chi'n mynd i estyn allan ac ymgysylltu â'r rhai y mae'n debygol na fyddan nhw'n deall y system bleidleisio newydd, ac sy'n sicr yn gwrthwynebu'r 36 o Aelodau ychwanegol? Sut ydych chi'n mynd i ymgysylltu â'r bobl hynny i sicrhau nad ydych chi, mewn gwirionedd, o ganlyniad i'ch chwarae o gwmpas gyda'r system etholiadol a dod â'r 36 Aelod i mewn, wedi lladd diddordeb etholwyr Cymru?

Wel, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni i gyd annog pobl i gymryd rhan yn yr etholiadau. Mae hwn yn faes lle na ddylai unrhyw un ohonom ni fod yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, yn fy marn i. Rwy'n credu ei bod hi'n—[Torri ar draws.] Ond rydych chi eisiau i bobl droi i fyny yn yr etholiadau hynny. Rwy'n credu y dylem ni i gyd fod yn annog hynny fel rhywbeth na ddylem ni fod yn ymddiheuro amdano. Cawsom ni ganran bleidleisio o 47 y cant yn etholiadau diwethaf y Senedd. Mae wir yn ddigalon gweld y gostyngiad yn y ganran a bleidleisiodd yn etholiadau'r DU—56 y cant oedd hwnnw. Felly, mae hwnnw wedi gostwng hefyd. Mae'n bwysig iawn ei gwneud hi'n eglur nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig yw hyn. Iawn? [Torri ar draws.] Na, na, arhoswch am funud. Oherwydd Comisiwn y Senedd sy'n helpu ac yn arwain y grŵp cyfathrebu, ac maen nhw'n gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol, y Bwrdd Rheoli Etholiadol ac awdurdodau lleol. Felly, yr hyn sy'n digwydd yw bod yr holl grwpiau hyn yn dod at ei gilydd i wneud yn siŵr ein bod ni'n ceisio osgoi ailadrodd, a'n bod ni'n cynyddu effeithiolrwydd ceisio annog pobl i ddod i bleidleisio yn yr etholiadau hynny.

13:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dylai uwchgynhadledd y DU-UE ddoe fod wedi ymwneud â symud Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, ymlaen. Ond, yn hytrach, ail-agorodd Keir Starmer a Llywodraeth y DU yr hen frwydrau Brexit yr ydym ni eisoes wedi eu hymladd a'u hennill a gwneud rhai cyhoeddiadau gwarthus. Felly, gadewch i ni fod yn eglur ynglŷn â'r hyn y mae'r cytundeb hwn yn ei olygu: symudiad rhydd yn ôl, taliadau i'r UE yn ôl, rheolau'r UE yn ôl, bradychu ein diwydiant pysgota yma yng Nghymru, cynllun symudedd annerbyniol, biliynau o arian trethdalwyr yn mynd yn ôl i Frwsel, cael ein gorfodi i dderbyn rheolau'r UE a phenderfyniadau gan y llys Ewropeaidd, a chychod pysgota Ewropeaidd yn nyfroedd Cymru, yn nyfroedd Prydain, am y 12 mlynedd nesaf o leiaf. Prif Weinidog, mae gennych chi gyfrifoldeb i sefyll yn gadarn dros Gymru a'n cynrychioli ni. Pam ar y ddaear ydych chi wedi croesawu'r cytundeb hollol ofnadwy hwn?

Fe ddywedaf i wrthych chi mai'r hyn yr wyf i'n ei wybod yw bod y Torïaid wedi gwneud llanastr o Brexit. Fe wnaethoch chi addo—[Torri ar draws.]—fe wnaethoch addo i bobl Cymru y bydden nhw'n well eu byd o ganlyniad i Brexit. Fe wnaethoch chi ddweud y byddai'r GIG yn cael mwy o arian o ganlyniad i Brexit. Mae llygaid pobl Cymru wedi cael eu hagor ac maen nhw wedi sylweddoli y dywedwyd anwireddau wrthyn nhw o ran yr hyn a addawyd iddyn nhw yn y refferendwm Brexit. Y gwir amdani yw mai'r hyn y byddwn ni'n ei weld nawr yw llawer gwell cyfleoedd ar gyfer swyddi yn y wlad hon gan y bydd pobl yn gallu allforio i'r UE am y tro cyntaf heb y biwrocratiaeth hwnnw a ddigwyddodd o'r blaen. Rydym ni wedi gweld gostyngiad o £700 miliwn i allforion i'r UE ers Brexit. Eich grŵp chi wnaeth hyrwyddo hynny, ac mae hynny'n golygu swyddi go iawn sy'n effeithio ar bobl go iawn yn ein cymunedau. Rwy'n falch ein bod ni'n symud ymlaen a'n bod ni wedi cael llawer o bethau arwyddocaol iawn a fydd o fudd i Gymru o ganlyniad i'r trydydd cytundeb masnach a wnaed o fewn pythefnos gan Lywodraeth y DU.

Prif Weinidog, rwy'n gwybod nad ydych chi'n ei hoffi, rwy'n gwybod nad yw eich cyd-Aelodau Llafur yn y Senedd yn ei hoffi, ac rwy'n gwybod nad yw eich ffrindiau ym Mhlaid Cymru yn ei hoffi, ond pleidleisiodd pobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac, fel fi, roedden nhw eisiau i ni gymryd rheolaeth o'n materion ein hunain yn ôl oddi wrth fiwrocratiaid anhysbys yr UE. Nawr, rwy'n parchu canlyniadau refferenda; mae'n drueni nad ydych chi. Mae'r cytundeb hwn gyda'r UE yn frad ac mae'n ildiad. Nid ailosod mohono, mae'n enciliad, a phob tro y mae Llafur yn negodi, mae pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig yn colli. Mae hwn yn gytundeb ofnadwy gyda'r Undeb Ewropeaidd. Bydd yn dinistrio ein diwydiant pysgota yng Nghymru, a bydd gan y cychod Ewropeaidd hyn fynediad am 12 mlynedd yn ei dyfroedd bellach. Mae'n warth. Pam ar y ddaear, Prif Weinidog, ydych chi wedi bradychu ein diwydiant pysgota, a pham nad ydych wedi sefyll dros benderfyniad pobl Cymru yn y refferendwm hwnnw ar yr UE?

Darren, nid ydych chi'n mynd i fod mwy fel Reform na Reform—dyna'r gwir amdani; rydym ni'n gwybod pwy rydych chi'n poeni amdano. Ond gadewch i ni fod yn gwbl eglur nad wyf i'n gwneud unrhyw ymddiheuriadau am y ffaith y bydd busnesau yng Nghymru yn gallu allforio heb y biwrocratiaeth y gwnaethoch chi eu lapio ynddo pan oeddech chi'n Llywodraeth yn y wlad hon. Ceir cyfleoedd enfawr i'r 20,000 o bobl sy'n gweithio yn ein sector amddiffyn. Ceir cyfleoedd gwirioneddol i'n sector dur, oherwydd ni fyddwn ni'n ddarostyngedig i'r rheolau newydd a allai fod wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i hynny. Ac rwy'n falch y bydd pobl ifanc o Gymru yn gallu mynd i deithio i'r cyfandir. Pam ar y ddaear fyddech chi eisiau gwadu'r cyfle hwnnw i bobl? Ac o ran ynni, ceir potensial gwirioneddol nawr i ni weithio gyda marchnad ynni'r UE a allai helpu i ostwng biliau yn y wlad hon. Dyna'r pethau sy'n bwysig i bobl Cymru. Ar ben hynny, bydd llawer o bobl a fydd yn teimlo rhyddhad mawr nad oes yn rhaid iddyn nhw ddisgwyl yn y ciwiau eithriadol o hir hynny ar y ffiniau pan fyddan nhw'n mynd ar eu gwyliau eleni. Gadewch i ni fod yn eglur, mae hynny'n bwysig i bobl Cymru.

13:40

Wrth gwrs, roedd yn berffaith bosibl i wledydd yr UE leihau'r ciwiau hynny ar y ffiniau a chael trefniadau ar sail ddwyochrog. Rwy'n ofni nad yw pobl yn credu'r ffigurau sy'n cael eu crybwyll gan y Blaid Lafur. Cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud bod biliau ynni pobl yn mynd i leihau £300, ac maen nhw wedi cynyddu £300, nid lleihau. Edrychwch, y gwir amdani yw na wnaeth Llywodraeth Lafur y DU ymgynghori â chi ac ni wnaeth ymgynghori â Llywodraeth Lafur Cymru er gwaethaf y ffaith bod llawer o'r rhannau o'r cytundeb hwn yn mynd i gael effaith yma yng Nghymru. Yn syml, nid oes gennych chi lais, nac oes, Prif Weinidog? Rydych chi'n honni eich bod chi'n sefyll yn gadarn dros Gymru, ond y gwir amdani yw nad oes gan Lywodraeth y DU a Phrif Weinidog y DU unrhyw ots o gwbl am yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud na'i feddwl. Rydych chi'n cael eich gwthio o'r neilltu, rydych chi'n cael eich dileu ar bob un cyfle. Ac yna mae gennym ni Ysgrifennydd Gwladol anweledig, Jo Stevens, nad ydym byth yn clywed ganddi. Ble ar y ddaear mae hi?

Pan fradychwyd ein ffermwyr gyda'r dreth ffermydd teuluol, pan fradychwyd ein pensiynwyr drwy gael gwared at daliad tanwydd y gaeaf, a phan fradychwyd ein gweithwyr gyda'r dreth swyddi, y cwbl wnaeth Llywodraeth Lafur y DU oedd taro'r botwm tawelu cyn belled ag yr oeddech chi yn y cwestiwn, ac roedd distawrwydd gennych chi. Eto, yr wythnos hon, nid distawrwydd yn unig ydyw, mae'n waeth, fel rydym ni newydd ei glywed—rydych chi wedi croesawu'r cytundeb ofnadwy hon mewn gwirionedd. Mae'n gytundeb ofnadwy sy'n peryglu swyddi ac yn peryglu bywoliaethau yn rhai o'n cymunedau arfordirol ledled Cymru, er na ymgynghorwyd â chi a bod pysgota wedi'i ddatganoli. Mae'n warth. Felly, pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd nawr i gefnogi ein diwydiant pysgota a'r swyddi sy'n dibynnu arno ledled y wlad hon, a chael ail-agor y cytundeb hwn fel ei fod yn deg i Gymru?

Rydych chi'n sôn am gytundeb ofnadwy. Fe wnaf i ddweud wrthych chi beth oedd y cytundeb ofnadwy, y cytundeb Brexit y gwnaethoch chi gytuno iddo. Roedd yn Brexit caled sydd wedi brifo pobl y wlad hon ac sydd wedi achosi anhrefn yn rhai o'n cymunedau. Cafodd cyllid yr UE ei dorri'n sylweddol, er gwaethaf y ffaith ein bod wedi cael addewid na fyddem ni ddim gwaeth ein byd.

Y gwir yw bod pobl yn ein diwydiant pysgod cregyn, sy'n llawer mwy na'n sector diwydiant pysgodfeydd mewn gwirionedd, yn hapus iawn y byddan nhw, o hyn ymlaen, yn gallu allforio eu nwyddau i'r cyfandir heb iddyn nhw eistedd ac aros a gorfod llenwi ffurflenni ar y ffiniau. Roeddem ni'n rhan o'r trafodaethau yr holl ffordd drwodd. Rwyf i mor falch bod y blaenoriaethau a nodwyd gennym ni—pethau fel gwneud yn siŵr bod y mater iechydol a ffytoiechydol yno, gwneud yn siŵr bod gennym ni gyfleoedd amddiffyn, gwneud yn siŵr bod materion o ran dur ac ieuenctid a chyfnewid ac ynni—yr holl bethau hyn y gwnaethom ni ofyn amdanyn nhw, rwy'n falch iawn eu bod nhw yno. Doedden ni ddim yno ar ddiwedd un y broses gan mai dyna sut mae Llywodraeth yn gweithio.

Diolch, Llywydd. Ddoe, llofnododd Llywodraeth y DU gytundeb newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n falch bod rhywfaint o dderbyniad nawr o niwed Brexit, ond nid yw'n ddigon beiddgar yn ei ymateb i'r realiti hwnnw. Do, fe wnaeth y Torïaid lanastr o Brexit, ac mae'n werth eu gweld eu gwadiadau, ar ôl eu cynhadledd drychinebus dros y penwythnos, ond mae Llafur hefyd yn gwneud llanastr o'i hymateb i niwed Brexit. Gyda'i 'phartneriaeth mewn grym' honedig ac addewid o ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru, byddwn i wedi disgwyl i'r Prif Weinidog fod yn ymwybodol o'r cytundeb ymlaen llaw ac i fod wedi cael cyfle i ddylanwadu ar Brif Weinidog y DU, yn enwedig o ystyried bod rhannau o'r cytundeb yn cynnwys meysydd o gyfrifoldeb datganoledig. Ond, mewn arwydd arall nad yw llais Cymru yn bwysig iawn i Lafur y DU, mae'r Prif Weinidog wedi cyfaddef—clywais hi fy hun—ei bod wedi cael ei gwthio o'r neilltu eto, gan gynnwys ar yr agweddau hynny ar y cytundeb sy'n dod o dan awdurdodaeth y Senedd hon. Pam mae hi'n parhau i ganiatáu i Keir Starmer drin Llywodraeth Cymru, y sefydliad hwn a phobl Cymru gyda'r fath ddirmyg?

13:45

Mae'n bwysig iawn i ni gydnabod bod hwn yn gytundeb da i Gymru. Mae'r blaenoriaethau a gyflwynwyd gennym ni, a luniwyd gennym ni amser maith yn ôl, yr ydym ni wedi gweithio drwyddyn nhw gydag adrannau perthnasol y Llywodraeth yn Whitehall, wedi cael eu hystyried mewn gwirionedd—os edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd o ran materion iechydol a ffytoiechydol, cael gwared ar rwystrau allforio, gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd amddiffyn hynny yn dod i ni, gwneud yn siŵr bod y materion yn ymwneud â dur yn cael eu hystyried a gwneud yn siŵr bod y materion cyfnewid ieuenctid ac ynni yn cael sylw. Roedd y rheini'n bethau a oedd i gyd ar ein rhestr o bethau yr oeddem ni eisiau eu gweld, ac rwyf i wrth fy modd o weld eu bod nhw wedi cael eu parchu. Y gwir amdani yw nad oeddem yno ar adeg y llofnodi terfynol, nac oeddem, gan ein bod ni'n rhan o'r Deyrnas Unedig, a nhw yw'r genedl arweiniol. Efallai nad ydych chi'n hoffi hynny fel cenedlaetholwr, ond rwy'n awyddus i aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a dyna sut mae'n gweithio. 

Mae'n dod yn amlwg iawn nad oes dim wedi newid ers yr araith honno o bythefnos yn ôl. Pan fo Keir Starmer yn dweud ei fod yn gytundeb da yna mae'n rhaid ei fod yn gytundeb da i Gymru. Prin bythefnos sydd wedi mynd heibio ers yr araith 'ffordd goch Cymru' honno fel y'i gelwir, ond mae'r araith honno wedi cyrraedd pen y daith.

Dyma fforch arall yn y ffordd, a oedd yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i sefyll dros fuddiannau Cymru, ond ni wnaeth ddim, ac ni chafodd ei gwahodd chwaith. Unwaith eto, ni chafodd llais Cymru ei glywed wrth y bwrdd, ac rydym ni'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu. Pan nad ydym ni wrth y bwrdd, yn eithaf aml rydym ni ar y fwydlen.

Felly, gadewch i ni fynd i wraidd y mater. Yr unig dwf sy'n digwydd o dan oruchwyliaeth Prif Weinidog y DU yw maint yr eliffant Brexit yn yr ystafell. Ni waeth a wnaeth pobl bleidleisio i adael neu i aros, pleidleisiodd neb i roi cyllell trwy galon economi Cymru.

Yn 2018, dywedodd Gweinidog Llafur Llywodraeth Cymru:

'Mae'r llywodraeth Lafur wedi bod yn eglur iawn o ran safbwynt Cymru ein bod ni eisiau aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Mae hynny wedi bod yn ymrwymiad gan blaid Lafur y DU yn ystod y cyfnod pontio. Hoffem iddyn nhw fynd ymhellach. Hoffem i'r ymrwymiad hwnnw fod ar gyfer yr hirdymor'.

Dyna'r hyn a ddywedwyd. A yw'r Prif Weinidog yn cofio pwy ddywedodd hynny?

Nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am y ffaith fy mod i'n rhywun sy'n frwdfrydig am Ewrop. Roeddwn i'n Aelod o Senedd Ewrop am 15 mlynedd, ac rwy'n frwdfrydig iawn am yr Undeb Ewropeaidd. A oeddwn i'n siomedig ein bod ni wedi gadael? Yn sicr, roeddwn i'n siomedig ein bod ni wedi gadael. A wyf i'n meddwl bod angen i ni barchu mandad y DU? Ydw, rwy'n credu bod angen i ni wneud hynny. Ond rwyf i eisiau cytundeb mor agos â phosibl gyda'r Undeb Ewropeaidd er mwyn i'n gwlad a'n cenedl ffynnu. A'r hyn sydd wedi bod yn wych yr wythnos hon—efallai eich bod chi wedi ei fethu, Rhun—yw'r ffaith bod ein heconomi ar draws y Deyrnas Unedig yn tyfu mewn gwirionedd. Efallai nad yw'n cyd-fynd â'ch naratif, ond mae'n rhywbeth sy'n ffeithiol wir. Mae'n bwysig nawr ein bod ni'n gweld ffrwyth hynny a thwf yr economi yn helpu i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedwch wrth fusnesau sy'n teimlo pwysau'r cynnydd i yswiriant gwladol, os yw hynny'n teimlo'n dda i economi Cymru. Mae gennym ni Brif Weinidog sy'n dweud ei bod yn rhywun sy'n frwdfrydig am Ewrop, ond mae hynny mewn geiriau yn unig. Rwy'n chwilio am Brif Weinidog sy'n dangos drwy ei gweithredoedd beth yw ei hagweddau tuag at y berthynas rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.

Ac ie, wrth gwrs, y Prif Weinidog ei hun oedd eisiau i Lafur ymrwymo i'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn yr hirdymor yn ôl bryd hynny. Pam mae gwleidyddion Llafur yn dweud un peth fel gwrthblaid, neu rywbeth gwahanol pan fyddan nhw mewn grym, neu ar ôl dod yn Brif Weinidog?

Gadewch i mi ddweud hyn, ac fe'i dywedaf eto: ceir elfennau o gytundeb Prif Weinidog y DU y gellir eu cefnogi, yn sicr. Rwy'n croesawu'r elfen o gydnabod y niwed a achoswyd gan Brexit. Ond hyd yn oed wedyn, mae'n dibynnu a yw'r manylion terfynol yn cyd-fynd â'r rhethreg. Mae Plaid Cymru wedi galw ers amser maith am gynllun symudedd ieuenctid, er enghraifft.

Ond gadewch i ni fod yn onest, nid yw'r cytundeb hwn y math o ailosod sydd ei angen arnom ni. Mae'r Llywodraeth i bob pwrpas yn dal i encilio rhag mynd i'r afael â'r ergyd gwerth £4 biliwn i economi Cymru. Nid wyf i wedi simsanu o gwbl o'm cred gadarn y byddai economi Cymru yn elwa o aelodaeth o'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Pam mae hi?

Rydych chi'n sôn am doriadau gwerth £4 biliwn i economi Cymru. Fe wnaethoch chi bleidleisio gyda'r Torïaid yn ddiweddar mewn pleidlais a fyddai wedi amddifadu ein gwasanaethau cyhoeddus o £4 biliwn yn union. [Torri ar draws.] O, dydyn nhw ddim yn ei hoffi pan fyddan nhw'n dadlau yn ôl a nhw, ydyn nhw? Nid yw'n ei hoffi pan fydd hynny'n digwydd. [Torri ar draws.] Rydych chi'n gallu taflu baw—

Mae angen i mi glywed y Prif Weinidog. A allaf i glywed y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda? 

Rydych chi'n gallu taflu baw, ond allwch chi ddim ei gymryd, allwch chi? Mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n meddwl am y cynnydd. Rydych chi eisiau clywed am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud nid yn unig mewn geiriau ond mewn gweithredoedd. Oeddem, roeddem ni'n poeni am y ffaith bod rhaglen Erasmus wedi cael ei thorri, felly beth wnaethon ni? Fe wnaethon ni gyflwyno ein rhaglen ein hunain, Taith. Mae 8,000 o bobl wedi gwneud i hynny ddigwydd. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi arwain y ffordd, ein bod ni wedi dangos i Lywodraeth y DU y gellir gwneud hyn, mae'n dda i bobl ifanc ein gwlad, ac mae'n rhywbeth sy'n cyfoethogi ein cymunedau.

13:50
Cenedl Noddfa

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am statws Cymru fel cenedl noddfa? OQ62733

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'n gweledigaeth o Gymru fel cenedl noddfa, sydd â'r nod o gynorthwyo pobl sy'n chwilio am noddfa i gyfrannu'n llawn at fywyd Cymru. Rydym ni wedi ymrwymo i harneisio'r cyfleoedd y mae mudo yn eu cynnig, i helpu ein heconomi a'n cymunedau i ffynnu.

Prif Weinidog, dros yr 50 mlynedd diwethaf yng Nghymru, rwyf i wedi ymuno â ffoaduriaid o Chile a'u cefnogi, ar ôl i i'r Cadfridog Pinochet gipio awdurdod i'r ffasgiaid yn y 1970au; rwyf i wedi gweithio gyda ffoaduriaid Cwrdaidd sy'n cael eu herlid ac yn ymladd dros famwlad a'u cefnogi; myfyrwyr a ffoaduriaid o Irac a oedd yn cael eu herlid a'u bygwth gan gyfundrefn Saddam Hussein; ffoaduriaid o Dde Affrica, gan gynnwys yr ymgyrchydd mawr yn erbyn apartheid, sylfaenydd Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru, yr oeddech chi'n ei adnabod, Hanef Bhamjee, nad yw gyda ni mwyach yn anffodus ond wedi ei gladdu yng Nghaerdydd; Palestiniaid; Syriaid; ac yn ddiweddar croesawyd tua 8,000 o Wcreiniaid, a llawer o rai eraill i Gymru, wedi'u croesawu i'n cenedl noddfa. Mae'r bobl hyn bellach yn cyfrannu at economi Cymru ac at wasanaethau cyhoeddus Cymru, yn enwedig ein gwasanaethau iechyd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi nad yw Cymru yn ynys o ddieithriaid a bod mewnfudo wedi bod yn dda i Gymru yn ddiwylliannol ac yn economaidd?

Mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw mewnfudo, felly gadewch i ni fod yn eglur. Rydym ni'n genedl noddfa. Yr hyn nad yw hynny'n ei olygu yw bod cyfleoedd i unrhyw un sydd eisiau dod yma, ond pan fydd pobl yn dod yma, rydym ni eisiau gwneud iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw ac rydym ni eisiau iddyn nhw integreiddio.

Rwy'n credu bod gennym ni hanes balch iawn o groesawu ymfudwyr a phobl sy'n chwilio am noddfa yn ein cymunedau. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni harneisio'r manteision y mae'r bobl hyn yn eu cynnig i'n cymunedau a'i gwneud hi'n haws iddyn nhw integreiddio, a dyna pam rwyf i mor falch ein bod ni'n gwneud yn siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw ddysgu Saesneg ac, os oes angen, Cymraeg, fel y gallan nhw deimlo a chyfrannu at ein cymunedau.

Hoffwn ddiolch i chi ac i nodi'n benodol, gyda'ch cefndir, y balchder arbennig sydd gennym ni mewn creu llwybrau uwch-noddwr i Wcreiniaid sy'n ffoi rhag y rhyfel—mae 8,000 o ffoaduriaid Wcráin wedi dod o hyd i gymorth yma yng Nghymru, 3,300 ohonyn nhw drwy ein llwybr uwch-noddwr, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn falch iawn ohono. 

Hoffwn dalu teyrnged i Mick Antoniw. Mae wir wedi cyflwyno'r gwaith y mae wedi ei wneud, ac rydym ni i gyd yn falch o'n henw da fel cenedl noddfa, sy'n croesawu pobl sy'n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel. Pan fyddan nhw yma, mae llawer gyda'u teuluoedd eisiau bod yn rhan o'u cymuned, ac rydym ni'n gwerthfawrogi eu cyfraniadau, wrth gwrs. Mae llawer yn gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus, fel y dywedwch chi, yn enwedig y sector gofal cymdeithasol, lle mae angen i ni recriwtio yn gyson os ydym ni'n mynd i gyflawni ein huchelgais o gael gwasanaeth gofal cenedlaethol. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi barhau i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall y pwysigrwydd bod pobl sydd wedi gwneud eu cartrefi yng Nghymru yn teimlo bod croeso iddyn nhw a'u bod nhw'n gallu defnyddio eu sgiliau er budd holl bobl Cymru?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod cyfraniad pobl o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei danlinellu. Mae'r cyfraniad wir yn ddwys mewn rhai ardaloedd. Gadewch i mi roi enghraifft i chi: ym mwrdd iechyd Hywel Dda, mae bron i 50 y cant o'r meddygon a'r nyrsys wedi'u hyfforddi y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Ni fyddai ein gwasanaethau yn goroesi heb y bobl hyn. Felly, gadewch i ni fod yn gwbl eglur, pan fydd pobl yn creu ofn yn erbyn y bobl hyn, meddyliwch am ganlyniadau'r weithred honno. A gadewch i mi fod yn eglur hefyd o ran gweithwyr gofal: mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod eu cyfraniad, ac rydym ni'n gweithio trwy sut yn union y gallai'r cynigion newydd o ran mudo effeithio arnom ni yma yng Nghymru. 

Gofal Cymdeithasol a Mewnfudo

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Papur Gwyn Mewnfudo Llywodraeth y DU ar ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62753

Rŷn ni’n parhau i ddadansoddi effaith y Papur Gwyn mewnfudo ar ofal cymdeithasol ledled Cymru. Rŷn ni’n gweithio’n agos gyda’r holl awdurdodau lleol, gan gynnwys y rheini yn y canolbarth a’r gorllewin, i daclo’r heriau o ran recriwtio a chadw staff yn y sector, ac i gynllunio ar gyfer tyfu’r gweithlu yn y dyfodol.

13:55

Diolch. Mae mewnfudwyr yn asgwrn cefn i’n gwasanaeth iechyd. Mae tua un ym mhob 10 o staff bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft, wedi’u geni y tu fas i’r DU. Maen nhw hefyd yn cyfrannu’n helaeth yn ariannol i’n prifysgolion, gyda rhyw 7 y cant o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn dod o dramor.

Prif Weinidog, mae'r Papur Gwyn newydd ar fewnfudo a lansiwyd gan Keir Starmer yr wythnos diwethaf yn methu â chydnabod y cyfraniad y mae gweithwyr mudol a myfyrwyr tramor yn ei wneud at ein heconomi, ac yn cynrychioli naid bellach i'r dde gan Brif Weinidog y DU sy'n benderfynol o ddawnsio i dôn Nigel Farage. A dweud y gwir, rwy'n ei chael hi'n fwyfwy anodd adnabod y Blaid Lafur sydd ohono gan ei bod wedi gwyro mor bell o'i gwreiddiau, fel y mae toriadau i daliadau tanwydd y gaeaf a budd-daliadau anabledd, y cap budd-daliadau dau blentyn a'r bradychiad o weithwyr dur Port Talbot i gyd yn ei ddangos. Mae'r ymosodiad diweddaraf ar fewnfudwyr yn cynrychioli enciliad pellach o'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn honni yw ei werthoedd craidd. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gondemnio'r cyfeiriad y mae arweinydd ei phlaid wedi ei ddilyn o ran mewnfudo, neu a yw hi, fel y dywedodd Starmer am Liz Saville-Roberts yn San Steffan yr wythnos diwethaf, yn credu fy mod innau hefyd yn siarad rwtsh?

Dwi’n meddwl bod ein gweithwyr tramor yn ein sector gofal cymdeithasol yn cael eu gwerthfawrogi. Maen nhw’n cyfrannu’n helaeth ac yn sylweddol at ein gweithlu. Maen nhw’n dod ag amrywiaeth, maen nhw’n dod â phrofiad, maen nhw’n dod â chydymdeimlad a sgiliau i’n sector ni. Fel roeddwn i’n ei ddweud gynnau, y ffaith yw, yn Hywel Dda, bod un o bob 10 o’r gweithlu, efallai, yn dod o dramor, ond mae 50 y cant, bron â bod, o ran deintyddion a meddygon yn dod o dramor. Felly, mae’n rhaid inni fod yn ofalus, ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n 'navigate-io' ein ffordd ein hunain yma yng Nghymru drwy sicrhau ein bod ni’n dilyn y ffordd goch Gymreig.

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu'n fawr ar fewnfudo i drwsio'r sector gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn dweud wrthyf i nad ydyn nhw eisiau mynd i weithio yn y sector gofal cymdeithasol oherwydd y cyflog isel y maen nhw'n ei dderbyn am y gwaith ardderchog y maen nhw'n ei wneud yn cynorthwyo'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Un o'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru drwsio'r sector yw cynyddu'r swm o arian a delir i'n gweithlu gofal cymdeithasol. Rydych chi'n dathlu talu'r cyflog byw gwirioneddol iddyn nhw, ond mae llawer o weithwyr gofal cymdeithasol yn dweud wrthyf i y gallen nhw ennill mwy o arian yn llenwi silffoedd mewn archfarchnadoedd. Nid wyf i'n credu bod honno'n ffordd deg o dalu pobl sy'n cynnal ein GIG ac yn cefnogi'r system.

Beth mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn mynd i'w wneud i dalu ein gweithlu gofal cymdeithasol yn well, a fydd yn annog mwy o bobl i fynd i weithio yn y sector a pheidio â syrthio i mewn iddo fel angenrheidrwydd gwaith?

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi cyfrannu'n sylweddol fel Llywodraeth at wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y cyflog byw gwirioneddol o leiaf. Ac nid oedd yn opsiwn rhad i ni; roedd yn gyfraniad pwysig gan Lywodraeth Cymru. Os ydych chi'n cofio, fe wnaethom ni ei gyflwyno yn llawer cyflymach nag yr oeddem ni wedi ei fwriadu gan ein bod ni'n cydnabod bod pwysau sylweddol ar y sector.

Rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cytundebau cyflog teg ym maes gofal cymdeithasol yn cael eu cynnwys yn rhan o Fil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU, ac rydym ni eisiau i hwn gael ei ymestyn i Gymru. Felly, mae'n amlwg bod llawer mwy o waith i'w wneud yn y maes hwnnw ac rydym ni'n gobeithio y byddan nhw'n dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol yn y Deyrnas Unedig i helpu i dalu gweithwyr gofal. Os bydd hynny'n digwydd, yna, yn amlwg, byddwn ni'n cael cyllid canlyniadol.

Prynhawn da, Prif Weinidog. Hoffwn ddychwelyd i'r cwestiwn, sy'n ymwneud â naratif y Papur Gwyn a'r Ysgrifennydd Cartref yn dweud bod gweithwyr gofal yn cael eu disgrifio fel 'sgiliau isel'. Mae hynny, yn fy marn i, ac yn eu barn hwythau hefyd, yn iaith hynod sarhaus. Mae geiriau yn peri loes. Mae'r rhain yn weithwyr proffesiynol medrus, tosturiol sy'n darparu gofal hanfodol sy'n cynnal urddas, sy'n rhoi sicrwydd i deuluoedd ac yn dal ein cymunedau gyda'i gilydd. Dywedodd cadeirydd Fforwm Gofal Cymru ei fod yn warth llwyr. Byddwn yn eich gwahodd chi, yn union fel y gwnaeth Cefin, i gondemnio'r hyn a ddywedwyd yn y naratif hwnnw. Byddwn yn eich gwahodd chi i gondemnio'n eglur iawn yr ymadrodd, fel rydych chi wedi ei glywed gan Mick hefyd, ein bod ni wedi dod yn genedl o ddieithriaid a bod gweithwyr gofal yn weithwyr sgiliau isel. A allem ni eich clywed chi'n dweud nawr eich bod chi'n ymbellhau oddi wrth y sylwadau hynny? Diolch yn fawr iawn.

14:00

Wel, rwyf i wedi ei gwneud hi'n eglur eisoes na fyddwn i wedi defnyddio'r geiriau hynny fy hun. Fy nealltwriaeth i yw eu bod nhw wedi defnyddio'r geiriau 'gweithiwr medrus', ac yn y cyd-destun mewnfudo mae hynny'n cyfeirio at unigolion â chymwysterau penodol. Hoffwn bwysleisio nad yw hyn yn awgrymu mewn unrhyw ffordd nad ydym ni yng Nghymru yn ystyried bod ein gweithwyr gofal cymdeithasol yn hynod fedrus. Rwy'n ymwybodol iawn o'r math o sgiliau anhygoel iawn sydd eu hangen arnyn nhw i wneud y gwaith anodd dros ben y maen nhw'n ei wneud. Yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru yw cofrestriad ar gyfer rheolwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol, sy'n sicrhau gweithlu medrus trwy wneud cymwysterau perthnasol yn ofynnol er mwyn cofrestru. Mae hyn yn ganolog i'n hymrwymiad i broffesiynoleiddio ac uwchsgilio'r sector a darparu gofal o ansawdd uchel.

Y Gweithlu Nyrsio

5. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r gweithlu nyrsio yng Nghymru? OQ62754

Rŷn ni’n cydnabod ymroddiad, gwydnwch ac arbenigedd y gweithlu nyrsio, ac yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Mewn ymateb i'r heriau cymhleth sy’n wynebu’r gweithlu, rŷn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd positif drwy fuddsoddi mewn llesiant, gwella datblygiad proffesiynol a grymuso nyrsys i ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Diolch am yr ateb. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ag anghenion dysgu. Yn wir, mewn adolygiad o ddata marwolaethau pobl ag anghenion dysgu rhwng 2012 a 2022, dangoswyd bod yna wahaniaeth o 20 mlynedd mewn disgwyliad oes rhwng pobl ag anableddau dysgu a'r boblogaeth ehangach. Mae angen gofal a chymorth ar nifer o bobl sydd yn byw ag anableddau dysgu, a dyna pam mae gennym ni nyrsys anableddau dysgu yma. Ond fel y mae'r RCN yn ei wneud yn glir, mae'r data ynghylch niferoedd y nyrsys a'r angen yn ddata gwan iawn, a niferoedd y llefydd sydd yn cael eu comisiynu yn wag oherwydd y diffyg hyrwyddo. Felly, a oes bwriad gan y Llywodraeth i ddatblygu cynllun gweithredu addysg a gweithlu nyrsio anableddau dysgu yng Nghymru?

Dwi'n ymwybodol iawn ein bod ni wedi bod yn cael trafferthion yn recriwtio yn y maes yma. Felly, mae'r hyfforddiant wedi'i gomisiynu, ond mae'n anodd cael pobl i gamu mewn i'r llefydd yna. Dwi'n falch o ddweud, o ran cyrsiau hyfforddiant, ein bod ni wedi gweld cynnydd o bron 9 y cant dros y pedair blynedd diwethaf. Felly, rŷn ni yn denu pobl at nyrsio yn gyffredinol, ond mae mwy o waith gennym ni i'w wneud i sicrhau bod pobl yn cael eu denu at yr arbenigedd yna. Rŷn ni'n gorfod gweithio gyda'r RCN ac eraill i weld beth allwn ni ei wneud yn fwy, ond nid diffyg hyfforddiant oddi wrth y Llywodraeth, na chomisiynu oddi wrth y Llywodraeth, yw'r broblem yma, ond darbwyllo pobl bod hwn yn ffordd ac yn gynllun teg i fynd amdano—dyna'r drafferth.

Prif Weinidog, fel y gallwch chi ei werthfawrogi, mae llawer o drigolion wedi cysylltu â mi sy'n poeni am ddyfodol nyrsio yng Nghymru. Mae'r toriadau arfaethedig yn gynharach eleni i'r adran nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd, er eu bod nhw wedi cael eu gohirio bellach tra bod adolygiad o gynlluniau amgen yn cael ei gynnal, wedi arwain i lawer o'm hetholwyr gredu bod nyrsio yn colli ei werth yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol o'ch ymdrechion blaenorol i recriwtio nyrsys o dramor, ond y gwir amdani yw ein bod ni angen talent gartref arnom ni hefyd—mwy o blant a phobl ifanc o Gymru sy'n gweld nyrsio fel gyrfa ddichonol, ac sy'n astudio yma ac yn aros yma.

Fel y mae'r ddau ohonom ni'n ei wybod, yng Nghymru, dim ond 20 y cant y mae nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd wedi cynyddu ers 2013, ond mae niferoedd gweinyddu'r GIG wedi cynyddu o dan 60 y cant, sy'n wahaniaeth sylweddol ac wedi arwain i Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru ddweud nad yw'r gweithlu nyrsio yn tyfu'n ddigon cyflym i fodloni'r galw. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd nyrsio i bobl Cymru ac i gynnig cymorth ariannol ychwanegol i'r rhai sy'n bwriadu ymuno â'r gweithlu nyrsio?

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn wahanol i'ch Llywodraeth chi, fe wnaethom ni gadw'r fwrsariaeth nyrsys, sydd wedi denu a helpu pobl i ddod i mewn i'r proffesiwn nyrsio. Rydym ni wedi gweld cynnydd enfawr i nifer y nyrsys yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac, yn wir, ers 2021, rydym ni wedi gweld cynnydd o bron i 9 y cant. Felly, mae'n bwysig i ni gydnabod nid yn unig bod gennym ni fesurau ar waith i'w hyfforddi nhw, ond maen nhw'n dod drwy'r drysau, maen nhw'n mynd ymlaen i'n wardiau. Mae hefyd yn hanfodol i ni gydnabod, mewn gwirionedd, bod cyfraniad y nyrsys hynny o dramor hefyd yn rhywbeth y dylid ei gydnabod. Rwyf i wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i recriwtio cynifer o Kerala, yn arbennig, sy'n gwneud gwahaniaeth i'n hysbytai a'n cymunedau. A'r hyn sy'n ddiddorol yw ein bod ni wedi gweld pobl yn newid bellach o fod yn nyrsys asiantaeth i'r brif ffrwd, oherwydd mae'r bobl hynny o'r tu allan yn dod ac maen nhw'n gweithio'n llawn amser, felly ni all y bobl hynny gael y shifftiau asiantaeth yr oedden nhw'n arfer eu cael. Dyna roeddem ni eisiau ei weld mewn gwirionedd. Rydym ni eisiau i bobl ymrwymo i'r GIG. A dyna pam rydych chi wedi gweld y cyfraddau hynny o ran gwariant asiantaeth yn gostwng yn sylweddol.

14:05
Cyhoeddi Tystysgrifau Marwolaeth

6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r newid statudol diweddar o ran cyhoeddi tystysgrifau marwolaeth wedi effeithio ar y GIG yng Nghymru? OQ62759

Mae’r gwasanaeth archwilwyr meddygol sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sefydlu mesur diogelu newydd pwysig. Mae e hefyd wedi rhoi cyfle i deuluoedd godi unrhyw bryderon am farwolaeth rhywun annwyl iddyn nhw dan ofal yr NHS, ac wedi rhoi cyfle dysgu pwysig i sefydliadau’r NHS.

Wel, byddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, o'r oedi annerbyniol y mae teuluoedd yn ei wynebu cyn derbyn tystysgrif farwolaeth ar gyfer aelod o'r teulu—wythnosau o oedi—cyn y gellir rhyddhau cyrff ar gyfer trefniadau angladd. Weithiau mae'n chwech, saith neu hyd at wyth wythnos, o rai o'r achosion yr wyf i wedi eu gweld, ar ôl i'r unigolyn farw. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn arwain at fwy o loes, lle na all teuluoedd fwrw ymlaen â'r trefniadau ariannol, cyfreithiol neu ymarferol y mae angen eu rhoi ar waith, mae'r doll emosiynol yn sylweddol hefyd, ac, wrth gwrs, mae'n arbennig o berthnasol i gymunedau ffydd y mae claddu cyflym yn hollbwysig iddyn nhw.

Nawr, ym mis Ionawr cawsom ein sicrhau bod y Llywodraeth yn rhoi mesurau ar waith i ymdrin â'r mater hwn, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod y system yn gwella. A dweud y gwir, mae'r dystiolaeth yr wyf i'n ei gweld yn awgrymu ei bod yn gwaethygu mewn gwirionedd, sefyllfa sy'n cael ei gwneud yn waeth, gyda llaw, gan y gweithlu presennol o'r byrddau iechyd, sydd i fod i ymdrin â hyn, yn pleidleisio gyda'u traed ac yn gadael y proffesiwn. Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, ein sicrhau ni, a'r holl deuluoedd sy'n galaru allan yna, na fydd yr oedi hwn yn parhau mwyach a'ch bod chi'n mynd i gael rheolaeth o'r diwedd o fater sy'n achosi cymaint o loes i gynifer o bobl ledled Cymru gyfan?

Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr. Pan fyddwch chi wedi bod trwy golled fel yna, ac yna mae'n rhaid i chi aros, rwy'n credu bod hynny'n anodd dros ben i deuluoedd. Rwy'n credu yn ôl pob tebyg ei bod yn werth atgoffa pobl pam mae hyn yn digwydd. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y newidiadau o ganlyniad i lawer o adolygiadau uchel eu proffil, gan gynnwys ymchwiliad Shipman, yn golygu bod pobl—ac ar ôl yr ymchwiliad mawr, hir hwnnw—yn dweud bod angen mesurau diogelu ychwanegol arnoch yn y broses ardystio marwolaethau. Felly, ceir rhywfaint o gyfnod ymsefydlu. Mae wedi cymryd mwy o amser nag yr oeddem ni wedi gobeithio. Mae'r amser canolrifol diweddaraf o farwolaeth i gofrestru wedi aros yn sefydlog nawr ar 11 diwrnod, i lawr o 14. Rwy'n dal i feddwl ei fod yn rhy hir, ond mae'n bendant yn lleihau. A'r hyn sydd gennym ni yw grŵp trosolwg strategol sy'n bwrw ymlaen â phethau, ac yn gwneud newidiadau, i geisio gweld a allwn ni leihau hynny ymhellach.

Fel yr Aelod dros ogledd Cymru, rwy'n pryderu'n fawr am yr ôl-groniadau cynyddol mewn marwdai ysbytai ledled Cymru, ac yn enwedig y gogledd, y mae prif archwiliwr meddygol Cymru wedi eu priodoli i oedi cyn cyflwyno tystysgrifau marwolaeth o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth Cymru i'w threfn cyflwyno tystysgrifau marwolaeth.

Mae gan bobl hawl i gael eu hanwyliaid wedi'u rhyddhau o'r ysbyty yn brydlon. Rwyf i wedi clywed gan etholwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn, ac mae rhai o'u straeon yn gwbl dorcalonnus. Mae teuluoedd ac anwyliaid yn dadelfennu mewn marwdai ysbytai oherwydd yr ôl-groniad, gan atal y teuluoedd rhag gallu cael angladd arch agored, os byddan nhw'n dymuno. Ac yn y ceisiadau rhyddid gwybodaeth a gyflwynais ddiwedd y llynedd, roedd yr arhosiad cyfartalog i unigolyn ymadawedig ym marwdy Ysbyty Maelor Wrecsam dros 11 diwrnod. Yn Ysbyty Gwynedd, roedd dros wythnos hefyd, ac mae'n ymddangos bod y niferoedd hynny yn cynyddu'n araf, Prif Weinidog, yn groes i'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud. Adroddodd y BBC ei bod yn arfer cymryd tua thri i bedwar diwrnod i gorff gael ei ryddhau, a nawr mae hynny wedi codi i rhwng 10 ac 20 diwrnod. Mae hyn yn ddealladwy yn achosi llawer iawn o drallod, ac mae pobl yn flin, a hynny'n briodol, nad yw eu hanwyliaid yn cael eu trin mewn ffordd urddasol.

Felly, pa waith mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i sicrhau bod y problemau sy'n achosi ôl-groniadau mewn marwdai yn cael eu nodi a'u datrys cyn gynted â phosibl? Pa ganllawiau uniongyrchol ydych chi a'r Gweinidog iechyd yn eu cyflwyno i fyrddau iechyd a gwasanaethau'r GIG ledled Cymru y gellir datrys y rhain mewn gwirionedd? Pa gamau yn union ydych chi'n eu cymryd o ran y cyfarwyddiadau yr ydych chi'n eu rhoi i fyrddau iechyd ar lefel leol am hyn?

14:10

Diolch yn fawr iawn. Edrychwch, ceir rhesymau am y rheolau newydd hyn. Maen nhw'n ymateb i sefyllfa ofnadwy, drasig gyda Shipman, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n osgoi'r math hwnnw o sefyllfa rhag digwydd eto. Dyma oedd canlyniad yr argymhellion o ganlyniad i ymchwiliad, ac felly rydym ni'n rhoi'r mesurau a argymhellwyd ar waith. Nawr, mae'n anochel y bydd yn cymryd ychydig yn hirach nag y gwnaeth o'r blaen. Y cwestiwn yw: a allwn ni gyflwyno system gyflymach nag sydd gennym ni ar hyn o bryd? Fel y dywedais i, mae gennym ni'r grŵp trosolwg strategol hwn sy'n dod â chyrff GIG, gwasanaeth yr archwiliwr meddygol a'r holl randdeiliaid sy'n gysylltiedig â'r broses ardystio marwolaethau ynghyd i fonitro perfformiad ac i weld beth allwn ni ei wneud i wella'r sefyllfa honno.

Hoffwn roi sylw i un mater a godwyd gan Llyr, ac mae hwnnw yn ymwneud â'r achosion craffu cyflym, y marwolaethau ffydd yn aml. Mae gan fwy na 99 y cant o deuluoedd y cyfle i siarad ag archwiliwr meddygol o fewn 24 awr, felly ceir gwahanol broses ar gyfer hynny.

Cefnogi'r Stryd Fawr

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ62758

Rŷn ni’n gweithio gyda phartneriaid drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi i helpu i adfywio’r stryd fawr a chanol trefi ledled Cymru. Rŷn ni wedi gwarchod cyllidebau ar gyfer y rhaglen. Eleni, mae £10.8 miliwn ar gael ar draws y de-orllewin, gan gynnwys sir Benfro a sir Gaerfyrddin.

Mae busnesau Cymru yn cael eu dyrnu gan y cyfraddau busnes uchaf yn y Deyrnas Unedig, yn ne Sir Benfro disgwylir i'r gangen fancio olaf gau—Banc Lloyds yn Noc Penfro—fis nesaf, gan adael cymuned o oddeutu 50,000 o bobl heb gyfleusterau bancio. Rwyf i wedi lansio ymgyrch yr wythnos hon i ddod â chanolfan fancio swyddfa'r post i Ddoc Penfro i wasanaethu cwsmeriaid yr holl fanciau mawr hynny. A ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw gyfrifiad o ran y gost o leihau ardrethi busnes ar gyfer swyddfeydd post, sydd hefyd yn darparu gwasanaethau allweddol yn ein cymunedau gwledig a'n hybiau bancio, i sicrhau bod gan bobl reswm o hyd i ymweld â strydoedd mawr ledled Cymru?

Wel, rydym ni'n adolygu ein cynllun rhyddhad ardrethi busnes yn barhaus, ac rwyf i wrth fy modd o weld bod y cynllun yr ydym ni wedi ei roi ar waith yn parhau i ddarparu £140 miliwn o gymorth bob blwyddyn, ac yn helpu tua 70,000 o eiddo. Felly, bydd enghreifftiau lle maen nhw'n gallu cael gafael ar y rhyddhad ardrethi busnesau bach hwnnw, gan gynnwys swyddfeydd post.

Beiciau Trydan Cyflym

8. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda rhanddeiliaid perthnasol i atal beiciau trydan cyflym anghyfreithlon? OQ62752

Rydym ni'n cydnabod y perygl y mae e-feiciau cyflym anghyfreithlon yn ei achosi i ddefnyddwyr ffyrdd a beicwyr agored i niwed, ac rydym ni wedi ymrwymo i gadw mannau cyhoeddus yn ddiogel. Er nad yw cyfraith traffig ffyrdd wedi'i datganoli, rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid diogelwch ar y ffyrdd a'r bwrdd teithio llesol i ddod o hyd i atebion effeithiol.

Diolch. Mae'r heddlu wedi dweud wrthym ni eu bod nhw'n gwneud cyrchoedd o bryd i'w gilydd ac yn stopio'r cerbydau peryglus iawn hyn a'u atafaelu, ond mae angen gwneud mwy. Mae'r rhain yn feiciau sydd wedi cael eu haddasu i deithio ar gyflymder llawer mwy na 20 mya. Rwy'n eu gweld nhw fy hun pan fyddaf i'n teithio ar hyd y ffordd ar feic. Felly, pan fyddan nhw'n cael eu hatafaelu, rwyf i eisiau gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw. Yn unol â arbed, ailddefnyddio, ailgylchu, pa drafodaethau allech chi fod wedi eu cael gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol i weld a ellid dychwelyd y beiciau hyn i'w pwrpas gwreiddiol, sef galluogi pobl agored i niwed sydd efallai'n cael trafferth yn defnyddio beic pedalau i symud o gwmpas, ac i deithio i fyny elltydd yn arbennig? Rwy'n siŵr bod llawer o siopau trwsio beiciau menter gymdeithasol a fyddai'n hapus i wneud y rheini ar gael i bobl nad ydyn nhw'n gallu fforddio beic trydan.

Diolch, Jenny. Mae beiciau trydan cyflym cyfreithiol yn achosi peryglon sylweddol i feicwyr a defnyddwyr ffyrdd agored i niwed yn fy marn i, felly mae'n bwysig ein bod ni'n eu hatal. Mae hwn, wrth gwrs, yn faes polisi nad yw'n ddatganoledig, ond rydym ni wir yn croesawu mentrau fel yr un a gyflwynwyd gan Heddlu De Cymru a'u partneriaid, lle maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i orfodi yn erbyn reidio anghyfreithlon gwrthgymdeithasol, ac maen nhw'n darparu cyrsiau hyfforddi ac ymwybyddiaeth ar yr un pryd. Felly, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gyda nhw a gwneud yn siŵr bod e-feiciau anghyfreithlon sy'n achosi'r peryglon hynny yn cael eu hatal, a'n bod ni'n gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr, lle bo hynny'n bosibl, y gallwn eu dychwelyd i'r cyflwr cychwynnol yr oedden nhw ynddo.

14:15
Casineb at Fenywod

9. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chasineb at fenywod a diwylliant 'incel' mewn bechgyn a dynion ifanc? OQ62724

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phroblem gymdeithasol yr ymagweddau, y coelion a'r ymddygiadau sy'n arwain at gasineb at fenywod drwy gyflawni dull strategaeth a glasbrint i ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb gorfodol, ac ymgysylltu â dynion a bechgyn yn uniongyrchol drwy gyfrwng ein hymgyrch, Iawn, ar gyfer canolbwyntio ar gydberthynas iach.

A gaf i ddiolch i chi am yr ateb yna? A gaf i ofyn i chi beth mae Llywodraeth Cymru am ei wneud i ddenu athletwyr, sy'n fawr eu parch yn eu cymunedau, y mae bechgyn a dynion ifanc yn edrych i fyny atyn nhw, i gymryd rhan wirioneddol yn hyn, gan ddefnyddio'r sefydliadau pêl-droed fel enghraifft—i lawer o fechgyn, eu harwyr nhw yw'r gwŷr ar y caeau pêl-droed a rygbi—gan eu defnyddio i fynegi anghywirdeb casineb at fenywod, â'u defnyddio nhw i wrthsefyll y diwylliant 'incel' a dweud wrthyn nhw pa mor dda y gallan nhw wneud hynny? Ac mae'r sefydliadau pêl-droed yno yn ein cymunedau ni; fe ellid eu defnyddio nhw ar gyfer hynny. A gaf i annog y Prif Weinidog a'i chyd-Aelodau i roi ystyriaeth ddifrifol i hynny? Oherwydd fe wn i fod nifer o aelodau o'ch Llywodraeth chi'n gwybod bod hynny'n gywir. A allwch chi wneud hynny? Oherwydd mae yna bobl. Nid wyf i'n cefnogi Manchester United, ond roedd David Beckham yn esiampl ardderchog i ddynion ifanc. Rwy'n credu bod angen mwy o'r rhain, ond mae angen i ni ddefnyddio mwy ar y rhain hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Mike, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n falch iawn o glywed am ein hymgyrch ni, sef Iawn. Y peth anhygoel am yr ymgyrch hon yw ei bod hi wedi cyrraedd 95 y cant o'r gynulleidfa yr anelir ati, tua 400,000 o ddynion ifanc a bechgyn. Fe fyddwch chi'n falch o glywed eu bod nhw'n partneru â sefydliadau ar lawr gwlad eisoes—gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda Rygbi Caerdydd, gyda Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, White Ribbon UK a sefydliadau eraill. Rwy'n siŵr eich bod chi'n dymuno i ni geisio gweld a allwn ni ei hymestyn i Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe ac i ardaloedd eraill, ond mae'n digwydd eisoes. Dyma rywbeth a gafodd ei gydnabod yn esiampl dda gan y Cenhedloedd Unedig. Mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Mike, am ofyn y cwestiwn.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad yma. Ac felly, Jane Hutt i gyflwyno'r datganiad busnes. 

Member (w)
Jane Hutt 14:18:31
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg nawr yn digwydd ar 3 Mehefin. Mae busnes y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn datganiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe caem ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â genomeg a gwaith y Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan. Yn amlwg, os caiff canser ei ganfod cyn gynted ag y gellir gwneud hynny mae mwy o debygolrwydd o ganlyniadau gwell i'r claf. Yn wir, fe wn i'n well na'r rhan fwyaf o bobl pa mor bwysig yw canfyddiad cynnar.

Nawr, mae etholwr i mi wedi cysylltu â mi yn dilyn diagnosis canser ei fam a'i chwaer yn Lloegr, sydd wedi cael profion genetig, cwnsela genetig ac apwyntiadau o flaen llawdriniaeth ar gyfer llawdriniaeth ataliol hefyd. O ystyried bod ganddynt enyn y gwyddys ei fod yn achosi canser, mae fy etholwr i wedi cael ei gynghori i ystyried profion genetig hefyd. Fe gysylltodd â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, sydd wedi ei roi ef ar restr aros amhenodol, heb unrhyw arwydd o ba mor hir y bydd yn rhaid iddo aros.

Trefnydd, mae fy etholwr wedi colli plentyn i ganser hefyd ac mae'n byw gyda phryder iechyd, sy'n ddealladwy, felly rwy'n siŵr y gallwch chi ddeall pa mor ofidus yw'r amser hwn iddo. Felly, o ystyried yr effaith y gallai hyn ei chael ar fywyd fy etholwr i, ac, yn wir, ar fywydau pobl eraill yng Nghymru, mae angen datganiad brys gan Lywodraeth Cymru yn esbonio'r hyn sy'n cael ei wneud er mwyn i bobl sy'n byw yng Nghymru gael mynediad at brofion a gwasanaethau genetig, oherwydd nid yw hi'n iawn fod pobl sy'n byw yng Nghymru ar restrau aros heb wybod am ba hyd y bydd hynny.

14:20

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna, Paul Davies, a diolch i chi hefyd am y cwestiwn yna gan ei gysylltu â'ch profiad personol—eich profiad bywyd chi—a chyfeirio hefyd at eich etholwyr a fyddai'n amlwg yn elwa ar hynny, fel byddai unrhyw un yn y sefyllfa o ran canfyddiad canser a salwch, salwch difrifol o'r math hwnnw ar gam cynnar. Felly, mae hyn yn rhywbeth y byddaf i'n tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ato, oherwydd rwyf i o'r farn y gallwn ni fod yn falch iawn o'n Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a phrofion genetig, sydd mor bwysig o ran canfyddiad cynnar. Felly, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ymateb er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad.

Trefnydd, mae yna dri datganiad llafar brys yr hoffwn i ofyn amdanyn nhw, y cyntaf, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a wnaed wythnos diwethaf, o ran gwaith pont y Borth yn cael ei oedi'n bellach o ran gwaith cynnal a chadw. Yn amlwg, bydd yna nifer o Aelodau yn y Siambr hon eisiau cael cyfle i drafod a holi'r Ysgrifennydd Cabinet ar rywbeth o bwys mawr, a dwi ddim dim ond yn dweud hynna fel merch o Fôn yn wreiddiol.

Yr ail un ydy cais am ddatganiad yn dilyn y penderfyniad gan y llys o ran rhoi dirwy i Dŵr Cymru am fethiannau monitro ansawdd dŵr mewn dros 300 o safleoedd ledled Cymru. Mi fydd hwn eto yn fater o bwys i nifer o Aelodau yn y Siambr hon.

A'r trydydd datganiad—fel rydym ni wedi clywed yn barod, mae cryn ddiddordeb yn y Siambr hon yn dilyn goblygiadau'r cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n nodi bod yna ddatganiad ysgrifenedig wedi bod, ond, yn amlwg, mae'n rhaid inni ddeall beth ydy'r goblygiadau i Gymru, ac a gawn ni gyfle i gael trafodaeth drwy ddatganiad llafar a wedyn cyfle i holi'r Ysgrifennydd Cabinet ar lawr y Senedd hon? Diolch.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan, dyma dri o faterion a phynciau pwysig iawn. Rwy'n diolch i Rhun ap Iorwerth am ysgrifennu ataf i, yn arbennig felly, ynglŷn â'r mater cyntaf, sef Pont y Borth. Mae hi'n eithriadol o siomedig—dim ond ychydig eiriau yr wyf i am eu dweud ar hyn o bryd—hynod siomedig fod y rhaglen wreiddiol gan UK Highways A55 DBFO Ltd wedi cael ei gohirio nawr. Fe'n sicrhawyd ni ar y pryd y byddai gwaith cam 2 yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025. Fe gawsom ni wybod yr achoswyd yr oedi gan broblemau caffael, ac fe fydd hyn yn arwain at barhad y gwaith drwy gyfnod dathlu daucanmlwyddiant y bont sef 30 Ionawr 2026, yr hyn nad oeddem ni'n ei ddymuno. Ond mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd gyda UK Highways, ac mae angen hefyd nawr i ni geisio gweld a allai'r gwaith gael ei gwblhau yn gynt. Cwblhawyd gwaith cam 1, wrth gwrs, yn llwyddiannus ym mis Hydref y llynedd a oedd yn caniatáu i'r bont ailagor i'r traffig i gyd drwy gyfnod y gaeaf, a oedd yn rhoi'r sicrwydd yr oedd ei angen yn fawr ar yr ardal, yn enwedig yn ystod y stormydd niferus a effeithiodd ar Gymru y llynedd, gan ganiatáu i draffig ei chroesi hi wrth i wyntoedd cryfion effeithio ar Bont Britannia. Ond mae hwn yn seilwaith gwirioneddol hanfodol, hanesyddol a chyfredol ar gyfer mynediad—yn wir, nid yn unig i Ynys Môn, Caergybi a thros y cefnfor. Felly, hanfodol bwysig.

Mae eich ail gwestiwn chi'n ymwneud â monitro ansawdd dŵr Dŵr Cymru—dirwy o £1.3 miliwn am fonitro diofal. Ac rydym ni'n ymwybodol o'r ddirwy a roddwyd i Dŵr Cymru o ran cydymffurfio â'u rhwymedigaethau i fonitro. Mae hi'n siomedig, ond rwy'n sicr na nodwyd unrhyw ddifrod amgylcheddol cysylltiedig â'r achos. Unwaith eto, fe fyddaf i'n tynnu sylw'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig at hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud bod swyddogion yn trafod materion perfformiad gyda Dŵr Cymru yn rheolaidd, ar draws pob maes o'i weithrediad, i sicrhau eu bod nhw'n gwneud gwelliannau ar gyfer cwsmeriaid ac er mwyn yr amgylchedd, ac fe fuom ni'n eglur iawn ein bod ni'n disgwyl mwy eto. A hefyd, yn dilyn proses adolygu prisiau dŵr ddiweddar a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr y llynedd, bydd Dŵr Cymru yn buddsoddi £6 biliwn yng Nghymru rhwng 2025 a 2030, gan gynnwys £2.4 biliwn ar fuddsoddiadau newydd ar gyfer cwblhau gwelliannau. Mae penderfynu ar brisiau yn darparu cyllid i gwmnïau dŵr ar gyfer cynnal a gwella'r gwasanaethau, cyrraedd nodau Ofwat a buddsoddi yn y seilwaith. Diolch i chi am eich cwestiwn.92

Unwaith eto, fe wnaethom ni gyhoeddi, o ran y cytundeb rhwng yr UE a'r DU a gyhoeddwyd ddoe—. Ac fe gawsom ni ddadl ar hynny eisoes yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, yn ogystal â datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet ddoe i dynnu sylw at y manteision i Gymru a'r cynnydd a'r broses o ran symud ymlaen â hynny. Felly, o ran y cytundeb a gafwyd yn yr uwchgynhadledd, rwy'n siŵr y bydd cyfle i gael diweddariad pellach gan yr Ysgrifennydd Cabinet, trwy ei sesiwn hi o gwestiynau hefyd, yn wir, ac mewn cwestiynau llafar y Senedd, hefyd. Ond, o ran symud ymlaen, yn amlwg, fe gafodd y cais hwnnw ei nodi heddiw.

14:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Fe hoffwn i alw am ddatganiad ar gynllun hawliau pobl anabl. Rwy'n croesawu cyhoeddiad y cynllun hwn yr wythnos diwethaf yn fawr iawn, ac rwy'n gefnogol iawn i'w nodau o greu Cymru lle mae hawliau cyfartal gan bobl anabl o ran cynhwysiant a chyfranogiad yn ein cymdeithas. Fe wn i fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig eisoes, ond fe wn i hefyd fod llawer o bobl anabl yn bryderus iawn ynglŷn â'r diwygiadau o ran lles y mae Llywodraeth y DU yn eu cynllunio, ac fe wn i y bydd rhai o Gymru yn teithio i brotest yn Llundain yn fuan iawn. Felly, a wnaiff y Trefnydd, pan fydd hi'n gwneud y datganiad, ymdrin â sut y byddai'r cynigion o San Steffan yn effeithio ar y diwygiadau mawr sy'n cael eu cynllunio yma yng Nghymru? 

Diolch yn fawr, Julie Morgan. Oeddwn, roeddwn i'n falch iawn o gyhoeddi, ar ddydd Iau 15 Mai, wythnos diwethaf, yr ymgynghoriad 12 wythnos ar gyfer cynllun drafft hawliau pobl anabl, ac fe fyddaf i'n rhoi datganiad llafar am yr ymgynghoriad ar 3 Mehefin. Ond mae hyn yn rhoi cyfle i mi, sef eich cwestiwn chi, i dynnu sylw at y ffaith fod y cynllun hwn yn nodi ein huchelgais ni ar gyfer Cymru, i greu Cymru lle gall pobl anabl fwynhau hawliau, cynhwysiant a chyfranogiad teg. Wrth graidd ein dull ni y mae'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n ein helpu ni i ddeall sut mae pobl anabl yn gallu bod dan anfantais a chael eu heithrio yn y gymdeithas. Ond ni all y cynllun lwyddo oni bai y bydd sefydliadau a phobl ledled Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i'w gyflawni ef. Fe gafodd ei ddatblygu, ei gyd-gynhyrchu, gyda'r tasglu hawliau anabledd, yr oeddwn i'n ei gadeirio ar y cyd â'r Athro Debbie Foster.

Yr hyn sy'n bwysig o ran yr ymgynghoriad dros y 12 wythnos nesaf yw ein bod ni'n cael ymateb cadarn. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn Gymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain. Fe fyddwn ni'n sefydlu bwrdd cynghori annibynnol allanol i roi cyngor a chefnogaeth ar weithredu, cyflawni ac effaith y cynllun hawliau pobl anabl.

Fe gefais i gyfle i gwrdd â'r fforwm cydraddoldeb anabledd yr wythnos diwethaf, ar y diwrnod y gwnaethom ni gyhoeddi hwn. Fe wnes i fanteisio ar gyfle yn y cyfarfod hwnnw i ofyn i'r fforwm cydraddoldeb anabledd am eu hadborth nhw ar y newidiadau arfaethedig o ran budd-daliadau anabledd, y Papur Gwyrdd ar ddiwygio lles ac, yn wir, effaith y newidiadau a gynigir o ran taliadau annibyniaeth personol. Fe ddywedais i wrth y fforwm, 'Chi yw'r rhai yr effeithir fwyaf arnynt gan y newidiadau hyn.' Ac i wrando ar eu barn nhw yr oeddwn i yno. Roedd hi'n bwysig iawn clywed barn pobl â phrofiad bywyd, pobl anabl, yn uniongyrchol am eu pryderon nhw ynglŷn â llawer o'r cynigion yn y Papur Gwyrdd, 'Llwybrau at Waith: Diwygio Budd-daliadau a Chymorth i Gael Prydain i Weithio'.

Felly, yn amlwg, fe fyddaf i'n dal i gael yr adborth hwnnw wrth i ni baratoi ein hymateb ni i'r Papur Gwyrdd. Fe ddywedais i hefyd y byddaf i'n gwneud effaith y diwygiadau arfaethedig hynny ar Gymru, ar bobl anabl, yn eglur iawn. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig cofio unwaith eto i ni fod yn edrych ar y niferoedd sy'n derbyn taliadau annibyniaeth personol yng Nghymru ac mae tua 209,000 o bobl yn cael elfen byw bob dydd y taliad annibyniaeth personol. Ac, er mwyn dweud, fel dywedais i wrth gyd-Aelodau ac aelodau'r fforwm cydraddoldeb anabledd, ein bod ni'n credu mewn gwladwriaeth les lle mae cyfle i'w gael, ac mae gennym ni ran allweddol eisoes hefyd wrth helpu a chefnogi pobl anabl sy'n dymuno dychwelyd i'r gwaith os ydyn nhw'n gallu gwneud hynny, trwy gyfrwng ein hyrwyddwyr cyflogaeth anabl, ond gan gydnabod hefyd fod yna bobl na fydd yn gallu dychwelyd i waith. Ac roeddwn i'n gallu ymgysylltu â nhw'n llawn yr wythnos diwethaf, ac rwyf i am fyfyrio ar hynny eto pan fyddaf i'n rhoi fy natganiad llafar maes o law.

14:30

Trefnydd, fel gwyddoch chi, ym mis Medi eleni, fe fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn rhoi pellter statudol Llywodraeth Cymru o 3 milltir ar waith ar gyfer cerdded i ysgolion uwchradd a cholegau, sy'n golygu na fydd plant yn cael eu cludo i'r ysgol am ddim os ydyn nhw'n byw o fewn y pellter hwn. Rwy'n ymwybodol bod i hyn gael ei godi gyda chi o'r blaen, ond fe hoffwn i ofyn am ddatganiad unwaith eto ar gludiant i ysgolion yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r trigolion yn pryderu y bydd hyn yn golygu y bydd eu plant nhw'n dewis yr ysgol agosaf yn hytrach na'r ysgol sy'n gweddu orau i'w hanghenion nhw, ac fe gafodd hyn effaith anghymesur eisoes ar y rhai sy'n dymuno mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, fel rhagwelwyd yng nghanfyddiadau'r cyngor ei hun. Yn anffodus, Trefnydd, rydym ni'n ymdrin â llwybrau cerdded newydd arfaethedig sy'n anniogel, a lle nad oes dewis amgen o drafnidiaeth gyhoeddus, ac fe fydd hyn i gyd yn golygu y bydd mwy yn defnyddio ceir a mwy o dagfeydd.

Gwyddoch fod cyngor RhCT wedi dweud bod y mesur hwn yn angenrheidiol i ddiogelu cyllidebau. Ond mae'r rheswm hwn yn cael ei danseilio yn llwyr gan y ffaith fod y cyngor yn eistedd ar gronfeydd wrth gefn syfrdanol sydd o werth £255 miliwn—y mwyaf sydd gan unrhyw awdurdod lleol yn y wlad. Rwy'n credu y byddai ein trigolion ni'n gwerthfawrogi rhywfaint o weithredu gan Lywodraeth Cymru i helpu i unioni'r sefyllfa hon, a dyna pam rwy'n gofyn am y datganiad hwn unwaith eto heddiw.

Diolch yn fawr iawn i chi, Joel, am y cwestiwn yna. Ac, wrth gwrs, fe wyddoch chi mai dim ond o fewn y pythefnos diwethaf y cynhaliwyd uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr, y bu'r awdurdodau lleol ledled Cymru yn bresennol ynddi hi. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, y cafodd ei chynnal—yr uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr—yn Rhondda Cynon Taf, ac, wrth gwrs, roedd honno'n uwchgynhadledd o bwys o ran teithio gan ddysgwyr, a oedd yn cynnwys pobl ifanc. Roedd honno'n cynnwys, yn amlwg, Trafnidiaeth Cymru a'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, a oedd yn cefnogi'r uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr yn llawn, er mwyn dysgu a rhannu arfer gorau, a dysgu am y materion a godwyd gan yr awdurdodau lleol ledled Cymru.

Felly, mater i gyngor Rhondda Cynon Taf yw hwn o ran ei weithredu, ond rwy'n gobeithio y byddwch wedi gweld hynny, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn awyddus i adrodd ar ganlyniadau'r uwchgynhadledd teithio gan ddysgwyr honno.

Rwy'n gofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ger bron y Senedd ar yr hyn sy'n digwydd yn Gaza a'r dwyrain canol. Mae'r sefyllfa yn Gaza yn mynd yn enbydus. Mae sifiliaid nid yn unig yn cael eu lladd, ond yn newynu. Fe gefais i gyfarfod yr wythnos diwethaf gydag un o fy hen gydweithwyr yn Action Aid, ac roedd wedi ei leoli ym Mhalesteina. Roedd yn dweud wrthyf i am feddyg a welodd yn wylo mewn anobaith a diymadferthedd oherwydd niferoedd y menywod a roddodd enedigaeth ond nad ydyn nhw'n gallu bwydo o'r fron oherwydd eu bod nhw'n llwgu ac mewn gwendid mor fawr. Mae naw deg y cant o bobl yno heb unrhyw ddŵr glân. Mae bag o flawd yn costio $500 mewn rhai mannau. Dim ond bwyd sych fel pasta a reis sydd ar gael, prin fod unrhyw lysiau o gwbl, a heb danwydd mae hi'n mynd yn amhosibl coginio a pharatoi'r bwyd hwnnw. Nid oes gan fenywod unrhyw gynhyrchion mislif. Maen nhw'n gorfod gwneud cewynnau i'w babanod drwy dorri eu dillad eu hunain. A phob awr, mae menyw yn cael ei lladd yn Gaza. Rydym ni'n tystio i genedl gyfan sy'n newynu yn araf.

Yn sicr, mae'n rhaid rhoi pwysau ar San Steffan i ddefnyddio ei dylanwad ar gyfer datrysiad gwleidyddol yma, er mwyn i Israel agor ei ffiniau yn gyfan gwbl ar gyfer cludo cymorth dyngarol a chyflenwadau. Neu fel arall, nid ydym ni'n gwneud dim ond cloffi rhwng dau feddwl a disgwyl i fwy o bobl farw. Felly, os gwelwch chi'n dda, a gawn ni'r datganiad hwnnw?

Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Ac rwy'n falch eich bod chi wedi codi'r cwestiwn yma y prynhawn yma yn y Senedd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cael ein dychryn gan yr hyn sy'n digwydd yn Gaza, y sefyllfa ddyngarol—dyma'r sefyllfa ddyngarol waethaf a welwn ni. Ac rwy'n falch fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r datganiad hwnnw ar y cyd â Ffrainc a Chanada ar y sefyllfa yn Gaza a'r Lan Orllewinol. Dim ond i ddyfynnu o'r datganiad hwnnw gan Keir Starmer, Emmanuel Macron a Mark Carney:

'Os na fydd Israel yn rhoi'r gorau i'r ymosodiad milwrol adnewyddedig ac yn codi ei gyfyngiadau ar gymorth dyngarol, fe fyddwn ni'n cymryd camau pendant pellach i ymateb.'

'Rydym ni wedi cefnogi hawl Israel i amddiffyn Israeliaid rhag terfysgaeth bob amser. Ond mae'r cynyddiad hwn yn gwbl anghymesur.'

Fe gyhoeddais i ddatganiad ar 8 Mai—datganiad ysgrifenedig ar y blocâd ar gymorth dyngarol yn Gaza—mewn ymateb i gwestiynau a godwyd yn y Senedd, ac roeddwn i'n dweud ar y pryd hwnnw:

'Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am godi'r blocâd ar y cymorth yn Gaza.'

Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud, fel dywedais i yn fy natganiad, ein bod ni wedi dweud na ddylid defnyddio cymorth dyngarol fel offeryn gwleidyddol, ac roeddem ni'n ymuno â Llywodraeth y DU i alw ar Israel i barchu cyfraith ryngwladol a chaniatáu llif o gymorth i Gaza heb unrhyw rwystr arno.

14:35

Fe hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os caf i, un oddi wrthych chi ac un oddi wrth yr Ysgrifennydd Cyllid. Mae'r cyntaf yn ymwneud ag argaeledd arian parod a'r angen mawr sydd mewn trefi ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes banciau i'w cael yno, i sefydlu canolfannau bancio. Mae cymuned Ystradgynlais, sydd, dros ddwy flynedd, wedi brwydro er mwyn cael canolfan fancio yno, wedi cael un yno o'r diwedd. Maen nhw'n sicrhau bod arian parod ar gael mewn ffordd wirioneddol, ystyrlon mewn llawer o rannau o'n cymdeithas ni—pobl hŷn, pobl ag anableddau, yn enwedig rhai ag anableddau dysgu, sydd â gwir angen i allu codi arian parod a chael rhywun i siarad â nhw. Mae angen i'r rhain ddatblygu ledled Cymru. Yn Aberhonddu, dim ond un banc sydd gennym ni ar ôl. Felly, fe fyddwn i'n eich annog chi i ystyried sut y gallwn wneud hwn yn fater cyfiawnder cymdeithasol gwirioneddol i lawer yn ein cymdeithas ni sydd ag angen ffordd o gael gafael ar arian parod fel hyn.

Mae'r ail ddatganiad, os caf i, oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, yn ymwneud â threth gyfoeth a barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â honno. Rwy'n sylweddoli mai mater na chafodd ei ddatganoli yw hwn, ond fe godais i hyn sawl sawl gwaith yn y Siambr, yn enwedig wrth edrych ar y datganiadau gan sefydliad o'r enw Patriotic Millionaires. Fe allem ni dalu am y toriadau a wnaeth Llywodraeth y DU i fudd-daliadau anabledd, am beidio â dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, am yr holl faterion y maen nhw'n yn eu codi er mwyn cyfiawnhau'r toriadau, felly fe fyddwn i'n croesawu datganiad gennych chi hefyd am y cynnydd yn hynny o beth. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Diolch i chi am y cwestiwn cyntaf yna, a gafodd ei godi eisoes y prynhawn yma, o ran y cau enbyd, caead parhaus y canghennau banc i gyd ledled Cymru. Yn wir, fe siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a minnau mewn cyfarfod pwysig iawn gyda'r banciau i gyd yn ddiweddar, er mwyn siarad am faterion ynglŷn â chau banciau a chynhwysiant ariannol—blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae gwasanaethau ariannol yn faterion a gedwir yn ôl, ond rydym ni'n cyfarfod yn rheolaidd gyda LINK, Cash Access UK—mae'r ddarpariaeth o beiriannau ATM yn lleihau hefyd—ac roedd gennym ni gynrychiolaeth o'n hundebau credyd ni hefyd, a chymdeithasau adeiladu.

Felly, mae hi'n braf clywed am ganolfan fancio Ystradgynlais. Wrth gwrs, mae hwnnw'n lleoliad bancio a rennir, lle mae gwahanol fanciau prif ffrwd a'u bancwyr cymunedol nhw'n gweithio ar sail gylchredol, gyda phob un yn bresennol ar un diwrnod gwaith dynodedig bob wythnos. Dim ond naw sydd wedi agor, ac mae pedwar arall, rwy'n credu, nid yn unig yn Ystradgynlais, ond mewn cyfnodau cychwynnol wedi cael eu sefydlu yn y Fflint, Caergybi a Threfynwy. Felly, unwaith eto, mae i'n bwysig ein bod ni wedi codi hyn heddiw, eich bod chi wedi codi hyn heddiw, ac y gallwn ni ddwyn hyn yn ei flaen eto. A chan edrych ar faniau bancio symudol hefyd, y mae Grŵp NatWest a Banc Lloyds yn eu cynnig hefyd, ynghyd â Barclays hefyd. Roeddwn i'n falch iawn o agor y fan undeb credyd symudol gyntaf yn ystod y Pasg, ar gyfer Castell-nedd Port Talbot—nid Castell-nedd Port Talbot yn unig, ond ardal lawer fwy eang. Fe wnaethom ni lansio honno yn ystod y Pasg.

O ran eich ail gwestiwn chi, roeddech chi'n fy herio i, rwy'n cofio, Jane, i gwrdd â Patriotic Millionaires pan oeddem ni'n trafod mater tlodi plant a newidiadau budd-daliadau anabledd yn eu cyfanrwydd. Fe wnes i gyfarfod â nhw ym mis Ebrill, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, ac roeddech chwithau yno hefyd yn wir ac fe wnaethoch chi helpu i ymgynnull y cyfarfod hwnnw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, fe wn i, yn awyddus i roi gwybod i'r Aelodau am gynnwys a chanlyniadau'r cyfarfod hwnnw gyda mi, ac fe fyddwn ni'n gwneud hynny, ac fe fyddwn ni'n ymgysylltu, oherwydd roedd hi'n werthfawr iawn i ni gael ystyried y materion yr oedden nhw'n eu trafod yno.

Roedden nhw'n sôn am y ffyrdd y gellid codi trethi ar yr enillwyr uchaf er lles pawb yn y gymdeithas, gan gynnwys y rhai sy'n ennill arian mawr, ac fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn bwriadu codi hyn mewn cyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid. Fe fyddai hi'n braf cael trafod y materion hyn yn y Senedd. Rwy'n credu mai un o'r trafodaethau a gawsom ni oedd ynglŷn â threth gyfoeth flynyddol, darn parod o waith a gafodd ei wneud gan PM UK eisoes. Roedd hynny'n werthfawr iawn yn fy marn i ac fe fyddem ni'n hoffi rhannu'r hyn y gwnaethom ni ei ddysgu o ran yr hyn y gallai hynny ei olygu a deall hyn o ran yr angen i godi'r cyllid hollbwysig hwnnw er mwyn cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed sydd gennym ni yng Nghymru.

14:40

Fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, os caf i, Ysgrifennydd busnes? A gaf i ofyn yn gyntaf am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd trafnidiaeth? Dros y penwythnos, fe ddaeth adroddiadau, fel gŵyr pawb ohonom ni, oddi wrth Sefydliad Diogelwch ar y Ffyrdd yn dweud y dylid torri terfyn cyflymder ar y ffyrdd hyd at 10 mya. Nawr, yn y rhan fwyaf o leoedd, fe fyddai'r syniad yn cael ei wawdio gan bawb yn y lle, ond ar ôl terfyn cyflymder trychinebus Llywodraeth Cymru o 20 mya, rwy'n credu bod angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni. A gawn ni rywfaint o sicrwydd, os gwelwch chi'n dda, nad yw hyn yn yr arfaeth yma yng Nghymru? Rwy'n gwybod y byddai etholwyr yn gwerthfawrogi datganiad gyn gynted â phosibl ar gyfer diystyru'r ymosodiad hwn ar fodurwyr.

Yn ail, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ar y galwadau i ohirio newidiadau yn y dreth etifeddiant ar gyfer ffermydd teulu. Fe fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, yn diddymu'r newidiadau o ran y dreth etifeddiant yn gyfan gwbl. Ond, yn dilyn galwadau gan y grŵp trawsbleidiol ym Mhwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Senedd y DU, sy'n cynnwys saith Aelod Seneddol Llafur, oherwydd pryderon y byddai'r newidiadau yn taro'r rhai mwyaf agored i niwed mewn gwirionedd, fe hoffwn i gael datganiad llafar ar lawr y Senedd hon yn trosglwyddo'r pryderon hyn a chlywed beth sydd gan y Llywodraeth i'w ddweud ynglŷn â'r mater. Diolch.

Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Wel, yn amlwg, mae diogelwch ar y ffyrdd yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd, ac mae hi'n ddiddorol fod y gymdeithas honno wedi cyflwyno cynigion, yn seiliedig ar dystiolaeth, sef bod yn rai amgylchiadau, y byddai 10 mya, nid dim ond 10 mya, 5 mya yn briodol o ran terfyn cyflymder ar y ffyrdd. Rwy'n credu bod yr holl dystiolaeth wedi dangos bod cyflwyno'r terfyn cyflymder 20 mya yng Nghymru, pan gafodd ei roi ar waith mewn modd priodol gan yr awdurdodau lleol, nid yn unig wedi achub bywydau, wedi torri biliau yswiriant, ond mewn gwirionedd yn cael ei groesawu nawr gan bobl Cymru. Felly, rydych chi wedi ceisio ei godi ar y pwynt hwn ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd; rwy'n credu mai diogelwch ar y ffyrdd yw'r rheswm yr ydym ni'n falch iawn o'r polisi hwnnw.

Ydynt, mae'r trefniadau o ran y dreth etifeddiant ar gyfer ffermydd teulu yn fater byw. Ni chafodd hynny ei ddatganoli i Gymru, ac rwy'n siŵr y bydd digon o gyfleoedd i godi'r cwestiynau hynny, nid yn unig yn San Steffan, ac ar gyfer clywed am yr adroddiad trawsbleidiol hwnnw hefyd, ond mae hyn yn amlwg yn parhau i gael ei godi yn rheolaidd gyda'n Dirprwy Brif Weinidog ni ac Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig.

Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar atal canser y croen. Rydym ni wedi cael gwanwyn heulog iawn, ac mae pelydriad uwchfioled yn yr heulwen yn un o brif achosion canser y croen. Yn 2019, roedd canserau'r croen yn rhoi cyfrif am bron i hanner yr holl ganserau yng Nghymru, ac, wrth gwrs, fe ellir atal y rhain yn gyfan gwbl. Mewn dadl a gyflwynais i i'r Senedd y llynedd, roeddwn i'n gofyn i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio rhagor ar atal canser y croen ac ystyried, er enghraifft, ariannu eli haul yn rhad ac am ddim i ysgolion, a fyddai'n magu arferion da ymhlith plant ifanc, efallai y byddai llawer o'u teuluoedd nhw, wrth gwrs, yn ei chael hi'n anodd fforddio eli haul. Mae'r Llywodraeth wedi buddsoddi, er enghraifft, mewn gwella mynediad at gynhyrchion mislif yn yr ysgol. Felly, fe hoffwn i gael gwybod a yw'r Llywodraeth wedi ystyried darparu eli haul yn yr un modd. Mai yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Croen. Canser y croen yw'r canser mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar bobl Cymru, ac, o bedair gwlad y DU, Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o ganser y croen. Mae llawer o arbenigwyr yn credu y gellid gwneud mwy i helpu pobl i leihau eu risg nhw. Diolch. 

14:45

Diolch yn fawr am y cwestiwn pwysig iawn yna, Sioned Williams. Fe wnaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol beth sydd fwyaf priodol, oherwydd ni wnaiff datganiad yn unig, datganiad ysgrifenedig—. Mae angen i hyn fod yn ehangach na hynny; mae angen cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd, onid oes, o ran codi ymwybyddiaeth. Rwy'n siŵr y byddai gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddiddordeb yn y cwestiwn hwnnw o ran plant yn yr ysgol a phlant sy'n mynd i mewn ac ysgolion yn gorfod cymryd cyfrifoldeb nawr. Maen nhw'n gweld y plant yn dod mewn hetiau haul, hufen haul ac eli hefyd. Felly, diolch i chi am godi hyn. Fe fyddwn ni'n edrych ar y ffordd orau o godi ymwybyddiaeth, oherwydd, fel rydych chi'n dweud, fe ellir atal canser y croen, ac mae angen i ni edrych ar hyn nawr, dim ond o ran y tywydd arbennig o braf a thwym a gawsom ni'n ddiweddar.

Yn gyntaf, fe hoffwn i ymgysylltu â sylwadau Delyth Jewell. Mae ei disgrifiad hi o'r hyn sy'n digwydd yn Gaza yn ddychrynllyd iawn, ac nid yw hi'n briodol i'r wlad a gyhoeddodd ddatganiad Balfour droi llygad dall o ryw fath. Mae angen i ni fod yn gweithio gyda heddychwyr ar draws Palesteina ac Israel i ganfod datrysiad i'r gwrthdaro, ac estyn cymorth iddyn nhw, cefnogaeth o'r fath y gwnaethom ni ei rho i Wcráin.

Roeddwn i'n dymuno ategu'r mater a godwyd ynglŷn â bancio rhwydd a dweud bod hwnnw'n fater mawr hefyd i fusnesau bach yn fy etholaeth i, oherwydd eu bod nhw'n gorfod talu am ddodi arian parod yn y banc. Efallai nad yw'r banciau hyn yn addas i'r diben erbyn hyn ac mae angen i ni fod â banc gwladwriaethol, os na allan nhw wneud y pethau sylfaenol, yn syml.

Yn olaf, rwy'n gofyn am ddatganiad am sut yr ydym ni'n rheoli dŵr. Ni chawsom ni law o gwbl bron iawn dros yr wythnosau diwethaf, ac mae'r meteorolegwyr yn sôn y bydd sychder yn yr haf eleni, a dŵr yw'r unig adnodd na all unrhyw un ohonom ni fyw hebddo. Pe cawn ni law trwm yn ystod y misoedd nesaf, fe fydd y rhan fwyaf ohono'n diweddu yn y system garthffosiaeth, yn hytrach na chael ei gasglu fel dŵr llwyd ar gyfer golchi ein ffyrdd a fflysio ein toiledau. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch a yw hi'n bosibl cywiro'r sefyllfa chwerthinllyd hon trwy wella rheoliadau adeiladu, yn y ffordd y byddwn ni'n sicrhau bod yn rhaid i adeiladau newydd fod yn garbon niwtral, neu a fydd angen deddfwriaeth, oherwydd rwy'n gwybod y bydd angen i bob plaid wleidyddol ystyried hyn yn eu maniffestos.

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Diolch i chi. Unwaith eto, mae hi'n bwysig fod lleisiau cryf gennym ni yn y Senedd heddiw o ran y sefyllfa erchyll yn Gaza. Fel dywedais i, rydym yn falch o weld pwysau gan gynghreiriaid ar gyfer helpu i godi'r blocâd ar gymorth i Gaza, ac rydym ni'n gobeithio y gall pwysau parhaus gan y gymuned ryngwladol ddod â'r gwrthdaro i ben. A gweithio tuag at weithredu datrysiad dwy wladwriaeth yw'r unig ffordd i ddod â heddwch hirdymor a diogelwch y mae Israeliaid a Phalestiniaid fel ei gilydd yn ei haeddu, gan sicrhau sefydlogrwydd hirdymor yn y rhanbarth.

Mae eich ail bwynt chi am bwysigrwydd banciau i fusnesau bach, fel rydych chi'n sôn, yn un diddorol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd gyda banciau, yr oedd Rebecca Evans a minnau'n bresennol, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio—. Maen nhw'n cymryd yr awenau, er nad yw'n fater a gedwir yn ôl, o ran ymgysylltiad arweiniol gwasanaethau ariannol gyda Llywodraeth y DU. Ar gyfer ystyried yr effaith y mae'n ei chael ar fusnesau bach, rwy'n credu bod rhai o'r cynlluniau treialu, fel cynllun treialu OneBanx, lle mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn ceisio cynyddu argaeledd arian parod yng nghymunedau Cymru, yn ddefnyddiol iawn hefyd o ran mynediad ar gyfer fusnesau—cwsmeriaid busnes banciau mawr. Ac mae ganddyn nhw'r OneBanx ym Mwcle, Caerffili a'r Bont-faen erbyn hyn.

O ran eich trydydd pwynt, ynglŷn â materion ynghylch gallu i gasglu dŵr glaw, mae hi'n ddiddorol bod hwn yn fater, yn ôl yn 2018, y diwygiodd Llywodraeth Cymru reoliadau adeiladu fel pan fydd annedd newydd yn cael ei adeiladu, ni ddylai'r defnydd posibl o ddŵr glân gan bobl sy'n preswylio yn yr annedd fod yn fwy na 110 litr y pen, bob dydd. Ac mae'r cyfrifiad a ddefnyddiwyd yn dangos sut y gallai cydymffurfio â hyn ystyried arbedion defnydd dŵr y gellid eu gwneud nhw wrth ddefnyddio systemau i gasglu dŵr glaw. Mae darpariaethau swyddogaethol y rheoliadau adeiladu yn darparu ar gyfer trefniadau gwahanol ar gyfer cael gwared ar ddŵr glaw hefyd, ac fe allai hynny gynnwys defnyddio casgenni dŵr. Felly, ymwneud â datblygiadau newydd y mae hyn, ond yn amlwg mae hyn yn ymwneud â sut y byddwn ni'n rheoli materion ynglŷn â'r adeiladau sydd gennym ni nawr. Felly, diolch i chi am godi hynny.

14:50

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ar danau gwyllt? Fe wyddom ni i gyd pa mor sych y bu hi'n ddiweddar a pha mor gras yw pob tyfiant. Ac, yn wir, fe welsom ni yn fy nghymuned i fy hun danau gweddol fawr ar Fynydd Pen-y-fâl a mynyddoedd Blorens. Ac er eu bod nhw'n rhoi golygfa wirioneddol i ni gyda'r nos, maen nhw'n tynnu sylw at ba mor beryglus y gall tanau fel hyn fod, ac rydym ni'n diolch i'r gwasanaeth tân am eu hymdrechion mawr i'n cadw ni'n ddiogel ac maen nhw'n gorfod ymdrin â digwyddiadau fel hyn yn rhy aml. Fe wyddom ni i gyd y gall llawer o danau gwyllt gynnau yn naturiol, ond weithiau fe allan nhw gael eu cynnau gan achosion allanol, ac wrth i ni weld niferoedd cynyddol o bobl yn defnyddio offer barbeciw untro a phethau o'r fath, fe all y rhain gynnau'r tanau gwyllt hyn, ac mae angen i bobl fod yn gyfrifol. Felly, fe fyddwn i'n croesawu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlinellu pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gael i'n gwasanaethau tân ac achub ni yng Nghymru i fynd i'r afael â'r mater gwirioneddol hwn a'r hyn y gellir ei wneud i gynorthwyo gydag addysgu'r cyhoedd yn fwy eang.

Diolch yn fawr iawn i chi, Peter Fox. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i wneud y datganiad hwnnw, a fydd yn werthfawr iawn, o ran tanau gwyllt a thanau domestig hefyd a'r effaith y maen nhw'n ei chael ar ein gwasanaethau tân ac achub ni. Felly, mae datganiad ar ddod. 

Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am gynlluniau i greu cynaliadwyedd ariannol tymor hir ar gyfer y sector addysg uwch, ac yn benodol yn amlinellu pa gymorth sydd ar gael ar gyfer Prifysgol Bangor yn wyneb yr argyfwng presennol. Fe gafwyd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod Prifysgol Bangor yn chwilio am arbedion o dros £5 miliwn, sy'n cynrychioli tua 78 o swyddi—cyhoeddiad sydd wedi creu ansicrwydd a phryder mawr i bawb yn yr ardal. Mae achosion busnes dros newid wedi eu cyhoeddi, ac mae'r brifysgol wedi dechrau ar broses ymgynghori ar draws y brifysgol tan 13 Mehefin. Mae nifer o staff wedi cysylltu â mi'n barod, ac mi fyddaf yn trafod yr holl bryderon efo'r is-ganghellor. Dwi wedi datgan yn glir fod angen osgoi diswyddiadau gorfodol yn gyfan gwbl. Mae'n hollol amlwg bod y sector addysg uwch yn ei chyfanrwydd yn wynebu heriau anferth, felly datganiad am hynny, plis, yn ogystal ag am gefnogaeth bosib i Fangor. 

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Mae hi'n bwysig iawn ac, mae arna i ofn, nid yn unig o ran y sefyllfa sy'n dod i'r amlwg ym Mangor, ond ar gyfer addysg uwch ledled Cymru hefyd. Ac, wrth gwrs, efallai fod y canolbwyntio wedi bod ar Brifysgol Caerdydd yn bennaf, ond mae hi'n amlwg y bu'r pwysau yn sylweddol ar sefydliadau addysg uwch ledled Cymru ac mae hynny'n dod i'r amlwg nawr o ran y cynigion hyn. Felly, mae hi'n bwysig eich bod, unwaith eto, wedi codi hyn yn y Siambr heddiw ac wedi tynnu sylw'r Aelodau nid yn unig at y materion, ond at yr ymgynghoriad, yr wyf i'n siŵr y bydd yn cynnwys y gweithlu, ac fe fydd yn rhaid iddo eu cynnwys nhw, o ran yr undebau llafur hefyd, sydd â swyddogaeth allweddol o ran ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw, ond i gydnabod budd enfawr Prifysgol Bangor yn y gymuned, yr economi a'r sector addysg uwch hefyd. Diolch i chi am godi hynny heddiw.

14:55
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar draws gorllewin Ewrop a thu hwnt, mae digartrefedd yn her gynyddol ac yn fater o frys. Mae'n fater dinistriol a treiddiol. Mae'n byrhau bywydau ac yn ynysu pobl o'u cymunedau. Mae'n effeithio ar iechyd pobl, llesiant meddyliol, gallu pobl i gymryd rhan mewn gwaith neu ymgysylltu â'r economi, neu yn wir ar ganlyniadau addysgol.

Mae'r cartref yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd, gan ddarparu'r sylfaen ar gyfer adeiladu ein dyfodol. Nid oedd hyn erioed yn fwy amlwg nag yn 2020, pan oedd y pandemig yn datgelu'r perygl gwirioneddol o fod heb le diogel i fyw. Wrth ddatgelu'r perygl hwn, datgelodd y pandemig angen cudd digartrefedd, angen sy'n parhau, gan roi pwysau anghynaliadwy ar aelwydydd a gwasanaethau ledled Cymru. Dyna pam mae diwygio yn gwbl angenrheidiol. Ochr yn ochr â'n buddsoddiad sylweddol mewn cyflenwad tai, mae'n rhaid i ni drawsnewid ein dull o ymdrin â digartrefedd.

Dyma Lywodraeth sy'n edrych i'r dyfodol, sy'n canolbwyntio ar uchelgais a chyflawni ar gyfer pobl Cymru. Dyna pam roeddwn yn falch o osod y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Senedd ddoe. Mae hyn yn gam pwysig tuag at weledigaeth feiddgar o Gymru sy'n rhydd o ddigartrefedd. Wrth gyflwyno'r Bil hwn, rydym yn cwblhau'r gwaith a ddechreuwyd gan fy rhagflaenydd, Julie James, gan gyflawni ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym. Hoffwn ddiolch i Julie am ei gwaith diflino yn y maes hwn. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater sy'n hynod agos at eich calon. Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau o'r Siambr hon sydd wedi ymgyrchu ar faterion digartrefedd. Roedd y gwaith hefyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Siân Gwenllian am ei chyfraniad a'i chefnogaeth i ddiwygio'r system ddigartrefedd.

Mae'r Bil wedi'i wreiddio mewn tystiolaeth a phrofiad. Mae'n unigryw gan ei fod wedi'i seilio ar fewnwelediadau'r rhai sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd. Mae wedi cael ei ddatblygu dros nifer o flynyddoedd mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid arbenigol. Rwy'n ddiolchgar i'n holl bartneriaid am eu cyngor ar y Bil hwn, ond rwy'n talu teyrnged arbennig i'r 350 o bobl a rannodd eu profiadau eu hunain o ddigartrefedd i'n helpu i'w ddatblygu. Roedd yn fraint gweld rhai o'r bobl hynny eto heddiw, i'w hatgoffa nhw a ni bod y diwygiadau hyn wedi'u cynllunio i gyflawni'r newid ystyrlon y maent wedi gofyn i ni amdano.

Mae angen diwygio beiddgar i newid y patrwm a'r cynnydd tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Bydd yn helpu i greu system ddigartrefedd yng Nghymru sy'n addas ar gyfer y dyfodol, gan symud i ffwrdd o system sy'n ymateb i argyfwng i system sy'n canolbwyntio ar atal—y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â risg digartrefedd yng Nghymru. Bydd y Bil yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu gweithio gyda phobl mewn perygl yn gynharach a chymryd camau mwy effeithiol i'w cadw yn eu cartrefi. Bydd yn diddymu'r prawf angen blaenoriaethol a'r prawf bwriad, sydd wedi eithrio pobl rhag cymorth yn y gorffennol ac wedi gadael rhai grwpiau dan anfantais arbennig, gan greu system decach lle mae pobl yn derbyn y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn. Bydd prawf cysylltiad lleol yn sicrhau bod adnoddau awdurdodau lleol yn cael eu hanelu at bobl yn eu cymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod â'r farn ers amser maith nad mater tai yn unig yw digartrefedd, a heddiw rydym yn cyflawni'r egwyddor honno. Mae'r Bil yn ei gwneud yn glir mai cyfrifoldeb gwasanaethau cyhoeddus yw atal digartrefedd gan osod dyletswyddau newydd ar gyrff cyhoeddus perthnasol i 'ofyn a gweithredu', gan sicrhau ein bod yn nodi pobl yng Nghymru sydd mewn perygl o ddigartrefedd cyn gynted â phosibl, ac yn rhoi cymorth iddyn nhw yn gynt. Rydym i gyd, yn ein hetholaethau ein hunain, wedi gweld pa mor ddinistriol yw digartrefedd—y stigma, yr allgáu, yr ynysu ac, yn aml, y croestoriad ag anghenion cymorth eraill. Nid yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn ymwneud â rhoi to uwch ben rhywun yn unig; mae'n ymwneud â mynd i'r afael â'i ystod eang o achosion a chanlyniadau, a darparu'r cartref iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.

Bydd y Bil yn sicrhau bod ymatebion amlasiantaeth lleol ar waith i'r rhai sydd â'r angen mwyaf ac yn cryfhau cydweithrediad rhwng timau tai a phartneriaid gwasanaeth cyhoeddus. Rwy'n arbennig o falch o ddweud bod y Bil hwn yn rhoi cyfle i ni roi diwedd ar ddigartrefedd i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Bydd timau gwasanaethau cymdeithasol a thai yn gweithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd, gan sicrhau bod y bobl ifanc hyn—ein cyfrifoldeb ni—yn derbyn y cynllunio a'r flaenoriaeth angenrheidiol ar gyfer tai cymdeithasol. Mae'r Bil hwn hefyd yn darparu'r diwygiad mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth dyrannu ers datganoli. Mae'n darparu mwy o offer i awdurdodau lleol gynnig tai cymdeithasol i'r rhai sydd fwyaf mewn angen a sicrhau bod y rhai sy'n defnyddio tai cymdeithasol yn cael eu cefnogi'n well.

Dirprwy Lywydd, mae'r diwygiadau hyn yn uchelgeisiol. Mae'n rhaid iddyn nhw fod, i ymateb i raddfa'r her. Byddant yn cymryd amser i'w gweithredu. Nid yw hwn yn ateb cyflym. Bydd angen gwariant ariannol cychwynnol arnynt hefyd, wrth i ni fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus i ailganolbwyntio ar atal. Ond mae ein hasesiad a'n hymchwil annibynnol ein hunain yn glir y bydd ein dull gweithredu yn arwain at ostyngiadau hirdymor mewn digartrefedd ac at arbedion costau hirdymor wrth i ni liniaru'r anfantais, y trawma a'r aflonyddwch ehangach y gall digartrefedd ei achosi.

Gwasanaethau digartrefedd yw, i lawer, y rhwyd ddiogelwch olaf pan fydd pob un arall yn methu. Rwyf am orffen y datganiad hwn trwy ganmol gwaith ein partneriaid cyflawni ar draws awdurdodau lleol a'r sector tai ehangach. Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn anhygoel o heriol, ond mae'n achubiaeth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Rwy'n gwybod bod y gwasanaethau hyn o dan bwysau enfawr a bydd nerfusrwydd dealladwy ynglŷn â chyflymder a graddfa'r newid. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid wrth i ni gynllunio ar gyfer gweithredu. Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn rhannu'r uchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a chefnogi'r egwyddorion y mae'r diwygiad yn ceisio eu cyflawni. Mae hwn yn newid angenrheidiol ac yn gam beiddgar tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Bydd ein huchelgeisiau yn cymryd amser i'w cyflawni, ond edrychaf ymlaen at weithio gyda'r sector a chyd-Aelodau yn y Senedd hon, drwy graffu a thu hwnt, i'w cyflawni mewn partneriaeth, oherwydd mae hon yn Llywodraeth sy'n poeni am ddyfodol Cymru—dyfodol lle mae digartrefedd wedi'i fwrw i ebargofiant. Mae'r diwygiadau hyn yn mynd â ni'n agosach at wireddu'r weledigaeth honno, gan gyflawni ar gyfer pobl Cymru nawr ac am flynyddoedd i ddod. Dirprwy Lywydd, gyda balchder rwy'n cyflwyno'r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i'r Senedd heddiw. Diolch.

15:00

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Rwy'n croesawu'r diwygiadau hyn sydd eu hangen yn y Bil hwn, yn enwedig yr ymrwymiad i roi blaenoriaeth ychwanegol i ymgeiswyr digartref a phobl sy'n gadael gofal. Dyma rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, ac mae ymestyn y cyfnod atal digartrefedd o 56 diwrnod i chwe mis yn gam i'w groesawu tuag at bolisi ataliol.

Fodd bynnag, rwy'n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chyflwyno cynigion i gefnogi'n benodol y rhai sy'n gadael yr ysbyty a'r ddalfa. Dyma ddau o'r grwpiau sydd â'r risgiau mwyaf o ran digartrefedd. Mae anwybyddu'r cynigion hyn yn colli cyfle hanfodol ar gyfer dull cydweithredol rhwng iechyd, cyfiawnder a thai, yn hytrach na mynd i'r afael â nhw ar wahân.

Fy nghwestiwn, felly, i chi, Ysgrifennydd Cabinet, yw hyn: pa neges mae hynny'n ei anfon, bod cefnogaeth benodol i bobl sy'n gadael gofal y GIG neu garchar wedi cael ei gollwng o'n diwygiadau digartrefedd mwyaf arwyddocaol ers blynyddoedd? Mae angen system sy'n atal digartrefedd cyn iddo ddechrau—i bawb. Mae hynny'n cynnwys cyn-filwyr, cleifion ysbytai a'r rhai sy'n gadael carchar.

Rwy'n cefnogi'r eglurhad na all cymdeithasau tai wrthod atgyfeiriadau gan awdurdodau lleol yn afresymol. Mae hwn yn gam llawn synnwyr cyffredin a ddylai helpu i symleiddio'r broses a lleihau rhwystrau diangen i'r rhai mewn angen. Mae cyflwyno prawf manipiwleiddio bwriadol yn ddiogelwch pwysig, un a fydd yn helpu i ddiogelu uniondeb y system gan sicrhau tegwch i bob ymgeisydd.

Ond er ein bod yn cefnogi'r diwygiadau hyn, gadewch i ni beidio ag esgus eu bod yn datrys yr argyfwng dyfnach rydym ni'n ei wynebu, sef y prinder affwysol o dai cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen buddsoddiad newydd ar lefelau radical ar y rhaglen caffael tai cymdeithasol i ddarparu tai y mae eu hangen yn ddirfawr yng Nghymru. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru fethu â chyrraedd ei tharged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn 2026, gan gyflawni tua hanner hynny heddiw, er bod y rhaglen gaffael yn cael ei gordanysgrifio'n ddifrifol gyda thai eisoes yn cydymffurfio â safonau.

Er gwaethaf buddsoddiad sylweddol mewn tai cymdeithasol, mae Archwilio Cymru yn dweud y gallai Llywodraeth Cymru fod angen £740 miliwn yn ychwanegol i gyrraedd y targedau tai presennol hynny. Ychwanegwch at hynny y ffaith bod 80 y cant o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu ar lefel is na'r capasiti cynllunio, nid yw'n syndod bod cynnydd o ran adeiladu cartrefi yn ogystal â'u caffael wedi oedi.

Felly, rwyf eisiau gofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, gyda'r rhaglen caffael tai cymdeithasol wedi ei gordanysgrifio a'r adrannau cynllunio yn brin iawn o staff, pa gamau pendant y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i oresgyn y rhwystrau hyn a chyflawni'r raddfa o dai y mae angen dirfawr amdanynt yng Nghymru?

Hefyd yn y Bil hwn, nid wyf yn gweld fawr o ystyriaeth o gyn-filwyr Cymru. Bydd y prawf cysylltiad lleol yn gwahaniaethu yn erbyn cyn-filwyr, sy'n aml yn symud o gwmpas ac efallai na fyddant yn byw yn agos at deulu a ffrindiau. Ni ddylai hyn fod yn digwydd; mae pob un ohonom yn ddyledus iddynt, nid eu cymunedau lleol yn unig. Mae Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn glir bod eithriad ar waith i gyn-filwyr o'r rheol cysylltiad lleol hwnnw. A wnewch chi egluro felly y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'r eithriad hwn hefyd, ac a wnewch chi warantu bod hyn yn cael ei weithredu'n gyson ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru?

Diolch unwaith eto am eich datganiad. Rwy'n gobeithio yn fawr ein bod wedi cychwyn ar y llwybr tuag at ddyfodol heb ddigartrefedd yng Nghymru. Diolch.

15:05

Diolch, Laura, a diolch am eich croeso cychwynnol i'r Bil hwn heddiw. Mae'n wir yn Fil pwysig; mae'n feiddgar ac yn uchelgeisiol, ac rwy'n credu y bydd yn trawsnewid ein system ddigartrefedd. Unwaith eto, mae'n ymwneud â chanolbwyntio ein gwasanaethau ar nodi ac atal yn gynharach, a pheidio â gwthio pobl tuag at yr argyfwng hwnnw lle gwyddom fod y system ynddo ar hyn o bryd. 

Laura, rwy'n gwybod y byddwch chi'n ymwybodol fy mod i'n angerddol iawn am gefnogi pobl sy'n gadael gofal, ac rwy'n falch iawn o fewn hwn fod gennym becyn o fesurau ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Mae'r Bil yn cynnig cyfle i ni roi diwedd ar y defnydd o'r system ddigartrefedd fel llwybr allan o ofal. Mae gormod o bobl ifanc yn dal i adael gofal ac yn dod yn ddigartref, ac mae'n rhaid i hyn ddod i ben yn bendant. Does dim rheswm pam y dylai person ifanc sy'n pontio o ofal brofi digartrefedd. Mae'r ddyletswydd newydd yn golygu bod yn rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud yn siŵr bod gan bobl sy'n gadael gofal le addas i fyw wrth iddynt bontio o ofal.

O ran y pwyntiau sy'n ymwneud â rhyddhau o'r ysbyty, er enghraifft, rydym yn ystyried y ffordd orau i gyflawni'r bwriadau polisi a nodir yn y Papur Gwyn—er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei ryddhau o'r ysbyty i ddigartrefedd—yw trwy ddefnyddio mecanweithiau presennol, yn hytrach na chreu dyletswydd newydd. Mae grŵp gorchwyl a gorffen newydd wedi'i sefydlu, ac mae'n ysgrifennu canllawiau i atal pobl rhag cael eu rhyddhau i'r stryd neu'n gorfod aros yn yr ysbyty oherwydd diffyg Tai.

Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar y canllawiau presennol ac yn cysylltu â'r model rhyddhau i adfer ac asesu. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid iechyd a thai i lunio'r canllawiau hyn, a byddwn yn ei haddasu yn seiliedig ar yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym. Bydd swyddogion cyswllt rhyddhau yn allweddol, oherwydd gallant ein helpu i gynllunio'n gynnar, cysylltu gwasanaethau a sicrhau nad yw pobl yn cael eu diystyru.

Fe wnaethoch chi grybwyll cyflenwad; yn amlwg, heddiw, rydym yn siarad am y system ddigartrefedd, ac rwy'n cydnabod bod y cyflenwad yn broblem, ac mae hynny'n rhan o hynny. Rhaid ategu'r Bil trwy gynyddu ein cyflenwad o gartrefi cymdeithasol, oherwydd bydd hynny'n rhoi'r cyfle gorau i ni roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru am byth. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd tai cymdeithasol, a dyna pam rydym ni'n darparu'r lefelau uchaf erioed hynny o fuddsoddiad ledled Cymru. Yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y lefel uchaf erioed honno o fuddsoddiad ychydig yn llai na £2 biliwn. Rydym wedi cael y gyllideb flynyddol uchaf erioed o £411 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol ym mlwyddyn ariannol 2025-26. Mae hynny'n £81 miliwn ychwanegol o'i gymharu ag eleni.

Yn olaf, ar y pwynt pwysig a godwyd gennych ynglŷn â chyn-filwyr, nid oedd yn bosibl bwrw ymlaen ag unrhyw un o'r categorïau eithriad newydd arfaethedig ar y cysylltiad lleol. Fel y dywedais, rydym yn cyflwyno prawf cysylltiad lleol. Ond mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y newidiadau a wnawn yn y Bil hwn a'r adnoddau sydd eu hangen i wneud y newidiadau hyn o fudd i bobl yng Nghymru. Felly, fel y dywedais i, rydym ni'n cyflwyno'r prawf cysylltiad lleol newydd. Rydym wedi cadw'r diffiniad presennol o gysylltiad lleol, ond mae'r Bil yn nodi pwerau gwneud rheoliadau sy'n ein helpu i ychwanegu manylion at y diffiniad hwn mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Bydd y pwerau hyn yn caniatáu i ni ailystyried cwmpas a swyddogaeth cysylltiad lleol dros amser. Rwy'n gobeithio bod hyn yn cynnig llwybr i gynorthwyo grwpiau penodol sy'n wynebu problemau sy'n gysylltiedig â chysylltiadau lleol, fel cyn-filwyr, yn y dyfodol.

Dim ond i dawelu eich meddwl, rwyf hefyd wedi gofyn i'm swyddogion edrych ar ffyrdd eraill y gallwn helpu cyn-filwyr, yn enwedig trwy'r prawf cysylltiad lleol ar gyfer tai cymdeithasol. Fel y sonioch, Laura, yn Lloegr, ym mis Rhagfyr y llynedd, newidiodd Llywodraeth y DU y rheolau fel nad oes angen cysylltiad lleol ar gyn-filwyr mwyach i gael tai cymdeithasol yno. Mae gennym y pŵer i wneud yr un peth yma yng Nghymru, felly mae fy swyddogion yn gweithio ar gynlluniau i ddod â'r newid hwn trwy is-ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn sicrhau na fydd cyn-filwyr yn cael eu gwthio i lawr y rhestr ar gyfer tai cymdeithasol dim ond oherwydd nad oes ganddynt gyswllt lleol.

15:10

Dwi'n croesawu gweld cyflwyno'r Bil pwysig yma i'r Senedd. Mae mynd i'r afael â'r argyfwng—[Anghlywadwy.]—digartrefedd, ac mae atal y lefelau digartrefedd cynyddol presennol yn gorfod bod yn flaenoriaeth. Dwi yn, felly, edrych ymlaen at graffu ar manylion y Bil yma.

Mi oedd cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio, a dwi yn falch o'r holl waith a wnaed o ganlyniad i gyflwyno'r ymrwymiad hwnnw dros fisoedd lawer. Dwi'n croesawu hefyd yr ymgysylltiad helaeth fuodd efo rhanddeiliaid, ac yn enwedig cynnwys pobl sydd efo profiad byw o ddigartrefedd, wrth i'r Bil gael ei ddatblygu a'r dull sy'n canolbwyntio ar y person y mae'r Bil yn anelu at ei adlewyrchu.

Rydyn ni'n gwybod bod digartrefedd, gan gynnwys bod yn sownd mewn llety dros dro am y tymor hir, a bod mewn peryg o fod yn ddigartref, yn cael effaith difrifol ar iechyd, lles meddyliol, addysg a gallu pobl i weithio. Ond rhaid inni ddifrifoli efo'r sefyllfa yn llwyr. Mae'r ffigurau ar ddigartrefedd yng Nghymru heddiw yn wirioneddol syfrdanol: dros 11,000 o bobl mewn llety dros dro, gan gynnwys dros 2,600 o blant, a dros 400 o blant yn byw mewn llety gwely a brecwast neu westai. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gadael y rhai mwyaf agored i niwed i lawr, efo un o bob pedwar o bobl ifanc sy'n gadael gofal yn ddigartref. Felly, dwi yn falch o weld y Bil yma yn canolbwyntio ar y rhai sydd mewn peryg penodol.

Wrth gwrs, yr effaith ar fywydau sydd bwysicaf, ond fedrwch chi, Ysgrifennydd Cabinet, sôn am y costau ariannol sydd ynghlwm efo rheoli lefelau digartrefedd yng Nghymru heddiw? Ydy'r costau yna yn gynaliadwy, ac ydy'r Bil yma yn mynd i fod yn arwain at sefyllfa mwy cynaliadwy o ran cost gwasanaethau digartrefedd?

Fedrwn ni ddim cael y newid mawr sydd ei angen drwy ddeddfwriaeth yn unig, ac mae yna ormod o esiamplau o'r Llywodraeth yma'n nodi uchelgais mawr, ond eu bod nhw ddim yn cael eu cyflawni. Mae'r Bil yn amlinellu newidiadau mawr i gyrff cyhoeddus ar gyfer cydweithio efo'i gilydd. Ac yn ogystal â buddsoddi mewn hyfforddiant a chefnogaeth, mae gofyn i Lywodraeth Cymru arwain ar newid diwylliant, felly buaswn i yn licio gofyn y prynhawn yma: sut ydych chi'n mynd i greu'r diwylliant newydd yma o gydweithio, a sut ydych chi'n mynd i arwain ar y gwaith sydd ei angen ar gyfer paratoi ar gyfer gweithredu'r Bil pwysig yma?

Mae'r Bil yn gam angenrheidiol yn yr uchelgais i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru, ond dim ond un rhan o'r jig-so cymhleth ydy o, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r materion systemig sy'n sail i'r argyfwng tai. Wrth gwrs, un o'r heriau mwyaf—a dŷn ni wedi sôn am hyn yn barod y prynhawn yma—sy'n wynebu unigolion sy'n byw mewn llety dros dro ydy diffyg cartrefi cymdeithasol. Mae'n rhaid i chi, fel Llywodraeth, gydnabod eich bod chi wedi methu'n llwyr â chyrraedd eich targedau eich hun i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Y llynedd, dim ond 2,600 o gartrefi ychwanegol ar gyfer rhent cymdeithasol gafodd eu cwblhau, sydd yn ddim ond 3 y cant o'r galw am gartrefi cymdeithasol. Dydy’r Llywodraeth ddim yn agos at gyrraedd ei tharged o gynyddu'r cyflenwad i 20,000 dros dymor y Llywodraeth yma. Mae angen newid gêr, nid yn unig yn yr uchelgais i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol ond ar gyfer cyflawni'r gwaith hollbwysig yma sydd angen ei wneud. 

Felly, yn olaf, ydych chi yn cytuno bod rhaid gweld y ddeddfwriaeth hon fel rhan o becyn o fesurau, efo cynnydd sylweddol mewn tai cymdeithasol yn elfen allweddol?

15:15

Diolch, Siân. Unwaith eto, dim ond i gofnodi fy niolch am y gwaith rydych chi wedi'i wneud ar hyn hefyd, yn dilyn y cytundeb cydweithio. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth agos iawn at eich calon hefyd. Diolch, eto, am y gwaith a'r cyfranogiad. Rwy'n credu ei fod yn ddiwrnod pwysig iawn heddiw, yn enwedig i'r rhai sydd wedi bod yn ymwneud â'r ddeddfwriaeth hon a deddfwriaeth arfaethedig ers amser maith, a'i weld yn datblygu. Felly, rwy'n deall hynny yn fawr iawn.

Rwy'n credu bod rhai o'r pwyntiau a wnaethoch yn glir iawn ynghylch pam rydym ni'n gwneud hyn, sef cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Nid yw diffyg gweithredu yn opsiwn. Y system hon sydd gennym ar hyn o bryd yw'r drutaf y gallai fod; mae'n gwthio pobl i'r argyfwng hwnnw. Ac nid yw'n gost o ran swm yr arian yn unig, yn enwedig ynghylch llety dros dro—pen argyfwng gwasanaethau—ond mewn gwirionedd mae cost ddynol sy'n cyd-fynd â hyn. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni i gyd ei gydnabod. Un o'r pethau gwirioneddol gadarnhaol am ddatblygiad y ddeddfwriaeth arfaethedig hon a'r Bil yw cyfranogiad y 350 o bobl hynny sydd â phrofiad bywyd. Mae'n wirioneddol anhygoel, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem edrych arno pan fyddwn yn datblygu deddfwriaeth bellach yn y dyfodol. Mae'r bobl hynny wedi bod trwy'r system mewn gwirionedd ac rydw i eisiau talu teyrnged iddyn nhw, oherwydd maen nhw mewn gwirionedd yn helpu i ddatblygu system newydd a fydd yn golygu na fydd pobl eraill yn mynd trwy rai o'r pethau y buon nhw drwyddynt. Roeddwn i'n ffodus heddiw i gwrdd, unwaith eto mewn gwirionedd â Scotty a Phil; roedden nhw yno yn lansiad y Papur Gwyn, ac rwy'n gwybod eich bod chi yno hefyd, ynghyd â Julie James, y Gweinidog ar y pryd. Rwy'n credu, iddyn nhw, roedd yn gam pwysig iawn arall ar y daith honno i fod yma heddiw ar y foment hon yn natblygiad y Bil.

O ran y pwyntiau eraill a godwyd gennych—ac rwy'n cydnabod bod yna lawer o fewn hynny—roeddwn i eisiau siarad ychydig ynghylch—. Fel y dywedais, ni all deddfwriaeth ar ei phen ei hun roi diwedd ar ddigartrefedd. Rydym yn gwybod bod hyn yn rhan ohono ac rydym yn cydnabod bod gan gyflenwad a thai cymdeithasol rôl bwysig iawn i'w chwarae, yn ogystal â'r hyn rydym ni'n ei wneud o ran y dull aml-system hwnnw, o ran ymateb y gwasanaeth cyhoeddus i ddigartrefedd. Nid yw'n ymwneud â thai yn unig, ond rwy'n cydnabod yn llwyr y rôl y mae cyflenwad yn ei chwarae. Fel y dywedais, rydym ni'n buddsoddi mwy nag a wnaethom erioed o'r blaen—lefelau uchaf o gyflawni, lefelau uchaf o gyllid. Rwy'n gwybod yn iawn fod angen mwy o dai arnom—rwy'n cydnabod hynny'n llwyr—nid yn unig y flwyddyn nesaf, ond y blynyddoedd wedyn hefyd. Ond gwyddom fod rhai digwyddiadau byd-eang anodd iawn wedi cynyddu costau; mae pawb yn gwybod bod costau wedi codi. Rydym ni'n gwneud cynnydd gwirioneddol gyda'r sector, a'r hyn rydw i'n falch iawn ohono ac yn hapus yn ei gylch yw bod y ffrwd cyflenwad tai yn wirioneddol dda, felly rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn. Ond, unwaith eto, rwy'n gwybod bod mwy i'w wneud ynghylch hynny. Unwaith eto, un o'r agweddau ynghylch atal—.

Unwaith eto, mae'r Bil yn newid y cyfnod atal o 56 diwrnod i chwe mis. Mae hynny'n golygu bod gwasanaethau yn mynd i allu gweithio yn gynharach i atal y bobl hynny a allai fod mewn perygl o ddigartrefedd, ac roedd honno'n neges glir iawn gan bobl sydd â phrofiad bywyd—wyddoch chi, byddai cael yr ymyrraeth gynharach honno yn helpu. Rwy'n credu, unwaith eto, bod gwasanaethau sy'n gweithio gyda'i gilydd i atal digartrefedd a chael pecyn offer go iawn o bethau y gallwn eu gwneud, gan gynnwys cyflenwi, i gyd yn fanteisiol.

15:20

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, ac rwy'n falch o ddweud ei fod yn cydnabod ei bod yn her i'r bobl wych sy'n rheoli'r gwasanaethau digartrefedd presennol, sy'n waith hynod o heriol, ac maen nhw'n gwneud gwaith gwych. Ond rwyf eisiau canolbwyntio ar arbedion costau hirdymor cysylltu'r elfennau sef gweithio amlasiantaeth, oherwydd mae rhag-gynllunio gan gyrff cyhoeddus sy'n gofyn am ymateb amlasiantaeth yn parhau i fod yn waith ar y gweill.

Rwy'n cofio pan oeddwn i'n arfer rheoli rhaglen Sure Start yn Llundain, ac roedd bob amser yn syndod llwyr i garchar Holloway bod angen i'r dinesydd tramor a oedd yn cwblhau ei ddedfryd gael ei roi ar awyren y diwrnod y daeth ei ddedfryd i ben. Ni wnaethpwyd unrhyw beth ynghylch hyn tan ar ôl i hynny ddigwydd, ac, yn y cyfamser, roedden nhw'n gwario—roeddem ni, y trethdalwyr, yn gwario arian ar ei wasanaethau gwesty tra bod y gwasanaethau ffin yn trefnu i'w gael ar awyren. Mewn gwirionedd, nid yw hynny'n ddigon da, ac, yn yr un modd, mae'n rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer yr amser pan fydd person yn gadael gofal, ac, yn amlwg, mae angen iddynt gael tai priodol fel nad yw'n cael ei ddiystyru.

Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi hefyd ddweud ychydig ynghylch sut y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth hefyd yn cael ei lywio gan adroddiad Lee Waters ar yr heriau sy'n ymwneud ag adeiladu tai cymdeithasol, oherwydd, yn amlwg, gallwn weithio mor galed ag yr ydym yn cysylltu'r elfennau, ond os nad yw'r tai yn bodoli, mae'n anodd iawn, onid ydyw, i wneud cynnydd?

Diolch, Jenny. Diolch hefyd am roi'r cyfle i mi sôn am bwysigrwydd ein gweithlu. Ni allwn roi diwedd ar ddigartrefedd heb weithlu cryf, medrus wedi'i gefnogi. Mae staff yn y sector hwn yn gwneud gwaith anhygoel o hanfodol, yn aml o dan amodau anodd iawn. Rwy'n hynod ddiolchgar, a gwn ein bod ni i gyd yn ddiolchgar am y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac roedd yn gyfle da i mi, ar ôl cwrdd â Scott a Phil heddiw, i siarad â rhai o'r gweithwyr cymorth sy'n bwysig iawn iddyn nhw ar eu taith. Felly, rydw i eisiau cofnodi fy niolch, a dim ond dweud, o ran y gweithlu, rwy'n cydnabod rhai o'r heriau hynny yn llwyr. Mae gennym grŵp gorchwyl a gorffen sy'n gweithredu ar hyn o bryd, yn edrych ar sut y gallwn werthfawrogi a chefnogi ein gweithlu yn well ar faterion fel cyflog, sgiliau, cefnogaeth a recriwtio, felly mae hynny'n waith sy'n mynd ochr yn ochr â gwaith y Bil hwn. Roeddwn i eisiau crybwyll hynny, yn gyntaf oll.

O ran carcharorion, yn hollol gywir, ac, yn amlwg, fel Aelod sydd â charchar yn ei hetholaeth hefyd, rwy'n sicr yn deall y materion hynny ynghylch faint o amser sydd gan bobl i allu paratoi, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod pryd mae pobl yn dod allan o'r carchar. Mae yna rai enghreifftiau da gydag efallai y cynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar y gallwn ni ddysgu ohono, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddatblygu hynny, ond rydym ni'n gwybod ein bod eisiau gwneud yn siŵr bod pobl sydd yn y carchar yn cael y cyngor effeithiol hwnnw cyn iddynt adael y carchar ac o ran y nhw'n paratoi ar gyfer eu rhyddhau. Nid yw'n ymwneud â'r dyddiau cyn hynny nag yw? Mae'n hollol allweddol wrth atal digartrefedd. Rydym yn rhannu'r farn honno gyda'n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a'n hawdurdodau lleol, dim ond i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Yn amlwg, ni ddylai neb adael y carchar i gysgu allan ac, unwaith eto, mae cynllunio ymlaen llaw yn bwysig iawn. Felly, ochr yn ochr â'r Bil, mae gweithgor newydd, sy'n cael ei gyd-arwain gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, yn llunio polisi i sicrhau nad yw pobl yn gadael y carchar a dod yn ddigartref, gan fanteisio ar wersi, fel y dywedais, o gynllun rhyddhau carcharorion yn gynnar 2024.

O ran y pwyntiau a godwyd gennych ynglŷn â phobl yn gadael gofal—unwaith eto, mae hwn yn faes rwy'n teimlo'n gryf iawn amdano. Ni ddylem fod yn gweld pobl ifanc yn gadael gofal a dod yn ddigartref. Nid dyna'r system sydd ei hangen arnom, neu sydd ei hangen arnyn nhw, ac nid yw'n iawn mewn unrhyw ffordd bod hynny'n digwydd. Mae gan y rhieni corfforaethol gyfrifoldeb yn hyn hefyd. Felly, unwaith eto, nid oes unrhyw reswm pam y dylai person ifanc sy'n pontio o ofal brofi digartrefedd, ac rwy'n credu bod y ddyletswydd hon yn golygu bod rhaid i awdurdod lleol gymryd y camau rhesymol hynny i wneud yn siŵr bod ganddynt le addas i fyw wrth iddynt bontio o ofal.

Fe wnaethoch chi sôn am y tasglu—unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddiolch i Lee a'r tasglu am yr holl waith maen nhw wedi'i wneud. Rwyf wedi darparu datganiad ysgrifenedig a chyhoeddi'r adroddiad ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig hwnnw. Unwaith eto, fel y dywedais, nid yw'n ymwneud â materion deddfwriaethol yn unig, mae'n ymwneud â sut y gallwn ddileu rhai o'r rhwystrau yn y system, a dyna'r gwaith y mae Lee ac eraill wedi'i wneud yn y maes hwn. Unwaith eto, fel y dywedais, rwy'n bwriadu symud ymlaen cyn gynted â phosibl gyda'r darn hwnnw o waith, ar ôl ei gyhoeddi yn ddiweddar. Mae hynny, yn amlwg, yn mynd ochr yn ochr â hyn i gyd hefyd, oherwydd mae'r cyfan yn gysylltiedig.

15:25

Diolch yn fawr am y Bil, Gweinidog. Gobeithio wrth ei drafod a'i weithredu y bydd modd inni sicrhau bod y broses o dderbyn cymorth mor eglur â phosib. Fe ges i sioc yn ddiweddar o weld person oedd yn yr ysgol gyda fi yn byw ar y stryd yng Nghaerdydd. Mae llawer o'r rhesymau pam mae rhywun yn mynd yn ddigartref yn gymhleth iawn. Rhaid, felly, sicrhau bod y cymorth mor ddealladwy â phosib.

Yn yr un modd, gobeithio y byddwn yn sicrhau y gall ceiswyr sydd ddim yn rhugl yn y Saesneg dderbyn gwybodaeth glir yn eu hiaith hwy. Mae'n wych bod yr ymgynghoriad yma wedi cael ei gyfieithu i iaith arwydd, ond dyw'r memorandwm yn sôn dim byd am anghenion iaith pobl sy'n fyddar neu sydd ddim yn siarad Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf.

Mae ceiswyr sy'n deall y broses yn llawn yn fwy ymwybodol y gallent ddefnyddio hunaneiriolaeth a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain. Dylai cefnogaeth, Ysgrifennydd Cabinet, rymuso, nid dadrymuso, a bydd llawer o hynny'n ymwneud ag iaith a chyfathrebu. Diolch yn fawr.

Diolch, Rhys, a diolch am y pwyntiau rydych chi wedi'u codi. Yn hollol, pan fyddwch chi'n gweld rhywun rydych chi'n ei adnabod, mae'n wir yn gwneud rhywun yn ymwybodol y gall unrhyw un ohonom wynebu hynny ar unrhyw adeg yn ein bywydau—yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Mae yna resymau cymhleth iawn pam y mae pobl yn ddigartref ac yn wynebu digartrefedd. Dyna pam, rwy'n credu, y mae hi'n bwysig iawn bod gennym fwy o ymateb gwasanaeth cyhoeddus i'r mater gwirioneddol hwn, oherwydd rydym eisiau gwneud yn siŵr bod digartrefedd yn brin, yn fyr ac nad yw'n fynych. Hefyd, mae gennym ein nod hirdymor o roi diwedd ar ddigartrefedd yma yng Nghymru.

Rwy'n derbyn eich pwynt yn llwyr, ac rwy'n credu bod cyfathrebu o ran gwasanaethau yn bwysig iawn, onid yw e? Oherwydd mae angen i bobl, unwaith eto, sydd â llawer o anghenion cymhleth gwahanol allu cael mynediad mor rhwydd â phosibl at y gwasanaethau hyn. Weithiau, rydym ni'n datblygu rhywbeth lle mae iaith a system yn creu rhywbeth hollol newydd—mae angen geiriadur cyfan arnoch i'w ddeall. Felly, rwy'n derbyn y pwynt hwnnw.

Dim ond i ddweud, trwy gydol pob cyfnod datblygiad y Bil hwn, rydym wedi ceisio sicrhau cynhwysiant ac ystyriaeth o'r cymunedau hynny sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol. Mae gennym rai enghreifftiau o ran ein cynigion ar gyfer cofrestrau tai hygyrch, sy'n cefnogi argymhellion y tasglu hawliau anabledd, a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Mae gennym gynlluniau atal, cymorth a llety, a fydd yn caniatáu cynllunio cymorth unigol sy'n ystyried amgylchiadau unigol, nodweddion gwarchodedig ac anfantais ehangach. Felly, rwy'n credu bod yna lawer yn hynny.

Byddaf yn cymryd y pwyntiau hynny i'w hystyried hefyd, oherwydd, unwaith eto, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn o ran yr ieithoedd y mae'n rhaid i bobl eu defnyddio i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, ac, er mwyn deall ble rydych chi mewn system, mae mor bwysig ei gael yn eich iaith eich hun, neu i allu ei gael mewn ffordd hygyrch. Felly, diolch am godi'r pwynt yna heddiw.

15:30

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad ar y Bil pwysig iawn hwn y bu disgwyl mawr amdano, sydd wedi'i ddrafftio ar dystiolaeth sy'n seiliedig ar drafodaethau gyda phobl â phrofiad bywyd. Ac fel chi, roedd yn dda iawn cwrdd â Phil a Scotty yn gynharach—dau berson sydd wedi bod trwy'r system ac sydd bellach eisiau helpu pobl i osgoi digartrefedd, ac sydd wedi gweithio gyda chi a'ch rhagflaenydd, Julie James, i sicrhau mai hon yw'r ddeddfwriaeth orau bosibl. Ac wrth wrando arnyn nhw yn siarad yn gynharach heddiw, fe bwysleisiodd i mi gost ddynol digartrefedd a sut mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i'w osgoi. Mae angen cartref ar bawb, ac mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn y cartref hwnnw. Felly, fel eraill sydd eisoes wedi siarad, rwy'n falch o weld gweithredu arfaethedig wedi ei anelu at y rhai sydd fwyaf mewn perygl. Ac un enghraifft o hynny yw pobl ifanc sy'n gadael gofal.

Mae angen atal digartrefedd yn y lle cyntaf, ac mae angen i ni gael y pwyslais o'r newydd hwnnw ar ymateb amlasiantaeth, fel bod pawb, pan fydd yn digwydd, yn dod at ei gilydd i, fel y dywedwch, i wneud yn siŵr ei fod mor fyr â phosibl ac nad yw'n cael ei ailadrodd. Felly, fy nghwestiwn penodol cyntaf i chi, Ysgrifennydd Cabinet, yw: ydych chi'n hyderus y bydd y cynigion hyn yn sicrhau y bydd mwy o bobl sy'n cael eu lletya mewn llety dros dro yn cael eu rhoi mewn tai cymdeithasol parhaol yn gyflymach? Diolch.

Diolch, Lesley. Rwy'n falch, ac rwy'n gwybod eich bod wedi mwynhau cwrdd â Scotty a Phil yn gynharach, cymaint ag y gwnes i, ynghyd â Chadeirydd y pwyllgor hefyd. Maen nhw'n angerddol iawn am hyn, ac rwy'n credu bod y ffaith eu bod wedi bod mor anhygoel wrth rannu eu profiadau personol a'u trawma go iawn yr oeddent yn eu hwynebu yn y system er mwyn helpu pobl eraill o fewn hon, yn hynod ganmoladwy, felly hefyd y bobl eraill sydd wedi cymryd rhan mewn gwirionedd. Ond rwy'n codi fy het iddyn nhw am siarad â ni am hyn i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl eraill fynd trwy, efallai, y system yr aethon nhw drwyddi. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig atgoffa ein hunain mai dyna pam mae'r datblygiad hwn o'r Bil i gyd yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth gan bobl go iawn hefyd, onid yw e? Felly, rwy'n falch iawn o gyflwyno hwn heddiw.

O ran eich pwynt ynglŷn â gadael gofal—a diolch yn fawr eto am sôn am hynny—rydym yn gwybod bod y rhai sy'n gadael gofal yn wynebu risg wirioneddol o ddigartrefedd. Mae'n risg uwch. Mae'r Bil yn cyflwyno'r pecyn hwn o fesurau sydd, gyda'i gilydd, wedi'u cynllunio i roi diwedd ar y defnydd o'r system ddigartrefedd fel llwybr allan o ofal, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod y byddwn ni i gyd eisiau ei weld. Mae'n rhaid i wasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau tai lleol weithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r protocolau hynny ar y cyd ar gyfer pobl ifanc. Ac mae'n rhaid i wasanaethau cymdeithasol sicrhau bod llety addas ar gael i'w feddiannu ar gyfer rhai sy'n gadael gofal unwaith y byddant yn gadael gofal. Ac mae hyn yn cael ei gefnogi ymhellach gan y bydd pobl sy'n gadael gofal sy'n haeddu'r dyletswyddau hyn yn cael eu cydnabod fel grŵp y mae'n rhaid rhoi iddo'r dewis rhesymol ar gyfer tai cymdeithasol. Ac mae'r Bil, felly, yn sicrhau na fydd pobl sy'n gadael gofal yn wynebu digartrefedd, gan liniaru'r effeithiau negyddol sy'n effeithio'n anghymesur ar y grŵp hwnnw.

Rwy'n credu, o ran pobl ifanc a llety dros dro, mae gennym rai mesurau yma yn ymwneud â phobl ifanc 16 a 17 oed. Rwy'n credu bod hynny'n gynnydd go iawn. Rydym yn gwybod bod unrhyw berson ifanc mewn llety dros dro—unwaith eto, yn enwedig, rhai o'r mathau gwaethaf o lety dros dro a welwn—unwaith eto, yn fy marn i, yn un yn ormod, ac mae angen i ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i symud y system i ffwrdd o'r hon sydd ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar y pwynt argyfwng, yn ôl at atal. Ac rwy'n credu bod symud o 56 diwrnod i chwe mis, o ran gallu gweithio gyda phobl ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, yn gam mawr ymlaen.

15:35

Diolch. Pam ydych chi'n dweud yn y datganiad hwn,

'datgelodd y pandemig angen cudd digartrefedd',

pan ddes i o'r sector a thynnu sylw at yr angen digartrefedd hwn am y tro cyntaf yn y Siambr hon yn 2003, pan rybuddiodd Cartrefi i Gymru Gyfan yn 2004 y byddai argyfwng cyflenwad tai yng Nghymru pe na bai camau yn cael eu cymryd, ac wedi hynny galw am weithredu pan ddaeth yr argyfwng hwnnw'n realiti, ac wedi hynny cyfeirio at yr argyfwng tai yr ydym bellach yn ei wynebu? Pam, pan amlygodd adroddiadau pwyllgor olynol, gan ddechrau gydag un a gymerais ran ynddo yn 2005 ar ddigartrefedd ieuenctid yng Nghymru, angen cudd digartrefedd yng Nghymru? Pam nad yw'r gwaith craffu ar ddeddfwriaeth dai flaenorol, y cymerais ran ynddo, yn cael ei gydnabod a oedd yn tynnu sylw at angen cudd digartrefedd yng Nghymru? Nid yw hyn yn newydd. Nid mater newydd yw hwn. Nid mater cyflenwad tai newydd yw hwn, nac yn fater atal neu ymyrraeth gynnar. Rydw i, fy hun, a llawer o Aelodau blaenorol—efallai rhai yn dal yma—wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â thynnu sylw at hyn ers mwy na dau ddegawd. Felly, sut allwch chi ddweud bod y pandemig wedi datgelu hyn?

Yn olaf, rydych chi'n cydnabod y rôl y mae cyflenwad tai yn ei chwarae, ond ni allwch gael chwart i mewn i bot peint. Heb gynnydd enfawr yn y cyflenwad, gan ddatrys y problemau a nodwyd dros y ddau ddegawd diwethaf, rydych chi'n mynd i gael gwahanol bobl yn y cartrefi, ond yr un niferoedd yn aros am y cartrefi hynny. Mae yna lawer o—

—o gynigion cyffrous ar draws y sectorau i fynd i'r afael â hyn. Felly, sut fyddwch chi'n eistedd i lawr o amgylch y bwrdd gyda'r holl sectorau, gan gynnwys y sector preifat, i fanteisio ar rai o'r atebion y maen nhw'n eu cynnig?

Diolch, Mark. Rwy'n deall bod digartrefedd yn rhywbeth y byddai'r Senedd, a'r Cynulliad o'r blaen, wedi trafod dros amser hefyd, a phawb—. A'ch gwaith chi, yr ydych wedi tynnu sylw ato, dros nifer o flynyddoedd—rwy'n cydnabod y gwaith rydych chi wedi'i wneud, fel y dywedwyd, gyda llawer o bobl eraill yma. O ran y pandemig, roedd y mater yn ymwneud â'r dull gweithredu a fabwysiadwyd gennym ni, a gan fy rhagflaenydd, Julie James, sef y dull 'neb yn cael ei adael allan', a sut roedden ni'n gallu cartrefu pobl a oedd yn byw ac yn cysgu allan ar y pryd, a hefyd yn ceisio dod o hyd i—. Wyddoch chi, yr argyfwng costau byw, a'r holl bethau eraill hynny sy'n taro pobl mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ddull newydd o ran mynd i'r afael â digartrefedd yma yng Nghymru. Unwaith eto, nid yw'r Bil hwn wedi'i ddatblygu dros gyfnod byr; mae hwn wedi bod yn rhywbeth sydd wedi dechrau ers 2018. Unwaith eto, fel y dywedais i, mae wedi cael ei ddatblygu gyda phobl sydd â phrofiad bywyd. Mae wedi cael ei ddatblygu gydag arbenigwyr. Mae gennym banel adolygu arbenigol, yr hoffwn i dalu teyrnged iddo am y gwaith mae wedi ei wneud, sy'n cynnwys awdurdodau lleol, mae'n cynnwys arbenigwyr y sector tai, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn—eto, gyda'r trydydd sector. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith maen nhw wedi'i wneud.

Mae'r mater ynglŷn â'r cyflenwad—. Ac nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn wynebu'r her hon o ddigartrefedd. Fel y dywedais i ar y dechrau, mae hyn yn rhywbeth rydym ni'n ei wynebu nid yn unig, eto, yn y DU, ond hefyd ar draws y byd gorllewinol. Mae gennym ni—. O ran y cyflenwad, eto, rwy'n ei weld fel—. Mae'n amlwg bod ganddo rôl i'w chwarae; dydw i ddim yn amau hynny. Mae gennym hefyd rai rhaglenni, fel ein rhaglen Cymorth i Aros, sy'n gwneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl sy'n cael trafferth, efallai gyda'u taliadau morgais, er enghraifft, fynd i lety dros dro. Fe wnes i gwrdd â theulu y byddai hynny wedi digwydd iddynt pe na baent wedi cael mynediad i'r rhaglen Cymorth i Aros. Felly, rydym ni'n ceisio dod o hyd i wahanol ffyrdd o fynd i mewn yn gynharach. A dyna pam mai rhan hanfodol o'r Bil hwn yw canolbwyntio ar atal, mynd â ni i ffwrdd o'r pwynt argyfwng hwnnw, ac edrych ar atal hynny. Yn amlwg, mae cyflenwad yn broblem. Fel y dywedais i, rydym ni'n rhoi'r swm uchaf erioed o arian i'r sector cyflenwi, ac rwy'n gweithio gyda'r sector preifat, yn ogystal ag eraill, i edrych ar fater cyflenwi.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.

Roeddwn i eisiau talu teyrnged i waith End Youth Homelessness Cymru. Maent wedi taflu goleuni go iawn ar yr holl wahanol agweddau ar ddigartrefedd ieuenctid. Un o'r adroddiadau hynny rwy'n cofio ei ddarllen pan gefais fy ethol gyntaf oedd adroddiad o 2019 o'r enw 'Out on the Streets', a oedd wir yn taflu goleuni ar bobl ifanc o fewn y gymuned LHDTC+. Rydym ni'n gwybod, onid ydym, yr effeithir yn anghymesur ar bobl yn y gymuned honno gan ddigartrefedd, a phobl yn y gymuned LHDTC+ sydd fwyaf mewn perygl o ddigartrefedd pan fyddant yn dweud wrth eu teulu a'u ffrindiau am eu rhywioldeb a'u hunaniaeth rhywedd. Felly, tybed a allech chi amlinellu sut y bydd y Bil hwn yn cefnogi'r gymuned LHDTC+, sy'n gorfod ymdrin fwyfwy â homoffobia a thrawsffobia mewn cymdeithas, a sut y bydd yn cyd-fynd â chynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru. Diolch.

15:40

Diolch, Sioned. Diolch. Unwaith eto, hoffwn ddiolch, fel y gwnaethoch chi, i'r grŵp End Youth Homelessness sydd hefyd wedi chwarae rhan, ynghyd ag eraill. Mae hon yn enghraifft wirioneddol o'r cydweithio hwnnw ar draws y gwasanaethau a'r sectorau hefyd.

Mae'r dystiolaeth yn glir, unwaith eto, bod ymyrraeth gynnar ac ymarfer integredig yn effeithiol wrth atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cymdeithasol a thai nodi sut y byddan nhw'n gweithio gyda'i gilydd i atal digartrefedd, a bydd hyn yn creu eglurder i weithwyr proffesiynol ac yn sicrhau ymateb cydgysylltiedig, effeithlon i bobl ifanc.

O ran y pwyntiau rydych chi'n eu gwneud, rydyn ni'n gwybod nad yw'r rhai sy'n profi digartrefedd yn grŵp unffurf. Bydd eu cefndiroedd a'u profiad yn amlwg yn amrywio, ond rydyn ni'n gwybod y gall y risg o ddigartrefedd gael ei gwaethygu gan y ffactorau allanol ehangach hynny. Rydyn ni'n gwybod bod rhai ohonyn nhw'n cael effaith anghymesur ar rai grwpiau, fel y dywedoch.

O ran y gwaith sy'n ymwneud â phrofion cysylltiadau lleol—ac mae rhywfaint o waith arall y gallwn ni ei wneud o ran grwpiau eraill—fel y dywedais i, bydd ffyrdd y byddwn ni'n gallu datblygu rhywfaint o'r gwaith hwnnw wrth i ni symud ymlaen, ond bydd y ddyletswydd 'gofyn a gweithredu' yn rhoi manteision penodol i'r rhai sy'n profi digartrefedd ochr yn ochr ag anghenion cymorth eraill, a ddylai dderbyn y gefnogaeth gynharach honno ac ymyrraeth gynharach.

Felly, mae llawer mwy yn y fan yna, rwy'n credu, o ran gwneud yn siŵr ein bod ni'n cefnogi pobl sy'n wynebu mwy o risg nag eraill. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r holl bobl hynny sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio'r Bil hwn. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gallu gweld a chlywed eu lleisiau trwy'r Bil hwn.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

Yr eitem nesaf fydd datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Lynne Neagle.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi heddiw am y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae'r fenter drawsnewidiol hon wedi bod yn ail-lunio'r dirwedd addysg ledled Cymru ers 2014, ac rwy'n falch iawn o rannu ein cynnydd a'n gweledigaeth.

Wedi'i lansio'n wreiddiol fel rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, cafodd y fenter hon ei hailenwi ym mis Ionawr 2022 i adlewyrchu ein hymrwymiad dyfnach i gynaliadwyedd a chymuned. Gan weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ColegauCymru a chyfarwyddwyr esgobaethol, rydyn ni wedi creu amgylcheddau dysgu modern, cynaliadwy â chyfarpar digidol sydd o fudd i ddysgwyr o bob oedran.

Roedd cam cyntaf y buddsoddiad, band A, yn cynrychioli buddsoddiad o £1.4 biliwn dros bum mlynedd, a ddaeth i ben yn 2018-19, gan gyflawni 204 o brosiectau, gan gynnwys gwaith adnewyddu mawr ac ysgolion newydd. Dechreuodd Band B ym mis Ebrill 2019, gan ehangu i gynnwys colegau addysg bellach, gyda £2.2 biliwn wedi'i fuddsoddi ar draws 131 o brosiectau cyfalaf mawr.

Rwy'n falch o adrodd, gyda'r gyllideb gyfalaf o £371 miliwn a gymeradwywyd eleni, ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r ymrwymiad a wnaethom yn y rhaglen lywodraethu i fuddsoddi £1.5 biliwn yn ystod tymor presennol y Senedd. Mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol sy'n dangos effeithiolrwydd ein dull cydweithredol.

Yn ogystal â chyfalaf traddodiadol, mae'r rhaglen yn darparu ysgolion a cholegau newydd yn llwyddiannus trwy'r model buddsoddi cydfuddiannol addysg refeniw. Mae hyn yn gweld cyfalaf cyfwerth â £500 miliwn arall yn cael ei fuddsoddiad yn ein hystâd addysg. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol wedi darparu tair ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf a champws dysgu tair i 16 oed ym Mynydd Isa, sir y Fflint, a bydd yn cyflawni prosiect dau gampws Coleg Caerdydd a'r Fro yn fuan, a sicrhaodd gwblhau'r agweddau ariannol yn ddiweddar. At ei gilydd, mae'r prosiectau hyn yn cynrychioli cyfalaf cyfwerth â £237 miliwn. 

Mae llwyddiant y rhaglen hon yn ymestyn ymhell y tu hwnt i frics a morter. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynrychioli ein hymrwymiad i sicrhau cyfle cyfartal i bob person ifanc yng Nghymru gyflawni'r safonau addysgol uchaf. Pan ydyn ni'n cyfuno addysgu a dysgu gwych gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf, rydyn ni'n rhoi'r gorau y gall addysg ei gynnig i'n plant a'n pobl ifanc. Mae wedi bod yn fraint i mi ymweld â rhai o'r ysgolion a'r colegau hyn, a siarad yn uniongyrchol â myfyrwyr am eu profiadau yn yr amgylcheddau trawsnewidiol hyn. Mae eu brwdfrydedd yn ategu fy nghred ym mhŵer mannau dysgu sydd wedi'u cynllunio'n dda.

Mae ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd wedi'i wreiddio yn y rhaglen hon. Ym mis Mawrth 2022, fe wnaethon ni ddathlu agor Ysgol Gynradd South Point, sef ysgol carbon sero net gyntaf Cymru. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, ers mis Ionawr 2022, mae'n rhaid i bob adeilad neu waith adnewyddu newydd mawr gyrraedd ein targedau datgarboneiddio uchelgeisiol. Rwy'n arbennig o gyffrous am Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym Merthyr Tudful, sef y prosiect adnewyddu mawr cyntaf i gyflawni carbon sero net wrth weithredu pan gaiff ei gwblhau. Trwy gadw elfennau allweddol o'r adeilad, rydyn ni'n lleihau carbon ymgorfforedig, a bydd yr ysgol hyd yn oed yn cyflenwi ynni gwyrdd dros ben i Ysbyty'r Tywysog Charles.

Yn ogystal, bydd £45 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi tair ysgol gynradd arloesol, gynaliadwy drwy'r her ysgolion cynaliadwy. Wedi'u lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot, Gwynedd a Rhondda Cynon Taf, bydd y prosiectau hyn yn gwthio ffiniau cynaliadwyedd ac yn darparu astudiaethau achos gwerthfawr ar gyfer y rhaglen ehangach. Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i gynllunio datgarboneiddio eu hystadau addysg, rydyn ni wedi caffael yr arolwg  arloesol elfennol o gyflwr adeiladau a charbon. Bydd hyn yn creu cronfa ddata o wybodaeth am gyflwr adeiladau ac ynni, gan roi map llwybr carbon sero net ar gyfer ysgolion a cholegau.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydyn ni eisoes wedi buddsoddi £60 miliwn ar draws 800 o brosiectau drwy ein grant cyfalaf ADY, gan gynyddu mynediad at gyfleoedd addysgol i blant a phobl ifanc ag ADY. Fe wnaeth fy ymweliad ag Ysgol Craig y Don yng Nghonwy ym mis Mawrth greu argraff arbennig arnaf, pan wnes i allu cyhoeddi £20 miliwn ychwanegol i ysgolion o dan y grant cyfalaf ADY yn y flwyddyn ariannol hon. Ar ben hynny, bydd y rhaglen graidd yn buddsoddi £750 miliwn dros y naw mlynedd nesaf i greu cyfleusterau arbenigol newydd ar gyfer ysgolion a cholegau.

Mae ein ffocws ar y gymuned yn parhau i fod yn gryf, gydag £20 miliwn arall yn cael ei ddyrannu yn y flwyddyn ariannol hon i'n menter ysgolion bro. Dros y tair blynedd ariannol diwethaf, mae £58 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn 128 o brosiectau sy'n gwella ymgysylltu cymunedol ac yn hyrwyddo dysgu gydol oes. Mae'r prosiectau hyn yn aml yn cynnwys darpariaethau ar gyfer addysg a hyfforddiant oedolion, gan wella gweithgarwch datblygu sgiliau a rhagolygon gwaith. Mae'r buddsoddiad wedi creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd profiad gwaith lleol, yn enwedig yn y sector adeiladu, sy'n cyflogi llawer o fentrau bach a chanolig yng Nghymru. 

Wrth edrych tua'r dyfodol, rwy'n falch o gadarnhau bod cam nesaf y rhaglen yn trosglwyddo i raglen dreigl naw mlynedd o brosiectau blaenoriaeth. Mae'r rhaglen dreigl newydd hon yn cynnwys llif o 316 o brosiectau, gwerth £5.4 biliwn ar gostau heddiw. Mae'r weledigaeth uchelgeisiol hon ond yn bosibl trwy bartneriaeth ag awdurdodau lleol, colegau ac esgobaethau. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n adeiladu nid yn unig ysgolion a cholegau, ond cymunedau cynaliadwy a fydd yn meithrin cenedlaethau o ddysgwyr yng Nghymru. Diolch yn fawr.

15:50

Diolch yn fawr iawn am y datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet. Ysgrifennydd Cabinet, cafodd buddsoddiad sylweddol ei gyhoeddi ar gyfer y rhaglen hon ychydig flynyddoedd yn ôl gan eich rhagflaenydd, fel rhan o gam nesaf y cynllun hwn o dan y rhaglen lywodraethu. Mae fy mhlaid wedi croesawu'r ymrwymiad yn flaenorol, ond dau Brif Weinidog yn ddiweddarach, ydyn ni gweld elw ar y buddsoddiad hwn o ran gwelliant mewn addysg? Y tro diwethaf, fe wnaethon ni glywed am yr angen am raglen fwy hyblyg a bod yn rhaid dysgu gwersi gan fand A. Felly, a fyddech cystal ag ymhelaethu heddiw ar y gwersi sydd wedi'u dysgu a nodi'r camau sydd wedi'u cymryd yn eu sgil? Cawson ni wybod eisoes hefyd, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n dyfynnu,

'Mae trawsnewidiad yr ysgol yn parhau i fod yn ganlyniad hanfodol i'n buddsoddiad.... Mae adeiladau sydd wedi eu dylunio'n dda ac amgylchoedd dymunol yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi staff a dysgwyr'.

Byddwn ni i gyd yn cytuno â nodau cyffredinol hyn, Ysgrifennydd Cabinet. Fodd bynnag, allwn ni ddim gwadu bod gennym ni brinder athrawon yma yng Nghymru. Mae'n beth da creu'r adeiladau newydd hyn, ond mae'n hanfodol bod gennym ni athrawon a staff i boblogi'r ysgolion newydd hyn yn y dyfodol. Felly, ydych chi'n credu y gallai'r £1.5 biliwn hwnnw yn ystod y Senedd gael ei wario'n well ar y bobl sy'n bwysig i addysg plant?

Ysgrifennydd Cabinet, mae sicrhau bod yna amgylchedd da ar gyfer dysgu yn ganmoladwy, ond rhybuddiodd Estyn fis diwethaf am y ffaith bod ymddygiad yn dirywio yn ein hysgolion uwchradd. Gyda gwaharddiadau cyfnod penodol o bum diwrnod neu lai bron yn dyblu o fewn pedair blynedd i bron 23,000 yn 2022-23 yn unig, a chydag athrawon yn adrodd am fygythiadau o drais, methiant i gwblhau gwaith, fepio a chamddefnyddio ffônau symudol, mae adeilad newydd braf yn iawn, ond mae athrawon a phlant yn dioddef oherwydd ymddygiad gwael. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, ar wahân i'ch uwchgynhadledd ymddygiad rydych chi'n gwneud llawer i'w hyrwyddo, pa gamau clir ydych chi'n mynd i'w cymryd i ymdrin ag ymddygiad gwael mewn ysgolion?

Ysgrifennydd Cabinet, yn y datganiad y prynhawn yma, rydych chi'n sôn am ymrwymiad y Llywodraeth i ymdrin â, ac rwy'n dyfynnu, 'yr argyfwng hinsawdd'. Enghraifft o hyn, yr ydych wedi cyfeirio ati y prynhawn yma, yw Ysgol Gynradd South Point, yr ysgol carbon sero net gyntaf yng Nghymru. Ysgrifennydd Cabinet, ar adeg pan fo'n gwasanaeth iechyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi, pan fo'n systemau trafnidiaeth yn dirywio ac nad yw systemau addysg yn cyflawni'r canlyniadau y dylen nhw fod yn eu cyflawni, ydych chi'n credu y bydd pobl Cymru yn dal i groesawu'r cyhoeddiad hwn pan ydych chi'n addo gwerth £45 miliwn ychwanegol o gyllid i gefnogi ysgolion cynaliadwy? Yn y datganiad y prynhawn yma, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn brolio, ers 2002,

'mae'n rhaid i bob adeilad neu waith adnewyddu newydd mawr gyrraedd ein targedau datgarboneiddio uchelgeisiol.'  

Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ofyn i chi: a yw'r gofyniad hwn am sero net yn golygu mwy o gost i'r rhaglen? Os felly, faint?

Wrth symud ymlaen, Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi wedi cadarnhau y bydd 316 o brosiectau yn cael eu cyflawni dros y naw mlynedd nesaf, sy'n werth £5.4 biliwn ar gostau heddiw. O ystyried arwyddocâd swm mor fawr, allwch chi daflu rhywfaint o oleuni ar rai o'r prosiectau newydd hyn y prynhawn yma, yma yn y Siambr? Rwy'n gwerthfawrogi efallai nad ydyn nhw gyda chi wrth law, felly, os ddim, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech chi eu rhannu gyda ni ar ôl i'r sesiwn hon ddod i ben.

Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n gwerthfawrogi efallai fy mod i'n swnio'n feirniadol iawn yma heddiw, ond mae yna rai darnau rwyf wir yn eu croesawu. Oes, mae yna rai darnau rwyf yn eu croesawu yn eich datganiad, gan gynnwys y gefnogaeth i'r rhai sydd ag ADY a'r mentrau sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rydych chi'n dweud bod hyn wedi creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd profiad gwaith lleol, a byddwn i wir yn gwerthfawrogi rhai ffigurau sy'n cefnogi'r honiad hwn. Felly, a wnewch chi rannu'r rheini gyda ni hefyd ar ôl i'r sesiwn ddod i ben? Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Wel, diolch, Natasha. Rwy'n siomedig, mewn gwirionedd, gan eich ymagwedd y prynhawn yma a'ch gallu i ddeall yr hyn oedd ar yr agenda, oherwydd nid yw llawer o'r materion rydych chi wedi'u codi, er eu bod yn gysylltiedig ag adeiladau ysgolion, yn ymwneud â phrif bwnc ein trafodaeth heddiw.

Fel y gwnaethoch chi ei nodi, soniodd fy rhagflaenydd Jeremy Miles, pan wnaeth ddatganiad ar hyn ddiwethaf, y bydden ni'n symud i raglen dreigl naw mlynedd. Y rheswm am hynny oedd sicrhau bod y rhaglen yn fwy hyblyg a deinamig. Roedd cael rhaglen benodol am nifer o flynyddoedd yn creu rhai canlyniadau anfwriadol. Roedd rhai o'r enghreifftiau o hyn yn cynnwys rhwymo buddsoddiad cyfalaf tra bod ffactorau allanol fel materion ymgynghori, caffael tir, caniatâd cynllunio, ac ati, yn mynd rhagddynt, ac arweiniodd hynny at rywfaint o oedi o ran cyflawni prosiectau. Felly, rydyn ni'n gadarn ein barn y gallwn ni fod yn fwy deinamig ac yn fwy hyblyg trwy gael rhaglen dreigl—ac mae yna gyfnodau adolygu wedi'u cynnwys yn y rhaglen dreigl honno.

Fe wnaethoch chi godi'r mater o safonau ysgolion, ac fel y gwyddoch chi, mae codi safonau ysgolion yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rwy'n credu bod cael adeiladau o'r radd flaenaf yn rhan hollol allweddol o godi safonau. I mi, mae'n anfon neges wirioneddol bwerus i'r plant a'r bobl ifanc, yn ogystal â'r staff mewn ysgolion, ein bod ni'n eu gwerthfawrogi ac yn eu parchu nhw. Mae hynny'n bwysig iawn. Mae'n galluogi ysgolion i drefnu eu dysgu mewn ffyrdd mwy hyblyg a phriodol. Un o'r ysgolion yr oeddwn i ynddi ychydig yn ôl oedd Ysgol Basaleg, lle maen nhw wedi defnyddio eu cyfleusterau newydd rydyn ni wedi'u hariannu'n rhannol i'w gwneud yn gydnaws â meysydd dysgu a phrofiad newydd y cwricwlwm, felly mae cysylltiad uniongyrchol rhwng adeiladau'r ysgol ac ansawdd y dysgu. Fe wnaethoch chi gyfeirio at recriwtio a chadw athrawon. Rwy'n credu bod gallu gweithio mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf yn rhan allweddol o gadw, parchu a gwerthfawrogi'r staff yn ein hysgolion. Byddwn i'n eich annog i fynd i weld rhai o'r adeiladau newydd hyn, Natasha, oherwydd maen nhw'n drawiadol iawn. Byddwn i wedi bod wrth fy modd yn mynd i'r ysgol yn rhai o'r adeiladau hynny fy hun.

Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at ymddygiad a gwaharddiadau. Wel, mae cael adeiladau o ansawdd uchel yn rhan allweddol o reoli ymddygiad problematig. Mae gan yr ysgol cyfrwng Cymraeg yr es i i'w hagor yr wythnos diwethaf yn Rhondda Cynon Taf neuadd enfawr i lawr canol yr ysgol, fel bod y plant yn gallu dod allan o'u hystafelloedd dosbarth. Gallan nhw weithio mewn ardaloedd bach. Mae hynny'n rhoi cyfle i gefnogi plant sydd efallai'n cael trafferth i hunanreoleiddio, y mae angen ymyriadau dysgu ychwanegol arnyn nhw. Mae cael y gofod hwnnw yn arbennig o bwysig mewn ysgolion arbennig, lle rydyn ni'n gwybod y gall ymddygiad fod yn anodd iawn i'w reoli weithiau. Felly, mae cael yr adeiladau hyn sydd o'r radd flaenaf yn rhan allweddol o ymdrin â'r heriau eraill rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n eu hwynebu mewn ysgolion.

Rwy'n arbennig o siomedig i glywed eich sylwadau ar sero net. Mae cost i bob un ohonon ni os nad ydyn ni'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth hon wedi cynnwys ymrwymiad i sero net yn y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae ein pobl ifanc yn angerddol iawn amdano hefyd, felly rwy'n credu ei bod yn anffodus, mewn gwirionedd, eich bod chi wedi mynd ar hyd y llwybr hwn o wadu newid hinsawdd, sy'n bwynt isel newydd i'r Ceidwadwyr Cymreig, pan ydyn ni'n siarad am rywbeth mor bwysig â'r argyfwng hinsawdd a natur.

Rwyf wedi cyfeirio hefyd at y buddsoddiad yn y rhaglen dreigl naw mlynedd. Mae'r awdurdodau lleol i gyd wedi cyflwyno eu hachosion amlinellol strategol. Yn amlwg, mae gennym ni geisiadau'r colegau yn rhan o hynny hefyd. Yr hyn rydych chi'n gofyn amdano yn y fan yna yw llawer o fanylion, ac yn amlwg does gen i ddim y manylion hynny wrth law, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, heddiw. O ran y swyddi a'r cyfleoedd i fusnesau lleol, mae hynny'n rhan allweddol o'r rhaglen hon. Mae awdurdodau lleol a cholegau yn gweithio i gyflwyno'r rhaglen. Dydyn ni ddim yn casglu'r data ar nifer y swyddi, hyd y gwn i, ond gallaf eich sicrhau bod cefnogi ein heconomi yn rhan allweddol o'r rhaglen.

15:55

Wel, rydyn ni gyd yn gwybod bod plant yn dysgu orau mewn amgylcheddau sy'n ddiogel, yn ysbrydoledig ac yn addas i'r diben. Gall ysgol fodern, wedi'i chynnal yn dda drawsnewid nid yn unig canlyniadau, ond bywydau. Allwn ni ddim disgwyl dysgu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn adeiladau'r ugeinfed ganrif. Felly, mae buddsoddi mewn seilwaith yn fuddsoddiad yn nyfodol ein plant, ac mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi ymdrechion i adeiladu cyfleusterau ysgol o'r safon uchaf ledled Cymru.

Fodd bynnag, yn anffodus, er gwaethaf y newyddion da i'r rhai sy'n addysgu ac yn dysgu mewn ysgolion newydd sbon, mae llai o newyddion da i'r rhai sy'n sownd mewn ystafelloedd dosbarth ac adeiladau ysgol sydd angen eu disodli a'u hatgyweirio. Un peth na chafodd ei grybwyll yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, oedd 'cynnal a chadw', sy'n sylfaenol i gynnal adeiladau ysgol o ansawdd uchel. Fel y datgelodd Plaid Cymru yn gynharach eleni, mae cyfanswm yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw ar yr ystad adeiladau ysgolion yng Nghymru yn £0.5 biliwn o leiaf—ie, £0.5 biliwn. Dyna'r bil sy'n wynebu ein hysgolion a'n hawdurdodau lleol ar ôl 25 mlynedd o esgeulustod Llafur. Mae cyfanswm yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw brys yn £85 miliwn o leiaf. Mae angen gwaith cynnal a chadw brys ar o leiaf 320 o ysgolion yng Nghymru, sef 22 y cant o'r holl ysgolion yng Nghymru. 

Yn y flwyddyn ariannol flaenorol, ymrwymodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn ysgolion a cholegau, ond byddai hynny ond yn ddigon i dalu am tua 10 y cant o'r ôl-groniad cynnal a chadw gwirioneddol. Felly, fy nghwestiwn i yw hyn: a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ailddyrannu canran fach o'r arian a gyhoeddwyd ar gyfer y naw mlynedd nesaf ar gyfer adeiladau newydd i gynnal a chadw adeiladau presennol er mwyn helpu i leihau cyfanswm yr ôl-groniad cynnal a chadw, a chlirio'r ôl-groniad brys o bosibl?

Mewn ymateb i gwestiynau ar y pwnc hwn yn gynharach eleni, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae’r wybodaeth am atgyweiriadau, yn amlwg, yn cael ei chadw ar lefel awdurdod lleol.'

Ac rwy'n parhau drwy fy ngeiriau fy hun ac o ohebiaeth â rhai cynghorau: 'rydyn ni’n ymwybodol y dylen nhw fod yn cynnal arolwg blynyddol o gyflwr adeiladau ysgolion'. Fodd bynnag, gall ymchwil gan Blaid Cymru ddangos nad yw'r arolygon blynyddol hyn wedi cael eu cynnal ers rhai blynyddoedd, gyda rhai'n dyddio'n ôl i 2019. Felly, fy ail gwestiwn yw hyn: sut mae Llywodraeth Cymru yn gwybod a yw'r arian cyfyngedig maen nhw wedi'i gyhoeddi ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn mynd i'r lle cywir, os nad oes gan bob awdurdod lleol arolygon cyfredol, gyda rhai yn defnyddio data sy'n mynd yn ôl mor bell â chwe blynedd?

Er bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu arolwg o gyflwr datgarboneiddio ystadau addysg, roedd yr arolwg hwn, yn ôl ei diffiniad ei hun, yn casglu gwybodaeth lefel uchel ac nid oedd yn mynd i unrhyw fanylion am orffeniadau mewn adeiladau. Mae hyn yn cyferbynnu â Llywodraeth flaenorol y DU, a gynhaliodd arolwg manwl o gyflwr adeiladau ysgolion yn Lloegr, a gyhoeddwyd yn 2021. Felly, fy nghwestiwn olaf yw hyn: a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen arolwg cenedlaethol o gyflwr ysgolion i asesu gofynion cynnal a chadw yr ystad ysgolion yng Nghymru yn briodol, er mwyn sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyrannu'n briodol i'r lle mae ei angen fwyaf? Diolch yn fawr iawn.

16:00

A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am ei gwestiynau, ac am ei gydnabyddiaeth bod buddsoddi mewn seilwaith addysg yn fuddsoddiad yn nyfodol ein plant? Rwy'n cytuno gant y cant ag ef ar hynny. Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi codi pryderon o'r blaen am yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw. Yn amlwg, mae rhywfaint o'r buddsoddiad rydyn ni'n ei wneud drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn cyfrannu at hynny. Mae ymdrin â'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw mewn ysgolion wedi bod yn flaenoriaeth i'r rhaglen ers 2014 trwy ei hamcanion buddsoddi. Rydyn ni wedi ailadeiladu neu adnewyddu 20 y cant o'r ystad ysgolion dros y 10 mlynedd diwethaf, sydd wedi mynd tipyn o'r ffordd i leihau nifer yr ysgolion yng Nghymru sydd mewn cyflwr gwael drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Yn ogystal â hynny, yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi buddsoddi £286 miliwn mewn cyllid cynnal a chadw cyfalaf ledled ysgolion a cholegau yng Nghymru, ac mae £114 miliwn arall o gyllid cynnal a chadw refeniw wedi'i ddarparu i ysgolion ymdrin ag eitemau cynnal a chadw llai na fyddai'n cael eu hystyried yn wariant cyfalaf. Fe wnaethon ni ddarparu nodyn yn ddiweddar i'r pwyllgor plant ar hynny. Rydych chi wedi cyfeirio, Cefin, at y cyllid a gyhoeddwyd y llynedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw cyfalaf; hyd yn hyn eleni, rwyf eisoes wedi cymeradwyo £30 miliwn o gyllid cynnal a chadw cyfalaf, ond fe fyddaf yn rhyddhau cyllid pellach os gallwn ni, os bydd y gyllideb yn caniatáu. Dyna'r hyn yr ydyn ni wedi bod yn dueddol o'i wneud pan fydd rhywfaint o gyllid wedi dod ar gael trwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn glir iawn hefyd ein bod ni'n darparu dyraniad cyfalaf i awdurdodau lleol trwy eu dyraniad grant cynnal refeniw, ac awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol sy'n gyfrifol am reoli'r ôl-groniad ac asesu cyflwr asedau adeiladau ysgolion yn unol ag arfer da ym maes rheoli ystadau. Fel yr ydych wedi'i nodi, yr awdurdodau lleol sydd â'r wybodaeth am gostau ôl-groniadau. Doeddwn i ddim yn ymwybodol nad yw rhai awdurdodau lleol wedi cynnal arolwg ers rhai blynyddoedd, ac os hoffech chi rannu'r wybodaeth honno gyda mi, yn sicr, fe wnaf i edrych ar hynny.

Fy nealltwriaeth i yw eu bod nhw'n rhoi sgôr cyflwr blynyddol i ni o'r ysgolion, yr ydyn ni'n ei monitro, ac yna rydyn ni'n trafod gydag awdurdodau lleol. Felly, rwy'n credu bod gan awdurdodau lleol yr wybodaeth leol honno. Mae'n ddyletswydd arnyn nhw i ddarparu'r wybodaeth honno, yn hytrach nag ein bod ni'n gwneud arolwg cenedlaethol. Ond mae'n bwysig bod gennym ni ddarlun cenedlaethol o'r hyn sy'n digwydd ar lefel awdurdodau lleol a'n bod ni'n cael y trafodaethau hynny gydag awdurdodau lleol. Rwy'n cwrdd â Chaerdydd cyn bo hir i drafod rhai o'r heriau yn y ddinas yng Nghaerdydd. Ond os hoffech chi rannu'r ohebiaeth honno gyda mi, yna fe af fi ar drywydd hynny.

16:05

Hoffwn eich llongyfarch chi a'ch rhagflaenydd ar y llwyddiant wrth gyflawni ymrwymiad maniffesto Llafur i fuddsoddi £1.5 biliwn yn ein hadeiladau ysgol. Mae'n amlwg ein bod ni'n mynd i gyflawni hynny o fewn y 10 mis nesaf. Rwy'n edrych ymlaen at weld y ddau gampws newydd hyn ar gyfer Coleg Caerdydd a'r Fro ym Mro Morgannwg a fydd yn cael eu cyflawni drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol hwn.

Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod ni, erbyn hyn, yn canolbwyntio ar gymunedau dysgu cynaliadwy drwy adnewyddu hefyd, nid dim ond adeiladau newydd. Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am yr ymateb y gwnaethoch chi ei roi i mi i'r ddadl fer ychydig wythnosau yn ôl am yr heriau sy'n wynebu'r ysgolion sgaffaldwaith Fictoraidd yn fy etholaeth i. Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn y Trallwng a Bangor yn mynd i fod yn ddefnyddiol iawn wrth nodi sut allwn ni ymdrin â'r problemau hyn yng Nghaerdydd.

Tybed a allwch chi ddweud ychydig mwy am yr arolwg arloesol elfennol o gyflwr adeiladau a charbon rydych chi wedi'i gaffael, oherwydd gallai hyn helpu awdurdodau lleol i gyflymu eu gwybodaeth am sut rydyn ni'n mynd i ddatgarboneiddio ein holl adeiladau cyhoeddus, erbyn 2030 yn ôl pob sôn.

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei geiriau caredig am y rhaglen gyfalaf, yr ydyn ni i gyd, rwy'n credu, yn falch iawn ohoni fel Aelodau Llafur, ac i gydnabod ei hymrwymiad i wella adeiladau ysgolion yn ei hetholaeth ei hun? Rwy'n gwybod eich bod chi'n angerddol dros sero net, felly diolch am y croeso ar gyfer hynny. Rwy'n gwybod eich bod chi'n gyfarwydd â'r enghraifft a roddais i o ysgol Pen y Dre ym Merthyr, lle mae honno'n cael ei hadnewyddu fel ysgol carbon sero net yn llwyddiannus iawn. Mae costau sero net yn cael eu cynnwys nawr yn y ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno i ni gan awdurdodau lleol a cholegau. Mae honno'n rhan bwysig o'r rhaglen nawr.

O ran yr arolwg elfennol o gyflwr adeiladau a charbon, er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i weithio tuag at yr ymrwymiad i sicrhau carbon sero net yn y sector cyhoeddus erbyn 2030, mae'r tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi caffael arolwg elfennol o gyflwr adeiladau a charbon ledled yr ystad, ac mae hynny wedi creu dull arloesol sy'n blaenoriaethu mesurau datgarboneiddio mewn ffordd sy'n manteisio i'r eithaf ar yr oes sydd gan elfennau o'r adeiladau presennol ar ôl. Felly, er enghraifft, fydden ni ddim yn argymell cael gwared ar do gwastad i uwchraddio'r inswleiddio os oes gan y to 20 mlynedd o oes ar ôl o hyd. Mae'n golygu bod yr argymhellion yn y map llwybr yn gynaliadwy, yn lleihau gwastraff cymaint â phosibl ac yn darparu atebion gwerth am arian i awdurdodau lleol a cholegau. Cafodd y rhaglen ei chwblhau ym mis Mawrth 2025, ac mae gan bob ysgol a choleg a ariennir gan y wladwriaeth arolwg elfennol o gyflwr adeiladau a charbon nawr, ynghyd â map llwybr i garbon sero net.

16:10

Diolch, Llywydd. Fel cyn-lywodraethwr ysgol a chynghorydd sir, rwy'n cofio edrych ar yr ôl-groniad o waith atgyweirio a chynnal a chadw a meddwl, 'Sut ar y ddaear ydyn ni byth yn mynd i fynd i'r afael â hyn?' Roedd e mor fawr. Rwy'n cofio'r cyfarwyddwr addysg ar y pryd yn dweud, 'Mae rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar y gweill y bydd Llywodraeth Cymru yn ei hariannu.' Ac rwyf wedi cael fy synnu gan y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud. Ym mron pob cymuned ledled Cymru, fe welwch chi ysgolion gwych, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac ysgolion cymunedol ar gyfer dysgu. Dydyn ni ddim wedi cael y rhaglen hon yn Lloegr o dan y Torïaid. Mae gennym ni adeiladau ysgol yn llawn concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, onid oes, yn adfeilio.

Fe ymwelais i ag ysgol Mynydd Isa yn sir y Fflint yn ddiweddar, ac roedd yn anhygoel. Mae'n disodli pensaernïaeth goncrit lem sy'n adfeilio. Mae'n garbon niwtral ac mae ganddi sgôr BREEAM ardderchog. Mae yna baneli solar helaeth ar draws y to; mae wedi'i orchuddio â nhw. Mae carbon corfforedig yn yr adeilad hefyd, sy'n defnyddio dewis amgen i sment, draenio trefol, elfennau bioamrywiaeth, sy'n wych i mi. Mae waliau trwchus wedi'u hinswleiddio—rhai trwchus iawn—felly mae'n rhaid na fydd ganddyn nhw unrhyw filiau ynni yn y dyfodol. Roedd 40 o gontractau yn rhan o'r gwaith adeiladu hwnnw i rannu'r buddsoddiad. Hoffwn ofyn i chi, fodd bynnag, sut y bydd y bobl ifanc hynny yn yr ysgolion hynny yn dysgu o'u hamgylchedd anhygoel—nid dim ond eu cymryd yn ganiataol—am y peirianneg, yr adeiladwaith, y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio, yr effaith ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth eu hamgylchedd fel rhan o'r rhaglen wych hon o fuddsoddi? Diolch.

Diolch, Carolyn, am y geiriau cadarnhaol hynny ac am dynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr ar y mater hwn. Gallwch chi weld hynny'n glir iawn trwy'r sefyllfa gyda choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, lle mai dim ond mewn pum ysgol yr oedd gennym goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth yng Nghymru, y gwnaethon ni ddelio ag ef yn gyflym iawn hefyd, felly darlun gwahanol iawn i'r un dros y ffin. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi llwyddo i gael y cyfle i fynd i ysgol Mynydd Isa, sy'n un o ysgolion ein model buddsoddi cydfuddiannol, ysgol 3-16 oed. Roedd hynny'n fuddsoddiad o £64.7 miliwn o dan y rhaglen, ac roedd buddsoddiad cyfalaf ychwanegol ar gyfer dodrefn ac offer TGCh hefyd.

Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch sut mae'r bobl ifanc yn dysgu trwy'r adeiladau newydd hyn. Er nad oes gen i unrhyw fanylion am yr hyn sydd wedi digwydd o ran hynny ym Mynydd Isa, rwy'n gwybod, pan es i i ysgol Pen y Dre, fod y bobl ifanc yno yn gweithio gyda'r contractwyr. Mae'n ymddangos bod pob un o'r contractwyr rwyf wedi'u gweld ar waith yn ymgysylltu'n dda â'r bobl ifanc yn yr ysgolion. Roedden nhw'n gweithio gyda'r bobl ifanc i'w helpu i ddysgu am gynaliadwyedd a'r holl dechnoleg a oedd yn cael ei chyflwyno yn yr ysgol.

Fel y gwyddoch chi, mae ein cwricwlwm yn cynnwys dysgu am gynaliadwyedd a sero net, felly mae cyfle pwysig iawn yma. Mae llais y dysgwr yn rhan bwysig o'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae yna lawer o enghreifftiau da lle mae contractwyr wedi gweithio gyda phobl ifanc i gynnwys eu safbwyntiau yn nyluniad yr adeilad hefyd, a phartneriaethau cadarnhaol iawn rhwng contractwyr, ysgolion, awdurdodau lleol a phobl ifanc.

5. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Blaenoriaethau Diwylliant

Eitem 5 sydd nesaf. Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol sydd yn cyflwyno'r blaenoriaethau diwylliant. Felly y Gweinidog, Jack Sargeant, i wneud ei ddatganiad.

16:15

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o gyhoeddi'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' heddiw, ac yn falch iawn o gyflawni'r ymrwymiad hwn yn y rhaglen lywodraethu. Hoffwn ddiolch i gyd-Aelodau sydd wedi bod yn rhan o'r daith ddatblygu, gan gynnwys cyn-Weinidogion ac Aelodau dynodedig Plaid Cymru, ond yn bwysicaf oll hoffwn ddiolch i randdeiliaid y sector am rannu eu mewnwelediadau a'u gweledigaeth ac am eu cefnogaeth gadarnhaol i'r gwaith hwn.

Llywydd, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi yn y gyfraith bod yn rhaid i les diwylliannol fod yn ystyriaeth ar gyfer pob maes polisi a phob corff cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r blaenoriaethau newydd yn darparu fframwaith hanfodol bwysig ar gyfer symud ymlaen â hyn. Tra bod y blaenoriaethau wedi bod yn cael eu datblygu, rydyn ni wedi parhau i ganolbwyntio ar gyflawni, hyd yn oed wrth weithio o fewn cefndiroedd cymdeithasol ac economaidd heriol. Rydyn ni wedi cyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu gan gynnwys Celf, yr oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru, ac rydyn ni'n gwneud cynnydd da ar ailddatblygu Theatr Clwyd ac amgueddfa bêl-droed newydd i Gymru.

Ers 2022 rydyn ni wedi dyfarnu mwy na £5 miliwn i wneud casgliadau a mannau yn fwy cynhwysol ac i gefnogi cyfranogiad diwylliannol ar lawr gwlad, gan sicrhau bod ein cymunedau amrywiol wrth wraidd diwylliant. Ac mae her a thrafodaeth wedi bod yn y Siambr hon ynghylch diogelu ein casgliadau diwylliannol a threftadaeth. Rydyn ni wedi cynyddu cyllid cyfalaf, gan ddarparu bron i £3 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith brys yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, Caerdydd y llynedd. Rwy'n parhau i sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael eleni i'w fuddsoddi ar draws safleoedd hanesyddol ac ystadau llyfrgell ac amgueddfa ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn y gwaith o ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis a'r prosiect yng nghastell Caerffili.

Llywydd, rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol drwy ein grant cyfalaf trawsnewid, gan gefnogi'r gwaith o drawsnewid a moderneiddio gwasanaethau lleol, a rhwng 2022-23 a 2024-25, rydyn ni wedi buddsoddi dros £3.5 miliwn mewn prosiectau lleol. Yn 2024 fe wnaethon ni lansio cynllun grant rheoli casgliadau newydd ar gyfer ein sectorau lleol, gan ddyfarnu dros £420,000. Trwy ymyriadau ar raddfa fach, fe wnaethon ni sicrhau bod sefydliadau lleol ledled Cymru yn gallu gwella eu safonau storio, cynyddu eu capasiti storio a gwella'r gofal a roddir i gasgliadau.

Mae lansio'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn rhoi ysgogiad a phwyslais o'r newydd ar gyfer y tymor canolig i'r tymor hir. Rwyf wedi dyrannu £15 miliwn i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau newydd hyn. Mae hyn yn cynnwys £8 miliwn ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol ar gyfer sector y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn darparu cyllid cyfalaf hanfodol ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni llawer o'r uchelgeisiau o fewn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Mae hefyd yn cynnwys cronfa cyfalaf a refeniw gwerth £7 miliwn ar gyfer amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a'r amgylchedd hanesyddol. Bydd y gronfa hon yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â ffrydiau cyllido presennol i sicrhau ei bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Er enghraifft, byddaf yn gwella'r cynllun grant rheoli casgliadau, gan ddarparu cymorth ehangach ar gyfer ein sectorau lleol sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Bydd hyn yn galluogi cymorth ar gyfer addasiadau sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â newid hinsawdd, cyfleusterau i blant a phobl ifanc, gwella mynediad a chynhwysiant a gwelliannau digidol. Mae ein huchelgeisiau yn blaenoriaethu bod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol, ac maen nhw'n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Mae angen i ni ddarparu profiadau diwylliannol i bob plentyn a pherson ifanc, gan ddechrau o oedran ifanc, a pharhau i adeiladu'r profiadau hynny yn rheolaidd. Rhaid i ni ddarparu cyfleoedd cyfoethog a chwalu'r holl rwystrau i fynediad.

Llywydd, o'r foment y ces i fy mhenodi'n Weinidog dros ddiwylliant, fe osodais i'r her y dylai plant o gymunedau dosbarth gweithiol gael yr un cyfleoedd a mynediad i'n harlwy diwylliannol. Rwyf am ganolbwyntio ar wella cyfleusterau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ond rwyf hefyd eisiau cryfhau eu lleisiau. Dylai pobl ifanc fod wedi'u hymwreiddio'n ddwfn mewn dylanwadu a siapio diwylliant ac fe ddylen nhw fod yn gallu anelu at ddilyn gyrfaoedd yn y sector yn y dyfodol. Byddaf yn edrych ar ffyrdd o gryfhau eu llais, ac ar gyfeirio cyllid i dalu costau teithio a thocynnau. Rwyf eisoes wedi dyrannu cyllid i helpu ysgolion i deithio i amgueddfeydd lleol yn y gyllideb derfynol, a chyllid i sefydlu rhaglen o weithgarwch, wedi'i lleoli mewn llyfrgelloedd, sy'n canolbwyntio ar greu cyfleoedd i blant ymgysylltu ag awduron, storïwyr a darllen er pleser. Byddwn ni'n ymdrechu i sicrhau bod y sector diwylliant yn lle gwych i weithio a gwirfoddoli ynddo, gyda gweithlu proffesiynol a medrus.

Roedd yr angen am sgiliau arbenigol yn thema allweddol yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydyn ni eisoes yn dechrau mynd i'r afael â hyn. Mae rhaglen hyfforddeiaeth sgiliau crefft treftadaeth arbenigol ar y gweill, sy'n cefnogi datblygiad tîm cadwraeth Cadw, ond rwyf eisiau ystyried sut allwn ni ddatblygu hyfforddiant pellach, prentisiaethau a llwybrau eraill i mewn i waith. Rwyf eisiau gwella ein dealltwriaeth o'r gweithlu ar draws pob rhan o'r sector, gan gynnwys yr hyn rydyn ni'n ei wybod am ei amrywiaeth.

Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth a chydweithredu o ran datblygu cynaliadwy. Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddais i ganfyddiadau ar sut mae diwylliant yn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r adroddiad yn edrych ar ddulliau a setiau sgiliau cyfredol y sector, gan ddarparu argymhellion a chamau gweithredu arfaethedig. Mae'n amlwg bod angen mwy o gymorth ar y sector i gyflawni sero net ac i gydlynu ei ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu hyfforddiant llythrennedd carbon ar gyfer staff amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd. Byddaf yn adeiladu ar hyn trwy ddarparu adnoddau staffio pwrpasol i weithio ar draws y sectorau, wedi'u lleoli yn un o'n cyrff cenedlaethol, gyda chefnogaeth cyllid refeniw a chyfalaf i symud ymlaen â hyn. Yn y flwyddyn weithredu gyntaf hon, byddaf hefyd yn ceisio cynorthwyo treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol a gwelliannau digidol.

Llywydd, hoffwn orffen trwy ddweud fy mod i'n falch iawn o'r sector diwylliant. Bob dydd rwy'n dyst i bŵer diwylliant. Mae hon yn weledigaeth a ddatblygwyd gyda'r sector ac ar ei chyfer, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r sector i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd, gan gynnwys fy nhîm o swyddogion ymroddedig, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cwestiynau gan yr Aelodau heddiw. Diolch.

16:20

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad i'r Senedd y prynhawn yma, er bod gen i rai pryderon difrifol am rai o'r uchelgeisiau sydd wedi'u rhestru ym mlaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Yn gyntaf, wrth osod blaenoriaethau, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn sensitif a sicrhau nad ydyn nhw'n tresmasu ar ryddid y sector, ac mae'r canllawiau hyn yn methu o ran hynny ac yn cyfyngu ar ryddid y sector diwylliant. Mae diwylliant yn organig, nid o'r brig i lawr. Mae'r cymhelliant ideolegol sylfaenol yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio ein sector diwylliannol fel cyfrwng ar gyfer ei hagenda flaengar, ac rwy'n credu bod hynny'n sinistr iawn. Rwy'n cytuno â'r flaenoriaeth gyntaf, bod diwylliant yn dod â ni at ein gilydd. Fodd bynnag, yr uchelgais gyntaf o dan y flaenoriaeth hon yw i ddiwylliant fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol, sy'n tanseilio agosatrwydd yn uniongyrchol. Mae pwysleisio gwahaniaethau o fewn cenedl yn ein gwahanu, nid yw'n ein huno. Dylem fod yn pwysleisio'r hyn sy'n ein rhwymo: ein diwylliant cyffredin a'n hunaniaeth. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn rhoi dictadau fel hyn i'n sector diwylliannol, gan wthio ei hideoleg wleidyddol ar fywyd cyhoeddus a phreifat. Dylai flaenoriaethu sector diwylliannol sy'n adlewyrchu diwylliant Cymru.

Ond efallai mai'r mwyaf dystopaidd ohonyn nhw i gyd yw uchelgais tri, sef i ddiwylliant gymryd agwedd gynhwysol a chytbwys tuag at ddehongli, coffáu a chyflwyno ein gorffennol. Er y gall y rhain swnio'n ddiniwed ar yr wyneb, mae gan y defnydd penodol o iaith is-gerrynt gwleidyddol ac mae llawer yn ofni bod hwn yn geffyl pren Troea i Lywodraeth Cymru chwistrellu ei barn ideolegol ei hun. Mae hefyd yn warthus i'r Llywodraeth orchymyn sut mae sefydliadau'n cyflwyno neu'n dehongli hanes. Adolygiadaeth hanesyddol a gorgyrraedd gan y Llywodraeth yw hyn. Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn goddef Llywodraeth Cymru yn chwistrellu naratifau cwynion asgell chwith i mewn i'n sefydliadau diwylliannol. Mae hyn unwaith eto yn tanseilio'r flaenoriaeth gyntaf o ddod â ni at ein gilydd. [Torri ar draws.] Ac i ddyfynnu Alun Davies—gallaf eich clywed chi yno—

'nad rôl gwleidyddion yw penderfynu pa gynyrchiadau sydd mewn theatrau neu pa arddangosfeydd sydd mewn amgueddfeydd. Nid ydym yn byw mewn cymdeithas dotalitaraidd'.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod dros Flaenau Gwent, am newid. Gan symud i uchelgais saith, i ddiwylliant adlewyrchu Cymru fel cenedl ddwyieithog ac amlieithog. Mae'r ychwanegiad rhyfedd hwn o amlieithog yn ymgais i fod yn gynhwysol, ond mae pob gwlad ar y ddaear yn amlieithog yn dechnegol. Ers Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae gan Gymru ddwy iaith swyddogol, Saesneg a Chymraeg, ac fe ddylai'r flaenoriaeth adlewyrchu'r ddeddfwriaeth hon.

Gan symud ymlaen at yr uchelgais olaf o dan y flaenoriaeth o sicrhau bod diwylliant yn wydn ac yn gynaliadwy, mae'n nodi bod yn rhaid i'r sector diwylliant fynd i'r afael â phob agwedd ar argyfyngau hinsawdd a natur. Nid yw'r termau hyn— argyfwng hinsawdd a natur—yn dermau gwyddonol, ac felly mae'n hollol amhroffesiynol ac amhriodol i'w defnyddio. Ymadroddion gwleidyddol sy'n codi bwganod yw'r rhain sy'n camarwain polisi cyhoeddus, a byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio iaith a ddefnyddir gan yr arbenigwyr gwyddonol, nid actifyddion gwleidyddol. Ond yr hyn sy'n fy mhryderu fwyaf am yr uchelgais hon yw bod hyn, unwaith eto, yn orgyrraedd sinistr gan Lywodraeth Cymru. Nid gwaith y sector diwylliant yw datrys newid hinsawdd, ac ni ddylai'r Llywodraeth fod yn cyhoeddi archddyfarniadau iddyn nhw wneud hynny.

Pan fydd y sector celfyddydau a diwylliant yn gweithredu fel cangen o'r wladwriaeth, mae natur organig y celfyddydau a diwylliant yn cael ei cholli. Ni fydd yr hyn maen nhw'n ei gynhyrchu yn ddilys ac ni fydd yn adlewyrchu'r cyflwr dynol. Ni ddylai mynegiant creadigol gael ei gyfyngu ar fympwy biwrocratiaid. Bydd yr uchelgais i fynd i'r afael â newid hinsawdd, yn eironig, yn niweidio cynaliadwyedd y sector diwylliant, oherwydd does neb eisiau gweld propaganda gwleidyddol yn cael ei gynhyrchu ar orchymyn Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni eisoes yn gweld nad oes cymaint o bobl yn ymweld ag amgueddfeydd Cymru yn dilyn pandemig COVID-19.

Mae yna hefyd bethau nodedig sydd wedi'u hepgor o'r blaenoriaethau hyn yr hoffwn eu codi. Dylai fod yn uchelgais i sicrhau nad yw diwylliant yng Nghymru yn mynd i diriogaeth beryglus ac anghyfreithlon, a dyna pam y condemniodd y Ceidwadwyr Cymreig berfformiad arfaethedig Kneecap yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, er eu bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu gwrthderfysgaeth i'r galwadau yr oedden nhw wedi'u gwneud i lofruddio Aelodau Seneddol.

Nid oedd llawer o sôn ychwaith am bwysigrwydd chwaraeon i'n diwylliant. Am y tro cyntaf ers dros ddegawd, ni fydd unrhyw rygbi proffesiynol yn cael ei gynnal ar unrhyw adeg yn y gogledd eleni, ac fe ddylai fod yn uchelgais ddiwylliannol i weld ein camp genedlaethol yn cael ei chynrychioli ledled y genedl. Felly, ar y cyfan, byddwn i'n annog y Gweinidog yn gryf i ystyried y pwyntiau rwyf wedi'u gwneud ynglŷn â rhai o'r uchelgeisiau problematig yn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' y mae wedi'u cyhoeddi a sicrhau bod y rhain yn cael eu diwygio er mwyn osgoi gorgyrraedd annerbyniol gan y Llywodraeth i mewn i'r sector diwylliant. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Llywydd, rwy'n credu fy mod i wedi cyfrif un cwestiwn yn y fan yna, ac mae'r Aelod yn iawn, a bod yn deg, i dynnu sylw at y cwestiwn hwnnw ynglŷn â rôl chwaraeon yn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Nid yw'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn cynnwys chwaraeon yn benodol, ond mae gan chwaraeon rôl, ac os darllenwch chi drwy'r ddogfen, mae'n sôn am rôl chwaraeon, ac rwy'n credu bod yna rannau o'n sefydliadau chwaraeon a fydd yn mynd ymlaen i ddefnyddio'r ddogfen hon i ddathlu diwylliant. Os edrychwch chi ar yr hyn mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei wneud yn barod yn y gofod hwn, rwy'n credu eu bod nhw'n enghraifft wych o lle gallwn ni ddod at ein gilydd a dathlu diwylliant Cymru ar y lefel ryngwladol honno. Ac er nad yw o reidrwydd yn sôn am chwaraeon fel y byddai'r Aelod yn ei hoffi, bydd chwaraeon yn chwarae rhan yn nyfodol blaenoriaethau diwylliant Cymru.

Ond mae arnaf ofn, Llywydd, nad ydw i'n siŵr a oedd mwy o gwestiynau i mi; roedd yn fwy o adlewyrchiad o farn yr Aelod am y sector. Fe ddechreuodd trwy ddweud na ddylem fynd i'r afael â'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant drwy ddull o'r brig i lawr. Wel, fe ddylai ef wybod yn dda bod y ddogfen hon wedi'i chynhyrchu gyda'r sector a chan y sector. Felly, fe dderbyniwyd dros 400 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyntaf ar y blaenoriaethau ar gyfer diwylliant. Fe barhaodd i gael ei chyd-gynhyrchu ochr yn ochr ag Aelodau dynodedig Plaid Cymru hefyd, uchelgais a rannwyd gan y ddau ohonom, a'r grŵp llywio allanol, a gymeradwyodd y ddogfen derfynol, y ddogfen rydych chi i gyd wedi'i gweld o'ch blaen, ac rwy'n gobeithio eich bod wedi'i darllen, o'ch blaen, fe ddylai fod yno—.

Mae'n mynd ymlaen i ddweud na ddylem gyfyngu ar ryddid y sector. Wel, dydyn ni ddim yn cyfyngu ar ryddid y sector. Os siaradwch chi â'r sector ar gefn y lansiad 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' hwn, yr hyn mae hyn yn ei gynnig yw gweledigaeth. Mae'n weledigaeth ar gyfer y sector y gall pob un ohonom ni weithio tuag ati, nid dim ond y Llywodraeth, ond y sector ei hun. Ac, a dweud y gwir, pan wyf wedi siarad â'r sector yn uniongyrchol am yr hyn sydd yma, maen nhw'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yma a'r hyn y byddwn ni'n ei gyflawni gyda'n gilydd yn y dyfodol.

Yna mae'n dyfynnu'r hyn a ddywedodd Alun Davies mewn trafodaeth flaenorol yn y Senedd, ac roedd Alun yn iawn i ddweud nad lle gwleidyddion yw pennu blaenoriaethau diwylliant. Nid dyna rydyn ni'n ei wneud yma. Rwy'n ei chael hi'n anodd pan yw'r Aelod yn dweud hyn, oherwydd mewn un anadl mae'n dweud nad lle gwleidyddion yw dweud, ac, yn yr anadl nesaf, mae eisiau ymyrryd yn wleidyddol yn y sector. Felly, allwch chi ddim ei gael y ddwy ffordd, yn anffodus. Allwch chi ddim cael—[Torri ar draws.] Nid clyw dethol mohono o gwbl; dyma'n union beth ddywedoch chi ac rydych chi wedi ei ddweud eto. Felly, mae'n wleidyddiaeth ddi-synnwyr gan y Ceidwadwyr, Llywydd.

Mae'r Aelod yn sôn wedyn am newid hinsawdd. Wel, gadewch i mi orffen ar hyn. Fe glywson ni'r un ddadl gan y Ceidwadwyr yn y datganiad blaenorol hefyd. Rwy'n gwybod eu bod nhw eisiau bod y Reform newydd a pheidio â chredu mewn newid hinsawdd, ond mae newid hinsawdd i ni i gyd—i ni i gyd—i ystyried sut rydyn ni'n cefnogi ac yn mynd i'r afael â'r argyfyngau hynny. Wnaf i ddim cymryd gwersi mewn iaith wyddonol; mae gen i radd mewn gwyddor fecanyddol. Fe wnaf i adael hynny yn y fan yna, Llywydd.

Ond rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â'r sector. Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i'r sector, Llywydd, sector sy'n cynnig gwerth economaidd, yn cynnig pwysigrwydd gwirioneddol wrth wella ein hiechyd a'n lles, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, ac rwy'n credu y dylai pob Aelod achub ar y cyfle i groesawu lansio'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' heddiw.

16:30

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad heddiw ac am rannu copi efo fi ymlaen llaw. Fel fy mod i'n gallu profi, dwi wedi ei ddarllen. Mi fydd fy sylwadau i yn seiliedig ar y ddogfen hon, yn hytrach na rhethreg, ac mae gen i gwestiynau pendant i ofyn i'r Gweinidog heddiw. Fel rydych chi'n dweud, mae’r ddogfen hon yn un hirddisgwyliedig, ac mi fydd y sector heddiw yn croesawu bod dogfen wedi ei chyhoeddi gan y Llywodraeth o’r diwedd.

Dwi am ddechrau gyda’r cadarnhaol, sef bod y ddogfen hon yn cynnwys nifer o ddatganiadau islaw pob un o’r blaenoriaethau sydd yn disgrifio pam mae diwylliant yn bwysig i’n cenedl a’n pobl. I’r rhai sy'n gweithio yn y sectorau hyn, neu’n cael cyfle i ymgysylltu â nhw, maen nhw’n ddatganiadau sy’n amhosib anghytuno â nhw, ac mae yna esiamplau niferus o waith arloesol sy’n digwydd ledled Cymru sy’n dangos bod y sector yn cyflawni'r rhain yn barod. Nid uchelgais mohonyn nhw; mae'r rhain yn bethau mae ein sefydliadau ni a'r bobl sy'n gweithio yn y maes hwn yn eu cyflawni rŵan.

Wythnos diwethaf, mi fues i'n ddigon ffodus i ailymweld efo Theatr Clwyd a chael fy nghyfareddu gan y weledigaeth anhygoel sydd gan y tîm yna, a'r gwaith cyfnewidiol, trawsnewidiol, sydd yn cael ei gyflawni o ran trawsnewid bywydau pobl ac o ran iechyd a lles ac ati. Dwi’n siŵr bod nifer ohonom ni'n ysu i ailymweld unwaith bydd y theatr yn ailagor.

Dwi hefyd yn cytuno’n llwyr gyda sylwadau’r Gweinidog ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau y dylai pawb, beth bynnag bo'u cefndir neu sefyllfa ariannol, gael mynediad at a chyfle i ymwneud â diwylliant. Mae hwn yn hawl sylfaenol sydd wedi ei erydu yn sgil y toriadau a’r diffyg blaenoriaethu i’r portffolio hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac felly y cwestiwn sydd gen i, wedi gwrando ar y datganiad a darllen y ddogfen, ydy: sut mae’r Llywodraeth am sicrhau hynny? Oherwydd y gwir amdani ydy bod yna lai o bobl o gefndiroedd tlawd wedi gallu ymwneud efo diwylliant yn y blynyddoedd diwethaf yma o'i gymharu efo degawd yn ôl. Felly, sut ydyn ni am sicrhau bod y toriadau sydd wedi bod—? Sut ydyn ni'n mynd i sicrhau bod y bobl yna, unwaith eto, yn cael mynediad i ddiwylliant, a mwy o bobl? Mae o'n hawl sylfaenol.

O ran y £15 miliwn o gyllid rydych chi wedi ei gyhoeddi, mi fyddwn i'n gwerthfawrogi gwybod a ydy hwn yn arian newydd, faint o’r cyllid hwn sy’n gyllid refeniw, a beth ydy’r allbwn disgwyliedig o’r buddsoddiad hwn, hefyd, ydy o'n gynnydd am un flwyddyn neu ydy o dros nifer o flynyddoedd ariannol, dim ond i fi gael gwell dealltwriaeth o sut yn union rydych chi'n gweld yr arian hwn yn cefnogi'r blaenoriaethau.

Oherwydd pe baech chi'n gwrando ar y datganiad heddiw, a hyd yn oed o ddarllen y ddogfen, gellid maddau i chi am feddwl bod popeth yn iawn yn y sectorau hanfodol hyn. Byddech chi'n meddwl bod digon o fuddsoddiad wedi bod gan y Llywodraeth, a bod digon o fuddsoddiad yn cael ei wneud, ond dydy hynny ddim yn wir, onid yw? Oes, mae mwy o fuddsoddiad wedi bod, ond dydyn ni dal ddim ar y lefelau buddsoddi a welwyd hyd yn oed degawd yn ôl.

Hoffwn wybod sut rydyn ni'n mynd i sicrhau y bydd y Llywodraeth yn helpu'r sectorau nid yn unig i adfer, ond hefyd i ffynnu. Oherwydd, fel yr oedd yn amlwg yn adroddiad diweddar y pwyllgor diwylliant, 'Degawd o doriadau', mae hwn yn sector mewn argyfwng. Mae Cymru yn drydydd o'r gwaelod o ran yr hyn mae gwledydd yn Ewrop yn ei wario y pen ar wasanaethau hamdden a chwaraeon, ac yn ail o'r gwaelod ar gyfer gwasanaethau diwylliannol. Dydy honno ddim yn etifeddiaeth i fod yn falch ohoni. Ac mae'n ymddangos i mi fod y straeon newyddion da a chyflawniadau'r sectorau hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd.

Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau yma heddiw yn cofio dadl a arweiniais am bwysigrwydd diwylliant ym mis Mawrth 2024, pan wnaeth y Gweinidog â chyfrifoldeb dros ddiwylliant ar y pryd fy heclo dro ar ôl tro gyda'r geiriau, 'Ond beth am y GIG?', gan ddangos diffyg dealltwriaeth llwyr gan y Gweinidog a oedd i fod yn hyrwyddo diwylliant yn y Llywodraeth am y rhyng-gysylltedd rhwng iechyd a'r celfyddydau, yn ogystal â blaenoriaethau ehangach y Llywodraeth, gan gynnwys yr economi. Felly, rwy'n falch o weld hon bod y gydnabyddiaeth honno yno yn y ddogfen hon.

Rydym ni hefyd, wrth gwrs, wedi gweld comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, yn ei adroddiad diweddar, yn mynegi pryder ynglŷn â dyfodol y sector diwylliant, yn sôn y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil diwylliant i wneud diwylliant yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus. Hoffwn felly ofyn i’r Gweinidog heddiw am ei ymateb i’r syniad hwn, ac a ydy o'n rhywbeth sy’n cael ei ystyried o ddifrif gan y Llywodraeth.

Oherwydd yr hyn sy'n glir i mi, a'r hyn sy'n dod drwodd yn glir o'r ddogfen flaenoriaethau ei hun, yn fy marn i, yw y gellir gweld y cyhoeddiad heddiw fel cam cyntaf i'w groesawu i lawer o bobl sy'n gweithio yn y sector, ond bod angen gwaith pellach i nodi'r cymorth sydd ei angen i wireddu hyn, ynghyd ag ymrwymiadau clir. Mae yna nifer o gyfeiriadau yn y ddogfen o hyd at y ffaith bod angen gwaith pellach, neu fod angen i ni ddatblygu strategaeth sgiliau, felly mae yna rai elfennau nad oes unrhyw waith wedi'i wneud arnyn nhw o hyd. Ac fel rhywun sydd wedi aros naw mlynedd am y ddogfen hon, rwy'n teimlo ein bod ni wedi colli cyfle, efallai, i gyflwyno'r cynlluniau hynny i ddangos yn bendant sut mae'r camau hynny'n mynd i gael eu cymryd.

Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio, yn adeiladol gobeithio, gyda'r Gweinidog i fynd â hyn ymlaen. Mae'n gam cyntaf, ond mae llawer o waith i'w wneud i sicrhau ein bod ni nôl yn y sefyllfa yr oeddem ynddi, heb sôn am fynd â ni ymhellach ymlaen yn y dyfodol.

16:35

Diolch yn fawr, Heledd, am yr adborth adeiladol ar y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' heddiw, ond nid dim ond heddiw, y berthynas adeiladol rydyn ni wedi'i chael ar y mater hwn hefyd, chithau a minnau, ond eraill yn eich plaid eich hun hefyd, yn enwedig yr Aelodau dynodedig, pan gafodd y ddogfen hon ei chyd-gynhyrchu drwy'r cytundeb cydweithio. Rwy'n falch eich bod chi'n meddwl bod y ddogfen yn gam cyntaf i'w groesawu yn y broses. Mae'n rhannu uchelgeisiau'r hyn mae'r sector yn ei ddweud hefyd.

Rydych chi'n iawn i ddweud bod hyn yn llawer o'r pethau rydyn ni'n eu gwneud yn barod, rydyn ni'n eu cyflawni'n barod, y Llywodraeth ond hefyd y sector. Yr hyn mae 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn ei wneud ac y bydd yn ei wneud yw ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiannau hynny yn y dyfodol. Fe af i drwy, neu fe geisiaf fynd drwy'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi gofyn amdanyn nhw.

Yn gyntaf, o ran mynediad, wel, mae mynediad yn hanfodol i mi. Mae'n un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei gynnig yn y maes hwn. Un o'r pethau yr es i i'r afael ag ef yn yr araith oedd ynghylch costau teithio a thocynnau i'r plant a'r bobl ifanc hynny hefyd. Felly, rydyn ni eisoes yn edrych ar gefnogi hynny o fewn y gyllideb derfynol, ac fe fyddaf yn edrych ar ehangu cynnig ymhellach fel y gallwn ni gefnogi. Yr hyn rydyn ni'n ei wybod o'r ymgynghoriad, a'r hyn rydyn ni'n ei wybod o'r hyn mae pobl yn ei ddweud wrthyf, a chi ac eraill yn y lle hwn rwy'n siŵr, yw bod teithio, ac yna costau tocynnau i fynd i mewn i'r safleoedd hyn, yn un o'r rhwystrau. Fe ges i'r sgwrs honno yn Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru yn ystod dathliadau Diwrnod VE, felly mae ymyrraeth uniongyrchol, y byddwn ni'n edrych i roi sylw iddi yn y dyfodol agos.

Fe ofynnoch chi am gyllid ac a yw'n gyllid newydd. Wel, mae'n gyllid newydd eleni. Mae'n gyllid cyfalaf o £8 miliwn ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, y cyfeirir ato yn yr araith, ac rwy'n siŵr y bydd mwy yn dod allan pan fyddan nhw'n cyhoeddi'r hyn y bydd yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer maes o law. Ac yna'r cyllid o £7 miliwn sydd wedi'i neilltuo—. Fe ofynnoch chi am gyfalaf a refeniw, wel, mae'n £3.35 miliwn ar gyfer cyfalaf a £3.7 miliwn o gyllid wedi'i neilltuo mewn refeniw. Ond nid dim ond hynny. Yr hyn y byddaf yn gofyn i gyrff hyd braich ei wneud yn eu dyraniadau mewn cyllidebau drafft ac wedyn terfynol—. Rwyf wedi gofyn iddyn nhw nodi yn eu cynlluniau gweithredol i mi sut allan nhw fynd ymlaen i gefnogi'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn y dyraniad maen nhw wedi'i gael yn y gyllideb derfynol hefyd. 

Mae'r Aelod yn tynnu sylw at adroddiad diweddar comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'r Bil diwylliant—fe ofynnodd hi am fy ymateb i alwadau am Fil diwylliant. Rwy'n credu mai'r hyn a ddywedodd y comisiynydd oedd mai lle'r Llywodraeth nesaf fyddai cyflwyno Bil diwylliant, yn ei farn ef. Dydw i ddim yn ystyried hynny ar hyn o bryd. Rwy'n credu y bydd hynny'n rhywbeth i bob plaid ei ystyried, wrth symud ymlaen, a rhoi hynny i fandad, i'r bleidlais, yn etholiadau nesaf y Senedd. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud, a'r hyn mae fy swydd yn canolbwyntio arno a'r hyn rwyf wedi gofyn i swyddogion ei wneud, yw gweithredu'r camau uniongyrchol hynny rydyn ni wedi'u clywed—felly, o gwmpas y gweithlu, o gwmpas costau teithio a thocynnau, ac o gwmpas yr argyfwng hinsawdd a natur, yr wyf wedi'u hamlinellu'n barod. 

Yna mae'r Aelod yn cyfeirio at Theatr Clwyd. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf—. Yn sicr, fe welais i fod Gareth Davies yno dros y toriad hefyd. Fe fwynheais i fy ymweliad diweddar yno ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn ôl yno yn y dyfodol agos iawn ar gyfer agoriad Theatr Clwyd. Fe es i yno fel plentyn naw oed gyda chyfle y tu ôl i'r camera ar gyfer Lucky Come Back—fy ysgol gynradd leol, Ysgol Bryn Deva, mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd. Yr hyn rwy'n gobeithio y byddwn ni'n ei wneud—. Gyda'r buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Lafur Cymru i fuddsoddiad cyfalaf yn Theatr Clwyd yn y gogledd-ddwyrain, bydd mwy o gyfleoedd fel hynny yn dod ar gael. Felly, rwy'n ddiolchgar am ddiddordeb yr Aelod ac rwy'n edrych ymlaen at weld pob Aelod yn cael y cyfle i allu gweld hynny. Er tegwch i Gareth Davies, roeddwn i'n falch ei fod wedi gallu nodi'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn ei fideo diweddar—wnaeth e ddim mo hynny y tro diwethaf.

Llywydd, mae hwn yn gam pwysig iawn ymlaen. Mae mwy o waith i'w wneud, ac fe wnawn ni hwnnw ar y cyd â'r sector, yn wir. Rwyf eisiau tynnu sylw at lle rydyn ni wedi bod ers i mi ddechrau yn y swydd, Llywydd. Llwyddon ni i gyhoeddi cyllid yn ystod y flwyddyn i gefnogi'r sector; llwyddon ni i gynyddu cyllidebau drafft a therfynol, a groesawyd gan y sector. Heddiw, rydyn ni'n lansio'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Rwy'n falch o fod wedi gallu cyflawni hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei diddordeb arbennig, ac rwy'n hapus iawn i barhau i weithio'n adeiladol gyda hi ar y mater hwn.

16:40

Rwy'n croesawu'r datganiadau blaenoriaeth heddiw, sy'n cadarnhau pwysigrwydd sectorau diwylliannol Cymru, a'r cyhoeddiad am y £15 miliwn o wariant newydd Llywodraeth Cymru ar draws yr ystod lawn o sectorau diwylliannol Cymru. Ar ôl blynyddoedd o danwariant a arweiniwyd gan gyni, sydd wedi arwain at weld Cymru ar waelod gwariant diwylliannol yr UE, mae'r Senedd hon yn gwbl ymwybodol o'r pwysau ariannol sy'n cael ei deimlo ym myd y celfyddydau, yn enwedig pan fo'r gwasanaethau hyn yn aml yn ddewisol ac nid yn statudol. Fodd bynnag, mae diwylliant a phobl greadigol yn ysgogwyr economaidd allweddol i gynnyrch domestig gros Cymru ac yn cadarnhau ein rhagoriaeth yn y byd hwn, ac yn gwneud bywyd yn werth ei fyw yn gyffredinol. Felly, rwy'n croesawu bod y toriadau i'r portffolio hwn yn cael eu hadfer yn rhannol, ond rydyn ni'n dal i fod yn isel o ran safonau cyllido portffolio Ewropeaidd.

Rwy'n nodi nad oes sôn, hyd yma, am bwysigrwydd ariannu sefydliadau diwylliannol o bwys cenedlaethol fel Opera Cenedlaethol Cymru, sy'n dioddef diswyddiadau pryderus, na'r ateb i golli adran gerddoriaeth iau coleg brenhinol Cymru, sydd, er nad yw ar y mandad hwn, yn cael effaith drawsbynciol ddofn iawn ar biblinellau ar gyfer cerddorion ac allforion artistig o Gymru. Gweinidog, eich cyhoeddiad bod y buddsoddiad yn cynnwys £8 miliwn ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a hefyd eich cefnogaeth leol i Sefydliad y Glowyr Coed-duon.

Felly, Gweinidog, pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda Chyngor Celfyddydau Cymru am eu rôl strategol wrth liniaru'r ymosodiadau difrifol ar sectorau cerddoriaeth a pherfformio Cymru? Pa asesiadau hyd braich pellach, megis y broses adolygiad teilwredig flaenorol, fydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â nhw er mwyn sicrhau bod gwaith hanfodol Cyngor Celfyddydau Cymru yn addas i'r diben fel ei fod yn gallu gweld yn glir ac yn gallu ymateb i'r pwysau ar draws sectorau perfformio Cymru gan gynnwys y sector cerddoriaeth, yr wyf yn nodi nad yw'n cael sylw yn y ddogfen flaenoriaethau? Diolch yn fawr i chi.

Diolch i Rhianon Passmore am hynny. Bydd hi'n gwybod bod y sector cerddoriaeth yn fyw ac yn iach iawn yn uchelgeisiau'r diwydiant creadigol, ac mae yna gysylltiad rhwng y ddau yn y fan yna, fel y dywedais yn gynharach wrth Gareth ynglŷn â chwaraeon. Mae'r sector creadigol hefyd yn chwarae rôl wrth gyflawni'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'.

Mae'r Aelod yn hyrwyddwr cyson dros y sector, ac rwy'n credu ei bod yn werth cydnabod hynny y prynhawn yma. Rwy'n credu bod heddiw yn garreg filltir bwysig iawn i'r sector, a fydd yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at fynd i'r afael â'r heriau y mae Rhianon Passmore wedi tynnu sylw atyn nhw eisoes. Roeddwn i'n falch iawn o fod gyda Rhianon Passmore yn gynharach eleni yn Sefydliad y Glowyr Coed-duon, lle, oherwydd yr ymyrraeth gan fy adran, y cyllid yn ystod y flwyddyn, ac ymyrraeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda'r cyllid ychwanegol a roddwyd gennym, roedden ni'n gallu achub Sefydliad y Glowyr Coed-duon—enghraifft wych arall o'n treftadaeth ddiwylliannol dosbarth gweithiol.

Fe wnaf i geisio peidio ag archwilio meysydd nad ydw i'n gyfrifol amdanyn nhw, ond yr hyn y byddaf i'n ei ddweud—ac fe ddylwn i fod wedi ei ddweud mewn ymateb i Heledd yn gynharach hefyd—fel rhan o'r gwaith 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', byddaf hefyd yn cael cyfres o gyfarfodydd dwyochrog gydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill o fewn portffolios eraill. Felly, yr Ysgrifennydd iechyd, y Dirprwy Brif Weinidog, y Gweinidog llywodraeth leol ac, yn wir, y Gweinidog addysg yn y gyfran gyntaf o'r rheini, ond yna bydd yn lledaenu i eraill, oherwydd mae hon yn ddogfen nid yn unig i'r Llywodraeth, a phob rhan o'r Llywodraeth, gyfrannu tuag ati, ond mae'n llawer ehangach na hynny mewn gwirionedd. Felly, rydyn ni wedi cael llawer o sgyrsiau gyda chyrff hyd braich, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru. Y buddsoddiad hwnnw o £8 miliwn ar gyfer cronfa gyfalaf, dydyn ni ddim wedi cael y math hwnnw o gyllid o'r blaen yn y sector. Dylai fod yn newyddion i'w groesawu'n fawr i'r sector, ac rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniad hynny.

Ac o ran y pwynt ynglŷn ag Opera Cenedlaethol Cymru, unwaith eto roeddwn i'n falch gyda'r cyllid hwnnw o £755,000 yn ystod y flwyddyn ym mis Rhagfyr. Fe ges i gyfle i gwrdd â chyfarwyddwyr newydd Opera Cenedlaethol Cymru. Mae eu gweledigaeth a'u huchelgais, rwy'n credu, ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru yn cyd-fynd yn berffaith â'r ddogfen 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' y byddwch chi wedi'i gweld heddiw, ac yn enwedig o ran mynediad a chreu Opera Cenedlaethol Cymru sy'n ofod i bawb. Fe wnaethon nhw argraff fawr arnaf ac rwy'n optimistaidd iawn am ddyfodol Opera Cenedlaethol Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw, cyngor y celfyddydau a'r Aelod yn y dyfodol i gyflawni'r blaenoriaethau hyn. 

16:45

Diolch am y datganiad. Mae gan ddiwylliant le mor ganolog, dwi'n meddwl, wrth hybu lles a newid agweddau niweidiol er budd ein cymdeithas. Rydych chi hefyd wedi sôn yn eich datganiad eich bod wedi rhoi pwyslais yn y strategaeth ar bobl ifanc.

Mae Theatr na nÓg, sydd wedi'i lleoli yng Nghastell Nedd yn fy rhanbarth i, yn gwneud gwaith arbennig yn cynhyrchu gwaith theatr sy'n cyrraedd pobl ifanc. Yr wythnos yma, byddaf yn mynd i weld Y Naid, Just Jump, yn yr eglwys Norwyeg—drama a gomisiynwyd yn wreiddiol gan Awdurdod Harbwr Caerdydd i godi ymwybyddiaeth o beryglon ymddygiad fel neidio a nofio heb oruchwyliaeth, a'r pwysau gall fod ar bobl ifanc i ymuno mewn ymddygiad o'r fath. Fe glywon ni oblygiadau difrifol a thorcalonnus hyn yr wythnos yma, gyda'r cwest i farwolaeth y bachgen 15 oed, David Ejimofor, un o fy etholwyr i, a foddodd yn y môr ger Aberafan. Bob blwyddyn, mae pobl ifanc yng Nghymru yn colli eu bywydau mewn dŵr fel hyn, a gall theatr helpu i gyfathrebu'r peryglon mewn ffordd sy'n dal sylw, ac mae'r cynhyrchiad hwn yn gwneud yn union hynny. Ond bydd gan ddisgyblion ledled Cymru ddim cyfle i weld y cynhyrchiad, er bod y cwmni wedi bod yn ceisio ers rhai blynyddoedd i sicrhau hyn. Felly, pa ystyriaeth mae'r strategaeth yn rhoi i ddeall potensial a chefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol theatr mewn addysg i geisio sicrhau bod trasiedïau diangen fel hyn yn cael eu hatal? Diolch.

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny? Rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn i gyfeirio at y rôl y gall y sector diwylliant ei chwarae nid yn unig yn y celfyddydau traddodiadol hynny a mynd i'r theatr oherwydd eich bod chi eisiau mynd i'r theatr, ond yr hyn y gall ei wneud mewn gwirionedd i agor y drysau a chyrraedd ardaloedd nad ydyn ni'n gallu eu cyrraedd weithiau. Rwy'n siŵr bod y perfformiad y gwnaethoch chi ei grybwyll, Just Jump, yn gwneud yr union beth hynny.

Roeddwn i'n falch iawn y bore yma i fod yn etholaeth Sarah Murphy yn Seren Books i drafod yr un peth, ond y rôl y gall cyhoeddi ei chwarae a'r blaenoriaethau o gwmpas hynny. Mae'n bwysig iawn gallu gwella'r mynediad hwnnw i gymunedau ledled Cymru ac yna cael y math cywir o ddiwylliant o flaen pobl, er mwyn gallu achub bywydau a gwella bywydau hefyd yn y pen draw.

Mae'r uchelgais a nodir yn y ddogfen 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn weledigaeth y gall y sector weithio tuag ati. Rwy'n credu bod yr un gyntaf yn gwneud yn union hynny. Yr un sy'n dod â phawb at ei gilydd yw'r rhan bwysig yma, ac yna rwy'n credu y bydd cael mynediad at raglenni fel theatr Just Jump yn ystyriaeth y gall y sector fwrw ymlaen â hi. Felly, pan fydd cyrff hyd braich yn nodi yn eu cynlluniau gweithredol i mi sut allan nhw gefnogi'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant', rwy'n nodi'r pwynt rydych chi'n ei wneud ynglŷn â sut mae'r mynediad hwnnw'n edrych, ac fe ofynnaf iddyn nhw ystyried hynny hefyd, ond hefyd y rôl y gall ysgolion ei chwarae. Rwy'n credu y gallai hynny fod yn rhan o'r drafodaeth y byddaf yn ei chael gyda'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â hynny. Ond diolch am y sylwadau adeiladol hynny y prynhawn yma.

16:50

Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Gweinidog, mae diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol hefyd yn ymwneud â chadw sgiliau arbenigol. Rwy'n croesawu'r rhaglen hyfforddeiaeth sgiliau crefft treftadaeth arbenigol gyda chefnogaeth a datblygiad tîm cadwraeth Cadw. Mae angen i ni ddatblygu prentisiaethau pellach. Rydyn ni'n gwybod bod y nifer sydd â sgiliau adeiladu penodol, fel adeiladu waliau cerrig sych a thoi, yn lleihau. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod angen y sgiliau hyn er mwyn gwarchod ein treftadaeth adeiledig. Mae codi waliau cerrig sych yn ddull adeiladu lle mae strwythurau'n cael eu hadeiladu o gerrig heb unrhyw forter i'w rhwymo. Ceir rhywfaint o rwymo trwy ddefnyddio cerrig sy'n cydgloi a ddewisir yn ofalus. Toi â gwellt yw'r grefft o adeiladu to gyda llystyfiant sych, fel gwellt, cyrs, brwyn, ac ati, haenu'r llystyfiant er mwyn cadw dŵr i ffwrdd oddi wrth y to mewnol. Gan fod y rhan fwyaf o'r llystyfiant yn aros yn sych ac yn cael ei bacio'n ddwys, gan ddal aer, mae gwellt toi hefyd yn gweithredu fel inswleiddio.

Yn olaf, rwyf am bwysleisio pwysigrwydd chwaraeon a cherddoriaeth, gan gynnwys corau a bandiau pres, i'n treftadaeth ddiwylliannol.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch i Mike Hedges am y ddau faes hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am y pwynt olaf hwnnw yn y fan yna, ac rwy'n gobeithio y bydd y blaenoriaethau yn helpu i wella ymhellach y cynnig y gallwn ni ei wneud i gefnogi hynny.

O ran y pwynt ar sgiliau, wel, edrychwch, rwyf wedi gofyn i bob Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidog yn y Llywodraeth ystyried sut maen nhw'n cefnogi'r blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn eu portffolios, felly mae'n iawn fy mod i'n gofyn hynny i mi fy hun hefyd. Felly, gyda sgiliau mewn golwg, fel y nododd yr Aelod, roedd sgiliau yn thema allweddol yn yr ymateb a gawsom gan y sector i'r ymgynghoriad, felly rydyn ni'n edrych i fynd i'r afael â hynny yn y tymor agos, fel yr wyf wedi'i ddweud yn y datganiad, gyda'r hyfforddeiaeth sgiliau arbenigol gyda Cadw. Ond mae'r Aelod yn tynnu sylw at brentisiaethau, ac mae gen i ddiddordeb mawr yn y rôl y gall prentisiaethau ei chwarae yn y sector, yn enwedig ar gyfer y sgiliau arbenigol hynny—felly, sgiliau fel cadwraeth, ond sgiliau fel codi waliau cerrig sych hefyd, a sgiliau eraill. Yr hyn rwy'n gofyn i swyddogion ei wneud yw mynd yn ôl ac ystyried cynllun prentisiaeth ar y cyd ar gyfer y sector. Rydyn ni'n gwneud hyn eisoes yn y sector adeiladu, lle mae busnesau bach a chanolig yn gallu cymryd rhan yn y math hwnnw o gynllun, ac i weld a yw hynny'n rhywbeth y mae gan y sector ddiddordeb ynddo yn gyntaf, ac yna sut mae hynny'n gweithio.

Felly, heb fynd i fanylion ynglŷn â hyn, gallai'r ddau faes y tynnodd yr Aelod sylw atyn nhw fod o ddiddordeb nid yn unig i Cadw, ond hefyd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chydweithwyr llywodraeth leol hefyd. Felly, diolch i'r Aelod am wneud hynny, a byddwn ni'n sicr yn ystyried hynny yn y dyfodol agos iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at adrodd yn ôl iddo ef ac i'r Aelodau ar y cynllun hwnnw.

Diolch i'r Gweinidog am hyn a dwi'n croesawu'r ddogfen ar y blaenoriaethau. Mae hi'n hir ddisgwyliedig, achos mae'r sector diwylliant wedi dioddef yn uffernol gyda thangyllido, er newidiwyd cwrs ar hynny ryw ychydig yn gynharach eleni, wrth gwrs. Ond erys problemau yn sgil y pandemig, y creisis costau byw a Brexit.

Mae ein pwyllgor ni wedi dangos yr effaith sydd wedi dod o dangyllido dros ddegawd. Allwch chi fynegi, er mwyn ein helpu ni weld hyn y ei gyd-destun, lle rydych chi'n gobeithio y bydd y lefelau cyllid dros y blynyddoedd nesaf? Mae Llywodraeth yr Alban, dwi'n gwybod, wedi dweud eu bod nhw'n gobeithio rhoi £100 miliwn mwy bob blwyddyn erbyn 2028-29. Felly, er mwyn gweld y snapshot yn ei gyd-destun, buasai hwnna'n ddefnyddiol i ni ei weld.

Oherwydd does dim lot o fanylion o ran y gweithrediad a fydd yn angenrheidiol i gyflawni hyn oll, a'r blaenoriaethau rwy'n meddwl y byddai nifer ohonom ni wir yn eu clodfori yma, nac ychwaith unrhyw amserlenni, a fyddwch chi'n cyhoeddi cynllun gweithredu i gyd-fynd â hyn i roi'r manylder yna? Rwy'n meddwl y byddem ni fel pwyllgor yn croesawu gweld rhywbeth fel yna er mwyn ein helpu ni gyda'r gwaith o sgrwtineiddio hyn. Diolch.

16:55

Diolch, Delyth, am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod yna ddau bwynt yn y fan yna. Dydw i ddim mewn sefyllfa i gyhoeddi cyllidebau yn y dyfodol. Roeddwn i'n falch iawn o allu cynyddu lefel y cyllid o'r gyllideb ddrafft i'r gyllideb derfynol eleni. Roedd yn siomedig nad oedd y gwrthbleidiau eisiau cefnogi'r cyllid hwnnw, ond dydw i ddim mewn sefyllfa ar hyn o bryd i allu pennu cyllidebau. Dydw i ddim yn credu y byddai'r Ysgrifennydd cyllid yn hapus iawn pe bawn i'n gallu gwneud hynny. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod bod Sam Kurtz yn ceisio fy nhemtio i wneud hynny, ond fe wnaf i ymatal rhag gwneud hynny.

O ran gweithredu, yr hyn rwy'n awyddus i'w weld yn digwydd—ac mae hyn yn rhannol oherwydd sut mae'r sector yn digwydd—mae hon yn ddogfen sydd wedi cymryd cryn amser i'w llunio, ac rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n cyflawni yn erbyn y camau gweithredu a'r uchelgeisiau ynddi yn y tymor agos. Felly, fy ffocws i, fel rwyf wedi'i nodi yn y datganiad hwn, fydd canolbwyntio ar gyflawni yn erbyn y camau gweithredu hynny, yn enwedig o amgylch yr argyfwng hinsawdd a natur. Rydyn ni wedi gweld yr adroddiad a gyhoeddais yr wythnos diwethaf a rhai o'r argymhellion yn y fan yna. Byddwn ni'n ceisio eu cyflawni. Rwyf eisoes wedi sôn am blant a phobl ifanc a sut rydyn ni'n ceisio gwella mynediad eisoes, yn y datganiad, yn ogystal â meysydd eraill o amgylch y gweithlu. Unwaith eto, y camau y byddwn ni'n eu cymryd o ran cynllun hyfforddeiaeth Cadw, ond yna fe fyddwn ni'n edrych at gynlluniau prentisiaeth a rennir.

Dydw i ddim yn mynd i gyhoeddi cynllun gweithredu nawr. Rwy'n credu y byddai hynny'n achosi oedi pellach wrth fynd i'r afael â'r problemau. Nid yw hynny'n golygu na fyddaf i'n gwneud hynny yn y dyfodol, ond nid wyf am wneud hynny nawr. Rwy'n credu bod y sector eisiau i ni fwrw ymlaen i gyflawni hyn. Rwy'n edrych ymlaen at y gwaith craffu y bydd y pwyllgor yn ei wneud. Rwy'n credu y bydd llawer o gyfle i hynny ddigwydd yn erbyn y blaenoriaethau.

Gweinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu strategaeth ddiwylliant newydd Cyngor Dinas Casnewydd, sydd ond ychydig fisoedd oed erbyn hyn, sydd wedi creu bwrlwm go iawn o amgylch y ddinas ac sydd wedi cynnwys pobl ar lawr gwlad yn meddwl am syniadau a bod yn rhan o'r hyn a fydd yn digwydd o ganlyniad i'r strategaeth honno. Efallai mai un agwedd ohoni, sy'n nodedig iawn, yw lleoliad cerddoriaeth newydd yng nghanol y ddinas, a brwdfrydedd a bwrlwm newydd o amgylch y sîn gerddoriaeth. Mae hanes hir o berfformiadau cerddoriaeth bigog, fodern a lleoliadau a chryfder yng Nghasnewydd. Rwy'n credu bod y strategaeth ddiwylliannol newydd yn tynnu ar hynny i raddau helaeth. Ond mae'n llawer ehangach na cherddoriaeth; mae'n gerddoriaeth a'r celfyddydau a diwylliant yn fwy cyffredinol.

Tybed, Gweinidog, a ydych chi'n bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol fel Casnewydd, sy'n arbennig o uchelgeisiol o ran cael y strategaeth ddiwylliannol newydd hon ac eisiau ei datblygu a'i thyfu. Sut allwch chi weithio gydag awdurdodau i wneud yn siŵr bod y potensial yn yr ardal yn cael ei wireddu?

Diolch i John Griffiths am hynna. Rwy'n credu bod yr holl bethau sy'n digwydd yng Nghasnewydd ar hyn o bryd yn gyffrous iawn nid yn unig i'r ardal, ond i Gymru gyfan. Roedd yn wych bod yno dros gyfnod y Pasg gyda Jayne Bryant ac arweinydd y cyngor, Dimitri. Roeddwn i'n falch iawn o weld Dimitri yn cael ei ailethol yn arweinydd y cyngor. Rwy'n credu bod y strategaeth ddiwylliannol ar gyfer Casnewydd a'r holl bethau y mae John Griffiths wedi'u crybwyll wedi digwydd i raddau helaeth oherwydd ei arweinyddiaeth. Byddwn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol, wrth gwrs. Un o'r cyfarfodydd dwyochrog y byddaf yn eu cael gyda Gweinidogion fydd gyda'r Gweinidog llywodraeth leol oherwydd rwy'n credu bod gan y gweithlu llywodraeth leol rôl allweddol i'w chwarae yn hyn, yn ogystal ag o ran sgiliau.

Ond mae uchelgeisiau strategaeth ddiwylliannol Casnewydd yn cyd-fynd yn dda iawn â'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Roeddwn i yng Nghaerllion ddoe gyda'r ddau aelod cabinet o Gasnewydd sy'n gyfrifol am dwristiaeth a diwylliant. Roedden ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig yng Nghaerllion. Mae honno'n arwyddocaol yn genedlaethol, ond mae hi'n arwyddocaol yn rhyngwladol hefyd i dreftadaeth ddiwylliannol, ac mae ar garreg ein drws. Rwy'n credu bod llawer mwy i'w wneud yno, ac roedd yn braf gallu lansio'r blaenoriaethau yng Nghasnewydd, yng Nghaerllion.

Mae'r sîn gerddoriaeth yn fyw ac yn iach yng Nghasnewydd. Rwy'n gwybod efallai nad oes TJ's yno mwyach, ond mae yna bethau sy'n cymryd ei le, ac rwy'n credu bod yr holl waith y mae Le Pub, ac eraill, yn ei wneud yn y maes hwn yn gyffrous iawn. Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw gyda'r llwybr cerddoriaeth—mae hwnnw newydd fod, ond y rhai y byddan nhw'n eu cael yn y dyfodol. Byddwn ni'n mynd ymlaen i'w cefnogi yn y modd hwnnw, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelod hefyd.

17:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fel rydych chi wedi'i amlinellu, mae cyfleoedd creadigol yn helpu ein pobl ifanc i ddod o hyd i'w llais, i fagu hyder, ac i deimlo'n falch o'u gwir hunaniaeth a dathlu o ble maen nhw'n dod. P'un a yw'n gerddoriaeth, celf, hapchwarae neu ffilm, mae diwylliant yn ein codi ni ac yn agor drysau i yrfaoedd go iawn. Mae'r Rhondda yn gartref i rai o'n sêr mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda phobl fel Sophie Evans a Callum Howells yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

Yn fwy diweddar, rydyn ni wedi gweld genedigaeth y sioe gerdd Turning the Wheel, sydd wedi darparu cyfleoedd i awduron, artistiaid, actorion ac actoresau lleol. Rydyn ni hefyd yn ffodus yn y Rhondda i gael sefydliadau rhagorol fel Spectacle Theatre, sy'n cefnogi pobl ifanc drwy'r celfyddydau. Rwyf wedi bod yn ffodus i brofi'r cyrsiau cerddoriaeth a hapchwarae sydd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd ac i weld Ysgol Gynradd Llwyncelyn ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn agor diwylliant Cymraeg i'r genhedlaeth nesaf. 

Rydych chi'n sôn yn eich datganiad am beidio â gadael plant o gymunedau dosbarth gweithiol ar ôl o ran cael mynediad at ddiwylliant. Allwch chi amlinellu ymhellach sut all y strategaeth gyflawni hyn ac adeiladu ar y cyfleoedd sydd eisoes ar gael?

Diolch i Buffy Williams am godi'r pwyntiau pwysig yna. Unwaith eto, mae yna lawer o bethau'n digwydd yn y Rhondda, ac mae'n wych. Mae'n llawn hanes diwylliannol, yn enwedig hanes dosbarth gweithiol. Rwy'n credu bod gennym ni hanes dosbarth gweithiol balch yng Nghymru, a dylem bob amser geisio dathlu hynny. Rwy'n edrych ymlaen at ei ddathlu gyda'r Aelod.

Mae gen i ddiddordeb arbennig yn y pwynt a gododd yr Aelod am hapchwarae. Nid yw hapchwarae a'r diwydiannau creadigol yn cael eu crybwyll yn uniongyrchol yn yr uchelgeisiau, ond bydd yn cysylltu'n agos â'r 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant'. Rwy'n credu bod gofod go iawn rhwng y diwydiannau creadigol ac efallai'r celfyddydau a'r diwylliant mwy traddodiadol, a sut maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Rwy'n credu y bydd y ddogfen flaenoriaethau yn helpu i lywio'r sgwrs honno.

Pan oeddwn i ym Mhrifysgol Wrecsam yn edrych ar rywfaint o'r gronfa gemau rydyn ni'n ei darparu trwyddyn nhw, fe ges i gyfle i gwrdd â myfyriwr yno sydd wedi creu ei gêm ei hun a'r holl dechnoleg y mae'n rhaid i chi allu ei defnyddio i wneud i hynny ddigwydd, ond mewn gwirionedd, mae'r golygfeydd yn y gêm—nid dim ond y ffordd y caiff y gêm ei chwarae a'r sgript ar gyfer y gêm—mae wedi paentio pob golygfa. Felly, mae wedi defnyddio ei ryddid artistig ar un ochr ac yna mae wedi mynd ymlaen i gynhyrchu'r gêm, ac rwy'n meddwl bod yna lawer mwy o gyfle i gydweithio.

Rwy'n falch iawn o weld yr Aelod yn sôn, unwaith eto, am bwysigrwydd plant a phobl ifanc yn cael mynediad at ddiwylliant. Rwy'n credu y bydd yr ymateb, yr wyf eisoes wedi'i nodi, o ran talu'r costau teithio a'r tocynnau hynny—a byddwn yn edrych ar fanylion yr hyn y bydd hynny'n ei olygu—yn mynd rhywfaint o'r ffordd i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y cyfle.

Dim ond ddoe, pan oeddwn i yng Nghaerllion, fe ges i fy atgoffa am Gwilym, a oedd yn wyth oed pan aeth yno am y tro cyntaf. Felly, yn debyg iawn i mi, pan wnes i ymweld â Theatr Clwyd am y tro cyntaf a gwneud y prosiect hwnnw gyda nhw yn y gogledd, roedd Gwilym yn wyth oed pan gafodd ei ysbrydoli gan yr holl hanes Rhufeinig yng Nghaerllion. Erbyn hyn, Gwilym yw pennaeth Cadw. Rwyf eisiau gweld mwy o Gwilyms ym mhob rhan o Gymru, i gael eu hysbrydoli gan y diwylliant sydd gennym ni yma. Rwy'n credu y bydd y weledigaeth a nodir yn y 'Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant' yn ein galluogi i gynnig mwy o brofiadau ac ysbrydoliaeth i fwy o bobl ledled Cymru. Rydyn ni'n edrych ymlaen at wneud hynny, gan gynnwys mewn cymunedau dosbarth gweithiol fel y rhai y mae'r Aelod a minnau'n eu cynrychioli. Diolch.

Diolch i'r Gweinidog.

Ac fe wnaf i ychwanegu: peidiwch ag anghofio celf stryd hefyd. Mae gennym sîn celf stryd wych yng Nghymru.

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Diweddariad ar Ddigwyddiadau Mawr

Eitem 6 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, diweddariad ar ddigwyddiadau mawr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Rebecca Evans.

Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i dynnu sylw at lwyddiant Llywodraeth Cymru wrth sicrhau bod Cymru yn gyrchfan fyd-eang flaenllaw ar gyfer digwyddiadau mawr. Mae digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes yn rhan hanfodol o'n heconomi ymwelwyr. Drwy ddod â digwyddiadau i gyrchfannau ar hyd a lled Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn ysgogi effaith economaidd gadarnhaol, yn dangos ein lleoliadau o'r radd flaenaf, yn tynnu sylw at ein dinasoedd, ein trefi a'n cymunedau, ac yn rhoi sylw i'n tirweddau anhygoel. Rydyn ni'n gweithio i gefnogi twf lledaeniad daearyddol a thymhorol o ddigwyddiadau cartref a rhyngwladol ledled Cymru gyfan. Wrth wneud hynny, rydyn ni'n denu pobl i ymweld â Chymru, o rannau eraill y DU ac yn rhyngwladol.

Yn ogystal â rhoi hwb i'r economi, mae digwyddiadau yn ein helpu i ddathlu a rhannu ein diwylliant Cymreig unigryw gyda'r byd. Maen nhw hefyd yn darparu manteision ehangach fel cefnogi iechyd meddwl a llesiant, helpu i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a'r celfyddydau, a meithrin ymgysylltu a chydlyniant cymunedol.

Mae sicrhau cymal grand départ o'r Tour de France yn 2027 yn gyflawniad sylweddol. Bydd yn rhoi cyfle i arddangos harddwch naturiol Cymru i gynulleidfa o filiynau, yn ogystal â dod ag effaith economaidd sylweddol i Gymru. Byddwn hefyd yn defnyddio'r digwyddiad i annog pobl o bob oed i roi cynnig ar, neu ddychwelyd i feicio, er enghraifft.

Yn yr un modd, mae cynnal chwe gêm o UEFA Euro 2028 yng Nghaerdydd yn gyfle sylweddol arall. Gallwn fod yn hyderus y bydd y manteision economaidd yn sylweddol, ac y bydd awyrgylch bywiog i gymunedau ac ymwelwyr fel ei gilydd heb os. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn cael eu cyflwyno'n effeithiol ac yn gyfrifol.

Yn fwy agos yn y dyfodol, y penwythnos hwn byddwn yn croesawu rowndiau terfynol rygbi Ewrop i Stadiwm Principality, gan ddod â degau o filoedd o gefnogwyr o Loegr a Ffrainc i'n prifddinas a rhoi hwb i'r economi. Rydym ni'n gobeithio y bydd ein croeso cynnes Cymreig yn gweld y cefnogwyr yn ysu i ddod yn ôl am fwy.

Hefyd yn digwydd y penwythnos hwn mae Gŵyl Devauden yn sir Fynwy. Mae ein cefnogaeth ni yma gan Lywodraeth Cymru wedi ei helpu i dyfu o ŵyl undydd i ŵyl dridiau, ac mae'r elw o'r digwyddiad yn cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned, gan alluogi pobl leol i gael mynediad at weithgareddau celfyddydol, chwaraeon, diwylliannol a chymunedol drwy gydol y flwyddyn. Ac yna, ym mis Gorffennaf, byddwn yn dod â'r AIG Women's Open i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl. Dyma'r digwyddiad chwaraeon mwyaf i ferched yn unig erioed i'w gynnal yng Nghymru.

Mae'r Ŵyl Rhwng y Coed, dros benwythnos gŵyl y banc ym mis Awst, yn denu bron i hanner ei chynulleidfa o'r tu allan i Gymru i fwynhau harddwch coedwigoedd Tregawntlo ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, denodd yr ŵyl tua 20 y cant yn fwy o ymwelwyr yn 2024. Mae'n creu hyd at 50 o leoliadau i wirfoddolwyr ar gyfer grwpiau cymunedol ledled ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe'i rhestrwyd yn narn 'Ten great ideas for August bank holiday' The Guardian.

Rydym ni hefyd yn falch o gefnogi rhaglen o weithgareddau sy'n dathlu canmlwyddiant geni un o eiconau diwylliannol Cymru eleni, sef Richard Burton, sy'n arddangos a hyrwyddo ei fan geni i gynulleidfa ryngwladol. Mae dathlu eiconau byd-enwog o ddiwylliant Cymru yn ffordd wych o ysbrydoli pobl i ymweld â Chymru. Po fwyaf o bobl sy'n gwybod am Gymru, y mwyaf maen nhw eisiau ymweld. Mae'r rhaglenni hyn sy'n dathlu pobl fel Burton, Dylan Thomas a Roald Dahl mewn ffyrdd creadigol a difyr yn taro tant ymhlith cefnogwyr ledled y byd ac yn dangos balchder Cymru yn eu llwyddiannau.

Rydym ni bob amser yn edrych i'r dyfodol i ddod â mwy o ddigwyddiadau i Gymru, ac mae gennym ni ddigwyddiadau yn y calendr hyd at 2030. Nid ydym yn hunanfodlon, fodd bynnag, ac rydym ni'n trafod yn rheolaidd gydag ystod o berchnogion digwyddiadau am gyfleoedd yn y dyfodol. Mae'n rhaid i rai o'r trafodaethau hyn fod yn gyfrinachol, ond byddwn yn parhau i gloriannu gwahanol ddewisiadau i ddod â digwyddiadau mwy cyffrous i Gymru.

Mae cyfleoedd digwyddiadau yn cael eu hystyried o fewn fframwaith ein strategaeth Digwyddiadau Cymru, sy'n ceisio gwneud y mwyaf o fanteision digwyddiadau mawr i Gymru. Y llynedd yn unig, fe welsom ni enillion ar fuddsoddiad o dros 10:1, gan gefnogi bron i 1,000 o swyddi yn yr economi dwristiaeth ehangach, a darparu cyfleoedd arddangos i bron i 1,000 o artistiaid o Gymru.

Mae'r niferoedd yn dweud rhan o'r stori o ba mor werthfawr y gall digwyddiadau fod, ond nid ydynt yn dweud y stori gyfan. Drwy ddarparu cyllid a chefnogi digwyddiadau'n uniongyrchol, rydym yn gweld ac yn clywed yn uniongyrchol y cyfraniad hanfodol y mae digwyddiadau yn ei wneud i fusnesau yng Nghymru. O gyflenwyr cwrw a faniau bwyd i dechnegwyr llwyfan a pheirianwyr sain, mae yna bobl a busnesau sy'n ffynnu ledled Cymru oherwydd yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir yma.

Mae cynnal digwyddiadau mawr yn gofyn am gynllunio a chydweithrediad gofalus, ac ni allwn ni gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer sector ffyniannus ar ein pennau'n hunain. Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu cynnal yn llwyddiannus a'u bod yn darparu manteision go iawn i bobl Cymru. Rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r angen i gydbwyso'r manteision posibl â'r costau a'r effeithiau posibl. Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein buddsoddiad mewn digwyddiadau yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael a'i gyflwyno mewn ffordd sydd o fudd i Gymru gyfan. Diolch.

17:10

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am y diweddariad ar hyn. Rydym yn croesawu'n gynnes y weledigaeth i sefydlu Cymru fel cyrchfan fyd-eang flaenllaw ar gyfer digwyddiadau mawr—fel y dywedoch chi, sicrhau cymal o grand départ Tour de France yn 2027; AIG Women's Open yn y Royal Porthcawl, cwrs rydw i'w edrych ymlaen at chwarae arno yr wythnos nesaf; chwe gêm o UEFA Euro 2028, ac nid chwe gêm yn unig, ond y seremoni agor hefyd; ac, yn amlwg, y penwythnos hwn, mae gennym ni rowndiau terfynol rygbi Ewrop yma yn y brifddinas. Cerrig milltir trawiadol. Fel y mae eich datganiad yn tynnu sylw ato'n briodol, mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd sylweddol i roi hwb i'n heconomi, arddangos diwylliant Cymru, a thynnu sylw byd-eang at ein tirweddau, ein cymunedau a'n lleoliadau hynod.

Fodd bynnag, er bod uchelgais y strategaeth yn glir ac yn glodwiw, yr her allweddol o hyd yw cyflawni hynny, fel gyda phopeth. Ar hyn o bryd, mae pryderon o hyd ynghylch a yw'r seilwaith angenrheidiol a chynllunio hirdymor ar waith i gefnogi sector digwyddiadau sy'n tyfu ac yn ffynnu. Mae eich datganiad yn gwneud pwynt pwysig am fanteision economaidd digwyddiadau mawr a'r enillion ar fuddsoddiad maen nhw'n ei gynnig, ond dim ond pan fydd mynychwyr yn gallu teithio i ac o ddigwyddiadau yn hawdd ac yn ddiogel y gellir gwireddu'r manteision hynny, ac nid yw hynny'n wir yn aml. Mae digwyddiadau ar raddfa fawr, gan gynnwys cyngherddau cerddoriaeth, yn enwedig yng Nghaerdydd, yn aml yn cael eu llesteirio gan wasanaethau rheilffyrdd gwael, gan gynnwys diffyg trenau hwyr y nos ac amserlenni dydd Sul afreolaidd. Mae hyn yn bryder parhaus.

Sut ydych chi'n gweithio gyda'ch cyd-Aelodau, yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth a Trafnidiaeth Cymru, ar gynllunio blaengar ac atebion ymarferol, yn enwedig pan fo'r digwyddiadau hyn yn hysbys ymlaen llaw? Yn ogystal, rwy'n pryderu am y penderfyniad i ddileu'r rheilffordd ychwanegol ar gyfer digwyddiadau mawr, seilwaith a fyddai wedi bod yn hanfodol i gynyddu capasiti rheilffyrdd yn ystod cyfnodau brig. Sut mae canslo'r prosiect hwn yn cefnogi nodau'r strategaeth digwyddiadau? Pa atebion amgen sy'n cael eu harchwilio i ddiwallu'r un angen? Oherwydd gadewch i ni fod yn glir, roedd hwn yn £10 miliwn a wariwyd ar linell reilffordd na fydd bellach yn cael ei hadeiladu.

Yn agosach at adref i mi, mae Ironman yn Ninbych-y-pysgod yn parhau i fod yn un o brif ddigwyddiadau chwaraeon y genedl, gan ddenu athletwyr ac ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Ac eto, yn 2023, roedd niferoedd ymwelwyr rhyngwladol yn dal i fod tua 13 y cant yn is na'r niferoedd cyn y pandemig. Felly, pa gamau penodol sy'n cael eu cymryd i ddenu mwy o ymwelwyr rhyngwladol i ddigwyddiadau mawr yma yng Nghymru? Rwy'n dal i gofio gyda balchder y Cwpan Ryder ac uwchgynhadledd NATO yn cael eu cynnal yma—dau ddigwyddiad pwysig, ond am resymau gwahanol iawn, a ddaeth â llygaid rhyngwladol newydd ar Gymru.

Mae'n galonogol clywed bod cynllunio eisoes ar y gweill ar gyfer digwyddiadau hyd at 2030. Wrth edrych dramor, mae Awstralia yng nghanol ei degawd euraidd o chwaraeon, rhwng 2023 a 2033, gan gynnwys taith Llewod Prydain ac Iwerddon yr haf hwn, a Gemau Olympaidd yr haf ar y gorwel. Er bod yn rhaid i mi gyfaddef yn anfoddog y gallai'r Gemau Olympaidd fod yn dipyn o straen i ni eu cynnal yma yng Nghymru, mae Gemau'r Gymanwlad yn llawer mwy realistig, a gellid cynnal un mewn sawl lleoliad ledled Cymru. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried dichonoldeb cyflwyno cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol?

Wrth edrych ymhellach ymlaen, soniodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mewn tystiolaeth i'r pwyllgor diwylliant yr wythnos diwethaf, am y posibilrwydd o gynnig am rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn 2029, neu hyd yn oed Cwpan y Byd Merched FIFA yn 2035. Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi'n ymwybodol o'r uchelgeisiau hyn? Os felly, pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i'r FAW i geisio gwireddu hyn?

Wrth gwrs, nid yw digwyddiadau mawr yng Nghymru wedi'u cyfyngu i chwaraeon yn unig. Fel y nodwyd yn eich datganiad, maen nhw'n cynnwys digwyddiadau diwylliannol ac amaethyddol hefyd. Rwyf wedi siarad yn aml yn y Siambr drws nesaf am fy mhererindod flynyddol i ganolbarth Cymru ar gyfer y Sioe Frenhinol—dros 200,000 o bobl yn dod i Lanfair-ym-Muallt. Dyna fy ngŵyl Glastonbury i, Ysgrifennydd Cabinet. Gallwch gadw eich Worthy Farm—mae'n well gen i ffermwyr mewn siorts harlequin, botasau dealer, festiau cneifio, arogl y llinellau gwartheg, a blas seidr cryf yn Llanfair-ym-Muallt na Beyoncé mewn unrhyw ŵyl gerddorol unrhyw ddydd. Ond dyna ni, dim ond fi yw hyn, ac efallai Alun Davies hefyd. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sioeau amaethyddol blynyddol hyn—nid yn unig y Sioe Frenhinol ond hefyd sioeau fel Sioe Sir Benfro a'r rhai llai sydd mor hanfodol i'n ffordd wledig o fyw ac economïau lleol? Mae gan Gymru yr hyn sydd ei angen—y ddawn, y lleoliadau a'r harddwch naturiol—ond mae'n rhaid paru gweledigaeth feiddgar â gweithredu ymarferol bob amser. Mae arnom ni eisiau gweld y strategaeth hon yn llwyddo, nid yn unig wrth gynhyrchu rhestr sgleiniog o ddigwyddiadau amlwg, ond gan greu gwaddol parhaol, cynhwysol i gymunedau ledled Cymru. Mae hynny'n golygu trwsio'r seilwaith sy'n sail i'r profiad, cefnogi'r sbectrwm llawn o ddigwyddiadau, o dwrnameintiau o'r radd flaenaf i sioeau lleol annwyl, a sicrhau bod y manteision yn cael eu teimlo ymhell y tu hwnt i'r cae, y llwyfan neu'r arena.

Fy mharagraff olaf, Dirprwy Lywydd—

17:15

Mae'n frawddeg. Yn wir. Felly, wrth i ni ddathlu'r uchelgais, byddwn yn parhau i herio'r cyflawniad yn adeiladol a chyda'r gobaith a rennir y bydd Cymru'n dod yn genedl flaenllaw ar gyfer digwyddiadau ar y llwyfan byd-eang.

Diolch am eich amynedd.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau yna y prynhawn yma. Rwy'n credu bod awydd ar y cyd ar draws y Senedd i Gymru ddod yn wirioneddol lwyddiannus ac i ymgorffori ymhellach ein henw da fel lle gwirioneddol lwyddiannus i gynnal digwyddiadau mawr. Rwy'n credu bod y gwaith rydym ni wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi dangos yr hyn sydd gennym i'w gynnig yma yng Nghymru. Os edrychwch chi ar 2024 yn unig, gallwch weld blwyddyn wirioneddol o gyflawni yno. Fe gawsom ni gefnogaeth 35 o ddigwyddiadau drwy ein rhaglen Digwyddiadau Cymru, felly 25 digwyddiad diwylliannol a 10 digwyddiad chwaraeon, a gyda'i gilydd fe wnaethan nhw gynhyrchu effaith economaidd amcangyfrifedig o dros £40 miliwn i economi Cymru, gydag enillion ar fuddsoddiad o dros 10 i un. Fe wnaethan nhw ddenu bron i 170,000 o ymwelwyr i Gymru a chefnogi 944 o swyddi yn yr economi dwristiaeth ehangach, a darparu dros 4,000 o gyfleoedd i wirfoddolwyr. Ac mae'r cyfleoedd arddangos hynny i dros 1,000 o artistiaid Cymreig rwy'n credu yn wych o ran tystiolaeth o'r gwaith rydym ni'n ei wneud drwy Ddigwyddiad Cymru. Rwyf wedi ceisio canolbwyntio fy natganiad y prynhawn yma ar y digwyddiadau rydym ni'n eu cefnogi'n uniongyrchol drwy Lywodraeth Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae cymaint mwy o ran y darn ehangach hwnnw o gael Cymru yn lle croesawgar, a'r gwaith rydym ni'n ei wneud drwy Croeso Cymru i roi Cymru ar fap y byd hefyd. Felly, mae hyn yn rhan fach o'r gwaith rydym ni'n ei wneud yn y sector penodol hwn, ond mae'n sicr yn bwerus iawn.

Roedd y sylwadau a wnaed rwy'n credu yn rhai da iawn am dwristiaid rhyngwladol ac ymwelwyr rhyngwladol i ddigwyddiadau. Yn 2023, sef y flwyddyn ddiweddaraf y mae gennym ni ffigurau ar ei chyfer, derbyniodd Cymru 892,000 o ymweliadau rhyngwladol. Roedd hynny'n cynnydd o 30 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn gynt, felly mae'n ddarlun sy'n gwella yn hynny o beth, ac eto mae hyn yn rhannol oherwydd y gwaith gwych hwnnw rydym ni'n ei wneud drwy Croeso Cymru. Bydd cyd-Aelodau wedi gweld yr ymgyrch 'dewch a theimlo'r hwyl', sydd yn fy marn i wedi cael derbyniad da iawn. Derbyniodd lawer o ganmoliaethau, mewn gwirionedd, o fewn y cyfryngau ledled y DU, ond yn bwysicach fyth mae wedi cael ei weld gan filiynau o bobl, yn enwedig yn ein marchnadoedd targed yn yr Unol Daleithiau a'r Almaen. Felly, rwy'n credu bod hyn, fel y dywedais, yn rhan o ddarlun ehangach.

Rwy'n credu bod gwneud yn siŵr y cynhelir digwyddiadau yn llyfn a didrafferth yn bwysig iawn, ac fel rhan o hynny, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth. Dw i'n meddwl mai enghraifft dda iawn o hynny fyddai'r grŵp cyswllt digwyddiadau'r stadiwm yng Nghaerdydd. Mae hynny ynghylch Stadiwm Principality ac mae ganddo gynrychiolaeth gan yr heddlu, y sector rheilffyrdd, y gwasanaeth ambiwlans, Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, Undeb Rygbi Cymru hefyd. Maen nhw'n cwrdd yn rheolaidd i drafod effeithiau posibl digwyddiadau yn y stadiwm ar ganol y ddinas a'r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r heriau penodol hynny. Ac maen nhw'n heriau, wrth gwrs, oherwydd pan fydd gennych chi ddegau o filoedd o bobl i'w cludo, i gyd mewn un lle, mewn ffordd lai nag arferol, mae'n anodd ei reoli. Ond rwy'n gwybod bod y grŵp hwnnw'n gweithio'n galed iawn i wneud pethau mor llyfn â phosibl.

Fel y soniais yn y datganiad, rydym ni'n edrych ymlaen at ble mae'r cyfleoedd posibl yn y dyfodol. Rwy'n ymwybodol o'r cyfleoedd ynghylch Gemau'r Gymanwlad. Dw i'n meddwl bod hynny'n hynod bwysig, a dyma'r lefel uchaf y mae pobl yn cystadlu arni o dan faner Cymru mewn chwaraeon hefyd, felly dw i'n meddwl bod hynny'n bwysig. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae'r gemau yn esblygu yn y dyfodol a beth fydd y strategaeth gynnal ar gyfer blynyddoedd i ddod, oherwydd mae potensial, rwy'n credu, i'r strategaeth gynnal honno fod yn chwilio am sawl dinas i gynnal digwyddiadau o'r fath. Ac a fydd yn parhau i fod yn ddigwyddiad llai, oherwydd ei fod yn ddigwyddiad llai ar yr achlysur diwethaf? Felly, rwy'n credu y bydd y ffactorau hynny'n dylanwadu ar a yw hi'n gredadwy i ni ystyried ei chynnal yma yng Nghymru, ond rydyn ni'n cadw golwg  fanwl iawn ar y sefyllfa honno. Ac yn yr un modd â rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym yn gwybod, wedi bod yn agored iawn ynglŷn â'i huchelgeisiau i ddod â'r digwyddiad i Gymru yn y dyfodol, ac yn amlwg bydd hynny'n golygu cyd-ymdrech wirioneddol i sicrhau rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Felly, mae'n bwysig bod yr holl randdeiliaid yn cael eu dwyn i mewn i'r trafodaethau hynny yn gynnar i ddeall costau a manteision llawn cynnal hynny, ac mae disgwyl i mi gwrdd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gael rhai o'r trafodaethau hynny hefyd, felly rydym yn ymwybodol o'r cyfleoedd hynny ar gyfer y dyfodol hefyd.

Ac yna rwy'n credu bod y sylwadau a wnaed am ddigwyddiadau diwylliannol yn rhai da iawn. Ar ddechrau ymateb i'r pwyntiau hyn, siaradais am nifer y digwyddiadau sy'n cael eu cefnogi, ac, mewn gwirionedd, rydym yn cefnogi mwy o ddigwyddiadau diwylliannol na digwyddiadau chwaraeon, er mai'r digwyddiadau chwaraeon mawr hynny yn aml sy'n cael y sylw, ac rwy'n credu bod gennym ni rai enghreifftiau da iawn o'r rheini. Gyda'i gilydd, maen nhw'n cyfrannu tua £20 miliwn o wariant ychwanegol o fewn economi Cymru bob blwyddyn, ac mae'n fwy na dim ond un diwrnod o'r digwyddiadau hynny; mae'n ymwneud â dathlu ein diwylliant a'n hiaith i ymwelwyr rhyngwladol a darparu'r cyfleoedd pellach hynny ar gyfer ymgysylltu a gwirfoddolwyr a datblygu sgiliau ac ati. Felly, maen nhw'n hynod werthfawr, ac rydym ni'n falch iawn o groesawu a chefnogi cymaint ohonyn nhw ag y gallwn ni.

17:20

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad.

Rwyf am ddechrau trwy groesawu'r sgwrs a gafwyd ynghylch trafnidiaeth, oherwydd mae'r pwynt y mae Sam Kurtz yn ei wneud ynghylch trafnidiaeth yn hynod o bwysig. Nid yw'n ymwneud â'r rhai sy'n mynd i'r gigs neu'r digwyddiadau yn unig, ond hefyd y rhai sy'n gweithio yn y sector.

Wn i ddim a ydw i wedi sôn o'r blaen, ond roeddwn i'n arfer gweithio yn y sector lletygarwch. Rwyf bob amser wedi cadw hynny'n weddol dawel—wedi cadw pobl yn meddwl tybed beth oeddwn i'n arfer ei wneud o'r blaen. Ond i fod o ddifrif, pan oeddem ar shifft yng Nghaerdydd, pan ddigwyddodd y digwyddiadau mawr hynny, roedd yn aml yn golygu eich bod chi'n gweithio'n hwyrach, ac roedd gweithio yn hwyrach yn golygu nad oedd mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd nad oedd trafnidiaeth gyhoeddus, boed hynny'n drên neu'n fws, yn rhedeg, a oedd wedyn, yn fy achos i, yn arwain at naill ai cael tacsi, sy'n anhygoel o ddrud, neu gerdded 2 filltir i fynd yn ôl i'r cartref.

Felly, rwy'n credu, mewn rhan o'r sgyrsiau hynny sy'n digwydd nawr gyda Trafnidiaeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, mae angen sgwrs am y gwasanaethau hwyr yn y nos, nid yn unig fel y gall pobl fynd yn ôl ac ymlaen o'r gwaith yn hawdd, ond hefyd i sicrhau, felly, bod ffordd ddiogel i'r bobl hynny fynd yn ôl ac ymlaen o'r cartref i'r gwaith, oherwydd, eto, mae rhai o'r digwyddiadau mawr hyn yn arwain at—yn aml, ar adegau—ymddygiad aflonyddgar yng nghanol trefi neu ganol dinasoedd, ac mae'n ei gwneud hi'n bur anniogel i'r bobl hynny sy'n gweithio'n eithaf hwyr i fynd yn ôl adref.

Mae strategaeth digwyddiadau genedlaethol Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth glodwiw, ond byddwn yn ychwanegu na allwn ni adeiladu'r digwyddiadau safonol hynny ar seilwaith simsan. Heb ddatganoli rheilffyrdd, er enghraifft, a chyllid teg, bydd Cymru bob amser ar ei hôl hi. Mae'n wych cael yr uchelgeisiau o ran trafnidiaeth, ond os na allwn ni gefnogi hynny, byddwn ar ei hôl hi'n gyson. Hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld bod a wnelo hyn â mynnu datganoli rheilffyrdd a sicrhau ein cyfran deg o wariant rheilffyrdd yn Lloegr, yna y gwir amdani yw bod y strategaeth yn parhau i fod yn rhestr ddymuniadau yn hytrach na chynllun, oherwydd ni allwch chi honni eich bod yn cefnogi strategaeth digwyddiadau Cymru gyfan pan fo cymunedau a chanolfannau diwylliannol ledled Cymru yn parhau i fod mor wael o ran eu cysylltiadau.

Nawr, un ateb posibl ynghylch canolbwyntio ar drafnidiaeth a gynigir gan Undeb y Cerddorion yw'r syniad hwn o fwrdd cynghori ynghylch economi'r nos neu gynghorydd economi'r nos, beth bynnag rydych chi am ei alw. Maen nhw'n teimlo y gallai hynny fod yn ddefnyddiol iawn wrth fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â'r economi nos, yn enwedig o ran trafnidiaeth. Un o'r ofnau sydd gan Undeb y Cerddorion a nifer o randdeiliaid eraill, a minnau, mewn gwirionedd yw bod potensial llawn yr economi nos yn rhywbeth nad yw'r Llywodraeth hon wedi manteisio arno eto. Mae nifer o ddinasoedd ledled y DU ac Ewrop ehangach wedi bod yn sefydlu'r cynghorwyr economi nos hynny, neu faer economi nos, i arwain ar strategaeth economi nos ac yna arallgyfeirio'r economi nos. Mae dinasoedd fel Manceinion, er enghraifft, yn dangos sut y gellir ail-ddychmygu'r economi nos mewn gwirionedd, yn enwedig pan fo llais sector i'w glywed wrth wneud penderfyniadau, ac mewn gwirionedd yn gwneud yr economi nos yn gonglfaen ailddatblygu yn ein trefi a'n dinasoedd. Felly, fel y dywedais, galwch ef beth bynnag yr hoffech chi, ond a yw'n rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i ystyried ac a yw'n rhywbeth y gallem ni ddisgwyl i Lywodraeth Cymru ei archwilio o ddifrif dros y flwyddyn nesaf?

Yn olaf, fe hoffwn i bwysleisio nad oes rhaid mewnforio digwyddiadau mawr o'r radd flaenaf drwy'r amser. Mae'n gysylltiedig, mewn gwirionedd, â'r adroddiad diwylliannol o'r eitem ddiwethaf. Mae angen i'r Llywodraeth sicrhau bod y cydbwysedd cywir rhwng cefnogi digwyddiadau rhyngwladol a hyrwyddo digwyddiadau lleol, cartref. Er bod dod â digwyddiadau o'r radd flaenaf i Gymru yn dangos uchelgais genedlaethol ac mae'n dangos yr hyder hwnnw, mae angen i ni ddangos yr un gred yng ngwerth digwyddiadau sy'n Gymreig, y rhai sy'n adlewyrchu ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hiaith. Mae gennym ni eisoes ddigwyddiadau cartref anhygoel fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, a'r Eisteddfod, mewn gwirionedd, yw'r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop. Soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei datganiad am ddigwyddiadau y penwythnos hwn, ond, wrth gwrs, gan ddechrau dydd Llun, mae gennym ni Eisteddfod yr Urdd, eto digwyddiad sy'n dod o dan ddigwyddiadau mawr ond nad oedd yn ymddangos yn natganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, er gwaethaf y pwyslais, fel y cyfeiriodd ato wrth ymateb i Sam Kurtz, ar ddigwyddiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Ond y gwir amdani yw y gallen nhw dyfu o sefydliadau cenedlaethol enwog i arddangosfeydd diwylliannol a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae gan Gymru ei hunaniaeth ei hun, ei diwylliant ei hun, un o'r ieithoedd Celtaidd hynaf sydd wedi goroesi a hanes balch. Dyna ein cryfder a dyna sy'n ein gosod ar wahân. Felly, os ydym ni wir eisiau datblygu twristiaeth, treftadaeth gynaliadwy, a hyrwyddo brand Cymru yn fyd-eang, yn union fel y gwnaeth yr Alban ac Iwerddon, mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn yr hyn sy'n ein gwneud ni'n unigryw, gan roi Cymru yng nghanol y strategaeth ddigwyddiadau mawr honno. Felly, i gloi, Llywydd, pa dystiolaeth sydd gan y Llywodraeth i awgrymu bod y rhaglen hon yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng y gefnogaeth y mae'n ei roi i ddigwyddiadau a ddatblygwyd yng Nghymru a gânt eu meithrin gartref a'r rhai sy'n cael eu denu i Gymru o fannau eraill?

17:25

Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau yna. Rwy'n credu bod y pwyntiau ynghylch trafnidiaeth a phwysigrwydd diogelwch nid yn unig i'r bobl hynny sy'n ymweld â'r digwyddiadau mawr hynny, ond hefyd i'r bobl sy'n gweithio yn y digwyddiadau hynny yn rhai da iawn, a byddant yn bethau y bydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn ymwybodol iawn ohonyn nhw pan fydd yn cael ei drafodaethau ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru ac eraill mewn perthynas â sicrhau bod gwasanaeth mor llyfn â phosibl i bobl sy'n mynychu a hefyd yn gweithio mewn digwyddiadau. Byddaf yn ymdrechu i gael sgwrs bellach gydag ef yn dilyn y datganiad heddiw, oherwydd mae'r ddau gyfraniad hyd yma wedi canolbwyntio ar drafnidiaeth.

Mae'r economi nos, unwaith eto, er nad yw'n ddigwyddiad mawr ynddo'i hun, yn wirioneddol bwysig. Rydym yn cydnabod hynny trwy gael cynrychiolydd o'r economi nos ar ein bwrdd sy'n cynghori ynghylch twristiaeth yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed y persbectif hwnnw. Mae'r cynrychiolydd yn glir iawn am bwysigrwydd yr economi nos, natur gynyddol yr economi nos a'r potensial pellach ohoni. Felly, unwaith eto, mae gennym ni gyfle i glywed y llais hwnnw'n glir iawn yn y cyfarfodydd byrddau hynny sy'n cynghori ar dwristiaeth. Ond rwy'n credu mai'r prif gyfraniad y gallaf ymateb iddo, mewn gwirionedd, yw sut rydym yn cefnogi ein digwyddiadau cartref ein hunain.

Rwy'n credu ein bod yn sicrhau cydbwysedd da iawn o ran y gwaith rydym ni'n ei wneud i weithio gyda Llywodraethau eraill i ddod â'r digwyddiadau mawr hynny, os dymunwch chi, i Gymru, ond yna hefyd cynnal ein digwyddiadau mawr ein hunain hefyd. Soniais am Ŵyl Rhwng y Coed—dw i'n meddwl bod hynny'n enghraifft dda iawn. Y llynedd denodd 3,500 o wylwyr dros y penwythnos. Rwy'n credu bod hynny'n enghraifft dda o ble mae digwyddiad yn cwrdd â'n strategaethau ehangach o ran themâu pobl, lleoedd a phlanedau.

Hefyd, wrth gwrs, soniais yn fy natganiad am y gwaith rydym ni'n ei wneud o ran canmlwyddiant geni Richard Burton. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gyfle pellach, mewn gwirionedd, i ni fanteisio ar y cyfleoedd hynny i edrych ar yr unigolion hynny sy'n adnabyddus iawn ym meddyliau pobl yn rhyngwladol ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hynny hefyd. Felly, rydym ni'n cefnogi Castell-nedd Port Talbot yn hynny o beth. Maen nhw'n arwain ar y dathliadau hynny; mae ganddyn nhw raglen o ddigwyddiadau sy'n dathlu 100 mlynedd ers i'r actor gael ei eni. Mae'r gwaith hwnnw wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, sy'n gartref i archifau Richard Burton, a bydd hynny'n gweld digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y rhanbarth, a llawer o ymgysylltiad â'r celfyddydau yn hynny o beth hefyd.

Yna, trwy ein cefnogaeth, mae Eisteddfod yr Urdd, mewn partneriaeth â Theatr Na nÓg, wedi cynhyrchu perfformiad Cymraeg o Halen yn y Gwaed gan blant o Gastell—nedd Port Talbot ac ardaloedd Abertawe. Bydd y sioe honno yn gweld dros 100 o blant yn camu ar lwyfan yr Eisteddfod ym Mharc Margam ddiwedd mis Mai mewn perfformiad sy'n ymroddedig i fywyd a gwaddol Richard Burton. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos ffyrdd rydym ni'n ceisio dod â'r pethau hynny at ei gilydd.

Ac yna, rydym ni wedi cefnogi rhai fersiynau cynnar o ddigwyddiadau torfol mawr yng Nghymru sydd wedi datblygu, mewn llawer o achosion, i fod yn llwyddiannus yn eu hawl eu hunain ac nad oes angen cefnogaeth bellach gennym ni. Felly, rhoddodd Digwyddiadau Cymru gefnogaeth ariannol i fersiynau cynnar Hanner Marathon Caerdydd, er enghraifft, ac rydym ni wedi clywed am Ironman Cymru yn Ninbych-y-pysgod, ac mae'r pethau hynny wedi datblygu i sefydlu eu hunain fel conglfeini yn y calendr byd-eang ar gyfer y chwaraeon hynny ac wedi rhoi hwb economaidd mawr hefyd. Felly, rwy'n credu bod yna ffyrdd rydym ni wedi cefnogi'r gweithgareddau hyn o'r dechrau ac rwy'n credu bod gennym ni gydbwysedd da iawn rhwng y digwyddiadau mawr hynny, sy'n ddigwyddiadau unwaith mewn cenhedlaeth, ac yna'r digwyddiadau hynny sy'n aml yn flynyddol neu bob dwy neu bedair blynedd, digwyddiadau wedi'u meithrin yn lleol, yr ydym yn ceisio eu cefnogi a'u cynnal.

17:30

Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich datganiad heddiw. Roedd hi'n drueni na sonioch chi am Uwch Gynghrair y Dartiau sy'n dod i Gaerdydd bob blwyddyn—roeddwn i'n siomedig iawn i beidio â chlywed am hynny, oherwydd mae'r nifer o bobl sy'n heidio i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad hwnnw yn enfawr, ac rwy'n un ohonyn nhw fy hun.

Fodd bynnag, roedd yn dda iawn eich clywed chi'n sôn am Bencampwriaeth Agored Menywod AIG. Dyma'r digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf i Gymru ei weld erioed, ac mae hefyd yn un o'r digwyddiadau chwaraeon menywod mwyaf ym maes golff ledled y byd i gyd, felly rwy'n credu ein bod ni'n fraint iawn cael y digwyddiad hwnnw yn dod i Gymru. Fe hoffwn i ei nodi ar y cofnod, dros bawb, rwy'n siŵr, ein diolch i Rob Holt, a oedd yn arfer gweithio i Lywodraeth Cymru ac sydd bellach yn gadeirydd Golff Cymru, am ei holl waith i gael y digwyddiad hwnnw i'r wlad.

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae gennym ni Pencampwriaeth Agored y Menywod ac rydyn ni wedi cael y Cwpan Ryder. Mae yna ddau ddigwyddiad mawr yr hoffwn i eu gweld yn dod i Gymru. Y rheini yw Cwpan Solheim, sef fersiwn menywod Cwpan Ryder, a hefyd y bencampwriaeth Agored. Ond yr hyn rydym ni'n ei wybod am y bencampwriaeth Agored yw, er mwyn cynnal hynny yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, bod angen rhywfaint o fuddsoddiad mewn seilwaith yn yr ardal honno o ran llety ac elfennau o ran trafnidiaeth. Dyna fyddai'r pinacl i ni gael mwy o bobl i ymweld â Chymru am brofiadau golff. Ac mae gen i ddiddordeb yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fuddsoddi yn y seilwaith hwnnw fel y gallwn ni ddod â'r digwyddiadau enfawr hynny i Gymru i'n gwneud ni mewn difrif y cyrchfan golff fyd-eang hwnnw y mae pawb eisiau ei weld.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny a'r gydnabyddiaeth o'r llwyddiant o ddod â Phencampwriaeth Agored Menywod AIG i Borthcawl. Rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn ac mae rhywbeth, unwaith eto, rwy'n gwybod sy'n cael ei groesawu ar draws y Senedd. Gwneud llwyddiant o'r twrnamaint penodol hwnnw fydd y prawf, os mynnwch chi, bod hwn yn lleoliad o'r radd flaenaf. Bydd gennym y byd i gyd yn gwylio Porthcawl bryd hynny, ac rwy'n credu os gallwn ni gynnal rhywbeth sy'n hollol anhygoel o ran y golff sydd ar gael, ond hefyd y cyfleusterau, a rhoi croeso priodol i'r bobl hynny sy'n cymryd rhan ynddo a'u timau ac yn y blaen, fel y gallwn ni ddangos, mewn gwirionedd, mai dyma'r lle absoliwt i ymgymryd â'r twrnameintiau hyn, rwy'n credu mai dyma'r her rydym ni wedi'i gosod o ran gwneud hyn yn llwyddiant a phrofi beth y gellir ei wneud ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n falch iawn bod cyd-Aelodau wedi gwirioni amdano, ac yn edrych ymlaen yn fawr at wneud popeth y gallwn ni, fel Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr ei fod yn llwyddiannus.

Ddydd Gwener diwethaf, rhoddodd yr Uchel Lys ddyfarniad yn achos Brockwell Park yn Lambeth. Er bod paragraff 115 o'r dyfarniad yn cydnabod yn glir y pwysau ariannol sy'n wynebu'r awdurdod lleol, mae'n nodi bod yn rhaid i'r ddyletswydd statudol i gynnal parciau cyhoeddus fel amwynderau i'r cyhoedd barhau i fod yn flaenoriaeth. Gellir caniatáu i weithgareddau masnachol gynhyrchu incwm ar gyfer cynnal a chadw'r parc, ond ni allan nhw fod mor helaeth fel eu bod yn newid y cymeriad neu'r lle yn sylfaenol, neu ymyrryd yn sylweddol â'i brif bwrpas. Mae'r dyfarniad yn atgyfnerthu'r angen am gydymffurfiaeth gyfreithiol drylwyr, asesiadau effaith amgylcheddol ac ymgynghori cymunedol gwirioneddol. Nawr, mae llawer ohonom ni wedi derbyn gohebiaeth gan etholwyr sy'n pryderu am rannau helaeth o Barc Bute yn cael eu ffensio at ddefnydd masnachol. Yn dilyn y dyfarniad diweddar iawn, Ysgrifennydd Cabinet, a wnewch chi gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol i sicrhau nad yw masnacheiddio mannau cyhoeddus yn effeithio'n annheg ar gymunedau a'r defnydd o fannau cyhoeddus? Diolch yn fawr.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n gwybod bod Rhys ab Owen wedi cyflwyno cwestiwn llafar ar y pwynt penodol hwn, na chafodd sylw yn y Cyfarfod Llawn, felly mae'n dda cael y cyfle y prynhawn yma i fynd i'r afael â hynny. Gallaf ddweud bod Cadw yn cysylltu â Chyngor Caerdydd i sicrhau bod y digwyddiadau yn parchu diddordeb arbennig eithriadol y parc hanesyddol. Ar gyngor Cadw, mae Cyngor Caerdydd yn paratoi asesiad o'r effaith ar dreftadaeth i sicrhau nad yw'r parc yn cael ei gyfaddawdu'n ormodol gan y digwyddiadau. Mae awdurdodau lleol sy'n defnyddio pwerau trwyddedu yn gyfrifol am ystyried effeithiau, manteision a chostau digwyddiadau, ac roedd y penderfyniad i ddefnyddio caeau'r Gored Ddu ar gyfer y gyfres newydd hon o gyngherddau yn benderfyniad democrataidd a wnaed gan Gyngor Caerdydd. Ond, yn sicr, yng ngoleuni'r dyfarniad y cyfeiriwyd ato y prynhawn yma, byddaf yn archwilio a oes angen unrhyw arweiniad pellach.

17:35

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma y prynhawn yma ac am gyfraniadau gan yr Aelodau hyd yn hyn. Fe hoffwn i ddim ond gwneud dau bwynt, Ysgrifennydd Cabinet, yn fy swyddogaeth yn Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru. Mae'r cyntaf mewn perthynas â digwyddiadau mawr sydd wedi cael eu cynnal yn hanesyddol yn y rhanbarth, ddim mor bell yn ôl â hynny. Rwy'n meddwl yn arbennig am griced sirol a rygbi rhyngwladol dan 20, a oedd yn aml yn ddigwyddiad rheolaidd yn y gogledd, ond, yn anffodus, dydyn nhw ddim yn bodoli mwyach. Fe wnaethon nhw ddenu miloedd o wylwyr yn eu hamser, felly byddai gen i ddiddordeb gwybod eich barn ar sut y gallwn ni ail-ddenu'r digwyddiadau mawr hynny i'r rhanbarth.

Mae'r ail bwynt mewn perthynas â'r twf rydym ni'n ei weld yn Wrecsam yn ehangach, yn enwedig mewn perthynas â'r clwb pêl-droed, sydd, fel y gwyddom ni, bellach wedi cael ei ddyrchafu i'r bencampwriaeth, ac uchelgeisiau'r clwb pêl-droed i ehangu'r stadiwm, yn y pen draw i gapasiti o 55,000. Byddai gen i ddiddordeb gwybod pa gynlluniau sydd gennych yn y dyfodol i weithio gyda chlwb pêl-droed Wrecsam i wneud defnydd o'r cyfleuster hwnnw er mwyn inni allu denu digwyddiadau mawr i'r gogledd-ddwyrain hefyd. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y pwyntiau hynny. Mae Sam Rowlands yn hollol gywir y gallem ni fod yn gweld, mewn gwirionedd, cyfleuster hollol wych a allai ddenu digwyddiadau yn y dyfodol, ac rydym ni'n awyddus i archwilio hynny gyda'r clwb, ond yna hefyd i gael y sgyrsiau hynny'n ehangach am wneud yn siŵr bod gennym ni ystod go iawn o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru, ac rwy'n credu ein bod ni'n gwneud hynny o fewn y portffolio rydym ni'n ei gefnogi drwy ein rhaglen Digwyddiadau Cymru.

Rwyf hefyd eisiau dweud mor wych oedd y digwyddiad a noddodd Sam Rowlands yr wythnos diwethaf yn y Senedd. Roedd hi'n Wythnos Twristiaeth Cymru, ac roedd yn gyfle i ddod â'r sector twristiaeth at ei gilydd a dathlu'r cyfraniad y mae'n ei wneud i fywyd Cymru, ac i daflu goleuni ar rai o'n busnesau twristiaeth anhygoel sydd gennym ni yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod hyn i gyd yn rhan o'r darlun ehangach hwnnw: y gefnogaeth rydym ni'n ei roi drwy Ddigwyddiadau Cymru i sicrhau y cynhelir y digwyddiadau mawr hyn a digwyddiadau eraill ledled Cymru yn rhan o'n buddsoddiad yn y sector twristiaeth, ochr yn ochr â'r gwaith ehangach hwnnw a wnawn ni drwy Croeso Cymru, lle rydym ni'n hyrwyddo Cymru ledled y byd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn bigo i fyny ar y pwyntiau a godwyd gan Luke Fletcher, yn benodol o ran y Gymraeg a lle'r Gymraeg o fewn y strategaeth digwyddiadau mawr, oherwydd mae yna bwynt ynddi hi o ran hyrwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn digwyddiadau, ond dim am ddigwyddiadau yn y Gymraeg. Nid i bobl sy'n siarad Cymraeg y mae digwyddiadau fel yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig; maen nhw'n ddigwyddiadau rhyngwladol o bwys mawr, ac mae pobl sy'n dod o bedwar ban byd yn rhyfeddu at gael y profiad o fod yn yr Eisteddfod. Rwy'n pryderu o'r ffaith, yn eich ymateb i Luke Fletcher, eich bod chi heb adlewyrchu ar y ffaith bod hynny heb gael ei grybwyll o gwbl yn y datganiad hwn. Mae'n ŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop. Mi fydd yna 15,000 o blant yn cystadlu wythnos nesaf. Felly, a gaf i ofyn pa mor bwysig ydy'r Gymraeg o ran y strategaeth yma? Ydy'r Llywodraeth yn deall pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, oherwydd dwi'n ofni nad ydych chi, o'r sylwadau dwi wedi eu clywed heddiw nac ychwaith yn y strategaeth ei hun?

Wel, yn sylwadau agoriadol y datganiad roeddwn i'n cydnabod swyddogaeth bwysig ein strategaeth ddigwyddiadau o ran rhannu ein hiaith Gymraeg gyda'r byd. Soniais i am hynny yn benodol yn y sylwadau hynny, ac yna es ymlaen i siarad am, mewn ymateb i'r cwestiwn penodol hwnnw, Eisteddfod yr Urdd ei hun. Rhoddais enghraifft o berfformiad penodol sy'n digwydd mewn perthynas â Richard Burton. Felly, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg drwy ein strategaeth Digwyddiadau Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn cael ei chydnabod yn briodol ynddi.

Ond, os yw cyd-Aelodau yn teimlo bod mwy o waith i'w wneud, rwy'n fwy na hapus i gael y sgyrsiau hyn am archwilio sut orau rydym ni'n adnabod Cymru gyfan drwy'r strategaeth ddigwyddiadau honno. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw, oherwydd mae rhai chwaraeon na fydd gan rai pobl ddiddordeb ynddyn nhw, bydd yna ddigwyddiadau nad oes gan lawer o bobl ddiddordeb ynddyn nhw, ond, mewn gwirionedd, mae'r Gymraeg, rwy'n credu, yn rhywbeth y bydd gennym ni i gyd ddiddordeb ynddi, felly mae angen i ni wneud yn siŵr ei bod yn elfen anhepgor o'r strategaeth, yn hytrach na bod o reidrwydd yn ymwneud â digwyddiadau penodol. Er enghraifft, yr ymgyrch 'Teimlo'r hwyl', dyna'r gwaith rydym ni'n ei wneud drwy Croeso Cymru, ac roedd hynny'n fwriadol am fod yn falch iawn o'n hiaith a mynegi hyder gwirioneddol yng Nghymru drwy ddefnyddio gair Cymraeg yng nghanol ein strategaeth Croeso Cymru. Rydym ni wedi gwneud hynny, a dyma Flwyddyn Croeso, unwaith eto, yn rhannu'r Gymraeg. Rwy'n credu bod hynny'n dangos hyder gwirioneddol yn y genedl, a byddwn yn gobeithio ei fod yn rhywbeth sy'n rhan o'n holl strategaeth, yn ogystal â chefnogi digwyddiadau unigol.

17:40
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Rhentwyr

Eitem 7 heddiw yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Rhentwyr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig—Jayne Bryant.

Cynnig NDM8902 Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Rhentwyr i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n falch o ddod â'r cynnig hwn i'r Senedd. Bydd y newidiadau a gyflwynwyd gan y cynnig hwn yn caniatáu mwy o fynediad at lety rhent i hawlwyr budd-daliadau a'r rhai sydd â phlant, gan ddarparu amddiffyniadau ychwanegol i denantiaid o ran llety rhent. Mae hyn oherwydd mesurau diogelu ychwanegol a roddir gan y Bil Hawliau Rhentwyr, a fydd yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn tenantiaid sy'n derbyn budd-daliadau neu sydd â phlant sy'n ceisio rhentu o dan gontract meddiannaeth yng Nghymru. 

Bydd darpariaethau pellach yn caniatáu i awdurdodau lleol weithredu yn erbyn landlordiaid sy'n rheoli tai amlfeddiannaeth mewn achosion lle mae angen camau gorfodi, fel llety is-safonol. Felly, rwy'n cynnig y cynnig hwn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel pwyllgor, rydym ni wedi cyflwyno dau adroddiad ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Hawliau Rhentwyr. Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol ym mis Ionawr ac ar y memorandwm atodol ym mis Mawrth. Fel y nodwyd yn yr adroddiadau hyn, rydym yn cefnogi amcanion polisi'r ddeddfwriaeth. Mae'n hanfodol y dylai'r sector rhentu preifat fod ar gael i bawb sydd angen ei ddefnyddio, ac ni ddylai neb wynebu gwahaniaethu wrth wneud hynny. O ystyried y galw presennol am eiddo rhent, efallai na fydd gwahardd yr arferion gwahaniaethol hyn yn arwain at lawer mwy o denantiaethau yn cael eu cynnig i bobl â phlant neu hawlwyr budd-daliadau, ond mae'n bwysig iawn, credwn y dylen nhw fod yn gymwys i wneud cais mewn unrhyw achos.

Credwn mai'r ffordd allweddol i ddileu gwahaniaethu yw cynyddu'r cyflenwad tai. Un maes o siom yw nad yw'r darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud ag anifeiliaid anwes yn ymestyn i Gymru. Mae ein gwaith wedi dangos bod nifer fawr o eiddo yn cael eu hysbysebu fel rhai nad ydynt yn caniatáu anifeiliaid anwes, ac rydym yn teimlo'n gryf na ddylid rhoi tenantiaid mewn sefyllfa lle maen nhw'n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw gael gwared ar anifail anwes er mwyn symud i eiddo newydd. Nid ydym yn credu bod cynigion Llywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn ar dai digonol yn mynd yn ddigon pell, ac fe hoffem ni weld tenantiaid Cymru yn cael yr un hawliau â'r rhai sy'n byw yn Lloegr.

Dirprwy Lywydd, fe ddylwn i hefyd nodi ein pryder am y ffordd yr aethpwyd ati wrth ddefnyddio Bil Llywodraeth y DU i wneud y newidiadau deddfwriaethol hyn yng Nghymru. Fe wnaethom ni adrodd yn flaenorol ar rai o'r darpariaethau hyn ym mis Mai 2024 pan gawsant eu cynnwys yn yr memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Rhentwyr (Diwygio) blaenorol. Yn yr adroddiad hwnnw, nodwyd bod y rhesymeg a nodwyd gan Lywodraeth Cymru dros ddefnyddio'r llwybr memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn fwy hwylus na chyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd. Mae blwyddyn bellach wedi mynd heibio ers i'r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi ac nid yw'r darpariaethau wedi dod yn gyfraith o hyd. Mae oedi o'r fath yn tynnu sylw at yr anfanteision sy'n ymwneud â dibynnu ar Senedd y DU i ddeddfu ar ran Cymru.

Ond, er gwaethaf y pryderon hyn, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y newidiadau deddfwriaethol hyn i atal camwahaniaethu yn erbyn tenantiaid Cymru, ac felly rydym yn argymell y dylai'r Senedd gydsynio i Lywodraeth y DU ddeddfu ar y materion datganoledig hyn. Diolch yn fawr.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr a mis Mawrth. Yn arbennig o berthnasol yw bod Bil Llywodraeth y DU yn diwygio dwy Ddeddf Tai a basiwyd gan y Senedd: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019.

Mae'r darpariaethau o fewn y Bil Hawliau Rhentwyr sy'n gofyn am ganiatâd yn fras yr un fath â'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Rhentwyr (Diwygio), a gyflwynwyd adeg ddiddymiad Senedd y DU ym mis Mai 2024. Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ddwywaith defnyddio Bil Llywodraeth y DU i newid cyfraith tai ar hawliau rhentwyr yng Nghymru. Mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw at sut y gallai Bil Llywodraeth Cymru ar hawliau rhentwyr a gyflwynwyd i'r Senedd fod wedi cwblhau ei hynt yn hydref 2024. Byddai hyn wedi golygu y gallai dinasyddion yng Nghymru fod wedi profi manteision y ddeddfwriaeth ynghynt. Ar ben hynny, gallai pwyllgorau'r Senedd fod wedi ymgynghori â'r darpariaethau, ac wedi dadlau a chraffu'n fanylach arnynt, gyda'r bwriad o gynhyrchu canlyniadau gwell.

Rydym yn bryderus ac yn siomedig, felly, am ymagwedd Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar hawliau rhentwyr. Nid oedd y dystiolaeth amrywiol ac weithiau gwrthgyferbyniol a dderbyniodd y pwyllgor yn darparu unrhyw resymeg glir dros ddefnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu ym maes polisi datganoledig tai. Mynegodd y pwyllgor bryder bod y darpariaethau ar gyfer Cymru ond yn efelychu’r darpariaethau a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Lloegr gyda rhai addasiadau er bod gwahaniaeth yn y dull gorfodi rhwng Cymru a Lloegr. O ganlyniad, mynegodd y pwyllgor ei rwystredigaeth bod dau Fil tai, yn destun gwaith craffu manwl, a ddaeth yn Ddeddfau'r Senedd bellach yn cael ei diwygio gan ddefnyddio deddfwriaeth a ystyriwyd yn San Steffan, a heb fawr ddim mewnbwn gan Aelodau o’r Senedd.

Mae’r Senedd, mewn gwirionedd, yn wynebu fait accompli: pleidleisio o blaid neu fod mewn perygl o golli deddfwriaeth bwysig ar dai. Mae hyn er gwaethaf y ffaith nad yw darpariaethau'r Bil wedi bod yn destun gwaith datblygu polisi trwyadl, craffu manwl gan Aelodau o’r Senedd sydd â gwybodaeth am faterion tai Cymru, nac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

Ar y pwynt olaf hwnnw, mae cyfaddefiad yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes ymgynghoriad ffurfiol wedi cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar y darpariaethau yn Bil Llywodraeth y DU hefyd yn bryder, yn enwedig gan fod troseddau newydd yn cael eu creu. Nid yw briffio rhanddeiliaid a chael ymgysylltiad anffurfiol yr un peth ag ymgynghoriad ffurfiol.

Ym marn y pwyllgor, roedd y penderfyniad i fynd ar drywydd darpariaethau ar gyfer Cymru ym Mil Llywodraeth y DU ar sail hwylustod yn gam gwag ac annoeth. Hefyd, nid yw'r pwyllgor yn credu ei bod hi'n briodol i Lywodraeth Cymru awgrymu nad oes angen i'r Senedd fod â rhan yn helpu i lunio deddfwriaeth sy'n effeithio ar etholwyr Aelodau'r Senedd dim ond oherwydd bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod ei chynlluniau er budd gorau Cymru ac y gallai dinasyddion Cymru fod ar eu colled os na wneir hyn.

Byddai defnyddio Bil Llywodraeth Cymru ar hawliau rhentwyr wedi lliniaru'r pryder hwn ac wedi darparu mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru dros gyflawni ac amseru'r newidiadau yr hoffai eu gweld. Ar ben hynny, fel yr wyf eisoes wedi tynnu sylw ato, gallai craffu manwl yn y Senedd fod wedi arwain at ddeddfwriaeth well, fwy gwybodus. Mae gwneud deddfwriaeth wedi'i theilwra i anghenion Cymru yn egwyddor allweddol sy'n sail i ddatganoli.

Yn gysylltiedig â hynny, mae'r defnydd o Fil Llywodraeth y DU wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi osgoi'r angen i baratoi asesiadau effaith perthnasol a fyddai'n cyd-fynd â Bil a gyflwynwyd yn y Senedd. Yn unol â hynny, yn absenoldeb tystiolaeth ategol, mae'r pwyllgor yn amheus ynghylch barn yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes unrhyw oblygiadau ariannol yn deillio o ddarpariaethau perthnasol y Bil Hawliau Rhentwyr.

Mae'r pwyllgor felly yn credu bod y defnydd o Fil Llywodraeth y DU i ddeddfu yn y maes datganoledig o dai wedi dod yn fater o gyfleustra i Lywodraeth Cymru, sy'n gysylltiedig â chapasiti a materion adnoddau, yn enwedig o fewn yr adran sy'n gyfrifol am dai. Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithio tuag at gyflwyno Bil i'r Senedd a oedd yn defnyddio'r darpariaethau dwyieithog a oedd wedi'u cynnwys fel gwelliannau i Fil Rhentwyr (Diwygio) Llywodraeth y DU ar ôl iddo ddisgyn pan y'i cyflwynwyd adeg diddymu Senedd y DU y llynedd. Llywodraeth Cymru yn unig sy'n gyfrifol am beidio â chyflwyno Bil o'r fath i'r Senedd oherwydd penderfyniadau y mae wedi'u gwneud yn fewnol a materion sydd yn gyfan gwbl o fewn ei rheolaeth.

I gloi, mae dull Llywodraeth Cymru o ddefnyddio’r Bil Hawliau Rhentwyr i ddeddfu ar gyfer Cymru ym maes polisi tai, sy’n eithrio’r Senedd fel deddfwrfa a rhanddeiliaid yng Nghymru, yn cynrychioli agwedd anffodus ac annerbyniol at ddatganoli.

17:45

Rhybuddiodd y Ceidwadwyr Cymreig am y Bil hwn, nid i wrthwynebu hawliau rhentwyr, oherwydd wrth gwrs mae pob tenant yn haeddu diogelwch, tegwch ac urddas yn eu cartref, ond i dynnu sylw at natur hynod bryderus y Bil hwn, yn enwedig gyda'r gwaharddiad ar adran 21. Mae'n debygol, os bydd y Bil hwn yn pasio, y bydd yn cael ei ailadrodd yng Nghymru gan Weinidogion Cymru, ac mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cyfeirio at hyn. Mae'r symudiad hwn, er ei fod yn deillio o fwriadau da, yn peryglu ailadrodd camgymeriadau rydym ni eisoes wedi'u gweld yn cael eu gwneud yn yr Alban. Fe wnaeth yr Alban ddiddymu troi allan heb fai yn 2017, ac ers hynny, mae gelyniaeth gynyddol wedi bod i landlordiaid, gan arwain at 22,000 o eiddo rhent yn cael eu tynnu oddi ar y farchnad y llynedd.

Yn ystod argyfwng tai, marchnad sy'n crebachu lle mae teuluoedd, myfyrwyr a phobl ifanc yn cael eu prisio allan a'u gwthio o'r neilltu, dyma'r peth olaf sydd ei angen arnom. Gadewch i ni beidio ag anwybyddu'r realiti economaidd: mae llai o gyflenwad yn golygu rhenti uwch a phobl yn sownd mewn llety dros dro, ac yn y blaen, fel llety gwely a brecwast. Os ydym yn dychryn landlordiaid cyfrifol o'r farchnad, mae'r tenantiaid sy'n talu'r pris, yn llythrennol.

Yn olaf, fe hoffwn i dynnu sylw'r pwyllgor at gyfaddefiad yr Ysgrifennydd Cabinet nad oes unrhyw ymgynghoriad wedi'i gynnal gan Lywodraeth Cymru ar y darpariaethau a gynhwysir yn Bil Llywodraeth y DU, sy'n rhywbeth y mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi'i nodi fel pryder arbennig. Gadewch i ni gywiro'r diffygion yn y system bresennol, ie, ond heb ei wneud yn y fath fodd sy'n ychwanegu at ein hargyfwng tai, a byddwn yn argymell bod y Senedd yn gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Diolch.

17:50

Hoffwn ofyn sut yr ymdriniwyd â'r hawl i gael anifail anwes a'r buddion a ddaw yn sgil hyn yn y Bil; mae wedi cael ei godi gan Gadeirydd y pwyllgor. Mae gan ychydig dros hanner y trigolion yng Nghymru anifail anwes; un o bob tri â chi. Datgelodd arolwg fod 8 y cant o gartrefi—dyna'r cyfan—wedi'u hysbysebu fel rhai cyfeillgar i anifeiliaid anwes, ac mae'r prinder hwn wedi golygu bod llawer o berchnogion wedi gorfod rhoi eu hanifeiliaid anwes i ffwrdd. Mae elusennau a chanolfannau achub yn gweld cannoedd o bobl yn holi ynghylch trosglwyddo eu hanifeiliaid anwes iddynt, gan sôn am newid mewn cytundebau llety neu rentu. Mae'n dorcalonnus, ac mae'r canolfannau achub yn llawn ac yn methu ymdopi.

Mae rhentwyr gydag anifeiliaid anwes mewn gwirionedd yn aros yn hirach, maen nhw'n gwneud tenantiaid da iawn, felly yn ariannol mae'n fwy manteisiol i'r landlord yn y tymor hir. Rwy'n poeni am y taliadau ychwanegol, sy'n gostus, ac felly hefyd yr argymhellion yswiriant arfaethedig. Hoffwn wybod sut mae'r rhain wedi cael eu hystyried hefyd wrth fwrw ymlaen. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau am eu craffu manwl a thrwyadl ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol.

Rwy'n deall yn llwyr y pryderon ynghylch defnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu mewn maes datganoledig. Yn ymarferol, ni allwn gyflawni o fewn amserlen y Bil hwn heb wneud aberth mewn mannau eraill. Gallem fod wedi ystyried cyflwyno Bil ar wahân, ond byddai wedi cael ei gyflwyno yn hwyrach, ac nid wyf yn barod i wneud i denantiaid yng Nghymru sy'n dioddef gwahaniaethu aros am amser deddfwriaethol wedi ei neilltuo, ac nid oeddwn ychwaith eisiau peryglu deddfwriaeth bwysig arall yr ydym yn ceisio ei chyflawni yn ystod tymor hwn y Llywodraeth. Felly, trwy wneud darpariaeth yn y Bil, mae tenantiaid yng Nghymru yn cael eu rhoi ar sail debyg i denantiaid yn yr Alban a Lloegr ar yr un pryd.

Mae'r darpariaethau gwahaniaethu yn y Bil Hawliau Rhentwyr yn diwygio deddfwriaeth bresennol Cymru, a bydd y darpariaethau diwygiedig yn cael eu cynnwys yn Neddfau Cymru. Mae fy swyddogion wedi cysylltu'n agos â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod y darpariaethau yn cael eu paratoi mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein disgwyliadau ynghylch hygyrchedd. Rwy'n cydnabod bod y Senedd yn cael llai o waith craffu drwy'r dull hwn, ond mae angen i mi gydbwyso'r ystyriaeth honno â'r angen i gyflawni newidiadau cadarnhaol i Gymru, yr wyf yn credu bod y Bil hwn yn ei gynnig.

Mae'r Bil yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru gychwyn ar y darpariaethau hyn, ac yn ychwanegol mae pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol, trosiannol ac arbedion. Mae yna hefyd bwerau i wneud rheoliadau i ymestyn yr amddiffyniadau rhag gwahaniaethu i grwpiau eraill o bobl, os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon bod arferion rhentu gwahaniaethol pellach yn bodoli mewn perthynas ag anheddau. Bydd yr offerynnau statudol i gyd yn destun craffu'r Senedd, a bydd y rhan fwyaf yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

Rydym hefyd eisoes wedi cynnwys asesiad o fewn y memoranda cydsyniad deddfwriaethol cyhoeddedig nad oes unrhyw oblygiadau ariannol wedi'u nodi. Mae fy swyddogion wedi briffio holl randdeiliaid y sector yn llawn am y newidiadau arfaethedig, gan gynnwys cynrychiolwyr landlordiaid, asiantau, tenantiaid, yn ogystal ag awdurdodau lleol, ac mae pob un ohonynt yn gefnogol o'r cymalau hyn. Er nad ydym wedi ymgynghori ar y newidiadau hyn, byddwn yn pwysleisio nad yw'r pryderon sy'n cael eu trafod gan y Bil mewn unrhyw ffordd yn newydd. Mae'r materion hyn yng Nghymru sy'n ymwneud â gwahaniaethu yn erbyn rhentu i bobl â phlant neu hawlwyr budd-daliadau yn debygol o fod yn debyg i'r rhai a nodwyd mewn ymgynghoriad a gynhaliwyd yn Lloegr. Hefyd, mae rhai rhanddeiliaid yn gweithio ledled Cymru a Lloegr, felly byddent wedi bwydo i mewn i'r broses ymgynghori wreiddiol, ac ni fyddai unrhyw beth wedi atal unrhyw unigolyn neu sefydliad o Gymru rhag ymateb i'r broses honno.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hyn. Rwy'n gwrando ar y ddadl rydych chi'n mynd ar ei thrywydd yn y fan yma. Yn y bôn, dadl yw hon i fynd yn ôl i'r setliad yn 1999, cyn 2011, sef nad oes angen ymgynghoriad yng Nghymru. Nid oes gan yr Aelodau yma gyfle i graffu, ond mae'n iawn oherwydd mae Gweinidogion Cymru yn cael pwerau ac rydym yn rhoi hyn drwy'r broses gadarnhaol. Mae hynny'n annerbyniol, Gweinidog, mae gen i ofn. Mae'n gwbl annerbyniol siarad â'n Senedd yn y modd yna. Mae gan yr Aelodau yma yr hawl absoliwt i graffu ar ddeddfwriaeth. Dyna pam rydym wedi ein hethol yma. Dyna pam y brwydrodd Llywodraeth Cymru a chyflawni refferendwm ar bwerau sylfaenol llawn, a dylem gael y cyfle i arfer y pwerau sylfaenol hynny. Mae dadl Llywodraeth Cymru—ac nid chi yw'r Ysgrifennydd Cabinet cyntaf i fynd ar drywydd hyn—ynghylch mynd â ni yn ôl i ddyddiau cyn 2011 yn ddadl annerbyniol i'w rhoi gerbron y Senedd hon. A byddaf yn pleidleisio dros y Llywodraeth heddiw, ond mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n hynod siomedig. [Torri ar draws.] Rwy'n hynod siomedig gyda'r ffordd y mae—[Torri ar draws.] Rydw i'n mynd i wneud fy mhwynt.

17:55

Rwy'n hynod siomedig gyda'r dull sy'n cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru.

Diolch, Alun, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Roedd sylwadau tebyg wedi'u gwneud yn ystod cyfnod y pwyllgor hefyd, ac rwy'n gwybod eich bod wedi gwneud y pwyntiau hynny bryd hynny, ac rwy'n deall yn iawn y pryderon ynghylch defnyddio Bil Llywodraeth y DU i ddeddfu yn y maes datganoledig hwn. Rwyf wedi ceisio amlinellu pam mae hwn wedi bod yn gyfle i ddefnyddio hynny y tro hwn, oherwydd yr elfennau ymarferol, ac roeddwn i eisiau tynnu sylw at rai o'r ffyrdd oedd yn cynnig cyfleoedd o ran yr ymgynghoriad yn ehangach.

Dirprwy Lywydd, os wnewch adael imi grybwyll mater anifeiliaid anwes yn fyr iawn.

Yn fyr iawn, oherwydd rydym ni wedi mynd dros amser. Rwyf am roi ychydig o amser i chi ar gyfer yr ymyriad.

Rwy'n deall yn iawn fod nifer o Aelodau wedi crybwyll hwnnw. Nid oeddem yn gallu dewis pa rannau o'r Bil yr oeddem am eu hymestyn i Gymru, ond, fel y dywedais i, fe wnaethom nodi yn ein Papur Gwyn, ar dai digonol ar gyfer y sector rhentu preifat, ynghylch y rhai sy'n dymuno rhentu gydag anifail anwes. Ym mis Rhagfyr, cyfarfûm â Cats Protection, Dogs Trust a'r RSPCA i drafod y cynigion yn ein Papur Gwyn a'r darpariaethau yn y Bil Hawliau Rhentwyr ynghylch yswiriant anifeiliaid anwes. Felly, mae'r elusennau hyn wedi croesawu'r cynigion yn ein Papur Gwyn, ac rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi ymatebion i'n hymgynghoriad Papur Gwyn ynghylch y mesurau hyn.

Diolch am eich amynedd. Felly, yn olaf, rwy'n annog y Senedd i gymeradwyo'r cynnig hwn a rhoi tenantiaid a darpar denantiaid yr amddiffyniad y bydd y darpariaethau hyn yn ei roi iddynt. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg
9. Cyfnod 4 Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

Felly, eitem 9 sydd nesaf: Cyfnod 4 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig, Julie James.

Cynnig NDM8907 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo'r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid yw hwn yn Fil a fydd yn cyrraedd y penawdau. Yn wir, mae'n annhebygol o gael unrhyw sylw o gwbl. Nid yw'n un i ennill pleidleisiau, ac ni fydd yn ymddangos ar unrhyw restr o faterion cyfoes sy'n peri pryder a drafodir heddiw ym marchnad Abertawe nac ar unrhyw gyfryngau cymdeithasol. Ac mae'n rhannol, am y rheswm hwn, fy mod mor ddiolchgar i'r rhai ohonoch sydd wedi codi cwestiynau mewn ffordd adeiladol ac wedi helpu i wella'r Bil ar ei daith drwy'r Senedd. Mae'r dull cydweithredol rydych chi wedi'i gymryd yn cael ei werthfawrogi'n fawr, ac mae'n enghraifft o'r ffordd y mae'r ddeddfwrfa hon yn gweithio orau. Oherwydd yn y pen draw, mae'r Bil hwn yn ymwneud â seilwaith y Senedd ar gyfer gwneud a chyhoeddi deddfwriaeth.

Benthycwyd y rhan fwyaf o'r seilwaith hwn. Rydym wedi defnyddio'r darpariaethau sy'n aml yn hen iawn ar waith ar gyfer deddfwriaeth Senedd a Llywodraeth y DU. Weithiau, addaswyd yr hyn a fabwysiadwyd ar gyfer Cymru, ac weithiau ddim. Felly, mae'r Bil yn datblygu ein sylfeini cyfreithiol a chyfansoddiadol ymhellach, gan adeiladu ar Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Rhoddodd Deddf 2019 reolau dehongli gwahanol ar waith ar gyfer cyfraith Cymru, yn ogystal â gwreiddio'n hymrwymiad i atgyfnerthu a chodio cyfraith Cymru, gan gyflymu datblygiad ein gwaith tuag at lyfr statud mwy trefnus, cliriach a dwyieithog ar gyfer Cymru. Dirprwy Lywydd, y tro hwn rydym yn llenwi rhai bylchau sydd wedi bodoli ers i ni ddechrau datblygu ein deddfwriaeth ein hunain ym 1999.

Rwyf yn arbennig o falch y gallwn nawr siarad am gyfrifoldebau statudol clir Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, gan osod gofynion ffurfiol mewn perthynas â chyhoeddi deddfwriaeth Cymru, gan gynnwys, am y tro cyntaf, drwy offeryn sydd bellach yn cael ei alw'n ffurfiol yn offeryn statudol Cymru. Mae'r Bil yn dod â chydraddoldeb â'r Alban a Gogledd Iwerddon mewn rhai agweddau, ac mewn eraill mae'n mynd ymhellach. Ni yn unig fydd wedi nodi’n gywir y broses ar gyfer cyhoeddi deddfwriaeth yn electronig yn yr oes fodern, ac, am y tro cyntaf, gosodir dyletswydd ar Argraffydd y Brenin i gyhoeddi deddfwriaeth ar ffurf gyfoes, mewn geiriau eraill, adlewyrchu deddfwriaeth yn y ffurf y mae wedi'i diwygio.

Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod yn symleiddio ein gweithdrefnau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth, a gobeithio y byddwn yn mabwysiadu ein terminoleg newydd yn gyflym: gweithdrefn gymeradwyo'r Senedd—

—yr weithdrefn gymeradwyo;

gweithdrefn gadarnhau'r Senedd—

yr weithdrefn gadarnhau.

Bydd rhai ohonoch chi'n gweld bod angen help arnaf gyda'r ynganiad yn Gymraeg, ond gobeithio y byddwn ni'n dod i arfer â'i ddweud. A gweithdrefn annilysu'r Senedd—

—yr weithdrefn annilysu.

Yn olaf, am y tro cyntaf i Gymru yn unig, mae'r Bil yn tacluso'r llyfr statud trwy ddileu darpariaethau sydd wedi dyddio. Mae hyn yn nodedig nid yn unig oherwydd yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud, ond hefyd oherwydd ei fod yn ddechrau proses lle byddwn yn adolygu'r llyfr statud yn rheolaidd ar gyfer darpariaethau nad ydynt bellach yn gweithio neu nad oes eu hangen bellach, gan gyflwyno Biliau ychwanegol yn ôl yr angen.

Dirprwy Lywydd, efallai y bydd natur dechnegol, weinyddol y Bil hwn yn ei gwneud yn anniddorol i'r mwyafrif, ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn ddibwys. Mae deddfwriaeth fel hon yn rhan o seilwaith y mae pobl yn sylwi arno dim ond pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le. Mae pobl yn sylwi pan nad yw yno, a dyna pam mae'n rhaid iddo fodoli. Diolch yn fawr.

18:00

Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am y cyfle i weithio ar y cyd ar y Bil hwn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i'r clercod sy'n ymdrin â'r Bil hwn, y cyfreithwyr, swyddogion Llywodraeth Cymru, a'r holl staff sydd wedi gweithio ar y darn hwn o ddeddfwriaeth. Rydym ar yr ochr hon o'r Siambr bob amser wedi cefnogi egwyddorion y Bil hwn, a gallaf gadarnhau y byddwn yn cefnogi pasio Cyfnod 4 y Bil hwn y prynhawn yma.

Mae gwella hygyrchedd cyfraith Cymru yn gwbl hanfodol er mwyn i Gymru fod y wlad fodern, flaengar fel y mae hi, ac mae'r Bil hwn yn gwella hygyrchedd cyfraith Cymru drwy ailadrodd, diwygio a datgymhwyso darpariaethau a deddfiadau nad ydynt bellach o ddefnydd ymarferol, a thrwy hefyd wneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi dweud. Wrth gwrs, mae'r Bil hefyd yn ffurfioli'r trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth yng Nghymru, ac yn ffurfioli'r gofynion ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymru ac is-ddeddfwriaeth arall. Nawr, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, efallai nad yw'n swnio fel y darn mwyaf cyffrous o ddeddfwriaeth, ond mae'n ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth serch hynny. Gobeithio y bydd y Bil hwn yn arwain at weithdrefnau cliriach a mwy hygyrch yn y dyfodol.

Nawr, rwyf wedi canolbwyntio drwy gydol y broses hon ar sicrhau bod cyfle i gael rhywfaint o graffu ôl-ddeddfwriaethol, fel y gallwn sicrhau bod y Bil yn cyflawni fel y bwriadwyd, ac rwy'n falch bod y Senedd wedi gallu cefnogi fy ngwelliant yng Nghyfnod 3 ar y mater penodol iawn hwn. Bydd y gwelliant a gyflwynais yng Nghyfnod 3 yn diwygio Rhan 4 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol gynnal adolygiad o'r ddwy flynedd gyntaf o weithredu'r Rhannau 2A a 2B newydd. Mae hefyd yn gofyn am osod adroddiad gerbron y Senedd, ac ymgynghori â'r Llywydd, clerc y Senedd, a phartïon eraill â buddiant, fel Comisiynydd y Gymraeg, er enghraifft. Nawr, yn gryno, bydd proses graffu ôl-ddeddfwriaethol nawr yn digwydd yn y Senedd nesaf, ac mae hynny'n rhoi cyfle i ailedrych ar y Bil a gwneud yn siŵr ei fod yn gwneud yn union yr hyn y bwriadwyd iddo ei wneud.

Rwyf hefyd yn falch iawn bod, o fewn y Bil hwn, set o weithgareddau gyda'r nod o ddatrys amwysedd a chywiro gwallau yng nghyfraith Cymru, a gynigiwyd wrth gwrs gan yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Fel yr eglurodd yr wythnos diwethaf, mae'r gwelliant hefyd yn sicrhau adroddiadau rheolaidd ar gywiriadau o'r fath, sy'n cael ei groesawu'n fawr.

Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, rwyf am ailadrodd i'r Siambr pa mor bwysig yw'r Bil hwn. Cyfeirir ato fel ymarfer tacluso deddfwriaethol, ond mae'r ymarfer tacluso hwnnw yn bwysig iawn. O ganlyniad, gwnaed diwygiadau pwysig i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch gweithdrefnau'r Senedd ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth yng Nghymru, a hefyd mewn perthynas â chyhoeddi a chadw deddfwriaeth Cymru. Credaf fod y ddeddfwriaeth hon wedi'i llunio a'i chryfhau gan gydweithrediad trawsbleidiol trwy gydol y broses hon, ac felly rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Siambr.

Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol, i lefarydd y Ceidwadwyr, i'r clercod, cyfreithwyr, a phawb sydd wedi gweithio mor ddiwyd ar y Bil hwn, ac i fynegi unwaith eto ein cefnogaeth gadarn fel plaid i brif amcanion y ddeddfwriaeth. Rŷn ni fel plaid wedi bod yn dadlau ers tro am yr angen hanfodol i wella ansawdd, statws a hygyrchedd cyfraith Cymru, ac mae'r Bil hwn yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen o ran y nodau hynny. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymgysylltiad adeiladol a gawsom gyda'r Llywodraeth ers cyfnod craffu'r pwyllgor, ac yn falch ein bod ni wedi cyrraedd cyfaddawdau boddhaol mewn sawl maes allweddol. Er ein bod ni yn parhau i gredu bod achos cryf i fynd rhyw gam ymhellach o ran sefydlu swyddfa argraffu deddfwriaethol benodol i Gymru, gyda'r un ystod lawn o gyfrifoldebau ac sydd gan swyddfeydd tebyg yn y gwledydd datganoledig eraill, rŷn ni yn croesawu'r gwelliant a gytunwyd ac yr oedd y Llywodraeth wedi'i gyflwyno yn ystod Cyfnod 3 i greu mwy o eglurer ynghylch statws Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, sy'n cael ei greu nawr gan y ddeddfwriaeth yma, a'i ddyletswyddau perthnasol i'r Senedd.

Rwyf hefyd yn croesawu cefnogaeth y Llywodraeth i'm gwelliant, sydd wedi cael ei grybwyll eisoes, i sicrhau bod rhaid i bob rhaglen a wneir gan Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol o dan adran 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 gynnwys gweithgareddau penodol sydd wedi'u hanelu at ddatrys amwysedd a chywiro gwallau yng nghyfraith Cymru. Yn ogystal, gosodwyd gennym welliannau pwysig i greu mecanwaith i'r Senedd wella offerynnau statudol—cam a fyddai'n cryfhau gallu'r ddeddfwrfa i oruchwylio a mireinio is-ddeddfwriaeth. Er na chafodd y gwelliannau hyn eu derbyn, ar hyn o bryd, rŷn ni'n gobeithio y bydd modd parhau â'r drafodaeth hon mewn cyd-destun ehangach ac adeiladu consensws gwleidyddol ar draws y Senedd ar y mater pwysig hwn i'r dyfodol.

Er nad yw'r ddeddfwriaeth yn cyflawni ein holl ddyheadau, credaf ei bod hi'n gam arwyddocaol ac adeiladol ymlaen tuag at system gyfreithiol fwy hygyrch, tryloyw ac effeithiol i Gymru, ac, ar sail hynny, rŷn ni'n falch o'i chefnogi a'i chymeradwyo i'r Senedd.

18:05

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn olaf hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled. Yr wyf yn arbennig o ddiolchgar i Paul Davies, Adam Price ac Alun Davies am yr ymgysylltiad adeiladol a gawsom yn y pwyllgor. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i Gadeirydd y pwyllgor, Mike Hedges, hefyd, am y sesiynau defnyddiol a gawsom.

Rwy'n adleisio sylwadau olaf Adam Price, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yna bethau y gallwn adeiladu consensws arnynt a fydd yn parhau i wella'r rhaglen hon. Rwy'n arbennig o hapus fod y Bil hwn yn gosod sylfaen dda iawn ar gyfer ei ddefnyddio fel sbardun i adeiladu'r consensws pellach hwnnw. Ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y sgwrs y gallwn ei chael ynglŷn â diwygio offerynnau statudol, er enghraifft, yn y dyfodol. Ond, Dirprwy Lywydd, Bil yw hwn, fel y dywedais, na fydd yn taro'r sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ôl pob tebyg. Mae'n debyg na fydd yn cael ei drafod yn helaeth ym marchnad Abertawe nac ym marchnad Caerfyrddin nac unrhyw le arall os daw i hynny, ond, fel y mae pawb wedi dweud yn y ddadl, bydd yn cryfhau'n llwyr sylfeini Senedd Cymru a'i gallu i ddeddfu ar gyfer pobl Cymru, ac, ar y sail honno, rwy'n ei gymeradwyo i chi.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi ei chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly gohirir y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 7, cynnig cydsyniad deddfwriaethol y Bil Hawliau Rhentwyr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

18:10

Eitem 7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Rhentwyr: O blaid: 37, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, Cyfnod 4 y Bil deddfwriaeth. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Cyfnod 4 Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru): O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:10.