Y Cyfarfod Llawn

Plenary

14/05/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Mae'n bleser gen i roi gwybod i Aelodau fod Sue Lines yn yr Oriel heddiw. Llywydd Senedd Awstralia yw Sue Lines.

Croeso i Lywydd Senedd Awstralia, sy'n ymuno â ni yma yn yr oriel gyhoeddus heddiw, Sue Lines. Croeso i Gymru. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau eisiau eich croesawu yma. [Cymeradwyaeth.] Diolch yn fawr.

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.

Tai Fforddiadwy

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Ngorllewin De Cymru? OQ62714

Diolch, Sioned. Rwy'n llwyr gydnabod yr angen am dai fforddiadwy ledled Cymru, a dyna pam ein bod yn buddsoddi'r gyllideb flynyddol fwyaf erioed o £411 miliwn ar gyfer y grant tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon—£81 miliwn ychwanegol o gymharu â'r llynedd. Rwy'n falch fod dyraniad y grant tai cymdeithasol i'r rhanbarth ar gyfer 2025-26 bron yn £50 miliwn.

Diolch. Mae'n dda clywed am y buddsoddiad hwnnw, ond yng Nghastell-nedd Port Talbot yn unig, mae nifer y bobl mewn llety dros dro wedi cynyddu o 313 i 832 o bobl yn y blynyddoedd diwethaf, a heb ymyrraeth, bydd hynny'n cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod ac yn arwain at bwysau cost o hyd at £4.4 miliwn erbyn 2027-28. Un ffactor sy'n cyfrannu at hyn yw prinder tai fforddiadwy. Mae Shelter yn amcangyfrif bod 94,000 o aelwydydd yn aros am dai cymdeithasol ledled Cymru ar hyn o bryd ac y byddai'n cymryd 35 mlynedd i ateb y galw hwn. Mae adroddiad diweddar gan Crisis yn dangos bod llai o dai fforddiadwy yng Nghymru nag yn Llundain, ac yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli, mae llai nag 1.5 y cant o eiddo'n fforddiadwy i'w rhentu i bobl ar fudd-daliadau tai.

Gwn fod pob un ohonom yma'n cael galwadau ffôn neu e-byst rheolaidd gan etholwyr ar faterion yn ymwneud â thai. Ac mae gennyf nifer o etholwyr sydd naill ai heb lety neu y mae eu heiddo presennol, am wahanol resymau, wedi dod yn anaddas, ac mae pob un yn wynebu arosiadau hir i sicrhau tai priodol. Felly, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i symleiddio prosesau'n ymwneud â rhestrau aros, i gefnogi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflawni eu dyletswyddau, ac i sicrhau bod digon o dai fforddiadwy ar gael fel y gall pawb sydd angen cartref gael cartref?

Diolch Sioned, a diolch am godi hynny. Fe wyddoch ein bod yn canolbwyntio ar gyflawni a bod sicrhau mwy o gartrefi yn un o bedair blaenoriaeth y Prif Weinidog, ac mae hi wedi gosod hynny ar gyfer gweddill y Senedd hon. Fel Llywodraeth, nid ydym erioed wedi ymbellhau oddi wrth ein huchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a'n hymrwymiad i sicrhau cymaint o gartrefi fforddiadwy â phosibl. Fe wyddoch y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar ddigartrefedd, sy'n ddull gweithredu pwysig iawn, yn fy marn i, sydd ar gael i ni yng Nghymru. Rydym eisiau mwy o gartrefi fforddiadwy. Dyna pam fod gennym ein targed, ond gadewch inni fod yn glir ynglŷn â'r targed hwnnw: mae angen inni gael mwy o gartrefi fforddiadwy nid yn unig nawr, ond ar gyfer y dyfodol. A chredaf mai un o'r pethau da iawn yw bod gennym nifer o brosiectau cadarnhaol iawn yn yr arfaeth.

Mae'r Llywodraeth yn darparu'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai cymdeithasol ledled Cymru yn nhymor y Senedd hon. Mae gennym fuddsoddiad o bron i £2 biliwn wedi'i gynllunio. Dros y tair blynedd gyntaf o dymor pum mlynedd y Senedd bresennol, mae data swyddogol yn dangos ein bod wedi darparu bron i 9,000 yn fwy o gartrefi i'w rhentu yn y sector cymdeithasol—rhai o'r lefelau uchaf o ddarpariaeth ers i gofnodion ddechrau yn 2007-08. Ond rwy'n llwyr gydnabod y pwysau ar dai yma yng Nghymru, fel sy'n wir ledled y DU ac mewn mannau eraill. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, fe wyddom fod cynllun clwb gweithwyr Castell-nedd yn cael ei ddatblygu ar gyfer y sector rhent cymdeithasol i ddarparu 36 o gartrefi newydd, sy'n gymysgedd o fflatiau un ystafell wely a dwy ystafell wely, ac sydd wedi cael cyllid o £5.2 miliwn drwy'r grant tai cymdeithasol. Felly, mae'r buddsoddiad yn gadarnhaol iawn. Fe wyddom beth sydd angen i ni ei wneud, ac mae angen inni gynnal yr uchelgais a'r ddarpariaeth honno.

Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn fy nghymhorthfa gyngor ddiweddar ym Mhontarddulais, soniodd nifer o drigolion a ddaeth i siarad â mi am y pwysau y byddai cynlluniau amrywiol ar gyfer cannoedd o gartrefi newydd ym Mhontarddulais yn ei ychwanegu at seilwaith yn y dref a thu hwnt, ac yn benodol ar gyffyrdd yr M4 sy'n arwain at Bontarddulais, yn enwedig cyffordd 48 yn Hendy a chyffordd 47 ym Mhenlle'r-gaer. Nawr, gwn y byddwch yn dweud wrthyf, yn gywir ddigon, mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw penderfyniadau cynllunio unigol, ond yn amlwg, nid yw hynny'n wir am yr M4. A phan benderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4, cafodd nifer o brosiectau cyffyrdd ar hyd yr M4, yn enwedig yn ardal Abertawe, eu canslo hefyd. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynghylch datblygu tai a chartrefi cymdeithasol ledled Cymru, er mwyn sicrhau y gellir cadw'r M4 i symud cystal â phosibl, a sicrhau bod modd cadw'r cyffyrdd hynny i symud hefyd?

13:35

Diolch, Tom. Yn sicr, fel roeddwn yn dweud, fe wyddom fod angen i ni adeiladu a chaffael mwy o gartrefi, mae angen inni ddarparu mwy o gartrefi. Mae angen inni wneud hynny ar y cyd â'n cymunedau lleol, a hynny drwy gynlluniau datblygu lleol. Mae gennym ein prosesau o fewn hynny i sicrhau bod lleisiau cymunedau lleol yn cael eu clywed yng Nghymru. Hefyd, mae hynny'n ymwneud â'r seilwaith a ddaw gydag adeiladu a chyflenwi mwy o gartrefi newydd a chartrefi cymdeithasol hefyd. O ran yr M4, rwy'n cydnabod y pwynt a wnewch. Fel rhywun sy'n byw ger un o gyffyrdd yr M4 fy hun, rwy'n deall y pwysau ar yr M4. Mae fy nghyd-Aelod o'r Cabinet Ken Skates, sef yr aelod o'r Cabinet dros drafnidiaeth, yn ymwybodol iawn o hynny, ac rwy'n siŵr y byddai'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw un o'r pryderon penodol sydd gennych yn yr ardal honno.

Cartrefi Gwag

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y nifer o gartrefi gwag yng Nghymru? OQ62673

Diolch, Mike. Bu gostyngiad bach yn nifer y cartrefi gwag yng Nghymru yn 2025-26. Rydym yn cydnabod bod cartrefi gwag yn broblem yn ein cymunedau, a thrwy ein cynlluniau, byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol i helpu i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd.

Mae gormod o dai a fflatiau gwag. O ddosbarthu taflenni ac ymgyrchu, rwy'n sylwi ar y nifer fawr o eiddo gwag. Yn aml, mae'r rhain mewn ardaloedd sydd bob amser wedi bod yn boblogaidd, ac mae galw mwy amdanynt nawr wrth i'r rhestr aros am dai cymdeithasol gynyddu a chyda galw cynyddol am dai rhent preifat. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu system cynllun benthyciadau i helpu pobl i ailddefnyddio tai ac wedi caniatáu gordal treth gyngor ar eiddo gwag. Er bod y ddau gam wedi cael effaith gadarnhaol, nid ydynt wedi datrys problem eiddo gwag. A wnaiff y Llywodraeth ystyried cyflwyno pwerau i ganiatáu i gynghorau brynu'n orfodol unrhyw eiddo sydd wedi bod yn wag ers dros bum mlynedd?

Diolch, Mike. Gwyddom fod eiddo gwag yn cael effaith wirioneddol andwyol ar ein cymunedau. Maent yn adnodd tai sy'n cael ei wastraffu. Maent yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gallant gyfrannu'n sylweddol at yr ymdeimlad o ddirywiad mewn ardal. Dyna pam, fel y sonioch chi, fod gennym nifer o ymyriadau a all gynorthwyo i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd. Mae gan awdurdodau lleol ystod o bwerau deddfwriaethol eisoes mewn perthynas â chartrefi gwag, gan gynnwys gorchmynion prynu gorfodol, gorchmynion rheoli anheddau gwag a gweithdrefnau gwerthu gorfodol. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i helpu i hwyluso'r defnydd o'r pwerau hyn i fynd i'r afael ag eiddo gwag, gan gynnwys datblygu'r gronfa orfodi ar gyfer eiddo gwag, sy'n darparu cyllid benthyciadau i helpu gyda gorfodi a dadrisgio gorfodi mewn perthynas ag eiddo gwag a dadfeiliedig. Rydym hefyd yn datblygu llawlyfr eiddo gwag, a fydd yn cynnig canllawiau ymarferol ar sut i nodi a sicrhau perchnogaeth ar gartrefi drwy ddulliau cyfreithiol, ariannol a pherswadiol. Ac rydym wrthi'n adolygu ein cynnig cymorth gorfodi i sicrhau bod ein hymyriadau mor effeithiol a hygyrch â phosibl i awdurdodau lleol fel y gellir lleihau nifer yr eiddo gwag. Cynllun arall sydd gennym ar gael yn y maes hwn yw Cynllun Lesio Cymru, ac rwy'n falch iawn o groesawu Abertawe i Gynllun Lesio Cymru. Gallaf gadarnhau bod llythyr cynnig grant wedi'i anfon at Gyngor Dinas a Sir Abertawe yn gynharach yr wythnos hon. Felly, rwy'n falch fod llwybr arall i'w gael i fynd i'r afael â'r eiddo gwag sy'n bla ar ein cymunedau.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi newydd ddweud bod gostyngiad bach wedi bod yn nifer y tai gwag yn ddiweddar. Wel, nid oes unrhyw welliant cenedlaethol wedi bod yn nifer y tai gwag mewn gwirionedd, gyda nifer yr eiddo gwag trethadwy ond yn gostwng o 22,634 yn 2024-25 i 22,558. Fodd bynnag, roedd yr un ffigur, bron iawn, yn 2013—23,000 eiddo gwag yn y sector preifat. Nawr, gyda rhai awdurdodau lleol fel Ynys Môn, profodd yr awdurdod lleol hwnnw gynnydd yn nifer y tai gwag o 346 y llynedd i 450. Mae Gwynedd bellach yn gweld cynnydd o 1,462 y llynedd i 1,512 eleni. Felly, mae'n cynyddu eto mewn gwirionedd. Mae hyn yn dangos yn glir nad yw polisïau presennol eich Llywodraeth i leihau nifer y tai gwag yng Nghymru yn gweithio, a hyn ar adeg pan fo gennym bobl yn aros mewn gwestai a llety gwely a brecwast. Mae gennym brinder tai difrifol. Mae angen mwy o ffocws gan bob awdurdod lleol ar hyn. Ar wahân i'r polisïau a grybwyllwyd gennych, a wnewch chi fel Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu llythyr at awdurdodau lleol yn mynegi eich pryderon mai ychydig iawn sy'n cael ei wneud mewn gwirionedd i droi'r eiddo gwag hynny yn ôl yn gartrefi y gellir byw ynddynt i'r nifer o bobl sydd eu hangen? Diolch.

13:40

Diolch, Janet. O ran y ffigurau, dim ond ar y dreth gyngor sy'n daladwy ar eiddo gwag hirdymor, amcangyfrifir y bydd cyfanswm yr eiddo gwag yng Nghymru ar gyfer 2025-26 76 yn llai, neu 0.3 y cant. Dyna pam y dywedais fod y nifer wedi gostwng ychydig bach iawn. O'r rhain, bydd 13,220 eiddo yn talu premiwm, o gymharu â 11,456 yn 2024-25. Felly, dyna'r ffigurau.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â'r effaith y gall eiddo gwag ei chael yn ein cymunedau. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn gwybod am ac yn gweld y rheini yn ein hardaloedd, ac mae'n rhwystredig iawn fod y rhain yn adnodd a allai, fel y dywedais, fod yn gartref i rywun, pan wyddom fod angen hynny. Mae gennym nifer o gynlluniau fel y crybwyllais, boed yn Gynllun Lesio Cymru, ac mae gan rai awdurdodau lleol eu cynlluniau eu hunain. Mae gennym ein cynllun grant cartrefi gwag, sy'n darparu grantiau o hyd at £25,000 i gael gwared ar beryglon sylweddol o eiddo gwag hirdymor i'w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt ac i wella eu heffeithlonrwydd ynni. Felly, rydym yn gwneud nifer o bethau. O ran y grantiau cartrefi gwag, bu 1,058 o geisiadau dilys ar gyfer y cynllun hyd yn hyn, yn ogystal â 241 eiddo wedi'u cwblhau. Felly, mae yna bethau yr ydym yn eu gwneud. Credaf fod pawb am weld gweithredu yn y maes hwn. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol, ac arweinwyr tai a swyddogion tai, ynghylch y gwaith a wnânt. Fel y dywedais, mae gennym fwy o waith yn yn digwydd cyn bo hir, fel ein llawlyfr eiddo gwag, ac fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol i Mike Hedges, rydym yn adolygu ein cynnig cymorth gorfodi i sicrhau bod ein hymyriadau mor effeithiol a hygyrch â phosibl i awdurdodau lleol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r dreth gyngor wedi saethu i fyny i drigolion ledled Cymru, gan gael effaith sylweddol ar deuluoedd sy'n gweithio. Ac eto, rydym yn gweld cyflog prif weithredwr Cyngor Dinas Caerdydd yn uwch na chyflog y Prif Weinidog ac yn uwch na chyflog Prif Weinidog y DU. Enillodd prif weithredwr Torfaen £164,000 y llynedd, ac enillodd prif weithredwr Rhondda Cynon Taf bron i £200,000. Yn y cyfamser, mae plant sy'n byw yn y Rhondda a Thorfaen ymhlith y rhai sy'n fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonom yn cytuno na all hyn fod yn iawn. Mae'n anodd ei gyfiawnhau pan fo'r pecynnau cyflog hyn mewn cyferbyniad mor syfrdanol i'r cyflog cyfartalog yn yr ardaloedd hyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno â mi fod yn rhaid inni adolygu'r cyflogau uwch hyn i swyddogion gweithredol ar frys a sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu gwasanaethau lleol hanfodol yn hytrach na llenwi pocedi'r rheini ar y cyflogau uchaf? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn, Laura. Mae prif weithredwyr awdurdodau lleol yn cael eu talu ar y cyfraddau a bennir ar eu cyfer. Fel y dywedais, mae treth gyngor band D gyfartalog Cymru yn 2025-26 yn is yma yng Nghymru nag ydyw yn Lloegr. Rwy'n credu bod rhai pethau clir yr ydym yn eu gwneud fel Llywodraeth yn nhymor y Senedd hon i sicrhau bod y bobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn yn cael eu diogelu i'r graddau mwyaf posibl. Ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd iawn ar ôl 14 mlynedd o gyni Torïaidd.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’n ddrwg gennyf, ni chredaf eich bod wedi ateb fy nghwestiwn ar gyflogau cynghorau, gan mai dyna oedd sail fy nghwestiwn. Efallai y gallech ateb hynny yn y cwestiwn nesaf hefyd, sydd, unwaith eto, yn ailadrodd bod y dreth gyngor wedi saethu i fyny i drigolion ledled Cymru, ac mae'n cael effaith fawr ar deuluoedd sy'n gweithio.

Yn ôl arolwg gan Lywodraeth Cymru yn 2024, dywedodd 61 y cant o'r ymatebwyr fod eu biliau treth gyngor yn annheg. Ac eto, yng Nghymru, nid oes refferenda ar gyfer cynnydd dros 5 y cant yn y dreth gyngor, sy'n amddiffyniad democrataidd i drigolion yn Lloegr y mae ganddynt hawl iddo. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig, yn wahanol i Lafur, yn rhoi'r dewis hwnnw i drethdalwyr Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n credu ei bod hi'n dderbyniol fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wadu'r un hawl i bobl Cymru, neu a yw'n fwy cyfleus i Lywodraeth Cymru beidio â chaniatáu ar gyfer yr atebolrwydd hwn, gan adael i gynghorau gamddefnyddio'r dreth gyngor drwy orfodi codiadau treth syfrdanol flwyddyn ar ôl blwyddyn? Diolch.

13:45

Diolch, Laura. Soniais fod band y dreth gyngor yn is gan ichi sôn amdano yn eich cwestiwn cychwynnol, ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch ynglŷn â'r cwestiynau eraill a godwyd gennych ynghylch cyflogau prif weithredwyr.

Ond rwyf hefyd am ateb y pwyntiau pellach a godwyd gennych. Mae unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor, yn gwbl ddealladwy, yn annymunol i drethdalwyr. Mae'r dreth gyngor yn ffynhonnell sylweddol o gyllid ar gyfer gwasanaethau lleol, sy'n cyflawni ar gyfer pobl ddydd ar ôl dydd. Ac mae'n gyfrifoldeb ar bob awdurdod lleol i gyfiawnhau eu penderfyniad ar y dreth gyngor i'w cymunedau. Mae awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau anodd tu hwnt wrth osod eu cyllidebau a'r dreth gyngor, ac yn amlwg, mae'n rhaid iddynt ymgysylltu'n ystyrlon â'u cymunedau lleol wrth iddynt ystyried eu blaenoriaethau.

Nid yw refferenda ar y dreth gyngor yn berthnasol yng Nghymru. Ni fyddwn yn gosod y terfynau cyffredinol sy'n gwneud refferenda lleol costus yn ofynnol, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Mae gosod terfynau mympwyol yn dod yn darged i awdurdodau lleol godi'r dreth gyngor i'r uchafswm a ganiateir—fel sydd wedi digwydd yn Lloegr—yn hytrach nag ystyried yn iawn beth sydd ei angen. Felly, dylid nodi bod cymhlethdod costau cynnal refferenda yn rhoi baich ychwanegol ar awdurdodau lleol a'u hadnoddau, ac rwy'n credu yr hoffwn glywed a fyddech chi'n cytuno y byddai hynny'n gwaethygu ymhellach y pwysau ariannol ar awdurdodau lleol.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i gymryd o'ch atebion heddiw felly nad ydych chi'n cytuno y dylai pobl Cymru gael refferendwm fel eu cymheiriaid yn Lloegr, a'ch bod yn cytuno â chyflogau aruthrol o uchel i brif weithredwyr ledled Cymru?

Hoffwn ofyn yn fy nghwestiwn olaf ynglŷn â Phythefnos Gofal Maeth—ar nodyn ysgafnach—sydd bellach wedi cychwyn, gyda phŵer perthnasoedd yn thema eleni. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod y perthnasoedd hynny'n dechrau gyda chael digon o ofalwyr maeth i ddarparu cartrefi sefydlog a chariadus. Ac eto, yn sir Fynwy yn unig, gwyddom fod Maethu Cymru wedi gosod targed i recriwtio 30 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2027, oherwydd ar hyn o bryd, nid oes digon o ofalwyr i ddiwallu anghenion y plant agored i niwed hynny. Mae prinder dybryd sy'n peri cryn bryder.

Rwy'n deall bod hwn yn bortffolio trawsbynciol, ond sut rydych chi, a Llywodraeth Cymru, yn gweithio gydag awdurdodau lleol fel sir Fynwy i sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n llawn i gyrraedd y targed hwn? A sut rydych chi'n cefnogi pob awdurdod lleol i ddefnyddio'r ymgyrch genedlaethol hon fel man cychwyn i hybu niferoedd recriwtio nawr, nid ymhen dwy flynedd? Diolch.

Diolch, Laura. Na, gallaf roi sicrwydd i chi nad ydym yn cynllunio unrhyw refferenda lleol costus ar y dreth gyngor. Ac o ran cyflogau prif weithredwyr, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei gyfiawnhau i'w hetholwyr hefyd.

Ar deuluoedd maeth, gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydych yn teimlo'n angerddol amdano hefyd, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn y Siambr am groesawu Pythefnos Gofal Maeth, gan y credaf ei bod mor bwysig, onid yw, i'r bobl ifanc hynny fod teuluoedd a fydd yn eu croesawu i'w cartrefi ac a fydd yn gofalu amdanynt hefyd. Ac mae angen inni weld mwy o bobl yn rhoi cyfleoedd i'r bobl ifanc hynny, ac yn gofalu amdanynt fel gofalwyr maeth. Rwy'n adnabod gofalwyr maeth sy'n gwneud gwaith anhygoel, ac mae'r cariad a'r gofal y maent yn ei roi yn wirioneddol bwysig. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod bob amser yn ymgyrchu ar hynny.

Rwy'n gwybod—ac rwyf wedi bod mewn ardaloedd ledled Cymru pan fyddaf yn ymweld—fod awdurdodau lleol yn aml yn cynnal ymgyrchoedd i gynyddu ymwybyddiaeth ac i ddenu mwy o bobl i ofal maeth. Rwy'n falch iawn o weld yr ymgyrch honno. Gwn fod fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, Dawn Bowden, yn arwain ar hyn, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud popeth yn ei gallu hefyd i godi ymwybyddiaeth o'r gofal maeth hwn ymhlith teuluoedd ledled Cymru.

13:50

Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos yma, rydym ni wedi clywed Keir Starmer yn beio mudo am ddiffyg sgiliau a chynhyrchiant isel yn y gweithlu, sy'n anfaddeuol yn fy marn i. Os ydyn ni am gynyddu cynhyrchiant yng Nghymru, mae angen i'r Llywodraeth fuddsoddi mewn sgiliau yn ein gweithlu lleol sy'n cyfateb i anghenion sgiliau'r dyfodol. Mae tai yn cynnig cyfleoedd mawr i economi Cymru o ran adeiladu ac o ran ôl-osod cartrefi. Yn 2021, fe ddangosodd modelu CITB Cymru—y bwrdd sy'n hyfforddi'r diwydiant adeiladu—y bydd angen 12,000 o weithwyr ychwanegol yng Nghymru i gyflawni ôl-osod cartrefi erbyn 2028. Ond fel mae eich Aelodau meinciau cefn chi'ch hun wedi tynnu sylw ato fo, dydyn ni ddim yn agos at ble mae angen i ni fod o ran adeiladu'r sgiliau sydd eu hangen yn y gweithlu lleol i gyflawni uchelgeisiau'r Llywodraeth ar gyfer gwella cartrefi.

Felly, yn lle rhoi'r bai ar y rhai mwyaf agored i niwed, a fedrwch chi roi syniad i ni o ba gynnydd y mae'ch Llywodraeth chi wedi'i wneud o ran uwchsgilio'r gweithlu lleol yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd y gall y newid i ynni glan mewn cartrefi eu hysgogi?

Diolch, Siân. Yng Nghymru, rydym yn falch o fod yn genedl groesawgar ac yn genedl noddfa. Gŵyr pob un ohonom fod llawer o'r gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt yn dibynnu ar sgiliau ac ymroddiad pobl sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.

Ar sgiliau cyffredinol hefyd, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â lleoedd ardderchog, fel y gwaith mae Persimmon yn ei wneud yn Rhondda Cynon Taf gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, yn uwchsgilio'r gweithlu. Roedd yn wych cael cyngor ar osod brics gan fenyw ifanc a oedd yn dysgu ei chrefft fel gosodwr brics. Mae ffordd bell i fynd o hyd i oresgyn rhagfarn ar sail rhywedd hefyd. Mae rhai pethau eraill, fel argaeledd athrawon benywaidd, er enghraifft—gwn fod hynny'n rhywbeth a godwyd gyda mi ym maes gosod brics. Ac rwy'n credu bod rhai agweddau o hyd mewn rhai mannau fod merched yn fwy tebygol o fod eisiau gwneud gwallt a harddwch a bechgyn eisiau dysgu gosod brics. Felly, mae gennym rwystrau i'w chwalu o hyd. Ond gan weithio gyda fy nghyd-Aelodau Jack Sargent, a Vikki Howells hefyd, fel Gweinidog, rwy'n gwybod bod angen inni ddod ynghyd i rannu'r arferion da hynny ledled Cymru a sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y mannau cywir i gyrraedd pobl ifanc cyn gynted ag y gallwn.

Mae yna ffordd bell iawn i fynd o ran uwchsgilio'r gweithlu yng Nghymru, a dydy'r ateb yna ddim yn fy llenwi i â gobaith bod pethau ar y gweill. 

Mae'r pwyllgor llywodraeth leol wedi nodi nifer o feysydd lle nad ydy Llywodraeth Cymru yn buddsoddi digon, ac un o'r rheini ydy uwchraddio cartrefi Cymru i safon dda. Ond rwy'n bryderus hefyd ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn targedu cyllid yn y maes yma. Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi canfod bod y rhaglen Cartrefi Cynnes yn 2022—dyna pryd oedd yr adroddiad—. Mae'r sector rhentu preifat yn cyfrif am 20 y cant o gartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd ledled Cymru. Mae'r sector rhentu preifat mewn cyflwr llawer gwaeth nag unrhyw fath arall o dai, yn enwedig tai cymdeithasol, ac eto mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn uwchraddio cartrefi yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar dai cymdeithasol. Mae ymhell dros £100 miliwn yng nghyllideb eleni wedi'i neilltuo i fesurau ôl-osod ar gyfer tai cymdeithasol yn unig. Felly, lle mae'r buddsoddiad i uwchraddio cartrefi yn y sector rhentu preifat? A ydych chi'n cytuno bod hi erbyn hyn yn bryd ailystyried polisi'r Llywodraeth yma yn y maes ôl-osod?

Diolch, Siân. Rwy'n credu bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn ym maes ôl-osod. Gwyddom fod gennym lawer i'w wneud. Gwyddom ein bod yn canolbwyntio ar dai cymdeithasol yng Nghymru a gwyddom fod llawer mwy i'w wneud yn y sector rhentu preifat hefyd; rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU hefyd ac yn ceisio dysgu rhai gwersi yno, ond hefyd, maent hwythau'n dysgu gennym ni, gan y credaf fod hynny'n bwysig iawn. Felly, rydym wedi cael sawl perthynas gadarnhaol iawn yn y cyswllt hwnnw.

Ond wyddoch chi,rwy'n credu bod gennym waith y gallwn ei wneud o fewn yr amlen sydd gennym ar hyn o bryd, ac mae ein cynllun Cartrefi Clyd yn gwthio ymlaen yn y ffordd honno, ond nid wyf am danamcangyfrif yr her. Rydym hefyd yn gobeithio cael rhywfaint o'r gwaith gan y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol ac awdurdodau lleol i roi gwybod i ni sut olwg sydd ar eu harolygon. Felly, rydym yn aros i glywed beth yw gwir raddfa'r her yn y maes hwnnw cyn inni hyd yn oed wybod beth rydym yn ymdrin ag ef yn y sector rhentu preifat hefyd, gan ein bod yn sylweddoli y bydd yn eithaf sylweddol.

13:55

Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r Llywodraeth yma'n parhau i fethu â chyrraedd ei thargedau o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd a chynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol. A hyd y gwelaf i, does yna ddim cynlluniau ar gyfer creu swyddi yn y maes adeiladu ac mae'r map ar gyfer uwchraddio tai domestig ar goll hefyd. Mae hyn, wrth gwrs, yn achosi caledi gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau ni ledled Cymru, a'r rhai tlotaf a mwyaf agored i niwed fydd yn dioddef mwyaf yn sgil hynny.

Mae yna un polisi allweddol allai wneud gwahaniaeth enfawr, sef dileu neu o leiaf ailgydbwyso'r ardoll ar filiau trydan. Mae'r ardoll yma'n creu baich anghymesur ar y tlotaf. Rwy'n deall bod y pwerau i newid hyn efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mi fyddai pwyso am y newid yma yn gallu creu newid gwirioneddol. Felly, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael efo'ch cydweithwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch addasu ardollau ar gyfer biliau trydan?

Diolch am eich cwestiwn, Siân. Fel y dywedaf, rwyf wedi cael cyfle i gyfarfod â rhai o'm swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU, yn fwyaf diweddar gyda Miatta Fahnbulleh, sef y Gweinidog Defnyddwyr Ynni, a chredaf fod fy nghyd-Aelod Jane Hutt hefyd wedi cael trafodaethau gyda Miatta Fahnbulleh. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallaf gael trafodaeth yn ei gylch, o bosibl, gyda fy nghyd-Aelod Jane Hutt, ac efallai ei godi wedyn gyda Gweinidog Llywodraeth y DU hefyd. Felly, rwy'n fwy na pharod i gael trafodaethau pellach ar y pwynt penodol hwnnw.

Prosiectau Adfywio yn Sir Benfro

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am brosiectau adfywio yn Sir Benfro? OQ62682

Diolch, Paul. Ers mis Ionawr 2020, rydym wedi dyfarnu dros £20 miliwn o gyllid drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi i gefnogi prosiectau adfywio yng nghanol trefi ledled sir Benfro.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae canol rhai trefi yn sir Benfro yn aml yn cael eu hesgeuluso o hyd. Ac mewn mannau fel Aberdaugleddau, er enghraifft, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng nghanol y dref er mwyn iddi allu dal i fyny â'r datblygiadau yn y marina yno.

Mae grwpiau cymunedol fel Cylch Busnes Aberdaugleddau wedi gwneud gwaith rhagorol i adfywio canol y dref. Er enghraifft, maent wedi ail-greu digwyddiad diwrnod sefydlu, a fydd yn digwydd ddydd Sadwrn 7 Mehefin, i ddathlu treftadaeth unigryw'r dref, ac wrth gwrs, i geisio gwella nifer y bobl sy'n ymweld â'r dref. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen inni adeiladu ar y gwaith da hwnnw. Ac felly, a wnewch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gyda grwpiau fel Cylch Busnes Aberdaugleddau ar brosiectau a arweinir gan y gymuned, fel eu bod yn wirioneddol gefnogol i adfywio canol ein trefi?

Yn sicr, Paul. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, onid yw, ynglŷn â sut rydym yn dod â chymunedau gyda ni, a'u bod yn cymryd rhan yn gynnar iawn, ac yna'n parhau drwy'r broses o ddatblygu'r cynlluniau hyn ar gyfer—. Oherwydd mae pob un ohonom am weld canol ein trefi yn cael eu hadfywio, ac mae pob un ohonom am eu gweld yn lleoedd ffyniannus, nawr ac yn y dyfodol.

Fe fyddwch yn falch o glywed bod gan sir Benfro gyfres iach o brosiectau adfywio yn yr arfaeth. Edrychaf ymlaen at eu gweld ar waith. Byddaf yn ymweld â sir Benfro cyn bo hir, felly edrychaf ymlaen yn fawr at hynny. Mae fy swyddogion yn cysylltu â swyddogion Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd i drefnu'r cynllun o ran ble i fynd i edrych ar y prosiectau adfywio. Rwy'n siŵr, os hoffech gyfrannu at hynny—. Rwyf bob amser yn falch iawn o ymweld.

Mae'r cynlluniau creu lleoedd yn wirioneddol bwysig, fel y dywedais ddoe yn y datganiad ar ganol trefi. Mae gennym y rhain ledled Cymru a ledled sir Benfro. Mae cyllid Trawsnewid Trefi wedi cefnogi datblygiad cynlluniau mewn chwe anheddiad ledled sir Benfro, gan gynnwys Aberdaugleddau, ond hefyd yn Hwlffordd, Abergwaun ac Wdig, sydd yn eich etholaeth chi. Rydym wedi caffael darn mawr o dir yn Slade Lane yn Hwlffordd sydd â photensial i ddarparu 850 o gartrefi newydd, yn ogystal ag ysgol gynradd a seilwaith gwyrdd. Felly, mae llawer yn digwydd a fydd o gymorth, efallai, gyda nifer yr ymwelwyr yn rhai o'r ardaloedd hynny, cyhyd â bod y seilwaith yn bodoli o amgylch hynny wrth gwrs.

Rwyf wedi ymestyn ein grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi am ddwy flynedd arall o fis Ebrill eleni, ac wedi cynyddu uchafswm y grant sydd ar gael ar gyfer pob prosiect i £300,000. Mae Cyngor Sir Penfro wedi defnyddio'r grant creu lleoedd hwnnw i gefnogi amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys bwyty a bar coffi Forbidden Florist ar Stryd y Cei yn Hwlffordd. Rwy'n gobeithio ymweld â hwythau'n ogystal, a gobeithio y gwnaiff yr Aelod hefyd, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny.

14:00
Cynllun Cartrefi Clyd Nyth

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ei chynllun Cartrefi Clyd Nyth? OQ62698

Diolch, Cefin. Mae swyddogion yn adolygu'r cynllun Nyth Cartrefi Clyd newydd yn barhaus i sicrhau ei fod yn diwallu ei brif amcanion sef mynd i'r afael â thlodi tanwydd a'r argyfwng hinsawdd. Mae'n dal i fod yn ddyddiau cynnar ar y cynllun, ond mae'r newidiadau hyn yn cael effaith gadarnhaol yn cefnogi deiliaid tai sydd mewn tlodi tanwydd.

Diolch yn fawr iawn. Fodd bynnag, mae pryderon cynyddol ynglŷn â'r ffordd y mae'r cynllun Nyth yn ymdrin â chwynion ac yn ymwneud â gwaith adfer, ac mae hon ymhell o fod yn sefyllfa unigryw. 

Cymerwch yr enghraifft hon. Gadawyd tenant anabl 72 oed heb wres dibynadwy mewn cartref wedi'i ddifrodi gan osodiad diffygiol iawn a wnaed o dan gynllun Nyth Cartrefi Clyd. O fewn dwy flynedd, roedd pob rheiddiadur yn gollwng oherwydd cyrydu mewnol. Cadarnhaodd dau blymwr annibynnol beth oedd yn ei achosi: nid oedd y system wedi'i diogelu rhag croniad slwtsh, sy'n safon sylfaenol o fewn y diwydiant.

Er i gŵyn ffurfiol gael ei gwneud, gwadodd Nyth gyfrifoldeb oherwydd bod y warant wedi dod i ben. Gan eu bod yn wynebu sefyllfa anniogel ar y pryd, nid oedd gan y landlordiaid ddewis ond talu bron i £3,000 am atgyweiriadau brys. Pan aethant yn ôl at Nyth yn ddiweddarach, dywedwyd wrthynt na ellid cynnig unrhyw help oherwydd bod plymwyr allanol wedi'u defnyddio, er i Nyth wrthod gweithredu yn y lle cyntaf.

Mae ymateb gwrthwynebol o'r fath yn golygu bod pobl yn cael eu gadael i wynebu baich ariannol, wedi'u llethu'n emosiynol ac yn siomedig. Weinidog, a ydych chi'n cytuno nad yw proses gwyno Nyth yn addas i'r diben? Beth a wnewch chi i sicrhau bod pobl agored i niwed yn cael eu diogelu'n briodol pan fydd cynlluniau a gefnogir gan y Llywodraeth yn methu?

Diolch, Cefin. Diolch am godi hynny. Os gallwch ysgrifennu ataf ynghylch y mater penodol hwnnw, hoffwn ofyn i swyddogion edrych i mewn i hynny, ac fe wnaf innau hynny hefyd.

Mae cynllun Nyth yn cynnwys gweithdrefn gwyno, a amlinellir yn adran 32 o'r telerau ac amodau. Mewn unrhyw gŵyn, dylid darparu hynny i etholwyr os oeddent yn llwyddiannus yn eu cais i'r cynllun. Dylid codi cwynion yn uniongyrchol gyda'r partner cyflenwi, sy'n rhoi cyfle iddynt ddatrys y mater. Ond os ydynt yn anfodlon, gallant gyflwyno cwyn i Lywodraeth Cymru.

Mae gan gynllun Nyth drefniant llywodraethu cadarn ar waith, lle cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda'r holl gontractwyr yn fisol ac yn chwarterol, lle trafodir unrhyw faterion. Ond fel y dywedais, anfonwch fwy o fanylion ataf ynglŷn â hynny, ac fe wnaiff swyddogion edrych i mewn i hynny.

Nid oes gennyf unrhyw anhawster gyda'r cynllun Nyth newydd, sydd â llawer o rwystrau a gwrthbwysau wedi'u hadeiladu i mewn iddo. Y broblem sydd gennyf yw maint y gyllideb o'i gymharu â maint yr her. Gwyddom fod maint yr her yn bennaf yn y sector preifat, oherwydd mae'r sector tai cymdeithasol wedi gwneud gwaith da ar hyn. Heddiw, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr arbenigwyr yr ydym yn eu defnyddio ledled y DU, wedi cyhoeddi eu pedwaredd gyllideb garbon i Gymru, ac un o'u prif flaenoriaethau yw i Lywodraeth Cymru gefnogi aelwydydd sydd ar incwm arbennig o isel i osod systemau gwresogi carbon isel.

Rydym yn bell iawn o ble mae angen i ni fod, ac nid yw'n ymddangos bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn talu sylw i'r wybodaeth sydd eisoes ar gael, er enghraifft drwy Ysgol Pensaernïaeth Prifysgol Caerdydd a Cymru Gynnes, sy'n nodi'r aelwydydd mwyaf agored i niwed sydd angen y cymorth mwyaf i allu defnyddio ynni'n effeithlon. Mae'n rhyfeddol, ar hyn o bryd, mai dim ond pum awdurdod lleol yng Nghymru sy'n defnyddio'r pecyn cymorth hwn—Caerdydd, Ceredigion, sir y Fflint, Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf—ac mae rhai o'r rhain yn crynhoi arian cymunedol a gasglwyd o ffermydd gwynt, y gellid ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r aelwydydd mwyaf agored i niwed.

Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r awdurdodau lleol eraill, ac yn wir yr holl awdurdodau lleol, i wneud hon yn flaenoriaeth lawer uwch gan fod y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi siarad?

14:05

Yn hollol, Jenny. Cyfeiriais at rai o'r pwyntiau yng nghwestiwn Siân Gwenllian. Rydym yn gwybod bod maint yr her yn enfawr. Mae technolegau carbon isel fel pympiau gwres a phaneli solar gyda dulliau storio batri yn cael eu blaenoriaethu pan fo'n gwneud synnwyr i wneud hynny. Rydym yn targedu'r lleiaf cefnog, gyda'r trothwyon incwm isel sy'n cael eu cyflwyno. Rydym yn gwneud llawer o waith yn hynny o beth.

Fel y dywedais, rwyf wedi cyfarfod â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar hyn, oherwydd mae rhywfaint ohono'n berthnasol i'r DU gyfan, onid yw, rydym i gyd yn gweld yr un her. Rwy'n gobeithio dysgu gan eraill hefyd, yn ogystal â rhannu'r hyn a ddysgwyd yma, ac rwy'n hapus iawn i fynd ar drywydd y pethau y mae awdurdodau lleol yn eu gwneud yn dda. Oherwydd, unwaith eto, os yw rhai'n gwneud yn dda—ac fe wnaethoch chi roi detholiad yno o awdurdodau lleol sy'n eithaf amrywiol mewn gwirionedd—rwy'n awyddus i wybod sut y mae hynny'n cael ei rannu.

Mae yna rôl i'r CLlLC yn amlwg, ond rwy'n gweld honno’n rôl i mi hefyd. Rwy'n cyfarfod ag awdurdodau lleol yn rheolaidd, nid yn unig y prif weithredwyr a'r arweinwyr, ond ag aelodau cabinet tai a phenaethiaid gwasanaeth mewn awdurdodau lleol hefyd. Rwy'n ceisio canolbwyntio ar lle gallwn gael trafodaethau go iawn ynglŷn â lle mae awdurdodau lleol yn gwneud pethau'n dda, lle gallwn ni ddysgu. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallaf wneud yn siŵr ei fod ar yr agenda yn ein cyfarfodydd nesaf.

A gaf i ddiolch i Cefin Campbell am godi hyn? Roeddwn i'n meddwl mai dim ond yn Aberconwy yr oeddem yn cael cynlluniau problematig wedi'u gosod, gyda'r diflastod a'r gofid sy'n wynebu rhai o fy etholwyr, sy'n meddwl, 'O, rydym yn gwneud y peth iawn, yn cael ein cartrefi wedi'u datgarboneiddio a phopeth' ac mae'r niferoedd yn cynyddu. Ac mae'n rhaid imi ddweud bod y gwaith gwael wedi bod yn ofnadwy.

Ni allwch fynd ar y cyfryngau cymdeithasol nawr heb weld yr hysbysebion hyn yn neidio allan atoch: 'Ychwanegwch £20,000 at werth eich cartref trwy gael un o'r cynlluniau hyn', ond nid oes gennym sgiliau yng Nghymru ar gyfer y cynlluniau hyn, na'r achrediadau. Mae pobl yn caniatáu contractwyr i mewn i'w cartrefi nad ydynt yn gallu cyflawni rhai o'r cynlluniau hyn. Felly, rwy'n falch iawn, oherwydd roeddwn i'n  meddwl wir mai dim ond yn Aberconwy roedd hyn yn digwydd. Rwyf wedi ei godi yma dros y 12 mis diwethaf, felly rwy'n credu bod rhywbeth yno, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i chi, efallai, edrych ar ba mor effeithiol yw'r cynlluniau hyn mewn gwirionedd.

Nid yw systemau'n gydnaws â chyflenwad y grid pŵer cenedlaethol, maent yn tripio ac yn gadael cartrefi heb drydan, dŵr poeth a gwres. Maent wedi rhybuddio ers amser maith am broblemau difrifol. Mewn gwirionedd, rwyf wedi galw ar y cynllun ECO4 i gael ei atal dros dro oherwydd bod y niferoedd sy'n dod i mewn ataf bellach yn llawer mwy na'r—. Fe roddais arolwg allan fy hun a daeth yn ôl gyda'r mwyafrif helaeth yn dweud bod angen mwy na dim ond cyllid gan y Llywodraeth ar y cynlluniau hyn; mae angen eu rheoli'n iawn ac mae angen eu monitro. Ac rwy'n gofyn i chi wneud hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch.

Diolch am godi hynny. Os oes cwynion penodol, mae yna weithdrefn gwyno, fel y nodais. Os oes rhai yr ydych chi'n poeni'n arbennig amdanynt, dowch â'r rheini i fy sylw.

Ar ein dull o weithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd, mae'r rhaglen yn cynnig creu swyddi yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer ôl-ffitio, cyflogi masnachwyr lleol a hybu'r galw am y sgiliau hyn mewn awdurdodau lleol. Bydd cynlluniau cymunedol fel systemau gwresogi cymunedol a systemau inswleiddio adeiladau cyfan a all effeithio'n gadarnhaol ar sawl cartref yn cael eu harchwilio fel rhan o'r rhaglen. Mae British Gas, sy'n asiant cyflenwi ar gyfer cynllun Nyth, wedi bod yn gweithio'n agos gyda chontractwyr i sicrhau eu bod yn uwchsgilio eu gweithlu, ac mae contractwyr yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i bawb sy'n gweithio ar y cynllun i sicrhau eu bod yn gymwys i gyflawni gofynion PAS 2035.

Y tu hwnt i gynllun Nyth, mae angen gosodwyr arnom hefyd i ddatgarboneiddio gweddill ein cartrefi, fel rydym wedi dweud, ac yn amlwg, mae'r anghydbwysedd rhwng cyflenwad a galw yn effeithio ar ein gallu i ddarparu gosodiadau o safon yn gyflym yng Nghymru. Ond bydd ein hangen am weithlu medrus mewn effeithlonrwydd ynni a gwresogi carbon isel yn cynyddu dros y tymor hir, felly fel y dywedais, rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'r sector i asesu'r ddarpariaeth dros amser a chynllunio'r ddarpariaeth hyfforddiant yn unol â hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am y pryderon ECO4. Cynllun gan Lywodraeth y DU yw hwnnw. Dyna un o'r trafodaethau y gallais ei chael gyda fy nghyfaill Miatta Fahnbulleh, sy'n arwain ar hynny yn San Steffan, ac rwy'n gwybod y bydd rhagor. Maent yn gwneud gwaith ar hyn o bryd, ac yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddais yn ddiweddar—tua mis diwethaf, rwy'n credu—rwy'n gobeithio y gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Ond fel y dywedaf, mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd ar lefel y DU, ac mae'n rhywbeth rwy'n ei godi gyda fy nghymheiriaid yn y Cabinet yn San Steffan hefyd.

14:10
Rhent yn y Sector Breifat

5. Pa asesiad mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi ei wneud o gyfraddau rhent yn y sector breifat? OQ62708

Diolch, Mabon. Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod gan Gymru y rhent preifat cyfartalog isaf o holl wledydd y DU ers mis Ionawr 2021. Ym mis Mawrth 2025, y rhent preifat cyfartalog yng Nghymru oedd £792 y mis, o'i gymharu â'r cyfartaledd o £1,332.

Diolch am yr ateb yna. Mae'r ystadegau yna y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u nodi yn gywir, ond mae hi wedi methu â chofnodi’r ffaith bod cyfraddau rhent wedi cynyddu fwy o ran canran yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Gyfunol yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynyddu 8 y cant. Fel rydych chi wedi’i ddweud, mae bron yn £800 y mis erbyn hyn, ac o ystyried lefel incwm Cymru, sydd yn is na gweddill y Deyrnas Gyfunol, mae'n anodd iawn i bobl yng Nghymru dalu'r rhenti o'r fath.

Rydw i wedi cael etholwyr yn dod ataf fi yn pryderu eu bod nhw wedi gweld rhent yn cynyddu, a minnau’n gofyn i'r landlordiaid pam bod y rhent yn cynyddu. Yr ateb ydy oherwydd eu bod nhw'n gallu cynyddu’r rhent, nid oherwydd eu bod nhw wedi gwella ansawdd y tŷ, nid oherwydd eu bod nhw wedi gwella ansawdd bywyd y tenantiaid, ond oherwydd eu bod nhw'n medru gwneud heb fod unrhyw fath o atal arnyn nhw.

Ar ben hynny, rydyn ni'n gweld, fel rydyn ni wedi clywed heddiw, safon ansawdd rhai o'r tai rhent yma yn ansawdd isel iawn, sydd yn golygu bod pobl yn byw mewn tai tamp yn amlach na pheidio hefyd. Felly, a ydych chi'n medru ymrwymo i edrych i mewn i roi cap ar rent? Rydyn ni'n gwybod bod cap yn bodoli yn y sector cyhoeddus gyda thai cyhoeddus, felly a fedrwn ni weld rhywbeth tebyg yn cael ei roi ar dai preifat er mwyn atal y fath gynnydd yn y dyfodol?

Diolch, Mabon, a diolch am y cwestiwn atodol. Mae'n bwysig peidio ag edrych yn unig ar y ffigur newid canrannol ar sail Cymru gyfan, oherwydd nid yw hynny'n dweud wrthym faint mwy fydd rhywun yn ei dalu mewn rhent mewn termau real bob mis mewn tref, dinas neu bentref penodol. Mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, er y gallai rhai ardaloedd awdurdodau lleol fod wedi gweld newid canrannol mwy yn y rhent o'i gymharu â 12 mis yn ôl, i'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol mae'r cynnydd wedi bod yn llawer is ac yn cyd-fynd yn agosach â lefel chwyddiant.

O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, rydym wedi rhoi mesurau ar waith sy'n golygu mai dim ond unwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis y gall landlord ystyried codi rhent, ac wedi dyblu'r cyfnod rhybudd o godiad rhent o fis i ddau fis. Fel y gwyddoch, mae'r Papur Gwyn ar dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd yn nodi bod angen data gwell er mwyn deall fforddiadwyedd yn y sector mewn gwirionedd—rhenti'r farchnad, hynny yw—ac felly, archwilio sut y gallai Rhentu Doeth Cymru, yr awdurdod trwyddedu, gasglu gwybodaeth am rent.

Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi nodi yn y Papur Gwyn na fyddem yn ystyried bwrw ymlaen â rheoli rhenti ar hyn o bryd, oherwydd roedd gennym dystiolaeth o'r Papur Gwyrdd. Ond fel y dywedais, mae'r data hwnnw'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei weld yn wella. Rwy'n credu bod hwnnw'n faes lle gallwn wneud rhywfaint o gynnydd, oherwydd gallai gosod mesurau rheoli rhenti dros dro heb y dystiolaeth gadarn honno gael canlyniadau anfwriadol go iawn.

14:15

Wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, mae safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni arfaethedig yn dod yn weithredol ar gyfer landlordiaid preifat sy'n gosod eu heiddo ar rent ar gyfer tenantiaid yma yng Nghymru. Bydd sicrhau bod y tai hynny'n cyrraedd y safon yn costio i'r landlordiaid hynny, ac wrth gwrs, fe fyddech chi'n disgwyl i o leiaf rywfaint o'r gost honno gael ei throsglwyddo i denantiaid yn y dyfodol hefyd. Felly, tybed pa asesiad a wnaethoch o'r costau y mae landlordiaid yn eu hwynebu i sicrhau bod eiddo rhent yn cyrraedd y safonau effeithlonrwydd ynni a'r effaith ar brisiau rhent yma yng Nghymru?

A pha asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint y sector rhentu preifat yng Nghymru yn y dyfodol a nifer y cartrefi sydd ar gael i denantiaid o ganlyniad i weithredu'r safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni arfaethedig hyn. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Sam. Mae system y safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni yn rhywbeth ar lefel Llywodraeth y DU ac mae'n rhywbeth y gallais siarad â fy swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU yn ei gylch yn ddiweddar. Rydym wedi cael trafodaethau. Fel y dywedais, rydym yn awyddus i ddysgu rhai pethau ganddynt, ond hefyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhannu gwybodaeth gyda hwy, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni fynd i'r afael ag ef gyda'n gilydd. Rydym yn gwybod beth yw ein gwir uchelgais yma yng Nghymru, ond fe wyddom fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno ledled y DU. Felly, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynllun safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni, ond yn sicr, rwyf wedi cael y trafodaethau hynny, nid yn unig fi fy hun fel cynrychiolydd yma, ond swyddogion hefyd, a hynny'n eithaf rheolaidd.

Tai sydd wedi'u Haddasu ac sy'n Hygyrch

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad oes rhaid i bobl ag anableddau fyw mewn ysbytai oherwydd bod eu cartrefi yn anaddas ar gyfer addasiadau tai neu oherwydd bod prinder tai amgen sydd wedi'u haddasu ac sy'n hygyrch? OQ62703

Diolch, Heledd. Mae pob cartref newydd sy'n cael ei adeiladu yng Nghymru gyda chyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei adeiladu i safon cartrefi gydol oes, gan sicrhau bod modd addasu cartrefi wrth i anghenion newid. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid addasiadau i awdurdodau lleol drwy'r rhaglen byw'n annibynnol, sydd wedi cael £5.5 miliwn ychwanegol eleni.

Diolch am yr ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gofynnais y cwestiwn hwn am fod yna fachgen 13 oed dewr o'r enw Kyle Sieniawski yn byw ym Mhontypridd yn fy rhanbarth. Ym mis Mawrth y llynedd, dechreuodd Kyle brofi symptomau cynnar clefyd niwronau motor y cafodd ddiagnosis ohono ym mis Ionawr eleni, ac roedd hynny'n sioc ofnadwy i'r teulu. Ef yw dioddefwr ieuengaf y clefyd niwronau motor yn y DU, os nad y byd. Yn anffodus, ers mis Hydref, mae ei iechyd wedi dirywio'n gyflym, a bellach mae angen help gydag anadlu, bwydo ac mae ei allu i symud yn gyfyngedig iawn. Mae ei rieni a'i frawd wrth ei ymyl drwy'r amser, yn byw gydag ef yn Ysbyty Plant Cymru Arch Noa. Maent eisiau i Kyle ddod adref iddynt gael gofalu amdano yno.

Nid yw eu tŷ sy'n eiddo preifat yn addas ar gyfer y math o addasiadau y byddai eu hangen, ac awgrymwyd y dylent werthu a phrynu neu rentu eiddo wedi'i addasu. Ond a allwch chi ddychmygu ceisio dod o hyd i dŷ wedi'i addasu i symud iddo tra bod eich plentyn yn dioddef mewn gwely ysbyty gyda chyflwr angheuol? Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud pa gymorth a ddylai fod ar gael i deulu mewn sefyllfa o'r fath yng Nghymru, ac a wnewch chi gytuno i gyfarfod â mi a'r teulu i weld sut y gall ein gwasanaethau tai eu cefnogi ar frys?

Diolch, Heledd. Mae'n ddrwg gennyf glywed am ddiagnosis Kyle; rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr yn teimlo'r un fath. Mae'n rhaid ei fod yn newyddion mor ddinistriol iddo ef a'i deulu orfod ymdopi ag ef, heb sôn am y pryder a'r straen ychwanegol a roddwyd arnynt fel teulu gyda'u hanghenion tai.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu nifer o raglenni addasu tai sy'n cael eu cyflwyno trwy ystod o ddarparwyr, ond mae'n hanfodol fod tai'n addas ar gyfer gwneud unrhyw addasiadau. Yn achos Kyle, rwy'n deall bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu nad yw'r cartref yn addas ac felly na ellir ei addasu. Rwyf wedi dyrannu £5.5 miliwn arall mewn buddsoddiad cyfalaf a £1.2 miliwn mewn refeniw eleni i leddfu rhywfaint o'r galw am addasiadau yn fwy cyffredinol, ond mae stori Kyle yn dangos pwysigrwydd datblygu cartrefi sy'n barod i'w haddasu wrth i anghenion newid. Unwaith eto, diolch yn fawr am godi stori Kyle. Rwy'n hapus iawn i gyfarfod â chi a theulu Kyle i drafod pa gefnogaeth y gellid ei darparu.

14:20
Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd

7. Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i'r angen i ariannu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd wrth benderfynu ar gyllidebau awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru? OQ62691

Diolch, Delyth. Wrth wneud penderfyniadau ar y setliad llywodraeth leol, ystyriais ehangder y gwasanaethau y mae cynghorau'n eu darparu, gan gynnwys gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd. Derbyniodd cynghorau yn Nwyrain De Cymru gynnydd cyfunol o 4.8 y cant yn eu cyllid ar gyfer 2025-26. 

Diolch am yr ateb hwnnw. Rwy'n bryderus iawn am yr effaith y bydd cau llyfrgelloedd yn ei chael ar draws Caerffili. Mae deg llyfrgell ar draws Caerffili yn mynd i gau. Mae'r bleidlais wedi penderfynu hynny yn y cabinet heddiw. Bydd y penderfyniad hwn yn cau drysau i fydoedd eraill, lleoedd cysur i bobl sy'n oer ac yn unig, a lleoedd llawn rhyfeddod i blant. Roedd rhai plant wedi cysylltu â'r cyngor yn uniongyrchol i ddweud wrthynt cymaint y byddant yn gweld colli'r llyfrgelloedd hyn. Maent wedi gwneud posteri. Maent wedi ysgrifennu llythyrau ac anfon negeseuon. Rhoddodd un o fy etholwyr yn Llanbradach lun o lythyr yr oedd ei fab ifanc wedi'i ysgrifennu ar fy nhudalen Facebook. Mae'r llythyr yn dweud:

'Annwyl Gyngor, cadwch y llyfrgell xx oddi wrth Harri'.

Mae'n codi'r cwestiwn beth yw'r pwynt i gynghorau gynnal ymgynghoriadau os ydynt yn mynd i anwybyddu'r ymatebion yn llwyr.

Nawr, dylai cyllid ar gyfer llyfrgelloedd gael ei gefnogi gan lywodraeth ganolog, felly rwy'n gofyn heddiw, ar ran plant fel Henry a'u rhieni, a ellir darparu cymorth brys i'r cymunedau hyn i helpu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gadw'r llyfrgelloedd ar agor, gan fod y cyngor bellach wedi gwneud y penderfyniad difeddwl i'w cau.

Diolch, Delyth. Rwy'n cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw cyfraniad cadarnhaol llyfrgelloedd a chyfleusterau hamdden i'n cymunedau. Penderfyniadau ar gyfer gwasanaethau unigol, gan gynnwys llyfrgelloedd a gwasanaethau gwerthfawr eraill yw penderfyniadau ynghylch cyllidebau. Penderfyniadau i aelodau etholedig lleol eu gwneud ydynt. Mater i'r awdurdod lleol ei benderfynu ar ôl ymgynghoriad yw patrwm y ddarpariaeth lyfrgelloedd yn lleol.

O ran y cyllid a roesom ni i mewn, fel setliad llywodraeth leol, fel y dywedaf, mae awdurdodau lleol wedi cael cynnydd o 4.5 y cant neu £262 miliwn ar sail debyg am debyg o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Fel y dywedais, mae'r rhain yn benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan bob awdurdod lleol unigol.

Cynllun Cartrefi Clyd

8. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith polisïau Llywodraeth y DU ar gynllun cartrefi clyd Llywodraeth Cymru? OQ62697

Diolch, Altaf. Mae fy swyddogion a minnau'n ymgysylltu'n llawn â Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Gweinidog Defnyddwyr Ynni, Miatta Fahnbulleh, i drafod cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU. Byddwn yn asesu goblygiadau'r cynlluniau hyn i Gymru pan gânt eu cyhoeddi.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cynlluniwyd y cynllun Cartrefi Clyd i helpu i wneud cartrefi tlawd o ran tanwydd yn gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Cyflwynwyd Nyth cyn i Lywodraeth y DU orfodi mwy fyth o deuluoedd i fyw mewn tlodi tanwydd. Cyn i'r Canghellor gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf, roedd yn dal i fod cannoedd o bobl yn marw yng Nghymru bob gaeaf. Mae bron i draean o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yn cael eu priodoli i fyw mewn cartref oer. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg y bydd dod â thaliad tanwydd y gaeaf i ben a phrisiau ynni cynyddol yn gorfodi mwy o bobl i fyw mewn tlodi tanwydd. A yw eich cynllun Cartrefi Clyd yn gallu ymdopi â'r galw ychwanegol, ac a fydd yn helpu i atal pobl rhag marw o oerfel y gaeaf nesaf?

Diolch, Altaf. Mae fy swyddogion wedi ystyried cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU sydd ar y ffordd. Mae'n cyd-fynd yn fras â'n hamcanion polisi ein hunain yng nghynllun Nyth Cartrefi Clyd. Lle bo hynny'n briodol, gallwn ddiwygio Nyth i ymgorffori unrhyw ganlyniadau cadarnhaol sy'n codi, a fydd o fudd i ddeiliaid tai Cymru. Mae fy swyddogion yn cyfarfod â swyddogion o Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon i drafod materion sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd, ac i rannu gwybodaeth ac arferion gorau ar sut i helpu aelwydydd agored i niwed sy'n byw mewn tlodi tanwydd. 

Prif amcanion cynllun Nyth Cartrefi Clyd yw mynd i'r afael â thlodi tanwydd a'r argyfwng hinsawdd, ac mae swyddogion yn adolygu cynnydd yn barhaus i sicrhau bod y cynllun yn bodloni'r prif amcanion hyn yn llwyr. Rydym wedi cael adolygiadau parhaus ac mae hynny wedi fy ngalluogi i gyhoeddi sawl newid sydd wedi cael effaith gadarnhaol a real ar gefnogi aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd.

Rwy'n credu bod gwneud y mwyaf o incwm a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl yng Nghymru, gan gynnwys pensiynwyr, yn flaenoriaethau hanfodol wrth inni helpu deiliaid tai Cymru sy'n wynebu prisiau ynni uchel a phwysau costau byw. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cynghori ac rydym yn annog pobl, gan gynnwys pensiynwyr, i gysylltu â llinell gymorth 'Hawlio'r hyn sy'n ddyledus i chi' Advicelink Cymru i gael gwybod am y cymorth ariannol y gallai fod ganddynt hawl iddo.    

14:25
2. Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Y cwestiynau nesaf fydd y rhai i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac i'w ofyn gan Adam Price. 

Colegau Addysg Bellach

1. Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i ddod a cholegau addysg bellach yn ôl o dan reolaeth y sector gyhoeddus? OQ62705

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i golegau addysg bellach fod o dan reolaeth y sector cyhoeddus. Medr sy'n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru a bydd yn ymgynghori cyn bo hir ar ei drefn reoleiddio arfaethedig, sy'n mynd i'r afael â'r sector addysg drydyddol gyfan.

Mae llawer o bobl yn meddwl mai camgymeriad oedd y penderfyniad o dan y Llywodraeth Geidwadol yn gynnar yn y 1990au i dynnu colegau addysg bellach o reolaeth awdurdodau lleol yn gyfan gwbl, oherwydd mae wedi arwain at sector addysg ôl-16 dameidiog. Mae gennych gystadleuaeth rhwng colegau addysg bellach a cholegau chweched dosbarth, a diffyg atebolrwydd. Weinidog, pan ofynnais i chi am gynnig, er enghraifft, i gau campws Rhydaman gan Goleg Sir Gâr yn fy etholaeth, fe ddywedoch chi yn y bôn mai penderfyniad i'r coleg yw hwnnw. Nid oes dim yn lleol nac yn genedlaethol y gallwn ei wneud am hynny, ac yn sicr ni all hynny fod yn iawn pan ydym yn siarad am wasanaeth cyhoeddus sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus 100 y cant. Felly, a wnewch chi edrych naill ai ar ddod â cholegau addysg bellach lleol yn ôl o dan reolaeth awdurdodau lleol, neu ryw fath arall o atebolrwydd democrataidd uniongyrchol?

Diolch am y cwestiynau atodol, Adam. Fel y dywedoch chi, mae colegau yng Nghymru yn gyfrifol ac yn atebol am eu penderfyniadau strategol a gweithredol. Mae hynny'n cynnwys darparu cyrsiau a rheoli ystadau. Mae Llywodraeth Cymru'n teimlo, ac rwy'n credu bod y sector yn teimlo hefyd, fod eu statws di-arian cyhoeddus fel y maent ar hyn o bryd yn eu galluogi i fod yn sector amrywiol ac ystwyth iawn, ac mae'n rhoi cyfle i sefydliadau siapio darpariaeth o amgylch y dysgwyr a'u cymunedau.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud hefyd yw y byddai newid statws cyfrifyddu a statws di-arian cyhoeddus y colegau yng Nghymru yn cynyddu gweinyddiaeth a biwrocratiaeth yn sylweddol, i'r colegau eu hunain a hefyd i Lywodraeth Cymru. Rwy'n teimlo y byddai hynny'n aflonyddgar iawn a ninnau am i'n colegau ganolbwyntio ar eu gwaith craidd sef addysgu a dysgu. Hefyd, rwyf am ychwanegu nad wyf yn credu ei bod yn glir y byddai cost ychwanegol statws sector cyhoeddus yn arwain at unrhyw fuddion sylweddol.

Efallai y bydd gan yr Aelod ddiddordeb hefyd yn y ffaith, os trown at y fframwaith statudol ei hun o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, y bydd y Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol newydd sy'n integreiddio'r broses o reoleiddio darpariaeth addysg drydyddol. Yn rhan allweddol o hynny, bydd Medr yn cyflwyno system reoleiddio newydd. Y nod yw i'r system honno, gan gynnwys yr amod ar lywodraethu a rheoli, ddod yn weithredol o 2026-27. Felly, bydd Medr yn lansio ymgynghoriad ar 14 Mai, ac mae'n bwriadu ymgysylltu â'r sector ochr yn ochr â'r ymgynghoriad ffurfiol, felly efallai y bydd hynny'n rhywbeth y gallai'r Aelod fod eisiau cymryd rhan ynddo.

14:30
Ysgolion Preifat ac Annibynnol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ysgolion preifat ac annibynnol? OQ62713

Wrth eu natur, mae ysgolion annibynnol yn ymreolaethol. Nid ydynt yn cael eu rheoli na'u hariannu gan y Llywodraeth, ond fel arfer, cânt eu llywodraethu gan ymddiriedolwyr neu lywodraethwyr, sy'n gyfrifol am reolaeth yr ysgol, gan ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau ynghylch pob agwedd ar reolaeth a gweithrediad yr ysgol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae casineb Llafur tuag at ysgolion preifat ac annibynnol yn rhywbeth sydd wedi'i drafod sawl gwaith yn y gorffennol yma yn y Siambr. Mae polisïau niweidiol eich plaid sydd wedi'u hanelu at y sector yn parhau i achosi anhrefn. Yr wythnos diwethaf, clywsom y newyddion syfrdanol fod Ysgol St Clare ym Mhorthcawl wedi dechrau trafodaethau i gau. Mae'r bai wedi'i roi ar ansefydlogrwydd economaidd a ffactorau y tu hwnt i'w rheolaeth. Dywedodd un rhiant fod y cyhoeddiad wedi gadael llawer mewn sioc ac yn eu dagrau yn wir. Ac yna, y diwrnod canlynol, daeth y newyddion fod Ysgol Oakleigh House yn Abertawe, ysgol breifat arall, hefyd yn mynd i gau ei drysau.

Gadewch inni fod yn onest: ni ellir gwadu bod cyrch treth Llafur ar ysgolion preifat a chodiadau enfawr i yswiriant gwladol wedi chwarae rhan ddamniol yn y saga druenus hon. Ac mae'n gas gennyf ddweud hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ond dyma'r adeg pan fo'n rhaid imi ddweud, 'Fe ddywedais i wrthych chi.' Rhybuddiodd fy nghyd-Aelodau Ceidwadol, ynghyd â thîm y Ceidwadwyr yn San Steffan, dro ar ôl tro y byddai canlyniadau'r polisïau hyn yn ddifrifol iawn.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gymorth fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r ysgolion hyn a'r awdurdodau lleol, wrth i rieni ddechrau dod o hyd i ysgolion eraill? Ac o ystyried mai dim ond yr wythnos diwethaf y dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n beirniadu Llywodraeth Lafur San Steffan pe bai'n cymryd camau a fyddai'n niweidio'r gymuned Gymreig, a wnewch chi erfyn arni i herio Prif Weinidog y DU ynghylch y polisi dadleuol hwn cyn i unrhyw ysgolion eraill yng Nghymru gau am byth? Diolch.

Wel, a gaf i ddiolch i Natasha am ei chwestiwn atodol? Fel y gŵyr, nid yw’r TAW a fydd yn cael ei chodi ar ffioedd ysgolion annibynnol o 1 Ionawr yn fater datganoledig. Mae polisi TAW yn fater a gedwir yn ôl gan San Steffan, felly mae'n berthnasol i'r DU gyfan. Fe fyddwch yn ymwybodol, gan eich bod eisoes wedi codi hyn yn y Siambr, ein bod ni, eleni, wedi rhoi diwedd ar ryddhad ardrethi busnes i rai ysgolion sy'n codi ffioedd er mwyn defnyddio'r cyllid i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol. Daeth hyn ag ysgolion annibynnol â statws elusennol yn unol ag ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru, ac os caf ddweud wrth yr Aelod nad oedd Ysgol St Clare wedi'i nodi'n un o'r 17 ysgol a oedd yn cael rhyddhad ardrethi busnes cyn iddo gael ei ddiddymu.

A gaf i ddweud wrth yr Aelod hefyd fod swyddogion mewn trafodaethau gyda'r awdurdodau lleol ynghylch sut i barhau ag addysg plant a phobl ifanc a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynlluniau i gau'r ysgolion? Ac mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau eu bod yn gweithio gydag Ysgol St Clare i ddeall ble mae'r plant yn byw—yn amlwg, nid yw pob un ohonynt yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr—ac i ddarparu cymorth i sicrhau addysg barhaus i'r plant yr effeithir arnynt. Mae'r awdurdod lleol ar gael i helpu unrhyw rieni, gofalwyr neu ddisgyblion sy'n gofyn am gymorth i ddod o hyd i ddarpariaeth addysg amgen.

Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi cadarnhau eu bod yn ymwybodol o'r bwriad i gau Ysgol Oakleigh House ac yn disgwyl y bydd effaith ar dderbyniadau i ysgolion, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol. Fodd bynnag, maent yn teimlo bod mpdd rheoli'r sefyllfa honno ar hyn o bryd. Ac rwy'n annog unrhyw deuluoedd yr effeithir arnynt gan hyn, os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, i gael sgwrs gyda'u hawdurdod addysg lleol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i holi Ysgrifennydd y Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae pryder cynyddol wedi bod ers peth amser yn y proffesiwn addysgu fod prinder athrawon cyflenwi yn golygu na fydd dewis gan ysgolion ond dibynnu ar gynorthwywyr addysgu i fod yn gyfrifol am ddosbarthiadau. Er bod cynorthwywyr addysgu yn gallu gofalu am rywfaint o wersi pan fydd athrawon yn absennol yn annisgwyl, neu i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth mewn sesiynau cynllunio neu farcio, maent yn aml yn cael eu defnyddio yn erbyn canllawiau cenedlaethol i addysgu'n weithredol a chyflawni rolau nad ydynt wedi'u hyfforddi na'u talu i'w cyflawni.

Mae tystiolaeth yn dangos bod oddeutu 39 y cant o gynorthwywyr addysgu ysgolion cynradd yn gyfrifol am ddosbarthiadau am o leiaf bum awr yr wythnos—sy'n cyfateb i un diwrnod—tra bo 15 y cant yn gyfrifol am ddosbarthiadau am o leiaf 11 awr yr wythnos, sy'n cyfateb i o leiaf ddau ddiwrnod. Mae bron i hanner yn dweud eu bod yn gwneud hynny heb gynlluniau gwersi, sy'n destun pryder. Mae nifer fawr o'r cynorthwywyr addysgu hyn yn nodi nad ydynt wedi cael eu hyfforddi'n iawn i addysgu'r cwricwlwm i Gymru, ac fel y gwyddoch, mae cymhlethdod cynyddol anghenion iechyd dysgwyr yn ffactor hefyd. Rwy'n ymwybodol fod rhai ysgolion wedi gofyn i'w cynorthwywyr addysgu ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwn a hyd yn oed i ddechrau rhoi meddyginiaeth yn absenoldeb nyrsys ysgol. Gyda hyn oll mewn golwg, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau nad yw cynorthwywyr addysgu yn cael eu rhoi o dan bwysau i gyflawni rolau addysgu nad ydynt dan gontract i'w cyflawni? Diolch.

14:35

A gaf i ddiolch i Joel James am ei gwestiwn, a dweud wrth y Siambr fod gwella telerau ac amodau, dysgu proffesiynol a'r gydnabyddiaeth i staff cymorth yn flaenoriaeth i mi? Mae'n un o'r rhesymau pam fy mod mor awyddus i gael cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, gan nad oedd trafodaethau gyda llywodraeth leol wedi gwneud digon o gynnydd yn y maes hwn, felly rydym yn symud y mater yn ei flaen drwy'r cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg.

Un o'r materion a nodwyd gennych heddiw yw'r ffaith bod staff cymorth weithiau'n gorfod gwneud gwaith athrawon dosbarth. Cyfarfûm â staff cymorth yng nghynhadledd staff cymorth Unsain yn yr hydref, ac roedd hon yn thema glir yn eu pryderon. Yn amlwg, mae'n bwysig fod staff cymorth yn cael eu talu'n briodol am eu rôl a'u bod hefyd yn cael hyfforddiant priodol ar gyfer eu rôl. Rydym wedi dweud yn glir wrth y sector yng Nghymru fod gan staff cymorth hawl i ddysgu proffesiynol, ond gwn nad yw'r hawl honno'n cael ei rhoi ar waith mor gyson ag y byddem yn hoffi, felly mae gwaith i'r cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg ei wneud yn hynny o beth.

Fe gyfeirioch chi hefyd at y ffaith bod disgwyl i rai staff cymorth roi meddyginiaeth ac ymdrin â phlant ag anghenion cymhleth iawn. Mae hynny hefyd yn bryder, ac rwyf wedi bod yn trafod y fframwaith nyrsio ysgolion gyda'n hysgolion arbennig ac eraill. Mae gennyf gyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i drafod, ymhlith pethau eraill, y fframwaith nyrsio ysgolion yr wythnos nesaf a'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan staff cymorth.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, cafodd cynorthwyydd addysgu yn ysgol gynradd gymunedol Ysgol y Graig yng Nghefncoedycymer, Merthyr Tudful, ei hatal dros dro yn ddiweddar ar ôl rhannu fideo ohoni ei hun yn gwatwar plentyn agored i niwed yr oedd yn gweithio gyda hwy ar sail un i un, a phostio'r fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, ar gael i bawb ei weld. Dywedir wrthym fod y cynorthwyydd addysgu dan sylw wedi cael geirdaon ardderchog gan yr asiantaeth addysgu a'i cynigiodd ar gyfer y rôl. Credaf ei bod yn bwysig fod gwersi'n cael eu dysgu, ac rwy'n deall bod pobl weithiau'n llithro drwy'r rhwyd, er gwaethaf pob ymdrech. Fodd bynnag, pe na bai'r cynorthwyydd addysgu wedi postio'r fideo ar-lein, gallai'r plentyn fod yn dal i gael eu gwatwar, eu bychanu a'u cam-drin. A ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod lle i gryfhau gweithdrefnau geirdaon ar gyfer rolau cynorthwywyr addysgu, yn enwedig wrth ymdrin â phlant agored i niwed? Ac os felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. A gaf i achub ar y cyfle hwn i ddweud pa mor annerbyniol oedd gweithredoedd y cynorthwyydd addysgu? Fel y dywedoch, daeth y mater i'r amlwg. Mae gennym weithdrefnau sefydledig yng Nghymru, drwy Gyngor y Gweithlu Addysg, i reoleiddio ymddygiad ein gweithlu addysgu ac i ymchwilio i unrhyw honiadau o gamymarfer, sef yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn. Credaf ichi gyfeirio hefyd at athrawon cyflenwi. Mae'r rhan fwyaf o'n hathrawon cyflenwi yng Nghymru yn cael eu cyflogi drwy asiantaethau sydd ar ein fframwaith gwaith cyflenwi, sy'n cynnwys sicrwydd ynghylch ansawdd. Ond rwy'n fwy na pharod i edrych i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud yn y maes hwn.

Perffaith. Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y sonioch chi, mae'r ymchwiliad i weithredoedd y cynorthwyydd addysgu wedi arwain at ei thynnu oddi ar gofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg ac i beidio â chael ailgofrestru na gweithio mewn ysgol am gyfnod o 12 mis yn unig. Er mwyn ailgofrestru, byddai angen iddi gyflawni cyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb mewn perthynas â diogelu a defnydd priodol o'r cyfryngau cymdeithasol, sy'n golygu, pe bai'n cwblhau'r cyrsiau hyn, y byddai'n gymwys i ddod o hyd i waith yn yr un rôl ag y cafodd ei hatal ohoni. Rwy'n sylweddoli, Ysgrifennydd y Cabinet, na allwch wneud sylwadau penodol ar yr achos hwn, ond mae hyn yn amlwg yn fethiant i ddiogelu plentyn rhag niwed posibl, ac yn un credaf y dylai atal rhywun rhag bod yn gymwys i ailgofrestru yn y gweithlu addysg byth eto. Beth rydych chi'n ei wneud i adolygu'r meini prawf ar gyfer ailgofrestru ar ôl digwyddiadau o'r fath i sicrhau'r hyn sydd orau o ran diogelu plant? Diolch.

14:40

Diolch, Joel. Fel y nodoch chi, nid wyf am wneud sylwadau ar yr achos unigol hwn. Rwy'n cyfarfod â Chyngor y Gweithlu Addysg yn rheolaidd. Byddaf yn cael trafodaeth gyda'r cyngor a fy swyddogion i weld a oes unrhyw beth pellach y gallwn ei wneud. Fel Llywodraeth, rydym yn edrych yn ofalus iawn hefyd ar sut rydym yn hyrwyddo diogelu mewn ysgolion. A mater diogelu yw hwn, onid e? Felly, rydym yn edrych ar hynny yn ei gyfanrwydd hefyd. Ond nid wyf am wneud sylwadau ar yr achos penodol. Wrth gwrs, rwy'n disgwyl y safonau ymddygiad uchaf gan ein holl addysgwyr yng Nghymru, ac mae'r mwyafrif helaeth o'r rheini'n gwneud gwaith gwych iawn ac yn cefnogi plant yn rhyfeddol o dda.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellodd blog diweddar gan Impact, sefydliad sydd wedi'i leoli yng Nghaerffili ac sy'n arbenigo mewn gwasanaethau gwella ysgolion, yr anhrefn llwyr y mae system addysg Cymru ynddo ar hyn o bryd. Ar ôl dros 25 mlynedd o Lafur yng Nghymru yn gostwng y gwastad ar ein system addysg, mae'n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mesurau ar waith a fydd yn gwella ysgolion ledled Cymru.

Yn dilyn yr adolygiad haen ganol, roedd yn amlwg fod y pum consortiwm addysg ledled Cymru yn anghyson ar y gorau ac yn niweidiol ar y gwaethaf o ran codi'r gwastad ar wella ysgolion. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi corff dysgu proffesiynol cenedlaethol canolog newydd, ac mae gennych Adnodd, rydych hefyd wedi cyhoeddi grŵp cynghori arbenigol gweinidogol newydd, panel arbenigol llythrennedd newydd, yn ogystal â thîm gwella ysgolion mewnol newydd Llywodraeth Cymru. Dyna bum corff neu sefydliad newydd yn lle'r pum consortiwm rhanbarthol. Pan fyddaf yn siarad ag athrawon, mae'n amlwg fod y diffyg manylion ynghylch y cyrff newydd hyn yn peri dryswch yn yr ystafelloedd dosbarth, gydag un yn dweud bod y sefyllfa'n llanast llwyr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod athrawon ac ysgolion yn gallu cael mynediad at wasanaethau gwella ysgolion yn ystod y cyfnod pontio hwn?

Diolch am eich cwestiwn, Cefin. Rwy'n siŵr y byddwch yn disgwyl imi anghytuno â'ch asesiad fod y system addysg mewn anhrefn llwyr. Fe wyddoch yn iawn ein bod wedi cael yr adolygiad haen ganol, a bod hwnnw wedi'i gynnal ac y cafwyd ymgynghori helaeth ag arweinwyr ysgolion. Eu barn hwy oedd eu bod eisiau system ar waith lle roedd ganddynt berthynas uniongyrchol â'r awdurdod lleol a lle gallent weithio gyda'i gilydd i wella ysgolion. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n gyflym.

Credaf y byddai'n deg dweud bod mwy o gynnydd wedi'i wneud mewn rhai ardaloedd awdurdod lleol nag eraill, a dyna'r achos bob amser gydag anghysondeb, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym bob amser yn ystyriol ohono. Roeddwn ar Ynys Môn ychydig wythnosau yn ôl, lle cefais gyfle i drafod y mater hwn gyda'u penaethiaid ysgolion uwchradd a'r awdurdod lleol, a chefais fy syfrdanu gan y gwaith y maent yn ei wneud ar system hunanwella i ysgolion yno. Felly, mae llawer yno sy'n galonogol.

Ymddengys eich bod yn gwrthwynebu'r hyn a ddisgrifiwch fel cyrff gwahanol, er bod pob un ohonynt yn gwneud pethau gwahanol mewn gwirionedd. Mae tîm gwella ysgolion mewnol Llywodraeth Cymru wedi'i gynllunio i gefnogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo ledled Cymru ar lefel leol ar wella ysgolion, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod gennym y ffocws cenedlaethol hwnnw. Mae'r corff dysgu proffesiynol wedi'i sefydlu i fynd i'r afael â'r hyn sydd wedi bod yn broblem hirsefydlog yng Nghymru gyda gormod o wahanol wybodaeth ddryslyd am ddysgu proffesiynol. Siaradodd ysgolion â ni, fel rhan o'r adolygiad haen ganol, am sŵn gwyn dysgu proffesiynol, felly bydd y corff dysgu proffesiynol newydd yn dwyn ynghyd dysgu proffesiynol mewn ffordd gydlynol sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau cenedlaethol. Mae Adnodd yn canolbwyntio ar adnoddau cwricwlwm, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol fod gennym gorff i ddatblygu adnoddau dwyieithog ar gyfer y cwricwlwm. Fe gyfeirioch chi at y grŵp arbenigol, ac rydym wedi trafod hwnnw o'r blaen. Yn bersonol, rwy'n credu ei bod yn bwysig gwrando ar arbenigwyr pan fyddwch yn ymdrin â materion heriol. Dyna sut rwy'n gweithio. Rwy'n hoff o siarad â phobl a gwrando ar bobl. Ac rwyf hefyd yng nghamau olaf y broses o benodi grŵp cynghori penaethiaid, rhywbeth y bu cryn ddiddordeb ynddo, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda phobl sydd ar y rheng flaen, yn ymdrin â'r heriau hyn drwy'r amser.

Rydych chi'n iawn i sôn am fater data. Fe fyddwch yn ymwybodol fod data wedi bod yn fater y bûm yn bryderus amdano ers dechrau yn y swydd. Mae'n gwbl hanfodol fod gennym ddata o ansawdd uchel er mwyn hybu gwelliant yn y trefniadau gwella ysgolion newydd hyn. Ond dylwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddweud nad wyf yn ystyried hyn yn ddychweliad at atebolrwydd risg uchel. Mae hyn yn galluogi pawb yn y system i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnom, i sicrhau bod y system yn gwella a'n bod yn codi safonau.

14:45

Diolch. Y pwynt roeddwn i’n ceisio’i wneud, wrth gwrs, yw dyw e ddim yn glir beth yw effaith yr holl gyrff yma sydd wedi cael eu sefydlu ar wella safonau mewn ysgolion. A dyna pam mae pobl yn ansicr, yn y cyfnod yma o drawsnewid, beth mae’r cyrff yma yn ei wneud o ran gwella safonau. Ond, yn greiddiol i’r mater hwn, wrth gwrs, mae’r dryswch ynghylch beth yn union sydd yn digwydd i’r consortia addysg rhanbarthol. Yn eich sesiwn ar graffu ar y gyllideb gerbron y pwyllgor addysg yn gynharach eleni, fe ddywedoch chi hyn:

'Nid yw'r consortia'n mynd i fodoli mwyach.'

Fodd bynnag, mae’r Cofnod wedi cael ei ddiwygio, wedi hynny, i ddweud:

'Efallai na fydd y consortia yn bodoli mwyach.'

Ac mae yna wahaniaeth rhwng y ddau. Felly, ydy hyn yn golygu y bydd rhai consortia, o 1 Medi ymlaen, yn parhau mewn bodolaeth a chwarae rôl yn eich cynlluniau ar gyfer gwella safonau addysg mewn ysgolion? Yn ychwanegol, gan ystyried bod staff wedi bod yn gadael yn eu cannoedd o’r sefydliadau hyn ers i’r arolwg haen ganol gael ei gyhoeddi, ydych chi’n pryderu na fydd, yn y consortia, neu yn y cyrff newydd, a’r corff canolog rŷch chi wedi'i sefydlu, ddigon o staff gwella ysgolion o ansawdd digonol er mwyn codi safonau ar draws y 1,400 o ysgolion yng Nghymru?

Diolch, Cefin. A hoffwn gydnabod ein bod mewn cyfnod pontio—ac mae cyfnodau pontio yn heriol i bobl—a chydnabod bod hwn wedi bod yn gyfnod llawn straen i rai o'r staff dan sylw hefyd. Ni fydd y consortia yn bodoli ar eu ffurf bresennol. Bydd y berthynas wella ysgolion gyda'r corff gwella ysgolion statudol, sef yr awdurdod lleol. Nawr, mae pob rhan o Gymru'n gweithio ar sut y bydd y trefniadau hynny'n cael eu strwythuro yn y ffordd orau i sicrhau bod ysgolion yn eu hardal yn gwella. Felly, gan imi sôn am Ynys Môn, mae Ynys Môn yn datblygu partneriaeth â chyngor Gwynedd. Yng Ngwent, fy ardal i, maent yn gweithio gyda'i gilydd i raddau mwy ar sail gwaith yr hen Wasanaeth Cyflawni Addysg. Felly, yr awdurdodau lleol sydd â'r ddyletswydd statudol. Maent yn datblygu eu cynlluniau eu hunain. Maent yn adrodd nid yn unig i'n bwrdd rhaglen ar hyn, ond mae gennym grŵp cydlynu cenedlaethol hefyd, a gadeirir gan Kirsty Williams, ac mae'r corff hwnnw yno i roi cyngor i mi ar gydlyniant y system gyfan.

Diolch yn fawr iawn. Agwedd hanfodol ar raglenni gwella ysgolion yw cyllid, wrth gwrs. Fel rydych wedi'i ddweud eich hun, bydd llawer o ddysgu proffesiynol yn digwydd ar sail genedlaethol, felly rydym wedi gorfod cryfhau'r cyllid ar gyfer hynny ar lefel fwy cenedlaethol—dyna oedd eich geiriau. Mae hynny'n anochel yn golygu gostyngiad yn y grant AALl, sy'n golygu llai o gyllid i awdurdodau lleol, ar adeg pan ydym yn gofyn iddynt wneud mwy. Felly, ar wahân i'r trefniadau cyllido yn y dyfodol, fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio ar y costau posibl i awdurdodau lleol. Mae un consortiwm, Partneriaeth, yn nodi yn eu cofrestr risg ddiweddar fod peidio â derbyn digon o arian gan yr awdurdodau lleol y maent yn eu gwasanaethu i'w galluogi i ddarparu cymorth effeithiol i wella ysgolion wedi'i labelu'n 'debygolrwydd canolig gydag effaith uchel iawn'. Yn y cyfamser, mae GwE, y consortiwm ar gyfer gogledd Cymru, wedi bod yn ymdrin â chost diswyddo staff nad ydynt yn symud yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Mae hyn wedi eu gadael i wynebu diffyg o bron i £1 filiwn. Felly, yn syml iawn, a fydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r diffyg hwn, neu a fydd disgwyl unwaith eto i awdurdodau lleol dalu'r bil?

14:50

Diolch, Cefin. Fel y gwyddoch o'r gwaith craffu ar y gyllideb a chwestiynau diweddar, yn y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu cyfanswm o £262.5 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y system addysg. Roedd hynny'n cynnwys cynnydd o 4.5 y cant mewn cyllid ar gyfer y grant cynnal refeniw—oddeutu £243 miliwn—ac roedd yr arian hwnnw wedi'i ddyrannu. Ac roedd yn glir iawn yn y llythyr fod hwnnw yno i gydnabod y pwysau roeddent wedi'i nodi mewn addysg, gan gynnwys ADY, yn ogystal â gofal cymdeithasol.

Rydych chi'n iawn i nodi, yn y gyllideb y cefais fy nghraffu arni ar ôl y Nadolig, fod rhywfaint o drosglwyddo rhwng llinellau gwariant yn y gyllideb i adlewyrchu'r ffaith ein bod yn sefydlu corff dysgu proffesiynol newydd. Ond i fod yn hollol glir, nid yw hynny'n golygu llai o arian yn y system; yn hytrach, mae'n adlewyrchu'r ffaith bod gwahanol bobl yn cyflawni gwahanol bethau. Rydym wedi gwneud ein gorau glas, diolch i'r arian ychwanegol gan Lywodraeth Lafur y DU, i roi cymaint o arian ag y gallwn i'r system addysg. Nid oes unrhyw yn dweud nad oes pwysau, a fy llais i fydd gryfaf bob amser yn dadlau dros fwy o arian ar gyfer addysg.

Dysgu yn yr Awyr Agored

3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo manteision dysgu yn yr awyr agored? OQ62681

Mae dysgu yn yr awyr agored yn nodwedd allweddol o addysgeg lwyddiannus yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r cwricwlwm yn nodi gwerth profiadau dysgu yn yr awyr agored dilys yn glir, gan gynnwys cefnogi ffyrdd o fyw iach ac egnïol, datblygu sgiliau datrys problemau, wrth ddeall a pharchu natur a'n hamgylchedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn awyddus i hyrwyddo manteision dysgu yn yr awyr agored, fel yr amlygwyd gan Fil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) fy nghyd-Aelod Sam Rowlands, na chefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn anffodus. Nawr, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi rhai o gynigion anneddfwriaethol fy nghyd-Aelod i gefnogi dysgu preswyl yn yr awyr agored, gan gynnwys ymgysylltu â'r Bartneriaeth Awyr Agored ar ddatblygiad eu fframwaith addysg antur. Rwy'n deall bod cynnydd wedi bod yn araf yn y cyswllt hwn, ac mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r Bartneriaeth Awyr Agored ar y gwaith pwysig hwn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud hyd yma i gefnogi datblygiad y fframwaith addysg antur, ac a allwch chi hefyd ddweud mwy wrthym ynglŷn â sut y mae dysgu yn yr awyr agored yn cael ei gefnogi yn ein hysgolion yng Nghymru?

Diolch am eich cwestiwn atodol, Paul. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, fel y gwyddoch, yn egluro y dylid ymgorffori dysgu yn yr awyr agored drwy gydol taith dysgwr mewn ystod eang o leoliadau dilys. Gall hyn fod mewn lleoliad addysg, y gymuned ehangach, coedwig, traeth neu fynydd, ac rydym yn parhau i annog ysgolion i gynnwys dysgu yn yr awyr agored yn eu cwricwlwm. Mae wedi'i gynnwys ym meysydd dysgu a phrofiad y dyniaethau, iechyd a lles a gwyddoniaeth a thechnoleg yn y Cwricwlwm i Gymru, y mae'n rhaid i bob ysgol ei ystyried. Rydym wedi cyhoeddi modiwl dysgu yn yr awyr agored i'r rhai yn y cyfnod sylfaen, a phan fyddwn wedi cael cyfle i adolygu'r modiwlau hynny, byddwn yn ystyried sut y gellir eu hehangu ar draws y continwwm dysgu o dair i 16 oed. Rydym hefyd wedi gweithio i sicrhau bod ystod o adnoddau o ansawdd uchel ar gael ar Hwb i gefnogi arferion dysgu yn yr awyr agored, a chafodd llawer ohonynt eu hamlygu yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn ddiweddar, gydag adnoddau gan ystod o sefydliadau ar ddysgu yn yr awyr agored a'r newid hinsawdd. Fe wnaethom achub ar y cyfle hefyd i hyrwyddo amrywiaeth eang o adnoddau i ysgolion a lleoliadau, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi rhoi cymorth uniongyrchol i ddatblygiad Tirlun, porth dysgu yn yr awyr agored ar-lein ar gyfer ysgolion o dan arweiniad tîm addysg Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae'r adnodd yn sicrhau bod ysgolion a thirweddau dynodedig Cymru yn cydweithio i ddarparu profiadau yn yr awyr agored i atgyfnerthu dysgu i blant hŷn.

Fel y nodwyd gennych, ni wnaethom gefnogi Bil Sam Rowlands am fod gennym bryderon ynghylch pwysau ariannol a gwrthdaro o fewn y cwricwlwm hefyd. Cyfarfûm â Sam, ac rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i fwrw ymlaen â rhai o'i argymhellion. Yn ddelfrydol, byddai'n well gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Sam—rydym wedi gorfod aildrefnu un cyfarfod ac rydym yn ceisio trefnu un arall—ond gallaf ddweud bod swyddogion wedi cyfarfod â'r bartneriaeth dysgu yn yr awyr agored i ddeall eu fframwaith yn well, ac rydym yn ei adolygu i ystyried y camau nesaf. Rydym hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored yng nghwestiynau cyffredin a dogfennau ategol y grant hanfodion ysgol, a oedd yn un o ofynion Sam. Ond gwn fy mod yn ceisio cael cyfarfod â Sam lle gallaf drafod hyn gydag ef yn fanylach.

14:55

Diolch am godi'r pwnc pwysig hwn, Paul, gan ei fod mor fuddiol i iechyd corfforol a meddyliol plant. Mae'n fraint gennyf gael ysgolion maestrefol gwych yn Llanedeyrn a Phen-twyn, sydd oll wedi cael darnau hael o dir yn rhan o'u meysydd chwarae, ac mae cyfleoedd dysgu gwych i'w cael, yn amlwg. Rwy'n adnabod athrawon rhagorol a fyddai wrth eu boddau'n ymgorffori tyfu bwyd yn y cwricwlwm newydd, ond maent yn teimlo nad ydynt yn gwybod unrhyw beth am arddio. Felly, mae gennyf gryn ddiddordeb yn y wybodaeth a roesoch i ni am yr hybiau, nad wyf wedi edrych arni, ond sut rydych chi'n bwriadu gwerthuso'r ffordd rydym yn ymgorffori llythrennedd bwyd a phopeth a ddaw gyda hynny—o ble y daw bwyd, nid allan o flwch cardbord—i gryfhau dealltwriaeth plant o'r hyn y mae deiet iach a chytbwys yn ei wneud i'w galluogi i gadw'n iach ac i ddysgu'n dda?

Diolch, Jenny. Gwn fod hyn yn rhywbeth rydych chi'n arbennig o angerddol yn ei gylch. Rwy'n falch iawn fod y Cwricwlwm i Gymru yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion ddefnyddio'r addysgeg honno ar bynciau fel garddwriaeth a chynhyrchu bwyd, ac mae llawer o leoliadau addysg eisoes yn defnyddio eu mannau awyr agored i ddarparu gweithgareddau cyfoethogi i ddysgwyr, gan gynnwys tyfu ffrwythau a llysiau. Mae Estyn hefyd wedi cyhoeddi astudiaethau achos cadarnhaol yn y maes hwn. Bu modd imi ymweld ag Ysgol Gyfun Llangefni dros y Pasg, lle mae ganddynt ardd enfawr, hardd lle maent yn tyfu pethau, ac mae hynny'n cael effaith fawr ar eu hiechyd meddwl hefyd. Ac fel rhan o'n polisi ysgolion bro, rydym yn awyddus i barhau i annog plant a'u cymunedau i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cefnogi eu lles fel hyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru? OQ62675

Mae awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau'n gweithio'n galed i sicrhau bod dysgwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac i symud dysgwyr i'r system anghenion dysgu ychwanegol erbyn mis Awst 2025. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynglŷn â'r camau nesaf i wella cysondeb yn y dull o weithredu'r diwygiadau ADY ym mis Gorffennaf.

Y llynedd, dywedodd ymgyrch Diwygio ADY Cymru wrthyf nad yw'r system newydd yn gweithio o gwbl, eu bod wedi cael straeon di-rif am blant a fethwyd neu a adawyd ar ôl gan y system newydd, fod plant a rhieni'n cael eu beio a'u cosbi, a bod trawma'n dod o'r ysgol am nad oedd athrawon ac ysgolion yn cael eu hyfforddi a'u cefnogi. Flwyddyn yn ôl, dywedodd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, er eu bod yn croesawu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn gyffredinol, a bod eu haelodau'n awyddus i ganolbwyntio ar blant a'u dysgu, fod y system yn gorfodi athrawon o'r ystafell ddosbarth. Eleni, dywedodd Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau wrthyf, er eu bod yn cefnogi'r egwyddorion y tu ôl i'r ddeddfwriaeth, mai dim ond os nad yw gweithwyr addysg proffesiynol yn treulio amser gwerthfawr yn cwblhau gwaith papur y mae ymyriadau effeithiol yn bosibl, fod adroddiad Estyn ym mis Rhagfyr wedi tynnu sylw at bryderon mawr ynghylch gweithredu'r Ddeddf, a bod angen i bobl wybod sut y gallent gyfrannu at adolygiad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, sydd bellach wedi'i gwblhau. O ystyried bod disgwyl diwygiadau mawr i'r ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig yn Lloegr, gyda Llywodraeth y DU yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd i'r diwygiadau ADY yng Nghymru, beth fyddwch chi'n ei ddweud wrthynt ynglŷn â hyn?

15:00

Diolch am eich cwestiwn, Mark. Fel rwy'n gobeithio bod yr Aelodau'n gwybod, rwy'n malio'n angerddol am gyflawni i'n holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY. Mae nodau ein diwygiadau'n uchelgeisiol ac yn cynnwys newidiadau systemig i ddiwylliant ac ymarfer yng Nghymru. Gwyddom fod ein diwygiadau o fudd i lawer o ddysgwyr a theuluoedd, ac mewn gwirionedd, Mark, nododd adolygiad diweddar Estyn welliannau yn y ddarpariaeth ADY ac ymarfer da iawn ledled Cymru, ac fe wnaethom rannu rhywfaint o hyn mewn digwyddiad ymarfer effeithiol yn ddiweddar.

Mae awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau'n gweithio'n galed iawn i ddiwallu anghenion dysgwyr, a hynny yn erbyn cefndir o niferoedd mawr cynyddol o blant ag ADY a chyda lefelau cynyddol o gymhlethdod. Rwyf wedi bod yn agored iawn gyda'r Senedd ynglŷn â'r heriau a welsom wrth weithredu, ac nid wyf am weld un plentyn yn cael ei adael ar ôl gan y system hon. Dyna pam y cyhoeddais yr adolygiad deddfwriaethol o ADY, oherwydd fe glywsom gan randdeiliaid, ond hefyd gan lywydd y tribiwnlys, fod agweddau ar y ddeddfwriaeth yn gymhleth ac yn aneglur. Ac fel y nodwyd gennych, mae'r ymgynghoriad ar ein hadolygiad deddfwriaethol newydd ddod i ben.

Ond ochr yn ochr â hynny, trwy gydol yr amser, fe fuom yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i hybu cysondeb yn y system wrth inni wneud hynny. Rydym wedi bod yn rhannu ymarfer trwy ddigwyddiadau ymarfer cynhwysol, rydym wedi cael adborth gan staff, sydd wedi bod yn werthfawr iawn, ac rydym hefyd wedi gweld arolwg rhieni'n agor i gael adborth rhieni ar y system. Mae disgwyl imi wneud datganiad ar ddiwygio ADY ym mis Gorffennaf. Bydd yn gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ganlyniad yr adolygiad deddfwriaethol a'r gwaith arall a wnawn, sy'n cynnwys pethau fel gwella ein systemau casglu data ar ADY, oherwydd ni allwch hybu gwelliannau mewn system heb gael y data.

Staff Asiantaeth

5. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r graddau y mae ysgolion yn dibynnu ar staff asiantaeth? OQ62711

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddod o hyd i staff ysgolion, gan gynnwys penderfyniadau ynghylch pryd a sut i ddefnyddio staff asiantaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod gan rai awdurdodau lleol angen sylweddol am staff dros dro, ac rydym yn gweithio gyda hwy ar hyn o bryd i ddeall unrhyw heriau recriwtio a chadw staff.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, costiodd prinder staff yn ein hysgolion bron i £79 miliwn i'r trethdalwr am staff asiantaeth. Gwariodd Cyngor Sir Fynwy yn unig bron i £4 miliwn. Mae'r pwysau ariannol ychwanegol hwn ar awdurdodau lleol yn ganlyniad uniongyrchol i fethiannau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phrinder staff ledled Cymru, yn debyg iawn i'r sefyllfa yn ein gwasanaeth gofal iechyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi y byddai'n well i'r arian hwn fod wedi'i fuddsoddi mewn cadw a recriwtio athrawon o safon ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor yn hytrach na'r orddibyniaeth hon ar staff asiantaeth. Rwy'n gwybod eich bod chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol, ond pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatrys y sefyllfa?

Diolch, Peter. Wel, ni fyddwch yn synnu clywed nad wyf yn cytuno â chi fod y costau hyn yn ganlyniad i'n methiant i fynd i'r afael â phrinder staff. Rwy'n credu y byddwch chi'n gweld bod recriwtio a chadw athrawon yn heriau ledled y DU, a ledled y byd yn wir ar hyn o bryd. Felly, rydym i gyd yn wynebu'r un heriau. Dyna un o'r rhesymau pam y cyhoeddais y byddwn yn datblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi y bydd yna bob amser angen defnyddio staff dros dro mewn ysgolion, boed hynny'n athrawon cyflenwi, cynorthwywyr addysgu neu staff cymorth arall, ac ni ddylem anghofio eu bod yn aelodau ymroddedig o'r gweithlu sy'n chwarae rhan bwysig iawn yn addysg ein plant. Fel y dywedais yn gynharach, mae llawer o ysgolion yn dewis defnyddio asiantaethau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu fframwaith asiantaethau cyflenwi sy'n darparu cyflog ac amodau tecach, cyfleoedd datblygu proffesiynol, a sicrwydd fod asiantaethau wedi bodloni gofynion y cytunwyd arnynt. Rwy'n falch iawn fod 98 y cant o'r arian sy'n cael ei wario ar ddarparu staff cyflenwi yn cael ei wneud trwy'r fframwaith hwnnw.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig nodi, pan edrychwn ar brif ffigur y gwariant ar asiantaethau, fod angen inni fod yn glir ynglŷn â ble mae'r arian yn mynd, ac mae'r rhan fwyaf o'r arian yn gyflog sy'n cael ei drosglwyddo i athrawon cyflenwi a staff cymorth sy'n darparu'r ddarpariaeth gyflenwi, ac er bod rhywfaint o amrywio ar draws yr asiantaethau, mae elfen ffi'r asiantaeth oddeutu 16 y cant o'r cyfanswm. Ond yn amlwg, gwelais yr un ffigurau ag a weloch chi. Mae'r arian sydd gennym yn werthfawr. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wario yn y ffordd orau bosibl. Dyna pam ein bod yn edrych ar recriwtio a chadw staff. Mae hynny hefyd yn golygu edrych ar bethau fel llesiant a gwneud yn siŵr fod ein staff eisiau aros yn ein proffesiwn addysgu.

Rydym hefyd yn siarad ag awdurdodau lleol. Felly, er enghraifft, roedd gan un o'r awdurdodau lleol wariant o tua £20 miliwn, ac rydym yn siarad â'r awdurdodau lleol i ddeall hynny. Mae'n debyg y byddwch chi hefyd yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ein gwaith ar gronfa gyflenwi genedlaethol ar gyfer staff cyflenwi heb fod mor bell â hynny'n ôl. Bydd bwrw ymlaen â'r gwaith ar delerau ac amodau gweddus ar gyfer staff cyflenwi hefyd yn rhan allweddol o'r gwaith yn ein cynllun strategol ar gyfer y gweithlu.

15:05
Addysg Grefyddol

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl cynghorau ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol? OQ62695

Mae cynghorau ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol yn parhau i ddarparu arweiniad a chyngor ar addysgu, dysgu, adnoddau ac addysgeg mewn addysg grefyddol, crefydd, gwerthoedd a moeseg, ac addoli ar y cyd. Rydym hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Cymru ar Addysg Grefyddol (CYSAG) i fynd i'r afael â heriau recriwtio athrawon yn y maes hwn.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am eich ymateb cynharach i'm cyd-Aelod Paul Davies ar fater arall. Ond ar y mater penodol hwn, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ffydd, mynegwyd pryderon ynghylch anghysondebau yn y ffordd y mae grwpiau CYSAG yn cael cymorth proffesiynol ledled Cymru, gyda phryderon penodol ynghylch rôl y gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol y cawsoch drafodaeth gyda Cefin Campbell amdanynt yn gynharach, o ystyried y newidiadau sy'n digwydd yn yr haen ganol honno.

Rwy'n gwybod eich bod chi'n meddwl ei bod yn bwysig fod grwpiau CYSAG yn gallu cyflawni eu dyletswyddau'n briodol wrth edrych ar ddysgu addysg grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion, ac rwy'n gwybod eich bod chi, fel fi, yn cytuno pan fydd hynny'n cael ei wneud yn dda, ei fod o fudd i blant ledled Cymru. Felly, yn y misoedd i ddod, beth yw eich cynllun i wneud yn siŵr fod CYSAGau mewn ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru yn cael yr arweiniad a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith a'u dyletswyddau'n effeithiol.

Diolch, Sam. Mae gan gynghorau ymgynghorol sefydlog rôl bwysig iawn i'w chwarae yn datblygu'r maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg a gytunwyd ar gyfer ysgolion. Fel y gwyddoch, rhaid i ysgolion ystyried y maes llafur hwn ochr yn ochr â chanllawiau cenedlaethol wrth ddatblygu eu cwricwlwm. Mae ein canllawiau crefydd, gwerthoedd a moeseg wedi'u datblygu gan addysgwyr drwy broses o gydadeiladu a gefnogwyd gan arbenigwyr, yn cynnwys y gymdeithas cynghorau ymgynghorol sefydlog yng Nghymru.

Rydych wedi fy nghlywed yn dweud mewn ymateb i Cefin Campbell yn gynharach am y corff dysgu proffesiynol newydd. Rwy'n ymwybodol fod yna bryderon ynghylch cysondeb ymgysylltu â CYSAGau, ac roeddwn eisiau rhoi gwybod i chi ein bod wedi creu safle newydd ar Hwb sy'n rhoi mynediad at ystod o adnoddau, profiadau a chyfleoedd dysgu proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys adnoddau newydd sy'n darparu gwybodaeth allweddol am fodloni'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru, a sut i ymgorffori mwy o gysyniadau a chynnwys crefydd, gwerthoedd a moeseg yn eu cynnig cwricwlwm. Rwy'n falch iawn fod y wefan hon, erbyn diwedd mis Mai, yn mynd i gynnwys cerdyn adnoddau sy'n cysylltu â gwefan cymdeithas cynghorau ymgynghorol sefydlog Cymru.

Addysg Gorfforol mewn Ysgolion

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ynghylch darpariaeth addysg gorfforol mewn ysgolion? OQ62710

15:10

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn glir fod datblygu iechyd a lles corfforol da yn arwain at fanteision gydol oes. Mae'r fframwaith yn cynnwys cynnydd clir mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon, ac yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu'r hyder, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a all eu helpu i fyw'n iach ac egnïol trwy gydol eu bywydau.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb yna. Gaf i ddechrau drwy dynnu sylw at lwyddiannau Clwb Rygbi Merched Gwylliaid Meirionnydd yn ddiweddar? Ac i ddatgan budd: mae fy merched i'n aelodau o'r clwb rygbi hynny. Mae'r merched dan 12 wedi cyrraedd rowndiau terfynol saith-bob-ochr cenedlaethol yr Urdd, wedi ennill cwpan gogledd Cymru, ac wedi cyrraedd rownd derfynol cenedlaethol Cymru yn Rodney Parade. Fyddai dim o hynny wedi digwydd heb gymorth swyddog Hwb Undeb Rygbi Cymru, sef Euros Jones, oedd yn gwneud gwaith gwych yn mynd i mewn i'r ysgol ac yn helpu myfyrwyr a'r disgyblion yn yr ysgolion i ddod i ddeall rygbi, nid yn unig o ran chwarae, ond y sgiliau eraill sydd ynghlwm â rygbi.

Yn anffodus, fe benderfynodd y WRU dynnu'r cyllid a thorri swyddi 90 o'r swyddogion Hwb yma oedd yn gweithio ar draws Cymru ac yn mynd i mewn i'r ysgolion, yn helpu o ran addysg gorfforol yn yr ysgolion, sydd felly yn effeithio ar addysg gorfforol plant yn yr ysgolion. Oeddech chi fel Llywodraeth yn ymwybodol o fwriadau'r WRU i wneud y toriadau yma i'r swyddogion Hwb? Ac ydych chi'n credu bod penderfyniad y WRU i dorri'r swyddogion Hwb yma yn benderfyniad doeth?

Diolch, Mabon, ac a gaf i ychwanegu fy llongyfarchiadau i'ch merch a'i thîm rygbi? Mae hynny'n newyddion gwych, ac rwy'n credu ei fod yn dangos bod yna fath gwahanol o chwaraeon i bawb, onid oes, a dylai pawb gael cyfle i archwilio gwahanol gyfleoedd chwaraeon.

Nid oeddwn yn ymwybodol o'r cyhoeddiad gan Undeb Rygbi Cymru. Jack Sargeant sy'n arwain ar chwaraeon, ond byddaf yn bendant yn siarad â Jack ac yn mynd ar drywydd hynny, oherwydd mae'n amlwg yn fater pwysig. Mae angen inni dyfu ein chwaraeon llawr gwlad, ac mae hynny'n dechrau gyda'r ysgol. Felly, nid oeddwn yn ymwybodol ohono, ond fe af ar drywydd hynny, ac fe ysgrifennaf atoch ynglŷn â hynny.

Canllawiau i Ysgolion ar y Diffiniad o Fenyw

8. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i ysgolion yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw? OQ62700

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn effeithio ar bolisi. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio sut i gefnogi ysgolion i rannu arferion cynhwysol a sicrhau bod pob plentyn ac unigolyn ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ddiogel ac yn gallu dysgu.

Ysgrifennydd y Cabinet, ni wnaeth dyfarniad y Goruchaf Lys newid y darpariaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sydd ar gael i fenywod neu unigolion sy'n trawsnewid. Ailadroddai'r ddealltwriaeth o ryw biolegol pan gyflwynwyd y ddeddf yn 2010. Deilliodd yr achos o'r her i ddehongliadau amgen o'r gyfraith a gyflwynwyd ac a hyrwyddwyd gan ymgyrchwyr a grwpiau lobïo i gynnwys rhywedd, gan gymylu ystyr rhyw yn y Ddeddf. Y canlyniad oedd datblygu a chymeradwyo canllawiau, deunydd addysgol a pholisi nad ydynt yn adlewyrchu'r ddealltwriaeth bresennol o ryw biolegol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod deunydd addysgol a ddatblygwyd gan drydydd parti i'w ddefnyddio mewn ysgolion yn gorfod cymhwyso dealltwriaeth gywir o ryw biolegol, a chael gwared ar unwaith ar ddeunydd nad yw'n cydymffurfio â'r dyfarniad? Diolch.

Diolch, Laura Anne. A gaf i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn parchu penderfyniad y Goruchaf Lys ac ar gyfer pob mater datganoledig, mae angen i ni ystyried nawr sut y mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn effeithio ar bolisi? Mae hynny'n cynnwys y canllawiau arfaethedig i ysgolion ar sut i gefnogi dysgwyr traws. Byddwn yn rhoi amser i fynd ati'n ofalus i ystyried y dyfarniad, y canllawiau interim gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a'r cod ymarfer diwygiedig, ac yna byddwn yn cymryd y camau sy'n ofynnol i fodloni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, fel yr eglurwyd gan y dyfarniad.

Fel y dywedais wrthych o'r blaen, rwyf am i'n hysgolion fod yn lleoedd croesawgar a chynhwysol i'n holl ddysgwyr. Rwy'n credu y dylem i gyd atgoffa ein hunain o'r hyn a ddywedodd yr Arglwydd Hodge pan wnaeth ei ddyfarniad, na ddylai'r dyfarniad gael ei ddarllen fel buddugoliaeth i un neu fwy o grwpiau ar draul unrhyw grŵp arall, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn bwrw ymlaen â'n trafodaeth ar hyn mewn modd caredig a thosturiol. yn enwedig pan fyddwn yn ymdrin â phlant a phobl ifanc.

Rydym yn rhoi amser i ddatblygu ein canllawiau traws. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn cael hynny'n iawn, y canllawiau hynny i ysgolion, i gefnogi rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed. O ran y deunyddiau eraill y cyfeirioch chi atynt, os caf hysbysu'r Aelod fod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb a'r canllawiau statudol yn cydnabod bod rhyw a rhywedd yn ddau beth gwahanol. Mae'r canllawiau'n dweud yn glir fod rhyw wedi'i ddiffinio mewn perthynas â genitalia ac organau atgenhedlu. Felly, mae hynny eisoes yn glir yn y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb statudol.

15:15
Absenoldeb Disgyblion

9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i fynd i'r afael ag absenoldeb disgyblion? OQ62688

Mae gwella presenoldeb yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Rydym wedi gweld cynnydd mewn lefelau presenoldeb. I gefnogi hyn, rwyf wedi buddsoddi £8.8 miliwn yn ystod 2023-24 a 2025-26, sy'n cynnwys cefnogaeth i swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, gan eu galluogi i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ymgysylltiad a phresenoldeb. Yr hyn a olygwn oedd 2024-25—mae'n ddrwg gennyf. Ymddiheuriadau.

Diolch. Mae adroddiad diweddar Estyn yn dangos bod mwy o ddisgyblion yng Nghymru yn cael trafferth gydag ymddygiad ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn yr ysgol, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd. Mae llawer yn ymrafael â gorbryder, iechyd meddwl gwael a chymhelliant isel, sy'n arwain at fwy o amser i ffwrdd o'r ysgol. Mae rhai disgyblion bellach yn colli tua diwrnod bob wythnos. Mae'r ddrama Netflix ddiweddar Adolescence yn datgelu rhan fach yn unig o'r byd y mae'n rhaid i'n plant a'n pobl ifanc lywio drwyddo bob dydd. Mae staff addysgu hefyd wedi dweud eu bod yn gweld ymddygiad mwy aflonyddgar ac ymosodol weithiau yn yr ystafell ddosbarth, ond yn enwedig yn ystod amseroedd egwyl. Mae'r problemau hyn yn ei gwneud hi'n anos i ddisgyblion ddysgu ac i athrawon wneud eu gwaith. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud ymddygiad yn brif flaenoriaeth, felly pa gamau y mae hi'n eu cymryd yn dilyn adroddiad Estyn, a sut y bydd cynlluniau'r Llywodraeth yn helpu ysgolion i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad ac yn cael mwy o ddisgyblion yn ôl i'r ysgol, i ddysgu ac i deimlo'n ddiogel?

Diolch, Buffy. Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae gwella presenoldeb yn brif flaenoriaeth i ni. Roedd y negeseuon yn adroddiad Estyn yn peri pryder mawr, ond nid oeddent yn syndod i ni. Dyna pam ein bod yn canolbwyntio ac yn buddsoddi swm mor sylweddol o arian i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r materion cymhleth sy'n atal rhai o'n plant a'n pobl ifanc rhag dod i'r ysgol.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at ymddygiad. Yn amlwg, rydym yn trafod hynny'n rheolaidd yn y Siambr hon. Rydym yn rhoi ystod eang o gamau ar waith i fynd i'r afael â phroblemau ymddygiad mewn ysgolion, ac mae hynny'n effeithio ar blant a phobl ifanc lawn cymaint ag y mae'n effeithio ar addysgwyr mewn ysgolion. Yr wythnos diwethaf, cynhaliais drafodaeth bord gron gyda'r heddlu, gydag undebau addysgu, gydag addysgwyr mewn ysgolion, gydag awdurdodau lleol ar drais mewn ysgolion, ac roedd yn brofiad positif iawn. Rhoddodd neges glir iawn hefyd fod y rhan fwyaf o'n plant yn cael profiad cadarnhaol mewn ysgolion. Yr wythnos nesaf, mae gennym ein huwchgynhadledd ymddygiad, a fydd yn defnyddio'r wybodaeth honno a'r gwaith arall a wnawn i lunio set glir o gamau gweithredu yn y maes.

Yn olaf, fe gyfeirioch chi at Adolescence, ac mae Mabon wedi codi hyn o'r blaen yn y Siambr. Rwy'n credu i'r ddrama honno fod yn sioc i lawer ohonom fel oedolion. Rwyf am eich sicrhau fy mod yn ymwybodol iawn o'r cymhlethdodau y mae pobl ifanc yn gorfod llywio drwyddynt. Yn ddiweddar, cefais gyfarfod â'n grŵp o ddysgwyr ifanc cadw'n ddiogel ar-lein, a ddywedodd wrthyf am rai o'r pethau hynny. Cawsom drafodaeth sobreiddiol iawn. Ac fel rhan o'n rhaglen grantiau Cwricwlwm i Gymru, rwy'n rhoi blaenoriaeth i'r angen am ddull cyson o weithredu ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae'n hanfodol fod pob person ifanc yn dysgu mewn ysgolion am berthnasoedd diogel, llawn parch. Bydd hynny, yn ei dro, o fudd i'w hymddygiad a'u hiechyd meddwl.

3. Cwestiynau Amserol

Eitem 3 yw'r cwestiynau amserol. Mae un cwestiwn amserol heddiw, a bydd hwnnw gan Mabon ap Gwynfor.

Y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am effaith bosibl Papur Gwyn Mewnfudo Llywodraeth y DU ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru? TQ1338

15:20

Rydym yn dadansoddi'r Papur Gwyn mewnfudo a'i effaith ar bob sector, gan gynnwys gofal cymdeithasol. Mae gofal cymdeithasol eisoes wedi profi gostyngiadau sylweddol yn nifer y gweithwyr tramor dros y 12 mis diwethaf, ac rydym yn gweithio ar ystod o fesurau i wella cyflogau a chyfleoedd cynnydd i ddenu mwy o bobl i'r sector.

Diolch am yr ymateb yna.

Gan roi'r rhethreg foesol amheus a ddefnyddiwyd gan Brif Weinidog y DU i'r naill ochr, gyda'i adleisiau o Enoch Powell a'i awydd llwfr i borthi blys y dde eithafol, mae gan Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar fewnfudo oblygiadau ymarferol pellgyrhaeddol i Gymru. Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn perthynas â'r gweithlu gofal cymdeithasol, y mae tua 15 i 20 y cant ohono'n dod o dramor. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'w cyfraniad allweddol i iechyd a lles ein cymdeithas. Dylid eu hyrwyddo, nid eu demoneiddio fel rhan o'r broblem.

Wrth gwrs, rydym i gyd eisiau annog mwy o hyfforddi a recriwtio gweithwyr gofal cymdeithasol o'r wlad hon, ond y gwir amdani yw nad yw'r lefelau presennol yn ddigon i ateb y galw. Ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r data a ryddhawyd gan Medr ddiwedd y llynedd, a ddangosai ostyngiad o 27 y cant mewn prentisiaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gostyngiad o 34 y cant mewn prentisiaethau sylfaen. Yr hyn a oedd yn amlwg yn absennol o gyhoeddiad y Prif Weinidog, felly, oedd unrhyw arwydd o'r adnoddau ychwanegol a fydd ar gael i gymell y cynnydd sylweddol hwn yn y gweithlu domestig.

A gafodd y Llywodraeth hon unrhyw ymgysylltiad blaenorol â Llywodraeth y DU ar y cynnig i roi diwedd ar fisâu i recriwtio gofal cymdeithasol o dramor? Os felly, beth yw safbwynt swyddogol Llywodraeth Cymru ar y mater hwn? A ydych chi'n cytuno â mi fod ensyniad y Papur Gwyn, fod gofal cymdeithasol yn waith heb sgiliau, nid yn unig yn sarhaus iawn i broffesiwn sy'n cyfrannu biliynau o bunnoedd i economi Cymru bob blwyddyn, ond ei fod hefyd yn tanseilio'r angen brys i wella bri a pharch tuag at sector sydd eisoes yn teimlo nad yw'n cael ei werthfawrogi'n iawn o gwbl? Ac os daw'r cynigion yn y Papur Gwyn i rym yn y pen draw, faint o weithwyr domestig ychwanegol fydd angen i Gymru eu recriwtio bob blwyddyn i wneud iawn am y diffyg, a faint o wariant ychwanegol fydd ei angen?

A gaf i ddiolch i Mabon ap Gwynfor am y sylwadau a'r cwestiynau atodol hynny? Fe ddechreuaf trwy ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr ynglŷn â gwerth gweithwyr gofal o dramor yn enwedig. Mae'n anodd cael darlun clir iawn o effaith gweithwyr mudol ar y gweithlu gofal cymdeithasol gan nad oes gennym fynediad at y data mewnfudo am nad yw wedi'i ddatganoli. Felly, rydym yn dyfalu cystal ag y gallwn am lawer o hynny, a dyna un o'r sgyrsiau a gawn gyda Llywodraeth y DU fel y gallwn rannu'r data mewnfudo hwnnw a chael gwell darlun o'r sefyllfa. 

Ni chawsom rybudd ymlaen llaw am gyhoeddi'r Papur Gwyn, ond roedd yna ymgysylltu wedi bod. Roedd fy nghyd-Aelod Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU cyn i'r Papur Gwyn gael ei gyhoeddi ac wedi nodi'n glir iawn beth oedd ein pryderon ynghylch rhywfaint o hynny. Rhaid imi ddweud, ar hyn o bryd, mai ychydig iawn o fanylion sydd gennym. Bydd yn rhaid inni ddadansoddi ac ystyried holl oblygiadau cynnwys y Papur Gwyn yn llawn, gan gynnwys gofal cymdeithasol.

Fel y dywedais, ni chafodd hynny ei rannu gyda ni ymlaen llaw, felly nid ydym wedi cael amser na'r manylion i allu gwneud hynny eto. Ond yr hyn a wyddom, ac rwy'n credu mai dyma hanfod y cwestiwn a ofynnwch, yw bod gennym eisoes heriau recriwtio a chadw staff mewn gofal cymdeithasol, ac mae recriwtio rhyngwladol wedi bod yn nodwedd o'r modd y gallwn lenwi'r swyddi gwag mewn gofal cymdeithasol. Gallaf roi llawer o enghreifftiau o leoliadau gofal cymdeithasol yr ymwelais â hwy ers imi ddod yn Weinidog sy'n dangos yn glir iawn y cyfraniad y mae gweithwyr tramor yn ei wneud i'r gwasanaeth. 

Un o'r pethau y mae angen i ni ei wneud yw cael y sgwrs rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU pan fyddwn wedi cael dadansoddiad o'r Papur Gwyn a'i fanylion, a'r effaith bosibl, yn enwedig yr effaith ar yr adnoddau ychwanegol y gallai fod eu hangen i uwchsgilio mewn rhai meysydd, sydd i'w gweld yn un o brif amcanion Llywodraeth y DU wrth gyflwyno'r Papur Gwyn hwn—beth fydd yn swm canlyniadol i Gymru o unrhyw fuddsoddiad a datblygiad y bydd angen inni ei gael yn y maes hwnnw.

Fe fyddwch eisoes yn gwybod, Mabon, ein bod wedi gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn drwy Gofal Cymdeithasol Cymru, drwy fforwm gofal cymdeithasol Cymru, drwy'r fforwm partneriaeth, drwy ein fframwaith cyflogau a chynnydd, y ffaith ein bod wedi gweithredu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, y ffaith bod gennym gynlluniau ar waith mewn nifer o awdurdodau lleol, sy'n ymwneud â phrentisiaethau gofal cymdeithasol a thyfu eich pobl eich hun, lle gall pobl gamu ymlaen o fod yn weithwyr gofal cymdeithasol i broffesiynau eraill mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gwaith cymdeithasol.

Lle byddwn hefyd yn cytuno â chi yw ein bod yn gweld gweithwyr gofal cymdeithasol fel gweithlu medrus iawn, a dyna pam ein bod wedi eu rhoi ar sail broffesiynol ac yn eu cofrestru yma yng Nghymru, a pham ein bod yn gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio i lefel a chymhwyster penodol, oherwydd rydym yn gweld gwerth hynny. 

Felly, fy nghrynodeb o'r sefyllfa yw nad ydym yn gwybod digon ar hyn o bryd, ond gallaf eich sicrhau y byddwn yn cael y sgyrsiau hynny gyda Llywodraeth y DU i asesu'n llawn beth y mae'n ei olygu i ofal cymdeithasol yng Nghymru, a byddwn yn ei gwneud hi'n glir iawn ein bod yn gweld gwerth y gweithlu tramor hwnnw i ychwanegu at y gweithlu domestig.

15:25

Weinidog, er bod Papur Gwyn mewnfudo Llywodraeth y DU yn codi pryderon dilys ynglŷn â chynllunio'r gweithlu, mae mater mwy difrifol yma yng Nghymru, sef ein dibyniaeth gynyddol ac ansefydlog ar lafur tramor i gadw'r sector gofal cymdeithasol yn weithredol ledled Cymru. Yn 2023 yn unig, cyhoeddwyd dros 146,000 o fisâu gwaith iechyd a gofal ledled y DU, ac eto mae'r problemau real yn ein system gofal cymdeithasol yn dal i barhau ledled y wlad. Mae swyddi gwag yn dal i gynyddu ac mae llawer o ddeiliaid fisa sy'n dod yma yn gadael y sector yn gyflym iawn neu rai ohonynt byth yn mynd iddi o gwbl, ac rydym hefyd yn gweld lefelau pryderus iawn o gamddefnydd o'n system fisa gyda darparwyr ffug yn gwneud cais am fisâu, caethwasiaeth fodern a phobl yn cael fisâu gofalu nad ydynt byth yn gweithio ym maes gofal mewn gwirionedd.

Felly, yr hyn yr hoffwn ei ofyn, Weinidog, yw beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw'r methiannau hyn yn digwydd yma yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru yn llym iawn gyda'r fisâu hyn i wneud yn siŵr fod pobl yn dod i mewn i'r system. Ond efallai mai'r cwestiwn mwyaf yw beth sy'n cael ei wneud i gefnogi pobl Cymru, yn enwedig Cymry ifanc, i geisio gyrfa ystyrlon, barhaol mewn gwaith gofal cymdeithasol.

Ddoe, gofynnodd y Prif Weinidog i mi benderfynu ar ba ochr rwyf i. Wel, rwyf wedi gwneud hynny: rwyf ar ochr pobl sy'n gweithio yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hynny'n golygu eu cefnogi gyda chyflogau teg, fel rydym am eu gweld mewn gofal cymdeithasol, hyfforddiant o safon, rhywbeth y mae angen inni ei weld, a gallu iawn i gamu ymlaen mewn gyrfa, fel bod gofal cymdeithasol yn dod yn swydd y mae pobl yn dyheu am ei chael ac nid un y bydd pobl yn mynd iddi o raid. Oherwydd ar hyn o bryd, fel y dywedais, mae'r system yn dibynnu'n rhy drwm ar fewnfudo fel ateb tymor byr, ac mae'r ymagwedd honno'n cadw cyflogau'n isel, mae'n cyfyngu ar gyfleoedd lleol ac yn cuddio'r problemau strwythurol y mae angen i ni eu hwynebu. Felly, nid diystyru gweithwyr Cymru a dod â mwy o weithwyr tramor i mewn yw'r ateb, ond grymuso gweithwyr Cymru i adeiladu gweithlu gofal cryf a medrus sy'n uchel ei barch ac wedi'i wreiddio yma yng Nghymru.

Fe ddof i ben gyda hyn, Ddirprwy Lywydd: pa bryd y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gorau i allanoli'r ateb mewn gofal cymdeithasol a dechrau buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o ofalwyr Cymru drwy roi llwybrau gyrfa iddynt, drwy roi gwell cyflog iddynt a'i gwneud yn yrfa y mae pobl eisiau ei dilyn, ac nid un y maent yn mynd iddi o raid yn unig? Diolch, Ddirprwy Lywydd.

A gaf i ddiolch i James Evans am y pwyntiau hynny? Yn gyntaf, byddai'n rhaid i mi ddweud nad yw'r system fisa a mewnfudo yn faes cyfrifoldeb datganoledig. Mae'r broses ar gyfer ymdrin â hynny i gyd yn nwylo Llywodraeth y DU. Gallwn dderbyn ohoni, ond nid ydym yn rheoli'r system fewnfudo, er bod gennym ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd, wrth gwrs.

Rwy'n gwrthwynebu llawer o'r sylwadau a wnaethoch chi heddiw, James, oherwydd nid yw'r Llywodraeth hon yn diystyru gweithwyr Cymru mewn unrhyw ffordd, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol. Nid ydych wedi gwrando neu wedi trafferthu darganfod beth rydym yn ei wneud ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dechreuais siarad am hynny yn fy ateb i Mabon ap Gwynfor. Rydym eisoes wedi datblygu cynllun ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol; mae gennym strategaeth ar gyfer cyflawni hynny. Mae'n strategaeth dair blynedd, ond mae'n adeiladu ar yr hyn a oedd ar waith cyn hynny. Mae'n canolbwyntio ar y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'r cynllun yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaethom hyd yma a'r meysydd y mae angen inni fynd ymhellach ynddynt. Ond mae cyllid sylweddol eisoes yn mynd trwy Gofal Cymdeithasol Cymru i'w galluogi i arwain a chefnogi'r gwaith o wella gofal cymdeithasol drwy recriwtio a chadw gweithlu proffesiynol o safon. Ac rydym yn sicr yn gweld gwerth y bobl a ddaw i mewn i'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Rydym wedi gofyn i Gofal Cymdeithasol Cymru flaenoriaethu cynllunio'r gweithlu a sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cael ei gefnogi i ddatblygu'r cynlluniau cryf hynny. Ac mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn gweinyddu rhaglen ddatblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol, ac mae honno'n darparu grantiau i helpu i ariannu ystod o raglenni, gan gynnwys, fel y dywedais wrth Mabon, prentisiaethau pwrpasol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol drwy'r rhaglenni gwaith gofal cymdeithasol a hyfforddiant a datblygu gofal cymdeithasol. Rydym wedi rhoi dros £13 miliwn i'r un rhaglen honno'n unig ar gyfer datblygu hyfforddiant o gwmpas hynny ar gyfer awdurdodau lleol. Ac rydym hefyd yn darparu £45 miliwn o gyllid bob blwyddyn drwy grant y gweithlu, sy'n galluogi awdurdodau lleol i gefnogi cynnydd cyflogau. Rydym wedi bod yn darparu'r cyflog byw gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol ers dros dair blynedd bellach, ac rydym wedi bod yn ariannu hwnnw'n llawn hefyd.

Felly, yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod y gwaith hwnnw—yr holl waith rydych chi wedi bod yn siarad amdano—yn digwydd, ac wedi bod yn digwydd ers nifer sylweddol o flynyddoedd, i gynyddu nifer y gweithwyr o Gymru y gallwn eu denu i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Ac rydym yn cael mesur o lwyddiant, ond rydym yn dal i weld gwerth y gweithlu rhyngwladol hefyd. Ac nid wyf yn meddwl ei fod yn fater o un neu'r llall. Os na fyddai angen inni lenwi'r swyddi hynny â gweithwyr rhyngwladol, byddem yn recriwtio mwy o bobl sy'n weithlu lleol a brodorol, ac nid ydym wedi gallu gwneud hynny. Nawr, gallai fod pob math o resymau am hynny. Mae gan rai pobl—[Anghlywadwy.]—weithlu gofal cymdeithasol, ac er bod angen gweithlu gofal cymdeithasol arnom, byddem hefyd yn croesawu gweithwyr rhyngwladol i ychwanegu at y gweithlu sydd gennym yma o Gymru.

15:30

Roeddwn eisiau gofyn i'r Gweinidog—clywais yn eich ymateb i gwestiwn Mabon nad oes gennych fynediad at unrhyw ddata ar nifer y gweithwyr mudol yn y system gofal cymdeithasol. Mae hynny'n syndod i mi braidd, o ystyried ei fod yn sector sy'n cael ei reoleiddio'n llym gan awdurdodau lleol ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Felly, a yw'n bosibl fod diffyg awydd gan Lywodraeth Cymru i gael gafael ar y data hwnnw, a fyddai'n ddefnyddiol iawn i Lywodraeth Cymru a ni fel ASau, yn amlwg, er mwyn deall poblogaeth y gweithlu mudol o fewn y system gofal cymdeithasol? Ac a oes unrhyw ysgogiadau gan Lywodraeth Cymru, drwy bwerau datganoledig, i edrych ar hynny drwy ganllawiau i awdurdodau lleol, ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru hefyd? Oherwydd credaf y gallem fod yn defnyddio'r holl ysgogiadau posibl lle nad oes gennym y ffigurau hynny, ac ni allwn gael mynediad atynt drwy'r un dulliau â Llywodraeth y DU gyda'r Swyddfa Gartref ac ati. Beth y gallwn ei wneud o fewn ein deddfwrfa ddatganoledig i gael gafael ar y ffigurau hynny?

Wel, fel y dywedais, nid yw'n faes cymhwysedd datganoledig. Cyfrifoldeb i'r Swyddfa Gartref yw hyn—. Cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw mewnfudo, a hwy sydd â'r data. Ac mae bob amser wedi bod yn heriol gan fod gwrthdaro, onid oes, gwrthddywediad—mae gennym bobl yn gweithio mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig, ond nid oes gennym y data ar fewnfudo sydd gan y Swyddfa Gartref, ac mae hynny wedi bod yn broblem ers blynyddoedd lawer. Felly, nid yw hynny'n rhywbeth sydd newydd godi o ganlyniad i gael Llywodraeth Lafur y DU; mae'r broblem hon wedi bod gennym gyda Llywodraethau Ceidwadol blaenorol dros flynyddoedd lawer, lle nad ydym wedi gallu allosod y wybodaeth honno o ffigurau'r Swyddfa Gartref.

Yr hyn a wyddom yw bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn y 12 mis diwethaf yn nifer y ceisiadau gan weithwyr tramor, oherwydd y newidiadau i'r broses fisâu a gyflwynwyd gan y Llywodraeth ddiwethaf, ac os cofiwch, ni chaniatawyd i bobl a oedd yn dod o dramor i weithio yn y DU ddod â'u teuluoedd gyda hwy. A golygodd hynny ein bod wedi gweld gostyngiad sydyn yn nifer y gweithwyr tramor a oedd yn gwneud cais i ddod i weithio yn y DU. Ond yr hyn y gallaf roi sicrwydd i chi yn ei gylch, o ystyried y darpariaethau a nodwyd ac a welsom hyd yma yn y Papur Gwyn, yw y byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i nodi pa ddata y gallant ei rannu gyda ni, ac yn ystyried sut y gallwn gefnogi ein gweithwyr gofal cymdeithasol gyda'r—[Anghlywadwy.]

15:35

Weinidog, rydym newydd golli eich sain. A gawn ni sicrhau bod y sain yn gweithio, os gwelwch yn dda, fel y gall gwblhau ei hateb? A hoffech chi roi cynnig arall arni, Weinidog? A hoffech chi roi cynnig arall arni, Weinidog? Yn amlwg, rydym wedi colli'r cysylltiad. Iawn, Gareth? Ni chredaf y gallwn gael y cysylltiad yn ôl. Iawn. Diolch, Weinidog. O, mae hi'n ôl.

Mae’n ddrwg gennyf, Lywydd. A wnaethoch chi glywed popeth—. Rwy'n sylweddoli—. Rwy'n credu imi rewi ar ryw bwynt. Roeddwn yn gallu eich clywed a'ch gweld chi i gyd, ond rwy'n credu—

4. Datganiadau 90 eiliad

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan Gymru hanes hir a balch o godi llais dros heddwch, ac ers dros ganrif, mae neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd wedi datgan hynny i'r byd. Eleni, mae aelodau'r Urdd wedi dewis canolbwyntio ar dlodi, yn sgil yr argyfwng tlodi plant presennol sydd i'w weld yng Nghymru ac ar draws y byd. Crëwyd y neges eleni yn dilyn gweithdy gyda myfyrwyr o Goleg y Cymoedd, a gafodd eu hannog i rannu eu teimladau a'u profiadau am dlodi plant yng Nghymru, gyda chefnogaeth Katie Hall o’r band Chroma, Achub y Plant Cymru a'r dylunydd graffeg Steffan Dafydd. Fe fydd ffilm o'r neges yn cael ei rhyddhau ar fore 15 Mai. Gydag un ymhob tri o blant a phobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi, mae neges heddwch 2025 yn datgan yn glir yr angen am newid, ac mae'n galw ar y bobl sydd mewn grym yng Nghymru ac ar draws y byd i ystyried cenedlaethau’r dyfodol.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Dur a Môr, i barc Margam yn fy rhanbarth i ddiwedd y mis yma, ac yn falch iawn hefyd y bydd mynediad am ddim ar gael i deuluoedd incwm is. Mae'r Urdd hefyd yn cynnal banc bwyd ar faes yr Eisteddfod. Er bod camau fel hyn wrth gwrs i'w croesawu, er mwyn cynnig cefnogaeth a chynhaliaeth i bob plentyn, mae'r ffaith fod yr Urdd yn gorfod cymryd camau fel hyn, yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain, yn brawf bod angen gweithredu mwy effeithiol gan wleidyddion i ddileu tlodi plant o dir Cymru, yn unol â'r neges ewyllys da eleni.

Rwy'n croesawu'r cyfle i wneud y datganiad 90 eiliad hwn heddiw, i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn gyfle i ddod ynghyd i ganolbwyntio ar iechyd meddwl da. Eleni, y thema yw cymuned, ac mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae. Mae bod yn rhan o gymuned ddiogel a phositif yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd meddwl a'n lles. Rydym yn ffynnu pan fydd gennym gysylltiadau cryf â phobl eraill a chymunedau cefnogol sy'n ein hatgoffa nad ydym ar ein pen ein hunain. Rwy'n eirioli dros hyn drwy fy mhrofiadau fy hun, ac mae'n anrhydedd imi fod yn llysgennad i elusen iechyd meddwl Bipolar UK.

Siaradwch â meddyg teulu, gweithiwr proffesiynol, neu rywun y gallwch ymddiried ynddynt, ac esboniwch beth rydych chi'n mynd drwyddo. Ni all y broses o gael cymorth a chefnogaeth ddechrau hyd nes y byddwch yn dechrau'r sgwrs honno. Mae gofalu am fy iechyd corfforol hefyd wedi bod yn allweddol i helpu i reoli fy symptomau anhwylder deubegynol. Drwy addysg, mae colegau ledled Cymru wedi ymrwymo i flaenoriaethu cymorth ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Mae strategaethau lles actif colegau yn pwysleisio pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i gefnogi iechyd meddwl da ymhlith dysgwyr. Yn gynharach eleni, ymwelais â Choleg Cambria i ddysgu am eu rhaglen lles actif, sy'n hyrwyddo ffitrwydd, llesiant a chynhwysiant i ddysgwyr a staff. Mae'n fenter ardderchog sy'n cynnig ystod o weithgareddau y gall pob dysgwr a staff gymryd rhan ynddynt. Maent wedi dechrau cynllun peilot 'chi newydd, dechrau newydd', sydd wedi cynorthwyo llawer o fyfyrwyr a oedd wedi ymddieithrio i fabwysiadu ffyrdd iachach o fyw, gyda'u rhaglen yn cynhyrchu canlyniadau rhagorol. Mae rhaglenni fel hyn yn grymuso pobl ifanc i fyw bywydau iachach ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Mae effaith rhaglenni lles actif mewn addysg bellach ar iechyd yn gosod y sylfeini ar gyfer bywydau a chymunedau iachach, yn lleihau'r straen cynyddol ar y GIG, ac yn helpu i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer gweithlu cryf. Ni ellir tanamcangyfrif pwysigrwydd rhoi cymorth i'r mentrau hyn. Rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom barhau â'r sgwrs ynghylch iechyd meddwl, gan ddangos i bawb fod iechyd meddwl yn bwysig, a gadael i bobl wybod ei bod hi'n iawn i ofyn am gymorth. Diolch.

15:40

Ddoe fe glywson ni'r newyddion torcalonnus am farwolaeth Claire O'Shea, a fu farw o ganser gynaecolegol yn 42 mlwydd oed. Mae'n meddyliau ni i gyd gyda'i hanwyliaid a phob menyw a gafodd ei chyffwrdd gan ei hymgyrchu diflino yn eu galar.

Fe ddes i ar draws Claire drwy waith y pwyllgor iechyd ar ganserau gynaecolegol, ac roedd ei gallu hi, ei brwdfrydedd a'i hegwyddorion hi yn gwbl glir. Fe gyfoethogodd ei mewnbwn waith y pwyllgor iechyd a gofal yn sylweddol wrth inni lunio yr adroddiad 'Heb lais'.

Ymgyrchydd oedd Claire, ac un hynod effeithiol. Roedd hi'n dyheu am gyfiawnder a chydraddoldeb i bawb, ac fe ddaeth â'i gallu ymgyrchu a dylanwadu rhyfeddol i'w brwydr bersonol yn erbyn canser gynaecolegol, gan droi'r frwydr yn un dros bob merch yng Nghymru, a chydsefydlu Claire's Campaign er mwyn gwthio am newid yn y gwasanaethau canserau gynaecolegol yma yng Nghymru.

Ysbrydolodd cryfder, cynhesrwydd a phenderfynoldeb Claire gannoedd o fenywod i rannu eu profiadau, a helpodd i ysgogi newid gwirioneddol yn y ffordd y caiff canserau gynaecolegol eu deall, eu trafod a'u trin ledled Cymru. Mae ei marwolaeth gynamserol yn atgoffa'n bwerus pam fod lleisiau cleifion ac Ymgyrch Claire mor bwysig. Rydym ni yn y Siambr hon yn parhau i fod wedi ymrwymo'n gryf i barhau â'r gwaith hwn i sicrhau bod ei gwaddol yn parhau. Roedd ganddi ffydd yng ngallu'r Senedd hon i sicrhau newid. Mae'n rhaid inni ad-dalu'r ffydd honno nawr. Diolch, Claire, am bopeth.

Ddydd Mawrth nesaf, bydd cysegrfa a ffynnon Santes Gwenffrewi yn Nhreffynnon ar agor drwy'r dydd, gyda dau wasanaeth byr i weddïo dros rai sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol. Mae'n rhan o ddiwrnod ehangach o weddïo dros oroeswyr camdriniaeth sy'n cael ei nodi bob blwyddyn yn yr Eglwys Gatholig ers i'w Sancteiddrwydd y diweddar Bab Ffransis ei sefydlu yn 2016.

Yng Nghymru a Lloegr, cynhelir y diwrnod gweddi hwn ar ddydd Mawrth pumed wythnos y Pasg, ac mae gan y diwrnod arwyddocâd arbennig yma yng Nghymru, oherwydd yn 2023, agorodd Esgob Wrecsam, y Gwir Barchedig Peter Brignall, gysegrfa Santes Gwenffrewi fel safle arbennig ar gyfer gweddïo ac iachâd i ddioddefwyr cam-drin rhywiol.

Ysbrydolwyd yr agoriad gan stori Santes Gwenffrewi ei hun, a oedd yn ddioddefwr aflonyddu a cham-drin rhywiol gan dywysog lleol fel menyw ifanc yn y seithfed ganrif. Heddiw, mae ei chysegrfa yn Nhreffynnon yn parhau i fod yn fan pererindod pwysig i lawer sy'n ceisio'r iachâd, y gobaith, yr heddwch a'r maddeuant a ddaw gan Iesu Grist yn unig.

Yn anffodus, mae gwarth cam-drin rhywiol mewn cymunedau ac mewn sefydliadau yn dal i fod yn broblem ledled Cymru, ac yn anffodus, mae wedi bodoli heb ei rwystro gan rai ers gormod o amser. Felly, rwy'n gobeithio y bydd llawer o'm cyd-Aelodau yn ymuno â mi ddydd Mawrth nesaf, ynghyd â Christnogion ledled y byd, i weddïo dros bawb sydd wedi dioddef cam-drin, ac yn ailymrwymo ein hunain i wneud popeth yn ein gallu i ddiogelu rhai sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu cam-drin yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diogelu iechyd ymladdwyr tân

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, diogelu iechyd ymladdwyr tân, a galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8812 Luke Fletcher, Llyr Gruffydd, Samuel Kurtz, Jane Dodds, Rhys ab Owen, Peredur Owen Griffiths

Cefnogwyd gan Delyth Jewell, Hefin David, Jenny Rathbone, Joel James, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod diffodd tanau yn gwneud unigolion yn agored i ddod i gysylltiad â deunydd carsinogenaidd, gan gynnwys benzene a toulene, sy'n cynyddu cyfraddau marwolaethau yn sylweddol ymhlith diffoddwyr tân o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol;

b) gwaith Asiantaeth Ryngwladol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ymchwil ar Ganser a'u dosbarthiad o ganser ymhlith diffoddwyr tân fel perygl galwedigaethol Grŵp 1;

c) bod gwledydd fel yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia wedi cydnabod yn swyddogol y cysylltiad rhwng cysylltiad â deunydd gwenwynig a mwy o achosion o ganser; a

d) ymgyrch 'DECON' Undeb y Brigadau Tân a'i hymdrechion hanfodol i helpu diffoddwyr tân i leihau eu cysylltiad niweidiol â halogion.

2. Yn cydnabod canfyddiadau ymchwil wyddonol dan arweiniad yr Athro Anna Stec yng Nghanolfan y Gwyddorau Tân a Pheryglon, Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, a gomisiynwyd gan Undeb y Brigadau Tân, sy'n datgelu bod diffoddwyr tân rhwng 35 a 39 oed a arolygwyd yn wynebu cyfradd canser sy'n benodol i oedran hyd at 323 y cant yn uwch na'r boblogaeth gyffredinol yn yr un grŵp oedran.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cydweithio gydag Undeb y Brigadau Tân, gwasanaethau tân ac achub, ac arbenigwyr blaenllaw ym maes tocsicoleg tân i liniaru effeithiau deunydd carcinogenig ar ddiffoddwyr tân yng Nghymru;

b) sefydlu rhaglen iechyd ataliol i fonitro a chofnodi cysylltiadau ar gyfer pob diffoddwr tân yng Nghymru, gan gynnwys sgrinio canser blynyddol fel safon ofynnol; ac

c) alinio Cymru ag arferion gorau rhyngwladol o ran diogelu iechyd diffoddwyr tân.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ym mis Chwefror 2023, cefais y fraint o gamu i esgidiau, yn llythrennol, tîm Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael cyfle i gael blas ar yr hyfforddiant helaeth a gânt yng nghanolfan hyfforddi Porth Caerdydd a gorsaf dân Pen-y-bont ar Ogwr, lle ymunais â hwy mewn ymarferion chwilio ac achub. Bûm yn cropian drwy ystafelloedd llawn mwg, drwy fannau cul a oedd yn dywyll fel y fagddu—ac nid oes arnaf gywilydd cyfaddef y bu'n rhaid imi wasgu drwyddynt—ac roedd y profiad bach hwnnw o hyfforddiant hefyd yn anodd iawn. Rhoddodd y profiad werthfawrogiad newydd a dwys i mi o'r sgìl, yr ymrwymiad a'r dewrder y mae ein diffoddwyr tân yn ei ddangos bob dydd. Ond tanlinellodd rywbeth arall hefyd. Nid yw'r peryglon y mae ein diffoddwyr tân yn eu hwynebu yn dod i ben pan fydd y fflamau wedi'u diffodd. Mae tân yn creu coctel o gemegau gwenwynig y gwyddys eu bod yn cynyddu'r risg o ganserau a mathau eraill o salwch sy'n peryglu eu bywydau. Diolch i waith arloesol Undeb y Brigadau Tân a'r Athro Anna Stec ym Mhrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, mae gennym ystadegau i gefnogi hyn, ac maent yn ddychrynllyd. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn ailadrodd y ffigurau hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r gyfradd canser oedran-benodol ar gyfer pobl 35 i 39 oed yn y gwasanaeth tân hyd at 323 y cant yn uwch o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol. Roedd diffoddwyr tân a oedd wedi gwasanaethu am 15 mlynedd neu fwy bron ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu canser na'r rhai a oedd wedi gwasanaethu am lai o amser. Mae diffoddwyr tân ddwywaith yn fwy tebygol o gael diagnosis o ganser os ydynt yn aros yn eu cyfarpar diogelu personol am fwy na phedair awr ar ôl mynychu digwyddiad. Ac mae diffoddwyr tân yn parhau i ddioddef afiechydon cronig o ganlyniad i ddod i gysylltiad galwedigaethol â chemegau gwenwynig. Nawr, meddyliwch am hynny am eiliad.

Ers cynnal yr ymchwil, mae Asiantaeth Ryngwladol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ymchwil ar Ganser wedi cydnabod canser ymhlith diffoddwyr tân yn ffurfiol fel perygl galwedigaethol grŵp 1—y dosbarthiad mwyaf difrifol. Ym mis Mawrth y llynedd, croesawais yr Athro Stec ac aelodau o Undeb y Brigadau Tân i'r Senedd. Gyda hwy roedd Lisa Jenkins, a rannodd ei phrofiad personol o golli ei phartner, diffoddwr tân a fu farw yn dilyn brwydr yn erbyn canser. Mae clywed y ddau safbwynt—yr academaidd a'r personol—wedi atgyfnerthu yn y termau cliriaf posibl i mi fod angen i'r system newid ar frys er mwyn diogelu iechyd y rhai sy'n gweithio i ddiogelu ein hiechyd ni.

Ledled y byd, mae gwledydd fel yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia wedi cydnabod y cysylltiad rhwng dod i gysylltiad ag allyriadau gwenwynig a'r cynnydd mewn achosion o ganser ymhlith diffoddwyr tân. Mae deddfwriaeth yn y gwledydd hyn yn sicrhau nid yn unig fod diffoddwyr tân yn cael iawndal y gweithle pan fydd salwch yn taro, ond hefyd eu bod yn cael mynediad at fonitro meddygol rheolaidd, a luniwyd i ganfod afiechydon yn gynnar. Ac eto yma yng Nghymru, fel ledled y DU, ychydig iawn o gymorth o'r fath sydd ar gael. Mae ymgyrch DECON Undeb y Brigadau Tân wedi gweithio'n ddiflino i godi ymwybyddiaeth a chefnogi diffoddwyr tân i leihau faint o gysylltiad a gânt â halogion niweidiol, ond ni ddylai'r gwaith o ddiogelu eu hiechyd fod yn gyfrifoldeb i orsafoedd unigol na gwasanaethau sydd dan bwysau mawr. Mae angen arweinyddiaeth genedlaethol, mae angen buddsoddiad cenedlaethol, ac mae angen rhaglen strwythuredig genedlaethol o fonitro iechyd ataliol.

Yn dilyn trafodaethau gyda'r Athro Stec ac Undeb y Brigadau Tân, rwyf wedi bod yn gwneud y galwadau hyn yn gyson yn y Senedd. Rwyf wedi gofyn i sawl Prif Weinidog sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gyflwyno monitro iechyd penodol ar gyfer diffoddwyr tân—cam ymarferol a fyddai'n achub bywydau—ond roedd yr ymatebion yn ddigalon i ddechrau. Dim ond ar gyngor gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU y byddai'r Llywodraeth yn gweithredu, a chan nad oedd cyngor o'r fath, ni fyddai unrhyw gamau'n cael eu cymryd. Nawr, a bod yn deg, clywsom yn ddiweddar gan y Prif Weinidog eu bod wedi gofyn i'r prif swyddog meddygol edrych ar hyn ar frys. Mae hynny, wrth gwrs, yn gam i'w groesawu. Ond mae canlyniadau bellach ynghlwm wrth unrhyw oedi, ac mae angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith. Mae oedi pellach yn trosi'n fwy o farwolaethau oherwydd canser.

Mae'r dystiolaeth yno. Mae'r straeon yno. Ac mae'r risg yn real iawn. Mae rhaglen genedlaethol ar gyfer monitro iechyd ataliol yn gam hanfodol, hirddisgwyliedig i sicrhau bod lles y rhai sy'n mentro eu diogelwch eu hunain er mwyn diogelu'r gweddill ohonom yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu. Ac yn syml iawn, dyma'r peth iawn i'w wneud, y peth priodol i'w wneud ar ran ein diffoddwyr tân a'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid oherwydd y risg alwedigaethol hon.

Nawr, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n pleidleisio o blaid y cynnig heddiw, ac yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod monitro iechyd blynyddol yn cael ei gyflwyno ar gyfer diffoddwyr tân yng Nghymru. Mae eu teuluoedd a'r bobl sy'n gwasanaethu yn haeddu hynny fan lleiaf. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau. Diolch.

15:45

Hoffwn ddiolch i Luke am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Fel y dywedais sawl gwaith yn y Siambr hon, mae ein diffoddwyr tân yn peryglu eu hiechyd yn rheolaidd i ymdrin â bygythiadau i'n hiechyd ninnau, ac rydym yn gwneud cam â hwy'n rheolaidd. Boed hynny drwy ganiatáu i reoli gwael barhau, caniatáu i gasineb at fenywod a hiliaeth fynd yn rhemp, neu ganiatáu iddynt ddod i gysylltiad parhaus â charsinogenau, mae'r arweinyddiaeth wleidyddol yn gwneud cam â'n gweithwyr tân ac achub ar y rheng flaen. Fel y mae Luke a'r cynnig ger ein bron heddiw yn nodi, dengys yr ymchwil fod diffoddwyr tân yn cael canser ar gyfradd uwch ac yn iau na'r boblogaeth gyffredinol, sefyllfa sydd wedi gorfodi gwledydd datblygedig eraill i ddosbarthu diffodd tân yn achos canser ataliadwy. Meddyliwch am hynny am eiliad: mae'r bobl rydym yn disgwyl iddynt ruthro i mewn i adeilad sy'n llosgi i achub ein hanwyliaid mewn mwy o berygl o ddod i gysylltiad â sylweddau gwenwynig nag ydynt o'r tân ei hun.

Roeddwn yn bryderus iawn pan ddatgelodd tîm o newyddiadurwyr ymchwiliol y gwir am nifer fawr o gemegau diffodd tân 'diogel', fel ewynnau a chyfryngau gwlychu. Roedd y cemegau hyn ymhell o fod yn ddiogel. Mewn gwirionedd, roeddent yn cynnwys yr hyn rydym yn eu galw nawr yn gemegau am byth. Mae sylweddau perfluoroalkyl a polyfluoroalkyl, neu PFASau, yn fiogronnol ac fe'u hystyrir yn llygryddion organig parhaus. Credir bod dod i gysylltiad â'r cemegau am byth hyn yn achosi niwed i organau ac yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddatblygu nifer o fathau o ganser. Aeth cwmnïau cemegol rhyngwladol mawr ati'n fwriadol ac yn gamarweiniol i werthu cyfryngau diffodd tân a oedd yn cynnwys y cemegau am byth hyn fel rhai diogel a bioddiraddadwy. Bu gweithwyr ein gwasanaethau tân ac achub yn defnyddio'r cemegau hyn am ddegawdau, o dan gamargraff eu bod mor ddiniwed â'r dŵr y caent eu hychwanegu ato. Mae ein diffoddwyr tân nid yn unig yn dod i gysylltiad â thocsinau o adeiladau sy'n llosgi, ond hefyd o'r union bethau y maent yn eu defnyddio i ddiffodd y fflamau.

Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo heddiw i sicrhau bod adolygiad eang o ddiogelwch cemegau diffodd tân yn cael ei gynnal, yn ogystal â gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn ac mewn mannau eraill i ddeall yn llawn y goblygiadau iechyd i gyn-ddiffoddwyr tân a diffoddwyr tân sy'n gwasanaethu. Mae arnom ymrwymiad, fan lleiaf, i'r gwasanaeth hwn i wneud popeth i leihau a lliniaru'r risg sy'n gysylltiedig â'r swydd. Mae hynny'n cynnwys sicrhau eu bod yn cael eu diogelu rhag tocsinau yn ogystal â'u monitro ar gyfer y sylweddau y gallent fod wedi dod i gysylltiad â hwy. Nid yw hwn yn fater y dylid ei adael i awdurdodau tân ac achub unigol; mae angen gweithredu o'r brig. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi cynnig Luke. Diolch yn fawr.

15:50

Yn anffodus, rydym wedi gweld Llywodraethau o wahanol liwiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn peidio â gweithredu'n brydlon ar wybodaeth bwysig. Nid yw'n amlwg pam na wnaethant weithredu, ond o ganlyniad, cafodd bywydau eu difetha, cafodd afiechydon eu hachosi, cafodd bywydau eu torri'n fyr, cafodd teuluoedd eu chwalu. Ni chredaf ei bod yn ormod i ddweud bod y ddadl bwysig hon gan Luke Fletcher yn perthyn i'r rhestr drasig honno. Cadarnhaodd Sefydliad Iechyd y Byd yn 2022 fod diffoddwyr tân mewn mwy o berygl o ganser na'r boblogaeth gyffredinol. Mae Luke wedi sôn am yr adroddiad a gomisiynwyd gan Undeb y Brigadau Tân dan arweiniad yr Athro Anna Stec ac a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023—tystiolaeth annibynnol fod diffoddwyr tân yn wynebu perygl o anadlu a llyncu halogion ymhell ar ôl i'r tân gael ei ddiffodd, a sut y gall y croen amsugno'r tanau gwenwynig hyn.

Mae'r perygl i ddiffoddwyr tân yn amlwg, mae'n glir i bob un ohonom, ond rwy'n siŵr na fyddai unrhyw un yn dychmygu bod diffoddwyr tân mewn mwy o berygl o gael canser, a hynny ddim ond oherwydd eu bod yn gwneud eu gwaith yn helpu eraill. I bob pwrpas, yr hyn rydym yn ei ddweud yw, dim ond oherwydd eu bod yn mynd i'r gwaith, dim ond oherwydd eu bod yn achub bywydau eraill ac yn helpu eraill, mae eu bywydau'n cael eu peryglu gan y bygythiad o gael canser. Ni ellir anwybyddu'r ystadegau iechyd gwirioneddol syfrdanol mewn perthynas â chanser y croen a'r ceilliau yng nghymuned y diffoddwyr tân. Fel Luke, rwyf wedi cyfarfod ag unigolion sydd wedi rhoi tystiolaeth bwerus mewn perthynas â hyn.

Lle mae arferion iechyd a diogelwch presennol ym maes tân ac achub yn methu, mae'r adroddiad yn adeiladu ar arferion da presennol, arferion da rhyngwladol, ac mae'r adroddiad yn nodi llwybr ar gyfer dyfodol mwy diogel i'n diffoddwyr tân. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir nifer o argymhellion brys—brys—o ran gweithdrefnau dihalogi, hyfforddiant rheolaidd mewn perthynas ag arferion dihalogi a risgiau iechyd, newidiadau i arferion gweithredol ac arferion gwaith o fewn y gorsafoedd tân, a sgrinio iechyd ar gyfer pob diffoddwr tân.

Nawr, mae'r adroddiad hwn, fel y soniais, wedi bod mewn bodolaeth ers 2023, ac nid dyma'r tro cyntaf i hyn fod gerbron y Senedd. Mae ymdrechion ein cyd-Aelod Luke Fletcher i ddod â'r mater hwn gerbron y Siambr wedi bod yn ddi-baid, ond clywsom unwaith eto yr wythnos diwethaf gan y Prif Weinidog fod cais a wnaed gan Luke ym mis Chwefror am sgrinio iechyd blynyddol i ddiffoddwyr tân, a oedd yn fater o frys bryd hynny ym mis Chwefror, yn dal i fod heb ddigwydd am ein bod wedi cael prif swyddog meddygol newydd. Nawr, ni ddylai hyn fod yn ddibynnol ar newid personél.

Ni ellir gohirio'r materion a godwyd yn yr adroddiad hwn i'r Llywodraeth nesaf eu datrys. Y Llywodraeth sy'n gyfrifol am y risg, y perygl a'r cyfrifoldeb, ac mae'n rhaid gweithredu. Weinidog, rwy'n eich annog i ddod o hyd i'r arian i gyflwyno rhaglen o waith adfer mewn gorsafoedd tân fel eu bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau dihalogi, fod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i sicrhau bod diffoddwyr tân yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, a bod eu hiechyd yn cael ei sgrinio'n flynyddol i sicrhau bod diffoddwyr tân Cymru, sy'n mentro eu bywydau bob dydd, yn elwa o'r arferion gorau rhyngwladol mewn perthynas ag iechyd diffoddwyr tân. Diolch yn fawr.

15:55

Diolch yn fawr iawn i Luke am ddod â'r ddadl yma ger ein bron ni heddiw. Fel sydd eisoes wedi cael ei nodi, mae diffoddwyr tân yn bobl sydd yn rhoi eu bywydau eu hunain yn y fantol er mwyn achub bywydau pobl eraill. Tra eu bod nhw yn derbyn y risg yma ac yn hyfforddi ac yn paratoi ar gyfer y risg, yr hyn sydd yn gwbl annerbyniol ydy bod yna risg yn bodoli sydd y tu hwnt i'w rheolaeth nhw, risg na all ymarfer neu hyfforddiant ei leihau, sef risg y cemegau bytholwyrdd, y forever chemicals, dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, sydd yn cynyddu eu risg nhw o ganser a chyflyrau eraill.

Mae'r ymchwil trylwyr sydd wedi cael ei gario allan yn dangos bod y cemegau bytholwyrdd yma yn bodoli yn y cyfarpar diogelu personol a'u bod nhw'n aros yn y corff am flynyddoedd lawer gan achosi newidiadau, sef mutations cellol peryglus. Mae pedwar o'r wyth math o ganser mwyaf cyffredin ymhlith diffoddwyr tân wedi cael eu cysylltu gyda'r cemegau bytholwyrdd yma. Dros y degawd diwethaf, mae'r cemegau yma wedi cael eu dileu yn raddol o ewyn tân oherwydd y lefelau uchel ohonyn nhw, o'r cemegau, felly mae yna gydnabyddiaeth o berig y cemegau yma yn bodoli, ond nid oes yr un rheoliad na fframwaith mewn lle ynghylch lefelau'r cemegau yn y cyfarpar a gaiff ei ddefnyddio gan y diffoddwyr tân.

Mae yna nifer o wledydd yn rhyngwladol eisoes wedi gweithredu deddfwriaeth a fframweithiau i atgyfnerthu'r rheoliadau ar gyfer diffoddwyr tân, ac mae angen i ni felly weld y wladwriaeth hon a'n cenedl ni yma yng Nghymru yn dilyn yr un trywydd. Am flynyddoedd, mae Undeb y Brigadau Tân wedi galw am reoliadau cryfach, ac mae'n bryd i ni wrando. Mae cydweithio rhwng Llywodraethau a chyrff iechyd yn hanfodol er mwyn cyflawni'r newid cadarnhaol sydd ei angen er mwyn sicrhau amddiffyniad y mae'n ddiffoddwyr tân yn ei haeddu, felly dwi'n gobeithio y gwelwn ni gefnogaeth lwyr i gynnig Luke yma heddiw.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am gyflwyno'r ddadl heddiw ac am ei ymrwymiad hirsefydlog i'r mater hollbwysig hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i Undeb y Brigadau Tân am eu gwaith ar ddiogelwch diffoddwyr tân a nodi'n glir ein cefnogaeth i ymgyrch Undeb y Brigadau Tân i leihau'r risgiau o ganser y mae diffoddwyr tân yn eu hwynebu.

Roedd hwn yn fater a godwyd gyda mi gyntaf yng nghyfarfod y fforwm partneriaeth gymdeithasol, a gadeiriwyd gennyf. Yn dilyn hynny, cyfarfûm ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i drafod y mater ymhellach. Ac fel y mae'r holl Aelodau wedi'i ddweud, mae diffodd tân yn broffesiwn peryglus ar y gorau, ac mae'n hanfodol fod gwasanaethau tân ac achub yn blaenoriaethu diogelwch diffoddwyr tân. Er mai cyfrifoldeb cyflogwyr yn bennaf yn hytrach na'r Llywodraeth yw iechyd a diogelwch yn y gweithle, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr iawn mewn sicrhau bod diffoddwyr tân mor ddiogel â phosibl wrth gyflawni rôl sy'n anochel yn beryglus.

Felly, rydym yn cefnogi ymgyrch Undeb y Brigadau Tân i leihau'r risg o ganser y mae diffoddwyr tân yn ei hwynebu. Mae'r risgiau hynny'n deillio'n bennaf o ddefnyddio cyfarpar anadlu nad yw wedi'i gynnal a'i gadw a'i lanhau'n briodol. Mae gan gyflogwyr rwymedigaeth gyfreithiol a moesol i ddiogelu eu staff rhag peryglon yn y gwaith. Ddwy flynedd yn ôl, fe drafododd ac fe gytunodd ein fforwm partneriaeth gymdeithasol ar gyfer gwasanaethau tân ac achub becyn o fesurau i leihau'r risg. Roedd y rhain yn cynnwys arferion gorau o ran cynnal a chadw a defnyddio cyfarpar anadlu, ac archwiliadau ffitrwydd a meddygol ar gyfer diffoddwyr tân sy'n gwasanaethu. Mae'r mesurau hyn yn debyg i'r rhai a argymhellir mewn gwledydd eraill, er enghraifft yn yr Unol Daleithiau gan y National Fire Protection Association, sy'n sefydliad uchel ei barch. Mae'r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru wedi mabwysiadu arferion gorau o ran cynnal a chadw a defnyddio cyfarpar anadlu, sy'n helpu i leihau faint o garsinogenau y daw diffoddwyr tân i gysylltiad â hwy'n sylweddol, gan leihau'r risgiau iddynt.

Mae ein prif gynghorydd ac arolygydd tân ac achub hefyd wedi hyrwyddo'r defnydd o dactegau diffodd tanau sy'n lleihau'r angen i ddefnyddio cyfarpar anadlu o gwbl, er budd diogelwch ac effeithiolrwydd. Mae wedi hwyluso hyfforddiant i ddiffoddwyr tân Cymru gan arbenigwyr yn yr Iseldiroedd a'r Unol Daleithiau, lle mae tactegau o'r fath wedi bod yn cael eu defnyddio ers peth amser. Rwy'n falch fod y tri gwasanaeth yng Nghymru wedi manteisio ar hyn.

Mae gwasanaethau fel rhaglen golau glas Mind yn cynnig cyfres o gymorth iechyd meddwl a lles i staff a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys ar draws yr heddlu a'r gwasanaethau tân, ambiwlans a chwilio ac achub. Rydym yn disgwyl i gyflogwyr gyfeirio diffoddwyr tân at gynlluniau i'w cefnogi lle bynnag y bo modd. Ac fel y soniais yn gynharach, yn dilyn trafodaethau diweddar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rydym hefyd yn cymryd camau i godi ymwybyddiaeth o'r risgiau ymhlith clinigwyr y GIG. Mae'r tri gwasanaeth tân ac achub yn darparu archwiliadau ffitrwydd a meddygol rheolaidd i'w diffoddwyr tân. Nid yw Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn argymell unrhyw raglenni sgrinio wedi'u targedu yn seiliedig ar alwedigaeth, ond mae'r GIG yn cynnig archwiliadau diagnostig yn unol â chanllawiau gan gyrff proffesiynol fel y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Mae ein prif swyddog meddygol newydd yn ymwybodol o'r papur ymchwil a gomisiynwyd gan Undeb y Brigadau Tân a'r ymchwil berthnasol arall yn y maes hwn. Ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni ddysgu o ymchwil ac arferion byd-eang mewn gwledydd eraill. Bydd ein prif swyddog meddygol yn gweithio gydag arbenigwyr a chyrff perthnasol y DU i ystyried y dystiolaeth a gwerthuso'r ymchwil ar y pwnc hwn, ac rwy'n deall ei bod yn debygol y bydd yn ceisio cyngor tocsicolegol arbenigol pellach, a bydd camau gweithredu pellach yn dilyn, yn ôl yr angen.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw, a hoffwn roi sicrwydd i'r Senedd ein bod yn parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r risgiau hyn mor effeithiol â phosibl. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau i wneud hynny, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd. Diolch.

16:00

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd at y ddadl hon heddiw. Gwnaeth Altaf bwyntiau pwysig ynghylch y tocsinau sy'n cael eu rhyddhau pan fydd tân yn dechrau. Hynny yw, roeddem yn gwybod, fel plant, i beidio â rhoi plastig ar dân gwersyll oherwydd y tocsinau sy'n cael eu rhyddhau, wel, pan fydd tŷ'n llosgi, meddyliwch am bopeth yn y tŷ hwnnw sy'n llosgi ar yr un pryd. Nid dim ond y plastigau y gallai fod gennych yn eich cwpwrdd oherwydd y Tupperware, ond y soffa wrth-dân sy'n rhyddhau llawer o gemegau i'r awyr pan fydd yn mynd ar dân yn y pen draw. Yr holl bren wedi'i drin sydd o gwmpas y tŷ a phob math o bethau, felly mae'n fil gwaith gwaeth na phan fyddwch chi ond yn taflu plastig ar dân gwersyll. Dyna beth y mae pobl yn ei wynebu: maent yn mynd yn syth i mewn i'r tanau hynny heb feddwl am eu hiechyd eu hunain, i'w diffodd i ddiogelu ein hetholwyr.

Pan oeddwn ar ddyletswydd gyda'r gwasanaeth tân ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cawsom ein galw allan i un tŷ. Yn ffodus, nid oedd yn dân enfawr, ond yr hyn a ddigwyddodd oedd bod rhywun wedi gadael powlen y ci ar y stôf pan oedd ymlaen, ac fe achosodd i'r larwm tân ganu. Roedd powlen y ci yn blastig, bu'n rhaid inni agor yr holl ffenestri ac roedd yn rhaid inni wneud yn siŵr fod y weithdrefn briodol yn cael ei dilyn, oherwydd byddai mynd i mewn i'r tŷ hwnnw wedi creu risg i iechyd y diffoddwyr tân.

Mae Rhys yn llygad ei le yn yr hyn y mae'n ei ddweud, yn benodol, am yr holl achosion gwahanol hyn a gawsom ac a welsom yn amlhau dros y blynyddoedd diwethaf, lle mae Llywodraethau wedi cael tystiolaeth fod yna broblem ddifrifol, ond nid ydynt wedi gweithredu. Nid wyf am fod mewn sefyllfa ymhen deng mlynedd pan fyddwn yn edrych yn ôl ar hyn a bod sgandal enfawr o fewn y gwasanaeth tân, lle nad yw'r Llywodraeth wedi bod yn fodlon gweithredu a bwrw ymlaen â'r argymhellion a nodwyd mewn adroddiad annibynnol gan bobl uchel eu parch. Nid yw honno'n sefyllfa rwyf i eisiau bod ynddi ac rwy'n gwybod nad yw'n sefyllfa y mae'r Llywodraeth eu hunain eisiau bod ynddi ychwaith.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi bod arferion gorau yn y gwasanaeth tân yn llawer gwell na'r hyn oeddent. Mae llawer o'r argymhellion y cyfeiriodd y Gweinidog atynt drwy'r cyngor partneriaeth gymdeithasol wedi cael eu derbyn gan y gwahanol wasanaethau tân ledled Cymru a gwelwyd eu bod yn gwella ansawdd bywyd yn y gwaith. Mae atgoffa pobl i gael cawod ar ôl iddynt ddod yn ôl o dân yn mynd yn bell iawn, pan feddyliwch fod pobl o'r blaen yn mynd yn ôl i'r orsaf yn dal yn yr un dillad, yn codi eu brechdanau neu beth bynnag, gyda'u dwylo wedi'u gorchuddio â huddygl y byddent yn ei lyncu wrth iddynt fwyta eu bwyd. Felly, mae arferion wedi newid.

Roeddwn ychydig yn bryderus ynghylch geiriad yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yma, fod gan y Llywodraeth ddiddordeb cryf yn hyn. Wel, mae angen ychydig mwy na diddordeb cryf, os caf fod yn hollol ddiflewyn-ar-dafod. Y gwir amdani yw, ac fe nodais y ffigurau wrth agor y ddadl, ond fe ailadroddaf un ohonynt, sy'n sioc i bawb sy'n ei glywed: mae diffoddwyr tân 323 y cant yn fwy tebygol na'r boblogaeth gyffredinol o ddatblygu canser—323 y cant yn fwy tebygol. Rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth gael mwy na dim ond diddordeb cryf mewn sicrhau ein bod yn cael y gweithdrefnau cywir ar waith ac yn cael y pethau cywir yn eu lle. Rwy'n falch dros ben nad diddordeb cryf yn unig oedd gan yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia, a'u bod wedi gweithredu. Fe wnaethant sicrhau bod monitro iechyd ataliol ar waith yn benodol ar gyfer diffoddwyr tân i atal rhai o'r pethau hyn cyn iddynt ddatblygu.

Soniais yn fy araith am Lisa Jenkins, a ddaeth i'r Senedd i siarad am ei phrofiad, a soniodd Rhys hefyd am y sgyrsiau niferus y mae wedi'u cael gyda diffoddwyr tân a'u teuluoedd. Ni fyddai'n cymryd llawer o ymdrech i fynd at y gwasanaeth tân, siarad â'r diffoddwyr tân a darganfod y straeon hyn—mae digonedd ohonynt. Mae pobl ifanc yn cael canser ac yn marw'n ifanc oherwydd y swydd a wnânt. Nid yw'n iawn, ac nid wyf eisiau bod mewn sefyllfa ymhen deng mlynedd lle rydym yn edrych yn ôl ar hyn ac yn meddwl, 'Gallem fod wedi gwneud rhywbeth.' Rwy'n annog y Llywodraeth i fynd y tu hwnt i fod â diddordeb cryf yn y mater. Rwy'n annog y Llywodraeth i fynd y tu hwnt i roi pwyslais ar weld cyflogwyr yn datrys hyn. Mae'n galw am arweinyddiaeth genedlaethol, yn union fel y gwnaeth yn yr Unol Daleithiau, yn union fel y gwnaeth yng Nghanada, ac yn union fel y gwnaeth yn Awstralia. Mae angen i'r Llywodraeth ddangos arweinyddiaeth ar hyn.

Hoffwn weld beth y mae'r prif swyddog meddygol yn ei ddweud yn hyn i gyd, ond rwy'n mynd i bwysleisio'r hyn a ddywedais tuag at ddiwedd fy agoriad: mae pob oedi'n mynd i arwain at fwy o farwolaethau o ganser. Nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn lusgo ein traed arno mwyach. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn 2023, mae bellach yn 2025, mae 2026 ar y gorwel ac fe fydd yma mewn dim, felly mae angen i'r Llywodraeth weithredu ar hyn nawr a pheidio â llusgo ei thraed, oherwydd dyna rwy'n ofni ei weld yn digwydd, a'r hyn y mae'n ymddangos i mi a phobl eraill y tu allan i'r lle hwn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ni fydd pobl yn maddau i ni am oedi ar hyn, felly rwy'n annog y Llywodraeth i symud ar y mater hwn, i beidio ag aros am y prif swyddog meddygol, a mynd ati i roi monitro iechyd ataliol ar waith i ddiffoddwyr tân fel y maent yn ei haeddu—dyna'r lleiaf y maent yn ei haeddu.

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

16:10
6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'P-06-1482: Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)'

Eitem 6 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'P-06-1482: Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Carolyn Thomas.

Cynnig NDM8899 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘P-06-1482: Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl heddiw. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Zena Blackwell ac erbyn iddi gau ar 7 Ionawr 2025, roedd wedi denu 3,369 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn dweud hyn:

'Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol).

'Wedi ein hysbrydoli gan symudiadau Smartphone Free Childhood a Delay Smartphones, yn ogystal ag ymchwil neilltuol ddiweddar ar effeithiau negyddol dwys ffonau clyfar ar blant, rydym yn galw ar Senedd Cymru i’w gwahardd ym mhob ysgol yng Nghymru, gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol. Mae defnyddio ffonau clyfar yn achosi pryderon sylweddol o ran llesiant a diogelu. Rydym yn pryderu’n fawr am ddatblygiad cymdeithasol ac iechyd meddwl ein plant ac yn credu bod gan bob disgybl yr hawl i fod mewn ysgol heb ffonau clyfar.'

Aeth y ddeiseb yn ei blaen i dynnu sylw at y ffaith bod iechyd meddwl plant yn waeth nag erioed, at yr ymchwil sy'n dangos yr effaith y mae defnyddio ffôn, amser sgrin a mynediad at gyfryngau cymdeithasol yn ei chael arnynt, ac at y ffaith bod hwn yn fater y mae llawer o wledydd yn ymlafnio ag ef. Maent hefyd yn gaethiwus iawn. Hoffwn ddiolch i Zena Blackwell am godi'r mater hollbwysig hwn drwy'r broses ddeisebau ac ysgogi ymchwiliad y pwyllgor.

Roedd ein grwpiau ffocws ysgol a'n digwyddiad i randdeiliaid yn addysgiadol iawn. Ond er bod digon o dystiolaeth o'r niwed sy'n gysylltiedig â ffonau clyfar, a'r manteision o gyfyngu ar eu defnydd mewn ysgolion, yn sicr nid oedd consensws clir mai gwaharddiad cyffredinol, hyd yn oed gyda rhai eithriadau, oedd y ffordd ymlaen. 

Mae'n fater cymhleth, ond daethom i'r casgliad yn fuan nad oedd y gair 'gwaharddiad' yn realistig nac yn ddefnyddiol. Credwn fod fframwaith polisi clir a chanllawiau ar ffyrdd gorau o weithredu cyfyngiadau yn well. Mae galw ysgolion yn 'ysgolion dim ffonau' hefyd yn well na defnyddio'r gair 'gwaharddiad'. Cododd Comisiynydd Plant Cymru, NSPCC Cymru, Barnardo's Cymru a Lleisiau Rhieni yng Nghymru bryderon ynglŷn â chyflwyno gwaharddiad ym mhob ysgol yng Nghymru, a'r mis diwethaf, cytunodd Comisiynydd Plant Lloegr hefyd ei bod yn well gadael i'r gweithwyr proffesiynol—penaethiaid—benderfynu sut i reoli'r mater.

Roedd Diabetes UK yn gyflym i nodi bod ffonau clyfar yn helpu plant i reoli eu cyflwr iechyd yn effeithiol trwy gydol y dydd. Yn yr un modd, mae gofalwyr ifanc a disgyblion sy'n niwroamrywiol neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn arbennig yn dibynnu ar eu ffonau. Mae angen ffôn clyfar ar unrhyw un sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i reoli eu taith i'r ysgol ac oddi yno. Mae rhieni eisiau ffordd o gysylltu â'u plentyn. Ac erbyn i chi gyrraedd 16 oed a pharatoi ar gyfer byd gwaith, mae angen i chi fod wedi meistroli dyfais glyfar am bob math o resymau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd safon ofynnol ar gyfer cynhwysiant digidol i bawb yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys mynediad at ffôn clyfar a data. Er bod gan 83 y cant o ddisgyblion ffôn clyfar erbyn blwyddyn 6, yn sicr fe wnaeth ein hadroddiad y pwynt nad yw pob teulu yn gallu fforddio darparu'r ffôn diweddaraf i'w plentyn, ac mae rhai ysgolion heb ffonau'n cynnig technoleg amgen, fel iPads, yn ystod y diwrnod ysgol ar gyfer gwneud gwaith ymchwil.

At ei gilydd fodd bynnag, roedd athrawon dosbarth yn fwy cefnogol i waharddiad cyffredinol ac yn dweud wrthym fod ffonau'n achosi pob math o broblemau mewn ysgolion. Clywsom dystiolaeth eithaf syfrdanol ar hyn. Ar y naill law, gall ysgolion osod cynsail a chefnogi plant a rhieni drwy gyfyngu ar y defnydd o ffôn yn ystod y diwrnod ysgol, ond mater i rieni a gofalwyr, ac i'r gymuned gyfan, yw diogelwch ar-lein a defnydd diogel o dechnoleg.

Rydym i gyd yn cael trafferth gyda natur gaethiwus ffonau. Mae yna ddadl gref fod plant yn llawer mwy agored i niwed ac angen mwy o amddiffyniad, ond hefyd mae angen iddynt ddysgu sut i weithredu'n ddiogel mewn byd digidol. Mae deddfwyr, a chymdeithas yn gyffredinol, yn dal i gael trafferth dod o hyd i'r atebion cywir. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud ei bod hi'n cyfarfod ag Ofcom cyn bo hir i drafod y defnydd o ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol ymhellach.

Fe wnaeth adroddiad y pwyllgor bum argymhelliad. Yn ogystal â gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill i weithredu fframwaith polisi cadarn a chanllawiau ymarferol i gefnogi ysgolion, rydym am i Weinidogion barhau i edrych ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg. Mae'r sylfaen dystiolaeth yn dal i fod yn eithaf cyfyngedig, ond mae'n tyfu drwy'r amser.

Fel pwyllgor, roeddem yn teimlo'n gryf fod angen gwneud rhywbeth, ond mae angen i weithredoedd fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Gall ysgolion sydd â chyfyngiadau eisoes ddangos y manteision, ac mae ysgolion yn gwneud eithriadau sy'n canolbwyntio ar blant lle mae angen iddynt wneud hynny. Gall y cyfyngiadau amrywio, fodd bynnag, ac efallai y bydd mwy o gysondeb ledled Cymru yn gymorth i ysgolion ymgysylltu â rhieni ac ennyn eu cefnogaeth, sy'n bwysig iawn, oherwydd weithiau, y rhieni sy'n fwy gwrthwynebus i'r cyfyngiadau a'r newidiadau hyn ar y dechrau.

Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn tri o'n hargymhellion yn llawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn y ddau arall mewn egwyddor, yn amodol ar ddod â phobl allweddol ac arbenigwyr at ei gilydd i edrych ar y materion hyn ymhellach. Mae hynny'n galonogol iawn. Mae'n ddrwg gennyf, dylwn fod wedi dweud 'partneriaid allweddol', nid 'pobl allweddol'.

Mae'r ymateb yn cydnabod bod technoleg yn esblygu'n gyson, ynghyd â'r offer a'r gwefannau y mae ffonau'n rhoi mynediad iddynt. Rwyf hefyd yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud iddi gael galwadau cynyddol am gyngor, ac rwy'n credu bod hyn yn dangos bod ein gwaith ar y mater, wedi'i ysgogi gan y ddeiseb hon, yn amserol iawn. Mae'r gydnabyddiaeth fod angen inni ymgysylltu â'r holl randdeiliaid ar ddatblygu fframwaith cenedlaethol sy'n gysylltiedig â gwaith ar ymddygiad mewn ysgolion hefyd yn bwysig. Mae'r ymateb yn nodi pwysigrwydd cefnogi ymgysylltiad â rhieni, gan ystyried llwyth gwaith athrawon ar yr un pryd.

Rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol i'n safbwynt fod yr iaith a ddefnyddir yn bwysig iawn, a bod angen fframio canllawiau mewn ffordd i blant a phobl ifanc a'u rhieni ddeall y rhesymeg y tu ôl iddynt. Nodaf hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymatal rhag rhoi safbwynt ar y modd y caiff eithriadau eu trin yn rhan o'r fframwaith a'r canllawiau, a sut y cyflawnir y gwaith ymgynghori, ond y ddeialog gyda phartneriaid ac arbenigwyr allweddol yw'r peth allweddol.

Mae'r ymateb i argymhelliad 5, i barhau i ddilyn y dystiolaeth, yn bwysig iawn yn y maes polisi hwn sy'n newid yn barhaus. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i sicrhau bod y rhai sy'n trafod fframwaith polisi cenedlaethol a chanllawiau yn ymwybodol o'r dystiolaeth a'r data diweddaraf i lywio eu trafodaethau.

Yn olaf, diolch i'r deisebwyr am ddod â'r mater hynod bwysig hwn i sylw'r Aelodau, ac edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw.

16:15

A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am baratoi'r adroddiad, a hefyd i'r 3,369 o bobl a roddodd amser i lofnodi'r ddeiseb wreiddiol?

Mae hwn yn bwnc cyfoes, dadleuol a hynod gymhleth, ac mae'n rhywbeth rwyf i wedi rhoi llawer o ystyriaeth iddo ers imi ddod i rôl llefarydd yr wrthblaid ar addysg. Yr hyn sy'n glir, fodd bynnag, yw na allwn barhau gyda'r status quo presennol. Mae angen i rywbeth newid. Mae'n fater o ganfod sut y bydd y newid hwnnw'n edrych i ni. Yn bersonol, nid wyf yn rhannu casgliad y pwyllgor na ddylid gwahardd ffonau clyfar yn llwyr. Rwy'n credu mai gwaharddiad cyffredinol, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, os oes gan blentyn anghenion meddygol er enghraifft, yw'r union beth sydd ei angen.

Gall ffonau symudol fod yn ymyrraeth fawr, gan dynnu sylw ein myfyrwyr oddi ar ddysgu, a dyna'n union beth y mae ysgolion yno i'w wneud. Gall cael ffôn gerllaw, hyd yn oed os na chaiff ei ddefnyddio, amharu ar berfformiad gwybyddol, yn ôl ymchwil a gyflawnwyd gan Brifysgol Texas. Yn ogystal, gall ffonau gael effaith niweidiol ar iechyd meddwl ein pobl ifanc ac agor y drws i seiberfwlio. O ran bwlio ar-lein, mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi awgrymu bod un o bob pump o blant yn profi o leiaf un math o ymddygiad bwlio ar-lein, ac o'r rheini, dywedodd tua thri chwarter fod o leiaf rywfaint ohono wedi'i brofi yn yr ysgol neu yn ystod amser ysgol. Nid yn unig hynny, ond mae'r defnydd o ffonau symudol yn yr ystafell ddosbarth yn creu heriau i athrawon a staff ysgol hefyd. Yn hytrach na chyflwyno gwersi, rhaid i athrawon roi'r gorau i'r hyn a wnânt er mwyn ymdrin â'r ymyrraeth.

Wrth gwrs, mae plant yn mynd i ddefnyddio ffonau symudol yn eu bywydau bob dydd, nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny, ond mae angen inni roi camau ar waith i gael eu gwared o'r ystafell ddosbarth. Canfu strategaeth genedlaethol Llywodraeth y DU ar ymddygiad fod 38 y cant o athrawon a 57 y cant o ddisgyblion wedi dweud bod ffonau symudol wedi tarfu ar rai, y rhan fwyaf neu'r cyfan o'r gwersi yn yr wythnos flaenorol. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan elusen rhieni, mae un o bob pump o ddisgyblion yn dweud bod cyd-ddisgybl sy'n defnyddio ffôn symudol yn tarfu ar eu gwersi.

Mae'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar ddysgu myfyrwyr yn peri pryder mawr i mi. Canfu ymchwil a gyflawnwyd gan Policy Exchange fod ysgolion uwchradd yn Lloegr sydd â gwaharddiad effeithiol ar ffonau symudol dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu graddio'n rhagorol na'r cyfartaledd cenedlaethol. Canfu'r un ymchwil fod plant mewn ysgolion sydd â gwaharddiad effeithiol wedi cyflawni canlyniadau TGAU a oedd un i ddwy radd yn uwch na phlant mewn ysgolion â pholisïau llacach. Yn 2015, canfu Ysgol Economeg Llundain fod ysgolion lle roedd ffonau wedi'u gwahardd wedi gweld cynnydd o 6.5 y cant mewn sgoriau profion, gyda'r cynnydd mwyaf ymhlith myfyrwyr sy'n tangyflawni.

Yn hytrach na gwaharddiad llwyr, mae'r pwyllgor yn credu y dylai ysgolion gael mwy o gefnogaeth gan y Llywodraeth i osod eu cyfyngiadau eu hunain. Fodd bynnag, dengys y dystiolaeth nad yw hynny'n gweithio, gydag un o bob wyth disgybl yn dweud nad yw ysgolion byth yn cymryd ffonau, hyd yn oed pan fydd rheolau sy'n eu gwahardd yn cael eu hanwybyddu.

Canfu Policy Exchange hefyd fod y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd yn dweud bod ganddynt ryw fath o waharddiad ar y defnydd o ffonau symudol, ond dim ond 13 y cant o ysgolion yng Nghymru a Lloegr sy'n gwahanu myfyrwyr oddi wrth eu ffonau drwy gydol y diwrnod ysgol. Mae angen ymagwedd ddiamwys, gyffredinol at hyn. Mae angen cysondeb ym mhobman.

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol yn San Steffan, Laura Trott, wedi bod yn gwneud gwaith gwych ar y maes pwysig hwn, ac mae'n drueni mawr fod gwleidyddion Llafur yn Llundain wedi methu cefnogi ein cynigion i wahardd ffonau clyfar yn yr ysgol i blant dan 16 oed. Mae'r dystiolaeth yn llethol o ran yr effaith enfawr y mae ffonau clyfar mewn ysgolion yn ei chael ar gyrhaeddiad a lles plant.

Mae brandio gwaharddiad ffôn fel rhywbeth diangen, fel y gwnaeth y Prif Weinidog, Keir Starmer, yn ddiweddar, neu honni mai gimig fyddai gwneud hynny, fel y gwnaeth y Gweinidog addysg yn San Steffan, Bridget Phillipson, yn hollol anghywir. Mae mwy a mwy o wledydd ledled y byd yn deffro i'r niwed y mae ffonau'n ei wneud yn ein hysgolion. Rwy'n credu mai gwaharddiad, sy'n golygu rhoi ffonau dan glo ar ddechrau pob diwrnod ysgol mewn loceri a'u hadfer ar ddiwedd y dydd, yw'r dull gorau o weithredu ar gyfer y dyfodol. Dyma'r peth iawn i athrawon, dyma'r peth iawn i blant, a dyma'r peth iawn i rieni.

Os na wnawn hyn, rwy'n ofni y byddwn i gyd yn edrych yn ôl ymhen ychydig flynyddoedd ac yn meddwl tybed pam na wnaethom weithredu'n gynt. Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn pawb ar y pwnc yn y ddadl. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:20

Rwy'n falch o gael y cyfle i drafod y mater hwn heddiw, a dwi eisiau diolch hefyd i'r deisebwyr am ddod â'r mater hwn ger bron, a hefyd i'r Pwyllgor Deisebau am eu hymchwiliad trylwyr. Mae hwn yn bwnc nuanced a sensitif iawn, ac mae'n amlwg bod dull one size fits all yn annhebygol o roi ateb cyflawn i ni. O ystyried y cymhlethdod, gallai canllawiau cenedlaethol eang gyda gweithrediad lleol gan ysgolion, mewn cydweithrediad â chyrff llywodraethu a rhieni, fod efallai'r ffordd orau ymlaen.

Pe bai Llywodraeth Cymru'n cyflwyno canllawiau pellach yn y maes hwn, mae'n hanfodol bod yr holl agweddau perthnasol yn cael eu hystyried yn ofalus. Mae'n rhaid i ni daro, yn fy marn i, y cydbwysedd rhwng peidio â niweidio dysgwyr—ac mae yna dystiolaeth, wrth gwrs, bod hynny'n digwydd—ac, ar y llaw arall, eu paratoi nhw ar gyfer y byd technolegol rŷm ni'n byw ynddo fe, gan seilio unrhyw benderfyniadau ar ymchwil a thystiolaeth gadarn. Yn y bôn, mae angen i ni gael sgwrs gall a phwyllog gyda rhanddeiliaid yn y sector, gan gynnwys y disgyblion eu hunain, er mwyn penderfynu ar y camau sydd angen eu cymryd.

Rwy'n nodi gyda diddordeb y Bil preifat diweddar a gyflwynwyd yn San Steffan, sydd â chefnogaeth y Llywodraeth. Mae'r Bil ffonau mwy diogel yn galw am—a dwi'n mynd i restru tri pheth fan hyn—prif swyddogion meddygol holl wledydd y Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Cymru, i gyhoeddi canllawiau ar y defnydd y ffonau cyfar a chyfryngau cymdeithasol gan blant o fewn y 12 mis nesaf; yr Ysgrifennydd addysg i ddatblygu cynllun ar gyfer ymchwilio i effaith defnydd y cyfryngau cymdeithasol ar blant, eto o fewn 12 mis; a'r Llywodraeth i adrodd yn ôl o fewn blwyddyn ar a ddylid codi'r oedran cydsyniad digidol o 13 i 16. Byddai'n fuddiol, felly, gwybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ynglyn â'r Bil hwn.

Pe baem yn cyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion, byddwn yn dadlau dros eithriadau i sicrhau cyfathrebu rhwng rhieni a disgyblion mewn argyfwng ac i ddarparu ar gyfer disgyblion sy'n defnyddio ffonau clyfar i reoli cyflyrau iechyd, fel diabetes, neu eu defnydd gan ofalwyr ifanc. Gallem hefyd archwilio rhaglenni addysgol sy'n addysgu plant am ddefnydd cyfrifol o ffonau clyfar a dinasyddiaeth ddigidol. Rwy'n gwybod bod llawer o'r pethau hyn eisoes ar Hwb, ond mae'n hanfodol fod y rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd i allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn maes sy'n newid yn gyflym. Trwy rymuso pobl ifanc â gwybodaeth a sgiliau i lywio'r byd digidol yn ddiogel, gallwn helpu i liniaru rhai o'r effeithiau negyddol sy'n gysylltiedig â defnyddio ffonau clyfar.

Mae hefyd yn werth ystyried rôl rhieni a gwarcheidwaid yn y sgwrs hon. Gall annog deialogau agored gartref am fanteision a risgiau defnyddio ffonau clyfar atgyfnerthu'r canllawiau a ddarperir mewn ysgolion a helpu i greu dull mwy cynhwysfawr o weithredu ar y mater hwn. Wrth gwrs, nid yw mynd i'r afael â'r defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion yn datrys effeithiau ffonau clyfar ar blant ifanc y tu allan i'r ysgol, ac mae'n rhaid gwneud mwy i leihau seiberfwlio. Er y gall cyfyngu ar ffonau yn ystod oriau ysgol gyfyngu ar weithredoedd o'r fath yn ystod y dydd, rhaid inni hefyd ystyried sut i ddiogelu pobl ifanc agored i niwed rhag bwlio ar-lein y tu allan i'r ysgol.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am eu gwaith ar y ddeiseb? Edrychaf ymlaen at gadw llygad manwl ar weithredoedd Llywodraeth Cymru yn y maes. Diolch yn fawr.

16:25

Hoffwn longyfarch y rhai a gyflwynodd y ddeiseb a'r rhai sydd wedi ei llofnodi, gan fod hynny wedi dod â'r mater gerbron y Senedd heddiw. Rwy'n credu bod yna faterion difrifol y mae angen mynd i'r afael â hwy mewn perthynas â'r defnydd o ffonau clyfar yn gyffredinol, ac yn amlwg, o ran y ddeiseb hon, mewn ysgolion.

Rwy'n credu ei bod yn debygol o fod yn wir am dechnoleg yn gyffredinol, onid yw, ei bod yn creu manteision ac anfanteision, fel bron bopeth arall. Gyda thechnoleg, mae'n anodd i'r Llywodraeth ac eraill gadw i fyny â datblygiadau a meddwl am, heb sôn am weithredu, rheoliadau a mesurau effeithiol. Mae'n faes heriol iawn wrth geisio cadw i fyny â datblygiadau technolegol.

Rwy'n credu bod yna feysydd penodol sy'n peri pryder ynghylch y defnydd o ffonau clyfar. Fel y dywedwyd yn gynharach, yn aml iawn, wrth chwarae gemau arnynt, er enghraifft, bydd cwmnïau'n cyflogi seicolegwyr yn effeithiol iawn i'w gwneud mor gaethiwus â phosibl. Rwy'n gweld tystiolaeth o hynny yn fy nheulu fy hun, fel y bydd bron bawb arall rwy'n siŵr.

Fel y dywedodd Cefin, mae'n ymwneud â mwy na'r ysgol; wrth gwrs hynny, mae'n ymwneud â'r cartref hefyd. O ran hynny, o ystyried bod llawer iawn o blant o oedran gofidus o ifanc yn treulio llawer o amser ar ffonau clyfar yn y cartref, byddai'n dda pe gallem gyfyngu ar eu defnydd yn yr ysgol fel rhyw fath o fesur i wneud iawn am hynny, oherwydd os ydynt ar eu ffonau clyfar yn yr ysgol hefyd, mae'n ychwanegu at yr amser a dreuliant yn eu defnyddio.

Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw waith wedi'i wneud ar deuluoedd sy'n gymharol ddifreintiedig ac a oes problemau penodol yno, oherwydd yn amlwg, mae llawer o blant dosbarth canol yn mwynhau profiad tacsi mam o roi cynnig ar wahanol weithgareddau y tu allan i'r diwrnod ysgol; nid yw pob plentyn yn cael y profiad hwnnw. Tybed a yw plant mewn cartrefi cymharol ddifreintiedig efallai yn treulio mwy o amser na'r cyfartaledd ar ffonau clyfar ac o flaen sgriniau.

Fe wyddom fod yna broblemau, ac rwy'n gwybod bod amryw o astudiaethau wedi'u cynnal. Canfu un astudiaeth o'r enw 'The effects of mobile phone use on academic performance: A meta-analysis' fod y defnydd o ffonau clyfar mewn ystafelloedd dosbarth yn arwain at fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau nad ydynt yn gysylltiedig â'r ysgol, sy'n effeithio'n andwyol ar y gallu i ddwyn i gof a dealltwriaeth. Roedd ail astudiaeth, o'r enw 'The effects of smartphone addiction on learning: A meta-analysis' yn dweud y gall gymryd hyd at 20 munud i fyfyrwyr ailffocysu ar yr hyn yr oeddent yn ei ddysgu ar ôl cymryd rhan mewn gweithgaredd anacademaidd.

Rydym yn gwybod bod cefnogaeth gyhoeddus sylweddol i gyfyngiadau a gwaharddiadau. Canfu arolwg Ipsos fod bron i hanner y cyhoedd yn y DU yn credu y dylai fod gwaharddiad llwyr ar ffonau clyfar mewn ysgolion. Cofnododd UNESCO, yn 2022, fod bron i un o bob pedair gwlad yn cyflwyno gwaharddiadau ar ffonau symudol mewn ysgolion naill ai yn y gyfraith neu fel polisi, roedd 13 y cant o wledydd wedi ymgorffori gwaharddiadau yn y gyfraith, ac mae 14 y cant yn defnyddio polisïau neu ganllawiau anstatudol. Felly, yn amlwg, mae gwledydd ledled y byd o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn, ac rwy'n credu bod angen i ni wneud yr un peth.

Mae yna wahanol ddulliau posibl o gyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion, rhai yn fwy helaeth, ac efallai y byddai rhai'n dweud, yn fwy llym nag eraill. Yn bersonol, ni waeth pa ffyrdd ymarferol y doir o hyd iddynt, rwy'n credu ei bod hi'n iawn i blant allu mynd â ffonau clyfar i'r ysgol, ond ni ddylent eu defnyddio yn amser yr ysgol heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Rwy'n credu bod gennym wahanol ffyrdd o wneud hynny eisoes ar waith ac yn cael eu defnyddio mewn ysgolion yng Nghymru. Nid wyf yn ffafrio unrhyw un o'r rhain yn benodol, ond rwy'n credu mai'r polisi y mae rhai ysgolion wedi'i fabwysiadu o ganiatáu i blant fynd â'u ffonau i'r ysgol ond peidio â'u defnyddio yn amser yr ysgol, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, yw'r ffordd iawn ymlaen.

16:30

Gwarchod ein plant oedd y peth pwysicaf i'n pwyllgor, nid cosbi na gwahardd, ac mae e siŵr o fod yn wir, Gadeirydd, wrth inni dderbyn y dystiolaeth, fod barn nifer ohonon ni, efallai, wedi symud o waharddiad llwyr, oherwydd mae ffonau symudol yn bwysig i nifer o ddisgyblion ysgol, i blant sy'n ofalwyr, i blant sydd â phroblemau iechyd. Maent yn cael eu defnyddio mewn nifer o ysgolion nawr ar gyfer dysgu ac ymchwilio, ac mae'n cadw plant yn ddiogel ar y ffordd i'r ysgol ac ar y ffordd adref o'r ysgol.

Fel dywedodd John Griffiths, mae ffonau'n gallu bod yn fwy o broblem gartref nac yn yr ysgol: plant yn aros lan yn hwyr yn y nos ar eu ffonau symudol, ac yn aml iawn dyna pryd mae'r bwlian yn digwydd—gartref, nid yn yr ysgol.

Nawr, mae'n hollol amlwg bod gorddefnydd o ffonau symudol yn niweidio iechyd meddwl, ac efallai'n niweidio iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn fwy na'r boblogaeth yn gyffredinol. Fe wnaeth seicolegwyr o America ddangos bod cynnydd o 50 y cant wedi bod mewn iselder a gorbryder ymhlith pobl ifanc rhwng 2010 a 2019, ac mae'n wir, bob tro rŷn ni'n siarad gyda phobl ifanc, rŷn ni'n gweld hynny, onid ydym ni, fod gorbryder llawer yn waeth nawr na phan oeddem ni'n blant. Nawr, dim cyd-ddigwyddiad, yn fy marn i, yw bod hwnna'n cyd-fynd â'r cynnydd ym mhoblogrwydd gwefannau cymdeithasol. Rŷn ni wedi gweld yn ddiweddar, onid ydym ni, y rhaglen deledu Adolescence a oedd yn rhoi syniad inni o beryglon eithafol dylanwadau arlein.

Nawr, mae'n rhaid i ysgol fod yn hafan, yn fan diogel, lle ble mae plant nid yn unig yn dysgu ffeithiau ond hefyd yn dysgu sut i gyd-fyw ac i ryngweithio ag eraill. Mae ffonau'n gallu bod yn rwystr amlwg i hyn. Mae ffonau'n distracting. Mae ffonau'n distracting mewn ffordd ble doedd dim y distraction yna gyda ni. Edrych mas o'r ffenest neu synfyfyrio oedd y distraction i ni. Nawr mae'r ffonau'n distraction. Mae'n medru tanseilio hyder unigolion. Mae'n medru arwain at bwysau cymdeithasol.

Clywson ni'n glir fel pwyllgor dystiolaeth o fwlian arlein, a dwi'n siŵr bod hynny ddim yn synnu dim un ohonon ni fan hyn. Nawr, wrth reswm, mae technoleg yn arf bwerus, a dyw technoleg ddim yn mynd i fynd i ffwrdd—datblygu wnaiff technoleg. Mae technoleg yn gallu gwella dysgu, mae'n gallu meithrin creadigrwydd o fewn ein plant a'n pobl ifanc mewn gwersi. 

Nawr, dywedodd John Griffiths pa mor addictive yw ffonau symudol o fewn ei deulu. Wel, i fi, does dim rhaid edrych ar fy nheulu i—mae ffonau symudol yn addictive i fi, a dwi'n siŵr pe byddwn i'n edrych rownd y Siambr ar unrhyw amser penodol, byddwn i'n gweld ambell i Aelod ar ei ffôn symudol. Gwnaf i ddim galw neb mas ar hyn o bryd, ond rŷn ni hefyd ein hunain yn addicted i ffonau symudol, ac mae'n wir nid yn unig yn y Siambr hon, ond ewch i gaffi, ewch i barc, ewch ar drafnidiaeth gyhoeddus—mae llwyth o bobl ar eu ffonau.

Oherwydd mae ffonau symudol wedi'u creu i fod yn gaethiwus: y sgrôl ddiddiwedd ar gyfryngau cymdeithasol, y chwarae awtomatig ar YouTube, yr hysbysiadau sy'n ymddangos ar ein ffonau trwy'r amser, a llawer mwy. Maent wedi cael eu creu i'n tynnu ni i gyd yn ôl at y ffôn symudol. Os ydynt yn mynd â'n sylw ni, rwy'n credu ei fod hyd yn oed yn waeth i bobl ifanc nad ydynt yn gwybod yn wahanol, sydd wedi cael eu magu gyda hyn.

Mae'n rhaid bod gyda ni reolaeth a ffiniau clir mewn ysgolion, o ran defnydd ffonau. Mae'r bwriad yn glir—i greu awyrgylch lle gall ein plant ni dyfu, dysgu a ffynnu heb y pwysau digidol di-baid sy'n ein hamgylchynu ni i gyd tu allan i giatiau'r ysgol, ac mae'n rhaid sicrhau bod yr ysgol ei hunan yn hafan. Diolch yn fawr.

16:35

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau y prynhawn yma. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, Carolyn Thomas, ac aelodau'r pwyllgor am yr adroddiad hwn. Ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae'r Aelod dros Ganol De Cymru yn ei ddweud. Rwy'n aml yn dweud, yn anecdotaidd, a dyma yw fy safbwynt personol, mai pobl ein hoed ni yn fras yw'r genhedlaeth olaf i beidio â bod wedi'u magu gyda'r lefel honno o dechnoleg. Rwy'n gweld pobl yn y grŵp oedran hwnnw, canol y 30au i 40—mae'n debyg mai ni yw'r genhedlaeth olaf i beidio â bod wedi cael hynny, ac mae'n destun peth balchder, a minnau'n ychydig bach o Ludiad. Ond rwy'n cytuno â'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi eu derbyn.

Rwyf wedi siarad o blaid gwaharddiadau ffonau clyfar mewn ysgolion yn gyson yn y Siambr, ac wedi galw am fframwaith cenedlaethol, ond roeddwn yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad pan wneuthum ei godi ym mis Tachwedd y llynedd ac ym mis Ionawr eleni. Ond rwy'n falch nawr fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r dystiolaeth ar y pwnc ac wedi cytuno i weithredu fframwaith cenedlaethol.

Mae'r dystiolaeth ynglŷn ag effeithiau niweidiol defnydd eang o ffonau clyfar mewn ysgolion wedi bod ar gael ers cryn dipyn o amser, ac fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau i ysgolion ar gyfyngu ar y defnydd o ffonau dros 12 mis yn ôl. Mae dwy ysgol yn fy etholaeth i yn Nyffryn Clwyd—Ysgol Gatholig Crist y Gair ac Ysgol Uwchradd Prestatyn—eisoes wedi gweithredu cyfyngiadau ar ffonau clyfar yn yr ystafell ddosbarth, ac maent yn gweld canlyniadau cadarnhaol yn barod. Felly, mae'n dangos yn glir fod ysgolion, ar lefel leol, yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny. Ond yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen arnynt yw'r arweiniad a'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yna system ledled Cymru lle gall ysgolion ymgysylltu o fewn y prosesau hynny, a mabwysiadu enghreifftiau cadarnhaol o wledydd eraill sydd wedi gwneud pethau tebyg. Ac mae'r dystiolaeth—[Torri ar draws.]—ar gyfer y fframwaith cenedlaethol yn awgrymu y gall cyfyngu ar y defnydd o ffonau mewn ysgolion fod yn effeithiol. Iawn, fe wnaf.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Wrth siarad am wledydd eraill yn gwneud pethau, yn yr Alban, yn Ysgol Uwchradd Portobello yng Nghaeredin, ac mewn 250 o ysgolion ledled y DU mewn gwirionedd, maent wedi cyflwyno cydau Yondr cloadwy y gellir eu hagor ar ddiwedd y diwrnod ysgol ac ar ddechrau'r diwrnod ysgol, a'u datgloi gan ddyfeisiau cloi ar y wal. Nid wyf yn gwybod a yw pobl yn ymwybodol o hynny, ond yn ôl y pennaeth, mae'n llwyddiant ysgubol. Mae sylw'r plant wedi gwella, lefelau bwlio wedi gostwng, ac maent wedi bod yn bositif iawn. Felly, onid ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar y math hwnnw o gynllun gan ei fod yn enghraifft o lwyddiant?

Diolch, Laura. Yn hollol, rwy'n cytuno, ac mae'r model hwnnw o edrych ar yr enghreifftiau sy'n cael eu defnyddio yn fy etholaeth yn sefyllfa debyg. Mae bron fel—. Mae 'amnest' yn air cryf, ond sefyllfa lle rydych chi'n rhoi eich ffôn mewn cwdyn wrth gyrraedd, ac rydych chi'n ei godi wrth i chi adael yr ystafell ddosbarth. Rwy'n credu bod y model hwnnw'n cael ei weld yn un syml at ei gilydd ac yn un sy'n gweithio'n effeithiol. Mae enghreifftiau eraill yn Ffrainc, oherwydd maent wedi gwahardd ffonau yn gyfan gwbl ers 2018, gydag ysgolion yn nodi effaith gadarnhaol, gyda mwy o ryngweithio cymdeithasol, mwy o ymarfer corff, llai o fwlio, a chanolbwyntio gwell yn yr ystafell ddosbarth.

Cyhoeddodd y seicolegydd cymdeithasol Americanaidd Jonathan Haidt lyfr ardderchog y llynedd o'r enw The Anxious Generation, lle mae'n cyflwyno'i ddadl fod cyfryngau cymdeithasol a ffonau clyfar wedi bod yn brif sbardun i'r cynnydd dramatig mewn gorbryder, iselder a phroblemau iechyd meddwl eraill ymhlith pobl ifanc, yn enwedig ymhlith merched. Caiff hyn ei gyfuno hefyd ag ymyrraeth wybyddol ac academaidd, amharu ar ddatblygiad cymdeithasol, tarfu ar gwsg a bwlio. Nid yw cyfyngu ar ddefnyddio ffôn mewn ysgolion yn safiad gwrth-dechnoleg—rwy'n croesawu ac yn llwyr gefnogi datblygiadau technolegol wrth gwrs—ond mae'n bolisi o blaid plentyndod ac o blaid addysg sy'n cyd-fynd â hynny, lle gallwn ddod o hyd i gydbwysedd yn rhywle.

Felly, yn gyffredinol ac i gloi, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adroddiad, a hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet roi amserlen ar gyfer y fframwaith, pa mor bell y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd gyda chyfyngiadau ar ffonau mewn ysgolion, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i ymateb yn gyflymach i dystiolaeth a ddaw o wledydd eraill, fel y gellir diweddaru'r canllawiau a'u cadw'n weithredol yma yng Nghymru. Diolch.

16:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau trwy ddiolch i Carolyn Thomas a'r Pwyllgor Deisebau am y gwaith a wnaethant ar yr adroddiad hwn a'r ystyriaeth a roddwyd ganddynt i faterion cymhleth iawn? Fel y dywed y Cadeirydd, mae'n amserol iawn. Mae hwn, fel y dengys eu hadroddiad, yn bwnc anodd i'w ystyried, gydag ystod o safbwyntiau gan ymchwilwyr, staff ysgolion, rhieni a phlant. Rwy'n croesawu'n fawr yr argymhellion a nodir yn adroddiad y pwyllgor. Fel y pwyllgor, rwy'n cydnabod nad yw gwaharddiad cenedlaethol llwyr yn caniatáu lle i ysgolion reoli anghenion eu dysgwyr. Ein dull bob amser yw rhoi ymreolaeth i ysgolion wneud penderfyniadau ar y defnydd o ffonau symudol sy'n briodol i'w cyd-destun hwy. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod yr angen am gefnogaeth ychwanegol i'n huwch arweinwyr a'n haddysgwyr, i'w galluogi i gydbwyso'r gwahanol ystyriaethau ac i gyflwyno dull sy'n iawn i'w hysgol a'u dysgwyr. Yn fy ymateb i adroddiad y pwyllgor, rwyf wedi derbyn tri o'r pum argymhelliad. Rwyf hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â'r ddau a dderbyniais mewn egwyddor a byddaf yn nodi beth fyddwn yn ei wneud nawr, beth rydym eisoes yn ei wneud a sut y byddwn yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hyn.

Mae'r Aelodau'n gwybod fy mod yn bryderus iawn ynglŷn â phroblemau ymddygiad ehangach yn ein hysgolion a'n colegau. Yr wythnos diwethaf, cadeiriais ford gron ar drais a diogelwch mewn ysgolion a cholegau, ac yn ddiweddarach y mis hwn—yr wythnos nesaf, mewn gwirionedd—rwy'n cynnal ein huwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad. Yn unol ag argymhellion y pwyllgor, rwy'n cydnabod pwysigrwydd gweithredu fframwaith polisi ar lefel genedlaethol a chanllawiau ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod datblygiad unrhyw fframwaith neu ganllawiau yn digwydd trwy broses o gydadeiladu agored a thryloyw. Ac yn wir, dyma un o'r negeseuon a gafwyd yn y dystiolaeth i'r pwyllgor. I gefnogi hyn ac fel rhan o'n gwaith ehangach ar ymddygiad, rwy'n dod â'n partneriaid allweddol a'n harbenigwyr perthnasol ynghyd i edrych ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion ac i edrych ar ddatblygu'r canllawiau a'r fframwaith. Bydd gan y grŵp hwn fynediad at y data a'r ymchwil angenrheidiol i'w galluogi i ddatblygu'r canllawiau a'r fframwaith y mae'r pwyllgor wedi galw amdanynt. Byddant yn gallu ymchwilio ymhellach i'r materion y mae'r pwyllgor wedi'u nodi, a thrwy weithio gydag ysgolion, rhieni a phlant, byddant yn sicrhau bod y canllawiau'n darparu'r gefnogaeth angenrheidiol.

Yn rhan o'u cylch gorchwyl hefyd, byddwn yn gofyn i'r grŵp hwn ystyried yr argymhellion eraill a wnaed gan y pwyllgor. Rwyf wedi derbyn ail argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â'r iaith a ddefnyddiwn, a'r pumed yn ymwneud ag adolygu'r canllawiau'n rheolaidd. Fodd bynnag, mewn egwyddor yn unig y derbyniais eu hail a'u trydydd argymhelliad. Rwy'n teimlo'n gryf, os ydym yn gofyn i'n partneriaid ac arbenigwyr eraill gefnogi ein gwaith, y dylem wrando ar yr hyn a ddywedant. Felly, byddaf yn gofyn iddynt ystyried a chynghori ynghylch y ffyrdd mwyaf effeithiol i ysgolion annog ymgysylltiad rhieni, gan ystyried unrhyw effaith ar lwyth gwaith athrawon. Byddaf hefyd yn ystyried eu safbwyntiau ar sut rydym yn caniatáu ar gyfer unrhyw eithriadau i'r rheolau cyffredinol ar ffonau symudol, a sut i ystyried anghenion dysgwyr unigol.

Rwy'n glir fod angen i bawb fod yn rhan o'r sgwrs hon: rhanddeiliaid allweddol, uwch arweinwyr, addysgwyr, rhieni, gofalwyr a llywodraethwyr, ond yn bwysicaf oll ein plant a'n pobl ifanc, gan mai arnynt hwy y mae'r mater hwn yn effeithio yn y pen draw. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r plant a'r bobl ifanc sy'n aelodau o'n grŵp ieuenctid cadw'n ddiogel ar-lein. Fe wnaethom drafod y materion diogelwch ar-lein sy'n codi o'r ddrama deledu Adolescence. Siaradodd dysgwyr yn onest am eu safbwyntiau ar y materion sy'n codi yn y rhaglen ac yn gyfnewid am hynny, rwyf wedi ymrwymo i archwilio cyfleoedd i ddarparu cymorth pellach i ddysgwyr, athrawon a rhieni, yn enwedig o ran codi ymwybyddiaeth.

Mae dysgwyr wedi rhannu eu safbwyntiau ar ymddygiad, cyfryngau cymdeithasol a ffonau clyfar o'r blaen hefyd, gan gynnwys eu barn gref ar agweddau cadarnhaol a negyddol gwaharddiad llwyr. Yn unol â chanfyddiadau'r pwyllgor, awgrymodd y grŵp ieuenctid y byddai canllawiau cryfach a rheolau clir, cyffredinol a gymhwysir yr un fath ym mhobman yn fwy effeithiol na gwahardd ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Roedd eu hawgrymiadau hefyd yn cynnwys yr angen am fwy o addysg ar risgiau a defnydd diogel o ffonau a chyfryngau cymdeithasol, yn hytrach na chyfyngu ar eu defnydd. Rwy'n ymrwymedig i ddeialog barhaus i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn darparu'r mewnwelediad allweddol sydd ei angen arnom i'w cynorthwyo i gadw'n ddiogel ar-lein. 

Hoffwn alinio hefyd â'r gwaith y mae'r NSPCC yn ei arwain gyda Platfform i sefydlu grŵp cynghori ieuenctid ar ddiogelwch plant ar-lein ar gyfer Cymru. Rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i ddysgwyr ddeall sut i ddefnyddio dyfeisiau digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol. Mae diogelwch ar-lein yn enwedig yn nodwedd allweddol yn y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb gorfodol, ac mae addysgu pobl ifanc ar sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn fater trawsgwricwlaidd. Rydym yn parhau i ddarparu arweiniad i ysgolion, dysgwyr a rhieni i godi ymwybyddiaeth am gadernid a diogelwch digidol ar safle 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb. Mae'n cynnwys cyngor i ysgolion, dysgwyr a'u teuluoedd ar ystod o faterion digidol, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, y rhyngrwyd, cydbwyso amser sgrin a'r cyfryngau cymdeithasol. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu cenedlaethol ar gadernid digidol, a luniwyd—.

16:45

Ar yr hyn a ddywedoch chi—a diolch i chi am y gwaith a wnewch ar hynny, oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd ar draws y Siambr yn teimlo bod hynny'n bwysig—ar uwchsbecian yn benodol, ac fe wn ei fod yn rhywbeth yr oeddem ein dwy—. Ar uwchsbecian—gwn fod y ddwy ohonom wedi gweithio ar adroddiad ynglŷn â hynny—a'r pethau ofnadwy a glywsom, a oes gwaith wedi'i wneud ar hynny, i gefnogi gwahardd ffonau yn amser yr ysgol am y rheswm hwnnw?

Diolch, Laura. Nid oeddwn yn rhan o'r adroddiad pwyllgor hwnnw; roeddwn yn Weinidog iechyd meddwl ar y pryd. Ond cafwyd ymateb gan y Llywodraeth a chynllun gweithredu a gyflwynwyd yn rhan o'r gwaith hwnnw. 

Bydd yr uwchgynhadledd sydd ar y ffordd yn cynnwys lleisiau pobl ifanc. Rydym hefyd yn archwilio gweithgor gyda phlant a phobl ifanc i fwrw ymlaen â chamau sy'n deillio o'r uwchgynhadledd. Bydd yr uwchgynhadledd hefyd yn cael ei llywio gan ymchwil a thystiolaeth ddiweddar, gyda mewnbwn gan Estyn yn canolbwyntio ar yr adolygiadau thematig a gyhoeddwyd y mis hwn ar ymddygiad mewn ysgolion uwchradd ac addysg bellach yng Nghymru. Comisiynodd Llywodraeth Cymru y ddau adolygiad i gael gwell dealltwriaeth o'r problemau y mae ein haddysgwyr yn eu hwynebu. Fel y mae'r pwyllgor wedi'i ddweud, rhaid i'r ymchwil a'r dystiolaeth sy'n sail i'n gweithredoedd yn y dyfodol fod yn drylwyr a chadarn, ac mae'r camau hyn trwy ymgysylltu a chomisiynau ymchwil cychwynnol yn hanfodol ar gyfer gosod sylfeini cadarn. Byddaf hefyd yn trafod materion yn ymwneud â'r defnydd o ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol ymhellach gyda fy swyddogion cyfatebol ledled y DU i archwilio ymchwil sy'n dod i'r amlwg, dulliau presennol o weithredu ac i rannu arferion gorau wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Ac fel rhan o'r gwaith casglu tystiolaeth ehangach, byddaf hefyd yn cyfarfod ag Ofcom yn ddiweddarach y mis hwn i drafod y materion sy'n codi mewn perthynas â diogelwch ar-lein.

Nid y buddsoddiad hwn mewn ymgysylltu a chasglu tystiolaeth ehangach yw'r diwedd, gan fod ein rhaglen hirdymor o waith ar ymddygiad yn esblygu'n barhaus i sicrhau ein bod yn cael set glir o ganlyniadau cyflawnadwy, nid cynllun neu ganllawiau pellach yn unig. Yr wythnos nesaf yw cam nesaf ein taith tuag at ddeialog agored a gonest ar ymddygiad. Edrychaf ymlaen at y trafodaethau cydweithredol trwy gydol yr uwchgynhadledd, a fydd yn darparu cyfleoedd i drafod materion cyfoes yn rhydd a rhannu ymarfer i lywio'r camau nesaf. Yn amlwg, mae llawer o waith i'w wneud. Yn dilyn yr uwchgynhadledd, byddaf yn rhannu gwybodaeth am ein rhaglen waith ehangach a'n strategaeth ymgysylltu yn y dyfodol—

Ein gweledigaeth yw cynllunio llwybr sy'n grymuso ein holl bobl ifanc i ffynnu mewn amgylcheddau dysgu diogel a chefnogol.

A gaf i orffen trwy ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am eu gwaith? Diolch.

16:50

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich ymateb hefyd.

Dywed Natasha ei bod yn cefnogi gwaharddiad. Mae llawer o ysgolion yn cyfyngu ar ffonau symudol, ac fe wnaethom ddarganfod ei fod yn gweithio'n well pan fydd ffonau symudol yn cael eu rhoi i gadw am y diwrnod cyfan, yn hytrach na'u rhoi i'r naill ochr yn unig, oherwydd cânt eu temtio i edrych arnynt dros amser cinio, ac maent yn tynnu eu sylw.

Soniodd Laura Anne fod gan rai ysgolion gabinetau lle cânt eu cymryd oddi wrthynt a'u rhoi mewn cypyrddau. Mae gan rai ysgolion gypyrddau a chydau eisoes, ond roedd problem gyda'u cost. Felly, mae hynny'n rhywbeth i'w ystyried wrth symud ymlaen.

Dywedodd Cefin fod yn rhaid inni ystyried y cydbwysedd rhwng peidio â niweidio a pharatoi ar gyfer y byd technegol, ac mae angen inni gael mwy o raglenni addysgol ynghylch y defnydd diogel o ffonau symudol, ac ymgysylltu â rhieni, fel eu bod hwythau'n deall hefyd. Ac mae angen gwneud mwy y tu allan i ysgolion. Ni allwn ddibynnu ar eu gwahardd mewn ysgolion yn unig; mae angen inni weithio gyda'n gilydd.

Siaradodd John a Rhys am y natur gaethiwus. Rwy'n credu y gallwn i gyd uniaethu â hynny. A chawsom dystiolaeth am yr effaith ar ddatblygiad ymenyddol pobl ifanc. Felly, plant ifanc sy'n treulio amser o flaen sgrin, gwelsom dystiolaeth am yr effaith y mae'n ei chael arnynt, ar blant ifanc, felly mae angen inni ystyried hynny'n ofalus.

Soniodd John hefyd efallai fod plant o gymunedau difreintiedig na allant fynd i glybiau ar ôl ysgol yn treulio mwy o amser ar eu ffonau. Efallai fod honno'n ystyriaeth; ni wnaethom edrych ar hynny.

Rhys—rydych chi'n aelod o'r pwyllgor—do, fe wnaethom dybio mai gwaharddiad fyddai'r ffordd iawn ymlaen, oni wnaethom? Fe feddyliom, 'Ie, dyna fyddai'r ateb. Byddai pawb yn cefnogi gwaharddiad.' Roedd yn ddoniol, oherwydd roedd y penaethiaid yn hoffi cael eu dewisiadau unigol eu hunain, ond byddai'r athrawon wedi hoffi gwaharddiad. Roedd yn ddiddorol iawn gwrando ar yr holl wahanol grwpiau, ond roedd y casgliadau'n amrywio, fel y clywsom heddiw.

Nododd Gareth bwysigrwydd fframwaith cenedlaethol ar gyfer canllawiau cymorth gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn croesawu hynny'n fawr.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r holl ymgysylltu a wnewch, mae'r uwchgynhadledd ar ymddygiad yn yr haf yn dda iawn—mae ynghlwm wrth hyn—a'r grŵp sy'n edrych ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, bydd y dystiolaeth a gesglir ganddynt, ac edrych ar y canllawiau hynny, yn bwysig iawn wrth symud ymlaen.

Ac rwyf eisiau gorffen trwy ddweud ei bod yn wirioneddol—. Rhaid imi ddiolch i Zena Blackwell a'r ymgyrchwyr am gyflwyno'r ddeiseb, pawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad trwy'r digwyddiad rhanddeiliaid a'r grwpiau ffocws a gynhaliwyd gan ein tîm ymgysylltu â dinasyddion yn yr ysgolion. Roedd yn ymchwiliad diddorol a chyfoes iawn, fel y ddadl heddiw. Mae'r rhain yn faterion pwysig ac anodd iawn i'w datrys. Rydym yn siarad am ddiogelwch a lles plant. Rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb am ddod o hyd i atebion, ac mae angen inni barhau i siarad amdano a beth yw'r dull gorau o weithredu, a sut y gallwn gefnogi ysgolion, rhieni a phobl ifanc i reoli'r defnydd o ffonau clyfar. Maent yn dweud ei bod yn cymryd pentref i fagu plentyn, ac o ran diogelwch ar-lein, mae angen inni ddod o hyd i ffordd i'r gymuned weithio gyda'n gilydd ar hyn. Mae'r adroddiad hwn ac ymateb y Llywodraeth yn gam cadarnhaol ar y daith honno. Diolch am yr amser, Ddirprwy Lywydd.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trethiant

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM8898 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu:

a) mai Cymru sydd â'r cyflogau isaf ym Mhrydain Fawr;

b) bod nifer y busnesau sy'n marw yn parhau i fod yn fwy na nifer y busnesau sy'n cael eu geni; ac

c) pe bai'r dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar yr un gyfradd ag y mae yn Lloegr ers 2010, y byddai'r aelwyd Band D cyfartalog yng Nghymru ar ei ennill o £350 y flwyddyn.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau arbedion effeithlonrwydd, y tu allan i gyllidebau iechyd, ysgolion a ffermio, i gyflawni toriad o 1 geiniog yn y gyfradd sylfaenol o dreth incwm;

b) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden;

c) dileu cyfraddau busnes ar gyfer busnesau bach; a

d) sicrhau refferenda lleol ar gyfer cynghorau sy'n cynnig cynnydd o dros 5 y cant i'r dreth gyngor mewn un flwyddyn ariannol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu cyflwyno'r cynnig heddiw yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies. A pham ein bod wedi cyflwyno'r ddadl hon yma heddiw? Y mater sylfaenol sy'n codi yw bod y darlun economaidd yng Nghymru yn ofnadwy. Pecynnau cyflog yma yw'r isaf ym Mhrydain, a'r cyfraddau diweithdra yw'r uchaf yn y wlad, a daw hyn ar adeg pan fo busnesau'n dioddef yr ardrethi busnes uchaf, yn uwch na'r Alban neu Loegr, ac mae mwy o fusnesau, yn anffodus, yn cau yng Nghymru nag sy'n cael eu creu. Gyda'i gilydd, mae'n ddarlun o reolaeth economaidd wael a gwastraff. Nid yw'n syndod, wrth gwrs, ar ôl 26 mlynedd o Lafur Cymru yn Llywodraeth ym Mae Caerdydd. Nawr, ychwanegwch Lywodraeth Lafur Prydain yn Llundain a osododd gyllideb frys sydd wedi bod yn wirioneddol drychinebus—gwelodd cyllideb Starmer-Reeves y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol annibynnol yn haneru rhagolygon twf ar gyfer eleni ac yn cadarnhau y bydd chwyddiant a diweithdra'n codi, ond hefyd fod Llywodraeth Prydain yn mynd i fenthyca mwy a mwy—ychwanegwch dreth Llafur ar swyddi, ac nid yw'n syndod nad oes fawr ddim i lawenhau yn ei gylch. Mae'n amlwg fod pobl Cymru yn talu'r pris am Lafur.

Rwy'n gwybod, ac mae'r Ceidwadwyr yn gwybod bod pobl Cymru yn arloesol, yn llawn potensial, ond maent yn cael eu rhwystro gan Lafur ar y ddau ben i'r M4. Maent angen Llywodraeth yng Nghaerdydd a San Steffan sy'n gwybod sut i greu'r amgylchedd cywir ar gyfer twf economaidd, gan godi pobl allan o dlodi a diffyg cynnydd. Nawr, mae'r flwyddyn nesaf yn cynnig cyfle euraidd i drwsio Cymru, i roi cic allan i Lafur a'u cynghreiriaid ym Mhlaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr, ac i ethol Llywodraeth Geidwadol Gymreig gydag ymagwedd synnwyr cyffredin tuag at annog ffyniant.

Tra bo Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwastraffu cannoedd o filiynau ar brosiectau porthi balchder, yn amrywio o'r terfyn cyflymder diofyn 20 mya i ddiwygiadau chwyddedig y Senedd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am wario arian cyhoeddus yn effeithiol ar y meysydd lle mae gwir angen yr arian hwnnw. Pan fo gan GIG Cymru y rhestrau aros uchaf yn y DU, a phumed ran o blant ysgol Cymru yn gadael yr ysgol gynradd yn methu darllen, mae'n foesol anghywir i gannoedd o filiynau gael eu gwario ar brosiectau porthi balchder Llafur.

Ceir cymaint o enghreifftiau o wariant gwastraffus Llywodraeth Cymru, boed yn filiynau sy'n cael eu gwastraffu ar swyddfeydd tramor o Delhi Newydd i Efrog Newydd, neu holl adeiladau Llywodraeth Cymru sydd bron yn wag ledled y wlad, gyda gweithwyr yn eistedd gartref. Bydd Llywodraeth Geidwadol Cymru yn blaenoriaethu cael gwared ar wastraff ac aneffeithlonrwydd, ac yn darparu gwell gwerth am arian.

Ond nid yn unig hynny; byddwn yn defnyddio pwerau treth datganoledig i roi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl. Mae gan y Ceidwadwyr ffydd yng ngallu pobl i reoli eu harian eu hunain, yn wahanol i Lafur Cymru. Byddwn yn torri ceiniog oddi ar y gyfradd sylfaenol o dreth incwm, gyda 1.7 miliwn o bobl yn cael toriad yn y dreth, sy'n golygu y bydd y teulu cyfartalog sy'n gweithio £450 y flwyddyn yn well eu byd. Rydym yn credu bod pobl ledled Cymru yn gwybod sut i wario eu harian yn well nag y mae Llywodraeth yn ei wneud.

Rydym yn gwybod bod digon o aneffeithlonrwydd a gwastraff yn Llywodraeth Cymru y gellir ei dorri i ariannu'r toriad treth hwn. Rydym hefyd yn cynnig mesurau synnwyr cyffredin eraill a fydd yn hybu twf economaidd ac yn creu swyddi ar draws economi Cymru, i ymdrin â'r materion a nodais ar y cychwyn, gan greu ffyniant a hybu twf ledled y wlad. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden, a dileu ardrethi busnes i fusnesau bach. Gadewch inni gefnogi ein busnesau, yn hytrach na thactegau arferol Llafur o'u trethu i ebargofiant. Mae sector preifat bywiog yn creu swyddi, twf a ffyniant ac yn cefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus y mae cymaint o'u hangen arnom.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae bwgan codiadau treth gyngor yn hongian dros Gymru bob blwyddyn. Credwn fod pobl mewn awdurdodau lleol ledled y wlad yn teimlo eu bod wedi'u gadael allan o'r broses hon a chredwn y dylai pobl gael dweud eu dweud trwy refferenda lleol, gydag unrhyw gyngor sy'n cynnig codiad dros 5 y cant mewn un flwyddyn ariannol i roi refferendwm ar waith fel y gall pobl leol ddweud eu dweud yn lleol ar eu trethiant. Mae hyn yn dyfnhau'r broses ddemocrataidd, ac rwy'n gobeithio y bydd cyd-Aelodau ar draws y Siambr yn ei gefnogi, gan roi mwy o lais i fwy o bobl dros faint o arian trethdalwyr sy'n cael ei gymryd gan gynghorau. [Torri ar draws.] Popeth yn iawn.

16:55

Felly, os ydych chi'n mynd i dorri trethi a pheidio â chynyddu'r dreth gyngor, sut y byddech chi'n awgrymu ein bod ni'n ariannu gwasanaethau cyhoeddus, sydd eisoes wedi bod yn dirywio oherwydd cyni Llywodraeth Dorïaidd y DU?

Rydych chi'n hollol gywir nad yw Llywodraeth y DU yn cefnogi Cymru'n iawn, ac mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau, am ariannu gwasanaethau cyngor yma yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi amlinellu faint o wastraff y mae'r Llywodraeth hon yn ei wario bob blwyddyn, gan wario arian y mae angen ei wario ar wasanaethau hanfodol ledled Cymru. Ond yn y bôn, rydym yn credu'n wahanol yn yr ystyr ein bod yn credu y gall pobl wneud penderfyniadau cyfrifol drostynt eu hunain. Mae'n rhaid i drethiant ddigwydd oherwydd bod angen cymorth ar rai pobl, ond mae angen inni wneud hynny'n gyfrifol, ac mae angen dileu gwastraff o wariant cyhoeddus.

Felly, byddai'r pecynnau hyn o gynigion—gostyngiad i'r dreth incwm, cefnogi ein busnesau drwy ostyngiadau i ardrethi busnes, cefnogi ein cymunedau drwy benderfyniadau democrataidd cyfrifol trwy refferendwm lleol ar godiadau treth gyngor pan fyddant yn mynd dros y trothwy o 5 y cant—byddai'r rhain yn ddechrau ar newid economaidd yng Nghymru: cynigion pragmatig sy'n rhoi diwedd ar 26 mlynedd o ddiffyg cynnydd drwy Lafur Cymru. Rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio dros gynnig y Ceidwadwyr Cymreig heno. Diolch yn fawr iawn.

17:00

Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) mae bil cyfartalog y dreth gyngor ar gyfer eiddo Band D yng Nghymru £110 yn is na’r bil yn Lloegr ac mae dros 256,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn derbyn cymorth gyda’u biliau drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

b) roedd y gyfradd geni ar gyfer busnesau yng Nghymru yn 2023 yn uwch na’r gyfradd yn Ne-ddwyrain a De-orllewin Lloegr, ac yn uwch na’r gyfradd yng Ngogledd Iwerddon; ac

c) mae’r cynnydd yn enillion wythnosol cyfartalog oedolion yng Nghymru sy’n gweithio’n amser llawn lawer yn fwy na’r cynnydd yn y DU yn gyffredinol dros y 10 mlynedd diwethaf.

2. Yn cydnabod:

a) mae talwyr ardrethi o fewn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden wedi derbyn dros £1 biliwn mewn cymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi busnes dros y chwe blynedd diwethaf ac nid yw bron i hanner yr holl dalwyr ardrethi yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl;

b) rhagwelir y bydd cyfraddau’r dreth incwm yng Nghymru yn cyfrannu dros £3 biliwn at gyllideb Cymru eleni; ac

c) mae awdurdodau lleol yn atebol i bobl Cymru wrth iddynt osod cyllidebau a’r dreth gyngor, a hynny ar sail anghenion gwasanaethau lleol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod treth fel cyfran o gynnyrch domestig gros y DU wedi cyrraedd ei lefel uchaf mewn dros 70 mlynedd dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU;

b) effaith ragamcanol cynnydd Llywodraeth bresennol y DU i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar dwf cyflog cyfartalog; ac

c) baich parhaus Brexit ar fasnach a buddsoddiad Cymru, a'r gost i fusnesau a threthdalwyr Cymru o orfod cydymffurfio â biwrocratiaeth ychwanegol y tu allan i Farchnad Sengl yr UE.

2. Yn gresynu:

a) bod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri eu haddewid beidio â chodi trethi ar bobl sy'n gweithio; a

b) at benderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i Farnetteiddio ad-daliadau craidd y sector cyhoeddus gan y Trysorlys i gyfraniadau yswiriant gwladol, sydd wedi gadael Cymru yn wynebu diffyg o £65 miliwn.

3. Yn credu:

a) bod cyfyngiadau presennol pwerau trethi amrywiol Llywodraeth Cymru yn rhwystr i lunio polisïau effeithiol yng Nghymru; a

b) y dylai'r Senedd feddu ar y cymhwysedd datganoledig i osod ei bandiau treth incwm ei hun, yn unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban dan Ddeddf yr Alban 2012.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio am bwerau sydd ar hyn o bryd wedi'u cadw i San Steffan er mwyn galluogi'r Senedd i osod pob cyfradd a band ar gyfer Treth Incwm Cymru;

b) sefydlu lluosydd ardrethi busnes ffafriol ar gyfer busnesau bach a chanolig; ac

c) ailgysylltu â'r rhaglen diwygio treth cyngor.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Y neges sy’n dod drosodd yn glir heddiw o gynnig y Torïaid a'r araith rydyn ni newydd ei chlywed ydy nad ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â bod mewn Llywodraeth. Sut arall y gellid esbonio galwad i dorri bron i £300 miliwn o gyllideb Cymru, heb egluro o ble yn union y daw'r arian?

O ran y dreth gyngor, mae eu galwad yn dangos diffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut mae cyllidebu llywodraeth leol, ac nid yw ychwaith yn cydnabod y costau ychwanegol, ynghyd â'r gwaith, ynghlwm â chynnal refferendwm o’r fath. Ac er gwaethaf eu honiadau o fod yn blaid trethi isel a busnes, o dan y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol, cododd trethi fel cyfran o GDP y Deyrnas Unedig i'w lefel uchaf mewn dros 70 mlynedd, tra bod eu Brexit caled trychinebus yn parhau i greu niwed i drethdalwyr a busnesau fel ei gilydd. Ond yn anffodus, er ein bod wedi ffarwelio â’r Torïaid o 10 Stryd Downing, mae unrhyw obaith am newid gyda dyfodiad Llywodraeth Lafur hefyd wedi'i chwalu.

Mae'r addewidion o beidio â chodi trethi ychwanegol ar bobl sy'n gweithio a dim mwy o gyni wedi cael eu dymchwel yn llwyr gan yr hyn a wnaethant ar yswiriant gwladol, gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn datgan y bydd yn arwain at ddiffyg cynnydd real i gyflogau, a chan ddiddymu lwfans tanwydd y gaeaf, y mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fel y gwyddom, wedi amcangyfrif y bydd yn achosi 4,000 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru. Yn ogystal, mae'r toriadau i'r gyllideb les, a fydd yn gwthio miloedd o ddinasyddion Cymru i fyw mewn tlodi.

Fe wnaethom godi'r anghysondebau sylfaenol hyn yng nghynlluniau gwariant Llafur dro ar ôl tro yn yr wythnosau cyn yr etholiad cyffredinol, a nawr mae'r rhybuddion hynny'n cael eu gwireddu. Yr hyn sy'n amlwg yw ei bod yn hen bryd cael sgwrs onest am gyllid cyhoeddus a'n hymagwedd tuag at drethiant. Gwyddom fod angen buddsoddiad sylweddol yn ein gwasanaethau cyhoeddus ar frys i unioni niwed trychinebus degawd a hanner o gyni San Steffan. Bydd rhan o'r ateb, wrth gwrs, yn golygu cael model ariannu tecach i Gymru yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio—rhywbeth y mae'r ddwy blaid yn San Steffan wedi methu ei gyflawni hyd yma. Ond hefyd, mae angen amlwg i wireddu potensial datganoli yn y maes trethiant.

A ydym yn credu y dylai'r Llywodraeth anelu at ostwng trethi lle bo hynny'n bosibl? Wel, wrth gwrs ein bod, ond mae angen ei wneud yn deg, yn gymesur, a heb wneud toriadau dwfn i wasanaethau cyhoeddus, a dyna'n union y byddai'r cynnig Torïaidd yn ei wneud. A'r gwir amdani yw bod ysgogiadau cyllidol datganoledig Cymru, wedi'u cyfyngu fel y maent gan y bandiau treth incwm un maint i bawb a osodwyd gan San Steffan, yn ddim mwy nag addurniadol ar hyn o bryd i bob pwrpas. Dyma pam ein bod wedi galw ers tro ar y Senedd i allu gosod bandiau treth incwm penodol i Gymru, fel y gallwn ddefnyddio'r ysgogiadau hyn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ac i feithrin ailddosbarthu.

Edrychwch ar yr hyn y mae'r Alban wedi gallu ei gyflawni gyda'r mathau hyn o bwerau at eu defnydd. Mae dros hanner trethdalwyr yr Alban yn talu llai o dreth incwm na'u cymheiriaid yng Nghymru ac yn Lloegr. A phe bai'r Torïaid o ddifrif ynglŷn â gostwng trethi i bobl sy'n gweithio, byddent yn cefnogi ein safbwynt, ond ar bob cyfle, maent wedi gwrthwynebu galwadau o'r fath. Ceir cyfleoedd hefyd yn sgil y pwerau newydd sydd gan y Senedd bellach mewn perthynas â'r lluosydd ardrethi annomestig, y byddai Plaid Cymru yn ei ddefnyddio i dorri ardrethi busnes ar gyfer mentrau bach a chanolig Cymru.

Felly, gadewch inni droi at y dreth gyngor, lle na ellir datrys y broblem drwy refferenda anymarferol a diangen o gostus, ond yn hytrach trwy fynd i'r afael â'r system sylfaenol anflaengar ei hun, system sydd wedi dyddio. Arweiniodd Plaid Cymru waith ar sefydlu model tecach ar gyfer y dreth gyngor, a allai fod wedi lleihau biliau'r dreth gyngor i filoedd o aelwydydd incwm isel. Ond er gwaethaf addewidion i'r gwrthwyneb, fe wnaeth y Llywodraeth Lafur hon wthio ei weithrediad y tu hwnt i dymor y Senedd hon. Ac am y Torïaid? Dim argoel ohonynt, fel bob amser.   

Yn olaf, ar adeg pan fo'r pwrs cyhoeddus dan gymaint o straen, mae angen ymdrech o'r newydd ar ran Llywodraethau Cymru a'r DU i nodi arbedion effeithlonrwydd cynaliadwy. Lle da i ddechrau fyddai cael gwared ar brosiect porthi balchder y Torïaid, y Brexit caled. Mae o leiaf £87 miliwn o gyllideb Cymru yn cael ei lyncu ar hyn o bryd gan yr angen i sefydlu safleoedd rheolaethau'r ffin newydd a threfniadau rheoleiddio cymhleth, tra bod effaith ehangach biwrocratiaeth ychwanegol a rhwystrau i'n partneriaid masnachu mwyaf wedi creu tua £4 biliwn o niwed i economi Cymru. Mae angen inni weld symud llawer mwy pwrpasol ar ran Llywodraeth Cymru tuag at agenda ataliol ym maes gofal iechyd hefyd.

Dyma'r math o gamau gweithredu fyddai'n mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at ailgydbwyso ein harian cyhoeddus sydd dan warchae. Felly, os ydy'r Torïaid o ddifrif ynglŷn â chynnig atebion credadwy i'r problemau sydd i raddau helaeth wedi cael eu creu gan eu plaid eu hunain, dylent gefnogi ein gwelliant ni heddiw.

17:05

Mae Llywodraeth Lafur Cymru allan o gysylltiad, yn brin o syniadau a heb esgusodion. Pecynnau cyflog Cymru yw'r isaf ym Mhrydain. Mae'r cyflog llawn amser cyfartalog yng Nghymru bellach dros £3,000 y flwyddyn yn llai na chyfartaledd y DU. Ers blynyddoedd rydym wedi clywed addewidion gwag gan Weinidogion am economi gryfach, decach, wyrddach, ond ble mae hi? Caeodd cannoedd o fusnesau, ynghyd â 19 o dafarndai, yng Nghymru y llynedd, a olygodd ein bod wedi colli rhannau pwysig o'n trefi a'n pentrefi, ond pam? Oherwydd bod y polisïau Llafur hyn yn elyniaethus i fusnesau. Mae lleihau rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant, ochr yn ochr â chynnydd i yswiriant gwladol, wedi rhoi ergyd enfawr i fusnesau bach sydd eisoes yn cael trafferth dal eu pennau uwchben y dŵr.

O dan Lafur, mae trethi cyngor wedi codi allan o reolaeth. Eleni, gwelodd teuluoedd ledled Cymru gynnydd o 8 y cant, 9 y cant neu hyd yn oed dros 10 y cant mewn rhai ardaloedd, ymhell uwchlaw chwyddiant, ac eto mae gwasanaethau'n waeth, nid yn well. Pe bai'r dreth gyngor wedi tyfu ar yr un gyfradd ag yn Lloegr ers 2010, gallai cartref band D cyfartalog yng Nghymru fod £350 y flwyddyn yn well ei fyd. Nid newid bach yw hyn i'r rhan fwyaf o deuluoedd gweithgar ledled Cymru. Ond beth sydd ganddynt i'w ddangos am y codiadau poenus hyn? Biniau na chânt eu casglu, ffyrdd yn chwalu, tyllau heb eu llenwi a gwasanaethau lleol wedi'u torri i'r byw. Digon yw digon. 

Mae'r cynnig hwn yn galw am weithredu, newid go iawn sy'n rhoi pŵer ac arian yn ôl yn nwylo pobl, a dyna beth y gallwch ei ddisgwyl o dan y Ceidwadwyr Cymreig. Rydym yn galw am arbedion effeithlonrwydd ar draws cyllidebau nad ydynt yn hanfodol, ac eithrio iechyd, addysg a ffermio, i gyflawni'r toriad o 1g yng nghyfradd sylfaenol y dreth incwm ac i adael i bobl gadw mwy o'u harian prin; adfer y rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden i helpu busnesau, ond yn enwedig y caffis teuluol, y tafarndai lleol a'r siop gornel sy'n ffurfio asgwrn cefn ein cymunedau; dileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, annibynnol, ardrethi sy'n gorfodi busnesau bach i dalu'r un strwythurau ardrethi poenus â chadwyni byd-eang; ac efallai yn bwysicaf oll, refferenda lleol ar gyfer codiadau treth gyngor dros 5 y cant, fel yn Lloegr. Gadewch imi fod yn hollol glir—

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Faint y dylem ei gyllidebu ar gyfer y refferenda hynny? A ydych chi wedi costio faint y byddai'n ei gostio i gynnal y rheini—bob blwyddyn, rwy'n tybio?

Y gobaith yw y byddai'n gweithredu fel mesur ataliol ac yn atal cynghorau rhag mynd dros y 5 y cant. Nid wyf yn credu y gallwch chi wneud ail ymyriad. Rydym eisiau annog cynghorau i beidio â mynd dros 5 y cant, onid ydym, oni bai eich bod chi'n gefnogol iddynt fod dros 5 y cant.

Nid yw hyn yn ymwneud â chyni. Yn wahanol i Lafur, byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau gostyngiad treth o £450 y flwyddyn i bobl sy'n gweithio. Mae hyn i gyd yn ymwneud â blaenoriaethau. Mae'n ymddangos bod Llafur yn dod o hyd i botiau diddiwedd o arian ar gyfer prosiectau porthi balchder fel ehangu'r Senedd sy'n costio £18 miliwn, hoff brosiectau a chynlluniau a gaiff eu hoedi'n ddiddiwedd fel ffordd Blaenau'r Cymoedd gwerth £1.4 biliwn. Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn eistedd ar filiynau o bunnoedd mewn cronfeydd wrth gefn a phrif swyddogion cynghorau'n mwynhau cyflogau hurt o uchel sy'n cael eu hariannu gan arian trethdalwyr. Mae cyflog prif weithredwr Caerdydd, fel y dywedais yn gynharach, yn uwch na chyflog Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU.

Mae angen Llywodraeth sy'n gofalu am arian trethdalwyr, sy'n gwrando ar leisiau lleol, ac sy'n deall nad yw twf, ffyniant a thegwch yn dechrau gyda biwrocratiaeth a threthi uwch, ond gyda rhyddid—y rhyddid i adeiladu, y rhyddid i ennill, y rhyddid i fuddsoddi a'r rhyddid i ffynnu. Mae'r Llywodraeth dan arweiniad Llafur yn gwneud cam â Chymru. Mae'n bryd newid, ac rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.

Ychydig fisoedd yn ôl, buom yn trafod y gyllideb, lle roedd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn gallu nodi gwariant ychwanegol heb fawr ddim arbedion. Nawr cawn eu barn ar drethiant—efallai y byddai wedi bod yn fwy defnyddiol pe baem wedi ei chael bryd hynny. Gellid crynhoi barn y Ceidwadwyr trwy ddweud nad ydynt yn hoffi trethiant. Ond trethiant yw'r pris a dalwn am fod yn rhan o gymdeithas wâr. Ni allwn gael gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd Sgandinafaidd a lefelau trethi Americanaidd. Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae gormod o bobl yn credu y gallwn gael gwasanaethau cyhoeddus o'r un ansawdd â Sgandinafia, ond yr un lefelau trethiant ag America. Pan edrychwch ar gost addysg breifat ac iechyd preifat, mae'n rhoi'r gwerth am arian a gawn o'n system drethiant mewn persbectif. Nid ar hap neu drwy lwc y mae gan y gwledydd sydd â'r lefelau treth uchaf y gwasanaethau cyhoeddus gorau, ac mai'r gwledydd sydd â'r lefelau treth isaf yw'r rhai tlotaf. Mae trethiant yn angenrheidiol i godi'r arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen arnom i gyd.

Mae'r awgrym o arbedion effeithlonrwydd yn un rwy'n ei gefnogi'n gryf, ond pam eithrio cyllidebau iechyd, ysgolion a ffermio? Mae angen arbedion effeithlonrwydd a gwell cynhyrchiant ar draws economi Cymru. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i ddweud y gallwch gael arbedion effeithlonrwydd mewn gofal cymdeithasol, ond nid mewn iechyd. Mae cynhyrchiant yn broblem enfawr. Rydym 20 y cant yn llai cynhyrchiol na Ffrainc a'r Almaen. Gallem weithio pedwar diwrnod yr wythnos a gwneud yr un peth ag y maent yn ei wneud yn Ffrainc a'r Almaen. Rhaid bod hynny'n anghywir. Mae gan iechyd gyfle gyda deallusrwydd artiffisial i wella cynhyrchiant a chynhyrchu arbedion effeithlonrwydd sylweddol. Gallwn hefyd gael defnydd gwell a mwy effeithlon o offer, gan gadw theatrau llawdriniaeth dynodedig ar gael ar gyfer llawdriniaethau rheolaidd ond angenrheidiol, fel cataractau a llawdriniaethau orthopedig, i wella cynhyrchiant llawfeddygon a'r canlyniadau i gleifion. Mae arbedion effeithlonrwydd ar gael mewn addysg, gweinyddiaeth ac mewn cydffederasiwn o ysgolion bach yn yr un ardal o dan un pennaeth. Pam na all y ffermwyr ddod yn fwy effeithlon? Pam y mae cig oen Seland Newydd, sydd heb ei sybsideiddio, a chig eidion Awstralia, heb fawr o sybsideiddio, yn rhatach yn siopau Cymru na chig oen a chig eidion Cymreig sy'n cael ei sybsideiddio'n drwm, er ei fod wedi teithio ar draws y byd? Pam y dylai ffermio gael ei esgusodi rhag yr angen i fod yn fwy effeithlon?

Ar y dreth gyngor, mae'r bil treth gyngor band D cyfartalog yng Nghymru £110 yn is eleni nag yn Lloegr, ac mae mwy na 256,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn cael cymorth gyda'u bil drwy gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Hefyd, mewn rhai ardaloedd cyngor, mae'r rhan fwyaf o dalwyr y dreth gyngor ym mandiau A, B ac C. Ar y dreth gyngor, rwy'n dweud eto yr hyn a ddywedais sawl gwaith o'r blaen: mae angen newid. Mae'r lluosydd yn hollol anghywir pan fydd gennych rywun mewn eiddo band A yn talu dwy ran o dair o'r hyn y mae rhywun yn ei dalu mewn eiddo band D, a rhywun mewn eiddo band D yn talu dros hanner yr hyn y mae rhywun yn ei dalu mewn eiddo band H, sy'n werth o leiaf dair gwaith, a phedair gwaith yn ôl pob tebyg, y gwerth. Nid yw bandiau'r dreth gyngor yn gweithio yn fy marn i. Mae'n annheg ac nid yw'n gymesur â gwerth yr eiddo. Mae angen i bob cyngor gael treth gyngor sy'n ganran sefydlog o werth yr eiddo—rwyf wedi dweud hynny'n barhaus. Efallai y bydd ychydig yn anghywir pan fyddwch chi'n cael y gwerthoedd, ond bydd y rhan fwyaf ohonynt fwy neu lai yn gywir.

I Blaid Cymru, nid yw Llywodraeth y DU wedi torri ei haddewid i beidio â chynyddu trethi i bobl sy'n gweithio. Mae yswiriant gwladol cyflogwyr yn dreth ar gyflogwyr, nid ar weithwyr. Dylai wneud cyflogwyr yn fwy brwd i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, sy'n broblem enfawr, ac rwy'n credu bod hynny'n un peth y mae pawb ohonom wedi cytuno yn ei gylch y prynhawn yma: mae angen inni wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Mae Plaid Cymru bob amser yn awyddus i wario mwy o arian, ond nid ei godi. Maent wedi gwrthwynebu'n gryf yr ymgais leiaf i gynyddu'r dreth ar gyfoeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU.

A gaf i egluro eto, er bod diffygion yn fformiwla Barnett, ein bod ni yng Nghymru yn cael llawer mwy na'n cyfran o'r boblogaeth a'n cyfran o drethi a gasglwyd? Mae Plaid Cymru yn awgrymu cynyddu ardrethi ar fanwerthwyr mawr a defnyddio'r arian hwnnw ar gyfer manwerthwyr llai. Rydym eisoes wedi colli llawer o fanwerthwyr mawr fel Debenhams. Dylai awydd Plaid Cymru i ddefnyddio'r system ardrethi i gynyddu ardrethi busnes i'r ychydig fanwerthwyr mawr sydd gennym ar ôl, fel Marks a Spencer, fod yn achos pryder i'r rhan fwyaf ohonom. A yw'n dal i fod yn bolisi gan Blaid Cymru i Gymru annibynnol beidio ag ariannu pensiwn y wladwriaeth na chyfran Cymru o'r ddyled genedlaethol?

Fe wyddom fod talwyr ardrethi yn y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden wedi cael mwy na £1 biliwn mewn cymorth ardrethi busnes ychwanegol dros y chwe blynedd diwethaf, ac nid yw bron i hanner yr holl dalwyr ardrethi yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl. Gwyddom hefyd mai rhent yn hytrach nag ardrethi yw'r hyn sydd ddrutaf i lawer o fanwerthwyr. Rwyf wedi cael profiad personol o fusnes ym maes lletygarwch y mae ei gostau'n cynyddu bob blwyddyn. Roeddent yn talu rhent ac ardrethi busnes cyfunol. Dywedodd y landlord nad oedd y cynnydd yn unrhyw beth i'w wneud â hwy, ond yn deillio o'r ardrethi cynyddol. Pan edrychais i mewn i'r mater, roedd y busnes yn fach ac ar gyfradd sero.

Yn olaf, os ydych chi eisiau gwasanaethau cyhoeddus o safon, rhaid i chi dalu amdanynt trwy drethi. Nid yw gofyn am fwy o wariant a llai o dreth yn creu polisi economaidd cydlynol.

17:15

'Yr economi, twpsyn.' Mae economi gref yn bwysig oherwydd ei bod yn sail i bron bob agwedd ar gymdeithas iach, weithredol. O swyddi ac incwm i wasanaethau cyhoeddus a ariennir, o gyfleoedd i'r genhedlaeth nesaf i safonau byw, mae'r cyfan yn dibynnu ar yr economi, twpsyn.

Fodd bynnag, mae Cymru ar drobwynt economaidd allweddol. Bydd y penderfyniadau a wnawn nawr ar bolisi treth a busnes yn penderfynu a allwn dyfu ein heconomi neu barhau i syrthio ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. A'r eiliad hon, mae'r rhybuddion yma yng Nghymru dan arweiniad Llafur yn amlwg i'w gweld. Cyflogau Cymru yw'r isaf ym Mhrydain. Ei lefelau diweithdra yw'r rhai uchaf yn y DU. Ac mae ein cymuned fusnes yn cael ei tharo, nid gan siociau byd-eang, ond gan ddewisiadau gwleidyddol a wneir ym Mae Caerdydd.

Un o'r rhai mwyaf niweidiol oedd penderfyniad Llafur i dorri rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i ddim ond 40 y cant ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden. Nid newid polisi yn unig oedd hwn, roedd yn neges y byddai llwyddo i gadw pen uwchben y dŵr mewn amseroedd anodd yn cael ei gosbi, nid ei gefnogi. Mae nifer y busnesau newydd i lawr, mae nifer y busnesau sy'n cau i fyny. Mae bywoliaeth miloedd o bobl yn y fantol, ac ni chafwyd dim byd ond tawelwch gan Lywodraeth Cymru.

Ac nid yw arweinyddiaeth Llafur yn y DU yn well. Maent wedi cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar yr un pryd â gostwng y trothwy i fusnesau ddechrau talu. Nid treth yn unig yw hynny, mae'n dreth ar swyddi, ar dwf ac ar uchelgais. Heddiw gwelsom Burberry yn cyhoeddi bod 1,700 o swyddi'n mynd i gael eu colli. Ychydig wythnosau'n ôl yn unig, cynhaliodd Beales, siop adrannol hynaf Prydain, eu 'sêl gau'r siop Rachel Reeves', gan gau eu drysau ar ôl 200 mlynedd o fasnachu. Ac yma yng Nghymru, lle mae cyflogaeth eisoes ar y lefel isaf ers 10 mlynedd, bydd yr effaith hyd yn oed yn waeth. Oherwydd os ychwanegwch at hyn y ffaith bod gan Gymru yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, mae'n amlwg: mae Llafur wedi creu storm berffaith o gostau uwch, llai o gymorth a dim cynllun ar gyfer twf.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig llwybr gwahanol. Byddwn yn adfer y rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden, i roi'r gofod anadlu sydd ei angen ar y sectorau hanfodol hyn. Byddwn yn diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau bach, gan eu helpu i fuddsoddi, ehangu a chyflogi. A byddwn yn torri 1g oddi ar gyfradd sylfaenol treth incwm.

Nid wyf yn ymddiheuro am fod yn Geidwadwr sy'n cefnogi trethi isel. Oherwydd mae rhoi mwy o arian ym mhocedi 1.7 miliwn o bobl Cymru gan ddiogelu'r cyllid i iechyd, addysg ac amaethyddiaeth, am ein bod yn credu bod arian yn cael ei wario'n well gan y rhai sy'n ei ennill nag y gall unrhyw Lywodraeth benderfynu sut y caiff yr arian treth hwnnw ei wario—. Ac oherwydd yn wahanol i Lafur, nid ydym yn credu bod pob her yn galw am dreth newydd. Rydym yn credu mewn cefnogi busnesau, gwobrwyo ymdrech ac ymddiried yng ngallu pobl Cymru i reoli eu harian eu hunain. Mae'n bryd rhoi'r gorau i gosbi'r rhai sy'n creu swyddi, yn cynhyrchu buddsoddiad ac yn cymryd risgiau. Gadewch inni adeiladu system dreth sy'n gweithio gyda busnesau, nid yn eu herbyn. Dyna sut y gwnawn ni droi'r llanw. Dyna sut y gwnawn ni drwsio Cymru.

Unwaith eto gwelwn Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn dewis 'dileu popeth'. Nid ydych chi'n barod i wrando ar gynnig adeiladol arall gan yr wrthblaid swyddogol. Nid yw Llafur Cymru a Phlaid Cymru eisiau i drigolion gweithgar yng Nghymru gael unrhyw doriadau treth—toriadau treth y maent yn eu haeddu'n fawr. A hyn er mai pecynnau cyflog Cymru yw'r isaf ym Mhrydain, a bod biliau'r dreth gyngor yn codi 7.21 y cant ar gyfartaledd yng Nghymru, ond yn Aberconwy, maent wedi gweld codiadau o bron i 10 y cant yn y dreth gyngor am y tair blynedd diwethaf, biliau ynni'n codi 6.4 y cant gyda chodi'r cap, a biliau dŵr yng Nghymru yn codi 27 y cant. Mae trigolion Aberconwy, gogledd Cymru, y wlad gyfan yn haeddu ac angen cadw mwy o'u hincwm prin eu hunain.

Ond wrth gwrs, byddai Plaid Cymru yn gwneud y pwysau ar y pwrs cyhoeddus hyd yn oed yn waeth pe baent hwy wrth y llyw. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n ei ystyried yn anonest braidd pan fydd Aelodau Plaid Cymru yn siarad yma neu ar y cyfryngau cymdeithasol neu yn y papurau newydd gan gondemnio Llafur, a bob tymor Senedd, ac rydym ar fynd i mewn i'n seithfed tymor Senedd, rydych chi wedi cefnogi penderfyniadau gwael iawn trwy ochri gyda Llafur. Yna'n sydyn, tua dwy flynedd cyn yr etholiad, rydych chi'n dechrau pwyntio bys at benderfyniadau y gwnaethoch chi eu cefnogi mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Iawn, ewch amdani.

17:20

A ydych chi'n cefnogi ein galwadau ar Lywodraeth Cymru i geisio'r pwerau inni allu gosod yr ardrethi yma yng Nghymru? Oherwydd os oes gennych syniadau ar gyfer trethiant, oni ddylem allu eu gosod yma? Rydych chi o blaid mwy o bwerau i ni benderfynu yma—rydych chi'n barod i lywodraethu, ydych chi? 

Wel, i fod yn onest, fe ddywedaf wrthych —. Ond yn y pen draw, pan welwch y pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru, a sut rydych chi a Llafur Cymru wedi camddefnyddio'r pwerau hynny, o'm rhan i, na, nid wyf am i chi gael y pwerau hynny. Ni fyddwn yn ymddiried y pwerau hynny i ddwylo unrhyw un heblaw'r Ceidwadwyr Cymreig. 

Annibyniaeth. Felly, trwy'r amser—mewn gwirionedd, y tymor diwethaf a'r tymor cynt—ar wahân i bleidleisio dros, cefnogi a gweithio'n galed i weld 36 yn rhagor o Aelodau a chwarae gyda'r system bleidleisio, rydych chi wedi treulio eich amser â'ch llygaid oddi ar y bêl o ran gwneud pethau'n well i Gymru drwy fynd ar drywydd eich agenda annibyniaeth, ond nid yw pobl Cymru mo'i eisiau, er nad yw hynny'n eich atal.

Eisoes, mae gan Gymru'r ysgogiadau sydd eu hangen arni i greu cenedl fwy ffyniannus a llwyddiannus ac rwy'n falch fod gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, y polisïau i'w cyflawni. Gyda Darren fel ein harweinydd yng Nghymru, dyma'n union beth y mae pobl Cymru ei angen ac yn ei haeddu. Yn ogystal â rhoi mwy o arian ym mhocedi ein trigolion, byddwn yn creu mwy o swyddi, byddwn yn hybu twf economaidd, a byddwn yn cael gwared ar sawl miliwn o bunnoedd o wastraff enfawr a welais yn y 14 mlynedd y bûm yma.

Rhwng 2013 a 2023—10 mlynedd—cynyddodd nifer y busnesau a ddaeth i ben yng Nghymru o 8,245 i 11,300. Mae'n ddrwg gennyf, ond pe bawn i'n rhedeg gwlad ac yn y Llywodraeth, byddwn yn galw fy holl Weinidogion Cabinet i fod eisiau ymgysylltu â'r sector busnes, nid parhau i'w cosbi. Yn ystod yr un cyfnod, mae nifer y busnesau newydd wedi gostwng o 11,000 i 10,000. Mae mwy o fusnesau'n dod i ben erbyn hyn nag o fusnesau newydd ledled Cymru.

Argymhellion ein cynnig ni yw'r hyn y mae ein trethdalwyr ei eisiau, ac rydym yn gwrando arnynt. Mae'r un peth yn wir yn sir Conwy, lle crëwyd 350 o fusnesau tra bod 360 wedi cau. Pam felly? Mae entrepreneuriaid dan warchae gan Lywodraeth Lafur Cymru. Mae busnesau llety gwyliau dilys wedi eu llyffetheirio gan eich rheol llety gwyliau 182 diwrnod sydd gymaint allan ohoni.

Rydym wedi bod yn cydweithredu â'r sector lletygarwch, ac rwy'n dweud wrth unrhyw un sy'n gwylio hyn os ydych chi yn y busnes lletygarwch: byddem yn gostwng hynny i 105 diwrnod. Yn 2024, gwnaed 7.61 miliwn o deithiau dros nos i Gymru, cyfanswm o 22 miliwn noson. Mae hynny'n is na 2023, pan wnaed bron i 1 filiwn yn fwy o deithiau dros nos i Gymru, a threuliwyd dros 2 filiwn yn fwy o nosweithiau yma. Mae busnesau sy'n darparu llety i dwristiaid yn cael llai o gwsmeriaid, ond rydych chi'n gwneud eu hyfywedd busnes hyd yn oed yn anos.

A'r dreth dwristiaeth—dylech fod â chywilydd ohonoch chi'ch hunain. Yn ôl Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i leihau rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden o 75 y cant i 40 y cant ym mis Ebrill 2024 wedi rhoi busnesau Cymru dan lawer mwy o anfantais gystadleuol o'i gymharu â Lloegr.

Roedd ffermwyr yn wynebu—. O, rydych chi wedi gwneud cam â hwythau hefyd. Maent yn wynebu gorfod gwario hyd at £360 miliwn ar seilwaith fferm, er nad yw'r gwariant yn arwain at unrhyw dwf busnes iddynt, gyda'ch parthau perygl nitradau. Syfrdanol. Ergyd economaidd bosibl o hyd at £4.5 biliwn dros 30 mlynedd oherwydd 20 mya. Cywilydd arnoch. Gallwn barhau, ond mae'r patrwm eisoes yn glir. Mae Llafur Cymru wedi gwneud Cymru'n genedl wrth-ymwelwyr, gwrth-weithwyr, gwrth-fusnes, ond bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn troi'r trychineb hwnnw ar ei ben.

Dylai Cymru fod o blaid busnes, a byddwn yn cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach. Byddwn yn adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden. Byddwn yn dileu'r dreth dwristiaeth. Byddwn yn hybu nifer yr ymwelwyr â'r stryd fawr trwy ei gwneud hi'n haws trosi lloriau cyntaf ac ail loriau'n fflatiau. Byddwn yn defnyddio'r gyfraith gynllunio i ddenu mwy o entrepreneuriaid i ogledd-orllewin Cymru. Byddwn yn gwneud tyfu bwyd yng Nghymru yn genhadaeth genedlaethol—

17:25

Ac atal y modd cywilyddus y caiff swyddi Cymreig eu tramori. Fis Mai nesaf, fe gaiff pobl Cymru lais ac fe gânt bleidlais, ac rwy'n credu'n wirioneddol os pleidleisiant dros y Ceidwadwyr Cymreig, dyna pryd y cawn newid gwirioneddol yma yng Nghymru.

Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod newyddiadurwr wedi gofyn i Syr Winston Churchill, pan gafodd ei drechu yn etholiad cyffredinol 1945, pa neges y credai fod yr etholwyr wedi'i rhoi i'r Blaid Geidwadol, ac atebodd trwy ddweud ei fod yn credu bod yr etholwyr wedi dweud wrth y Blaid Geidwadol fod angen i amser hir iawn fynd heibio cyn iddynt glywed ganddynt eto. Roedd hwnnw'n gyngor da ym 1945, ac mae'n gyngor da iawn 80 mlynedd yn ddiweddarach. Os oes unrhyw bwnc lle'r oedd gan y cyhoedd yng Nghymru hawl i gyfnod o dawelwch gan y Blaid Geidwadol, ar yr economi oedd hynny. Oherwydd dyma'r blaid a roddodd gyni i bobl Cymru, dyma blaid Brexit, y blaid a gododd drethi i'w lefel uchaf ers 70 mlynedd. Rwy'n gwrando bob amser ar Sam Kurtz yn dweud wrthyf ei fod yn Geidwadwr treth isel. Ble roedd e yr holl flynyddoedd pan oedd ei blaid yn codi trethi flwyddyn ar ôl blwyddyn?

Un o'r rhesymau pam y bu'n rhaid codi'r trethi hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, yw oherwydd bod y Llywodraeth hon, o dan eich arweinyddiaeth chi, eisiau mwy o arian yn ystod y pandemig COVID, wrth i chi gau ysgolion am amser hirach, cau busnesau am amser hirach, ac roedd hi ond yn iawn fod y rhai a elwodd o becynnau ariannol yn ystod y pandemig COVID yn talu'r arian hwnnw'n ôl trwy drethiant.

Rhaid i chi fod yn ddyfeisgar iawn i awgrymu mai'r rheswm pam, ar lefel y DU, fod trethi ar eu huchaf ers 70 mlynedd oedd oherwydd gwariant COVID yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at y gwerslyfr sy'n dadansoddi'r honiad hwnnw.

Er eu bod wedi chwalu'r economi, dyma nhw'n dod gyda'u hen syniadau treuliedig a gwrthodedig unwaith eto. Oherwydd gadewch inni fod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae'r cynnig hwn yn ei ddweud mewn gwirionedd: mae'n dweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn torri treth incwm. Ni allant wneud hynny eleni wrth gwrs, gan eu bod wedi colli'r cyfle i wneud hynny, fel y dywedodd Mike Hedges. Gallent fod wedi cynnig hynny a phleidleisio drosto yn ystod y broses o lunio'r gyllideb. Mae hynny'n golygu mai'r cynharaf y gallai hyn ddigwydd fyddai yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud y byddai toriad o 1g yn y dreth incwm yng Nghymru yn costio £299 miliwn.

Dywedodd Heledd Fychan hynny, ond wrth gwrs, mae'n waeth na hynny, Lywydd, oherwydd mae'r Ceidwadwyr yn mynd i adfer rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant. Bydd hynny'n costio £52 miliwn, ac nid oes unrhyw swm canlyniadol Barnett ar gyfer hynny, cofiwch. Nid oes unrhyw arian yn dod o San Steffan i dalu am hynny, felly dyna £52 miliwn arall y mae'n rhaid i chi ei dynnu allan o gyllideb Cymru. Ac maent yn mynd i ddiddymu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes bach a chanolig. Dyna gost o £309 miliwn. Felly, y swm o arian y mae'r cynnig hwn yn ei wario yw £660 miliwn. Wedyn, wrth gwrs, mae'n mynd rhagddo i ddweud wrthym sut i ariannu hynny i gyd. Rhaid inni beidio â chyffwrdd â'r gyllideb iechyd, rhaid inni beidio â chyffwrdd â'r gyllideb ysgolion, rhaid inni beidio â chyffwrdd â'r ffermwyr. Felly, mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid torri'r arian, oherwydd dyna beth y mae'r cynilion hyn yn ei olygu, o'r hyn sydd ar ôl.

Fe glywsom yr esgus y gellir dod o hyd i'r holl arian hwnnw—£660 miliwn—o wastraff. Mae'n ymddangos i mi mai'r syniad hwnnw yw encilfa olaf unrhyw gnaf economaidd. A gwrandawais yn ofalus iawn, Lywydd, i geisio darganfod o ble y doi'r holl wastraff hwn. Wel, mae'n dod o gau ein swyddfeydd tramor. Credwch fi, os ydych chi'n chwilio am dwf economaidd, mae angen buddsoddiad yn yr economi, a dyna beth yw pwrpas ein swyddfeydd tramor. Maent yno i wneud yn siŵr fod rhannau eraill o'r byd yn gwybod am gyfleoedd economaidd yma yng Nghymru, a denu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom.

Y syniad arall a glywais oedd ei fod i ddod o ffordd Blaenau'r Cymoedd. Wel, mae arian ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi'i wario. Nid oes unrhyw arbediad o gwbl i'w wneud o'r syniad disglair hwnnw. Yn hytrach, bydd yn rhaid i'r arian ddod o wasanaethau cymdeithasol i bobl hŷn, gwasanaethau i blant mewn gofal, cymorth i wasanaethau bysiau, toriadau i ofal plant ac i golegau, toriadau i gymorth i fusnesau, toriadau i gymorth tai a gwasanaethau digartrefedd. Lywydd, nid oes unrhyw ffordd o gwbl, ym myd go iawn y Llywodraeth, y gellid darparu ar gyfer canlyniadau cyllidebol y cynnig hwn heb achosi niwed.

17:30

Mae'n eironig, onid yw, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn sefyll heddiw mewn Siambr wahanol am fod y llall wedi cau diolch i'ch cynlluniau chi a Phlaid Cymru i ychwanegu mwy o wleidyddion at y Senedd yma ym Mae Caerdydd. A wnewch chi gydnabod mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid sy'n addo dileu'r cynlluniau hynny ac achub y trethdalwr ar ôl yr etholiad nesaf?

Rwy'n fwy na pharod i gydnabod bod y Ceidwadwyr Cymreig yn benderfynol o rwystro'r Senedd hon rhag bod y sefydliad y mae angen iddo fod, ac os bydd y mymryn lleiaf o graffu ychwanegol yn arwain at wario arian Cymru yn well, yna bydd y Senedd newydd honno wedi talu amdani ei hun sawl gwaith drosodd.

Yn ffodus, Lywydd, mae dewisiadau polisi amgen a gwell yn bodoli i gydbwyso'r anghenion i godi refeniw ar y naill law ac i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus ar y llaw arall. Mae hyn oll yn dibynnu ar dwf, lle mae economi sy'n tyfu yn arwain at refeniw treth cynyddol, sydd yn ei dro yn arwain at fuddsoddiad cynyddol yn y gwasanaethau hynny.

Y newyddion da, Lywydd, yn wahanol i godi bwganod y gwrthbleidiau swyddogol, mae hanes datganoli cyllidol yng Nghymru yn hynod lwyddiannus. Wrth gwrs, Llywodraeth Geidwadol a gyflwynodd ddatganoli cyllidol: daeth y set o gyfrifoldebau sydd gennym heddiw sy'n codi bron i £4 biliwn mewn treth incwm, treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir o ganlyniad i waith comisiwn Silk. Rwy'n cofio'r pregethau a glywsom ar y pryd—sut y byddai'n rhaid i Gymru fod yn ofalus nawr, oherwydd pe na bai ein heconomi yn cadw i fyny â'r gweddill, byddai'n rhaid inni ysgwyddo cyfrifoldebau cyllidebau llai, ond mae'r realiti wedi bod yn wahanol iawn. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym yng Nghymru yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld, am weddill y degawd hwn, y bydd gan Gymru £634 miliwn yn ychwanegol i'w fuddsoddi yn ein gwasanaethau oherwydd y ffordd y mae ein perfformiad treth incwm yn well na gweddill y Deyrnas Unedig. Ac yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, bydd treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi yn ychwanegu £343 miliwn a £33 miliwn, yn y drefn honno, at ein cyllideb yma yn y Senedd, sy'n llawer mwy nag unrhyw addasiad i'r grant bloc.

Mae'r gwaith o reoli'r cyfrifoldebau hynny yn y Senedd hon wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan ychwanegu miliynau lawer o bunnoedd i ddiwallu anghenion dinasyddion Cymru. Dyna stori go iawn yr wyth mlynedd diwethaf, nid yr hen ystrydebau gwan sy'n cael eu hailadrodd yn y cynnig hwn. Dyna pam ein bod yn parhau, ymhlith pethau pwysig eraill, i allu buddsoddi £244 miliwn y flwyddyn i helpu aelwydydd incwm isel gyda'r dreth gyngor, i ddarparu £250 miliwn y flwyddyn drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi busnes parhaol, yn ogystal â'r £1 biliwn a ddarparwyd dros y chwe blynedd diwethaf i gefnogi busnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, a hyn oll ar ben y £500 miliwn y mae wedi'i gymryd i gadw'r lluosydd i lawr dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond Lywydd, dyma ffordd goch Cymru: blaengar ac effeithiol yn ein trethiant; buddsoddi lle mae'r angen mwyaf; cyfrifoldebau democrataidd yn cael eu harfer mor agos â phosibl at bobl; ac ymrwymiad i dyfu'r economi i bawb. Mae hyn oll wedi'i gynnwys yng ngwelliant y Llywodraeth heddiw. Pleidleisiwch i roi'r cynnig gwreiddiol allan o'i boen, a chefnogwch ddyfodol gwahanol a gwell i Gymru.

Wel, er mor ddifyr ydynt, nid wyf am wrando ar unrhyw bregethau gan yr Athro Drakeford ar yr economi. Mae'r difrod y mae Llywodraeth Lafur Cymru, ynghyd â'u cyd-bleidwyr yn Llywodraeth Lafur y DU, yn ei wneud i'n cenedl yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig gyfan yn erchyll. Maent yn difetha ein heconomi, mae gennym drethi'n codi, lefelau diweithdra'n codi, twf yn gostwng, treth newydd ar swyddi, trethi etifeddiant newydd i bobl eu talu, trethi twristiaeth newydd ar y gorwel, a chodiadau enfawr yn y dreth gyngor y mae'n rhaid i'r bobl ei thalu. Ac eto, maent yn cael llai yn gyfnewid am y trethi hynny: llai o gasgliadau biniau, llai o lyfrgelloedd, llai o doiledau cyhoeddus, ond mwy o dyllau yn y ffordd, mwy o sbwriel ar ein strydoedd. Mae'n gwbl annerbyniol, a dyna pam fod angen inni weld newid.

Ac rwy'n falch o ddweud fy mod yn Geidwadwr, gan fy mod yn credu mewn trethiant isel, yn wahanol i'r pleidiau ar y chwith sy'n reddfol eisiau trethu unrhyw beth sy'n symud neu unrhyw beth sy'n ffynnu a thagu'r bywyd ohono. Hoffwn weld gwlad sy'n ffynnu, lle mae busnesau'n cael eu sefydlu, lle rydym yn gwobrwyo pobl am fentro buddsoddi, i greu'r swyddi y gallwn wedyn eu trethu mewn ffordd deg er mwyn cael y canlyniadau a'r buddsoddiad y gallwn ei wneud yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Nid ydynt yn credu mewn trethi isel, maent yn credu mewn trethi uchel. Mae Llafur, mae arnaf ofn, a Phlaid Cymru yn yr un cwch gyda'r pethau hyn. Ac ydym, yn sicr, rydym yn credu y gallwn arbed arian. Rydym yn gweld enghreifftiau o wastraff ddydd ar ôl dydd yn ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys yn Llywodraeth Cymru, ac yn wir, yn ein hawdurdodau lleol. A'r gwir amdani yw bod pobl yn gwrthod y trethi uchel hynny, maent yn poeni am y trethi uchel hynny, ac maent eisiau sefyllfa lle mae eu trethi'n mynd i lawr. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i roi £450 ym mhocedi teuluoedd cyffredin gweithgar yng Nghymru. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i bolisi treth gyngor a fyddai wedi golygu, pe bai wedi'i dderbyn gan y Llywodraeth Lafur pan wnaethom ei gynnig gyntaf 10 mlynedd yn ôl, fod trethi cyngor yng Nghymru £350 y flwyddyn yn is ar gyfartaledd fesul aelwyd mewn eiddo band D nag ydynt ar hyn o bryd.

17:35

A dyna pam ein bod yn dweud y byddwn yn cefnogi busnesau—[Torri ar draws.] Ni yw plaid busnes. Byddwn yn cefnogi busnesau drwy ostwng eu hardrethi busnes a sicrhau rhywfaint o degwch yn ein heconomi. Rwy'n fwy na pharod i dderbyn yr ymyriad.

Diolch. Cyn i Lywodraeth Lafur y DU ddod i rym, lai na blwyddyn yn ôl, roedd hanner y cynghorau yn Lloegr yn wynebu methdaliad. Yn ffodus, roeddent wedi cael eu diogelu'n well yng Nghymru. Os byddwch yn parhau â'r un lefel o gyni, ac yn dychwelyd at hynny, byddwn yn gweld mwy o darfu ar ein cynghorau sydd, diolch i Lywodraeth Lafur y DU, â digon o gyllid nawr i allu parhau i ddarparu ein gwasanaethau rheng flaen. Onid ydych yn cytuno ei bod yn wirioneddol bwysig sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu'n iawn?

Rwy'n credu ei bod yn warthus fod pobl yng Nghymru yn talu mwy, fel cyfran o'u hincwm sy'n is nag mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ar y dreth gyngor na dros y ffin yn Lloegr. Mae hynny'n annerbyniol, mae'n annheg, ac mae'n warthus fod pobl yn talu mwy ond yn cael llai yn gyfnewid am y trethi hynny. Ac wrth gwrs, clywsom economeg ffantasïol gan Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru, gan mai dyma blaid wleidyddol sydd ag annibyniaeth oddi ar weddill y Deyrnas Unedig yn nod. Ni fyddai Cymru annibynnol yn gallu fforddio'r lefel bresennol o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru heb godi trethi'n aruthrol neu dorri gwasanaethau cyhoeddus yn aruthrol. Dyna'r realiti. Nid oes gennych ateb—[Torri ar draws.]—nid oes gennych ateb. Nid oeddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd Mike Hedges, ond roedd yn llygad ei le pan ddywedodd na fyddech yn gallu ariannu pensiynau i bobl yng Nghymru, nac unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall yn iawn, oherwydd economeg ffantasïol annibyniaeth, na fyddai'n gweithio. Dyna pam ein bod yn falch o fod yn blaid unoliaethol sy'n credu yn y Deyrnas Unedig a'r cryfder y mae'n ei sicrhau. A gadewch inni fod yn onest, byddem wedi bod mewn trafferthion mawr pe na baem yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig COVID, pan gawsom yr holl adnoddau roedd eu hangen arnom—y grym yr arferai Mark Drakeford sôn amdano ac yr arferai eraill sôn amdano—yn syml am ein bod yn rhan o Deyrnas Unedig gref.

A allwch chi nodi ble y soniais am annibyniaeth o gwbl? Roedd fy araith gyfan yn sôn am y tyllau yn eich dadl, ac nad ydych chi o ddifrif ynglŷn â llywodraethu. Pan ofynnais y cwestiwn i Janet Finch-Saunders, ynglŷn â'n gwelliant, yn galw am i'r pwerau i osod bandiau treth incwm ac yn y blaen ddod yma—. A ydych chi'n cefnogi'r galwadau hynny? A ydych chi o ddifrif ynglŷn â llywodraethu? Oherwydd dyna'r mathau o alwadau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.

17:40

Gwn nad ydych yn hoff o siarad am annibyniaeth, yn enwedig pan ydym yn agosáu at gyfnodau etholiad, am ei fod yn dychryn y cyhoedd. Nid dyna y mae'r cyhoedd am ichi siarad amdano, iawn. Rwy'n deall hynny. Gwn mai dyna pam eich bod yn mynd i ffwdan o gwmpas cyfnodau etholiad ac yn dechrau cynhyrfu, 'O, ni allwn feiddio sôn am annibyniaeth—yr eliffant mawr yn yr ystafell.' Rwy'n deall hynny. Ond mae pob un ohonom yn gwybod beth fyddai hynny'n ei olygu i gyllid cyhoeddus yng Nghymru. Byddai'n drychineb llwyr. Dywed Mike Hedges ein bod yn cael gwasanaethau cyhoeddus o safon Sgandinafaidd. Wel, roeddwn yn Abertawe yn ddiweddar; roedd yn edrych cyn waethed â rhannau eraill o Gymru o ran ansawdd y gwasanaethau cyhoeddus—y tyllau yn y ffyrdd, yn anffodus—ac mae Abertawe yn ddinas wych. Rwyf am i bobl yno, a ledled Cymru gyfan, allu bod yn falch o'r gwasanaethau cyhoeddus a gânt, ond mae arnaf ofn nad ydynt yn eu cael yn anffodus.

Ac mae gennym sefyllfa nawr lle mae'r Gweinidog cyllid wedi rhoi adolygiad ar y gweill o'r trefniadau ar gyfer treth incwm, am ei fod yn dymuno ei chodi. A chlywsom hynny gan Blaid Cymru hefyd. Maent eisiau codi trethi. [Torri ar draws.] Rydych chi eisiau codi trethi. [Torri ar draws.] Ydych—rydych chi eisiau codi trethi. Rydych chi eisiau i'r dreth gyngor godi i lawer o bobl yng Nghymru hefyd. Ond nid Bruce Forsyth's Play Your Cards Right yw hyn. Rydym eisiau gweld trethi'n gostwng, gwasanaethau cyhoeddus effeithlon. Rydym eisiau ymdrin â'r gwastraff yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym eisiau sicrhau—. Rydym eisiau sicrhau bod y gyllideb fiwrocratiaeth, sydd wedi cynyddu £114 miliwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ei hun, yn gostwng. Rydym eisiau sicrhau bod yr arian sy'n cael ei dywallt i lawr y draen ym Maes Awyr Caerdydd bob blwyddyn—. £20 miliwn arall y flwyddyn sy'n mynd i gael ei bwmpio i mewn i'r maes awyr hwnnw, maen melin am wddf y trethdalwyr—. Rydym yn bendant eisiau sicrhau bod y swyddfeydd rhyngwladol hynny'n cau. Mae gennym Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am faterion rhyngwladol, nid Llywodraeth Cymru.

Rydym yn gwastraffu arian yng Nghymru hefyd wrth gwrs. Mae Llywodraeth Cymru yn gwastraffu arian, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, ar geisio archwilio datganoli cyfiawnder a mwy o ddiwygio cyfansoddiadol, yn erbyn dymuniadau'r cyhoedd yng Nghymru, a hefyd yn erbyn dymuniadau'r cyhoedd yng Nghymru, rydych chi eisiau gwario degau o filiynau o bunnoedd ar fwy o wleidyddion, pan fo pob un ohonom yn gwybod nad yw'r cyhoedd eisiau mwy o wleidyddion. Maent eisiau mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon. Dyna maent ei eisiau. Felly, os oes arian i'w fuddsoddi yn y pethau hynny, mae arian i'w fuddsoddi mewn pethau eraill hefyd. A'r hyn sy'n cythruddo pobl hefyd—. Yr hyn sy'n cythruddo pobl yw'r arian y mae'r Llywodraeth hon yn ei sianelu i'w ffrindiau yn yr undebau—yr arian sy'n dod yn ôl ar adeg etholiad i ariannu ymgyrchoedd y Blaid Lafur. Mae'n gwbl warthus. A dyna sy'n digwydd. Dyna sy'n digwydd. [Torri ar draws.] Gwn nad ydych chi'n hoffi clywed hynny. Rwy'n fwy na pharod i dderbyn ymyriad, os ydych chi eisiau gwneud ymyriad. A hoffech chi wneud ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n fwy na pharod i dderbyn un.

Hoffwn glywed eich barn ar y llygredd adeg COVID a'r aelodau o'r Blaid Geidwadol nad ydynt bellach yn gallu byw yn y Deyrnas Unedig hyd yn oed am fod ofn arnynt y bydd yr heddlu ar eu holau. Beth fyddech chi'n dweud am hynny?

Rwy'n llwyr gondemnio unrhyw lygredd o unrhyw fath, gan gynnwys—. Ac wrth gwrs, mae pryderon wedi'u codi ynghylch y £27 miliwn a gafodd ei ddileu gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â benthyciad a roddwyd i gwmni a gâi ei gadeirio gan un a wnaeth rodd i Lafur yma yng Nghymru. Credaf fod unrhyw fath o lygredd yn gwbl warthus, boed yn arian sy'n mynd i'r undebau i ariannu eich ymgyrch neu unrhyw un arall. Mae angen inni sicrhau nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu llethu â threthi. [Torri ar draws.] Mae angen inni sicrhau—. A hoffech chi wneud ymyriad?

Hoffwn ofyn i arweinydd yr wrthblaid ailadrodd yr hyn a ddywedodd pan ddywedodd fod undebau llafur yn ariannu plaid wleidyddol yn llygredd. Ai dyna mae'n ei olygu?

Nid wyf wedi dweud hynny. Yr hyn rwyf wedi'i ddweud—[Torri ar draws.] Yr hyn rwyf wedi'i ddweud yw'r hyn sy'n gwbl amlwg i aelodau'r cyhoedd: fod Llywodraeth Cymru yn sianelu llawer o arian i bocedi'r undebau llafur ar gyfer gwahanol gynlluniau, ac mae'r undebau llafur hynny'n mynd ymlaen i wneud rhoddion i'r Blaid Lafur. Dyna a ddywedais, ac rwyf wedi dweud hynny ar nifer o achlysuron yn y gorffennol hefyd. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi siarad am hynny, ond dyna'r gwir.

Rwy'n credu bod hynny'n gyhuddiad o lygredd, sy'n gwbl anghywir. Mae'r mudiad undebau llafur yn cefnogi'r Blaid Lafur drwy roddion gan ei aelodau. Dyna sut y mae'n digwydd. Nid oes ganddo unrhyw beth i'w wneud â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru—

Ac mae'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru hefyd. Felly, dyna'r pwynt rwy'n ei wneud, a dyna'r pwynt rwyf wedi'i ailddatgan ar sawl achlysur.

Felly, yr hyn rydym ni am ei weld yw trethi is i unigolion, trethi is i fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon a system drethiant sy'n deg, nad yw'n cosbi'r bobl sy'n cymryd y risgiau i greu'r swyddi, creu'r busnesau sy'n mynd ymlaen i dalu'r trethi, ac mae'r cwsmeriaid yn talu'r trethi, er mwyn ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus. Oherwydd mae hwnnw'n gylch rhinweddol. Os yw busnesau'n gwneud yn dda, mae pawb yn gwneud yn dda. Felly, rwy'n annog pobl: cefnogwch y cynnig.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly fe wnawn ni ohirio'r cynnig tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 5, sef y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar ddiogelu iechyd ymladdwyr tân. Rwy'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Luke Fletcher. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn. 

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diogelu iechyd ymladdwyr tân: O blaid: 30, Yn erbyn: 0, Ymatal: 15

Derbyniwyd y cynnig

Ar eitem 7 fydd y pleidleisiau nesaf; dadl y Ceidwadwyr ar drethiant yw'r cyfres o bleidleisiau yma. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Mae'r cynnig yna wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Trethiant. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac, os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, yna fydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Felly, pleidlais yn gyntaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Trethiant. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Cynnig NDM8898 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) mae bil cyfartalog y dreth gyngor ar gyfer eiddo Band D yng Nghymru £110 yn is na’r bil yn Lloegr ac mae dros 256,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn derbyn cymorth gyda’u biliau drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

b) roedd y gyfradd geni ar gyfer busnesau yng Nghymru yn 2023 yn uwch na’r gyfradd yn Ne-ddwyrain a De-orllewin Lloegr, ac yn uwch na’r gyfradd yng Ngogledd Iwerddon; ac

c) mae’r cynnydd yn enillion wythnosol cyfartalog oedolion yng Nghymru sy’n gweithio’n amser llawn lawer yn fwy na’r cynnydd yn y DU yn gyffredinol dros y 10 mlynedd diwethaf.

2. Yn cydnabod:

a) mae talwyr ardrethi o fewn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden wedi derbyn dros £1 biliwn mewn cymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi busnes dros y chwe blynedd diwethaf ac nid yw bron i hanner yr holl dalwyr ardrethi yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl;

b) rhagwelir y bydd cyfraddau’r dreth incwm yng Nghymru yn cyfrannu dros £3 biliwn at gyllideb Cymru eleni; ac

c) mae awdurdodau lleol yn atebol i bobl Cymru wrth iddynt osod cyllidebau a’r dreth gyngor, a hynny ar sail anghenion gwasanaethau lleol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, naw yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. 

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Trethiant. Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 13, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Dyna ni. Dyna ddiwedd ar y pleidleisiau a dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio yna.

9. Dadl Fer: Nid yw tlodi'n anochel: Sut y gall Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wella bywydau pobl Cymru

Felly, byddwn ni'n symud ymlaen at yr eitem nesaf, a'r eitem nesaf yw'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw gan Heledd Fychan. Mae croeso i ti ddechrau. Mae pawb yn gadael yn dawel, felly cei di ddechrau. 

Diolch, Llywydd. Nid yw tlodi’n anochel, ac mae yna gamau y gallem ni fel Senedd, ynghyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, eu cymryd fyddai'n gwella bywydau pobl Cymru. Dyna brif neges fy nadl fer heddiw, a dwi'n falch o roi munud o fy amser i Sioned Williams. Hoffwn hefyd ddiolch i Katie Till o Trussell yng Nghymru, a hefyd Andrew a Matthew o Fanc Bwyd Taf-Elai am eu cefnogaeth wrth baratoi at y ddadl, a dwi’n falch o groesawu Andrew a Matthew yn yr oriel gyhoeddus heddiw.

Rwy'n aml yn meddwl sut y bydd llyfrau hanes yn adrodd hanes cyni a sut y bu modd i dlodi waethygu ar adeg pan oedd eraill yn gallu mwynhau cyfoeth mawr. Nid yw normaleiddio banciau bwyd yn rhywbeth y dylai unrhyw Lywodraeth fod yn falch ohono, a dylai ein sobreiddio eu bod wedi dod yn rhan mor ganolog o gynifer o gymunedau yng Nghymru.

Mae Trussell, sy'n cefnogi cymuned o bron i 150 o ganolfannau banciau bwyd yng Nghymru, wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr angen am fwyd brys dros y pum mlynedd diwethaf. Mewn cwta chwe mis yn 2024, dosbarthodd banciau bwyd Trussell yng Nghymru 83,000 o barseli bwyd brys, sydd bron cymaint o barseli ag y dosbarthodd yr un banciau bwyd yn ystod y flwyddyn gyfan yn 2015-16. Mae'n gynnydd o 42 y cant o gymharu â'r un cyfnod bum mlynedd ynghynt.

17:50

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae'n bwysig nodi mai dim ond rhan o'r darlun o'r angen yng Nghymru y mae'r ffigurau hyn yn ei gyfleu. Mae llawer o ddarparwyr cymorth bwyd brys ar hyn o bryd yn cefnogi pobl nad yw eu profiadau wedi'u cofnodi yma, a gwyddom fod llawer o bobl yn mynd heb hanfodion heb gael cymorth gan unrhyw un ac yn cael eu gyrru i anobaith dwfn.

Felly, pam ein bod yn y sefyllfa hon? Mae'r angen am fwyd brys yng Nghymru yn cael ei achosi gan ddiffyg incwm, nid am nad oes bwyd ar gael. Rhaid i bobl droi at fanciau bwyd am nad oes ganddynt ddigon o arian ar gyfer hanfodion. Mae rhai rhwng swyddi, mae ganddynt gyflyrau iechyd, neu maent yn gofalu am berthnasau neu blant. Mae rhai pobl mewn swyddi sy'n ansefydlog, yn anhygyrch ac nad ydynt yn talu digon i fyw arno, ac mae diffyg tai fforddiadwy, trafnidiaeth a gofal plant yn rhwystrau pellach sy'n atal gormod o bobl rhag cael cyfleoedd i gynyddu eu hincwm.

Problemau gyda chynllun a darpariaeth nawdd cymdeithasol yw'r ffactorau mwyaf a mwyaf uniongyrchol sy'n achosi'r angen am fanciau bwyd yng Nghymru. Mae lefelau budd-daliadau'n rhy isel, mae taliadau'n cael eu lleihau ymhellach fyth gan ddidyniadau a chapiau, ac mae pobl yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth y maent yn gymwys ar ei gyfer. Mae'n amlwg nad yw'r system nawdd cymdeithasol yn diogelu pobl rhag llwgu a chaledi, gyda nifer ohonynt heb ddigon o arian i fyw arno, yn ogystal â'r frwydr yn erbyn y straen, yr ansicrwydd a'r amarch sy'n aml yn dod wrth ddefnyddio'r system nawdd cymdeithasol. Gall un ergyd neu gost annisgwyl wthio pobl yn ddyfnach i drafferthion, gan greu amodau lle mae pobl yn cael eu caethiwo mewn tlodi. Ac er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am lawer o'r system nawdd cymdeithasol, mae digon y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano ac y dylai fod yn ei gyflawni.

Eleni yng Nghymru, rydym yn dathlu 10 mlynedd o Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, ac er bod llawer i fod yn falch ohono yn amcanion y Ddeddf, rhaid inni ystyried bod cyfraddau tlodi plant wedi parhau i gynyddu a bod gormod o blant yn tyfu i fyny yng Nghymru heddiw mewn teuluoedd na allant fforddio'r hanfodion. Mae'n warthus meddwl bod plant yn cael eu cefnogi i raddau anghymesur gan fanciau bwyd a bod 62 y cant o'r cymorth a ddarperir gan fanciau bwyd yng nghymuned Trussell yng Nghymru ar gyfer teuluoedd â phlant. Nid yw'n syndod fod teuluoedd â thri neu fwy o blant wedi'u gorgynrychioli yn lefel yr angen am fwyd brys o ganlyniad uniongyrchol i'r cap creulon dau blentyn ar fudd-daliadau, polisi a weithredwyd gan y Ceidwadwyr, ond a barhawyd gan Lafur.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae data Trussell yn dangos bod dros un o bob tri pharsel bwyd brys ar gyfer plant ac un o bob 10 parsel ar gyfer plant dan bedair oed. Mae effeithiau dwfn a pharhaol i fyw heb ddigon o incwm i fforddio'r hanfodion, yn enwedig y ffordd y mae'n gwaethygu iechyd meddwl a chorfforol unigolyn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Trussell ymchwil newydd yn edrych ar gostau economaidd caledi difrifol yng Nghymru, yr effaith ddinistriol ar y bobl sy'n ei wynebu, a chostau economaidd a'r costau i bwrs y wlad yn sgil peidio â gweithredu i drechu tlodi yng Nghymru. Gan ddefnyddio mesur o'r enw 'llwgu a chaledi', sy'n nodi pobl sydd angen defnyddio banc bwyd ar hyn o bryd a'r rhai sydd mewn perygl o beidio â gallu fforddio'r hanfodion, canfu Trussell y gallai gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru elwa o £3.6 biliwn y flwyddyn pe bai pobl yn cael eu diogelu rhag llwgu a chaledi.

Dengys hyn fod gwneud y peth iawn i ddiogelu pobl rhag tlodi hefyd yn synnwyr cyffredin i'n heconomi. Wedi'r cyfan, mae economi Cymru yn colli £1.9 biliwn mewn blwyddyn oherwydd llai o gyflogaeth a chyfraddau cynhyrchiant is, o ganlyniad uniongyrchol i'r ffordd y gall llwgu a chaledi niweidio cyfleoedd pobl o sicrhau neu gynnal cyflogaeth. Ymhellach, mae pwrs y wlad yn colli £910 miliwn mewn incwm o drethi yng Nghymru oherwydd yr effeithiau hyn ar gyfraddau cyflogaeth, tra bo £260 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar daliadau nawdd cymdeithasol oherwydd effaith llwgu a chaledi ar gyflogaeth a chyflogau.

Mae lefelau erchyll o lwgu a chaledi yng Nghymru hefyd yn arwain at wariant ychwanegol enfawr o £560 miliwn ar wasanaethau cyhoeddus Cymru. Cymerwch, er enghraifft, y GIG, lle mae llwgu a chaledi yng Nghymru yn arwain at wariant cynyddol o £290 miliwn ar y GIG a gwasanaethau iechyd eraill oherwydd effeithiau iechyd corfforol a meddyliol profi caledi difrifol. O'r £290 miliwn ychwanegol a wariwyd gan Lywodraeth Cymru ar y GIG, mae £150 miliwn yn cael ei wario ar dderbyn cleifion mewnol i'r ysbyty, £60 miliwn yn cael ei wario ar wasanaethau iechyd meddwl a £35 miliwn ar ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys.

Canfu ymchwil Trussell hefyd fod methu mynd i'r afael â llwgu a chaledi yn cael effaith sylweddol ar gyllidebau addysg a gofal cymdeithasol plant, gan olygu bod Llywodraeth Cymru yn gorfod gwario £120 miliwn ychwanegol, heb sôn am y canlyniadau addysgol ac iechyd i blant sy'n byw mewn tlodi. Fel y gwyddom hefyd, mae pobl sy'n wynebu llwgu a chaledi yn aml yn byw mewn cartrefi gorlawn o ansawdd gwael, a all niweidio iechyd a pherthnasoedd. Mae costau tai anfforddiadwy a'r bygythiad o gael eu troi allan gan landlordiaid yn gadael pobl yn wynebu llwgu a chaledi, yn ogystal â risg sylweddol o ddigartrefedd. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn gwario £143 miliwn ychwanegol ar wasanaethau digartrefedd a chysgu allan.

Mae pobl sy'n byw mewn teulu ag aelod anabl yng Nghymru eisoes yn llawer mwy tebygol o wynebu llwgu a chaledi na phobl mewn teulu heb aelod anabl, gyda 230,000 o bobl sy'n byw mewn teulu ag aelod anabl yng Nghymru yn wynebu llwgu a chaledi. Mae cynlluniau Llywodraeth y DU i dorri cymorth i bobl anabl yn debygol o yrru mwy fyth o bobl i galedi difrifol, gan niweidio eu hiechyd a'u rhagolygon ymhellach. Rwy'n gobeithio clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn condemnio'r cynigion yn ei hymateb heddiw, ac y gallwn uno fel Senedd i alw ar Lywodraeth y DU i ailystyried toriadau i gymorth i bobl anabl ar frys, a hefyd i ddiweddaru credyd cynhwysol fel ei fod yn diogelu pobl rhag llwgu a chaledi.

Mae Trussell, mewn partneriaeth â Sefydliad Joseph Rowntree, hefyd wedi bod yn galw am warant hanfodion o fewn y credyd cynhwysol, sy'n golygu bod y gyfradd sylfaenol o leiaf yn talu am hanfodion bywyd ac na fydd modd gostwng y cymorth islaw'r lefel honno. Mae'n rhywbeth rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi'i gefnogi'n llawn. Byddai cyflwyno gwarant hanfodion o fewn y credyd cynhwysol yn sicrhau y byddai 138,000 yn llai o bobl yng Nghymru mewn perygl o lwgu a chaledi yn 2027, ac £1 biliwn yn llai o gostau i'r economi, gwasanaethau cyhoeddus a phwrs y wlad. Mae angen i Lywodraeth y DU gymryd camau mwy beiddgar tuag at sicrhau bod credyd cynhwysol o leiaf yn talu costau hanfodion, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ymgyrchu dros hyn.

Byddai dileu'r terfyn dau blentyn yn arwain at ostyngiad o £260 miliwn mewn costau i'r economi, gwasanaethau cyhoeddus a phwrs y wlad, ac yn atal 29,000 o bobl yng Nghymru rhag wynebu llwgu a chaledi. Byddai ymestyn prydau ysgol am ddim i bob teulu sydd ar gredyd cynhwysol yn atal 27,000 o bobl yng Nghymru rhag wynebu llwgu a chaledi ac yn arwain at £140 miliwn mewn buddion cost. Byddai cyflwyno taliad plant gwell tebyg i'r Alban yng Nghymru, fel rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi'i gynnig, yn atal 50,000 o bobl rhag y risg o lwgu a chaledi, ac yn darparu £605 miliwn mewn buddion cost. Os na fydd Llywodraethau yn San Steffan a Bae Caerdydd yn gweithredu, bydd unrhyw gynnydd ar safonau byw, cyflogaeth, twf economaidd a'r GIG yn cael ei danseilio, a byddwn yn gweld cynnydd mewn llwgu, caledi a thrallod dynol.

Rwyf wedi dod yn fwyfwy pryderus ers cael fy ethol yn 2021 wrth weld y naratif ynghylch banciau bwyd yn newid, nad ydym yn pwysleisio'r angen i ymgyrchu ynghylch yr angen amdanynt, ond yn hytrach, yn eu normaleiddio fwy a mwy. Rwyf wedi clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn am fanciau babanod, banciau tanwydd. Normaleiddio tlodi yw hyn. Diolch byth eu bod yn bodoli, ond ni ddylent orfod bodoli, a'r hyn yr hoffwn ei weld gan y Llywodraeth yw cynllun i ddileu tlodi a dileu'r angen am y banciau hyn, sef banciau ar gyfer hanfodion—hanfodion na all pobl eu fforddio.

Soniais am lyfrau hanes ar ddechrau fy nghyfraniad heddiw. Rwy'n cofio bod yn yr ysgol, lle caem ein dysgu am oes Fictoria a thlodi plant, a chael fy arswydo gan y straeon hynny. Ond mae'r straeon rwy'n eu clywed gan etholwyr nawr yn llawer gwaeth na'r rhai rwy'n eu darllen mewn llyfrau hanes, ac mae cywilydd arnaf fy mod yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd, pan fo gennyf etholwyr na allant fforddio'r hanfodion. Diolch byth am waith gwirfoddolwyr, am sefydliadau fel Trussell, ond dylai fod cywilydd arnom i gyd eu bod yn bodoli.

Nid yw tlodi'n anochel. Mae yna ddewisiadau gwleidyddol a all arwain at newid. Rhaid inni wneud mwy i sicrhau y gall pawb sy'n byw yng Nghymru fforddio'r hanfodion, a chymryd camau radical ar frys i roi diwedd ar lwgu a chaledi.

18:00

Diolch i Heledd Fychan am ddod â’r ddadl bwysig hon gerbron.

Wrth ymateb i'r toriadau lles diweddar a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan, dywedodd Oxfam Cymru,

'Rydym yn byw yn y chweched wlad gyfoethocaf yn y byd, lle gwelodd biliwnyddion yn unig gynnydd o £11 biliwn yn eu cyfoeth y llynedd. Mae'n foesol ffiaidd mai plant, pobl anabl a gofalwyr yw'r rhai sy'n dioddef'.

Fel y dywedoch chi, Heledd, caiff tlodi ei achosi gan ddewisiadau gwleidyddol, a dewisiadau gwleidyddol sy'n mynd i'w ddileu. Fel y nodoch chi, mae llawer o'r ysgogiadau a allai wneud gwahaniaeth yn nwylo San Steffan, yn nwylo Llafur. Felly, ble mae'r dicter, y dicter moesol absoliwt, y dylem ei weld ynglŷn â'u diffyg gweithredu ar hyn? A ble mae'r gweithredu gan Lywodraeth Cymru, y camau newydd, beiddgar ar dlodi plant a lywiwyd gan dargedau ers diwedd y cytundeb cydweithio, a roddodd brydau ysgol am ddim i ni? Dim byd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael 26 mlynedd i ddefnyddio'r pwerau sydd ganddynt ac i ofyn am y pwerau sydd eu hangen arnynt i newid hyn. Mae angen inni weld partneriaeth yn erbyn tlodi, i godi'r di-rym allan o dlodi er budd pob un ohonom.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol y Trefnydd a’r Prif Chwip i ymateb i'r ddadl—Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 18:02:13
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A diolch, Heledd Fychan, am y ddadl fer hon. Fel y dywedwch, yn sicr, nid yw tlodi'n anochel, ac mae'r cyfraddau tlodi yma yng Nghymru yn dangos yn glir yr her a wynebwn o ganlyniad uniongyrchol i lefel y cyni. Ac rwy'n credu ein bod ni'n cytuno ar hynny, y 14 mlynedd diwethaf a'r hyn a adawyd i ni gan y Llywodraeth Dorïaidd. Ond yr hyn sy'n bwysig, fel y nodoch chi'n gywir ddigon, yw'r hyn y gallwn ei wneud, Llywodraeth Lafur Cymru, gan ddefnyddio ein holl bwerau ac ysgogiadau i wella bywydau pobl Cymru drwy fynd i'r afael ag achosion tlodi a lliniaru effeithiau gwaethaf byw mewn tlodi. Ac rydym wedi gorfod gwneud, ac rydym ni yn gwneud, dewisiadau gwleidyddol er mwyn gwneud hynny.

Felly, rhwng 2022 a 2026, rydym wedi buddsoddi dros £7 biliwn mewn ymyriadau i leihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd a chadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru—blaenoriaethau allweddol ein strategaeth tlodi plant. Ac nid dyna'r darlun cyfan. Yma yng Nghymru, ariannodd Llywodraeth Lafur Cymru bresgripsiynau am ddim a theithio am ddim i bobl dros 60 oed, mae wedi cadw a chynyddu ein lwfans cynhaliaeth addysg i fyfyrwyr, rydym wedi rhoi'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, ac wedi darparu mynediad at gynhyrchion mislif am ddim i bawb sydd eu hangen. A dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain, ond maent yn enghreifftiau o ddewisiadau gwleidyddol—dyma ffordd goch Gymreig y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.

Ac mae ein strategaeth tlodi plant yng Nghymru yn amlinellu ein huchelgeisiau hirdymor a'n camau gweithredu pendant i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru. Maent yn weithredoedd sydd nid yn unig yn effeithio ar blant, ond ar sylfeini'r gymdeithas y maent yn dibynnu arni, ar eu teuluoedd a'u cymunedau. Ac rwy'n siŵr y byddem am rannu'r gydnabyddiaeth i ysbryd neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd, a fydd yn cael ei rhannu yfory, oherwydd mae ein strategaeth yn ymgorffori'r egwyddor ei bod yn cymryd pentref i fagu plentyn. Creu llwybrau allan o dlodi yw prif amcan ein strategaeth tlodi plant. Rhaid i ni greu'r llwybrau hynny—maent yn elfen hanfodol o ganiatáu a galluogi pobl i fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir trwy gael gwaith teg.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Pe bai gan y strategaeth honno dargedau, a ydych chi'n meddwl y byddech chi wedi cael gwared ar gyflwyno bwndeli babanod i'r holl rieni newydd, a oedd yn y rhaglen llywodraethu?

Wel, rwy'n falch iawn ein bod wedi rhyddhau £2.5 miliwn ar gyfer y rhaglen bwndeli babanod ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae'n rhywbeth y gwn eich bod chi, Heledd, wedi gwneud sylwadau arno. Rwy'n credu bod y bwndeli babanod yn rhywbeth yr hoffem ei ddarparu yn gyffredinol i'r holl rieni newydd—rydym wedi dechrau mewn ffordd wedi'i thargedu gyda phob teulu sy'n disgwyl babi ac sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg graidd. Mae'n fynegiant o gefnogaeth gan ein Llywodraeth—gan Lywodraeth Cymru—o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae'n fwndel babanod—mae'n groeso i'r bobl ifanc hynny.

18:05

Heledd Fychan a gododd—

A gaf i barhau am ychydig funudau eto, os gwelwch yn dda, ac yna gallwch ddod yn ôl? 

Rwyf wedi mynd yn ôl at y pwynt ein bod am alluogi pobl i gael gwaith, ac rwy'n credu bod hynny'n hanfodol fel llwybr i fynd i'r afael â thlodi plant a thlodi yn ei gyfanrwydd. Ond rwyf am sôn am ein rhaglenni cyflogadwyedd, sy'n cefnogi dros 15,000 o oedolion a oedd yn ddi-waith yn 2023-24, yn cynnwys drwy ein mentoriaid Cymunedau am Waith a chyflogadwyedd, ein gwasanaeth cyngor gyrfaoedd Cymru'n Gweithio a'n cynnig gofal plant. Mynd i'r afael â'r rhwystrau—fe fuom yn trafod hyn y bore yma. Roeddwn yn nhasglu pedair gwlad Llywodraeth y DU—roedd yn dasglu pedair gwlad. Buom yn trafod y rhwystrau hefyd i allu cael mynediad at gyflogaeth, a darparu 30 awr o addysg feithrin a gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i blant tair i bedair oed, gan gefnogi mwy o rieni i gynyddu eu hincwm trwy eu helpu i gael gwaith a galluogi rhieni sy'n gweithio i weithio mwy o oriau.

Ond rwyf am sôn ein bod wedi gweithio gyda'n gilydd yn ffurfiol yn ein cytundeb cydweithio i ehangu ein gofal plant Dechrau'n Deg hollbwysig i blant dwy oed yng Nghymru. Roedd honno'n ffordd mor bwysig o weithio gyda'n gilydd, ac mae gennym hynny nawr yn ein cyllideb eleni, gan ddod â Chymru gam yn nes at allu darparu gofal plant i bob plentyn dwy oed.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rwyf eisiau egluro nad oeddwn yn sôn am y bwndeli babanod. Roeddwn yn siarad am y banciau babanod y mae mwy a mwy o fanciau bwyd yn gorfod eu sefydlu. Rwy'n gwybod bod yn rhaid i fanc bwyd Taf-Elái sefydlu un yn ddiweddar. Maent yn codi arian—trwy gyllido torfol cyhoeddus—er mwyn gallu darparu cewynnau.

Wel, ymddiheuriadau—mae'n ddrwg gennyf—fe gamddeallais. Rydym wedi gwneud hynny'n glir am y bwndeli babanod, ac rwy'n gwybod eich bod chi bob amser wedi croesawu'r rhaglen honno. Rwyf am ddiolch i Heledd eto am dynnu sylw at waith Ymddiriedolaeth Trussell a'r ffaith bod—. Rwy'n cymeradwyo gwaith Ymddiriedolaeth Trussell a phawb sy'n darparu banciau bwyd a phantrïau bwyd, ac fe geir llawer o gynlluniau ledled Cymru. Rwyf bob amser wedi cofleidio'r weledigaeth, fel y gwnaethoch chi heddiw, o Gymru lle nad oes angen banciau bwyd mwyach. Mae ein strategaeth tlodi plant yn nodi'r uchelgeisiau hirdymor hynny—sut y byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda phartneriaid i wneud y mwyaf o'r ysgogiadau sydd ar gael i ni. Wrth gwrs, mae'n golygu bod yn rhaid inni dargedu ein cymorth at y rhai sydd fwyaf o'i angen a pharhau â'n gwaith i symleiddio budd-daliadau Cymru.

Rwyf am wneud un pwynt am system budd-daliadau Cymru. Mae'r rhain yn hawliau. Roeddwn yn falch iawn o lansio siarter budd-daliadau Cymru gyda Siân Gwenllian tua blwyddyn yn ôl. Mae'n cyflymu'r gwaith a wnawn i sicrhau bod pobl yn gallu symleiddio mynediad at brydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol, yn ogystal â'n cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor gwerth £290 miliwn. Rydym yn gweld gwaith cadarnhaol iawn yn dod o'r buddsoddiad a wnaethom yn Policy in Practice, i dreialu'r traciwr teuluoedd incwm isel, neu LIFT, fel y gallwn gael y data hwn i awdurdodau lleol i ddarganfod pwy sy'n gymwys i allu eu targedu er mwyn iddynt gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Mae ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' a'n cronfa gynghori sengl oll yn bwysig er mwyn i bobl gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo. Yn ddiddorol, yr wythnos hon, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol ohono yn eich rhanbarth chi, Heledd, roedd bwrdd iechyd Cwm Taf wedi ariannu ymgyrch lwyddiannus iawn i gynyddu'r nifer sy'n cael credyd pensiwn a chodwyd £1.6 miliwn o ganlyniad i nodi hawl pobl i'w gael, gan weithio gyda Cyngor ar Bopeth, Age Concern ac Age Connects ym mwrdd iechyd Cwm Taf, gyda'r holl awdurdodau lleol yn cymryd rhan. Dyna gael arian, nid yn unig i bensiynwyr ar ffurf credyd pensiwn, ond drwy nodi lwfans gweini, yn ogystal â hawl i gymorth, a gweld anghenion iechyd a chael £1.6 miliwn i bocedi'r bobl hynny ac i'w teuluoedd.

Mae yna lawer mwy o feysydd lle rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i sicrhau—ac yn bwysicaf oll, trwy ein cytundeb cydweithio—mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i gynnig prydau ysgol am ddim i bob dysgwr cynradd. Roeddwn yn falch o ddweud hynny y bore yma yn ein cyfarfod pedair gwlad ar gyfer y DU. Roeddwn yn falch o siarad am y ffordd y mae gennym frecwast am ddim ers 2005 yn ein hysgolion cynradd, a bod y ffaith bod gennym gynnig o brydau ysgol am ddim i bawb, ochr yn ochr â'n cynllun llaeth ysgol a'r cynllun brecwast am ddim, yn golygu mai gennym ni y mae'r cynnig bwyd ysgol mwyaf hael yn y DU. Ac mae hynny, gobeithio, yn helpu i leihau dibyniaeth y teuluoedd hynny ar fanciau bwyd, a'r ffaith bod gennym y grant hanfodion ysgol, sy'n darparu £125 i bob dysgwr cymwys ar gyfer pob grŵp blwyddyn hyd at flwyddyn 11, a £200 i ddysgwyr cymwys ym mlwyddyn 7. Mae hynny'n galluogi plant mewn teuluoedd incwm isel i fynychu'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â'u cyfoedion.

Yn olaf, roeddwn i eisiau dweud—. Wel, rwy'n siŵr eich bod wedi sylwi heddiw fy mod wedi cyhoeddi ceisiadau llwyddiannus ar gyfer y grant £1.5 miliwn tlodi plant a chefnogi cymunedau. Mae'n galluogi ystod eang o bartneriaid ledled Cymru, yn y trydydd sector, awdurdodau lleol, i fwrw ymlaen â mentrau y maent hwy eu hunain yn gwybod eu bod yn gweithio i fynd i'r afael â thlodi yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Rwy'n credu bod yr ymyriadau hyn yn dangos rhai o'r ffyrdd yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella bywydau pobl yma gyda'r ysgogiadau a'r pwerau sydd gennym, ond nid yw'r holl ysgogiadau a all effeithio ar dlodi yng Nghymru yn ein dwylo ni. Byddwn yn parhau i sicrhau bod lleisiau pobl Cymru yn cael eu clywed. Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei haraith—ac rwy'n falch o'r araith honno, ac yn falch o'r ffordd goch Gymreig—lle rydym yn anghytuno, byddwn yn dweud hynny. A'r bore yma, fel y dywedais, cyfarfûm â thasglu tlodi plant Llywodraeth y DU. Roedd y pedair gwlad—roeddwn yno gyda fy swyddog cyfatebol o Lywodraeth yr Alban, Shirley-Anne Somerville, a chymheiriaid o Ogledd Iwerddon. Unwaith eto, fe wneuthum bwyso arnynt mewn perthynas â'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau. Fe wneuthum bwyso arnynt hefyd ynghylch y lwfans tai lleol, sy'n faes allweddol arall, budd-dal allweddol, i fynd i'r afael ag anghenion tai. Fe wneuthum bwyso ar ddiwygio lles ehangach ac ar dariffau cymdeithasol, gan fod dyled ynni yn broblem real sy'n gwthio pobl i dlodi. Cawsom drafodaethau adeiladol iawn am rannu data, sy'n rhwystr enfawr. Bydd rhannu data yn ein helpu i symud ymlaen a sicrhau bod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Ac yfory, rwy'n cyfarfod â'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, y tasglu hawliau pobl anabl, i drafod y problemau a'r pryderon gyda hwy, unwaith eto—a chydnabu'r Prif Weinidog hyn ddydd Mawrth—nid yn unig ynglŷn â'r Papur Gwyrdd, lle mae ymgynghoriad ar y gweill, ond effaith y newidiadau ar y taliad annibyniaeth personol. Oherwydd rydym eisiau datgan beth yw hwnnw beth bynnag, yn ogystal ag ymateb i'r ymgynghoriad, ac yfory byddaf yn gweithio, yn gwrando ac yn gweithio gyda phobl anabl yn uniongyrchol i wneud hyn.

Felly, diolch am y ddadl, Heledd, a diolch am roi cyfle i mi ddangos ein hymrwymiad unwaith eto. Ac fel rydym wedi dweud, rydym yn rhoi pwysau, rydym yn codi'r materion hyn, a lle maent yn effeithio ar Gymru, byddwn yn codi llais ac yn sefyll dros Gymru. Diolch yn fawr.

18:10

Daeth y cyfarfod i ben am 18:14.