Y Cyfarfod Llawn

Plenary

26/03/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Prynhawn da a chroeso i Gyfarfod Llawn heddiw. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai sydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.

Llety Lloches

1. Pa ystyriaeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i eithrio llety lloches rhag gofynion y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016? OQ62503

Diolch, Carolyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil annibynnol i ddarpariaeth llochesi a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 er mwyn sicrhau bod pob llais ar y mater pwysig hwn yn cael ei glywed. Mae hyn yn cyd-fynd â'r prosiect gwerthuso rhentu cartrefi ehangach. Mae’r prosiectau hyn bron wedi’u cwblhau, a byddaf yn ystyried eu canfyddiadau’n fanwl pan gânt eu cyhoeddi.

Yn ystod yr ymgynghoriad, nododd Cymorth i Fenywod Cymru bryderon megis y ffaith bod nifer o fenywod yn byw mewn llochesi am dros chwe mis, yn bennaf oherwydd diffyg llety camu ymlaen priodol, ac y byddent felly'n cael contract safonol â chymorth, sy’n gwaethygu materion fel blocio gwelyau. Mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ariannu, gweinyddu, ac yn bwysicaf oll, diogelu. Sut y mae ymchwil wedi gwneud cynnydd ar bennu effaith y newidiadau ar ddarpariaeth llochesi brys?

Diolch, Carolyn. Rwy’n deall y pryderon sy’n cael eu codi gan Cymorth i Fenywod Cymru, ac mae fy swyddogion eisoes wedi ymgysylltu’n helaeth â hwy. Ond mae cryn dipyn o le i symud eisoes o ran rheoli contract safonol â chymorth mewn ffyrdd nad ydynt yn berthnasol i gontractau rhentu cartrefi eraill. Mae'n hanfodol sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio i ddiogelu buddiannau goroeswyr cam-drin ac i gydnabod y rôl hanfodol y mae llochesi yn ei chwarae yn hynny o beth. Mae gwerthusiad annibynnol o’r Ddeddf wedi’i gomisiynu i archwilio unrhyw effaith ar y sector llochesi. Mae hyn yn agosáu at ei gamau olaf, ac fel y dywedais, mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi cyn yr haf, a byddaf yn ystyried y canfyddiadau hynny'n fanwl bryd hynny ac yn asesu a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.

Diwygio Lesddaliad

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio lesddaliad yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU am ddiwygio cyfunddaliad? OQ62506

Diolch, Vaughan. Rwy’n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddiwygio cyfraith lesddaliad. Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n nodi gweledigaeth Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gallai cyfunddaliad ddarparu dewis amgen hyfyw yn y dyfodol yn hytrach na lesddaliad yng Nghymru a Lloegr, fel ei fwriad gwreiddiol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn dilyn fy nadl fer ar ddiwygio cyfraith lesddaliad, nodaf fod swyddogion yn trefnu cyfarfod dilynol manylach. Serch hynny, rwy'n croesawu eich datganiad ysgrifenedig diweddar ar gychwyn darpariaethau ar Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, sy’n ymwneud â rhyddfreinio a’r hawl i reoli. Mae gennyf ddiddordeb o hyd yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynigion i Gymru ddiwygio cyfraith lesddaliad, yn enwedig mesurau a ffioedd rheoli ystadau, rhenti tir a’r cyfle sy'n bodoli i weithio gyda Llywodraeth y DU yn dilyn y Papur Gwyn ar gyfunddaliad. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ddweud wrthyf pryd y rhagwelwch y gallwch roi diweddariad pellach ar gynnydd tuag at gyflwyno cyfunddaliad yn lle anghyfiawnderau'r system lesddaliad bresennol, a beth y gallwch ei wneud i sicrhau bod lesddeiliaid presennol yn ymwybodol o’u hawliau newydd, o ystyried gweithrediad parhaus Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024?

Diolch, Vaughan. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar roi Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 ar waith. Daw hyn â llawer o newidiadau buddiol i lesddeiliaid, gan gynnwys, i enwi ond ychydig, gwell hawliau i ymestyn eu les neu brynu eu rhydd-ddaliad, cynyddu tryloywder taliadau gwasanaeth, cael gwared ar y rhagdybiaeth y bydd lesddeiliaid bob amser yn talu ffioedd cyfreithiol eu landlord wrth herio arferion gwael, a gwahardd y defnydd o lesddaliad ar gyfer tai newydd. Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys hawliau newydd pwysig i rydd-ddeiliaid ar ystadau a reolir i herio rhesymoldeb taliadau ac i wneud cais i dribiwnlys i benodi rheolwr addas i oruchwylio’r ddarpariaeth o wasanaethau yn hytrach na chwmni rheoli ystadau.

Mae rhoi'r Ddeddf ar waith yn dibynnu ar hynt rhaglen sylweddol o is-ddeddfwriaeth gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, a bydd angen ymgynghori pellach ar lawer o hynny. Fel y gwn y bydd yr Aelod yn gwybod, mae’r maes hwn yn gymhleth ac yn dechnegol iawn, felly mae angen inni sicrhau ein bod yn cael y manylion yn gywir. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddant yn cyhoeddi Bil diwygio lesddaliad a chyfunddaliad drafft yn ail hanner y flwyddyn hon. Bydd hyn yn rhoi’r newidiadau i gyfunddaliad a nodir yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar waith, yn ogystal â diwygio’r system annheg, hen ffasiwn o fforffedu lesddaliad, a mynd i’r afael â rhenti tir mewn prydlesi presennol. Gallaf roi ymrwymiad i chi fy mod yn archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael i ni, i wneud cynnydd ar y materion hyn, lle bo modd, gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau'r diwygiadau uchelgeisiol hynny yma yng Nghymru. Gwn fod ein swyddfeydd yn trefnu’r cyfarfod hwnnw, ac edrychaf ymlaen at drafod eich syniadau a’ch pryderon ynglŷn â hyn yn fwy manwl hefyd.

13:35

Rwyf wedi ymgyrchu ers tro yn erbyn anghyfiawnderau eiddo lesddaliadol, felly rwy'n croesawu'r camau i ddod â’r system lesddaliad hen ffasiwn i ben a gwneud cyfunddaliad yn ddeiliadaeth ddiofyn ar gyfer fflatiau ac eiddo newydd. Diolch i Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU am gyflwyno’r diwygiadau hyn. Bydd y rhain yn rhoi mwy o reolaeth i berchnogion tai dros eu heiddo, yn ogystal â rhoi diwedd ar arferion annheg a chostau drud a osodir gan landlordiaid trydydd parti. Un o’r prif heriau gydag eiddo lesddaliadol yw’r rhent tir, costau yswiriant a chostau rheoli cynyddol. Ar hyn o bryd yng Nghymru, amcangyfrifir bod 160,000 o lesddeiliaid yn talu rhent tir. Hyd nes y bydd y diwygiad hwn ar waith, byddant yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'r costau anghymesur ac afresymol hyn. Ar ben hyn, mae’n rhaid i bobl sy’n byw mewn eiddo lesddaliadol ymdopi â thaliadau gwasanaeth drud a thaliadau eraill y gellir eu codi arnynt unrhyw bryd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau sut y bwriadwch fynd i'r afael â hyn yng Nghymru? Mewn gwirionedd, codwyd hyn cyn i Lywodraeth Geidwadol y DU gyflwyno'r diwygiadau yma, felly mae'n hanfodol eich bod yn achub y blaen ar hyn. Mae gennym ormod o lesddeiliaid yng Nghymru sy’n dioddef yn wirioneddol. Diolch.

Diolch, Janet. Fel y dywedais yn fy ateb i Vaughan Gething, rwy’n awyddus iawn i archwilio rhinweddau posibl y diwygiadau pellach hyn i Gymru ac rwyf wedi trafod fy niddordeb mewn gweithio gyda’n gilydd ar y diwygiadau pwysig hyn, lle bo hynny'n briodol, gyda Gweinidog presennol Llywodraeth y DU, Matthew Pennycook. Rwy’n falch fod ei ddatganiad i Senedd y DU ym mis Tachwedd a’i ragair yn y Papur Gwyn yn cydnabod ac yn atgyfnerthu dyhead Llywodraeth y DU i gydweithio i roi’r newidiadau pwysig i Ddeddf 2024 ar waith a thuag at ddiwygio yn y dyfodol. Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod a’r Senedd fy mod yn awyddus i archwilio’r rheini. Fe dynnoch chi sylw at nifer o feysydd lle credaf y bydd hyn o fudd gwirioneddol i bobl yma yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ar 5 Mawrth, cyhoeddwyd adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, yr oeddwn yn aelod ohono, i rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned. Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda llywodraeth leol i archwilio mecanweithiau i alluogi’r sector cynghorau tref a chymuned i gael cymorth gan swyddogion monitro awdurdodau lleol a gwasanaethau adnoddau dynol. Beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi clercod sy’n ei chael hi’n anodd i gael eu diogelu'n well rhag bwlio ac aflonyddu gan gynghorwyr tref a chymuned?

Diolch, Altaf. Diolch am yr hyn y mae’r pwyllgor llywodraeth leol wedi’i wneud ar y gwaith hwnnw o ran cynghorau tref a chymuned. Mae'n wirioneddol bwysig, ac mae'n rhan bwysig o'r gwaith a wnaed, nid yn unig—. Rydym hefyd wedi cael adroddiad gan sefydliadau eraill sy'n ymchwilio i hyn. Yn y pwyllgor hwnnw, lle rhoddais dystiolaeth, roedd un o’r pynciau holi yn ymwneud â cham-drin, sy’n wirioneddol bwysig. Ac rwy'n credu fy mod am achub ar y cyfle i ddweud eto, fel rwy’n siŵr y gwnewch chithau, Altaf, nad oes lle yn unrhyw un o’n cynghorau tref a chymuned i unrhyw swyddog neu aelod etholedig wynebu camdriniaeth. Mae’n amlwg fod cyfleoedd i bobl gael hyfforddiant ar hynny, a hefyd i allu codi eu llais, sy’n wirioneddol bwysig.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gosododd Llywodraeth Cymru darged cychwynnol o adeiladu 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol newydd erbyn 2026. Yn amlwg, rydych chi wedi methu’n llwyr â darparu digon o dai cymdeithasol, gan adeiladu llai na 9,000 o gartrefi, sy’n llai na hanner eich targed. O ganlyniad i’r diffyg cyson o dai cymdeithasol yng Nghymru i ateb y galw, mae digartrefedd wedi cynyddu, gyda nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro wedi cynyddu 75 y cant, o 3,729 i 6,447 o aelwydydd rhwng 2021 a 2024. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnig datrys yr argyfwng tai cymdeithasol cenedlaethol hwn?

13:40

Diolch, Altaf. Rwy'n credu ichi dynnu sylw at rai o'r ffigurau yno mewn perthynas â chartrefi fforddiadwy. Gwyddom fod angen inni adeiladu mwy o gartrefi. Gallaf roi sicrwydd i chi fy mod yn canolbwyntio ar adeiladu mwy o gartrefi yma yng Nghymru—mwy o gartrefi fforddiadwy. Ac mae gennym nifer o ddulliau gweithredu er mwyn gwneud hynny. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cofio, yn nhymor y Senedd hon, ein bod wedi buddsoddi dros £1.4 biliwn, gyda disgwyl i fuddsoddiad arfaethedig fynd â hynny i dros £1.9 biliwn mewn tai cymdeithasol ledled Cymru. Felly, mae’r arian hwnnw’n mynd i mewn i’r system, ac rydym yn gweld hynny’n gwreiddio'n dda. Mae gennym y gyllideb flynyddol uchaf erioed o £411 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae hynny’n £81 miliwn yn ychwanegol o gymharu ag eleni. Felly, mae llawer yn digwydd. Rydym wedi cael rhai blynyddoedd lle mae mwy o dai nag erioed wedi'u hadeiladu. Serch hynny, fe wyddom ei bod yn costio mwy bellach i adeiladu cartref nag yr arferai ei gostio cyn y pandemig, pan osodwyd y targed gyntaf. Gwyddom fod gennym yr heriau hynny, ond gallaf roi sicrwydd i chi fy mod i, a’r sector cyfan hefyd, wedi llwyr ymrwymo i hyn, gan mai un o’r materion sy'n codi gyda’r pwyntiau a welwch mewn perthynas â thai yw pwysigrwydd cyflenwad. Mae gennym ormod o bobl mewn llety dros dro, ac mae angen inni ganolbwyntio ar hynny o ddifrif, ond mae’n rhaid inni wneud hynny gyda’n cyflenwad hefyd. Felly, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod a’r Senedd ein bod yn canolbwyntio'n agos ar hyn.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae bron i hanner aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd ar hyn o bryd. Yn ôl Sefydliad Bevan, bydd yn cymryd 136 o flynyddoedd i ddileu tlodi tanwydd ar gyfradd gyflawni gyfredol y rhaglen Cartrefi Clyd. Cymerodd 20 mlynedd i Lywodraeth Cymru helpu dim ond 73,000 o aelwydydd. Mewn un diwrnod yn unig, fe wnaeth eu cymheiriaid yn San Steffan gael gwared â chymorth tanwydd hanfodol i 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru drwy gael gwared ar daliad tanwydd y gaeaf, gan ddadwneud blynyddoedd o waith gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny bron yn 30,000 o gartrefi yn Abertawe yn unig. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod Llywodraeth y DU wedi dinistrio ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru? A wnaiff hi ystyried adfer lwfans tanwydd gaeaf Cymru, fel y cynigiwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig?

Diolch, Altaf. Ond rwy'n credu'n gryf y byddai’n rhaid i chi—rwy'n credu bod pob un ohonom yn gwrando ar yr hyn a wnaeth y Torïaid yma—feddwl am yr hyn a wnaeth Llywodraeth Dorïaidd y DU y tro diwethaf, ac mae’n anodd iawn clywed y gair ‘dinistrio’, gan y credaf y bydd gan lawer o bobl rywbeth i’w ddweud am hynny ac am rai o’r systemau a oedd ar waith dros 14 mlynedd wirioneddol anodd.

Gallaf ddweud wrthych beth rydym yn ei wneud yma. Rydym wedi buddsoddi mwy na £30 miliwn eleni yng nghynllun newydd Cartrefi Clyd Nyth i leihau nifer y cartrefi incwm isel sy’n byw mewn cartrefi oer a llaith. Mae’r cynllun hwn yn defnyddio dull y ffabrig gwaethaf a charbon isel yn gyntaf i wella effeithlonrwydd ynni hirdymor yn y cartrefi incwm isel lleiaf effeithlon yn thermol yng Nghymru. Mae’n defnyddio dull deublyg, drwy wasanaeth cynghori a thrwy wella cartrefi pobl mewn tlodi tanwydd yn ffisegol. Ac mae'n bwysig iawn fod gennym wasanaeth cynghori, sy’n annibynnol hefyd, fel y gall pobl yng Nghymru ymddiried ynddo, sy’n bwysig iawn yn fy marn i. Ond rydym yn buddsoddi yn hyn, ac rydym yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd sy'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol hefyd.

13:45

Diolch, Ddirprwy Llywydd. O siarad ag arweinwyr awdurdodau lleol ledled Cymru, nid yw’r setliad llywodraeth leol a roddwyd i gynghorau ledled Cymru wedi bod yn ddigon. O ganlyniad, rydym bellach yn gweld toriadau poenus iawn yn cael eu gwneud neu eu cynnig, a fydd yn arwain at ganlyniadau eang a phellgyrhaeddol i’n cymunedau. Mae’r newyddion gan Lafur yn San Steffan heddiw yn cadarnhau bod cyni yma i aros.

Yn fwy lleol, mae cynlluniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gynyddu ffioedd llogi caeau chwarae 75 y cant yn enghraifft o'r penderfyniadau dinistriol hyn. Yn wir, mae deiseb wedi’i chychwyn i wrthwynebu hyn, gyda dros 5,000 o bobl eisoes wedi’i llofnodi. Bydd y cynnig hwn, os caiff ei ddeddfu, yn dinistrio timau ar lawr gwlad o bob oed ar draws ystod eang o chwaraeon. Bydd yn rhaid i’r ffioedd hynny gael eu trosglwyddo ymlaen gan y clybiau sy’n defnyddio caeau’r cyngor, a bydd llawer o chwaraewyr neu rieni chwaraewyr yn methu fforddio talu mwy a heb unrhyw ddewis ond rhoi'r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon. Gyda biliau trethi cyngor uwch yn dod drwy ddrysau cartrefi yr wythnos hon, mae'n ergyd ddwbl i'r aelwydydd hynny. Peidiwch â chamgymryd, bydd rhai o'r timau'n rhoi'r gorau iddi o ganlyniad i hyn, bydd chwaraeon yn dod yn rhywbeth i bobl ag incwm gwario yn unig. A ydych chi'n gyfforddus gyda’r math hwnnw o beth yn digwydd o ganlyniad i gyllidebau Llafur yn San Steffan a Chymru? A pha fath o sgyrsiau rydych chi'n eu cael gydag awdurdodau lleol i liniaru’r sefyllfa honno?

Diolch, Peredur. Fel rydych wedi fy nghlywed yn dweud, a fy nghyd-Aelodau hefyd, er ein bod wedi cael un o'r setliadau gorau o dan ddatganoli, nid yw un gyllideb yn mynd i newid yr hyn rydym wedi bod drwyddo am y 14 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu bod pob awdurdod lleol yn deall hynny. Maent wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn. Rwy’n siarad ag arweinwyr, prif weithredwyr ac aelodau awdurdodau lleol yn rheolaidd iawn. Rwy'n mynd allan i siarad â hwy, i glywed ganddynt yn uniongyrchol, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl waith a wnânt a'u gonestrwydd ac am sôn wrthyf am eu profiadau hefyd. Mae hyn yn rhywbeth sy’n fater i'r awdurdodau lleol eu hunain drwy eu prosesau democrataidd, o ran eu hymgynghori a’r penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid iddynt eu gwneud o hyd. Ond gadewch inni fod yn glir, cyn y setliad y bu modd i ni ei drosglwyddo ymlaen i awdurdodau lleol eleni, byddai awdurdodau lleol wedi bod yn disgwyl setliad arian gwastad pe na baem wedi cael Llywodraeth Lafur yn y DU, a chredaf fod honno’n neges wirioneddol bwysig.

Diolch yn fawr am yr ateb yna.

Fel pe na bai hynny’n ddigon drwg, rydym yn gweld y bwriad i gau canolfannau hamdden ledled Cymru. Er enghraifft, yn fy rhanbarth i, mae dwy o ganolfannau hamdden yr awdurdod lleol ym Mhontllan-fraith a Chefn Fforest yn wynebu cael eu cau. Bydd atal mynediad i'n cymunedau at chwaraeon fforddiadwy yn arwain at ganlyniadau difrifol i'r agenda iechyd ataliol yn y tymor hwy. Mae’n mynd i waethygu’r problemau cynyddol sydd gan ein cenedl gyda gordewdra a chyflyrau iechyd cysylltiedig, fel diabetes math 2. Bydd hefyd yn arwain at ganlyniadau tymor byr i iechyd meddwl a lles, gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu tanariannu’n ddifrifol, heb straen ychwanegol.

Dylai'r Llywodraeth roi blaenoriaeth i wella'r system fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag iechyd yn y tymor byr. Bydd toriadau cosbol yn gwthio mwy o bobl i dlodi, yn enwedig pobl anabl. Bydd y toriadau creulon a gyhoeddwyd i les yn cael eu teimlo’n anghymesur yng Nghymru, gan fod gan y genedl gyfraddau uwch o bobl anabl o oedran gweithio na chyfartaledd y DU. Mae pump o’r 10 awdurdod lleol yn y DU sydd â’r cyfraddau uchaf o anweithgarwch economaidd oherwydd salwch hirdymor yma yng Nghymru. A yw’r Llywodraeth hon wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i gynnal asesiad effaith o sut olwg fydd ar iechyd y genedl gyda gostyngiad mewn gwasanaethau hamdden cymunedol, ac a fyddai’n syniad da os nad yw wedi gwneud hynny eisoes?

Diolch, Peredur. Gwn fod canolfannau hamdden yn asedau cymunedol pwysig a bod pobl yn teimlo’n angerddol iawn amdanynt, fel pob un ohonom. Rwy'n gwybod hynny yn fy ardal fy hun, lle rydym yn gweld un yn cael ei hadeiladu—yr hen ganolfan hamdden yn cael ei hadnewyddu—ond rwy'n derbyn bod awdurdodau lleol wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, fel y dywedais. Ac rydych yn llygad eich lle fod hyn yn bwysig gyda'r agenda ataliol o ran iechyd a lles ein pobl yma yng Nghymru.

Ar y budd-daliadau a godoch chi a’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno ar lefel y DU, rydym yn parhau â’n deialog â Llywodraeth y DU ar natur a chwmpas y diwygiadau arfaethedig i’r system fudd-daliadau salwch ac anabledd. Rydym wedi gofyn am asesiad effaith ar gyfer pobl Cymru, ac rydym yn parhau â’n trafodaethau ynglŷn â rôl a diwygiadau i’r system fudd-daliadau gydag Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn y cyfarfodydd rhyngweinidogol rhwng y pedair gwlad.

13:50

Diolch yn fawr. Ddoe, buom yn trafod ac roedd gennych ddatganiad ar y gwasanaeth tân, ac edrych yn fewnol ar y gwasanaeth tân. Hoffwn edrych ar rywbeth sy’n effeithio ar y gwasanaeth tân ar hyn o bryd. Rydym yng nghanol tymor echrydus tanau glaswellt, pan fydd diffoddwyr tân yn mentro eu bywydau a chymunedau mewn perygl oherwydd gweithredoedd difeddwl nifer fach iawn o bobl. Dros y penwythnos diwethaf, bu diffoddwyr tân yn ymdrin â 70 o ddigwyddiadau mewn lleoedd fel Rhiwderyn, Caerffili a Phen-rhys. Yn aml, mae'r tanau hyn yn anodd iawn i'w rheoli ac os bydd gwynt cryf yn codi maent yn symud yn gyflymach nag y gall oedolyn redeg. Sut y mae’r Llywodraeth hon yn sicrhau bod gan ddiffoddwyr tân adnoddau i frwydro tanau glaswellt? A hefyd, pa ymdrechion y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu haddysgu am beryglon tanau glaswellt, mewn ymgais i atal y rheini sy'n gyfrifol amdanynt rhag eu cynnau?

Diolch, Peredur. Yn sicr. Mae’n peri cryn bryder pan welwn y tanau glaswellt hyn, ac mae'n anhygoel pa mor gyflym y byddant yn cydio. Mae'r gwasanaeth tân yn gwneud gwaith gyda phobl ifanc ar godi ymwybyddiaeth. Gwn fod hynny'n rhywbeth y maent yn ei wneud, a gallaf sicrhau bod hynny'n cael ei rannu â'r holl Aelodau yma hefyd, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o hynny oll. Mae'n bwysig ein bod yn anfon neges at y cyhoedd ynghylch pa mor beryglus yw'r tanau hyn a sut y gallant, fel y dywedaf, ledaenu dros y tir yn gyflym iawn a dod yn fygythiad i eiddo ac yn aml i fywydau. Rwy’n cael cyfarfodydd rheolaidd gydag Undeb y Brigadau Tân, yr undebau eraill sy’n gysylltiedig â hyn, a hefyd penaethiaid a chadeiryddion y gwasanaethau tân ac achub ledled Cymru. Mae gennym gyfarfod fforwm partneriaeth hefyd, felly mae hynny’n rhywbeth y gallaf sicrhau ei fod yn cael ei godi hefyd, ac efallai y bydd yn un o’n heitemau nesaf ar yr agenda.

Cynlluniau Datblygu Tai Cymdeithasol

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynlluniau datblygu tai cymdeithasol ar gyfer Abertawe? OQ62489

Diolch, Mike. Mae rhaglen grant tai cymdeithasol tair blynedd Abertawe wedi'i hymrwymo'n llawn gyda chyllid grant i gefnogi'r ddarpariaeth o 730 o gartrefi newydd. Rwy'n falch fod dyraniad Abertawe ar gyfer 2024-25 yn fwy na £26 miliwn, sy'n gynnydd o £3 miliwn o gymharu â 2023-24, ac mae'n darparu cartrefi hanfodol yn y ddinas.

A gaf i ddiolch i chi am eich ateb? Ond mae taer angen tai cymdeithasol yn Abertawe. Yr angen am dai cymdeithasol yw’r prif reswm bellach pam fod etholwyr yn cysylltu â mi, ac mae llawer o’r hyn a ddywedant yn drist iawn; mae nifer yn anobeithio. Mae cyngor Abertawe yn adeiladu tai cyngor, ond ni allant efelychu'r niferoedd a adeiladwyd yn y 1950au a'r 1960au. Rwy'n siarad fel rhywun a oedd yn ddigon ffodus i gael symud i dŷ cyngor yn y 1960au. Pa drafodaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i chael gyda Llywodraeth San Steffan i ganiatáu i fenthyca ar gyfer datblygiadau tai cyngor beidio â chyfrif yn erbyn gofyniad benthyca’r sector cyhoeddus yn yr un modd â chyfalaf trafodiadau ariannol? Mae ased gwerthadwy yn erbyn y benthyciad, felly mae'n mantoli, ac mae ffrwd incwm yn ei erbyn i dalu'r hyn sydd i bob pwrpas yn forgais ar gyfer yr eiddo. Mae taer angen inni ddechrau adeiladu tai ar lefel y 1950au a’r 1960au, a byddai hynny’n golygu adeiladu miloedd.

Diolch, Mike. Fel y dywedais yn gynharach, mae’r Llywodraeth wedi darparu’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol ledled Cymru yn ystod tymor y Senedd hon, gyda’r buddsoddiad arfaethedig o dros £1.9 biliwn. Ond fel y dywedais, mae angen inni adeiladu mwy o gartrefi o hyd; nid oes unrhyw amheuaeth gennyf am hynny. Llwyddais i gyhoeddi £10 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i helpu i roi hwb i’r gwaith o ddatblygu 16 o gynlluniau tai fforddiadwy newydd, a fydd yn arwain at adeiladu 238 o gartrefi newydd cyn diwedd tymor y Senedd hon, ac mae hynny’n cynnwys 30 o gartrefi yn Brunel Wood yn Abertawe.

Fel y dywedaf, rydym yn darparu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad. Nid oes unrhyw reolaethau uniongyrchol ar faint o fenthyca y gall awdurdodau lleol ei wneud. Gwneir penderfyniadau benthyca o fewn y fframwaith darbodus ar gyfer cyllid cyfalaf. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth y DU darged i rwymedigaethau ariannol net y sector cyhoeddus fod yn gostwng fel canran o gynnyrch domestig gros erbyn 2029-30. Gan fod y mesur hwn o ddyled yn cwmpasu’r sector cyhoeddus cyfan, mae benthyca awdurdodau lleol yn cyfrannu ato. Felly, mae’r trafodaethau hynny wedi’u cynnal. Ond fel y dywedais, rydym yn gwneud llawer o gynnydd yn Abertawe, ond mae llawer o ffordd i fynd o hyd hefyd.

13:55

Rydym newydd glywed gan Altaf Hussain fod gan Lywodraeth Cymru darged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol i’w hadeiladu yn ystod tymor y Senedd hon wrth gwrs, ond nid yw hyd yn oed hanner ffordd yno eto gyda blwyddyn i fynd tan yr etholiadau; dim ond 9,000 o’r rheini sydd wedi’u hadeiladu hyd yn hyn. Ac yn gwbl anghredadwy, ni chredaf fod Llywodraeth Cymru yn deall maint yr her sydd o'i blaen i gyflawni'r targed hwnnw oherwydd, yn anghredadwy, rwyf newydd glywed y Gweinidog yn sôn am brosiect ar gyfer 13 o gartrefi yn Abertawe, nad yw'n agos at grafu'r wyneb o ran nifer y cartrefi cymdeithasol y mae angen eu hadeiladu ledled Cymru.

Nawr, yr hyn y credaf sy’n bwysig iawn yma yw ein bod yn deall yn union rôl y cyn Weinidog Lee Waters, sydd wedi’i alw i mewn i’ch helpu i gyrraedd y targed hwn. Gwn fod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn perfformio ar hyn o bryd ym mhob maes yn golygu ei bod angen yr holl gymorth y gall ei gael, ond nid yw’n glir iawn beth yn union y mae Lee Waters yn ei wneud yn cadeirio—

Ydy, tai cymdeithasol yn Abertawe, yn hollol, ac mae angen inni gyrraedd y targedau hynny ledled Cymru, gan gynnwys yn Abertawe. Felly, a gawn ni wybod beth yn union y mae Lee Waters yn ei wneud? Oherwydd pan ofynnodd fy nghyd-Aelod Paul Davies ddoe, dywedodd y Gweinidog Cyflawni nad oedd yn arbenigwr, ond ei fod yn gynullydd. Felly, ar sail y ffaith nad ydych chi wedi gallu cyrraedd y targed hwnnw hyd yma ledled Cymru, gan gynnwys yn Abertawe, beth yn union y mae'n ei gynnull?

Diolch, Tom, a hoffwn egluro hefyd mewn ymateb i gwestiwn cyntaf Mike Hedges, fel y dywedais, fod grant tai cymdeithasol tair blynedd Abertawe wedi'i ymrwymo'n llawn, gyda chyllid grant yn cefnogi'r ddarpariaeth o 730 o gartrefi newydd ac mae'r dyraniad y maent wedi'i gael yn fwy na £26 miliwn, sy'n gynnydd o £3 miliwn o gymharu â 2023-24. Roedd y prosiect yn Brunel Wood yn bosibl oherwydd £10 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon gyda 30 o gartrefi. Nid dyna’r unig beth yr ydym yn ei wneud yn Abertawe. Gallaf ddweud y bydd datblygiad Riverside Wharf yn Nwyrain Abertawe yn darparu 104 yn ychwanegol o gartrefi rhent cymdeithasol newydd, a bydd 13 o gartrefi newydd yn cael eu darparu yn Tŷ Brondeg. Mae'r pethau hyn yn digwydd.

Rwy'n glir iawn fod angen inni adeiladu mwy o gartrefi. Dyna ffocws y Llywodraeth hon; mae'n rhan o flaenoriaethau'r Prif Weinidog hefyd. Rwyf wedi dweud fy mod wedi gallu darparu'r arian ychwanegol hwnnw. Rwyf hefyd wedi gallu cyhoeddi benthyciad llog isel o £90 miliwn ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Felly, mae llawer o bethau'n digwydd yn y maes hwn. Un o'r dulliau hynny yw'r tasglu. Nid dyna'r unig beth sy'n digwydd yn y maes; mae'n un ohonynt. Mae Lee Waters yn arwain ac yn cynnull y grŵp o bobl sy'n arbenigwyr yn eu maes. Mae wedi dod â’r rheini ynghyd, a byddant yn adrodd cyn bo hir. Mae gan nifer o'r bobl hynny arbenigedd yn y maes hwn, boed mewn llywodraeth leol, neu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac eraill, ac rwy'n credu mai ar hynny y maent wedi bod yn edrych, a cheisio ychwanegu gwerth. Ac edrychaf ymlaen at gael eu hargymhellion y mis nesaf, a fydd yn amlwg yn cael eu cyhoeddi, a byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu rhannu â'r Aelodau.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar i chi am ganiatáu imi gyfrannu ar fyr rybudd. Wrth gwrs, mae gennym y targed hwn ar gyfer tai cymdeithasol a gall mynd drwy’r broses o adeiladu tai o’r newydd fod yn broses hir iawn. Un peth yr hoffwn ei ddeall, yn achos Abertawe a thu allan i Abertawe, yw sut y mae'r Llywodraeth yn edrych ar sut y gallwn ei gwneud yn haws i awdurdodau lleol drosi eiddo masnachol yn eiddo preswyl. Er enghraifft, mae digon o ofod i'w gael uwchben siopau, lloriau lluosog a fyddai’n ddelfrydol ar gyfer fflatiau un ystafell wely a dwy ystafell wely lle gwyddom fod gennym brinder o’r anghenion preswyl penodol hynny. Felly, a oes unrhyw bosibilrwydd, o safbwynt y Llywodraeth, i ddefnyddio rhywfaint o'r cyllid hwn sydd ar gael ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol i drosi peth o'r eiddo masnachol hwnnw yn eiddo preswyl ar gyfer tai cymdeithasol?

Diolch, Luke, ac mae hyn yn rhywbeth y bûm yn ei drafod gydag awdurdod lleol ddoe mewn gwirionedd pan oeddem yn edrych ar eiddo uwchben siopau, a chredaf ein bod wedi gweld hynny'n gweithio'n dda iawn mewn rhai ardaloedd. Mae mwy o lawer y credaf y gallwn ei wneud â hynny o hyd. Mae'n rhan fawr iawn o'r hyn rydym yn edrych arno. Dylwn ddweud, o ran y grant cartrefi gwag sydd gennym, fod Abertawe wedi cael 102 o geisiadau dilys am y grant cartrefi gwag; mae 31 wedi'u cymeradwyo, ond heb eu cwblhau eto; ac mae 19 wedi'u cwblhau, felly mae hwnnw, unwaith eto, yn grant sy'n dod â chartrefi hanfodol yn ôl i ddefnydd. Felly, mae gennym nifer o ffyrdd o wneud hynny, a gallwch fod yn sicr fod edrych ar eiddo gwag uwchben siopau yn rhan fawr iawn o hynny.

14:00
Costau Cynyddol Lesddeiliaid

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi lesddeiliaid nad ydynt yn gallu gwerthu eu cartrefi ac sy'n destun costau cynyddol lesddeiliaid? OQ62497

Diolch, Rhys. Mae diwygio cyfraith lesddaliad yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y diwygiadau hyn, ac mae ein dull o weithredu ar y cyd eisoes wedi gwella hawliau lesddeiliaid. Rydym bellach yn gweithio i weithredu Deddf 2024, gan gynnwys gwelliannau i dryloywder tâl gwasanaeth, gan ganiatáu i lesddeiliaid graffu a herio costau annheg yn well.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn derbyn negeseuon e-bost di-ri o Victoria Wharf—rydych chi a'ch swyddogion yn cael eich copïo i'r e-byst hyn—am y costau uwch y mae trigolion Victoria Wharf yn eu hwynebu fel costau gwasanaeth. Roedd Taylor Wimpey wedi addo i'r lesddeiliaid hyn y byddent yn talu'r cynnydd mewn costau yswiriant oherwydd y gwaith adfer yno. Nid yw hynny wedi digwydd; maent wedi cefnu ar eu haddewid, a dywedwyd wrthyf fod lesddeiliaid wedi gorfod talu £25,000 heb y nesaf peth i ddim rhybudd. Mae'r baich ariannol cynyddol yn faich enfawr arnynt. Mae pobl yn crio mewn cyfarfodydd. Mae pobl yn teimlo'n gaeth. Mae pobl mewn anobaith. Mae hyn yn llawer mwy na mater cladin yn unig. Mae'r system lesddaliad, fel y nodwyd yma o'r blaen, yn perthyn i hanes ac yn sylfaenol annheg ac anghyfiawn. A bod yn deg, mae trigolion yn canmol eich gwaith a gwaith eich swyddogion, ond maent ar ben eu tennyn. Rwy'n poeni y bydd rhywbeth yn digwydd i un o'r trigolion hyn. A wnewch chi a'ch swyddogion gyfarfod â rhai o drigolion Victoria Wharf, er mwyn i chi allu deall eu sefyllfa yn well? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr, Rhys. Rwyf wedi gweld adroddiadau yn y newyddion am y taliadau gwasanaeth uchel y mae eich etholwyr wedi bod yn ymrafael â hwy, a'r problemau a'r trallod y mae hyn wedi'i achosi iddynt. Bydd ein gwaith ar ddiwygio cyfraith lesddaliad yn helpu mewn sefyllfaoedd fel hyn, trwy roi mynediad i lesddeiliaid at fwy o wybodaeth am eu taliadau, gan ei gwneud hi'n haws herio taliadau os ydynt yn afresymol. Fel y dywedais, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y rhaglen waith sydd ei hangen er mwyn cychwyn Deddf 2024, i sicrhau y bydd y manteision a ddaw yn ei sgil yn cael eu teimlo yma yng Nghymru cyn gynted â phosibl.

Ar FirstPort, cyfarfûm ag asiantau rheoli, a oedd yn cynnwys FirstPort, yn ôl ym mis Tachwedd, lle gwneuthum eu hannog i weithredu gyda thryloywder llawn ac er budd gorau trigolion a lesddeiliaid. Byddaf yn cyfarfod â hwy eto yn y misoedd nesaf, yn eithaf fuan, i bwysleisio'r brys i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Efallai y gallech ysgrifennu ataf yn gyntaf ac awn ar drywydd y cais.

Dyrannu Tai yn Aberconwy

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am sut y mae cymdeithasau tai yn dyrannu tai yn Aberconwy? OQ62501

Diolch, Janet. Mae cymdeithasau tai yn dyrannu tai yn seiliedig ar y polisi dyraniadau lleol y cytunwyd arno gyda chyngor Conwy. Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gael polisi sy'n nodi sut y bwriadant ddyrannu tai, y dylid ei gyhoeddi i sicrhau bod pobl sydd angen tai yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

Wrth gwrs, dros y blynyddoedd, ar sawl achlysur yma rwyf wedi gorfod codi'r gwariant gan fy awdurdod fy hun ar lety dros dro—dros £4 miliwn y flwyddyn. Mae gennym bron i 400 o unigolion sy'n byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd, a gall hynny gynnwys gwestai, fflatiau un ystafell, carafanau. Rwyf hefyd wedi nodi bod oddeutu 750 o unedau llety dros dri safle sy'n eiddo i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, yn ysbyty Maelor, Ysbyty Gwynedd a Glan Clwyd. Mae'r rhan fwyaf o'r eiddo'n fannau na ellir byw ynddynt, a bûm yn ceisio gweithio gyda chymdeithasau tai i gael yr holl stoc, fel y gall ddarparu llety i nyrsys, meddygon iau, neu breswylwyr sy'n gorfod aros mewn ystafelloedd gwesty ar hyn o bryd. Nid yw wedi digwydd.

Yn ddiweddar, fe fyddwch yn ymwybodol o erthygl lle darparwyd cartrefi newydd i nyrsys nawr, yn hytrach na phobl leol sydd wedi bod ar restrau llety dros dro a'r digartref. Mae'n ymddangos yn hurt fod gennych chi brif weithredwr a chadeirydd y bwrdd iechyd eisiau bwrw ymlaen â'r cynllun, a hefyd y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. A wnewch chi ymyrryd yn y prosiect hwn fel y gallwn gael y 750 o unedau hyn yn ôl i safon ansawdd tai ac er mwyn iddynt allu ddod yn gartrefi i bobl allu byw ynddynt?

14:05

Diolch, Janet. O dan Ddeddf Tai 1996, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gael cynllun dyrannu ar gyfer pennu blaenoriaethau tai a ddyrennir a dylai fod gan bob awdurdod lleol ei bolisi dyraniadau cyhoeddedig ei hun ar gael i bobl leol allu ei weld.

Ar y cynlluniau a godwyd gennych, byddwn yn hapus iawn pe baech chi'n ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny yn gyntaf. Hoffwn wybod lle mae tir sector cyhoeddus y gallwn ei ystyried ar gyfer adeiladu ac i weld sut y gallaf helpu i ddatrys peth o hynny. Felly, hoffwn i chi ysgrifennu ataf ar hynny'n gyntaf, Janet.

Safon Ansawdd Tai Cymru

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r gwaith o gyflawni safon ansawdd tai Cymru? OQ62530

Diolch, Alun. Mae safon ansawdd tai newydd Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gyflwyno data lefel eiddo yn erbyn pob un o'r meini prawf yn flynyddol. Byddwn yn cyhoeddi'r prif adroddiad cyntaf ar y safon newydd yn ystod yr hydref 2025.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Wrth ymweld ag etholwyr dros yr wythnosau diwethaf, cefais fy synnu wrth weld ansawdd y cartrefi y mae disgwyl i bobl fyw ynddynt mewn rhai achosion yn fy etholaeth. Mae'n amlwg i mi, pa bynnag amgylchedd rheoleiddio sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith, nid yw'n cyflawni i rai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed rwy'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent. Mae angen inni sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol yn cynnig safon ansawdd sy'n gyson a bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y safonau hynny'n cael eu bodloni.

Byddaf yn cyfarfod â grŵp o bobl yfory yn fy etholaeth sy'n byw mewn cartrefi lle nad yw'r safon ansawdd honno'n cael ei bodloni. Nid yw'n deg eu bod hwy, eu teuluoedd a'u plant ifanc yn cael eu magu mewn cartrefi nad ydynt yn bodloni unrhyw un o'n safonau ansawdd. A hoffai Ysgrifennydd y Cabinet ymweld â Blaenau Gwent—byddai croeso mawr iddi wneud hynny—ond hefyd i sicrhau bod gennym amgylchedd rheoleiddio ar waith sy'n sicrhau bod y safon yn cael ei bodloni'n gyson.

Yn sicr. Diolch am hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd pethau'n mynd yn dda gyda'ch etholwyr yfory. Fel bob amser, rwy'n hapus iawn i ymweld â Blaenau Gwent.

Ym mis Hydref 2023, fe wnaethom gyflwyno'r safon newydd. Arweiniodd at y newidiadau mwyaf i'r safonau tai ar gyfer cartrefi cymdeithasol sy'n bodoli'n barod ers dros 20 mlynedd, er mwyn adlewyrchu'n well y newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn byw ac yn gweithio ac yn teimlo am eu cartref. Mae gennym drefn adrodd am y safon nawr sy'n mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gyda'r derminoleg flaenorol o 'fethiannau derbyniol'. Mae cartrefi bellach yn mynd i gael eu categoreiddio naill ai fel rhai sy'n pasio'r safon, yn pasio'n amodol am resymau fel treftadaeth a chadwraeth, methu dros dro, fel gwrthodiad tenant neu waith gwella wedi'i raglennu, ac yn olaf, methiant i fodloni'r safon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £192 miliwn o gyllid grant yn y flwyddyn ariannol hon i landlordiaid cymdeithasol tuag at y gost o gyrraedd y safon hon. Gwyddom fod llawer i'w wneud yn y maes, ond mae'n bwysig iawn, fel y dywedoch chi, fod gan bobl lety o'r safon y dylent ei disgwyl yma yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar iawn am yr hyn rydych chi newydd ei ddweud. Rydym i gyd yn cefnogi'r angen i gael safonau gofynnol ar gyfer tai a ddarperir yn gyhoeddus. Diweddarodd safon ansawdd tai Cymru 2023 safonau ansawdd blaenorol, ond gyda gofynion amwys, megis yr angen am ofod awyr agored deniadol ac eiddo sy'n gyfforddus ac sy'n hyrwyddo lles. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw ystyr hynny? Mae adroddiad Sefydliad Bevan o'r enw 'Dim unman i'w alw'n gartref: Prinder cartrefi cymdeithasol a chymunedol' yn tynnu sylw at y ffaith bod landlordiaid cymdeithasol yn gwneud y penderfyniad anodd i werthu cartrefi oherwydd y gost o fodloni'r safonau ansawdd newydd. Ar adeg pan all pawb ohonom ddeall na ellir fforddio colli stoc tai cymdeithasol, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cydbwyso'r gofynion o fodloni'r safonau ansawdd idealistig hyn gan gynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael i deuluoedd i'w rhentu ar yr un pryd?

Nid wyf yn meddwl ei fod yn idealistig o gwbl. Os nad ydych chi wedi cael cyfle i weld rhai o'r cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu, rwy'n argymell eich bod yn mynd i edrych ar rai ohonynt i weld sut y cânt eu hadeiladu fel cartrefi sy'n addas ar gyfer y dyfodol, gyda grisiau mwy llydan, er enghraifft, fel bod modd gosod lifft risiau os bydd angen gwneud hynny yn y dyfodol; cael lle i storio pethau yn eich gardd gefn, gan fod cael sied yn bwysig iawn i bobl allu storio eitemau y tu allan; a chael gardd o faint gweddus hefyd. Felly, rwy'n argymell i'r Aelod edrych ar beth o'r eiddo.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector i archwilio atebion cyllido hyfyw; mae wedi cael ei godi. Mae angen inni feithrin cydnabyddiaeth ar draws y sector nad yw cyllid y Llywodraeth ar ei ben ei hun yn mynd i fod yn ddigon i ariannu her datgarboneiddio yn llawn, gan gydnabod bod rhaid i gyllid grant fod yn rhan o'r ateb. Y cam cyntaf yw deall beth yw'r her, ac mae hynny'n ymwneud â chael diweddariad stoc go iawn ar yr hyn y gallai hynny ei olygu. Felly, dyna beth y dylai'r sector fod yn canolbwyntio arno ar hyn o bryd. Ond gallaf sicrhau'r Aelod ein bod yn parhau i weithio gyda'r sector i archwilio atebion ariannu posibl.

14:10

Mae cyflawni safon ansawdd tai Cymru yn cael canlyniadau anfwriadol. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu gyda chynghorwyr lleol yng Nghaerffili, gan gynnwys Lindsay Whittle, Steve Skivens a Greg Ead, am fwy o hyblygrwydd o ran yr amser y mae'n ei gymryd i newid eiddo pan gaiff ei reoli gan y cyngor. Datgelodd cais rhyddid gwybodaeth ei bod wedi cymryd 218 diwrnod ar gyfartaledd i baratoi tai gwag yn y fwrdeistref i'w gosod, gyda chyfartaledd o bron i £10,000 yn cael ei wario ar waith adnewyddu. Fe wnaethant ddarganfod hefyd fod 358 o gartrefi yn wag ar 13 Rhagfyr y llynedd. Yn amlwg, rwy'n cytuno'n llwyr, mae angen i dai fod o safon uchel, gweddus. Ar yr un pryd, ni allwn adael i bobl agored i niwed fynd o soffa i soffa neu aros mewn llety dros dro anniogel tra byddant yn aros i dai ddod ar gael. Mae llawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn gosmetig ei natur; gellid ei wneud tra bod pobl yn byw yn y tŷ. Felly, a allai'r Llywodraeth edrych ar gyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y ffordd honno i atal hyn rhag digwydd, os gwelwch yn dda?

Diolch, Delyth. Fel y dywedais mewn ymateb i Alun Davies, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael cartrefi o ansawdd da i bobl. Rydym yn siarad am 'addas i bobl breswylio ynddynt' o ran y safon, ac rwy'n credu y dylem fod yn glir am hynny. Mae hyblygrwydd o fewn y system, ac rwy'n siarad â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol sy'n aml yn codi rhai o'r materion hyn, ac rwy'n apelio arnynt yn y bôn i ddweud wrthyf lle mae'r eiddo hwnnw, oherwydd rwy'n deall gan swyddogion fod yna hyblygrwydd o fewn y system. Os nad yw hynny'n wir, rhowch wybod i mi; rwy'n awyddus iawn i weld enghreifftiau. Mae'r enghreifftiau a welais wedi cael eu troi'n gartrefi, felly mae'n gweithio. Weithiau, mae'n cymryd ychydig yn hirach nag yr hoffwn, ac y byddech chi'n ei hoffi hefyd rwy'n siŵr, ond rwy'n dweud hyn wrthych, Delyth, ac Aelodau eraill: os oes yna eiddo y credwch ei fod wedi'i wrthod, rhowch wybod i mi.

Nodyn Cyngor Technegol 6

7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynghylch diwygio TAN 6 i hwyluso addasu adeiladau amaethoddol i fod yn gartrefi? OQ62515

Diolch, Mabon. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar ystod eang o faterion tai. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddiwygio TAN 6.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Mae yna nifer o etholwyr yn fy etholaeth i, ac yn wir ar draws y Gymru wledig, wedi addasu adeiladau amaethyddol i fod yn lletyau gwyliau, ac oherwydd rheolau TAN 6, mae'r amodau ar yr adeiladau yma'n eu cyfyngu nhw ar gyfer defnydd busnes yn unig. Rwy'n deall rhesymeg y rheol yn wreiddiol, sef i hyrwyddo mentergarwch a gweithgaredd economaidd gwledig, ac mae hynny yn rhywbeth i'w groesawu, ond pan fo'r tai yma'n dod ar werth, does yna ddim modd eu prynu fel anheddau byw. Mae gennym ni bâr ifanc, er enghraifft, sydd yn trio symud yn ôl i fro eu mebyd yn Eifionydd, ac yn awyddus i brynu tŷ yn un o'r pentrefi yno, ond mae yna amod ar yr aelwyd sydd yn eu hatal nhw rhag prynu'r tŷ fel annedd byw, oherwydd ei fod o'n flaenorol o dan ddefnydd amaethyddol. Ydych chi'n credu, yn yr argyfwng tai yma, bod angen hyblygrwydd ar yr amod, ac a wnewch chi edrych eto i mewn i hyn er mwyn cynyddu'r stoc dai gwledig?

14:15

Diolch, Mabon. Dylai fod gan gymunedau gwledig ddigon o dai o ansawdd da, gan gynnwys tai fforddiadwy ar gyfer anghenion lleol. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' a TAN 6 eisoes yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio geisio cael y cyflenwad mwyaf sy'n bosibl o dai fforddiadwy a gweithio gyda phartneriaid i gyflawni hyn. Maent yn nodi polisïau sy'n cefnogi cymuned ac economi wledig gynaliadwy a bywiog. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, fel y nodir yn 'Cymru'r Dyfodol', ac mae'n nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol archwilio pob cyfle i gyflawni hyn. Nod y polisïau hyn yw sicrhau bod ardaloedd gwledig yn fywiog gyda gwasanaethau i ddiwallu anghenion y bobl sy'n byw yno. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio'n iawn hefyd ar fforddiadwyedd mewn ardaloedd gwledig. Os hoffech ysgrifennu ataf ymhellach ar hynny hefyd, edrychaf ymlaen at rannu hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

Rwy'n ddiolchgar i Mabon ap Gwynfor am gyfeirio at TAN 6, oherwydd mae adrannau cyfan yn TAN 6 ynglŷn ag addasiadau preswyl, addasiadau gwyliau ac arallgyfeirio ffermydd, y gofynnwyd i ffermydd eu gwneud i gefnogi'r cymunedau gwledig hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod fy safbwyntiau ar y rheol 182 diwrnod drychinebus a gyflwynwyd gan y Llywodraeth hon gyda chefnogaeth Plaid Cymru, a'i heffaith enfawr ar ein cymunedau gwledig, oherwydd mae'n gorfodi'r busnesau hynny, busnesau cyfreithlon, sydd ychydig yn brin o gyrraedd y trothwy hwnnw, i dalu lefelau sylweddol o dreth ac felly'n eu gwneud yn fusnesau anhyfyw. Felly, er bod Mabon ap Gwynfor wedi codi rhai pwyntiau pwysig, mae'n debyg mai un o'r pryderon fyddai'r lefel o ymddiriedaeth a allai fod gan y perchnogion eiddo hyn mewn newidiadau gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi ymrwymo heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r canllawiau yn TAN 6 ac yng ngoleuni rhai o ganlyniadau'r rheol 182 diwrnod, i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, i adolygu a yw'r rheol 182 diwrnod honno'n cael effaith negyddol o'r fath ar ein cymunedau gwledig ac yn cael effaith ar gynaliadwyedd rhai o'r ardaloedd hynny hefyd?

Diolch am y cwestiwn, Sam. Fel y dywedais, nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddiwygio TAN 6. Rwy'n credu eich bod wedi codi rhai materion yr wyf yn siŵr y byddem yn hapus i gysylltu nôl â chi yn eu cylch, os gwnewch chi eu rhoi'n ysgrifenedig hefyd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym gynllun tai fforddiadwy effeithiol ar gyfer ardaloedd gwledig. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol asesu'r angen am dai o'r fath yn eu hardal a gosod targed ar gyfer cyflawni yn eu cynllun datblygu lleol. Mae'n ofynnol i awdurdodau cynllunio hefyd ddatblygu polisïau tai i ateb yr heriau a'r amgylchiadau penodol sy'n amlwg yn eu hardaloedd, lle mae ganddynt dystiolaeth i ategu hynny. Rwy'n credu bod gennym gyfres ohonynt ar gael i ni ar hyn o bryd, ond rwy'n hapus os ydych chi am fynd ar drywydd hynny yn ysgrifenedig, a gallaf rannu hynny gyda fy nghyd-aelod o'r Cabinet.

Safleoedd Ôl-ddiwydiannol Halogedig

8. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch y cymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i helpu i nodi safleoedd ôl-ddiwydiannol halogedig ger cartrefi? OQ62521

Diolch, Delyth. Ein blaenoriaeth yw diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd ehangach rhag unrhyw risgiau llygredd sy'n gysylltiedig â safleoedd diwydiannol etifeddol. Mae'r fframwaith rheoleiddio presennol yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i nodi, i archwilio, a lle bo angen, i adfer safleoedd halogedig lle bynnag y deuir o hyd iddynt.

Diolch am yr ateb—diolch yn fawr—oherwydd mae angen inni fynd i'r afael â hyn. Mae diwydiant wedi siapio ein tirweddau yng Nghymru, weithiau'n weladwy, fel gyda thomenni glo, ond mae'r halogiad sydd wedi treiddio i'r pridd yn fwy cudd—y safleoedd gwenwynig a adawyd ar ôl gan wastraff tirlenwi a gwastraff cemegol a gafodd ei adael gan gwmnïau, ddegawdau yn ôl weithiau. Mae chwarel Tŷ Llwyd yng Nghaerffili yn un o'r safleoedd hyn. Ond nid yw olrhain y safleoedd hynny bob amser yn syml. Canfu ymchwiliad gan y BBC yn ddiweddar nad yw miloedd o safleoedd yr amheuir eu bod wedi'u halogi erioed wedi cael eu harchwilio gan gynghorau lleol. Nawr, rwy'n gwybod bod cynghorwyr ac ymgyrchwyr ger Tŷ Llwyd wedi ymgyrchu ers amser maith dros fwy o fonitro, arolygu a chymorth. Yn sicr, mae angen polisi cenedlaethol arnom i ymdrin â'r gwaddol sinistr hwn sy'n cael ei adael ar ôl gan ddiwydiant, oherwydd mae risg i drigolion o safleoedd lle caiff halogiad ei ganfod. Pan fydd hi'n bwrw glaw, gall llygredd gael ei gario i lawr y bryniau, i afonydd a ger cartrefi pobl. Gall topograffeg ein Cymoedd, patrwm y tir, ein gadael yn fwy agored yma. Felly, a wnewch chi gytuno, os gwelwch yn dda, gyda'ch cyd-Aelodau, i gyfarfod i drafod, gyda mi ac Aelodau eraill sydd â diddordeb, sut y gallem fynd i'r afael â'r sefyllfa yn genedlaethol?

14:20

Diolch, Delyth, a diolch am y cwestiwn. Gallaf weld fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Brif Weinidog, yma hefyd. Mae'r ddau ohonom wedi clywed hynny a gallwn fynd ar ei drywydd hefyd. Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ddyletswydd eisoes i nodi tir halogedig yn eu hardaloedd. Mae'n ofynnol iddynt hefyd gadw cofrestr o safleoedd halogedig. Fe gyfeirioch chi at Dŷ Llwyd yn benodol, ac yn amlwg, yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi asesu Tŷ Llwyd i benderfynu ar ei statws rheoleiddiol. Ei gasgliad rhagarweiniol, yn seiliedig ar allbynnau ei asesiad drafft, yw nad yw'r safle yn bodloni'r diffiniad o 'dir halogedig', ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd yn adolygu'r asesiad drafft hwnnw, a bydd y cyngor yn ystyried eu hadborth cyn dod i gasgliad ar statws rheoleiddiol y safle. Mae'r cyngor wedi cynhyrchu arfarniad o opsiynau adfer ac mae rhai o'i argymhellion yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd i leihau faint o gemegau penodol sy'n gollwng yn ystod tywydd gwlyb. Er mwyn cynorthwyo'r cyngor gyda'r gwaith hwn, ym mis Rhagfyr, cymeradwyodd fy nghyd-Aelod y Dirprwy Brif Weinidog grant cyfalaf o hyd at £775,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25 i gynorthwyo'r cyngor gyda'r gwaith brys hwn i leihau digwyddiadau llygredd oddi ar y safle. Ochr yn ochr â hyn, mae CNC hefyd yn datblygu trwydded amgylcheddol mewn perthynas â'r gollyngiadau hynny, a fydd yn cael ei rhoi i'r cyngor i wella rheolaeth y safle ymhellach yn y dyfodol a lleihau effeithiau oddi ar y safle. Ond rwy'n siŵr y byddwn i a fy nghyd-Aelod yn hapus i fynd ar ei drywydd.

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Cwestiwn 1, Lesley Griffiths.

Lles Cŵn

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y mae gwahardd cŵn bully XL wedi'i chael ar les cŵn yng Nghymru? OQ62523

Member (w)
Huw Irranca-Davies 14:22:42
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn gosod dyletswydd gofal ar berchnogion a cheidwaid anifeiliaid i ddiwallu eu hanghenion lles. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â'n cymheiriaid yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i liniaru effeithiau negyddol gwaharddiad Llywodraeth y DU ac i gadw llygad agos ar ddatblygiadau.

Diolch. Mae dros flwyddyn bellach ers iddi gael ei gwneud yn drosedd i fod yn berchen ar gi bully XL heb dystysgrif eithrio, ac er bod y gwaharddiad yn angenrheidiol er diogelwch y cyhoedd ar ôl llawer gormod o ymosodiadau trasig gan gŵn bully XL, gan gynnwys ymosodiadau angheuol, roedd pryder am yr effaith y byddai hyn yn ei chael, yn enwedig ar ewthaneiddio cŵn iach a chŵn yn cael eu gadael. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, faint o gŵn bully XL sydd â thystysgrifau eithrio yng Nghymru; faint sydd wedi cael eu hewthaneiddio ers i'r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno; faint y credir eu bod yn cael eu cadw'n anghyfreithlon; a pha drafodaethau a gawsoch chi gyda'r heddlu ynglŷn â gorfodi'r ddeddfwriaeth?

Diolch, Lesley, ac am eich ymrwymiad i hyn hefyd. Gallaf roi peth o'r data y gofynnoch chi amdani. Gwyddom fod bron i 3,000 o geisiadau am eithriadau wedi'u cyflwyno yng Nghymru, ac 16 o geisiadau am iawndal hefyd. Nid oes gennyf y ffigurau ar ewthaneiddio, ond efallai y gallaf ddod yn ôl atoch. Ond fe fyddwch chi a minnau, a llawer o bobl eraill, wedi ymweld â rhai o'r canolfannau achub ac yn y blaen a oedd yn paratoi adnoddau i ymdrin â goblygiadau'r ffigurau sylweddol hyn yma. Ac rydym hefyd yn deall bod rhai perchnogion cŵn y cymerwyd meddiant arnynt hefyd wedi codi pryderon ynghylch sicrhau lles eu hanifeiliaid, pan gânt eu cymryd, eu bod yn cael gofal priodol. Ond i roi cadarnhad i chi, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu a'r awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gwneud y peth iawn a hefyd nad yw lles y cŵn mewn perygl ychwaith yn y ffordd hon. Ond mae nifer sylweddol o eithriadau yng Nghymru, a bydd hynny'n cael ei ailadrodd ar draws Cymru a Lloegr hefyd. Ac mae angen inni barhau i weithio gyda'r heddlu, gyda'r canolfannau achub anifeiliaid ac yn y blaen, i wneud yn siŵr ein bod yn gofalu am oblygiadau hyn a lles yr anifeiliaid.

14:25
Cyrraedd Sero Net

2. Sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall yr Ysgrifennydd Cabinet barhau i weithio tuag at y nod o gyrraedd sero net? OQ62527

Diolch, Buffy. Mae ein dull o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn cael ei arwain gan dystiolaeth ac mae wedi'i ymgorffori ar draws y Cabinet cyfan. Ym mhob sector allyriadau, mae'r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol yn gyrru'r camau sydd eu hangen ac yn sicrhau bod gwariant yn cael yr effaith fwyaf wrth gyflawni ein cyllidebau carbon a chyrraedd sero net erbyn 2050.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae angen i Gymru ganolbwyntio ar ynni gwyrdd dibynadwy a gynhyrchir yn y wlad hon. Rwy'n gwybod bod rhai trigolion yn ofni beth fyddai oblygiadau newid i ynni gwyrdd i'w cymunedau. Nid yw galwadau anghyfrifol gan arweinydd Ceidwadol y DU fod cyrraedd sero net yn amhosibl yn helpu. Ond nid oes rhaid i ynni adnewyddadwy olygu gorchuddio caeau â phaneli solar. Mae'n golygu prosiectau fel prosiect hydro Cambrian Lakeside sy'n cael ei redeg gan breswylydd lleol, Gareth Thomas, ac mae'n golygu gwneud cartrefi'n wyrddach gyda gwell inswleiddio, pympiau gwres a phaneli solar ar y to—sy'n glyfar, yn gynaliadwy ac yn dda i gymunedau lleol. Mae cymdeithas dai Grŵp Beacon Cymru eisoes yn gweithio gyda cholegau lleol i sicrhau bod gennym y sgiliau gwyrdd sydd eu hangen ar gyfer y swyddi y bydd y prosiectau hyn yn eu creu. Sut y gall Llywodraeth Cymru adeiladu ar yr arweinyddiaeth y mae eisoes wedi'i dangos i greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc a datblygu'r gweithlu sydd ei angen ar gyfer newid gwyrdd priodol a chyrraedd sero net? Hoffwn eich gwahodd i'r Rhondda i ymweld â chynllun hydro Lakeside i weld drosoch eich hun sut y gall prosiectau fel hyn siapio dyfodol ynni Cymru.

Diolch, Buffy. Wyddoch chi, mae mor iawn eich bod chi'n canolbwyntio ar y potensial yma, y cyfleoedd ar gyfer swyddi a sgiliau i bobl ifanc—a phob oedran, mewn gwirionedd—sy'n deillio o ymrwymo i'r targed sero net, ac anelu tuag ato, ac yna'r math o fentrau cymunedol rydych chi'n siarad amdanynt hefyd, lle mae wedi gwreiddio yn y gymuned leol ac mae'r manteision a'r buddion i'w gweld yno. Ond gan adeiladu ar yr ymateb a roddais i chi ar y dechrau fod hwn yn waith trawslywodraethol, gallaf ddweud wrthych fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £144 miliwn eleni mewn prentisiaethau ledled Cymru, ac un ffocws ar y rheini yw datblygu sgiliau sero net, felly mewn pethau fel prosiectau seilwaith, datgarboneiddio tai a gofynion rheoleiddio. Mae gennym hefyd bartneriaethau gwerthfawr iawn gyda landlordiaid cymdeithasol, a chyda chyfleusterau addysg uwch a phellach, felly bwrw ymlaen ag arbenigedd mewn hybiau mewn effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy ar raddfa fach, ynni, ynni cymunedol, gan gynnig hyfforddiant i bobl ifanc, ac ailsgilio eraill sy'n dymuno manteisio ar y newid gwyrdd. Ac mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd o sgiliau gwyrdd, ochr yn ochr â'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Rydym am ddatblygu hyn, gan gynnwys yn y maes adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, fel sector sy'n cynnig patrwm o sgiliau gwyrdd craidd.

Ac yn olaf, mae gwaith yn cael ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio gyda'r ford gron ar sgiliau yr amgylchedd adeiledig, a oedd yn cynnwys eitemau penodol ar sut i gefnogi'r newid diwylliant hwn gyda mwy o bobl yn dod i yrfaoedd yn y sector, gan weithio ar amrywiaeth y gweithlu hefyd, wrth inni wthio tuag at y chwyldro gwyrdd a dim carbon.

Ond rydych chi'n iawn i ddweud—a chyda llaw, byddaf yn bendant yn derbyn eich gwahoddiad i ddod i weld gwaith hydro Lakeside a gwaith hydro Cambrian Village Trust—rwy'n falch iawn o'i weld. Mae'n enghraifft wych o ynni adnewyddadwy wedi'i gynhyrchu'n lleol. Ond rydych chi mor iawn yn dweud mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yma yn y Senedd ac yn Llywodraeth Cymru yw ailymrwymo i yrru tuag at sero net a manteisio ar y cyfleoedd hynny, nid dilyn arweinyddiaeth anflaengar arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch sydd bellach wedi dweud ei fod yn amhosibl ei wneud, ac y dylem gael gwared arno.

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n ymwybodol iawn o'r materion sy'n codi yn fy etholaeth gyda'r datblygiadau ffermydd gwynt newydd a datblygiadau peilonau ar draws fy etholaeth. Mae llawer o'r bobl rwy'n siarad â hwy yn bryderus iawn ynglŷn â diwydiannu canolbarth Cymru, y dinistr i'n tirwedd, ein hecoleg a'r ffordd wledig o fyw, a fydd yn effeithio ar ein busnesau twristiaeth a busnesau cysylltiedig ym mhob man. Yr hyn nad wyf am ei weld, Ysgrifennydd y Cabinet, yw fy etholaeth yn cael ei haberthu ar allor y ffordd tuag at sero net a chyrraedd y targedau hyn. Felly, rwyf eisiau ymrwymiadau cadarn gennych na fydd y Llywodraeth hon yn aberthu ein cymunedau gwledig o blaid eich ymrwymiadau sero net. Felly, a allwch chi roi'r sicrwydd hwnnw i mi heddiw y byddwch chi'n sefyll gyda chymunedau gwledig ac nad ydych chi'n eu sathru dan draed fel y mae Ysgrifenyddion Cabinet eraill wedi'i wneud o'ch blaen?

14:30

Felly, yr hyn a ddeallaf o hynny, James, yw nad oes arnoch eisiau gweld cymunedau,

'yn cael eu haberthu ar y ffordd tuag at sero net'—

sy'n adlais uniongyrchol o’r hyn a ddywedodd eich arweinydd Ceidwadol, Kemi Badenoch, sef ei bod yn amhosibl cyrraedd sero net. Mae hwn yn safbwynt gwahanol, mae'n rhaid imi ddweud, i fainc flaen y Ceidwadwyr ers blynyddoedd lawer, lle bu consensws trawsbleidiol yma y dylem achub ar gyfleoedd yr ymgyrch tuag at sero net ar gyfer ein holl gymunedau yma yng Nghymru.

Nawr, fel y gwyddoch, fe gynigiwyd cronfa arloesi—rwy'n ddiolchgar am y trafodaethau a gafwyd gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yma yn y Senedd—cronfa arloesi a gynigiwyd yn y gyllideb i geisio archwilio ymhellach y gwaith o osod ceblau o dan y ddaear ac i gael mwy o wybodaeth am hynny. Y cyllid hwnnw, wrth gwrs—y cyllid a gyflwynwyd gennym ar gyfer hynny—oedd yr union gyllid y pleidleisioch chi yn ei erbyn ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y gyllideb.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf y nawr ar lefarwyr y pleidiau. Ac yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.

Diolch. Mae adroddiad 'State of our beaches' diweddaraf y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn frawychus. Ac mae'n rhaid dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod i, ers imi ddod yma gyntaf, wedi codi pryderon am ein hamgylchedd morol. Felly, er ein bod wedi datgan argyfwng hinsawdd, er ein bod wedi datgan argyfwng natur, ac er bod Cymru yn ail yn y byd gyda'i chyfraddau ailgylchu, bu cynnydd o 4 y cant ar gyfartaledd o ran faint o sbwriel a geir ar ein traethau.

Nawr, mewn perthynas ag adfer natur, nid yw’r mathau o blastigau ac ati a geir yno, sy’n cael eu llyncu gan adar a mamaliaid y môr, yn cael sylw gennych chi fel Llywodraeth. Bu gostyngiad o 2.2 y cant yn Lloegr. Roedd 120 eitem o sbwriel fesul 100m o draeth a arolygwyd, a chasglwyd 175 o boteli gwydr. Er fy mod yn siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ganmol y 1,073 o bobl a wirfoddolodd i arolygu traethau Cymru a hefyd i ddiolch i’r Gymdeithas Cadwraeth Forol am eu gwaith amhrisiadwy, pa gamau rydych chi'n eu cymryd, fel y Gweinidog â chyfrifoldeb am hyn, i helpu i frwydro yn erbyn y sbwriel morol hwn, ond hefyd, yn bwysicach, i gefnogi ein hamgylchedd morol?

Janet, diolch am eich cwestiwn, ond rwy'n gwrthod yr awgrym nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud dim ar hyn. Mewn gwirionedd, rydym yn darparu cyllid i Cadwch Gymru’n Daclus fwrw ymlaen â mentrau, nid yn unig ar y traethau, ond mewn cymunedau lleol ledled Cymru.

Yn y gyllideb, y pleidleisiodd eich meinciau yn ei herbyn, rydym hefyd yn cefnogi—gan fy mod wedi bod allan yno fy hun, fel y bydd llawer o Aelodau yn Siambr y Senedd wedi bod allan hefyd yn glanhau traethau ac yn cefnogi—gwaith y Gymdeithas Cadwraeth Forol. A dyna ble rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â gwaith y Gymdeithas Cadwraeth Forol a Cadwch Gymru'n Daclus, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a nifer fawr o sefydliadau eraill, nid yn unig i lanhau'r amgylcheddau lleol a mynd i'r afael â phroblemau taflu sbwriel, ond hefyd, drwy esiampl, i ddangos cyfrifoldeb fel unigolion i eraill hefyd, sy'n rhywbeth rydym wedi siarad amdano o'r blaen. Mae a wnelo â'r hyn y gall y Llywodraeth ei wneud, yr hyn y gall y trydydd sector ei wneud, weithiau gyda'n cymorth ni, a'r hyn y gall unigolion ei wneud.

Mae a wnelo hefyd, gyda llaw, â meysydd polisi unigol. Felly, ni yw'r unig le yma yn y DU o hyd sydd â system gasglu ar gyfer rhwydi plastig o bysgodfeydd. Felly, rydym yn eu casglu yng Nghymru ac rydym yn eu hailgylchu. Rydym yn gwneud llawer iawn yn y maes hwn—ac rwy'n credu y dylem annog yr holl bartneriaid sydd allan yno: asiantaethau statudol, asiantaethau gwirfoddol, a phawb sy'n cyfrannu at hyn—yn ogystal â'r arian a ddarparwn gan Lywodraeth Cymru, gan fod taflu sbwriel yn gwbl annerbyniol ac mae'r gwastraff plastig a'r microblastigau yn llygru ein hamgylchedd yn fawr.

Diolch. Roeddech i'ch gweld yn synnu pan ddywedais nad oeddech o ddifrif ynghylch yr amgylchedd morol, ac mae'n deg dweud bod yr Arglwydd Deben wedi dweud, ddwy flynedd yn ôl yn yr adroddiad newid hinsawdd, fod angen i'r Llywodraeth hon wneud mwy ar yr amgylchedd morol.

Nawr, mae un ateb amlwg o gofio bod sbwriel sy'n gysylltiedig â diodydd wedi’i ganfod mewn 99 y cant o arolygon traethau. Ni chafwyd hyd i boteli gwydr yn y rhan fwyaf ohonynt. Ers mis Tachwedd, fe wyddom fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu unwaith eto. Yn y flwyddyn olaf o dymor y Senedd ddiwethaf, enillais gynnig deddfwriaethol gan Aelod, rwy'n credu, i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes, ac edrychwch, dyma ni nawr, ac nid ydym wedi mynd gam ymhellach. Gwyddom eich bod wedi methu unwaith eto â chydweithredu â Llywodraeth Lafur y DU ar bryder cyffredin—y tro hwn, y cynllun dychwelyd ernes. Er bod penaethiaid archfarchnadoedd yn honni y bydd eich penderfyniad yn achosi anhrefn trawsffiniol, er gwaethaf y rhybudd gan British Glass y bydd cynnwys gwydr yn cynyddu’r defnydd o becynnu plastig, nid ydych yn gwneud unrhyw beth, ac er y gwyddoch fod 91 y cant o ddigwyddiadau glanhau traethau yn cofnodi poteli a chaeadau plastig, rydych chi'n dal i ohirio cyflwyno’r cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru. A ydych chi'n cytuno â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol—oherwydd rwyf fi'n cytuno â hwy—y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yn ddi-ffael ac yn unol â'r terfyn amser o fis Hydref 2027 a osodwyd ar gyfer y cynllun dychwelyd ernes yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon?

14:35

Wyddoch chi beth, ydw, rwy'n cytuno? Mae angen inni gyflwyno'r cynllun dychwelyd ernes hwn, sy'n mynd y tu hwnt i ailgylchu, ar fyrder. A yw llefarydd y fainc flaen yn cytuno â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol y dylai hynny gynnwys ailddefnyddio gwydr? Oherwydd roeddech chi'n arfer credu hynny. Rwy'n deall nad dyna yw'r safbwynt y mae rhai o’ch cyd-Aelodau ar y fainc flaen wedi bod yn ei hyrwyddo. Nawr, rydym yn dweud ein bod yn ail yn y byd o ran ailgylchu, a bod angen inni fynd y tu hwnt i ailgylchu nawr a dechrau ailddefnyddio gwydr. Ai dyna safbwynt llefarydd y fainc flaen o hyd? A yw'n cytuno â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, a phob sefydliad amgylcheddol arall—[Torri ar draws.]—a phob—[Torri ar draws.]—a phob—[Torri ar draws.]—a phob—[Torri ar draws.]—a phob sefydliad amgylcheddol arall sy’n annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r cynllun dychwelyd ernes, gan gynnwys gwydr? Ydych chi?

Yn gyntaf oll, cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yw'r rhain. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet ateb y cwestiynau, ac nid gofyn cwestiynau yn ôl o reidrwydd. Ac ni fydd unrhyw sgyrsiau—[Torri ar draws.]—ac ni fydd unrhyw sgyrsiau rhwng y ddau Aelod. Gadewch inni gael y cwestiynau, os gwelwch yn dda.

Ie, yn union. Symudwch draw. Symudwch draw, Huw—fe ddof i eistedd yno.

Felly, rwy'n credu—[Torri ar draws.] Rwy'n credu'n wirioneddol mai'r hyn sy’n gwneud polisi da, yr hyn sy’n gwneud deddfwriaeth dda, a hyd yn oed ymhellach, mai'r hyn sy’n gwneud gwleidydd da, yw eich bod yn gwrando ar y diwydiant, eich bod yn gwrando ar y wyddoniaeth. Felly, o'm rhan i, mae ein safbwynt ar hyn yn gywir.

Felly, beth bynnag—. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, fe ddywedoch chi wrth bwyllgor newid hinsawdd y Senedd y byddai cyflwyno cynllun pwrpasol yng Nghymru yn arwain at gynnydd mewn costau, a’ch bod wedi cynllunio ar gyfer hynny. Fe ddywedoch chi hefyd y bydd unrhyw adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i roi’r cynllun ar waith yn cael eu hystyried yn y cylchoedd cyllidebol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Felly, ar adeg pan fo’r economi’n crebachu, pan fo'ch Canghellor yn torri arian i’r henoed a'r bregus, a phan ydych chi'n cynyddu trethiant ar ffermydd teuluol, cyflogwyr a gweithwyr, onid ydych yn credu ei bod yn ddoeth nawr, er mwyn arbed rhywfaint o arian, ond hefyd i achub ein planed—? A wnewch chi gydweithredu â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes, yn hytrach na cheisio torri eich cwys fwy costus eich hun? Yn sicr, ni fyddwn yn cynghori hynny.

Iawn. Ddirprwy Lywydd, rwy'n deall nawr. Maent o blaid cynllun dychwelyd ernes, ond nid cynllun dychwelyd ernes sy'n cynnwys ailddefnyddio gwydr. Mae hynny'n glir iawn. Yr hyn y mae llefarydd y fainc flaen, Janet, am inni ei wneud yw gwneud yr un fath â Lloegr—. Cofiwch fod yr Alban am wneud yr hyn rydym ni am ei wneud, a bydd Gogledd Iwerddon yn dilyn, a Lloegr yn y pen draw hefyd. Yr hyn y mae hi am inni ei wneud yw bwrw ymlaen â chynllun dychwelyd ernes ailgylchu ac anwybyddu'r safbwynt yr ymgynghorwyd arno dair blynedd yn ôl, mewn ymgynghoriad pedair gwlad, lle'r oedd cynllun dychwelyd ernes gyda gwydr yn sail i'r ymgynghoriad. Ar y pwynt hwnnw, cefnodd y Llywodraeth Geidwadol arno, gan benderfynu y byddent yn mynd eu ffordd eu hunain. Roedd hynny'n destun gofid, mae'n rhaid imi ddweud, oherwydd yn y pen draw, rydych chi a minnau’n gwybod bod cost gwresogi gwydr sydd wedi torri, wedi chwalu’n deilchion, a’i droi yn botel newydd yn golygu ei gynhesu i 1,500 i 1,800 gradd. Ar y sail honno, os ydym o ddifrif am yr argyfwng hinsawdd a datgarboneiddio, mae angen inni ailddefnyddio gyda gwydr, nid ailgylchu â gwydr yn unig. Felly, maent o blaid ac yn erbyn; rwy'n credu fy mod wedi deall eu safbwynt bellach.

Y cwestiwn perthnasol oedd: pryd y gallwn fwrw ymlaen â'i gyflwyno? Credaf fod hwnnw’n gwestiwn dilys. Mae'n destun gofid na allwn symud ymlaen ar sail pedair gwlad, fel y cytunwyd yn wreiddiol ac yr ymgynghorwyd arno bedair blynedd yn ôl. Ond rydym yn ymgysylltu'n agos â Llywodraeth y DU, ac ar hyn o bryd, hyd yn oed cyn yr ymgynghoriad, yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol—rwyf wedi siarad mewn sawl digwyddiad fy hun—ac yn gweithio gyda hwy i ddangos sut y gall hyn weithio yng nghyd-destun y DU, ac y gall Cymru ddangos yr arweiniad yr ydym wedi bod yn briodol falch ohono yn y gorffennol. Felly, byddwn yn gweithio rhag blaen. Byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd gydweithredol, Ddirprwy Llywydd a Janet. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben cyn bo hir hefyd, a byddwn yn cyflwyno hyn cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl, er lles pobl Cymru, ac mewn gwirionedd, i ddangos yr arweiniad rwy'n gwbl argyhoeddedig y bydd cenhedloedd eraill y DU yn ei ddilyn yn ddi-oed.

14:40

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru wedi wynebu nifer cynyddol o lifogydd dinistriol, sydd wedi cael effaith ofnadwy ar gymunedau ac ar fusnesau. Nawr, er bod perchnogion tai yn elwa o’r cynllun yswiriant Flood Re, mae busnesau yn parhau i fod heb eu diogelu. Yn aml, maen nhw’n wynebu premiums wrth geisio cael yswiriant, ac mae’r diwydiant yn cario ymlaen i ddadlau nad ydy e’n ymarferol i ymestyn cynllun o’r fath i fusnesau. Mae nifer cynyddol o fusnesau yn gorfod cau.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi gydnabod y mater hwn, a dywedoch chi y byddech chi’n cwrdd ag yswirwyr i drafod cynllun yswiriant llifogydd ar gyfer busnesau. A allwch chi gadarnhau, plîs, os ydych chi yn gweld ffordd realistig ymlaen i ehangu yswiriant llifogydd i fusnesau, a pha ymrwymiadau penodol y byddwch chi’n ceisio eu cael o’r diwydiant, ar ran y busnesau sydd mewn perygl?

Diolch. Rwy'n credu ei bod yn werth codi hyn gydag yswirwyr, a byddaf yn cyfarfod, cyn bo hir—ni allaf gofio'r union ddyddiad—gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain i drafod hyn a materion eraill, gan gynnwys cynllun presennol Flood Re, ond hefyd i weld a oes lle i archwilio rhyw ffordd y gallwn sicrhau darpariaeth hefyd ar gyfer busnesau preifat, gweithredwyr masnachol yn ogystal, gan nad ydynt yn rhan o gynllun presennol Flood Re.

Nawr, 'nid wyf yn gwybod' yw'r ateb. Mae'n rhaid inni gael y trafodaethau hynny gyda’r yswirwyr, yn gyntaf oll. Pan gyflwynwyd cynllun Flood Re i ddechrau—a mawredd, roeddwn yno ar y pryd gyda'r diweddar John Prescott pan fu'n trafod ac yn dadlau'r achos gydag yswirwyr—maent bob amser yn ystyried eu rhwymedigaethau eu hunain wrth gwrs, ac maent yn disgwyl, yn gwbl briodol, os ydynt yn mynd i ddarparu rhywbeth fel Flood Re ar gyfer aelwydydd, y bydd y Llywodraeth yn camu i'r adwy ac yn darparu'r buddsoddiad angenrheidiol ar eu rhan hefyd. Felly, nid ydynt yn mynd i'w wneud heb wybod ein bod yn mynd i gamu i'r adwy.

Felly, rwy'n wirioneddol falch, a gallaf ddweud wrth Gymdeithas Yswirwyr Prydain a'u haelodau, ein bod yn chwarae ein rhan. Mae ein buddsoddiad yn uwch nag erioed, ac mae hynny wedi bod yn wir am y tair blynedd diwethaf, a byddwn yn cadw’r momentwm hwnnw i fynd o ran maint ein buddsoddiad. Ac ar y sail honno—ac rwy'n siŵr eu bod yn gwrando ar yr hyn a ddywedwn yma yn y Siambr—pan fyddaf yn cyfarfod â hwy, byddaf am drafod hyn gyda hwy hefyd. Ni allaf ddweud wrthych beth yw'r paramedrau eto, ond rwy'n credu bod angen inni archwilio hyn gyda'r diwydiant yswiriant.

Ocê, diolch am hynna. I droi nawr at yr effaith seicolegol sy’n cael ei adael ar ôl ar ôl llifogydd, mae pobl sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd yn aml yn dioddef gyda gorbryder, trawma, ac mae rhai pobl wedi datblygu cyflyrau iechyd difrifol. Awgryma ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr fod pobl sy’n profi llifogydd y tu mewn i’w cartrefi nhw saith gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu iselder, gorbryder neu PTSD o fewn blwyddyn. Os ydy’r dŵr yn codi uwchben metr, mae’r risg o iselder yn cynyddu 15 gwaith, gorbryder 10 gwaith, a PTSD 18 gwaith.

Nawr, o ystyried y dystiolaeth gynyddol o effaith llifogydd ar iechyd meddwl, a’r straen mae hyn yn ei roi ar unigolion a’r gwasanaeth iechyd, pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o’r effaith seicolegol ac emosiynol sy’n cael ei achosi gan lifogydd ar gymunedau, a pha gymorth penodol sy’n cael ei roi i helpu pobl sy’n delio gyda trawma, yn enwedig plant?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwn. 

Nid ydym wedi cynnal asesiad, ond nid yw hynny'n golygu nad ydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae hyn yn ei chael ar iechyd meddwl a lles, yn enwedig os oes gennych eiddo sy'n dioddef llifogydd yn rheolaidd, a arferai fod yn un mewn 100 ond sydd bellach yn digwydd deirgwaith mewn 10 mlynedd. Ac rydym wedi'i weld ein hunain; rydym wedi siarad â'r trigolion yr effeithiwyd arnynt. Felly, ni chredaf fod angen inni wneud y math hwnnw o asesiad—asesiad desg traddodiadol neu beth bynnag—i wybod bod hyn yn effeithio ar bobl. Yr hyn y mae angen inni ei sicrhau yw bod y platfformau a'r adnoddau ar gael i helpu pobl sy'n poeni am effaith llifogydd ac sydd wedyn yn effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles yn fwy cyffredinol. Mae un neu ddwy o ffyrdd y gallwn wneud hynny. Un yw sicrhau bod gennym y cymorth iechyd meddwl eang ar gael ym mhob cymuned, ond y llall, yn benodol, yw gwaith y fforwm llifogydd yma yng Nghymru. Rydym yn falch, mewn rhai cymunedau yr effeithir arnynt yn arbennig o wael, ein bod wedi llwyddo i ddenu rhywfaint o arian ychwanegol i gynnal eu presenoldeb mewn cymunedau penodol.

Mae cwestiwn ehangach wrth symud ymlaen ynglŷn â sut y mae'r fforwm llifogydd—. Ac rwy'n adnabod llawer o'r bobl hyn. Rwyf wedi eu hadnabod ers blynyddoedd maith, a’r gwaith da a wnânt, gan eu bod yno yn y cymunedau, maent yn gweithio gyda’r cymunedau, ac mewn rhai ffyrdd, yn dal dwylo ac yn rhoi braich am ysgwyddau pobl. Rydym yn awyddus i archwilio gyda hwy beth arall y gellir ei wneud, wrth symud ymlaen, ac rydym yn cyflawni’r gwaith hwnnw, gan y credaf fod honno’n ffordd benodol iawn hefyd o ran llifogydd yn benodol a’r perygl o lifogydd, y gallant gael rhywun i fynd atynt ac i ddweud, 'Rwy’n poeni’n ofnadwy am hyn. Sut y gallwn helpu? Beth y gallwn ei wneud?' Rhan o hynny, mae'n rhaid imi ddweud, yw gwytnwch cymunedol. Mae a wnelo hyn â gallu cymunedau cryf i ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd, gan y bydd hynny heb os yn gwella llesiant a gwytnwch y cymunedau hynny—nad yw unigolion yn teimlo eu bod ar eu pen eu hunain.

14:45

Diolch am hynny. Mae hynny’n union beth roeddwn i’n mynd i ofyn i chi amdano yn fy nghwestiwn olaf achos, pan fydd llifogydd yn digwydd, pobl ar lawr gwlad fel arfer yw'r bobl gyntaf i ymateb. Fel rydych chi newydd sôn, rydyn ni wedi gweld cymunedau yn dod at ei gilydd i helpu rhai mewn angen, ond does dim wastad system strwythuredig yma a does dim system strwythuredig dros Gymru. Mae hyn yn aml yn golygu bod pobl sydd â bwriad da yn rhoi eu hunain mewn perygl, fel roedd un o’n Haelodau ni, Heledd Fychan, wedi tynnu sylw ato yr wythnos diwethaf. Yn ystod y stormydd ym mis Chwefror, bu’n rhaid i rai pobl atal pobl eraill rhag mynd i helpu achos y perygl eithafol. Mae angen system ffurfiol o fforymau llifogydd yng Nghymru—grwpiau sy’n cael eu harwain, fel rydych chi’n dweud, yn y gymuned, lle mae trigolion a gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i ddeall risg, lle mae cynlluniau argyfwng ar gael, i gael eu grymuso. Felly, a fyddwch chi’n ymrwymo i sefydlu fforwm llifogydd Cymru yn gyffredinol fanna, i sicrhau bod pob cymuned sy’n cael ei heffeithio yn cael ei pharatoi yn well, yn cael yr hyfforddiant, yn cael ei datblygu, fel cynlluniau argyfwng lleol, ac y byddan nhw’n gallu gwneud hynny eu hunain? Ac yn olaf—mae’n flin gen i, Dirprwy Lywydd—sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen gydag argymhellion Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar wella gwytnwch cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan lifogydd? Diolch.

Ar y pwynt olaf, mae llawer o argymhellion yno, ac rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r adroddiad, a byddwn yn ymateb yn fanwl i sut y byddwn yn bwrw ymlaen â hyn. Ar y pwynt ar y fforwm llifogydd cenedlaethol ac a ddylid cael fforwm llifogydd cenedlaethol i Gymru, credaf eich bod yn gofyn y cwestiwn cywir, ac mae'n dda ei wyntyllu yma yn y Siambr hon, ond a gaf i awgrymu y gallai fod ffyrdd gwahanol ymlaen? Un o’r pethau allweddol a wyddom o flynyddoedd a blynyddoedd o’r sefyllfa hon yn gwaethygu, wrth i gynhesu byd-eang effeithio ar yr hinsawdd ac wrth inni weld mwy o achosion o’r tywydd hwn, yw bod angen nid o reidrwydd sefydlu strwythurau gweddol gadarn ar gyfer cymunedau, ond adeiladu gwytnwch yn y gymuned. Rwy'n credu bod gan y fforymau llifogydd ran i'w chwarae yn hyn o beth. Lle rydym wedi eu gweld yn gweithio'n fwyaf llwyddiannus yw lle maent nid yn unig yn dod i mewn i gymuned ond lle maent wedyn yn adeiladu'r capasiti yn y gymuned honno i fod yn wydn ei hun hefyd. Nawr, weithiau, bydd angen cynnal presenoldeb fforwm llifogydd. Mewn eraill, mae'r gymuned ei hun yn camu i'r adwy ac yn dod yn fforwm llifogydd ar gyfer yr ardal honno.

Felly, rwy'n credu bod gwahanol ffyrdd o feddwl am hyn. Mae gennym gryn ddiddordeb yn y mater gan ein bod yn credu, oherwydd y tueddiad cynyddol nawr i gael cyfnodau o ddilyw ac o sychder, fod angen inni feithrin y capasiti hwn o fewn cymunedau. Ac mae rôl i’r fforwm llifogydd ar ei ffurf bresennol; rydym yn ceisio archwilio beth fyddai'r model gorau, yn hytrach na dweud wrth bob cymuned, 'Eich ateb yw, "Dyma griw o bobl a fydd yn dod i mewn, a byddant yn eich cynorthwyo i wneud pethau."' Bydd yn ddiddorol troi hynny o gwmpas a dweud, 'Dyma sut y gallwn eich cefnogi chi hefyd i fod yn llawer mwy gwydn eich hun.' Ac rwyf wedi gweld y gwaith hwn, lle mae cymunedau eu hunain hefyd yn sefydlu eu grwpiau o fforymau gwytnwch cymunedol ar gyfer llifogydd.

Gerddi Cymunedol

3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r gwaith o greu gerddi cymunedol? OQ62510

Diolch, Julie. Rydym yn parhau i gefnogi mentrau ledled Cymru i greu neu wella mannau gwyrdd o randiroedd i barciau trefol. Mae rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sydd bellach wedi’i hariannu am ddwy flynedd arall, wedi creu dros 1,700 o erddi cymunedol, megis, ac yn cynnwys y mannau tyfu bwyd a natur ar safleoedd cymdeithas dai Tongwynlais.

Diolch am yr ateb.

Rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â manteision enfawr gerddi cymunedol, ar gyfer bioamrywiaeth ac ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ar gyfer cael gofod llesiant. Mae nifer o erddi cymunedol yng Ngogledd Caerdydd, a’r un y bûm yn ymwneud yn benodol â hi yw gardd gymunedol yr Eglwys Newydd, sydd gyferbyn â fy swyddfa etholaethol. Gwelsom ychydig o dir gwag, a dweud y gwir, gyda glaswellt byr iawn, lle nad oedd plant yn chwarae, a thrwy weithio gyda’r gymuned, fe wnaethom lwyddo i greu gardd gymunedol yr Eglwys Newydd, gydag amrywiaeth eang o blanhigion, perlysiau, ffrwythau a choed, sy'n cael ei chynnal gan wirfoddolwyr ymroddedig iawn, gan gynnwys un aelod o fy staff. Nawr, eleni, mae'r ardd gymunedol yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed. Maent yn cynnal digwyddiad dathlu ar 26 Ebrill yn yr ardd ac rwy'n siŵr y byddai croeso mawr yno i Ysgrifennydd y Cabinet. Ac a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod gerddi cymunedol yn cynnig manteision di-rif i gymunedau ac yn darparu mannau awyr agored hanfodol i bobl nad oes ganddynt erddi, ac yn hybu amrywiaeth, ac y dylid cael ymgyrch barhaus ledled Cymru i gael mwy o erddi cymunedol?

14:50

Ie, Julie. Diolch am eich cwestiwn, ac rwy’n cytuno’n llwyr. Mae potensial aruthrol gan y gerddi cymunedol hyn, yn enwedig i’r rheini nad oes ganddynt fynediad i fannau agored eu hunain yn eu gardd gefn eu hunain, ond i eraill hefyd drwy ddod â phobl ynghyd, yn ogystal ag ar gyfer bioamrywiaeth, ar gyfer tyfu bwyd—bwyd fforddiadwy, maethlon, iach hefyd—a’r cysylltiad â thyfu bwyd hefyd. Ond manteision bod yn yr awyr agored—. Ac mae'n wych gweld gardd gymunedol yr Eglwys Newydd—mae gennych sector gerddi cymunedol ffyniannus ledled yr etholaeth yno—yn dathlu ei degfed pen-blwydd ar 26 Ebrill. Nid wyf yn siŵr os gallaf, ond byddwn wrth fy modd yn ymuno os gallaf. Ond wyddoch chi, mae fy nyddiadur braidd yn llawn, ond os gallaf, fe fyddaf yno, ond os na allaf, gwrandewch, pob dymuniad da i bob un ohonynt ar eu degfed pen-blwydd ac am flynyddoedd lawer i ddod. A dyna pam, Julie, fy mod yn falch iawn, eleni, fod gennym—mawredd, faint—600 o brosiectau ledled Cymru bellach o dan gynllun pecynnau cymunedol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac mae hyn yn cynnwys bywyd gwyllt, perllannau, pecynnau bwyd, i greu mannau gwyrdd mewn gerddi, gan weithio gyda chymunedau lleol, wedi'u llywio gan gymunedau lleol, y dull o'r gwaelod i fyny. Ac mae 69 o'r rheini sydd wedi'u cyflawni neu sydd ar y gweill yng Nghaerdydd. Felly, llongyfarchiadau i'r Eglwys Newydd a phawb arall, a gair o glod, Ddirprwy Lywydd, os caf fanteisio ar y cyfle, i Caerau Growers, sy'n cynnal diwrnod agored cyn bo hir yn eu gardd gymunedol heb fod ymhell oddi wrthyf.

Treth Etifeddiaeth Amaethyddol

4. Pa ystyriaeth mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi ei roi i effaith newidiadau Llywodraeth y DU i’r dreth etifeddiaeth amaethyddol ar gynaliadwyedd cymunedau cefn gwlad? OQ62514

Diolch, Siân. Mae’r dreth etifeddiaeth yn dreth a gedwir yn ôl ac a orchwylir gan Lywodraeth y DU. Rwyf wedi pwysleisio wrth Lywodraeth y DU dro ar ôl tro bwysigrwydd ystyried pryderon dilys a pharhaus undebau amaeth Cymru, a hynny mewn modd cydweithredol.

Rydyn ni wedi clywed nifer o weithiau yn y Siambr yma am yr effaith niweidiol y gall y newidiadau treth etifeddiaeth gael ar ffermydd teuluoedd a chymunedau gwledig. A thra’n deall mai penderfyniad gan Lywodraeth arall ydy hyn—a dim newid wedi cael ei gyhoeddi heddiw, gyda llaw—onid oes cyfrifoldeb arnoch chi nid yn unig i roi'r dadleuon drosodd, ond i asesu beth fyddai'r effaith ar Gymru—er enghraifft, asesu effaith y newid ar allu Cymru i gynhyrchu bwyd i'r dyfodol a sut mae hynny'n alinio efo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; er enghraifft, asesu effaith y newid ar y defnydd o'r iaith Gymraeg a sut mae'r bygythiad i ffermydd teuluol yn alinio efo strategaeth 'Cymraeg 2050'? O asesu a chanfod yr effaith, gallai eich Llywodraeth chi wneud gwell dadl dros yr angen i un ai dileu'r newid neu dros fesurau penodol i liniaru'r effaith.  

Diolch am y cwestiwn arall, Siân. 

Edrychwch, i fod yn glir, nid ydym yn bwriadu cynnal asesiad effaith, fel yr un y maent wedi'i wneud yn asesiad Gogledd Iwerddon, sy'n seiliedig yn bennaf ar brisiadau ffermydd, gan mai dyna ydyw, os na allant ddarparu asesiad cadarn a chywir o'r effaith debygol—asesiad o brisiad ffermydd ydyw. Heb wybodaeth hanfodol am amgylchiadau fferm unigol, megis strwythur perchnogaeth y fferm, y datganiadau rhodd, nid yw'n bosibl gwneud asesiad cywir o'r effaith wirioneddol. Nawr, efallai y bydd yr asesiadau sy'n seiliedig ar werth yn unig yn rhoi asesiad bras o uchafswm—uchafswm—posibl nifer y ffermydd a allai fod uwchlaw trothwy'r dreth etifeddiant ar draws cenhedlaeth gyfan. Ond heb y data hwnnw ar amgylchiadau fferm unigol, mae'n debygol y bydd ffigur o'r fath yn anghywir, a gallai fod yn gamarweiniol hefyd, gan ei fod wedi'i osod ar effaith fwyaf posibl y newidiadau posibl i'r dreth etifeddiant. Felly, mae'r strwythurau perchnogaeth, y cynlluniau etifeddiant, y rhyddhadau a all fod yn berthnasol, oll yn effeithio ar y defnydd o ryddhad eiddo amaethyddol. Mae gwerthoedd ffermydd hefyd yn amrywio, felly mae'n anodd amcangyfrif faint sy'n cael eu prisio dros drothwyon y dreth etifeddiant ar unrhyw adeg benodol. Felly, dyma pam ein bod yn defnyddio data'r Trysorlys fel man cychwyn, gan ei fod yn seiliedig ar ffigurau profiant. Fodd bynnag, gadewch imi ddweud yn gwbl glir, a dyma sail y sylwadau rwyf wedi’u gwneud, fod yr asesiadau gan bobl fel Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol wedi codi pryderon dilys y gallai asesiad Trysorlys EF fod yn tanamcangyfrif yr effaith. Nawr, gadewch imi ddweud yn glir, ac rydym wedi dweud yn glir, dylai Llywodraeth y DU fynd i'r afael â'r pryderon dilys hyn mewn ffordd gydweithredol gydag undebau'r ffermwyr.

Dylwn ddweud mai'r peth arall y gallwn ei wneud i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yma yng Nghymru yw parhau i weithio fel y gwnawn gyda'r undebau ffermio a chyda rhanddeiliaid ehangach i sicrhau bod gennym sylfaen dda ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac rydym wedi gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y DU na fydd unrhyw newidiadau yn effeithio ar y dull yr ydym yn ceisio ei fabwysiadu yno o ddarparu nid yn unig y gwerth economaidd, ond y gwerth cymdeithasol a diwylliannol, a phwysigrwydd y Gymraeg i ffermio mewn sawl rhan o Gymru. Felly, byddwn yn parhau i wneud y sylwadau hynny, a'i ddweud yma yn y Siambr hefyd. Rydym am weld ymgysylltu ystyrlon â’r dadansoddiad, ond dof yn ôl at y pwynt hwnnw: mae’n annhebygol y bydd y data sydd wedi’i seilio'n syml ar werthoedd ffermydd yn unig ar unrhyw adeg benodol yn amcangyfrif cywir, gan ei fod yn seiliedig ar y rheini'n unig; nid yw'n ystyried amgylchiadau ffermydd unigol.

14:55

Mae newidiadau Llywodraeth y DU i'r dreth etifeddiant yn targedu ein ffermydd teuluol drwy doriadau i’r rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes, gan beri bygythiad dirfodol i draddodiad y fferm deuluol yng Nghymru, ac mae llawer o deuluoedd ffermio yn fy etholaeth yn teimlo'n ddiobaith oherwydd y newidiadau hyn, ac yn ofni eu bod yn peryglu eu ffermydd. O fis Ebrill 2026, bydd fferm gyffredin yng Nghymru yn wynebu treth etifeddiant o 20 y cant, ac mae'n bwysig nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, nad teicwniaid cyfoethog yw'r bobl hyn, na mogwliaid hyd yn oed, maent yn deuluoedd ffermio sy'n brin o arian parod, ac maent wedi bod yn stiwardio ein tir ers cenedlaethau lawer, ac maent bellach yn cael eu gorfodi i werthu er mwyn goroesi. Mae graddau'r broblem yn syfrdanol. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac eraill yn rhybuddio y gallai 70,000 o ffermydd, dwy ran o dair o holl ffermydd Prydain, gael eu heffeithio. Nid trethu yw hyn; stripio asedau ydyw. Bydd ffermydd teuluol yn cael eu bachu oddi ar eu perchnogion a'u prynu gan reolwyr asedau mawr fel BlackRock, y mae'r Prif Weinidog, Keir Starmer, eisoes wedi dechrau ymwthio i'w coflaid. Mae’r polisi hwn yn bygwth diogeledd bwyd, yn torri gwerthoedd tir—

—ac yn estyn ein treftadaeth i gronfeydd rhagfantoli a megafanciau, gyda chyn-ymgynghorydd Llafur hyd yn oed yn brolio am ddinistrio ffermydd fel y dinistriodd Thatcher y pyllau glo.

Mae hyn yn bradychu cefn gwlad Cymru. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi sicrwydd i ffermwyr yn y gogledd fod eu bywoliaeth yn bwysig, ac yn fwy penodol, a allwch chi ddweud wrthym yn onest fod Llafur o ddifrif ar ochr pobl sy'n gweithio, neu a ydynt ym mhocedi megafanciau rhyngwladol sy'n mynd i fod yn casglu mwy a mwy o ffermydd yn eu portffolios eiddo?

Diolch, Gareth. Ddirprwy Lywydd, nid wyf am ailadrodd yr ateb blaenorol a'r esboniad a roddais i gwestiwn Siân ar hyn, ac yn sicr, nid wyf am ymateb i refru gwleidyddol. Ond yr hyn y byddaf yn ei wneud yw egluro beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd ar lawr gwlad i gefnogi ffermwyr Cymru yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Yng ngoleuni'r newidiadau i'r dreth etifeddiant, rydym yn cynnal cyfres o weithdai ledled Cymru drwy ein sefydliad Cyswllt Ffermio. Ledled Cymru, mae 10 gweithdy wedi'u cynnal. Maent wedi cael eu croesawu'n fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae bron i 1,500 o ffermwyr wedi mynychu nid yn unig i ddeall goblygiadau’r newidiadau, ond i drafod pethau fel cynllunio ar gyfer olyniaeth, rhoi rhoddion ac ati. Felly, gan anwybyddu eich rhefru gwleidyddol, Gareth, rydym yn gwneud pethau ymarferol iawn gyda'r gymuned ffermio.

Dim ond dechrau'r cymorth a ddarparwn yw'r gweithdai, Ddirprwy Lywydd. Mae Cyswllt Ffermio yn darparu mynediad unigol at gyfarfodydd wedi’u hwyluso ar gyfer trafod olyniaeth teuluoedd. Rwyf wedi mynychu rhai o'r rhain, lle maent yn eistedd gyda theuluoedd. Rwyf wedi siarad â ffermwyr, Ddirprwy Lywydd, a gwn eich bod chi a minnau wedi cyfarfod â ffermwyr, hefyd, sydd wedi dweud, 'Wel, mae gennym rywun 70, 80 oed, nad ydynt wedi llwyddo i wneud hyn.' Gall Cyswllt Ffermio ddarparu’r cyngor wyneb yn wyneb hwnnw wedi’i deilwra i’r teuluoedd ffermio hynny, adolygiadau olyniaeth i ddeall goblygiadau treth, a chyngor busnes a chyfreithiol â chymhorthdal i ddatblygu cynlluniau olyniaeth. Rydym hefyd, gyda llaw, Gareth, fel y gwyddoch, wedi cefnogi cadw cynllun y taliad sylfaenol, cyllideb cynllun y taliad sylfaenol, ar £238 miliwn ar gyfer 2025—yr un lefel â'r ddwy flynedd diwethaf. Rydym wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Ni ddigwyddodd hynny, gyda llaw, dros y ffin gyda’r Llywodraeth Geidwadol; fe wnaeth y Llywodraeth Geidwadol ei dorri. Rydym wedi ei chadw ar yr un lefel er mwyn rhoi'r sicrwydd hwnnw, ac nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd. Mae mwy na 98 y cant o hawlwyr bellach wedi derbyn eu balans llawn neu rannol o daliad sylfaenol 2024 ers i’r ffenestr agor ym mis Rhagfyr. Rydym bellach wedi talu dros £232 miliwn. Felly, Gareth, fe ofynnoch chi beth rydym yn ei wneud i helpu ffermwyr i lywio drwy'r newidiadau hyn: popeth yn ein gallu. Nid yn unig hynny, rydym yn darparu arian i gefnogi ffermwyr nas darparwyd gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol erioed.

15:00
Iechyd Afonydd

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd afonydd yn ne Cymru? OQ62529

Diolch, John. Mae Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd afonydd yn ne Cymru drwy ddull dalgylch integredig, gan ganolbwyntio ar gydweithredu aml-sector. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu cryf â Llywodraethau, rheoleiddwyr a llawer o rai eraill. Ymhellach, rydym wedi cyhoeddi cronfa ymchwil ar y cyd gwerth £1 filiwn gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â materion ansawdd dŵr yn afon Gwy.

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, nid yw ein hafonydd yn ne Cymru yn y math o gyflwr y byddai unrhyw un ohonom yn hoffi ei weld. Mae yna lawer o lygredd o ffermio, mae yna lygredd gan Dŵr Cymru ac eraill. Diolch byth, mae ymgyrch gref iawn ar waith ar gyfer afon Wysg, Ysgrifennydd y Cabinet, gan Angela o Frynbuga ac eraill, sy'n datblygu cynlluniau gwyddoniaeth dinasyddion i samplu dyfroedd afon Wysg a dangos y lefelau uchel iawn o lygredd, er bod afon Wysg, yn ddamcaniaethol, yn elwa ar lefel uchel iawn o warchodaeth—er hynny, rydym yn gweld lefelau uchel iawn o lygredd. Felly,Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch ymgyrch Achub Afon Wysg ac Angela, sy'n nofiwr gwyllt, ac sy'n mynd ag eraill i nofio'n wyllt, ac i wersylla'n gwyllt ac yn gyffredinol yn cysylltu pobl â natur? Rwy'n credu ei bod hi'n sicr yn chwarae ei rhan; mae hi'n ymgyrchydd cryf iawn. A wnewch chi gyfarfod ag ymgyrch Achub Afon Wysg ac Angela wrth ochr afon Wysg a thrafod rhai o'u pryderon allweddol, gan gynnwys syniadau ar gyfer Bil Dŵr i Gymru?

John, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol. A gaf i ddweud wrthych fy mod yn llongyfarch yr holl ymgyrchwyr ledled Cymru ac mewn mannau eraill sy'n canolbwyntio ar iechyd ecolegol ein hafonydd a hefyd ar ansawdd dŵr ymdrochi ein hafonydd a'r angen i wneud llawer mwy? Rwy'n canolbwyntio ar hynny yn bersonol, ac wedi bod ers blynyddoedd lawer cyn imi ddod yn rhan o'r Llywodraeth ac rwy'n parhau i wneud. Dros y misoedd i ddod, fe welwn ffocws adfywiol a real ar yr ymateb amlochrog sydd gennym ar hyn, boed yn llygredd ffosffadau, yn rheolaethau datblygu, yn garthffosiaeth a dŵr a'r seilwaith hynafol sydd gennym, neu'n llygredd gwasgaredig amaethyddol neu o darddle penodol. Mae angen mynd i'r afael â'r holl bethau hyn. Mae pob afon yn wahanol ac mae angen inni weithio arno.

Rwy'n falch iawn o ddweud, gyda llaw, fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r UE ar y cyd mewn perthynas ag afon Wysg, ac mae'r gwaith blaenorol yr oeddem yn ei wneud yn dal i ddigwydd o dan brosiect Pedair Afon LIFE. Mae'n fenter bum mlynedd gwerth £9 miliwn sy'n cael ei harwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac sy'n cynnwys afonydd Tawe, Teifi, Cleddau ac Wysg, felly mae hynny'n parhau. Mae'n canolbwyntio ar 776 km o afonydd, ac ers 2022, mae wedi adfer tua 136 hectar o orlifdiroedd, gwlyptiroedd a dolydd. Ond hefyd, mae gennym £16.2 miliwn o gyllid cyfalaf yn y gyllideb—a John a chyd-Aelodau eraill y tu ôl i mi, diolch am bleidleisio drosto—i CNC, gyda chefnogaeth i oddeutu 80 o brosiectau gwella ansawdd dŵr, gan gynnwys prosiect adfer afon Gwy uchaf, yr ymwelais ag ef bythefnos yn ôl, i fyny ar y dalgylch uchaf, i edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud yno i hyrwyddo bioamrywiaeth, arafu llif gwaddod a thraul y pridd i'r afonydd islaw ac yn y blaen. Felly, byddwn yn gwneud hynny i gyd. Mae mynd i'r afael â llygredd afonydd yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac rwy'n llongyfarch Angela o Wysg a phawb arall am y gwaith a wnânt yn ein dwyn i gyfrif a dweud, 'Ewch amdani. Gwnewch yr hyn rydych chi'n ei wneud a gwnewch fwy hefyd.'

Un peth sy'n sicr, nid yw'r dull presennol yn gweithio, oherwydd y mis hwn fe glywsom fod nifer y systemau afon yng Nghymru sy'n methu'r targedau ffosffad wedi codi o bump i saith; mae hynny'n cynnwys y Teifi yn fy etholaeth i. Er bod dull dalgylch aml-asiantaeth yn gam i'r cyfeiriad cywir, mae'n dal i fethu mynd i'r afael â'r broblem sylfaenol, sef bod cyfrifoldebau wedi'u gwasgaru dros yr holl seilos gwahanol hyn, boed yn CNC, y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr, y cwmnïau dŵr eu hunain neu'r awdurdodau lleol.

Un o'r atebion sy'n cael ei gynnig yw'r syniad o greu un gweithredwr systemau dalgylch, gan ddod â'r holl awdurdod rheoleiddio at ei gilydd. Mae sylfaenydd y syniad, yr Athro Dieter Helm, hefyd yn awgrymu y byddai'n datrys llygredd afonydd heb fod angen buddsoddiad enfawr, sydd, yn amlwg, yn syniad deniadol iawn. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ofyn i'w swyddogion am gyngor i weld a allwn adeiladu'r cynllun peilot cyntaf ar gyfer gweithredwr systemau dalgylch, gan adeiladu ar y prosiectau arddangos dalgylchoedd, i weld a all yr ateb hwn fynd â'n hafonydd i ble mae angen iddynt fod?

15:05

Diolch am y cwestiwn atodol, Adam. Yn ddiddorol, bythefnos i ddydd Iau, roeddwn ym Manceinion yn lansiad yr alwad am dystiolaeth gan Jon Cunliffe, yr ydym yn ei wneud rhwng Lloegr a Chymru ar y cyd ar strwythurau rheoleiddio dŵr. Ond yn ddiddorol, dywedodd wrth ei lansio fod ganddo ddiddordeb mawr hefyd mewn gweld a oes angen mynd i'r afael â llywodraethiant ein hafonydd ar sail dalgylch. Mae'n rhaid imi ddweud ein bod eisoes yn dechrau gwneud rhywfaint o hyn yma yng Nghymru. Felly, er enghraifft, yn ardal Taf Elái, mae gennym yr hyn a elwir yn fodel dalgylch dŵr trefol, sy'n dod â'r holl randdeiliaid at ei gilydd a dweud, 'Iawn, beth sydd angen i chi i gyd ei wneud yn eich gwahanol ffyrdd ar y dalgylch afon trefol unigryw hwn i godi rhai o'r lefelau llygredd enbyd mewn rhannau ohono, gan gynnwys y llednentydd?' Felly, rydym eisoes yn treialu'r dull hwn mewn gwahanol rannau o Gymru. Y cwestiwn yw: a allwn ni ei ddatblygu ar raddfa fawr? A allwn ni ddod o hyd i fodel?

Nawr, mae'n rhaid imi ddweud bod Jon Cunliffe, wrth fynd i'r afael â hyn, wedi dweud bod angen inni ddiffinio beth yw'r dalgylch, oherwydd ar gyfer rhai o'n hafonydd, mae'r dalgylch yn ymestyn o fynyddoedd Pumlumon yr holl ffordd i lawr i aber afon Hafren; mewn eraill, mae'n llawer mwy o ruthr i'r môr ar hyd gwely cul—. Ond rwy'n credu bod potensial i hyn, a rhywfaint o'r ffocws y soniais amdano ar y canlyniadau—gwella ansawdd, bioamrywiaeth a dŵr ymdrochi ein hafonydd—rwy'n credu bod angen inni ddefnyddio ac edrych ar yr holl ddulliau sydd ar gael, a gall hynny olygu edrych i weld a ddylem wneud rhywbeth llawer cliriach, gyda llawer mwy o ffocws, ar lefel dalgylch. Mae hynny'n golygu gweithio gyda ffermwyr; tirfeddianwyr; gwaith adfer hen fwyngloddiau sy'n digwydd ym mwyngloddiau metel canolbarth Cymru, yng Nghwm Ystwyth, lle'r oeddwn yn ddiweddar, ac yn y blaen; a'r iseldir, a phawb; a'r cymdeithasau genweirwyr a phawb arall. Gwyddom y gall hyn weithio, oherwydd os edrychwch chi ar leoedd—.

Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, os caf ystyried yr adroddiad yr oeddech chi'n sôn amdano, nid oedd y cyfan yn negyddol. Dangosodd fod rhai o'r gwelliannau a wnaethom yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Felly, mae rhannau isaf afon Gwy yn gwella, ac mae yna ardaloedd eraill, ond mae gennym gymaint mwy i'w wneud. Felly, dyna ddadl dros ddefnyddio dull o weithredu ar sail dalgylch mwy o faint, lle mae pawb yn gwella, o'r top i'r gwaelod.

Mae gennym sawl cwestiwn i fynd, ac rydych chi eisoes wedi defnyddio eich amser, Ysgrifennydd y Cabinet, felly byddwch yn gryno yn eich atebion.

Diogelwch Tomenni Glo

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella diogelwch tomenni glo? OQ62522

Ar 20 Mawrth, fe wneuthum gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn 2025-26 yn darparu £34 miliwn i'n partneriaid cyhoeddus ymgymryd â gwaith ar 130 o domenni glo ledled Cymru. Ochr yn ochr â dyraniad Llywodraeth y DU, mae hyn yn golygu y bydd dros £100 miliwn wedi'i fuddsoddi ar ddiogelu tomenni glo yn nhymor y Senedd hon.

Diolch am hynny. Rwy'n croesawu'r ddeddfwriaeth sydd ar y ffordd, a'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yr wythnos honno. Mae hynny'n cael ei groesawu, ond rwy'n ofni nad yw'n ddigon. Mae'r tomenni glo yn ein cymoedd—rydym wedi trafod hyn gymaint o weithiau—yn ein hatgoffa'n gyson sut y cawsom ein hecsbloetio. Mae'r rhai ohonom sydd wedi tyfu i fyny gyda hwy ar y bryniau wedi dod i arfer â'u presenoldeb. Maent wedi bod yno mor hir, yn aros i drasiedi arall daro. Ar ôl Aberfan, mae'n gywilydd fod San Steffan wedi penderfynu eu gadael ar y bryniau. Dylai'r hyn a ddigwyddodd yng Nghwmtyleri y gaeaf diwethaf fod wedi ysgwyd Whitehall. Ond £25 miliwn yw'r cyfan a addawyd i ni hyd yma gan San Steffan; £25 miliwn, pan fo'r bil ar gyfer clirio'r meysydd glo i gyd yn £600 miliwn. Nawr, rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n croesawu'r ddeddfwriaeth ar ddiogelwch tomenni glo. Ond dylai San Steffan dalu llawer mwy yn llawer cyflymach i glirio'r tomenni hyn. Maent eisoes ddegawdau'n rhy hwyr yn ei wneud. Felly, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni faint rhagor y disgwyliwch i Lywodraeth y DU dalu tuag at y gwaith hwn, a pha mor gyflym, oherwydd ni allwn fforddio damwain arall fel yr un a fu bron â digwydd yng Nghwmtyleri?

15:10

Diolch, Delyth, ac am eich cefnogaeth i'r trywydd yr ydym yn ei ddilyn ar hyn. Mae angen inni wneud mwy a mwy bob blwyddyn. I egluro un peth, oherwydd dywedir hyn wrthyf yn aml: roedd yr ystod o £500 miliwn i £600 miliwn y cyfeirioch chi ato yn amcangyfrif dros dro yn seiliedig ar y wybodaeth gyfyngedig a oedd ar gael bryd hynny, flynyddoedd yn ôl, yn dilyn effaith storm Dennis ar Tylorstown. Nawr, ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn o waith gyda'n partneriaid cyhoeddus i nodi, cofnodi, mapio a chategoreiddio'r tomenni glo segur, ac mae hyn yn llythrennol wedi golygu cerdded ar y tomenni hynny a'u hasesu ar gyfer y meini prawf. Felly, rydym bellach gwybod yn llawer mwy cywir, flwyddyn ar ôl blwyddyn, beth sydd ei angen arnom—nid amcangyfrif mawr bras, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn beth sydd ei angen. Felly, fe wnaethom ofyn y llynedd am gyfraniad o £25 miliwn i ychwanegu at yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei dalu ein hunain gyda chyllid Llywodraeth Cymru. Mae yna gost a budd i hynny, oherwydd roedd yn rhaid iddo ddod o feysydd eraill yr oeddem wedi'u blaenoriaethu. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Ond gallwch fod yn dawel eich meddwl fod fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn trafod gyda Llywodraeth y DU, gan weld hwnnw fel y rhandaliad cyntaf. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi dweud dro ar ôl tro fod angen y bartneriaeth barhaus honno, ac mae angen i'n cyfraniad ni gynyddu, a chyfraniad Llywodraeth y DU hefyd.

Fel y trafodwyd gennym o'r blaen, yr agwedd arall yw adeiladu'r capasiti. Felly, fel y dywedais gerbron y pwyllgor, mae yna—. Nid arian yw'r cyfyngiad yma; y cyfyngiad yw adeiladu'r peirianwyr sifil, hydrolegwyr, peirianwyr mwyngloddiau ac eraill sy'n gallu blaenoriaethu'r tomenni pwysicaf, yn gyntaf oll, a gweithio eu ffordd drwodd. Mae hon yn rhaglen pump, 10, 15 mlynedd, ond mae angen inni ei hymestyn wrth i'r blynyddoedd fynd heibio. Gyda llaw, mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi cyhoeddi'r ffigurau y gofynnwn amdanynt yn y blynyddoedd nesaf. 

Taflu Sbwriel

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael ag achosion o daflu sbwriel yn Nwyrain De Cymru? OQ62508

Diolch, Natasha. Drwy ein cyllid Cadw Cymru'n Daclus, rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau ledled de-ddwyrain Cymru i fynd i'r afael â sbwriel. Mae hyn yn cynnwys creu hybiau sbwriel, cydlynu gweithgareddau gwirfoddolwyr a chynnal treialon atal. Rydym hefyd yn mynd i'r afael â'r broblem yn y ffynhonnell, gyda gwaharddiadau ar gynhyrchion fel fêps untro.

Diolch am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna grwpiau cymunedol gwych ledled Cymru sy'n cynnwys gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n mynd y tu hwnt i'r galw i gadw ein trefi, ein pentrefi a'n dinasoedd yn lân. Yng Nghasnewydd, rydym yn ddigon ffodus i gael y tîm anhygoel Pride in Pill, sydd nid yn unig yn cynnal casgliadau sbwriel o amgylch y ddinas, ond yn gwneud cymaint o waith cymunedol gwych. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar cafodd offer y grŵp, sy'n werth tua £5,000, ei ddwyn ar ôl i rywun dorri i mewn i'w sied. Mae'r eitemau sydd wedi'u dwyn yn cynnwys offer casglu sbwriel, berfâu, offer gardd, menig, esgidiau diogelwch a chitiau cymorth cyntaf. Mae'r lladron difeddwl hyn wedi cyfyngu ar allu elusen sy'n gwneud gwaith anhygoel yn glanhau ein dinas a chael gwared ar sbwriel. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Pride in Pill yn apelio am roddion i'w helpu i'w cael yn ôl yn weithredol. Rwy'n gwneud yr hyn a allaf i'w cefnogi, ond a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i'w cefnogi ar yr adeg anodd hon? Ac a wnewch chi ymuno â mi i godi ymwybyddiaeth o'r apêl hon ac annog pobl i gyfrannu, os ydynt mewn sefyllfa i wneud hynny? Diolch.

Diolch, Natasha. Wyddoch chi, rwy'n canmol y grŵp hwnnw am y gwaith a wnânt, ac eraill ar draws eich rhanbarth? Y casglu sbwriel a wnaed yn ddiweddar gan Shrewsbury and Newport Canals Trust, Ymddiriedolaeth Natur Gwent, partneriaethau yng Nghaerffili ac yn y blaen, ac yn wir, mae llawer o hyn yn cael ei gefnogi gan waith Cadwch Gymru'n Daclus yn aml iawn, a'r hybiau y maent yn eu gwneud a'r offer y maent yn eu darparu ar draws de-ddwyrain Cymru, a'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Cadwch Gymru'n Daclus i wneud hynny.

Mae mor siomedig bod lladrad hurt a thwp bellach wedi golygu nad yw'r offer hwnnw ar gael, ac rwy'n siŵr y bydd Cadwch Gymru'n Daclus eisiau helpu i'w cael yn weithredol eto cyn gynted â phosibl. Ond edrychwch, os oes apêl am gymorth, rwy'n adleisio hynny. Mae pobl yng Nghymru yn hael iawn, yn enwedig pan fo'n ymwneud â thacluso eu cymunedau eu hunain. Felly, gadewch inni weld a allwn ni gael y grŵp hwnnw yn ôl ar eu traed. A gadewch inni hefyd gefnogi'r holl grwpiau eraill sydd allan, ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn enwedig, o amgylch eu cymunedau, yn glanhau eu glannau afonydd, eu llwybrau lleol, ac yn y blaen. Maent yn gwneud gwaith mor dda. 

Atebion sy'n seiliedig ar Natur

8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd atebion sy'n seiliedig ar natur fel rhan o'i strategaeth llifogydd? OQ62505

Diolch, Carolyn. Rydym yn gweithredu atebion ar sail natur fel rhan o'n rhaglen rheoli perygl llifogydd. Mae hyn yn cynnwys £2 filiwn a ddarparwyd yn ddiweddar i awdurdodau rheoli risg ar gyfer rheoli llifogydd drwy ddulliau naturiol. Bydd hyn yn galluogi cydweithio â ffermwyr, tirfeddianwyr a sefydliadau'r trydydd sector i leihau'r perygl o lifogydd ac i wella gwytnwch amgylcheddol.

15:15

Diolch am eich ateb. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Rewilding Britain, sy'n cynnig atebion ar gyfer dal dŵr yn ein hucheldiroedd megis creu argaeau sy'n gollwng dŵr, a hefyd creu gwlyptiroedd. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn ailgyflwyno afancod yn ogystal ag ateb ar sail natur. Dim ond cyfran fach o'r arian sydd wedi'i roi tuag at yr atebion ar sail natur hyn yn y DU gyfan ac yng Nghymru, o'i gymharu â syniadau eraill. Roeddwn i'n meddwl tybed pa ystyriaeth a roddwyd i weithio gyda thirfeddianwyr o dan gyfraith glannau afonydd—er enghraifft, wrth aredig caeau, a cheisio gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu haredig ar draws yn hytrach nag ar hyd y cae, fel bod y dŵr yn dod i lawr, ac arafu llif afonydd a nentydd i fyny'r afon hefyd—fel awgrym ar gyfer y dyfodol. Diolch.

Mae'n awgrym da iawn, a'r allwedd i wneud i'r arian fynd ymhellach mewn gwirionedd yw gweithio gyda thirfeddianwyr. Soniais fy mod i ar ben dalgylch uchaf afon Gwy yn ddiweddar, y prosiect i fyny yno, ac mae hwnnw'n cynnwys gweithio gyda thirfeddianwyr i wneud y prosiectau sy'n arafu'r llif dŵr a hefyd i gadw pridd—ar y pridd, nid yn yr afonydd, mewn gwaddodion a mwd yno. Felly, mae'n ymwneud â lleihau dŵr ffo, lleihau llygredd, cadw pridd yn y tir, arafu llif dŵr dros y tir, helpu gyda lliniaru llifogydd, adfer ac ailgysylltu'r gorlifdiroedd, adfer coridorau afonydd, plannu lleiniau clustogi a gweithio gyda thirfeddianwyr. Dyna'r allwedd. A phan fydd tirfeddianwyr yn gweld beth sy'n digwydd yn y cae gyferbyn, yn aml, hwy yw'r rhai cyntaf i ofyn, 'Beth sy'n digwydd? A gawn ni fod yn rhan ohono?' Felly gallwch wneud i'r arian fynd yn bell iawn.

Ond Ddirprwy Lywydd, mae gennym gynlluniau o fewn y rhaglen genedlaethol ar gyfer rheoli llifogydd ar hyn o bryd. Mae gennym ddau gynllun yn y brif raglen sydd ar gam achos busnes o'r diwedd, yn nalgylchoedd Gwyrfai ac Ogwen. Ond mae pedwar cynllun yng Nghaerdydd, sir Fynwy a Phowys hefyd. Gyda'r buddsoddiad o £2 filiwn—ac unwaith eto, diolch am bleidleisio dros hyn yn y gyllideb—byddwn yn cefnogi 23 o brosiectau ledled Cymru, a bydd yn lleihau perygl llifogydd i hyd at 2,800 eiddo. Mae'n mynd yn bell iawn.

3. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Eitem 3 yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal yr eitem nesaf o fusnes. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James. 

Cynnig NNDM8871 Jane Hutt

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a'r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8872 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 26 Mawrth.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol i atal Rheolau Sefydlog, Ddirprwy Lywydd.

Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog dros dros. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

Eitem 4 yw'r penderfyniad ariannol o ran y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NNDM8872 Julie James

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.72, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o fath y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am gytuno y gellir atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i'r ddadl hon gael ei chynnal. Er bod dadl ar benderfyniad ariannol yn ddigwyddiad cyffredin ar y rhan fwyaf o Filiau, mae'r amgylchiadau sydd wedi arwain at y ddadl heddiw ychydig yn anarferol. Rwyf am achub ar y cyfle i egluro pam y mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno'r cynnig hwn a beth y gofynnir i'r Senedd gytuno iddo.

Pan fydd Bil yn cael ei gyflwyno i'r Senedd, rhaid i'r Llywydd benderfynu a oes angen penderfyniad ariannol, ac fel arfer gofynnir i'r Senedd gytuno ar y cynnig hwnnw ar ddiwedd Cyfnod 1. Oherwydd natur dechnegol y Bil, yn achos y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru), penderfynodd y Llywydd, yn unol â Rheolau Sefydlog, nad oedd angen penderfyniad ariannol. Cytunwyd ar egwyddorion cyffredinol y Bil gan y Senedd ar 4 Mawrth, ac mae'r Bil bellach yng Nghyfnod 2. Mae gwelliannau i'r Bil wedi'u cyflwyno, ac mae disgwyl i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ystyried y gwelliannau hynny yn eu cyfarfod ddydd Llun.

Mae Rheol Sefydlog 26.72 yn darparu, lle byddai gwelliant i Fil, os yw'n cael ei gytuno, yn golygu y byddai angen penderfyniad ariannol ar y Bil, ni all unrhyw drafodion ddigwydd ar y gwelliant oni bai bod y Senedd wedi cytuno ar gynnig am benderfyniad ariannol. Dyma'r sefyllfa sydd wedi codi gyda'r Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Mae'r Llywydd wedi pennu y gall gwelliant 34, a gyflwynwyd gan Adam Price, gymell Rheol Sefydlog 26.72. Felly, heb i'r Llywodraeth wneud y cynnig hwn heddiw, a bod y Senedd yn cytuno iddo, ni all trafodion ddigwydd ar welliant 34, ac ni fyddai Adam yn cael cyfle i wneud ei achos dros ddiwygio'r Bil.

Ddirprwy Lywydd, dylwn wneud yn glir iawn, fodd bynnag, nad yw'r Llywodraeth yn  cefnogi gwelliant 34. Nid yw'r hyn a gynigir yn rhywbeth a argymhellwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yng Nghyfnod 1, ac ni fyddai goblygiadau ariannol y cynnig yn ansylweddol. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r wybodaeth a ddarparwyd gyda'r cynnig fod trefniadau tebyg yn yr Alban ar hyn o bryd yn costio tua £100,000 bob blwyddyn i Lywodraeth yr Alban, ac mae hon yn gost sy'n codi'n barhaol, gan gynyddu dros amser. Ond nid dyma'r fforwm i ailadrodd rhinweddau neu fel arall y gwelliant, ac ni ofynnir i'r Senedd gytuno ar y gwelliant i'r Bil. Yn hytrach, gofynnir i'r Senedd gytuno ar y penderfyniad ariannol fel y gellir trafod gwelliant 34 yr wythnos nesaf gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad er mwyn i broses ddemocrataidd o ddiwygio Bil allu digwydd.

Ar y sail honno, gofynnaf i'r Senedd gytuno ar y penderfyniad ariannol heddiw, a bydd hynny'n ei gwneud hi'n bosibl i'r trafodion ar y gwelliant ddigwydd. Diolch.

15:20

Dŷn ni ddim yn mynd i gael y drafodaeth nawr ynglŷn â sylwedd y gwelliant, ond dwi jest yn rhoi ar y record fy mod i'n ddiolchgar iawn i'r Llywodraeth am hwyluso ein gallu ni i gael y drafodaeth honno yng nghyd-destun trafodion yng Nghyfnod 2 y Bil. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am hynny. Efallai hefyd—a dŷn ni wedi cael sgwrs ynglŷn â hyn, Gwnsler Cyffredinol—y dylid manteisio ar y cyfle ar ryw bwynt i edrych ar y gweithdrefnau o gwmpas hyn. Byddai atal trafodaeth dim ond oherwydd y rhesymau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u hesbonio—oherwydd natur technegol y Bil nad oedd yna adroddiad ariannol—dwi ddim yn credu ei fod e'n gwneud synnwyr felly i atal trafodaethau ar welliannau sydd yn dod i'r fei wedyn. Felly, efallai fod modd i'r Pwyllgor Busnes neu—dwi'n edrych arnoch chi, Ddirprwy Lywydd—pwyllgor y seithfed Senedd—dwi'n gwybod bod eich baich chi yn uchel iawn—ond efallai y dylid edrych ar y gweithdrefnau yma ar gyfer y dyfodol hefyd. 

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

5. Cwestiynau Amserol
6. Datganiadau 90 eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mis Mawrth yw Mis Ymwybyddiaeth Tiwmor yr Ymennydd; ar 28 Mawrth mae'n Ddiwrnod Gwisgo Het—rwy'n falch nad yw'n 28 Mawrth—cyfle hollbwysig i dynnu sylw at y realiti dinistriol mai tiwmor yr ymennydd yw'r canser sy'n lladd fwyaf o blant ac oedolion o dan 40 oed o hyd, ac eto mae ymchwil i diwmorau'r ymennydd yn parhau i fod wedi'i thanariannu a'i thanflaenoriaethu'n ddifrifol. Fel llawer o bobl eraill, rwyf wedi gweld effaith ddinistriol tiwmor yr ymennydd, a laddodd fy mam yn 2003.

Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd yn y Farchnad yn y Senedd. Dywedwyd wrthyf mai treialon clinigol yn aml yw'r unig obaith i lawer o gleifion a'u teuluoedd, ond yng Nghymru rydym ar ei hôl hi, gyda phrinder cyfleoedd y tu allan i Gaerdydd i gleifion sy'n awyddus i gymryd rhan mewn treialon. Mae'r canoli'n golygu bod llawer o gleifion ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig, yn methu cael triniaethau a allai achub bywydau. Ar hyn o bryd mae Cymru'n denu llai na hanner ei chyfran deg o gyllid treialon clinigol ledled y DU, ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers y pandemig. Mae ymwybyddiaeth o'r treialon sydd ar gael hefyd yn isel. Mae gormod o gleifion a chlinigwyr yn parhau i fod yn anymwybodol o'r opsiynau presennol, gan gyfyngu ar fynediad at driniaeth arloesol.  

I waethygu'r broblem, mae problemau mynediad trawsffiniol yn creu gwahaniaeth annerbyniol. Efallai y bydd cleifion Cymru yn cael eu heithrio o dreialon sydd ar gael i'w cymheiriaid yn Lloegr am ddim rheswm heblaw eu cod post. Mae'n fater bywyd a marwolaeth. Mae'n rhaid inni wneud mwy i godi ymwybyddiaeth, mynd i'r afael ag anghydbwysedd ariannu a sicrhau mynediad cyfartal a theg at dreialon clinigol i bob claf tiwmor yr ymennydd ledled Cymru.

Roedd dydd Gwener diwethaf yn foment hanesyddol i Gymru a'r byd wrth i 1,327 o gyfranogwyr sefydlu record byd Guinness newydd ar gyfer y gweithgaredd glanhau afonydd gwirfoddol mwyaf erioed. Roedd y cyflawniad rhyfeddol hwn yn ymestyn ar hyd afon Taf, o Aberhonddu i Fae Caerdydd gydag wyth lleoliad glanhau dynodedig. Roedd yr ymgais yn rhan o ymgyrch Taf Taclus, dan arweiniad Kate Strong, pencampwraig triathlon y byd, a anwyd ym Mhontypridd, a'r arbenigwr dŵr croyw a'r academydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Masud. Eu nod oedd codi ymwybyddiaeth o lygredd yn afonydd Cymru ac ysbrydoli gweithredu ar y cyd i adfer yr ecosystemau hanfodol hyn.

Crëwyd ymgyrch Taf Taclus i uno cymunedau sy'n glanhau un afon a thorri'r record flaenorol o ddim ond 329 o gyfranogwyr, a osodwyd yn India fis Chwefror diwethaf. Trwy ragori ar y cyflawniad hwn, dangosodd Cymru botensial anhygoel ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol brys. Cefnogwyd llwyddiant yr ymgyrch gan wirfoddolwyr di-ri a sefydliadau allweddol, a chyfrannodd y grwpiau hyn ddwsinau o wirfoddolwyr, gan helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y safleoedd glanhau lluosog.

Mae ymgyrch Taf Taclus yn atgoffa'n bwerus fod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae yn gofalu am ein hamgylchedd naturiol. Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r ymgyrch yn benderfynol o adael ei hôl yn barhaol trwy addysgu cymunedau am bwysigrwydd diogeledd a diogelu dŵr. Felly, os na lwyddoch chi i gyfrannu at y record byd, nid yw'n rhy hwyr i gymryd rhan. Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at y cyflawniad hanesyddol hwn.

15:25

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar daflu sbwriel a thipio anghyfreithlon

Symudwn ymlaen nawr at eitem 7, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar daflu sbwriel a thipio anghyfreithlon. Galwaf ar Mick Antoniw i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8799 Mick Antoniw, Carolyn Thomas, Delyth Jewell

Cefnogwyd gan Lee Waters, Mike Hedges, Rhianon Passmore

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar fynd i'r afael â thaflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) cryfhau a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon yng Nghymru mewn perthynas â’r canlynol:

i) cosbau ariannol ac anariannol (megis atafaelu trwydded yrru neu gerbyd);

ii) y cap ar hysbysiadau cosb benodedig;

iii) gweithgarwch gorfodi; a

iv) safoni methodolegau cofnodi ac adrodd data awdurdodau lleol.

b) cryfhau a diwygio'r gyfraith ar daflu sbwriel yng Nghymru mewn perthynas â’r canlynol:

i) nodi taflu sbwriel fel ymddygiad gwrthgymdeithasol;

ii) cosbau ariannol ac anariannol (megis darparu 'cyrsiau ymwybyddiaeth sbwriel' i droseddwyr); a

iii) cyfrifoldebau lleihau sbwriel manwerthwyr a chyflenwyr eraill.

c) cyflwyno prosesau sy'n ei gwneud yn haws i aelwydydd gael gwared ar wastraff.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr. Ddydd Gwener diwethaf, gyda 1,300 o wirfoddolwyr eraill, cymerais ran yn yr ymgyrch lanhau afonydd a dorrodd record byd, ac a drefnwyd gan Kate Strong o Bontypridd. Mae'r digwyddiad cymunedol gwych hwn yn tynnu sylw at gryfder y teimlad ynghylch y mater pwysig hwn. Ledled Cymru bob wythnos, mae byddin ymroddedig o 16,000 o wirfoddolwyr, ynghyd â chriw bach o weithwyr awdurdodau lleol, yn ein hatal rhag boddi mewn môr o ddeunydd pacio bwyd brys, poteli, caniau, cynwysyddion bwyd, bonion sigaréts a hyd yn oed cewynnau wedi'u defnyddio. Bob blwyddyn, caiff 250 tunnell o'r llanast hwn ei glirio gan wirfoddolwyr.

Mae taflu sbwriel yng Nghymru ar gynnydd. Mewn llawer o ardaloedd, mae'n cyrraedd lefelau epidemig. Yn gynharach eleni, nododd Cadwch Gymru'n Daclus gynnydd o 285 y cant yn nifer y strydoedd yr effeithir arnynt yn drwm gan sbwriel. Dylem fod yn ddiolchgar i bob un o'n gwirfoddolwyr, ond y gwir amdani yw bod llawer mwy o bobl nad ydynt yn malio. Nid diogi yn unig yw taflu sbwriel, mae'n dangos diffyg parch at bobl eraill. Mae'n diystyru cymunedau, ac mae'n dangos dirmyg llwyr tuag at yr amgylchedd, bywyd gwyllt a'r blaned.

Mae 83 y cant o'r sbwriel yn cael ei daflu gan gerddwyr neu'n gynyddol, yn cael ei daflu o ffenestri ceir. Mae sbwriel nid yn unig yn lleihau ansawdd bywyd pobl, mae'n gweithio yn erbyn balchder cymunedol cyfunol, ac mae'n creu'r amodau i fwy o fathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel tipio anghyfreithlon, graffiti a fandaliaeth, allu digwydd. Felly, dylem i gyd bryderu ynglŷn â thaflu sbwriel, ac nid yn unig ym mannau prydferth niferus Cymru. Ble bynnag y mae pobl yn byw, yn gweithio neu'n chwarae, maent yn haeddu cael gwneud hynny mewn man heb ei ddifetha gan sbwriel a'i gymar mawr a hyllach, tipio anghyfreithlon, sydd hefyd ar gynnydd yng Nghymru.

Yn 2023-24, cofnodwyd dros 42,000 digwyddiad o dipio anghyfreithlon yng Nghymru, cynnydd o 6 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a chynnydd o 20 y cant ar y lefelau cyn y pandemig. Roedd y 102 o erlyniadau a ddilynodd yn llai na 0.25 y cant o nifer y digwyddiadau. Fodd bynnag, mae archwiliad manwl o'r data'n dangos bod hyd yn oed y nifer bach o erlyniadau'n ddarlun llawer gwell na'r realiti. Roedd 68 y cant o'r holl erlyniadau mewn dau awdurdod yn unig. Ni wnaeth deuddeg awdurdod lleol gofnodi unrhyw erlyniadau o gwbl, a chan fod nifer yr erlyniadau'n cyfeirio at droseddau nid at unigolion, ar gyfartaledd, dim ond pedwar unigolyn a gafodd eu herlyn gan awdurdodau lleol.

Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu atafaelu cerbydau a dirwyon digyfyngiad. Nid yw gwerth y dirwyon a osodir yn cael ei goladu'n ganolog, ond gwyddom fod llai na 70 y cant o'r erlyniadau wedi denu dirwy, a dim ond £516 yw'r cyfartaledd. Yn yr awdurdod lleol lle cafwyd y nifer mwyaf o erlyniadau, dim ond £2,000 oedd y ddirwy fwyaf a osodwyd. Mae atafaelu cerbydau yn debygol o fod yn ataliad effeithiol. Nid yw nifer y cerbydau a atafaelwyd yn cael ei goladu'n ganolog, ond mae'n ymddangos mai anaml iawn y bydd hyn yn digwydd. Mae'r cynnig deddfwriaethol hwn yn hyrwyddo gwella, cryfhau a gwneud gwell defnydd o'r gyfraith bresennol, gan gynnwys atafaelu cerbydau ym mron pob amgylchiad a gosod cosb ystyrlon ar gyfer y drosedd gyntaf.

Gall hysbysiadau cosb benodedig hefyd fod yn ataliad effeithiol, ac rwy'n cytuno â'r awdurdodau lleol sy'n credu bod angen codi'r cap, sy'n £400 ar hyn o bryd ar gyfer tipio anghyfreithlon. Yn fwy pwysig, fodd bynnag, mae angen cyhoeddi mwy o hysbysiadau cosb benodedig. Y llynedd dim ond 1,086 a gyhoeddwyd yn erbyn tipwyr anghyfreithlon—gostyngiad o 8 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Ac mae hynny'n gyfartaledd o tua 50 o hysbysiadau cosb benodedig fesul awdurdod lleol neu ddim ond un yr wythnos.

Yn yr un modd, mae angen gwneud mwy o ddefnydd o hysbysiadau cosb benodedig i ymladd taflu sbwriel. Yn 2022-23 dim ond 533 o hysbysiadau a gyhoeddwyd gan awdurdodau lleol—dau y mis ar gyfartaledd fesul awdurdod lleol. Ni wnaeth naw awdurdod lleol gyhoeddi unrhyw hysbysiadau o gwbl, ac efallai nad yw hynny'n syndod gan na chododd yr un hysbysiad fwy na £57 ar gyfartaledd.

Fel y mae Cadwch Gymru'n Daclus yn nodi, er bod hysbysiadau cosb benodedig yn boblogaidd gyda thrigolion, maent yn drwm ar adnoddau, ac mae hon yn ffaith anochel i awdurdodau lleol, sydd, yn ddealladwy, yn cyfeirio adnoddau cyfyngedig tuag at glirio yn hytrach na gorfodi. Roedd un awdurdod lleol, er enghraifft, wedi cofnodi 400 o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon bob mis, ac er bod lluniau teledu cylch cyfyng o lawer o'r troseddau hyn ar gael, nid oedd digon o adnoddau i archwilio'r dystiolaeth a mynd ar drywydd erlyniadau. Serch hynny, mae clirio'n dal i gostio miliynau o bunnoedd i awdurdodau lleol bob blwyddyn.

15:30

[Anghlywadwy.]—swm o arian sy'n cael ei wario ar gasglu sbwriel, cannoedd o filoedd o bunnoedd, y gellid ei wario ar addysg, ar fysiau, yr holl bethau hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl. A ydych chi'n credu bod honno’n ffordd well o wario ein harian cyhoeddus?

Ydy, mae’n adnodd a ddylai fod yn ddiangen ac sy'n cael ei wastraffu. Gellid ei wario ar gymaint o bethau gwell i wneud ein cymunedau’n well, yn fwy prydferth, yn fwy hygyrch, yn ogystal â’r holl wasanaethau safonol hyn—gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdodau lleol yn eu darparu.

A boed yn daflu sbwriel neu'n dipio anghyfreithlon, atal yw'r allwedd, ac mae'n opsiwn llawer mwy costeffeithiol na chynyddu gorfodaeth neu glirio'r llanast. Mae gwaith addysgol yn hynod o bwysig, ond mae angen inni hefyd fuddsoddi mewn mesurau atal syml, megis arwyddion i’w gwneud yn glir fod taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn droseddau ac y bydd pobl yn cael eu herlyn.

Er gwaethaf yr ymdrech gan wirfoddolwyr ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r broblem, mae angen mwy o gymorth arnynt gan Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, ni chaiff data ei gasglu mewn ffordd safonol, ac er bod strategaethau arloesol yn cael eu rhoi ar waith mewn rhai mannau, ymddengys nad oes proses i nodi a rhannu arferion gorau. Felly, gallai Llywodraeth Cymru arwain ar y materion hyn, a dylai hefyd gymryd rheolaeth ar y £90 miliwn a ddaw i Gymru yn rhan o’r cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a’i ddefnyddio mewn ffordd strategol sydd wedi'i thargedu.

Lywydd, yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n bosibl taflu sbwriel heb gosb ac i ystyried tipio anghyfreithlon yn opsiwn busnes risg isel, felly bydd angen dull gweithredu cydgysylltiedig, a arweinir gan y Llywodraeth, i ennill y frwydr yn erbyn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn. Rhaid inni ei gwneud yn nod i ddod yn ddiwylliannol annerbyniol i daflu sbwriel ac yn fasnachol anfforddiadwy i dipio’n anghyfreithlon yng Nghymru. I gyflawni hyn, mae angen cynyddu gorfodaeth. Mae angen i'r cosbau a roddir fod yn arf ataliol credadwy sy'n adlewyrchu, nid yn unig y gost o glirio llanast, ond yr effaith niweidiol a deimlir gan y gymuned a'r amgylchedd. Mae hyn yn golygu addysgu ynadon am wir faint y niwed a wneir.

Mae angen inni fod yn fwy dychmygus gyda'r amrywiaeth o gosbau. Er enghraifft, yn fy marn i, dylai’r rheini sy’n taflu sbwriel o’u cerbydau fynychu cwrs ymwybyddiaeth amgylcheddol gorfodol, yn debyg i’r cyrsiau ymwybyddiaeth cyflymder, neu wynebu pwyntiau cosb, a allai arwain at gael eu gwahardd rhag gyrru. Dylai tipwyr anghyfreithlon masnachol ofni nid yn unig y dirwyon sylweddol, ond y posibilrwydd tebygol y caiff eu cerbydau eu hatafaelu a'u gwahardd o bosibl. Mae angen i arwyddion fod yn gyffredin, gan addysgu pobl am y troseddau; dylid gwneud defnydd eang o dechnoleg.

Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd y Senedd hon yn gallu ymgysylltu â’r grŵp trawsbleidiol ar daflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a lleihau gwastraff, wrth inni ddatblygu cynigion i wneud gwell defnydd o’r ddeddfwriaeth bresennol a chyflwyno syniadau i'w cynnwys ym maniffestos y pleidiau—ar draws pob plaid wleidyddol. Mae'r mater hwn wedi mynd o dan y radar yn rhy hir. Gwae i ni ei anwybyddu, ac mae ein cymunedau yn mynnu gweld gweithredu'n digwydd. Gyda’r cynnig deddfwriaethol hwn, rwy'n gobeithio y bydd hwn yn gam ymlaen nawr tuag at ddeddfwriaeth a fydd yn cyflawni’r amcan hwn. Diolch yn fawr.

15:35

Rwyf innau hefyd, yn y gorffennol, wedi galw ers tro ar Lywodraeth Cymru i ffurfio dull newydd o fynd i’r afael â malltod modern tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel ledled Cymru. A diolch, Mick, am agor hynny'n dda. Hoffwn ategu’r sylwadau: mae cymaint o grwpiau gwirfoddol bellach wedi cael llond bol ar gerdded drwy sbwriel—yn ein strydoedd, yng nghefn gwlad. Rwy'n mynd i sôn yn benodol am Gyfeillion Pen Morfa, Cyfeillion Stryd Mostyn, maer Llanrwst, y Cynghorydd Mostyn Jones, a'u cyngor tref. Mae’r grwpiau bach hyn yn dod at ei gilydd—. Ac mae'n rhaid imi ddweud, pan welwch sbwriel o gwmpas y lle, neu dipio anghyfreithlon, rydych chi'n tueddu i feddwl, 'O, pobl ifanc sy'n gwneud hyn.' Nid yw hynny'n wir. Yn rhy aml, nid yw oedolion yn gosod unrhyw esiampl o gwbl, dim esiampl dda, ac maent yn gwaredu matresi, hen soffas ac ati. A dweud y gwir, mae'n ymddygiad ffiaidd a diog, yn enwedig pan fo rhywle y gallwch fynd yn aml. Ond dros y blynyddoedd, mae wedi fy mhoeni, gydag awdurdodau lleol—sut y maent wedi ceisio, gyda'r holl bwysau ariannol sydd arnynt, adennill arian, drwy godi taliadau am fynd â matresi, mynd â soffas a phob math o ddodrefn arall o'r cartref. Felly, rwy'n credu bod gwersi i’w dysgu yno.

Nododd Cyfoeth Naturiol Cymru 42,171 o achosion o dipio anghyfreithlon yn 2023-24. Mae hynny'n ffiaidd. Mae'n gynnydd o 6 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Y llynedd, cafwyd mwy na 25,000 o gamau gorfodi, gan arwain at oddeutu 1,000 o ddirwyon a 102 o erlyniadau. Ond wrth wneud yr ymchwil, ychydig iawn o erlyniadau a wneir gan ein hawdurdodau lleol. Ac rwy'n deall—maent yn dweud nad oes ganddynt adnoddau. Mae a wnelo â fy nadl fawr gyda CNC: dylai’r llygrwr dalu. Dylai'r ffioedd a'r dirwyon hyn fod yn dod yn ôl i helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, wrth symud ymlaen. Yn y gogledd, cofnododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 1,663 achos o dipio anghyfreithlon yn 2023-24, ond dim ond 322 o gamau gorfodi a gymerodd. Cyngor Sir Ynys Môn: 3,918; dim ond naw cam gorfodi. A gwelodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 252 o achosion o dipio anghyfreithlon yn 2021-22. Dyna oedd yr isaf yn y gogledd ar gyfer y flwyddyn honno, ond yn 2023-24, cynyddodd y nifer hwn i dros 1,055 o achosion wedi'u cofnodi. Felly, mae’n gwaethygu, ac rwy’n llwyr gefnogi eich cynnig.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol, a chynlluniau gwahanol i’w galluogi i gynyddu gorfodaeth, nid yw’n digwydd. Ailadroddaf yr alwad ar awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i fod o ddifrif ynglŷn â her fawr taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon. Dim ond wedyn y gellir gwneud gwir gynnydd. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gyda sefydliadau fel Cadwch Gymru'n Daclus. Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n glanhau traethau, ac unwaith eto, mae'n gas gennyf weld y math o sbwriel sy'n cael ei adael ar y traeth.

Iawn. Diolch i Mick, Carolyn a Delyth am ddod â’r cynnig deddfwriaethol hwn ger ein bron heddiw, ac rwy'n gobeithio y gallwn barhau i weithio ar y mater hwn yn drawsbleidiol wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

Hoffwn ddiolch i Mick am gyflwyno’r ddadl heddiw ac am ei arweinyddiaeth ar y grŵp trawsbleidiol ar daflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a lleihau gwastraff.

Mae'n gas gennyf fynd am dro yn ein cefn gwlad a gweld sbwriel. Yn fy marn i, os gallant ddod ag ef, pam na allant fynd ag ef adref yn eu pocedi? Mae'n niweidiol i'n hamgylchedd naturiol, ac mae'n edrych yn ofnadwy. Cefais fy magu i fynd â sbwriel adref gyda mi, ond nawr, rwy'n mynd am dro ac yn mynd â sbwriel pobl eraill yn ôl adref. Rwy’n cofio unwaith, dywedodd gweithiwr gwagio gwlis wrthyf fod draen priffordd mewn ffordd bengaead wedi’i flocio gan gasgliad o becynnau creision lle roedd plant ifanc yn arfer chwarae. Fe wnaethant brocio'r pecynnau creision i lawr y draen a'i flocio. Pan oedd yn hŷn, gwelwyd un o'r bobl ifanc yn rhoi bag o faw ci i lawr gwli, felly nid yw wedi tyfu allan o’r arferiad.

Credaf fod y syniad o gwrs ymwybyddiaeth sbwriel yn un da, fel bod pobl yn ymwybodol o'r niwed y maent yn ei wneud. Rwy’n cofio, yn ystod y pandemig, fod llawer o grwpiau codi sbwriel wedi’u sefydlu, a oedd yn enghraifft wych o weithredu cymunedol, yn enghraifft wych o gyfrifoldeb cymdeithasol, a daethant yn heddlu sbwriel hefyd. Mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd gyda thoriadau. Nid oes ganddynt adnoddau na chapasiti i anfon codwyr sbwriel allan i gymunedau a thu hwnt i ganol trefi. Ac mae canolfannau ailgylchu gwastraff cartref mewn llawer o ardaloedd wedi gorfod cau ar ddiwrnodau penodol fel cam i arbed arian, felly mae hynny'n broblem fawr.

Mae awdurdodau lleol wedi dweud nad oes arnynt eisiau rhagor o ddeddfwriaeth heb ei hariannu. Ac rwy'n cofio pan oeddent yn cyflogi Kingdom—nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un arall yn eu cofio—cwmni allanol ar gontract, a chafwyd ymateb chwyrn. Yr her i ni fel cynghorwyr oedd eu bod yn canolbwyntio ar y targedau hawdd fel ysmygwyr a stympiau sigaréts, ac fe arweiniodd gwrthwynebiad y cyhoedd at ddod â'r contract i ben, felly ni weithiodd hynny.

Fodd bynnag, mae cost clirio a symud deunydd sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar dir cyhoeddus yn aruthrol o ddrud. Ac os caiff ei waredu ar dir preifat, nid cyfrifoldeb y cyngor ydyw—ni chredaf fod llawer o bobl yn sylweddoli hynny—cyfrifoldeb y tirfeddiannwr preifat ydyw, ac weithiau mae'n cael ei adael. Mae hefyd yn cymryd llawer o waith i swyddogion gorfodi cynghorau gael digon o dystiolaeth i adeiladu achos. Efallai y bydd yn mynd i’r llys yn y pen draw, ond nid yw’r ddirwy yn ddigon i atal pobl rhag gwneud hyn eto, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Mick, fod angen inni edrych ar hynny.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn adeiladu dull gweithredu pedair gwlad ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr, ac yn trethu cwmnïau ar ddeunydd pecynnu, ac rwy'n gobeithio y gallwn weld newid yno. A gallai cynlluniau dychwelyd ernes ar gyfer gwastraff wrth fynd helpu gyda'r ateb hefyd.

Yn fy marn i, pan fydd pobl yn dweud bod angen mwy o finiau arnom, ni chredaf mai dyna'r ffordd ymlaen. Mae mwy o sbwriel yn cronni ac yn cael ei adael ger y bin. Rwy'n credu y dylai pobl fynd â'u sbwriel adref gyda hwy a'i ailgylchu. Llwyddais i gael gwared ar rai biniau o gilfannau, lle roedd pobl yn ychwanegu mwy o sbwriel atynt, ac roeddent yn gorlifo. Ac rwy'n gweld beth sy'n digwydd yng Nghaerdydd, sy'n erchyll.

Soniodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol am gynnydd o 4 y cant yn lefel gyfartalog y sbwriel a ganfuwyd ar draethau Cymru yn 2024. A chyda llygredd plastig yn gymaint o broblem—mae ym mhob gwydraid o ddŵr hyd yn oed—rydym yn gwybod beth sy'n digwydd yno, felly mae angen inni wneud rhywbeth, ac rwy'n falch iawn fod hyn wedi'i gyflwyno. Diolch.

15:40

Diolch, Cadeirydd. Dwi’n croesawu'r ddadl hon, a diolch i Mick am ei gynnig. Mae e’n fater sy'n difetha ein cymunedau, yn niweidio ein hamgylchedd, ac mae e’n rhoi baich annheg ar awdurdodau lleol ac ar y cyhoedd. Mae'r ystadegau gan Cadwch Gymru'n Daclus yn bryderus tu hwnt, yn enwedig y cynnydd mewn lefelau annerbyniol o daflu sbwriel yn yr ardaloedd yna sydd mwyaf difreintiedig. Nawr, nid mater amgylcheddol yn unig yw hwn, mae e’n fater o gyfiawnder cymdeithasol hefyd.

Tybed pam mae cymaint o bobl yn taflu sbwriel. Mae’n anodd weithiau i ddeall, ond efallai diffyg perchnogaeth maen nhw’n teimlo o’n gwagleoedd cyhoeddus ni, diffyg cysylltiad. Os ydyn ni am drwsio hynny, am gau’r bwlch, rhaid dechrau, ie, gydag addysg well, drwy gysylltu pobl ifanc gyda’u lleoliadau cymunedol nhw, gyda’u cymuned nhw, ond hefyd gyda’r cyrsiau roedd Mick yn sôn amdanyn nhw. Dwi’n meddwl bod hynna yn syniad da.

Nawr, mae'r Bil arfaethedig yn ceisio mynd i'r afael â nifer o fylchau allweddol eraill. Buaswn i’n cefnogi cryfhau cosbau ariannol ac anariannol, ond ni fydd gorfodi yn unig yn datrys y broblem. Fel yr ydym wedi clywed, mae newid ymddygiad yn orfodol. Rhaid cael ymdrech ar y cyd i ddeall pam mae pobl yn defnyddio tipio anghyfreithlon, a pha rwystrau sy'n atal gwaredu gwastraff cyfreithlon.

Mae hygyrchedd yn ffactor arwyddocaol. Pan fydd cynghorau yn gosod cyfyngiadau ar gael gwared ar wastraff, boed hynny trwy gyfyngu ar oriau agor, gofynion trwydded, neu ffioedd uwch, mae'r risg o ddympio anghyfreithlon yn cynyddu. Os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r mater, mae'n rhaid sicrhau bod gan bobl opsiynau hygyrch, fforddiadwy i gael gwared ar wastraff. Dwi ddim yn ceisio—beth yw'r gair? Dwi’n methu cofio yn Saesneg nag yn Gymraeg nawr. Dwi ddim yn ceisio dweud bod beth maen nhw’n ei wneud yn iawn, ond mae’n rhaid inni geisio deall y meddylfryd o ran gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu newid eu hymddygiad nhw.

Mae dull safonol ledled Cymru hefyd yn hanfodol. Nawr, am rhy hir, mae'r ffocws wedi bod ar unigolion, yn hytrach nag ar y diwydiannau a’r manwerthwyr sy’n cynhyrchu gwastraff yn y lle cyntaf. Dylai cynhyrchwyr gael gorchymyn i gymryd mwy o gyfrifoldeb—mae wedi cael ei ddweud yn barod y prynhawn yma—am gylch bywyd cyfan eu cynhyrchion, gan gynnwys gwaredu. Gallai cronfa sbwriel bwrpasol neilltuol ddarparu adnoddau nawr sydd eu hangen ar gyfer gorfodi ac ar gyfer addysg.

Fe wnaf i gau, Cadeirydd, lle roeddwn i'n dechrau, gydag addysg. Mae gwaith Cadwch Gymru’n Daclus mewn ysgolion yn amhrisiadwy. Mae angen ymgorffori hwnna yn y cwricwlwm. Mae’n rhaid i ni newid agweddau, fel rydym ni wedi'i wneud gydag ysmygu hefyd. Ein cymunedau ni fydd y rhai fydd yn dioddef yn y dyfodol os nad ydym ni’n mynd i’r afael â’r broblem yma.

15:45

A gaf i ddiolch yn gyntaf i Mick Antoniw am gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol a’r ddadl hon heddiw? Rwy'n credu bod pob un ohonom yn unedig yn yr hyn rydych chi'n anelu at ei wneud, a dylai pob un ohonom eich cefnogi ar hyn.

Mae sbwriel yn falltod llwyr ledled Cymru gyfan. A dweud y gwir, mae'n dwyn gwarth arnom fel cenedl. Nid wyf erioed wedi deall yn bersonol, fel y mae pob un ohonom yn ei ddweud yma, pam fod pobl yn gwneud y penderfyniad i daflu sbwriel, ac rwy'n cytuno ei fod yn sicr yn wrthgymdeithasol. Rwy'n credu bod Delyth wedi taro'r hoelen ar ei phen; ymddengys nad oes gan bobl berchnogaeth bellach. Nid oes ganddynt berchnogaeth na chyfrifoldeb mewn sawl rhan o'u bywydau. Nid wyf yn gwybod beth sydd wedi mynd o'i le gyda chymdeithas. Nid oedd yn arfer bod fel hyn. Mae angen inni fabwysiadu safiad cadarn yn erbyn hyn, gan nad yw’n dderbyniol.

Un maes penodol sy’n rhan o fy mhortffolio trafnidiaeth ar ran yr wrthblaid yw faint o sbwriel a welwn ar ein ffyrdd ar hyn o bryd, yn enwedig ar ein cefnffyrdd. Mae gennyf dair ffordd brifwythiennol fawr yn mynd drwy fy etholaeth—yr A4042, yr A40 a'r A449—a gallaf ddweud wrthych nawr fod trigolion yn rhwystredig iawn ac yn bryderus ynghylch sbwriel, pob un ohonynt. Yn enwedig y rhai lle rydym—fel yn Nhrefynwy, er enghraifft, yr A40—wrth y porth i Gymru. Mae twristiaid a thrigolion yn wynebu'r olygfa hyll o sbwriel ger ein ffyrdd wrth ddod i mewn i'r sir, ac nid yw'n dderbyniol.

Mae'n llawer rhy hawdd i fodurwyr daflu eu gwastraff allan drwy'r ffenest wrth deithio drwy'r wlad, gan ei adael i bobl leol fel ni ei godi, neu yn y rhan fwyaf o achosion, gadael iddo orwedd yno'n pydru ar ochr y ffordd. Felly, rwy'n cytuno â llawer o’r Bil hwn, ac yn sicr, mae angen cryfhau’r cyfreithiau sy'n gysylltiedig â thipio anghyfreithlon, ond mae angen trefniadau monitro pellach ar waith hefyd i ddal pobl yn y lle cyntaf. Dylai fod mwy o gamerâu cudd yn monitro ein cilfannau a'n mannau problemus. Maent mor rhad i'w cael bellach a gellir eu defnyddio'n effeithiol iawn.

Ond hefyd, mae angen cyfleusterau i bobl gael gwared ar eu gwastraff. Wedi dweud hynny, nid yw hynny'n esgus o gwbl. Hyd yn oed os nad oes bin yno, gallwch fynd ag ef adref gyda chi. Rwy’n siŵr fod y cyfleusterau a arferai fod mewn cilfannau ar hyd y cefnffyrdd wedi diflannu er mwyn annog pobl i fynd â phethau oddi yno, ond nid yw hynny wedi gweithio; rydym yn ei weld yn pentyrru, ac mae'n llanast go iawn.

Felly, mae'n rhaid inni gryfhau'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon a chyflwyno mesurau eraill i gosbi'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn. Ond hefyd efallai fod angen cymorth ychwanegol ar awdurdodau lleol a sefydliadau fel Asiant Cefnffyrdd De Cymru i fynd i’r afael â’r broblem hon, fel y gallwn sicrhau y gallwn gynnal presenoldeb glân a thaclus.

Felly, rwy'n croesawu'r cynnig deddfwriaethol hwn. Ni ddylem barhau i oddef tipio anghyfreithlon neu daflu sbwriel, fel y tueddwn i'w wneud y dyddiau hyn. Mae angen inni fynd yn ôl at sut roedd pethau'n arfer bod, a bod yn gadarn ar hyn. Felly, diolch, Mick.

Diolch. Un o fy nghas bethau yw'r bobl sy'n tacluso eu cerbydau drwy wagio cynnwys eu blwch llwch ar y llawr i rywun arall ei godi. Mae'n rhyfeddol, a dweud y gwir, ac yn debyg i'r profiad y mae Peter Fox yn ei gael, un o'r pethau mwyaf digalon yw pan fyddwch yn mynd i fannau prydferth am dro neu ar y beic, ac yng nghanol unman, fe welwch y caniau a'r poteli plastig hyn. Gwyddom fod y poteli plastig yn niweidiol iawn, a'u bod yn mynd i’r afonydd ac yn niweidio’r bywyd gwyllt. Felly, mae'n gwbl ddigalon. Beth y mae pobl yn meddwl y maent yn ei wneud?

Ond yn yr amgylchedd trefol rwy'n ei gynrychioli, mae'n rhaid i bob un o'r pedair ward leiaf llewyrchus yn fy etholaeth ddibynnu ar wirfoddolwyr i geisio mynd i'r afael â hyn, oherwydd fel arall, byddai'n dod yn lle mor ofnadwy i fyw ynddo, ac mae'n rhaid inni fod yn hynod ddiolchgar iddynt. Rwy'n dychmygu bod Caerdydd ymhlith y ddau awdurdod lleol sydd ar frig y tablau erlyniadau. Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd bron i 2,700 o hysbysiadau gorfodi a dros 300 o hysbysiadau cosb benodedig yn 2023-24 i bobl a fethodd waredu eu sbwriel yn y ffordd gywir. Oherwydd mae'n rhaid inni rywsut gael pobl i ddeall bod gwahanu eu hailgylchu ar garreg y drws yn orfodol. A'r peth gwaethaf sy'n digwydd yw pan fydd pobl yn rhoi bwyd mewn bagiau plastig sydd wedyn yn cael eu rhwygo gan wylanod a llwynogod, ac mae bwyd ym mhobman a'r llygod mawr wrth eu boddau.

Rwy'n credu bod y—. Hoffwn ddeall pam nad oes unrhyw gydgysylltu arferion gorau wedi bod ymhlith awdurdodau lleol, oherwydd rhaid bod rôl i CLlLC rannu arferion gorau, oherwydd yn amlwg, y math gwaethaf o daflu sbwriel yw tipio anghyfreithlon, ac yn enwedig y troseddwyr arian mewn llaw sy'n cael gwared ar rwbel adeiladwyr, gwastraff wedi'i glirio o dai, matresi, sy'n anffurfio'r coedwigoedd hardd yn Llanedeyrn a Phentwyn. Felly, er bod yr holl wirfoddolwyr hyn o gwmpas, nid ydynt yn mynd i allu clirio’r mathau hynny o eitemau trwm, ac yn anffodus, fe gostiodd dros £300,000 i’r cyngor glirio gwastraff a gafodd ei dipio'n anghyfreithlon. Ac rwy'n llwyr gefnogi'r syniad o hyfforddiant ymwybyddiaeth amgylcheddol gorfodol, ond credaf fod angen inni weld gorfodaeth i dalu'n ôl i'r gymuned hefyd—ei bod yn ofynnol iddynt wirfoddoli i glirio'r llanast sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon eu hunain neu wynebu dirwy fawr iawn. Rhowch y dewis hwnnw iddynt, a byddant yn meddwl ddwywaith cyn ei wneud.

15:50

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:52:17
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn. Ac yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r cynnig hwn—Mick, Carolyn a Delyth—ond i'r Aelodau eraill sydd wedi cymryd rhan—Janet, Peter a Jenny—hefyd? Gadewch inni ddechrau o'r sail fod amgylchedd glân a diogel a hygyrch i bawb ac amgylchedd deniadol yn rhan hanfodol o'r Gymru yr ydym ei heisiau nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy’n gefnogol iawn felly i’r bwriadau y tu ôl i’r Bil arfaethedig hwn. Fodd bynnag, Mick, hoffwn roi peth amser i nodi'r hyn rydym eisoes yn ei wneud a'r hyn sydd eisoes ar waith—rhai o'r pethau rydych chi wedi gofyn amdanynt. Felly, os caf ofyn ichi fod yn amyneddgar am eiliad. Ac i gytuno â'r pwynt a wnaethoch chi, Delyth, mae hwn yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gan fod effeithiau gwaethaf tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yn tueddu i effeithio ar rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig, ac rydym yn cydnabod hynny. Felly, mae angen inni fynd i'r afael â hyn.

Ond gadewch imi droi at rai o'r enghreifftiau, ar hyn o bryd, o'r hyn a wnawn eisoes, y mae rhai ohonynt wedi'u crybwyll yn y ddadl hon. Gall awdurdodau lleol, er enghraifft, atafaelu cerbydau sy’n gysylltiedig â throseddau tipio anghyfreithlon yn barod, ac yn wir, mae rhai ohonynt yn defnyddio hyn eisoes. Felly, yn ddiweddar—dim ond yn ddiweddar—fe wnaeth tîm troseddau gwastraff cyngor Castell-nedd Port Talbot, gyda chefnogaeth Heddlu De Cymru, atafaelu cerbyd a ddefnyddiwyd i dipio gwastraff adeiladu yn anghyfreithlon yn Nhwyni Crymlyn. Mae angen inni weld mwy o hyn, lle gellir ei wneud. A chyda llaw, llongyfarchiadau ar sefydlu’r grŵp trawsbleidiol newydd sy’n canolbwyntio ar dipio anghyfreithlon a sbwriel, a gwastraff, rwy’n deall, hefyd. Mae gennyf ddiddordeb yn y gwaith a wnewch yno, ac edrychaf ymlaen at ddod i siarad â'r grŵp cyn bo hir. Rwy'n cytuno bod angen i awdurdodau lleol ddefnyddio’r dulliau gorfodi presennol sydd ar gael, fel y mae Castell-nedd Port Talbot wedi’i wneud: mabwysiadwch ddull rhagweithiol iawn, ewch i'r afael â hyn, ac achubwch y blaen ar y bobl sy’n taflu sbwriel ac yn tipio'n anghyfreithlon.

Nawr, mae adnoddau wedi’u crybwyll, ac rydym yn cydnabod y gall gweithgarwch gorfodi, yn wir, fel y mae Aelodau wedi’i ddweud, fod yn gymhleth ac yn heriol. Felly, dyna pam ein bod yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol. Rydym bellach wedi dyblu ein cyllid i Taclo Tipio Cymru. Rhaglen yw honno sy’n cael ei gweithredu gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond gadewch imi ddweud wrthych beth y mae'n ei wneud yn ymarferol. Mae'n rhoi cymorth, er enghraifft, i awdurdodau lleol gael mynediad at gyngor cyfreithiol am ddim, oherwydd yn aml iawn, maent yn wynebu heriau wrth roi'r camau gorfodi hyn ar waith. Rydym yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim gan gyfreithwyr amgylcheddol arbenigol. Mae hefyd wedi darparu cymorth swyddog gorfodi penodedig, fel y gallwn gynorthwyo'r awdurdodau lleol sy’n dweud, 'Sut mae gwneud hyn, sut mae achub y blaen ar y troseddwyr?’.

Yn y gogledd, gallaf dynnu sylw at nifer o ganlyniadau cadarnhaol. Felly, er enghraifft, daliwyd sawl troseddwr yn tipio'n anghyfreithlon ym mharc cenedlaethol Eryri. Roedd un digwyddiad yn ymwneud â llawer iawn o baneli asbestos peryglus iawn, ond arweiniodd hyn at y troseddwr yn talu costau glanhau am hynny hefyd. Ar gosbau, a grybwyllwyd gan rai, mae cyfres o gosbau ariannol yn bodoli eisoes ar gyfer troseddau amgylcheddol. Felly, gall awdurdodau lleol osod hysbysiadau cosb benodedig am daflu sbwriel ar £150, ac ar gyfer tipio anghyfreithlon ar raddfa fach, £400. A gall troseddwyr gael eu herlyn yn y llys am droseddau mwy difrifol.

Ond edrychwch, os oes tystiolaeth—ac efallai y gwnaiff y grŵp trawsbleidiol edrych ar hyn—i awgrymu bod angen inni gynyddu’r dirwyon hyn, mae gennym y pwerau i wneud hynny eisoes. Nid oes angen deddfwriaeth newydd; mae gennym y pwerau i'w wneud. Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd barn y grŵp trawsbleidiol, gan weithio gyda CLlLC a'r heddlu ac eraill. Ond gadewch imi ddweud yn glir: mae taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon eisoes yn droseddau, ac nid oes unrhyw esgusodion o gwbl.

Yn gyffredinol, credaf mai’r ffordd orau o newid barn pobl ynglŷn â thaflu sbwriel yw drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth. Soniodd Mick fod angen inni gyrraedd y pwynt lle mae taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn annerbyniol yn ddiwylliannol. Yn yr un modd, fel y dywedais y bore yma mewn cynhadledd yng Ngerddi Sophia ar yr arweiniad yr ydym yn ei ddangos gydag ailgylchu, rydym bellach yn genedl ailgylchu, dyna'r hyn a wnawn yn ddiwylliannol, mae angen inni fod mewn man yn ddiwylliannol nawr lle nad ydym yn derbyn taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon. Ac yn hyn o beth, mae'n rhaid imi gydnabod, er gwaethaf gwaith caled awdurdodau lleol ac eraill ar lawr gwlad, fod rhai pobl yn benderfynol o dorri'r gyfraith o hyd, a dyna pam fy mod yn croesawu'r ddadl hon heddiw a'r cyfraniadau a'r awgrymiadau sy'n cael eu gwneud.

Ac os caf ddweud, un peth y soniwyd amdano yw cyllid ar gyfer awdurdodau lleol. I fod yn gwbl glir, dyna pam ein bod wedi bod yn gefnogol, ar sail y pedair gwlad, i ddatblygu’r cynigion cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, gan fod hynny’n uniongyrchol: y llygrwr sy’n talu, gan drosglwyddo costau'r deunydd gwastraff wedyn a fyddai'n dod i'r awdurdodau lleol hynny. Ac yna'r cwestiwn yw a ddylem ganiatáu i'r awdurdodau lleol hynny benderfynu beth sydd orau iddynt yn eu hardal leol, neu fel y mae rhai wedi'i awgrymu heddiw, a ddylem gael templed cwymplen wedi'i phennu gennyf fi neu rywun arall. Rwy'n credu fy mod yn ffafrio’r opsiwn cyntaf, am fod mewnbwn lleol ar hyn yn bwysig hefyd. Ond mae cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yn mynd i helpu gyda hynny. Rydym hefyd wedi cyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael â thaflu sbwriel yn y ffynhonnell, gyda gwaharddiadau ar nifer o gynhyrchion plastig sy'n cael eu taflu'n aml, ac o 1 Mehefin, bydd fêps untro hefyd yn cael eu gwahardd yng Nghymru.

Ni allaf ymateb i bob pwynt, ond nodaf mai’r hyn a godwyd yma heddiw yw pethau ar gasglu data—ac mae problem ynghylch ansawdd yn ogystal â chanoli'r data, i fod yn glir—cyrsiau ymwybyddiaeth o sbwriel, neu'n wir, talu'n ôl i'r gymuned; materion yn ymwneud â fforddiadwyedd casglu eitemau swmpus; a yw mwy o finiau'n well neu'n waeth, neu efallai mai'r cyfan sydd ei angen yw eu bod yn y mannau cywir; rôl CLlLC yn rhannu arferion gorau; a llawer o bethau eraill nad oes gennyf amser i droi atynt heddiw.

Ond hoffwn droi at rai agweddau eraill, gan nad wyf yn credu mai gorfodi a deddfwriaeth yw'r darlun cyfan; mae hefyd yn ymwneud â'r hyn a wnawn gydag addysg. Felly, mae ein cefnogaeth barhaus, y mae llawer o bobl yn ei chymryd yn ganiataol bellach, i raglen Eco-Sgolion, lle caiff plant eu haddysgu i fod yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd, yn allweddol, gan gynnwys pwysigrwydd ailgylchu a gwaredu gwastraff yn gyfrifol. Mae'n ddiddorol—. O, mae fy amser ar ben yn barod; ymddiheuriadau. Gadewch imi grybwyll ambell beth arall yn gyflym, gyda'ch caniatâd.

Mae cyllid Cadwch Gymru'n Daclus yn cefnogi'r ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, cefnogaeth uniongyrchol i gymunedau sy'n dymuno gwella eu hamgylchedd lleol. Fe fûm i ac eraill allan gyda digwyddiadau Gwanwyn Glân Cymru yr wythnos diwethaf ledled Cymru: ymgyrch lanhau Taf Taclus, a dorrodd record y byd, gyda chefnogaeth gan eraill, am y digwyddiad codi sbwriel mwyaf a drefnwyd; roeddwn ar lan afon Clywedog yn y gogledd yn gwneud yr un peth, gyda gwirfoddolwyr o Wrecsam.

A’r peth arall, gan y bûm yn y digwyddiad y bore yma, yw'r ymdrech i greu economi gylchol, sydd â momentwm cynyddol yng Nghymru. Nid yn unig mai ni yw'r ail orau ac rydym yn agosáu at fod—rydym am fod—y gorau o ran ailgylchu. Mae hynny diolch i ymdrechion cyfunol unigolion a busnesau a phartneriaid awdurdodau lleol ledled Cymru. Yr hyn y mae hynny'n ei ddangos yw ei bod yn bosibl gwneud newid trawsnewidiol, gwneud newid diwylliannol, y cyfan sydd ei angen arnom yw i bawb bwyntio i'r un cyfeiriad; ac mae hynny'n cynnwys ein cynllun dychwelyd ernes—a drafodwyd gennym yma yn gynharach mewn cwestiynau—ac yna gweithio gyda Taclo Tipio Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus. Felly, diolch am eich holl gyfraniadau, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelodau a chyda'r grŵp trawsbleidiol i weld pa awgrymiadau eraill a allai ddod gerbron.

15:55

Galwaf yn awr ar Mick Antoniw i ymateb i’r ddadl a’i atgoffa iddo fod mor frwdfrydig wrth agor, fel mai dim ond munud sydd ganddo i gloi nawr. [Chwerthin.]

Fe fyddaf yn frwdfrydig ac yn gryno iawn.

Rwy'n credu mai un o’r problemau mwyaf yw nad yw’r llysoedd yn defnyddio’r pwerau sydd ganddynt yn gyson nac i’r graddau llawn i wneud i orfodaeth weithio. Ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi siarad am hyn? Mae pob un ohonom yn teimlo pwysau o'n cymunedau, sydd bellach yn cwyno am faint y broblem. Y cryfder sydd gennym, wrth gwrs, yw bod hyn yn rhywbeth sy’n berthnasol i bob plaid wleidyddol. Rwy’n tybio ei fod yn un o’r materion anarferol hynny lle mae gennym undod trawsbleidiol 100 y cant fod angen gwneud rhywbeth, fod pethau y gallwn eu gwneud o fewn y ddeddfwriaeth bresennol, a bod pethau y mae angen inni eu gwneud yn y dyfodol i gryfhau, i newid, ac i roi hwb i’r ddeddfwriaeth honno, gan fod ein cymunedau’n mynnu hynny. Diolch yn fawr.

16:00

Cefais fy synnu. Y cynnig—. Na, arhoswch funud. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebu—a gawsom wrthwynebiad? Felly, os oes gennym wrthwynebiad, fe ohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Degawd o doriadau: Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon'

Felly, fe symudaf ymlaen nawr at eitem 8, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Degawd o doriadau: Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon'. Galwaf ar Delyth Jewell, Cadeirydd y pwyllgor, i agor y ddadl.

Cynnig NDM8865 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Degawd o doriadau: Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Ionawr 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Gadeirydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad pwysig hwn ar ddegawd o doriadau. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i bawb wnaeth roi tystiolaeth inni fel pwyllgor, i aelodau'r pwyllgor, ac i dîm staff y pwyllgor am eu gwaith. Mae 13 o argymhellion yn ein hadroddiad. Roeddem yn falch bod tri o'r rheini wedi'u derbyn gan y Llywodraeth, ond yn siomedig bod saith wedi'u derbyn mewn egwyddor yn unig, a bod tri wedi'u gwrthod.

Mae'n bryderus, wir, i weld y Llywodraeth fwyfwy ar draws sawl adran wahanol yn defnyddio'r dull hwn o 'dderbyn mewn egwyddor' gydag argymhellion pwyllgorau, ond i esbonio yn y naratif o dan hynny nad ydyn nhw wir yn derbyn yr argymhelliad. Er enghraifft, yma, gwnaethom ni argymell y dylai'r Llywodraeth ddadansoddi'r model mwyaf addas ar gyfer ariannu cwmnïau celfyddydol cenedlaethol, un ai trwy'r cyngor celfyddydau, fel ar hyn o bryd, neu'n uniongyrchol o'r Llywodraeth. Er y gwnaethant dderbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, mae'r ateb oddi dan yn ei gwneud yn glir bod y Llywodraeth yn credu y dylai'r cyngor celfyddydau barhau i ddosrannu'r arian ar gyfer cwmnïau. Sut, felly, y gallent ddweud eu bod nhw'n derbyn ein hargymhelliad mewn egwyddor?

Mae enghreifftiau eraill, ac mae'r anghysondeb hwn yn peri pryder. Eto, mae'n digwydd ar draws sawl adran wahanol tu fewn i'r Llywodraeth, rŷn ni wedi gweld. Ond hoffwn i glywed y Gweinidog, efallai, yn ymateb i hynny.

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweld toriadau hir a llym mewn termau real i ddiwylliant a chwaraeon. Mae'r sectorau hyn wedi cael eu trin fel pethau braf i'w cael. O ganlyniad, mae cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn is y pen yng Nghymru na'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop, er bod Cymru o ddiwylliant bywiog yn un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cymharodd ymchwil y Senedd wariant cyhoeddus ar ddiwylliant a chwaraeon gyda 24 o wledydd Ewropeaidd eraill. Y gwariant cyfartalog ar wasanaethau hamdden a chwaraeon yn y gwledydd hyn yw £187.74 y pen. Yng Nghymru, y ffigur yw £59.75 y pen, neu 32 y cant o gyfartaledd y gwledydd hyn, gan osod Cymru yn drydydd o'r gwaelod. Y gwariant cyfartalog ar wasanaethau diwylliannol yn y gwledydd hyn yw £215.02 y pen. Yng Nghymru, ar y llaw arall, y ffigur yw £69.68 y pen, gan osod Cymru yn ail o'r gwaelod.

Fel y dywedais yn y rhagair i'n hadroddiad, nid moethusrwydd ar gyfer adegau o ddigonedd yn unig yw diwylliant a chwaraeon. Maent yn edafedd hanfodol yng ngwead yr hyn sy'n gwneud bywyd yn werth ei fyw, ond mae arnaf ofn eu bod wedi cael eu hesgeuluso gan Lywodraethau Cymru olynol. Felly, rydym yn argymell yn yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon nes eu bod yn cymharu â gwledydd tebyg. Nawr, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor ac ymatebodd drwy gynyddu cyllid yng nghyllideb derfynol 2025-26, ac roeddem yn falch o weld y cynnydd.

Ond ni all y cynnydd ddadwneud y niwed hirdymor a achoswyd gan doriadau cyllid blaenorol. Nid yw'r cynnydd yn adfer y golled enfawr o sgiliau ac arbenigedd o'r sector—sgiliau na fydd byth yn cael eu hadfer yn llawn o bosibl—nac yn datrys y bylchau ariannu a allai godi o hyd o'r cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

Mae tanariannu creulon y meysydd polisi hanfodol hyn dros amser wedi tanseilio eu gallu profedig i gryfhau cydlyniant cymunedol ac i wella lles corfforol a meddyliol pobl. Mae'n rhatach buddsoddi mewn gofal ataliol na thrin salwch, ond mae meddwl cydgysylltiedig yn brin ar draws y Llywodraeth ynghylch manteision diwylliant a chwaraeon. Gallai categori 'ataliol' o wariant mewn cyllidebau yn y dyfodol helpu i gydnabod ac ariannu'n briodol gwir werth y sectorau hyn. Roeddem yn siomedig felly fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhellion yn ymwneud ag atal, yn enwedig gan na fyddai gweithredu'r argymhellion hyn yn rhy anodd, yn ein barn ni.

Rydym hefyd yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylai fynd ati'n rhagweithiol i gael gwared ar rwystrau sy'n ei gwneud hi'n anos i sefydliadau wario arian a roddir iddynt, yn enwedig yn yr amseroedd arbennig o anodd hyn. Mae derbynwyr cyllid eisiau cael eu trin a'u hariannu fel partneriaid y gellir ymddiried ynddynt, mewn perthynas fwy cytbwys a chydweithredol, ac fe wnaethant alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran y modd y mae'n dyrannu cyllid. Clywsom nad yw sefydliadau'n gallu gwario cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn weithiau oherwydd cyfyngiadau a osodwyd ar sut y gellir ei wario. Effaith hyn—. Rydym eisoes yn gwybod am y sefyllfa y mae cymaint o'r sefydliadau hyn ynddi, felly mae honno'n sefyllfa ddigalon iawn ar gyfer y dyfodol.

Nawr, mae effaith toriadau cyllid cyhoeddus ar gyrff diwylliant a chwaraeon wedi cael ei waethygu gan y pandemig, gan chwyddiant a chan gostau byw cynyddol. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod lefel mynychu pob math o ddiwylliant wedi gostwng o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig. Mae cynulleidfaoedd, wrth gwrs, yn teimlo effeithiau costau byw.

Mae'n dod yn fwyfwy anodd cynnal cyfleusterau chwaraeon a diwylliant—roedd hynny'n amlwg yn y dystiolaeth—ac mae rhai wedi gorfod cau eu drysau. Mae gennym stoc hamdden a diwylliant cyhoeddus sy'n heneiddio ac sy'n galw am fuddsoddiad ac uwchraddio sylweddol. Credwn fod angen i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr asedau cymunedol pwysig hyn yn parhau i fod ar gael yn ein cymunedau, yn cyrraedd y safon, a'u bod yn diwallu anghenion eu cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth yn ei rhaglen ysgolion ac addysg yr unfed ganrif ar hugain, ond ar hyn o bryd nid oes digon o feddwl cydgysylltiedig ynglŷn â sut y gall y cyfleusterau newydd hyn fod o fudd i glybiau chwaraeon a'r gymuned ehangach.

Gallai'r diffyg buddsoddiad mewn cyfleusterau ac mewn sefydliadau arwain at ddyfodol lle mae ein pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i archwilio eu doniau ac i gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd. Mae yna risg wirioneddol y gallai cyfranogi mewn diwylliant a chwaraeon fynd yn fwy elitaidd byth, ac mai pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol amrywiol ac is sy'n mynd i deimlo effaith y toriadau hyn yn fwyaf llym.

Hoffem weld sefydliadau'n ymateb yn fwy strategol i'w hincwm llai trwy rannu gwasanaethau a chyflawni gweithgareddau masnachol newydd, ond byddai hynny'n galw am well cyfeiriad strategol gan y Llywodraeth, nad yw wedi bod yno hyd yma. Mewn ymateb i'n hargymhelliad i'r perwyl hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn darparu

'cyfeiriad strategol clir iawn i'r cyrff diwylliant a chwaraeon cenedlaethol'.

Nid oedd hynny'n cyd-fynd â'r neges a roddwyd i ni gan dystion i'n hymchwiliad. Dywedodd tystion wrthym fod y sector yn wynebu argyfwng ar hyn o bryd. Fel pwyllgor, rydym yn pryderu nad yw Llywodraeth Cymru bob amser wedi llawn ddeall maint y pwysau y mae'r sectorau diwylliant a chwaraeon yn eu hwynebu.

Unwaith eto, roedd y cynnydd mewn gwariant rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol i'w groesawu'n fawr. Rydym yn dal i chwilio am arwydd mai dyma'r cam cyntaf hanfodol tuag at drin y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn wahanol gan y Llywodraeth. Mae gwir angen strategaeth hirdymor arnom. Rydym yn croesawu'r cyllid hwn, ond ni all fod yn rhywbeth byrdymor yn unig. Fel y dywedais yn gynharach, ers llawer gormod o amser, mae diwylliant a chwaraeon wedi cael eu trin fel pethau braf i'w cael yn hytrach na phethau sy'n gynhenid i ansawdd byw da. Mae angen newid meddylfryd i sicrhau cynaliadwyedd a thwf yn y sectorau hyn. Yn y pen draw, mae angen iddynt ffynnu ac nid goroesi'n unig.

Diolch eto i bawb sydd wedi chwarae rhan yn yr adroddiad hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed sylwadau pawb yn y ddadl y prynhawn yma.

16:05

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, a dyma'r ddadl bwyllgor gyntaf i mi gymryd rhan ynddi fel llefarydd diwylliant ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, felly mae'n bleser cyfrannu.

Diwylliant, celfyddydau a chwaraeon yw anadl einioes ein cenedl. Hwy sy'n creu ein hunaniaeth ac yn tanio ein dyheadau. Maent yn atgyfnerthu'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn Gymry—wedi'u hangori mewn hanes, ond eto'n edrych tuag at ein dyfodol. Hwy hefyd yw pair doniau ein cenedl, sy'n meithrin y doniau hynny yn ein cenhedlaeth nesaf.

Mae'r adroddiad o'n blaenau, 'Degawd o doriadau', yn paentio darlun diflas iawn. Mae blynyddoedd o ostyngiadau parhaus i gyllid diwylliant a chwaraeon wedi ysigo pileri ein cymdeithas, gan eu gadael yn dadfeilio a than ormod o bwysau. Fel Ceidwadwyr Cymreig, nid ydym yn gwadu'r angen am fuddsoddiad—ymhell ohoni. Rydym yn ei amddiffyn, ar yr amod ei fod yn gymesur, yn bwrpasol ac yn parchu'r rhai sy'n darparu'r arian—y trethdalwr.

Ni ddylem ildio i'r galwadau am wariant diderfyn a glywn mor aml gan y rhai ar y chwith, yn enwedig pan ddaw heb atebolrwydd na goruchwyliaeth, fel sy'n digwydd yn aml. Nid bowlen ffrwythau ddi-waelod yw'r wladwriaeth. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pob punt a werir ar sectorau'r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn cael ei gwario'n ddoeth. Dylem gydnabod bod pob punt sy'n cael ei gwario ar theatr neu gae pêl-droed yn bunt wedi'i hamddifadu i wely ysbyty, ystafell ddosbarth neu bwrs pensiynwr. Nid ariannu diwylliant a chwaraeon yn unig yw'r dasg; mae'n rhaid inni wneud hynny, ond ei wneud gyda chrebwyll, gan sicrhau bod pob ceiniog yn gwasanaethu lles cyhoeddus, nid chwiw fiwrocrataidd neu fater niche nad yw'n berthnasol i'r Cymry cyffredin.

Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn mynnu trylwyredd, effeithlonrwydd ac atebolrwydd. Dylem ariannu diwylliant a chwaraeon, nid fel cyfrwng i'r crachach ym Mhontcanna ysgrifennu traethodau ar eitemau pobi ac ati, oherwydd dyma'r math o nonsens sy'n cael ei ariannu gan rai o'r cyrff hyd braich sy'n mwynhau arian trethdalwyr ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i'r cyllid fod o fudd i'r lliaws, y rhai sy'n dod o hyd i lawenydd mewn emyn a chymuned ar gae rygbi. Mae'r sector diwylliannol yn dod yn fan chwarae i'r maldodus, y dyrys, ac yn bwysicach fyth, i'r gwastraffus.

I ddangos fy mhwynt, rydym wedi gweld £50,000 yn cael ei wastraffu ar osodwaith amlsynnwyr yng Nghaerdydd, labyrinth o oleuadau a sŵn a ddrysodd ei nifer fach o ymwelwyr cyn iddo drengi'n dawel, er mawr embaras i'w grewyr. Anweddwyd £20,000 arall mewn ymgynghoriaeth i ailfrandio gŵyl ddiwylliannol nad oedd neb yn ceisio ei hailenwi. Wedyn mae'r £15,000 a lyncwyd gan ddawns newid hinsawdd—rhyfeddod pranciog na newidiodd yr awyr na barn y gwylwyr. A rhag inni anghofio, cafodd £30,000 ei daflu unwaith at gerflun o deiars wedi'u hailgylchu yn Abertawe, a gafodd ei ganmol fel 'beiddgar' gan ei grewyr, ond a alwyd yn ddolur llygaid gan y rhai a gondemniwyd i fyw wrth ei ymyl. Nid diwylliant yw hyn ond gwastraff, gwastraff sy'n erydu ymddiriedaeth mewn cyllid pan fo ymddiriedaeth ar ei fwyaf bregus.

Mae yna lawer o sefydliadau sy'n deilwng o fwy o arian nad ydynt yn ei gael. Cefais y pleser o ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, ac roedd eu hangerdd dros warchod a rhannu treftadaeth ddiwylliannol a gwyddonol Cymru yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae'r amgueddfa yn gonglfaen i'n treftadaeth ddiwylliannol sy'n crefu am gyllid i wneud atgyweiriadau hanfodol. Ac wrth gwrs, gorfodwyd National Theatre Wales hefyd i gau y llynedd oherwydd toriadau cyllid Llywodraeth Cymru.

Mae ein diwylliant a'n chwaraeon mewn perygl oherwydd toriadau, ond hefyd oherwydd gwastraff Llywodraeth Cymru. Rwy'n gweld canlyniadau'r toriadau hyn yn fy etholaeth fy hun, yn sir Ddinbych: amseroedd agor llyfrgelloedd yn crebachu, caeau chwarae'n cael eu gwerthu, clybiau ieuenctid wedi'u torri hyd at yr asgwrn. Mae toriadau ehangach i sectorau'r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon wedi bod yn ddinistriol. Cymru sy'n gwario leiaf y pen ond un ar ddiwylliant o holl wledydd Ewrop, ffigur a ddylai fod yn destun cywilydd i ni.

Felly, i gloi, Lywydd dros dro, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae'r amynedd yn brin ymhlith pobl Cymru, gyda chwangos yn gwastraffu eu harian yn ddiofal. Rwy'n annog y cwangos celfyddydau a diwylliant i beidio â brathu'r dwylo sy'n eu bwydo, ac yn annog Llywodraeth Cymru i arfer goruchwyliaeth well o'r modd y caiff arian trethdalwyr ei wario. Mae gwir angen mwy o arian ar y sectorau hyn, ac mae adroddiad y pwyllgor yn nodi hynny'n ddiflas o fanwl. Gadewch inni ariannu'r celfyddydau sy'n ysbrydoli, y chwaraeon sy'n clymu a'r dreftadaeth sy'n ein diffinio, ond gadewch inni wrthod y gwastraff. Mae pobl Cymru yn haeddu hynny. Diolch.

16:10

Wel, rwy'n falch fod llefarydd y Ceidwadwyr wedi newid ei feddwl ynglŷn ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar ôl ymweld. Ychydig wythnosau yn ôl, roeddech chi'n sôn am arddangosfeydd 'woke' yno. A gobeithio, os gwnewch chi ymgysylltu mwy â diwylliant a'r sefydliadau y buom yn eu gweld fel aelodau o'r pwyllgor, efallai y byddwch chi'n newid eich meddwl eto. Oherwydd yr hyn sy'n amlwg yma yw bod diwylliant yn bwysig i bobl yn ein cymunedau ac yn amlwg, yr hyn a welsom drwy'r ymchwiliad hwn yw nad oes digon o gymorth wedi bod.

Os ydych chi'n edrych ar yr ymchwiliad hwn, mae'r toriadau dros ddegawd a mwy wedi cael effaith sylweddol, a beth rydyn ni wedi ei weld yw bod yna ryddhad gan y sectorau, o ddarllen yr adroddiad hwn, ein bod ni o’r diwedd yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa, oherwydd am flynyddoedd, mae’r sectorau hyn wedi cael eu canmol gan Weinidogion di-ri am eu gwydnwch a’u hymateb i’r heriau a chlywed Gweinidogion a Phrif Weinidogion hefyd yn rhoi’r argraff, yn gam neu’n gymwys, eu bod nhw’n gyfforddus gyda thorri’r meysydd hyn yn wyneb yr heriau ariannol oedd yn wynebu pob portffolio.

Dwi’n cofio arwain dadl ar yr union bwnc hwn flwyddyn yn ôl a chael y Gweinidog ar y pryd yn gweiddi arnaf i, ‘Ond beth am yr NHS?’ heb gydnabod rôl allweddol y celfyddydau a chwaraeon o ran yr agenda ataliol a chadw pobl yn iach gydol oes, gan arbed arian ac adnoddau prin i’n gwasanaeth iechyd. Da, felly, ydy gweld yn ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad hwn bod yna, o’r diwedd, gydnabyddiaeth o’r heriau ac effaith y gostyngiadau mewn cyllid, a chytundeb bod angen cymorth ar ddiwylliant a chwaraeon. Felly, wrth gwrs, mae yna eiriau i’w croesawu, ond mae angen hefyd ymrwymiadau cadarn er mwyn dad-wneud y niwed a sicrhau nad yw Cymru yn aros ymhlith y gwledydd Ewropeaidd sy’n gwario lleiaf ar y gwasanaethau hyn.

Wedi’r cyfan, gyda diwylliant a’r celfyddydau mor greiddiol i pwy ydyn ni fel cenedl, mae o’n dorcalonnus ein bod ni wedi cyrraedd sefyllfa o argyfwng lle dyma ydy realiti o ran diwylliant yng Nghymru. Mi wnaf i restru rhai pethau: casgliadau cenedlaethol mewn adeiladau sydd angen buddsoddiad sylweddol os nad ydyn nhw am greu niwed i’r casgliadau cenedlaethol; cannoedd o swyddi wedi eu colli; National Theatre Wales wedi dod i ben, ac unigolyn—Michael Sheen—yn ariannu ein theatr genedlaethol yn y Saesneg; Opera Cenedlaethol Cymru mewn argyfwng; adran iau coleg cerdd a drama Cymru wedi diflannu; y sector cyhoeddi yn crebachu, a gweisg mewn perygl o ddiflannu.

Mi allwn i fynd ymlaen ac ymlaen, ond gobeithio bod pawb ohonom ni, o ddarllen yr adroddiad hwn, yn deall pa mor ddifrifol ydy’r sefyllfa. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae Plaid Cymru wedi cysylltu gyda sefydliadau sydd yn gweithio yn y meysydd hyn a gofyn am eu hymateb nhw i’r adroddiad. Mi hoffwn i rannu gyda chi un o’r ymatebion, sydd yn crynhoi, yn fy marn i, pam bod craffu yn y maes hwn wedi bod mor bwysig, a hefyd sy’n crynhoi pa weithredu sydd ei angen.

'Roeddem yn teimlo ein bod wedi cael ein clywed a'n parchu'n fawr ond yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw ymyriadau wedi'u targedu sy'n mynd i'r afael â'r materion craidd. Yn gyntaf oll, mae penderfyniadau ar wariant diwylliant wedi cael eu hystyried fel penderfyniadau gwleidyddol yn hytrach na rhai ariannol, h.y. yn fy marn i, mae dweud nad oes arian pan fo arian ar gael yn esgus diog; mae'n ymwneud â blaenoriaethu i ble mae'r arian hwnnw'n mynd. Nid yw bychander cymharol y gwariant diwylliant yn gwneud fawr ddim gwahaniaeth, os o gwbl, i unrhyw un o'r portffolios mawr eraill, ond mae'n effeithio'n sylweddol ar y sector diwylliant. Felly, mae'n fater o werthoedd, h.y. a ydym ni fel cenedl yn gweld gwerth diwylliant, ac yn hollbwysig, a ydym yn credu ei bod yn werth buddsoddi ynddo.'

Adleisiwyd y croeso i'r adroddiad gan lawer o rai eraill, gyda Chwaraeon Cymru yn nodi bod yr adroddiad wedi cael derbyniad da ar draws y sector chwaraeon, a Chymdeithas Chwaraeon Cymru yn darparu'r rhybudd hwn: os yw Cymru yn dymuno cynnal ei hanes balch yn y byd chwaraeon, parhau i gystadlu ar lwyfan y byd, ac ysbrydoli a galluogi ein dinasyddion i fwynhau bywydau iach ac egnïol, rhaid gwrthdroi'r duedd hirdymor hon ar i lawr. Rwy'n cytuno'n llwyr. Yr hyn rwy'n gobeithio ei glywed felly gan y Gweinidog yn ei ymateb heddiw yw beth sy'n digwydd nesaf, a pha mor ddifrifol yw'r ystyriaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i'r canfyddiadau hyn. Ni allwn barhau i adael i'n diwylliant, hanfod yr hyn sy'n gwneud Cymru'n Gymru, barhau i ddiflannu. Mae angen newid sylfaenol, ac rwy'n gobeithio clywed ymrwymiad i'r Senedd a'r sectorau heddiw fel ein bod yn gwrthdroi'r niwed sydd eisoes wedi'i wneud.

16:15

Rwy'n falch iawn o gael cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am y ffordd y cyflwynodd adroddiad y pwyllgor a diolch i staff y pwyllgor am y gwaith a wnaethant ar yr adroddiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn adroddiad sylfaenol bwysig, oherwydd mae'n siarad nid yn unig am elfennau o'r sector diwylliant a pholisi ar ddiwylliant, ond am hanfodion a lle mae diwylliant yn y blaenoriaethau a roddir iddo gan y Llywodraeth.

Rwyf am ddweud—ac rwyf am geisio bod yn ofalus iawn wrth ddweud hyn—mae'r adroddiad hwn yn haeddu gwell gan y Blaid Geidwadol. Clywsom araith ddiog iawn, cyfres o clichés, wedi'u llunio a'u cyflwyno'n wael. Pe bai'r Aelod wedi darllen yr adroddiad, efallai y byddai wedi gwneud araith wahanol, oherwydd ni chyfeiriodd at yr adroddiad yn ei araith yn y ffordd y byddwn wedi ei disgwyl a'i rhagweld. Un o'r rolau sylfaenol yma yw nid yn unig dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ond dwyn y cyrff cyhoeddus eraill i gyfrif hefyd a rhannau o'r sector cyhoeddus. Mae'n syndod fod unrhyw Aelod wedi bod yma am bedair blynedd heb ddeall yn iawn mai ei rôl ef yw dwyn y bobl hynny i gyfrif. [Torri ar draws.] Fe ildiaf, wrth gwrs.

16:20

Roeddech chi siŵr o fod yn ei ddisgwyl. Fe wneuthum groesgyfeirio at atebolrwydd awdurdodau lleol, er enghraifft. Soniais am faterion yn fy etholaeth fy hun yn sir Ddinbych, y byddaf yn aml yn croesgyfeirio atynt. Ac mae elfennau yn yr adroddiad sydd—. Rydych chi'n iawn i ddweud bod y sector cyhoeddus yn gyffredinol yn atebol am y materion hyn, felly rwy'n credu bod eich beirniadaeth o fy araith braidd yn anniffuant ac efallai ychydig yn anwybodus ynghylch y gwaith sy'n sail iddi, o ystyried ein bod, wrth gwrs, yn wleidyddion a bod gennym farn ar rai materion fel gwleidyddion yn y lle hwn.

Wrth gwrs hynny, ac mae gennym i gyd hawl gyfartal i fynegi'r safbwyntiau hynny, ac rwy'n mynegi fy marn am eich araith. Gadewch imi ddweud hyn, Gareth, ac fe fyddaf yn glir iawn: eich rôl chi yw dwyn y bobl hynny i gyfrif, nid dim ond dod yma a dweud y dylid eu dwyn i gyfrif. Dylech wneud eich gwaith yn hytrach na dim ond mynegi'r ffaith y dylai gael ei wneud gan rywun arall efallai. Byddwn yn disgwyl y ddealltwriaeth hon gan unrhyw berson yma sy'n dod yma i siarad am y briff diwylliant: nad rôl gwleidyddion yw penderfynu pa gynyrchiadau sydd mewn theatrau neu pa arddangosfeydd sydd mewn amgueddfeydd. Nid ydym yn byw mewn cymdeithas dotalitaraidd, rydym yn byw mewn democratiaeth ryddfrydig, ac mae'n sylfaenol—[Torri ar draws.] Fe wnaf ildio. Ond mae'n sylfaenol i unrhyw ddemocratiaeth ryddfrydig nad yw gwleidyddion yn gorfodi nac yn bygwth nac yn ymosod ar unrhyw sefydliad yn y gymdeithas honno oherwydd y dewisiadau a wnânt. Nid yw diwylliant yn perthyn i unrhyw blaid wleidyddol nac i unrhyw Lywodraeth; mae'n perthyn i bawb yn gyfartal. Efallai nad fy syniad i o ddiwylliant yw eich syniad chi o ddiwylliant, mae'n debyg nad dyna yw syniad arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig o ddiwylliant, ond yr hyn a wnawn yw galluogi pawb i fynegi eu hunain yn rhydd mewn democratiaeth agored.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Mae rhyddid mynegiant a rhyddid i lefaru yn hynod bwysig yn ein cymdeithas ac mae'n rhaid eu gwarchod ar bob cyfrif. Yr hyn y mae gennym ddyletswydd i'w wneud hefyd yw sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n briodol ac yn cael ei fuddsoddi yn y mannau cywir, ac nad yw'n cael ei wastraffu. Yr hyn y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod ato'n gywir ddigon oedd enghreifftiau o wastraff gan sefydliadau diwylliannol yng Nghymru sydd wedi buddsoddi mewn pethau y mae llawer o aelodau o'r cyhoedd yn eu gweld yn chwerthinllyd. Mae buddsoddi miloedd o bunnoedd i ddad-drefedigaethu pice ar y maen yn brosiect hollol hurt i fuddsoddi arian trethdalwyr ynddo. Oni fyddech chi'n cytuno â hynny, Alun? Oni allwch chi weld bod hynny'n erchyll?

Bydd y Llywydd dros dro yn cofio fy mod wedi eistedd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o dan gadeiryddiaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig erbyn hyn rai blynyddoedd yn ôl. Roedd yn Gadeirydd gwych ar y pwyllgor hwnnw, ac rwy'n talu teyrnged iddo am y gwaith a wnaeth yn chwilio am wastraff a dwyn gweision cyhoeddus i gyfrif, ac roeddwn i'n mwynhau gwasanaethu o dan ei arweinyddiaeth. Ond mae gwahaniaeth rhwng dwyn pobl i gyfrif am y penderfyniadau a wnânt a chwestiynu beth yw'r mynegiant diwylliannol sy'n cael ei ganiatáu yn rhan o'n bywyd diwylliannol cyffredinol yn y wlad hon. Mae gwahaniaeth amlwg yno, ac mae'n gwybod hynny, ond rwy'n talu teyrnged iddo am geisio achub croen ei lefarydd.

O ran ble rydym ni'n mynd, ac rwy'n profi amynedd y Cadeirydd dros dro yma, mae angen i'r Llywodraeth chwarae rôl wahanol, oherwydd rwy'n beirniadu'r wrthblaid, ond mae angen i'r Llywodraeth yma chwarae rôl wahanol hefyd. Mae'r cywair yn sicr wedi newid yn ystod y misoedd diwethaf, ond mae'r dull 'Argyfwng, pa argyfwng?' gan y Llywodraeth yn rhedeg trwy holl ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad. Rwyf am siarad yn hollol glir â chi, Weinidog: nid oedd yr agwedd a fabwysiadwyd gennych yn y pwyllgor yn dderbyniol, ac nid yw'r agwedd a fabwysiadwyd yn yr ymateb gan y Llywodraeth i'r adroddiad hwn yn dderbyniol ychwaith.

Mae angen cydnabyddiaeth glir iawn o'r argyfwng sydd wedi bod yn digwydd yn y sector diwylliant o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Y peth hawsaf yn y byd yw beio'r Torïaid—rydym i gyd wedi gwneud hynny, ac rwyf innau wedi syrthio i'r fagl honno hefyd; rydym wedi'i wneud ar sawl achlysur—ond mae yna atebolrwydd a chyfrifoldeb yma. Llywodraeth Cymru sydd wedi gwneud y penderfyniadau hyn, Llywodraeth Cymru sydd wedi cyflawni'r toriadau hyn—

16:25

Mae wedi bod. Rwyf wedi ildio i'r Blaid Geidwadol ar y materion hyn. Ond fe ddof â fy sylwadau i ben.

Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod nad yw diwylliant yn digwydd mewn gwactod, ac nid yw'n digwydd trwy ddamwain. Mae'r pwyllgor wedi ymweld ag Iwerddon, mae gennym brofiad yr Alban a Lloegr a mannau eraill; rwy'n edrych hefyd ar Wlad yr Iâ, lle mae buddsoddiad wedi digwydd sydd wedi gwella bywyd y gwledydd hynny a'r cenhedloedd hynny a'r bobloedd hynny. Ac os ydych chi eisiau edrych ar sut y gall diwylliant newid cymdeithas yn ehangach, edrychwch ar Wlad yr Iâ a'r effaith yno ar bolisi ieuenctid ac ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc. Yng Nghymru, y bobl dlotaf bob amser sydd fwyaf ar eu colled. Mae i Lywodraeth Lafur wneud penderfyniadau sy'n eithrio'r bobl dlotaf, y rhannau mwyaf agored i niwed o'n cymdeithas a'r cymunedau tlotaf rhag ymuno yn y mynegiant o'n diwylliant fel cenedl yn gyfeiliornad sylfaenol ac yn benderfyniad anghywir. Felly, hoffwn weld y Llywodraeth yn tynnu ei hymateb i'r pwyllgor hwn yn ôl a hoffwn weld—

Rhaid i'r Aelod ddod i ben nawr. Rwyf wedi bod yn hynod o hael, felly gorffennwch os gwelwch yn dda.

Fe wnaf hynny ar unwaith. Yn fwyaf arbennig, hoffwn weld y Llywodraeth yn newid ei hymateb i argymhelliad 4, sy'n mynd at galon yr adroddiad hwn. Gobeithio nad nodi'r adroddiad hwn yn unig y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ond y bydd yn ystyried yr hyn a ddywedwyd yn y ddadl hon ac yn ymateb yn fwy cadarnhaol i'r adroddiad, oherwydd mae'n fwy sylfaenol na dim ond adroddiad ar thema neu ddarn o bolisi; mae'n ymwneud â phwy ydym ni fel gwlad ac ymateb y Llywodraeth i hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd dros dro.

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, oherwydd rwy'n credu bod diwylliant a chwaraeon yn hynod bwysig i Gymru, ac i'r byd i gyd yn wir. Mae cyllid mewn diwylliant a chwaraeon yn mynd yn bell iawn ac yn mynd i'r afael â nifer o flaenoriaethau trawsbynciol i Lywodraeth Cymru. Hoffwn ganolbwyntio ar chwaraeon ar lawr gwlad a gweithgarwch corfforol, oherwydd mae cysylltiad mor gryf yno â'r agenda iechyd ataliol y mae angen inni symud ymlaen ati os ydym yn mynd i wneud yn well nag ymateb i broblemau wrth iddynt godi yn unig gydag iechyd a lles yma yng Nghymru.

Cawsom yr holl flynyddoedd hir o gyni gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, sy'n amlwg wedi cael effaith wirioneddol ar ein sectorau chwaraeon a diwylliant yma yng Nghymru. Gan ein bod bellach wedi symud ymlaen i adeg well, gyda symud i ffwrdd o gyni ar lefel y DU a setliad cyllido mwy hael i Gymru, mae'n rhoi cyfle inni wneud cynnydd mawr ei angen. Yn rhan o hynny dylai fod cyllid ar gyfer chwaraeon llawr gwlad a gweithgarwch corfforol.

Mae ychydig o gyllid yno'n mynd yn bell iawn, oherwydd yr holl wirfoddolwyr y credaf ein bod i gyd yn gyfarwydd â hwy ledled Cymru yn ein hetholaethau ein hunain—mudiadau gwirfoddol, y trydydd sector a'r holl wirfoddolwyr sy'n gwneud i'n chwaraeon llawr gwlad weithio i'n cymunedau, boed yn bêl-droed, gymnasteg, dawns, rygbi neu unrhyw gamp neu weithgarwch corfforol arall. Rydym mor ffodus i gael y gwirfoddolwyr hyn, wythnos ar ôl wythnos, yn rhoi eu hamser a'u hegni i ddarparu'r cyfleoedd hynny i'n pobl ifanc a phobl o bob oedran.

Tybed a allai Llywodraeth Cymru wneud ychydig mwy o ran cael strategaeth a pholisïau ar gyfer chwaraeon llawr gwlad yma yng Nghymru, gan wybod am yr effaith fuddiol y byddai hynny'n ei chael ar ein hiechyd a'n lles fel cenedl, o ystyried yr holl broblemau a wynebwn—gordewdra, er enghraifft, a chymaint o bethau eraill. Tybed a ellid rhoi mwy o arian i'n cymunedau mwy difreintiedig i dalu'r ffioedd ar gyfer cyrsiau hyfforddi, sydd weithiau'n afresymol i gefnogi chwaraeon cymunedol, boed yn ddarparu mwy o arian ar gyfer offer a chit mewn ardaloedd difreintiedig, sydd, unwaith eto, yn gallu bod yn afresymol i deuluoedd, neu ddarparu mwy o fframwaith i gysylltu ein sefydliadau mawr. Wyddoch chi, yng Nghasnewydd, er enghraifft, cyngor y ddinas; Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth hamdden; Dreigiau Casnewydd Gwent; clwb pêl-droed Casnewydd; ac ar lefel genedlaethol, sefydliadau fel Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru ei hun—a allai fod strategaeth neu bolisi sy'n alinio'r rhain oll o gwmpas yr ymdrech i gefnogi ein chwaraeon llawr gwlad.

16:30

Diolch. A ydych chi hefyd yn gweld y gwerth mewn buddsoddi mewn pethau fel caeau trydedd genhedlaeth a phedwaredd genhedlaeth i leihau'r rhwystrau i fynediad at chwaraeon i bobl ag anableddau yn arbennig, fel bod cyfleoedd iddynt saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, os hoffech?

Ydw, yn bendant. Rwy'n credu bod cryn dipyn o fuddsoddiad wedi mynd i'r caeau artiffisial hynny, ond mae angen inni weld mwy. Rydym i gyd yn gyfarwydd â gemau yn cael eu canslo pan fo'r tywydd yn wael, sy'n rhwystredig iawn i bawb. Roeddwn yn falch iawn fod tîm pêl-droed lleol yng Nghasnewydd, Clwb Pêl-droed Glan Llyn, wedi sefydlu sesiynau pêl-droed i blant anabl yn ddiweddar, a oedd yn boblogaidd iawn a nifer yn eu mynychu, ac maent yn gobeithio adeiladu ar hynny a chael adran bêl-droed i rai anabl yn eu timau ieuenctid a chwarae gemau yn erbyn timau eraill o'r fath. Mae yna lawer o ddatblygiadau da, ond mae angen eu cefnogi, ac rwy'n credu bod angen mwy o system a fframwaith y tu ôl i'r cyfan, gyda Llywodraeth Cymru ar y blaen ar lefel genedlaethol ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn realiti ledled Cymru. 

Trefnais uwchgynhadledd Casnewydd Actif y llynedd, a ddaeth â llawer o'r bobl leol a oedd yn gysylltiedig â chwaraeon llawr gwlad at ei gilydd yng Nghasnewydd, ac roedd yn werth chweil ac yn llwyddiannus, ac rydym yn gobeithio cael digwyddiad arall, ychydig yn wahanol, eleni. Rwy'n ceisio dod â chwaraeon llawr gwlad a'r sector iechyd at ei gilydd yn lleol. Caf fy nghalonogi gan y ffaith y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ddiweddarach eleni yn cyflwyno ei gynllun iechyd 10 mlynedd. Un o'r argymhellion o'i fewn yw i Lywodraeth Cymru ystyried categori gwariant ataliol yn ei chyllidebau ar draws ei holl adrannau yn y dyfodol i gefnogi iechyd y cyhoedd ac iechyd y boblogaeth. Mae gwir angen inni weld rhywfaint o'r gyllideb iechyd enfawr honno ledled Cymru yn mynd tuag at wariant ataliol i raddau llawer mwy, ac rwy'n credu, pe bai llawer o hynny'n cael ei sianelu tuag at chwaraeon llawr gwlad, byddai'n mynd â ni'n bell ar y daith at ymagwedd fwy ataliol tuag at wariant iechyd, a byddai hefyd o fudd i'n cymunedau o ran ansawdd bywyd yn gyffredinol. Felly, mae yna bethau y gellir eu gwneud, a hoffwn weld y Gweinidog, yn ei ymateb, yn mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.

Dwi'n galw nawr ar y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant.

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. A gaf i ddiolch yn arbennig i Gadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell, am y ffordd y mae'n arwain y pwyllgor, a'r ffordd yr arweiniodd yr ymchwiliad ac yr agorodd y ddadl heddiw? Diolch i holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith ar yr ymchwiliad pwysig hwn a'r rhai a roddodd dystiolaeth, ac rwy'n credu bod rhai yn yr oriel y prynhawn yma. Diolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd at y ddadl. Rwy'n cytuno ag Alun Davies ynglŷn â phwysigrwydd yr adroddiad hwn, ac rwy'n sicrhau'r Aelodau ein bod o ddifrif ynghylch rôl y pwyllgor, yr adroddiad a'r sector ei hun. Rwyf hefyd yn cytuno ag Alun Davies ynglŷn â'i gondemniad o gyfraniad llefarydd y Ceidwadwyr y prynhawn yma. Roeddwn i'n meddwl bod y mwyafrif o gyfraniadau, Lywydd, yn werthfawr iawn; nid wyf yn siŵr y gellid dweud yr un peth am yr Aelod. Rwy'n credu ei fod yn methu'r pwynt pan—

Diolch. Onid ydych chi'n gweld y gwerth yn y pethau a ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei ymyriad ef, am ddadansoddi gwastraff, bod yn ddarbodus gydag arian cyhoeddus a'i wario'n ddoeth ar brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru? I mi, rwy'n credu'n gryf y byddai'r rhan fwyaf o'r cyhoedd yn gweld y budd yn y ddadl honno.

Diolch i Gareth Davies am hynny. Rwy'n meddwl mai dyma'r trydydd tro iddo godi ar ei draed y prynhawn yma, ynghyd ag un gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Dywedodd yr Aelod yn gynharach yn ei gyfraniad, os wyf i'n iawn, Gadeirydd, mai diwylliant yw anadl einioes y genedl. Aeth ymlaen hefyd i ddweud nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwadu'r angen am fuddsoddiad. Fe wnaethant bleidleisio yn erbyn mwy o arian i'r celfyddydau yn y gyllideb derfynol, Gadeirydd. A gallech faddau i'r Aelod, oni allech, am ei gyfraniad, oherwydd fy nealltwriaeth i, er nad oedd yn aelod o'r pwyllgor pan wnaed y gwaith pwysig hwn, gallai fod wedi darllen yr adroddiad, fel y'i hatgoffwyd gan Alun Davies. Ac er mai diddordeb mewn rhyfel diwylliant yn unig a ddengys y sylwadau a'r cyfraniadau gan y Ceidwadwyr ac nid diwylliant y dreftadaeth Gymreig, nid wyf am ganolbwyntio ar hynny. Rwyf am fynd ymlaen i ganolbwyntio ar gefnogi'r sector, ac mae'r ymateb i'r gyllideb derfynol gan y sector yn dangos eu bod yn gwerthfawrogi''r ymateb hwnnw'n fawr.

Fel y nodais yn gynharach, rwyf wedi dweud dro ar ôl tro, Gadeirydd, ers cael cyfrifoldeb dros ddiwylliant a chwaraeon, y byddaf bob amser yn gwneud yr achos dros fwy o gefnogaeth i'r sector, bob dydd. A dyna pam rwy'n falch o sicrhau arian ychwanegol yn y gyllideb derfynol. Roedd yn arian ar gyfer y celfyddydau, arian ar gyfer chwaraeon y ceisiodd y gwrthbleidiau yn y lle hwn ei wadu. Ac nid y Ceidwadwyr yn unig, Plaid Cymru hefyd.

Gadeirydd, mae ein cyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys £9.6 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol a £18.4 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer y celfyddydau, diwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a chwaraeon yng Nghymru. Ac roedd hyn yn cael ei groesawu'n fawr gan y sector, gan Gyngor Celfyddydau Cymru eu hunain, gan Chwaraeon Cymru eu hunain.

Tynnodd llefarydd Plaid Cymru sylw at ymatebion y sector i'r adroddiad, ac roeddwn i'n ddiolchgar iddi am wneud hynny. Roeddwn i'n meddwl bod y dystiolaeth a glywodd y pwyllgor a'r ymatebion i'r adroddiad yn rhai pwysig. Yr hyn sy'n bwysig ei gydnabod hefyd yw ymateb cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector. Soniais am gyngor y celfyddydau a Chwaraeon Cymru yn dod allan yn y gyllideb derfynol i gefnogi'n gadarnhaol nid yn unig safbwynt Llywodraeth Cymru, ond hefyd barn y Gweinidog ar y materion hyn, ond rwyf am dynnu sylw at y diwydiannau creadigol hefyd, Lywydd. Dywedodd prif swyddog gweithredol Bad Wolf draw yn y Sblot, Jane Tranter: 'Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y diwydiant creadigol yn neges gref iawn y gall diwydiannau creadigol fod yn ganolog i gyflogaeth, yn ganolog i dwf Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ei harian ar ei gair fel egin gwyrdd o obaith i ni i gyd. Mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu.'

Yn ystod y degawd diwethaf—mae'n bwysig ei gydnabod, Lywydd—bu cynnydd o 274.4 y cant mewn termau real i gyllidebau cyfalaf, ac mae hyn wedi cael ei groesawu drwy fy mhortffolio. Dyma'r math o fuddsoddiad a fydd yn helpu etholwyr John Griffiths i gael mynediad at chwaraeon ar lawr gwlad, ac rwy'n dymuno'n dda iddo yn ei ymgyrch a'i ddigwyddiad Casnewydd Actif yn ddiweddarach eleni. Dyma'r math o fuddsoddiad a fydd yn cefnogi prosiectau fel ailddatblygu castell Caerffili, adnewyddiad helaeth Theatr Clwyd, gyda buddsoddi dros £20 miliwn yn un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru, a—[Torri ar draws.] Fe roddaf un cyfle arall i'r Aelod.

16:35

Rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi'n ildio. Ariannwyd Theatr Clwyd gan gyllid ffyniant bro Llywodraeth y DU y llynedd, cyn yr etholiad cyffredinol. Felly, a ydych chi'n siŵr fod hwnnw'n sylw dilys i'w wneud i'r Senedd, o ystyried na ddaeth ei chyllid hanesyddol gan Lywodraeth Cymru? Roedd yn gyllid gan Lywodraeth y DU cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Mae'r Aelod yn nodi'r etholiad cyffredinol diwethaf. Gadewch imi fynd ag ef yn ôl i etholiadau'r Senedd yn 2021. Y gwir amdani yw bod y ddau ohonom wedi sefyll ar faniffestos etholiadol yn yr etholiad hwnnw, ac ymrwymiad maniffesto Llywodraeth Cymru yn etholiad 2021, y safodd ynddo, oedd bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi dros £20 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf yn Theatr Clwyd. Edrychaf ymlaen at weld y buddsoddiad hwnnw'n cael ei wireddu yn y misoedd nesaf.

Ac nid hynny'n unig. Dyma'r un maniffesto lle gwnaethom ymrwymo i gefnogi amgueddfa bêl-droed Cymru yn Wrecsam, a sefydlu amgueddfa bêl-droed genedlaethol mewn dinas sydd wedi cyffroi'r byd gyda'i champau pêl-droed. Lywydd, yn 2024-25, mae'n iawn, roedd yn rhaid inni wneud y dewisiadau anodd i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Datganiad yr hydref, Lywydd—[Torri ar draws.] Fe wnaf ei dderbyn.

16:40

Yn amlwg rydym yn deall y sefyllfa ar y pwynt hwnnw, ond rwy'n credu bod ein hadroddiad yn dangos ei bod yn broblem ymhell cyn hynny, dros ddegawd o doriadau. A gaf i ofyn yn benodol, oherwydd nid wyf wedi clywed eich ymateb i bwynt Alun Davies, a'r ffaith eich bod wedi gwrthod ein cynnig Rhif 4 a oedd yn sôn am yr agenda ataliol, a ddangoswyd gan John Griffiths—pam y mae hwnnw wedi'i wrthod? Oherwydd mae'n dweud ei fod wedi symleiddio, ond mae'n amlwg nad yw hynny'n wir, ac mae cymaint mwy y gallwn ei wneud. Mae cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru eu hunain yn eich ymateb y gellir gwneud mwy. Felly, pam gwrthod hwnnw? Pam gwrthod cymaint o'n hargymhellion?

Diolch i'r Aelod am hynny. Rwy'n credu bod cydnabyddiaeth ynglŷn ag atal a'r pwysigrwydd. Mae John Griffiths yn gwneud pwynt ardderchog yn y ffordd y mae'n disgrifio atal. Mae'n rhywbeth rydym ni'n credu ynddo hefyd. Ac mae cyllid o bortffolios eraill yn digwydd ar gyfer hyn, a byddwn yn edrych trwy adolygiad o wariant Cymru—rwy'n gweld Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, sydd yn yr ystafell nawr—i weld yn union am uchelgeisiau mwy hirdymor cyllidebau, a byddwn yn cadw hynny i gyd mewn cof, gan gynnwys adroddiad y pwyllgor.

Ond i fynd yn ôl at fy nghyfraniad, Lywydd, rhoddodd setliad yr hydref y DU gyfle i ni ddyrannu mwy o gyllid a dangos ein hymrwymiad i sectorau diwylliant, chwaraeon a'r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn falch felly o'r buddsoddiadau refeniw ychwanegol i'n cyrff cyhoeddus tuag at eu cyllideb refeniw yn 2024.

Ond nid wyf o dan unrhyw gamargraff, Lywydd, am yr heriau o fewn y portffolio. Mae'r gyllideb derfynol yn gam sylweddol ymlaen. Mae'n rhoi cyfle gwirioneddol i symud tuag at gyllid mwy diogel a mwy cynaliadwy. Rwy'n credu bod Cadeirydd y pwyllgor wedi gofyn am arwyddion gan y Llywodraeth. Wel, mae'r gyllideb derfynol yn darparu hynny: arwydd o fwriad gan Lywodraeth Cymru, arwydd o ffydd gan Lywodraeth Cymru. Ac rwyf wedi dweud hynny bob tro imi godi yn y lle hwn a phob tro y gofynnwyd i mi.

Gadewch imi fynd drwy'r hyn y mae'r gyllideb derfynol honno yn ei ddarparu—nid yn unig y setliad cyllidebol terfynol, gadewch imi fynd drwy'r buddsoddiadau sylweddol eleni. Yr hyn sy'n ychwanegol, Lywydd. Mwynhaodd yr Aelod o'r Blaid Geidwadol ei ymweliad â'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd, ac rwy'n falch ei fod wedi mwynhau ei ymweliad â'r amgueddfa; gobeithio ei fod wedi mwynhau arddangosfa'r streic hefyd. Fe wnaethom ddarparu, yn ystod y flwyddyn, £3.2 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer atgyweiriadau i'w cyflawni ar yr amgueddfa yng Nghaerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru; £500,000 yn ystod y flwyddyn i ddiogelu casgliadau mewn amgueddfeydd ac archifdai lleol; £5 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer cyrff diwylliannol a Cadw drwy'r cyrff hyd braich; £1 filiwn ychwanegol o refeniw i gefnogi gwytnwch mewn mannau fel Sefydliad y Glowyr Coed-Duon, ac roeddwn yn ddiolchgar am ymweliad Rhiannon Passmore ychydig wythnosau yn ôl, yn nodi cymorth Llywodraeth Cymru.

Lywydd, rydym yn ymateb i'r pwyllgor. [Torri ar draws.] Mae sgwrs rhwng y ddau ohonynt, ond fe awn yn ein blaenau, Lywydd—

Rwy'n ddiolchgar am eich stiwardiaeth y prynhawn yma, Lywydd dros dro. Ac rydym yn ymateb i adroddiad y pwyllgor. Fe wnaethom ymgynghori ar ein blaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant yn haf 2024. Byddwn yn cyhoeddi ein blaenoriaethau terfynol ar gyfer diwylliant yn nes ymlaen, yn y dyfodol agos, a byddant yn nodi sut y byddwn yn siapio ein gwasanaethau diwylliannol yn y dyfodol. Byddant yn dangos yn glir sut y gall diwylliant helpu i gefnogi a chyflawni newid ar draws y gymdeithas.

Fe ddof i ben, Lywydd. Rwy'n credu fy mod wedi cael gormod o hwyl gyda'ch llefarydd Ceidwadol, ac wedi derbyn nifer o ymyriadau y prynhawn yma. Ond fel y dywedais, Lywydd, rwyf bob amser wedi pwysleisio y dylai pob person yng Nghymru, gan gynnwys y rhai o gymunedau mwy difreintiedig, fel y nodwyd y prynhawn yma, gael yr hawl i gael mynediad at weithgarwch diwylliannol a chwaraeon yn ein gwlad, i'w creu, i gymryd rhan ynddynt ac i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ynddynt. Mae blynyddoedd o gyni wedi niweidio ein gwead diwylliannol yn ogystal â'n gwead cymdeithasol, ond wrth inni adeiladu sylfeini adferiad, rhaid inni gofio y dylid gwneud manteision cyflawni twf yn gynhwysol drwy sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad ac elwa o'r cyfleoedd diwylliant a chwaraeon gwych ledled Cymru. Diolch i'r Llywydd. Diolch i aelodau'r pwyllgor am eu hymrwymiad yn y gwaith hwn ac am graffu ar gyfer y dyfodol hefyd.

Diolch, Llywydd dros dro. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Soniodd Gareth am 

'angori mewn hanes, ond eto'n edrych tuag at ein dyfodol.'

Ac mae'r celfyddydau, yn arbennig, yn angor. Maen nhw'n ein lleoli ni mewn amser; maen nhw'n talu teyrnged i'n gorffennol ni, ein safleoli ni tuag at y dyfodol. Roedd rhai o'r sylwadau eraill roeddem ni wedi eu clywed efallai ddim yn ymwneud yn arbennig â'r adroddiad. Mae'n siom, mewn ffordd, fod hynny bron wedi bod yn distraction o beth oedd pwrpas ein dadl y prynhawn yma.

Ond efallai mewn ymateb i beth o hynny y caf gynnig geiriau Raymond Williams fod diwylliant yn gyffredin, mae diwylliant yn galeidosgop—mae i fod i uno, nid yw i fod i rannu; dylid ei ddathlu yn ei holl amrywiaeth wych a lliwgar. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylem i gyd ei gadw mewn cof yn y dadleuon hyn.

Soniodd Heledd am ymateb rhai yn y sector i'n adroddiad ni, ac, ie, mae yna densiwn yma achos roeddech chi wedi sôn am fel mae cefnogaeth wedi cael ei roi i gymaint o bobl yn y gorffennol sydd wedi dangos gwydnwch yn wyneb cymaint o heriau yn y byd celfyddydau. Mae cymaint o bobl sydd yn gweithio yn y celfyddydau yn gwneud hynny oherwydd eu hangerdd. 

16:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Efallai fod y gair Saesneg 'passion' yn cyfleu'r naws yn well yma, oherwydd yn y gair hwnnw gallwch weld y dioddefaint sy'n gynhenid i'r profiad o'r angerdd hwnnw'n llawer gwell. Ni ddylai fod rhaid iddi fod felly.

Gofynnodd Heledd beth fydd yn digwydd nesaf, y cam nesaf. Rydym ni eisiau adeiladu ar beth rydym ni wedi'i weld. Rydym ni'n croesawu hynny, ond dŷn ni eisiau i hwnna fod yn gam cyntaf yn unig, fel dŷn ni wedi'i croesawu. Fel roedd Heledd yn dweud, mae'r celfyddydau yn greiddiol i bwy yr ydym ni fel cenedl ac fel pobl.  

Dywedodd Alun nad yw'r adroddiad hwn yn ymwneud cymaint â manylion ag y mae â hanfodion. Ydy, mae'n ymwneud â'r lle elfennol sydd gan ddiwylliant a chwaraeon yn ein seice. A chlywsom amddiffyniad pwerus o ddiwylliant gan Alun; fe'i mwynheais yn fawr. Efallai fod rhywfaint o'r ddadl, unwaith eto, wedi crwydro dros ffiniau'r adroddiad. Efallai ei fod yn dangos eto pa mor hanfodol bwysig yw diwylliant a chwaraeon i'n gwaith yma yn y Senedd, pa mor bwysig ydynt i'r ffordd Gymreig. Clywsom yn glir gan Alun sut y mae'r argyfwng wedi'i weld yn y sectorau hyn, sut y mae hynny wedi'i amlygu. Nid yw diwylliant yn digwydd mewn gwactod, meddai Alun, er, yn onest, gall ddigwydd ymhlith sugnwyr llwch a theiars. Mae'n cael ei ddathlu yn ei holl gymhlethdod anhrefnus. Mae, unwaith eto, yn sylfaenol.

Nawr, canolbwyntiodd John ar chwaraeon llawr gwlad a'r agenda ataliol, y cyfleoedd i bobl ifanc, gan wthio ar Lywodraeth Cymru i gael strategaeth ag iddi fwy o ffocws, yn enwedig ar gyfer cymunedau difreintiedig. John, roedd hynny i'w groesawu'n fawr. Dyna oedd pwnc ymchwiliad cyntaf ein pwyllgor yn y Senedd hon. Mae'n haeddu bod yn uchel ar yr agenda bob amser, felly roeddwn i'n ddiolchgar iawn. Mae bob amser yn wych clywed Aelodau nad ydynt yn rhan o bwyllgor yn ymateb yn y dadleuon hyn, felly fe wnaeth hynny gyfoethogi ein dadl. Diolch yn fawr am hynny, John.

A diolch i'r Gweinidog. 

Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb. Rwy'n credu bod galwad gyffredinol ac awydd gan yr Aelodau i feddwl yn fwy hirdymor sut y gellir goresgyn yr argyfyngau hyn. Mae'n sicr yn braf clywed bod y Gweinidog wedi dweud y byddwch chi'n parhau i hyrwyddo'r sector, y byddwch chi'n parhau i wthio am hyn. Fel pwyllgor, rwy'n gwybod y byddwn am weld y camau pellach hyn. Fe wnaethoch chi siarad am yr egin gwyrdd a byddwn yn sicr eisiau gweld sut y maent yn tyfu, oherwydd maent yn enghreifftiau gwych o'r hyn sy'n digwydd, o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ariannu. Ac rydym wedi gweld enghreifftiau o hynny hefyd yn ein tystiolaeth. Maent i'w dathlu. Maent i'w cymeradwyo. 

Hoffwn gyfeirio'n ôl at eiriau Alun, ei fod yn ymwneud â'r hanfodol yn ogystal â'r penodol. Rwy'n gobeithio, yn hynny o beth, y bydd y Llywodraeth yn ailystyried ei hymateb i'n hargymhelliad 4 ar wariant ataliol. Rwy'n gobeithio'n fawr hefyd, pan ddywedodd y Gweinidog fod y gyllideb derfynol yn arwydd o fwriad yn y dyfodol—. Un gymhariaeth y tynnwyd fy sylw ati, mewn llythyr gan Weinidog yr Alban at y pwyllgor diwylliant yn Senedd yr Alban a ddilynodd ei chraffu ar ei chyllideb ddrafft ei hun, dywedodd y Gweinidog:

'Mae Llywodraeth yr Alban yn gwerthfawrogi'r sector diwylliant yn fawr...dangosodd ei hyder...drwy ddarparu £34 miliwn arall yn 2025/26 gan godi'r cynnydd hyd yma i £50 miliwn y flwyddyn'.

Ac ânt ymlaen i ddweud bod bwriad i gyrraedd £100 miliwn bob blwyddyn erbyn 2028-29. Mae'r llythyr hwnnw'n cyfeirio at yr effaith gadarnhaol y mae diwylliant yn ei chael ar yr economi ac ar iechyd pobl; wrth gwrs, gellir dweud yr un peth am chwaraeon hefyd. 

Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl a gawsom y prynhawn yma, a'r ymateb a welwyd yn y gwahanol sectorau i'r adroddiad hwn, yn helpu i ganolbwyntio meddyliau yn y Llywodraeth nawr, mewn Llywodraethau yn y dyfodol hefyd, ynglŷn â'r hyn a all fod yn bosibl. Oherwydd nid oes unrhyw beth yn anochel ynglŷn â diwylliant a chwaraeon yn cael eu gweld weithiau, ac mae llawer o bobl wedi cyfeirio at hyn, naill ai fel pethau 'braf i'w cael' neu 'foethusrwydd', oherwydd—. Siaradodd Gareth, unwaith eto, ynglŷn â sut y mae diwylliant a chwaraeon yn ein hangori mewn amser. Maent yn gwneud hynny. Mae hon yn foment mewn amser yr ydym yn ei phrofi, ond fel y gwelsom, fe ddaw ar ôl degawd a mwy o doriadau ariannol, ac maent wedi gadael y sectorau hyn yn fregus, maent wedi eu gadael heb ddigon o adnoddau. Ac mae'n rhaid cywiro hynny ar gyfer y foment hon, ond hefyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Nawr, dylai gwariant y pen ar y meysydd hanfodol hyn fod yn debyg i rai cenhedloedd tebyg. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu strategaeth, gweledigaeth, cyfeiriad i'r sectorau hyn, fel rydym wedi'i ddweud yn yr adroddiad. Fel arall—a hoffwn orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd—mae perygl difrifol y byddai Cymru'n cael ei gadael ar ôl o ran cynigion a chyflawniadau diwylliant a chwaraeon. Gallai beryglu agweddau ar ein cymeriad fel cenedl. Gallai diwylliant a chwaraeon ddod yn fraint i'r cyfoethog a'r ychydig. Gallai ein pobl ifanc gael eu hamddifadu o gyfleoedd i archwilio eu doniau, i gael hapusrwydd o rai o'r pethau sy'n gwneud bywyd yn werth ei fyw.

Bwriad ein hadroddiad yw bod yn alwad ar Lywodraeth Cymru i ddihuno. Ni all y sefyllfa hon barhau. Rydym yn wynebu argyfwng nad yw wedi diflannu. Mae diwylliant a chwaraeon yn hanfodol. Maent angen, ac maent yn haeddu, buddsoddiad a gweledigaeth barhaus a chynyddol.

16:50

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llwon neu gadarnhad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru

Eitem 9 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, llwon neu gadarnhad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru. Galwaf ar James Evans i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8864 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylai Rheolau Sefydlog y Senedd roi pŵer yn ôl disgresiwn i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru sy'n ei alluogi i’w gwneud yn ofynnol i dystion dyngu llw neu roi cadarnhad wrth roi tystiolaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw rydym yn cofio'r rhai rydym wedi'u colli. Rydym yn cydnabod yr aberth dwfn a wnaed gan unigolion, teuluoedd a'n gwasanaethau rheng flaen. Rydym yn cydnabod y baich parhaol, emosiynol, economaidd a chymdeithasol, a roddodd y pandemig ar ein cymunedau ledled Cymru.

Fel Ceidwadwyr Cymreig, fel pleidiau eraill yn y Siambr hon, fe wnaethom ymuno â phwyllgor diben arbennig COVID-19 mewn ewyllys da, gan ymrwymo i weithio gyda'n gilydd yn adeiladol, yn drawsbleidiol, i gael yr atebion y mae teuluoedd mewn profedigaeth yn eu haeddu, ac i sicrhau bod y cyd-destun Cymreig penodol hwnnw, a allai gael ei anwybyddu yn yr ymchwiliad ledled y DU, yn cael ei ddeall a'i graffu'n briodol i'r graddau llawnaf posibl. Credwn ei bod yn iawn fod Rheolau Sefydlog y Senedd yn cael eu diwygio i roi pwerau yn ôl disgresiwn hanfodol i'r pwyllgor: y gallu i ofyn i dystion roi tystiolaeth dan lw neu gadarnhad.

Nid yw hwn yn gynnig dramatig na digynsail. Mae gan ymchwiliad statudol yr Alban bŵer eisoes i orfodi tystiolaeth dan lw. Mae'n fecanwaith sylfaenol sy'n helpu i atgyfnerthu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y broses, ac mae'n sicrhau difrifoldeb y dystiolaeth, yn enwedig wrth fynd i'r afael â materion mor bwysig ag iddynt ganlyniadau mor fawr, fel y rhai y mae'r pwyllgor yn edrych arnynt ar hyn o bryd. Rydym yn deall bod rhai wedi mynegi pryderon y gallai caniatáu i'r pwyllgor weinyddu llwon atal rhai tystion rhag camu ymlaen, ond rwyf am fod yn hollol glir: hyd y gwn i, nid oedd yn fwriad gan y pwyllgor erioed i gymhwyso'r pŵer hwn yn eang. Roedd i'w ddefnyddio mewn perthynas â swyddogion cyhoeddus, Gweinidogion a chyn-Weinidogion yn unig, y rheini mewn swyddi o awdurdod y mae eu penderfyniadau wedi effeithio'n uniongyrchol ar gwrs y pandemig yma yng Nghymru. Fel y dywedais, roedd y pŵer hwn i fod yn ôl disgresiwn, wedi'i gymhwyso'n ofalus ac yn gymesur. Ond hebddo, rydym mewn perygl o danseilio hygrededd canfyddiadau'r pwyllgor a hyder y bobl sy'n chwilio am y gwir.

Er gwaethaf cydnabyddiaeth y Farwnes Hallett ei hun na all ymchwiliad yn y DU roi sylw llawn i brofiad Cymru, mae'n destun mwy o bryder fyth fod Plaid Lafur Cymru yma yn parhau i wrthod arfogi ein pwyllgor â'r offer angenrheidiol i wneud y gwaith yn iawn. A bydd llawer o bobl yma a thu allan i'r Siambr hon yn gofyn pam. Pam gwrthod yr offer i'r pwyllgor? Beth sydd i'w guddio? Bydd pobl yn edrych ar y bobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn heddiw ac yn penderfynu sut i bleidleisio.

Mae yna anghysondeb trawiadol yma hefyd, onid oes? Mae ASau Llafur yn San Steffan yn dadlau dros gyfraith Hillsborough, a fyddai'n ymgorffori'r egwyddorion fod rhaid i swyddogion cyhoeddus ddweud y gwir wrth roi tystiolaeth. Eto i gyd, yma yng Nghymru, mae Llafur Cymru yn gwrthwynebu mesur llawer mwy cymedrol. Mae'r gwrthddweud hwnnw'n codi cwestiynau difrifol ynglŷn â gwir ymrwymiad y Llywodraeth hon i fod yn agored a chaniatáu i'r pwyllgor gael yr atebion sydd eu hangen arnynt ac y mae teuluoedd ledled Cymru yn eu haeddu.

Rhaid inni hefyd gofio'r rhybuddion a godwyd gan y comisiynydd pobl hŷn ym mis Mai 2020 a'r ymateb gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd pryderon difrifol ynglŷn â thriniaeth pobl hŷn mewn lleoliadau gofal. Mae'r materion hyn yn galw am ymchwiliad trylwyr a meddylgar, nid un sy'n cael ei ddal yn ôl gan ymyrraeth wleidyddol. Dyna pam fy mod i'n gwneud ymrwymiad cadarn heddiw i'r teuluoedd a'r rhai sydd eisiau atebion: bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn sefydlu ymchwiliad annibynnol llawn, dan arweiniad barnwr i'r modd y cafodd pandemig COVID-19 ei drin yng Nghymru os ydym yn ddigon ffodus i gael cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru i ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru. Nid wyf yn gwneud addewidion na allaf eu cadw, ac rwy'n rhoi fy ymrwymiad i'r teuluoedd heddiw y byddwn yn gweithredu'r ymchwiliad hwn. Dim ond ymchwiliad o'r fath—un gwirioneddol annibynnol, o dan oruchwyliaeth farnwrol—sy'n mynd i allu cynnig y craffu cynhwysfawr, y tryloywder a'r ymddiriedaeth y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

Ond yma nawr, rwy'n dweud wrth yr holl Aelodau ar draws y Siambr hon fod angen inni droedio'n ofalus iawn yma. Rydym yn sefydlu pwyllgorau i graffu ar y gwaith a wnawn yma, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod gan bawb sy'n edrych ar y pwyllgorau hyn hyder llwyr fod y gwaith a wnânt yn cael ei wneud yn briodol ac yn agored. A dyna pam y mae'n rhaid inni roi'r offer i'n pwyllgorau wneud hynny, yr offer sydd yno, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, i ganiatáu i hyn ddigwydd. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd; mae'n rhywbeth sydd yno eisoes.

Felly, rwy'n annog Aelodau ar draws y Siambr heddiw i gefnogi'r cynnig hwn, i gefnogi'r gwelliannau i'r Rheolau Sefydlog. Gadewch inni roi'r mecanwaith sydd ei angen ar y pwyllgor i gyflawni ei bwrpas—i ddod o hyd i'r gwirionedd, i anrhydeddu'r rhai a gollwyd ac i sicrhau bod Cymru'n fwy parod ar gyfer y dyfodol. Oherwydd gallaf eich sicrhau nad yw'r teuluoedd hynny na neb yng Nghymru eisiau dychwelyd at y dyddiau tywyll hynny byth eto. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:55

Fe brofodd COVID i fod yn hollt anferthol mewn cymdeithas, onid oedd? A hollt mewn mwy o ffyrdd nag un. Mae gennym ni oes pre-COVID ac oes post-COVID, gyda phobl yn mesur amser digwyddiadau pwysig yn eu bywydau yn ôl y digwyddiad yna. Fe ddangosodd hollt cymdeithasol anferthol hefyd, gyda'r mwyaf o bobl ddifreintiedig yn dioddef canlyniadau llawer iawn gwaeth na'r haenau mwy breintiedig mewn cymdeithas. Roedd hollt amlwg rhwng y cenedlaethau, gyda phlant yn dioddef yn gymdeithasol ac yn ddatblygiadol, a phobl hŷn yn dioddef cyflyrau iechyd corfforol gwaeth.

Yng nghanol hyn i gyd, roedd Llywodraethau a chyrff ar draws y byd yn ymbalfalu am ddatrysiadau mewn sefyllfa amhosib. Dyma argyfwng iechyd cyhoeddus cwbl digynsail heb ddim glasbrint er mwyn gwybod sut roedd ymdopi â'r amryfal argyfyngau oedd yn datblygu yn ei sgil. Pa gamau y dylid eu cymryd er mwyn atal pobl rhag dal yr haint? Sut roedd gwarchod y bregus? Pa adnoddau oedd angen eu neilltuo ac ymhle? Pwy oedd â chyfrifoldeb dros gyflawni rhai o'r tasgau roedd angen inni ymgymryd â nhw? A pha systemau newydd oedd angen eu creu er mwyn mynd i'r afael â'r gwahanol broblemau oedd yn dod i'r wyneb yn sgil yr haint? A degau o filoedd o gwestiynau a heriau eraill nad oedd wedi cael eu hystyried yn llawn.

Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n annheg—yn wir, mae'n anghywir—dweud bod un penderfyniad ar draul penderfyniad arall yn anghywir neu'n gywir, oherwydd, fel y soniais, roedd y cwbl yn ddigynsail. Roedd yn rhaid gwneud y penderfyniadau gorau ar y pryd gyda'r wybodaeth oedd wrth law a'r cyngor oedd yn dod i'r fei gan bobl oedd efo gwell dealltwriaeth. Felly, nid diben unrhyw ymchwiliad ydy er mwyn ffeindio bai. Diben ymchwiliad ddylai fod er mwyn dysgu'r gwersi er mwyn osgoi camgymeriadau a sicrhau ein bod ni mewn lle gwell wrth baratoi at ddigwyddiadau catastroffig eraill—ac mi fydd yna ddigwyddiad arall, o bosib o fewn ein hoes ni—boed yn amgylcheddol, yn iechyd cyhoeddus neu'n rhai eraill.

Ein dyletswydd foesol ni felly ydy dysgu'r gwersi'r gorau y gallwn ni er mwyn achub bywydau'r cenedlaethau i ddod. Onid dyna, wedi'r cyfan, ydy meddylfryd yr egwyddor sydd y tu ôl i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol? Os ydyn ni'n derbyn fy hypothesis neu'r thesis yma, yna mae yna ddyletswydd arnom ni fel Senedd i fynd i wraidd y materion yma.

Dydy o ddim yn gyfrinach nad ydw i'n credu mai pwyllgor pwrpas arbennig ydy'r ffordd ymlaen i gyflawni hyn, ac y byddai'n llawer iawn gwell gen i weld ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i mewn i COVID-19 yma yng Nghymru. Ond nid dyna lle'r ydyn ni, felly rwyf i a Phlaid Cymru yn barod i chwarae ein rhan yn y pwyllgor yma mewn ewyllys da er mwyn trio adnabod y cwestiynau perthnasol a chanfod yr atebion gorau. Er mwyn gwneud hynny, mae gofyn arnom ni i gasglu tystiolaeth, gan fod yn sicr bod y dystiolaeth yna'n gywir ac yn ffeithiol.

Heb dystiolaeth ffeithiol gywir, yna mae'n amhosib dysgu'r gwersi cywir, ac yn bwysicach fyth, mae peryg dysgu'r gwersi anghywir, gan roi bywydau cenedlaethau'r dyfodol yn y fantol. Mae'n rhaid felly cael at y gwir. Dyna pam fy mod i mor gadarn dros fynnu bod tystion yn tyngu llw, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cadw at ein cytundeb moesol gyda phobl Cymru ac yn dod at y gwir er mwyn gwarchod lles y rhai a ddaw ar ein hôl ni.

Dwi wedi clywed dadleuon o du y Blaid Lafur yn dweud na ddylid tyngu llw oherwydd bod hynny'n ddigynsail, sydd wrth gwrs yn wir, ond roedd COVID ei hun yn ddigynsail; mae creu pwyllgor diben arbennig yn ddigynsail; mae cael cyd-gadeiryddiaeth ar bwyllgor yn ddigynsail. Hynny ydy, mae popeth am hyn yn ddigynsail, felly dydy'r ffaith nad ydy'r sefydliad cymharol newydd yma heb wneud rhywbeth yn flaenorol ddim yn rheswm dros beidio â'i gwneud rŵan.

Dwi hefyd yn clywed y ddadl fod yna bryder y byddai pobl yn methu fforddio cyngor cyfreithiol, sef pam ein bod ni wedi dod i'r cyfaddawd y soniodd James amdano, y cyfaddawd ar y pwyllgor, gan ddweud na fyddai disgwyl i bobl â phrofiad byw dyngu llw, ond y byddai yna ddisgwyl i bobl oedd yn gwneud penderfyniad i wneud hynny.

Ond, mae yna un workaround hawdd iawn, wrth gwrs, i hyn oll, sef dywedwch y gwir. Peidiwch â chelu dim. Rhyddhewch yr wybodaeth. Os ydy'r pwyllgor yma a'i chanfyddiadau am gael unrhyw hygrededd a chefnogaeth gyhoeddus, yna mae cyfrifoldeb moesol arnom ni i gael at y gwir, yr holl wir, a dim byd ond y gwir.

17:00

Bûm yn myfyrio cyn dod i'r ddadl hon heddiw ar y ffaith ei bod mewn gwirionedd yn bum mlynedd a thri diwrnod ers y dyddiad pan gyhoeddodd Prif Weinidog y DU y cyfyngiadau symud yn y DU o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae'n bum mlynedd union, am 1 p.m. heddiw, ers i'r cyfyngiadau symud hynny ddod yn orfodadwy yn gyfreithiol. Felly, mae’n ddiwrnod amserol heddiw i drafod y mater hynod bwysig hwn.

Fel y mae rhai o fy nghyd-Aelodau wedi'i nodi eisoes, roedd pandemig COVID-19 yn ddinistriol i Gymru, y DU, ac i bobl ledled y byd. Byddwn yn byw gyda'r canlyniadau am ddegawdau i ddod. Ac rwy'n meddwl yn arbennig ar hyn o bryd am ein pobl ifanc, yn enwedig y rheini y bu'n rhaid iddynt ymdopi ac sy’n dal i ymdopi â cholli dysgu sylweddol a rhai o’r effeithiau iechyd meddwl sydd yn ôl pob golwg yn uniongyrchol gysylltiedig â’r cyfyngiadau symud hynny, gyda phlant ysgol yng Nghymru yn colli mwy o ddyddiau ysgol nag mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig. Mae'n rhan o'r cyd-destun hwn sy'n bwysig i ni fel pwyllgor COVID wrth ymgymryd â'n gwaith. Rwy’n aelod o’r pwyllgor COVID yma yn y Senedd, ar ôl ymuno â’r pwyllgor y llynedd, ac rwyf o ddifrif ynglŷn â'r rôl honno—a gwn fod fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor hefyd, fel Mabon ap Gwynfor, sydd eisoes wedi siarad—rydym o ddifrif ynglŷn â'r rôl honno, ac yn rhan o’r rôl honno, mae angen inni sicrhau bod yr offer ar gael i ni fel y gallwn gwblhau’r gwaith hwnnw gyda'r difrifoldeb y mae’n ei haeddu.

Mae'n drist ac yn siomedig i mi nad yw'n ymddangos bod y lefel honno o ddifrifoldeb yn cael ei rhannu gan gyd-Aelodau ar y meinciau Llafur, a rwystrodd yn wreiddiol y cais mawr ei angen am ymchwiliad COVID annibynnol yma yn y DU, ac fel yr amlinellwyd eisoes, y safbwynt ynghylch sefydlu'r pwyllgor diben arbennig, a nawr, i bob golwg—. Wel, nid i bob golwg yn unig, maent yn amlwg yn rhwystro’r cais gan aelodau’r pwyllgor i orfodi tystion sy’n dod ger ei fron i dyngu llw eu bod yn dweud y gwir.

Ac fel y nododd Mabon ap Gwynfor, beth sydd o'i le ar orfodi pobl i ddweud y gwir? Onid dyna sail ein democratiaeth a sail unrhyw graffu. Mae a wnelo â throi pob carreg i ddeall beth sydd oddi tani, fel y gall pobl gyrraedd y gwir. Ac mae’n amlwg fod gwleidyddion Llafur, am ba bynnag reswm, yn rhwystro'r gwaith craffu priodol y dylai pobl Cymru ei ddisgwyl.

Fel y nododd James Evans, nid mater o sicrhau'n unig fod pawb sy'n dod gerbron y pwyllgor yn tyngu llw oedd hyn. Roedd yn bendant wedi’i strwythuro o amgylch y penderfynwyr hynny, er mwyn galluogi pobl a oedd am rannu eu profiad bywyd i beidio â theimlo peth o’r pwysau a’r tensiwn y gallai hynny ei achosi. Mae'n ymagwedd deg a rhesymol tuag at un o'r materion mwyaf dinistriol sydd wedi wynebu ein cenedl, yn sicr yn ystod cyfnod datganoli.

17:05

Diolch. Roeddech chi ar y pwyllgor. Roeddwn i ar y pwyllgor. A ydych chi'n cofio’r drafodaeth ynghylch y llw hwnnw? Roedd y bleidlais, os cofiaf yn gywir ac os ydych chi'n cytuno â mi, yn bedwar i ddau, ac felly dyna oedd llais democrataidd y pwyllgor, a dylai’r llais hwnnw gael ei barchu gan y Llywodraeth.

Ie, rydych chi'n llygad eich lle, ac rwy'n siomedig nad yw hynny wedi cael ei ystyried gyda'r cais hwn, fod mwyafrif y pwyllgor o blaid i'r offeryn hwn fod ar gael iddo, i'w alluogi i gynnal y gwaith craffu y mae pob un ohonom—neu, wel, y mwyafrif—yn cytuno bod y pwyllgor ei angen.

I fynd yn ôl at y cyd-destun pam fod hyn yn bwysig, gwyddom fod gan Gymru’r gyfradd marwolaethau COVID-19 uchaf yn y DU, ac mae teuluoedd y rheini sydd wedi marw neu wedi dioddef o ganlyniad i hyn—ac efallai fod rhai ohonynt yn y Siambr heddiw, sydd wedi cael y profiadau hynny hefyd—yn haeddu ymchwiliad llawn a thrylwyr i’r penderfyniadau a wnaed gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar y pryd. Gwnaeth y Llywodraeth yma yng Nghymru benderfyniadau ar wahân i'r pethau eraill a ddigwyddodd ar draws y Deyrnas Unedig, ac fe’u gorfodwyd i wneud hynny. Roedd yn ofynnol iddynt wneud y penderfyniadau hynny. Gallent fod wedi gwneud yr un fath â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond fe wnaethant ddewis peidio. Fe wnaethant ddewis gwneud pethau’n wahanol, ac roedd hynny’n ddewis. Ond mae angen craffu’n briodol ar y dewisiadau hynny, yn hytrach na bod hynny'n cael ei osgoi, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd yn ôl pob golwg.

Ac fel y nodwyd eisoes, nid yw hwn o reidrwydd yn gynsail newydd sy'n cael ei osod. Yn yr Alban, mae ymchwiliad ar wahân yn cael ei gynnal, lle mae tystion gwysedig yn rhoi tystiolaeth ar lw, a chânt eu gorfodi i gyflwyno dogfennau y gofynnir iddynt eu cyflwyno hefyd. Felly, nid ydym yn galw am newid radical yn y lle hwn heddiw. Mae’n fesur a fydd yn caniatáu inni gyflawni’r dasg y mae’r Senedd hon wedi gofyn i ni ei chyflawni, dyna i gyd. Ac mae’r naw bwlch a nodwyd gan y pwyllgor ym modiwl cyntaf yr adroddiad yn deilwng o’r ymchwiliad pellach a thrylwyr a llawn hwnnw, a bydd llw a chadarnhad yn caniatáu inni wneud hynny’n iawn.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, bydd y cynnig ger ein bron heddiw yn galluogi Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru i gael y pŵer i ofyn i dystion perthnasol dyngu llw neu roi cadarnhad wrth roi tystiolaeth. Mae’n gais sy’n parchu’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod COVID-19, yn parchu’r teuluoedd sy’n brwydro dros hyn, a dylai Aelodau’r Senedd bleidleisio o'i blaid yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

A gaf i ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig pwysig hwn? Cwestiwn syml: sut y cyraeddasom y pwynt hwn? Nid fy nghwestiwn i, ond cwestiwn COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru ar X heddiw. A chredaf mai dyna sydd angen inni fyfyrio arno: sut y cyraeddasom y pwynt hwn? Pam eu bod yn gorfod ymladd am gyfiawnder? Pam fod rhaid i'r grŵp hwn fodoli? Ac maent wedi bod yn ymladd; maent wedi bod yn gweithio'n galed am atebion.

Ac yn sicr, dyna sydd yn y fantol yma, ac yn sicr, gall pob un ohonom weld, drwy rwystro'r cais hwn i dyngu llw—nid pawb, fel y clywsom—fod pobl yn credu bod rhywbeth i'w guddio, ein bod yn ceisio rhwystro'r gwirionedd rhag dod allan. Oherwydd roedd Mabon ap Gwynfor yn gwbl gywir pan ddywedodd nad pwyntio bysedd yw hyn, mae a wnelo â dysgu gwersi. Rwyf bob amser wedi dweud na fyddwn wedi bod yn awyddus i gymryd yr holl gyfrifoldeb hwnnw ar y pryd, a chredu bod pob penderfyniad yn gywir. Mae'r rhan fwyaf o bobl y siaradais â hwy am wybod beth oedd y camgymeriadau a sut y gwnawn unioni hynny ar gyfer y dyfodol, gan ei fod yn mynd i ddigwydd eto.

Rydym wedi cael gwybod gyda newid hinsawdd hefyd y bydd hynny'n cael effaith ar glefydau pandemig yn y dyfodol, ac yn anffodus, nid yw'n fater o os bydd yn rhaid inni ymdrin â sefyllfa, ond pryd. A gallai hynny fod yn gynt yn hytrach na'n hwyrach, yn anffodus. Felly, yr hyn yr hoffwn ei wybod yw: beth sy'n mynd i fod yn wahanol? Sut y gwnawn sicrhau bod pob un wers a ddysgwyd yn cael ei rhoi ar waith? Oherwydd os na ddysgwn y gwersi hynny, ble fydd y gwerslyfr hwnnw y gall rhywun droi ato a meddwl, 'Dyma sut y'i gwnaf. Sut rydym yn ei ddiweddaru?' Felly, rwy'n rhwystredig iawn fod y ffordd yr awn ati i wneud hyn yng Nghymru yn gwneud cam â'r union bobl rydym i fod i'w cynrychioli.

Mae’r ffaith bod cymaint o amser y pwyllgor wedi'i dreulio'n penderfynu a phennu hyn, a’n bod mewn gwirionedd yn treulio amser gwerthfawr yn dadlau a ddylid cael llw heddiw, yn hytrach na bwrw ymlaen â’r gwaith, yn peri cryn rwystredigaeth i mi.

17:10

Diolch am dderbyn yr ymyriad, Heledd. Tybed a fyddech chi hefyd yn cytuno â mi, felly, fod y penderfyniad hwn gan y grŵp Llafur i geisio rhwystro hyn hefyd yn peryglu dilysrwydd ac ymddiriedaeth yn y sefydliad hwn hefyd. Dyma’r peth sydd wedi cael un o’r effeithiau mwyaf yma yng Nghymru, a thrwy rwystro hyn, mae ymddiriedaeth yn y sefydliad hwn a gwaith y sefydliad hwn yn cael eu peryglu'n ddiangen.

Rwy'n credu bod risg, yn sicr. Dyna pam y byddwn wedi cefnogi ymchwiliad COVID penodol i Gymru. Rydym wedi bod yn gyson o ran hynny. Rwy’n llwyr gefnogi’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban, gan fod profiad pawb o COVID yn wahanol. Cafodd pawb eu heffeithio'n wahanol. Clywais heddiw—neu ddoe, mewn gwirionedd—roeddwn yn siarad â dau unigolyn ifanc na chafodd arholiadau ar y pryd. Fe wnaethant fwynhau COVID, am eu bod wedi cael llawer o amser y tu allan yn chwarae. Mae ganddynt atgofion melys iawn o'r heulwen y mis Mai hwnnw, pan oeddent adref o'r ysgol. Ond i eraill, roedd yn gwbl drawmatig ac yn rhywbeth a fydd yn aros gyda hwy am weddill eu hoes. Mae pobl yn dal i ddioddef, mae pobl yn dal i fethu dod dros y ffaith na fu modd iddynt ffarwelio â pherthnasau, na allent fynychu angladdau. Felly, ein dyletswydd iddynt hwy yw bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Felly, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried. Mae angen inni allu symud ymlaen.

Cafwyd ymrwymiad hefyd, pe na bai ymchwiliad y DU yn gwneud gwaith ymchwiliad COVID Cymru, y byddai Llywodraeth Cymru yn ailystyried. Credaf ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw. Bydd cyfleoedd eraill i drafod, ond er mwyn pob un o’r rhai sy’n dal i ymladd dros gyfiawnder, ni ddylent orfod gwneud hynny, mae angen inni wneud yn well, ac rwy’n siomedig ynghylch ymagwedd Llywodraeth Cymru at hyn.

Fel clinigydd, ni feddyliais erioed y byddwn yn dweud wrth bobl am ddweud y gwir wrthyf neu ddweud y gwir wrthym. Mae’n drueni fod fy nghyd-Aelodau a minnau wedi gorfod cyflwyno’r ddadl hon heddiw. Pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn ymladd i sicrhau bod tystion yn rhoi tystiolaeth dan lw? Ond dyma ni.

Yn ystod pandemig COVID-19, roedd Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo mewn gwneud pethau’n wahanol, gan nodi bod eu gweithredoedd yn achub bywydau yng Nghymru, pan fo dadansoddiad o farwolaethau yn ystod y pandemig yn dangos yn hytrach fod y gyfradd farwolaethau o ganlyniad i COVID-19 wedi’i safoni yn ôl oedran yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Roedd marwolaethau cysylltiedig â COVID yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban hefyd yn sylweddol is. Beth a wnaeth Cymru mor anghywir? Dyma pam fod angen ymchwiliad cyhoeddus annibynnol penodol ar Gymru, dan arweiniad barnwr, i’r modd y cafodd pandemig COVID-19 ei drin gan Lywodraeth Cymru. Ond rhwystrwyd hynny gan Lywodraeth Cymru, a dyma ni, bum mlynedd a thri diwrnod ar ôl dechrau'r pandemig, ac maent yn dal i geisio rhwystro ymdrechion i gyrraedd y gwir.

Cafodd Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ei sefydlu er mwyn tawelu’r galwadau cynyddol am ymchwiliad Cymru gyfan. Mae’r pwyllgor diben arbennig fel defnyddio plastr i drin clwyf bwled, gan iddo gael ei sefydlu i nodi’r bylchau yn yr ymchwiliad COVID, a gymerodd dair wythnos yn unig i geisio hidlo blynyddoedd o gynlluniau cyn pandemig ac i archwilio’n fanwl bob penderfyniad a wnaed ynglŷn â chyfyngu ar nifer yr achosion ac achub bywydau yng Nghymru, rhywbeth y cyfaddefodd y Farwnes Hallett ei fod yn amhosibl. Felly, nawr, mae'n rhaid i'r pwyllgor diben arbennig nodi'r bylchau a'u llenwi, ond mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi clymu eu dwylo y tu ôl i'w cefnau.

Nid wyf yn eiddigeddus o'r dasg sy'n wynebu'r Cyd-gadeiryddion; mae Tom a Joyce yn gwneud gwaith rhagorol, er eu bod wedi'u llyffetheirio. Er mwyn gwneud eu tasg yn haws, er mwyn ceisio ennyn hyder y cyhoedd yng ngwaith eu pwyllgor, fe wnaethant ofyn yn syml iawn i'r pwyllgor allu ei gwneud yn ofynnol i dystion roi tystiolaeth o dan lw. Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 y gallu i’r Senedd hon alw ar dystion i roi tystiolaeth o dan lw, cais syml a ddylai fod wedi’i gymeradwyo’n syml gan y Pwyllgor Busnes. Ond cafodd y cais ei rwystro gan reolwr busnes Llywodraeth Cymru, felly nawr, bydd y cyhoedd yn cwestiynu'r cymhellion y tu ôl i'r weithred hon. Beth sydd gan Lywodraeth Cymru i’w guddio? Pam nad ydynt eisiau rhoi tystiolaeth dan lw? Nid oes unrhyw Weinidog neu gyn-Weinidog yn bwriadu dweud celwydd wrth y pwyllgor, felly pam ddim cytuno i’r cais?

Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried eu safbwynt ar hyn. Yn absenoldeb ymchwiliad priodol, gadewch inni o leiaf roi rhyw fath o gyfle i'r pwyllgor diben arbennig gyrraedd y gwir. Rhowch y gallu iddynt alw tystion dan lw. Rwy'n erfyn ar yr Aelodau i gefnogi’r teuluoedd a ddioddefodd brofedigaethau a’r rhai a gafodd salwch hirdymor o ganlyniad i COVID-19 drwy gefnogi ein cynnig a chymryd cam yn nes at ddysgu’r gwir a’r gwersi o’r pandemig hwn. Diolch yn fawr.

17:15

Mae llw yn addewid i dduw, ac mae cadarnhad yn addewid ar anrhydedd personol unigolyn. Mae'r ddau yn addewidion rhwymol i ddweud y gwir wrth roi tystiolaeth. Ni ddylai unrhyw unigolyn, corff, Llywodraeth na phlaid sy’n bwriadu dweud y gwir, felly, wrthwynebu tyngu llw neu roi cadarnhad wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru. Fel y dywedodd COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru wrthyf, mae pwyllgor y Senedd yn ymateb uniongyrchol i ymchwiliad y DU, a’i ddiben yw nodi bylchau yn ystyriaeth ymchwiliad y DU o faterion Cymreig. O dan yr amgylchiadau hyn, meddent—ac o ystyried bod yr holl dystiolaeth yn ymchwiliad y DU dan lw—er mwyn i’r pwyllgor fod yn gredadwy ac am resymau'n ymwneud â chydraddoldeb, rhaid ei fod yn dilyn y dylid rhoi pŵer yn ôl disgresiwn i’r pwyllgor ei gwneud yn ofynnol i dystion dyngu llw.

Fel y dywedasant hefyd, y cwestiwn mwy yw pam nad yw Llywodraeth Cymru eisiau hyn. Fe wnaethant wrthod ymchwiliad i Gymru, nid ydynt wedi gwthio am fwy o gynrychiolaeth i Gymru yn ymchwiliad y DU, ac a dweud y gwir, maent wedi elwa o'r craffu lleiaf posibl. Er enghraifft, meddent, ym modiwl 4—brechlynnau—ni ofynnwyd yr un cwestiwn gan yr ymchwiliad i un tyst yn Llywodraeth Cymru, er bod pentyrrau o ddatgeliadau ynghylch sut yr aeth Llywodraeth Cymru ati i ohirio brechlynnau mewn cartrefi gofal am bedair wythnos. Gyda phwyllgor ymchwiliad wedi'i osod yn llawn yn y maes gwleidyddol, meddent, yn hytrach nag ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yng Nghymru, nid yw Llywodraeth Cymru am i dystion roi tystiolaeth lafar dan lw. Ni allwn danamcangyfrif effaith niweidiol bosibl y methiant i roi’r pŵer i’r pwyllgor ei gwneud yn ofynnol i dystion dyngu llw neu roi cadarnhad, meddent, gan ychwanegu, 'ac mae hyn yn bwysig’.

Ni waeth beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu, crib hollbwysig y rhewfryn yw mater llw. Pan godais alwadau gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru i ystyried rhoi rhywfaint o flaenoriaeth i blismona ar raglen frechu COVID-19 gyda’r Gweinidog iechyd bedair blynedd yn ôl, fe osgôdd wneud hynny, er bod swyddogion heddlu yn mentro eu diogelwch eu hunain. Diolch i benderfyniad Llywodraeth y DU ar y pryd i gaffael brechlynnau’n gyflym, llwyddodd Llywodraethau ledled y DU i leddfu’r cyfyngiadau mwyaf llym yn ddiogel. Fodd bynnag, dim ond ar ôl iddi ddod yn amlwg ein bod ar ei hôl hi'n ofnadwy o gymharu â gweddill y DU gyda'r pigiad cyntaf a'r ail bigiad y gwnaeth Llywodraeth Cymru, a oedd yn gyfrifol am y rhaglen frechu yng Nghymru, flaenoriaethu hyn. Hyd yn oed wedyn, cysylltodd etholwyr â mi gyda sylwadau megis, 'Rwyf wedi cael llythyr heddiw, a byddaf yn cael fy ail frechiad. Byddaf yn dal i fod hyd at bedair wythnos y tu ôl i fy nghyfoedion yn Lloegr yn enwedig. Rwy'n dal i deimlo bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ennill y ras am y brechiad cyntaf, ond mewn mannau eraill yn y DU, y syniad yw atal yr amrywiad newydd rhag lledaenu yn y lle cyntaf.'

Er i Lywodraeth y DU gyhoeddi ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i’r modd y cafodd pandemig COVID-19 ei drin yn y DU ym mis Mai 2021, ac er i Brif Weinidog yr Alban gyhoeddi dri mis yn ddiweddarach eu bod yn creu ymchwiliad penodol i'r Alban ar effaith penderfyniadau Llywodraeth yr Alban ar sut y cafodd y pandemig ei drin, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod ein ceisiadau dro ar ôl tro am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i’r modd y cafodd y pandemig ei drin yng Nghymru.

Cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar ofal hosbis a gofal lliniarol, yr wyf yn ei gadeirio, ymchwiliad i brofiadau o ofal lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19. Cawsom dystiolaeth a ddangosai, er enghraifft, fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru yn fwy tebygol o brofi prinder meddyginiaeth a staff o gymharu ag ardaloedd eraill yn y DU. Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai profion COVID yn cael eu cynnig i holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal yn Lloegr, dywedodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd i ddechrau nad oedd yn gweld unrhyw werth mewn darparu profion i bawb mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Cyn gwrandawiad modiwl 1 cyntaf ymchwiliad COVID-19 y DU, cadarnhaodd tîm cyfreithiol yr ymchwiliad COVID-19 fod Llywodraeth Cymru wedi methu datgelu’r holl ddogfennau perthnasol i’r ymchwiliad yn nrafft cyntaf eu datganiad tyst a bod yn rhaid i’r ymchwiliad fynd yn ôl at Lywodraeth Cymru am yr eildro i ofyn am ddatgeliad llawn. Mae’r rhain, ac enghreifftiau di-rif eraill, yn atgyfnerthu’r angen i Lywodraeth Cymru ddangos nad oes arnynt ofn atebolrwydd i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru, ac felly, i bobl Cymru. Ac os byddant yn parhau i rwystro cais y pwyllgor am bŵer yn ôl disgresiwn i'w gwneud yn ofynnol i dystion dyngu llw neu roi cadarnhad, bydd y bobl yn gofyn, 'A oes arnynt ofn?'

17:20
Member (w)
Jane Hutt 17:23:21
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Ddirprwy Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ac yn parhau i ddangos ymrwymiad clir i’r broses ymchwilio ac i ddysgu gwersi o bandemig COVID-19. Rydym yn gwneud hyn gan barchu pawb a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig, neu sydd wedi cael eu heffeithio'n fawr gan y digwyddiadau bum mlynedd yn ôl. Wrth imi ddechrau fy nghyfraniad i’r ddadl hon, hoffwn achub ar y cyfle i gydymdeimlo â phawb sy’n dal i alaru ar ôl colli anwylyd, perthynas neu ffrind.

Pan sefydlwyd ymchwiliad COVID-19 y DU, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i weithio gydag ef yn agored ac yn llawn, i gydymffurfio â’i gais am ddatganiadau, i ddatgelu tystiolaeth, i ateb ei gwestiynau wrth iddo archwilio pob agwedd ar y pandemig a sut y gwnaeth ein sefydliadau gwladol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, baratoi ac ymateb. Gwnaethom hyn gan y credwn mai ymchwiliad y DU yw’r unig ffordd i ateb cwestiynau am natur ryng-gysylltiedig yr ymateb cymhleth i’r pandemig. Mae’r ymchwiliad bellach yn clywed tystiolaeth ym modiwl 5, ond mae wedi gwneud llawer o geisiadau ar gyfer y modiwlau i ddilyn.

Wrth gydymffurfio ag ymchwiliad y DU, rydym wedi datgelu degau o filoedd o ddogfennau ac wedi darparu mwy na 150 o ddatganiadau tystion. Mae tystion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gweinidogion, hefyd wedi darparu tystiolaeth lafar mewn gwrandawiadau, gan gynnwys archwilio parodrwydd a'r penderfyniadau a wnaed yn ystod y pandemig.

17:25

Rwy’n derbyn y ffaith eich bod wedi dweud bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan a bod y Llywodraeth yn cymryd rhan yn ymchwiliad y DU. Mae hynny, wrth gwrs, dan lw a chyda chadarnhad. Ac mae llawer o dystiolaeth wedi'i datgelu i'r ymchwiliad hwnnw, ond rydym wedi nodi bylchau, sef pwrpas y pwyllgor diben arbennig, ac mae'n rhaid edrych ar y bylchau hynny yma yng Nghymru. Ond mae arnom angen, felly, i Lywodraeth Cymru ddarparu’r dystiolaeth honno hefyd dan lw, ar yr un lefel ag sy’n digwydd yn yr ymchwiliad. Pam y mae hynny’n cael ei wrthod i Gymru, ond eich bod yn ei wneud gydag ymchwiliad y DU?

Rydym yn sicr yn edrych ymlaen at y ddadl yr wythnos nesaf ar adroddiad cyntaf y pwyllgor diben arbennig. Mae’n bwysig hefyd adrodd i’n Haelodau ar draws y Siambr hon fod dau o swyddogion Llywodraeth Cymru wedi rhoi tystiolaeth yr wythnos hon i fodiwl 5 yr ymchwiliad ar gaffael.

Wrth gwrs, mae hyn, unwaith eto—ac rydym wedi ystyried hyn y prynhawn yma, onid ydym—yn ymwneud â'n hymagwedd at bwyllgorau'r Senedd. Mae gennym ddull tebyg o ymdrin â phwyllgorau’r Senedd a’r natur agored a’r ffordd rydym yn rhoi tystiolaeth. Mae Gweinidogion Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru bob amser wedi ceisio cydweithredu a gweithio gyda phwyllgorau yn y Senedd a’r Cynulliad cyn hynny. Un o gryfderau gwirioneddol democratiaeth yng Nghymru yw bod gennym gydweithredu mor agored rhwng Llywodraeth Cymru a’r Senedd. Credaf fod y drefn uchel ei pharch sydd gennym o drafod safbwyntiau yn rhydd a gonest yn deillio o gydweithredu o'r fath. Nid oes unrhyw beth sy'n nodi bod hynny ar fin newid.

Mae’r cynnig y mae’r Ceidwadwyr wedi’i roi ger ein bron heddiw yn peri pryder mewn sawl ffordd, ac af drwy’r pwyntiau hynny. Mae mater yr amseru; yr wythnos hon, mae'r pwyllgor diben arbennig newydd gyhoeddi ei adroddiad cyntaf—rwyf wedi cyfeirio at hwnnw eisoes—y byddwn yn ei drafod yr wythnos nesaf, y cam cyntaf tuag at gynnig yn gofyn am gydsyniad y Senedd ehangach i gyflawni ei waith. Mae'n annhebygol, felly, fod asesiad wedi'i wneud naill ai o dystion neu dystiolaeth na fyddai'r pwyllgor yn gallu cyflawni ei gyfrifoldebau heb gyflwyno llw.

Mae defnyddio llw o’r fath, yn sgil ei gyflwyno ar gyfer y pwyllgor hwn yn unig, yn amlygu disgwyliad nad yw’r pwyllgor yn credu y bydd yn cael tystiolaeth onest hebddo. O ystyried y goblygiadau i bartneriaid sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol y gellid eu galw i roi tystiolaeth, yr ensyniad yw na ellid ymddiried yn eu tystiolaeth fel arall. Credaf fod hyn yn niweidio'r ysbryd o bartneriaeth y gweithiwn ynddo yng Nghymru. Nid niweidio perthnasoedd a chwestiynu ymddiriedaeth yw unig ganlyniadau anfwriadol gweithred o’r fath.

Onid ydych yn gweld y pwynt rydych chi newydd ei wneud, fod peidio â rhoi’r dulliau gweithredu angenrheidiol i’r pwyllgor graffu ar Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru dan lw yn niweidio’r berthynas waith sydd gan y Llywodraeth â’r Senedd ehangach? Os dywedwch eich bod yn rhoi tystiolaeth dan lw i’r ymchwiliad DU gyfan, beth yw’r gwahaniaeth gyda’r ymchwiliad hwn? Beth yw'r gwahaniaeth?

Wel, mae'n rhaid imi ddweud, Ddirprwy Lywydd, nad yw unrhyw bwyllgor arall wedi ystyried bod llw yn angenrheidiol, ac nid oes unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau wedi bod i warantu ei gyflwyno nawr. Fe ddywedaf eto ein bod yn credu y byddai defnyddio pŵer yn ôl disgresiwn i gyflwyno llw yn llesteirio'r llif rhydd o wybodaeth rhwng pobl sy'n rhoi tystiolaeth a'r pwyllgor diben arbennig. Efallai y gallai'r rheini a wahoddir fod yn fwy amharod i fynychu, neu deimlo y dylent gael cyngor cyfreithiol cyn mynychu, neu—[Torri ar draws.] A wnewch chi wrando os gwelwch yn dda?

Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaf i ofyn i’r Aelodau wrando. Mae’n bwysig fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cael cyfle i ymateb i’r ddadl. Mae pob Aelod wedi cael cyfle i roi eu cyfraniadau mewn heddwch; gadewch inni roi’r un ystyriaeth i Ysgrifennydd y Cabinet.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Llywydd. Dywedaf eto ei bod yn bosibl y gallai'r rheini a wahoddir fod yn fwy amharod i fynychu, neu deimlo y dylent gael cyngor cyfreithiol cyn mynychu, neu'n wir, gallent gadw eu hatebion i ffeithiau'n unig. Ni allwn weld lle gall y manteision a fynegwyd gan eraill heddiw fod yn fwy na risg ac effaith sylweddol y canlyniad hwn.

Mae’n bwysig cofio nad yw’r pwyllgor diben arbennig yn ymchwiliad barnwrol gyda’r trosolwg cyfreithiol annibynnol a’r cyfan a ddaw yn sgil hynny i sicrhau tegwch a chydbwysedd i’r rheini sy’n rhoi tystiolaeth. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae Rheol Sefydlog 17.52 eisoes yn gwneud darpariaeth i Gadeiryddion pwyllgorau gymryd tystiolaeth dan lw. Mae hyn yn bosibl pan fydd tyst wedi cael hysbysiad ffurfiol yn gofyn iddynt fynychu i roi tystiolaeth, a bod rheswm dros hyn. Os bydd llw yn cael ei dyngu a'i dorri, mae'n rhaid bod canlyniadau. Felly, mae’r cynnig yma i’w gwneud yn ofynnol i fynychwyr gwirfoddol roi tystiolaeth dan lw ffurfiol neu gadarnhad yn amlwg yn annerbyniol ac yn amhriodol.

Ddirprwy Lywydd, mae ymchwiliad dan arweiniad barnwr i bandemig COVID-19 sydd wedi'i lunio ac sydd â'r adnoddau i weithredu yn y modd hwn eisoes yn mynd rhagddo, ac mae’n rhaid inni ganiatáu i’r ymchwiliad hwnnw barhau i wneud ei waith pwysig. Byddwn yn parhau i gefnogi’r ymchwiliad hwnnw i sicrhau ein bod yn dysgu’r gwersi er cof am y rheini a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig, ac rydym yn cydymdeimlo â’r teuluoedd a’r ffrindiau sy’n parhau i alaru amdanynt. Mae gennym hanes balch o dryloywder a didwylledd yn y Senedd hon. Ni fyddwn yn cefnogi’r cynnig hwn, a fyddai, yn ein barn ni, yn tanseilio’r gwerthoedd hyn. Ond rydym yn gwerthfawrogi gwaith y pwyllgor diben arbennig, sy'n bwyllgor trawsbleidiol. Rydym yn diolch i’r aelodau am eu gwaith pwysig, ac edrychwn ymlaen at y ddadl yr wythnos nesaf ar eu hadroddiad cyntaf. Diolch yn fawr.

17:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Ein rôl ni fel Aelodau o'r Senedd nad ydynt yn gwasanaethu yn y Llywodraeth yw craffu, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am y penderfyniadau y mae'n eu gwneud, gofyn sut y gellid gwneud pethau'n well a chanfod y gwirionedd y tu ôl i'r penderfyniadau a wnânt a'r cymhellion drostynt; dyna ein prif rôl fel deddfwyr. Yn fwyaf arbennig, dyna ddylai fod yn rôl i'r rhai ohonom sy'n ddigon ffodus i fod wedi cadeirio pwyllgor, a gallaf roi fy llaw ar fy nghalon a dweud fy mod wedi ceisio gwneud hynny dro ar ôl tro gyda'r pwyllgor diben arbennig COVID-19 hwn.

Fy marn i a fy mhlaid i yw na fyddai ymchwiliad COVID y DU yn ymchwilio i'r penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, a effeithiodd ar fywydau cymaint o bobl, a phrofwyd bod hynny'n gywir yr wythnos hon, gan fod y pwyllgor wedi nodi naw bwlch yn y modiwl cyntaf yn unig lle teimlwn nad yw ymchwiliad y DU wedi gwneud hynny'n ddigonol—bylchau sy'n haeddu ymchwiliad pellach, oherwydd mae pobl Cymru yn haeddu atebion. Y bobl ifanc a gollodd fwy o ddyddiau ysgol nag unrhyw le arall yn y DU—maent yn haeddu atebion. Y busnesau y bu'n rhaid iddynt gau eu drysau am y tro olaf oherwydd y lefelau gwahanol o gymorth—maent yn haeddu atebion. Y rhai a gollodd eu swyddi neu a'i cafodd yn anodd yn ariannol i gael dau ben llinyn ynghyd yn ystod y pandemig oherwydd ein bod dan gyfyngiadau symud am gyfnod hirach na mannau eraill—maent yn haeddu atebion. Y rhai a oedd yn byw mewn cartrefi gofal a welodd gleifion COVID positif yn cael eu rhyddhau i'r lleoliadau hynny dair wythnos ar ôl i'r arfer ddod i ben yn Lloegr—maent yn haeddu atebion. Ac yn fwy nag unrhyw un, y rhai a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig—maent yn haeddu atebion.

Ond gallem weld nad oedd Llywodraeth Cymru yn fodlon lansio ymchwiliad annibynnol COVID Cymru i gael yr atebion hynny, felly dyna pam y gwnaethom gyflwyno cynnig i'r Senedd a orfododd y Llywodraeth i lansio'r pwyllgor hwn i ysgwyddo peth o'r baich o leiaf. Rwyf wedi dadlau dro ar ôl tro dros y pwyllgor hwn yn erbyn y rhai sydd wedi dweud na ddylai ddigwydd o gwbl. Dywedais wrth yr amheuwyr, yn y Senedd a'r tu allan, er nad y pwyllgor hwn yw'r ymchwiliad COVID annibynnol llawn yr ymgyrchodd fy mhlaid drosto, y byddai'n mynd i wraidd rhai o'r atebion hynny o leiaf, yn enwedig gan mai'r dewis arall oedd dim ymchwiliad a dim atebion o gwbl.

Fe wnaethom ymuno â'r pwyllgor hwn yn llawn ewyllys da, gan obeithio y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn bartner llawn ewyllys da, yn cymryd rhan yn y gwaith o fynd i wraidd y gwirioneddau hynny gyda ni. Yn anffodus, fy mhrofiad dro ar ôl tro, ar ôl cyd-gadeirio'r pwyllgor hwn ers peth amser bellach, yw nad yw Llywodraeth Cymru yn bartner da. Mae bron bob awgrym o fwy o graffu ar y penderfyniadau hynny wedi ennyn gwrthwynebiad ffyrnig, naill ai gan Lywodraeth Cymru neu, yn aml, gan yr Aelodau Llafur sy'n aelodau o'r pwyllgor. Roedd y teuluoedd sydd mewn profedigaeth yn sgil COVID yn ofni y byddai'r pwyllgor hwn yn gyfystyr â gwyngalchu gan wleidyddion sy'n marcio eu gwaith cartref eu hunain. Fe wrthwynebais yr awgrym hwnnw ar y dechrau, gan amddiffyn y pwyllgor cystal ag y gallwn. Rwy'n ofni na allaf wneud hynny mwyach. Nid oes gennyf hyder y bydd y pwyllgor hwn yn gallu cael yr atebion y mae'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn eu haeddu. Dyna pam, os caiff y bleidlais hon ei threchu heddiw, y byddaf yn ymddiswyddo fel cadeirydd o'r pwyllgor ac ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cymryd lle arno mwyach. Nid wyf am ganiatáu i fy enw a fy enw da gael eu llychwino—[Torri ar draws.]

17:35

Nid wyf am ganiatáu i fy enw a fy enw da gael eu llychwino gan y canfyddiad fod hwn yn bwyllgor sydd â mwy o ddiddordeb mewn amddiffyn enw da'r Llywodraeth na mynd i wraidd y gwirioneddau y tu ôl i'r penderfyniadau a wnaeth. Nid wyf yn fodlon cysylltu fy hun â phwyllgor sy'n ymddangos fel pe bai'n amddiffyn yr union bobl y dylai fod yn eu dwyn i gyfrif. Gadewch imi fod yn glir, os caiff y bleidlais hon ei threchu heddiw, ni fydd y pwyllgor yn gallu gweithredu, ac nid wyf am sefyll naill ochr a gadael iddo hercian yn ei flaen gan esgus fel arall. Cawsom ein hethol yma nid gan ein pleidiau, ond gan ein hetholwyr i wneud y gwaith y cawsom ein hethol ganddynt i'w wneud, herio'r rhai sydd mewn grym, dadlau dros rai llai ffodus na ni, a chael y atebion y mae ein hetholwyr yn eu haeddu.

Yn aml mewn gwleidyddiaeth, nid yw dweud y peth hawdd bob amser yn wleidyddol neu'n bersonol gyfleus. Yn bersonol, fe wneuthum wthio dros dyngu llwon yn y pwyllgor hwn yn erbyn adlach o sawl man gwahanol, am fy mod i'n teimlo mai dyna'r peth iawn i'w wneud, yn union fel y gwthiais am fwy o graffu yn gyffredinol. Ond heb ein hegwyddorion, nid oes gennym ddim. Rwy'n fodlon fy mod wedi dilyn fy rhai i dro ar ôl tro, ond rwy'n dweud wrth yr Aelodau Llafur sy'n pleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw, 'Ble mae eich egwyddorion chi?'

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 7, dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Mick Antoniw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, 13 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod—Bil ar daflu sbwriel a thipio anghyfreithlon: O blaid: 33, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 9, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Llwon neu gadarnhad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

11. Dadl Fer: Meddwl yn wahanol: Ymgyrch Sefydliad y Merched i gefnogi menywod a merched awtistaidd ac ADHD

Yr eitem nesaf yw'r ddadl fer, a galwaf ar Heledd Fychan i siarad.

Os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel, fel y gellir gwneud cyfraniadau. Heledd, mae'n ymddangos eu bod i gyd eisiau gwrando arnoch chi.

Gwych. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl fer heddiw yn gyfle i drafod a thalu teyrnged i'r holl fenywod a merched sy'n awtistig neu'n niwroamrywiol ac sy'n byw gydag ADHD, ac rwy'n falch o allu rhoi munud yr un o fy amser i Sioned Williams, Carolyn Thomas, Jenny Rathbone, Hannah Blythyn, Mark Isherwood a Mabon ap Gwynfor. Felly, rwy'n gobeithio eich bod chi'n teimlo'n hael iawn, Ddirprwy Lywydd.

Rwy'n ddiolchgar i Sefydliad y Merched am ysbrydoli'r ddadl heddiw oherwydd eu hymgyrch hynod bwysig, 'Meddwl yn Wahanol', sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac ADHD ymhlith menywod a merched, a rhoi camau ar waith i wella'r broses ddiagnosis, a diolch yn arbennig i Ann Ball o Sefydliad y Merched Pontypridd, a Maggie Knight o Glam Girls, a ddaeth i fy nghyfarfod a gofyn imi gefnogi'r ymgyrch. Rwy'n falch iawn eu bod wedi gwneud hynny a'u bod ill dwy wedi ymuno â ni heddiw yn yr oriel, ynghyd â nifer o aelodau eraill. Croeso i chi i gyd a diolch am eich ymgyrchu.

17:40

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i Eleri Griffiths, sy’n aelod gwerthfawr o fy nhîm, am yr holl waith ymchwil pellach y gwnaeth hi i gefnogi’r ddadl heddiw, ac i bawb a roddodd o’u hamser a rhannu eu storïau a’u profiadau gyda mi a hithau, gan gynnwys cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, pennaeth uned arbenigol ADY a mudiadau gwirfoddol lleol. Fe gawsom hefyd amryw o sgyrsiau gyda merched a menywod niwrowahanol, a thra bod eu profiadau personol yn gwbl unigryw i’w hunain, roedd eu profiadau o’u cyswllt ag asiantaethau cyhoeddus yn debyg iawn i’w gilydd. Fe glywais yr un neges dro ar ôl tro, a dyma grynodeb o’r hyn a rannwyd gyda mi.

O edrych yn benodol ar brofiadau merched a menywod o ran addysg, rydyn ni'n gwybod bod rhyw dair gwaith yn fwy o fechgyn yn derbyn diagnosis na merched, a’u bod yn derbyn eu diagnosis tair blynedd yn gynt, fel arfer. Wel, pam felly?

Cefais gipolwg ar ganllawiau clinigol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar y mater hwn a dysgais fod yr argymhelliad ar gyfer diagnosis yn cynnwys defnyddio offer diagnostig penodol. Dangosodd cipolwg lleygwr ar y rhain i mi mai rhai o nodweddion craidd awtistiaeth yw gwahaniaethau o ran cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol, ymddygiadau a diddordebau cyfyngedig ac ailadroddus, gan gynnwys gwahaniaethau synhwyraidd, diffygion o ran cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol cilyddol, symptomau sy'n achosi amhariad clinigol sylweddol mewn meysydd gweithredu cymdeithasol, galwedigaethol neu feysydd gweithredu pwysig eraill, ac oherwydd fy mod i'n dod ar draws cymaint o fenywod anhygoel sy'n awtistig neu ag ADHD sydd wedi brwydro tan yn hwyr yn eu bywydau i gael eu nodi, a chael diagnosis neu gefnogaeth, roeddwn i'n meddwl tybed pam. Gofynnais i wahanol bobl ddweud wrthyf beth y credant sy'n digwydd yma, ac yn gyntaf clywais gan gydlynwyr ADY mewn ysgolion yn fy rhanbarth, gan gynnwys Ysgol Garth Olwg, Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, Ysgol Afon Wen ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Dyma oedd ganddynt i'w ddweud:

'Yr hyn a welwn yw bod merched yn llwyddo'n dda i wneud yr hyn a alwn yn "fasgio".  Mae merched yn dda iawn am weithio'n galed i ffitio i mewn gyda phawb arall a chopïo eu cyfoedion fel eu bod i'w gweld yn ymddwyn yr un fath.'

Dywedodd un arall wrthyf:

'Yn aml iawn gyda bechgyn fe welwn eu nodweddion awtistig neu ADHD yn cael eu harddangos ar oedran iau. Gallant fod yn fwy egnïol yn gorfforol neu'n aflonydd, ac angen codi'n aml a symud o gwmpas mewn ystafell ddosbarth; maent yn treulio amser yn chwarae ar eu pen eu hunain, yn cael trafferth canolbwyntio ac yn gwneud hynny am gyfnodau byrrach ar gyfer rhai mathau o dasgau',

ac

'Weithiau gyda merched, yr arwyddion cyntaf a gawn y gallai rhywun fod yn awtistig neu ag ADHD yw: pan fyddant yn dechrau gwrthod dod i'r ysgol; neu pan fyddant yn mynd yn fewnblyg neu'n isel eu hysbryd; neu mae eu teuluoedd yn cysylltu â ni i ddweud wrthym eu bod yn dioddef gorbryder eithafol. Gallai'r teimladau mewnol hyn a brofir fod yn gwbl anweledig i'r athrawon yn yr ysgol.'

Aeth un cydlynydd ADY yn eu blaen i rannu: 

'Rwyf wedi cael sawl enghraifft o athrawon yn cael gwybod am ddiagnosis newydd o ADHD neu awtistiaeth ar gyfer merch benodol a'u cael yn ebychu—Mawredd, rwy'n synnu—ni fyddwn erioed wedi sylweddoli eu bod yn awtistig gan eu bod mor "weithgar", neu eu bod "mor dawel" neu'n "siaradus iawn".'

Yn anffodus, y gwir amdani yw bod llawer o ferched yn dysgu cuddio eu gwir brofiadau mewnol a'u meddyliau mor dda fel y byddant wedi ymlâdd yn llwyr yn hytrach na chyfathrebu eu gwir feddyliau a'u pryderon. Pan fydd newid yn eu bywydau, mae'r holl guddliw a masgio a strategaethau ymdopi yn chwalu a chânt eu cythryblu, ac mae athrawon wedi dweud wrthyf y gall rhywbeth fel newid teuluol, ysgariad neu brofedigaeth neu bwysau arholiadau, symud tŷ neu heriau cyfeillgarwch, arwain yn aml at argyfwng lle nad yw person ifanc niwroamrywiol yn gallu ymdopi mwyach. a gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.

Un oedran arferol i hyn ddigwydd yw tua blwyddyn 9, pan fydd disgyblion yn cael arholiadau am y tro cyntaf. Wrth gwrs, gan fod ein proses ddiagnostig a'n hasesiadau yn cymryd cymaint o amser, mae'r oedi hwn cyn nodi merched awtistig a merched ag ADHD yn sylweddol ac yn niweidiol. Dywedodd cydlynydd ADY wrthyf am un ardal lle bydd atgyfeiriad yn cael ei wneud ar y pwynt hwn, sy'n galw am gyflwyno tystiolaeth gan y teulu a'r ysgol, a thri mis yn ddiweddarach cysylltir â'r unigolyn ifanc i ddweud a ydynt wedi cael eu derbyn ar y rhestr aros. Ond yr amser aros cyfartalog yn yr ardal yw 18 mis, sy'n is na'r flwyddyn flaenorol, ond mae'n dal i fod yn 18 mis ar gyfartaledd. Felly, os yw merch 14 oed yn mynd drwy'r broses hon, byddant yn sefyll eu harholiadau blwyddyn 9, arholiadau blwyddyn 10, ac o bosibl eu TGAU hyd yn oed. Ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y plant ag ADY sy'n gadael y system ysgol neu ysgol gartref—mae hyn hefyd yn broblem.

Felly, rhannodd merched a menywod sy'n gysylltiedig â dwy elusen leol bwysig yn Rhondda Cynon Taf, o'r enw Hyb Cymorth Ymddygiad a Stiwdio 37, eu profiadau yn garedig iawn, ac roedd clywed rhai o'r straeon a gwrando ar eu profiadau yn agoriad llygad. Daeth yn amlwg wrth siarad â'r staff a'r merched a'r menywod ifanc nad yw tanddiagnosis o awtistiaeth ac ADHD i'w briodoli'n unig i fasgio ac ymddygiadau cuddliwio, ond hefyd, nad yw'r mathau o nodweddion a gydnabyddir gennym yn draddodiadol fel rhai sy'n perthyn i awtistiaeth ac ADHD yn cael eu nodi yn yr asesiadau ar gyfer menywod, a dyna pam, efallai, na chaiff eu hawtistiaeth neu ADHD ei nodi'n gynt. Wedi'r cyfan, pryder am gyfeillgarwch, diddordeb obsesiynol mewn pethau—colur neu steiliau gwallt—natur siaradus iawn, bwytawyr ffyslyd, anhoffterau synhwyraidd, ymdeimlad cryf iawn o gyfiawnder, herio pan fyddant yn anghytuno, gall y rhain fod yn hollol normal mewn pobl ifanc yn eu harddegau. Ond bydd addysgwr medrus sydd wedi'i hyfforddi yn gwybod ac yn gweld y gall y rhain weithiau fod yn ddangosyddion ar gyfer awtistiaeth a/neu ADHD hefyd. 

Mae'r merched a'r menywod sydd wedi siarad â mi a fy staff yn glir iawn ynghylch un peth—nid ydynt i gyd yr un fath. Roedd llawer o'r menywod wedi cael diagnosis hwyr, rhai yn eu harddegau hwyr, rhai yn eu 30au, 40au a 50au, ac roedd rhai yn dal i aros am ddiagnosis. Dywedodd un fenyw wrthyf mai dim ond ar ôl i'w phlant fynd drwy'r broses ddiagnostig y sylweddolodd ei bod hi'n debygol o fod ag ADHD, a chafodd ddiagnosis preifat er mwyn osgoi'r amser aros. Yn ei 40au canol, ar ôl magu plant a chael gyrfa ystyrlon, fe dalodd am hynny. Pan ofynnwyd iddi pam a beth oedd y manteision, dywedodd: 'Roedd cael diagnosis yn golygu fy mod i'n gallu maddau i mi fy hun am y tro cyntaf erioed. Nid oeddwn wedi sylweddoli nad oes gan y rhan fwyaf o bobl bedair sgwrs wahanol yn digwydd ar yr un pryd yn eu pennau, gyda chân ar lŵp drwy'r dydd. Nid oherwydd fy mod i'n ddiog neu'n anhrefnus y byddaf i'n dechrau ar dri gorchwyl gwahanol ar yr un pryd ac yn peidio â dilyn camau yn eu trefn i'w gorffen. Nid oherwydd fy mod i'n wrthgymdeithasol rwy'n ei chael hi'n anodd cyfarfod â phobl ar ddiwedd diwrnod hir yn y gwaith. Nid oherwydd paranoia y byddaf i'n dal i boeni heddiw y gallwn fod wedi dweud y peth anghywir mewn sgwrs a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf. Mae'r pethau hyn yn digwydd oherwydd bod gennyf ADHD a dyma sut y mae fy ymennydd yn gweithio. Nawr, rwy'n dewis cymryd meddyginiaeth gan ei fod wedi rhoi rhywfaint o heddwch imi feddwl am ran o bob dydd'. Disgrifiodd menyw ifanc arall fod bod ag ADHD fel gwisgo sanau gwlyb trwy'r dydd, ond chi yw'r unig un sy'n eu gwisgo. 

Fe wyddom fod cymaint o broblemau o ran iechyd hefyd. Rydym wedi clywed am sefyllfaoedd lle mae merched sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth wedi cael gwybod na allant gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl trwy wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed am eu bod yn awtistig neu ag ADHD. Yn ôl yr hyn a ddywedir wrthynt, maent i fod i gael llwybrau gwahanol. Ond yn sicr, ni ddylai hynny fod yn wir.

Felly, hoffwn i ni ganolbwyntio am weddill yr amser sydd gennyf ar alwadau Sefydliad y Merched.    

Mae Sefydliad y Merched yn eu hymgyrch wedi nodi rhai galwadau synhwyrol. Maen nhw eisiau sicrhau nad oes anghydbwysedd yn parhau o ran diagnosis a chymorth awtistiaeth ac ADHD rhwng bechgyn a merched, bod angen gwella hyfforddiant i’r holl staff sydd yn ein hysgolion, cynorthwywyr dysgu ac athrawon, ac mae angen gwell systemau i adael i blant a phobl ifanc hunan-adrodd am eu lles eu hunain i ganfod yr achosion lle mae plant yn dioddef yn ddistaw.

Felly, diolch o galon i Sefydliad y Merched am eich ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, a dwi'n gobeithio yn fawr y gallwn ni glywed gan y Llywodraeth heddiw sut ydych chi am wella pethau i bawb, ond yn benodol o ran merched a menywod, a sut hefyd ydych chi am sicrhau bod yna gefnogaeth ar gael i'r rhai sydd wedi'i methu hyd yma ac sydd ddim yn yr ysgol neu sy'n hŷn. Mae'n rhaid i bethau newid. Mae yna fwy o ymwybyddiaeth ond mae yna lot mawr o waith i'w wneud. 

17:45

O, iawn—roeddwn wedi ymgolli yn eich araith. [Chwerthin.] Anghofiais fy mod yn y Gadair. Carolyn Thomas. 

Diolch i Heledd am gyflwyno'r ddadl fer hon ac am funud o'ch amser. Roedd yn dda cael cyfarfod ag aelodau o Sefydliad y Merched yn gynharach heddiw ac rwy'n croesawu'r ymgyrch hon, sy'n codi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth. Mae diagnosis cynnar o ADHD ac awtistiaeth yn bwysig iawn ar gyfer dilysu, ar gyfer triniaeth os oes angen, ond hefyd ar gyfer addasiadau yn y gweithle os oes angen. Mae menywod yn well am guddio symptomau na dynion ac mae'n faich arnynt hefyd a gall arwain at straen. Mae menywod ag ADHD hefyd yn cael mwy o broblemau iechyd na menywod eraill. Ond mae'n rhaid inni ddathlu ein gwahaniaethau a gofalu am ein gilydd. Mae'n iawn, nid oes rhaid inni gydymffurfio â model cymdeithasol, ond mae angen inni wneud yn siŵr fod pob menyw a merch yn cael cyfle i ffynnu yn eu ffordd eu hunain, sut bynnag y bo. Diolch.

17:50

Hoffwn ddiolch i Heledd am ddod â'r ddadl wirioneddol bwysig hon i'r Senedd, ond hefyd i Sefydliad y Merched am dynnu sylw at y mater pwysig hwn gyda'u hymgyrch. Rwy'n credu ei bod mor bwysig fod grwpiau hirsefydledig fel Sefydliad y Merched, sydd—wyddoch chi, maent yn gweld y gymdeithas gyfan, onid ydynt? Mae pob math o fenywod yn perthyn i Sefydliad y Merched, ac maent yn ymwneud â chymaint o wahanol grwpiau cymunedol. Mae ganddynt synnwyr da iawn o'r hyn sy'n digwydd, ac felly mae'n wych eu bod yn defnyddio'u llais yn y modd hwn i lansio ymgyrchoedd, i godi ymwybyddiaeth ar wahanol faterion, ac roedd yn dda siarad â rhai ohonynt yn gynharach.

Rwy'n credu bod gwreiddiau'r ymgyrch hon yn yr anghydraddoldeb hanesyddol a pharhaus sydd, ac sydd wedi bod, yn nodwedd o ofal iechyd menywod. Rydym yn gwybod am y dibwyllo meddygol, y troi ymaith, ac yn amlwg, y diffyg data ac ymchwil sy'n sensitif o ran rhywedd, ac fel y clywsom gan Heledd, y modd y gall hyn effeithio ar fenywod ag awtistiaeth ac ADHD wedyn. Rwy'n credu bod angen gwthio'n wirioneddol am well hyfforddiant i weithwyr proffesiynol meddygol. Fe fuom yn siarad am hynny yng nghyd-destun pethau fel endometriosis, er enghraifft, ond hefyd, fel y dywedwch, ar gyfer holl staff ysgolion, a rolau sy'n ymdrin yn uniongyrchol â'r cyhoedd ym mhob gwasanaeth cyhoeddus. Oherwydd mae agweddau a'r ffordd y caiff menywod eu trin yn berthnasol iawn yn y lle hwn, onid ydynt, fel roeddech chi'n dangos yn gynharach, gyda rhai o'ch enghreifftiau. Gall pobl gael eu diystyru neu gall agwedd neu stereoteip effeithio'n annheg ar rywun, ac mai'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yw eu cyflwr, eu niwroamrywiaeth neu eu ADHD. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni gael gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, a dyna pam y mae'r ymgyrch hon mor bwysig.

Hefyd hoffwn weld—ac roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Llywodraeth feddwl am hyn, er nad yw'n fater datganoledig wrth gwrs, a meddwl am annog hyfforddiant yn y gweithle, efallai trwy Gyngres yr Undebau Llafur a'r pecynnau cymorth y maent yn eu darparu ar lawer o wahanol faterion, i wneud yn siŵr fod ein gweithleoedd yn gallu bod yn fwy cynhwysol a chefnogol i fenywod. Rydym yn siarad am ymwybyddiaeth o'r menopos, onid ydym? Rydym yn siarad am ymwybyddiaeth o aflonyddu rhywiol. Wel, dyma rywbeth arall sydd wedi bod yn isel ar yr agenda i fenywod ac efallai fod angen rhoi lle mwy blaenllaw iddo.

Rwyf am ddiolch yn ddiffuant i Sefydliad y Merched am ysgrifennu'r adroddiad ardderchog hwn, oherwydd mae'n esbonio mewn iaith uniongyrchol beth yw awtistiaeth ac ADHD a beth i'w wneud a beth i beidio â'i wneud. Gan fod gennyf blentyn yn fy nheulu a allai, efallai, fod angen y cymorth ychwanegol sydd ei angen, rwy'n credu y bydd yn ddefnyddiol iawn i weddill ei theulu, ac i eraill, weld a fydd hyn yn rhywbeth y bydd ei angen arni yn y dyfodol. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae hi mewn ysgol gynradd feithringar, ac rydym yn gwybod ei bod hi'n llawer haws ymdopi mewn ysgol gynradd fach. Roedd yn ddiddorol iawn clywed bod Heledd yn dweud bod y problemau hyn fel arfer yn cael eu nodi, neu'n dod yn fwy amlwg, ym mlwyddyn 9.

Rydym yn gwybod bod yna ddibwyllo'n digwydd gyda materion menywod, fel y dywedodd Sioned, a bod rhagfarn ar sail rhywedd yn bodoli trwy bopeth a wnawn: pan fyddwn yn asesu merched a menywod, yr ymchwil a wnawn, a gwerthuso'r symptomau a'r ymyriadau sydd eu hangen i gefnogi merched a menywod.

Cefais fy nharo'n arbennig gan chwalu'r myth ynghylch rhianta gwael a'r ffaith bod yna ffactorau amgylcheddol, fel trawma yn ystod plentyndod cynnar. Oherwydd ymwelais ag ysgol arbennig yn fy etholaeth yn ddiweddar, lle dywedodd y pennaeth, 'Mae'n anhygoel pa mor fawr yw'r ffrwydrad', eu bod yn gorfod dyblu maint yr ysgol oherwydd lefel y galw ar gyfer plant na allant ymdopi mewn ysgolion prif ffrwd. Ac roedd y plant y cyfarfûm â hwy i gyd yn yr ysgol gynradd—bechgyn yn bennaf, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond tybed—ac rwyf am ofyn y cwestiwn hwn yn gyhoeddus—onid yw'r trawma yn ystod plentyndod cynnar y siaradant amdano yn gysylltiedig â'r cynnydd yn nifer y genedigaethau a gaiff eu cymell, sydd wedyn yn arwain at enedigaethau gan ddefnyddio offer meddygol a genedigaethau cesaraidd, gyda'r holl analgesia sy'n gysylltiedig â hynny i gyd. Mae'n rhaid inni ddeall beth yw achosion hyn a newid ein harferion efallai, os gwelwn fod cysylltiad.

17:55

Hoffwn i ddiolch i Sefydliad y Merched a Heledd am godi'r mater hwn. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon.

Er, Lywydd dros dro, tybed a ddylwn i ddechrau trwy ddatgan buddiant, gan fod fy mam yn aelod gweithgar iawn o Sefydliad y Merched. Mae hi'n ymddiriedolwr ffederasiwn Clwyd-Fflint ac yn gadeirydd materion cyhoeddus. Ac fel y dywedwn yn iaith gwleidyddiaeth, rwyf bob amser dan chwip dair llinell i gefnogi Sefydliad y Merched. [Chwerthin.] Ond o ddifrif, mae'r ymgyrch 'Meddwl yn Wahanol' a'r ddadl fer hon heddiw yn bwysig iawn nid yn unig i godi ymwybyddiaeth, ond i sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed a bod gweithredu'n digwydd yn sgil eu profiadau—o ran siapio datblygiad polisi, a sut y mae hynny'n gweithio'n ymarferol gyda'n dulliau iechyd cyhoeddus hefyd.

Y pwynt yr hoffwn ei wneud y prynhawn yma—neu heno—yw ein bod, yn gynharach eleni, wedi croesawu cynllun iechyd menywod Llywodraeth Cymru yn fawr, ac felly rwy'n awyddus i glywed sut yr adeiladir ar hyn fel nad yw menywod a merched awtistig ac sydd ag ADHD yn cael eu hepgor na'u gadael ar ôl ac yn allweddol, fod ganddynt lais a chyfran yn y ffordd y mae cymorth a gwasanaethau'n edrych. Diolch.

Wel, fel y dywed Sefydliad y Merched, ers gormod o amser, mae profiadau menywod a merched o awtistiaeth ac ADHD wedi cael eu diystyru a'u methu. Dim ond ers dau ddegawd y bûm yn codi hyn yma. Canfu eu hadroddiad yn 2024, 'Understanding the Experiences of Autistic and ADHD Women', fod 75 y cant yn teimlo nad oes digon o gefnogaeth ar gael i unigolion awtistig a'u teuluoedd. Canfu adroddiad 2023 yr elusen KIM Inspire 'Supporting Neurodivergent Girls and Young Women across North-east Wales' fod awtistiaeth ac ADHD mewn merched a menywod ifanc yn parhau i gael eu diystyru gan wasanaethau statudol, fod beio rhieni'n digwydd yn aml, a bod hyn yn arwain at drallod, lefelau isel o hunan-barch ac ymddygiadau hunan-niweidiol. Nododd ymchwil gan ysgol y gyfraith Prifysgol Leeds fod mamau plant awtistig 100 gwaith yn fwy tebygol o gael eu harchwilio am salwch wedi'i ffugio neu ei achosi gan eraill—creu neu orliwio anawsterau eu plentyn—gan wasanaethau plant, a bod hyn o leiaf yr un mor gyffredin yng Nghymru. A'r wythnos diwethaf, cefais yr anrhydedd o fynychu ymgynghoriad yn St George's House, Castell Windsor, ar yr argyfwng hwn. Mae pawb yn galw am weithredu gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau—mae'n hen bryd.

Gaf i ddechrau trwy ddiolch i Heledd am gyflwyniad rhagorol, a diolch i'r WI am yr ymgyrch yma? Un o'r gwaith achos cyntaf gwnes i ymgymryd â fe yn y swydd yma oedd mam oedd wedi dod ataf efo merch roedd hi'n sicr oedd efo ADHD, ond roedd y meddyg yn gwrthod ei rhoi hi ar drywydd diagnosis oherwydd bod y meddyg yn ddweud dyw merched ddim yn dioddef ac yn byw efo ADHD neu awtistiaeth. Felly, mae'n amlwg bod y syniadau hen ffasiwn yna'n dal i fodoli.

Cwpl o gwestiynau roeddwn i am eu codi allan o'r hyn. Yn gyntaf i gyd, roedd Heledd yn sôn yn fanna am y rhestrau aros hir ar gyfer merched sydd yn aros i gael diagnosis, ond os ydych chi'n ferch sydd yn siarad Cymraeg—mamiaith Cymraeg—mae'r rhestr aros hyd yn oed yn hirach. Felly, beth ydy'r camau mae'r Llywodraeth am eu cymryd i fynd i'r afael â hynny? Ond i'r rhai hynny sydd ar restr aros hir, ac, fel clywsom ni yn y dystiolaeth gan Heledd, mae nifer fawr ohonyn nhw bellach yn gorfod mynd yn breifat am ddiagnosis, ar gost o tua £2,000 neu'n rhagor ar gyfer y diagnosis yna, yna maen nhw'n derbyn diagnosis, maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n byw efo ADHD ac yna maen nhw'n methu cael meddyginiaeth ar y NHS; mae hynny'n cael ei wadu iddyn nhw, er ei fod yn amlwg ei fod yna ofyniad iddyn nhw ac y dylen nhw fod yn derbyn meddyginiaeth.

Felly, ydy'r Llywodraeth yma, felly, am helpu'r bobl yna sydd wedi derbyn diagnosis, er yn breifat, ac wedi cael eu gorfodi mynd yn breifat oherwydd y Llywodraeth—ydy'r Llywodraeth yn mynd i'w helpu nhw er mwyn sicrhau eu bod nhw hefyd yn medru cael meddygyniaeth?

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl—Sarah Murphy.

Diolch. Diolch, Heledd Fychan, a'r holl gyd-Aelodau am siarad yn y ddadl hon heddiw, a hoffwn innau hefyd ddechrau trwy ddiolch i Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, Cymru, am ddewis hyrwyddo dealltwriaeth o brofiadau menywod awtistig a menywod ag ADHD drwy eu hymgyrch 'Meddwl yn Wahanol'. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffordd y mae eich miloedd o aelodau'n dysgu ac yn gwrando ar brofiad bywyd; rydych chi'n codi ymwybyddiaeth drwy ymatebion eich arolwg ac rydych chi'n llunio camau gweithredu a phecyn cymorth da iawn fel y gall aelodau Sefydliad y Merched, a phawb arall, gefnogi a sefyll mewn undod â menywod i hyrwyddo cynhwysiant a grymuso unigolion i gofleidio eu hunaniaeth unigryw. 

Hoffwn ddiolch hefyd i Sefydliad y Merched am fy ngwahodd i'w digwyddiad ar-lein yr wythnos diwethaf i ddysgu mwy am eu hymgyrch i gefnogi menywod a merched ag awtistiaeth ac ADHD fel rhan o Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth. Rwyf bob amser wedi dadlau'n frwd dros wrando ar y rhai sydd â phrofiad bywyd, i ddeall a chysylltu â'i gilydd, a hoffwn fanteisio ar gyfle arall i ddiolch i'r Cynghorydd Sara Robinson o Gyngor Caerdydd, Brogan Evans a Caitlyn Seldon am fod yn hynod agored a gonest, a rhoi amser i siarad â ni am eu profiadau. Roedd yn ysbrydoledig, ac fe ddysgais gymaint yn bersonol, a chael budd o'r drafodaeth wedyn am y termau a ddefnyddiwn, diffinio eich hunaniaeth eich hun a gosod ffiniau.

Mae ymwybyddiaeth Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth mor bwerus fel cyfle i gydnabod a dathlu cryfderau a doniau unigryw unigolion niwroamrywiol, gan gynnwys y rhai ag awtistiaeth ac ADHD, fel y gwelwn o'r nifer sy'n bresennol yma heddiw. Mae eich teithiau'n aml wedi'u marcio gan heriau, a hefyd gan gyflawniadau a chyfraniadau rhyfeddol i'n cymunedau. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod eu profiad, ac yn gweithio gyda'n gilydd i greu cymdeithas sy'n eu cefnogi a'u grymuso. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau unigolion niwroamrywiol, ac yng Nghymru, mae angen inni sicrhau bod y gwasanaethau a'r cymorth ar gael, a'u bod yn briodol ac wedi'u teilwra ar gyfer yr unigolyn. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar drawsnewid gwasanaethau niwroamrywiol ledled Cymru. Ym mis Chwefror 2025, cyhoeddais £13.7 miliwn arall i wella gwasanaethau niwroamrywiol a lleihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau awtistiaeth ac ADHD, a bydd hyn yn ymestyn gwaith y rhaglen genedlaethol ar gyfer gwella gwasanaethau niwroamrywiaeth tan fis Mawrth 2027, gan adeiladu ar y £12 miliwn sydd eisoes wedi'i fuddsoddi dros y tair blynedd diwethaf. Ein nod yw lleihau amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol i blant, a pharhau â'r gwaith trawsnewid i greu gwasanaethau cynaliadwy, integredig sy'n gwasanaethu unigolion niwroamrywiol a'u teuluoedd yn well, gan ddarparu mwy o arbenigedd wrth adnabod ac ymateb i fenywod a merched sydd â symptomau niwroamrywiol.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y rhaglen gwella gwasanaethau niwroamrywiaeth yn gweithredu rhaglen hyfforddi helaeth ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ac arbenigeddau i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol wedi'u cyfarparu i gefnogi unigolion niwroamrywiol yn effeithiol, fel y soniodd Sioned Williams. Rydym hefyd yn mynd i adolygu'r cod ymarfer cyfredol ar gyfer awtistiaeth, gyda'r nod o ehangu ei gwmpas i gynnwys cyflyrau niwroamrywiol eraill. Rydym yn mynd i gefnogi dulliau arloesol wedi'u harwain gan anghenion, sy'n canolbwyntio ar gryfderau ac anghenion unigolion niwroamrywiol, gan symud i ffwrdd o gefnogaeth sy'n dibynnu ar ddiagnosis, sefydlu systemau casglu ac adrodd data cymeradwy i ddeall anghenion cymunedau niwroamrywiol yn well ac i lywio ein penderfyniadau polisi yn y dyfodol, ac yn olaf, hefyd, meithrin cysylltiadau cydweithredol cryfach rhwng sefydliadau i greu rhwydwaith cymorth mwy cydlynol ar gyfer unigolion niwroamrywiol.

Mae llawer o'n nodau, fel y gallwch glywed, yn cyd-fynd â chanfyddiadau a gofynion Sefydliad y Merched yn eich ymgyrch dros weld gweithredu'n digwydd, a hefyd yn deillio o siarad â llawer o randdeiliaid eraill a'r rheini sydd â phrofiad bywyd.

18:00

A gaf i ofyn yn benodol ar y pwynt ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed? Fe glywsom am sefyllfa menywod ifanc ag awtistiaeth neu ADHD sydd, efallai, yn hunan-niweidio ac nad ydynt yn cael cefnogaeth trwy CAMHS ar gyfer iechyd meddwl, eu bod yn cael eu hamddifadu o rywfaint o'r gefnogaeth y mae rhai o'u cyfoedion yn gallu ei chael, a hefyd, fel y soniais, y rheini nad ydynt mewn addysg, oherwydd bod addysg wedi gwneud cam â hwy drwy fethu nodi eu cyflwr. Sut y mae cyrraedd y rhai sydd efallai wedi syrthio drwy'r rhwyd a fydd yn wynebu goblygiadau gydol oes os nad ydym yn darparu'r gefnogaeth honno iddynt hwythau hefyd?

Yn hollol. Diolch am godi hynny. Yr wythnos nesaf, byddaf yn lansio'r strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, a ddiwedd mis Ebrill, byddaf yn lansio'r strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Mae popeth rydych chi wedi siarad amdano'n cydblethu. Unwaith eto, mae'n digwydd oherwydd pobl sydd â phrofiad bywyd. Felly, roeddwn i'n siarad â Kirsty Davies-Warner heddiw o Mirus, ac mae hi'n rhywun a gafodd gam-ddiagnosis o broblem iechyd meddwl, ac roedd hi'n awtistig, ac roedd hynny'n rhywbeth a effeithiodd ar ei bywyd i gyd, ac mae hi'n siarad yn ddewr iawn am y peth nawr. Felly, rydym yn dysgu o'r enghreifftiau hynny ac rydym yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Felly, rwy'n ymwybodol hefyd fod pobl weithiau'n cael eu hanfon at CAMHS, a dywedir wrthych, 'Na, mae angen ichi fynd yn ôl a chael eich asesiad', felly mae'n rhaid inni roi diwedd ar hynny drwy ddod â'r rhestr aros i lawr ar gyfer yr asesiadau, ond gan wneud yn siŵr hefyd, fel y dywedais, fod gennym y berthynas gydweithredol honno. Ac rydym yn archwilio gwaith—Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Gweinidog gofal cymdeithasol a minnau—ynglŷn â'r modd yr awn ati i gasglu data ar hyn hefyd, fel y bydd modd nodi plant nad ydynt mewn addysg. Felly, mae gennym bethau da iawn yn dod ar hyn, ac rydym yn sicr yn ymwybodol iawn ohono.

Roeddwn eisiau dweud hefyd ein bod wedi cymryd camau wedi'u targedu dros y chwe mis diwethaf i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau plant. Fel y gwyddoch, fe wnaeth ein Prif Weinidog ymarfer gwrando dros yr haf. Daeth hyn drwodd mor glir. Pan ddeuthum i'r swydd hon, roedd yn un o'r tair blaenoriaeth allweddol a roddwyd i mi, i gael y rhestrau aros i lawr ar gyfer y plant a'r bobl ifanc sydd wedi bod yn aros hiraf. Ac fe wnaethom ddyrannu £3 miliwn i fyrddau iechyd ledled Cymru i ddileu'r amseroedd aros hiraf. Er mai cymysg fu cynnydd, a bod yn onest, mae rhai byrddau iechyd wedi llwyddo i drawsnewid eu llwybrau asesu a lleihau amseroedd aros yn sylweddol. Mewn rhannau eraill o Gymru, mae angen dyblu ymdrechion a dysgu o'r arferion gorau hynny.

18:05

Ar y rhestrau aros, a ydych chi'n meddwl ei bod hi'n iawn fod y rhai sy'n cael eu gorfodi i bob pwrpas i gael diagnosis yn breifat yn gorfod talu am eu meddyginiaeth?

Ie, roeddwn i eisiau codi hynny, oherwydd fe ddywedoch chi eu bod yn cael eu gorfodi i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Yr hyn sydd wedi digwydd yma yn y DU ac ar draws Ewrop, fel y dysgais gan y Cynghorydd Robinson pan aethom i ddigwyddiad Sefydliad y Merched yr wythnos diwethaf, yw bod hyn yn digwydd ym mhobman, ac mewn ffordd, mae'n digwydd oherwydd gwell ymwybyddiaeth. Mae'r ymwybyddiaeth yn llawer iawn gwell. Ac fel y dywedais yn ystod craffu blaenorol yn y Pwyllgor Cyllid, gallem fod yn edrych ar 60,000 o bobl yn aros am asesiad oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth trawsnewidiol. Felly, yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud nawr yw defnyddio rhywfaint o'r arian, rhywfaint o'r cyllid, i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hiraf hynny. Ond mae angen y gwaith trawsnewid ochr yn ochr â hynny hefyd.

Mae hefyd yn ymwneud â'r pwynt yr oeddech chi'n ei wneud am yr iaith Gymraeg. Mae dyletswydd ar y byrddau iechyd i wneud yr asesiad o anghenion y bobl yn eu cymunedau, ac ynghyd â ninnau yn y gwaith trawsnewid, mae'r Gymraeg hefyd yn ganolog i hynny. Felly, rwy'n teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando'n iawn ar bobl. Rydym o ddifrif yn ei gylch. Mae hon yn ddadl gadarnhaol iawn yma heddiw, ond mae hwn hefyd yn fater difrifol iawn. Rwy'n deall yn llwyr yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl, ac fel y dywedais, y daith rydych chi'n mynd arni, hyd yn oed pan fyddwch chi'n cael yr asesiad hwnnw. Mae'n ymwneud â mwy na'r asesiad yn unig; mae'n ymwneud â'r gefnogaeth wedyn. Ond mae hefyd—ac rwy'n credu bod hyn yn dod drwodd mor glir yn y gwaith y mae Sefydliad y Merched wedi'i wneud—yn ymwneud â'r gymdeithas gyfan. Mae angen newid enfawr yma. Mae'n drist iawn fy mod yn dal i glywed pobl yn dweud, 'Nid oedd dim o hyn pan oeddwn i'n iau,' fod hyn i gyd yn ffrwyth dychymyg. Rydym yn dal i frwydro'n galed yn erbyn y rhagdybiaeth sydd gan bobl, ac nid yw'n wir o gwbl.

Ac roeddwn i eisiau dweud hefyd, wrth Sioned a Hannah a phob un ohonoch heddiw, fod hwn yn fater rhywedd. Mae hwn yn bendant yn fater rhywedd. Nid oedd yr asesiadau a wnaed yn y gorffennol wedi'u teilwra ar gyfer merched a menywod. Fel y dywedoch chi, fe allech chi fasgio. Roeddwn i'n gwrando ar fenywod a ddywedodd wrthyf, 'Maent yn dweud wrthych, "A allwch chi eistedd yn llonydd?" Wel, gallaf, fe allaf eistedd yn llonydd; ai dyna'r asesiad mewn gwirionedd?' Yr wythnos diwethaf, fe fuom yn trafod a yw pobl yn hoffi'r term 'ADHD'. Nid ydynt yn or-hoff o'r gair 'diffyg'. 'Os nad oes gennyf ddiddordeb ynddo,' meddent, 'mae gennyf "ddiffyg".' Felly, y mathau hyn o bethau. Ac rwy'n teimlo, yn onest, fod gwrando ar bobl a gofyn iddynt yn hynod bwerus. Gallwn weld yn ôl faint o bobl sydd wedi aros heddiw, fodd bynnag, pa mor bwysig yw hyn, ond rydym yn dal i frwydro yn erbyn hynny. Felly, ymwybyddiaeth gynyddol sydd wedi sbarduno'r angen hwnnw, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â hynny, nawr, fel nad oes rhaid i bobl aros. Rwyf eisiau bod mewn byd, ac rwyf eisiau bod mewn Cymru, lle mae 99 y cant o bobl yn cael asesiad pan fyddant yn blentyn ac yn unigolyn ifanc. Dyna lle rwy'n awyddus i ni fod gyda hyn, i gael y gefnogaeth a'r dull ysgol gyfan hefyd, a gofal cofleidiol.

Felly, i orffen, gan y gwn fod angen imi ddod i ben, roeddwn eisiau dweud, wrth inni symud ymlaen o Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth, fy mod yn ailddatgan fy ymrwymiad i greu cymdeithas fwy cynhwysol a theg ar gyfer menywod a merched awtistig ac sydd ag ADHD. Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu. Gyda'n gilydd, gallwn newid y naratif a grymuso merched a menywod niwroamrywiol i gyflawni eu potensial llawn. Hoffwn ddiolch eto i Sefydliad y Merched, am eu gwaith arloesol, ac am adael i bawb ohonom barhau i ddathlu a hyrwyddo'r meddyliau amrywiol sy'n gwneud ein cymdeithas yn gyfoethocach ac yn gryfach. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:09.