Y Cyfarfod Llawn

Plenary

04/03/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Wrth i ni ddechrau ein Senedd y prynhawn yma, hoffwn hysbysu'r Aelodau ein bod ni wedi clywed yr wythnos diwethaf am farwolaeth Alison Halford, y cyn Aelod Cynulliad, Aelod o'r Senedd, a gynrychiolodd etholaeth Delyn yn y Cynulliad cyntaf, rhwng 1999 a 2003. Rwy'n siŵr bod ein meddyliau gyda'i ffrindiau a'i theulu ar yr adeg hon.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Cwestiynau nesaf, felly, i'r Prif Weinidog. Y cwestiwn cyntaf, Andrew R.T. Davies. 

Cymorth i Brifysgolion Cymru

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i brifysgolion Cymru? OQ62403

Fe wnaeth y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch a minnau gyfarfod ag arweinwyr prifysgolion ddoe, ac mae'r Gweinidog wedi nodi'r camau yr ydym ni'n eu cymryd mewn datganiad ysgrifenedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £28.5 miliwn o gyllid grant ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, ac wedi cynyddu'r cap ffioedd dysgu ddwywaith.

Diolch am y diweddariad yna, Prif Weinidog. Pan ofynnais gwestiwn amserol i'r Gweinidog addysg uwch ychydig cyn y toriad hanner tymor, tynnais ei sylw at y rhwystrau a roddwyd ar brifysgolion o ran trafod achosion posibl o uno cyrsiau, fel y gellid darparu'r cyrsiau hynny mewn ardal ddaearyddol benodol, gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Dywedodd y Gweinidog fod hwn yn fater pwysig. Mae'n rhaid i mi ddweud i mi gael fy synnu nad oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy cyfarwydd â'r mater hwn, gan helpu'r prifysgolion i oresgyn y rhwystrau, fel y gellid cynnig cymorth i wneud yn siŵr y gallai cyrsiau fod wedi cael eu darparu. Yn cynrychioli Canol De Cymru, sydd â thair prifysgol, mae hon yn broblem arbennig o ddifrifol, ac yn enwedig o ran nyrsio a chyrsiau allweddol eraill y mae rhai prifysgolion wedi cyhoeddi eu bod yn cau. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw, os gwelwch yn dda, am ba ran y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chwarae i wneud yn siŵr bod eglurder ynghylch y canllawiau y mae'r awdurdod marchnadoedd wedi'u cyhoeddi, oherwydd, fel yr amlygodd ymateb y Gweinidog i'r cwestiwn amserol hwnnw, ceir gwahanol ddehongliadau ar draws y Deyrnas Unedig o'r rheolau y mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn eu harfer o ran prifysgolion?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hwn yn fater y tynnwyd sylw ato o ganlyniad i'r cyhoeddiad a ddaeth gan Brifysgol Caerdydd a pham na allen nhw drafod yn ehangach cyn y cyhoeddiad. A rhan o'r ateb i hynny oedd y gallai'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fod wedi cyfyngu ar eu gallu i wneud hynny. Rydym ni'n edrych ar ba un a yw hynny yn orddehongliad o'r hyn y mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn ei ddweud, ac yn sicr mae gennym ni ddiddordeb fel Llywodraeth mewn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud mwy o gynllunio Cymru gyfan, ar draws Cymru gyfan, lle gall pobl gydgysylltu a chydweithio er budd y genedl. Ond mae'n rhaid i ni, yn amlwg, wneud yn siŵr ein bod ni'n cydymffurfio â rheolau'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, heb euro, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod y Gweinidog addysg uwch yn ei wneud.

Digideiddio Cofnodion Meddygol

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddigideiddio cofnodion meddygol ar draws y GIG? OQ62388

Bydd digideiddio cofnodion meddygol yn sicrhau bod llwybrau clinigol yn cael eu safoni mwy a gwell cynhyrchiant, ac yn cynorthwyo clinigwyr a gweithwyr proffesiynol wrth wneud penderfyniadau. Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu achos busnes cenedlaethol ar gyfer system cofnodion iechyd electronig y genhedlaeth nesaf yng Nghymru, mewn partneriaeth â GIG Cymru.

Mae'r bwlch digidol rhwng y GIG yng Nghymru a Lloegr yn tyfu'n fwy drwy'r amser, Prif Weinidog. Mae'r mwyafrif llethol o gofnodion cleifion yng Nghymru yn dal i fod yn rhai ffisegol, ychydig fel y 1970au. Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi digideiddio cofnodion cleifion mamolaeth erbyn 2026, a dywedodd cadeirydd Betsi Cadwaladr wrthyf am eu cynlluniau i ddigideiddio cofnodion iechyd meddwl. Mae hyn yn dal i fod ymhell y tu ôl i le ddylem ni fod. Yn Lloegr, bydd gan gleifion y gallu i weld eu cofnodion cleifion llawn drwy ap y GIG, ac mae digideiddio cofnodion yn hanfodol i wella'r gwasanaeth, i dorri costau ac i oresgyn y broblem o gofnodion meddygol coll. Yn 2020, canfu adroddiad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus nad oedd modd ymchwilio i gyfran frawychus o 70 y cant o gŵynion y GIG yr ymchwiliodd iddyn nhw yn iawn oherwydd dogfennau coll. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn bum mlynedd yn ôl, ac nid ydym ni wedi gweld cynnydd digonol yn cael ei wneud ar hyn o hyd. Mae angen blaenoriaethu cyflwyno cofnodion er mwyn dod â'n gwasanaeth iechyd i mewn i'r unfed ganrif ar hugain. Felly, a all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddigideiddio cofnodion cleifion a dechrau cau'r bwlch digidol enfawr hwnnw rhwng y gwasanaethau iechyd yng Nghymru a Lloegr?

Diolch yn fawr iawn. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod cyflwyno system cofnodion iechyd electronig yn gymhleth iawn ac yn ddrud iawn. Ond mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud, gan gynnwys y prosiect braenaru hwnnw sy'n digwydd yn Betsi Cadwaladr yn benodol ar iechyd meddwl, oherwydd y pwysau lleol unigryw hynny. Ond yr hyn y gwnaf i ddweud wrthych chi yw y byddwn ni'n pleidleisio heddiw ar £600 miliwn o gyllid ychwanegol i fynd i faes iechyd, â swm sylweddol o'r arian hwnnw yn mynd tuag at dechnoleg ddigidol, ac yr ydych chi'n bwriadu pleidleisio yn ei erbyn.

13:35

Fel y dywedodd Gareth Davies, mae digideiddio'r gwasanaeth iechyd yn hanfodol—dwi wedi eich clywed chi'n dweud rhywbeth tebyg sawl gwaith o'r blaen. Ond mae'n deg dweud bod Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi wynebu ei siâr o broblemau ar draws y blynyddoedd, o broblemau llywodraethiant i broblemau risgiau seiber. Nawr, mae hyn yn bwysig ac, mewn erthygl ddiweddar yn The Guardian, roedd sôn mawr am y problemau i sicrhau mynediad at gofnodion cleifion, a hynny hyd yn oed ar ambell achlysur wedi arwain at farwolaeth cleifion. Mae hyn yn cael ei ategu gan y coroners ar draws Cymru a Lloegr—fe wnaethon nhw roi, y llynedd yn unig, 36 rhybudd am y diffyg rhannu manylion, y diffyg siarad rhwng systemau cyfrifiadurol gwahanol, a bod hyn wedi arwain at farwolaethau cleifion. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod problemau o fewn Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael eu datrys er mwyn digideiddio ein system iechyd a gofal? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Dŷch chi'n eithaf reit—dŷn ni'n ymwybodol iawn bod y coroner wedi dweud ar sawl achlysur fod angen i'r systemau gyd-siarad, a dyna beth sydd wedi digwydd yn Betsi Cadwaladr, a oedd â phroblemau yn y maes yna, yn arbennig gyda iechyd meddwl, ac rŷn ni wedi dechrau yn Besti Cadwaladr o achos y problemau roedd y crwner wedi dweud wrthyn ni amdanyn nhw yn fanna. Ond, unwaith eto, dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod angen lot o arian i wneud hyn, ac, er mwyn cael yr arian, mae'n rhaid i ni gael pleidlais—mae lot o arian ar y bwrdd heddiw—ac mi fyddwch chi hefyd yn pleidleisio yn erbyn hynny.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. A gaf i yn gyntaf oll, Prif Weinidog, groesawu datganiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gennych chi yn gynharach heddiw ynglŷn ag Wcráin? Fel chi, mae'r Ceidwadwyr Cymreig hyn yn sefyll yn gwbl gadarn y tu ôl i Wcráin yn wyneb ymosodiad anghyfreithlon Rwsia ar ei thiriogaeth sofran, ac ni fydd hynny'n pallu.

Prif Weinidog, ymwelais ddoe â Nigel, ffermwr yn sir Fynwy. Heb ddim ond penderfyniad, dechreuodd gyda phlot wedi'i rentu, gweithiodd bob un awr a oedd ar gael ac adeiladodd fferm ei hun. Ymunodd ei wraig, ei blant ac, yn ddiweddarach, ei wyrion a'i wyresau yn yr ymdrechion hyn, gan sicrhau dyfodol i'r genhedlaeth nesaf—neu felly roedden nhw'n meddwl. Oherwydd ar yr union adeg y gwnaeth Nigel, sydd bellach yn ei 80au, ganiatáu i'w hun freuddwydio am gamu yn ôl a rhoi ei esgidiau glaw yn y cwpwrdd, a gwylio gyda balchder tawel wrth i'w deulu wneud gwaith ei fywyd, a'i barhau, i fwydo'r wlad hon, cafodd y freuddwyd honno ei chwalu gan benderfyniad cwbl ddinistriol Llywodraeth y DU i drethu mwy o ffermydd teuluol trwy wneud newidiadau i dreth etifeddiant. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi: beth sydd gennych chi i'w ddweud wrth Nigel, a miloedd tebyg iddo ledled Cymru, sydd bellach yn gweld eu plant a'u hwyrion a'u hwyresau yn cael dyfodol yn y diwydiant ffermio y maen nhw'n ei garu yn cael ei ddwyn oddi wrthynt?

Diolch yn fawr iawn. Wel, fel y gwyddoch chi, mae treth etifeddiant yn dreth a gadwyd yn ôl, sy'n cael ei goruchwylio gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi gwneud penderfyniadau anodd iawn yn rhan o'u cyllideb o ganlyniad i'r etifeddiaeth a adawyd i ni gan 14 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd. Nawr, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cael sgyrsiau adeiladol iawn gyda'r undebau ffermwyr, wedi gwneud yn siŵr bod undebau ffermwyr Cymru wedi gallu gwneud sylwadau yn uniongyrchol i'r Trysorlys, a gwn ei fod yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ei fod yn cymryd camau dilynol ar y sgyrsiau hynny.

Prif Weinidog, roeddech chi i gyd yn gyflym iawn pan oedd Llywodraeth Geidwadol yn y DU i neidio i fyny a sgrechian am bethau nad oedden nhw'n faterion wedi'u datganoli, ond eto, ar y mater hwn, rydych chi wedi bod yn hollol dawel. Mae'n hen bryd, rwy'n credu, i'ch Llywodraeth Lafur Cymru sefyll dros ein ffermwyr yng Nghymru, yn hytrach na sefyll dros Lywodraeth Lafur y DU sy'n ceisio eu godro'n sych. Nawr, ar yr ochr hon i'r Siambr, rydym ni'n gwbl eglur: dim ffermwyr, dim bwyd, dim dyfodol. Ychydig fisoedd yn ôl, pan ofynnwyd i chi am newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd, fe wnaethoch chi awgrymu mai dim ond pobl gyfoethog iawn fyddai'n gorfod talu, ond rydych chi a minnau'n gwybod yn sicr nad yw hynny'n wir. Bu'n rhaid i ffermwyr fenthyg, ymbil a buddsoddi—benthyca yn aml—symiau sylweddol, miliynau o bunnoedd, i gadw eu busnesau yn weithredol. Ac nid yw hynny oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud hynny; does ganddyn nhw ddim dewis os ydyn nhw'n mynd i oroesi. Ac maen nhw wedi gwneud hynny tra'u bod yn cael eu dyrnu'n llwyr gan barthau perygl nitradau Cymru gyfan eich Llywodraeth Cymru, eich cynllun ffermio cynaliadwy y gwnaed llanast ohono, a methiant i fynd i'r afael â her a phla TB buchol yn ein cefn gwlad. A nawr, i roi halen ar y briw, mae Rachel Reeves yn sefyll yn barod gyda'i chyfrifiannell i'w hysbeilio unwaith eto, er gwaethaf addewid cyn yr etholiad i beidio â newid rhyddhad eiddo amaethyddol. Prif Weinidog, a wnewch chi ymddiheuro nawr i ffermwyr Cymru am yr addewid hwnnw a dorrwyd, a pha gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd i drwsio'r broblem hon?

13:40

Yn gyntaf oll, hoffwn gydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae amaethyddiaeth yn ei wneud at economi Cymru ac at y cymunedau yn yr ardaloedd gwledig hynny yn arbennig. Rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur mai ffigurau'r Trysorlys ydyn nhw. Mae'n ymgais, rwy'n credu, gan Lywodraeth y DU—mater iddyn nhw yw amddiffyn eu polisi eu hunain, ond roedden nhw'n ceisio gwneud yn siŵr nad oedd y buddsoddwyr cyfoethog hynny a oedd yn camddefnyddio'r system mewn gwirionedd yn gallu manteisio ar y bylchau treth a oedd yn bodoli o ran hynny. Nawr, rwy'n ymwybodol iawn bod angen i ni wneud yn siŵr, fel Llywodraeth, nad oedd unrhyw newidiadau o ran treth etifeddiant a rhyddhad amaethyddol yn effeithio ar ddyfodol ffermio cynaliadwy yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth y DU.

Prif Weinidog, ni chlywais ymddiheuriad am yr addewid a dorrwyd. Nid wyf i'n credu eich bod chi wedi rhoi unrhyw eglurder i ni ynghylch safbwynt eich Llywodraeth Cymru. Ac ni waeth beth rydych chi'n ceisio ei ddweud er mwyn sbinio'r mater hwn, y gwir amdani yw hyn: mae'r newidiadau hyn yn mynd i gostio bywydau a bywoliaethau yng nghefn gwlad Cymru. Dim ond ddoe, cefais fy hysbysu am achos trasig o ffermwr a gafodd ddiagnosis o ganser terfynol yn fuan ar ôl y gyllideb fis Hydref diwethaf. Roedd mor bryderus am oblygiadau'r newidiadau i'r dreth etifeddiant iddo ef a'i fferm iddo benderfynu gwrthod pob triniaeth oherwydd ei fod eisiau sicrhau ei fod yn marw cyn i'r newidiadau gael eu gweithredu ym mis Ebrill. Mae hynny'n drasiedi lwyr. Bu farw ychydig ddyddiau yn unig yn ôl. Peidiwch â bychanu'r gofid y mae llawer o ffermwyr yng Nghymru yn ei ddioddef o ganlyniad i'r polisi penodol hwn. Nid yw'n syndod bod rhai o aelodau eich plaid eich hun yn San Steffan, eich ASau Llafur Cymru eich hun, yn ymbellhau oddi wrth y polisi hwn ac yn ei wrthwynebu. Mae ganddyn nhw ychydig o ddewrder o leiaf. Nawr, at ddiben eglurder, hoffwn ofyn cwestiwn syml i chi: a allwch chi ddweud wrthym ni, a ydych chi a'ch Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r newidiadau i dreth etifeddiant ar gyfer ffermydd teuluol Cymru—ydych neu nac ydych?

Mae hwn yn fater sydd wedi ei gadw yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw fy mod i'n cydnabod bod hyn yn achosi pryder yn y gymuned amaethyddol, a dyna pam y byddwn ni'n parhau i roi cymorth sylweddol i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl a'u llesiant. Rydym ni hefyd wedi rhoi arian sylweddol i Cyswllt Ffermio i wneud yn siŵr y gall pobl edrych ar sut y gallan nhw drosglwyddo pethau ymlaen i'r genhedlaeth nesaf. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw y bydd £350 miliwn ar gyfer cymorth amaethyddol yn y gyllideb y byddwn ni'n pleidleisio arni heddiw, a byddwch chi'n pleidleisio yn ei herbyn. Peidiwch â dod ataf i a dweud eich bod chi'n codi llais dros y gymuned amaethyddol, oherwydd, os na fydd yn cael ei phasio heddiw, bydd yn rhaid i chi fod yn atebol iddyn nhw, oherwydd bydd yr arian hwnnw'n cael ei dorri.

Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu'r adroddiad cynnydd heddiw mewn perthynas â bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, tra'n cofio, wrth gwrs, mai'r cyd-destun ydy bod yna bron i 10 mlynedd ers i'r bwrdd gael ei roi mewn mesurau arbennig. Ers hynny, mae pedwar Gweinidog iechyd Llafur wedi ceisio a methu sicrhau bod y bwrdd yn gallu gweithredu heb ymyrraeth gan y Llywodraeth. Does yna'r un bwrdd iechyd ym Mhrydain wedi bod dan oruchwyliaeth fel hyn am mor hir. Ond pan oedd y bwrdd yn methu yn ôl yn 2023, mi ddywedodd y Prif Weinidog, tra roedd yn Weinidog iechyd, nad ei chyfrifoldeb hi oedd cael gafael cadarn ar bethau, gan bwyntio bys at benaethiaid y bwrdd iechyd. Mi gafodd wared ar y bwrdd ei hun. Felly, dwy flynedd yn ddiweddarach, ac efo pethau'n dal i symud, yn anffodus, yn y cyfeiriad anghywir mewn sawl maes—ac yng ngeiriau yr adroddiad heddiw,

'mae meysydd o fregusrwydd parhaus o hyd'—

ydy’r Prif Weinidog yn derbyn cyfrifoldeb erbyn hyn, neu a ydy hi'n parhau i bwyntio bys at eraill?

13:45

Wel, mae'n amlwg nad yw'n deall sut mae strwythur y GIG yn gweithio yng Nghymru. Rydym ni'n nodi'r cyfeiriad teithio strategol, rydym ni'n rhoi'r arian, a mater i'r byrddau iechyd yw penderfynu sut y dylid gwario hwnnw, yn unol ag anghenion blaenoriaeth iechyd yn eu hardaloedd. Ac nid wyf i'n credu ei bod hi'n deg dweud nad yw pethau wedi gwella yn Betsi.

Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi: os edrychwch chi ar wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, roedden nhw mewn sefyllfa anodd. Ond erbyn heddiw, mae 88 y cant o bobl yn cael eu gweld o fewn y targed o 28 diwrnod. Mae hwnnw'n wahaniaeth enfawr a sylweddol, o'i gymharu â lle'r oeddem ni gynt. Dros y 12 mis diwethaf, bu gostyngiad o 21 y cant i drawma ac orthopaedeg dwy flynedd, ac mae hynny cyn i ni gyflwyno'r ganolfan orthopedig newydd yn Llandudno. Gostyngodd nifer yr achosion o ryddhad gohiriedig llwybrau gofal bron i 10 y cant, o'i gymharu â'r un mis y llynedd.

Felly, nid yw'n deg dweud nad yw pethau'n gwella yn Betsi; maen nhw'n gwella. Ni wnaethon ni erioed ddweud ei fod yn mynd i gael ei wneud dros nos. Ac mae'n gwbl gywir, ac rwy'n cadw at y ffaith honno, bod y bwrdd iechyd, yr aelodau anweithredol, wedi cael eu diswyddo, oherwydd, mewn gwirionedd, rydym ni'n gweld newid yn y system nawr.

Mae'n siomedig clywed y Prif Weinidog yn cymryd yr agwedd, 'Nid yw'n ddim i'w wneud â mi.' Oes, wrth gwrs, mae enghreifftiau o gynnydd, er bod cynnydd yn araf. A'r cynnydd hwnnw y gallwn ni ei weld ynghylch llywodraethu, er enghraifft, mae hwnnw i'w groesawu. Ond mae'r adroddiad ar gynnydd heddiw hefyd yn eglur iawn bod perfformiad gweithredu—rwy'n dyfynnu yma—yn

'faes heriol i'r bwrdd iechyd',

ac

'mae angen mwy o ffocws a chamau gweithredu i sicrhau mynediad amserol i ofal ar gyfer pobl ledled y gogledd.'

Mae arosiadau o fwy na 52 wythnos wedi cynyddu dros 2,000; collwyd 2,000 yn rhagor o oriau oherwydd oedi wrth drosglwyddo o ambiwlansys; ac mae llai o gleifion damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn yr amser targed. Yr hyn y mae cleifion eisiau ei weld yw'r gwelliannau gweithredu hynny—gwelliannau cyson, cynaliadwy. Dylai mesurau arbennig fod yn opsiwn olaf, opsiwn olaf mewn argyfwng, yn hytrach na'r norm. Ac rydym ni eisiau gwasanaeth iechyd, a dweud y gwir, onid ydym ni, sy'n perfformio'n normal.

Mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod Plaid Cymru wedi cyhoeddi ein cynlluniau. Ond o gofio degawd o ymyrraeth, o gofio'r elfennau perfformiad parhaus ac, mewn rhai achosion, sy'n gwaethygu hynny, pryd mae'r Prif Weinidog yn credu y bydd y gwasanaeth iechyd sy'n perfformio'n normal yn dod i'r amlwg yn y gogledd?

Wel, rwy'n credu ei bod hi'n nonsens dweud, 'Dim byd i'w wneud â ni'; nid ydym ni erioed wedi dweud hynny. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw mai mater i'r bwrdd iechyd ei hun yw gwaith gweithredu, a'n swyddogaeth ni yw gwneud yn siŵr ein bod ni'n penodi pobl i'r bwrdd. Rwy'n falch iawn bod gennym ni gadeirydd da iawn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a bwrdd rhagorol i'w gefnogi. Yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw gwelliannau sylweddol o ran llywodraethu. Wrth gwrs, mae gennym ni ffordd bell i fynd o ran gwelliannau gweithredu, ond, fel y dyfynnais i chi, mae gwelliannau o ran gwaith gweithredu hefyd. Ac rydych chi'n sôn am gynlluniau Plaid Cymru: doedd dim byd gwreiddiol yn eich cynlluniau. Roeddem ni'n gwneud yr holl bethau hynny eisoes.

Meddai'r Prif Weinidog, a dreuliodd haf cyfan yn siarad â phobl ledled Cymru ac yn clywed bod iechyd yn flaenoriaeth. Rwy'n credu bod hynny'n weddol amlwg hefyd.

Hoffwn droi, os caf i, at ddigwyddiadau byd-eang i gloi. Yn y Cenhedloedd Unedig, ym mis Medi, addawodd Keir Starmer y byddai'r DU yn gyfrannwr blaenllaw at ddatblygiad. Ond, bum mis yn ddiweddarach, mae'n torri cymorth rhyngwladol i'w lefel isaf y ganrif hon, a chofiwch ein bod ni'n sôn am gyllidebau sy'n cadw pobl, sy'n cadw plant, yn fyw, mewn llawer o achosion. Rydym ni'n byw mewn byd rhyng-gysylltiedig a rhyngddibynnol, ac i ni ym Mhlaid Cymru, mae diogelu'r gyllideb cymorth rhyngwladol yn rhywbeth sy'n apelio i'r pen ac i'r galon. Dyma'r peth iawn i'w wneud, fel un o'r gwledydd mwyaf cyfoethog ar y ddaear. Tra ein bod yn gweithio i ddileu tlodi gartref, wrth gwrs, dylem ni helpu eraill hefyd. Ond yn strategol, fel y nododd yr AS Llafur egwyddorol, Anneliese Dodds, wrth ymddiswyddo fel Gweinidog datblygu rhyngwladol yr wythnos diwethaf:

'Mae'n debygol hefyd y bydd y toriad yn arwain at y DU yn tynnu allan o nifer o...wledydd ar adeg pan fo Rwsia wedi bod yn cynyddu ei phresenoldeb byd-eang yn frwd.'

Bydd torri dylanwad rhyngwladol yn gostus. Nawr, er y bydd y Prif Weinidog, rwy'n siŵr, yn cytuno â mi bod y ddadl ynghylch cynnydd i wariant amddiffyn wedi datblygu arwyddocâd newydd yng ngoleuni'r cyd-destun byd-eang newydd, a yw hi hefyd yn cytuno â mi na ddylai hynny fod ar draul cymorth rhyngwladol, ac y dylid gwrthdroi'r toriad i'r gyllideb cymorth rhyngwladol a gyhoeddwyd gan Keir Starmer?

13:50

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n eglur iawn ei fod yn meddwl, fel yr wyf i'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno, ei fod yn benderfyniad eithriadol o anodd iddo dorri'r gyllideb datblygu rhyngwladol honno, ond dyletswydd gyntaf Llywodraeth yw cadw pobl yn ddiogel, a'r ffaith yw bod y byd newydd newid yn sylweddol iawn. Ac mae'n rhaid i ni gydnabod, rwy'n credu, bod angen i ni, fel y dywedais i yn eglur yn y datganiad heddiw, a'n bod ni eisiau sefyll wrth a gyda phobl Wcráin, yn enwedig nawr bod yr Unol Daleithiau wedi gohirio eu cymorth.

Mae Ewrop wedi dibynnu i raddau helaeth am gymorth wrth gefn o ran amddiffyn gan yr Unol Daleithiau ers amser maith, ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd hynny'n parhau. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: os nad ydych chi'n ei dorri o'r fan honno, ble fyddech chi'n torri, oherwydd nid ydych chi byth yn rhoi ateb i'r pethau hyn?

Y Diwydiant Gwyrdd yn Nelyn

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant gwyrdd yn Nelyn? OQ62411

Mae cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar yr economi werdd fel un o'n pedwar maes blaenoriaeth, gyda'r nod o greu economi gryfach trwy arferion a buddsoddiadau cynaliadwy a fydd yn ysgogi ein trosglwyddiad i economi gylchol, gan gyflymu datgarboneiddio yn Delyn a ledled Cymru.

Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog.

Ers cael fy ethol gyntaf, rwyf i wedi cyfarfod ac wedi gweithio i wneud y ddadl dros botensial porthladd Mostyn yn fy etholaeth i. Mostyn mewn gwirionedd yw man geni sector ynni adnewyddadwy ar y môr y DU, gan arwain y ffordd o ran adeiladu ffermydd gwynt masnachol ac mae'r sector yn parhau i wneud hynny gyda'r cyhoeddiad diweddar yn rhoi sêl bendith i adeiladu angorfa newydd i ddarparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dyrbinau gwynt ar y môr arnofiol llawer mwy. Bydd y cyfnod adeiladu yn creu 130 o swyddi, a'r gobaith yw y bydd 300 o rai parhaol yn dilyn yn y cyfnod gweithredu.

Mae gan y cymunedau yr wyf i'n eu gwasanaethu dreftadaeth ddiwydiannol falch, o lo i ddur i haearn. Yn wir, mae rhan o safle porthladd Mostyn wedi'i lleoli ar hen safle gwaith haearn Mostyn, lle gwnaeth fy nhaid weithio gyntaf cyn symud i lawr y ffordd i bwll glo y Parlwr Du. Felly, rydym ni'n falch o'n gorffennol, ond mae gan fy etholaeth i ac arfordir y gogledd botensial gwirioneddol i fod ar flaen y gad o ran diwydiant y dyfodol a'r chwyldro diwydiannol gwyrdd, ac i wneud hynny mewn ffordd sy'n dod â manteision lluosog i'r economi, i gymunedau lleol ac i'r wlad.

Rwy'n deall y bydd Jim O'Toole, prif swyddog gweithredol porthladd Mostyn, yn ymuno â chi mewn cyfarfod bord gron ym Mrwsel yfory a bydd yn nodi datblygiad y porthladd a'r rhan ganolog y mae'n ei chwarae yn fy nghornel i o'r wlad. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chithau, hefyd, ymuno â ni i gydnabod potensial porthladd Mostyn a'r gogledd? Ac, yn bwysig, sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda diwydiant, darparwyr addysg a phartneriaid undebau llafur i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn dod â swyddi gwerth chweil i bobl yr ardal, ond hefyd bod gweithlu'r dyfodol yn gallu datblygu'r sgiliau a allai ddatgloi eu potensial hwythau hefyd? Diolch.

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae hyn, wrth gwrs, yn cyd-fynd yn llwyr â'r pedwar maes blaenoriaeth allweddol hynny, ac un ohonyn nhw, wrth gwrs, oedd sicrhau swyddi a thwf gwyrdd, ac mae porthladd Mostyn yn camu ymlaen i'n cynlluniau yn hynny o beth. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu'r potensial ar gyfer 130 o swyddi adeiladu, 300 o swyddi parhaol, ac mae hynny'n dangos ymrwymiad i'r economi werdd yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, roedd hynny'n rhannol oherwydd y gwaith ymgysylltu a ddigwyddodd rhwng y porthladd a Cyfoeth Naturiol Cymru, a ganiataodd iddyn nhw gael mynediad at drwydded gwaith morol, a oedd yn golygu y gall y cwmni adeiladu bellach cei 350 medr ac adennill 13 erw o dir gweithredu y tu ôl iddo. Felly, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad hwn yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod â Jim yfory ym Mrwsel.

Mae porthladd Mostyn a'i reolwr gyfarwyddwr dygn, Jim, y mae llawer ohonom ni'n ei adnabod, i'w llongyfarch ar eu cyhoeddiad o angorfa newydd i ddarparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dyrbinau gwynt ar y môr arnofiol mwy ac am brynu hen safle cyfagos Warwick International, fel yr ydym ni wedi clywed, gan greu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad, twf a swyddi.

Wrth gwrs, mae diogeledd ynni yn gofyn am opsiwn wrth gefn cynaliadwy ar gyfer ynni sy'n seiliedig ar y tywydd. Bydd piblinell dal carbon newydd HyNet, sy'n hanfodol i gynlluniau ar gyfer cyfleuster ynni o wastraff Parc Adfer ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, y gwaith sment yn Padeswood a phrosiect gorsaf bŵer carbon isel Cei Connah, yn rhedeg i draeth cyfagos Talacre. Mae porthladd Mostyn hefyd wedi arwain galwadau am forlyn llanw yn ymestyn o Fostyn i'r Parlwr Du yn sir y Fflint. Hefyd, mae Doc Penfro yn gartref i dyrbinau gwynt ar y môr arnofiol a'r cyfleuster hydrogen gwyrdd, wedi'i bweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, ar gyfer y diwydiannau trafnidiaeth ac adeiladu. Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi, felly, i gefnogi Mostyn a'r cyffiniau fel canolfan ar gyfer ynni a pheirianneg forol? Ac yn hollbwysig, sut wnewch chi sicrhau cyfranogiad a budd i gymunedau lleol?

13:55

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn o weld y datblygiad hwnnw, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â'r Jim yma—mae'n swnio fel arwr llwyr, i fyny ym mhorthladd Mostyn—oherwydd rhan o'r hyn y mae ganddo ddiddordeb yn ei wneud yw adeiladu a chydosod strwythurau tyrbinau gwynt a'r gwasanaethau ategol, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn eich bod chi, Mark, yn ei groesawu hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn am brosiect HyNet, ac wrth gwrs mae hwnnw'n brosiect trawsffiniol, sy'n cael ei weithio ochr yn ochr â fforwm datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy. Rwy'n credu bod y rhain yn ddatblygiadau pwysig iawn ac mae ganddo botensial gwirioneddol ar gyfer datblygu hybiau hydrogen ar draws y gogledd. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar hynny, ond hefyd gwneud yn siŵr bod gennym ni'r sgiliau i'w gefnogi, a bod pobl yn gweithio gyda'n colegau addysg bellach a'n prifysgolion i wneud yn siŵr bod gennym ni bobl sydd â'r sgiliau ar gael i fanteisio ar y cyfleoedd newydd hyn.

Diolch, Llywydd. Mae'n wych bod RWE yn gweithio gyda choleg y Rhyl ar raglenni prentisiaeth cynnal a chadw tyrbinau gwynt, y bydd wir eu hangen. Mae'n gyfleuster da iawn. Mae Jim O'Toole o Fostyn wedi dweud ein bod ni angen sgiliau morol hefyd ar gyfer y llongau trosglwyddo, ac mae prinder mawr o ran hynny, ac mae'n gobeithio y gallai gael uned ar y safle, ac mae'n barod i weithio gyda choleg lleol i roi sgiliau ymarferol priodol i fyfyrwyr, oherwydd does dim byd tebyg i ddysgu yn y swydd yno. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno bod angen gweledigaeth a chanllawiau eglur ar golegau i ddiwallu anghenion cyflogwyr ac unigolion yn effeithiol yn y dyfodol?

Diolch yn fawr. Ac wrth gwrs dyna fwriad y byrddau partneriaeth sgiliau rhanbarthol. Dylen nhw fod yn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gwrando ar bobl fel Jim O'Toole, yn dod yn ôl i'r colegau, ac yn gwneud yn siŵr bod hynny'n cael ei gyflawni. Rwy'n credu bod gennym ychydig mwy o waith i'w wneud i dynhau'r berthynas rhwng anghenion busnesau a darparu cyrsiau yng Nghymru.

Triniaeth Ddeintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar argaeledd triniaeth ddeintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru? OQ62408

Yn y flwyddyn 2023-24, roedd 117 o gontractau deintyddol yn gweithredu ar draws 83 o leoliadau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Wel, Brif Weinidog, dyma ni, wythnos arall a chytundeb deintyddol NHS arall yn cael ei roi yn ôl, yn Ninbych y tro yma—y seithfed o fewn dim ond cwpwl o fisoedd, a hynny ar fyr rybudd. Mae'r cytundeb yn dod i ben ar 1 Ebrill, sy'n golygu bod yna lai na mis gan drigolion i ffeindio gwasanaeth amgen, a rheini wrth gwrs yn cael eu hychwanegu at y miloedd eraill sydd wedi cael eu hamddifadu o wasanaeth deintyddol o dan yr NHS yn ddiweddar.

Byddwch yn ymwybodol iawn, mewn datganiad deifiol diweddar, bod Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi cyhuddo eich Llywodraeth o 'sbin', 'hanner gwirioneddau' a 'siarad dwbl' ar ddeintyddiaeth, ac aethon nhw ymlaen i ddweud,

'Mae Gweinidogion yn honni bod buddsoddiad a niferoedd cleifion ar eu huchaf erioed. Y gwir amdani yw bod buddsoddiad mewn deintyddiaeth wedi arafu, ac mae nifer y cleifion a welwyd mewn blwyddyn yn parhau i fod 30% yn is o gymharu â ffigurau 2019.'

Felly, a wnewch chi gyfaddef bod y sefyllfa bresennol yn annerbyniol ac yn eithaf anhrefnus, yn wir? A beth ydych chi'n ei ddweud wrth fy etholwyr yn Ninbych, yn Llandrillo-yn-Rhos, ym Mae Colwyn, yn y Fali, yng Nghoedpoeth, ym Mwcle, Llandudno, y mae pob un ohonyn nhw wedi colli deintyddion y GIG o dan eich Llywodraeth ac nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at ddeintydd ar y GIG? Ac mae'r rheini i gyd ar draws y gogledd, ac maen nhw i gyd wedi rhoi eu contractau yn ôl yn ystod y mis neu ddau ddiwethaf.

Wel, dwi'n meddwl bod e'n werth cydnabod bod 63,000 o gleifion newydd wedi derbyn cwrs llawn o driniaeth ers 2022, yn ogystal â’r ffaith fod 15,000 o urgent treatments wedi cael eu gwneud.

Nawr, rŷn ni'n cydnabod bod yna gap, ac mae'n anodd llenwi'r gap yna o ran y tymor byr, ond dwi'n falch i ddweud bod Betsi wedi llwyddo i ailosod y llynedd £1.5 miliwn o ran contractau, ac mae £5 miliwn wrthi'n cael ei gontractio ar hyn o bryd, a bydd hynny yn cael ei fuddsoddi, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n dangos lle mae pethau'n agor ac yn gweithredu'n well.

Mae gennym ni enghreifftiau yn Amlwch, yng Nghei Connah, yn Nolgellau, yng Nghaernarfon, ym Mae Colwyn, lle mae'r rhain yn bractisau newydd sydd wedi cael eu dyfarnu. A gadewch i ni beidio ag anghofio, pan fyddan nhw'n rhoi'r contract yn ôl, nid dyna'i diwedd hi; rydym ni'n eu hail-gontractio, rydym ni'n ailgyflwyno'r rhaglenni hynny, felly nid ydych chi'n ei golli yn gyfan gwbl. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod dealltwriaeth ein bod ni yn y broses honno—£5 miliwn ar fin cael ei benderfynu yn fuan, fuan iawn yn Betsi Cadwaladr o ran deintyddiaeth.

14:00

Rwy'n ddiolchgar i Llyr Gruffydd am godi'r cwestiwn yma, gan ei fod yn llygad ei le: mae llawer gormod o bobl yn y gogledd yn methu â chael mynediad at ddeintyddion y GIG a thriniaeth ddeintyddol y GIG sydd eu hangen arnyn nhw. A maddeuwch i mi, Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod gwahaniaeth rhwng yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud a'r sbin posibl a'r rhethreg gadarnhaol yr ydych chi'n ceisio eu rhannu yn y Siambr hon yn erbyn y realiti y mae trigolion y gogledd yn ei wynebu o un wythnos i'r nesaf. Ni allan nhw gael mynediad at ddeintydd y GIG sydd ei angen arnyn nhw, nid ydyn nhw'n gallu cael y driniaeth y maen nhw angen ei dderbyn yn daer, ac mae'n ymddangos bod y BDA, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, fel y dyfynnwyd eisoes gan Llyr Gruffydd, yn gywir pan wnaethon nhw ddweud bod Llywodraeth Cymru yn gwerthu hanner gwirioneddau.

Felly, beth yw'r gwir, Prif Weinidog? Ac ai'r gwir mai'r cam cyntaf tuag at gyflawni newid yw cyfaddef bod problem yno yn y lle cyntaf? A sut wnewch chi adfer eich perthynas â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain fel y gall fy nhrigolion gael mynediad at y driniaeth ddeintyddol sydd ei hangen arnyn nhw?

Wel, diolch yn fawr iawn. Y gwir, gadewch i mi fod yn eglur, yw'r hyn a ddywedais i wrthych chi, ond fe wnes i hefyd gydnabod yn fy ateb ein bod ni'n cydnabod bod bwlch sy'n anodd i ni ei bontio yn y byrdymor. Allwn ni ddim gorfodi deintyddion i weithio i'r GIG, a dyna'r ffaith amdani. Maen nhw'n gweithio'n annibynnol; dyna sut y mae hi. A gadewch i mi ddweud wrthych chi, o ran y contract, ein bod ni wedi rhoi codiad o 6 y cant iddyn nhw y llynedd o ran eu contract, nad yw'n swm bach o gynnydd, ac rydym ni hefyd ar fin dechrau ymgynghori â nhw ar gontract yr ydym ni wedi bod yn gweithio arno ers amser maith, ac rydym ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â chontract newydd y flwyddyn nesaf a fydd yn dderbyniol i bob parti.

Cymunedau Ynysig yn Ne-ddwyrain Cymru

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cymunedau ynysig yn ne-ddwyrain Cymru? OQ62396

Rydym ni'n cynorthwyo cymunedau ynysig yng Nghymru mewn sawl ffordd, gan gynnwys gwaith i wella cysylltedd trafnidiaeth, cysylltedd digidol a mynediad at addysg.

Diolch, Prif Weinidog. Nid yw cymuned ynysig, fel yr ydym ni'n gwybod, o reidrwydd yn golygu eich bod wedi'ch gwahanu, ond ychydig ymhellach i ffwrdd o drefi ac aneddiadau eraill—anghysbell yn y bôn. Ceir cymunedau fel hyn o gwmpas fy etholaeth i gyd, ond yn ddiweddar fe wnes i ddod yn ymwybodol o fater lle honnwyd bod blwch post, blwch post syml, wedi cael ei ddifrodi mewn ardal wledig. A beth oedd yr ymateb i hyn? Wel, aethpwyd ag ef i ffwrdd heb unrhyw rybudd—amwynder hanfodol. Yn anffodus, mae'n enghraifft o sut mae cymunedau gwledig yn teimlo'n ynysig ac wedi'u diystyru, ac os gwnewch chi gyplysu hynny gyda'r diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, cysylltiadau, eu ffyrdd, mynediad at y rhyngrwyd a'r holl bethau hynny yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol mewn cymunedau mwy trefol, gallwch weld pam maen nhw'n teimlo cymaint o rwystredigaeth. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y rhoddir cymaint o gefnogaeth â phosibl i gymunedau ynysig, ond hefyd i sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at yr amwynderau hanfodol ac adnoddau eraill fel eu bod yn teimlo eu bod wedi'u cysylltu a'u cefnogi?

Diolch yn fawr iawn, Peter. Nid wyf i'n credu fy mod i'n gyfrifol am flychau post, felly byddwn yn awgrymu eich bod chi'n codi hynny gyda'r corff priodol. Ond fe wnaf i ateb eich cwestiwn ehangach, sy'n ymwneud â chymunedau ynysig, gan fy mod i'n credu ei fod yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gymryd o ddifrif. Dyna un o'r rhesymau, er enghraifft, yr ydym ni wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian o ran cysylltedd digidol. Felly, gyda chysylltedd band eang, os meddyliwch chi am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud dros gyfnod estynedig, gyda phrosiect Cyflymu Cymru, er enghraifft, aethom ni o tua 45 y cant o gartrefi â band eang i 97 y cant. Mae hynny'n 733,000 o bobl a gynorthwywyd, ac roedd rhan o hynny oherwydd nad oedd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gwneud eu gwaith. Roedd yn rhaid i ni gamu i mewn. Felly, mae ots gennym ni am gysylltedd a'r cymunedau ynysig hynny, ac rydym ni'n cydnabod, heddiw, bod â chysylltiad yn hanfodol i'r ardaloedd hynny. Ond rwy'n gobeithio y gwnewch chi rannu hynny gyda'ch etholwyr: bod Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, wedi camu i'r adwy lle methodd y Torïaid.

14:05

Un o'r rhesymau pam mae pobl yn teimlo wedi'u hynysu mewn cymunedau ar draws y de-ddwyrain ac mewn mannau eraill, wrth gwrs, yw oherwydd effaith y dadreoleiddio bysiau Thatcheraidd. Wel, y Torïaid—[Torri ar draws.] Efallai nad yw'r Torïaid yn ei hoffi, ond y gwir amdani yw nad yw cymunedau yn cael eu hynysu drwy ddamwain neu weithred Duw, maen nhw'n cael eu hynysu oherwydd y penderfyniadau a wneir gan wleidyddion, ac sy'n cael eu cefnogi gan y Blaid Geidwadol yn y Siambr hon heddiw.

Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf i pryd y byddwch chi'n disgwyl gweld y Bil bysiau yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn ni ddechrau cymryd rheolaeth o'n cysylltedd a rheolaeth o'n gwasanaethau bysiau, a hefyd fy sicrhau bod digon o arian yn y gyllideb y prynhawn yma i sicrhau y gallwn ni barhau i gefnogi gwasanaethau bysiau i gysylltu cymunedau ym Mlaenau Gwent ac mewn mannau eraill?

Diolch yn fawr iawn. Gallaf eich sicrhau chi y bydd y Bil bysiau newydd yn cael ei gyflwyno'n fuan, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn y Siambr hon, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig, yn cefnogi'r Bil pan ddaw, oherwydd mae hyn yn ymwneud â'r Llywodraeth yn gallu cyfarwyddo cwmnïau bysiau mewn ffordd nad ydyn nhw wedi gallu ei wneud ers y dadreoleiddio hwnnw a ddigwyddodd o dan Thatcher.

Ffermwyr Ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed

6. Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i gefnogi ffermwyr ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ62389

Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi derbyn cyllid o £236,000 gan y grant sefydliad gwaith ieuenctid gwirfoddol strategol yn ogystal â grant hybu'r Gymraeg Cymraeg 2050 yn 2024-25. Mae grant y Gymraeg yn cynnwys cyllid o £1,100 i ffederasiwn Brycheiniog a ffederasiwn Maesyfed.

Diolch, Prif Weinidog. Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddiolch i chi am hynna a hefyd i CFfI Erwood a CFfI Penybont am ennill y cystadlaethau pantomeim yn y drefn honno dros yr wythnosau diwethaf.

Prif Weinidog, wrth i'r cam o gael gwared ar ryddhad etifeddiaeth amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes fygwth dyfodol ffermydd teuluol ar draws fy etholaeth, mae ffermwyr ifanc ym Mrycheiniog a Maesyfed yn wynebu dyfodol ansicr. Cyhoeddwyd y newidiadau hyn ar 30 Hydref y llynedd, arweiniodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl yma ar dreth etifeddiant ar 27 Tachwedd, ac eto cymerodd tan 28 Ionawr i'r Dirprwy Brif Weinidog ysgrifennu e-bost at ei gydweithwyr yn San Steffan, dri mis ar ôl i undebau ffermio Cymru godi eu pryderon am y newidiadau. Prif Weinidog, a yw eich Llywodraeth wir yn deall yr effaith ofnadwy y bydd yr oedi a'r diffyg gweithredu hyn yn ei chael ar ein cymunedau gwledig a'n ffermwyr ifanc, a pha gamau brys y gwnaiff y Llywodraeth hon eu cymryd nawr i ddiogelu ein ffermydd cenhedlaeth rhag newidiadau Llywodraeth Lafur y DU ac i ddiogelu dyfodol ffermwyr ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? Mae'n debyg y gwnewch chi sôn am arian ar gyfer cynlluniau, ond heb ein ffermwyr a heb y ffermydd hynny yno, nid yw'r cynlluniau hynny'n werth y papur y maen nhw wedi eu hysgrifennu arno.

Diolch yn fawr iawn. Gallaf eich sicrhau bod y Dirprwy Brif Weinidog wedi codi'r mater hwn mewn cyfarfodydd cyn i'r e-bost hwnnw gael ei anfon, ond gallaf eich sicrhau hefyd bod cryn dipyn o gymorth drwy Cyswllt Ffermio i bobl fynd i weithio allan sut mae'n bosibl gweithio gyda'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr. Wrth gwrs, efallai y gwnewch chi ddiystyru'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mewn gwirionedd, mae'n hanfodol i ddyfodol ffermio yn y wlad hon, ac mae'n bwysig, ac rwy'n falch iawn, ein bod ni wedi cael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth y DU y bydd hynny'n cael ei barchu o ran treth etifeddiant.

14:10
Addysgu Ieithoedd Tramor Modern

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru? OQ62373

Gall ieithoedd rhyngwladol chwarae rhan hanfodol mewn addysg a chynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau i'n dysgwyr. Mae ein cynllun Dyfodol Byd-eang yn cyflwyno gweledigaeth eglur i gefnogi ieithoedd rhyngwladol yn ein hysgolion, ac rydym ni wedi ymestyn hwn am flwyddyn arall i ddangos ein hymrwymiad i gefnogi ysgolion.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fodd bynnag, rydym ni wedi gweld gostyngiad i'r niferoedd sy'n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yr wyf i wedi eu canfod yn dangos bod cofrestriadau TGAU ieithoedd tramor modern yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol. Ac ar Safon Uwch, mae cofrestriadau ar gyfer ieithoedd tramor modern wedi haneru ers 2001. Mae sawl prifysgol wedi cau eu hadrannau ieithoedd tramor modern oherwydd gostyngiad i nifer y myfyrwyr. Pan fydd disgyblion ysgol yn dewis eu pynciau TGAU, dim ond tri opsiwn, neu bedwar ar y mwyaf, sydd ganddyn nhw ar ôl y pynciau gorfodol. Awgrymaf i'r Prif Weinidog, os ydym ni eisiau atal y dirywiad hwn, ein bod yn rhoi'r dewis i ddisgyblion o wyddoniaeth sengl ac ieithoedd dwbl, ac os nad yw'r Prif Weinidog yn cefnogi'r opsiwn hwnnw, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i gynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern, oherwydd dim ond i un cyfeiriad y mae'n mynd?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r gostyngiad i nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion yng Nghymru. Rwy'n credu bod yn rhaid cydnabod bod hyn yn rhan o ddarlun cymhleth iawn ac mae'n broblem sy'n cael ei rhannu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Mae'n fy ngwneud i'n arbennig o drist fel rhywun a astudiodd ieithoedd rhyngwladol yn y brifysgol. Ond rydym ni'n dechrau gweld rhai dangosyddion cadarnhaol. Y llynedd, er enghraifft, gwelsom gynnydd o 27 y cant i nifer y dysgwyr sy'n dewis astudio Almaeneg ar lefel TGAU, ochr yn ochr â chynnydd i nifer y cofrestriadau ar gyfer Ffrangeg, felly rydym ni'n symud i gyfeiriad gwell o leiaf. A'r newyddion da eraill yw ein bod ni'n dechrau gweld perfformiad yn y pynciau hyn yn bod yn eithaf cryf o'i gymharu â llawer o bynciau eraill. Rwy'n gwybod bod y rhaglen fentora ieithoedd tramor modern sy'n gweithio gyda 100 o ysgolion uwchradd ledled Cymru i hybu'r nifer sy'n astudio ieithoedd ar lefel TGAU—ers tua 2015, mae tua 20,000 o ddysgwyr wedi cymryd rhan yn y prosiect hwnnw.

Mae partneriaeth wych, Prif Weinidog, yn rhedeg rhwng Prifysgol Abertawe ac ysgolion lleol lle mae myfyrwyr prifysgol yn mynd i ysgol gynradd ac uwchradd i ennyn brwdfrydedd pobl ifanc mewn ieithoedd. Nid yn unig y mae'r fenter hon o fudd i'r disgyblion, ond mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr prifysgol wneud defnydd ymarferol o'r sgiliau a addysgwyd iddyn nhw. Mae wedi cael croeso da iawn ac mae'n rhywbeth y byddwn wrth fy modd yn ei weld yn cael ei gyflwyno yn fy rhanbarth i, sef Dwyrain De Cymru a'r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys Caerdydd. Ond rwy'n gwybod efallai na fydd modd cyflawni'r uchelgais oherwydd y toriadau llym arfaethedig ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n cynnwys rhoi'r gorau i addysgu graddau ieithoedd tramor. Mae darparu gwahanol ieithoedd, gan gynnwys Sbaeneg, Ffrangeg ac Almaeneg, i'n pobl ifanc yn cynnig manteision mawr go iawn; mae'n gwella galluoedd gwybyddol a dealltwriaeth ddiwylliannol ac yn darparu nifer o fanteision ymarferol a phersonol hefyd. I'r perwyl hwnnw, Prif Weinidog, a ydych chi'n falch o'r ffaith ei bod yn bosibl yn fuan mai Caerdydd fydd yr unig brifddinas yn y DU nad yw'n cynnig graddau ieithoedd tramor os bydd y mesurau arbed costau yn cael eu gweithredu? A pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fod yn eu cymryd i liniaru hyn yn y dyfodol? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gwybod bod cyflwyno ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, yn rhan o'r Cwricwlwm i Gymru—ac fe wnaethoch chi sôn am ysgolion cynradd—wedi digwydd ers 2022, sy'n golygu bod mwy o ddysgwyr nag erioed yn dysgu siarad iaith dramor fodern yn llawer cynharach. Ac mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn awtomatig ar y cyfandir; mae'n rhywbeth sydd braidd yn rhyfedd i ni yn y Deyrnas Unedig, ond rwy'n falch iawn bod ein cwricwlwm newydd yn ein harwain ni i lawr y llwybr hwnnw.

Ond rydych chi'n gwbl gywir, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn Abertawe yn cael eu hymestyn. Menter Llywodraeth Cymru oedd honno, wrth gwrs; roedd yn rhan o'r hyn a gyflwynwyd gennym yn ein cynllun strategol Dyfodol Byd-eang a diben hwnnw oedd cefnogi dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Phrifysgol Caerdydd, gan eu bod nhw wedi bod yn bartneriaid Dyfodol Byd-eang gwerthfawr ac rydym ni'n trafod goblygiadau eu cynigion a'u swyddogaeth barhaus yn y cynllun Dyfodol Byd-eang gyda nhw.

Prisiau Tai yng Ngogledd-orllewin Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gostyngiad o 12 y cant mewn prisiau tai yng ngogledd-orllewin Cymru yn y flwyddyn i fis Tachwedd 2024? OQ62382

Rydym ni eisiau i bobl allu fforddio byw yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddyn nhw ac rydym ni'n buddsoddi £1.4 biliwn y tymor hwn i gefnogi tai fforddiadwy. Mae ein dull, yn ein barn ni, yn gytbwys ac yn arloesol. Er enghraifft, rydym ni wedi cyflwyno pwerau fel y gall awdurdodau lleol ymateb i amgylchiadau lleol ac anghenion tai.

14:15

O ran tai fforddiadwy, y sector rhentu cymdeithasol sy'n achos mwy o ofid i mi, oherwydd mae llawer o'r rhai sy'n byw mewn llety dros dro nawr, mewn gwestai yn Llandudno ac mewn rhannau eraill o'r etholaeth, yn rhai sydd angen rhentu cymdeithasol. Ac mae digartrefedd yn dal i fod yn her sylweddol ledled Cymru. Erbyn mis Tachwedd 2024, roedd 11,466 o unigolion digartref yng Nghymru yn byw mewn llety dros dro, gyda 422 o unigolion yn byw mewn llety dros dro yng Ngwynedd a 612 yn rhagor yng Nghonwy.

Mae pawb ohonom ni wedi darllen yn ddiweddar am sut mae cyfran o hyn nawr—. Wyddoch chi, mae cyfarwyddyd erthygl 4 yn peri i werthoedd tai ostwng. Yn hytrach na gwthio perchnogion tai yng Ngwynedd i ecwiti negyddol a methu â mynd i'r afael â digartrefedd, mae angen i chi wneud mwy i rymuso—. Mae'n ddrwg gennyf i, mae'r cyn-Brif Weinidog yn edrych arna i o hyd—[Chwerthin.] Mae angen gwneud mwy i ganiatáu adeiladu tai llawer mwy fforddiadwy ar gyflymder. O dan eich system gynllunio ffaeledig chi, er hynny, nid ydych chi'n cyflawni niferoedd sy'n agos at y rhai y dylech chi fod yn eu cyflawni. Felly, beth sydd gennych chi i'w ddweud wrth y bobl hynny yr ydych chi'n caniatáu i brisiau eu cartrefi ostwng nawr o ganlyniad i'r holl feichiau rheoleiddiol yr ydych wedi'u cyflwyno, ond wrth y nifer fawr o bobl ddigartref hefyd yr ydym ni'n eu gweld wedi eu dal mewn llety dros dro nid dim ond am fisoedd ond am flynyddoedd?

Wel, diolch yn fawr iawn. Mae hwn yn bolisi bwriadol gan ein Llywodraeth. Rydyn ni eisiau i bobl leol allu fforddio prynu tai yn lleol. Rydych chi'n ysgwyd eich pen, ond mewn gwirionedd mae hwnnw'n ddull bwriadol iawn ar ein rhan ni. Rydych chi'n sôn am yr angen i fuddsoddi mewn tai. Rydyn ni'n buddsoddi beth wmbreth mewn tai. Rydyn ni'n buddsoddi symiau enfawr mewn tai—£1.4 biliwn y tymor Seneddol hwn—ac mae hynny'n cynnwys y swm uchaf erioed o £340 miliwn mewn grant tai cymdeithasol ar gyfer 2024-25. A wyddoch chi'n gwybod beth ydych chi am ei wneud heddiw? Rydych chi am bleidleisio yn erbyn rhoi arian ychwanegol i mewn i hynny. Felly, peidiwch â dod i'n holi ni a dweud wrthym ni beth i'w wneud pan nad ydych chi hyd yn oed am roi cefnogaeth i'r arian yr ydym ni'n ei roi i geisio unioni problem gwbl sylfaenol a brys ac sy'n flaenoriaeth i bobl y wlad hon.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:18:04
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Trefnydd, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddem ni'n gallu cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar ansawdd aer a'r angen i weithredwyr gwastraff gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol. Adroddwyd yn ddiweddar fod gweithredwr safle tirlenwi Withyhedge yn fy etholaeth i wedi cofnodi dau fater o ddiffyg cydymffurfio ddyddiau yn unig wedi ailagor y safle yn gynharach eleni. Trefnydd, mae hyn yn annerbyniol, ac ni ellir caniatáu i weithredwr barhau â'i waith pan geir achosion o ddiystyru rheoliadau amgylcheddol. Mae trigolion lleol wedi cwyno eu bod wedi gwynto arogleuon o'r safle, ac, fel y gwyddoch chi, rwy'n cefnogi eu galwadau dilys nhw am ymchwiliad cyhoeddus ac i'r lle gael ei gau i lawr. Rwy'n credu y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy cyn cyrraedd y sefyllfa hon, ac yn sicr fe all wneud rhywbeth nawr. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallem gael datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, neu hyd yn oed gan y Prif Weinidog, o ystyried y sylw sylweddol a gafodd y safle hwn yn genedlaethol. Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n clywed oddi wrth Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater hwn a hynny ar fyrder.

Diolch yn fawr, Paul Davies. Mae hi'n drist iawn clywed am y materion o ran ansawdd aer gyda'r gwaith gwastraff yr ydych chi'n cyfeirio ato, oherwydd, yn amlwg, rydyn ni wedi codi hyn, rydych chi wedi codi hyn ar sawl achlysur, ac mae'r pryderon hynny wedi cael sylw. Wrth gwrs, mae'r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ymwybodol iawn o'r mater ac yn ymgysylltu llawer iawn â monitro hyn, fel mae'n rhaid iddyn nhw, o ran eu swyddogaeth rheoleiddio o ran rheoliadau amgylcheddol. Felly, yn amlwg, fe wnaethoch chi godi hyn unwaith eto, ac mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi clywed hyn heddiw ac mae ar y cofnod, ac fe fyddwn ni, yn amlwg, yn edrych tuag at CNC i ymateb i'r pryderon hynny a godwyd gyda chi.

14:20

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, buaswn i'n hoffi gofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ynghylch adroddiad diweddar Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ynglŷn â meithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd yng Nghymru erbyn 2050. Dwi'n gwybod bod y Llywodraeth wrthi'n ystyried hyn, ond, ar y trydydd ar hugain o fis yma, mi ddaeth hi'n agos eithriadol unwaith eto i gael llifogydd difrifol yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli.

Mae'r trawma parhaus mae'r cymunedau hyn yn ei wynebu yn golygu bod pobl jest methu cysgu; maen nhw'n poeni gymaint rŵan am fisoedd drwy'r gaeaf. Dwi'n sylweddoli bod y Dirprwy Weinidog yn llwyr ymwybodol o hyn, ond y ffaith ydy bod cymaint o bobl angen cymorth gan eu doctoriaid, maen nhw ar feddyginiaeth. Dydy o ddim jest ynglŷn â chael llifddorau erbyn hyn. Felly, dwi'n meddwl ein bod ni wir angen cael trafodaeth ar lawr y Senedd hon ynglŷn â pha gymorth sydd ar gael, pa gymorth ddylai fod ar gael, ar gyfer pobl sydd yn gorfod byw mewn ofn.

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Wrth gwrs, fel rydych chi'n dweud, mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ymwybodol iawn o'r pryderon a'r problemau hyn, ac, yn wir, fel rydych chi'n dweud, rwy'n credu bod llawer iawn ohonom ni wedi bod ag etholwyr ledled Cymru sydd wedi bod drwy ddigwyddiadau llifogydd a fu'n ysgytiol iawn. Wrth gwrs, mae'r buddsoddiad—y buddsoddiad enfawr—yr ydym ni'n ei wneud nawr i atal llifogydd a lliniaru llifogydd yn cael effaith, ond, wrth gwrs—. Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol ac yn ddefnyddiol iawn fod y pwyllgor newid hinsawdd yn gwneud y gwaith hwn hefyd, ac fe godwyd hyn gan y comisiwn seilwaith. Ond mae hwn yn rhywbeth lle mae ein buddsoddiad mewn amddiffynfeydd llifogydd, lleddfu ac atal wedi bod mor helaeth yn fy marn i fel y bydd hynny, gyda gobaith, yn rhoi cysur i breswylwyr yr effeithir arnyn nhw, wrth i'r gwaith fynd rhagddo, ac fe fydd hynny'n digwydd gyda'r buddsoddiad hwnnw. 

Yn ddiweddar, fe fues i ar ymweliad â Choleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy i ddysgu am eu rhaglen gweithgareddau lles, sy'n hyrwyddo ffitrwydd, lles a chynhwysiant i fyfyrwyr a staff. Mae honno'n fenter ardderchog sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau y gall pob myfyriwr a staff gymryd rhan ynddyn nhw. Maen nhw wedi dechrau cynllun peilot 'chi newydd, dechrau newydd', sydd wedi helpu llawer o fyfyrwyr sydd wedi colli diddordeb yn eu lles i fabwysiadu ffyrdd iachach o fyw, ac mae eu rhaglen wedi esgor ar ganlyniadau rhagorol. Mae manteision rhaglen fel hon, sy'n grymuso pobl ifanc i fyw bywydau iachach, yn ddiderfyn, gydag effaith gadarnhaol nid yn unig ar eu hiechyd corfforol, ond ar eu hiechyd meddwl hefyd. Gyda 20 y cant o blant yn mynd i'r ysgol yn ordew neu dros bwysau erbyn cyrraedd pump oed, a 62 y cant o oedolion yng Nghymru dros 16 oed dros bwysau neu'n ordew, fe allai effaith rhaglen gweithgareddau lles gan ddarparwyr addysg ledled Cymru fod yn enfawr, gan leihau'r straen cynyddol ar y GIG. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gydag ysgolion i hybu iechyd a ffitrwydd, ac a ydyn nhw'n rhoi ystyriaeth i gynlluniau sy'n bodoli eisoes, fel rhaglen gweithgareddau lles Coleg Cambria, fel model i ysgolion eraill ei ddilyn? Diolch i chi.

Diolch i chi am godi hyn ac am sôn wrthym ni hefyd am y rhaglen ffitrwydd a lles newydd hon sy'n cael ei datblygu. Rwyf i o'r farn y bydd hyn yn rhywbeth y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ddiddordeb mawr ynddo, ac, wrth gwrs, mae'n rhan bwysig o'n cwricwlwm ni hefyd. Diolch i chi am roi gwybod i ni am y fenter arbennig honno, yr wyf i o'r farn y gellir ei hadlewyrchu ledled Cymru o ran sefydlu cynlluniau eraill o'r fath yn ein hysgolion ac yn ein colegau.

Hoffwn ofyn am ddadl gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ar bwysigrwydd gwasanaethau llyfrgell. Mae llyfrgelloedd yn cynnal ein pentrefi a'n trefi. Maen nhw'n fwy nag adeiladau yn unig. Maen nhw'n rhoi cnewyllyn i'n cymunedau ni. Maen nhw'n bwydo dychymyg plant ac yn darparu lle o gysur a chynhesrwydd i'r unig. Ond, ar draws bwrdeistref Caerffili, mae 10 llyfrgell mewn perygl o gau. Nawr, mae'n sicr y gallai ac y dylai'r Llywodraeth fod yn gwneud rhagor i rwystro hyn rhag digwydd. Mae dyletswyddau statudol ar gynghorau i ddarparu llyfrgelloedd ac mae dyletswydd ar y Llywodraeth i oruchwylio'r cyfrifoldeb hwnnw, ond sut all y pwerau hynny fod yn ddigon cadarn gyda chymaint o lyfrgelloedd mewn perygl?

Mi fydd hi'n Ddiwrnod y Llyfr ddydd Iau. Nawr, hwnnw yw'r diwrnod pan fydd plant yn dathlu eu hoff straeon a chymeriadau. Os bydd y llyfrgelloedd hyn yn cau, fe fydd mwy yn digwydd nag adeilad yn cau i'r plant hynny. Fe fydd ffenestri i fydoedd eraill yn cau. Nawr, rwy'n sylweddoli mai cyfrifoldeb i'r cyngor yw hwn, ond mae hi'n siŵr fod gan y Llywodraeth ddyletswydd yn hyn o beth i oruchwylio'r hawl i gael gwasanaethau llyfrgell. Felly, a gawn ni ddadl, os gwelwch chi'n dda, i ddatgan o'r newydd yr angen i gadw'r conglfeini hyn o'n cymunedau ni ar agor?

14:25

Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Yn wir, fe wn i eich bod chi wedi codi hyn o'r blaen o ran yr ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal gan un awdurdod lleol, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, o ran y ffyrdd y maen nhw'n ceisio diwallu anghenion eu cymunedau lleol. Ac ni fyddai unrhyw un yn anghytuno â phwysigrwydd gwaith y llyfrgelloedd. Rwy'n credu y gallwch chi weld ledled Cymru—. Ac mewn gwirionedd mae hyn yn mynd yn ôl at ddechrau cyni, mae'n rhaid i mi ddweud, dros y 14 mlynedd diwethaf, pan fu'r awdurdodau lleol dan bwysau arbennig o galed, ac fe gafwyd rhai enghreifftiau pwysig iawn o sut y digwyddodd trosglwyddo asedau cymunedol, ac mae cynghorau cymunedol wedi cymryd drosodd ac wedi rhannu'r cyfrifoldeb ag awdurdodau lleol am ddarparu llyfrgelloedd, ac mae hynny'n wir hefyd felly am grwpiau cymunedol ac elusennau. Rwy'n siŵr y bydd pob un o'r rhain yn cael eu hystyried o ran eu swyddogaeth a'r cyfraniad y gall llyfrgelloedd ei wneud, gan ystyried y ffaith bod llawer o dystiolaeth a phrofiad i'w gael ledled Cymru ynghylch sut y gellir cynnal y ddarpariaeth o lyfrgelloedd.

Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Prif Weinidog, yn gyntaf ynglŷn â'r toriad brawychus i gyllideb cymorth datblygu tramor y DU? Nid penderfyniad ariannol yn unig yw torri cymorth i 0.3 y cant. Mae i hynny ganlyniadau dinistriol i bobl. Fel rhybuddiodd Anneliese Dodds, fe fydd y toriadau hyn yn tynnu bwyd a gofal iechyd oddi ar y rhai hynny sydd mewn angen dybryd. Mae elusennau, grwpiau ffydd a chymunedau yng Nghymru wedi bod â rhan hanfodol yng nghymorth rhyngwladol ers amser maith ac maen nhw wedi condemnio'r toriad hanesyddol hwn o £6 biliwn fel esgeuluso dyletswydd yn llwyr.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei gael yw ynghylch Arlywydd yr Unol Daleithiau. Yng ngoleuni sylwadau hynod sarhaus a chythruddol Trump, yn ogystal â'r penderfyniad gwarthus i dorri cymorth i'r Wcráin, rwy'n gwerthfawrogi ac yn croesawu datganiad Prif Weinidog Cymru y bore 'ma. O ystyried gwahoddiad y teulu brenhinol i Trump, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru egluro eich safbwynt chi, os gwelwch chi'n dda, ar unrhyw ymweliad posibl â Chymru ac ymrwymo i sicrhau, yn gyntaf, nad yw hyn yn digwydd, ond yn fwyaf sicr i ymgysylltu â chymunedau yr effeithir arnyn nhw ar unrhyw ddoethineb ynghylch ymweliad. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds, a diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn.

Rwy'n credu eich bod chi wedi clywed yn gynharach y prynhawn 'ma oddi wrth y Prif Weinidog wrth ymateb i'r cwestiwn ynglŷn â chymorth rhyngwladol, a oedd yn cydnabod bod hwn yn benderfyniad anhygoel o anodd a wnaeth Llywodraeth y DU, ac fel dywedodd Prif Weinidog Cymru, wrth gwrs, roedd hyn wrth gwrs, o ran Llywodraeth y DU, yr ydym yn ei pharchu a'i chefnogi, mai dyletswydd gyntaf unrhyw Lywodraeth yw cadw ei phoblogaeth yn ddiogel. Ac mae hon yn foment dyngedfennol iawn, onid yw hi, ar gyfer diogelwch y DU ac Ewrop, ac, yn wir, mae'n benderfyniad anhygoel o anodd fel hynny—. Rwyf o'r farn, unwaith eto, fod Llywodraeth y DU wedi dweud yn eglur iawn nad oedd hwnnw'n gyhoeddiad yr oedden nhw'n hapus i'w wneud, ac yn falch iawn o'r enw da ym maes datblygu tramor a phwysigrwydd cyfranogiad allweddol, a gwaith dyngarol allweddol, fel y gwnaethom ni drafod yn y Siambr hon, mewn gwledydd a rwygwyd gan ryfel, lle, wrth gwrs, rydym ni'n cyfranogi hyd eithaf ein gallu.

Felly, mae'r byd yn newid o'n cwmpas ni, ac mae hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod pa mor anodd oedd y penderfyniad hwnnw, ond wrth gwrs mae hi'n bwysig iawn edrych ar y sefyllfa hefyd o ran ein cefnogaeth gadarn iawn i Wcráin ac i'r Wcreiniaid hynny sy'n byw gyda ni yng Nghymru. Fe wnaethoch chi sylwadau ar y datganiad gan y Prif Weinidog ar Wcráin, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig, i'r rhai nad ydyn nhw efallai wedi cael cyfle i weld hyn eto, fy mod i'n darllen ychydig o'r geiriau hynny:

'Rydym ni yng Nghymru wedi estyn llaw cyfeillgarwch i Wcráin, ac i’w phobl sydd wedi colli eu cartrefi oherwydd ymddygiad ymosodol Rwsia. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i helpu'r bobl sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu gwlad. 

'Mae ein cydsafiad ag Wcráin a'i phobl yn ddiamwys, a rhaid inni barhau i fod yn gefn i'n ffrindiau yno yn ystod y cyfnod anodd hwn.'

Y rhain, yn fy marn i, yw'r materion a'r pryderon a'r ystyriaethau sydd gennym ni o ran pobl o Wcráin sydd yma, ac, wrth gwrs, yn Wcráin hefyd, gan gydnabod gwaith eofn a dewr Mick Antoniw, ac Alun Davies yn wir, o ran yr ymweliad diweddar, a chlywed ganddyn nhw hefyd, am yr amgylchiadau, a chydnabod beth mae hyn yn ei olygu i'n dinasyddion Wcreinaidd ni sydd yma yng Nghymru hefyd.

14:30

Trefnydd, mae cartrefi gofal ledled Cymru yn cael eu heffeithio mewn ffordd bryderus o andwyol, wrth gwrs, gan y codiadau mewn yswiriant gwladol. Ddoe, fe fues i'n ymweld â chartref gofal Regency yn Nhorfaen, sy'n rhagweld cynnydd o £100,000 yn eu biliau yswiriant gwladol yn unig. Mae'r sefyllfa yn bryderus iawn. Ac fe allan nhw ddygymod â'r storm—mae'r busnes wedi ymsefydlu ganddyn nhw—ond fe geir rhai eraill nad ydyn nhw'n gallu gwneud felly, yn enwedig y rhai sy'n fwy newydd, y bobl sydd newydd sefydlu cartrefi gofal ledled Cymru. Mae hi'n anochel y bydd hyn yn arwain at leihad cynyddol yn nifer y cartrefi gofal, gyda'r holl filiau ychwanegol a ragwelir, wrth gwrs ynghyd â'r isafswm cyflog cenedlaethol yn cynyddu a'r codiadau cyflog byw gwirioneddol hefyd. Mae'r costau bron yn anymarferol ar gyfer cartrefi gofal ar hyn o bryd. A'r ymdeimlad yw eu bod nhw'n cael eu hanghofio yn aml. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar ba asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru o'r newidiadau i yswiriant gwladol a chodiadau treth eraill, ar gartrefi gofal yn benodol, yn ogystal â'r holl bwysau sydd arnyn nhw fel arall o ran recriwtio a chadw staff ac ati? Diolch i chi.

Wel, rydych chi wedi codi'r mater hwn o'r blaen, Laura Anne Jones, o ran y sefyllfa, wrth gwrs, i'r cartrefi gofal eu hunain, yn y sector annibynnol, ac, yn wir, yn rhan o'r awdurdodau lleol, ar gyfer llawer o gartrefi gofal. Ac rwy'n gobeithio y byddwch chi, prynhawn 'ma, yn cydnabod bod hwn yn gyfle allweddol i gefnogi ein cyllideb ni, fydd, wrth gwrs, yn rhoi mwy o arian nid yn unig i'r awdurdodau lleol, ond ar gyfer gofal cymdeithasol hefyd. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni ystyried hyn yn ddifrifol o ran y cyfraniad a gaiff ei gyflwyno o ganlyniad i'r gyllideb hon y prynhawn yma, sydd, ar gyfer fy mhortffolio i, rwyf hefyd yn gweld y cynnydd sy'n mynd rhagddo o ran y trydydd sector, y sector gwirfoddol, sydd, wrth gwrs, yn sicr yn chwarae ei ran hefyd o ran gofal cymdeithasol a'r ddarpariaeth o ofal.

Yn debyg i Laura Anne Jones, dwi hefyd am ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid ar y mater yma o gynnydd mewn yswiriant gwladol, ond mae’r ffocws gen i ar sut fydd y Llywodraeth yn cefnogi mudiadau yn y trydydd sector sy’n wynebu heriau mawr yn sgil y cynnydd yma. Mi wnaf i roi un enghraifft i chi. Mae Antur Waunfawr yn rhoi lle canolog i oedolion efo anableddau dysgu yn ein cymunedau ni a’r byd gwaith yn Arfon. Mae’r antur yn wynebu sefyllfa ariannol heriol, ac angen talu £71,684 o gyfraniadau yswiriant gwladol. Mae mudiadau tebyg yn wynebu heriau tebyg ar draws Cymru, efo pobl fregus yn wynebu toriadau i wasanaethau yn sgil hyn. Felly, mi fyddai datganiad ar hyn yn sôn am effaith y cynnydd, ond, yn bwysicach, pa gefnogaeth y gellid ei gynnig i’r trydydd sector gan y Llywodraeth yma—.

Ac yn ail, mater arall: a gaf i ofyn i chi drafod efo’r Ysgrifennydd tai a llywodraeth leol yr angen iddi ateb fy llythyrau diweddar i ati hi yn holi am y gwaith adferol i dai mewn pedair cymuned yn fy ardal i a gymerodd ran yng nghynllun Arbed? Mi wnes i anfon llythyr ddiwedd Ionawr—hwn oedd y diwethaf mewn cyfres hir o ohebiaeth sy’n dyddio nôl o leiaf wyth mlynedd efo’r Llywodraeth yma, sy’n ceisio cael tegwch i dros 50 o deuluoedd a wnaeth roi ei ffydd yn y cynllun yma gan y Llywodraeth. Ond er gwaethaf sawl addewid, sawl adroddiad a sawl arolwg, mae'r trigolion yn dal i ddisgwyl am newyddion da, ac rydych chi'n clywed y rhwystredigaeth yn fy llais i hefyd am y diffyg cynnydd. Diolch.

14:35

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Fel rwyf i newydd ei ddweud wrth ymateb i gwestiwn gan Laura Anne Jones, rwy'n falch iawn o'r cynnydd yn fy mhortffolio i o ran y gefnogaeth i'r trydydd sector. Yn amlwg, nid y Llywodraeth hon a wnaeth y penderfyniadau hyn, ond mae'r pwysau hynny sydd yn dod i'r amlwg yn fater yr ydym ni'n disgwyl clywed rhywfaint o ddiweddariad yn ei gylch i'r rhai sydd yn y sector cyhoeddus. Ond, yn arbennig felly, rwy'n credu y bydd y cynnydd a roddais i seilwaith Cymru yn helpu seilwaith y trydydd sector ar gyfer Cymru, sy'n cynnwys ein cynghorau gwirfoddol sirol, ac a fydd yn llesol i'r rhai yn y trydydd sector. Fe wnaethoch chi sôn am un ganolfan benodol, ac fe fyddwn i'n gobeithio y bydden nhw'n cael cyngor a chefnogaeth gan eu cyngor gwirfoddol lleol nhw, yr ydym ni'n ei gefnogi, ond gan gydnabod hefyd fod cynnydd wedi bod yn y lwfans cyflogaeth i gyflogwyr llai yn y trydydd sector, ac o ran niferoedd gweithwyr hefyd.

Yn amlwg, fe fyddaf i'n codi—ac rydych chi wedi codi hyn heddiw a'i roi ar y cofnod—disgwyliadau ar gyfer ymateb ynglŷn â'r gwaith adfer y bydd angen ei wneud o ran yr ymateb i gynllun Arbed yn eich etholaeth chi.

Rwy'n galw am un datganiad ar Ddiwrnod o Fyfyrdod COVID-19. Dydd Sul 9 Mawrth yw'r diwrnod ledled y DU i fyfyrio ar bandemig COVID-19, a fydd yn nodi pum mlynedd ers dechrau'r pandemig. Serch hynny, er i Lywodraeth Cymru lunio coetir coffa COVID ar ystad Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam, a agorodd yn ddiweddar, rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod nodi'r diwrnod gyda digwyddiad—. Ydych chi eisiau i mi stopio?

—i nodi'r diwrnod gyda digwyddiad yn y coetir. Fel y mae COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn ei ddweud, mae'n ddigon drwg bod y rhai mewn profedigaeth oherwydd COVID wedi gweld gwrthod ymchwiliad i Gymru a'u bod bron yn anweledig yn yr un ar gyfer y DU gyfan, ond mae anwybyddu'r diwrnod yn sarhad gwirioneddol ar bob un a fu farw a'u teuluoedd. Gwnaethon nhw ychwanegu nad yw Llywodraeth Cymru am gynnal digwyddiadau yn y ddwy goedwig arall a luniwyd ganddyn nhw i goffáu COVID chwaith, ond maen nhw wedi cael gwybod y bydd rhywun o Lywodraeth Cymru yn dod i'r digwyddiad preifat ar eu cyfer yng Nghaerffili. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad byr ar gyfer y diwrnod, mae'r teuluoedd yn mynegi bod datgan mai diwrnod i bobl yng Nghymru ei nodi mewn ffyrdd sy'n teimlo yn ystyrlon iddyn nhw eu hunain yn anghywir. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'r rhai a gafodd brofedigaeth, fe fydden nhw wedi dweud eu bod nhw'n dymuno cael digwyddiad o goffâd ffurfiol wedi'i drefnu ganddyn nhw. Rwy'n galw am ddatganiad ynglŷn â hynny, mewn ymateb i'r pryder hwnnw, a fynegwyd yn y ffordd honno.

Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood, am godi hynna heddiw. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi codi hyn yn y datganiad busnes oherwydd, dros y penwythnos, fe fyddwn ni yng Nghymru, ynghyd â gweddill y DU, yn nodi pum mlynedd, fel roeddech chi'n dweud, ers dechrau pandemig COVID, a gafodd effaith mor fawr ar ein bywydau ni i gyd. A gaf i ddechrau'r ymateb i'ch cwestiwn trwy ddweud ei bod hi'n rheidrwydd i'r bobl a gafodd brofedigaeth fod bennaf yn ein hystyriaethau ni, gan y bydd y coffâd pum mlynedd yn arbennig o anodd a dirdynnol iddyn nhw? Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod y diwrnod o fyfyrdod yn digwydd ddydd Sul. Bydd coetiroedd coffa Ynys Hywel yng Nghaerffili, fel roeddech chi'n dweud, yn croesawu ymwelwyr ddydd Sul i nodi Diwrnod o Fyfyrdod COVID-19. Fe fyddaf i'n mynychu'r digwyddiad hwnnw. Bydd coetiroedd coffa Hafod y Bwch, sydd newydd gael eu hagor, ar ystad Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam, yn croesawu ymwelwyr ddydd Sul hefyd. Yn ogystal â hynny, rwy'n credu y bydd Gweinidogion eraill yn ymgysylltu â'r coffáu ar y diwrnod hwnnw.

Wrth gwrs, bydd digwyddiadau eraill i goffáu yn cael eu cynnal yng Nghymru, sydd i'w gweld ar fap Diwrnod o Fyfyrdod COVID-19—'Cymryd rhan', 'Diwrnod o Fyfyrdod COVID'—lle gall unigolion a sefydliadau gyhoeddi digwyddiadau y maen nhw'n eu cynllunio, neu ddod o hyd i ddigwyddiadau cyhoeddus i fod yn bresennol ynddyn nhw. A, nos Sul, fe fydd adeiladau Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays yn cael eu goleuo â golau melyn i nodi'r diwrnod. Mae'r penwythnos yn bwysig, mae'r diwrnod yn bwysig, mae'r amser yn bwysig. Yn amlwg, mae hwn yn ddigwyddiad y byddwn ni'n myfyrio arno, rwy'n siŵr, ar draws y Senedd, ond o safbwynt Llywodraeth Cymru hefyd, a fydd yn ymgysylltu yn llawn o ran cydnabod dwyster ac anhawster arbennig y cyfnod i'r perthnasau hynny a gollodd anwyliaid.

14:40
3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Eitem 3 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni nodi dwy flynedd ers y penderfyniad i osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig. Mae pawb yn ymwybodol o’r rhesymau dros y penderfyniad. Ymateb uniongyrchol oedd hwn i bryderon ynglŷn â llywodraethiant, arweinyddiaeth a pherfformiad. Rydyn ni wedi craffu ar y materion a’u trafod nhw yn y Siambr hon sawl gwaith.

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi’r ail adroddiad cynnydd blynyddol. Mae hwn yn edrych ar y cynnydd dros y ddwy flynedd diwethaf ers i’r bwrdd gael ei uwchgyfeirio i statws mesurau arbennig. Ers imi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwyf wedi cwrdd gyda chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o leiaf unwaith y mis. Rwyf hefyd wedi cwrdd gyda’r prif weithredwr, a gyda aelodau’r bwrdd yn ehangach, nifer o weithiau. Rwyf wedi gweld eu hymrwymiad a’u penderfyniad nhw i fynd ati i wella gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl y gogledd, a hynny mewn ffordd sydd yn ystyrlon ac yn gynaliadwy.

Rwyf wedi ymweld â phob un o’r tri phrif ysbyty ac â llawer o leoliadau gofal iechyd cymunedol ar draws y rhanbarth. Hoffwn i gydnabod gwaith caled staff ar draws y bwrdd iechyd, yn y gymuned ac yn yr ysbyty. Mae gan aelodau o staff ran bwysig a chwbl annatod yn y daith i wella’r bwrdd iechyd.

Nid nawr, Dirprwy Lywydd, yw’r amser i isgyfeirio statws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o fesurau arbennig. Ond, gadewch inni gadw mewn cof bod llawer iawn o waith da yn mynd rhagddo ar draws y gogledd. Gaf i felly ddefnyddio’r datganiad hwn heddiw i dynnu sylw at y gwaith da hwnnw, yn ogystal â’r meysydd y mae angen i’r bwrdd iechyd barhau i ganolbwyntio arnyn nhw?

Yn gyntaf, hoffwn i rannu rhai enghreifftiau o’r gwaith da, a sôn hefyd am y datblygiadau sy’n torri tir newydd. Y fan awdioleg gymunedol: cefais i’r fraint o ymweld â hwn yn gynharach eleni. Dyma’r trefniant cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae tîm awdioleg oedolion y bwrdd iechyd wedi cael ei enwi’n dîm y flwyddyn gan yr Academi Awdioleg Brydeinig. Ysbyty Gwynedd: dyma leoliad canolfan hyfforddiant robotig gyntaf y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Yma, maen nhw’n rhoi hyfforddiant mewn llawfeddygaeth drwy gymorth robot ar y pen-glin. Ysbyty Abergele: mae llawfeddygon yn yr ysbyty hwn yn treialu technoleg realiti estynedig ar gyfer llawdriniaethau i osod pengliniau newydd.  Plas Gororau yn Wrecsam: mae hwn yn gyfleuster pwrpasol ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau iechyd cymunedol. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys apwyntiadau fflebotomi, adran cleifion allanol iechyd meddwl, a chanolfan frechu. Adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd: am yr ail flwyddyn o’r bron, fe ddywedodd meddygon dan hyfforddiant mai dyma’r lle gorau i hyfforddi yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, rwy'n deall y rhwystredigaeth y mae pobl yn ei theimlo wrth iddyn nhw wynebu amseroedd aros hir am apwyntiadau, gofal a thriniaethau. Nid yw hynny'n ddigon da. Un o'r rhesymau pam y rhoddwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig oedd oherwydd ei broblemau o ran perfformiad. Yn anffodus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r gyfran uchaf o arosiadau hir ac mae beth ffordd y tu ôl i fyrddau iechyd eraill ar hyn o bryd o ran eu lleihau, hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol y gwnaethom ni ei roi. Mae llawer i'w wneud eto i sicrhau y bydd pobl yn cael gofal mewn da bryd fel y byddem ni'n ei ddisgwyl, yn enwedig ar gyfer gofal brys.

Ond fe fu yna beth cynnydd nodedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth orthopedig o ddwy ran o dair bron iawn, ac mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio cyllid ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru i haneru cyfanswm y bobl sy'n aros am fwy na dwy flynedd o ran pob arbenigedd erbyn diwedd y mis hwn. Os bydd y cynlluniau hynny'n cael eu cyflawni, fe fyddai hynny'n golygu gostyngiad o dros 5,600, o gymharu â mis Chwefror 2023. Mae cynnydd o 10 y cant wedi bod mewn asesiadau lleol iechyd meddwl sylfaenol yn cael eu cwblhau o fewn 28 diwrnod ar gyfer oedolion a chynnydd o 33 y cant ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed. Y bwrdd iechyd sydd â'r gyfradd uchaf yng Nghymru o gynnal ymgynghoriadau dan wasanaethau rhagnodi annibynnol fferyllwyr yng Nghymru, ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno ar gontractau deintyddol newydd y GIG gwerth mwy na £5 miliwn.

Dirprwy Lywydd, cyn i'r bwrdd iechyd gael ei roi mewn mesurau arbennig, roedd yn cael anawsterau o ran arweinyddiaeth a llywodraethu aneffeithiol. Roedd adroddiad gan Archwilio Cymru yn 2023 yn cyfeirio at 'ddeinameg bwrdd sy'n gamweithredol' ac roedd yn galw am gamau ar unwaith i unioni hynny. Mae gan y bwrdd gyflenwad llawn o aelodau annibynnol erbyn hyn, sy'n cynnwys cadeirydd ac is-gadeirydd newydd, prif weithredwr parhaol ac ymgyrch recriwtio barhaus i lenwi'r swyddi cyfarwyddwyr gweithredol sydd ar ôl. Cyn sefydlu'r mesurau arbennig, nid oedd yna systemau llywodraethu corfforaethol cydlynol. Roedd heriau sylweddol o ran cydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol, ac roedd prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau yn cael eu rhwystro gan lif annigonol o wybodaeth. Erbyn mis Mehefin 2023, cafodd pob strwythur pwyllgora ei ailsefydlu, gyda chefnogaeth cylch gwaith pendant a chynrychiolaeth well o ran aelodau ar fwy nag un pwyllgor ar gyfer gwella'r oruchwyliaeth.

Dirprwy Lywydd, pan gefais fy mhenodi yn Ysgrifennydd Iechyd, fe gefais wybod am ganfyddiadau cyfres o adolygiadau annibynnol gan Lywodraeth Cymru ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd y rhain yn amlygu rhai materion difrifol a oedd wedi ymwreiddio yn ddwfn iawn. Mae'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu a'r argymhellion yn sgil yr adolygiadau hyn wedi eu cwblhau, ac mae gan y bwrdd iechyd gynlluniau ac amserlenni eglur ar waith i gwblhau'r rhai sydd ar ôl. Mae'r bwrdd iechyd wedi cryfhau ei lywodraethu ariannol a'i reolaeth ariannol.

Yn 2023, roedd y bwrdd iechyd yn ymdrin â materion difrifol a etifeddwyd o'r gorffennol, a oedd yn cynnwys methiannau o ran gweithredu yn gyflym wrth ymateb i gwynion, cynllunio strategol a oedd yn annigonol neu'n aneffeithiol, amseroldeb ymchwiliadau'r byrddau iechyd, a'r ddibyniaeth barhaus ar gofnodion cleifion ar bapur. Cymeradwywyd polisi pryderon integredig newydd ar gyfer digwyddiadau, cwynion ac adolygiadau marwolaethau ym mis Gorffennaf y llynedd. Erbyn mis Hydref, roedd y bwrdd iechyd wedi cyflawni—ac wedi cynnal—y targed o gau 75 y cant o gwynion o fewn 30 diwrnod. Mae nifer yr achosion o hysbysiadau atal marwolaethau yn y dyfodol a roddwyd i'r bwrdd iechyd gan grwneriaid Ei Fawrhydi wedi bod yn destun pryder gwirioneddol. Ond mae'r broses ymchwiliadau wedi gwella ac mae'r bwrdd yn nodi ac yn ymwreiddio yr hyn a ddysgwyd yn sgil digwyddiadau. Derbyniodd y bwrdd iechyd 10 rhybudd o'r fath yn 2024, o gymharu â 22 yn 2023. Hyd yn hyn, eleni, fe gyhoeddwyd un hysbysiad.

Mae arolygiadau a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi tynnu sylw at welliannau hefyd, yn cynnwys mewn nifer o safleoedd iechyd meddwl. Yn y cyfnod a arweiniodd at fesurau arbennig, cafodd dau wasanaeth eu dynodi yn wasanaethau gan AGIC ag angen gwelliant sylweddol. Ond ym mis Mehefin y llynedd, roedd AGIC yn fodlon â'r gwelliannau a fu gyda gwasanaethau fasgwlar a chafodd y gwasanaeth ei isgyfeirio. Ym mis Awst 2024, cafodd yr adran frys yn Ysbyty Glan Clwyd ei hisgyfeirio hefyd, i gydnabod y gwelliannau.

Ym mis Tachwedd 2024, penderfynodd y bwrdd iechyd ar oediad dros dro yn y ddarpariaeth uniongyrchol o lawdriniaeth fasgwlaidd anewrysm aortig yn yr abdomen agored a gynlluniwyd ac mewn argyfwng yn y gogledd. Rhoddwyd trefniadau clinigol ar waith, fel gŵyr yr Aelodau, i bobl gael eu trin yn Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke.

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaethau iechyd meddwl wedi eu grymuso dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac fe sefydlwyd grŵp cynghori arbenigol ar gyfer adolygu, gwirio a herio tystiolaeth o gynnydd o ran iechyd meddwl.

Dirprwy Lywydd, mae'r sefydliad wedi teithio cryn bellter dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ystod y flwyddyn gyntaf fe welwyd gwelliannau amlwg o ran llywodraethu corfforaethol ac arweinyddiaeth y bwrdd. Mae'r ail flwyddyn wedi gweld pwyslais gwirioneddol ar ansawdd a diogelwch, gyda'r bwrdd yn ymateb i lawer o faterion o'r gorffennol mewn ffordd agored a thryloyw. Wrth i ni symud i drydedd flwyddyn y mesurau arbennig, fe fydd y pwyslais ar afael a rheolaeth weithredol, cytuno ar fodel newydd o weithredu a'i roi ar waith, gwella perfformiad ac ymwreiddio'r sylfeini angenrheidiol er mwyn i'r sefydliad lwyddo yn yr hirdymor.

Fe fyddwn ni'n parhau i roi cefnogaeth a her adeiladol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn iddo gyflawni ei ddiben creiddiol, sef darparu gofal rhagorol i bobl y gogledd a chefnogi eu hiechyd a'u lles. Diolch.

14:50

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Roedd hi'n siomedig ein bod ni wedi ei dderbyn mor fyr rybudd cyn eich datganiad heddiw. Ac rwy'n nodi mai dim ond hyd at ddwy flynedd olaf y drefn o fesurau arbennig yr oeddech chi'n cyfeirio, tra ein bod ni i gyd yn gwybod fod hwn yn fwrdd iechyd sydd wedi bod mewn trafferthion ers bron i 10 mlynedd erbyn hyn, wedi mynd i fesurau arbennig yn ôl ym mis Mehefin 2015 am y tro cyntaf. Felly, mae ychydig yn siomedig ein bod yn dal i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fethiannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bron i 10 mlynedd yn ddiweddarach, ac na fu digon o gynnydd ar lawr gwlad o ran y gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn. Fe hoffwn ddiolch i holl staff y GIG sy'n gweithio yn galed yn y system, yn ceisio darparu'r gofal o'r ansawdd gorau y gallan nhw, ond y gwir amdani, mae arna' i ofn dweud, yn rhy aml, yw bod cleifion yn fy etholaeth i ac mewn mannau eraill ar draws y gogledd yn teimlo eu bod yn cael eu siomi gan y bwrdd iechyd hwn a'r gwasanaethau y maen nhw wedi bod yn eu cael.

Roeddech chi'n cyfeirio at gynnydd o ran arosiadau am dros ddwy flynedd a rhagor; ni wnaethoch chi sôn am yr arosiadau o dair blynedd a rhagor mae pobl yn eu dioddef ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae naw deg un y cant o'r bobl sy'n aros am fwy na thair blynedd am eu triniaeth yng Nghymru yn gwneud hynny yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hwnnw'n ystadegyn cywilyddus. Ac fe wyddom ni fod pobl, fel arfer, yn parhau i aros am fwy na dwy flynedd, pe bydden nhw'n cael eu hatgyfeirio heddiw, am driniaeth offthalmoleg, triniaeth dermatoleg, triniaeth orthopedig, ac mae gennym ni bobl sy'n aros hyd at bum mlynedd—pobl ifanc, plant yn aros hyd at bum mlynedd—am asesiadau niwrowahaniaeth. Pobl ifanc yw'r rhain sydd angen yr asesiadau hynny i gael y cymorth priodol sydd ei angen arnyn nhw gyda'u haddysg. Nid yw hynny'n ddigon da.

Roeddech chi'n sôn am welliannau o ran adrannau brys sydd wedi gweld isgyfeirio. Y gwir amdani yw mai perfformiad yr adrannau brys yn ein hysbytai yn y gogledd yw'r gwaethaf yng Nghymru gyfan. Dim ond 45 y cant o bobl sy'n cael mynd i mewn ac allan o'r adrannau brys, sef y prif adrannau brys yn y gogledd, o fewn y targed pedair awr. Ac mae gennym y perfformiad gwaethaf yn erbyn y targed 12 awr hefyd. Rwy'n ofni bod hyn yn arwydd o hunanfodlonrwydd, yn eich ymateb chi, pan nad yw un o bob pedwar o bobl yn cael ei weld a'u rhyddhau o fewn y targed hwnnw o 12 awr. Nid yw hynny'n ddigon da.

Ac fe gawsom ni lawer o addewidion am bethau da i ddod eto. Fe wnaethoch chi addo i ni nawr y bydd mwy na hanner yr arosiadau o ddwy flynedd yn cael eu diddymu erbyn diwedd mis Mawrth. Wel, rwy'n edrych ymlaen at eich gweld chi ar ddiwedd mis Mawrth er mwyn gallu cymharu'r ffigurau hynny, oherwydd rwy'n ei chael hi'n anodd credu y byddan nhw'n cael eu cyflawni. Fe wyddom ni hefyd eich bod wedi addo pethau da i ddod eto sawl blwyddyn yn ôl, pan oeddech chi'n dweud y byddech chi'n buddsoddi mewn ysbyty newydd sbon yn ardal y Rhyl i dynnu pwysau oddi ar yr ysbyty i lawr y ffordd ym Modelwyddan. Dros 12 mlynedd yn ôl erbyn hyn, roedd honno'n addewid a gafodd ei gwneud i bobl y gogledd gan yr Ysgrifennydd iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, a aeth yn ei flaen i fod yn Brif Weinidog, ond na chyflawnodd yr addewidion hynny o hyd—a gafodd eu gwneud bob tro, gyda llaw, o flaen etholiad ac wedyn byth yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd. Rwy'n amau y byddwn ni'n gweld mwy o'r un peth heddiw, gyda mwy o obeithion yn cael eu codi ynglŷn â chyflawni'r prosiect hwnnw.

Fe gawsom ni wybod hefyd am brosiect newydd sbon o ran uned iechyd meddwl. Yn ôl yn 2018, fe ddywedwyd wrthym ni y byddai uned Ablett yn cael ei dymchwel neu ei hailfodelu yn llwyr ac fe fyddai uned iechyd meddwl newydd sbon gennym ni ar gyfer cleifion mewnol gyda 60 o welyau ar safle Ysbyty Glan Clwyd. I ble'r aeth honno? Ni welsom unrhyw beth o gwbl, dim yw dim. Felly, rydych chi'n dal ati i addo'r pethau hyn i wella gwasanaethau, heb eu cyflawni nhw, ac nid oes gwelliant i wasanaethau wedyn, ac, mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar y cyfnod hwn o 10 mlynedd yn ei gyfanrwydd o'r adeg y cafodd ei roi mewn mesurau arbennig am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2015, mae'r perfformiad ar bron pob un mesur yn waeth erbyn hyn nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl. Mae hi'n waeth yno erbyn hyn nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl, a hynny er gwaethaf ymyrraeth honedig Llywodraeth Cymru. Wel, rwy'n ofni nad yw eich ymyrraeth chi'n gweithio. Nid yw'n gweithio. Nid yw pethau'n gwella o ran profiadau cleifion a dyna pwy sy'n bwysig mewn gwirionedd.

Yr hyn sy'n gywilyddus hefyd yw i ni fod â swyddogion gweithredol diffygiol yn y bwrdd iechyd sydd wedi gadael eu swyddi heb gael eu diswyddo. Mae pobl yn ystyried hynny'n gwbl resynus sef ein bod ni wedi gweld blynyddoedd o fethiant fel hyn, ond nid oes neb wedi cael ei ddwyn i gyfrif o ganlyniad i'r methiannau hynny. Mae pobl wedi gallu gadael naill ai gyda chytundebau cyfaddawdu neu ar eu telerau eu hunain. A dweud y gwir, mae hynny'n warthus.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at lywodraethu ac arweinyddiaeth ac, wrth gwrs, fe hoffwn i weithio mor agos gyda'r bwrdd ag sy'n bosibl, gyda'r cadeirydd a chyda'r tîm gweithredol i gyflawni'r gwelliannau y mae angen i ni eu gweld, ond nad ydym ni'n eu gweld mewn gwirionedd.

O ran adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol, rydych chi'n ymddangos yn hunanfodlon unwaith eto. Un ar ddeg ers dechrau'r llynedd, dyna'r mwyaf o blith unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru, ac mae hynny'n dal i fod yn anghymesur fwy na phoblogaeth y gogledd o'i gymharu â phoblogaethau byrddau iechyd eraill. Rwy'n ofni nad yw'r hunanfodlonrwydd hwn yn foddhaol. Mae angen i ni weld newid gwirioneddol ac fe hoffwn i weld amserlen eglur gennych chi yn y Llywodraeth, gyda set glir o gamau y byddwch yn eu cymryd yn y Llywodraeth y gallwn eich mesur yn eu herbyn, oherwydd nid yw'r hyn a gyhoeddwyd gan y bwrdd iechyd a chan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn yn rhoi unrhyw hyder i ni y bydd pethau yn gwella yn sylweddol. 

14:55

Mae'n ddrwg gen i os oedd yr Aelod yn teimlo na chafodd ddigon o amser i ddarllen y datganiad ymlaen llaw. Fe allai fod wedi gwneud iawn am fy ngwendid trwy wrando ar y datganiad a roddais yn y Siambr ei hun. 

Nid wyf yn credu bod ei bortread o'r datganiad yn un cwbl deg. Mae'r datganiad yn eglur iawn, fel mae'r Llywodraeth, bod ffordd bell iawn, iawn i'w theithio eto, ond mae'n bwysig, wrth i'r bwrdd iechyd gymryd y camau y mae angen eu cymryd, yn unol â'r meini prawf uwchgyfeirio y maen nhw'n ddarostyngedig iddyn nhw, bod yna adlewyrchu diffuant o ran y ffordd bell i'w theithio eto a lle bu unrhyw gynnydd hyd yn hyn, a dyna'r hyn yr oedd fy natganiad i'n ei amlinellu. Mae yna ffordd bell i fynd eto.

Fe nodais yn fy natganiad y bu'r pwyslais hyd yn hyn—ac mae e' wedi cydnabod hyn, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hynny—o ran sefydlu dull gwell a mwy cadarn o lywodraethu corfforaethol ac aelodaeth y bwrdd. Mae'r tîm gweithredol y gwnaethoch chi gyfeirio ato wedi ei drawsnewid bron yn gyfan gwbl yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae yna nifer fechan o swyddi allan o hyd ar gyfer recriwtio, ond mae'r rhan fwyaf o'r swyddi hynny wedi'u recriwtio ac mae pobl yn eu swyddi yn ymgymryd â'r cyfrifoldebau hynny.

Fel y soniais wrtho, roedd y pwyslais ar gyfer yr ail flwyddyn ar ansawdd a diogelwch, a'r pwyntiau mae'n ei gwneud o ran perfformiad, fe fyddwn innau'n cydnabod llawer ohonyn nhw, fel y byddai'r bwrdd iechyd, a dyna lle mae'r bwrdd ei hun yn eglur ynglŷn â'r angen i ganolbwyntio ar hynny yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Felly, mae'n system flaengar, a gynlluniwyd i roi'r bwrdd iechyd ar y sylfaen gadarn y mae ei hangen arnom ar gyfer darparu'r math o wasanaethau yr ydym ni eisiau eu gweld ar gyfer pobl ledled y gogledd.

Roedd e'n sôn am arosiadau hir. Mewn gwirionedd, fe fydd y cynllun y mae'r bwrdd iechyd wedi'i ddarparu ar ein cyfer ni, ac rydym wedi bod yn ei ariannu ac yn gweithio'n agos gyda nhw dros nifer o fisoedd, yn dangos, os, fel rwy'n gobeithio, y caiff ei gyflawni erbyn diwedd y mis, gostyngiad sylweddol iawn yn nifer yr arosiadau o ddwy flynedd a rhagor, ac mae hynny'n cynnwys yr amseroedd aros hwyaf o dair blynedd a rhagor hefyd, i fod yn eglur ynghylch y pwynt a wnaeth yn ei ddatganiad. Yn amlwg, nid yw pobl yn gorfod aros am fwy na dwy flynedd yn dderbyniol—fe wyddom ni hynny—ond rwy'n credu y dylem ni gydnabod hefyd os caiff y cynlluniau hynny eu cyflawni, fel rydym ni'n gobeithio'n fawr iawn y byddan nhw, y bydd hynny'n amlygu gostyngiad sylweddol iawn. Fe fydd yna ffordd i fynd eto, ond rwyf eisiau cefnogi'r bwrdd iechyd i barhau ar y trywydd hwnnw, er mwyn i ni symud ymhellach i ffwrdd fyth oddi wrth y mathau o rifau yr oedd yn cyfeirio atyn nhw.

O ran y pwyntiau a wnaeth am amseroedd aros mewn achosion brys, yn benodol, rwyf o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod lle mae cynnydd wedi bod. Mae'n gywir i ddweud nad yw'r targedau hynny'n cael eu cyflawni. Mae angen eu cyflawni, yn amlwg—mae angen eu cyflawni ym mhob cwr o Gymru—ond fe fu yna gynnydd yn y meysydd hynny. Ac mewn gwirionedd, boed hynny o ran datblygu rhyddhau cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd, ehangu'r adran frys yn Ysbyty Maelor Wrecsam, yr uned ddydd feddygol newydd yng Nglan Clwyd, mae datblygiadau wedi bod y gwyddom ni y gallan nhw roi sylfaen fwy cadarn ar gyfer perfformiad gwell mewn adrannau brys yn y dyfodol, sef yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w weld, yn amlwg.

Fe wnaeth fy herio i o ran camau gweithredu. Mae'r camau rydyn ni'n eu cymryd a'r disgwyliad sydd gennym ni o'r bwrdd iechyd yn faterion sydd i gyd ar gael i'r cyhoedd, fel y dylen nhw fod, a honno yw'r sail y mae e'n fy herio i arni heddiw. Felly, mae honno'n wybodaeth sydd eisoes ar gael i'r cyhoedd. Nid cosb yw uwchgyfeirio, ond mecanwaith y mae'n rhaid i ni ei ddarparu i roi'r gefnogaeth angenrheidiol i'r bwrdd iechyd.

Ar gyfer yr holl bwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei ddatganiad, fe hoffwn ei atgoffa ei bod hi'n haws dweud na gwneud, ac er mwyn gallu dal ati i gefnogi'r bwrdd iechyd a'r GIG, mae angen pasio'r cyllid yr ydym ni'n ei roi gerbron ar gyfer y ddadl heddiw, ac fe fydd y cyhoedd yn gwylio pan welan nhw ei blaid ef yn pleidleisio yn erbyn y cyllid hwnnw ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ac yn pleidleisio yn erbyn y cynnydd hwnnw y bydd cyfran ohono'n mynd at fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

15:00

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y diweddariad yma, a dwi'n ategu y canmoliaeth i'r gweithlu yn ardal Betsi Cadwaladr. Wrth gwrs, mae bwrdd iechyd y gogledd wedi bod mewn mesurau arbennig am dros ddwy ran o dair o’i holl fodolaeth, sy’n tanlinellu’n glir i ba raddau mae’r eithriadol wedi cael ei normaleiddio o dan y Llywodraeth hon.

Wrth gwrs, mae’r cynnydd sydd wedi cael ei sôn amdano heddiw i’w groesawu. Fe gyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at y fan awdioleg. Ces i'r fraint o fynd efo nhw a'u gweld nhw ar waith. Ac mae gwasanaeth y galon, sydd yn un cymunedol, hefyd i'w groesawu. Felly, mae angen gweld yr arfer da sydd wedi datblygu yn cael ei rolio allan ar draws Cymru gyfan.

Felly, gwnaf i ddim craffu ar y pethau da sydd wedi digwydd, ond mi wnaf i graffu a threulio ychydig o amser yn craffu ar rai o'r gwendidau sydd yn parhau yn y rhanbarth. Ac nid ar chwarae bach yr ydw i’n nodi rhai o’r gwendidau hynny, oherwydd mae fy anwyliaid i yn gleifion o dan ofal y bwrdd iechyd, ac felly mae o yn fy niddordeb i i weld y sefyllfa yn gwella mor fuan â phosib.

Nôl ym mis Hydref, eich blaenoriaethau chi am y chwe mis dilynol oedd:

'gwella amseroedd aros 52 wythnos adeg y cam cleifion allanol cyntaf o fis i fis'—

a dwi'n dyfynnu—

'dim cleifion yn aros dros 156 wythnos am driniaeth, dim achosion o aros mwy na 4 awr cyn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a pherfformiad gwell o ran amseroedd aros 4 awr a 12 awr mewn adrannau achosion brys.'

Dyna yr oeddech chi wedi'i addo. Ond yn ystod y tri mis oedd yn dilyn y datganiad yma, fe wnaeth arosiadau triniaeth o dros flwyddyn gynyddu o dros 2,300. Fe gynyddodd nifer yr oriau sy’n cael eu colli oherwydd gohiriadau yn nosbarthiadau ambiwlans gynyddu o bron i 2,000, a gwelwyd gostyngiad yn y canran o gleifion oedd yn aros yn yr adrannau gofal brys am lai na’r targedau o bedair a 12 awr. A thra bod mân ostyngiad yn rhestrau aros wedi’i weld ar lefel genedlaethol yn ystod mis Rhagfyr, fe wnaeth cyfanswm rhestrau aros Betsi Cadwaladr gynyddu, gyda Betsi Cadwaladr bellach yn gyfrifol am bron i chwarter o’r ôl-groniad ar draws Cymru.

Mae arosiadau ar gyfer pobl ifanc hefyd wedi cynyddu ymhellach dros y 12 mis diwethaf, gyda Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am 57 y cant o bob arhosiad o dros ddwy flynedd ymysg cleifion o dan 18 oed. Felly, yn erbyn y cerrig milltir a osodwyd gennych chi, yr Ysgrifennydd Cabinet, eich hunan, ydych chi'n ystyried y data yma fel tystiolaeth o gynnydd? Pam fod amcanion mis Hydref wedi syrthio mor bell y tu ôl i'r nod, a phwy sy’n atebol am y methiant i gyrraedd y targedau? Wrth gwrs, mae’n deg meddwl bod y Llywodraeth wedi gosod y targedau yma yn seiliedig ar ragamcanion neu ar addewidion, felly tybed all yr Ysgrifennydd Cabinet osod allan i ni beth oedd sail y targedau a osodwyd nôl ym mis Hydref.

Fe wnaeth adroddiad mis Hydref hefyd sôn am yr angen i wella cydweithio rhwng y bwrdd iechyd a gwasanaethau yn y sector cynradd a’r sector gofal, rhywbeth sydd yn broblem gyfarwydd dros Gymru ers blynyddoedd. Ond er gwaetha’r uchelgais yma, yr hyn yr ydw i’n ei glywed ydy fod gan y bwrdd iechyd ddyledion ariannol i awdurdodau lleol am gostau darpariaeth gofal ar y cyd, sydd yn gyfwerth â channoedd o filoedd o bunoedd. Fe ofynnais i gwestiwn ysgrifenedig ar yr union bwnc yma rai wythnosau yn ôl a chael fy siomi nad oes gan y Llywodraeth unrhyw wybodaeth beth yn union ydy maint dyledion y bwrdd iechyd i’r awdurdodau lleol. Rŵan bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cael amser i gasglu’r wybodaeth ynghyd, tybed a fedrith e ein diweddaru ni ar union swm yr arian sydd yn ddyledus i awdurdodau lleol gan y bwrdd iechyd. Ac ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon gyda’r sefyllfa? 

Fe wnaeth y diweddariad ym mis Hydref hefyd sôn am yr angen am gynnydd tuag at

'lywodraethiant ariannol cadarn ac amgylchedd rheoli ariannol cadarn',

ond mae’n anochel y bydd yr ymdrechion yma, sydd wedi dwyn rhywfaint o ffrwyth dros y flwyddyn ddiwethaf, er tegwch, yn cael eu tanseilio'n sylweddol gan benderfyniad Llywodraeth San Steffan i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol, yn enwedig gan y bydd dyraniad ad-daliadau'r Trysorlys i wasanaethau cyhoeddus craidd ar sail y system Barnett yn gadael Cymru ar golled o'i chymharu â Lloegr.

Fe gyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid at y sefyllfa gyda'r yswiriant gwladol fel anghyfiawnder sylfaenol, ac mae'n gywir, oblegid bydd sawl darparwr gwasanaethau iechyd a gofal yn gorfod ffeindio arian i dalu'r cynnydd yma yn y dreth. Felly, pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r costau ychwanegol i'r bwrdd iechyd o ganlyniad i'r codiadau yswiriant gwladol sydd i ddod o fis Ebrill ymlaen? Ac os ydy'r ad-daliadau yn seiliedig ar Barnett, fel y disgwylir, faint o arian ychwanegol bydd angen i'r bwrdd iechyd neilltuo er mwyn gwneud iawn am y diffyg?

Ac yn olaf, fe sonioch yn eich cyflwyniad am ofal fasgwlar. Mae'n bechod bod y gwasanaeth wedi cael ei dynnu o Ysbyty Gwynedd yn y lle cyntaf, ond rŵan mae disgwyl i nifer o gleifion dderbyn eu gofal yn Stoke. Ai allanoli gwasanaethau i ysbyty yn Lloegr ydy pinacl uchelgais y Llywodraeth hon?

15:05

Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y croeso mae wedi'i roi i'r cynnydd sydd wedi cael ei ddangos yn y ddwy flynedd ddiwethaf ac i'r diolch mae wedi'i roi i waith staff y bwrdd iechyd, sydd i'w groesawu. Mae'n gwbl greiddiol ein bod ni'n cydnabod yr holl waith sy'n digwydd o ran y gweithle, ac rwy'n gwybod bod y gweithlu a'i gynrychiolwyr yn edrych ar y drafodaeth hon heddiw, felly byddan nhw wedi clywed ac yn gwerthfawrogi'r pwynt mae'r Aelod wedi'i wneud.

O ran y targedau, mae'r targedau sydd wedi'u gosod yn rhan o ystod o dargedau cenedlaethol sydd yn ddisgwyliedig o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, fel pob bwrdd iechyd arall. Fel gwnes i sôn yn fy ymateb i gwestiwn Darren Millar, o ran y gwaith i leihau'r rhifau sy'n aros yr hiraf am driniaeth, mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn cydweithio gyda ni'n agos dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod yr arosiadau hiraf yn cael eu lleihau, ac os byddwn ni'n gweld, fel y byddwn ni, ymhen rhyw wythnosau ar ôl diwedd y mis hwn, beth yw'r perfformiad ar gyfer diwedd Mawrth, os ydy'r cynlluniau'n cael eu gwireddu, fel rwy'n gobeithio y byddan nhw, bydd hynny wedi dangos gostyngiad sylweddol iawn o fewn y rhifau sy'n aros am yr amseroedd hiraf.

Does neb yn credu bod miloedd o bobl yn aros am ddwy flynedd a mwy yn dderbyniol. Dyw'r bwrdd iechyd yn sicr ddim yn credu hynny; dŷn ni ddim yn credu hynny fel Llywodraeth. Ond mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n cefnogi'r bwrdd iechyd i wneud y cynnydd rŷn ni yn eu gweld nhw'n gwneud ar hyn o bryd fel bod hynny'n parhau. Ar ddiwedd y dydd, nid cwestiwn o ddata nac ystadegau yw hyn, ond cwestiwn o fywydau a phrofiadau cleifion. Felly, rŷn ni gyd yn gytûn bod angen sicrhau bod y cynnydd hwnnw'n parhau, a bod cyflymder y cynnydd yn parhau hefyd. Mae'r bwrdd iechyd yn sicr yn cytuno gyda hynny.

O ran y gwaith i wneud gyda'r adrannau brys, gwnes i sôn yn fy ymateb i Darren Millar am beth o'r gwaith sydd wedi digwydd yn y maes hwnnw. Gwnaeth yr Aelod sôn am wasanaethau i bobl ifanc. Mae'n werth nodi—gwnes i ddim dweud hyn yn fy natganiad—o ran asesiadau iechyd meddwl ar gyfer pobl o dan 18, fod 91 y cant o'r rheini'n cael eu gweld erbyn hyn o fewn y cyfnod gofynnol o 28 diwrnod, sydd yn ffigur i'w groesawu, dwi'n credu.

Gwnaeth e ofyn beth oedd sail y targedau yma. Mae'r targedau yma'n rai cenedlaethol sydd yn berthnasol ar gyfer pob bwrdd. Un o'r rheini yw sicrhau ein bod ni'n lleihau'r rhifau o bobl sy'n aros mewn ysbytai yn rhy hir, fel eu bod nhw'n barod i fynd adref ac yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen. Ac mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn cydweithio gyda'r chwe chyngor sydd yn rhan o'r footprint rhanbarthol i wella'r profiadau sydd gan gleifion yn y sefyllfa honno. Rŷn ni wedi gweld cynnydd ar draws y gogledd o ran y rhifau sydd yn goraros, os hoffwch chi, yn yr ysbyty, sydd yn barod yn feddygol i fynd adref a bod angen gofal arnyn nhw. Mae cynnydd wedi bod yn hynny, ac mae gwaith da wedi bod yn digwydd gyda'r cartrefi preswyl i sicrhau bod llai o bobl yn cael mynediad i'r ysbyty yn y lle cyntaf, sydd hefyd yn beth pwysig. Felly, dwi'n credu mai mwy o angen ar gyfer hynny sydd.

Gwnaeth yr Aelod sôn am y sefyllfa ariannol. Wrth gwrs, mae pwysau ar bob bwrdd iechyd o ran y gyllideb. Mae angen edrych ar ffyrdd newydd o weithio, a sicrhau bod y cynnydd yn y rhestrau aros ddim yn mynd ymhellach, fel ein bod ni'n gallu darparu system sydd mewn cydbwysedd. Dyna yw'r nod; dyna yw'r nod yn Betsi, fel ymhob rhan o Gymru. Ond o ran yr arian a'r gefnogaeth ariannol sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd a'r gwasanaeth iechyd, mae cyfle heddiw i'r Aelod gefnogi cyllideb fydd yn cynyddu hynny ac yn rhoi cefnogaeth bellach i'r bwrdd iechyd dros y flwyddyn nesaf. Felly, bydd y cyhoedd yn edrych ar bleidlais yr Aelod a Phlaid Cymru pan ddaw hi at y gyllideb nes ymlaen.

15:10

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am y diweddariad pwysig iawn hwn. Mae'n dda iawn gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud gan y bwrdd iechyd, ond fel rydych chi'n ei ddweud eich hun, mae tipyn o ffordd i fynd eto.

Hoffwn i sôn am ddau faes. Yn gyntaf, y gwasanaeth cymorth bwydo babanod, sydd wedi'i leoli yn ysbyty Maelor ers tua phedair blynedd, ac mae'r gwasanaeth hwn wedi bod yn drawsnewidiol o ran gwella ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu, gyda gwerthusiad o ganlyniadau'r gwasanaeth yn dangos yn gyson foddhad ysgubol ymhlith y menywod dan sylw, ac, yn bwysicaf oll, cyfraddau bwydo ar y fron sy'n gwella yn gyffredinol. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gwasanaeth pwysig hwnnw'n parhau a bod mynediad i bawb.

Yn ail, mae rhai etholwyr pryderus wedi cysylltu â mi ynglŷn â threfniadau cyllido yn y dyfodol ar gyfer swydd arbenigol nyrs canser metastatig yn Wrecsam. Mae'n rôl bwysig iawn a gafodd ei sefydlu'n wreiddiol fel rhan o gymorth Llywodraeth Cymru i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd, a byddwn i'n ddiolchgar eto am yr wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rydych chi a'ch swyddogion wedi bod yn eu cael ynghylch y swydd hon. Rydych chi a minnau wedi trafod yn y Siambr o'r blaen pa mor bwysig yw trawsnewid ac arloesi i'n byrddau iechyd wrth symud ymlaen. Allan nhw ddim parhau i wneud yr un pethau'n wahanol, mae'n wir rhaid iddyn nhw wneud pethau gwahanol.

Diolch i'r Aelod am y ddau bwynt pwysig mae'n eu codi, ac mae'r ddau bwynt hynny yn enghreifftiau da o'r arloesi sy'n digwydd yn ysbyty Maelor yn ei hetholaeth. Yn wir, roeddwn i yno hefyd ddiwedd y llynedd yn trafod gyda nhw lansio, ar yr adeg honno, wasanaeth cemotherapi cyflym newydd yno, a ddaeth yn weithredol ddiwedd mis Medi ac sy'n galluogi nyrs sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig i ddarparu triniaethau i gleifion, ac mae hyd at 10 o gleifion y dydd yn gallu cael eu gweld yn y ffordd honno. Felly, mae'n wirioneddol bwysig, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud yn gywir, i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau.

Ar y ddau bwynt penodol y cododd hi gyda mi, o ran y gwasanaeth cymorth bwydo ar y fron yn benodol, dechreuodd y gwasanaeth hwnnw, fel y soniodd yr Aelod, fel peilot yn ysbyty Maelor yn 2021—y cyntaf yng Nghymru i gyflwyno tîm bwydo babanod yn yr uned famolaeth. Cafodd y gwasanaeth hwnnw ei ymestyn wedyn, a dweud y gwir, i Glan Clwyd yn 2023. Mae'r bwrdd iechyd yn sicr yn cydnabod pwysigrwydd gallu cefnogi teuluoedd yn y ffordd honno ac ar hyn o bryd mae'n ystyried cynlluniau ar gyfer y gwasanaethau hyn yn y ddau ysbyty ac yn ystyried cynlluniau hirdymor ar gyfer y gwasanaeth ledled ei holl safleoedd fel rhan o'i ymrwymiad ehangach i gefnogi dechrau iach i deuluoedd ar draws y gogledd.

O ran yr arbenigwr nyrsio canser metastatig yn ysbyty Maelor, mae'n un o nifer o rolau sy'n cael eu hariannu gan ddefnyddio cyllid dros dro, yr ydym wedi'i ddarparu fel Llywodraeth, i gefnogi gwell perfformiad ym maes canser. Mae'r bwrdd yn ystyried dyfodol y rôl fel rhan o'i waith cynllunio'r gweithlu yn fwy cyffredinol, ac mae'n cydnabod, yn y ffordd y mae'r Aelod wedi'i ddweud heddiw, yr adborth cadarnhaol y mae cleifion a grwpiau cleifion wedi'i roi o ran y gwasanaeth hwnnw, ac fe fyddai'n ystyried hynny wrth gynllunio sut y gellir integreiddio hynny yn ei wasanaeth yn ehangach.

Rwy'n ategu'r diolch mae pawb arall wedi'i roi am gyflwyno'r datganiad hwn, ond mae'r frawddeg gyntaf, sy'n cyfeirio at nodi'r ffaith ei bod hi'n ddwy flynedd ers y penderfyniad i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, i'w weld yn osgoi'r mater fy mod i wedi bod yma 14 mlynedd, ac mae'r bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig am ran helaeth o'r amser hynny—rhyw 10 mlynedd. Hefyd, rwy'n pryderu'n fawr ynghylch lle rydych chi'n sôn am y targed o gau 75 y cant o gwynion o fewn 30 diwrnod. Mae'n rhaid i mi fod yn onest—hoffwn i herio hynny, oherwydd rwy'n gwybod, o ran llawer o gwynion yr wyf i'n eu codi, nad ydyn nhw'n cael eu datrys o fewn yr amserlen honno. Ac os yw pobl yn cyfeirio at Gweithio i Wella, gall gymryd sawl mis cyn iddyn nhw gael ymateb. Yn eithaf aml, nid oes gan yr ymatebion hynny wedyn yr wybodaeth na'r ymatebion i'r cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn am driniaeth y maen nhw, neu un o'u hanwyliaid, wedi'i chael. Rydyn ni'n dal i weld ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai, gan golli bron i 2,000 o oriau ychwanegol oherwydd oedi wrth drosglwyddo. Mae pethau'n gwella mewn rhai ardaloedd. Wnaf i ddim dadlau fy mod i wedi gweld rhywfaint o waith da, ac nid yw ond yn iawn ein bod ni, fel gwleidyddion, yn cydnabod hynny. Ond mae gennych chi gryn dipyn o ffordd i fynd ac, mewn gwirionedd, ni ddylai ac ni fyddai'r bwrdd iechyd hwn wedi bod mewn mesurau arbennig pe baem ni, y Ceidwadwyr Cymreig, wedi bod yn rhedeg Cymru o ran y gwasanaeth iechyd. Diolch.

15:15

Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud o ran y cynnydd y mae'r bwrdd iechyd wedi'i ddangos. Mae'n bwysig cydnabod, fel y mae'r Aelod wedi'i wneud, lle mae datblygiadau cadarnhaol yn digwydd. Mae angen i ni fyfyrio'n onest, onid oes, ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a lle mae mwy o ffordd i fynd. Yn bendant, dyna lle mae bwrdd ac uwch dîm gweithredol y bwrdd iechyd, yn fy mhrofiad i—yr ymdeimlad hwnnw o werthuso gonest. Wnaf i ddim ailadrodd y pwyntiau rwyf wedi'u gwneud sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu nifer o'r cwestiynau y mae'r Aelod wedi'u gwneud yn ei chyfraniad hi, dim ond i ddweud bod ganddi'r cyfle i ddangos i ni yr hyn mae'r Blaid Geidwadol yn bwriadu ei wneud o ran y GIG trwy gefnogi cyllideb y Llywodraeth heddiw, sy'n cynyddu'r gyllideb i'r GIG gan gannoedd lawer o filiynau.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, dwi'n croesawu unrhyw arwyddion o gynnydd o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a dwi'n ddiolchgar iawn am y briefing a roddwyd gan gadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd i Aelodau'r gogledd ychydig wythnosau yn ôl, ond y gwir amdani ydy ers llawer gormod o amser mae diffygion o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael effaith andwyol iawn ar y bobl dwi'n eu cynrychioli yn Ynys Môn, ac mae o'n dal yn broblem. Rydyn ni'n dal i aros am feddygfa newydd yng Nghaergybi ac mae pethau'n symud yn affwysol o araf. Mae rhestrau aros am wasanaethau fasgwlar, rydyn ni'n gwybod, a iechyd meddwl, diagnosis ar gyfer cyflyrau niwrowahanol i blant ac oedolion, yn rhy hir o lawer, ac mae apwyntiadau deintyddol yn mynd yn anoddach ac yn anoddach i'w cael, dim ots beth rydyn ni'n ei glywed gan Lywodraeth Cymru, a dydy'r gwasanaeth iechyd menywod ddim yn hafal ar draws y gogledd. Felly, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno efo fi bod y llusgo traed yma yn annerbyniol a'i fod o yn arwain at anobaith o hyd gan gleifion, ac ydy o'n cytuno bod angen amserlen glir a disgwyliadau eglur iawn wrth inni symud ymlaen?

Wel, rwy'n gwybod bod hwn o bwys penodol i'r Aelod o ran ei etholaeth, ond mae datblygiadau wedi bod yng Nghaergybi ers diwedd y flwyddyn ddiwethaf, fel mae'r Aelod yn gwybod, ac mae'r cynlluniau hynny yn cael eu cysidro ar y cyd gyda'r cyngor ar hyn o bryd.

Fe wnes i sôn o ran asesiadau pobl ifanc fod cynnydd sylweddol wedi bod o ran asesiadau iechyd meddwl yn benodol, fod 91 y cant o'r rheini yn cael eu gweld o fewn 28 diwrnod, sydd yn ffigur sylweddol iawn o ran cynnydd, felly rŷn ni'n croesawu hynny hefyd.

Fel mae'r Aelod yn ei ddweud, mae llawer o waith i'w wneud—llawer iawn o waith—ac mae'r bwrdd yn sicr yn cydnabod hynny. Fel fe wnes i sôn yn fy natganiad, wedi edrych ar llywodraethiant, wedi edrych ar ansawdd a diogelwch, perfformiad yw'r ffocws ar gyfer y cyfnod o'n blaenau ni a dyna sydd angen inni ei weld, wrth gwrs.

O ran amserlen, dwi ddim yn mynd i roi amserlen ar hyn o beth. Beth dwi eisiau ei weld yw bod y bwrdd iechyd yn gallu dod allan o fesurau arbennig cyn gynted â bod hynny'n addas. Nid sanction yw'r system hon, ond ffordd o roi cefnogaeth i'r bwrdd iechyd. Rŷn ni eisiau gweld hynny yn digwydd yn gyflym. Mae'r bwrdd iechyd eisiau gweld hynny yn digwydd yn gyflym. Ond y peth pwysig yw bod hyn yn digwydd mewn ffordd bwrpasol sydd yn gynaliadwy ac sydd yn rhoi sicrwydd i bobl yn ei etholaeth ef ac ar draws y rhanbarth fod y gwasanaeth iechyd ar sail gynaliadwy yn gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen. Dwi ddim yn barod i roi amserlen ar hwnnw. Byddwn ni'n gwneud y penderfyniadau pan fydd y sefyllfa yn barod ar gyfer hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y ddiweddariad heddiw.

Rydyn ni wedi clywed yn y fan yma bod cryn amser wedi mynd heibio ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig am y tro cyntaf, ac, er fy mod i'n cydnabod y camau cadarnhaol sydd wedi'u nodi yn y diweddariad dwy flynedd hwn, byddwn i'n croesawu unrhyw sicrwydd ychwanegol y gallech chi ei roi i fy etholwyr ar y meysydd hynny lle mae angen cynnydd pellach, neu lle mae wedi'i nodi—er enghraifft, ar berfformiad canser a gofal brys.

Ond, o'r sgyrsiau a'r gohebiaethau rwyf i'n eu cael, yn amlach na pheidio, unwaith y bydd pobl yn mynd i mewn i'r system, mae eu profiad o driniaeth yn ddi-ail, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y gweithlu ymroddedig, sy'n gweithio, ar adegau, o dan yr hyn rydym yn ei wybod sy'n bwysau difrifol. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, ydych chi'n cydnabod bod y cynnydd sydd wedi bod yn bosibl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'w briodoli i raddau helaeth i ymroddiad staff ar draws pob gradd sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod gofal cleifion yn cael ei wneud mewn ffordd garedig, ofalgar a phroffesiynol, ac mai dim ond gweithio mewn partneriaeth ystyrlon gyda phartneriaid undebau llafur sy'n gwneud y gwahaniaeth hwn, er budd nid yn unig staff, ond cleifion yn y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd, ac a ydych chi hefyd yn cytuno â mi fod yn rhaid i'r gweithlu, drwy eu hundebau llafur, fod yn flaenllaw ac yn ganolog wrth greu newid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Diolch.

15:20

Diolch i Hannah Blythyn am y cwestiwn yna. Rwy'n sicr yn credu bod y bwrdd iechyd yn credu hefyd, o ran y meysydd y mae hi wedi'u nodi, gofal wedi'i gynllunio, gofal brys ac argyfwng, canser, ond yn y meysydd eraill hynny hefyd, fod angen i berfformiad wella yn sicr. Ar ôl sefydlu llywodraethu clir a chanolbwyntio ar ansawdd a diogelwch, bydd y ffocws ar berfformiad yn ein helpu ni i wella'r canlyniadau ym mhob un o'r meysydd hynny ac mewn meysydd eraill.

Rwy'n credu bod y pwynt mae hi'n ei wneud yn bwynt pwysig iawn. Mae graddfa'r newid yn y bwrdd iechyd yn arwyddocaol iawn, iawn ac mae angen iddo fod, ac nid oes unrhyw ran o'r gwasanaeth nad yw'r newid hwnnw ar raddfa eang yn ei chyffwrdd, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu ar lawr gwlad, fel y mae hi'n ei ddweud yn briodol yn ei chwestiwn, yw staff yn darparu'r gwasanaethau hynny y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ledled y gogledd, ac rwy'n sicr yn ymuno â hi i dalu teyrnged i'r gwaith maen nhw'n ei wneud ac i waith eu cynrychiolwyr yn y mudiad undebau llafur yn benodol, ac rwy'n sicr yn credu bod gweithio yn y ffordd honno, mewn partneriaeth gymdeithasol, sydd wrth wraidd y ffordd mae'r Llywodraeth hon yn gweithio a'r ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn gweithio, yn gwbl hanfodol i gyflawni'r math o gynnydd rydym i gyd eisiau ei weld.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd Cabinet. Rwyf eisiau nodi cwpl o bethau sydd wedi'u hepgor o'r datganiad. Fe wnaethoch chi sôn am ysbyty Abergele a'r gwaith gwych sy'n digwydd yn y fan honno o ran y llawdriniaeth gosod pengliniau, ond roedd 80 y cant o'r adeilad hwnnw ddwy flynedd yn ôl yn cael ei ystyried yn anniogel ac, yn gyffredinol, ledled y bwrdd iechyd, mae cyfres o ystadau sy'n heneiddio ar draws y gogledd i gyd, sy'n gost sylweddol. Ydych chi'n fodlon â'r sefyllfa bresennol honno o fewn y bwrdd iechyd ac, os na, pa gymorth rydych chi'n ei gynnig i swyddogion gweithredol a'r bwrdd o ran hyn? Ac a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf, neu'r diffyg gwybodaeth ddiweddaraf, am Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych yn y Rhyl, gan y byddai fy etholwyr yn gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol honno?

Ac a gaf i sôn, fel troednodyn hefyd, fod y gramadeg yn wael iawn yn y datganiad hwn? Rwy'n gwybod ei fod yn ddatganiad hwyr, ond a fyddech cystal â rhoi gwybod i'ch swyddogion a'u harwain o ran gwella'r gramadeg? Oherwydd mae llawer ohonyn nhw mewn llythrennau bach, ac os yw hyn ar y wefan gyhoeddus ac ar gael i'r cyhoedd, nid yw'n adlewyrchiad da o ansawdd datganiadau Llywodraeth Cymru o ran dogfennau cyhoeddus. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y gofal y mae wedi'i gymryd wrth ddarllen y datganiad. O ran buddsoddiad cyfalaf, bydd yn gwybod bod y GIG yng Nghymru wedi wynebu amgylchiadau cyfyngedig o ran cyfalaf dros nifer o flynyddoedd oherwydd penderfyniadau a wnaed gan ei Lywodraeth ef yn San Steffan i dangyllido gwasanaethau cyhoeddus ac mae hynny wedi arwain at ganlyniadau ym mhob rhan o Gymru. Mae'n anochel nad yw'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi cael mynediad at lefel y cyfalaf yr oedden ni fel Llywodraeth eisiau ei ddarparu. Mae gan yr Aelod gyfle i helpu i unioni hynny am y flwyddyn sydd i ddod wrth fwrw ei bleidlais heddiw i gefnogi'r gyllideb, ac, o ystyried ei brotestiadau, bydd ei etholwyr yn ei chael hi'n anodd deall pam nad yw'n gwneud hynny.

Ar y pwynt penodol y mae ef wedi'i godi—[Torri ar draws.] Ar y pwynt penodol y mae wedi'i godi o ran y cynlluniau ar gyfer yr ysbyty, mae'r bwrdd iechyd yn adolygu cynigion ar hyn o bryd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol, fel y mae'n ei wybod o bosibl, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cynnig gan y bwrdd iechyd maes o law, y gallaf wedyn ei ystyried, gan gydnabod y pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn.

Diolch yn fawr iawn. Ac er bod peth newyddion da, mae’n amlwg bod y sefyllfa wedi gwaethygu mewn rhai meysydd pwysig, ac mae meysydd o fregustra parhaus o hyd, meddai'r Prif Weinidog wrth ddyfynnu o'r adroddiad yn gynharach y prynhawn yma. Fel yr ydych chi'n gwybod, mae Ysbyty Gwynedd yn fy etholaeth i, a llawer o’r gweithwyr yn byw yn ein cymunedau ni yn Arfon, ac mae fy inbox i yn gynyddol llenwi efo pryderon gan staff yr NHS sydd ar ben eu tennyn. Maen nhw dan straen rhyfeddol ac yn methu ymdopi ar adegau. Dwi yn falch, felly, eich bod chi yn cydnabod gwaith caled staff ar draws y bwrdd iechyd yn y gymuned ac yn yr ysbyty, a’ch bod chi yn cydnabod eu rhan hollbwysig a chwbl annatod yn y daith i wella’r bwrdd iechyd.

Fy nghwestiwn, felly, ydy: sut byddwch chi yn gwella’r ffordd mae’r Llywodraeth yn gwrando ar leisiau pwysig staff y rheng flaen, sydd yn awyddus i gyfrannu i greu gwelliant, ac ydyn nhw’n rhan digonol o’r disgwrs? Oes yna le i wella cyfleon ar gyfer cyfraniad y staff ar y daith o wella yn Betsi, ond ar draws y sector iechyd?

15:25

Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn hwnnw. Fel wyf i wedi trafod gyda hi mewn cyd-destunau eraill, ces i gyfle i ymweld gydag Ysbyty Gwynedd a siarad gyda'r staff oedd yn gweithio mor galed yno, a hefyd siarad gyda chleifion i drafod gyda nhw y gofal roedden nhw’n ei gael, a gwnes i gael yr argraff glir, fel mae hi wedi'i ddweud yn ei chwestiwn, fod synnwyr o gymuned yno, sydd yn bwysig iawn, fod y staff a’r cleifion yn aml yn nabod ei gilydd yn dda iawn. Felly, mae'n rhywbeth prin iawn, efallai, yn yr amgylchiad hwnnw.

Mae’r Aelod yn iawn i ddweud bod cydweithio gyda’r staff sydd ar y rheng flaen yn ffordd bwysig o allu penderfynu ar y gwelliannau y gallwn ni eu gwneud yn seiliedig ar brofiad, fel ein bod ni’n gallu deall impact ymarferol y newidiadau rŷn ni’n sôn amdanyn nhw, ond hefyd gwrando ar awgrymiadau am welliannau sydd yn dod o lawr yr ysbyty neu’r gwasanaeth iechyd yn ehangach na hynny.

Beth byddwn i yn ei ddweud yw rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol o ran yr arolygon staff ar draws y bwrdd iechyd, cynnydd sylweddol yn y rheini sy’n ymateb a chynnydd sylweddol yn yr ystyr bod pobl yn teimlo yn fwy hapus gyda’r datblygiadau dros y ddwy flynedd diwethaf. Felly, mae hynny yn bwysig, rwy’n credu. Rwy’n credu bod hynny’n arwydd bod pobl yn cydnabod bod newidiadau yn digwydd. Yn sicr, nid yw pobl yn meddwl bod pethau lle dylen nhw fod, ond rwy’n credu bod hynny’n arwydd positif o ymrwymiad y bwrdd iechyd i gydweithio gyda staff, ond hefyd, rwy’n gobeithio, ymdeimlad ymhlith y staff fod pethau yn gwella—cydnabyddiaeth bod mwy i'w wneud ond bod pethau yn dechrau gwella.

Diolch. Fe dreuliais i Nos Galan yn adran damweiniau ac achosion brys Maelor Wrecsam fel claf. Rhaid i mi ddechrau drwy ddweud, pan gyrhaeddais i ac o'r eiliad y cyrhaeddais, roedd y staff i gyd yn wych. Fe eisteddais i yn yr ystafell aros lawn, roedd y sgrin ar y wal yn dweud bod hanner awr o aros ar gyfer brysbennu, yna dwy awr a hanner o aros i gael triniaeth. Fe ges i fy mrysbennu ar ôl hanner awr, ac fe ges i wybod, 'Anwybyddwch y sgrin ar y wal, mae hi'n o leiaf wyth awr o aros i gael triniaeth.' Yn y pen draw, fe ges i fy nerbyn i'r ward trawma mawr gan dreulio'r nos ar droli yno. Roedd yn rhaid i mi ofyn am flanced am 3 o'r gloch y bore. Mae'n debyg mai fi oedd y person ieuengaf ar y ward y noson honno. Fe wnes i sôn wrth gardiolegydd bod yn rhaid ei fod yn arbennig o wael gan mai'r flwyddyn newydd ydoedd, ac fe ddywedodd ef, 'Na, dydy hyn ddim yn eithriadol.'

Roeddwn i hefyd yn bresennol yn y sesiwn friffio i Aelodau'r Senedd ar 20 Chwefror gan y sefydliad ymgyrchu EveryDoctor, a oedd yn cynnwys tystiolaeth bwerus gan un o feddygon ymgynghorol meddygaeth frys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda ffeithiau pwysig a gwybodaeth gyd-destunol a'u hesboniad nhw o'r hyn sydd angen newid er mwyn diogelu bywydau a chefnogi staff y GIG. Eglurodd sut roedd yn rhaid iddi hi ei hun hyd yn oed chwilio'r ysbyty am drolïau pan ddylai fod yn trin cleifion ar adegau pan oedd ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys. Felly, y tu ôl i'r sicrwydd rydych chi'n ei roi, pryd fyddwch chi'n dechrau ymgysylltu â staff rheng flaen y GIG o'r diwedd, fel y rhai y gwnaethom glywed ganddyn nhw ac y cyfeiriais i atyn nhw, er mwyn nodi'r hyn sydd wir angen newid a sut i gyflawni hyn?

Diolch am rannu'ch profiad yn ysbyty Maelor gyda ni, Mark. Gallaf eich sicrhau fy mod i'n siarad â staff rheng flaen, ac rwyf wedi gwneud hynny, mewn gwirionedd, ar fwy nag un ymweliad ag Ysbyty Maelor fy hun. Mae rhywun yn clywed adroddiadau heriol iawn am brofiadau yn aml, ond rydych chi hefyd yn clywed am lefel yr ymrwymiad ymhlith staff i ddarparu'r gofal rydym yn gwybod y mae'r GIG yn ei ddarparu bob dydd i gleifion ledled Cymru, gan gynnwys yn y gogledd.

Mae pwysau ar adrannau brys ar draws y gogledd. Fe nodais yn gynharach yn fy ateb i Darren Millar rywfaint o'r cymorth rydym yn ei roi i helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau hwnnw. Un o'r pethau rwy'n obeithiol yn ei gylch o ran y datblygiadau y mae Betsi wedi'u rhoi ar waith, mae'r bwrdd wedi'u rhoi ar waith, yw hwb sy'n eu galluogi i gydlynu'r pwysau ar ysbytai yn well, a hwb uwchgyfeirio system, sydd bellach ar waith ledled y bwrdd iechyd, sy'n canolbwyntio ar dderbyniadau i adrannau achosion brys i sicrhau bod dull gweithredu cyson, ac sydd, gobeithio, yn ein galluogi ni i wella diogelwch cleifion, profiad cleifion a gwasanaethau gofal brys yn gyffredinol.

15:30
4. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025

Eitem 4 heddiw yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig—Mark Drakeford. 

Cynnig NDM8836 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025. 

Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ymgynghori y llynedd ar gynnig Llywodraeth Cymru i dynnu rhyddhad ardrethi annomestig elusennol yn ôl o ysgolion annibynnol yng Nghymru. Ar 28 Ionawr, fe gyhoeddais i ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw a chadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru oedd gweithredu'r cynnig ar 1 Ebrill 2025. Bydd tynnu rhyddhad yn ôl yn sicrhau bod ysgolion annibynnol sydd â statws elusennol yn gyson ag ysgolion annibynnol eraill yng Nghymru at ddibenion ardrethi annomestig.

Ar hyn o bryd mae 83 o ysgolion annibynnol wedi'u cofrestru yng Nghymru. O'r rhain, mae 17 yn derbyn rhyddhad ardrethi elusennol a bydd y newid polisi hwn yn effeithio arnyn nhw. Nod y polisi yw sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau lleol yng Nghymru drwy dynnu gostyngiad treth ar gyfer addysg breifat y mae arian cyhoeddus yn talu amdano yn ôl. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio nodi a yw unrhyw un o'r ysgolion annibynnol y mae'r cynnig yn effeithio arnyn nhw wedi'u trefnu'n arbennig i wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol. Yn aml, cyfeirir at yr ysgolion hyn fel 'ysgolion arbennig annibynnol'. Ar ôl ystyried yr ymatebion yn ofalus, rydym wedi mireinio ein dull i gynnwys eithriad rhag tynnu rhyddhad yn ôl. Bydd yr eithriad hwn yn berthnasol i ysgolion arbennig annibynnol lle mae gan y rhan fwyaf neu bob un o'u disgyblion gynllun datblygu unigol a gynhelir gan yr awdurdod lleol er mwyn diwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol. Mae gan yr ysgolion y bydd dileu rhyddhad ardrethi elusennol yn effeithio arnyn nhw niferoedd isel o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol—llai nag 1 y cant ar gyfartaledd, o'i gymharu ag 11 y cant ar gyfer ysgolion a gynhelir.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o’r rheoliadau, a gofynnaf i’r Aelodau gymeradwyo’r rheoliadau heddiw.

Dyma ni, unwaith eto, gydag ymosodiad arall gan Lafur ar ysgolion preifat ac annibynnol. Heb fod yn fodlon â gorfodi TAW ar ysgolion annibynnol preifat a gweithredu cynnydd hynod niweidiol mewn yswiriant gwladol, mae Llafur nawr eisiau dileu'r rhyddhad ardrethi busnes o 80 y cant ar gyfer ysgolion preifat sy'n cael eu rhedeg gan elusennau. Mae ysgolion annibynnol yn cael eu cosbi gan ergyd driphlyg Llafur ar drethi uwch.

Ond, Llywydd, mae risg y bydd yr ymgyrch ddi-baid hon yn erbyn ysgolion preifat ac annibynnol yn cynyddu'r baich ar y trethdalwr yn y pen draw. Mae rhieni'n tynnu eu plant allan o'r ysgolion hyn yn sgil cost uwch, ac i ble maen nhw'n mynd i fynd? Byddan nhw'n mynd i ysgolion gwladol, sydd eisoes dan bwysau aruthrol fel y mae. Hoffwn i wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith i weld sut y bydd y penderfyniad hwn, yn wir, yn effeithio ar ysgolion gwladol, oherwydd rwy'n ofni'n ddiffuant y bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn maint dosbarthiadau, a mwy o bwysau yn cael ei bentyrru ar ein hathrawon a staff ysgol gweithgar. Yn ôl adroddiad diweddar, mae 23 y cant o rieni yn ystyried tynnu eu plant allan o addysg breifat. Mae hynny'n swm enfawr o 140,000 o blant yn symud i ysgolion gwladol yng Nghymru a Lloegr yn unig. Ar ôl 26 mlynedd o gamreolaeth Lafur, mae gennym ni'r canlyniadau addysgol gwaethaf o unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, a bydd y penderfyniad hwn ond yn ychwanegu at y pwysau andwyol sydd eisoes yn wynebu ein hysgolion.

Efallai bod cael gwared ar statws elusennol ysgolion annibynnol yn ymddangos fel ateb cyflym, ond mae risg y bydd yn creu mwy o broblemau nag y mae'n eu datrys mewn gwirionedd. Gallai arwain at lai o ddewisiadau i rieni, costau uwch i deuluoedd, ac, yn bwysicach, mae risg y bydd yn symud y ffocws i ffwrdd oddi wrth y mater gwirioneddol, sef gwella addysg i bob plentyn, beth bynnag fo'i gefndir. Dyna pam y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn, oherwydd mae'n amlwg mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig rai y gellir ymddiried ynddyn nhw i drwsio'r system addysg yng Nghymru unwaith ac am byth. Diolch.

Rydyn ni’n croesawu’r rheoliadau yma. Mi fyddwn ni, fel aelodau Plaid Cymru, yn eu cefnogi y prynhawn yma. Rydyn ni wedi codi hyn yn flaenorol, ac rydyn ni’n gresynu nad yw hyn wedi digwydd yn flaenorol, ond yn falch ei fod o’n digwydd rŵan.

O edrych ar y ddogfen ymgynghori, dim ond 17 allan o’r 83 o ysgolion annibynnol yng Nghymru a oedd yn cael eu heffeithio. Yn amlwg, rydych chi wedi dweud, o ran yr ymgynghoriad, fod yna newidiadau wedyn o ran ysgolion sy'n rhoi mwyafrif o addysg anghenion dysgu ychwanegol. Felly, fedrwch chi gadarnhau sawl ysgol benodol fydd yn gorfod talu erbyn hyn? Ac, wrth gwrs, mater cysylltiedig ydy polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i osod treth ar werth ar ysgolion preifat. Oes modd i'r Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad o ran faint o arian canlyniadol fydd yn dod i Gymru, a phryd ydych chi'n disgwyl y bydd yr arian hwn yng nghoffrau Llywodraeth Cymru?

15:35

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch i Heledd Fychan am beth ddywedodd hi am fwriad Plaid Cymru i gefnogi'r rheoliadau. Ar hyn o bryd, rŷn ni'n disgwyl mai dim ond un mas o'r 17 o ysgolion sy'n mynd i gael eu heffeithio gan y rheoliadau sy'n mynd i fod y tu fas i'r system newydd, achos maen nhw'n rhoi addysg i blentyn ag anawsterau dysgu.

Llywydd, wrth gwrs nid yw'n syndod clywed cyfraniad y Ceidwadwyr Cymreig—ddim o gwbl. Wrth gwrs, byddai'n well ganddyn nhw fod fy etholwyr yn Nhrelái ac yng Nglan-yr-afon yn talu'r £1.6 miliwn o ryddhad ardrethi elusennol sy'n mynd i ysgolion y mae eu rhieni'n gallu talu'r ffioedd allan o'u pocedi eu hunain. Dyna fyddai'n well gennych chi—byddai'n well gennych chi, fel bob amser, gefnogi'r ychydig a'r breintiedig yn erbyn y rhai sydd fel arall yn talu eu biliau. Ac rwy'n ddig, Llywydd—rwy'n gwbl ddig—ynghylch y pwynt mae'r Aelod yn ei wneud ei bod rhywsut yn broblem bod mwy o bobl ifanc yn cael addysg wladol yng Nghymru. Os oes yna blant sy'n symud o'r sector annibynnol i'r sector gwladol yng Nghymru, rwy'n croesawu pob un ohonyn nhw, ac fe fyddan nhw'n cael addysg yno sy'n addas i'w hanghenion a'u hamgylchiadau. Felly, i honni, fel y gwnaeth yr Aelod, y byddai hyn, rywsut, yn broblem ofnadwy i'r bobl ifanc hyn yn datgelu, yn fy marn i, ffordd o feddwl sy'n dangos, fel y gwyddom ni, pa mor bell i ffwrdd oddi wrth brif ffrwd y farn gyhoeddus yng Nghymru y mae'r Ceidwadwyr Cymreig. Mae eu hamddiffyniad o fraint ar lawr y Senedd unwaith eto'r prynhawn yma yn ddigon i ddangos pam eu bod wedi colli hyder pobl Cymru a pham eu bod nhw'n annheilwng—yn gwbl annheilwng—o gael yr hyder hwnnw hefyd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r rheoliadau o flaen y Senedd—maen nhw'n cefnogi'r llawer, maen nhw'n cefnogi'r ychydig.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2025-26

Eitem 5 sydd nesaf. Y ddadl ar gyfraddau treth incwm 2025-26 yw'r eitem yma, a'r Gweinidog cyllid unwaith eto i wneud y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8833 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2025-26 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;

b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac

c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Cafodd cyfraddau treth incwm Cymru eu cyflwyno ym mis Ebrill 2019, ac maen nhw'n berthnasol i'r elfen nad yw'n gynilion ac nad yw'n difidendau o incwm y mae trigolion Cymru yn ei ennill. Rhagwelir y bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn codi bron i £3.5 biliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hon yn elfen hanfodol o ddarparu adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, a chafodd cyfraddau arfaethedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf eu cyhoeddi yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr. Bydd y penderfyniad hwn ynghylch cyfraddau, os cytunir arno, yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Byddai gwneud newid sylweddol i'n hadnoddau drwy gynyddu treth incwm yn gofyn am gynnydd i'r gyfradd sylfaenol—dyna'r unig ffordd y gallwch chi godi adnoddau sylweddol yng Nghymru—a hynny ar adeg pan fo gormod o bobl yn dal i gael trafferth yn talu biliau. Dyna pam nad wyf i'n credu mai nawr yw'r amser iawn i gynyddu'r lefelau treth incwm yng Nghymru, gan y byddai'r canlyniadau'n syrthio fwyaf ar y rhai sydd lleiaf abl i'w fforddio.

Ond, fel Llywodraeth sy'n gyllidol gyfrifol, rydyn ni bob amser yn ystyriol o'r angen i sicrhau bod y dulliau cyllidol sydd ar gael i ni yn rhoi'r cydbwysedd cywir rhwng risg a gwobr. Llywydd, rwy'n credu bod y pwerau treth incwm sydd wedi'u datganoli i Gymru ar hyn o bryd yn rhy ddi-fin i ddarparu system dreth fwy blaengar. Felly, rwy'n bwriadu comisiynu adolygiad allanol o'n pwerau treth incwm presennol, gan archwilio, er enghraifft, y gyfres fwy hyblyg o bwerau sydd ar gael i Senedd yr Alban, yn ogystal â phosibiliadau eraill ar gyfer diwygio. Bydd y gwaith hwn yn ystyried y cyfleoedd yn ogystal â risgiau'r modelau gwahanol hyn, gan weithio o fewn yr egwyddorion treth rydym wedi'u gosod i'n hunain yng Nghymru. Bydd yr ymchwil yn darparu sylfaen dystiolaeth glir i lywio penderfyniadau am bwerau treth yn y dyfodol er budd pobl yng Nghymru.

Mae hyn oll, Llywydd, yn cael ei amlygu gan berfformiad cyfraddau treth incwm Cymru hyd yma o dan y pwerau presennol hynny. Mae'r gyllideb o flaen y Senedd y prynhawn yma gannoedd o filiynau o bunnoedd yn uwch oherwydd stiwardiaeth trethi datganoledig yn y Senedd hon, ac mae cyfraddau treth incwm Cymru ar eu pennau eu hunain yn cyfrannu £253 miliwn ychwanegol i'r gwariant y byddwn ni'n gallu ei wneud yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Y disgwyl yw y bydd y cyfraddau CTIC eu hunain yn parhau i gael effaith gadarnhaol dros gyfnod y rhagolwg hyd at 2029-30, lle rhagwelir y bydd yr effaith gyllidebol net gronnol hyd at y flwyddyn honno, a chan gynnwys y flwyddyn ariannol nesaf, dros £600 miliwn.

Nawr, Llywydd, byddaf yn canolbwyntio mwy ar ein cynlluniau o ran y gyllideb derfynol yn y ddadl yn ddiweddarach y prynhawn yma. Fodd bynnag, mae'r cyfraddau CTIC arfaethedig yn adlewyrchu'r angen i sicrhau ein bod ni'n darparu cyllideb sydd wedi'i gostio'n briodol ac sy'n cydbwyso anghenion gwario â'r refeniw sydd ar gael i ni. Bydd cadw cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer pob band ar 10c yn y £1 yn ein galluogi ni i wneud hynny. Ar ben hynny, mae'r perfformiad cadarnhaol yn golygu y bydd y gyllideb yn gyffredinol yn uwch nag y byddai'n fel arall. 

Yn olaf, Llywydd, mae sicrhau ein bod ni'n gwneud y gorau o'n cyfrifoldebau treth datganoledig hefyd yn golygu gweithio'n agos gyda CThEF ar weinyddu cyfraddau treth incwm Cymru. Fel yr amlygwyd yn adroddiad diweddaraf y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, mae'r prosesau a'r trefniadau llywodraethu cadarn gyda CThEF yn sylfaen gref ar gyfer casglu a gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithiol ac effeithlon heddiw ac i'r dyfodol.

Gofynnir i'r Senedd heddiw gytuno ar benderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2025-26, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i wneud hynny.

15:40

Does gyda fi ddim siaradwyr eraill yn y ddadl yma. Felly, os nad yw'r Ysgrifennydd eisiau ymateb mewn unrhyw ffordd, fe awn ni'n syth i'r cynnig. A'r cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n cymeradwyo'r cynnig yna.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2025-26

Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 6. Y ddadl ar gyllideb derfynol 2025-26 yw hon, a'r Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid sy'n cyflwyno'r ddadl yma—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8834 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 20 Chwefror 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr unwaith eto, Llywydd. Llywydd, cafodd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 ei chyhoeddi ar 20 Chwefror. Rwy’n falch ein bod yn gallu darparu £1.6 biliwn yn ychwanegol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud i fywydau ein cyd-ddinasyddion.

Llywydd, rwyf am ddweud y ffigur hwnnw unwaith eto: £1.6 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol. I'r rhai ohonom sydd wedi byw trwy'r blynyddoedd hir, llwm o gyni, mae gennym gyfle o'r diwedd i droi'r gornel, i ddechrau'r broses atgyweirio, i adfer ymdeimlad o obaith y gall gwelliant ddechrau, oherwydd, Llywydd, roedd cyni yn llechwraidd—fe sleifiodd i mewn i'n bywydau, gan ddifetha cymunedau, lleihau uchelgeisiau, erydu hyder yn ein gwasanaethau a oedd yn wynebu trafferthion, a gadael economi ddiffygiol a chymdeithas ranedig ac anghyfartal iawn ar ei ôl. Nawr, yn ystod y blynyddoedd hynny, bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn yma yn y Senedd i ail-lunio ein cynlluniau gwariant ac weithiau i leihau cyllidebau. Ond, heddiw, gyda'r gyllideb hon, rydym yn troi'r gornel, gan symud y tu hwnt i gyni i fuddsoddiad ac i dwf. Ac er na allwn ni ddadwneud yr holl ddifrod a achoswyd i Gymru yn ystod y blynyddoedd cyni, gallwn ni ddechrau ailadeiladu ein gwasanaethau a chreu economi sydd wir yn cynnig ffyniant i bawb, oherwydd, Llywydd, mae hon yn gyllideb o £26 biliwn, cyllideb lle bydd ein gwariant cyfalaf yn fwy na £3 biliwn am y tro cyntaf erioed, cyllideb lle bydd yr £1.6 biliwn ychwanegol hwnnw yn gweld cynnydd mewn cyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer pob un o feysydd ein gwasanaethau cyhoeddus.

Nawr, Llywydd, fel y gŵyr pawb yma, rydym yn Llywodraeth heb fwyafrif. Nid oes yr un blaid erioed wedi cael mwyafrif ers dechrau datganoli, felly rydym bob amser wedi gorfod llunio llwybr i sefydlogrwydd yng Nghymru. Pan fo cymaint yn y fantol, ac nid oes gan yr un bleidlais unigol a elwir bob blwyddyn yn y Senedd fwy yn y fantol nag yn y gyllideb derfynol, rydym bob amser wedi dod o hyd i ffordd o gydweithio yn y sefydliad hwn i ddod o hyd i ffordd ymlaen trwy nodi'r meysydd hynny lle gallwn ddod i gytundeb. Roeddwn i wastad yn hyderus y gallem wneud hynny eto eleni, gan gydweithio'n dawel ac yn ofalus yn y ffordd Gymreig, oherwydd mae'r rhain yn benderfyniadau mor bwysig i bobl ledled Cymru.

Hoffwn ddiolch i Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, am y ffordd adeiladol y mae hi wedi gweithio gyda ni i nodi'r meysydd hynny y cytunwn y dylid eu blaenoriaethu. Trwy gydol y broses hon, rydym wedi gweithio gyda'n gilydd. Nid ydym wedi cytuno bob amser, ond rydym wastad wedi chwilio am y tir cyffredin lle gellir dod o hyd i gonsensws. Rydym yn gwybod, y tu hwnt i'r Siambr hon, bod y rhai sy'n ein hanfon yma yn credu ei bod yn gryfder gweld pleidiau gwleidyddol gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd, ac rwy'n credu hynny hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar i Jane am roi buddiannau pobl Cymru uwchlaw gwrthdaro beunyddiol gwleidyddiaeth.

Mae'r cytundeb rydym wedi'i gyrraedd yn golygu y gellir datgloi'r holl gyllid a gyhoeddwyd yn ein cyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr a'i drosglwyddo i'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae hefyd yn golygu y bydd mwy na £100 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn y meysydd hynny lle mae gennym yr uchelgeisiau cyffredin hynny, gan gynnwys £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i dargedu oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty a darparu mwy o ofal a chymorth mewn cymunedau lleol; £30 miliwn yn fwy i ymestyn gofal plant Dechrau'n Deg i blant dwy oed ym mhob rhan o Gymru—[Cymeradwyaeth.]—gan gwblhau un o uchelgeisiau allweddol y cytundeb cydweithio o ddechrau'r tymor Senedd hwn, ac i fynd y tu hwnt i hynny, i gynyddu'r gyfradd fesul awr i ddarparwyr gofal plant i £6.40 yr awr; a chyllid gwarantedig, cyllid gwaelodol ar gyfer ein holl awdurdodau lleol, wedi'i osod nawr ar 3.8 y cant, sy'n cyfateb i £8.24 miliwn yn ychwanegol ac yn cefnogi naw awdurdod lleol yng Nghymru. Ac rwy'n falch iawn o ddweud, Llywydd, bod y gyllideb bellach yn cynnwys y £15 miliwn hwnnw i ariannu cynllun peilot tocyn bws safonol o £1 i bobl ifanc—[Cymeradwyaeth.]—21 oed ac iau ledled Cymru.

A nawr, Llywydd, byddwn ni'n symud ymlaen gyda gwaharddiad ar rasio milgwn, fel y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ychydig wythnosau yn ôl—[Cymeradwyaeth]

15:45

Ocê. Dyna'r drydedd gymeradwyaeth nawr. Roedd yn rhaid i mi ddweud wrth bobl yn yr oriel gyhoeddus i beidio â chymeradwyo y diwrnod o'r blaen. Dydw i ddim yn mynd i roi pryd o dafod i'r Aelodau, ond rwy'n awgrymu, yn dawel, os gallwn ni glywed heb gymeradwyaeth, yna fe allwn ni glywed popeth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud.  

Llywydd, yn ogystal â'r gwaharddiad hwnnw ar rasio milgwn, byddwn ni'n cryfhau 'Polisi Cynllunio Cymru'. Felly, rhaid i bob datblygwr ynni, yn y dyfodol, ystyried pob opsiwn arall, gan gynnwys opsiynau tanddaearol, fel rhan o unrhyw asesiad o'r effaith amgylcheddol wrth wneud ceisiadau cynllunio yng Nghymru. Ac i gefnogi hynny, byddwn ni hefyd yn creu cronfa arloesi effaith weledol gwerth £1 filiwn i dreialu a chasglu data ar dechnolegau tanddaearol newydd yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Ac er bod y gyllideb derfynol hon yn adlewyrchu'r cytundeb hwnnw gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae hefyd yn ymateb i'r gwaith craffu dwys ar gynigion cyllideb ddrafft y Llywodraeth. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid a holl bwyllgorau'r Senedd am eu hymgysylltiad gofalus, difrifol a manwl â'n cynlluniau gwariant. Mae'r pwyllgorau hynny wedi codi gofal plant, wedi codi gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, gofal cymdeithasol, y celfyddydau a diwylliant, a llywodraeth leol, ac yn y gyllideb derfynol hon mae pob un o'r meysydd hynny'n cael mwy o fuddsoddiad yn ychwanegol at bopeth yr oeddem eisoes wedi'i gyhoeddi yn ystod y cam cyllideb ddrafft.

Ac roedd y gyllideb ddrafft honno, Llywydd, fel y gwyddoch chi, yn cynnwys mwy na £3 biliwn o gyllid cyfalaf; cynnydd o 4.3 y cant ar gyfer llywodraeth leol, sydd bellach wedi cynyddu i 4.5 y cant ar y cam cyllideb derfynol; £175 miliwn mewn cyfalaf ychwanegol i'r GIG yn unig i fuddsoddi mewn adeiladu, seilwaith, offer a thechnoleg ddigidol. Mae llawer ohonom ni yma yn cofio, y llynedd, o dan Lywodraeth Geidwadol yn Llundain, ein bod ni wedi cael cynnig £1 filiwn am bopeth. Miliwn o bunnoedd yw'r hyn a roddodd Jeremy Hunt i ni yng nghyllideb yr hydref y llynedd ar gyfer popeth sydd ei angen ar y wlad hon. Nawr, £175 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer y GIG yn unig. Ac mae hynny ar ben mwy na £400 miliwn mewn refeniw i gefnogi darparu gwasanaethau a chyflogau'r GIG, a mwy na £100 miliwn ar gyfer addysg.

Llywydd, yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, dyfynnais Lloyd George, yn ei araith Limehouse enwog, pan rybuddiodd y rhai a oedd yn gwrthwynebu cyllideb ei bobl y bydden nhw'n wynebu dydd o brysur bwyso. Heddiw, mae geiriau'r Cymro mawr hwnnw yn adleisio dros fwy na chanrif, oherwydd, Llywydd, rhaid cofio mai hon yw'r unig gyllideb sydd gerbron y Senedd hon. Nid oes yr un gyllideb arall y gellir ei chymeradwyo yma y prynhawn yma, ac nid yw pleidlais yn erbyn y gyllideb hon yn bleidlais dros rywbeth arall, mae'n bleidlais yn erbyn y miloedd o driniaethau ychwanegol y bydd y GIG yn gallu eu darparu nawr y flwyddyn nesaf oherwydd y gyllideb hon; mae'n bleidlais yn erbyn cyflogaeth yr athrawon a'r cynorthwywyr addysgu hynny y mae eu swyddi wedi'u sicrhau gan y gyllideb hon; mae'n bleidlais yn erbyn y lleoedd gofal plant a fydd ar gael i deuluoedd nawr o ganlyniad i'r gyllideb hon; y ffyrdd a'r palmentydd a gaiff eu trwsio; yr ardaloedd chwarae i blant a gaiff eu gwella; y bysiau a fydd ar gael ac a fydd yn fforddiadwy i'n holl bobl ifanc, a llawer iawn mwy.

15:50

Diolch am gymryd ymyrraeth. Llywydd, mae hon yn ddadl gyfeiliornus. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn awgrymu—[Torri ar draws.] Mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn awgrymu, drwy bleidleisio yn erbyn cyllideb ddiffygiol yn ei chyfanrwydd, fod Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn penderfyniadau gwariant unigol. Ac os ddilynwch chi'r un rhesymeg—[Torri ar draws.]

Alla' i ddim clywed unrhyw beth sy'n cael ei ddweud ar hyn o bryd. Allwn ni gael ychydig o dawelwch, os gwelwch yn dda, er mwyn i ni allu clywed?

Ac os ddilynwch chi'r un rhesymeg, roedd ASau Llafur a bleidleisiodd yn erbyn biliau cyllid y Ceidwadwyr yn San Steffan oherwydd eu bod yn credu ei bod yn gyllideb ddiffygiol rywsut yn pleidleisio yn erbyn rhoi unrhyw gyllideb o gwbl i Lywodraeth Cymru. Doedden nhw ddim. Pleidleisiodd Plaid Cymru gyda nhw, gan ddweud ei bod hi'n gyllideb ddiffygiol. Yr hyn rydyn ni'n ei ddweud heddiw yw, er y gallwn ni gytuno ag elfennau o'r gyllideb—wrth gwrs y gallwn ni—mae hon yn gyllideb Lafur ddiffygiol a dyna pam y byddwn ni'n pleidleisio yn ei herbyn heddiw. 

Llywydd, rwy'n deall pam mae angen i arweinydd Plaid Cymru ymdrechu mor galed i gyfiawnhau gweithredoedd ei blaid yma y prynhawn yma, ond nid yw'n dal dŵr am un eiliad. Pan fyddwch chi'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon, yr unig effaith, pe byddech chi'n llwyddo—ac rwy'n cymryd eich bod chi'n pleidleisio y ffordd honno am eich bod chi'n bwriadu llwyddo—felly pe byddech chi'n llwyddo, byddai popeth rwyf wedi'i amlinellu y prynhawn yma yn cael ei golli i bobl yma yng Nghymru. Dyna beth fyddan nhw'n ei weld. Dyna beth fyddan nhw'n ei gofio. A phan ddywedwch wrthyf fod fy nadl yma yn ddadl gyfeiliornus, credwch chi fi, bydd pobl yn gweld trwy'r ddadl rydych chi'n ei gwneud sef, rywsut, am nad yw'r gyllideb hon yn cyflawni popeth yr hoffech chi ei weld ynddi, y byddai'n well gennych weld pobl yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o'r holl fuddsoddiad sy'n dod gyda'r gyllideb hon. Mae'n ddadl gywilyddus rydych chi'n ceisio ei gwneud i ni y prynhawn yma.

Yn hytrach, Llywydd, yr unig bleidlais gyfrifol y gellir ei bwrw y prynhawn yma fydd pleidlais i ganiatáu i'r gyllideb hon basio. A dyna pam y bydd pob Aelod Llafur yma yn bwrw ein pleidleisiau i wneud i hynny ddigwydd, a hynny am fod llygaid ein gwasanaethau cyhoeddus, y rhai sy'n gweithio ynddyn nhw a'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw, ar y Senedd y prynhawn yma. Mae rhai ohonom yma sy'n benderfynol o sefyll ochr yn ochr â nhw drwy basio'r gyllideb hon. Rwy'n annog pob Aelod yma i wneud yr un peth.

15:55

Diolch, Llywydd. Dwi'n falch i gyfrannu at y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru.

Roedd adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft yn cynnwys 39 o argymhellion a dwi’n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, y rhan fwyaf ohonyn nhw. Rwyf hefyd yn falch o weld nifer o newidiadau rhwng y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol, yn enwedig mewn meysydd gafodd eu cwmpasu gan ein hargymhellion. Yn benodol, rydyn ni’n croesawu’r £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal plant, a fydd yn sicrhau cyllid ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg i ddarparu gofal plant i blant dwy oed ledled Cymru. Gwnaethon ni alw am ddiweddariad ar y gwaith o gyflwyno Dechrau’n Deg yn ein hadroddiad, ac rydyn ni’n falch o weld cynnydd yn hyn o beth.

Roedd y pwyllgor hefyd yn glir wrth alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ystyried cyllido gwaelodol ar gyfer awdurdodau lleol, felly mae’n dda gweld bod cyllido gwaelodol gwarantedig o 3.8 y cant ar gael ar gyfer pob awdurdod lleol. Hefyd, gwnaethon ni nifer o argymhellion yn ymwneud â lefelau priodol o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol, ac rydyn ni’n croesawu’r cyllid ychwanegol sy'n cael ei ddyrannu yn y maes hwn. Rydyn ni hefyd yn falch o weld y cyhoeddiad y bydd arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer cynllun peilot i bobl ifanc 21 oed ac iau i dalu £1 yn unig am docyn bws unffordd yng Nghymru. Cafodd cymorth wedi’i dargedu ar gyfer pobl ifanc yn y gyllideb ei nodi gan y pwyllgor fel blaenoriaeth allweddol yn dilyn ein gwaith ymgysylltu a’n dadl yr haf diwethaf, ac mae’n gadarnhaol gweld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau yn y maes hwn.

Mae’r rhain i gyd yn welliannau clodwiw ac rwy’n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â mi bod y newidiadau i gynlluniau Llywodraeth Cymru yn dangos gwerth craffu effeithiol a chadarn.

Gan droi nawr at ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'n hargymhellion, ar gyllid i liniaru effaith cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol ar wasanaethau cyhoeddus, mae'n siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi cael cadarnhad gan y Trysorlys eto ynghylch faint o arian y gellir ei ddisgwyl i dalu am y costau hyn, er ein bod ni'n croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i'n diweddaru ar y pwynt hwn, gobeithio erbyn diwedd y gwanwyn.

Roedd hefyd yn galonogol clywed bod y Llywodraeth yn ymateb yn gadarnhaol i'n hargymhellion yn ymwneud â gwariant ataliol, yn enwedig y bydd ymgorffori dull ataliol yn allweddol i adolygiad gwariant Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth i bwyso am hyblygrwydd ariannol pellach o fewn y fframwaith cyllidol ac rwy'n edrych ymlaen at glywed am gynnydd yn y maes hwn.

Bydd y pwyllgor yn clywed gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn fuan yng nghyfarfod nesaf Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol yn Belfast yn ddiweddarach y mis hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at godi'r materion hyn yn uniongyrchol gydag ef yn ystod y trafodaethau hynny.

Llywydd, hoffwn orffen fy nghyfraniad drwy edrych ymlaen at y cylch cyllidebol nesaf, sef yr olaf o’r Senedd bresennol hon. Byddaf i’n ysgrifennu’n fuan at bwyllgorau’r Senedd, fel yr ydw i wedi’i wneud mewn blynyddoedd blaenorol, i ystyried ffyrdd o wneud y defnydd gorau o waith craffu ar y gyllideb yn y Senedd, er mwyn lliniaru’r effaith os caiff y cyfnod craffu ei gwtogi ar gyfer cylch cyllideb 2026-27.

Hefyd, yn naturiol, mae gennym ddiddordeb yng nghanlyniadau'r adolygiadau gwariant ar gyfer y Deyrnas Unedig a Chymru ac rydym yn gobeithio clywed mwy am y rhain gan yr Ysgrifennydd Cabinet cyn ein dadl flynyddol—a sefydlog erbyn hyn—ar flaenoriaethau cyllidebol yn yr haf a sesiwn rag-gyllidebol y pwyllgor a fydd yn cael ei chynnal ddechrau’r hydref.

Rwyf hefyd yn nodi ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'r argymhelliad ar ddiweddaru protocol y gyllideb, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth i wneud newidiadau hanfodol cyn yr adolygiad mwy sylfaenol ar ôl 2026.

I gloi, hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymgysylltiad parhaus â’r pwyllgor ac am ei ymateb adeiladol i'n hargymhellion. Diolch yn fawr.

16:00

Rydym yn gwybod bod y gyllideb hon heddiw, wrth gwrs, yn gosod cyfeiriad teithio ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn gosod y naws ar gyfer buddsoddi a thwf yng Nghymru. Ond o ran y cyfeiriad teithio, mae'r man cychwyn ar gyfer y teithio hwnnw yn ganlyniad i chwarter canrif o gyllidebau blaenorol gan Lywodraeth dan arweiniad Llafur yma ym Mae Caerdydd. Gadewch i ni weld sut olwg sydd ar ganlyniadau'r 26 mlynedd diwethaf o gyllidebau Llafur: Cymru sydd â rhestrau aros hiraf o bell ffordd y GIG yn y Deyrnas Unedig a'r canlyniadau addysgol gwaethaf, sy'n llesteirio dyfodol ein plant a'n pobl ifanc, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn £1.20 mewn cyllid am bob £1 sy'n cael ei wario ar y gwasanaethau hyn yn Lloegr. Nid yn unig hynny, ond pobl yng Nghymru sydd â'r pacedi tâl ysgafnaf yn y DU ac mae busnesau'n cael eu gwasgu gyda'r cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain. Dydy e ddim yn ddarlun braf.

Roeddem yn ysu am weld cyllideb heddiw a oedd yn newid cwrs Llywodraeth Cymru a rhagolygon pobl Cymru; cyllideb oedd yn ceisio trwsio Cymru yn lle bwrw ymlaen â'r un hen uniongred aflwyddiannus. Yr hyn a gyflwynwyd i ni heddiw, serch hynny, yw plastr glynu dros y problemau y mae llawer gormod o bobl yn eu hwynebu yng Nghymru. Ni fydd y gyllideb sydd ger ein bron heddiw yn olrhain cwrs newydd, ni fydd yn trwsio'r problemau dwfn y mae 26 mlynedd o Lafur wedi'u rhoi inni, ni fydd yn arwain at fwy o ffyniant i'n pobl, ni fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl ac ni fydd yn rhoi'r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl Cymru yn crefu amdanynt.

Ond nid yw'n syndod mawr, wrth gwrs, bod Llafur yn hapus i barhau fel maen nhw wedi bod yn ei wneud ers 1999, hyd yn oed os yw'r arolygon barn yn dweud wrthyn nhw y gallai etholiad nesaf y Senedd fod yn un anodd iawn iddyn nhw; does dim rhyfedd bod cynifer yn sefyll i lawr cyn yr etholiad nesaf. Yn hytrach na mynd i'r afael â'r materion mawr, maen nhw wedi cynyddu'r gyllideb fiwrocratiaeth draean mewn dwy flynedd. Maen nhw eisiau sianelu cyllid tuag at 36 yn fwy o wleidyddion yn y lle hwn, ac yn hytrach na chyflwyno ac ariannu lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru, y maen nhw'n dadlau sydd y tu hwnt i'w cylch gwaith, maen nhw'n gwario miliynau ar filiynau o bunnoedd ar gysylltiadau rhyngwladol, nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i'w wneud â chylch gwaith Llywodraeth Cymru. Dyma rai o'r rhesymau pam ein bod ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, wedi bod yn glir na fyddem yn cefnogi'r gwastraff parhaus hwn a chamddyrannu blaenoriaethau gwariant.

Gan ddod at basio'r gyllideb hon heddiw, oherwydd, wrth gwrs, mae'n edrych fel y bydd yn mynd drwodd, roedd yn siomedig gweld yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn cynnal y weinyddiaeth Lafur hon sy'n methu trwy gytundeb eithaf gwan, ac rwy'n dweud hynny gyda phob parch a hoffter tuag at yr Aelod. Ond efallai nad yw'n syndod, o ystyried bod y Rhyddfrydwyr wedi bod yn hapus i gynnal y Llywodraeth Lafur yn y lle hwn ar wahanol adegau yn ystod datganoli. Yn hytrach na chymeradwyo chwarter canrif o fethiant gan Lafur, byddai croeso mawr pe bai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sefyll i fyny dros ffermwyr a chymunedau gwledig ledled Cymru yn lle, yn hytrach na chefnogi'r union Blaid Lafur yng Nghaerdydd a Llundain sy'n tanseilio'r ffordd wledig o fyw ac yn gosod beichiau annioddefol ar ffermwyr.

Mae gen i ddiddordeb mawr yn eich sylw diwethaf fy mod i wedi methu â sefyll dros ffermwyr, pan wyf wedi sicrhau £10 miliwn yn y gyllideb hon ar gyfer ein cymunedau ffermio, a thro ar ôl tro, fel y gwyddoch chi, rwyf wedi sefyll i fyny i Lafur er mwyn sicrhau bod gan ein ffermwyr y llais sydd ei angen arnynt, felly, allech chi roi'r dystiolaeth i mi ar gyfer hynny, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn.

Rwy'n credu, ac rydym ni'n credu, y gallai cytundeb llawer cryfach fod wedi ei frocera rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur yn y lle hwn—[Torri ar draws.] Fe fethon nhw â gwneud hynny.

Rwy'n hapus iawn i egluro—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus iawn i egluro.

Rwy'n hapus iawn i egluro i'r Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol pam rwy'n credu, fel chi, bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu ffermwyr ac amaethyddiaeth yn y gyllideb hon, oherwydd os dilynwch chi fynegai chwyddiant Banc Lloegr, nid £330 miliwn ddylai fod yn cael ei ddyrannu i ffermwyr Cymru, mae'n fwy na £500 miliwn, na wnaeth Jane Dodds ei sicrhau yn y gyllideb hon.

Diolch. Rwy'n cytuno â'r sylwadau hynny.

Mae gan Lywodraethau Cymru ffordd wahanol. Byddwn ni'n sefyll dros bensiynwyr Cymru drwy gefnogi gweithredu lwfans tanwydd gaeaf wedi'i gostio'n llawn yng Nghymru, a dorrwyd gan Lywodraeth Lafur y DU, sy'n golygu y bydd 400,000 o aelwydydd pensiynwyr yng Nghymru yn mynd heb y lwfans diolch i Lafur yn Llundain. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod Llafur yng Nghaerdydd wedi gwrthod sefyll dros Gymru ac wedi rolio drosodd pan ddewisodd Starmer a Reeves dlodi pobl hŷn yma yng Nghymru. 

Byddem yn darparu fformiwla ariannu decach i'n hawdurdodau lleol, sy'n darparu ar gyfer Cymru gyfan ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl, fel y gallan nhw ddewis gwario eu harian ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Byddem yn rhyddhau ein heconomi ac yn diddymu ardrethi busnes i fusnesau bach, sy'n talu'r cyfraddau uchaf ym Mhrydain ar hyn o bryd, a byddem yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â gwastraff a chamwariant trwy ddelio â phethau fel y £250 miliwn sy'n cael ei wario ar ffioedd asiantaeth y GIG, sy'n llawer rhy uchel—o ganlyniad i'r diffyg cynllunio gofal iechyd hirdymor gan y Llywodraeth Lafur flinedig hon yng Nghymru.

Llywydd, ni fydd y gyllideb hon yn trwsio Cymru. Mae angen newid ar Gymru, a'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid all gynnig dewis cadarnhaol go iawn i'r chwarter canrif diwethaf o Lywodraeth Lafur fethedig. Diolch yn fawr iawn.

16:05

Wedi llymder y blynyddoedd diwethaf, roedd disgwyliadau pobl Cymru yn uchel o ran cyllideb heddiw, a’n disgwyliadau ni fel Senedd. Wedi’r cyfan, slogan y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol y llynedd oedd 'Newid'. Ac am flynyddoedd cyn hynny, faint o weithiau dŷn ni wedi clywed yn y Siambr hon pa mor wahanol fyddai pethau ar Gymru gyda’r newid hwnnw? Ond dydy pethau ddim mor wahanol â hynny, nac ydyn? Efallai bod y setliad ariannol yn well nag oedd o dan y Ceidwadwyr, ond dydy o ddim yn ddigonol. O basio’r gyllideb hon heddiw, dyma fydd y realiti: bydd gwasanaethau mae pobl yn ddibynnol arnyn nhw yn dal i gael eu torri, a rhai yn diflannu’n llwyr; bydd y dreth gyngor yn mynd i fyny’n sylweddol; bydd gormod o lawer o bobl yn dal yn methu fforddio bwyd, methu fforddio cynhesu eu tai ac yn byw mewn tlodi.

Lle mae arian HS2? Lle mae’r cannoedd o filiynau sydd eu hangen tuag at glirio a diogelu'r tomenni glo? Lle mae’r fformiwla cyllido teg? Ac o ran Ystad y Goron—wel, mae barn Llafur Cymru yn amlwg yn dra gwahanol tu hwnt—

A wnewch chi gymryd ymyriad? Diolch am gymryd ymyriad. Os na chaiff y gyllideb hon ei phasio, ac rydym yn colli £1.6 biliwn, lle, yn eich barn chi, y dylid cymryd yr £1.6 biliwn hwn, yn eich barn chi? Pa gyllideb ddylai golli'r arian hwnnw?

Mae'n cael ei phasio. Mae gennych chi gytundeb. Rydyn ni'n sôn am y biliynau o bunnoedd sydd ar goll sy'n ddyledus i Gymru, ac fe wna' i sôn am hynny, os byddwch chi'n gadael i mi barhau. 

O ran Ystad y Goron, mae barn Llafur Cymru yn amlwg yn dra gwahanol tu hwnt i furiau'r Senedd hon, gyda dim un o Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn cefnogi cynnig Plaid Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron yn San Steffan yr wythnos diwethaf. Dim un. Ac yn hytrach na derbyn ein gwahoddiad ni i gydweithio er mwyn mynnu setliad ariannol teg i Gymru, a gweithredu ar y meysydd hyn, beth mae’r Llywodraeth hon wedi ei wneud ers i’r gyllideb ddrafft gael ei gosod, ac yn parhau i wneud heddiw? Ymosod ar Blaid Cymru am fynnu gwell i Gymru, amddiffyn penderfyniadau niweidiol Llafur yn San Steffan, megis parhau gyda’r polisi creulon cap dau blentyn sy’n effeithio ar 65,000 o blant yma yng Nghymru, ac amddiffyn y newidiadau i’r taliadau tanwydd gaeaf sy’n mynd i effeithio ar filoedd o bensiynwyr. A gwrthod cydnabod yr ansicrwydd a’r niwed sydd wedi ei greu gan y newidiadau i yswiriant gwladol. A dyna pam dŷn wedi cyrraedd sefyllfa lle na allwn gefnogi’r gyllideb hon heddiw.

Bydd Plaid Cymru bob amser yn ceisio dod o hyd i dir cyffredin lle bo hynny'n bosibl, ac nid yw pleidleisio yn erbyn y gyllideb yn benderfyniad a wneir yn ysgafn; nid yw ychwaith yn bleidlais yn erbyn popeth yn y gyllideb. Wrth gwrs, mae yna elfennau i'w croesawu, yn enwedig parhad rhai o'r polisïau a'r buddsoddiadau a sicrhawyd gan y cytundeb cydweithio. Mae'n amlwg bod gwaith craffu rhai o bwyllgorau'r Senedd hefyd wedi dylanwadu ar iteriad olaf y gyllideb hefyd, megis y cynnydd ar gyfer y celfyddydau a diwylliant—sy'n dal i fod yn annigonol, ond sy'n gam i'r cyfeiriad cywir—a'r teithio â chymhorthdal ar fysiau i bobl ifanc, yr oedd carfan olaf Senedd Ieuenctid Cymru yn eirioli'n gryf drosto.

Ond wrth edrych yn ddyfnach, a thu hwnt i'r penawdau, yr hyn sy'n amlwg yw bod y gyllideb yn dal i fethu â mynd i'r afael yn ddigonol â'r heriau sy'n ein hwynebu fel cenedl. Er ein bod ni'n derbyn, fel yr amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, na fydd modd dadwneud 14 mlynedd o ddifrod a achoswyd gan y Ceidwadwyr dros nos, dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw beth gan Lywodraeth Lafur y DU i ddangos bod Cymru'n bwysig iddyn nhw. Nid oes yr un geiniog o gyllid canlyniadol HS2 yn cael ei hadlewyrchu yn y gyllideb hon, a'r cynnydd tymor real isaf o'r holl wledydd datganoledig mewn cyllid adnoddau hyd at 2025-26, sef dim ond 1.3 y cant. Yn wir, pan edrychwch chi ar yr £1.7 biliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, bydd yn rhaid llyncu cyfran fawr i wrthbwyso penderfyniad annoeth Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, heb unrhyw gynlluniau i ad-dalu'r gost i sefydliadau trydydd sector, elusennau a hyd yn oed meddygfeydd. Mewn gwirionedd, bydd hyd yn oed yr ad-daliadau a ddaw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn debygol o adael Cymru yn wynebu diffyg o gymharu â Lloegr, rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Gwladol ei hun yn ei ddisgrifio fel annhegwch sylfaenol.

Felly, er bod y Ceidwadwyr wedi mynd, nid yw cyni wedi mynd gyda nhw, ac mae Cymru'n parhau i fod ar ei cholled—nid y dyfodol mwy disglair i Gymru a addawyd pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft. Ond nid yw'n ymwneud â'r arian sydd ar gael yn unig. Mae'n ymwneud â sut mae'n cael ei wario, ac ar hyn mae record Llywodraeth Cymru ymhell o fod yn foddhaol. Er bod y gyllideb iechyd yn benodol wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ychydig iawn o welliant, os o gwbl, rydym wedi'i weld o ran rhestrau aros, amseroedd ymateb ambiwlans a thargedau ar gyfer trin canser. Mae ein prifysgolion yn wynebu argyfwng dirfodol. Mae ein hysgolion mewn trafferthion. Mae sectorau'r celfyddydau a diwylliant, hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol, yn cael llai o fuddsoddiad na gwledydd Ewropeaidd eraill, ac mewn argyfwng.

Felly, heddiw, am y rhesymau hyn y mae Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb. Ond er hynny, mae'r cynnig yna o hyd i weithio'n drawsbleidiol i sicrhau tegwch a chydraddoldeb i Gymru o ran cyllid a phwerau. Y cwestiwn i Lafur yma yng Nghymru ac i'r Llywodraeth Cymru hon yw: ydych chi'n fodlon gwneud hynny, a rhoi Cymru o flaen plaid?

16:10

Mae hon yn gyllideb newyddion da. Mae £1.5 biliwn yn ychwanegol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus, a'r flaenoriaeth yw rhoi Cymru ar y llwybr at dwf. Bydd pob adran yn elwa ar gynnydd mewn cyllid refeniw a chyfalaf. Mae gwariant cyfalaf yn fwy na £3 biliwn am y tro cyntaf ar y cam cyllideb derfynol. Bydd hyn yn gwella seilwaith ac yn lleihau gwariant ar y model buddsoddi ar y cyd drud. Mae hyn yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, pan wnaed penderfyniadau anodd iawn a thorrwyd cyllidebau, gan effeithio ar wasanaethau cyhoeddus allweddol. Allwn ni ddim dadwneud yr holl ddifrod a achoswyd i Gymru dros y 14 mlynedd diwethaf mewn un gyllideb yn unig, ond mae'r gyllideb hon yn dangos pŵer dwy Lywodraeth sydd â'r un gwerthoedd cyffredin yn cydweithio er budd gwasanaethau cyhoeddus.

Beth ydw i eisiau i'r gyllideb ei gyflawni? Gwella canlyniadau iechyd trwy ymyrraeth gynnar, argaeledd gofal sylfaenol, diagnosteg a hybu iechyd. Rydym yn parhau i gynnal dadleuon iechyd, a boed yn ddementia neu'n ganser, rydym i gyd yn cytuno ar bwysigrwydd diagnosis cynnar. Mae hyn yn golygu gwario mwy ar offer diagnostig. Mae gwella iechyd yn hanfodol. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn arwain at lai o ordewdra. Mae mwy o ffitrwydd yn lleihau'r galw ar y gwasanaeth iechyd. Gwell canlyniadau addysg, nid mewn data diystyr fel PISA, ond mewn cymwysterau a gyflawnir—. Gwendid economi Cymru yw bod prinder swyddi cyflog uchel yn y sectorau economaidd cyflog uchel a'r sectorau twf fel TGCh, gwyddorau bywyd ac ynni gwyrdd. Mae hyn yn gweithio'n dda ledled y byd, wedi'i yrru gan Lywodraethau sy'n cefnogi'r sector prifysgolion. Addysg yw'r allwedd i economi lwyddiannus. Mae cefnogaeth gan y Llywodraeth i ysgolion a cholegau yn gwella sgiliau, a dylai llwyddiant economaidd ddilyn.

Unwaith eto mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn feirniadol o'r gyllideb. Maen nhw naill ai'n analluog neu'n amharod i gynhyrchu cyllideb amgen. Mae polisi'r Ceidwadwyr yn syml. Maen nhw'n gwrthwynebu pob codiad treth, maen nhw'n gwrthwynebu pob treth newydd, maen nhw'n gwrthwynebu benthyca. Maen nhw'n cefnogi gwario arian ychwanegol ar draws portffolios ac mae'r arbedion a awgrymir ganddyn nhw yn fach iawn.

Yn fwy rhyfeddol, gall Plaid Cymru gynhyrchu cyllideb ar gyfer Cymru annibynnol ond nid ar gyfer y Senedd eleni. Nid yw eu cyllideb ar gyfer Cymru annibynnol yn cynnwys ariannu pensiynau'r wladwriaeth. Cynigiodd yr SNP yn yr Alban gasglu pob treth yn yr Alban a darparu eu cyfran nhw o'r costau yr eir iddynt gan Lywodraeth San Steffan ar feysydd fel pensiynau'r wladwriaeth ac amddiffyn. Ydy Plaid Cymru eisiau cynnig hyn? Mae ganddyn nhw'r ffigurau, maen nhw'n gallu cynhyrchu cyllideb. Os nad ydych chi'n cynhyrchu cyllideb, allwch chi ddim addo mwy o arian i bawb heb ei dynnu o fannau eraill yn y system.

I helpu, mae gennyf rai awgrymiadau. Capio taliadau fferm sylfaenol ar £50,000. Mae 381 o fusnesau fferm yn derbyn rhwng £50,000 a £100,000 y flwyddyn a 60 yn derbyn dros £100,000 y flwyddyn. O ran yr economi, i ddyfynnu Russell George, mae'r pwyllgor economi wedi dod i'r casgliad:

'Nad yw cysyniad yr ardaloedd menter, ar y cyfan, wedi cyfiawnhau ei hun hyd yma yng Nghymru er i Lywodraeth Cymru wario dros £200 miliwn arnynt',

i ddarparu unrhyw lwyddiant.Bydden i'n rhoi terfyn ar gyllid ar gyfer ardaloedd menter. Wnaeth ardaloedd menter ddim gweithio yn yr 1980au. Pam mae pobl yn meddwl eu bod nhw'n mynd i weithio nawr?

Mae iechyd yn cymryd dros hanner cyllideb Cymru. A yw'r arian sy'n cael ei wario ar iechyd yn effeithiol ac yn effeithlon? Dydw i ddim yn gwybod. Does neb yn gwybod. Mae gennym ni dargedau rhestrau aros ond faint o ymyriadau llawfeddygol rydym yn eu disgwyl ar gyfer pob llawfeddyg? Sut allwn ni gynyddu gweithgarwch? Sut gall buddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial wella cynhyrchiant? Dydw i ddim yn credu bod cyfran y gwariant rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd yn gywir. Mae angen i ni ddiogelu'r gyfran o wariant iechyd sy'n cael ei wario ar ofal sylfaenol eleni, a gwrthdroi'r cyfeiriad teithio sy'n lleihau cyfran gofal sylfaenol o wariant iechyd ers i ofal sylfaenol a gofal eilaidd gael eu huno, yn anffodus. Pan na all cleifion fynd i apwyntiad gofal sylfaenol, beth maen nhw'n ei wneud? Maen nhw'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn tagu'r system damweiniau ac achosion brys. 

Beth sy'n digwydd os na chaiff cynnig cyllidebol ei basio cyn 1 Ebrill y flwyddyn ariannol sydd i ddod? Wel, mae adran 127 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dod i rym yn awtomatig. Byddai hyn yn rhoi awdurdod i Lywodraeth Cymru a chyrff a ariennir yn uniongyrchol wario adnoddau, cadw incwm a thynnu arian parod o gronfa gyfunol Cymru o hyd at 75 y cant o'r terfyn a gymeradwywyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol, neu £7 biliwn yn llai na'r hyn y mae'r gyllideb hon yn ei ddarparu. Dyna beth mae pobl yn pleidleisio yn ei erbyn. Maen nhw'n pleidleisio yn erbyn £7 biliwn ychwanegol ar gyfer gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Os na chaiff y gyllideb ei phasio ddiwedd mis Mehefin, ystyrir bod hyd at 90 y cant o derfyn y flwyddyn ariannol flaenorol wedi'i awdurdodi. Mae hyn yn golygu na fyddai modd gwario'r arian ychwanegol a roddir i Gymru yng nghyllideb San Steffan. Rydym hefyd yn cael gwario 10 y cant yn llai na'r llynedd. Dyna sut mae cyni yn edrych.   

16:15

Heddiw, rwy'n teimlo ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb. Mae'r gyllideb hon yn hanfodol nid yn unig ar gyfer y cynnydd rydym wedi'i wneud ond ar gyfer sicrhau cyllid hanfodol. Os na fyddwn ni'n pasio'r gyllideb hon, rydym mewn perygl o golli biliynau i bobl Cymru, ac ni allaf mewn cydwybod dda adael i hynny ddigwydd. Gadewch imi fod yn glir: nid dyma'r gyllideb y byddwn i wedi'i dewis ar gyfer Cymru. Nid yw, i mi, yn sicrhau'r dyfodol beiddgar, uchelgeisiol rydym yn ei haeddu, ond rwy'n falch o fuddugoliaethau allweddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, enillion fydd yn gwella bywydau ac yn sbarduno newid ystyrlon, go iawn. Rydym wedi sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer gofal plant a gofal cymdeithasol, gwasanaethau hanfodol i'n rhai sydd fwyaf agored i niwed. Rwy'n falch ein bod ni wedi blaenoriaethu'r meysydd hyn sy'n aml yn cael eu hanwybyddu. Mae ein plant a'n henoed yn haeddu'r buddsoddiadau mwyaf, ac rwy'n falch ein bod ni wedi cyfeirio mwy o adnoddau tuag at eu gofal. 

Mae mwy i ymladd drosto bob amser. Cymerwch ofal plant. Mae sicrhau 12.5 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed ar draws Cymru gyfan yn ddechrau da, ond all o ddim gorffen fanna, nid pan fo cost gofal yn parhau i fod yn un o'r materion pwysicaf i'n teuluoedd i gyd. Rhaid i ni anelu, yn y pen draw, at sicrhau 30 awr o ofal plant o ansawdd uchel am ddim i bob plentyn o naw mis ymlaen. Nid yw hyn yn ymwneud â datblygiad plentyndod cynnar yn unig; mae'n ymwneud â mynd i'r afael â thlodi plant a grymuso rhieni, yn enwedig mamau, i ddychwelyd i'r gwaith. Rwy'n falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma yng Nghymru, ond wna' i ddim rhoi'r gorau i fynnu mwy.

O ran gofal cymdeithasol, bydd y £30 miliwn rydym wedi'i sicrhau yn helpu i symleiddio'r daith gofal iechyd, gan atal pobl rhag mynd i'r ysbyty a llyfnhau'r symud o'r ysbyty i'r cartref. I mi, mae hyn yn ymwneud ag urddas, sicrhau bod pawb yn cael y gofal iawn yn y lle iawn, lle gallan nhw wella a ffynnu. Mae'n rhaid i mi fod yn onest—dim ond plastr glynu ar system mewn argyfwng yw hwn. Mae gofal cymdeithasol, rydym yn gwybod, yn cael ei danariannu'n gronig ac yn brin o staff, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhybuddio am fwlch ariannol o £646 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Ac rwy'n falch ein bod ni wedi sicrhau cytundeb sylweddol i awdurdodau lleol ar gyllid gwaelodol ar gyfer ein hawdurdodau lleol. Dylai fod wedi bod yn fwy, wrth gwrs, a byddaf yn parhau i ymladd am hynny. 

Y tu hwnt i hynny, rwyf wedi sicrhau cyfres o ymrwymiadau a fydd wir yn gwella bywydau ledled Cymru: y cap arloesol ar brisiau bysiau ar gyfer pobl ifanc 21 oed ac iau; £5 miliwn i helpu canolfannau hamdden i leihau costau ynni, a £5 miliwn arall i uwchraddio meysydd chwarae; adfer llinell Calon Cymru, gyda phum gwasanaeth dyddiol; mwy o arian ar gyfer ffyrdd lleol, palmentydd a thoiledau cyhoeddus; £5 miliwn i wella llygredd dŵr; a buddsoddiadau penodol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau Wyeside, campws lles gogledd Powys, a Lido Brynaman. Drwy roi pobl o flaen gwleidyddiaeth, rwy'n gobeithio fy mod wedi dangos bod newid ystyrlon yn bosibl.

Ac rwyf hefyd yn falch iawn fy mod i wedi sicrhau gwaharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru, un fydd yn sicrhau—[Torri ar draws.]—Fe wnaf i orffen y frawddeg yma, James, os caf i—un fydd yn sicrhau ein bod ni'n genedl ac yn wlad sy'n rhoi lles anifeiliaid yn gyntaf. Diolch, James.

16:20

Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd ymyriad. O ran y gwaharddiad dinesig ar rasio milgwn yng Nghymru, a allwch chi ddweud wrthym pa sicrwydd a gawsoch gan y Llywodraeth ynghylch y bobl sy'n mynd i golli eu swyddi a'u bywoliaeth yn y trac rasio hwnnw oherwydd y gwaharddiad hwn? 

James, efallai eich bod yn gwybod neu efallai nad ydych yn gwybod nad oes llawer o bobl o gwbl yn gweithio—[Torri ar draws.] Na na. Ac os clywsoch chi—[Torri ar draws.] Os clywsoch chi—. Os clywsoch chi ein Dirprwy Weinidog yn dweud y bydd grŵp a fydd yn dod at ei gilydd i edrych ar y swyddi hynny a'r bobl hynny, i edrych i weld sut rydym yn gwella ac yn gweithredu'r gwaharddiad rasio, yna byddwch yn sylweddoli bod ymrwymiad i hynny. James, gwn eich bod yn teimlo nad yw milgwn efallai, fel eich ci chi, yn haeddu'r dechrau mewn bywyd y dylai pob ci ei gael. Rwy'n credu hynny, ac rwy'n gwybod bod llawer ohonom yn credu hynny hefyd. Carolyn. 

Jane, a wnewch chi gymryd ymyriad? Rwyf i eisiau sefyll mewn undod gyda chi. O ran llawer o'r hyn sydd yn y gyllideb hon heddiw, rydym ni'n rhannu'r gwerthoedd hynny gyda chi, ac rydym ni wir yn croesawu'r cyllid ychwanegol—fi yn bersonol ar gyfer ffyrdd, ar gyfer trafnidiaeth bysiau cyhoeddus, ar gyfer sawl peth, ond i wahardd rasio milgwn. Cawsom ddwy ddadl drawsbleidiol yn y Senedd hon. Felly, rwyf eisiau dweud nad ydych chi'n sefyll ar eich pen eich hun yn hyn. Llofnododd 35,000 o bobl y ddeiseb honno. Cawsom y ddadl fer ar hyn, ac mae'n effeithio ar filoedd ar filoedd o gŵn. Mae'n gêm greulon. Yn y cae rasio hwnnw, cafodd chwarter eu hanafu. Felly, hoffwn ddweud fy mod yn sefyll mewn undod, diolch yn fawr iawn.

Diolch. Llywydd, fe wnaf barhau; nid oes gennyf lawer mwy ar ôl. Er bod y rhain i gyd yn newidiadau cadarnhaol, ni allaf anwybyddu'r ffaith, fel cenedl, ein bod yn dal i gael ein siomi gan Lafur yn San Steffan. Mae methiant Llywodraeth y DU i sicrhau setliad ariannol teg i Gymru yn cyfyngu ar ein potensial. Rwyf wastad wedi dweud bod angen datganoli Ystad y Goron yng Nghymru ac mae angen i ni gael cyllid canlyniadol HS2 yng Nghymru.

Rwyf wedi gwneud y penderfyniad anodd i ymatal ar bleidlais y gyllideb. Ni allaf wir gefnogi cyllideb sy'n methu â chyflawni'r buddsoddiad a'r newid radical sydd ei angen ar Gymru. Rhaid i'n brwydr ni fod am fwy: ar gyfer gofal plant gwell, ar gyfer gofal cymdeithasol gwell, ar gyfer amgylchedd gwyrddach, ac am gyllid gwell i'n hawdurdodau lleol.

Wrth gloi, cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwyf am rannu geiriau cyn-Arlywydd Liberia ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Ellen Johnson Sirleaf. Dywedodd hi:

'Os nad yw eich breuddwydion yn eich dychryn, nid ydynt yn ddigon mawr.'

Gadewch i ni freuddwydio'n fawr. Gadewch i ni gyflawni'n fawr. Gadewch i ni wneud mwy dros Gymru. Diolch yn fawr iawn.

Gadewch i ni fod yn glir ynghylch hyn: pe bai Llywodraeth Cymru yn colli'r bleidlais hon heddiw, byddai i bob pwrpas yn dod â 26 mlynedd o Lywodraeth Lafur fethedig, flinedig, dreuliedig, sydd heb y syniadau cywir i ddatrys y problemau a'r heriau sy'n wynebu Cymru i ben. Mae hynny'n beth da, a dyna pam y bydd pob un ohonom ar y meinciau hyn yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon heddiw.

Rydym wedi clywed, wrth gwrs, economeg ffantasi llefarydd Plaid Cymru, person sy'n credu bod Cymru yn well ei byd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, fel cenedl annibynnol, lle byddai'n rhaid i ni naill ai dorri ein cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yn eu hanner neu ddyblu trethiant er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Ac, wrth gwrs, rydym wedi clywed araith fuddugoliaeth gan y Democrat Rhyddfrydol unigol yn y Siambr hon, a oedd â'i rhestr siopa fer, a gyflwynodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, sydd, heb os, yn falch iawn o allu cymeradwyo, oherwydd roedd yr arian hwnnw eisoes wedi'i drefnu ymlaen llaw i lawr cefn ei soffa er mwyn gallu ei gyflawni. Ond gadewch i ni fod yn onest ynglŷn â hyn: mae Llywodraeth Lafur Cymru yn siomi pobl Cymru. Boed hynny ynghylch y gwasanaeth iechyd, gyda'r sefyllfa echrydus lle mae dros 20,000 o bobl yn dal i aros mwy na dwy flynedd a mwy am eu triniaeth, o'i gymharu ag ychydig llai na 150 dros y ffin yn Lloegr, neu ynghylch yr economi, lle mae pobl yn mynd â'r pecynnau cyflog ysgafnach hynny adref neu'n talu'r cyfraddau busnes gwaethaf, neu ynghylch y sefyllfa yn ein hysgolion, lle nad yw ein pobl ifanc yn cael addysg o ansawdd y maent yn ei haeddu drwy'r amser, mae Cymru'n cael ei siomi.

Mae'n rhaid i'r pethau hyn newid, ac nid ydyn nhw'n mynd i newid yn ôl yr hyn rydym ni wedi'i weld a gafodd ei gyhoeddi yn y gyllideb heddiw. Mae ein harian yn cael ei daflu i ffwrdd. Mae pobl yn talu mwy am wasanaethau—£1.20 y pen, cofiwch, dyna sy'n cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru: am bob £1 y pen ar wasanaeth datganoledig yn Lloegr, £1.20. Rydym ni'n talu 20 y cant yn fwy, ond rydym ni'n cael llawer llai am ein harian o ran gwerth am arian. I ble mae'r arian hwn yn diflannu? Wel, gwyddom fod cannoedd o filiynau o bunnau wedi eu gwastraffu a'u hafradu ar faes awyr wedi'i wladoli, sy'n gwneud colled ac na ddylai fod wedi'i wladoli yn y lle cyntaf; mae gennym gwmni trenau Trafnidiaeth Cymru wedi'i wladoli, un o'r cwmnïau trenau sy'n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, gan golli cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn; gwariwyd £32 miliwn ar derfyn cyflymder 20 mya diofyn ledled y wlad y mae cannoedd o filoedd o bobl yn ei wrthwynebu, a chi fel Llywodraeth yn rhoi eich bysedd yn eich clustiau. Ac, wrth gwrs, roeddech chi'n canslo, ar gost fawr—oherwydd bod llawer o arian wedi'i wario eisoes ar geisio symud y rhain ymlaen—fe wnaethoch chi ganslo prosiectau ffyrdd newydd a phrosiectau buddsoddi cyfalaf ac rydych chi'n rhewi prosiectau, gan gynyddu costau i fodurwyr a busnesau. P'un a yw'n awyrennau, trenau neu gerbydau, mae polisi trafnidiaeth Llafur wedi bod yn drychineb llwyr ymhob cyfeiriad. Fe gymeraf yr ymyriad.

16:25

Wyddoch chi beth? Rwyf wedi gofyn am fynediad i'r gwasanaeth sifil gan Brif Weinidog Llywodraeth Cymru. Fel sy'n digwydd bob amser, dylai arweinydd yr wrthblaid, cyn etholiad y Senedd, gael mynediad i'r gwasanaeth sifil er mwyn gallu codi'r boned a gweld y llanast y mae'r Llywodraeth flaenorol wedi'i adael ar ôl oherwydd diffyg cynnal a chadw a rheoli cyllid cyhoeddus yn briodol. Mae'n hen bryd i chi roi'r caniatâd hwnnw a rhoi'r mynediad hwnnw i mi, Prif Weinidog.

Beth a welwn ni yn y gyllideb hon? Mwy o'r un peth. Mwy o drethu gan Lafur a gwario a gwastraffu ein harian y buom yn gweithio'n galed amdano. Talu mwy, cael llai. Cuddio a chelu. Cannoedd o filiynau yn dod i mewn, a channoedd o filiynau yn mynd yn ôl i lawr yr M4 mewn cyfraniadau yswiriant gwladol.

Dyma beth fyddem ni'n ei wneud yn wahanol. Byddai gennym lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru i gefnogi'r pensiynwyr hynny, cannoedd o filoedd ohonynt, sydd wedi colli cannoedd o bunnau y gaeaf hwn, oherwydd ni ddylai pensiynwyr orfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Byddem yn cefnogi'r busnesau Cymreig hynny. Byddem yn cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer y busnesau bach hynny. Byddem yn cefnogi ein strydoedd mawr ac yn buddsoddi ynddynt. Byddwn yn rhoi hwb i'n diwydiant twristiaeth. Byddem yn cael gwared ar yr ardoll erchyll honno sy'n eu bygwth fel cleddyf Damocles, gan fygwth dyfodol y busnesau hyfyw hynny. Byddem yn helpu ein modurwyr. Byddem yn cael gwared ar y cyflymderau diofyn 20 mya chwerthinllyd hynny yr oeddech chi, wrth gwrs, yn gwbl gyfrifol amdanynt. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser i gymryd eich ymyriad.

Sut ydym ni'n talu amdano? Wel, byddem yn cael gwared ar yr holl wastraff hwnnw, byddem yn cael gwared ar yr holl aneffeithlonrwydd hwnnw, a byddem yn cael gwared ar rai o'r pethau chwerthinllyd hynny yr ydych yn gwario arian arnynt: mwy o fiwrocratiaid; holl gostau diwygio'r Senedd; y gwres a'r golau rydych yn talu amdanynt yn adeiladau Llywodraeth Cymru sydd bron yn wag ledled y wlad; eich polisi cyfiawnder fel y'i gelwir, nad yw wedi'i ddatganoli hyd yn oed, yr ydych yn gwario arian arno; miliynau ar swyddfeydd tramor; cynllun incwm sylfaenol, sy'n rhoi £19,000 y flwyddyn i bobl hyd yn oed os ydyn nhw'n eistedd ar eu penolau yn gwneud dim byd o gwbl; undebau yn cael miliynau—cynnydd mawr, gyda llaw, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, cynnydd mawr yn yr arian i'r undebau. Mae'n siŵr y bydd llawer o hwnnw'n dod yn ôl fel rhoddwyr i'ch holl Aelodau cyn yr etholiad nesaf. A oes unrhyw un o'r rheini yn mynd i drwsio cyfradd diweithdra Cymru? A fydd unrhyw un o'r rheini yn trwsio ein hysgolion? A fydd unrhyw un o'r rheini yn darparu'r gwasanaethau gwell y mae angen i ni eu gweld yn ein hysbytai? Dim un ddimai goch, a dyna pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon, a gobeithio y bydd pawb arall yn gwneud hynny hefyd.

Clywsom ni gan y Llywodraeth ar sawl achlysur fod cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yn llywio blaenoriaethau'r gyllideb hon. Wel, petai hynny'n wir, byddai yna lot mwy o arian ar gyfer gofal plant, ac ar hynny dwi eisiau canolbwyntio.

Doedd yna ddim, unwaith eto, proses cyllidebu ar sail rhywedd ar gyfer y gyllideb hon, a dwi'n siŵr y byddem ni wedi gweld hynny'n siomedig iawn. Roedd e'n rhywbeth y gwnaeth ein pwyllgor ni, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ei nodi. Dyw e ddim wedi cael ei brif ffrydio. Mae angen i hynny ddigwydd, a dwi'n siŵr y byddem ni wedi gweld lot mwy o wahaniaeth yn y penderfyniadau y gwnaed ar wariant, fel gofal plant, petai hynny'n wir, achos mae'r angen ar gyfer darpariaeth well o ofal plant fforddiadwy yn alwad mae Plaid Cymru wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd. Mae adroddiad ar ôl adroddiad yn dangos pam mae hyn allweddol o ran sicrhau bod gan ein plant y dechrau gorau mewn bywyd, i helpu teuluoedd i fedru manteisio ar gyfleoedd gwaith, yn enwedig menywod.

Mae arbenigwyr yn gytûn bod gofal plant, felly, yn fater cwbl allweddol o ran taclo'r lefelau cywilyddus o dlodi plant ac anghydraddoldeb sy'n creithio’n cymunedau yng Nghymru ac felly yn cyfyngu ar ein potensial fel cenedl. Dyna pam roedd ehangu gofal plant, fel soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet, yn un o bolisïau creiddiol y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, wrth gwrs, ac rydym felly yn croesawu'r cyllid ychwanegol yn y gyllideb ar gyfer yr ymrwymiad i ehangu gofal plant i bob plentyn dwyflwydd, yn enwedig yn sgil y pryderon nad oedd y Llywodraeth yn mynd i gyflawni cam nesaf y polisi hwnnw.

Ddechrau'r flwyddyn, fe ddywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol nad cyllid yw'r her fwyaf o ran cyflawni hyn, ond sicrhau bod yna weithlu digonol, ac fe ddywedodd hefyd fod yr arolwg a gomisiynwyd o ran cynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer cam 3 wedi adnabod heriau sylweddol sydd ddim yn ymwneud â chyllid. Heb ddatrys yr heriau hynny, sut bydd y cyllid yma felly yn cael ei ddefnyddio'n effeithio i gyflawni'r nod polisi? Sut bydd y cyllid sydd wedi ei ddynodi yn y gyllideb yn helpu datrys y diffygion difrifol o fewn y system gofal plant presennol, gan gynnwys rhwystrau sy'n atal teuluoedd rhag cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, a theuluoedd plant anabl yn enwedig? Dim ond 5 y cant o awdurdodau lleol sydd â darpariaeth ddigonol ar hyn o bryd, yn ôl y ffigurau diwethaf rŷn ni wedi eu gweld, ar gyfer plant anabl. Pump y cant. Felly, pa asesiad sydd wedi cael ei wneud, ochr yn ochr â'r gwariant yma sydd yn y gyllideb, o effaith y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant cenedlaethol ar y swm sy'n cael ei nodi?

Dyw gofal plant yng Nghymru ddim yn ffit i bwrpas.

16:30

Er fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch chi, a diolch i chi am gymryd yr ymyriad, yr hyn sy'n fy nrysu yma yw pam na wnaethoch chi eistedd o gwmpas y bwrdd. Mae Jane Dodds, a phob clod iddi, wedi eistedd o gwmpas y bwrdd ac wedi cael gwrandawiad, ac mae wedi cael ei adlewyrchu yn ein cyllideb gyda phethau yr ydym yn cytuno arnynt. Yr hyn na allaf ei ddeall yw pam y gwnaethoch chi wrthod eistedd o gwmpas y bwrdd yn llwyr ac anwybyddu'r anghenion rydych chi'n eu hamlinellu'n llwyr.

Wyddoch chi, ni fyddai gennym gymaint o dyllau i'w llenwi pe na bai'n rhaid i ni fod yn codi'n gyson ar ôl y bylchau sy'n cael eu gadael gan y penderfyniadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud, neu'r ffaith eu bod yn gwrthod rhoi'r cyllid teg sydd ei angen arnom? Nid yw'r math o arian sydd ei angen arnom ar gyfer gofal plant yn agos at yr hyn sydd yn y gyllideb hon. Rydym ni'n sôn am gannoedd o filiynau o bunnau i drwsio gofal plant yng Nghymru. Doedd y math yna o arian, Joyce, ddim ar unrhyw fwrdd roedd Llywodraeth Cymru wedi ei osod.

Mi wnaf i gario ymlaen. Dyw gofal plant yng Nghymru ddim yn ffit i bwrpas. Mae'r ymchwil a wnaed gan Oxfam Cymru a Make Care Fair wedi canfod bod 92 y cant o rieni yn dweud bod costau gofal plant yn rhy uchel mewn perthynas â'u hincwm, a 70 y cant yn dweud nad oedd ganddyn nhw unrhyw arian sbâr o'u hincwm ar ôl talu am ofal plant.

Mae Sefydliad Bevan a sawl adroddiad pwyllgor y Senedd wedi tynnu sylw at y patrwm cymhleth o gefnogaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd, gyda chymysgedd o gymorth yn dod gan raglenni gwahanol drwy law'r Llywodraeth yn San Steffan a Llywodraeth Cymru, yn ddibynnol ar oedran y plant, lleoliad y teuluoedd, a'u statws gwaith. Felly, mae yna broblem gyda'r ffaith bod ein cynnig gofal plant a'n cynnig Dechrau'n Deg yn ddau gynnig ar wahân. Mae angen un cynnig, cyffredinol, hawdd ei ddeall, hawdd ei gyrchu. Oni bai bod y Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r heriau systemig hyn ac yn cyllido ar gyfer hynny, ni fydd y cyllid ar gyfer gofal plant yn y gyllideb hon yn gwneud llawer mwy na gweithredu fel rhyw fath o sticking plaster ar system sydd yn aneffeithiol, yn hytrach na darparu buddsoddiad ystyrlon, hirdymor i greu system gofal plant sy'n gweithio i blant, i rieni ac i Gymru.

16:35

Y broblem gyda'r ddadl honno, wrth gwrs, yw, trwy bleidleisio yn erbyn y gyllideb, rydych mewn gwirionedd yn lleihau'r gwariant ar hynny a phob mater arall hefyd. Ac fe wnaethom ni wrando ar ddicter a llid Darren Millar—yn amlwg fe ddysgodd fwy pan oedd yn Washington na dim ond yr hyn mae Donald Trump yn ei fwynhau i frecwast. Ac, wrth gwrs, mae'n sôn am gau swyddfeydd tramor—ef yw'r asiant teithio mwyaf rydym ni wedi'i gael yn y Siambr hon—ac rwy'n croesawu'n fawr ei gyfraniad y prynhawn yma.

Y gwir amdani yw nad ydym wedi gweld dewis arall go iawn, nid heddiw nac ar unrhyw adeg, wrth graffu ar y gyllideb hon. Mae'n gwbl deg a rhesymol, wrth gwrs, mewn unrhyw ddemocratiaeth, i bobl ddweud, 'Nid ydym yn hoffi'r hyn rydych chi'n ei gynnig yma. Rydym ni'n meddwl y dylech chi wneud rhywbeth gwahanol yma. Byddai gennym ni flaenoriaethau gwahanol.' Dyna yw gwleidyddiaeth ein trafodaeth. Yr hyn nad yw'n rhesymol, a'r hyn nad yw'n ddadl deg ac yn ddadl realistig, yw dweud, 'Nid ydym am wario arian yma, rydym am ei wario acw, felly rydym ni'n mynd i bleidleisio mewn ffordd a fydd yn golygu na fyddwch chi'n gwario arian yn unrhyw le.' Nid dyna'r realiti. Dyna yw gwleidyddiaeth myfyrwyr. Nid dyna realiti'r bywyd gwleidyddol.

A gadewch i mi ddweud wrthych, gallaf—[Torri ar draws.] Hyd yn oed heb fy sbectol—[Torri ar draws.] Gadewch i mi orffen. Hyd yn oed heb fy sbectol, gallaf weld Rhun yn gweiddi arnaf. Gadewch i mi ddweud wrthych nawr, Rhun: roeddwn i yng Nghwmtyleri neithiwr, yn siarad â phobl a oedd wedi dioddef effeithiau'r tirlithriad yn y gymuned honno, gan siarad â nhw am sut rydym ni'n mynd i fuddsoddi i sicrhau bod gennym yr arian sydd ar gael i'w roi yn y gymuned honno i gadw'r bobl hynny'n ddiogel. Peidiwch â meiddio mynd yn ôl i Gwmtyleri a gwneud addewidion iddynt os byddwch yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb hon heddiw.

A wnewch chi gymryd ymyriad? Mae angen bil o £600 miliwn i ymdrin â gwaddol cloddio am lo a diogelwch tomenni glo. Gofynnodd Llywodraeth Cymru am £25 miliwn, a dyna'r cyfan y mae Llywodraeth y DU wedi'i roi i Lywodraeth Cymru yn benodol o ganlyniad i drafodaethau'r gyllideb.

Nid wyf yn anghytuno â chi ar y pwynt yna, fel mae'n digwydd, ond mae pwynt mwy yma, os ydych chi'n pleidleisio yn y fath fodd â lleihau'r gwariant sydd ar gael i'r Llywodraeth hon naill ai £3 biliwn neu £1.5 biliwn—dydw i ddim yn cymryd ymyriad eto; cawsoch eich cyfle—ni allwch ddadlau wedyn dros wariant ychwanegol mewn mannau eraill. Rydych chi wedi colli'r ddadl honno, ac rydych chi wedi colli'r gallu i wneud y ddadl honno.

Nawr, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd gan bobl yn y ddadl y prynhawn yma. Cytunais â'r hyn ddywedodd Sam Rowlands am y problemau mawr sy'n wynebu Cymru. Rwy'n credu bod angen i ni weld ail-beiriannu gwladwriaeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod Cymru'n cael bargen deg. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn ynghylch hynny. Ond dydych chi erioed wedi gwneud y ddadl honno. Am 14 mlynedd roedd y Ceidwadwyr wrth y llyw ac ni wnaethoch y ddadl honno am eiliad, ac ni fydd gennych unrhyw hygrededd o wneud y ddadl honno heddiw er eich bod yn credu hynny. A byddwn hefyd yn dweud hyn yn glir iawn, iawn wrthych chi, y gallwch ddadlau am yr hyn y byddech chi'n ei wneud yn wahanol—ac fe glywsom ni rywfaint o hynny gan Darren Millar—ond y gwir yw, os bydd y gyllideb hon yn methu y prynhawn yma, fyddwn ni ddim yn dod yn ôl mewn ychydig fisoedd i ddadlau ac i drafod eich cynlluniau gwariant; byddwn yn dod yn ôl i drafod y toriadau y byddwn yn eu gwneud yn y gwasanaethau yr ydym eisiau eu diogelu. A dyna realiti'r bleidlais y prynhawn yma.

Rwyf eisiau gweld mwy o fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd. Rwyf eisiau gweld mwy o fuddsoddiad yn ein hysgolion. Rwyf eisiau gweld y buddsoddiad mewn strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Rwyf eisiau gweld y buddsoddiad mewn seilwaith trafnidiaeth. Rwyf eisiau gweld gorsaf newydd yn Abertyleri. Rwyf eisiau gweld llawer o wahanol bethau'n cael eu buddsoddi yn fy etholaeth ac mewn mannau eraill, ac rydym yn trafod y mater hwn bob wythnos ar brynhawn Mercher. Ond ni fydd hynny'n digwydd oni bai eich bod yn pleidleisio dros y gyllideb heddiw, oherwydd ni fyddwn yn dadlau a thrafod y rhestr siopa hir, hir honno y mae'r gwrthbleidiau'n ei chyflwyno bob wythnos, byddwn yn trafod pa doriadau yr ydym am eu gwneud, ac nid dyna'r sefyllfa yr wyf i eisiau bod ynddi.

Ond gadewch i mi ddweud hyn: roeddwn yn falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd dros gyllid yn ei gyflwyniad i'r gyllideb ddrafft cyn y Nadolig. Roeddwn i'n teimlo mai'r pwyntiau a wnaeth bryd hynny oedd y pwyntiau y mae angen i ni fod yn eu trafod heddiw. Mae angen i ni gydnabod y buddsoddiad ychwanegol sy'n cael ei wneud yn ein gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i'r ffaith bod rhai ohonom yn pleidleisio dros y gyllideb y prynhawn yma. Mae angen i ni weld y buddsoddiad ychwanegol yng ngwead ein gwlad a'n cymunedau ac ym mywydau ein pobl trwy fuddsoddi'r £3 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf. Mae angen i ni weld hynny i gyd, ac nid oes gan y rhai ohonoch sy'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb unrhyw hawl i feirniadu hynny pan ddaw'r ddadl hon ar y gyllideb i ben a bydd y bleidlais yn cael ei chynnal.

Ond yna rwyf eisiau gweld ail ran y ddadl a gyflwynodd yr Ysgrifennydd dros gyllid, a chyfeiriodd ati mewn dadl gynharach y prynhawn yma ar gyfraddau treth incwm Cymru, oherwydd mae angen i ni weld Ystad y Goron yn cael ei datganoli, mae angen i ni weld seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli, mae angen setliad cyllido tecach i Gymru, a dylai hynny ennyn cefnogaeth pawb ar bob ochr i'r Siambr hon, ond nid yw pleidleisio yn erbyn y gyllideb heddiw yn sicrhau dim o hynny; nid yw'n darparu dim o gwbl heblaw am doriadau i wasanaethau cyhoeddus ac ni fyddwch byth yn fy ngweld i yn pleidleisio dros hynny.

16:40

Dechreuaf drwy gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau fel ffermwr. Llywydd, unwaith eto, mae Llafur wedi methu â deall effeithiau eu hetifeddiaeth o 25 mlynedd o reolaeth wael ac mae'r gyllideb hon yn methu â mynd i'r afael â chymaint o hynny. Oes, mae yna ychydig o arian ychwanegol eleni, ond mae'n gynllun tymor byr. Beth sy'n digwydd pan fydd y Canghellor yn rhedeg allan o fenthyciadau ymhen cwpl o flynyddoedd a ninnau'n gweld pethau'n gwastatáu? Mae angen i chi gael cyllideb gynaliadwy, un a fydd yn para am y tymor.

Ac mae'n wirionedd syml mai'r teuluoedd a'r busnesau ledled Cymru sy'n gorfod byw gyda phenderfyniadau a pholisïau gwael y blynyddoedd a fu. Rydym ni wedi clywed am y methiannau amlwg heddiw, lawer gwaith, yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol a'n darpariaeth addysg, ac mae llawer o ymagweddu gwleidyddol yma heddiw, oherwydd eich bod chi'n gwybod bod y gyllideb yn mynd i gael ei phasio: rydych chi wedi gwneud y fargen. Naïfrwydd gwleidyddol yw awgrymu'r holl ddadleuon rydych chi wedi'u gwneud; does dim siawns o gwbl y byddech chi'n cefnogi cyllideb Geidwadol pe baen ni'n cyflwyno un heddiw, ac mae hynny'n ffaith.

Edrychwch ar y polisïau annoeth rydych chi wedi'u cyflwyno. Edrychwch ar 20 mya: £33 miliwn i'w gyflwyno. Nawr, mae cynghorau yn gorfod ymdrin â'r gost o newid ffyrdd yn ôl i 30 mya, yn dilyn yr adlach enfawr honno. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, Mick.

A yw hynny'n golygu, i bob pwrpas, nad yw eich safbwynt cyfan heddiw yn ddim mwy nag ymarweddiad?

Na, ni yw'r wrthblaid swyddogol. Nid ein gwaith ni yw eich cefnogi; ein gwaith ni yw eich dwyn i gyfrif ac ysgogi'r polisïau gorau posibl allan o'r Llywodraeth hon, a dyna beth rydym yn parhau i'w wneud.

Ar 20 mya, mae angen i lywodraeth leol gael digon o adnoddau i unioni hynny a gwn fod hynny dan sylw ar hyn o bryd. Ac rwyf am ailadrodd safbwynt y Ceidwadwyr: nid ydym yn erbyn parthau 20 mya. Byddwn yn gweithio gyda chynghorau i gywiro hyn, ond yr hyn y byddem yn ei wneud yw gwrthdroi'r cyflymder diofyn yn ôl i 30 mya.

A symud at reilffyrdd, ac o hyd—ac rydym ni wedi'i glywed yn barod heddiw—o hyd rydym ni'n aros am swm canlyniadol HS2, ac mae'n amlwg efallai y bydd yn rhaid i ni aros am beth amser. Dywedwyd wrthym dro ar ôl tro—ac mae hyn wedi cael ei ddweud sawl gwaith, a bydd yn parhau i gael ei ddweud—dywedwyd wrthym dro ar ôl tro bod biliynau o arian HS2 yn ddyledus i Gymru a nawr mae'r stori wedi newid. Pam felly? Pam y mae'r Llywodraeth bellach dim ond yn gofyn am £400 miliwn pan fo £38 biliwn wedi'i wario hyd yma, pan fo o leiaf £1.5 biliwn yn ddyledus i ni, swm y gallem ei wario ar seilwaith gwerthfawr?

Edrychwch ar amaethyddiaeth a materion gwledig: mae'n amlwg bod Llafur yn parhau i fod wedi colli cysylltiad â'r gymuned ffermio. Yr adeg hon y llynedd, gwelsom y brotest fwyaf a welodd y Senedd erioed—miloedd o ffermwyr yn protestio yma—a chan fod Llafur wedi dod i rym yn Llywodraeth y DU, wyth mis yn ôl, rydym wedi gweld degau o filoedd o ffermwyr yn protestio y tu allan i San Steffan. Hyd yn oed heddiw, a byddwn yn dymuno bod yno yn sefyll gyda nhw, mae miloedd o ffermwyr wedi gorymdeithio i San Steffan eto i ddangos eu siom yn y ffordd ofnadwy y maent yn cael eu trin. Mae'n amlwg nad yw lleisiau a phryderon y gymuned ffermio yn cael eu clywed ar naill ben yr M4 gan Lafur.

Er mwyn gwneud pethau'n waeth, ymddengys eu bod yn hapus i adael i'w cydweithwyr yn San Steffan wneud cam â chyllid materion gwledig trwy ei wneud yn destun fformiwla Barnett. Mae hyn yn golygu, wrth symud ymlaen, y gallai Cymru golli hyd at £150 miliwn mewn cyllid amaethyddol, toriad o 40 y cant. Ble mae'r dicter? Ble mae'r dicter, Alun, o feinciau'r Llywodraeth ynglŷn â hyn? Er y bu cynnydd mewn materion gwledig, sydd i'w groesawu, nid yw'n agos at gymryd lle'r £62 miliwn sydd wedi'i gymryd bob yn dipyn dros y blynyddoedd blaenorol.

Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod materion gwledig yn cael eu hariannu'n iawn i alluogi dyfodol hirhoedlog a chynaliadwy i gymunedau gwledig a'r diwydiannau ynddynt, a sefyll yn erbyn ymosodiad Llafur y DU ar ffermydd teuluol. Mae angen i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ddechrau sefyll dros bobl Cymru, ac nid amddiffyn pob penderfyniad gwael a llym a wneir gan eu cydweithwyr yn San Steffan yn unig, yn enwedig pan fyddant yn mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fel y dreth fferm deuluol. Yn anffodus, nid yw'r 26 mlynedd diwethaf o reolaeth Lafur yma yng Nghymru yn fy llenwi ag unrhyw hyder.

16:45

Rwy'n croesawu'r gyllideb derfynol hon, oherwydd mae'n gyllideb ailddosbarthu a fydd o fudd i'r rhai sydd angen yr arian fwyaf, a dyna un o'r pethau, yn amlwg, y mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi canolbwyntio arno. Dyna yw ein gwaith ni. Yn amlwg, hoffwn ddweud bod y £30 miliwn ychwanegol ardderchog ar gyfer cyflwyno cam 3 Dechrau'n Deg wedi dod yn sgil llythyr a ysgrifennwyd gennym at Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ond, yn y byd go iawn, rwy'n sylweddoli bod hyn oherwydd yr ymrwymiad sydd gan Jane Dodds i alluogi pob plentyn ifanc i gael gofal plant o safon, dwy awr a hanner y dydd, pum niwrnod yr wythnos, sef y ffordd fwyaf manteisiol i blant. Felly, mae'r buddsoddiad hwnnw, £30 miliwn, er budd plant.

Rwy'n cytuno â Sioned Williams nad yw o fudd i'r menywod sydd eisiau mynd yn ôl i'r gwaith, ond ni allwn wneud popeth ar unwaith. Mae Plaid Cymru yn dweud bod hon yn gyllideb ddiffygiol, ond mae'n ymddangos eu bod nhw ond eisiau trafod materion nad ydym wedi'u cyflawni eto. Wrth gwrs, rydym i gyd eisiau gweld y swm canlyniadol o HS2, ac yn seiliedig ar y £80 biliwn sef y gost bresennol ar gyfer HS2, mae hynny'n golygu y dylem gael £4 biliwn, ac rydym yn edrych ymlaen at yr arian hwnnw, ond nid ydym wedi'i gael eto. Heddiw, rydym yn trafod y gyllideb y mae angen i ni ei chyflawni dros y 12 mis nesaf.

Felly, rwy'n croesawu'n fawr y £9 miliwn ychwanegol ar gyfer bysiau, sy'n amlwg yn mynd i fod o fudd i'r rhai nad oes ganddynt gar yn bennaf ac sy'n dibynnu ar fysiau i fynd o gwmpas i gyflawni eu busnes bob dydd. Rwy'n croesawu'r £15 miliwn ar gyfer tocynnau bws rhatach i bobl ifanc hyd at 21 mlwydd oed, oherwydd ni fydd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw gyfle i fod â char preifat, ac felly mae eu gallu i gyrraedd y coleg, cyrraedd swyddi, i gyrraedd eu ffrindiau, yn bwysig iawn.

Rwyf hefyd eisiau canolbwyntio ar bwysigrwydd y gyllideb ar gyfer teithio llesol, oherwydd mae'n ddiddorol nodi bod Llywodraeth y DU newydd gyhoeddi £300 miliwn mewn teithio llesol i awdurdodau lleol yn Lloegr, gan ddilyn ein hesiampl o ran sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, cael pobl allan o'u ceir ar gyfer teithiau byr a gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i'r rhai sy'n gerddwyr a beicwyr. Yn benodol, mae gan blant yr hawl i allu mynd i'r ysgol naill ai drwy gerdded, defnyddio sgwter neu feic, a gallu gwneud hynny'n ddiogel. Rwy'n sylweddoli efallai na fydd hynny'n bosibl os yw pobl mewn ardal wledig lle mae'n rhaid iddynt deithio mwy nag ychydig filltiroedd i gyrraedd yno, ond i'r rhai ohonom sy'n cynrychioli ardaloedd trefol, mae'n beth hynod bwysig bod pobl yn gallu mynd i'r ysgol yn barod i ddechrau dysgu gan gerdded neu feicio i gyrraedd yno.

Yr ail grŵp sy'n elwa ar annog newid dulliau teithio i deithio llesol yw'r rhai sy'n byw ar ein ffyrdd llawn tagfeydd nad ydynt yn dewis byw yno o gwbl, lleoedd fel Heol Casnewydd yn fy etholaeth i. Does neb yn dewis byw ar Heol Casnewydd, dyma lle mae'n rhaid i bobl fyw oherwydd dyna'r unig opsiwn sydd ar gael iddyn nhw. Felly, rwy'n awyddus iawn i sicrhau mai'r £15 miliwn a wariwyd gennym y llynedd ar gyfer teithio llesol yw'r hyn yr ydym yn parhau i'w wario eleni, fel y gallwn barhau i sicrhau bod y dull ataliol hwnnw yn ein cyllideb y siaradodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid amdano'n gwbl briodol.

Yn olaf, rwy'n credu fy mod eisiau tynnu sylw at yr ohebiaeth y mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi'i chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ynghylch pwysigrwydd buddsoddi arian pellach lle bo hynny'n bosibl yn y rhaglen Cartrefi Clyd. Oherwydd rwy'n deall yn llwyr y ddadl y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei gwneud na allwn wario mwy na chapasiti'r sgiliau sydd gan ein gweithlu i wneud gwaith priodol wrth gyflwyno'r rhaglen Cartrefi Clyd. Ond rwy'n falch iawn o weld bod ymrwymiad i ddefnyddio unrhyw gyllid sydd heb ei wario i fuddsoddi mwy o arian yn y rhaglen Cartrefi Clyd os yw cyllidebau eraill wedi tanwario.

16:50

A gaf i ddweud pa mor siomedig yr oeddwn yr wythnos diwethaf pan glywais a gwelais fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cefnu ar eu hegwyddorion a phenderfynu cefnogi'r gyllideb? [Torri ar draws.] Gallwch wneud cymaint o synau ag y dymunwch, ond trwy gefnogi'r Llywodraeth Lafur flinedig hon a helpu i wthio'r gyllideb dros y llinell, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol bellach wedi cyfrannu at adael y wlad i lawr. Yn union fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, mae gen i barch aruthrol at yr Aelod—

Felly, gadewch i ni ganolbwyntio ar 21 ac iau. A ydw i wedi eu siomi nhw drwy greu tocyn bws am £1? Ai dyna beth rydych chi'n ei feddwl? Ydych chi'n meddwl ei fod yn annheg? Ydych chi'n meddwl fy mod i wedi siomi'r holl blant dwy a phedair oed drwy roi mwy o ofal plant iddyn nhw? Ydych chi'n meddwl fy mod i wedi siomi pobl sydd eisiau gadael yr ysbyty, drwy gael mwy o arian i ofal cymdeithasol? Mae'n rhaid i chi fod ychydig yn fwy penodol yma. Ac mewn gwirionedd, rwy'n credu mai chi, fel y Ceidwadwyr, fydd wedi siomi pobl Cymru os nad ydych chi'n pleidleisio dros y gyllideb hon.

Iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad. Gan ddod at eich plant 21 oed, ein syniad ni oedd hwn, nid un neb arall, i ddechrau—[Torri ar draws.] Fe oedd. Ein syniad ni oedd e—[Torri ar draws.] Rydym wedi yn wir. Fel mae fy arweinydd wedi dweud—[Torri ar draws.] Os caf barhau—

Mae angen i mi allu clywed yr Aelod. A allwn ni wrando ar yr hyn sydd gan yr Aelod i'w ddweud?

Diolch. Felly, fel mae fy arweinydd newydd ddweud ac fel rwyf i newydd ddweud, ein un ni—[Torri ar draws.]. Ac os gadewch i mi barhau, fe gariaf ymlaen o ran sut—

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Er bod y cynllun pris bws £1, a ddaeth i fodolaeth yn y cytundeb cyllideb ystafell gefn, wedi ei groesawu gan fyfyrwyr a phobl ifanc, rwy'n siomedig na wnaethoch fynd ymhellach. Gallech—[Torri ar draws.] Gallech fod wedi sicrhau teithio am ddim ar fysiau i bobl dan 25 oed yng Nghymru, fel y bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn ymgyrchu drosto ers tro, ac mae wedi profi'n llwyddiannus iawn yn yr Alban.

Gan droi at y manylion o fewn y gyllideb derfynol, rwy'n ofni nad oes llawer iawn i fy nghyffroi ynddi o safbwynt addysgol, neu o unrhyw safbwynt arall. Rwy'n ofni nad yw'r gyllideb hon yn cyrraedd yr hyn sy'n ofynnol i ddarparu'r addysg i'n plant a'n pobl ifanc y maent yn ei haeddu. Mae angen i ni weld adnoddau'n cael eu cyfeirio at wneud addysgu yng Nghymru yn broffesiwn mwy deniadol i hybu niferoedd ein gweithlu, a chymryd camau wedi'u targedu i wella sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae Cymru eisoes yn wynebu heriau sylweddol ym myd addysg ac mae'r gyllideb hon yn methu â darparu'r buddsoddiad angenrheidiol i fynd i'r afael â nhw. Gofynnir i'n hysgolion wneud mwy gyda llai ac nid yw hynny'n gynaliadwy. Mae ein plant yn haeddu gwell na hynny, oherwydd mae hyn yn ymwneud â dyfodol pob plentyn a pherson ifanc yma yng Nghymru. Un o'r agweddau mwyaf pryderus ar y gyllideb hon yw'r diffyg cefnogaeth i ddysgwyr agored i niwed. Gwyddom fod plant o gefndiroedd difreintiedig yn wynebu amrywiaeth o rwystrau sylweddol o ran addysg, ac eto nid yw'r gyllideb hon, yn fy marn i, yn dyrannu digon o gyllid i bontio'r bwlch ar gyfer y dysgwyr agored i niwed hyn.

Nawr rwyf eisiau troi at addysg uwch. Er bod y Gweinidog eisoes wedi cyhoeddi hwb ariannol tymor byr i brifysgolion yn ddiweddar, ychydig iawn o gymorth sydd ar gael iddynt wrth symud ymlaen, ac mae hynny'n siomedig iawn. Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae sefyllfa ariannol ofidus ein prifysgolion wedi cael ei thrafod a'i thrafod yn helaeth iawn yma yn y Siambr, ac eto mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth i helpu yn y tymor hir. Gadewch i mi rannu geiriau Prifysgolion Cymru mewn ymateb i'r gyllideb derfynol hon:

'mae’n anodd gweld sut mae’r gyllideb hon yn darparu sefyllfa gynaliadwy i brifysgolion Cymru wrth symud ymlaen.

'Pe bai dim yn newid, mae Llywodraeth Cymru mewn perygl o weld prifysgolion yn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf heb y cymorth sydd ei angen arnynt.'

O ystyried ffocws Llywodraeth Cymru ar dyfu’r economi ledled Cymru, mae’n ymddangos bod y gyllideb hon yn gam tuag yn ôl—nid yn unig i’r sector addysg uwch ond i economïau a chymunedau lleol ledled y wlad.'

Diwedd y dyfyniad. Fel y gwyddom i gyd, mae nifer yr athrawon Cymraeg wedi bod yn gostwng dros y pum mlynedd diwethaf ac mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â Bil i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn o leiaf 10 y cant o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. O ystyried yr uchelgais hwn, efallai y gall yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad i dorri £120,000 o linell gyllideb Cymraeg mewn addysg.

Wrth gloi, Llywydd, o'm safbwynt i, mae'r gyllideb hon yn methu ag ariannu ysgolion yn ddigonol, mae'n tanbrisio athrawon, mae'n anwybyddu anghenion dysgwyr agored i niwed ac mae'n esgeuluso rôl hanfodol addysg bellach ac uwch. Heb amheuaeth, addysg yw un o'r meysydd pwysicaf ar gyfer adeiladu cymdeithas well, ond rwy'n ofni bod y gyllideb hon yn profi nad yw'n ddigon uchel ar agenda'r Llywodraeth. Diolch.

16:55

Rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y goblygiadau difrifol iawn i Gymru os na fydd y Senedd heddiw yn pasio'r gyllideb hanfodol hon. Yn syml, bydd pleidlais yn erbyn y gyllideb hon yn amddifadu dinasyddion Cymru o gronfeydd a gwasanaethau cyhoeddus ychwanegol y mae mawr eu hangen. Byddem yn colli biliynau ar gyfer Cymru a phopeth a ddaw yn sgil hynny, gan gynnwys cyllid ychwanegol i ysgolion, i'r GIG, ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac ar gyfer gwasanaethau cynghorau lleol. Heb gyllideb gymeradwy erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd ar 1 Ebrill, cyfyngir gwariant yn awtomatig i 75 y cant o gyllideb y flwyddyn flaenorol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ni all Cymru fforddio colli un geiniog o'r gwariant cyhoeddus hwnnw, yn enwedig ar ôl colli arian strwythurol yr UE i Gymru.

Er bod gan bob un ohonom feysydd blaenoriaeth, byddem eisiau gweld cyllid yn cynyddu, gan gynnwys fi fy hun, byddai gwrthod y gyllideb derfynol hon fel y mae hi yn peryglu gwariant Cymru ac yn rhywbeth anghyfrifol iawn i bobl Cymru. Ar ben hynny, byddai hefyd yn afresymol. Er mwyn sicrhau llai o wariant cyhoeddus yn fwriadol—yn fwriadol—yng Nghymru gan Senedd lle mae'r mwyafrif o Aelodau, gan gynnwys chi eich hunain, yn galw dro ar ôl tro am fwy o wariant cyhoeddus—wel, dyma fe; mae'n fecanwaith uniongyrchol i sicrhau hynny. Felly, i Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr, gwnewch y peth iawn y prynhawn yma a phleidleisio dros y gyllideb hon i Gymru. Diolch yn fawr.

Rwy'n mynd i siarad am ganlyniadau peidio â derbyn y gyllideb hon. Rwyf wedi gweld hi'n ddiddorol iawn yma heddiw, y dadleuon sy'n cael eu cyflwyno, ac mae pawb yn cytuno, heblaw am y Torïaid, wrth gwrs, ei bod yn mynd i gymryd mwy nag un gyllideb i drwsio 14 mlynedd o esgeulustod a chamreoli Torïaidd, ond mae'n ddechrau. Dywed llefarydd cyllid y Torïaid na fydd y gyllideb yn trwsio Cymru. Wel, rydym ni, fe wnaf i eich atgoffa, yn dechrau trwsio'r llanast, neu rywfaint o'r llanast, y gadawodd eich plaid ar ei hôl pan chwalodd yr economi—ni chlywais i chi'n sôn am hynny, wrth gwrs. Rwy'n dweud wrthych yr hyn na fydd yn trwsio Cymru: yw troi i lawr £1.5 biliwn yn ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Lafur y DU. Fydd hynny ddim yn trwsio Cymru.

Os na dderbynnir y gyllideb hon, ac roeddwn i'n meddwl bod yr hyn a ddywedodd Peter yn anhygoel—mai ffars yn unig oedd hyn, ffiasgo yn unig. Wel, nid ffars a ffiasgo yn unig ynghylch y gyllideb mohono, oherwydd, mewn gwirionedd, yr hyn y bydd yn ei roi yw £4.15 biliwn yn ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol i Gymru. Ond rydych chi'n risgio, yn eithaf hapus, mae'n ymddangos i mi, golli hynny, peidio â'i gyflawni.

Nid y Torïaid, wrth gwrs, yw'r unig rai sydd ar waith yma. Maen nhw wedi cael hwb gan Blaid Cymru, ac maen nhw'n pleidleisio yn erbyn £3 biliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion newydd, ar gyfer y GIG, ar gyfer mwy o gartrefi, ar gyfer ynni adnewyddadwy, ar gyfer atgyweirio ffyrdd—

—mewn munud—ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ac amddiffynfeydd rhag llifogydd. Wrth gwrs, mae'n ymddangos bod gan y ddau ohonyn nhw'r rhestr hon o bethau y maen nhw eisiau buddsoddi ynddynt, ond y pwynt yw nad ydyn nhw wedi cael unrhyw sgyrsiau amdanyn nhw. Gallwn fynd i'r siop gyda rhestr siopa, ond os na fyddaf yn codi unrhyw beth i fyny, nid yw'n cyrraedd fy masged. Mae'n beth doniol iawn, wyddoch chi—nid yw'n cyrraedd o gwbl. A dyna beth rydych chi wedi'i wneud: mae gennych chi restr siopa, ond mae gennych chi fasged wag, oherwydd nad ydych chi wedi trafferthu gwneud unrhyw beth.

Mae yna gyllid gwaelodol o 3.8 y cant wedi'i warantu ar gyfer yr holl awdurdodau lleol, ac rwyf wedi edrych ar yr awdurdodau sy'n elwa ar y ffaith bod Jane wedi bod o amgylch y bwrdd. Rwyf wedi edrych arnyn nhw, ac mae cryn dipyn ohonyn nhw'n cael eu rhedeg gan Blaid Cymru. Felly, byddaf yn ysgrifennu llythyrau atynt ac yn gofyn a ydyn nhw eisiau'r arian mewn gwirionedd, oherwydd rydych chi'n rhedeg rhai ohonyn nhw. Mewn gwirionedd, rydych chi'n rhedeg y rhan fwyaf ohonyn nhw. A byddaf i'n gwneud yr un peth yn sir Benfro hefyd—oherwydd eich bod chi'n mynd i bleidleisio yn ei erbyn—a gofyn iddyn nhw os ydyn nhw eisiau'r arian mewn gwirionedd. Oherwydd pan fyddwch chi'n pleidleisio yn ei erbyn, dyna fyddwch chi'n ei wneud.

17:00

Diolch yn fawr iawn am gymryd ymyriad. Mae 'na dipyn o godi bwganod gwleidyddol yn digwydd y prynhawn yma—

Na, na, mae'n ffaith. [Torri ar draws.] Gallwch eistedd i lawr nawr. Gallwch eistedd i lawr nawr. Dydw i ddim yn gwrando. Dydw i ddim yn gwrando nawr. Gallwch eistedd i lawr nawr.

Dim ond ychydig eiliadau sydd ganddo ar gyfer ei ymyriad. Gadewch i ni glywed beth sydd gan Rhun ap Iorwerth i'w ddweud.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn gynharach, sef bod hon yn Llywodraeth heb fwyafrif a oedd yn gorfod ceisio modd i gael ei chyllideb drwodd. Rydym ni'n gwybod bod ganddi fodd i gael ei chyllideb drwodd, felly nid yw hyn yn ymwneud â dadl heddiw, nac ydi? Ond rwyf o ddifrif—[Torri ar draws.] Rwyf o ddifrif, ac rydym ni'n blaid—[Torri ar draws.]

Rwyf o ddifrif, ac rydym o ddifrif, ynglŷn â defnyddio ein trosoledd fel gwrthblaid. Rydym wedi bod mewn cytundebau cydweithio â llywodraethau ers nifer o flynyddoedd, ond y tro hwn roedd Llywodraeth Cymru yn gwybod bod ein gofyniadau'n ormod. Wrth roi'r bartneriaeth mewn grym ar brawf, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi methu'r prawf, oherwydd bod Plaid Cymru yn gofyn am ormod.

Diolch am yr ymyriad, a ddywedodd ddim wrthyf nad oeddwn yn ei wybod eisoes. Y pwynt yma, yn gwbl amlwg, yw ein basged siopa, y gwnaethom ei llenwi mewn gwirionedd, mae gennym ni gyllid gwaelodol o 3.8 y cant ar gyfer pob awdurdod lleol—a byddaf yn ysgrifennu atynt ac yn gofyn iddyn nhw a ydyn nhw'n ei groesawu ond nad ydyn nhw eisiau ei dderbyn—£30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal plant, £30 miliwn yn fwy ar gyfer gofal cymdeithasol a £10 miliwn ar gyfer cynlluniau buddsoddi gwledig. Dyna beth yw llenwi eich basged siopa. Dyna beth yw cael sgwrs.

Felly, gadewch i ni gymryd yr hyn sy'n digwydd, ac mae Jane yn derbyn clod am hyn. Bydd gan Ganolfan Gelfyddydau Glannau Gwy a champws llesiant gogledd Powys arian ychwanegol, ac rwy'n gobeithio, James, pan ewch chi yn ôl, y byddwch chi'n gweiddi o gwmpas, gan ddweud, 'Wnes i ddim pleidleisio dros hyn, ac rwy'n siŵr nad ydych chi eisiau hyn.' Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gofyn iddyn nhw a ydyn nhw eisiau eu harian yn ôl, yn hytrach na sefyll yn y ffordd fel y gwnaethoch chi. Gobeithio hefyd y byddwch chi'n gofyn i'r bobl yng nghyffordd Pont-y-bat a'r gwaith o adnewyddu Lido Brynaman a ydyn nhw'n gwrthod yr arian hefyd. Felly, mae'r Torïaid yn beirniadu ein gwasanaethau cyhoeddus, ond ar yr anadl nesaf maen nhw'n dweud eu bod nhw'n blaenoriaethu rhoi arian ym mhocedi pobl. Wel, doedd gennych chi ddim hanes da iawn o roi arian ym mhocedi pobl pan oeddech chi yn y Llywodraeth. Rydych chi'n gwawdio o'r cyrion, ond nid ydych chi'n cynnig unrhyw beth adeiladol—dim byd o gwbl. Ac, yn fwy na hynny, nid oes gennych chi unrhyw syniad sut rydych chi'n mynd i dalu amdano.

Mae Plaid Cymru yn cwyno nad yw'r cyllid ychwanegol yn ddigon—rydym ni newydd glywed hynny. Felly, sut byddai ei anfon yn ôl i San Steffan yn helpu pobl Cymru? Hoffwn i chi egluro i bobl y cyfleoedd rydych chi'n eu gwarafun i'w cymunedau. Nid ydych chi'n sefyll dros Gymru, ond rydych chi'n chwarae gwleidyddiaeth plaid gyda bywydau pobl, gyda swyddi pobl, gyda llesiant pobl, gyda'r buddsoddiad yn y pethau sydd eu hangen ar bobl, ac, ar y llaw arall, mae'r Llywodraeth hon a'r gyllideb hon yn cynrychioli eglurder, mae'n cynrychioli hyder, a byddaf yn sicr yn pleidleisio dros hynny.

Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf i ddechrau trwy ddweud gair o ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am beth ddywedodd ef am y newidiadau rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb sydd o flaen y Senedd y prynhawn yma? Dwi'n cytuno gyda fe am bwysigrwydd y broses graffu, a dwi'n meddwl bod Aelodau'n gallu gweld, yn y gyllideb derfynol, nifer o bethau pwysig mae pwyllgorau wedi'u hawgrymu inni drwy'r broses graffu, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio â'r pwyllgor ar y gwaith mae'r Cadeirydd wedi'i amlinellu ym mlwyddyn olaf y tymor hwn.

Llywydd, rwyf wedi gwrando'n astud ar yr hyn sydd wedi bod yn un o'r dadleuon cyllideb mwy bywiog rwy'n eu cofio ar lawr y Senedd. Rwyf wedi gwrando'n astud ar gyfraniadau. Rwy'n ddiolchgar iawn i Jane Dodds am ei chyfraniad y prynhawn yma ac ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft cyn y Nadolig. Pan ddywedodd yr Aelod wrth y Senedd mai ei hymdeimlad o gyfrifoldeb oedd wedi ei harwain at ddod i'r penderfyniad y mae hi wedi'i wneud y prynhawn yma, rwy'n credu bod yna wers yn hynny i lawer o Aelodau o'r Senedd hon ac edrychaf ymlaen at barhau â'r sgwrs gyda hi ar uchelgeisiau gofal plant, ar gyfer dyfodol gweithredu'r gwaharddiad ar rasio milgwn, ar sut y gallwn sicrhau bod cwmnïau ynni yn ymddwyn yn gyfrifol pan ddônt i Gymru ac yn gwneud y pethau rydym yn gwybod y byddant yn bwysig i'n dyfodol.

Rwy'n arbennig o ddiolchgar, Llywydd, i'm cyd-Aelodau Llafur am eu cyfraniadau y prynhawn yma: i Jenny Rathbone am dynnu sylw'r Senedd at natur ailddosbarthol y gyllideb hon, sut mae'n rhoi cymorth lle mae ei angen fwyaf; i Mike Hedges am yr uchelgeisiau a amlinellodd, yr uchelgeisiau Llafur sydd gennym ar gyfer dyfodol Cymru; i Alun Davies a Rhianon am ganolbwyntio ar ganlyniadau methu â phasio'r gyllideb hon y prynhawn yma; ac i Joyce am dynnu sylw at y ffaith bod yna rai ohonom yn gwneud yr hyn a wnawn er mwyn llenwi'r fasged siopa honno, tra bod gan eraill ddiddordeb mewn cynhyrchu mwy a mwy o restrau siopa yn unig.

Llywydd, dywedais fy mod yn gwrando'n ofalus, ac fe wrandewais yn ofalus ar y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n fy rhoi mewn sefyllfa wahanol i bron unrhyw un arall yng Nghymru, oherwydd nad oes neb yn gwrando arnyn nhw, ac mae eu cyfraniadau y prynhawn yma'n esbonio yn union pam. Yr un hen ystrydebau yr wyf wedi eu clywed dros chwarter canrif yn yr anialwch gwleidyddol. Pum mlynedd ar hugain o fod yn erbyn popeth ac o blaid dim. Nawr o leiaf, Llywydd, mae gan y Blaid Geidwadol yr esgus o fod yn wrthblaid swyddogol. Fel y dywedodd Peter Fox, mae'n rhan o'u dyletswydd i wrthwynebu. Rwy'n deall hynny. Yn y sgyrsiau a gefais i, tair sgwrs wahanol gyda Peter Fox a chyda Sam Rowlands, fe wnaethon nhw egluro i mi ei bod hi'n annhebygol iawn y byddai'r Blaid Geidwadol Gymreig yn pleidleisio dros y gyllideb y prynhawn yma. Rwy'n deall hynny.

Ni all unrhyw esboniad o'r fath ein helpu i ddeall penderfyniad rhyfeddol Plaid Cymru i wrthwynebu'r gyllideb heddiw. Ac eto, wrth wrando'n astud ar yr hyn y mae Aelodau Plaid Cymru wedi ei ddweud, roeddwn i'n meddwl y gallwn ddirnad tri esboniad gwahanol, yn cystadlu â'i gilydd, am y penderfyniad hwnnw. Yn gyntaf oll, mae rhai awgrymiadau bod Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r gyllideb oherwydd eu bod yn credu nad yw'n mynd yn ddigon pell. Rwyf bob amser yn synnu bod y blaid yn penderfynu defnyddio'r enghraifft o ofal plant fel eu hachos paradeim, o gofio bod y gyllideb hon yn cyflawni'r hyn a gytunodd Plaid Cymru yn y cytundeb cydweithio. Rwy'n cytuno bod mwy i'w wneud, wrth gwrs, mae mwy i'w wneud, ond sut y gallwch chi, o bosibl, bleidleisio yn erbyn cyllideb sy'n cyflawni un o'ch prif uchelgeisiau eich hun ar gyfer tymor y Senedd hon? Rwyf mewn dryswch llwyr.

Yr ail reswm yr oeddwn i'n meddwl fy mod i'n ei ddirnad yng nghyfraniad Plaid Cymru oedd nad oedd y gyllideb yn cyflawni cyfres o bethau na allai'r gyllideb hon fod wedi'u cyflawni o gwbl. Maen nhw'n mynd i bleidleisio yn erbyn y gyllideb gan nad yw'n sicrhau datganoli Ystad y Goron, oherwydd nid oes angen diwygio'r fformiwla Barnett, gan nad yw'n cynhyrchu symiau canlyniadol ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru. Nawr mae'r tri pheth hynny i gyd yn bolisïau'r Llywodraeth Lafur hon, ond nid ydynt yn bolisïau y gallwch eu dilyn trwy bleidleisio yn erbyn y gyllideb hon, oherwydd nid oes yr un o'r pethau hynny ar y bwrdd yn y fasged o gyfrifoldebau sydd gerbron y Senedd y prynhawn yma. Mae'n ddadl wallgof pleidleisio yn erbyn cyllideb sy'n gwneud y pethau y gall eu gwneud oherwydd na all wneud y pethau na all eu gwneud o gwbl.

Ond yna clywais drydedd ddadl, clywais drydedd ddadl, a dyma nawr, mae'n debyg, y ddadl rwy'n credu sydd fwyaf blaenllaw ym meddyliau Aelodau Plaid Cymru. Maen nhw'n mynd i bleidleisio yn erbyn y gyllideb oherwydd eu bod yn credu y gallan nhw wneud hynny heb unrhyw ganlyniadau. Rwyf wedi cael y fantais o eistedd yma a chlywed arweinydd Plaid Cymru yn dweud dro ar ôl tro drwy gydol y ddadl, 'Ond rydych chi'n mynd i ennill y bleidlais; rydych chi'n mynd i ennill y bleidlais.' Gallwn ddweud hyn wrthych chi: byddai'r Brenin Herod yn gwrido wrth wylio'r golchi'r dwylo yr ydych wedi'i gynnig i ni y prynhawn yma. 

17:10

[Anghlywadwy.] Roedd y Ceidwadwyr yn agored iawn wrth ddweud eu bod eisiau i'r gyllideb hon fethu. Nid ydym o'r safbwynt sy'n dymuno i'r gyllideb fethu. Rydym yn galw—[Torri ar draws.] Na na. [Torri ar draws.] Byddaf yn esbonio'n glir iawn, iawn. Ond, er mwyn i ni gefnogi cyllideb, roedd ein gofyniadau'n ormod i Lywodraeth Cymru eu stumogi ac fe wnaethoch chi geisio cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dydw i ddim yn beirniadu'r Democratiaid Rhyddfrydol am hynny, ond fe gawsoch eich cytundeb. Roedd ein gofyniadau'n fwy, oherwydd roeddem yn rhoi'r bartneriaeth mewn grym ar brawf, a dyna'n union yr hyn yr oeddem wedi addo y byddem yn ei wneud a dyma'r hyn a wnaethom yn ymarferol.   

Mae'n esgus llawn ffantasi, oherwydd ddaethoch chi ddim atom i ddweud wrthym beth fyddai ei angen er mwyn i chi gefnogi'r gyllideb. Tair gwaith cwrddais â llefarydd eich plaid ac nid unwaith—nid unwaith—y dychwelodd Plaid Cymru i drafod yr hyn y byddech wedi dymuno ei gael er mwyn caniatáu i'r gyllideb hon fynd drwodd. 

Diolch unwaith eto am gymryd ymyriad. Mae'n bwysig; rydyn ni eisiau cael y drafodaeth hon yn agored. Rwyf wedi eistedd mewn cyfarfod gyda'r Prif Weinidog, na soniodd sut y gallem weithio gyda'n gilydd ar y gyllideb. Mae'n amlwg iawn, iawn—[Torri ar draws.] Mae'n amlwg iawn, iawn ein bod wedi cymryd agwedd wahanol tuag at y gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru. Roedd ein gofynion yn rhy fawr yn yr achos hwn. 

Na na. Os oes gennych chi ofynion—[Torri ar draws.] Os oes gennych bethau—

Mae angen i mi glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ymateb nawr, os gwelwch yn dda. 

Os oes gan blaid bethau y maen nhw eisiau eu cyflawni drwy'r broses gyllideb, mae gan eich plaid ddigon o brofiad i wybod sut mae hynny'n gweithio. Rwyf wedi eistedd mewn ystafelloedd gydag Aelodau Plaid Cymru sydd wedi gweithio'n galed iawn drwy syniadau, gweld beth sy'n bosibl ac, yn y pen draw, caniatáu i'r gyllideb fynd yn ei blaen. Ar yr achlysur hwn, nid oeddech yn barod i wneud hynny o gwbl. Yn hytrach, yn hytrach, rydych chi'n dod yma y prynhawn yma ac yn dweud hynny, oherwydd bydd pobl eraill yn gwneud y gwaith codi trwm, oherwydd bydd pobl eraill yn pleidleisio dros y pethau sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth— 

Gadewch i'r Ysgrifennydd Cabinet gwblhau ei gyfraniad nawr, os gwelwch yn dda. Rhun ap Iorwerth, gadewch iddo gwblhau ei gyfraniad, os gwelwch yn dda. Rydych chi wedi cael sawl cyfle i ymyrryd a gafodd eu derbyn gan nifer o Aelodau y prynhawn yma. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet i gwblhau. 

Diolch, Llywydd. Safbwynt Plaid Cymru yw, oherwydd bod yna bobl eraill a fydd yn gwneud y peth cyfrifol, oherwydd bod yna bobl eraill a fydd yn pleidleisio dros y pethau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru, y byddwch chi—oherwydd eich bod chi'n meddwl ei fod yn ergyd rydd—yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb. Ond gadewch i mi ddweud wrthych: bydd pobl yng Nghymru yn deall, os ydych chi'n pleidleisio yn erbyn y gyllideb, ni all fod oherwydd eich bod chi'n meddwl na fydd hynny o bwys rywsut. Yr unig reswm pam y gall plaid wleidyddol bleidleisio yn erbyn rhywbeth yw oherwydd eich bod am ei drechu, ac, os nad oeddech eisiau ei drechu, ni ddylech fod yn pleidleisio yn ei erbyn. Mae wir mor syml â hynny, ac mae'r ffordd wleidyddol i unman y mae Plaid Cymru wedi mynd iddi dros yr wythnosau ers y gyllideb ddrafft, yn enghraifft wych o reol gyntaf tyllau Denis Healey: os ydych chi mewn twll, stopiwch gloddio. Ond rydych chi wedi bod yn cloddio fel pe na bai diwedd mewn golwg. 

Nawr, Llywydd, ar draws Cymru pan fydd y gyllideb hon yn cael ei phasio, fel y credaf y bydd y prynhawn yma, bydd ochenaid o ryddhad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn y gwasanaeth iechyd, yn ein hawdurdodau lleol, ymhlith y sefydliadau hynny sy'n gweithio mor galed i ddarparu tai i'n pobl, ar gyfer yr holl bethau y bydd y gyllideb hon yn eu gwneud. Dyna pam rydym ni wedi ei rhoi gerbron y Senedd y prynhawn yma. Dyna pam ei bod yn cynrychioli troi'r gornel i ffwrdd o'r blynyddoedd hynny o gyni, ac o blaid economi sy'n gallu tyfu, gwasanaethau cyhoeddus y gellir eu hadfer, cyfle y gellir ei greu eto, ac, yn anad dim, gobaith i bobl yma yng Nghymru y gall y dyfodol fod yn well na'r gorffennol. Dyna pam rwy'n gofyn i chi bleidleisio dros y gyllideb hon y prynhawn yma.

17:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gymryd y bleidlais ar ddiwedd y sesiwn.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2025-26

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 7 sydd nesaf. Y ddadl ar setliad llywodraeth leol 2025-26 yw hon. Mae'r cynnig yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol, Jayne Bryant.

Cynnig NDM8835 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2025-26 (Setliad Terfynol—Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w gymeradwyo, setliad llywodraeth leol 2025-26 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru. Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i lywodraeth leol, aelodau etholedig a staff ar draws yr holl wasanaethau llywodraeth leol, am y gwaith hanfodol y maent yn ei wneud ar gyfer ein cymunedau, ein pobl a'n busnesau ledled Cymru.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae awdurdodau lleol wedi gorfod llywio drwy'r pandemig, yr argyfwng costau byw, a chyfnod chwyddiant eithriadol ac amgylchiadau ariannol heriol. Rwyf am dalu teyrnged i'r gwaith caled a'r cydnerthedd a ddangoswyd gan swyddogion ac aelodau etholedig wrth ymateb i'r heriau parhaus y mae cynghorau wedi'u hwynebu.

Wrth baratoi ar gyfer cyllideb Cymru a'r setliad hwn, rydym wedi ymgysylltu'n agos â llywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl arweinwyr am y trafodaethau a gawsom. Mae'r cyllid ychwanegol a ddarperir drwy gyllideb hydref Llywodraeth y DU i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio y gallai hwn fod wedi bod yn ddiwrnod gwahanol iawn pe na baem wedi cael etholiad cyffredinol pan wnaethom ac nad oeddem wedi gweld Llywodraeth Lafur. Roedd awdurdodau lleol yn paratoi ar gyfer cyllideb arian gwastad. Rwy'n ymwybodol na ellir newid 14 mlynedd o gyllid cyhoeddus cyfyngedig gan Lywodraeth flaenorol y DU mewn un gyllideb yn unig, a bydd yn cymryd amser i'r cyllid cyhoeddus adfer. Ond mae ein setliad cyffredinol ar gyfer 2025-26 dros £1 biliwn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y DU, gan ganiatáu i fwy o arian gael ei gyfeirio at ein gwasanaethau cyhoeddus ac at flaenoriaethau Cymru. Bydd yn ein helpu i'n rhoi yn ôl ar y llwybr tuag at gynnydd.

Wrth i ni ddatblygu cyllideb derfynol 2025-26, rydym wedi canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog, cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a chreu'r amodau ar gyfer twf a buddsoddiad. Gwyddom fod awdurdodau lleol yn chwarae rhan sylfaenol wrth ddatgloi'r cyfleoedd hyn a darparu gwasanaethau i bobl ledled Cymru. Dyna pam, yn 2025-26, y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn dros £6.1 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae hyn yn golygu bod y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2025-26, 4.5 y cant yn uwch na'r flwyddyn ariannol gyfredol ar sail debyg-am-debyg—cynnydd o ran arian parod o £262 miliwn.

Rwy'n falch bod y cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn cynnwys £8.24 miliwn ychwanegol i sicrhau cyllid gwaelodol yn y setliad, sef 3.8 y cant. Mae hyn yn cefnogi naw awdurdod ar draws Cymru ymhellach. Rwyf wedi darparu gwybodaeth ddangosol am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2025-26. Mae'r rhain yn cyfateb i dros £1.3 biliwn ar gyfer refeniw a thros £1 biliwn ar gyfer cyfalaf, ar gyfer ein blaenoriaethau cyffredin ar gyfer llywodraeth leol. Fel rhan o'r cytundeb gyda Jane Dodds, rydym wedi gallu darparu cyllid grant refeniw ychwanegol ar gyfer llwybrau newydd o drawsnewid gofal mewn gwasanaethau cymdeithasol o £30 miliwn, ar gyfer plant a chymunedau, £30 miliwn, a chefnogaeth gyfalaf ar gyfer gofal plant a chwarae, £5 miliwn, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu'r gwasanaethau awdurdodau lleol penodol hyn.

Mae'r fenter benthyca llywodraeth leol wedi cynyddu £1 miliwn i £6 miliwn yn 2025-26, gyda £4 miliwn arall yn 2026-27, i gefnogi hyd at £120 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer rheoli priffyrdd. Mae'r cytundeb hefyd wedi galluogi £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y grant gwres carbon isel, i gynyddu'r cymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol i osod systemau gwresogi carbon isel yn eu canolfannau hamdden, gan eu gwneud yn wyrddach, cynhesach ac yn fwy cynaliadwy.

Rwy'n falch bod y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2025-26 wedi cynyddu £20 miliwn i gefnogi pwysau chwyddiant a rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau ariannu prosiectau cyfalaf llai. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn ei phenderfyniadau cyllidebol, ac rwy'n gofyn i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig heddiw.

17:20

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn gresynu bod methiant Llywodraeth Lafur y DU i gyflawni trefniant ariannu teg i Gymru yn golygu bod awdurdodau lleol wedi gorfod ymdopi â chynnydd sylweddol yn y dreth gyngor a thoriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n cynnig y gwelliant y prynhawn yma.

Rwyf eisiau dechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i'r holl staff llywodraeth leol ledled Cymru am eu hymroddiad a'u gwaith caled yn y cyfnod anodd hwn. Gyda gwasanaethau'n cael eu torri at yr asgwrn, gallech faddau i weithwyr am benderfynu gadael, a cheisio cyflogaeth mewn mannau eraill, ond maen nhw'n dewis aros mewn llywodraeth leol oherwydd eu hymrwymiad i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Neges i'r gweithwyr hynny yw 'diolch', oherwydd mae'r cymunedau rydych chi'n eu gwasanaethu eich angen chi yn fwy nag erioed. Ond, fel y dywedais i, gallai pethau fod yn llawer gwell. Er bod y setliad llywodraeth leol hwn yn welliant ar yr hyn a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, mae'n llawer llai na'r hyn sydd ei angen. Byddai esgus fel arall yn gwadu'r gwir argyfwng sy'n ein hwynebu mewn llywodraeth leol.

O ystyried bod amcangyfrif o gynnydd o 7 y cant yn y cyllidebau sydd eu hangen yn gyffredinol i leddfu'r pwysau ar gyllidebau cynghorau, mae awdurdodau lleol yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl. Mae gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu difetha gan flynyddoedd o gyni Torïaidd creulon wedi cael eu torri ymhellach. Peidied neb â chamgymryd, er gwaethaf y setliad ariannu gwell, mae cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor ar y ffordd i mewn. Rhywbeth rwy'n ei glywed pan fyddaf yn cynnal cymorthfeydd yn fy rhanbarth i yw bod y cyhoedd yn cael eu dadrithio hyd yn oed yn fwy gyda llai o wasanaethau lleol a chynnydd mewn biliau'r dreth gyngor. Dyna pam mae'n dân ar eich croen pan fo Llywodraeth Lafur San Steffan yn dweud nad ydyn nhw'n codi trethi ar bobl sy'n gweithio. Pan fyddan nhw'n methu ag ariannu llywodraeth leol yn iawn, maen nhw'n gyfrifol yn anuniongyrchol am godi'r dreth gyngor ar bobl sy'n gweithio. Biliau treth gyngor uwch yw canlyniad anochel llywodraethau olynol yn methu â darparu setliadau sy'n adlewyrchu'r angen. Hyd nes i'r Llywodraethau Llafur yn San Steffan neu Gaerdydd sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cael eu hariannu'n iawn, maen nhw'n mynd i orfod codi un o'r trethi mwyaf annheg sy'n bodoli. Rwy'n cydnabod ac yn croesawu gweithredu'r cyllid gwaelodol, ond nid ydym mewn sefyllfa o hyd lle mae grant cynnal ardrethi gwaelodol yn elfen reolaidd a sefydlog o'r broses gyllidebol. Mae angen ffurfioli hyn o hyd, ac nid penderfyniad munud olaf gan Ysgrifenyddion y Cabinet neu drafodaethau cyllidebol. Fodd bynnag, nid yw'r cyllid gwaelodol de facto yn ddigonol er mwyn i gynghorau sefyll yn yr unfan hyd yn oed.

Mae hynny cyn i chi ystyried y broblem amlwg sydd wedi'i hanwybyddu, sef baich y cyfraniadau yswiriant gwladol ar awdurdodau lleol sydd ar y gorwel. Mae'r cynnydd mewn yswiriant gwladol yn cynrychioli pwysau o £109 miliwn mewn costau uniongyrchol, gyda £44 miliwn o bwysau ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol. Mae angen dybryd i awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru wybod ble maen nhw'n sefyll o ran cyfraniadau yswiriant gwladol fel y gallant gynllunio eu cyllidebau eu hunain ac arbed rhai gwasanaethau sydd wedi'u clustnodi ar gyfer y fwyell. Felly, er nad ydym yn gwybod y cwantwm a addawyd gan San Steffan ar gyfer y sector cyhoeddus, a all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau'r mecanwaith y bydd yn ei ddefnyddio i rannu'r cyllid hwnnw? Heb yr eglurder hwnnw, byddwn yn parhau i weld y duedd i gwtogi gwasanaethau agos at ein calon, sefydliadau diwylliannol a gwasanaethau sy'n achubiaeth i gymunedau yn cael eu cau neu eu lleihau. Hoffwn hefyd weld Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau pellach ar gyfer diwygio sut mae llywodraeth leol yn cael ei chyllido. Hoffwn weld cylchoedd cyllido amlflwydd yn cael eu hystyried er mwyn cyflawni cynllunio ariannol yn well, darparu gwasanaethau yn well a galluogi prosiectau tymor hir. Dyma'r rheng flaen cyflawni, ac mae'n haeddu ein cefnogaeth lawn a'n cefnogaeth ariannol lawn.

Yn olaf, mae anghyfiawnder parhaus fformiwla Barnett yn parhau o dan y weinyddiaeth Lafur hon yn San Steffan. Roedd hyn i fod i gael sylw, ond nid oes unrhyw arwydd y bydd hynny'n digwydd. Heb gyllid teg i Gymru, byddwn gannoedd o filiynau o bunnau ar ein colled, arian y mae ein cymunedau ei angen. Roedd Llywodraeth Lafur ar naill ben yr M4 i fod i wella ein dolur cyllido, yn ôl llawer ar draws y Siambr hon, ond nid ydym eto wedi gweld gwireddu'r addewid hwnnw. Diolch yn fawr.

17:25

Rwy'n cytuno â llawer sydd eisoes wedi'i ddweud, mewn gwirionedd, o bob rhan o'r Siambr, ac rwyf hefyd am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i staff cynghorau ledled Cymru am bopeth y maen nhw'n ei wneud, a byddwn ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw, oherwydd mae'n iawn ein bod yn cydnabod rôl Llywodraeth y DU wrth gynyddu'r dreth gyngor yng Nghymru gyda'u trefniant cyllido gwael eu hunain.

Ond byddwn yn pleidleisio yn erbyn cynnig y Llywodraeth heddiw. Mae'r ffordd yr ydym yn ariannu ein hawdurdodau lleol yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl ledled Cymru. Ers llawer rhy hir, rydym wedi gweld degawdau o danariannu cynghorau lleol gan Lywodraeth Cymru, gan greu gwahaniaethau cynyddol rhwng cadarnleoedd Llafur a chefn gwlad Cymru. Mae'r fformiwla ariannu yn naturiol yn creu system o enillwyr a chollwyr yn fwriadol—

Diolch. Rydych chi'n siarad am gynghorau yng Nghymru, ond, cyn hynny, cyn i Lywodraeth Lafur newydd y DU gymryd yr awenau, roedd un o bob pum cyngor ar draws y DU ac yn Lloegr mewn perygl o fethdalu. Onid yw hynny'n wir, Laura?

Ni allwch wadu, nid wyf yn credu—rwy'n gwybod eich bod wedi eistedd acw yn eich sedd ers amser maith—ni allwch wadu bod y Llywodraeth hon wedi tanariannu'n barhaus ein hawdurdodau lleol ledled Cymru bellach ers degawdau, ac mae hynny wedi cael effaith ddinistriol mewn cymunedau lleol ledled Cymru. Ac eto, ers llawer rhy hir rydym wedi gweld y fformiwla ariannu yn cael ei gwthio gennych chi gan ddweud ei bod yn iawn, ond rydym wedi gweld nad yw'n gweithio i gynghorau, ac nid yw'n gweithio i bobl yr ydym yn bwriadu eu gwasanaethu. Mae fformiwla llywodraethau lleol wedi torri, ac mae wedi gorfodi nifer o awdurdodau lleol i wneud dewisiadau anodd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Powys a sir Benfro, y gofynnwyd iddynt wneud mwy gyda llai. Dros y degawd diwethaf, mae Cyngor Powys wedi gorfod gwneud dros £100 miliwn o doriadau difrifol, gan ddileu gwasanaethau hanfodol i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Mae'n dda bod cytundeb wedi bod ar gyfer cyllid gwaelodol eleni—mae'n angenrheidiol—ond mae'n siomedig iawn ei fod wedi cymryd cytundeb ystafell gefn gydag un AS Democratiaid Rhyddfrydol i gyflawni hyn yn hytrach na gwrando ar y corws o leisiau ledled Cymru mewn llywodraeth leol a galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig. Felly, byddai'n ddefnyddiol deall a fydd yr egwyddor cyllid gwaelodol honno yn parhau yn y dyfodol ar gyfer setliadau yn y dyfodol, neu a yw'n gorcyn unwaith ac am byth i sicrhau bod eich cyllideb yn cael ei phasio. Ond mae angen esboniad arnom hefyd ynghylch lle roedd yr arian hwn ar gyfer cyllid gwaelodol o 3.8 y cant yn cuddio yn y lle cyntaf, oherwydd roeddech yn gwybod am y pwysau sydd ar y cynghorau, ond dim ond pan oedd yn wleidyddol gyfleus i Lafur Cymru yr ymddangosodd yr £8 miliwn ychwanegol hwn fel petai trwy hud. Nid wyf yn credu ei bod yn ffordd arbennig o dryloyw o gynnal gwleidyddiaeth o ran awdurdodau lleol a chyllid ar gyfer rhai o'n gwasanaethau mwyaf allweddol yng Nghymru. Mae angen i ni hefyd wybod o ble y cafodd Llywodraeth Cymru y ffigur 3.8 hwn, oherwydd galwodd Andrew Morgan o CLlLC am o leiaf 4 y cant o gyllid gwaelodol, ac mae'n hawdd gweld pam, oherwydd mae angen iddo fod yn fwy.

Mae cynnydd mewn yswiriant gwladol Llafur wedi pentyrru pwysau ar awdurdodau lleol, ac nid ydynt yn gwybod o hyd faint o arian ychwanegol fydd ar gael i bob un o'n cynghorau i dalu'r costau hynny. Sut allwn ni fod mewn sefyllfa lle mae cynghorau'n pleidleisio dros eu cyllidebau terfynol ond yn dal i aros am eglurder ynghylch faint o arian fydd ar gael iddyn nhw? Mae'n warthus nad yw'r Llywodraeth hon wedi bod yn brwydro yn galetach i gael atebion i'n cynghorau. Rydym yn gwybod na fydd unrhyw arian ychwanegol yn talu'r gost gyfan, gan arwain at fwy o doriadau i wasanaethau hanfodol, mwy o godiadau yn y dreth gyngor i bobl sy'n gweithio'n galed.

Nawr, er gwaethaf y cyllid gwaelodol newydd ar gyfer eleni, mae'r dreth gyngor yn cynyddu'n sylweddol iawn, symiau sy'n chwalu chwyddiant, ar draws rhan helaeth o Gymru a 10 y cant o ardaloedd gwledig, gan ei gwneud hi'n anoddach i deuluoedd gael dau ben llinyn ynghyd. Y gwir syml yw bod trethi cyngor uchel yn anghynaladwy ac yn rhoi straen enfawr ar gyllidebau aelwydydd. Dywedwyd wrthym erioed y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn sicrhau gwell canlyniadau i Gymru, ond mae'r setliad hwn yn dangos nad yw hynny'n wir. Mae angen adolygu a diwygio fformiwla ariannu Llywodraeth Cymru ar frys. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â mater trethi cyngor uchel, sy'n rhoi gormod o bwysau ar deuluoedd.

Byddem ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn darparu fformiwla ariannu decach sy'n deg i Gymru gyfan, gan roi'r arian yn ôl ym mhocedi pobl fel y gallant benderfynu sut maen nhw eisiau ei wario, oherwydd mae annhegwch cynhenid y fformiwla ariannu hon yn arwain at ganolfannau hamdden caeedig, llyfrgelloedd caeedig, cynyddu'r dreth gyngor, cyllidebau aelwydydd yn tynhau, a chymunedau wedi'u rhwygo. Nid yw hyn yn ymwneud â phunnoedd yn unig. Bydd methiant i ariannu ein hawdurdodau lleol yn iawn yn rhwygo calon ein cymunedau lleol. Mae'r setliad cyllido rydych wedi'i gynhyrchu heddiw yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen. Rhaid i'r Llywodraeth hon wneud yn well. Diolch.

17:30

Nid yw'r gyllideb yn darparu digon o arian i lywodraeth leol. Nid oes unrhyw gyllideb erioed, neu ni fydd byth yn darparu digon o arian ar gyfer llywodraeth leol. Fodd bynnag, dyma'r setliad ariannol llywodraeth leol gorau ers dros 15 mlynedd. Mae'n setliad ariannu da ar gyfer llywodraeth leol, yn sicr o'i gymharu â setliadau cyllido yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw'n datrys holl broblemau'r 14 mlynedd diwethaf, ond mae'n bendant yn gynnydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ffynhonnell incwm fawr i awdurdodau lleol, ond nid dyma'r unig ffynhonnell. Mae awdurdodau lleol yn cael arian o'r dreth gyngor, a hefyd o ffioedd a thaliadau. Mae'r cyllid refeniw craidd yn cynnwys y grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu, sydd gyda'i gilydd yn gwneud y cyllid allanol cyfanredol. Cyfanswm cyllid allanol yw'r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, a bydd yn £6.1 biliwn y flwyddyn nesaf—eto, daw arian ychwanegol i mewn o ffynonellau eraill. Ar ôl addasu'r ffigurau i'w gwneud yn gymharol, mae hynny'n gynnydd o £261.7 miliwn, neu 4.5 y cant, o'i gymharu â 2024-25.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu cyllid gwaelodol yn y setliad terfynol. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw awdurdod yn cael llai na chynnydd o 3.8 y cant yn 2025-26. Mae hyn yn diogelu incwm awdurdodau lleol rhag twf cymharol neu wirioneddol yn y boblogaeth, oherwydd dyna sy'n ysgogi cynnydd canrannol. Twf poblogaeth, neu ddiffyg twf poblogaeth yw e'. Y data allweddol yw'r asesiadau gwariant safonol, a'u bwriad yw adlewyrchu'r amrywiadau yn yr angen i wario y gellid eu disgwyl pe bai pob awdurdod yn ymateb mewn ffordd debyg i'r galw am wasanaethau yn eu hardaloedd.

Mae'r data a ddefnyddir i gyfrifo dosbarthiad asesiadau gwariant safonol ar draws meysydd y gwasanaeth yn cael eu casglu o wahanol ffynonellau, yn bennaf yn flynyddol. Yr eithriadau yw'r data gwasgariad setliad, sy'n seiliedig ar y cyfrifiad a'r dangosyddion dethol sy'n deillio o gyfrifiadau. Cesglir data arall yn uniongyrchol gan gynghorau, gan gynnwys nifer y disgyblion, ceisiadau cynllunio, unedau goleuadau stryd, hyd ffyrdd, hyd arfordir, digartrefedd a data tai. Darperir data ar nifer yr anheddau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ynghyd â'r data ar safleoedd bwyd a masnachu. Mae ffigurau amcanestyniad poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu paratoi gan is-adran gwybodaeth a gwasanaethau dadansoddol Llywodraeth Cymru. Mewn nifer fach o achosion, defnyddir yr amcangyfrif gwirioneddol neu orau o wariant ar wasanaeth, lle mae'r gwariant wedi'i bennu ymlaen llaw ac nad yw'n uniongyrchol o dan reolaeth awdurdod.

Adolygwyd y fformiwla ar gyfer yr holl wasanaethau cyn setliad 2001-02, yn dilyn argymhelliad a wnaed gan yr adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe a Pion Economics. Ymgorfforwyd yr argymhellion yn 2001-02 a setliadau dilynol, a chwblhawyd y dadansoddiad angenrheidiol trwy fecanwaith yr is-grŵp dosbarthu.

Mae tri phrif dabl wedi eu cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i lywodraeth leol, a'r un sy'n creu'r diddordeb mwyaf yw'r cynnydd canrannol. Ar gyfer 2025-26, fel y gwyddom, mae'n amrywio o 5.6 y cant yng Nghasnewydd a 5.3 y cant yng Nghaerdydd i 3.8 y cant ar gyfer y rhai a ddiogelir gan y cyllid gwaelodol. Mae'r amrywiadau hyn yn cael eu hysgogi gan newid yn y boblogaeth. Rydym i gyd yn ymwybodol, yn enwedig yr Ysgrifennydd Cabinet, o'r cynnydd yn y boblogaeth yng Nghasnewydd, ac mae hyn yn rhannol wrth gwrs, oherwydd nad oes tollau ar y bont mwyach. Ond maen nhw'n gweld y cynnydd hwnnw yn y boblogaeth.

Yr ail dabl yw'r swm absoliwt a ddarperir i bob cyngor gan Lywodraeth Cymru. Ac mae Caerdydd yn cael y mwyaf. Rhondda Cynon Taf sy'n dod yn ail. A pham? Gan mai dyma'r ddau awdurdod mwyaf. Yr isaf yw'r lleiaf, sef Merthyr Tudful.

Mae'r trydydd tabl, sy'n fwyaf ystyrlon yn fy marn i, yn dangos gwariant Llywodraeth Cymru fesul pen. Mae hyn yn amrywio o'r uchaf ym Mlaenau Gwent sef £2,294, yna'n ail daw Merthyr, ac yn drydydd daw sir Ddinbych, gan fynd i lawr i'r ddau isaf, sef sir Fynwy a Bro Morgannwg, gyda chefnogaeth i gynghorau eraill rhwng yr eithafion hyn. Mae hyn yn dangos bod gan sir Fynwy a Bro Morgannwg lawer llai na'r cynghorau eraill yng Nghymru, gyda Blaenau Gwent, Merthyr a sir Ddinbych â llawer mwy.

Mae gan Blaenau Gwent, ar 58 y cant, y gyfran uchaf o anheddau ym mand A, gyda Merthyr Tudful â thros 50 y cant o'i eiddo ym mand A. Mewn cyferbyniad, mae gan sir Fynwy 1 y cant o'i heiddo ym mand A a Bro Morgannwg llai na 3 y cant ym mand A. Mae gan sir Fynwy dri chwarter ei phoblogaeth ym mand D ac uwch, tra bod gan Blaenau Gwent 10 y cant o'i eiddo ym mand D ac uwch. O'r uchod, mae'n amlwg bod sir Fynwy yn codi llawer mwy gyda chynnydd o 1 y cant yn y dreth gyngor band D na Blaenau Gwent. Mae'r cynghorau sydd â'r gallu i godi mwy o dreth gyngor ar eiddo band D, sef yr hyn a ddefnyddir i gyfrifo'r dreth gyngor, yn cael llai o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Ond a gaf i ddweud sut y gellir gwella'r system? Pam na fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cyfrifiadau ar gyfer yr asesiadau gwariant safonol? Rydych chi'n cyhoeddi'r canlyniadau go iawn. Pam na fyddech chi'n cyhoeddi'r cyfrifiadau? Fe fydden nhw'n hir iawn, ond maen nhw gennych chi. Mae'n rhaid i chi eu cael, fel arall ni fyddech yn gallu darparu'r data ar y diwedd. Ac fel y bydd rhai o fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid yn dweud, rwyf bob amser yn defnyddio'r geiriau hyn: dangoswch eich proses o weithio allan. 

17:35

Mae gan ein hawdurdodau lleol gyfrifoldeb enfawr—rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno ar hynny—gan ddarparu gwasanaethau rydym ni i gyd yn eu cymryd yn ganiataol. Mae mwy na—llawer mwy na—600 o swyddogaethau yn cael eu darparu, ac rydym ni'n diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw'n ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond ni allant ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn oni bai eu bod wedi'u hariannu'n ddigonol, ac rwy'n falch iawn y bydd cyllido gwaelodol yn cael ei roi ar waith, rhywbeth yr wyf i wedi eirioli drosto o ddechrau'r broses gyllidebol hon ac rwy'n credu bod y Llywodraeth yn bwriadu symud ymlaen ag ef er gwaethaf cytundeb, beth bynnag. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod angen un arnom—angen cyllid gwaelodol—eto yn dangos bod y fformiwla ariannu bresennol yn ddiffygiol ac angen adolygiad brys. Ni all fod yn iawn i rai cynghorau ei chael hi'n anodd darparu eu gwasanaethau sylfaenol tra bônt yn cario cronfeydd wrth gefn isel tra bod y fformiwla yn rhoi mwy nag adnoddau digonol i eraill, gan ganiatáu iddynt gyflawni'r cyfan sydd ei angen arnynt wrth gronni cronfeydd wrth gefn sylweddol. Mae angen mynd i'r afael â hyn. Mae'n anghysondeb anghynaladwy, na all barhau.

Rwyf hefyd yn croesawu'r cam gan Lywodraeth Cymru i ddarparu refeniw gwaelodol i alluogi cynghorau i gynnal benthyca cyfalaf. Mae defnyddio pwerau benthyca cynghorau i gyflymu gwaith seilwaith mawr ei angen yn gam synhwyrol, un y byddwn wedi'i gymryd, ac yn un rwy'n ei groesawu fel cyn-arweinydd awdurdod lleol. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd eleni, erys y ffaith bod y 26 mlynedd diwethaf o Lafur wedi gadael ein hawdurdodau lleol dan bwysau ariannol eithafol.

O ran y dreth gyngor, yn Lloegr ar hyn o bryd, fel y gwyddom, mae unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor sydd dros 5 y cant yn destun refferenda lleol. Nid yw hynny'n wir yng Nghymru ac, o ganlyniad, mae wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru weithredu toriadau ar awdurdodau lleol gan wybod y byddan nhw, yn eu tro, yn cael eu gorfodi i gynyddu'r dreth gyngor i'r teuluoedd sy'n gweithio'n galed. Roeddwn i'n eithaf pryderus wrth edrych ar ymgynghoriad cyllideb Castell-nedd Port Talbot, lle y nododd, ac rwy'n dyfynnu,

'mae Llywodraeth Cymru wedi tybio y bydd Treth y Cyngor yn codi 9.3% ar gyfartaledd ledled Cymru.'

Yna aeth ymlaen i ddweud y cynigir i'r dreth gyngor gynyddu 6.8 y cant. Roeddwn i'n synnu y byddai Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn cyhoeddi rhagdybiaeth o gwbl, heb sôn am un ar lefel o 9.3 y cant. Mae'r rhagdybiaethau hynny'n bethau nad wyf erioed wedi'u gweld yn fy mywyd cyfan fel arweinydd llywodraeth leol. A bydd hyn ynddo'i hun yn cynyddu'r dreth gyngor ac yn benderfyniad gwael, oherwydd mae'n creu llinell sylfaen i gynghorau weithio tuag ati.

Ni ddylai fod disgwyliad sefydlog i'r cyhoedd barhau i dalu, yn enwedig pan fydd cyfnodau mor anodd. Dylai'r cynnydd yn y dreth gyngor fod y dewis olaf ar ôl i'r holl lwybrau eraill gael eu dihysbyddu. Fel cyn-arweinydd cyngor, roedd fy rhagdybiaethau ar gyfer y dreth gyngor wrth greu'r gyllideb bob amser yn isel iawn, i ysgogi effeithlonrwydd. Pam fyddech chi'n chwarae eich llaw gyllideb? Rwy'n synnu bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn—ac efallai nad yw ar draws pob cyngor, ond yn sicr fe welais i hynny yn ymgynghoriad Castell-nedd Port Talbot.

I gloi, Dirprwy Lywydd, mae ein meinciau ni o'r farn y dylai awdurdodau lleol weithredu refferenda os ydyn nhw'n cynnig cynnydd o dros 5 y cant yn y dreth gyngor. Nid cosbi awdurdodau lleol yw hyn, yn hytrach, eu hamddiffyn rhag y toriadau a sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n ddigonol wrth sicrhau bod y cyhoedd yn cael dweud eu dweud. Ar ddiwedd y dydd, mae angen i'n hawdurdodau lleol fod yn gynaliadwy heb ddisgwyliad parhaus i deuluoedd sy'n gweithio'n galed ariannu diffygion enfawr. Yn anffodus, o dan y system bresennol, nid yw hyn yn ymddangos fel y bydd yn bosibilrwydd. Diolch. 

Mae cynghorau ledled Cymru wedi cael eu gorfodi i wneud mwy gyda llai, gan ymestyn pob punt i gadw gwasanaethau hanfodol i redeg. Dyna pam, yn ystod y trafodaethau ar y gyllideb a gawsom, y llwyddais i sicrhau'r cyllid gwaelodol. Ac rwyf i wir eisiau sôn yn fy nghyfraniad yn fyr iawn am hyn, oherwydd roedd yn rhywbeth a glywais gan y cynghorau y siaradais â nhw, o bob plaid wleidyddol, pa mor bwysig yw bod â chyllid gwaelodol. Dyma'r tro cyntaf, rwy'n deall, mewn chwe blynedd i hyn ddigwydd, a beth bynnag fo'r gyfradd a osodir ar ei gyfer, mae'n ymddangos yn ffordd llawer tecach i mi er mwyn sicrhau bod cynghorau mewn gwirionedd yn gwybod beth yw'r incwm y maent yn ei gael. Mae honno'n rhwyd ddiogelwch, gan sicrhau llawer mwy o sefydlogrwydd ar gyfer buddsoddiad lleol ac ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Yn y gyllideb hon, rydym ni wedi gweld cynghorau, o Ynys Môn i sir Fynwy, Conwy i Fro Morgannwg—naw, i gyd—yn cael mwy o arian oherwydd cyllid gwaelodol y gyllideb. Yn ogystal â hyn, o fewn y cytundeb cyllideb rydym wedi llwyddo i gael £5 miliwn ar gyfer cyfleusterau chwarae ychwanegol, £5 miliwn i helpu ein canolfannau hamdden, fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd Cabinet.

Ond rydw i wir yn mynd i orffen gyda'r cwestiwn gwirioneddol fanwl hwn, a chredaf ei fod wedi cael ei godi nifer o weithiau yn y cyfraniadau hyd yn hyn, a hynny yw: a wnaiff y Llywodraeth adolygu cyllid awdurdodau lleol a siarad â nhw, oherwydd nhw yw'r arbenigwyr ynghylch beth yw'r ffordd decach o sicrhau bod ganddyn nhw'r cyllid ar waith? Oherwydd ei fod yn swnio i mi mai cyllid gwaelodol yw'r mwyaf amlwg, ond nid fi yw'r arbenigwr, ac rwy'n teimlo ei bod yn bwysig bod ein gwasanaethau i bob un ohonom yn cael eu rhedeg a'u darparu gan ein hawdurdodau lleol. Rydym yn ffodus iawn o gael pobl mor ymroddedig yn yr awdurdodau lleol hynny, ond mae angen tegwch a diogelwch arnynt a ffordd ymlaen o gyllido lawer tecach. Diolch yn fawr iawn.

17:40

Rwy'n croesawu'r gyllideb gyntaf hon lle gall Llywodraeth Lafur yng Nghymru weithio gyda Llywodraeth Lafur yn y DU. Roedd yn rhyddhad enfawr pan gyhoeddodd y Canghellor bod buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn dychwelyd, pan fo cyllid a gyhoeddwyd ar gyfer gwasanaethau yn Lloegr hefyd yn cael ei basbortio i Lywodraethau datganoledig, rhywbeth na ddigwyddodd o'r blaen chwaith.

Does dim modd iacháu creithiau y degawd a hanner diwethaf o doriadau dros nos. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn llwyddo yn ei thasg o adnewyddu cenedlaethol, oherwydd dim ond gyda hyn y gallwn sicrhau bod mwy o gyllid yn parhau yn y tymor hir, y mae angen i ni ei gael ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Bydd yn cymryd amser i ailadeiladu a thyfu'r hyn sydd ei angen ar bobl, sefydlu lleoliadau gofal plant, a recriwtio, i drwsio'r ffyrdd hynny, ond rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dechrau gweld a theimlo gwahaniaeth yn eu bywydau bob dydd.

Bydd yn rhaid i ni hefyd ymdrin â llawer o waith ffordd yr haf hwn. Ar ôl gofyn am gyllid ar gyfer priffyrdd ym mhob cyllideb dros y tair blynedd diwethaf, rwy'n falch o weld nid yn unig £25 miliwn ychwanegol ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol, ond hefyd buddsoddiad sylweddol erbyn hyn, wedi cynyddu i £120 miliwn dros ddwy flynedd, i gael rhaglen gynnal a chadw ac ailwynebu briodol ar gyfer ein rhwydwaith priffyrdd lleol.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi egluro yn y ddadl ddiwethaf ar y gyllideb y bydd y buddsoddiad cyfalaf ychwanegol yn niwtral o ran cost i awdurdodau lleol ac mae refeniw i dalu'r gost honno o fenthyca, sy'n bwysig iawn. Rwy'n pryderu, serch hynny, y bydd llywodraethu cyllid yn cynnwys sefydlu bwrdd rhaglen sy'n cynnwys aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru, Llywodraeth Cymru a chyd-bwyllgorau trafnidiaeth y cydbwyllgor corfforedig. Rwy'n credu bod angen i'r cyllid hwnnw gael ei ddarparu'n uniongyrchol iddyn nhw. Rydym ym mis Mawrth yn barod; mae ganddyn nhw ffenestr fer i drwsio'r ffyrdd hynny tra bo'r tywydd yn sych ac mae'n ddigon cynnes i'r tar hwnnw galedu. Felly, rwy'n gobeithio y gellir ei ddatganoli'n uniongyrchol i gynghorau yn hytrach na mynd trwy bwyllgor arall.

Rwyf hefyd yn croesawu treialu tocyn bws gwerth £1 i bobl ifanc, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn croesawu'r gwaith gwerth a rennir hwnnw. Mae croeso mawr i hwnnw. Roedd yn gais gan weithredwyr i helpu i dyfu'r diwydiant, yn ogystal â darparu cludiant i bobl ifanc, gan ei wneud yn fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen. Ond mae angen i ni weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, rhag ofn y bydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol cyn iddo gael ei gyflawni mewn gwirionedd; mae hynny'n bwysig iawn.

O ran cyllid gwaelodol, rwy'n derbyn yn llwyr fod angen i ni gael lefel sylfaenol o gyllid i gynghorau weithredu nawr. Maen nhw wedi cael 14 mlynedd o gyflawni toriadau, ad-drefnu, ailstrwythuro, maen nhw wedi tynnu'r holl fraster, er mwyn darparu'r lefel sylfaenol o wasanaethau yn unig nawr, mae angen y lefel sylfaenol honno o gyllid arnynt. Croesawyd cyllid gwaelodol o 3.8 y cant yn fawr, ond dylai fod ychydig yn uwch, ac rwy'n credu mai dyna beth sydd angen i ni edrych arno wrth symud ymlaen. Bu trafodaethau o'r blaen am gael lefel sylfaenol ac efallai nenfwd, ond os oes gennych nenfwd yn ei le, yna gallai hynny effeithio ar yr ardaloedd hynny sydd fwyaf difreintiedig. Felly, mae angen i chi gadw hynny mewn cof wrth symud ymlaen.

Ein gwasanaethau cyhoeddus, nhw yw conglfeini adeiladu'r economi ac maen nhw yn darparu addysg, trafnidiaeth, pobl, ac maen nhw'n cyflogi cymaint o bobl ledled Cymru. Nhw yw ein cyflogwr mwyaf mewn sawl lle, gyda phob sir yn cyflogi tua 6,000 o bobl ar gyfartaledd. Felly, trwy fuddsoddi ynddynt, rydym yn buddsoddi yn ein heconomi, yn y bôn, ac yn rhoi arian ym mhocedi pobl, fel sy'n cael ei drafod o hyd. Felly, diolch yn fawr iawn.

17:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb unwaith eto am yr holl gyfraniadau heddiw a'u diddordeb yn y mater pwysig hwn. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda llawer ohonoch drwy gydol y cyfnod hwn rwyf wedi bod yn Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae pob un ohonoch yn angerddol amdano. Roedd yn dda iawn clywed pawb yn diolch i'r holl awdurdodau lleol, eu staff a'u haelodau etholedig, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Roedd hefyd yn dda clywed bod pawb wedi croesawu ychwanegu'r cyllid gwaelodol, a ddaeth i mewn yn ystod trafodaethau gyda Jane Dodds, a gwn fod hyn yn rhywbeth y bu pob awdurdod lleol yn ei drafod gyda mi hefyd.

Er bod hwn yn setliad mwy, rwy'n cydnabod bod y galw am wasanaethau, ochr yn ochr â phwysau cost, yn golygu y bydd angen i awdurdodau lleol wneud y penderfyniadau anodd hynny o hyd ar wasanaethau, effeithlonrwydd a'r dreth gyngor wrth bennu eu cyllideb. Serch hynny, fel y dywedais i, mae hwn yn setliad sy'n adeiladu ar ddyraniadau gwell o flynyddoedd blaenorol.

Rwy'n credu bod nifer o bethau—. Rwy'n gwybod bod Peter Fox wedi sôn am Gastell-nedd Port Talbot, mae'n dda gweld cyn-arweinydd awdurdod lleol yn cymryd diddordeb mewn awdurdodau lleol eraill, ond ni wnaethom osod y ffigur tybiedig o 9 y cant ar gyfer y dreth gyngor, dim ond i egluro hynny.

Ar y fformiwla, mae'r cyllid craidd a ddarparwn i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu trwy fformiwla sefydledig a grëwyd ac a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â llywodraeth leol ac a gytunir yn flynyddol gyda llywodraeth leol drwy ein his-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru. Mae'r fformiwla hon yn rhydd o agenda wleidyddol ac yn cael ei hysgogi gan ddata. Mae'n cydbwyso angen cymharol a gallu cymharol i godi incwm fel bod awdurdodau ledled Cymru yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Mae rhaglen waith barhaus i gynnal a diweddaru'r fformiwla ariannu, gan gynnwys sut mae angen i'r fformiwla ymateb i'n gwaith i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru ac i bolisïau ac amgylchiadau newidiol eraill.

Felly, unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch am yr holl waith gan awdurdodau lleol y maent yn ei wneud bob dydd. Rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac mae'n parhau i gefnogi llywodraeth leol ledled Cymru i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Member (w)
Jane Hutt 17:48:17
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Y gwelliant?

Ie. Dim ond gwirio i wneud yn siŵr. Mae'r bleidlais gyntaf ar y gwelliant, nid ar y cynnig. A oes gwrthwynebiad o hyd? [Gwrthwynebiad.] Dim ond gwneud yn siŵr.

Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2025-26

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 8 heddiw yw dadl setliad yr heddlu 2025-26, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i wneud y cynnig. Jayne Bryant.

Cynnig NDM8819 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2025-26 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, er mwyn ei gymeradwyo, fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2025-26. Mae'r cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi'u datganoli, penderfynir ar y darlun cyllido cyffredinol gan benderfyniadau a wneir gan y Swyddfa Gartref. Rydym wedi cynnal y dull sefydledig o osod a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.

Fel yr amlinellwyd yn fy nghyhoeddiad ar 30 Ionawr, cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2025-26 yw £476.8 miliwn. Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r swm hwn yn parhau i fod yn ddigyfnewid ers y llynedd ar £113.5 miliwn, a'r cyllid hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw. 

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion â mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2025-26, y bydd comisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr i gyd yn derbyn cynnydd mewn cyllid o 3.705 y cant o'i gymharu â 2024-25 cyn addasiad ar gyfer cyllid y gangen arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant atodol gwerth cyfanswm o £73.9 miliwn i sicrhau bod pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol.

Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd wedi'i osod gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn.

17:50

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Peredur Owen Griffiths i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gynnydd ym mhraesept yr heddlu o dreth gyngor o ganlyniad i ddiffygion mewn cyllid uniongyrchol o San Steffan i heddluoedd Cymru. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr. Dwi'n symud y gwelliant hwnnw.

Mae setliad yr heddlu 2025-26 yn enghraifft amlwg arall eto o fethiant San Steffan i ariannu heddluoedd Cymru yn iawn. Er bod plismona yn fater datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae Cymru unwaith eto yn cael ei gadael ar drugaredd modelau ariannol San Steffan sy'n tanariannu ac yn hen ffasiwn. Y canlyniad? Diffyg cronig sy'n gorfodi trethdalwyr lleol i ysgwyddo'r baich. Er bod Llafur efallai yn ymfalchïo mewn cynnydd o 3.7 y cant yng nghyfanswm y gefnogaeth graidd, gan ddod â chyllid i £476.8 miliwn, mae'r cynnydd yn ddiystyr wrth fesur chwyddiant, mwy o ofynion gweithredol a thoriadau llym y degawd diwethaf o dan y Torïaid.

Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru yn aros yn sefydlog ar £113.5 miliwn, gan gynnig dim arian newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng. Yn hytrach na chyllido'n heddluoedd yn iawn, mae strategaeth San Steffan yn glir: trosglwyddo'r baich i aelwydydd Cymru drwy'r dreth gyngor sy'n codi'n gyson. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi cynnwys gwelliant i'r ddadl hon, sy'n amlinellu'r gofid ynghylch y cynnydd ym mhraesept yr heddlu ar y dreth gyngor o ganlyniad i ddiffygion mewn cyllid uniongyrchol o San Steffan i heddluoedd Cymru. Nid oes dewis wedi bod gan gomisiynwyr heddlu a throseddu ond codi praeseptau i dalu'r bil nad yw San Steffan yn talu'n llawn. Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweld cynnydd o 6.44 y cant, tra bod trigolion Dyfed Powys yn wynebu cynnydd o 8.6 y cant.

Mae'n amlwg bod y system yn ddiffygiol, gyda chyllid ynghlwm wrth fformiwla sy'n anwybyddu'r realiti sy'n wynebu ein cymunedau. Mae'r setliad hwn yn rheswm arall eto pam fod yn rhaid i Gymru gymryd rheolaeth dros ei system plismona a chyfiawnder ei hun. Ni yw'r unig wlad yn y DU heb y pŵer hwn, er i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019 gadarnhau nad yw'r trefniant presennol yn addas i'r diben. Er mwyn ychwanegu halen at y briw, mae gan faer Manceinion bwerau ychwanegol dros bolisi plismona a chyfiawnder nad ydynt yn cael eu rhoi i Gymru. Tra bod yr Alban a Gogledd Iwerddon a hyd yn oed dinas yn Lloegr yn llunio eu blaenoriaethau plismona eu hunain, mae Cymru'n parhau i gael ei llyffetheirio gan system sy'n methu.

Mae Plaid Cymru yn glir y dylid datganoli plismona a chyfiawnder yn llawn; dim ond wedyn y gall Cymru sicrhau cyllid teg, darparu plismona dan arweiniad y gymuned a rhoi diogelwch y cyhoedd o flaen blaenoriaethau diffygiol San Steffan. Mae pobl Cymru yn haeddu system sy'n gweithio iddyn nhw, nid un sydd wedi'i phennu gan wleidyddion di-ddeall yn Llundain. Diolch yn fawr.

Fe hoffwn i ddweud ar y dechrau bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig heddiw, er gwaethaf problemau gyda setliad yr heddlu ar gyfer 2025-26. Rydym ni hefyd yn croesawu cadarnhad Llywodraeth y DU na fydd plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli i Gymru.

Mae ein problem gyda'r setliad yn deillio o'r ffaith, er gwaethaf chwistrelliad o gannoedd o filiynau o bunnoedd i blismona cymdogaethol gan Lywodraeth y DU, y bydd talwyr y dreth gyngor ledled Cymru yn gweld praeseptau'r heddlu yn dyblu neu'n treblu. Mae'r trefniant cyllido tair ffordd ar gyfer plismona yng Nghymru yn dibynnu ar gyfraniadau gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a thalwyr y dreth gyngor ledled Cymru. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau y bydd heddluoedd yng Nghymru yn gweld cynnydd o 3.7 y cant mewn cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae'r cynnydd hwn yn uwch na chwyddiant i'w groesawu ar yr amod bod yr arian yn cyrraedd y rheng flaen.

Mae cyllid y Swyddfa Gartref wedi cynyddu 50 y cant dros y pum mlynedd diwethaf, tra bod cyfraniad Llywodraeth Cymru wedi gostwng tua 20 y cant, gan adael talwyr y dreth gyngor i dalu'r bil. Bydd fy etholwyr, sy'n cael eu diogelu gan Heddlu De Cymru, yn gweld eu praeseptau yn cynyddu 7.37 y cant, ac eto dim ond cynnydd o 0.8 y cant yn y 12 mis diwethaf a welwyd yn nifer y swyddogion heddlu, ac mae swyddogion cymorth cymunedol wedi gostwng 23 y cant sy'n sylweddol. Cyn i Lywodraeth Cymru a gwleidyddion Plaid dynnu sylw at y cyni chwedlonol, rhwng 2010 a 2024 cynyddodd nifer y swyddogion heddlu yng Nghymru 8.2 y cant. Y gwir trist yw bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio mwy ar yr hyn y mae'r Ysgrifennydd Cartref yn ei alw'n torri'r cysylltiadau o ran plismona a throseddu ledled Cymru a Lloegr nag ydyn nhw ar fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol yng Nghymru.

Rydym ni wedi gweld mai Cymru yw'r unig ran o'r DU i weld cynnydd mewn trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol. Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio eu hymdrechion ar sicrhau bod gan heddluoedd yng Nghymru adnoddau digonol i fynd i'r afael â throseddau treisgar a throseddau casineb, yn hytrach na gwastraffu arian yn paratoi ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddiystyru. Mae teuluoedd gweithgar ledled Cymru yn gorfod gwario mwy am blismona tra bod Llywodraeth Cymru yn methu â sefyll eu cornel. Rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn pwyso ar yr Ysgrifennydd Cartref am arian ychwanegol i Gymru, yn hytrach na phwerau ychwanegol. Diolch yn fawr.

17:55

Ysgrifennydd Cabinet, dylid llongyfarch awydd Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hynny yn ein cymunedau. Mae'n deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir, bob amser, gyda Llywodraeth y DU. Yn anffodus, fel y gwyddoch yn iawn, dilëwyd y cyllid ar gyfer rhaglen ysgolion Cymru gyfan, a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru pan gamodd i'r adwy yn dilyn toriadau gan Lywodraeth y DU, ym mis Chwefror y llynedd. Nawr, mae'n dangos pwysigrwydd y rhaglen hon bod tri o bob pedwar o'r heddluoedd wedi parhau â'r rhaglen, gan ddod o hyd i arian mewn mannau eraill o fewn eu cyllideb, ac mae'r pedwerydd heddlu wedi ei uno â'i gyllideb plismona cymdogaethol, felly nid oes ganddyn nhw swyddogion ysgol ar wahân o fewn ysgolion ond maen nhw'n gweld hynny yn rhan o'r rhaglen gymdogaeth. Felly, mae pob heddlu yn gweld pwysigrwydd y cysylltiad rhwng ysgolion a nhw.

Mae cais rhyddid gwybodaeth a wnaed gan fy swyddfa hefyd wedi datgelu bod tri o'r heddluoedd wedi gweld gostyngiad mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a ariennir gan Lywodraeth Cymru—enghraifft arall o ble y camodd Llywodraeth Cymru i'r adwy, er nad oedd plismona wedi'i ddatganoli, yn dilyn toriadau gan Lywodraeth y DU, lle gwelodd Llywodraeth Cymru bwysigrwydd plismona cymunedol. Rhaid llongyfarch y lluoedd, serch hynny, am eu bod yn dal i weld pwysigrwydd swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, oherwydd eu bod wedi cadw eu gweithlu—maen nhw wedi sefydlogi eu gweithlu—ond, wrth gwrs, maen nhw wedi cyflawni hynny drwy gwtogi mewn meysydd eraill.

Ysgrifennydd Cabinet, ym mis Gorffennaf 2023 rhoddodd y pedwar prif gwnstabl yng Nghymru dystiolaeth lafar yn y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan. Disgrifiodd Dr Lewis, sydd yn y sefyllfa unigryw o fod wedi bod yn brif swyddog mewn heddlu yn Lloegr o'r blaen, y cymhlethdod ychwanegol o ran ariannu heddluoedd Cymru—eu bod bob amser yn gorfod gofyn o ble roedd yr arian yn dod, ac yna roedd yn rhaid iddyn nhw ddilyn yr edefyn cymhleth hwn. Nawr, dywedodd yn eithaf teg nad yw'r cymhlethdod y tu hwnt i'w ddatrys, ond mae'r cymhlethdod yn bod serch hynny. Disgrifiodd cyn-brif gwnstabl Gwent, Pam Kelly, sydd bellach wedi ymddeol, y sefyllfa fel gorfod 'curo dwywaith ar ddrysau', a oedd, wrth gwrs, yn anfantais enfawr i heddluoedd yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd 2023 rhoddodd comisiynwyr heddlu a throseddu Cymru dystiolaeth i'r un pwyllgor. Dywedodd y pedwar comisiynydd fod angen adolygu fformiwla ariannu heddluoedd yng Nghymru. Rhaid mynd i'r afael â'r fformiwla ariannu ar gyfer plismona. Ydy, mae plismona yn swyddogaeth a gedwir yn ôl, ond ni ellir gadael plismona yn chwilio am gyllid flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn ansicr pa arian y byddant yn ei dderbyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ni ddylai comisiynwyr heddlu a throseddu orfod dibynnu ar y praesept i ariannu eu lluoedd, ac ni all cymunedau barhau i gyllido heddluoedd ar loteri cod post o gynnydd i'r dreth gyngor. Diolch yn fawr.

18:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw. Rwy'n cydnabod, yn wyneb y galw cystadleuol a chostau cynyddol, y bydd y setliad yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r pedwar heddlu yng Nghymru wneud penderfyniadau anodd ar wasanaethau, effeithlonrwydd a phraeseptau'r dreth gyngor, y mae nifer o Aelodau wedi eu crybwyll heddiw. Yn wahanol i Loegr, rydym ni wedi cadw'r rhyddid i Gomisiynwyr Cymru wneud eu penderfyniadau eu hunain o ran cynyddu'r dreth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o swydd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, sy'n dangos atebolrwydd i'r etholwyr lleol. Mae ein holl gomisiynwyr heddlu a throseddu wedi bod yn ymgynghori â'u cymunedau lleol ar lefel y cyllid lleol ar gyfer 2025-26, a gwn y byddant yn ymwybodol iawn o'r pwysau costau byw y mae llawer o aelwydydd yn parhau i'w wynebu.

Rydym ni i gyd yn cydnabod y gwaith pwysig y mae'r heddlu yn ei wneud ar gyfer ein cymunedau ledled Cymru. Maen nhw'n rhan allweddol o wasanaeth cyhoeddus integredig, gan weithio gyda byrddau iechyd, cynghorau lleol a phartneriaid eraill fel rhan o ddull cydgysylltiedig o ymdrin â diogelwch cymunedol yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am hynny, Ysgrifennydd Cabinet. Rydych chi'n gwneud y pwynt bod yr heddlu wedi'i integreiddio i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Wel, wrth gwrs, dydyn nhw ddim, achos dydyn nhw ddim yn swyddogaeth ddatganoledig, ac felly mae gennych chi rwystr strwythurol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Rydym ni i gyd yn gwybod bod yr heddlu'n gweithio'n dda gyda llywodraeth leol, gyda'r gwasanaethau golau glas eraill, y mae pob un ohonyn nhw wedi'u datganoli. Onid ydych chi'n cytuno â mi fod nawr yn amser da i ddatganoli'r gwasanaeth plismona i sicrhau y gallwn ni gael cydlyniad y gwasanaethau cyhoeddus rydych chi'n eu disgrifio?

Diolch, Alun, am yr ymyriad yna. Rydym ni wedi bod yn glir y dylid datganoli plismona i Gymru. Mae wedi cael ei argymell mor bell yn ôl â chomisiwn Silk a chafodd ei ailadrodd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019, ac eto gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn gynharach eleni. Felly, rydym ni yn credu, ac rwy'n cytuno, bod angen cyflwyno datganoli'n raddol. Rydym ni'n derbyn na fydd plismona yn cael ei ddatganoli ar unwaith. Am y tro, rydym ni'n trafod datganoli'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid gyda Llywodraeth y DU, y credaf y byddai'n gam sylweddol ymlaen.

Er mwyn mynd yn ôl at y sylw ynghylch diogelwch cymunedol yr oedd Rhys ab Owen wedi'i grybwyll, mae diogelwch cymunedol wedi'i gynnal yn ein cyllideb ar gyfer 2025-26. Yn ogystal â darparu bron i £16 miliwn o gyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru, sy'n gynnydd o 3 y cant, sy'n darparu cyllid y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael i heddluoedd yn Lloegr. Er bod hwn yn faes a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, rydym ni wedi parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer diogelwch cymunedol mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i ni. Ac rydym ni'n parhau i amlygu ein cefnogaeth i blismona gael ei ddatganoli, fel y dywedais, fel y gallwn ni gyflawni yn unol ag anghenion, blaenoriaethau a gwerthoedd pobl Cymru. Felly, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Senedd.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

Eitem 9 heddiw yw dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM8837 Julie James

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r ddadl heddiw yn dilyn ystyriaeth y Bil gan y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cadeiryddion ac aelodau'r ddau bwyllgor, a'u staff cymorth, am eu diddordeb a'u gwaith ar y Bil. Fe hoffwn i hefyd gyfleu fy ngwerthfawrogiad i'r rhanddeiliaid a'r bobl eraill a roddodd o'u hamser i helpu datblygu'r Bil cyn ei gyflwyno, a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r Senedd yn ystod Cyfnod 1. 

Penderfynodd y Pwyllgor Cyllid nad oes angen iddyn nhw adrodd ar y Bil yng ngoleuni'r wybodaeth ariannol a ddarparwyd gennym ni, ac mae'r Llywydd wedi penderfynu nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Cyflwynodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 14 Chwefror a dylai'r Senedd wrth gwrs fod yn ymwybodol o'i gynnwys heddiw. Ar ddiwedd y ddadl hon, gofynnir i chi gytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil a'i alluogi i symud ymlaen i Gyfnod 2.

Rwy'n falch o weld bod y cynigion yn y Bil yn cael eu croesawu gan y pwyllgor yn ei adroddiad ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed mwy gan y Cadeirydd am rywfaint o'r dystiolaeth a dderbyniwyd. Rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor am yr argymhellion a wnaeth i'r Llywodraeth, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n deall os byddaf yn canolbwyntio ar ddim ond dau o'r pwyntiau allweddol a wnaed yn yr adroddiad hwnnw heddiw.

Mae'r Bil yn codio ac yn moderneiddio gweithdrefnau'r Senedd ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth, ac mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod y Bil yn nodi'r rhain yn briodol ac yn cefnogi'r defnydd o labeli a ddarperir ar gyfer y gweithdrefnau craidd. Mae'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor ar y rhan hon o'r Bil ar gyfer y Pwyllgor Busnes, a byddwn yn gweld a yw'r rhain yn cael eu datblygu. Os ydynt, yna byddai'r Llywodraeth yn dymuno cymryd rhan yn y broses honno.

Croesawodd y pwyllgor hefyd y darpariaethau yn y Bil ar gyhoeddi a chadw deddfwriaeth Cymru. Mae'r darpariaethau hyn bellach yn adlewyrchu'r arfer presennol ar gyfer Cymru, ond maen nhw hefyd yn rhoi swyddogaethau ffurfiol ar Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, y cyfeirir ato fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru at y diben hwnnw. Mae hon yn adeg addas i mi fanteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau a chadarnhau bod cydsyniad perthnasol Llywodraeth y DU wedi'i dderbyn mewn perthynas â'r adrannau hynny ac Atodlen 3 lle roedd angen hyn.

Dirprwy Lywydd, gan droi yn ôl at adroddiad y pwyllgor, maen nhw wedi argymell ein bod yn egluro pam nad ydym ni wedi copïo trefniadau'r Alban, sy'n cynnwys creu yn ffurfiol Swyddfa Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban, er bod y person hwnnw hefyd yn ymarferol yn Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin. Rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor eto i nodi fy rhesymau. Mae'r Llywodraeth, Argraffydd y Brenin a'r Archifau Cenedlaethol yn fodlon nad oes unrhyw wahaniaethau ymarferol sy'n effeithio naill ai ar y broses o gyhoeddi deddfwriaeth na mynediad at y ddeddfwriaeth honno. Mae'r hyn rydym ni wedi'i wneud yn adlewyrchu realiti'r sefyllfa, ac rwy'n fodlon bod y Bil hwn yn mynd ati yn y ffordd iawn yn hynny o beth.

O ran diddymiadau yn y Bil, mae un agwedd benodol yr hoffwn i ei dwyn i sylw'r Aelodau. Mae'r Gymdeithas Mannau Agored o'r farn y dylai'r Bil ddiddymu adrannau 53 i 56 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Cynigiwyd y diddymiad hwnnw'n wreiddiol yn y Bil Cyfraith Statud (Diddymu) (Cymru) drafft yr ymgynghorwyd â ni arno ddiwedd 2023, ond, am resymau a nodais yn y memorandwm esboniadol i'r Bil, ni chafodd ei gynnwys yn y Bil ar ôl ei gyflwyno. Fodd bynnag, mae'r amgylchiadau wedi newid eto ac ym mharagraff 183 o adroddiad y pwyllgor bydd yr Aelodau'n gweld fy nhystiolaeth iddyn nhw ynghylch hyn. Bydd yr Aelodau hefyd yn gweld fy mod wedi dweud y byddwn yn ymwybodol o gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ailgyflwyno'r diddymiad, ond dywedais yn benodol y byddwn yn gwneud hynny dim ond gyda chefnogaeth y pwyllgor. Er nad yw'r pwyllgor wedi datgan yn benodol y byddai'n fodlon â'r gwelliannau hyn, nid yw ychwaith wedi eu gwrthwynebu, ac ar y sail honno rwy'n hysbysu'r Aelodau heddiw fy mod yn bwriadu cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 ac yna gall y pwyllgor bleidleisio ar eu cynnwys neu fel arall. Os oes unrhyw Aelod yn dymuno siarad â mi am y dull hwn cyn y trafodion yng Nghyfnod 2, rwy'n fwy na pharod i glywed ganddyn nhw, ac rwy'n awyddus i sicrhau, lle rydym ni'n diddymu deddfwriaeth, bod y Senedd yn fodlon â'r sail dros ddatblygu'r diddymiadau hynny.

Bu'r pwyllgor hefyd yn ystyried ychydig o faterion nad ydyn nhw'n rhan o'r Bil, ond sy'n rhan o'n prosesau deddfu serch hynny. Mae argymhellion 3 a 4 yn deillio o bryderon y pwyllgor am wallau mewn is-ddeddfwriaeth. Dirprwy Lywydd, gadewch imi fod yn glir: mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod deddfwriaeth yn hawdd ei deall ac yn sicr yn ei heffaith. Fodd bynnag, mae yna adegau pan fydd camgymeriadau. Pryd bynnag a sut bynnag y sylwir ar y rhain, mae'r Llywodraeth yn ystyried natur y camgymeriad a'i effaith debygol yn ofalus. Mewn rhai achosion gellir eu gadael fel maen nhw, mewn rhai achosion gall slip cywiro fod yn rhwymedi priodol, neu mewn eraill mae angen gwneud gwelliant ffurfiol. Yn ddealladwy, mae ar y pwyllgor eisiau datrys y gwallau hyn mewn modd amserol. Mae yna nifer o ffactorau sy'n penderfynu pryd y gwneir gwelliannau. Felly, er nad ydym yn derbyn argymhellion 3 a 4, rydym yn gweithredu ar hyn. Cyn toriad yr haf bydd y Llywodraeth yn cyflwyno offeryn statudol diwygio omnibws gerbron y Senedd i'w gymeradwyo. Bydd hwn yn ymdrin â gwelliannau y mae angen eu gwneud i nifer o offerynnau statudol ar yr un pryd, yn hytrach na chyflwyno cyfres o offerynnau cywiro unigol, fel y dull mwy traddodiadol. Ar ôl llunio'r offeryn hwnnw, byddaf wedyn yn ystyried a yw hwn yn ddull effeithiol ac effeithlon o fynd i'r afael ag unrhyw wallau yn y dyfodol.

Mae'r pwyllgor hefyd wedi gofyn am effaith ein cynigion ar y Gymraeg o ran cefnu ar y fformat dwy golofn ar gyfer cyhoeddi offerynnau statudol printiedig a pdf. Ein man cychwyn yw gwella hygyrchedd y ddeddfwriaeth yn y ddwy iaith, ac nid yw'n niweidiol i'r naill beth na'r llall. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol iawn o'r camau rhagweithiol y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i ddatblygu ac ehangu'r Gymraeg fel iaith y gyfraith, ac mae'r Bil hwn yn un o'r camau hynny, wrth gwrs.

Dirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol iawn mai crynodeb byr yn unig yw hwn o ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor. Fodd bynnag, os bydd y Bil yn mynd rhagddo heddiw yna bydd yn cael ei ystyried ymhellach yn y Senedd yng Nghyfnodau 2 a 3. Er mwyn i hynny ddigwydd, bydd angen cymorth gan yr Aelodau i fwrw ymlaen â'r Bil, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw. Diolch. 

18:10

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi droi at adroddiad y pwyllgor, fe hoffwn i ar ran y pwyllgor ddiolch i bawb a gyfrannodd at ystyriaeth y pwyllgor o'r Bil, ac i'r Cwnsler Cyffredinol am rannu ymateb y Llywodraeth cyn y ddadl heddiw.

Nod cyffredinol y Bil hwn yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Mae'n ceisio gwneud hynny mewn tair prif ffordd, fel y darperir gan dair rhan y Bil. Fel pwyllgor, rydym ni'n croesawu amcanion eang y Bil ac yn credu y bydd ei dri phrif bwrpas yn cael effaith gadarnhaol ar hygyrchedd cyfraith Cymru. Credwn ei fod yn dwyn ynghyd y prif weithdrefnau sy'n berthnasol i is-ddeddfwriaeth, ac yn nodi am y tro cyntaf y swyddogaethau ar gyfer yr hyn sydd i'w alw'n Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Bydd ei ddarpariaethau diddymu hefyd yn helpu i sicrhau bod y gyfraith sydd mewn grym yn glir ac yn hygyrch i bawb. Am y rhesymau hyn, mae'r pwyllgor yn argymell yn ei adroddiad y dylai'r Senedd gytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil.

Trof yn awr at rai o'r argymhellion eraill a wnaethom ni yn ein hadroddiad. Fel y gŵyr yr Aelodau, yn fwy ac yn fwy aml yn ddiweddar, mae'r pwyllgor wedi tynnu sylw at wallau mewn offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion Cymru. Fel rhan o'n gwaith craffu ar y Bil, fe wnaethom ni ystyried a fyddai'n bosibl ei gwneud hi'n ofynnol i gywiro offerynnau statudol o fewn amserlen benodol. Byddai hyn yn helpu sicrhau nad yw deddfwriaeth ddiffygiol ar y llyfr statud am fwy o amser nag sydd ei angen.

Er ein bod yn cydnabod yn ein hadroddiad y gallai fod cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ei fewnosod yn y Bil hwn i alluogi gofyniad o'r fath, argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid gwneud darpariaeth i fynnu bod cywiriadau'n cael eu gwneud mewn modd amserol. Argymhellwyd hefyd y dylai'r Llywodraeth gyflwyno adroddiad gerbron y Senedd bob 12 mis yn nodi'r cynnydd y mae'n ei wneud tuag at gywiro offerynnau statudol diffygiol.

Nodaf nad yw'r Llywodraeth yn ystyried ei bod yn briodol i ddarpariaeth naill ai ragnodi amserlen neu osod dyletswydd gyffredinol i gywiro offerynnau statudol mewn modd amserol, ac mae wedi nodi'r rhesymau dros hyn yn ei hymateb. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno offeryn diwygio omnibws a byddwn yn ystyried a yw hwn yn ddull effeithiol ac effeithlon o fynd i'r afael â chywiriadau, a byddwn hefyd yn ystyried hyn fel pwyllgor.

Archwiliodd y pwyllgor hefyd ffyrdd o alluogi craffu llawnach ar offerynnau statudol, ac o ganlyniad gwnaeth ddau argymhelliad i'r Pwyllgor Busnes. Bu inni argymell y dylai ystyried adolygu rhinweddau cael pwyllgor sifftio i bennu faint o graffu a ddylai fod ar offerynnau statudol, a dylai hefyd ystyried cyflwyno gweithdrefn i ganiatáu cynigion 'meddwl eto' addasadwy i offerynnau statudol.

Gwnaeth y pwyllgor argymhellion hefyd mewn perthynas â darpariaethau'r Bil ynghylch Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Yn wahanol i'r Alban, lle mae Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban yn bodoli fel swyddogaeth ar wahân yn y gyfraith, bydd y Bil yn rhoi swyddogaethau i Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, a fydd yn cael ei adnabod fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru wrth arfer y swyddogaethau hynny. Er bod y pwyllgor yn cydnabod yn ei adroddiad na fyddai unrhyw wahaniaethau ymarferol o ran defnyddio'r dull hwn, roeddem yn credu fodd bynnag y byddai creu swyddogaeth ar wahân i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn sicrhau cydraddoldeb mewn statws â threfniadau mewn mannau eraill yn y DU.

Galwasom felly ar Lywodraeth Cymru i egluro pam nad yw'r Bil yn adlewyrchu trefniadau'r Alban yn hyn o beth, ac i nodi unrhyw asesiad o oblygiadau ariannol gwneud hynny. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn fodlon bod y dull cywir wedi'i fabwysiadu yn y Bil, a, gan nad yw'n credu y dylai'r Bil adlewyrchu'r trefniadau ar gyfer yr Alban, ni fydd y Llywodraeth yn cynnal asesiad ariannol.

Fel pwynt cyffredinol, argymhellodd y pwyllgor hefyd y dylai'r Llywodraeth gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o'r Bil. Credwn fod hyn yn rhywbeth y dylid ei wneud ar gyfer yr holl Filiau a gyflwynir yn y Senedd. Mae'r Llywodraeth wedi dweud yn ei hymateb na all gefnogi adolygiad o'r Bil hwn ei hun, gan ei bod yn gweld y Bil fel cyfrwng i ddiwygio deddfwriaeth arall. Fodd bynnag, mae wedi awgrymu efallai y bydd y Llywodraeth a'r Senedd nesaf am ystyried a fyddai adolygiad o Ran 2A newydd o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, fel y'i mewnosodir gan y Bil hwn—sy'n ailddatgan y gweithdrefnau craffu ar gyfer is-ddeddfwriaeth—yn ddefnyddiol fel rhan o unrhyw ystyriaeth o ddiwygio deddfwriaethol yn y dyfodol.

Cyn i mi ddirwyn fy sylwadau i ben, fe hoffwn i sôn am un mater arall. Yn ei adroddiad, nododd y pwyllgor farn y Cwnsler Cyffredinol a'r Llywydd bod angen cydsyniad Gweinidog y Goron er mwyn i'r Bil hwn fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym ni ym mis Ionawr fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl derbyn y cydsyniadau hyn cyn diwedd Cyfnod 1 hynt y Bil drwy'r Senedd. Felly, byddwn yn croesawu unrhyw wybodaeth y gall y Cwnsler Cyffredinol ei darparu ar y mater hwn.

Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud o gymorth pan fo'r Aelodau yn ystyried y Bil hwn heddiw a thros y misoedd nesaf, pe bai'n symud ymlaen i'r camau diwygio. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd adroddiad y pwyllgor yn helpu i gyfrannu at ddadl ehangach ynghylch diwygio gweithdrefnau craffu'r Senedd yn y dyfodol.

O'r cychwyn cyntaf, rwyf am ei gwneud hi'n glir ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth hon, a byddwn yn trafod yn adeiladol â Llywodraeth Cymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Mae'r Bil hwn yn rhoi cyfle i dacluso'r gyfraith yn effeithiol yn y maes hwn ac, o ganlyniad, dylai'r gweithdrefnau fod yn gliriach ac yn fwy hygyrch yn y dyfodol. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, ar ddechrau'r broses hon, mae rhinweddau i'r Bil hwn o ran cyflawnrwydd, hygyrchedd ac atebolrwydd, gan y bydd yn dwyn ynghyd ac yn ffurfioli'r trefniadau gweithdrefnol ar gyfer llunio a chyhoeddi is-ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru a gwella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Nawr, fel rydym ni newydd glywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mae'r pwyllgor wedi gwneud gwaith rhagorol o graffu ar y ddeddfwriaeth hon yng Nghyfnod 1, ac rwy'n annog yr holl Aelodau i ddarllen eu hadroddiad. Mae'r pwyllgor wedi gwneud sawl argymhelliad pwysig yn yr adroddiad hwnnw, y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio atyn nhw yn ei chyfraniad y prynhawn yma. Nawr, mae'r pwyllgor wedi dadlau'n briodol y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o'r Bil, ac fe hoffwn i adleisio'r pwynt hwnnw. Rwy'n credu'n gryf y dylai pob Bil fod yn destun adolygiad ôl-weithredu o ryw fath, ac ni ddylai'r ddeddfwriaeth hon fod yn eithriad. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, rwy'n siomedig nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yn rhannu'r farn y bydd angen adolygu'r Bil ei hun rywbryd yn y dyfodol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud ychydig mwy wrthym ni am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y pwynt penodol hwn.

Mae'r Bil hefyd yn ceisio symleiddio'r broses ddeddfwriaethol drwy ddarparu labeli i'r tair gweithdrefn graffu graidd y gellir eu defnyddio mewn deddfwriaeth yn y dyfodol—eto, amcanion y credaf y bydd pawb yn y Siambr hon yn eu cefnogi. Fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddweud o'r blaen, mae'r Bil hwn yn un technegol a gweinyddol i raddau helaeth, ac rwy'n rhannu barn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad bod y disgrifiadau o'r gweithdrefnau hyn yn glir ac yn gywir.

Nawr, rwy'n sylweddoli bod Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad eisoes wedi cyfeirio at hyn, ond roedd arna i eisiau adleisio barn y pwyllgor ynghylch y nifer cynyddol o ddarnau o is-ddeddfwriaeth sy'n cynnwys diffygion, ac a ddylai fod rhyw ofyniad mewn deddfwriaeth i sicrhau bod offerynnau statudol sy'n ceisio cywiro deddfwriaeth ddiffygiol yn cael eu cyflwyno gan Weinidogion Cymru mewn modd amserol. Nodaf fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, byddwn yn annog y Cwnsler Cyffredinol i ailystyried safbwynt y Llywodraeth ar y mater penodol hwn.

Mae argymhelliad 4 yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad gerbron y Senedd bob 12 mis sy'n nodi'r cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gywiro offerynnau statudol yr ystyrir eu bod yn ddiffygiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn yn ysgrifenedig, ond credaf fod y Cwnsler Cyffredinol wedi dweud yn gynharach bod y Llywodraeth yn ei wrthod, felly efallai y gall egluro hynny yn ei hymateb, pan fydd hi'n ymateb i'r ddadl hon. Ac efallai y gallai hefyd ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr offeryn diwygio omnibws y mae'n bwriadu ei gyflwyno i fynd i'r afael â rhai gwallau mewn offerynnau statudol.

Nawr, bu rhywfaint o drafodaeth hefyd ynghylch y syniad o bwyllgor sifftio i benderfynu ar faint o graffu a ddylai fod ar offerynnau statudol unigol. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn iawn i ddweud y byddai hwn yn fater i'r Pwyllgor Busnes, ac, fel aelod o'r pwyllgor hwnnw, rwy'n gobeithio y cawn gyfle i ystyried hyn rywbryd cyn diwedd y Senedd hon. Felly, er na fyddai'r cynnig hwn ar gyfer pwyllgor sifftio yn fater i'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth, rwy'n sicr yn gweld teilyngdod yng ngalwad Cymdeithas Hansard am bwyllgor sifftio.

Nawr, mewn perthynas â chyhoeddi deddfwriaeth, rwy'n cefnogi'r darpariaethau yn y Bil mewn perthynas ag Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru bellach wedi derbyn cydsyniad gan Lywodraeth y DU i ddod â'r adran hon o'r Bil o fewn cymhwysedd. Nid yw'r Bil yn darparu ar gyfer creu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru fel swyddogaeth ar wahân, ond rwy'n derbyn barn Llywodraeth Cymru nad oes angen gweinyddiaeth ar wahân.

Yn olaf, fe hoffwn i ddim ond crybwyll yn fyr diddymu deddfwriaeth Cymru. Mae'r Bil yn cyflwyno cyfres o ddiddymiadau i ddarpariaethau nad oes eu hangen mwyach, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Yn achos Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, er enghraifft, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi'i ddweud, mae rheoliadau adeiladu bellach wedi disodli'r Mesur ac nid oes ei angen mwyach. Mae'n gwbl gywir, felly, pan fydd deddfwriaeth yn cael ei disodli gan reoliadau dilynol neu, yn wir, deddfwriaeth sylfaenol arall, mae'n hanfodol y ceir y diddymiadau angenrheidiol.

Felly, Dirprwy Lywydd, wrth gloi, fe hoffwn i ailadrodd ymrwymiad fy mhlaid i drafod yn adeiladol â Llywodraeth Cymru y darn hwn o ddeddfwriaeth, ac edrychwn ymlaen at y cam nesaf yn y broses ddeddfwriaethol. Diolch.

18:15

Mae yna lawer, wrth gwrs, yn y Bil yma, i'w groesawu, ond hoffwn i, yn yr amser sydd gyda fi, jest canolbwyntio ar y pethau dŷn ni'n gobeithio eu gwella drwy gamau gwahanol y Bil. Yn gyntaf, mae yna gyfeiriad, wrth gwrs, wedi bod at deitl 'Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru', sydd yn cael ei greu gan y Bil yma—teitl a rôl, ond nid swydd, ac mae hynny, dwi'n credu, yn wendid ar hyn o bryd. Roedd pwyllgor materion cyfansoddiadol, dwi'n credu, y Senedd, 10 mlynedd yn ôl, wedi galw am greu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Roedd yna Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru nôl yn y diwygiad Protestannaidd am ychydig ddegawdau, ond dydyn ni ddim wedi cael un ers hynny.

Roedd y Llywodraeth ei hunan wedi dod â Bil drafft ymlaen, sef Bil Llywodraeth a Chyfraith Cymru, ryw ddegawd yn ôl, wrth osod mas gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar y pryd o ran datganoli. Roedd hynny'n creu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ar wahân, felly, yn gydradd gydag Argraffydd y Brenin sydd wedi bodoli yn achos yr Alban ers 1998. Yn achos Gogledd Iwerddon, 'Argraffydd y Llywodraeth' yw'r enw sy'n cael ei arddel fanna—wedi bodoli ers 100 mlynedd, ers creu Stormont.

Rŷn ni, yn syml iawn, yn credu y dylai Cymru gael ei thrin yn gydradd—mi ddylai fod yna swydd ar wahân yn hytrach na dim ond teitl, ac mae hynny'n dilyn yr arferiad ar draws y byd, a dweud y gwir. Mae pob Senedd yng Nghanada ag argraffydd swyddogol, mae pob deddfwrfa ag argraffydd swyddogol, ac, yn anffodus, ar hyn o bryd, dyw'r Bil yn ei ffurf bresennol ddim yn creu swydd argraffydd penodol i gyd-fynd â'n dyletswyddau deddfwriaethol ni.

Mae'r Bil yn ceisio rhoi mwy o eglurder a hygyrchedd o ran y broses is-ddeddfwriaethol drwy ailenwi'r gwahanol brosesau yn ymwneud ag is-ddeddfwriaeth. Dwi'n credu bod cyfle yn fan hyn i fynd ymhellach a gwella ein gallu ni fel Senedd i graffu ar offerynnau statudol. Mae is-ddeddfwriaeth wedi dod cymaint yn fwy o ran greiddiol o'n democratiaeth ni, ac mae yna wagle o ran atebolrwydd ar hyn o bryd. Rwy'n credu y byddwn ni'n ceisio rhoi gerbron, ar gyfer cefnogaeth Aelodau, dwy ffordd o roi mwy o gyfle i'r Senedd gael dylanwadu ar is-ddeddfwriaeth. Ar hyn o bryd, naill ai derbyn neu wrthod yn unig ydy'r opsiynau sydd gyda ni. Rŷn ni am gynnig dulliau a fydd, er enghraifft, yn rhoi opsiwn i ni wrthod rhannau penodol, ar batrwm yr hyn sydd yn bodoli eisoes yn Awstralia, yn hytrach na'n gorfod dileu'r offeryn statudol cyfan—felly, rhoi'r cyfle i'r Senedd ddiddymu adrannau penodol sy'n peri anhawster tra'n cadw'r diben polisi ehangach.

Y mecanwaith arall y byddwn ni'n ceisio cael cefnogaeth iddo fe yw mecanwaith o ddiwygio amodol, a fydd yn rhoi cyfle i ni ofyn i'r Llywodraeth ddod yn ôl gyda newidiadau ar sail y gwelliant i'r cynnig. 

Yn olaf, dŷn ni eisiau mynd i'r afael â'r cwestiwn yma o gywiro. Mae yna Fesur yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd sydd yn cynnig opsiwn o greu ffenest o ryw 40 diwrnod neu 60 diwrnod er mwyn i'r Llywodraeth ddod â fersiwn ddiwygiedig o is-ddeddfwriaeth ymlaen er mwyn gwella unrhyw wallau technegol sydd wedi cael eu hadnabod, achos, yn rhy aml ar hyn o bryd, mae yna wallau'n cael eu hadnabod ond dŷn ni'n gorfod aros yn hir iawn i'r gwallau yna gael eu cywiro.

Felly, dyna'r gwelliannau y byddwn ni'n eu cyflwyno yn ystod y gwahanol gamau, a dŷn ni'n gobeithio ennyn cefnogaeth gan Aelodau a hefyd, gobeithio, gefnogaeth gan y Llywodraeth ei hun.

18:25

Fe ddylwn i ddweud ar ddechrau fy sylwadau fy mod yn ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am y ffordd yr aeth i'r afael â'r materion a ddygodd y pwyllgor i'w sylw yn gynharach eleni, a hefyd y ffordd y mae hi wedi mynd i'r afael â'r ddeddfwriaeth hon. Mae'n ddarn o ddeddfwriaeth dechnegol—rwy'n derbyn hynny—ond mae'r pethau hyn yn bwysig oherwydd eu bod nhw'n bwysig o ran sut rydym ni'n deddfu yn y fan yma a sut mae cyfraith Cymru yn dod yn hygyrch i bobl. Rydym ni wedi clywed Comisiwn y Gyfraith—rwy'n credu ei fod yn eu hadroddiad diwethaf, bron i 10 mlynedd yn ôl nawr—yn dweud bod y gyfraith yng Nghymru yn llai hygyrch na'r gyfraith sydd ar gael i ddinasyddion mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Nawr, mae gennym ni Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol. Nawr, nid oes cyfiawnder cymdeithasol i'w gael os na all pobl gael mynediad at y gyfraith. Mae'r gyfraith yno i'n diogelu ac i'n galluogi i gyflawni'r hawliau a weithredir ar ein rhan. Ond os nad yw pobl sy'n gweinyddu'r gyfraith yn deall yn iawn union safbwynt y gyfraith, mae honno'n broblem ddifrifol iawn i bob un ohonom ni, ni waeth ble yn y Siambr rydym ni'n eistedd. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych yn fanwl ar sut rydym ni'n deddfu. Yn benodol, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld y defnydd cynyddol o gynigion cydsyniad deddfwriaethol gan y Llywodraeth hon a chan Lywodraeth San Steffan. Mae hynny'n golygu bod cyfraith Cymru mewn gwahanol leoedd. Nawr, mae'r broses, sydd wedi cael ei harwain gan y Llywodraeth hon dros gyfnod o flynyddoedd, wedi arloesi'n wych ac mae wedi golygu ein bod yn gallu gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch i bobl. Ond mae'r defnydd o ddwy Senedd i ddeddfu fel mater o drefn i Gymru ar yr un mater yn wendid difrifol yn y ffordd rydym ni'n llywodraethu yn y wlad hon, ac mae angen i ni ystyried yr holl faterion hynny. Rwy'n cydnabod nad yw'r Bil hwn yn bodoli i wneud hynny i gyd heddiw, ond mae ganddo amcan wrth ei wraidd sef gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol, yn ei sylwadau agoriadol, at farn y pwyllgor deddfwriaeth ar Argraffydd y Brenin a swyddogaeth Argraffydd y Brenin, y cyfeiriodd Adam Price ato gynnau hefyd. Mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn deall pam y mae'r Llywodraeth yn hwyrfrydig ynghylch y mater hwn, oherwydd mae'n ymddangos i mi, er i ni ddechrau'r broses o ddatganoli yn ôl ym 1998 gyda modelau anghymesur gwahanol iawn o ddatganoli, mae'r broses ers hynny wedi bod tuag at fframwaith mwy cymesur ar gyfer datganoli. Ac rwy'n credu bod sefydlogrwydd y Deyrnas Unedig yn fwy sicr trwy gael modelau llywodraethu cymesur iawn ar draws y deyrnas gyfan, yn hytrach na chael gogwydd Cymreig ar system Seisnig. Felly, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallai'r Llywodraeth dymuno ei ystyried yng Nghyfnod 2 neu gam diwygio pellach.

Yn olaf, o ran sut rydym yn diwygio offerynnau statudol, offerynnau statudol yw'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi bod yn deddfu fwyfwy. Cafwyd mwy o Filiau fframwaith a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Senedd hon na naill ai'r Senedd ddiwethaf yn San Steffan neu Senedd yr Alban. Felly, rydym yn gweld mwy o Filiau fframwaith yn cael eu pasio yma nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Mae hynny'n golygu, fel Senedd, ein bod yn rhoi pŵer cynyddol i'r Weithrediaeth, y gellir ei arfer wedyn mewn ffordd gymharol ddi-reolaeth. Nawr, os ydym ni am graffu ar y Weithrediaeth, neu ei gwirio hi mewn unrhyw fodd, yna mae'n rhaid i ni gynyddu pwerau'r lle hwn i wneud hynny, ac un ffordd o wneud hynny yw trwy ddiwygio offerynnau statudol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi hynny ar hyn o bryd, a gallaf ddeall pam, a gallaf ddeall yr anawsterau hynny, ond mae angen i ni ystyried sut rydym ni'n deddfu. Rwy'n credu ei fod yn un o'r materion technegol hynny y mae'n well gan y rhan fwyaf o bobl beidio â'u hystyried. Ond os ydym ni'n pasio pwerau cynyddol i'r Weithrediaeth heb gynyddu ein pwerau i graffu ar offerynnau statudol, y mae'r gyfraith rydym ni wedi'i phasio yn cael ei gweithredu drwyddi mewn gwirionedd, yna mae gennym ni lai o reolaeth dros ddeddfu'r gyfraith honno, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n gwanhau'r Senedd hon yn sylfaenol. Felly, ni waeth beth yw'r ateb i'r cyfyng gyngor hwnnw, i mi, byddai'n well gennyf gael llawer llai o Filiau fframwaith a llawer mwy o fanylion ar wyneb y Bil, a Gweinidogion ddim yn cymryd pwerau nad oes eu hangen arnyn nhw. Mae angen i ni ystyried sut rydym ni'n gweinyddu ac yn deddfu offerynnau statudol i sicrhau bod gennym y pwerau yma yn y Senedd hon ac nad ydym yn syml yn pasio'r pwerau hynny a frwydrwyd mor galed i'w cael i'r Weithrediaeth. Diolch yn fawr iawn.

18:30

Cwnsler Cyffredinol, rwy'n gobeithio na fyddwch yn digio pan ddywedaf nad hwn yw'r Bil mwyaf cyffrous o bosibl, er bod Adam Price ac Alun Davies wedi gwneud ymdrech lew i geisio'n cyffroi ynghylch Argraffydd y Brenin ar gyfer Gymru ac is-ddeddfwriaeth. Ond mae'r hyn a wna'r ddeddfwriaeth hon yw tacluso, mae'n datrys problemau technegol, mae'n tacluso'r llyfr statud, mae'n rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i gyfraith Cymru ac yn gwneud y cyhoeddiad yn fwy rhesymegol. Rwy'n falch bod y ddeddfwriaeth yn codio sut y creffir ar is-ddeddfwriaeth. Bydd yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl ddeall y broses, yn hytrach na dim ond gwybod beth sydd wedi datblygu'n araf dros y blynyddoedd.

Nawr, fel y soniodd Alun Davies, rydym ni i gyd yn cytuno bod craffu da yn arwain at ddeddfwriaeth well. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y tair gweithdrefn newydd yn gwella sut y creffir ar is-ddeddfwriaeth, a fyddai'n rhoi mwy o gyfle i'r Senedd hon graffu ar ddeddfwriaeth eilaidd, oherwydd gallant fod yn bwysig iawn yn wir? Deddfwriaeth eilaidd oedd yn gorfodi cyfnodau cyfyngiadau symud COVID, er enghraifft. Gallant newid bywydau. Felly, mae angen cael y cyfle hwnnw i graffu arnyn nhw'n iawn. Ydych chi hefyd yn credu y byddai rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i offerynnau statudol Cymru yn arwain at gyhoeddi nifer fwy ohonyn nhw yn ddwyieithog, nad ydym ni yn eu gweld ar hyn o bryd? Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yma eisiau gweld sefyllfa lle mae cymorth cyfreithiol a chynrychiolaeth gyfreithiol ar gael i bawb sydd ei angen.

Fodd bynnag, nid dyna'r sefyllfa, ac mae'n annhebygol o newid unrhyw bryd yn fuan. Mae'r gyfraith yn gymhleth, yn gymhleth iawn, hyd yn oed ar gyfer cyfreithwyr, heb sôn am y rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli. Ac ni ellir ond canmol unrhyw waith a wneir gan Lywodraeth Cymru i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Rwy'n credu imi gyfaddef i chi o'r blaen, Cwnsler Cyffredinol, sut y cefais dro trwstan tua 15 mlynedd yn ôl am ddibynnu ar ddeddfwriaeth a gyhoeddwyd ar wefan legislation.gov a oedd wedi cael ei ddiddymu flynyddoedd lawer ynghynt. Mae'n dangos y cymhlethdod, ac mae'n dangos sut mae angen i ni ei gwneud yn llawer mwy hygyrch.

Gan ein bod yn ddeddfwrfa weddol newydd yma yng Nghymru, mae'n llawer haws i ni ddileu Deddfau a ddiddymwyd a thacluso Deddfau nag ydyw yn Lloegr gyda'r llyfr statud Seisnig. Pa mor aml ydych chi'n rhagweld, Cwnsler Cyffredinol, y byddwn ni'n gweld Deddf ddiddymu yma yn y Senedd, oherwydd rwy'n credu yn San Steffan nad ydyn nhw wedi gweld Deddf ddiddymu ers dros 12 mlynedd?

Rwy'n credu ei bod hi'n drueni bod—. Pan oedd Mick Antoniw yn Gwnsler Cyffredinol, soniodd am gyhoeddi deddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ochr yn ochr. Rwy'n gwybod y gall fod rhai datblygiadau mewn technoleg a fydd yn gwneud y ffaith nad ydym yn ei chyhoeddi ochr yn ochr yn angenrheidiol, ond rwy'n pryderu y bydd peidio â chael y Gymraeg ochr yn ochr â'r Saesneg yn ei gwneud hi'n llawer haws anwybyddu'r Gymraeg. Sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd hynny'n digwydd?

A wnewch chi sicrhau, pan gyhoeddir y ddeddfwriaeth, ei bod hi mor hygyrch a dealladwy i gynifer o bobl â phosibl, yn enwedig y rhai sydd heb gynrychiolaeth ac sydd mewn sefyllfa fregus iawn? Diolch yn fawr.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau a siaradodd ac fe wnaf i ymateb yn fyr i rai o'r pwyntiau a godwyd. Fe hoffwn i ddechrau drwy ddweud fy mod yn ofidus iawn nad ydych chi'n credu bod hwn yn Fil cyffrous, Rhys. [Chwerthin.] Rwy'n credu ei fod yn Fil cyffrous iawn, am y rheswm yma: i'r rhai ohonom ni sy'n seneddwyr yn y bôn, mae bod â'r prosesau cywir ar waith, prosesau sydd â'r enwau cywir, sy'n hygyrch, sy'n ddealladwy i bobl arferol, os mynnwch chi, nad ydyn nhw efallai wedi ymgolli bob dydd â gweithredoedd y fan yma, mae hi mewn gwirionedd yn bwysig iawn, ac mae hi mewn gwirionedd yn eithaf cyffrous sicrhau y gall pobl ddeall ein prosesau heb fod angen cyfeirio at thesawrws o ryw fath. Rwyf wir yn credu bod y Bil yn gwneud hynny, ac rwy'n ddiolchgar i Paul a Mike ac eraill sydd wedi cydnabod hynny, oherwydd rwy'n credu eu bod yn defnyddio'r enwau plaen yn y ddwy iaith ar gyfer disgrifio'r weithdrefn. Felly, rwy'n credu ei fod yn Fil pwysig yn hynny o beth, os nad am unrhyw reswm arall.

Fe hoffwn i ddim ond mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau. Fe hoffwn i gadarnhau bod gennym ni holl gydsyniadau'r Goron sydd eu hangen arnom ni, felly mae'r Bil yn barod yn hynny o beth. O ran mater adolygiad ôl-ddeddfwriaethol, mae ein barn yn eithaf syml: mae'r Bil yn newid y prosesau ac yna mae ei waith wedi ei wneud. Felly, mewn gwirionedd, ni fydd yn cael unrhyw effaith ar ôl hynny. Fodd bynnag, mae un mewnosodiad mewn Deddf flaenorol y credwn y dylai ddod o fewn cwmpas yr adolygiad deddfwriaethol, ac rydym ni wedi ymateb i'r pwyllgor i'r perwyl hwnnw. Felly, mae'n ffaith syml iawn, unwaith y byddwn ni wedi newid enwau'r prosesau ac wedi rhoi hynny ar waith, mae ei waith wedi ei wneud. Mae adolygiad blynyddol, serch hynny, o ble rydym ni arni o ran hygyrchedd y gyfraith, ac fe allwn ni wrth gwrs gynnwys unrhyw beth sy'n tarddu o'r Bil hwn yn yr adolygiad blynyddol hwnnw. Ond, ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd wedi gwneud ei waith. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n safbwynt eithaf syml o'r fan honno.

O ran cywiro gwallau mewn offerynnau statudol yn amserol, y credaf a grybwyllwyd gan bawb, bron, nid wyf yn credu mai amseroldeb yw'r unig ffactor y mae angen i ni ei ystyried. Byddwn yn atgoffa'r Aelodau y gellir nodi gwallau ar unrhyw adeg, nid yn unig gan y pwyllgor pan wneir offeryn statudol am y tro cyntaf. Maen nhw'n aml yn cael eu nodi yn nes ymlaen, ac mae gennym ni rywfaint o ymgyfreitha yn mynd rhagddo ar hyn o bryd am wallau mewn offerynnau statudol a ganfuwyd ymhell ar ôl eu gweithredu. Felly, mae ffactorau eraill ar waith yma. Felly, yn hytrach na diwygio'r Bil, rwyf am gymryd camau i unioni'r gwallau eu hunain ac, fel y dywedais yn gynharach, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno offeryn statudol diwygio omnibws cyn toriad yr haf i ymdrin â nifer o wallau y mae angen mynd i'r afael â nhw ar hyn o bryd. Yna fe allwn ni edrych ar effeithiolrwydd hynny. Rwy'n gwybod bod ar y pwyllgor eisiau edrych ar effeithiolrwydd hynny hefyd, ac fe wn i fod y Pwyllgor Busnes am wneud hynny. Ac os yw hynny'n gweithio, yna byddem yn bwriadu trefnu hynny unwaith y flwyddyn, a byddai hynny'n datrys y broblem ddiddymu hefyd, oherwydd fe allem ni wneud Bil omnibws a daclusai'r gyfraith, os mynnwch chi. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn gweithio ac fe hoffwn i argymell hynny'n fawr. Yn wir, cefais sgwrs gyda'r Pwyllgor Busnes dim ond y bore yma, oedd e? Mae fy nyddiau'n rhedeg yn ddi-dor yn un. Rwy'n credu mai'r bore yma oedd hi, lle buom yn trafod gyda'r Pwyllgor Busnes gyfres o bethau mae arnom ni eisiau eu gwneud am wahanol fathau o ddeddfwriaeth a sut i ymdrin â nhw, a dyna oedd un o'r mathau o ddeddfwriaeth dan sylw.

O ran y pwynt sifftio, nid mater i'r Llywodraeth yw hynny, mater i'r Pwyllgor Busnes yw hynny, ond fe hoffwn i ddim ond tynnu sylw'r Aelodau bod modd i unrhyw bwyllgor ar hyn o bryd ystyried is-ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gerbron y Senedd, er mai anaml y gwneir hynny yn ymarferol. Nid wyf yn credu ei fod wedi'i wneud yn y Senedd hon na'r un o'r blaen. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn bod yr Aelodau'n aml iawn yn galw am y weithdrefn gadarnhaol, fel y'i gelwir ar hyn o bryd, mewn Biliau wrth iddyn nhw basio drwy'r pwyllgorau, ond mewn gwirionedd pan drafodir y rheini yma yn y Senedd, dim ond Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sy'n cyfrannu mewn gwirionedd. Felly, rwyf yn credu nad yw pwyllgor a edrychai ar rinweddau gwirioneddol yr offeryn statudol a'i gynnwys yn syniad gwael, ond nid mater i'r Llywodraeth mohono, mater i'r Pwyllgor Busnes yw bwrw ymlaen â hynny.

Fe hoffwn i ddweud, o fy safbwynt i, nad yw'r Llywodraeth yn erbyn diwygio offerynnau statudol o gwbl; mae'n ymwneud â'r broses o wneud hynny a gwneud mewn modd amserol, fel rhan o hynt yr offeryn statudol yn y lle cyntaf. Ac unwaith eto, credaf mai mater i'r Pwyllgor Busnes yw hynny i ddeall sut y gallai'r broses honno ddigwydd. [Torri ar draws.] Ie, wrth gwrs.

18:35

A gaf i ddweud cymaint yr wyf yn croesawu'r sylw yna a'ch cadarnhad yn y fan yna na fyddai'r Llywodraeth yn gwrthwynebu diwygio offerynnau? A fyddai'r Llywodraeth felly yn barod i ddechrau sgwrs ynghylch sut mae hynny'n cael ei wneud? Oherwydd mae'n ddigon posibl y cawn ni gyfle i newid y ffordd rydym ni'n gwneud pethau, yn ystod hynt y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai o fudd i bawb.

Ydw, Alun, rwy'n hapus iawn i gytuno ar hynny. Mae'n un o'r pethau rydym ni wedi ei drafod yn rhan o drafodaeth y Pwyllgor Busnes hefyd. A dim ond i ddweud y byddai'n rhan o'r broses o benderfynu pa bwyllgor ddylai edrych ar offeryn statudol penodol a pha broses y dylai ei dilyn i wneud hynny. Ac yna dim ond i ddweud, nid wyf yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedoch chi am Filiau fframwaith, ni fyddwch yn synnu, ond serch hynny, weithiau mae'n briodol iawn rhoi rhan eithaf mawr o bolisi mewn offeryn statudol oherwydd gallai newid yn gyflym iawn, a does arnoch chi ddim eisiau gorfod diddymu deddfwriaeth sylfaenol yn barhaus. Felly, mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn enghraifft dda iawn o hynny. Mae gan yr offerynnau statudol mawr sy'n cael eu cyflwyno gan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, lawer o bolisi ynddyn nhw, o reidrwydd, oherwydd eu bod yn ymwneud â'r ffordd y gallai cwmnïau wneud cais am gydsyniad isadeiledd, er enghraifft. Ar hyn o bryd, byddent i gyd yn cael eu cyfeirio at Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a phwyllgor pwnc. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gallai'r Pwyllgor Busnes ei ystyried. Ac rwy'n atgoffa'r Aelodau y gall unrhyw bwyllgor alw am edrych ar offeryn statudol, ond nid yw'n cael ei wneud yn rheolaidd. Felly, rwy'n credu bod prosesau eraill y gallem ni fanteisio arnyn nhw ar hyn o bryd heb orfod rhoi rhai ychwanegol ar waith—dim ond eisiau gwneud y pwynt hwnnw oeddwn i.

Ac yna dim ond dau bwynt arall, yn gyflym, roedd arna i eisiau edrych arnyn nhw. O ran y fformat dwy golofn, a grybwyllwyd gan Rhys ab Owen, rydym yn trafod hyn gydag Argraffydd y Brenin. Mae arnom ni eisiau deall beth allai ymchwil ddiweddar ei ddweud wrthym ni am arferion defnyddwyr a beth yw'r dewisiadau ymarferol ar gyfer newid. Yr unig asesiad ffurfiol o'r effaith yr ydym ni wedi gallu ymgymryd ag ef ar hyn o bryd yw cost y cysodi a chostau cynhyrchu'r Bil yn y fformat dwy golofn hwnnw, ond nodir y rhain yn y memorandwm esboniadol i'r Bil a byddwn yn cadw llygad barcud ar hynny. Y syniad yn wir yw sicrhau bod gan ddeddfwriaeth Gymraeg rym cyfartal a'i bod yr un mor hygyrch, i fod yn gwbl glir.

Ac yna ar fater Argraffydd y Brenin, mae'r Llywodraeth o'r farn ein bod yn adlewyrchu'r realiti. Mae hwn yn berson unigol, mewn gwirionedd, ac maen nhw'n gweithredu mewn gwahanol swyddogaethau: maen nhw'n gweithredu fel Argraffydd y Brenin ar gyfer yr Alban, maen nhw'n gweithredu fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Lloegr neu'r DU, ac maen nhw'n gweithredu fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru. Rwy'n derbyn y pwynt roedd Adam yn ei wneud, ond mewn gwirionedd, un person yw e mewn gwirionedd—mae'n un swydd. Felly, rwy'n credu nad ydym ni ond yn adlewyrchu realiti'r sefyllfa. Rwy'n agored i drafodaeth am y ffordd y mae hynny'n edrych, ond rydym ni'n adlewyrchu realiti'r sefyllfa fel y mae hi heddiw. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n cadw at hynny am y tro, ond rwy'n hapus i gymryd rhan mewn sgwrs am hynny. Diolch.

18:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cyfnod Pleidleisio

Ac mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio.

Rwy'n gweld bod gennym ni dŷ llawn, felly wnaf i ddim gofyn a ydych chi am ganu'r gloch. 

Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 4: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025. A galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 4. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Tynnu’n Ôl Ryddhad Elusennol i Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2025: O blaid: 42, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 6: cyllideb derfynol 2025-26. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 1 yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2025-26: O blaid: 29, Yn erbyn: 28, Ymatal: 1

Derbyniwyd y cynnig

Nesaf yw'r bleidlais ar eitem 7: setliad llywodraeth leol 2025-26. Byddwn yn pleidleisio yn gyntaf ar y gwelliant i'r cynnig. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 1 yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2025-26. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 28, Yn erbyn: 29, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 13 yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 7. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2025-26: O blaid: 29, Yn erbyn: 16, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

18:45

Y nesaf yw eitem 8, dadl ar setliad yr heddlu 2025-26. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 yn gyntaf, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 17 yn ymatal, 29 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2025-26. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 29, Ymatal: 17

Gwrthodwyd y gwelliant

A galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, 13 yn ymatal, neb yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2025-26. Cynnig: O blaid: 45, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:46.