Y Cyfarfod Llawn

Plenary

18/02/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Lee Waters.

Ailddefnyddio Deunyddiau o fewn yr Economi Gylchol

1. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gyfer hyrwyddo ailddefnyddio deunyddiau o fewn yr economi gylchol? OQ62372

Diolch. Gan adeiladu ar ein record ailgylchu, rydym ni'n buddsoddi mewn seilwaith i nodi deunyddiau wedi'u hailgylchu o ansawdd uchel. Rydym ni hefyd yn denu buddsoddiad gan gwmnïau i ailbrosesu deunyddiau. Rydym ni'n darparu cymorth i fusnesau eu defnyddio, ac rydym ni'n ysgogi ailddefnydd cynyddol o ddeunyddiau trwy ddiwygiadau fel cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, i greu swyddi ac i ysgogi twf gwyrdd.

Diolch. Wel, o blith y lefelau isaf yn Ewrop i'r ail orau yn y byd, mae Cymru wedi dangos arweinyddiaeth wirioneddol o ran mynd i'r afael â gwastraff, ac ni ddylem ni bocedu hynny; mae'n gyflawniad enfawr. Sicrhawyd y cynnydd enfawr o ran ailgylchu gyda thargedau ar gyfer awdurdodau lleol, a chyda dirwyon am fethu â'u bodloni. Mae gan gynghorau ddyletswydd gyfreithiol i glirio sbwriel a thipio anghyfreithlon ar dir cyhoeddus, ond nid oes unrhyw dargedau cyfreithiol i fynd i'r afael â gwastraff arall ar hyn o bryd. Felly, a yw'r Llywodraeth yn ystyried cosbau llymach i gynyddu gwaith atgyweirio ac ailddefnyddio, neu i sicrhau mannau cyhoeddus glanach? A sut, felly, ydym ni'n defnyddio'r gwastraff yr ydym ni'n ei gael i'w ddefnyddio a'i werthu, oherwydd, wedi'r cyfan, mae'r strategaeth economi gylchol yn ymwneud cymaint â'r economi ag y mae'n ymwneud â'r amgylchedd, a cheir rhai astudiaethau achos cryf o gwmnïau yn creu gwerth gwirioneddol o wastraff? Ond beth yw ein cynllun ar gyfer cynyddu hynny?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rhoddodd bleser mawr i mi yr wythnos diwethaf pan wnes i gyfarfod â holl lysgenhadon yr UE i ddweud wrthyn nhw fod gennym ni'r ail gyfraddau ailgylchu gorau ar y blaned. Dim ond 0.4 y cant y y tu ôl i Awstria ydym ni, ac, fel y dywedais i wrth lysgennad Awstria, 'Rydym ni ar eich cynffon'. A rhan o'r ffordd yr ydym ni'n mynd i gyrraedd yno yw drwy fod yn gwbl o ddifrif am yr economi gylchol ac ysgogi'r perfformiad hwnnw ymhellach. Ac rydych chi'n gwbl gywir—un o'r ffyrdd y gwnaethom ni hyn yw gwneud yn siŵr bod targedau yn cael eu gosod dros gyfnod hir o amser, a bod buddsoddiad yn y seilwaith. A bu gwerth dros £1 biliwn o fuddsoddiad yn y seilwaith hwnnw ers dechrau datganoli.

Ond hoffwn dalu teyrnged heddiw i bobl Cymru, oherwydd maen nhw wedi dod gyda ni ar y daith hon. Ac o gyfnod pan fyddech chi wedi taflu popeth i mewn i un bin, i heddiw, lle'r ydym ni i gyd yn golchi ein caniau ac yn glanhau popeth cyn i ni eu rhoi nhw yn eu biniau, mae'n rhyfeddol y newid diwylliant sydd wedi digwydd yn ein cymdeithas. Allem ni ddim fod wedi gwneud hynny heb y cyhoedd yng Nghymru, ac rwy'n credu y dylem ni dalu teyrnged iddyn nhw. Ac mae'r ffaith y gallwn ni edrych ar greu economi, nawr, mae hynny'n dod yn sgil hynny o ran y ffaith fod ailddefnyddio yn hollbwysig. Ac un o'n hamcanion yw cael pob cyngor i fod â chyfleuster atgyweirio ac ailddefnyddio—ceir darpariaeth yn 80 y cant ohonyn nhw eisoes, ac mae'r gweddill ar eu ffordd.

Prif Weinidog, cefais y pleser ddydd Gwener diwethaf o ymuno â Darren Millar a rhai cydweithwyr eraill yn y Ceidwadwyr Cymreig ar ymweliad ag Enfinium, cyfleuster gwres a phŵer cyfunol yn y gogledd sy'n prosesu hyd at 232,000 tunnell o wastraff gweddilliol bob blwyddyn, gan ei droi'n ynni. Yn hollbwysig, mae adnoddau allweddol fel metelau ac agregau yn cael eu hadfer, gan gefnogi'r diwydiant adeiladu, a chyfrannu drwy hynny at yr economi gylchol. Yn ystod fy ymweliad, clywais am gynlluniau uchelgeisiol Enfinium i osod technoleg dal carbon yn rhan o fuddsoddiad mawr—tua £200 miliwn. A'u nod yw cysylltu Parc Adfer â HyNet, gan alluogi adferiad carbon sydd wedi'i gloi mewn gwastraff na ellir ei ailgylchu. Nawr, byddai hyn nid yn unig yn datgarboneiddio'r gogledd a'r sector gwastraff, ond hefyd yn creu prosiect gwaredu carbon mwyaf Cymru. Prif Weinidog, bydd cyfran o wastraff na ellir ei ailgylchu bob amser ond sy'n dal i allu cyflawni diben cynhyrchiol, fel y dangosir gan Enfinium. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phrosiectau fel hwn, i sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y DU, ac i sicrhau bod Cymru'n cael ei chynnwys yn ehangiad HyNet, fel y gall ein cenedl elwa'n llawn o'r buddsoddiad sylweddol?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod lle ar gyfer gwastraff i ynni yn sicr, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni hefyd gydnabod ein bod ni ar daith yma ac, ar ryw adeg, mae angen i ni wneud yn siŵr bod cyfnod pontio, ac, yn ystod y cyfnod pontio hwnnw, mae swyddogaeth ar gyfer dal carbon yn sicr. Mae'r dechnoleg dal yn weddol newydd, ond rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol nawr, ac mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwneud buddsoddiad enfawr yn y maes hwnnw yn dangos, rwy'n credu, bod hwnnw'n sicr yn llwybr y mae angen i ni fod yn ei ddilyn.

13:35
Tlodi Plant

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dargedau lleihau tlodi plant Llywodraeth Cymru? OQ62370

Mae lleihau tlodi plant yn bwysig iawn i Lywodraeth Lafur Cymru. Dyna pam rŷn ni'n buddsoddi dros £100 miliwn y flwyddyn mewn gofal plant fforddiadwy i blant tair a phedair oed, yn ogystal â £46 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg, a phrydau ysgol am ddim. Mae'r polisïau Llafur Cymru hyn yn allweddol i godi teuluoedd allan o dlodi, a fydd yn helpu i leihau tlodi plant.

Diolch yn fawr am yr ymateb.

Does gen i ddim syniad o gwbl beth yw dyhead Llywodraeth Cymru o ran lleihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi. Os byddaf yn mynd i'r Alban, rwy'n gwybod eu bod nhw eisiau lleihau tlodi plant yno 10 y cant. Os edrychaf i ar Seland Newydd, maen nhw eisiau ei leihau 5 y cant. Ac eto, dyma ni yng Nghymru, ag un o'r lefelau uchaf o blant yn byw mewn tlodi, a does gen i ddim syniad beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran lleihau tlodi plant. Ar y llaw arall, os edrychwn ni ar sefydliadau fel Patriotic Millionaires UK—ac maen nhw'n union yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun—maen nhw'n dweud, 'Codwch drethi er mwyn ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus a helpu'r rhai sy'n byw yn y tlodi gwaethaf', fel ein plant ni ledled y DU. Felly, mae gen i ddau gwestiwn i chi, Prif Weinidog, ac maen nhw'n atebion 'gwnaf' a 'na wnaf'. Y cwestiwn cyntaf yw hwn: a wnewch chi ddweud wrth Keir Starmer i drethu'r mwyaf cyfoethog a chael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn? A chwestiwn i chi—'gwnaf' neu 'na wnaf': a wnewch chi gyflwyno targedau ar leihau tlodi plant? Diolch yn fawr iawn.

Wel, diolch yn fawr iawn. Edrychwch, mae'r penderfyniadau ar drethiant a sut y mae'n cyflwyno'r rheini yn rhywbeth y mae'n rhaid i Keir Starmer ei benderfynu drosto'i hun. Yn amlwg, mae gennym ni yng Nghymru ein cyfle hefyd; rydym ni wedi penderfynu yn y gyllideb arfaethedig hon na fyddwn ni'n trethu'r mwyaf cyfoethog yn ein cyllideb sydd ar ddod, yn rhannol oherwydd nad oes gennym ni gymaint o bobl gyfoethog ag efallai yr hoffem ni yng Nghymru i allu cael mynediad at y math o drethiant a fyddai o gymorth i'n gwasanaethau cyhoeddus. Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur yn y strategaeth tlodi plant bod gennym ni fwriadau eglur iawn yma. Mae gennym ni ddangosyddion cenedlaethol eisoes, a fydd yn ein helpu i fesur ein cynnydd fel cenedl. Disgwylir i'r fframwaith monitro, a fydd yn llywio'r cynnydd nesaf, gael ei gyhoeddi yn 2025.

Diolch Jane, am godi'r mater pwysig hwn. Prif Weinidog, prif nod strategaeth tlodi plant eich Llywodraeth yw sicrhau'r incwm mwyaf posibl i deuluoedd. Sut allwch chi obeithio cyrraedd y targedau hyn pan fo'n ymddangos ein bod ni'n debygol o weld toriadau mawr i swyddi o ganlyniad i gyllideb y DU? Yn ôl y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, mae hyder ymhlith cyflogwyr wedi gostwng, ac maen nhw'n rhybuddio am gynlluniau i dorri recriwtio a chynyddu diswyddiadau. Prif Weinidog, pa asesiadau, os o gwbl, ydych chi wedi eu gwneud o'r effaith y bydd costau cyflogaeth uwch yn ei chael ar dlodi plant yng Nghymru?

Diolch yn fawr iawn. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw y bydd £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol yn dod i Gymru o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth y DU. Dylai hynny ein helpu ni i leddfu peth o'r pwysau yr ydym ni wedi eu gweld ar ôl 14 mlynedd o gyni cyllidol o dan eich Llywodraeth chi. Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod bod pobl ledled Cymru sy'n ei chael hi'n anodd iawn, ac mae'r argyfwng costau byw yn dal i fod yn rhywbeth real iawn, iawn. Yr union ffaith y bu cynnydd o 46 y cant i gost ynni, er enghraifft, ers 2020—. Mae hynny wedi'i gadarnhau'n bendant erbyn hyn, felly mae'n rhaid i bobl ddelio â hynny; nid yw'n mynd i ddiflannu, maen nhw'n gorfod delio â hynny. Yr un peth o ran bwyd—bu cynnydd o 29 y cant i gost bwyd. Ac eto, mae hynny wedi cael ei gadarnhau'n bendant. Felly, hyd yn oed os bydd chwyddiant yn cynyddu rhyw fymryn nawr, maen nhw'n dal i orfod ymdopi â hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom ni fod yn ymwybodol bod y frwydr honno'n parhau, a dyna pam mai'r ffordd orau i ni fynd i'r afael â thlodi plant yw gwneud yn siŵr bod gan bobl gyflogau da a phriodol, ac un o'r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny yw eu helpu nhw gyda gofal plant. Gadewch i ni gael pobl yn ôl i mewn i waith. Gadewch i ni roi'r cyfleoedd hynny iddyn nhw. Rwy'n falch iawn o weld ein bod ni'n buddsoddi £100 miliwn mewn gofal plant, ac rwy'n gwybod bod uchelgeisiau i fynd ymhellach. Mae 30 awr o ofal plant a ariennir yn gwbl hanfodol. Y gwir amdani yw, yng Nghymru, mewn ysgolion cynradd, fod 174,000 o blant ysgol gynradd bellach yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig. Mae hyn yn helpu i dynnu'r pwysau oddi ar y teuluoedd hynny sydd wir yn ei chael hi'n anodd. A'r hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod yn rhaid i chi fod yno o'r cychwyn. Felly, mae £46 miliwn i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg yn mynd i fod yn hanfodol. Blynyddoedd cyntaf bywyd yw'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth i ragolygon plentyn yn ein cymdeithas.

13:40

Mae tlodi plant yn sgandal genedlaethol ac yn argyfwng cenedlaethol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree adroddiad ar dlodi ledled y DU, a disgwylir mai Cymru fydd â'r gyfradd tlodi plant uchaf, â Llywodraeth Lafur yn San Steffan a Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Mae'r Alban wedi cyflwyno targedau statudol i fynd i'r afael â thlodi plant, a nhw yw'r unig wlad yn y DU lle y rhagwelir y bydd tlodi plant yn gostwng. Nid cyd-ddigwyddiad yw hynny; mae'n ganlyniad i dargedau sy'n ysgogi camau gweithredu ac yn sicrhau atebolrwydd. Rydych chi wedi dweud eto y prynhawn yma mai twf economaidd yw'r ateb. Wrth gwrs, mae'n rhan o'r darlun, ond mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dadlau y byddwn ni'n methu â newid y sefyllfa o ran tlodi plant os byddwn ni'n dibynnu ar godi twf economaidd yn unig i hybu cyllid teuluoedd incwm isel. Nid yw economeg diferu i lawr yn gweithio. Ydych chi'n cytuno bod targedau tlodi plant statudol a mwy o bwerau dros les yr Alban wedi caniatáu iddyn nhw gymryd camau ystyrlon ar dlodi plant? A wnewch chi gyflwyno targedau tlodi plant cyfreithiol i Gymru, ac a ydych chi'n gwneud y ddadl i Gymru gael mwy o bwerau dros les?

Diolch yn fawr iawn. Yn sicr, nid ydym ni'n dibynnu ar ehangu'r economi yn unig. Y gwir amdani yw ein bod ni'n arllwys arian i mewn i helpu i leihau tlodi yng Nghymru, sydd, yn amlwg, yn helpu i leihau tlodi plant. Mae'r ffaith bod gennym ni gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, er enghraifft, yn helpu 260,000 o bobl ar incwm isel ac mewn aelwydydd agored i niwed. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r arian y byddai'n rhaid iddyn nhw ddod o hyd iddo fel arall. Mae'n eithaf rhyfeddol mai'r ateb sydd gan Blaid Cymru erioed, wrth gwrs, yw gwario mwy o arian. Maen nhw eisiau cynyddu budd-dal plant, maen nhw eisiau ymestyn prydau ysgol am ddim, a dydyn nhw byth yn dweud wrthym ni sut maen nhw'n mynd i dalu am hynny, ac maen nhw'n bwriadu pleidleisio yn erbyn y gyllideb.

Mae'n gerydd sefydlog i'n gwleidyddiaeth, Llywydd, ein bod ni'n fodlon goddef lefelau mor uchel o dlodi plant, ac rydym ni'n clywed y dagrau crocodeil gan Blaid Geidwadol a lywyddodd dros gynnydd o faint diwydiannol i dlodi plant ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, os ydym ni'n mynd i fynd i'r afael â materion tlodi plant, bod yn rhaid codi'r cap budd-dal dau blentyn. Rydych chi'n gwybod y bydd hynny'n cael effaith ar unwaith. Rydym ni hefyd yn gwybod y byddai'r ddarpariaeth o wasanaethau gan Lywodraeth Cymru yn elwa o fformiwla ariannu deg lle mae cyllid Cymru yn cael ei bennu gan angen ac nid fesul pen o'r boblogaeth yn unig. Os ydym ni'n mynd i weld twf economaidd, yna nid ydym ni'n mynd i weld twf economaidd y tu allan i'r farchnad sengl Ewropeaidd, a gorau po gyntaf y byddwn ni'n ailymuno â honno.

Diolch yn fawr iawn. Mae pryder ynghylch y terfyn dau blentyn, yn amlwg, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi codi'r mater hwn yn bersonol yn nhasglu tlodi plant gweinidogol Llywodraeth y DU. Ac rydych chi'n gwbl gywir—mae gennym ni ddiddordeb mawr hefyd mewn gweld dull seiliedig ar egwyddor o ymdrin â fframweithiau ariannu a chyllidol y DU, a byddai hyn yn golygu disodli fformiwla Barnett gyda system seiliedig ar anghenion gymharol. Mae angen ei wneud. Rydym ni'n cael cam. Byddwn yn parhau i wneud y ddadl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, beth sydd gan y Blaid Lafur, ac yn bwysicach eich Llywodraeth Cymru chi, yn erbyn pobl hŷn?

13:45

Pobl hŷn. Nid wyf i'n credu bod gennym ni unrhyw beth yn erbyn pobl hŷn. A dweud y gwir, rwy'n credu ein bod ni'n rhoi llawer iawn o gymorth i gefnogi pobl hŷn. Felly, er enghraifft, nhw yw'r bobl sy'n gwneud y defnydd mwyaf o'r GIG, ac rydym ni'n arllwys arian i mewn i'r GIG. Maen nhw'n gwneud defnydd enfawr o'r cyfleuster hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohono.

Mae gen i ofn, Prif Weinidog, mai gwell gwneud na dweud, ac mae perfformiad y GIG a gwasanaethau eraill sy'n effeithio ar bobl hŷn yn adrodd stori wahanol iawn. A'r gwir yw bod Llafur yng Nghymru ac yn San Steffan wedi bod yn drychineb lwyr i'n pobl hŷn yng Nghymru. Rydych chi wedi gwrthwynebu Bil i ddiogelu hawliau pobl hŷn yng Nghymru; rydych chi wedi torri addewidion i'r Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth; ac o fewn dyddiau yn unig o ddod i rym ym mis Gorffennaf y llynedd, fe wnaeth y Canghellor Llafur y penderfyniad creulon i ddiddymu taliadau tanwydd gaeaf i 0.5 miliwn o bensiynwyr Cymru. Nawr, Prif Weinidog, nid pobl ar daenlen yn unig yw'r rhain, ein rhieni a'n neiniau a'n teidiau yw'r rhain, ac eto y gaeaf hwn, mae miloedd yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng bwyta neu wres. Rydych chi newydd sôn am y cynnydd o 46 y cant i brisiau ynni, sydd bellach wedi'u cadarnhau'n bendant yn ein system cyflenwi ynni. Ac oherwydd y penderfyniad hwnnw gan y Canghellor, yn ôl eich ffigurau Llafur eich hun, mae miloedd o bobl yn mynd i farw.

Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, pa gamau ydych chi neu unrhyw un o'ch Gweinidogion wedi eu cymryd i wneud yn siŵr bod sylwadau wedi cael eu gwneud? Ydych chi wedi codi'r ffôn? Ydych chi wedi anfon unrhyw negeseuon e-bost? Pa lythyrau ydych chi wedi eu cyfnewid â Llywodraeth y DU i egluro canlyniadau enbyd y penderfyniad creulon hwn ar Gymru a'n pensiynwyr yng Nghymru? Ac os ydych chi wedi cymryd unrhyw gamau, pam na wnewch chi rannu'r wybodaeth honno gyda ni a chyhoeddi unrhyw ohebiaeth?

Wel, diolch yn fawr iawn. Wel, ni, wrth gwrs, oedd y wlad gyntaf i gyflwyno comisiynydd pobl hŷn, gan ddangos bod angen i ni wneud yn siŵr bod llais annibynnol ar eu cyfer, a nawr mae gennym ni hyrwyddwr ym mhob awdurdod lleol, sy'n codi llais ac yn gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl leol a phobl hŷn yn cael eu clywed.

Nawr, roedd y penderfyniadau hynny o ran y lwfans tanwydd gaeaf yn benderfyniadau i Lywodraeth y DU, ond yr hyn sydd gennym ni yw canolfannau clyd, ac rydym ni wedi cyfrannu £1.5 miliwn at y cymorth hwnnw dros y gaeaf hwn, gan wneud yn siŵr bod gan bobl y cyfleuster hwnnw. Rydym ni'n gwario £30 miliwn ar helpu i inswleiddio cartrefi pobl a gosod cyfleusterau a mecanweithiau newydd iddyn nhw wresogi eu cartrefi. Ac, wrth gwrs, mae pobl hŷn hefyd yn elwa o gael tocynnau bws am ddim yng Nghymru, sy'n rhywbeth y mae llawer yn ei gymryd yn ganiataol erbyn hyn. Wel, nid yw'r pethau hyn yn digwydd ar ddamwain, maen nhw'n digwydd oherwydd ei fod yn flaenoriaeth wleidyddol i'n Llywodraeth.

Nid yw tocyn bws am ddim yn mynd i dalu biliau ynni cannoedd ar filoedd o bobl hŷn ledled Cymru. Rydych chi'n ceisio trosglwyddo'r bai bob amser i Lywodraeth y DU. Y gwir amdani yw bod eich cymheiriaid Llafur yn yr Alban wedi bod yn ddigon dewr i wrthwynebu Llywodraeth Lafur y DU. Fe wnaethon nhw gondemnio'r penderfyniad i gael gwared ar yr achubiaeth hon i'n pensiynwyr, ond beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud? Wel, fe wnaethoch chi golli eich dewrder. Rydych chi wedi gwneud dim byd o gwbl. Dydych chi ddim wedi condemnio penderfyniad Llywodraeth y DU o gwbl.

Nawr, gadewch i mi roi syniad i chi am rywbeth y gallech chi ei wneud i ddatrys y sefyllfa hon, i adfer eich sefyllfa, rhywbeth yr ydym ni Geidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw amdano ers cryn amser. Rydym eisiau eich gweld chi'n sefydlu lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru. Byddai'n costio tua £100 miliwn y flwyddyn, ac mae gennych chi'r arian hwn ar gael i chi a gallech ei wneud ar gael drwy'r weithred syml o wrthdroi eich penderfyniad i barhau i gynyddu costau gweinyddu canolog Llywodraeth Cymru ei hun, a fydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf £117 miliwn yn uwch nag yr oedden nhw ddwy flynedd yn ôl—£117 miliwn sy'n cael ei wario ar fiwrocratiaid. Nawr, gwn lle byddai'n well gan bensiynwyr weld yr arian hwnnw yn cael ei fuddsoddi; byddai'n well ganddyn nhw ei weld yn cael ei fuddsoddi i'w helpu gyda'u biliau ynni. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, a wnewch chi sefyll dros Gymru o'r diwedd ac a wnewch chi dderbyn ein cynnig i fuddsoddi mewn lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru i ddiogelu ein pensiynwyr agored i niwed?

Edrychwch, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni’n canolbwyntio ar y pethau lle mae gennym ni gyfrifoldeb, a dyna fyddwn ni'n parhau i'w wneud. Rydym ni'n canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i'r bobl ar ein strydoedd, y materion bara menyn hynny y gwnaethon nhw ddweud wrthyf i amdanyn nhw ar ddechrau fy nghyfnod fel Prif Weinidog. Ac roedd y GIG ar frig y rhestr honno, a dyna pam rydym ni'n rhoi mwy o arian i'r GIG, gan leihau'r rhestrau aros hynny, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n ymateb, yn bennaf i bobl hŷn sy'n gwneud defnydd gwych o'r GIG yn ein cymunedau. Gadewch i mi fod yn glir, rydych chi'n eithaf hapus i ddweud, 'Gwariwch ef yma'; dydych chi byth yn dweud wrthym ni o ble y dylem ni ei dorri. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i bobl gydnabod bod £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol yn dod i mewn i Gymru, a bydd pobl Cymru yn nodi eich bod yn bwriadu pleidleisio yn ei erbyn. Nid pleidlais dros Gymru yw honno, pleidlais yn erbyn y bobl yr ydych chi'n eu cynrychioli yw honno.

13:50

Diolch, Llywydd. Mae sector addysg uwch hyfyw yn allweddol i ddyfodol Cymru, ond ar hyn o bryd dydy o ddim yn gynaliadwy. Fe welsom ni hynny yng ngyhoeddiad Prifysgol Caerdydd: 400 o swyddi dan fygythiad. Heddiw dŷn ni'n clywed am y bwriad i dorri swyddi a chau cyrsiau ym Mhrifysgol De Cymru.

Y bore yma dŷn ni wedi cael cyhoeddiad am becyn newydd o arian cyfalaf i brifysgolion Cymru, a tra dwi yn croesawu hynny, nid dyna'r broblem dŷn ni'n ei hwynebu go iawn. Dydy o ddim yn mynd i'r afael â phroblemau cyllido dydd i ddydd ein sefydliadau ni. Mae'r cyhoeddiad hefyd yn cyfeirio at fewnbwn Llywodraeth Cymru i adolygiad Whitehall o addysg uwch. Eto, mae hynny'n hollol iawn ynddo fo ei hun, ond mae angen adolygiad o'r penderfyniadau dŷn ni'n gallu eu cymryd yng Nghymru. Dwi'n meddwl bod yna le i ni gyd ddod at ein gilydd i ddelifro hynny.

Yr wythnos diwethaf fe ysgrifennon ni at y Gweinidog addysg uwch yn gofyn iddi gefnogi adolygiad trawsbleidiol. Drwy gytuno ar y cylch gorchwyl efo'n gilydd, drwy gydweithio efo'r sector, mi allwn ni edrych ar y cyd ar sut mae ariannu'n gweithio ar hyn o bryd, cefnogaeth myfyrwyr ac ystyried model cyllido newydd. A gaf i felly wahodd y Prif Weinidog i dderbyn y gwahoddiad yna o gydweithio a dechrau trafodaethau trawsbleidiol er mwyn rhoi adolygiad ar waith?

Diolch yn fawr iawn. Mae'n drueni, oherwydd mewn gwirionedd gallem ni fod wedi parhau â'n trafodaethau pe baem ni wedi bod mewn cytundeb partneriaeth, ond fe wnaethom ni nodi eich bod chi wedi cerdded i ffwrdd o hwnnw. Felly, byddwn, wrth gwrs, yn nodi bod y prifysgolion—[Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi gerdded i ffwrdd o hwnnw. Mae cyfleoedd i ni ymgysylltu. Ac, wrth gwrs, gwrandewch: rydym ni bob amser yn hapus i wrando ar syniadau pobl eraill. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod ein prifysgolion yn elfen allweddol o ran ysgogi twf economaidd a chefnogi ymchwil ac arloesi, ond bu'n rhaid iddyn nhw wneud dewisiadau poenus iawn i wneud yn siŵr bod y sefydliadau hynny ar sail ariannol fwy cadarn. Mae'n hanfodol eu bod nhw'n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol pan fyddan nhw'n gwneud y penderfyniadau hynny.

Nawr, mae'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Gweinidog sy'n gyfrifol wedi gwahodd yr holl is-gangellorion i gyfarfod bwrdd crwn ddechrau mis Mawrth, a byddaf yn ymuno â nhw ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Rydym ni wedi gwneud llawer i gynorthwyo'r sector, ac rwy'n falch iawn eich bod chi wedi croesawu'r £18.5 miliwn hwnnw o gyllid cyfalaf eleni i gynorthwyo ymdrechion i leihau costau gweithredu. Rwy'n credu y bydd hynny, gobeithio, yn dod â rhywfaint o ryddhad i'r sector.

Allai wir ddim helpu ei hun, oni allai? Gallwn atgoffa'r Prif Weinidog sut y cerddodd y Blaid Lafur yng Nghymru i ffwrdd o adolygiad o'r dreth gyngor a fyddai'n helpu'r aelwydydd tlotaf yng Nghymru. Mae angen i ni feddwl yn wahanol am sut rydym ni'n defnyddio arian cyhoeddus yng Nghymru, gan sicrhau mwy o werth am ein harian. Mae iechyd yr un fath yn hynny o beth. Pan ddechreuodd y Prif Weinidog yn ei swydd, dywedodd mai ei blaenoriaeth uniongyrchol oedd lleihau rhestrau aros y GIG, ond ers etholiad Senedd Cymru 2021, mae Gweinidogion iechyd Cymru wedi buddsoddi £1.5 biliwn gyda'r nod datganedig o leihau rhestrau aros, ac maen nhw wedi methu. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae nifer y llwybrau cleifion wedi cynyddu 200,000. Nawr, mae'r Prif Weinidog yn dweud wrthym ni heddiw ei bod hi'n arllwys arian ar hyd y lle. Os yw'r Prif Weinidog yn credu bod y cyfan yn ymwneud ag arian, pa asesiad y mae hi wedi ei wneud o ba mor fawr fydd y bil i Gymru cyn iddi gyflawni ei haddewid o'r diwedd?

Diolch yn fawr iawn. Byddwch yn gwybod bod ôl-groniad enfawr o ganlyniad i'r pandemig, ac rwy'n credu bod pobl Cymru eisiau i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n buddsoddi'r arian hwnnw. Nawr, rwy'n credu bod cwestiynau ynghylch a ydym ni'n cael yr effeithlonrwydd gorau o'r system. Rwy'n credu ein bod ni'n cyflogi mwy o bobl yn y GIG nag yr ydym ni erioed wedi eu cyflogi o'r blaen. Nid ydym yn gweld yn union y mathau o ganlyniadau y credwn y dylem ni fod yn eu gweld am y buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn, ac felly mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr wyf i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd iechyd yn edrych arno, ac mae'r £50 miliwn o gyllid ychwanegol sydd wedi mynd i mewn yn dechrau gweithio ei hun drwy'r system. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y byddwn ni'n gweld gwahaniaeth ynddo yn ystod yr wythnosau nesaf.

13:55

Yr hyn na all y Prif Weinidog gyfaddef yw mai Llafur sy'n gwbl gyfrifol am gyflwr ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a'r hyn yr wyf i'n ofni yr ydym ni'n ei weld yw diffyg cynllun i ddilyn y punnoedd, y buddsoddiad cynyddol pan fyddwn ni'n ei weld. Wrth gwrs bod angen i ni weld buddsoddiad yn y GIG, mae hynny'n bwysig, mae'n hanfodol, ond mae angen i gleifion a staff weld y buddsoddiad hwnnw yn sicrhau canlyniadau.

Nawr, i ddeintyddion sy'n lleisio eu barn heddiw, gwneud yn siŵr bod gennym ni ddeintyddion GIG ymhen dwy flynedd sy'n bwysig. Dyna pa mor ddifrifol maen nhw'n credu yw'r diffyg cynllun gan Lywodraeth Cymru. Mae cynllun Plaid Cymru yn cynnwys contractau newydd. Mae'n cynnwys strategaeth ynghylch recriwtio a chadw. Felly, beth yw newid dull y Prif Weinidog i atal rhagfynegiadau Cymdeithas Ddeintyddol Prydain rhag dod yn wir ac i osgoi mwy o bobl yn gorfod tynnu eu dannedd eu hunain allan?

Diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, rwy'n credu ei bod hi'n werth nodi bod deintyddion wedi cael cynnydd o 6 y cant eleni, a oedd yn gynnydd sylweddol, ac yn sylweddol fwy na'r hyn a dalwyd yn Lloegr. A'r hyn yr ydym ni wedi ei weld, yn y contract sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, yw bod tua un rhan o chwech o boblogaeth Cymru wedi gweld deintydd o ganlyniad i'r newidiadau hynny. Nid yw hynny'n nifer dibwys, ac mae'n rhywbeth y mae Lloegr yn edrych arno ac yn dweud, 'Fe gymerwn ni dipyn o hynna, os gwelwch yn dda.' Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cydnabod ein bod ni wedi treulio 13 mis yn gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i lunio contract newydd, a bydd y contract hwnnw yn destun ymgynghoriad yn fuan iawn.

Seilwaith Trawsyrru Ynni o dan y Ddaear

3. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r defnydd o dechnolegau newydd sy'n dod i'r amlwg sy’n cefnogi gosod seilwaith trawsyrru ynni o dan y ddaear? OQ62371

Yng Nghymru, byddwn yn penderfynu a yw unrhyw gynnig penodol yn dderbyniol drwy ystyried ei effaith a sut mae cynigion yn cymryd ein polisïau a gofynion pobl yng Nghymru i ystyriaeth, a byddwn yn annog datblygwyr i archwilio'r holl opsiynau ymarferol.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae Green GEN Cymru yn cynnig adeiladu is-orsaf a llwybr peilonau ynni 132 kV uwchben ar draws rhan fawr o ogledd Powys. Nawr, pe bai'r llwybr peilonau hwn yn cael ei adeiladu, byddai hon yn effaith weledol annerbyniol ar draws ardal o harddwch mor naturiol. Rydych chi a'ch cydweithwyr wedi ymateb yn aml i mi y byddai tanddaearu yn eithriadol o ddrud, ac y byddai, mewn llawer o achosion, yn gwneud prosiectau yn anhyfyw. Nawr, mewn rhannau eraill o Ewrop, mae tanddaearu yn arfer cyffredin erbyn hyn. Yn yr Almaen mae'r Llywodraeth yn gwneud tanddaearu yn orfodol, maen nhw'n cyfrannu cyllid, ynghyd â disgwyl i weithredwyr trawsyrru gyfrannu. Yn yr Iseldiroedd, mae'r Llywodraeth, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, yn gwneud tanddaearu llinellau trawsyrru pŵer o dan 220 cilofolt yn ofynnol. Eto, 132 kV yw cynnig Powys. A gaf i ofyn: ai dyma'r materion yr ydych chi'n eu trafod gyda'ch cydweithwyr yn Llywodraeth y DU a chyd-Aelodau Llywodraeth Cymru yma? Ac os gall Llywodraethau Ewropeaidd eraill orfodi tanddaearu ceblau trawsyrru trydan a darparu cyllid i wneud hynny, pam na allwch chi?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod ei bod yn debygol y bydd cynnydd enfawr o ran galw am drydan erbyn 2050—bron i deirgwaith yr hyn yr ydym ni'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd—ac felly bydd diweddaru system grid Cymru yn hanfodol. Bydd yn bwysig i'r bobl yn eich etholaeth na fyddant, yn syml, yn gallu symud o gwmpas, a bod yn onest, mewn cerbydau trydan oni bai fod gennym ni system ynni sy'n addas at y diben yn yr hirdymor. Felly, bydd angen buddsoddiad enfawr ar gyfer yr uwchraddio hwnnw, ac mae rhywfaint o'r gost honno yn debygol o ddisgyn ar ddefnyddwyr ynni. A'r hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd gyda chost ynni yn barod. Felly, mae'n rhaid i ni gydbwyso pethau yma. Mae'n golygu cydbwysedd. Mae'n golygu gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud y buddsoddiadau hynny a gwneud yn siŵr y gallwn ni gadw costau mor isel â phosibl. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw mae gennym ni'r grŵp cynghori annibynnol, sy'n edrych ar dechnolegau newydd, ac maen nhw'n cytuno ar egwyddorion ar gyfer yr atebion mwyaf priodol i Gymru. Rwy'n credu y byddai'n rhy gynnar i wneud penderfyniadau am newidiadau i bolisi cyn i'r grŵp cynghori hwnnw adrodd yn ôl.

Mae'r polisi presennol yn dweud, onid yw, Prif Weinidog, bod Llywodraeth Cymru eisiau tanddaearu, oni bai y byddai hynny'n golygu na fyddai prosiect sy'n dderbyniol fel arall yn hyfyw? Ydych chi'n derbyn mai un o'r problemau ar hyn o bryd yw bod y prawf hyfywedd fwy neu lai yn cael ei ystyried ar sail penderfyniad y datblygwr yn unig? Nid oes unrhyw fformiwla benodol na phroses annibynnol o wirio pan fydd y datblygwr yn dweud ei fod yn anhyfyw. Felly, ydych chi'n edrych, Prif Weinidog, ar newid y polisi cynllunio fel bod dull safonol o asesu hyfywedd, nad ydym ni'n dibynnu ar y datblygwr yn unig, sydd â buddiant breintiedig, i ddweud ei fod yn anhyfyw, a bod proses annibynnol o ddilysu fel bod gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru arbenigedd â chymwysterau priodol, felly nad ydym yn ei dderbyn heb gwestiynu pan fydd Green GEN neu ddatblygwr arall yn dweud, 'Allwn ni ddim tanddaearu'?

14:00

Diolch. Rwy'n credu bod y grŵp cynghori annibynnol hwn, rydym ni'n gobeithio, yn mynd i gytuno ar rai o'r egwyddorion ar gyfer yr atebion mwyaf priodol i Gymru, a byddan nhw'n creu sylfaen dystiolaeth gyhoeddus i gefnogi'r egwyddorion hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gael y cydbwysedd ar hyn yn iawn, oherwydd rwy'n credu na allwn ni anwybyddu materion tlodi tanwydd yn y ddadl hon hefyd.

Economi'r Stryd Fawr

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi'r stryd fawr yng Nghymru? OQ62368

Rydym ni'n cydnabod bod ein strydoedd mawr yn hanfodol i economi Cymru ac rydym ni'n defnyddio nifer o ysgogiadau i sicrhau y gallan nhw ffynnu. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn canol trefi, rhyddhad ardrethi annomestig, cymorth drwy Busnes Cymru, a rhoi ein cynllun gweithredu ar fanwerthu ar waith.

Hoffwn godi pryderon ynghylch marwolaeth raddol y stryd fawr yng Nghymru a pha mor ddifrifol yw'r pryder hwn ymhlith cymunedau lleol, a sut nad yw'n cael y sylw y mae'n ei haeddu gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi codi'r mater hwn o'r blaen yn y Siambr, ond mae etholwyr yn rhannu eu pryderon â mi fod stryd mawr a oedd mor fywiog ar un adeg yn troi'n gysgod o'r hyn yr oedden nhw. Mae amrywiaeth ein strydoedd mawr yn siomedig. Mae llawer o siopau annibynnol â degawdau o wasanaeth i'r gymuned yn cau, yn anffodus, ac rydym ni'n gweld mwy a mwy o eiddo masnachol gwag ac ymlediad o'r math o fusnesau y mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn tynnu sylw atyn nhw fel rhai sy'n cael eu cysylltu'n fwyfwy aml â throseddu cyfundrefnol: siopau barbwr arian yn unig, siopau fêps a siopau bwyd sothach, â llawer o'r un mathau o fusnesau yn gweithredu yn yr un lleoliad, a rhai sy'n pardduo gwaith caled ac enw da'r masnachwyr cyfreithlon yn y meysydd heb eu rheoleiddio hyn.

Mae cau amrywiaeth eang o fusnesau hirsefydlog yn symptomatig o economi leol wael, ac wrth gwrs, mae yna newidiadau economaidd a thechnolegol byd-eang sydd wedi ysgogi'r newid hwn. Ond mae'r ddwy Lywodraeth Lafur ar y naill ochr i'r M4, mae gen i ofn, wedi gadael busnesau bach ar y clwt. Felly, a all y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gydnabod bod ein strydoedd mawr yn rhai o'r rhai mwyaf dan warchae yn y Deyrnas Unedig, a beth maen nhw'n mynd i'w wneud i wrthdroi'r dirywiad hwn?

Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hir iawn yna. Roedd cyflwr ein strydoedd mawr yn sicr yn rhywbeth a godwyd ar fy nhaith wrando. Felly, rydym ni'n cymryd hyn o ddifrif. Ac rwy'n credu bod hunaniaeth ardal a'i balchder wedi'i seilio ar ei stryd fawr leol, ac yn sicr mae'r Llywodraeth Lafur hon yn eu cefnogi nhw i ffynnu.

Rwy'n mynd i roi enghraifft i chi o'ch etholaeth eich hun. Mae gennym ni'r cyllid Trawsnewid Trefi hwn, nad yw'n swm dibwys o arian. Dim ond yng nghanol tref y Rhyl, rydym ni wedi gwario £20 miliwn. Nid yw hwnnw'n swm bach o arian, ac mae hynny ar wella ac addasu—[Torri ar draws.] Gwrandewch, fe wnaethoch chi siarad am amser hir; os nad oes ots gennych chi, fe wnaf i orffen. Rydym ni'n gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i ddatblygu ymhellach cynllun creu lleoedd ar gyfer y Rhyl, ac mae gennym ni safle Marchnad y Frenhines hefyd—prosiect gwerth £13.2 miliwn—ac mae hwnnw'n cael ei gynorthwyo gan grant Trawsnewid Trefi gwerth £6.3 miliwn. Felly, rydych chi'n dweud nad ydym ni'n gwneud unrhyw beth. Mae hynny'n gryn dipyn o arian yn eich un—yn eich un—tref. Rydym ni'n gwneud llawer o hyn ar draws Cymru gyfan.

Diolch yn fawr. Does dim ond rhaid i chi ymweld â stryd fawr Bangor i weld sut mae rhai o'n canolfannau siopa wedi dirywio dros amser, er gwaethaf yr ymdrechion mawr i wella'r sefyllfa, yn cynnwys cynllun ar gyfer canolfan iechyd a llesiant yn yr hen Debenhams.

Dwi'n troi at agwedd arall. Fe glywodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd y gallai troi gofodau gwag ar ein stryd fawr yn gartrefi helpu i leddfu'r argyfwng tai, gan hefyd helpu i ddod â bywyd newydd i'r stryd fawr. Ond mi ddaru i'r pwyllgor glywed hefyd fod cymdeithas tenantiaid Cymru, TPAS Cymru, yn dadlau bod angen bod yn fwy hyblyg o ran y meini prawf sydd angen eu cyrraedd wrth ailbwrpasu eiddo gwag yn gartrefi cymdeithasol parhaol. Felly, a fedrwch chi ymrwymo bod eich Llywodraeth chi yn gweithio efo TPAS Cymru ac eraill i’w gwneud hi’n haws i droi siopau ac adeiladau gwag yn gartrefi cymdeithasol, cartrefi y mae mawr eu hangen?

14:05

Diolch yn fawr. Yn sicr, pan wnes i fynd i siarad â phobl ar stryd fawr Bangor, roedden nhw yn awyddus iawn i weld beth gallwn ni ei wneud, a dwi'n falch o weld bod y project yna yn Debenhams i greu canolfan iechyd a llesiant yn mynd i agor, ac mae hynny'n bwysig, dwi'n meddwl, o ran dod â phobl mewn i ganol y ddinas. Dwi'n gwybod bod yr un peth yn mynd i ddigwydd yn ardal Caerfyrddin hefyd. Felly mae hwnna, dwi'n meddwl, yn dangos y math o waith rŷn ni'n ei wneud ar y cyd â'r cynghorau lleol. Mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd y cyfle i edrych ar beth gallwn ni ei wneud yng nghanol ein strydoedd mawr, ac mae yna enghreifftiau o ble mae newid siopau mewn i dai yn gweithio'n arbennig o dda. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni hefyd gydnabod bod newid pethau ambell waith yn fwy drud, ac felly mae’n rhaid inni sicrhau bod y balans yn iawn o ran gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y mwyaf o’r arian sydd gyda ni.

Mae llawer o'n strydoedd mawr yn dibynnu ar fod yn ganolfannau trafnidiaeth gyhoeddus, ac, y llynedd, gweithiais gyda thrigolion, Arriva, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Dinbych i sicrhau bod gwasanaeth yn cael ei ailgyflwyno i bentref Llandegla. Mae Arriva newydd gynyddu mynychder bws Rhif 11, sy'n teithio o'r Rhyl drwy sir Ddinbych a sir y Fflint, ac maen nhw eisiau gwella prydlondeb ac maen nhw'n awyddus iawn i dyfu'r rhwydwaith a'r niferoedd sy'n ei ddefnyddio. Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud bod teithwyr rheilffordd wedi cynyddu 25 y cant, felly hoffwn ofyn: sut wnaiff Llywodraeth Cymru helpu i hyrwyddo trafnidiaeth bysiau cyhoeddus hefyd, sy'n cyflogi llawer o weithwyr ar draws y gogledd, fel achubiaeth sy'n cysylltu pobl â chanol trefi? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Carolyn, a diolch am eich holl waith ar ymdrechion i ddod â'r gwasanaeth, y gwasanaeth ychwanegol hwnnw, i Landegla. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod y ddibyniaeth enfawr sydd gan lawer o bobl yn ein cymunedau ar fysiau. Rydym ni'n tueddu i ganolbwyntio cryn dipyn ar drenau; mewn gwirionedd, mae llawer mwy o bobl yn defnyddio ein bysiau. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n sefyll yn gadarn a chyda nhw, ac rwy'n credu y bydd yr ail-reoleiddio hwn o'n gwasanaethau bysiau a'r Bil a fydd yn mynd drwy'r Siambr hon yn fuan yn gyfle gwirioneddol i ni ailfeddwl sut rydym ni'n blaenoriaethu gwasanaethau bysiau yn ein cymunedau, ac mae'n dda iawn gweld y bu cynnydd o 25 y cant eisoes yn eich ardal benodol chi. Diolch.

Deallusrwydd Artiffisial yn y Sector Cyhoeddus

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru? OQ62328

Mae deallusrwydd artiffisial eisoes yn cael ei ddefnyddio gan sawl rhan o'r sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl Cymru. Mae angen i sefydliadau sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial wneud hynny'n foesegol, yn gynhwysol ac yn ddiogel i liniaru unrhyw risgiau posibl i'r gweithlu, i hawliau dynol ac i gymdeithas.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Hoffwn ofyn am gynhyrchiant ac effeithlonrwydd, sy'n bwysig i wasanaethau cyhoeddus Cymru wella perfformiad a lleihau costau. Rydym ni'n gwybod bod gan wasanaeth iechyd Cymru hanes gwael o ran defnyddio technoleg. Naill ai nid yw pethau fel cofnodion meddygol cyfrifiadurol, presgripsiynau awtomatig ac apwyntiadau awtomatig yn bodoli neu maen nhw'n bodoli mewn ychydig o leoedd yn unig. Mae gennym ni gyfle nawr i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Nododd adroddiad gan yr Academi Feddygaeth Genedlaethol dair mantais bosibl o ddeallusrwydd artiffisial ym maes gofal iechyd: gwella canlyniadau i gleifion a thimau clinigol, gostwng costau gofal iechyd a bod o fudd i iechyd. O sgrinio ataliol i ddiagnosis a thriniaeth, mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio ar draws y rhan fwyaf o'r byd. A all y Prif Weinidog ymrwymo i'w ddefnyddio yng Nghymru?

Wel, diolch yn fawr iawn, a gallaf eich sicrhau ein bod ni eisoes yn ei ddefnyddio. Fe'i gwelais flwyddyn neu ddwy yn ôl, hyd yn oed, yn cael ei ddefnyddio yn Betsi Cadwaladr ar gyfer sganio pobl a oedd ag amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys canser y prostad a'r fron. Mae'n gwbl, gwbl ryfeddol sut mae'r system, wedyn, yn cael ei chyflymu a'i gwneud yn fwy cywir, ac mae hynny i gyd yn drawsnewidiol, wedyn, yn amlwg, i'r claf, sef yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gymryd o ddifrif y cyfleoedd o ran defnydd diogel a moesegol o ddeallusrwydd artiffisial, ac roeddwn i'n falch iawn bod y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi nodi yr wythnos diwethaf ein dyheadau i Gymru fod ar flaen y gad o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ddiogel ac yn foesegol, ac mae hynny'n cynnwys buddsoddiadau mewn seilwaith data a sgiliau.

14:10

Nid yn unig y mae gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i weddnewid ein cymdeithas a'n bywydau, mae eisoes yn gwneud hynny, pa un a ydym ni'n hoffi hynny ai peidio. Ond, er mwyn sicrhau ei fod yn gwella ein bywydau er gwell, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd deallusrwydd artiffisial, yn enwedig yn y sector cyhoeddus ac yn ein GIG. Y llynedd, cododd Sam Rowlands, fy nghyd-Aelod, gyda'ch rhagflaenydd—gyda'ch rhagflaenydd uniongyrchol, dylwn ddweud—achos Ysbyty Llygaid Moorfields a Choleg Prifysgol Llundain yn cydweithio i nodi clefydau llygaid sy'n bygwth golwg a chyflyrau iechyd eraill fel trawiadau ar y galon a strociau, a defnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud hynny yn y gwasanaeth iechyd. Nawr, mae'r system honno wedi cael ei gwneud yn ffynhonnell agored; mae ar gael yn rhydd. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru, ers i Sam Rowlands wneud y galwadau hynny, wedi defnyddio'r darn penodol hwnnw o dechnoleg, felly tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y gwaith yn y maes hwnnw i wneud yn siŵr bod deallusrwydd artiffisial yn gweithio yn ein gwasanaeth iechyd.

Diolch yn fawr iawn, ac rydym ni'n ymwybodol iawn o'r dechnoleg arloesol honno sy'n cael ei defnyddio. A dweud y gwir, fe es i i gael prawf llygaid ychydig wythnosau yn ôl, ac roedden nhw'n defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn siop, felly nid yw hyn yn rhywbeth sy'n anarferol heddiw. Mae'n rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio eisoes mewn meddygfeydd offthalmoleg.

Prifddinas-ranbarth Caerdydd

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith prifddinas-ranbarth Caerdydd? OQ62357

Gan weithio ar y cyd ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat ac academaidd, yn ogystal ag ar draws pob haen o Lywodraeth, mae prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi ymrwymo cyllid o £416 miliwn i brosiectau sy'n cefnogi ymyriadau ar draws pedair thema strategol. Sgiliau a chyflogaeth, arloesedd, cysylltu'r rhanbarth, ac adfywio a seilwaith yw'r rhain.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch wedi gweld, gobeithio, adroddiadau yn ddiweddar am achos llys a ddygwyd gan dan-gynigydd am gontract dymchwel gorsaf bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg. Mae'r atebolrwydd posibl i brifddinas-ranbarth Caerdydd yn fwy na £10 miliwn. Rwy'n rhyfeddu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno datganiad i egluro'r safbwynt ar hyn, o gofio eu bod nhw'n un o ddau brif randdeiliad—Llywodraeth y DU yw'r llall—yn ffrydiau cyllid prifddinas-ranbarth Caerdydd. Allwch chi roi sicrwydd i mi, Prif Weinidog, bod eich Llywodraeth yn gweithio'n weithredol gyda phrifddinas-ranbarth Caerdydd i wneud yn siŵr nad yw hyder yn cael ei golli oherwydd y golled hon o ymddiriedaeth yn y broses dendro, a allai, o bosibl, adael y trethdalwr yn gyfrifol am £10 miliwn a mwy o golledion i'r tan-gynigydd? Ac allwch chi gadarnhau mai dim ond y cynigydd hwn yw'r un sydd wedi dwyn achos yn erbyn prifddinas-ranbarth Caerdydd, ac na fydd unrhyw un o'r cynigwyr eraill yn gwneud hawliad, o ystyried y colledion posibl y mae'r brifddinas-ranbarth yn eu hwynebu?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n siomedig y bu'n rhaid i brifddinas-ranbarth Caerdydd gyfaddef atebolrwydd, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n ymchwilio i'r amgylchiadau a arweiniodd at y sefyllfa hon. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig nodi bod prifddinas-ranbarth Caerdydd yn gweithredu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru yn ei phenderfyniadau buddsoddi. Wrth gwrs, fodd bynnag, byddwn ac rydym yn monitro'r canlyniadau a gyflawnir drwy ei gweithgareddau. Ond mae'r her gaffael yng ngorsaf bŵer Aberddawan, yn amlwg, yn destun achos cyfreithiol byw, felly nid wyf i'n credu y byddai'n briodol i mi wneud sylwadau pellach.

Y Gwasanaeth Iechyd yn Nwyfor Meirionnydd

7. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gryfhau'r gwasanaeth iechyd yn Nwyfor Meirionnydd? OQ62340

Ein nod yw gwasanaethau iechyd sy’n rhoi’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru, gan gynnwys yn y gogledd. Byddwn ni’n dilyn y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau a diweddaraf i ddarparu'r gofal o safon y mae pobl yn ei haeddu.

Diolch am yr ymateb yna, Brif Weinidog. Mi fyddwch chi’n ymwybodol o’r trafferthion ym Mro Dysynni, ardal Tywyn, yn ne Meirionydd. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn i chi am eich ymweliad chi pan oeddech chi’n Ysgrifennydd Cabinet iechyd yn dod i ymweld â’r ysbyty rhyw ddwy flynedd yn ôl, ond ers eich ymweliad chi ddwy flynedd yn ôl, does dim byd wedi newid. Mae adran ward Dyfi yn yr ysbyty yn parhau ar gau ac mae hynny oherwydd diffyg nyrsys yno a methiant y bwrdd iechyd i sicrhau nyrsys newydd; er gwaethaf y rhaglen Kerala a’r ffaith fod yna nyrsys o Kerala wedi dod i Ddolgellau, dydyn ni ddim wedi gweld niferoedd digonol o nyrsys yn Nhywyn. Mae’r adran yn parhau ar gau. Ond mae yna gleifion o Fro Dysynni a Thywyn yn parhau i fod yn ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, mae yna eraill yn ysbyty Dolgellau, felly mae’r galw yn lleol. Mae angen i ni weld gweithredu ar gael mwy o nyrsys yma yng Nghymru, wedi'u hyfforddi yma, ar gyfer ein hysbytai cymunedol. Felly, pa ymrwymiad allwch chi ei roi i fi heddiw ein bod ni'n mynd i weld y nyrsys yna'n cael eu cyflogi yn Nhywyn?

14:15

Diolch yn fawr. Roeddwn i'n ymwybodol iawn bod y ward yna yn Ysbyty Tywyn wedi cau, a bod mwy o welyau ar gael nawr yn Nolgellau, a byddan nhw, gobeithio, yn helpu. Dwi'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn awyddus iawn i ailagor ward Dyfi. Y broblem yw'r recriwtio yna. Dyw e ddim fel eu bod nhw ddim wedi bod yn treial; maen nhw wedi bod yn ymgeisio i gael pobl. Dyna pam dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n recriwtio'n lleol, ac mae'r ffaith bod gennym ni ysgol nyrsio nawr yng Ngheredigion, mae hwnna, gobeithio, yn mynd i helpu, ond wrth gwrs mae'n cymryd sbel iddyn nhw fynd drwy'r system. Hefyd, rydym ni'n recriwtio mewn ardaloedd fel Kerala, a gobeithio bydd hwnna'n ein helpu ni i ddod â phobl hefyd i'n helpu ni yn ein gwasanaethau ni. Ond dyw e ddim yn rhywbeth rhwydd; maen nhw wedi ymgeisio lot i gael pobl i weithio yno ac maen nhw'n awyddus iawn i ailagor y ward yna.

Costau Ynni Domestig

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau costau ynni domestig? OQ62361

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £30 miliwn yn ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth eleni i gefnogi buddsoddiad a chyngor ar gyfer lleihau biliau ynni. Mae Gweinidogion Cymru yn dal i weithio gyda Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan a'r cwmnïau ynni ar gamau i leihau cost ynni i aelwydydd agored i niwed.

Prif Weinidog, mae eich strategaeth chi ynglŷn â gwresogi yng Nghymru yn nodi y bydd y Llywodraeth hon yn cyfyngu ar foeleri nwy, gyda'r nod o gyflwyno gwaharddiad, ac y byddwch chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i gael gwared ar foeleri nwy yn raddol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod pympiau gwres, y dewis amgen yn hytrach na boeleri nwy, yn costio £14,000 i'w gosod a bod eich strategaeth gwres i Gymru ei hun yn nodi bod pympiau gwres 16 y cant yn fwy costus i'w rhedeg na boeleri nwy. Os bydd pympiau gwres yn orfodol yng Nghymru, fe fydd llawer o bobl yn cael eu gwasgu gan gost enfawr arall er mwyn cynhesu eu cartrefi. Mae aelwydydd yn sir Fynwy, er enghraifft, yn talu 40 y cant yn fwy eisoes o ran costau ynni nag yr oedden nhw cyn y pandemig, sy'n gwthio mwy o bobl eto hyd yn oed i dlodi tanwydd, y gwnaethoch chi gydnabod mewn cwestiwn eisoes yn gynharach heddiw.

Prif Weinidog, rydych chi wedi dweud sawl gwaith heddiw bod pobl eisoes yn cael trafferth gyda chostau ynni a bod gwir angen cadw'r costau hynny'n isel. Felly, a wnewch chi ddiystyru'r posibilrwydd y bydd boeleri nwy yn cael eu gwahardd yng Nghymru yn y dyfodol, neu a yw honno'n gost arall y gall perchnogion tai fod yn disgwyl amdani? Diolch.

Edrychwch yma, fy niddordeb pennaf i yw gwneud bywyd yn rhwyddach i bobl a dod o hyd i ffordd pryd nad ydym yn cael ein taflu o gwmpas oherwydd mympwyon un wlad yn ymosod ar wlad arall. Dyna'r rheswm pam mae costau ynni wedi codi cymaint—mae 40 y cant yn swm enfawr ac rydym ni i gyd yn gorfod ymgodymu â hyn. Nid y cyhoedd yn unig, ond mae'n rhaid i wasanaethau cyhoeddus dalu'r gost ychwanegol honno. Felly, nid y datrysiad yw dweud, 'Gadewch i ni barhau i ddefnyddio nwy am ei fod yn rhatach', oherwydd ni wnewch chi ond eich cloi eich hun yn y drefn honno ac fe fydd ein plant ni'n cael eu cloi i mewn yn honno. Ac mae hynny ar wahân i'r ddadl honno ynglŷn â newid hinsawdd.

Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw symud tuag at faes ynni adnewyddadwy. Fe fydd hwnnw'n drawsnewidiad anodd ac mae'n rhaid i ni ganfod ffyrdd o wneud hynny na fyddan nhw'n rhy gostus i bobl. Nawr mae hynny'n anodd. Mae technoleg yn gwella drwy'r amser. Fe glywais i'n ddiweddar mai rhan o'r rheswm pam nad yw'r pympiau gwres yn gweithio cystal ag y dylen nhw yw oherwydd nad yw'r bobl sy'n eu gosod nhw wedi cael hyfforddiant penodol ar gyfer gosod pympiau gwres, ac mewn gwirionedd, plymwyr ydyn nhw sydd wedi ceisio newid ac addasu, ac mae hynny'n bwysig iawn, ond beth allwn ni ei wneud yn y maes hwnnw? A oes cyfleoedd ar gael i ni? Felly, nid wyf i'n ystyried hyn yn broblem, rwy'n gweld hyn yn gyfle i ni ac rwy'n credu ei fod yn gyfle pwysig iawn. Ac rwy'n cydnabod bod y costau yn fawr ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod ychydig yn greadigol o ran sut y byddwn ni'n cael pobl i'w gosod nhw, yn yr wybodaeth y bydd eu biliau nhw'n dod lawr yn yr hirdymor.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni. Mae Jane Hutt yn ateb heddiw ar ran Julie James. Cwestiwn 1, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, ar ba gamau y—

Nid wyf i'n credu y gallech chi fod yn canolbwyntio, Janet Finch-Saunders. Y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yw'r rhain. Rwy'n credu y dylech chi roi eich ffôn o'r neilltu o bryd i'w gilyd. Rwy'n credu y dylwn innau hefyd; nid y chi yw'r unig un— 

14:20

Iawn. Rwyf i o'r farn fod hynny ychydig yn annheg, wir. Gwneud fy ngwaith yr oeddwn i mewn gwirionedd pan—

Janet, os gwelwch chi'n dda, cymerwch chi'r peth gyda chyfran o barch oddi wrthyf i. Rwyf i'n eich parchu chi fel Aelod o'r Senedd, ond os gwelwch chi'n dda, byddwch yn barod i ofyn y cwestiwn a gyflwynwyd i chi ei ofyn yn yr amser hwn. Fe alwais i arnoch chi, ac roeddech chi'n anghywir i gredu ein bod ni'n trafod rhywbeth hollol wahanol. Felly, os gwelwch chi'n dda—.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yw hi nawr. Nawr, gofynnwch eich cwestiwn. Cwestiwn rhif 1 yw eich un chi. Fe fuoch chi'n ffodus iawn i gael eich galw i ofyn cwestiwn Rhif 1. Byddwch yn barod i'w ofyn, os gwelwch yn dda.

Cyflawni Polisïau yn Effeithiol

1. Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cysoni gwahanol flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod polisïau'n cael eu cyflawni'n effeithiol? OQ62339

Member (w)
Jane Hutt 14:20:58
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr iawn, Janet Finch-Saunders. Swyddogaeth y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni yw cynnull gwaith ar draws y Llywodraeth i gefnogi Ysgrifenyddion y Cabinet ar gyfer cyflawni rhaglen Llywodraeth Cymru o ran blaenoriaethau llywodraethu mewn ffordd sy'n gydgysylltiedig ac integredig. Mae'r cyfrifoldeb a'r oruchwyliaeth ar gyfer pob maes yn aros gyda'r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol.

Diolch. Mae gan Lywodraeth Cymru ddau Fil gyda'r nod o amddiffyn a diogelu'r amgylchedd: y Bil egwyddorion amgylcheddol a bioamrywiaeth a'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Mae pob un ohonom ni'n cytuno bod angen i ymgorffori egwyddorion amgylcheddol yng nghyfraith Cymru a chyflwyno nodau i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth. Er hynny, mae'r ddeddfwriaeth hon ynglŷn â newid hinsawdd yn cael ei hystyried erbyn hyn yn rhan o batrwm o gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru a allai arwain at ddibyniaeth gynyddol ar fewnforion o dramor.

Yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'n rhaid i ni fod yn genedl lle mae gwneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn ystyried a allai gwneud y fath beth gyfrannu yn gadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae cau Ffos-y-fran wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar fewnforion glo o dramor. Fe allai'r cynllun ffermio cynaliadwy arwain at ddibyniaeth gynyddol ar fwyd o dramor. Rydym ni'n gwerthfawrogi'r angen i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond sut allwn ni ddweud hynny ar un gwynt a chaniatáu mewnforio nwyddau fel rhain wedyn, gan achosi cynnydd llawer mwy yn ein hôl troed carbon? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Janet Finch-Saunders. Rwy'n gwerthfawrogi yn fawr eich profiad a'ch craffu chi fel aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ac yn llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig. Fe  wnaethoch chi gydnabod pwysigrwydd deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac, yn wir, mae deng mlynedd wedi bod ers llunio'r ddeddfwriaeth bwysig honno. Wrth gwrs, un o brif bwyntiau'r ddeddfwriaeth yw'r ffyrdd o weithio, a ffyrdd o weithio sy'n canolbwyntio ar integreiddio.

Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni newydd fod, yn yr ymateb i'r cwestiwn olaf i'r Prif Weinidog, yn myfyrio yn ddwys ar yr her honno sydd gennym ni o ran sicrhau ein bod ni'n ceisio cael twf gwyrdd a swyddi—blaenoriaeth y Prif Weinidog i raddau mawr iawn—a thwf gwyrdd a swyddi sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd ac adfer natur wrth wneud bywyd yn fwy llewyrchus i deuluoedd. Dyna'r her, o ran trawsnewid, unwaith eto, o ran ein ffynonellau o danwydd, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i feithrin economi Cymru. Felly, yn hollbwysig, mae'r llesiant hwnnw i genedlaethau'r dyfodol i'n helpu ni wrth symud ymlaen i sicrhau y gallwn ni weld y twf gwyrdd a'r trawsnewid hwnnw, a chydnabyddiaeth o'r effaith. 

Taliadau Tanwydd y Gaeaf

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i liniaru effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf? OQ62329

Rwyf i o'r farn fod hwn yn gwestiwn pwysig; diolch yn fawr iawn i chi, Delyth Jewell. Cafodd taliad tanwydd y gaeaf ei ddatganoli i Ogledd Iwerddon, ac fe fydd hynny'n digwydd yn yr Alban o 2025, ond ni chafodd ei ddatganoli i Gymru, ac felly nid ydym ni'n gallu deddfu ar gyfer cynllun i roi taliad tanwydd gaeaf cyfatebol. Ond rydym ni'n dal i ddefnyddio ein pwerau ni i ariannu ein taleb tanwydd, a'n cynlluniau dewisol a Chartrefi Clyd Nyth.

Cafwyd rali yn ddiweddar ar risiau'r Senedd ynglŷn â'r mater hwn. Fe fydd penderfyniad San Steffan i gwtogi lwfans tanwydd y gaeaf yn arwain at galedi a thrallod i filoedd o bensiynwyr ledled Cymru, a'r hyn sy'n ei gwneud hi'n fwy creulon yw mai dewis gwleidyddol yw gwneud y toriad hwn, dewis a gafodd ei wneud gan Lywodraeth y DU sydd ag obsesiwn o ran y syniad am dwf fel cysyniad haniaethol, er ei bod hi'n ymddangos yn anystyriol ac yn ddi-hid o'r sefyllfa wirioneddol oherwydd tlodi ym mywydau pobl.

Fel roeddech chi'n dweud, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi gallu lliniaru ergyd y toriad hwn. Mae ganddyn nhw bwerau yn y maes hwn a all naill ai adfer y lwfans tanwydd gaeaf neu wneud taliadau untro. Fe hoffwn i wybod, os gwelwch chi'n dda, beth fyddai'r sefyllfa gyfreithiol i ni yng Nghymru o ran pa bwerau pellach y gallai Llywodraeth Cymru alw arnyn nhw a fyddai'n ein galluogi ni i ysgafnu'r baich hwn a roddir ar bensiynwyr, oherwydd fel mynegodd Unite yng Nghymru, fe fydd methiant i weithredu yn aros yn y cof am amser maith ac yn annhebygol o gael maddeuant.

14:25

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae'n un pwysig ac rydym ni wedi myfyrio arno eisoes y prynhawn yma gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog. I egluro unwaith eto—fe wnes i hynny yn rhinwedd fy swydd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol—nid oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i ddeddfu ar gyfer unrhyw fath o gynllun taliadau tanwydd gaeaf. Fe allwch chi wirio hynny yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Cedwir cynlluniau nawdd cymdeithasol a gefnogir gan arian cyhoeddus yn ôl a mater ydyw hwn i Senedd y DU. Mae hynny'n dod o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Ond fe allwn ni ddarparu cynlluniau anstatudol, ar yr amod bod hynny'n rhywbeth ar gyfer argyfwng penodol, a dyna yn union a wnaethom ni gyda'r argyfwng costau byw wedi'r pandemig. Felly, roedd hwnnw'n rhywbeth yr oeddem ni'n gallu ei wneud fel un untro bryd hynny, os hoffech chi, o ganlyniad i'r pwysau neilltuol hwnnw o oedd ar bobl wedi'r pandemig, y taliad untro y gellid ei drin yn ddarpariaeth leol o les. Rwy'n gobeithio bod hynny rhoi eglurder o ran y pwynt cyfreithiol.

Ond wrth gwrs mae hyn yn ymwneud â dewis sy'n un gwleidyddol, a diwedd y gân yw cyllidebau, onid e? Felly, ar 15 Tachwedd, fe gyhoeddais i £700,000 arall i gefnogi gwaith Y Sefydliad Banc Tanwydd yma yng Nghymru, sy'n gwneud cyfanswm ein buddsoddiad ni eleni yn £1.2 miliwn. Mae hwn yn rhywbeth yr wyf i'n credu nad oedd gan Lywodraeth flaenorol y DU bartneriaeth gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd. Fe aethom ni i mewn i'r bartneriaeth honno, ac yn wir mae hynny wedi cyflawni rhywbeth, ac mae'n dal i estyn llawer iawn o gefnogaeth i bobl sydd mewn tlodi tanwydd ac ar ymylon bod felly.

Ond yn ogystal â hynny, rwy'n credu bod ein taleb tanwydd a'n cynlluniau cymorth dewisol yn helpu pobl mewn argyfwng gyda chostau tanwydd, a £30 miliwn, a fydd yn cael ei drafod hefyd y prynhawn yma, ar gyfer Cartrefi Clyd Nyth. Felly, mae'n ymwneud â sut y gallwn ni weithredu gyda'n pwerau ni ar adegau penodol o ran ein blaenoriaethau a'n cyllidebau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o bapur Cymdeithas y Gyfraith, 'From Caernarfon to Caerdydd: Reimagining Justice in Wales 2030', sy'n tynnu sylw at rai o'r heriau sy'n wynebu'r sector cyfreithiol yma yng Nghymru. Un o'r themâu yn yr adroddiad hwnnw yw gwella cryfder a chynaliadwyedd cwmnïau cyfreithiol sy'n gweithio ledled y wlad. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau cyfreithiol yma yng Nghymru? 

Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweld sut y gallwn ni ymateb i'r datganiad polisi hwnnw, ac rwy'n credu bod hyn yn dilyn oddi ar rai o'r pwyntiau a gafodd eu gwneud wrth ymateb i'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma, i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni fod yn edrych ar hyn o bob agwedd ar bolisi a blaenoriaeth, nid i'n Llywodraeth ni yn unig, ond ar gyfer ein rhaglen lywodraethu, yn arbennig felly o ran cryfder a chynaliadwyedd cymunedau cefn gwlad Cymru. Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ymwneud llawer â sicrhau bod y cynaliadwyedd a'r cryfder hwnnw y gallwch chi chwilio amdano, sy'n amlwg yn ymwneud â chyflawni'r pethau cymdeithasol hynny—. Cyfiawnder cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yr ydym ni'n ei geisio, onid e? Ond fe fyddwn i'n dweud hefyd fod hyn yn mynd â ni'n ôl at swyddogaeth ac ysgogiadau pwysig Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth ysgogi hynny ymlaen a chefnogi'r Llywodraeth gyda llunio polisïau a gwneud penderfyniadau cyllidebol.

Ysgrifennydd Cabinet, yn ôl ymchwil gan y bwrdd gwasanaethau cyfreithiol, dim ond 8 y cant o ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol sy'n darparu gwasanaethau ar-lein i'w cleientiaid ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i hynny newid, ac mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fuddsoddi yn wirioneddol yn y sector. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y bydd y sector yn mabwysiadu'r dechnoleg a'r seilwaith diweddaraf, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni hefyd pa gyllid a chymorth sydd ar gael mewn gwirionedd fel bydd y cwmnïau yn gallu manteisio ar y technolegau newydd hyn?

14:30

Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol, fe wn, yn ymwneud llawer ag ef, ac mae hi'n ymgysylltu â'r proffesiwn cyfreithiol, Cymdeithas y Gyfraith ac, yn wir, â Llywodraeth y DU, o ran mynediad at y gwasanaethau cyfreithiol sydd mor bwysig. Ond rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch y ffaith fod angen i hyn fod yn ymwneud hefyd â sut y gallan nhw gael gafael ar gymorth a sut y gall busnesau ac, yn wir, dinasyddion gael mynediad at y gwasanaethau cyfreithiol hynny trwy fynediad digidol a gwasanaethau ar-lein.

Ysgrifennydd Cabinet, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi siarad yn gyhoeddus am ddyfodol y sector cyfreithiol yng Nghymru, gan ddweud mai hwnnw yw, ac rwy'n dyfynnu,

'y glud sy'n dal cymdeithas at ei gilydd'.

Serch hynny, ni fydd y glud hwn yn dal am lawer yn rhagor. Mae'r sector wedi wynebu tanfuddsoddi enfawr, ac mae diffyg cydnabyddiaeth difrifol wedi bod o ran y cyfraniad y mae'r sector gwasanaethau cyfreithiol yn ei wneud i economi Cymru. Nawr, fe ddywedwyd mai system gyfreithiol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd gennym ni yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Ac felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cyfraniad y sector i economi Cymru, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni am un cam a fydd yn cael ei gymryd yn y Senedd hon i ddangos i gwmnïau cyfreithiol yng Nghymru bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i helpu wrth drawsnewid y sector er gwell?

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Rwyf i wedi sôn am Gyngor Cyfraith Cymru, sy'n bwysig o ran ymgysylltiad â'r sector ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol, ac mae Cyngor Cyfraith Cymru, yn wir, yn ystyried materion sy'n ymwneud nid yn unig ag addysg a hyfforddiant cyfreithiol, ond â busnes y gyfraith a thwf y sector cyfreithiol, ac, yn bwysig, er mwyn ymateb i'ch ail gwestiwn chi, technoleg gyfreithiol ac arloesedd. Wrth gwrs, mae'n rhaid i Gyngor Cyfraith Cymru a'i bwyllgor gweithredol gytuno ar y blaenoriaethau, ond mae'n bwysig i Gyngor Cyfraith Cymru, a lansiwyd yn ôl yn 2021, fod yn gwneud y gwaith hwnnw. Mae ganddo ysgrifenyddiaeth, trwy gyfrwng Cymdeithas y Gyfraith, ac yn wir, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ymgysylltu â'r pwyntiau pwysig iawn hyn o ran mynediad at wasanaethau cyfreithiol yng Nghymru.

Diolch, Llywydd. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn adroddiad y pwyllgor safonau ar dwyll bwriadol, ond mae hynny dan waharddiad, ac felly ni allaf i ymwneud â chynnwys hwnnw nawr. Ond mae budd y cyhoedd yn gryf, serch hynny, o ran y gwaith drafftio cyfreithiol paratoadol a wnaed hyd yn hyn. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, sy'n eistedd wrth eich ymyl chi, wedi awgrymu y gellid defnyddio Gorchymyn ymddygiad etholiadol y Senedd i ymestyn cwmpas hynny—y drosedd bresennol dan adran 106 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl. Fe fyddai hynny'n golygu mai ni fyddai'r ddemocratiaeth gyntaf yn y byd i wahardd celwyddau gan wleidyddion ar gyfer ennill etholiadau y mae'r consensws trawsbleidiol yn ei gylch, rwy'n credu, yn rhywbeth y dylem ni ei ddathlu yn wirioneddol. Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud, o gofio bod yr ymgynghoriad ar y Gorchymyn ymddygiad—y Gorchymyn drafft—wedi cau ddoe, a fydd yna ymgynghoriad pellach o ran y cynnig newydd hwn. Ac a ydych chi'n bwriadu gosod y Gorchymyn ymddygiad terfynol erbyn mis Medi, yn unol ag egwyddor Gould, sef, gydag unrhyw gyfraith etholiadol, ei bod hi'n rhaid cyflwyno newidiadau o leiaf chwe mis cyn y dyddiad pleidleisio dan sylw?

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Yn wir, mae'r Gorchymyn ymddygiad yn allweddol iawn i ddiwygio'r Senedd o ran y ffordd ymlaen. Ac, yn wir, mae'r amseriad yn hanfodol wrth i ni agosáu at yr etholiadau yn 2026. Ie, y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am hyn, o ran, unwaith eto, ar ba adeg y gosodir y Gorchymyn terfynol, yn dilyn ymgynghoriad. Ond, gan ei fod ef yma nawr yn y Siambr, rwy'n credu iddo ef glywed y pwynt hwnnw, ac rwy'n gobeithio, nawr, y cawn ni eglurder. Ni allaf i weld y bydd unrhyw ymgynghori fel arall, ond mae'n amlwg bod angen i ni sicrhau y bydd Gorchymyn terfynol hwnnw'n cael ei osod ger bron. Ond fe allaf i ddod yn ôl, rwy'n siŵr, gyda chadarnhad ynglŷn â'r pwynt hwnnw.

14:35

Fe hoffwn i ofyn ychydig bach mwy am yr amserlen. Rwy'n gofyn yn ystod cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol am mai'r Cwnsler Cyffredinol, yn amlwg, sy'n gyfrifol am y rhaglen ddeddfwriaethol. Pe bai'r Llywodraeth yn mabwysiadu dull dau drac os caf i roi'r peth yn y termau hynny, a defnyddio'r Gorchymyn ymddygiad yn y ffordd y gwnes i ei disgrifio, ond gan gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol hefyd, yn enwedig o ran Aelodau, sut bydd y Llywodraeth yn mynd i'r afael â'r mater o osgoi'r canfyddiad bod Aelodau yn cael eu dal yn atebol i safonau gwahanol, neu'n wir, i safonau is nag ymgeiswyr? Ac o ran amseru, fe glywais i'r Llywodraeth yn dweud bod hynny'n dibynnu ar gymhlethdod y Bil, o ran pa mor hir y bydd hi'n ei gymryd, ond beth yw'r dyddiad olaf y byddai'n rhaid cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ychwanegol o ran twyll bwriadol i'r Senedd? Ai mis Medi, er enghraifft, fyddai hynny? Ac a ydych chi'n bwriadu cyhoeddi cynigion drafft, os nad Bil drafft, cyn hynny, o ran y ddeddfwriaeth ychwanegol honno?

Diolch yn fawr iawn, Adam Price. Rydym ni'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad am ystyried y mater pwysig hwn, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gyhoeddi adroddiad y pwyllgor. Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ystyried argymhellion y pwyllgor, wedi iddo gael ei gyhoeddi.

Rydych chi wedi ymrwymo eisoes yn y Llywodraeth i wahardd Aelodau ac ymgeiswyr a gafwyd yn euog o dwyll bwriadol drwy broses farnwrol annibynnol. Roeddwn i'n gobeithio gofyn i gyfreithiwr, a chael ateb gan gyfreithiwr, ond rwyf i am ofyn i chi yn hytrach na hynny: sut ydych chi'n diffinio 'proses farnwrol annibynnol'? Rwy'n credu mai'r farn gyffredin yw bod tair elfen i'r broses farnwrol annibynnol honno: yr un gyntaf yw'r un bwysicaf, sef bod yn rhydd o ymyrraeth wleidyddol, naill ai gan y Pwyllgor Gwaith neu'r ddeddfwrfa; yn ail, bod hynny'n cynnwys gwrandawiad teg dan Erthygl 6 y Confensiwn Hawliau Dynol; ac, yn olaf, fe gaiff ei chyflawni mewn fforwm sy'n agored ac nid y tu ôl i ddrysau caeedig. Os ydych chi'n rhoi'r tair elfen at ei gilydd, Trefnydd—neu Ysgrifennydd Cabinet—a fyddech chi'n cytuno bod hynny'n golygu, yn y bôn, gwneud penderfyniadau gan lys annibynnol, neu dribiwnlys—tribiwnlys datganoledig—a'i fod yn annibynnol ar y Llywodraeth ond yn annibynnol hefyd ar y Senedd, yn ogystal â hynny?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, ac mewn gwirionedd, byddai'n rhaid i mi ddweud eu bod nhw i gyd yn bwyntiau pwysig iawn. Nawr, nid myfi yw'r Cwnsler Cyffredinol, nid wyf i'n gyfreithiwr, ond mae'r rhain yn bwyntiau gwirioneddol bwysig. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n cael—nid y chi'n unig, ond, yn amlwg, y Senedd—ymateb ystyriol gan y Dirprwy Brif Weinidog ar ran Llywodraeth Cymru. Felly, unwaith eto, diolch i chi am wyntyllu'r pwyntiau pwysig hynny eto'r prynhawn yma.

Gorfodi Cyfreithiau Amgylcheddol

3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellir gorfodi cyfreithiau amgylcheddol yn absenoldeb corff llywodraethu amgylcheddol? OQ62334

Diolch yn fawr iawn i chi, Janet. Mae cyfreithiau amgylcheddol yng Nghymru yn cael eu gorfodi gan reoleiddwyr, megis Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil sy'n cynnig creu corff llywodraethu amgylcheddol statudol i oruchwylio cydymffurfiaeth â'r gyfraith amgylcheddol, a'i gweithredu a'i chymhwyso yng Nghymru. Ni fydd y corff newydd yn disodli'r rheoleiddwyr presennol.

Diolch i chi. Mae'n rhaid cymryd gorfodaeth amgylcheddol o ddifrif, ac rydym ni wedi codi hyn gymaint o weithiau yn y pwyllgor newid hinsawdd. Un o'r agweddau ar hynny yw atal perchnogaeth breifat anghyfrifol rhag achosi niwed sylweddol i'n hamgylchedd ni. Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi na fydd yn bwrw ymlaen â chamau cyfreithiol yn erbyn gweithredwyr safleoedd tirlenwi Withyhedge, gan nodi ystyriaethau ariannol. Cyflwynwyd yr achos gerbron barnwr cylchdaith, a oedd yn cydnabod bod y safle tirlenwi yn achosi aflonyddwch ond dyfarnodd fod y cyngor wedi cymryd y dull cyfreithiol anghywir drwy fethu â chyflwyno hysbysiad yn gyntaf yn unol â Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae'r grŵp herio Stop the Stink yn ystyried lansio ei her gyfreithiol ei hun yn erbyn Resources Management UK Limited a'r awdurdod lleol nawr. Fe wyddom ni fod CNC wedi cyhoeddi hysbysiadau gorfodi yn erbyn y cwmni, ond mae hwn yn sgandal mawr yn ymwneud â llygredd yng Nghymru. Fe ddylai hyn fod ar gyfer corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol, ond mae'r trefniant dros dro hwn yn gadael Cymru dan anfantais fawr erbyn hyn o gymharu â rhannau eraill o'r DU. A wnewch chi egluro a oes dewis gan Lywodraeth Cymru, neu'r asesydd diogelu'r amgylchedd dros dro, i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn perchennog y safle tirlenwi, yn hytrach na bod y cyhoedd yn gwneud felly? Ni ddylem fod ag unrhyw sefyllfa yng Nghymru lle gall y bobl hyn sy'n achosi llygredd feddwl y gallan nhw ddal ati ac nad oes unrhyw lywodraethu amgylcheddol ar waith mewn gwirionedd. Diolch.

14:40

Diolch yn fawr iawn i chi, Janet Finch-Saunders, a diolch i chi hefyd am ganolbwyntio'r cwestiwn ynghylch un maes penodol o bryder, a godwyd wrth gwrs yn y Siambr hon, o ran effaith safle Withyhedge, gan eich cydweithiwr Paul Davies. Ond a gawn ni fynd yn ôl at ein sefyllfa bresennol yn hyn o beth? Mae cyfraith amgylcheddol yng Nghymru yn cael ei gorfodi gan gyrff rheoleiddio, ac fe wyddoch chi mai'r prif reolydd ar gyfer cyfraith amgylcheddol yng Nghymru yw Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond, yn ogystal â hynny, mae sefydliadau eraill â rhan yng ngorfodaeth cyfraith amgylcheddol yng Nghymru, sy'n cynnwys awdurdodau lleol, ac mae sir Benfro wedi gwneud y penderfyniad hwn, ond mae Ofwat a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi gwneud felly hefyd. Ac rydych chi'n iawn o ran mai asesydd dros dro diogelu'r amgylchedd ar gyfer Cymru—dros dro y mae hynny—sy'n goruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol yng Nghymru ac mae'n rhoi cyngor i Weinidogion Cymru o ran gwella'r canlyniadau amgylcheddol.

Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych ymlaen tuag at y Bil newydd, yr ydym ni'n bwriadu ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni. Fe fydd hwnnw'n sefydlu'r corff llywodraethu amgylcheddol statudol newydd i Gymru. Fe fydd yn monitro cydymffurfiaeth yr awdurdodau cyhoeddus datganoledig â chyfraith amgylcheddol a gweithredu a chymhwyso cyfraith amgylcheddol. Fe fydd yn cynghori Gweinidogion Cymru ar faterion cyfraith amgylcheddol, ond ni fydd yn dyblygu, yn newid nac yn disodli swyddogaeth gynghorol CNC. Fe fydd hwnnw'n gorff pwrpasol i Gymru, a fydd yn neilltuol i dirwedd amgylcheddol unigryw Cymru. Felly, mae hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hynny'n symud ymlaen nawr, ac rwy'n siŵr y bydd â rhan bwysig iawn yn y mater yr oeddech chi'n canolbwyntio arno yn eich cwestiwn.

Datganoli Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaethau Prawf Ieuenctid

4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba waith paratoi sydd wedi'i wneud gyda Chyngor Cyfraith Cymru ynghylch y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf ieuenctid? OQ62338

Diolch yn fawr iawn, Rhys ab Owen. Rydym ni wedi bod yn gweithio i baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf ieuenctid posibl, gan gynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid yn y sector cyfreithiol. Er nad yw Cyngor Cyfraith Cymru wedi bod yn rhan o'r trafodaethau hyn hyd yma, fe fyddem ni'n croesawu perthynas gydweithredol i sicrhau bod eu barn nhw'n cael ei chynnwys.

Diolch yn fawr am eich ateb.

Mae sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru yn un o'r unig argymhellion gan y Comisiwn Annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru a roddwyd ar waith. Gyda gobaith nawr, gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, y byddwn ni'n gweld gweithrediad yr argymhelliad i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf ieuenctid. Ond nod Cyngor Cyfraith Cymru oedd codi ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru a chynyddu cydweithio rhwng ysgolion y gyfraith, y proffesiynau cyfreithiol a Llywodraeth Cymru. Serch hynny, wrth i mi geisio chwilio am ragor o wybodaeth am Gyngor Cyfraith Cymru, ni allwn ddod o hyd i wefan, ni allwn i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth am gyfarfodydd, na chofnodion unrhyw gyfarfodydd, nac am yr aelodaeth hyd yn oed. A ydych chi'n fodlon bod Cyngor Cyfraith Cymru yn cyflawni ei botensial, ac a wnewch chi ymrwymo i wneud yr wybodaeth am y cyngor yn fwy hygyrch i'r cyhoedd? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiynau dilynol yna. Rwyf i wedi sôn am Gyngor Cyfraith Cymru eisoes y prynhawn yma mewn ymateb i gwestiynau. Mae hi'n bwysig cydnabod, ac fe fuom ni'n eglur o'r cychwyn cyntaf, fod Cyngor Cyfraith Cymru yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth. Y ni a wnaeth hwyluso'r gwaith o'i sefydlu, ond nid ydym ni ar y cyngor hwnnw, fel gwyddoch chi, a mater i'r cyngor yw penderfynu ar ei gyfansoddiad a'i drefniadau gwaith ei hun. Hefyd, mae hi'n bwysig cydnabod bod yr Arglwydd Lloyd-Jones wedi cael ei benodi yn llywydd ym mis Hydref 2021, ochr yn ochr â'r pwyllgor gweithredol hwnnw o'r buddion cyfreithiol hynny yr ydym wedi bod yn eu trafod i gyd y prynhawn yma—ysgolion y gyfraith yng Nghymru, Cylchdaith Cymru a Chaer, llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac ati, ac yn bwysig i'm portffolio i, Y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol ar ben hynny. Ac, wrth gwrs, Cymdeithas y Gyfraith sy'n darparu'r ysgrifenyddiaeth. Yn fy marn i, o ran y Cwnsler Cyffredinol, mae ganddi wahoddiad sefydlog i fynychu cyfarfodydd pwyllgor gweithredol ac, yn wir, i drafod materion fel prentisiaethau cyfreithiol, ac rwy'n siŵr y byddai gennych chwithau ddiddordeb ynddyn nhw hefyd.

A gaf i ddweud, o ran eich cwestiwn chi ynglŷn â datganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf ieuenctid yn amlwg, byddai, fe fyddai hi'n dda o beth pe bydden nhw'n cymryd diddordeb, ond rydym ni wedi defnyddio sianeli eraill gyda'r gwaith y buom ni'n ei wneud i adeiladu gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf ieuenctid datganoledig? Mae hynny'n cynnwys trafodaethau gyda'r sector cyfreithiol a sefydliadau sy'n cael eu cynrychioli ar Gyngor Cyfraith Cymru, ac fe fyddwn ni'n parhau i ymgynghori â nhw wrth i'n cynlluniau ni fynd rhagddynt. Ond mae—. Fe all Cyngor Cyfraith Cymru, rwy'n siŵr, helpu wrth fod â rhan yn hynny.

14:45
Diwygio Tribiwnlysoedd Cymru

5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad am ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru? OQ62337

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. 

Rydym ni'n parhau i weithio ar ddatblygu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol ar gyfer datblygu ein huchelgeisiau i greu system ddatganoledig o dribiwnlysoedd sy'n gyfoes a chydlynol ac yn canolbwyntio ar gwrdd ag anghenion y rhai sy'n defnyddio tribiwnlysoedd. Fe gaiff yr amserlen o ran y ddeddfwriaeth ar gyfer cyflawni'r diwygiadau hyn ei chyhoeddi maes o law.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Ym mis Tachwedd fe ofynnais i'r Cwnsler Cyffredinol am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â diwygio tribiwnlysoedd Cymru, ac fe gefais i ateb ddigon tebyg. Meddai hi:

'Fe fydd amserlen y ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â'r rhaglen yn cael ei chyhoeddi maes o law.'

Felly, nid yw hynny wedi newid ers mis Tachwedd. Ac roedd hi'n gobeithio y byddai'r Prif Weinidog a hithau'n gallu:

'gyflwyno datganiad deddfwriaethol yn gynnar' 

yn ystod y flwyddyn galendr nesaf ar y pryd hwnnw, felly eleni erbyn hyn. Rydym ni nawr ymhell i mewn i ail fis y flwyddyn galendr honno, a'r ansicrwydd yn parhau i ni o ran amserlennu'r Bil. Mae'r achos dros ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru yn amlwg. Mae hi'n bwysig bod y meysydd o gyfiawnder a ddatganolwyd eisoes yn cael eu rhedeg yn effeithiol, ac nid dyna'r hyn sydd wedi digwydd o ran tribiwnlysoedd Cymru hyd yn hyn. Os caiff hyn ei ohirio tan y Senedd nesaf, nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd tribiwnlysoedd Cymru yn cael eu diwygio, ac mae llawer o waith wedi mynd i mewn i hyn o du Comisiwn y Gyfraith a Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill hefyd. A wnewch chi, os gwelwch chi'n dda, ymrwymo—roeddwn i am ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol gyda'i het gyflawni ar ei phen hefyd—y bydd y diwygiad hwnnw'n cael ei basio yn ystod y Senedd hon? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Rwy'n siŵr mai dim ond ailadrodd yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol o'r blaen a wnaf i sef i ni—. Mae hi'n bwysig atgoffa cyd-Aelodau unwaith eto ein bod ni'n croesawu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a Chomisiwn y Gyfraith ar gyfer diwygio tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Roedden nhw'n nodi'r angen i ddiwygio'r system gyfredol ar gyfer y tribiwnlysoedd ac maen nhw wedi dangos y ffordd i ni ar sail tystiolaeth eglur. Mae'n ymwneud hefyd â sut y byddwn ni, nid yn unig yn mynd i'r afael â diffygion yn y sefyllfa a'r strwythurau sydd ar waith ar hyn o bryd, ond ein bod ni'n diogelu'r system i'r dyfodol hefyd drwy gynnig y strwythur unedig a hyblyg o dribiwnlysoedd fel hyn a fydd yn gallu amsugno awdurdodaethau newydd heb lawer o amhariad o gwbl.

Fe fyddwch chi'n falch o glywed bod y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyfarfod â llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a'r Arglwyddes Brif Ustus yn gynharach yn ystod y mis hwn, a thrafod pwysigrwydd yr agenda ddiwygio. Felly, mae hynny'n rhywbeth newydd i chi, rwy'n siŵr, wrth i chi ofyn y cwestiwn yna. Rydym ni'n edrych ymlaen at ddal ati i drafod ac o ran pryd y gellid cyflwyno unrhyw Fil, pwnc yw hwnnw ar gyfer datganiad blynyddol y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol.

Y Drefn Cydsyniad Deddfwriaethol

6. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o effeithlonrwydd y drefn cydsyniad deddfwriaethol? OQ62342

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Rydyn ni o'r farn y gallai fod achosion lle mae er budd gorau Cymru i ddarpariaethau a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael eu cynnwys ym Miliau’r Deyrnas Unedig. Mae sicrhau trefn effeithlon o ran cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer yr achosion hynny yn hanfodol i gefnogi gwaith craffu'r Senedd.

Diolch am yr ymateb. Wel, mae'n ymddangos i fi bod y drefn cydsyniad deddfwriaethol yn gwbl aneffeithiol. Mae'r cydsyniadau deddfwriaethol yn dod ger ein bron ni fan hyn, maen nhw'n effeithio'n sylweddol ar ddeddfwriaeth Gymreig ac maen nhw am effeithio'n uniongyrchol ar fywydau pobl Cymru, ond does yna ddim ymgynghori cyhoeddus, does yna ddim amser go iawn yn cael ei roi i graffu ar yr LCMs yn drylwyr, a does yna ddim lle, felly, i lais Cymru gael ei glywed yn iawn.

Felly, mae'n ymddangos bod hyn yn profi gwendid y setliad datganoli, ein bod ni'n edrych tuag at San Steffan i ddeddfu ar ein rhan ni, ac mae'n dangos llymder capasiti y Llywodraeth a'r Senedd. Ond ar ben hynny, mae'n gwneud y broses o ddeddfu yn fwy biwrocrataidd ac yn llusgo'r broses ymlaen yn hwy nag sydd angen. Oni fyddai'n well datganoli mwy o rymoedd i Gymru er mwyn osgoi'r cymhlethdod a'r methiannau yma, ac ydy'r Llywodraeth yma efo'r uchelgais ar gyfer hynny?

14:50

Wel, diolch yn fawr, Mabon. Mae hi'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod rhaid i ni sicrhau y bydd cyfle gan y ddeddfwrfa hon i graffu ar ddeddfwriaeth o'r DU, sy'n ymgysylltu â chonfensiwn Sewel ac sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd drwy broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Ac mae hwn yn fater sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i ni gadw at Reolau Sefydlog y Senedd sy'n llywodraethu proses cydsyniad deddfwriaethol yma yng Nghymru. Yn wir, rydym ni wedi gallu gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol o fewn yr amserlen o bythefnos yn y mwyafrif o achosion yn sesiwn cyfredol Senedd San Steffan, ond rydym ni'n deall yr anawsterau y mae pwyllgorau yn eu hwynebu wrth graffu ar ddeddfwriaeth a amserlennir mewn deddfwrfa arall. Rydym ni'n parhau i atgoffa Llywodraeth y DU am hynny a phwysigrwydd y broses Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol o ran amserlennu seneddol yma.

Ac rwy'n credu, dim ond ar gyfer myfyrio ar y darlun ehangach o ran yr egwyddor yn hyn o beth, nid yw argymell bod y Senedd hon yn cydsynio i ddarpariaethau mewn Biliau i'r DU yn golygu bod angen cefnogaeth Llywodraeth wahanol neu Senedd wahanol ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ein hamcanion deddfwriaethol ein hunain; serch hynny, fe all hynny ganiatáu i ni ddarparu ar gyfer pobl Cymru a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau a'r cyfleoedd sydd ar gael. Ac mae hi'n briodol, felly, ein bod ni'n gwneud penderfyniadau ac yn gwneud argymhellion i'r Senedd pan fyddwn ni o'r farn y byddai hynny'n synhwyrol ac y byddai'n fanteisiol i Gymru wneud felly. Ond mae hi'n agored iawn i Aelodau a phwyllgorau gyflwyno eu safbwyntiau eu hunain, ac wrth gwrs mae hynny i ddod eto drwy broses y cydsyniad deddfwriaethol.

Felly, mae hwn yn faes yr ydym ni'n gwerthfawrogi ymgysylltiad trawsbleidiol ynddo. Rydym ni'n barod iawn i archwilio unrhyw bryderon technegol ynglŷn â gweithrediad y broses gydsynio, gan gynnwys drwy unrhyw gynigion pwyllgor busnes, ac yn cydnabod, er i welliannau fod o ran ymgysylltu â Llywodraeth y DU, rhannu gwaith drafftio yn fwy cynnar, er enghraifft, mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n gweithio yn agos iawn â'n gilydd i gefnogi ein pwyllgorau niferus yn y Senedd, sydd angen ymgysylltu â'r memoranda hynny i fod â rhagor o fanylion.

Mae hi'n ddefnyddiol i ni nodi ein bod wedi gallu rhoi cydsyniad, o 13 Chwefror eleni, i nifer o'r cynigion cydsyniad hynny: gwasanaethau rheilffordd teithwyr, Bil Ynni Prydain Fawr, y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg, y Bil Hawliau Rhentwyr, y Bil Tybaco a Fêps. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni lawer mwy yn cael eu drafftio, fel gwyddoch chi.

Bil Oedolion â Salwch Angheuol (Diwedd Oes) San Steffan

7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o effaith bosibl Bil Oedolion â Salwch Angheuol (Diwedd Oes) San Steffan ar Gymru? OQ62341

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Mae'r Bil hwn yn berthnasol i faes cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Pan fydd y Bil wedi pasio'r camau perthnasol yn Senedd y DU fe fydd yn cael ei asesu at ddibenion Rheol Sefydlog 29. Cefais fy sicrhau bod swyddogion yn gweithio i ddeall y goblygiadau posibl i Gymru.

Diolch i chi am yr ateb yna. Wel, fe fydd cymal 32, er enghraifft, o'r Bil Oedolion â Salwch Angheuol (Diwedd Oes) yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn San Steffan ymyrryd yn uniongyrchol ar ddarpariaethau iechyd yng Nghymru. Nawr, un enghraifft yn unig yw hon o sut gallai'r Bil arfaethedig hwn effeithio yn uniongyrchol ar benderfyniadau ynglŷn â materion datganoledig, ac eto nid yw prif swyddog meddygol Cymru wedi bod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiadau i roi tystiolaeth, ac nid yw'r comisiynwyr amrywiol na Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresennol chwaith. Felly, nid yn unig y gwelwn ni Lywodraeth y DU yn mynd yn rhy bell—yn cipio pŵer, os hoffech chi—ond mae llais Cymru yn mynd heb ei glywed hefyd. Nawr, fe awgrymodd yr Athro Emyr Lewis, yn ei dystiolaeth, y dylai Cymru fod â darpariaethau cychwyn gwahanol i'r rhai yn Lloegr. Felly, a wnaiff eich Llywodraeth chi fynnu bod y Bil hwnnw'n rhoi'r un pŵer i Weinidogion Cymru â Gweinidogion Lloegr o ran y Bil hwn, ac a wnewch chi ystyried cynigion Emyr Lewis sef darparu darpariaethau cychwyn gwahanol ar gyfer Cymru?

14:55

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. 

Pe byddai'r Bil yn dod yn gyfraith, fe fydd yna, fel dywedais i, oblygiadau mawr i Gymru. Mae hwn yn fater cymhleth gyda llawer o ystyriaethau gweithredol, moesol, cyfreithiol, a chyfansoddiadol. Mae'r Bil yn destun craffu ar hyn o bryd; fel rydych chi'n dweud, fe gafodd dros 300 o welliannau eu cyflwyno i'r Bil. Bydd yn cael ei drafod ymhellach gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac fe fydd y fersiwn derfynol yn gofyn am gymeradwyaeth y ddau le cyn iddo ddod yn gyfraith. Ac fe fyddwn ni'n asesu'r Bil yn unol â Rheol Sefydlog 29 pan fydd wedi mynd drwy'r Camau perthnasol yn Senedd y DU. Am mai Bil Aelod preifat ydyw, mae'r amseru ar gyfer unrhyw gynnig cydsyniad deddfwriaethol gofynnol yn gyffredinol yn hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol o ran Biliau Llywodraeth y DU. Fe allaf i eich sicrhau chi unwaith eto fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwybodol o hynny ac, yn amlwg, yn cymryd—. Rydym ni'n dilyn y craffu ar hyn o bryd o ran y gwaith craffu gan y pwyllgor.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 fydd nesaf, a'r datganiad a chyhoeddiad busnes yw hwn, a'r Trefnydd unwaith eto sydd yn cymryd yr eitem yma. Felly, y datganiad gan y Trefnydd, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 14:56:37
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae tri newid i fusnes yr wythnos hon. Ar yr agenda heddiw, mae datganiad llafar ar iechyd a lles anifeiliaid. Bydd y datganiad llafar ar Ewros Menywod UEFA 2025 yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—plant sydd ar yr ymylon. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch gohirio'r cwrs TGAU hanes newydd a luniwyd ar gyfer Cymru. Fel gwyddoch chi, fe ddylai'r cwrs TGAU hanes newydd fod yn dechrau ym mis Medi eleni, ond nawr ni chaiff hwnnw ei gyflwyno tan 2026 i roi mwy o amser i athrawon gynllunio ar ei gyfer. Nawr, mae etholwyr sydd â phryderon ynglŷn â'r cwrs TGAU Saesneg wedi cysylltu â mi, ac maent o'r farn y dylai'r un rhesymeg sy'n berthnasol i'r cwrs hanes gael ei ddefnyddio ar gyfer y cwrs TGAU Saesneg hefyd. Yn naturiol, mae hi'n hanfodol bod yr athrawon yn cael cyfle i baratoi yn iawn ar gyfer pob un o'r cyrsiau y maen nhw'n eu haddysgu, ac mae hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwrando yn wirioneddol ar eu pryderon nhw. Felly, o ystyried difrifoldeb y pryderon a godwyd a'r effaith y gallai hyn ei gael ar y dysgwyr o bosibl, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad i fynd i'r afael â'r sefyllfa ar fyrder, ac yn cadarnhau pa asesiad a gafodd ei wneud o allu'r athrawon i gynllunio ar gyfer y cyrsiau hyn yn iawn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Paul Davies, am y cwestiwn yna. Cwestiwn ydyw hwn, wrth gwrs, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac fe fyddwn i'n awgrymu eich bod chi'n achub ar y cyfle i godi hyn gyda Lynne Neagle yn ystod ei chwestiynau llafar hi yn y Senedd. Ond, wrth gwrs, mae hyn ar y cofnod nawr ac fe fydd hi'n barod am y cwestiwn ac, yn wir, fel roeddech chi'n dweud, i roi eglurhad o ran y cwrs TGAU a luniwyd ar gyfer Cymru, a rhoi eglurhad, wrth gwrs, i'ch etholwyr chi, ac fe fyddai hi'n awyddus i ymateb yn hyn o beth.

Trefnydd, hoffwn ddatgan fy mod yn siomedig dros ben fod y datganiad a oedd i fod prynhawn yma ar Ewros Menywod UEFA 2025 rŵan yn mynd i fod yn ddatganiad ysgrifenedig, yn hytrach nag yn un llafar. Dwi'n deall y rhesymau pam na all y Gweinidog fod yma, ond dwi ddim yn deall pam na all, dywedwch, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio fod yn arwain ar hyn. Dŷn ni prin yn cael cyfleoedd i drafod diwylliant na chwaraeon yn y Siambr hon. Mi wnaeth yna ddatganiad wythnos diwethaf hefyd gael ei newid i fod yn un ysgrifenedig.

Felly, a gaf i ofyn: a gawn ni gyfle i drafod y materion hyn ar lawr y Senedd a rhoi'r sylw dyledus i ddiwylliant a hefyd chwaraeon? A gaf i hefyd ofyn a oes yna ddiweddariad gan y Llywodraeth, oherwydd mi wnes i ofyn rai wythnosau nôl ynglŷn â datganiad llafar gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ynglŷn ag effaith diwygiadau pensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Gymru? A oes modd ichi roi diweddariad ar hynny heddiw, os gwelwch yn dda?

15:00

Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Ydw, rwy'n ddiolchgar eich bod hi'n cydnabod amgylchiadau personol y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, a'i ddymuniad oedd gallu rhoi datganiad llafar. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod y cyfleoedd gwych a'r cyflawniadau gwych trwy UEFA Euro Menywod 2025. Byddwn ni'n chwilio am gyfle i'n galluogi ni—ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog eisiau'i wneud ei hun; mae'n cyhoeddi datganiad ysgrifenedig—i wyntyllu hyn. Ac, yn wir, o ran y datganiad ysgrifenedig o'r wythnos diwethaf, byddwn ni'n chwilio am gyfle i sicrhau bod modd trafod hyn yn y Senedd.

A—. Ie. A gaf i ddweud—? Mae yna ail gwestiwn, a oedd mewn gwirionedd ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ac rwy'n gwybod ein bod ni'n ei ddilyn i fyny. Mae'n gyfnod prysur iawn o ran ein proses o greu cyllideb.

Diolch, Dirprwy Lywydd, am fy nghadw i ar flaenau fy nhraed. Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, y cyntaf yn ddatganiad ar ddatganoli trethi. Dylai hyn amlinellu effeithiau'r trethi datganoledig presennol ar grant bloc Cymru a sut y cafodd ei leihau i ystyried y trethi a gafodd eu codi yng Nghymru. Dylech chi drafod y potensial ar gyfer datganoli trethi ymhellach, gan gynnwys Ystad y Goron a faint y bydd y grant bloc yn cael ei leihau, yn seiliedig ar yr hyn a ddigwyddodd pan gafodd ei ddatganoli i'r Alban.

Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad ar waith safonau masnach. Fel rhywun sydd bob amser wedi bod yn eiriolwr dros effeithiolrwydd safonau masnach, cefais i fy synnu a fy siomi pan oedd gennyf i gŵyn bersonol ynglŷn â rhywbeth anaddas a gafodd ei werthu i mi, oherwydd bod y cwmni wedi mesur yn anghywir. Mae safonau masnach sir Gaerfyrddin wedi methu ag ateb i dri e-bost ac un llythyr. Beth mae'r Llywodraeth yn disgwyl i safonau masnach ei wneud pan fyddan nhw'n cael cwyn?

Diolch yn fawr, Mike Hedges, am y cwestiynau yna. A gaf i ddechrau gyda'r mater yn ymwneud ag addasiadau grant bloc trethi datganoledig? Wel, wrth gwrs, mae'r trefniadau fframwaith cyllidol ar gyfer trethi datganoledig ac addasiadau grant bloc cysylltiedig yn parhau i weithredu mewn ffordd foddhaol. Mae cyfraddau treth incwm Cymru wedi creu cyfanswm cyfraniad cyllidebol cadarnhaol net o £217 miliwn yn ystod y blynyddoedd alldro rhwng 2020-21 a 2022-23. Yn ystod y blynyddoedd hyd at 2025-26, y rhagolwg yw y bydd y cyfraniad cyllidebol net o gyfraddau treth incwm Cymru yn cynyddu i dros £600 miliwn, ac, ynghyd â'r trethi datganoledig eraill, £1.1 biliwn yw'r cyfraniad net cyffredinol. Mae disgwyl i bob treth ddatganoledig barhau i wneud cyfraniad cadarnhaol i gyllideb Llywodraeth Cymru dros weddill y degawd.

Nawr, rydych chi wedi sôn am Ystad y Goron yn ogystal â safonau masnach, felly gwnaf i ond dweud, o ran Ystad y Goron, ein bod ni'n mynd i gyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth ar Ystad y Goron. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i fynd ar drywydd datganoli pwerau sydd eu hangen arnon ni i helpu i gyrraedd sero net, gan gynnwys rheoli Ystad y Goron yng Nghymru.

O ran safonau masnach, wrth gwrs, rydych chi'n gwybod mai materion a gedwir yn ôl yw'r rheini sy'n ymwneud â safonau masnach, gan ddod o dan Lywodraeth y DU. Ond awdurdodau lleol ar draws y DU, gan gynnwys Cymru, sy'n gyfrifol am orfodi deddfwriaeth diogelu defnyddwyr sy'n ymwneud â meysydd polisi penodol, ac unrhyw gwynion—ac yn amlwg mae gennych chi un ar ran etholwr—yn ymwneud ag ardal, er enghraifft, lle mae busnes wedi torri'r gyfraith neu wedi gweithredu'n annheg, dylai hyn gael ei wneud drwy weithdrefnau cwynion yr awdurdod perthnasol.

A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid o ran pam ei fod yn credu bod y setliadau llywodraeth leol yng Nghymru, a'r fformiwla sy'n cael ei defnyddio i gynhyrchu'r setliadau hynny'n deg? Un peth yr ydym ni'n ei wybod yw, yn anffodus, y mae'n ymddangos bod rhai awdurdodau lleol ar eu colled yn gyson o ganlyniad i'r fformiwla ariannu llywodraeth leol. Mae un o'r rheini'n cynnwys Conwy, yr wyf i'n cynrychioli rhan ohono yn fy sedd Gorllewin Clwyd. Mae trigolion lleol Conwy yn wynebu cynnydd o bron i 10 y cant yn y dreth gyngor eto eleni, y trydydd cynnydd o'i fath mewn tair blynedd, sy'n gwylltio pobl, oherwydd eu bod yn gweld y cynnydd enfawr hwn yn y dreth gyngor tra bod gwasanaethau lleol yn cael eu cwtogi. Mae pobl leol eisiau mwy o lais yn y ffordd y mae eu harian yn cael ei wario, ac rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei ddeall yw pam y mae'r Llywodraeth yn teimlo bod hyn yn deg a pham y mae'r Llywodraeth yn parhau i wrthsefyll rhoi cyfle i bobl leol gael dweud eu dweud trwy refferenda lleol ar y dreth gyngor.

15:05

Wel, mae hwn yn gwestiwn, wrth gwrs, i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn llwyr, ac rwy'n falch iawn ei fod yn eistedd yma—

—wrth fy ochr i, oherwydd rwy'n credu ei fod yn gwestiwn y gallwch chi ei ofyn iddo nid yn unig o ran ei gwestiynau Senedd llafar, ond yn wir mae'n gwestiwn pwysig i'n dadl ni sydd ar ddod ar y gyllideb ddrafft a'r setliad refeniw llywodraeth leol. Ond rwy'n credu hefyd yr hoffwn ni wneud y pwynt a gafodd ei wneud yn gynharach, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, sef ein bod ni'n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid. Rydym ni'n ceisio cael un o'r trefniadau system cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor mwyaf - wel, y mwyaf ffafriol—yng Nghymru, gyda dros 200,000 o bobl nad ydyn nhw'n talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Ac rwy'n tynnu'ch sylw, Darren Millar, rwy'n siŵr eich bod chi—. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, y gallai fod Conwy'n cymryd rhan; mae'n bendant yn ymwneud â'n siarter budd-daliadau Cymru, lle rydym ni erbyn hyn yn canfod ffyrdd y gallwn ni symleiddio ceisiadau ar gyfer y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol fel bod pobl y mae angen hyn arnyn nhw—ac mae'n ymwneud â threchu tlodi a chodi incwm yn ein hardaloedd drwy hawliau—yn gallu gwneud un cais gan agor un drws i'r tri budd-dal hynny.

Fel y gwyddon ni, Ysgrifennydd Cabinet, yn ein hymgyrch tuag at sero net, mae angen i bob dewis fod ar y bwrdd o ran cynhyrchu a storio ynni carbon isel, ond gwyddom hefyd, wrth gwrs, fod y grid cenedlaethol ar hyn o bryd wedi'i lethu gan geisiadau am ddatblygiadau newydd, llawer ohonyn nhw gan gyfleusterau batris storio. Nawr, mae un o'r cyfleusterau batris storio mwyaf o'i fath, gydag allbwn sy'n cyfateb i hanner allbwn presennol capasiti cynhyrchu gwynt ar y tir ac ar y môr yng Nghymru yn cael ei gynnig yng Ngwyddelwern, sir Ddinbych, yn fy rhanbarth i. Nawr, bydd y cynllun 1 GW yn gartref i 1,000 o fatris mewn tua 640 o gynwysyddion llongau, i bob pwrpas, ar safle maes glas 70 erw. Nawr, fel gydag unrhyw dechnoleg newydd, wrth gwrs, mae yna broblemau cychwynnol, ac nid yw batris storio yn wahanol i hynny. Cafodd tân diweddar mewn cyfleuster tebyg yng Nghaliffornia gymaint o effaith ar yr ardal leol fel bod talaith Califfornia yn y broses o weithredu Bil brys i wahardd cyfleusterau batris storio o fewn 1 km i unrhyw eiddo preswyl, ac mae pentref Gwyddelwern gyfan o fewn 1 km i'r cynllun arfaethedig hwn. Felly, a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol yn esbonio pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod diogelwch y rhai y mae'r datblygiad hwn yn effeithio arnyn nhw'n cael eu cymryd o ddifrif, ac efallai y bydd y Llywodraeth yn ystyried beth sy'n digwydd yng Nghaliffornia?

Diolch yn fawr iawn, Llyr Gruffydd. Wrth gwrs, ein gweledigaeth ni, fel y gwyddoch chi—yr wyf i'n siŵr eich bod chi'n ei rhannu—yw datgarboneiddio mewn ffordd sy'n creu mwy o fanteision na'r system ynni sydd gennym ni heddiw, a hynny drwy'r genhedlaeth honno o swyddi gwyrdd a thwf economaidd yn ein cymunedau ac adfywio cynaliadwy, defnyddio ein hynni adnewyddadwy. Wrth gwrs, nid yw pob prosiect—ac rydych chi wedi sôn am un—yn cael ei gyflwyno. Yn aml, mae materion yn ymwneud â hyfywedd a chydsyniad posibl yn cael ei wrthod, ond rydym ni'n monitro cyfleoedd posibl yng Nghymru i sicrhau ein bod ni'n cynhyrchu manteision i gymunedau lleol ledled Cymru, a bydd angen cludo unrhyw drydan sy'n cael ei gynhyrchu i ddefnyddwyr beth bynnag yw'r dechnoleg, felly mae angen y cymysgedd hwnnw o dechnolegau arnom ni, ac rwy'n gwybod y byddech chi, fel Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, eisiau sicrhau bod gennym ni system gydnerth a hyblyg sy'n diwallu anghenion defnyddwyr ac yn ymateb iddyn nhw.

Prynhawn da, Trefnydd. A gaf i ofyn i chi wneud datganiad, os gwelwch yn dda, ar benderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu hawl ffoaduriaid sy'n cyrraedd mewn cychod bach i ddinasyddiaeth Brydeinig? Mae'r polisi hwn yn creu system ddwy haen, gan atal pobl sy'n gweithio, sy'n talu trethi ac sy'n creu eu bywydau yma, dim ond oherwydd y ffordd y gwnaethon nhw gyrraedd, ni allan nhw hawlio dinasyddiaeth. Mae'n anwybyddu'r amgylchiadau enbyd sy'n gorfodi pobl i wneud teithiau peryglus ac yn tanseilio'n amlwg ymrwymiadau moesol a chyfreithiol Prydain. I lawer, mae dinasyddiaeth yn ymwneud â gobaith a pherthyn. Mae cau'r drws yn glep ar ffoaduriaid fel hyn nid yn unig yn anghyfiawn, mae'n tanio rhaniad, yn gwroli'r dde eithafol ac yn bwydo naratif gwenwynig o ofn ac allgáu. O ystyried statws balch Cymru fel cenedl noddfa, hoffwn i glywed gennych chi, os gwelwch yn dda, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i warchod ffoaduriaid yma yng Nghymru rhag canlyniadau niweidiol y polisi hwn.

15:10

Diolch yn fawr iawn, Jane Dodds. Wrth gwrs, byddwch chi'n gwybod beth yw ein safbwynt ni yng Nghymru. Rhoddais i ddatganiad cenedl noddfa yr wythnos diwethaf, ac rydym ni'n falch iawn o unrhyw geiswyr noddfa a'u cymunedau lletyol pan fydd unrhyw un yn penderfynu ceisio ac ennill dinasyddiaeth y DU. Ac rydym ni'n credu bod ceisio lloches—rwy'n siarad fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru—yn hawl i'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaethau.

Wrth gwrs, nid yw penderfyniadau ynghylch statws y rhai sy'n mudo i'r DU wedi'u datganoli, maen nhw'n fater i Lywodraeth y DU. Ond byddwn i'n dweud ein bod ni'n credu bod y rhai sydd ag amddiffyniad rhyngwladol, gan gynnwys ffoaduriaid, yn gyfranwyr i'w croesawu i gymunedau Cymru, ac rydym ni wedi ymrwymo'n fawr i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd cymunedau yng Nghymru yn cael eu hintegreiddio. Ac rwy'n credu, fel rwyf i wedi'i ddweud ar gymaint o achlysuron, fod angen llwybrau diogel a chyfreithiol arnom ni i'r DU ac er mwyn dod yn ddinesydd y DU.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad heddiw? Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gyflwyno'r cynllun iawndal gwaed heintiedig yng Nghymru. Rwyf i wir yn croesawu'r cyhoeddiad gwerth £11.8 biliwn yn y gyllideb y llynedd gan Lywodraeth y DU, a'r ffaith bod rhai pobl erbyn hyn wedi dechrau cael iawndal, ond rydym ni hefyd yn clywed am oedi annerbyniol. Rwyf i wedi siarad â Hemoffilia Cymru, sydd hefyd wedi codi pryderon eraill am y cynllun, gan ddweud nad yw'r cynllun iawndal gwaed heintiedig newydd yn cael ei gynnal fel corff hyd braich annibynnol, fel y cafodd ei argymell, nad oes unrhyw ymgysylltu na mewnbwn wedi bod gan glinigwyr haemoffilia arbenigol, ac nad oes unrhyw ymgysylltu ystyrlon wedi bod â chynrychiolwyr cymunedol. A hefyd mae cryn dipyn o anhawster o ran pobl sydd wedi cael eu heintio gan waed halogedig neu ei fod wedi effeithio arnyn nhw o ran cael gwybodaeth. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad a'r wybodaeth ddiweddaraf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros iechyd.

Ac yn ail, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar y model buddsoddi cydfuddiannol. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni glywed galwad yn Lloegr i'r GIG yn Lloegr ystyried y model buddsoddi cydfuddiannol i ehangu buddsoddi yn natblygiad seilwaith iechyd. Ac, wrth gwrs, mae Canolfan Ganser Felindre yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd yn cael ei hadeiladu fel model buddsoddi cydfuddiannol. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y datblygiadau hyn. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, am eich cwestiynau chi. Mae'n bwysig cydnabod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chymheiriaid ledled y DU yn gweithio gyda Gweinidog Swyddfa'r Cabinet yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig yn cael ei sefydlu cyn gynted â phosibl a'i fod wedi'i lunio'n benodol i ddiwallu anghenion y rhai sydd wedi'u heintio ac yr effeithiwyd arnyn nhw gan y sgandal hwn. Ond mae'n bwysig cael adborth am bryderon o ran sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ac amseroldeb hynny, ond gan gofio bod yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig yn gorff annibynnol hyd braich gydag annibyniaeth weithredol gan y Llywodraeth. Mae ganddo'r rôl honno i gyflawni'r cynllun iawndal i ddioddefwyr y sgandal sydd wedi aros cyhyd am gyfiawnder, ac mae angen cyfranogiad Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU o ran datblygu'r cynllun hwnnw, gan fod gan y Llywodraeth stiwardiaeth dros yr arian sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer y cynllun. Mae'n bwysig bod y gymuned, cynrychiolwyr o'r gymuned a chynrychiolwyr yn cymryd rhan. Maen nhw, rwy'n deall, wedi mynychu digwyddiadau wedi'u trefnu gan Swyddfa'r Cabinet. Ac yn wir, mae Gweinidog Swyddfa'r Cabinet wedi ymrwymo i ymgysylltu â'r gymuned gwaed heintiedig, yn fwyaf diweddar, rwy'n credu, drwy gyfarfod â chynrychiolwyr allweddol y gymuned yng Nghymru. Ar 30 Ionawr, fe wnaethon nhw gyfarfod, rwy'n deall, â chadeirydd Hemoffilia Cymru.

Ond mae'n bwysig bod y gymuned gwaed heintiedig wedi rhoi adborth, ac mae  rhai newidiadau wedi bod, er enghraifft, i gymhwysedd brodyr a chwiorydd o dan y cynllun, ond hefyd mae'n bwysig bod y wefan sydd ar gael ar gyfer gwybodaeth—'Iawndal i rywun sydd wedi'i heintio: Trosolwg'—ar gael i bawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw, a bod cynlluniau wedi'u nodi gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig i agor y gwasanaeth iawndal fesul cam, er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn ddiogel i bawb sy'n hawlio iawndal. Ond mae cryn dipyn yma rwy'n credu y gallwn ni ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni amdano, mewn datganiad ar gynnydd, oherwydd ei fod mor bwysig. A diolch i'ch ymgysylltu parhaus chi ac effaith eich ymgyrchu chi ar y ffordd y mae pethau wedi datblygu yr ydym ni wir yn cyflawni'r addewidion a gafodd eu gwneud. Felly, diolchaf i chi am y cwestiwn hwnnw, a byddaf i'n ei drafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ie, yn ddiddorol, o ran y model buddsoddi cydfuddiannol, eich ail gwestiwn, y cyfeiriwyd ato'r wythnos diwethaf, rwy'n credu, gan brif weithredwr GIG Lloegr, sy'n awgrymu bod hyn yn rhywbeth y gallem ni, a Chonffederasiwn y GIG—. Gallai'r model hwn yr ydym ni wedi'i ddatblygu yng Nghymru gael ei ddefnyddio yn Lloegr. Mae wedi caniatáu i ni fuddsoddi mewn dros £1 biliwn o seilwaith cyhoeddus ychwanegol na fyddai wedi bod yn bosibl oherwydd ein pwerau benthyca cyfyngedig a'n setliad cyllid cyfalaf. A'r hyn sydd mor bwysig—. Rwy'n cofio dod i gyfarfod â chi yn Felindre flynyddoedd lawer yn ôl, pan oeddwn i'n Weinidog cyllid, i groesawu'r buddsoddi yn ein seilwaith iechyd trwy Ganolfan Ganser newydd Felindre, lle roeddech chi'n gallu cael y digwyddiad gwych hwnnw yr wythnos diwethaf, gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, i weld y datblygiadau. Mae'n ddewis cyllido. Mae ar gael i Lywodraeth Cymru i ariannu seilwaith cyhoeddus. Ac mae'n bolisi'r Llywodraeth ein bod ni, wrth gwrs, bob amser yn defnyddio ffynonellau cyllid cyfalaf sydd ar gael i'r cyhoedd, y mathau lleiaf drud o gyfalaf, cyn i ni droi at fathau o fuddsoddi a allai fod yn ddrytach. Ac wrth gwrs, mae gennym ni'r cyfle hwnnw o'r diwedd gyda'r gyllideb ddrafft a'r dyraniad cyfalaf sydd yn y gyllideb ddrafft o ganlyniad i'r cynnydd o £1.5 biliwn hwnnw yn y gyllideb gan Lywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

15:15

Trefnydd, mae'n amlwg erbyn hyn ein bod ni mewn oes cyn rhyfel, ac felly mae'n rhaid gweithredu yn unol â hynny. Os oedd unrhyw amheuaeth, yna dylai sylwadau diweddar Prif Weinidog y DU, sy'n awgrymu y gallai lluoedd arfog Prydain gael eu defnyddio i gynnal heddwch yn Wcráin pe bai setliad yn cael ei negodi, fod yn agoriad llygad. Yn hanfodol, rhaid i unrhyw negodiadau o'r fath gynnwys Wcráin. Er mwyn gwrthsefyll bygythiadau presennol yn effeithiol, rhaid i wariant ar amddiffyn y DU fod o leiaf 2.5 y cant o gynnyrch domestig gros, os nad mwy.

Mae Cymru'n gartref i asedau milwrol rhagorol, gan gynnwys maes tanio Castellmartin, barics Cawdor ym Mreudeth, a barics Aberhonddu, i enwi ond rhai, ac mae dynion a menywod o Gymru yn gwneud cyfraniad balch ac amhrisiadwy i'n lluoedd arfog, ac eto mae gwariant ar amddiffyn yng Nghymru yn parhau i fod yn anghymesur is nag mewn mannau eraill. Felly, yng ngoleuni tensiynau rhyngwladol cynyddol, byddwn ni'n croesawu datganiad gan y Prif Weinidog ar sut y gall Cymru sicrhau buddsoddiad ychwanegol ym maes amddiffyn i gryfhau ein seilwaith milwrol a chefnogi personél ein gwasanaeth.

Diolch am y cwestiwn yna. Mae hwn yn fater difrifol yr ydych chi wedi'i godi heddiw, ac rwy'n diolch i chi am hynny, Sam Kurtz. Wrth gwrs, mae unrhyw benderfyniad—. Mae'r newyddion yn newid, efallai o ddydd i ddydd, o eiliad i eiliad, ond mater i Lywodraeth y DU yw unrhyw benderfyniad, wrth gwrs, i ddefnyddio lluoedd arfog y DU, a chlywsom fod y Prif Weinidog y DU wedi nodi ei fod yn barod i ystyried rhoi milwyr y DU ar lawr gwlad yn Wcráin fel rhan o gytundeb heddwch.

Gallwn, fe allwn ni ystyried y ffyrdd y mae llawer o bobl o Gymru yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog—yn rheolaidd, wrth gefn, ar draws y fyddin, y Llynges Frenhinol a'r Llu Awyr Brenhinol. Rydym ni'n meddwl am y rhai sy'n cael eu hanfon ar weithrediadau ar hyn o bryd. Mae anfon gweithredol yn rhan o fywyd y gwasanaeth, ac mae'n taro teuluoedd sy'n byw, gweithio a dysgu yng Nghymru yn arbennig o galed tra bod anwyliaid dramor. Ond mae'n bwysig bod gennym ni gyfamod y lluoedd arfog yma yng Nghymru i gynnal egwyddorion sut rydym yn gweithio gyda'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Ond a gaf i ddweud, yn olaf, ein bod ni heddiw yn meddwl am bobl Wcráin, yn enwedig y rhai sydd gyda ni yng Nghymru ac y bydd digwyddiadau diweddar yn arbennig o anodd iddyn nhw? Dymunaf yn dda hefyd i Mick Antoniw ac Alun Davies gan eu bod yn mynd i Wcráin yfory, ac rwy'n credu ein bod ni ar draws y Siambr, yn dymuno'n dda iddyn nhw. Rwy'n credu mai dyma yw eu hwythfed daith o'r Senedd hon ar ran pobl Cymru, ac mae undebau llafur a llawer o rannau eraill o'r gymdeithas ddinesig hefyd yn ymgysylltu â'r teithiau hynny ac yn eu cefnogi, ond dan arweiniad Mick Antoniw ac Alun Davies.

15:20

Trefnydd, bydd llawer ohonom ni wedi gwylio rhaglen Y Byd ar Bedwar ar S4C neithiwr, a drafododd y methiant i ymateb i bryderon dirprwy bennaeth Ysgol Dyffryn Aman ar y pryd o ran diogelwch yn yr ysgol, yn arbennig canllawiau ar wahardd disgyblion a materion eraill hefyd, a hynny rhai misoedd yn unig cyn yr ymosodiad erchyll ar staff a disgyblion yr ysgol fis Ebrill diwethaf. Yn wir, fe ysgrifennodd e saith o weithiau i Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad—yn eironig, yr e-bost olaf ar fore’r digwyddiad ofnadwy hwnnw. Mae ei gyfraniad e a geiriau pwerus un o’r staff a gafodd ei thrywanu, ar stepiau'r llys ar ddiwedd yr achos, yn pwysleisio’r angen i weithredu ar frys ar y mater hwn.

A gaf i ofyn, felly, ydy'r Llywodraeth yn gallu rhoi datganiad i ni yn rhoi diweddariad ar y camau y maen nhw'n eu cymryd i ddiwygio a chryfhau’r canllawiau ar gyfer sicrhau diogelwch staff a disgyblion mewn ysgolion, ynghyd ag amserlen o ran pryd yn union bydd yr uwchgynhadledd ymddygiad yn cael ei chynnal, a rhoi sicrwydd inni y bydd hyn yn digwydd ar fyrder?

Diolch yn fawr iawn, a diolch am godi hyn yng nghyd-destun ein safbwynt clir yng Nghymru fel Llywodraeth Cymru bod unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth yn erbyn staff neu ddisgyblion yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol. Dylai ysgolion fod yn fannau diogel i ddysgwyr a staff. Mae gan leoliadau addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu amgylchedd dysgu diogel ac mae'n ofynnol iddyn nhw fod â pholisi ymddygiad cadarn ar waith. A dylid ymdrin ag ymddygiad gwael drwy weithredu polisïau ymddygiadol priodol yn gyson, gan gymryd camau i ddeall yr achosion sylfaenol, rhesymau sylfaenol amryfal a chymhleth yn aml pam y mae dysgwyr yn ymddwyn yn wael, ond gyda chefnogaeth briodol, mae modd ymdrin â'r rhain. Mae'n bwysig bod ein canllawiau gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn nodi'r broses y mae'n rhaid i ysgolion ei dilyn, er enghraifft, wrth wahardd disgybl, a bydd ein pecyn cymorth ymddygiad yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Rydym ni wedi gofyn i Estyn gynnal adolygiad thematig o ymddygiad mewn ysgolion uwchradd, ac fel rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod ac yn ymwybodol ohono, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cynnal uwchgynhadledd ymddygiad yn ddiweddarach eleni. Ac yn amlwg, mae'n ymwneud â gwersi i'w dysgu o'r trywanu echrydus yn Ysgol Dyffryn Aman. A hefyd, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi egluro'r safbwynt o ran canllawiau, y mae'r ysgol wedi gofyn amdanyn nhw, ond rwy'n deall ei fod yn ymwneud â materion eraill—fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny—a oedd yn ymwneud â'r ysgol ar y pryd, er enghraifft, chwilio disgyblion am fêps ac nid am arfau. Rydym ni wedi egluro'r safbwynt hwnnw, ond y peth pwysig yw sicrhau ein bod ni'n cynnal yr uwchgynhadledd ymddygiad honno yn ddiweddarach eleni a sicrhau bod y pecyn cymorth ymddygiad yn cael ei ddeall a'i weithredu'n llawn, a bod Estyn yn cynnal yr adolygiad thematig hwnnw.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg neu gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ar ddarpariaeth teithio i ddysgwyr addysg bellach yn rhanbarth Gwent? Yn ddiweddar, ymwelais i â safle Coleg Gwent ym Mrynbuga, lle y gwnes i gyfarfod â'r pennaeth newydd ar gyfer taith o amgylch y cyfleusterau ardderchog—gwerth ymweld â nhw—a thrafodaeth ar y materion sy'n effeithio ar y coleg. Un o'r materion a gododd yn ystod fy ymweliad oedd cludiant a'r heriau sydd gan ddysgwyr wrth gyrraedd eu cyrsiau oherwydd mynediad gwael i drafnidiaeth gyhoeddus a lefelau anghyson o gefnogaeth iddyn nhw gan y gwahanol awdurdodau lleol. Gall gymryd amser annerbyniol o hir i ddysgwyr gyrraedd eu campws, campws Brynbuga yn sicr, i ddilyn eu haddysg. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet priodol yn amlinellu pa gymorth arall y byddai modd ei roi i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad priodol i wahanol golegau ledled Cymru, Coleg Gwent yn sicr, gan fy mod i'n credu bod hwn yn fater cyffredin ledled Cymru, ac mae angen i ni wneud rhywbeth os ydym eisiau helpu dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn mewn bywyd. 

15:25

Diolch yn fawr, Peter Fox. Mae hwn yn fater trawslywodraethol o ran cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, ac, yn wir, mae teithio gan ddysgwyr ar agenda'r Senedd o ran busnes, ond gwn i y byddan nhw'n dymuno, wrth gwrs, fyfyrio ar eich pwyntiau y prynhawn yma.

Rydym ni wedi dod i ddiwedd ein dyraniad amser, ond mae gennyf i bedwar Aelod sy'n dymuno siarad. Os yw'r Aelodau hynny'n cadw at y terfyn amser a'r Trefnydd, a fydd, rwy'n siŵr, hefyd yn cadw at y terfynau amser, byddwn ni'n eich cynnwys chi i gyd y prynhawn yma cyn y toriad. Laura Anne Jones.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith i achub tafarndai yng Nghymru. Yn ôl Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain, fe wnaeth 19 o dafarndai gau yng Nghymru y llynedd. Maen nhw'n rhan annatod o'n cymunedau, ac rydym ni'n gwybod bod y toriad i ryddhad ardrethi busnes wedi niweidio'n tafarndai, ac wrth gwrs, mae'r cynnydd mewn yswiriant gwladol hefyd yn mynd i fod yn ergyd wael. Felly, byddai croeso cynnes i ddatganiad ar sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu atal y gyfradd bryderus hon o dafarndai'n cau.

Ac, os caf i, a gaf i ofyn am ddatganiad arall hefyd? Mae Cyngor Sir Fynwy wedi penderfynu na fyddan nhw'n newid unrhyw ffyrdd yn ôl o 20 mya i 30 mya yn dilyn eu hadolygiad, er i drigolion dynnu sylw at 143 o ffyrdd y maen nhw'n teimlo y dylen nhw ddychwelyd i 30 mya, gyda bron i 1,500 o bobl leol yn ymateb i'r ymgynghoriad. Yn Wrecsam, mae dros 50 o ffyrdd yn newid yn ôl i 30 mya, yn dilyn eu hadolygiad. Mae'n ymddangos, er bod rhai cynghorau'n hwyluso newidiadau, bod eraill yn anwybyddu eu trigolion, felly a gawn ni ddatganiad i weld sut mae hyn yn cael ei weithredu ledled Cymru, ar yr ymarfer gwrando honedig hwn a'r hyn y mae wedi'i olygu ledled Cymru? Diolch.

Diolch yn fawr, Laura Anne Jones. Wel, ydy, mae'n drist bod tafarndai'n cau. Dewis cwsmeriaid ydyw bod tafarndai'n cau, er bod rhai enghreifftiau da iawn o gymunedau'n cymryd yr awenau ac yn rhedeg tafarndai hefyd, sydd hefyd yn bwysig i'w gydnabod. Hefyd, gan sôn, dim ond am yr adeiladau lle mae tafarndai, efallai, yn cau, rwy'n credu ei bod yn wych gweld yn fy etholaeth i, sut mae tafarndai wedi cael eu trosi a'u defnyddio a'u prynu gan landlordiaid cymdeithasol, ac maen nhw'n dod yn ddarpariaeth tai gwych i bobl y mae angen tai arnyn nhw. Ond mae'r cwestiwn o gau'r tafarndai, rwy'n credu, yn rhywbeth y mae'n rhaid i bob sector ymgysylltu ag ef

Ar eich pwynt chi ynglŷn â Chyngor Sir Fynwy a'r ffaith bod pob awdurdod lleol, fel sir Fynwy, erbyn hyn wrthi'n adolygu ffyrdd, gyda'r penderfyniadau terfynol i'w gwneud gan yr awdurdodau lleol, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i gefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru yn y broses. Ond gadewch i ni atgoffa'n hunain mai prif amcan y polisi yw achub bywydau a lleihau nifer yr anafiadau, a dangosodd yr ystadegau diweddaraf fod tua 100 yn llai o bobl yn cael eu lladd neu'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20 mya a 30 mya gyda'i gilydd yn y 12 mis ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya, o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Mae hynny'n ddiweddariad mor bwysig ar effaith ein polisi ar gyfer 20 mya, a gadewch i ni adael i'r awdurdodau lleol gymryd rhan yn y broses adolygu honno fel yr ydym ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud.

Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud ynghylch cost NHI—yswiriant gwladol, dylwn i ddweud—i fusnesau. Fe wnes i gyfarfod â rhai perchnogion cartrefi gofal ddydd Gwener, ac roedden nhw wedi'u brawychu gan y ffaith y bydd yr arian hwnnw yn cael ei ad-dalu i gartref gofal yr awdurdod lleol, ond bydd gan gartrefi gofal sy'n cael eu cynnal yn breifat gostau ychwanegol erbyn hyn. Mae cynnydd o 1.2 y cant i yswiriant gwladol cyflogwyr a thoriad i'r trothwy eilaidd i £5,000 ochr yn ochr â chynnydd o 5 y cant yn y cyflog byw gwirioneddol yn mynd i daro llawer o'n cartrefi gofal preifat yn galed iawn. Rydym ni wedi colli mwy o welyau mewn cartrefi gofal yng Nghymru nag ar draws y DU gyfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac nid oes gennym ni'r ddarpariaeth. Mae llawer o welyau nawr—. Rwy'n casáu'r ymadrodd 'blocio gwelyau', ond rydym ni'n gweld cleifion mewn gwelyau nawr a hwythau'n ffit yn feddygol, ac y gallen nhw fynd adref a chael help yn y sector gofal cymdeithasol, neu fynd yn ôl i'w cartref gofal neu gartref nyrsio. Mae arnaf i ofn y byddwn ni'n gweld mwy o gartrefi gofal a chartrefi nyrsio yn cau o ganlyniad i fesurau'ch Llywodraeth chi.

15:30

Felly, sut ydych chi'n mynd i ymdrin â hyn, ac a wnewch chi sefyll dros y rhai sy'n cynnal ein cartrefi gofal, er mwyn sicrhau nad ydym ni'n colli mwy o welyau yn y sector? Diolch.

Diolch. Mae'n rhaid i mi ddweud, a gobeithio y byddech chi'n cytuno, pan sicrhaodd Llywodraeth Lafur Cymru'r arian ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol i'n gweithlu gofal cymdeithasol, ei fod wedi helpu recriwtio a chadw ein gweithlu gofal cymdeithasol. Ac rwy'n gwybod bod y sector annibynnol yn cydnabod hynny hefyd.  

A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llesiant? Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod ag ymatebwr cyntaf cymunedol o wasanaeth ambiwlans Cymru sydd wedi'i leoli ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan. Er mwyn rhoi'r cyd-destun, mae'r gwirfoddolwyr hyn yn aml yn cael eu hanfon i alwadau ambiwlans oren i gynorthwyo cyn i barafeddygon gyrraedd. Yn aml, nid yw'r gwasanaeth amhrisiadwy hwn y mae'r timau ymatebwyr cyntaf cymunedol hyn yn ei ddarparu yn cael ei gydnabod, ond mae'n hanfodol cadw gwasanaeth sydd eisoes dan bwysau i weithredu, ac rwy'n talu teyrnged i'w hymdrechion. Cododd yr ymatebwr cyntaf cymunedol nifer o bryderon gyda mi, a byddaf i'n dod â nhw at yr Ysgrifennydd Cabinet pan fydd cyfle gennyf i. Fodd bynnag, un mater a wnaeth roi cryn ysgytwad i mi oedd yr anhawster enfawr y mae'r ymatebwyr cyntaf cymunedol hyn yn ei wynebu wrth ailstocio eu poteli ocsigen. Er bod ymatebwyr cyntaf cymunedol yn aml wedi'u lleoli mewn gorsafoedd tân, ac yn gysylltiedig ag ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru, sy'n cynnwys Cymru gyfan, mae'r stociau traul y maen nhw'n eu defnyddio, fel ocsigen a rhwymynnau, yn cael eu cyflenwi gan fyrddau iechyd lleol. Mae hyn yn aml yn arwain at gyflenwadau'n cael eu hanfon i'r safle anghywir, gan ei gwneud hi'n hynod anodd i'r ymatebwyr gwirfoddol hyn gael pecyn cyflawn o gyfarpar yn ystod eu sifftiau. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet ystyried rhoi datganiad ar sut y byddai modd dileu rhwystrau i sicrhau bod cyfarpar meddygol hanfodol yn cael ei gyflenwi a'i leoli ar y safle mwyaf cyfleus i'w ddefnyddio, pryd bynnag y mae ei angen, yn y de-ddwyrain a phob cornel arall o Gymru?  

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn pwysig iawn yna, Natasha Asghar, oherwydd rwy'n gefnogwr brwd i ymatebwyr cyntaf, yn sicr, yn fy etholaeth i a llawer o rai eraill. Ac, wrth gwrs, mae eu perthynas agos ag ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru yn hanfodol i'w gwaith. Ac nid yn unig nhw yw'r ymatebwyr cyntaf—fel y maen nhw'n dymuno bod—ac yn gefnogaeth i rywun sy'n aros, efallai, am ymgysylltu pellach gan barafeddygon, neu gan y gwasanaeth ambiwlans, ond maen nhw hefyd yn wirfoddolwyr.

Felly, rwy'n siŵr fod gennych chi gwestiwn llawn yno i'w ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei sesiwn cwestiynau llafar nesaf yn y Senedd.

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gasglu data yn GIG Cymru, oherwydd rwyf i wedi canfod yn ddiweddar, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig, nad yw Llywodraeth Cymru, na'r GIG yng Nghymru, yn storio data ar y brechlyn Feirws Papiloma Dynol HPV, sy'n lleihau canser ceg y groth i fenywod. Felly, rwy'n chwilio am ddatganiad ynghylch pam mae hynny'n wir 26 mlynedd ar ôl datganoli ar fater mor berthnasol i iechyd menywod. Mae'n drawiadol i mi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddata ar hyn. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ynglŷn â pham mae hyn yn wir? Diolch.

Diolch. Rydych chi wedi rhoi'ch cwestiwn ar y cofnod heddiw, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymateb i gwestiwn iddo yn ei sesiwn nesaf o gwestiynau llafar. Wrth gwrs, gallwch chi ysgrifennu ato hefyd, ond, wrth gwrs, mae casglu data yn hanfodol ar gyfer deall anghenion ein gwasanaeth iechyd.  

4. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Iechyd a lles anifeiliaid

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar iechyd a lles anifeiliaid. Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:34:52
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i ddiweddaru Aelodau am ein gwaith iechyd a lles anifeiliaid. Ein huchelgais yw i Gymru gael anifeiliaid iach gyda bywyd o ansawdd da.

Fy nod yw i Gymru gael ei chydnabod am ei safonau rhagorol o ran iechyd a lles anifeiliaid. Yn ei dro, mae hyn yn cefnogi economi wledig ffyniannus, yr amgylchedd, ac mae'n helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Yn ystod tymor y Llywodraeth hon, rydym yn gwneud llawer iawn o waith i beri i hyn ddigwydd. Mae ein dull bob amser yn ymwneud â dod â phobl ynghyd, gwrando, gweithio mewn partneriaeth, ac rydym wedi cyflawni.

Prif flaenoriaeth yw cadw clefydau anifeiliaid allan o Gymru. Rydym wedi cynnal sefyllfa o barodrwydd, ac rydym yn parhau i ymateb i fygythiadau ac achosion o glefydau anifeiliaid wrth iddynt ddigwydd. Er mwyn amddiffyn rhag bygythiad clefydau anifeiliaid, rydym wedi gweithio gyda llywodraethau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ein dull o ymdrin â diogelwch a rheolaethau diogelwch ar ffiniau Prydain Fawr. Mae Cymru wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ein mesurau arloesol i reoli bygythiad byd-eang ymwrthedd i wrthfiotigau mewn anifeiliaid.

Ein dull o fynd i'r afael â TB buchol yw bod yn rhaid i ni weithio mewn partneriaeth, yn enwedig â ffermwyr a milfeddygon, os ydym am gyrraedd ein nod cyffredin o Gymru heb TB. Y llynedd, fe wnaethom sefydlu trefniadau llywodraethiant TB, sy'n ymgorffori gweithio mewn partneriaeth ymhellach ac yn darparu cyngor arbenigol a strategol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at dderbyn cyngor pellach gan y grŵp cynghori technegol a bwrdd y rhaglen TB wrth iddynt ddatblygu eu gwaith. Mae gennym amser prysur o'n blaenau.

O ran lles anifeiliaid, mae ein cynllun lles anifeiliaid i Gymru yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein blaenoriaethau. Rydym wedi cryfhau gorfodaeth ac wedi cyflwyno hyfforddiant llwyddiannus ledled Cymru drwy brosiect Trwyddedu Anifeiliaid Cymru. Mae'r prosiect hwn wedi darparu gwefan i awdurdodau lleol, i fridwyr ac i'r cyhoedd. Mae wedi cefnogi ymchwiliadau i fridio cŵn heb drwydded ac mae wedi cael ei gydnabod gyda gwobr cydnabyddiaeth arbennig glodfawr yr RSPCA, Olion Pawennau.

Fe wnaethom gefnogi'r gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw i'w lladd, a gafodd Gydsyniad Brenhinol fis Mai diwethaf. Eleni, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ddau Fil Aelod preifat sy'n ymwneud ag ymosodiadau ar dda byw a mewnforion anifeiliaid anwes, gan gydnabod eu pwysigrwydd. Ac rydym wedi cyflawni ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i ddeddfu ar gyfer defnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yng Nghymru.

Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. Fe wnaethom ymgynghori ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid y llynedd, a chyhoeddais grynodeb o'r ymatebion ym mis Rhagfyr. Bydd hyn yn ein helpu i bennu ein blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau lles pellach. Rydym hefyd yn gweithredu ar fridio a pherchnogaeth cŵn cyfrifol. Mynychais yr uwchgynhadledd ym mis Hydref, a chlywais yn uniongyrchol gan yr ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid cyflawni am rai o'r prosiectau gwirioneddol arloesol a'r cynnydd gwirioneddol sy'n cael ei wneud.

Yn wir, rydym wedi cyflawni llawer iawn, ond mae maint yr heriau i iechyd a lles anifeiliaid yn parhau i gynyddu. Mae'r bygythiad o achosion o glefyd da byw yn bresennol trwy'r amser. Er enghraifft, rydym wrthi'n gweithio i gadw ein heidiau a'n buchesi yn ddiogel rhag y tafod glas a'r ffliw adar, yn ogystal â bygythiadau clefydau o rannau eraill o'r byd, fel clwy'r traed a'r genau. Felly, mae'n rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus a chynnal y safonau uchaf o ran hylendid, bioddiogelwch a phrynu anifeiliaid yn ddiogel i gadw clefyd draw. Dyma hefyd pam rwy'n gweld mesurau iechyd a lles anifeiliaid fel conglfaen i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i fireinio'r manylion fel rhan o'r gwaith ehangach ar y cynllun hwn.

O ran datblygu'r model cenedlaethol ehangach ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, rwy'n edrych ymlaen at rannu ein camau nesaf yn llawn yn y gwanwyn. Ond un mater lles anifeiliaid sydd wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad hwnnw yw rasio cŵn, yn enwedig milgwn. Mae hyn yn rhywbeth y gofynnwyd i'r Llywodraeth ei ystyried ers cryn amser. Rwy'n falch o rannu gyda'r Senedd heddiw fy mod wedi gweld cryfder y teimlad ynghylch hyn, ac rwyf wedi gwrando. Mae'r mater wedi cael ei drafod a bu'n destun dadl yn y Senedd, ac, fel y dangoswyd yr wythnos diwethaf yn unig, mae ganddo gefnogaeth drawsbleidiol glir. Cafodd ein hymgynghoriad ar fodel cenedlaethol ar gyfer lles anifeiliaid, a oedd yn cynnwys cwestiynau yn ymwneud â milgwn, dros 1,100 o ymatebion. Yn yr ymgynghoriad hwnnw, canfu'r cwestiwn a oedd yn gofyn am dystiolaeth a barn ar waharddiad graddol fod bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr o blaid gwaharddiad o'r fath. Cafodd deiseb i wahardd rasio milgwn yng Nghymru dros 35,000 o lofnodion. Mae hyn ochr yn ochr â gwaith ymgyrchu gan y gynghrair Cut the Chase, sy'n cynnwys Blue Cross, Dogs Trust, Achub Milgwn Cymru, Hope Rescue a'r RSPCA. Rydym hefyd yn nodi'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill ledled y byd sy'n cymryd camau i wahardd y gweithgaredd hwn. O ganlyniad, Dirprwy Lywydd, credaf mai nawr yw'r amser iawn i symud i wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Rydym yn falch o fod y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hyn. Rwyf eisiau i waharddiad ddod i rym cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl. Bydd mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod y cŵn, eu perchnogion a'r rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant sy'n gysylltiedig â'r trac rasio yn gallu dirwyn y gweithgaredd hwn i ben gan barhau i ddiogelu lles cŵn sydd yn y diwydiant ar hyn o bryd, y gymuned leol a'r economi leol. Dyna pam mai ein cam nesaf fydd sefydlu grŵp gweithredu. Bydd y grŵp yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn dysgu o ddulliau gwledydd eraill, fel Seland Newydd, lle mae'r Llywodraeth yn cyflwyno Bil i ddod â rasio milgwn i ben, ac yn cynghori'r Llywodraeth hon ar sut y bydd gwaharddiad yn dod i rym, y dull deddfwriaethol, a phryd y caiff ei gyflawni.

Mae amrywiaeth o Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon wedi cyflwyno eu barn ynghylch rasio milgwn. Mae'r gefnogaeth drawsbleidiol hon wedi cael ei hystyried, ac rwy'n ddiolchgar am eu cyngor ar y mater hwn. Rwyf wedi ystyried hyn a barn y cyhoedd a'r grwpiau ymgyrchu a'r ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar wrth ddod i'r penderfyniad hwn.

Fel y dywedais ar ddechrau fy natganiad, rwyf am i Gymru fod yn esiampl o’r safonau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid. Trwy gydweithio efo'r diwydiant, ein rhanddeiliaid a pherchnogion anifeiliaid, rydym yn cyflawni'r nod hwn. Diolch yn fawr iawn.

15:40

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n rhaid i mi ddweud—ac ni fyddaf fel arfer yn dweud y mathau hyn o bethau yn y Siambr—roeddwn yn siomedig iawn mai dim ond tua 10 munud yn ôl y cawsom weld y datganiad hwn, tro gwael, rwy'n credu, ond mae'n rhaid bod yna reswm dros hyn. Fodd bynnag, mae llawer o'r hyn sydd yn y datganiad hwn yn bethau yr ydym yn cytuno'n gryf â nhw. Mae'r awydd am safonau rhagorol o ran iechyd a lles anifeiliaid yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ymdrechu i'w gael bob amser, ac rwy'n gwybod eich bod yn angerddol am hyn, fel yr wyf i, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Rwy'n cytuno â'r flaenoriaeth o gadw clefydau allan o Gymru. Mae hynny mor sylfaenol ar hyn o bryd, gydag ofn ynghylch clwy'r traed a'r genau, ffliw adar ar ein ffiniau, tafod glas—iawn, mae tafod glas yn dawel ar hyn o bryd oherwydd bod niferoedd trogod yn isel ar hyn o bryd, ond, pan ddaw yn ôl, mae'n bryder go iawn i ni gyd—ac, wrth gwrs, mae TB yn fater enfawr i bob un ohonom. Ac mae'r gwaith mewn partneriaeth ar draws ffiniau, yn ogystal â'r hyn rydym yn ei wneud gyda ffermwyr, fel ym mhrosiect sir Benfro, yn bwysig iawn i lunio canlyniad a all atal y clefyd ofnadwy hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ladd dros 10,000 o wartheg y flwyddyn. Felly, mae angen i ni ddysgu o hynny a gobeithio y byddwn yn dod o hyd i ffordd ymlaen, ac rwy'n gobeithio y bydd y grŵp cynghori technegol a bwrdd y rhaglen yn eich cynghori'n dda wrth wneud hynny.

Mae trefniadau trwyddedu anifeiliaid yn bwysig iawn. Un maes a allai fod o ddiddordeb, yr oeddwn i'n mynd i'w godi ar adeg arall yn y Siambr ond mae'n berthnasol heddiw yw; roeddwn i yng Ngholeg Gwent yn ddiweddar, ac roeddwn i'n edrych ar eu hadran anifeiliaid bychain, sy'n amrywio o darantwlaod i nadroedd mawr a llawer o wahanol anifeiliaid, lle mae myfyrwyr yn dysgu amdanynt, ond nid oes unrhyw ofyniad trwyddedu ar eu cyfer o gwbl. Ac roedden nhw'n bryderus iawn, oherwydd roedden nhw'n credu y dylai fod gofyniad, oherwydd mae rhywbeth tebyg yn Lloegr. Ac eto, nid yw casgliadau bychain o anifeiliaid, casgliadau preifat, yn destun unrhyw reoleiddio oni bai y codir tâl a gall pobl eu gweld ac yna mae ganddynt ryw fath o statws sw, neu debyg. Ond mae'n amlwg bod bwlch yno y mae angen i ni ei lenwi, ynghylch trwyddedu anifeiliaid yn y casgliadau hynny o anifeiliaid.

Mae'r gyllideb yn amlygu oddeutu £4 miliwn o refeniw eleni ar gyfer rheoli ffiniau. Rwy'n gwybod bod swm eithaf sylweddol o gyfalaf. Dydw i ddim yn siŵr sut y bydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer diogelwch ffiniau, ond yn y bôn, mae'n mynd i fod yn fwy nag unrhyw beth—. Rwy'n clywed am y fframwaith anifeiliaid a lles a phwysigrwydd hwnnw, ond ar hyn o bryd mae £1.9 miliwn yn y gyllideb i gefnogi hynny. Felly, mae'n debyg, Ysgrifennydd Cabinet, rwyf wir eisiau deall, o ochr hon eich datganiad, a oes digon o arian ar gyfer ein ffiniau, ar gyfer ein fframwaith lles, i sicrhau y gallwn gadw ein ffiniau'n ddiogel? Mae yna bobl yn y gymuned ffermio sydd â phryderon difrifol nad oes gennym y gallu, y cydnerthedd, efallai, i gynnal ein gwyliadwriaeth er mwyn cadw'r clefydau hyn allan o'n gwlad, oherwydd yr effaith ddinistriol y gallant ei chael.

Rwyf hefyd wedi cwrdd â'r RSPCA, ac roeddwn yn falch o gwrdd â'r gynghrair Cut the Chase—ac fe wnes i gyfarfod â rhai o'r cŵn yn ddiweddar y tu allan—ac rwy'n deall yr heriau a'r pryderon a'r dystiolaeth ysgubol y maent wedi'i dangos. Mae gan ein grŵp, fel y gwyddoch, gefnogaeth drawsbleidiol, ond mae yna safbwynt rhydd o ran hyn, os oes gan bobl farn wahanol hefyd. Ac yn sicr byddaf yn mynd i ymweld â'r trac rasio, fel yr wyf wedi'i wneud, er tegwch, i gael safbwynt cytbwys; byddaf yn ymweld â nhw hefyd. Ond rwy'n credu bod y dystiolaeth yn bwerus iawn, iawn. Ac rwy'n cydnabod yr holl waith da sy'n digwydd o ran bridio cŵn a rhoi ein holl anifeiliaid yn gyntaf yn ein penderfyniadau i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau drostynt, oherwydd os na wnawn ni, pwy fydd yn gwneud hynny? 

Felly, Ysgrifennydd Cabinet, mae'n debyg mai fy nghwestiwn mwyaf i chi yw: a oes gennym ddigon o gydnerthedd i sicrhau y bydd ein system amaethyddol yma yng Nghymru yn parhau i fod yn ddiogel rhag bygythiad? Diolch.

15:45

Peter, diolch yn fawr iawn. Gadewch i mi ddechrau drwy ymddiheuro am unrhyw oedi. Weithiau mae'n digwydd; mae pethau na ellir eu hosgoi y tu ôl i'r llenni. Rydym bob amser yn ceisio, fel y gwyddoch, i roi cymaint o rybudd ag y gallwn. Fel mae'n digwydd, heddiw, un ffordd neu'r llall, roedd yna ychydig o oedi, ond rwy'n ymddiheuro.

Ond diolch am y pwyntiau—rhai pwyntiau pwysig iawn yna. Un yw'r mater o weithio ar draws ffiniau ar faterion fel tafod glas, clwy'r traed a'r genau, ffliw adar, nid yn unig gyda'r prif swyddogion milfeddygol a gweithio gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ledled y DU, ond hefyd gweithio gyda chydweithwyr yn rhyngwladol, fel ein bod ni'n cadw'r clefydau hyn allan gymaint ag y gallwn, neu lle maent wedi ymsefydlu rydym yn ymdrechu i'w cadw allan o Gymru gymaint ag y gallwn. Ac mae hynny'n rhannol yn ymwneud â mesurau bioddiogelwch mewn rhai o'r ardaloedd hyn hefyd, a phrynu stoc a gwartheg yn ddiogel mewn rhai ffyrdd. Felly, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd. Ond mae'n dod â mi'n uniongyrchol at y pwynt a wnaethoch chi hefyd ynglŷn â sut mae hyn yn cysylltu â ffiniau hefyd. Oherwydd mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr—. Y wers o'r gorffennol yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod ein ffiniau'n ddiogel hefyd. Ac mae gennym sefyllfa wahanol yn y dirwedd ar ôl yr UE a'r ymadawiad â'r UE a fframwaith Windsor sydd bellach ar waith ac ati. Ond hyd yn oed wedi dweud hynny, mae angen i ni sicrhau bod gan yr holl ffin, ein holl fynedfeydd o amgylch y DU, i gyd reolaethau da, oherwydd dyna sut rydym ni'n cadw clefydau allan, o ran bioddiogelwch, ond hefyd o ran materion ffytoiechydol hefyd. Felly, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny, byddwn yn gweithio gyda'r Asiantaeth gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn gwybod yn sicr, gan fy mod gydag ef yn rheolaidd yn pwysleisio pwysigrwydd cadw'r cwantwm cyllid angenrheidiol ar gyfer y maes hwn. Mewn gwirionedd, mae'n faes nad ydych chi byth yn sylwi arno nes bod rhywbeth yn mynd o'i le. Felly, byddwn yn cadw hwnnw, a'r person arall sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am hyn, wrth gwrs, yw fy mhrif swyddog milfeddygol hefyd, a fydd yn gwneud hynny'n rheolaidd.

A gaf i hefyd nodi eich bod wedi sôn am Goleg Gwent ac eraill? Soniais yn fy sylwadau agoriadol fy mod yn edrych ymlaen at gyflwyno'r ymateb llawnach i'r ymgynghoriad a wnaethom ar y drefn drwyddedu. Rwyf wedi gallu, ac yn falch o wneud y cyhoeddiad heddiw am rasio milgwn a'r ffordd ymlaen, ond yn ehangach, fe gyflwynaf yr ymateb hwnnw. Ac, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar ba ymatebion a gawsom wedyn i gyfleusterau llai sy'n ymdrin ag anifeiliaid, yn ogystal â'r rhai mwy. Mae hwnnw'n bwynt perthnasol iawn.

Ac yn olaf, rwyf am groesawu beth, rwy'n credu, oedd ei gefnogaeth i'r achos trawsbleidiol diwrthdro a'r ymgyrchoedd a'r dystiolaeth gynyddol yn rhyngwladol sydd wedi arwain gwledydd eraill nawr i symud tuag at wahardd rasio milgwn. A diolchaf i chi am hynny.

A gaf i groesawu eich datganiad heddiw, Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig mewn perthynas â gwahardd rasio milgwn? Mae'n rhywbeth, rwy'n gwybod, y mae Aelodau ar y meinciau hyn ac eraill ar draws y Siambr wedi'i godi'n gyson gyda chi, ac, wrth gwrs, byddwn yn gwneud yr hyn y mae angen i ni ei wneud o ran gweithio gyda chi i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei gyflwyno yn addas i'r diben ac yn cyflawni'r amcan a'r nod rydych chi wedi'i nodi y prynhawn yma. Ond, wrth gwrs, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi eisiau iddo ddigwydd cyn gynted â phosib, a dyna lle mae'r print mân, mae'n debyg, yntefe, oherwydd mae angen i'r Llywodraeth ddangos diwydrwydd a chydymffurfiaeth â'r broses briodol, fel arall rydych chi'n gadael eich hun yn agored i her gan y rhai a allai wrthwynebu cam o'r fath. Felly, efallai y gallech ymhelaethu ychydig ynghylch a ydych yn credu ei bod yn angenrheidiol cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol—rwy'n ymwybodol o'r heriau sy'n gysylltiedig â'r amserlen o ran deddfu yma nawr yn y 14 mis diwethaf sydd gennym cyn diddymu—neu a ydych yn credu bod llwybrau cyfreithiol neu reoleiddiol eraill yn bosibl.

Mae gwneud rhywbeth ar frys bob amser yn risg, onid ydyw? Ac rwy'n gwybod eich bod chi'n ymwybodol o hyn. Oes, mae angen i ni weithredu'n gyflym, ond mae angen i ni weithredu'n iawn yma hefyd. Nawr, rydych chi'n cyfeirio yn eich datganiad—mae angen yr amser arnom i ystyried canlyniadau gwaharddiad, a chanlyniadau annisgwyl. Mae angen i ni atal, er enghraifft, rasio heb ei reoleiddio neu yrru'r sector cyfan i'r dirgel. Fe wnaethoch chi grybwyll lles milgwn presennol yn cael eu diogelu wrth i'r diwydiant efallai ddirwyn i ben yng Nghymru. Nawr, mae'n rhaid i lawer o'r ystyriaeth honno ddigwydd ar yr un pryd â datblygu unrhyw ddeddfwriaeth bosibl, felly a ydych chi'n ffyddiog bod y 14 mis sydd gennym yn ddigonol i wneud hynny, os yn wir, eich bwriad chi yw sicrhau bod hyn yn digwydd yn y Senedd hon? Rwy'n siŵr y gallwch chi gadarnhau cymaint â hynny i ni.

O ran y materion ehangach, wedyn, y gwnaethoch gyfeirio atynt, rwy'n meddwl tybed sut mae hyn i gyd yn dod at ei gilydd yn nhirwedd ehangach polisi lles anifeiliaid y Llywodraeth, oherwydd rydym wedi cael datganiad ar iechyd a lles anifeiliaid heb un cyfeiriad at grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, sydd, yn fy marn i, yn chwarae llawer o'r rôl honno. Fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru oedd gennym hyd at 2024, mae gennym y cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru hyd at 2026, fe wnaethoch gyfeirio at y model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid—sut neu ble mae hynny i gyd yn dod at ei gilydd mewn dull cydlynol? Efallai y gallwch chi ein rhoi ar ben ffordd ychydig.

Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd am achosion o glefyd da byw a'r angen i fod yn wyliadwrus. Efallai y gallai hynny fod yn ddatganiad ar wahân, naill ai'n llafar neu'n ysgrifenedig, oherwydd bod clwy'r traed a'r genau, tafod glas, yn enwedig gyda'r gwanwyn o'n blaenau, a ffliw adar hefyd yn rhai rwy'n gwybod sy'n peri pryder mawr i'r sector, ac mae angen y sicrwydd hwnnw arnom, yn hytrach na chyfeiriadau cyflym yn y datganiad hwn heddiw. 

Ac yn olaf gennyf i, ymosodiadau ar dda byw, wrth gwrs—. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn gobeithio defnyddio neu weithio gyda'r rhai sy'n cynnig Biliau Aelodau preifat yn Llywodraeth y DU, ond, wrth gwrs, fel y gwyddom, nid yw Biliau Aelodau preifat bob amser yn cyflawni'r hyn yr oeddent wedi bwriadu ei gyflawni pan ddechreuon nhw. Felly, a fyddech chi'n barod i fynnu pwerau perthnasol i Gymru os canfyddwn, unwaith eto, oherwydd nid dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei roi ar brawf yn San Steffan, nad yw'r nod hwnnw o fynd i'r afael ag ymosodiadau ar dda byw mewn ffordd ystyrlon o'r diwedd yn rhywbeth sy'n cael ei gyflawni yn San Steffan? Diolch.

15:50

Llyr, diolch yn fawr iawn, a diolch hefyd am y gefnogaeth i'r penderfyniad rydym wedi'i wneud nawr, fel Llywodraeth Cymru, i symud ymlaen gyda gwahardd rasio milgwn. Rwy'n cydnabod eich gwaith chi ac eraill o amgylch y Siambr, mae'n rhaid i mi ddweud, sydd wedi siarad mewn cymaint o ddadleuon, sydd wedi ymateb i etholwyr, sydd wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn dod i'r casgliadau sydd gennych hefyd. Mae'r grŵp gweithredu yn mynd i fod yn allweddol i hyn, oherwydd mae rhai o'r ffactorau y sonioch amdanynt—ac maen nhw'n ffactorau dilys, felly pethau fel y risg o yrru i'r dirgel naill ai rasio milgwn neu, fel arall, rasio gyda chŵn eraill, nid milgwn ac ati, oherwydd mae hynny'n hysbys hefyd. Felly, ymdrin â hynny. Felly, yn hynny o beth, rwy'n credu y bydd yn bwysig ymgysylltu â rhai o'r elusennau lles anifeiliaid i ddeall ymarferoldeb hyn, y ffordd orau ymlaen. Felly, bydd y grŵp gweithredu hwnnw'n allweddol.

Ac rwy'n credu eu bod nhw hefyd yn mynd i fod yn allweddol hefyd wrth amlinellu i ni y ffordd orau ymlaen, oherwydd mae yna ffyrdd gwahanol ymlaen—osgoi'r allanoldebau negyddol, y canlyniadau anfwriadol yr ydym eisiau eu hosgoi, peryglu lles mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ond gan ddangos i mi, 'Iawn, dyma'r ffordd y gallwch chi ei wneud.' Ac mae yna wahanol ffyrdd: mae yna ffyrdd o ran offerynnau statudol, mae yna ffyrdd o ran deddfwriaeth sylfaenol, mae yna ffyrdd y gellir gwneud hyn. Mae yna ffyrdd hefyd y credaf y gallant annog ymgysylltiad â'r broses, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cyfrannu'n deg at y broses, gan gydnabod mai'r hyn yr ydym yn ei wneud, cyn gynted â phosibl, yw gwahardd rasio milgwn. Felly, mae'r grŵp gweithredu yn mynd i fod yn allweddol yn hyn, ac edrychaf ymlaen at ddod yn ôl, ar ôl y toriad, i archwilio ychydig mwy ynghylch amserlen y grŵp hwnnw. Ond pan ddywedaf, 'cyn gynted â phosibl', rwy'n cymhwyso'r un math o eiriau i waith y grŵp hefyd; rwyf eisiau iddo ddod ymlaen mewn modd amserol gydag awgrymiadau ynghylch y ffordd ymlaen.

Rydych chi'n sôn am sut mae hyn i gyd yn dod at ei gilydd. Mae'r cyfan yn dod at ei gilydd, wrth gwrs, o fewn y cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru. Felly, yr holl elfennau hyn—. Hynny yw, yr heriau—rydym ni'n gwneud cymaint mewn cymaint o feysydd lles anifeiliaid yng Nghymru, ond mae'n dod at ei gilydd o fewn y cynllun lles anifeiliaid hwnnw. Ond, wrth gwrs, yn fuan daw ein hymateb i'r ymgynghoriad trwyddedu, a fydd yn bwysig hefyd, oherwydd mae gan yr un hwnnw y potensial i effeithio'n gadarnhaol ar filoedd ar filoedd ar filoedd o anifeiliaid ledled Cymru, o bob math a maint a rhywogaeth wahanol.

O ran materion tafod glas a chlefydau eraill, hoffwn roi'r sicrwydd i chi nad hwn yw'r unig gyfle o bell ffordd i mi fod yma yn trafod hyn gyda chi ac eraill, ac rydym hefyd yn ymgysylltu'n rheolaidd, gyda'r prif swyddog milfeddygol a chyda milfeddygon allan yn y maes a chyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, ond hefyd gyda'r undebau ffermio. Yn wir, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru a sefydliadau eraill. Hyd yn oed yr wythnos hon, roeddwn mewn cyfarfod awr gyda nhw ac roedd clefydau anifeiliaid ar yr agenda.

Ac yn olaf, o ran deddfwriaeth San Steffan, edrychwch, rydym yn obeithiol oherwydd bod un o'r Biliau hyn, wrth gwrs, wedi methu cwpl o weithiau o'r blaen. Rydym yn obeithiol iawn, oherwydd mae wedi cael ei godi ac mae'n uchel yn y safleoedd yma ac mae awydd gwirioneddol gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i weld y rhain yn cael eu cefnogi; rydym ni'n obeithiol y bydd y rhain yn dod drwodd—yn wirioneddol obeithiol. Ac rydym ni'n awyddus i weithio gyda nhw—rydym ni wedi dweud hynny ar lafar wrthyn nhw mewn cyfarfodydd ac rydym ni wedi'i roi mewn ysgrifen iddyn nhw, felly rwy'n obeithiol iawn y byddan nhw nawr yn cael eu cyflawni. Mynd i'r afael â'r materion hynny o ymosodiadau ar dda byw a materion lles ehangach, os gallwn wneud hyn oherwydd bod Bil Aelod preifat yn mynd rhagddo, gadewch i ni wneud hynny, gadewch i ni fachu ar y cyfle.

15:55

Yn dilyn y ddadl yn y Siambr yr wythnos diwethaf a'r ddeiseb a gyflwynwyd gan Vanessa o Hope Rescue, hoffwn ddweud bod ymhell dros 35,000 o bobl yn falch ac yn ysgafnach eu bryd o glywed y datganiad hwn heddiw yn gwahardd rasio milgwn yng Nghymru. Hoffwn groesawu'r gwaith trawsbleidiol yr ydym wedi bod yn ei wneud, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol lles anifeiliaid, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a'r holl swyddogion am bopeth y maent yn ei wneud ar les anifeiliaid yng Nghymru. Rwy'n teimlo ein bod ni wir yn arwain y ffordd yma. Hoffwn ddiolch hefyd i Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ac, yn anad dim, ymroddiad yr holl sefydliadau ac arbenigwyr, mae'n rhaid i mi ddweud, o'r gynghrair Cut the Chase, sydd wedi siarad cymaint. A hoffwn hefyd dalu teyrnged i Almost Home Dog Rescue a Chris a Jo. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi siarad a chymryd rhan yn hyn. Mae hwn yn ddiwrnod da—diwrnod da—i filoedd o anifeiliaid yng Nghymru ac rwy'n teimlo mor gyffrous ac mor falch o glywed hyn.

Fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd Cabinet, yw: mae amser yn hanfodol oherwydd po hiraf y bydd hyn yn mynd ymlaen, y mwyaf o gŵn fydd yn cael eu niweidio, felly pe gallech roi gwybod i ni am linell amser cyn gynted â phosib, gan weithio gyda sefydliadau, a fydd yn eu helpu hefyd, oherwydd rwy'n gwybod eu bod nhw'n barod—maen nhw'n brysur; maen nhw'n llawn—i weithio gyda chi i wneud yn siŵr bod milgwn yn cael cartref da, wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

Carolyn, diolch yn fawr iawn. Rwyf eisiau cydnabod y gwaith rydych chi wedi'i wneud fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol lles anifeiliaid ar hyn a llawer o faterion eraill, ac aelodaeth y grŵp hwnnw hefyd, oherwydd mae'n un o'r meysydd hynny sydd, nid yn unig ynghylch milgwn, ond yn gyffredinol, yn cael cefnogaeth drawsbleidiol go iawn. Ond diolch am eich cefnogaeth i'r datganiad heddiw, ac yn enwedig y cyhoeddiad ar ein bwriad nawr i symud ymlaen gyda gwahardd rasio milgwn ac i'w wneud cyn gynted â phosibl—rwy'n dal i ailadrodd hynny. Ond a dweud y gwir, mae'r gwaith wir yn dechrau nawr a dyna pam mae angen i'r grŵp gweithredu fwrw ymlaen â'r gwaith, a dyna'r peth cyntaf y byddaf yn ei ddychwelyd i'r Siambr—byddwn yn archwilio llinell amser ar gyfer y gwaith hwnnw. Ac nid ydym eisiau iddo fod yn hir, nid ydym eisiau i hwn ddiflannu dros y gorwel. Mae angen iddynt edrych arno yn gyflym iawn, ond yn drylwyr—y pwyntiau a gafodd eu gwneud gan Llyr eiliad yn ôl—a thynnu hwn yn ddarnau a dweud, 'Iawn, beth yw'r ffordd orau ymlaen y gallwn ni ei chynghori er mwyn cyrraedd y gwaharddiad hwnnw cyn gynted â phosib?' Felly, rwy'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â hynny'n gyflym. Byddwn yn gweithio ar hynny dros y toriad ac yn dod â hynny ymlaen. Ac yna, yn seiliedig ar eu trafodaethau, gallwn wedyn nodi'r amserlen ar gyfer symud at waharddiad.

Pan ddywedaf fod y gwaith yn dechrau nawr, mae'n bwysig dweud ein bod eisiau ymgysylltu â'r holl randdeiliaid hynny sydd ar gael, rydym wir eisiau gwneud hynny, ac mae hynny'n cynnwys pethau fel, 'Wel, beth yw'r dyfodol i'r trac hwnnw, felly, wrth symud ymlaen?' Er mwyn osgoi ei adael, heb neb i ofalu amdano, yn adfeiliedig ac ati, 'Beth yw dyfodol hwnnw?' ac ati, ac ati. Bydd llawer o'r pethau hynny i'w hystyried hefyd. Ond rwy'n credu, byddaf, mewn amser eithaf byr, yn gallu nodi'r amserlen ar gyfer y grŵp, ac yna hefyd nodi'r amserlen, yn seiliedig ar eu trafodaethau, o ran sut y gallwn gyflawni'r gwaharddiad.

16:00

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet. Rwyf am ddatgan buddiant: rwy'n berchennog milgi achub o'r enw Wanda. Mae'n rhaid i mi ddweud nad oes llawer o achlysuron pan fyddaf yn sefyll i fyny yn y Siambr ac yn gwenu, ond dyma un o'r dyddiau hynny. Fel y dywedodd Carolyn, mae'n ddiwrnod hollol ffantastig. Mae hwn yn ddatganiad pwysig, y mae'n rhaid i ni ei ddathlu. Mae'n dangos yn glir iawn yr ymrwymiad sydd gan Gymru i ofalu am ein hanifeiliaid.

Rwyf eisiau talu teyrnged i'r gynghrair Cut the Chase ac eraill, y mae llawer ohonynt yn yr oriel gyda ni heddiw. Diolch i chi gyd—diolch yn fawr iawn. Chi sydd wedi dod â hwn i ble mae e nawr, ac ni fyddwn i yn gallu gwneud yr hyn rydych chi'n ei wneud, ond rydym ni i gyd eisiau diolch i chi am eich ymroddiad, ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n parhau yn eich gwaith i sicrhau bod pob anifail yn ddiogel. Ar hyn o bryd, rwy'n gwybod y byddwch chi'n dathlu yn eich calonnau ac yn eich pennau, ac efallai y byddwch chi'n cael dathliad pellach yn nes ymlaen, ond diolch yn fawr iawn.

Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i'r holl filgwn hynny sydd wedi mynd o'n blaenau, a'r holl filgwn hynny a fydd yn dod ar eu hôl nhw hefyd. Fe wyddoch fy mod wedi dechrau siarad am hyn o ganlyniad i fod yn berchen ar Arthur, milgi llawn trawma a oedd yn wyth oed pan ddaeth atom ni. Fe ddysgais i lawer oddi wrtho. Roedd yn gallu cysgu ar 100 mya, ond roedd ei brofiadau ar y trac wedi ei ddifetha'n llwyr, ac fe gollon ni ef dair blynedd yn ddiweddarach—llawer, llawer rhy gynnar. Ond rwy'n cyflwyno'r amser hwn i Arthur.

Mae llawer ohonoch, rwy'n gwybod—y rhai ohonoch yn yr oriel a llawer ohonom—wedi gweld y trawma a'r anafiadau i'r cŵn hyn. Mae eu dioddefaint wedi bod yn ddiangen, mae eu camdriniaeth wedi bod yn ddiangen ac mae modd osgoi eu poen. Ond, o heddiw ymlaen, mae angen i ni dynnu llinell a sicrhau bod hyn yn dod i ben. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cofio bod y cŵn hyn yn anifeiliaid gwych, digyffro, tawel, anhygoel. Rwy'n falch o fod yn berchennog, ac rwy'n dweud wrth bob un ohonoch, wrth i ni edrych ymlaen, efallai y gofynnir i chi roi cartref i filgi achub.

Fy nghwestiwn i chi yw: mae gennym drac sy'n dal i fod yn weithredol nawr, felly tybed a allech chi ddweud wrthym beth yw eich nodau o ran sicrhau bod y cŵn ar y trac hwnnw'n ddiogel, wrth symud ymlaen, a'n bod ni'n eu gwarchod, eu cadw yng Nghymru ac, os oes angen, gweithio gyda'r elusennau anifeiliaid hynny i sicrhau bod ganddyn nhw gartref am byth. Diolch yn fawr iawn.

Diolch Jane; diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi clywed llawer am Arthur o'r blaen, cyn iddo farw, a Wanda nawr hefyd. Ac, edrychwch, rwy'n ymuno â chi i gydnabod yr holl ymgyrchwyr hynny—unigolion a sefydliadau—sydd wedi cyfrannu'n helaeth i hyn dros gyfnod mor hir hefyd. Mewn gwirionedd, os edrychwch chi ar wledydd eraill sydd wedi bod drwy hyn, yn aml yr ymgyrchwyr allanol sydd wedi arwain tuag at newid yn safbwyntiau deddfwyr sydd wedi arwain at y pwynt lle mae Llywodraeth yn sefyll i fyny ac yn dweud, 'Iawn, rydym ni'n deall, mae angen i ni symud ymlaen.'

Ond gwnes i'r pwynt yn gynharach bod y gwaith yn dechrau nawr, ac i rai o'r sefydliadau ymgyrchu hynny sydd â llawer iawn o wybodaeth, boed hynny wrth ailgartrefu, maethu ac ati, bydd angen i ni dynnu ar rywfaint o'r arbenigedd hwnnw nawr, oherwydd un o'r pethau hynny y mae angen i ni fod yn barod ar ei gyfer a pharatoi ar ei gyfer, a byddwn i eisiau i'r grŵp gweithredu edrych arno, yw sut rydym ni'n ymdrin â'r milgwn hynny a fydd, nawr, angen eu hailgartrefu. Mae hynny, yn amlwg, yn ymwneud â'r pwynt diweddarach a wnaethoch am y trac. Nid yw'r gwaharddiad ar waith nes bod y gwaharddiad ar waith, ac os felly mae'r trac yn dal i gynnal digwyddiadau rasio ac mae milgwn yn dal i rasio yno. Nawr, ar y sail honno, mae angen i ni sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda'r trac, bod y monitro yn cael ei gyflawni, bod yr archwiliadau milfeddygol yn digwydd, bod lles y milgwn sy'n rasio ar hyn o bryd yn dal i gael ei fonitro ac y gofelir amdanynt ac ati, a bod y milgwn hynny sy'n dod ymlaen yn dal i gael cartrefi da hefyd wedyn, gan gynnwys pan fyddant yn cael eu hanafu, neu waeth na hynny hefyd.

Felly, mae angen i ni gydnabod nad yw hyn yn mynd i ddigwydd yfory, ond mae angen i ni weithio tuag at y gwaharddiad hwn nawr cyn gynted â phosibl, a dyna pam rwy'n credu y dylai'r grŵp gwaith a gweithredu archwilio hyn, ac mae angen i ni ddefnyddio'r holl arbenigedd sydd ar gael, yr holl randdeiliaid sydd allan yna, a dweud, 'Wel, iawn, sut ydym ni am symud, heb ganlyniadau anfwriadol, cyn gynted â phosibl tuag at y gwaharddiad hwnnw, fel bod Cymru yn arwain y ffordd ar hyn nawr?' Ond diolch yn fawr iawn, a diolch am y gwaith rydych chi wedi'i wneud ar hyn hefyd.

16:05

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, un peth sy'n dod yn amlwg iawn yn gyflym iawn, pan ydych chi'n gynrychiolydd gwleidyddol rheng flaen, yw pa mor gryf mae'r cyhoedd yn teimlo am les anifeiliaid— yn briodol felly—ac mae hynny wedi dod yn amlwg iawn, rwy'n credu, gyda rasio milgwn hefyd, ac yn sicr rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan etholwyr pryderus. Rydym ni'n gwybod am y niwed a achosir. Mae Cut the Chase wedi gwneud gwaith mor dda. Roedden nhw yma yr wythnos o'r blaen ar risiau'r Senedd gyda'r 300 o goleri yn cynrychioli milgwn a gafodd eu lladd mewn traciau trwyddedig yng Nghymru a Lloegr mewn blwyddyn, ac maen nhw wedi rhoi gwybodaeth i ni fod 115 o filgwn, yn anffodus, wedi eu lladd ar y trac yng Nghymru mewn blwyddyn. Felly, mae'r niwed yn glir iawn yn wir, a phan fyddwch allan yn cerdded mewn parc, rydych mor aml yn taro i mewn i bobl yn cerdded milgwn, rydych chi'n dechrau sgwrs ac maen nhw'n esbonio eu bod nhw'n gŵn achub, a phan fyddwch chi'n clywed am y cefndiroedd, mae mor annifyr a phryderus.

Felly, gyda'r cefndir hwnnw, rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud y cyhoeddiad hwn heddiw ac wedi nodi'r broses hefyd, ond, o ystyried bod gan y Senedd hon a'r Llywodraeth hon 14 mis i fynd, tybed a allech chi ddweud wrthym a ydych chi'n hyderus y bydd gwaharddiad ar waith cyn i'r 14 mis ddod i ben, oherwydd, yn amlwg, dim ond dros y cyfnod hwnnw y gall Llywodraeth Cymru reoli'r materion hyn yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael y gwaharddiad hwn ar waith cyn gynted â phosibl er mwyn atal unrhyw ddioddefaint pellach.

John, rwy'n cytuno â chi. Mae angen i'r gwaharddiad fod ar waith cyn gynted â phosibl. Nawr ein bod ni wedi gwneud y cyhoeddiad, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd—pawb sydd â rhan yn hyn—i wneud yn siŵr y gallwn gyflwyno'r gwaharddiad hwn cyn gynted â phosibl. Rwyf eisiau i'r grŵp gweithredu gyflwyno'r ffordd y gallwn ni wneud hynny, ac mae ffyrdd o wneud hynny. Soniais yn gynharach am ddeddfwriaeth sylfaenol fel ffordd ymlaen, offerynnau statudol ac ati, ond y peth pwysig yn hyn oll hefyd yw ymgysylltiad rhanddeiliaid drwyddi draw—yr holl faterion yn ymwneud â lles, materion economaidd, materion ynghylch dyfodol y trac, mae angen ymdrin â'r rheini i gyd. Mae angen i ni hefyd weithio gyda rhai o'r rheini sydd â phrofiad yn y sectorau elusennau lles anifeiliaid i wneud yn siŵr, hyd yn oed heddiw, fel rydym ni'n sefyll yma, na fydd effeithiau negyddol yn digwydd yn syth—felly, er enghraifft, pe bai pobl yn dechrau nawr neu'n fuan, anfon eu cŵn dros y ffin i rasio neu beth bynnag, ac ati. Felly, gadewch i mi fod yn hollol glir: mae'r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid yng Nghymru yn parhau, mae'r trwyddedu a'r trac yn parhau, mae hynny i gyd yn parhau, ond mae angen i ni gyrraedd y pwynt hwnnw lle gallwn gyflawni'r gwaharddiad hwn nawr, cyn gynted ag y bo modd.

Mae heddiw yn ddiwrnod da i filgwn yng Nghymru. Gallwn ei nodi a, gobeithio, gwneud rasio milgwn yng Nghymru yn rhan o hanes. Dyna fel yr oedd hi, a dyma fel y mae hi nawr. Rwy'n sicr yn croesawu eich datganiad, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y grŵp gweithredu, yr amserlen ar gyfer eu gwaith a pha mor gyflym y bydd hynny'n dod yn ôl yma fel y gellir gwneud penderfyniad. Mae llawer o bobl wedi dweud ei fod yn 14 mis. Nid yw'n 14 mis, mewn gwirionedd. Os cymerwch yr amser y byddwn yn cau gweithrediadau cyn yr etholiad, mae'n debycach i 12 mis.

Ond rydym ni wedi cwrdd â llawer o filgwn, cyn-gŵn rasio, ac maen nhw'n anifeiliaid cariadus. Maen nhw'n dod i fyny at bobl, maen nhw'n dal i ymddiried mewn pobl, sy'n eithaf anhygoel. Maen nhw wrth eu bodd yn pwyso ar bobl, sy'n eithaf rhyfeddol. Ond y pwynt yw ein bod ni yng Nghymru wedi dangos dros nifer o flynyddoedd y gallu i gyflwyno deddfwriaeth arloesol i ddiogelu anifeiliaid, ac rwy'n falch o sefyll yma heddiw ynghyd â chyd-Aelodau a chyda'r bobl i fyny'r grisiau sydd wedi symud hwn ymlaen. A heb yr holl grwpiau hynny y talwyd teyrnged iddyn nhw yma heddiw yn rhoi'r holl wybodaeth honno inni, ei bwydo i ni, ni fyddem yn gallu gwneud y penderfyniad hwnnw, penderfyniad ar sail gwybodaeth, yma heddiw. 

16:10

Felly, mae fy nghwestiwn eisoes wedi'i ofyn: hynny yw, rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am waith y bwrdd gweithredu a hefyd sut rydych chi'n bwriadu cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, ac ar ba ffurf bydd hynny. 

Diolch i chi, Joyce, ac unwaith eto, rwy'n cydnabod eich gwaith chi ac eraill wrth gefnogi'r newid sydd wedi bod yma dros y blynyddoedd yn hyn o beth, ond hefyd yn ehangach. Mae'r Cynulliad hwn, fel yr oedd bryd hynny, y Senedd bellach, bob amser wedi arloesi yn y maes hwn o les anifeiliaid, ac wedi bod yn falch o wneud hynny, ac rwy'n credu y gallwn ei wneud eto yma hefyd. Dim ond i roi'r sicrwydd hwnnw i chi eto, byddaf, byddaf yn cyflwyno'r amserlen ar gyfer gwaith y grŵp gweithredu a'r hyn y bydd yn ei wneud, a phwy fydd yn cymryd rhan ynddo cyn gynted â phosibl. Byddaf yn gweithio ar hynny dros y toriad ac yn ei gyflwyno, ac yna gallant gyflwyno i mi y ffordd y gallwn gael y gwaharddiad hwnnw ar rasio milgwn yng Nghymru cyn gynted â phosibl. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid wyf yn gwrthwynebu unrhyw un o'r sylwadau a wnaed yma heddiw, Gweinidog, ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw gorfodaeth, oherwydd bydd rasio milgwn anghyfreithlon yn digwydd ar ôl i chi gau'r trac trwyddedig. Rwyf wedi ei weld dro ar ôl tro, lle mae deddfwriaeth a geiriau cain yn cael eu siarad yn y Siambr hon, ac eto nid yw'r gweithredu a'r cyflawni ymarferol ar lawr gwlad yn digwydd. Ac rydym ni'n ei weld gyda hela ysgyfarnogod yn arbennig ym Mro Morgannwg, sy'n fater enfawr, ac nid yw'r heddlu'n gallu, naill ai oherwydd diffyg adnoddau neu ddiffyg pwerau presennol, trechu'r rhai sy'n ymwneud â hela ysgyfarnogod. Felly, byddwn yn gofyn yn eich paratoad bod eich swyddogion a chi eich hun yn rhoi ystyriaeth briodol i weithredu mesurau i sicrhau nad yw rasio milgwn anghyfreithlon yn cydio, ac yr ymgynghorir â'r awdurdodau a fydd yn gyfrifol am weithredu'r gwaharddiad hwn fel bod ganddynt gyfres o bwerau i atal—rwyf am ddefnyddio'r geiriau—'marchnad ddu' rhag agor a dechrau cynnal rasio anghyfreithlon a gamblo a fydd yn gyrru hyn i isfyd treisgar, a drwgdybiaeth ddofn, ddofn o'r hyn y bydd y ddeddfwriaeth yn ei gyflawni yn y pen draw. 

Yn wir. Andrew, mae'n bwynt perthnasol iawn a dyna pam rwy'n credu bod gwaith y grŵp gweithredu wrth edrych yn ddiffuant ac yn onest ar y materion sy'n gysylltiedig â hyn, a sut i osgoi canlyniadau negyddol y gellir eu rhagweld. Mae'r hela ysgyfarnogod yn un diddorol oherwydd, wrth gwrs, roedd y gwaith helaeth sydd wedi ei wneud i fynd i'r afael â hela ysgyfarnogod ymhell yn ôl pan oedd yn digwydd yn y Ffeniau a Swydd Lincoln ac ati, a llefydd fel yna, yn golygu eu bod yn chwilio am lefydd eraill i fynd iddynt a dyma nhw'n dod i mewn i Gymru. Mae gennym lawer iawn o waith yn digwydd ar hyn o bryd yn y gogledd ar y mater penodol hwn, ond, oes, mae problem yn y Fro hefyd—nid yn unig yn y Fro, gyda llaw, ond hefyd yn y tiroedd comin mawr, eang uwchben Ogwr, mae'n ddrwg gennyf, nid Aberogwr, etholaeth Ogwr, i fyny ym mryniau canolbarth Morgannwg a gorllewin Morgannwg. 

Ond rwy'n credu bod yr agwedd hon ar ddadleoli gweithgaredd a'i droi'n weithgaredd troseddol anghyfreithlon heb ei reoleiddio, yn rhywbeth y byddwn hefyd eisiau i'r elusennau lles anifeiliaid, yr heddlu ac eraill edrych arno fel rhan o'r darn hwn o waith, fel ein bod yn bwrw ymlaen â hyn mewn modd ystyriol iawn, gofalus iawn ac wedi ei farnu'n dda er mwyn cyrraedd y gwaharddiad hwnnw cyn gynted ag y bo modd yn ymarferol, ond gan ystyried yr holl elfennau hynny ynddo. Felly, rwy'n amau y bydd diwrnodau eraill pan ddown yn ôl i'r Siambr a byddwn yn dechrau archwilio hyn mewn cryn fanylder pan fydd y grŵp gweithredu yn cyflwyno ei syniadau, ond mae hwnnw'n bwynt perthnasol y mae angen i ni ymochel rhagddo. Ac yna hefyd y mater, pe bai unrhyw berygl i hynny ddigwydd, mae'n ymwneud a gorfodaeth a'r ymgysylltiad â'r awdurdodau ar hynny i'w atal rhag digwydd yn y lle cyntaf, mae'n rhaid i mi ddweud. 

5. Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Adeiladu ar Lwyddiant Ailgylchu Cymru

Eitem 5 heddiw yw datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, adeiladu ar lwyddiant ailgylchu Cymru. Unwaith eto, galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 16:14:48
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Dirprwy Lywydd, diolch eto. Lleisiodd pobl Cymru eu barn yn glir yn ystod ymarfer gwrando'r Prif Weinidog, a heddiw rwyf am ddangos sut rydym yn troi eu geiriau yn gamau gweithredu. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae Cymru yn arwain ar lefel fyd-eang o ran ailgylchu. Heddiw, rwyf am nodi sut y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw i dyfu'r economi, creu swyddi, mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i arbed arian i bobl mewn cymunedau ledled Cymru.

Ers dyddiau cynharaf Llywodraeth Cymru, rydym wedi hyrwyddo datblygu cynaliadwy, a dyna lle mae gwreiddiau ein taith tuag at economi gylchol. Yn ôl ym 1999, roeddem yn ailgylchu llai na 5 y cant o'n gwastraff trefol, gyda 95 y cant yn mynd i safleoedd tirlenwi. Ers hynny, rydym wedi gwella ein cyfraddau ailgylchu yn sylweddol, ac mae Cymru bellach yn genedl ailgylchu lle mae pob cartref a busnes yn chwarae rhan hanfodol. Nawr rydym wedi cyrraedd cyfradd ailgylchu o dros 66 y cant, ac mae llai nac 1 y cant o'n gwastraff trefol bellach yn cyrraedd safleoedd tirlenwi.

Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym nid yn unig wedi parhau i gynyddu ein hailgylchu, ond rydym wedi cymryd cam mawr arall ymlaen. Diolch i'n deddfau newydd ar ailgylchu yn y gweithle, mae ailgylchu mewn gweithleoedd bellach yn adlewyrchu'r ffordd rydym yn ailgylchu gartref, gan wahanu gwydr, papur, bwyd, metel a phlastig. Mae hyn nid yn unig yn gam allweddol tuag at ddod â diwylliant taflu i ben, ond mae'n un o'r camau mwyaf rydym wedi'u cymryd i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â'r argyfwng natur yn ystod tymor y Senedd hon.

Ar ben hynny, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraethau eraill y DU, mae gennym gyfreithiau newydd bellach sy'n ein helpu ni i wella ailgylchu ac i hybu buddsoddiad i awdurdodau lleol. O dan y deddfau newydd hyn, mae cynhyrchwyr yn talu am y deunydd pecynnu maen nhw'n ei roi ar y farchnad. Mae hyn yn golygu bod cymhelliant uniongyrchol i leihau deunydd pecynnu, ac fe fydd hefyd, gyda llaw, yn cynhyrchu dros £1 biliwn i awdurdodau lleol ledled y DU. Bydd y ffrwd ariannu hon yn amhrisiadwy i'n hawdurdodau lleol. Bydd yn helpu i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith sy'n hanfodol i greu'r economi gylchol hon, yn ystod cyfnod heriol i wasanaethau cyhoeddus, wrth i ni geisio, yn wir, adfer o effaith y 14 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

Mae ein cynnydd mewn ailgylchu wedi ein gwneud yn arweinydd byd-eang, ac mae'n gam enfawr tuag at fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Ochr yn ochr â'r rheidrwydd amgylcheddol i weithredu, mae rheidrwydd economaidd hefyd. Rydym yn benderfynol o roi Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol nesaf, wrth i ni symud i economi wyrddach, fwy cylchol sydd wedi'i datgarboneiddio. Ac mae'r Llywodraeth Lafur hon yn benderfynol y bydd pobl sy'n gweithio ledled Cymru yn teimlo cyfran deg o'r manteision a'r cyfleoedd.

Mae ein hailgylchu o'r radd flaenaf eisoes yn helpu i ddenu mewnfuddsoddiad a chreu swyddi yng Nghymru. Er enghraifft, bydd ffatri ailgylchu plastig newydd Jayplas yn Abertawe yn prosesu 100,000 o dunelli o blastig bob blwyddyn ac yn creu 100 o swyddi newydd. Yng Nglannau Dyfrdwy, mae ailddatblygu melin Shotton wedi denu buddsoddiad o dros £1 biliwn ac wedi diogelu 147 o swyddi. Bydd y safle yn dod yn un o ganolfannau mwyaf y DU ar gyfer deunydd pecynnu wedi'i ailgylchu, gan greu 220 o swyddi eraill. Mae busnesau fel hyn yn gwybod, wrth ddod i Gymru, y gallan nhw gael mynediad at ailgylchu o ansawdd da, diolch i ymdrechion pobl Cymru. I gwmnïau sydd eisoes yn gweithredu yng Nghymru, mae gennym ni gefnogaeth i wella eu heffeithlonrwydd o ran adnoddau. Mae'r gronfa economi gylchol ar gyfer busnesau yn helpu busnesau i gymryd camau pwysig, fel addasu eu prosesau i ddefnyddio deunydd wedi'i ailgylchu, ac i leihau'r deunyddiau y mae angen iddynt eu defnyddio. Mae 40 o fusnesau wedi elwa hyd yn hyn, gyda mwy ar y gweill. 

Rydym wedi buddsoddi £13 miliwn o'r gronfa economi gylchol i sefydlu 81 o ganolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio ledled Cymru gyfan. Gyda chefnogaeth partneriaethau rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol, mae'r canolfannau hyn yn helpu i annog ailddefnyddio ac yn helpu i arbed arian i bobl ledled Cymru ar yr un pryd. Felly, er enghraifft, yn Aberdâr ac yng Nghasnewydd, gwnaethom ariannu'r gwaith o adnewyddu adeiladau gwag ar y stryd fawr i'w troi'n ganolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio, ac i helpu i adfywio'r strydoedd mawr hynny. Rydym wedi darparu cyfleuster ailddefnyddio neu atgyweirio pwrpasol yn 80 y cant o ganolfannau ailgylchu ein hawdurdodau lleol. Mae'r rhain yn amrywio o ganolfan ailddefnyddio yn Llandrindod i'r siediau ar draws Rhondda Cynon Taf a'r siop ailddefnyddio elusennol yn y Rhyl. Rydym yn gweithio nawr gyda'r pedwar awdurdod lleol sy'n weddill fel ein bod yn cwmpasu Cymru gyfan.

Mewn partneriaeth â'r sector gwirfoddol, rydym wedi sefydlu rhwydwaith o gaffis trwsio mewn 126 o gymunedau, a ddarperir gan Caffi Trwsio Cymru. Yn wir, fe ymwelais â chaffi trwsio Caerfyrddin yn ddiweddar a gweld gwaith anhygoel y sefydliad a'r gwirfoddolwyr. Drwy helpu i drwsio eitemau pobl sydd wedi torri, mae'r caffis ledled Cymru wedi arbed dros £1 filiwn i bobl leol yng nghanol argyfwng costau byw. Mae hynny'n £1 filiwn yn ôl ym mhocedi pobl. Rydym hefyd wedi helpu Benthyg Cymru i sefydlu rhwydwaith o 20 o 'lyfrgelloedd pethau' sy'n llogi eitemau cartref fel offer garddio, golchwyr pwysau a glanhawyr carpedi am gost isel i gymunedau lleol.

Mae adeiladu'r Gymru decach a gwyrddach hon wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Dyna pam rydym yn gweithio mewn partneriaeth â FareShare Cymru, lle rydym wedi gweithredu i frwydro yn erbyn tlodi bwyd ac rydym hefyd yn mynd i'r afael â gwastraff bwyd. Yn wir, fe ymwelais â'u cyfleusterau yn y de gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol i weld sut mae ein buddsoddiad o £3.9 miliwn yn helpu FareShare Cymru i ailddosbarthu dros 6,600 o dunelli o fwyd dros ben. Maen nhw wedi darparu dros 15 miliwn o brydau bwyd i Gymru, i dros 441 o grwpiau cymunedol ac elusennau fel Huggard, gan helpu'r digartref yng nghanol Caerdydd; Tŷ Gobaith ychydig y tu allan i Lanelli, sy'n helpu pobl ifanc sydd â dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol; Y Pantri ym Mae Colwyn, archfarchnad gymdeithasol gyntaf Cymru; a Chlwb Cinio Gogledd Corneli ger Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n dod â phobl hŷn at ei gilydd, yn ogystal â helpu i leihau effeithiau nwyon tŷ gwydr gwastraff bwyd.

Rydym hefyd, Dirprwy Lywydd, wedi cefnogi camau gweithredu sy'n gysylltiedig â'r economi gylchol yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys ar brosiectau i leihau gwastraff yn y gwasanaeth iechyd. Mae miliwn o bunnoedd wedi'i roi i bum prosiect, gan gynnwys treialu tecstilau llawfeddygol di-haint y gellir eu hailddefnyddio ym myrddau iechyd prifysgol Aneurin Bevan, Bae Abertawe a Chaerdydd a'r Fro. Dyma rai o'r ffyrdd rydym yn adeiladu ar ein cofnod ailgylchu i gyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

Dirprwy Lywydd, gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod Cymru'n manteisio ar gyfleoedd y chwyldro diwydiannol nesaf gyda busnesau arloesol a swyddi newydd i bobl yn economi gwyrddach, mwy cylchol y dyfodol. A thrwy annog ailddefnyddio ac atgyweirio fel rhan o fywyd bob dydd yng nghalon ein cymunedau, gallwn helpu i roi diwedd ar y diwylliant taflu a'r llygredd a ddaw yn ei sgil, a hynny er lles y blaned ac er mwyn arbed arian i bobl. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:20

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad. Mae yna newyddion da iawn yn y fan yna. Rwyf bob amser wedi dweud, pan fyddwch chi'n ei gael yn iawn, fe ddylen ni gydnabod hynny. Mae'r cyfraddau ailgylchu yn wych, ac wrth gwrs mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i'm hawdurdod lleol fy hun sydd wedi gweithio'n galed iawn, dros nifer o flynyddoedd, i sicrhau eu bod nhw'n gwneud eu gorau glas. Mae'n talu ar ei ganfed nawr o ran hynny. 

Roeddwn hefyd yn hoffi, yn eich datganiad, lle gwnaethoch chi sôn am ddeunydd pecynnu cynhyrchwyr. Mae hynny wedi bod yn asgwrn cynnen go iawn cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, oherwydd yn rhy aml nawr rydych chi'n prynu eitemau ac mae'r deunydd pecynnu yn fwy na'r—. Mae'n sarhaus, bron, i'r cynnwys sydd ynddo. Mae'n anghredadwy. Felly, mae unrhyw beth a all gael ei wneud, fel y dywedwch, o ran hynny yn y dyfodol, yn llwyddiant mawr i mi.

Ond, tipio anghyfreithlon, mae'n rhaid i mi godi hynny heddiw. Yn rhy aml nawr, dydw i ddim yn gwybod—. Does dim ots gen i ddweud hyn, os yw pobl—. Wel, ydw, rwy'n gweld tipio anghyfreithlon gymaint yn Aberconwy. Ond mae angen i ni ei gael yn iawn lle mae pobl yn teimlo y gallan nhw fynd â matresi neu unrhyw hen bethau nad ydyn nhw eu heisiau mwyach, mae angen i ni ei gwneud hi'n hawdd iddyn nhw gael gwared ar yr eitemau hynny. Yn rhy aml, rydym yn gweld eitemau yn ein gwrychoedd, ar gaeau ffermwyr, ar dir preifat, ar dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol, ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod, oherwydd bod ein hawdurdodau lleol yn brin o arian, nad oes ganddyn nhw'r timau gorfodi allan yna, ond mae'n rhywbeth rwy'n teimlo'n angerddol iawn amdano, felly byddwn i'n falch iawn pe gallem, efallai, wneud gorfodi'n haws.

Pan fydd pobl yn cael eu dal yn tipio'n anghyfreithlon, efallai y bydd dirwyon uchel yn rhwystr i eraill. Yn y gorffennol, os ydw i wedi gweld pobl rwy'n credu eu bod nhw'n gadael pethau mewn ardal benodol, byddaf yn stopio, ac rwyf hyd yn oed wedi gweld pobl yn rhoi pethau yn ôl yn eu ceir ac yn gyrru i ffwrdd, ac rwyf wedi nodi'r platiau rhif ac ati. Ond ni ddylem orfod plismona hyn yn unigol. Mae angen i'r gwaith o fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon gynnwys ystod eang o randdeiliaid, o iechyd ac addysg i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Felly, a wnewch chi amlinellu pa gamau newydd rydych chi'n eu cymryd yn ystod gweddill y Senedd i geisio troi'r llanw hwn o dipio anghyfreithlon?

Fe ddywedoch chi:

'Diolch i'n deddfau newydd ar ailgylchu yn y gweithle, mae ailgylchu mewn gweithleoedd bellach yn adlewyrchu'r ffordd rydym yn ailgylchu gartref'.

Dydy hynny ddim yn hollol wir. Yn sir Conwy, mae gan safleoedd preswyl flychau troli a chadis bwyd bach. Fodd bynnag, mae busnesau, gan gynnwys fy swyddfa etholaeth fy hun nawr—mae'n rhaid i ni gael biniau ailgylchu enfawr ar gyfer dau neu dri chynhwysydd yr wythnos. Dydw i ddim yn credu bod gan lawer o siopwyr yn arbennig, na phobl swyddfa, y lle i gael yr holl gynwysyddion ailgylchu gwahanol hynny. Felly, rwy'n credu bod angen mwy o waith ar hynny. Pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gydag awdurdodau lleol i alluogi'r busnesau hynny sy'n dymuno, fel fy swyddfa i, i gael yr un trefniadau ailgylchu ag eiddo preswyl gyda biniau llai? Byddai gweithredu o'r fath yn helpu llawer o fusnesau sy'n cynhyrchu ychydig o wastraff ond nad oes ganddyn nhw ddigon o le i storio'r unedau hynny.

Mae swyddi newydd yn cael eu creu yn y sector ailgylchu, ond nid yw hyn yn gwneud iawn am y ffaith mai'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 oedd 73 y cant. Felly, roedd hynny i lawr pwyntiau canran ar y flwyddyn flaenorol. Mae aelodau o Gymdeithas Ailgylchu Metelau Prydain yn gyfranwyr cadarnhaol mawr. Mae ganddyn nhw 24 o safleoedd yng Nghymru, ac mae ei haelodau yn cefnogi 750 o swyddi yng Nghymru, gan gyfrannu £350 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Wrth i'r defnydd o dechnoleg ffwrnais arc drydan i wneud dur gynyddu, felly hefyd bydd yr angen am y dur a ddefnyddiwyd yn flaenorol y mae aelodau'r Gymdeithas yn ei gynhyrchu. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i gydweithio â nhw, fel eu bod nhw'n gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd economaidd ac ailgylchu maen nhw'n eu cynnig?

Yn wir, rwy'n credu bod hwnnw'n slogan da iawn ac mae'n un y mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn digwydd:

'Mae adeiladu'r Gymru decach a gwyrddach hon wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn y Llywodraeth Cymru hon.'

Fel y gwyddoch chi, rwy'n credu yn y gofynion cyfreithiol, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, fod yn rhaid i Gymru fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Felly, unwaith eto, rwyf am i chi fod yn fwy agored ynghylch sut rydych chi'n bwriadu symud tuag at sero net 2050, ond heb drosglwyddo ein hallyriadau'n barhaus i wledydd eraill.

16:25

Janet, diolch yn fawr iawn. A gaf i ymuno â chi wrth dalu teyrnged i'r holl awdurdodau lleol? Fe soniais am bobl Cymru sydd wedi mynd â ni i'r safle hwn o fod yn arweinydd yn fyd-eang, ond felly hefyd awdurdodau lleol. Ac mewn rhai awdurdodau lleol mae wedi bod yn gymharol ddidrafferth, mewn eraill mae wedi bod yn anoddach. Ac yn aml mae'n ymwneud â gweithio gyda phobl, nid dim ond ar y pethau technegol, ond ar y newid mewn ymddygiad. Ond nawr, mae fel bod pobl bron, ar draws Cymru, yn ei wneud yn awtomatig. Maen nhw'n edrych dros y ffin ac yn meddwl, 'Pam nad ydyn nhw'n ei wneud? Rydyn ni jyst yn gwneud hyn.'

Ie, yn wir. Ac, yn rhyfedd, dyma pam roedd y newid i ailgylchu yn y gweithle, rwy'n credu, yn llyfnach. Mae gennym ni bethau i weithio arnyn nhw o hyd. Dim ond i ddweud, yn glir iawn, Dirprwy Lywydd, mae ein holl lwyfannau cyngor a chymorth i fusnesau allan yno o hyd. Felly, maen nhw'n gallu gweithio, maen nhw'n gallu mynd i'w hawdurdod lleol, maen nhw'n gallu cael eu cyfeirio at ein hadnoddau ar-lein, ac maen nhw'n cael eu categoreiddio yn ôl sector hefyd—felly, safleoedd carafanau a gwersylloedd, sefydliadau trydydd sector, beth bynnag—a defnyddio hynny. Edrychwch, dewch i weld fy swyddfa, oherwydd fe aethon ni drwy hyn gyda'n contractwr glanhau a gwastraff, ac roedden nhw'n dweud, 'Beth ydyn ni'n ei wneud?' ac yn y blaen. Felly fe wnaethon ni weithio gyda nhw ar, 'Wel, dyma'r cyngor. Beth allwn ni ei wneud?' Nawr, mae gennym ni finiau llai o dan gownter y gegin. Yn hytrach na thri mawr, neu dri neu bedwar enfawr, mae gennym ni rai llai sydd wedi'u cynllunio'n benodol iddyn nhw weithio gyda nhw nawr. Yr un contractwr yw nhw—lleol, busnes lleol—ac maen nhw wedi addasu iddo nawr. Ond rwy'n credu bod angen i ni barhau i weithio a thynnu sylw pobl at y ffaith bod y cyngor ar gael, 'Ewch i weld beth mae eraill yn ei wneud', ac yna gwneud i ailgylchu yn y gweithle ddigwydd.

Rydych chi'n cyffwrdd ar y mater o dipio anghyfreithlon, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n ei hyrwyddo'n rheolaidd. Tipio anghyfreithlon a'r gwastraff rydym yn ei weld yn ein hamgylchedd lleol—mae'n boen llwyr. Gallwn ni wneud llawer ar hyn, ar sawl lefel. Felly, y cynllun gweithredu tipio anghyfreithlon yw'r hyn sy'n llywio ein dull gweithredu cyffredinol. Mae gorfodaeth yn allweddol hefyd, ac rydyn ni'n gweld mwyfwy nawr—. Roeddwn i'n edrych ar lefydd fel Caerffili y diwrnod o'r blaen, a aeth dros y blynyddoedd diwethaf o ychydig iawn o gosbau i lwyth o gosbau trwm, a gafodd lawer o sylw. Mae'r neges i'r cyhoedd yn bwysig, i ddweud, 'Dyma beth fydd yn digwydd. Os cewch chi eich dal, dyma beth fydd yn digwydd.' Yn amlwg, allwn ni ddim rhoi camerâu ym mhob man, er ein bod ni'n buddsoddi gydag awdurdodau lleol mewn camerâu a gwyliadwriaeth. Weithiau, mae'n anodd. Ond rwy'n credu bod y neges yna, y byddwch chi'n cael eich erlid, y bydd rhywun yn dod ar eich ôl os byddwch chi'n tipio'n anghyfreithlon—.

Mae gan gyfrifoldeb unigol ran i'w chwarae yn hyn hefyd, wrth gwrs, a pharhau i ddweud wrth bobl, 'Ymunwch â ni ar hyn. Byddwch yn berson ifanc cyfrifol, ac yn oedolyn cyfrifol hefyd. Peidiwch â gadael sbwriel.' Ac os ydych chi'n ddeiliad tŷ, pam na fyddech chi'n defnyddio'r hyn sydd ar gael yn lleol o ran cael gwared â'ch gwastraff? Pam na fyddech chi'n sicrhau bod y fan sy'n ymddangos i fynd â'ch gwastraff i ffwrdd yn gludwr trwyddedig? Rydym yn gwneud digon nawr i hyrwyddo hyn. Mae'n anodd dweud na ddylai fod unrhyw un sydd ddim yn ymwybodol o hyn. Ac rwy'n hapus i'w ddweud yma yn y Senedd hefyd: peidiwch â'i roi i rywun nad yw wedi'i drwyddedu, oherwydd dyna'r stwff fydd yn cael ei dipio'n anghyfreithlon i lawr y lôn gefn y tu ôl i'ch tŷ yn y pen draw.

Rydym hefyd yn ariannu Cadwch Gymru'n Daclus. Wrth gwrs, mae Cadwch Gymru'n Daclus yn gweithio'n helaeth mewn cymunedau i'w grymuso i fynd ati i dacluso. Roeddwn i allan fore Sadwrn gyda fy ngrŵp lleol, grŵp glanhau afon Llynfi hefyd. Maen nhw newydd ddechrau ar gyfer y flwyddyn newydd.

Rydym wedi gwahardd, wrth gwrs, blastigau untro. Rydym yn symud i wahardd fêps ym mis Mehefin, sy'n boen go iawn yn ein cymunedau lleol—y capsiwlau bach yna ym mhobman. Mae effaith amgylcheddol hynny yn erchyll. Ac, wrth gwrs, byddwn ni'n symud ymlaen, wrth gefnogi Llywodraeth y DU, a'r Albanwyr, a Gogledd Iwerddon ar eu dull gweithredu nhw, gyda chynllun dychwelyd ernes ailgylchu. Rydym yn symud i—. Gyda chynllun dychwelyd ernes ailgylchu, rydyn ni'n mynd i wthio ymlaen nid yn unig lle rydyn ni ar ailgylchu—ail yn y byd—ond hefyd i gynllun dychwelyd ernes ailddefnyddio. Ac mae hynny'n bwysig oherwydd mae'n delio nid yn unig â sbwriel a'r economi gylchol honno o ddeunyddiau, ond hefyd, wrth gwrs, gall greu swyddi cyntaf i'r farchnad yma yng Nghymru o'r math rydym wedi bod yn eu disgrifio, o bobl sy'n gallu ailddefnyddio'r stwff yn hytrach na'u torri a'u hailgylchu. Ond diolch, Janet.

16:30

Rwy'n sicr yn croesawu'r datganiad hwn, a buaswn i'n hoffi ymuno gyda beth sy'n cael ei ddweud wrth gydnabod y cyflawniadau sylweddol sydd wedi bod yng Nghymru gydag ailgylchu. Mae'r statws yma sydd gyda ni fel yr ail orau yn y byd yn rhywbeth mae'n rhaid inni ei ddathlu. Ac fel sydd wedi cael ei ddweud, mae hynna yn adlewyrchiad o ymdrechion cymunedau; grwpiau fel Keep Wales Tidy, yn sicr; awdurdodau lleol; busnesau—cymaint o bobl ledled Cymru. Mae e'n rhywbeth, yn sicr, mae'n rhaid inni ei ddathlu.

Ar yr un pryd, bydd cynnal y llwyddiant hwnnw ac adeiladu ar y llwyddiant yn her, ac rwy'n croesawu nifer o'r pethau rŷch chi wedi'u dweud y prynhawn yma am hynna. Bydd angen uchelgais, bydd angen buddsoddiad, bydd angen symudiad sylfaenol, fel rŷch chi wedi dweud, tuag at economi sydd yn wirioneddol gylchol. 

Nawr, rŷn ni wedi sôn yn barod y prynhawn yma am y cynllun dychwelyd ernes, neu'r DRS. Mae llawer o drafod wedi bod am gynnwys gwydr yn y cynllun. Nawr, yn bersonol, rwy'n cytuno gyda'r penderfyniad i gynnwys gwydr. Rwy'n meddwl bod rhaid inni fod yn uchelgeisiol. Rŷn ni hefyd, wrth gwrs, angen cydnabod pryderon gwirioneddol busnesau, a sicrhau bod eu lleisiau nhw'n cael eu clywed. Buaswn i'n hoffi gwybod sut mae'r Llywodraeth wedi ymgysylltu ac am ymgysylltu gyda busnesau bach wrth ddatblygu'r polisi terfynol, a pha asesiad efallai sydd wedi cael ei wneud o'r goblygiadau ymarferol i'r busnesau hynny. Eto, rwy'n meddwl bod hwn yn rhywbeth mae'n rhaid inni ei wneud, i gymryd pobl gyda ni wrth i hyn gael ei gyflawni.

Wedyn, tu hwnt i'r DRS, dydy ailgylchu ar ei ben ei hun, yn amlwg, ddim yn mynd i fod yn ddigon. Eto, rwy'n croesawu beth sydd wedi cael ei ddweud am ailddefnyddio, atgyweirio, atal gwastraff, ac yn y datganiad, mae nifer o esiamplau o bethau da sydd yn digwydd dros Gymru mewn cymunedau dros Gymru. O ran sicrhau bod y cyfleusterau yma ar gael ymhob cymuned yng Nghymru, beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud er mwyn sicrhau bod hyn ar gael i bawb? A hefyd, nid dim ond bod yr opsiynau hyn ar gael, ond eu bod nhw'n hygyrch, eu bod nhw'n fforddiadwy, a bod y newid, y shifft ddiwylliannol yna yn digwydd, achos dwi'n gwybod dyw hwnna ddim yn rhywbeth y gall un wlad eifsh wneud ar ei phen ei hunan. Ond beth ydych chi’n meddwl ydy rôl y Llywodraeth i hwyluso hynny i ddigwydd?

Nawr, i symud at fater arall yn ymwneud â hyn, roedd cyflwyno gofynion ailgylchu yn y gweithle ym mis Ebrill yn gam pwysig. Nawr, bron i flwyddyn yn ddiweddarach, i bwyso a mesur sut mae hynny wedi cael effaith, allwch chi roi gwybodaeth i ni am gyfraddau cydymffurfio gyda'r mesurau gorfodi, ac a allwch chi gadarnhau a yw pob corff cyhoeddus, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, yn cadw at y gofynion yma? Y rheswm dwi'n codi hyn yw ei fod e'n destun rhwystredigaeth i bobl sydd wedi cysylltu gyda fi—er gwaethaf y rheolau newydd, dyw cyfleusterau ailgylchu ar drenau newydd a hen ddim wastad ar gael, neu efallai eu bod yn gyfyngedig. Felly, beth ydyn ni'n gallu ei wneud er mwyn sicrhau bod hynny yn gwella?

Eto, mae sôn wedi bod am y cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig, neu'r EPR. O ran gwastraff pecynnu, a’r ffaith bod y taliadau EPR ddim yn cael eu rhagdybio, dŷn nhw ddim yn cael eu 'hypothecate-io', mae rhai cynghorau wedi cyfeirio refeniw oedd i fod, efallai, ar gyfer hynny at wasanaethau eraill. Mae yna gymaint o heriau yn wynebu cynghorau lleol ar hyn o bryd, felly sut fydd y Llywodraeth yn ymateb ac yn cydnabod y pryder hyn a'r perygl yna o hyn yn cael ei esgeuluso fel canlyniad, plis? A dwi jyst yn edrych at amser—dwi'n gwybod fy mod i'n rhedeg mas o amser.

Wrth edrych ar rai enghreifftiau rhyngwladol o lle gallwn ni sicrhau ein bod ni unwaith eto yn adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi'i gael—. Mae gwledydd eraill fel Ffrainc wedi cyflwyno deddfwriaeth gyda'r nod o hyrwyddo ailddefnyddio trwy fandadu manwerthwyr mawr i ddarparu cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer swmp-nwyddau. Maen nhw wedi cymell cwsmeriaid i ddod â'u cynwysyddion eu hunain, gan ei gwneud yn ofynnol i adeiladau cyhoeddus ddarparu gorsafoedd dŵr y gellir eu hail-lenwi. A fyddai unrhyw un o'r mesurau tebyg hynny yn bethau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i gyflymu'r broses o drosglwyddo i economi gylchol, i fynd â hi gam ymhellach?

Ac yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet,

a hefyd Ddirprwy Lywydd,

cynlluniau cwpanau amldro tref gyfan—maen nhw wedi profi'n llwyddiannus mewn llawer o wahanol leoedd. Pe bai hynny'n cael ei ehangu ledled Cymru, efallai drwy ymgorffori dyluniadau brand cyrchfan a fyddai'n helpu'r sector twristiaeth, a fyddai hynny'n rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ystyried, os gwelwch yn dda? Diolch.

16:35

Delyth, diolch yn fawr iawn. Nid yn unig y gwnaethoch chi edrych, yn eich cwestiynau, y tu hwnt i ailgylchu, ond y tu hwnt i'r cynllun dychwelyd ernes hefyd, sy'n drawiadol. Rydym yn dechrau meddwl, wel, beth sy'n dod nesaf, y tu hwnt i'r cynllun dychwelyd ernes, hefyd? Oherwydd mae hon yn daith barhaus o welliant, gwelliant, gwelliant.

Rydych chi'n codi'r pwynt ynglŷn â sut rydym yn cynnal ac yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, ac yn ymgysylltu â busnesau yn arbennig o ran y gwaith ar y cynllun dychwelyd ernes. Rydym yn gwneud hynny eisoes, felly rydym allan yna'n siarad. Mae fy swyddogion allan yna'n siarad ac maen nhw wedi bod, mae'n rhaid i mi ddweud, ers cyn i ni gyhoeddi y byddem yn symud ymlaen fwy na thebyg, oherwydd rydym wastad wedi bod ar y daith hon. Rydym wedi dweud ein bod ni'n mynd i wneud cynllun dychwelyd ernes ailddefnyddio, gan gynnwys gwydr, felly, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid. Rydym wedi dwysáu hynny dros y misoedd diwethaf ers i ni wneud y cyhoeddiad. Byddwn ni'n cynnal ymgynghoriad priodol hefyd, er mwyn ymgysylltu'n llawn.

Rydw i fy hun wedi bod allan yn ymweld ag amrywiaeth o fentrau bach a mawr i ddeall eu pryderon, ond hefyd eu huchelgeisiau ar gyfer y cynllun hefyd, gan gynnwys un o fy micro-ficro-ficro-fragdai fy hun, yn eistedd i lawr dros baned o de, nid peint, yn y bar, mae'n rhaid i mi ddweud, i dynnu sylw at hynny, a mynd trwy fanylion rhywun sy'n llythrennol yn bragu ar gyfer ei fusnes ei hun ar y safle, dim byd mwy—sut y byddai'n effeithio. Y peth da yw nad ydym yn cychwyn y cynllun dychwelyd ernes hwn o'r dechrau; rydym wedi bod wrthi ers amser maith. Rydym yn deall ac rydym yn mynd i ddefnyddio'r nifer hynny, yr ugeiniau o enghreifftiau rhyngwladol erbyn hyn lle maen nhw wedi gwneud hyn yn llwyddiannus, i ddysgu am yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a lle cawson nhw anawsterau y gallwn ni eu hosgoi nawr. Felly, mae hynny'n mynd i fod yn rhan o'n hymgysylltiad â phobl i ddweud, 'Peidiwch â phoeni am hyn. Ymgysylltwch â ni ar hyn, a gallwn ni ddylunio cynllun sy'n iawn i Gymru', ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n debyg y byddwn ni'n darparu'r model, wedyn, wrth symud ymlaen, i weddill y DU, gobeithio, hefyd, neu wersi, o leiaf, iddyn nhw ddysgu ohonynt.

O ran yr atgyweirio a'r ailddefnyddio a sut y gallwn ni gynnal hynny, wrth symud ymlaen, bydd rhywfaint ohono'n ymwneud â chyllid Llywodraeth Cymru a gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector. Rwy'n credu bod ehangu hynny yn rhywbeth i'w wneud â sicrhau ei bod bron yn brif ffrwd i sefydliadau allan yna sydd â setiau sgiliau y gallan nhw eu defnyddio. Oes rhaid i'r rhain fod mewn canolfannau atgyweirio ac ailddefnyddio bob amser? Allan nhw fod, fel sydd gen i yn fy ardal i, yn siediau dynion sy'n atgyweirio pethau trydanol a phren nawr? Nawr, mae rhai ohonyn nhw'n ei wneud eu hunain fel rhan o'r rhwydwaith o gaffis trwsio, mae eraill yn ei wneud eu hunain am eu bod nhw wedi bod yn ei wneud ers tro. Felly, sut ydyn ni'n adeiladu hyn er mwyn hel momentwm a sicrhau ei fod yn dod yn brif ffrwd, oherwydd y pwynt rydym yn ceisio'i wneud yma yw nad oes raid i chi deithio 20 milltir i gyrraedd lle? Mae rhywun, rhywle yn eich cymuned yn rhoi'r cyfle i drwsio'r peth hwnnw y mae gennych chi rwyg ynddo, y cyswllt trydanol hwnnw sydd wedi torri, neu beth bynnag, ac mae rhywun o gwmpas gyda'r set sgiliau.

Dylem edrych ar wledydd eraill bob amser ar gyfer y camau nesaf. Mae'n ddiddorol gweld beth mae gwledydd eraill sy'n gymdogion agos yn Ewrop yn ei wneud yn y lle hwn hefyd, ac mae Ffrainc, mewn nifer o feysydd, yn gwneud rhai pethau eithaf diddorol ar newid yn yr hinsawdd yn ogystal â'r economi gylchol. Mae'n ddiddorol iawn i wylio. Felly, byddwn yn edrych ar hynny, ac mae cyfleoedd ar gael i ni. Rwy'n gwybod ein bod ni ar gam penodol nawr, yn y Senedd hon, ond rydym yn edrych yn gyson ar, 'Wel, ble mae'r cam datblygu polisi nesaf sy'n mynd â ni y tu hwnt i'r cynllun dychwelyd ernes, y tu hwnt i ailgylchu, a beth yw'r ddeddfwriaeth arall y gallai fod angen i ni ei gwneud?' Felly, rydym bob amser yn agored i syniadau gan eraill ac yn tynnu ar enghreifftiau rhyngwladol.

O ran cynlluniau cwpanau amldro tref gyfan, rydym wedi gweld y rheini'n gweithio'n rhyngwladol hefyd. Rwy'n credu bod rhywbeth yn y gofod hwnnw ynglŷn â lle mae dinasoedd eisiau arwain ar hyn a gweithio gyda'u diwylliant yn y ddinas honno a chyda'r busnesau a'r sefydliadau i fwrw ymlaen â hynny. Rwy'n credu eu bod nhw. Mae hynny'n un o nifer o enghreifftiau da o ddweud, 'Gadewch i ni dorri'r gwastraff allan a gadewch i ni edrych ar rywbeth sy'n economi gylchol go iawn fel ffordd o fyw.' Felly, mae gennym ddiddordeb yn hynny, dydw i ddim yn gwybod ai rôl Llywodraeth Cymru bob amser yw camu i'r adwy a dweud y byddwn ni'n ei ariannu. Yn aml, gallwn ni dreialu pethau, ond yna mae'n rhaid i—. O Wrecsam i Fangor, i Gaerdydd, i Gasnewydd, lle bynnag, mae gennym ni rai dinasoedd gwych. Gallan nhw fod yn y lle hwn hefyd.

16:40

Rwy'n croesawu datganiad Llywodraeth Cymru yn fawr. Fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i ddweud eisoes, mae gan Gymru record ardderchog o ailgylchu, yr ail yn Ewrop ar ôl Awstria erbyn hyn, y gyntaf cyn bo hir, efallai. Ond mae angen i ni ddiolch i gynghorau lleol ac, yn bwysicach fyth, i drigolion Cymru am ein llwyddiant o ran ailgylchu. Nid ein llwyddiant ni ydyw, nid yr hyn rydyn ni'n ei wneud na'r hyn rydyn ni'n ei ddweud yma ydyw, y bobl allan yna ydyw sy'n mynd ati i ailgylchu, ac rwy'n credu bod angen i ni ddiolch iddyn nhw am y gwaith maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod cymaint o ailgylchu â phosibl yn digwydd.

Ond rydym yn gwybod bod y ffigurau ailgylchu cyhoeddedig yn tanamcangyfrif y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu, er enghraifft faint o gompostio cartref sy'n cael ei wneud. Yr Ysgrifennydd Cabinet, cynghorau—does neb yn gwybod faint ydyw, ond rwy'n credu ein bod ni i gyd yn adnabod nifer o bobl sy'n compostio yn eu gerddi cefn, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n deall. Rydym hefyd yn gwybod am ddillad, a werthir trwy siopau elusen a thrwy ganolfannau ailgylchu. Y cam nesaf yw mesur y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi ac i'w losgi. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu dechrau mesur a chyhoeddi hyn gyda'r nod o'i leihau i sero?

Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n hollol iawn, mae yna lawer o bethau cudd sydd eisoes yn mynd ymlaen, ac rwy'n cydnabod fy mod i'n un o'r rheini, fe wnes i droi fy nghompost y penwythnos diwethaf. Mae'n wych, mae'n brofiad boddhaol iawn ei droi a gweld ansawdd y compost sydd yno. Ac mae yna lawer sydd eisoes yn gwneud yr agwedd honno ar drwsio dillad ac yn y blaen. Felly, rydym eisoes yn y gofod hwnnw, yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw ei wneud yn fwy.

O ran safleoedd tirlenwi, oes, mae llawer iawn o gynnydd wedi'i wneud erbyn hyn i leihau tirlenwi yma yng Nghymru, ond mae angen i ni edrych hefyd ar yr ochr arall o hynny, sef os nad yw'n mynd yma, ac rydym yn gwneud y pethau iawn yn y maes economi gylchol, ac rydym yn ceisio lleihau gwastraff, sut rydym hefyd yn sicrhau nad yw'r DU yn cludo pethau naill ai dramor neu i safleoedd tirlenwi eraill mewn gwledydd eraill? Nawr, rwy'n credu bod hwnnw'n ddarn mwy o waith ar gyfer ymgysylltu, ac rydym yn awyddus i ymgysylltu â hynny gyda Llywodraeth y DU. Dyma pam, weithiau, er y gallem fynd ein ffordd ein hunain o ran ein dull o ymdrin â'r cynllun dychwelyd ernes gydag ailddefnyddio, rydym yn gefnogol iawn hefyd o waith ar lefel y DU, ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddweud, 'Sut allwn ni weithio gyda'n gilydd, dysgu oddi wrth ein gilydd, dod â thirlenwi i lawr yn gyfan gwbl, dod â gwastraff i lawr yn gyfan gwbl a rhoi'r gorau i'w gludo i ffwrdd a defnyddio'r cynnyrch eildro, oherwydd mae yna gyfleoedd yma o ran yr economi gylchol a swyddi hefyd?'

16:45

Ysgrifennydd Cabinet, byddwn wedi meddwl y byddech chi'n cytuno â mi bod angen i awdurdodau lleol ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl ailgylchu, a fy mhryder i yw bod rhai awdurdodau lleol nad ydynt yn gwneud hynny mewn gwirionedd ac, yn wir, yn gosod rhwystrau i atal pobl rhag gwneud hynny. Felly, mae rhai awdurdodau lleol yn cyflwyno taliadau am wastraff DIY preswyl, ar ôl bag am ddim cychwynnol, ac mae awdurdodau lleol eraill yn cynnig slotiau amser, lle mae'n rhaid i bobl archebu ymlaen llaw i gyrraedd canolfan ailgylchu. Cynigiodd fy awdurdod lleol fy hun hyn y llynedd, a chyn gynted ag y clywais amdano, fe gysylltais â nhw gyda fy mhryderon am dipio anghyfreithlon, os ydych chi'n gosod rhwystrau i bobl. Ac mae rhai awdurdodau lleol mewn rhannau eraill o'r DU, gan gynnwys sir Amwythig, ychydig dros y ffin, yn camu'n ôl o hyn oherwydd yr ymateb mae wedi'i gael. Felly, mae pryderon enfawr yn y fan yma a does bosib y dylem fod yn gwneud pethau mor hawdd â phosibl. Un o'r meysydd a gododd y cyngor wrth gael ei holi am y taliadau oedd mai'r dewis arall fyddai naill ai lleihau diwrnodau neu oriau agor y safleoedd, neu hyd yn oed cau un ohonyn nhw o bosibl. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod codi tâl am wastraff DIY preswyl, cyflwyno systemau apwyntiadau, lle mae'n rhaid i bobl archebu slotiau amser i ddefnyddio eu canolfan ailgylchu, naill ai dros y ffôn neu ar-lein, a bygythiadau gan gynghorau i leihau diwrnodau ac oriau agor canolfannau ailgylchu yn gamau yn ôl mewn gwirionedd?

Russell, rydym wedi bod trwy, yn fy ardal leol fy hun, dros nifer o flynyddoedd, yn enwedig dros y degawd diwethaf a mwy, achosion lle mae ein hawdurdod lleol—. Nid wyf am wneud sylw ar awdurdod lleol lle nad wyf yn gwybod manylion pam eu bod wedi gwneud penderfyniadau, ond rwy'n gwybod, yn fy ardal leol i, eu bod wedi gwneud penderfyniadau ar gyfyngu oriau, er enghraifft, oherwydd roedd y dewis rhwng gwneud hynny neu gludiant ysgol, neu roedd y dewis rhwng gwneud hynny a gwasanaethau cymdeithasol. Ac fe aethon nhw allan i ymgynghori â'r cyhoedd lleol a dweud, 'Beth yw eich blaenoriaeth?' a dod ati o'r ongl honno. Ond rwy'n meddwl, wrth symud ymlaen, eich bod chi'n iawn; yr egwyddor y dylem ei dilyn yw bod angen i ni wneud hyn mor hawdd â phosibl ledled Cymru.

Mae angen i awdurdodau lleol ddysgu oddi wrth ei gilydd, heriau a'r ffordd o wneud hyn, ac, i awdurdodau gwledig, bydd yn dra gwahanol i ardaloedd mwy trefol, poblog hefyd. Ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â rhannu rhywfaint o'r profiad hwnnw, a chadw eich llygaid ar y wobr hefyd, oherwydd rydym yn parhau i weithio gyda, ond yn gweithio ar awdurdodau lleol i gynyddu eu cyfraddau ailgylchu, ac rydym ar daith dda yno. Rydych chi'n gwybod, mae awdurdodau lleol yn cyflawni, maen nhw'n ein helpu ni i gyflawni hyn. Ond, yn y broses honno, mae angen iddyn nhw feddwl am drigolion lleol hefyd, beth sy'n gweithio iddyn nhw, beth—? I fod yn onest, beth sy'n osgoi sbwriel ac yn helpu i ailgylchu gwastraff, beth sy'n ei gwneud hi'n hawdd iddyn nhw? Felly, mae eich pwynt yn iawn, ond dydw i ddim yn credu y gallwn ni anwybyddu'r ffaith bod llawer o awdurdodau lleol wedi wynebu penderfyniadau anodd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi gweld, fwy na thebyg, oriau cyfyngedig neu rai canolfannau ailgylchu yn cau ac yn y blaen, neu'n cyfuno, y gair erchyll hwnnw. Yn ddelfrydol, yr hyn y byddem am ei weld yw ei gwneud hi mor hawdd â phosibl, ond mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud eu penderfyniadau eu hunain. Ond rwy'n gwybod y byddwch chi'n gwneud sylwadau i'ch un chi.

Yn dilyn i fyny—. Yn gyntaf oll, myfyrdod: pam mae awdurdodau yn Lloegr yn taflu arian i lawr y pan i bob pwrpas trwy beidio ag ailgylchu a pheidio ag ailgylchu ar stepen y drws a pheidio ag ailgylchu bwyd? Mae'n ddryslyd iawn, iawn pam eu bod yn gwneud hyn pan ei fod yn costio arian i'w trethdalwyr y gellid ei wario ar rywbeth llawer neisach.

Roeddwn i eisiau rhoi sylw pellach i sylwadau Mike Hedges am safleoedd tirlenwi a llosgi ac osgoi gwastraff. Yn gyntaf oll, tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am y tecstilau llawfeddygol di-haint y gellir eu hailddefnyddio sy'n cael eu defnyddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac eraill. Ac yn ail, mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut rydym yn defnyddio'r gwastraff bwyd nad yw'n cael ei ailddosbarthu oherwydd mae'n wastraff plât neu nad yw'n addas i'w fwyta am ryw reswm arall. Mae'n mynd i mewn i'r treulwyr anaerobig ac yna mae 90 y cant i 95 y cant ohono'n dod allan fel gweddillion treuliad anaerobig. Felly, rwyf am wybod—efallai na fyddwch chi'n gallu dweud wrthyf—pa ganran o'r gweddillion sy'n cwrdd â'r protocol ansawdd a safon 110 i osgoi cael ei ddosbarthu fel gwastraff, gan ei alluogi i gael ei roi ar y tir, cyfoethogi'r pridd, sydd, yn amlwg, yn un o'n prif heriau. Roeddwn i'n meddwl tybed os oeddech chi'n gallu dweud wrthon ni faint o hynny sy'n digwydd yng Nghymru yn llwyddiannus, fel ei fod yn mynd i gyfoethogi'r pridd.

16:50

Jenny, diolch yn fawr iawn. Yn gyntaf oll, dim ond i ddweud, rwy'n croesawu'n fawr, nawr, bod Llywodraeth y DU yn camu ymlaen ac yn dweud, 'Mae gwir angen i ni fynd i'r afael â'r mater ailgylchu', oherwydd mae'n teimlo i mi fel lle dyna lle'r oeddem ni 15 mlynedd yn ôl, y fath yna o beth, yn dweud, 'Iawn, gadewch i ni fynd amdani.' Nawr, mae hynny i'w groesawu, ac rydych chi'n iawn, mae angen iddyn nhw nawr fwrw ymlaen â'u cynigion a'i gwneud hi'n hawdd iawn i ddeiliaid tai a busnesau a mynd trwy'r daith rydyn ni wedi'i chael. Efallai y byddan nhw'n gwneud hynny ychydig yn wahanol, ond rydym yn awyddus i weithio gyda nhw a'u cefnogi ar y daith honno hefyd.

O ran gwastraff bwyd, does bosib nad pwynt cyntaf bwyd dros ben—. Ni ddylai fod yn wastraff bwyd, mae'n fwyd dros ben, ac fe ddylai fod yn mynd i fwydo pobl, a hefyd i adeiladu'r economi gylchol honno, felly nid gwastraff yw e, mae'n bwydo pobl. Felly, pan oeddwn i, ddydd Llun, gyda Jayne Bryant, fy nghyd-Aelod a'r Ysgrifennydd Cabinet, yn y buddsoddiad rydyn ni wedi'i wneud yn FareShare yma yn y de, yn edrych ar y gwaith maen nhw'n ei wneud, ac maen nhw'n gallu gwneud mwy, yn wir—. Ond, mewn gwirionedd, yn y lle cyntaf, rydych chi'n ei roi i bobl sy'n gallu ei ddefnyddio ac sy'n gallu bwydo eu hunain yn dda, a darparu ochr yn ochr â hynny, gyda llaw, cyngor ar fwydlenni, cyngor ar goginio ac yn y blaen. Felly, maen nhw'n gwneud pethau nawr fel stwff cegin dros dro hefyd—gwych iawn, iawn. 

Byddaf yn ysgrifennu atoch ar fater y ganran, oherwydd nid oes gennyf hynny heb fynd i edrych. Byddaf hefyd yn ysgrifennu ac yn cynnwys gyda hynny mwy o fanylion am y peilot rydym yn ei wneud ar decstilau llawfeddygol, oherwydd un o'r pethau rydym wedi'i gydnabod yw—a chwarae teg, mae clinigwyr yn cydnabod hyn hefyd—mae mwy y mae angen i ni ei wneud yn y gofod iechyd hwnnw gyda phethau sy'n cael eu defnyddio unwaith ac yn cael eu taflu, ac mae wedi dod yn ffordd o weithio. A dweud y gwir, mae angen i ni arloesi yn y gofod hwnnw hefyd, felly byddaf yn ysgrifennu atoch chi ar y rheini ac yn rhoi mwy o fanylion i chi.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod Cymru wedi dod yn bell iawn gyda'i pholisi gwastraff, ac mae'n stori gadarnhaol iawn. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld partneriaeth gref iawn rhwng y trydydd sector, awdurdodau lleol, cymunedau a Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi cael gweision sifil da iawn, yn fy mhrofiad i, pan oeddwn i'n Weinidog yr amgylchedd, a yrrodd bolisi ymlaen dros gyfnod estynedig o amser ac a wnaeth gynnydd gwirioneddol o ran ymrwymiad a dyfalbarhad.

Yng Nghasnewydd, mae didoli ar garreg y drws a deunydd eildro o ansawdd da wedi bod gyda ni ers tro, oherwydd bod nifer fach yn y trydydd sector—nifer fach o unigolion—gryn amser yn ôl nawr wedi mynd at yr awdurdod lleol ac wedi nodi achos dros y dull gweithredu hwnnw. Roedd yn llwyddiannus iawn; rwy'n credu bod 70 y cant o wastraff domestig yn cael ei ailgylchu yng Nghasnewydd erbyn hyn, ac mae'r model hwnnw, rwy'n credu, wedi cael ei dderbyn fel enghraifft dda iawn ac wedi'i fabwysiadu'n eithaf eang ledled Cymru.

Felly, rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi ac, yn wir, y Prif Weinidog, a ddaeth i'r ganolfan ailddefnyddio y gwnaethoch chi sôn amdani yn gynharach yng Nghasnewydd yr wythnos diwethaf, ac a welodd ei hun y pethau da iawn sy'n digwydd yno gyda'r polisi ailddefnyddio ac ailgylchu hwnnw, y gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan, cewynnau go iawn yn cael eu cynnig a chaffi trwsio—. Mae'n stori gadarnhaol iawn, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi fod gwir angen i ni ddathlu'r llwyddiant hwn a hyrwyddo ein harferion da.

John, gwrandewch, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Yn yr ymateb hwn i gloi i'ch cyfraniad yn y fan yna, ni ddylid tanbrisio'r daith rydym wedi dod arni. Roedd llawer o rwgnachwyr ar y llwybr hwn a ddywedodd na allem neu na ddylem ei wneud, byddai'n rhy anodd—'Beth yw'r pwynt?', beth bynnag. Ond, mewn gwirionedd, yn sail i lawer o hyn a'r daith rydym wedi dod arni o ran ailgylchu, ac ar berygl y bydd yn achosi embaras i chi, ni ddylid tanbrisio'r gwaith a wnaed ar ddatblygu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, wrth nodi'r syniad hwnnw bod angen i ni feddwl am y presennol ac am genedlaethau'r dyfodol, a'ch rôl yn hynny. Mae hynny wedi ein harwain at wneud y penderfyniadau cywir ar lawer o feysydd a oedd yn gofyn am feddylfryd hirdymor. Dydy pethau fel y ganolfan ailddefnyddio yng Nghasnewydd ddim yn digwydd drwy ddamwain; rydym yn eu gwneud oherwydd bod yna gyfarwyddeb polisi, oherwydd ein bod ni'n gweithio gyda phobl Cymru, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'r trydydd sector, ac yn y pen draw maen nhw'n dweud wrthon ni, 'Chewch chi ddim rhoi'r gorau i wneud hyn. Rydyn ni'n ei gwneud nawr. Mae'n rhaid i chi gadw pethau i fynd', ac, fel roedd Delyth yn ei ddweud yn gynharach, 'Beth ydych chi'n ei wneud nesaf? Ble rydych chi'n mynd ymhellach? Ond clod i chi, ond hefyd, a byddwn i'n dweud hyn hefyd, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni grŵp bach o weision sifil yn gweithio yn y gofod hwn. Does dim llawer ohonyn nhw. Mae'n nifer bach iawn o'i gymharu â'r hyn y byddech chi'n ei weld yn un o fentrau mwy y llywodraeth. Ond maen nhw'n anhygoel, ydyn wir, ac rydym ar flaen y gad yma, felly mae pobl yn edrych atom i weld yr hyn rydym yn ei wneud a'r cyngor y gallwn ni ei roi, ac mae angen i ni barhau i wneud hynny. Diolch.

16:55
6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth

Eitem 6 sydd nesaf, datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, gweithredu’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth. Galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae marwolaeth rhywun annwyl yn ddigwyddiad sy'n newid bywyd, sy'n effeithio arnom ni am weddill ein hoes. Er mwyn helpu i sicrhau bod pawb sydd wedi colli rhywun maen nhw'n ei garu yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw pan fydd ei angen arnyn nhw, byddwn ni'n buddsoddi £3 miliwn mewn gwasanaethau profedigaeth ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf. Bydd ein grant cymorth profedigaeth yn ariannu 18 o sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu gwahanol fathau o gymorth i bobl sydd wedi profi profedigaeth. Mae hyn yn cynnwys cefnogi anghenion pobl hŷn, plant a phobl ifanc, pobl sy'n byw ac yn gweithio mewn amaethyddiaeth, a'r rhai sy'n profi mathau mwy cymhleth o alar.

Mae'n ategu'r gwaith rydym ni wedi'i wneud i wella gwasanaethau profedigaeth yn ystod tymor presennol y Senedd hon. Pan gyhoeddwyd y fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth ym mis Hydref 2021, fe wnaethom ni nodi uchelgais i fod yn Gymru dosturiol, lle mae gan bawb fynediad teg at ofal a chymorth profedigaeth o ansawdd uchel i ddiwallu eu hanghenion pan fydd ei angen arnyn nhw.

Ers hynny, mae llawer iawn o waith wedi'i wneud i wella gofal a chymorth i bawb sy'n wynebu, neu sydd wedi profi, colli anwyliaid. Mae hyn yn cynnwys datblygu a sefydlu egwyddorion craidd, safonau gofal profedigaeth sylfaenol ac ystod o gamau i gefnogi cynllunio rhanbarthol a lleol. Mae gweithredu'r fframwaith yn cael ei oruchwylio gan y grŵp llywio profedigaeth cenedlaethol, a gadeirir gan Dr Idris Baker, yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes. Mae'r grŵp yn fforwm ardderchog ar gyfer cydweithredu a chyd-gynhyrchu, ac mae wedi gofyn am adborth uniongyrchol gan ystod eang o bobl a grwpiau, gan gynnwys COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i weithredu llwybr cenedlaethol ar gyfer gofal mewn profedigaeth, gan ddarparu gwybodaeth ac arweiniad i fyrddau iechyd a darparwyr cymorth profedigaeth i hyrwyddo dull cyson o gael cymorth profedigaeth ledled Cymru. Mae'r fanyleb model cyffredinol a'r cyntaf o'r llwybrau profedigaeth penodol sy'n ymwneud â marwolaeth sydyn ac annisgwyl ymhlith plant a phobl ifanc wedi cael ei lansio. Gwnaed cynnydd sylweddol hefyd ar y llwybrau i blant a phobl ifanc a cholli babanod a phlant yn y groth. Mae'r llwybr profedigaeth plant a phobl ifanc yn amlinelliad amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol o anghenion cymorth plant a phobl ifanc hyd at 25 oed sydd wedi wynebu profedigaeth. Fe'i datblygwyd gan grŵp o dan gadeiryddiaeth yr Athro Ann John, athro iechyd cyhoeddus a seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o ddarparwyr profedigaeth, cynrychiolwyr byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, academyddion ac eraill. Mae'n destun ymgynghori ar hyn o bryd a chaiff ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Mae'r rhwydwaith clinigol strategol mamolaeth a newyddenedigol yng ngweithrediaeth y GIG yn arwain y gwaith o gynllunio a darparu'r llwybrau gofal profedigaeth cenedlaethol gyda chefnogaeth Sands, yr elusen sy'n rhoi cefnogaeth gyda cholli beichiogrwydd a babanod. Mae pum llwybr yn cael eu cynhyrchu, gan gynnwys camesgoriad, terfynu beichiogrwydd oherwydd nam ar y ffetws, marw-enedigaeth, marwolaeth newyddenedigol a marwolaeth annisgwyl sydyn babanod.

Mae'r cyllid rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn ychwanegol at y £420,000 a ddarparwn i fyrddau iechyd bob blwyddyn i gefnogi'r gwaith o gydgysylltu gwasanaethau profedigaeth a gweithredu safonau gofal profedigaeth. Rydym hefyd yn cefnogi sefydlu cyfarfodydd i arweinwyr gwasanaethau profedigaeth y byrddau iechyd a fforwm darparwyr gwasanaethau profedigaeth i annog rhannu gwybodaeth a chydweithio rhwng sefydliadau sy'n darparu cymorth ledled Cymru, i sicrhau bod dulliau yn cael eu cydlynu i leihau dyblygu ac, yn y pen draw, i wella canlyniadau.

Yn ddiweddar, rydym ni wedi ymuno â Llywodraeth y DU, y gwasanaethau brys a chyrff cyhoeddus eraill i ymrwymo i'r siarter ar gyfer teuluoedd sydd mewn profedigaeth oherwydd trasiedi gyhoeddus. Mae'r siarter yn ceisio sicrhau bod gwersi trychineb Hillsborough a'i chanlyniadau yn cael eu dysgu, er mwyn atal y rhai a effeithir gan drychineb cyhoeddus yn y dyfodol rhag cael yr un profiad. Wrth lofnodi'r siarter, mae Llywodraeth Cymru yn ailddatgan ei hymrwymiad i ddiwylliant parhaus o onestrwydd a thryloywder mewn gwasanaeth cyhoeddus a'r sector cyhoeddus ehangach, yn unol â'r fframweithiau presennol a'r gwerthoedd sylfaenol a nodir yn egwyddorion Nolan, gan gynnwys mewn ymateb i ymchwiliadau cyhoeddus.

Er mwyn helpu i fesur ein cynnydd, rydym ni wedi ymgorffori mesur profedigaeth o fewn fframwaith rheoli perfformiad y GIG. Bob chwe mis mae'n ofynnol i fyrddau iechyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am eu cynnydd i weithredu'r fframwaith profedigaeth cenedlaethol a chefnogi llwybrau profedigaeth. Mae hyn yn ein galluogi i fonitro cynnydd a chydweithio â nhw i gefnogi gwelliannau.

Llywydd, fe hoffwn i orffen drwy ddweud fy mod yn falch iawn o'r cynnydd rydym ni wedi'i wneud hyd yma, ond rwy'n ymwybodol bod llawer mwy i'w wneud o hyd. Profedigaeth yw un o'r pethau anoddaf y gallwch chi ei wynebu mewn bywyd. Yn anffodus, mae pob un ohonom ni'n profi hyn ar ryw adeg yn ein bywydau. Cyfrifoldeb pawb yw gofalu am bobl sy'n galaru, ac mae'r tosturi a ddangoswn ni i eraill ar adeg anoddaf eu bywydau, efallai, yn arwydd arall o gymdeithas wâr. Diolch yn fawr.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:00

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. Heb amheuaeth mae croeso i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod yr angen i ddarparu cyllid ar gyfer cymorth profedigaeth, ac yn parhau i gydnabod y rôl bwysig sydd gan gwnselwyr profedigaeth i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid. Fel y gwyddoch chi, mae galar yn benodol iawn i unigolyn ac ni all cymorth profedigaeth fod yr un peth i bawb, yn enwedig o ystyried bod gan wahanol gymunedau arferion unigol gwahanol sy'n adlewyrchu eu treftadaeth a'u credoau ffydd. Gyda hyn mewn golwg, Gweinidog, rwy'n awyddus i wybod sut rydych chi'n asesu cymorth profedigaeth o ran gwerthuso'r newid mewn diwylliant o ran marwolaeth, a sicrhau y rhoddir cefnogaeth briodol.

Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae tueddiad gennym ni i beidio â siarad am farwolaeth neu farw ac mae'n well gennym ddefnyddio ymadroddion llafar a mwyseiriau, ond mae ymchwil wedi dangos y gall hyn ychwanegu at y broblem o ymdopi â marwolaeth. Er enghraifft, gall fod yn ddryslyd i blant, y rhai ag anableddau dysgu, pobl sy'n niwroamrywiol, y rhai sy'n wynebu heriau wrth brosesu iaith a'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Mae canfyddiadau'n dangos nad yw cyfran fawr o'n poblogaeth yn deall yr iaith a'r derminoleg ynghylch gofal diwedd oes. Er enghraifft, nid oedd 78 y cant o'r ymatebwyr i adroddiad Marie Curie 'Public attitudes to death and dying in the UK' yn deall pam mae angen cynllun gofal uwch.

Mae helpu pobl i ddod i delerau â marwolaeth fel rhan o'r cylch bywyd yn gam cadarnhaol tuag at helpu i wella iechyd a lles, yn enwedig iechyd meddwl, ac os yw pobl yn fwy ymwybodol o farwolaeth ac yn barod ar ei gyfer, maen nhw'n fwy tebygol o allu ymdopi. Felly, Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i wella dealltwriaeth dringar o farw, marwolaeth a phrofedigaeth i blant a'r grwpiau hynny yr wyf wedi'u crybwyll? Rwy'n teimlo bod cyfle i ymgorffori hyn mewn ysgolion yn rhan o ddull addysg gyfannol.

Yn anffodus, Gweinidog, ond yn hollol ddealladwy, mae yna amharodrwydd cymdeithasol gwirioneddol hefyd i siarad â rhieni sydd wedi colli plentyn. Mae hyn oherwydd myrdd o resymau pam nad yw pobl yn teimlo'n ddigon cyfforddus, heb wybod beth i'w ddweud a ddim yn gwybod sut i helpu, a gall hyn waethygu'r golled ymhellach. Dyma lle gall sefydliadau fel 2wish helpu'n fawr. Yn aml mae angen i rieni gael mynediad at gymorth mwy arbenigol, ond fel llawer o adrannau eraill y GIG, mae rhestrau aros yng Nghymru yn hirfaith iawn, sy'n aml yn gadael pobl yn agored i ganlyniadau iechyd meddwl sy'n dirywio. Pa dargedau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod o ran cynnig cymorth profedigaeth i rieni, a pha gamau ydych chi'n eu cymryd i gyrraedd y targedau hynny?

Mae tystiolaeth sy'n dangos anghydraddoldebau sylweddol sy'n ymwneud â gwahanol fathau o farwolaethau. Er enghraifft, mae mwy o wasanaethau ar gael ar gyfer marwolaeth oedolion, ond llai o wasanaethau ar gyfer colli beichiogrwydd a geni plentyn yn farw. Rydych chi wedi sôn yn eich datganiad bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar y llwybrau i blant a phobl ifanc a cholli beichiogrwydd a babanod. Allwch chi amlinellu beth yw'r cynnydd hwn a sut y dyrennir neu y dyranwyd adnoddu iddyn nhw? Mae'n siŵr y byddech yn cytuno â mi ei bod hi'n hynod bwysig nad ydym ni'n anwybyddu cynnydd heb ddeall, ac os gwnaed cynnydd, mae'n iawn ein bod yn deall ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed yn llawn. 

Gan droi at wahaniaethau rhanbarthol ledled Cymru, mae heriau penodol yng nghefn gwlad Cymru a briodolir i natur ddarniog y gwasanaeth iechyd. Mae diffyg gwasanaethau cymorth yng ngogledd a gorllewin Cymru, yn enwedig o ran y gefnogaeth sy'n cael ei darparu y tu allan i ysbytai. Er bod y £3 miliwn a grybwyllwyd gennych chi ddoe yn ffigwr nodedig, mae'n debygol o fod yn annigonol i fynd i'r afael â'r mater hwn. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i gefnogi seilwaith cymunedol a rhwydweithiau cymorth lleol wrth helpu i ddarparu gwasanaethau profedigaeth yn yr ardaloedd hyn?

Yn olaf, fe hoffwn i godi mater angladdau. Mae costau angladd yn filoedd o bunnoedd a gall hyn roi baich ychwanegol ar deulu neu anwylyn sy'n galaru. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r dewisiadau sydd ar gael o ran angladd syml, sy'n cael eu hystyried yn fwy cost-effeithiol a hygyrch i'r rhai sy'n dioddef yn ariannol. Fodd bynnag, er bod gan yr angladdau hyn eu lle, amlygwyd bod llawer o deuluoedd yn difaru dewis gwasanaethau o'r fath gan nad ydyn nhw'n gallu cofio na dathlu eu hanwyliaid mewn ffordd y bydden nhw wedi hoffi ei gwneud, ac mae hyn yn sicr yn cymhlethu'r broses alaru. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog y rhai sy'n ymwneud â darparu trefniadau angladd i fod yn dryloyw ynghylch costau? Pa gymorth ariannol ehangach y credwch chi y dylid ei gynnig os yw teuluoedd yn ei chael hi'n anodd talu am drefniadau angladd? Diolch.

17:05

Diolch yn fawr iawn, Joel James, am yr holl gwestiynau hynny, ac yn enwedig lle ddechreuoch chi, gyda dweud nad yw pawb yn ymdopi â galar, â'r profiad hwnnw, yn yr un ffordd. Rwy'n credu bod hynny'n cael ei adlewyrchu'n fawr iawn yn y £3 miliwn sy'n mynd i'r 18 sefydliad gwahanol ledled Cymru. Maen nhw'n darparu cefnogaeth ar gyfer ystod eang o ddemograffeg, ar gyfer gwahanol rannau, ar gyfer gwahanol fathau, ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, sydd, yn fy marn i, mor bwysig, a dyna pam rwy'n falch iawn o'r gronfa hon.

O ran ble a sut y cafodd yr arian hwnnw ei ddyrannu, fe gawsom ni nifer fawr o geisiadau o ansawdd, ac roedd gofyn iddyn nhw ddangos sut maen nhw'n mynd i'r afael â bylchau yn narpariaeth y gwasanaeth profedigaeth, a sut mae'r gwaith yn cyd-fynd â fframwaith profedigaeth cenedlaethol Cymru, sy'n hanfodol, a'r tair elfen o gymorth profedigaeth a ddisgrifiwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol, NICE. Roedd proses gadarn a chystadleuol, ac fe'i cynhelid gan banel arbenigol annibynnol o gynrychiolaeth gan arbenigwyr, gofal lliniarol a'r byd academaidd, a gwerthusodd y panel bob cais yn unol â meini prawf sgorio penodol, gan sicrhau bod ystod amrywiol o ddarpariaeth profedigaeth ar draws Cymru gyfan. Rwy'n deall y gallai fod rhywfaint o siom i sefydliadau a oedd yn aflwyddiannus. Fodd bynnag, rydym ni wedi gallu rhoi adborth iddyn nhw ac rydym ni'n gobeithio y bydd pobl yn gwneud cais eto yn y dyfodol.

Dim ond i grybwyll rhai o'r rheini—fe wnaethoch chi sôn am Marie Curie—mae Marie Curie wedi derbyn cyllid; Age Cymru hefyd. The DPJ Foundation, oedd yn amlwg iawn yn y—o diar, alla i ddim cofio enw'r—Y Sioe Frenhinol. Mae'n ddrwg gen i, ddylwn i ddim fod wedi anghofio hynny: Y Sioe Frenhinol. Cwrddais â'r Samariaid yno hefyd. Roedd llawer o sgyrsiau am hyn o fewn y gymuned amaethyddol, oherwydd mae gwir angen ei deilwra i'r cymunedau hynny, fel y dywedoch chi.

Roedd arna i hefyd eisiau sôn, o ran y gwahanol lwybrau rydw i yma i'w cyflwyno, am rywbeth a arweiniwyd gan Lynne Neagle mewn gwirionedd, pan oedd hi yn y swydd hon. Weithiau mae tuedd i feddwl, 'Bydd gennym ni un llwybr', a cheisio darparu ar gyfer pawb, ond roedd Lynne yn glir iawn, iawn gyda'i swyddogion ei bod hi'n teimlo bod rhai mathau o alar. Felly, er enghraifft, pan fyddwch chi'n colli plentyn, pan fyddwch chi'n colli rhywun i hunanladdiad, lle mae angen math penodol o lwybr wedi'i deilwra, mewn gwirionedd, ar gyfer y math o ofal sydd ei angen ar bobl. Fe wnaethoch chi hefyd sôn am wahanol anghenion plant a phobl ifanc. Felly, er enghraifft, os ydych chi wedi cael cyfle i edrych ar y 18 sefydliad, mae 2wish Cymru yn benodol yno i ddarparu'r gefnogaeth honno, ac mae hynny ar sail genedlaethol.

O ran y mesurau, fel y dywedais i yn y datganiad, caiff y mesurau hynny eu gweithredu. Cânt eu monitro mewn cyfarfodydd chwe mis gyda gweithrediaeth y GIG. Ac o ran y ddau lwybr profedigaeth y sonioch chi amdanyn nhw, y plant a'r bobl ifanc a cholli baban, fel y dywedais i, maen nhw'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd; rydym ni'n disgwyl cael diweddariad gan y grŵp sy'n cyflawni hynny yn y gwanwyn.

Fel y dywedais i, mae ystod eang iawn o sefydliadau wedi derbyn y cyllid hwn. Rwyf wedi cael y pleser o gyfarfod â nifer ohonyn nhw, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n cael ei gyfleu yw y gall profedigaeth a galar fod yn hynod ynysig, a does dim byd gwell na gallu siarad â rhywun yn unigol, os oes angen hynny arnoch chi, ond hefyd i gael y gefnogaeth honno gan gymheiriaid, ac mae'r elfen honno o gymorth gan gymheiriaid ym mhob rhan o hyn.

Felly, yn olaf, fe wnaethoch chi ofyn am y dewisiadau o ran angladdau. Mae'n ddrwg iawn gen i, rwy'n deall yn llwyr beth mae pobl yn ei deimlo o ran hynny; gall fod yn ddrud iawn. A hefyd mae ar adeg pan ydych chi'n teimlo'n eithaf agored i niwed ac wedi'ch llethu, ac yna mae'n ofnadwy clywed efallai fod pobl wedi difaru'r penderfyniadau hynny a wnaethon nhw yn y cyd-destun hwnnw. Yn anffodus, nid yw'n rhan o fy mhortffolio, dim ond rhan o fy mhortffolio, felly, os nad oes ots gennych chi, byddaf yn ystyried hynny ac yn ymchwilio iddo, ac yn dod yn ôl atoch chi. Diolch.

Wel, mae profedigaeth yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom ni, a thra bydd cefnogaeth, cysur a chariad aelodau teuluol ac anwyliaid yn amlwg yn bwysig, mae gan y wladwriaeth rôl i'w chwarae hefyd, yn enwedig wrth sicrhau bod gwasanaethau a chefnogaeth gymunedol, ac yn y gweithle, ar gael. Mae Cymru yn ffodus iawn i gael ystod o sefydliadau sy'n darparu cymorth mewn galar, ac wrth drafod y mater bore yma efo fy nghyfoedion fan hyn, fe gyfeiriodd Elin Jones, er enghraifft, at HAHAV ym Mhlas Antaron, Aberystwyth, fel enghraifft o'r arfer da yma, ac mae eraill yn bodoli ar draws Cymru.

Mae cefnogaeth dosturiol yn arwydd o gymdeithas wâr, ac mewn gwirionedd, gall ein cymdeithas wneud efo ychydig mwy o dosturi ar hyn o bryd. Mae'r swm ariannol sydd wedi cael ei ddatgan i'w groesawu, ond does yna ddim llawer o fanylion heblaw am yr ychydig ychwanegol ddaru chi eu rhoi yn eich ymateb chi rŵan. Fedrwch chi, felly, restru pwy ydy'r 18 sefydliad trydydd sector fydd yn cael mynediad at yr arian, neu sut y dylai cyrff eraill wneud cais am yr arian, a rhoi sicrhad y bydd yr arian yma'n cael ei rannu'n deg yn ddaearyddol ar draws Cymru?

Fe wnaethoch chi sôn yn ystod y datganiad diweddar ar wasanaethau mamolaeth a newyddenedigaethol am y gwaith sydd ar droed i ddatblygu llwybrau gofal profedigaeth ar gyfer teuluoedd sy'n dioddef colled baban, a dwi'n croesawu'r mewnbwn mae Uned Bolisi ar y Cyd Sands a Tommy's wedi bod yn ei gyfrannu i'r rhaglen yma. A gaf i ofyn, felly, am ddiweddariad ar y gwaith hwn? Pryd bydd y llwybrau gofal newydd yn barod i'w gweithredu gan y byrddau iechyd, ac i ba raddau mae'r capasiti staffio ac arbenigedd presennol yn adlewyrchu beth sydd ei angen o ran y gweithredu ymarferol ar lawr gwlad?

Dwi hefyd yn croesawu bod y fframwaith yn cydnabod yr angen i wella darpariaeth ar gyfer grwpiau pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac yr anfanteision penodol y maen nhw'n eu hwynebu yn y cyd-destun yma. Felly, pa waith allgymorth y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud i estyn allan i'r cymunedau yma er mwyn cryfhau eu hymddiriedaeth nhw yn y gwasanaethau sydd ar gael i ymdopi â phrofedigaeth?

Fe wnaeth yr anfanteision yma amlygu eu hunain yn enwedig, wrth gwrs, yn ystod y pandemig, a dwi'n falch gweld bod y fframwaith yma'n pwysleisio'r angen i ddysgu gwersi o'r cyfnod hwnnw. Mi fyddwch yn ymwybodol bod Plaid Cymru wedi dadlau dros ymchwiliad COVID llawn i Gymru ers rhai blynyddoedd, fel y mecanwaith mwyaf effeithiol i ddysgu'r gwersi yma, ond gan fod y Llywodraeth yn parhau i wrthod cymryd y cam yma, pa mor hyderus ydych chi y bydd y fframwaith yn medru ymgorffori gwersi'r pandemig yn llawn heb fewnwelediad ymchwiliad swyddogol?

Ar yr un trywydd, dwi wedi derbyn nifer fawr o etholwyr yn cysylltu yn dweud eu bod nhw'n gorfod aros wythnosau hir am dystysgrif marwolaeth, a bod y mater wedi gwaethygu ers mis Medi'r flwyddyn ddiwethaf. Heb hyn, mae'n amhosib trefnu angladd, ac yn golygu nad ydy teuluoedd ac anwyliaid yn medru galaru'n iawn.

Ar ben hyn, mae'r oedi ar gofrestru adroddiadau crwner ar hunanladdiadau yn sylweddol hwy yng Nghymru o'i chymharu â Lloegr, ac yn rhoi loes bellach i'w hanwyliaid. Felly, a gaf i ofyn a ydy'r Llywodraeth yn ymwybodol o'r materion yma, ac a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i edrych i mewn iddyn nhw a gweithredu ar unrhyw ganfyddiadau?

I gloi, mae'r fframwaith yn gywir i gydnabod rôl allweddol y trydydd sector yng nghyd-destun gofal profedigaethol, ond fel rydyn ni wedi sôn sawl gwaith dros y misoedd diwethaf, mi fydd penderfyniad Llywodraeth Lafur San Steffan i godi cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn rhoi pwysau ariannol aruthrol ar fudiadau dielw perthnasol. I ddefnyddio dim ond un enghraifft dwi wedi cyfeirio ato sawl gwaith yn barod, mae elusen Marie Curie yn cynnig cymorth a chyngor dros y ffôn i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth, ond mae'r gangen yng Nghymru yn wynebu costau ychwanegol o dros £0.25 miliwn y flwyddyn, yn uniongyrchol oherwydd penderfyniad y Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Felly, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o effaith y newidiadau sydd i ddod o fis Ebrill ymlaen ar ddarpariaeth a chapasiti gofal profedigaeth yn y trydydd sector? A pha fesurau ydych chi wedi'u rhoi mewn lle er mwyn gwarchod trefniadau perthnasol y fframwaith presennol o benderfyniadau eich partneriaid mewn grym yn San Steffan? Neu ydy'r £3 miliwn yma rydych chi'n ei neilltuo i'r 18 cwmni heddiw mewn gwirionedd yn digolledu o benderfyniad Llafur yn San Steffan? Diolch.

17:10

Diolch yn fawr iawn, Mabon ap Gwynfor, am y cyfraniad yna a'r myfyrdodau hynny, a dweud y gwir. Rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am fod angen y Gymru fwy tosturiol honno, yn y pen draw, ac rwy'n credu mai dyna ddiben hyn, a gallu rhoi'r datganiad hwn heddiw. Rwyf hefyd yn cytuno ein bod yn ffodus iawn yng Nghymru; mae gennym ni sefydliadau trydydd sector gwych a chymaint o arferion da, fel y dywedoch chi.

Rwy'n fwy na pharod i rannu'r rhestr hon wedyn o ran pwy sydd wedi derbyn cyllid o'r £3 miliwn, fel y gwnaethoch chi ofyn. Felly, y 18 yw: y DPJ Foundation; Mind ym Mhowys, felly mae hynny'n cynnwys canolbarth a gogledd Powys; Sandy Bear; Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Aberystwyth a'r Cylch; 2wish Cymru, sydd ar sail genedlaethol; Marie Curie, sydd ar sail genedlaethol; Platfform, sydd hefyd ar-lein; Tŷ Hafan; Hope House Tŷ Gobaith; City Hospice Trust Limited; Gofal Hosbis Dewi Sant; Hope Trust Caerdydd, y sefydliad corfforedig elusennol; The Junction; Canolfan Felin Fach; ACE—Gweithredu yng Nghaerau a Threlái; Cruse Bereavement Support, Cruse Cymru; sefydliad Paul Sartori; Age Cymru Dyfed ac Age Cymru Powys; a Llamau. Felly, rwy'n fwy na hapus, wrth gwrs, i rannu hynny. Ond, unwaith eto, byddwn i'n dweud bod y rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer rhwng tua £60,000 a hyd at tua £150,000 hefyd, ac mae rhai sydd wedi profi i fod mor wych yn hyn o beth fel eu bod nhw wedi derbyn mwy o gyllid yn ogystal fel cyllid ychwanegol eleni hefyd. Felly, rwy'n credu y gallwch chi weld bod yr holl enghreifftiau hynny, mewn gwirionedd, yn dangos yr ehangder ac yn sicr sut rydyn ni wedi llwyddo i wneud i'r gwaith hwn weithio ledled Cymru mewn sawl ffordd wahanol—ar-lein, fel y dywedoch chi, llinellau ffôn, ac ati.

Fe wnaethoch chi hefyd ofyn wedyn am wasanaethau newyddenedigol a'r hyn y soniais amdano yn y cyhoeddiad a wnes i yr wythnos diwethaf. Felly, er mwyn egluro, bydd y fframwaith ymgysylltu amenedigol, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiad ansawdd, yn nodi sut rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd ymgysylltu'n weithredol â menywod a theuluoedd i wella canlyniadau a gwella'r profiadau hynny, ac mae ystod o weithgareddau gwella yn cael eu cyflawni drwy gam gweithredu'r rhaglen genedlaethol cefnogi diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol, gyda phwyslais clir ar wella gofal a chanlyniadau. Mae bydwraig hefyd wedi cael ei recriwtio i fwrw ymlaen ag ystod o gamau gweithredu sy'n ceisio dileu'r gwahaniaethau a brofir gan fenywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn ystod y cyfnod amenedigol.

Hefyd, mae hyn yn gweithio, felly, gyda'r gwaith yn ymwneud â'r cymorth profedigaeth ar gyfer colli babi. Gwyddom fod colli babi ar unrhyw gam o feichiogrwydd yn drallodus, ac rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob teulu sydd â'r profiad hwn yn cael ei gefnogi'n briodol ac yn dosturiol. Rydym ni'n gweithio gyda Sands, fel y sonioch chi, ac arbenigwyr yn y maes hwn i weithredu'r llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol ledled Cymru yn benodol ar gyfer camesgoriad, marw-enedigaeth a cholli babanod. Mae pob teulu sy'n colli beichiogrwydd mewn unedau mamolaeth yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profedigaeth, ar y cyd â Sands, ac yn cael cynnig blychau cof, sy'n cynnwys tystysgrif geni. Rydym ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith gyda swyddogion Llywodraeth y DU i sicrhau bod y broses ardystio'n cael ei chyflwyno ledled Cymru i gydnabod colled babanod, ac i aros am wybodaeth am gost hyn a sut y caiff ei weithredu, i'w hystyried gan Weinidogion. Felly, dim ond i'ch sicrhau chi, er bod ymgynghoriad ar rai o'r llwybrau hyn ar hyn o bryd, mae yna hefyd lawer iawn o waith sy'n digwydd ochr yn ochr â hyn. Ac mae'r cyfan yn cael ei gyd-gynhyrchu yn fawr iawn gyda phobl sydd â phrofiad byw.

Roeddech chi hefyd yn holi am yr agwedd ymgysylltu cymunedol ar hyn. Byddwn i'n dweud, a gobeithio y byddwch chi'n cytuno o'r rhestr rydw i wedi'i darllen, mae'r holl sefydliadau a'r trydydd sector ac elusennau hyn wedi ymwreiddio cymaint yn y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. Felly, yn rhan o wneud y cyhoeddiad hwn, es i i ymweld â Platfform, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, ac mae ganddyn nhw lefydd i fyny'r grisiau lle gall pobl ddod i mewn a chael sesiynau un i un, ond yna mae ganddyn nhw hefyd bron fel ystafell fyw i lawr y grisiau lle gall pawb eistedd a chael paned o de a chael sgwrs. A'r hyn a ddywedon nhw yw eu bod nhw'n teimlo bod yr hyn maen nhw'n ei wneud nid yn unig yn helpu'r unigolyn hwnnw, ond mae'n helpu'r gymuned gyfan mewn gwirionedd, oherwydd mae cael y Gymru fwy tosturiol yna a lledaenu'r neges honno a chael pobl sydd ddim yn teimlo'n ynysig ac yn teimlo eu bod nhw wedi'u cynnwys yn y gymuned yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Felly, byddwn i'n dweud bod hyn i gyd, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r allgymorth hwnnw a'r gymuned honno.

Rwy'n hyderus y bydd hyn yn cael ei gyflwyno. Mae'n rhaid ei ddiweddaru. Mae gweithrediaeth y GIG yn ymwneud yn fawr â hyn. Mae hefyd, i raddau helaeth iawn, wedi cael ei gyd-gynhyrchu. Felly, o ran teuluoedd COVID-19, maen nhw'n cael eu clywed, gwrandewir arnyn nhw, maen nhw'n cael eu hymgorffori yn hyn. Rwy'n gobeithio eu bod yn teimlo bod hon yn broses ddefnyddiol a gwerth chweil iddyn nhw. Mae'n rhan o'r ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond maen nhw'n rhan greiddiol o hyn ac yn cymryd rhan.

O ran y materion gyda'r crwneriaid ar hyn o bryd, fe wn i fod hyn yn rhywbeth y mae Mark Isherwood a Paul Davies hefyd wedi'i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei gylch, oherwydd mai eu cyfrifoldeb nhw yw hyn, ond roeddwn i eisiau dweud bod y newidiadau—. Wrth gwrs, daeth hyn i gyd oherwydd, ar 9 Medi 2024, cyflwynwyd diwygiadau statudol i'r ardystiad marwolaeth gan Lywodraeth y DU, a daethant i rym ar draws ystod o randdeiliaid sy'n ymwneud â'r broses ardystio marwolaethau a chofrestru. Ers hynny, mae pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr yn destun craffu annibynnol gan grwner neu arholwr meddygol. Fel y gwyddom ni i gyd, diben hyn oedd er mwyn i deuluoedd deimlo eu bod yn dawel eu meddwl bod eu hanwyliaid wedi derbyn y gofal cywir hyd nes iddyn nhw farw. Dyna oedd diben hyn. Rhagwelwyd erioed y byddai'r haen ychwanegol hon o fesurau diogelu a chraffu yn ychwanegu peth amser ychwanegol rhwng marwolaeth a chofrestru, ac rydym ni'n gweld hyn yn cael ei adlewyrchu ar hyn o bryd yn nata'r ONS, ochr yn ochr â'r amserlenni hirach arferol sy'n gysylltiedig â phwysau'r gaeaf. Fe hoffwn i sicrhau teuluoedd, serch hynny, ein bod yn ymchwilio i hyn mewn difrif. Bu achosion y mae angen ymchwilio iddyn nhw'n drylwyr, a chanfuwyd bod y materion y tu allan i reolaeth gwasanaeth arholwr meddygol yn bennaf, ond mae swyddogion wedi dechrau cyfres o gyfarfodydd wrth gefn sy'n cynnwys yr holl randdeiliaid ar draws y broses ardystio a rheoli marwolaethau, ac ystod o gamau unioni ar unwaith ar gyfer yr holl randdeiliaid ar draws y system hefyd. Felly, mae hyn i gyd i ddweud ein bod yn ymwybodol iawn ohono, ac rydym yn gwneud rhywbeth am y peth. Rwy'n cydymdeimlo'n ddiffuant iawn â'r bobl sy'n gorfod aros yn hirach nag sydd angen i allu cynllunio angladd a gallu ffarwelio â'u hanwyliaid.

Ac o ran yswiriant gwladol, mae gen i ofn, na—fy ateb fyddai 'na'. Nid dyna beth oedd diben hyn. Roedd yn ymwneud yn unig â sicrhau bod y 18 sefydliad ledled Cymru yn gallu darparu'r gefnogaeth dosturiol honno i bobl pan fyddant yn galaru.

17:20

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn i'r Siambr heddiw. Fe wn i, fel cymdeithas, ein bod yn osgoi siarad am farwolaeth, felly mae'n wych ein bod ni'n ei thrafod yma heddiw. Roeddwn yn falch iawn bod y Gweinidog wedi sôn am y grant ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector, oherwydd rwy'n ymwybodol o'r gwaith gwych maen nhw'n ei wneud. Mae Hosbis y Ddinas yn fy etholaeth i yn cynnig cymorth cwnsela mewn profedigaeth i unrhyw un yng Nghaerdydd sydd wedi dioddef profedigaeth, nid yn unig i aelodau teulu cleifion sydd wedi derbyn gofal yn yr hosbis, ond mae hynny'n cynnwys cefnogaeth arbenigol i blant, ac rwy'n credu eu bod yn un o'r cyrff ar y rhestr rydych chi'n ei darllen allan.

Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog hefyd yn ymwybodol o gymorth drwy'r GIG, yn enwedig gwasanaeth seicoleg colli babanod Caerdydd a'r Fro, y credaf iddi ei lansio yn gynharach eleni. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cefnogaeth arbenigol i'r mamau a'r rhieni sydd wedi colli babi o 19 wythnos. A meddwl oeddwn i tybed a allai hi wneud unrhyw sylw ar unrhyw gyfleoedd a fyddai yna i hyn ehangu i ddyddiad cynharach, er mwyn cynnig help pan fydd rhieni'n colli babi cyn 19 wythnos, ac ar ba gyfleoedd fyddai i ehangu hynny i rannau eraill o'r GIG.

A hefyd, yn olaf, pe cawn i sôn am y thema pryd fydd y gwahanol lwybrau hyn yn dwyn ffrwyth, oherwydd, mewn perthynas â cholli babanod, rwy'n gwybod bod pum llwybr gwahanol, ac rwy'n deall o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud bod ymgynghoriad yn digwydd ynghylch rhai o'r llwybrau hynny. Pryd fydd hynny i gyd yn dod i ben mewn gwirionedd, a phryd fydd gennym ni wasanaeth terfynol?

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, am y cwestiynau hynny. Rwyf am ddweud y byddwn i'n cytuno'n llwyr â chi ar yr holl sefydliadau. Rwy'n cofio flynyddoedd maith yn ôl mynd i Hosbis y Ddinas. Roeddech chi yno hefyd, a chawsom ni ddiwrnod agored, ac roedd ar gyfer y gymuned, mewn gwirionedd, a faint maen nhw, dros y blynyddoedd, wedi ehangu'r gwasanaeth hwnnw y maen nhw'n ei ddarparu, ac rwy'n credu ei fod yn aruthrol. Hefyd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddweud bod gan gynifer o'r sefydliadau hyn fewnbwn enfawr ac na allent redeg heb wirfoddolwyr. Y gwirfoddolwyr ydyw yn y maes hwn hefyd. Roeddwn i hefyd eisiau dweud ein bod ni wedi sôn llawer heddiw am ba mor gymhleth y gall galar fod, ac weithiau'n drawmatig hefyd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ac, fel rydyn ni wedi dweud, mae'n ymwneud â'r cysylltiad hwnnw a theimlo fel petai rhywun yn deall yr hyn rydych chi'n mynd drwyddo. Rwy'n credu bod yr holl sefydliadau hyn wir yn deall hynny. Rwy'n falch iawn bod y grant cymorth profedigaeth wedi gallu parhau i gefnogi Hosbis y Ddinas a llawer o sefydliadau eraill.

Roeddwn i hefyd eisiau dweud 'diolch yn fawr' am sôn am wasanaeth seicoleg colli babanod Caerdydd a'r Fro. Dyma'r cyntaf yng Nghymru. Roeddwn i yno i'w lansio. Cefais sgwrs â mamau a oedd wedi colli babi ac a oedd yn cael y gefnogaeth a'r gofal hynny gan y tîm pan oedden nhw'n cael eu babi nesaf, a fydd, yn amlwg, yn gyfnod mor bryderus iddyn nhw. Mae ganddyn nhw nifer o grwpiau cymorth cymheiriaid hefyd ar gyfer amrywiaeth o wahanol anghenion, mae'n debyg. Ac, ie, dyma sut rydyn ni'n tueddu i wneud pethau yng Nghymru—fel y gwyddoch chi, rydych chi'n dechrau gyda rhywun sy'n mynd gyntaf, fel arfer trwy benderfyniad a dycnwch llwyr. Ac fe wnes i hefyd gwrdd â'r tîm pan ddaethon nhw, ac fe wnes i ymweld â'r uned famolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Maen nhw nid yn unig yn darparu'r gefnogaeth i famau a theuluoedd, ond maen nhw hefyd yn darparu cefnogaeth i'r bydwragedd a'r bydwragedd profedigaeth, oherwydd mae'n cymryd hynny i gyd, mewn gwirionedd, i allu dal y galar go iawn hwnnw, weithiau. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fel y gwyddoch chi, yn ymwneud ag ef; os yw'n arfer da, os yw'n gweithio, os yw'n rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn, ein bwriad bob amser yw gweld yr arfer da hwnnw'n lledaenu.

Ac yna, o ran y llwybrau, y llwybrau colli babi a phlant a phobl ifanc sy'n cael eu gwneud gyntaf. Mae Lynne Neagle bellach yn y Siambr, ond rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais o'r blaen—ac, wrth gwrs, rydych chi a chymaint o bobl wedi bod yn rhan o sicrhau bod gennym y llwybrau penodol iawn hyn. Mae'r Athro Ann John yn goruchwylio'r broses honno, a dylem gael yr adborth hwnnw ar yr ymgynghoriad hwnnw erbyn y gwanwyn, ac yna rydym yn dal ati ac rydym yn cyflwyno hynny cyn gynted ag y gallwn ni. Diolch.

17:25

Mae cyfran sylweddol o ofal profedigaeth yn cael ei ddarparu gan ein hosbisau elusennol yng Nghymru, gyda gwasanaethau ar gael cyn ac ar ôl marwolaeth rhywun annwyl, ond dim ond rhai o'r rhain a restrwyd gennych chi, ac os clywais yn iawn, fe wnaethoch chi eithrio pob un o'r hosbisau oedolion yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, gyda phob hosbis yng Nghymru yn rhagweld diffyg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a 90 y cant yn nodi bod pwysau costau byw yn debygol o leihau'r cymorth y maen nhw'n ei ddarparu, sut y byddwch yn amddiffyn eu gofal profedigaeth hanfodol ledled Cymru?

Mae gofid mawr i'r teulu yn cael ei achosi gan yr oedi i gofrestru marwolaethau a grëwyd, fel y clywsom ni, gan y system arholwr meddygol statudol newydd. A wnewch chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y cyfarfod ymgysylltu cyntaf rhwng Llywodraeth Cymru, trefnwyr angladdau ac eraill, y deallwyd iddo gael ei gynnal yn ddiweddar iawn—yr wythnos cyn y diwethaf—i drafod hyn?

Yn olaf, mae aelodau'r grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth wedi trafod yn y gorffennol y ddarpariaeth o gymorth profedigaeth i'r byddar ac i'r rhai sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad. Sut bydd y fframwaith yn mynd i'r afael â hyn, gan weithio, er enghraifft, gyda grŵp Cymru gyfan ar gyfer byddardod, iechyd meddwl a lles a'r elusen atal hunanladdiad Papyrus, sy'n darparu gwasanaethau i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain?

Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth sy'n agos iawn at eich calon a'ch bod yn angerddol iawn amdano, ac rydych chi'n goruchwylio'r grŵp trawsbleidiol yn y maes hwn, felly rwy'n gwerthfawrogi'r holl gwestiynau hynny a'r llythyrau rydych chi'n eu hysgrifennu atom ni ar ran pobl hefyd. Felly, o ran y broses grant, fel y dywedais wrth Joel James, fe gawsom ni gymaint ohonyn nhw. Roedd dwywaith cymaint o sefydliadau wedi ymgeisio y tro hwn. Penderfynwyd yn annibynnol. Gallaf ddweud wrthych chi heddiw y rhai a oedd yn llwyddiannus, a chafodd y rhai nad oedd adborth defnyddiol a thrwyadl. Os hoffech chi ysgrifennu ata i, serch hynny, neu os hoffech chi ofyn i unrhyw sefydliad ysgrifennu ata i nad oedd yn llwyddiannus, yna byddwn yn fwy na pharod i gael golwg ar hynny, yn sicr. Y swm yw £3 miliwn ar gyfer 18 sefydliad ledled Cymru sy'n ceisio darparu'r ystod wirioneddol honno. Fel y dywedais yn gynharach am y gofynion ar gyfer y cyllid, roedd a wnelo hynny mewn gwirionedd â cheisio nodi'r bylchau yn y gwasanaeth hefyd. Felly, byddai hynny hefyd wedi cael ei ystyried. 

O ran y cyfarfod rydych chi'n cyfeirio ato, fel y dywedais, cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Rhoddais ddiweddariad ar gymaint ag y gwn i ar hyn o bryd o ran yr ardystiad—y tystysgrifau marwolaeth—i Mabon ap Gwynfor yn flaenorol. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ysgrifennu atoch chi cyn gynted â phosibl gyda diweddariad. Ond, fe hoffwn i ddweud bod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei gymryd yn gwbl, gwbl, o ddifrif. Byddwch yn gwybod yn well na'r rhan fwyaf pa mor hir rydym ni wedi aros am hyn. Mae'n mynd yn ôl i sgandal Shipman—sgandal ffiaidd—ac mae wedi cymryd blynyddoedd lawer iawn i wireddu hyn i sicrhau bod pobl yn gwybod yn iawn bod eu hanwyliaid yn derbyn y gofal priodol hyd at yr adeg lle buont farw. Felly, rwy'n falch ei fod wedi ei gyflawni, ond mae'r haen ychwanegol honno wedi arwain at oedi, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â theuluoedd, fel y dywedais, sy'n profi'r oedi hynny. Fe hoffwn i eich sicrhau chi, serch hynny, bod hyn yn cael ei drin gyda'r difrifwch mwyaf. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio â'r holl randdeiliaid hynny a restrwyd gennych chi.

Ac yna, o ran y llwybrau eraill sydd yn yr arfaeth ac y gweithir arnyn nhw, mae'n hanfodol eu bod nhw'n cael eu cyd-gynhyrchu. Mewn sawl rhan o fy mhortffolio, rwy'n siarad â phobl sy'n gweithio yn Lloegr, yng Nghymru, ar draws yr holl genhedloedd, a'r hyn y maen nhw bob amser yn ei ddweud yw ein bod ni, yng Nghymru, yn cyd-gynhyrchu'n dda iawn ac rydym wir yn gwrando ar bobl â phrofiad o lygad y ffynnon. Fodd bynnag, yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw nad yw'r broses mor gyflym ag y gallai hi fod pe bawn i'n eistedd gyda swyddogion a'i hysgrifennu. Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw ei fod yn cael ei wneud mewn gwirionedd, yn drylwyr ac yn dringar. Rydym ni'n sicrhau ein bod yn clywed yr holl leisiau hynny ac y bydd pawb yn gallu cael gafael ar y cymorth profedigaeth sydd ei angen arnyn nhw pan fydd ei angen arnyn nhw. Felly, byddaf yn ystyried hynny i gyd a byddaf yn gallu rhoi diweddariad mwy manwl i chi wrth i'r llwybrau hynny weld golau dydd. Ond, fel y dywedais i, ar hyn o bryd, y llwybrau plant a'r bobl ifanc a'r rhai sydd wedi colli babi y rhoddwyd sylw iddyn nhw'n gyntaf ac sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a byddaf yn dod yn ôl i'r Siambr pan fydd gennym ni ddiweddariad ar y rheini. Diolch.

17:30
7. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Ewro 2025 Menywod UEFA

Mae eitem 7, y datganiad o dan eitem 7, wedi ei drosi yn ddatganiad ysgrifenedig.

8. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2025

Eitem 8 sydd nesaf, felly. Y Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2025 yw hyn, a dwi'n gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y datganiad—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8824 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Symudaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2025. Mae'r rheoliadau'n arwain at luosydd ardrethu annomestig ar gyfer 2025-26 o 0.568.

Llywydd, ar 10 Rhagfyr, cyhoeddais y byddem yn cyfyngu ar y cynnydd i'r lluosydd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar gost gyson o £7 miliwn. Mae ein penderfyniadau i rewi neu gyfyngu ar dwf chwyddiant yn y lluosydd o 2021-22 i 2025-26 wedi costio cyfanswm o dros £500 miliwn i drethdalwyr Cymru hyd yn hyn. Mae'r penderfyniadau hyn o fudd i bob trethdalwr annomestig yng Nghymru, lle nad yw'r trethdalwr hwnnw eisoes yn derbyn rhyddhad ardrethi llawn. Bydd y lluosydd os caiff y rheoliadau hyn eu pasio yn cynyddu 1 y cant yn 2025-26, yn hytrach na'r cynnydd diofyn o 1.7 y cant, pe byddent yn cael eu huwchraddio yn unol â chwyddiant mynegai prisiau defnyddwyr. Dyma'r lefel uchaf o gymorth sydd ar gael, gan ddefnyddio'r holl gyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan benderfyniadau Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r lluosydd. Y canlyniad yw y gofynnir i drethdalwyr annomestig dalu £7 miliwn yn llai nag a fydden nhw fel arall i'r gronfa ardrethi annomestig, ac y gwneir iawn yn llawn am y diffyg o gyllideb Llywodraeth Cymru.

Llywydd, er mwyn osgoi amheuaeth, dylwn fod yn glir y byddai methu â chytuno ar y cynnig hwn heddiw yn golygu y byddai'r lluosydd yn codi gan ffigur diofyn chwyddiant mynegai prisiau defnyddwyr a fyddai'n arwain at y costau o £7 miliwn yn syrthio yn ôl ar ysgwyddau trethdalwyr annomestig.

Llywydd, fel arfer, dwi'n diolch i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o’r rheoliadau, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo’r rheoliadau heddiw.

Rwy'n ddiolchgar iawn am gynnig Ysgrifennydd y Cabinet yma heddiw. I fod yn glir o'n hochr ni o'r meinciau hyn, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r rheoliadau a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, a byddaf yn gwneud ychydig o bwyntiau byr ynghylch pam mae hynny'n wir.

Yn gyntaf oll, credwn wrth gwrs fod y man cychwyn ar gyfer y lluosydd yn rhy uchel; er, wrth gwrs, y gwn i nad dyna'r ddadl o'n blaenau ni heddiw, mae'n werth atgoffa'r Siambr bod trethdalwyr annomestig yng Nghymru yn talu rhai o'r lefelau uchaf yn erbyn lluosydd trethi annomestig ym Mhrydain Fawr. Mae hynny'n creu cystadleuaeth anoddach i'r busnesau hynny ac yn eu gwneud yn llai cynaliadwy yn y tymor hir.

Yr ail reswm pam ein bod yn gwrthwynebu'r newid hwn heddiw yw oherwydd ein bod yn gwybod, er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno hyn fel arbediad, ac yn y memorandwm esboniadol, mai'r geiriau a ddefnyddir mewn gwirionedd yw 'arbediad llwyr i drethdalwyr', wrth gwrs, mae hyn yn gynnydd yn y costau. Mae hynny'n golygu llai o allu i fuddsoddi yn y busnesau hynny gan y busnesau hynny, llai o staff yn gallu cael eu cyflogi, a llai o gyflog yn gallu cael ei drosglwyddo iddyn nhw oherwydd eu bod yn gorfod ysgwyddo baich trethiant cynyddol, gan roi mwy o bwysau ar ddarlun economaidd sydd eisoes dan bwysau yma yng Nghymru.

Mae'r un busnesau hynny eisoes yn gorfod ymlafnio i ymdopi â phwysau newydd, gan gynnwys cynnydd yswiriant cenedlaethol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur y DU. Felly, credwn na ddylai'r busnesau hynny ysgwyddo hyd yn oed mwy o faich treth, oherwydd, wrth gwrs, mae'r lluosydd yn gynnydd canrannol ar ben rhenti sydd eisoes yn cynyddu i lawer o'r busnesau hynny hefyd.

A'r trydydd pwynt, dim ond i grybwyll, Llywydd, yw ein bod yn dal i gredu'n sylfaenol y dylai fod lluosydd hollt ar waith ar gyfer busnesau yma yng Nghymru, i'w gwneud hi'n glir ynghylch y busnesau hynny a ddylai fod yn talu cyfradd uwch o gyfraddau annomestig na'r rhai sy'n talu'r gyfradd is ar gyfer y busnesau llai hynny yn benodol. Felly, dyna'r rheswm pam ein bod ni'n gwrthwynebu'r cynnig o'n blaenau ni yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Yn amlwg, mi fuaswn i'n hoffi cydnabod bod y cynnydd yn y lluosydd o 1 y cant yn is na chwyddiant CPI, ond mae’n rhaid inni ystyried y pictiwr llawn fan hyn o ran y sefyllfa sy’n ein hwynebu, ac yn arbennig os ydyn ni’n edrych ar y sectorau busnesau bach a chanolig yn benodol. O edrych yn fy rhanbarth i, yn amlwg rhai o’r pryderon mawr sydd yna ar y funud, a dwi’n siŵr y bydd nifer o Aelodau yn cytuno ac yn clywed gan fusnesau, yn enwedig rhai bach a chanolig, ydy o ran effaith yswiriant gwladol. Mae yna hefyd effaith, wrth gwrs, i’r rheini sydd wedi dioddef llifogydd sydd heb yswiriant, a’r costau sydd ynghlwm efo hynny, sydd yn wynebu risg parhaus hefyd. Felly, efallai fod hwn yn gynnydd cymharol fach, ond yn y cyd-destun ehangach, mae yna bryderon.

Yn amlwg, yn sgil pasio’r Bil cyllid llywodraeth leol, mi fydd pwerau newydd gan y Senedd hon dros y lluosydd o Ebrill ymlaen. Felly, yr hyn buaswn i’n hoffi ei ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet ydy: oes yna fwriad cyflwyno datganiad polisi ynglŷn â sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio’r pwerau newydd a fydd ganddyn nhw dros y lluosydd, yn enwedig yng nghyd-destun cefnogi busnesau bach a chanolig?

17:35

Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, fe wnes i wrando'n astud ar dri phwynt Sam Rowlands. Allwch chi ddim newid y cynllun cyffredinol trwy bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn, nid yw hyd yn oed yn ystum i'r cyfeiriad hwnnw. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi gymaint o sylw i'r beichiau ar y busnesau hynny y dywedodd eu bod yn ymlafnio fel y byddant yn pleidleisio y prynhawn yma am £7 miliwn ychwanegol i'w dalu gan y busnesau hynny, oherwydd gadewch i ni fod yn hollol glir, os byddwch chi'n trechu'r rheoliadau hyn, yr hyn a gewch chi yw'r sefyllfa ddiofyn, a bydd hynny'n golygu y bydd y lluosydd yn codi 1.7 y cant, nid yr 1 y cant yr ydym ni'n ei gynnig. Felly, i fod yn gwbl glir gyda chi, byddai eich pleidlais yn golygu y byddai'n rhaid i fusnesau yng Nghymru dalu £7 miliwn yn fwy—dyna beth rydych chi'n pleidleisio o'i blaid y prynhawn yma. Os ydych chi'n gwneud ystum gwleidyddol yn unig, yna bydd eich ystum yn costio miliynau o bunnoedd i'r busnesau rydych chi'n dweud eich bod yn poeni cymaint amdanyn nhw. Y Llywodraeth Lafur hon fydd yn arbed £7 miliwn iddyn nhw, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio i orfodi hynny arnyn nhw.

Nawr, cafodd Heledd Fychan pethau'n gywir lle na chafodd Sam Rowlands. Ni allwn ni ddefnyddio lluosydd hollt eleni, oherwydd nid yw'r pŵer i wneud hynny, fel y dywedodd Heledd, ar gael i'r Senedd tan 1 Ebrill. Bryd hynny, byddwn ni, wrth gwrs, yn ystyried a oes modd defnyddio'r posibilrwydd o'r lluosydd hollt hwnnw er budd busnesau yng Nghymru. Bydd angen i ni ystyried newidiadau yn y defnydd o'r lluosydd yn Lloegr a arwyddwyd gan y Canghellor yn ei chyllideb ar 30 Hydref, oherwydd bydd hynny'n creu cyd-destun y bydd angen i ni ymateb iddo yng Nghymru. Nid oes gennyf feddwl caeedig ar y mater hwnnw ar hyn o bryd, ac nid oes gennyf y pwerau i ddelio â hynny beth bynnag, ond pan ddaw'r pwerau ar gael i ni, yna, wrth gwrs, yn y ffordd y mae'r Aelod wedi'i awgrymu, byddwn yn datblygu ein polisi yng ngoleuni'r posibiliadau newydd hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Rheoliadau Safonau Marchnata Wyau Maes (Diwygio) (Cymru) 2025

Eitem 9 sydd nesaf, Rheoliadau Safonau Marchnata Wyau Maes (Diwygio) (Cymru) 2025. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n gwneud y datganiad yma—Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8825 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau Marchnata Wyau Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osdwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:38:45
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Llywydd. Heddiw rwy’n cyflwyno diwygiad i reoliadau safonau marchnata wyau maes yng Nghymru i’r Senedd gael ei gymeradwyo.

Ar hyn o bryd, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi y gall wyau a gynhyrchir gan ieir dan do gael eu marchnata fel rhai maes am 16 wythnos gyntaf mesur gorfodol i'w cadw dan do, heb fod angen ail-labelu neu ailbecynnu nac unrhyw wybodaeth ychwanegol ar adeg eu gwerthu. Ar ôl 16 wythnos, rhaid labelu'r wyau a'u pecynnu fel wyau ysgubor. Mae'r gwelliant a gyflwynais ger eich bron heddiw yn dileu'r cyfyngiadau amser fel y gellir gwerthu unrhyw gynhyrchion wyau fel rhai maes am gyfnod penagored lle mae mesurau i gadw'r ieir dan do yn parhau i fod ar waith. Nawr, aethpwyd y tu hwnt i'r cyfnod 16 wythnos hwn yn nhymor achosion ffliw adar 2021-22 a 2022-23, felly rwy'n gobeithio bod hynny'n gwneud synnwyr fel y rhesymeg sy'n sail i'r mesurau hyn.

Mae'r gwelliant wedi'i gyflwyno ar draws gweddill y DU a'r UE. Byddai dull cyson o weithredu yn dileu unrhyw gymhlethdod yn y cadwyni cyflenwi hyn sy'n hynod gysylltiedig â'i gilydd, a dim ond i bwysleisio bod Cymru yn gynhyrchydd sylweddol o, wrth gwrs, wyau maes, sy'n cyflenwi nid yn unig ein cymunedau ein hunain, ond hefyd defnyddwyr ledled y DU ac, yn wir, yr UE. Mae'r gwelliant yn rhoi sicrwydd i'n diwydiant wyau, sefydlogrwydd yn ein cadwyn gyflenwi ac mae'n dileu unrhyw anfantais bosibl i'n diwydiant yma yng Nghymru.

Felly, y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar Reoliadau Safonau Marchnata Wyau Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 a gyflwynwyd gerbron y Senedd ar 28 Ionawr, a gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn.

17:40

Dwi'n croesawu'r rheoliadau yma ac mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y rheoliadau. Ond dwi jest eisiau nodi rhwystredigaeth, oherwydd mi oeddwn i ar fy nhraed yn y Siambr yma nôl ym mis Ionawr y llynedd yn gofyn i'r Llywodraeth weithredu ar hyn, ac mae yn resyn ei bod hi wedi cymryd 12 mis inni gyrraedd y pwynt lle rŷn ni, o'r diwedd, yn gallu gweithredu. Ac mae hynny wedi bod, wrth gwrs, yn flwyddyn o ofid i'r rheini sydd yn y sector, yn flwyddyn o bryder wrth i gysgod ffliw'r adar daflu cysgod drostyn nhw, ond ar yr un pryd, wrth gwrs, y bygythiad yna o golli'r statws free range, colli marchnad, wedyn, a cholli bywoliaeth. Felly, o leiaf nawr mi fydd cynhyrchwyr yng Nghymru yn cael eu trin yn gydradd â'r rheini yn Lloegr a'r Alban, fel y dywedoch chi, a thu hwnt. Ond roeddwn i jest eisiau nodi, er ein bod ni'n cefnogi'r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd fan hyn, ein bod ni'n gresynu ei bod hi wedi cymryd cyhyd.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:40:30
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yn fyr iawn, dim ond i esbonio un o'r rhesymau tu ôl i'r oedi—rydyn ni'n falch o'i gael yma o'n blaenau—roedden ni eisiau deall yr effaith ar ddefnyddwyr, oherwydd dydyn ni ddim eisiau bod mewn sefyllfa lle roedd defnyddwyr yn teimlo'n aneglur am yr hyn oedd yn cael ei gynnig. Ond mae gennym ni, wrth gwrs, yma o'n blaenau ar hyn o bryd—. Nid yw ffliw adar wedi diflannu; erbyn hyn mae ffliw adar pathogenedd uchel yn wynebu gwledydd cyfagos hefyd, ac rydyn ni'n ymwybodol iawn ac yn wyliadwrus ohono. Ond wrth ddeall hynny, yr hyn a wnaethom oedd mynd allan mewn gwirionedd i ymgysylltu â defnyddwyr. Felly, fe wnaethom gomisiynu arolwg defnyddwyr annibynnol i ddeall barn defnyddwyr yn haf 2024. Gwnaethom ddadansoddi'r canlyniadau ac roeddynt yn dangos, mewn gwirionedd, bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cefnogi'r newidiadau hyn; roedden nhw'n eu deall. Felly, dyna pam y cawsom ychydig o oedi, felly, a diwygio'r rheoliadau. Felly, roedd rheswm da, byddwn i'n dweud. Ac rwy'n diolch—wel, yn rhagweld, gobeithio, y bydd pobl yn cefnogi'r diwygiadau hyn, oherwydd dyma'r peth iawn i'n sector, ond mae hefyd yn adlewyrchu hyder defnyddwyr yn yr hyn yr ydym yn ei wneud hefyd.

Iawn, gadewch i ni brofi hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Rheoliadau Caffael (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025

Eitem 10 sydd nesaf, y Rheoliadau Caffael (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid sy'n gwneud y datganiad yma—Mark Drakeford.

Cynnig NDM8823 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Caffael (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2025.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Caffael (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025. Mae caffael yn offeryn pwerus. Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario dros £10 biliwn bob blwyddyn drwy gaffael, gan gynnig cyfleoedd sylweddol i gefnogi economi Cymru. Deddf Senedd y DU oedd Deddf Caffael 2023. Derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Hydref 2023 ac fe wnaeth ddisodli'r rheoliadau caffael presennol. Sicrhaodd y Senedd hawliau annibynnol a hollol gymaradwy i gyflwyno rheoliadau i bennu rheolau a gweithdrefnau newydd ar gyfer awdurdodau contractio yng Nghymru a nod y newidiadau yn y rheoliadau hyn yw creu system gaffael symlach, gyflymach, fwy hyblyg sy'n gwreiddio tryloywder ar draws y cylch bywyd masnachol ac sy'n agor cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid, gan gynnwys BBaChau a mentrau cymdeithasol Cymru.

Gwnaed y set gyntaf o Reoliadau Caffael (Cymru) ym mis Gorffennaf 2024 ac roeddynt yn darparu'r manylion technegol ac ymarferol sydd eu hangen i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n briodol. Y rheoliadau sy'n cael eu hystyried heddiw yw'r ail mewn tair set o reoliadau sy'n deillio o Ddeddf 2023. Mae'r rheoliadau sy'n cael eu hystyried yma yn rhoi rhagor o fanylion i awdurdodau contractio Cymru ac yn anrhydeddu'r ymrwymiad a wnaed gan fy rhagflaenydd, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ar y pryd, i roi sylw i'r manylion a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystod eu gwaith craffu ar reoliadau 2024. Rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith diwyd ar y rheoliadau a gofynnaf i'r Aelodau eu cymeradwyo heddiw.

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges, i gyfrannu.

17:45

Diolch, Llywydd. Trafododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y rheoliadau drafft hyn ar 27 Ionawr. Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys un pwynt adrodd technegol a thri phwynt adrodd rhinwedd. Bydd fy sylwadau yn canolbwyntio ar y pwynt technegol a'r pwynt rhinwedd cyntaf.

Fel y nodir yn yr adroddiad, mae'r pwynt adrodd technegol yn nodi rhywfaint o ddrafftio a allai fod yn ddiffygiol o ran diffinio termau yn y rheoliad 45A newydd, sy'n cael ei fewnosod yn rheoliadau 2024. Mae'r rheoliad 45A newydd yn cynnwys cyfeiriadau at 'swm trosiant cysylltiedig', 'person cysylltiedig' a 'chyfleustod'. Nid yw'r termau hyn wedi'u diffinio yn y rheoliad 45A newydd nac yn cael eu diffinio yn rheoliadau 2024.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ei bod yn nodi'r pwynt adrodd ond nad yw'n cytuno'n llwyr ag ef. O ran sylwadau'r pwyllgor mewn perthynas â diffiniadau 'swm trosiant cysylltiedig' a 'pherson cysylltiedig', dywedodd y Llywodraeth fod cwmpas y pŵer yn Neddf Caffael 2023 yn berthnasol yma a bod y rheoliad 45A newydd wedi'i ddrafftio mewn modd sy'n golygu nad yw'n codi mater posibl o drosglwyddo.

O ran y diffiniad o 'cyfleustod', mae'r Llywodraeth yn cytuno, er eglurder llwyr, y dylai'r diffiniad symud o reoliad 4 i reoliad 2 o reoliadau 2024. Dywedodd y Llywodraeth wrthym ei bod yn rhagweld y bydd angen rheoliadau ychwanegol i gwblhau gweithredu Deddf 2023 yn derfynol, a bydd y newid hwn yn cael ei gynnwys yn y rheoliadau hynny yn y dyfodol, sy'n debygol o ddigwydd ddiwedd y gwanwyn.

Mae pwynt adrodd rhinweddau cyntaf y pwyllgor yn nodi bod y rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2024 i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn adroddiad y pwyllgor ar y rheoliadau hynny, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â defnyddio hen enwau ar gyrff fel Comisiwn y Senedd. Mewn gohebiaeth flaenorol gyda'r pwyllgor ym mis Medi 2024, cododd Llywodraeth Cymru rai pryderon y gallai newid yr enwau gael effaith ar gydnawsedd â rhwymedigaethau rhyngwladol, ac felly gofynnodd y pwyllgor i Lywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei phenderfyniad ei bod bellach yn briodol gwneud y newidiadau hyn. Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod bellach wedi penderfynu mai bach iawn oedd y pryderon a amlinellodd mewn gohebiaeth fis Medi diwethaf.

Does gen i neb arall yn cyfrannu. Dwi ddim yn gwybod a ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn moyn ymateb.

Na, Llywydd, dim byd, mewn gwirionedd, i ymateb iddo. Adroddodd Cadeirydd y pwyllgor, yn fanwl gywir, farn y pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru. Lle rydym wedi gallu gwneud hynny, rydym wedi ymateb yn gadarnhaol iddyn nhw; lle rydym yn credu na chafodd yr achos ei wneud yn llawn, nodwn bryderon y pwyllgor ond credwn fod y drafftio presennol yn ddigonol i gyfleu ystyr y rheoliadau.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna hefyd wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ac oni bai fod tri Aelod eisiau i mi ganu'r gloch, fe fyddaf yn symud yn syth i'r bleidlais. Un bleidlais sydd heddiw, ac mae'r bleidlais honno ar eitem 8. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2025 yw'r eitem a'r rheoliadau yma. Felly, mae'r bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, 10 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2025: O blaid: 25, Yn erbyn: 13, Ymatal: 10

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r cyfnod pleidleisio wedi gorffen. Dyna ni—dyna'n gwaith ni am y diwrnod ar ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:49.