Y Cyfarfod Llawn
Plenary
04/02/2025Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Tom Giffard.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella seilwaith trafnidiaeth ar draws Gorllewin De Cymru? OQ62237

Mae 'Llwybr Newydd', ein strategaeth drafnidiaeth, yn nodi ein gweledigaeth i wella trafnidiaeth ar gyfer pob rhan o Gymru. Byddwn yn cyflawni'r weledigaeth hon drwy'r prosiectau a nodir yn ein cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol a chynllun trafnidiaeth rhanbarthol de-orllewin Cymru, a fydd yn agor i'r cyhoedd, o ran ymgynghori, yr wythnos nesaf.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Prif Weinidog.
Rwy'n siŵr, yn eich ymarfer gwrando, y byddai llawer o bobl wedi sôn wrthych chi am eu rhwystredigaethau ag eistedd ar yr M4, ac rydym ni'n gwybod bod y Llywodraeth Lafur hon wedi canslo prosiect ffordd liniaru arfaethedig yr M4. Ond, yn ogystal â hynny, rydym ni hefyd wedi gweld yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf prosiectau cyffordd allweddol—prosiectau uwchraddio cyffordd—yn cael eu canslo ar yr M4, gan gynnwys yng nghyffordd 45 a chyffordd 47 ym Mhenllergaer. Mae'r rhain yn bwysig iawn oherwydd, fel yr ydym ni'n gwybod, dangosodd astudiaeth yn 2017 y gallai'r M4 ddod i stop tua 30 gwaith mewn diwrnod, ac roedd y gwaith hwn o uwchraddio cyffyrdd yn gwbl hanfodol i sicrhau ein bod ni'n cadw Cymru a'n M4—ein prif ffordd brifwythiennol—yn symud. Felly, a gaf i sicrwydd gennych chi y gwnewch chi edrych eto ar y prosiectau uwchraddio cyffordd hyn o amgylch Abertawe i weld a oes modd eu hatgyfodi o dan eich arweinyddiaeth?

Wel, diolch yn fawr iawn, ac mae'n bwysig gwneud yn siŵr ein bod ni'n cadw'r traffig yn llifo, a dyna pam y bu dulliau i gyflwyno terfynau cyflymder, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod y llif yn parhau ac nad ydych chi'n cael y stopio ac ailddechrau hwnnw sy'n ein gwylltio ni i gyd. O ran uwchraddio'r cyffyrdd, rwyf wedi clywed rhwystredigaethau llawer o bobl yn yr ardaloedd hynny, ac fe wnaf i ofyn i'r Ysgrifennydd trafnidiaeth ymchwilio i hynny.
Bydd cau Banc Lloyds ym Mhontardawe yn ddiweddarach eleni, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn gadael cwm Tawe gyfan heb yr un banc. A bydd yn rhaid i'r rhai sy'n dibynnu ar wasanaethau bancio personol, yn enwedig yr henoed, a'r rhai heb fynediad at wasanaethau digidol, deithio ymhellach o lawer bellach i gael mynediad at y gwasanaethau personol hynny sydd eu hangen o hyd. I'r rhai sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, bydd hyn, wrth gwrs, yn her arbennig. Er bod gwasanaethau yn bodoli rhwng Pontardawe a lleoedd fel Treforys neu Gastell-nedd, i'r rhai sy'n byw ymhellach i fyny cwm Tawe neu'r rhai yn nyffryn Aman, bydd cael mynediad at wasanaethau yn dod yn fwyfwy anodd. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru, ac yn enwedig yng nghymunedau'r Cymoedd, i sicrhau bod y gall y cymunedau hynny gael mynediad at wasanaethau hanfodol, fel banciau, sy'n troi'n fwyfwy canolog?

Diolch yn fawr. Rwy'n gwybod pa mor rhwystredig yw hi pan fydd banc lleol yn cau, ond y ffaith amdani yw bod cynifer yn fwy o bobl yn gwneud eu bancio ar-lein. Dyna'r gwir, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod llawer o bobl eisiau gwneud eu bancio wyneb yn wyneb o hyd. A dyna pam mae'n bwysig gwneud yn siŵr, ac rydym ni wedi gwneud yn siŵr, ein bod ni'n cefnogi ac yn gweithio gyda'r system Link, i wneud yn siŵr bod hybiau yn cael eu datblygu mewn rhannau penodol o Gymru. Ond mae'n bwysig, hefyd, cydnabod bod angen i bobl gyrraedd yr hybiau hynny, a dyna pam rydym ni'n edrych ar sut y gallwn ni ddiwygio'r drefn masnachfreinio bysiau i wneud yn siŵr eu bod nhw'n mynd ar lwybrau sy'n mynd i fod yn addas i bobl yn y cymunedau hynny. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cefnogi'r ddeddfwriaeth pan ddaw honno drwodd, sy'n golygu y bydd llawer mwy o reolaeth ac awdurdod o ran llywodraeth leol yn gallu penderfynu sut y gallai'r llwybrau hynny edrych. Ac, wrth gwrs, mae'r ymgynghoriad ar hynny yn dechrau wythnos nesaf yn ardal Abertawe. Felly, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymateb, ac rwy'n gobeithio y gwnaiff pobl yn eich ardal ymateb i wneud yn siŵr bod y llwybrau hynny yn addas, fel y gallan nhw gyrraedd y cyfleusterau hynny yr ydych chi eisiau iddyn nhw eu cyrraedd.
Mae seilwaith trafnidiaeth yn bwysig. Rydym ni angen i gwmnïau bysiau a threnau gydgysylltu amserlenni, ac i fysiau stopio a chodi pobl y tu allan i orsaf reilffordd yn hytrach na rownd y gornel. Yn 2018, dywedwyd wrthyf i gan y Gweinidog trafnidiaeth ar y pryd y byddai gorsaf Glandŵr yn un o'r gorsafoedd a fyddai'n cael ei hystyried i'w hailagor. Rwyf i wedi ymgyrchu dros hyn ers tro, o safbwynt amgylcheddol ac i ddelio â'r problemau parcio yn yr ardal o amgylch stadiwm Liberty. Mae prif reilffordd Llundain-Abertawe yn teithio trwy orsaf Glandŵr. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ailagor gorsaf Glandŵr?

Wel, diolch yn fawr iawn. Bydd rhan o'r ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal yr wythnos nesaf yn sicr yn cynnwys ymgynghoriad ar gyfnewidfeydd trafnidiaeth. Felly, rwy'n gobeithio bod hwnnw yn rhywbeth y byddwch chi, eto, yn ymateb iddo. Bydd awgrym o orsaf fysiau newydd yng Nghastell-nedd, ond hefyd safleoedd bws newydd, rhaglenni ymddygiad teithio. A bydd rhestr hir, rwy'n credu, o flaenoriaethau a phrosiectau y mae angen eu blaenoriaethu, felly rwy'n gobeithio y gwnewch chi edrych ar y rheini. O ran gorsaf Glandŵr yn benodol, mae astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal ar hyn o bryd ar gyfer hyd at saith gorsaf reilffordd newydd yn ardal bae Abertawe. Rydym ni'n credu y gallai hyn ddenu tua 2 filiwn o deithwyr y flwyddyn, felly byddai hynny yn arwyddocaol. Wrth gwrs, nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, felly rydym ni'n cael y sgyrsiau hynny gyda Llywodraeth y DU. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl leol yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw.
Dywedodd James Price, prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, dros y penwythnos bod yr achos busnes dros fuddsoddi mewn rheilffyrdd yn ne-orllewin Cymru yn gryf iawn a bod y gymhareb cost a budd yn anarferol o uchel. Nawr, nid yw'r llif prosiectau rheilffyrdd a gyhoeddwyd gyda Llywodraeth y DU—sydd i'w groesawu'n fawr—yn cynnwys de-orllewin Cymru. Mae'n cynnwys rhai cynlluniau ardderchog yng ngogledd-ddwyrain a de-ddwyrain Cymru, sy'n hollol gywir. Ond a wnaiff y Prif Weinidog wneud yn siŵr, pan fydd hi'n siarad â Llywodraeth y DU, nad coridor Rhydychen-Caergrawnt yn unig y mae angen ei flaenoriaethu, ond coridor y de-orllewin, yn enwedig ag achos economaidd mor gryf?

Clywais innau hefyd yr hyn yr oeddwn i'n meddwl oedd yn gyfweliad ardderchog gan James Price, gan nodi, mewn gwirionedd, faint o waith sydd wedi cael ei wneud dros y 10 mlynedd diwethaf o ran datblygu rheilffyrdd: gwerth £800 miliwn o drenau newydd ar ein cledrau; mae 75 y cant o'r teithiau sy'n cael eu cyflawni ar ein cledrau bellach yn cael eu cyflawni ar drenau newydd sy'n cael eu gwneud yma yng Nghymru. Mae'r rhain yn bethau yr wyf i'n credu y dylem ni eu dathlu. Ond mae llwyth o bethau—a byddwch yn ymwybodol, fel y cyn Weinidog trafnidiaeth, na allwch chi wneud popeth ar yr un pryd. Felly, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr bod dull cam wrth gam. Ond cefais innau hefyd fy nharo gan yr enillion uchel iawn yr awgrymodd y gellid eu cael o ran y gymhareb cost a budd, ac, yn sicr, mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei gadw ar yr agenda gyda Llywodraeth y DU.
2. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ai polisi Llywodraeth Cymru o hyd o ran trawsyrru trydan yw bod ceblau 132 kV neu lai yn cael eu gosod o dan ddaear lle bo modd? OQ62277

Polisi cynllunio Llywodraeth Cymru ar linellau pŵer newydd yw y dylen nhw, pan fo'n bosibl, gael eu gosod o dan ddaear.
Bydd y 150,000 o bobl yr amcangyfrif sy'n byw ar hyd llwybrau llinellau pŵer newydd arfaethedig yng Nghymru wedi'u calonogi'n fawr o glywed yr ailddatganiad hwnnw o ddewis polisi Llywodraeth Cymru, ac, yn amlwg, bydd yn rhaid i Weinidogion wneud penderfyniadau o ran ceisiadau cynllunio i adlewyrchu'r polisi hwnnw, neu bydden nhw'n wynebu her gyfreithiol. Ond, yn San Steffan yr wythnos diwethaf, clywsom fod Llywodraeth San Steffan yn cynnig cyfyngu ar yr hawl honno i adolygiad barnwrol o ran ceisiadau cynllunio seilwaith, gan gynnwys datblygiadau peilonau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog ddileu unrhyw ansicrwydd yn hyn o beth a datgan yn ddiamwys nad oes bwriad i wanhau mynediad at gyfiawnder yng Nghymru yn y ffordd y mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu.

Wel, pan edrychwn ni ar y sefyllfa peilonau yn benodol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod gwahaniaeth o ran costau a phethau. Felly, un o'r pethau yr ydym ni wedi ei wneud yw gwneud yn siŵr ein bod ni wedi sefydlu grŵp cynghori annibynnol ar gridiau, ac mae gan aelodau'r pwyllgor hwnnw arbenigedd gwirioneddol. Un o'r pethau y maen nhw'n ei nodi ac yn ei adolygu yw eu bod nhw'n comisiynu i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r wybodaeth ddiweddaraf am gostau i ddarparu tystiolaeth ar gyfer beth yw'r gwahaniaeth cost, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod hefyd bod goblygiadau o ran faint y bydd pobl yn ei dalu ar eu biliau ynni. Felly, mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn. O ran heriau barnwrol, mater yw hwnnw, yn amlwg, i Lywodraeth y DU.
Prif Weinidog, mae tanddaearu llinellau pŵer yn bwysig nid yn unig i leihau effaith weledol peilonau, ond hefyd i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu ar gymunedau lleol. Un o'r prosiectau allweddol yng Nghymru yw gwynt arnofiol ar y môr yn y môr Celtaidd, gan ganiatáu i ddatblygwyr gael mynediad at rhwng 15 GW a 50 GW o ynni. Er bod y prosiectau llif hyn wedi'u lleoli tua 40 cilomedr oddi ar arfordir de sir Benfro, bydd angen gosod ceblau helaeth ar eu cyfer ar y tir. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod ceblau i is-orsaf Penfro yn cael eu cyfeirio drwy un sianel bwrpasol, yn hytrach na dull tameidiog o sawl llwybr? Mae hyn yn hanfodol er mwyn osgoi niwed diangen i'r amgylchedd naturiol a sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu i'r gymuned leol, rhywbeth y mae'r cynghorydd sir lleol Steve Alderman a minnau yn cytuno arno.

Diolch yn fawr iawn. Rydym ni'n benderfynol o wneud yn siŵr ein bod ni'n manteisio ar y rhoddion naturiol a roddwyd i ni yng Nghymru o ran gwynt ar y môr. Dyna pam mae gennym ni grŵp gorchwyl a gorffen bellach a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd economi a chynllunio. Un o ddibenion y grŵp hwnnw yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gysylltiedig, yn deall yr hyn y mae angen ei wneud, ac ym mha drefn, ac mae hynny'n cynnwys, rwy'n credu, yr angen i wneud yn siŵr bod gennym ni'r gridiau wedi'u datblygu yn y ffordd iawn. Llinellau 400 cilofolt yw'r math o seilwaith sydd ei angen arnoch chi ar gyfer gridiau ar y môr mewn gwirionedd, yn hytrach na llinellau 132 cilofolt—gallaf ddiflasu dros Brydain ar yr un yma—ond mae angen cydnabod mai Llywodraeth y DU fydd honno—. Y Grid Cenedlaethol fydd yn penderfynu ar hynny, yn hytrach na chyfrifoldeb datganoledig.
Crëwyd y grid cenedlaethol pan oedd trydan yn cael ei gynhyrchu mewn gorsafoedd pŵer ac yna ei ddosbarthu i ddefnyddwyr. Yn Ysbyty Treforys, fel y mae'r Prif Weinidog yn gwybod, ceir fferm solar ar draws y ffordd ohono yn darparu trydan i'r ysbyty. Mae hyn yn lleihau'r pellter trosglwyddo. Rydym ni'n gwybod, er bod datblygiadau technolegol wedi sicrhau cyn lleied â phosibl o golled yn y system, bod tua 5 y cant o drydan yn cael ei golli wrth drosglwyddo a dosbarthu. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y dylem ni fod yn ceisio sicrhau mwy o gynhyrchu trydan yn lleol, ac y gallwn ni ddefnyddio'r trydan a gynhyrchir gan wynt ar y môr i ddarparu ynni ar gyfer storio data ar raddfa fawr, y mae'r galw amdano yn tyfu ynghynt ac ynghynt?

Diolch yn fawr iawn. Nid y canolfannau data yn unig fydd yn defnyddio ynni; rydym ni wedi cynnal rhywfaint o waith ymchwil a wnaed sy'n awgrymu y bydd y galw am drydan yn treblu erbyn 2050, felly mae'n rhaid i ni fod o ddifrif am hyn. Os ydym ni eisiau i'n plant gael y math o ansawdd bywyd sydd gennym ni, mae'n rhaid i ni baratoi ar ei gyfer. Ein cyfrifoldeb ni yw paratoi ar ei gyfer, oherwydd nid yw'r pethau hyn yn digwydd dros nos. Rydych chi'n gwbl gywir—lle gallwn ni, pam na allwn ni greu'r ynni hwnnw yn lleol a'i ddefnyddio yn lleol, fel y maen nhw wedi ei wneud yn llwyddiannus yn y model hwnnw yn Ysbyty Treforys, lle mae 1,000 tunnell o garbon wedi cael ei arbed a £500,000 y flwyddyn mewn biliau wedi cael ei arbed? Ond yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru yw'r prosiect Ynni Cymru hwn. Roeddwn i wrth fy modd o fynd i Dredegar y penwythnos diwethaf i weld prosiect cymunedol, cwmni'r Theatr Fach, sy'n gwbl ganolog i'r gymuned yno. Roedd paneli solar yn cael eu rhoi ar y to o ganlyniad i gyllid Llywodraeth Cymru. Mae hynny yn gyflawni gan Lywodraeth Cymru ar y pethau sy'n bwysig i bobl yn eu cymunedau.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Ar ran y Ceidwadwyr heddiw, Paul Davies.
Prif Weinidog, dywedodd y cyn Brif Weinidog a'ch Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu:
'Os ydych chi'n gofyn i mi, pe bai gen i dudalen wag o bapur ac y gallwn i wneud y pethau yr oeddwn i'n credu yr oedd angen eu gwneud, byddai gennym ni lai o ysbytai yng Nghymru.'
Aeth ymlaen ymhellach i ddweud:
'Mae gan Gymru ormod o ysbytai a gormod o welyau.'
A ydych chi'n cytuno â'r sylwadau hynny, Prif Weinidog?

Gadewch i mi fod yn eglur nad ydym ni'n mynd i fod yn cau ysbytai yng Nghymru. Yr hyn yr oedd yr Ysgrifennydd cyllid yn cyfeirio ato oedd, pe bai ganddo ddarn gwag o bapur, ni fyddem ni'n cychwyn o'r fan hon. A dyna'r gwir. Rwy'n credu ein bod ni'n gwbl eglur, o ran ein cynllun iechyd strategol, ein bod ni eisiau gweld symudiad yn ôl i gymunedau, ein bod ni eisiau gweld defnydd llawer gwell o ddigidol, ac rydym ni i gyd hefyd yn ymwybodol bod tua 1,000 o bobl yn ein hysbytai bob wythnos sy'n barod i adael ond nad ydyn nhw'n gallu gadael gan fod angen y gofal hwnnw yn y gymuned arnom ni. Felly, mae symud hynny i mewn i'r gymuned yn gwneud synnwyr. Nid wyf i'n mynd i ymddiheuro ar ei ran, oherwydd rwy'n ei gefnogi gan ei fod yn iawn i ddweud mai symud adnoddau i'r gymuned yw'r hyn y dylem ni fod yn ei wneud.
Prif Weinidog, rydych chi newydd ddweud eich bod chi eisiau cau mwy o ysbytai. Dyna rydych chi newydd ei ddweud, oherwydd rydych chi'n cytuno—[Torri ar draws.]
Rwy'n credu y gallwch chi barhau â'ch cwestiwn, ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog eisiau ymateb hefyd.
Oherwydd rydych chi'n amlwg yn cytuno â'ch Ysgrifennydd Cabinet y dylai fod llai o ysbytai. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ymddangos yn ddiweddar ar Any Questions? ac fe wnaethoch chi roi rhybudd pendant na fydd penaethiaid iechyd yn cael arian ychwanegol ar gyfer eu gwasanaethau os na fyddan nhw'n lleihau rhestrau aros. Aethoch ymlaen i ddweud bod angen gwell rheolaeth gan fyrddau iechyd. Ond Prif Weinidog, allwch chi ddim taflu'r baich; mae eich plaid wedi bod yn rhedeg ein GIG yng Nghymru am y 26 mlynedd diwethaf. Y realiti ar lawr gwlad, ac a amlinellwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon, yw bod y gweithlu wedi blino'n lân ac nad yw'r penaethiaid iechyd ar fai. Mae'n amlwg eich bod chi wedi methu â chyflwyno'r cynllun recriwtio a chadw gweithlu sydd ei angen ar ein GIG yng Nghymru. Gydag ysbryd staff ar ei lefel isaf erioed, a ydych chi'n credu ei bod hi'n synhwyrol ac yn rhesymol i feio byrddau iechyd unwaith eto, tra'n gwneud y sefyllfa'n waeth fyth trwy fygwth gwneud toriadau termau real i wasanaethau cyhoeddus?

Ddywedaf i wrthych chi beth fyddai'n waeth, Paul—. Wel, yn gyntaf oll, byddai'n dda pe baech chi'n tynnu hynna yn ôl. Y gwir amdani yw fy mod i'n eglur iawn nad ydym ni'n cau ysbytai yng Nghymru. Ni allwn i fod wedi bod yn fwy eglur, ac rwy'n ei ddweud eto. A ddywedaf i'r peth arall wrthych chi: rydym ni ar fin trafod cyllideb y prynhawn yma sy'n awgrymu ein bod ni'n mynd i roi £600 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn nesaf yn uniongyrchol i'r GIG, ac nid ydych chi'n mynd i fod yn cefnogi hynny. Felly, peidiwch â rhedeg ataf i, yn dweud wrthyf i y dylem ni fod yn rhoi mwy o arian i'r GIG ac yn ceisio lleihau rhestrau aros, pan nad ydych chi'n mynd i bleidleisio drosto. Rwyf i wir yn credu bod angen i chi feddwl o ddifrif am hynny.
Ac ar ben hynny, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod—. Rwy'n gwbl hapus; Rhan o'n gwaith yw dwyn byrddau iechyd i gyfrif. Dyna mae'r Ysgrifennydd iechyd yn ei wneud wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis. Ac ydw, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl ddilys gofyn pam mae rhai meddygon ymgynghorol yn cyflawni dwy lawdriniaeth y dydd ac mae rhai yn cyflawni chwech. Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn teg i'w ofyn. Mae angen mwy o dryloywder arnom ni ynghylch pwy sy'n gwneud beth, pa mor effeithiol ydyn nhw, ac mae gan reolwyr ran yn hynny. Mae ganddyn nhw ran mewn gwneud yn siŵr bod y theatrau sydd gennym ni yn cael eu defnyddio i'w capasiti, gwneud yn siŵr bod pobl yn cyrraedd yn brydlon ac yn cyflawni'n brydlon i bobl y wlad hon sy'n aros yn rhy hir. Ie, gadewch i ni eu dwyn i gyfrif, ond mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n darparu'r cyllid hwnnw. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddweud, a'r hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi ei ddweud, yw y byddwch chi'n cael y £50 miliwn hwnnw o gyllid ychwanegol hwnnw i leihau'r rhestrau aros, ond os na wnewch chi, nid ydych chi'n ei gael. Mae hynny'n ddigon teg.
Llywydd, yn ôl yr arfer, does dim atebolrwydd o gwbl gan y Prif Weinidog hwn a'r Llywodraeth Cymru hon—Llywodraeth a ddylai, a dweud y gwir, fod â chywilydd o'u record ar y GIG. A gadewch i mi atgoffa'r Senedd a'r Prif Weinidog bod ystadegau iechyd diweddaraf Cymru wedi cael eu cyhoeddi fis diwethaf, ac roedden nhw'n wirioneddol frawychus. Nid yn unig y mae rhestrau aros GIG Cymru wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed, ond maen nhw bellach wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed am 10 mis yn olynol. Mae hynny'n wirioneddol frawychus.
Mae llwybrau cleifion bellach wedi cyrraedd dros 800,000; mae arosiadau dwy flynedd, y gwnaethoch chi fel Gweinidog iechyd addo eu dileu yn 2023 a 2024, wedi cynyddu i bron i 25,000, ac eto yn Lloegr, 151 yw'r ffigur hwn, er bod poblogaeth Lloegr tua 20 gwaith yn fwy na'n un ni. Ac mae'n ffaith, o dan Lywodraethau Llafur Cymru olynol, y bu gostyngiad o dros 4,000 i welyau'r GIG. Felly, pa un a ydych chi neu Ysgrifennydd y Cabinet yn ei dderbyn ai peidio, mae'n amlwg nad oes digon o welyau i ymdopi â'r galw.
Mae hyn wir yn fater o fywyd a marwolaeth, oherwydd mae pobl yn marw yn ddiangen ar hyd a lled Cymru, mae teuluoedd yn colli anwyliaid cyn pryd, ac mae ysbryd staff y GIG yn plymio. O dan Lafur, mae'n amlwg bod GIG Cymru wedi torri. Prif Weinidog, rydych chi wedi amlinellu yn flaenorol eich ymrwymiad i leihau nifer y cleifion sy'n aros mwy na dwy flynedd i 8,000 erbyn y gwanwyn; a ydych chi'n cadw at yr addewid hwnnw?

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, yn gyntaf, cydnabod faint sy'n cael ei wneud gan y GIG bob un dydd. Ceir 2 filiwn o gysylltiadau bob mis mewn poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Mae hynny'n waith aruthrol sy'n cael ei wneud. Mae un pwynt mae chwe miliwn o bobl yn gweld eu meddyg teulu bob mis. Mae'r rhain yn ystadegau syfrdanol, ac mae'r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru yn cael gwasanaeth rhagorol.
Rydych chi'n sôn am y rhestrau aros; gadewch i mi ddweud wrthych chi am restrau aros. Mae'r arosiadau diagnostig yng Nghymru yn gostwng, mae'r therapïau yn gostwng. A wyddoch chi beth? Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn cyfrif y rheini yn Lloegr. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn cael eu cyfrif yn yr ystadegau. Felly, rydym ni'n bod yn llawer mwy gonest gyda'r cyhoedd am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru.
Rydych chi'n sôn am welyau; gadewch i mi ddweud wrthych chi am welyau. Pan oedd eich Llywodraeth chi mewn grym yn San Steffan, roedd gennym ni lawer mwy o welyau fesul pen o'r boblogaeth nag yr oedd ganddyn nhw yn Lloegr. Ac o ran staff, mae gennym ni fwy o staff nag erioed o'r blaen yn gweithio yn y GIG erbyn hyn: 12,000 o bobl. Os edrychwch chi ar nyrsys, mae wedi codi 14 y cant o'i gymharu â'r sefyllfa dair blynedd yn ôl. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl yn cydnabod ein bod ni'n buddsoddi yn aruthrol yn ein GIG, ond, ydym, rydym ni eisiau gweld gwell effeithlonrwydd, ac nid wyf i'n mynd i ymddiheuro am hynny.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch, Llywydd. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n rhyfeddol na allai arweinydd y grŵp Ceidwadol fod yma heddiw o bob diwrnod, gan ddewis yn hytrach brecwast yn America. Maen nhw'n amlwg wedi rhoi'r gorau i fod yn wrthblaid hyd yn oed.
Prif Weinidog, wrth i bob diwrnod fynd heibio, mae sefydliadau o bwysigrwydd diwylliannol, addysgol a chenedlaethol yn cael eu datgymalu fesul un o dan y Llywodraeth Lafur hon—o'n gwasanaeth iechyd i iechyd ein sefydliadau diwylliannol ac addysg. Bydd y Prif Weinidog wedi clywed y rali ar risiau'r Senedd heddiw. Pedwar cant o swyddi ar y dibyn ym Mhrifysgol Caerdydd, yr amgueddfa genedlaethol ar gau, toriadau i gyngor y celfyddydau, colli theatr genedlaethol, adran gerddoriaeth fyd-enwog yn mynd, gwlad y gân yn cael ei thawelu o dan oruchwyliaeth Llafur. Ac ar anterth argyfwng nyrsio yn y GIG, neges Llafur yw nad yw'n poeni am y rhai sydd eisiau gwneud gyrfa o ofalu am eraill. 'Mae gennym ni gytundeb cyllideb hael iawn erbyn hyn', medd y Prif Weinidog, ond pam mae'n ymddangos ei bod hi'n gwybod pris popeth, ond gwerth dim?

Waw, roedd tua 16 cwestiwn yn y fan yna, onid oedd? [Torri ar draws.] O ddifrif? Gadewch i mi fod yn eglur: rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod yr anhawster eithafol, yn benodol, ym Mhrifysgol Caerdydd; rwy'n credu ei fod yn gyfnod pryderus iawn i staff ac i fyfyrwyr yn y brifysgol. Rwy'n credu bod Caerdydd yn un o'r tlysau yng nghoron ein sector addysg uwch yng Nghymru, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ei bod wedi ei hadeiladu ar sylfaen gadarn.
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n gyfrifol wedi cyfarfod â'r is-ganghellor ddydd Gwener gan ail-bwysleisio’r ffaith y dylai'r ymgynghoriad fod yn gwbl deg, agored a diffuant, ac y dylid gwneud cymorth ar gael i'r rhai sy'n cael eu heffeithio. Mae'n hanfodol ein bod ni a nhw yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Ceir llawer o resymau am yr anawsterau y mae prifysgolion yn eu hwynebu yng Nghymru. Nid yw'n unigryw i Gymru. Mae'n rhaid i ni gymryd i ystyriaeth y ffaith bod newidiadau i ofynion fisa, Brexit, llawer o gronfeydd strwythurol yr UE—mae'r holl bethau hyn wedi effeithio ar y brifysgol.
O ran diwylliant, rwy'n credu bod problem dechnegol benodol o ran yr amgueddfa genedlaethol. Mae rhywfaint o waith cynnal a chadw y mae angen ei wneud ar unwaith, ond rydym ni'n cael ein sicrhau y bydd y problemau hyn yn cael eu datrys dros y dyddiau nesaf.
Mae ein sefydliadau ar chwâl o gwmpas y Llywodraeth hon yng Nghymru, a'r cwbl yr wyf i wedi ei glywed o ran addysg uwch dros y dyddiau diwethaf yw Gweinidog yn golchi ei dwylo o gyfrifoldeb. Mae addysg uwch yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu a rheoli ei chyllid ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn trafod y gyllideb ddrafft yn ddiweddarach heddiw. Pe bai cyllideb Cymru—a dywedir wrthym ni fod hwn yn gytundeb da—yn gytundeb mor dda i Gymru, pe bai addewid partneriaeth mewn grym Llafur yn golygu unrhyw beth, ni fyddem ni'n baglu, oni fyddem ni, o un argyfwng i'r llall? Pe bai gennym ni gyllideb hael mewn gwirionedd, ni fyddai Llywodraeth Cymru yn teimlo'r angen i sbinio ei chyllideb i'r graddau y mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn dod i'r casgliad ei bod yn llawn geiriau gwag. Ac am ddyfarniad damniol ar Lywodraeth Lafur bod yr un pwyllgor, pwyllgor trawsbleidiol, yn ei chyhuddo o droi oddi wrth darparu cymorth costau byw acíwt i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd—[Torri ar draws.]
Allaf i ddim clywed arweinydd Plaid Cymru. A allaf i ei glywed o leiaf? A allwn ni gael ychydig o ddistawrwydd os gwelwch yn dda?
Ie, a allwn ni gael ychydig o ddistawrwydd? Ond tybed a oedd gan y Prif Weinidog ei bys yn ei chlustiau pan gynhaliodd hi ei hymarfer gwrando yr haf diwethaf. Roedd hi'n cefnogi cap ar brisiau ynni; nawr nid yw'n cefnogi hynny. Roedd hi'n cefnogi menywod y 1950au; nawr nid yw'n eu cefnogi. Mae wedi methu ag argyhoeddi Keir Starmer o'r ddadl dros gyllid teg, symiau canlyniadol HS2 a datganoli Ystâd y Goron, ac mae ganddi'r hyfdra i'm galw i'n Mr Negyddol.
Mae fy agwedd gadarnhaol yn deillio o wybod nad oes yr un broblem yng Nghymru nad oes ateb ar ei chyfer. Mae Plaid Cymru eisiau rhoi'r atebion hynny ar waith. Pam nad yw'r Prif Weinidog eisiau gwneud hynny?

Duw—eto, aeth ymlaen am gyhyd rwyf i wedi anghofio beth wnaethoch chi ei ofyn.
Rwy'n credu efallai na wnaethoch chi glywed popeth a ofynnwyd, o bosibl, gan fod llawer o sŵn. Cafwyd llawer o sŵn y prynhawn yma, felly os gallwn ni glywed y cwestiynau a'r atebion gyda rhywfaint o dawelwch a pharch.

Diolch yn fawr iawn. Bydd dadl—[Torri ar draws.]
Nid wyf i'n hoffi cael fy heclo o feinciau cefn unrhyw blaid wleidyddol. Os gallwn ni glywed cyfraniadau'r Prif Weinidog a'r bobl hynny y gofynnwyd iddyn nhw ofyn cwestiynau. Gofynnwyd i un person ddwywaith heddiw i ofyn ei gwestiwn. Os gallwn ni glywed y Prif Weinidog mewn distawrwydd nawr, os gwelwch yn dda.

Diolch yn fawr iawn. Mae dadl ar y gyllideb yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac rwy'n credu y bydd digonedd o gyfle i bobl wneud eu pwyntiau bryd hynny. Yn fras, fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hi'n werth pwysleisio, eleni, bod £1.5 biliwn ychwanegol ar y bwrdd, y cynnydd uchaf i'r gyllideb yr ydym ni wedi ei weld ers dechrau datganoli, ac mae eich plaid yn bygwth peidio â chefnogi hynny. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth gwneud yn siŵr bod pobl yn deall, os na chawn ni'r gyllideb drwodd, yr holl addewidion hynny yr ydych chi'n eu gwneud i'r cyhoedd, ni fyddwn ni'n gallu eu gwireddu, ac yn sicr ni fyddwch chi. Ni fydd yr arian yno.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n ymddwyn yn gyfrifol yn hyn o beth. Mae'n syfrdanol, a dweud y gwir, bod Plaid Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn wedi cefnogi'r gyllideb yn y gorffennol pan oedd toriadau enfawr yn cael eu gwneud oherwydd cyni cyllidol Llywodraeth Dorïaidd y DU, ac eto eleni, pan fo £1.5 biliwn ychwanegol ar y bwrdd, nid ydych chi'n mynd i'w chefnogi. Mae hynny yn edrych fel chwarae gwleidyddiaeth amlwg i mi. Bydd y cyhoedd yng Nghymru yn gwylio a byddan nhw'n gweld na fydd yr arian hwnnw ar gael i'n hysgolion, i'n hysbytai, i'r bobl sy'n aros ar y rhestrau aros hynny a'r bobl yr ydych chi'n honni eich bod chi'n siarad ar eu rhan.
Mae pobl yn gwylio'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ofalus iawn, a gall y Prif Weinidog yma fy sarhau neu fy nawddogi gymaint ag y mae'n dymuno, ond nid yw llywodraeth drwy nawddogi yn gyflwyniad da gan Brif Weinidog y mae'n ymddangos bod ei synnwyr o hawl i lywodraethu yn dod yn fwy eglur o wythnos i wythnos.
Dywedodd y Prif Weinidog ym mis Rhagfyr bod gennym ni bellach Lywodraeth Lafur yn San Steffan sy'n parchu Cymru ac sy'n parchu datganoli. Yr wythnos diwethaf, cyfaddefodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid fod angen gwneud rhywfaint o waith i edrych ar yr arian y mae Cymru yn ei gael o ganlyniad i wariant Lloegr yn unig gan Drysorlys y DU. Roedd fy nghyd-Aelod, Adam Price, yn llygad ei le wrth ddweud ein bod ni'n edrych ar ddata sy'n chwarter canrif oed pan fyddwn ni'n cyfrifo cyfran Cymru.
Rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn credu y byddai Llywodraeth y DU sy'n parchu Cymru yn cywiro'r cam hwn heb oedi eiliad. Yn ôl ym mis Medi, dywedodd y Prif Weinidog wrthym ni fod Keir Starmer a Rachel Reeves yn barod i wrando o ran adolygu fformiwla Barnett, ac y byddai, ac rwy'n dyfynnu, yn
'gweld pa mor bell yr awn ni'.
Mae'n fis Chwefror erbyn hyn, felly a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa mor bell y maen nhw wedi mynd, neu a oes gan Keir Starmer a Rachel Reeves eu bysedd yn eu clustiau hefyd?

Rydym ni mewn trafodaeth barhaus gyda Llywodraeth y DU ar hyn, ond rwy'n credu eu bod nhw'n fwy tebygol o wrando ar lywodraeth sydd ar eu hochr, sy'n deall bod grym mewn partneriaeth, ac nad ydyn nhw eisiau gadael y Deyrnas Unedig, oherwydd dyna flaenoriaeth eich plaid chi. Rydych chi'n credu mewn annibyniaeth. Allwch chi ddim parhau i ofyn iddyn nhw am arian ychwanegol drwy'r amser pan mai annibyniaeth yw eich nod mewn gwirionedd. Rydym ni'n gwybod sut y byddai hynny yn chwalu gwasanaethau cyhoeddus yn ein gwlad.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd a phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd swyddi medrus mewn sectorau uwch-dechnoleg? OQ62276

Mae sectorau lled-ddargludyddion cyfansawdd a digidol de Cymru yn rhan o feysydd twf allweddol Llywodraeth Cymru, ac rydym ni wedi buddsoddi yn y diwydiannau a'u hyrwyddo ers dros ddegawd, gan weithio gyda Chyngor Sir Casnewydd a phrifddinas-ranbarth Caerdydd i greu swyddi hynod fedrus hirdymor.
Diolch am yr ateb cychwynnol yna, Prif Weinidog. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r sector uwch-dechnoleg ac yn enwedig y diwydiant lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd, er enghraifft y buddsoddiad diweddar o £51 miliwn gan Vishay yn Newport Wafer Fab, wedi'i gefnogi gan £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, a'r clwstwr ehangach gan gynnwys KLA, cyflogwr sylweddol arall ychydig filltiroedd i ffwrdd yn agos at y Coldra. A dweud y gwir, ceir 14 o fusnesau lled-ddargludyddion mewn radiws 30 milltir o'r ddinas a nifer o sefydliadau addysg uwch yn agos at Gasnewydd, yn rhoi mynediad at filoedd o fyfyrwyr technoleg a pheirianneg.
Bydd angen i unrhyw strategaeth ddiwydiannol ystyrlon gan Lywodraeth y DU gael ei hategu gan y diwydiant lled-ddargludyddion. Gallwn fod ar flaen y gad o ran hynny yng Nghasnewydd. Mae gan arweinydd cyngor y ddinas, Dimitri Batrouni, weledigaeth gyffrous ar gyfer y ddinas ac mae eisiau ei sefydlu fel dinas ddata gyntaf Cymru. Bydd y gwaith a'r cynlluniau a ddatblygwyd gan SAE Renewables ac eraill ym Mharc Ynni Cynaliadwy Aber-wysg hefyd yn hollbwysig i sicrhau pŵer ar gyfer y weledigaeth honno. Maen nhw'n bwriadu defnyddio'r seilwaith presennol, y tir a'r cysylltiad grid, a'i droi'n un o'r safleoedd storio batri mwyaf yn y DU.
Prif Weinidog, sut all Llywodraeth Cymru weithio gyda'r cyngor, y sector preifat a Gweinidogion Llywodraeth y DU fel y gallwn ni wireddu'r weledigaeth hon a'r cyfleoedd gwaith hynod fedrus a fydd yn dod yn ei sgil?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'n fawr gweledigaeth Dimitri sy'n arwain ar gyngor y ddinas, ac rwy'n credu mai canolbwynt hyn yw'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd hwnnw sy'n bodoli, sy'n unigryw—mae'n wirioneddol unigryw. Ac mae nifer y cwmnïau sy'n rhan o'r maes arbenigol dros ben hwn yn rhywbeth rwy'n gwybod sy'n cael ei gydnabod yn fyd-eang. Am y rheswm hwnnw, lleolwyd y ganolfan gatapwlt yma yn ne-ddwyrain Cymru ac mae'n un o'r rhesymau pam y dewiswyd hon fel ardal parth buddsoddi.
Rwy'n credu ei bod hi'n werth cofio bod pob un ohonom ni yn cario ffôn symudol o gwmpas ac o fewn y ffôn symudol hwnnw, ar draws y byd i gyd, rydych chi'n cario darn bach bach o Gymru gyda chi. Mae'n rhywbeth nad yw'n cael ei gydnabod ac mae'n rhywbeth y mae wir yn rhaid i ni orfoleddu yn ei gylch. Ac yn sicr, o ran datblygiadau yn y dyfodol, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi ymrwymo iddo. Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi o ran y fframwaith cynllunio a rheoleiddio, ac rydym ni'n gobeithio bod hyn yn mynd i arwain at ymchwil, arloesi a datblygu sgiliau pellach a fydd yn denu buddsoddiad preifat pellach i Aber-wysg, yr ydym ni'n gobeithio fydd o fudd i'r economi ehangach.
Prif Weinidog, ddwy flynedd yn ôl, gwnaed cais i Lywodraeth y DU i greu porthladd rhydd yng Nghasnewydd, gan weithio gydag awdurdodau lleol cyfagos i hybu rhagolygon economaidd y rhanbarth a Chasnewydd yn benodol er mwyn hyrwyddo'r sector lled-ddargludyddion cyfansawdd. Er bod y cais yn aflwyddiannus yn y pen draw, hoffwn wybod beth fu gwaddol y cais hwn mewn gwirionedd ac a yw'r holl gyfleoedd a nodwyd yn y cais gwreiddiol wedi cael eu datblygu, i weld sector uwch-dechnoleg yn cael ei ddatblygu yng Nghasnewydd, ac wedi cael ei ddihysbyddu hyd yn hyn, neu a oes unrhyw ragolygon i ni ei ddatblygu ymhellach? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Fe wnaethom ni lwyddo i gael dau borthladd rhydd, felly rwy'n credu y gallwn ni ystyried hynny'n fuddugoliaeth, ond roedd yn drueni bod Casnewydd wedi methu â chyrraedd eu nod yn yr ystyr hwnnw, ond mae cymaint i'w ddathlu pan ddaw i Gasnewydd. Mae'r pwyslais hwnnw ar y clwstwr uwch-dechnoleg iawn hwn yn rhywbeth sydd wedi cael ei gydnabod. Mae hynny'n golygu y bydd mwy o arian yn dod i mewn ac, yn sicr, rwy'n credu bod rhai o'r datblygiadau o ran canolfannau data, o ran yr angen i bweru'r canolfannau data—ceir cyfleoedd enfawr. Ac rwy'n gobeithio, pan ddaw'r uwchgynhadledd fuddsoddi i Gymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn, y bydd hwn yn faes lle bydd pwyslais hefyd.
Mae Casnewydd wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar draws y brifddinas-ranbarth, yn gwneud y ddadl dros fuddsoddiad pellach yn y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, fel y nododd John Griffiths, ac mae'n sail i'r ddadl dros ardal fuddsoddi. Ceir diddordeb amlwg yn y swyddi uwch-dechnoleg y gallai Casnewydd, Caerdydd a'r rhanbarth ehangach elwa ohonyn nhw, yn enwedig nawr bod y Prif Weinidog wedi cymeradwyo cynnig parcffordd Caerdydd, ac rwy'n croesawu'n fawr benderfyniad y Prif Weinidog. A dweud y gwir, symudodd Rolls-Royce i'r lleoliad presennol yn Llaneirwg, wrth ymyl fy nghymydog etholaethol Jayne Bryant, ar sail cynnig y parcffordd a'r potensial ar gyfer twf pellach.
A all y Prif Weinidog nodi sut y mae'n disgwyl hyrwyddo hanesion presennol o lwyddiant a'r potensial ar gyfer twf a swyddi yn y dyfodol mewn sectorau uwch-dechnoleg yng Nghymru, boed y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, gwyddorau bywyd, insurtech, gweithgynhyrchu uwch, neu fwy? Sut wnaiff hi wneud hynny yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi ryngwladol i Gymru y mae'n ei threfnu yn ddiweddarach eleni?

Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod hwn yn gyfnod cyffrous, ac rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n taflu goleuni ar ein cenedl ac yn dangos y gorau posibl sydd gennym ni i'w gynnig, ein bod ni'n defnyddio rhai o'r cwmnïau sydd eisoes wedi buddsoddi yma i wneud y ddadl dros fuddsoddi yng Nghymru, ond hefyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n denu'r buddsoddwyr rhyngwladol hynny i'n cenedl.
Byddwn yn canolbwyntio ar sectorau allweddol penodol lle'r ydym ni'n credu ein bod ni'n cael dylanwad mwy na'r hyn sy'n gymesur â'n maint, a lle hoffem ni weld buddsoddiad pellach, ac rydych chi wedi sôn am rai o'r rheini, fel lled-ddargludyddion cyfansawdd a gwyddorau bywyd a meysydd eraill. Felly, rydym ni'n ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cadw'r pwyslais arno. Mae pethau'n symud ymlaen yn hynny o beth, ac rydym ni'n gwneud ymdrechion i wneud yn siŵr bod y goleuni hwnnw a'r arian hwnnw yn dod i Gymru ac, yn hollbwysig, yn datblygu'r mathau o swyddi o ansawdd sydd eu hangen arnom ni yn ein cenedl.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau gofal sylfaenol yn Nwyrain De Cymru? OQ62273

Mae sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol ar gael yn rhwydd i bobl ledled Cymru yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae ein buddsoddiad diweddar o £52.1 miliwn mewn meddygaeth deulu ledled Cymru yn tanlinellu’r ymrwymiad hwn.
Diolch am yr ateb yna, Brif Weinidog.
Mae nifer ohonom ni wedi codi pryderon yn y Senedd am fater penodol yn Nwyrain De Cymru. Mae'r cwmni preifat eHarleyStreet wedi meddu ar y contractau ar gyfer nifer o feddygfeydd teulu y Cymoedd. Nid yw rhai meddygon wedi cael eu talu ac mae cleifion wedi ei chael bron yn amhosibl cael apwyntiadau. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethon ni ddarganfod bod Brynmawr yn cael ei drosglwyddo yn ôl i'r bwrdd iechyd, ond rwy'n deall mai dim ond cael eu monitro mae'r meddygfeydd sy'n weddill. Nawr, rwyf i eisoes wedi codi pryderon am lywodraethu clinigol yn y meddygfeydd hyn. Rwyf i wedi siarad â meddyg a oedd yn gweithio yn un o'r meddygfeydd fel locwm, a ddywedodd fod cleifion yn ymddangos gyda phump neu chwech o wahanol broblemau, gan eu bod nhw wedi bod yn aros cyhyd i gael apwyntiad ac nad oedden nhw'n gwybod pryd y byddai eu hapwyntiad nesaf, ac roedd y meddyg yn teimlo'n bryderus, oherwydd y pwysau ychwanegol arno, oherwydd ei fod yn rhedeg mor hwyr, y gallai wneud camgymeriad, a dywedodd wrthyf nad oedd yn teimlo'n ddiogel. Siawns nad yw hynny yn unrhyw ffordd o drin meddygon na chleifion, ac eto mae meddygfeydd, gan gynnwys Bryntirion ym Margoed, Tredegar ac Aber-bîg ddim ond yn cael eu monitro. A ydych chi'n fodlon bod y sefyllfa yn ddiogel yn y meddygfeydd hynny i gleifion ac i feddygon?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch bod partneriaid Meddygfa Brynmawr wedi cytuno gydag Aneurin Bevan i drosglwyddo'r contract yn ôl, ac rwy'n gwybod bod staff wedi cael eu hysbysu am hynny ddiwedd mis Ionawr. Yr hyn sy'n digwydd nawr yw bod y bartneriaeth wedi cytuno i adolygiad, mewn trefn, o bob un o'r meddygfeydd eraill y mae'r partneriaethau yn meddu arnyn nhw. Maen nhw'n mynd i fod yn edrych ar gydymffurfiad cytundebol, gan wneud yn siŵr eu bod nhw'n gweld sefydlogrwydd, ac os nad ydyn nhw'n cyrraedd y safon, rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth honno yno i'r gymuned leol, yn unol â'u cyfrifoldeb.
Prif Weinidog, yn dilyn ymlaen o'r hyn mae fy nghyd-Aelod o Ddwyrain De Cymru newydd ei ddweud—ac wrth gwrs rydym ni'n croesawu'r arian yr ydych chi newydd ei gyhoeddi sy'n mynd i fynd i'r maes hwn—mae meddygon teulu yn cyflawni'r swyddogaeth hanfodol honno, onid ydyn nhw, o ran lleihau rhestrau aros y GIG, sydd allan o reolaeth, wrth gwrs, a hefyd o ran gwneud yn siŵr bod gan bobl fynediad at ofal heb orfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, sydd eisoes wedi'u hymestyn i'r eithaf. Oherwydd os na all pobl fynd at feddyg teulu, maen nhw'n aml yn troi at adrannau damweiniau ac achosion brys, gan wneud yr amseroedd aros eithriadol o hir hynny y mae pobl yn eu dioddef yn llawer gwaeth.
Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod meddygon teulu yn hygyrch i'w cymunedau, ac rydym ni wir angen i'r ymrwymiad hwnnw fod yn un cadarn iawn, gan fod angen i gleifion gael eu gweld o fewn amser rhesymol. Dywedodd un etholwr wrthyf i fod y bu'n rhaid iddo aros pythefnos dim ond am alwad ffôn gan feddyg. Nid yw hynny'n iawn, ac mae hynny'n digwydd mewn llawer o feddygfeydd, nid dim ond un tro. Mae pethau, wrth gwrs, yn cael eu gwaethygu pan fydd adeiladau newydd yn cael eu codi ac nad oes ganddyn nhw'r seilwaith i fynd gyda nhw. Felly, pa sgyrsiau ydych chi'n eu cael i sicrhau bod fy etholwyr i a phobl Cymru yn cael y mynediad prydlon hwnnw at apwyntiadau, yn enwedig apwyntiadau wyneb yn wyneb, fel nad yw problemau iechyd difrifol yn cael eu methu, a pha drafodaethau ydych chi'n eu cael am feddygon teulu o bosibl yn gweithio mwy ar benwythnosau dim ond i leddfu'r holl bwysau hynny? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Wel, fel y dywedais i, ceir 1.6 miliwn o apwyntiadau meddyg teulu bob mis yng Nghymru, sy'n fwy na hanner y boblogaeth gyfatebol. Y gwir amdani yw fy mod i'n falch iawn bod yr Ysgrifennydd iechyd wedi llwyddo i ddod i gytundeb ar y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, ac mae llawer o bethau newydd wedi'u hymgorffori yn y contract hwnnw. Un o'r pethau yw adolygiad ar unwaith er mwyn cryfhau cydymffurfiad â'r safonau mynediad ynghylch tagfa 8 y bore ac apwyntiadau y gellir eu trefnu ymlaen llaw. Felly, rydym ni'n gwybod, mewn gwirionedd, bod y mwyafrif llethol o feddygfeydd wedi cytuno i hyn, ond mae rhai nad ydyn nhw'n cydymffurfio â hynny. Felly, mae angen i ni fynd drywydd y rheini, ac rydym ni'n gwybod pwy ydyn nhw, ac mae'r ffaith eu bod nhw wedi cytuno unwaith eto yn golygu y ceir yr ymrwymiad parhaus hwnnw.
Ond ceir meysydd eraill yr wyf i'n falch iawn eu bod nhw yn y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol hwnnw sydd wedi cael eu hychwanegu. Felly, er enghraifft, bydd yn llawer haws cael mynediad at ap GIG Cymru o ran presgripsiynau rheolaidd a phethau, fel bydd hynny yn osgoi pobl yn gorfod mynd at y meddyg ar gyfer yr adegau hynny, a bydd archwiliad iechyd blynyddol anabledd dysgu. Felly, ceir pethau newydd sydd wedi cael eu cytuno, ac rwy'n falch dros ben ein bod ni wedi llwyddo i ddod i'r casgliad cynhyrchiol iawn, rwy'n credu, o ran y berthynas â meddygon teulu.
Cafodd y feddygfa ym Mrynmawr ei throsglwyddo yn ôl yn wirfoddol, a dywedir wrthym ni fod hynny oherwydd nad oedd sefydliad eHarleyStreet ddim yn cydymffurfio â'r contract yn dechnegol, ac felly ni allai'r bwrdd iechyd fwrw ymlaen â gorfodi dychweliad y contract. Mae Bryntirion ym Margoed wedi gwaethygu ers i eHarleyStreet gymryd yr awenau, ac mae'n sicr yn wir bod Delyth Jewell ac Alun Davies wedi sôn yn flaenorol am staff ddim yn cael eu talu a chontractwyr ddim yn cael eu talu—mae hynny'n dal i fod yn wir. Ceir dau beth y mae'n rhaid i ni eu deall. Yn gyntaf oll, gan y bydd y monitro uwch hwnnw sy'n digwydd yn arwain at ganlyniad, a fydd y canlyniad hwnnw yn foddhaol i'r Prif Weinidog ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd? A phan roddir y cyngor ar sefyllfaoedd cyfreithiol hynny eHarleyStreet, a wnaiff y Prif Weinidog sicrhau ei bod hi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn fodlon bod hynny'n wir mewn gwirionedd, nad ydyn nhw'n gallu cymryd y contractau hynny yn ôl?

Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedais i, mae penderfyniad i adolygu mewn trefn pob un o'r meddygfeydd eraill y mae'r bartneriaeth yn meddu arnyn nhw, a bydd Bryntirion ym Margoed yn un o'r rheini. Os nad ydyn nhw'n cydymffurfio, yna yn amlwg bydd cwestiynau a bydd gan y bwrdd iechyd gyfrifoldeb i gamu i mewn oherwydd diffyg cydymffurfiad â'r contract. Felly, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa benodol hon, ac os oes unrhyw ddatblygiadau pellach, rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn rhoi gwybod i chi.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru? OQ62235

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr a dderbyniodd dros 250 o ymatebion ar-lein, ein nod yw cyhoeddi ein strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol 10 mlynedd ym mis Ebrill.
Diolch. Wel, yn siarad yma ym mis Tachwedd, galwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gynnwys pobl fyddar yn y strategaeth iechyd meddwl newydd i Gymru ar ôl i'r grŵp iechyd meddwl a llesiant meddyliol pobl fyddar Cymru gyfan, grŵp o weithwyr proffesiynol ac elusennau pobl fyddar a chlyw, ysgrifennu at y Gweinidog yn datgan eu bod nhw'n awyddus i sicrhau bod pobl fyddar yng Nghymru yn rhan wirioneddol o hyn.
Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb wasanaeth iechyd meddwl i bobl fyddar, ac eto mae pobl fyddar ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef problem iechyd meddwl na pherson sy'n clywed. Wrth ymateb, dywedodd y Trefnydd y bydd y Gweinidog eisiau ymateb yn gadarnhaol i alwad y grŵp, ond, yn ysgrifennu at y Gweinidog fis diwethaf, dywedodd y grŵp na chawson nhw ateb ganddi. Efallai eu bod nhw erbyn hyn; wn i ddim. Pa ddiweddariad allwch chi ei roi neu gamau y byddwch chi'n eu cymryd felly i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau pellach gyda'r grŵp a Cholegau Brenhinol y Seiciatryddion, y maen nhw'n gweithio'n agos â nhw?

Diolch yn fawr iawn. Wel, yn gyntaf i gyd, a gaf i bwysleisio pa mor ddifrifol yr ydym ni'n ystyried materion iechyd meddwl yng Nghymru? Rydym ni'n ddifrifol iawn ynglŷn â hyn. Rydym ni'n gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw gyflwr arall yn ein gwasanaeth iechyd. Cafodd yr arian ei glustnodi. Rydym ni wedi cyflwyno'r llinell ffôn '111 pwyso 2', ac mae yna welliant parhaus o ran perfformiad, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn pedair wythnos. Nawr mae hynny'n bell iawn o'n sefyllfa ni pan oeddem ni'n ymgodi o'r pandemig. Felly, cafwyd camau enfawr ymlaen o ran cefnogaeth i iechyd meddwl.
O ran pobl fyddar yn arbennig, serch hynny, ac fe wn i am eich diddordeb chi yn hyn, ac fe wn i chi fod yn hyrwyddo'r mater hwn am amser maith, fe wnaethom ni ofyn i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru gynnal adolygiad ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl i'r rhai sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw, ac fe fydd yr adolygiad hwn yn llywio'r cynllun cyflawni, a gaiff ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r strategaeth.
6. Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ran yr arbedion a allai ddod o weithredu ac ariannu strategaeth atal damweiniau effeithiol i leihau damweiniau yn y cartref a'r gweithle? OQ62243

Rŷn ni wedi ymrwymo i leihau damweiniau yn y cartref a'r gweithle, mor bell ag sy'n bosibl o fewn ein pwerau. Rŷn ni'n cymryd camau mewn sawl maes i wella diogelwch ar ein ffyrdd, gweithleoedd a chartrefi, ac rŷn ni'n asesu pa mor effeithiol yw'r camau hyn.
Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Mi gyhoeddwyd adroddiad gan y Royal Society for the Prevention of Accidents yn ddiweddar o'r enw 'Safer Lives, Stronger Nation'. Mae hwn yn dadansoddi niferoedd damweiniau ar draws pedair gwlad y Deyrnas Gyfunol, ac yn dangos yn glir bod yna gynnydd o 42 y cant wedi bod mewn niferoedd damweiniau dros y ddegawd diwethaf. Mae hynny'n cynnwys yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'n rhaid cydnabod y data a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf o ran y polisi 20 mya. Rydyn ni'n deall ei bod hi'n ddyddiau cynnar, ond mae hynny yn galonogol i'w weld.
Ond, serch hynny, tu hwnt i ddamweiniau ceir, mae'r adroddiad hwn yn peintio darlun clir o ddirywiad amlwg ymhob gwlad, ac mae yna gynnydd amlwg mewn pobl yn dioddef damweiniau a fyddai wedi gallu cael eu hosgoi. Mae hyn, wrth gwrs, yn creu cost sylweddol i'n gwasanaethau cyhoeddus ac i fywydau plant ac oedolion yng Nghymru, gyda 1,206 o bobl yng Nghymru yn marw o ganlyniad i ddamweiniau yn 2022. Felly, gan fod lleoliadau damweiniau yn disgyn o dan gyfrifoldeb sawl portffolio Gweinidogol amrywiol—rydych chi wedi enwi nifer o feysydd—pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau cyd-ddealltwriaeth cyffredin ac arbenigedd ar draws sectorau i gael strategaeth effeithiol ar waith?

Diolch yn fawr. Y peth allweddol i'w wneud yw ceisio atal damweiniau, ac rwy'n falch iawn o weld y canlyniadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf—o ganlyniad i gyflwyno 20 mya, mewn gwirionedd, mae hynny wedi achub 100 o fywydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fe welsom ni ostyngiad o 28 y cant o ran anafiadau, ac fe welsom ni ostyngiad o 26 y cant o ran damweiniau. Mae hynny'n rhywbeth y dylem ei ddathlu. Rwyf i o'r farn y dylid cydnabod hynny. Mae'r ffaith fod 100 yn rhagor o bobl yn cerdded o gwmpas heddiw oherwydd y strategaeth honno yn rhywbeth, yn sicr, y dylid ei nodi yn fy marn i.
O ran yr agweddau eraill ar atal, rwy'n falch iawn o ddweud bod cynnydd da yn digwydd o ran y gwasanaethau cyswllt toresgyrn, ac fe gawson nhw eu cyflwyno ledled Cymru. Felly, sut ydych chi'n atal damweiniau, yn enwedig felly yn y boblogaeth sy'n heneiddio? Drwy ddechrau yn gynnar. Ac mae hi'n rhagorol gweld sefydliadau fel Gofal a Thrwsio Cymru, sy'n dod i mewn ac yn gosod canllawiau i bobl. Mae'r gwaith a wnân nhw o ran atal yn nodedig iawn, ac rwyf i o'r farn fod hwnnw'n ysgafnu cryn dipyn o'r pwysau sydd ar ein hysbytai ni. Roeddwn i'n sobr o falch o weld bod fy mam, sy'n 92 oed, wedi cael gosod canllawiau newydd yn ei thŷ hi'r wythnos diwethaf. Mae pethau fel hyn yn bwysig. Mae pethau fel hyn yn osgoi damweiniau, ac felly mae rhoi ychydig bach o arian, fel gwnawn ni—. Nid swm bychan o arian mohono, mewn gwirionedd—rydym ni'n rhoi tua £700,000 iddyn nhw bob blwyddyn. Nid swm bychan o arian mohono. Ond dychmygwch chi gymaint y gwnaethom ni ei arbed o ganlyniad i'r buddsoddiadau fel rhain.
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gynnydd o ran parth buddsoddi Wrecsam-Sir y Fflint? OQ62247

Yn dilyn cadarnhad o gyllid yn natganiad yr hydref, mae rhaglen parth buddsoddi Cymru yn mynd rhagddi ar garlam ar gyfer cyflawni ein blaenoriaeth economaidd o dwf gwyrdd.
Diolch i chi am yr ymateb yna, Prif Weinidog, ac a gaf i ategu'r croeso a roesoch chi i'r cynnydd sydd wedi digwydd o ran y parth buddsoddi yn y gogledd-ddwyrain, yn Wrecsam a sir y Fflint, a hefyd yn arbennig i'r gwaith trawslywodraethol hanesyddol a'r gwaith trawslywodraethol rhwng y DU, Cymru a llywodraeth leol yma yng Nghymru? Mae croeso mawr i hyn ac mae angen amdano yn y gogledd-ddwyrain. Wrth gwrs, fe fydd y parth buddsoddi penodol hwnnw yn ceisio creu 6,000 o swyddi yn ogystal ag annog gwerth tua £1 biliwn o fuddsoddiad yn Wrecsam a sir y Fflint, ond fe geir rhagor o gyfleoedd eto hefyd, Prif Weinidog, a tybed a fyddech chi'n barod i gefnogi'r cyfleoedd hynny sydd yn fwy eang, oherwydd natur y parth buddsoddi ar y ffin â Lloegr—mae yna gyfleoedd o ran Glannau Mersi, Manceinion a Swydd Gaer i fod â mwy o gydweithio dros y ffin ar gyfer ennyn twf economaidd yn y rhan honno o'r DU. Felly, tybed a fyddech chi'n cefnogi'r galwadau hynny am sefydlu partneriaethau ledled Cymru a Lloegr yng ngogledd-ddwyrain Cymru gyda gogledd-orllewin Lloegr.

Diolch yn fawr iawn, ac rwyf innau'n llawenhau gyda chi yn y ffaith fod presenoldeb gennym ni fel hyn o fod â pharth buddsoddi yn y gogledd ac fe geir cyfle gwirioneddol, rwy'n credu, o ran rhyddhau gwerth hyd at £160 miliwn o gyllid, ynghyd â chadw twf ardrethi annomestig i ddatblygu seilwaith, sgiliau a denu buddsoddiad.
Edrychwch, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod llawer iawn o symudiad yn digwydd dros y ffin i gyd ac yn y parth gogledd-ddwyreiniol hwnnw'n arbennig felly. Nid yw hwnnw'n rhywbeth y dylem ni ymladd yn ei erbyn; mae'n rhywbeth y dylem ei groesawu. Rwy'n credu ei bod hi o fudd i bawb ohonom ni sicrhau ein bod ni'n datblygu ac yn tyfu gyda'n gilydd ac, yn sicr, rwy'n siŵr y bydd Gweinidog gogledd Cymru yn awyddus iawn i sicrhau bod y datblygiad hwnnw'n parhau ac fe wyddom ni o ran pethau fel datblygiad rheilffyrdd ein bod ni'n dymuno gweld cydweithrediad llawer mwy clòs o ran gweithio gyda'n gilydd ar gyfer ysgogi cynhyrchiant, ac ysgogi buddsoddiad yn y meysydd hynny.
Yn olaf, cwestiwn 8, Jane Dodds.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu darparwyr gofal plant i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ62274

Rŷn ni’n rhoi cyllid i awdurdodau lleol i gefnogi gofal plant a chwarae ar gyfer teuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol, i helpu sicrhau bod gofal plant yn gynhwysol ac yn hygyrch, ac rŷn ni'n sicrhau beth rŷn ni'n gallu ei wneud i helpu'r gweithlu i ddatblygu sgiliau addas. Mae ein cyllid i’r consortiwm gofal plant Cwlwm yn cynnwys cymorth hanfodol i’r sector ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.
Mae mwy o blant yn ymgyflwyno ag anghenion dysgu ychwanegol ar oedran cynharach, ac fe geir oedi yn y diagnosis sy'n gadael llawer yn amddifad o gefnogaeth hanfodol. Yn absenoldeb yr asesiadau cynnar hyn, cyfrifoldeb i'r darparwyr gofal plant yw hwn yn gyfan gwbl a hynny heb yr adnoddau arbenigol angenrheidiol sy'n angenrheidiol i roi'r dechrau gorau i blant yn eu bywydau. Yn ystod fy ymweliadau â lleoliadau gofal plant yn fy rhanbarth i'n ddiweddar, fe welais i staff ymroddedig yn gweithio yn ddiflino, ond yn cael eu llyffetheirio gan ddiffyg cefnogaeth ariannol, cymarebau staffio, ac, yn bwysicaf i gyd, yr oedi hir o ran asesiadau i'r plant mân iawn hyn.
Mae'r cynnydd sydyn o ran anawsterau lleferydd ac iaith yn peri pryder mawr, ac mae hynny'n cynnwys mwy o blant dieiriau. Er gwaethaf y galw mwyaf a fu erioed, mae cael gafael ar wasanaethau arbenigol yn anodd, gyda phlant yn cael sesiynau therapi am ddim ond hanner awr yn aml, a hynny dros gyfnodau o wythnosau. Yn sicr, nid yw hyn yn ddigon da. A gydag ymchwil yn dangos bod geirfa dlawd yn bump oed yn cynyddu perygl o anllythrennedd, problemau iechyd meddwl a diweithdra yn ddiweddarach mewn bywyd, mae ymyrraeth gynnar, rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cytuno, yn hanfodol i ddyfodol ein plant. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gynyddu cyllid ar gyfer lleoliadau gofal plant a buddsoddi mewn therapyddion lleferydd ac iaith fel bod plant yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn ogystal â chael y diagnosis angenrheidiol yn gynt? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr iawn. Mae hi'n rhyfeddol iawn wrth i ni ystyried, mewn gwirionedd, cymaint o newidiadau sylweddol, dros y 10 mlynedd diwethaf, a fu yn y ffordd y mae plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol yn cael eu hadnabod a'r ffordd rydym yn ymateb iddyn nhw. Ar hyn o bryd, mae dros 21,000 o ddysgwyr â chynlluniau datblygu unigol. Mae hwnnw'n gynnydd o 124 y cant ers 2018. Felly, mae'r galw yn cynyddu trwy'r amser. Rwy'n falch o allu dweud, mewn gwirionedd, bod y swm o arian sy'n mynd i mewn i hyn wedi cynyddu yn sylweddol. Mae'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol/anghenion addysgol arbennig wedi cynyddu gan 55 y cant neu dros £200 miliwn ers 2018. Mae'r rhain yn symiau enfawr o gyllid ychwanegol. Nid wyf i'n ymddiheuro am hynny. Rwyf i o'r farn y dylem ni ymfalchïo yn fawr. Os na wnawn ni fuddsoddi yn gynnar fel hyn, fel rydych chi'n ei awgrymu, fe fyddwn ni'n achosi problemau i'r dyfodol. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n cael eu recriwtio i'r maes hwn. Yn benodol, o ran therapyddion lleferydd ac iaith, mae hwn yn faes heriol iawn ledled Cymru, ond fe fu cynnydd yn nifer y bobl sy'n hyfforddi yn y meysydd hynny yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Diolch i’r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes a'r Trefnydd fydd yn gwneud y datganiad yma—Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory wedi cael eu lleihau i 10 munud. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cynlluniau o ran gweithlu'r GIG a sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnal cyfraddau staffio sy'n ddiogel ar safleoedd ysbytai ledled Cymru. Fe ges i wybod fod cynorthwywyr gofal iechyd, mewn rhai achosion, wedi cael eu gwneud yn gyfrifol am wardiau cyfan mewn ysbytai a'u bod nhw'n rheoli wardiau ar eu pennau eu hunain. Fe ddywedwyd wrthyf i hefyd fod cynorthwywyr gofal iechyd yn ymgymryd â chyfran gynyddol o waith gweinyddol ac, felly, mae hi'n hanfodol i ni fod â rhywfaint o eglurder ynghylch swyddogaeth cynorthwywyr gofal iechyd a'r hyn y disgwylir iddyn nhw ei wneud o ran rheoli cleifion. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol nad yw staff yn cael eu gorweithio a'u gorflino, ac mae hynny'n gofyn bod gan yr ysbytai adnoddau digonol a rheolaeth briodol. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallem gael datganiad yn amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y bydd y gyfradd briodol o adnoddau a staff mewn ysbytai ar gyfer rheoli wardiau yn effeithiol fel y bydd staff yn gwneud eu priod waith a bod cleifion yn cael eu cefnogi yn iawn.
Wel, diolch yn fawr, Paul, am eich cwestiwn pwysig iawn.
Mae hi'n bwysig ac mae hi'n amlwg iawn ei bod rhaid i GIG Cymru fod ag eglurder ynglŷn â chynlluniad cywir ei weithlu, fel rydych chi'n dweud, a hynny ar gyfer pob bwrdd iechyd ac o ran y ddarpariaeth. Wrth gwrs, mae hynny'n llywio'r patrymau o hyfforddi a recriwtio hefyd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni fyfyrio ar y ffaith fod y GIG, o ran buddsoddiad yn ei weithlu, yn gadarn iawn, yn dda iawn. Yn ddiddorol, o ran y staff i gyd, cyfwerth ag amser llawn presennol yn arbennig, 10,281—. Mae'n llwyddiannus hefyd o ran recriwtio nyrsys a addysgir yn rhyngwladol o Kerala. Ond, yn amlwg, o ran cynllunio'r gweithlu ar gyfer y byrddau iechyd ledled Cymru, dyma'r hyn a ddisgwylir a'r hyn a gyflwynir i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad llafar oddi wrth y Gweinidog Diwylliant, os gwelwch chi'n dda. Yn gyntaf, o ran cau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae hi'n hanfodol ein bod yn gwybod beth sydd wedi digwydd yn union ac, er ei bod hi'n ymddangos y bydd yn agor ei drysau unwaith eto ymhen ychydig ddyddiau, rwy'n credu bod angen y sicrwydd hwnnw arnom nad yw hwn yn arwydd o broblem fwy eang ac yn gysylltiedig â'r ôl-groniad cyfalaf cynnal a chadw. Fe godais i'r mater y gallai hynny beryglu'r casgliadau cenedlaethol sawl gwaith, oherwydd dyna'r hyn a ddywedodd Amgueddfa Cymru wrth y pwyllgor diwylliant. Fe godais i sawl gwaith hefyd yr hyn a ddigwyddodd i amgueddfa genedlaethol Brasil yn 2018, pan ddinistriwyd 20 miliwn o eitemau o'r casgliadau. Felly, mae hyn yn ddifrifol ac rwy'n credu bod angen y sicrwydd hwnnw arnom ni yn y Senedd.
Hefyd mae'r ail ddatganiad yn ymwneud ag adroddiad a gafodd ei ollwng i'r newyddiadurwr Will Hayward ac a fanylwyd arno yn ei gylchlythyr ef, sef adolygiad i is-adran ddiwylliant Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, ni welais i mo'r adroddiad hwnnw, ond mae hwn yn un dyfyniad uniongyrchol ohono:
'Mae'r is-adran yn cael ei disgrifio yn aml fel traed moch ac yn gwneud dim ond ceisio goroesi.'
Fe hoffwn i ofyn am gyhoeddi'r adroddiad a chael datganiad llafar gan y Gweinidog. O ystyried yr hyn yr ydym ni'n ei weld mewn cymaint o'n sefydliadau diwylliannol, fe gaeodd drysau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae'r sector mewn argyfwng, ac rwy'n credu bod angen i ni ddeall yr hyn sy'n digwydd gyda'r adran hefyd.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig egluro, o ran Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd—ac yn wir, fe wnaeth y Prif Weinidog ymateb i hyn—bod angen iddi gau am ychydig ddyddiau i fynd i'r afael â mater o ran cynnal a chadw. Ac rwy'n credu y bydd rhagor o wybodaeth yn dod yn fuan iawn am hynny, oherwydd mae Amgueddfa Cymru yn bwriadu datrys hyn cyn gynted â phosibl.
A dim ond gair hefyd, o ran y wedd ar hyn yn fwy eang, wrth gwrs, fe wnaethom ni ddarparu cyllid ychwanegol i sicrhau y bydd sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu sicrhau a'u cynnal, gan gynnwys £1.3 miliwn a ddyfarnwyd yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer gwaith y mae angen ei wneud ar frys yn yr amgueddfa genedlaethol. Ac mewn gwirionedd myfi a oedd â'r cyfrifoldeb bryd hynny, yn yr haf, pan groesawyd hynny'n fawr gan yr amgueddfa genedlaethol. Mae'n hen adeilad, mae angen buddsoddiad arno. Nid oes ond raid i chi wneud dim ond edrych ar yr adeiladau mawreddog hynny yng Nghaerdydd, yn ardal ddinesig ein dinas wych, i weld bod angen buddsoddiad o'r math hwn.
Ond, hefyd, ac mewn ymateb i'ch ail bwynt chi, mae £3.7 miliwn pellach yn gynwysedig yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26, ac yn wir, mae cyllid ar gael i sicrhau bod y sefydliadau hynny a oedd ag angen cymorth penodol wedi cael cyllid ychwanegol eleni o ran eu cydnerthedd. Roedd hi'n bwysig i'r cyhoeddiadau hynny gael eu gwneud yn yr haf, yn ystod y flwyddyn ariannol hon, i gynorthwyo'r sefydliadau hynny sydd ag angen am y gefnogaeth honno.
Ond rwy'n credu, hefyd, eich bod chi'n codi'r cwestiwn ynglŷn â'r casgliadau cenedlaethol. Fe wnaethom ni roi sicrwydd ynghylch diogelu'r casgliadau cenedlaethol hynny, sydd, wrth gwrs, mor bwysig i ni o ran ein treftadaeth ddiwylliannol.
Mae gen i nifer o ddatganiadau yr hoffwn ofyn amdanyn nhw heddiw. Yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad ynglŷn â sut mae eich gwaith chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn mynd rhagddo o ran y canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol ynglŷn ag amrywiaeth yr ymgeiswyr? Rwy'n deall bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'r ddarpariaeth yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob plaid wleidyddol gofrestredig gyhoeddi data dienw sy'n ymwneud ag amrywiaeth eu dewisiadau ymgeiswyr.
Ac yn ail, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar gau banciau? Wythnos diwethaf, fe glywsom ni'r newyddion y bydd chwe banc arall yn cau yng Nghymru, ac mae un o'r canghennau o Fanc Lloyds sy'n cau yn yr Eglwys Newydd, yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd. Hwn oedd y banc olaf yn yr Eglwys Newydd, a dim ond un gangen o fanc sydd gennym ni ar ôl yn etholaeth Gogledd Caerdydd i gyd. Ac fe wyddom ni pa mor bwysig yw'r banciau hyn i lawer o bobl, yn enwedig pobl hŷn a phobl agored i niwed.
Ac yn olaf, fe glywsom ni' newyddion da iawn ddoe mai Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU i fabwysiadu Braenaru, y cynllun treialu llysoedd teulu arloesol. Mae'r cynllun treialu hwn wedi dangos bod nifer yr achosion o aros am achosion llys teulu wedi lleihau yn sylweddol, ac wedi arwain at gwblhau achosion yn llawer cynt, oherwydd rwyf i o'r farn y gwyddom ni i gyd y gall mynychu llysoedd teulu fod yn brofiad trawmatig iawn i rieni a phlant. Mae Braenaru yn ceisio datrys problemau rhwng rhieni yn gynt ac yn rhoi mwy o bwyslais ar glywed lleisiau plant. Felly, os gwelwch chi'n dda, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth ar sut wedd a fydd ar y broses o gyflwyno'r cynllun hwn ledled Cymru, a pha fanteision yr ydym ni'n disgwyl eu gweld o ganlyniad i'r cyhoeddiad da iawn hwn ddoe? Diolch.
Diolch, Julie Morgan. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi gofyn y cwestiwn ynglŷn â chanllawiau cynhwysiant amrywiaeth ar gyfer pleidiau gwleidyddol, oherwydd fe gawsom ni 49 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau drafft. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r sefydliadau a'r unigolion i gyd a roddodd eu hamser i gyflwyno eu hadborth nhw, ac rydym ni'n gweithio trwy'r ymatebion hynny i'r ymarfer ymgynghori. Fe fyddwn ni'n cyhoeddi crynodeb o'r ymateb maes o law, ac yn cyhoeddi'r canllawiau terfynol wedyn cyn gynted ag y bo modd, er mwyn iddyn nhw fod ar gael i bob plaid wleidyddol ymhell cyn yr etholiadau nesaf i'r Senedd, ac yn wir, i lywodraeth leol.
Nawr, byddai, fe fyddai adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, pe byddai'n hynny'n cael ei ddechrau, yn rhoi sail statudol a fyddai'n ei gwneud hi'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gasglu a chyhoeddi gwybodaeth ynglŷn ag amrywiaeth ar gyfer ymgeiswyr i'r Senedd. Ac fe wn i, ym Mhwyllgor Biliau Diwygio'r Senedd, fod hyn wedi cael ei amau, sef o ran pryd y byddai hyn yn cael ei ddechrau. Felly, fe ysgrifennais i at Lywodraeth y DU yn ddiweddar i nodi'r hyn yr oeddem ni'n ei wneud yng Nghymru, gan ddweud wrthyn nhw am ein canllawiau ni, a chan ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer adran 106. Ac roeddwn i'n falch o gael yr ateb gan y Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb, a oedd yn mynegi eu bod nhw wedi ymrwymo i ddechrau adran 106. Rwy'n credu bod hynny'n newyddion pwysig i'w rannu yn y Senedd heddiw. Rwy'n edrych ymlaen at glywed oddi wrthyn nhw eto pan fydd mwy o sicrwydd i'w gael ynghylch y camau nesaf. Felly, diolch i chi am fy ngalluogi i dynnu hynny at sylw'r Senedd. Ac, wrth gwrs, fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein canllawiau llawn, ein canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant, sydd, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi cael eu croesawu gan Lywodraeth yr Alban hefyd. Mae yna lawer o ddiddordeb yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru. Ac rwy'n siŵr y bydd pob plaid wleidyddol, gyda gobaith, yn rhoi sylw i'r canllawiau hynny pan ddôn nhw drwodd, ac yn gweithredu arnyn nhw.
O ran cau banciau, ac fe gododd hwn ei ben heddiw am fod banciau yn cau ledled Cymru, mae'r banciau wedi cau 380 o ganghennau yng Nghymru ers mis Ionawr 2015. Mae honno'n golled mor fawr. Rwy'n credu y bydd pob un ohonom ni, ar draws y Senedd, yn gwybod am gau'r banciau hyn ac wedi gweld hynny'n digwydd yn gyfagos. Ac mae cyflymder y caeadau yn golygu ei bod hi'n anodd iawn wir i gwsmeriaid. Fe ofynnwyd y cwestiwn ynglŷn â thrafnidiaeth i'r hyn sy'n weddill o ran mynediad at wasanaethau ariannol. Dyna sy'n gwneud canolfannau bancio yn bwysig. Mae cynhwysiant ariannol, wrth gwrs, yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Felly, rydym ni'n edrych—. Er na chafodd gwasanaethau ariannol eu datganoli—mater a gedwir yn ôl yw hwnnw—mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn ymgysylltu, fel rwyf innau'n ei wneud, ar gyfer ystyried y cyfleoedd sydd ar gael. Mae saith o ganolfannau bancio ar y cyd gennym ni ar agor yng Nghymru hyd yn hyn, yn Abergele, Treforys, Abertawe, Porthcawl, Prestatyn, Y Trallwng, yn ogystal ag Abertyleri a Threorci, ac mae yna ragor ar y gweill.
Ond mae cyfleoedd gennym ni hefyd gyda'n hundebau credyd. Wrth gwrs, mae gennym ni ddiddordeb mawr yn y trafodaethau a'r cynigion o ran banciau cymunedol sydd wedi cael eu cyflwyno. Mae Banc Cymunedol Smart Money Cymru gennym ni hefyd. Ac mae digwyddiad bancio yng nghymunedau Cymru yn mynd i gael ei gynnal fis nesaf, a drefnir ar y cyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a minnau, a'n swyddogion ni, ac fe fydd hyn yn digwydd yn swyddfeydd Principality yng nghanol Caerdydd. Felly, rwy'n gobeithio y gallaf i, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, roi adborth ar y digwyddiad hwnnw.
Hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i'r Senedd i gyd wybod am y cynllun treialu Braenaru, y buoch chi'n ymweld ag ef, rwy'n credu. Fe es innau i ymweld ag un, gyda Mick Antoniw, pan oedd ef yn Gwnsler Cyffredinol. Cynllun treialu yw hwnnw. Sef achlysuron pryd mae teuluoedd yn gwneud cais i lys teulu, mewn anghydfod ynglŷn ag ym mha le a chyda phwy y dylai plentyn fod yn byw a faint o gyswllt a ddylai fod. Mae cynllun treialu wedi bod gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gyda chydweithrediad Cafcass Cymru, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, y farnwriaeth, a rhanddeiliaid eraill, ar gyfer gweithredu'r dull newydd hwn o ymarfer cyfraith breifat, a elwir yn brosiect Braenaru. Bu hynny'n hynod lwyddiannus, ac mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cytuno i gyflwyno'r dull newydd hwnnw drwy Gymru i gyd, o 3 Mawrth. Bydd pob rhan o Gymru yn gweithio o dan Braenaru. Mae llwyddiant y cynllun treialu hwn yn y gogledd wedi arwain at yr estyniad hwn ledled Cymru, ac mae Cafcass Cymru wedi sicrhau cyllid oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gyflwyno Braenaru ledled Cymru gyfan, hyd fis Mawrth 2026. Mae'r data a gyhoeddwyd eisoes yn dangos bod amser cyfartalog yr achosion ers dechreuad y cynllun treialu wedi byrhau o 29 wythnos i 18 wythnos yn y gogledd. Roeddwn i'n awyddus, Llywydd, gyda'ch maddeuant chi, i roi ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â Braenaru, ond efallai y gallem ni ddweud ychydig mwy rywbryd eto, oherwydd mae hwn yn ganlyniad da iawn o'r cynllun treialu hwnnw.
Diolch i chi. Dim ond gair bach, rwy'n gweld bod 25 y cant o gyfanswm y niferoedd sydd yn y Senedd yn awyddus i gymryd rhan yn y datganiad hwn heddiw. Bydd angen i ni gyflymu pethau nawr, gyda chwestiynau ac atebion yn unig, os gwelwch chi'n dda, os ydym ni am gyrraedd ffigur sydd hyd yn oed yn weddol agos at y 25 y cant hwnnw. James Evans.
Diolch, Llywydd. A wnaiff y Trefnydd neilltuo amser ar gyfer datganiad gan y Llywodraeth yn ymdrin â'r broses ymgysylltu a gynhaliwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ynghylch eu cynllun rheoli risg cymunedol 2040? O ystyried bod newidiadau sylweddol yn yr arfaeth, megis cyflwyno modelau ymateb parthau, sy'n golygu ailddosbarthu adnoddau a newid gweithrediad gorsafoedd tân lleol o bosibl, mae pryder na fydd y broses ymgynghori bresennol yn cynnwys mewn ffordd ddigonol holl safbwyntiau'r holl gymunedau yr effeithir arnyn nhw. Fe fyddai hyn ag effaith enfawr yn fy etholaeth i ac ar staff a gyflogir gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Rwy'n gwybod mai rhan o'ch briff chi, Trefnydd, yw hyn ac felly fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i pe byddech chi'n ymateb yn amser y Llywodraeth ynglŷn â sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod y cymunedau hyn i gyd ar draws fy etholaeth i'n gallu cael gafael ar y gwasanaethau tân ac achub hynny yn eu hangen.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn yna, James Evans. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn. O ran y gwasanaeth tân, nid yr adroddiad hwn yw'r unig beth, ond mater yw hwn o ran yr adroddiadau sy'n dod drwodd. Yn amlwg, mae hi wedi bod yn cwrdd â chadeiryddion a phrif swyddogion yr awdurdod tân ac achub i drafod sut y bydden nhw'n mynd i'r afael â chanfyddiadau'r adroddiadau. Mae hi wedi egluro ei disgwyliad hi'n fanwl iawn ynglŷn â'r camau gweithredu y mae gofyn eu cymryd i sicrhau y bydd y cymorth hanfodol hwnnw'n cael ei ddarparu gan y gwasanaethau tân ac achub—drwy Gymru i gyd, fe ddywedwn i, ond o'ch safbwynt chi, wrth gwrs, wrth ymateb yn arbennig i sefyllfa Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, ar gyfer nodi sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r awdurdodau lleol i gadw safleoedd o werth hanesyddol ar agor. Mae Llancaiach Fawr wedi bod ar gau ers dechrau'r flwyddyn. I unrhyw un sydd heb ymweld â'r lle, mae'n wirioneddol anfarwol; maenordy ydyw hwnnw lle roedd ymwelwyr, a phlant yn enwedig, yn cael eu cludo i gyfnod hanesyddol y rhyfel cartref. Ond fe gafodd y safle ei gau gan y cyngor ym mis Rhagfyr, ac mae ei ddrysau wedi aros yn gaeedig i'r cymunedau a fyddai'n anfon eu plant yno ar wibdeithiau o ysgolion a lle byddai grwpiau lleol yn ymgasglu ar gyfer boreau coffi a garddwest a chyngherddau carolau. Mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi darganfod trwy gais rhyddid gwybodaeth fod pob aelod o staff y maenordy hanesyddol yn wynebu colli eu gwaith heblaw am ddau o'r staff a oedd yn gweithio yn y maenordy hanesyddol. Felly, fe allai'r holl flynyddoedd hynny o brofiad gael eu taflu i ffwrdd. Mae'n siŵr nad yw honno'n ffordd iawn o drin pobl a oedd yn dod â'r darn bach hwnnw o ramant i fywydau cymaint ohonom ni. Mae hwn yn safle o bwys cenedlaethol, mae'n sicr ei fod yn haeddu cael cefnogaeth genedlaethol. Felly, a allai datganiad ddod ar fyrder i nodi'r hyn y gellid ei wneud i achub y swyddi hynny a'r trysor lleol hwn?
Diolch yn fawr, Delyth Jewell. Yn amlwg, mae hwn yn safle ac yn lleoliad pwysig iawn i ymweld ag ef. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom ni wedi ymweld â Llancaiach Fawr ac yn cydnabod pa mor anodd y mae'r sefyllfa wedi bod. Wrth gwrs, fe ddaeth hyn ger bron ar adegau cynharach pan oedd y cyngor yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd. Mae Sefydliad Glowyr y Coed Duon, wrth gwrs, wedi agor erbyn hyn o ganlyniad i'r penderfyniadau hynny. Yn amlwg, mae hi'n bwysig eich bod chi wedi tynnu ein sylw ni at hyn heddiw, ond cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw mynd i'r afael â'r mater hwn.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud a'r anghydfod yng nghwmni bwydydd Oscar Mayer a thriniaeth ofnadwy'r gweithwyr yn Wrecsam, ac fe gafodd swyddi eu hisraddio fel eu bod nhw'n werth llai nag yr oedden nhw, gyda 35 wedi gweld terfynu eu contractau nawr. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i fod i gwrdd â'r cyflogwr ar 9 Ionawr. A gaf i'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad hynny?
Mae'r ail yn ymwneud â darparu bathodynnau glas i rai sydd â chyflyrau gydol oes, ac mae rhai ohonyn nhw'n eithriadol o gymhleth. Mae'n rhaid i'r rhain wneud cais llawn o'r newydd am fathodyn glas bob tair blynedd, ac mae hynny'n cymryd llawer o amser, gyda llawer o rwystrau, sy'n gwneud hynny'n hen drafferth. Mae hwn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb mewn gwirionedd. Yr wythnos diwethaf, fe glywais i fod defnyddiwr cadair olwyn sydd wedi ei pharlysu wedi dod yn agos i golli ei bathodyn glas, ac mae angen defnyddio'r dewis i 'hepgor ailasesu' yn fwy aml i'r rhai sydd â diagnosis gydol oes. Fe allai'r lluniau gael eu diweddaru bob tair blynedd, yn union fel gyda thrwyddedau gyrru neu basbortau. A wnewch chi gyfarfod ag ymgyrchwyr a minnau ar gyfer clywed drosoch chi eich hun am yr anawsterau gwirioneddol y maen nhw'n eu hwynebu oherwydd y broses o adnewyddu bob tair blynedd, ar gyfer llywio eich trafodaethau chi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth i'r dyfodol?
Diolch yn fawr am eich cwestiynau pwysig iawn.
O ran cwmni Oscar Mayer, diolch i chi am godi hyn. Mae hyn yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi bod â rhan ynddo, gan ysgrifennu at gwmni Oscar Mayer i fynegi pryderon, gan eu gwahodd nhw i drafod eu cynigion gwaith i'r dyfodol gyda ni, y llynedd yr oedd hynny. Mae cytundeb erbyn hyn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn cwrdd â'r prif swyddog gweithredol, ond rwy'n deall nad yw dyddiad y cyfarfod hwnnw wedi cael ei gytuno arno eto. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar y cyfleoedd o ran Bil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU, a fydd yn moderneiddio hawliau cyflogaeth ac yn rhoi grym i'w gorfodi nhw, oherwydd nid oes lle i ddiswyddo a chyflogi eto wedyn mewn marchnad lafur fodern, waraidd, ac mae hynny'n groes i'n gwerthoedd ni o ran gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol. A dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r gallu deddfwriaethol hwnnw i atal mabwysiadu diswyddo a chyflogi eto. Serch hynny, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n clywed rhywbeth o'r cyfarfod hwnnw sydd ar ddod.
Fe wnaethoch chi godi'r cwestiwn ynglŷn â bathodynnau glas, ac, wrth gwrs, mae darparu parcio hwylus i bobl anabl yn arbennig o bwysig, ac mae hynny'n caniatáu iddyn nhw allu cael gafael ar waith, addysg, gofal iechyd a gwasanaethau hanfodol. Mae hwn yn gyfrifoldeb datganoledig, ond yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am weinyddu a gorfodi'r cynllun o ddydd i ddydd yng Nghymru. Fel gwyddoch chi, cafodd y cynllun bathodynnau glas ei adolygu sawl gwaith—sawl adolygiad wedi bod yn ystyried y gwahanol agweddau sydd i'r rhaglen, sy'n cynnwys cymhwysedd, gweinyddu a gorfodi. Mae newidiadau wedi cael eu gwneud ar y cyd â rhanddeiliaid a'r proffesiynau gofal iechyd ac, wrth gwrs, rydym ni wedi ymrwymo yn gadarn i sicrhau y gall pobl anabl sydd â'r rhwystrau mwyaf o ran symudedd allu cael parcio yn rhad ac am ddim ar y stryd wrth geisio mynediad at gyfleusterau cymunedol.
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad ar y cyd oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar effeithiau economaidd rhestrau aros Cymru sydd ar eu hwyaf erioed. Mae materion iechyd hirdymor yn achosi dros chwarter y cyfanswm o unigolion economaidd anweithgar yng Nghymru, gyda rhestrau aros maith yn cyfrannu at yr argyfwng, yn amlwg iawn. Mae dros 20,000 o lwybrau cleifion yn para dros ddwy flynedd ar gyfer triniaeth, ac mae dros 170,000 o lwybrau cleifion yn para dros flwyddyn. Mae hynny'n wir am etholwr i mi, sydd wedi gorfod gadael ei swydd yn ddiweddar am ei bod yn aros am lawdriniaeth clun newydd, a hynny ar ben gorfod talu arian mawr i fynd dramor i gael clun arall oherwydd yr amseroedd aros yma yng Nghymru. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Felly, er ei mwyn hi, ac er mwyn miloedd eraill sy'n wynebu aros dros flwyddyn ar gyfartaledd am glun newydd ac am yr effaith ar economi Cymru yn fwy eang, rwyf o'r farn fod angen gweithredu ar fyrder. Felly, fe fyddwn i'n falch o gael datganiad ar y cyd oddi wrth y ddau Ysgrifennydd Cabinet i amlinellu effaith ddinistriol rhestrau aros ar economi Cymru. Diolch.
Wel, rwy'n gobeithio y gallem ni fod yn gweld rhywfaint o gefnogaeth y prynhawn yma yn y gyllideb ddrafft am £600 miliwn yn fwy ar gyfer iechyd—£600 miliwn yn fwy ar gyfer cynorthwyo ein byrddau iechyd, cynorthwyo ein staff diwyd yn y GIG i ddarparu'r gwasanaeth iechyd a fyddai'n golygu nad yw pobl yn gorfod aros yn hir fel hynny. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn effeithio ar weddill eich bywyd o ran gwaith. Ond gadewch i ni gofio'r her 50 diwrnod y gaeaf honno hefyd, y mae'r byrddau iechyd bellach yn ymateb iddi, y £19 miliwn ychwanegol hwnnw i gefnogi wrth ymdrin â'r her a sicrhau ein bod ni'n dysgu'r ffordd orau o gefnogi rhyddhau cleifion o'r ysbyty, a sicrhau, felly, bod yr ysbytai ar gael ar gyfer y triniaethau hollbwysig hynny. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud bod rhai o'r gostyngiadau mwyaf a gyflawnwyd eisoes o ran amseroedd aros am asesiad ar y cyd ac o ran dechrau ar becynnau gofal adsefydlu yn dod i'r golwg eisoes.
Fe hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i fynd i'r afael ag effaith cau banciau ar y strydoedd mawr yn ein cymunedau. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Lloyds Banking Group eu bod nhw am gau eu cangen ym Mhontardawe. Hwnnw yw'r banc olaf sydd i'w gael yng Nghwm Tawe i gyd. Rwy'n cynnal cyfarfod cyhoeddus yr wythnos hon er mwyn i bobl gael dweud eu barn cyn i mi gwrdd â Lloyds ac apelio yn erbyn asesiad mynediad at arian parod Link a gafodd ei gwblhau wrth ddesg yn Swydd Efrog ac nad yw'n ymwneud dim â'r sefyllfa ar lawr gwlad. Rwyf i newydd gael neges nawr yn dweud bod menyw yn y banc ac roedd hi'n llawn dop yno. 'Roedd yna wyth o bobl yn ciwio o'm blaen i; roedd y ciw hyd at y drws.' Felly, mae'r galw yno.
Trefnydd, ni chawsom ni unrhyw ddiweddariad chwaith—fe wnaethoch chi gyfeirio at hyn nawr—ar ymrwymiad rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer banc cymunedol ers mis Gorffennaf, pan gafodd y cynlluniau hynny eu gohirio. Datgelwyd yn y gwaith craffu ar y gyllideb na chafodd cyllideb ei dyrannu i gefnogi gweithgarwch pellach yn uniongyrchol i gefnogi creu banc cymunedol. Felly, fe hoffwn i'r Senedd gael diweddariad penodol ar hynny. A yw'r ymrwymiad hwnnw wedi mynd yn angof erbyn hyn?
Fe wnaethoch chi drafod undebau credyd yn eich ymateb i Julie Morgan. Wel, a wyddoch chi, ar yr un diwrnod ag y clywsom ni am gau'r banc yng Nghwm Tawe, y bu'n rhaid i'r gangen gyfagos o'r undeb credyd lleol gau ym Mhort Talbot oherwydd y cynnydd o ran cyfraniadau yswiriant gwladol? Mae angen i ni glywed beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i helpu i ddiogelu gwasanaethau ariannol hanfodol yn y cymunedau.
Diolch i chi am y cwestiwn pwysig yna, yn dilyn cwestiynau gan Julie Morgan ac eraill heddiw am gau banciau. Nid wyf i am ailadrodd yr hyn a ddywedais i ynglŷn â niferoedd y banciau sydd wedi cau, am y ffaith ein bod ni—. Maen nhw'n ymateb gan ddweud eu bod nhw am agor y canolfannau bancio cyffredin hyn ledled Cymru, ond nid ym mhob cymuned, a hefyd bod Link gennym ni a'r gwasanaeth newydd, Arian Parod wrth y Til, sy'n caniatáu i gwsmeriaid gael gafael ar arian parod gan fanwerthwyr heb brynu dim, ac mae'r digwyddiad bancio yng nghymunedau Cymru gennyf i'n dod. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n ystyried undebau credyd, ac rydym ni'n rhoi £0.5 miliwn y flwyddyn i undebau credyd ar gyfer cefnogi 13 o brosiectau mewn cymunedau. Mae hynny'n cynnwys canolfannau undeb credyd newydd. Pan glywais i am gau'r undeb credyd arbennig hwnnw, fe ofynnais i am adborth ynghylch yr hyn a oedd wedi digwydd, beth oedd y rheswm am hynny. Rwy'n credu bod rhesymau yn ymwneud â'r adeilad arbennig hwnnw, ac fe allwn ni edrych ar hynny o ran argaeledd gwasanaethau yn yr ardal. Ond mae cyllid ar waith tan fis Mawrth 2026 ar gyfer ein hundebau credyd ni.
Yn ogystal â hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, unwaith eto, fe hoffwn i drafod a chwrdd â'r undeb credyd hwnnw ar gyfer mynd ar drywydd hyn, oherwydd fe roddwyd £637,000 o gymorth cyfalaf i undebau credyd ers 2021, ac mae llawer ohonyn nhw'n datblygu datrysiadau symudol, allgymorth, a gweithio gyda gwefannau a benthycwyr eraill. Ac, oes, mae angen i ni edrych ar yr holl gyfleoedd hynny, gan gynnwys, yn wir, sut y gallwn ni symud ymlaen ag ystyried datrysiadau o ran banc cymunedol hefyd.
Rydym ni i gyd yn cael llawer o gwynion am dyllau yn y ffyrdd oddi wrth feicwyr a gyrwyr ceir, a'r difrod y maen nhw'n ei achosi ar ein ffyrdd. Felly, roedd gen i ddiddordeb mawr o ddarllen am ddatblygiad arloesol yn sgil ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe am fitwmen newydd sy'n ei drwsio ei hun, sy'n cael ei gymysgu â phlanhigion a gafodd eu trwytho mewn olewau a ailgylchwyd, sy'n trwsio'r craciau yn y ffyrdd sy'n cael eu hachosi gan gerbydau trwm fel nad ydyn nhw fyth yn mynd yn dyllau mawr sy'n ddrud iawn i'w trwsio. Fe allai hyn arbed miliynau o bunnau i'r awdurdodau lleol. Roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni datganiad oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynglŷn â'r sgyrsiau a gafodd ef gyda Dr Norambuena-Contreras, sy'n arwain yr ymchwil honno, i ddeall pa mor gyflym y gallwn ni gymhwyso'r ymchwil honno yng Nghymru ar gyfer cael gwared ar dyllau am byth.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, am dynnu ein sylw ni at hynny, ac, wrth gwrs, fe fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru yn cael gwybod am hyn, oherwydd dyna pryd y mae angen i ni ddefnyddio'r gallu a'r arloesedd hwnnw sy'n tarddu o'n prifysgolion ni ar gyfer sicrhau y gallwn ni, oherwydd mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys cyllid i alluogi awdurdodau lleol i ymestyn eu benthyca i lenwi llawer o'r tyllau hynny, wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n cael eu llenwi yn unig ond yn cael eu diogelu hefyd.
Prynhawn da, Trefnydd. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch y Bracken Trust yn Llandrindod. Gwasanaeth cymorth canser unigryw a hanfodol yw hwn. Mae wedi bod yn gweithio ers 30 o flynyddoedd ac mae'n wynebu diffyg cyllid. Dyma'r unig ganolfan ganser annibynnol o'i bath yng Nghymru. Mae'n cefnogi dros 300 o bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw'n flynyddol, gan gynnwys cleifion a theuluoedd, gyda chefnogaeth ymarferol, cefnogaeth emosiynol ac o ran cwnsela mewn profedigaeth hefyd. Oni bai am yr ymyrraeth honno ar unwaith, fe allai'r gwasanaeth hanfodol hwn ddechrau diswyddo pobl. Felly, o ystyried gwaith unigryw'r Bracken Trust yn Llandrindod, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynnal y gwasanaeth cwbl hanfodol hwn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae honno'n swnio fel elusen ganser annibynnol wych, y Bracken Trust, sy'n darparu gwasanaethau canser hanfodol ar hyd y flwyddyn, yn amlwg. Sefydliad annibynnol ydyw. Nid wyf i'n ymwybodol—nid wyf wedi gallu canfod—bod yna gyllid yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer hwnnw ar hyn o bryd. Nid wyf i'n credu eu bod nhw wedi ei ariannu yn y gorffennol; mae'n rhaid ei fod wedi cael ei ariannu, yn ôl pob tebyg, gan yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd, ymddiriedolaethau a rhoddion o ymgyrchoedd i godi arian. Ond rwyf i am sôn am hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn i ni allu ystyried y sefyllfa bresennol. Wrth gwrs, sefyllfa yw hon lle y gallent gael cymorth hefyd drwy gyfrwng y sector gwirfoddol, llwybrau trydydd sector a llwybrau seilwaith yn ogystal â hynny. Felly, fe fyddaf i'n cysylltu â rhywun gyda'r cwestiynau hynny.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr effaith ar ysgolion annibynnol sy'n cael eu rhedeg gan elusennau sydd wedi gweld eu rhyddhad ardrethi busnes yn cael ei dorri, a'r effeithiau ar ysgolion fel Ysgol Haberdashers Trefynwy sydd eisoes wedi gorfod edrych ar ddiswyddiadau oherwydd i Lafur osod TAW ar ysgolion preifat, a nawr maen nhw'n wynebu tro anffodus arall gyda chynnydd mewn yswiriant gwladol ac ardrethi busnes.
Hefyd, os caf i, Trefnydd, gwn y byddai llawer o bobl yn fy rhanbarth yn hoffi clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ar ffurf datganiad am yr hyn yr ydym yn ei wneud o dan y Prif Weinidog newydd i agor Cymru ar gyfer busnes o ran seilwaith newydd. Roedd y penderfyniad i beidio ag adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn ôl yn 2019 yn gam gwag difrifol, ac mae fel gosod arwyddion 'wedi cau i fusnesau' i fewnfuddsoddwyr. A heddiw, mae gan Gymru lwythi o botensial economaidd heb eu gwireddu oherwydd y camgymeriad hwnnw. Felly, hoffwn weld diweddariad ynghylch yr hyn y mae'r Llywodraeth hon bellach yn ei feddwl o'r ffordd liniaru. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Diolch i Laura Anne Jones am ei chwestiynau. Yn amlwg, rwyf wedi ymateb eisoes i TAW ar ffioedd ar gyfer ysgolion annibynnol preifat, ac, yn wir, dyma—rydych chi'n gwybod, ardrethi busnes o ran rhyddhad elusennol—polisïau yr ydym yn eu cefnogi yn Llywodraeth Lafur Cymru.
Ac mae'n bwysig, hefyd, o ran eich ail bwynt, bod y gwaith sydd wedi'i wneud ar ddewis arall yn lle'r ffordd liniaru'r M4, ac roedd cefnogaeth gref i'r syniad y dylai fod dewis arall o ran ffordd liniaru'r M4, wedi cael ei symud ymlaen o ganlyniad i ymchwiliad Burns. Ond rwy'n siŵr y gallai diweddariad ar hynny fod ar gael, ac, yn wir, wrth gwrs, mae gennych gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yfory, felly gallai hynny fod yn gyfle i ofyn y cwestiwn hwnnw.
Ac yn olaf, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd y Llywodraeth yn ymwybodol bod Bil Ystad y Goron yn mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd ac ar hyn o bryd mae yng Nghyfnod y Pwyllgor. Nawr, mae pwyllgor y Bil wedi galw am dystiolaeth, felly a gaf i ofyn am ddatganiad yn egluro a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno tystiolaeth i gefnogi'r gwelliant a gyflwynwyd gan AS Plaid Cymru, Llinos Medi, yn galw am ei ddatganoli? Nawr, mae'r Llywodraeth wedi bod yn gefnogol i hynny. Gellir cyflwyno tystiolaeth o blaid gwelliannau, felly mae'n bryd i'r Llywodraeth roi ei harian ar ei gair.
Diolch yn fawr, Luke Fletcher. Fel y gwyddoch, rydym wedi mynegi ein cefnogaeth i ddatganoli Ystad y Goron ac, yn amlwg, yn awr, mae'n mynd drwy'r Senedd yn y ffordd honno.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar Ynni Cymru a chymorth i'r sector ynni cymunedol yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Rebecca Evans.

Diolch. Mae'r Llywodraeth Lafur hon o dan arweinyddiaeth Eluned Morgan yn gwbl glir ein bod wedi ymrwymo i roi cymunedau Cymru wrth wraidd ein dyfodol ynni, a heddiw hoffwn ddweud wrthych yn union sut yr ydym yn cyflawni'r addewid hwnnw. Felly, gadewch i mi ddweud rhywbeth wrthych am ein Prif Weinidog newydd: nid yw'n gwastraffu amser; o fewn mis yn unig i gymryd y swydd, cefnogodd ein cynllun ynni lleol clyfar uchelgeisiol gwerth £10 miliwn. Dyna'r math o weithredu cyflym, pendant sydd ei angen ar Gymru, nid ymgynghoriadau diddiwedd, nid mwy o siopau siarad—buddsoddiad go iawn, yn gyflym iawn, i gymunedau go iawn. Mae'r misoedd diwethaf yn unig wedi dangos yr angen hanfodol am newidiadau radical i'n system ynni os ydym am fynd i'r afael â'r heriau enfawr sy'n ein hwynebu. O newid hinsawdd i gynnydd mewn prisiau ynni a diogeledd ynni, ni allwn ac ni ddylem barhau â'r status quo, gan adael cenedlaethau'r dyfodol i wynebu biliau uchel iawn a diffyg diogeledd ynni.
Mae teuluoedd yng Nghymru yn talu'r pris am fethiant Torïaidd o ran biliau ynni, ac mae cyllidebau cartrefi wedi cael eu taro'n galetach gan yr argyfwng ynni nag unrhyw brif wlad ddatblygedig. Dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru yn credu bod gan ynni cymunedol ran bwysig i'w chwarae wrth drawsnewid Cymru yn bwerdy ynni adnewyddadwy. Fel y nododd y Prif Weinidog, gallwn ddiolch i'n daearyddiaeth am gyfle mewn cenhedlaeth, i unwaith eto ddefnyddio'r anrhegion naturiol sydd gennym fel cenedl, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n cefnogi pontio teg.
Yn ganolog i ynni cymunedol mae'r bobl eu hunain. Mae hyn yn cynnwys grymuso pobl i ddod yn berchnogion ynni adnewyddadwy, gyda'r gallu i gynhyrchu, storio a rheoli eu hynni glân eu hunain. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad i'r sector ynni cymunedol, trwy ariannu Ynni Cymunedol Cymru a gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall grwpiau ynni cymunedol ddwyn ynni adnewyddadwy o'r cam cysyniad hyd at y cam cwblhau. Mae gennym bellach sector ffyniannus gydag enghreifftiau gwych o brosiectau ynni cymunedol ledled Cymru.
Mae Ynni Cymru yn hwylusydd allweddol wrth dyfu'r sector ynni cymunedol a sicrhau bod manteision cynhyrchu ynni yn cael eu cadw'n lleol, gan hyrwyddo perchnogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy integredig fel strategaeth ganolog yn y pontio teg i economi carbon isel. Mae Ynni Cymru yn arwain y ffordd o ran cefnogi sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu systemau ynni lleol clyfar. Mae'n cefnogi mentrau cymdeithasol, cyrff y sector cyhoeddus, a mentrau bach i ganolig, gan adlewyrchu ei ddull gweithredu seiliedig ar le a chydweithredol.
Dim ond mis ar ôl penodi Eluned Morgan yn Brif Weinidog, lansiodd y Llywodraeth Lafur hon gynllun grant system ynni lleol clyfar Ynni Cymru gwerth £10 miliwn. Roedd gennym dros 100 o geisiadau, a dyfarnodd y cynllun gyllid i 32 o brosiectau, ac mae dros hanner ohonynt yn cynnwys grwpiau cymunedol. Ar hyn o bryd mae'r sefydliadau hyn yn brysur yn cyflawni eu prosiectau, a bydd llawer ohonynt yn cael eu cwblhau erbyn diwedd y chwarter hwn. Mae'r prosiectau a gefnogir wedi'u gwasgaru ledled Cymru, gyda 10 yn y gogledd, chwech yn y canolbarth, saith yn y de-orllewin a'r naw prosiect arall yn y de-ddwyrain.
Yn y gogledd, mae Clwb Pêl-droed Tref Treffynnon wedi derbyn cyllid i osod goleuadau LED clyfar, pympiau gwres aer, paneli solar, a system storio batri. Bydd yr holl dechnolegau newydd hyn yn cael eu cefnogi gan system rheoli adeilad glyfar, a fydd, gyda'i gilydd, yn arwain at ostyngiad o 80 y cant mewn costau ynni blynyddol. Bydd yr arbedion cost hyn yn cael eu hailfuddsoddi mewn chwaraeon ar lawr gwlad yn yr ardal, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan a chael hwyl gyda'u ffrindiau.
Yn y de-ddwyrain, mae'r sefydliad ynni cymunedol Ynni Teg wedi derbyn ychydig dros £330,000 i gyflawni prosiect ynni cymunedol Gwyrdd Bangla. Nod y prosiect hwn yw gosod system gynhyrchu solar ffotofoltäig tua 200 kW a system storio batri 300 kWh ar draws ystod o fosgiau cymunedol. Mae neuadd bentref Aberporth yng Ngheredigion wedi derbyn cyllid i osod paneli solar, system storio batri a mannau gwefru cerbydau trydan, a fydd yn helpu'r neuadd i ddiwallu 30 y cant o'i hanghenion ynni a chyflawni dros 3 tunnell o arbedion carbon yn flynyddol. Bydd hefyd yn ychwanegu at y seilwaith gwefru cerbydau trydan y mae eu hangen ar Gymru wledig er mwyn datgarboneiddio.
Wrth gwrs, mae mwy y gallwn ei wneud i gefnogi cymunedau i gofleidio arloesedd wrth i ni bontio i ddyfodol sero net. Felly, rwy'n falch bod £10 miliwn arall wedi'i ddyrannu yn y flwyddyn ariannol nesaf i Ynni Cymru i gefnogi sefydliadau i ddatblygu systemau ynni lleol clyfar. Byddwn yn cynnal gweminar ym mis Ebrill ar gyfer darpar ymgeiswyr. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r prosiectau hyn a phenderfynu sut y gall Llywodraeth Lafur Cymru gefnogi arloesedd ymhellach o ran systemau ynni lleol clyfar dros y blynyddoedd nesaf.
Mae gennym gymaint o enghreifftiau gwych o sut mae ynni cymunedol yn arloesi ac yn creu swyddi a chyfleoedd twf. Yn y gogledd, mae gennym y sector ffrwd llanw sy'n buddsoddi i ddefnyddio pŵer y llanw i gynhyrchu capasiti llwyth gwaelodol o fewn system ynni adnewyddadwy. Rwy'n falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi parhau â'i chefnogaeth hirdymor i ddarparu a datblygu sector ynni cymunedol Cymru trwy brynu cyfran ecwiti ym mhrosiect Morlais Menter Môn. Mae cefnogi eu huchelgeisiau o ran twf i gynyddu'r capasiti ar y safle yn parhau i gyflawni ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gefnogi buddsoddiad i wneud Cymru'n ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau llanw sy'n dod i'r amlwg.
Gyda Llywodraeth y DU yn sefydlu Great British Energy, byddwn yn parhau i gydweithio i adeiladu ar y sylfeini cryf o gefnogaeth sydd gennym yma yng Nghymru yn barod. Yn benodol, byddwn yn parhau â'n sgyrsiau ynghylch cynllun pŵer lleol Great British Energy i archwilio cyfleoedd a allai gynyddu'r buddsoddiad sy'n dod i Gymru.
Wrth i ni symud ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn myfyrio ar sut y gall Cymru aros ar flaen y gad o ran datblygu ynni lleol clyfar, a byddwn yn adolygu anghenion cymorth yn y dyfodol i sefydliadau ynni lleol a chymunedol i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod ar flaen y gad wrth drawsnewid ynni.
Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r datganiad heddiw ar Ynni Cymru a'r gefnogaeth i'r sector ynni cymunedol yng Nghymru. Er bod y nodau o gefnogi ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned yn ganmoladwy, nid yw dull Llywodraeth Cymru hyd yma wedi methu â chyflawni'r newid trawsnewidiol y mae cymunedau ledled Cymru ei angen ar frys.
Mae sefydlu Ynni Cymru a'r buddsoddiad diweddar o £10 miliwn mewn systemau ynni lleol clyfar yn gam cadarnhaol, ond gyda chyllid eisoes wedi'i ddyrannu a disgwylir i brosiectau gael eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2025, y cwestiwn allweddol yw: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau manteision strwythurol hirdymor y tu hwnt i'r cylch cychwynnol hwn? Ni fydd chwistrelliad tymor byr o gyllid heb fynd i'r afael â phethau fel cyfyngiadau ar gapasiti'r grid, rhwystrau cynllunio a mynediad at gyllid ehangach yn sicrhau'r raddfa o newid sydd ei angen i ddatgarboneiddio system ynni Cymru.
Rydym yn parhau i glywed am yr uchelgais i wneud Cymru'n bwerdy ynni adnewyddadwy. Yn wir, rwy'n cytuno. Dyna pam rwy'n sôn byth a beunydd am wynt arnofiol ar y môr Celtaidd. Eto i gyd, mae cymunedau'n dal i wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio datblygu prosiectau ynni lleol. Mae mynediad i'r grid yn parhau i fod yn un o'r rhwystrau mwyaf, gyda phrosiectau'n cael eu gohirio oherwydd costau cysylltiad uchel ac oedi hir. Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am rymuso cymunedau, rhaid iddi wthio am ddiwygio sylfaenol i ganiatáu i ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol gael ei ddefnyddio'n fwy effeithiol yng Nghymru.
Ar yr un pryd, mae tlodi tanwydd yn parhau i fod yn broblem enbyd, gyda bron i hanner aelwydydd Cymru yn cael trafferth gyda chostau ynni. Felly, fe wnaeth y Llywodraeth Lafur dorri lwfans tanwydd y gaeaf yn ystod un o'r gaeafau oeraf. A'r addewid o £300 oddi ar eich biliau ynni—ydych chi'n cofio hynny yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol—diolch i GB Energy? Wel, mae hynny'n hollol ffug. Efallai y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dymuno edrych ychydig yn agosach at adref wrth daflu beirniadaeth o'r fainc flaen.
Mae buddsoddiad mewn ynni cymunedol i'w groesawu, ond yn debyg iawn i bopeth arall am y Llywodraeth hon, prin yw'r dystiolaeth o strategaeth glir sy'n cysylltu'r prosiectau hyn â rhyddhad ariannol ar unwaith ar gyfer aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd. Rhaid i fanteision ynni adnewyddadwy gael eu teimlo'n uniongyrchol gan y rhai sydd ei angen fwyaf, nid yn unig yn y tymor hir, ond nawr hefyd.
Mae prosiectau ynni adnewyddadwy preifat hefyd yn wynebu rhwystrau diangen. Mae ffermwyr a thirfeddianwyr bach sydd eisiau datblygu prosiectau ynni dŵr a solar yn wynebu costau a biwrocratiaeth ormodol, ac mae'r penderfyniad i gael gwared ar ryddhad ardrethi busnes o gynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach dim ond yn ychwanegu at yr heriau hyn. Os yw Cymru wir am ddefnyddio ei photensial ynni adnewyddadwy, mae angen i ni gefnogi mentrau cymunedol a phreifat. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried ei safbwynt ar ryddhad ardrethi busnes ac ymrwymo i gael gwared ar rwystrau y mae prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach yn eu hwynebu?
Er gwaethaf trafodaethau cyson am gadw buddion cynhyrchu ynni yng Nghymru, nid oes fframwaith deddfwriaethol clir ar gyfer ei wireddu. Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi galw am Ddeddf ynni cymunedol i warantu manteision lleol o brosiectau ynni, ond nid yw'r Llywodraeth wedi cymryd camau ystyrlon eto ac mae'n parhau i eistedd ar ei dwylo.
Os yw Cymru am aros ar flaen y gad o ran y trawsnewidiad ynni, mae'n bosibl iawn y bydd angen amddiffyniadau cyfreithiol cryfach a diwygiadau i'r farchnad i sicrhau budd cymunedol. Nid oes dim yn gwylltio cymuned yn fwy na gweld peilonau neu geblau tanddaearol yn cludo electronau a gynhyrchir yn eu cymuned allan o'u cymuned a hwythau'n gweld dim budd o gwbl o ran eu biliau o ddydd i ddydd.
I gloi, Dirprwy Lywydd, er bod ymrwymiad cyllido diweddaraf Llywodraeth Cymru i'w groesawu, nid yw'n mynd i'r afael â'r materion systemig sy'n atal Cymru rhag cyflawni gwir sofraniaeth ynni. Heb ddiwygio'r grid, hygyrchedd ariannol a chysylltiad clir rhwng ynni adnewyddadwy a mynd i'r afael â thlodi tanwydd, rydym mewn perygl o syrthio ymhellach ar ei hôl hi. Mae'n bryd gweithredu'n feiddgar, rhywbeth nad yw'n cael ei gynnig yn aml gan y Llywodraeth hon, sydd wedi cael 25 mlynedd i gyflawni rhywbeth ystyrlon, ond sydd wedi siomi pobl Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Roedd hwnna'n ymateb hynod o ddigalon i'r hyn sy'n ddatganiad o newyddion da iawn heddiw mewn perthynas â'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i brosiectau ynni cymunedol ledled Cymru. Heddiw, rwyf wedi gallu nodi, hyd yn oed yn y flwyddyn ariannol hon, ein bod wedi gallu dod o hyd i £10 miliwn i gefnogi prosiectau sydd wirioneddol ar hyd a lled Cymru. Rwy'n gwybod ein bod eisoes wedi rhannu llawer ohonynt gyda chyd-Aelodau ar draws y Senedd drwy ohebiaeth, ond byddwn yn hapus i rannu'r wybodaeth honno eto fel y gall cyd-Aelodau fynd i weld drostynt eu hunain y gwaith gwych hwn sydd wedi bod yn digwydd o ran prosiectau ynni cymunedol.
Gofynnodd yr Aelod beth rydym ni'n mynd i'w wneud nesaf—cyllid untro ac ati. Wel, yn fy natganiad heddiw cyhoeddais y bydd £10 miliwn arall ar gyfer y gwaith hwn yn y flwyddyn ariannol nesaf hefyd. Gwelsom ddiddordeb mawr yn y flwyddyn gyntaf hon o gefnogaeth. Mae gennym dros 100 o brosiectau wedi'u cyflwyno. Roeddem yn gallu cefnogi 32 ohonynt. Felly, gwyddom yn y flwyddyn ariannol nesaf y bydd galw mawr am y prosiectau hefyd.
Roedd llawer o drafod am y grid yng nghyfraniad llefarydd yr wrthblaid, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am yr heriau sy'n ein hwynebu o ran y grid. Ond mewn gwirionedd, un o'r pethau buddiol iawn am ein cefnogaeth i Ynni Cymru ac ynni a gynhyrchir yn lleol yw bod y cynlluniau hyn mewn gwirionedd yn tynnu pwysau oddi ar y grid, sy'n rheswm arall i ni fod yn eu cefnogi. Mae llawer ohonynt yn cynnwys pethau fel systemau storio batri, er enghraifft, ac rwy'n credu bod hyn yn ffordd dda iawn i lawer o'r sefydliadau hyn a busnesau bach allu rheoli eu costau ynni eu hunain a lleihau'r costau ynni hynny, gan ddod yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir.
Mae'n bwysig ein bod wedi gallu cefnogi amrywiaeth o brosiectau. Rydym wedi gallu cefnogi nifer o brosiectau ynni cymunedol, ond hefyd nifer o sefydliadau cymunedol, fel neuaddau pentref a chlybiau chwaraeon, er enghraifft, i allu darparu buddion yn eu cymuned leol. Ac, wrth gwrs, rydym wedi gallu cefnogi mentrau bach a chanolig drwy'r gefnogaeth hon. Ac unwaith eto, gwn y bydd yr holl sectorau hynny yn edrych tuag at ein £10 miliwn nesaf i weld pa gymorth pellach y byddwn yn gallu ei gynnig iddynt pan fyddwn yn darparu ein gweminar ym mis Ebrill, a fydd yn nodi sut i wneud cais am y cylch nesaf o gymorth.
Mae gennym ddull clir iawn, rwy'n credu, o ymdrin â buddion lleol a pherchnogaeth leol ac rydym yn cefnogi'n gryf brosiectau ynni adnewyddadwy lleol. Rydym yn dymuno iddynt gael eu datblygu gan sefydliadau sydd yn gyfan gwbl wedi'u lleoli yng Nghymru, gan gynnwys grwpiau cymunedol sy'n darparu budd cymesur i'r gymuned letyol neu i Gymru gyfan. Mae cynhyrchu sy'n eiddo lleol yn rhoi cyfle cryf iawn i gadw'r gwerth economaidd hwnnw yma yng Nghymru, ac mae'n cyfrannu at ein ffyniant.
Bydd cyd-Aelodau yn gyfarwydd â'n datganiad polisi 'Perchnogaeth leol ar gynhyrchu ynni yng Nghymru', a gyhoeddwyd yn 2020, ac sy'n eistedd ochr yn ochr â'n targedau ar gyfer cynhyrchu sy'n eiddo i'r ardal. Mae'r polisi hwnnw, wrth gwrs, yn cael effaith drwy ein dogfen 'Polisi Cynllunio Cymru', gan gydnabod bod cyfleoedd enfawr yn y prosiectau hyn i sicrhau budd lleol drwy ynni adnewyddadwy hefyd.
Byddai'n esgeulus i mi beidio â thynnu sylw, rwy'n credu, at y cyhoeddiad heddiw, a gynhwysais yn fy natganiad eto am y gefnogaeth yr ydym yn ei darparu ar gyfer prosiect Morlais Menter Môn. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n gyffrous iawn ac o bosibl yn ddatblygiad chwyldroadol, gan ein rhoi ni ar flaen y gad. Mae'r hyn yr ydym yn ei gynnig yn y prosiect penodol hwnnw yn arwain y byd, ac rwy'n credu y dylai pob cyd-Aelod ddathlu hynny.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw.
Ar draws pleidiau, rydym wedi bod yn glir bod hwn yn faes hanfodol na allwn fforddio colli cyfle yn ei gylch, felly mae'n dda gweld rhywfaint o'r agenda hon yn datblygu. Mae sawl maes allweddol yr wyf am fanylu ychydig yn fwy arnyn nhw, yn gyntaf y cydadwaith rhwng Ynni Cymru, Trydan Gwyrdd Cymru a GB Energy. Rwy'n gwybod fy mod wedi mynegi fy mhryderon ynghylch hyn yn y gorffennol, ond mae gwir angen i ni ddeall sut y bydd y gwahanol gyrff ynni hyn yn gweithio gyda'i gilydd. Mae risg wirioneddol yma y byddwn yn gweld dyblygu ymdrechion, efallai hyd yn oed amrywio blaenoriaethau rywbryd nes ymlaen.
Yr hyn sydd ei angen arnom yw eglurhad ar rolau. Allwch chi roi'r eglurhad hwnnw heddiw? Allwch chi egluro rolau gwahanol Ynni Cymru, Trydan Gwyrdd Cymru a GB Energy yng Nghymru? Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw GB Energy yn dyblygu neu'n tanseilio gwaith cyrff ynni presennol Cymru, a pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i ddiffinio sut y bydd GB Energy yn rhyngweithio â mentrau ynni presennol Cymru? O ystyried bod GB Energy yn fenter gan Lywodraeth y DU, mae'n hanfodol bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn iawn.
Yn ail, ariannu prosiectau ynni cymunedol. Un o'r pryderon mwyaf gyda phrosiectau ynni cymunedol yng Nghymru yw mynediad at gyllid. Bydd rôl Ynni Cymru yma yn bwysig. Pa effaith fydd GB Energy yn ei chael ar yr arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru? O gofio mai dim ond cyllideb gyfalaf o £10 miliwn sydd gan Ynni Cymru ar gyfer 2024-25, a yw hynny'n ddigonol i gyflawni ei nodau? Oherwydd fel y mae pethau, nid yw £10 miliwn ar hyn o bryd yn ddigon i gefnogi'r llif llawn o brosiectau ynni cymunedol ledled Cymru.
Yn olaf, ar lif prosiectau a gweledigaeth hirdymor ar gyfer ynni cymunedol, wrth edrych y tu hwnt i'r tymor presennol, mae'n hanfodol bod gennym fap ffordd clir ar gyfer ynni cymunedol yng Nghymru. Mae prosiectau ynni cymunedol yn hanfodol ar gyfer lleoleiddio cynhyrchu ynni, lleihau biliau ynni a chyfrannu at ein nodau hinsawdd. Faint o brosiectau ynni cymunedol y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld yn cael eu datblygu yn ystod tymor y Senedd hon? A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno map ffordd clir ar gyfer ehangu ynni cymunedol yng Nghymru? A pha ddiwygiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i sicrhau bod y system gynllunio yn hwyluso mewn gwirionedd yn hytrach na rhwystro datblygiad prosiectau ynni cymunedol? Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o gwestiynau yna, ond mae llawer o heriau hefyd. Ond fel y dywedais i ar ddechrau fy nghyfraniad, rwy'n gyffredinol gefnogol o weld yr agenda hon yn datblygu mewn ffordd gadarnhaol.
Wel, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau a hefyd am y gefnogaeth i'r cyfeiriad mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae'n wir ei bod yn foment gyffrous ond ein bod yn gweld ystod o sefydliadau newydd a dulliau newydd yn dod at ei gilydd, ac rwy'n rhannu'r pryder hwnnw yn llwyr fod yn rhaid i'r pethau hyn fod yn ategu ac na ddylai fod perygl o ddyblygu, neu hyd yn oed yn waeth, cael pethau'n syrthio trwy fylchau rhwng y darpariaethau hefyd.
Felly, mae Ynni Cymru yn canolbwyntio'n gryf ar y cynlluniau ynni cymunedol lleol. Cynlluniau bach yw'r rhain. Yn aml caiff yr arian ei gefnogi gan arian cyfatebol gan sefydliadau hefyd, felly mae hynny'n ein galluogi i ddenu rhagor o arian i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy lleol. Mae hynny'n wir, wir i'w groesawu. Ond wedyn mae Trydan Gwyrdd Cymru ar raddfa wahanol yn gyfan gwbl. Felly, mae hwnnw'n ymwneud â defnyddio ein hystad goetir i ddatgloi prosiectau ynni adnewyddadwy. Felly, yn y lle cyntaf, byddech chi'n dychmygu y byddai'r rheini'n brosiectau ynni gwynt. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'r bwrdd, neu mae'r bwrdd yn gweithio, i nodi'r meysydd prosiect hynny a fyddai'n cyd-fynd orau â darparu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Felly, byddech yn disgwyl i'r rheini fod yn brosiectau ynni gwynt, fel y dywedaf, yn y lle cyntaf. Ond graddfa fasnachol yw'r prosiectau hynny, felly mae'n gynnig gwahanol iawn i'r hyn a ddarperir gan Ynni Cymru.
Ac ar hyn o bryd, rydym yn dal yn y ddyddiau cynnar iawn mewn perthynas â Great British Energy. Felly, byddwn yn siarad yn ddiweddarach heddiw yn y Cyfarfod Llawn am sefydlu Great British Energy fel sefydliad, neu fel endid, ond mae llawer eto i'w wneud o ran Great British Energy. Rydym yn cael trafodaethau da iawn, ar lefel weinidogol, ond hefyd drwy swyddogion, ynghylch sut y gall Great British Energy gefnogi ein huchelgeisiau yma yng Nghymru, trwy Trydan Gwyrdd Cymru, ond nid yn gyfan gwbl, i sicrhau bod y buddsoddiad yn dod i Gymru ar gyfer y prosiectau hyn. Felly, nid oes gennyf y pryder hwnnw, yn sicr nid ar hyn o bryd, am ddyblygu, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod yr holl endidau newydd yn gweithio ar y cyd ac yn effeithiol gyda'i gilydd.
O ran y llif prosiectau, fel rwyf yn dweud, mae gennym eisoes lawer mwy o geisiadau am y cylch hwn o gyllid nag yr oeddem yn gallu eu cefnogi, sy'n beth da. Rwy'n credu ei bod bob amser yn ddefnyddiol iawn cael prosiectau cyfalaf yn barod i fynd, pe bai cyllid ychwanegol ar gael yn ystod y flwyddyn, felly byddwn yn ymwybodol o hynny hefyd. Ond o ran y llif prosiectau, rwy'n credu bod y ffaith bod gennym dargedau ynni adnewyddadwy clir—ac un ohonynt yw cwrdd â'r hyn sy'n cyfateb i 100 y cant o'n defnydd ynni blynyddol gan ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, a chadw i fyny wedi hynny, ond i o leiaf 1.5 GW o hwnnw fod yn eiddo lleol erbyn 2035—yn dangos ein hymrwymiad i archwilio a datblygu'r llif hwnnw o brosiectau. Does gen i ddim pryder bod y llif prosiectau yno ac mae'n dod drwodd; yr hyn rwyf eisiau ei wneud yw gallu cefnogi cymaint o'r prosiectau hynny â phosibl, a dyna pam y bydd ysgogiad yn y cyllid cyfatebol hwnnw, lle bo hynny'n bosibl, yn bwysig.
Ac yna cynllunio, bydd cyd-Aelodau yn gyfarwydd â'r ymgynghoriad sydd newydd ddod i ben yn ddiweddar o ran adfer cost lawn i lywodraeth leol o ran ffioedd ceisiadau cynllunio, ond yna'r darn ehangach hwnnw o waith am y proffesiwn cynllunio, a sicrhau ein bod yn atgyfnerthu hwnnw a bod gennym y bobl fedrus hynny yn gweithio ym maes cynllunio yr ydym eu hangen. Felly, yn yr ymgynghoriad hwnnw, rydym yn siarad am fwrsarïau, prentisiaethau a chanolfannau rhanbarthol sgiliau arbenigol ac ati, i sicrhau ein bod yn gallu mynd i'r afael â'r ceisiadau cynllunio hynny cyn gynted â phosibl.
A hefyd, un o'r pethau rwy'n awyddus i'w harchwilio nesaf, felly, fyddai ynghylch datblygiadau a ganiateir. Felly, mae gen i ddiddordeb arbennig mewn pympiau gwres o'r ddaear a wyddoch chi, mae'r dechnoleg wedi symud ymlaen yn sylweddol ers i ni osod ein polisi ar hynny gyntaf. Felly, ar ôl i ni symud drwy'r ymgynghoriad hwn ar ffioedd a'r proffesiwn, yna mae hynny'n rhywbeth arall yr hoffwn fynd i'r afael ag ef ar ôl hynny.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad; mae'n adlewyrchu'r brwdfrydedd sydd gennych am hyn, sy'n wych. Yn amlwg, yr arloeswr yn hyn i gyd oedd Awel Aman Tawe, ac rwy'n eich cyfeirio at fy muddiant ariannol, oherwydd heb egni a brwdfrydedd Dan McCallum, ni fyddai'r saith prosiect cymunedol hynny a arloesodd hyn wedi dod i fodolaeth. Ond rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig ein bod yn sicrhau bod pawb yn gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fwrw ymlaen â hyn, fel arall maen nhw bob amser yn mynd i gael eu llesteirio gan danwydd nwy a ffosil drud iawn.
Felly, mae angen i bob pentref ddilyn esiampl neuadd bentref Aberporth; mae angen i bob corff chwaraeon ar lawr gwlad ddilyn Clwb Pêl-droed Tref Treffynnon; mae angen i bob addoldy ddilyn esiampl Gwyrdd Bangla. Felly, sut ydym yn mynd i gael pob tref, pentref ac unigolyn yn deffro i'r ffaith bod yn rhaid i ni newid os nad ydym yn mynd i orfod talu mwy nag sydd ei angen arnom yn gyson trwy fanteisio ar yr adnoddau cymunedol sydd gennym ni? Sylwaf eich bod yn trefnu gweminar ym mis Ebrill, ac mae hynny'n wych, ond rydym i gyd yn gwybod mai'r gymuned dlotaf yw'r un sydd â'r capasiti lleiaf i fachu ar yr adnoddau hyn, felly tybed pa waith sy'n cael ei wneud gan awdurdodau lleol neu sefydliadau cymunedol eraill i sicrhau bod pawb yn gwybod am hyn?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna, a hefyd y gallu i achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r bobl sydd wir wedi bod yn arloeswyr yn y sector ynni cymunedol, oherwydd rwy'n siŵr y bydd y ffordd y mae pethau'n datblygu mor gyflym yn gwneud argraff fawr arnynt. Drwy ein cylch cyllido diweddaraf, mae gennym rai enghreifftiau da iawn yn digwydd yng Nghaerdydd erbyn hyn. Felly, drwy Gyngor Caerdydd, bydd solar, ffotofoltäig a storio batri ar draws safleoedd hamdden. Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gosod paneli solar ffotofoltäig, storio batri a phympiau gwres, a bydd YnNi Teg yn gosod solar ffotofoltäig a storio batri ar draws adeiladau cymunedol hefyd. Mae gennym enghreifftiau gwych o bethau a fydd yn digwydd drwy'r cylch ariannu diweddaraf hwn ledled Cymru.
Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar y sefydliadau hynny fydd yn derbyn arian nawr i ledaenu'r neges am y gefnogaeth y maen nhw wedi'i chael, ac i fod yn astudiaethau achos wedyn i eraill o fewn y gymuned leol—sefydliadau eraill—i archwilio gyda nhw sut maen nhw wedi gallu gostwng eu biliau ynni hyd at 80 y cant, er enghraifft. Felly, rwy'n credu y bydd angen cymorth Llywodraeth Cymru ar rai sefydliadau a busnesau i gyrraedd y pwynt hwnnw; bydd eraill yn ei weld fel buddsoddiad synhwyrol y maen nhw eisiau bwrw ymlaen ag ef hefyd. Felly, rwy'n credu bod gwaith i'w wneud i rannu hynny. Rydym yn gwneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig cymorth technegol, masnachol a chaffael, yn bennaf i awdurdodau lleol, ond hefyd i sefydliadau ynni cymunedol, a gall y math hwnnw o gefnogaeth ymestyn o'r cam cysyniad hyd at y cam cau a chwblhau ariannol, ac yna mae'n darparu honno gam wrth gam, dal dwylo bron, os mynnwch, o ran gallu cael gafael ar fanteision ynni a gynhyrchir yn lleol.
Yn gysylltiedig â hyn, mae swyddogion yn gweithio gyda'r diwydiant i ddatblygu bargen sector, a fydd hefyd yn ceisio mynd i'r afael â'r rhwystrau rhag perchnogaeth gymunedol a sicrhau'r buddion mwyaf y gallwn eu cadw yma yng Nghymru. Ond byddwn yn annog cyd-Aelodau i fynd allan ac ymweld â'r cylch diweddaraf o brosiectau. Rwy'n siŵr y byddant yn cael croeso cynnes, a bydd yn gyfle i weld rhywfaint o'r buddsoddiad hwn ar waith.
Dwi am ganolbwyntio ar y cyhoeddiad ynglŷn â buddsoddiad ym Morlais heddiw. Mae'r newyddion am y buddsoddiad yma yn newyddion sydd i'w groesawu'n fawr. O'r dechrau, dwi wedi bod yn gefnogol iawn o'r cynllun yma, nid yn unig oherwydd ei werth o yn cynhyrchu ynni gwyrdd a chreu swyddi yn lleol, ond y ffaith fod hwn yn cael ei ddatblygu fel menter gymdeithasol sydd â'r elw wedyn yn cael ei ailfuddsoddi yn y gymuned. Mae hwn yn fodel y dylem ni fod yn ei gefnogi, yn sicr.
Wrth symud ymlaen i'r camau nesaf rŵan, a gobeithio y bydd Morlais yn weithredol erbyn y flwyddyn nesaf, beth dŷn ni eisiau gweld ydy fod yna hyder yn datblygu yn yr isadeiledd sydd wedi cael ei greu ac yn y cysylltedd grid ac ati. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi rhagor o wybodaeth i ni am sgyrsiau y mae hi wedi'u cael efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig a GB Energy i sicrhau bod Morlais rŵan yn cael ei gefnogi i ddenu datblygwyr i'r safle—llawer iawn, wrth gwrs, â diddordeb—ac os bydd yna unrhyw arian ac adnoddau penodol yn cael eu neilltuo er mwyn gwneud hynny?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad yna i gydnabod y cam nesaf pwysig hwn o ran cefnogaeth i brosiect Morlais Menter Môn. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu cyfran ecwiti o £8 miliwn mewn gwirionedd, rwy'n credu, yn dangos yr ymrwymiad sydd gennym, fel Llywodraeth, i'r prosiect hwnnw. A'r ffordd yr oeddem yn teimlo mor gyffrous am y ffaith, fel y dywedwch chi, mae'n fenter gymdeithasol ac mae'n fodel eithriadol iawn. Ond yr hyn y mae'n ei gynnig hefyd, rydym yn credu, yw ei fod yn arwain y byd, ac rwy'n gwybod bod rhai trafodaethau da iawn bellach yn digwydd yn rhyngwladol gyda buddsoddwyr a datblygwyr sydd eisiau defnyddio'r safle hwnnw i brofi rhywfaint o'u technoleg arloesol. Ac rwy'n credu bod hyn yn rhoi cyfle da iawn i ni roi ein hunain ar y map fel rhywle y gallwn gael y prosiectau profi ac arddangos hyn yn llwyddiannus yng Nghymru. Felly, rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am y camau nesaf ar gyfer y prosiect hwnnw ac rwy'n credu, mewn cymaint o feysydd, fod Cymru'n dangos nawr ein bod yn gallu arwain.
Pan fyddwn yn sôn am wynt arnofiol ar y môr, fel y gwnawn yn aml yn y Siambr hon, a mathau eraill o ynni adnewyddadwy, mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gryf, rwy'n credu, i'r agenda hon, yn anfon neges bwysig. Ac mewn gwirionedd, mae'r gefnogaeth a ddaw o'r Siambr yn nodi'r neges bwysig honno, rwy'n credu. Oherwydd pan fyddaf yn siarad â datblygwyr ac eraill, un o'r pethau allweddol y maent eu heisiau gan unrhyw Lywodraeth yw sicrwydd a hyder, ac rwy'n credu bod y brwdfrydedd sydd gan bob cyd-Aelod ar gyfer yr agenda hon yn rhoi'r hyder a'r sicrwydd hwnnw.
Roeddwn yn falch iawn o weld cymaint o gyfleusterau yn y gogledd yn derbyn yr arian hwn gan Lywodraeth Cymru drwy Ynni Cymru, gan gynnwys clwb pêl-droed Treffynnon, sydd â phaneli solar nawr, systemau gwresogi a dŵr newydd a llifoleuadau newydd yn ogystal â gwefrwyr cerbydau trydan. Mae'n gynaliadwy ac yn arbed cymaint o arian mewn costau ynni. A'r hyn rwy'n ei hoffi mewn gwirionedd yw ei fod yn becyn cyflawn, felly mae gennych chi'r haul yn creu'r ynni ac yna'r storio, felly mae yno, a gellir ei ddefnyddio yn ôl yr angen. A fyddech chi'n annog grwpiau cymunedol a chanolfannau chwaraeon a chanolfannau hamdden eraill, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod llawer yn ei chael hi'n anodd, i wneud cais am y cyllid hwn? Rwy'n cofio, ar gyfer neuadd ein pentref, ein bod yn arfer chwilio am becynnau ariannu drwy ein cyngor gwirfoddol lleol. Felly, efallai mai dyna un ffordd y gallem rannu gwybodaeth amdano, drwy'r cynghorau gwirfoddol hefyd, wrth symud ymlaen. Diolch.
Yn hollol. Credaf y bydd gan y cynghorau cymuned a gwirfoddol yn lleol rôl bwysig iawn o ran lledaenu'r wybodaeth am y cyfleoedd a fydd yn bodoli drwy'r cyllid hwn, ond yna hefyd, fel yr oeddwn yn ei ddweud mewn ymateb i Jenny Rathbone, am dynnu sylw at bwysigrwydd y gwaith hwn, o ran lleihau costau a darparu'r sicrwydd a'r sefydlogrwydd ynni hwnnw, ar gyfer y busnesau neu'r sefydliadau hynny sy'n gallu fforddio gwneud y buddsoddiadau hynny beth bynnag.
Mae rhai enghreifftiau da iawn ar draws y gogledd. Rydym wedi clywed am Glwb Pêl-droed Tref Treffynnon, ond mae gennym eglwys gadeiriol Llanelwy hefyd. Bydd yn gosod system storio batri a solar. Bydd cwmni buddiant cymunedol Caban yn gosod system storio batri solar ffotofoltäig a phympiau gwres. Ac wrth gwrs mae yna arian hefyd ar gyfer M-SParc, a fydd yn gosod system solar ffotofoltäig a phympiau gwres hefyd. Felly, mae ystod eang o brosiectau gwahanol, ystod o dechnolegau, yn cael eu cefnogi ledled y gogledd a'r gorllewin.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Wel, yn amlwg, rwy'n croesawu cefnogaeth i brosiectau yn y gogledd, yn amrywio o brosiect ffrwd llanw Morlais, ac yn flaenorol ymwelais â Menter Môn i drafod hyn, a Chlwb Pêl-droed Tref Treffynnon, y mae nifer ohonoch chi wedi sôn amdano, yr wyf wedi bod yno, ond nid ers tro, i wylio gêm. Dywedoch, fodd bynnag, ar ôl—. Mewn gwirionedd, fe wnaethoch chi feio cyn-Lywodraeth Geidwadol y DU am yr argyfwng costau byw byd-eang, gan nodi, ac rwy'n dyfynnu, fod:
'biliau ynni, ac mae cyllidebau cartrefi wedi cael eu taro'n galetach gan yr argyfwng ynni nag unrhyw brif wlad ddatblygedig.'
Onid twyll bwriadol yw hynny, o ystyried bod cyfraddau chwyddiant yn uwch nag yn y DU mewn 10 allan o brif economïau'r G20, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, mewn 22 o wledydd Ewropeaidd ac yn yr Undeb Ewropeaidd?
Na. Byddwn yn anghytuno'n llwyr â'r asesiad yna. Mae wedi cael ei ailadrodd yn aml nawr, rwy'n credu, ar y llawr, o ran y Senedd, ynglŷn â'r llanast llwyr y bu'n rhaid i Lywodraeth newydd y DU ymdrin ag ef, a—[Torri ar draws.] Na, nid oes rhaid i chi ofyn i mi; nid oes rhaid i chi ei gymryd gan unrhyw un. Gofynnwch i deuluoedd sut maen nhw wedi bod yn teimlo a'r heriau maen nhw wedi bod yn eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yn dilyn camreolaeth Llywodraeth y DU o'r economi.
Felly, yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud drwy Ynni Cymru mewn gwirionedd yw darparu'r lefel honno o gefnogaeth, y lefel honno o sicrwydd, a'r lefel honno o gydnerthedd i sefydliadau cymunedol unigol, ond hefyd i fentrau bach a chanolig, oherwydd gwyddom y gall buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy helpu i leihau costau ar gyfer y dyfodol, a darparu'r lefel honno o sicrwydd ynghylch y ffordd y gallai biliau newid yn y dyfodol.
Felly, rwy'n gobeithio, er gwaethaf y sylwadau y prynhawn yma, y byddai'r Aelod yn ymuno â mi i ddathlu llwyddiant Ynni Cymru, ond hefyd wrth ei hyrwyddo i sefydliadau a busnesau a grwpiau cymunedol eraill yn ei ranbarth.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rhaglen recriwtio rhyngwladol yr NHS. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan yr NHS yng Nghymru fwy o staff nawr nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes. Heddiw, mae’r NHS ei hun yn cyflogi bron i 97,000 o staff cyfwerth ag amser llawn. Mae hyn yn gynnydd o 21 y cant ers cyn y pandemig. Rŷn ni wedi gweld rolau newydd yn cael eu datblygu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dysgu sgiliau newydd i ddarparu gwasanaethau newydd i’r cyhoedd. Mae’r diolch am hyn i’n hymrwymiad ni i barhau i fuddsoddi yn y gweithlu presennol, ac i hyfforddi gweithlu gwasanaethau iechyd y dyfodol. Rŷn ni wedi dal ati i wneud hyn trwy gyfnod ariannol anodd dros ben, gan gynnwys degawd o gyni, chwyddiant uchel parhaus a’r pandemig. Ar hyn o bryd, rŷn ni’n buddsoddi tua £286 miliwn bob blwyddyn mewn hyfforddiant ar gyfer aelodau newydd o’r gweithlu. Dŷn ni wedi ymrwymo i sicrhau gweithlu cynaliadwy ar gyfer y gwasanaeth iechyd, sy’n gallu ymdrin gyda gofynion y presennol, ond hefyd yn gallu diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n hanfodol i’r gwasanaeth iechyd wneud defnydd effeithiol o’r sgiliau ym mhob proffesiwn, gan alluogi staff i wneud y mwyaf o’u sgiliau a gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol.
Ond mae’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig, ac yn ei sgil, wedi tynnu sylw at wendidau a phrinder mewn rhai rhannau o’r gweithlu. Mae’n cymryd amser i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y wlad hon i lenwi’r bylchau hanfodol hyn, a allwn ni ddim parhau i ddibynnu ar staff asiantaeth a staff locwm drud i lenwi swyddi gwag. Mae recriwtio’n rhyngwladol mewn ffordd foesegol wedi dod yn rhan o’n strategaeth gweithlu i sicrhau bod gan yr NHS yng Nghymru y bobl a’r sgiliau cywir sydd eu hangen arnom.
Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o groesawu gweithwyr gofal iechyd o bedwar ban y byd, a hynny ers sefydlu’r NHS. Mae’n lle gwych i staff gofal iechyd o dramor hyfforddi, gweithio a byw. Trwy groesawu gweithwyr gofal iechyd o bob rhan o’r byd, rŷn ni’n manteisio ar gyfoeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad sy’n cyfoethogi ein system gofal iechyd. Mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn cynnig safbwyntiau amrywiol, a dulliau arloesol o ofalu am gleifion; gall hyn arwain, ac mae e’n arwain, at ganlyniadau gwell i bobl.
Mae rhaglen recriwtio ryngwladol Cymru gyfan yn fenter gweithlu strategol genedlaethol dan arweiniad Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, mewn cydweithrediad â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ledled Cymru. Mae wedi llwyddo i recriwtio mwy na 1,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a addysgir yn rhyngwladol i weithlu GIG Cymru. Mae'r mwyafrif yn nyrsys a addysgir yn rhyngwladol, yn hanu o wledydd fel India, Ynysoedd Philippines ac amryw o wledydd eraill.
Fel rhan o fenter Cymru yn India, arwyddodd y Prif Weinidog, pan oedd hi'n Weinidog iechyd, gytundeb â Llywodraeth Kerala i hwyluso recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys o India i Gymru. Mae hon yn berthynas uniongyrchol rhwng Llywodraeth a Llywodraeth, gan weithio trwy asiantaeth recriwtio nid-er-elw Llywodraeth Kerala, Norka Roots. Amlinellodd Llywodraeth Cymru ymrwymiad i recriwtio 250 o weithwyr gofal iechyd cymwys o India fel rhan o'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Kerala ym mis Mawrth y llynedd.
Mae'r ymgyrch recriwtio wedi perfformio'n well na'r nod hwnnw, gyda mwy na 300 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymgymryd â swyddi ar draws GIG Cymru. Yn ogystal â recriwtio nyrsys hyfforddedig a medrus iawn, mae'r rhaglen hefyd wedi llwyddo i benodi meddygon i arbenigeddau anodd eu llenwi, gan gynnwys meddygaeth frys, gastroenteroleg, hematoleg, oncoleg a radioleg. Mae'r rhaglen wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl, gan recriwtio 14 seiciatrydd y llynedd. Mae penodiadau ychwanegol yn cael eu gwneud yn dilyn digwyddiad recriwtio diweddar yn Hyderabad bythefnos yn ôl. Mae recriwtio i seiciatreg yn her yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae pum miliwn o bunnau wedi cael ei gadw'n ganolog yn Llywodraeth Cymru i gefnogi recriwtio rhyngwladol yn 2024-25. Ochr yn ochr â'r rhaglen hon, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' GIG Cymru yn parhau i hyrwyddo gyrfaoedd yn GIG Cymru ac i dargedu proffesiynau lle ceir prinder. Mae Talent Beyond Boundaries, sefydliad trydydd sector sydd wedi ymrwymo i gysylltu ffoaduriaid medrus â chyfleoedd cyflogaeth, wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ehangu ei raglen talent wedi'i dadleoli i Gymru. Ar hyn o bryd mae cynigion yn cael eu datblygu gyda GIG Cymru i recriwtio meddygon a nyrsys rhyngwladol cymwysedig.
Bydd recriwtio rhyngwladol ychwanegol, ynghyd â mentrau newydd, yn digwydd eleni i gefnogi anghenion recriwtio byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG. Byddwn yn cynnal rhaglen dreialu i recriwtio a hyfforddi nyrsys a addysgir yn rhyngwladol ym maes iechyd meddwl. Bydd rhaglen llwybr ymgynghorwyr yn rhoi'r cymorth datblygu proffesiynol i raddedigion meddygol rhyngwladol gwblhau eu portffolio arbenigedd uwch dewisol, gan eu galluogi i ymuno â chofrestr arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Ac mae llwybrau ar gyfer ymarferwyr deintyddol rhyngwladol yn cael eu datblygu i gefnogi deintyddiaeth y GIG yng Nghymru.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio'n rhyngwladol mewn ffordd sy'n foesegol ac yn gynaliadwy. Yn Kerala, er enghraifft, ceir gor-hyfforddi a gorgyflenwi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fwriadol, y mae llawer ohonynt yn chwilio am gyfleoedd i weithio ac i hyfforddi dramor. Ein nod yw sicrhau bod eu profiad yng Nghymru yn gadarnhaol ac yn gyfoethog, gan hefyd gefnogi eu twf proffesiynol, boed hynny yng Nghymru neu gartref. Mae'n hanfodol ein bod yn darparu cefnogaeth ac adnoddau digonol i helpu ein cydweithwyr rhyngwladol i integreiddio i'n system gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys cynnig rhaglenni sefydlu cynhwysfawr, datblygiad proffesiynol parhaus a chefnogaeth i'w teuluoedd. Drwy wneud hynny, gallwn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi, a fydd, yn y pen draw, o fudd iddyn nhw, cleifion a'r GIG ehangach.
Mae ap a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi'i gyflwyno, gan ddarparu mynediad hawdd i nyrsys a addysgir yn rhyngwladol at gyfoeth o wybodaeth sy'n gysylltiedig â gwaith ac adnoddau eraill i gefnogi eu hintegreiddio cymdeithasol yn y gymuned. Mae'r sefydliad Menywod Lleiafrifoedd Ethnig mewn Gofal Iechyd yng Nghymru wedi sefydlu cynllun mentora i hyrwyddo datblygiad proffesiynol a chefnogi integreiddio gweithwyr lleiafrifoedd ethnig benywaidd i mewn i GIG Cymru. Mae'r cynllun ar gael i bob nyrs a addysgir yn rhyngwladol sy'n ymuno â'r GIG yng Nghymru.
Trwy fuddsoddi mewn mentrau recriwtio rhyngwladol, ochr yn ochr â'n hymrwymiad parhaus i hyfforddi gweithlu cartref, rydym yn lleihau gwariant ar asiantaethau ac yn gwella ansawdd y gofal yn y GIG. Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ac, yn bwysig, hoffwn ddiolch i'r holl staff rhyngwladol sy'n gweithio yn GIG Cymru a dathlu'r cyfraniad y maent yn ei wneud i ofal iechyd yng Nghymru.
Hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ar ddiwedd ei gyfraniad. Hoffwn ddiolch hefyd iddo am gopi ymlaen llaw o'i ddatganiad y prynhawn yma.
Mae'r cynnydd diweddar yn lefelau staffio GIG Cymru yn ddatblygiad cadarnhaol, ond eto mae'n codi pryderon difrifol am gynaliadwyedd hirdymor ein gweithlu gofal iechyd. Er bod recriwtio rhyngwladol wedi darparu rhyddhad tymor byr hanfodol, mae'n amlwg na all y dull hwn wasanaethu fel ateb parhaol. Rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu recriwtio a hyfforddiant domestig i sicrhau GIG hunangynhaliol yng Nghymru. Mae'r bwriad i gau rhaglen nyrsio Prifysgol Caerdydd yn arbennig o frawychus. Fel y coleg nyrsio gorau yng Nghymru, ac yn bumed yn y DU, mae gan Brifysgol Caerdydd rôl ganolog wrth addysgu ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y dyfodol. Ar adeg pan ydym eisoes yn wynebu prinder o 2,000 o nyrsys, sut y gall Llywodraeth Cymru gyfiawnhau caniatáu i sefydliad hanfodol gau fel hyn? Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi mynegi pryderon difrifol, gan rybuddio y gallai'r penderfyniad hwn gael effaith ddinistriol ar ddyfodol nyrsio yng Nghymru. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn 'gweithio ar frys' i sicrhau bod yr un nifer o nyrsys yn cael eu hyfforddi yng Nghymru. Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd Cabinet: a allwch chi ymhelaethu ar sut mae 'gweithio ar frys' yn edrych yn ymarferol? Os gallech ateb hynny, byddai hynny'n ddefnyddiol.
Er gwaethaf ymdrechion i hyfforddi mwy o nyrsys yn lleol, nid yw niferoedd graddedigion wedi cadw i fyny â'r galw. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos 5,561 o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn yn y GIG yng Nghymru, gyda staff meddygol a deintyddol yn profi cyfradd swyddi gwag syfrdanol o 9.9 y cant. Ymateb y Llywodraeth fu recriwtio dramor, ond a yw hon wir yn strategaeth gynaliadwy yn y tymor hir?
Mae recriwtio rhyngwladol wedi helpu i lenwi rhai o'r bylchau. Yn 2023, recriwtiodd y GIG yng Nghymru 400, fel y dywedoch chi, o nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol ac mae rhaglen gwerth £5 miliwn wedi'i lansio i recriwtio 250 arall yn 2024-25. Er bod y gweithwyr proffesiynol hyn yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'r GIG yng Nghymru, mae'r ddibyniaeth ar staff rhyngwladol dim ond yn cynyddu, gyda gwariant ar asiantaethau yn cyrraedd £325 miliwn yn 2022-23 a bron i £240 miliwn yn 2023 yn unig. Sut gallwn gyfiawnhau'r lefel hon o wariant wrth fethu â buddsoddi yn ein gweithlu domestig ein hunain?
Mae yna hefyd nifer o heriau ymarferol sy'n gysylltiedig â recriwtio rhyngwladol. Nododd rhaglen Llywodraeth Cymru ei hun faterion o ran dod o hyd i lety i staff rhyngwladol. Roedd anghysondebau o ran mynediad at hyfforddiant arholiad clinigol strwythuredig gwrthrychol yn ogystal, yn broblem. Mae recriwtio moesegol yn bwysig, ond ni ddylai ddod ar draul cefnogi'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn ein GIG yn iawn.
Mae gennyf dri chwestiwn yr hoffwn eu gofyn i chi heddiw, Ysgrifennydd Cabinet. Fe wnaethoch chi ddyrannu £268 miliwn i hyfforddi aelodau newydd o'r gweithlu ledled Cymru. O ystyried prinder difrifol o nyrsys yng Nghymru, hoffwn wybod sut rydych chi'n bwriadu lliniaru effaith cau'r rhaglen nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rydych hefyd yn dweud na all staff asiantaeth heddiw barhau ar y lefel y mae. Felly, gyda gwariant ar asiantaethau yn cyrraedd lefelau anghynaladwy, pa fesurau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i leihau'r ddibyniaeth ar recriwtio rhyngwladol a datblygu llif hyfforddi fwy cadarn i'n nyrsys yng Nghymru?
Dywedwyd yn eich datganiad hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £5 miliwn i gefnogi recriwtio rhyngwladol, ac roedd hynny wedi'i gynnal yn ganolog. Rwy'n cymryd bod y pot canolog hwnnw gyda gweithrediaeth y GIG. A byddwn i'n dweud, o ystyried yr heriau ymarferol a nodwyd gyda recriwtio rhyngwladol, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod staff a recriwtiwyd yn rhyngwladol yn derbyn cefnogaeth ddigonol heb gyfaddawdu'r adnoddau sydd ar gael i'n gweithlu GIG presennol o fewn ein byrddau iechyd ledled Cymru?
Er bod recriwtio rhyngwladol, Ysgrifennydd Cabinet, wedi darparu rhyddhad tymor byr, nid yw'n strategaeth gweithlu hyfyw a hirdymor. Dylai'r pwyslais fod ar sicrhau dyfodol nyrsys sy'n cael eu haddysgu yma yng Nghymru, ehangu ein cyfleoedd hyfforddi a sicrhau bod ein GIG yn cael ei staffio gan ein gweithwyr proffesiynol medrus o fewn ein cymunedau ein hunain. Mae hynny'n flaenoriaeth i mi, ac rwy'n siŵr y dylai fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Oherwydd heb weithredu ar unwaith yn y maes hwn, rydym mewn perygl o achosi niwed hirdymor i gynaliadwyedd ein gweithlu iechyd ledled Cymru, sydd eisoes dan straen enfawr.
Rwyf wedi gofyn tri chwestiwn i chi yna, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth yn mynd yn eithaf blin pan fyddwn yn gofyn nifer o gwestiynau, dyna rwyf wedi cael fy arwain i gredu, felly, gobeithio, gallwch ateb y tri chwestiwn yna yr wyf wedi'u rhoi i chi heddiw.
Gofynnwch gymaint o gwestiynau ag y dymunwch.
O dyna ni; mae gen i 20 arall yma. [Chwerthin.]
Pan fyddan nhw wedi cael eu hateb yn y datganiad, mae'n her weithiau, ond serch hynny.
Edrychwch, mae'r Aelod yn gwneud, rwy'n credu, rai pwyntiau pwysig, ond credaf wrth wraidd ei her i'r datganiad oedd y dewis ffug rhwng recriwtio yn ddomestig a recriwtio yn rhyngwladol. Mae'r datganiad, rwy'n credu, yn ymdrechu'n galed i ddweud bod y Llywodraeth yn gweld pwysigrwydd hanfodol recriwtio gweithlu domestig a gwir werth recriwtio'n rhyngwladol hefyd. Ceisiais egluro pam, yn benodol, y gall recriwtio rhyngwladol fod o werth arbennig pan fydd prinder yn dod i'r amlwg a'ch bod yn gwybod y bydd yn cymryd peth amser trwy'r cwrs arferol o recriwtio i leoedd a hyfforddiant myfyrwyr. Mae'r rhai hynny weithiau'n cymryd peth amser i allu eu llenwi trwy recriwtio domestig tymor hwy. Felly, mae rôl i'w chwarae, rôl sylweddol i'w chwarae, trwy recriwtio rhyngwladol ochr yn ochr â'r rhaglen recriwtio domestig sydd gennym.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig, rwy'n credu, wrth gydnabod, fel y credaf y gwnaeth ef, fod y niferoedd sy'n cael eu recriwtio i'r GIG ar eu huchaf erioed. Ac eto mae gormod o swyddi gwag yn y system hefyd. Ac rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig: a allwn ni ddisgwyl gweld niferoedd cynyddol yn y GIG? Nid wyf yn credu bod hynny'n bosibl. Mae angen i ni allu sicrhau bod y datblygiadau mewn technoleg, datblygiadau mewn gwyddoniaeth feddygol yn cael eu defnyddio'n llawn ochr yn ochr â'r gweithlu presennol a recriwtiaid ychwanegol hefyd, i sicrhau bod y patrwm recriwtio yn y tymor hwy yn gynaliadwy.
Gofynnodd gwestiwn i mi am wariant asiantaeth. Rwy'n gobeithio fy mod i'n glir yn y datganiad: nid yw recriwtio'n rhyngwladol o gwbl yn sbarduno gwariant ar asiantaethau, ac mewn gwirionedd mae'n rhan o'r cyfraniad at leihau gwariant ar asiantaethau oherwydd ein bod yn recriwtio pobl i mewn i rolau, yn cael eu cyflogi yn y GIG ei hun. Dyna un o'r manteision niferus a ddaw yn sgil y rhaglen recriwtio hon. Nododd yn gywir fod gostyngiad sylweddol wedi bod mewn gwariant ar asiantaethau, i lawr o £325 miliwn yn 2022-23 i £262 miliwn yn 2023-24, ac rwy'n falch o ddweud bod yr wybodaeth reoli sydd gennym yn y GIG ar hyn o bryd—felly, hynny yw gwybodaeth a ddefnyddir o fewn y GIG nad yw wedi'i dilysu'n allanol eto—yn dangos bod hynny wedi ei leihau yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf hyd yn oed ymhellach, i lawr i £173 miliwn. Felly, yn ôl fy nghyfrifiadau bras a chyflym iawn, mae tua hanner yr hyn yr oedd ddwy flynedd yn ôl. A bydd wedi nodi yn y canllawiau cynllunio yr wyf wedi'u rhoi i'r system eleni ofyniad i barhau i dalu costau asiantaethau ar draws yr ystod o rolau.
Soniais yn fy natganiad yr ystod o gefnogaeth a ddarparwn, ac rwy'n falch iddo grybwyll hynny yn ei gwestiwn. Mae'n bwysig, a gobeithiaf fod y pwyntiau a wneuthum yn y datganiad wedi helpu i roi sicrwydd iddo fod rhwydwaith o gefnogaeth ar gael i gefnogi'r rhai sy'n dewis symud i Gymru i weithio yn y GIG.
Gwnaeth bwynt pwysig, yn olaf, mewn perthynas ag effaith y cynnig ar gyfer ymgynghoriad y mae Prifysgol Caerdydd, yn amlwg, wedi'i gyhoeddi, ar addysg nyrsio. Roeddwn yn siomedig iawn o weld y cynnig hwnnw'n cael ei gyhoeddi, gan fod Aelodau yn y Siambr hon wedi bod yn ymwybodol o'r maes hwn. Ond rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn, ac rwy'n gwybod y bydd yn cydnabod hyn, i ni allu rhoi synnwyr clir i'r proffesiwn nyrsio—ac fe soniodd am bryderon yr RCN—ac i'r rhai sy'n ystyried dod i mewn i'r proffesiwn bod AaGIC, er gwaethaf cyhoeddi'r cynnig ar gyfer ymgynghoriad, wedi ymgysylltu â ni fel Llywodraeth, gyda'r brifysgol a chyda phrifysgolion eraill sydd â chontractau comisiynu gydag AaGIC. Mae'r rhain yn rhedeg dros nifer o flynyddoedd ac mae ganddynt gryn dipyn o hyblygrwydd ynddynt, felly mae'n caniatáu sefyllfa lle gellir ailddyrannu'r niferoedd nyrsio hynny. Mae'r trafodaethau hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Yn amlwg, nid yw Prifysgol Caerdydd wedi gwneud penderfyniad terfynol eto, felly mae terfyn amser yn yr ystyr hwnnw, mewn ystyr terfynol, ond mae gen i lefel dda o hyder y byddwn yn gallu sicrhau bod nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael drwy Brifysgol Caerdydd ar gael mewn mannau eraill.
Wel, mae'r frigâd ryngwladol, i fenthyg enw o gyd-destun arall, wedi bod yn rhan greiddiol o weithlu'r NHS ers ei chreu. Mor gynnar â'r 1940au, cynhaliwyd ymgyrchoedd recriwtio dramor i droi breuddwyd Bevan yn realiti, ac fe wrandawodd miloedd o bobl o bob rhan o'r byd ar yr alwad—o'r Caribï, is-gyfandir India a thu hwnt. Ein braint ni ydy eu bod nhw'n parhau i wneud hynny hyd heddiw, oherwydd mi fyddai ein system iechyd ni yn methu ag ymdopi heb eu cyfraniad. Rwyf felly'n cefnogi datganiad a phenderfyniad y Llywodraeth i wthio'r gyllideb i gefnogi cynllun cyfnewid Kerala ymlaen i 2025-26, ac mi fyddwn i'n ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar rai o'r manylion ymarferol yn ymwneud â hwnna.
Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Cabinet at y cytundeb i recriwtio hyd at 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o Kerala yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol. Felly, a allai'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau sut mae'r recriwtiaid hyn yn cael eu dosbarthu ledled Cymru? Wrth siarad o safbwynt etholaethol, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod Ysbyty Tywyn wedi bod dan bwysau sylweddol oherwydd methiant i ddenu nyrsys. Dywedwyd wrthym y byddai nyrsys o Kerala yn cael eu recriwtio ac yn datrys y problemau. Yn wir, cyrhaeddodd pedwar myfyriwr Ddolgellau ar gyfer hyfforddiant, ond fy nealltwriaeth i yw bod dwy o'r nyrsys Kerala hynny wedi gadael i weithio mewn mannau eraill o fewn misoedd, sy'n golygu bod y ward cleifion mewnol yn dal i fod ar gau. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam nad ydynt yn cael eu cadw pan fyddant yn cyrraedd eu hysbyty?
Yn anffodus, wrth gwrs, er gwaethaf pwysigrwydd sicrhau bod gan ein hysbytai gymaint o hyblygrwydd â phosibl i lenwi swyddi na ellir eu bodloni gan recriwtio domestig yn unig, dim ond rhwystro yn hytrach na helpu'r GIG yn hyn o beth. Mae bod y tu allan i'r farchnad sengl wedi tanseilio atyniad Cymru fel lle i weithio i'n cymdogion Ewropeaidd. Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw asesiad effaith o'r costau ychwanegol i brosesau recriwtio'r GIG dros y pum mlynedd diwethaf ers i'r DU adael y farchnad sengl?
Mae'r mater hwn wedi'i waethygu gan fethiannau ar ran Llywodraeth Cymru, megis cau'r ysgol nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd sydd ar fin digwydd, rhywbeth yr ydym newydd glywed amdano. Fel ein prifddinas genedlaethol, mae'n amlwg fod gan Gaerdydd apêl benodol i ymfudwyr, felly mae'r newyddion hyn yn ergyd drom i broffil GIG Cymru ymhlith ymgeiswyr rhyngwladol. Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i amlinellu sut y maent yn bwriadu cynnal lefelau hyfforddi nyrsys er gwaethaf cau'r ysgol, felly a allai'r Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a fydd hyn yn cynnwys asesiad o sut yr effeithir ar recriwtio rhyngwladol, yn benodol?
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol pa mor niweidiol oedd fisa blaenorol gweithwyr iechyd a gofal Llywodraeth y DU, ac mae wedi arwain at ostyngiad yn nifer y gweithwyr gofal tramor sy'n dod i mewn i'r wlad. Mae hyn yn ychwanegu pwysau sylweddol ar ein gwasanaeth iechyd. Felly, pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Aelodau cyfatebol yn y DU i ddiddymu'r rheolau mewnfudo hyn?
Yn ôl yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur sefyllfa ar ymfudo ac, yn y papur hwnnw, fe wnaethoch chi alw i leihau neu ddileu'r trothwy cyflog o £25,600. Dywedoch y dylai fod yn syml ac yn hawdd ei ddefnyddio, ac ni ddylai greu beichiau ariannol a gweinyddol sylweddol a chostus i fusnesau. A gwnaethoch alw am fisa heb ei noddi, gyda llwybr i setlo os yw unigolyn yn gallu uwchsgilio i fframwaith cymwysterau rheoledig 3 a mwy yn ystod y cyfnod hwn. Ni wnaeth y Llywodraeth Geidwadol ddim o hyn. Ond nawr, gyda phartneriaeth glodfawr mewn grym, mae'r Blaid Lafur mewn sefyllfa i wneud y pethau hyn. Felly, a allwch chi gadarnhau pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i wireddu eich galwadau yn hyn o beth?
Yn olaf, mae'n hanfodol bod ymdrechion i ddenu staff rhyngwladol i'r GIG yn cael eu hategu'n effeithiol â buddsoddiad parhaus i hyfforddi mwy o staff domestig. Ni allwn ddibynnu ar recriwtio rhyngwladol yn unig i fynd i'r afael â'r bylchau amlwg yn y gweithlu, sy'n cynnwys dros 2,000 o swyddi gwag nyrsys cyfwerth ag amser llawn. Felly, beth yw dealltwriaeth yr Ysgrifennydd Cabinet o ble mae'r cydbwysedd gorau posibl rhwng recriwtio rhyngwladol ac ehangu'r staff domestig? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Mabon ap Gwynfor am hynna. Gofynnodd am rai o'r goblygiadau ymarferol o ran y polisi recriwtio moesegol a sut mae hynny wedi'i ddosbarthu a'i wasgaru, os mynnwch chi, ledled Cymru. Felly, bydd eisiau gwybod bod holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru yn cadw at y cod ymarfer ledled y DU ar gyfer recriwtio personél iechyd a gofal cymdeithasol rhyngwladol. Dyna sy'n sail foesegol, os mynnwch chi, i'r trefniadau sydd gennym ar waith sy'n cefnogi ein hymdrechion recriwtio rhyngwladol. Mae pob bwrdd iechyd, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, wedi defnyddio eu dyraniad o'r gronfa £5 miliwn y cyfeiriais ati yn fy natganiad. Recriwtio nyrsys yn bennaf oedd hynny, ond mae wedi cynnwys, yn ogystal â hynny, recriwtio nifer fach o feddygon. Felly, dyna'r patrwm ar draws Cymru.
Ni allaf wneud sylw penodol ar y sefyllfa honno y cyfeiriodd ati yn Nhywyn, ond rwy'n hapus iawn i godi, ar wahân, mewn perthynas â'r manylion unigol yno, pe byddai hynny'n ddefnyddiol.
Gofynnodd i mi am y flwyddyn nesaf. Rwy'n credu nad yw'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i phasio eto. Wrth gwrs, os yw eisiau ein helpu i barhau i ariannu'r rhaglen hon, mae ganddo gyfle i gefnogi'r Llywodraeth yn y bleidlais honno. Rwy'n ei annog i wneud hynny. Ond mae'r cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy'n credu, yn £4 miliwn. Rydym o'r farn mai hynny yw'r lefel o gyllid sy'n ofynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ar yr amod bod y gyllideb wedi'i sicrhau. Credwn fod potensial, y flwyddyn nesaf, i recriwtio rhai deintyddion cymwys, yn benodol, o ystyried y pwysau sydd gennym ar y gweithlu deintyddol yng Nghymru, ac rydym yn gobeithio cael y sgyrsiau hynny gyda'r asiantaeth, asiantaeth Llywodraeth Keralan yr wyf wedi cyfeirio ati yn fy natganiad.
Dim ond i fynd i'r afael â'r pwynt a wnaeth am sylwadau i Lywodraeth y DU. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau, mewn gwirionedd ar sail pedair gwlad, gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ddeintyddiaeth yn Llywodraeth y DU, ar newidiadau i ddarpariaethau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, sy'n galluogi cofrestru deintyddion rhyngwladol dros dro, a fyddai'n cefnogi hynny. Mae rhythm cyfathrebu rheolaidd gydag Aelodau cyfatebol yn San Steffan, sef y bartneriaeth mewn grym yr oedd yn cyfeirio ati yn ei gwestiwn. Aeth â fi yn ôl, mae arnaf ofn dweud, i'r adeg pan oeddwn yn Weinidog Brexit, gan gyfeirio at nifer o'r safbwyntiau polisi rwy'n gyfarwydd iawn â nhw o'r adeg honno. Mae'n iawn i ddweud bod rhwystrau rhag cael llwybr moesegol, llyfn, i recriwtio o dramor, boed hynny'n fisa, ond gofynion eraill hefyd. Rydym yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU mewn perthynas ag ystod o'r meysydd hynny, gan gydnabod yn hollol, fel y dywed, fod yr effaith y mae Brexit wedi'i chael, yn ogystal â ffactorau eraill, wedi bod yn arwyddocaol iawn ar y GIG a'r sectorau gofal cymdeithasol, fel gyda rhannau eraill o wasanaethau cyhoeddus a'r economi.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 heddiw yw'r Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i wneud y cynnig. Mark Drakeford.
Cynnig NDM8809 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2025.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein bwriad i wneud newidiadau i ryddhad treth trafodiadau tir ar gyfer anheddau lluosog, neu MDR, fel y'i gelwir amlaf. Mae MDR yn rhyddhad sydd ar gael wrth brynu dau neu fwy o anheddau yn yr un trafodiad. Tan nawr, mae trethdalwyr wedi gallu elwa ar MDR a rhyddhad treth arall, yr eithriad is-anheddau—neu'r SDE, fel y'i gelwir—yn yr un trafodiad. Mae'r eithriad is-anheddau yn darparu y gellir talu'r prif gyfraddau preswyl ar rai trafodion anheddau lluosog yn lle'r cyfraddau uwch. Nawr, nid wyf yn credu ei bod yn sefyllfa bolisi synhwyrol i ddefnyddio MDR ac SDE gyda'i gilydd yn yr un trafodiad, gan y gall pob un ddarparu cefnogaeth i drethdalwyr pan gânt eu defnyddio ar wahân.
Bydd y newidiadau yr wyf wedi'u cynnig yn golygu, pan fo'r SDE yn berthnasol, na chaniateir hawliadau MDR mwyach. Ni fydd y rheolau MDR, fel arall, yn newid i raddau helaeth. Nawr, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol, disgwylir i'r newidiadau hyn gynyddu refeniw TTT rhwng £1 miliwn a £2 filiwn bob blwyddyn. Bydd y cynnydd mewn refeniw yn gwneud iawn am gost darparu MDR, sydd ar gyfartaledd wedi dod i gyfanswm o £10 miliwn bob blwyddyn ers 2018.
Fel y soniais i yn fy natganiadau ysgrifenedig dyddiedig 10 Rhagfyr a 14 Ionawr, dros y flwyddyn i ddod, byddaf yn adolygu defnyddioldeb MDR ymhellach, ei fanteision fel sbardun polisi, a'i effaith ar refeniw TTT. Mae diddymu MDR yn parhau i fod yn opsiwn y byddaf yn ei ystyried yn weithredol. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, diddymodd Llywodraeth flaenorol y DU MDR ym mis Mehefin y llynedd. Bydd y newid a gynigir yma yn gwrthbwyso'n rhannol yr addasiad grant bloc anffafriol sy'n dilyn y penderfyniad hwnnw ac y rhagwelir y bydd yn lleihau'r grant bloc sy'n dod i Gymru oddeutu £8 miliwn y flwyddyn erbyn 2028-29, oni bai fod newidiadau pellach yn cael eu gwneud.
Mae'r rheoliadau'n cynnwys rheolau trosiannol i ddiogelu prynwyr sy'n cyfnewid contractau cyn i'r rheoliadau ddod i rym, ond a fydd yn cael eu cwblhau wedyn. Bydd y trethdalwyr hynny yn gallu, ac eithrio lle mae contractau wedi'u hamrywio, gadw at y rheolau sydd mewn grym pan gyfnewidiwyd y contractau. Fel erioed, Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad, a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6, cynnig cydsyniad deddfwriaethol o ran Bil Ynni Prydain Fawr. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM8808 Rebecca Evans
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r darpariaethau yn y Bil Ynni Prydain Fawr, i’r graddau eu bod yn dod o fewn Cymhwysedd Deddfwriaethol Senedd Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae Bil Ynni Prydain Fawr yn gwneud darpariaeth i alluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i ddynodi cwmni sy'n eiddo cyhoeddus fel Great British Energy ac i ddarparu cymorth ariannol i'r cwmni i osod ei flaenoriaethau strategol a rhoi cyfarwyddiadau gorfodol iddo. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd y cwmni'n cyflawni'r amcanion polisi i ysgogi'r defnydd o ynni glân, creu swyddi, hybu annibyniaeth ynni, a darparu gwerth i drethdalwr y DU.
Mae Great British Energy hefyd wedi'i fwriadu i weithio mewn partneriaeth â diwydiant ac undebau, yn ogystal â chymunedau, awdurdodau lleol, a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, i fuddsoddi mewn ynni glân a'i ysgogi. Bwriad y polisi hefyd yw i Great British Energy fuddsoddi, perchenogi a datblygu prosiectau ynni glân er mwyn dadrisgio a chyflymu'r gwaith o gyflawni prosiectau a darparu cefnogaeth lle mae bwlch yn y farchnad.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nodau polisi cyffredinol Great British Energy a'r Bil i sefydlu'r cwmni. Fel rhan o egwyddorion cyfansoddiadol datganoli, dylid datblygu unrhyw benderfyniad sydd ag unrhyw berthnasedd i Gymru gyda Gweinidogion Cymru, ac mae hyn yn arbennig o wir am faterion sydd o fewn cymhwysedd Gweinidogion Cymru a'r Senedd. Yn dilyn cyfnod o waith ar y cyd ar y Bil, mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i'n safbwynt drwy osod gwelliant i'r Bil yng nghymal 5. Mae'r gwelliant hwn yn disodli'r gofyniad i ymgynghori â Gweinidogion Cymru ar gyfeiriad strategol Great British Energy fel yr amlinellir yn y cymal hwnnw lle maent yn ymwneud â materion datganoledig.
Effaith y gwelliant hwn yw gofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru. Mae'r diwygiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol beidio, heb gydsyniad Gweinidogion Cymru, â chynnwys mewn datganiad o dan gymal 5 unrhyw beth sy'n ymwneud â darpariaeth pwnc a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Mewn perthynas â cheisio cydsyniad ar faterion sy'n dod o fewn cymal 5, mae disgwyl i Lywodraeth y DU ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am gydsyniad ffurfiol, y byddem yn ymateb iddynt yn unol â hynny.
Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at bwyllgorau perthnasol i'w hysbysu o fwriad i gydsynio i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru, gan esbonio'r rhesymeg dros eu bwriad i gydsynio. Pan fydd amser yn caniatáu, byddwn yn rhoi cyfle i'r Senedd fynegi barn cyn rhoi caniatâd yn ffurfiol. Yna bydd datganiad ysgrifenedig yn dilyn. Rwyf hefyd wedi cael sicrwydd gan y Gweinidog ynni yr ymgynghorir â Llywodraeth Cymru pe bai unrhyw gyfarwyddyd yn cael ei gyhoeddi o ganlyniad i gymal 6, pe bai'n ymwneud â mater sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am godi'r pwynt hwn.
Mae'r gwelliant i gymal 5 y Bil yn bwysig gan ei bod yn hanfodol bod Gweinidogion Cymru yn cael dweud eu dweud ar y datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer Great British Energy, yn y lle cyntaf ac yn ystod unrhyw ddiwygiadau i'r datganiad hwnnw. Mae Cymru mewn sefyllfa gref i weithio'n effeithiol gyda Llywodraeth y DU oherwydd ein digonedd o adnoddau cenedlaethol a'n profiad yn y maes hwn. Mae'r gwelliant a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chymal 5 yn fy ngalluogi i argymell bod y Senedd yn rhoi caniatâd i Bil Ynni Prydain Fawr. Rwy'n cynnig y cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fe gyflwynodd y pwyllgor ein hadroddiad ni ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Ynni Prydain Fawr y llynedd, gyda’r cydsyniad gwreiddiol. Fe gyfeiriwyd y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ar gyfer y Bil at y pwyllgor ar 28 Ionawr, ychydig ddyddiau yn ôl. Fe wnaethom ni ei ystyried yn ein cyfarfod ar 30 Ionawr a gosod ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ddoe.
Bythefnos yn ôl, rôn i ar fy nhraed yn y Siambr yma yn amlinellu fy mhryderon ynghylch annigonolrwydd y broses memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. I arbed amser, dwi ddim yn mynd i ailadrodd fy mhryderon i gyd, ond digon yw dweud bod yr amserlen dwi newydd ei hamlinellu ar gyfer craffu ar y memorandwm atodol yma yn siarad cyfrolau unwaith eto am y broblem barhaus gyda’r broses yma.
Mi wnaf i symud nawr at gasgliadau adroddiadau'r pwyllgor. Yn ein hadroddiad cyntaf, fe wnaethom ni fynegi pryder ynghylch y posibilrwydd o ddyblygu swyddogaethau Ynni Prydain Fawr a Trydan Gwyrdd Cymru, yn benodol sut y gallai gweithrediad y cwmni newydd effeithio ar allu Trydan Gwyrdd Cymru i gyflawni ei nodau yn llwyddiannus. Gwnaethon ni ofyn hefyd am eglurhad ynghylch unrhyw orgyffwrdd posib rhwng cylch gorchwyl, nodau a gweithrediad Ynni Prydain Fawr gydag Ynni Cymru, gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru.
Yn olaf, mi ddaethon ni i’r casgliad bod cymal 5 o’r Bil, sy’n ymwneud â blaenoriaethau strategol a chynlluniau Ynni Prydain Fawr, yn anfoddhaol. Y rheswm am hyn oedd, fel y cafodd ei ddrafftio bryd hynny, mi osododd cymal 5 ofyniad ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ymgynghori â Gweinidogion Cymru yn hytrach na chael eu cydsyniad ar gyfer unrhyw flaenoriaethau strategol sy’n ymwneud â materion datganoledig.
Ers ein hadroddiad, fel ŷn ni newydd ei glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau gwelliant i gymal 5 i fynd i’r afael â hyn. Y gwelliant hwnnw yw testun y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol a’n hail adroddiad ni fel pwyllgor. Er bod y gwelliant yn sicr yn gwella ar y sefyllfa ac yn adlewyrchu cyfrifoldebau datganoledig yn well, yn ein hadroddiad mi wnaethon ni ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y byddid yn ymgynghori â’r Senedd ar flaenoriaethau strategol o ran materion datganoledig yn y dyfodol, a dwi’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am fynd i’r afael â hynny yn ei sylwadau.
Dwi’n meddwl, efallai, roedd y cafeat ‘lle mae amser yn caniatáu’ yn fy ngwneud i damaid bach yn nerfus, ond dwi’n sicr yn cydnabod bod hynny yn welliant o’i gymharu â’r hyn oedd yn cael ei gynnig yn y lle cyntaf. Felly, gaf i ddiolch ichi am y sylwadau hynny? Gyda hynny, gwnaf i ddod â’m cyfraniad i ben.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Mike Hedges.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r pwyllgor wedi adrodd ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Gan mai dim ond ychydig dros wythnos yn ôl y llwyddodd Llywodraeth Cymru i osod memorandwm atodol, gosodwyd ein hail adroddiad brynhawn ddoe.
Mae adroddiadau'r pwyllgor wedi canolbwyntio ar y posibilrwydd o orgyffwrdd rhwng Great British Energy a Trydan Gwyrdd Cymru, a'r pwerau dirprwyedig yn y Bil. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi'n anodd penderfynu beth allai'r effaith fod o ran cymhwyso Great British Energy yn weithredol fel cwmni a gwrthdaro o ran cystadleuaeth o bosibl gyda Trydan Gwyrdd Cymru neu agweddau eraill ar swyddogaethau cyflawni ynni Llywodraeth Cymru.
Daeth y pwyllgor i'r casgliad yn ei adroddiad cyntaf ei fod yn pryderu y bydd gofyn i'r Senedd wneud penderfyniad ynghylch a ddylid cydsynio i'r Bil ai peidio heb wybod digon o fanylion am weithrediad arfaethedig Great British Energy ac felly ei effaith bosibl ar Trydan Gwyrdd Cymru. Yn ail adroddiad y pwyllgor, rydym wedi mynegi siom gydag ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'n pryderon. Er gwaethaf cyfaddefiad Llywodraeth Cymru ei bod yn anodd pennu'r effaith y gallai Great British Energy ei chael ar Trydan Gwyrdd Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgor nad oedd yn ystyried bod angen dealltwriaeth bellach o'r berthynas hon mewn perthynas â phenderfyniad cydsyniad y Senedd ar y Bil.
Rôl y pwyllgor yw peidio â chanolbwyntio ar rinweddau polisi neu fel arall sefydlu Great British Energy. Fodd bynnag, mae deddfu lle mae potensial hysbys am wrthdaro â buddiannau datganoledig Cymru yn fater y gellir hysbysu'r Senedd yn llawn amdano cyn y gofynnir iddi bleidleisio ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Senedd y DU.
Mae'r pwyllgor wedi derbyn bod memorandwm Rhif 2 wedi'i osod yn gyflym gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Serch hynny, mae'n destun gofid nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi digon o amser i'r Senedd ystyried yn ddigon manwl y materion a godwyd ym memorandwm Rhif 2 cyn cyflwyno'r cynnig heddiw.
O ran y pwerau dirprwyedig yng nghymal 6 y Bil, mae'r pwyllgor yn pryderu bod y cymal yn rhoi pwerau cyfarwyddo eang ar yr Ysgrifennydd Gwladol a allai gael effaith uniongyrchol ar feysydd datganoledig. Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd yn ymgynghori â hi cyn rhoi cyfarwyddyd o dan gymal 6, mae'r pwyllgor wedi gwneud y pwynt nad yw sicrwydd yn rhwymo Llywodraeth y DU.
Ar ben hynny, gan fod gofyn i'r Senedd wneud ei phenderfyniad cydsynio yn absenoldeb sicrwydd ynghylch effaith Great British Energy, dywedodd y pwyllgor y dylid diwygio'r Bil i gynnwys rôl ffurfiol i'r Senedd mewn cysylltiad ag arfer unrhyw bwerau dirprwyedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet oedd y byddai'r gwelliant i gymal 5 a'r sicrwydd a gafwyd gan Lywodraeth y DU o ran cymal 6
'yn ddigon i'r Senedd wneud penderfyniad cydsynio ar gyfer y Bil.'
Nid yw hyn yn adlewyrchu'r Senedd yn ddigonol fel corff deddfwriaethol democrataidd dilys i Gymru ac nid yw'n mynd i'r afael â'r ffaith y bydd y Senedd yn cael ei gwthio i'r ochr wrth arfer y pwerau dirprwyedig yn y dyfodol. Mae'r pwyllgor yn bwriadu ystyried y rôl y gall y Senedd fod â hi cyn i Weinidogion Cymru gydsynio i Weinidogion y DU wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig.
Wrth gloi, mae'r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ar ryngweithiad y Bil â rhwymedigaethau cytundeb masnach a chydweithrediad y DU a'r UE, ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ymateb llawn yr Ysgrifennydd Cabinet.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Great British Energy heddiw, gan ei bod yn enghraifft arall eto o arfer Llafur o or-addo a thangyflawni.
Addawodd Syr Keir Starmer y byddai GB Energy yn gostwng biliau cartrefi £300 ac yn creu 1,000 o swyddi newydd yn Aberdeen, ond o fewn wythnosau, mae'r realiti yn dod i'r amlwg. Mae cadeirydd GB Energy ei hun yn cyfaddef y gallai cyflawni'r addewidion hyn gymryd dros 20 mlynedd, ac, hyd yn oed yn waeth, yn y tymor byr, bydd nifer y swyddi a grëwyd tua 200 neu 300—ymhell o'r 1,000 a addawyd yn ystod yr etholiad. Mewn dinas lle mae 50,000 o bobl yn gweithio ym maes olew a nwy, dim ond piso dryw bach yn y môr yw hyn.
Mae Llafur yn honni y bydd GB Energy yn helpu gweithwyr i bontio o danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy, ond eto does dim cynllun. Mae undebau fel Unite yn rhybuddio am anobaith yn y gogledd-ddwyrain, tra bod Prospect yn galw dull Llafur yn 'beryglus' ac yn rhybuddio am ganlyniadau andwyol yn wleidyddol pan nad yw'r addewidion gwag hyn yn cael eu cyflawni. Roedd hyd yn oed Gweinidog ynni Llafur ei hun, Michael Shanks, yn ei chael hi'n anodd amddiffyn y niferoedd hyn.
Ac nid am Aberdeen yn unig y mae hyn; rydym yn Senedd Cymru, mae'n ymwneud â dyfodol diogelwch ynni'r DU. Nid yw GB Energy yn gyflenwr pŵer, nid yw'n generadur pŵer, mae'n gerbyd buddsoddi tybiedig sy'n cystadlu yn erbyn cerbydau buddsoddi eraill. Ni fydd—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Rwy'n hapus i ildio.
Diolch. Mae llawer o'r cyfryngau buddsoddi yn eiddo i Lywodraethau gwledydd eraill. Llywodraeth Norwy sy'n berchen ar gronfa fuddsoddi fawr ym maes ynni adnewyddadwy ledled y byd. Siawns, ar gyfer ynni a gynhyrchir ar y tiroedd hyn, nad yw hi'n hurt i'n Llywodraeth ni ein hunain fod eisiau manteisio ar hynny er budd ein dinasyddion ni yn hytrach na budd dinasyddion gwledydd eraill.
Ond yr hyn sydd gennym ni yma yw cystadleuaeth yn erbyn cyfryngau buddsoddi eraill sy'n llawer mwy aeddfed ac sydd eisoes yn cyflawni, ac mae'r cynllun sydd gan GB Energy yn anhygoel o wan; mae'r manylion ymhell o fod yn gynhwysfawr o ran yr hyn y mae GB Energy yn mynd i'w gyflawni mewn gwirionedd.
Ac ni fydd yn gostwng biliau yfory; ni fydd yn gostwng biliau y flwyddyn nesaf na hyd yn oed mewn pum mlynedd. Ni allai cadeirydd GB Energy Juergen Maier hyd yn oed ddweud pryd y byddai'r arbedion chwedlonol o £300 yn digwydd. Felly, gwnaeth Llafur gamarwain y cyhoedd i gredu y byddai'r cynllun hwn yn arbed cannoedd o bunnau iddynt, yr ymgyrchon nhw arno yn yr etholiad cyffredinol, ac eto mae prisiau ynni yn codi.
Rwyf i a chyd-Aelodau Ceidwadwyr Cymreig wedi cydnabod y cyfleoedd a ddarperir gan gyfnod pontio credadwy, sydd wedi'i gynllunio'n dda i ynni adnewyddadwy, un sy'n diogelu swyddi, yn sicrhau diogeledd ynni ac yn cydnabod y rôl gadarnhaol y bydd olew a nwy yn parhau i fod â hi, ond mae'r hyn y mae GB Energy yn ei gyflawni'n annigonol.
Fel y dywedodd Ysgrifennydd diogeledd ynni yr wrthblaid, Andrew Bowie AS, gimig yw hwn, nid ateb. Nid oes ganddo strategaeth, sylwedd na brys. Felly, ni allwn gefnogi cynnig sy'n cymeradwyo menter sy'n llawn ansicrwydd a risg. Nid yw Great British Energy yn ateb Prydeinig gwych, mae'n brosiect gwagedd gwleidyddol a fydd yn niweidio swyddi ac yn gohirio cynnydd go iawn. Am y rhesymau hyn, byddwn ni'n pleidleisio yn ei erbyn heddiw.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Nid wyf yn credu fy mod yn cytuno'n llwyr â nifer o'r honiadau a wnaeth llefarydd y Ceidwadwyr. Fodd bynnag, mae pryderon i'w cael ynglŷn â sut mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd. Yn anffodus, bydd Plaid Cymru'n pleidleisio yn erbyn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol heno, oherwydd yn syml, y ffaith nad ydym yn deall yn iawn i ble y bydd GB Energy yn mynd, sut y bydd yn rhyngweithio â mentrau eraill sy'n cynhyrchu ynni y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith a dyblygu gwaith posibl gyda Trydan Gwyrdd Cymru. Mae llawer o bethau nad ydyn nhw'n hysbys yn y polisi penodol hwn.
Mae'r Llywodraeth ei hun wedi dweud nad oes llawer o wybodaeth am nodau gweithredol ac ymarferol GB Energy—mae hynny'n peri pryder. Rwy'n deall rhai o'r consesiynau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi llwyddo i'w cyflawni gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, nid yw hynny'n rhoi'r hyder inni allu cefnogi'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw. Yr hyn y mae angen i ni ei weld yw beth yw GB Energy, ble mae'n mynd, sut mae'n mynd i ryngweithio â'r sefydliadau hynny yng Nghymru. Dyna'r peth pwysig yma—sofraniaeth Llywodraeth Cymru a'r lle hwn. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.
Yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb—Rebecca Evans.

Diolch yn fawr iawn. Diolch i'r cyd-Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ond diolch yn arbennig i Gadeiryddion y pwyllgorau a'r pwyllgorau am eu hadroddiadau defnyddiol iawn ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol.
Fe wnaf fyfyrio ar gyfraniadau meinciau'r Ceidwadwyr yn y ddadl hon a'r ddadl a gawsom ar Ynni Cymru yn gynharach y prynhawn yma. Mae'n ymddangos, er bod y Ceidwadwyr eisiau dweud eu bod yn cefnogi ynni adnewyddadwy, y byddant yn gwneud hynny, ond nid pan fydd yn golygu cadw'r buddion ym Mhrydain a chadw'r buddion yng Nghymru. Mae hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, yn siomedig iawn.
Rwyf eisiau dweud fy mod yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod yn llawn yr amserlen heriol sydd wedi bod i'r Bil a'r effaith y mae hynny wedi'i chael ar drefniadau craffu'r pwyllgorau. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau am eu goddefgarwch yn hynny o beth. Gosodwyd dros 100 o welliannau yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac yna roedd Cyfnod y Pwyllgor yn dipyn hirach na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Ond fe wnes i weithio'n adeiladol iawn gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwelliant Llywodraeth y DU, yr ydym wedi bod yn sôn amdano y prynhawn yma, yn cael ei osod ar y pwynt cynharaf posibl i alluogi cymaint o amser â phosibl ar gyfer gwaith craffu'r Senedd. Ac rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd o leiaf mewn perthynas â rôl y cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol hefyd y prynhawn yma i gyd-Aelodau.
Newid hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon i sefydlu Great British Energy i helpu i hwyluso ac annog datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy. Fel y mae cyd-Aelodau eisoes wedi ei gydnabod y prynhawn yma, mae gennym gyrff cyflenwi ynni ar waith yn cefnogi a datblygu prosiectau yma yng Nghymru, felly rydym mewn sefyllfa unigryw, rwy'n credu, i ddeall maint y dasg sydd o'n blaenau a pha mor hanfodol fydd gweithio mewn partneriaeth o ran Great British Energy. Trwy Trydan Gwyrdd Cymru, Ynni Cymru a gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, mae gennym wybodaeth fanwl iawn nawr am yr anghenion, ond hefyd y prosiectau posibl ledled Cymru.
Yn dilyn y trafodaethau cynnar hynny a gefais gyda Gweinidogion y DU, rwy'n rhagweld parhad yn y berthynas gadarnhaol â Great British Energy, Trydan Gwyrdd Cymru a'n cyrff cyflenwi ynni eraill, gan gynnwys Ynni Cymru, wrth i ni barhau i ysgogi buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru, i Gymru. Rwy'n gweld bod hwn yn gyfle gwirioneddol ar gyfer cydweithio cryf, yn hytrach na maes lle dylem fod yn poeni am ddyblygu, cystadleuaeth neu wrthdaro. Rwy'n credu bod cyfleoedd gwych i ni weithio gyda Great British Energy i wireddu'r potensial enfawr ar gyfer ynni adnewyddadwy sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni adael y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Yr eitem nesaf yw'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26. Dwi'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NDM8807 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 10 Rhagfyr 2024.
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n edrych ymlaen at y ddadl y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26, a gafodd ei chyhoeddi gennym ar 10 Rhagfyr. Diben y ddadl bellach hon heddiw yn bennaf yw clywed gan bwyllgorau'r Senedd a chymryd ystyriaeth o'u gwaith wrth graffu ar y gyllideb ddrafft a'i dogfennau cysylltiedig. Mae pob Ysgrifennydd Cabinet, gan gynnwys fi, i gyd wedi rhoi tystiolaeth i'r pwyllgorau perthnasol. Rydyn ni'n croesawu craffu adeiladol, ac rwy'n ddiolchgar i aelodau'r pwyllgorau, cydweithwyr yn y Cabinet a phawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses graffu. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn y broses o gytuno ar fanylion cain y gyllideb derfynol, felly mae heddiw yn gyfle hanfodol i safbwyntiau o wahanol rannau o'r Senedd gael eu cynnwys fel rhan o'r broses honno.
Cyn clywed gan Gadeiryddion y pwyllgorau ac Aelodau eraill, roeddwn i'n meddwl y dylwn yn fyr nodi prif nodweddion y gyllideb ddrafft. Mae hynny'n ymddangos yn arbennig o angenrheidiol o ystyried bod y gyllideb mor radical wahanol i rai o'r blynyddoedd cyni pan gawsom ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd a phoenus.
Llywydd, gyda'i gilydd, mae'r gyllideb yn darparu £1.5 biliwn ychwanegol i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a'n blaenoriaethau allweddol dros y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae hynny ar ben y £750 miliwn ychwanegol sydd ar gael yn y flwyddyn ariannol gyfredol, ac sy'n creu llwyfan newydd ac uwch i adeiladu'r gyllideb ar gyfer 2025-26. Mewn cyferbyniad llwyr â'r adeg hon y llynedd, rwyf wedi gallu darparu codiad i bob rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru, yn ogystal ag i lawer o feysydd pwysig eraill. Mae pob un o adrannau Llywodraeth Cymru yn derbyn cynnydd mewn cyllid cyfalaf a refeniw. Bydd meysydd allweddol, fel y GIG, llywodraeth leol, addysg, trafnidiaeth a newid yn yr hinsawdd i gyd yn elwa ar y cyllid ychwanegol hwn. Mae'r cynnydd ariannol mwyaf, fel y byddai Aelodau'n disgwyl, yn mynd i'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, tra bod y codiad canrannol mwyaf mewn refeniw wedi'i gymhwyso i'r portffolio trafnidiaeth ar gyfer yr holl waith rhagorol a wnaed ac a fydd yn parhau i gael ei wneud yno.
Llywydd, am y tro cyntaf, rydyn ni'n dyrannu mwy na £3 biliwn mewn buddsoddiad cyfalaf fel rhan o'r gyllideb ddrafft. Mae hyn yn fuddsoddiad mawr a'i angen i adeiladau ysgolion newydd a mwy o gartrefi, gwella seilwaith yn ein gwasanaeth iechyd, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, atgyweirio ffyrdd ac adnewyddu ein trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r cynnydd sylweddol hwn, mewn cynlluniau gwariant cyfalaf ar draws pob adran, yn gyfystyr â dyraniadau ychwanegol o £575 miliwn mewn un flwyddyn. Mae'r cyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu yn y gyllideb ddrafft yn ein galluogi ni i ailadeiladu ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein rhoi ar y llwybr angenrheidiol at dwf economaidd.
Drwy'r gyllideb ddrafft, rydyn ni'n darparu cyllid i sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru iachach, ar gyfer swyddi a thwf gwyrdd, i roi cyfle i bob teulu ac i gysylltu ein cymunedau.
Nawr, wrth ddyrannu'r cyllid sydd ar gael i ni, mae'r gyllideb ddrafft wedi'i hadeiladu i wneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael i ni at ddibenion y flwyddyn nesaf. Daw'r rhan fwyaf o hynny, wrth gwrs, trwy fformiwla Barnett ac mae'n ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed gan Ganghellor y Trysorlys yng nghyllideb yr hydref ar 30 Hydref. Ond, Llywydd, nid dyna'r cyfan sydd wedi'i gynnwys yn y gyllideb ddrafft, oherwydd yn ogystal â'r cyllid ychwanegol enfawr hwnnw a ddarparwyd gan Lywodraeth newydd y DU, mae'r adnoddau sydd wedi'u buddsoddi yn y gyllideb ddrafft o ganlyniad i'r penderfyniadau sydd wedi'u gwneud yn y Senedd hon. Fel yr eglurais i'r Pwyllgor Cyllid, nifer cymharol fach o ysgogiadau cyllidol sydd ar gael i ni o hyd, ond oherwydd y ffordd lwyddiannus maen nhw wedi'u cymhwyso yng Nghymru, mae £317 miliwn yn fwy i'w fuddsoddi yng nghyllideb y flwyddyn nesaf nag a fyddai wedi bod pe na baem wedi cael y llwyddiant hwnnw. Mae'n golygu y bydd un rhan o bump o'n cyllideb yn cael ei hariannu drwy drethiant datganoledig yn 2025-26.
Nid yw'n syndod, Llywydd, felly, fod y cynnydd yn y gyllideb ddrafft wedi cael ei groesawu gan lawer o’r rheini sydd wedi ymddangos gerbron pwyllgorau’r Senedd dros yr wythnosau diwethaf. Wrth gwrs, mae'r sefydliadau hynny'n dadlau, fel mewn unrhyw rownd cyllideb, am fwy o fuddsoddiad yn eu meysydd o ddiddordeb, ac mae hynny'n iawn hefyd, wrth gwrs. Cyfrifoldeb sefydliadau o'r fath yw pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy, ac rydyn ni'n gwrando'n astud ar y cyngor maen nhw'n ei roi i ni. Yn wir, prif ddiben y ddadl heddiw yw gwrando ar y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgorau a'r casgliadau maen nhw wedi'u llunio. Cyhoeddodd y pwyllgorau eu hadroddiadau a'u hargymhellion ddoe a byddwn yn ystyried eu canfyddiadau'n ofalus.
Yn y sylwadau agoriadol hyn, Llywydd, rwy'n gwneud y pwynt y byddech chi'n disgwyl i unrhyw Ysgrifennydd cyllid ei wneud, sef y bydd y cynigion hynny ar gyfer gwariant ychwanegol sydd wedi codi yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb yn cael eu cymryd o ddifrif, yn arbennig pan fyddant yn cael eu paru gan gynigion i leihau gwariant mewn mannau eraill. Oherwydd dyna'r unig ffordd, yr unig ffordd gyfrifol, y gellir dod o hyd i wariant ychwanegol yn y gyllideb ddrafft.
Llywydd, mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r ddadl hon, moment bwysig wrth graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru, yn aml wedi bod yn ddadl feddylgar a dylanwadol, gan fynd i'r afael â'r dewisiadau heriol hynny sydd y tu ôl i unrhyw gyllideb. Yn wir, mae gwneud cyllideb yn ymwneud â dewisiadau, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i fynd i'r afael â'r cyfyng-gyngor hwnnw, gan fanteisio nawr ar gyngor y Senedd wrth i ni ddod i'r camau olaf o wneud cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid nawr—Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae’n bleser gen i i wneud cyfraniad yn y ddadl yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Cyn imi droi at argymhellion penodol, hoffwn nodi bod yr adroddiad yma yn benllanw gwaith a ddechreuodd yr haf diwethaf. Mae hyn yn cynnwys ein gwaith ymgysylltu a sesiynau tystiolaeth cyn y gyllideb, yn ogystal â’n hymgynghoriad, a arweiniodd at y gyfradd ymateb uchaf i unrhyw un o’n hymgynghoriadau ar y gyllideb ddrafft hyd yma yn y Senedd hon. Rwy'n credu bod hyn yn dangos y teimlad cryf sy'n bodoli ynghylch goblygiadau'r penderfyniadau ariannu sy'n cael eu gwneud. Rydym yn croesawu’n fawr y lefel hon o ymgysylltu sy’n allweddol i’n gwaith.
Llywydd, rydw i am ddechrau drwy groesawu'r cynnydd yn y cyllid a ddarparwyd ar gyfer eleni ac ar gyfer 2025-26, yn wahanol i gyllidebau cyni blaenorol. Fodd bynnag, o’r dystiolaeth a glywsom, rydym yn ei chael yn anodd rhannu optimistiaeth Llywodraeth Cymru ac yn canfod bod nifer o feysydd allweddol lle mae angen i Lywodraeth Cymru ailffocysu.
Yn gyntaf, cawsom lawer o dystiolaeth gan sefydliadau sy'n pryderu ynghylch effaith y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Rydym o'r farn bod angen gweithredu ar frys i osgoi sefyllfa ymyl y dibyn i nifer o sefydliadau, ac rydym wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gadarnhau'r cyllid y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael gan y Trysorlys i liniaru effaith y cynnydd hwn; asesu'r effaith y bydd y cynnydd hwn yn ei chael ar sefydliadau trydydd sector; a gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall sut mae'r cynnydd yn effeithio ar wasanaethau a gomisiynwyd, a bod unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol yn seiliedig ar gyfrifiadau o gostau ychwanegol o ganlyniad i'r newid. Nodaf fod nifer o bwyllgorau eraill y Senedd wedi gwneud argymhellion tebyg yn eu hadroddiadau nhw, sy'n adlewyrchu cryfder y pryderon yn gryf, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwrando ar farn gyfunol y Senedd ar y materion hyn heddiw.
Yn ail, clywodd y pwyllgor hefyd dystiolaeth gref bod yr argyfwng costau byw wedi ymwreiddio ym mywydau beunyddiol llawer ledled Cymru, yn anffodus. Roedd hi'n syndod i ni fod Llywodraeth Cymru yn troi ei chefn ar ddarparu cymorth pwrpasol yn y maes hwn ac rydym o'r farn y dylai hyn fod yn flaenoriaeth uwch. Yn benodol, roeddem yn siomedig bod y grŵp arbenigol ar gostau byw a thlodi wedi'i roi o'r neilltu, ac rydym yn galw am sefydlu pwyllgor sefydlog y Llywodraeth yn ei le i gydlynu gweithredu.
Gwelsom hefyd fod diffyg cymorth mewn sawl maes. Er enghraifft, roeddem yn siomedig na fydd y cynllun bwndeli babanod a cham 3 Dechrau'n Deg yn cael eu cyflwyno'n gyffredinol ledled Cymru, ac yn gofyn am eglurder pellach ynghylch pam nad yw hyn wedi digwydd. Er ein bod yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru fecanweithiau ar waith i gefnogi pobl hŷn na fyddant yn cael taliadau tanwydd gaeaf mwyach, roedd ein tystiolaeth yn dangos nad yw'r nifer sy'n manteisio ymhlith y rhai sy'n gymwys mor uchel ag y dylai fod, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau i fynd i'r afael â hyn. O ystyried effaith anghymesur pwysau costau byw ar fenywod yn benodol, roedd y pwyllgor hefyd yn siomedig gyda'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran ei chynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhywedd, ac mae'n gofyn i'r rhain gael eu cyhoeddi ar frys.
Er gwaethaf y cyllid ychwanegol ar gyfer 2025-26, clywsom dystiolaeth gan randdeiliaid allweddol a oedd yn cwestiynu gwydnwch ariannol gwasanaethau rheng flaen. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru egluro'r camau sy'n cael eu cymryd drwy'r gyllideb ddrafft i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, gan gynnwys esbonio sut y bydd y gyllideb ddrafft yn mynd i'r afael â galwadau cynyddol am ofal cymdeithasol, a thrwsio'r model cyllido gofal cymdeithasol, a oedd, fel y clywsom, wedi torri'n sylfaenol. Rydym yn galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ystyried cyllid gwaelodol ar gyfer awdurdodau lleol, yn ogystal â darparu setliadau ariannu aml-flwyddyn iddynt er mwyn sicrhau mwy o sefydlogrwydd ariannol, a rydym hefyd yn gofyn am eglurder pellach ar y protocol sy'n cael ei ddatblygu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a fyddai'n berthnasol mewn amgylchiadau o her ariannol sylweddol.
Rydym hefyd yn pryderu am y lefelau cyllid a ddyrannwyd i leddfu pwysau'r gweithlu yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol, ac rydym am i Lywodraeth Cymru gadarnhau bod y cyllid a ddyrannwyd yn ddigonol i fynd i'r afael â'r heriau recriwtio a chadw sy'n cael eu hwynebu. Gofynnwyd gennym am sicrwydd tebyg mewn perthynas â'r cyllid a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol a'r rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd i bennu dyraniadau ar gyfer Trafnidiaeth Cymru.
Ffynhonnell arall o siom i'r pwyllgor oedd y ffocws annigonol ar y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â chynhyrchiant mewn gwasanaethau cyhoeddus, gyda rhanddeiliaid yn galw am 'onestrwydd radical' o fewn y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r mater. O ganlyniad, rydym wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i egluro sut mae cynhyrchiant yn cael ei asesu, yn ogystal â'r gwelliannau y mae'n disgwyl i wasanaethau cyhoeddus eu cynhyrchu.
Gwnaethom hefyd nodi nifer o feysydd lle mae angen mwy o ffocws er mwyn sicrhau tryloywder ar y mater hwn, gan gynnwys darparu rhagor o fanylion ar sut y bydd y dyraniad o £40 miliwn i'r gronfa buddsoddi mewn blaenoriaethau digidol yn cael ei werthuso; rhoi sicrwydd bod lefel y cyllid ar gyfer addysg a hyfforddiant gweithlu'r GIG yn ddigonol; a chyhoeddi manylion dyraniadau a wnaed i fyrddau iechyd lleol.
Rydym hefyd am brofi honiadau'r Ysgrifennydd Cabinet bod y gyllideb ddrafft yn symud arian i gefnogi mesurau ataliol, a'i fod yn gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i gytuno ar ddiffiniad wedi'i ddiweddaru o'r hyn a olygir gan wariant ataliol.
Llywydd, fel y soniais eisoes, mae'r gyllideb ddrafft hon yn rhoi hwb sylweddol o ran cyllid, ac rydym yn croesawu'r ffordd y cyflwynwyd y newidiadau hynny. Yn benodol, roeddem yn falch o'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd, a oedd yn cymharu ffigurau alldro diweddar â ffigurau arfaethedig ar gyfer 2025-26, dull yr hoffem iddo gael ei ailadrodd, yn ogystal â mwy o fanylion am symiau canlyniadol Barnett a dderbyniwyd. Fodd bynnag, clywsom y gellid gwella'r cyflwyniad mewn rhai meysydd, ac rydym wedi galw am eglurder ar sut y bydd hyn yn newid ar draws portffolios ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r effaith benodol ar brosiectau cyfalaf.
Gwnaethom hefyd argymhellion pellach yn y maes hwn, gan alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gyhoeddi'r data tryloywder diweddaraf ar y grant bloc i Gymru; adolygu'r asesiad effaith integredig strategol, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu'n gywir y ffyrdd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; ac egluro sut mae effeithiau risgiau ariannol hirdymor allweddol fel newid yn yr hinsawdd, tueddiadau demograffig ac iechyd yn cael sylw yn y tymor byr, canolig a hir. Fel bob amser, roeddem hefyd yn ddiolchgar i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol am ymgysylltu â ni, a gwnaethom sawl argymhelliad gyda'r nod o wella eu rhagolygon nhw hefyd.
Gan droi nawr at gysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol, mater o ddiddordeb hirsefydlog i'r pwyllgor yn dilyn ein hymchwiliad annibynnol y llynedd, rydym yn falch bod y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gwella, ond rydym yn rhannu rhwystredigaeth yr Ysgrifennydd Cabinet bod y cynnydd o ran diweddaru'r fframwaith cyllidol yn araf, ac yn ailadrodd galwadau i edrych ar hyn cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd yn croesawu symudiadau tuag at adolygiadau gwariant mwy rheolaidd, yn ogystal â'r wybodaeth a ddarperir am adolygiad gwariant Llywodraeth Cymru ei hun. Wedi dweud hynny, hoffem gael eglurder pellach ynghylch sut y bydd adolygiad Cymru yn gweithredu'n ymarferol a'r allbynnau tebygol, fel bod y Senedd yn gallu cael ei hysbysu am ei gynnydd.
Yn olaf, mae'r pwyllgor hwn wedi beirniadu'n rheolaidd yr amser sydd ar gael i bwyllgorau graffu ar y gyllideb ddrafft. Wrth graffu ar £26 biliwn o arian cyhoeddus, mae ychydig dros fis yn fawr ddim o amser.
Rydym yn croesawu’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cydnabod yr heriau hyn, ac edrychwn ymlaen at gynnal ein gwaith rhag-gyllidebol cyn y cylch cyllidebol nesaf, yn ogystal â cheisio barn y pwyllgorau ar sut y gellir gwella’r broses graffu o fewn cyfyngiadau’r amserlen. Rydym hefyd yn croesawu ymgysylltu parhaus yr Ysgrifennydd Cabinet ar ddiweddaru protocol y gyllideb, ac edrychwn ymlaen at fwrw ymlaen â’r materion hynny wrth i ni nesáu at ddiwedd y Senedd hon.
I gloi, hoffwn adleisio teimladau a fynegwyd ar ddechrau fy nghyfraniad. Rydw i bob amser wedi dweud, fel Cadeirydd, y byddaf yn cael fy arwain gan farn y rhai sydd wedi cymryd yr amser i ymgysylltu â ni, ac nid yw eleni’n eithriad. Mae'r adroddiad hwn yn nodi meysydd clir lle mae angen mwy o ffocws a lle y dylid gwneud gwelliannau. Edrychwn ymlaen at glywed sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu hystyried cyn y gyllideb derfynol. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a Sam Rowlands sy'n cynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Sam Rowlands.
Gwelliant 1—Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n falch hefyd o gynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies. Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gymryd yr amser i gael sesiwn briffio cyn y gyllideb ddrafft fis diwethaf. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.
Mae hon, wrth gwrs, yn foment yn y calendr sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng pleidiau yn y Siambr hon, a bydd yn dangos y gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Lafur sy'n gosod cyllideb ddrafft a Phlaid Geidwadol sydd am drwsio Cymru. Mae'n rhoi eglurder o ran y ffordd rydym yn gweld y potensial ar gyfer dyfodol Cymru, oherwydd, fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, mae'r ffordd y caiff arian ei wario yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am ddewisiadau a blaenoriaethau, ac, wrth gwrs, un o'r ffyrdd gorau o ragweld ymddygiad yn y dyfodol a dewisiadau yn y dyfodol yw trwy edrych ar ymddygiad yn y gorffennol a dewisiadau yn y gorffennol. Yn y lle hwn, rydym wedi cael mwy na chwarter canrif o gyllidebau a gyflawnwyd gan Lywodraethau dan arweiniad Llafur yma yng Nghymru, wedi'u cynnal yn aml gan blaid Plaid Cymru, ac, fel y mae hi, rydym wedi cael rhestrau aros hiraf y GIG, y canlyniadau addysgol gwaethaf unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, mae gennym y gweithredwr rheilffordd lleiaf poblogaidd ym Mhrydain, ac mae ein ffermwyr yn wynebu treth cosbol ar ffermydd teulu diolch i'r Blaid Lafur yn Llundain. Mae busnesau yng Nghymru yn wynebu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain a nawr mae Llafur yn Llundain yn gosod codiadau mewn yswiriant gwladol ar gyflogwyr yng Nghymru a fydd yn gweld prisiau'n codi, swyddi'n cael eu colli a busnesau lletygarwch yn wynebu methdaliad.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs.
Diolch. Fe glywais i eich cyfweliad ar y radio y bore yma, ac unwaith eto, fe wnaethoch chi nodi rhestr hir o feysydd polisi lle roeddech chi o'r farn bod y Llywodraeth yn methu, ond, o ran cynigion cyllideb, hyd y gallwn i glywed, yr unig beth roeddech chi'n ei awgrymu oedd torri ardrethi busnes, ond dydych chi ddim wedi dweud wrthym o ble y byddech chi'n symud arian er mwyn ariannu'r toriad hwnnw. Felly, lle y byddech chi'n gwneud y toriad er mwyn ariannu'r fenter wych hon o roi 'rhyddid' i bobl, dwi'n meddwl mai dyna wnaethoch chi ei ddweud, y bore yma?
Rwy'n ddiolchgar am yr ymyrraeth munud yn unig i mewn i gyfraniad 10 munud. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n edrych ymlaen at y naw munud nesaf i glywed mwy o hyn. Ond, wrth gwrs, yr hyn y mae'r canlyniadau polisi hynny'n pwyntio ato yw lle mae cyllid yn cael ei gyfeirio: maen nhw i gyd oherwydd penderfyniadau cyllidebol. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cydnabod hynny. Ac yn lle arian ar gyfer ysgolion, penderfynodd y Llywodraeth Lafur hon wario arian ar osod y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20 mya yng Nghymru, a gafodd 0.5 miliwn o lofnodion yn ei wrthwynebu—y mwyaf erioed yn hanes y Senedd. Meddyliwch am yr holl arian hwnnw a wariwyd ar 20 mya, y gellid ei ddefnyddio i hyfforddi a recriwtio gweithlu ysgolion, i sicrhau bod addysg yng Nghymru yn gadarn dros y degawdau nesaf. Yn hytrach, rydym ar waelod y pentwr o ran sgorau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, ac, yn anffodus, yn dioddef draen dawn.
Mae blaenoriaethau gwariant Llafur wedi bod yn anghywir. Yn ddiweddar, dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid
'Mae gan Gymru ormod o ysbytai a gormod o welyau'.
Daw hyn wrth i ni ddisgwyl etifeddiaeth o 36 yn fwy o wleidyddion yn y Senedd. [Torri ar draws.] Dydy'r Aelodau ddim yn hoffi clywed geiriau sy'n cael eu dyfynnu'n ôl iddyn nhw gan eu Haelodau eu hunain—yr union eiriau a ddyfynnir gan eu Haelodau eu hunain. Ac mae hyn i gyd yn costio ymhell dros £100 miliwn i gael mwy o Aelodau'r Senedd. Mae'n ymddangos i mi fod Llafur Cymru yn hapus i wario mwy o arian ar wleidyddion, ond dim mwy o arian ar welyau mewn ysbytai.
Yn ein rôl o graffu ar y Llywodraeth hon, rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut y gall y blaenoriaethau anghywir atal cenedl a chynnydd ei phobl, o blant ysgol i weithwyr y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae angen newid arnom, ac rwy'n edrych ymlaen at etholiadau nesaf y Senedd, oherwydd ein ffocws ni yw trwsio Cymru, trwsio ein system iechyd, trwsio ein haddysg a thrwsio economi Cymru.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i drethiant, ac mae'r baich ar bobl ledled Cymru a gweddill Prydain yn rhy uchel. Rydym eisiau dull newydd, ac mae gan Lywodraeth Cymru ddulliau o leihau'r baich treth ar bobl ledled Cymru a rhoi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl sy'n gweithio'n galed, ac mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r dulliau hyn.
Ni fydd y gyllideb ddrafft hon o'n blaenau heddiw yn rhoi cyfeiriad newydd, trawsnewidiol i ni. Yr un uniongrededd Llafur aflwyddiannus ydyw, yr un dull gwleidyddol aflwyddiannus sydd wedi bod gennym ers degawdau ac, yn anffodus, mae wedi arwain at y canlyniadau rwyf wedi'u rhestru'n flaenorol.
Fel Ceidwadwyr, rydym yn credu mai rôl y Llywodraeth, ac felly ei chyllideb, yw creu'r amgylchedd cywir i alluogi a grymuso pobl. Gallai hyn fod er mwyn darparu ar gyfer eu teulu eu hunain, dechrau busnes, dilyn syniadau newydd drwy astudio, neu gefnogi eraill drwy gyflogaeth neu ddyngarwch. Rydym o'r farn y dylai cyllideb adlewyrchu'r gweithgareddau hyn. Felly, rydym eisiau cyllideb sy'n grymuso pobl Cymru, yn lle grymuso cwangos a biwrocratiaid; rydym eisiau cyllideb sy'n cymryd y baich oddi ar fusnesau yn hytrach na gosod trethi gormodol arnynt, trethi ac ardrethi busnes gormodol. Rydym eisiau cyllideb, Llywydd, i drawsnewid rhagolygon Cymru a thanio'r economi. [Torri ar draws.] Galluogi pobl i wella eu canlyniadau—
Mae angen i mi gael rhywfaint o dawelwch i glywed Sam Rowlands a'i gyfraniad, felly allwn ni, os gwelwch yn dda, glywed Sam a chaniatáu iddo barhau, os gwelwch yn dda?
Diolch, Llywydd. Galluogi pobl i wella eu canlyniadau, dyna ddylai'r targed fod, nid Llywodraeth nawddoglyd sy'n ceisio cynnwys ei hun ym mhob rhan o fywyd pawb, ideoleg o oes a fu sydd wedi methu â llwyddo yng Nghymru ac sy'n methu ac yn parhau i fethu—
Plîs, mae yna aelodau o'r meinciau cefn, yn enwedig o feinciau'r Blaid Lafur, sy'n cael sgyrsiau ar draws y Siambr, ac mae angen i ni glywed cyfraniadau'r Aelodau sydd ar eu traed. Mae hon yn ddadl bwysig ar y gyllideb ac mae gan bobl bethau i'w dweud. Efallai na fyddwn ni'n cytuno â phopeth y mae pawb yn ei ddweud, ond caniateir i bawb gael y llais hwnnw a gwneud y cyfraniadau hynny. Sam Rowlands.
Diolch, Llywydd. Enghraifft fyw o un o'r dulliau ideolegol aflwyddiannus hyn yw'r cynigion yn y gyllideb ddrafft hon ar gynyddu maint cyllideb ganolog y Llywodraeth drwy ei chyllideb gwasanaethau canolog. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gwelwyd gwerth £117 miliwn o gynnydd pellach i'r maes hwn. Mwy o swyddi ystafell gefn. Cynnydd o 34 y cant yn y gyllideb gwasanaethau canolog mewn tair blynedd. Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw le yn agos at y cynnydd hwnnw mewn cyllid ar gyfer ein gwasanaeth iechyd a'n haddysg, sydd mewn angen dybryd am y cymorth ychwanegol hwnnw.
Ac, wrth gwrs, mae'r swyddi hyn wedi ehangu a chynyddu heb unrhyw gynnydd cyfatebol mewn perfformiad yn ein heconomi hefyd. Mae'n enghraifft glasurol o lle mae Llywodraeth Cymru yn mynd o'i le—ffocws obsesiynol ar ganoli a swyddi'r Llywodraeth ar draul ymddiried mewn pobl i wario eu harian eu hunain yn y ffordd maen nhw'n ystyried sydd orau iddyn nhw a'u teuluoedd.
Nawr, gan gymryd eiliad i edrych ar feysydd allweddol y gyllideb ddrafft, gan ddechrau gydag iechyd, GIG sy'n gweithredu'n dda yw'r hyn y mae pobl ei eisiau, sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio lle mae ei angen, ond sydd hefyd yn hawdd cael mynediad ato. Yn anffodus, yr unig Lywodraeth ar draws y DU i dorri cyllideb iechyd oedd Llywodraeth Lafur Cymru, ac maen nhw'n gwrthod gwario'r swm llawn o gyllid canlyniadol Barnett ar gyfer iechyd ar iechyd. Felly, nid yw'n syndod bod pethau wedi torri. Mae dros 100 o feddygfeydd wedi cau yng Nghymru ers 2012. Mae wedi gwthio ein rhestrau aros i'r dibyn, gyda 24,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, a llai na 50 y cant o siawns o weld ambiwlans o fewn yr amser targed o wyth munud mewn argyfwng. Mae cymaint mwy y gellid ei wneud gyda gwasanaeth iechyd â'r cyllid a'r adnoddau priodol os ydych chi'n gweithio'n effeithlon ar draws y sector ac ar draws ffiniau i fynd i'r afael ag amseroedd aros a galluogi pobl i ffynnu mewn iechyd da.
Rydym yn gwybod mai addysg yw'r ffordd orau i bobl wneud cynnydd, felly mae gwariant yn y maes hwn yn allweddol i weld pobl yn gallu camu ymlaen mewn bywyd. Yn anffodus, mae 20 y cant o blant sy'n gadael ysgol gynradd yn methu darllen. Mae gennym argyfwng recriwtio a chadw difrifol, gyda chwricwlwm newydd sy'n gweld 'trylwyredd' fel gair budr ac sy'n lleihau nifer y cymwysterau sydd ar gael i'n pobl ifanc. Nid oes dim yn y gyllideb hon yn rhoi hyder i mi y bydd hyn yn newid.
Mae'r gyllideb addysg ond wedi derbyn cynnydd o 1.5 y cant. Nid yn unig y mae'r cynnydd hwn yn bitw yn erbyn y cynnydd o 34 y cant yn y gyllideb gwasanaethau canolog, nid yw'r arian hwnnw'n cael ei wario ar y pethau sydd eu hangen i helpu ein plant a'n pobl ifanc i gyflawni yn yr ysgol a chael y cymwysterau hynny a fyddai'n trawsnewid eu bywydau go iawn. Byddwn ni'n trwsio addysg yng Nghymru gyda chynllun wedi'i ariannu'n briodol ac yn rhoi hyder i rieni y bydd eu plant yn cael y cyfleoedd i gyflawni ac i ffynnu mewn bywyd.
Sylfaen arall sy'n galluogi pobl i ffynnu yw tai priodol, ond, o dan Lafur, mae yna ormod o bobl sy'n methu fforddio cartrefi gweddus yng Nghymru. Os edrychwn ni ar y grant tai cymdeithasol, mae Archwilio Cymru wedi galw am £780 miliwn ychwanegol dim ond i ddatblygu'r cartrefi sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Mae'r gyllideb hon wedi dyrannu £81 miliwn yn unig i alluogi pobl i gael eu cartref eu hunain. Mae problemau gyda nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu'n ehangach. Y llynedd, gwelwyd yr ail nifer isaf o dai newydd yn cael eu cwblhau yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau, gydag allbynnau adeiladu tai ar gyfartaledd—
A wnewch chi gymryd ymyrraeth, Sam?
—yn gostwng 45 y cant ers y 1990au. Wrth gwrs.
Felly, rydych chi wedi rhestru eich blaenoriaethau, ac rwy'n deall, o'r hyn rwyf wedi'i glywed, y blaenoriaethau hynny, ond yn amlwg dydyn nhw ddim yn flaenoriaethau i'ch Plaid Geidwadol, oherwydd dydy eich arweinydd chi ddim yma. Pe baen nhw'n flaenoriaethau, fyddai e ddim wedi rhoi Donald Trump fel y flaenoriaeth. Felly, ble mae eich arweinydd ar gyfer y drafodaeth heddiw?
Fel y gŵyr yr Aelod, dyma'r ddadl ar y gyllideb ddrafft. Fi yw llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n fwy nag abl i siarad ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn y Siambr hon yma heddiw.
Byddai Llywodraeth sydd o ddifrif am alluogi pobl i lwyddo yn sicrhau bod adeiladu tai yn flaenoriaeth, ac nid yw'n gofnod o Lywodraeth lwyddiannus. Mae'r gyllideb ddrafft hon yn dangos nad yw Llafur Caerdydd yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r phroblemau tai sy'n ein hwynebu.
I orffen, Llywydd, rwy'n bendant nad oes rhaid i bethau fod fel hyn. Gall pethau fod yn well na 25 mlynedd o uniongrededd Llafur aflwyddiannus, wedi'i gynnal gan Blaid Cymru, dro ar ôl tro. Gallem gael cyllideb a fyddai'n creu'r amgylchedd cywir i alluogi a grymuso pobl i ddarparu ar gyfer eu teulu, i ddechrau busnes, i ddilyn syniadau newydd trwy astudio ac i gefnogi eraill. Byddwn wrth fy modd pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Prif Weinidog yn gwneud newidiadau sylweddol cyn i'r gyllideb derfynol ddod, ond wnaf i ddim dal fy ngwynt, ac os na fyddan nhw'n gwneud hynny, yna symudwch o'r ffordd, caniatewch i ni arwain a gwneud y newidiadau i drwsio Cymru. Diolch.
Wel, efallai y gall y siaradwr blaenorol siarad ar ran ei blaid ond, yn sicr, all e ddim pleidleisio ar ran y ddau Aelod coll, ac rydym ni, yn sicr, yn falch o fod yma i fwrw ein pleidlais dros bobl Cymru.
Mi hoffwn innau ddechrau drwy ddiolch i'r holl bwyllgorau am eu gwaith craffu trylwyr ar y gyllideb hon. Roeddwn i'n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod ar ddechrau'r ddadl pa mor bwysig ydy'r broses craffu. Mae'n un hanfodol. Mae o'n rhan sylfaenol o'n democratiaeth ni, ac yn amlwg yn un trawsbleidiol, a dwi'n mawr obeithio clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw sut fydd y Llywodraeth yn adlewyrchu ar yr argymhellion hyn wrth lunio cyllideb derfynol, oherwydd mae'n rhaid imi gyfaddef, mi oeddwn i'n siomedig clywed ymateb y Prif Weinidog yn gynharach heddiw i gwestiynau teg iawn Rhun ap Iorwerth ar y gyllideb ddrafft, ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a hefyd y cwestiwn teg o ran gofyn am ddiweddariad ynglŷn â sicrhau fformiwla gyllido teg i Gymru. Nid cwestiynau pleidiol wleidyddol mo'r rhain. Maen nhw'n gwestiynau mae nifer o bobl Cymru eisiau gwybod yr atebion iddyn nhw, yn sefydliadau, yn elusennau, yn fusnesau. A drwy ymosod arnom ni, mae'r Prif Weinidog, mae arnaf i ofn, yn ymosod arnyn nhw.
Oherwydd, er gwaethaf y rhethreg, ac er bod y gyllideb hon yn debygol o fod yn well na'r un a fyddem wedi ei chael gan Lywodraeth Geidwadol, mae pob dadansoddiad annibynnol, pob sector sydd mewn argyfwng, yn dangos yn glir nad ydy'r gyllideb ddrafft yn mynd i arwain at ddyfodol disglair i Gymru, fel dywedwyd wrth ei chyhoeddi hi. Ac yn hytrach na galw enwau ar Blaid Cymru, a cheisio ein bwlio ni i bleidleisio o blaid cyllideb sy’n annigonol o ran diwallu anghenion pobl Cymru, gawn ni heddiw gael trafodaeth aeddfed am yr heriau parhaus i Gymru, oherwydd nad ydym yn cael ein cyllido'n deg? Ac fe ddylem ni fod yn ailymrwymo, fel Senedd, i gydweithio i sicrhau cyllid teg i Gymru, a'r grymoedd i allu rheoli ein hadnoddau yn fwy effeithiol ac yma yng Nghymru.
Felly, rydym wedi clywed llawer am y bartneriaeth mewn grym, fel y'i gelwir, ond y tu hwnt i'r rhethreg, mae'n amlwg nad yw'n cyflawni dros Gymru. Fe osododd y Torïaid far isel iawn o ran cyllid i Gymru. Mae'r ffaith bod dau Aelod ar goll o'u meinciau heddiw, gan gynnwys yr arweinydd, yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am yr hyn maen nhw'n ei feddwl o Gymru.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf.
Ddylech chi ddim bod yn siarad am 'bartneriaethau mewn grym'; rydych wedi bod yn cynnal y Llywodraeth Lafur yma ers tair blynedd. A fyddech chi'n derbyn eich bod wedi cyfrannu rhywfaint at rai o'r prosesau hyn yma yr ydym yn eu trafod heddiw?
Roedd yna gytundeb cydweithio. Mae gwleidyddiaeth aeddfed yn gofyn am gydweithio. Mae hefyd yn gofyn am ddod i bleidleisio ar bleidleisiau hanfodol. Ac os ydych chi am gymryd eich rôl fel gwrthblaid o ddifrif, rydych chi'n troi i fyny ac yn pleidleisio ar ddiwrnodau fel hyn.
Felly, er y gall Llafur ddweud, yn gywir, ei bod yn gyllideb well nag y byddem wedi'i chael o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, gadewch i ni fod yn glir ei bod yn parhau i fod yn annigonol, ac nad yw pwy bynnag sy'n gyfrifol am yr allweddi i 10 Downing Street yn blaenoriaethu darparu cyllid teg i Gymru, er gwaethaf yr holl addewidion sy'n cael eu gwneud yn y cyfnod cyn etholiadau cyffredinol, hyd yn oed ar y materion lle rydym wedi cytuno fel Senedd y dylem dderbyn y cyllid—cyllid canlyniadol HS2.
Felly, beth mae'r broses graffu wedi'i chanfod? A dwi'n edrych ymlaen at glywed gan gadeiryddion y pwyllgorau. Wel, fel y clywsom ni, miliynau o bunnoedd yn cael eu taflu tuag at ddatrysiadau tymor byr yn y gwasanaeth iechyd, ar draul buddsoddi yn yr elfen ataliol. Setliad i lywodraeth leol sydd ddim am leddfu'r pwysau ariannol sy'n eu hwynebu, sy'n mynd i arwain at ddewisiadau poenus iawn ledled y wlad o ran trethi cyngor a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ar lawr gwlad. Ein prifysgolion a'n sefydliadau diwylliannol yn gorfod torri swyddi yn eu cannoedd, a lleihau'r hyn maen nhw'n ei gyflawni, a dydy hyn ddim jest yn effeithio ar y sefydliadau hyn; mae o'n effeithio ar economi Cymru. Elusennau a mudiadau hollbwysig yn y trydydd sector yn wirioneddol ar y dibyn, yn barod yn diswyddo staff ymroddgar ar ôl penderfyniad niweidiol San Steffan i godi cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr heb asesu goblygiadau hyn ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus.
Does dim syndod, felly, fod y Pwyllgor Cyllid wedi dod i’r union un casgliad â ni o ran diffygion y gyllideb ddrafft. A gan ystyried yr heriau aruthrol sy’n wynebu ein cenedl, gan gynnwys rhestrau aros sy’n cwmpasu 20 y cant o’r holl boblogaeth, dirywiad difrifol mewn safonau addysgol, sectorau megis addysg uwch a’r celfyddydau’n wynebu argyfwng ariannol eithafol, ac economi sydd yn parhau i danberfformio, mae’n hen bryd bod buddiannau’r genedl yn dod o flaen rhai pleidiol, ac ein bod ni i gyd yn mynnu mewn un llais llawer gwell dros Gymru.
Wedi’r cyfan, sut all y Llywodraeth addo ar un llaw dyfodol disglair i Gymru, tra’n cydnabod na fydd syniad clir gennych o ran effaith gwirioneddol y cynnydd mewn yswiriant gwladol tan ar ôl y bleidlais derfynol ar y gyllideb? Dyna mae’r craffu wedi’i ddangos. Rydyn ni angen gwybod faint o arian sydd wirioneddol ar gael i Gymru, oherwydd dydy hynny ddim yn glir. A sut allwch chi honni bod y gyllideb yn cynrychioli setliad hael gan eich partneriaid mewn grym pan eich bod chi’n gorfod delio ag anghyfiawnder sylfaenol fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio i benderfynu ad-daliadau o’r Trysorlys ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd, a fydd yn gadael Cymru ar ei cholled o'i chymharu â Lloegr? A sut allwn ni sôn am optimistiaeth pan ydych chi wedi cadarnhau nad yw’r Llywodraeth mewn sefyllfa i gefnogi mudiadau trydydd sector sydd rŵan yn wynebu costau ychwanegol sylweddol o fis Ebrill ymlaen, gyda sawl yn rhybuddio y byddan nhw’n debygol o fynd i’r wal yn gyfan gwbl?
Mae’r amgylchiadau difrifol presennol yn galw am Lywodraeth sydd o ddifrif ynglŷn â chynnig ymatebion hirdymor ac effeithiol, ac mae’n glir o’r broses graffu nad dyma’r Llywodraeth sydd gan Gymru ar y funud. Felly, o ran y cynigion sydd gerbron heddiw, mi fyddwn ni’n pleidleisio yn erbyn y gyllideb ddrafft. Mae angen cyllid teg ar Gymru; mae angen inni fod yn unedig yn mynnu hynny. Mi wnaeth Llafur Cymru addo hynny i bobl Cymru; dyna pam dydyn ni ddim yn cefnogi’r gyllideb ddrafft.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy fyfyrio ar y manylion a gafodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i lywio ei waith craffu ar y gyllideb ddrafft. Unwaith eto, ailddatganodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i archwilio gwella lefel yr wybodaeth mae'n ei darparu am wariant ar weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyfiawnder. Fodd bynnag, yn anffodus, roedd yr wybodaeth a ddarparwyd ar y gyllideb ddrafft yn llai cynhwysfawr na'r hyn a ddarparwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi'r gwaith mae wedi'i wneud hyd yma, a'r gwaith mae'n bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn y maes hwn.
Gwnaethom groesawu'r adnoddau ychwanegol sydd wedi'u pennu yn y gyllideb ddrafft ar gyfer trawsnewid cyfiawnder a diwygio cyfansoddiadol. Fodd bynnag, o ystyried bod yr adnoddau ychwanegol hyn yn gymharol fach, yn ôl pob golwg, argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth am ba ffrydiau gwaith y bydd yr arian ychwanegol hwn yn eu cefnogi.
Croesawodd y pwyllgor hefyd y dyraniad cynyddol ar gyfer gweinyddu'r tribiwnlysoedd datganoledig. Fel pwyllgor, rydym o'r farn ei bod yn hanfodol bwysig o ran cael mynediad at gyfiawnder bod gan y tribiwnlysoedd yr adnoddau priodol. Gwnaethom argymell hefyd y dylid cyflwyno deddfwriaeth bwysig i ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru i'r Senedd o fewn amserlen a fydd yn sicrhau bod modd ei phasio cyn diwedd y chweched Senedd.
Yn olaf, gwnaethom nodi yn ein hadroddiad yr wybodaeth gyfyngedig a gafodd y pwyllgor eleni ar raglen Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Roedd hyn yn anffodus, ac felly rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw wedi gallu rhoi manylion am eitemau unigol o wariant wedi'i gynllunio i gefnogi'r rhaglen, fel y mae wedi gallu gwneud mewn blynyddoedd blaenorol.
Fy marn hefyd ar y gyllideb: unwaith eto, mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn feirniadol o'r gyllideb, ond maen nhw naill ai'n analluog neu'n gwrthod llunio cyllideb amgen. Mae ganddyn nhw'r ffigurau; fe allan nhw gynhyrchu un. Os ydych chi'n llunio cyllideb, yna allwch chi ddim addo mwy o arian i bawb heb ei dynnu o rywle arall yn y system. I'w helpu, awgrym: capio taliadau fferm sylfaenol ar £50,000. Mae 380 o fusnesau fferm sy'n derbyn rhwng £50,000 a £100,000, a 60 sy'n derbyn dros £100,000. Gallai hyn ariannu taliadau i bensiynwyr tlotach. Rwy'n awgrymu y dylai'r rheini a budd-daliadau eraill, nid credydau pensiwn yn unig, gael y taliadau tanwydd gaeaf. Un ar ddeg miliwn o bunnoedd mae'n ei gostio i dalu'r taliadau tanwydd gaeaf i bensiynwyr sy'n derbyn gostyngiadau i'r dreth gyngor; byddai dros 44,000 o bensiynwyr yn cael budd o hyn. A £5.4 miliwn, cost talu'r taliadau tanwydd gaeaf i bensiynwyr sy'n hawlio budd-dal tai; byddai tua 21,500 o bensiynwyr yn cael budd o hyn.
Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, rwy'n datgysylltu fy hun o'r datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ar ran y Pwyllgor Cyllid, y gwnes i ddim ei weld, heb sôn am ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi. Perthynas ddisylwedd sydd rhyngddo a'r hyn a ddywedwyd mewn adroddiad cytbwys, a pherthynas ddisylwedd sydd rhyngddo a'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd cyllid heddiw, a oedd yn gyfraniad cytbwys. Doeddwn i ddim yn cytuno â'r cyfan, ond rwy'n credu mai dyna sydd gennych chi mewn pwyllgor, mae gennych chi gydbwysedd yn dod allan, ond yn sicr doedd y datganiad i'r wasg ddim yn dderbyniol. A gaf i ddweud, os mai dyna'r ffordd y bydd pethau, dyma adroddiad unfrydol olaf y Pwyllgor Cyllid a fydd yn cael ei gynhyrchu tra byddaf i'n aelod o'r Pwyllgor Cyllid? Fydda i ddim yn ei gefnogi pan welwch chi rywbeth yn mynd allan mewn datganiad i'r wasg nad oes llawer o berthynas rhyngddo a'r hyn a ddywedwyd yn y pwyllgor.
Yn olaf, beth fydd yn digwydd os na wnawn ni—[Torri ar draws.] Yn olaf, beth fydd yn digwydd os na wnawn ni gytuno ar gyllideb? Beth fydd yn digwydd os na fydd cynnig cyllideb yn cael ei basio cyn 1 Ebrill y flwyddyn ariannol sydd i ddod? Bydd adran 127 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn dod i rym yn awtomatig. Byddai hyn yn rhoi awdurdod i Lywodraeth Cymru a chyrff sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol i wario adnoddau, cadw incwm a thynnu arian parod o gronfa gyfunol Cymru o 75 y cant o'r terfynau a gymeradwywyd yn y flwyddyn flaenorol. Byddai hyn yn achosi problemau difrifol i fyrddau iechyd. Os na fyddai cynnig cyllideb wedi'i basio o hyd erbyn diwedd mis Gorffennaf, ystyrir bod hyd at 95 y cant o derfyn y flwyddyn ariannol flaenorol wedi'i awdurdodi. Mae hyn yn golygu na fyddai'r arian ychwanegol a roddwyd i Gymru yng nghyllideb San Steffan yn gallu cael ei wario. Yn y pen draw, byddai gennym gyllideb a fyddai'n llai na'r llynedd, yn hytrach nag un a ddylai fod yn sylweddol fwy.
Mae cyllidebau awdurdodau lleol a'r dreth gyngor yn seiliedig ar ffigurau a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru gan eu bod yn y gyllideb ddrafft a'r setliad llywodraeth leol dros dro. Os nad oes ganddyn nhw hynny, rwy'n credu y gallaf warantu un peth: bydd yna awdurdodau lleol a fydd yn rhoi hysbysiad adran 114 na allan nhw barhau'n ariannol mwyach. Rydym naill ai'n pasio'r gyllideb neu dydyn ni ddim. Os na allwn ni basio'r gyllideb, barn nad yw pob un o'm cyd-Aelodau yn cytuno â hi, ond un rwy'n sicr yn ei wneud yw, os na allwn ni basio'r gyllideb, gadewch i ni gael etholiad a gadael i'r etholwyr benderfynu pwy maen nhw am ei weld yn rhedeg Cymru.
Mae'r gyllideb ddrafft hon yn frith o economïau ffug, mwg a drychau. Mae ein helusennau a'n sefydliadau cymunedol yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd o'r gwaelod i fyny, gan ddarparu gwasanaethau allweddol sy'n gwella bywydau a lleihau'r galw ar wasanaethau statudol ar yr un pryd. Fodd bynnag, er gwaethaf ei gefnogaeth gyhoeddus i wasanaethau iechyd a gofal darbodus, gyda gweithwyr proffesiynol gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a'u cymunedau yn gweithio ochr yn ochr i ddarparu atebion, ac ar gyfer cynhwysiant, atal ac ymyrraeth gynnar, mae'r Ysgrifennydd cyllid hwn wedi darparu cyllideb ddrafft wladoliaethol ffôl, sy'n amddifadu darparwyr gwasanaethau elusennol a chymunedol o adnoddau, gan gynhyrchu pwysau cost llawer uwch i ddarparwyr gwasanaethau statudol.
Gan weithredu ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, mae 16 o hosbisau elusennol yn darparu gofal hanfodol i fwy nag 20,000 o blant ac oedolion yng Nghymru y mae salwch terfynol a salwch sy'n cyfyngu ar fywyd yn effeithio arnynt bob blwyddyn. Mae pob hosbis yng Nghymru yn rhagweld diffyg ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Canfu arolwg gan Hospice UK fod dros 20 y cant o hosbisau Cymru yn lleihau nifer y gwelyau i gleifion mewnol neu wasanaethau ehangach yr hosbis, a bod 90 y cant o hosbisau Cymru yn cytuno bod pwysau costau byw yn debygol iawn o arwain at sefyllfa lle mae llai o gefnogaeth ar gael i'r system ehangach, fel ysbytai a chartrefi gofal.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu £5.9 miliwn o gyllid yn ystod y flwyddyn i hosbisau Cymru ar frys i dalu am effaith codiadau cyflog y GIG ar gostau staffio hosbisau, gan nodi bod hyn yn hanfodol i ddiogelu dyfodol uniongyrchol gwasanaethau hosbis yng Nghymru a'r gofal hanfodol maen nhw'n ei ddarparu, hyd nes y bydd trefniant cynaliadwy tymor hwy. Er eu bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddyrannu £3 miliwn ychwanegol mewn cyllid rheolaidd yn y gyllideb ddrafft, maen nhw'n datgan na ellir disgrifio'r ffigur hwn fel un cynaliadwy, o ystyried y bydd yn cael ei ganslo'n gyflym gan gynnydd o £1.8 miliwn mewn yswiriant gwladol a'r isafswm cyflog, ac effaith ddisgwyliedig cynnydd o ran yr 'Agenda ar gyfer Newid' yn y dyfodol ar gostau staffio hosbisau.
Dywed Shelter Cymru, er eu bod yn ymuno â chydweithwyr yn y sector i ddathlu'r codiad o £21 miliwn i'r grant cymorth tai yn y gyllideb ddrafft hon, fod y grant atal digartrefedd yn cael cyllid arian gwastad, a fyddai'n cynrychioli dwy flynedd yn olynol o doriadau termau real mewn cyllid ar gyfer atal digartrefedd drwy hyn. Maen nhw'n glir y byddai effaith y gyllideb ddrafft hon, ynghyd â'r pwysau ychwanegol o gost uwch newidiadau yswiriant gwladol, yn gofyn am arbediad o £70,000, gan effeithio'n uniongyrchol ar staffio a'u gallu i helpu pobl, gydag amcangyfrif o 360 yn llai o aelwydydd yn gallu defnyddio eu gwasanaethau cynghori arbenigol. Mae Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn dweud bod 81 y cant o ddarparwyr cymorth digartrefedd yn rhedeg gwasanaethau ar ddiffyg, ac mae'r darparwyr yn dweud bod angen cynnydd o tua 9 y cant yn y gyllideb arnynt i dalu am newidiadau mewn yswiriant gwladol yn unig.
Ychwanegodd elusen digartrefedd a chysgu ar y stryd, y Wallich, eu bod yn dal i aros am arweiniad gan Lywodraeth Cymru ar sut y bydd sefydliadau fel eu hun nhw sy'n darparu gwasanaethau statudol ar ran awdurdodau lleol yn cael cymorth i fynd i'r afael â'r gwariant ychwanegol annisgwyl o ran y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a'r lefelau uchaf erioed o alw. Mae'r cynnydd hwn yn achosi pryder gwirioneddol ar draws y sector.
Gan dynnu sylw at ganlyniadau cyllideb hydref y DU ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a allai fod yn drychinebus, mae Fforwm Gofal Cymru nid-er-elw wedi cyfeirio at ddisgrifiad blaenorol yr Ysgrifennydd Cyllid o ofal cymdeithasol fel y sgaffald sy'n dal y GIG, gan nodi bod angen ymrwymiad arnynt i gynnwys y costau tymor hir mewn pecyn cymorth ffioedd cenedlaethol i gyfrifo cost gofal teg. Mae'r NSPCC wedi dweud y dylai sicrhau bod rhaglenni ymyrraeth gynnar ac atal yn cael yr adnoddau priodol fod yn fwy o flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried pa gamau y gallant eu cymryd i helpu i liniaru effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, a fydd yn codi costau i sefydliadau trydydd sector.
Dywedodd yr elusen iechyd meddwl a dibyniaeth, Adferiad, wrthyf y bydd y cynnydd mewn yswiriant gwladol yn costio £600,000 y flwyddyn iddynt. Heb fesurau lliniaru, bydd yn rhaid iddynt gael gwared ar staff a lleihau gwasanaethau. Dywed Gofal Canser Tenovus y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru a chyllideb y DU yn golygu y bydd llai o wasanaethau cymorth i bobl y mae canser yn effeithio arnynt, gan ychwanegu, heb unrhyw ffordd o liniaru'r costau cynyddol sy'n gysylltiedig â chyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, y bydd y gwasanaethau y maent yn eu darparu a'u cynaliadwyedd hirdymor yn y fantol.
Ar fater ar ôl y mater, mae'r gyllideb ddrafft hon yn taflu mwd at y wal wrth gloddio sylfeini'r wal. Yn hytrach na sicrhau effeithlonrwydd ac arbed arian, bydd y cyllidebu ffôl hwn yn arwain at aneffeithlonrwydd, costau gwasanaethau cyhoeddus uwch ac anghyfiawnderau cymdeithasol y gellir eu hosgoi'n llwyr. Diolch yn fawr.
Dwi'n falch i gael cyfrannu i'r ddadl yma yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Eleni, oherwydd newidiadau i ffurf y Llywodraeth yma yng Nghymru, mi glywodd y pwyllgor dystiolaeth lafar gan ddau Ysgrifennydd Cabinet, ac mi gawsom ni dystiolaeth ysgrifenedig gan ddau arall hefyd. Y ddau a ymddangosodd gerbron y pwyllgor oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth.
Yn gyntaf, ar bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd, roedd sawl mater sy'n haeddu ystyriaeth bellach. Mae adroddiad diweddar y pwyllgor ar natur yn tynnu sylw at ddirywiad parhaus natur a'r angen i Lywodraeth Cymru gyflymu camau i fynd i'r afael ag ef. Os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei hymrwymiadau bioamrywiaeth domestig a byd-eang, gan gynnwys amddiffyn a rheoli 30 y cant o dir a moroedd Cymru yn effeithiol erbyn 2030, yna mae'n amlwg bod yn rhaid iddi flaenoriaethu buddsoddi mewn natur.
Fel pwyllgor, nid ydym yn dadlau bod Llywodraeth Cymru yn ariannu rhai rhaglenni a mentrau cadarnhaol iawn i gefnogi adferiad natur. Ond fel y gwyddom ni i gyd yma yn y Siambr, mae Cymru, ynghyd â gweddill y DU, yn wynebu bwlch ariannu sylweddol o ran natur, a bydd mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw yn gofyn am gynnydd yng nghyllid y Llywodraeth, yn ogystal â chynnydd mewn buddsoddiad preifat, sydd â'i ran i'w chwarae.
Mae rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ffynhonnell hanfodol o gyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu er budd natur ar lawr gwlad a, hyd yn hyn, mae wedi sicrhau nifer o ganlyniadau cadarnhaol. Ond mae yna bryderon, oherwydd mae yna ostyngiad wedi bod yng nghyllid y rhaglen ar gyfer 2025-26, sy'n amlwg yn peri pryder i'r pwyllgor. Rydym wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet esbonio sut mae'n bwriadu gweithio gyda phartneriaid cyflawni i liniaru effaith y gostyngiad hwnnw mewn cyllid. Rydym hefyd wedi gofyn iddo sicrhau bod unrhyw gyllid ychwanegol a all fod ar gael iddo yn ystod y flwyddyn yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r diffyg yng nghyllid y rhaglen.
Gan droi at wastraff, rydym wedi aros ers tro i gynllun dychwelyd ernes gael ei gyflwyno yng Nghymru. Mae'n rhan allweddol o gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru tuag at economi gylchol. Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod yn bwriadu cyflwyno cynllun dychwelyd ernes pwrpasol, y bydd ei gwmpas yn mynd y tu hwnt i gynllun arfaethedig y DU i gwmpasu gwydr hefyd. Ond mae yna gwestiynau heb eu hateb ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar gostau cyffredinol, a sut y bydd y costau hyn yn cael eu talu wedyn. Mae'r pwyllgor wedi gofyn am eglurder ar hyn, a byddwn ni'n gwylio'n agos i sicrhau nad yw'r heriau ariannol ac ymarferol yn arwain at oedi pellach wrth weithredu.
Gan symud ymlaen i'r portffolio trafnidiaeth, mae'r newid i gyd-bwyllgorau corfforedig, neu CJCs fel y dywedwn yn gryno, sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb am gynllunio trafnidiaeth ranbarthol, yn peri heriau sylweddol, ac mae pryder gwirioneddol nad oes gan CJCs yr adnoddau, y staff na'r arbenigedd angenrheidiol eto i gyflawni'r cyfrifoldebau hyn yn llawn.
Un maes o bryder gwleidyddol—pryder penodol; ac, efallai, pryder gwleidyddol—yw teithio llesol. Gyda chyllid wedi'i integreiddio i gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, mae perygl y bydd yn dadflaenoriaethu'r maes hwnnw o gyllid o blaid mentrau trafnidiaeth eraill. Mae absenoldeb clustnodi ond yn ychwanegu at y risg honno, yn ein barn ni. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrthym fod rhai awdurdodau lleol yn gwario rhwng 80 a 90 y cant o grantiau teithio llesol ar ffioedd ymgynghori. Mae hynny ynddo'i hun yn codi cwestiynau difrifol am werth arian a gallu awdurdodau lleol i reoli prosiectau'n effeithiol.
Yn y cyfamser, yn y sector rheilffyrdd, mae yna faterion sy'n ymwneud â thryloywder o hyd. Mae 54 miliwn o bunnoedd wedi'u hailddyrannu o fewn y prif grŵp gwariant trafnidiaeth i brosiect llinellau craidd y Cymoedd, ond fel pwyllgor does ganddon ni ddim syniad pwy sydd wedi colli allan o ganlyniad i'r cyfaddawd hwnnw, ac rydym wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet egluro rhai o'r penderfyniadau cyllidebol hynny.
Yn olaf, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â mater gwasanaethau bws. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi buddsoddi symiau sylweddol i gadw gwasanaethau i redeg, ond mae pryderon o hyd ymhlith rhanddeiliaid allweddol, megis y Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr, nad yw'n ddigon o bell ffordd i gynnal gwasanaethau wrth i ni drosglwyddo i'r system newydd o fasnachfreinio bysiau.
Mae Cymru wedi llusgo tu ôl i weddill y DU o ran cynyddu nifer y teithwyr ar fysiau yn dilyn y pandemig, ond does ganddon ni ddim dadansoddiad clir o hyd ynghylch pam mae hynny'n digwydd, a does ganddon ni ddim cynllun clir ar gyfer sut y bydd y model masnachfraint arfaethedig yn mynd i'r afael â'r heriau hyn. Os ydym am adeiladu rhwydwaith bysiau dibynadwy a chynaliadwy, yna mae angen i ni ddeall yn llawn y rhesymau sylfaenol am y lleihad yn nifer y teithwyr a chymryd camau ar sail tystiolaeth i wyrdroi'r tueddiadau hynny.
Mae yna 46 o argymhellion yn adroddiad y pwyllgor, a dwi’n meddwl bod hynny’n adlewyrchu pa mor eang yw remit y pwyllgor. Dwi’n gweld yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych arnaf. Mae e’n adlewyrchu remit y pwyllgor, ond mae e hefyd yn adlewyrchu’r ffaith ein bod ni’n craffu ar bedwar Ysgrifennydd Cabinet. Ond dyna ni, ein rôl ni yw craffu, a dwi’n diolch, wrth gloi, i dîm clercio ac ymchwil y pwyllgor am eu cefnogaeth nhw, a hefyd i aelodau’r pwyllgor. Dim ond chwech ohonom ni sydd yna, ac mae disgwyl inni graffu ar swm sylweddol iawn. Felly, dwi’n edrych ymlaen i glywed ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet ac ymatebion yr holl Ysgrifenyddion Cabinet rŷn ni wedi craffu arnynt yng nghwrs yr adroddiad yma. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Roeddwn i mor falch o weld arian yn mynd yn ôl i wasanaethau cyhoeddus yn dilyn etholiadau Llywodraeth y DU. Rwy'n gwybod bod y ddwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd i ailadeiladu'r gwasanaethau rydym yn dibynnu arnynt. Rwy'n deall bod Llafur y DU yn gorfod trwsio llanast a adawyd ar ôl gan y Torïaid yn dilyn dros ddegawd o doriadau i wasanaethau cyhoeddus, camreoli cyllidol, wedi'i waethygu gan chwyddiant cynyddol a methiant i dyfu ein heconomi. Ni ellir dadwneud yr holl niwed mewn un gyllideb ac mae angen buddsoddiad parhaus yn ôl i wasanaethau cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf gan Drysorlys y DU.
Gwasanaethau cyhoeddus yw un o'n cyflogwyr mwyaf ac maen nhw'n ein cadw'n ddiogel ac yn iach, yn ogystal â bod yn flociau adeiladu ein heconomi. Mae cynghorau wedi cael eu dinistrio gan y Torïaid. Mae 40 y cant o swyddi wedi'u colli ers 2010, gyda thoriadau enfawr, termau real mewn cyllid, ac mae angen mwy ar gynghorau oherwydd pwysau chwyddiant a mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol. Rwy'n gobeithio y bydd cynnydd yn y cyllid gwaelodol er mwyn helpu'r rhai sy'n cael eu hariannu'n isel yn gyson, fel y rhai yn y gogledd. Er mwyn gwireddu cynlluniau adeiladu tai cymdeithasol, mae angen cynlluniau ariannu hirdymor ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau ar gyfer y dyfodol.
Ac yn olaf, roedd cael cyllid cyfalaf yr oedd gwir angen arnom i adeiladu yn gymaint o ryddhad, 250 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Rwy'n gobeithio nawr y gellir rhoi rhywfaint o'r neilltu ar gyfer y gwaith adeiladu hwnnw yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yr ydym i gyd wedi bod yn galw amdano, unwaith y bydd y costau ariannol manwl wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ystod y misoedd nesaf. Rwy'n gwybod nad oes modd datrys y broblem dros nos, ond y cynnydd termau real yn y gyllideb yw'r cam cyntaf i ailadeiladu llywodraeth leol ac, rwy'n falch o ddweud, ailadeiladu ein priffyrdd. Rwy'n falch o weld cyllid yn mynd i gynnal a chadw ein priffyrdd a gynhelir yn lleol yn ogystal â'r rhwydwaith ffyrdd strategol. Mae angen y cyllid hwnnw ar gynghorau oherwydd pwysau gwrthdrawiadol eraill ar eu cyllideb.
Codwyd gyda mi na fydd y rhai sydd â chronfeydd isel yn gallu benthyca ar gyfer y gronfa benthyca darbodus o £60 miliwn, felly hoffwn i'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth grynhoi, egluro sut y bydd y refeniw o £5 miliwn yn talu am y gost o fenthyca, i roi sicrwydd iddynt. Rwy'n credu y bydd hynny'n talu am y gost o fenthyca am y 30 mlynedd nesaf, felly byddai'n rhoi'r sicrwydd hwnnw. Diolch. Rwy'n croesawu'r gyllideb hon.
Wel, unwaith eto rwy'n codi i siarad ar egwyddorion eich cyllideb yng Nghymru o ystyried yr effaith ddwys y bydd yn ei chael ar fy etholwyr ac, wrth gwrs, pobl Cymru. Nid yw hon yn gyllideb ar gyfer twf. Nid yw'n gwneud dim i ddiogelu ein gwasanaeth iechyd, ein sector addysg, ein busnesau bach, ein gofal cymdeithasol—unrhyw beth, mewn gwirionedd; unrhyw rai o'r gwasanaethau rydych chi fel Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gyfrifol amdanynt dros y 26 mlynedd diwethaf. Mae'r ffigurau diweddaraf ar fusnesau newydd a busnesau sy'n cau yng Nghymru yn datgelu tuedd bryderus. Yn 2023, gostyngodd nifer y mentrau gweithredol 2,305, gostyngiad o 2.2 y cant. Mae hyn yn drist iawn.
Ydych chi'n ymwybodol o gyflwr ein GIG? Rwy'n siŵr eich bod chi. Rydyn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn sôn am y methiannau yma wythnos ar ôl wythnos. Dim ond y mis diwethaf, rhyddhaodd y Coleg Nyrsio Brenhinol adroddiad damniol ar ofal mewn coridorau, a gallaf ddweud wrthych, bythefnos yn ôl gwelais drosof fi fy hun nyrsys a meddygon iau yn ceisio gweithio mewn wardiau ysbyty gorlawn, wardiau ysbyty anhwylderau acíwt gyda gwelyau troli mewn coridorau—ffiaidd—cysgu mewn coridorau. Mae rhai yn cael eu gorfodi i ymgymryd â'u gofal personol eu hunain y tu ôl i sgriniau dros dro. Mae morâl ar y wardiau hyn wedi cyrraedd ei bwynt isaf, gyda nyrsys yn torri i lawr o flaen ein llygaid, gan bledio'n daer am eich help.
Ac eto rydych chi am wario £5 miliwn ar fynd i'r afael â newid hinsawdd. Sut ar y ddaear y mae hyn yn dderbyniol? Mae hyd yn oed y Gwir Anrhydeddus Ed Miliband yn peryglu—[Torri ar draws.] Ie, wel fi yw'r llefarydd ar gyfer newid hinsawdd, Ysgrifennydd Cabinet, ac mae'r arian rydych chi'n ei wastraffu nawr yn y portffolio hwn yn fwy nag amlwg. Mae Ed Miliband yn peryglu ein diogelwch ynni trwy wahardd trwyddedau drilio newydd, yn ôl y sôn, gan ddiystyru ei swyddogion ei hun ar adeg pan fo dibyniaeth ar ynni yn hanfodol i sofraniaeth y DU. Ei benderfyniad e', eich penderfyniad chi—penderfyniad Llafur—pan fo ein gwlad bellach mewn perygl enfawr o ansicrwydd ynni byd-eang. Roedd disgwyl i reoleiddwyr gymeradwyo drilio newydd yn fuan, ond mae ymyriadau Mr Miliband yn bygwth ein sefydlogrwydd hirdymor. Mae'n amlwg bod eich plaid yn ein rhoi ni mewn perygl.
Mae Llywodraeth Cymru yn honni ei bod yn un o'i chyllidebau anoddaf, ond eto mae'n bwriadu gwario hyd yn oed mwy o arian ar gynllun teithio llesol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych, Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 pan ddaeth i mewn oedd un o'm hoff ddarnau o ddeddfwriaeth yr oeddwn i wir eisiau iddi lwyddo. Wel, mae arna' i ofn nad yw'n gweithio. Rwy'n croesawu'r adolygiad o'r Ddeddf teithio llesol a gobeithio y bydd, o'r diwedd, yn mynd i'r afael â'i methiant i ymgysylltu â phobl Cymru. Er gwaethaf y £218 miliwn a wariwyd ers 2018, mae cyfraddau beicio yn parhau i fod ar 6 y cant heb unrhyw welliant. Pam mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio cymaint ar feicwyr, yn gwrthwynebu'r rhai sy'n defnyddio ein ffyrdd cymaint, ac yn anwybyddu cymunedau gwledig lle na all plant hyd yn oed gerdded i'r ysgol? A nawr maen nhw eisiau—[Torri ar draws.] O, ewch ymlaen te.
Rwyf wedi fy synnu braidd gan eich datganiadau. Fe ddywedoch chi mai'r Ddeddf teithio llesol oedd un o'ch hoff ddarnau o ddeddfwriaeth, ac mae hynny'n ymwneud â hwyluso cerdded a beicio. Yna fe ddywedoch chi fod gan y Llywodraeth obsesiwn â hyrwyddo beicio, sy'n beth gwael yn eich barn chi. Rydych chi'n siarad mewn ffordd ddryslyd.
Dydw i ddim yn siarad mewn ffordd ddryslyd. Ar ddiwedd y dydd, fe wnaethon ni gyfarfod gyntaf pan oeddech chi'n gweithio i Sustrans, ac mae'n rhaid dweud eich bod chi wedi gyrru eich agenda bersonol eich hun drwodd. [Torri ar draws.] O, ydych. Ar ddiwedd y dydd, mae teithio llesol yn golygu cerdded, beicio, mynd ar sgwter. Nid yw'n golygu beicio yn unig ac ni ddylai fod ar draul y rhai sy'n defnyddio ein ffyrdd a'n gyrwyr, pobl yn gweld rhannau o'u ffordd yn diflannu ac eto does dim cynnydd o gwbl yn y defnydd o feicio.
Mae'r pwyllgor newid hinsawdd—rydym wedi nodi bod Cymru mewn perygl mawr o fethu ei thargedau allyriadau a'i hymrwymiadau bioamrywiaeth ei hun. Yn waeth byth, does fawr ddim hyder, os o gwbl, ynghylch sut y gellir harneisio polisïau gwyrdd i yrru twf economaidd, creu swyddi a chyfleoedd buddsoddi. Yr holl gynlluniau y mae'r gyllideb newid hinsawdd yn mynd tuag atynt, dydy'r sgiliau ddim ar waith gennym. Rydych chi'n rhoi'r drol o flaen y ceffyl. Mae Cymru yn dirywio'n economaidd ac yn amgylcheddol, a gallwch chi ysgwyd eich pen.
Janet, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Ydyn. Rydyn ni'n dyst yma heddiw, ar ôl 26 mlynedd, i'r un lefel o ddifaterwch gan Lywodraeth Lafur Cymru, a does ryfedd eu bod nhw'n gweiddi o feinciau Plaid Cymru—
Diolch, Janet.
—am eich bod chi wedi bod mewn partneriaeth â nhw am y blynyddoedd hynny. [Torri ar draws.] Roeddech chi hyd yn oed mewn llywodraeth â nhw.
Diolch, Janet. Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn siarad yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Yn yr amser sydd gen i, mi wnaf siarad am rai o'r prif bynciau a wnaeth godi yn ystod ein gwaith sgrwtini o'r gyllideb ddrafft. Buaswn i'n hoffi dweud ar y dechrau ein bod ni'n ddiolchgar i'r Llywodraeth a gweision sifil am y wybodaeth sydd wedi dod ger ein bron. Dŷn ni wedi gwneud sawl argymhelliad, ond dŷn ni yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i hyn oll.
Gwnaf ddechrau gyda diwylliant a chwaraeon. Mae yna bwnc sy'n codi'n aml yn y dystiolaeth rŷn ni fel pwyllgor yn clywed a'r argymhellion dŷn ni yn eu gwneud, sef bod angen ystyriaeth lawnach o werth y celfyddydau a chwaraeon fel pethau ataliol, meysydd lle mae'n bosibl i fuddsoddi ynddynt ac, fel canlyniad, arbed arian. Mae'r dystiolaeth a glywsom yn ddiweddar ar effaith y toriadau yn y meysydd hyn yn drawiadol. Mae tangyllido yn y meysydd hyn dros flynyddoedd gan Lywodraeth Cymru wedi gadael diwylliant a chwaraeon yn fregus tu hwnt. Mae cymaint o ganolfannau'n cau neu yn wynebu creisis; daeth y gair hwnnw mas yn glir yn y dystiolaeth. Dyna'n sicr yw'r hyn dŷn ni yn ei glywed.
Mae pryderon hefyd wedi eu codi gyda ni am effaith y newidiadau i gyfraniadau yswiriant cenedlaethol gan gyflogwyr. Rŷn ni yn cydnabod pwynt y Gweinidog yn sicr fod y gyllideb ddrafft yn gam i'r cyfeiriad cywir—dŷn ni'n sicr yn cydnabod hynny—ond pan yw cyrff megis Cyngor Celfyddydau Cymru yn defnyddio term fel 'creisis' a dydy'r Llywodraeth ddim yn cydfynd, dŷn ni fel pwyllgor yn teimlo bod yn rhaid lleisio pryderon ynglŷn ag a ydy'r Llywodraeth yn gwerthfawrogi maint y pwysau mae'r sectorau hyn yn eu hwynebu. Ond ein gobaith ni fel pwyllgor yw y bydd y Llywodraeth yn cymryd y cyfle sydd wedi dod o'n hadroddiad diweddar ni ar effaith toriadau cyllid i gadarnhau a ydy'r Llywodraeth yn rhannu ein dyhead i gyllido y pen yng Nghymru godi nes y bydd yn gyfatebol i wledydd eraill yn Ewrop.
I droi at yr iaith Gymraeg, disgrifiodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y codiadau awgrymedig fel cyfle i adennill rhywfaint o'r tir a gollwyd y llynedd gyda'r gyllideb fflat, a dŷn ni'n cytuno gyda hynny. Byddem ni yn croesawu, serch hynny, fwy o eglurder am sut bydd y Llywodraeth yn arolygu, yn gwerthuso ac adrodd ar effaith y dyraniadau cyllid hyn yng nghyd-destun effeithlonrwydd y targed Cymraeg 2050, a sut mae cyrraedd at hwnnw.
Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, i droi at gysylltiadau rhyngwladol, rydym yn difaru penderfyniad y Prif Weinidog i beidio â mynychu sesiwn tystiolaeth lafar. Yn anffodus, mae hyn, ynghyd ag absenoldeb rhywfaint o wybodaeth angenrheidiol mewn tystiolaeth ysgrifenedig, wedi golygu nad yw ein pwyllgor, unwaith eto, mewn sefyllfa i graffu gydag unrhyw hyder ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wario ar weithgarwch rhyngwladol. Yn ein hadroddiad, rydym wedi gorfod gofyn am wybodaeth fel pryd y bydd dogfennau allweddol, fel cynllun cyflawni'r strategaeth ryngwladol, yn cael eu cyhoeddi; pryd y bydd manylion dyraniadau cyllid ar gael i'r Senedd ac, yn wir, i bartneriaid cyflawni strategol; a sut y bydd dyraniadau o'r fath yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd. Dylai gwybodaeth o'r fath fod wedi bod ar gael fel mater o drefn i lywio ein gwaith craffu.
Nawr, wrth gwrs, rydym yn nodi penderfyniad y Prif Weinidog i beidio â rhoi tystiolaeth lafar ar y gyllideb ddrafft; mae hynny'n gyson â'r dewis y mae ei rhagflaenwyr wedi'i wneud, wrth gwrs. Ein barn ni fel pwyllgor, serch hynny—ac rydym yn credu ei fod yn sylfaenol—yw, os bydd Prif Weinidog yn dewis ymgymryd â chyfrifoldebau polisi, y dylai sicrhau ei fod ar gael er mwyn iddo gael ei ddwyn i gyfrif am y cyfrifoldebau hynny, ac mai mater i'r Senedd ac nid Llywodraeth Cymru yw penderfynu sut i gynnal gwaith craffu effeithiol ar hynny.
Nawr, fe fydd yna—ac mae gennym obaith yma hefyd—gyfle arall yn y Senedd hon i Lywodraeth Cymru ymgysylltu'n effeithiol â'r gwaith craffu hwn ar y cynigion yn y gyllideb ddrafft o ran cysylltiadau rhyngwladol. Rydym yn gobeithio ac rydym yn disgwyl y bydd dull newydd o weithredu ar hynny y flwyddyn nesaf, gan fod y maes hwn yn haeddu'r un lefel o waith craffu â meysydd eraill. Diolch yn fawr.
Rwy'n siarad ar ran y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Roedd cyllideb y llynedd, rydyn ni'n sylweddoli, yn heriol iawn, a chyfiawnder cymdeithasol wnaeth wynebu'r toriadau dyfnaf o unrhyw faes. Felly, rydyn ni i gyd yn croesawu'r cynnydd o £1.5 biliwn o linell sylfaen ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Mae'n rhaid gweld gwariant cyfiawnder cymdeithasol yng nghyd-destun toriadau cyllidebol mewn blynyddoedd blaenorol a'r cynnydd yn y pwysau ariannol a'r cynnydd yn yr angen y mae'r rhai mwyaf agored i niwed wedi'i ddioddef. Nid yw'r argyfwng costau byw sy'n wynebu llawer o deuluoedd wedi diflannu.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid fod hon yn gyllideb sy'n cynyddu'r gwariant yn bennaf oll ar yr 20 y cant o'n poblogaeth sydd â'r lleiaf, a hwrê i hynny. Fodd bynnag, mewn sawl maes, mae'r gyllideb yn methu â nodi sut mae'n bwriadu targedu penderfyniadau gwariant, na'r budd posibl i'r bobl dlotaf. Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun o effaith yn dweud y bydd gwariant ar wasanaethau cyhoeddus yn y flwyddyn nesaf ar ei uchaf ar gyfer y garfan dlotaf ond un, nid y tlotaf oll, sef y rhai rhwng 20 y cant a 40 y cant o incwm. Felly, o ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau anghydraddoldebau, hoffen ni i'r Llywodraeth nodi sut mae'n cysoni'r dystiolaeth o'r dadansoddiad dosbarthiadol sy'n nodi y byddai o fudd i'r 20 y cant i 40 y cant tlotaf, o'i gymharu â'r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid, sef y bydd yn targedu'r tlotaf oll.
Gan droi at y sector gwirfoddol, rydyn ni'n croesawu'r cynnydd mewn cyllid i gefnogi'r sector gwirfoddol. Fodd bynnag, a fydd y cynnydd yn ddigonol i reoli'r galw cynyddol a'r costau cynyddol, gan gynnwys y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol? Mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi rhoi amcangyfrif o gost y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol i'r sector cyhoeddus. Bydden ni'n gwerthfawrogi pe gallai Llywodraeth Cymru nodi ei hamcangyfrif o gost uniongyrchol ychwanegol y newidiadau mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr i'r sector gwirfoddol hefyd. Mae angen i ni ddeall a fydd y cynnydd mewn cyllid y bydd y sector gwirfoddol yn ei gael, sydd i'w groesawu, yn eu galluogi i reoli eu ffordd drwy'r effaith ariannol, yn enwedig y cynnydd hwn mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, yn ogystal ag ynni a gorbenion eraill. Rydyn ni'n gwybod bod y Llywodraeth yn gwerthfawrogi rôl y sector gwirfoddol, ac mae angen i ni sicrhau ei fod yn gallu rheoli ei ffordd drwy hyn, yn hytrach na diflannu o'n tirwedd. Efallai y bydd rhai rhannau o'r sector gwirfoddol yn gallu dibynnu ar gyfraniad pellach gan wirfoddolwyr—mae yn y teitl, wedi'r cyfan; mae eraill yn gwneud gwaith sy'n adlewyrchu gwaith y sector cyhoeddus, lle mae hynny'n llawer anoddach.
Fel yr ydyn ni wedi'i glywed eisoes, mae'r argyfwng costau byw yn ddi-baid, ac rydyn ni eisiau mynd i'r afael â'r angen i uwchraddio budd-daliadau Cymru. Rydyn ni'n croesawu'n fawr y cynnydd yn y cymorth i bobl, er enghraifft y gronfa cymorth dewisol, i sicrhau bod y rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau neu sydd angen cymorth ychwanegol fel arall er mwyn peidio â syrthio i dlodi, yn y bôn, a mynd yn ddigartref. Rydyn ni hefyd yn cymeradwyo'r cynnydd yn y trothwy incwm ar gyfer y lwfans cynhaliaeth addysg—rydyn ni'n gwerthfawrogi ei fod yn gyfraniad pwysig iawn o ran sicrhau bod pobl ifanc 16-18 oed yn aros mewn addysg. Ond gwnaethon ni nodi nad oedd unrhyw gynnig i gynyddu'r trothwy incwm ar gyfer prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd. Yn amlwg, mae plant ysgol gynradd i gyd yn gallu elwa ar brydau ysgol am ddim, beth bynnag fo'u hincwm. Ond mae'r hawl i brydau ysgol am ddim o ran trothwy incwm wedi'i rhewi am bum mlynedd, ac mae hynny'n golygu ei bod hi'n debygol y bydd llawer mwy o blant ysgol uwchradd na fyddant yn cael pryd o fwyd am ddim, er bod eu teuluoedd yn ei chael hi'n anodd eu bwydo. Felly, nid yw hyn yn y gyllideb ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Felly, roeddwn i'n ddiolchgar iawn o allu trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg drwy ymuno â'r pwyllgor plant a phobl ifanc ar 16 Ionawr.
Mae angen i chi orffen nawr os gwelwch yn dda, Jenny.
Iawn. Rwyf i eisiau dweud fy mod i'n deall bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus iawn i ymestyn y trothwy prydau ysgol mewn ysgolion uwchradd, ond nad yw wedi bod yn bosibl gwneud hynny oherwydd y cysylltiad rhwng darparu prydau ysgol am ddim a phethau eraill sydd wedi'u pasbortio fel y grant datblygu disgyblion a'r grant hanfodion ysgol. Mae hwn yn fater pwysig iawn. Rydyn ni yn bendant o blaid symleiddio'r system fudd-daliadau fel bod pobl yn cael yr hyn y mae ganddyn nhw'r hawl iddo—
Diolch, Jenny.
—ond os yw'n peri i ni beidio â gallu ei thargedu at blant tlawd, yna mae'n amlwg bod sgwrs arall y mae angen i ni ei chael.
A gaf i gyfeirio Aelodau at fy natganiad o ddiddordeb fel ffermwr? Am gyfnod rhy hir, mae Llywodraethau Llafur olynol wedi methu â chymryd materion sy'n effeithio ar y gymuned wledig yn ddigon o ddifrif. Ydy, mae'r gyllideb materion gwledig wedi cynyddu, ac mae hynny i'w groesawu, ac rwy'n falch bod y £238 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol. Wedi dweud hynny, mae'r cynnydd i'r portffolio eleni dipyn yn is na'r £62 miliwn o doriadau y mae'r maes wedi'u gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nawr, ni ddylai Llywodraeth Cymru, ac yn wir rhai Aelodau Llafur yma, byth anghofio pa mor werthfawr yw'r gymuned ffermio i economi Cymru a diwylliant Cymru, ond pan fyddaf i'n siarad â ffermwyr a chymunedau gwledig, dydyn nhw ddim yn teimlo bod gan y Llywodraeth ddealltwriaeth briodol o fywyd gwledig a'r heriau gwirioneddol y mae ffermwyr yn eu hwynebu.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Roeddwn i'n aros am hynny. Gwnaf.
Beth nad yw Huw Irranca-Davies wedi'i wneud i ymgysylltu â ffermwyr? Byddwn i wedi meddwl ei fod wedi gwneud mwy na'r disgwyl i ymgysylltu â ffermwyr ar y cynllun ffermio cynaliadwy.
Dydw i ddim yn feirniadol o'r Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n feirniadol o Lywodraeth Cymru dros 25 mlynedd. Felly, oes, mae yna sgwrs i'w chael o hyd ar wella pethau, yn sicr.
Fel y dywedais i, dydy ffermwyr ddim yn teimlo bod y Llywodraeth yma yn eu cefnogi, ond mae tystiolaeth dda bod £9 yn cael ei ddychwelyd i'r economi am bob £1 sy'n cael ei buddsoddi yn y diwydiant. Ychydig iawn o sectorau eraill sy'n gallu brolio am y lefel honno o enillion. Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar leisiau'r gymuned ffermio ac yn sicrhau bod ein cymunedau gwledig yn cael eu cefnogi, gan alluogi'r diwydiant i gynllunio a buddsoddi gyda hyder. Cam sylfaenol i'r perwyl hwn yw'r angen i'r Llywodraeth ddatgelu ei hamserlen talu arfaethedig ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy newydd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn galluogi'r diwydiant i gynllunio. Mae'n rhaid i bolisïau Cymru rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd, yn wahanol i gyrch treth etifeddiaeth arfaethedig y Canghellor ar ffermwyr a fydd nid yn unig yn bygwth dyfodol cannoedd o ffermydd teuluol, ond a fydd hefyd, yn eironig, yn cael effaith uniongyrchol ar barodrwydd ffermwyr i ymgysylltu â mentrau fel y cynllun ffermio cynaliadwy ac eraill. Beth yw pwynt buddsoddi yn eich busnes os byddwch chi'n wynebu trethi enfawr o ganlyniad i hynny?
Does dim amheuaeth bod y wlad wedi cael ei thwyllo i gredu y byddai pethau'n well gyda Llafur ar naill ben yr M4, ond nid yw hynny wedi bod yn wir i gannoedd o filoedd o bobl, a llawer o fusnesau a sectorau busnes yng Nghymru, gan gynnwys trafnidiaeth a'r rhai sy'n darparu seilwaith. Yn y meysydd hyn, rwy'n croesawu'r cynnydd arfaethedig. Mae ei angen arnon ni, gan ei bod yn amlwg nad yw Llywodraethau olynol Cymru wedi ymdrin ag anghenion trafnidiaeth Cymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Mae polisïau'r gorffennol, fel rhai Llafur i rewi'r gwaith o adeiladu ffyrdd a chyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, wedi gadael eu hôl, fel y mae'r seilwaith trafnidiaeth annigonol a gwael sy'n cael effaith andwyol ar lawer o ardaloedd yng Nghymru, gan arafu'r wlad a rhwystro’r economi. Cysylltedd da yw anadl einioes unrhyw economi, felly mae buddsoddiad hirdymor yn ein seilwaith yn angenrheidiol ac yn hanfodol ar gyfer cymdeithas fodern a gwyrddach.
Ond nid yn unig y mae ar ein cymunedau a'n busnesau angen seilwaith da, mae ar ein busnesau angen i'r ddwy Lywodraeth Lafur alluogi twf. Ac eto, bydd cynnydd Llafur mewn yswiriant gwladol cyflogwyr yn gwneud y gwrthwyneb, gan effeithio'n negyddol ar dwf, swyddi a chyflogau yn y dyfodol. Edrychwch ar y gweithredwyr trafnidiaeth. Yn ôl cyfrifiadau'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, bydd y newidiadau'n costio £800 i £1,000 yn ychwanegol fesul cyflogai bob blwyddyn, gyda thystiolaeth gynnar yn dangos y bydd yr effaith yn fwy yng Nghymru. Bydd y lefelau hyn o faich ariannol ychwanegol yn arwain at wasanaethau tlotach i bobl Cymru. Yn anffodus, nid ydyn ni'n gweld y Llywodraeth Cymru yma yn barod i sefyll yn erbyn polisïau niweidiol Llywodraeth Keir Starmer. Nid oes unrhyw enghraifft well o hyn, fel y gwnaethon ni ei glywed yn y Siambr eisoes heddiw, na'u parodrwydd i dderbyn dim ond £400 miliwn mewn symiau canlyniadol o HS2, ar ôl gofyn dro ar ôl tro yn y lle hwn am biliynau. Mae Cymru'n cael cam ac mae'n cael ei siomi. Mae'n amlwg, Dirprwy Lywydd, bod Llafur yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru gyda'r gyllideb hon. Diolch.
Ymhlith yr heriau niferus sy'n wynebu ein system iechyd dan warchae ar hyn o bryd, ein model toredig o ofal cymdeithasol yw un o'r rhai mwyaf dirfodol. Mae gosod y sector ar sail gynaliadwy, wedi'i integreiddio'n briodol â gofal eilaidd, yn hanfodol os ydyn ni'n mynd i sicrhau dyfodol y GIG fel yr ydyn ni'n ei adnabod dros y degawdau nesaf. Ond, fel y mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn tynnu sylw ato'n briodol, mae tueddiad y Llywodraeth hon i ymdrin â phroblemau wrth iddyn nhw godi yn peryglu'r agenda hollbwysig hon yn ei hanfod, a'r dystiolaeth sydd wedi cael ei chlywed dros—
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Iawn. Ewch ymlaen.
Diolch. Oni fyddech chi'n cytuno, oni fyddech chi'n cytuno, dros y 26 mlynedd diwethaf y mae Llafur wedi bod mewn Llywodraeth—mae cyfnod wedi bod pan oeddech chi mewn Llywodraeth—nad yw'r problemau yma wedi dod dros nos? Onid ydych chi'n teimlo'n euog am y ffaith, yn ystod eich cyfnod o gynnal Llywodraeth Lafur Cymru, eich bod chi, yn eich blaenoriaethau gwario'r gyllideb, wedi cefnogi'r hyn sydd gennym ni nawr? Ydych chi'n derbyn eich bod ar fai ai peidio?
Na, ac rydych chi'n mynd i adael y gyllideb ddrafft drwodd heddiw oherwydd does gennych chi ddim eich cyflenwad llawn o Aelodau yma. Felly, chi fydd ar fai am gyllideb y Llywodraeth heddiw.
Mae'r dystiolaeth sydd wedi cael ei chlywed yn ystod y sesiwn hon o graffu ar y gyllideb yn cadarnhau'n glir yr asesiad yr wyf wedi'i grybwyll. Er enghraifft, er bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £140 miliwn o gyllid wedi'i gyfeirio ar gyfer gofal cymdeithasol yn y gyllideb hon, nid yw hynny'n ddim byd i gymharu ag amcangyfrif Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y galw ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn cyfrif am £223 miliwn o'r £555 miliwn o bwysau gwario sy'n wynebu awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Yn y cyfamser, mae'r penderfyniad annoeth iawn gan eu partneriaid mewn grym i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr wedi arwain at anhrefn llwyr o ran trefniadau llywodraeth leol â sefydliadau perthnasol yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol.
Y gwir amdani, wrth gwrs, yw y gallai mwy o arian fod wedi bod ar gael i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol oni bai am y ffaith bod angen i'r Llywodraeth daflu cyfrannau cynyddol o gyllideb Cymru at glirio problemau a grëwyd ganddyn nhw eu hunain gyda rhestrau aros. Ac mae hyn yn dod â ni at ganlyniad anffodus arall a welir wrth ymdrin â phroblemau wrth iddyn nhw godi—esgeuluso'r agenda ataliol yn barhaus. Fel y soniais yn ystod y ddadl gychwynnol ar y gyllideb ddiwedd y llynedd, mae'r toriadau mewn cyllid i sefydliadau fel ASH Cymru yn adlewyrchu tueddiadau ehangach sydd wedi gadael y system iechyd yng Nghymru yn gwegian, ar economi ffug, gyda llai a llai o enillion o ran canlyniadau.
Rwy'n credu bod y ffaith bod y Prif Weinidog yn cyfeirio'n barhaus at y nifer uchaf erioed o gontractau'r GIG yng Nghymru fel rhywbeth i fod yn falch ohono yn siarad cyfrolau yn hyn o beth. Mae'n dditiad damniol o waddol Llafur o reoli salwch, yn hytrach na chadw pobl yn iachach am gyfnod hwy. Ac fel y mae'r gyllideb hon yn ei ddangos, does ganddyn nhw mo'r weledigaeth na'r gallu i lywio llwybr i ddyfodol mwy disglair i'n system iechyd.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Rydw i newydd orffen, ond rwy'n hapus i wneud hynny.
Rydw i'n falch—. Er eich bod chi wedi amlinellu'n glir yr hyn a ddylai gael ei wneud, yn eich barn chi, yr hyn y mae gen i ddiddordeb ynddo mewn gwirionedd yw eich cyllideb amgen. Oes gennych chi gyllideb amgen yr ydych chi'n mynd i'w chyflwyno heddiw fel y gallwn ni, o leiaf, os ydych chi'n mynd i bleidleisio yn erbyn ein cyllideb ni, edrych ar eich cyllideb chi?
Cyllideb Llafur ydyw, a phe bydden ni'n gallu gweld pob linell yn y gyllideb honno, yna fe allen ni ddarparu i chi—[Torri ar draws.] Felly, gadewch i ni fynd i mewn i Lywodraeth y tro nesaf, arwain y Llywodraeth, ac yna fe welwch chi sut mae rhedeg Llywodraeth yn iawn.
Fe wna i siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai am fynychu sesiynau tystiolaeth y pwyllgor.
Fe wnaethon ni glywed bod awdurdodau lleol yn dal i wynebu cyfnod heriol iawn. Er gwaethaf y cynnydd yn y setliad, mae'r 14 mlynedd diwethaf o gyllid cyhoeddus cyfyngedig, yn ogystal â chynnydd mewn galw a chostau, yn golygu y gall fod angen iddyn nhw dorri gwasanaethau ymhellach byth a chynyddu'r dreth gyngor.
Pan fo pwysau ar gyllidebau, Dirprwy Lywydd, fel pwyllgor, rydym o'r farn bod gwaith ataliol yn hollbwysig ac, yn anffodus, mae'n cael ei dorri'n aml ar yr adegau hynny. Hoffen ni weld cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer y tymor hwy cymaint â phosibl, oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod y gall buddsoddi mewn gwaith atal sicrhau effeithlonrwydd. Rydyn ni'n teimlo y gellid gwneud mwy i ysgogi newid trawsnewidiol o ran darparu gwasanaethau, o bosibl drwy gyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth Cymru, lle mae'n credu y bydd hynny'n helpu i ysgogi newid mewn meysydd lle mae galw mawr, fel gofal cymdeithasol.
Mae enghreifftiau da ar draws Cymru o drawsnewid gwasanaethau, ond nid yw'n glir pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol wrth rannu arfer da. Gallai cyd-bwyllgorau corfforedig fod yn gyfrwng i hwyluso cydweithio. Ond mae gennym ni bryderon nad ydyn nhw'n cyflawni eu diben arfaethedig ac nad yw awdurdodau lleol yn ymgysylltu â nhw fel y dylent. Mae angen i Lywodraeth Cymru asesu hyn a rhoi cyfeiriad mwy strategol i awdurdodau lleol er mwyn gwella cydweithredu.
Yn ein hadroddiad, rydyn ni'n annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid gwaelodol yn y gyllideb derfynol.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf. Gwnaf.
Diolch. Diolch. Rwy'n cefnogi'r galwadau hynny am gyllid gwaelodol. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi'i godi yn y lle hwn o'r blaen, yn enwedig i'r awdurdodau lleol hynny, fel fy un i yn sir y Fflint sydd, er gwaethaf y cynnydd mewn cyllid yr ydyn ni wedi'i weld gan Lywodraeth Cymru, yn dal i fod ar ben isaf y tabl cynghrair hwnnw. Ond y presennol yw hynny. Pa ystyriaeth mae'r pwyllgor wedi'i rhoi i edrych ar gyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau lleol yn y tymor hwy, felly p'un a yw hynny trwy'r cymysgedd fformiwla ariannu rydyn ni wedi'i glywed yn cael ei grybwyll yma dro ar ôl tro, ond yn fwy eang o ran sicrhau'r cynaliadwyedd hwnnw a meddwl yn greadigol wrth symud ymlaen fel y gallwn ni sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n parhau i gael eu darparu ymhell i'r dyfodol?
Diolch am hynny. Fel pwyllgor, rydyn ni'n credu y gall fod angen i Lywodraeth Cymru, ynghyd â llywodraeth leol, wrth gwrs, ystyried edrych ar y fformiwla ariannu llywodraeth leol yn ehangach, ac yn enwedig y gwaith presennol sy'n digwydd a fydd, rwy'n credu, yn edrych ar ffactorau fel gwledigrwydd yn fanylach, ac yn wir, yr awdurdodau lleol hynny sydd â phoblogaeth hŷn ac sy'n heneiddio'n benodol, o'i gymharu â'r sefyllfa ar draws Cymru. Felly, rydyn ni'n credu ei bod hi'n werth edrych ar y fformiwla ariannu llywodraeth leol yn ehangach ac yn ddyfnach.
Rydyn ni hefyd yn pryderu fel pwyllgor am effaith y newidiadau mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud i gyfraniadau yswiriant gwladol ar refeniw awdurdodau lleol, yn enwedig gan nad yw'n glir faint o gyllid y byddan nhw'n ei gael i dalu costau a phryd y byddan nhw'n ei gael. Wrth gwrs, mae nifer o gynghorau yn allanoli eu gwasanaethau ac yn dibynnu ar sefydliadau trydydd sector i ddarparu cymorth allweddol mewn meysydd fel tai, gofal cymdeithasol ac addysg. Felly, mae awdurdodau lleol yn poeni, a hynny'n ddealladwy, am eu gallu i ddarparu gwasanaethau rheng flaen os bydd yr arian gan Drysorlys y DU ond yn cwmpasu staff y cyngor sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol.
John, diolch am gymryd ymyriad. Ynglŷn â mater yr yswiriant gwladol, rydych chi'n cofio yn y cyfarfod pwyllgor mi wnes i ddyfynnu ffigurau roeddwn i wedi eu cael gan dri awdurdod lleol am effaith y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant ar eu cyllidebau a'r symiau maen nhw angen eu canfod ar ben pwysau eraill—£2 filiwn gan un cyngor i weithwyr mewnol, £2.5 miliwn ar gyfer gwaith wedi ei allanoli; ail gyngor yn dweud £5.4 miliwn ar gyfer talu yn fewnol ar gyfer y cynnydd, £2.8 miliwn ar gyfer y cynnydd mewn gwaith wedi ei gomisiynu; trydydd cyngor yn dweud £8 miliwn ychwanegol maen nhw'n gorfod ei ganfod ar gyfer y cynnydd yn y cyfraniadau yn fewnol, a £3 miliwn ar gyfer yr allanol. Dwi'n dyfynnu'r ffigurau yna eto heddiw oherwydd maen nhw'n tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa a dwi yn tynnu sylw at argymhellion 6 a 7—
Mae angen iddo fod yn ymyriad, nid araith arall, os gwelwch yn dda.
Dwi'n tynnu sylw at argymhellion 6 a 7 yn yr adroddiad. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n cytuno bod hwnna angen sylw penodol gan Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch.
Wel, diolch yn fawr, Siân Gwenllian.
Fel pwyllgor, rwy'n credu mai'r hyn rydyn ni'n ei ddweud hefyd, o ran y materion hyn, yw bod angen eglurder ar awdurdodau lleol i allu cynllunio a phennu eu cyllidebau erbyn mis Mawrth, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael ei roi.
Dirprwy Lywydd, o ran tai, gwnaethon ni glywed bod ansicrwydd, unwaith eto, ynghylch cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn fater go iawn i'r sector tai. Ac, unwaith eto, mae gennym ni sefydliadau trydydd sector sy'n gysylltiedig yn y ffordd rwyf newydd ei disgrifio o ran llywodraeth leol. Rydyn ni o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau pellach i Lywodraeth y DU am effaith cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar sefydliadau trydydd sector yng Nghymru a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd cyn y ddadl derfynol ar y gyllideb.
Mae cael cartref diogel, wrth gwrs, yn gwbl hanfodol, ac mae cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau tai yn hanfodol er mwyn atal a lliniaru digartrefedd, ond hefyd i leihau'r pwysau mewn mannau eraill. Mae ffurfio cyllideb yn fater o sicrhau cydbwysedd, ond, o gofio bod buddsoddi mewn tai yn arwain at arbedion ehangach, bydden ni wedi hoffi bod canran uwch o'r gyllideb gyffredinol wedi'i dyrannu i dai. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ystyried manteision ataliol ehangach buddsoddi mewn tai wrth benderfynu ar ddyraniadau cyllidebol.
Rydyn ni'n parhau i bryderu am nifer y bobl sy'n dal i fyw mewn llety dros dro a'r pwysau parhaus sy'n cael eu rhoi ar awdurdodau lleol oherwydd y galw hwn. Mae'n ymddangos i ni, ar wahân i'r cynnydd yn y grant cymorth tai, sydd i'w groesawu, mai setliad arian gwastad sydd wedi'i bennu ar gyfer atal digartrefedd, ac mae hynny'n peri pryder ar adeg pan ydyn ni'n gweld mwy a mwy o ddigartrefedd a chysgu allan.
Mae ein hadroddiad yn nodi tanwariant yn y dyraniadau cyfalaf a refeniw ar gyfer diogelwch adeiladau y llynedd, ac rydyn ni wedi gofyn am esboniad ynghylch hyn—[Torri ar draws.]—diolch, Dirprwy Lywydd—a manylion y gwariant disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn bresennol. Dirprwy Lywydd, bydden ni'n ddiolchgar am ymateb ysgrifenedig llawn gan yr Ysgrifennydd Cabinet i'r argymhellion a'r casgliadau yn ein hadroddiad ni.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon heno, ac rwyf wedi mwynhau gwrando ar y cyfraniadau hyd yn hyn, er nad wyf i'n cytuno â rhai ohonyn nhw. Daw'r £1.7 biliwn ychwanegol sydd wedi'i ddyrannu i Gymru yng nghyllideb hydref y Canghellor o £40 biliwn mewn codiadau treth, sydd, y mae fy nghyd-Aelod Peter Fox wedi'i nodi'n gywir, ar gerdyn credyd sydd wedi'i ddefnyddio i'r eithaf. Cyn edrych yn fanwl ar y gyllideb ddrafft hon, mae'n bwysig mynd i'r afael â'r darlun economaidd ehangach ledled y DU a chyllideb Llywodraeth y DU, sydd wedi darparu'r arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru.
Roedd cyllideb Rachel Reeves yn cynnwys £40 biliwn mewn codiadau treth a £32 biliwn arall o fenthyca, ac mae baich y trethiant hwnnw eisoes yn dangos ei effaith ar yr economi, gyda'r holl ddangosyddion yn economi'r DU yn nodi bod dirwasgiad ar y gorwel. Ac os awn ni i ddirwasgiad, ni fydd y Canghellor yn cael y £40 biliwn ychwanegol mewn refeniw treth y mae'n ei ddisgwyl, ond rhaid i'w gwariant aros yr un fath, sy'n golygu y bydd ei benthyca yn mynd drwy'r to. Rydyn ni'n wynebu sefyllfa, felly, lle bydd yn rhaid i gyfraddau llog godi i ddenu arian i goffrau'r Llywodraeth, a bydd buddsoddwyr preifat yn osgoi'r DU oherwydd bod gennym ni faich dyled na allwn ni ei fodloni, economi mewn dirwasgiad a sterling, mae'n bur debyg, yn gostwng mewn gwerth; mae eisoes wedi gostwng 7 y cant yn erbyn y ddoler ers i'r Blaid Lafur ddod i rym ym mis Gorffennaf. Felly, mae'n bosibl ein bod ni'n wynebu trobwll o ddyled o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y DU. Mae gennym ni'r ddyled a'r dreth uchaf fel canran o gynnyrch domestig gros ers yr ail ryfel byd, felly ni ddylen ni fod yn dathlu'r tamaid ychwanegol hwnnw o arian oddi ar gefn busnesau bach, y gymuned ffermio a'r henoed, sydd wedi colli eu taliadau tanwydd gaeaf. Ac rwyf wedi crybwyll yn flaenorol yn y Siambr hon, ac mae etholwyr yn dod ataf yn llawn siom ynghylch cyflwr eu stryd fawr a'r math o fasnachwyr sy'n cymryd lle'r hen rai, ac rwyf wedi mynegi'u pryderon yn y Senedd, ac mae Aelodau Llafur wedi ymateb gyda dicter ffug a honiadau anonest o beidio â chydnabod pryderon dilys fy etholwyr.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf. Plîs.
Rwy'n sicr yn cydnabod hynny, ond os gallech chi atal Amazon rhag dosbarthu, os gallech chi atal DPD rhag dosbarthu, ac os gallech chi atal pobl rhag archebu ar-lein, byddai'r stryd fawr yn llawer iachach.
Rwy'n cytuno â hynny i ryw raddau, Mike, ac rwy'n gwybod eich bod chi wedi siarad eich hun am yr hyn rwy'n mynd i'w ddweud nesaf, sef bod llawer o strydoedd mawr ledled Cymru yn frith, erbyn hyn, o siopau barbwr dros dro, siopau fêps, a mathau eraill o fasnachwyr stryd fawr y mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn eu nodi fel rhai sy'n llawer mwy tebygol o fod yn gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol. Mae pobl yn ddig am y ffaith bod siopau lleol o safon yn cau ar eu stryd fawr a bod busnesau mwy annymunol yn cymryd eu lle, ac mae'r rheini'n bryderon dilys nid wyf i'n ymddiheuro am eu codi yn y Siambr hon ar ran fy etholwyr. Rwy'n siŵr bod pob etholaeth a threfi a phentrefi ledled Cymru ac, yn wir, y DU, wedi wynebu'r materion tebyg hynny i ryw raddau.
Mae'r setliad llywodraeth leol yn 4.3 y cant ar gyfartaledd, ond fel llawer o feysydd eraill sydd wedi cael mwy o gyllid, bydd hyn yn cael ei lyncu gan y cynnydd mewn yswiriant gwladol sydd wedi'i bennu gan y Llywodraeth ar ben arall yr M4. Felly, os yw'r cyhoedd yn credu bod yr arian ychwanegol yn mynd i olygu gwasanaethau cyhoeddus gwell, amseroedd aros is a thyllau yn y ffordd yn cael eu llenwi, yna mae gen i newyddion drwg iddyn nhw: bydd yr arian ychwanegol yn mynd yn syth yn ôl i'r Trysorlys ac ni fydd o fudd i bobl Cymru.
Er bod twristiaeth hefyd yn cael dyraniad ychwanegol, daw hynny ar adeg pan fo polisïau Llywodraeth Cymru, fel 20 mya, fel yr ydyn ni wedi'i glywed yn y ddadl hon hyd yn hyn, a Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), yn cael effaith sylweddol ar y sector twristiaeth. Rydyn ni o'r farn y dylai'r cyllid hwn fod yn mynd tuag at gefnogi'r sector twristiaeth sydd dan warchae. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru yn wfftio unrhyw awgrym o gefnogi busnesau yn lle cyrff cyhoeddus [Torri ar draws.] Fe gymeraf i ymyriad, Joyce, os hoffech chi. Mae gen i ddigon o amser.
Rydych chi'n garedig iawn i fy ngwahodd i, ond y pwynt yw, roeddwn i'n meddwl am y gwrth-ddweud rhwng dod ag arian i mewn trwy dreth dwristiaeth a helpu'r sector. Nid oeddwn i'n gallu gweld pam na allwch chi ei weld. Rwy'n byw mewn ardal lle mae llawer o dwristiaeth; rwy'n gwybod y gost a ysgwyddir bob blwyddyn o ran darparu gwasanaethau ychwanegol i'r twristiaid y mae croeso mawr iddyn nhw, ond does dim cymaint o groeso iddyn nhw o ran y dreth gyngor.
Felly, a allech chi ddweud yn bendant y bydd yr arian hwnnw a godir yn mynd yn uniongyrchol i'r man lle mae angen iddo fod? Oherwydd rwy'n edrych ar drethi eraill sy'n cael eu codi o ran y dreth gyngor yng Nghymru a'r premiwm ar lety gwyliau—[Torri ar draws.]
Byddwn i'n gofyn i'r Aelodau, os gwelwch yn dda, ganiatáu iddo ymateb i'r ymyriad, oherwydd rydyn ni ymhell y tu hwnt i'r amser ac mae gen i sawl siaradwr sy'n dal i fod eisiau siarad. Felly, Gareth.
Diolch. Gyda'r rheol 182 diwrnod, pam felly nad yw'r arian yn cael ei wario ar lenwi tyllau yn y ffordd, fel yr wyf wedi'i ddweud, ar leihau amseroedd aros? Pam mae ein cynghorau—? Pam mae Cyngor Sir Ddinbych yn fy etholaeth i yn dweud byth a beunydd eu bod nhw bron yn fethdalwyr? Pam nad yw'r arian hwnnw'n cael ei efelychu a'i wario yn y meysydd hynny lle mae ei angen? Mae'n eistedd yng nghoffrau'r Llywodraeth a does neb yn cael budd o'r cynnydd yn y ffrydiau refeniw hynny, yn anffodus.
Felly, yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru yn wfftio unrhyw awgrym o gefnogi busnesau yn lle cyrff cyhoeddus, felly, yn gyffredinol, ychydig iawn sydd yn y gyllideb hon i dawelu meddwl fy etholwyr a busnesau bach, asgwrn cefn economi Cymru, sydd ar eu gliniau ar hyn o bryd. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gynnwys mwy o fesurau i helpu busnesau bach ledled Cymru. Diolch.
Mae bwlch diamheuol rhwng rhethreg a realiti o ran y gyllideb ddrafft hon ac, i mi, o ystyried effaith 14 mlynedd o gyni Torïaidd San Steffan, sydd wedi achosi cymaint o galedi i'n dinasyddion sy'n agored i niwed ac wedi rhoi miloedd o bobl mewn tlodi ac wedi'u cadw yno, mae canfyddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wyf i'n eistedd arno yn peri pryder mawr, rwy'n credu, oherwydd yn groes i honiad y Gweinidog cyllid mai cyllideb ddrafft sy'n amddiffyn ein pobl sydd fwyaf agored i niwed yw hon, trwy gynyddu gwariant mewn sectorau y dadleuodd a fyddai'n arbennig o fuddiol i'r 20 y cant o'r boblogaeth sydd â'r lleiaf, nid yw'r gyllideb hon yn gwneud hynny mewn gwirionedd ac nid yw, rwy'n teimlo, yn canolbwyntio digon ar helpu'r rhai sydd â'r lleiaf. Er bod cynnydd bach wedi bod ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol yn y gyllideb ddrafft hon, rhaid gosod hyn yng nghyd-destun y toriadau dwfn a welsom mewn blynyddoedd blaenorol, pwysau cynyddol a mwy o alw ac angen. Fe glywsom fod effaith costau ychwanegol i'r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn sgil newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, yn mynd i fod yn niweidiol iawn i'r union sefydliadau hynny sydd wedi helpu ein pobl dlotaf a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y blynyddoedd ofnadwy hynny o gyni. Ni fydd y cynnydd yn ddigon i wrthbwyso hynny.
Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn gorfod trwsio'r tyllau yn y rhwyd ddiogelwch sy'n cael eu creu gan bolisïau San Steffan, ac nid yw'r gyllideb hon yn gallu cyflawni hynny'n effeithiol. Dydyn ni ddim wedi clywed Llywodraeth Cymru yn condemnio effaith niweidiol penderfyniadau Llywodraeth Lafur y DU sy'n ymwneud â chymorth i'r rhai mwyaf agored i niwed, fel parhau â'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau a diwedd ar daliadau tanwydd gaeaf cyffredinol i bobl hŷn.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree ei adroddiad diweddaraf ar dlodi. Mae tlodi plant yn cynyddu ar draws y rhan fwyaf o'r DU, ac mae disgwyl i Gymru fod â'r gyfradd uchaf. Erbyn 2029, bydd dros draean o blant Cymru—34.4 y cant—yn byw mewn tlodi, yn waeth na Lloegr, yn waeth na Gogledd Iwerddon. Dim ond un rhan o'r DU sy'n gwneud yn well, yr Alban, ac maen nhw wedi pleidleisio y prynhawn yma ar eu cyllideb i liniaru'r cap dau blentyn hwnnw, i'w ddileu i bob pwrpas yn yr Alban. Maen nhw wedi lliniaru methiant Llywodraethau San Steffan, rhai glas a choch, i godi safonau byw drwy'r system fudd-daliadau.
Mae'n rhaid i ni gofio nad yw hyn yn ymwneud ag ystadegau yn unig. Rydyn ni'n sôn am ystadegau heddiw a miliynau, mae'r rhain yn blant go iawn, yn deuluoedd go iawn a dyma ddyfodol Cymru, oherwydd allwn ni ddim sôn am gau'r bwlch cyrhaeddiad mewn ysgolion heb sôn am dlodi plant. Allwn ni ddim sôn am wella canlyniadau iechyd heb fynd i'r afael â thlodi plant. Allwn ni ddim adeiladu economi gryfach pan fo traean o'n plant yn cael eu magu mewn caledi, ac mae'r gyllideb hon yn methu â mynd i'r afael â'r mater a ddylai fod ar frig blaenoriaethau'r Prif Weinidog. Mae'r ffaith nad ydyw, fel y mae adroddiadau ac adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn dangos, yn dditiad o gyllideb y Llywodraeth hon a'i hanallu i sicrhau tegwch i Gymru.
Byddaf i'n siarad heddiw yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn ystod y 14 mlynedd diwethaf, mae teuluoedd, plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi wynebu heriau sylweddol heb unrhyw fai arnyn nhw. Gyda thoriadau mewn gwariant cyhoeddus o San Steffan ymhlith ffactorau eraill, mae wedi dod yn anoddach cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac maen nhw'n ei haeddu, boed hynny drwy wasanaethau ieuenctid, llywodraeth leol neu wasanaethau iechyd. Mae'r toriadau hyn wedi rhoi pwysau mawr ar adnoddau, gan ei gwneud hi'n anoddach i blant a theuluoedd wneud cynnydd.
Eleni, fel llawer o flynyddoedd eraill, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi treulio llawer o amser yn ceisio deall faint mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar wasanaethau plant. Doedden ni ddim yn chwilio am yr union ffigurau, ond roedden ni eisiau dangosyddion lefel uchel o sut y bydd y gyllideb yn cefnogi lles plant a phobl ifanc. Un maes allweddol lle mae diffyg eglurder yw absenoldeb asesiad o effaith y gyllideb ddrafft ar hawliau plant. Heb yr asesiad hwn, mae'n anodd gweld sut y bydd y gwariant arfaethedig o fantais uniongyrchol i blant.
Rydym yn gwybod bod y gyllideb ddrafft hon yn dod yn sgil un o'r setliadau gorau ers i ddatganoli ddechrau, ac mae'r cyllid sydd wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i gyrff cyhoeddus yn adlewyrchu hynny. Er enghraifft, dros £10 biliwn i fyrddau iechyd, bron i £5 biliwn i awdurdodau lleol, a bron i £1 biliwn i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Medr. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac mae'n siŵr y bydd yn golygu mwy o gefnogaeth i blant a phobl ifanc, ond mae angen mwy o fanylion arnon ni i gadarnhau a mesur hyn.
Rydyn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried cynnal asesiad o effaith ar hawliau plant o ran y prif grŵp gwariant iechyd, ar sail treial, i wella tryloywder ac atebolrwydd. Mae'r pwyllgor o'r farn bod penodiad arweinydd clinigol newydd ar gyfer iechyd plant a'r datganiad ansawdd sydd ar ddod ar gyfer iechyd plant yn newyddion i'w groesawu'n fawr. Edrychwn ymlaen at glywed ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion ynghylch sut y gall y mentrau hyn ysgogi gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mater pwysig arall yw'r rhestr aros gynyddol ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol. Yn ddiweddar, nododd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, heb ymyrraeth ychwanegol, y gallai nifer y plant ar restrau aros gyrraedd 61,000 erbyn 2027. Mae'r Gweinidog yn iawn i gydnabod rôl hanfodol addysg a'r trydydd sector wrth ddarparu cymorth, ond mae'r sectorau hyn hefyd yn wynebu eu cyfyngiadau cyllid a gallu eu hunain, a dyna pam rydyn ni'n croesawu'r £13.7 miliwn a gyhoeddwyd ddoe ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol dros y ddwy flynedd nesaf, y byddwn ni'n monitro ei effaith yn ofalus.
Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae tua 27 y cant o blant pump oed yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew. Bydd rhywfaint o'r cyllid ar gyfer menter 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn canolbwyntio ar blant yn 2025-26, sy'n galonogol, ond mae cwestiynau o hyd am y data a'r dystiolaeth y tu ôl i'r strategaeth. Sut fydd llwyddiant y fenter hon yn cael ei fesur?
Roedd gofal plant yn faes pwysig y gwnaethon ni graffu arno eleni. Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wrthym fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno gofal plant Dechrau'n Deg yn llawn i bob plentyn dwy flwydd oed, gydag £20 miliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi'r fenter hon. Fodd bynnag, mae ansicrwydd o hyd ynghylch a fydd digon o gyllid i gwblhau cam olaf y broses gyflwyno. Rydyn ni wedi gofyn am amserlen glir a mwy o wybodaeth am unrhyw rwystrau ariannol a allai effeithio ar y broses gyflwyno hon.
Mae materion allweddol eraill sy'n effeithio ar blant yn y gyllideb ddrafft hon, fel y bwriad i ddisodli consortia addysg rhanbarthol a phartneriaethau awdurdodau lleol newydd. Mae hwn yn newid sylweddol, a bydd y pwyllgor yn gwneud gwaith pellach ar hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Hefyd, i ategu fy nghyd-gadeiryddion pwyllgorau, mae pryderon am effaith y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol ar elusennau, a allai effeithio ar wasanaethau rheng flaen sy'n cefnogi plant ledled Cymru. Er bod y gyllideb ddrafft yn cynnwys mentrau cadarnhaol ar gyfer plant a phobl ifanc, mae sawl her o hyd a phlant sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan yr heriau hyn. Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn haeddu dyfodol mwy disglair ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y gyllideb hon yn helpu i gyflawni hynny.
Rwyf eisiau edrych yn adeiladol ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, ac rwyf eisiau canolbwyntio heddiw ar yr hyn y mae'r gyllideb hon yn ei olygu i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar dri maes, gan nad yw amser yn caniatáu i mi ymdrin â mwy o feysydd yr hoffwn fynd i'r afael â nhw.
Gall pob un ohonon ni gytuno bod buddsoddi yn ein GIG yn hollbwysig; mae'r un mor bwysig i ni sicrhau y bydd cyllideb fwyaf y Llywodraeth yn cyflawni'r gwelliannau y mae eu hangen mor daer ar gleifion a staff rheng flaen. Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi £610 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys £175 miliwn ar gyfer buddsoddiad cyfalaf. Mae hwn yn ymrwymiad sylweddol ac rwy'n croesawu unrhyw fesurau sydd â'r nod o leihau amseroedd aros, gwella gwasanaethau iechyd meddwl a chryfhau gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o'r buddsoddiad yn mynd ar gyflog a phwysau o fewn y system, a dyna pam mae cyfrifoldeb arnon ni, fel cynrychiolwyr etholedig, i sicrhau bod unrhyw gyllid uwchlaw cyflog a phwysau yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl, a'i fod yn cyrraedd meysydd lle y bydd yn cael yr effaith fwyaf.
Un maes y mae angen rhoi sylw iddo yw iechyd menywod. Mae'r Llywodraeth wedi dyrannu £3 miliwn i sefydlu hybiau iechyd menywod ledled Cymru, sy'n gam cadarnhaol, ond un sydd eisoes wedi codi pryderon ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd. Y cwestiwn yr hoffwn i ei ofyn i'r Gweinidog cyllid yw: os daw'n amlwg bod cyllid yn brin, a wnaiff y Llywodraeth geisio cynyddu buddsoddiad i ateb y galw os bydd unrhyw gyllid ar gael yn ystod y flwyddyn, er mwyn sicrhau bod menywod yn cael mynediad i'r driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw? Ac rwy'n dweud 'cyllid yn ystod y flwyddyn' gan fy mod i'n gwybod nad yw arian yn tyfu ar goed, ac rwy'n gwybod bod cyllid yn gyfyngedig iawn.
Un o'r problemau mwyaf yng Nghymru heddiw yw amseroedd aros y GIG, ac rydyn ni i gyd yn gwybod bod miloedd o bobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir am driniaeth. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo cyllid i ymdrin â'r ôl-groniad, ond sut y byddwn ni, fel y Senedd, yn gwybod sut mae byrddau iechyd yn gwario'r cyllid hwn? Yr hyn rwyf eisiau ei weld yw targedau clir, amserol, mesuradwy sy'n dangos yn union sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio, a sut mae'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i wella canlyniadau i bobl ledled Cymru. Ni all fod yn ddigon i ddyrannu arian a gobeithio am y gorau; mae'n rhaid i ni sicrhau, fel y Senedd hon a'r Llywodraeth hon, fod yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol. Ac fe fyddaf yn galw am fwy o dryloywder a chraffu ar wasanaethau yn y mater hwn.
Un mater sydd wedi'i godi gan lawer o Aelodau heddiw yw'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, yn enwedig yn ein sector gofal cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n darparu unrhyw arian ychwanegol ar gyfer hyn, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i'r Llywodraeth ei ystyried, oherwydd rydyn ni eisoes yn clywed bod rhai o'n cartrefi gofal ledled Cymru yn wynebu'r posibilrwydd o gau, ac nid wyf eisiau gweld hynny'n digwydd gan y bydd yn rhoi llawer o'n pobl agored i niwed ledled Cymru mewn perygl. A dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, iawn ein bod ni'n cael ateb clir gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y mater hwn.
Mae'r holl fesurau hyn yn golygu adrodd yn rheolaidd ar gynnydd, meincnodi clir ar gyfer llwyddiant, a sgyrsiau gonest am yr hyn sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio. Allwn ni ddim caniatáu sefyllfa lle mae miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn cael ei arllwys i mewn i fentrau heb oruchwyliaeth briodol, dim ond i gael ein hunain yn yr un sefyllfa flwyddyn ar ôl blwyddyn lle nad yw pethau'n gwella ac mae arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu. Mae pobl Cymru yn haeddu gweld gwelliannau gwirioneddol i ofal iechyd, a'n gwaith ni yw sicrhau bod hynny'n digwydd.
Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno nad yw'r un o'r materion hyn yn wleidyddol bleidiol. Rwy'n credu eu bod yn ymwneud â sicrhau bod pobl Cymru yn cael y gofal gorau posibl. Y gwir amdani yw bod ein GIG dan straen aruthrol, ac os ydyn ni eisiau ymdrin â'r heriau hyn, fel y dywedais i, mae'n rhaid i ni fod yn onest am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio, ac mae'n rhaid i ni allu rhoi ein gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu i sicrhau bod pob £1 sy'n cael ei gwario yn y gyllideb hon yn sicrhau'r budd mwyaf i gleifion a'r cyhoedd ledled Cymru.
Byddaf i'n parhau, Ysgrifennydd Cabinet, i graffu ar y gyllideb hon, i herio'r Llywodraeth lle bo angen, ac i weithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Siambr i bwyso am welliannau. Rwy'n credu bod angen i ni edrych o ddifrif yn y Senedd hon ar sut yr ydyn ni'n trafod y gyllideb ac yn craffu arni, oherwydd mae'r gyllideb yn £26 biliwn, ac nid wyf i'n credu bod neilltuo dim ond cwpl o oriau ddwywaith y flwyddyn i edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfiawnder â'r gyllideb, ac nid wyf i'n credu ei fod yn gwneud cyfiawnder â'r cyhoedd, ac rwy'n credu bod gwir angen craffu ar bolisi manwl y tu allan i gamau'r pwyllgorau, mewn gwirionedd, yn y Siambr hon yn y broses hon o bennu cyllideb. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Rydyn ni wedi clywed Llywodraeth Cymru yn sôn lot fawr am ddelifro, troi geiriau yn weithredoedd, ond beth glywes i ar stepiau’r Senedd y prynhawn yma gan undeb yr UCU yw nad yw Llywodraeth Cymru yn delifro i’n prifysgolion ni. Fe glywon ni y newyddion syfrdanol yr wythnos diwethaf am Brifysgol Caerdydd o bosibl yn mynd i golli 400 o swyddi. Mae cyfrifon y prifysgolion eraill a gafodd eu cyhoeddi yr wythnos diwethaf hefyd yn paentio darlun pryderus iawn, iawn am eu sefyllfa ariannol nhw. Nawr, mae arnaf ofn, mae’n rhaid dweud hyn, bod hyn yn gondemniad difrifol iawn o fethiant y Llywodraeth i roi ein prifysgolion ni ar sylfeini ariannol cadarn. Ac yn eu hawr fawr o angen, maen nhw'n methu â delifro. Maen nhw, mewn gwirionedd, yn eistedd ar eu dwylo o ran eu cyfrifoldeb tuag at y sector, yn wyneb y ffaith bod yna ddiswyddiadau, cannoedd ohonyn nhw, yn mynd i ddigwydd dros y misoedd nesaf, a mwy o gyrsiau yn mynd i gael eu colli.
Er gwaethaf eu sefyllfa ariannol enbyd ar ôl tair blynedd yn olynol o doriadau i'r sector addysg uwch, nid yw'n ymddangos bod y gyllideb ddrafft hon yn cynnig unrhyw fuddsoddiad pellach i'n prifysgolion. Ac er gwaethaf y cynnydd mewn ffioedd dysgu, bydd yr incwm hwn yn cael ei ddileu'n llwyr bron iawn gan y cynnydd i'r cyfraniadau yswiriant gwladol ac, felly, nid yw o unrhyw gymorth i lawer o'r sefydliadau hyn. Mae staff a myfyrwyr prifysgolion yn haeddu gwell na hyn. Mae Plaid Cymru yn credu bod angen fformiwla gyllido llawer tecach ar Gymru i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a'n hasedau cenedlaethol fel ein prifysgolion. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno na ddylai Cymru orfod fodloni ar ddim llai.
Heddiw, mae'r Senedd yn cynnal pleidlais nad yw'n rhwymo ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ac yna bydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi ar 25 Chwefror. Felly, gadewch i ni fod yn onest: mae cymaint yn y fantol, mae'r ddadl heddiw wedi gofyn yn rhannol, yn anffodus, i wneud pwyntiau trafod gwleidyddol pleidiol, gyda rhai Aelodau yn ceisio cael eu dyfynnu fel rhai sy'n lladd ar gyllideb Llywodraeth Cymru hyd yn oed cyn i ni weld y fersiwn derfynol.
Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, a gaf i sôn, a rhybuddio, am beryglon rhagair unrhyw Gadeirydd pwyllgor i unrhyw adroddiad yn cael ei dderbyn fel barn unfrydol y pwyllgor hwnnw? Heddiw, darllenais ar dudalen 6 o'r Western Mail bennawd pryfoclyd,
'Cyllideb Llywodraeth Cymru yn llawn "geiriau gwag"...addroddiad'.
Byddai darllenydd achlysurol yn meddwl bod y Pwyllgor Cyllid trawsbleidiol wedi dod i'r casgliad hwn mewn gwirionedd, pan, mewn gwirionedd, mai geiriau goddrychol ein Cadeirydd—Aelod Plaid Cymru yr wyf yn ei barchu, ond nad yw byth yn fwriadol yn colli cyfle i feirniadu Llywodraeth Cymru. Rwy'n hoffi Peredur yn bersonol yn fawr iawn, ond tybed pam nad oedd ei ragair yn canolbwyntio yn fwy ar y ffeithiau gwrthrychol mai setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yw'r cynnydd mwyaf mewn cyllid termau real ers dechrau datganoli. Nododd adroddiad ein Pwyllgor Cyllid nad yw'r argyfwng costau byw wedi diflannu a nododd y gwahaniaeth mewn iaith o iaith cyni yn ystod y blynyddoedd diwethaf. A oes unrhyw un yma heddiw yn awgrymu'n ddifrifol, ar ôl 14 mlynedd o gyni Llywodraeth Dorïaidd y DU, y byddai'r holl broblemau ariannol yn cael eu datrys, y byddai'r argyfwng costau byw rywsut wedi dod i ben o fewn chwe mis i ethol Llywodraeth Lafur yn y DU?
Rydym yn sôn yn aml yn y Siambr hon am aeddfedrwydd cynyddol democratiaeth Cymru ers dechrau datganoli. Gadewch i ni ddangos hynny yn ymarferol dros y mis nesaf a sicrhau bod cyllideb yn cael ei phasio er lles Cymru, ac i sicrhau nad oes yr un geiniog yn cael ei cholli i Gymru—nid eto, nid byth. Dim ond edrych ar yr Unol Daleithiau y mae'n rhaid i ni ei wneud i weld y gwleidyddoli yn Washington dros gyllideb Llywodraeth yr UD sy'n gweld Llywodraeth yr UD gyfan yn cau o bryd i'w gilydd a gweithwyr yn cael eu gadael heb dâl a theuluoedd yn llwgu. Byddai'n hawdd gwneud pwyntiau gwleidyddol rhad, a dydw i ddim yn mynd i wneud hynny. Gadewch i ni adael polareiddio pleidiol llwyr i eraill, a gadewch i ni, yn null democratiaid aeddfed, eirioli dros gyfaddawdu a chytuno ar gyllideb er lles Cymru sy'n ceisio diwallu angen Cymru. Diolch yn fawr i chi.
O unrhyw ogwydd, mae hon yn gyllideb dda. Am y tro cyntaf ers 14 mlynedd, rydym ni wedi cael y cyfle i godi gwariant ym mhob un o adrannau Llywodraeth Cymru. Bydd y dyraniad ychwanegol o £1.5 biliwn gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn tlodi. Tri biliwn o bunnoedd o gyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion newydd, ystad ac offer y Gwasanaeth Iechyd, adeiladu mwy o gartrefi, buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, atgyweirio ffyrdd, uwchraddio trafnidiaeth gyhoeddus a gwella amddiffynfeydd llifogydd, pecyn gwerth £335 miliwn o gymorth ardrethi annomestig i fusnesau, gan ymestyn ymrwymiadau i bolisïau sy'n rhoi arian ym mhocedi pobl, cynyddu'r gronfa cymorth dewisol, y lwfans cynhaliaeth addysg, y grant tai cymdeithasol, y rhaglen llety dros dro a'r cynnig gofal plant—dyma'r pethau sydd ar y bwrdd heddiw.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae'r gyllideb ddrafft hon yn ganllaw i ddyfodol mwy disglair. Ond bydd yn cymryd mwy nag un gyllideb i ddadwneud effaith ganlyniadol 14 mlynedd o gamreoli economaidd, camgymeriadau gwleidyddol a fandaliaeth gymdeithasol gan y Torïaid. Drwy gefnogi'r gyllideb hon, serch hynny, bydd yn rhaid i ni gychwyn ar y daith honno—
Ydych chi'n derbyn yr ymyriad?
Nac ydw. Os methwn â gwneud hynny, bydd y canlyniad yn ddifrifol—atal arian ychwanegol a glustnodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig rhag cael ei gwario ar leihau'r cynnyrch treth yng Nghymru hyd at £3 biliwn sy'n golygu penderfyniadau anhygoel o anodd a niweidiol i wasanaethau cyhoeddus. Dyma beth sydd yn y fantol yma. Nid gêm mo hyn. Byddai'n wiriondeb. [Torri ar draws.] Na, rwyf bron â gorffen. Byddai'n wiriondeb. Pleidleisiodd pobl y wlad hon i roi terfyn ar fyrbwylltra gwleidyddol. Yn anad dim arall, maen nhw'n disgwyl sicrwydd, eglurder a deheurwydd gan y Senedd hon, nid anhrefn a dryswch. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn dechrau aeddfedu ac edrych ar y ffaith nad maes chwarae yw hwn, nid gêm mo hon; mae hon yn gyllideb wirioneddol, wirioneddol sy'n mynd i effeithio ar fywydau pobl.
Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid nawr i ymateb i'r ddadl—Mark Drakeford.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n credu bod dros 20 Aelod o'r Senedd wedi siarad ynddi, ac rwy'n credu bod hynny'n dystiolaeth o ddifrifoldeb y ddadl. Dywedais yn fy nghyfraniad agoriadol y bu hon yn aml yn achlysur ar gyfer cyfraniadau meddylgar a chyfraniadau dylanwadol, hefyd, ac, ar y cyfan, rwy'n credu bod y prynhawn yma wedi gwireddu'r traddodiad hwnnw.
Dydw i ddim yn mynd i allu ymateb, wrth gwrs, i bawb sydd wedi siarad yn yr amser sydd gen i ar ôl. Fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i gadeiryddion y pwyllgorau sydd wedi siarad yn y ddadl: Buffy Williams, John Griffiths, Jenny Rathbone, Llyr Gruffydd a Delyth Jewell. Rwyf wedi cael cyfle, Llywydd, i ddarllen, yn gyflym iawn ond i ddarllen, yr adroddiadau a gyhoeddwyd ddoe, ac rwy'n credu bod yr adroddiadau'n deyrnged i'r gwaith y mae pwyllgorau'n ei wneud. Maen nhw'n feddylgar, mae ganddyn nhw awgrymiadau i'w gwneud—gan amlaf i wario mwy o arian. Rwy'n deall hynny. Dyna pam mae pwyllgorau yno, i gyflwyno'r achosion hynny, ac roeddwn i'n meddwl bod cyfraniadau pob Cadeirydd pwyllgor y prynhawn yma yn deyrnged i ddifrifoldeb y gwaith maen nhw'n ei arwain.
Gwelwyd cyfres o themâu yn amlygu eu hunain drwy'r prynhawn ac fe ddof i at y rheiny mewn eiliad. Fel y dywedais i, ni allaf ateb pob pwynt sydd wedi'i godi, ond roedd arna i eisiau ymdrin yn fyr iawn ag ychydig ohonyn nhw. Gofynnodd Carolyn Thomas i mi a yw'r arian y byddwn yn ei ddarparu, y refeniw y byddwn yn ei ddarparu, i gefnogi benthyca i lywodraeth leol fel y gallan nhw roi sylw i ffyrdd a phalmentydd lleol, a yw hynny am gyfnod llawn y benthyca, y 30 mlynedd. Ydy mae o. Unwaith y bydd yn y gyllideb, caiff yr arian hwnnw ei ddarparu dros y tymor hir hwnnw. Roedd James Evans—ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn gyfraniad meddylgar—yn cydnabod bod yr arian rydym ni'n ei ddarparu ar gyfer iechyd menywod yn ddechrau yn y buddsoddiad hwnnw, ac roeddwn i eisiau dweud wrtho ac wrth gyd-Aelodau eraill yma petai mwy o arian ar gael yn ystod y flwyddyn, yna bydd y gwasanaeth iechyd bob amser ar frig rhestr blaenoriaethau llywodraeth Lafur, a bydd hynny'n wir am y flwyddyn nesaf, fel y mae cael y gwerth gorau am y buddsoddiadau a wnawn yn ein holl wasanaethau cyhoeddus.
Roedd arna i eisiau dweud rhywbeth am y cyfraniadau a wnaed ar ran pleidiau gwleidyddol, Llywydd. Wel, roeddwn i'n meddwl i Sam Rowlands raffu'r hen ystrydebau. Roeddwn i'n meddwl iddo wneud ei orau. Cafwyd nifer o gyfraniadau gan feinciau'r Ceidwadwyr, gan y rhai na chynigiwyd manteision teithio tramor iddyn nhw, a'n diddanodd unwaith eto â goreuon eu cyfraniadau niferus. Yr hyn nad oedden nhw'n ei gynnig, ddim yr argoel lleiaf—ac roedd yn wir am gyfraniad Sam Rowlands hefyd; arhosais wrth i'r munudau dicio heibio, gan feddwl unrhyw funud nawr mae'n mynd i ddweud wrthym ni beth fyddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn ei wneud—ond dim smic—. Y casgliad arferol o ddarogan gwae, popeth maen nhw'n meddwl sy'n anghywir gyda Chymru, ond, o gynnig cyfle iddyn nhw, cyfle 10 munud, Llywydd, i nodi beth fyddai'r gwrthwynebiad yn ei wneud pe bai pobl yng Nghymru yn ymddiried ynddyn nhw, ni fyddai neb, neb o gwbl a oedd yn gwrando ar y ddadl hon—[Torri ar draws.] Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ystyried na wnes i'r camgymeriad hwnnw. Ceisiais bwysleisio y byddai ychydig filiwn yn fwy i'r gymuned elusennol trydydd sector, gofal trydydd sector a sefydliadau iechyd, o iechyd a gofal yn cynhyrchu degau o filiynau o arbedion i'r cyrff statudol hynny. Mae'n gyfaddawd rhesymol. Mae'n gyllidebu clyfar.
Gwrandawais yn ofalus ar gyfraniad Mark Isherwood. Efallai'n wir na wnaeth gamgymeriadau llefarydd ei blaid, ond yr hyn na wnaeth ychwaith oedd egluro i ni o ble fyddai'r arian hwnnw'n dod. A dyna, wrth gwrs, y cyfyng-gyngor sy'n wynebu'r gwrthbleidiau yma. Maen nhw'n awyddus iawn i ddweud wrthym ni beth sydd o'i le; does ganddyn nhw bron ddim byd i'w ddweud wrthon ni ynghylch sut mae cywiro hynny. A hyd yn oed pan fyddant yn gwneud hynny, ni allan nhw ddweud wrthym ni sut y bydden nhw'n talu amdano.
Gwrandais, wrth gwrs, ar y cyfraniadau niferus o feinciau Plaid Cymru—ymgais i esbonio'r cwlwm gwleidyddol y mae'r blaid hon wedi drysu ei hun ynddi gyda'r gyllideb hon. Mae'r gyllideb, meddai Mabon ap Gwynfor, yn 'ymladd tân', ond mae'n mynd i bleidleisio yn erbyn y gyllideb, felly byddai'n well ganddo'r i'r tân barhau i losgi. Dywedwyd wrthym ni gan Sioned Williams fod y gyllideb yn ymgais i drwsio'r tyllau yn y wladwriaeth les, ond mae hi'n mynd i bleidleisio yn erbyn y gyllideb, felly ni fydd y tyllau hynny'n cael eu llenwi o gwbl. Fe glywsom ni gan Cefin Campbell fod angen mwy o help ar sector y brifysgol. Mae'n mynd i bleidleisio yn erbyn cyllideb sy'n darparu miliynau yn fwy o bunnau o fuddsoddiad yn y sector addysg. Doedd dim un ohonyn nhw—dim un ohonyn nhw, Llywydd—yn gallu dweud wrthym ni sut y bydden nhw'n symud arian o fewn y gyllideb bod ni wneud gwaith gwell. Yn hytrach, ac yn rhyfeddol i blaid a oedd yn barod i ganiatáu i gyllidebau a oedd â thoriadau i wasanaethau cyhoeddus fynd drwy'r Senedd, byddant yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb gyntaf a welsom ni ers blynyddoedd lawer sydd â buddsoddiad gwirioneddol newydd yn y gwasanaethau hynny.
Gofynnais i chi a fyddech chi'n gweithio gyda ni i frwydro am gyllid teg i Gymru. Pan wnaethom ni weithio o dan y cytundeb cydweithio, gyda Llywodraeth Geidwadol wahanol yn y Deyrnas Unedig, buom yn gweithio gyda chi. Ond fe wnaethoch chi addo gymaint—y byddech chi'n ymladd dros Gymru. Fe ddywedoch chi'r un pethau â ni bryd hynny o ran y £4 biliwn sy'n ddyledus i Gymru drwy gyllid canlyniadol HS2. Pam ydych chi'n dawel nawr? Rydym ni wedi cynnig gweithio gyda chi i ymladd dros Gymru; rydych chi'n dawel.
Nid Llywodraeth Lafur Cymru a dynnodd yn ôl o'r cytundeb cydweithio. Efallai yr hoffai'r Aelod gofio hynny. Wrth gwrs, rydym ni'n parhau i ddadlau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y pethau yr ydym ni'n gwybod sy'n iawn i Gymru: o ran HS2, o ran fformiwla ariannu teg i Gymru. Nid yw ymladd yn darparu un geiniog ychwanegol ar gyfer y gyllideb hon, a dyna beth rydym ni'n ei drafod, nid rhyw gyllideb ffantasi gan Blaid Cymru pan ydym ni wedi ennill yr holl ddadleuon ac mae'r arian yn llifo i lawr yr M4 fel y gallwn ni greu ein llwybr at annibyniaeth ar gefn pawb arall—[Torri ar draws.] Na, nid yw hynny'n ddim byd. Yn y gyllideb hon, dyna beth rydym ni yma i'w drafod, nid gwleidyddiaeth ffantasi Plaid Cymru. Ac ar y gyllideb hon, doedd ganddyn nhw ddim byd o gwbl i'w ddweud wrthym ni y prynhawn yma, heblaw y byddan nhw'n pleidleisio'n fwriadol ac yn bwrpasol i amddifadu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny a'r bobl hynny sy'n dibynnu arnyn nhw o'r arian ychwanegol sydd ar gael iddyn nhw drwy'r gyllideb hon. Ac rwy'n dweud wrthych chi nawr, gwnaiff bobl gofio hyn. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, y gwnaf i.
Cyllideb Llafur yw hon. Rwy'n cymryd yn ganiataol bod gennych chi gynllun i'w gyflawni.
Cyllideb Llafur yw hon, ac rwy'n falch mai cyllideb Llafur yw hi. Rwy'n falch o bopeth y bydd yn ei wneud i wella bywydau pobl yng Nghymru. Y tro nesaf y byddwch yn gofyn am fwy o arian ar gyfer hyn a mwy o arian ar gyfer llall, ac maen nhw'n gofyn i chi, 'Pam wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn mwy o arian pan oedd ar gael?', gobeithio y bydd gennych chi ateb gwell nag unrhyw un rydych chi wedi'i gynnig i ni yma y prynhawn yma.
Gadewch imi droi, Llywydd, at y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n gobeithio bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedwyd gan aelodau ei bwyllgor yma y prynhawn yma. Nid wyf erioed wedi clywed cyhoeddi datganiad i'r wasg gan bwyllgor a wadwyd gan aelodau'r pwyllgor hwnnw fel y gwadwyd ei ddatganiad i'r wasg y prynhawn yma. Roedd yn niweidiol i enw da y pwyllgor hwnnw, bod datganiad i'r wasg hollol bleidiol nad oedd yn adlewyrchu'r adroddiad ei hun nac, fel y dywedodd yr Aelodau yma, yn cael ei adlewyrchu yn y cyfraniad a wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Byddaf yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid gyda'r difrifoldeb rwy'n gobeithio y byddaf wastad yn ymdrin â'r trafodaethau a gawn ni yn y Pwyllgor Cyllid. Mae yna awgrymiadau difrifol, byddant yn derbyn ymateb difrifol. Mae'n drueni mawr bod y gwaith hwnnw wedi ei danseilio gan y ffordd cwbl bleidiol y cafodd casgliadau'r pwyllgor hwnnw eu hadrodd i'r cyfryngau yma yng Nghymru.
Dro ar ôl tro y prynhawn yma, yn gwbl ddealladwy, rydym ni wedi clywed pryderon am gyfraniadau yswiriant gwladol. Gadewch imi ailadrodd yr hyn a ddywedais o'r blaen: cyn gynted ag y byddaf yn gwybod faint o arian a ddaw i Gymru i helpu gyda chyfraniadau cyflogwyr yn y sector cyhoeddus, bydd yr arian hwnnw'n cael ei wneud yn hysbys i'r gwasanaethau hynny ac fe drosglwyddir yr arian hwnnw iddyn nhw ar unwaith. Yr hyn na allaf ei wneud yw dargyfeirio arian sydd ar gael i'r Senedd hon ar gyfer y cyfrifoldebau yr ydym yn eu cyflawni yma—i dynnu arian oddi wrth y cyllidebau hynny i wneud iawn am ddiffygion mewn cyllidebau nad ydyn nhw'n gyfrifoldeb arnom ni o gwbl. Er mor anodd yw hynny a chymaint ag y clywaf y dystiolaeth a gyflwynwyd i bwyllgorau, mae honno'n egwyddor na allaf gefnu arni wrth wneud cyllideb yma i Gymru.
Yr arian sydd gennyf ar gael i mi a roddais i chi i gefnogi'r cyfrifoldebau y cawsom ni i gyd gyda'n gilydd ein hethol i'w cyflawni. Os ydych chi am i mi dynnu arian oddi ar y gwasanaeth iechyd, os ydych chi am i mi dynnu arian oddi ar addysg, os ydych chi eisiau llai o arian wedi ei wario ar dai er mwyn gwneud iawn am gyllideb nad ydym yn gyfrifol amdani mewn unrhyw ffordd, rhaid i chi roi gwybod i mi. Nid wyf yn credu y byddai hynny'n iawn ac rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y Pwyllgor Cyllid: nid wyf yn mynd i allu gwneud hynny yn y gyllideb hon.
Yr hyn y byddaf yn ei wneud, i gloi, Llywydd, yw gwrando'n ofalus iawn ar y pwyntiau a wnaed o amgylch y Siambr ynghylch meysydd blaenoriaeth a amlygwyd drwy'r broses graffu. Rydw i wedi clywed yr hyn a ddywedwyd y prynhawn yma am y celfyddydau. Rydw i wedi clywed yr hyn a ddywedwyd am ofal cymdeithasol. Rydw i wedi clywed yr hyn a ddywedwyd am blant. Rydw i wedi colli cyfrif sawl gwaith, Llywydd, rydw i wedi dweud, er gwaethaf y ffaith bod gennym ni £1.5 biliwn i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ar ôl 14 mlynedd o gyni na fydd yn llenwi pob twll, ni fydd hynny'n cywiro popeth rydym wedi gorfod ymdrin ag ef dros y cyfnod hwnnw.
Ond rwy'n rhoi'r sicrwydd hwn i'r Aelodau yma: bod gwaith pwyllgorau wrth graffu ar y gyllideb, yr awgrymiadau adeiladol a wnaed yma y prynhawn yma, o bwys i'r Llywodraeth hon. Maen nhw'n bwysig i mi fel y Gweinidog cyllid, ac wrth i ni symud i'r gyllideb derfynol byddaf yn gwrando'n astud iawn ar y pwyntiau a wnaed y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio, lle gallaf, adlewyrchu rhywfaint o hynny yn y ffordd y mae'r gyllideb derfynol yn dyrannu'r arian sydd gennym ni ar gyfer y cyfrifoldebau y gofynnir i ni eu cyflawni yn rhan o'n gwaith yn y Senedd hon.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad ac felly wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 8 fydd nesaf. Cyfnod 4 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yw'r eitem yma. Dwi'n galw ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Dawn Bowden.
Cynnig NDM8820 Dawn Bowden
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig Cyfnod 4 Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Mae'r darpariaethau i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yn rhan o'r diwygiad mwyaf o wasanaethau plant yng Nghymru ers dros 40 mlynedd. O faethu a mabwysiadu, rhianta corfforaethol, safonau ymarfer a gwasanaethau i blant ag anghenion cymhleth, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ein hymrwymiad ar waith i roi cyfle i bob teulu yng Nghymru lwyddo.
Mae'n werth cofio ble ddechreuodd y rhan yma o'r Bil—gyda phobl ifanc yn dweud wrthym ni nad oedden nhw am fod yn fodd i rywun wneud elw o'r heriau roedden nhw a'u teuluoedd yn eu hwynebu. Rydym ni'n gwrando arnyn nhw ac yn cytuno â nhw. Dyna pam y gwnaethom ni gyflwyno'r Bil hwn a pham mae heddiw mor bwysig i bobl ifanc. Mae'n dangos, yn anad dim, ein bod ni wedi eu clywed ac rydym ni wedi rhoi eu hawliau a'u hanghenion yn gyntaf. Bydd y Bil hefyd yn caniatáu inni sianelu'r adnoddau i dalu am ofal yn uniongyrchol i wasanaethau heb elw preifat, fel y gallwn ni ddatblygu ystod gynaliadwy, fforddiadwy a rheoledig o wasanaethau gofal i'n pobl ifanc.
Yn ogystal, os caiff ei basio, bydd y Bil yn chwarae rhan bwysig wrth anrhydeddu ymrwymiad y Llywodraeth i wella'r rhyngwyneb rhwng gofal cymdeithasol a gofal iechyd parhaus y Gwasanaeth Iechyd trwy alluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol gofal iechyd parhaus. Mae hyn yn bwysig wrth gefnogi pobl anabl a'r rhai ag anghenion iechyd hirdymor i fyw mor annibynnol a chyda chymaint o reolaeth â phosibl. Mae hefyd yn dyst i'n hymrwymiad i roi llais y rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru wrth galon yr hyn a wnawn fel Llywodraeth.
Mae hwn yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth, y gallwn i gyd fod yn falch ohoni. Fe hoffwn i ddiolch i Aelodau'r Senedd, yn enwedig fy rhagflaenydd Julie Morgan, a fu'n gyfrifol am y Bil hwn yn ei gamau cynnar. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Aelodau a'r pwyllgorau hynny sydd wedi craffu ar y Bil hwn ac wedi helpu i'w wella, gyda chefnogaeth swyddogion Comisiwn y Senedd. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi fy nghefnogi am eu hymrwymiad a'u hymroddiad. Yn yr un modd, fe hoffwn i ddiolch i'r holl randdeiliaid a phartneriaid cyflenwi sydd wedi cyfrannu at y broses polisi a deddfwriaethol. Ond yn anad dim, rwy'n ddiolchgar i'r plant a'r bobl ifanc, a phobl anabl, a'r rhai ag anghenion iechyd hirdymor, a gyfrannodd at ddatblygu a chraffu ar y Bil drwy rannu eu profiadau o'r system iechyd a gofal cymdeithasol a'u barn ynghylch sut mae angen iddo newid.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda phawb sy'n gysylltiedig wrth i ni weithredu'r Bil, yn ddibynnol, wrth gwrs, ar Gydsyniad Brenhinol. Rwy'n annog pob plaid yn y Senedd i gefnogi'r Bil hwn, fel y gallwn ni wella'r profiad gofal i blant sy'n derbyn gofal, sicrhau bod taliadau uniongyrchol yn bosibl i bobl sy'n derbyn gofal iechyd parhaus gan y Gwasanaeth Iechyd, a'u cefnogi i fod â llais a rheolaeth dros eu bywydau, a gwella gweithrediad y gyfraith o ran gofal cymdeithasol yng Nghymru. Diolch, Llywydd.
Fe hoffwn i fynegi fy niolch unwaith eto i'm cyd-Aelod Altaf Hussain am ei waith ymroddedig ar y Bil hwn, cyn ei drosglwyddo i mi, yn ogystal â'r clerc a'r tîm cyfreithiol am eu gwaith caled drwy gydol y broses graffu, sydd wedi galluogi pob Aelod yma i gyflawni eu swyddogaethau mor effeithiol â phosibl.
Rydym ni'r Ceidwadwyr Cymreig, a minnau, wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu. Mae pob plentyn yn haeddu teimlo'n ddiogel, wedi ei werthfawrogi a'i gefnogi, yn enwedig y rhai sydd eisoes wedi wynebu caledi sylweddol yn eu bywydau ifanc. Credwn mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw trwy system sydd â digon o adnoddau a chynhaliaeth sy'n blaenoriaethu gofal o ansawdd, sefydlogrwydd a chanlyniadau cadarnhaol hirdymor i'r bobl ifanc hynny mewn gofal.
Fodd bynnag, ni fydd yn syndod bod gan fy nghyd-Aelodau a minnau bryderon am y ffordd yr aethpwyd ati gyda'r ddeddfwriaeth hon. Y gwir amdani yw bod 87 y cant o leoliadau cartrefi plant a 35 y cant o leoliadau maethu yng Nghymru yn cael eu darparu gan y sector preifat. Mae'r darparwyr hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gan blant rywle diogel i fyw a derbyn y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Mae llawer o'r sefydliadau hyn yn darparu gofal tosturiol o ansawdd uchel, gan helpu plant i ailadeiladu eu bywydau a theimlo'n rhan o deulu, a gweithio tuag at ddyfodol sefydlog. Mae'n anghywir i gymryd yn ganiataol bod gwneud elw yn ei hanfod yn groes i ddarparu gofal rhagorol. Ledled Cymru, mae darparwyr preifat sy'n mynd yr ail filltir i'r plant maen nhw'n eu cefnogi—[Torri ar draws.] Diolch, Janet—gan ddarparu sefydlogrwydd, adnoddau a chyfleoedd sy'n eu helpu i ffynnu. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw a yw lleoliad yn ddiogel, yn meithrin ac yn diwallu anghenion y plentyn. Credwn fod peryglu lleoliadau presennol a chyfyngu ar gapasiti yn y dyfodol yn enw ideoleg yn anghywir.
Dywedwyd wrthym ni trwy gydol hynt y Bil hwn y bu gwrando ar blant a phobl ifanc yn flaenoriaeth, ac eto ni allwn ni anwybyddu'r ffaith mai'r pryder pwysicaf i'r holl blant hyn yw gwybod y cânt eu rhoi mewn cartref lle maen nhw'n teimlo eu bod yn derbyn gofal, a lle maen nhw'n ddiogel, a lle y bodlonir eu hanghenion. Mae angen sicrwydd a chysur ar y plant mewn gofal heddiw, nid polisïau sy'n peri risg o leihau nifer y lleoliadau sydd ar gael neu ohirio gwelliannau mawr eu hangen yn y system. Rwy'n gwybod bod llawer yn y Siambr hon yn anghytuno â safbwynt fy mhlaid, ac rwy'n parchu'r gwahaniaethau barn hynny yn llawn. Fodd bynnag, ni ddylai hyn fod yn ymwneud â safbwynt gwleidyddol; dylai fod yn fater o beth sydd orau i'r plant yr effeithir arnyn nhw. Mae'n hynod siomedig, yn hytrach na chanolbwyntio ar wella sefydlogrwydd a faint o leoliadau sydd ar gael, bod y ddeddfwriaeth hon yn mynd ati i gyfyngu a allai beryglu dyfodol llawer o leoliadau.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ostwng nifer y plant mewn gofal, ac nid yw chwaith wedi gwneud digon i ehangu'r capasiti yn y sector. Y gwir amdani yw bod y galw am leoliadau yn parhau i fod yn uchel, ac ni ellir gadael plant yn aros am gartrefi priodol oherwydd ideoleg wleidyddol. Nid nawr yw'r amser i gyflwyno mesurau a allai ansefydlogi system ymhellach sydd eisoes dan straen sylweddol. Ceisiodd fy mhrif welliant gyflwyno dull mwy cytbwys, un a fyddai wedi caniatáu elw rhesymol wrth sicrhau mesurau diogelu a gwelliannau cadarn mewn safonau gofal. Byddai'r newidiadau hyn wedi gwneud y Bil yn fwy ymarferol, wedi rhoi sicrwydd i ddarparwyr, ac wedi sicrhau nad oedd y rhai sy'n darparu gofal rhagorol yn cael eu pardduo'n annheg. Mae'n anffodus bod y cynigion hyn wedi'u hwfftio mor gyflym, gan y gallai dull mwy pragmatig fod wedi sicrhau gwell canlyniadau i'r plant yr ydym ni i gyd yma i'w cefnogi.
Mae fy ngwelliannau eraill yn canolbwyntio ar ddwyn Gweinidogion Cymru i gyfrif ar adrodd a monitro a chryfhau cynllunio'r gweithlu, sicrhau cyllid digonol a mynd i'r afael â materion brys mewn lleoliadau anghofrestredig. Dyma'r heriau gwirioneddol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw i wella gofal i blant, ac eto diystyrwyd y cynigion hyn. Ond cefais rywfaint o sicrwydd gan y Gweinidog ynglŷn â rhywfaint o'r monitro hwnnw. Wrth gwrs, rwy'n siomedig na chafodd yr un o'm gwelliannau eu derbyn, ond yn anad dim, rwy'n pryderu am yr effaith y gallai'r Bil hwn ei chael ar blant sy'n dibynnu ar y system. Fodd bynnag, rwyf yn parchu bod gwahaniaeth barn yn y Siambr ar y mater hwn. Trwy gydol y broses hon, mae pobl ifanc wedi ei gwneud hi'n glir mai'r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw yw teimlo eu bod yn cael eu parchu, aros yn agos at y bobl y maen nhw'n eu hadnabod a chael gofal gan y rhai sydd â'u lles flaenaf yn eu meddwl. Dylai hynny fod yn flaenoriaeth i ni, gan sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at ofal diogel, sefydlog, cariadus, o ansawdd uchel sy'n rhoi'r dyfodol gorau posibl iddyn nhw.
Wrth i ni edrych ymlaen yn awr at weithredu'r ddeddfwriaeth hon, rwy'n eich annog, Gweinidog, i weithio'n agos gyda'r sector i leihau'r aflonyddwch a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael heb leoliad addas. Rhaid ymdrin â'r cyfnod pontio yn ofalus, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn darparu diweddariadau manwl rheolaidd i'r Siambr hon, fel y gallwn ni asesu effaith y newidiadau hyn yn iawn.
Yn y pen draw, rydym ni i gyd yn rhannu'r un nod: sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i dyfu mewn amgylchedd cefnogol a meithringar. Ac fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, yn ystod fy nghyfnod ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, bu i wrando ar y bobl ifanc hynny mewn gofal wir lywio fy marn ynghylch y mater hwn. Ac rwy'n dweud wrth y bobl ifanc hynny eto, ni fydd y pwyllgor yn eich anghofio, ac yn sicr ni fyddaf byth yn eich anghofio na'r effaith gawsoch chi arnaf i a fy marn am wleidyddiaeth yn y fan yma. Diolch.
Wel, mae'r eitem yma ar yr agenda heddiw yn dod â chryn foddhad i ni ym Mhlaid Cymru. Diwrnod hirddisgwyliedig, pryd yr ydym ni'n gwireddu polisi hirsefydlog Plaid Cymru ac yn edrych i ddwyn terfyn ar allu cwmnïau i elwa yn ariannol ar draul rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas. Fel y dywedodd Mahatma Gandhi, gellir canfod gwir fesur unrhyw gymdeithas yn y ffordd mae'n trin y rhai mwyaf bregus, ac yma gallwn ddatgan yn glir ein bod ni yn rhoi anghenion ein plant a phobl ifanc sydd yn ffeindio eu hunain mewn gofal flaenaf. Nid bottom line mantolen, nid trosiant blynyddol ac nid faint o elw y gellir ei gronni ydy ein ffon fesur ni yng Nghymru, ond yn hytrach pa mor llawn y gall rhywun fyw ei fywyd a chyfrannu at gymdeithas. Drwy sicrhau bod yr arian cyhoeddus sydd yn cael ei roi tuag at blant mewn gofal yn mynd at fuddiannau ac anghenion y plant a phobl ifanc hynny, rydym ni'n byw i fyny i'n daliadau craidd yng Nghymru sydd wedi nodweddu gwleidyddiaeth Cymru ers dyfodiad democratiaeth fodern, ac mi ddylem ni fel Senedd ymfalchïo yn hynny. Ac yn wir, mae'n arwydd o aeddfedrwydd gwleidyddol ein bod ni wedi gallu dod ynghyd fel dwy blaid i weithio ar y cyd a gwireddu y weledigaeth hon.
Hoffwn ddiolch i'r clercod a'r cyfreithwyr seneddol am eu gwaith caled drwy gydol y broses ddeddfwriaethol, ac er na dderbyniwyd nifer o'n gwelliannau ni yr wythnos diwethaf, diolch hefyd i'r Gweinidog a'i rhagflaenydd am y trafodaethau adeiladol a gawsom ni dros gyfnod taith y Bil. Oherwydd ffrwyth cydweithio ydy'r Bil yma. Wrth gwrs, trwy ein gwelliannau, roedden ni'n chwilio am siwgr i sbrinclo ar hyd y ffrwyth yma wrth gynnig ein gwelliannau. Ond er methu gyda rhai o'r gwelliannau yna, erys yr egwyddorion craidd, a dyna sydd yn bwysig. A gadewch inni beidio ag anghofio nad ein Bil ni fel Senedd ydy hwn; mae'r Bil yma wedi'i wreiddio yn ddwfn yn nhyheadau y plant, y bobl ifanc a phobl anabl. Eu Bil nhw ydy hwn, a cherbydau i wireddu eu dymuniadau nhw ydym ni yma heddiw. Felly, dwi'n edrych ymlaen at weld y Bil yn cael ei basio heno. Diolch.
Mae'r Bil hwn yn gyflawniad sylweddol i'r Senedd hon. Fel y dywedodd y Gweinidog, dyma ganolbwynt rhaglen llawer ehangach ar gyfer diwygio gwasanaethau plant yn radical. Yng Nghymru, mae 1 o bob 100 o bobl ifanc o dan 18 oed yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, ac mae hon yn gyfradd llawer uwch nag yn Lloegr a lleoedd tebyg eraill. Yn rhannol, gellir egluro hyn drwy waddol anfantais economaidd yng Nghymru, a'r diffyg arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus i'r graddau yr ydym ni wedi bod eisiau ers tro yng Nghymru. Ond nid dyma'r esboniad cyfan am y cyfraddau uchel o ofal yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod angen i ni hefyd herio a gwneud newidiadau i'r system a'r gwasanaethau a ddarparwn ni ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac rwy'n llongyfarch y Gweinidog a Llywodraeth Cymru ar gwmpas a beiddgarwch yr agenda ddiwygio radical, ac mae'r Bil hwn yn allweddol i'r agenda honno. Mae'n mynd i'r afael â'r ffaith bod llawer o'r plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cael eu lleoli gyda chwmnïau preifat sy'n bodoli i wneud elw o'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu.
Dechreuodd y Bil gyda phlant, fel y dywedodd y Gweinidog, gyda phlant a phobl ifanc yn dweud wrthym ni nad oedden nhw am fod yn ffynhonnell elw i rywun arall, a bydd y Bil hwn yn rhoi diwedd ar hynny. Bydd hefyd yn rhoi terfyn ar farchnad sydd wedi'i gogwyddo o blaid y sector preifat a chost uchel iawn hyn ar y pwrs cyhoeddus. Rydym ni i gyd yn gwybod y symiau enfawr o arian y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu talu am leoliadau preifat. Bydd yn ein helpu i sicrhau bod y plant yn dod yn gyntaf, a bydd yn rhyddhau arian i'w wario ar y plant hynny yr oedd i fod i'w helpu. Felly, rwy'n credu bod hwn yn ddiwrnod arwyddocaol iawn i'r Senedd hon. Fy unig bryder am y Bil, yr wyf wedi'i drafod â'r Gweinidog, yw pa mor hir y bydd yn ei gymryd i ddod â'r Bil i rym o'r diwedd, ac felly gofynnais i'r Gweinidog am sicrwydd y gwneir hynny cyn gynted ag y bo modd.
Felly, rwy'n credu yng Nghymru bod gennym ni hanes nodedig o roi lleisiau plant, eu hawliau a'u hanghenion ar frig ein hagenda. Ac fe hoffwn i hefyd gydnabod y cydweithio gyda Phlaid Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd, rydym ni wedi cyflawni hyn. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n gyflawniad gwych o gydweithio a chydymdrechu. Ac rwy'n credu bod y Bil hwn yn rhan o'r traddodiad o wrando ar leisiau plant a rhoi plant ar frig ein hagenda, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at bleidleisio drosto.
Y Gweinidog nawr i ymateb i'r ddadl—Dawn Bowden.

Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Dydw i ddim yn mynd i, yn amlwg, yn yr amser a ganiateir i mi ymateb i'r ddadl, drafod yr holl bwyntiau a godwyd gan James Evans, ond, yn amlwg, fe wnaethom ni ymdrin â hynny drwy graffu ac yng Nghyfnod 3, ac nid wyf yn amau am eiliad, James, eich ymrwymiad i ni wneud y gwaith y mae angen i ni ei wneud i wella'r canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, a diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth i hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth mae Mabon wedi'i ddweud, ac yn enwedig yr hyn mae Julie Morgan wedi'i ddweud. Julie, ynghyd â Mark Drakeford, mewn gwirionedd, yw penseiri cychwynnol y ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n fythol ddiolchgar i'r ddau ohonoch chi am hynny.
Fe hoffwn i fod yn glir iawn wrth ddod â'r ddadl benodol hon i ben bod dileu'r darpariaethau elw cyn gynted â phosibl mewn ffordd sy'n lleihau aflonyddwch i'r sector ac i leoliadau plant unigol yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y sector i sicrhau cynnydd cyflym a darparu diweddariadau rheolaidd ar weithredu. Ac fe hoffwn i fod yn hollol glir, ac rwy'n deall eich pryder, Julie, a'r pryder y mae eraill wedi'i grybwyll bod yr addasiad o 2027 i 2030 yn newid sylweddol—nid oedd yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn, a byddaf yn parhau i adolygu hyn. Ond roeddwn i'n ymwybodol o leihau'r risg o darfu ar blant a'r adborth a dderbyniais. Ond fe hoffwn i fod yn glir iawn, iawn nad yw dyddiad 2030 ar gyfer terfynu lleoliadau newydd gan awdurdodau lleol Cymru mewn gwasanaethau er-elw presennol yn ddyddiad targed; dyma'r dyddiad gorffen absoliwt.FootnoteLink Ac rwy'n disgwyl i gynnydd sylweddol gael ei wneud cyn hynny wrth derfynu lleoliadau mewn cartrefi plant a gwasanaethau maethu er-elw presennol cyn 2030 mewn meysydd sydd â digon o ddarpariaeth nid-er-elw, a byddaf yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y sefyllfa honno cyn gynted ag y gallwn ni. Felly, fe hoffwn i ddiolch unwaith eto i bawb am eu cyfraniadau ac rwy'n gobeithio unwaith eto cael cefnogaeth y Senedd wrth gefnogi'r Bil hwn. Diolch yn fawr iawn.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly bydd y bleidlais yn dilyn yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n mynd yn syth i'r bleidlais gyntaf. Mae’r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 6—y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Ynni Prydain Fawr yw’r cynnig yna, a'r cynnig wedi’i gyflwyno gan Rebecca Evans. Felly, agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae’r cynnig yna wedi’i gymeradwyo.
Eitem 6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ynni Prydain Fawr: O blaid: 30, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 7 yw’r pleidleisiau nesaf—y pleidleisiau ar ddadl y gyllideb ddrafft 2025-26. A dwi’n galw am bleidlais ar welliant 1 yn gyntaf yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais ar welliant 1. Cau’r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Ac felly mae’r gwelliant wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2025-26. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 26, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae’r bleidlais nesaf ar y cynnig yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 29, 1 yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae’r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Eitem 7. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2025-26. Cynnig: O blaid: 29, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1
Derbyniwyd y cynnig
Ac mae’r bleidlais olaf ar Gyfnod 4 y Mesur ar iechyd a gofal. A dwi’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Dawn Bowden.
Mae fy nghysylltiad pleidleisio newydd dorri. Gaf i bleidleisio ar lafar?
Cewch, mae'n debyg y gallwch chi.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.
Eitem 8. Cyfnod 4 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): O blaid: 42, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:42.
Mae'r Llywodraeth yn dymuno nodi mai'r unig eithriadau, ar ôl y pwynt hwn, fydd pan fydd lleoliad gyda darparwr er-elw presennol yn ddarostyngedig i'r broses gymeradwyo lleoliad atodol.