Y Cyfarfod Llawn

Plenary

29/01/2025

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg fydd gyntaf heddiw, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands.

Y Cyfryngau Cymraeg

1. Beth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i gefnogi'r cyfryngau Cymraeg? OQ62201

Diolch i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn. Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru Greadigol ac S4C yn un enghraifft ymarferol yn unig o'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gyfryngau Cymraeg. Mae’r canlyniad yn cynnwys hyrwyddo'r iaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Global yn cau eu stiwdio yn Wrecsam, gan gynnwys gorsaf Capital Cymru, a fydd yn golygu colli 12 o swyddi ar y safle. Bydd gan Global eu rhesymau masnachol dros y penderfyniad hwn, ond bydd hynny’n golygu llai o ddarlledu yn y Gymraeg, sy'n ergyd i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y credwch chi y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i wneud y dirwedd gyfryngol yng Nghymru yn fwy deniadol i weithredwyr radio a theledu cyfrwng Cymraeg, nid o reidrwydd drwy ymyrraeth uniongyrchol neu gymorth uniongyrchol, ond gwneud y dirwedd honno'n fwy deniadol iddynt, ar sail fasnachol, ac efallai ar adegau, ar sail anfasnachol? Diolch yn fawr iawn.

Diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn ychwanegol.

Rwyf innau'n gresynu at y penderfyniad a wnaed gan ddarlledwyr radio masnachol i roi'r gorau i ddarparu cynnwys lleol, gan gynnwys darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Crëwyd eu gallu i wneud hynny yn Neddf y Cyfryngau 2024, a gafodd wared ar y rhwymedigaethau blaenorol i ddarparu cynnwys o’r fath, a chafodd wared ar rôl y rheoleiddiwr Ofcom i oruchwylio unrhyw newidiadau i’r cynlluniau yr oedd y cwmnïau hynny wedi’u cyflwyno cyn ennill eu trwyddedau. Felly, mae’n sicr yn destun gofid. Bydd y cwmnïau’n dweud, fel y dywedodd Sam Rowlands, fod y penderfyniad yn adlewyrchiad o natur newidiol darlledu, lle mae llai o bobl yn gwrando ar radio confensiynol, a mwy o bobl yn cael eu gwybodaeth a’u hadloniant o ystod ehangach o ffynonellau.

Rwy'n credu ei bod hi, mae'n debyg, yn bwysig ystyried hyn yng nghyd-destun ehangach llwyddiant cyfryngau Cymraeg yng Nghymru—ac mae wedi bod yn llwyddiant cryf iawn hefyd—gyda chynnwys Cymraeg i’w glywed ar Netflix, lle mae S4C wedi llwyddo i werthu cyfresi y buont yn gyfrifol am eu darlledu yn y Gymraeg yn America, yng Nghanada, yn Japan, mewn rhannau o Ewrop. Ac mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth y cyfeiriais ato wedi bod yn rhan wirioneddol bwysig o hynny, rhwng Cymru Greadigol ac S4C. Ar lefel lawer mwy lleol, mae’r Llywodraeth wedi buddsoddi mewn cyfryngau hyperleol, yn dilyn cyngor gan bwyllgorau’r Senedd, a thrwy fy nghyllideb, yn fy nghyfrifoldebau'n ymwneud â'r Gymraeg, rydym yn parhau i ddarparu, ac yn ymestyn yn wir, cymorth i bapurau bro y flwyddyn nesaf, rwy'n gobeithio, sy’n golygu y bydd cynnwys Cymraeg ar gael drwy ddrysau pobl yn y rhannau o Gymru lle siaredir y Gymraeg amlaf. Felly, er fy mod yn gresynu at y penderfyniadau y cyfeiriodd Sam Rowlands atynt ac yn eu hystyried yn gam yn ôl, credaf hefyd fod gweithgarwch cryf a llwyddiannus iawn i'w gael yn y maes hwn, gweithgarwch y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w gefnogi.

'Cymraeg 2050' a'r Cyfryngau Torfol

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bwysigrwydd amlygrwydd y Gymraeg ar y cyfryngau torfol i'r ymdrech i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OQ62196

Diolch i Llyr Gruffydd, Llywydd. Mae’r cyfryngau yn rhan fawr o strategaeth 'Cymraeg 2050' ac mae gan ddarlledu rôl bwysig i sicrhau bod y Gymraeg yn weledol er mwyn ein helpu i gyrraedd ein gweledigaeth. Mae’n hanfodol ein bod ni’n gwarchod a datblygu’r Gymraeg yn y maes darlledu a’r cyfryngau.

Rŷch chi'n iawn—mae hi yn bwysig ein bod ni'n datblygu'r Gymraeg yn y cyd-destun yna. Ond, fel y cyfeirioch chi'n gynharach, mae'r Ddeddf Cyfryngau newydd, sydd wedi dod i rym drwy Lywodraeth San Steffan, wedi tanseilio'r ymdrech yna, oherwydd, yn flaenorol, roedd yn rhaid i orsafoedd radio masnachol, o dan reolau Ofcom, ddarparu cynnwys a oedd yn adlewyrchu natur ddiwylliannol yr ardaloedd a oedd yn derbyn y gwasanaeth. Roedd hynny, felly, yn asgwrn cefn i ddarlledu cyfrwng Cymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd fel y gogledd-orllewin. A nawr rŷn ni'n gweld bod Global radio yn rhoi diwedd ar wasanaeth Capital Cymru. Mi fydd yr orsaf hynny'n diflannu ac felly'n rhoi diwedd ar ddarlledu masnachol yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru, ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i danseilio'r ymdrech i gyrraedd miliwn o siaradwyr.

Rŷch chi wedi rhestru sawl enghraifft o'r hyn sydd angen digwydd, ond a fyddech chi'n cytuno â fi mai'r ffordd orau nawr inni adfer y sefyllfa yn y cyd-destun penodol yna, o ran y Ddeddf Cyfryngau newydd, yw datganoli darlledu yn llawn i Gymru fel ein bod ni'n gallu gwarchod yr elfennau hynny yng nghyd-destun deddfwriaethol Cymreig?

13:35

Wel, diolch yn fawr i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ychwanegol. Llywydd, rydym yn hynod siomedig am benderfyniad Global i ddod â rhaglenni Cymraeg Capital Cymru i ben. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llwyr ba mor hanfodol yw rhaglenni Cymraeg ar y radio i gynnal y Gymraeg wrth annog dysgwyr newydd, a'u pwysigrwydd i gynulleidfaoedd ledled Cymru. Pan oedd y Bil yn mynd trwy San Steffan, roedd pwyllgorau fan hyn a'r Llywodraeth—Dawn Bowden ar y pryd—wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn San Steffan i dynnu sylw yn benodol at y risg yr oedd y Bil yn ei chodi i ddarlledu ar y radio yn y maes lle rŷn ni newydd weld problemau'n codi.

Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol o beth sydd yn rhaglen y Llywodraeth ar ddatganoli yn y maes yma. Dwi'n ymwybodol o beth oedd yn y cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru ar y pryd, a chlywais i beth ddywedodd Jack Sargeant ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf. Mae'n dal i dynnu gwybodaeth at ei gilydd, yn edrych ar y dystiolaeth, ac, fel y dywedodd e, mae'n agored i nifer o'r llwybrau at y dyfodol ble allwn ni warchod pethau yma yng Nghymru yn well nag y byddem ni o dan y Ddeddf sydd newydd gael ei basio yn San Steffan.

Mae adroddiadau na fydd pencampwriaeth y chwe gwlad yn cael ei ddangos ar deledu am ddim o flwyddyn nesaf yn peri pryder. Rydym, ar yr ochr yma o'r Siambr, wedi bod yn glir y dylai'r chwe gwlad barhau i fod yn gystadleuaeth warchodedig gan aros ar deledu am ddim oherwydd ei phwysigrwydd i'n diwylliant, i'n hiaith a hefyd i'r uchelgais ar gyfer miliwn o siaradwyr erbyn 2050. 

Un o bleserau mwyaf y chwe gwlad yw ei gallu i ddod â phobl at ei gilydd. O ystyried y pwysau sy'n wynebu'r sector tafarndai yng Nghymru, efallai bydd leinin arian bach, bach iawn i'r newyddion hyn. Mae nifer y tanysgrifiadau sydd eu hangen ar dafarndai i ddangos chwaraeon byw yn syfrdanol, ac mae'r gost yn uchel. Os yw'r chwe gwlad wir yn symud i ffwrdd o deledu rhad ac am ddim, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried beth all ei wneud i leddfu'r baich ariannol ar dafarndai yng Nghymru sydd yn dangos y gemau? Bydd cefnogaeth yn helpu tuag at uchelgais miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Diolch.

Wel, diolch i Sam am y cwestiwn, Llywydd. Ond y peth cyntaf inni yw gwarchod y sefyllfa sydd gyda ni yn bresennol, ble mae pobl yn gallu gweld y gemau ar y teledu. Y broblem yw pan fyddwn ni'n agor popeth i’r farchnad ac yn meddwl mai'r farchnad yw’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau i bobl. Gallwn ni weld nad yw hwnna'n wir yn y meysydd sydd mor bwysig i bobl yng Nghymru. A pholisi'r Llywodraeth yw gwarchod y system bresennol, a dyna beth fydd y gwaith rŷn ni'n mynd i'w wneud. A, Llywydd, dwi'n meddwl eich bod chi wedi cytuno i gael cwestiwn penodol ar y pwnc yma yn ddiweddarach y prynhawn yma, a bydd y Gweinidog yn gallu, rwy'n siŵr, ymateb i'r pwyntiau y mae Sam Kurtz wedi'u codi.

Ro'n i'n ymweld ag Ysgol Glan y Môr yn ddiweddar, ac fe wnes i siarad gydag un siaradwr Cymraeg newydd—disgybl yna—a ddywedodd mai'r hyn a fyddai yn ei annog fo i siarad mwy o Gymraeg buasai cael chwarae EA Sports FIFA trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe wnes i gysylltu efo EA Sports, a dyma nhw'n ateb, yn dweud:

'Yn anffodus, ni fydd yn bosibl inni gynnwys y Gymraeg yn EA Sports FC 24. Er ein bod yn cyhoeddi’r gêm mewn 85 o wledydd, mae EA Sports FC 24 wedi’i chyfieithu i 19 iaith.'—

—gan ychwanegu y byddai’n cymryd dwy flynedd iddyn nhw baratoi rhaglen cyfrwng Cymraeg. Roedd yna griw o blant o ysgolion ym mhen draw Llŷn yma ddydd Mawrth, a dyma nhw’n dweud y bydden nhw’n awyddus i weld Roblox, Fortnite a Minecraft drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae yna ddigon o bethau, drwy’r cyfryngau newydd yma, y gallwn ni eu hyrwyddo. A wnewch chi ymuno gyda fi i roi pwysau ar y cyrff yma—FIFA, EA Sports, Fortnite a Roblox—a trio cael o leiaf un ohonyn nhw i ddarparu eu gêm drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer plant sydd eisiau hynny?

13:40

Wrth gwrs, Llywydd, dwi’n hapus i godi’r pwyntiau y mae’r Aelod wedi’u gwneud. Mae cael pethau yn y maes chwarae ar gael i bobl trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollol bwysig i bobl. Fel roedd Mabon ap Gwynfor yn dweud, pan fydd y sector yn newid mor gyflym, mae’n bwysig i bobl ifanc gael y pethau y maen nhw’n eu mwynhau ac sydd ar gael iddyn nhw’n Saesneg ar gael yn y Gymraeg hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr unigolyn sy'n gyfrifol am yr ysgogiadau mewn perthynas â threthiant yma yng Nghymru, a ydych chi'n credu y gwelwn ni byth bobl yn talu llai o dreth o dan Lywodraeth Lafur Cymru?

Wel, Lywydd, mae enghreifftiau yn y dulliau gweithredu cyfyngedig iawn sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru lle mae pobl yng Nghymru yn talu llai o dreth nag y maent yn ei wneud mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae pobl yng Nghymru yn talu llai o dreth incwm nag y byddent pe baent yn byw yn yr Alban. Maent yn talu llai mewn treth trafodiadau tir nag y byddent pe baent yn byw yn Lloegr. Felly, mae enghreifftiau yno eisoes o’r union bwynt y mae’r Aelod yn ei godi. Fodd bynnag, gadewch imi wneud y pwynt iddo: nid wyf yn cytuno â'r hyn y credaf sydd y tu ôl i'w gwestiwn, y syniad fod trethi isel ynddynt eu hunain yn arwydd o gymdeithas iach. Rydym yn talu trethi, fel y dywed pobl, fel y pris mynediad i gymdeithas wâr, gan mai'r trethi a dalwn sy’n darparu’r gwasanaethau y mae’r bobl y mae’r Aelod yn eu cynrychioli, ac y mae pob un ohonom ni'n eu cynrychioli, yn dibynnu arnynt bob dydd. Mewn rhai ffyrdd, mae’n rhaid inni atgoffa pobl o'r syniad hwnnw. Y rheswm y gofynnir i bobl dalu trethi yw am fod hynny’n creu’r adnoddau cyfunol y gall pob un ohonom elwa ohonynt.

Diolch am yr ymateb agored, Ysgrifennydd y Cabinet. Syniad arall y gallai trethiant ei gynrychioli yw’r gallu i ymddiried mewn pobl i wario eu harian yn y ffordd y gwelant orau. Tybed beth, os gallwch ei ddisgrifio, sy’n gwneud ichi feddwl na ellir ymddiried ym mhobl Cymru i wario eu harian yn y ffordd orau bosibl iddynt hwy ac sy’n gwneud ichi feddwl y gall Llywodraeth Cymru ei wario’n well ar eu rhan.

Rwy'n credu y byddai hynny’n barodi go iawn o’r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yn y cyfnod datganoli, Lywydd, oherwydd yr hyn y mae Llywodraethau Cymru olynol wedi’i wneud yw gweithredu mewn ffyrdd sy’n gadael arian ym mhocedi pobl er mwyn iddynt hwy allu penderfynu sut i’w ddefnyddio. Os ydych yn byw dros y ffin, rydych chi bellach yn talu bron i £10 am bob presgripsiwn y mae meddyg yn ei ysgrifennu i chi. Yma yng Nghymru, rydym yn gadael yr arian hwnnw ym mhocedi pobl. Rydym yn ei adael gyda hwy fel y gallant wneud penderfyniadau am eu blaenoriaethau eu hunain yn eu bywydau eu hunain. Mewn gwirionedd, os edrychwch ar gyflawniad y chwarter canrif diwethaf o ddatganoli, fe welwch Lywodraethau Cymru olynol yn gweithredu i wneud yn union yr hyn y mae’r holwr wedi’i ofyn i mi.

Diolch eto, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, rydym yn mynd i anghytuno ar y pethau hyn, ac mae'n rhan o'r rheswm pam ein bod ar ochrau gwahanol i'r Siambr hon. Byddem yn dadlau y dylid ymddiried mewn pobl i wario arian yn y ffordd sydd orau iddynt hwy yn eu barn hwy, a dylai’r Llywodraeth ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n gwbl angenrheidiol i’w cefnogi gyda hynny, nid ar brosiectau porthi balchder a syniadau gwamal. Yr wythnos hon, Ysgrifennydd y Cabinet, fe rannoch chi eich bod yn credu bod gan Gymru ormod o ysbytai a gormod o welyau. Fel yr unigolyn sy’n gyfrifol am gyllid y Llywodraeth yma yng Nghymru, a yw hynny felly'n arwydd o’r cyfeiriad yr ydych chi'n mynd i berswadio eich cyd-Aelodau i fynd iddo, i wario llai o arian ar ysbytai a llai o arian ar welyau yma yng Nghymru?

Wel, mae’r ateb i’r cwestiwn hwnnw'n amlwg iawn yn y gyllideb ddrafft, Lywydd, gan mai'r adran yn Llywodraeth Cymru sy’n cael y cynnydd mwyaf, wrth gwrs, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan Lywodraeth Lafur, yw’r gwasanaeth iechyd. Ac ni fydd hynny’n syndod o gwbl, oherwydd dros gyfnod datganoli, mae hynny bob amser wedi bod yn wir. Yn y ffigurau diweddaraf—ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU—roedd gwariant ar iechyd yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr, a thyfodd yn gyflymach nag yn Lloegr, ac roedd gwariant ar wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru 37 y cant yn uwch nag yn Lloegr. Mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain. Yma yng Nghymru, rydym bob amser wedi rhoi’r flaenoriaeth uchaf i fuddsoddi yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny’n parhau yn y gyllideb ddrafft a fydd gerbron y Senedd ar gyfer penderfyniad terfynol ar 4 Mawrth.

13:45

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pan oeddech gerbron y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddisgrifio cynlluniau Trysorlys y DU i ddosbarthu ad-daliadau ar gynnydd mewn yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus fel rhai 'sylfaenol annheg', gan y gallent arwain at beidio â chynnwys cyflogwyr sector cyhoeddus Cymru i'r un graddau â'r rhai yn Lloegr. Fe ddywedoch chi hefyd nad oedd defnyddio fformiwla Barnett, mewn perthynas ag ad-daliadau yswiriant gwladol, yn 'ddehongliad synnwyr cyffredin' o fwriadau’r Canghellor.

Felly, beth fu ymateb Llywodraeth y DU hyd yma pan wnaethoch chi godi’r materion hyn gyda hwy? Ac a ydych chi wedi gwneud asesiad o sut y bydd y diffyg posibl hwn yn effeithio ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?

Rydym yn parhau i drafod y materion hyn gyda Llywodraeth y DU, Lywydd. Rwy'n glynu wrth yr hyn a ddywedais yn y Pwyllgor Cyllid, sef os yw’r cymorth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla Barnett, yn hytrach na bod gwariant gwirioneddol yn cael ei ad-dalu, ni fyddai hynny er budd Cymru. Rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw’n glir iawn i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, a byddaf yn parhau i wneud hynny.

Diolch am yr ateb. Fel pawb arall, dwi'n siŵr, eisiau gwybod beth maen nhw wedi’i ddweud hyd yma ydw i, a pha mor obeithiol ydych chi, neu ydych chi’n wirioneddol bryderus eu bod nhw ddim yn gwrando? Oherwydd pryder arall rydych chi wedi'i glywed droeon gen i, fel tôn gron, a gan nifer o Aelodau o’r Senedd yma, ydy’r pryder o ran effaith y newidiadau yswiriant gwladol ar sefydliadau’r trydydd sector ac elusennau. Wrth gwrs, maen nhw’n dod atom ni yn sôn am y toriadau byddan nhw’n gorfod eu gwneud. Felly, eisiau gwybod ydw i sut ydych chi’n gweithio gydag elusennau a’r trydydd sector i ddeall gwir effaith hyn arnyn nhw. A pha asesiad ydych chi wedi’i wneud o ran beth fyddai cost lleihad yn eu gwasanaethau nhw yn ei olygu o ran y gwasanaethau cyhoeddus a thargedau Llywodraeth Cymru mewn amryw o feysydd gwahanol?

Wel, Llywydd, beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i ddweud yw eu bod nhw’n gweithio ar yr arian sy’n mynd i ddod i helpu gydag effaith y cynnydd yn yr yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus. So, rŷn ni yn mynd i gael cymorth oddi wrth y Llywodraeth yn San Steffan; y ddadl yw sut maen nhw’n mynd i roi’r cymorth yna i ni, ac rŷn ni’n dal i drafod hwnna gyda nhw.

Wrth gwrs, rŷn ni wedi clywed beth mae pobl yn y trydydd sector, a phobl eraill, yn ei ddweud am effaith beth mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu ei wneud arnyn nhw. Dyna pam rŷn ni’n cynyddu grant cefnogi’r trydydd sector yng Nghymru o 7 y cant dros y cyfnod sydd i ddod, ac mae hwnna yn y gyllideb ddrafft sydd o flaen y Senedd. Ond, jest i fod yn glir—ac roeddwn i'n trio bod yn glir o flaen y Pwyllgor Cyllid—gallaf i ddim ffeindio’r arian i helpu bob adran a phob asiantaeth ble mae effaith beth mae Llywodraeth San Steffan yn ei wneud yn mynd i godi.

Diolch ichi am hynny. Yn amlwg, eisiau cyllid teg i Gymru ydyn ni, a diwygio’r ffordd rydyn ni’n cael ein hariannu.

Os caf i fynd ar ôl elfen arall o’ch cyfrifoldebau portffolio chi, sef y Gymraeg, yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddwyd canlyniadau arolwg blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, oedd yn nodi mai dim ond 27.7 y cant o bobl tair oed neu hŷn oedd yn gallu siarad Cymraeg—y ganran isaf sydd wedi ei gofnodi ers dros wyth mlynedd. Mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn y cwymp a welwyd yn y cyfrifiad diwethaf. O ystyried targedau’r Llywodraeth o ran 'Cymraeg 2050', mae’n rhaid bod hyn yn eich pryderu chi. Wrth gwrs, rydyn ni wedi gweld ymateb y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg, yn sôn bod angen gwell data; mi glywsom ni hyn yn dilyn y cyfrifiad hefyd. Pryd fydd y mater o ran data yn cael ei ddatrys, oherwydd sut ydyn ni'n gallu mesur cynnydd, a chraffu ar gynnydd y Llywodraeth, o ran targedau 'Cymraeg 2050' os nad ydyn ni hyd yn oed yn sicr o'r data?

13:50

Wel, Llywydd, ar y pwynt cyntaf yr oedd Heledd Fychan yn ei godi, bydd cyfle i Blaid Cymru ddangos y pwysigrwydd y maen nhw'n ei roi ar fuddsoddiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru pan fydd y gyllideb derfynol o flaen y Senedd, lle bydd £1.5 biliwn o fuddsoddiadau ychwanegol ar gael i'r gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Dwi'n edrych ymlaen at weld Plaid Cymru yn cefnogi'r gyllideb ar y sail yna.

Dwi'n cytuno â beth ddywedodd Heledd Fychan am bwysigrwydd data. Rŷn ni'n dal i siarad â'r ONS, ac mae gwaith yn mynd ymlaen rhwng pobl sy'n gweithio y tu fewn i'r Llywodraeth a phobl yn yr ONS i drio mynd y tu ôl i'r data sydd gennym ni ar hyn o bryd. Bydd Aelodau fan hyn yn ymwybodol o'r ffaith bod yr ONS wedi wynebu lot o broblemau yn ddiweddar gyda'r data, ac mae hynny'n cael effaith ar yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth a gafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf.

Mae'r prif swyddog—chief statistician officer, sori—wedi cyhoeddi blog yn barod yn dweud beth y mae'r ONS a hi wedi ei wneud ar hyn o bryd, ac yn setio mas y gwaith sydd i ddod. Dwi'n edrych ymlaen at weld y gwaith yna, achos dwi'n cytuno â beth ddywedodd Heledd Fychan: heb gael y data, mae'n anodd gweld beth sy'n mynd ymlaen ar y llawr a beth allwn ni, fel Llywodraeth ac fel Senedd, ei wneud i helpu i godi nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg ac, fel dwi'n ei ddweud bob tro, sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd hefyd.

Buddsoddi i Arbed

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun buddsoddi i arbed? OQ62195

Mae’r rhaglen buddsoddi i arbed wedi cefnogi oddeutu 200 o brosiectau gyda gwerth cyfanredol o oddeutu £200 miliwn. Mae arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau sy'n ymwneud â thwf gwyrdd a phlant â phrofiad o fod mewn gofal. Mae Gweinidogion wrthi’n ystyried cynllun buddsoddi i arbed ar raddfa fawr i helpu i ddatgarboneiddio ein rhwydweithiau ffyrdd strategol.

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Rwyf wedi bod yn gefnogol i'r syniad o fuddsoddi i arbed ers amser maith. Rwy’n gefnogol i ddarpariaeth benthyciadau di-log gyda chyfnodau ad-dalu hyblyg i wasanaethau cyhoeddus, gyda’r nod o’u helpu i drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio drwy gefnogi cyfeiriad ffyrdd newydd a phrofedig o weithio, cynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a lleihau costau. Er y gwariwyd symiau mawr o arian buddsoddi i arbed i ariannu’r gwaith o greu Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r rhan fwyaf wedi’i ddefnyddio i gynyddu effeithlonrwydd a lleihau costau, megis goleuadau deuod allyrru golau. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae’r llwyddiannau, yn enwedig ym maes iechyd, yn cael eu rhannu a’u hailadrodd ledled Cymru?

Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn ac am ei gefnogaeth gyson i’r rhaglen buddsoddi i arbed. Mae'n llygad ei le, Lywydd, fod y buddsoddiadau a wnawn yn y sector cyhoeddus yn cwmpasu ystod eang iawn o gynlluniau unigol ym maes twf gwyrdd: systemau solar ffotofoltäig, tyrbinau gwynt, uwchraddiadau i inswleiddio a ffenestri. Yn y sector iechyd, fel y soniodd Mike Hedges ac fel y gŵyr yn iawn, mae gennym fferm solar yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, a ariannwyd drwy’r cynllun buddsoddi i arbed, gan y bydd yn arbed £1 filiwn y flwyddyn i’r ysbyty gyda'i filiau trydan, ac un enghraifft yn unig yw hynny o waith sy’n mynd rhagddo yn y gwasanaeth iechyd eleni. Mae dwy raglen ddatgarboneiddio yng Nghaerdydd a’r Fro ac ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, ill dwy yn defnyddio cyllid buddsoddi i arbed.

Hoffwn ddweud i gloi, Lywydd, fod Mike Hedges wedi gwneud pwynt pwysig iawn: y rheswm pam fod y cynllun buddsoddi i arbed yn llwyddiant yw am ei bod yn gronfa sy'n cylchredeg; daw'r arian yn ôl i'r gronfa, ac yna gellir ei ailfuddsoddi. Felly, er bod y gronfa wedi cael mwy o arian ar wahanol adegau, yr hyn y mae’n dibynnu arno mewn gwirionedd yw llwyddiant y cynlluniau i ryddhau refeniw, lle gellir ychwanegu at y gronfa honno ac ailfuddsoddi mewn gweithgarwch yn y dyfodol.

13:55

Ysgrifennydd y Cabinet, bydd Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr bob amser yn dathlu darbodusrwydd ac effeithlonrwydd, ac rydym yn croesawu'r cynllun buddsoddi i arbed, a bob amser wedi'i groesawu. Fe roesoch syniad o gyfanswm y buddsoddiadau a wnaed, ond yr hyn nad ydych wedi gallu ei rannu heddiw, ac eithrio’r arbediad yn yr un ysbyty penodol hwnnw, yw cyfanswm yr arbedion a allai fod wedi’u cynhyrchu o ganlyniad i’r cynllun. A yw hynny'n rhywbeth y gallwch ei rannu gyda ni?

Mae'n debyg na allaf wneud hynny'n ddigon cywir y prynhawn yma. Rwy’n falch iawn y gellir darparu'r ffigurau hynny i’r Aelodau. Ni fydd arweinydd yr wrthblaid yn synnu clywed, yn ystod cyfnod COVID, fod llai o allu gan awdurdodau cyhoeddus i gyflwyno cynlluniau buddsoddi i arbed, a chafodd yr arian ei dargedu felly at wasanaethau i blant. Mae’r gwasanaeth eiriolaeth i rieni, a gynlluniwyd i sicrhau bod llais rhieni’n cael ei glywed ar yr adeg pan allai plant fod ar fin mynd i ofal cyhoeddus, yn enghraifft o hynny. Rwyf wedi siarad â fy swyddogion yn ddiweddar ynglŷn â dechrau ailadeiladu’r gronfa yn y cyfnod ôl-COVID a gwahodd awgrymiadau newydd gan bartneriaid yn y sector cyhoeddus ynghylch sut y gallem ddefnyddio’r ffordd hon, fel y dywedodd yr Aelod, o sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio mor effeithlon â phosibl.

Fformiwla Barnett

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol fformiwla Barnett? OQ62221

Diolch i Alun Davies am hynny, Lywydd. Rydym wedi dadlau ers tro y dylid dyrannu adnoddau ar draws y Deyrnas Unedig ar sail angen cymharol. Ein blaenoriaeth yn y tymor byr yw sicrhau bod y fformiwla gyllido bresennol yn darparu ar gyfer Cymru, drwy ganolbwyntio ar hyblygrwydd cyllidebol a chyllid teg ar gyfer rheilffyrdd.

Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Ar ôl gwylio’r Canghellor yn siarad am dwf y bore yma, rwy'n credu y bydd llawer ohonom wedi sylwi ar ei ffocws ar dde-ddwyrain Lloegr, ac mae hynny’n debygol o arwain at fwy ac nid llai o gydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig. Ond rydym hefyd yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, ac wrth gyhoeddi’r adolygiad hwnnw, wedi eithrio pwerau cymorth ariannol ohoni. Mae hynny’n debygol o arwain at fwy o ddryswch a llai o gydlyniant yn y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu ar draws y Deyrnas Unedig. Ac ar yr un pryd, gwelsom y cyhoeddiad y llynedd ar newidiadau i’r fformiwla gyllido ar gyfer Gogledd Iwerddon. Rwy’n ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, fod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon newydd benodi Gerry Holtham i gynnal adolygiad o’u trefniadau cyllido eu hunain. O ystyried yr holl faterion gwahanol hynny, a yw nawr yn bryd cael adolygiad mwy sylfaenol o sut rydym yn ariannu gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, gyda’r nod o sicrhau tegwch a lleihau anghydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer y dyfodol?

Diolch i Alun Davies. Gwelais innau fod Gerry Holtham wedi derbyn gwahoddiad gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon i’w helpu i gynnal adolygiad annibynnol o lefel y cyllid sydd ei angen yng Ngogledd Iwerddon. Rwy'n cytuno â’r hyn y mae Alun Davies wedi’i ddweud, Lywydd, y gallai fod yn werth archwilio gwaith tebyg, a gweld i ba raddau y gallai’r Athro Holtham gynorthwyo yn hynny o beth, o ystyried llwyddiant y gwaith a wnaeth yma yng Nghymru dros ddegawd yn ôl.

Rwy'n credu bod cwestiwn ar y papur trefn yn ddiweddarach y prynhawn yma gan fy nghyd-Aelod ar Ddeddf Marchnad Fewnol y DU. Rhoddaf ragflas i chi drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau dros gynnwys pwerau cymorth ariannol yn yr adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU. Wrth gwrs, rydym yn falch iawn o weld yr adolygiad hwnnw, gan ei bod yn ddeddfwriaeth yr ydym wedi dadlau ers tro nad yw’n gweithredu er budd gorau Cymru.

Ond ar y pwynt sylfaenol y mae Alun Davies wedi’i wneud, rhaid mai pwrpas llif cyllid ar draws y Deyrnas Unedig yw sicrhau bod grym gwariant yn deg ar draws gwahanol rannau’r Deyrnas Unedig, ac y gellir sicrhau lefel ac ansawdd cyfatebol o wasanaethau cyhoeddus ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. A dyna pam fod angen cyllid gwahaniaethol, am fod angen iddo gyfateb i'r angen. Syniad y cyllid hwnnw felly yw sicrhau bod dinesydd mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig yn gallu disgwyl lefel gyfatebol o wasanaeth cyhoeddus. Ac mae’r rhai ohonom sy’n credu yn y Deyrnas Unedig yn gwybod mai dyna un o flociau adeiladu sylfaenol Teyrnas Unedig lwyddiannus y byddai dinasyddion yn dewis perthyn iddi.

14:00

Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod wedi codi yn y Siambr hon sawl gwaith i alw am adolygu fformiwla Barnett. Mae'n gwbl amlwg fod fformiwla Barnett wedi bod yn fater dadleuol i Lywodraethau'r DU o bob lliw, oherwydd byddai unrhyw newidiadau i'r fformiwla honno yn golygu bod rhannau eraill o'r DU yn cael llai o arian, ac yn ddealladwy, mae honno'n sefyllfa anodd i unrhyw Lywodraeth y DU. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried nad yw'n ymddangos bod unrhyw awydd o hyd gan Lywodraeth y DU i ddiwygio fformiwla Barnett, a allwch chi ddweud wrthyf sut y credwch chi y gellir mynd i'r afael â'r mater hwn unwaith ac am byth fel bod rhywfaint o degwch yn y ffordd y caiff Llywodraethau datganoledig yn y DU eu hariannu?

Lywydd, rwy'n cofio'r achlysuron niferus pan wnaeth Paul Davies y ddadl honno. Wrth gwrs, wrth alw am ddiwygio fformiwla Barnett roedd yn adleisio'r hyn a alwodd yr Arglwydd Joel Barnett ei hun amdano droeon yn ddiweddarach yn ei yrfa.

Fe wnaethom nodi yn 'Diwygio ein Hundeb' ein hachos dros gael system ariannu newydd yn lle fformiwla Barnett, system yn seiliedig ar reolau wedi ei goruchwylio drwy gytundeb cyllidol newydd. Y peth allweddol—a dyma'r cyfyng-gyngor y tynnodd Paul Davies sylw ato—yw y byddai'n rhaid i gytundeb o'r fath gael ei gymeradwyo gan bob un o bedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae yna wahanol fuddiannau yn y fantol rhwng y pedair Llywodraeth, felly nid mater hawdd yw gweld sut y gellid sicrhau bod Barnett yn cael ei diwygio'n sylfaenol.

Yr hyn rydym wedi'i wneud bob amser yng Nghymru yw defnyddio grym dadl. Nid oes gennym rai o'r pethau y gall rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig eu defnyddio i dynnu sylw at eu safbwyntiau. Mae gan yr Alban y posibilrwydd bob amser y gallai ddewis gadael y Deyrnas Unedig, sy'n golygu y bydd Llywodraeth y DU eisiau gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud. Nid oes gennym yr un offer yn ein harfogaeth ni, ond yr hyn sydd wedi bod gennym bob amser yw ansawdd y dadleuon y gallwn eu gwneud. [Torri ar draws.] Wel, rwy'n credu eich bod wedi rhoi cynnig ar hynny sawl gwaith nawr mewn etholiadau olynol, gyda chanlyniadau sy'n amlwg i'w gweld.

Yr hyn sy'n rhaid i ni ddibynnu arno yw ansawdd ein dadl. I fod yn eciwmenaidd ar draws y Siambr am eiliad, fe ddywedaf mai grym y ddadl honno a arweiniodd at gytundeb y fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn 2016. Mae'r grant bloc wedi elwa o oddeutu £2 biliwn o'r cytundeb hwnnw dros y cyfnod dilynol, ac fe fydd £400 miliwn yn uwch o blaid Cymru y flwyddyn nesaf na phe na bai'r cytundeb hwnnw wedi bodoli. Mae'r cytundeb hwnnw'n lliniaru anawsterau fformiwla Barnett i Gymru, ond nid yw'n eu datrys. Ond mae'n dangos y gallwch chi wneud cynnydd pan fydd ansawdd y ddadl a gyflwynwch yn argyhoeddi eraill.

Dylwn ddweud y byddwn yn hapus i roi offeryn annibyniaeth yn arfogaeth Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad nesaf, pan fydd y Llywodraeth yn cael ei harwain gan Blaid Cymru. Ond yn y cyfamser, a phan edrychwn ar yr adolygiad o wariant y bydd Llywodraeth y DU yn ei gynhyrchu yn fuan, nodwyd yr asesiad o anghenion cymharol sy'n rhan o'r ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithredu i Gymru 10 mlynedd yn ôl bellach, yn seiliedig ar adroddiad gan Gerry Holtham 15 mlynedd yn ôl, gan ddefnyddio data o 24 mlynedd yn ôl. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn bod yr asesiad hwnnw bellach wedi dyddio, ac a wnaiff argyhoeddi ei gymheiriaid yn San Steffan fod angen inni ei ddiweddaru? Ac os na chânt eu hargyhoeddi, a allwn ni ei gynhyrchu ein hunain, fel bod yr asesiad o anghenion yn adlewyrchu Cymru heddiw, nid Cymru chwarter canrif yn ôl?

Lywydd, rwyf am anwybyddu'r dechrau rhyfygus i gwestiwn yr Aelod a chytuno ag ef fod achos cryf dros ddiweddaru'r ffigurau sy'n sail i'r fframwaith cyllidol. Mae maniffesto Llafur y DU yn etholiad mis Gorffennaf diwethaf yn ymrwymo'r Llywodraeth i wneud hynny, ac edrychaf ymlaen at weld hynny'n cael ei gyflawni. Yn y cyfamser, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i Alun Davies, rwy'n credu bod achos dros wneud peth gwaith ein hunain, a chynnwys Gerry Holtham yn hynny cyhyd â'i fod yn barod i gymryd rhan, yn enwedig o ystyried y bydd yn gwneud gwaith i un o bedair Llywodraeth arall y Deyrnas Unedig.

14:05
Y Dreth Gyngor

5. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i leihau baich y cynnydd blynyddol yn y dreth gyngor? OQ62199

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae pennu cyllidebau a lefelau'r dreth gyngor bob blwyddyn yn fater i gynghorau lleol sy'n atebol yn ddemocrataidd. Gofynnaf i'r awdurdodau lleol hynny ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau a'r pwysau ariannol ar aelwydydd, ac i ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau ar y penderfyniadau a wnânt.

Diolch. Am 26 mlynedd, chi sydd wedi dal y liferi ariannol yma yng Nghymru, a dros y cyfnod hwnnw, am dair blynedd, ni wnaethoch chi drosglwyddo arian rhewi'r dreth gyngor a ddaeth gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae trigolion Conwy bellach yn wynebu'r posibilrwydd brawychus o drydedd flwyddyn o gynnydd o 10 y cant yn y dreth gyngor. Ni allant fforddio hyn. Mae'n mynd i roi straen annioddefol ar bensiynwyr, teuluoedd ac unigolion gweithgar sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw.

Rydym yn gweld gwasanaethau cyhoeddus yn dirywio, toiledau cyhoeddus yn cau, gwasanaethau hanfodol eraill yn cael eu tynnu'n ôl. A dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy nhrigolion wedi cael llond bol, a minnau hefyd. Mae rhai ohonynt yn gorfod dewis rhwng bwyd a gwresogi oherwydd eich bod chi wedi tynnu'r premiwm tanwydd y gallent ei hawlio yn ôl. Pa bryd y gwnewch chi edrych ar ariannu ein hawdurdodau lleol? Pa bryd y gwnewch chi edrych ar y fformiwla ariannu, ac a wnewch chi ystyried mynd yn ôl a chyflwyno cap ar faint y gall awdurdodau lleol ei godi o ran cynnydd canrannol yn flynyddol? Diolch. 

Diolch am y cwestiynau hynny. Gadewch imi sicrhau'r Aelod pe bai'r dreth gyngor wedi cael ei rhewi yng Nghymru, byddai'r cynnydd mewn praeseptau y byddai angen i awdurdodau lleol eu gwneud nawr er mwyn gwneud iawn am hynny'n llawer mwy na'r rhai y mae cynghorau yng Nghymru yn adrodd eu bod yn eu hystyried ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyd yn oed y cyngor y cyfeiriodd hi ato'n cynnig cynnydd o rhwng 6.7 y cant ac 8.7 y cant, nid 10 y cant o gwbl. Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys cynnydd o 4.3 y cant i awdurdodau lleol yng Nghymru, dwbl y gyfradd chwyddiant bresennol fwy neu lai. Fel y mae'r Llywodraeth yma wedi dweud erioed, byddwn bob amser yn barod i wrando ar gynigion awdurdodau lleol ar gyfer diwygio'r fformiwla ariannu pan fydd awdurdodau lleol eu hunain yn barod i gytuno ar beth fyddai'r newidiadau hynny. Tan y diwrnod y gall awdurdodau lleol yng Nghymru gyflwyno safbwynt cydlynol a chytunedig, nid oes unrhyw beth gan Lywodraeth Cymru i allu cael y drafodaeth honno. Os ydynt mewn sefyllfa i wneud hynny, rwy'n edrych ymlaen at ei glywed.

Rwy'n gwybod bod cynghorau'n wynebu nosweithiau digwsg yn ceisio mantoli eu cyllideb. Maent wedi cael dros 14 mlynedd o doriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus. Roedd yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Rwy'n gwybod bod arweinydd cyngor Conwy eisiau defnyddio'r cronfeydd wrth gefn yn hytrach na chodi'r dreth gyngor, a thorri cyllid addysg, ac mae'r rheini'n benderfyniadau a wnaed a effeithiodd yn fawr ar y cyngor hwnnw. Ond diolch byth, bellach mae gennym gyngor blaengar sy'n ceisio datblygu'r gwasanaethau. Mae'n dangos pa mor bwysig yw hynny, oherwydd yr wythnos diwethaf, pan nad oedd gennym ddŵr o'r prif gyflenwad, nid oedd ganddynt unrhyw gronfeydd gwrthsefyll ar ôl i helpu pobl leol, ac mae hynny'n cael effaith wirioneddol. Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, os ydym yn mynd i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus sy'n hanfodol i'n cymunedau a chynnig bywyd boddhaol i'n trigolion, a ydych chi'n cytuno bod angen inni gefnogi cynghorau a sicrhau nad ydynt yn cael eu ceryddu am bopeth a wnânt. Oherwydd maent yn ceisio gwneud popeth a allant o fewn cyllideb gyfyngedig. Diolch.

Dechreuais fy mhrofiad gwleidyddol fel aelod lleol o Gyngor Sir De Morgannwg, fel y gwnaeth nifer o gyd-Aelodau ar y meinciau hyn, ac rwyf bob amser wedi bod ag edmygedd enfawr o'r gwaith y mae awdurdodau lleol yn ei wneud—ac awdurdodau lleol o wahanol liwiau gwleidyddol ar hynny. Cynghorau lleol yw'r wladwriaeth les pan fetha popeth arall, ac mae'r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn hynod bwysig i bobl sy'n aml yn wynebu anawsterau go iawn yn eu bywydau. Dyna pam y mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi buddsoddi llawer iawn mwy mewn llywodraeth leol na'r buddsoddiad a wnaed gan Lywodraethau Ceidwadol yn Lloegr. Er mor anodd ydyw—ac mae'n anodd, fel y mae Carolyn Thomas wedi dweud—mae ein hawdurdodau lleol o leiaf yn gwybod bod ganddynt Lywodraeth Cymru sydd ar eu hochr yn hytrach nag un sy'n eu hystyried rywsut fel y gelyn.

Roeddwn yn falch iawn o allu cytuno ar gynnydd o 4.3 y cant yn y grant cynnal refeniw ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond ers i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod, rwyf wedi parhau i gael sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am lywodraeth leol, a chydag eraill, i weld a oes mwy y gallem ei wneud wrth inni agosáu at y gyllideb derfynol, yn enwedig i'r awdurdodau lleol sydd bellaf i ffwrdd yn eu cynnydd eu hunain o'r cyfartaledd o 4.3 y cant. Rwy'n obeithiol y bydd modd darparu cymorth pellach erbyn y gyllideb derfynol.

14:10
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr

6. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei roi i neilltuo cyllid yng nghyllideb y Llywodraeth er mwyn digolledu cyrff trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau a gomisiynir gan y sector gyhoeddus, yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i godi taliadau yswiriant gwladol cyflogwyr? OQ62212

Fel yr esboniais i wrth Heledd Fychan y prynhawn yma, dwi ddim mewn sefyllfa i ddargyfeirio cyllid sydd wedi’i fwriadu ar gyfer cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i ategu cyllidebau sydd heb eu datganoli. Y flwyddyn nesaf, bydd y grant cefnogi trydydd sector yng Nghymru yn codi 7 y cant, ar adeg pan fo chwyddiant yn hofran tua 2.5 y cant. Yn y modd hwn, rydym yn parhau i gefnogi’r sector mewn cyfnod heriol.

Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Dwi wedi bod mewn cyfarfodydd efo nifer o ddarparwyr yn fy etholaeth, ac yng Nghymru, mewn gwirionedd. Roedd yna gartref gofal yn fy etholaeth i sydd yn wynebu cynnydd o £250,000 yn eu taliadau nhw. Maen nhw'n darparu gwasanaethau i'r bwrdd iechyd. Mi ydym ni eisoes wedi clywed oddi wrth Tenovus a Marie Curie yng Nghymru eu bod nhw'n edrych ar gynnydd o tua £0.25 miliwn yr un oherwydd y cynnydd yma yn y dreth. Y gwir ydy bod y cyrff yma yn darparu gwasanaethau allweddol. Pe na baent yn eu gwneud nhw, buasai'n rhaid i'r byrddau iechyd eu gwneud nhw, ac felly byddai'r gost yna'n dod ar y pwrs cyhoeddus beth bynnag. Felly, yn ôl eich ateb chi heddiw, ai'r hyn rydych chi'n ei ddweud ydy, mewn gwirionedd, oherwydd eich bod chi'n methu â'u digolledu nhw, ein bod ni'n edrych i weld y gwasanaethau yma yn crebachu neu'n diflannu, a phobl yn dioddef, a hyn yn sgil penderfyniad Llywodraeth Lafur yn San Steffan?

Beth dwi'n ei ddweud yw bod penderfyniadau i'w gwneud. Bob wythnos rŷn ni'n clywed Plaid Cymru yn galw am fwy o arian am bopeth: y celfyddydau yr wythnos diwethaf, awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, prydau yn ein hysgolion. Ar ddiwedd y dydd, mae penderfyniadau i ni eu gwneud. Ac fel esboniais i o flaen y Pwyllgor Cyllid, allaf i ddim blaenoriaethu cyllidebau sydd ddim wedi cael eu datganoli. Yr unig ffordd o wneud hynny yw i ddefnyddio'r arian sydd gyda ni am y cyfrifoldebau sydd gyda ni yma ar lawr y Senedd. Rŷn ni wedi rhoi mwy o arian, fel y dywedais i, i'r trydydd sector ac i'r sectorau eraill, i'w helpu nhw gyda'r pethau cyffredinol maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Allaf i ddim sefyll i mewn i ffeindio'r arian am bethau sydd wedi dod o San Steffan a ble does dim arian gyda ni i wneud hwnna.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel y nododd Mabon, mae'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r trydydd sector yng Nghymru. Gyda chyllidebau eisoes dan bwysau, mae llawer o sefydliadau yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd ac yn ystyried torri gwasanaethau, staff, neu'r ddau. Y bore yma, cefais wybod y bydd un o fy undebau credyd lleol yn cau ei gangen ym Mhort Talbot o ganlyniad i gostau cynyddol cyflogi staff, gan golli rhagor o swyddi mewn tref sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae penderfyniadau'r Canghellor yn cael effaith ddinistriol ar gyflogaeth a chyflogwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda Thrysorlys y DU am ffyrdd o gefnogi elusennau a sefydliadau sy'n darparu gwasanaeth cyhoeddus nad ydynt o reidrwydd yn defnyddio arian cyhoeddus ac sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'r beichiau ychwanegol a roddwyd arnynt gan gyllideb ddiweddar y DU?

14:15

Wel, Lywydd, rwy'n deall y pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi, a dyna pam, yn wir, y mae'r pwyntiau hynny ac eraill wedi'u dwyn i sylw Gweinidogion y Trysorlys yn Llundain. Rwyf wedi eu codi ar lafar ac rwyf wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn nodi'r pryderon hynny, y pryderon a godwyd i'n sylw ni fel Llywodraeth gan wahanol sefydliadau yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, cyfarfod rhwng Gweinidogion cyllid pedair Llywodraeth y DU, yn digwydd yng Nghaerdydd fis nesaf, a bydd hwnnw'n gyfle pellach i Weinidogion o Ogledd Iwerddon, yr Alban ac yn sicr yma yng Nghymru godi'r materion hyn eto gyda chymheiriaid yn y DU.

Y Gyllideb a Blaenoriaethau'r Prif Weinidog

7. Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn cyflawni'r pedair blaenoriaeth allweddol a nodwyd gan y Prif Weinidog? OQ62223

Diolch i Lee Waters am hynny, Lywydd. Mae'r gyllideb ddrafft yn alinio'r cymorth refeniw a'r buddsoddiad cyfalaf sydd ar gael y flwyddyn nesaf â phedair blaenoriaeth y Llywodraeth, sef ariannu Cymru iachach, swyddi a thwf gwyrdd, cyfle i bob teulu a chysylltu cymunedau.

Diolch. O gofio inni gael setliad o £1 filiwn mewn gwariant cyfalaf gan y Llywodraeth ddiwethaf, mae'r £175 miliwn o gyllid cyfalaf a ddarperir yn y gyllideb ddrafft hon 10 gwaith y twf cyfartalog mewn cyllid cyfalaf a fu ar gael dros y 14 mlynedd diwethaf. Bydd hynny'n caniatáu buddsoddiad tuag at gynnal a chadw ystad y GIG mewn adeiladau newydd ac wrth gwrs, mewn sganwyr, offer a thechnoleg ddigidol newydd hanfodol. Ond wrth gwrs, i bob llwyddiant mae yna her, ac rydych chi wedi dweud eich hun eich bod chi'n mynd i wthio ymhellach trwy wneud y mwyaf o'r capasiti benthyca i ychwanegu cymaint â phosibl er mwyn gwneud iawn am y sychder hir o ran buddsoddi. Felly, pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod y cadwyni cyflenwi yn gallu cyflawni ar amser, fod y sgiliau ar gael i wneud y gwaith hwnnw, a bod byrddau iechyd yn gallu rheoli gwariant ar y bonansa buddsoddi gwych a ddarparwyd gennych?

Wel, diolch i Lee Waters am hynny. Mae'n gywir, Lywydd, roedd dwy gyllideb yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Yn natganiad yr hydref, derbyniodd Cymru £7 miliwn ychwanegol ar gyfer ein holl anghenion cyfalaf, ac yng nghyllideb y gwanwyn cawsom £1 filiwn ychwanegol ar gyfer ein holl anghenion cyfalaf. Roedd faint o gyfalaf a gawsom yng nghyllideb mis Hydref gan y Llywodraeth newydd yn llawer mwy na hynny i gyd ac yn wir, yn fwy na'r cynnydd mewn gwariant cyfalaf a gawsom gan Lywodraeth y DU dros nifer o flynyddoedd cyn hynny gyda'i gilydd—nid yn unig mewn blwyddyn, ond pe baech chi'n eu hadio i gyd at ei gilydd, roedd yn llai nag a gawsom ym mis Hydref.

Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus wrth i chi agor y tap ar wariant cyfalaf. Fe wnaethom sôn am hyn, yn ddefnyddiol iawn yn fy marn i, gerbron y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf, oherwydd mae cyfyngiadau eraill, ac mae rhwystrau cyflenwi yn sicr yn un ohonynt—cael pobl fedrus ar lawr gwlad sy'n gallu datblygu cynlluniau a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu. Os nad ydych chi'n ofalus, yr hyn a wnewch yw chwistrellu arian ychwanegol i mewn i farchnad gyfyngedig ac ni chewch fwy am eich arian; y cyfan a wnewch yw gwthio prisiau i fyny oherwydd mae'n anochel fod y farchnad yn gwyro tuag at y cyflenwyr sydd yno. Nawr, mae gennym dros £3 biliwn am y tro cyntaf i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rwyf wedi gwneud fy ngorau i wthio hynny tuag at y nod pellach o'r hyn y credaf y gellir ei wario'n llwyddiannus ac yn effeithlon yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru, ond bydd angen monitro gofalus ar hynny. Bydd angen monitro o'r canol, yn ogystal ag ar lefel byrddau iechyd lleol yn achos y gwasanaeth iechyd, er mwyn sicrhau bod yr arian ychwanegol yn arwain at y manteision y cyfeiriodd Lee Waters atynt yn ei gwestiwn atodol.

14:20
Cymorth i Oedolion sy'n Dysgu Cymraeg

8. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i oedolion sy’n dysgu Cymraeg? OQ62214

Diolch yn fawr i Hannah Blythyn. Llywydd, mae £15.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y ganolfan genedlaethol eleni i ddarparu cyfleoedd i oedolion a phobl ifanc ddysgu Cymraeg. Mae’r gyllideb ddrafft yn cynnwys buddsoddiad o £16.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i'r ganolfan ehangu’r ddarpariaeth mewn sectorau fel addysg ac iechyd.

Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Dechreuais i ddysgu Cymraeg eto pan oeddwn yn oedolyn ac yn byw yn Llundain. Cymraeg oedd iaith gyntaf taid, ond roedd fy nain yn dod o Lerpwl, a doedden nhw ddim yn siarad Cymraeg gartref, felly wnaeth fy nhad erioed ddysgu Cymraeg. Dysgais i Gymraeg yn yr ysgol yn fy etholaeth yng ngogledd Cymru, ond doeddwn i ddim yn gallu sefyll arholiad. Ond yr haf diwethaf, pasiais i fy arholiad Cymraeg cyntaf. Mi wnes yr arholiad yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam, a'r flwyddyn cyn hynny mi wnes i gwrs haf yno. Dwi hefyd yn cael gwersi bob wythnos drwy’r Senedd, ond mae'n anodd trefnu dysgu o amgylch bywyd a gwaith. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu mwy hyblyg i oedolion, o wersi rheolaidd i gyrsiau adolygu ac adnoddau arlein i sgwrsio yn y gymuned? Diolch.

Wel, llongyfarchiadau mawr i Hannah Blythyn am ei defnydd hi o'r Gymraeg ar lawr y Senedd ac, wrth gwrs, am y llwyddiant roedd hi wedi'i gael dros yr haf. A diolch am y cyfle i dynnu sylw at y ffaith fod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig darpariaeth arlein, wyneb yn wyneb neu'n hybrid ar draws pob lefel i'r dysgwyr. Mae cynnig amrywiaeth o ddarpariaeth yn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bob un ddysgu Cymraeg yn y ffordd sy'n siwtio nhw orau. A thrwy wneud hynny, mae creu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer siarad a defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bod dydd yn hollol bwysig os ydyn ni am greu siaradwyr newydd hyderus. Mae darparwyr dysgu Cymraeg yn cynnig ystod o weithgareddau i gefnogi dysgwyr, gan gynnwys Sadyrnau Siarad, boreau coffi a sesiynau adolygu mewn ffordd sy'n addas i bobl sy'n dysgu.

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yr eitem nesaf fydd y sesiwn gwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Peredur Owen Griffiths.

Perchnogaeth Anghyfrifol ar Gŵn

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â pherchnogaeth anghyfrifol ar gŵn? OQ62198

Member (w)
Huw Irranca-Davies 14:23:32
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Peredur. Mynychais ein huwchgynhadledd flynyddol ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn a bridio cŵn ar 24 Hydref. Mae'r gwaith cydweithredol hwn yn cynnwys nifer o randdeiliaid, gan gynnwys swyddogion gorfodi ac ymgyrchwyr dros les cŵn a diogelwch y cyhoedd. A gaf i ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i chi, Peredur, am gytuno i noddi ein digwyddiad partneriaeth yn y Senedd ym mis Ebrill lle caiff y cyflawniadau hyd yma eu rhannu?

Diolch, ac mae'n dda cael y cydweithrediad hwnnw gyda chi ar hyn, a gweld y gwaith yn symud ymlaen. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae mater cŵn peryglus wedi bod yn rhywbeth rwyf wedi'i godi'n gyson yn y Siambr hon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae fy rhanbarth wedi dioddef trychinebau erchyll yn gysylltiedig â pherchnogaeth anghyfrifol ar gŵn sydd wedi arwain at farwolaethau a dedfrydau o garchar i droseddwyr.

Roeddwn yn obeithiol y gallai'r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd hon a fyddai'n gorfodi perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac rwyf eisoes wedi amlinellu sut y gallai hynny ddigwydd o fewn y pwerau presennol. Gyda rhaglen ddeddfwriaethol lawn ac etholiad nesaf y Senedd yn agosáu'n gyflym, mae'n edrych yn debyg y gallai fod yn rhy hwyr i hynny. Oherwydd hynny, y peth gorau nesaf y gallai eich Llywodraeth ei wneud yw cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth wedi'i thargedu o fewn y 15 mis nesaf, gyda chefnogaeth gan sefydliadau fel yr RSPCA, sydd wedi galw ers tro am gamau o'r fath i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn ledled y wlad. Gallai hyn gael effaith fawr ar gynyddu diogelwch cymunedol, a ddylai fod yn flaenoriaeth, ynghyd â diogelu a gwella lles anifeiliaid. Byddai hefyd yn mynd rywfaint o'r ffordd tuag at sicrhau bod dull cyson o weithredu a set gyson o ganlyniadau ledled y wlad, oherwydd, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod pocedi o arfer da ond nid yw'n gyson. A allech chi roi syniad i mi o'r hyn y bwriadwch ei wneud?

14:25

Diolch, Peredur, a diolch hefyd i chi ac Aelodau eraill am eich ymgysylltiad ac am hyrwyddo hyn, oherwydd rydym wedi cael gormod o ddigwyddiadau ofnadwy, ac maent yn dal i ddigwydd, felly mae angen i ni fynd i'r afael â hyn. Ac rydych chi'n iawn, mae angen inni godi ymwybyddiaeth, ac mewn gwirionedd mae'r RSPCA yn un o'r nifer o randdeiliaid yn y gwaith partneriaeth pwerus sydd gennym ar berchnogaeth gyfrifol. Mae gennym enghreifftiau gwych allan yno ac mae angen inni arddangos mwy o'r rhain a'u cael wedi eu mabwysiadu, nid fel arfer gorau ond fel arfer cyffredin, ac rydym wedi gweld hynny yn y cyfarfodydd a'r uwchgynadleddau a fynychais. Felly, er enghraifft, rwy'n gwybod ein bod wedi trafod y cynllun ymwybyddiaeth amgylcheddol leol ar gŵn yn ardal heddlu Gwent, a sut y gallwn ymestyn hwnnw ar draws pob llu yng Nghymru, er bod rhai yn gwneud fersiwn ohono ond ychydig yn wahanol—y gofod cydweithio hwnnw ac yna rhannu'r arfer gorau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae'r nifer sy'n manteisio ar y cyrsiau perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, er clod i'r Groes Las, bellach yn gweithio ar draws pob un o'n pedair ardal heddlu, yn bwerus iawn eto, oherwydd eu bod yn gweithio gyda pherchnogion i nodi arwyddion rhybudd cynnar o berchnogaeth anghyfrifol a gweithio gyda hwy i ddatblygu dulliau perchnogaeth gyfrifol.

Mae gwaith dylanwadol yn cael ei wneud gan sefydliad y mae llawer ohonom yn ei adnabod, Hope Rescue, yn fy ardal fy hun, yn agos at Lanharan, yn y gymuned, a'r gefnogaeth y maent yn ei rhoi i elusennau iechyd meddwl ond hefyd i berchnogion cŵn, gan weithio gyda pherchnogion cŵn. Ac wrth gwrs, yr allwedd i hyn, y cydweithrediad hwn, yw cyflwyno prosiect trwyddedu anifeiliaid Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, oherwydd mae hwnnw'n darparu gwefan, porth newydd, y gall sefydliadau ac unigolion ei gyrchu—awdurdodau lleol, bridwyr ac aelodau o'r cyhoedd hefyd. Ac mae hwn hefyd yn ymdrin nid yn unig â pherchnogaeth gyfrifol, ond hefyd â phethau fel bridio cŵn yn anghyfreithlon, sy'n gysylltiedig â hyn, a chodi safonau ac amodau ar gyfer bridio. Felly, rydym yn gwneud llawer. Mae angen inni ddweud hynny'n uwch a sicrhau bod yr arfer da hwn yn cael ei ailadrodd ledled Cymru gyfan. Ond mae llawer iawn o waith da yn digwydd, ac rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad hwnnw oherwydd gallwn arddangos rhywfaint o hyn.

Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn golygu blaenoriaethu lles yr anifail hefyd, a dros y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae'r Senedd hon wedi clywed dro ar ôl tro sut y mae'r diwydiant rasio milgwn yn methu cyrraedd safonau lles sylfaenol hyd yn oed, ac rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gyda'r ystadegau diweddaraf ynghylch marwolaethau ac anafiadau ar drac Valley. Gwelodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drwyddedu lles anifeiliaid fod dwy ran o dair o'r ymatebwyr o blaid gwaharddiad ar unwaith neu waharddiad graddol ar rasio milgwn yng Nghymru. Dyma dystiolaeth newydd ac anwadadwy o gryfder y gefnogaeth i ddod â'r gweithgaredd hwn i ben, gyda mwy o bobl o blaid gwaharddiad na thrwyddedu hyfforddwyr, perchnogion a cheidwaid milgwn, fel y cynigir mewn rhannau eraill o'r ymgynghoriad. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allech chi roi sicrwydd mai barn y mwyafrif helaeth o ymatebwyr fydd eich ffocws chi, wrth wneud penderfyniad ar ddyfodol rasio milgwn yng Nghymru?

Carolyn, diolch i chi, a hefyd am ysgrifennu ataf, ac am hyrwyddo'r mater pwysig hwn yn ddi-ildio. Ac mae eraill yn y Siambr hefyd wedi bod yn ddi-flewyn-ar-dafod ar y mater. Fel y gwyddoch, yn weddol ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a wnaethom ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid, gweithgareddau ac arddangosfeydd, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu'r camau nesaf cyn gynted â phosibl. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Rydych chi'n tynnu sylw at beth o'r dystiolaeth a'r safbwyntiau a gyflwynwyd. Edrychwch, rydym yn cydnabod yn gadarn pa mor gryf yw'r teimlad ynghylch y cwestiynau sy'n cael eu gofyn, gan gynnwys ar les milgwn yn benodol. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi amser nawr i ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd—gan gynnwys, fel y dywedwch, eich bod wedi ysgrifennu ataf y diwrnod o'r blaen—ac yna gallwn gyflwyno ein camau nesaf cyn gynted â phosibl. Felly, Carolyn, diolch am y ffordd rydych chi ac eraill wedi hyrwyddo'r mater hwn ac wedi cyflwyno tystiolaeth. Rydych chi'n dal i wneud hynny hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at rannu'r camau nesaf cyn gynted â phosibl, ar ôl cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion yn eithaf diweddar, ac ystyried yr holl dystiolaeth a'r safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymgynghoriad hwnnw.

14:30
Gwyrdroi Colli Rhywogaethau

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wyrdroi colli rhywogaethau? OQ62193

Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi buddsoddi dros £150 miliwn mewn rhaglenni fel Rhwydweithiau Natur a Natur am Byth i adfer ein cynefinoedd mwyaf gwerthfawr a'n rhywogaethau ar raddfeydd lleol a thirwedd. Yn wir, mae Cysylltu Gylfinir yn un prosiect y gwn ei fod yn agos at eich calon sydd wedi derbyn tua £1 filiwn i helpu i wrthdroi dirywiad y rhywogaeth eiconig hon.

Yn sicr, ac roeddwn yn y lansiad yn Sioe Frenhinol Cymru. Ond rhagwelir y bydd y gylfinir a grybwylloch chi, sy'n rhan annatod o ddiwylliant Cymru, wedi diflannu fel poblogaeth sy'n nythu yng Nghymru erbyn 2033 heb ymyriadau. Oherwydd difrifoldeb y dirywiad yn niferoedd gylfinirod sy'n nythu yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, mae diddordeb cynyddol ym mhotensial cadw wyau fel ymyrraeth gadwraeth i gynorthwyo adferiad y gylfinir, gydag adar sydd wedi cael eu deor a'u magu o wyau a gynaeafwyd o'r gwyllt yn cael eu rhyddhau i'r gwyllt. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych felly, neu y byddwch chi'n ei rhoi, i bapur Gylfinir Cymru, fframwaith ar gyfer cadw wyau gylfinir Ewrasia yng Nghymru? Ar ben hynny, gan nodi eich cyfarfod fis diwethaf gyda dirprwyaeth yn cynrychioli is-grŵp cynllun amaethyddol ac amgylcheddol Gylfinir Cymru—ar ôl y cyfarfod hwnnw, roeddent yn dweud wrthyf ei bod yn ymddangos eich bod yn amgyffred y manteision lluosog y gallai rheoli'r gylfinir eu cynnig i'r amgylchedd ac i bobl—pa gamau a gymerwyd gennych yn dilyn eich cydnabyddiaeth yn y cyfarfod hwnnw fod Gylfinir Cymru yn grŵp hanfodol i gysylltu ag ef, a'ch cytundeb i annog y llunwyr polisi y mae angen iddynt gysylltu â hwy?

Mark, diolch yn fawr, ac am y gwaith a wnewch ar hyrwyddo'r rhywogaeth eiconig hon. Gallwn fod yn besimistaidd iawn weithiau na allwn wneud dim byd ynglŷn â rhywogaethau fel hyn, ond yr wythnos diwethaf rwy'n credu, mewn dadl yma, soniais fy mod allan gyda'r Prif Weinidog ar y twyni uwchben Aberogwr, ac roeddem yn edrych ar un o'r rhywogaethau sydd hefyd mewn perygl mawr, sef glöyn byw y fritheg frown—rhywogaeth hollol wahanol, ond yr un mor bwysig oherwydd mae hithau hefyd yn gysylltiedig â math o gynefin. Mae tri lleoliad yn y Deyrnas Unedig gyfan lle mae'r rhywogaeth hon mewn perygl difrifol. Nid yw'n adfer yn unman heblaw yng Nghymru, a hynny oherwydd buddsoddiad hirdymor a ddarparwyd gennym i wrthdroi hyn. Felly, gallwn gael gobaith.

Diolch am dynnu sylw at y cyfarfod a gefais yn ddiweddar gyda Gylfinir Cymru. Roeddwn yn falch iawn o wneud hynny, oherwydd rwy'n credu mewn gweithio gyda phobl allan yno ac edrych ar y dystiolaeth o'r hyn a all adfer a gwrthdroi'r dirywiad mewn gylfinirod, fel gyda'n rhywogaethau eraill. Mae heriau sylweddol yn wynebu gylfinirod. Felly, rwy'n mynd i ymweld yn ddiweddarach eleni ag un o ardaloedd pwysicaf y gylfinir yng Nghymru, i weld drosof fy hun y gwaith rhagorol sy'n digwydd ar lawr gwlad nawr er budd gylfinirod, a gweld a chlywed y gylfinir fy hun, gobeithio. Roeddwn yn y digwyddiad y gwnaethoch chi, ac Alun Davies ac eraill, ei noddi llynedd; nid yw ei glywed ar y tâp yr un fath â'i glywed drosoch eich hun, ac ychydig iawn o bobl sy'n ei glywed bellach. Nid yw'r ffermwyr yn ei glywed mwyach. Mae'n rhaid inni fynd yn ôl at hynny. Felly, rwy'n awyddus i weithio gyda'r dystiolaeth. Roedd yn gyfarfod da. Rwy'n falch iawn o weld ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio technoleg i ddeall rhai o'r heriau y mae'r rhywogaeth yn eu hwynebu. Mark, rwyf am barhau â'r ymgysylltu hwnnw, ac rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi hefyd i drafod yr hyn a wnawn yn y maes hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydym wedi ei drafod sawl gwaith o'r blaen, mae gwastadeddau Gwent yn ardal werthfawr iawn yng Nghymru, ac yn rhannol yn fy etholaeth i. Maent yn cefnogi amrywiaeth o rywogaethau, fel y gwyddoch, ac un ohonynt yw llygoden y dŵr. Fe'u hailgyflwynwyd yng nghors Magwyr, ac ers hynny maent wedi lledaenu ar draws y gwastadeddau, ac mae uchelgais i'w lledaenu ymhellach ar y gwastadeddau, gan ddefnyddio peth o gyllid y Rhwydweithiau Natur efallai. Ond o ystyried eu bod yn dirywio yn yr ardaloedd sydd â llygod y dŵr yn y Deyrnas Unedig, rwy'n credu ei bod yn bwysicach byth ein bod yn gweld yr ailgyflwyno'n digwydd a bod llygod y dŵr yn ffynnu ar wastadeddau Gwent. Dim ond un enghraifft ydyw o'u gwerth i wahanol rywogaethau a bioamrywiaeth. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn diogelu, yn meithrin ac yn gwella ardaloedd fel gwastadeddau Gwent, ac yn enwedig, yn eu diogelu rhag bygythiad datblygiadau diangen ac amhriodol?

John, diolch i chi, ac am y gwaith a wnewch yn hyrwyddo llygod y dŵr, ac mae'n bwysig canolbwyntio ar rywogaethau oherwydd o'r rhywogaeth honno daw diogelu ar raddfa'r dirwedd a chynefinoedd hefyd. Mae'n gweithio. Yn ôl pob tebyg, rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf pwerus y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi'i wneud yw nodi Aelodau unigol a dweud, 'Eich rhywogaeth chi yw hon—ewch ati i'w hyrwyddo a'i gwarchod', ac mae'r cynefin yn llifo o hynny.

Ac mae gwastadeddau Gwent yn hollbwysig, fel y gwyddom—maent yn hanfodol inni; maent yn hanfodol i'r rhywogaethau a'r cynefin, ond maent hefyd yn hanfodol i'n hiechyd a'n lles ein hunain hefyd. Ac fe sonioch chi am y rhaglen Rhwydweithiau Natur, sydd, yn fy marn i, wedi cael llwyddiant aruthrol yn helpu i amddiffyn ac adfer safleoedd, ac adeiladu cysylltedd ecolegol rhwng safleoedd hefyd: dyna wastadeddau Gwent yn amlwg iawn—nid dim ond darnau unigol, ond ar raddfa'r dirwedd. Mae wedi cael effaith enfawr. Mae wedi datblygu mwy na 90 o brosiectau, gyda dros £54 miliwn wedi'i ddyfarnu ers 2021. Felly, rydym yn gweithredu ein haddewidion. Pan wnaethom ddatgan yn gynnar iawn fod yna argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd, fe wnaethom gefnogi hyn yn llwyr hefyd. Ac mae hynny'n gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd.

Felly, rwy'n credu bod angen inni barhau i fuddsoddi, ac adolygu'r ffordd yr ydym yn ei wneud hefyd fel ein bod yn cael y canlyniadau gorau. Ond, ydw, rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o'r gwaith sydd wedi digwydd ar wastadeddau Gwent.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Rwy'n nodi sylwadau'r Canghellor ynglŷn â bod twf economaidd yn bwysicach na chyflawni sero net. Rwy'n teimlo bod hynny'n ymddangos braidd yn rhyfygus gan blaid sy'n amlwg yn poeni fawr ddim am dwf economaidd ac eto sy'n honni mai hi yw'r blaid dros fynd i'r afael â newid hinsawdd. Fodd bynnag, wrth ymdrechu am dwf economaidd, mae'n hanfodol iddo fynd law yn llaw â'n taith i gyrraedd sero net a pheidio â dod ar ei draul; nid yw twf a gweithredu ar yr hinsawdd yn annibynnol ar ei gilydd—fe allwn wneud y ddau ac mae'n rhaid inni wneud y ddau.

Mae sylwadau'r gwir anrhydeddus Rachel Reeves yn Davos, lle gwrthododd bryderon am ehangu Heathrow a meysydd awyr eraill, gan flaenoriaethu twf, yn awgrymu newid peryglus o ymrwymiadau hinsawdd y Deyrnas Unedig. Gyda'r economi'n marweiddio, ni all y Llywodraeth droi at bolisïau anystyriol, o blaid busnes sy'n dod ar draul ein hamgylchedd.

Ni ellir cyfyngu polisi hinsawdd i un adran na'i drin fel mater eilaidd—rhaid ei wreiddio ar draws y Llywodraeth. Mae sicrhau sero net erbyn 2050 yn galw am gydlynu di-dor ar draws trafnidiaeth, ynni, amaethyddiaeth, tai, addysg, iechyd. Felly, beth yw eich barn ar sylwadau'r Canghellor ynghylch blaenoriaethu twf, ac a ydych chi'n cytuno â mi na all y Deyrnas Unedig fforddio trin sero net fel ôl-ystyriaeth?

Janet, diolch am y cwestiwn hwnnw. Gallaf siarad ar ran Llywodraeth Cymru a'r gwaith arloesol yr ydym wedi'i wneud yma yng Nghymru, cyn fy amser yma mewn gwirionedd, drwy sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyna'r model; dyna'r colofnau, dyna'r egwyddorion, yr ydym yn mesur pob twf yn eu herbyn.

Rydym hefyd yn frwd iawn, gyda llaw, ynghylch twf, twf economaidd, ond twf economaidd cynaliadwy sy'n gwneud y peth iawn ar gyfer natur, bioamrywiaeth a'r hinsawdd hefyd—nid yw'n cyfnewid un peth am un arall; mae'n gwneud popeth. Rydym am weld mwy o bunnoedd ym mhocedi pobl; rydym am weld mwy o fusnesau'n ehangu. Ac mewn gwirionedd, mae'r cyfleoedd yno o fewn, er enghraifft, yr economi gylchol a'r hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru, neu yn nyfodol ynni adnewyddadwy, gan gynnwys pethau fel ynni ar y môr ac yn y blaen, mae gan bob un o'r rhain botensial mawr. Felly, yn hytrach na'i weld fel cyfnewid un peth am y llall, rwy'n credu, Janet, fod hanfod eich cwestiwn yn iawn, sef eu bod i gyd yn mynd law yn llaw a chânt eu hategu yng Nghymru gan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Diolch. Un maes allweddol ar gyfer cydweithredu a allai sbarduno twf economaidd a chynnydd tuag at sero net yw seilwaith ynni Cymru. Nid yw grid Cymru'n addas i'r diben ar gyfer cyrraedd targed sero net 2050, gyda chapasiti cyfyngedig yn achosi oedi i brosiectau ynni adnewyddadwy da iawn. Er gwaethaf mentrau fel y cynllun seilwaith ynni adnewyddadwy, mae'r cynnydd yn parhau'n araf, ac mae gwaith uwchraddio hanfodol i'r rhwydwaith trawsyrru yn ansicr.

Cyfarfu grŵp cynghori annibynnol grid trydan y dyfodol i Gymru dair gwaith y llynedd, ac eto ni cheir llawer o eglurder ynghylch ba gynnydd pendant y maent wedi'i wneud. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau rydych chi'n eu cymryd, gan weithio gyda'r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net, i weithredu 23 argymhelliad y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol?

Diolch unwaith eto am y cwestiwn hwnnw, Janet. Mae gwaith trawslywodraethol da yn y maes hwn, gyda'r Cabinet presennol ond hefyd gyda rhagflaenwyr yn y rôl hon. Rydym wedi dadlau ers tro—. Mae'n ddrwg gennyf, dylwn ddweud hefyd mai gwaith yw hwn sy'n bennaf ym maes fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, gyda'r briff economi, ac ati, ond mae gennyf i fuddiant uniongyrchol yn hyn oherwydd fy rôl innau yn gyrru'r agenda garbon ar draws y Llywodraeth ac agenda'r gyllideb garbon hefyd. Felly, mae'n rhaid i bob un ohonom, fel rydych chi'n dweud yn gywir—trafnidiaeth, ynni, pawb—chwarae ein rhan.

Rydym wedi bod yn glir iawn dros nifer o flynyddoedd fod angen y cysylltedd hwnnw ar bob rhan o Gymru, gan gynnwys y potensial ar y môr yr ydym wedi sôn amdano, ond hefyd i rannau o Gymru nad ydynt wedi gallu elwa o'r cysylltiad ag ynni adnewyddadwy hyd yma. Mae angen inni edrych ar yr agweddau hynny hefyd, fel y mae Rebecca Evans wedi dweud yn glir, ar gysylltedd lleol, cysylltedd grid lleol hefyd, fel nad yw'r cyfan yn dibynnu ar y syniad a geid 80, 90, 100 mlynedd yn ôl o un rhwydwaith mawr ledled y Deyrnas Unedig. Mae datblygiadau arloesol gwych yn digwydd yn y maes hwnnw.

Un o'r pethau sy'n glir ac yn gymhellol, wrth inni ymdrechu i gyflawni cyllideb garbon 2, sydd ynddi ei hun yn heriol iawn, yw y bydd y cyflymu y bydd angen inni ei wneud wedyn tuag at gyllideb garbon 3 yn galw am ehangu ein hynni adnewyddadwy a'n sylfaen ynni ddigarbon mewn sawl ffordd wahanol, a bydd hynny'n galw am y cysylltedd grid y sonioch chi amdano.

14:40

Diolch. Mae cynllunio, wrth gwrs, yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol. Yn ddiweddar, cynhaliais gyfarfod bord gron â'r holl randdeiliaid newid hinsawdd a'r amgylchedd, a soniodd pawb am gynllunio, gyda chyfyngiadau biwrocrataidd yn arafu prosiectau seilwaith mawr a datblygiadau ar raddfa lai megis y cyfyngiad 3 metr parhaus ar gyfer pympiau gwres. Yn ogystal, mae mwynau hanfodol fel copr yn hollbwysig ar gyfer technolegau adnewyddadwy. Rwyf eisoes wedi tynnu sylw at hyn, fod gan Gymru gyfle unigryw i arwain ar gloddio a phrosesu'r adnoddau hanfodol hyn, gan gryfhau ein heconomi a phontio i ynni adnewyddadwy. Sut y bwriadwch weithio gyda'r portffolio ynni a chynllunio i gael gwared ar y rhwystrau hyn, a sefydlu Cymru'n arweinydd technolegol, a chyflymu'r newid i ynni glân? Diolch.

Diolch, ac mae'n gwestiwn gwirioneddol wych, oherwydd rwy'n falch iawn o ddweud bod y dull traws-Gabinet o gyflawni'r union ganlyniadau rydych chi wedi sôn amdanynt wedi arwain—a diolch i fy nghyd-Aelod ar fy llaw dde, yn ogystal ag i Rebecca hefyd, ac i Jayne mewn llywodraeth leol—at fwy o fuddsoddiad yn y swyddogaeth gynllunio. Oherwydd rydym wedi cydnabod bod hyn yn rhwystr, mae'n rhwystr i'r twf cynaliadwy yr oeddem yn sôn amdano, gan gynnwys o fewn ynni ond hefyd o fewn amrywiaeth ehangach o faterion cynllunio.

Gwneuthum yn glir hefyd a chefais gefnogaeth gan gyd-Aelodau yn y Cabinet i ddadlau'r achos mai'r peth arall y mae angen inni ei ddatrys yw'r problemau capasiti gyda CNC dros gydsynio a thrwyddedu. Ac rwy'n falch o ddweud, mewn gwariant refeniw a chyfalaf, ein bod wedi gallu rhoi symiau sylweddol o arian yn benodol i'r swyddogaethau hynny—felly, cynllunio, trwyddedu, cydsynio.

Rwy'n credu bod hwn yn faes cyffrous, oherwydd os gallwch nodi'r rhwystr a phenderfynu eich bod am gael ei wared, a chynnwys modd i wneud hynny hefyd, gallwch gyflymu'n sylweddol y penderfyniadau cywir a wneir ar gyfer twf cynaliadwy—gan ddod yn ôl at eich cwestiwn cyntaf—twf cynaliadwy sydd â'r amddiffyniadau cynllunio ac amgylcheddol priodol o'i gwmpas, ond wedi'i wneud mewn ffordd a fydd yn caniatáu i'r twf hwnnw ddigwydd, yn enwedig yn ein sector ynni, y gwyddom ei fod yn rhan hanfodol o'n llwybr tuag at ddatgarboneiddio.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da. Rwyf am ofyn rhai cwestiynau, os gwelwch yn dda, am gemegau am byth—yr halogiad, hynny yw, sydd wedi'i adael ar dirweddau ledled Cymru gan yr hyn a elwir yn PFAS, y sylweddau hyn. Mae'r cemegau hyn wedi'u cysylltu â chyflyrau iechyd difrifol fel canserau, amhariadau ar y system imiwnedd, ac anffrwythlondeb hyd yn oed. Fodd bynnag, nid yw maint yr halogiad yng Nghymru yn hysbys. Gwyddom o ymchwil y gallai'r halogiad pryderus hwn mewn dŵr yfed ac mewn dŵr wyneb fod yn broblem, yn enwedig mewn mannau problemus fel safleoedd tirlenwi, hen safleoedd diwydiannol hefyd, gollyngfeydd carthion. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint a graddfa'r llygredd hwn yng Nghymru, gan gynnwys mewn dŵr yfed a dŵr wyneb, yn enwedig mewn safleoedd fel hen safleoedd diwydiannol a safleoedd tirlenwi, lle mae'n fwyaf tebygol o fodoli?

Diolch, Delyth. Ac mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen inni fynd i'r afael ag ef, ac mae angen inni fynd i'r afael ag ef yng Nghymru, ond hefyd yn y DU ac yn fyd-eang. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o hyn yn golygu bod yn rhaid inni weithredu. Gwyddom fod PFASau, y cemegau am byth, yn gysylltiedig, fel y dywedwch, ag amrywiaeth o bryderon iechyd oherwydd y cronni sy'n digwydd yn y corff dros amser. Nid un digwyddiad mohono; mae'n ymwneud â'r cysylltiad cyson a gawn, yn enwedig ar lefelau isel. Fodd bynnag, nid yw tocsigrwydd y sylweddau amrywiol wedi ei ddeall yn dda, fel y gwyddoch, oherwydd rydych chi wedi bod yn ymchwilio'n drylwyr i hyn. Felly, ar hyn o bryd, mae Pwyllgor y DU ar Docsigrwydd Cemegau mewn Bwyd yn cynnal adolygiad helaeth o'r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch y PFASau, ac yn cynnal yr asesiad risg iechyd pwysig hwnnw hefyd.

Nawr, mae asid perfflworöoctan sylffonig a PFASau—ac rwy'n edrych i'r chwith yma hefyd oherwydd mae gennyf gyd-Aelodau hefyd sy'n unedig â chi, fel Jenny ac eraill sydd wedi bod yn gwthio'n galed ar hyn—wedi cael eu nodi fel sylweddau biogronnol iawn. Felly, rhestrir y ddau hynny fel llygryddion organig parhaol o dan gonfensiwn Stockholm, y mae'r Deyrnas Unedig yn rhan ohono. Felly, gwaherddir defnyddio'r rhain yn y DU, yn amodol ar eithriadau terfyn amser penodol a nodir mewn deddfwriaeth.

Ond i'ch ateb yn uniongyrchol ynglŷn â gwaith a wnawn ar hyn o bryd, yn ôl yn 2022, comisiynodd tîm polisi dŵr Llywodraeth Cymru adolygiad o lenyddiaeth PFAS i ddeall y cyd-destun a'r risgiau y mae'r cemegau hyn yn eu creu yma yng Nghymru, ac nid yw'n syndod fod yr adroddiad wedi pwysleisio'r angen am waith ymchwil ychwanegol pellach. Roedd yn rhoi nifer o argymhellion. Nododd hefyd nifer cyfyngedig o fannau sy'n peri risg uwch o halogiad PFAS yng Nghymru, ac mae rhai ohonynt wedi darparu swyddi dros y blynyddoedd mewn ardaloedd trefol ac yn y blaen, a nawr rydym wedi nodi bod risg yno. Felly, ym mis Ebrill 2023, cyhoeddodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ei ddadansoddiad rheoleiddiol o opsiynau rheoli ar gyfer PFASau. Dyma'r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o'r cemegau hyn yn y DU. Mae'n nodi'r defnydd mwyaf cyffredin, mwyaf niweidiol o PFASau, a'r mesurau y gallwn eu rhoi ar waith i'w rheoli. Ac mae'n gwneud nifer o argymhellion, a byddwch wedi dod ar draws un o'r rhain o'r blaen—felly, er enghraifft, pethau ymarferol fel cyfyngu ar y defnydd o ewynnau sy'n cynnwys PFAS a ddefnyddir gan ddiffoddwyr tân, ond hefyd pethau fel tecstiliau, dodrefn, cynhyrchion glanhau. Felly, mae gennym fwy i'w wneud yn y maes hwn, a rhywfaint o hynny yw'r dystiolaeth a'r ymchwil, a rhywfaint ohono yw gweithredu'r argymhellion yn ymarferol.

14:45

Diolch. Mae hynny'n hynod ddefnyddiol. I aros ar yr un pwnc, os caf ofyn am atebolrwydd, os gwelwch yn dda. Oherwydd bod gan y sylweddau hyn natur sy'n anninistriadwy, bydd yn rhaid i'r gwaith glanhau fod yn drwyadl. Mae'n siŵr y bydd gan CNC ran i'w chwarae, ond hefyd awdurdodau lleol a'r sector preifat, mae'n debyg. Hoffwn wybod ble y credwch chi y bydd y cyfrifoldeb a'r atebolrwydd yn y pen draw, oherwydd mae'r egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu yn bwysig wrth gwrs, ond mae llawer o'r cwmnïau a greodd y gwastraff wedi diflannu, ac weithiau, ni ellir olrhain yr halogiad am nad yw'r gwaith papur yn bodoli mwyach neu mae wedi'i ddinistrio, neu mae wedi'i golli. Felly, pa fesurau y bydd y Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r halogiad yng Nghymru o ran pwy sydd â'r cyfrifoldeb eithaf? Pwy ydych chi'n meddwl fyddai â'r cyfrifoldeb eithaf am fonitro, rheoleiddio ac yn y pen draw, am adfer y safleoedd hyn?

Wel, rydych chi'n gofyn y cwestiynau cywir, oherwydd yn y pen draw, oes, mae gan CNC rôl allweddol i'w chwarae yn hyn. Felly hefyd ein hawdurdodau lleol o fewn y pwerau sydd ganddynt hwy. Ond os yw'r cwmnïau hynny'n dal i fodoli, yna yn amlwg mae ganddynt gyfrifoldeb i helpu i lanhau unrhyw fannau a nodir. Ond yn y bôn, mae'n rhaid inni nodi'n glir, fel y dywedais yma o'r blaen yn y Senedd, mai dyletswydd awdurdodau lleol yw nodi tir halogedig yn eu hardaloedd. Mae'n rhan o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Rhan IIA. Weithiau, os profir bod safle'n cael effaith sylweddol—felly, er enghraifft, ar ddyfroedd a reolir—gall y cyfrifoldeb rheoleiddiol drosglwyddo o'r awdurdod lleol i Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr, rydym wedi sefydlu cronfeydd yn y gorffennol. Yn absenoldeb rhywun arall i wneud y gwaith glanhau, rydym wedi sefydlu cronfeydd i helpu i adfer tir sydd wedi'i halogi. Mae hyn ychydig yn wahanol i'r math ehangach o effaith gronnol ar yr amgylchedd, ar bethau sydd o'n cwmpas bob dydd. Nawr, nid oes gennym y gronfa honno ar waith ar hyn o bryd, ond nid oes rhaid inni dynnu ohoni. Nid oes gennym bobl yn dweud, 'Mae angen cyfraniadau arnom tuag at hyn', ond, yn y dyfodol, pwy a ŵyr? Os nodir safleoedd gan yr awdurdodau lleol, a bod y baich hwnnw'n dod yn glir, ac nad yw'r cwmnïau'n bodoli, bydd yn rhaid inni ystyried hynny. Ond yn gyntaf oll, o safbwynt moesegol a moesol, os yw'r cwmnïau'n dal i fodoli, dylent gyfrannu at y gwaith glanhau.

14:50

Buaswn i'n cytuno 100 y cant gyda chi ar hwnna. Os yw'r cwmnïau'n dal yn bodoli, mae dyletswydd arnyn nhw i gymryd ymlaen y cyfrifoldeb yna. Buaswn i'n hoffi siarad gyda chi, efallai, yn fwy am y fund yna a'r posibilrwydd o ailagor y ffynhonnell yna. Ond i droi yn ôl at faint fydd clirio'r llefydd hyn yn costio, mae ymchwil yn awgrymu, os ydyn ni'n edrych dros Ewrop—achos, fel dŷch chi wedi sôn, mae hyn yn rhywbeth rhyngwladol fel problem—byddai clirio'r llygredd hwn dros Ewrop dros 20 mlynedd yn golygu bil bob blwyddyn o ryw £84 biliwn. Nawr, mae hwnna dros Ewrop. Gall yr ynysoedd hyn ar ein pennau ein hunain wynebu costau eithriadol o uchel wrth glirio'r llefydd yma hefyd. Rwy'n cymryd, yng Nghymru, fe dŷch chi wedi dweud, y byddai gan Gyfoeth Naturiol Cymru rôl i'w chwarae yn yr esiamplau yna lle dydy'r cwmnïau ddim yn bodoli mwyach neu dŷn ni'n methu profi o ble roedd y llygredd wedi dod. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru heriau cyllidol syfrdanol. Beth ydych chi'n meddwl byddai'r costau yma'n gallu bod? Ac a ydych chi'n meddwl y byddai gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddigon o gyllid i wynebu'r her yna neu ydych chi'n meddwl y byddai angen troi yn ôl at y ffynhonnell roeddech chi wedi sôn amdani yn gynt?

Wel, pan wnaethom ymddangos gerbron y dadansoddiad cyllidebol ar gyfer CNC, rwy'n falch inni allu nodi llinellau cyllid penodol sy'n mynd i CNC at ddibenion penodol. Nid yw hyn yn un ohonynt, oherwydd, fel rwy'n dweud, nid oes galw amdano ar hyn o bryd. Rwy'n arddel y safbwynt hwn ar yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu, sef lle gallwch nodi'r person cyfreithiol sydd wedi llygru ardal, mai hwy sy'n gyfrifol. Roeddent yn gyfrifol o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a dyna'r safbwynt sy'n cael ei arddel nawr. Ond yn rhy aml, gwelsom fod pwrs y wlad yn gorfod cael ei ddefnyddio, nid dim ond CNC gyda'u swyddogaeth reoleiddiol, ond sefydlu cronfeydd, fel y rhaglen grant cyfalaf tir halogedig, a oedd yn weithredol am chwe blynedd ar ôl 2005. Yna, fe wnaethom nodi rhagor o alw amdani, felly fe'i hail-sefydlwyd. Nid oes gennym yr angen dynodedig ar ei chyfer ar hyn o bryd, ond pwy a ŵyr yn y dyfodol. Felly, yn hytrach na dyfalu, os mynnwch—ac nid wyf yn ceisio bod yn anodd nac yn dwp ynglŷn â hyn—os nodwn fod angen y cyllid hwn, mae'n rhaid inni ei wneud, ond dylai'r cyfrifoldeb fod ar y llygrwr yn gyntaf. Ac yna, ar ôl hynny, mae angen inni edrych arno, oherwydd mae'n disgyn ar y tirfeddiannwr wedyn, ac yn aml bydd y tirfeddiannwr yn dweud, 'Wel, ni allaf wneud hyn ychwaith. Nid oeddwn yn gwybod dim am hyn'. Ac yna, bydd pwrs y wlad yn cael ei ddefnyddio, wrth imi edrych i'r dde yno.

Yr agwedd arall ar hyn yw bod yn rhaid inni weithio, fel y dywedwch, gyda Llywodraeth y DU ac ar draws yr Undeb Ewropeaidd ac eraill, oherwydd rydym yn credu'n gryf yn yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu ac rydym yn glynu at hynny, ac rwy'n credu y gallwn wneud hynny trwy gydweithio ar draws ffiniau.

Gwinllannoedd

Diolch, Sam. [Torri ar draws.]—nid yn bersonol. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o barhau i gefnogi diwydiant gwin Cymru drwy glwstwr diodydd Bwyd a Diod Cymru, ynghyd â hyrwyddo'r statws dynodiad daearyddol gwarchodedig ar gyfer gwinoedd Cymru. Ac yn ogystal, rydym hefyd yn darparu buddsoddiad busnes drwy'r cynllun sbarduno busnesau bwyd.

Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Nawr, mae gwinllan arobryn Velfrey Vineyard yn fy etholaeth yn berl go iawn, gyda gwin sych pefriog a gwin rhosliw sych pefriog â statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig. Rwyf hefyd yn falch iawn o rannu gyda'r Siambr fod y winllan ar y rhestr fer yng nghategori bwyd a diod lleol gorau yng ngwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad ac rwy'n annog pawb yma i bleidleisio dros Velfrey Vineyard. Mae'r perchennog, Andy Mounsey, hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru. Ond nid yw popeth mor befriog ag y mae'n ymddangos, gan fod eich cynllun dychwelyd ernes arfaethedig yn gadael blas chwerw yng ngheg gwinllannoedd Cymru. [Torri ar draws.] Mae yna fwy, mae yna fwy. Meddai Andy, 'Dywedodd yr holl gwsmeriaid a ymatebodd i'n harolwg eu bod eisoes yn dychwelyd eu poteli i'w hailgylchu neu eu hailddefnyddio, felly ni all fod unrhyw fudd i'r cymhlethdod a'r pryder o ran cost a achosir drwy gynnwys gwydr gan ei bod yn amhosibl gwella ar 100 y cant'. Ychwanegodd, 'Hoffem annog Llywodraeth Cymru i ystyried cael gwared ar wydr yn gyfan gwbl o'r cynllun dychwelyd ernes, neu o leiaf i sicrhau bod pob cynnyrch gwin Cymreig wedi'i eithrio'. Felly, Ddirprwy Brif Weinidog, a wnewch chi godi gwydr i lwyddiant gwinllannoedd Cymru drwy wrando ar gyngor Andy, neu a fyddwch chi'n dweud wrthynt am roi corcyn ynddi ac anwybyddu eu pryderon?

14:55

Chwarae teg. Chwarae teg. Lywydd, fe wneuthum ddrachtio ei eiriau ac rwy'n meddwi ar ei rethreg. Wel, wel, wel. Edrychwch, gadewch imi ddechrau drwy longyfarch Velfrey Vineyard yn sir Benfro unwaith eto ar gyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad. A hoffwn annog pobl i bleidleisio dros eu ffefrynnau. Mae gennyf lawer o ffefrynnau, yn bersonol, ymhlith ein gwinllannoedd Cymreig ac rwy'n gwneud fy ngorau yn rheolaidd i'w cefnogi yn fy ffordd fach fy hun. 

Yn ôl ym mis Rhagfyr 2022, fe lansiodd grŵp diddordeb arbennig Bwyd a Diod Cymru ar win strategaeth ar gyfer y diwydiant, ac mae llawer wedi digwydd ers hynny. Mae'r strategaeth yn unigryw, am ei bod wedi'i datblygu gan y diwydiant, yn hytrach na'i harwain gan y Llywodraeth, er ein bod yn ei chefnogi. Ac fel y cyfryw, mae'n rhaid imi ddweud, mae'n gosod esiampl go iawn i sectorau eraill o'r hyn y gellir ei wneud. Mae'n enghraifft wych o glystyru, ac mae'n galonogol iawn gweld gwinllannoedd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i sbarduno twf yn y diwydiant. Lywydd, mae targed y strategaeth ddiodydd i gynyddu gwerth y sector hwnnw ddengwaith drosodd, i gyrraedd £100 miliwn erbyn 2035, yn edrych yn fwyfwy cyraeddadwy—yn anad dim oherwydd fy nghyfraniad, a'ch un chi hefyd mae'n debyg. Mae mwy o winllannoedd newydd yng Nghymru bellach. Mae gennym dros 40 o winllannoedd unigol, ac mae llawer o winllannoedd sy'n bodoli eisoes yn ehangu eu gwinllannoedd hefyd. Ac rydym yn cydlynu, fel y gwyddoch, Wythnos Gwin Cymru bob blwyddyn trwy glwstwr diodydd Bwyd a Diod Cymru, ac mae hynny'n rhoi hwb mawr i brynwyr a defnyddwyr, ac mae'n denu sylw sylweddol gan y wasg. Mae ein gwin yn ardderchog, ac mae ganddo farchnad sy'n tyfu allan yno. 

Fe wnaethoch chi grybwyll y cynllun dychwelyd ernes; mae'n beth pwysig. Rwyf wedi dweud yn glir iawn mai'r rheswm pam ein bod yn gweithredu yn y ffordd a wnawn yw ein bod eisoes yn ail yn y byd am ailgylchu. Mae angen inni fynd ymhellach gyda'r cynllun dychwelyd ernes ac ailddefnyddio, nid ailgylchu'n unig. Ond rydym am weithio gyda'r cynhyrchwyr i'w cefnogi, i wneud y gorau o'r cyfleoedd hyn i gael cadwyni cyflenwi gwydn, ac i leihau costau deunydd, gyda llaw, oherwydd os gallwn wneud hyn yn iawn a'n bod yn ailddefnyddio yn hytrach na phrynu o'r newydd drwy'r amser, gyda photeli newydd ac yn y blaen, gallwch ostwng costau, fel y dangosir mewn gwledydd eraill lle maent wedi mynd ar y trywydd hwn. Ond edrychwch, wrth inni gyflwyno ymgynghoriad ar y cynllun yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, byddwn yn parhau â'n gwaith ymgysylltu agos iawn â'r diwydiant i sicrhau bod y cynllun dychwelyd ernes yn gweithio i Gymru ac i gefnogi cynhyrchwyr i fanteisio ar y cyfleoedd y gall hyn eu cynnig, gan fynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Gallwn wneud i'r gwaith hwn weithio i Gymru ac i'n holl gynhyrchwyr hefyd.

Sbwriel

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael â sbwriel yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ62218

Diolch, Joyce. Rydym yn parhau i ariannu Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n cefnogi cymunedau ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynnal treialon ac ymyriadau atal sbwriel, cydlynu gweithgareddau glanhau gwirfoddol, gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac annog ymddygiad amgylcheddol cadarnhaol drwy ein hymgyrchoedd newid ymddygiad.

Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fod gan bawb ran i'w chwarae yn cadw ein cymunedau'n lân ac yn daclus, ac mae llawer o bobl yn gwneud hynny. Maent yn llwyddo i fynd â'u sbwriel adref neu ei roi yn y bin—gwych, rwy'n siŵr. Felly, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi hwb i'w chymorth i Cadwch Gymru'n Daclus, gyda £1.2 miliwn yn ychwanegol wedi'i gyhoeddi y mis hwn yn unig. Bydd yr arian hwnnw'n helpu mwy na 2,500 o wirfoddolwyr ymroddedig i fynd hyd yn oed ymhellach i wneud mannau glanach a gwyrddach i bawb. Ac rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r gwirfoddolwyr hynny am godi'r sbwriel nad yw pobl eraill yn trafferthu ei roi yn y biniau na mynd ag ef adref gyda hwy. Ond mae angen atal hefyd, ac mae'r gwaharddiad sydd ar y ffordd ar fêps untro yn fuddugoliaeth enfawr i'r amgylchedd yn erbyn gwastraff plastig. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch pa mor dda y mae busnesau yng Nghymru yn paratoi ac yn addasu cyn y dyddiad gweithredu ar 1 Mehefin?

Diolch, Joyce, ac ydw, rwy'n ymuno â chi i dalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr hynny—bydd rhai yn y Siambr, rwy'n siŵr, yn ymuno â'r grwpiau hynny o wirfoddolwyr—sy'n gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i wneud gwaith glanhau lleol. Mae'n bwysig iawn, ac mae'n sefydlu ymddygiad normal, ac mae'n anfon y neges, fel y gwyddom, wrth i bobl fynd heibio yn eu ceir a dweud, 'Da iawn', maent yn dweud, 'Ie, gwych; peidiwch â thaflu'r pethau hyn, os gwelwch yn dda. Peidiwch â'i ollwng; gwnewch yr hyn a wnawn ni, fel nad oes rhaid inni dacluso cymaint yn y dyfodol'.  

Ond edrychwch, mae'r £1.2 miliwn o gyllid a roddwyd gennym wedi'i groesawu'n fawr. Gyda llaw, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, bydd yn galluogi swyddogion prosiect mewn sawl awdurdod lleol yn yr ardal i barhau â'u gwaith gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ac awdurdodau lleol ar sbwriel a baw cŵn ac yn y blaen. Mae dros 35 o hybiau sbwriel yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru bellach, gan ganiatáu i'r gwirfoddolwyr hynny fwrw ymlaen â'r gwaith eu hunain. Yn ogystal â dibynnu ar swyddogion Cadwch Gymru'n Daclus, mae'r newid ymddygiadol hwnnw'n golygu bod gwirfoddolwyr eu hunain yn dweud, 'Hei, fe wnawn ni ei ddatrys nawr. Ewch chi. Ewch chi i wneud gwaith yn rhywle arall.' Ac mae hynny'n gweithio'n dda iawn.

Ar fêps untro, dyma un o amryw o fesurau a gyflwynwyd gennym i fynd i'r afael â'r mater yn y ffynhonnell, i achub y blaen arno, a gallaf gadarnhau y bydd yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi fêps untro—gan gynnwys gwneud hynny am ddim—i ddefnyddwyr yng Nghymru o 1 Mehefin 2025 ymlaen. Mae'n cyd-fynd â gwaharddiadau mewn mannau eraill yn y DU. Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd ledled y DU, ond rydym hefyd wedi gweithio ac yn parhau i weithio gyda'r rhai yn y gadwyn gyflenwi, oherwydd nid oes raid inni ddibynnu ar y fêps untro hyn, ac mae rhai buddion y bydd pobl yn tynnu sylw atynt gyda fêps i'r rhai sy'n ceisio rhoi'r gorau, er enghraifft, i nicotin a sigaréts ac ati, ond ei wneud mewn ffordd nad yw'n dinistrio'r amgylchedd ac nad yw'n denu rhai o'r fêps tafladwy hyn sydd wedi'u targedu'n benodol at bobl ifanc. Felly, mae gennym fanteision i iechyd ac mae gennym fanteision amgylcheddol, a byddwn yn parhau i chwilio am yr ymyriadau hynny lle gallwn wneud mwy, Joyce.

15:00

Ysgrifennydd y Cabinet, mater cyffredin y dof ar ei draws yw biniau gorlawn, a phan fyddaf yn cerdded i fy swyddfa yn y Drenewydd, mae yna un man penodol lle mae'r bin bob amser yn orlawn. Rwyf hyd yn oed yn gweld pobl yn rhoi sbwriel wrth ymyl y bin, felly mae hwn, wrth gwrs, yn fater y gall pob un ohonom ei godi gyda’n hawdurdodau lleol. Weithiau, byddaf yn cael atebion cadarnhaol, fel casgliadau amlach neu finiau mwy o faint; weithiau, nid wyf yn eu cael, oherwydd cyfyngiadau ariannol. Ond tybed a oes enghreifftiau eraill ledled Ewrop neu'r byd y gallech eu harchwilio er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Sylwaf ar gyfandir Ewrop fod gwastraff yn aml yn cwympo i mewn i gynhwysydd tanddaearol. Byddai hynny’n datrys mater biniau gorlawn, ond mae’n bosibl hefyd y byddai’n arwain at ostwng costau i awdurdodau lleol gyda chasgliadau llai aml. Tybed a oes enghreifftiau eraill y gallech edrych arnynt ac ystyried treialu cynlluniau o’r fath mewn cymunedau ledled Cymru.

Diolch, Russell. Mae rhai syniadau hynod ddiddorol i'w cael, ond rwy'n mynd i ymatal rhag gwneud unrhyw beth sy'n edrych fel microreoli biniau ledled Cymru gyfan. Gallaf gymryd cyfrifoldeb am rai pethau, ond nid am bob bin. Ond mae technolegau amgen diddorol i'w cael. Ni chredaf mai rôl Llywodraeth Cymru yn unig yw hyn, ond gallai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r bartneriaeth gref iawn sy’n bodoli yn is-bwyllgorau CLlLC, sy’n edrych ar ailgylchu a sbwriel ac ati, archwilio rhai o’r opsiynau hyn, a gweld wedyn a oes gwerth mewn mabwysiadu ffyrdd eraill o weithredu.

Rydych yn llygad eich lle: mae'n boen, mae'n rhaid imi ddweud, pan fyddwch yn gweld biniau gorlawn, a phobl â bwriadau da wedyn yn rhoi sbwriel wrth ymyl y bin, sydd wedyn yn cael ei dynnu'n dipiau gan gŵn yn sborioni neu beth bynnag. Nid y dylai cŵn fod allan heb dennyn, gyda llaw; dyna faes arall yn fy mhortffolio. Peredur, ie. Ond mae’n ddull diddorol o weithredu a chredaf y dylem annog CLlLC i edrych ar hyn yn eu his-bwyllgorau hefyd.

Camlesi

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at gamlesi yng Ngorllewin De Cymru, ac i wella eu budd amgylcheddol? OQ62215

Diolch, Sioned. Mae camlesi'n cyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er nad yw camlesi wedi’u datganoli, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiectau i wella’r rhwydwaith, ac mae’r rhain wedi cynnwys gwelliannau i seilwaith a llwybrau teithio llesol ar hyd camlas Abertawe.

Diolch. Fis Hydref diwethaf, mynychais agoriad cam 2 cynllun adfer loc claddedig Clydach a Chanolfan Camlas Abertawe. Mae Cymdeithas Camlas Abertawe yn gwneud gwaith anhygoel yn dod â'r ased cymunedol hwn yn fyw. Mae camlesi'n rhedeg drwy lawer o gymunedau yn fy rhanbarth, ac rwyf hefyd wedi cefnogi Cymdeithas Camlas Tennant yn eu hymdrechion i ddiogelu camlas Tennant, sy'n hanfodol i fioamrywiaeth, gan fod rhan o'r gamlas hon yn fagwrfa i gorryn rafft y ffen, corryn mwyaf y DU ac un o'r prinnaf, a fi yw ei hyrwyddwr rhywogaethau. Yn ogystal, rwyf wedi ymgysylltu â St Modwen, sy’n berchen ar gamlas Castell-nedd, sy’n rhedeg rhwng Glyn-nedd a Llansawel, a hefyd Grŵp Camlas Tŷ Banc, grŵp gwirfoddol yn Resolfen sy’n cyflawni llawer o ddyletswyddau i helpu i gynnal y rhan hon o gamlas Castell-nedd.

Tynnodd y cyn-Weinidog newid hinsawdd sylw at y risgiau sy’n gysylltiedig â’r gostyngiadau yn y cyllid a wnaed i'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd gan Lywodraeth Dorïaidd y DU ar y pryd, megis colli rhannau o’r rhwydwaith camlesi a’r effaith negyddol ar fioamrywiaeth. I gamlesi nad ydynt yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, fel camlesi Castell-nedd a Tennant, mae'r risg o golli mynediad at y camlesi hyn a chael budd ohonynt hyd yn oed yn fwy. Mae manteision camlesi yn gysylltiedig â bron bob portffolio o fewn Llywodraeth Cymru, felly pa sgyrsiau sy’n mynd rhagddynt ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys gyda Llywodraeth y DU, i sicrhau bod ein rhwydwaith camlesi yn cael ei gadw, ei ddiogelu, ei gefnogi a’i ddathlu? Diolch.

15:05

Diolch am eich cwestiwn atodol. A gaf i ddechrau drwy ymuno â chi i ganmol gwaith y gwirfoddolwyr niferus sy'n gwneud cymaint ar draws ein rhwydwaith camlesi yng Nghymru a ledled y DU? Rwy’n cofio bod model yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn seiliedig ar y syniad, os cofiaf yn iawn, y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio rhywfaint o gyfalaf eiddo tirol, gan eu bod yn berchen ar dai enfawr y Trysorlys fel rhannau o'r Docklands yn Llundain ac ati, ac yn defnyddio hynny i ysgogi buddsoddiad, ond hefyd yn cael cymorth gan wirfoddolwyr a’r ewyllys da sy’n bodoli gan wirfoddolwyr sydd â diddordeb yn archaeoleg y camlesi yn ogystal â bywyd gwyllt, bioamrywiaeth, mynediad, ffitrwydd, llesiant a phopeth felly. Mae hyn yn wirioneddol bwysig i bobl.

Ond rydych chi'n llygad eich lle: fy nealltwriaeth i yw bod penderfyniad wedi'i wneud. Mae'n rhaid imi bwysleisio nad yw hwn yn fater datganoledig, ond mae'r penderfyniad wedi'i wneud i adolygu'r model ariannu ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, gan ei newid o gyfnod o 15 mlynedd o dapro i gyfnod o 10 mlynedd, fel ei fod wedi ei gyflymu. Mae angen i ni yng Nghymru barhau i fonitro’r hyn y gallwn ei wneud o ran ein cyfraniad at y camlesi, ac mae hynny, gyda llaw, yn golygu buddsoddiad nid ansylweddol mewn pethau fel y rhwydwaith teithio llesol, ond hefyd, yn benodol, mewn lleoedd fel camlas Maldwyn, mewn prosiectau bioamrywiaeth sy'n costio cannoedd o filoedd o bunnoedd. Felly, rydym yn cydnabod pwysigrwydd y rhain, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn yma, ond yn y cyfamser, rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd i sicrhau bod yr ewyllys da hwnnw’n cael ei drosi’n fuddsoddiad parhaus, gwaith cynnal a chadw, ac fel y mae rhai gwirfoddolwyr am ei wneud, ehangu’r rhwydwaith camlesi hefyd.

Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch yn gyntaf i Sioned am godi’r mater pwysig hwn. Hoffwn dalu teyrnged i’r fyddin o wirfoddolwyr sy’n gweithio i adfer camlesi ar draws Gorllewin De Cymru, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gamlas Tennant a chamlas Abertawe. Mae’r dyfrffyrdd hanesyddol hyn nid yn unig yn rhan o’n treftadaeth ddiwydiannol, maent hefyd yn rhan allweddol o’n gweithredoedd i wella bioamrywiaeth yn y dyfodol. Mae camlesi'n cynnig amrywiaeth o gynefinoedd sy'n denu gwahanol rywogaethau o fflora a ffawna drwy gydol y flwyddyn. Oherwydd eu strwythur llinellog, gall camlesi hefyd ddarparu coridorau cyswllt drwy amgylcheddau trefol a gwledig. Ysgrifennydd y Cabinet, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi’r rheini sy’n ceisio adfer ein camlesi a’n dyfrffyrdd hanesyddol?

Diolch, Altaf, a gallaf deimlo’r cariad yma ar hyn o bryd yn y Siambr hon, at y gwirfoddolwyr yn ogystal â thuag at gorryn rafft y ffen, gan yr hyrwyddwr rhywogaethau. Mae buddsoddiad y gallwn ei alluogi, ond mae hefyd yn rhoi—. Fel y nodais, rydym wedi darparu £100,000 i Gymdeithas Camlas Abertawe drwy'r gronfa pethau pwysig i wneud gwelliannau i'r seilwaith yn loc Clydach. Rwyf wedi'i weld fy hun, mae'n wych ei weld, a gwaith y gwirfoddolwyr yno. Hefyd, rydym wedi rhoi £128,000 at y rhan honno, o gyllid teithio llesol i uwchraddio'r llwybrau halio ger camlas Abertawe. Mae’n wych gweld bod Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau eu cyllid eu hunain ar gyfer adfer ac adfywio camlesi Castell-nedd a Thennant. Mae hyn yn gadarnhaol iawn, a gwn y byddant yn awyddus i weithio gyda gwirfoddolwyr hefyd.

Rwy’n tybio y bydd mwy y gallwn ei wneud yn y dyfodol ynghylch bioamrywiaeth, teithio llesol ac ati, felly er yn wir nad yw hyn wedi'i ddatganoli, rydym yn cydnabod gwerth y rhwydwaith camlesi ac afonydd i’n llesiant ehangach a’r buddion amgylcheddol, a’r buddion economaidd hefyd, oherwydd wrth ichi gerdded wrth y camlesi hyn o Glydach a mannau eraill fe welwch y caffis, fe welwch y tafarndai’n ffynnu yn eu sgil ac ati. Rydym yn ôl at y gwin eto, y gwin Cymreig. Felly, mae ganddynt nifer o fanteision.

Hoffwn innau hefyd amlinellu’r gwaith da sy’n cael ei wneud gan Gymdeithas Camlas Abertawe. Adeiladwyd y gamlas rhwng 1794 a 1798, ac roedd yn arfer ymestyn 16 milltir a hanner o Abertawe i Aber-craf. Heddiw, dim ond 5 milltir o gamlas Abertawe sy'n gwbl fordwyadwy, o Glydach i Bontardawe ac o Bontardawe i Ynysmeudwy. Mae cymdeithas y gamlas, gyda'i gwirfoddolwyr, wedi bod yn rhan o'r gwaith o ymestyn y gamlas ac ailagor un o'r lociau. Roeddwn i, ynghyd â llawer o Aelodau eraill o'r Senedd, gan gynnwys Aelodau o’r Cabinet, yn yr agoriad swyddogol yn gynharach eleni. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch cymdeithas y gamlas a’u gwirfoddolwyr niferus? Sut y gellir rhannu'r arferion da hyn? Hynny yw, yn llawer rhy aml yng Nghymru, mae gennym bethau gwych yn digwydd ac nid ydynt ond yn digwydd mewn un lle. Sut y gallwn rannu ymhlith y cymdeithasau camlesi eraill?

15:10

Mike, rydych chi'n llygad eich lle. Rwy'n falch eich bod chi a chymaint o Aelodau yno yn yr agoriad. Mae'n rhaid imi nodi bod gennyf fuddiant personol, gan fy mod wedi hwylio pob modfedd o'r gamlas fordwyadwy honno, ac eraill yn ne Cymru, yn fy nghwch 17 troedfedd, ac rwy'n aml yn ei harchwilio ar allteithiau. Dyma’r adeg orau o’r flwyddyn, mewn gwirionedd, o ran gweld y bywyd gwyllt, felly rwy'n annog unrhyw un i gerdded, beicio a’i mwynhau ac ati.

A gallwn ledaenu hyn ymhellach. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo y tu hwnt i Abertawe a chamlas Tennant, ac yn y blaen, a'r holl wirfoddolwyr hynny. Gallwn wneud y buddsoddiad hwnnw, fel y soniais, mewn lleoedd fel camlas Maldwyn, gan ddefnyddio, er enghraifft, y gronfa Rhwydweithiau Natur ar gyfer bioamrywiaeth yno, felly cannoedd o filoedd o bunnoedd yn yr ardal honno. Felly, yn sicr, gallwn ledaenu hyn ymhellach, a chredaf mai un o'r ffyrdd gorau o ledaenu hyn, mae'n rhaid imi ddweud, yw o un gwirfoddolwr i'r llall, gan mai'r hyn sy'n drawiadol yn hyn o beth a syniadaeth wreiddiol yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yw adeiladu ar ewyllys da, egni a gwybodaeth a brwdfrydedd gwirfoddolwyr. Gwirfoddolwyr sydd wedi ysgogi'r gwaith o adfer y rhwydwaith camlesi cyfan, o'r eiliad y byddent wedi diflannu yn y wlad hon. Hwy a'i cychwynnodd; hwy yw'r rhai sy'n parhau i wneud iddo ddigwydd, ac mae angen i ni eu cefnogi.

Tipio Anghyfreithlon

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yn Nwyrain De Cymru? OQ62209

Diolch, Natasha. Mae Taclo Tipio Cymru, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru i dargedu ardaloedd lle ceir llawer o dipio anghyfreithlon. Mae ymarferion gwyliadwriaeth llwyddiannus wedi arwain at erlyniadau a chamau gorfodi eraill. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Cyngor Dinas Casnewydd i ymdrin yn llwyddiannus â safle ag iddi enw drwg, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, sef y ‘ffordd i unman’ yng Nghoedcernyw.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae tomenni o sbwriel, fel y sonioch chi'n gywir ddigon, yn pentyrru yng Nghasnewydd ac yn dod yn ddigwyddiad cynyddol reolaidd i drigolion. Heb fod mor bell yn ôl â hynny yn un o gyfarfodydd craffu’r cyngor, datgelwyd bod y ddinas wedi adennill ei choron annymunol fel prifddinas tipio anghyfreithlon Cymru. Canfu adroddiad fod mwy nag 8,000 o’r 42,171 o achosion o dipio anghyfreithlon a nodwyd gan bob awdurdod lleol dros y flwyddyn ddiwethaf yn ardal cyngor Casnewydd.

Un enghraifft o'r broblem gynyddol yn ein dinas oedd y domen enfawr o sbwriel a oedd yn cynnwys cewynnau, bagiau, gwastraff cartrefi a gwastraff arall a gafodd ei gadael i bentyrru ar Factory Road. Disgrifiodd unigolyn lleol yr arogl o'r safle fel un ffiaidd, gyda llygod mawr i'w gweld yn sgrialu o amgylch y safle a haid o bryfed yn hofran dros y domen o wastraff. Ar ôl nifer o gwynion ac ar ôl i fy nghyd-aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig a chynghorydd dinas Casnewydd David Fairweather godi'r mater, rwy’n falch o weld bod y domen bellach yn cael ei chlirio. Fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, ni ddylai byth fod wedi cyrraedd y sefyllfa hon. Felly, hoffwn wybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n benodol gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r mater, sy'n difetha ein cymunedau, ac a fydd unrhyw gymorth ychwanegol yn cael ei roi i Gyngor Dinas Casnewydd, gan ei bod yn amlwg fod yr ardal benodol hon yn fan problemus o ran tipio anghyfreithlon. Diolch.

Diolch, Natasha. Ac edrychwch, credaf fod hwnnw'n bennawd cwbl annymunol i awdurdod lleol. Gwelais rai o’r adroddiadau ar hyn, ac rwyf wedi gweld rhai o’r ymatebion gan rai o’r swyddogion a’r cynghorwyr, eu bod bellach wedi cyhoeddi mwy na 200—200—o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon a gwastraff eleni, o gymharu â dim ond ychydig ddwsinau yn y blynyddoedd blaenorol. Felly, maent yn mynd i'r afael â hyn, sy'n wirioneddol wych i'w weld.

Yr hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru yw parhau â’r buddsoddiad. Felly, mae’r £1.2 miliwn a roesom i raglen Taclo Tipio Cymru dros y tair blynedd diwethaf yn hwb gwirioneddol i hynny, ac mae hynny’n cynnwys cryfhau camau gorfodi ledled Cymru, fel rwyf newydd ei ddisgrifio, cyflogi swyddogion gorfodi newydd i dargedu’r mannau problemus o ran tipio anghyfreithlon a meithrin perthynas gadarn â thimau gorfodi awdurdodau lleol, fel bod gennym arferion gorau, arferion rhagweithiol ym mhobman, ac mae hynny’n cynnwys cyflawni’r canlyniadau gorfodi, cyflawni erlyniadau a chamau gorfodi eraill sydd, weithiau, yn eithaf llafurus, gan y gall fod fel dadansoddi fforensig, ond erlyn tipwyr anghyfreithlon hefyd. Mae'n rhaid inni gydnabod bod y rhan fwyaf o'r hyn a welwn o ran tipio anghyfreithlon yn gysylltiedig â gwaredu gwastraff domestig. Felly, mae’n rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb eu hunain, fel unigolion. I bwy y maent yn rhoi eu gwastraff? A ydynt yn gontractwr trwyddedig? A ydynt yn gwybod ei fod yn mynd i domen sbwriel, a'u bod yn talu am hynny, yn hytrach na'i fod yn cael ei adael ym mhen draw'r lôn? Felly, byddwn yn parhau i gefnogi hyn.

Yn eich ardal chi, mae rhai pethau yr ydym yn eu gwneud yn ne-ddwyrain Cymru. Ar wastadeddau Gwent, rydym yn datblygu prosiect ar gyfer y dyfodol lle byddwn yn gweithio gyda chymunedau, gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect tipio anghyfreithlon blaenorol, Lefelau Byw. Rydym yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyngor Casnewydd hefyd. Mae Taclo Tipio Cymru yn gweithio ar wneud mwy gydag arwyddion a chynyddu gweithgarwch gwyliadwriaeth. Yn ardal ehangach y de-ddwyrain, rydym yn gwneud gwaith gyda Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar safleoedd tir comin, gan weithio gyda CNC ar hynny, mewn lleoliadau wedi'u targedu lle gwyddom fod problem yn ne Cymru. A chyda sir Fynwy a Thorfaen, rydym yn targedu ardaloedd problemus mewn ffordd debyg.

15:15
Ansawdd Aer

7. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i wella ansawdd aer pobl sy'n byw ger safleoedd glo brig a chwareli? OQ62191

Diolch, Delyth. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd glir i sicrhau bod amgylchedd yr aer yn cael ei ystyried gydag unrhyw gais cynllunio a wneir. Mae gan awdurdodau lleol hefyd ddyletswyddau i wella ansawdd aer yn eu hardaloedd, gan ddefnyddio mecanweithiau gan gynnwys caniatâd cynllunio a gorfodi, trwyddedu amgylcheddol, rheoliadau niwsans statudol a chydymffurfiaeth.

Diolch. Gall byw yn agos at chwarel gael effeithiau niweidiol ar eich iechyd. Yn ôl y sôn, mae chwarel Bryn yng Ngelligaer wedi parhau â gweithrediadau ffrwydro er i'w caniatâd cynllunio ddod i ben ddiwedd y llynedd. Mae trigolion sy'n byw ger y chwarel wedi cwyno ers tro am lygredd sŵn o'r ffrwydradau, dirgryniadau yn eu cartrefi a'r llwch, a hoffwn ganolbwyntio ar y llwch. Gall dod i gysylltiad â llwch o chwareli gael effeithiau hynod andwyol ar ein hiechyd; mae'n arbennig o niweidiol i ysgyfaint plant—gall arwain at asthma—ac mewn oedolion, gall dod i gysylltiad hirdymor â llwch o chwareli fod yn gysylltiedig â thrawiadau ar y galon a strôc.

Mae bron yn amhosibl cael darlun cywir o'r graddau y mae chwareli'n effeithio ar ansawdd aer. Nid yw'n help fod cwmnïau chwarela fel yr un yng Ngelligaer yn hunanfonitro'r data ansawdd aer. Mae angen monitro'r safleoedd hyn ledled Cymru yn annibynnol, gan fod rhai cwmnïau chwarela wedi’u cyhuddo yn y gorffennol o dangofnodi allyriadau. Ysgrifennydd y Cabinet, dylai hwn fod yn achos prawf cynnar ar gyfer y Ddeddf aer glân. A wnewch chi edrych ar hyn, os gwelwch yn dda, a chyflwyno newidiadau i ddiogelu iechyd pawb sy’n byw ger y chwareli hyn ledled Cymru?

Diolch, Delyth. Un o'r pethau a allai fod o ddiddordeb i chi ac eraill, yn hytrach nag ailadrodd yr amddiffyniadau sydd ar waith ar hyn o bryd a'n disgwyliad fel Llywodraeth Cymru y cânt eu defnyddio, yw ein bod, ers Deddf 2024, wedi agor ymgynghoriad i ddiweddaru’r canllawiau ansawdd aer lleol ar gyfer awdurdodau lleol i’w cefnogi ymhellach i gyflawni eu rhwymedigaethau ansawdd aer. Byddem yn falch iawn o weld unrhyw un a phawb yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwn; mae i'w weld ar ein gwefan.

Ond mae'n amlwg iawn hefyd fod yn rhaid ystyried yr effaith bosibl ar iechyd bob amser mewn perthynas ag unrhyw gynnig i gloddio am agregau, ac mae'n rhaid cynnal asesiadau o'r effaith ar iechyd ar gyfer cynigion o'r fath pan fyddant o fewn 1 km i gymuned bresennol. Wrth gwrs, mae rhywbeth a gyflwynwyd gennym yn weddol ddiweddar yn 2024, sef Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro a rheoli ansawdd aer yn eu hardal.

Felly, mae’r rheini ar waith; mae angen inni sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n briodol. Ond os oes cynigion eraill i'w cyflwyno, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol, mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn clywed awgrymiadau da a thystiolaeth o ddull gweithredu gwell.

Morwellt

Diolch yn fawr iawn, Mabon. Rydym wedi buddsoddi £300,000 i gefnogi adferiad morwellt ar hyd arfordir Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid diweddar ar gyfer datblygu cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol Rhwydwaith Morwellt Cymru, sy’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer adfer 266 hectar o forwellt ar draws Cymru erbyn 2030.

Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Dwi'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar o fwy o arian tuag at Rwydwaith Morwellt Cymru. Mae'r rhwydwaith yma, wrth gwrs, yn gwneud gwaith gwych; dwi wedi cael y pleser yn y flwyddyn ddiwethaf o fynd i blannu hadau morwellt ym Mhenychain gydag aelodau o'r rhwydwaith. Wrth gwrs, mae morwellt nid yn unig yn helpu natur ac yn sicrhau bod yna bysgodfeydd iach gennym ni ar ein glannau ni, ond hefyd maen nhw'n amsugno carbon deuocsid i raddau anferthol. Ond yn fwy na'r arian yma, a'r gefnogaeth dwi'n gwerthfawrogi sydd wedi cael ei roi, beth y tu hwnt i hynny ydych chi'n ei wneud o ran gosod uchelgais? Beth ydy uchelgais y Llywodraeth pan ei fod yn dod i forwellt, a beth ydy'r targedau rydych chi'n eu gosod er mwyn gwireddu'r uchelgais yma?

15:20

Nid yn unig morwellt, ond mae morfeydd heli hefyd yn bwysig yn y cyd-destun hwn. Rydych chi'n nodi'n gywir ddigon nad dyma'r unig gyllid a ddarparwyd gennym. Rydym wedi dyfarnu, ers 2021, bron i £852,000 o gyllid tuag at adfer morfeydd heli drwy'r gronfa Rhwydweithiau Natur. Bydd y rhain yn cyfrannu at ein targedau cadwraeth 30x30, heb os nac oni bai. Fel y gwyddoch—ac mae llawer o gefnogaeth yma yn y Siambr i’r rhwydwaith morwellt a'r prosiect morwellt—roeddem yn falch iawn o ddarparu £100,000 ychwanegol, ond bydd rhan o hwnnw’n cefnogi datblygiad y cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol. O fewn hynny, gallwn gael syniadau am lefel yr uchelgais y gellir ei chael yng Nghymru, yn hytrach na fy mod i'n dweud yn fympwyol, 'Dyma faint o hectarau’. Ond bydd hyd yn oed y cyllid hwn ar ei ben ei hun nawr yn datblygu'r 266 hectar ychwanegol hynny.

Ymwelais, oddeutu mis yn ôl, ag un o'r safleoedd sy'n hollbwysig i hyn, ar yr ystad ddiwydiannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle maent yn datblygu'r cnepynnau bach a gaiff eu plannu—unwaith eto, thema heddiw—gan wirfoddolwyr, llawer ohonynt, ledled Cymru. Felly, bydd hyn yn cyfrannu at ein gwaith adfer natur. Bydd yn cyfrannu at yr amgylchedd morol. Bydd yn cyfrannu at atafaelu carbon hefyd. Mae iddo nifer o fuddion. Dyna pam ein bod yn falch o wneud y buddsoddiad, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiad nid yn unig y cynllun gweithredu morwellt cenedlaethol, ond diben rhan o’r cyllid hwn yw annog eraill i gymryd yn rhan, i ddenu cyllidwyr eraill. Oherwydd mae llawer iawn o gyffro ynghylch morwellt, a morfeydd heli hefyd, a gobeithiwn y bydd pobl eraill yn dweud, 'Wel, mae arnom eisiau bod yn rhan o hyn, a helpu i ariannu'r gwaith o'i ddatblygu'. Yna, gallwn godi’r uchelgais yn sylweddol.

3. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau amserol. Mae'r cyntaf o'r rheini heddiw i'w ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac i'w ofyn gan Julie Morgan.

Prifysgol Caerdydd

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Phrifysgol Caerdydd yn dilyn y cyhoeddiad y bydd 400 o swyddi yn cael eu torri? TQ1293

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod y cynigion gyda Phrifysgol Caerdydd, ac rydym yn disgwyl i bryderon staff, myfyrwyr ac undebau llafur gael eu clywed yn ystod yr ymgynghoriad. Mae prifysgolion ledled Cymru yn gwneud cyfraniadau hanfodol i’n cymunedau, ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen atebion cynaliadwy arnom i sicrhau bod hynny’n parhau, gan gynnwys hyfforddi gweithwyr gofal iechyd.

Diolch am yr ateb.

Yn gyntaf oll, hoffwn ddatgan buddiant gan fod fy mab yng nghyfraith yn gweithio i Brifysgol Caerdydd. Credaf fy mod—a chredaf fod pob un ohonom—yn syfrdan yn dilyn y cyhoeddiad gan Brifysgol Caerdydd ddoe ei bod yn bwriadu torri 400 o swyddi, gan arwain at gau adrannau hanes yr henfyd, ieithoedd modern a chyfieithu, cerddoriaeth, nyrsio a diwinyddiaeth grefyddol. Mae'r rhain yn gyrsiau hollbwysig, hanfodol a fydd yn diflannu. Mae 400 o swyddi yn 7 y cant o weithlu’r brifysgol, a bydd colli cynifer o swyddi sgiliau uchel yn cael effaith ddinistriol a pharhaol nid yn unig ar yr unigolion dan sylw, ond ar y ddinas ac ar Gymru. Bydd yn golygu na fydd miloedd o fyfyrwyr yn dod i Gaerdydd i astudio, a bydd hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ddiwydiannau eraill sy'n dibynnu ar fyfyrwyr am eu hincwm.

Rwy’n arbennig o bryderus y bydd nyrsio'n un o’r prif adrannau yr effeithir arnynt. Mae’r cwrs nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd ar frig y tabl yng Nghymru ac yn bumed drwy'r DU gyfan. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae 800 i 1,000 o fyfyrwyr yn yr ysgol nyrsio. Mae torri'r nifer hwn o fyfyrwyr nyrsio, pan amcangyfrifir ein bod 2,000 o nyrsys yn brin yng Nghymru, yn gwbl syfrdanol, a bydd effaith hyn yn cael ei theimlo ledled Cymru. A allai’r Gweinidog ofyn i’r brifysgol ystyried effaith cynigion o’r fath ar Gymru gyfan, yn enwedig pan fo Llywodraeth Cymru yn gwneud cymaint o ymdrech i recriwtio nyrsys, a hefyd wedi cadw’r fwrsariaeth er mwyn cadw nyrsys yn y maes? A hefyd, a yw'r Gweinidog yn gwybod a fyddai unrhyw weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill hefyd yn cael eu heffeithio pe bai'r ysgol nyrsio'n cau?

Ac yna, wrth gwrs, bydd colli’r adran gerddoriaeth yn ergyd enfawr a fydd, unwaith eto, yn effeithio ar fwy na Chaerdydd yn unig. Bydd colli oddeutu 275 o fyfyrwyr cerdd yn yr ysgol yn effeithio ar Gymru gyfan ac yn effeithio ar ddiwylliant cerddoriaeth Cymru. Y llynedd yng Nghaerdydd, rydym eisoes wedi gweld adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cau, ac mae hon yn ergyd bellach i’r celfyddydau yng Nghymru. Mae pennaeth yr ysgol wedi disgrifio’r cynnig fel esgeuluso dyletswydd a bradychu treftadaeth ddiwylliannol Cymru. Rwyf wedi siarad â chynrychiolwyr yr undebau, ac maent yn teimlo nad oes syniad ganddynt sut y mae'r brifysgol wedi dod i benderfyniad mor llym, gyda'r cynigion i dorri cyrsiau mor hanfodol.

Un o’r rhesymau a roddwyd dros yr argyfwng ariannol yw’r gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol oherwydd y newid i ofynion fisa, a thybed a oes gan y Gweinidog ragor o fanylion am y niferoedd hyn a pha ganran y maent wedi gostwng ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf hefyd yn ofnus iawn mai dim ond crib y rhewfryn yw'r toriadau hyn. Dyma'r swyddi academaidd sy'n mynd. Credaf fod y brifysgol wedi dweud y byddai swyddi proffesiynol yn dilyn hynny. Swyddi yn yr adrannau gweinyddol a'r ystadau fydd y rheini. Tybed a oes gan y Gweinidog unrhyw syniad, neu a fyddai’n gallu darganfod, beth sydd wedi'i gynllunio nesaf gan y brifysgol?

Ac yn olaf, beth am y myfyrwyr? A all y Gweinidog gadarnhau y bydd y myfyrwyr, sydd efallai ar ganol eu cyrsiau, yn cael eu cefnogi yn y cyfnod anodd hwn? Oherwydd gallwch ddychmygu pa mor ddigalon y gallech fod os ydych ar ganol cwrs ac yna'n cael gwybod y gallai'r cwrs hwnnw gael ei dorri. Credaf fod lles y myfyrwyr yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r brifysgol ei ystyried.

I gloi, mae ein prifysgolion yng Nghymru yn gwbl hanfodol. Maent yn rhan o wead ein cymdeithas ac maent yn golygu cymaint mwy nag addysgu myfyrwyr yn unig. Rwy'n annog y Gweinidog i wneud popeth yn ei gallu i weld beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i atal y cynigion hyn rhag cael eu rhoi ar waith.

15:25

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn. Rydym yn ymwybodol o gyhoeddiad diweddar Prifysgol Caerdydd ar gynlluniau i ymgynghori â staff ac undebau llafur ar golli swyddi'n orfodol, a’r posibilrwydd o roi'r gorau i gynnig rhai cyrsiau. Deallwn fod y brifysgol wedi dechrau cyfnod ymgynghori statudol gyda’r undebau llafur cydnabyddedig dan sylw, gan gynnwys yr Undeb Prifysgolion a Cholegau, ac mae hyn yn dilyn cyfnod o drafodaethau ar draws adrannau’r brifysgol.

Ar adegau heriol fel hyn, hoffwn bwysleisio y byddwn yn disgwyl i sefydliadau gadw at egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, a bod yr undebau llafur a’r gweithlu yr effeithir arnynt yn cymryd rhan weithredol yn y broses ailstrwythuro arfaethedig, a bod myfyrwyr yr effeithir arnynt gan y newidiadau arfaethedig, y credaf eu bod yn cynnwys cwblhau’r cyrsiau hynny, yn cael eu cefnogi’n llawn.

Rwy'n cydnabod bod yr ansicrwydd yn mynd i beri pryder i lawer o staff a myfyrwyr. Mae'n hanfodol fod cymorth priodol ar gyfer iechyd meddwl a lles ar gael i bawb yr effeithir arnynt, a gwn y bydd undebau llafur ac undebau myfyrwyr yn gwneud pob ymdrech i roi'r cymorth hwnnw ar waith.

Y pwynt pwysicaf yr hoffwn ei gofnodi yn y Siambr y prynhawn yma, Lywydd, yw bod angen inni weld adolygiad o sut y caiff y sector addysg uwch ei ariannu ledled y DU. Mae angen i hynny ystyried ffactorau megis effaith Brexit, newidiadau i ofynion fisa, pwysigrwydd partneriaethau rhyngwladol a’r rheolau gan Drysorlys y DU sy’n llywodraethu’r system cyllid myfyrwyr, nad oes yr un ohonynt yn ein dwylo ni yng Nghymru.

Rwy’n deall bod rhywfaint o waith yn mynd rhagddo yn Llywodraeth y DU, ac rwy’n disgwyl i Lywodraeth Cymru gael cyfle i gyfrannu at yr adolygiad hwn fel bod unrhyw ganfyddiadau'n berthnasol i anghenion Cymru, sef fy mhrif bryder bob amser, wrth gwrs. A dweud y gwir, siaradais â Gweinidog addysg uwch Llywodraeth y DU yn gynharach heddiw i wneud y pwyntiau hyn, ac mae gennym gyfarfodydd pellach wedi’u trefnu yn gynnar yr wythnos nesaf i drafod hyn yn fanylach.

Mae sefydliadau addysg uwch cynaliadwy yn hanfodol bwysig i ddyfodol Cymru. Dyna pam ein bod wedi gwneud y penderfyniad anodd i gynnal gwerth ffioedd dysgu mewn termau real yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Dyna pam fod prifysgolion Cymru yn parhau i gael eu hariannu’n gymharol dda fesul myfyriwr o gymharu â rhannau eraill o’r DU, ac yn rhyngwladol yn wir, a dyna pam ein bod yn darparu’r pecyn cymorth myfyrwyr mwyaf hael i’n myfyrwyr, i’w galluogi i gael mynediad at addysg uwch ni waeth beth fo'u cefndir. Dyna hefyd pam ein bod yn awyddus i flaenoriaethu gwella cyfranogiad a chyrhaeddiad yn ein hysgolion a'n colegau dros y tymor hir, fel y gallwn gynyddu nifer ein pobl ifanc a allai fod ag uchelgais i fynd i'r brifysgol.

Rwy'n cydnabod y pwysau ariannol sydd ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Bydd Gweinidogion Cymru, swyddogion a Medr yn parhau i ymgysylltu’n adeiladol ac yn rheolaidd ar hyn gydag arweinwyr y sector. Ac i gefnogi prifysgolion, yn ogystal â chynyddu ein ffioedd dysgu, rydym wedi darparu hyd at £21.9 miliwn mewn incwm ychwanegol iddynt, a £10 miliwn yn ychwanegol i’r sector hefyd, gan ddod â chyfanswm y cyllid grant i dros £200 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

Gwyddom fod ein prifysgolion yn mynd drwy gyfnod sylweddol o addasu poenus, a dweud y gwir, yn dilyn y gostyngiad sydyn diweddar yn nifer y cofrestriadau o fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol. Ond mae cyllid addysg uwch yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol â chenhedloedd eraill y DU. Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan London Economics yn 2024, roedd cyllid addysg uwch net fesul myfyriwr amser llawn yng Nghymru yn 2023-24 18 y cant yn uwch nag yn yr Alban, a 22 y cant yn uwch nag yng Ngogledd Iwerddon. Rydym yn disgwyl y bydd ein cyllid ar lefel gymharol â Lloegr gan fod ffioedd dysgu yr un fath yn y ddwy wlad. Felly, mae’n rhaid inni weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddatblygu system gyllido addysg uwch sy'n gynaliadwy, ac sy'n gweithio i brifysgolion, i fyfyrwyr ac i staff.

Os caf droi, felly, at fater nyrsio a godwyd gennych chi, Julie. Mae Prifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan bwysig yn ein huchelgais ar gyfer gweithlu GIG cynaliadwy yn y dyfodol, ac rydym yn siomedig fod cyrsiau nyrsio yn rhan o’r cynigion hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gweithio ar frys gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau y gallwn hyfforddi’r un nifer o nyrsys yng Nghymru.

Ac yna, yn olaf, os caf droi at y tri chwestiwn penodol a ofynnoch chi i mi, gallaf gadarnhau bod y brifysgol yn cynnig cadw bydwreigiaeth, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a chyrsiau meddygol eraill, ac yn dweud y byddent yn gweithio i wella eu darpariaeth feddygol arall. Ac yna, ar eich cwestiwn ynghylch niferoedd myfyrwyr rhyngwladol, nid yw'r data sydd gennym ar niferoedd myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd gyfredol a'r flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi'i gyhoeddi eto, ond gwyddom o ddata'r Swyddfa Gartref y bu gostyngiad o 14 y cant ledled y DU mewn ceisiadau am fisâu myfyrwyr yn 2024, o gymharu â 2023. A chanfu arolwg o 70 o brifysgolion y DU fod 80 y cant wedi nodi gostyngiad yn nifer y cofrestriadau ôl-raddedig rhyngwladol ym mis Medi 2024, a bod nifer y cofrestriadau ôl-raddedig rhyngwladol yn gyffredinol wedi gostwng 20 y cant. Mae’r data hwnnw'n ategu’r hyn y mae prifysgolion yng Nghymru wedi bod yn ei ddweud wrthym, a’u staff, ynglŷn â'r gostyngiad yn niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi cofrestru eleni.

Ar eich cwestiwn ynghylch pa gynlluniau eraill a allai fod gan y brifysgol, nid yw'r brifysgol wedi rhoi gwybod i ni am unrhyw gynlluniau ailstrwythuro pellach. Ond hoffwn ailbwysleisio bod prifysgolion yn annibynnol ar y Llywodraeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau o'r fath.

Ac yn olaf, fe ofynnoch chi am effaith ehangach y cynigion ar Gaerdydd a'r rhanbarth. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ystyried y newidiadau hyn yng nghyd-destun eu heffaith ar Gaerdydd ac ar Gymru gyfan, a bydd hynny'n fater i'r brifysgol ei ystyried wedyn wrth wneud eu penderfyniadau terfynol.

15:30

Weinidog, mae'r toriadau enfawr hyn yn ddinistriol, nid yn unig i'r staff a'r myfyrwyr yr effeithir arnynt—mae nifer o rieni wedi fy ffonio, yn pryderu am ddyfodol eu plant ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn mynd i gael effaith aruthrol ar y gymuned leol, ein heconomi ac yn y pen draw, ar genedlaethau'r dyfodol. Mae problemau ariannol a gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol wedi cael y bai am y toriadau llym—gallaf ei glywed, gallaf ei ddeall, i raddau. Ond siomedig iawn oedd clywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn gwrthod unrhyw gyfrifoldeb ddoe, drwy ddweud bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol. Er bod hynny'n wir, ac rwy'n credu y gallwn i gyd dderbyn hynny i raddau, a yw'r Llywodraeth o ddifrif yn gyffyrddus i eistedd yn ôl a chaniatáu i'r weithred hon o fandaliaeth addysgol ddigwydd yma yng Nghymru? Oherwydd, a bod yn onest, nid wyf i'n gyfforddus yn ei gylch.

Yn fy marn i, mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu, yn enwedig gan fod y brifysgol hon yn adnabyddus, ac mae'n amlwg i bob un ohonom y bydd yn cael gwared ar y coleg nyrsio, fel y soniodd ein cyd-Aelod ychydig yn ôl. Mae'n mynd i fod yn wynebu diffyg enfawr yn nifer y nyrsys y byddwn yn dod â hwy i'r rheng flaen yma yng ngwasanaeth iechyd Cymru. Yng ngoleuni'r perygl o gau'r ysgol nyrsio, pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda'r byrddau iechyd yn yr ardal gyfagos o ran eu gallu i wneud iawn am rywfaint o'r golled? O ystyried bod unrhyw fudd i godi ffioedd dysgu prifysgolion wedi'i ddileu gan y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol, pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau mwy o gefnogaeth i'n prifysgolion drwy'r gyllideb sy'n digwydd yma ar gyfer 2025-26?

Ac ar y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol, a all y Gweinidog esbonio'r rhesymau sy'n sail i hyn ac amlinellu—ac fe sonioch chi am y rhain yn eich ateb blaenorol, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny—pa rôl y mae'r Llywodraeth hon yn ei chwarae yn marchnata prifysgolion Cymru, yma gartref ac ar draws y byd, mewn ymgais i chwyddo niferoedd myfyrwyr? Wrth gwrs, mae hwn yn fater sy'n datblygu—ni allaf wadu hynny—gyda goblygiadau mawr, felly rwy'n gobeithio y cawn ddatganiad brys yn y Siambr yr wythnos nesaf fel y gallwn drafod y mater yn fwy manwl. Diolch.

15:35

Hoffwn ddiolch i Natasha Asghar am y cwestiynau hynny. Ac fe ddechreuoch chi drwy siarad am les myfyrwyr, ac rwy'n rhannu eich pryder am les myfyrwyr. Gwn fod cangen Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghaerdydd yn weithgar iawn a bydd yn cefnogi myfyrwyr trwy'r cyfnod hwn. Ond rwy'n ailadrodd y pwynt a wneuthum i Julie Morgan: rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bob un ohonom rannu'r cyfrifoldeb i sicrhau bod y ffeithiau cywir ar gael yma a bod yr ymgynghoriad yn cynnig cwblhau cyrsiau fel na fydd unrhyw fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio.

Ac ar eich cwestiwn am drafodaethau gyda byrddau iechyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac maent hwy, yn eu tro, yn cael trafodaethau gyda byrddau iechyd fel y gallwn sicrhau bod ein modelau cynllunio'r gweithlu ar gyfer nyrsio a phroffesiynau eraill perthynol i iechyd yn cael eu cyflawni.

Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod nad problem i un brifysgol yn unig yma yng Nghymru yw hyn nac i brifysgolion Cymru yn unig. Mae'r problemau a wynebwn yn faterion sydd wedi'u hachosi i ni, mae'n ddrwg gennyf ddweud, gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU. Felly, os edrychwn ar effaith barhaol Brexit, ac anallu ein sefydliadau addysg uwch yn ei sgil i gael gafael ar gyllid ymchwil—mae hynny wedi bod yn gwbl drychinebus; yr amgylchedd gelyniaethus i'r rhai sy'n dod i'n gwlad o dramor—canlyniad uniongyrchol newidiadau Llywodraeth flaenorol y DU i fisâu yw hynny; ac yna, wrth gwrs, mae gennym y chwyddiant rhemp y mae pob is-ganghellor wedi ei godi gyda mi—effeithiau chwyddiant rhemp a achoswyd gan Liz Truss. [Torri ar draws.] Felly, mae'r rhain yn bwyntiau pwysig iawn i ni eu hystyried er mwyn sicrhau ein bod yn cael y cyd-destun llawn.

Roedd y newyddion gan Brifysgol Caerdydd ddoe yn hollol ddinistriol. A diolch i Lafur yng Nghymru, mae ein prifysgolion ar y dibyn. Weinidog, beth a ddigwyddodd i addysg, addysg, addysg? Gallaf ddweud wrthych beth: mae wedi cael ei ddisodli gan farweiddio, taflu llwch i lygaid a dirywiad. Rwy'n cyfarfod â chynrychiolwyr undebau ac uwch reolwyr o'r brifysgol yn ddiweddarach heddiw, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed yn uniongyrchol ganddynt hwy am yr effaith ar swyddi, cyhoeddiadau ynghylch staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach.

Nawr, mae'r ffaith bod prifysgol fwyaf Cymru yn mynd i golli 400 o staff yn symptom brawychus o fethiant cronig Llafur dros 25 mlynedd i roi ein prifysgolion ar sylfaen ariannol gynaliadwy. Nawr, fel y soniwyd eisoes, mae gan Gymru hanes balch o fod yn genedl sy'n dysgu. Ac er bod yn rhaid i'r brifysgol ailystyried ei chynlluniau, yn amlwg, rhaid iddi hefyd gael y modd i allu cefnogi ei staff nawr ac yn y dyfodol.

Felly, Weinidog, beth a phryd oeddech chi'n gwybod am y cyhoeddiad hwn? Er gwaethaf y rhybuddion dirifedi am gynaliadwyedd ariannol y sector, yn hytrach na darparu cefnogaeth hanfodol, rydych chi'n chwifio'r faner wen yn wyneb cannoedd o ddiswyddiadau, gan adael y sector prifysgolion i wywo. Fe wnaethoch chi gyhoeddi cronfa drawsnewid yn gynamserol, a gwelwyd nad oedd honno'n ddim byd mwy na rhith. Ac ar ôl tair blynedd olynol o doriadau i gyllideb addysg uwch—tair blynedd olynol o doriadau—nid yw'n ymddangos bod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26 yn cynnig unrhyw fuddsoddiad pellach i gefnogi'r sector. A gaf i fentro gofyn ble mae'r arian ar gyfer y gronfa drawsnewid hon yn y gyllideb? Nawr, yn ystod gwaith craffu ar y gyllideb yr wythnos cyn diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

'Mewn addysg drydyddol, penderfynodd y Gweinidog... flaenoriaethu, gan sicrhau y gall addysg bellach ac addysg chweched dosbarth ddiwallu anghenion dysgwyr.'

Ai dyna safbwynt swyddogol Llywodraeth Cymru, eich bod yn fodlon cefnu ar ein prifysgolion yng Nghymru? Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaeth Llywodraeth Cymru adael i'r fflamau ddiffodd ochr yn ochr â'r miloedd o swyddi a gollwyd yn Tata ym Mhort Talbot. Ni allwn adael i'r un peth ddigwydd eto i'n prifysgolion. Methodd Llywodraeth Cymru weithredu bryd hynny. Weinidog, a wnewch chi weithredu nawr?

15:40

Diolch, Cefin, am y gyfres honno o sylwadau. Fe geisiaf dynnu rhai cwestiynau ohonynt imi allu ateb. [Torri ar draws.] Fel y gwyddoch, mae gennym—

A gawn ni—? A gawn ni wrando ar ymateb y Gweinidog? Mae hi'n cael ei heclo gan ei meinciau cefn ei hun ar hyn o bryd.

Diolch, Lywydd. Fel y gwyddoch, Cefin, rydym wedi darparu dros £200 miliwn i'r sector addysg uwch yn y flwyddyn ariannol bresennol, gyda £10 miliwn ychwanegol yn cael ei ddyfarnu yn y gyllideb atodol, a chyllid arall fel cynllun Digarbon, yr wyf yn falch iawn ohono. Euthum ar ymweliad hyfryd gyda'r Dirprwy Brif Weinidog i Brifysgol Caerdydd i weld sut y maent wedi defnyddio'r £12 miliwn a ddyfarnwyd iddynt drwy hwnnw hefyd. Felly, rwy'n hyderus fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gymaint ag y gallwn.

Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod sefydliadau addysg uwch yn ymreolaethol a bod 90 y cant o'u cyllid yn dod o'r tu allan i'r Llywodraeth. Fe gyfeirioch chi at undebau llafur. Roeddwn yn falch o allu siarad â chynrychiolwyr o'r sector undebau llafur addysg uwch y bore yma, a byddaf yn parhau i gael y sgyrsiau hynny, sy'n bwysig iawn inni eu cael.

Gan eich bod yn dychwelyd at fater cyllid, fel y dywedais wrth y Senedd yn flaenorol, roedd trafodaeth ynghylch cronfa drawsnewid ar gyfer y sector ar gam cynnar iawn ac roedd yn un o ystod o opsiynau a ystyriwyd ar gyfer cefnogi'r sector addysg uwch. A daethom i'r casgliad drwy'r trafodaethau cyllidebol nad oes angen cronfa drawsnewid ar gyfer y sector ar hyn o bryd. Yn hytrach, yr hyn y ceisiem ei wneud oedd cynyddu cyllid craidd i brifysgolion drwy'r cynnydd i ffioedd dysgu, er mwyn inni allu cyfeirio ein cyllideb graidd tuag at gefnogi'r blaenoriaethau a nodwyd gan y Prif Weinidog yr haf diwethaf.

Ond deuaf â chi'n ôl at yr hyn y dywedais eisoes yw'r pwynt pwysicaf yr wyf am ei wneud yn y Siambr heddiw, sef bod yr atebion i'r problemau hyn, sy'n broblemau sylweddol—mae'r atebion hyn i'w cael mewn adolygiad o'r sector addysg uwch ar draws y DU. Ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu trafod hynny gyda fy swyddog cyfatebol yn y DU, Jacqui Smith, y bore yma, a'i bod hi wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU ar yr adolygiad hwnnw, fel bod unrhyw ganfyddiadau'n berthnasol i anghenion Cymru, a fydd bob amser yn flaenoriaeth i mi.

Mae'r rhain yn gynlluniau radical yn wir, ond ni allant wario arian nad yw ganddynt, ac nid ydym yn gyfrifol am agwedd y Llywodraeth flaenorol nad oedd croeso i bobl ddod i astudio yn y wlad hon. Fodd bynnag, mae'r materion dan sylw'n niferus. Yn benodol, rwyf am wybod beth fyddai effaith diddymu'r cyrsiau nyrsio ar ddiwylliant a phriodoldeb hyfforddiant yr ysgol feddygol i feddygon y dyfodol. Nid wyf yn gwybod a gafwyd unrhyw sgwrs ymlaen llaw gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y mater hwn, gan ei fod yn fater strategol mewn gwirionedd, nid mater o niferoedd yn unig. Yn yr un modd, os na cheir cyrsiau ieithoedd modern ym Mhrifysgol Caerdydd mwyach, pa effaith y bydd hynny'n ei chael ar ein huchelgais i gryfhau ein partneriaeth fasnachol â gweddill y byd, yn ogystal â chryfhau ein perthynas â gweddill Ewrop, yng ngoleuni'r diwylliant gelyniaethus sy'n deillio o'r Unol Daleithiau?

Rwy'n credu bod y rhain yn faterion arwyddocaol iawn, oherwydd ni allwn ddisgwyl yn drahaus i bawb siarad Saesneg. Os ydym am gryfhau ein perthynas â'r gwledydd tramor hyn, rhaid inni gael pobl sy'n gallu cyfathrebu â hwy yn eu hiaith, ac felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi hefyd yn rhywun yr hoffwn ei gweld yn rhan o'r sgyrsiau hyn.

15:45

Diolch am eich cwestiynau a'ch sylwadau, Jenny, ac rwy'n cyd-fynd yn llwyr â'r sylwadau a wnaethoch am werth myfyrwyr rhyngwladol. Ac nid yn unig y gwerth ariannol y maent yn ei gynnig i'n sefydliadau addysg uwch, ond y modd y maent yn cyfoethogi ein ddiwylliannol hefyd.

Ar eich cwestiwn am nyrsio, deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at y brifysgol ynglŷn â'r pwyntiau a godwyd gennych, ac rwy'n siŵr y byddai'n fodlon rhannu'r ymateb gyda chi pan ddaw i law. Ac rydych chi'n gwneud pwynt pwysig am werth cyrsiau ieithoedd tramor modern hefyd, a hoffwn bwysleisio wrth y Siambr fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau cefnogaeth effeithiol i ieithoedd rhyngwladol ledled Cymru.

Mae swyddogion ein cwricwlwm mewn cysylltiad â'r brifysgol ynglŷn â'r rhaglen cymorth grant Cwricwlwm i Gymru newydd a'r cynigion ar gyfer cyflawni honno. Ac er nad yw Prifysgol Caerdydd yn ddarparwr addysg gychwynnol athrawon achrededig, gallai colli darpariaeth ieithoedd tramor modern i israddedigion effeithio ar y niferoedd posibl o ddarpar fyfyrwyr tystysgrif addysg i raddedigion mewn ieithoedd tramor modern ymhlith myfyrwyr addysg ledled Cymru yn y dyfodol. Felly, byddwn yn parhau i asesu unrhyw effeithiau posibl ar recriwtio myfyrwyr addysg i raglenni ieithoedd tramor modern hefyd.

Rhaid imi ddweud fy mod yn hynod siomedig gyda'ch ymateb, Weinidog, ac yn fwyaf arbennig, roedd yn ymddangos, wrth wrando ar eich ymateb cychwynnol, nad oes problem—mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth posibl. Wel, a gaf i ofyn felly pam y mae'r sector wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd i wneud mwy? Rydych chi'n dweud eu bod yn ymreolaethol, ond maent wedi bod yn gofyn am fwy o gefnogaeth. Felly pam na ddigwyddodd hynny? A beth y bwriadwch ei wneud gan fod Llywodraeth Lafur yn y DU erbyn hyn? Clywsom am y bartneriaeth mewn grym, ond yr hyn na soniodd Julie Morgan amdano oedd effaith cyfraniadau yswiriant gwladol sy'n ychwanegu miliynau at y bil—penderfyniad Llafur y DU.

Felly, mae'n rhaid i chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am benderfyniadau, a hefyd cydnabyddiaeth fod Llafur wedi bod yn gyfrifol am addysg ers bron i 26 mlynedd. Felly, nid ydym eisiau esgusodion. Rydym eisiau gwybod beth yw'r cynllun. Ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Cefin Campbell: beth oeddech chi'n ei wybod, a phryd? Oherwydd nid yw hyn wedi digwydd dros nos. Roeddem yn gwybod, yn yr wrthblaid, fod hwn yn fater yr oedd angen ymdrin ag ef. Rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud hynny. Felly pam nad ydych chi wedi gwneud hynny? Pam ydych chi wedi gadael iddo gyrraedd y pwynt hwn?

Ac os caf i, fel llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg a diwylliant, dwi hefyd yn poeni’n aruthrol am effaith torri’r cyrsiau cerddoriaeth, ac uno ysgol y Gymraeg gydag ysgolion eraill, a’r effaith fydd hyn yn ei gael ar ein hiaith a’n diwylliant cenedlaethol ni. Mae strategaeth Gymraeg y brifysgol—'Yr Alwad'—yn ymrwymo’r brifysgol i ddarparu cynnig Cymraeg, yn ddiwylliannol a chymunedol, sy’n ategu ac yn gwella ymchwil, addysgu ac uchelgeisiau rhyngwladol cyffredinol y brifysgol.

Felly, Weinidog, a allwch chi ymrwymo i gydweithio â’r brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn sicrhau nad yw darpariaeth Cymraeg, fel pwnc a chyfrwng, yn cael ei effeithio’n negyddol gan y toriadau arfaethedig yma?

Wel, diolch i chi am eich cwestiynau, Heledd, ond os edrychwch yn ôl a darllen y trawsgrifiad, rwy'n siŵr y gwelwch fy mod i wedi dweud ar wahanol adegau yn ystod y drafodaeth fod hon yn broblem ddifrifol i'r sector addysg uwch yma, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU. Ac rwy'n siŵr fy mod wedi cofnodi yn ogystal pa mor bwysig yw'r sector i ni yma yng Nghymru, a fy mwriad i weithio mor agos â phosibl gyda hwy i'w cefnogi. Ac rwy'n hyderus ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth Cymru yma i gefnogi'r sector. Rydym newydd gael y setliad ariannu gorau a gawsom ers datganoli gan Lywodraeth Lafur y DU, ac mae hynny'n newyddion gwych wrth gwrs, ond ar ôl 14 mlynedd o gyni, ni all yr hyn a gawsom ond dechrau crafu wyneb y problemau a wynebwn. A gallwch ysgwyd eich pen, ond gwn eich bod yn gwybod bod hynny'n hollol ffeithiol gywir. Fe wnaethoch chi holi pryd y gwyddem am y cynigion hyn—ac ymddiheuriadau, Cefin, anghofiais ateb y cwestiwn hwnnw pan wnaethoch chi ei ofyn—gallaf gadarnhau fy mod i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cael gwybod am y cynigion hyn yr wythnos diwethaf.

Yn olaf, ar y pwynt a godwch ynglŷn â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gallaf ymrwymo'n llwyr i weithio gyda hwy yn y dyfodol i ddiogelu dyfodol y ddarpariaeth Gymraeg.

15:50

Rwy'n ddiolchgar i Julie Morgan am godi'r materion hyn ac i chi, Weinidog, am eich ymateb. Mae addysg uwch yn sylfaenol bwysig i'n heconomi ehangach wrth gwrs, ac mae cyfraniad sefydliadau addysg uwch yn bwysig i bob un ohonom, ble bynnag y digwyddwn ei gynrychioli. Daw'r newyddion ddoe o Gaerdydd yn sgil y newyddion a gawsom yng ngorllewin Cymru, gyda champws Llanbedr Pont Steffan yn colli ei addysg israddedig. A gwelwn wanhau a tharfu ar y sector addysg uwch o ganlyniad i anawsterau cyllid a phenderfyniadau'r DU ar fewnfudo—rydych chi wedi rhoi sylw i hynny eisoes—ac mae'n bwysig, rwy'n credu, ein bod ni nawr yn ystyried y cyd-destun ehangach hwnnw. A fy nghwestiwn i chi y prynhawn yma, Weinidog, yw: a wnewch chi edrych ar sut rydym yn ariannu hanfodion addysg brifysgol ac addysg uwch, oherwydd nid wyf erioed wedi bod yn gredwr yn y system ffioedd dysgu, fe ddywedaf hynny ar y dechrau. Rwyf bob amser wedi teimlo bod ffioedd dysgu yn ffordd anghywir o ariannu rhan sylfaenol o'n system addysg. I mi, byddai'n llawer gwell gennyf weld rhyw fath o ddull treth graddedigion i ddarparu diogelwch i addysg uwch yn y dyfodol, gan sicrhau hefyd fod y trethdalwr yn gallu dangos y gallwn fuddsoddi nid yn unig yn y sefydliadau, ond yn y bobl, yn ein cymdeithas a'n heconomi, fel ein bod yn buddsoddi mewn addysg uwch fel rhan o'n buddsoddiad yn y bobl a'r lleoedd a dyfodol y wlad hon.

Wel, diolch, a chredaf fod Alun Davies yn llygad ei le wrth ddweud bod angen inni weld y mater hwn yn ei gyd-destun ehangaf posibl, a hynny o ran y problemau cyllido sy'n ein hwynebu ledled y DU, ond hefyd o ran y buddion economaidd, addysgol a diwylliannol y mae ein sefydliadau addysg uwch yn eu cynnig nid yn unig i'r ardaloedd y maent wedi'u lleoli ynddynt ond i'r rhanbarthau ehangach hefyd. Felly, yn amlwg, Alun, eich cymuned chi ym Mlaenau Gwent a fy nghymuned i yng Nghwm Cynon, rydym i gyd yn elwa o gyfoeth y tapestri o sefydliadau addysg uwch sydd ar garreg ein drws ac sy'n hygyrch i'r etholwyr a gynrychiolwn. Rwy'n agored i unrhyw drafodaethau ar gyd-destun ehangach addysg uwch, sut y mae'r sector yn cael ei ariannu a sut y gallwn sicrhau bod gennym system gynaliadwy wrth symud ymlaen. Felly, rwy'n awyddus iawn ac yn edrych ymlaen at y trafodaethau y byddaf i a fy swyddogion yn eu cael gyda Llywodraeth Lafur y DU.  

Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a Heledd Fychan sydd yn gofyn y cwestiwn. 

Hawliau Darlledu'r Chwe Gwlad

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod buddiannau cefnogwyr rygbi Cymru yn cael eu blaenoriaethu mewn unrhyw gytundebau darlledu yn y dyfodol, yn dilyn adroddiadau diweddar ynghylch cais posibl TNT Sports am hawliau teledu y Chwe Gwlad? TQ1288

Diolch yn fawr. Rydym yn parhau i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU pa mor bwysig yw'r bencampwriaeth i gynulleidfaoedd Cymru a'r angen i barhau i ddarparu gwasanaeth am ddim. Rydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ailadrodd y pwynt hwn a byddwn yn parhau i ddadlau'r achos. 

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Unwaith eto, rydym yma yn y Senedd, ychydig cyn i bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddechrau, yn codi pryderon am gytundebau darlledu yn y dyfodol a'r effaith y byddant yn ei chael ar bobl Cymru. Gwnaeth Llywodraeth y DU ar y pryd, y llynedd, benderfyniad i beidio â chynnwys y chwe gwlad yn y categori am ddim, er gwaethaf arwyddocâd y bencampwriaeth i Gymru a'r alwad glir gan gefnogwyr i'w gadw'n hygyrch. Ac eto, dyma ni, unwaith eto, yn wynebu'r posibilrwydd y bydd TNT Sports yn gwneud cais am hawliau teledu'r chwe gwlad, gan beryglu buddiannau cefnogwyr rygbi Cymru. Rwy'n gobeithio y gallwn i gyd gytuno na ddylai gwylio ein timau cenedlaethol fod yn fraint na all neb ond y rhai sy'n gallu fforddio tanysgrifiadau ei mwynhau. Mae'n fwy na champ yn unig; mae'n ymwneud â'n hunaniaeth genedlaethol, ein diwylliant, a gallu pob unigolyn yng Nghymru, ni waeth beth fo'u cefndir, i fod yn rhan o rywbeth mwy. 

Soniodd Samuel Kurtz yn gynharach am yr effaith economaidd y mae pencampwriaethau o'r fath yn ei chael ar hybu busnes, yn ogystal â dod â chymunedau ynghyd. Pan fydd ein tîm cenedlaethol yn mynd ar y cae, yn ddynion a menywod, fe wyddom fod ein cenedl gyfan yn eu cefnogi. Rydym yn dathlu eu buddugoliaethau. Rydym yn rhannu eu brwydrau; rydym wedi gorfod rhannu gormod o frwydrau gyda rygbi yn ddiweddar. Ond yn bwysicach na dim, rydym yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac os ydym am ysbrydoli pobl ifanc i freuddwydio am wisgo'r crys coch un diwrnod, rhaid inni sicrhau eu bod yn gallu gwylio'r chwaraewyr sy'n ei wisgo nawr. 

Felly, Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU. Fe wnaeth eich rhagflaenydd yr un peth. Llywodraeth Lafur y DU sydd yn 10 Stryd Downing erbyn hyn, felly rwy'n gobeithio y gallai'r trafodaethau hynny fod yn fwy ffrwythlon. Felly, a gaf i bwyso arnoch chi: pryd y cawn ni ymateb a phryd y gwelwn ni gynnydd ar hyn, fel nad oes rhaid inni barhau i gael y trafodaethau hyn bob blwyddyn?  

15:55

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Heledd, am godi'r cwestiwn yn y lle cyntaf ac yn wir, am eich cwestiwn atodol. Lywydd, rwy'n credu bod rygbi, yn enwedig ar y lefel genedlaethol, yn un o'r pynciau sy'n dod â'r Senedd at ei gilydd. Mae rygbi'n arwyddocaol yn ddiwylliannol i'r genedl ac rwy'n cytuno â'r Aelod pan fo'n dweud ei bod yn fwy na champ yn unig. Mae yno i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, ond fel y nodoch chi wrth Sam Kurtz a'i gyfraniad yn gynharach yn y dydd, rydym hefyd yn cydnabod y manteision ehangach y mae'r gamp yn eu cynnig yn enwedig ar lefel genedlaethol, ond yr holl ffordd drwy'r gêm.

Ac rwy'n credu bod y ddadl a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ym mis Gorffennaf y llynedd wedi dangos bod consensws yn y Senedd gan bob plaid ynghylch y chwe gwlad ac y dylai barhau'n wasanaeth am ddim—mae ein safbwynt ni fel Llywodraeth Cymru yn aros yr un fath—gan gynnwys i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith.

Mae'r Aelod yn nodi'r camau gweithredu a gymerwyd gennym. Wel, rwyf wedi achub ar y cyfle i godi hyn mewn nifer o fforymau gwahanol—yn y BBC ym mis Hydref ac eto gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol—i chwarae eu rôl a gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau ymrwymiad i ddarpariaeth am ddim yn y dyfodol, fel y nodais yn fy ateb cyntaf, Lywydd, ynghylch y llythyr a ysgrifennais i a'r Prif Weinidog at Lisa Nandy, yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ddoe ddiwethaf, yn nodi ein safbwynt, fel y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog yn ôl yn 2023. Nid oes gennyf ateb, Lywydd, i pryd y cawn ateb i hwnnw, ond rwy'n edrych ymlaen at ymateb Lisa Nandy ac rwy'n gobeithio y bydd yn fwy cadarnhaol nag a gafwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU.

Rwy'n credu ein bod i gyd yn unedig yn y Siambr hon yn y gred fod yn rhaid i'r chwe gwlad barhau i fod yn ddarpariaeth am ddim, ac rydym yn genedl rygbi, ac nid yw'r cais a fynegir gan hawliau darlledu TNT yn golygu ei bod hi'n anochel y bydd y chwe gwlad y tu ôl i wal dalu. Y Ceidwadwyr Cymreig 12 mis yn ôl a gyflwynodd ddadl ar yr union bwnc hwn yr adeg hon y llynedd, ac roedd y cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i alw ar yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i sicrhau bod yr hawliau darlledu yn parhau gyda darlledwr sydd wedi ymrwymo i ddarlledu am ddim, a phleidleisiodd Aelodau Llafur Cymru gyda'n cynnig, fel y gwnaeth y Siambr gyfan. Felly, a all y Gweinidog amlinellu pa sylwadau penodol y byddwch chi'n eu gwneud i'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, boed hynny'n ysgrifenedig, neu'n gyfarfod? A allwch chi ddisgrifio hynny i'r Siambr a pha sylwadau arbennig y byddwch chi'n eu gwneud ar ran pobl a gwylwyr Cymru i gyflwyno'r achos hwnnw, ac i'r BBC hefyd? Oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd fynd i'r un cyfeiriad a bod yn golegol ar y mater hwn. Ac mae'n rhaid i bawb deimlo parodrwydd i gadw darlledu am ddim er mwyn gwneud i hynny ddigwydd, ac atal wal dalu rhag dod i'w lle yn nes ymlaen yn y dyfodol. Diolch.

16:00

Diolch, Gareth, ac rwy'n ddiolchgar am eich cwestiynau ar y mater penodol hwn. Rydym yn aml yn anghytuno yn Siambr y Senedd, Lywydd, ac mae Gareth a minnau wedi anghytuno sawl tro yn y blynyddoedd y buom yma. Ar yr achlysur hwn, rydym yn sefyll gyda'n gilydd, gyda’r farn y dylai pencampwriaeth y chwe gwlad fod yn ddarpariaeth am ddim ar y teledu, i wylwyr ledled Cymru gymryd rhan, gwylio a dathlu, gobeithio, rygbi'r dyfodol yng Nghymru. I roi clod lle mae'n ddyledus, lluniodd ei blaid y cynnig yn y Senedd y llynedd, a gafodd ei gefnogi. Rwy’n ddiolchgar am waith y pwyllgor diwylliant a’u hymchwiliad a’u diddordeb yn y mater hwn, ac fel y mae’r Aelod yn ei nodi, mae'n bwnc diddorol i’r Siambr, un y mae pob un ohonom yn cytuno arno, ac rwy’n siŵr fod y consensws hwnnw’n parhau heddiw.

Mae’r Aelod yn tynnu sylw at y sylwadau a wnaethom yn uniongyrchol. Fel y dywedais mewn ymateb i Heledd yn gynharach, ysgrifennodd y cyn-Brif Weinidog, yn ôl yn 2023, at Lywodraeth y DU ar y pryd yn nodi ei safbwynt a safbwynt Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi achub ar y cyfle gyda BBC Wales, a’r cyfle gyda chyfarwyddwr cyffredinol y BBC, i ailadrodd ein safbwynt, y dylent wneud popeth yn eu gallu yn y rôl y gallant ei chwarae mewn ymateb i hyn. Ac fel y dywedais yn gynharach, nododd y Prif Weinidog a minnau wrth Lisa Nandy, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ein bod yn parhau o’r farn y dylai pencampwriaeth y chwe gwlad fod yn ddarpariaeth am ddim. Byddwn yn parhau â'r trafodaethau hynny gydag aelodau o'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon maes o law.

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn y prynhawn yma. Credaf ei bod yn bwysig inni gynnal dadl a thrafod y pethau hyn. Mae’n 45 mlynedd, Ddirprwy Lywydd, ers imi fynd am y tro cyntaf ar y trên o Rymni i wylio Cymru’n herio Ffrainc ym mis Ionawr 1980, ac mae pencampwriaeth y chwe gwlad yn rhan o’n straeon ni i gyd a’n holl gymunedau, a phob un ohonom, ni waeth pwy ydym, a lle bynnag yr eisteddwn yn y Siambr hon. Mae pencampwriaeth y chwe gwlad yn dod â ni ynghyd fel gwlad ac fel cymuned, a dylai fod gan bawb hawl i fod yn rhan o’r gymuned honno. Dylai fod gan bawb hawl i fynd drwy’r llawenydd a’r tristwch o gefnogi rygbi'r undeb yng Nghymru. Yr ofn a deimlwyd gennym ar wahanol adegau, a'r llawenydd pur a deimlwyd. Rwy'n dal i gofio gwylio Ieuan Evans yn torri llinell Lloegr a rhedeg i gyfeiriad teras y dwyrain, gan sgorio i guro Lloegr 10-9. Gallwn ein cadw yma drwy’r prynhawn, Ddirprwy Lywydd. [Chwerthin.] Ond mae pwysigrwydd—. A byddwn hefyd yn cofio’r ffordd y mae cefnogwyr rygbi Cymru yn dilyn y tîm, fel y bydd rhai ohonom yn mynd i Murrayfield yn ddiweddarach y tymor hwn.

Weinidog, mae hyn yn rhan ohonom, yn rhan o’n stori genedlaethol, yn rhan o’n bywyd cenedlaethol. Ni all unrhyw un fynd ag ef oddi wrthym. Mae'n ddyletswydd ar y Senedd hon a’r Llywodraeth hon i sicrhau bod diwylliant a chwaraeon y wlad hon ar gael i bob un ohonom, ni waeth ble rydym yn eistedd, ni waeth ble rydym yn byw ac ni waeth beth yw ein timau unigol yn digwydd bod. Rydym yn dod ynghyd i gefnogi Cymru, ac rydym am barhau i ddod ynghyd i gefnogi Cymru.

Rwy’n ddiolchgar i Alun Davies am hynny, Lywydd. Nid yw fy hanes yn ymestyn mor bell yn ôl â hanes Alun, ond credaf fod yr angerdd, heb os, yr un fath, gan fod Alun yn cynrychioli’r wlad gyda'r angerdd hwnnw. Ac rwy’n cytuno ag ef: mae’n fater o hunaniaeth genedlaethol, onid yw, rygbi yng Nghymru? Fel y dywedais yn gynharach, mae iddo arwyddocâd diwylliannol i bob un ohonom, fel Llywodraeth a Senedd, ond fel cenedl hefyd. Mae cystadleuaeth y chwe gwlad wedi bod am ddim ers ei sefydlu. Fy marn i, a barn y Llywodraeth hon, yw y dylai barhau i fod yn ddarpariaeth am ddim, fel y mae, yn wir, y penwythnos hwn. Rwyf am achub ar y cyfle, Ddirprwy Lywydd, i ailadrodd, fel y dywedais, ein bod wedi nodi ein safbwynt i’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac edrychaf ymlaen at yr ymateb i hynny. Ond fe gymeraf angerdd Alun yn ei gyfraniad a dymuno’r gorau i’r garfan yn eu gêm gyntaf yn Ffrainc ddydd Gwener.

16:05

Er gwybodaeth, mae fy hanes yn ymestyn ychydig ymhellach yn ôl na'i hanes ef. [Chwerthin.] Delyth Jewell.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyflwynodd y pwyllgor diwylliant adroddiad ar hyn y llynedd, fel y nodoch chi, ac argymhellwyd gennym y dylai’r gemau gael eu cynnwys ac y dylent gael eu gwarchod fel darpariaeth am ddim, i ddiogelu rhag hyn yn union, ac roedd hynny am yr holl resymau a ailadroddwyd y prynhawn yma yn y Siambr: y lle unigryw sydd i bencampwriaeth y chwe gwlad yn ein seice fel cenedl, y ffaith ei bod yn dod â ni ynghyd, y cynulleidfaoedd, a chymaint yn fwy felly yng Nghymru nag yn y gwledydd eraill.

Nawr, fel pwyllgor, roeddem ni wedi dweud yn gryf y dylai'r gemau yma aros yn rhad ac am ddim, ond roeddem ni wedi argymell, os oedd newid yn dod, ei fod e mor bwysig bod yn rhaid i'r Llywodraeth yma gymryd camau i sicrhau bod Llywodraeth San Steffan hefyd yn gwneud popeth i ddiogelu'r iaith Gymraeg mewn sylwebaeth. Gwnaethom ni hefyd ddadlau, eto, os oedd y newid yma'n dod—doeddem ni ddim eisiau gweld y newid yma, ond os oedd y twrnamaint yn symud i system lle roedd yn rhaid talu—fod angen amddiffyn llefydd lletygarwch, efallai trwy wthio am gymal cytundebol i alluogi tafarndai a chlybiau i gael tanysgrifiadau llai costus. Nawr, dwi'n gobeithio'n wir y bydd e ddim yn dod at hwnna, ond a allaf gael sicrwydd gennych chi fod hwnna'n rhywbeth rydych chi hefyd yn ei drafod gyda Llywodraeth San Steffan, os ydyn ni'n cyrraedd y pwynt yna does neb yn y Siambr yma eisiau i ni ei gyrraedd?

Diolch am eich cwestiwn, Delyth. Unwaith eto, rwy’n ddiolchgar am waith y pwyllgor ar y pwnc hwn, fel y dywedais yn gynharach. Mae o bwysigrwydd cenedlaethol, onid yw, a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddadlau'r achos dros gadw pencampwriaeth y chwe gwlad yn ddarpariaeth am ddim, Lywydd. Rwy'n gobeithio, fel yr Aelod, na ddaw hi i hynny, ac nid oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto ar ddarlledu yn y dyfodol, ond rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i fod yn ddarpariaeth am ddim, ac ni allaf ddatgan safbwynt y Llywodraeth yn gliriach. Nid wyf am sôn am bethau damcaniaethol o ran yr hyn a allai ddigwydd ai peidio, ond wrth gwrs, byddwn yn cadw llygad ar y sefyllfa, a byddwn am ymateb yn briodol gyda'n partneriaid yn Llywodraeth y DU.

Fel y dywedaf, Lywydd, daw hyn â’r Senedd ynghyd, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i’r Aelodau ailymrwymo iddo. Mae pob plaid wleidyddol, o bob lliw, yn cefnogi darlledu pencampwriaeth y chwe gwlad am ddim, ac felly hefyd Llywodraeth Cymru, ac rydym yn anfon y consensws, y cydweithio a’r ysbryd hwnnw at y tîm yn Ffrainc ddydd Gwener, ac yn dymuno'r gorau iddynt oll yn y bencampwriaeth dros yr wythnosau nesaf.

Diolch i'r Gweinidog.

I ailadrodd, ar ran y Senedd gyfan, dymunwn y gorau i dîm Cymru nos Wener, a gweddill pencampwriaeth y chwe gwlad.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dydd Iau 30 Ionawr yw Diwrnod Atal Strôc. Mae strôc yn digwydd yn sydyn, ac fel arfer heb rybudd. Rwy’n mynychu dau grŵp strôc lleol, un yn Nhreforys ac un yn Nhrallwng, gyda phobl yn eu 30au cynnar a hŷn sydd wedi cael strôc yn mynychu. Pan fydd strôc yn taro, mae rhan o'ch ymennydd yn diffodd, a rhan ohonoch chi hefyd. Mae'n digwydd bob pum munud yn y DU, ac yn newid bywydau ar unwaith. Mae adferiad yn anodd, ond gyda'r cymorth arbenigol cywir, dewrder a phenderfynoldeb, gall yr ymennydd addasu.

Mae'r rhan fwyaf o strategaethau atal strôc yr un fath â'r strategaethau i atal clefyd y galon. Mae cynghorion ataliol yn cynnwys: deiet a bwyta'n iach, lleihau faint o golesterol a braster dirlawn sydd yn eich diet, rheoli diabetes, monitro pwysedd gwaed, sicrhau eich bod yn osgoi cael pwysedd gwaed uchel, osgoi cyffuriau anghyfreithlon, ymarfer corff, a rhoi'r gorau i ysmygu ac alcohol. Mae'r Gymdeithas Strôc yn ymroddedig i atal strôc, ac yn cynnig cymorth helaeth i bobl y mae strôc wedi effeithio arnynt.

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, ac mae disgwyl i 7,400 o bobl eraill gael strôc eleni. Mae triniaethau thrombectomi, sy’n cynnwys tynnu clot o bibell waed, fel arfer o’r ymennydd, y galon neu’r ysgyfaint ar gyfer cleifion cymwys, yn cynnig arbediad o £47,000 y claf dros gyfnod o bum mlynedd, ond yn bwysicach fyth, mae’n gwella bywyd a chyfleoedd bywyd rhywun. Mae angen inni godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau strôc a’r angen am driniaeth amserol, ac yn bwysicaf oll, mae angen inni atal pobl rhag cael strôc.

Yr areithiwr gorau iddo glywed erioed. Dyna farn Vaughan Roderick am Emrys Roberts. Ganed yn Leamington Spa, ond yn 10 mlwydd oed symudodd i Gaerdydd. Trwy Gapel Minny Street, ysgol Cathays a’i fodryb Bet, dysgodd Emrys y Gymraeg. Yn Cathays, roedd e’n un o griw o fechgyn a ddaeth yn rhugl yn yr iaith, gan gynnwys Bobi Jones a Tedi Millward.

Yn wrthwynebydd cydwybodol, gwrthododd wneud gwasanaeth milwrol wedi’r ail ryfel byd, ac fe’i dedfrydwyd i garchar Caerdydd. Tra roedd e yno, fe grogwyd Mahmood Mattan. Gwelodd Emrys Roberts yr hiliaeth yn erbyn Mahmood, a gwelodd ei gyd-garcharorion Somali yn gorfod cloddio'r bedd, a quicklime yn cael ei roi yn y bedd.

Roedd meddylfryd rhyngwladol gan Emrys. Roedd yn flaenllaw yn yr Ymgyrch Diarfogi Niwclear, ac roedd ganddo barch enfawr tuag at Castro a Chiwba. Ei ddyhead mawr oedd gweld Cymru yn eistedd yn ochr yn ochr â Chiwba yn y Cenhedloedd Unedig.

Fe safodd dros y Blaid mewn sawl isetholiad amlwg, a fe oedd arweinydd cyngor Merthyr ar ddiwedd y 1970au. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y darllediadau anghyfreithlon a ddigwyddodd pan wnaeth y BBC wahardd darllediadau gwleidyddol gan y Blaid.

Er iddo ddal swyddi blaenllaw o fewn Plaid Cymru, mae’n deg i ddweud na welodd llygaid yn llygaid ag arweinyddiaeth y blaid ar bob achlysur. Roedd yn sosialydd wrth reddf, ac fe weithiodd yn galed i wthio’r blaid i’r cyfeiriad hynny. Roedd popeth a wnaeth Emrys wedi'i wreiddio yn yr hyn oedd orau i Gymru ac i bobloedd y byd. Roedd e’n ddyn caredig, ac fe brofais innau o’r caredigrwydd hynny ar hyd y blynyddoedd.

Mae’n fraint talu teyrnged i Emrys yn y Senedd. Roedd yn rhan o griw bychan a fynnodd bod Cymru yn genedl, a ffrwyth eu hymdrechion hwy yw’r Senedd yma. Diolch yn fawr.

16:10
5. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.19 (Dadleuon Agored)

Symudwn ymlaen at eitem 5, cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.19 (Dadleuon Agored). Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan.

Cynnig NDM8805 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.19 (Dadleuon Agored)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2025.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12.19, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Cyfalaf Trafodiadau Ariannol'

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Cyfalaf Trafodiadau Ariannol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Peredur Owen Griffiths.

Cynnig NDM8801 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Cyfalaf Trafodiadau Ariannol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi ddechrau, buaswn i'n licio diolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor fel rhan o’r ymchwiliad byr i gyfalaf trafodiadau ariannol, neu FTC. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am ymgysylltu â’r ymchwiliad ac am ddarparu ei ymateb i’r adroddiad cyn y ddadl yma. Diolch yn fawr. Rwy’n arbennig o falch o weld bod pob un o’r 15 argymhelliad wedi cael eu derbyn, gydag un wedi ei dderbyn mewn egwyddor, ac un arall wedi ei dderbyn yn rhannol.

Wrth gynnal yr ymchwiliad hwn i FTC, ein nod oedd edrych ar sut i wella’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio a sut i’w ddefnyddio'n well. Yn benodol, gwnaethom ni edrych ar: y rheolau ynghylch defnyddio FTC; y dibenion y mae wedi cael ei ddefnyddio arnynt; y cryfderau a’r gwendidau; sut y mae’n cael ei ad-dalu; a sut y mae’n cael ei gyflwyno yn y gyllideb ddrafft a’r gyllideb atodol.

Ddirprwy Lywydd, mae rhan sylweddol o gyllideb Llywodraeth Cymru yn gyfalaf trafodiadau ariannol, gyda phortffolio o oddeutu £2.2 biliwn yn y gyllideb ar gyfer 2024-25. Fodd bynnag, canfuom fod ei ddefnydd ymarferol wedi’i gyfyngu gan ei natur ansicr, sy’n peri anawsterau i Lywodraeth Cymru wrth gynllunio yn y tymor canolig i’r tymor hir. Gwelsom hefyd fod Llywodraeth Cymru yn aml yn defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol o fewn cyfres o reolau llym nad oes ganddi unrhyw reolaeth drostynt gan eu bod yn cael eu gosod yn ganolog gan Lywodraeth y DU.

Wedi dweud hynny, mae'r dystiolaeth a gafwyd gan randdeiliaid yn dangos bod gan gyfalaf trafodiadau ariannol botensial i gefnogi canlyniadau polisi sylweddol. Roedd y sefydliadau y clywsom ganddynt yn ystyried cyfalaf trafodiadau ariannol yn rhan hanfodol o'r jig-so i'w galluogi i gael mynediad at gyfalaf ariannol a fyddai'n arwain at ganlyniadau diriaethol gyda buddion cymdeithasol clir. Fe wnaethom nodi bod hyn yn groes i farn Ysgrifennydd y Cabinet nad oes unrhyw awydd mawr yng Nghymru am gyllid cyfalaf trafodiadau ariannol.

Edrychodd ein hymchwiliad hefyd ar y rôl a chwaraeir gan Fanc Datblygu Cymru wrth weinyddu cyfalaf trafodiadau ariannol. Er inni ganfod ei fod yn cyflawni swyddogaeth hanfodol, rydym yn pryderu y bydd ailddosbarthiad diweddar y banc gan CThEF fel corff Llywodraeth ganolog, yn hytrach na chorfforaeth gyhoeddus, yn cyfyngu ar y ffordd y gall gefnogi cyfalaf trafodiadau ariannol yn effeithiol. O ganlyniad, rydym wedi argymell bod y Llywodraeth yn asesu sut y bydd y newid hwn yn effeithio ar y gwasanaethau a’r cynhyrchion y gall y banc eu darparu, ac rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cadarnhau yn ei ymateb fod y gwaith hwn ar y gweill.

Mae’r pwyllgor hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru wrthi'n diwygio’r ffordd y mae’n rheoli cyfalaf trafodiadau ariannol. Rydym yn cefnogi’r meysydd diwygio a grybwyllwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig ar gyfer galluogi mwy o hyblygrwydd drwy gael gwared ar y cyllid sydd wedi’i glustnodi mewn perthynas â defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol; darparu mwy o sefydlogrwydd a rhagweladwyedd i'r llif arian y gellid ei rannu drwy gyfalaf trafodiadau ariannol; a sicrhau llai o fiwrocratiaeth yn y ffordd y defnyddir yr arian. Credwn fod y rhain yn egwyddorion cadarn, a gofynnwn i Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn trafodaethau â’r Trysorlys yn y maes hwn. Rydym yn croesawu’r ffaith bod trafodaethau anffurfiol cynnar eisoes wedi’u cynnal rhwng swyddogion.

Fel y crybwyllwyd, mae profiadau busnesau a sefydliadau o ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Fodd bynnag, credwn y gellir gwneud gwelliannau. Rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei meini prawf ar gyfer llwyddiant wrth ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol fel bod busnesau'n ymwybodol o'r canlyniadau disgwyliedig o’r cychwyn cyntaf cyn iddynt wneud cais, ac iddynt rannu mwy o fanylion am ymdrechion parhaus i symleiddio’r broses o ymgeisio am gyfalaf trafodiadau ariannol, y dywedodd rhanddeiliaid wrthym ei bod yn aml yn hirwyntog ac anodd.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi nawr at argymhellion eraill yn ein hadroddiad. Yn ystod y chweched Senedd, mae’r pwyllgor wedi galw’n rheolaidd am ragor o eglurder yn nogfennaeth cyllideb Llywodraeth Cymru i egluro sut y dyrennir cyfalaf trafodiadau ariannol ac at ba ddiben. Roedd y diffyg eglurder hwn yn amlwg yn ystod ein hymchwiliad, o ystyried ein bod wedi cael ffigurau gwahanol gan Lywodraeth Cymru yn ei thystiolaeth ynghylch faint o gyfalaf trafodiadau ariannol a dderbyniwyd hyd yma. Fodd bynnag, mae’n braf gweld bod camau cadarnhaol wedi’u cymryd yn y maes hwn eisoes mewn ymateb i waith y pwyllgor. Rwy'n falch fod naratif y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26 yn cynnwys lefel uwch o fanylion am gyfalaf trafodiadau ariannol, gan gynnwys darparu data wedi'i ddadgyfuno.

O ran defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, rwyf eisoes wedi crybwyll ei fod yn cynrychioli rhan helaeth o bŵer gwariant Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, er bod y cyllid hwn eisoes o fudd i rai meysydd, ceir rhai meysydd yng nghyfrifoldebau’r Llywodraeth lle gellid ei ddefnyddio’n fwy effeithiol. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater, mae’r pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwell dealltwriaeth o ble y gellir defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol. Rydym wedi galw am gynnal dadansoddiad sectorol i nodi hyn, ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu ymhellach â swyddogion y Llywodraeth ar y pwynt hwn.

Credwn hefyd fod angen camau i godi ymwybyddiaeth o gyfalaf trafodiadau ariannol ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwell trefniadau rhannu gwybodaeth a hyfforddiant, ac unwaith eto, mae’n galonogol fod cynnydd ar adolygu canllawiau yn y maes hwn wedi dechrau. Fe wnaethom amrywiaeth o argymhellion eraill hefyd i wneud y broses cyfalaf trafodiadau ariannol yn fwy agored, gyda'r bwriad o wella'r defnydd ohono.

I gloi, Dirprwy Lywydd, gyda'i gilydd, mae ein hargymhellion yn anelu at sicrhau proses fwy agored o ran cyfalaf trafodiadau ariannol a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf ymarferol ar draws Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hargymhellion, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill yn ystod y ddadl. Diolch yn fawr.

16:15

Yn dilyn fy awgrym, rwy'n falch fod y Pwyllgor Cyllid wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i gyfalaf trafodiadau ariannol. Yn rhy aml yma, mae cyfalaf trafodiadau ariannol wedi bod yn rhywbeth sy'n digwydd nad ydym yn trafod llawer arno, ac ychydig iawn o bobl sydd ag unrhyw wybodaeth yn ei gylch.

Mae Llywodraeth y DU yn darparu cyfalaf trafodiadau ariannol fel rhan o grant bloc Llywodraeth Cymru. Mae’n elfen sydd wedi’i chlustnodi o gyllid cyfalaf ac mae’n cynnwys benthyciadau neu fuddsoddiad ecwiti gan Lywodraeth Cymru i’r sector preifat. Fe'i dyfeisiwyd gan un o'r Llywodraethau Ceidwadol blaenorol i ganiatáu i’r Trysorlys osgoi datgan gwariant cyfalaf mewn ffordd a oedd yn sgorio yn erbyn gofyniad benthyca'r sector cyhoeddus, gan ei fod yn ymddangos yn y golofn debyd a chredyd, a gallai gael ei netio. Mae’r disgresiwn a roddir i Lywodraeth Cymru i'w ddefnyddio'n golygu y gall benderfynu ar ei rhaglen ei hun o fewn y dyraniad. Ac a gaf i ddweud, mae'n siomedig nad oes cynllun tebyg yn bodoli i ariannu'r gwaith o adeiladu tai cyngor? Oherwydd byddai'n gwneud yn union yr un peth. Byddai'n bodoli ar yr ochr ddebyd a chredyd, a byddai'n cael ei netio.

Fel cyllid cyhoeddus ad-daladwy, mae'n ofynnol iddo gael ei ddefnyddio'n briodol yn unol â gofynion a osodwyd ar lefel Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio arian cyhoeddus yn effeithiol. Mae pob blwyddyn yn ansicr, gan nad yw Llywodraeth Cymru yn clywed tan ddatganiad yr hydref faint o gyfalaf trafodiadau ariannol y byddwn yn ei gael, ac yna mae ganddi'r bwlch byr rhwng datganiad yr hydref a’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol er mwyn dangos sut y mae’r Llywodraeth yn mynd i ddefnyddio'r arian. Yn gyffredinol, mae'n rhaid ad-dalu'r cyllid i Drysorlys Ei Fawrhydi. Yn wahanol i grantiau, dim ond i endidau y tu hwnt i ffiniau cyllidebol cyfrifyddu Llywodraeth Cymru y'i rhoddir, a disgwylir iddo gynhyrchu enillion ariannol.

Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor, er bod un wedi'i dderbyn mewn egwyddor yn unig, ac un yn rhannol. Er bod yr ateb gan Lywodraeth Cymru na chafwyd unrhyw ymgysylltu ffurfiol â’r Trysorlys yn y blynyddoedd diwethaf ynghylch y posibilrwydd o ddiwygio cyfalaf trafodiadau ariannol yn siomedig, cafwyd rhywfaint o drafod anffurfiol cynnar rhwng swyddogion wrth ragweld y bydd diwygiadau i gyfalaf trafodiadau ariannol yn cael eu hystyried drwy'r adolygiad o wariant sy'n mynd rhagddo gan Lywodraeth y DU. Edrychaf ymlaen at y diweddariad i’r pwyllgor yn dilyn y broses honno.

Yng nghyllideb 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata ar ddyraniadau cyllid cyfalaf trafodiadau ariannol newydd ac ad-daliadau cyfalaf trafodiadau ariannol wedi'u hailgylchu. Mae'r ailgylchu'n ddefnyddiol iawn, oherwydd mewn gwirionedd, caiff mwy o arian ei wario mewn blwyddyn nag a gaiff ei ddyrannu yn ystod y flwyddyn. Mae cyfanswm y cyllid sydd ar gael wedi'i ddyrannu, gan gynnwys elfen o or-raglennu i reoli tanwariant posibl. Ar hyn o bryd, mae'r banc datblygu'n ailgylchu cyfalaf trafodiadau ariannol o fewn cronfa eiddo Cymru a chronfa safleoedd segur Cymru. Roeddwn yn falch o weld bod y banc, yn 2023-24, wedi ailfuddsoddi cyfanswm o £32 miliwn. Cafodd hwn ei rannu'n £19,062,000 ar gyfer cronfa eiddo Cymru a £13 miliwn ar gyfer cronfa safleoedd segur Cymru. Mae hyn yn dangos y gwerth sylweddol y gall ailgylchu cyllid ei gynnig o gymharu â chyllid newydd yn ystod y flwyddyn.

Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i'w swyddogion gynnal dadansoddiad o ble mae cyfalaf trafodiadau ariannol wedi'i ddyrannu hyd yma ac i ddarparu'r wybodaeth hon i'r pwyllgor. Er mwyn hwyluso’r gwaith hwn, mae wedi gofyn iddynt ymgysylltu ymhellach â’r pwyllgor i ddeall yn well natur y wybodaeth a fyddai'n fwyaf defnyddiol i’r pwyllgor. Edrychaf ymlaen at y drafodaeth bellach hon. Mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn un o’r dulliau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru. Efallai na fydd yn goroesi’r Llywodraeth newydd, ond tra bydd ar gael i ni yng Nghymru, rhaid inni wneud y defnydd gorau ohono.

16:20

Diolch am y cyfle i siarad am yr adroddiad hwn yn gryno y prynhawn yma. Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor tra bo'r gwaith caled yn mynd rhagddo ar hyn. Fy nghyd-Aelod Peter Fox oedd ein haelod Ceidwadol o'r pwyllgor. Nid wyf yn dweud mai’r rheswm y gadawodd y pwyllgor hwnnw oedd oherwydd cyffro’r adroddiad hwn, ond mae’n gysylltiad rhyfedd, onid yw, fod hynny bellach wedi digwydd. Rwy’n falch fod y pwyllgor wedi gallu llunio’r adroddiad hwn. Nid yn aml y gallant gynnal ymchwiliad, oherwydd maint agenda'r Pwyllgor Cyllid, ond yn amlwg, fel y nododd Mike Hedges, roedd yn bwysig fod y pwyllgor yn gallu rhoi eiliad i edrych yn fanylach ar faes penodol o gyllid.

Wrth edrych ar yr adroddiad fel Aelod nad oedd yn rhan o broses waith y pwyllgor, roedd ychydig o bethau'n sefyll allan, a gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i’r pwyntiau hyn. Yn eironig, mae'n amlwg fod nifer o argymhellion yma'n ymwneud â thryloywder ac eglurder y ffordd y mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn gweithredu a'r ffordd y caiff ei ddeall. Rwy'n siŵr nad yw'n aneglur yn fwriadol, ond mae'n debyg ei fod yn gyfrwng ariannol technegol lle mai gorau po symlaf y gellir ei egluro, gan fod hynny'n helpu i ddarparu gwell tryloywder. Mae honno'n thema drwy'r holl argymhellion. Rwy’n sylweddoli bod ymateb y Llywodraeth i hyn yn un cadarnhaol o ran yr argymhellion, ond hoffwn glywed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn enwedig yn teimlo, hyd yn oed gyda’r argymhellion, fod digon o dryloywder ynghylch cyfalaf trafodiadau ariannol.

Mae'r ail bwynt, a grybwyllwyd eisoes gan y Cadeirydd yn fwyaf arbennig, yn ymwneud â'r cyfyngiadau sy'n perthyn i gyfalaf trafodiadau ariannol. Hoffwn glywed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu, o fewn y cyfyngiadau presennol, ein bod yn gwneud y mwyaf o'i effeithiolrwydd, neu'n gwneud y defnydd mwyaf ohono. Ac yna'n ail, y tebygolrwydd y caiff y cyfyngiadau hynny eu haddasu i ganiatáu ar gyfer effeithiolrwydd pellach yn y dyfodol a pha mor ddefnyddiol ai peidio y gallai hynny fod. Wrth gwrs, mae rhesymau da iawn pam fod y cyfyngiadau hynny ar waith, ac mae pobl llawer mwy cymwys na mi i wneud sylwadau ar hynny, ond wrth gwrs, rydym am weld yr effeithiolrwydd a'r defnydd gorau posibl o'r gwariant hwn yng Nghymru.

A phwynt olaf, yn gryno, mewn perthynas ag argymhelliad 7, sydd eto wedi'i nodi fel argymhelliad ar gyfer dadansoddiad fesul sector o gyfalaf trafodiadau ariannol. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i ystyried dadansoddiad o gyfalaf trafodiadau ariannol fesul risg hefyd, oherwydd wrth gwrs, yr hyn rydym am ei wneud yw lleihau unrhyw ddiffygdalu ar y mathau hyn o fenthyciadau, a byddai deall proffil risg yn ôl pwy sy'n defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol yn ddefnyddiol yn hynny o beth hefyd. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Mi hoffwn ddiolch i’r pwyllgor am eu hadroddiad, sydd yn hynod o ddifyr, ynglŷn ag elfen eithaf esoterig o’r gyllideb, ond sydd â goblygiadau sylweddol ar allu’r Llywodraeth i reoli ei hadnoddau.

Beth sydd yn dod drosodd yn glir yn yr adroddiad ydy bod y rheolau o amgylch defnydd FTCs yn ogystal ag amseru a dosbarthu yn fwy o rwystr nag ydy o o gymorth yng nghyd-destun trefniadau cyllidol datganoli. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn adlewyrchiad o'r cyfyngiadau sylweddol ehangach ar hyblygrwydd fframwaith cyllidol y Senedd, sydd i gyd yn cael ei benderfynu’n uniongyrchol gan San Steffan heb fewnbwn o Gymru ac yn aml ar sail sy’n gallu ymddangos yn fympwyol.

I roi un enghraifft, rydym yn dal i aros i bwerau benthyg y Senedd a therfynau tynnu i lawr cronfa wrth gefn Cymru gael eu halinio gyda chwyddiant, rhywbeth sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban. Ac o ran hyn, mi oedd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn iawn i ddweud yn ystod ei ymddangosiad diweddar o flaen y Pwyllgor Cyllid fod hyn yn rhwystredig dros ben o ystyried pa mor syml fuasai newid o’r fath. Ac mae'r un rhwystredigaethau'n dod yn amlwg wrth inni ystyried tystiolaeth y Llywodraeth a rhanddeiliaid sydd wedi cael profiad o ddelio gyda rheolau cymhleth FTCs. Mae hefyd yn werth nodi, fel y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet wrth roi tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn, bod FTCs i bob pwrpas yn bodoli er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig pan fo’n dod i gofnodi diffyg cyllid cyhoeddus. Felly, Cymru sydd yn gorfod cario’r baich yn ymarferol o gyfrifo creadigol San Steffan.

Dwi’n cydnabod bod trafodaethau ynglŷn â diwygiadau posib i’r drefn FTCs yn digwydd, ac mi fuaswn i’n gwerthfawrogi diweddariadau gan y Llywodraeth fel y mae'r rhain yn mynd rhagddynt. Ond, onid oes, o edrych ar ganfyddiadau’r ymchwil yma, achos cryf dros gael gwared ar FTCs yn gyfan gwbl, a symud at drefn lle nad oes cyfyngiadau na rheolau gorfiwrocrataidd ar ddefnydd y Senedd o’n hadnoddau ariannol? Ac onid ydy creu’r rhyddid yma yn angenrheidiol wrth ystyried prinder buddsoddi cyfalaf sydd wedi bod yn bosib yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf?

Natur gwleidyddiaeth, wrth gwrs, ydy bod gennym ni i gyd flaenoriaethau gwahanol o ran ble a sut y dylai arian cyhoeddus gael ei wario, ond dwi’n sicr ein bod ni i gyd—ta waeth pa blaid ydym ni—am weld sefyllfa lle nad oes rhwystrau diangen ar sut mae’r arian yn cael ei ddefnyddio. Wedi’r cyfan, mae yna gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd yma i gael gwared o’r system a’r fformiwla Barnett eisoes, a symud at drefniadau ariannol tecach sy’n adlewyrchu anghenion ein poblogaeth.

Mae pob plaid hefyd wedi sôn o dro i dro am yr angen i greu mwy o hyblygrwydd yn strwythurau’r broses gyllidebol. Credaf felly bod yna gyfle i ni yn sgil yr adroddiad hwn i adeiladu consensws trawsbleidiol ar y mater o FTCs a’r fframwaith cyllidol datganoledig presennol yn ei gyfanrwydd, ac uno fel Senedd i wneud yr achos yn gryf i San Steffan o ran yr angen am drefniadau llawer mwy addas ar gyfer ein Senedd fodern, aeddfed ac felly gwireddu potensial y Senedd hon i’r eithaf.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gaf fi ddechrau drwy groesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid a dweud diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud?

Heb os, bydd yr adroddiad yn ein helpu i barhau i ddatblygu’r offeryn ariannol cymharol newydd hwn, gan sicrhau ein bod yn gallu ei ddefnyddio’n effeithiol yn y dyfodol. Fel y clywsoch, rwyf eisoes wedi ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad ac i bob un o'i argymhellion. Roeddwn yn falch iawn o allu derbyn yr holl argymhellion. Roedd y cyfyngiad ar dderbyn argymhelliad 7, er enghraifft, er mwyn caniatáu trafodaethau pellach i fireinio’r wybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i’r pwyllgor. Rwy’n fwy na pharod i ofyn i fy swyddogion fynd ar drywydd y pwynt a wnaeth Sam Rowlands ynglŷn â risg yn y ffordd y caiff cyfalaf trafodiadau ariannol ei ddefnyddio yma yng Nghymru.

Rwy’n ymrwymedig iawn i allu darparu cymaint o dryloywder â phosibl ynglŷn â’i ddefnydd i’r pwyllgor a’r gymuned ehangach yma yng Nghymru. Mae rhywfaint o gyfyngiad ar y graddau y gallwch ddarparu gwybodaeth symlach, o ystyried natur sylfaenol gymhleth cyfalaf trafodiadau ariannol a'r llyfrau rheolau y mae'n rhaid inni weithredu o'u mewn, fel y nododd y Cadeirydd yn ei ddatganiad agoriadol. Ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau’n cydnabod bod y gyllideb ddrafft eisoes yn adlewyrchu rhai o gynigion y pwyllgor yn hynny o beth.

Gofynnodd Sam Rowlands gwestiynau am wneud y defnydd mwyaf posibl o gyfalaf trafodiadau ariannol. Wel, gallaf ddweud ein bod yn defnyddio pob ceiniog ohono, a chredaf fod Mike Hedges wedi gwneud pwyntiau pwysig ynghylch y graddau y mae natur ailgylchadwy’r cyllid hwn yn golygu ei fod yn dod yn ôl, yn enwedig drwy Fanc Datblygu Cymru, ac yna'n cael ei ddefnyddio eto at y dibenion y mae wedi'i glustnodi ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio mai dim ond fel rhan o broses cyllideb 2013 y cyflwynwyd cyfalaf trafodiadau ariannol. Roeddent yn ddyfais ar y pryd, fel y dywedodd Mike, i ganiatáu i George Osborne fuddsoddi heb iddo fod ar y fantolen ac felly i fodloni pa bynnag reol artiffisial yr honnai ei fod yn ei bodloni ar y pryd. Erbyn hyn, nid wyf yn credu y gallwn obeithio y byddwn yn dychwelyd at gyfalaf traddodiadol i ariannu pob maes o wariant y Llywodraeth, ac felly mae’n rhaid inni wneud y mwyaf o’r gallu y mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn ei gynnig i ni hybu ein buddsoddiad yn sefydliadau'r sector preifat a’r trydydd sector, gan gofio mai'r gwahaniaeth allweddol rhwng cyfalaf confensiynol a chyfalaf trafodiadau ariannol yw bod yn rhaid ad-dalu cyfalaf trafodiadau ariannol. Felly, wrth feddwl am yr argymhelliad arall gan y pwyllgor am y meini prawf ar gyfer llwyddiant yn y maes hwn, ac fe’u nodais yn fy ymateb: fod yn rhaid i’r defnydd o’r cronfeydd fod yn ddichonadwy, yn hyfyw, yn ddymunol, ond rhaid iddo hefyd, yn yr achos hwn—dyma pam ei fod yn wahanol i gyfalaf confensiynol—fod yn ad-daladwy. Heb os, mae hynny wedi cael effaith ar awydd sefydliadau yng Nghymru i ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, ac er y gallai’r awydd fod yn fwy ddegawd ers cyflwyno cyfalaf trafodiadau ariannol, yn sicr, roedd yn awydd y bu'n rhaid ei annog yn y dyddiau cynnar hynny.

Nawr, wrth inni ddatblygu ein dull o ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol a chymryd camau graddol i wella'r broses a chynyddu tryloywder, rwy'n awyddus iawn i barhau i weithio gyda'r pwyllgor i barhau i adolygu defnyddioldeb y dull a sut y gellid ei fireinio ar gyfer adrodd yng nghyllidebau’r dyfodol. Mae cynnydd wedi’i wneud i fynd i’r afael â rhai o’r argymhellion eraill yn yr adroddiad. Rydym yn rhagweld y bydd y ddwy Lywodraeth yn ystyried ailddosbarthiad Banc Datblygu Cymru drwy’r adolygiad o wariant presennol, a byddaf yn sicr yn adrodd ar ganlyniad hynny i’r Senedd. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau diwygiedig. Byddwn yn cynnig sesiynau hyfforddi i staff mewn meysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru i weld a oes awydd i ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol ar sail ehangach na’r set gymharol gyfyngedig o ddibenion y mae wedi’i defnyddio ar eu cyfer hyd yn hyn—[Torri ar draws.]

Wrth gwrs.

16:30

Jest ar y pwynt yna, felly, ydych chi’n meddwl bod yna dipyn mwy o botensial i’r defnydd o’r ffordd arbennig yma o ariannu projectau cyfalaf, yn enwedig ym maes tai? Ydy’r maes tai yn un sydd yn gweiddi allan ar gyfer defnyddio y math yma o ddull ariannu oherwydd bod modd cael rhent yn ôl, onid oes, er mwyn talu’r benthyciad yn ôl?

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Dirprwy Lywydd. Y maes tai yw’r maes ble rŷn ni yn defnyddio’r rhan fwyaf o’r FTCs, ond os oes mwy rŷn ni’n gallu ei wneud a'n gallu bod yn fwy hyblyg yn y ffordd rŷn ni yn defnyddio FTCs ym maes tai, yna, wrth gwrs, dwi eisiau ystyried unrhyw awgrymiadau. Beth dwi’n ei feddwl, ar ôl degawd bron nawr o ddefnyddio FTCs, yw ei bod hi yn bosib y bydd mwy o alw am eu defnyddio achos mae pobl yn fwy ymwybodol ac mae profiadau gyda ni. Rŷn ni’n gallu dangos i bobl sut yn ymarferol mae’r FTCs yn rhedeg a sut y gallwn ni eu defnyddio nhw yma yng Nghymru, ac mae gwaith y pwyllgor yn ddefnyddiol dros ben inni wneud hynny.

Felly, Ddirprwy Lywydd, gadewch imi orffen drwy ddiolch i'r pwyllgor unwaith eto am eu gwaith ar yr adroddiad. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â hwy wrth inni ddatblygu ein syniadau yn y maes polisi hwn.

16:35

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw ac wedi darllen yr adroddiad. Gan ein bod ni ddim yn cael cyfle yn aml iawn i wneud ymchwiliadau, mae'n dda cael cyfle i wneud ymchwiliad byr i mewn i hyn.

Fe wnaf i gychwyn efo Mike Hedges yn sôn am sut ddechreuodd FTCs—

—a'r hanes a rhai o'r materion amserlennu a rhai o'r pethau hynny y buom yn ymrafael â hwy pan oeddem yn siarad am hyn. Fel y soniodd Sam, roedd Peter Fox ar y pwyllgor pan wnaethom hyn ac roedd hi'n wych cael Peter yno, ac rwy'n gobeithio nad dyna'r rheswm pam y gwnaethoch chi adael y pwyllgor. Mae'n adroddiad eithaf da mewn gwirionedd, felly mae'n siŵr nad hynny oedd. [Chwerthin.] Ond fe gyfeiriodd at rywbeth y credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud, wrth siarad am y rhwymau sydd arnom, ac rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r Trysorlys ac yn ceisio dod o hyd i'r allwedd i hyn, oherwydd byddai hynny'n ddefnyddiol tu hwnt.

Diolch yn fawr i Heledd, a oedd yn sôn am sut fyddwn ni'n gallu defnyddio hwn, gan nad y ffordd orau, o bosib, ydy hwn o'i wneud o, ond bod o yma ar hyn o bryd, a bod angen edrych ar ddiwygio ac edrych ar sut dŷn ni'n defnyddio hwn, ond sut dŷn ni hefyd yn cael setliad gwell a sut dŷn ni'n symud pethau yn eu blaenau efo'r Trysorlys er mwyn cael cyllideb decach i Gymru a rhywbeth sydd yn fuddiol ar gyfer y Senedd newydd amgen fydd yn symud yn ei blaen ar ôl yr etholiad nesaf. A diolch yn fawr i chi am yr ymatebion i'r adroddiad, a diolch hefyd am eich sylwadau heno.

Mae'n ddiddorol ond yn gymhleth—wyddoch chi, mae'n syml ond yn gymhleth, a dyna'r agwedd a ddaeth drwodd yn hyn: sut y mae cyflwyno pethau cymhleth iawn mewn ffordd ddigon syml i bobl ddeall sut y cânt eu defnyddio? A sut y mae gwneud y cyswllt â busnesau, â chyrff hyd braich i ddeall beth yw hynny? A sut y mae egluro i'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet sut y gellid ei ddefnyddio mewn ffyrdd mwy diddorol o fewn hynny?

A diolch i Siân am yr ymyriad ynglŷn â thai—mae hwnna'n hynod o bwysig.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol iawn fod cyllid cyfalaf wedi bod yn brin dros y blynyddoedd diwethaf, felly dyma un ffordd o'i wneud. Ac fel pwyllgor, rydym hefyd yn gredinwyr cadarn mewn craffu da a'r gallu i sicrhau newid cadarnhaol, ac rwy'n credu mai dyma un o'r ffyrdd y ceisiwn wthio'r agenda yn ei blaen, fel pwyllgor, i fynd i mewn i rai o'r mecanweithiau mwy aneglur hyn, efallai, sydd gennym o godi cyfalaf a defnyddio cyfalaf. Dyna pam ein bod wedi canolbwyntio ein hargymhellion ar gynyddu tryloywder a dod o hyd i ffyrdd o wneud y defnydd gorau o gyfalaf trafodiadau ariannol yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru.

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet a phawb sydd wedi cymryd rhan ac rwy'n argymell y dylai pobl ddarllen yr adroddiad, oherwydd nid yw mor hir â hynny, ond mae'n ddiddorol. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyflogaeth

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan.

Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflogaeth, a galwaf ar Samuel Kurtz i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8803 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 21 Ionawr 2025.

2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Cymru:

a) bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi cynyddu am y seithfed mis yn olynol i 5.6 y cant, sef y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig;

b) bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng i 70 y cant, sef y gyfradd isaf yn y Deyrnas Unedig;

c) bod gan Gymru gyfradd anweithgarwch economaidd o 25.6 y cant, sef y gyfradd uchaf ym Mhrydain Fawr; a

d) mai Cymru sydd â’r pecynnau cyflog isaf ym Mhrydain Fawr.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu mwy o swyddi yng Nghymru a hybu twf drwy:

a) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;

b) cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach;

c) sicrhau ffyniant broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad; a

d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i dalu costau ei chynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyfer busnesau preifat.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn yn enw Paul Davies. Rwy'n agor y ddadl hon heddiw ar bwnc o bryder cynyddol i ni i gyd: cyflwr economi Cymru. Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei throsolwg diweddaraf ar y farchnad lafur a dylai'r ffigurau ganu larymau. Nid pwyntiau haniaethol yn unig y mae'r ystadegau hyn yn eu cynrychioli, maent yn datgelu'r brwydrau go iawn a wynebir gan gymunedau, busnesau a theuluoedd yng Nghymru.

Gadewch inni ddechrau gyda diweithdra. Mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru bellach wedi codi am y seithfed mis yn olynol, gan gyrraedd 5.6 y cant. Dyna gynnydd o 0.7 pwynt canran yn y chwarter diwethaf yn unig, a dyma'r gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig. O'i gymharu â chyfartaledd y DU o 4.4 y cant, mae'n amlwg fod Cymru ar ei hôl hi. Mae ffigurau cyflogaeth yn creu darlun yr un mor ofidus. Mae cyfradd gyflogaeth Cymru wedi gostwng i 70 y cant, y lefel isaf ar draws y Deyrnas Unedig, a bron i 5 y cant yn is na chyfartaledd y DU. Efallai mai'r peth mwyaf pryderus yw anweithgarwch economaidd. Ym mis Tachwedd roedd cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru yn 25.6 y cant—lefel lawer uwch na chyfartaledd y DU o 21.6 y cant. Y tu ôl i'r ffigurau hyn mae pobl go iawn—pobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gyfleoedd, gweithwyr sy'n methu ailymuno â'r farchnad swyddi a theuluoedd sy'n wynebu ansicrwydd ariannol. Nid ystadegau yn unig yw'r rhain, maent yn adlewyrchiad clir o fethiannau'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Ers saith mis yn olynol, mae diweithdra wedi cynyddu. Ers llawer gormod o amser, mae twf economaidd wedi dod i stop. Nid datblygiad sydyn yw hyn, ond canlyniad cronnus dewisiadau polisi gwael, cyfleoedd a gollwyd a diffyg uchelgais difrifol.

Nawr, gadewch inni drafod pam y mae hyn yn bwysig. Nid rhywbeth 'braf i'w chael' yn unig yw economi gref, mae'n hanfodol. Dyna'r injan sy'n gyrru popeth arall: swyddi, gwasanaethau cyhoeddus, buddsoddiad a chyfle. Ond yma yng Nghymru, mae ein peiriant economaidd yn bygwth dod i stop. Fel injan car sydd wedi'i hesgeuluso, mae Llafur wedi methu cynnal yr economi. Fe wnaethant osgoi newid yr olew, anwybyddu'r goleuadau rhybudd a'i gadael i redeg yn wag, ac o ganlyniad, mae bellach yn araf ac yn cael trafferth dod allan o'r gêr cyntaf. Rydym i gyd wedi gweld canlyniadau'r esgeulustod hwn: mae busnesau bach, anadl einioes ein cymunedau, yn cael eu gwasgu gan gostau cynyddol, cefnogaeth annigonol a biwrocratiaeth ormodol; mae buddsoddiad mewn seilwaith ac arloesedd, y ddau'n hanfodol i danio twf economaidd, wedi bod yn anghyson, os yw wedi bodoli o gwbl.

Mae'r canlyniadau'n glir: llai o swyddi, cyflogau is a diffyg twf, sy'n gadael Cymru ar ei hôl hi o gymharu â phob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Ond nid oes rhaid iddi fod felly. Gyda'r arweinyddiaeth gywir, gall economi Cymru symud o fod yn araf i fod yn ddeinamig, o fod ar ei hôl hi i fod yn arweinydd. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw Llywodraeth sy'n deall pwysigrwydd economi gref ac sy'n barod i weithredu i'w chyflawni. Y Ceidwadwyr Cymreig sydd â'r weledigaeth honno. Mae ein cynllun ar gyfer yr economi yn feiddgar, yn ymarferol ac yn canolbwyntio ar gyflawni newid go iawn. Byddai Cymru Geidwadol Gymreig yn Gymru sydd ar agor i fusnes.

Yn gyntaf, byddem yn adfer rhyddhad ardrethi busnes ar 75 y cant ar gyfer y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden. Y sectorau hyn sydd wedi cael eu taro galetaf gan gostau cynyddol ac mae angen cymorth arnynt ar frys i ddiogelu swyddi a bywoliaeth pobl. Yn ail, byddem yn dileu ardrethi busnes i fusnesau bach. Byddai hyn yn rhoi achubiaeth i filoedd o entrepreneuriaid, gan roi lle iddynt anadlu fel sydd ei angen i dyfu, buddsoddi a chreu swyddi. Yn drydydd, byddem yn ymrwymo i godi Cymru gyfan. Mae talent wedi ei ledaenu'n gyfartal ar draws ein cenedl, ond nid yw cyfle. Mae'n annerbyniol fod rhai rhannau o'n gwlad yn dal i deimlo eu bod wedi eu hanghofio. Byddem yn sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei ddosbarthu'n deg fel bod pob cymuned yn cael cyfle i ffynnu.

Pam arall y byddai economi Cymru yn cael ei meithrin yn well o dan y Ceidwadwyr Cymreig? Oherwydd ein gwerthoedd: rydym o blaid creu cyfoeth, o blaid twristiaeth, o blaid ffermio, o blaid menter, o blaid seilwaith ac o blaid busnes. Mae'n amlwg fod dau opsiwn yn wynebu Cymru heddiw: dyfodol parhaus o ddirywiad wedi'i reoli o dan Blaid Lafur sy'n brin o syniadau, yn brin o egni, allan o'u dyfnder, ac allan o rym heb fod yn hir, Llafur sy'n hapus i gadw troed ar bibell wynt economi Cymru; neu ddyfodol lle mae draig economaidd Cymru yn cael rhyddid i ruo, i esgyn yn uchel wrth iddi ryddhau potensial y Cymry, busnesau Cymru a diwydiant Cymru, gan osod Cymru ar lwybr ffyniant i bawb. Dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi busnes, i roi hwb i'n heconomi ac i ddadwneud y rhwystrau i dwf trwy gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:40

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y ffaith bod problemau o hyd o ran asesu perfformiad y llafurlu yng Nghymru yn sgil y pryderon ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu.

Yn cydnabod bod data Arolwg y Llafurlu ar gyfer Cymru ymhlith y data o ansawdd isaf o blith holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr;

Yn cytuno mai’r ffordd orau o ddeall llafurlu Cymru yw ystyried tueddiadau hirdymor ar draws amryfal ddangosyddion, sy’n cynnwys ffynonellau eraill fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data am swyddi’r gweithlu, a data am nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.

Yn nodi ymhellach fod cyflogau oedolion yng Nghymru a oedd yn gweithio’n amser llawn yn 2024 yn uwch na chyflogau oedolion cyfatebol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, Swydd Efrog a Humber.

Yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o swyddi yng Nghymru ac yn hybu twf drwy wneud y canlynol:

a) parhau i ddarparu pecynnau o gymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £134 miliwn eleni ac £85 miliwn y flwyddyn nesaf yn ogystal â chynlluniau rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn yn flynyddol a’r cymorth ychwanegol sylweddol sydd wedi’i ddarparu i fusnesau a threthdalwyr eraill dros y blynyddoedd diwethaf;

b) sicrhau buddsoddiad o’r tu allan a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru;

c) cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn adfer y drefn o roi’r hawl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl 2026 a datblygu rhaglen newydd o fuddsoddiadau gyda phartneriaid ar draws Cymru yn dilyn cau rhaglenni gwaddol fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2026; a

d) cydweithio â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddiwydiannol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Iawn, cynigiwyd.

Yn ffurfiol—diolch.

Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod economi Cymru wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad a model cyllido annheg o dan Lywodraethau blaenorol a phresennol y DU.

Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddychwelyd pwerau i wneud penderfyniadau dros gyllid ôl-Brexit yn ôl i'r Senedd.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

a) dilyn argymhelliad yr OECD ar sefydlu asiantaeth hyd braich i hyrwyddo datblygiad economaidd;

b) mabwysiadu targedau newydd ac effeithiol i yrru datblygiad economaidd cynaliadwy yng Nghymru;

c) gweithredu archwiliad sgiliau cenedlaethol, mapio anghenion economi Cymru ar gyfer y dyfodol a chyfateb hyn â buddsoddiad mewn strategaeth ar gyfer sgiliau a hyfforddiant; a

d) adolygu ac adnewyddu'r Warant Pobl Ifanc, gan sicrhau bod gan bob person ifanc fynediad gwirioneddol at waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwerthfawr ar gyfer datblygu sgiliau.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Heledd Fychan. Ni allaf addo defnyddio cymaint o fwyseiriau â llefarydd y Ceidwadwyr, ond mae'r ffigurau'n adrodd stori, ac mae honno'n stori sy'n cael ei hadrodd nid yn unig gan aelodau'r wrthblaid ond gan lawer o economegwyr y tu allan i'r adeilad hwn, ac nid yw'r stori'n un dda. Cymru sydd â rhai o'r cyfleoedd cyflogaeth gwaethaf yn y DU, y cyflogau isaf, diffyg twf a chynhyrchiant gwael, ac nid mater ynysig yn unig yw hyn, mae'n duedd ddamniol. Ond yr hyn sydd yr un mor bryderus yw ymdrechion cyson y Llywodraeth i'w wthio o'r neilltu a gwrthod derbyn nad yw'r strategaeth bresennol yn gweithio. Yn hytrach na mynd i'r afael â'r materion hyn yn uniongyrchol, caiff y bai ei symud i rywle arall. Cyn yr etholiad cyffredinol, bai'r Torïaid ydoedd; dywedodd Ysgrifennydd Cabinet yn ddiweddar mai amodau economaidd byd-eang sydd ar fai—roedd y rheini'n bresennol, a bod yn deg, o dan Lywodraeth flaenorol y DU—ac yn y ddadl benodol hon, nid polisi sydd ar fai, ond y data sydd ar gael. Nawr, er nad data yw'r prif fater dan sylw, rwy'n cyfaddef bod problem gydag argaeledd ac ansawdd data i fesur llwyddiant polisi economaidd. Fe wyddom hyn ers amser maith. Roedd yn bwynt trafod ymhell cyn imi gael fy ethol i'r lle hwn, ac mae'n ymddangos y bydd yn fater sy'n codi y tu hwnt i'r etholiad nesaf. Felly, ar fater data, byddwn yn croesawu cynllun gan Ysgrifennydd y Cabinet i ddangos sut yr awn ati i wella'r data sydd ar gael i ni. Mae wedi cael sylw yng ngwelliant y Llywodraeth, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi codi'r materion sy'n gysylltiedig â data o'r blaen, ond nid oes dim yn y gwelliant i amlinellu'r cam nesaf ymlaen, ac mae'n gam pwysig.

Nawr, er mai'r Ceidwadwyr sydd wedi cyflwyno'r cynnig heddiw, rwy'n credu ei bod hefyd yn werth nodi na ddylem anghofio eu hanes hwy gydag economi'r DU. Maent eisiau siarad am gyflogaeth, ac mae hynny'n iawn, ond dylid trafod hynny ochr yn ochr â chyflogau. A hanes y Llywodraeth Dorïaidd flaenorol oedd y twf cyflogau isaf—marweiddio cyflogau am 14 mlynedd, 900,000 o blant wedi eu gwthio i fyw mewn tlodi, cyflogau cyfartalog nad oedd ond £16 yr wythnos yn uwch mewn termau real nag yn 2010. Nid yw hynny ynddo'i hun yn hanes i fod yn falch ohono.

Nawr, ceir cytundeb ar y cynnig gwreiddiol o ran y ffordd y cefnogwn fusnesau Cymru. Mae angen datrys ardrethi busnes, ac mae angen cynnal trafodaethau trawsbleidiol ar sut y mae cyrraedd man lle mae'r system yn deg, oherwydd yn amlwg nid yw'n deg ar hyn o bryd. Oes, mae angen buddsoddi ym mhob rhan o Gymru, a chaiff hynny ei helpu drwy ddiwygio'r model ariannu a dychwelyd pwerau gwneud penderfyniadau dros gyllid ar ôl Brexit i'r Senedd, sef yr hyn y mae ein gwelliant 2 yn mynd i'r afael ag ef.

Ac yn olaf, rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at welliant 3. Byddem yn dilyn argymhelliad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i sefydlu asiantaeth datblygu economaidd—adfer Awdurdod Datblygu Cymru—a fyddai'n canolbwyntio ar dyfu busnesau Cymru a chreu tirwedd ariannu a chyngor sy'n hawdd ei deall a'i llywio, a gosod targedau datblygu economaidd i adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i'r Llywodraeth ar gyfer twf economaidd. Nid yw twf er mwyn twf o unrhyw ddefnydd, ond mae twf i ddatrys problem benodol, fel dileu tlodi plant, er enghraifft, yn gwneud synnwyr.

16:45

Mae'n wych gallu cyfrannu at y ddadl hon heddiw, sy'n tynnu sylw at y dirywiad anffodus a dinistriol a welsom yn ein hallbynnau economaidd ers i Lafur ennill grym yng Nghymru. Pum mlynedd ar hugain o'r Llywodraeth flinedig hon. Maent yn cyfeirio atynt eu hunain fel rhai blaengar, ond eto mae'n ymddangos eu bod yn mynd tuag yn ôl mewn perthynas â'r economi. Rydym wedi cael ein gadael mewn sefyllfa gan Lafur lle mae gennym yr anweithgarwch economaidd uchaf, y gyfradd ddiweithdra uchaf a'r pecyn cyflog lleiaf yn unrhyw un o wledydd y DU. Maent yn ystadegau brawychus sy'n arwydd o fethiant parhaus Llywodraeth Lafur Cymru i hybu twf, cyfle a buddsoddiad i economi Cymru, ac o ganlyniad, mae pobl Cymru yn parhau i gael cam.

Ond nid dim ond rhestr o ystadegau i'w taflu o amgylch y Siambr heddiw ydynt; maent yn gyfleoedd swyddi i bobl ledled Cymru, ym mhob etholaeth, cyfleoedd gwaith y genhedlaeth nesaf, a'r gallu i bobl ifanc dyfu, astudio a chael gwaith yng Nghymru yn niwydiannau heddiw a diwydiannau yfory. I'w roi'n syml, Ddirprwy Lywydd, mae holl ffyniant economaidd ein cenedl yn dibynnu ar y ffigurau brawychus hyn, sydd, ar hyn o bryd, ar drywydd brawychus iawn, os na fydd ein cyfeiriad yn newid ar frys.

Un peth y mae hanes economaidd Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi ei brofi yw bod gormod o fiwrocratiaeth yn mygu twf, ac y dylai busnesau gael yr offer a'r hinsawdd sydd ei angen arnynt i fuddsoddi a thyfu, nid cael eu microreoli a'u trethu fwy nag unwaith gan y Llywodraeth hon, nad yw'n gwybod beth y mae'n ei wneud ar yr economi, fel y clywsom o'r blaen oddi ar y meinciau Llafur.

Nawr, heddiw ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, profodd cyfeillion Llafur Cymru ar ben arall yr M4 unwaith eto mai nodwedd ar draws y blaid yw methu rheoli'r economi, pan fu'n rhaid i'r Canghellor ddechrau o'r dechrau i bob pwrpas a nodi cynlluniau newydd chwe mis yn unig ar ôl iddynt ddod i rym, gan ei bod eisoes wedi lladd ar yr economi i'r fath raddau nes ei bod eisoes wedi gwastatáu, a hyd yn oed wedi crebachu ym mis Medi a Hydref, wedi i Lafur ddod i rym yn San Steffan y llynedd. Ac yn ogystal, Ddirprwy Lywydd, fe gawn ddatganiad arall gan y Canghellor nawr ym mis Mawrth ar ysgogi twf unwaith eto. Mae'n ymddangos bod y Canghellor mor daer i weld twf, ond yn rhoi polisïau ar waith sy'n ei atal.

Mae economeg sylfaenol yn dweud wrthych fod trethi uwch yn tynnu oddi ar incwm gwario pobl, gan leihau gwariant yn naturiol, sydd yn ei dro yn arafu twf economaidd, a phe na bai'r Canghellor wedi rhoi polisïau sy'n mygu twf ar waith yn y lle cyntaf, ni fyddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw, lle mae Llywodraethau'n gwneud datganiadau am eu cynllun i ailgychwyn ac adnewyddu ac ailddechrau twf chwe mis ers dod i rym. Byddai ganddynt hyder y cyhoedd a'r economi a busnesau i fwrw ati.

Fel y dywedais o'r blaen, mae cyfleoedd swyddi ac incymau a'r holl gyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r ffactorau hyn yn parhau i fod yn y fantol, gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud fawr ddim i helpu. Dyna pam y mae ein cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i roi pedwar cam syml ar waith a fyddai'n cael effaith economaidd hynod fuddiol i bobl Cymru: adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant o'r 40 y cant presennol ar gyfer y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden; cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach; codi'r gwastad i Gymru gyfan gyda lefelau digonol o fuddsoddiad wedi'u dosbarthu'n deg ar draws y wlad; a cham 4, Lywydd, yw os na allant ei wneud, yna fe'i gwnawn ein hunain.

Mae'r rhain yn gamau sydd â gallu i agor Cymru ar gyfer buddsoddiad, ysgogi twf a darparu sicrwydd swyddi i bobl ledled Cymru, gan gadw talent Cymreig yma. Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr. Mae pobl yn ddealladwy yn nerfus ynghylch costau byw a biliau cynyddol, a nawr mae perchnogion busnesau'n wynebu codiadau treth pellach, yn dilyn cynnydd i yswiriant gwladol gan Blaid Lafur y DU. Felly, rwy'n eich annog, bawb yn y Siambr hon, a'r rhai sy'n gwylio rwy'n siŵr, i gefnogi busnesau bach trwy roi cyfle iddynt gael y chwistrelliad o fuddsoddiad y maent yn ei haeddu cymaint, i gefnogi pobl ledled Cymru i greu swyddi yn sgil hynny, i gefnogi pecynnau cyflog pobl, cefnogi ein sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu. Ac os na all Llafur y DU fod yn ddim byd heblaw negyddol, wrth ladd ar ein heconomi, gadewch i ni gamu'n ôl o'r rhethreg besimistaidd honno a gwneud Cymru'n lle cadarnhaol ar gyfer buddsoddiad a ffyniant, a gadewch inni agor Cymru i fusnes. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a dyna pam rwy'n annog pob Aelod i'w gefnogi.

16:50

Wel, dyma beth yw gorymdeithio i sŵn y gynau, onid e? Mae'r Siambr yn llawn Torïaid sy'n siarad—. Hwy sy'n lladd ar yr economi. Roedd popeth a ddywedwyd yn gwbl negyddol. Er i Tom Giffard ddweud mai Llafur sy'n lladd ar yr economi, y Ceidwadwyr sy'n gwneud hynny er mantais wleidyddol. Gadewch inni gofio hyn: 2010—[Torri ar draws.]—. Os ydych chi i gyd yn mynd i fy heclo ar yr un pryd, ni allaf eich clywed.

Rwyf am glywed cyfraniad yr Aelod, felly hoffwn i chi adael imi wneud hynny heb unrhyw heclo, os gwelwch yn dda.

Nid wyf yn malio am ychydig o heclo, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn malio. David Cameron a George Osborne yn 2010—. Ac mae Tom Giffard yn sôn am economeg sylfaenol; wel, mae'n rhaid ichi ddewis ochr ar hyn, oherwydd, am bob problem, mae yna ateb polisi gwahanol. Fy ochr i yw economeg sylfaenol Keynesaidd, ac yn 2010 y wers Keynesaidd oedd eich bod chi'n buddsoddi pan fo'r economi'n tanberfformio, rydych chi'n buddsoddi i adeiladu a thyfu, a dyna lle rydym ni nawr gyda Llywodraeth Lafur y DU. Yr hyn a wnaeth David Cameron a George Osborne yn 2010, gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd y gwrthwyneb. Dyna pryd y dechreuodd cyni a dyna pryd y gwnaeth ein dirywiad parhaus, a arweiniodd drwy Brexit, drwy Theresa May at Liz Truss a'r holl drychinebau hynny—. Roedd hynny'n dilyn ymlaen o ddyddiau cynnar David Cameron.

Oni fyddech chi'n cydnabod bod Alistair Darling, sydd bellach wedi ein gadael, wedi datgan cyn ei gyllideb olaf fod cyni eisoes wedi cyrraedd? Cafodd hynny ei etifeddu, ac mae'r model Keynesaidd y cyfeiriwch chi ato yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraethau leihau gwariant fel cyfran o gynnyrch domestig gros pan fo economi'n tyfu er mwyn cynyddu gwariant fel cyfran o gynnyrch domestig gros pan fo economi'n arafu. Fe wnaethant dorri'r rheol honno, a'r canlyniad oedd y cyni yr oedd Mr Darling eisoes wedi'i gydnabod.

Mae hyn yn fy atgoffa o fy nyddiau prifysgol: byddwn i'n dweud rhywbeth, ac yna, 'Na, Hefin, rydych chi'n anghywir.' Wel, y pwynt oedd mai buddsoddiad Llafur oedd y buddsoddiad economaidd a ddigwyddodd yn ystod camau diweddarach Llywodraeth Lafur y DU, ac ni chafwyd mewn unrhyw ffordd yr un lefel o gynlluniau i gyflwyno cyni yn y ffordd y cafodd ei wneud gan David Cameron a George Osborne. Fe'i cyflwynwyd mewn ffordd a oedd yn ddinistriol i gymunedau yng Nghymru, a gadewch inni beidio ag anghofio mai'r sector cyhoeddus—[Torri ar draws.]—y sector cyhoeddus yng Nghymru yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru o bell ffordd o gymharu â gweddill y DU, a dyna lle digwyddodd yr effaith ddinistriol. Rwy'n cofio imi gael fy ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am y tro cyntaf yn 2007. Erbyn 2010, o dan y Llywodraeth Geidwadol, dyna pryd y dechreuwyd siarad am doriadau am y tro cyntaf ac rydym wedi bod yn sôn am doriadau byth ers hynny. Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae gwelliant Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud yw mynd i'r afael â rhai o'r camsyniadau yn y cynnig Ceidwadol, felly rwy'n falch iawn o bleidleisio drosto. Roeddwn yn hoffi rhai o'r pethau a ddywedodd Luke Fletcher hefyd, er eu bod efallai'n atebion gwahanol i'r rhai y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'w rhoi.

Gadewch imi roi enghraifft o farn optimistaidd i chi o fy etholaeth. Mae Transcend Packaging ym Mharc Busnes Dyffryn yn cynhyrchu gwellt yfed i gadwyni byd-eang fel McDonalds a Starbucks, ac maent newydd ddod i gytundeb gyda'r cynhyrchydd papur o Tokyo, Itochu Corporation, a bydd y ddau gwmni yn datblygu ystod o gynhyrchion pecynnu papur a ffibr, gan alluogi Transcend Packaging i ehangu i farchnadoedd newydd yng Ngogledd America ac yn Asia. Mae honno'n stori lwyddiant yng Nghaerffili ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg heddiw yn nodi bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi sicrhau cytundebau allforio gwerth dros £320 miliwn o ganlyniad uniongyrchol i gymorth Llywodraeth Cymru ers lansio'r cynllun gweithredu ar allforio ym mis Rhagfyr 2020. 

Llwyddiant busnesau bach yw hynny a'r gamp wrth nodi pa fusnesau bach i weithio gyda hwy yw drwy'r rhai sy'n gallu allforio, a'r rhai sy'n gallu allforio yw'r rhai sydd wedi cael cefnogaeth dda gan Lywodraeth Lafur Cymru. Ac nid cwmnïau Japaneaidd yn unig mohono. Yn Nhir-y-Berth yn fy etholaeth i, mae gennym gwmni arall sy'n tyfu, Norgine, sy'n gwneud cynhyrchion fferyllol, ac fe ymwelais â hwy gyda Chris Evans AS ychydig wythnosau yn ôl. A gallwn weld y llwyddiant y maent yn ei gael fel busnes a chyflogwr sy'n tyfu yn fy etholaeth i.

Ac nid buddsoddiad tramor a busnesau bach yn unig sy'n edrych yn llwyddiannus yn fy etholaeth i. Mae rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn cysylltu cymunedau, yn cludo pobl i weithio yng Nghaerdydd a thu hwnt mewn ffyrdd nad oeddem wedi'u gweld yn y blynyddoedd cyn y 2020au. Bydd y Bil bysiau hefyd yn dechrau datblygu'r cyfleoedd cyflogaeth hynny. 

Yn olaf, hoffwn ddweud un peth sy'n agos iawn at fy nghalon. Os ydym yn siarad am gyflogaeth, ni allwn anghofio pobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydych chi'n siarad am anweithgarwch economaidd; wel, rwy'n edrych ar fy merch fach ac yn meddwl, 'Un diwrnod, hoffwn i ti allu cael swydd ystyrlon.' Yn fy adroddiad 'Pontio i Fyd Gwaith' dywedais hyn:

'Dylai Llywodraeth Cymru adolygu cymorth ar gyfer hyfforddiant mewn swydd ar gyfer y dysgwyr hynny ag Anghenion Dysgu Ychwanegol... [sy'n] gofyn am y cyfryw gymorth. Gan gyfeirio at yr arfer da a ddatblygwyd gan Engage to Change ac Anabledd Dysgu Cymru, dylid paratoi strategaeth hyfforddiant mewn swydd ar gyfer y rheini ag ADY, gan ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddwyr arbenigol'.

Rwy'n credu bod angen inni gofio ei fod yn ymwneud â mwy na'r math o dwf economaidd gydag allforion a busnesau bach a chwmnïau llwyddiannus; mae hefyd yn ymwneud ag edrych ar weithwyr sydd angen y cymorth mwyaf, ac rwy'n credu bod hyfforddiant mewn swydd i rai ag anghenion dysgu ychwanegol yn bwysig iawn. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i hyrwyddo hynny hefyd. 

Gallwn ddweud mwy ond rwy'n gweld bod fy amser ar ben, Ddirprwy Lywydd, felly nid wyf am brofi eich amynedd ac fe wnaf orffen yno.

16:55

Mae'n amlwg iawn y bydd polisïau treth a gwariant niweidiol y Llywodraeth Lafur newydd, yn ogystal â'r polisïau llawdrwm fel y gwelwn yn y sector amaethyddol, yn cael effaith enfawr, ac maent eisoes yn cael effaith enfawr ar economi'r Deyrnas Unedig, a'n bod yn gweld yr economi'n llithro ymhellach ac ymhellach o ganlyniad i'r rhain. Rydym eisoes yn gweld busnesau mawr yn dadfuddsoddi ac yn symud o'r DU, ac mae honno'n sefyllfa drist iawn.

Mae cynnydd Rachel Reeves i dreth yswiriant gwladol yn profi'r pwynt. Nid torri addewid maniffesto yn unig ydoedd, mae'n dreth uniongyrchol ar dwf busnes. Mae'r dreth hon yn ei gwneud yn ddrutach i gyflogi staff a bydd yn effeithio'n anghymesur ar fusnesau bach ar draws ystod eang o sectorau. Ac nid wyf yn synnu bod busnesau a'u cyrff cynrychioliadol o bob sector mor wrthwynebus i hyn, gan gynnwys y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, undebau ffermio, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y sectorau lletygarwch, i enwi ond ychydig, ac mae pob un ohonynt wedi mynegi pryderon y bydd yn cyfyngu ar dwf, cyflogau a chyfleoedd cyflogaeth. 

Mae'n amlwg fod busnesau ledled y Deyrnas Unedig yn wynebu blynyddoedd garw diolch i feddylfryd gwrth-fusnes Llafur, neu ddiffyg cymhwysedd syml ar yr economi yn fwy cyffredinol. Ers dros 25 mlynedd, mae'r Llywodraethau Llafur olynol yma yng Nghymru wedi bod wrth y llyw gydag economi Cymru, ac eto dro ar ôl tro gwelwn Gymru'n dihoeni ar waelod cyfres o dablau cynghrair. Fel y clywsom eisoes, mae cyfradd ddiweithdra Cymru wedi cynyddu am y seithfed mis yn olynol i 5.6 y cant, y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig, tra bo'r gyfradd gyflogaeth wedi gostwng i'r gyfradd isaf yn y Deyrnas Unedig, ar ddim ond 70 y cant. A hyn i gyd tra bod pecynnau cyflog Llafur Cymru yn parhau i fod yn is nag unman arall ym Mhrydain.

Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod Cymru yn genedl o fusnesau bach teuluol, yn llawn dyheadau am dwf, ond y gwir amdani yw eu bod yn cael eu dal yn ôl gan bolisi Llafur ar ddau ben yr M4, fel angor llusg am eu gyddfau. Ar hyn o bryd, gan Gymru y mae'r lefel uchaf o ardrethi busnes i fusnesau bach ym Mhrydain, ac maent yn hanesyddol wedi wynebu lefelau is o gymorth na'u cymheiriaid yn Lloegr. O dan Lywodraeth Geidwadol y DU, yn Lloegr roedd busnesau yn y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden yn talu hanner yr ardrethi busnes a dalai'r un busnesau yma. Nawr, rwy'n gwybod bod busnesau sy'n gweithredu'n agos at y ffin, fel yn fy etholaeth i ym Mynwy, yn teimlo'n arbennig o siomedig ac yn teimlo eu bod yn ymladd brwydr na allant ei hennill, tra bo'u cymheiriaid yn Lloegr yn cael mwy o gefnogaeth.

Ond nid yw popeth wedi ei golli, fel y clywsom eisoes gan Sam Kurtz, fel y disgrifiodd yn huawdl, o dan y Ceidwadwyr Cymreig, byddai Cymru ar agor i fusnes. Mae gennym gynllun—sawl cynllun—i hybu'r economi a gwrthdroi tuedd y mae Llywodraethau Llafur olynol Cymru wedi'i gosod dros y 25 mlynedd diwethaf. Ac fel y clywsom, byddem yn cryfhau rhyddhad ardrethi busnes i'r sector manwerthu, lletygarwch a hamdden, yn cefnogi a diogelu swyddi, ac yn dileu ardrethi busnes i fusnesau bach, gan gymryd camau ymarferol i gynyddu twf.

Hefyd, rydym eisiau i Lywodraeth Cymru godi'r gwastad i Gymru gyfan, gan sicrhau lefelau teg o fuddsoddiad ar gyfer y wlad gyfan, fel y gall y wlad gyfan ffynnu. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig mewn grym yn Llywodraeth Cymru sy'n sefyll dros weithwyr a busnesau yng Nghymru ac sy'n sicrhau ein bod yn gwrthsefyll polisïau trethiant gwrth-dwf Llywodraeth Lafur y DU, mewn ffordd nad yw'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru eisiau ei wneud. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

17:00

Cyflogau isel, twf araf, a diweithdra uchel, tri pheth sydd, yn anffodus, yn crynhoi’r 26 mlynedd ddiwethaf o Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Mae pobl yng Nghymru wedi cael eu dal yn ôl gan economi Cymru sy’n tanberfformio a chan Lywodraeth Lafur Cymru sy’n tanberfformio, Llywodraeth sydd wedi tagu ein busnesau ag ardrethi busnes uchel, gan eu hatal rhag gallu ffynnu ac atal ein heconomi, felly, rhag elwa ar y manteision.

Mae diweithdra yng Nghymru wedi codi 50 y cant ers i Lafur ddod i rym, ac nid yw’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos unrhyw arwydd o wella. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhagweld y bydd codiadau treth Llafur yn costio 50,000 o swyddi i'r DU ac yn lleihau cynhyrchiant ac yn brifo pobl sy'n gweithio. Ni fydd diweithdra’n gwella hyd nes y bydd y ddwy Lywodraeth Lafur yn cymryd camau beiddgar i sicrhau ein bod yn adfer y rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant. Mae angen cynllun arnom, ac mae angen inni dalu am y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.

Nid yn unig hynny, ond nid yw’r Llywodraeth hon yn meddwl ymlaen, nid yw’n cynllunio ar gyfer y dyfodol; mae'n methu sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn meithrin sgiliau ar gyfer swyddi'r dyfodol. Nid yw'r Llywodraeth yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaeth, fel sydd ganddynt dros y ffin, gan arwain yn aml at lawer o dalent yma yn symud allan o Gymru. Mae’r Llywodraeth hon wedi methu cefnogi ein prifysgolion, fel rydym newydd ei weld yn ddiweddar iawn, ac wedi methu cydnabod eu pwysigrwydd i’n heconomi. Nid yn unig ein bod wedi gweld 400 o swyddi'n cael eu colli nawr ym Mhrifysgol Caerdydd, ond cyrsiau allweddol yn cael eu torri a fydd yn cael effaith ar yr economi a swyddi yng Nghymru.

Nid oes unrhyw feddwl cydgysylltiedig. A siarad am ddull cydgysylltiedig, a yw'r Llywodraeth hon o ddifrif yn credu ei bod yn diogelu'r economi at y dyfodol drwy beidio ag annog digon o bobl i fynd i faes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg? A yw symleiddio gwyddoniaeth yn ein hysgolion yr ochr hon i’r ffin yn wyddoniaeth ddwbl, a chyfyngu ar y cyfleoedd i astudio pynciau gwyddonol unigol ar wahân, yn cyfleu'r neges gywir i’n pobl ifanc a’u gwthio i gyfeiriad swyddi’r dyfodol? Oni ddylem ystyried addysgu codio yn ein hysgolion? Mae angen i’r Llywodraeth hon feddwl ymlaen. Mae dros 14,000 o bobl ifanc yn ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd, yn aros am gyfle, yn aros am yrfa. Mae angen inni baratoi. A ydym o ddifrif yn paratoi ein gweithlu? A oes gennym strategaeth ddiwydiannol? A oes gennym strategaeth fusnes dda a fydd yn cynhyrchu’r cyfleoedd hyn yr ydym yn crefu amdanynt? Mae angen inni fod yn gystadleuol, nid yn unig o fewn y DU, lle rydym yn methu'n llwyr â gwneud hynny ar hyn o bryd, mae angen inni fod yn gystadleuol yng ngweddill y byd.

A sôn am weddill y byd, mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd lloeren bellach, o Ogledd America i’r dwyrain canol, a 21 o swyddfeydd rhyngwladol, rwy'n credu. Ar ba gost? Beth bynnag yw'r gost, mae’n arian sy’n cael ei wastraffu os nad oes gennym strategaeth gydlynol, uchelgeisiol i gyd-fynd â hynny. Mae angen inni fod yn denu mewnfuddsoddiad, yn sicrhau bod Cymru yn agored i fusnes, fel y dywedwyd, ac yn lle i wneud busnes. Bydd hyn yn ei dro yn creu swyddi mawr eu hangen. Yn anffodus, rwy’n adnabod llawer o ddynion a menywod busnes o bwys sy’n oedi cyn buddsoddi yng Nghymru oherwydd y seilwaith erchyll sydd gennym yng Nghymru, yn enwedig wrth ichi ddod i mewn i Gymru ar hyd yr M4, lle mae’r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4 i bob pwrpas yn gosod arwyddion 'ar gau i fusnes' ar ein ffin, arwyddion i'r gymuned fusnes ryngwladol ac i fewnfuddsoddiad, sy'n chwilfriw.

Mae’n rhaid inni allu denu diwydiannau da i Gymru, ac rydym wedi cael rhywfaint o lwyddiant. Mae’r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, er enghraifft, yn wych, a chefais fwy o wybodaeth amdano'n ddiweddar ar ymweliad â Compound Semiconductor Applications Catapult yng Nghasnewydd. Mae cymaint o botensial a chyfle yno o ran yr hyn sy’n digwydd yn y diwydiant hwn, a sut rydym yn arweinwyr byd-eang mewn rhai meysydd, ond a ydym o ddifrif yn gwneud y gorau o hynny, nid yn unig ar gyfer fy rhanbarth i, ond ar gyfer Cymru gyfan?

Porthladdoedd rhydd: llwyddiant arall i Gymru, ond yn anffodus, unwaith eto, nid o’ch gwaith chi. Mae agwedd ddilewyrch y Llywodraeth hon at y cyfle gwerth $1 biliwn hwn yn crynhoi eich ymagwedd yn fwy cyffredinol tuag at achub ar y cyfleoedd gwych hyn a fydd yn rhoi hwb i economi Cymru gyfan, ac unwaith eto, yn darparu'r cyfleoedd swyddi mawr eu hangen hynny. Mae porthladd rhydd Ynys Môn bellach yn weithredol, ynghyd â'r porthladd rhydd Celtaidd. Mae 17,000 o swyddi wedi’u creu, a bydd biliynau o bunnoedd o fewnfuddsoddiad yn dilyn, ac mae angen mwy o hyn arnom: menter a gyflawnwyd diolch i Lywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU.

A nawr, mae Llafur wedi rhoi’r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr i ni, sy’n hynod niweidiol i lawer. Bydd hyn yn anochel yn arwain, ac mae eisoes wedi arwain, at golli mwy o swyddi a busnesau'n cau. Mae arolwg economaidd a gynhaliwyd gan Siambrau Cymru wedi dangos y rhagwelir y bydd 24 y cant o fusnesau'n torri niferoedd staff oherwydd polisïau diweddar Llafur. Mae'n sefyllfa drist. Ac yn hytrach na helpu, mae Llywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4 yn parhau i waethygu’r broblem oherwydd anllythrennedd economaidd Rachel o'r adran gyfrifon ar un pen i’r M4, a Llywodraeth ddatganoledig yr un mor anghymwys yn nes at adref. Gan Gymru y mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd waethaf yng ngwledydd Prydain, sef 25 y cant o gymharu â gweddill y DU.

17:05

Mae’r gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl anabl yng Nghymru ddwywaith yn uwch na'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl. Hoffwn ddweud wrth yr Aelod dros Gaerffili fy mod yn cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedoch chi, fod angen inni ystyried agor y cyfleoedd hynny, eu gwneud yn fwy hygyrch, gwneud cyfweliadau'n decach ac yn y blaen i bobl anabl, er mwyn inni eu cynnwys yn yr economi.

Mae’n bryd wynebu'r ffeithiau, Ddirprwy Lywydd: mae polisïau sosialaidd Llafur yn cadw Cymru’n dlawd. Mae'r dalent gan Gymru. Mae'n bryd i Lywodraeth Geidwadol Cymru wneud i Gymru symud eto, trwsio Cymru, darparu'r cyfleoedd swyddi hynny—

—a byddai Llywodraeth Geidwadol Cymru yn ein gwneud ni, unwaith eto, yn agored i fusnes. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw.

Wel, diolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am y cyfle y prynhawn yma i atgoffa’r Senedd o’r sefyllfa gwbl enbyd a wynebodd Llywodraeth Lafur y DU wrth iddi ddod i rym: y lefel uchaf o ddyled ers y 1960au, a thwll du o £22 biliwn yn y cyllid cyhoeddus, a hyn oll wedi'i gelu gan y Blaid Geidwadol, ac mae'r holl ffactorau hynny wedi cyfrannu at ansefydlogi ein heconomi yma yng Nghymru.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i atgoffa fy nghyd-Aelodau o bwysigrwydd defnyddio data ac ystadegau’n gyfrifol. Nid yw'r problemau gyda dibynadwyedd data'r arolwg o'r llafurlu mewn perthynas â chyfraddau cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd yn gyfrinach. Mae ein prif ystadegydd wedi blogio amdanynt; rwyf wedi sôn amdanynt yn y Siambr hon o'r blaen; a chyhoeddais ddatganiad, hyd yn oed, ar 14 Tachwedd. Ond nid oes raid ichi gymryd gair Llywodraeth Cymru: mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol eu hunain wedi gwneud datganiadau sy’n gwbl glir nad ydynt bellach yn ystyried y data y cyfeiriwyd ato gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma yn ystadegau swyddogol achrededig. Maent bellach yn ystadegau swyddogol mewn datblygiad hyd nes y cânt eu hadolygu ymhellach, gydag argymhelliad y dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r data.

Ond mae defnyddwyr eraill yr arolwg o'r llafurlu, gan gynnwys Banc Lloegr a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, hefyd wedi mynegi pryderon am ansawdd amcangyfrifon ar lefel y DU, ac amlygodd adroddiad diweddar gan y Resolution Foundation y ffaith nad ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth yw cyfradd gyflogaeth y DU oherwydd y problemau gyda'r arolwg o'r llafurlu, ac maent yn amcangyfrif bod y gyfradd anweithgarwch genedlaethol yn debygol o fod wedi'i goramcangyfrif yn sylweddol.

Felly, nid wyf yn siŵr faint yn gliriach yr hoffai’r Ceidwadwyr Cymreig i Lywodraeth Cymru fod, neu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, neu Fanc Lloegr, neu’r Resolution Foundation, gan y credaf ein bod wedi cydnabod bellach naill ai nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn talu sylw, neu eu bod yn camarwain pobl yn fwriadol, a’r naill ffordd neu’r llall, nid yw’n dda, ond efallai y gallant roi gwybod i ni pa un sy'n wir pan fyddant yn crynhoi'r ddadl hon.

Y ffordd orau o ddeall perfformiad y farchnad lafur yng Nghymru yw drwy ystyried y tueddiadau mwy hirdymor ar draws nifer o ddangosyddion, ac mae’r rhain yn cynnwys ffynonellau fel gwybodaeth amser real CThEF am weithwyr cyflogedig, data ar swyddi’r gweithlu, nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau, a'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth, y mae Llywodraeth Cymru yn talu i'w hyrwyddo, fel bod gennym ddata mwy cywir ar gyfer Cymru.

Felly, mae tystiolaeth o’r ffynonellau data hyn yn awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn tueddiadau tebyg i’r DU gyfan ers y pandemig. Mewn gwirionedd, mae’r fasged ehangach hon o ddata yn dangos bod gan weithwyr Cymru fwy o arian yn eu pecynnau cyflog na llawer o’u cymheiriaid yng ngweddill y DU. Yn 2024, roedd enillion wythnosol canolrifol gros ar gyfer oedolion a oedd yn gweithio amser llawn yng Nghymru yn uwch na gogledd-ddwyrain Lloegr, dwyrain canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, a swydd Efrog a Humber. Ac ym mis Rhagfyr, roedd cyfran y gweithlu a oedd yn hawlio budd-daliadau, yn bennaf am resymau diweithdra, yn is yng Nghymru na chyfradd y DU.

Felly, o ystyried yr heriau a ddisgrifiais, ac i ateb cwestiwn Luke Fletcher, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyflwyno arolwg trawsnewidiol newydd o'r llafurlu, y bwriadant ei ddefnyddio fel y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yn y DU a Chymru yn y dyfodol. Ac mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i brofi a llunio gwelliannau ar gyfer hynny, ac maent wedi nodi y byddant yn dweud mwy am gynnydd yn y gwanwyn. Rwyf wedi cyfarfod â phrif ystadegydd y DU ar y pwynt hwn, ac mae ein hystadegwyr yma yn Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan lawn yn y gwaith hwnnw.

Felly, rwy’n canolbwyntio ar gyflawni maes blaenoriaeth y Prif Weinidog o sicrhau swyddi da i bobl Cymru, ac rwy’n brysur yn sicrhau mewnfuddsoddiad i gynyddu nifer y swyddi o ansawdd yma yng Nghymru, a fydd, yn ei dro, yn creu economïau rhanbarthol cryf gyda mwy o gyfleoedd i fusnesau bach ffynnu a thyfu. Eisoes, diolch i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru, rydym wedi sicrhau buddsoddiad o £1 biliwn i felin bapur grŵp Eren yn Shotton yng Nglannau Dyfrdwy, £45 miliwn i Jayplas yn Abertawe, a £50 miliwn i ffatri led-ddargludyddion Vishay yng Nghasnewydd.

Rydym yn darparu cymorth i fusnesau a chyflogwyr drwy ein rhyddhad ardrethi annomestig. Rydym yn darparu £134 miliwn o gymorth ychwanegol eleni, ac £85 miliwn ychwanegol y flwyddyn nesaf. Mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at ein rhyddhad parhaol, sy'n werth mwy na £250 miliwn y flwyddyn. Felly, dyna fwy na £0.33 biliwn bob blwyddyn sy'n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar helpu busnesau gyda'u biliau.

Rydym hefyd yn cydweithio’n weithredol â Llywodraeth Lafur y DU drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau ar un o’u cynlluniau arloesi ar anweithgarwch. Mae ein swyddogion eisoes yn gweithio gyda’u swyddogion cyfatebol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a Swyddfa Cymru i ddatblygu opsiynau ar gyfer rhoi'r cynllun ar waith yma yng Nghymru. A chyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, rydym hefyd yn sicrhau bod ein gweithlu'n meddu ar y sgiliau cywir i ddiwallu anghenion busnesau ac i ddarparu swyddi gwerth chweil o ansawdd uchel i bobl.

17:10

Diolch am dderbyn ymyriad. Mewn Pwyllgor Cyllid diweddar, cydnabu’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod y cynnydd diweddar yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn mynd i gyfyngu ar gyflogau a lleihau twf swyddi. A ydych chi felly'n gresynu bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r polisi hwnnw?

Rwyf wedi dweud o’r blaen, ac unwaith eto, rydym yn ailadrodd ein hunain dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ond rwyf wedi dweud o’r blaen fod Llywodraeth y DU—hyd yn oed ar ddechrau fy araith heddiw—wedi cael tasg hynod anodd, ac maent wedi gorfod gwneud dewisiadau na fyddent wedi dymuno eu gwneud er mwyn mantoli'r cyfrifon ac i fynd i'r afael â'r twll du y bu'n rhaid iddynt ei wynebu pan ddaethant i rym. Ond hefyd, credaf fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud hefyd y bydd mwy na hanner yr holl fusnesau naill ai'n elwa neu heb eu heffeithio gan y newidiadau. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny.

Ond i ddychwelyd at y pwynt ar brentisiaethau, hoffwn atgoffa fy nghyd-Aelodau ein bod yn gwario dros £143 miliwn ar ddarparu prentisiaethau i bobl yng Nghymru, a dyna'r swm mwyaf a wariwyd gennym erioed.

Ar adfywio a chyllid yn lle cyllid strwythurol yr UE, fe wnaeth amrywiaeth anhrefnus Llywodraeth flaenorol y DU o raglenni ffyniant bro sathru ar ddatganoli. Mae gennym bellach Lywodraeth y DU sydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ar ein huchelgais cyffredin i sicrhau swyddi a thwf yng Nghymru. Rwyf hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y strategaeth ddiwydiannol i wneud y mwyaf o'n cyfleoedd i gyflymu twf economaidd ac i ddod â swyddi o ansawdd da i Gymru. Ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddatgloi cryfder ac uchelgeisiau Cymru gyda chronfa gyfoeth wladol a fydd yn gwneud buddsoddiadau ledled Cymru, fel bod ein diwydiant yn arwain y byd—

17:15

Mewn eiliad—yn arwain y byd drwy fuddsoddi mewn hydrogen glân, ynni'r llanw, a dal a storio carbon, er enghraifft.

Mae’r berthynas waith agos hon â Llywodraeth y DU yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru wedi’i hyrwyddo fel budd. Pam, felly, nad ydych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, yn aelod o'r grŵp cynghori ar dwf economaidd Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU?

Oherwydd ein bod yn Llywodraeth—nid ydym yn rhanddeiliaid—felly rydym yn gweithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth a Llywodraeth, yn hytrach na bod yn aelodau o grwpiau fel rhanddeiliaid.

I gloi, felly, ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y cynllun cyfleoedd deallusrwydd artiffisial, lle mae Cymru mewn sefyllfa dda i sicrhau cyfran fawr o biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad. Yr hyn sydd gennym nawr, fel y dywedais, yw dwy Lywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymheiriaid llywodraeth leol i ryddhau potensial Cymru ar ôl 14 mlynedd hir o esgeulustod a marweiddio o dan y Torïaid.

Mae’n bleser cloi’r ddadl hon heno. Rwyf wedi bod yn brysur yn ysgrifennu am yr awr neu ddwy ddiwethaf, a chredaf ei bod yn deg dod i’r casgliad fod Llafur wedi methu o ran yr economi, fod Llafur wedi methu ar ran gweithwyr Cymru, a bod Llafur wedi methu ym mhob un o’r adrannau hyn, y mae llawer ohonynt wedi eu datganoli i Gaerdydd dros y 25 mlynedd diwethaf.

Yn sylwadau agoriadol Samuel Kurtz, dywedodd fod diweithdra ar gynnydd bob mis, a'i fod yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, gyda chyfraddau uchel o anweithgarwch economaidd a phobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith. Dyna’r realiti sy'n wynebu pobl yma yng Nghymru.

Roedd Luke Fletcher i’w weld yn cytuno â’r hyn roedd Samuel Kurtz yn ei ddweud mewn sawl ffordd, ac roedd yr un mor feirniadol o hanes Llywodraeth Cymru yn y mater hwn. Roedd yn feirniadol o Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ar gyflogau, ond y Llywodraeth Geidwadol a gynyddodd y lwfans personol, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl. Dyna’r gwahaniaeth gyda’r Blaid Geidwadol: rydym yn trethu llai ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.

Dywedodd Tom Giffard ein bod mewn economi sy'n mynd am yn ôl o dan Lafur yng Nghymru, a thynnodd sylw at y potensial ar gyfer cyfleoedd economaidd gyda Llywodraeth Geidwadol Cymru, gydag ardrethi busnes is, a chyfleoedd lletygarwch a thwristiaeth.

Er gwaethaf y cywair negyddol rhagweladwy ar feinciau Llafur, nododd Hefin David yn gadarnhaol iawn ei uchelgais ar gyfer ehangu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau, sy’n wych ac yn rhywbeth y credaf y gall pawb ei gefnogi.

Ategwyd y sylwadau a wnaed gan yr Aelodau Ceidwadol yn dda iawn gan Peter Fox a Laura Anne Jones, yn enwedig ar bynciau STEM. Mae’n syfrdanol fod y gwariant ar ymchwil a datblygu yng Nghymru yn sylweddol is na gwledydd eraill y DU. Gallwn wneud llawer mwy o safbwynt hynny.

Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn fy sylwadau yn y ddadl flaenorol, mae gan bobl Cymru ddewis yn y 12 i 18 mis nesaf i lywio cyfeiriad dyfodol y wlad hon. A ydym am gael mwy o'r status quo ar ôl 26 mlynedd o Lafur, neu a ydym am gael plaid wrth y llyw sy'n uchelgeisiol ynghylch yr economi yng Nghymru ac sy'n gallu gweld y potensial? Dyna'r gwahaniaeth, a dyna pam fod angen i bobl bleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig yn y 12 mis nesaf. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 8, dadl Plaid Cymru, Brexit a'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8804 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd hi’n bum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31 Ionawr 2025.

2. Yn gresynu at y canlynol:

a) yn ôl prosiect Cost Economaidd Brexit, bod y ffurf Brexit caled a ddilynwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi costio hyd at £4 biliwn i economi Cymru;

b) bod Brexit wedi lleihau gwerth allforion Cymru hyd at £1.1 biliwn, a bod cytundebau masnach ôl-Brexit wedi bod yn arbennig o anffafriol i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yng Nghymru;

c) y golled bellach i Gymru o hyd at £1 biliwn mewn cyllid strwythurol a chyllid datblygu gwledig Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit;

d) y cyfleoedd i weithio, teithio, astudio a byw yn Ewrop y mae pobl yng Nghymru wedi eu colli o ganlyniad i Brexit, yn enwedig pobl ifanc;

e) bod Llywodraeth bresennol y DU wedi methu â mynd i'r afael â'r heriau a achosir gan Brexit i Gymru a'r DU yn ehangach, ac wedi nodi ei gwrthwynebiad i ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau; a

f) diddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno deddfwriaeth newydd i hwyluso aliniad ddeinamig rhwng cyfraith Cymru a'r UE;

b) datblygu a mabwysiadu strategaeth Ewropeaidd gynhwysfawr; ac

c) pwyso ar Lywodraeth y DU i geisio ailymuno â farchnad sengl ac undeb tollau'r UE.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n amlwg fod y ddadl hon wedi'i galw i nodi pen-blwydd penodol yr ydym yn ei wynebu ddydd Gwener—pum mlynedd ers i Gymru adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond rydym yma i drafod nid y gorffennol ond dyfodol Cymru. Rwy’n llwyr ddisgwyl ac yn rhagweld y bydd pobl yn mynegi safbwyntiau gwahanol mewn perthynas â Brexit, ac fe geir gwahaniaeth barn ledled y wlad. Ond mae'n bwysig ein bod yn edrych ar beth a wnawn nawr mor wrthrychol a phragmataidd â phosibl, gan fod llawer yn dibynnu ar hynny. Rwy'n credu mai breuddwyd gwrach, onid e, ymestyn hygrededd, fyddai dweud bod Brexit wedi bod yn fuddugoliaeth, y math o newid sylweddol a addawyd i ni adeg y refferendwm. Nid yw ychwaith wedi bod yn drychineb llwyr fel yr oedd rhai wedi'i ofni. Mae'r darlun go iawn yn gymysg. Mae'r broblem ym manylion y cymysgedd hwnnw.

Mae Llundain wedi colli rhai miloedd o swyddi, yn ôl y rhan fwyaf o amcangyfrifon, mewn gwasanaethau ariannol, ond mae'n parhau i fod yn ganolbwynt ariannol mwyaf Ewrop ac yn ganolfan fyd-eang. Mae cwmnïau mawr, yn enwedig y rhai yn y sector gwasanaethau, sydd wedi’u lleoli yn ne-ddwyrain Lloegr, wedi goroesi Brexit yn eithaf da ar y cyfan, yn sicr o gymharu â rhai o’r rhagfynegiadau mwyaf enbyd ar gyfer y sectorau hynny. Y rheswm am hynny yw bod gan y cwmnïau mawr hynny adnoddau i ymdopi â rheolau newydd, i osod yn erbyn costau uwch yn haws. Cwmnïau bach a chanolig eu maint mewn trefi a dinasoedd bach a chanolig a’r pentrefi a’r cymoedd o’u cwmpas sydd wedi dioddef fwyaf, am eu bod wedi'i chael hi'n anodd ymdopi â’r gwaith papur ychwanegol, â’r tarfu ar y gadwyn gyflenwi, ac maent ganddynt lai o allu ariannol i amsugno neu drosglwyddo costau ychwanegol. Ac mae'n anffodus i ni yng Nghymru, onid yw, mai'r hyn rwyf newydd ei ddisgrifio yw ein daearyddiaeth economaidd ni. A chyda llaw, mae'r hyn a ddywedais am gwmnïau bach a chanolig hefyd yn berthnasol i ffermydd bach a chanolig, yn enwedig o ran yr argyfwng y maent wedi gorfod ei wynebu.

Nid yw Brexit wedi gweithio i ni. Rwy'n credu bod rhaid inni fod yn onest ac yn wrthrychol ynglŷn â hynny. Ac rwy'n credu bod hynny wedi'i adlewyrchu yn yr amcangyfrifon o'r biliynau o bunnoedd o golledion i economi Cymru a nodwyd gennym yn ein cynnig. Gallwch ddadlau am yr union ffigurau, efallai, ond credaf ei bod yn anodd anghytuno â'r darlun cyffredinol y maent yn ei baentio. Y broblem yw hyn: yn y byd rydym yn byw ynddo nawr, mae'n debygol o waethygu. Mewn byd lle mae tariffau, rhyfeloedd rhanbarthol, a newid hinsawdd yn tarfu ar fasnach fyd-eang, a chadwyni cyflenwi'n mynd yn fyrrach, mae agosrwydd yn bwysig. Ac felly y farchnad Ewropeaidd yw'r siocleddfwr i ni mewn byd cynyddol ansicr.

Os mai dyna'r dadansoddiad, beth yw strategaeth Ewropeaidd Cymru? Wel, y broblem yw hyn: nid oes unrhyw un yn gwybod. Nid ydym ni'n gwybod, nid yw'r DU yn gwybod, nid yw Ewrop yn gwybod. Dyna a ddywedodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yn y bôn, yn ei adroddiad ar lywodraethiant y DU a'r UE. Nid oes gennym strategaeth ar hyn o bryd. Efallai y byddai rhai pobl yn crynhoi ein strategaeth Ewropeaidd mewn dau air: Derek Vaughan. Mae’n haeddu gair o ganmoliaeth yn y gwelliant, ac mae’n effeithiol iawn yn ei rôl. Ond ni allwch adeiladu strategaeth ryngwladol o amgylch un unigolyn, ni waeth pa mor gyfareddol ydynt na pha mor dda yw eu rhwydwaith, oni bai efallai am Benjamin Franklin ym Mharis. Mae angen strategaeth arnom, ac nid oes gennym un ar hyn o bryd, ac mae hon yn genhadaeth hanfodol ar gyfer dyfodol ein heconomi.

Mae’n rhaid mai llinell gyntaf unrhyw strategaeth yw’r nod, ac i ni, mae’n amlwg beth ddylai’r nod hwnnw fod yn y tymor agos: ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau. Er mwyn cyflawni'r nod hwnnw, dylai fod dwy elfen fras i’r strategaeth, y gwleidyddol a’r ymarferol, os mynnwch; yr hyn a ddywedwn a'r hyn a wnawn. O ran y gwleidyddol, y peth mwyaf pwerus y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw dweud yn syml ac yn ddiamwys ein bod o blaid aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau. Mae Llywodraeth yr Alban yn dweud hynny; mae maer Llundain wedi dweud hynny i bob pwrpas—mae wedi dweud na ddylem ofni ailymuno â'r farchnad sengl. Mae cael mwy o leisiau ar yr ynysoedd hyn yn dweud hynny mewn perthynas â’r farchnad sengl yn dadrisgio'r syniad i Lywodraeth San Steffan sydd, ar hyn o bryd, yn cael ei phlagio gan hen ysbrydion Brexit y dyddiau a fu.

Nid breuddwyd gwrach sydd gennyf innau, ychwaith. Ni chredaf fod Keir Starmer yn mynd i gael ei hudo i ymuno â’r farchnad sengl yfory. Ond wrth inni fynegi safbwynt mwy radical yma, bydd yn cyflymu’r broses iddynt hwy o gymryd y camau canolraddol sydd o fudd i ni: cytundeb symudedd i bobl ifanc, cytundeb milfeddygol, cytundeb cymwysterau, aliniad deinamig ar nwyddau, a chytundeb masnach ar reolau tarddiad fel rhan o'r confensiwn pan-Ewro-Môr y Canoldir. Ni fydd Cytuniad Rhufain yn cael ei ailadeiladu mewn diwrnod, ond fe allwn ailadeiladu pontydd yn gynt os ydym ni yng Nghymru yn dod o hyd i'n llais. Os mai dyna rydym yn ei ddweud, beth ddylem ei wneud? Wel, os ydym o ddifrif ynglŷn â gwneud Cymru'n rhan annatod o Ewrop, gadewch inni ddangos hynny drwy ymrwymo i gynnal safonau gofynnol Ewropeaidd yn y meysydd o'r gyfraith rydym yn gyfrifol amdanynt, a chadw i fyny â chyfraith Ewropeaidd newydd yn y meysydd hynny. Mae Gogledd Iwerddon yn gwneud hynny’n awtomatig drwy fframwaith Windsor. Mae’r Alban yn ei wneud yn wirfoddol drwy ei Deddf parhad, syniad y gwnaethant ei fabwysiadu gennym ni cyn i ni ei ddiddymu. Gallem basio Deddf alinio Ewropeaidd newydd i roi llwybr i Weinidogion Cymru—yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd—alinio â chyfraith newydd yr UE drwy is-ddeddfwriaeth lle mae hynny er budd Cymru.

Byddai tair mantais i bolisi alinio: byddai'n golygu ein bod yn cadw i fyny â safonau uchaf y byd mewn meysydd fel diogelu'r amgylchedd; byddai’n helpu busnesau Cymru yn uniongyrchol i gael mynediad mor ddi-dor â phosibl at farchnadoedd Ewropeaidd mewn meysydd rheoleiddio cynnyrch lle mae gennym gymhwysedd; a byddai’n anfon neges gadarnhaol o blaid Ewrop, a fydd yn ein helpu i farchnata Cymru i fuddsoddwyr, cwsmeriaid a phartneriaid yn Ewrop. Fel rhan o strategaeth ehangach gallwn edrych ar gamau gweithredu eraill hefyd. Gallwn adeiladu ar brofiad rhagorol rhaglen Taith, ei hehangu i feysydd eraill o ran maint a chwmpas. Gallem adolygu ein presenoldeb ar lawr gwlad, sy'n llawer pwysicach nawr na phan oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd. Ugain mlynedd yn ôl, roedd gan Gymru swyddfa yn yr Eidal, marchnad bwysig i ni o hyd, drwy Awdurdod Datblygu Cymru, ac efallai fod gennym rywbeth i’w ddweud am hynny hefyd mewn dadleuon eraill. Mae angen inni edrych ar ein presenoldeb ar lawr gwlad gan fod arnom angen pobl yno, yn gwerthu Cymru mor effeithiol â phosibl. Dylem geisio gweithio gyda phartneriaid ledled Ewrop, ond yn enwedig ein cymydog Ewropeaidd agosaf, Iwerddon, cydweithio gydag Iwerddon—gogledd a de—a’r Alban fel gwledydd sy’n agored i Ewrop, os mynnwch, gan anfon neges glir ein bod yn gweld Cymru fel rhan annatod o Ewrop.

Mewn byd sy’n newid, ac mae’n fyd ansicr, nid yw sefyll yn llonydd yn opsiwn. Nid yw'r status quo yn opsiwn. Mae angen inni ailosod, ond credaf ei bod yn well meddwl am ailosod fel berf weithredol yn hytrach nag enw haniaethol. Gadewch inni arwain y ffordd, ac yn y modd hwnnw, rwy'n gobeithio y bydd San Steffan yn dilyn.

17:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:25

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Darren Millar i gynnig gwelliant 1.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.

2. Yn credu y dylid parchu a gweithredu canlyniad refferenda.

3. Yn nodi ymhellach y bydd 31 Ionawr 2025 yn nodi pum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant ar y papur trefn yn enw Paul Davies. A gaf i ddechrau drwy ddweud bod y dydd Gwener hwn, i mi, yn ddathliad o ddemocratiaeth? Oherwydd wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU anrhydeddu dymuniadau pobl Prydain a bleidleisiodd mewn refferendwm hanesyddol i adael yr Undeb Ewropeaidd. Arweiniodd at ddychwelyd pwerau enfawr i’r Deyrnas Unedig a phwerau ychwanegol yma ym Mae Caerdydd yn ein Senedd. Pleidleisiodd pobl dros adael er gwaethaf y codi bwganod, ac a dweud y gwir, y celwyddau noeth am yr hyn a fyddai'n digwydd pe baem yn gadael. Dywedwyd wrthym—[Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn eiliad. Dywedwyd wrthym y byddai Brexit yn arwain at ddiweithdra cynyddol, cwymp ym mhrisiau tai a phrinder o bob nwydd y gellir ei ddychmygu, o ffrwythau a llysiau ffres i Viagra. Ond beth a ddigwyddodd? Wel, roedd y proffwydi gwae'n gwbl anghywir.

A fyddech chi'n cytuno na wnaeth unrhyw un yn yr ymgyrch dros adael, ar unrhyw adeg, ddadlau dros adael y farchnad sengl a’r undeb tollau? A dweud y gwir, dywedodd nifer o aelodau amlwg o’r ymgyrch honno na fyddem byth yn gorfod gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau. Felly, does bosibl na fyddech chi eisiau cefnogi ein cynnig.

Dywedais yn glir fy mod am adael y farchnad sengl, a dywedwyd gan wrthwynebwyr Brexit, pe baech chi'n gwneud hynny, y byddech chi'n gadael y farchnad sengl. Felly, nid wyf yn siŵr am beth rydych chi'n sôn. Rwy’n rhyfeddu bod gan Blaid Cymru wyneb i gynnal y ddadl hon heddiw, oherwydd wrth wneud hynny, maent wedi ein hatgoffa ynghylch y gwrthddywediad sy'n ganolog i'w meddylfryd gwleidyddol eu hunain. Maent yn honni eu bod am dorri’n rhydd o’r undeb mwyaf llwyddiannus a welodd y byd erioed, sef undeb Teyrnas Unedig Prydain a Gogledd Iwerddon. Mae’r DU yn undeb sy’n rhoi diogelwch cenedlaethol a sicrwydd economaidd i Gymru. Cawn ein hamddiffyn gan un o'r lluoedd arfog gorau yn y byd ac rydym yn rhan o'r chweched economi fwyaf yn y byd.

17:30

Eto i gyd, rydych chi am ddatgymalu'r undeb llwyddiannus sy'n gweithio i Gymru ac sydd wedi gweithio ers canrifoedd lawer i Gymru, ac nid i gyflawni Cymru annibynnol, fel rydych chi'n aml yn ei honni—fe dderbyniaf eich ymyriad mewn eiliad—ond i glymu Cymru yn lle hynny at undeb llawer mwy cyfyngol, yr Undeb Ewropeaidd, gyda'i fiwrocratiaeth hurt a chwyddedig yn faich ar drethdalwyr Cymru a Phrydain a diffyg democratiaeth ac atebolrwydd uniongyrchol y rhai sy'n gwneud penderfyniadau o'i fewn. Fe ildiaf.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Disgrifiwch i mi sut y mae'r marweiddio economaidd y mae Cymru wedi bod yn ei ddioddef fel rhan o'r Deyrnas Unedig neu'r tlodi plant dwfn sydd gennym yng Nghymru fel rhan o'r Deyrnas Unedig yn gwneud hwn yn undeb llwyddiannus i ni. A chofiwch, wrth gwrs, mai Brexit yw'r gwrthwyneb i geisio annibyniaeth Cymru a bod Brexit yn golygu troi ein cefnau ar y byd, pan fo ceisio annibyniaeth i Gymru yn golygu bod eisiau cymryd ein lle yn y byd—y gwrthwyneb yn llwyr.

Edrychwch, rwyf i o blaid Ewrop, ond nid wyf o blaid yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid imi ddweud eich bod wedi nodi dau fethiant—y methiant economaidd a welsom yng Nghymru a'r cynnydd ar dlodi plant nad ydym wedi'i wneud yng Nghymru. Methiannau'r Llywodraeth Lafur Cymru flinedig hon ydynt, a'r glymblaid yr oedd eich plaid chi'n rhan ohoni am nifer o flynyddoedd, yn cynnal y Llywodraeth hon cyhyd.

Nawr, mae yna wirionedd anghyfleus yr hoffai Plaid Cymru a Llafur i ni ei anwybyddu, sef hwn: siaradodd pobl Cymru yn glir iawn ar y mater hwn. Fe wnaethant bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd Plaid Cymru, y 'party of Wales' fel y'i gelwir, eisiau anwybyddu eu lleisiau. Fe wnaethoch chi bopeth yn eich gallu fel plaid i rwystro penderfyniad pobl Cymru, ac fe wnaethoch chi eu hanwybyddu. Rydych chi'n honni eich bod chi'n blaid i bobl Cymru ac nid yw hynny'n wir. Nid ydych yn ei hoffi, ond mae'n wirionedd anghyfleus mai dyna yw'r ffaith amdani.

Nawr, Lywydd, daeth manteision Brexit i'r amlwg bron yn syth. Gadewch inni gymryd un ohonynt. Roedd yn weladwy iawn ar y dechrau un, ychydig ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd: cyflwyno brechlyn COVID-19. Nawr, fe wnaeth pobl yma yng Nghymru ac ar draws y DU elwa o raglen ddarparu brechlynnau yn gyflymach nag unrhyw ran arall o'r byd, ac fe wnaeth cyflwyno'r brechlyn yn gyflymach yn y ffordd honno achub miloedd o fywydau yma yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU. Yr unig reswm pam fod hynny'n bosibl, Lywydd oedd am ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, a sut yr ymatebodd yr UE? Sut yr ymatebodd yr UE? Fe wnaethant geisio ein hatal rhag cael y brechlynnau yr oeddem wedi'u harchebu o'r Iseldiroedd ar gyfer y farchnad Brydeinig. Nawr, dychmygwch hynny. Roedd yr Undeb Ewropeaidd a'i gefnogwyr yn barod i beryglu bywydau yma yng Nghymru am na allent stumogi'r ffaith ein bod ni'n achub bywydau'n gynt nag a wnaent hwy. Diolch i Dduw fod gennym Brif Weinidog yn y DU a safodd yn gadarn, a gafodd y brechlynnau hynny, a achubodd fywydau a'n bod wedi dangos gwerth sefyll ar ein traed ein hunain.

Clywsom yr wythnos hon hefyd am y ffaith bod gennym borthladd rhydd newydd yn gweithredu ar Ynys Môn, yn etholaeth arweinydd Plaid Cymru ei hun. Miloedd o swyddi, biliynau o fuddsoddiad yn dod i mewn i Gymru o ganlyniad i'r porthladdoedd rhydd, na fyddai wedi bod yn bosibl pe baem yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.

Felly, wrth gloi, rwyf am ddweud hyn: budd mwyaf Brexit yw adfer democratiaeth i'r Deyrnas Unedig. Am ddegawdau, dangosodd yr UE ddirmyg tuag at ewyllys ddemocrataidd ei aelod-wladwriaethau. Yn 1992 pleidleisiodd y Daniaid yn erbyn cytundeb Maastricht, dywedwyd wrthynt am bleidleisio eto. Yn 2001 pleidleisiodd y Gwyddelod yn erbyn cytundeb Nice, dywedwyd wrthynt am bleidleisio eto. Yn 2008 fe bleidleisiodd y Gwyddelod yn erbyn cytundeb Lisbon, ac unwaith eto dywedwyd wrthynt am bleidleisio eto. Yn 2005 pleidleisiodd Ffrainc a'r Iseldiroedd yn erbyn cyfansoddiad yr UE, ni roddwyd cyfle iddynt bleidleisio eto, cafodd ei ailbecynnu fel cytundeb Lisbon a'i orfodi gan eu Llywodraethau cenedlaethol. Y DU oedd y wlad gyntaf i gynnal refferendwm ar yr UE ac i barchu'r canlyniad. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n falch ohono, ac rwy'n cefnogi pobl Cymru yn eu penderfyniad i adael.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodaeth newydd y DU ac yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd.

3. Yn nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc.

4. Yn edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

17:35

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser siarad yn y ddadl hon heddiw. Os gofynnwch i unrhyw un ar y stryd sut y maent wedi elwa o Brexit, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi'n anodd iawn ateb, ac mae arolygon barn yn cadarnhau hyn. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau wedi gweld arolwg YouGov a gyhoeddwyd heddiw: dywed 55 y cant o Brydeinwyr mai camgymeriad oedd gadael yr UE a chafwyd y gyfran isaf ers y refferendwm yn dweud mai gadael oedd y penderfyniad cywir—

Newydd ddechrau wyf i. Dangosodd arolwg atchweliad ôl-haeniad aml-lefel gan YouGov yr wythnos diwethaf fod mwy o bobl ym mhob etholaeth yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn cefnogi trefniant agosach gyda'r UE na chyda'r Unol Daleithiau. Wrth gwrs, fel y dywedwyd heddiw, rwy'n derbyn yn llwyr fod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr UE ac mae hynny wedi pennu'r ffordd y bu'n rhaid inni ymateb i bolisi ers hynny. Ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod barn y cyhoedd wedi newid, ac rwy'n gweld hynny yn fy ngwaith dyddiol yn yr etholaeth; rwy'n credu nad yw pobl yn credu mwyach ei bod yn beth da ein bod wedi gadael yr UE. Ac rwy'n falch fod Llywodraeth y DU yn bwriadu ailosod ei pherthynas â'r UE. Hynny yw, yn y pen draw, rwy'n gobeithio y byddwn yn ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ond rwy'n credu y bydd yn cymryd amser, o gofio ein bod wedi cael pleidlais ddemocrataidd dros adael yr UE.

Rwyf am ddweud ychydig eiriau am yr effaith y mae Brexit wedi'i chael ar bobl ifanc a cholli cyfleoedd iddynt, a chymaint yn anos yw hi i bobl ifanc gael y cyfleoedd y mae llawer ohonom ni wedi eu cael i fyw, gweithio a theithio'n rhydd yn yr UE. Yn sicr, ar ôl cyhoeddi canlyniad Brexit, cefais gymaint o bobl ifanc yn dod ataf yn fy etholaeth i ddweud pa mor chwerw y teimlent eu bod wedi colli'r holl gyfleoedd hyn, ac ar y pryd, nid oedd gennym bleidlais i bobl ifanc 16 neu 17 oed ac ni chawsant bleidleisio yn y refferendwm hwnnw, ac roeddent yn teimlo bod pobl hŷn wedi cau'r drws ar eu dyfodol. Ac rwy'n awyddus iawn inni wneud cymaint ag y gallwn i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cymaint o gyfleoedd ag y gallant.

Ac rwy'n falch iawn fod Adam Price wedi sôn am raglen Taith. Rwy'n credu ei bod yn wych fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £65 miliwn yn y rhaglen Taith ac wedi ei hehangu y tu hwnt i'r UE. Rwy'n credu ei fod yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw ein cysylltiadau rhyngwladol yn Ewrop ac ar draws y byd. Ac wrth gwrs, rydym am i'n pobl ifanc fod yn rhyngwladolwyr; rydym am iddynt gael cymaint o brofiadau a chymaint o brofiadau eang â phosibl.

Mae un o fy etholwyr yn rhedeg sefydliad, Schools into Europe, ac rwy'n siŵr y gallwch ddychmygu'r heriau anodd, logistaidd y mae wedi'u cael ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac mae yna lawer o bethau sy'n codi drwy'r amser sy'n ei gwneud hi'n fwyfwy anodd i bobl ifanc fynd i Ewrop. Er enghraifft, mae'r Swyddfa Gartref yn mynd ar drywydd polisi un ddogfen y teithiwr, a bydd rhan ohoni'n golygu tynnu'r pasbort cyfunol yn ôl. Mae hyn yn rhywbeth y penderfynwyd arno gan y Llywodraeth flaenorol yn y DU, Llywodraeth Geidwadol, yn 2022. Ac ar hyn o bryd, gall grŵp ysgol deithio i aelod-wladwriaethau heb i aelodau unigol o'r parti orfod cael eu pasbortau eu hunain, sy'n gwneud y gwahaniaeth mewn ardaloedd difreintiedig rhwng bod ysgolion yn gallu neu'n methu teithio dramor, gan fod pasbort cyfunol yn costio £39 ar gyfer y grŵp cyfan, tra bo pasbortau unigol i blant yn costio £57.50. Ac felly, er gwaethaf lobïo mynych, mae'r Swyddfa Gartref yn parhau i ddilyn y polisi hwn, gan nodi diogelwch ffiniau. Felly, tybed a allai'r Gweinidog, pan fydd hi'n gwneud ei chyfraniad, neu Ysgrifennydd y Cabinet, ddweud a oes unrhyw drafodaethau gyda'r Swyddfa Gartref i ofyn am beidio â chyflwyno'r penderfyniad hwn a wnaed yn ystod y Llywodraeth flaenorol.

Yn ail, cyn Brexit, roedd y rhestr teithwyr yn galluogi unrhyw ddisgybl mewn sefydliad addysg ym Mhrydain i deithio i'r UE heb fod angen gwneud cais am fisa, ac mae hynny bellach wedi newid. Yr enghreifftiau eraill o anawsterau sy'n codi yw bod dau gynllun ar y ffordd sy'n mynd i effeithio'n radical ar deithio i Ewrop: y system mynediad/ymadael, EES, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i blant ysgol gael sganiau biometrig yn y porthladd, ac y dywedodd Porthladd Dover y bydd yn bendant yn achosi oedi eithafol, penderfyniad y Llywodraeth flaenorol eto; ac yna ETIAS, y system Ewropeaidd ar gyfer gwybodaeth am deithio ac awdurdodi teithio, lle bydd yn ofynnol i deithwyr gael caniatâd ymlaen llaw i deithio cyn teithio i ardal Schengen. Mae'r ddau beth ar eu ffordd; maent yn mynd i'w gwneud hi'n anos byth i blant deithio, ac rwy'n apelio arnom i wneud popeth yn ein gallu, fel Llywodraeth yma yng Nghymru, gan weithio gyda'r Swyddfa Gartref, i geisio cael gwared ar y cyfyngiadau hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i Brexit, a cheisio agor mwy o gyfleoedd i'n pobl ifanc fel nad ydym yn bod yn fewnblyg yng Nghymru, ond ein bod yn gallu gweithredu ar raddfa ryngwladol.

17:40

Fel y mae Adam eisoes wedi'i nodi, ni allwch ddadlau'n gredadwy fod Brexit wedi bod yn llwyddiant, ni waeth pa mor galed y mae arweinydd y Ceidwadwyr yn ceisio gwneud hynny. Nid oedd angen i Brexit olygu gadael y farchnad sengl na'r undeb tollau. Mae Delyth yn iawn: drwy gydol ymgyrch Brexit, roedd nifer o bobl amlwg a ddadleuai dros adael yn argymell aros o fewn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Fe gofiwch am fodel Norwy a oedd yn rhywbeth a gafodd ei grybwyll gymaint o weithiau mewn dadleuon teledu ac mewn erthyglau ym mhobman. Lle mae hwnnw nawr? Mae wedi ei anghofio'n llwyr.

Bron 10 mlynedd wedi'r refferendwm, a phum mlynedd wedi i'r addewidion gael eu torri, dyma ni, £4 biliwn yn dlotach fel cenedl nag y dylem fod—nawr, mae yna un ffigur nas gwelsom ar ochr y bws Brexit. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan Cambridge Econometrics ar gyfer Awdurdod Llundain Fwyaf, roedd gwerth ychwanegol gros yn y DU gyfan yn 2023 oddeutu £140 biliwn yn llai nag y byddai wedi bod pe na bai'r DU wedi dewis gadael marchnad sengl ac undeb tollau'r UE. Yma yng Nghymru, mae gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau wedi dinistrio diwydiannau cyfan, gan eu dileu dros nos bron iawn. Mae sector pysgod cregyn Cymru, er enghraifft, wedi cael ergyd drom gan Brexit. Gwelwyd gostyngiad o 82 y cant yng ngwerth y sector pysgod asgellog a physgod cregyn a ffermir rhwng 2019 a 2021, a gostyngiad syfrdanol o 93 y cant yng nghyfanswm y tunelledd a gynhyrchwyd.

Mae gweithgynhyrchwyr a gwasanaethau yng Nghymru i gyd wedi dioddef o ganlyniad i'r Brexit penodol a negodwyd. Yn ogystal â'r £1.1 biliwn y mae wedi'i gostio iddynt hwy ac i ni mewn allforion, mae gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau hefyd wedi ein gadael â bil am osod swyddi rheoli ffiniau yn ein porthladdoedd—seilwaith nad oedd mo'i angen arnom. Dyma ni'n dod at addewid arall a dorrwyd: 'yr un geiniog yn llai'. Addawyd y byddai cronfa ffyniant gyffredin y DU yn cymryd lle'r cyllid, bunt am bunt, a oedd yn llifo'n flaenorol i Gymru drwy gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a chronfa gymdeithasol Ewrop. Ni wnaeth hynny, a nawr nid ydym ronyn yn gallach pryd a beth i'w ddisgwyl yn eu lle. Y gwir amdani yw bod Cymru £1 biliwn ar ei cholled yn sgil colli'r cronfeydd strwythurol, a bellach mae dyfodol cyllid datblygu rhanbarthol yn ddarostyngedig i fympwyon newidiol San Steffan, yn hytrach na'r meini prawf blaenorol a oedd yn seiliedig ar anghenion.

Nawr, er mai dyma yw'r sefyllfa, mae gennym astudiaeth achos o'r ffordd nad oes rhaid iddi fod fel hyn ar ffurf Gogledd Iwerddon. Mae Gogledd Iwerddon yn parhau'n weithredol yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, a dyma'r unig ran o'r DU lle nad yw prosiect costau Brexit wedi dod o hyd i effaith Brexit negyddol ar allbwn economaidd. Canfu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fod mynediad ffafriol Gogledd Iwerddon i farchnad yr UE wedi dod â manteision economaidd sylweddol. Felly, mae'r achos dros ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau yno i'w weld yn enghraifft Gogledd Iwerddon, ac mae'n bryd inni dderbyn y realiti economaidd mwyaf sylfaenol hwn.

Roeddwn i'n darllen yn The Times yn gynharach heddiw fod Ffederasiwn Syrffio Ewrop yn symud eu pencadlys o Gernyw i Ffrainc. Mewn sawl ffordd, mae'n crynhoi trychineb Brexit, onid yw? Mae'n benderfyniad sy'n cael ei yrru gan fusnes, gan bobl, gan ddiwylliant a chan realiti. Felly, pan fyddwn ni'n siarad am Brexit, yr hyn y soniwn amdano yw rhywbeth sydd wedi crebachu Prydain, sydd wedi crebachu'r Deyrnas Unedig. Mae wedi ein gwthio i'r cyrion mewn busnes, mae wedi ein gwthio i'r cyrion mewn diplomyddiaeth ac mae wedi ein gwthio i'r cyrion mewn diwylliant. Nid oes unrhyw agwedd ar fywyd Prydain sy'n well o ganlyniad i Brexit na phe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. [Torri ar draws.] Rwy'n cael fy heclo gan ddinesydd Ewropeaidd, wrth gwrs, oherwydd mae'r arweinydd—[Torri ar draws.] Fe ildiaf. Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, yn credu bod Brexit cystal fel ei fod wedi cadw ei ddinasyddiaeth Ewropeaidd.

17:45

Rwy'n falch o fod yn ddinesydd Gwyddelig, yn ogystal â dinesydd Prydeinig, ac rwy'n falch o fod yn Gymro hefyd. Fe nodoch chi nad oes unrhyw fudd wedi dod. Onid ydych chi'n derbyn bod pobl yn fyw yng Nghymru heddiw—gan gynnwys yn eich etholaeth chi, lle gwelwyd canran uwch na gweddill Cymru i gyd yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda llaw—a ydych chi'n derbyn bod yna bobl yn fyw heddiw oherwydd bod y brechlyn wedi ei gyflwyno a'i ddarparu'n gyflymach yma yng Nghymru nag a fyddai wedi bod yn bosibl pe baem ni'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd?

A dyna ni, welwch chi—. Dyna chi—. Mae'r dinesydd Ewropeaidd yn ein plith yn dweud celwydd pur, oherwydd—. Mae'n gelwydd pur, ac rydych chi'n gwybod ei fod—ac rydych chi'n gwybod hynny. Ni fyddwn yn defnyddio'r gair fel arall. Oherwydd roedd y strwythurau Ewropeaidd a'r fframweithiau Ewropeaidd, fframweithiau'r UE, ar waith trwy gydol y broses gaffael honno, ac mae hynny'n ffaith. Ac wrth gwrs, nid yn Lloegr o dan y Ceidwadwyr y digwyddodd y broses o gyflwyno'r brechlyn gyflymaf mewn gwirionedd, ond yng Nghymru o dan Lywodraeth Lafur Cymru. Felly, mae angen i chi gofio eich ffeithiau i gyd.

Un o agweddau mwy lleihaol Brexit—un o agweddau mwy lleihaol Brexit—yw'r modd y mae wedi lleihau ein hallbwn diwylliannol. Fe glywsom ni, a'r pwyllgor diwylliant—ac ni wnaeth y Ceidwadwyr herio hyn ar y pryd, yn ystod y pwyllgor hwnnw—am y ffordd nad yw cerddorion Prydeinig a pherfformwyr diwylliannol Prydeinig yn gallu teithio yn Ewrop yn y ffordd y gallent ei wneud o'r blaen. Felly, mae Prydain yn cael ei lleihau—mae ein hallbwn diwylliannol, pwy ydym ni fel pobl, wedi lleihau. Rwy'n ildio.

Diolch, Alun. A fyddech chi'n cytuno â mi fod cymaint o ffyrdd y gallwn fesur y niwed trychinebus a wnaed yn economaidd i ni o ganlyniad i Brexit, ond dyna—yn union yr hyn rydych chi newydd fod yn sôn amdano—yw un o'r ffyrdd na allwn fesur y niwed mewn gwirionedd? Oherwydd gan fod rhaid i artistiaid fynd trwy wahanol ofynion fisa ar gyfer pob un o'r 27 aelod-wladwriaeth bellach, mae'n golygu mai dim ond artistiaid sefydledig sy'n gallu mynd ar deithiau Ewropeaidd. Felly, nid ydym byth yn clywed y lleisiau newydd. Mae hynny'n rhywbeth na allwch ei fesur. Ni chawn glywed y dalent honno'n dod i'r amlwg.

Ac rydym wedi ei golli o ganlyniad. A phan fydd y pwyllgor yn dechrau gweithio ar yr adolygiad o'r cytundeb masnach a chydweithredu, byddwn hefyd yn clywed bod yr holl ymatebwyr—yr holl ymatebwyr—i'r adroddiad ymgynghori yn nodi cynnydd mewn biwrocratiaeth, costau, amser a tharfu ar gadwyni cyflenwi. Soniodd 90 y cant o fusnesau yng Nghymru am heriau ychwanegol a mwy, ac mae'r Ceidwadwyr yn ystyried hyn yn fuddugoliaeth i ddiplomyddiaeth a buddugoliaeth i ddemocratiaeth. Fe wnaf ildio, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywydd yn hael gyda mi am wneud hynny.

Hoffwn ofyn i'r Aelod: onid yw'n syndod i chi fod cymaint o brif gefnogwyr Brexit bellach yn meddu ar basbortau Ewropeaidd?

Na, nid yw'n fy synnu o gwbl, oherwydd mae rhagrith yn nodwedd greiddiol ymhlith y Ceidwadwyr. Maent yn addoli Winston Churchill, wrth gwrs, a'i waddol rhyngwladol ef yw'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Nawr, fe gydnabu, yn y blynyddoedd ar ôl yr Holocost, er mwyn atal hynny rhag digwydd eto, fod rhaid ichi wneud mwy na chyfraith yn unig, roedd yn rhaid ichi wneud hawliau dynol yn rhan o'r diwylliant a'r gymdeithas ar draws ein cyfandir cyfan, ac maent yn lleihau hynny. Ac wrth gwrs, un arall o'u harwyr yw Margaret Thatcher. Nawr, rwy'n cofio Margaret Thatcher yn ymladd yn ffyrnig dros y farchnad sengl nad ydynt am fod yn rhan ohoni mwyach. Felly, maent yn lleihau eu treftadaeth eu hunain trwy wneud hynny. Ond Lywydd, mae'n rhaid imi wneud cynnydd a siarad am y dyfodol.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Plaid Cymru yn ei ddweud yn eu cynnig y prynhawn yma, ac rwy'n siomedig ynghylch llawer o'r hyn a ddaeth allan o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain. Credaf y dylem fod yn dadlau'r achos dros ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n credu, yn ein gwleidyddiaeth, y dylem bob amser fod yn onest â phobl. Rhaid inni fod yn onest â phobl bob amser. Nid yw'r Ceidwadwyr wedi bod yn onest y prynhawn yma, ac rwy'n meddwl bod yna sawl adeg pan glywaf Weinidogion y DU heddiw yn methu bod yn onest â phobl. Gwnaeth Canghellor y Trysorlys araith ar dwf y bore yma. Byddai'n well iddi gydnabod y byddai aelodaeth o'r farchnad sengl yn gwneud mwy i sicrhau twf yn economi'r DU nag unrhyw nifer o redfeydd y dymuna eu hadeiladu, ac y byddai twf yn cael ei rannu'n fwy cyfartal ledled y Deyrnas Unedig mewn lleoedd fel Cymru hefyd. Oherwydd mae Cymru wedi dioddef o ganlyniad i Brexit, ac rwyf am i Lywodraeth y DU gydnabod hynny, dweud hynny, a bod yn onest â phobl Cymru a'r Deyrnas Unedig, a bod yn gwbl glir fod yn rhaid i'n dyfodol economaidd a chenedlaethol olygu mai Ewropeaid ydym ni, ac nid mynd ar drywydd rhyw fath o Rwritania ffantasïol. Ac rwy'n gobeithio, Lywydd, y bydd rôl a chydnabyddiaeth briodol i'r Senedd hon a'r Llywodraeth a etholir gan bobl Cymru yn y dyfodol. Roedd gennym hynny cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, fel mae'n digwydd. Roeddwn i, y Llywydd ac eraill yn mynychu cyfarfodydd cynghorau Ewropeaidd i gynrychioli Cymru. Y dyddiau hyn, nid ydym hyd yn oed yn cael dadlau na thrafod pethau fel y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n cymryd lle cyllid Ewropeaidd mae'n debyg, ond bod £1 biliwn yn llai o gyllid i gymunedau yng Nghymru.

Rwyf am orffen gyda hyn, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi. Mae angen i ni, fel Senedd ac fel gwleidyddion, fod yn onest â phobl a siarad yn glir am yr hyn rydym am ei weld. Mae Brexit wedi gwneud Cymru'n llai. Mae wedi niweidio Cymru. I'r rhai ohonom sy'n credu yng Nghymru ac sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig, mae angen inni ddweud yn glir iawn: byddwn yn ymgyrchu, byddwn yn dadlau, dros ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd a chymryd ein lle nid yn unig yng nghynghorau Ewrop, ond yng nghynghorau'r byd.

17:50

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau gyda'r pwynt y gwnaethoch chi orffen ag ef, Alun Davies, ynglŷn â gonestrwydd, oherwydd dyna'r un peth a oedd yn brin gan y rhai a oedd yn dadlau dros Brexit, ac mae'n bwysig, oherwydd fe wnaeth niweidio gwleidyddion. Mae wedi niweidio ymddiriedaeth mewn sefydliadau fel y Senedd, ac mae'n rhaid inni ystyried hynny. Ac mae yna ragrith, pan fo gennych basbort Ewropeaidd, i fod—

A gaf i—? Hoffwn nodi hyn yn glir, os caf wneud ymyriad. Rwy'n ddinesydd Gwyddelig. Mae fy mam yn Wyddeles. Mae tri o fy neiniau a theidiau'n Wyddelod. Rwy'n gwybod ei bod yn ymddangos fel pe baech chi eisiau gwahaniaethu yn fy erbyn ar sail fy ninasyddiaeth Wyddelig, ond rwyf wedi meddu ar basbort Gwyddelig ers degawdau, ymhell cyn refferendwm Brexit, ac rwy'n teimlo sarhad, a dweud y gwir, fod rhywrai'n dweud wrthyf am ildio fy ninasyddiaeth o wlad rwy'n falch o fod yn ddinesydd ohoni.

Nid oes unrhyw wahaniaethu, ond pan soniaf am fod yn Gymraes Ewropeaidd falch—[Torri ar draws.] Pan siaradaf am fod yn Gymraes Ewropeaidd falch, mae hynny—

Rydych chi wedi gwneud eich pwynt yn glir, a diolch ichi am ein galluogi ni i gyd i ddeall eich sefyllfa, Darren Millar. Mae hynny'n ddefnyddiol.

Heledd Fychan i gario ymlaen.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhagrithiol braidd a chithau'n mwynhau holl fuddion dinasyddiaeth yr UE, ond ein bod ni wedi ein hamddifadu ohonynt, a'n bod yn gweld effaith hynny ar bobl yn ein cymunedau. Ac mae pobl Cymru wedi cael dweud eu barn ar y cytundeb Brexit a gafodd ei negodi gan y Ceidwadwyr. Fe wnaethant bleidleisio dros beidio â chael unrhyw Geidwadwyr o Gymru i'w cynrychioli yn Senedd y DU. Felly beth am ystyried hynny a gwrando ar ein cymunedau? Oherwydd mae'n amlwg iawn nad yw Brexit wedi bod o fudd i'n cymunedau, ac os ydym am i bobl ymddiried ynom fel gwleidyddion, mae angen inni feddwl pryd y gwneir penderfyniadau gwael oherwydd camwybodaeth, a bod celwyddau wedi'u dweud. Dywedwyd celwyddau'n barhaus yn ystod yr ymgyrch honno.

Felly, rydym am ganolbwyntio ar y ffeithiau. Yn ôl dadansoddiad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, roedd Brexit yn gyfrifol am ostyngiad o 2 y cant i 3 y cant mewn termau real yng nghynnyrch domestig gros y DU yn ystod y tair blynedd gyntaf ar ôl y cyfnod pontio, sy'n gyfystyr â cholled o £850 y pen. Mae'r effeithiau negyddol yn debygol o gynyddu yn y blynyddoedd i ddod, gydag ergyd mewn termau real o 5 y cant i 6 y cant. Mae'r Ganolfan Diwygio Ewropeaidd yn amcangyfrif mai Brexit oedd yn gyfrifol am ddiffyg o £40 biliwn mewn refeniw treth yn ystod 2020-21 yn unig, ac yn seiliedig ar ei chyfran o'r boblogaeth, dyna werth £2 biliwn o gyllid posibl i Gymru wedi'i golli mewn un flwyddyn.

Nawr, arferai cefnogwyr Brexit ddadlau y gallai'r arbedion canlyniadol o beidio â gorfod cyfrannu at gyllideb yr UE gael eu hailfuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Soniodd Luke Fletcher am y bws enwog, ond fel y casglodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Mawrth 2024, mae'r arbedion hyn eisoes wedi'u hymgorffori'n llwyr yn llinellau gwariant adrannol Llywodraeth y DU. Felly, beth bynnag yw union gyfanswm yr arbedion, nid ydynt wedi dod yn agos at ddatrys y wasgfa ddi-baid ar wariant cyhoeddus, sy'n cynnwys bwlch ariannol o £559 miliwn i awdurdodau lleol Cymru dros y flwyddyn ariannol nesaf yn unig. Yn y cyfamser, mae'r angen i lywio drwy'r fiwrocratiaeth ychwanegol helaeth ar ôl Brexit wedi creu costau newydd, megis y gwariant o £87.6 miliwn ar seilwaith ffiniau newydd yng Nghaergybi, a dim ond £53.5 miliwn ohono sydd wedi'i ymrwymo hyd yma gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn golygu, o 2026-27 ymlaen, y gallai fod angen dod o hyd i'r £34.1 miliwn sy'n weddill o gyllideb Cymru, gwariant na allwn prin ei fforddio, yn enwedig ar adeg pan fo ôl-groniadau cynnal a chadw yn y GIG, yn ein sector addysg, yn ogystal â'n sefydliadau diwylliannol, wedi tyfu'n sylweddol.

Pan ystyriwn faint y niwed a achoswyd i'r pwrs cyhoeddus, mae'n anodd gwybod beth sy'n gwylltio rhywun fwyaf. Ai'r wybodaeth nad prif hyrwyddwyr Brexit—y criw diegwyddor o aml-filiwnyddion, osgowyr trethi, y rheini a oedd yn barod i ddweud celwydd—yw'r rhai sy'n teimlo'r pwysau, ond ein gwasanaethau cyhoeddus a'n haelwydydd gweithgar. Wedyn, er bod Llywodraeth Lafur y DU wedi nodi'r angen, yn gywir ddigon, i fynd i'r afael â hanes anaemig y DU o ran twf economaidd a chynhyrchiant fel llwybr tuag at adfer cyllid cyhoeddus, mae'n gwrthod tynnu'r lifer polisi mwyaf amlwg a allai wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar unwaith, sef ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau'r UE. Felly, er budd ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n ei chael hi'n anodd, gadewch inni obeithio y bydd y pwerau yn San Steffan yn deffro i'r angen anosgoadwy hwn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. 

Mae'n rhaid i ni fod yn onest ynglŷn ag effaith Brexit ar Gymru a rhoi ar waith strategaeth i liniaru hynny. Dydyn ni ddim yn mynd i gael ffydd nôl yn y Senedd hon nag unrhyw wleidydd os nad ydym ni yn onest am yr effeithiau ar Gymru, a'n bod ni yn mynnu bod Llywodraeth Lafur San Steffan yn gweithredu. 

17:55

Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Darren Millar yn gynharach, mae hwn yn ddiwrnod da i mi. Rwyf wrth fy modd yn dod yma i siarad am Brexit a'r manteision y mae wedi'u dwyn i Gymru a'r Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod rhai o'r cyfraniadau o ochr arall y Siambr yma yn dangos cyn lleied o gysylltiad sydd gan y gwrthbleidiau yma â'r hyn y mae pobl go iawn yn ei ddweud ledled Cymru, oherwydd dyma ni eto—diwrnod arall, dadl arall lle mae Plaid Cymru yn canu'r un hen gân. Mae'n glynu wrth y gorffennol ac yn pedlera ei hen naratif treuliedig ynghylch chwalu'r Deyrnas Unedig gan glymu eu hunain wrth yr Undeb Ewropeaidd ar yr un pryd. A gadewch inni ei alw yr hyn ydyw—ideoleg ddiobaith, anymarferol sy'n anwybyddu ewyllys y bobl. 

Ond gadewch inni beidio ag anghofio yn 2016 fod 52 y cant o bobl Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd a 47 y cant wedi pleidleisio yn erbyn. Dyna fwyafrif amlwg. Mae Plaid Cymru, fodd bynnag, yn gwrthod—[Torri ar draws.] Rydych chi'n gwrthod parchu'r penderfyniad hwnnw. Yn hytrach— 

Ddim eto; rwy'n mynd i wneud rhywfaint o gynnydd. Yn hytrach, maent yn ymgyrchu'n ddiflino i'n llusgo'n ôl i system y gwnaethom ddewis ei gadael, system a oedd wedi anwybyddu Cymru ers blynyddoedd. Nid democratiaeth mo hyn, ond gwrthod gwrando. Mae Plaid Cymru yn gaeth yn y gorffennol, tra bo pobl Cymru wedi symud ymlaen. Rhoddodd Brexit rywbeth na allai'r UE fyth mo'i roi i ni—rheolaeth dros ein tynged ein hunain. Fe ganiataodd i ni adfer rheolaeth ar ein cyfreithiau, ein ffiniau a'n masnach. Dyna beth y mae sofraniaeth yn ei olygu. Eto i gyd, byddai Plaid Cymru yn hapus i ildio'r sofraniaeth honno yn ôl i Frwsel. 

A beth yw ateb Plaid Cymru? Maent am i Gymru ailymuno â'r farchnad sengl, yr undeb tollau a llwybr cefn i ailymuno'n llawn â'r Undeb Ewropeaidd. Ond gadewch inni ddweud beth y mae hynny'n ei olygu. Mae ailymuno â'r farchnad sengl yn golygu ildio rheolaeth ar ein cyfreithiau i Frwsel. Mae ailymuno â'r undeb tollau yn golygu na allwn daro ein cytundebau masnach ein hunain ac yn waeth na dim, ni fyddai gennym unrhyw lais dros reolau'r UE er y byddem yn cael ein gorfodi i'w dilyn. 

A gadewch inni siarad am un o'r pryderon mwyaf sydd gan bobl ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig gyfan. Gadewch inni siarad am y peth. Nid yw Plaid Cymru a Llafur eisiau siarad amdano, ond gadewch inni siarad am reoli ein ffiniau. Un o fanteision amlwg Brexit yw'r gallu i greu ein system fewnfudo ein hunain. O dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, fe wnaethom gyflwyno cynllun Rwanda, polisi beiddgar, clir ac effeithiol a gynlluniwyd i atal mewnfudo anghyfreithlon, datgymalu modelau busnes smyglwyr pobl sy'n ecsbloetio pobl agored i niwed. Ond beth y mae Llafur wedi ei wneud? Fe gawsant wared ar gynllun Rwanda, gan agor y llifddorau i fewnfudo anghyfreithlon allu cynyddu. A dim ond ein plaid ni sy'n gwybod na all cenedl heb ffiniau diogel ddiogelu ei dinasyddion ei hun, a dyna'r gwir.

Mae Plaid Cymru yn siarad yn ddiddiwedd am chwalu'r Deyrnas Unedig fel pe bai'n ffynhonnell i'n holl broblemau. Ond gadewch inni beidio ag anghofio'r cryfder a gawn o fod yn rhan o undeb sydd wedi gwrthsefyll prawf amser. Mae'r DU yn fwy na chytundeb economaidd; mae'n gwlwm o ddiwylliant a rennir, o hanes a rennir, o gyfle a rennir, a byddai ei ddatod yn gadael Cymru'n wannach, yn fwy ynysig, ac nid yn gryfach—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad, Heledd.

18:00

Onid ydych chi'n derbyn, oherwydd ein hagosrwydd, ein bod bob amser wedi mwynhau cael cysylltiadau cryf? Mae llawer ohonom yn teimlo'n Ewropeaidd oherwydd y cysylltiadau hynny. Rydych chi'n edrych yn ôl ar y cysylltiad a fu rhwng Cymru ac Iwerddon, cenhedloedd Ewropeaidd eraill, nid yw eich dadl yn gwneud unrhyw synnwyr. Rydych chi'n sôn am gael eich ynysu'n llwyr oddi wrth y cysylltiadau yr ydym wedi'u mwynhau ers canrifoedd ac sy'n ffurfio rhan o'n hunaniaeth. Oni allwch chi weld yr eironi yn eich dadl? Rydych chi wedi gwneud i'r cysylltiadau hyn ddiflannu dros nos.

Heledd, nid ydynt wedi diflannu dros nos. Rwy'n rhyngwladolwr. Rwyf am fod yn rhan o wlad sy'n gallu taro cytundebau masnach gydag unrhyw ran o'r byd, nid cael ein rhwymo wrth sefydliad sydd am ffurfio'r cytundebau hynny ar ein rhan. A dyma'r eironi: mae Plaid Cymru eisiau gadael y Deyrnas Unedig a neidio'n syth yn ôl i mewn i undeb arall. Byddai gan Gymru lai o ddylanwad na'r hyn sydd ganddi heddiw. Nid annibyniaeth yw hynny, ond rhagrith llwyr.

Mae Brexit wedi dod â chyfleoedd mawr i ni. Mae gennym ryddid i daro ein cytundebau masnach ein hunain wedi'u teilwra i'n cryfderau unigryw ein hunain. Gallwn greu system sy'n cefnogi ein ffermwyr, yn rhydd o fiwrocratiaeth a dictad yr UE. Gallwn flaenoriaethu'r diwydiannau sydd bwysicaf i Gymru—[Torri ar draws.]—sydd bwysicaf i Gymru, drwy dechnoleg, drwy farchnadoedd sy'n dod i'r amlwg—[Torri ar draws.] Dyna y gallwn ei wneud.

Rwyf eisiau clywed James Evans. Fe alwaf ar Blaid Cymru. Os ydych chi wedi rhoi eich enw i lawr, efallai y byddaf yn eich galw yn ystod yr ychydig funudau nesaf i fynegi eich barn. Rwy'n gwybod bod rhai ohonoch heb gael eich galw eto, felly os byddwch chi'n dawel, efallai y byddaf yn eich galw. James Evans.

Diolch, Lywydd. Rwyf am ddweud wrth y bobl sydd allan yno'n gwrando ar y ddadl hon heddiw: y rhai ohonoch a gefnogodd Brexit ac sy'n credu mewn Teyrnas Unedig gref, rydym yn eich clywed. Fe wnaethoch chi bleidleisio dros sofraniaeth, ffiniau diogel, dros Lywodraeth sy'n rhoi ei phobl yn gyntaf, nid biwrocratiaid anetholedig ym Mrwsel. Nid yw Plaid Cymru'n deall hynny. Nid yw Llafur yn deall hynny. Ond rydym ni. Os ydych chi'n credu yn egwyddorion Brexit, yn credu mewn diogelu ein ffiniau mewn Teyrnas Unedig gref, annibynnol, gweledigaeth y Ceidwadwyr yw eich gweledigaeth chi. Nid yw gweledigaeth Plaid Cymru yn ateb; ffantasi niwlog sy'n edrych tuag yn ôl yw hi a fyddai'n gadael Cymru'n ynysig, yn wannach ac yn cael ei rheoli gan fiwrocratiaid anetholedig. Gallwch chwerthin faint a fynnwch, Rhun ap Iorwerth, ond rydych chi ar yr ochr anghywir i hanes ar hyn. Mae arnaf ofn ei bod ar ben arnoch. Os yw Llafur yn glynu wrth hyn, mae ar ben arnynt hwythau hefyd. Rydym ni'n cefnogi'r bobl a gefnogodd Brexit. Rydym bob amser wedi gwneud hynny, a byddwn yn parhau i'w cefnogi.

Wel, dyna'r bennod orau o Jackanory Torïaidd i mi ei glywed ers amser maith, mae'n rhaid imi ddweud. O ddifrif. Am wyneb sydd gan y Ceidwadwyr i ddweud wrth y gweddill ohonom ein bod ni allan o gysylltiad. Go iawn? Go iawn? Edrychwch, mwy o fiwrocratiaeth, sefyllfa economaidd sy'n gwaethygu, cytundebau masnach rydd sy'n niweidio, cyfres o addewidion wedi eu torri. Dyna rai yn unig o'r pethau a godwyd gan ffermwyr—a godwyd gan ffermwyr—a'r rhai sy'n gweithio mewn diwydiannau ategol sydd ymhell o fod yn fodlon â Brexit. Ac nid fy rhestr i yw hi—[Torri ar draws.] Un eiliad, rwyf wedi bod ar fy nhraed ers 25 eiliad; fe fuoch chi ar eich traed am oddeutu chwe munud, newydd eistedd ydych chi. Rhowch eiliad i mi ddatblygu—. Rwy'n gwybod ei fod yn brifo, iawn, ond eich tro chi yw gwrando nawr, o'r gorau? Eich tro chi yw gwrando nawr.

Nawr, tynnwyd sylw at y rheini i gyd mewn arolwg diweddar gan Farmers Weekly —nid fi sy'n creu hyn—lle roeddent yn gofyn i ffermwyr—[Torri ar draws.] Edrychwch, a ydych chi—?

Fe gawsoch chi eich chwe munud; roeddwn yn garedig gyda chi. Fe gawsoch chi lawer o heclo, ac fe roddais stop arnynt.

A rhowch y gorau i'r pwyntio hefyd. Rhowch y gorau i'r pwyntio hefyd. O'r gorau. Parhewch, Llyr.

Iawn. O'r gorau. Yn yr arolwg hwnnw, credai ffermwyr fod Brexit wedi cael effaith negyddol. Roedd nifer aruthrol ohonynt yn teimlo hynny: dywedodd 75 y cant ei fod yn negyddol i'r economi; dywedodd bron i 70 y cant ei fod yn negyddol i'w busnes. Nawr, un effaith uniongyrchol a deimlwyd gennym yn y diwydiant yng Nghymru yw colli sefydlogrwydd a diogelwch ariannol, oherwydd fe amddifadodd gefn gwlad Cymru o'r sefydlogrwydd a gâi gan fframwaith ariannol aml-flwyddyn saith mlynedd yr UE. Rydym yn llythrennol yn mynd o un 12 mis i'r llall, heb wybod beth sy'n dod. Mae hynny wedi tanseilio gallu'r sector i gynllunio ar gyfer ei ddyfodol. Mae wedi tanseilio hyder. Mae wedi effeithio ar y gallu i fuddsoddi mewn seilwaith, mewn arloesi, ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu ein bod yn llusgo ar ôl ein cystadleuwyr sy'n symud ymlaen. Y rheswm pam y mae holl ffiasgo'r cynllun ffermio cynaliadwy, y pryder, y gwrthdaro, y cynnwrf, yn digwydd yw oherwydd Brexit. Yr unig reswm y mae'n digwydd yw oherwydd bod angen inni gael rhywbeth yn lle'r polisi amaethyddol cyffredin yma yng Nghymru.

Nawr, rydym wedi cael addewidion a dorrwyd, fel y clywsom, yr addewid 'yr un geiniog yn llai' ym maniffesto 2019, ac wrth gwrs, fe wyddom fod Cymru oddeutu £0.25 biliwn yn waeth ei byd ers Brexit, ac mae hynny'n cyfateb, gyda llaw, i oddeutu £15,000 am bob un o hawlwyr cynllun y taliad sylfaenol yng Nghymru ers 2019. Mewn gwirionedd, mae cyllid amaethyddol yng Nghymru bellach £90 miliwn yn llai bob blwyddyn nag o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Ac mae pryderon enfawr, gyda llaw, fod hynny'n cael ei erydu ymhellach yn sgil Barnetteiddio cymorth amaethyddol.

Roedd yn ddiddorol, onid oedd, oherwydd, yn gynharach y prynhawn yma, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn dweud wrthym ei fod yn ddig fod yr arian sy'n dod o San Steffan i dalu cost y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi ei Barnetteiddio yn hytrach na'i fod yn seiliedig ar faint y sector yng Nghymru, ac mae'n iawn, wrth gwrs, oherwydd mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn fwy yn gymharol na gweddill y DU, a dylid cydnabod hynny yn y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu yn hytrach na defnyddio'r fformiwla Barnett ddi-awch sy'n seiliedig ar boblogaeth. Mae'n iawn i'w wrthwynebu, ond wrth gwrs, mae'r Llywodraeth hon yn llawer mwy parod i dderbyn yr un anghyfiawnder mewn perthynas â chyllid amaethyddol, ac mae angen i hynny newid. [Torri ar draws.] Yn fyr iawn.

18:05

Diolch. A ydych chi'n cytuno â mi, ymhell o fod yn flanced gysur fel y disgrifiwyd y DU gan arweinydd y Ceidwadwyr, fod Brexit wedi agor y drws i Lywodraeth y DU allu tanseilio Cymru drwy Barnetteiddio'r cyllid ar gyfer amaethyddiaeth?

Wel, yn hollol, ac mae'n cael ei danseilio mewn ffyrdd eraill hefyd, oherwydd nid oes raid ond edrych ar effaith rhai o'r cytundebau masnach ôl-Brexit ar ffermwyr Cymru, sy'n destun pryder enfawr. Cytundeb Awstralia a Seland Newydd: mae dadansoddiad effaith Llywodraeth y DU ei hun yn rhagweld y bydd sector ffermio'r DU yn wynebu cannoedd o filiynau o bunnoedd o golledion o dan rai o'r cytundebau masnach hyn. Maent yn gwneud ffermwyr Cymru'n agored i gystadleuaeth annheg, unwaith eto, gan wledydd sydd â chostau cynhyrchu sylweddol is a safonau rheoleiddio is, a dyna pam ein bod am i Lywodraeth y DU adolygu ei pholisi masnach i flaenoriaethu diogeledd bwyd domestig, safonau uchel a chystadleuaeth deg i ffermwyr Cymru.

Nawr, mae ffermwyr wedi cael eu hamddifadu o chwarae teg o ganlyniad i Brexit. Roedd Abi Reader, dirprwy lywydd NFU Cymru, ar Radio Wales yn gynharach yr wythnos hon, ac fe ddywedodd, 'Y cyfan rydym ei eisiau yw chwarae teg', ac mae hynny wedi ei golli ers Brexit. Byddai bod yn rhan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn unioni rhywfaint o'r niwed o leiaf. Derbynnir bod Brexit wedi gwneud masnachu'n llawer mwy cymhleth i ffermwyr yn y wlad hon. Mae problemau nawr gydag ardystiadau milfeddygol, mwy o archwiliadau a rheolaethau ffiniau. Nid ydym erioed wedi'u cael o'r blaen: ardystiadau iechyd planhigion, a'r holl ofynion oeri ar gyfer ein cynhyrchion darfodus. Mae pob un ohonynt yn feichiau ychwanegol, maent yn achosi llawer o wrthdaro a chyda hynny, wrth gwrs, daw costau uwch i'r sector. [Torri ar draws.] Rwy'n ofni bod fy amser wedi dod i ben. 

Mae angen alinio'n agosach â'n cymdogion agosaf a'n marchnad allforio fwyaf, a byddai bod yn rhan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau yn gam cadarnhaol ymlaen i ffermwyr Cymru ac i'r sector amaethyddol yng Nghymru.

Lywydd, ar ddechrau hyn, efallai y dylwn ddweud y byddwn yn ffurfio grŵp trawsbleidiol ar Gymru ac Ewrop i ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd, ac edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau gyferbyn yn ei gefnogi.

Roedd Michael Heseltine ar y teledu y diwrnod o'r blaen, ac roedd yn ddig oherwydd dywedai fod Brexit wedi difetha cyflawniad mwyaf Margaret Thatcher, sef creu'r farchnad sengl. Aeth ymlaen i ddweud bod Brexit wedi ei ennill drwy gelwydd a'i fod yn dwyll. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwneud Farage yn bensaer y celwydd a'r twyll, ac mewn termau Beiblaidd, mae'n debyg y byddech chi'n ei ddisgrifio fel yr arch-dwyllwr. Pan edrychais ar y term hwnnw, roeddwn i'n meddwl yr edrychwn i weld beth a olygai mewn gwirionedd. Wel, wrth gwrs, arch-dwyllwr yw un sy'n trefnu twyll, yn enwedig y diafol—y diafol yn enwedig, ond nid yn unig. Ac os edrychwch ar 'twyllwr', mae'n rhywun sy'n eich arwain i gredu rhywbeth nad yw'n wir, a dyna beth oedd Brexit, oherwydd rydym bellach yn waeth ein byd, ac mae'n gwaethygu, ac fe fydd yn gwaethygu. Mae Brexit yn ganser gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.

Yr ystadegau economaidd clir, y cytunwyd arnynt gan bron bob un o'r prif fonitorau economaidd, heb unrhyw agenda wleidyddol: mae'r Prydeiniwr cyfartalog bron i £2,000 y flwyddyn yn waeth ei fyd. Asesir bod y golled i economi'r DU yn £140 biliwn, ac amcangyfrifir y byddwn, erbyn 2035, £300 biliwn yn waeth ein byd na phe na byddem wedi gadael yr UE, ac amcangyfrifir bod gennym 1.8 miliwn yn llai o swyddi ar hyn o bryd o ganlyniad.

Ac ar adeg pan fo globaleiddio'n digwydd ledled y byd, gwelwn y blociau gwleidyddol mawr yn cael eu ffurfio'n barod—Tsieina, India, Rwsia, UDA, yr UE—ac nid ydym yn yr un o'r blociau hyn. Rydym ar y tu allan i bob un ohonynt. Nawr, mae Nigel Farage, a phlaid Reform wrth gwrs, yn siarad llawer am berthynas arbennig yr Unol Daleithiau. Mewn gwirionedd, yn hytrach na bod yn ei etholaeth, mae Farage yn byw fwy neu lai yn yr Unol Daleithiau, yn ceisio dod yn agos at y Tŷ Gwyn. Wel, mae'n rhaid imi ddweud, yn fy marn i, nid wyf yn credu bod unrhyw berthynas arbennig â'r Unol Daleithiau yn bodoli mwyach. Yr hyn y mae'r Unol Daleithiau ei eisiau, ac yn sicr o dan Trump, yw marchnad iechyd y DU. Dyna pam y mae Farage yn gefnogol i breifateiddio'r gwasanaeth iechyd. Dyna pam ei fod yn siarad am hynny nawr. Roedd gan Lenin derm am bobl o'r fath sef 'ffyliaid defnyddiol'. Farage yw ffŵl defnyddiol Trump, ac mae'n gweithio i weld y gwasanaeth iechyd gwladol yn chwalu, a dyna yw canlyniad y wleidyddiaeth honno.

Y fantais o fod yn yr UE, yn enwedig ar hyn o bryd, ar ôl goresgyniad Rwsia o Wcráin, rhyfel yn Ewrop, yw bod yna gyd-ddibyniaeth a chefnogaeth gyffredin yr ydym yn gyflym yn ceisio ei chynnal a'i hail-greu. A gwelwn risgiau'r hyn sy'n digwydd o ganlyniad i'r rhyfel hwnnw—y bygythiad, pe bai Rwsia'n llwyddo, i Moldofa, Georgia, gwledydd y Baltig, Serbia, Gwlad Pwyl, ac mae canlyniadau gwleidyddol hynny'n sylweddol.

Y peth arall a roddai aelodaeth o'r UE i ni oedd llywodraethiant cyffredin ac annibynnol ar gyfraith ryngwladol a rheolaeth y gyfraith. Felly, mae pethau fel y Llys Troseddol Rhyngwladol, Llys Hawliau Dynol Ewrop, Llys Cyfiawnder Ewrop—mae'r holl bethau hynny'n bwysig oherwydd cafwyd cydnabyddiaeth na allwch farcio eich gwaith cartref eich hun, ni allwch fod yn benderfynydd safonau penodol yr ydych wedi ymrwymo i gytuno iddynt. Ac eto mae gennym Blaid Geidwadol sydd am ddileu'r rheini, sydd eisiau tynnu allan ohonynt, a byddai hynny'n drychineb gwirioneddol i lywodraethiant cyffredin, i gyfraith ryngwladol, a rheolaeth y gyfraith fel y'i hadwaenwn.

Mae Cymru ar ei cholled o ganlyniad i fod allan o'r UE, a chanlyniad hynny yw ein bod wedi gweld canoli yn y DU. Un o'r pethau y dylem fod yn ei wneud nawr yw edrych ar ddiddymu Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, a ddigwyddodd o ganlyniad i hynny. Ond rydym wedi gweld canoli cyllid, ac nid ydym wedi gweld cyllid priodol yn lle cyllid yr UE, ac rwy'n rhannu'r holl safbwyntiau ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin a'r lleill sydd angen eu datrys. Ond yr hyn a oedd gennym fel rhan o'r UE oedd statws is-genedlaethol i Gymru a'r gallu mewn meysydd datganoledig i ymgysylltu ar ffrynt Ewropeaidd ar y lefel uchaf o wleidyddiaeth. Nid yw hynny gennym mwyach.

Felly, beth yw'r camau ymlaen? Wel, yr un peth rwy'n ei groesawu'n fawr iawn sy'n digwydd nawr, a'r negeseuon mwy cadarnhaol, yw symudiad tuag at ymuno â'r farchnad sengl ac undeb tollau. Ac onid yw'n ddiddorol gweld yr Arglwydd Frost—yr ymgyrchydd Brexit a fu'n lladd cymaint ar wleidyddion anetholedig, a ddaeth yn wleidydd anetholedig ei hun—yn dweud nad oes ganddo wrthwynebiad. Nid yw'n credu ei fod yn bwysig. Nid yw'n credu bod hynny'n broblem na'i fod yn tanseilio Brexit. Felly, rhaid mai'r cam cyntaf fydd ailymuno â'r farchnad sengl.

Ac rwy'n credu bod yna ail gam, ac fe fyddaf yn gweithio ar hyn pan fydd y grŵp trawsbleidiol wedi'i ffurfio—ac unwaith eto, mae yna gynhadledd y penwythnos hwn lle rwy'n gobeithio y caiff hwnnw ei gyhoeddi—sef bod rhaid inni ymuno â'r UE eto. Ac os yw hynny'n golygu refferendwm, wel, gyda phenderfyniad sydd wedi'i wneud ar gelwydd y mae'n rhaid i chi gydnabod bellach ei fod yn gelwydd, nid oes unrhyw reswm pam na ddylai'r bobl gael y dewis hwnnw eto, a democratiaeth yw hynny hefyd. Diolch.

18:10

Mae Brexit wedi ail-lunio ein perthynas ag Ewrop, ac mae'n hanfodol ein bod yn deall effaith arbennig hyn ar ein pobl ifanc a hefyd ein prifysgolion. Cyn Brexit, roedd ein pobl ifanc ni'n gallu mynd ar draws Ewrop, cael cyfleoedd i weithio, i gyfoethogi eu bywydau ac ehangu eu gorwelion, ond mae hynny wedi cael ei gwtogi yn sylweddol ers Brexit. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi dweud bod Brexit wedi creu rhwystrau sylweddol i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio dramor, gan gyfyngu ar eu cyfleoedd ar gyfer twf personol ac academaidd.

Mae diwedd rhaglen Erasmus+ hefyd wedi bod yn ergyd sylweddol. Dyw cynllun Taith Llywodraeth Cymru, er ei fod yn gam da i'r cyfeiriad cywir, ddim yn gallu adfer ehangder y cyfleoedd oedd ar gael cyn i Erasmus+ ddod i ben. Mae cyllid ar gyfer Taith wedi cael ei leihau hefyd, wrth gwrs, a dyw penderfyniad ar ei barhad y tu hwnt i 2026 ddim wedi cael ei wneud eto. Bydd cynllun Erasmus yn dod i ben y flwyddyn nesaf, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i werthuso'r achos dros sicrhau bod cyfranogiad o Gymru yn y rhaglen Erasmus nesaf.

Y tu hwnt i gyfleoedd astudio, mae'r rhyddid i symud ar draws Ewrop wedi cael ei dorri i'n pobl ifanc ni, a'u bod nhw'n gallu dod nôl â'r profiad yna er mwyn hyrwyddo economi a diwylliant Cymru. Ac fel rŷn ni wedi clywed eisoes y prynhawn yma, mae ein sector prifysgolion ni yn wynebu heriau arbennig ar hyn o bryd. Rhwng 2014 a 2020, roedd £366 miliwn yn cael ei rhoi i brifysgolion Cymru gan strwythurau yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r arian yna wedi diflannu, ac mae hynny yn golygu bod ein prifysgolion ni ar eu colled a nawr yn wynebu torri lefelau staffio, a dyna pam—un o'r ffactorau yw hyn—mae ein sector addysg uwch ni yn wynebu heriau difrifol iawn, iawn. Roedd y prosiectau hyn yn cefnogi busnesau yn y sector cyhoeddus, a hefyd yn creu rhyw 1,000 o swyddi tu fas i'n prifysgolion o sgiliau uchel, a rhyw 60 o brosiectau ymchwil, sgiliau ac arloesi.

Yn olaf, allwn ni ddim tanbrisio effaith Brexit ar recriwtio myfyrwyr o dramor—eto yn ffactor sydd yn dylanwadu yn uniongyrchol ar y picil mae ein prifysgolion ni yn ei wynebu ar hyn o bryd. Mae UCAS, er enghraifft, wedi nodi gostyngiad o rhwng 30 a 40 y cant yng ngheisiadau myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru ers Brexit. Mae hwnna yn ffigwr aruthrol. Ochr yn ochr â hyn, mae newidiadau diweddar i'r system fewnfudo a roddwyd ar waith gan y Torïaid yn San Steffan, yn enwedig y cyfyngu ar deuluoedd estynedig oedd yn gallu dod draw yma gyda'r myfyrwyr i astudio, ac mae hynny wedi bod yn golled ariannol enfawr i'n prifysgolion. Felly, mae'r ffactorau hyn i gyd gyda'i gilydd wedi ei gwneud hi'n heriol iawn i'r sector addysg uwch, sydd wedi gweld gostyngiad o ryw 40 i 50 y cant mewn cofrestriadau rhyngwladol eleni yn unig, ac mae hyn yn golygu colled o ryw £70 miliwn i £80 miliwn mewn incwm i'r sector addysg uwch.

I gloi, felly, Llywydd, mae'n rhaid inni ddadlau o blaid polisïau sy'n cefnogi ein pobl ifanc ac yn sicrhau bod ein sefydliadau addysg uwch yn parhau i ffynnu mewn byd ar ôl Brexit. Diolch.

18:15

Diolch. Mae Cymru yn genedl Ewropeaidd sy'n edrych tuag allan, ac rydym yn rhoi gwerth mawr ar ein perthynas â'n partneriaid Ewropeaidd, ac rydym am barhau â'n perthynas adeiladol, gadarnhaol a llwyddiannus am flynyddoedd i ddod. Mae'r egwyddor hon o gydweithrediad yn allweddol i'r ffordd yr awn i'r afael â'r heriau byd-eang a wynebwn nawr ac yn y dyfodol.

Er gwaethaf Brexit caled, anhrefnus, Torïaidd, mae Cymru wedi parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal perthynas gref â'r Undeb Ewropeaidd—perthynas sy'n seiliedig ar werthoedd cyffredin sylfaenol democratiaeth, rhyddid, cydraddoldeb, rheolaeth y gyfraith, a hawliau dynol. Ac er gwaethaf holl elfennau negyddol Brexit, sy'n amlwg i bawb eu gweld ac y mae cyd-Aelodau wedi siarad amdanynt mor glir y prynhawn yma, rwy'n awyddus iawn i ganolbwyntio fy sylwadau ar y ffordd gadarnhaol y ceisiwn wynebu a goresgyn yr heriau.

Rydym am weithio'n agos gyda'n ffrindiau a'n cymdogion i fynd i'r afael â'r heriau byd-eang, yn cynnwys heriau economaidd, geowleidyddol, cystadleuaeth, mudo afreolaidd, newid hinsawdd a phrisiau ynni, sy'n creu heriau sylfaenol i werthoedd cyffredin Cymru a'r Undeb Ewropeaidd a darparu'r sbardun strategol ar gyfer cydweithredu cryfach. Fe wnaethom ymrwymiad clir yn ein rhaglen lywodraethu i gadw presenoldeb ym Mrwsel, fel bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli mewn polisi a masnach. Mae ein tîm ym Mrwsel yn ymgysylltu â'r UE ac yn sicrhau bod y neges fod Cymru ar agor i fusnes yn cael ei chlywed. Wedi'r cyfan, mae gwledydd yr UE eisiau parhau i fod yn bartner masnachu pwysicaf Cymru a'r ffynhonnell fwyaf o fewnfuddsoddiad.

Roedd maniffesto ein Llywodraeth hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gryfhau ein cysylltiadau â'r UE drwy benodi cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop—felly ceir y sôn canmoliaethus y clywsom amdano yng nghyfraniad Adam Price ar y dechrau. Ac mae'r rôl unigryw hon wedi bod yn arddangosiad gweladwy o'n hymrwymiad i Ewrop, ac mae wedi cael adborth cadarnhaol iawn o'r UE a hefyd gan randdeiliaid y DU a Chymru fel ei gilydd, sy'n dweud sut y mae'r rôl honno wedi helpu i agor drysau i'r lefelau uchaf yn sefydliadau'r UE a hefyd wedi galluogi Gweinidogion i annerch pwyllgorau'n uniongyrchol, gan dynnu sylw at fentrau fel ein rhaglen Taith.

Mae ein rôl ym miwro gwleidyddol Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol hefyd wedi cryfhau statws Cymru yn y rhwydwaith hwn. Arweiniodd Cymru grŵp o ranbarthau oddi allan i'r UE mewn prosiect €800,000 a ariannwyd gan yr UE i hyrwyddo ymchwil a chydweithio diwydiannol yn yr economi las. O ganlyniad, yn 2023, cynhaliodd Cymru gynulliad cyffredinol Comisiwn Bwa'r Iwerydd Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol a ddaeth â Gweinidogion o ranbarthau'r UE a Quebec ynghyd i drafod cydweithrediad rhyngranbarthol ym môr yr Iwerydd. Dyma'r tro cyntaf i'r cynulliad cyffredinol gael ei gynnal yn y DU ar ôl Brexit, ac roedd yn gyfle pwysig i ddangos y gallwn gydweithredu ar fuddiannau a rennir er ein bod wedi gadael yr UE.

Ond mae llai o ryddid i symud o fewn yr UE yn creu heriau sylweddol i fusnesau, y sector creadigol ac unigolion. Roedd penderfyniad blaenorol Llywodraeth Geidwadol y DU i beidio â chysylltu ag Erasmus yn destun gofid mawr ac effeithiodd yn sylweddol ar ein pobl ifanc. Mewn ymateb, fe wnaethom sefydlu Taith, ein rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu, i helpu miloedd o ddysgwyr i brofi gweithgareddau symudedd addysgol cyfoethog. A thrwy ei brofiadau cadarnhaol niferus, mae uwch swyddogion yr UE yn cyfeirio at Taith yn gyson fel enghraifft gref o gydweithredu rhwng Cymru ac Ewrop.

Wrth symud ymlaen, mae angen dull cyfannol o adfer cyfleoedd symudedd i bobl ifanc er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu hesgeuluso, ac rydym yn ystyried hyn yn rhan hanfodol o'n hymrwymiad cyfrifoldeb byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a'n tîm ym Mrwsel â chomisiynydd tegwch rhwng cenedlaethau cyntaf erioed yr UE, Glenn Micallef, i rannu 10 mlynedd o ddysgu yng Nghymru ers i'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol arloesol ddod i rym. Hyd yn oed y tu allan i'r UE, rydym yn dylanwadu ac yn dangos arweinyddiaeth.

Mae'r cytundeb masnach a chydweithredu bellach yn llywodraethu agweddau ar ein perthynas â'r UE, gan gynnwys masnach. Yn 2024, fe wnaethom gyhoeddi dull Llywodraeth Cymru o weithredu polisi masnach, gan ddweud bod angen i bolisi masnach ystyried effeithiau hirdymor y ffordd y masnachwn â gwledydd eraill a'r effeithiau ar ein heconomi, ein cymunedau a'r amgylchedd. Croesewir ymrwymiad maniffesto'r DU i ailosod ei pherthynas â'r UE a dylid ei ystyried yn y cyd-destun hwnnw. Nid yw'r cytundeb masnach a chydweithredu yn cymryd lle mynediad at y farchnad ar y sail gyfatebol a oedd gennym fel aelodau o'r UE. Yn hytrach, mae wedi creu rhwystrau newydd i fusnesau Cymru. Fodd bynnag, mae'n creu strwythur llywodraethu cynhwysfawr ar gyfer ymgysylltiad DU-UE, ac rydym wedi defnyddio'r strwythur hwnnw i ymgysylltu â'r UE trwy Lywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio y gellir datrys rhai o'r rhwystrau i fasnach. Adolygir y modd y gweithredir y cytundeb masnach a chydweithredu, ac er y gallai hyn arwain at newidiadau bach, yr ailosod ehangach y mae Llywodraeth y DU yn ei geisio a allai sicrhau cyfleoedd mwy sylweddol i wneud cynnydd a dileu rhai o ganlyniadau negyddol Brexit.

Ceir nifer o feysydd y dylai Llywodraeth y DU eu hystyried, gan gynnwys busnes a symudedd ieuenctid, rhwystrau i fasnach, mynediad at raglenni a chytundeb ffytoiechydol, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i wneud y blaenoriaethau hyn yn glir. Rydym yn cyflwyno'r achosion hynny drwy gyfarfodydd dwyochrog ac rwy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor rhynglywodraethol ar fasnach, a gyfarfu yn gynharach y mis hwn. Rwyf am roi sicrwydd i gyd-Aelodau fod y pwyntiau pwysig am symudedd ieuenctid yn enwedig yn flaenllaw ac yn ganolog i'r pethau y ceisiaf eu codi yn y fforymau hynny.

Ers nifer o flynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu cysylltiadau agosach ag Ewrop ac rydym wedi cryfhau ein cytundebau dwyochrog â gwledydd a rhanbarthau ledled Ewrop, ac wedi arwyddo rhai newydd, gan gynnwys gyda Silesia, Fflandrys a Baden-Württemberg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r partneriaethau hyn yn adlewyrchu ein dull o fynd i'r afael â heriau cyffredin fel yr argyfwng hinsawdd ac o rannu cyfleoedd economaidd i alluogi busnesau Cymru i dyfu a chystadlu ar y llwyfan Ewropeaidd, ac wrth gwrs maent hefyd yn cryfhau ein cysylltiadau diwylliannol ac yn adeiladu perthynas a chyfeillgarwch parhaol rhyngom.

Wrth inni lywio'r dirwedd ôl-Brexit, mae'r ymgysylltiad hwn â'n cymdogion Ewropeaidd yn parhau i ddangos bod Cymru ar ei chryfaf pan fyddwn yn gweithio'n gydweithredol ar y llwyfan rhyngwladol.

18:25

Diolch, Lywydd. Wel, sut y mae crynhoi hyn? Rwy'n credu y dechreuaf gyda'r cyfraniadau Torïaidd. Roedd cyferbyniad amlwg â'r gwelliant, nad oedd yn dweud llawer o gwbl, oherwydd a dweud y gwir, beth sydd yna i'w ddweud? Mae'n nodi, a dyna i gyd. Ond yr hyn a glywsom oedd amddiffyniad tanbaid a ffyrnig o'r holl fanteision, ac roeddem yn ôl yn y wlad ddelfrydol eto, onid oeddem, nad ydym erioed wedi ei chyrraedd.

Mae'n rhaid i mi ddweud, mewn perthynas â'r pwynt am frechlynnau, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni fel gwleidyddion—fel y gwyddoch, Darren, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon—mae'n rhaid inni fod yn fanwl gywir, felly fe gymeradwyodd y DU y brechlyn Pfizer-BioNTech trwy'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ar 2 Rhagfyr 2020, cyn i gyfnod pontio Brexit ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Bryd hynny, roedd y DU yn dal i fod yn ddarostyngedig i reolau'r UE, ond roedd cyfraith yr UE, yr oeddem yn ddarostyngedig iddi, yn caniatáu i reoliadau cenedlaethol roi awdurdodiad defnydd brys yn annibynnol mewn amgylchiadau eithriadol. Penderfynodd y DU wneud hynny; ni wnaeth gwledydd eraill. Defnyddiodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd broses gymeradwyo frys a ganiatawyd o dan gyfraith yr UE, ac felly ni ddylanwadodd Brexit ar gyflymder y penderfyniad hwnnw o gwbl. Felly, efallai yr hoffai'r Aelod edrych ar hyn, pan gaiff gyfle, a chywiro'r cofnod yn hynny o beth.

Soniais i a Julie Morgan am raglen Taith, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Cefin Campbell, a'r Gweinidog yn wir. Rwy'n credu ein bod ni'n cefnogi egwyddorion rhaglen Taith yn frwd. Mae'n bwysig nodi, yn anffodus, fod Llywodraeth Cymru, yn y gyllideb ddrafft, yn torri'r gyllideb ar gyfer Taith. Maent yn torri £1.6 miliwn oddi arni.

Rwyf am glywed Adam Price yn cau'r ddadl. Os caf ei glywed mewn distawrwydd, os gwelwch yn dda. Diolch.

Ac roedd hynny ar gefn gostyngiad pellach a oedd wedi digwydd yn flaenorol, felly os ydym i gyd yn cytuno bod Taith yn dda, rydym yn mynd i'r cyfeiriad anghywir o ran y cymorth ariannol a roddir iddo.

Soniodd Luke Fletcher am Ogledd Iwerddon, ac arwyddion llwyddiant y model sydd ganddynt ac y dylem ei gael yma yng Nghymru, sef aelodaeth o'r farchnad sengl. Caiff ei adlewyrchu yn y bleidlais a gawsant ychydig cyn y Nadolig, lle defnyddiodd Cynulliad Gogledd Iwerddon eu sofraniaeth wleidyddol i bleidleisio 48-36 dros aros yn y farchnad sengl. O na bai gennym bŵer i wneud y penderfyniad hwnnw yma yng Nghymru.

Cyfeiriodd Alun Davies at rai o'r—beth ydoedd—21 o fuddsoddiadau seilwaith a gyhoeddwyd heddiw gan y Canghellor. Byddai un i Gymru'n wych. Dyna'r broblem, onid e, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r rheini, ac eithrio Old Trafford, eisoes yng nghornel fwyaf cyfoethog y Deyrnas Unedig, y darn nad oes arno angen llawer mwy o fuddsoddiad seilwaith a dweud y gwir. Ac yn hytrach na chreu dyffryn silicon Ewropeaidd, efallai y dylai'r Canghellor gefnogi Cymoedd de Cymru a'r holl gymoedd eraill yng Nghymru, trwy fuddsoddi mewn polisi datblygu rhanbarthol a buddsoddi mewn seilwaith, a'n cael yn ôl yng nghanol y farchnad sengl, sy'n hanfodol i'n heconomi oherwydd ein bod yn economi fwy dwys o ran allforion yng Nghymru.

Cyfeiriodd Mick Antoniw at y tactegau twyllodrus a gafodd eu defnyddio, heb amheuaeth, gan wleidyddion diegwyddor yn y refferendwm Brexit. Mae'n briodol mai chi oedd y Cwnsler Cyffredinol, Mick, a ddywedodd, rwy'n credu, yn rhannol o ganlyniad i'r profiad hwnnw, 'Rydym wedi ymrwymo yma yng Nghymru, yn Llywodraeth Cymru, i fod y ddemocratiaeth gyntaf i wahardd twyll bwriadol gan wleidyddion.' Ni ddylai'r rhai sy'n ein harwain allu ein camarwain yn ddi-gosb, oherwydd mae canlyniadau i hynny. Mae yna ganlyniadau i fywydau pobl. Mae'r math o ddinistr economaidd y clywsom amdano yn y ddadl hon yn creu hafog yn ein cymunedau ac mae angen inni wneud rhywbeth am hynny. Dyna pam y mae symud i'r farchnad sengl yn hanfodol. Rwy'n cytuno â Mick ynglŷn â symud i'r cam nesaf. Dyna'r peth mewn democratiaeth, a dywedaf hyn wrth James Evans: nid yw barn y cyhoedd byth yn aros yn ddigyfnewid.

Cawsom refferendwm yn 1979 lle pleidleisiodd pobl 8:1 yn erbyn datganoli. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl cau gweithfeydd dur a streic y glowyr, roedd barn y cyhoedd yn newid, oherwydd roeddent yn meddwl, 'O na bai gennym ein senedd ein hunain i'n diogelu nawr.' Mae barn y cyhoedd yn symud pan fo'n gweld y realiti ar lawr gwlad, a chaiff hynny ei adlewyrchu yn yr holl arolygon barn a welais yng Nghymru a'r DU. Maent yn dangos barn y cyhoedd yn symud yn helaeth tuag at gael perthynas agosach trwy'r farchnad sengl, ond yn y pen draw tuag at ymuno â'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal. Nid yw democratiaeth byth yn aros yn yr unfan.

Byddwn yn ymatal ar gynnig y Llywodraeth. Nid oes llawer i anghytuno ag ef yno, ond y rhwystredigaeth sydd gennym yw, 'Defnyddiwch eich llais ar ran pob un ohonom', oherwydd mae angen inni ysgogi tipyn o feiddgarwch yn y Senedd arall ar ben arall yr M4. Maent yn ofnus iawn ar hyn o bryd, pan fo angen iddynt fod yn feiddgar. Gallwn ni yng Nghymru, gan weithio gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, ddarparu'r arweiniad sydd mor brin yno ar hyn o bryd.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni adael y pleidleisiau ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai bod tri Aelod yn moyn i fi ganu'r gloch, byddwn ni'n symud yn syth i'r pleidleisiau.

9. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r pleidleisiau cyntaf heddiw ar eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflogaeth. Dwi'n galw am bleidlais felly ar y cynnig heb ei ddiwygio, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, felly. Pleidlais ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn. Felly, mae'r bleidlais yna ar welliant 1 wedi pasio.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2 nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, 13 yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 28, Ymatal: 13

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 fydd nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.

18:35

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8803 fel y diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 21 Ionawr 2025.

2. Yn gresynu at y ffaith bod problemau o hyd o ran asesu perfformiad y llafurlu yng Nghymru yn sgil y pryderon ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu.

3. Yn cydnabod bod data Arolwg y Llafurlu ar gyfer Cymru ymhlith y data o ansawdd isaf o blith holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr;

4. Yn cytuno mai’r ffordd orau o ddeall llafurlu Cymru yw ystyried tueddiadau hirdymor ar draws amryfal ddangosyddion, sy’n cynnwys ffynonellau eraill fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data am swyddi’r gweithlu, a data am nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.

5. Yn nodi ymhellach fod cyflogau oedolion yng Nghymru a oedd yn gweithio’n amser llawn yn 2024 yn uwch na chyflogau oedolion cyfatebol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, Swydd Efrog a Humber.

6. Yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o swyddi yng Nghymru ac yn hybu twf drwy wneud y canlynol:

a) parhau i ddarparu pecynnau o gymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £134 miliwn eleni ac £85 miliwn y flwyddyn nesaf yn ogystal â chynlluniau rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn yn flynyddol a’r cymorth ychwanegol sylweddol sydd wedi’i ddarparu i fusnesau a threthdalwyr eraill dros y blynyddoedd diwethaf;

b) sicrhau buddsoddiad o’r tu allan a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru;

c) cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn adfer y drefn o roi’r hawl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl 2026 a datblygu rhaglen newydd o fuddsoddiadau gyda phartneriaid ar draws Cymru yn dilyn cau rhaglenni gwaddol fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2026; a

d) cydweithio â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddiwydiannol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yma yn gyfartal: 26 o blaid, 26 yn erbyn. Byddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig. Ac felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, 27 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i wrthod.

Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflogaeth. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Eitem 8 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru ar Brexit a'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn dyfodol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, un yn ymatal, 40 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 40, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1, yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 11 yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Paul Davies: O blaid: 14, Yn erbyn: 27, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidlais ar welliant 2, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwellant yna wedi'i gymeradwyo.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8804 fel y diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodraeth newydd y DU ac yn nodi bod y Brexit caled  a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd.

3. Yn nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc.

4. Yn edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 11 yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: A fydd clychau Rhymni yn tawelu? Gwarchod asedau cymunedol yn y cymoedd

Fe fyddwn ni, felly, yn mynd nawr at eitem 10. Eitem 10 yw'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer yn enw Delyth Jewell, a phan fydd Aelodau wedi ymdawelu, caiff Delyth Jewell gychwyn ar ei chyfraniad. 

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi addo rhoi munud o fy amser i Peredur Owen Griffiths.

Beth yw cymuned? Ai dim ond lleoedd lle rydym yn digwydd bod â thai yw'r trefi a'r pentrefi lle rydym yn byw, neu a oes corneli yno o hyd lle rydym yn ymgynnull—gofodau a safleoedd sy'n perthyn i ni i gyd? Yn y Cymoedd, mae gennym hanes balch o adeiladau o'r fath: neuaddau'r glowyr, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol—lleoedd a adeiladwyd i fwydo ein meddyliau a meithrin ein heneidiau. Talwyd am gymaint ohonynt o gyflogau'r glowyr—yr arian a gasglwyd o becynnau cyflogau dynion a dreuliai eu dyddiau'n cloddio yn y tywyllwch. Roeddent eisiau sicrhau bod gan eu plant rywbeth gwell i fyw ar ei gyfer—mannau o olau a gobaith ac ysblander. Ie, ysblander. Oherwydd am drysorau a brynwyd gan eu cymwynasgarwch. Roedd neuadd les y glowyr yn Ystrad Mynach ei hun yn gartref i lyfrgell, ystafelloedd darllen, ystafell snwcer, neuadd gymunedol ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus, ac yng Nghaerffili adeiladwyd ysbyty cyffredinol â chyfraniadau gan lowyr hefyd—lle i lowyr gael llawdriniaeth pan gaent ddamweiniau. Lle i sicrhau na fyddai'n rhaid eu cario dros y mynydd i Gaerdydd i gael triniaeth i achub eu bywydau.

18:40

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn y Coed Duon, 100 mlynedd yn ôl, agorwyd sefydliad y glowyr ar gyfer cyngherddau ac uchelwyliau, ac yn ddiweddarach ychwanegwyd llyfrgell, awditoriwm, llawr dawns ac ystafelloedd ar gyfer cymdeithasau lleol. Ers canrif, mae'r adeilad wedi bod yn gonglfaen i'r gymuned, nes i anfadrwydd cyni, gwarth toriadau cyllidebol, ddod yn agos at gau ei ddrysau. Cafodd Sefydliad y Glowyr y Coed Duon ei achub gan ymroddiad ymgyrchwyr lleol a chefnogaeth hael gan gymuned a oedd wedi hen arfer â chael pethau wedi eu cymryd oddi wrthynt. Diolch byth, mae ei ddyfodol bellach yn edrych yn fwy diogel.

Ond gwae ni, ni ellir dweud yr un peth am Lancaeach Fawr, trysor yng nghwm Rhymni sydd wedi bod ar gau ers dechrau'r flwyddyn, a'i ddrysau trwm ar gau yn erbyn y trefi a'r pentrefi a arferai anfon eu plant yno ar dripiau ysgol, y bu ei gymdeithasau lleol yn ymgynnull yn ei gaffi i gynnal cyfarfodydd neu'n ymweld â'i ysgubor ar gyfer ffeiriau a chyngherddau. Hyd nes y ceir prynwr preifat, bydd y straeon a gedwir yn ei waliau yn aros yn fud. Yn wir, tybed a fydd ochr anfasnachol y busnes, y maenordy lle byddai plant yn mynd yn ôl mewn amser, byth yn ailagor eto.

Ac nid dyna'r unig ased cymunedol sydd mewn perygl o gau. Ym Merthyr, caeodd adeilad a chanolfan gelfyddydau eiconig Redhouse ei ddrysau y llynedd. Codwyd cwestiynau dros ddyfodol canolfan gymunedol Aberfan, lle y talwyd amdano gan arian a anfonwyd at deuluoedd yn galaru wedi'r trychineb a laddodd eu plant. Os nad ydym yn diogelu'r safleoedd hyn sydd wedi gwasanaethu ein cymunedau yn oriau tywyllaf ein hanes, gallem fod mewn perygl o anghofio gwersi'r hanes hwnnw.

Mae canolfannau cymunedol ar hyd a lled y Cymoedd yn wynebu cau neu dorri eu horiau, gyda'r pyllau nofio lle dysgodd cymaint ohonom y sgìl bywyd hwnnw'n dioddef yn arbennig yn sgil gostau ynni cynyddol. Ac yn y cyfnod hwn o doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol, mae'n ymddangos bod llyfrgelloedd yn cael eu hystyried yn darged hawdd. Yng Nghaerffili, mae'r cyngor yn cynnig cau 10 llyfrgell ar draws y fwrdeistref, gan gynnwys yn Nelson, Llanbradach, Bedwas, Deri a Phengam. Mae trigolion sy'n dibynnu ar eu gwasanaethau wedi mynegi dicter a thristwch, ond yn ofer, rwy'n ofni.

Mae cau llyfrgell yn beth mawr. Mae'n weithred greulonach na chau drysau ar adeilad yn unig. Oherwydd mae llyfrgell yn fwy na brics a phibellau. O fewn ei waliau mae plastai cof, bydoedd anfesuradwy y gellir ein cludo iddynt. Ac maent yn hybiau hefyd i'r llesg a'r unig; lleoedd i gyfarfod, cadw'n gynnes, dysgu a rhyfeddu. Dyna'r freuddwyd a brynwyd i ni gan ein neiniau a'n teidiau. Lleoedd o gysur, gwybodaeth a chyfeillgarwch. A dyna'r gwaddol sydd mewn perygl o gael ei golli.

Yn y Cymoedd, rydym yn briodol falch o'r mab o Dredegar, Nye Bevan, a'i waith meistrolgar, y gwasanaeth iechyd gwladol. Ond daeth hoff rôl Bevan yn gynharach yn ei yrfa. Dywedodd mai'r swydd a roddodd fwyaf o lawenydd iddo oedd y rôl a chwaraeodd fel prynwr i lyfrgelloedd y glowyr, y blynyddoedd a dreuliodd fel cadeirydd y pwyllgor dethol llyfrau. Felly, nid ar wardiau ysbytai'n unig y gwelir ei waddol i'n Cymoedd, ond yn y llu o blant ac oedolion yn dysgu, gan ymhyfrydu yn y llyfrau a brynwyd ar eu cyfer.

Tybed beth fyddai'n ei ddweud pe gallai ymweld â'n strydoedd heddiw. Mae cymaint o ffenestri wedi'u bordio, adeiladau mawreddog, sydd bellach naill ai wedi'u dymchwel, wedi'u gosod i'w rhentu'n fasnachol, neu'n cael eu gadael yn wag fel bwganod i watwar a phlagio ein presennol. Neuaddau a sefydliadau'r glowyr yn brwydro i oroesi, capeli gwag, theatrau diffaith; yr atgofion y maent yn eu cymell o gyfnod pan oedd cymuned yn brofiad a rannem.

Yr adeiladau gwag yw'r dinistr mwyaf. Yn y blynyddoedd a'r canrifoedd a ddilynodd ymadawiad y Rhufeiniaid â'r glannau hyn, sut oedd pobl yn teimlo wrth weld yr adeiladau mawreddog a adawyd ar ôl; atgofion o gyfnod llawer creulonach, ond adeg pan adeiladwyd lleoedd mawreddog—cofebau, amffitheatrau. 

Yn y ddeuddegfed ganrif, teithiodd Gerallt Gymro trwy Gaerllion a gallwn ddweud o'i ysgrifau fod toeau'r baddonau Rhufeinig yno o hyd. Siaradodd am olion temlau a phalasau anferth, a oedd unwaith yn debyg i fawredd Rhufain hynafol. Sut deimlad oedd edrych ar yr adeiladau hynny a sylweddoli bod eu hamser wedi diflannu, na fyddai adeilad o'r fath yn cael ei adeiladu eto. Sic transit gloria mundi. Dyma'r modd y mae ysblander y ddaear yn diflannu.

Ac eto—. Ac eto—ni fyddem yn mynd yn ôl i amser y gweithfeydd glo, cyfnod o chwerwder, ecsbloetio, anafiadau a marwolaeth. Ond cafodd rhywbeth o werth ei greu yn y blynyddoedd creulon hynny, ymdeimlad o herfeiddiwch ac ysblander—rwy'n dychwelyd at y gair hwnnw. Mawredd y gwnaethom ei fynnu i'n pobl, mawredd a ddangoswyd gennym i'r byd ac i Dduw. Mannau ymgynnull lle deuai ein cymunedau ynghyd. Lleoedd lle gallem ddysgu a dod o hyd i lawenydd a harddwch. Mae'r lleoedd hynny'n haeddu mwy na chael eu cofio. Maent yn haeddu bod yn ganolfannau i gymunedau unwaith eto.

Mae angen deddfwriaeth arnom i ddiogeli’r asedau hyn, ffyrdd o'i gwneud hi’n haws i ddod â nhw nôl i mewn i berchnogaeth gyhoeddus. Yn wir, mae angen deddfwriaeth a fuasai’n sicrhau hawliau perchnogaeth cymunedol. Dyna’r hyn mae Cwmpas yn ymgyrchu drosto. Ac oes, mae comisiwn wedi’i sefydlu ar asedau cymunedol, ond mae angen brys yma. Rŷn ni’n barod ar ei hôl hi o gymharu â’r Alban a Lloegr, ac os gwnawn ni golli mwy o asedau cymunedol wrth aros i’r ddeddfwriaeth ddod ger ein bron, bydd ein cymunedau ni gyd ar eu colled.

Nawr, mae esiamplau o lefydd lle mae asedau wedi’u hachub yn y cymunedau hyn. Yng Nghaerffili, mae’r ysbyty glöwyr y gwnes i sôn amdano'n gynharach bellach yn ganolfan i’r gymuned, gyda siop goffi, gardd newid hinsawdd, ac mae’n ganolbwynt ar gyfer gwersi ioga, dosbarthiadau gwnïo, grwpiau megis Men’s Sheds, gweithgarddau fel sgiliau cyfrifiaduron, celf a chrefft—pob math o bethau dan un tô. Ar hyd a lled y cwm, mae hen gapeli sydd bellach wedi’u cau nawr wedi’u troi’n ganolfanau cymunedol, fel Nazareth yn Abertridwr a Beulah yn Rhymni. Esiamplau calonogol ydy pob un o fywyd newydd yn yr hen gerrig, a rhaid eu dathlu nhw.

Ond mae angen gwneud pethau’n haws i grwpiau a gwirfoddolwyr wneud y fath beth. Mae angen cymorth arbenigol, mynediad at gyllid a grymuso cymunedau. Canolfannau i’r Gymraeg ydy cymaint o'r rheina—wedi'r cwbl, buasent yn helpu’r Llywodraeth i gyrraedd mwy nag un targed neu flaenoriaeth.

Llefydd ysblennydd ydy’r asedau hyn. Mae’n hen bryd inni eu dathlu a’u gwerthfawrogi cyn y byddant yn troi’n gofebau’n unig i fyd coll, a gwerthoedd a phobl sydd wedi hen adael ein byd.

18:45

Diolch yn fawr iawn i ti, Delyth, am y ddadl yma.

Mae'n bwnc sy'n agos iawn at fy nghalon ac rwyf wedi cefnogi grwpiau sydd wedi ceisio dal gafael ar asedau cymunedol y mae pobl mor hoff ohonynt, er mor annhebyg oeddent o lwyddo. Fel arfer, mae gan y farchnad breifat bocedi llawer dyfnach na chwmnïau cydweithredol preswylwyr. Mae'n anghysondeb mawr nad yw pobl yng Nghymru yn mwynhau'r un hawliau â chymheiriaid yn yr Alban a Lloegr o ran yr hawl i brynu'r asedau cymunedol hyn. Ni roddwyd esboniad digonol am hyn erioed. Mae wedi arwain at adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn 2022 a ganfu mai cymunedau Cymru sydd wedi eu grymuso leiaf ym Mhrydain. Mae Llywodraethau Llafur olynol wedi colli cyfle yn hyn o beth. Yn y cyfamser, faint o'n hasedau cymunedol a gollwyd? Faint y parhawn i'w colli hyd nes y caiff yr anghysondeb ei gywiro? Faint o'n cymunedau fydd yn cael eu hamddifadu o'r cyfleoedd yr ydym ni i gyd wedi'u cael? Byddai'r grwpiau a gefnogais wedi ei chael hi'n haws o lawer cadw asedau cymunedol at ddefnydd cymunedol gyda mesurau diogelu o'r fath ar waith. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu'n gyflym ar hyn, i ddiogelu ein hasedau cymunedol ac i roi gobaith i'n cymunedau.

18:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau yn gyntaf trwy ddiolch i Delyth Jewell am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, ac i Peredur Owen Griffiths am gyfrannu.

Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno heddiw fod diogelu asedau cymunedol o'r pwys mwyaf i bobl ledled Cymru. Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am asedau cymunedol, gwn pa mor werthfawr y gall y mannau hyn fod i ddod â phobl ynghyd a hyrwyddo hunaniaeth leol, ac nid cofio'r hanes yn unig. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu ein hasedau cymunedol, sydd yn eu tro yn cefnogi gweithgareddau, treftadaeth a diwylliant lleol. Maent yn fannau lle rydym yn rhannu profiad, yn cefnogi ein gilydd ac yn adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn.

I adleisio cerdd Idris Davies, a'r cwestiwn a ofynnwyd gan glychau brown Merthyr, mae yna obaith i'r dyfodol. Mae asedau cymunedol yn sail i lawer o flaenoriaethau'r Prif Weinidog, yn enwedig sicrhau cyfleoedd i bob teulu. Ac fel y dywedodd Delyth, mae'r rhain yn aml yn ganolfannau i'n cymunedau, lleoedd sy'n cynnig cyfeillgarwch, cefnogaeth hanfodol, gwasanaethau ac ymdeimlad o gysylltiad ac ystyr. Mae mannau o'r fath yn cynnig cyfle i ni ystyried sut ydym yn ymwneud â'n gilydd ac â'n cymunedau. Rwy'n gwybod pa mor bwysig ydynt i bobl ar draws y Cymoedd a thu hwnt.

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned trwy amrywiol raglenni ariannu, gan gynnwys y rhaglen cyfleusterau cymunedol, a'r gronfa benthyciadau asedau cymunedol. Mae'r rhaglenni hyn wedi darparu cymorth hanfodol, cymorth ariannol, i helpu cymunedau i brynu neu wella cyfleusterau lleol hanfodol, fel adeiladau a mannau gwyrdd. Mae'r rhaglenni hyn wedi'u cynllunio i rymuso cymunedau, gan roi'r adnoddau ariannol y maent eu hangen iddynt i gynnal a gwella eu hasedau cymunedol.

Mae ein rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi darparu dros £63 miliwn mewn grantiau cyfalaf i tua 450 o brosiectau ledled Cymru ers 2015. Mae pob un o'r prosiectau hyn yn cynrychioli cyfleuster cymunedol mawr ei angen sy'n cael defnydd da. Maent yn cynnwys pob math o asedau, gan gynnwys lleoliadau chwaraeon, canolfannau cymunedol a chyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan grwpiau ffydd, eglwysi, capeli a mosgiau. Nid yw pob un o'r asedau hyn yn eiddo i'r gymuned, ond maent i gyd yn cael eu rhedeg gan y gymuned, ar gyfer y gymuned. Mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol wedi ariannu prosiectau bach fel atgyweirio Sied Dynion Hirwaun, a gosod paneli solar yng Nghlwb Lles Nwy Port Talbot. Mae prosiectau mwy yn cynnwys ailwampio clwb chwaraeon Pont-hir a'r clwb chwaraeon rhanbarthol yn Nhorfaen, a chreu canolfan ddiwylliannol Gymreig-Iddewig yng nghanol Merthyr Tudful.

Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi hefyd wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau cymunedol ledled Cymru. Un enghraifft nodedig yw Capel y Drindod yn Abertyleri, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ymweld ag ef yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r prosiect hwn wedi dod ag adeilad gwag yn hirdymor yng nghanol y dref yn ôl i ddefnydd, i ddarparu gwasanaeth llyfrgell blaenllaw, yn ogystal ag addysg a hyfforddiant i oedolion, sy'n cynnwys gofod dysgu digidol a gofod i'w osod ar gyfer gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Oherwydd mae'r rhain yn fwy na dim ond lleoedd ar gyfer dysgu. Mae'r rhain yn fannau sy'n caniatáu i gymunedau ddod at ei gilydd, a dyna pam ei bod hi mor bwysig eu cefnogi.

Un ffordd y gallwn wneud hyn yw drwy'r comisiwn asedau cymunedol, a sefydlwyd ym mis Mawrth y llynedd, ac sy'n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac Ystadau Cymru. Mae'r comisiwn yn cynnwys grŵp gorchwyl a gorffen, gyda 18 aelod, sy'n cynrychioli grwpiau rhanddeiliaid allweddol. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys Sefydliad Plunkett, Un Llais Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a chymdeithas dai Barcud. Prif ffocws y comisiwn yw adeiladau, tir ac asedau naturiol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau lleol sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu adnoddau hanfodol, asedau fel llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau celf, mannau gwyrdd a chanolfannau hamdden. Rydym yn ystyried asedau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn ogystal â rhai sydd ym mherchnogaeth y gymuned. Nod y comisiwn yw deall yr heriau y gallai cyfleusterau eu hwynebu, archwilio opsiynau ar gyfer perchnogaeth a rheolaeth, a datblygu cynigion i hyrwyddo'r agenda asedau cymunedol.

Rwy'n ymwybodol o'r cynigion yn Lloegr i ymgynghori ar hawl y gymuned i brynu, ac mae fy nhîm yn ymgysylltu'n llawn â swyddogion Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Bydd unrhyw benderfyniad yn y dyfodol yn cael ei lywio gan argymhellion ein comisiwn asedau cymunedol ein hunain, a byddwn yn adlewyrchu anghenion y cymunedau yng Nghymru. Rhan o gylch gwaith y comisiwn yw adolygu'r dirwedd ddeddfwriaethol a pha mor dda y mae wedi gweithio ac a yw wedi grymuso cymunedau mewn gwirionedd.

Un o'r arfau allweddol a ddatblygwyd gennym i gefnogi'r gwaith hwn yw'r canllaw arfer gorau ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol, a gyhoeddwyd gan Ystadau Cymru. Mae'r canllaw hwn yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr a chyngor ymarferol i gymunedau geisio perchnogi asedau lleol. Mae wedi'i amserlennu i'w adolygu yn 2025, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n berthnasol ac yn gyfredol, yn unol ag argymhellion y comisiwn asedau cymunedol. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwil academaidd annibynnol ac yn cynnal cyfres o weithdai rhanddeiliaid a ddechreuodd ym mis Medi i ddeall profiadau uniongyrchol grwpiau cymunedol ledled Cymru. Rwy'n hyderus y bydd ein dull gweithredu'n darparu syniadau amhrisiadwy yn seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn llywio'r ffordd ymlaen.

Cyhoeddir cylch gorchwyl y comisiwn ar wefan Ystadau Cymru, i ganiatáu i unrhyw un sydd â diddordeb ddeall cwmpas ac amcanion ein hymdrechion. Credwn fod cyfathrebu agored a chydweithio â'r holl randdeiliaid yn hanfodol i lwyddiant ein mentrau. Disgwylir y bydd argymhellion grŵp gorchwyl a gorffen y comisiwn yn cael eu cyflwyno erbyn hydref 2025. Mae cyfleusterau cymunedol fel y rhain yn cynnig cymaint mwy na lle atyniadol i bobl leol; maent yn cynnig swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli lleol, a gwell mynediad at ddysgu. Maent yn darparu ar gyfer teuluoedd, gan gynnig gofal plant, grwpiau rhieni a phlant bach, clybiau ieuenctid, a gwersi Cymraeg. Mae eu potensial i ddod â phobl ynghyd a meithrin cydlyniant cymunedol yn amhrisiadwy. Boed trwy ddarparu pwyntiau gwefru trydan neu wasanaethu fel canolfannau ar gyfer prosiectau trafnidiaeth gymunedol, mae asedau cymunedol yn rhan annatod o gysylltu a chryfhau ein cymunedau. Rydym wedi ymrwymo'n gadarn i gefnogi datblygiadau a arweinir gan y gymuned ac wedi darparu fframwaith sy'n cynnwys cyngor, arweiniad a chymorth ariannol.

Mae asedau cymunedol yn rhoi pwrpas gwerthfawr i bobl ledled Cymru. Boed yn llyfrgelloedd, cyfleusterau addysg, canolfannau diwylliannol, clybiau chwaraeon neu fannau gwyrdd, mae'r rhain yn ganolfannau ar gyfer ein cymuned sy'n meithrin ymdeimlad o berthyn a balchder, ac edrychaf ymlaen at weld argymhellion y comisiwn asedau cymunedol yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.

18:55

Daeth y cyfarfod i ben am 18:58.