Y Cyfarfod Llawn

Plenary

11/12/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Buffy Williams.

Costau Byw

1. Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn helpu trigolion y Rhondda sy'n cael trafferth gyda chostau byw? OQ62028

Lywydd, mae’r gyllideb ddrafft yn buddsoddi £1.5 biliwn ychwanegol mewn gwasanaethau cyhoeddus a thwf yng Nghymru. Ni allwn ddadwneud 14 mlynedd o niwed mewn un gyllideb, ond bydd ein cynigion yn helpu trigolion y Rhondda i fynd i'r afael, er enghraifft, â thlodi bwyd, tlodi plant a thrais domestig—achos y mae’r Aelod wedi gwneud cymaint i dynnu sylw ato.

Gwyddom fod costau byw yn dal i frathu, gyda rhenti, morgeisi a chostau ynni'n dal i fod ar lefel anghynaliadwy i ormod o deuluoedd. Yn gynharach yr wythnos hon, fel llawer iawn o elusennau a grwpiau cymunedol ledled y wlad, cwblhaodd Canolfan Pentre eu paratoadau i gefnogi teuluoedd dros y Nadolig hwn a thros fisoedd y gaeaf. Gwyddom fod y gwaith hwn yn amhrisiadwy i’r Llywodraeth ac yn newid bywydau'r teuluoedd a'r plant sy’n cael y cymorth. Sut y bydd y buddsoddiad hwn, a gyhoeddwyd fel rhan o’r gyllideb ddrafft, yn parhau i gefnogi’r trydydd sector, ac a fydd y gronfa cymorth dewisol a chyngor ar ddyledion yn cael eu cynnal i deuluoedd? Diolch.

Lywydd, diolch i Buffy Williams ac rwy'n ei llongyfarch ac yn diolch i’r holl ffrindiau a chefnogwyr a fydd wedi bod yn rhan o’r gwaith a amlinellwyd ganddi, yn cefnogi teuluoedd, ac yn enwedig plant, dros gyfnod y Nadolig. Mae’r gyllideb, yn wir, yn darparu nifer o fuddsoddiadau ychwanegol i helpu gyda’r gwaith hwnnw. Mae £1 filiwn ychwanegol ar gyfer y gronfa cymorth dewisol, sy’n ei chynyddu i gyfanswm o £40 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae £1.5 miliwn ar gyfer buddsoddi mewn canolfannau clyd i helpu pobl i gadw’n gynnes, i gael bwyd, ac i gael lle i gyfarfod ag eraill ac i gymdeithasu dros y gaeaf hwn.

Bydd cyllideb y gronfa gynghori sengl y cyfeiriodd Buffy Williams ati yn parhau ar £12 miliwn yn 2025-26, a bydd £1.9 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu fel cyfran Cymru yn yr ardoll ddyledion. Mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt eisoes wedi datgan yn glir ein bod yn bwriadu tendro am dair blynedd arall o arian grant ar gyfer y gronfa gynghori sengl o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen—datganiad clir o’n hymrwymiad i barhau i ddarparu’r gwasanaethau gwybodaeth a chyngor sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth ym mywydau cymaint o deuluoedd yn y Rhondda a thu hwnt.

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl eu datganiad o gyfrifon, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ychydig dros £255 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio. Mae'r cronfeydd enfawr hyn yn cael eu cadw mewn cyfrif banc tra bo trigolion yn y Rhondda a mannau eraill yn y fwrdeistref sirol yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Yr hyn sy'n waeth yw bod y cyngor Llafur wedi pleidleisio eto i gynyddu'r dreth gyngor ychydig o dan 5 y cant y flwyddyn nesaf. A ydych chi'n cytuno ei bod yn anfoesol fod gan y cyngor hwn gronfeydd mor helaeth wrth gefn pan fo pobl yn byw yn Rhondda Cynon Taf a fydd yn gorfod dewis rhwng cynhesu eu cartrefi neu gael pryd cynnes y Nadolig hwn? Diolch.

Wel, Lywydd, mater i’r awdurdod lleol, nid i mi, yw lefel y cronfeydd wrth gefn ar gyfer unrhyw awdurdod lleol, ac mae’r awdurdod lleol yn atebol i’w boblogaeth leol, a phobl y Rhondda a fydd yn penderfynu a yw’r cyngor wedi bod yn llwyddiannus ai peidio pan fydd y cyngor hwnnw'n cael ei ethol eto yn 2025. Gwyddom fod y darlun yn aml yn fwy cymhleth na'r hyn y mae'r cwestiwn yn ei awgrymu. Pan fydd yr Aelod yn dweud ‘cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio’, efallai fod modd eu defnyddio oherwydd bod gan y cyngor nifer o brosiectau mewn golwg—cynlluniau, fel sydd gan RhCT, yn sicr, i fuddsoddi yn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a bydd rhannau o’r cronfeydd wrth gefn hynny yno am eu bod wedi'u clustnodi i'w defnyddio yn y dyfodol.

Y Gymraeg yn Ardaloedd Dwyreiniol Cymru

2. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i ddatblygu defnydd y Gymraeg yn ardaloedd dwyreiniol Cymru? OQ62039

Llywydd, diolch yn fawr i John Griffiths am y cwestiwn. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ac i bob rhan o Gymru. Rydym ni wedi lansio ail gam y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid ledled dwyrain Cymru. Bydd cyfle i drafod a dathlu hyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025 ac, wrth gwrs, Eisteddfod yr Urdd, Casnewydd yn 2027.

13:35

O, na, mae'n ddrwg gyda fi. Mae'n ddrwg gyda fi, John Griffiths. John Griffiths i ofyn ei gwestiwn atodol.

Dof atoch yn nes ymlaen, Natasha. John Griffiths.

Un grŵp sy'n gwneud gwaith gwych i annog defnydd o'r Gymraeg yw Clwb Cymraeg Casnewydd—grŵp bach o bobl o bob oed a chefndir sy'n cyfarfod yn rheolaidd yng nghanol y ddinas i ymarfer y Gymraeg mewn sefyllfaoedd go iawn gyda dysgwyr a siaradwyr eraill. Mae'r grŵp yn helpu i roi profiad i bobl o drafod pethau bob dydd sy'n bwysig iddyn nhw, mewn cymaint o Gymraeg ag y gallan nhw, i gwrdd â phobl newydd, ac, efallai'n bwysicach oll, i wneud camgymeriadau a dysgu oddi wrthyn nhw. Y profiad o ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth yw lle mae'r cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud o ran dysgu iaith. Fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno efo fi fod y cyfarfodydd yma yn rhywbeth y dylem ni ei werthfawrogi i helpu i ddatblygu a thyfu'r iaith?

Diolch yn fawr i John Griffiths am y cwestiwn ychwanegol, Llywydd. A diolch iddo fe am yr esiampl y mae e'n ei rhoi o'r defnydd o'r Gymraeg. Wrth gwrs, dwi'n cytuno gyda fe pan fydd e'n dweud diolch i Glwb Cymraeg Casnewydd am eu gwaith. Mae'n hyfryd gweld pobl yn dod at ei gilydd fel hyn i gymdeithasu yn Gymraeg ac yn ei wneud e fel gwirfoddolwyr. Fel dwi'n deall, mae'r clwb yn gyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ble bynnag y maen nhw ar eu siwrnai iaith. Maen nhw'n dangos pwysigrwydd ymarfer a defnyddio'r Gymraeg, ac, wrth gwrs, gwneud camgymeriadau, achos trwy wneud camgymeriadau y mae pobl yn dysgu defnyddio unrhyw iaith yn well. So, wrth gwrs, dwi'n cytuno â'r Aelod am bwysigrwydd y gwaith y mae Clwb Cymraeg Casnewydd yn ei wneud, a dwi'n siŵr y byddan nhw, a phobl eraill yng Nghasnewydd, yn edrych ymlaen i weld Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal am y tro cyntaf, yn 2027.

Ysgrifennydd y Cabinet, pan godais fater yr arwyddion digidol newidiol Cymraeg yn unig ar yr M4 yn ddiweddar, fe ddywedoch ei fod yn swnio fel chwedl. Yn dilyn ein trafodaeth, cysylltodd toreth o fodurwyr ac etholwyr â mi, yn tynnu sylw at enghreifftiau penodol o hyn yn digwydd, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth a chithau wedi cael cwynion tebyg, gan fy mod yn aml yn cael fy nghopïo i mewn i’r e-byst hyn. Hoffwn ddatgan yn glir, Lywydd, nad ymosodiad ar y Gymraeg mo hyn o gwbl, ond apêl i sicrhau bod gennym arwyddion newidiol cwbl ddwyieithog ar waith fel mater o ddiogelwch. Mewn ymateb i un o’r e-byst gan etholwr, chwalodd Llywodraeth Cymru unrhyw awgrym mai chwedl oedd hon. Dywedodd y swyddog:

'Weithiau, nid yw hyn bob amser yn bosibl oherwydd prinder arwyddion ychwanegol ar gyffyrdd traffyrdd neu efallai fod nam ar rai arwyddion. Mae llawer o’r arwyddion negeseuon newidiol ar yr M4 yn dod at ddiwedd eu hoes ac nid oes gofod ar gael mwyach. Mae'r arwyddion diffygiol wedi'u rhaglennu i gael eu newid cyhyd â bod cyllid ar gael'.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu y gallwn gytuno nad chwedl mo hyn. Felly, a wnewch chi edrych ar y mater hwn ac ymrwymo i weithio gyda'ch cyd-Aelodau i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu ar frys i atgyweirio'r arwyddion diffygiol hyn? Diolch.

Lywydd, clywodd Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yr hyn a oedd gan yr Aelod i’w ddweud y tro diwethaf iddi godi’r mater hwn, a gallaf weld ei bod hi wedi cael ateb adeiladol iawn gan yr adran honno, yn amlinellu’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud. Nid yw'n ddim gwahanol i mi os oes yn rhaid i rywun y byddai'n well ganddynt gael eu gwybodaeth yn Gymraeg ddibynnu'n gyfan gwbl ar arwydd ffordd Saesneg na phe bai rhywun sy'n well ganddynt gael eu gwybodaeth yn Saesneg yn gweld arwydd yn Gymraeg. Mae gan y ddwy iaith statws cyfartal a gwerth cyfartal yma yng Nghymru. Ac nid wyf yn cytuno â'r hyn rwy'n parhau i gredu yw'r byrdwn y tu ôl i'w chwestiwn—sef, rywsut, ei bod yn bwysicach cael arwydd yn Saesneg na chael un yn Gymraeg.

Ar ôl cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn ôl yn 2011, bu cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn dysgu ac yn defnyddio’r Gymraeg. Ac fel y dywedoch chi yn eich ateb gwreiddiol, Ysgrifennydd y Cabinet, y flwyddyn nesaf, unwaith eto, mae Wrecsam yn falch iawn o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r awdurdod lleol, a phartneriaid eraill, i sicrhau ein bod yn defnyddio’r cyfle hwn i gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac a fyddech chi'n cytuno â mi hefyd y gall cyngor Wrecsam ddysgu rhai gwersi o lwyddiant cyngor Rhondda Cynon Taf, a reolir gan Lafur, wrth gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni?

13:40

Wel, diolch yn fawr iawn i Lesley Griffiths am ei chwestiwn. Mae'n llygad ei lle—credaf fod yr Eisteddfod ym Mhontypridd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Cafodd ei chroesawu'n frwd gan yr awdurdod lleol, a chan ei arweinydd rhagorol, y Cynghorydd Andrew Morgan. Rwy’n gwbl sicr y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun wedi dysgu o’r profiad ym Mhontypridd ac y bydd am roi'r hyn y mae wedi'i ddysgu ar waith gyda chydweithwyr yn Wrecsam. Ac edrychaf ymlaen, yn sicr, gyda'r holl bobl leol sydd eisoes yn gwneud ymdrechion aruthrol i baratoi ar gyfer yr Eisteddfod honno a’i gwneud yn llwyddiant, edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy a phartneriaid eraill i sicrhau y bydd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn Wrecsam, mewn rhan o Gymru lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei defnyddio mor aml ag mewn rhai rhannau eraill, yn rhoi hwb parhaol i’r iaith yn y rhan honno o Gymru. Ac edrychaf ymlaen yn fawr at fod gyda’r Aelod dros Wrecsam ar y maes fis Awst nesaf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddom, un o’r pethau cyntaf a wnaeth y Llywodraeth Lafur newydd oedd cael gwared â thaliadau tanwydd y gaeaf i 500,000 o bensiynwyr Cymru. Mae llawer o'r farn fod hwn yn benderfyniad cywilyddus ac y bydd yn rhoi pobl mewn perygl, gan adael llawer ohonynt â dewis rhwng gwresogi a bwyta dros y gaeaf hwn. Yr wythnos diwethaf, galwodd y comisiynydd pobl hŷn am gronfa benodol i bobl hŷn i liniaru yn erbyn cael gwared ar y cymorth hynod hanfodol hwn, yng nghanol yr hyn a alwodd yn bryder, dicter a thrallod eithafol. Rydym wedi gweld newid agwedd yn yr Alban, gyda’u Llywodraeth yn dadwneud, yn rhannol, rhai o’r toriadau yn San Steffan. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn felly pam na chafodd unrhyw gronfa benodol ei hystyried yng Nghymru i helpu’r pensiynwyr sydd angen y cymorth yn fawr ond sydd o fewn trwch blewyn i'r trothwy credyd pensiwn? Ac a wnewch chi ymrwymo i ailystyried hyn drwy broses y gyllideb?

Wel, Lywydd, nid yw'r gymhariaeth â’r Alban yn un synhwyrol. Mae gan yr Alban bŵer ym maes lles nad oes gennym yma yn y Senedd, a chânt eu hariannu i gyflawni’r cyfrifoldebau hynny. A'r rheswm pam fy mod yn anghytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi’i awgrymu yw am fod arian sy’n dod i Gymru yn dod yma i gyflawni’r cyfrifoldebau sydd gennym yn y Senedd hon. Ac nid wyf erioed wedi meddwl ei bod yn synhwyrol dargyfeirio arian sydd yma ar gyfer ein cyfrifoldebau i dalu am gyfrifoldebau rhywle arall.

Mae’r penderfyniad a wnaed mewn perthynas â’r lwfans tanwydd y gaeaf, fel rwyf wedi clywed y Prif Weinidog yn egluro droeon, yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU y mae’n rhaid iddynt fod yn atebol amdano. Yma yng Nghymru, rydym yn defnyddio’r pwerau sydd gennym i ddarparu cymorth ychwanegol i bobl sy’n wynebu anhawster y gaeaf hwn, boed hynny drwy'r cynllun canolfannau clyd, neu'r cymorth sydd ar gael ar gyfer biliau tanwydd. Rydym yn gwneud hynny, fodd bynnag, drwy ddefnyddio’r cyfrifoldebau sydd yma yn y Senedd a’r arian sydd ar gael i ni i’w cyflawni, yn hytrach na meddwl y gallwn barhau i wneud iawn am anawsterau gyda chyllid nad yw ar gael ar gyfer cyfrifoldebau eraill nad ydynt yn perthyn yma.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Prin fy mod yn disgwyl iddo gael ei ad-dalu i bob pensiynwr, ond rhyw fath o gynllun a allai fod wedi helpu'r rheini sydd drwch blewyn uwchlaw’r trothwy, sy'n teimlo'r effaith yn fawr, ac mae llawer o’r rheini wedi dod i fy ngweld yn fy etholaeth. Fodd bynnag, rwy'n deall eich safbwynt nawr.

Gan symud ymlaen, fel rwyf wedi'i ddweud droeon o'r blaen, Ysgrifennydd y Cabinet, roedd penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i gyflwyno cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol ar gyfer busnesau nid yn unig yn groes i'w hymrwymiad maniffesto, ond bydd hefyd yn hynod niweidiol i unrhyw obaith y gallai fod gan fusnesau yng Nghymru am dwf. Mae hyn eisoes wedi’i fynegi i mi gan lawer o fusnesau, yn enwedig yr wythnos diwethaf. Wedi dweud hynny, bydd angen i fwy na busnesau ei dalu, bydd angen i gyrff sector cyhoeddus, sy’n cyflogi’r hyn sy’n cyfateb i 10 y cant o’r boblogaeth, dalu’r codiad treth hwn hefyd. Nawr, gwn fod y Canghellor wedi cadarnhau y bydd arian ychwanegol yn dod i Gymru i dalu am y cynnydd. Fodd bynnag, roedd datganiad y gyllideb ddrafft ddoe yn dal i fod yn amwys o ran manylion. Ysgrifennydd y Cabinet, pryd y cawn eglurder fel y gellir cael gwared ar yr ofnau y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod talu cyfran neu'r cyfan o’r gost hon?

13:45

Wel, Lywydd, ni chredaf fod y gyllideb ddrafft yn amwys ar y pwnc; roedd y gyllideb ddrafft yn fud ar y pwnc, gan nad oes gwybodaeth gennyf sy’n caniatáu imi ystyried unrhyw gyllid ychwanegol a ddaw gan Lywodraeth y DU i helpu’r gweithwyr hynny yn y gwasanaethau cyhoeddus â chyfraniadau yswiriant gwladol. Ni fyddwn yn gwybod gan Lywodraeth y DU faint o arian a ddaw i Gymru at y dibenion hynny hyd nes y bydd y Canghellor yn dweud ym mis Mai neu fis Mehefin y flwyddyn nesaf. Yr hyn rwyf wedi’i ddweud, ac fe'i dywedaf eto y prynhawn yma, ac fe’i dywedais wrth arweinwyr awdurdodau lleol yn gynharach yn yr wythnos, yw y bydd Llywodraeth Cymru, at y dibenion hyn, yn gweithredu fel blwch post. Bydd yr arian a ddaw i ni at y dibenion hyn yn ein gadael i fynd yn uniongyrchol i'r cyflogwyr y mae penderfyniad y Canghellor yn effeithio arnynt. Ni fyddwn yn dargyfeirio'r arian i unrhyw le, ni fyddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall. Bydd pob ceiniog a ddaw i ni am y rheswm hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r cyflogwyr hynny, a bydd yn mynd cyn gynted ag y bydd yr arian yn ein cyrraedd. Bydd y Senedd yn ei weld yn yr ail gyllideb atodol, lle bydd yn cael ei adrodd i’r Aelodau yn y ffordd arferol.

Diolch am yr eglurhad, ac mae'n ddefnyddiol, ond bydd y cynghorau'n bryderus o hyd na fydd yr holl arian y gobeithiwn amdano neu rydych chi'n gobeithio amdano yn dod i lawr yr M4, a bydd hynny'n effeithio ar y mathau o benderfyniadau y bydd yn rhaid iddynt eu gwneud nawr pan fyddant yn gosod eu cyllideb eu hunain. Felly, mae eglurder yn bwysig iawn, a’r gobaith yw y gall Llywodraeth y DU nodi mwy i chi yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

A ninnau'n sôn am lywodraeth leol, rydym wedi gweld heddiw fod y setliadau wedi’u cyhoeddi, fel y gwnaethoch ei rannu yma yn y Siambr hon ddoe. Mae cynnydd cyfartalog o 4.3 y cant, oddeutu £250 miliwn, sy'n gynnydd pwysig, ond serch hynny, mae'n llai o lawer na'r pwysau o £560 miliwn y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu. Fodd bynnag, mae'n amheus gennyf a oeddent yn disgwyl y cyfan ohono. Fodd bynnag, golyga'r cynnydd o 4.3 y cant, fel y gwnaethoch gydnabod, fod rhai yn ennill a rhai yn colli, a gwelwn gynnydd yng Nghasnewydd o 5.3 y cant, sydd i’w groesawu’n fawr, tra bo siroedd fel sir Fynwy yn cael 2.8 y cant yn unig. Nawr, gwn ichi ddweud y byddai'r setliad hwn yn achub cynghorau rhag y dibyn, ond gwyddom y bydd rhai'n dal ar ymyl y dibyn, ac yn amlwg, mae hyn eto'n dangos bod angen ailedrych ar y fformiwla gyllido. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried cyflwyno cyllid gwaelodol eleni i ddiogelu'r rheini sydd o dan y pwysau mwyaf, gan gydnabod y gwahaniaeth rhwng yr isaf a’r uchaf?

Wel, diolch i Peter Fox am ei gwestiwn olaf pwysig. Mae’n llygad ei le: mae gan y fformiwla gyllido, ar gyfartaledd o 4.3 y cant, bob amser rai awdurdodau lleol sy’n gwneud yn well na hynny a rhai na fyddant yn gwneud cystal. Gŵyr fod y fformiwla gyllido, er mor gymhleth ydyw, yn cael ei llywio gan ddau ffactor yn unig sy'n gyfrifol am y rhan helaeth o'r fformiwla. Os yw eich poblogaeth yn cynyddu, mae’r swm o arian a gewch drwy’r fformiwla yn cynyddu; os yw nifer y plant sy’n mynd i ysgolion yn lleihau, mae’r fformiwla’n adlewyrchu hynny hefyd. Caiff y fformiwla ei llywio gan ddemograffeg, ac yna mae ganddi set fwy cymhleth o ffactorau eraill y mae'n eu hystyried.

Rwy’n ymwybodol o’r bwlch rhwng 5.6 ar ben uchaf ystod y dosbarthiad a 2.8 ar y pen isaf. Rwyf wedi ymrwymo i gynnal trafodaethau pellach gyda fy nghyd-Aelod Jane Bryant rhwng y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol i weld a oes unrhyw beth arall y gallem ei wneud i gefnogi'r cynghorau ar ben llai buddiol yr ystod honno ymhellach.

Diolch, Llywydd. Dwi’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi pam ein bod ni, fel gwrthbleidiau, yn codi yswiriant gwladol gymaint o weithiau. Mi wnes i godi hwn ddoe. Dwi’n gwerthfawrogi eich bod chi wedi sôn yn eich ymateb i Peter Fox na fyddwch yn gwybod yn union tan fis Mai neu Fehefin. Ond, a gaf i ofyn, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda’r Canghellor o ran cael y cymorth ychwanegol hwnnw? Rydyn ni’n gwybod am y llu o lythyrau rydyn ni’n eu derbyn gan y trydydd sector, GPs ac ati. Felly, fyddech chi’n gallu rhoi mewnwelediad i ni o ran ydych chi’n disgwyl gweld unrhyw newid, neu ai dyma fel fydd hi?

13:50

Wel, wrth gwrs, Llywydd, mae Gweinidogion fan hyn yn cymryd cyfleon i godi pethau fel hyn gyda’r Canghellor a gyda Gweinidogion eraill yn y Trysorlys. Rydyn ni’n gwybod bod y Prif Weinidog wedi cael cyfle i siarad â Keir Starmer yng Nghaeredin ddydd Gwener diwethaf am nifer o bynciau sy’n berthnasol i ni yng Nghymru yn y maes cyllid. Ces i gyfle i siarad yn uniongyrchol â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys nôl ym mis Hydref. Bydd y CST yma yng Nghymru yn gynnar yn y flwyddyn newydd, a bydd mwy o gyfleon i godi'r pynciau y mae pobl wedi’u codi gyda ni. Ac wrth gwrs, dwi’n siŵr y bydd y Canghellor yn clywed yn union yr un pwyntiau gan bobl yn Lloegr hefyd. So, lan iddi hi fydd e, ar ddiwedd y dydd, i wneud y penderfyniadau ar faint o bobl y mae hi’n gallu helpu gyda’r mater yswiriant, ond mae hi’n hollol ymwybodol o'r pwyntiau y mae'r sectorau wedi'u codi gyda ni yma yng Nghymru.

Gan obeithio, felly, y bydd hi’n gwrando arnoch chi, a chithau o'r un blaid. Heb eglurder gan y Trysorlys, felly, o ran hyn, sut allwch chi fod yn sicr o’r asesiad effaith integredig strategol a gyhoeddwyd i gyd-fynd efo cyllideb ddoe? A pha asesiad ydych chi wedi’i wneud o ran faint o gyllideb ddoe fydd yn mynd nôl i’r Trysorlys, gan y bydd yn cael ei wario i lenwi’r bwlch sydd wedi’i greu oherwydd y newidiadau i yswiriant gwladol?

Llywydd, dwi’n meddwl ei fod yn bwysig i ddweud bod arian yn mynd nôl i’r Trysorlys bob dydd ar ôl penderfyniadau mae’r Llywodraeth yn San Steffan yn eu gwneud. Pan, er enghraifft, fydd y Llywodraeth yn San Steffan yn codi’r real living wage—rhywbeth rydyn ni’n ei groesawu fan hyn, wrth gwrs—bydd mwy o bobl yn talu treth incwm, ac mae hwnna’n mynd nôl i’r Trysorlys. Mae hwnna jest yn rhywbeth sy’n digwydd bob dydd o ran y penderfyniadau sydd y tu ôl i’r cyllid sydd gennym ni i'w wario yma yng Nghymru. Pan fydd pobl yn y trydydd sector yn prynu pethau i’w defnyddio, maen nhw’n talu VAT. Bydd yr arian yn mynd nôl i’r Trysorlys. Mae jest yn rhan o sut mae pethau yn digwydd yn y maes cyllid. So, dydyn ni ddim wedi gwneud gwaith i drio ffeindio mas yn fanwl faint o arian sy’n cael ei godi yma yng Nghymru yn y ffordd yna sy’n mynd nôl i’r Trysorlys. Mae ffigurau ar gael, ac mae’r ffigurau yn dangos, fel maen nhw’n dweud,

Mae dinasyddion Cymru yn gwneud ymdrech dreth fwy nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

Ond mae’n rhaid eich bod chi wedi clywed yr hyn mae pobl fel Citizens Advice yn ei ddweud ynglŷn â’r toriadau fyddan nhw’n gorfod eu gwneud i staff. Os yw pobl ddim efo swyddi, dydyn nhw'n methu cyfrannu i’r economi. Dwi’n meddwl bod deall beth ydy effaith y newidiadau yswiriant gwladol ar gyllideb Cymru a faint sydd ar gael yn bwysig. Roeddech chi’n sôn am ddyfodol disglair o ran cyllideb ddoe. Os ydych chi’n edrych ar ddadansoddiad sydd wedi’i wneud gan y Wales Governance Centre, ac fe wnaf ddyfynnu fan hyn, maen nhw’n sôn,

'Ar ôl cyllideb "fawr" eleni, mae cylch cyllidebol y flwyddyn nesaf yn argoeli i fod yn anos, a gallai deimlo fel dychwelyd at gyni i rai gwasanaethau cyhoeddus.'

Felly, mae yna bryderon mawr gan bobl niwtral sydd yn dadansoddi pethau fan hyn o ran sefyllfa ariannol Cymru. Fyddech chi’n gallu rhoi yr eglurder hwnna i ni, oherwydd mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod ydy’r asesiad oedd yn cyd-fynd efo’r gyllideb yn un gynrychioliadol efo effaith yswiriant gwladol yn benodol?

Wel, Lywydd, roeddwn yn ceisio ymateb i’r pwynt penodol y credwn fod yr Aelod wedi’i godi, ynglŷn ag a oeddem wedi gwneud asesiad o’r graddau y caiff yr arian a ddaw i Gymru ei anfon yn ôl i’r Trysorlys yn y pen draw. Roeddwn ond yn ceisio egluro bod hynny'n rhan o’r ffordd arferol y mae arian yn llifo ar draws economi’r DU. Nid yw’r gwahanol asesiadau a welwch yn sgil y gyllideb yn rhoi ystyriaeth lawn i effaith y codiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol, oherwydd, fel y dywedaf, nid oes gennym sicrwydd eto faint o weithwyr yng Nghymru a gânt eu cynnwys yn yr arian y bydd y Trysorlys yn ei ddarparu. Ac o ran pryderon ynghylch cyllideb y flwyddyn nesaf, fy ngwaith ar hyn o bryd yw sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r cyfle a ddaw gyda'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Edrychaf ymlaen at ddatganiad y gwanwyn gan y Canghellor. Edrychaf ymlaen at allu rhoi sicrwydd i lywodraeth leol a sefydliadau eraill sy’n dibynnu ar gyllid a ddarparwn fel y gallant gynllunio ar gyfer y tair a phedair blynedd nesaf i wneud y gorau o’r cyfle sylweddol yr ydym wedi'i gael o ganlyniad i’r gyllideb ddrafft.

13:55
Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd

3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod modd cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y brifddinas? OQ62013

Diolch yn fawr i Rhys ab Owen am y cwestiwn, Llywydd. Mae cynllun strategol Cymraeg mewn addysg Cyngor Caerdydd yn ymrwymo, erbyn 2031, i gynyddu canran y dysgwyr sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i 27 y cant, cynnydd o 9 y cant. Cafodd yr awdurdod adborth ar ei adroddiad cynnydd blynyddol yr wythnos diwethaf, ac mae cyfarfod dilynol wedi'i gynllunio.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet. Nawr, byddwch chi'n ymwybodol o'r ymgyrch i sefydlu'r bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol o ymateb Cyngor Caerdydd sy'n dweud bod yna ddigon o lefydd mewn addysg uwchradd Gymraeg am y pum mlynedd nesaf. Ond rŷm ni'n gweld bod ysgolion cymunedol—. Rŷch chi wedi sôn o leiaf ddwywaith fan hyn yn y Senedd am ysgol fel Ysgol Treganna, ysgol gymunedol yn cynyddu o 11 o blant i dros 900 o blant. Does dim un bws yn mynd i Ysgol Treganna, sy'n beth rhyfedd i ni sydd fan hyn a oedd wedi cael ein 'bus-io' am oriau bob dydd i addysg Gymraeg. 

Beth sy'n anghyfforddus yw bod yna blant o dde Caerdydd, maen nhw i gyd yn gorfod croesi'r ddinas o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghaerdydd, yn gorfod croesi'r ddinas er mwyn derbyn addysg Gymraeg. Mae hyn heb ystyried trafferthion cael eu derbyn i'r ysgol uwchradd na'r trafferthion o ran sicrhau trafnidiaeth ar draws y ddinas. Mae hyn yn rhesymol yn bownd o roi rhieni off anfon eu plant i addysg Gymraeg. Felly, sut ydych chi'n mynd i sicrhau, Ysgrifennydd Cabinet, fod y Gymraeg wirioneddol yn iaith i bawb, bod pawb yn gallu darllen yr arwyddion diffygiol a gafodd eu sôn amdanynt yn y cwestiwn cyntaf, ond yn enwedig pobl o ardaloedd difreintiedig a mwyaf aml-ethnig ein prifddinas? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr am y cwestiwn ychwanegol. Dwi'n deall y pwyntiau mae'r Aelod yn eu codi a'r pryderon sydd gan rieni yn ne'r ddinas yn benodol. Mae jest yn wir i ddweud bod yr awdurdod lleol yn wynebu dau fater gwahanol o ffaith: yn gyntaf, y gyfradd genedigaeth sy'n gostwng ledled Cymru ac sydd ar ei hisaf ers cyhoeddi data cymharol am y tro cyntaf yn 1929. Mae hynny yn cael effaith nawr ar y nifer—nid y canran, ond y nifer—o blant sy'n mynd i mewn i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd. Hefyd, mae'n ffaith bod gan un o'r tair ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd nifer o lefydd gwag, ac mae hynny yn creu cyd-destun anodd i'r cyngor er gwaethaf y twf llwyddiannus mewn addysg Gymraeg yng Nghaerdydd. 

Serch hynny, mae WESP yr awdurdod lleol yn rhagweld y posibilrwydd o ysgol o'r fath, a dwi wedi gofyn i'm swyddogion drafod hyn yn uniongyrchol gyda Chyngor Caerdydd mewn cyfarfod i drafod adroddiad adolygu blynyddol yr awdurdod, ac yn cynnwys trafnidiaeth fel rhan o'r trafodaethau.  

Weinidog, mae llawer o’r meysydd polisi sy'n ymwneud ag addysg yn amlwg yn nwylo Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ond heddiw, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cyflwyno adroddiad ar y cyflenwad o athrawon cyflenwi a staff addysgu dros dro mewn ysgolion. Mae hynny’n gofyn am ddull gweithredu cydgysylltiedig rhyngoch chi, sef y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, a'r Ysgrifennydd addysg wrth gwrs. Y tri mater a drafodwyd ganddynt, yn bwysig, oedd y gostyngiad yn nifer yr athrawon sy’n gwneud gwaith locwm mewn ysgolion, sydd wedi gostwng 16 y cant; y gallu i gael porth cenedlaethol i ysgolion ei ddefnyddio i gael athrawon cyflenwi pan fo athrawon yn absennol; ac yn arbennig, mater dybryd darparu athrawon cyflenwi arbenigol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, fel y gall yr athrawon ddarparu budd i’r disgyblion drwy roi profiad addysgol cyflawn iddynt. Pa waith y byddwch chi'n ei wneud gyda’r Ysgrifennydd addysg i fynd i’r afael â’r pryderon y mae’r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wedi’u nodi ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, fel y gall disgyblion ffynnu gydag athro sydd wedi cymhwyso'n llawn o’u blaenau?

14:00

A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am y pwyntiau pwysig hynny? Maent yn adleisio pwyntiau y mae ein cyd-Aelod Mike Hedges wedi eu gwneud yn fynych ar lawr y Senedd am natur addysg gyflenwi a llanw yma yng Nghymru. Rwy'n gweithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod Lynne Neagle ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), yr wyf yn gyfrifol am ei hebrwng drwy'r Senedd. Mae Cyfnod 1 y Bil hwnnw wedi bod gerbron tri phwyllgor Senedd gwahanol. Mae'r tri ohonynt i fod i adrodd erbyn diwedd yr wythnos hon, rwy'n credu, neu ddechrau'r wythnos nesaf, ar eu casgliadau o ganlyniad i graffu Cyfnod 1. O fod wedi dilyn yn ofalus y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn arbennig, gwn fod mater y gweithlu wedi bod gerbron y pwyllgor yn rheolaidd. Edrychaf ymlaen at weld beth sydd gan y pwyllgor hwnnw i'w ddweud, ynghyd â'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus, ac at weithio gyda fy nghyd-Aelod Lynne Neagle ar ddod o hyd i atebion i'r problemau y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atynt y prynhawn yma.

Cyllid Meddygon Teulu

4. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cyllid ar gyfer meddygaeth deulu yng Nghymru? OQ62026

Mae'r buddsoddiad cyffredinol mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol wedi cynyddu yn nhermau arian parod o un flwyddyn i'r llall drwy setliadau a negodwyd ac y cytunwyd arnynt gyda chynrychiolwyr Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru).   

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol, gydag un o'ch rolau blaenorol, o'r ddeddf gofal gwrthgyfartal, mai'r bobl sydd â'r angen mwyaf am wasanaethau iechyd yn aml yw'r rhai sydd leiaf abl i gael mynediad at y gwasanaethau iechyd hynny. Mae Prifysgol Caerdydd wedi tynnu sylw yn ddiweddar at y ffaith bod y ddeddf gofal gwrthgyfartal honno yn cael ei chynnal yn barhaus gan y cyllid y mae practisau meddygon teulu yn ei gael yng Nghymru. Mae Prifysgol Caerdydd wedi dangos mai practisau meddygon teulu yn ein cymunedau tlotaf sy'n cael y lefelau isaf o gyllid mewn gwirionedd, er mai'r rheini sy'n gwasanaethu pobl sydd â'r anghenion iechyd mwyaf. Yn wir, mae un meddyg teulu yr effeithiwyd arno, Dr Jonny Currie, wedi dweud:

'Mae sylweddoli bod practisau mewn ardaloedd fel ein hun ni yn cael eu tanariannu'n strwythurol yn sioc. Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hon yn annog ein corff proffesiynol a'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd o wrthdroi'r annhegwch hwn ar frys, cyn i niwed pellach posibl gael ei achosi.'

Rwy'n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch chi'n siomedig o glywed bod hynny'n digwydd gyda chyllid meddygon teulu yma yng Nghymru, felly hoffwn wybod beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod cyllid ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru yn deg, gan sicrhau bod y bobl sydd angen y gwasanaethau iechyd hynny fwyaf yn gallu cael mynediad atynt.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith mai gwaith Julian Tudor Hart ar y ddeddf gofal gwrthgyfartal yn ôl pob tebyg yw'r darn unigol mwyaf adnabyddus o ymchwil ym maes gofal sylfaenol yn yr ugeinfed ganrif. I'r rhai ohonom a oedd yma ac sy'n ei gofio, roedd yn rhan fawr iawn o ddiwygiadau fformiwla Townsend a gyflwynwyd mewn sesiwn gynnar iawn o'r Senedd hon.

Mae'r ymchwil y mae'r Aelod yn cyfeirio ati, rwy'n credu, yn ymchwil i brosiect sy'n cael ei ariannu drwy Lywodraeth Cymru, ac mae wedi'i chynllunio i sicrhau ein bod yn gallu cyfeirio ein hadnoddau at y mannau lle mae eu hangen fwyaf. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, mewn dadl yma ar lawr y Senedd, wedi ymrwymo i sicrhau, pe bai mwy o arian ar gael, y bydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio, yn rhannol, i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd a geir rhwng gwahanol rannau o Gymru fel blaenoriaeth ar gyfer penderfyniadau cyllido yn y dyfodol, gan ddysgu'r gwersi o'r prosiect pwysig iawn y cyfeiriodd Sam Rowlands ato.

Yn ystod y drafodaeth ddoe ar y gyllideb, fe glywsom ni'r Aelod dros Flaenau Gwent, Alun Davies, yn dweud mai'r hyn oedd yn bwysig i'w etholwyr o ym Mlaenau Gwent oedd eu bod nhw'n cael gweld meddyg teulu pan fo'r angen yn codi. Ers 2012, mi ydym ni wedi gweld 100 o feddygfeydd yn cau yma yng Nghymru, a mwy o feddygon teulu yn ymddeol yn gynnar neu'n gadael y wlad oherwydd nad oes ganddyn nhw'r adnoddau angenrheidiol er mwyn cario allan eu gwaith. Mae hynny oherwydd bod y gyfran o'r pres sy'n mynd i feddygon teulu llawer yn llai—tua 5 y cant o'r gyllideb iechyd erbyn hyn, yn lle'r ffigwr hanesyddol o tua 8 y cant. Felly, pryd gallwn ni weld y gyfran o'r pres sydd yn mynd at feddygon teulu yn cynyddu er mwyn sicrhau bod etholwyr Alun Davies a fy etholwyr i, ac etholwyr Cymru gyfan, yn medru gweld meddygon yma yng Nghymru?

14:05

Fel y dywedais i, pan gododd y pwynt yma mewn dadl ar lawr y Senedd fis diwethaf, wrth ymateb i'r ddadl roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi esbonio ei bod hi, ar ôl y cyfnod COVID, wedi bod yn angenrheidiol inni ariannu ysbytai i ddelio gyda'r bobl a oedd yn aros am driniaeth. Fel y dywedodd e yn y ddadl yna,

'Bydd unioni'r anghydbwysedd hwn'—yr anghydbwysedd rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd a rhwng y rhannau o Gymru lle mae'r ddeddf gofal gwrthgyfartal i'w chanfod—

'yn flaenoriaeth ar gyfer penderfyniadau cyllido...yn y dyfodol'.

Roeddwn yn bresennol yn y seminar a drefnwyd gan y prosiect Deep End, ac rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn fod y grwpiau hyn o feddygon teulu wedi dod at ei gilydd. Roedd yn ddiddorol iawn darllen yn y papur ar bresgripsiynu cymdeithasol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr y llynedd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl ar y pryd fod 20 y cant o gleifion yn ymgynghori â'u meddyg teulu am broblem sy'n un gymdeithasol yn bennaf. Roedd ganddo ystadegau diddorol iawn am werthusiad Rotherham o bresgripsiynu cymdeithasol. O ystyried nad oes gennym raglen Cymunedau yn Gyntaf mwyach, tybed pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i edrych ar broblemau nad oes angen i feddyg cymwys ymdrin â hwy, ond sydd yr un mor bwysig i les cleifion mewn ardaloedd tlotach. Roedd gennym raglen Cymunedau yn Gyntaf yn flaenorol, mae gennym amrywiaeth o bethau eraill bellach, ond mae eu cyfuno â'i gilydd fel y gallwn dargedu adnoddau ar gyfer y practisau meddygon teulu lle gwelant fwyaf o broblemau'n ymwneud â llesiant pobl yn amlwg yn rhywbeth y byddai'n ddefnyddiol ceisio ei archwilio.

Diolch i Jenny Rathbone am hynny, Lywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n cyffwrdd â dadl ddiddorol a heb ei datrys. Wrth i'r rhwyd ddiogelwch gymdeithasol freuo, ac wrth iddi freuo dros y degawd diwethaf, nid oes unrhyw amheuaeth fod pobl yn gwneud eu ffordd at y rhan o'r system sy'n dal i fod ar agor ac ar gael iddynt, ac yn aml iawn, y meddyg teulu yw'r rhan honno. Os nad oes unman arall i fynd, o leiaf fe wyddoch y bydd eich meddyg teulu yn eich gweld.

Mae'r ddadl, rwy'n credu, rhwng ai'r ateb cywir yw cryfhau gwasanaethau cymunedol eraill a gobeithio y byddant yn dargyfeirio pobl o'r angen i fynd at feddygon teulu, neu a yw'n fwy llwyddiannus i bractisau meddygon teulu eu hunain arallgyfeirio a gallu darparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau i bobl sy'n gwneud eu ffordd at eu drysau beth bynnag. Mae yna wasanaethau meddygon teulu sy'n rhoi cyngor ar hawliau lles yn y feddygfa; mae yna feddygfeydd sydd â gwasanaethau cwnsela fel rhan o'r gyfres o bethau y maent yn eu darparu.

Rwy'n credu bod Jenny Rathborne yn cyfeirio at ddadl sy'n dal i fod yn agored, ac mae'n un bwysig: pa ffordd yw'r fwyaf effeithiol o gael gwasanaethau i'r unigolyn? A ydych chi'n darparu'r gwasanaethau ac yn gobeithio y bydd yr unigolyn yn mynd atynt, neu a ydych chi'n darparu'r gwasanaethau lle mae'r unigolyn yn mynd beth bynnag? Nid wyf yn credu ein bod yn gwybod yr ateb i hynny, ond wrth ei wraidd, fel y dengys prosiect Deep End, mae angen cryfhau'r gwasanaethau sy'n ymateb i anawsterau cymdeithasol pobl ac nad yw'n troi pob anhawster cymdeithasol yn broblem feddygol y disgwylir i'r meddyg teulu ddarparu pilsen neu bresgripsiwn ar ei chyfer.

Y Gyllideb Ddrafft

5. Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cyflawni canlyniadau i breswylwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych? OQ62040

Gyda £1.5 biliwn ychwanegol i'w wario ar ein gwasanaethau cyhoeddus a'n blaenoriaethau, bydd cyllideb ddrafft 2025-26 yn helpu i ailadeiladu ein gwasanaethau cyhoeddus a rhoi hwb i'r economi, gan roi Cymru ar y trywydd iawn i dyfu. Bydd y gyllideb hon o fudd i bobl, cymunedau a busnesau ar draws pob rhan o Gymru.

Bydd nifer o bobl yng Nghonwy a sir Ddinbych yn gandryll, a dweud y gwir, fod y cynnydd i gyllid awdurdodau lleol yn llai yn eu hardal hwy na'r cynnydd mewn lleoedd fel Casnewydd a Chaerdydd. Mae'n ymddangos i mi, wrth edrych ar eich cyhoeddiadau cyllid i lywodraeth leol heddiw, gyda'r gyllideb ddrafft, fod rhaniad eithaf mawr rhwng ardaloedd trefol a gwledig, ac yn sicr felly, mae yna anfantais yn wynebu'r rhan fwyaf o'r awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru o'i gymharu â rhannau eraill o'r wlad sy'n fwy trefol.

O gofio mai dyna'r sefyllfa, a bod trigolion Conwy a sir Ddinbych wedi gweld toriadau sylweddol i wasanaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â chynnydd enfawr yn y dreth gyngor, beth rydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod pobl yn cael dweud eu dweud pan gynigir cynnydd mawr yn y dreth gyngor? A sut rydych chi'n mynd i ddatrys yr anghydraddoldeb rhanbarthol hwn, sydd wedi tyfu o dan eich gweinyddiaeth Lafur?

14:10

Rwy'n anghymeradwyo ymdrechion yr Aelod bob amser i osod un rhan o Gymru yn erbyn y llall. Y fformiwla a ddefnyddir yw'r fformiwla a gytunwyd gan lywodraeth leol. Mae'n fformiwla wrthrychol, mae'n cael ei goruchwylio gan grŵp o arbenigwyr nad ydynt yn ymwneud â'r byd gwleidyddol—maent yn dod o fyd busnes ac o'r byd academaidd—ac maent yn sicrhau bod y fformiwla'n dosbarthu'r—[Torri ar draws.] Mae'n amhosibl imi roi ateb i'r Aelod os yw'n credu bod ei ateb i'w gwestiwn ei hun yn bwysicach na fy un i. Os yw'n dymuno ateb ei gwestiwn ei hun, rwy'n hapus iawn i ildio iddo.

Diolch, Lywydd. Rwy'n esbonio'n syml nad oes unrhyw ragfarn yn y fformiwla. Nid yw'n rhoi mantais i un rhan o Gymru ar draul y llall. Nid yw'n rhoi mantais i ardaloedd trefol dros ardaloedd gwledig. Mae'n cael ei sbarduno gan y data gwrthrychol sy'n bwydo'r fformiwla. Mae'n cael ei goruchwylio gan unigolion annibynnol, ac mae'n rhoi arian lle mae'r fformiwla'n dweud bod angen arian fwyaf. Mynegais wrth Peter Fox yn gynharach fy mod yn barod i drafod, rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol, a ellid cynnig help ychwanegol i'r rhai nad yw'r fformiwla yn darparu'r lefelau o gefnogaeth ar eu cyfer y bydd eraill yn eu mwynhau y tro hwn. Er gwaethaf sylwadau arweinydd yr wrthblaid, rwy'n dal i fod yn benderfynol o wneud hynny.

Pan gyfarfûm ag arweinwyr cynghorau gogledd Cymru yr wythnos diwethaf, cyfarfod a drefnwyd trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, clywais sut roedd dros ddegawd o gyni, pwysau chwyddiant ac angen cynyddol, yn enwedig ar ofal cymdeithasol, yn effeithio ar gynaliadwyedd darparu gwasanaethau. Mae gennym boblogaeth oedrannus sy'n tyfu yng Nghonwy a sir Ddinbych, gyda llawer o bobl yn mynd yno i fyw ar ôl ymddeol. Rwy'n croesawu'r buddsoddiad cyfalaf sylweddol mewn iechyd sydd newydd gael ei gyhoeddi, felly gobeithio y bydd Ysbyty Brenhinol Alexandra, sy'n gweithio mewn cydweithrediad â chyngor sir Ddinbych, sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i gronfa gofal integredig Llywodraeth Cymru, yn gallu cyflawni'r cynlluniau yno.

Rwy'n llongyfarch Darren Millar ar ddod yn arweinydd y Blaid Geidwadol, ac yn clywed ei fod wedi penodi David T.C. Davies. Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn i'n meddwl tybed faint o arian a sicrhaodd Mr Davies i Gymru pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a faint y mae Jo Stevens wedi ei sicrhau yn ystod y pum mis diwethaf.

Diolch i Carolyn Thomas. Fe wnaeth fy atgoffa o fy esgeulustod; hwn oedd fy nghyfle cyntaf i longyfarch Darren Millar ar ddod yn arweinydd y Blaid Geidwadol. Rwy'n gwneud hynny. Rwy'n cydnabod y dyfalbarhad y mae wedi ei ddangos wrth fynd ar drywydd mater Ysbyty Brenhinol Alexandra, ac rwy'n cytuno â Carolyn Thomas y dylai'r gwaith yno fod yn cyrraedd sefyllfa nawr lle gellir gwneud ceisiadau priodol am gyllid ar ei gyfer.

Wrth gyferbynnu cyflawniad yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol a'r Ysgrifennydd Gwladol presennol, fe ddychwelaf at y pwynt a wneuthum ddoe, Lywydd: er yr holl ddylanwad a oedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol, fe sicrhaodd £1 filiwn ar gyfer ein holl anghenion cyfalaf ym mis Mawrth eleni, ac fe sicrhaodd Jo Stevens £235 miliwn. Rwy'n credu bod y dystiolaeth yn siarad drosti ei hun.

Y Gyllideb Ddraft

6. Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn effeithio ar bobl Gorllewin De Cymru? OQ62031

Mae'r gyllideb ddrafft yn gwneud darpariaeth sylweddol ar gyfer buddsoddi yng nghamau nesaf bargen ddinesig bae Abertawe. Bydd hyn, ynghyd â chyllid ychwanegol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus, yn cael effaith gadarnhaol ar draws Gorllewin De Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er bod croeso i'r arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ni allwn anghofio bod hyn ar gefn pensiynwyr a bil treth o £40 biliwn ar bobl sy'n gweithio. Bydd llawer o'r cyllid hwn yn cael ei amsugno drwy gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a chodiad cyflog i'r sector cyhoeddus, tra bydd pensiynwyr yn fy rhanbarth i yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi a bwyta y Nadolig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, mae naratif eich cyllideb yn sôn am fynd i'r afael â thlodi plant a thlodi bwyd, ond nid yw'n sôn am dlodi tanwydd na thlodi pensiynwyr. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl hŷn ledled Gorllewin De Cymru a Chymru gyfan?

14:15

Diolch i'r Aelod am hynny, Lywydd. Roedd yn esgeulus ohonof, os na wneuthum, i beidio â sôn yn gynharach am y Sefydliad Banc Tanwydd a'r buddsoddiad ychwanegol y mae'r gyllideb hon yn ei ddarparu ar gyfer y sefydliad hwnnw. Fel y gwyddoch, mae'n darparu cymorth ychwanegol i bobl sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu, i bobl yng nghefn gwlad Cymru nad ydynt ar y grid, ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr, ers inni ymrwymo i'r bartneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd i ddod â'i waith i Gymru.

Cyfeiriais yn gynharach, yn fy ateb cyntaf i Buffy Williams, Lywydd, at y buddsoddiad o £1.5 miliwn mewn canolfannau clyd ledled Cymru. Gwyddom eu bod wedi bod yn lleoedd lle mae pobl hŷn yn arbennig wedi gallu mynd iddynt, nid yn unig i gadw'n gynnes, ond ar gyfer yr holl fanteision eraill sy'n deillio o gymryd rhan, gyda phobl eraill, mewn gweithgareddau cymdeithasol. Rwy'n meddwl am gwestiwn Sam Rowlands am bwysau ar feddygon teulu. Y gorau o'r canolfannau clyd yn y gyfran gyntaf ohonynt oedd y rhai lle roedd pobl yn mynd at ddibenion eraill, lle nad oes arwydd ar y drws sy'n dweud, 'Mae'n rhaid ichi fod yn oer i ddod i mewn yma.' Felly, clybiau rygbi, llyfrgelloedd—lleoedd lle gall pobl fynd am ba bynnag reswm. Efallai eu bod yn mynd yno oherwydd bod angen iddynt gadw'n gynnes. Efallai eu bod yn mynd yno i gael cwmni pobl eraill. Efallai eu bod yn mynd oherwydd bod bwyd ar gael iddynt. Efallai eu bod yn mynd er mwyn benthyca llyfr llyfrgell. Nid oes neb yn gwybod pan ddowch drwy'r drws. Ac rydym yn gwybod bod pobl hŷn yn arbennig wedi gweld bod yr effaith y mae hynny'n ei chael ar unigrwydd ac ynysigrwydd wedi bod yr un mor bwysig ag y mae wedi bod mewn rhannau eraill o'u bywydau, ac mae'r gyllideb hon yn rhoi hwb pellach i'n gallu i barhau i ddarparu'r gwasanaethau hynny yn y dyfodol.

Y Diwydiant Twristiaeth

7. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i sicrhau bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant twristiaeth? OQ62034

Diolch i Russell George, Lywydd. Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i sicrhau bod cyllid yn ei le i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Dyma'r sesiwn olaf cyn y Nadolig, ac rwyf am fod mor adeiladol ag y gallaf. Rwy'n mynd i ofyn cwestiwn adeiladol, gan obeithio am ateb adeiladol. Yr hyn y mae'r diwydiant yn ei amlygu yw bod arosiadau dros nos wedi gostwng, ac mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng hefyd, o'i gymharu â lefelau cyn COVID. Ar hynny'n unig, mae'r sector lletygarwch yn chwilio am ymyrraeth gan y Llywodraeth a chefnogaeth gan y Llywodraeth. Mae'r diwydiant yn bryderus wrth gwrs. Mae'n bryderus am gyfraniadau yswiriant gwladol i fusnesau sy'n cyflogi nifer fach o bobl. Maent yn ddiolchgar am y rhyddhad ardrethi 40 y cant sy'n parhau, ond wrth gwrs, maent yn ymwybodol fod hwnnw'n arfer bod yn 75 y cant o'r blaen. Felly, dyma rai o'r pryderon mawr sydd ganddynt.

Y pryder mwyaf a godwyd gyda mi gan fy etholwyr yn y sector twristiaeth serch hynny yw'r trothwy 182 diwrnod ar lety gwyliau. Nawr, nid wyf yn gofyn y cwestiwn hwn er mwyn ailagor dadl ar yr angen am y trothwy, ond rwy'n gofyn am adolygu'r trothwy hwnnw, ac a oes angen unrhyw eithriadau. Buaswn yn ddiolchgar pe baech chi'n cytuno i gyfarfod â mi, gyda nifer fach o fusnesau—nid cynrychiolwyr o'r diwydiant, ond busnesau bach eu hunain, sy'n fusnesau dilys—a phe gallech gyfarfod â mi, naill ai yma, yn fy etholaeth, neu'n rhithwir, buaswn yn dweud erbyn diwedd y cyfarfod hwnnw, pan fyddant wedi cyflwyno eu hachosion i chi, y byddwch chi'n gweld yr angen naill ai i adolygu'r trothwy 182 diwrnod hwnnw neu gyflwyno eithriadau pellach. Tybed a fyddech chi'n fodlon cyfarfod â mi ar y sail honno?

Diolch i Russell George am gywair adeiladol y cwestiwn hwnnw, fel rwy'n diolch i'r nifer o fusnesau a sefydliadau cynrychioliadol yn y maes twristiaeth sydd wedi gweithio'n agos gyda'r Llywodraeth dros nifer o flynyddoedd. Ar y trothwy 182 diwrnod, ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd gennym werth dwy flynedd o ddata gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a fydd yn rhoi syniad inni o'r effaith y mae'r trothwy wedi'i chael. Ac fel y dywedodd, nid wyf yn ailddechrau'r ddadl nac yn newid y trothwy ei hun hyd nes y cawn y data hwnnw, oherwydd, bryd hynny, byddwn yn gallu gweithredu ar sail y darlun ar draws Cymru, yn hytrach na dibynnu ar adroddiadau unigol am yr effaith ar lefel unigol. Ar ôl mis Ebrill, bydd y data hwnnw gennym. Bryd hynny, byddaf yn gallu trafod hynny ymhellach gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Rwy'n hapus i gael sgwrs gyda'r Aelod ynghylch sut y gall ef a'r rhai y mae'n eu cynrychioli gyfrannu at drafodaethau y gallem eu cael bryd hynny. 

14:20
Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)? OQ62015

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 1. Cyfeiriwyd y Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Cyllid i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt erbyn 13 Rhagfyr. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiadau.

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ateb a Nadolig llawen i chi. Gallaf i ddechrau gan ddweud ein bod ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r mwyafrif o beth mae'r Bil hwn yn ceisio ei wneud o ran cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr? Dwi'n credu ei fod yn rhan bwysig o wneud hynny. Ond beth rŷn ni wedi ei glywed yn y pwyllgor addysg oedd pwysigrwydd y staff a'r gweithlu o ran cyrraedd y targed a beth mae'r Bil hwn yn ceisio ei wneud. Felly, dŷn ni wedi clywed hefyd oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er enghraifft, am bwysigrwydd cael cynllun gweithlu fel rhan o'r Bil. Nawr, dwi'n gwybod eich bod chi ddim wedi dweud bod hynny'n mynd i fod yn rhan o'r Bil hyd yn hyn, ond pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o effaith y Bil heb gael y cynllun gweithlu yma? Rŷn ni wedi clywed fel pwyllgor fod ysgolion a phobl eraill yn meddwl y bydd hi'n anodd iawn i wneud beth mae'r Bil yn ceisio ei wneud heb y gweithlu i'w match-io fe. Diolch.

Wel, diolch yn fawr i Tom Giffard, a Nadolig llawen iddo fe hefyd. A diolch am yr ysbryd cefnogol ac adeiladol y mae e wedi ei ddangos y prynhawn yma. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r tri phwyllgor yn y Senedd sydd wedi bod yn craffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1, a dwi'n edrych ymlaen at ddarllen adroddiadau'r pwyllgorau pan fyddant yn cael eu cyhoeddi. Wrth gwrs, dwi ddim wedi'u gweld nhw eto, ond dwi wedi mynd ar ôl y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar sydd wedi bod ar gael i'r pwyllgorau, a dwi wedi gweld bod y ddadl y mae Tom Giffard yn cyfeirio ati wedi bod yn un bywiog o flaen y pwyllgorau. Felly, dwi'n edrych ymlaen at ddarllen y dystiolaeth yn fanwl a chynnwys yr adroddiadau yn fanwl, a dod nôl â gwelliannau, os yw'r achos yna i wneud hynny, yn ystod Cyfnod 2, ac i wneud hwnna yn yr un ysbryd y mae Tom Giffard wedi ei ddangos y prynhawn yma. 

2. Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Nesaf i ateb cwestiynau yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a'r Dirprwy Brif Weinidog yn ogystal â hynny. Mae cwestiwn 1 [OQ62023] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 2 sydd gyntaf. Mark Isherwood.  

Rheoliadau Amaethyddol

2. Pa sail wyddonol y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio wrth gwneud a chymhwyso rheoliadau amaethyddol? OQ62030

Member (w)
Huw Irranca-Davies 14:24:29
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Mark. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth wyddonol wrth wneud a chymhwyso rheoliadau. Mae hyn yn cynnwys ymchwil academaidd, tystiolaeth gan arbenigwyr cydnabyddedig yn y diwydiant, allbynnau o waith ymchwil a datblygu, a data o ffynonellau cynradd, gan gynnwys cyrff statudol. Lle bo'n briodol, mae datblygu rheoliadau hefyd yn cael ei lywio gan asesiadau effaith perthnasol.

Diolch. Fis diwethaf, ysgrifennodd cadeirydd sir Clwyd NFU Cymru ataf yn nodi, ar ei fferm, eu bod yn gweld twf wythnosol o laswellt bob dydd a oedd yn debyg i'r twf y byddent fel arfer yn ei ddisgwyl ym mis Mawrth pan fyddent yn gallu gwasgaru slyri. Fel y dywedodd, 'Mae fy aelodau'n gofyn imi pam na allant wasgaru slyri nawr tra bod y tywydd yn braf, a thra bod cyflwr y ddaear yn ddigon sych i ganiatáu da byw a pheiriannau ar y tir. Mae'r rhagolygon tywydd yn dda ar gyfer y pythefnos nesaf. A fydd hi'n dal felly ym mis Ionawr pan fyddwn yn cael gwasgaru slyri eto?' Ychwanegodd, 'Mae hyn yn amlygu'r broblem o ddefnyddio cyfyngiad ar sail calendr i wasgaru slyri, yn hytrach na'r dull mwy synhwyrol o ddefnyddio gwyddoniaeth.'

Mae gwyddoniaeth—a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru—wedi profi bod amodau tywydd a chyflwr pridd yn bwysicach na dyddiadau i bennu gallu i amsugno maethynnau'n effeithiol o slyri. Felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru, os o gwbl, i ganiatáu ychydig rhagor o hyblygrwydd i reoliadau fel Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021?

14:25

Diolch, Mark. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei drafod yn rheolaidd yma ar lawr y Senedd. Dyma pam, mewn gwirionedd, ein bod wedi sefydlu'r adolygiad pedair blynedd a gadeirir yn annibynnol o reoliadau llygredd amaethyddol, i ystyried effeithiolrwydd y drefn bresennol wrth atal llygredd amaethyddol a lleihau llygredd amaethyddol yn wir, ac mae disgwyl i'r adolygiad gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2025. Dr Susannah Bolton sy'n ei arwain, yn ei rôl fel cadeirydd, i oruchwylio'r adolygiad. Mae hi'n ymgysylltu â llawer o randdeiliaid, gan gynnwys yr undebau ffermio, NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, ond hefyd Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, y sefydliadau anllywodraethol, is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol, ac roedd hi hefyd yn y ffair aeaf, yn wir, ac rwyf wedi cyfarfod â hi. Mae hi hefyd, gyda llaw, wedi ymweld, fel y gwneuthum innau, â fferm goleg Gelli Aur i drafod datblygiadau arloesol ym maes monitro pridd, tywydd, lleithedd, lleithder, ac ati, ac mae potensial i hynny, ond mae yna gwestiwn ynghylch graddfa a chwmpas yn codi o hynny hefyd.

Mae yna fater penodol, yr ydych wedi cyffwrdd arno, Mark, sy'n gysylltiedig â dechrau'r cyfnod gwaharddedig, a'r hyn y gallwn ei wneud â hynny. Felly, mae'r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwasgaru slyri gwartheg a thail dofednod ar gyfer mwyafrif y ffermydd tir glas yn dechrau ar 15 Hydref, ac mae'n ailagor ar 15 Ionawr, yn amodol ar ofynion gwasgaru ar ôl y cyfnod gwaharddedig. Mae'r cyfnod gwaharddedig mewn grym; mae gwasgaru slyri yn torri'r rheoliadau. Nawr, y rheswm am hynny yw ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth, a'r pwrpas yw atal colledion gormodol o nitrogen a ffosfforws i ddŵr, yn sgil gwasgaru tail yn ystod y cyfnodau pan fydd twf cnydau'n gyfyngedig, ac yn ystod y cyfnodau hyn, pan fo'r angen am faethynnau gan gnydau yn gyfyngedig, pan fo glawiad yn uwch, mae trwytholchi a dŵr ffo yn digwydd, felly gallai fod gollyngiadau sylweddol o faethynnau a dŵr ffo.

Ond rydym yn cydnabod bod y tywydd gwlyb wedi creu amgylchiadau anodd i rai ffermwyr. Mae rhai ffermwyr wedi cyrraedd y cyfnod gwaharddedig gyda mwy o slyri nag y gwnaethant gynllunio ar ei gyfer. Felly, Mark, y cyngor i ddechrau yw: dylai'r ffermydd hynny nodi unrhyw fesurau lliniaru sydd ar gael iddynt, gan gynnwys gwahanu dŵr glân a dŵr brwnt, lleihau dŵr glaw sy'n mynd i mewn i storfeydd slyri, a sicrhau hefyd fod nodweddion fel gwteri a draeniau dŵr glân yn gweithredu'n iawn. Ond os oes gan unrhyw ffermwyr bryderon na fydd ganddynt y capasiti angenrheidiol o hyd i storio'r slyri'n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru i nodi cymorth yno gyda chamau lliniaru i leihau'r risg o lygredd a thrafod yr heriau gyda hwy.

Rwyf wedi gofyn i swyddogion adolygu yn flaenorol, fel y dywedais wrth y Senedd, er mwyn gwneud newidiadau i'r safonau trawsgydymffurfio dilysadwy fel y gellir cyflawni dull cyfrannol. Felly, os gwelwch yn dda, unrhyw ffermwr allan yno, trafodwch hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ailblannu Coed

4. Pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus ynghylch ailblannu coed yn ddigonol ar ôl cwympo coed aeddfed? OQ62014

Diolch, Rhys. Mae polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ailblannu coed wedi’u cynnwys yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Tu allan i'r broses gynllunio, mae angen trwydded cwympo coed lle mae perchennog yn dymuno cwympo coed sy'n tyfu. Rhoddir trwyddedau cwympo gydag amodau i ailblannu'r ardal i gynnal y goedwigaeth.

Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Fe fyddwch yn fwy nag ymwybodol fod adeiladu ar unrhyw fan gwyrdd, ond yn enwedig mewn ardaloedd trefol, yn aml yn ddadleuol ac yn achosi teimladau cryfion yn lleol. Cysylltir â mi'n rheolaidd ynghylch cwympo coed yng Nghaerdydd, yn fwy diweddar yn ardal Dolydd y Gogledd yng Nghaerdydd, lle roedd trigolion lleol yn pryderu bod dwy goeden ifanc ddifrigau yn cael eu plannu yn lle coed aeddfed. Mae Cyngor Caerdydd yn gwadu hynny, ond roeddwn am wybod pa arweiniad, yn union, sy'n cael ei roi. Wrth gwrs, clywsom ddoe gan Janet Finch-Saunders am gwympo coed a oedd yn golygu llawer iddi hi'n bersonol yn ystod y storm. Felly, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng natur yn 2021, sut y byddwch chi'n sicrhau bod coed digonol yn cael eu plannu yn lle coes a gaiff eu cwympo, er budd trigolion lleol, ond hefyd er lles yr amgylchedd? Diolch yn fawr.

14:30

Mae'n gwestiwn da iawn, a chredaf fod pob Aelod yn y Senedd hon yn gwerthfawrogi cyfraniad coed i'r amgylchedd lleol, i fannau gwyrdd, ond hefyd o ran newid hinsawdd, addasu i'r hinsawdd a gwytnwch hinsawdd hefyd. Ac mae'n bwysig fod diogelwch digonol rhag cwympo coed, ond hefyd os cânt eu cwympo, fod coed eraill yn cael eu plannu yn eu lle.

Ac mae 'Polisi Cynllunio Cymru 12' yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn. Mae'n darparu fframwaith cryf ar gyfer diogelu coed. Ac i fod yn glir, nid yw Llywodraeth Cymru'n cefnogi colli coed aeddfed. Mae ein polisi yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio ddiogelu coed lle mae iddynt werth ecolegol neu eu bod yn cyfrannu at gymeriad neu amwynder ardal neu eu bod yn cyflawni swyddogaeth seilwaith gwyrdd buddiol. 

A lle mae coed unigol neu grwpiau o goed yn cael eu cwympo yn rhan o gynllun arfaethedig, fe wnaethom nodi hefyd fod rhaid i awdurdodau cynllunio ddilyn y dull cam wrth gam yn gyntaf fel y'i disgrifiwyd gennym ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth ac osgoi'r golled yn y lle cyntaf, os gellir gwneud hynny.

Felly, fe wnaethom gyflwyno polisi newydd ym mis Hydref 2023, lle na ellir osgoi colli coed, y bydd yn ofynnol i ddatblygwyr blannu er mwyn digolledu—mae hynny'n bwysig iawn. Ac mae ein polisi'n nodi'n glir iawn y bydd plannu coed newydd yn digwydd ar gymhareb sy'n cyfateb i ansawdd, amgylchedd a phwysigrwydd ecolegol y goeden neu'r coed a gollir. Ac yn ddelfrydol mae'n rhaid i hyn fod ar y safle neu'n union wrth ymyl y safle ac ar gymhareb o dair coeden fan lleiaf o fath a maint tebyg ar gyfer pob un goeden a gollir.

Nawr ni allaf wneud sylw ynghylch manylion y mater penodol sy'n codi yn Nolydd y Gogledd, oherwydd fe fyddwch yn deall y gallai Gweinidogion Cymru fod â rôl statudol weithiau yn y broses gynllunio, ond rwy'n gobeithio bod hynny'n egluro ein dull o weithredu gyda chanllawiau polisi cynllunio—mae'n glir iawn, yn fanwl iawn ac rydym yn disgwyl cydymffurfiaeth.

Mae Ysgol Tŷ Ffynnon yn Shotton wedi bod yn dysgu am golli bioamrywiaeth a phwysigrwydd plannu coed. Mae'r disgyblion wedi ysgrifennu ataf i ddweud eu bod am wneud mwy i ddiogelu bywyd gwyllt a'u dyfodol. Ysgrifennodd Darcy ym mlwyddyn 4, 'Rwyf wedi bod yn darganfod am wahanol anifeiliaid yn colli eu cartrefi oherwydd bod coed yn cael eu cwympo. Rwy'n synnu'n fawr bod 17 y cant o fywyd gwyllt wedi bod yn diflannu yng Nghymru.' Mae'r plant wedi bod yn dysgu am y prosiect 'Iddyn Nhw', a rheoli lleiniau ymyl ffyrdd a glaswellt amwynder ar gyfer bywyd gwyllt, ac maent wedi bod yn gweithredu eu hunain. Esboniodd Tegan, 'Fe wnaethom sicrhau ein bod ni'n plannu coed ger y gwrych i annog creaduriaid i'w gwneud yn gynefin iddynt.'  

Mae Ysgol Gynradd Westwood hefyd wedi bod yn gweithio ar y prosiect. Fodd bynnag, nid yw'n hawdd dod o hyd i'r adnoddau addysgol ar wefan Llywodraeth Cymru. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i hyrwyddo'r prosiect a'r deunyddiau addysgol i ysgolion ac awdurdodau lleol? Ac a wnewch chi longyfarch y disgyblion ar bopeth a wnânt yn eu hardal leol a'u sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud byd natur yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen? Diolch.

Carolyn, diolch am y cwestiwn. Ac nid yn unig yn fy etholaeth fy hun ond ledled y wlad, rwy'n aml yn ymweld ag ysgolion sy'n cymryd rhan mewn mentrau plannu, nid yn unig er mwyn cael coed a gorchudd coetir, ond at ddibenion bioamrywiaeth. Ac mae'n ysbrydoledig eu gweld, oherwydd maent yn deall yn dda pa mor bwysig yw plannu coed. Felly, yn sicr, llongyfarchiadau i'r rhai yn Ysgol Gynradd Westwood a'r holl ysgolion ledled Cymru sy'n cyfrannu cymaint at fioamrywiaeth, yn ogystal â gorchudd coetir a'r coed cywir yn y lle iawn, ac yn aml mewn lleoedd o gwmpas amgylchedd yr ysgol neu yn y gymuned yn gyffredinol hefyd, sy'n wych i'w weld.

Rwy'n credu ein bod wedi arloesi yng Nghymru o ran graddau cynlluniau fel yr un a ddisgrifiwyd gennych, ond hefyd presenoldeb eco-gynghorau mewn ysgolion ledled y wlad, gwaith ysgolion y goedwig, lle mae plant yn mynd allan o'r maes chwarae, o'r safleoedd caled, o'r tarmac, i'r amgylchedd naturiol i gael dealltwriaeth ddofn o effaith yr amgylchedd naturiol arnom i gyd, ac rwy'n credu bod hynny'n ein rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol. Ond fe wnaf gysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i siarad ynglŷn â sut y gallwn wthio a hyrwyddo a thynnu sylw at hyn hyd yn oed yn fwy, ochr yn ochr â'r mentrau natur ehangach a wnawn.

14:35
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, James Evans.

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ysbryd y Nadolig, hoffwn ddymuno Nadolig llawen iawn i chi a'ch teulu.

Ysgrifennydd y Cabinet, yr hyn a welwn yw saga barhaus o fewn Hybu Cig Cymru, fel yr adroddwyd gan Farmers Weekly a rhaglenni eraill, sydd wedi manylu ar drosiant staff sylweddol—13 o 30 o weithwyr yn gadael o fewn 18 mis—ac awyrgylch o fwlio, ofn ac anonestrwydd. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r problemau seismig hyn? Yn benodol, pa gamau a gymerir i ymchwilio i honiadau o amodau gwaith anniogel a gelyniaethus, gan gynnwys y rhai a amlinellwyd yn rhaglen Y Byd ar Bedwar ac a nodwyd gan staff a oedd yn dymuno aros yn ddienw ar y rhaglen honno, a sicrhau bod arweinyddiaeth HCC yn atebol am feithrin gweithle priodol ac amgylchedd sy'n cyd-fynd ag egwyddorion Nolan? Rwyf wedi cael gwybod bod cyfarfod argyfwng wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a HCC. Os yw hwnnw wedi digwydd—hoffwn wybod a oes cyfarfod wedi bod—beth yw canlyniadau'r cyfarfod hwnnw, pa gamau rydych chi wedi dweud wrth HCC i'w cyflawni, a pha gamau sydd yna i Lywodraeth Cymru eu gwneud?

James, diolch yn fawr. A gaf i ateb drwy ddymuno Nadolig llawen i chi, a hefyd i'r holl Aelodau yn y Siambr, a chithau, Lywydd? Rwy'n ei olygu'n ddiffuant hefyd.

Yn gyntaf oll, os caf eich cywiro, nid wyf yn gwybod lle ar y ddaear y cawsoch chi'r syniad fod rhyw fath o gyfarfod argyfwng wedi bod gyda Hybu Cig Cymru. Nid wyf yn gwybod â phwy rydych chi'n siarad, pwy sy'n lledaenu'r sibrydion hyn. Ni fu unrhyw gyfarfod argyfwng gyda Hybu Cig Cymru. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chadeirydd Hybu Cig Cymru, ac mae fy swyddogion yn ymgysylltu'n rheolaidd â Hybu Cig Cymru, sydd, wrth gwrs, yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Ac rydym yn gwneud dau beth yn hynny, dau beth pwysig iawn. Un yw ein bod yn gwirio eu perfformiad, o ddydd i ddydd, eu rhagolwg strategol, sut y byddant yn cyflawni ar ran talwyr yr ardoll ac ar ran y diwydiant cig coch yng Nghymru a'r llwyddiant y maent wedi'i gael dros nifer o flynyddoedd, ac i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn a'u bod yn ei wneud.

Ac os caf ddweud hefyd, James—nid wyf yn gwybod o ble y cawsoch chi'r nonsens am gyfarfod argyfwng—efallai y bydd o ddiddordeb i'r Aelodau fy mod wedi cymeradwyo'r cyfrifon ar gyfer Hybu Cig Cymru y bore yma. Maent yn gyfrifon diamod; nid yn aml y bydd hynny'n digwydd. Nid yw hyn fel y mae rhai pobl—nid wyf yn gwybod amdanoch chi—yn ceisio portreadu Hybu Cig Cymru—

Darren Millar, rwy'n gwybod eich bod am dynnu sylw atoch chi'ch hun fel arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, ond nid yn ystod y cwestiynau i'r Gweinidog yw'r amser i'w wneud, gan mai eich llefarydd sydd i fod i gael y sylw a gofyn y cwestiynau nawr.

Diolch, Lywydd. Mae arweinydd newydd y Blaid Geidwadol yn parhau i fwmian fel heclwr o'r meinciau cefn, ond mater iddo ef yw hynny. Yr hyn—[Torri ar draws.] James, beth—[Torri ar draws.] James, yr hyn y buaswn i'n ei ddweud yw: (1) ein bod yn ceisio egluro ble mae eu perfformiad, ac mae'n rhaid imi ddweud, pe baech chi yn y ffair aeaf, fel roeddwn i—

—byddwch wedi clywed yr adroddiadau gan Hybu Cig Cymru a'r perfformiad y mae'n ei gyflawni ar ran talwyr yr ardoll, ond yn ail, o ddifrif, Lywydd, roedd y materion a gynhwyswyd yn y rhaglen yn cwmpasu materion yn ymwneud â materion mewnol llywodraethu, materion mewnol y broses adnoddau dynol, problemau a honiadau o fwlio ac ati, i gael y sicrwydd uniongyrchol gan Hybu Cig Cymru ei hun fod ganddynt drefn briodol, deg a diwyd yn digwydd, eu bod yn edrych ar unrhyw beth sy'n cael ei ddwyn i'w sylw ac yn ymdrin ag ef yn briodol—ac os caf ddweud, James, rydym wedi cael y sicrwydd hwnnw—ac i wneud yn siŵr fod pawb yn cael eu trin yn deg o fewn hyn.

A gaf i ddweud un peth arall? Mae Hybu Cig Cymru yn perfformio ar ran talwyr yr ardoll, ond heb os, mae'r sbotolau sydd arnynt ar hyn o bryd, a rhai o'r galwadau—galwadau llym—a geir i gael gwared arnynt, diswyddo pawb ohonynt, hyn, llall ac arall, mae hynny'n rhoi pwysau arnynt ac mae'n effeithio ar les unigolion sy'n gweithio yno hefyd. Felly, hoffwn apelio'n syml ar bob Aelod i fod yn gymedrol yn y ffordd y maent yn gofyn cwestiynau am Hybu Cig Cymru. Mae yna bobl yn ceisio gwneud gwaith da iawn yma ar ran y sector cig coch, ac maent yn parhau i wneud hynny, a fy rôl i fel Gweinidog yw sicrhau eu bod yn gwneud hynny.

Fy rôl i fel llefarydd yr wrthblaid yw dal Llywodraeth Cymru yn atebol—

—a chi yw prif gyfranddaliwr HCC. Felly, hoffwn wybod—. Fe ddywedoch chi nad oes unrhyw gyfarfod argyfwng wedi digwydd. Felly, ar ôl i raglen Y Byd ar Bedwar gael ei darlledu, os na chawsoch chi gyfarfod argyfwng, a allwch chi gadarnhau eich bod wedi cyfarfod â hwy yn dilyn y rhaglen honno, i gael trafodaeth gyda hwy am yr hyn a godwyd a pha gamau y maent yn eu cymryd i fynd i'r afael â hynny? Oherwydd rwy'n siŵr fod Aelodau eraill wedi gweld y llythyr a ddaeth drwodd yn ddienw gan staff am y diwylliant sydd yn HCC ac am rai o'r pethau a ddywedodd y cadeirydd ar y rhaglen honno, nad oeddent hwy'n credu eu bod yn wir, a'i bod hi wedi camarwain y cyhoedd ac wedi camarwain talwyr yr ardoll. Rwy'n siŵr eich bod chi wedi gweld copi o'r llythyr hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, felly hoffwn wybod beth yw eich barn chi am hynny a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb, oherwydd mae ganddynt broblem fawr yma yn yr ystyr eu bod wedi cael ymchwiliad mewnol, cafodd y rhan fwyaf o'r honiadau a brofwyd yn erbyn unigolyn yno eu cadarnhau, mae'r unigolyn yn dal yn y sefydliad, sy'n creu amgylchedd gwenwynig i staff, ac rwyf am sicrhau bod ein holl ffermwyr ar draws Cymru yn sicrhau bod eu corff ardoll—HCC—yn gweithio iddynt hwy, ac nad ydynt yn cael eu llethu gan faterion adnoddau dynol.

Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod beth rydych chi'n ei wneud i ddwyn HCC i gyfrif, a bwrdd HCC, ac os canfyddir bod y cadeirydd wedi camarwain y cyhoedd ac wedi torri egwyddorion Nolan, a wnewch chi roi camau ar waith i unioni hynny, yn y ffordd y byddem yn disgwyl i hynny gael ei drin?

14:40

Felly, rydych chi'n cynnwys 'os' mawr yn y fan honno, ond yn yr 'os' mae awgrym go gryf o honiad fod y cadeirydd wedi camarwain.

Iawn, mae'n ddrwg gennyf. Felly, mae gennym sibrydion rydych chi'n dyfalu yn eu cylch am gyfarfod argyfwng, honiadau gydag 'os' mawr fod y cadeirydd wedi camarwain pobl. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych, James, ac apelio arnoch i'w ystyried ac i fod yn gymedrol yn y ffordd rydych chi'n meddwl am hyn, yn hytrach na dibynnu ar sibrydion ac ensyniadau a phwy bynnag rydych chi'n sgwrsio â hwy ac yn siarad â hwy yno, yw derbyn nad wyf wedi cyfarfod yn sgil unrhyw raglen deledu. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â HCC, ac rwyf wedi cyfarfod â hwy ers imi ddechrau yn y swydd.  

Felly, Lywydd, yr hyn sydd gennym yw llefarydd mainc flaen yma'n gwenu ac yn chwerthin gan awgrymu bod rhyw broses y tu ôl i'r llenni yn digwydd yma, fy mod wedi cyfarfod mewn ymateb i raglen deledu. Ni allaf fod yn gliriach, James, fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn systematig gyda HCC, ac rwy'n gofyn am y sicrwydd mewn ymateb i unrhyw honiadau sydd wedi codi—unrhyw faterion—i wneud yn siŵr fod y drefn briodol wedi digwydd, gwneud yn siŵr fod y llywodraethu cywir yn digwydd o fewn y sefydliad hwnnw, a hefyd fod ei berfformiad—. Nid ydych wedi gofyn un cwestiwn am berfformiad HCC. Nid ydych wedi ymateb i'r hyn y maent wedi'i roi yn y strategaeth gorfforaethol, yr hyn y maent wedi'i gyflawni yn y blynyddoedd a fu, a'r hyn y maent yn gobeithio ei gyflawni yn y blynyddoedd i ddod ar ran talwyr yr ardoll. A gofynnaf i chi, James: beth yw pwrpas y cwestiynau hyn? Ai tanseilio HCC, gan fy mod yn deall eich bod chi wedi awgrymu'n allanol fod angen ei chwalu a dechrau rhywbeth arall eto? [Torri ar draws.] Wel, beth yw'r cynnig?

Fy nghynnig mewn gwirionedd yw sefyll dros y chwythwyr chwiban sydd wedi camu ymlaen a'r staff sy'n gweithio yno a thalwyr yr ardoll sy'n talu i'r corff hwnnw, i sicrhau ei fod yn gweithio er eu budd gorau. Dyna beth rwyf i yma i'w wneud. Ac rwy'n siŵr y bydd yr holl bobl sy'n gwrando allan yno yn edrych ar y Llywodraeth hon yng Nghymru unwaith eto'n codi ei dwylo a dweud, 'Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n ddim i'w wneud â ni, nid oes gennym diddordeb'—. Ac yn ôl eich ateb chi hefyd, mae'n swnio fel pe na bai gennych chi unrhyw ddiddordeb yn y chwythwyr chwiban a wnaeth gamu ymlaen. Felly, rwy'n dweud wrth yr holl staff: fe fydd y Ceidwadwyr, a phleidiau eraill yn y lle hwn, rwy'n gwybod, yn gwrando arnoch chi hyd yn oed os na wnaiff Llywodraeth Cymru.

Felly, rwy'n mynd i symud ymlaen at faes gwahanol, Ysgrifennydd y Cabinet, ac efallai y gallwch fy helpu yn y maes hwn, oherwydd yn sicr ni alloch chi fy helpu yn yr un diwethaf. Mae diadell genedlaethol defaid Cymru wedi gweld dirywiad dramatig, o bron i 12 miliwn o ddefaid yng Nghymru yn y 1990au, i 8.7 miliwn erbyn hyn. Dyma'r lefel isaf o ddefaid a welsom ers dros ddegawd, ac mae proseswyr a'r diwydiant yn dod ataf i ddweud nad ydynt yn credu bod ganddynt y màs critigol o dir yn y diwydiant nawr i gadw rhai o'n gweithfeydd prosesu ar agor ar gapasiti llawn. Bydd hyn yn costio i swyddi a bywoliaeth pobl. Gwaith Llywodraeth Cymru yw cefnogi datblygiad economaidd a chefnogi swyddi. Felly, hoffwn glywed beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gallwn gynyddu faint o ddefaid sydd gennym ledled Cymru, i sicrhau y gallwn barhau i gyflenwi cig oen Cymreig i'n cyflenwyr yma yn y Deyrnas Unedig, ac i'n cyflenwyr yn Ewrop ac ar draws y gwledydd rydym yn masnachu â hwy.

Rwy'n hapus i ateb hynny, oherwydd mae nifer o elfennau ynghlwm wrth wneud yn siŵr fod gennym gig oen a defaid a chig coch da arall ar ein byrddau. Wrth gwrs, mae HCC yn rhan o hynny, ac yn cyflawni hynny ar ran y diwydiant; felly hefyd yr hyn a wnawn â dyfodol y cynllun ffermio cynaliadwy, i sicrhau bod gennym y tâl cywir yn mynd i ffermwyr defaid ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sydd ar yr ucheldiroedd hefyd, a'n bod yn y Ffair Aeaf yn ddiweddar wedi dweud, fel y gwnaethom yma ar lawr y Senedd, ein bod wedi dod i gonsensws ar amlinelliad ar gyfer y cynllun hwnnw, wrth symud ymlaen.

Rwyf am ddweud, Lywydd, fod awgrym newydd ei wneud nad oes gennyf ddiddordeb mewn chwythwyr chwiban na'r rhai sy'n cyflwyno cwynion. Mae gennyf ddiddordeb mawr bob amser yn y rhai sy'n chwythu chwiban. Peidiwch â cheisio gwneud hwn yn fater gwleidyddiaeth plaid yma, James—

14:45

—lle mai dim ond y Ceidwadwyr sy'n blaid chwythwyr chwiban. Gadewch imi ddweud yn glir iawn fy mod yn teimlo'n gryf, os oes gan bobl o fewn HCC neu unrhyw sefydliad arall honiadau neu bryderon, y dylent allu codi'r rheini, eu codi'n glir, a chael sylw wedi'i roi iddynt, a bod y drefn briodol ar waith hefyd—y drefn briodol i'r rhai sy'n wynebu'r honiadau hynny yn ogystal â'r bobl sy'n gwneud honiadau. Mae'n ymddangos i mi fod yna ymgais gyfunol yma, yn anffodus, i danseilio'r sefydliad hwnnw am ba bynnag reswm. Nawr, rwy'n canolbwyntio'n fawr ar sicrhau bod HCC yn cyflawni mewn dwy ffordd: (1) ar ran talwyr yr ardoll, gadewch imi wneud hynny'n glir, oherwydd mae'n bodoli ar gyfer talwyr yr ardoll, ac yn ail, mae'n gwneud popeth yn ei allu i ymateb i unrhyw bryderon a godir, a'u gwneud yn deg ac yn gyfiawn a chyda'r drefn briodol i bawb dan sylw. Felly, gadewch inni beidio â gwneud hyn yn fater gwleidyddiaeth plaid, os gwelwch yn dda. Mae pryderon gwirioneddol wedi eu codi y mae angen i HCC fynd i'r afael â hwy ac maent yn gwneud hynny.

Diolch, Lywydd. Ddoe, wrth gwrs, gwelsom gyllideb ddrafft eich Llywodraeth ac edrychaf ymlaen at graffu ar ei helfennau manylach mewn perthynas â'ch cyfrifoldebau portffolio penodol chi yn yr wythnosau i ddod. Mae cyllideb cynllun y taliad sylfaenol yn cael ei chynnal ac adnodd ychwanegol o £5.5 miliwn a £14 miliwn o gyllid cyfalaf yn ôl naratif y gyllideb ar gyfer cynlluniau buddsoddi gwledig ehangach, sydd i'w groesawu'n fawr. Ond rwy'n siŵr yr hoffech chi, yn ogystal â minnau, roi hynny yn ei gyd-destun, oherwydd mae'r codiad bach hwnnw'n dod yn erbyn cefndir o flynyddoedd lawer o doriadau i gyllidebau, yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, fe dorrwyd cyllideb materion gwledig Cymru £37.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, a thoriad arall o un flwyddyn i'r llall o £62 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, y gostyngiad cymharol mwyaf yn unrhyw un o gyllidebau adrannol Llywodraeth Cymru. Nawr, ar yr un pryd, gofynnir i ffermwyr gyflawni mwy nag erioed o'r blaen. Gofynnir iddynt gyflawni canlyniadau mwy uchelgeisiol ar ddiogeledd bwyd, ar newid hinsawdd ac ar ddiogelu'r amgylchedd. Ac os ydym am weld y newid y mae pawb ei eisiau, rwy'n siŵr, yna'n fwyaf arbennig, ni ellir disgwyl i gyllidebau'r dyfodol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy aros ar y lefelau presennol. Nawr, mae undebau ffermio wedi bod yn glir eu bod am weld yr hyn sy'n cyfateb i gyfanswm cyllid y polisi amaethyddol cyffredin hanesyddol o £337 miliwn y flwyddyn, fan lleiaf, yn cael ei gynnal. Yn wir, mae sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol a sefydliadau amaethyddol wedi galw am £500 miliwn i ddarparu'r nwyddau cyhoeddus sydd eu hangen. Nawr, bydd pob llygad yn troi yn fuan at adolygiad o wariant Llywodraeth y DU yn y gwanwyn.

Oes. Felly, o ystyried yr angen brys am fuddsoddi'n briodol mewn materion gwledig, sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu dadlau dros gyllid teg ac angenrheidiol i ffermwyr yng Nghymru? A pha achos y byddwch chi'n ei wneud i'ch cymheiriaid yn Nhrysorlys y DU i sicrhau bod ein sector yn cael yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r galwadau cynyddol arno?

Wel, Llyr, diolch am y cwestiwn hwnnw, ac rydych chi'n gwneud y pwynt dilys fod yr achos dros ffermio nid yn unig yn dibynnu ar wneud achos dros gynhyrchu bwyd da i'r safonau lles anifeiliaid uchaf, y safonau amgylcheddol uchaf, ond mae'r achos cryfaf dros ffermio bellach yn dibynnu ar yr achos ein bod ni'n gofyn iddynt wneud llawer mwy na hynny hefyd. Rydym yn gofyn iddynt ein helpu ni gyda gwytnwch hinsawdd, rydym yn gofyn iddynt ein helpu gydag adfer natur, rydym yn gofyn iddynt ein helpu gyda mater dadleuol coetiroedd yn y lle iawn hefyd, yr holl bethau sy'n ymwneud ag addasu i'r hinsawdd hefyd. Felly, ar y sail honno, mae angen y swm cywir o gyllid yno.

Nawr, fel y gweloch chi yn y gyllideb, rwy'n falch o ddweud nid yn unig ein bod wedi cynnal cynllun y taliad sylfaenol ar derfyn uchaf o £238 miliwn, ond rydym hefyd wedi llwyddo i ddod o hyd i refeniw ychwanegol o £5.5 miliwn a £14 miliwn o gyllid cyfalaf i helpu'r sector i bontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy newydd. Nawr, rydych chi'n codi'r symiau eraill o gyllid y mae'r cyfuniad o grwpiau amgylcheddol a ffermwyr wedi dweud, 'Mae'n bosibl fod angen £500 miliwn ychwanegol, £600 miliwn', ac mae ffigurau eraill wedi cael eu crybwyll hefyd. Dyna pam y mae gennym ddiddordeb mawr, y tu hwnt i'r cynllun ffermio cynaliadwy, mewn rhywbeth yr ydym wedi ymgynghori arno'n ddiweddar, sef egwyddorion buddsoddi cynaliadwy—felly, y math o bethau a wnaethom yn ddiweddar mewn partneriaeth â phobl fel Dŵr Cymru a'r prosiectau adfer mawndiroedd. Rydym yn gosod ein targedau flwyddyn ymlaen llaw, fel y gwyddoch, ond mae hynny wedi'i wneud trwy ddenu cyllid ychwanegol. Y cwestiwn yw: a allwn ddod o hyd i ffyrdd eraill, gan weithio gyda ffermwyr, ond hefyd gydag RSPB, WWF ac eraill, a sefydliadau preifat, i ddweud—gyda chyllid cywir a safonau moesegol uchel sydd o fudd i'r cymunedau—y gallem ddod o hyd i fwy? Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y gwaith hwnnw ac mewn gweithio gydag unrhyw un sydd ag awgrymiadau ar sut y gallwn ddenu mwy fyth o gyllid i mewn.

14:50

Ie, diolch. Nawr, soniais am y cynllun ffermio cynaliadwy, ac er bod newidiadau i'r cynllun a gyflawnwyd trwy gydgynhyrchu gyda ffermwyr a grwpiau amgylcheddol wedi'u croesawu'n ddiweddar, mae llawer o ffermwyr yn dal i gael trafferth gyda baich cronnus polisïau eraill, gan gynnwys realiti ymarferol y cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwasgaru slyri yn ystod y gaeaf. O ystyried bod eich agwedd gydweithredol tuag at y cynllun ffermio cynaliadwy wedi caniatáu iddo symud ymlaen yn fwy cadarnhaol, onid yw hynny hefyd yn cynnig ffordd ymlaen efallai ar gyfer rhai o'r materion eraill hyn hefyd? Er fy mod yn derbyn bod adolygiad cynnar o'r rheoliadau llygredd dŵr yn rhywbeth yr ydych chi'n ei gyflwyno'n gynt, oni fyddai'n amserol cynnull bwrdd crwn neu weithgorau i weithio trwy'r hyn rydych chi wedi'i alw mewn cyd-destunau eraill yn 'faterion anodd', ond yn enwedig mewn perthynas â'r polisi parthau perygl nitradau? Gallai hynny wedyn helpu i nodi ac archwilio ffyrdd mwy ymarferol a phragmataidd ymlaen, megis dewisiadau amgen yn lle'r dull ffermio yn ôl y calendr.

Rwy'n credu bod yna waith i'w wneud i fwrw ymlaen â dull gwahanol o ymdrin ag amrywiaeth o faterion yn ymwneud â ffermio a rheoli tir, rheoli dalgylchoedd dŵr a llygredd sydd nid yn unig yn amaethyddol ond sydd hefyd yn ddiwydiannol ac sydd hefyd yn waddol ein pibellau a'n carthffosydd Fictoraidd hefyd. Felly, mae gennyf ddiddordeb yn hynny. Ond ar lygredd amaethyddol, rwy'n credu bod angen inni ganiatáu i Dr Susannah Bolton ymgysylltu â rhanddeiliaid, cwblhau ei dadansoddiad annibynnol o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio a chynigion ar gyfer y ffordd ymlaen. Ond ar ben hynny, mae yna waith mwy o'i fewn, fel rydych chi'n ei ddweud. Rydym wedi gwneud buddsoddiad enfawr yn y byrddau rheoli maethynnau. Rydym wedi gweld llawer iawn o gyfalaf personol ar ran y cyn-Brif Weinidog ac eraill ar ffurf uwchgynadleddau afonydd ac edrych ar ddull o gydweithio er mwyn glanhau llygredd a dŵr ffo i mewn i'r afonydd, ac yn y blaen. Felly, mae rhywbeth yn y fan honno, ond rwy'n credu bod angen inni roi amser i Dr Susannah Bolton yn gyntaf oll—bydd hi'n adrodd yn y gwanwyn; nid yw'n bell i ffwrdd—ac yna mae angen inni feddwl sut y down â'r dull cydweithredol hwn, fel y'i galwch, at ei gilydd, gyda phawb yn perchnogi'r heriau a'r atebion yn y gofod hwnnw, a'n bod ni'n gwneud hyn gyda'n gilydd.

Bydd llawer ohonom, rwy'n siŵr, yn cael seibiant haeddiannol gyda'r teulu adeg y Nadolig, ond rwy'n siŵr y byddwn hefyd yn meddwl am y rhai sy'n dal i orfod gweithio drwy gydol y Nadolig, fel y maent yn ei wneud bob diwrnod arall o'r flwyddyn, boed yn wasanaethau brys, y rhai y gellir galw arnynt unwaith eto i ymateb i ddigwyddiadau tywydd eithafol, ac wrth gwrs nid yw ffermio'n dod i stop dros y Nadolig. Bydd ffermwyr allan yn eu caeau ac ar fuarthau eu ffermydd yn yr oriau mân ar ddydd Nadolig, yn godro, yn edrych ar ôl eu da byw, ac yn sicrhau bod gan y gweddill ohonom fwyd maethlon o ansawdd da ar ein byrddau. Wrth i bobl dyrchu i'w ciniawau Nadolig, rwy'n credu y dylem roi eiliad i gydnabod y ffaith honno a dweud 'diolch' wrth y rhai sy'n darparu ar ein cyfer—y rhai sy'n ffermio, y rhai sy'n gwneud y gwaith caled o gynhyrchu bwyd fel nad oes rhaid i'r gweddill ohonom wneud hynny. A'r ffordd orau y gallwn ddiolch iddynt yn fy marn i yw drwy weithio tuag at ddyfodol lle mae pob cinio Nadolig yng Nghymru yn ddathliad gwirioneddol o gynnyrch Cymreig—twrcïod wedi'u magu'n lleol, llysiau wedi'u tyfu yng nghaeau Cymru, a'r holl drimins yn deillio o'n cymunedau, ac nid yn unig adeg y Nadolig, wrth gwrs, ond drwy gydol y flwyddyn. Felly, a wnewch chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i ddweud 'diolch' wrth ein ffermwyr i gyd, ble bynnag y bônt yng Nghymru, am bopeth y maent yn ei wneud i ni? Ac a allwch chi ddweud wrthym beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i dyfu cynhyrchiant bwyd lleol, gan sicrhau y gall mwy o'n cartrefi ledled Cymru fwynhau prydau Nadolig lleol wrth gefnogi ein ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol?

Diolch yn fawr, Llyr. Am gwestiwn gwych. Rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud yn y maes hwn. Rydym wedi cael llwyddiant ysgubol nawr gyda rhai o'r bwydydd Cymreig statws dynodiad daearyddol, sydd wedyn yn golygu bod mwy o gydnabyddiaeth i gynnyrch lleol a rhanbarthol o Gymru—y gorau o gynnyrch Cymreig ar silffoedd lleol yn ogystal ag yn rhyngwladol. Rydym yn gwneud llawer mwy yn y gofod caffael nawr, gan gynnwys caffael cymdeithasol, lle gallwch gydnabod buddion amgylcheddol a chymdeithasol cadwyni cyflenwi lleol a rhanbarthol, yn hytrach na nodweddion cost isaf. Rydym yn gwneud llawer iawn mewn garddwriaeth yn ogystal ag amaethyddiaeth o ran cyllid grant, ond hefyd mentrau eraill y gallwn eu gwneud i ehangu'r gofod hwnnw, ar ffermydd fel arallgyfeirio, ond hefyd gyda thyfwyr bach. Rwy'n credu y gallwn ddod â llawer o hyn at ei gilydd mewn rhywbeth y gwn y bu hir ddisgwyl amdano, ac rydym wedi gwneud llawer o waith y tu ôl i'r llenni arno, ar y strategaeth bwyd cymunedol, a fydd yn canolbwyntio'n fawr iawn ar y rhwydweithiau bwyd lleol hynny, y cyflenwad a'r gwytnwch yn y cadwyni cyflenwi lleol a rhanbarthol hynny, a daioni Cymreig mewn bwyd. Ac yn wir—

—Nadolig llawen i bob ffermwr ledled Cymru.

Byddant yn rhoi'r bwyd ar ein byrddau, byddwn yn ei fwynhau, a dylem feddwl amdanynt wrth inni fwyta.

14:55
Lleihau Allyriadau Carbon

5. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai am y cyfraniad y gall galluogi mwy o bobl i ddefnyddio dulliau gwresogi carbon isel yn eu cartrefi ei wneud at gyrraedd targedau'r Llywodraeth o ran lleihau allyriadau carbon? OQ62035

Diolch, Siân. Rydw i’n cydweithio â’m holl gyd-aelodau yn y Cabinet i gyflawni’r camau o fewn Cymru Sero Net. Mae ein strategaeth gwres yn amlinellu ein camau gweithredu ar gyfer gwaredu rhwystrau a chreu amgylchedd sy’n galluogi pob i ddatgarboneiddio eu cartrefi a mabwysiadau datrysiadau o ran gwres glân. 

Mae ein cartrefi ni'n gyfrifol am 10 y cant o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Mae’r grŵp her sero net 2035, a gomisiynwyd drwy’r cytundeb cydweithio, yn cydnabod bod gwresogi cartrefi yn her allweddol i’w datrys. Un ffordd o ddatgarboneiddio ein cartrefi ni ydy drwy osod pympiau gwresogi. Ond, yn anffodus, mae canllawiau’r Llywodraeth yn gosod rhwystrau di-angen. Mae’r canllawiau yn atal pympiau rhag cael eu gosod o fewn 3m i ffiniau eiddo, ac mae hyn yn ofod sydd jest ddim yno mewn nifer fawr o gartrefi. Felly, a wnewch chi weithio efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai er mwyn newid y canllawiau yma, a hynny ar fyrder?

Yn wir, Siân. Cyn i bympiau gwres o'r aer ddod yn boblogaidd, cyn iddynt gael eu hystyried yn ddewisiadau amgen yn lle boeleri tanwydd ffosil traddodiadol, cyflwynwyd rheol 3m fel rhagofal rhag effeithiau sŵn ar eiddo cyfagos. Nawr, ers ei chyflwyno yn ôl yn 2012—mae mwy na degawd ers hynny—mae technoleg pympiau gwres wedi gwella'n sylweddol, gan gynnwys y dechnoleg, ond hefyd mae'r lefelau sŵn wedi gostwng. Felly, mae'n gynnyrch gwahanol iawn heddiw. Rydym yn anelu at gyhoeddi rheoliadau diwygiedig ar gyfer hawliau datblygu a ganiateir tuag at ddiwedd 2025, oherwydd mae'n gydnabyddiaeth fod y rheol 3m efallai'n addas ar gyfer yr adeg honno, ond mae'r dechnoleg wedi symud ymlaen cymaint ac mae'r sŵn wedi lleihau cymaint. Rydym yn gobeithio y bydd y rhain yn mynd i'r afael â rhwystrau diangen i osod pympiau gwres ac yn sicrhau hefyd nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol i eiddo cyfagos ac amwynderau lleol hefyd, i gael y cydbwysedd yn iawn, ond i gydnabod bod y dechnoleg wedi gwella'n anfesuradwy.

Wrth gwrs, un o'r ffyrdd y gall pobl leihau eu hallyriadau carbon o'u cartrefi yw defnyddio'r cynllun ECO4 rhagorol. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn y byddwch yn ymwybodol mai cronfa gwerth £4 biliwn a ddarperir gan gyflenwyr ynni preifat yn y DU yw ECO4, ac fe'i rheolir trwy Lywodraeth y DU. Mae llawer o berchnogion tai preifat wedi manteisio arni. Mae rhai'n credu ei bod yn rhy dda i fod yn wir, ond mewn gwirionedd, mae'r gallu i fanteisio ar y gronfa honno yn llawer haws nag y byddai llawer o bobl yn ei ddisgwyl. Ond mae'n fy nharo i fod cyfle i landlordiaid cymdeithasol fanteisio ar y cyllid hwn hefyd, gan ei fod yn hygyrch i landlordiaid cymdeithasol a byddai llawer o'r eiddo y maent yn eu rheoli yn gymwys i gael y cyllid. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros dai i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol yn manteisio ar yr arian hwn, oherwydd mae angen gwario gwerth £4 biliwn o arian dros gyfnod o bedair blynedd fel y gall pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol gael yr un manteision â'r rhai sy'n byw mewn tai preifat.

15:00

Wrth gwrs, Sam. A diolch am y cwestiwn, gan fod hwn yn gyfle gwirioneddol yma. Felly, yn y bôn, gall aelwydydd incwm isel yn y cartrefi oer, drafftiog, aneffeithlon o ran ynni hynny, sydd naill ai'n berchen ar eu cartrefi eu hunain neu sydd yn y sector rhentu preifat, wneud cais am hyn. Gall tenantiaid tai cymdeithasol wneud cais hefyd, ond mae gennym lwybrau ariannu eraill y gallent eu defnyddio, megis y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. A dylwn ddweud, Sam, ein bod yn rhoi mwy na £30 miliwn eleni tuag at gynllun Cartrefi Clyd Nyth hefyd, i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith. Hefyd, y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio y soniais amdani, er mwyn gwella effeithlonrwydd tai cymdeithasol a lleihau biliau, gyda llaw, gan helpu pobl gyda heriau costau byw, rydym yn darparu dros £260 miliwn ar gyfer hynny dros dymor y Llywodraeth hon, gan gynnwys £70 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Felly, ydy, mae dull ECO4 yno, ond mae llwybrau eraill hefyd y gall pobl eu defnyddio.

Adroddiad 'Achos dros Newid'

6. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddatganiad am ganlyniadau adroddiad 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ62032

Diolch, Mabon. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd ati i adolygu ei holl weithgareddau, gan gydnabod bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth i'w swyddogaethau craidd a'i ddyletswyddau statudol. Yn dilyn ei ymgynghoriad 'Achos dros Newid', gwnaeth fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru gymeradwyo newidiadau gan sicrhau y gall y sefydliad barhau i ganolbwyntio ar gefnogi adferiad byd natur, mynd i'r afael â newid hinsawdd a sicrhau cyn lleied â phosibl o lygredd.

Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Brif Weinidog am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae'n resyn bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu cau'r canolfannau ymwelwyr yng Nghoed y Brenin, Nant yr Arian ac Ynyslas. Mi fydd hyn, dwi'n pryderu, yn effeithio ar boblogrwydd yr atyniadau yma ac mae yna gonsérn go iawn yn lleol y bydd llai o bobl, o ganlyniad, yn ymweld â'r canolfannau. Felly, mae yna reidrwydd i atal y cau a sicrhau bod pwy bynnag fydd yn cymryd y llefydd yma drosodd ar gyfer yr hirdymor yn gwneud hynny'n esmwyth ac yn llyfn, heb fod y llefydd yma yn cau i ddechrau. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau bod y broses o'u trosglwyddo nhw i'w prynwyr newydd yn un llyfn ac na fydd y canolfannau yn cau?

Diolch yn fawr iawn. Mae fy swyddogion a minnau'n clywed yr ymholiadau a’r pryderon a godir gan Aelodau’r Senedd, ond hefyd y datganiadau o ddiddordeb gan lawer o sefydliadau ledled Cymru i chwarae eu rhan, naill ai drwy redeg neu gyfrannu at y gwaith o redeg y canolfannau hyn. Er eglurder, dros y toriad hwn, ac ymlaen i'r gwanwyn, gall pobl barhau i gerdded a beicio a mynd yno ac ati. Dywed CNC wrthyf, er eu bod wedi cwblhau eu dogfen 'Achos dros Newid' a'u bod yn canolbwyntio, fel rydym wedi'i ddweud droeon, ar eu dyletswyddau craidd a statudol, eu bod yn ymrwymedig iawn i ymateb nawr i'r datganiadau o ddiddordeb gan fusnesau lleol a grwpiau cymunedol lleol mewn ymgymryd â'r cyfrifoldeb o redeg y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yn y canolfannau hynny. Yn ddiweddar, maent wedi cynnal tair sesiwn ymgysylltu gyhoeddus, ac un sesiwn rithwir hefyd, i roi gwybodaeth i bobl am drefniadau ar gyfer dyfodol y canolfannau, sut y gallant gyflwyno eu datganiadau o ddiddordeb, a hefyd sut y mae hynny’n cysylltu â'r safleoedd o'u cwmpas.

Un peth y mae CNC yn ei wneud y mae fy swyddogion a minnau, yn ein cyfarfodydd, wedi’i godi gyda hwy yw sicrhau rhyw fath o barhad ar y safleoedd. Felly, yr hyn y maent yn ei gynnig ar hyn o bryd, hyd yn oed wrth iddynt ymateb i’r datganiadau o ddiddordeb a mynd drwy’r broses briodol i ymateb i’r rheini, yw datblygu mesurau dros dro hefyd ar bob safle ar gyfer dechrau’r flwyddyn ariannol newydd, a gallai'r rhain gynnwys pethau fel trefniadau consesiynol ar gyfer lluniaeth ar safleoedd, ac yn y blaen, fel y bydd pobl sy'n ymweld yn dal i allu cael rhywbeth—yn ogystal â mynd i gerdded neu feicio, neu beth bynnag, gallant gael rhywfaint o luniaeth yno hefyd.

Mae’n bwysig pwysleisio wrth bobl, os byddant yn mynd yno yn ystod y toriad neu yn y dyfodol, fod CNC yn dal i reoli’r safleoedd hynny, ac y bydd y canolfannau eu hunain yn parhau i fod ar agor ar gyfer yr holl bethau hynny, gan gynnwys, os ydych chi'n gyrru i’r safleoedd, y llefydd parcio yno, a darpariaeth toiledau ac ati hefyd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i bob un ohonom ddweud wrth bawb, 'Peidiwch â rhoi'r gorau i fynd yno; mae'r safleoedd hyn yn dal i fod ar gael i chi.'

15:05

Fel rhan o ymdrech i arbed £12 miliwn, mae pryderon dybryd na fydd gan CNC gapasiti i gyflawni ei rolau hanfodol, yn enwedig yn wyneb tywydd mwyfwy garw. Hoffwn gofnodi ein bod oll wedi bod â phryderon am CNC yn eithaf aml, ond mae'n rhaid imi ddweud bod y staff rheng flaen yn gwbl anhygoel. Gyda’r cynnig i gau caffis canolfannau ymwelwyr, dirwyn y gwasanaeth llyfrgell ffisegol i ben, lleihau lefel yr ymateb i achosion o lygredd lefel isel, a gallu’r asiantaeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd, rheoli perygl llifogydd a diogelu bioamrywiaeth, maent yn bendant yn mynd i gael eu heffeithio. Yn wir, disgwylir i wasanaeth rheoli perygl llifogydd CNC ei hun ddarparu opsiynau ar gyfer arbedion ychwanegol o £2.1 miliwn ochr yn ochr â’r 233 o swyddi a gollwyd eisoes yn CNC yn fwy cyffredinol.

Rwy'n teimlo'r boen pan fyddaf yn siarad â'r gweithwyr diwyd hynny ar y rheng flaen. A oes unrhyw ffordd y gallech ystyried adolygu holl weithrediad CNC? Oherwydd mae llawer o uwch reolwyr yno, i mi—ac mae hyn gennym yn y bwrdd iechyd hefyd—a dylem fod yn ceisio sicrhau bod gan y gweithwyr rheng flaen hynny, y rhai sydd allan ym mhob tywydd, yn gwneud swyddi na allai unrhyw un ohonom ni eu gwneud, swyddi anodd mewn amgylchiadau anodd iawn, yr adnoddau mwyaf posibl iddynt eu defnyddio, ac edrych, efallai, ar symleiddio rhai o'r rolau rheoli uwch. Diolch.

Diolch, Janet. A gaf i gytuno â chi am y staff yn CNC sydd, drwy'r stormydd diweddar, ond yn eu swyddi dydd i ddydd mewn gwirionedd, yn gwneud gwaith rhagorol? Ond rydych chi'n llygad eich lle, nid oherwydd y ddogfen 'Achos dros Newid' ddiweddar yn unig y mae CNC, yn gywir ddigon, gyda'r pwysau sydd arnynt, wedi cael y dasg o ganolbwyntio ar eu dyletswyddau craidd, rheoleiddiol a statudol, ac ymgysylltu ag undebau llafur ar hynny, ond oherwydd y daith y buont arni cyn hyn hefyd, fel y byddwch yn cofio o’r amser a dreuliasom gyda’n gilydd ar y pwyllgor newid hinsawdd. Ychydig flynyddoedd yn ôl, aethant drwy ddadansoddiad sylfaenol, gan wneud yn union yr hyn rydych chi'n ei ddisgrifio nawr—[Torri ar draws.]—sef edrych ar bob rhan o’r sefydliad er mwyn gweld bod yr arian yn cyrraedd y gwasanaethau rheng flaen. Hefyd, felly, o ganlyniad i hynny, fe wnaethom roi codiad sylweddol i CNC, fel y gallent barhau â hynny. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n gwenu, Lywydd, oherwydd, ie—.

Fel rhan o hynny, fe wnaethant gyflwyno mesurau adennill costau hefyd, fel y gwyddoch, i sicrhau nad oeddent yn sybsideiddio elfennau yr oeddent yn arfer eu sybsideiddio a’u bod yn adennill eu costau, ac yna’r 'Achos dros Newid’. Nawr, wrth symud ymlaen, byddwn yn sicr yn diogelu meysydd sylweddol ac yn buddsoddi’n ychwanegol mewn meysydd pwysig, gan gynnwys llifogydd, y gallu i wrthsefyll llifogydd a chapasiti i fynd i'r afael â llifogydd o fewn CNC, ond hefyd, byddwn yn parhau i wario'r lefelau uchaf erioed ar fynd i'r afael â llifogydd ac yn y blaen. Byddwn yn buddsoddi mewn pethau fel seilwaith a phenderfyniadau cynllunio, fel y gellir eu gwneud yn fwy amserol, oherwydd yn aml, mae yna rwystredigaeth, ac mae'n ymwneud â diffyg capasiti. Felly, mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg a minnau gryn ddiddordeb yn hynny; rydym yn gobeithio bwrw ymlaen â hynny.

Rydym yn awyddus iawn, hefyd, gyda llaw, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r dde i mi yn glir ddoe, i wneud yr hyn a allwn i gryfhau rhywfaint o'r orfodaeth hefyd. Er fy mod bob amser am i CNC fod yn empathig yn y ffordd y maent yn gwneud hyn, mae angen gorfodaeth dda ar draws ystod eang, felly rydym yn awyddus i weld hynny. Byddwn hefyd yn edrych ar fuddsoddi mewn atebion ar sail natur yn ogystal â seilwaith digidol i symleiddio ei drefniadau trwyddedu. Felly, rydym yn cefnogi CNC fel y corff rheoleiddiol yma yng Nghymru, ac rydym yn cefnogi ei staff hefyd. Ni chredaf fod angen inni gael 'Achos dros Newid' neu ddadansoddiad sylfaenol arall. Mae angen inni roi’r cymorth yn y lle iawn nawr, a gadael iddynt barhau i wneud eu gwaith yn effeithiol iawn.

Cynllun Dychwelyd Ernes

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant ynghylch ei phenderfyniad i beidio â chymryd rhan yng nghynllun dychwelyd ernes y DU? OQ62027

Diolch, Adam. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â nifer o randdeiliaid a byddwn yn parhau i wneud hyn wrth i ni ddatblygu cynllun dychwelyd ernes sy’n cyd-fynd â’n huchelgeisiau clir ar gyfer ailgylchu o’r radd flaenaf ac ailddefnyddio deunyddiau, gan gynnwys gwydr.

15:10

Dwi'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ateb. Yn ddiweddar, fe wnes i ymweld â Brecon Carreg, cynhyrchydd dŵr mwyn sydd yn fy etholaeth i, ac fe wnaethon nhw esbonio eu consérn nhw ynglŷn â'r penderfyniad i gael cynllun DRS ar wahân. Byddai'n rhaid iddyn nhw gynhyrchu poteli gyda dwy label wahanol, ac wrth werthu wedyn i archfarchnadoedd sydd yn cyflenwi Cymru a Lloegr o'r un warysau, byddai'n rhaid cael dwy stoc ar wahân. Mae nifer o'r archfarchnadoedd wedi dweud na fydden nhw wedyn yn cymryd unrhyw gynnyrch o gwbl, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cael effaith andwyol iawn nid yn unig ar y cwmni yma, ond ar y sector, sydd yn sector bwysig yng Nghymru yn gyffredinol wrth gwrs. A fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon ymweld â Brecon Carreg i glywed eu pryderon yn uniongyrchol a cheisio canfod datrysiadau?

Diolch, Adam, a'r ateb i'r cwestiwn olaf yw 'ydw'. A dweud y gwir, rwy'n falch—efallai fod hyn yn serendipaidd—ond mewn gwirionedd, cefais wahoddiad ysgrifenedig ychydig wythnosau yn ôl gan Brecon Carreg i ddod i edrych ar eu proses gynhyrchu, i edrych ar eu cyfleuster, i edrych ar wahanol agweddau ar y gwaith, ac i drafod y cynllun dychwelyd ernes. Mewn gwirionedd, fe ddaeth yn yr ychydig wythnosau diwethaf, ers ein cyhoeddiad ar y ffordd y byddwn yn bwrw ymlaen â'r cynllun dychwelyd ernes, sef y ffordd gywir i Gymru yn fy marn i. Mae'n cyd-fynd â lle rydym arni ar hyn o bryd fel gwlad sy'n ail drwy'r byd am ailgylchu, ac rydym drwch blewyn o fod y gorau yn y byd. Dyna un o fanteision y penderfyniadau y gallwn eu gwneud gyda datganoli, ein bod wedi bwrw ymlaen i gyflawni hynny. Ond nawr, mae angen inni gael cynllun dychwelyd ernes sy'n cyflawni cam nesaf ein huchelgais, sef ailddefnyddio.

Rwy'n awyddus iawn, fodd bynnag—hyd yn oed yn yr ychydig wythnosau diwethaf ers inni ailddatgan ein safbwynt a'n ffordd ymlaen yn glir iawn—i weithio gyda rhanddeiliaid. Un o’r agweddau diffiniol ar y gwaith a wnaed yn y maes hwn dros nifer o flynyddoedd yng Nghymru, wrth baratoi ar gyfer hyn, yw ansawdd yr ymgysylltu â rhanddeiliaid, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Credaf fod yn rhaid fy mod wedi cael pedwar neu bump o gyfarfodydd rhanddeiliaid fel grwpiau—mwy na hynny yn ôl pob tebyg—yn yr amser y bûm yn y swydd, yn benodol ar y cynllun dychwelyd ernes, ond rwyf hefyd wedi bod allan yn yr ychydig wythnosau diwethaf yn cyfarfod â microfragdai unigol ac yn y blaen, i ddweud wrthynt, 'Rydym yn awyddus i ddyfeisio cynllun a fydd yn gweithio i Gymru, ond a fydd hefyd yn gweithio i chi.' A dyna ble mae angen inni fod yn glyfar iawn.

Felly, gwrandewch, byddaf yn derbyn y gwahoddiad hwnnw gan Brecon Carreg i gyfarfod â hwy, gan yr hoffwn ddysgu beth yw eu pryderon, ond hefyd beth yw'r potensial iddynt hwythau hefyd. Oherwydd un o'r pethau diddorol yma, os gallwn roi cynllun ailddefnyddio ar waith ar gyfer, dyweder, poteli, yn ogystal ag alwminiwm a deunyddiau eraill hefyd, efallai y bydd goblygiadau i hynny o ran lleihau'r gost, gan fod angen ichi gynhesu gwydr wedi'i ailgylchu i hyd at 1,500 gradd cyn i chi ei siapio'n botel wydr. Os mai'r hyn rydym yn sôn amdano yw ail-labelu, ailddefnyddio a glanhau, yr hyn a welsom yn y 53 a mwy o wledydd sy'n gwneud hyn yw y gallwch leihau'r gost i bobl sy'n gallu ailddefnyddio'r cynwysyddion hynny wedyn. Ond ydw, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â hwy.

A hoffwn ddweud yn glir iawn, er bod y cynlluniau dychwelyd ernes wedi'u datblygu ochr yn ochr, eu bod yn cael eu datblygu yn y tair gwlad arall a'n gwlad ni fel cynlluniau ar wahân yn gyfreithiol, yn hytrach nag un cynllun unigol ledled y DU. Byddem wedi hoffi gallu bwrw ymlaen â'r sefyllfa flaenorol o gynllun ar gyfer y DU gyfan, ond rydym yn deall bod dull gweithredu gwahanol yn mynd i gael ei ddefnyddio mewn mannau eraill. Yr hyn y mae angen inni ei wneud nawr yw datblygu cynllun dychwelyd ernes a fydd yn sicrhau manteision gwirioneddol i Gymru, ac mae hynny'n golygu cynllun ailddefnyddio a datgarboneiddio, yn ogystal â chynllun ailgylchu.

Diolch i Adam Price am y cwestiwn yma.

Ysgrifennydd y Cabinet, siaradais â Richard Johnson, y prif fragwr ym Mragdy Harbwr Dinbych-y-pysgod ynglŷn â hyn, ac fe’i galwodd yn afresymegol. A darllenaf ei ddyfyniad i chi:

'Mae Cymru yn genedl ailgylchu'—

Rwy'n cytuno â hyn—

'felly mae dull di-awch "un maint i bawb" yn creu beichiau logistaidd ac ariannol ychwanegol ar y cynhyrchwyr lleiaf, er mai'r cynhyrchwyr mwyaf oll sy'n cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r galw o ran ailgylchu.'

A buaswn yn cytuno â hynny. Ac o wrando ar yr ateb a roesoch i Adam Price yn gynharach, buaswn yn dadlau eich bod chithau'n cytuno â hynny, gan fod goblygiadau cost ailolchi ac ail-labelu’r poteli hyn, os ydynt yn dod o fragdy mawr—Heineken, er enghraifft—yn haws o lawer nag os ydych yn fragdy bach annibynnol fel Bragdy Harbwr Dinbych-y-pysgod, sy'n gwerthu ledled y DU, nid yng Nghymru'n unig. Felly, pam eich bod yn datblygu polisi sy’n dadlau dros yr hyn y mae cwmnïau mawr rhyngwladol yn dadlau drosto ac sydd hawsaf iddynt, ac yn anwybyddu’r anawsterau y byddai hyn yn eu hachosi i fusnesau bach ledled Cymru?

15:15

Diolch, Sam. Nid ydym yn gwneud yr hyn a ddywedwch. Yr hyn a wnawn mewn gwirionedd yw datblygu cynllun gyda'r gadwyn gyflenwi, gan wrando arnynt. Mae gennym y gallu nawr wrth inni fwrw ymlaen â hyn i siarad â hwy a'i ddatblygu gyda hwy. Rwyf wedi bod allan gyda bragdai bach yn siarad â hwy'n uniongyrchol, fel chithau, ac yn siarad am yr hyn yr hoffent ei weld yn y cynllun hwn, sut yr hoffent ei weld yn cael ei lunio fel ei fod yn gweithio iddynt hwy, fel nad yw ar gyfer bragwyr mawr yn unig, ond ar gyfer bragwyr llai hefyd. Mae angen inni sicrhau hefyd fod y cynllun yn gweithio i fanwerthwyr bach yn ogystal â manwerthwyr mawr.

Mae’n rhaid imi ddweud ei bod yn siomedig fod Llywodraeth flaenorol y DU wedi cefnu ar ymagwedd at gynllun y cytunwyd arno ac yr ymgynghorwyd yn ei gylch gan y pedair gwlad; fe wnaethant gefnu arno ar eu pen eu hunain. Ond mantais fawr ein sefyllfa ni yng Nghymru nawr yw y gallwn droi at y 53 a mwy o wledydd eraill sydd wedi gwneud hyn ac sydd wedi ymgysylltu’n llwyddiannus â manwerthwyr llai, bragwyr llai, a chynhyrchwyr llai er mwyn gwneud pethau’n iawn iddynt hwy. Felly gallwn ddysgu gwersi am yr hyn sy'n gweithio'n dda iawn.

Yma yng Nghymru byddwn yn cyflwyno rhywbeth sy’n cael ei ddyfeisio gyda chymorth y gadwyn gyflenwi i’w gael yn iawn i Gymru. Rwy'n gobeithio y cawn gefnogaeth ar draws y Siambr i adeiladu ar gynllun lle rydym eisoes wedi cyrraedd y pwynt lle rydym yn ail yn y byd am ailgylchu. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud nawr yw gwneud mwy o ailddefnyddio, gan adeiladu ar y cynllun a oedd gennym yn Aberhonddu, gan adeiladu ar y cynllun peilot enfawr a fydd yn cael ei gyflwyno yng Nghasnewydd y flwyddyn nesaf. Rhaid i hynny fod yn uchelgais i ni, Sam. A dywedaf wrth eich holl gyd-Aelodau Ceidwadol: mae'n ymwneud â datgarboneiddio yn ogystal â lleihau sbwriel ac ailgylchu.

Effeithiau Newid Hinsawdd

8. Sut y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydweithio ag aelodau eraill y Cabinet i sicrhau bod cynlluniau'r Llywodraeth yn ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd? OQ62021

Diolch, Sioned. Rydym wedi ymrwymo, yn wir, i ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd ym mhopeth a wnawn. Mae ein strategaeth addasu i'r hinsawdd ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi camau trawsbynciol rydym yn eu cymryd ar draws holl bortffolios y Cabinet i fynd i’r afael ag effeithiau ein hinsawdd sy'n newid.

Diolch. Mae'r stormydd a'r llifogydd rŷn ni wedi eu profi dros yr wythnosau diwethaf yn brawf bod angen inni sicrhau bod y modd rŷn ni yn cyflawni polisïau mewn cymaint o feysydd yn fyw i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Un enghraifft, wrth gwrs, yw sut ŷn ni'n adeiladu tai ac yn codi adeiladau. Rŷn ni'n deall o'r diwedd pwysigrwydd codi tai sy'n ynni effeithiol er mwyn lleihau allyriadau carbon, ond mae'r golygfeydd y gwelon ni ym Mhontypridd a llefydd eraill yn ddiweddar yn ein hatgoffa ni o bwysigrwydd ymateb i'r llifogydd mwy cyson yma rŷn ni'n mynd i'w gweld o ran sut a ble mae tai ac adeiladau yn cael eu codi er mwyn cynyddu eu gwytnwch i'r newid yma.

Rwyf wedi eich holi chi o'r blaen am barodrwydd y Llywodraeth i ystyried manteision cywarch diwydiannol, gan gyfeirio at astudiaeth gan Brifysgol Aberystwyth ar botensial mawr annog a hwyluso ffermwyr i fedru tyfu a phrosesu cywarch diwydiannol. Mae hempcrete yn ddeunydd adeiladu sy'n cyfrannu at allu cartrefi i wrthsefyll llwydni, mae'n sychu mas yn gynt, ac mae yn cynyddu, wrth gwrs, effeithlonrwydd ynni adeiladau. Mewn ymateb i fi, gwnaethoch chi gydnabod ei bod hi'n dechnoleg wirioneddol gyffrous, a gwnaethoch chi addo trafod gyda'ch swyddogion ac ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i weld pa botensial sydd ar gael ar gyfer cywarch ym maes adeiladu. Felly, dyma'r amser i achub ar y blaen, Ysgrifennydd Cabinet, a rhoi Cymru ar y droed flaen gyda'r dechnoleg yma. Oes gyda chi, felly, ddiweddariad? Ac a wnewch chi ystyried galw trafodaeth bord gron neu uwchgynhadledd gydag arbenigwyr yn y maes hwn i archwilio pa gamau y gallwch chi eu cymryd ar hyn?

Rwy’n fwy na pharod i ymgysylltu â fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet ar botensial cywarch, nid yn unig o safbwynt amaethyddol, ond hefyd o safbwynt adeiladu hefyd. Roedd gennym gynhyrchwyr cywarch, mewn gwirionedd, mewn digwyddiad adeiladu tai i ymateb i newid hinsawdd a gawsom yn Abertawe rai misoedd yn ôl, ac roedd yn dda eu gweld yno, ymhlith adeiladwyr coed ac ati. Felly, rwy’n fwy na pharod i ymrwymo i hynny. Mentraf ddweud ei bod yn ymddangos bod gennym hyrwyddwr  brwd ynoch bellach, Sioned, ar ran cywarch ar gyfer amaethyddiaeth, ond hefyd cywarch ar gyfer adeiladu. Yn wir, mae ganddo botensial. Un o'r pethau rydym yn canolbwyntio arnynt ar hyn o bryd yw gweithio ar yr hyn y gwyddom fod cadwyn gyflenwi eisoes i'w chael ar ei gyfer, ac mae'n tyfu, sef y datblygwyr bach a chanolig sy'n adeiladu tai â phren—pren yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn canolbwyntio'n gryf arno. Ond mae cywarch yn rhan o'r dyfodol hefyd, heb os. Felly, ydw, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth inni barhau â'n trafodaethau yma a chyda Llywodraeth y DU ac eraill hefyd.

15:20
3. Cwestiynau Amserol

O ran cwestiynau amserol heddiw, mae un cwestiwn wedi ei dderbyn, sef un gan Peredur Owen Griffiths. 

Syria

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y digwyddiadau yn Syria dros y penwythnos a pha gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei roi i deuluoedd Syria-Cymru? TQ1273

Member (w)
Jane Hutt 15:20:37
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn. 

Yn gynharach heddiw, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig am y sefyllfa sy’n datblygu yn Syria. Mae’r sefyllfa’n datblygu, ond mae pob un ohonom yn gobeithio am ateb gwleidyddol sy’n diogelu pob sifiliad a chymuned leiafrifol. Ymunwn â Llywodraeth y DU wrth alw ar bob plaid i gefnogi mynediad dyngarol.

Diolch yn fawr am yr ateb a diolch yn fawr am y datganiad yn gynharach. 

Mae cwymp cyfundrefn Assad, a gefnogir gan Moscow, yn Syria wedi’i groesawu ers i’r newyddion dorri am y bennod hanesyddol bwysig hon dros y penwythnos. Mae hyn wedi bod yn arbennig o wir ymhlith dinasyddion Cymru sydd â chysylltiadau â Syria y siaradais â hwy yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae rhai o’r bobl hyn sydd â chysylltiadau â Syria wedi ymgartrefu yng Nghymru ac wedi gwneud cyfraniad aruthrol i’n cymdeithas, i’n heconomi ac i’n gwasanaethau cyhoeddus. Nodaf fod pobl wedi dod ynghyd ddydd Sul i nodi cwymp Assad a dathlu’r hyn a fydd, gobeithio, yn arwain at Syria rydd a democrataidd. Rwy'n gobeithio cynnal digwyddiad yr wythnos nesaf yn y Senedd i ddod â’r bobl sy’n rhan o’r gymdeithas Syriaidd-Gymreig ynghyd.

Efallai fod digwyddiadau’r penwythnos wedi dod â hen emosiynau a thrawma i’r wyneb i rai. Efallai fod angen cwnsela o ganlyniad i hynny, felly tybed a yw hynny’n rhywbeth y mae’r Llywodraeth wedi’i ystyried. Hoffwn wybod hefyd pa gymorth ac arweiniad y gall y Llywodraeth hon ei roi i’r aelodau gwerthfawr ac uchel eu parch hyn o’n cymdeithas. Er enghraifft, a all y Llywodraeth gysylltu â’r Swyddfa Dramor i sicrhau y gall ein dinasyddion sydd â chysylltiadau â Syria gael cymorth i ddod o hyd i berthnasau y gallent fod wedi colli cysylltiad â hwy yn ystod teyrnasiad brawychus Assad? A all y Llywodraeth hefyd gael deialog gyda’r swyddfa dramor i roi pwysau arnynt i sicrhau nad yw’r sefyllfa’n caniatáu i oportiwnwyr o Lywodraeth Israel barhau â'u rhyfelgarwch yn y rhanbarth?

Mae angen rhoi cymorth hefyd i gymdeithas sifil yn Syria er mwyn sicrhau, wrth symud ymlaen, fod pawb yn cael eu diogelu ni waeth beth fo’u cefndir ethnig mewn gwlad amrywiol iawn sy’n cynnwys poblogaeth Gwrdaidd sylweddol, y mae gan lawer ohonynt gysylltiad â chymunedau yng Nghymru. Amodau o’r fath a fyddai’n creu'r cyfle gorau i sicrhau Syria heddychlon a rhydd, a dyna’n sicr y mae pawb yn dymuno'i weld.

Diolch yn fawr, Peredur, am eich ystyriaeth, myfyrdodau, cwestiynau ac ymgysylltiad. Credaf fod hwn yn gyfle, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig y bore yma, i gydnabod bod digwyddiadau anarferol yn datblygu yn Syria. Mae Llywodraeth y DU yn eu monitro’n agos, ac mewn cysylltiad agos â’n partneriaid rhyngwladol a’n cysylltiadau niferus yn Syria. Wrth gwrs, mae hefyd yn bwysig ymateb drwy ddweud bod y DU yn parhau i gefnogi'r rheini mewn angen ledled Syria lle mae'n ddiogel gwneud hynny. Drwy gyrff anllywodraethol a sefydliadau’r Cenhedloedd Unedig, mae’r DU yn darparu bwyd, gofal iechyd a chymorth arall sy'n achub bywydau.

Ar 6 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid ychwanegol o £300,000 i'r White Helmets—fe wyddoch am y White Helmets, wrth gwrs. Bydd y cyllid yn cefnogi gweithrediadau chwilio ac achub, yn hwyluso mynediad dyngarol, yn caniatáu iddynt ehangu eu system ambiwlans bresennol ac yn galluogi iddynt gael gwared yn ddiogel ar arfau sydd heb ffrwydro. Fe fyddwn ni, Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall unrhyw newidiadau, sut y gallant fod yn berthnasol mewn perthynas â Syriaid yng Nghymru, ac yn parhau i ddarparu cymorth cynhwysol cyhyd ag y bo'i angen ar bobl sy'n byw yng Nghymru.

Fel y dywedais yn fy natganiad, mae Cymru wedi dod yn gartref i dros 2,000 o Syriaid ers i’r gwrthdaro ddechrau yn ein holl etholaethau ledled Cymru—croeso cynnes gan Gymru fel rhan o’n cenedl noddfa, pan ddaethant i Gymru ers i’r gwrthdaro ddechrau yn eu mamwlad. Wrth gwrs, bydd pobl a theuluoedd Syriaidd-Gymreig yn gwylio'r datblygiadau ac mewn cysylltiad â theuluoedd wrth i'r sefyllfa ddatblygu yn Syria. Ond hefyd, hoffwn wneud y pwynt, unwaith eto, fel y gwneuthum yn fy natganiad ysgrifenedig, fod llawer sydd wedi cyrraedd Cymru ers 2015 wedi dod yn aelodau gwerthfawr o’n cymunedau, gan gyfrannu at ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus. Yng Nghymru, rydym yn ymfalchïo ein bod yn genedl noddfa, a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa a chefnogi’r gymuned Syriaidd yng Nghymru wrth i’r sefyllfa ddod yn gliriach.

15:25

Ategaf rai o’r pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru. Mae’n hanfodol fod cymorth ar gael i deuluoedd o Syria yng Nghymru a fydd wedi'u heffeithio gan y datblygiadau yn Syria dros y dyddiau diwethaf. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn cydnabod bod y sefyllfa wleidyddol yn Syria yn gymhleth iawn. Mae'r wlad bellach yn ddilywodraeth ac mewn sefyllfa ansefydlog iawn. Rwy’n siŵr y bydd y Trefnydd yn cytuno â mi, o ystyried y cyfrifoldebau cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i atgyfnerthu ei chymorth i deuluoedd o Syria yma yng Nghymru, a gweithio gydag asiantaethau lleol i helpu i ailgysylltu teuluoedd â'u hanwyliaid cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl. Felly, a all y Trefnydd roi rhagor o fanylion am y gwaith sy’n mynd rhagddo gydag asiantaethau ledled Cymru i gefnogi teuluoedd o Syria yma yng Nghymru? A all ddweud wrthym hefyd pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i helpu teuluoedd o Syria yng Nghymru i ailgysylltu â’u hanwyliaid, pe baent yn dymuno dychwelyd i’w mamwlad? O ystyried bod hwn yn fater a gedwir yn ôl ac nad yw'n rhan o waith Llywodraeth Cymru, a all y Trefnydd ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro’r sefyllfa hon yn y dyddiau a’r wythnosau i ddod?

Diolch, Paul Davies. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau fod llawer o Syriaid yng Nghymru yn parhau i gael cymorth pwysig, yn bennaf gan ein hawdurdodau lleol, gan dimau adsefydlu awdurdodau lleol, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn croesawu ceiswyr noddfa drwy lawer o sefyllfaoedd—Syriaid, Affganiaid. Maent yn wirioneddol bwysig i ffoaduriaid o Affganistan ac Wcráin. Mae timau adsefydlu’r awdurdodau lleol hynny’n glir ynghylch eu cyfrifoldebau a’r cymorth y maent yn ei roi. Fel y dywedais, mae llawer o Syriaid yng Nghymru yn parhau i gael y cymorth hwnnw. Gallant gael mynediad at wasanaeth noddfa Cymru, a byddwn yn sicrhau bod y wefan noddfa’n cael ei diweddaru pan fyddwn yn gwybod mwy am gamau gweithredu Llywodraeth y DU a sut y gall pobl gysylltu a mynd ar drywydd eu hanghenion a’u hamgylchiadau teuluol.

Credaf ei bod yn bwysig dweud bod Llywodraeth y DU wedi bod ar flaen y gad o ran yr ymateb i’r digwyddiadau hyn sy'n datblygu'n gyflym. Maent yn siarad yn rheolaidd â phartneriaid rhanbarthol a phartneriaid eraill, a chyda ni yn Llywodraeth Cymru, am y sefyllfa sy'n datblygu. Fel y dywedais, maent yn galw ar bob plaid i gefnogi mynediad dyngarol, a hefyd i sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan i allu cefnogi pobl mewn angen ledled Syria, lle mae’n ddiogel gwneud hynny.

Dylwn ddweud nad oes unrhyw gymorth consylaidd ar gael yn Syria i wladolion Prydeinig. Mae pob cais am gymorth consylaidd gan Syria yn cael ei ystyried fesul achos, gan ystyried amgylchiadau perthnasol, ac yn cynnwys diogelwch gwladol wrth gwrs. Os daw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o achosion consylaidd yn Syria, byddwn yn codi’r rhain gyda’n partneriaid yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Mae gweithdrefnau profedig ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth i ddinasyddion Cymru sy'n cael eu heffeithio gan wrthdaro neu drychinebau naturiol. Rydym yn rhoi'r rhain ar waith, ac maent yn gweithio'n effeithiol. Rwy'n gobeithio y bydd hynny’n rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r Senedd ynghylch y cymorth hwnnw a’r cysylltiadau hynny â Llywodraeth y DU.

A gaf i achub ar y cyfle i ddiolch i'r holl grwpiau noddi cymunedol hefyd? Credaf fod y grŵp noddi cymunedol cyntaf ar gyfer teuluoedd o Syria yn eich etholaeth chi, ac yna fe ledodd drwy'r wlad drwy Citizens Cymru. Yn sicr, cefais Croeso Llantwit a Croeso Cowbridge yn ymgysylltu â Citizens Cymru, a gwn fod hynny’n wir ledled Cymru. Ond byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos, a bydd ein hawdurdodau lleol, drwy ein bwrdd noddfa, yn ein briffio ar ddatblygiadau.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

15:30
4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon, rydym yn nodi Diwrnod Hawliau Dynol sy'n digwydd bob blwyddyn ar 10 Rhagfyr. Yn ei neges ar gyfer y diwrnod, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres:

'Mae hawliau dynol o dan fygythiad.... Mae thema eleni'

sef 'Ein Hawliau, Ein Dyfodol, Nawr',

'yn ein hatgoffa bod hawliau dynol yn ymwneud ag adeiladu'r dyfodol—nawr.... Rhaid inni sefyll dros bob hawl—bob amser.'

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol, mae'n fraint cael gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw ac amddiffynwyr hawliau dynol yng Nghymru, megis yr Athro Simon Hoffman o Arsyllfa Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol Prifysgol Abertawe. Mewn blog i nodi Diwrnod Hawliau Dynol, mae'r Athro Hoffman wedi rhybuddio y dylem ni yng Nghymru fod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn gwleidyddiaeth boblyddol fel y'i gelwir a'i chanlyniadau, gan gynnwys cynnydd mewn iaith casineb a thrais a gyfeirir at leiafrifoedd. A dylem gael ein cythruddo gan effaith gyrydol barhaus tlodi, anghydraddoldeb a gwahaniaethu, sy'n bla ar lawer o gymunedau yng Nghymru ac sy'n amddifadu unigolion o hawliau dynol sylfaenol mewn meysydd fel tai, iechyd, addysg a gofal cymdeithasol. Mae'r rhain, meddai, yn fygythiadau real a chyfredol iawn i hawliau dynol ar garreg ein drws yma yng Nghymru ac nid ydynt yn dangos unrhyw arwyddion o leihau. Mae'n dweud bod yn rhaid inni gofio bod gan bob lefel o Lywodraeth yn y DU gyfrifoldeb tuag at gyflawni rhwymedigaethau hawliau dynol y DU o fewn eu pwerau, gan gynnwys y Senedd, Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill.

Mae Cymru wedi dangos arweiniad ar hawliau dynol, ac wedi'i hysbrydoli gan effaith gadarnhaol ac amlwg ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng nghyfraith Cymru, mae cymdeithas sifil yng Nghymru wedi galw ers tro am ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol pellach, fel y rhai sy'n diogelu ac yn hyrwyddo buddiannau menywod a phobl anabl a'r hawl i gartref digonol. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad yn ei rhaglen lywodraethu i ymgorffori hawliau menywod a hawliau pobl anabl yng nghyfraith Cymru, ond mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr wyf yn aelod ohono, wedi adrodd yn ddiweddar ar ddiffyg blaenoriaethu ar gyfer y gwaith hwn yn ddiweddar, sy'n destun pryder.

Nid yw hawliau dynol yn—

Ie, un frawddeg, os caf, Ddirprwy Lywydd. Nid syniadau haniaethol yn unig yw hawliau dynol. Trwy wahanol ddatganiadau, cyfamodau a Biliau, maent yn safonau cyfreithadwy. Maent yn ataliol, yn amddiffynnol ac yn drawsnewidiol, ac mae'n rhaid iddynt barhau i fod yn flaenoriaeth i ni yng Nghymru. Yng ngeiriau Dr Martin Luther King:

'Mae hawl wedi'i gohirio yn hawl wedi'i gwrthod.'

Diolch.

5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Biliau Diwygio

Yr eitem nesaf yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Biliau Diwygio. A galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Jane Hutt.

Cynnig NDM8761 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

1. Yn cytuno i newid cylch gwaith y Pwyllgor Biliau Diwygio fel mai ei gylch gwaith yw craffu ar faterion y cyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

2. Yn cytuno y bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu naill ai:

a) pan fydd y Pwyllgor Busnes wedi penderfynu na fydd rhagor o faterion yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor; neu

b) pan fo'r Senedd yn penderfynu felly;

pa un bynnag sydd gynharaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Jane Hutt 15:30:08
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Rwy'n cynnig yn ffurfiol.

Nid oes unrhyw siaradwyr ar yr eitem hon. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor

Eitem 6 yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor. A galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Jane Hutt.

Cynnig NDM8762 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Alun Davies (Llafur Cymru) yn lle Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Biliau Diwygio.

Cynigiwyd y cynnig.

Member (w)
Jane Hutt 15:33:37
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Rwy'n cynnig.

A'r cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol'

Eitem 7 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Peredur Owen Griffiths.

Cynnig NDM8759 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Hydref 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor fel rhan o’r ymchwiliad eang hwn, ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg a’i ragflaenydd am eu gwaith ymgysylltu.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ymateb i’n hadroddiad cyn y ddadl hon, ac rwy’n falch o weld ei fod wedi ymateb yn gadarnhaol i’n hargymhellion, gyda phob un o’r rhai a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru wedi’u derbyn naill ai mewn egwyddor neu’n llawn. Fodd bynnag, mae’n siomedig nad ydym hyd yn oed wedi cael cydnabyddiaeth o’n hadroddiad gan y Trysorlys, sydd yn anffodus yn adlewyrchu un o brif themâu ein hadroddiad.

Dirprwy Lywydd, fe wnaethon ni ddechrau ein hymchwiliad i gysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol flwyddyn yn ôl, yn ôl ym mis Rhagfyr 2023, a chyhoeddwyd ein hadroddiad ym mis Hydref eleni. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r dirwedd wleidyddol ar lefel Cymru a lefel y DU wedi newid yn sylweddol.

Er nad yw ein hadroddiad yn edrych i weld a yw'r newid yn y Llywodraeth yn San Steffan wedi arwain at welliannau mewn cysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol—credaf ei bod yn rhy gynnar i wneud hynny—roeddem yn gallu edrych ar y mecanweithiau, y diwylliannau, yr agweddau a'r prosesau sy'n sail i'r cysylltiadau hynny. Yn fwyaf arbennig, roedd y pwyllgor am daflu goleuni ar feysydd lle gellir gwneud gwelliannau a nodi camau ymarferol ar gyfer cyflawni hyn.

Yn benodol, fe wnaethom edrych ar: effeithiolrwydd strwythurau rhynglywodraethol wrth fynd i'r afael â'r egwyddorion ar gyfer cydweithio sy'n ymwneud â materion cyllidol; cryfderau a gwendidau'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid; sut y mae Llywodraeth y DU yn cyfathrebu â gweinyddiaethau datganoledig ynghylch digwyddiadau cyllidol, yn enwedig sut y gellid cyfathrebu symiau canlyniadol Barnett mewn modd tryloyw ac amserol; pa brosesau y gellid eu rhoi ar waith i wella dylanwad y Senedd ar strwythurau rhynglywodraethol; a yw'r mecanweithiau datrys anghydfodau presennol yn addas i'r diben; ac archwilio enghreifftiau rhyngwladol o strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol a nodi meysydd o arfer da sy'n ymwneud â chydweithio ar faterion cyllidol. Gyda'i gilydd, mae ein canfyddiadau'n darparu set o egwyddorion clir ac enghreifftiau o arferion da yn sail ar gyfer gwelliannau mewn cysylltiadau. Barn sylfaenol y pwyllgor yw y dylai trefniadau cyllidol yn y DU fod yn seiliedig ar strwythurau rhesymegol ac egwyddorion clir, yn hytrach nag ar fympwyon neu bersonoliaethau Gweinidogion y Trysorlys, sydd wedi bod yn wir yn rhy aml.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n troi nawr at argymhellion penodol, a hoffwn ddechrau ar nodyn cadarnhaol. Cynhaliodd Llywodraeth flaenorol y DU adolygiad mawr ei angen o strwythurau rhynglywodraethol yn 2022. Gwelsom fod y rhain yn welliant sylweddol ar yr hyn a oedd o'r blaen. Yn benodol, mae sefydlu Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig yn ddatblygiad arwyddocaol o ran meithrin ymddiriedaeth a sianeli cyfathrebu effeithiol, a nodwn fod y Prif Weinidog wedi mynychu ei gyfarfod cyntaf ym mis Hydref. Bu datblygiadau cadarnhaol hefyd mewn perthynas â datrys anghydfodau, sy'n atal Llywodraeth y DU rhag gwadu bodolaeth anghydfod ac yn cymhwyso trefniadau cadeirio ac ysgrifenyddiaeth annibynnol.

Rydym yn croesawu sefydlu'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, sy'n cynnwys holl Weinidogion cyllid y DU, a'r diweddariadau rheolaidd a ddarperir gan Ysgrifennydd y Cabinet i'r pwyllgor cyn ac ar ôl cynnal cyfarfodydd o'r fath. Mae'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn enwedig wedi sefydlu gwelliannau cymedrol ond pwysig yn ei arferion gwaith, gan gynnwys cylchdroi rôl y cadeirydd a'r lleoliad, yn ogystal â chaniatáu i unrhyw Lywodraeth godi eitem i'w thrafod. Mae'r newidiadau hyn yn lleihau'r hierarchaeth a oedd yn bodoli o'r blaen ac yn rhoi'r Llywodraethau datganoledig ar sail fwy cyfartal â Llywodraeth y DU.

Fodd bynnag, mae rhwystrau o hyd i'r modd y mae'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn gweithredu, ac mae gennym bryderon fod y strwythurau hyn heb eu profi i raddau helaeth, a hoffem ei weld yn cael ei ddatblygu ymhellach. Credwn y dylai fod yn fforwm craidd ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng Llywodraethau ar faterion ariannol, gan gynnwys manylion y lefelau ariannu a chyhoeddiadau yn y dyfodol. Ond mae hyn wedi cael ei danseilio'n ddifrifol gan Brif Ysgrifenyddion blaenorol y Trysorlys, sydd wedi bod yn amheus o'r fforwm. Er bod y diffyg ymgysylltu hwn gan Lywodraeth y DU wedi arwain fel arall at ddyfnhau'r berthynas rhwng y gweinyddiaethau datganoledig, datblygiad yr ydym yn ei groesawu, nid yw'n sail gadarn ar gyfer cynnal trafodaethau rhynglywodraethol arni. Rydym wedi gwneud argymhellion sydd â'r nod o gryfhau'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, er mwyn sicrhau bod ei brosesau yn ddigon cadarn, gan anelu at leihau'r disgresiwn a roddir ar hyn o bryd i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys mewn materion o'r fath.

Mae ein tystiolaeth hefyd yn dangos bod y Trysorlys yn parhau i danseilio cysylltiadau rhynglywodraethol drwy drin Llywodraeth Cymru fel adran arall yn y DU yn hytrach na Llywodraeth ddatganoledig yn ei hawl ei hun ac yn atebol i ddeddfwrfa ddatganoledig. Mae hyn yn amlwg yn anghyson â'r egwyddor o barch cyffredin rhwng Llywodraethau'r gwledydd hyn, a galwn ar y Trysorlys i newid ei ddull er mwyn parchu realiti cyfansoddiadol y DU. Rydym yn croesawu'r gwaith a wnaed eisoes yn y maes hwn gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ac yn cefnogi ei argymhelliad y dylid gosod strwythurau rhynglywodraethol ar sail statudol i sicrhau dyletswydd o gydweithrediad a pharch cydradd rhwng Llywodraethau.

Mewn perthynas â datrys anghydfodau, er bod y broses ar gyfer uwchgyfeirio anghydfodau o fewn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid wedi gwella, mae'r pwyllgor o'r farn fod y rhesymau dros godi anghydfodau o'r fath yn rhy gyfyngedig, o gofio na all hyn ond digwydd pan fo rheswm dros gredu y gallai egwyddor yn y datganiad o bolisi ariannu fod wedi'i thorri, ac mae'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fynd ar drywydd y mater hwn ymhellach gyda'r Trysorlys. Ond rhan o'r ateb yn unig yw cael y strwythurau cywir ar waith. Mae angen i hyn gael ei ategu gan ddiwylliant cadarn rhwng Llywodraethau yn y DU, yn seiliedig ar barch. Yn rhy aml, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at achosion lle mae'r rheini wedi bod ar goll, ac mae hyn wedi arwain at brosesau nad ydynt yn gweithio i'w llawn botensial, gan arwain at ganlyniadau cyllidol siomedig i Gymru.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi at rannau eraill o'n hadroddiad sy'n ymdrin â threfniadau ariannu ar gyfer Cymru. Mae'r dadleuon sy'n ymwneud â'r defnydd parhaus o fformiwla Barnett wedi'u cofnodi'n dda, ac rydym yn croesawu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dull newydd sy'n seiliedig ar egwyddorion o ariannu ledled y DU, a oruchwylir gan gorff annibynnol, ac rydym yn cefnogi Ysgrifennydd y Cabinet yn yr ymdrechion hyn. 

O safbwynt y pwyllgor, gall amseriad penderfyniadau cyllidol mawr achosi heriau sylweddol i Lywodraeth Cymru wrth baratoi ei chyllideb ei hun, ac i'r Senedd o ran cael digon o amser i'w chraffu. Clywsom dystiolaeth mai'r DU yw un o'r unig wladwriaethau cyllidol datganoledig sy'n rhoi rhybudd mor fyr ynghylch newidiadau ariannol. Mae'n anodd amddiffyn y dull hwn, ac rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i bwyso ar y Trysorlys i bennu dyddiadau digwyddiadau cyllidol ymhell ymlaen llaw.

Canfuom hefyd yn aml nad oes tryloywder i gyhoeddiad cyllido Llywodraeth y DU, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn wynebu heriau wrth glywed am y cyhoeddiadau hyn yn hwyr yn y flwyddyn ariannol, sy'n achosi problemau wrth reoli cyllidebau datganoledig a gwneud y mwyaf o'r arian sydd ar gael. Dros y blynyddoedd, mae'r pwyllgor wedi galw'n gyson ar Lywodraeth Cymru i annog ymgysylltu cynharach a rheolaidd â'r Trysorlys ynghylch y materion hyn. Mae hyn yn cynnwys mwy o lais i Gymru yn adolygiad o wariant y DU, yn ogystal â darparu setliadau amlflwyddyn fel mater o drefn i ddarparu mwy o sicrwydd cyllidol. 

Rydym hefyd wedi gwneud sylwadau ar faterion technegol sy'n ymwneud â sut y mae'r Trysorlys yn gwneud penderfyniadau cyllido sy'n ymwneud â Chymru, ac yn galw am fwy o dryloywder yn y maes hwn. Yn fwyaf arbennig, credwn y byddai sefyllfa gyllidol Llywodraeth Cymru yn elwa o ymgysylltu cynharach â'r Trysorlys ar ddatblygu dogfennau datganiad o bolisi yn y dyfodol i liniaru materion categoreiddio prosiectau, fel y rhai a gododd yn dilyn cyllid yn ymwneud â HS2.

Clywsom dystiolaeth hefyd fod y Trysorlys yn gallu defnyddio ei gronfa ganolog i osgoi fformiwla Barnett mewn rhai amgylchiadau, sy'n bryder. Rydym yn cytuno na ddylai Llywodraeth y DU allu dyrannu cyllid ychwanegol yn fympwyol i unrhyw ran o'r DU y tu allan i drefniadau arferol, ac yn pwyso eto ar Ysgrifennydd y Cabinet i godi'r mater gyda swyddogion cyfatebol yn y Trysorlys cyn gynted â phosibl. 

Testun pryder parhaus arall i'r pwyllgor yw'r ysgogiadau cyllidol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Canfuom fod y rhain yn aml yn cael eu tanseilio gan reolau cyfyngol a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Yn fwyaf arbennig, gosododd y Trysorlys derfynau tynnu i lawr o gronfa wrth gefn Cymru, ac ymddengys bod gallu Llywodraeth Cymru i newid cyllid cyfalaf i adnoddau yn ddiangen o anhyblyg, a galwasom ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn y maes hwn.

Mae'r pwyllgor hefyd yn credu y dylid cario cyhoeddiadau cyllid hwyr a wnaed gan y Trysorlys ar draws blynyddoedd ariannol. Clywsom dystiolaeth o blaid gweithredu gwarant ariannu i Gymru, yn debyg i warant Barnett a gyflwynwyd yn ystod pandemig COVID, fel ffordd o roi rhywfaint o sicrwydd i Lywodraeth Cymru ynghylch y cyllid sydd ar gael. Credwn fod rhinweddau i archwilio hyn ymhellach, ac rydym wedi argymell bod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ar drywydd hyn gyda'r Trysorlys. Mae'r rhain yn ofynion cymedrol, ac ni welwn unrhyw reswm pam na ellir eu mabwysiadu.

Cyffyrddais â therfynau'r broses datrys anghydfodau yn gynharach yn fy nghyfraniad. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae anghydfodau cyllidebol yn cael eu rheoli ar hyn o bryd drwy gytundeb fframwaith cyllidol Cymru. Fodd bynnag, credwn ei bod yn bryd adolygu'r fframwaith cyllidol o ystyried y materion a nodwyd gennym yn ein hadroddiad. Rydym yn arbennig o siomedig nad oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer cynnal yr adolygiad, ac mae'n anffodus na ddigwyddodd hyn ar yr un pryd ag adolygiad o drefniadau yn yr Alban, a gwblhawyd yn 2023. O ganlyniad, rydym wedi argymell diweddaru'r fframwaith, ac y dylai hyn roi cyfle i fynd i'r afael â materion sylfaenol, megis cysylltu benthyca mynegeiedig a therfynau cronfeydd cyffredinol i chwyddiant, dileu terfynau tynnu i lawr cronfeydd wrth gefn, a chynyddu terfynau benthyca cyfalaf.

Mae hefyd yn siomedig mai cynnydd cyfyngedig a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ddatganoli rhagor o bwerau i gyflwyno treth ar dir gwag, a nodir barn cyn-Ysgrifennydd y Cabinet nad yw'r broses hon yn addas i'r diben. O ganlyniad, rydym wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet presennol i gynnal adolygiad o'r broses ar gyfer cytuno ar bwerau treth datganoledig newydd gyda Llywodraeth y DU, fel yr amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r argymhellion hyn yn galonogol ac yn awgrymu y bwrir ymlaen â'r mater hwn nawr, a gofynnaf am i'r pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd yn y maes hwn. 

I gloi, hoffwn siarad am ffyrdd eraill y gall y Senedd chwarae ei rhan ei hun o ran dwyn penderfyniadau rhynglywodraethol i gyfrif. Fel pwyllgor, clywsom dystiolaeth y bu diffyg mewnbwn gan ddeddfwrfeydd yn draddodiadol i strwythurau rhynglywodraethol ac o ran eu dwyn i gyfrif. Dyna pam rydym, â’n counterparts yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, wedi sefydlu fforwm rhyngseneddol y pwyllgorau cyllid, sydd wedi bod yn gyfrwng effeithiol ar gyfer dwyn ynghyd bryderon cyffredin y Seneddau datganoledig sy’n ymwneud â materion cyllidol.

Fodd bynnag, rydym wedi teimlo’n rhwystredig dro ar ôl tro gyda’r diffyg ymgysylltiad gan y Trysorlys i ymddangos gerbron y pwyllgor ac i ymgysylltu â’r fforwm, er gwaethaf ymdrechion cyson. Mae diffyg cydnabyddiaeth gan y Trysorlys i’r adroddiad hwn hefyd yn atgyfnerthu’r pwynt. Unwaith eto, mae hyn yn tynnu sylw at y diffyg parch sylfaenol, ac rydym wedi argymell o ganlyniad bod y Trysorlys yn cymryd camau i wella’r ffordd y mae’n ymgysylltu â’r Senedd a Seneddau datganoledig eraill. Mae gobaith y bydd pethau yn newid yn dilyn etholiad cyffredinol y DU eleni, ond byddwn yn aros i weld a fydd gweithredu pendant yn cyd-fynd â’r rhethreg.

Ers i'r pwyllgor ddechrau'r ymchwiliad hwn, mae'r cyd-destun gwleidyddol wedi newid yn sylweddol. Credwn felly fod hwn yn gyfle da i ailsefydlu cysylltiadau, a gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn llywio ac yn cryfhau cysylltiadau rhwng y llywodraethau yn y Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr.

15:45

Roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o'r ymchwiliad hwn, a diolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am nodi ein canfyddiadau. Gwyddom fod mater cysylltiadau rhynglywodraethol yn un hynod o bwysig, yn enwedig o ystyried natur datganoli, a diolch i bawb a roddodd dystiolaeth; roedd yn ymchwiliad diddorol iawn.

Wrth gwrs, mae o fudd i bobl Cymru fod y ddwy Lywodraeth ar y naill ochr a'r llall i'r M4 yn cydweithredu a chydweithio i geisio gwella'r rhagolygon i bobl a busnesau yng Nghymru. Rwy'n falch ein bod ni—y Pwyllgor Cyllid—wedi archwilio'r mater ac wedi nodi rhai argymhellion allweddol i wella'r berthynas hon. Yr hyn sy'n bwysig, serch hynny, yw nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gorau i wthio Llywodraeth y DU ynghylch anghenion Cymru oherwydd bod eu cydbleidwyr Llafur bellach mewn grym. Rydym eisoes wedi gweld hyn i raddau, gydag ASau ac Aelodau Llafur yma yn cefnu ar alwadau am werth biliynau o bunnoedd o symiau canlyniadol o ganlyniad i wariant HS2.

Rwy'n falch fod y pwyllgor wedi argymell bod Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i ddadlau dros y mecanwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion, i sicrhau cyllid tecach i Gymru a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am ei gynnydd. Bydd hwn yn gam hynod bwysig i helpu i wella cyflwr gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, sydd dan straen cynyddol ac sy'n gwneud cam â phobl.

Mae'r pwyllgor hefyd wedi argymell bod Ysgrifennydd y Cabinet yn galw ar y Trysorlys i gyhoeddi gwaith manwl ochr yn ochr â'i gyhoeddiadau cyllido i wella tryloywder ynghylch cyllid datganoledig a chategoreiddio prosiectau. Bydd hyn yn sicrhau nad oes dryswch ynghylch unrhyw brosiectau seilwaith yn y dyfodol a'r effaith y byddai gwariant yn ei chael ar Gymru.

Yn olaf, rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor i Ysgrifennydd y Cabinet fynd ar drywydd Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad o fframwaith cyllidol Cymru, yn enwedig cynyddu'r terfyn benthyca cyfalaf. Mae'n annerbyniol fod gan Lywodraeth Cymru lai o bwerau benthyca na chyngor yng Nghymru. Os ydym am gael gwell buddsoddiad a mwy o flaengynllunio, mae angen Llywodraeth sy'n gallu edrych ymlaen ac nid ymateb yn unig. Mae arnom angen pwerau benthyca ariannol ychwanegol hefyd. Byddai hynny'n darparu offeryn defnyddiol i fynd i'r afael â hyn.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch fod gan Lywodraeth Cymru berthynas waith dda â Llywodraeth y DU nawr. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon a gadael i gynghreiriaid gwleidyddol gymryd mantais ohonom. Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am sefyll yn gadarn gerbron eu cydbleidwyr yn San Steffan a pheidio â derbyn unrhyw bolisïau nad ydynt er lles teuluoedd ledled Cymru. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i sefyll dros Gymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eich gwaith ar hyn? Mae'n bwysig iawn, ac yn amserol iawn hefyd, o ystyried ein bod yn ceisio ailosod y berthynas. Mae'n pwysleisio'n briodol yr angen am ailosod cysylltiadau rhynglywodraethol cyllidol ar frys ar ôl blynyddoedd o esgeulustod a straen.

Rwy'n credu bod y ffaith bod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ac Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ar y pryd wedi gwrthod gwahoddiadau i ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid i roi tystiolaeth ar yr union fater hwn, ac wedi methu cyflwyno cyfraniadau ysgrifenedig hyd yn oed, mewn cyferbyniad llwyr â Seneddau Canada a Sbaen, yn siarad cyfrolau ynghylch difaterwch Llywodraeth flaenorol y DU tuag at y gweinyddiaethau datganoledig. Rwy'n croesawu'r newid cadarnhaol o ran cywair gan Lywodraeth bresennol y DU a mwy o barodrwydd ymddangosiadol i ymgysylltu'n adeiladol ar y materion hyn, ond rhaid dangos hyn mewn gweithredoedd yn ogystal â geiriau, wedi'i ategu gan fwriad clir i drin y Llywodraethau datganoledig fel partneriaid cyfartal yn hytrach na rhai israddol. Wedi'r cyfan, er y bernid bod y strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol wedi'u hailwampio a sefydlwyd yn 2022 yn welliant sylweddol ar yr hyn a gafwyd yn flaenorol, cawsant eu hanwybyddu'n fuan yn ymarferol, ac rydym i gyd yn gwybod, o ran ein trefniadau cyllidol gyda San Steffan, fod Cymru dan anfantais arbennig. Mae hyn wedi'i grynhoi gan fformiwla Barnett, a oedd yn ddatrysiad dros dro o'r 1970au na chafodd ei lunio erioed gyda Chymru mewn golwg. A chyda chefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd hon i ddisodli'r fformiwla gan fodel ariannu seiliedig ar anghenion sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, dylai gweithredu ewyllys sefydlog y Senedd fod ar frig agenda Llywodraeth y DU o ran materion rhynglywodraethol cyllidol.

Mewn ymateb i gwestiwn diweddar a ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn, rwy'n gwybod ei fod wedi honni nad oedd rhai fforymau'n addas ar gyfer trafod hyn. Hoffwn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro ble y mae'n credu y mae'r mecanwaith rhynglywodraethol priodol ar gyfer cynhyrchu cynnydd hirddisgwyliedig ar yr agenda hon, a chadarnhau, gobeithio, yn yr ymateb, a yw ef neu Brif Weinidog Cymru wedi gofyn yn ffurfiol am adolygiad o fformiwla Barnett mewn gohebiaeth ysgrifenedig i Lywodraeth y DU ers yr etholiad cyffredinol.

Wrth gwrs, atal symiau canlyniadol HS2 yw'r enghraifft amlycaf o sut y mae cymhwysiad mympwyol Barnett wedi amddifadu Cymru o filiynau o bunnoedd, ac unwaith eto, mae cefnogaeth drawsbleidiol yma i Gymru gael ei chyfran deg o'r arian, fel sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn olaf, mae'r adroddiad yn cyfeirio at yr angen i gyflwyno mwy o hyblygrwydd i fframwaith rheoli cyllidebol y Senedd—rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi dadlau drosto ers tro. Rwy'n credu ei bod yn feirniadaeth ddamniol o'r ffordd fympwyol y mae San Steffan yn crynhoi pwerau fod y Senedd hon yn parhau i fod yn eithriadol o gyfyngedig yn ei gallu i reoli ei hadnoddau cyllidol ei hun, sy'n golygu, yn ôl safonau rhyngwladol, fod ein sefyllfa'n anghyson am yr holl resymau anghywir.

Rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr, ac rwy'n gobeithio y gwelwn gynnydd ar yr argymhellion, ac rwy'n siŵr, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, y byddwch yn monitro'n agos i sicrhau bod yr ailosod hwnnw'n digwydd, ac yn cyflawni dros y Senedd hon a phobl Cymru.

15:50

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Diolch yn fawr i'r Pwyllgor Cyllid am yr adroddiad diddorol ac am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. 

Ddirprwy Lywydd, darllenais yr adroddiad gyda diddordeb mawr. Edrychais drwy ragair y Cadeirydd yn arbennig o agos a chanfod fy mod yn cytuno'n fawr â'r pwyntiau a wnaed yno, ac maent wedi cael eu hategu yn yr hyn y mae'r Cadeirydd wedi ei ddweud y prynhawn yma, sef bod angen set o gysylltiadau rhynglywodraethol sy'n seiliedig nid ar bersonoliaethau ond ar strwythurau cryf a chadarn, gyda diwylliant cadarn a pharchus i'w cefnogi. Nid yw strwythurau ar eu pen eu hunain yn ddigon, ac ni all hyd yn oed y personoliaethau gorau gyflawni'r gwaith sydd angen ei gyflawni os nad oes strwythur yno i gefnogi'r gwaith hwnnw.

Mae 15 o argymhellion y pwyllgor yn rhai ar gyfer Llywodraeth Cymru—nid pob un; mae rhai i'r Trysorlys, ac mae rhai'n argymhellion am waith rhyngseneddol. Ond rwy'n credu os edrychwch chi ar y 15 argymhelliad a'r her a roesant i ddeheurwydd geiriol y drafftwyr, fe welwch fod galw ar Lywodraeth Cymru un waith i 'ymgysylltu' â Llywodraethau eraill, unwaith i 'eirioli' dros safbwynt penodol, dair gwaith i 'ddilyn' dadl benodol, bedair gwaith i 'alw' am rywbeth i ddigwydd, a chwe gwaith i 'bwyso' am ganlyniad penodol, a'r hyn y mae'r berfau hynny'n ei ddweud wrthych, wrth gwrs, yw nad oes unrhyw allu unochrog ar ran unrhyw un chwaraewr mewn cysylltiadau rhynglywodraethol i wneud i rywbeth ddigwydd. Yn anochel, mae'n rhaid i chi weithio gydag eraill a pherswadio eraill i fabwysiadu rhai o'r argymhellion synhwyrol iawn y mae'r adroddiad hwn yn eu cynnwys. Mae yna newyddion da, fodd bynnag—ers newid y Llywodraeth, rydym wedi gweld datblygiadau cadarnhaol. Roedd cyngor y gwledydd yn ganolog i'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a gymerodd bedair blynedd i'w gwblhau, a methodd y cyngor hwnnw gyfarfod un waith o dan y Llywodraeth ddiwethaf. Mae bellach wedi cyfarfod o dan y Llywodraeth newydd, ac ym mis Hydref, llwyddodd Prif Weinidog Cymru i'w fynychu.

Mae'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid hwn yn rhan fwy hirsefydlog o'n trefniadau rhynglywodraethol. Roedd olyniaeth ddryslyd o Brif Ysgrifenyddion y Trysorlys wedi bod ger ei fron, tra bod fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, yn cynrychioli Llywodraeth Cymru drwy gydol y cyfan. Roedd yn dangos y pwynt y mae'r Cadeirydd yn ei wneud yn ei gyflwyniad i'r adroddiad am gyfyngiadau personoliaethau, oherwydd, ymhlith yr orymdaith honno o Brif Ysgrifenyddion, roedd rhai a oedd yn amlwg yn dymuno gweithio'n adeiladol gyda Llywodraethau datganoledig, ac roedd rhai a oedd yn amlwg yn credu'n glir fod datganoli yn gamgymeriad ofnadwy ac nad oeddent yno i wneud unrhyw beth i ychwanegu ato.

Mae cylchdroi rôl y cadeirydd a'r lleoliad wedi helpu, ond mae natur fympwyol rhai agweddau ar y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid a gweithrediad y Trysorlys yn parhau'n ddwfn yn ei ddiwylliant. Ddirprwy Lywydd, nid oeddwn yn cytuno â nemor ddim a oedd gan Liz Truss i'w ddweud, ond roedd gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'i barn fod diwylliant y Trysorlys yn ganolog i anawsterau'r wladwriaeth Brydeinig fodern. Ac nid yw hyd yn oed newid Llywodraeth yn gwarantu newid diwylliant yn gyflym, oherwydd mae pobl sydd wedi dod i oed yn y Trysorlys wedi bod yno ers amser maith, ac maent yn parhau i weithredu yn y ffordd y cawsant eu meithrin i weithredu. Felly, yn yr adolygiad rhynglywodraethol, mae elfennau o gymrodeddu annibynnol yn perthyn i bob rhan arall o'r Llywodraeth, ond nid i'r Trysorlys, am y rheswm syml fod y Trysorlys wedi gwrthod. Er bod y Prif Weinidog ar y pryd yn barod i gymeradwyo'r adroddiad, gwrthododd y Trysorlys gynnwys ei hun yn hynny. Felly, nid wyf yn honni o gwbl y prynhawn yma fod yr holl waddol diwylliannol hwnnw wedi cael ei oresgyn mewn chwe mis, a dyna pam y byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â chymheiriaid, yn enwedig cymheiriaid o Lywodraethau datganoledig eraill, i geisio gwella'r diwylliant a etifeddwyd gennym.

Fodd bynnag, mae pethau da i'w dweud o hyd. Ar yr argymhellion, mae Canghellor y Trysorlys wedi cadarnhau dull treigl o adolygu gwariant yn y dyfodol, a dim mwy o sefyllfaoedd ymyl y dibyn o'r math y mae'r adroddiad yn cyfeirio atynt. Addawyd setliadau amlflwyddyn i ni yn natganiad y gwanwyn, a fydd, unwaith eto, yn mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau y mae'r adroddiad yn eu gwneud. Bydd un digwyddiad cyllidol y DU bob blwyddyn, a bydd hynny'n rhoi cyfle i ni alinio ein prosesau yma yn well â phrosesau Llywodraeth y DU, rhywbeth sydd wedi bod yn arbennig o anodd yn fwy diweddar, gyda digwyddiadau hwyrach a hwyrach yn yr hydref yn ymyrryd ar ein hamserlen ein hunain. Rwy'n credu bod rhai rhagolygon y bydd hynny'n well yn y dyfodol.

Ac er iddi fod yn anos darparu'r dystiolaeth fwyaf cadarn ar hynny, ond os ydych chi'n ymwneud â hyn yn uniongyrchol, heb os, fe gafwyd mwy o barodrwydd gan Lywodraeth bresennol y DU i wrando ac ymgysylltu â'r Llywodraethau datganoledig. Ar y sail honno y byddaf yn ceisio sicrhau, gydag eraill, yr hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol y cyfeiriodd Heledd Fychan ato yn ei chyfraniad, ac a drafodwyd gennym sawl gwaith yma ar lawr y Senedd. Mae'n cael ei gydnabod ym maniffesto Llafur y DU. Nawr, mae angen inni gael yr hyblygrwydd ychwanegol hwnnw yn y system sydd gennym ar hyn o bryd, a gallu rheoli ein harian ein hunain yn well, i gael y ffigurau yn y fframwaith cyllidol wedi'u diweddaru i werthoedd cyfoes, ac yna, y tu hwnt i hynny, i ailedrych ar y fframwaith cyllidol ei hun, i wneud yn siŵr fod gennym y dulliau gweithredu mwyaf effeithiol ar gyfer rheoli cyllideb sy'n werth £26 biliwn, fel roeddem yn trafod ddoe, ac rydym yn ei rheoli, mewn gwirionedd, heb y dulliau gweithredu sy'n ddefnyddiol i wneud y gorau o hynny i gyd. Nawr, bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yng Nghaerdydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae hyblygrwydd ariannol ar agenda'r cyfarfod hwnnw. Mae'n bwysig i Ogledd Iwerddon ac i'r Alban yn ogystal â Chymru, ac oherwydd mai'r wlad lle mae'n cael ei gynnal fydd yn cadeirio'r cyfarfod pan fydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yn symud, byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd y materion hynny gyda fy nghyd-Weinidogion.

Byddaf hefyd yn gofyn am gynnydd ar ddatganoli'r dreth ar dir gwag. Roedd paradocs go iawn dros y blynyddoedd diwethaf, Ddirprwy Lywydd, mai Llywodraeth Geidwadol a roddodd y broses ar gyfer datganoli rhagor o gyfrifoldebau cyllidol i Gymru ar y llyfr statud, a Llywodraeth Geidwadol a wrthododd ddefnyddio'r mecanwaith yr oeddent hwy eu hunain wedi'i osod. Rwyf eisoes wedi cael trafodaeth gydag Ysgrifennydd y Trysorlys, cafwyd cyfarfod rhwng swyddogion, ac rwy'n obeithiol y gwelwn ragor o gynnydd ar hynny ac y bydd hynny'n ateb un o argymhellion yr adroddiad unwaith eto.

Diolch i'r pwyllgor am yr holl waith y mae wedi'i wneud. Rwy'n gobeithio y bydd yn adroddiad a gaiff ei rannu, nid yn unig yng Nghymru, ond gyda'r Trysorlys a chymheiriaid yn y Llywodraethau datganoledig, fel y gallwn ddefnyddio gwaith y pwyllgor i sicrhau gwelliant.

16:00

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw.

Ar y pwynt olaf hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn rhannu hyn gyda’n cyd-Aelodau mewn gwahanol bwyllgorau cyllid yn y deddfwrfeydd datganoledig hefyd, a gobeithio y bydd hwnnw’n bwnc pan fyddwn yn cyfarfod i drafod.

Diolch, yn gyntaf, i Peter Fox. Soniodd am bwysigrwydd materion rhynglywodraethol wrth ystyried y cyllid datganoledig a’r ffordd gydweithredol y mae angen inni fod yn gweithio i sicrhau bod cymaint â phosibl o gyllid ar gael i Lywodraeth Cymru. Rwy'n cytuno ag ef ar y materion hynny ac yn diolch iddo am hynny. Diolch hefyd i Heledd am ei geiriau caredig am yr adroddiad. Mae’r diffyg ymgysylltiad gan y Trysorlys a nodwyd ganddi, ac a nodais innau, yn siarad cyfrolau, gan yr hoffai’r pwyllgor weld cynnydd pellach yn y meysydd hyn a chael sicrwydd nawr fod Ysgrifennydd y Cabinet—

Roedd y ddadl yn ddiddorol, ac yn amlwg, fe welais y wybodaeth yn yr adroddiad. Un o’r pethau y cyfeiriwyd atynt yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet oedd rhyw fath o awgrym nad yw’r Blaid Geidwadol erioed wedi bod o gymorth wrth hwyluso datganoli. Yr hyn a wyddom, wrth gwrs, yw bod y refferendwm diwethaf ar bwerau deddfu llawn i’r Senedd hon wedi’i hwyluso gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Ceidwadol. Cafodd hynny ei weithredu wedyn gan Lywodraeth Geidwadol, a gwyddom fod y pwerau cyllidol y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet atynt wedi’u trosglwyddo wedyn o ran y pwerau treth incwm. Felly, a fyddech chi'n cytuno ei bod yn bwysig myfyrio ar rôl pob plaid wrth helpu i sicrhau bod gan y Senedd y pwerau priodol sydd eu hangen arni, yn y lle iawn, i gyflawni ar ran pobl Cymru, gan gynnwys y pwerau treth arbennig a phenodol y buom yn eu trafod y prynhawn yma?

Buaswn yn cytuno bod angen yr holl bwerau arnom yma, Darren, ac rwy'n falch eich bod yn eiriolwr—[Torri ar draws.] Os ydym yn dadlau o blaid annibyniaeth, a chael popeth yma, byddai hynny'n hyfryd. Ond roedd hi'n siomedig pan oedd gennych Geidwadwyr yn Brif Ysgrifenyddion y Trysorlys a Thrysorlys nad oedd yn ymgysylltu â'r lle hwn nac â'r Senedd, ac roedd hi'n anodd iawn gyda'r elfen honno. Roedd hynny bob amser yn siomedig. Gobeithio y cawn well ymateb, ond fe arhoswn i weld sut y bydd hynny'n datblygu cyn ffurfio barn.

Rwy’n gweld bod y cloc yn hollol goch, felly rwyf am symud ymlaen yn gyflym i ymateb i Ysgrifennydd y Cabinet ac i ddweud mai geiriau gwneud yw berfau, felly gweithredoedd yn hytrach na geiriau. Felly, gobeithio y gwelwn beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n mynd ati i fwrw ymlaen â rhai o'r pethau hyn. Ac fe wnaethom geisio bod yn eithaf creadigol yn y ffordd y gofynnwn i chi wneud pethau, yn hytrach na'ch bod yn diflasu ar yr un peth o hyd. Felly, gobeithio y gwelwn y camau hynny'n digwydd maes o law. Ond diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn hyn, a gobeithio y cawn ganlyniad cyllidol gwell, mwy tryloyw o hyn a fydd yn grymuso’r Senedd hon i fod cystal ag y gall fod. Diolch yn fawr.

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Tai a digartrefedd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 8 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: tai a digartrefedd. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8764 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod y lefel ddigartrefedd ar ei huchaf ers 2015 ar hyn o bryd.

2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd yng Nghymru.

3. Yn nodi pryder y bydd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn cael ei fethu.

4. Yn cydnabod pwysigrwydd model tai yn gyntaf i roi terfyn ar ddigartrefedd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i weithredu model tai yn gyntaf a'r hawl i gael tai priodol i roi terfyn ar ddigartrefedd, gan weithio gyda'r sector cymorth tai yng Nghymru;

b) i droi eiddo gwag yng Nghymru yn gartrefi unwaith eto drwy ehangu'r cynllun Cymorth i Brynu i gynnwys y rhai y mae angen eu hadnewyddu;

c) i gyflymu'r broses gynllunio drwy greu tasglu gweithredu ar y cyd o gynllunwyr i dargedu’r awdurdodau cynllunio lleol sy'n perfformio fwyaf araf, a rhoi ceisiadau ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy ar lwybr carlam; a

d) i leihau rhestrau aros am dai cymdeithasol drwy ddod â chartrefi gwag yn ôl i'w defnyddio ar gyfer rhent cymdeithasol a rhentu i brynu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai a digartrefedd, ac felly rwy'n gwneud ein cynnig, sy’n nodi camau ymarferol ac atebion y gall ac y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd fel mater o frys. Mae’n cydnabod bod y lefel ddigartrefedd ar ei huchaf ers 2015 ar hyn o bryd ac yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd yng Nghymru.

Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, cyrhaeddodd digartrefedd yng Nghymru ei lefel uchaf ers 2015, gyda chynnydd o 8 y cant mewn blwyddyn. Mae’r ystadegau digartrefedd diweddaraf yng Nghymru ar gyfer mis Medi, a ryddhawyd fis diwethaf, yn dangos cynnydd yn nifer yr unigolion mewn llety dros dro—11,363, gan gynnwys 2,874 o blant—a chynnydd yn nifer yr unigolion sy’n cysgu allan ledled Cymru. Mae'r ddau ystadegyn yn uwch nag ar yr un adeg y flwyddyn flaenorol, gyda 31 y cant mewn llety gwely a brecwast a gwestai. Ym mis Medi, dywedodd Sefydliad Bevan fod un o bob 215 o aelwydydd a chwech o bob 1,000 o blant bellach yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru. Mae cost llety dros dro yng Nghymru wedi mwy na dyblu ers 2021, gan godi o dros £41 miliwn i dros £99 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2023-24. Ar sail cost adeiladu gyfartalog o £250,000 yr uned, gallai hyn adeiladu bron i 400 o gartrefi ychwanegol.

Mae anallu Llywodraethau Llafur Cymru i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf yn tanlinellu methiant polisi ers 1999 sy’n niweidio bywydau pobl ac yn amlygu’r angen i Lywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth wrando gyda’n darparwyr cymorth tai i fabwysiadu dull gweithredu mwy effeithiol a chynaliadwy sy’n torri’r cylch o anobaith ac yn cyflawni ar ran unigolion a theuluoedd yr effeithir arnynt. Mae hyn wedi'i waethygu gan eu methiant i wrando ar y rhybuddion am yr argyfwng cyflenwad tai. Oherwydd nid oedd argyfwng cyflenwad tai pan ddaeth Llywodraeth Geidwadol y DU i ben ym 1997. Ond dywedodd grwpiau ffocws Llafur wrthynt fod tai yn flaenoriaeth isel bryd hynny, ac fe aethant ati'n sinigaidd i dorri cyllid ar gyfer tai cymdeithasol o 1997, gan sbarduno'r argyfwng cyflenwad tai a ddilynodd. Aeth Llywodraeth Lafur Cymru hyd yn oed ymhellach o 1999 ymlaen. A minnau wedi gweithio yn y sector am fwy na dau ddegawd, rwy'n gwybod bod yr argyfwng cyflenwad tai yng Nghymru yn mynd yn ôl i’r cyfnod hwn a’i fod yn ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau wedi'u harwain gan bolisi a wnaed gan Lafur a Llywodraethau Llafur Cymru ers 1999. Mae Cymru'n dal i dalu am eu penderfyniadau.

Gan nodi gwelliant Plaid Cymru, mae’n hawdd beio'r cynllun hawl i brynu yn sinigaidd, felly gadewch inni edrych ar y ffeithiau. Ddeugain mlynedd yn ôl, darparodd y Ceidwadwyr 7,932 o anheddau newydd yng Nghymru, gan gynnwys 2,213 o gartrefi cymdeithasol newydd. Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, darparodd y Ceidwadwyr 9,871 o anheddau newydd yng Nghymru, gan gynnwys 3,217 o gartrefi cymdeithasol newydd. Yn y flwyddyn ddiwethaf y bu’r Ceidwadwyr yn gyfrifol am dai yng Nghymru, 1996-97, darparwyd 10,088 o anheddau newydd, gan gynnwys 2,571 o gartrefi cymdeithasol. Ym mlwyddyn gyntaf Llywodraeth Lafur Cymru, dim ond 846 o gartrefi cymdeithasol newydd a gwblhawyd. Ugain mlynedd yn ôl, disgynnodd i 433, a 10 mlynedd yn ôl roedd yn 683. Yn ôl StatsCymru, yn y flwyddyn ddiwethaf yr oedd ffigurau llawn ar gael ar ei chyfer, dim ond 4,771 o anheddau newydd a ddarparwyd ganddynt, gan gynnwys 1,035 yn unig o gartrefi cymdeithasol newydd, dim ond 47 y cant o’r ffigur a etifeddwyd gan y Ceidwadwyr, ac nid yw’r ffigurau rhagamcanol ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn ddim gwell.

Yn 2019, amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru fod angen dros 7,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn i ddiwallu anghenion tai cymdeithasol a’r farchnad agored, ond erbyn y llynedd, roeddent eisoes bron i 8,000 yn is na’r ffigur hwn. Ymhellach, mae 7,000 o gartrefi newydd ymhell islaw’r ffigurau a nodwyd pan ganfu adroddiad Holman ac adroddiadau gan y diwydiant adeiladu tai, y Sefydliad Tai Siartredig, Sefydliad Bevan, a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr fod angen rhwng 12,000 a 15,000 o dai y flwyddyn arnom, gan gynnwys 5,000 o gartrefi cymdeithasol, a anwybyddwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n hoff o alw ei hun yn ofalgar a chymdeithasol gyfiawn.

Yn ystod yr ail Gynulliad daeth y sector tai ynghyd i ddechrau rhybuddio Llywodraeth Cymru y byddai argyfwng tai pe na baent yn gwrando. Y cyfan a wnaeth Llywodraeth Cymru, ac mae’r creithiau gennyf o hyd o’r adeg y cyflwynais gynnig yn cefnogi rhybuddion y sector, oedd cynnwys gwelliannau i ddileu’r geiriau 'argyfwng tai’, gan ddiystyru’r rhybuddion gan y sector mewn modd sarhaus.

Nododd 'Adolygiad Tai y DU' 2012,

'mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd flaenoriaeth is i dai yn ei chyllidebau cyffredinol, ac felly erbyn 2009/2010, ganddi hi roedd y lefel gyfrannol isaf o bell ffordd o wariant ar dai ym mhedair gwlad y DU.'

Brad tai Llafur yw'r anghyfiawnder cymdeithasol mwyaf y maent wedi'i achosi i bobl Cymru. Dim ond 5,720 o gartrefi y flwyddyn sydd wedi’u darparu ar gyfartaledd yng Nghymru ers 2010, prin hanner y gyfradd a ddarparwyd yn Lloegr, a chyfartaledd blynyddol o lai na 900 o gartrefi cymdeithasol dros yr un cyfnod. Gostyngodd allbwn tai cyfartalog 45 y cant o dros 9,200 yn y 1990au i 5,110 o anheddau ym mhedair blynedd gyntaf y 2020au, er bod gweithgarwch adeiladu tai yn Lloegr wedi cynyddu 15 y cant dros yr un cyfnod.

Yng nghyd-destun yr angen cynyddol am dai a’r cynnydd eithafol ym mhrisiau tai, nid yw’r angen i hybu’r cyflenwad tai erioed wedi bod yn bwysicach, ac felly mae ein cynnig yn nodi pryder y bydd targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn cael ei fethu. Dim ond yn ystod tymor y Senedd hon y gosodwyd targed gan Lywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol carbon isel newydd. Yn ôl StatsCymru, fodd bynnag, dim ond 3,858 a gwblhawyd yng Nghymru gan landlordiaid cymdeithasol yn ystod y tair blynedd a thri chwarter cyntaf o dymor pum mlynedd y Senedd hon. Er bod Llywodraeth Cymru wedi symud y pyst gôl, gan ychwanegu rhai cartrefi nad ydynt yn adeiladau newydd ac nad ydynt yn rhai carbon isel, yn ogystal â thai rhent canolradd a thai rhanberchnogaeth, mae Archwilio Cymru yn dal i ddisgwyl iddynt fethu cyrraedd eu targed heb arian ychwanegol. Nid yw’r cyllid ychwanegol ar gyfer tai cymdeithasol a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn y gyllideb ddrafft yn agos at y ffigur sydd ei angen yn ôl Archwilio Cymru i adeiladu’r tai sydd eu hangen ar Gymru.

Mae ein cynnig hefyd yn cydnabod pwysigrwydd model tai yn gyntaf i ddileu digartrefedd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu model tai yn gyntaf a'r hawl i gartref digonol i roi diwedd ar ddigartrefedd, gan weithio gyda'r sector cymorth tai yng Nghymru; troi eiddo gwag yng Nghymru yn gartrefi unwaith eto drwy ehangu'r cynllun Cymorth i Brynu i gynnwys y rhai y mae angen eu hadnewyddu; cyflymu’r broses gynllunio drwy greu tasglu gweithredu ar y cyd o gynllunwyr i dargedu’r awdurdodau cynllunio lleol sy'n perfformio arafaf, a rhoi ceisiadau ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy ar lwybr carlam; a lleihau rhestrau aros am dai cymdeithasol drwy ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd ar gyfer rhent cymdeithasol a rhentu i brynu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gyhoeddus i ddull tai yn gyntaf, sy’n blaenoriaethu cael cartrefi sefydlog i bobl yn gyflym gyda chymorth cofleidiol ar gyfer unrhyw anghenion sydd ganddynt, megis dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, a phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol. O ran cyflawni, fodd bynnag, mae’r ffigurau’n siarad drostynt eu hunain. Fel y mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi'i ddweud wrthyf, eu prif ffocws, unwaith eto, yw’r grant cymorth tai. Mae hwn angen buddsoddiad cyfuwch â chwyddiant fan lleiaf, ac mae'n rhaid iddo allu talu am godiadau cyflog i 60,000 o bobl. Maent hwy, a Cymorth Cymru, y corff cynrychioliadol ar gyfer darparwyr gwasanaethau digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru, yn datgan bod 81 y cant o ddarparwyr cymorth digartrefedd yn rhedeg gwasanaethau ar ddiffyg ariannol. Dywed darparwyr fod angen cynnydd o 9 y cant arnynt i dalu am y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn unig, ac mae’n debygol y bydd angen i 74 y cant o ddarparwyr leihau capasiti gwasanaethau os na chaiff y grant cymorth tai ei gynyddu eleni, gyda 52 y cant yn debygol o ddiswyddo staff.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, felly, gydnabod y rôl hanfodol y mae’r grant cymorth tai yn ei chwarae yn atal digartrefedd a lleihau costau, yn enwedig i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, drwy roi'r gorau unwaith ac am byth i'w ddefnydd fel arf bargeinio mewn cylchoedd cyllidebol, rhywbeth a wnaethant am flynyddoedd lawer, a thrwy sicrhau bod y cynnydd ar gyfer y flwyddyn nesaf a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft yn cael ei drosglwyddo i ddarparwyr yn llawn ac yn gyflym. Fel y dywed y sector, ymddengys eu bod yn lobïo’n galed iawn i gynnal hwn a helpu i gadw pobl yn eu cartrefi.

Mae Shelter Cymru a’u partneriaid yn ymgyrch Cefnogi’r Mesur, Tai Pawb a Sefydliad Tai Siartredig Cymru, wedi mynegi eu siom nad yw’r Papur Gwyn ar gartrefi digonol a rhenti teg yn crybwyll yr hawl i gartref digonol, gan nodi bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn anwybyddu’r cyfle i sicrhau bod Cymru’n mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar hawliau at dai sy’n adlewyrchu’r ymdeimlad moesol o gartref fel hawl ddynol.

Comisiynwyd Alma Economics ganddynt i gynnal ymchwil annibynnol, a ganfu y bydd gweithredu’r hawl i gartref digonol yn arbed arian cyhoeddus yng Nghymru. Fel y dywed cynghrair yr ymgyrch, nid oes gan yr un wlad gyllid i ddarparu'r hawl i gartref digonol dros nos, ond nid yw hyn yn golygu bod hawl i gartref digonol yn amhosibl; yn hytrach, caiff ei gwireddu'n gynyddol fesul cam. Ychwanegodd eu bod yn credu y bydd ymgorffori'r hawl yn y gyfraith yn gweithredu fel ysgogiad i hybu'r buddsoddiad sydd ei angen.

Mae’r hawl i gartref gweddus wedi bod yn bolisi gan y Ceidwadwyr Cymreig ers tro. Yn syml, nid oes digon o gartrefi’n cael eu hadeiladu, sy’n golygu nad yw’r cyflenwad yn diwallu'r galw, gan gynyddu prisiau tai, rhenti a rhestrau aros, tra nad yw’r gwasanaethau allweddol a ddarperir gan ddarparwyr cymorth tai wedi cael y gydnabyddiaeth a’r parch sydd eu hangen arnynt dros y blynyddoedd i dorri’r cylch digartrefedd a lleihau pwysau costau ar wasanaethau golau glas. Mae'n rhaid i hyn newid. Diolch yn fawr.

16:15

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru o 30 Medi 2024 sy'n dangos bod 11,363 o unigolion wedi cael eu cartrefu mewn llety dros dro, ochr yn ochr â thros 139,000 o bobl ar restrau aros tai cymdeithasol;

b) nad yw Llywodraeth Cymru ar drywydd i gyflawni ei tharged o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol erbyn diwedd tymor y Senedd hon; ac

c) argymhelliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y dylai o leiaf 20 y cant o’r stoc tai gynnwys tai cymdeithasol, a hyd at draean yn yr hir dymor, gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth er mwyn cyflawni'r targed hwn.

2. Yn credu:

a) bod yr argyfwng tai yng Nghymru ac ar draws y DU wedi'i waethygu ymhellach dan lywodraeth Margaret Thatcher a'r polisi hawl i brynu, gan dorri'r stoc o dai cyngor bron i hanner dros gyfnod y polisi; a

b) bod y prinder difrifol o eiddo sydd ar gael i'w rentu ar gyfer aelwydydd incwm isel sy'n dod o dan y lwfans tai lleol yn gwthio pobl i ansicrwydd tai a digartrefedd.

3. Yn gresynu at:

a) y cynnydd mewn digartrefedd o dan Lywodraeth Cymru a Llywodraethau Ceidwadol olynol y DU; a 

b) effaith niweidiol polisïau llymder a ddilynwyd gan Lywodraethau Ceidwadol a Llafur y DU, sydd wedi gwaethygu anghydraddoldeb tai.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gynyddu'r grant tai cymdeithasol;

b) codi'r grant cymorth tai;

c) pennu cynllun clir ar gyfer cyflawni argymhelliad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai o sicrhau bod o leiaf 20 y cant o’r stoc tai yn cynnwys tai cymdeithasol erbyn tymor nesaf y Senedd, fel rhan o strategaeth hir dymor; a

d) ymgorffori'r hawl i dai digonol yng nghyfraith Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cyfraddau lwfans tai lleol yn adlewyrchu rhenti go iawn o fewn y sector rhentu preifat yng Nghymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr argyfwng tai yng Nghymru ydy un o'r heriau mwyaf dybryd sy'n ein hwynebu ni. Mae miloedd o bobl yn byw mewn tai anaddas, yn wynebu ansicrwydd am y dyfodol ac yn byw mewn tai sy’n llyncu canran fawr o’u hincwm. Heddiw, mae dros 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro, ac mae bron 140,000 yn sownd ar restrau aros am dai cymdeithasol, yn aros am gartref diogel a’r urddas a’r ansawdd bywyd sy’n dod o hynny.

Beth sydd wedi arwain at y sefyllfa yma? Mae'r argyfwng yn ganlyniad i bolisïau bwriadol ac esgeulustod systemig, gyda'r polisi hawl i brynu, a gyflwynwyd dan Margaret Thatcher ym 1981, yn un o'r rhai achosodd y niwed mwyaf. Roedd y polisi yma yn galluogi tenantiaid i brynu eu cartrefi cyngor am brisiau gostyngedig. Hwn wnaeth arwain at werthu tua 150,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru, bron i hanner—47 y cant—o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol bryd hynny.

Er bod rhai o'r cartrefi hynny bellach dan berchnogaeth breifat neu ar rent yn y sector breifat, mae nifer y cartrefi cymdeithasol newydd a adeiladwyd ers hynny wedi methu’n llwyr â gwneud iawn am y golled ddramatig yma. Dim ond 74,000 o gartrefi a ychwanegwyd at y stoc dros y cyfnod rhwng 1981 a 2024. Mae argaeledd tai cymdeithasol wedi gostwng o 31 cartref i bob 100 aelwyd yn 1981 i ddim ond 18 fesul 100 o aelwydydd heddiw.

Mae'r disbyddiad systemig hwn o dai fforddadwy wedi gorfodi aelwydydd incwm isel i mewn i farchnad rhentu preifat sydd heb ei rheoleiddio, lle mae rhenti'n aml yn anfforddadwy, mae ansicrwydd yn rhemp, ac mae yna ganlyniadau llym yn codi o hynny.

Mater arall sydd wedi gwaethygu'r argyfwng yw lefel y lwfans tai lleol. Yn gynharach y llynedd, dim ond 32 eiddo yng Nghymru oedd ar gael ar neu islaw'r gyfradd lwfans tai lleol, yr LHA—32 yn unig, sydd yn ffigwr syfrdanol. Bwriad yr LHA ydy sicrhau bod cartrefi incwm isel yn gallu cael mynediad at dai yn y sector rhentu preifat, ac eto, mae o wedi cael ei rewi neu ei gapio gan Lywodraethau olynol o bob lliw yn y DU, gan erydu ei werth.

Mae'r methiant yma i gadw cyfraddau LHA yn unol â rhenti go iawn wedi creu sefyllfa amhosib. Mae teuluoedd yn cael eu gorfodi i ychwanegu at eu rhent o gyllidebau sydd eisoes dan bwysau. Mae niferoedd cynyddol o unigolion wedi'u lleoli mewn llety dros dro. Ac rydyn ni'n gwybod, ar ben hyn, bod polisïau llymder gan Lywodraethau Ceidwadol a Llafur y Deyrnas Unedig, dros nifer o flynyddoedd, wedi dyfnhau'r argyfwng yma.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cyrraedd at y sefyllfa o 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu'n gymdeithasol erbyn diwedd tymor y Senedd yma—20,000 o dai newydd. Ond mae'n amlwg nad ydyn nhw ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed yma, a dydy'r arian ychwanegol gyhoeddwyd ddoe—er i’w groesawu—ddim am wneud gwahaniaeth mawr. Ac wrth edrych i'r dyfodol, mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy uchelgeisiol.

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn argymell y dylai o leiaf 20 y cant o'r stoc tai fod yn dai cymdeithasol, gan godi i draean yn y tymor hir. Dim ond buddsoddiad sylweddol fydd yn ein galluogi ni i ddarparu'r cartrefi sydd eu hangen gymaint. Ac mae'n rhaid i ni edrych ar ddulliau amgen ac arloesol o ariannu y twf yna.

Yn olaf, ac yn allweddol, mae'n rhaid i ni ymgorffori'r hawl i gael tai digonol i gyfraith Cymru. Mae cael to uwch ein pennau yn hawl dynol, nid braint. Mi fyddai ymgorffori'r egwyddor yma yn y gyfraith yn anfon neges glir fod Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi diogel, digonol a fforddiadwy i bawb.

Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn argyfwng sy'n deillio o ddewisiadau gwleidyddol. Mae'r polisi hawl i brynu wedi dinistrio ein stoc tai, ac mae llymder wedi erydu'r rhwydi diogelwch a ddylai amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. Ond mae gennym ni'r grym i wneud dewisiadau gwahanol. Mi fedrwn ni ddewis buddsoddi mewn tai, cefnogi gwasanaethau hanfodol, a rhoi'r hawl i gartref wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer Cymru—Cymru lle mae gan bawb le diogel i'w alw'n gartref.

16:20

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y pwysau presennol o fewn y system digartrefedd a buddsoddiad gwerth £220 miliwn Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau atal a chymorth ar gyfer digartrefedd eleni.

2. Yn croesawu’r camau uchelgeisiol a radical i ddiwygio’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd sydd ar y gweill yn ystod y tymor hwn ac a amlinellir yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd.

3. Yn cydnabod y buddsoddiad uwch nag erioed, sef £1.4 biliwn, mewn tai cymdeithasol yn ystod y tymor hwn hyd yma.

4. Yn cydnabod swyddogaeth y grant cartrefi gwag o ran sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.

5. Yn canmol y gwaith partneriaeth sy’n cefnogi camau cyflenwi dull Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

6. Yn croesawu cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am ddod â’r ddadl hon yma i’r Siambr heddiw—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, rwy'n diolch i fy ngrŵp, Mike, ydw. Oherwydd, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn, nid yn unig fod digartrefedd yng Nghymru yn argyfwng cynyddol, mae’n realiti torcalonnus i filoedd o deuluoedd ac unigolion ledled ein gwlad. Mae’r ffigurau diweddaraf yn datgelu bod mwy na 13,000 o aelwydydd wedi’u hasesu fel rhai digartref yng Nghymru y llynedd—cynnydd o 8 y cant. Yn y cyfamser, mae nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro wedi cyrraedd y lefel uchaf a gofnodwyd, gan godi 18 y cant mewn blwyddyn i ychydig dros 6,400.

Mae'r ystadegau hyn yn syfrdanol, ond maent yn fwy na ffigurau yn unig; maent yn fywydau sydd ar stop, plant heb sefydlogrwydd a theuluoedd heb le i'w alw'n gartref. Mae'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd y llynedd gan Lywodraeth Cymru ar roi diwedd ar ddigartrefedd yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond fel y nododd Andrew Connell o Fyddin yr Iachawdwriaeth, yn gywir ddigon, ni fydd yn llwyddo oni bai bod San Steffan a’r Senedd yn mynd i’r afael â’r prinder dybryd o dai fforddiadwy, yn enwedig tai cymdeithasol. Heb gamau gweithredu brys, ni fydd yr argyfwng ond yn dyfnhau.

Ychydig wythnosau yn ôl, gwelais gost ddynol yr argyfwng hwn â'm llygaid fy hun, wrth ymweld â Pride in Pill yng Nghasnewydd yn fy rhanbarth i, a arweinir gan yr anhygoel Paul Murphy a’i dîm. Dywedasant wrthyf fod mwy na 500 o bobl yng Nghasnewydd yn byw mewn llety gwely a brecwast cyfyng, gyda llawer mwy mewn hosteli. Yn swyddogol, mae 24 o bobl yn cysgu allan, ond mae llawer mwy yn anweledig yn yr ystadegau, ac yn teithio o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru i Gasnewydd i chwilio am gymorth sylfaenol. Gyda 24,000 o bobl ar restrau tai cyngor yng Nghasnewydd yn unig, mae’r argyfwng hwn yn gorlethu ein cymunedau. Mae’n fy nhristáu nad yw les Pride in Pill wedi'i hadnewyddu yn ddiweddar ar eu storfa yng nghanolfan siopa Kingsway, sy’n golygu na fyddant mwyach yn gallu darparu pecynnau bwyd a dillad hanfodol i bobl ddigartref yn y ddinas ar y nosweithiau tywyllaf, oeraf, a bydd yn rhedeg gwasanaeth gostyngol o ddiwedd y mis hwn. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i sicrhau bod y gwasanaeth hwn sy'n achub bywydau yn parhau.

Y penwythnos diwethaf, gwelsom storm enbyd yn taro Cymru, ac eto ni welaf unrhyw sôn am ba gymorth y mae’r Llywodraeth hon yn ei ddarparu i bobl ddigartref. Pa lety brys y mae’r Llywodraeth hon wedi’i ddarparu i bobl ddigartref yn ystod storm Bert neu storm Darragh? Dylem fod yn ceisio rhoi cartrefi i bobl ddigartref drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’n destun cryn bryder ei bod hi'n ymddangos mai cymorth i bobl ddigartref yn ystod y ddwy storm oedd y peth olaf ar restr Llywodraeth Cymru o bryderon. Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno 200 o welyau argyfwng y gaeaf hwn mewn eglwysi; mae'n bwysig ein bod yn rhoi cymorth i bob cyngor ledled Cymru wneud yr un peth.

Mae costau cynyddol, toriadau i daliadau tanwydd y gaeaf a newidiadau i reolau’r dreth gyngor yn gorfodi landlordiaid i werthu eu tai neu droi pobl allan, gan adael teuluoedd heb unman i droi. Mae llawer o bobl sy'n colli eu cartrefi hefyd yn colli eu hurddas sylfaenol, ac un enghraifft yw nad oes toiled cyhoeddus ar agor ar ôl 18:30 yng Nghasnewydd, dinas fawr yn fy rhanbarth i, sy'n gorfodi unigolion heb unrhyw ddewis arall i ymgarthu ar y stryd. Mae angen inni weld awdurdodau lleol a’r sector preifat yn adeiladu llawer mwy o dai, ac mae angen inni sicrhau bod gweithgarwch adeiladu tai yn dal i fyny â’r boblogaeth gynyddol. Mae dros 20,000 o bobl wedi cyrraedd y wlad hon yn anghyfreithlon ers i’r Llywodraeth Lafur gymryd yr awenau. Byddant yn ymuno â'r niferoedd cynyddol o bobl y disgwylir iddynt gael cartref. Mae'n rhaid i Lywodraethau ledled y DU adeiladu’r llety hwnnw.

Ar yr olwg gyntaf, efallai fod y ffigurau tai diweddaraf ar gyfer Cymru yn edrych yn addawol—mae cynnydd chwarterol o 63 y cant yn yr ystadegau tai yn sicr i’w groesawu, a’r cynnydd blynyddol yn nifer y tai a gwblhawyd, dros 20 y cant, yw’r uchaf yn y DU. Mae’r rhain yn arwyddion tymor byr calonogol mewn sector sydd wedi'i chael hi'n anodd dros y blynyddoedd diwethaf, ond gadewch inni beidio â chael ein twyllo gan y penawdau hyn. O dan yr wyneb, mae stori o fethiant ac esgeulustod hirdymor gan Lywodraeth Cymru. Er gwaethaf y gwelliant chwarterol, dim ond 3.2 y cant o ystadegau tai y DU y mae Cymru’n ei gyfrannu, sy’n llawer is na chyfran y boblogaeth, ac sy'n ein hatgoffa bod ein hallbwn tai ymhell islaw'r lefel y mae angen iddo fod.

Yr hyn sy'n peri mwy fyth o bryder yw methiant y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r prinder dybryd o dai fforddiadwy, gan adael teuluoedd dirifedi wedi'u prisio allan o'r farchnad a chynghorau lleol wedi'u gorlethu. Nid yw'r ffigurau tymor byr hyn, sy'n cael eu gyrru i raddau helaeth gan fentrau preifat, yn gwneud fawr ddim i guddio'r methiannau systemig dyfnach. Ni ddaw digartrefedd i ben hyd nes y byddwn yn gweithredu'n ddewr ac ar unwaith. Mae angen i Gymru gynyddu ei mewnbwn tai ar fyrder, yn enwedig tai fforddiadwy a thai cymdeithasol, i ddatrys argyfwng o'r maint hwn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos uchelgais ac ymrwymiad i fynd benben â'r broblem. Gadewch inni symud ymlaen o eiriau i weithredoedd, er mwyn pob teulu sy’n aros am gartref ac er mwyn pob plentyn sy’n byw heb sefydlogrwydd. Rwy'n eich annog i gefnogi—

16:25

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Gwn ei bod yn agos at ddiwedd eich amser, ond os gwnewch chi faddau i mi—

Un o’r sefydliadau gwych sy’n amlwg iawn o gwmpas y Nadolig ac sy'n ymdrin â phroblem digartrefedd yw Byddin yr Iachawdwriaeth, a ddathlodd eu pen-blwydd yn gant a hanner yma yng Nghymru eleni. A wnewch chi ymuno â mi i’w canmol am eu gwaith a’u hymdrechion yn y maes pwysig hwn, a dymuno’r gorau iddynt wrth iddynt gyflawni ymarfer codi arian enfawr dros gyfnod y Nadolig er mwyn sicrhau bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i allu helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon?

Yn bendant, rwy'n ategu'r hyn a ddywedwch ac yn diolch iddynt am eu holl waith caled. Diolch i’ch gwahoddiad, Darren Millar, roedd yn hyfryd eu gweld yn y Senedd ychydig wythnosau'n ôl, yn dathlu 150 mlynedd o waith yr ydym mor ddiolchgar amdano. Beth a wnelem heb y gwaith hwnnw? Beth a wnelem heb hynny? Ni ddylem orfod dibynnu ar eu gwaith, fel mae’n digwydd, a dylai’r Llywodraeth wneud popeth y gall ei wneud i’w cefnogi. Er mwyn pob teulu sy’n aros am gartref ac er mwyn pob plentyn sy’n byw heb sefydlogrwydd, fel y dywedais, rwy'n eich annog yn y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.

A hithau'n fis Rhagfyr, ac yn ysbryd y Nadolig, rwyf am ddechrau fy araith gyda'r sail dros y cynnig, gan fy mod yn cytuno’n llwyr. Yn gyntaf, rwy'n hyderus fod pob un ohonom ar draws y Siambr yn unedig yn ein hawydd i roi diwedd ar ddigartrefedd. Yn ail, rwy'n croesawu cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i’r model tai yn gyntaf. Mae’r model hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus ledled Cymru, ac yn bersonol, buaswn yn falch iawn o'i weld yn cael ei ehangu ymhellach.

Yn anffodus, serch hynny, ni allaf ddod o hyd i fawr ddim arall i gytuno ag ef yng ngweddill y cynnig. O dan Lywodraeth Lafur Clement Attlee, darparodd y wladwriaeth gyllid yn uniongyrchol i gynghorau ei fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, ac arweiniodd hyn at adeiladu cannoedd o filoedd o dai rhent cymdeithasol bob blwyddyn. Roedd cynnal y cyflenwad hwnnw'n diwallu'r galw, ac arhosodd prisiau tai a rhenti ar lefelau fforddiadwy. A phan ddaeth Margaret Thatcher i rym, rhoddodd ei Llywodraeth Geidwadol y gorau i ddarparu arian i gynghorau adeiladu eu tai cymdeithasol eu hunain. O ganlyniad, cwympodd lefelau adeiladu tai cymdeithasol, a chynyddodd prisiau tai i'r entrychion. Ond nid oedd atal cynghorau rhag adeiladu tai cymdeithasol yn ddigon i Thatcher, fe aeth y Ceidwadwyr gam ymhellach. Roeddent hefyd—

16:30

A fyddech chi'n cytuno â mi fod arolwg barn wedi'i gynnal yn ddiweddar, a barnwyd bod y diweddar annwyl Margaret Thatcher yn fwy poblogaidd na Syr Keir Starmer ein dyddiau ni?

Nid wyf wedi gweld yr arolwg hwnnw, Janet. Roeddent hefyd eisiau i gynghorau lleol—[Torri ar draws.] Roeddent hefyd eisiau i gynghorau werthu'r tai roeddent wedi'u hadeiladu, felly fe wnaethant gyflwyno polisi trychinebus hawl i brynu, sy'n dal i gael ei gefnogi gan y Blaid Geidwadol hyd heddiw. Ni chafodd tai eu hadeiladu yn lle'r rhan fwyaf o'r cartrefi a werthwyd o dan y polisi hwn, a chafodd llwythi o asedau cyhoeddus eu gwerthu i'r sector preifat. Ac yn fwy diweddar, Llywodraeth Geidwadol Liz Truss a Kwasi Kwarteng a chwalodd economi'r DU, a wnaeth i chwyddiant godi i'r entrychion, nid yn unig—[Torri ar draws.] Ie.

A ydych chi'n anghytuno â ffigurau swyddogol StatsCymru a roddais ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol hyd at 1997, y ffigurau swyddogol StatsCymru sy'n dangos y cwymp yn y cyflenwad o dai cymdeithasol newydd ar ôl datganoli? Ac a ydych chi'n cydnabod mai David Cameron a wnaeth adfer gallu cynghorau i fuddsoddi mewn tai cyngor newydd, ond Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Loegr, a oedodd am sawl blwyddyn, gan atal cynghorau yng Nghymru rhag gwneud yr un peth? Rwy'n credu bod wyth mlynedd wedi mynd heibio cyn iddynt gael caniatâd i wneud hynny yma.

Gobeithio bod gennyf ychydig funudau ychwanegol gan mai fi yw'r unig berson sy'n siarad, ac maent yn cadw ymyrryd. Mae'n ddrwg gennyf. 

Diolch. Felly, mewn gwirionedd, aeth gwerthu tai cyngor i Drysorlys y DU, ni chafodd cynghorau lleol unrhyw gyllid, ac ni allai awdurdodau lleol gadw'r arian o eiddo ac ailfuddsoddi mewn tai cyngor tan 2016. Ond bryd hynny, roedd cyni'n brathu'n ddwfn, yn 2016, felly roedd hi'n anodd iawn i gynghorau ddechrau ailadeiladu tai cyngor eto. 

Felly, mae'n anodd deall y wyneb sydd gennych, fel y blaid sy'n gyfrifol am argyfwng tai'r wlad, i gyflwyno cynnig yma heddiw yn pregethu wrth Lywodraeth Cymru am yr angen i adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Eich plaid chi a roddodd ddiwedd ar adeiladu tai cymdeithasol ar hyd a lled y wlad hon. Eich plaid chi a gyflwynodd bolisi a orfododd i dai cymdeithasol gael eu gwerthu i'r sector preifat. Gadewch inni fod yn glir, eich plaid chi yw penseiri'r argyfwng tai, ac yn wahanol i'r Ceidwadwyr, gyda'u hanes hir ac echrydus o ran adeiladu tai cymdeithasol yn siarad drosto'i hun, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain y ffordd ar fynd i'r afael â'r argyfwng a achoswyd gan eich cymheiriaid. Llywodraeth Lafur yng Nghymru a gyflwynodd bremiymau treth gyngor er mwyn rhoi pŵer i awdurdodau lleol ledled Cymru fynd i'r afael â gormodedd o ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Llywodraeth Lafur Cymru a ddaeth â'r hawl i brynu yng Nghymru i ben. Maent wedi buddsoddi swm sylweddol o arian, £1.2 biliwn, yn y grant tai cymdeithasol i adeiladu mwy o dai—gallwch eu gweld ym mhob cymuned, tai cymdeithasol newydd—a'r grant cymorth tai, i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy hefyd, pan fyddant yn cyrraedd pwynt o argyfwng, ac i ddod o hyd i ffordd drwodd.

Ac felly er gwaethaf y rhwystrau a roddwyd yn eu ffordd gan gyni Ceidwadol a pholisïau tai tir llosg, Llywodraeth Lafur Cymru sy'n mynd i barhau i weithio'n galed i ddatrys yr argyfwng. A Llywodraeth Lafur Cymru sy'n mynd i barhau i adeiladu tai cymdeithasol y dyfodol. Diolch.

Mae'n amlwg fod tymor y pantomeim yn ei anterth gyda rhai o'r sylwadau oddi ar y meinciau ar yr ochr arall i'r ystafell yma heddiw. Rwy'n arbennig o ddiolchgar o allu siarad yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd. Mae eich ysbryd Nadoligaidd chi'n glir i bawb ei weld.

Mae'r meinciau gyferbyn yn hoffi anghofio, yn anffodus, fod llawer gormod o bobl yn ddigartref—lefel uwch nag erioed ers 2015, y lefelau uchaf o ddigartrefedd yr ydym yn eu gweld. Ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae cynghorau—[Torri ar draws.] O, hyfryd. Ie.

16:35

Rydym wedi cael ychydig flynyddoedd o gyni, toriadau mewn cyllid cyhoeddus, toriadau i les hefyd, a thoriadau i gyflogau mewn termau real. Ac yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, felly maent yn teimlo'r wasgfa. Mae llawer o bobl sy'n wynebu digartrefedd yn gweithio yn y sector cyhoeddus. Onid ydych chi'n meddwl bod hynny'n cael rhyw fath o effaith?

Yr hyn rydych chi'n ei anghofio ar yr ochr arall i'r meinciau hyn yw eich bod chi wedi bod yn gyfrifol am y maes tai ers 1999 yn y lle hwn. Felly, rydych chi naill ai'n gyfrifol amdano, neu nid ydych. Mae'n amlwg mai chi sy'n gyfrifol amdano, ac mae'n amlwg nad ydych chi'n diwallu anghenion pobl ledled Cymru, rhywbeth sydd wedi'i bwysleisio gan y ffaith bod 13,500 o bobl y llynedd wedi dweud eu bod yn ddigartref, cynnydd o 8 y cant o'r blynyddoedd blaenorol.

Nawr, mae'n ymddangos yn gymhleth i'r meinciau gyferbyn, ond un o'r problemau mwyaf sy'n arwain at ddigartrefedd yw prinder o gartrefi'n cael eu hadeiladu. Nid dyma'r hafaliad anoddaf yn y byd i'w ddeall. Un o'r ffactorau mwyaf a welwn yng Nghymru yw nad oes digon o gartrefi o unrhyw fath o ddeiliadaeth yn cael eu hadeiladu. Buaswn i'n dadlau, ac rwy'n siŵr y byddai'r meinciau gyferbyn yn cytuno â mi ar hyn, mai'r math gorau o ddeiliadaeth i bobl a'r hyn y maent eisiau mewn gwirionedd yw bod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Mae arolwg ar ôl arolwg, ymateb ar ôl ymateb, yn dweud bod pobl eisiau gallu bod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Mae'n darparu sefydlogrwydd a diogelwch. Ie, ymyriad.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? A fyddech chi'n cytuno mai un o'r problemau mwyaf gydag adeiladu tai, neu roi caniatâd i gynllunio, yw Nimbyaeth mewn cymunedau. Felly, a ydych chi'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid mynd i'r afael ag ef hefyd, yn enwedig pan fyddwn ni'n edrych ar dai cymdeithasol?

Ie, mae cymunedau eisiau'r cartrefi iawn yn y llefydd iawn, onid ydynt? Ac mae angen cefnogi hynny lle mae'n gweithio. Ac rwy'n siŵr fod pobl yn eich cymuned chi angen y cartrefi hynny gymaint â phobl yn y gymuned rwy'n byw ynddi hefyd. Ac mae angen i bobl ddweud eu barn am hynny, felly mae hynny'n bwysig iawn. Ond pan fyddwn ni wedi galw yn y Siambr hon, fel yr amlinellwyd gennym yn ein cynnig heddiw, am gyflymu'r broses gynllunio trwy greu tasglu gweithredu ar y cyd, mae'n ddiddorol iawn fod y meinciau gyferbyn wedi wfftio at y syniad. Ond cyn gynted ag y daeth Syr Keir Starmer i rym ym mis Gorffennaf yn Llywodraeth y DU, un o'i flaenoriaethau yw cyflymu'r broses gynllunio. Felly, byddai'n ddiddorol iawn gweld beth y mae'r meinciau Llafur yma yn ei wneud nawr. A ydynt yn dilyn eu meistri yn Llundain, neu a ydynt yn glynu wrth y rhethreg aflwyddiannus y buont yn ei gwyntyllu yma am y 25 mlynedd diwethaf?

Felly, yn amlwg, nid yw'r broses gynllunio yn galluogi pobl i gael mwy o dai cwbl angenrheidiol wedi'u hadeiladu, ac i annog perchentyaeth yn enwedig. Ac fel y dywedais yn fy ymateb agoriadol i Carolyn Thomas, nid yw hon yn ffenomen newydd. Mae wedi bodoli ac wedi'i gwaethygu gan yr holl amser y bu'r Llywodraeth Lafur mewn grym yma yng Nghymru. Ar gyfer adeiladu tai yng Nghymru, fel y clywsom eisoes, mae'r allbwn cyfartalog wedi gostwng dros y blynyddoedd, a'r llynedd y gwelwyd y nifer isaf ond un o dai newydd yn cael eu cwblhau yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion ym 1974-75. Mae yna broblem sylfaenol iawn yno. Rydym ni am fynd i'r afael â digartrefedd, mae angen adeiladu mwy o gartrefi, ac fe wyddom fod pobl eisiau bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, a dylem fod yn gwneud hynny mor hawdd â phosibl iddynt ei wneud.

Ond nid perchentyaeth yn unig sy'n broblem i Lafur yma yng Nghaerdydd. Maent yn methu eu targedau ar gyfer tai cymdeithasol hefyd, ac maent yn gwbl angenrheidiol i gael y cymysgedd cywir o ddeiliadaeth i bobl ledled Cymru. Mae Llafur yn parhau i fethu cyflawni anghenion tai pobl yma yng Nghymru.

Y mater arall rwyf am ei godi, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn, yw nad ydynt wedi deall effaith y cynnydd i yswiriant gwladol ar weithwyr gweithgar ledled Cymru, ac yn fwyaf arbennig, ar gyfer y cynnig hwn yma heddiw, ar yr elusennau digartrefedd sy'n gwneud llawer iawn o waith—rydym eisoes wedi clywed am Fyddin yr Iachawdwriaeth, ond mae llawer o rai eraill ar hyd a lled Cymru. Rwyf wedi clywed gan un sefydliad fod cost y cynnydd yn y cyfraniad yswiriant gwladol y mae Llywodraethau Llafur wedi'i orfodi arnynt yn £621,000 y flwyddyn. Dyna £621,000 nad yw'n mynd i'r gwasanaethau rheng flaen y maent yn ceisio eu cefnogi, a'r pwysau ychwanegol i'r gwasanaethau hynny ar gyfartaledd yw £120,000 y sefydliad. Felly, hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet—a wnaeth hi sylweddoli effaith cyhoeddiadau'r Canghellor ar hyn, ar yr holl elusennau a sefydliadau ledled Cymru sy'n gwneud eu gorau glas i gefnogi pobl ddigartref yn ein gwlad? [Torri ar draws.] Yn sicr. 

16:40

Na, mae eich amser eisoes ar ben ac rwyf wedi gadael i chi gael amser ar gyfer ymyriadau blaenorol. 

Mae'n ddrwg gennyf, Mick, ond rwy'n ddiolchgar am yr angen i gadw amser. Felly, rwy'n deall fod yr amser wedi dod i ben, ond mae hon yn broblem wirioneddol yma yng Nghymru, ac adeg y Nadolig, fel y nododd Laura Anne Jones, mae'n cael ei theimlo'n fwy nag erioed. Rydym wedi cael tipyn o ddadlau yn y Siambr yma heddiw. Mae'n fater difrifol iawn sydd angen sylw. Hoffwn glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau ein bod yn gweld llai o bobl yn y sefyllfa hon y flwyddyn nesaf, a'n bod yn gweld y sefyllfa hon yn gwella yn y tymor hir hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Mae tai yn gonglfaen i urddas a diogelwch, ac yn gyfle i bawb a aned yng Nghymru, ond heddiw rydym yn wynebu argyfwng na fu mor ddifrifol â hyn ers 2015. Nid yw honno'n record y dylai Llywodraeth Lafur Cymru fod yn falch ohoni. Mae ystadegau diweddar yn dangos darlun llwm. Mae dros 11,500 o unigolion mewn llety dros dro ac mae dros 139,000 o bobl yn aros am dai cymdeithasol ledled Cymru. Nid niferoedd yn unig yw'r ffigurau hyn, maent yn cynrychioli bywydau y tarfwyd arnynt a dyfodol ansicr i bobl. 

Er bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £220 miliwn i wasanaethau atal digartrefedd a chymorth digartrefedd yn y flwyddyn ariannol hon, mae'r realiti'n golygu bod gormod o bobl yn syrthio drwy'r rhwyd. Yn frawychus, dim ond 6,400 o gartrefi cymdeithasol a ddarparwyd ers dechrau tymor y Senedd hon. Mae hynny'n llawer is na'r addewid uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi a osododd y Llywodraeth hon iddi ei hun. Mae nifer y teuluoedd yr aseswyd eu bod yn ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref wedi codi 27 y cant ers 2020, gyda dros 8,000 o deuluoedd wedi cael eu hasesu fel rhai sy'n ddigartref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae angen atebion tai brys a sefydlog ar y teuluoedd hyn, ac eto mae'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yn druenus o annigonol. 

Un o'r atebion allweddol yw bod yn rhaid inni flaenoriaethu'r model tai yn gyntaf, sy'n darparu tai parhaol ar y cam cychwynnol o fynd i'r afael â digartrefedd. Mae'r dull hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae wedi profi llwyddiant mewn ardaloedd fel y Ffindir, lle mae digartrefedd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae astudiaethau'n dangos bod gan fentrau tai yn gyntaf gyfradd cadw o dros 80,000, sy'n golygu pan fydd unigolion yn cael eu gosod mewn tai diogel eu bod yn llawer llai tebygol o ddychwelyd i ddigartrefedd. Mae hyn nid yn unig o fudd i'r unigolion eu hunain ond hefyd yn lleihau'r costau i iechyd, cyfiawnder a gwasanaethau cymdeithasol. Byddai gweithredu'r model hwn ar draws Cymru yn sicrhau newid sylfaenol.

Mater pwysig arall yw'r nifer enfawr o gartrefi gwag ar draws Cymru. Mae data diweddar yn dangos bod dros 22,000 o eiddo gwag yng Nghymru, gyda llawer ohonynt yn adfeilion. Mae'r cynnig hwn, yn gywir ddigon, yn cynnig ymestyn y cynlluniau cymorth i brynu i gynnwys eiddo sydd angen ei adnewyddu, gan droi'r cregyn gwag hyn yn gartrefi mawr eu hangen.  

Mae cyllid ar gael nawr ar gyfer trosglwyddo asedau y mae cymdeithasau tai wedi'u cymryd. A fyddech chi'n cytuno bod hynny wedi bod o fudd mawr? Ac rwy'n gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a drosglwyddodd eu stoc dai yn gallu dechrau cael tai cyngor eto trwy ddefnyddio'r gronfa hon. A fyddech chi'n croesawu hynny?

Os byddwch yn amyneddgar gyda mi, fe ddof at hynny mewn munud.

Bydd y cymhelliant hwn nid yn unig yn darparu tai ond hefyd yn ysgogi economïau lleol, gan greu swyddi ym maes adeiladu a diwydiannau cysylltiedig, gan fynd i'r afael â'r trafferthion y mae cartrefi gwag yn eu creu i gymunedau. Cafodd hynny ei amlygu gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ym mis Medi eleni. 

Ac ar eich pwynt chi, Carolyn, ynglŷn â dod â'r cartrefi hynny yn ôl i ddefnydd, rwy'n awyddus i wneud hynny, ond ar hyn o bryd, gyda'r safonau ansawdd tai Cymru sydd gennym, maent wedi'u gosod mor uchel fel na fydd llawer o'r cartrefi hynny byth yn cyrraedd safonau ansawdd tai Cymru. Felly, yr hyn sydd angen inni ei gael, fel rydych chi'n ei ddweud yno, yw hyblygrwydd yn y system sy'n caniatáu i awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol brynu'r rheini a gallu rhoi rhywun yn y tŷ hwnnw. Efallai na fydd yn bodloni safonau ansawdd tai Cymru yn llwyr, ond mae'n gartref i rywun sydd ei angen. 

Mae'r system gynllunio yng Nghymru hefyd wedi dod yn rhwystr i gynnydd. Ar gyfartaledd, mae'n cymryd 262 diwrnod i awdurdodau lleol benderfynu ar geisiadau tai mawr, sy'n llawer mwy na'r targed 112 diwrnod a bennwyd gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru. Mae oedi fel hyn yn arafu'r broses o gyflawni prosiectau tai fforddiadwy ac yn gwaethygu rhestrau aros, a dyna pam y mae angen y tasglu ar y cyd arnom i edrych ar gynllunio, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a chyflawni hynny. Gallaf weld fy mod yn brin o amser, felly fe symudaf ymlaen yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd.

Ond nid lloches yn unig yw tai; maent yn sylfaen i gyfle. Mae tai sefydlog yn cefnogi cyflogaeth, yn gwella canlyniadau addysgol plant ac mae'n gwella iechyd a llesiant cyffredinol. Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig heddiw yn cynnig strategaeth gynhwysfawr, bragmataidd a thosturiol i fynd i'r afael â thai a digartrefedd yng Nghymru. Mae'n blaenoriaethu atebion sy'n gweithio, ehangu Tai yn Gyntaf, defnyddio eiddo gwag, diwygio'r broses gynllunio a dod â mwy o gartrefi cymdeithasol i'r stoc dai. Ni allwn fforddio cadw'r status quo tra bod miloedd yn parhau mewn llety dros dro. Mae Cymru'n haeddu gwell. Mae angen gweithredu beiddgar a thargedau newydd i fynd benben â'r argyfwng, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw er mwyn sicrhau'r newid go iawn sydd ei angen ar Gymru.

16:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Darren Millar am gyflwyno'r cynnig hwn, yn ogystal â'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd, yn gywir ddigon, yn fater y mae pawb yn y Siambr hon yn cytuno y dylai fod yn flaenoriaeth yng Nghymru, ac rydym wedi gweld hynny o'r cyfraniadau a wnaed ar draws y Siambr.

Wel, y prynhawn yma, rydym wedi cael ambell wers hanes gan siaradwyr heddiw. Fel rhywun a ysgrifennodd fy nhraethawd hir hanes ar werthu tai cyngor, gwn pa ran o'r hanes rwy'n ei chredu, ac nid yr un gan yr Aelodau gyferbyn, o ran gwerthu tai cyngor. Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i siarad am ymrwymiad parhaus y Llywodraeth hon i roi diwedd ar ddigartrefedd ac i amlinellu'r camau yr ydym eisoes yn eu cymryd i wthio'r uchelgais hirdymor hwn yn ei flaen.

Mae ein dull yn cael ei lywio bob cam o'r ffordd gan ddealltwriaeth sylfaenol nad oes lle i ddigartrefedd yn ein cymdeithas. Ni ddylem danbrisio'r effaith y mae'r argyfwng costau byw ac ansicrwydd economaidd Llywodraethau blaenorol y DU wedi'i chael ar y system. Ym mis Awst 2020, fe wnaethom fabwysiadu dull 'neb heb help' yn ein polisi digartrefedd, ac er gwaethaf yr ansicrwydd, rydym wedi parhau'n ymrwymedig i'r dull hwn. Rydym wedi gweithio'n llwyddiannus i gynorthwyo dros 30,000 o leoliadau i symud pobl sy'n profi digartrefedd ymlaen i lety addas hirdymor. Nawr, fe wyddom fod angen gwneud mwy. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd. Ynddo, fe wnaethom yn glir fod ein dull gweithredu yn canolbwyntio ar drawsnewid hirdymor. Mae hyn oherwydd ein bod am gyflawni'r newid systematig a'r dull gwasanaeth cyhoeddus sydd ei angen arnom i oresgyn heriau sylweddol yn ogystal ag achosion sylfaenol digartrefedd. Felly, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth eang a phellgyrhaeddol yn nhymor y Senedd hon i gefnogi'r nodau hyn.

Yr allwedd i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, fel y bydd yr Aelodau'n cytuno rwy'n siŵr, yw atal. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £220 miliwn mewn atal a chymorth digartrefedd eleni yn unig. Mae hyn yn cynnwys y grant cymorth tai, a welodd gynnydd o £13 miliwn i dros £183 miliwn eleni, ac rydym yn rhoi £21 miliwn arall tuag ato yn y gyllideb ddrafft, gan fynd ag ef i dros £204 miliwn y flwyddyn nesaf.

Diolch, ac rwy'n croesawu popeth a ddywedoch chi am atal digartrefedd. Ond a fyddech chi'n cytuno mai'r ffordd orau o atal digartrefedd yw drwy adeiladu digon o gartrefi yn y lle cyntaf, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi methu ei wneud yn gyson?

Wel, fe ddof at y pethau yr ydym yn eu gwneud i fynd i'r afael â hynny, ac rwy'n credu bod un o'r rheini'n sicr yn ymwneud ag adeiladu cartrefi, sef y cyflenwad cartrefi. Ond mae mwy i hyn, ac rwyf am egluro beth arall rydym yn ei wneud.

Rwy'n credu bod nifer o Aelodau wedi sôn am eu cefnogaeth i Tai yn Gyntaf heddiw. Rydym yn parhau i ddarparu cyllid i awdurdodau lleol i gefnogi pobl sy'n profi digartrefedd a chanddynt anghenion cymhleth sylweddol, a rhaid rhoi clod enfawr i ddarparwyr, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau fel Byddin yr Iachawdwriaeth, fel y crybwyllwyd heddiw. Maent wedi croesawu'r model hwn. Profwyd ei fod yn arbennig o lwyddiannus yng Nghymru, gyda'r data diweddaraf yn nodi cyfradd gadw drawiadol o 91 y cant. Ond mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd hefyd yn dibynnu ar sicrhau cyflenwad digonol o gartrefi addas y gall pobl fforddio byw ynddynt, ac fe'i gwnaed yn glir yn haf o wrando y Prif Weinidog fod tai yn brif flaenoriaeth i bobl Cymru, ac felly y dylai fod, oherwydd mae cyfle'n dechrau yn y cartref.

Ar ddechrau tymor y Senedd hon, fe wnaethom osod targed heriol ac ymestynnol i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w gosod ar rent yn y sector cymdeithasol. I gefnogi'r ymrwymiad hwn, rydym wedi dyrannu'r lefelau uchaf erioed o gyllid i'r cyflenwad tai, gyda dros £1.4 biliwn wedi'i fuddsoddi hyd yma yn nhymor y Senedd hon. Nawr, mae ein buddsoddiad yn talu ar ei ganfed, gyda 5,775 o gartrefi wedi'u darparu yn nwy flynedd gyntaf y Llywodraeth, a 3,158 o gartrefi ychwanegol wedi'u darparu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae hyn er gwaethaf costau cynyddol a'r heriau economaidd a wynebwyd gennym ers dechrau tymor y Senedd. Mae rhagamcanion y sector eu hun yn dweud wrthym fod yna ffrwd gref o gartrefi'n cael eu hadeiladu yn 2026, ond nid yw hynny'n golygu nad oes mwy y gallwn ei wneud.

Yn wir, ers dod yn Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am dai ychydig fisoedd yn ôl, mae darparu cartrefi wedi bod yn ffocws allweddol i mi. Mewn cyfnod byr, rwyf eisoes wedi cymryd camau i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu cymaint o gartrefi â phosibl. Mae ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26—

16:50

—yn dyrannu £81 miliwn ychwanegol. Mae'n ddrwg gennyf, fe wnaf ildio, Mark.

A ydych chi'n cytuno â ffigurau StatsCymru, ac os felly, a ydych chi'n cydnabod nad yw'r ffigurau a nodir gennych yn rhai ar gyfer tai cymdeithasol newydd, ac mae ffigurau gwirioneddol StatsCymru ar gyfer tai cymdeithasol newydd ymhell islaw'r ffigurau hynny?

Darparwyd 3,158 o unedau fforddiadwy i'w rhentu yn y sector cymdeithasol ledled Cymru. Dyna'r ystadegau.

Felly, mae gennym gyfanswm o £411 miliwn ar gyfer cynyddu'r ddarpariaeth o fwy o gartrefi eleni, gan gynnal y lefel uchaf erioed o fuddsoddiad ar gyfer darparu tai cymdeithasol. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gofyn iddynt nodi cynlluniau ychwanegol a oedd yn barod i ddechrau gyda'r potensial i'w cyflawni erbyn diwedd tymor y Llywodraeth, ac mae £10 miliwn o gyllid ychwanegol bellach wedi'i ddyrannu yn y flwyddyn ariannol hon i ddechrau'r cynlluniau hyn.

Mae gennym ffrwd iach o gartrefi ar draws y rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro, a byddwn yn buddsoddi mewn cymaint o gartrefi â phosibl gyda'r cyllid sydd ar gael. Rydym hefyd wedi ymrwymo i £30 miliwn dros bum mlynedd drwy Gynllun Lesio Cymru i gefnogi gwelliannau i lety, i'w cynnwys yn y cynllun. Rydym hefyd yn gweithio i fynd i'r afael â chynlluniau sydd mewn perygl o fethu cael eu cwblhau yn nhymor y Llywodraeth hon, ac rydym yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gael gwared ar gynifer o rwystrau a risgiau â phosibl er mwyn sicrhau bod cymaint o'r cynlluniau hyn yn cyflawni yn ôl y bwriad.

Roeddwn hefyd yn falch o gyhoeddi'r tasglu tai fforddiadwy, sy'n cefnogi cynnydd tuag at y targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol, gan gynnwys nodi safleoedd i'w defnyddio yn y cyfamser, a'r tu hwnt i hynny, byddant yn gwneud argymhellion ar gyfer newid y system yn y tymor canolig i gefnogi darpariaeth bellach.

Yn ogystal â'r gwaith uniongyrchol sydd ar y gweill, rydym hefyd yn edrych tua'r dyfodol. Mae ein Papur Gwyn ar sicrhau llwybr tuag at gartrefi digonol, gan gynnwys rhent teg a fforddiadwyedd, yn gam arwyddocaol arall ar ein taith flaengar tuag at ddarparu cartrefi digonol i bawb yng Nghymru. Mae'n gosod y sylfaen ar gyfer sicrhau cartrefi digonol drwy nodi cynigion ar gyfer datblygu strategaeth dai hirdymor i ddarparu fframwaith clir a mesuradwy i gefnogi'r gwaith o ddarparu cartrefi digonol i bawb.

Hoffwn nodi i'r Aelodau, a gwn fod Mark a Siân wedi sôn am hyn, fod y Papur Gwyn yn cydnabod y gallai fod adeg pan fydd deddfwriaeth i ddarparu hawl i gartrefi digonol yn ffordd briodol o fwrw iddi, ac y bydd yr opsiwn hwnnw'n cael ei adolygu'n barhaus.

Mae'n rhaid inni ganolbwyntio heddiw ar ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy, gwella'r stoc dai, cefnogi fforddiadwyedd, a rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Ddirprwy Lywydd, mae system dai Cymru wedi wynebu pwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Er hynny, rwyf i fel Ysgrifennydd y Cabinet, a Llywodraeth Cymru yn fwy cyffredinol, yn benderfynol o archwilio pob cyfle i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n gadarn ar roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae ein hymrwymiad yn parhau i fod yn ddiwyro, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid, rhanddeiliaid allweddol, ac Aelodau'r Siambr yn wir, ar ein huchelgais cyffredin i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Diolch.

16:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi, Mark Isherwood, unwaith eto am dynnu sylw, yn ffeithiol ac yn huawdl at ba mor ddrwg yw'r argyfwng tai yng Nghymru—argyfwng sydd nid yn unig yn fater o rifau, ond sydd hefyd yn drasiedi ddynol.

Mae digartrefedd yng Nghymru bellach yn cyrraedd lefelau brawychus, gyda 13,500 o aelwydydd wedi eu cofnodi fel rhai digartref, sef cynnydd o 8 y cant. Gwariodd fy awdurdod lleol fy hun £4.5 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae'n bwriadu ei godi £3.5 miliwn arall y flwyddyn nesaf, dim ond ar gyfer talu am lety dros dro. Mae siaradwyr eraill yn llygad eu lle yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn methu adeiladu digon o dai cymdeithasol, sut y methodd Llywodraeth Cymru ei thargedau ei hun, ac mae'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yn gyrru mwy o bobl i ddigartrefedd ac i lety dros dro. Gwelwn fod awdurdodau lleol ledled Cymru yn wynebu galw digynsail. Mae dros 90 y cant o bobl mewn llety dros dro yng Nghonwy mewn llety gwely a brecwast, carafanau, llety rhent preifat, neu westai preifat. Ac mae'r ffeithiau'n real—£100 y pen y dydd, £76 y dydd am bob plentyn. Adiwch y ffigurau eich hun ar gyfer pob mis. Y llynedd—

Nid oes gennyf lawer o amser. Ewch amdani'n gyflym, cyn belled â fy mod yn cael yr amser, iawn.

A ydych chi'n gresynu at y ffaith bod dros 50 y cant o'r tai cyngor a werthwyd yn ystod cyfnod Thatcher bellach yn y sector rhentu preifat, ac mai dyna yw llawer o'r eiddo y cyfeiriwch chi ato?

Nid wyf yn gweld bod hynny'n berthnasol o gwbl, oherwydd os yw'r arian hwnnw—. Ar gyfer pob tŷ a werthwyd, gellid adeiladu tri bryd hynny, ac ni wnaeth y Llywodraeth hon adeiladu'r tai.

Y llynedd, cyrhaeddodd nifer y plant dibynnol o dan 16 oed a gafodd eu rhoi mewn llety dros dro dros 3,000 am y tro cyntaf, gyda chyfanswm yr unigolion a aeth i lety dros dro yn cyrraedd 10,000 am y tro cyntaf. Nid methiant polisi tai yn unig yw hyn, mae'n sarhad ar urddas ddynol. Nid dim ond plant yw'r ffigurau hyn; maent yn bobl sy'n anobeithio, plant sy'n wynebu ansicrwydd, a theuluoedd sy'n cael eu gorfodi i fyw mewn amodau anaddas. Tynnodd Siân Gwenllian sylw at y miloedd o bobl sydd bellach yn byw mewn llety dros dro, ar adeg pan fo adeiladu cartrefi newydd yng Nghymru'n gostwng yn gyflym. Yn 2023-24 cwblhawyd llai na 5,000 o gartrefi, a oedd yn ostyngiad serth a'r ffigur blynyddol ail isaf a gofnodwyd ers y 1990au. Mae gennym 918 eiddo gwag y gellir codi tâl amdanynt yng Nghonwy. Rwy'n cofio Huw Lewis yma, pan gefais fy ethol gyntaf—o, roedd yn mynd i ddod â 5,000 o dai gwag yn ôl i ddefnydd yn nhymor pum mlynedd y Senedd. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dod â hynny'n ôl i ddefnydd ers hynny, mewn 13 blynedd.

Mae targedau Llywodraeth Cymru, fel darparu 20,000 o gartrefi carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol, yn prysur fynd yn anghyraeddadwy. Mae Archwilio Cymru yn rhybuddio y gallai fod angen £580 miliwn i £740 miliwn ychwanegol y tu hwnt i'r rhagamcanion cyllidebol presennol ar gyfer cyflawni'r targed o 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol carbon isel newydd erbyn 2026, gan adael degau o filoedd yn aros am gartref saff a diogel.

Ddirprwy Lywydd, y cyfan y mae pobl ei eisiau yw rhywle y gallant ei alw'n gartref. Bydd pob un ohonom yma yn mwynhau ein dathliadau Nadolig yn ein cartrefi diogel a chynnes ein hunain. Ond onid yw'n rhyfedd, y Nadolig hwn, pan fyddwn ni'n cofio'r gwir reswm dros y dathliadau hynny, pan oedd Mair a Joseff eu hunain yn ddigartref, a phawb yn gwrthod cymorth iddynt, dim lle yn y llety, cyn dod o hyd i stabl lle cafodd y baban Iesu ei eni—? Gadewch inni obeithio, wrth inni ddychwelyd ar ôl ein dathliadau, a gadewch inni weddïo, y byddwn ni, erbyn Nadolig 2025, yn gweld gostyngiad aruthrol—

—yn nifer y rhai sy'n byw mewn llety dros dro ac anaddas. Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.  

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl Plaid Cymru: Y setliad datganoli

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

17:00

Cynnig NDM8763 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu, er mwyn adeiladu dyfodol gwell i'w phobl, y dylai Cymru gael o leiaf yr un pwerau datganoledig â'r Alban.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym ni'n siarad yma yn y Senedd y prynhawn yma am rai o egwyddorion mwyaf sylfaenol datganoli: yr angen i greu rhagor o degwch, i rymuso cymunedau ac i rymuso cenhedloedd gwahanol y Deyrnas Unedig i allu mowldio eu dyfodol eu hunain, ac yr annhegwch sylfaenol, lle mae rhai yn cael eu dal yn ôl rhag gallu cael eu grymuso.

Os yw datganoli, fel y dywedodd rhywun unwaith, yn broses ac nid yn ddigwyddiad, rhaid inni bob amser aros yn driw i'r egwyddor mewn geiriau ac mewn gweithredoedd, ac mae rhai egwyddorion craidd y mae angen inni atgoffa ein hunain ohonynt. Ni ddylid tybio rywsut fod y Senedd yn ail i San Steffan, ei bod rywsut yn israddol, nad yw'r hyn sy'n digwydd yma mor bwysig â'r hyn sy'n digwydd ar ben arall yr M4. Rhaid inni beidio â gadael i'n llais gael ei wanhau byth, neu i'n safbwyntiau gael eu gwthio o'r neilltu. Ond mae yna ffactor allweddol arall, na ellir ystyried ein hawliau democrataidd fel seneddwyr yng Nghymru yn israddol o'u cymharu â deddfwyr mewn deddfwrfeydd datganoledig eraill. Ond Ddirprwy Lywydd, dyna yw'r sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd.

Wedi'i ymgorffori yn ein sgwrs gyhoeddus a gwleidyddol mae'r anghysondeb amlwg na ellir ond ei nodweddu fel a ganlyn: mae pobl Cymru eisiau mwy o bwerau wedi'u datganoli, i fynd i'r afael â thlodi, i greu cymdeithas fwy cyfiawn, gyda phob astudiaeth a phob arolwg yn dangos bod hynny'n wir, ond mae'r Blaid Lafur yn dweud wrthynt, 'Rydym ni'n gwybod yn well.' Wrth gwrs, fe wyddom beth y mae'r Ceidwadwyr yn ei feddwl. Wrth i'n setliad presennol fethu cadw i fyny â dymuniadau pobl Cymru, mae hefyd yn ein hamddifadu o'r hyblygrwydd i liniaru effeithiau niweidiol penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Lafur y DU nad yw buddiannau Cymru'n ffocws iddi. Ac onid yw'n gyfleus—yn gywilyddus, hyd yn oed—wythnos ar ôl wythnos, fod y Prif Weinidog yma eisiau osgoi unrhyw gwestiynau y mae hi'n eu hystyried y tu hwnt i gymhwysedd y lle hwn? Gadewch imi ddadgodio'r hyn y mae'n ei ddweud: 'Byddai'n well gennyf beidio ag achosi problem i Keir Starmer na cheisio gwneud yr hyn sy'n iawn i bobl Cymru.' Mae hynny'n wan, mae'n wan, mae'n wan.

Ar ystod o feysydd polisi pwysig—cyllid rheilffyrdd, pwerau cyfiawnder, rheolau trethu hyblyg, pwerau lles, Ystad y Goron—Cymru yw'r berthynas dlawd ymhlith y gwledydd datganoledig, ac nid oes rheswm da o gwbl pam y dylai hynny fod. Dywedir wrthym weithiau, 'Siaradwch am y pethau sy'n bwysig i bobl, nid y cyfansoddiad,' ond mawredd, rwy'n credu ei fod yn bwysig i bobl fod gwerth biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn cael ei ddal yn ôl oherwydd ein diffyg pwerau dros seilwaith rheilffyrdd. Mae'n rhywbeth y gall ac y mae pobl yn teimlo'n ddig yn ei gylch.

Ddoe, dywedodd yr Aelod dros Flaenau Gwent—prif amddiffynwr Llafur ar y pethau hyn—wrth wrandawyr Radio Wales Breakfast nad wyf i 'byth yn rhoi'r gorau i sôn am HS2.' Wyddoch chi beth? Mae'n hollol iawn. Ni wnaf roi'r gorau iddi. Yr hyn a olygai mewn gwirionedd oedd, 'Rhowch y gorau i sôn am y peth os gwelwch yn dda', oherwydd mae'n tynnu sylw at cyn lleied y mae Llafur yn ei wneud i unioni'r cam hwn. Erbyn amser cinio, gyda llaw, diystyrodd y Prif Weinidog yr achos dros symiau canlyniadol HS2 fel rhan o restr ddymuniadau Plaid Cymru. Ond onid oedd yr HS2 biliwn ar ei rhestr ddymuniadau hi i Ysgrifennydd Gwladol Cymru tan yn ddiweddar? Mae'n ddrwg gennyf, na, cefais hynny'n anghywir. Roedd ar restr ddymuniadau'r Ysgrifennydd Gwladol Jo Stevens ei hun i'r Llywodraeth Dorïaidd pan oeddent mewn grym—y £4.6 biliwn cyfan, meddai hi.

Mae pobl wedi gweld trwy Lafur oherwydd ei siarad dwbl ar HS2. Ac nid rheilffyrdd yn unig mohono, pan soniwn am yr effeithiau go iawn ar fywydau pobl o gryfhau datganoli. Y gallu i fuddsoddi mewn seilwaith ac i greu swyddi da yn seiliedig ar ein hadnoddau naturiol—dyna mae datganoli Ystad y Goron yn ei wneud, fel sy'n digwydd eisoes yn yr Alban. Byddai datganoli plismona a chyfiawnder yn ein galluogi i ddod â chyfiawnder yn agosach at gymunedau pobl a'r manteision a ddaw yn sgil hynny. Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth cyllideb yr Alban, a oedd yn ei hanfod yn gwrthdroi'r penderfyniad dideimlad i ddiddymu lwfans tanwydd y gaeaf, ac yn dileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau i bob pwrpas, danlinellu'r canlyniadau byd go iawn trawsnewidiol a allai fod yn bosibl yma yng Nghymru pe bai gennym yr un pwerau datganoledig dros les a phe bai gennym fformiwla ariannu decach, ac yn hollbwysig, pe bai gennym yr un uchelgais gan ein Llywodraeth. O leiaf mae Llafur yn yr Alban wedi beirniadu'r toriad tanwydd y gaeaf. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei amddiffyn bob gafael.

Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn glir nad yw ein gweledigaeth fwy hirdymor ar gyfer Cymru fel cenedl uchelgeisiol a ffyniannus yn dod i ben gyda mireinio'r setliad datganoli yn unig. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, fel y dywedais droeon o'r blaen, na allwn ddechrau cyrraedd ein potensial hyd nes y caiff Prydain ei hailgynllunio'n bartneriaeth o wledydd annibynnol. Ond os yw'r— 

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:05

Sut y gwnewch chi dalu am bensiynau'r wladwriaeth? Dywedodd un o'r sefydliadau sy'n eich cefnogi y byddai pensiynau'r wladwriaeth yn cael eu hariannu gan Loegr. Cafodd hyn ei ddisgrifio gan eraill fel breuddwyd gwrach. 

Sut y mae gwledydd bach yn talu am eu hunain? Sut, ar draws y byd, y mae gennym wledydd llawer iawn llai na Chymru yn gwneud i bethau weithio? Ac ni allwn ni, am ryw reswm, yn ôl eich meinciau chi. Nid wyf yn credu hynny o gwbl, a dyna'r gwahaniaeth go iawn o ran egwyddor, o ran rhagolygon ac uchelgais i Gymru rhyngoch chi a fi.

Ond os yw'r DU bresennol, y status quo, i brofi ei gwerth, os yw'r undeb am brofi ei werth—ac rydych chi'n credu ynddo, Mike Hedges—yna fan lleiaf oll, mae Cymru'n haeddu statws cydradd â'r Alban. A beth bynnag y bo ein gwahaniaethau ar y daith gyfansoddiadol eithaf i Gymru—ac rwy'n mynd i barhau i geisio eich perswadio, Mike Hedges—mae'n annirnadwy na ddylai unrhyw blaid sy'n honni ei bod hi'n cynrychioli buddiannau ein cenedl gefnogi'r egwyddor sylfaenol iawn hon. Mae'n anffodus, felly, na allai'r Llywodraeth Lafur adael ein cynnig heb ei ddiwygio heddiw ac anfon neges glir at eu partneriaid mewn grym, eu penaethiaid yn Llywodraeth Lafur y DU, am yr hyn sydd angen ei wneud i ddechrau gosod datganoli yng Nghymru ar sail decach a mwy cynaliadwy.

Yn hytrach, rydym unwaith eto'n wynebu tueddiad rhwystredig y Llywodraeth hon i siarad am wthio ffiniau datganoli gan barhau'n benderfynol o oddefol o ran brwydro dros newid mewn gwirionedd. A chaiff hyn ei nodweddu gan eu gwelliant i'n cynnig. Unwaith eto heddiw, nid yw nodi'n unig fod y Llywodraeth wedi derbyn canfyddiadau'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn golygu fawr ddim a hwythau'n wybyddus ers dros flwyddyn a'r nesaf peth i ddim—fawr ddim—wedi'i wneud i ddatblygu'r canfyddiadau hynny. Ac yn fwy na hynny, rydym eisoes yn gwybod bod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod gweithredu'r argymhellion yn llwyr, gan dynnu'n ôl hyd yn oed ar y cerrig mân a gynigiwyd i Gymru gan adroddiad Gordon Brown cyn yr etholiad cyffredinol.

Rwy'n credu bod yr esboniad a roddwyd gan ddirprwy arweinydd Llafur yng Nghymru ynghylch pam nad yw'n cefnogi datganoli pwerau cyfiawnder i Gymru—'Nid wyf yn ei gefnogi a dyna ni' yw'r hyn a ddywedodd—yn nodweddiadol o agwedd sylfaenol glaear Llafur tuag at rymuso Cymru, tuag at gryfhau seiliau cyfansoddiadol gwlad y mae arnynt gymaint o'u bodolaeth a'u llwyddiant etholiadol iddi. Ni roddir unrhyw resymau dros rinweddau'r status quo, er gwaethaf cyfoeth o dystiolaeth go iawn i'r gwrthwyneb, dim ond neges ddi-awch y dylai Cymru fodloni ar ei chyfran israddol. Y gwir berygl yw bod unrhyw newid cynyddrannol poenus o araf—sef cyflwr cyfansoddiadol Llafur yn gyffredinol—yn cael ei lastwreiddio ymhellach eto i fodloni gorchmynion eu plaid.

Mewn cyfweliad diweddar, dywedodd ein Prif Weinidog y dylid gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yng Nghymru. Yn hollol. Ond trwy ddiwygio cynnig Plaid Cymru heddiw, dangosodd nad yw hyn yn ddim mwy na sylw bachog heb unrhyw sylwedd yn perthyn iddo. 

A yw hynny'n golygu, felly, y byddwch chi'n pleidleisio yn erbyn y gwelliant mewn gwirionedd, os daw pleidlais arno?

Na. Byddwn yn ymatal ar y gwelliant, oherwydd fel mater o egwyddor—. Ar y bwrdd heddiw mae gennym egwyddor glir iawn y dylem gael cydraddoldeb â'r Alban. Mae Llafur yn pleidleisio yn erbyn hynny. Ac wrth gwrs nid ydym yn erbyn gweithredu'r hyn sydd yn adroddiad y comisiwn cyfansoddiadol; roedd yn rhan fawr ohono—adroddiad trawsbleidiol, deinamig a allai'n bendant ein gosod ar lwybr cadarnhaol. Ond trwy osod hynny'n sinigaidd, dadwneud yr egwyddor sylfaenol o fod eisiau cydraddoldeb i Gymru, mae'n rhaid inni wneud y pwynt hwnnw a byddwn yn ymatal ar y gwelliant gan Lafur.

Pan anerchodd Tony Blair y Cynulliad, fel yr oedd ar y pryd, dywedodd fod Senedd yr Alban a'i dyfodiad wedi golygu gostyngiad yn nifer yr Albanwyr a oedd eisiau gwahanu, fel y'i disgrifiodd. Ac roedd mor anghywir ar hynny. Fy marn i bob amser, pan fyddwn ni'n dadansoddi'r hyn sydd ar y gorau yn drefniant sigledig, trwy rymuso'r Senedd go iawn, fe allwn ni—fel y dywedodd y diweddar Steffan Lewis—ddechrau'r daith o gael rhywbeth na chawsom erioed mohono o'r blaen: gwlad i ni ein hunain.

17:10

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Paul Davies, felly, sy'n cyflwyno gwelliant 1. Paul Davies.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth Cymru yn methu â sicrhau dyfodol gwell i bobl Cymru, ac y dylai wneud gwell defnydd o'r pwerau datganoledig sydd ar gael i Gymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch o gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ni fydd yn sioc fawr i'r Aelodau na fyddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cefnogi'r cynnig hwn. Fel y dywed ein gwelliant, rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud gwell defnydd o'r pwerau datganoledig sydd ar gael i Gymru fel y mae. Yn lle tincran â phwerau Cymru a phwyso am fwy, dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar wella gwasanaethau cyhoeddus Cymru a hybu ein heconomi.

Ein barn ni hefyd yw na ddylai Cymru fod yn ddim mwy na chopi carbon o'r Alban am ddim rheswm gwell na bod Plaid Cymru yn dweud hynny. Ac i fod yn onest, nid oes gan Blaid Cymru unrhyw ddiddordeb mewn cael yr un faint o bwerau â'r Alban; maent eisiau annibyniaeth, ac rydym i gyd yn gwybod y bydd hynny yn ei dro yn dinistrio'r Deyrnas Unedig. Dyna yw eu nod; dyna eu hamcan, dinistrio'r Deyrnas Unedig. [Torri ar draws.] Ac fe ildiaf.

Rydych chi'n dweud nad ydych chi eisiau'r un pwerau â'r Alban, ac eto clywais eich meinciau'n gresynu at y ffaith bod yr holl bensiynwyr sydd gennym ni yng Nghymru yn mynd i golli taliad tanwydd y gaeaf. Oni fyddech chi eisiau'r pwerau i beidio â gorfod gwneud hynny?

Wel, rydym wedi siarad yn glir ar y mater penodol hwnnw, ond rydym i gyd yn gwybod mai dim ond mewn Cymru annibynnol y mae gan Blaid Cymru ddiddordeb. [Torri ar draws.] Rydym i gyd yn gwybod mai dim ond mewn Cymru annibynnol y mae gan Blaid Cymru ddiddordeb, ac eto ni allant ddweud wrthym o hyd pa arian cyfred y byddai Cymru'n ei ddefnyddio, pa luoedd arfog a fyddai gennym ac yn hollbwysig, sut y byddem yn talu'r diffyg o £13 biliwn a fyddai gennym. Nid oes pen draw i obsesiwn Plaid Cymru gydag annibyniaeth.

Ers 1999, mae datganoli yng Nghymru wedi symud yn gyflym ac mae'r Senedd wedi ennill pwerau dros rai o'r agweddau pwysicaf ar fywydau pobl. Roedd datganoli rhai pwerau treth i Gymru—a hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y newid hwnnw wedi digwydd o dan Lywodraeth Geidwadol y DU—yn gam arall ar y daith ddatganoli ac yn cadarnhau nad awdurdod gwario yn unig yw Llywodraeth Cymru, ond ei bod bellach yn gyfrifol am godi arian hefyd.

Ers hynny, bu datblygiadau cyfansoddiadol ehangach hefyd sydd wedi cael effaith enfawr ar Gymru. Mae'r refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd wedi creu goblygiadau enfawr i Gymru ac mae dychwelyd pwerau yn ôl i'r DU yn sicr wedi cael effaith ar sawl sector. Mae'r datblygiad cyfansoddiadol ehangach hwn, ynghyd â gwrthdaro byd-eang sy'n effeithio ar ein heconomi a phandemig COVID-19 yn rhai o'r rhesymau pam y credaf fod angen i'r ffocws ymwneud llai â phwerau, strwythurau gwleidyddol a chyfansoddiad Cymru, a mwy â sut y gellir defnyddio'r pwerau hynny'n fwy effeithiol i wella bywydau pobl Cymru. Dyna pam ein bod ni yma; dyna pam y cawsom ein hethol i'r lle hwn. Ac rwy'n credu hefyd nad oes unrhyw awydd cyhoeddus i'r Senedd gael pwerau pellach.

Pan ddaeth y Prif Weinidog i rym, roedd hi'n iawn i ddweud y bydd y cyhoedd eisiau i wasanaethau cyhoeddus fod yn flaenoriaethau iddynt yn hytrach na phwyso am ddatganoli pellach ar y pwynt hwn. Ac ar garreg y drws yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli—[Torri ar draws.] Fe wnaf mewn eiliad. Ac ar garreg y drws yn y cymunedau rwy'n eu cynrychioli, nid oes unrhyw un wedi codi mater pwerau pellach gyda mi. Ond gadewch imi ddweud wrthych beth y maent yn ei godi: maent yn codi amseroedd aros cynyddol am driniaethau'r GIG, y ffaith bod ysgolion yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, sy'n effeithio ar ganlyniadau addysgol, a materion fel cartrefi annigonol, problemau seilwaith a newid hinsawdd, nid materion cyfansoddiadol. Felly, ni ddylai Aelodau anwybyddu lleisiau'r bobl y maent yn eu cynrychioli. Ni ddylem ganolbwyntio ar flaenoriaethau gwleidyddiaeth plaid, ond yn hytrach, dylem fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i bobl Cymru. Ac fe ildiaf i'r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd.

Mae'n wir, bydd Aelodau yn eich etholaeth chi'n siarad am yr angen i wella gwasanaethau iechyd a gwasanaethau addysgol, ond mae angen cyllid ar hynny, felly onid ydych chi'n credu bod angen i Gymru fod yn gydradd â'r Alban i sicrhau ein bod yn cael yr un arian y pen, fel y gallwn fuddsoddi mewn addysg, mewn gwasanaethau iechyd a gwella gwasanaethau yma yng Nghymru?

Ond nid oes angen i ni newid y setliad cyfansoddiadol er mwyn gwneud hynny. Gallwn newid fformiwla Barnett er mwyn gwneud hynny i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg. Nid oes raid newid y setliad cyfansoddiadol. Nawr, mae ehangu'r Senedd yn ddiweddar—[Torri ar draws.] Mae ehangu'r Senedd yn ddiweddar yn enghraifft o ddiffyg cysylltiad y pleidiau hyn â phobl Cymru a oedd eisiau gweld bod arian yn helpu i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n ei chael hi'n anodd, yn lle gweld miliynau o bunnoedd wedi'i glustnodi ar gyfer mwy o wleidyddion.

Dangosodd arolwg YouGov ym mis Medi fod 40 y cant o'r ymatebwyr i'r arolwg hwnnw eisiau rhagor o bwerau i Gymru, ond dangosodd yr un arolwg nad oedd 37 y cant o'r ymatebwyr eisiau rhagor o bwerau, a bod 31 y cant o'r ymatebwyr am i'r Senedd gael ei diddymu'n llwyr. Ac nid yw'n syndod eu bod yn teimlo hynny, oherwydd credant fod gan y Senedd fwy o ddiddordeb ynddi ei hun a'i dyfodol na dyfodol pobl Cymru. Rhaid inni fynd i'r afael ar frys â'r apathi tuag at y Senedd trwy fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r bobl. Dylem gael dadl aeddfed ynglŷn â sut yr awn ati i wella gwasanaethau cyhoeddus toredig Cymru, sut yr awn i'r afael ag amseroedd aros y GIG, sut y gallwn gefnogi ysgolion yn well a sut y gallwn gefnogi busnesau Cymru, yn hytrach na threulio ein hamser, unwaith eto, yn trafod arolygon barn ac ideolegau gwleidyddol.

Wrth orffen, Lywydd, ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig hwn. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn credu bod yn rhaid i bob plaid flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd, nid strwythurau gwleidyddol a setliad cyfansoddiadol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.

17:15

Galwaf ar y Dirprwy Brif Weinidog nawr i gynnig yn ffurfiol welliant 2 yn enw Jane Hutt. 

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn derbyn casgliadau ac argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru trawsbleidiol, sy’n darparu agenda ddiwygio uchelgeisiol gyda thystiolaeth dda i’w chefnogi, sydd wedi’i theilwra i ddiwallu anghenion Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:16:16
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Yn ffurfiol.

Rwy'n gwybod, Paul, eich bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol, ond nid wyf erioed wedi gweld amddiffyniad mor angerddol o'r status quo. Pam amddiffyn y status quo hwnnw? Edrychwch ar Gymru fel y mae. Rydych chi'n siarad am wasanaethau cyhoeddus toredig. Edrychwch ar y system cyfiawnder troseddol. Mae hwnnw'n wasanaeth cyhoeddus. Rydych chi'n iawn, mae wedi torri, nid oherwydd unrhyw benderfyniad a wnaed yn y Siambr hon. Mae'n system sydd wedi torri'n llwyr: carchardai gorlawn, cyfraddau aildroseddu uchel sy'n codi, cyfraddau troseddu sydd wedi bod yn codi yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Cyferbynnwch hynny gyda'r Alban, lle mae lefelau troseddu wedi bod yn gostwng dros oes datganoli. Maent bellach wedi cyrraedd y lefel isaf yn yr Alban ers 1974.

Clywais fy nghyd-Aelod Sioned Williams yn cyfeirio at ddyfyniad gan Martin Luther King yng nghyd-destun y Diwrnod Hawliau Dynol:

'Mae hawl wedi'i gohirio yn hawl wedi'i gwrthod.'

Wel, mae pŵer wedi'i ohirio yn bŵer wedi'i wrthod. Rydym wedi bod yn siarad am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol ers 20 mlynedd. Yn y ddeunawfed ganrif yn Iwerddon, bu'n rhaid iddynt aros 60 mlynedd am ddatganoli deddfwriaethol llawn. Nid ydym wedi gorfod aros 60 eto, ond rydym wedi bod yn aros ers cenhedlaeth.

Pam ein bod eisiau'r pwerau hynny? Fel y gallwn drawsnewid y system doredig honno, oherwydd yr hyn y gallwn ei wneud gyda'r pwerau hynny. Edrychwch ar yr hyn y mae'r Alban wedi'i wneud i ostwng cyfraddau troseddu. Mae wedi mabwysiadu dull ataliol, iechyd y cyhoedd o leihau trais ac wedi cael effaith enfawr—gostyngiad o 39 y cant mewn trais o ganlyniad i'r dull cyfannol hwnnw, gan gefnu ar y model toredig sydd gennym ni yng Nghymru a Lloegr. Un slogan a fu gennym ers 50 mlynedd, 'Llym ar droseddu.'  Nid yw wedi gweithio. O 1970 hyd nawr, rydym wedi gweld nifer y bobl sydd yn y carchar yng Nghymru a Lloegr yn dyblu, ac eto mae cyfraddau troseddu wedi codi, oherwydd bod gennym gyfraddau aildroseddu uchel, ac yn y blaen. Nid oes unrhyw bwyslais ar benderfynyddion cymdeithasol trosedd, ac felly, ni cheir unrhyw ateb.

Mae'r Alban wedi dewis llwybr gwahanol. Mae wedi edrych o gwmpas y byd hefyd, gan edrych ar wledydd bach fel Gwlad yr Iâ sydd â dull ataliol, yn dechrau yn y blynyddoedd cynnar, buddsoddi ym mhenderfynyddion cymdeithasol ymddygiad a chael llwyddiant ysgubol o'r herwydd. Dyna'r math o ddull y gallem ei fabwysiadu yng Nghymru. Gallem gael dull Llychlynnaidd o leihau troseddu. Gallem godi oedran cyfrifoldeb troseddol i gadw plant allan o'r system cyfiawnder troseddol. Yng Nghymru a Lloegr, mae gennym un o oedrannau isaf cyfrifoldeb troseddol yn Ewrop ac yn y byd yn wir. Mae hyd yn oed y Cenhedloedd Unedig wedi dweud mai 14 ddylai'r terfyn fod, a dyna un enghraifft yn unig o'r math o wahaniaeth y gallem ei wneud trwy fabwysiadu dull gwahanol o weithredu.

Gallem ganolbwyntio ar adsefydlu yn hytrach na chosbi. Yn y bôn, mae'r model sydd gennym nad yw'n gweithio yng Nghymru a Lloegr wedi'i seilio'n llwyr ar garcharu a chosbi fel rhwystr, ac nid yw'n gweithio. Nid yw hyd yn oed yn atal troseddu, gyda llaw; nid yw hyd yn oed yn cyflawni ei brif ddiben. Ac eto, edrychwn ar wledydd fel Norwy, lle mae cyfraddau aildroseddu yn llawer is nag y maent yma, lle mae ganddynt niferoedd llawer llai yng ngharchar, cyfraddau troseddu llawer is, oherwydd eu bod wedi mabwysiadu dull gwahanol, model mwy ataliol, sy'n canolbwyntio mwy ar adsefydlu. Dyna'r math o feddwl, o'i drosi'n bolisi ac yn weithredu, a allai sicrhau canlyniadau go iawn, bywydau gwell i'n pobl ni yng Nghymru.

Nid rhyw fath o ymarfer bogailsyllu cyfansoddiadol yw hwn, nid yw'n ymwneud â'r haniaethol, mae'n ymwneud â bywydau pobl, a phenderfyniadau gwell y gellid eu gwneud yma, model gwell y gallem ei sefydlu yma a chanlyniadau gwell o'r herwydd. Ni ddylem ohirio hyn ymhellach. Rydym wedi cael 50 mlynedd o ystadegau sy'n gwaethygu o ganlyniad i benderfyniadau'n cael eu gwneud drosom mewn Senedd arall. Mae ein pobl yn haeddu gwell, a byddem yn gobeithio y dylai fod consensws yn y lle hwn i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yma, gan gynrychiolwyr pobl Cymru, er mwyn sicrhau dyfodol gwell i'n pobl.

17:20

Rwy'n gobeithio y gallwn gael dadl ar blismona a chyfraith a threfn rywbryd yn y dyfodol, oherwydd, fel mater o ffaith, aeth troseddau yn yr Alban i fyny 3 y cant rhwng 2022 a 2023. Mae hynny'n ffaith. Ond rwy'n credu bod angen trafodaeth briodol ar hynny.

Mae Cymru wedi cael tri setliad datganoli ac nid ydym gam yn agosach at setliad hirdymor nag yr oeddem cyn y cyntaf. Mae'r arolygon barn sydd wedi eu cynnal yn gyson gan Beaufort Research ac eraill yn dangos bod yna ddau safbwynt eithafol. Ychydig iawn o gefnogaeth sydd i ddiddymu'r Senedd ac i annibyniaeth, sydd fel arfer o gwmpas y 15 y cant. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw gwneud i ddatganoli weithio.

Ym Mhrydain, rydym wedi gweld gwahanol setliadau datganoli ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â gwahanol bwerau a chyfrifoldebau wedi'u datganoli i Lundain a dinas-ranbarthau mwy Lloegr. Mae plismona wedi'i ddatganoli i'r Alban, wedi'i ddatganoli i Ogledd Iwerddon, wedi'i ddatganoli i Lundain, ond heb ei ddatganoli i Gymru. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, ac rwyf wedi dadlau'n gyson yma, ochr yn ochr â chyd-Aelodau eraill, ym Mhlaid Cymru ac ar feinciau'r Blaid Lafur, y dylid datganoli plismona. [Torri ar draws.] Rwyf newydd wneud.

Rydym wedi gweld y meiri rhanbarthol yn cael eu ehangu ledled Lloegr. Nid oes gennym unrhyw system gydlynol yn Lloegr a phwerau amrywiol iawn. Mae gan rai ardaloedd faer rhanbarthol ond nid oes un gan ardal gyfagos. Mae angen system lywodraethu gyson. Mae gennym yr hyn sydd i fod yn fodel pwerau wrth gefn yng Nghymru, yn dilyn y setliad diweddaraf, ond mae'r llu o faterion a gedwir yn ôl mewn meysydd sydd i fod wedi'u datganoli yn gwneud diffiniad o'r fath yn hurt.

Rwy'n cefnogi'r graddau mwyaf o ddatganoli. Y cwestiwn y dylem ei ofyn yw beth sydd angen i San Steffan ei reoli er budd y Deyrnas Unedig gyfan, yn hytrach na'r hyn y mae pob adran weinidogol yn dymuno ei gadw dan ei rheolaeth. 

A gaf i ofyn, yn ystod eich cyfraniad, a fyddai'n bosibl cael rhestr o'r pethau y mae'r Alban yn gyfrifol amdanynt ar hyn o bryd na ddylai Cymru fod yn gyfrifol amdanynt?

Nid wyf wedi cael cyfle i wneud hynny, oherwydd mae honno'n rhestr weddol hir, a'r pwynt yw ein bod angen cysondeb. Pam fod gan Lundain gyfrifoldeb mewn rhai meysydd a Chymru heb gyfrifoldeb, er enghraifft, yn cynnwys plismona? A beth sydd gan Fanceinion nad oes gan Gymru—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod angen cysondeb. Nid wyf yn credu bod y system yn ei chyfanrwydd yn gweithio. Mae yna feysydd amlwg y mae angen eu cadw'n ganolog: amddiffyn, materion tramor, diogelwch cenedlaethol, arian cyfred, cyfraddau llog, cymorth tramor, mewnfudo, trwyddedu gyrwyr a cheir, y banc canolog ac yswiriant gwladol. Os yw'r rhan fwyaf neu'r cyfan o'r meysydd hynny wedi'u datganoli, nid datganoli ydyw, ond annibyniaeth.

Mae yna rai pethau hefyd sy'n werth trafod a ddylid eu datganoli neu eu trefnu'n ganolog. Rhywbeth y mae angen inni siarad amdano yw a ddylai fod gennym un oedran a swm pensiwn y wladwriaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig, neu a ddylai pob awdurdodaeth osod hynny hun a chodi ei harian ei hun. Sut y byddai hynny'n gweithio gyda symud rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon? A ddylem gael un system nawdd cymdeithasol unedig, neu a ddylai pob awdurdodaeth allu pennu eu lefelau cyfrannu a'u taliadau eu hunain? Yr un cwestiwn ydyw. A ddylai treth alcohol a thybaco fod yr un fath i osgoi symud trawsffiniol? A ddylai fod trethi DU i'w talu am eitemau a ariennir yn ganolog, gyda'r holl drethi eraill wedi'u datganoli a'u casglu'n lleol, yn dilyn y model Americanaidd, lle mae ganddynt drethi taleithiol ac mae ganddynt Lywodraeth ganolog—

17:25

A ydych chi wedi darllen y cynnig o'n blaenau heddiw? Mae'n ymwneud â chydraddoldeb rhwng Cymru a'r Alban.

Roeddwn i'n ceisio gwneud pwynt ehangach. Nid wyf wedi crwydro'n agos mor bell o'r cynnig ag y gwnaeth Adam Price, er enghraifft.

Sut y bydd cymorth ariannol gan y rhanbarthau cyfoethocach i'r rhanbarthau tlotach yn cael ei drefnu a'i gynnal? Er gwaethaf datganiad YesCymru, mae Cymru yn fuddiolwr net i rannu adnoddau. Efallai y gallwn feddwl a dadlau nad yw fformiwla Barnett yn rhoi digon i ni, ond gadewch imi ddweud un peth, pe baem yn cadw'r hyn a gasglwyd gennym yn unig, byddem mewn trafferth mawr iawn.

Nid oes raid datganoli popeth i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon na dinas-ranbarthau Lloegr ar yr un pryd. Yr hyn sydd ei angen arnom yw rhestr o eitemau sydd ar gael i'w datganoli gyda phob Senedd neu ardal faerol angen o leiaf dwy ran o dair o'r niferoedd sy'n pleidleisio i bleidleisio o blaid cyn iddo gael ei ddatganoli. Dyna a ddigwyddodd yng Ngogledd Iwerddon dros ddatganoli plismona. Mae hyn yn osgoi datganoli 'clec fawr' lle mae rheolaeth dros bopeth yn pasio ar un diwrnod. Mae'n caniatáu i faterion gael eu datganoli pan fydd y Seneddau a'r meiri'n barod ar eu cyfer a'r cyllid wedi ei gytuno.

Mantais hyn yw ei fod yn gosod pwynt terfyn ar y daith ddatganoli y tu allan i greu gwledydd newydd. Mae'n caniatáu i bob ardal symud ar gyflymder y mae'n gyffyrddus ag ef, gyda phwynt terfyn cyffredin. Nid oes gan Unol Daleithiau America unrhyw broblem gyda'r ffaith bod gan daleithiau mawr, fel Efrog Newydd a California, yr un pwerau â Wyoming a Vermont.

Ac yn olaf, nid oes raid i ddatganoli yng Nghymru ddod i ben yng Nghaerdydd. Mae datganoli yng Nghymru yn bosibl i bedwar rhanbarth Cymru ac i awdurdodau lleol. Yn yr ugeinfed ganrif gwelwyd symud rheolaeth un ffordd bron yn llwyr oddi wrth gynghorau lleol ar bethau fel dŵr ac addysg bellach. Ble mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud orau ddylai'r cwestiwn fod, ac nid Caerdydd yw'r ateb bob tro.

Os ydych chi eisiau deall y gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a'r pleidiau eraill mewn perthynas â'u huchelgeisiau ar gyfer Cymru, nid wyf yn credu bod angen i chi edrych ymhellach na chynnig Plaid Cymru yn y ddadl hon a'r gwelliannau a gynigiwyd gan Lafur a'r Torïaid. Rydym ni eisiau adeiladu dyfodol gwell i bobl Cymru, ac felly rydym yn datgan beth sydd angen iddo ddigwydd er mwyn i hynny fod yn bosibl: dylai fod gan Gymru o leiaf yr un pwerau datganoledig â'r Alban.

Mae'r Torïaid, ar y llaw arall, eisiau setlo am y pwerau sydd gennym eisoes, er bod adroddiad ar ôl adroddiad gan arbenigwyr annibynnol yn dangos na fydd hynny, yn groes i'w gwelliant, yn sicrhau dyfodol gwell i bobl Cymru. Fel arfer, mae Llafur yn nodi eu bod yn derbyn y dystiolaeth, ac mewn brawddeg amlgymalog hirwyntog sy'n adlewyrchu eu hanallu i gyflawni unrhyw beth, maent yn ymrwymo i wneud dim byd o gwbl. Ac mae cymaint i'w wneud i sicrhau tegwch i bobl Cymru.

Nid yw'r angen i sicrhau bod Cymru'n cael yr un dulliau gweithredu i gefnogi a gofalu am ein pobl i'w weld yn fwy amlwg yn unman nag ym maes lles. Rhaid inni wneud mwy i wrthsefyll effeithiau tlodi yn ystod plentyndod, sydd mor ddifrifol, dwys a phellgyrhaeddol, yn rhwystro datblygiad, yn gorfforol ac yn wybyddol, gan gyfyngu ar botensial ein hased mwyaf gwerthfawr fel cenedl, ein plant.

Un o'r enghreifftiau mwyaf cywilyddus o ragrith wleidyddol a welais yn y Senedd hon yw'r ffordd y mae polisïau niweidiol, fel y cap dau blentyn ar fudd-daliadau, wedi cael eu hamddiffyn gan yr union Weinidogion Cymru a oedd, cyn i'w plaid ddod i rym yn San Steffan, yn lladd ar yr un polisi hwnnw'n ddilyffethair ac yn aml gyda dicter cyfiawn, ac yn beirniadu'r Torïaid am wthio plant Cymru i dlodi a'u cadw yno, gan eu cyhuddo o danseilio hawliau dynol, gan resynu, yn briodol, at annhegwch polisi sy'n cosbi plant am faint eu teulu. Ni ellir ei amddiffyn. Ac mae'n golygu bod sbin a strategaeth wleidyddol yn cael blaenoriaeth ar fynd i'r afael â dioddefaint pobl go iawn, bywydau pobl. Mae'r dde eithafol yn bwydo ar y sinigiaeth y mae hyn yn anochel yn ei feithrin, a hefyd ar anfodlonrwydd y rhai sy'n teimlo nad yw eu Llywodraethau yn eu clywed na'u gweld.

Yr hyn a welsom yr wythnos diwethaf yn yr Alban oedd Llywodraeth SNP nad oedd arni ofn sefyll dros ei dinasyddion, yn adeiladu ar y camau beiddgar y maent eisoes wedi'u cymryd i gael gwared ar falltod tlodi plant yn eu gwlad gyda'r taliad unigol ar gyfer plant, trwy addo cymryd camau radical a gweithredu'n bendant ar liniaru'r cap dau blentyn. Rhagwelir y bydd taliad plant yr Alban y flwyddyn nesaf yn lleihau'r gyfradd tlodi plant cymharol 6 y cant, gan godi tua 60,000 o blant allan o dlodi cymharol yn ystod y flwyddyn. Byddai'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth i gael gwared ar y cap yn eu cyllideb ddrafft yn yr Alban yn codi mwy na 15,000 o blant eraill allan o dlodi. Ac fe gawsant eu grymuso i wneud y penderfyniad gwleidyddol hwn i godi plant allan o dlodi, a'r cyfan y mae hynny'n ei olygu i ddyfodol eu gwlad, gan y pwerau mwy sydd ganddynt dros les ac wrth gwrs, yr arian tecach y maent yn ei gael.

Ond mae ein galwad am o leiaf yr un pwerau yn ymwneud â mwy na thrwsio'r hyn a dorrwyd yn unig. Mae'n ymwneud â rhoi rhyddid i Gymru greu dyfodol gwell yn yr un modd ag y gall Llywodraeth yr Alban ei wneud. Gallem lunio system les sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd ni, sy'n mynd i'r afael â thlodi wrth ei wreiddiau, sy'n sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl ac sy'n helpu i sicrhau bod potensial y genhedlaeth nesaf yn cael ei wireddu'n llawn, yn hytrach na chael ein gorfodi'n barhaol i lenwi tyllau a adawyd yn y rhwyd ddiogelwch gan Lywodraethau San Steffan.

Glywon ni ddim byd ddoe chwaith i gefnogi'r 0.5 miliwn o bensiynwyr sy'n cael eu gwthio i dlodi tanwydd yn sgil penderfyniad Llafur i orfodi rhai o'n dinasyddion tlotaf i dalu'r bil am drwsio ein gwasanaethau cyhoeddus, wedi degawd a hanner o lymder y Ceidwadwyr, yn hytrach na biliwnyddion. Mae'n anhygoel bod Llafur yn cefnogi gweithredu mesurau fel torri'r lwfans gaeaf, fydd yn dyfnhau anghydraddoldeb, yn gwaethygu'r caledi sy'n cael ei deimlo gan bobl ar incwm isel.

Eto, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi taliadau budd-dal newydd i liniaru ar effaith y polisi gwallgof hwn. Maen nhw'n medru cymryd camau cyfiawn fel hyn achos mae ganddyn nhw'r cyfrifoldeb a'r cyllid i wrthod trywydd gwleidyddol sy'n niweidio ac yn anfanteisio eu dinasyddion mwyaf bregus.

Cred Plaid Cymru fod yn rhaid inni weld mwy o wleidyddiaeth gobaith yma yng Nghymru, gwleidyddiaeth a fyddai’n cau’r bwlch rhwng anferthedd yr heriau sy’n ein hwynebu a diffyg dewrder y camau a gymerwyd hyd yma i fynd i’r afael â hwy. Mae angen y math iawn o bwerau ar y math hwnnw o wleidyddiaeth, a dylai Cymru wneud yr alwad honno am y rhesymau cywir, er mwyn sicrhau tegwch. Ond fel y mae’r gwelliant yn awgrymu, mae’r Torïaid am inni ddod i stop, mae Llafur am inni aros.

Mae'r athronydd o Slofenia Slavoj Žižek yn disgrifio'r llwybr y mae Plaid Cymru yn credu bod angen i ni ei droedio:

'Nid oes diben aros am yr adeg iawn pan allai newid llyfn fod yn bosibl; ni fydd y foment honno byth yn cyrraedd, ni fydd hanes byth yn rhoi cyfle o'r fath i ni. Mae'n rhaid cymryd risg ac ymyrryd, hyd yn oed os yw cyrraedd y nod i'w weld yn... amhosibl—dim ond drwy wneud hyn y gellir newid y sefyllfa fel bod yr amhosibl yn dod yn bosibl, mewn ffordd na ellir byth mo'i rhagweld.'

Felly, er lles ein plant, mae’n bryd i Gymru gymryd cam pendant ymlaen.

17:30

A gaf i ddiolch yn gyntaf i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig, gan y credaf ei bod yn bwysig ein bod yn trafod y materion hyn, y materion cyfansoddiadol hyn? Paul Davies, fe ddywedoch chi nad oes gennym amser, pam ein bod yn trafod hyn? Wel, rydym wedi cael 14 mlynedd o Lywodraeth Dorïaidd sydd wedi treulio bron i hanner ei hamser ar ddim byd ond materion cyfansoddiadol, ac mae rheswm dros hynny. Nid wyf o reidrwydd yn condemnio hynny, oherwydd y cyfansoddiad yw'r contract rhwng llywodraeth a chymdeithas a'r bobl. Mae’n gosod fframwaith ar gyfer arfer pwerau, felly mae’n rhaid iddo fod yn bwysig, a gwae ni os ydym yn esgeuluso hynny.

Y rheswm pam ei fod yn bwysig i ni yw am ein bod yn dymuno mynd i'r afael â'r holl faterion hyn—yr hyn rydym am ei gyflawni, sut rydym yn ei gyflawni, yr amser y gellir ei gyflawni ynddo, cymhlethdod y gwaith o'i gyflawni, ond hefyd dod â phobl gyda chi i'ch cefnogi i wneud y newidiadau hynny. Rwyf wedi dweud yn aml fod y Blaid Lafur wedi ei gael yn hollol iawn ym 1997 pan wnaethant gyflwyno’r refferendwm a’r pwerau a oedd yno, gan fod llawer o alwadau ar y pryd yn dweud, 'Na, dewch, nid yw hyn yn ddigon. Mae'n rhaid ichi gael mwy, mae'n rhaid ichi allu gwneud mwy.' Ac mae'n rhaid imi ddweud—ac rwy'n dal i gredu hyn—pe na baent wedi ei gyflwyno'n union fel y gwnaethom, pe baem wedi disgyn, mae'n debyg, i'r rhith a gâi ei gyflwyno gan rai ar ochr Plaid Cymru, byddem wedi colli'r refferendwm hwnnw ac ni fyddem yn eistedd yma nawr.

Ond yr hyn sy'n bwysig yw bod y cyfansoddiad yn bwysig, ac yn amlwg, mae angen newid rhai pethau. Yn y rhan fwyaf o'r ddadl a gafwyd, rwyf wedi cytuno â chryn dipyn o'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud mewn gwirionedd. Nid oes gennyf broblem arbennig gyda'r cynnig fel y mae, gan i Gordon Brown ei hun ddweud yn ei adroddiad nad oes unrhyw reswm pam na ddylai Cymru gael yr un pwerau â'r Alban os mai dyna ddymuniad pobl Cymru. Mae anfantais wirioneddol mewn cael datganoli anghymesur o fewn y DU, ac mae'n ffactor sy'n ansefydlogi, ond craidd y peth yw'r ffordd y gwnewch chi'r newid hwnnw. Fe wnaethom dreulio llawer o amser—

17:35

Mae'n ymyriad tebyg iawn i'r un a wnaethoch chi. Os felly, os ydych chi'n cytuno â'n cynnig—ac yn ôl pob tebyg, fe fyddwch am bleidleisio o blaid gwelliant Llafur—a wnewch chi o leiaf gefnogi ein cynnig yn bersonol, neu os nad hynny, ymatal arno i ddangos eich bod, mewn egwyddor, yn cytuno ag ef?

Na, gan fod gennyf fwy o ddiddordeb nid mewn arwyddion—mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn gwneud newid gwirioneddol, a chredaf fod yr amser y gwnaethom ei dreulio ar y comisiwn annibynnol sydd wedi gosod fframwaith ar gyfer newid yn hollbwysig. Dyna pam y gofynnais i chi a fyddech chi'n cefnogi hynny. Felly, os bydd eich prif gynnig yn methu, a bod y gwelliant yn dod ar gefnogaeth i ganfyddiadau’r comisiwn cyfansoddiadol y gwnaethoch chi bleidleisio drosto yn y gorffennol, nid wyf yn deall y rhesymeg pam y byddech chi'n ymatal ar hynny.

Ond edrychwch, fy mhrif ddiddordeb yn hyn o beth yw bod y rhain yn ddadleuon pwysig y mae angen eu cael, ac a gaf i ddweud fy mod i'n falch iawn—a gobeithio y cawn fwy o wybodaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog am hyn—fod trafodaethau'n digwydd ynghylch cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf? Ac mae’r pwyntiau a wnaeth Adam Price yn gwbl gywir. Pan glywais y Gweinidog cyfiawnder yn sôn heddiw am y ffaith na allwn barhau i ddim ond creu lleoedd mewn carchardai, a bod rhaid inni edrych ar ddewisiadau eraill, onid dyna'n union y buom ni'n ei ddweud o ran datganoli cyfiawnder a pham fod angen i'r pethau hynny newid?

Yn sicr, fy marn i yw y bydd datganoli cyfiawnder yn rhaglen 10 mlynedd yn ôl pob tebyg. Y man cychwyn i mi fyddai cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf, gan fod cymaint o’r meysydd i wneud y rheini'n effeithiol yn swyddogaethau sydd wedi'u datganoli mewn gwirionedd. Ac ar hyn o bryd, rydych chi'n llygad eich lle, Adam, mae'n dal i fod gennym system gyfiawnder sydd wedi'i gorganoli ac sy'n seiliedig yn bennaf ar fodel Fictoraidd o gyfiawnder. Mae'n rhaid i gyfiawnder ymwneud â datrys problemau, mae'n rhaid iddo ymwneud ag atebion i bobl, mae'n rhaid iddo ymwneud â chadw pobl allan o'r carchar. A diolch i Jane Hutt am y gwaith ar y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, oherwydd yng Nghymru, rwy'n credu bod cydweithredu o'r fath, hyd yn oed heb ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, wedi golygu mai ychydig iawn o bobl ifanc sydd gennym yn mynd i'r carchar o gwbl erbyn hyn. Mae bron yn eithriad bellach, ac mae hynny'n dangos pa mor bwysig yw—

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Ni ellir dweud yr un peth am y glasbrint cyfiawnder menywod, na ellir? Mae gennym hanes cywilyddus o fenywod Cymru'n cael eu hanfon i'r carchar am wythnos yn unig weithiau.

Gwrandewch, rwy’n cytuno’n llwyr â hynny hefyd. Rwyf fi a—[Torri ar draws.] Gadewch imi ateb y pwynt. Rwyf fi a Jane Hutt wedi ymweld â llawer o garchardai. Aethom i garchar menywod Eastwood Park ym Mryste, ac roedd yn amlwg iawn i ni yno fod y rhan fwyaf o’r bobl a oedd yn y carchar hwnnw—dywedodd y llywodraethwr hyn wrthym—yn ddioddefwyr. Mae'n amlwg iawn na ddylai'r rhan fwyaf ohonynt fod yno, ac mae hynny'n fethiant ar ran y system gyfiawnder ganolog, system gyfiawnder sydd wedi canolbwyntio mwy ar garcharu a chosbi yn hytrach na chydnabod sut yr ewch i'r afael â phroblemau mewn gwirionedd. A dyna pam yr ysgrifennais ddarn beth amser yn ôl—mae’n rhaid inni fod yn edrych ar system gyfiawnder ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae’n rhaid inni fod yn edrych tuag at ddull gwahanol iawn o ymdrin â chyfiawnder, a dyna pam y credaf fod yr holl undebau cyfiawnder mor gefnogol i'r newid hwn.

A gaf i sôn yn gyflym iawn, felly, am rai o'r meysydd eraill sy'n bwysig iawn hefyd? Sewel: yn amlwg, mae Sewel yn rhywbeth sydd—. Mae gwell perthynas â Llywodraeth Lafur y DU nawr, ond mae’n rhaid cael diwygio cyfansoddiadol mewn perthynas â Sewel, fel ei fod wedi'i sefydlu y tu hwnt i fod yn gonfensiwn yn unig. Mae'n bwysig iawn fod cytundeb rhynglywodraethol yn cael blaenoriaeth wirioneddol nawr a bod ganddo statws cyfansoddiadol go iawn. Credaf fod hynny hefyd yn golygu bod yn rhaid ichi ddechrau diffinio beth yw rôl wirioneddol y Swyddfa Gymreig hefyd. Os oes gennych drefniant rhynglywodraethol, mae'n golygu bod yn rhaid ichi ddiffinio beth yw'r sefydliadau hynny fel y maent yn gweithredu yng Nghymru. Mae’n rhaid diddymu Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Mae'n rhaid sefydlu'r fframweithiau cyffredin yn iawn. Mae'n rhaid datganoli plismona. Ac rwy'n credu mai'r realiti yw, ac rwyf wedi rhoi cryn dipyn o feddwl i hyn—. Yr hyn sydd ei angen ar lefel y DU yw Deddf diwygio cyfansoddiadol newydd sy'n cynnwys y confensiynau hyn, y prosesau hyn yn rhan o hynny. Fframwaith y comisiwn annibynnol yw’r ffordd y mae—. Mae wedi ymgynghori mor eang ledled Cymru. Mae hynny'n rhywbeth y credaf y gallwn—. Gallwn gymryd y pwyntiau o’r comisiwn hwnnw a gallwn ddweud, 'Mae cefnogaeth i'r rhain ledled Cymru. Mae'r rhain yn ganlyniad i broses o ymgysylltu.' A dyna pam y credaf mai dyna’r mecanwaith ar gyfer symud ymlaen, a dyna pam y byddaf yn cefnogi’r gwelliant. Diolch.

Wrth wrando ar rai o'r cyfraniadau yn y ddadl hon, rwy'n poeni braidd ein bod yn gorgymhlethu cynnig Plaid Cymru. Yn sicr, mae dwy ochr i’r ddadl hon. Rydych chi naill ai’n credu y dylai Cymru gael ei thrin yn deg o fewn yr undeb, a chael yr un pwerau ag y mae cenhedloedd eraill wedi’u cael o fewn yr undeb hwnnw, neu rydych chi'n credu, am ryw reswm, na ddylem gael ein trin yn deg. Nawr, yn ei hanfod, nid dadl genedlaetholgar mo hon, fel y byddai rhai'n ceisio ei phortreadu, ond dadl am degwch a chydraddoldeb. Nawr, os ydych chi am ddadlau’r achos dros yr undeb, oni fyddech chi am ddangos bod Cymru’n cael ei thrin yn deg o fewn yr undeb hwnnw? Oherwydd mae'n rhoi clamp o ddrwm i ni ei guro ar yr ochr hon i'r Siambr, pan nad yw'n cael ei thrin yn deg. Ac ni chredaf fod dweud bod pob cenedl yn haeddu hawl i elwa o'r cyfoeth a gynhyrchir o'i hadnoddau naturiol ei hun yn arbennig o radical. Yn anffodus, mae rhai Aelodau o'r Senedd hon yn credu ei fod.

Nawr, un enghraifft o'r annhegwch hwnnw yw Ystad y Goron. Mae gwrthodiad Llywodraethau olynol yn San Steffan i ddatganoli asedau Ystad y Goron wedi gwadu’r hawl sylfaenol hon i Gymru, yr hawl i elwa o’n cyfoeth ein hunain. Nawr, enillodd yr Albanwyr sanctaidd, fel y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid atynt ddoe, reolaeth dros Ystad y Goron yn 2017, sydd eisoes wedi sicrhau miliynau o bunnoedd i Lywodraeth yr Alban. Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn dadlau ers tro am i’r un peth gael ei roi i Gymru, cam sy’n rhesymegol ac yn angenrheidiol os ydym am sicrhau bod yr elw o’n hadnoddau naturiol o fudd i bobl Cymru, nid i Lywodraeth y DU neu’r frenhiniaeth yn unig.

Ar hyn o bryd, mae asedau Ystad y Goron yng Nghymru yn cynhyrchu cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn refeniw blynyddol, ac eto nid oes dim o’r cyfoeth hwnnw yn aros yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n llifo'n uniongyrchol i Drysorlys y DU, gyda £124 miliwn yn 2025-26, i fyny o £86.3 miliwn yn 2024-25, wedi'i neilltuo ar gyfer y sawl sydd ar yr orsedd. Yn 2026-27, disgwylir iddo gynyddu i £126 miliwn, gan gynnwys codiad o 10 y cant i adnewyddu Palas Buckingham. Yn y cyfamser, mae pobl yng Nghymru yn byw mewn cartrefi oer, llaith a drafftiog. Nawr, yn 2007, roedd gwerth asedau Ystad y Goron yng Nghymru yn £21.1 miliwn. Erbyn 2023-24, mae’r ffigur hwnnw wedi codi’n sylweddol i dros £853 miliwn, wedi’i ysgogi’n bennaf gan ynni gwynt ar y môr ac ynni'r môr. Gyda phrosiectau mawr yn cael eu datblygu nawr, mae'r potensial ar gyfer hyd yn oed mwy o refeniw yn aruthrol.

Datgelodd astudiaeth annibynnol y gallai prosiect ynni gwynt ar y môr 4.5 GW arfaethedig Ystad y Goron yn y môr Celtaidd yn unig gynhyrchu £1.4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros a chreu 5,300 o swyddi, ac eto oni bai bod camau’n cael eu cymryd, bydd y rhan fwyaf o’r budd economaidd hwnnw'n diflannu o Gymru yn gyfan gwbl, yn union fel y gwnaeth yn ystod oes y glo a thanwydd ffosil. Edrychwch ar bartneriaeth ddiweddar Ystad y Goron â'r Great British Energy arfaethedig—nid yw wedi gwneud fawr ddim i dawelu pryderon ynghylch echdyniaeth. Mewn gwirionedd, mae’n bygwth dyfnhau’r broblem, gydag Ystad y Goron yn elwa o osod tir a môr Cymru ar brydles ar gyfer ynni gwynt ar y môr tra bo'r enillion economaidd yn cael eu seiffno ymaith er budd rhannau eraill o’r DU.

Nawr, disgrifiodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru y sefyllfa bresennol yn berffaith: trosglwyddo cyfoeth o Gymru i Loegr, heb unrhyw sicrwydd y bydd Cymru’n cael swm cyfatebol yn ôl. Mae'n rhaid i'r refeniw a gynhyrchir gan weithgarwch Ystad y Goron yng Nghymru gael ei fuddsoddi yn ôl yng Nghymru. Dyna pam ein bod yn cynnig sefydlu cronfa gyfoeth sofran i Gymru, gan sicrhau bod yr elw o brosiectau ynni adnewyddadwy yn nyfroedd Cymru yn cael ei ailfuddsoddi er budd hirdymor. Ar ben hynny, mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru a’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi galw am ddatganoli Ystad y Goron, ond er hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf i weithredu. Nawr, maent wedi nodi'r argymhellion hyn, fel y nodir yng ngwelliant y Llywodraeth. Ymddengys eu bod yn gyndyn i godi’r mater gyda San Steffan, ac nid oes fawr o awydd ym Mhlaid Lafur y DU i ddatganoli’r pwerau hyn, ac o ddifrif, mae hynny'n fy mhoeni.

Lywydd, rydym ar drothwy chwyldro gwyrdd a allai wrthdroi dirywiad a chyni, a thyrbowefru ein heconomi farwaidd, ond yn union fel y chwyldro diwydiannol cyntaf, rydym mewn perygl o golli’r manteision trawsnewidiol hyn unwaith eto os nad oes gennym bwerau i gadw ac ailfuddsoddi cyfoeth naturiol ein gwlad.

17:40

Nid oes unrhyw beth wedi'i setlo am y setliad datganoli yng Nghymru. Nid wyf yn hoffi cywiro Mike Hedges, ond rydym wedi cael pedwar setliad datganoli gwahanol yng Nghymru. Nid wyf ychwaith yn hoffi anghytuno â Mick Antoniw, ond fe wnaf: ni chafodd refferendwm 1997 ei gyflwyno'n dda. Ni phleidleisiodd y bobl dros fodel corfforaethol, fe wnaethant bleidleisio dros lais. Roedd arnynt eisiau llais Cymreig. A gallwn weld hynny, a’r peth cyntaf a wnaeth Rhodri Morgan oedd datgymalu’r model corfforaethol anymarferol a hurt. Y gwir amdani yw bod hanes datganoli yng Nghymru wedi bod yn hanes o blesio ASau Llafur Cymru.

Mae’r setliad presennol, fel y gall pob un ohonom gytuno, yn gymhleth. Mae’r ymyl garw yn torri’n ddwfn i mewn i ddatganoli yng Nghymru, a’r canlyniad, fel y clywsom eisoes: tlodi plant, y boblogaeth uchaf o garcharorion yng ngorllewin Ewrop, a’r nifer uchaf erioed o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau. Byddai rhoi’r un pwerau â’r Alban i Gymru yn symleiddio’r ffordd y mae Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig yn gweithredu, a byddai’n creu atebolrwydd cliriach a gwell. Byddai sicrhau’r math hwn o eglurder yn dda i bawb—yn dda i bobl Cymru, yn dda i lunwyr polisi, a gellir dadlau y byddai'n dda hyd yn oed i'ch siort chi—unoliaethwyr. Bydd setliad datganoli clir, effeithiol, cymesur yn fwy tebygol o greu setliad sefydlog a hirhoedlog i’r Deyrnas Unedig. [Torri ar draws.] Mike, ie.

17:45

Fe ddywedoch chi yr un peth â’r Alban. Beth am yr un peth â Gogledd Iwerddon?

Hoffwn fynd gam ymhellach a chael yr un peth â Gogledd Iwerddon, ond gadewch inni fynd yr holl ffordd a chael yr un peth â'r Alban.

Nawr, dyma hefyd yw barn—. O ran y setliad sefydlog, dyma farn comisiwn Williams a McAllister hefyd, sy'n adroddiad gwych yn fy marn i. Dyma’r casgliad y daeth iddo:

'O ran cyfiawnder a phlismona a gwasanaethau rheilffyrdd, nid yw’r setliad presennol yn gwasanaethu pobl Cymru’n dda'—

gall pob un ohonom gytuno â hynny—

'Oni roddir sylw i hyn, bydd y problemau yn parhau i waethygu, a bydd yn ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn barod i wrando ar achos rhesymegol dros newid. Mae diwygio yn hanfodol i sicrhau hyfywedd a sefydlogrwydd y setliad.'

A oes gennym Lywodraeth y DU o hyd nad yw'n fodlon gwrando ar achos rhesymegol dros ddiwygio? A yw Keir Starmer yn edrych ar yr un llyfr â Michael Gove ac wedi cael llond bol ar arbenigwyr? Mae setliad datganoli sy’n rhoi’r un pwerau datganoledig â’r Alban i Gymru nid yn unig yn rhoi cydraddoldeb a pharch dyledus i Gymru, bydd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd gennym brosesau llunio polisïau gwell ledled y Deyrnas Unedig. Clywsom ddoe, mewn ateb i Rhun ap Iorwerth, 'Wel, ni allwn gymharu ein hunain â’r Alban, gan fod gan yr Alban bwerau gwahanol i ni’, ond byddai hyn yn ei gwneud hi'n llawer haws inni gymharu ein hunain â’n gilydd a chael polisi gwell.

Byddai hefyd yn ei gwneud hi'n anos i sefydliadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig anghofio am Gymru, am mai Cymru yw’r genedl anghofiedig. Ni fyddaf byth yn anghofio'r cyn Arglwydd Brif Ustus yn dweud ei fod yn arfer mynd â map o Gymru gydag ef i Whitehall i atgoffa Whitehall o’n bodolaeth, gan ein bod yn ôl-ystyriaeth ar y gorau yn Whitehall.

A wnewch chi dderbyn ymyriad gan Lee Waters, sy'n nodi ei fod yn dymuno gwneud ymyriad?

Diolch, rwy'n gwerthfawrogi. Rwy'n credu ei bod yn drueni eich bod yn defnyddio termau fel 'eich siort chi'. Rwy'n credu mai pan gafwyd cynghreiriau y gwelwyd hanes o gynnydd mewn datganoli, ac ni chredaf fod iaith o'r fath yn helpu.

Ond i gymryd yr enghraifft a ddefnyddioch chi o ddatganoli rheilffyrdd, gan nad yw'r pethau hyn yn aml mor ddeuaidd ag yr honnwch, y realiti pe bai rheilffyrdd wedi'u datganoli yw y byddai gennym rwymedigaeth enfawr, ased sy'n dirywio, a phan edrychwch ar y rhagfynegiadau hinsawdd ar gyfer y dyfodol a chyflwr ein rheilffyrdd, rydym yn wynebu costau enfawr mewn perthynas â gofalu am hynny. Felly, pe baem yn dweud yn syml, 'Datganolwch ein rheilffyrdd, gan fod yr Alban wedi cael hynny', byddai gennym ganlyniad anfwriadol yn yr ystyr y byddem yn edifar iawn yn y pen draw. Felly, yn aml, mae’r pethau hyn yn llawer mwy cynnil nag y mae natur gartwnaidd y ddadl hon yn ei awgrymu.

Wel, nid cymeriad cartŵn oedd hwnnw. Roeddwn yn dyfynnu adroddiad comisiwn McAllister a Williams, yr un y mae eich gwelliant am inni bleidleisio drosto.

Nawr, af at welliant y Ceidwadwyr heddiw. Nid yw gwelliant y Ceidwadwyr yn ddadl yn erbyn mwy o bwerau i Gymru; mae'n ddadl ynghylch pwy sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru. Nawr, gallem gytuno’n llwyr â gwelliant y Ceidwadwyr fod Llywodraeth bresennol Cymru yn methu, y gallem wneud defnydd llawer gwell o’r pwerau sydd gennym eisoes, ond nid yw hynny’n gwneud cynnig Plaid yn llai dilys o gwbl. Os nad yw Llywodraeth Cymru'n perfformio’n dda, mae honno’n ddadl i'w chyflwyno i'r etholwyr i’w perswadio i bleidleisio dros Lywodraeth Cymru newydd. Mae’n anodd credu weithiau, ond un diwrnod, nid y Blaid Lafur fydd plaid y Llywodraeth yma yng Nghymru. Ni ddylem seilio’r setliad datganoli yng Nghymru ar bwy allai fod mewn grym ai peidio. I fynd â gwelliant y Ceidwadwyr i’w gasgliad rhesymegol, os daw Darren Millar yn Brif Weinidog, a'i fod yn rhedeg Cymru’n dda, dylech fod o blaid mwy o bwerau, ac annibyniaeth i Gymru hyd yn oed.

Ond gadewch inni fod yn onest, byrdwn go iawn eich gwelliant, y gwir reswm drosto, yw nad ydych am i Gymru fod yn gydradd â'r Alban. Rydych am i Gymru gael cydraddoldeb â chefnder Celtaidd arall: Cernyw. Nid ydych eisiau Senedd Cymru; mae yna lawer ohonoch nad ydych eisiau Senedd Cymru o gwbl. Mae personoliaethau'n mynd a dod, mae Llywodraethau'n newid. Mae pwy bynnag sy’n dweud eu bod yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig yn ffŵl, ond yr hyn y gallwn ei ddweud yw y byddai setliad datganoli clir ac effeithiol yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y byddai gan Lywodraeth Cymru, ni waeth pwy yw’r unigolion, ni waeth pa blaid neu bleidiau sydd mewn grym, y dulliau gweithredu i gyflawni ar ran pobl Cymru. Nawr, clywodd pob un ohonom ein Prif Weinidog yn canu 'Things Can Only Get Better' yn ddiweddar. Nawr, yn sicr, cam cryf ymlaen, Brif Weinidog, i wella pethau fyddai sicrhau ein bod yn gydradd â’r Alban. Diolch yn fawr.

17:50

Felly, beth sy’n dal Cymru'n ôl ar hyn o bryd? Oherwydd rwyf wedi cael llond bol ar glywed 'pe bai gennym y pwerau'—nid 'pan fydd y pwerau gennym', ond 'pe bai gennym y pwerau'—y diffyg uchelgais, a dyna a'm trawodd pan ddarllenais welliant Llywodraeth Cymru, yn nodi eich bod yn derbyn y canfyddiadau. Wel, mae ein cynnig yn llawer cryfach yn yr ystyr ei fod yn dweud ein bod yn credu, er mwyn gallu gwneud yr holl bethau y dylem fod eisiau eu gwneud fel Senedd, y dylai fod gennym bwerau cydradd o leiaf, fel nad ydym yn parhau i glywed 'pe bai gennym y pwerau', 'pe gallem'; byddai'n fater o wneud. A dyna y gwelwn genhedloedd eraill yn gallu ei wneud am fod ganddynt y pwerau hynny. Mae arnaf ofn y diffyg uchelgais a’r hyn y mae’n ei olygu i bobl yn ein cymunedau, sy’n disgwyl i ni, a etholir yma, allu cyflawni’r newidiadau y maent gymaint o eisiau eu gweld, y pethau a amlinellwyd heddiw y gallem eu newid pe bai'r pwerau hynny gennym.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Cawsom bwerau ychwanegol sylweddol o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn y Ddeddf honno. A ydych chi'n credu bod hynny'n gamgymeriad?

Rydych chi yn erbyn cael pwerau cyfartal â’r Alban. Dyna rydych chi'n ei wneud gyda hyn heddiw. Pam nad ydych chi eisiau’r pwerau a’r cyfrifoldeb hynny? Mae ail reswm sy’n dal Cymru'n ôl, sef camreolaeth Llafur ar y pwerau sydd gennym ar hyn o bryd, a’r diffyg uchelgais i ddymuno mwy i’n cenedl.

Na wnaf, Janet, diolch. Nid efelychu’r Alban yw'r nod wrth geisio pwerau cydradd, ond yn hytrach, rhoi atebion Cymreig ar waith i heriau a phroblemau Cymru. Un maes yw lle nad yw pwerau Llywodraeth Cymru dros dreth incwm erioed wedi cael eu defnyddio'n ymarferol o ran polisi, am nad oes gennym allu i deilwra’r trothwyon treth incwm i adlewyrchu natur ein sylfaen drethu. Gydag oddeutu 85 y cant o drethdalwyr Cymru islaw trothwy'r gyfradd sylfaenol, mae hyn yn rhwystr sylfaenol i Lywodraeth sy’n ceisio codi lefelau ystyrlon o refeniw mewn ffordd flaengar.

Unwaith eto, pan edrychwn ar esiampl yr Alban, sydd â’r pwerau i osod ei bandiau treth ei hun, mae’n tanlinellu pam na ddylem fodloni ar fersiwn wedi'i glastwreiddio o ddatganoli cyllidol. Er bod Llywodraethau olynol y DU wedi mynd ati i dorri trethi i’r rheini sydd eisoes yn gefnog, mae Llywodraeth yr Alban wedi gallu mabwysiadu dull llawer mwy blaengar, gan greu bandiau treth ychwanegol i ddosbarthu’r baich treth yn decach. A thrwy ofyn i’r rheini sydd â’r ysgwyddau lletaf gyfrannu mwy at wariant cyhoeddus, llwyddodd Llywodraeth yr Alban i godi £700 miliwn mewn refeniw treth ychwanegol yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25. Yn ychwanegol at hynny, mae unrhyw un sy’n ennill y cyflog canolrifol neu lai yn yr Alban yn talu llai mewn treth incwm o gymharu â gweddill y DU, gan ddangos y potensial i ailddosbarthu yn sgil peidio â gorfod bod ynghlwm wrth fodel un maint i bawb anhyblyg San Steffan.

Felly, mae a wnelo hyn â chydraddoldeb, cymryd rheolaeth, gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau dinasyddion. Mae'n normal mewn gwledydd eraill. Gallwn edrych ar esiampl Gwlad y Basg hefyd, lle mae gan eu Llywodraeth ddatganoledig bwerau helaeth dros dreth incwm personol, treth gorfforaethol a'i threth gyfoeth, etifeddiant a rhoddion ei hun. Mae wedi sicrhau twf economaidd yng Ngwlad y Basg, sydd wedi'i ddisgrifio fel twf 'hynod gynhwysol' gan y Ganolfan Polisi Tramor. Mae'r rhanbarth yn ymddangos ymhlith yr uchaf yn Ewrop, nid yn unig o ran cynnyrch domestig gros y pen, ond hefyd am fod y ganran o'r boblogaeth sy'n wynebu risg o dlodi neu allgáu cymdeithasol yn isel.

Felly, nid yw'r hyn rydym yn ei gynnig yma yn arbennig o radical nac yn ddadleuol—yn hytrach, mae'n ceisio normaleiddio'r hyn sydd eisoes yn digwydd, ac yn digwydd yn dda mewn mannau eraill. Pam nad ydym yn credu yng Nghymru? Pa Senedd arall a fyddai'n cael dadl o'r fath? Dylai fod arnom eisiau’r pwerau hyn. Dylem fod yn eu mynnu, a dylem fod yn unedig. Rwyf wedi fy siomi gan y diffyg uchelgais ar feinciau eraill y ddwy blaid. Gadewch inni sefyll dros Gymru: nid dweud 'pe bai'r pwerau hynny gennym', ond eu mynnu.

17:55
Member (w)
Huw Irranca-Davies 17:55:29
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Lywydd. Ac i fynd ar drywydd y nodyn fod—. O, gyda llaw, nid oes unrhyw beth yn well gennyf yn y cyfnod cyn y Nadolig na dadl gyfansoddiadol dda. Ond o ddifrif, mae hyn yn wirioneddol bwysig i fywydau pobl, ac os caf ymateb i'r sylwadau sydd newydd eu gwneud, gadewch inni ganolbwyntio ar sefyll dros bobl Cymru, yn ogystal â chael y dadleuon hyn ar faterion cyfansoddiadol: beth fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru? A hoffwn ganolbwyntio ar hynny, oherwydd y perygl, wrth imi edrych ar fy nghyd-Aelodau ar y dde i mi, yw ein bod yn ailysgrifennu'r hen—ai'r Encyclopædia Britannica ydoedd—'Am Gymru, gweler Lloegr', a nawr rydym yn dweud, 'Am Gymru, gweler yr Alban.' Wel, yn sicr, yr hyn y dylem fod yn ei ddweud yw, 'Am Gymru, edrychwch ar yr hyn sydd orau er budd Cymru.' Cymru ddylai fod y model ar gyfer yr hyn y bwriwn ymlaen ag ef.

Nawr, mae setliad datganoli’r Alban, wrth gwrs, bob amser yn ddefnyddiol iawn i ni ei ystyried. Mae gwerth bob amser mewn edrych a dysgu beth sy'n gweithio, a beth nad yw'n gweithio, gyda llaw, a'r heriau. Mae rhai pobl wedi sôn am hyn eisoes. Nid yw'r cyfan yn fêl i gyd yn yr hyn y maent wedi'i wneud. Ond dylem bob amser wneud hynny ym mhob maes polisi, ac rwy’n sicr yn cytuno, gyda llaw, fod yna feysydd lle dylem fynd ymhellach. Rydym wedi clywed hynny gan gyd-Aelodau o amgylch y Siambr, gan gynnwys cyd-Aelodau a fu'n Gwnsleriaid Cyffredinol yma yn y gorffennol, ac sydd wedi chwarae rôl yn hyn ac ati, a byddaf yn troi at rai o’r rheini mewn eiliad. Dyna bolisi’r Llywodraeth hon. Rydym bob amser, ar feinciau Llafur Cymru, yn Llywodraeth Cymru—Prif Weinidogion olynol—yn uchelgeisiol ac yn hyderus, ac mae'n rhaid imi ddweud, yn ymarferol wrth ddefnyddio datganoli ar gyfer pobl Cymru.

Ers cyfnod Rhodri Morgan, o dan Brif Weinidogion olynol, Llywodraethau olynol, rydym wedi ceisio'r hyn sydd er lles gorau pobl Cymru. A'r materion cyfansoddiadol weithiau. Fel roeddech chi'n ei ddweud yn gynharach, rydym wedi cael iteriadau olynol o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac mae pob un wedi bod er budd pobl Cymru, a dyna'r dull gweithredu rydym yn parhau i'w ddefnyddio. Ond yr hyn rydym yn anghytuno yn ei gylch â chyd-Aelodau yma ar y dde i mi yw fy mod yn credu bod angen i ble yr awn ni ar ein rhan nesaf o’r daith ddatganoli gael ei lywio gan hynny unwaith eto. Yr hyn sy'n gweithio orau i bobl Cymru—nid i'r Alban ac nid i unrhyw wlad arall. Dynwared fyddai hynny, nid datganoli. Felly, egwyddor arweiniol Llywodraeth Lafur Cymru bob amser yw'r hyn sydd orau i bobl Cymru, beth fydd yn gwella eu bywydau. Nid ydym am gopïo a gludo’r setliad datganoli o rywle arall heb bwyso a mesur, fel y nodwyd gan gyd-Aelodau eraill, beth y gallai’r canlyniadau neu’r sgil-effeithiau fod. Rydym eisiau gwneud mwy na diwallu mympwy cyfansoddiadol yn unig. Rydym am edrych yn fanwl ar beth yw goblygiadau ymarferol ceisio datganoli. Ond dof at hynny yn y man.

Dyma pam ein bod yn ceisio datblygu ein polisi ein hunain yma yng Nghymru, ac yn y 25 mlynedd ers cychwyn datganoli, mae gennym hanes balch o wneud yn union hynny, wrth i’n Senedd ddatganoledig fynd o nerth i nerth. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i integreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn cyfraith ddomestig. Ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i sicrhau bod datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd a natur. Rydym yn uchelgeisiol dros Gymru a thros bobl Cymru a’r hyn y gallwn ei wneud i gyflawni gwelliannau ym mywydau bob dydd pobl, a dyna pam y sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, i edrych ar yr opsiynau ar yr hyn a fyddai orau i Gymru a’r bobl rydym yn eu cynrychioli.

Nawr, fel y gŵyr yr Aelodau, pwysodd y comisiwn hwn ar arbenigedd ym mhob un o’r pedair plaid yn y Senedd, o ran ei aelodaeth a’r dystiolaeth a glywodd. Clywodd hefyd gan arbenigwyr ym meysydd llywodraethiant, gwleidyddiaeth, polisi a datganoli, ac yn fwyaf arwyddocaol, aeth at bobl Cymru i glywed beth oedd yn bwysig iddynt hwy. Fe wnaethant gynnal ymgynghoriadau ar-lein, gan dderbyn dros 5,000 o ymatebion. Fe wnaethant gymryd rhan mewn panel dinasyddion cydgynghorol. Fe wnaethant gynnal digwyddiadau mewn sgwariau trefi ac archfarchnadoedd a llyfrgelloedd lleol. Fe wnaethant wrando ar safbwyntiau pobl o bob rhan o’r wlad a phob cefndir, a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd amser ac ymdrech i lywio’r broses honno. Ac o'r sylfaen dystiolaeth gadarn hon, cyflwynodd y comisiwn 10 argymhelliad, sy'n ffurfio rhaglen ddiwygio uchelgeisiol, ac maent wedi'u teilwra i amgylchiadau penodol Cymru—nid yr Alban, nid Gogledd Iwerddon nac unman arall, Cymru. Ac fe wnaethom dderbyn yr argymhellion hynny'n llawn, ac yn fwy perthnasol ar gyfer y ddadl heddiw, fe wnaeth y Senedd eu derbyn hefyd, gyda llaw. A’r adroddiad hwn, wedi’i lywio gan arbenigedd, safbwyntiau a gwerthoedd pobl Cymru, dyna fydd y Llywodraeth hon, Llywodraeth Lafur Cymru, yn ei ddefnyddio fel sylfaen i ddatganoli yng Nghymru yn y dyfodol.

Nawr, daeth y comisiwn annibynnol i’r casgliad y byddai Cymru, mewn rhai meysydd, yn cael ei gwasanaethu orau gan setliad datganoli tebyg i un yr Alban. Ond roedd yna feysydd eraill lle penderfynwyd na fyddai hynny'n wir. Roedd yna feysydd eraill lle roeddent yn dweud, pan ddaethant i gasgliadau yn seiliedig ar set o werthoedd, fod pob un yn seiliedig ar egwyddor syml yr hyn a fyddai’n gwella bywydau pobl Cymru. Nid oeddent yn dweud, 'Torrwch a gludwch'; roeddent yn dweud, 'Gwnewch yr hyn sy'n gweithio i bobl Cymru.' Felly, er enghraifft, mae pobl wedi gwneud sylwadau ar y system gyfiawnder. Ein polisi yw y dylai cyfiawnder gael ei ddatganoli i Gymru, gyda chyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf yn gam cyntaf rhesymegol, ymarferol, pragmataidd. Byddai hyn yn darparu gwelliannau amlwg i bobl, gan y byddai datganoli yn y cyswllt hwnnw'n cysylltu gwasanaethau addysg, iechyd a chyfiawnder i sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth cyson a chydgysylltiedig sydd ei angen arnynt—datganoli ymarferol er budd pobl Cymru.

A bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn parhau i bwyso am ddatganoli pellach—fe wnaf mewn eiliad, Mabon—lle bydd o fudd i Gymru. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod hyn yn rhywbeth rwyf wedi ymrwymo’n angerddol iddo, yn ei gefnogi'n angerddol. Deuthum yn ôl yma fel cyn-AS i wneud penderfyniad i sefyll etholiad i'r Senedd oherwydd y gwahaniaeth y gall ei wneud mewn ffyrdd ymarferol i bobl Cymru yma yn Senedd Cymru. Ac fel cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd, mae pobl yn gwybod fy mod wedi rhoi amser caled i fy rhagflaenwyr ar hyn hefyd, ynglŷn â beth arall y gallem ei wneud.

Felly, ar ddatganoli pethau fel cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n dod o’r Ganolfan Byd Gwaith, bydd fy nghyd-Aelodau'n gweithio i gyflawni hynny; ar faterion megis datganoli gweinyddiaeth lles, bydd fy nghyd-Aelodau'n gweithio ar hynny; ar faterion megis fframweithiau cyffredin—pwysig iawn—a gweithrediad priodol cysylltiadau rhynglywodraethol o amgylch y DU, i wneud i hynny weithio er budd pobl Cymru; ac ar Ystad y Goron, rydym yn cadw at yr egwyddor mai’r pen draw'r daith yma yw datganoli Ystad y Goron, ond yn y cyfamser, rydym yn croesawu’r ffaith inni gael gwelliant wedi’i gyflwyno wrth i’r cynnig fynd drwy Dŷ'r Arglwyddi gan gyfaill Cymreig i ni, a bydd gennym gomisiynydd ar hynny nawr. A byddwn yn gweithio gyda'r comisiynydd ar Ystad y Goron i sicrhau canlyniadau i bobl Cymru.

Felly, yn hyn oll, rwy'n apelio'n syml, at—. Mae'n ddrwg gennyf, Mabon, dywedais y buaswn yn ildio. Rwy'n ymddiheuro.

18:00

Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog. Rwy'n falch eich bod yn rhestru'r pethau yr ydych yn honni eu cefnogi, sy'n dda, ond nid oes y fath beth â phlaid Lafur Cymru; rydych chi'n aelod o'r Blaid Lafur. Rydych chi mewn sefyllfa i gyflawni oherwydd bod gennych Lywodraeth yn y DU, ond nid ydych chi'n gwneud hynny. Pryd y gallwn ni weld y pethau hyn yn cael eu cyflawni, yn lle cael eu gohirio dro ar ôl tro?

Nid ydym yn gohirio. Yr hyn sydd gennym yw hanes o gyflawniad, Mabon, o gyflawni'r holl bethau a restrais drwy'r gorffennol. Yr holl bethau y dywedodd yr amheuwyr na fyddem byth yn gallu eu gwneud, rydym wedi eu gwneud. Rydym wedi eu cyflawni. Na, nid yw'n hawdd. Mae'n rhaid inni ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Gyda llaw, er pan oeddwn i'n 15 neu 16 oed, rwyf wedi bod yn aelod o Blaid Lafur y DU, ond rwyf hefyd yn falch o fod yn aelod o Lafur Cymru a'r hyn sy'n ein diffinio ni yma hefyd, ac rwy'n aelod o'r Blaid Gydweithredol hefyd. Ac rwy'n credu yn y delfrydau hynny. Ond yr hyn rwy'n credu'n sylfaenol ynddo, fel pob un ohonom ar y meinciau hyn, yw peidio â pharhau i geisio diwallu mympwy cyfansoddiadol er ei fwyn ei hun, a chanolbwyntio ar yr hyn a fydd yn cyflawni go iawn ar ran y bobl a gynrychiolwn.

Nawr, ar y sail honno, yr holl bethau rwyf wedi'u crybwyll, a mwy na hynny hefyd, yr holl argymhellion a gyflwynwyd yn y comisiwn, y ffaith ein bod ni wedi cymryd camau eisoes ar rai o'r rheini i'w rhoi ar waith, byddwn yn parhau i weithio ar hynny. Dyna'r sicrwydd a roddaf i chi. Ac fe fyddwn yn ymgysylltu. Ac rwy'n dweud wrthych fod y berthynas nawr gyda Llywodraeth y DU—fe gawn rwystrau yn y ffordd; cawn—ac mae'r ffaith ein bod yn siarad nawr, yn ymgysylltu â Gweinidogion eraill, ar draws y portffolio ar y meysydd hyn, yn golygu bod gennym well gobaith o lawer o gyflawni'r rhannau cywir o ddatganoli yn bragmataidd ac yn uchelgeisiol i bobl Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. 

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud ag adeiladu'r genedl Gymreig. Mae'n ymwneud ag ymddiried ym mhobl Cymru. Mae'n ymwneud â chael ffydd yn ein potensial ein hunain, ynghylch peidio â bod yn barod i gael ein dal yn ôl. Ac rwy'n falch o sefyll gyda fy mhlaid fel plaid sydd bob amser wedi dilyn cenedlgarwch Cymreig ac sydd bob amser wedi bod â diddordeb mewn adeiladu'r genedl Gymreig. Ac rydym yn gliriach nag erioed am yr ymdrech honno. Mae'n rhaid imi fynegi pa mor siomedig wyf i ynglŷn â chywair y Dirprwy Brif Weinidog wrth iddo alinio'i hun, yn y bôn, â'r ddadl a gyflwynwyd gan Paul Davies ar ran y Ceidwadwyr. Dywedodd Paul Davies wrthym, i bob pwrpas, mai 'tincran' oedd yr hyn yr oeddem yn sôn amdano heddiw, sef grymuso pobl Cymru. Ac fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog wrthym mai dadl am y cyfansoddiad oedd hon yn hytrach nag am bethau sydd o bwys gwirioneddol i bobl. Pan siaradodd Adam Price, ni chlywais ef yn siarad am y cyfansoddiad; fe'i clywais yn siarad am yr angen i fynd i'r afael â phroblemau yn y system troseddu a chyfiawnder yng Nghymru. Pan glywaf Sioned Williams yn siarad am weinyddiaeth lles, nid wyf yn ei chlywed yn siarad am y cyfansoddiad; rwy'n ei chlywed yn siarad am yr angen i ofalu am y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. A phan fo Rhys ab Owen yn sôn am yr angen i fuddsoddi mewn rheilffyrdd, nid wyf yn clywed am y cyfansoddiad; rwy'n clywed am yr angen i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg o gyllid o ganlyniad i HS2. Ydy, mae'n golygu gwneud newid cyfansoddiadol, ond mae hyn yn ymwneud o ddifrif â dyfodol Cymru a chymunedau Cymru. Nid 'tincran' mohono, ac mae arnaf ofn mai'r hyn a glywais yn llawer rhy aml oedd: 'Am Lafur, gweler y Torïaid'. Ac ni allwn fforddio cael agwedd o'r fath—[Torri ar draws.]—a bod trafod a chyfeirio at drafodaethau am y pwerau sydd gennym, y dulliau gweithredu sydd gennym yng Nghymru, yn cael ei alw'n 'dincran' neu ei fod rywsut yn tynnu sylw oddi ar bethau pwysicach.

Wrth adeiladu dyfodol i'n cenedl, bydd modelau gwahanol ar gyfer sut i symud ymlaen, ond pan fo un mesur sylfaenol, fel y clywsom y prynhawn yma, y dylem i gyd allu ei groesawu, boed ar fainc flaen y Llywodraeth, ar feinciau cefn Llafur, neu ar feinciau'r Ceidwadwyr hyd yn oed, o fewn y Deyrnas Unedig, lle caiff pwerau eu datganoli, lle gellir defnyddio dulliau gweithredu, lle caiff pobl eu grymuso mewn un genedl, y dylid cynnig hynny i eraill hefyd, a lle mae modd ymddiried yn yr Alban â dulliau gweithredu ychwanegol y gallant eu defnyddio er mwyn mynd ar drywydd buddiannau pobl yr Alban, dylai Cymru gael cynnig hynny hefyd.

Mae gennyf lyfr; fe'i dangoswyd i mi heddiw. Stori Gwynoro Jones yw hi am y frwydr rhwng plaid y Llywodraeth a fy mhlaid i yn sir Gaerfyrddin yn y 1960au a'r 1970au, a dywedir wrthym na ddylem farnu llyfr yn ôl ei glawr—roedd y rhagair, gyda llaw, gan y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford—ni ddylem farnu llyfrau yn ôl eu clawr, ond cefais fy nenu at du mewn y clawr cefn lle dywedir wrthym fod cydraddoldeb â'r Alban wedi dod yn fater pwysig o ran datganoli. Felly, nid yw'n newydd, ond dywedodd cewri'r Blaid Lafur yn ôl bryd hynny, pobl fel Cledwyn Hughes, yn yr erthygl honno ei fod wedi diflasu'n fawr ar y pryd fod Llafur yn penderfynu rhoi cynnig gwannach ar y bwrdd i Gymru na'r hyn roeddent yn argymell ei roi ar y bwrdd ar gyfer yr Alban. Wel, rwy'n gwahodd Mick Antoniw heddiw, ac eraill sy'n teimlo, fel yntau, nad oes gennych unrhyw broblem ynghylch siarad am gydraddoldeb â'r Alban, i bleidleisio yn y ffordd honno heddiw a dangos ein bod o ddifrif ynghylch mynd ar drywydd buddiannau Cymru a chael y dulliau gweithredu yn ein dwylo ni fel y gallwn adeiladu dyfodol mwy disglair i'n gwlad. Gadewch inni ddangos ein bod am roi cyfle i Gymru wella ei dyfodol a chefnogi'r cynnig heddiw.

18:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n dod at y cyfnod pleidleisio. Bydd y pleidleisio cyntaf ar eitem 8, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dai a digartrefedd. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai a digartrefedd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os bydd y gwelliant yma yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 1, Heledd Fychan, felly. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

18:10

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai a digartrefedd. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai a digartrefedd. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Iawn, fe roddaf gynnig arall arni, Joyce. [Chwerthin.]

Y bleidlais nesaf, felly, mae'n ddrwg gen i, yw'r cynnig wedi ei ddiwygio o dan eitem 8. Felly, y cynnig wedi ei ddiwygio dan eitem 8.

Cynnig NDM5131 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y pwysau presennol o fewn y system digartrefedd a buddsoddiad gwerth £220 miliwn Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau atal a chymorth ar gyfer digartrefedd eleni.

2. Yn croesawu’r camau uchelgeisiol a radical i ddiwygio’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd sydd ar y gweill yn ystod y tymor hwn ac a amlinellir yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd.

3. Yn cydnabod y buddsoddiad uwch nag erioed, sef £1.4 biliwn, mewn tai cymdeithasol yn ystod y tymor hwn hyd yma.

4. Yn cydnabod swyddogaeth y grant cartrefi gwag o ran sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.

5. Yn canmol y gwaith partneriaeth sy’n cefnogi camau cyflenwi dull Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

6. Yn croesawu cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai a digartrefedd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Eitem 9 fydd y pleidleisiau nesaf, dadl Plaid Cymru ar y setliad datganoli. Y cynnig heb ei ddiwygio yn gyntaf, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Y setliad datganoli. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 1, felly, gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Y setliad datganoli. Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 12, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, 10 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Y setliad datganoli. Gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 13, Ymatal: 10

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8763 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn derbyn casgliadau ac argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru trawsbleidiol, sy’n darparu agenda ddiwygio uchelgeisiol gyda thystiolaeth dda i’w chefnogi, sydd wedi’i theilwra i ddiwallu anghenion Cymru.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Y setliad datganoli. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 12, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Felly, dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio. Nid dyna'r diwedd ar ein gwaith ni heddiw, ond, cyn i rai Aelodau adael, gaf i ddymuno Nadolig llawen i chi i gyd? Fe welaf i chi i gyd flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr iawn.

11. Dadl Fer: COVID hir: Datblygu dull gweithredu Cymru gyfan i fynd i'r afael ag argyfwng iechyd sy'n tyfu

Fe fydd y ddadl fer nawr, gan Hefin David, pan fydd Aelodau wedi gadael.

Os caf ofyn i'r Aelodau adael yn dawel, gall Hefin David ddechrau ei ddadl fer ar y pwnc y mae wedi'i ddewis.

Diolch, Lywydd. Mae'n bleser ac yn anrhydedd rhoi munud o fy amser yn y ddadl heddiw i Rhun ap Iorwerth, y gwneuthum gyd-gadeirio'r grŵp trawsbleidiol COVID hir gydag ef a gweithio'n effeithiol iawn gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol, a hefyd munud i Peter Fox o'r Ceidwadwyr, a fydd yn cyfrannu.

Un o'r pethau y mae angen inni eu cydnabod yw'r geiriau a ddefnyddiwyd gennym trwy gydol y pandemig, 'Nid yw COVID wedi diflannu. Nid yw COVID wedi diflannu." Wel, mae COVID yn dal i fod heb ddiflannu heddiw; mae pobl yn dal i fynd yn sâl ohono. Ac er ein bod wedi dod yn bell, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod bod COVID-19 yn dal i effeithio'n helaeth ar bobl, er bod brechlynnau wedi rhoi cryn dipyn o amddiffyniad i'r rhan fwyaf o'r boblogaeth wrth gwrs. Ond mae llawer o'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan COVID hir yn ystod y pandemig yn dal i gael eu heffeithio gan COVID hir heddiw.

18:15

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rwy'n falch o weld bod Gareth Yanto Evans o'r grŵp COVID hir yma i weld y ddadl heddiw. Mae wedi bod yn allweddol yn cadw COVID hir ar yr agenda. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio COVID hir fel

'parhad neu ddatblygiad symptomau newydd 3 mis ar ôl yr haint SARS-CoV-2 gwreiddiol, gyda'r symptomau hyn yn para am o leiaf 2 fis heb esboniad arall... Er y gall symptomau cyffredin COVID hir gynnwys blinder, diffyg anadl a chamweithrediad gwybyddol, nodwyd dros 200 o symptomau gwahanol a all gael effaith ar weithrediad bob dydd.'

Nawr, os ydych chi wedi cyfarfod ag unrhyw un sydd wedi dioddef o COVID hir—. Cyfarfûm â Lee David Bowen, sy'n ganwr opera yn fy etholaeth i, ac rwy'n falch o ddweud ei fod yn ôl nawr, yn canu, ac yn llwyddiannus iawn—mae wedi bod yn y West End—ond pan gyfarfûm ag ef, roedd e'n gysgod o'r person hwnnw. Roedd yr effaith a gafodd ar ei gorff, ar ei lais ac ar ei ymennydd yn drasig i'w weld, ac er ei fod wedi gwneud yr hyn na allwn ond teimlo ei fod yn adferiad rhannol, rydym wedi gweld yr adferiad hwnnw'n digwydd. Ond mae Gareth Yanto Evans wedi gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod am y bobl hyn.

Ar 17 Gorffennaf, cynhaliodd Cymorth Covid Hir ddigwyddiad lobïo yma yn y Senedd, lle cyfarfu Aelodau o wahanol bleidiau ag etholwyr yr effeithiwyd arnynt—fe wnaeth Peter Fox, rwy'n gwybod, ac fe wnaeth Rhun—ac roedd yn ddiddorol clywed beth arall y gallem ei wneud i wella gwasanaethau ar eu cyfer. Ar 19 Tachwedd, cynhaliwyd digwyddiad yn y Farchnad yn yr Oriel, ac roedd yn galonogol gweld cymaint o Aelodau'n ymgysylltu â hwy. A heddiw, rwy'n gwisgo fy mathodyn COVID hir, sy'n dangos ein cefnogaeth i'r grŵp hwnnw.

Rydym eisiau gweld beth yr hoffem ei weld yn digwydd. Felly, hoffwn ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet mai'r hyn a wnaf yw gofyn ychydig o gwestiynau, ac yn eich ymateb, hoffwn i chi anwybyddu'r briff gwasanaeth sifil efallai ac ateb rhai o'r cwestiynau sydd gennyf i chi heddiw, rhai o'r cwestiynau y bwriadaf eu gofyn i chi. Mae'r cyntaf o'r rhain ar wyliadwriaeth. Mae'n anodd deall effaith lawn a graddfa COVID hir oherwydd diffyg data. Awgrymodd arolwg ym mis Mawrth fod 3.3 y cant o boblogaeth Lloegr a'r Alban yn byw gyda'r cyflwr, ond ni wnaeth Cymru gymryd rhan yn yr arolwg. Pam na ddigwyddodd hynny? Pe baem yn defnyddio'r data hwnnw i allosod niferoedd tebyg ar gyfer Cymru, byddai'n cyfateb i o leiaf 100,000 o bobl, gan gynnwys 4,500 o blant. Ac mae hyn yn debygol o fod yn llai na gwir raddfa'r broblem. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yr hoffwn i chi ei ateb yw: a wnewch chi alw am astudiaeth haint COVID i helpu i ddeall nifer yr achosion o COVID hir yng Nghymru?

Y broblem arall yw negeseuon iechyd cyhoeddus. Ni allwn gymryd arnom nad yw COVID-19 yn fygythiad o gwbl mwyach. Mae pob haint COVID yn cynyddu eich perygl o ddatblygu COVID hir, ac rydych mewn perygl beth bynnag yw eich oedran, eich iechyd neu eich lefel brechu. Gallai pob haint COVID-19 achosi niwed cronnus i'ch organau; nid yw'n wir ein bod yn datblygu imiwnedd parhaol i bob haint COVID. A chan nad yw pobl â COVID hir o reidrwydd yn cael eu hystyried yn agored i niwed yn glinigol, mae llawer ohonynt heb fod yn gymwys i gael pigiadau atgyfnerthu. Felly, fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet yw: a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gomisiynu ymgyrch iechyd cyhoeddus, i dynnu sylw at beryglon heintiau COVID mynych a'r perygl o ddatblygu COVID hir?

Ac mae'n fater o atal. Y ffordd fwyaf effeithiol o atal COVID hir yw peidio â chael COVID-19 yn y lle cyntaf. Ond ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 1 Rhagfyr, cafodd 72 y cant o achosion ysbyty o COVID-19 eu dal tra bod y claf eisoes yn yr ysbyty. Felly, fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn yw: a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried mesurau ataliol mewn lleoliadau gofal iechyd i warchod rhag 'cwademig' fel y'i gelwir o feirysau a drosglwyddir drwy'r aer?

Rwyf am siarad am weithwyr gofal iechyd. Amlygodd modiwl diweddaraf ymchwiliad COVID y DU yr effaith ddinistriol a gafodd y pandemig ar ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, gyda llawer ohonynt wedi dal COVID yn y gwaith ac wedi datblygu COVID hir ers hynny, pobl sydd bellach yn methu gweithio, nad ydynt yn cael fawr ddim cefnogaeth. Felly, fy nghwestiwn nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet yw: yn ogystal â sicrhau bod mesurau ataliol yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu staff a chleifion, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarpariaethau i gasglu data ar nifer achosion ac effaith COVID hir ymhlith gweithwyr gofal iechyd, gyda chymorth yn cael ei ddarparu i'r rhai na allant weithio a'r rhai sydd am ddychwelyd i'r gwaith yn raddol?

Ac ar wasanaethau COVID hir, mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £8.3 miliwn o'r cyllid rheolaidd cyfredol i raglen Adferiad, gyda byrddau iechyd wedyn yn darparu'r gwasanaethau hynny'n lleol—canolfannau triniaeth ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a chwnsela—ac er bod lle i'r rhain yn sicr, nid yw'r ymyriadau hyn ar eu pen eu hunain yn ddigon i adsefydlu cleifion yn llwyr. Mewn rhai achosion, caiff ymarfer corff ei bresgripsiynu i gleifion, sy'n gallu achosi niwed hirdymor. Maent yn niweidio eu hunain trwy wneud ymarfer corff sy'n cael ei bresgripsiynu ar eu cyfer.

Canmolwyd y gwasanaeth gan werthusiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022, ond methodd gyfleu'r anfodlonrwydd a deimlid gan lawer o gleifion ynghylch diffyg argaeledd profion a thriniaethau priodol. Nid yw'n ymddangos bod consensws ymhlith byrddau iechyd ynglŷn â'r profion a'r triniaethau a allai wasanaethu cleifion COVID hir orau. Yn bennaf, mae'n ymddangos bod byrddau iechyd yn gweithio'n annibynnol ar ei gilydd, heb unrhyw rannu gwybodaeth a fawr o ymwneud â chleifion. Rwyf wedi cyfarfod â bwrdd iechyd Aneurin Bevan; rwy'n dychmygu bod Rhun ap Iorwerth wedi cyfarfod â'r bwrdd iechyd yn ei ardal ef i drafod y pethau hyn, ac ym mhob achos gwelwn fod gwahanol bethau'n digwydd mewn gwahanol lefydd.

Pan fydd y rhai yr amheuir bod ganddynt COVID hir yn mynd i'w meddygfeydd lleol, mae grwpiau cefnogi cleifion yn adrodd am achosion lle nad yw meddygon teulu yn gwybod sut i wneud diagnosis neu drin COVID hir. Efallai nad mynd i feddygfa yw'r ateb yr ydych chi'n chwilio amdano oherwydd yr anawsterau hynny. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly, ymrwymo i adolygu'r model gwasanaeth presennol gan ystyried dull mwy cyfarwyddol o ddarparu'r profion a'r triniaethau yn seiliedig ar yr ymchwil gyfredol, fel sy'n fwyaf addas ar gyfer anghenion cleifion COVID hir? Mae cael ymagwedd fwy cydweithredol tuag at fyrddau iechyd yn bwysig. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried datblygu rhwydwaith clinigol strategol cenedlaethol ar gyfer COVID hir, a chreu datganiad ansawdd y mae byrddau iechyd yn atebol iddo. A dylem ystyried pwysigrwydd gwasanaethau pediatrig yn rhan o hynny hefyd.

Ar barodrwydd ar gyfer pandemig yn y dyfodol, ni ddylem anghofio'r posibilrwydd gwirioneddol y gallai pandemig ddigwydd yn y dyfodol. Fel yr argymhellwyd gan ymchwiliad COVID y DU, mae'n rhaid inni ddysgu gwersi y pum mlynedd diwethaf i sicrhau bod y systemau iechyd yng Nghymru yn gadarn ac wedi'u paratoi'n dda ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae'n siomedig nad oes gan Gymru strategaeth a gwasanaeth cenedlaethol i ystyried pethau fel ffibromyalgia ac enseffalomyelitis myalgig neu syndrom blinder cronig. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly, ystyried sefydlu sefydliad iechyd statudol sy'n gyfrifol am atal, profi a thrin afiechydon ôl-feirysol, fel COVID hir ac ME/syndrom blinder cronig?

Nodwyd y cwestiynau hyn mewn llythyr gan aelodau Cymorth Covid Hir at eu Haelodau o'r Senedd ym mis Gorffennaf. Bydd yr Aelodau wedi eu gweld. Yn ddiweddar, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r llythyr hwn mewn llythyr arall at Nick Thomas-Symonds AS, lle nododd safbwynt Llywodraeth Cymru a pha gamau y mae'n eu cymryd ar hyn o bryd. Pwrpas y ddadl hon heddiw yw canfod ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r llythyr hwnnw ac atgoffa Llywodraeth Cymru nad yw pobl yng Nghymru sy'n byw gyda COVID hir yn credu bod digon yn cael ei wneud i'w helpu.

Rhoddodd Cymorth Covid Hir ddatganiadau effaith i mi gan bobl—pobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i COVID hir. Cysylltodd ffrind â mi ar Facebook Messenger y diwrnod o'r blaen. Dywedodd y gallwn ddefnyddio ei stori. Dywedodd, 'Rydym yn teimlo ein bod yn grŵp sydd wedi'i anghofio, a gobeithio y bydd yn gwneud i bobl sylweddoli'r niwed y mae'n ei achosi. Mae pobl yn meddwl bod COVID yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol, ond rwyf i wedi dioddef ers imi fod yn yr ysbyty gyda COVID ym mis Mawrth 2020. Mae gweithwyr rheng flaen, athrawon, staff y GIG a gofalwyr wedi cael eu taro'n fawr ganddo, gyda llawer yn colli eu gyrfaoedd a'u hincwm. Ni chawsom ein diogelu. Gwrthodir ymddeoliad ar sail afiechyd i lawer gan na ellir profi pa mor barhaol yw'r cyflwr. Bu'n rhaid i mi roi'r gorau i fy ngyrfa fel darlithydd coleg gan fod blinder cronig, meddwl pŵl, dysffasia yn golygu na allaf ddysgu mwyach, er imi leihau fy oriau.'

Ysgrifennodd gweithiwr iechyd yng Nghas-gwent ataf, a dywedodd, 'Fe wneuthum y penderfyniad anodd i wneud cais am ymddeoliad ar sail afiechyd o'r GIG ym mis Rhagfyr 2023. Roedd hyn yn cynnwys casglu ffolder enfawr o dystiolaeth i gefnogi fy nghais. Roedd y broses yn flinedig iawn. Mae'r GIG wedi colli uwch feddyg ac ymchwilydd profiadol. Rwy'n un o lawer o weithwyr gofal iechyd a ddaliodd COVID yn y gweithle ac sydd ag anabledd parhaol ac wedi colli eu swyddi.'

Ysgrifennodd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i ddweud, 'Rwy'n 19 oed a chefais ddiagnosis o COVID hir ym mis Rhagfyr 2021. Nawr, rwy'n fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe. Y rheswm pam rwyf i yno o gwbl yw oherwydd fy mod, ar y dechrau, wedi gwneud addewid i mi fy hun na fyddwn yn caniatáu i COVID hir fy llorio ac na fyddwn yn caniatáu i mi fy hun gael fy niffinio gan fy salwch. Nid yw'n addewid hawdd i'w gadw bob dydd. Mae fy symptomau'n wahanol. Ar rai dyddiau rwy'n dioddef cur pen gwael. Ni allaf godi fy mhen oddi ar y gobennydd.'

A dywedodd gofalwr o Benarth, sy'n gofalu am eu plentyn sydd â COVID hir, 'Nid yw pediatregydd y GIG yn deall difrifoldeb COVID hir. Maent yn dweud y dylai hi fod yn yr ysgol, y bydd seicoleg yn ei helpu i gerdded eto. Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi talu miloedd o bunnoedd ar feddygon preifat, profion gwaed a phresgripsiynau, ond oherwydd ei hoedran ifanc mae ein merch yn byw mewn poen cyson ac ni all gael poenladdwyr addas, felly mae'n rhaid iddi ymdopi â phoen gwanychol cronig nad yw byth yn diflannu.'

Ac yn olaf, fy natganiad olaf gan dyst. Dywedodd gweithiwr gofal iechyd yng Nghwm Rhondda, 'Fe ddaliais COVID yn gynnar yn 2020. Dros y ddwy flynedd nesaf, cefais drafferth gyda symptomau lluosog nes nad oedd gennyf ddewis ond ymddeol yn gynnar, gan na allwn gadw fy swydd oherwydd y cyflwr. Rwyf bellach yn gweld gwasanaethau COVID hir yn cael eu cau yn fy mwrdd iechyd a chefnogaeth gyfyngedig yn genedlaethol i unigolion â COVID hir. Mae angen strategaeth genedlaethol a gosod safonau i bob bwrdd iechyd ac awdurdod lleol ymrwymo iddynt a fydd yn cefnogi unigolion fel fi.'

Cyflwynwyd deiseb i'r Senedd ar hyn yn ddiweddar, yn galw am 'gymdeithas ofal', i ganolbwyntio ar dri maes, sef iechyd, cyfranogiad economaidd a seilwaith ffisegol, i fynd i'r afael ag argyfwng COVID hir. Mae i fod i gael ei ystyried gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd nawr, ac mae'n ddigon posibl y bydd yn cael ei drafod yn y Siambr.

Diolch i'r bobl sy'n dioddef o COVID hir. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi ymgysylltu ar y mater hwn, yn arbennig Rhun a Peter, fel y gwelwn heddiw. Ac rwy'n diolch i Gareth Yanto Evans am ddadlau nid yn unig drosto'i hun, fel dioddefwr COVID hir, ond hefyd dros yr holl bobl y mae wedi'u cyfarfod, ac y gwnaethom ni eu cyfarfod un diwrnod heulog ym mis Gorffennaf ar falconi'r siop goffi yn y Senedd, pan wnaethom siarad â'r bobl sydd ag effeithiau gydol oes real iawn o ganlyniad i COVID hir. Mae angen eu helpu. Rwyf wedi nodi rhai syniadau ynglŷn â sut y gallai hynny ddigwydd ac edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y gellir mynd i'r afael â hwy.

18:25

Buaswn innau'n dymuno diolch i’r rheini sydd wedi dioddef—dioddef mor hir, llawer ohonyn nhw, o COVID hir—am barhau i frwydro. Dwi'n ddiolchgar iawn i Hefin David am ddod â’r cynnig yma i'r Senedd heddiw ac am fod wedi gallu cyd-gadeirio'r grŵp trawsbleidiol yma yn y Senedd ar COVID hir.

Mae mor bwysig, onid ydy, fod Llywodraeth yn ymateb yn effeithiol i'r sefyllfa sydd yn parhau bron iawn i bum mlynedd rŵan ar ôl i'r feirws yma daro. Mae yna un etholwraig gen i, er fy mod i wedi siarad efo gymaint o bobl am hyn, mae yna un etholwraig sydd wastad yn fy meddwl i, a oedd yn ffisiotherapydd, a gafodd COVID yn y misoedd cyntaf—yn ei gwaith, mae'n siŵr—yn gorfod brwydro i gadw ei chyflog, yn gorfod rhoi'r gorau i weithio yn y pen draw, ei chalon yn dal yn broblem, y blinder cronig—merch ffit sydd yn methu â gwneud beth mae hi wastad wedi caru ei wneud. A beth mae pobl fel hi yn ei wneud ydy edrych tuag at Lywodraeth i weithredu, a dwi'n cymeradwyo cymaint o’r syniadau mae Hefin wedi'u cyflwyno heddiw yma. Maen nhw eisiau gweld Llywodraeth yn annog gwasanaeth iechyd sydd yn clywed y realiti am y dioddefaint sy'n parhau o hyd, ac yn rhoi'r gefnogaeth i bobl wrth iddyn nhw addasu eu bywydau a wynebu'r heriau yn ddyddiol a chwilio am gefnogaeth a gwellhad. Efallai fod blynyddoedd wedi pasio ers i'r feirws daro, ond mae'r pandemig yn parhau i gymaint o bobl, ac maen nhw'n edrych tuag at y Llywodraeth i sicrhau eu bod nhw'n sylweddoli hynny.

A gaf i ddiolch i chi, Hefin, am gael y ddadl hon heddiw? Mae'n bwysig iawn. A gaf innau hefyd groesawu Gareth yma, a diolch iddo am yr holl waith y mae wedi'i wneud. Rwyf wedi cael y pleser o'i gyfarfod ef ac etholwyr eraill sydd wedi dioddef ac sy'n dioddef, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â hwy oherwydd ei fod mor wanychol ac nad yw pobl yn sylweddoli hynny.

Roedd y pandemig COVID-19 yn ddigwyddiad seismig sy'n parhau i effeithio arnom, ac yn dal i effeithio ar y rhai sy'n dioddef. I'r rhan fwyaf ohonom, fe aethom drwy COVID ac roeddem yn teimlo'n iawn wedyn, ond yn amlwg, i lawer, nid dyna a ddigwyddodd, ac mae'r symptomau'n para'n hwy. Gall effeithio cymaint ar eu bywydau bob dydd, fel mae Hefin eisoes wedi'i ddisgrifio, ac mae'n effeithio ar eu gallu i weithio, i ddychwelyd i'r gwaith, er eu bod yn awyddus iawn i wneud hynny, ond maent yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny.

Roedd hi'n ddiddorol fod Hefin wedi crybwyll gweithwyr iechyd. Ym mis Gorffennaf 2023, fe wyddom fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi cyhoeddi adroddiad yn edrych ar effaith COVID-19 ar feddygon. Roedd y canfyddiadau, yn seiliedig ar arolwg o 600 o feddygon a oedd yn profi effeithiau hirdymor COVID, yn amlygu effaith bersonol a phroffesiynol sylweddol COVID hir, gyda 18 y cant o ymatebwyr yr arolwg yn nodi eu bod yn methu gweithio, ac eraill yn gorfod lleihau eu horiau gwaith a hyfforddi. Mae hyn yn golygu y bu lleihad yn arbenigedd y GIG a'r sectorau meddygol, gyda meddygon a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill yn methu gweithio na hyfforddi mwyach o ganlyniad i'r cyflwr. Er ei bod yn amlwg nad yw rhai gweithwyr meddygol proffesiynol yn gallu dychwelyd i'r gwaith, mae'n amlwg y gallant barhau i gynnig eu harbenigedd helaeth a'u profiadau bywyd. Mae'n hanfodol ein bod ni fel gwlad yn gallu dod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod y grŵp allweddol hwn o bobl nid yn unig yn cael eu cefnogi ond yn dal i allu cyfrannu at faes sydd angen eu harbenigedd.

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gweithwyr meddygol proffesiynol na allant ddychwelyd i'r gwaith mwyach yn cael cymorth? Rwy'n gofyn hefyd a fydd cyfleoedd neu ffyrdd i'r rhai yr effeithir arnynt gan COVID hir ac na allant weithio mwyach allu parhau i gynnig eu sgiliau a'u harbenigedd i'n sector iechyd. Rwy'n cytuno â'r holl gwestiynau a ofynnodd Hefin i chi hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet.

18:30

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cefnogaeth barhaus i bobl â COVID hir. Mae Sefydliad Iechyd y Byd, fel y clywsom, yn diffinio COVID hir fel symptomau anesboniadwy sy'n para am o leiaf ddau fis ac sy'n bresennol am o leiaf dri mis yn dilyn haint COVID. Fel y gwyddom, mae'n effeithio ar sawl system yn y corff, gan gynnwys systemau anadlol, cardiofasgwlaidd, niwrolegol, endocrin a gastroberfeddol. Gall fod yn amhosibl rhagweld ei ddatblygiad a gall amrywio o ran hyd a difrifoldeb.

Nid un cyflwr yw COVID hir; gall fod yn wahanol i bob person ac mae'n ymgyflwyno â chlystyrau o symptomau sy'n aml yn cyd-ddigwydd, symptomau a all amrywio a newid dros amser. Mae COVID hir yn gymhleth, yn ymddangos mewn sawl ffordd, a gall fod yn anodd gwneud diagnosis. Hyd yn hyn, adroddwyd am fwy na 200 o symptomau gwahanol, a gall gael effaith ddofn ar ansawdd bywyd unigolyn. Rydym hefyd yn gwybod, fel y nodwyd eisoes, fod effeithiau COVID hir yn mynd y tu hwnt i symptomau corfforol. Gall gael effaith ddofn ar les emosiynol ac iechyd meddwl pobl hefyd, yn ogystal â'u gallu i ffynnu'n economaidd ac yn gymdeithasol, a gall fod yn ofidus i deuluoedd ac anwyliaid.

Nid oes prawf pendant i allu gwneud diagnosis o COVID hir. Cyn gwneud diagnosis, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell asesiad gan ddefnyddio dull holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddiystyru cymhlethdodau difrifol eraill yn sgil COVID-19 a diagnosis o glefydau eraill. Mae hefyd yn argymell y dylid cynnig profion ac archwiliadau'n seiliedig ar symptomau'r unigolyn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw driniaethau effeithiol hysbys i wella COVID hir, er bod ymchwil i driniaethau posibl yn parhau. Mae hyn yn golygu bod canllawiau NICE yn canolbwyntio ar hunanreoli ac adsefydlu i'r rhai yr effeithir arnynt.

Ar y data, awgrymodd arolwg heintiau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol y gallai fod cymaint â 94,000 o bobl yng Nghymru â COVID hir, er ei bod hi'n anodd cael ffigurau pendant yn unman ar nifer yr achosion a mynychder COVID hir, yn rhannol am rai o'r rhesymau a roddais eisoes. Roedd mwy o achosion o symptomau hunangofnodedig ymhlith menywod, ac roedd y nifer fwyaf o bobl a nododd fod ganddynt COVID hir rhwng 50 a 69 oed. Fel y nododd Hefin David yn bwerus iawn, nid yw COVID-19 wedi diflannu. Rydym yn dal i brofi tonnau o haint ac amrywiolion newydd o'r feirws. Golyga hyn wrth gwrs fod pobl hefyd yn parhau i ddatblygu COVID hir.

Fe wnaethom gydnabod yr angen am wasanaethau adsefydlu ychwanegol i bobl yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19 mor gynnar â gwanwyn 2020. Heddiw, gyda diwedd cyfnod argyfwng y pandemig dros ddwy flynedd yn ôl, rydym yn parhau i gefnogi pobl â COVID hir. Rydym wedi gwneud hyn trwy ehangu gwasanaethau sylfaenol a chymunedol fel bod y gofal sydd ei angen ar bobl â COVID hir yn agos at ble maent yn byw. Fe wnaethom fuddsoddi £10 miliwn rhwng 2021 a 2023 drwy ein rhaglen Adferiad i sefydlu'r gwasanaethau hyn, ac ers hynny rydym wedi ymestyn hynny, gan gynyddu'r cyllid blynyddol i'r byrddau iechyd i £8 miliwn y flwyddyn.

Mae angen teilwra ein cefnogaeth i bobl â COVID hir i ddiwallu eu hanghenion penodol. Mae pob bwrdd iechyd wedi datblygu modelau gofal adsefydlu amlbroffesiynol, wedi'u seilio ar hunanofal â chymorth, gyda llwybrau atgyfeirio at ofal eilaidd pan fo angen. O ystyried maint ein poblogaeth a'r lefel debygol o alw, teimlid mai gwasanaethau lleol, wedi'u cefnogi gan fynediad at y gwasanaethau arbenigol angenrheidiol pan fo angen, oedd y model cywir i wella canlyniadau ansawdd bywyd i bobl yr effeithiwyd arnynt gan COVID hir. Ond bydd ein model cyflawni yn parhau i gael ei lywio gan y dystiolaeth wrth iddi ddod yn amlwg ac esblygu, yn ogystal â chan y rhai sydd â phrofiad bywyd. Cyfeiriwyd at dystiolaeth rhai ohonynt eisoes yn y ddadl heddiw.

Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd barhau i gefnogi pobl â COVID hir, a chyda'r buddsoddiad ychwanegol, i ehangu mynediad at wasanaethau a ariennir gan Adferiad i bobl â chyflyrau eraill ond sydd ag anghenion adsefydlu ac adfer diagnostig tebyg. Mae hyn yn cynnwys pobl y cyfeiriwyd atynt yn araith Hefin David—pobl ag ME, syndrom blinder cronig a ffibromyalgia.

Yr allwedd i leihau nifer y bobl sy'n datblygu COVID hir, wrth gwrs, yw atal nifer y bobl sy'n datblygu COVID-19. Mae imiwnedd poblogaeth yn parhau i gynyddu, gyda llawer o bobl yn cael imiwnedd hybrid trwy gyfuniad o frechu ac adferiad o haint naturiol. Mae'r dystiolaeth hyd yma yn awgrymu y gallai brechlynnau roi rhywfaint o amddiffyniad yn erbyn achosion newydd o COVID hir a lleihau eu nifer. Drwy raglen frechu'r gaeaf, rydym wedi annog ac yn parhau i annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig i gael eu brechu rhag COVID-19 a ffliw tymhorol y gaeaf hwn. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y canlyniad pwysig hwn i'r pandemig ac i weithio gyda'r GIG i ddiwallu anghenion unigol pobl.

18:35

Ar y pwynt olaf hwnnw, nid yw pobl â COVID hir yn cael eu hystyried yn agored i niwed yn glinigol, felly ni allant gael brechlynnau'n hawdd. Rwy'n credu, Hefin, efallai eich bod wedi tynnu sylw at hynny yn eich cyfraniad. Felly, a allwch chi ei gwneud hi'n haws i bobl â COVID hir gael mynediad at frechlynnau pan ddaw'n bryd?  

Yn sicr. Rydym yn parhau i adolygu cymhwysedd i gael brechiad COVID wrth gwrs, ac rydym yn ceisio adlewyrchu tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg fel y mae'n ymddangos. Felly, mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig. Dyma'r math o bwynt yr ydym yn ei adolygu'n barhaus bob blwyddyn wrth inni edrych ar y meini prawf cymhwysedd ar gyfer brechiadau COVID-19 ledled y DU.

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet a diolch i Hefin David. Daw hynny â thrafodion heddiw a, gobeithio, eleni i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:38.