Y Cyfarfod Llawn
Plenary
10/12/2024Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Mae heddiw yn achlysur arbennig yn ein Senedd ni, achos, yn dilyn ymgyrch etholiad Senedd Ieuenctid Cymru, a gynhaliwyd fis Tachwedd, fy mraint i heddiw yw cyhoeddi’r canlyniadau ar gyfer ein trydedd Senedd Ieuenctid. Mae gennym ni 19 sefydliad partner sydd hefyd wedi sicrhau bod 20 allan o’r 60 Aelod yn cynrychioli grwpiau amrywiol o bobl ifanc o bob cwr o Gymru.
Yn yr etholiad hyn, gwelwyd y nifer uchaf yng nghyfranogiad unrhyw etholiad Senedd Ieuenctid yn ei hanes, sy’n dangos llwyddiant yr ymgyrch ac ymrwymiad pobl ifanc, rhieni, addysgwyr, a’r sector yn fwy eang, tuag at arwyddocâd ein Senedd Ieuenctid. Mae dylanwad y ddau dymor Senedd Ieuenctid blaenorol yn sylweddol ac wedi creu argraff fawr ar bob un ohonom. Dwi’n siŵr y bydd yr Aelodau newydd yn ysbrydoli ac yn gweithredu gyda’r un egni, gan sicrhau bod eu cyfoedion yn gweld perthnasedd y Senedd Ieuenctid, gan gyfrannu at waith y Senedd yma.
Felly, dyma'r enwau. Yn cynrychioli'r gogledd: Ynys Môn, Annest Tomos; Arfon, Elin Llwyd Brychan; Aberconwy, Oliver Jones-Barr, Gorllewin Clwyd, Clwyd West, Calum Morrisey; Dyffryn Clwyd, Vale of Clwyd, Ameesha Ramchandran; Delyn, Benjamin Thomas Harris; Alun a Glannau Dyfrdwy, Alyn and Deeside, Riley Lubinsky; Wrecsam, Zac Jones Prince; De Clwyd, Clwyd South, Alfie Rhys Rawlins; Dwyfor Meironnydd, Neli Rhys; Sir Drefaldwyn, Montgomeryshire, Jake Dillon; Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Carers Trust Wales, Ffion-Haf Scott; Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, Conwy Youth Service, Alexander Isaac Moore; the Ethnic Minorities and Youth Support Team Wales, Morgan Peters; Gwynedd Initiative for Social Development and Empowerment, Lewis Williams; Anabledd Dysgu Cymru, Learning Disability Wales, Tammi Louise Tonge; Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan, Emily Williams.
Y canolbarth a’r gorllewin nesaf: Ceredigion, Kiani Francis; Brycheiniog Sir Faesyfed, Brecon and Radnorshire, Tilly Jones; Preseli Sir Benfro, Preseli Pembrokeshire, Riley Barn; Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Carmarthen West and South Pembrokeshire, Grace Elizabeth Tilbury; Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Carmarthen East and Dinefwr, Devlin Jack Stanney; Llanelli, Aryan Gupta; Urdd Gobaith Cymru, Awel Grug Lewis; Clybiau Ffermwyr Ifanc, the YFC, Celyn Leah Richards.
Y de-ddwyrain, South Wales East—
Gorllewin Caerdydd, Cardiff West, Ned Dong; Gogledd Caerdydd, Cardiff North, Megan Wyn Jones; Canol Caerdydd, Cardiff Central, Abdul Aziz Algahwashi; De Caerdydd a Phenarth, Cardiff South and Penarth, Grace Oluwafemi; Merthyr Tudful a Rhymni, Amber Elin Perrott; Blaenau Gwent, Chase Campbell; Torfaen, Taliesin Evans; Mynwy, Monmouth, Isabel Grace Ravenhill; Caerffili, Maisie Powell; Islwyn, Elizabeth Bartlett; Gorllewin Casnewydd, Newport West, Nate Hoccom; Dwyrain Casnewydd, Newport East, Bryn Geary; Action for Children (Headland School), Makenzie Evan Jack Thomas; DIGON Ysgol Plasmawr, Olive Alys Anwen Burns; Girlguiding Cymru, Eve Powell; NYAS, National Youth Advocacy Service Cymru, Kayla McKenzie; Race Council Cymru, Hasson Yusuf; Stephens and George Centenary Charitable Trust, Charlotte Williams; Tros Gynnal Plant Cymru, Mirac Solmaz.
De-orllewin Cymru nesaf: Gŵyr, Gower, Anna Martin; Gorllewin Abertawe, Swansea West, Ffion Grace Lewis; Dwyrain Abertawe, Swansea East, Olivia-Grace Keeley Morris; Castell-nedd, Neath, Zjackaria Meah; Aberafan, Ffion Chapple; Ogwr, Oliver Higgins; Pen-y-bont ar Ogwr, Bridgend, Grace Lee; Rhondda, Dylan Vaculin; Cwm Cynon, Cynon Valley, Lillie Louise Lloyd; Pontypridd, Ava Martin-Thomas; Bro Morgannwg, Vale of Glamorgan, Daniel Vlad; Cyngor Abertawe, Swansea Council, Nicholas Nzomosi; Talking Hands, Jack Rigdon; Voices from Care Cymru, Elliott Louis James; Youth Engagement Participation Service, RCT, Carys Simons a Megan Carlick.
Dyna'r enwau i gyd. Diolch i chi a llongyfarchiadau i bawb, a phob dymuniad da iddyn nhw wedi eu hethol. [Cymeradwyaeth.] Byddwn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr i gwrdd â nhw maes o law.
Felly, yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Sioned Williams.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn cadw at ei hymrwymiadau statudol i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? OQ62020
Diolch. Mae ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol arloesol yn rhan ganolog o'n dull o fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang ar gyfer cymunedau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol. Rŷn ni’n mesur ein cynnydd drwy’r adroddiad blynyddol ar lesiant Cymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi eleni.
Diolch i Sioned Williams am ei chwestiwn pwysig iawn. Nôl yn mis Medi, fe wnes i’ch holi chi ynglŷn â chynhyrchu arfau yma yng Nghymru sy’n cael eu defnyddio ar gyfer troseddau rhyfel. Roedd eich ateb chi braidd yn fyr bryd hynny. Roeddech chi’n dweud bod y mater yma tu hwnt i’r setliad datganoledig. Ond, fel mae Sioned Williams yn dweud, mae cyfraith Cymru yn gosod cyfrifoldeb arnom ni. Un o nodau Deddf cenedlaethau’r dyfodol yw Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd eang, ac mae’r Ddeddf partneriaeth gymdeithasol yn rhoi dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus i ddefnyddio prosesau caffael cyhoeddus sydd yn gymdeithasol gyfrifol. Mae hynny hefyd yn cynnwys pensiynau. Mae’n bosib iawn bod pensiynau cyhoeddus yn cael eu defnyddio i ariannu cwmnïau sy’n rhoi arfau i Israel, sy’n gwneud y troseddau rhyfel yn erbyn Palestiniaid. Hefyd, rwy’n deall bod yna ddarnau o’r jet F-35, sy’n cael ei werthu i Israel, yn cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru. Mae’r ffigurau sydd gyda fi bach yn uwch na rhai Sioned Williams—17,492 o blant, sydd gen i, o Balesteina sydd wedi marw. Mae’r ffigurau gwahanol efallai’n dangos cymaint y chaos ac mor erchyll yw’r sefyllfa yno. Fedrwn ni ddim cuddio tu ôl i'r setliad datganoledig; mae’n rhaid i bawb wneud rhywbeth nawr. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru’n mynd i wneud i sicrhau bod Cymru yn wirioneddol yn haeddu teitl 'cenedl noddfa'? Diolch yn fawr.
2. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i annog buddsoddiad ar gyfer gogledd Cymru? OQ62025
Os ydym ni am gryfhau economi'r gogledd, yna mae'n rhaid inni weld ein bod ni'n medru cario nwyddau yn ôl ac ymlaen ar hyd y gogledd mewn modd cynaliadwy, er mwyn medru cael pethau i'r farchnad. Dwi wedi codi nifer o weithiau yn y Siambr yma rŵan yr angen i alluogi ffreit ar hyd rheilffordd gogledd Cymru, ond, hyd yma, does yna ddim byd wedi digwydd. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth y Senedd yma, nôl ar ddechrau'r ganrif yma, wedi dadlau'r achos a chomisiynu papur yn dadlau'r achos i gael ffreit. Rydym ni'n gwybod bod adroddiad Taith, cynllun trafnidiaeth rhanbarth gogledd Cymru, nôl yn 2009, wedi dweud bod angen cael ffreit. Rydym ni'n gwybod bod adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru flwyddyn ddiwethaf wedi dweud bod angen ffreit. Ond, hyd yma, does yna ddim symud wedi bod. Felly, pryd fedrwn ni weld ffreit yn cael ei gyflwyno ar reilffordd gogledd Cymru?
Diolch yn fawr. Wel, dwi'n gobeithio y bydd hwn yn rhywbeth fydd yn cael ei weld yng nghyd-destun y growth deal, a bod yna bosibiliadau yn y maes yna i weld beth sy'n bosibl yn y maes yna. Mae hwn, wrth gwrs, ynghlwm â'r angen am fuddsoddiad mewn rheilffyrdd. Dŷn ni ddim wedi gweld hynny ers blynyddoedd lawer. Mae'r trafodaethau hynny—. Wrth gwrs, mae hwn yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae'r trafodaethau gyda'r Deyrnas Unedig o ran strwythur ar gyfer y rheilffyrdd yn datblygu. Ac unwaith mae gyda ni rywbeth newydd i'w ddweud ynglŷn â hynny, mi fyddwn ni'n dod atoch chi. Ond bydd hwnna'n helpu i gael mwy o ffreit ar y rheilffyrdd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Gaf i longyfarch arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar?
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn Nelyn? OQ62011
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu ac yn monitro safonau addysgol? OQ62037
5. Pa gymorth ariannol mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i adfywio canol trefi? OQ62045
Drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydyn rŷn ni'n darparu £125 miliwn o gyllid grant a benthyciadau i awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2025. Mae'r buddion eisoes yn amlwg mewn nifer o ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru.
Mae buddsoddiadau drwy Trawsnewid Trefi yn werthfawr. Er enghraifft, yn Rhydaman, mae £1 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i adfywio adeilad yr hen Co-op yng nghanol y dref. Ond er mwyn gwireddu'r cynlluniau hynny, mi fydd angen degau o filiynau, fyddai wedi dod yn draddodiadol, wrth gwrs, drwy arian Ewropeaidd, ac ers hynny, wedyn, y gronfa shared prosperity, y levelling-up fund, ac mae yna ddiffyg eglurder ar hyn o bryd beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl 2026. Mi oedd y Gweinidog levelling-up yn San Steffan wedi gwrthod dweud yn ddiweddar a fydd yr arian yna ar ôl 2026 wedi ei glustnodi ar sail angen neu ar sail fformiwla Barnett. Wrth gwrs, os taw'r fformiwla Barnett yw hi, yna mae Cymru yn mynd i golli mas yn anferth. Felly, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru? Ydych chi wedi gwneud yr achos i Lywodraeth San Steffan bod angen cael fformiwla ar sail angen, ac onid yw hyn yn enghraifft unwaith eto o’r angen am setliad ariannol teg newydd i Gymru?
Diolch yn fawr. Dwi'n falch eich bod chi'n croesawu’r arian ychwanegol yna sy’n mynd i mewn i ddatblygu ein dinasoedd, a dwi'n falch o weld bod Margaret Street yn Rhydaman wedi gofyn am grant cyllid i ddatblygu y cam cyntaf o'r strategaeth yna. Rŷch chi'n iawn; yn y gorffennol, rydyn ni wedi gallu cael arian oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd i'n helpu ni i ddatblygu rhai o'n trefi ni. Mae'r trafodaethau ynglŷn â beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol yn parhau. Ac rydych chi'n iawn; o'n safbwynt ni, beth sydd eisiau arnom ni yw fformiwla sydd yn gweithio i ni, fformiwla sydd yn derbyn bod angen yn rhywbeth sydd yn cael ei ystyried pan maen nhw'n rhoi'r arian yna. Felly, mae’r trafodaethau yna'n parhau, ond wrth gwrs, rŷn ni'n awyddus iawn i weld beth allwn ni ei gael yn ychwanegol. Cofiwch, mae yna addewid wedi cael ei wneud pan adawon ni yr Undeb Ewropeaidd na fyddem ni'n colli allan, ac rŷn ni'n sicr yn mynd i gadw ati i sicrhau mai dyna’r yw'r ffordd yn y dyfodol.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddiogelwch tomenni glo yn dilyn stormydd diweddar? OQ62043
Mae awdurdodau cyhoeddus yn archwilio tomenni glo segur yn rheolaidd ar ôl stormydd neu gyfnodau o law cyson. Yn dilyn storm Bert, mae awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn archwilio'r safleoedd sydd â’r flaenoriaeth uchaf. Mae hyn yn ychwanegol at y gwaith archwilio a chynnal a chadw rheolaidd sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o wytnwch ariannol cynghorau ledled Cymru? OQ62044
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Vaughan Gething.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y saith cais cynllunio y galwyd arnynt i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Tachwedd 2024? OQ62019
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma, Paul Davies. Nage, ddim Paul Davies, Jane Hutt. [Chwerthin.]
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae dau newid i'r agenda heddiw. Bydd datganiad ar storm Darragh. Hefyd, yn amodol ar gynnig i atal Rheolau Sefydlog, byddwn yn cynnal dadl ar gynnig i ddiddymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth. Mi wnaeth o ddweud y byddai o'n dod â datganiad llafar a chyfle inni drafod yn y Senedd o ran y Mesur teithio gan ddysgwyr. Plis gawn ni hynny, oherwydd dwi'n meddwl bod nifer ohonon ni'n awyddus i wneud hynny?
Hefyd, buaswn i'n hoffi gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog â chyfrifoldeb dros chwaraeon ynglŷn ag Ewros 2025 a thîm merched Cymru. Yn amlwg, mi wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi yng Ngŵyl Cymru pan oedd y dynion wedi bod yn rhan o Gwpan y Byd. Wel, beth am y merched? Mi fydd hwn yn gyfle anhygoel o ran hyrwyddo Cymru i'r byd, a hefyd o ran sicrhau gwaddol. Felly, buaswn i'n hoffi clywed sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i fod yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, a llu o sefydliadau ledled Cymru, i sicrhau ein bod ni'n cymryd mantais o'r cyfle aruthrol hwn, nid yn unig i bêl-droed a merched, ond i Gymru.
Rhys ab Owen, yn olaf.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar ddatganiad ar y gyllideb ddrafft 2025-26, a dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gosod y gyllideb ddrafft a'r broses graffu sy'n dilyn yw rhai o'r camau pwysicaf rydym ni'n eu cymryd fel Senedd. Heddiw, wrth inni gychwyn ar y daith tuag at y gyllideb derfynol ym mis Mawrth, byddaf i'n amlinellu dwy ochr y cyfnod incwm a gwariant sy'n sail i'r cynigion sydd gerbron yr Aelodau. Ar ôl bron i ddegawd o gyni parhaus, mae economi'r Deyrnas Unedig wedi gweld y cyfnod hiraf a mwyaf enbyd o atal twf mewn hanes diweddar. Drwy hyn oll, mae cyflogau wedi cael eu cadw i lawr, cynlluniau buddsoddi wedi eu hanghofio a gwasanaethau cyhoeddus wedi crebachu.
Llywydd, rydyn ni wedi gweld dwy gyllideb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn galendr yma, ac mae'r cyferbyniad rhwng y ddwy yn hollol glir. O safbwynt heddiw, mae un set o ffigurau'n esbonio'r gwahaniaeth yna'n glir. Ym mis Mawrth, yng nghyllideb olaf y Canghellor Jeremy Hunt, fe welon ni gynnydd yn y cyllidebau cyfalaf oedd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mewn cyfnod o chwyddiant costau di-baid yn y byd adeiladu, a'r holl fuddsoddi oedd ei angen yn ein hysgolion, ysbytai, tai a thrafnidiaeth, y cyfan oedd ganddo i'w gynnig oedd £1 miliwn yn ychwanegol. Ymlaen â ni i 30 Hydref: nawr, mae Canghellor Llafur, sy'n benderfynol o ddod â'r economi yn ôl ar lwybr o dwf, yn gweld mai dim ond drwy fuddsoddi mae hyn yn gallu digwydd—buddsoddi yn yr amodau sy'n galluogi'r economi i dyfu.
Llywydd, nid dilyn damcaniaeth yn unig oedd hyn, ond bod yn hynod o ymarferol. Yn hytrach na chyflwyno cyllideb i chi heddiw gyda dim ond £1 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol, mae'r gyllideb ddrafft hon yn adlewyrchu'n llawn y £235 miliwn o gyfalaf cyffredinol ychwanegol a gafodd ei ddarparu gan Rachel Reeves ym mis Hydref, a mwy. Dyma pam mae'r gyllideb ddrafft hon yn gyllideb ar gyfer dyfodol mwy disglair sy'n buddsoddi yn nyfodol gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion Cymru—dyfodol sydd heb fod yn bosib ers llawer rhy hir.
Llywydd, heddiw rydw i'n nodi camau cyntaf at ddyfodol mwy disglair. Wrth gwrs, byddai'n amhosib cyflawni'r broses hon i gyd mewn un gyllideb, ond, yn wahanol iawn i gyllidebau anodd iawn y blynyddoedd diweddar, mae'n fraint heddiw cael cyflwyno cyllideb gyda buddsoddiadau newydd, sy'n canolbwyntio ar ein blaenoriaethau ar draws ein holl gyfrifoldebau.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
‘Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri’—ydy hynny’n golygu unrhyw beth i’r Llywodraeth hon?
Mae cymaint o’n sectorau ni mewn sefyllfa eithriadol o fregus, heb sôn am ein gwasanaethau cyhoeddus ni, ac mi fyddan nhw wedi’u siomi heddiw gan gyllideb sy’n cynnig sbarion yn hytrach na’r cyllid sydd ei angen arnyn nhw. Jest am fod hon yn gyllideb well na’r un gawsom ni gan y Torïaid, dydy o ddim yn golygu ei bod hi’n gyllideb ddigonol, na chwaith yn gyllideb sy’n creu’r newid hwnnw y gwnaeth Llafur ei addo am flynyddoedd i bobl Cymru.
Ysgrifennydd Cabinet, mi roeddech chi’n sôn am ddyfodol mwy disglair. Wel, efallai bod yna lygedyn o olau i rai, ond mae’n gadael eraill yn y tywyllwch. Mi edrychwn ymlaen, felly, i graffu'n fanwl ar y gyllideb hon, ond mawr obeithiwn y gwelwn y Llywodraeth yn ymuno hefyd gyda ni i fynnu cyllid teg i Gymru. Dyna ddaw â newid. Dyna ddaw â llewyrch. A dyna’r hyn mae Cymru’n ei haeddu.
Blwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r Llywodraeth yma wedi bod yn lluchio biliynau o bunnoedd at wasanaethau iechyd rheng flaen er mwyn trio datrys y problemau y mae’r Llywodraeth ei hun wedi eu creu, gyda fawr ddim gwelliant yn y canlyniadau. Er gwaethaf yr ymffrostio am y biliynau sy'n cael eu gwario ar y gwasanaeth iechyd, mae’r rhestrau aros yn parhau i fod yn styfnig o uchel. Mae bron i hanner y cleifion canser ddim yn cael eu gweld ar amser ac mae’r targedau ambiwlansys wedi eu methu mor aml fel eu bod nhw bellach yn gwbl ddi-werth. Canlyniad y polisi methedig yma ydy bod llai o arian ar gael ar gyfer bron i bob maes polisi arall, megis llywodraeth leol, sydd yn gwneud cymaint o’r gwaith ataliol a gofal hanfodol. Yn wir, o beth welaf i, mae bron i 55 y cant o gyllideb y Llywodraeth bellach yn mynd ar iechyd erbyn hyn. Tybed ai'r Llywodraeth ydy wythfed bwrdd iechyd Cymru?
Mae’r gwario anghynaladwy yma yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod colledion ariannol ar draws y gwasanaeth iechyd bellach yn £183 miliwn. Felly, tybed fedrith yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud os ydy’r Llywodraeth yn disgwyl gweld y colledion yma yn lleihau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae’n amlwg bod gan y gwasanaeth iechyd broblem gyllido, yn enwedig ar ôl y niwed sydd wedi dod yn sgil bron i ddegawd a hanner o lymder. Ond mae’n dioddef hefyd o’r ffaith fod y Llywodraeth yma wedi camreoli yr adnoddau sydd ar gael mor ddifrifol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod y Llywodraeth rŵan yn gorfod neilltuo’r rhan helaethaf o’r £400 miliwn ychwanegol ar leihau rhestrau aros. Nid yn unig y bydd canran sylweddol o’r arian yma yn mynd tuag at brynu capasiti yn y sector breifat, ond petai’r Llywodraeth wedi llwyddo i gyrraedd ei thargedau ei hun o dorri y rhestrau aros hiraf erbyn Mawrth 2023, yna ni fyddai angen yr arian yma, a gellir fod wedi ei dargedu at bethau eraill. Tybed, felly, all yr Ysgrifennydd Cabinet fanylu ar faint o’r cynnydd yng nghyllideb yr adran iechyd a gofal fydd yn mynd at gomisiynu gwaith gan ddarparwyr annibynnol a phreifat.
Gareth Davies a gododd—
Nawr dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at eitem 4, datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y datganiad hwn mewn perthynas â'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), a osodwyd gerbron y Senedd ddoe.
Ar draws Cymru, mae ein canrifoedd o hanes glofaol yn nodweddu ac yn ffurfio ein tirwedd—hanes a luniodd fywydau pobl drwy gydol yr ugeinfed ganrif, wrth i gymunedau glofaol Cymru sbarduno'r chwyldro diwydiannol. Heddiw, mae yr un cymunedau hynny'n wynebu gwaddol anodd o domenni na chaiff eu defnyddio mwyach, rhai glo a rhai nad ydynt yn rhai glo.
Mae byw gyda realiti tomenni fel hyn ledled Cymru yn bryder enfawr i deuluoedd a busnesau ledled y wlad. Mae mwy i'w wneud a byddwn yn parhau i fynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol. Mae'r Bil hwn yn dangos unwaith eto fod Cymru yn arwain y ffordd. Hoffwn fynegi fy niolch a'm gwerthfawrogiad i'r nifer fawr o bobl a sefydliadau sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda chi wrth i'r Bil fynd rhagddo drwy'r broses graffu. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am y datganiad. Mae’r Bil hwn yn cynrychioli cam pwysig ymlaen, ac rwy’n ddiolchgar nid yn unig i'r Dirprwy Prif Weinidog, ond i’r gweision sifil sydd wedi gweithio mor galed ar hyn.
buaswn i'n gofyn pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y cawn ni'r cyllid llawn yma. Ac a all y Llywodraeth roi sicrwydd na fydd trethdalwyr Cymru yn gorfod ysgwyddo'r baich hanesyddol hwn, pan fo'n rhywbeth a oedd wedi digwydd, eto, cyn yr oedd y Senedd hon—wel, unrhyw Senedd—yn bodoli yng Nghymru? Mae'r diffyg manylion ynghylch y grant diogelwch tomenni glo arfaethedig hefyd yn peri gofid. Dwi ddim wedi dod o hyd i unrhyw wybodaeth gyhoeddus ar fanylion y grant—ei hyd na'i sicrwydd hirdymor.
Ac yn ogystal—dwi'n ymwybodol bod amser yn rhedeg mas—buaswn i'n gofyn am y ffaith—. Dwi ddim yn siŵr beth ydy 'guidance' yn Gymraeg. Mae llawer o'r hyn sydd wedi cael ei addo yn y Papur Gwyn, fel asesiadau peryglon, cyfrifoldebau monitro a chynlluniau rheoli, maen nhw nawr wedi cael eu dirprwyo i ganllawiau, yn hytrach na hyd yn oed deddfwriaeth eilaidd. Mae'r diffyg pwysau statudol hwn yn golygu gall cymunedau teimlo dan fygythiad, gydag ansicrwydd a diffyg atebolrwydd at y dyfodol. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ailystyried a chryfhau'r elfennau hynny er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i'r cyhoedd? Diolch. Sori, es i ychydig dros amser.
Diolch, Ddirprwy Brif Weinidog, am y datganiad pwysig yma. Dwi'n falch iawn o weld y cydweithio rhwng y Llywodraeth a Chomisiwn y Gyfraith; mae hynny'n hynod bwysig. Y consérn sydd gen i yw'r amser. Cafodd adroddiad Comisiwn y Gyfraith ei gyhoeddi ddwy flynedd a hanner yn ôl. Bydd yna ddau aeaf arall, fel y mae Delyth Jewell wedi'i ddweud, cyn sefydlu'r awdurdod. Fel rydych chi wedi'i ddweud yn barod, Ddirprwy Brif Weinidog, mae pobl yn poeni; bob tro y mae storm, ac mae'r stormydd yn dod yn fwy aml, mae pobl yn poeni am pan maen nhw'n codi, beth maen nhw'n mynd i'w weld a beth sy'n mynd i ddigwydd yn ystod y storm.
Un peth, ydych chi wedi ystyried defnyddio Tribiwnlysoedd Cymru yn hytrach na'r llys ynadon gyda'r hyfforddi i sicrhau mynediad ac apeliadau o'r awdurdod? Dwi'n falch gweld mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae wedi bod yn embaras y cyn lleied o gydweithio sydd wedi bod, a dwi'n falch gweld hynny'n digwydd. Dwi ddim yn credu y gwnaethoch chi ateb cwestiwn Delyth Jewell: ydyn ni'n mynd i weld mwy o arian o Lywodraeth y Deyrnas Unedig? Dŷn ni'n ffaelu rhoi pris ar faint ŷn ni wedi'i dderbyn o'r Cymoedd. Mae'n ddadleuol na fyddai iaith Gymraeg, na fyddai Cymru, oni bai am y pyllau glo a'r diwydiannau; ein bod ni wedi gallu aros yn ein gwlad ni yn hytrach na'r diboblogi a welwyd mewn mannau eraill. Mae'r Cymoedd yn haeddu llawer iawn oddi wrthym ni. Mae'n hen bryd inni sicrhau bod y Cymoedd yn lle saff a diogel i fyw. Diolch yn fawr iawn.
Ac yn olaf, Sioned Williams.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 heddiw yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn cyhoeddi cynllun iechyd menywod GIG Cymru. Galwaf ar y Gweinidog, Sarah Murphy.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae cyhoeddi’r cynllun yma yn enghraifft dda o ferched yn y Senedd yn gweithio efo’i gilydd, ac efo arbenigwyr sy'n ferched, i greu gwasanaethau effeithiol i ferched ym mhob man. Un o’r prif ddadleuon dros gyflwyno cwotâu rhywedd wrth ethol Aelodau i’r Senedd ydy bod cynrychiolaeth rhywedd gyfartal yn sicrhau sylw dyladwy i faterion sydd o bwys i ferched. Un agwedd arbennig o iechyd menywod sydd angen sylw ydy gwella cefnogaeth i ferched sy'n dioddef problemau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth i fabi. Mae 20 y cant o ferched yn profi problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol.
Dwi yn gorfod, heddiw, ailddatgan fy mhryder am y gwasanaeth amenedigol yn y gogledd. Dwi’n poeni nad oes yna wybodaeth am y modelu ddefnyddiwyd i gyrraedd y penderfyniad gwallus i gomisiynu dau wely yng Nghaer, a dwi yn pryderu am ddiffyg tryloywder a’r diffyg cynnydd efo’r gwasanaethau yma. Dwi'n mawr obeithio y bydd mamau yn y gogledd, ac mewn ardaloedd gwledig, a merched yn y gogledd ac mewn ardaloedd gwledig, yn cael eu trin yn deg. Mae'n rhaid inni osgoi daearyddiaeth yn creu anghyfartaledd. Dwi yn gobeithio y bydd osgoi loteri cod post yn rhan o'r ystyriaethau wrth weithredu'r cynllun iechyd merched.
I gloi, un cwestiwn: pryd fydd yr adolygiad am yr uned mam a'i phlentyn yng Nghaer a'r gwasanaethau amenedigol yn y gogledd yn cael ei gyhoeddi? Mae hon yn sgwrs gychwynnodd rhyngoch chi, Weinidog, a finnau ddiwedd yr haf, a buaswn i wedi gobeithio cael atebion erbyn hyn.
Rwyf i yn croesawu'r cynllun hwn, ac rwy'n gobeithio'n wir y bydd yn cynrychioli newid syfrdanol.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog—[Cymeradwyaeth.]—ac i bawb sydd wedi cyfrannu, ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith pwysig sydd wedi arwain at heddiw. Ac mae mwy i ddod.
Eitem 6, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, paratoi ar gyfer diwygio yn y maes bysiau. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth i gyflwyno hyn—Ken Skates.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Mae gwaith ymchwil wedi’i wneud ymhlith pobl ifanc ym Methesda yn fy etholaeth i, dan faner prosiect o’r enw Dychmygu’r Dyfodol. Un dyhead clir sydd wedi dod allan o’r gwaith yna, oedd yn cael ei fynegi’n glir iawn, ydy’r dyhead am wasanaeth bws rheolaidd, yn cysylltu rhannau o Ddyffryn Ogwen â’i gilydd, ac â gweddill Arfon a thu hwnt. A dwi’n siŵr y bydden nhw wrth eu boddau yn clywed eich bod chi’n mynd i sefydlu panel pobl ifanc, a dwi’n siŵr y bydden nhw’n fodlon iawn i fod ar y panel yna hefyd, i rannu eu profiadau nhw. Mae’n hollbwysig bod anghenion pobl ifanc mewn dyffrynnoedd ôl-ddiwydiannol, fel Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle, yn cael sylw dyladwy wrth ddyfeisio’r model ar gyfer y gwasanaethau bysiau.
Dwi yn nodi mai cyd-bwyllgor corfforedig y gogledd, y CJC, fydd yn gyrru’r newid ar gyfer 2028 yn y gogledd, a bydd angen gweithio efo rhanbarthau dinesig Lerpwl a Manceinion i ddyfeisio’r rhwydwaith yn y gogledd. Rŵan, mae hwn yn codi pryder i mi, ac felly fy nghwestiwn i ydy: sut ydych chi’n mynd i wneud yn siŵr bod ardaloedd y gogledd-orllewin—ardaloedd tlawd, ardaloedd sydd yn bell o hybiau poblogaeth—yn mynd i gael eu hystyried yn deg wrth ichi ddyfeisio’r cynllun newydd yma? A gyda llaw, mi ydw i’n gwbl gefnogol i’r egwyddor, ond yn poeni y bydd yna rai cymunedau yn cael eu gadael ar ôl.
Dwi'n mynd i ganolbwyntio ar Gaerdydd. Er fy mod i'n sylweddoli bod y sefyllfa lot yn well yng Nghaerdydd nac mewn ardaloedd gwledig, mae'r sefyllfa yng Nghaerdydd lot yn waeth o gymharu â phrif ddinasoedd eraill yn Lloegr. Dwi'n ategu beth ddywedodd Jenny Rathbone ynglŷn â dysgwyr. Mae'n benodol yn targedu, yn creu impact, ar ddysgwyr Cymraeg, disgyblion sy'n mynd i ysgolion Cymraeg. Maen nhw'n aml yn gorfod teithio ar draws y ddinas ac yn ddibynnol ar fysys i gyrraedd yr ysgol.
Nawr, un consérn sy'n codi'n gyson, a dwi wedi ei brofi e fy hunan, yw yn aml mae'r bysys dim ond ag un lle i gadair olwyn ac un lle ar gyfer pram. Mae hynny'n meddwl wedyn fod yn rhaid gwrthod rhiant â phram rhag mynd ar y bws, oni bai eu bod nhw'n gallu cau'r pram. Wel, os ydych chi'n rhiant gyda dau o blant bach, mae'r syniad eich bod chi'n gallu cau'r pram, cymryd popeth mas o'r pram, cael dau o blant a bag—dyw e jest ddim yn gweithio. Nawr, byddai hyn yn iawn os byddai bws arall yn dod o fewn pum munud, os oeddem ni'n byw yn Llundain neu Lerpwl, ond dŷn ni ddim. Mae'n rhaid aros yn hir ar gyfer bysys. Felly, plis, fel rhan o'r diwygiadau, Ysgrifennydd y Cabinet—dwi'n cytuno'n llwyr fod y system ddim yn gweithio; mae'n rhaid gwneud rhywbeth—a ydyn ni'n gallu gwneud yn siŵr bod hygyrchedd yn rhan ganolog o'r diwygiadau? Diolch yn fawr.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 7 sydd nesaf: datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar storm Darragh yw hwn, a'r Gweinidog, felly, yr Ysgrifennydd Cabinet, i wneud y datganiad—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Dros y penwythnos, effeithiwyd ar gymunedau ar draws Cymru gan storm arall, storm Darragh, a ddilynodd bythefnos yn unig wedi effeithiau storm Bert. Mae storm Darragh wedi effeithio ar lawer o bobl a chymunedau yng Nghymru—ar gartrefi, busnesau, trafnidiaeth a seilwaith ynni.
Diogelwch pobl a chymunedau Cymru yw ein prif flaenoriaeth. Rwyf am sicrhau ein bod yn cynnal parodrwydd ac ymatebion effeithiol i ddigwyddiadau mawr fel storm Darragh. Felly, rwyf yn bwriadu cwrdd â rhanddeiliaid i drafod yr ymateb ac i ystyried pa wersi sydd i'w dysgu, a sut y gallwn adeiladu cydnerthedd gwell i'n strwythurau a’n prosesau cydnerthedd presennol. Diolch, Llywydd.
Diolch i'r Dirprwy Brif Weinidog am ei ddatganiad. Do, fe darodd storom Darragh yn galed yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn, gan adael llwybr o ddinistr yn ei sgil. Rŷn ni'n gwybod bod y gwyntoedd o ryw 90 mya wedi dinistrio tai ac adeiladau, coed yn cwympo, hewlydd yn cau, a thai a phentrefi cyfan heb drydan, heb olau, heb ddŵr mewn rhai achosion, a heb wres. Ac wrth i fatris ffonau symudol ddifa a chysylltiad ffonau landline fynd yn dawel, roedd pobl, wedyn, yn ffeindio'u hunain wedi torri cysylltiad â'r byd mawr y tu fas, ac roedd hynny'n golygu bod anwyliaid, teuluoedd a ffrindiau yn poeni am y bobl yna achos roedden nhw'n methu cysylltu â nhw.
Mae hyn wedi taro, wrth gwrs, yn bennaf, ardaloedd yr arfordir yng ngorllewin Cymru, gyda rhyw 1.7 miliwn o bobl wedi cael eu heffeithio. Diolch byth, yng Nghymru, does neb wedi cael eu lladd na'u niweidio'n ddifrifol, mor bell ag yr ydw i'n gwybod, ond mae llawer gyda ni i ddiolch am hynny. Ac un o'r pethau pwysig yw'r rhybudd yna ddaeth ar y nos Wener, y seiren ar ein ffonau symudol ni, a roddodd lond twll o ofn i'r rhan fwyaf ohonom ni oedd ddim yn ei ddisgwyl e [Chwerthin.] Ond, fe weithiodd e; roedd e wedi rhoi rhybudd i ni ymlaen llaw i baratoi ar gyfer y rhybudd coch arbennig yna. Ond, fel pobl eraill, dwi am ddiolch hefyd i'r gwasanaethau brys, i'r fyddin o weithwyr a'r awdurdodau lleol sydd wedi gweithio'n ddiflino ers oriau mân fore dydd Sadwrn, a hefyd, wrth gwrs, y peirianwyr yna sydd yn gweithio i'r cwmnïau trydan sydd wedi bod wrthi'n ddiwyd yn ceisio adfer y gwasanaeth i ni.
Mae diolch hefyd, wrth gwrs, i'r llu o wirfoddolwyr tawel, y cymdogion yna sydd wedi mynd ati i sicrhau bod pobl yn saff, yn arbennig y bobl fregus yna. Mae yna ysgolion a neuaddau pentref wedi agor yn arbennig i ganiatáu pobl i ddod mewn i gael eistedd, i gael paned o de mewn gwres a hefyd i wefru eu ffonau symudol. Mae hynny i gyd yn arwydd o'r caredigrwydd yna sydd i'w weld mewn cymdogaethau gwledig. Diolch yn arbennig i'n ffermwyr ni. Byddwch chi'n falch iawn o hyn, wrth gwrs. Rwy'n gwybod, yn bersonol, am gymaint o ffermwyr aeth ati o ddydd Sadwrn ymlaen gyda'u chainsaws a'u frontloaders i dorri coed i lawr, i wneud yn siŵr bod ffyrdd ar agor i'r gwasanaethau brys gael mynd drwyddo. Felly, diolch o galon iddyn nhw am wneud y gwaith diddiolch yma—neb yn gofyn iddyn nhw ei wneud ond mi wnaethon nhw fe oherwydd dyna oedd eu dyletswydd gyfrifol nhw fel cymdogion da.
Ond dyw'r sefyllfa ddim wedi newid i gymaint o lefydd o hyd. Roeddwn i'n trafod hyn gyda'r Llywydd yn gynharach y prynhawn yma. Roedd hi'n dweud wrthyf i, yng Ngheredigion, fod yna ryw 49 o bentrefi—ie?
Pum deg dau, erbyn hyn, o bentrefi yng Ngheredigion yn dal heb drydan. Gwnes i ffonio adref rhyw hanner awr yn ôl; rŷn ni hefyd, yn Gelli Aur, ger Llandeilo, yn dal heb drydan. Felly, roedd hi'n rhyfedd nos Sadwrn yn ein tŷ ni, os caf i ddweud stori fach yn sydyn iawn, iawn. Roedd un o'r merched nôl adref—wedi dod nôl—ac roedd hi'n disgwyl gweld Strictly Come Dancing a'r celebrity cyclone challenge. Wel, wrth gwrs, y siom iddi hi oedd gorfod iddi siarad â'i mam a'i thad drwy'r nos gyfan—[Chwerthin.]—a doedd ei ffôn hi ddim yn gweithio, jest i wneud pethau'n waeth. Ac fe gollon ni, erbyn hyn, ein bwyd o'r rhewgell, sydd wedi dadlaith i gyd. Y newyddion da—mae'r twrci wedi'i safio. Ond stori arall yw'r pigs in blankets; rwy'n credu bod y rheini wedi hen fynd.
Ond i ddifrifoli am eiliad, i ddod â'r cyfraniad bach yma i ben, dau beth: roedd y tawelwch wrth deithio drwy bentrefi heb olau yn taro rhywun yn od, ond y tawelwch i fi hefyd ar y dydd Sadwrn, Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Roeddwn yn mynd drwy Llandeilo—diwrnod mawr i'r dref—a'r siopau i gyd ar gau, y lle yn dawel ac yn dywyll. Ac felly gobeithio bydd yna gyfrifoldeb arnom ni dros yr wythnosau nesaf i fynd ati i gefnogi'r busnesau bach yma hyd yn oed yn fwy i helpu iddyn nhw ddod dros y golled yna ddydd Sadwrn diwethaf.
Ond dau beth jest yn sydyn. Un cwestiwn i chi: pa mor effeithiol yw'r cwmnïau trydan, y Grid Cenedlaethol a'r awdurdodau lleol yn rhannu data am y bobl fwyaf bregus? Achos dyna pwy ddylai gael y flaenoriaeth, wrth gwrs, mewn argyfwng fel hyn. A'r ail beth, ple gan nifer o bobl sydd wedi mynd yn hynod o grac. Mae'r cwmnïau trydan yn dweud, 'O, mae'r trydan yn dod nôl yfory', wedyn, o fewn oriau, dŷn ni'n cael, 'Wel, na, dyw e ddim yn dod nôl yfory.' Felly, a oes modd gwneud asesiad mwy cywir reit ar y dechrau, hyd yn oed os ydyn ni'n cael gwybod y gall e fod yn dri, pedwar diwrnod, fel ein bod ni'n gallu paratoi ymlaen ar gyfer hynny, yn hytrach na chodi gobeithion a wedyn siomi pobl? Ond diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.
Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael y datganiad, ac mae'n cael ei werthfawrogi. Mae stormydd sy'n cael eu henwi—hynny ydy, y stormydd cryf yma sydd efo'r gallu i greu difrod—yn dod yn amlach ac yn ffyrnicach. Megis dechrau mae'r tymor stormydd, ac mae disgwyl rhagor cyn diwedd y gaeaf, felly mae'n rhaid dysgu'r gwersi a rhoi camau mewn lle rŵan er mwyn osgoi difrod mawr yn y dyfodol.
Fe gollodd miloedd o bobl yn Nwyfor Meirionnydd eu trydan, ac, yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd yna tua 800 o bobl neu aelwydydd yn parhau heb drydan y bore yma, yn yr ardaloedd gwledig yn bennaf. Dwi yn obeithiol y bydd y rhan fwyaf o'r rheini wedi cael eu cysylltu erbyn heno, ond cawn weld. Mae rhai o'r bobl yma oedd wedi cael eu heffeithio yn ddibynnol ar drydan ar gyfer, er enghraifft, dialysis, neu amgylchiadau iechyd eraill. Felly, pa ystyriaeth sydd yn cael ei roi i sicrhau bod generators cymunedol ar gael ar gyfer adegau o argyfwng fel hyn?
Yn Nwyfor Meirionydd, Scottish Power sydd yn gyfrifol am yr isadeiledd trydan. Maen nhw, fel eraill, yn rhanddeiliaid yn y rhestr PSR, y priority services register. Mae’r rhestr yma yn hanfodol er mwyn gwybod pwy ydy’r bobl fregus sydd angen eu blaenoriaethu, ond mae profiad storm Darragh yn dangos nad ydy’r rhestr PSR wedi cael ei diweddaru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, unwaith eto, roedd pobl yn cael eu ffonio a oedd wedi marw ers misoedd. Mae’r rhestr yma yn hollbwysig er mwyn medru sianeli’r adnoddau cywir a medru blaenoriaethu gwaith. Felly, gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet gysylltu efo’r PSR a gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod y rhestr yn cael ei diweddaru yn fwy rheolaidd?
Hefyd, dwi’n derbyn bod gweithlu Scottish Power wedi gweithio yn ddiflino mewn amodau anodd iawn, ond doedd Scottish Power ei hun ddim yn diweddaru rhanddeiliaid allweddol fel cynghorau sir yn amlach na phob rhyw 12 awr. Mae angen cael gwybodaeth fwy cyfoes na hynny. Felly, fe fyddwn i’n gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet drafod hyn efo’r cwmni yn ei gyfarfod wythnos nesaf er mwyn sicrhau bod cyswllt a chyfathrebu mewn adeg o argyfwng yn gwella.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol bod nifer fawr o goed wedi disgyn dros y deuddydd, ac roedd llawer o'r coed yn rhai mawr, rhai gyda gwifrau trydan wedi’u plethu o’u hamgylch nhw, ac eraill wedi disgyn yn lletchwith ar adeiladau. Mae felly angen offer arbenigol er mwyn torri’r coed yma a’u symud nhw. Felly, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadw hyn mewn cof ac ystyried pa gymorth y gellir ei roi er mwyn sicrhau bod yr offer a’r gweithlu angenrheidiol ar gael mor fuan â phosibl er mwyn cael y coed yna allan o’r ffordd ar achlysuron tebyg?
Bydd yr Ysgrifennydd—
Mae'n ddrwg gyda fi. Rwyf wedi rhoi tair gwaith cymaint o amser i chi ag y dylwn i ei roi—
Gwnaf orffen efo'r un pwynt yma, os caf i.
Un pwynt byr, byr.
Byr iawn. O ran y seiren a gafodd ei nodi, mae hwnna'n cael ei werthfawrogi, ond mae nifer o bobl, yn enwedig merched, yn byw mewn amgylchiadau o drais domestig ac efo ffôn cuddiedig, a dydyn nhw ddim yn gwybod sut mae troi'r seiren yna i ffwrdd. A wnewch chi weithio efo Women's Aid i sicrhau bod pawb yn gwybod sut mae troi'r seiren i ffwrdd? Diolch.
Dwi eisiau ategu'r diolch i bawb sydd wedi bod yn helpu yn dilyn y storm ddiweddaraf.
Rhun ap Iorwerth, yn olaf.
Diolch, Llywydd. Gaf innau ddechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i bawb a wnaeth ymateb mor gyflym i'r storm—yn weithwyr llywodraeth leol, cwmnïau trydan, Openreach, ffermwyr, ac yn y blaen? Dau fater penodol dwi eisiau eu codi. Yn gyntaf, mae yna ddifrod sylweddol wedi bod i un o'r terminals ym mhorthladd Caergybi. Roeddwn i'n siarad efo Stena, perchnogion y porthladd, heddiw. Mi fydd yna dipyn o waith i'w wneud, er bod y cwmnïau fferi, dwi'n deall, yn mynd i fod yn gallu ailgychwyn gwasanaethau, yn newid amserlenni. Gaf i sicrwydd gan y Llywodraeth eu bod nhw'n barod i gefnogi'r porthladd mewn unrhyw ffordd y gallan nhw fod ei angen, i sicrhau bod y gwytnwch yna'n cael ei adfer yn fuan?
Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Eitem 8 sydd nesaf. Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024 yw'r rhain. Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio sy'n gwneud y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM8758 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwraieth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Ysgrifennydd y Cabinet nawr i ymateb. Rebecca Evans.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 9 sydd nesaf, Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024. Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n gwneud y cynnig yma—Huw Irranca-Davies.
Cynnig NDM8757 Jane Hutt
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Tachwedd 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw i gyflwyno Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024.
Hoffwn i orffen drwy ddweud bod fêps untro yn tanseilio ein hymdrech i greu economi gylchol a'r angen i gynhyrchion fod yn fwy gwydn, i bara'n hirach ac i ddefnyddio llai o adnoddau naturiol y ddaear. Mae gweithredu fel hyn heddiw yn gam pwysig arall ymlaen tuag at gyrraedd y nod hwnnw. Rwy'n falch o gymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mike Hedges.
Dwi’n croesawu y rheoliadau yma yn fawr. Mae’n rhaid inni ond cerdded ein heolydd ni i weld y difrod amgylcheddol y mae fêps untro yn ei wneud, heb sôn am y difrod iechyd, fel rŷch chi wedi dweud yn barod, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond dwi yn siomedig iawn gymaint o amser mae hwn wedi cymryd i ddigwydd. Dros ddwy flynedd yn ôl, fe gynigies i welliant i’r Bil plastigion untro a fyddai wedi gwahardd fêps untro bryd hynny. Yn anffodus, er i’r gwrthbleidiau fy nghefnogi, fe bleidleisiodd y Llywodraeth a’r Blaid Lafur yn erbyn. Nawr, yr unig ddadl a roddwyd gerbron ar y pryd oedd diffyg tystiolaeth. Wel, roeddwn i'n gwenu wrth ddarllen y memorandwm esboniadol yn gweld yr union dystiolaeth y gwnes i ei ddyfynnu, ac y gwnes i ddibynnu arno fe, yn cael ei gynnwys yn y memorandwm esboniadol.
Felly, llongyfarchiadau am heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond yn y cyfamser, mae yna filoedd ar filoedd o fêps untro sydd wedi methu cael eu hailgylchu ac sydd wedi eu taflu yma yng Nghymru. Ond hyd yn oed yn fwy brawychus na hynny, Ysgrifennydd y Cabinet—mae hyn wedi bod yn gyfle i nifer o’n plant a’n pobl ifanc ni i ddefnyddio'r fêps untro. Felly, pa dystiolaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd gan y Llywodraeth nawr nad oedd yn hollol amlwg nôl yn 2022? Diolch yn fawr.
Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd i ymateb i'r ddadl yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig nesaf fydd i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu caniatáu cynnal yr eitem nesaf o fusnes. Aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol—Jane Hutt.
Cynnig NNDM8766 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8765 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 10 Rhagfyr 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Mae e wedi'i gynnig yn ffurfiol. Y cynnig, felly, yw—a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog? Nac oes. Felly, mae hwnna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n ein caniatáu ni i gymryd y cynnig i ddiddymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024. Dwi'n galw ar Adam Price i wneud y cynnig yma.
Cynnig NNDM8765 Adam Price
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024, a osodwyd gerbron y Senedd ar 25 Hydref 2024, yn cael ei ddirymu
Cynigiwyd y cynnig.
Mike Hedges, Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth.
Y Cwnsler Cyffredinol yn awr i gyfrannu—Julie James.
Adam Price i ymateb i'r ddadl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, oni bai fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch. A symudwn ni at y bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf fydd ar eitem 8, y Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024. Galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Ac felly mae'r bleidlais wedi'i chario.
Eitem 8. Rheoliadau Datblygiadau o ArwyddocÔd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024: O blaid: 36, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Eitem 11 sef nesaf, y cynnig i ddirymu'r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma yn enw Adam Price. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Item 11. Cynnig i ddirymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024: O blaid: 12, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw. Diolch i bawb, a siwrnai dda i bawb adref.
Daeth y cyfarfod i ben am 20:51.