Y Cyfarfod Llawn
Plenary
26/11/2024Cynnwys
Contents
Mae hon yn fersiwn ddrafft o’r Cofnod sy’n cynnwys yr iaith a lefarwyd a’r cyfieithiad ar y pryd.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Good afternoon and welcome to this afternoon’s Plenary session. The first item on our agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Cefin Campbell.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd Cymru? OQ61918
Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n rheoli'r dreth etifeddiaeth. Mae ffigurau’r Trysorlys yn awgrymu na fydd y newidiadau yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermydd yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i chi. Wel, roeddwn i yn y ffair aeaf yn Llanelwedd ddoe, ac, fel bob tro, roedd e’n ddathliad gwirioneddol wych o fywyd cefn gwlad a’n cynnyrch tymhorol arbennig. Ond fyddwch chi ddim yn synnu clywed bod yna lawer iawn o bryder ymhlith y sector hefyd ynglŷn â’r newidiadau diweddar i’r dreth etifeddiaeth. Nawr, mae’n amlwg i mi nad yw’r Trysorlys wedi gwneud eu gwaith cartref ar y newidiadau maen nhw’n eu hargymell. Yn ôl dadansoddiad gan arbenigwr treth, sef Dan Neidle, nid yw’r cynigion yn mynd yn ddigon pell o ran targedu’r miliwnyddion sy’n prynu tir er mwyn osgoi talu treth. Ond ar y llaw arall, maen nhw’n mynd yn rhy bell o ran cosbi’r ffermwyr go iawn—hynny yw, y bobl sy’n gwneud bywoliaeth o’r tir ac yn gofalu amdano. Dwi’n poeni y bydd effaith cyllideb Rachel Reeves yn arbennig o wael i’n ffermydd teuluol ni yng Nghymru. Gan ystyried mai dim ond ryw £18,000 yw cyflog cyfartalog ffermwyr mynydd, er enghraifft, fel yn y byd y mae modd iddyn nhw dalu’r treth etifeddiaeth ar gyflog mor isel? Felly, mae’n peri pryder i mi nad oes asesiad effaith penodol wedi cael ei wneud ar hyn. Wedyn, a gaf i ofyn i chi, felly, ymrwymo i gynnal asesiad o’r fath, a hynny ar fyrder?
Thank you very much, and I have heard that things went particularly well at the winter fair, and I’m particularly pleased that the Deputy First Minister had attended too, presenting the changes to the new sustainable farming scheme. I know that that was welcomed by many of the people there. The Deputy First Minister has also been having constructive discussions with the farming unions, and they’ve asked for an assurance from the UK Government that the voice of the Welsh unions will be heard, and he’s received an assurance that that will be the case.
As a result of this, I think it is important that we return to the Treasury data. The UK Chancellor has outlined the stance of the UK Government on agricultural property relief in terms of inheritance tax, and there’s a great deal of detail available in a letter that was sent to the chair of the Treasury select committee, and I suggest that you look at that.
2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cynyddu premiymau yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyllidebau awdurdodau lleol? OQ61930
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae'r llifogydd, unwaith eto, wedi achosi difrod sylweddol a cholli bywyd, ac mae ein cydymdeimlad ni'n fawr efo teulu'r unigolyn hwnnw a phawb sydd wedi dioddef gwaethaf o effeithiau storm Bert, a dwi'n ddiolchgar iawn ar ran grŵp Plaid Cymru i'r asiantaethau a'r gwirfoddolwyr hynny sydd wedi ymateb ar frys.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun datblygu lleol diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2022-2037? OQ61956
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal iechyd sylfaenol yn Abertawe? OQ61915
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y sector cyhoeddus? OQ61955
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwarchod iechyd geneuol a deintyddol trigolion Gorllewin De Cymru? OQ61953
Rŷn ni wedi ymrwymo i ddiwygio contract deintyddol y gwasanaeth iechyd yn seiliedig ar egwyddorion atal, risg, angen a mynediad. Mae trafodaethau ar gyfer contract newydd wedi dod i ben yn ddiweddar. Bydd y contract newydd hwn yn creu system sy'n fwy apelgar i ddeintyddion ac yn decach i gleifion.
7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lwyddiant y rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur? OQ61929
Yn olaf, cwestiwn 8, Adam Price.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau'r amseroedd aros ar gyfer ambiwlans yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ61958
Ein bwriad yw rheoli pobl ag anghenion gofal brys yn y gymuned a gwella’r cynlluniau ar gyfer rhyddhau. Bydd hyn yn golygu bod mwy o ambiwlansys ar gael mewn argyfwng. Yn ddiweddar, rŷn ni wedi lansio'r her 50 diwrnod, cyhoeddi canllawiau newydd ar drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, a recriwtio 26 o glinigwyr i ddarparu cyngor o bell o ganolfannau cyswllt 999.
Brif Weinidog, mae'r sefyllfa o ran amseroedd aros ar gyfer ambiwlansys yn Sir Gaerfyrddin wedi cyrraedd sefyllfa hollol argyfyngus. Clywais i ddim ond mis yma gan etholwr, a'i mam yn ei nawdegau wedi cwympo ac anafu am 6 o'r gloch y bore, yr ambiwlans wedyn yn methu â chyrraedd tan 2 o'r gloch yn y prynhawn, a hithau mewn poen difrifol trwy'r amser. Wrth gyrraedd yr adran frys wedyn, bu'n rhaid iddi aros dros nos yn yr ambiwlans hwnnw nes iddi gael ei chludo i ysbyty arall am 3 o'r gloch y bore. Mewn achos arall ar ddechrau'r mis, mi gafodd chwaraewr rygbi yn Nantgaredig ei anafu, a gorfu ef a'r ffisios oedd yn gofalu amdano fe aros ar y cae, ar noson oer aeafol, am chwech awr, i ambiwlans gyrraedd o ysbyty pum milltir i ffwrdd. 'Dywedwch llai, gwnewch fwy' yw'r hyn a ddywedoch chi gynnau. Ydych chi'n gallu sicrhau i fi na fydd fy etholwyr i yn gorfod wynebu'r sefyllfaoedd hollol annerbyniol yma dim mwy?
Diolch yn fawr. Mae'r achosion yna yn annerbyniol, ac mae'n bwysig ein bod ni yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans ac ar y bwrdd iechyd i wella'r sefyllfa. Ond, wrth gwrs, mae lot o bwysau. Mae'n anodd iawn i gael pobl allan o ddrws cefn yr ysbytai, a dyna beth rŷn ni'n trio ei wneud, a hefyd atal pobl rhag mynd i mewn yn y lle cyntaf, gofalu amdanyn nhw yn eu cartrefi. Dwi'n falch o ddweud bod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi gweld gwelliant o 10 y cant o ran galwadau coch, o gymharu gyda'r un mis y llynedd.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd sy'n gwneud y datganiad yma. Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i agenda heddiw. Bydd datganiad llafar ar storm Bert. Bydd datganiad llafar ar baratoi ar gyfer diwygio bysiau nawr yn cael ei wneud ar 10 Rhagfyr. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ac yn olaf, Paul Davies.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford.
Dirprwy Lywydd, mae'r Bil yma wedi cymryd amser hir i ddod i fodolaeth. Cafodd y syniad o’r ardoll ymwelwyr ei gynnig am y tro cyntaf yn 2017, yn ystod galwad gyhoeddus am syniadau treth newydd. Ers hynny, mae’r syniad wedi cael ei ddatblygu drwy gydweithio ac ymgynghori helaeth, gan gynnwys gyda’r sector twristiaeth. Rydym ni wedi ystyried eu pryderon wrth ddatblygu'r polisi yma ymhellach, gan ddefnyddio'r adborth i gynllunio ardoll syml a theg.
Dirprwy Lywydd, mae ardollau ymwelwyr a threthi twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd. Bydd llawer o'r Aelodau sydd yma heddiw wedi talu ardoll mewn gwlad dramor, a hynny heb sylwi, efallai. Mae Llywodraethau ar draws y byd yn gweld bod ardoll ymwelwyr yn ffordd effeithiol o wrthbwyso rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth. Mae’r ymchwil a gafodd ei gyhoeddi gyda'r Bil yn dangos bod y refeniw yn gallu gwella ardaloedd twristiaeth drwy ariannu gwelliannau i’r seilwaith a diogelu’r amgylchedd. Ac nid dim ond mewn rhannau eraill o'r byd mae ardollau ymwelwyr yn cael eu defnyddio; mae Manceinion eisoes wedi cyflwyno ffi canol dinas, ac, yn gynharach eleni, fe wnaeth yr Alban basio deddfwriaeth fel bod yr awdurdodau lleol yno yn gallu ystyried ardoll, ac rydyn ni’n gwybod bod Caeredin wedi bwrw ymlaen i gynllunio i ddefnyddio'r pwerau newydd. Mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ystyried y syniad hefyd. Mae ein cynigion yma yng Nghymru yn mynd gyda’r llanw, nid yn ei erbyn.
A gaf i groesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn? Fel mae'n digwydd, pan oeddwn i'n Aelod dynodedig yn rhan o'r cytundeb cydweithio, fi oedd yn gyfrifol am y maes polisi hwn. Gallaf dystio i'r gwaith caled mae'r swyddogion wedi ei wneud i edrych yn fanwl iawn ar esiamplau ar draws y byd o arfer da. Maen nhw wedi edrych i weld beth sy'n gweithio, maen nhw wedi ymgynghori gyda'r sector, fel rŷch chi wedi'i ddweud, a gydag awdurdodau lleol, ac wedi cynnal arolygon barn. Rwy'n gwbl ffyddiog erbyn hyn fod y levy sy'n cael ei gynnig yn un teg a chytbwys iawn. Hynny yw, mae'r ymateb gan y Torïaid yn afresymol. Hynny yw, rŷn ni'n sôn am ddau berson yn aros un noson am bris paned o goffi i un person. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn gytbwys o ran sut ŷn ni'n ymateb.
Ond y pwynt dwi eisiau ei wneud yw hyn: mae yna gost i awdurdodau lleol o ddelio ag effaith twristiaeth o ran glanhau'r strydoedd, glanhau'r sbwriel, gwella'r ffyrdd, gwella cyfleusterau cyhoeddus, llwybrau cyhoeddus ac yn y blaen. Nawr, dylai cyn-arweinydd cyngor fod yn deall beth yw'r gost hynny, felly rwy'n hapus iawn fod y gost yn cael ei rhannu, a dyna'r cynnig ger bron fan hyn.
Un awgrym bach i gloi, os y caf i, Dirprwy Lywydd. A oes modd annog awdurdodau lleol i sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud ynglŷn â sut mae gwario'r arian, er mwyn gwella'r profiad yna i dwristiaid?
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Cefin Campbell a diolch i Cefin am y gwaith roedd e wedi'i wneud o dan do'r gwaith a oedd yn mynd ymlaen rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, a diolch iddo am beth ddywedodd e am y gwaith caled mae swyddogion wedi'i wneud. Fel y dywedais i wrth Darren Millar, dwi'n agored i unrhyw ddadl resymol i wella'r Bil. Dwi ddim wedi gweld unrhyw Fil sydd wedi dod o flaen y Senedd sydd ddim wedi cael ei wella trwy'r broses o graffu. Dwi'n hollol hapus i edrych gyda'r pwyllgorau ar sut y gallwn ni fod yn glir y bydd llais busnesau yn cael ei glywed pan fydd yr awdurdodau lleol yn gwneud y penderfyniad am sut i wario'r arian maen nhw'n ei gasglu trwy'r ardoll. A dwi'n siŵr, trwy'r broses o graffu ar y Bil, y bydd syniadau fel yna yn gallu dod i wyneb y ddadl, a dwi'n hollol hapus i'w hystyried nhw pan fyddan nhw'n codi fel yna.
Rydw innau hefyd yn croesawu gweld cyflwyno'r Bil yma. Mi fyddai arian y lefi yn fuddiol iawn ar gyfer gwella profiadau ymwelwyr a bywydau pobl leol mewn sawl cymuned yn Arfon, o'r cymunedau o gwmpas yr Wyddfa, i lannau'r Fenai. Dwi'n falch hefyd o weld cyflwyno'r gofrestr llety gwyliau, a fydd yn ffynhonnell data pwysig all gynorthwyo gyda phenderfyniadau polisi i’r dyfodol. Mae’r gofrestr yn angenrheidiol ar gyfer Bil arall hefyd, onid ydy, sef y Bil trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Rydych wedi dweud y byddwch chi'n cyflwyno’r ail Fil cyn diwedd tymor y Senedd. Beth yn union fydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno’r ail Fil? Rydw i’n deall bod llawer o waith i’w wneud ar y Bil cyntaf yma, ond mae’r ail Fil yn bwysig hefyd, yn bwysig ar gyfer gwella diogelwch ymwelwyr, creu cyfartaledd rhwng gwahanol fathau o lety o fewn y diwydiant, a gwarchod y stoc tai lleol rhag troi yn asedau masnachol yn hytrach nag yn gartrefi. Felly, wnewch chi gadarnhau amserlen yr ail Fil, y dyddiad cyflwyno, a’r dyddiad gweithredu hefyd?
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian hefyd, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, gyda hi: pwrpas y Bil yw gwella profiadau ymwelwyr, ond hefyd gwella bywydau pobl leol. Diolch iddi hi am beth ddywedodd hi am bwysigrwydd y rhestr. Mae'r rhestr yn angenrheidiol ar gyfer yr ail Fil, am y pwrpasau y mae Siân Gwenllian wedi cyfeirio atynt. Mae Gweinidogion a swyddogion yn gweithio'n galed ar yr ail Fil. Rydyn ni'n cwrdd â'n gilydd bron bob wythnos nawr i gytuno ar y manylion yn yr ail Fil. Dydy'r dyddiadur ddim o fy mlaen i y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, ond, yn y flwyddyn nesaf, bydd yr ail Fil yn dod o flaen y Senedd am y pwrpasau y mae Siân Gwenllian wedi eu hesbonio y prynhawn yma.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Cyn i ni orffen yr eitem hon—.
Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar gynnydd ar y cynllun ffermio cynaliadwy—dylunio drwy gydweithio. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw i gyhoeddi cynllun ffermio cynaliadwy diwygiedig ar ôl gweithio'n agos gyda ffermwyr, elusennau amgylcheddol ac eraill dros y misoedd diwethaf.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Byddaf yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio, cyrff amgylcheddol ac eraill i edrych ar fanylion ychwanegol y camau gweithredu, gofynion y cynllun a'r prosesau gweinyddol, drwy y grŵp bord gron a'r grŵp swyddogion. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn rhan hanfodol o'r cynllun hwn hyd yn hyn, ac mae gweithio gyda'n gilydd yn hanfodol i lwyddiant y cynllun.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad. Dwi'n falch o gael ymateb iddo fo a gofyn rhyw hanner dwsin o gwestiynau bach, mae'n siŵr. Dwi am ddechrau drwy gydnabod bod y fersiwn ddiweddaraf yma o'r cynllun ffermio cynaliadwy yn cynrychioli cynnydd mewn sawl maes pwysig. Mae o'n dda gweld bod rhai o gwestiynau allweddol Plaid Cymru—dileu y gofyniad gorchudd coed o 10 y cant, lleihau nifer yr universal actions, cyflwyno taliad gwerth cymdeithasol—wedi cael eu derbyn, ac mae'r newidiadau yma hefyd, dwi'n meddwl, yn dangos gwerth ymgysylltu yn adeiladol efo ffermwyr a'r sector amaethyddol ehangach.
Rydyn ni'n symud i'r cyfeiriad cywir, felly, ond mae llawer mwy o waith, dwi'n meddwl, i'w wneud i sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer ffermwyr Cymru, ar gyfer cymunedau gwledig yn ehangach, ac wrth gwrs yr amgylchedd, ac mae'n amlwg bod yna bryderon sylweddol i'w hystyried o hyd. Mae'r sector ffermio yng Nghymru, rydym ni'n gwybod, yn teimlo o dan warchae ar hyn o bryd, a'r pwysau yn dod o sawl cyfeiriad wrth gwrs—y rheoliadau NVZ, chwyddiant, TB, newid hinsawdd ei hun, Brexit wrth gwrs—a hynny ar ben yr ansicrwydd o gwmpas yr SFS. Ac mae ffermwyr, dwi'n meddwl, yn llygaid eu lle i gwestiynu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru rhai o'r beichiau yma sydd arnyn nhw, tra yn gofyn iddyn nhw wneud mwy o ran ysgwyddo cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol ychwanegol. Cymerwch, er enghraifft, y targed cynllun cyfan newydd yma ar gyfer gorchudd coed; er ein bod ni'n croesawu dileu y targed mympwyol 10 y cant hwnnw ar lefel fferm, mae yna gwestiynau'n parhau ar sut bydd y cynllun cyfan hwnnw yn cael ei bennu, a thra bo gofyn pellach i ffermwyr greu cynllun cyfle coed a gwrychoedd, beth yn union mae dangos cynnydd wrth weithredu’r cynllun erbyn 2030 yn ei olygu? Mae yna bryderon yn parhau hefyd am y broses asesu fferm gyfan a data mapio ar gyfer gorchudd coed a chynefinoedd, a heb fapio ac asesiadau cywir a chyfredol all ffermwyr ddim cynllunio’n effeithiol. Felly, a oes gan y Llywodraeth y gweithlu angenrheidiol a'r adnoddau i gynnal asesiadau ac i ddarparu data mapio addas i bwrpas?
Mi fydd cyflwyno’r haenau dewisol a chydweithredol fesul cam—phased introduction—yn gosod llawer o'r cyfrifoldeb amgylcheddol ar yr haenau ychwanegol yma. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a fydd y rheini wedi’u datblygu’n llawn ac yn barod i’w rhoi ar waith erbyn mis Mawrth 2026, ochr yn ochr â’r haen gyffredinol?
Mae pryderon, wrth gwrs, am gyllidebau yn parhau yn rhai eithaf sylfaenol. Heb eglurder am cyllid, dim ond rhestr o ddyheadau sydd gennym ni mewn difrif, felly a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno achos cryf i Keir Starmer i wrthdroi’r toriadau welson ni dros flynyddoedd gan Lywodraethau Ceidwadol a sicrhau cyllid teg i amaeth yng Nghymru, a pha sicrwydd y gall ef ei roi y bydd cynllun y taliad sylfaenol yn cael ei warchod y flwyddyn nesaf, gan bod hwnnw, wrth gwrs, yn gosod y llinell sylfaen ar gyfer taliadau yn ystod y cyfnod pontio i’r SFS?
Ac wrth gwrs, mae bygythiad Barnettisation ar y gorwel hefyd, sy’n golygu, dros amser, y bydd ffermydd yng Nghymru yn gweld gostyngiad sylweddol yn eu cyllid. Mae angen inni glywed Gweinidog amaethyddol Llafur yng Nghymru yn brwydro’n galed iawn, iawn yn erbyn cynlluniau Barnettisation gan Lafur yn Whitehall.
Rydym ni hefyd yn aros, wrth gwrs, am asesiad effaith economaidd o’r modelu diweddaraf o’r SFS. Beth fydd yn digwydd os bydd yr asesiad hwnnw’n dal i ragweld colledion swyddi sylweddol a difrod i gymunedau gwledig? A fydd y Llywodraeth yn barod i feddwl eto mewn ffordd sylfaenol am rai o’u cynlluniau?
Lywydd, mae’n rhaid i ni, drwy hyn i gyd, gofio gwerth ffermio i Gymru. Rydym ni’n sôn am sector sy’n asgwrn cefn i gymunedau gwledig ond sydd hefyd yn gonglfaen economaidd a diwylliannol. Mae bwyd a ffermio yn werth £9.3 biliwn i economi Cymru, dros 200,000 o swyddi, dros 50,000 yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol ar ffermydd, ac eto, er ei holl bwysigrwydd economaidd a chymdeithasol, mae ffermwyr wedi bod yn teimlo eu bod nhw ar y cyrion yn ystod y saith mlynedd o ddatblygu’r cynllun yma. Mae cyfathrebu gwael gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at ddrwgdybiaeth ac at lawer iawn, iawn o rwystredigaeth. Mae’r newidiadau a gafodd eu cyhoeddi ddoe yn gam ymlaen, dwi’n sicr o hynny, ond dim ond os gwelwn ni newid gwirioneddol mewn agwedd gan Lywodraeth hefyd. Mae'n rhaid dod â ffermwyr, onid oes, ar y daith yma, achos, heb eu cefnogaeth nhw, mi fydd y cynllun yma yn methu â chyflawni ei uchelgeisiau economaidd ac ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth ac, wrth gwrs, ar gyfer yr amgylchedd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: adolygiad o briodoldeb dulliau mesur ymateb ambiwlansys argyfwng a thargedau cysylltiedig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Awst, fe wnaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd gyhoeddi adroddiad ar ôl sesiwn graffu gyffredinol gydag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Nododd y pwyllgor y pwysau sydd ar y gwasanaeth, ond roedd yn cydnabod hefyd nad yw'r heriau sy'n wynebu gwasanaeth ambiwlans Cymru yn unigryw. Mae gwasanaethau ambiwlans eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn chwilio am ffyrdd o reoli'r galw cynyddol am wasanaethau brys yn ddiogel ac yn effeithiol.
Argymhellodd y pwyllgor ein bod yn asesu pa mor briodol yw'r targed ymateb coch ar gyfer ambiwlansys. Targed yw hwn ar gyfer galwadau lle gallai bywyd fod yn y fantol, fel ataliad ar y galon, ffitiau, llewygu neu fynd yn anymwybodol, geni plentyn, tagu, rhai achosion o gymryd gorddos, colli gwaed difrifol neu anawsterau anadlu acíwt. Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chydbwyllgor comisiynu NHS Cymru i adolygu'r targed coch, ac i ystyried a yw e'n dal i fod yn briodol.
Fe wnaeth y pwyllgor argymell hefyd y dylid sefydlu proses werthuso gadarn i ddeall effaith cynlluniau'r ymddiriedolaeth ambiwlans i ddatblygu eu model ymateb clinigol. Mae'r gwasanaeth ambiwlans yn cyflwyno asesiad clinigol yn gynharach mewn galwad 999. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pobl yn cael yr ymateb mwyaf priodol i'w hanghenion cyn gynted â phosibl i wella canlyniadau. Hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor am ei argymhellion meddylgar, ac rwyf wedi eu derbyn yn llawn. Diolch hefyd i bob Aelod a ddaeth i'r sesiwn friffio dechnegol am y pwnc yma heddiw gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru a'r cydbwyllgor comisiynu.
Dirprwy Lywydd, rŷm ni'n rhoi pwyslais mawr ar gefnogi pobl sydd ag anghenion gofal brys i allu cael gofal mor agos â phosibl i'w cymunedau lleol. Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau canlyniadau gwell i bobl. I wneud hynny, mae angen gwneud yn siŵr bod adnoddau hanfodol y gwasanaeth ambiwlans a'r adrannau brys yn cael eu neilltuo i'r rhai sydd wir angen cymorth o fewn munudau ac oriau. Rŷm ni hefyd yn canolbwyntio ar wella'r llif drwy ysbytai.
Diolch am y datganiad. Dwi'n croesawu'r cyfle i drafod y datganiad yma yn y Siambr heddiw, a diolch hefyd am y sesiwn friffio defnyddiol iawn a gafwyd yn gynharach heddiw.
Wrth gwrs, dwi'n deall mai'r bwriad yn y pen draw ydy adolygu, o bosib, targedau'r ambiwlansys, i weld a ydy'r targedau yna yn addas i bwrpas. Yng ngoleuni'r argyfyngau niferus sydd yn wynebu'r gwasanaeth iechyd, mae hyn yn gwneud synnwyr—ar yr wyneb. Mae'n amlwg bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi adnabod y broblem, o leiaf yn rhannol, ac mae o wedi ei osod allan yn glir yn y datganiad a glywson ni ynghynt, pan soniodd ei fod am ffocysu ar wella y llif drwy'r ysbyty. Ond dydy'r diagnosis hwnnw ddim yn llawn, gan i'r Ysgrifennydd Cabinet fethu â sôn am pam fod y cleifion yn methu mynd allan o'r ysbyty yn ôl i'r gymuned, sef methiannau i fynd i'r afael â'r problemau dybryd yn ein gwasanaeth gofal.
Felly, mae'n ymddangos fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych i newid trefniadau y gwasanaeth ambiwlans oherwydd y methiant llywodraethiant yma, a methiant y Llywodraeth hefyd i fynd i'r afael â'r materion yma, sydd mewn gwirionedd y tu hwnt i reolaeth y gwasanaeth ambiwlans. Felly, pryd ydyn ni am gael datganiad ynghylch y camau sydd am gael eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r problemau creiddiol yma yn y gwasanaeth gofal?
Ac yn olaf, Peredur Owen Griffiths.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Symudwn ymlaen at eitem 6, datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar storm Bert. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Y peth cyntaf rwyf am ei wneud heddiw yw estyn fy nghydymdeimlad gyda’r bobl cafodd eu cartrefi a’u busnesau eu heffeithio arnynt dros y penwythnos yn sgil storm Bert. Mae effeithiau llifogydd yn drychinebus, ac rwyf yn gwybod y bydd pobl ledled Cymru yn teimlo’n ofidus ac yn bryderus am eu hunain, eu hanwyliaid sydd wedi’u heffeithio, a hefyd am eu bywoliaeth. Clywodd y Prif Weinidog a minnau hyn yn uniongyrchol ddoe pan wnaethom ymweld â Phontypridd i gyfarfod ag arweinydd y cyngor a’r trigolion a’r busnesau a gafodd eu heffeithio. Fe wnes i ymweld â Threfynwy yn gynharach heddiw i gwrdd â thrigolion a gafodd eu heffeithio yno hefyd. Mae storm Bert unwaith eto yn dangos realiti beth rydym ni’n ei wynebu a beth fydd digwyddiadau tywydd eithafol amlach yn ei olygu i gymunedau ledled Cymru.
Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Aelodau yn y Siambr hon, ac aelodau etholedig eraill, am eu gwaith i gynorthwyo etholwyr a gafwyd eu heffeithio yn ystod y dyddiau diwethaf. Rwyf yn gwybod bod aelodau lleol a'u timau yn gweithio yn ddiflino i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi eu cymunedau pan fydd digwyddiadau fel hyn yn taro, a bydd eu gwaith ar eu rhan yn parhau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae storm Bert wedi dangos yn glir i ni fod lleoliad, hyd a dwyster glawiad wir yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau yr effeithir arnynt. Mae llawer o ansicrwydd ynghylch maint llawn yr effeithiau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o gyhoeddi nodyn briffio ar gyfer Aelodau, ac mae gennych fy ymrwymiad y byddaf yn rhoi gwybod i gydweithwyr am ddatblygiadau. Diolch.