Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/11/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price.

Ffordd Osgoi Llandeilo

1. A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet esbonio pam mae'r amserlen a luniwyd yn 2023 ar gyfer penodi asiant cyflogaeth ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo wedi ei gohirio am bum mis? OQ61873

Rydym yn y broses o gaffael asiant cyflogaeth, a ddylai fod wedi'i chwblhau ym mis Ionawr 2025. Yna, bydd contractwr yn cael ei gaffael i gynllunio, cwblhau'r achos busnes, a drafftio gorchmynion o dan y Deddfau Priffyrdd perthnasol sydd eu hangen i alluogi'r gwelliannau arfaethedig. Ac rwy'n falch o nodi nad oes unrhyw oedi i'r rhaglen bresennol.

Cafwyd datganiad gan y Gweinidog newid hinsawdd, a oedd yn gyfrifol am y prosiect hwn ar y pryd—yn gynharach eleni, mewn gwirionedd, ym mis Chwefror 2024—ynglŷn ag amserlen garlam. Yn dilyn hynny, rhoddwyd gwybod i mi fod yr asiant cyflogaeth i’w benodi ym mis Awst eleni. Rydych chi newydd ddweud eu bod yn mynd i gael eu penodi ym mis Ionawr. Dyna bum mis o oedi. A fydd hynny'n cael effaith ganlyniadol ar gamau diweddarach datblygiad y prosiect? Cefais wybod y bydd y dyfarniad ymwneud cynnar gan gontractwr yn cael ei wneud ym mis Rhagfyr 2025, ac y caiff y gorchmynion drafft eu cyhoeddi ym mis Mai 2027. Byddai unrhyw oedi pellach yn destun cryn bryder, gan fod hwn eisoes yn brosiect sydd wedi bod ar y gweill ers wyth mlynedd bellach yn dilyn y penderfyniad gwreiddiol. Mewn gwirionedd, cawsom gwestiynau eraill ynglŷn â hyn pan oeddech chi yn y rôl weinidogol hon ddiwethaf. A allwch chi roi sicrwydd i ni na fydd unrhyw oedi pellach i’r prosiect hwn, ac y cedwir at y dyddiadau gwreiddiol yr wyf newydd eu rhannu â chi?

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol, ac er bod ychydig o oedi yn elfen flaenorol y rhaglen, nid oes unrhyw oedi yn y rhaglen bresennol. Os caf amlinellu’r dyddiadau targed ar gyfer bwrw ymlaen â’r prosiect a’i gyflawni: yn dilyn penodi'r asiant cyflogaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn caffael contract ymwneud cynnar gan gontractwr—ECI—yn ystod gaeaf 2026, ac yna bydd y gwaith o ddatblygu cynllun amlinellol pellach yn parhau yn 2026 fel y gellir drafftio a chyhoeddi gorchmynion drafft a’r datganiad amgylcheddol yn ystod gwanwyn 2027, fel yr amlinellodd yr Aelod.

Cysylltedd Ffyrdd

2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am gysylltedd ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ61900

Mae cysylltedd ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru yn adlewyrchu cymysgedd yr ardal o drefi, pentrefi a dinasoedd. Mae’r rhwydwaith wedi’i angori gan nifer o brif ffyrdd a thraffyrdd sy’n hwyluso symudiad o fewn y rhanbarth, gan gefnogi’r economi leol, yn ogystal â chysylltiadau â datblygiadau allweddol ac ardaloedd cyflogaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fel y gwyddoch yn dda, mae gan etholaeth Mynwy yn ne-ddwyrain Cymru rai o’r cefnffyrdd pwysicaf hynny: mae ganddi’r M4, yn amlwg, sy’n cysylltu Cymru â Llundain; yr A465 rhwng Castell-nedd a Henffordd; yr A40 rhwng Abergwaun a Llundain; ac yn amlwg, yr A48 sy'n rhedeg drwy Gas-gwent ac yn cysylltu Caerfyrddin â Chaerloyw. Felly, cefnffyrdd pwysig iawn. Ond mae’r A48 yn destun pryder penodol, gan ei fod yn fater sydd wedi codi droeon, yn sicr, yn fy mewnflwch i ac ym mewnflwch y Llywodraeth, rwy'n gwybod, yn enwedig o ran y tagfeydd sydd gennym ar gylchfan Highbeech, lle mae’r A48 yn cysylltu â’r A466. Daw llawer o draffig o swydd Gaerloyw a rhannau eraill o sir Fynwy ac mae'n ymestyn i lawr i'r M4 a’r M48, ac mae’n hunllef, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi siarad â'r Llywodraeth dros sawl blwyddyn, ac mae cynlluniau wedi bod ar y gweill i wneud mwy a mwy i liniaru'r sefyllfa yno. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am unrhyw ddiweddariadau ar waith posibl i wella cylchfan Highbeech? Ac a gaf i ofyn, efallai, os ydych chi yn yr ardal, i chi gyfarfod â mi ac edrych ar rai o'r problemau difrifol iawn sydd gennym gyda thagfeydd yng Nghas-gwent?

Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â’r Aelod ar y safle i weld y tagfeydd yn yr ardal honno drosof fy hun. Mae ei ardal ef o Gymru yn debyg iawn i fy ardal i yn yr ystyr ei bod yn bwynt mynediad trawsffiniol allweddol i fodurwyr sy’n teithio i Loegr, yn ogystal â modurwyr sy’n teithio i mewn i Gymru. Ar gylchfan Highbeech yn benodol, rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gwblhau astudiaethau arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru 1 a 2 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Bydd hynny wedyn yn arwain at gytuno ar becyn o fesurau a ffefrir ar gyfer y gylchfan, ac mae’n debygol o gynnwys newidiadau i’r rhwydwaith ffyrdd presennol ar y gylchfan yn ogystal â gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Nawr, pan fydd y pecyn o fesurau wedi’i nodi, byddwn yn gweithio gyda chyd-bwyllgor corfforedig de-ddwyrain Cymru ac yn ceisio cynnwys y cynigion yn y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, fel y gall geisio’r buddsoddiad sydd ei angen wedyn i gwblhau'r gwaith uwchraddio.

13:35

Ysgrifennydd y Cabinet, yn ardal Severnside yn fy etholaeth i, mae ymgyrchwyr, cynghorwyr lleol a Chyngor Sir Fynwy wedi ymgyrchu ers tro am ffordd gyswllt fer i gysylltu’r M48 â’r B4245, a fyddai hefyd yn cysylltu â chyffordd twnnel Hafren. Mae hon yn ardal sydd wedi gweld llawer iawn o dai'n cael eu hadeiladu dros sawl blwyddyn, ac nid yw'r seilwaith wedi dal i fyny â chyflymder y datblygiadau. Gwn eich bod yn gyfarwydd â’r mater, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan ddowch i gyfarfod â Peter, tybed a wnewch chi gyfarfod hefyd ag ymgyrchwyr lleol a Chyngor Sir Fynwy i ystyried y materion sy'n codi gyda'r ffordd gyswllt bosibl honno ar hyn o bryd.

Yn sicr, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â hwy. Ond os caf roi rhywfaint o wybodaeth gefndirol am y darn penodol hwn o'r ffordd, mae dadansoddiad gan uned gyflawni Burns yn awgrymu y byddai ffordd gyswllt yn cynyddu traffig ar yr M4 tuag at Gasnewydd mewn gwirionedd, felly fe wnaethant ystyried yn ofalus iawn a ddylid bwrw ymlaen. Wedi dweud hynny, pe bai’r cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu, ar ôl ystyried yr holl effeithiau ar y de-ddwyrain yn ei gyfanrwydd, ei fod yn dymuno darparu'r cyswllt fel blaenoriaeth, byddai Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn ailystyried yr achos dros wneud hynny. Ac mae hynny’n cynnwys y posibilrwydd o ailddosbarthu’r M48, os gellir dangos y byddai hynny'n arwain at fanteision ehangach i’r rhanbarth.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.

Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn aml yn crwydro’n rhy bell o fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, fe groesais y ffin yn ddiweddar a mynd i Rondda Cynon Taf, gan wisgo dillad gwaith. Gan wisgo fy het drafnidiaeth, cyfarfûm â Chymdeithas Twnnel y Rhondda, grŵp gwych y gwn fod fy nghyd-Aelod a'u Haelod Senedd lleol, Joel James, yn ei gefnogi. Mae llawer o bobl yn credu bod bywyd Aelod o'r Senedd yn foethus, ond ar ôl bod 1,000 o droedfeddi o dan y ddaear, cropian drwy lawer iawn o fwd, a dod yn ôl i'r wyneb yn edrych fel pe bawn wedi cael fy llusgo drwy glawdd wysg fy nghefn, rwy'n sicr yn anghytuno. Er gwaethaf yr olwg arnaf, roedd yn ymweliad gwirioneddol wych, ac mae gan y gymdeithas weledigaeth wych ar gyfer twnnel y Rhondda, a fydd, os caiff ei gwireddu, yn rhoi’r ardal ar y map. Mae'r grŵp yn gweithio i drawsnewid yr hen dirnod hanesyddol hwn yn dwnnel cerdded a beicio hiraf Ewrop, a fyddai'n ei wneud yn atyniad hollbwysig, gan ddenu pobl leol a thwristiaid o bell. Gallai'r fenter wirioneddol wych hon gael ei gwireddu gyda llai na £15 miliwn o gyllid. Ysgrifennydd y Cabinet, byddai’r grŵp yn falch iawn o gyfarfod â chi i rannu eu cynlluniau a'ch tywys i lawr y twnnel. Fodd bynnag, os nad ydych chi'n hoff o'r syniad o wisgo’ch welintons a cherdded drwy'r mwd, rwy’n siŵr y byddai'r gymdeithas yn gwerthfawrogi cyfarfod ar-lein neu rywle ar yr wyneb. Y naill ffordd neu’r llall, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno i gyfarfod â’r gymdeithas, i ddarganfod mwy ac i archwilio pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i yrru'r cwch i'r dŵr? Diolch.

Buaswn wrth fy modd yn cyfarfod â'r gymdeithas eto; rwyf wedi cyfarfod â'r gymdeithas yn y gorffennol. Credaf fod yna rai Aelodau yn y Siambr nad ydynt wedi profi cynhesrwydd Cymdeithas Twnnel y Rhondda. Byddai’n bleser mawr cyfarfod â hwy eto i drafod y potensial iddo ddod yn atyniad y mae'n rhaid ei weld—ac yn wir, yn atyniad y mae’n rhaid ei wneud—a buaswn yn croesawu’r cyfle hefyd i fynd i’r twnnel fy hun, gan fod hwnnw'n brofiad nad wyf wedi'i gael eto.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Edrychaf ymlaen at weld eich profiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ysgrifennydd y Cabinet, nodwyd yn ddiweddar fod mwy nag erioed o geir ceir trydan—ceir ail law, mewn gwirionedd—yn cael eu prynu, gyda mwy na 50,000 o geir yn newid dwylo rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni. Fodd bynnag, rhybuddiwyd bod diffyg seilwaith gwefru yn achosi nerfusrwydd ymhlith modurwyr, ac y gallai hyn, yn wir, fod yn eu hatal rhag gwneud y newid. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn galw'n gyson am ddarparu rhagor o bwyntiau gwefru ledled Cymru, ac rwyf wedi dechrau edrych ar wledydd eraill ledled y byd i weld beth y maent hwy'n ei wneud. Un wlad sydd wedi dal fy llygad yw Sweden, gyda chynlluniau ar y gweill i adeiladu e-briffordd gyntaf y byd yn Stockholm. Nawr, nid wyf yn wirion—efallai fod y tebygolrwydd y bydd y Llywodraeth Lafur hon yn cyflwyno rhywbeth tebyg i hynny'n eithaf bach, o ystyried ei bod yn anodd iawn cael eich plaid i fuddsoddi yn ein ffyrdd presennol, heb sôn am adeiladu rhai newydd. Ond mae gwledydd eraill yn arwain y ffordd o ran pwyntiau gwefru cerbydau trydan, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gan Norwy fwy na 34,000 o bwyntiau gwefru ledled y wlad, gyda'r nod o gyrraedd 500,000 erbyn 2030. Ac mae gan yr Iseldiroedd un o'r dwyseddau uchaf o orsafoedd gwefru cyhoeddus, gyda chymhareb o un orsaf i bob pum car trydan. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, flwyddyn ar ôl adroddiad y Senedd a ddywedai fod cynnydd Cymru ar gael mwy o gerbydau trydan ar y ffordd, ac rwy’n dyfynnu, yn 'embaras', buaswn yn ddiolchgar pe gallech daflu rhywfaint o oleuni, os gwelwch yn dda, ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i wella'r sefyllfa. A hoffwn wybod a ydych chi wedi bod yn edrych ar fentrau tebyg mewn gwledydd eraill fel rhyw fath o ysbrydoliaeth. Diolch.

13:40

Wel, a gaf i ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiwn a’i diddordeb yn y pwnc hwn? Mae'n bwnc y mae gennyf innau gryn ddiddordeb ynddo hefyd. Credaf mai rhan o'r her gyda'r seilwaith i gynnal cerbydau trydan yw'r gallu i ragweld i ba gyfeiriad y mae technoleg yn mynd. A chyda Toyota yn dweud yn ddiweddar eu bod wedi gallu datblygu batri cyflwr solet cell sych ar gyfer cerbydau, gallai hynny arwain at oblygiadau mawr o ran pellter teithio'r cerbydau. Fy nealltwriaeth i yw y gallai godi pellter teithio car trydan cyffredin i oddeutu 800 milltir, a fyddai’n drawsnewidiol o ran yr angen a’r gofyniad i wefru cerbydau trydan ar y rhwydwaith traffyrdd. Fodd bynnag, nid yw hynny'n ein hatal rhag canolbwyntio ar wefru gartref a chymorth ar gyfer gwefru gartref. Credaf fod Llywodraeth y DU eisoes yn cynnig cymorth—cymorth ariannol—i bobl sydd am osod gwefrydd cerbydau trydan gartref, ond rydym yn canolbwyntio ar sut y gallwn addasu’r ardaloedd trefol mwyaf dwys, yn enwedig strydoedd heb unrhyw leoedd parcio oddi ar y ffordd, ar gyfer nifer mawr iawn o gerbydau trydan, yn enwedig wrth inni gael gwared yn raddol ar geir newydd wedi'u pweru â pheiriant tanio mewnol. Felly, ar hynny rydym yn canolbwyntio fel polisi. Ond rydym hefyd yn annog y farchnad ei hun i ddatblygu atebion newydd ac arloesol i'r problemau gyda gwefru cerbydau trydan. Ac mae’r enghraifft y mae’r Aelod wedi tynnu sylw ati heddiw yn dilyn enghraifft arall y cyfeiriodd yr Aelod ati yn ystod ein sesiwn gwestiynau llafar ddiwethaf. Mae arloesi gwych i'w gael; mae angen ei harneisio, ac mae angen i ni ei gwneud yn ddeniadol yng Nghymru i fuddsoddi.

Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Swyddfa'r Yswirwyr Moduron ddata a gasglwyd dros ddwy flynedd sy'n datgelu bod rhywun bob 20 munud, ar gyfartaledd, yn cael eu taro gan yrrwr heb yswiriant neu yrrwr taro a ffoi yn y DU. Maent hefyd wedi darganfod, hyd yma eleni, fod cerbydau 115,000 o yrwyr heb yswiriant wedi eu hatafaelu. Mae effeithiau erchyll, trawmatig a chorfforol anafiadau yn sgil y digwyddiadau hyn yn enfawr, ac yn aml yn fwy trallodus byth o ystyried bod cyflawnwyr y digwyddiadau hyn wedi ffoi a gadael y dioddefwyr ar eu pen eu hunain i brosesu’r hyn sydd newydd ddigwydd. Yn ogystal, mae'n bwysig nodi yr amcangyfrifir bod anafiadau a achosir gan yrwyr taro a ffoi yn costio bron i £2.5 biliwn y flwyddyn i'r economi mewn gwasanaethau brys, gofal meddygol, colli cynhyrchiant a'r gost ddynol. Felly, gyda hynny mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dioddefwyr digwyddiadau taro a ffoi a sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i atal y troseddau hyn yn y dyfodol. Diolch.

Mae’n gwestiwn amserol iawn, gan imi gyfarfod ddoe â Gweinidogion cyfatebol o’r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU, ac roeddem yn cyfarfod yn rhannol i drafod gwaith diweddaraf tasglu yswiriant y DU. Ac mae rhan o’r gwaith hwnnw’n ystyried yr effaith y mae gyrwyr heb yswiriant yn ei chael nid yn unig ar bremiymau yswiriant, ond hefyd yr effaith ar yr heddlu, gwasanaethau brys ac ysbytai. Rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am waith tasglu yswiriant y DU.

Diolch, Lywydd. Mae nod unrhyw rwydwaith trafnidiaeth, neu Ysgrifennydd trafnidiaeth o ran hynny, yn syml—mae a wnelo â sicrhau bod pobl yn cyrraedd ble bynnag y maent am fynd, pan fydd angen iddynt fod yno, gan ystyried cost, hygyrchedd a chynaliadwyedd ar yr un pryd. Mae pobl yn haeddu'r sicrwydd y bydd eu trên yn rhedeg ar amser, neu fan lleiaf, y bydd yn cyrraedd yr orsaf. Ond ar hyn o bryd, nid yw'r disgwyliadau sylfaenol hyn yn cael eu bodloni. Os ystyriwn deithiau trên yng Nghymru, er enghraifft, mae pobl yn ei chael hi'n anodd cyrraedd pen eu taith ar y trên. Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai dim ond 50 y cant o bobl Cymru sy’n byw o fewn pellter cerdded o 30 munud i orsaf drenau, gan adael llawer yn ddibynnol ar eu ceir a rhwydwaith bysiau mwyfwy cyfyngedig. Yn ddiweddar, clywsom y bydd adeiladu’r orsaf HS2 newydd yn Lloegr yn ychwanegu 15 munud at sawl taith yn ne Cymru tan 2030. Mae hyn yn halen ar y briw, gan y gwyddom na fydd Cymru’n cael y biliynau sy’n ddyledus iddi o'r gwariant ar HS2 yn Lloegr, tra bo Llafur yng Nghymru yn gwrthod galw ar Keir Starmer i unioni’r anghyfiawnder hwn. Ac ar fater costau, canfu ymchwil gan y TUC fod prisiau tocynnau trên wedi cynyddu ar gyfradd ddwywaith yn uwch na chyflogau ers 2009. Mae hyn yn anghynaliadwy i’r teithiwr cyffredin. Felly, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud o hyn? A fyddai’n cytuno â mi fod y rhwydwaith rheilffyrdd yn tangyflawni ac nad yw’n bodloni’r safonau sylfaenol a ddisgwylir gan rwydwaith trafnidiaeth, a beth y mae ef yn ei wneud yn ei gylch?

13:45

Lywydd, rwy'n credu y gallwn siarad am beth amser, mae’n debyg, ar yr union bwnc hwn. Felly, yr hyn rwy'n awgrymu y byddaf yn ei wneud yw cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar berfformiad, ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran cerbydau trên a refeniw tocynnau. Yn gryno, serch hynny, credaf fod yr Aelod yn gywir mai diben rhwydwaith trafnidiaeth yw symud pobl a nwyddau mor gyflym, mor effeithlon ac mor gynaliadwy â phosibl. Ond i ateb rhai o'r pwyntiau penodol iawn a godwyd gennych, yn gyntaf oll, nid ydym wedi ildio ar HS2. Mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng cydweithredu a gwrthdaro. Rydym yn cydweithredu â Llywodraeth y DU i gael gwell bargen na’r cyllid canlyniadol o £320 miliwn i £350 miliwn y byddem yn ei dderbyn fel arall, a hynny drwy gydweithio drwy fwrdd rheilffyrdd Cymru i nodi’r llif o welliannau i seilwaith ledled Cymru. A lle rydym wedi gallu cyfeirio’r gwelliannau i’r seilwaith, er enghraifft yma yn y de-ddwyrain gyda’r metro, rydym yn gweld manteision enfawr o ran dibynadwyedd, sy’n well na’r cyffredin ar draws y rhwydwaith yn ei gyfanrwydd, ac o ran amlder, a chyflwyno trenau trydan newydd. Mae mwy i’w wneud ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru o hyd wrth gwrs, ond o ran dibynadwyedd ar hyn o bryd, mae 76 y cant o drenau’n cyrraedd o fewn tri munud i’r amser a gynlluniwyd.

O ran cynyddu refeniw tocynnau, sy’n hollbwysig i sicrhau ei fod yn gynaliadwy, rwy’n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru wedi sicrhau cynnydd o £27 miliwn yn y refeniw gan deithwyr yn y flwyddyn ariannol hon. Maent wedi cyflawni ein targedau heriol ac wedi rhagori arnynt. Maent hefyd—a chredaf fod hyn yn wirioneddol bwysig o ran sicrhau bod gennym wasanaeth rheilffordd cynaliadwy—wedi sicrhau'r cynnydd mwyaf yn nifer y teithwyr ledled Prydain, gyda chynnydd o 27 y cant yn nifer y teithwyr eleni. Felly, o ran cyflawni ar gyfer teithwyr, mae dibynadwyedd wedi gwella, mae nifer y trenau sy'n cael eu canslo wedi lleihau, ac o ran y canlyniadau i deithwyr a'r trethdalwr, bydd y gwelliannau yno wrth inni geisio cynyddu refeniw tocynnau ymhellach, a lleihau lefel y cymhorthdal sydd ei angen drwy wneud hynny.

Diolch am yr ateb yna. 

Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb, ac rwy'n cytuno â chi ynglŷn â rhai rhannau ohono. Yn amlwg, byddem eisiau’r cyllid canlyniadol yn ogystal â’r buddsoddiad; nid yw'n fater o'r naill neu'r llall. Felly, dyna hynny.

Ond hoffwn droi i edrych ar Avanti West Coast yng ngogledd Cymru. Y llynedd, cafodd Avanti eu cyfarwyddo i ddatblygu cynllun gwella i fynd i’r afael â pherfformiad gwael ar lwybrau hanfodol ar draws arfordir y gogledd. Yn gynharach eleni, cafodd mwy nag 20 y cant o wasanaethau Avanti West Coast ar brif reilffordd y gogledd eu canslo ar y diwrnod, ac nid yw’r amserlen wedi dychwelyd i lefelau cyn COVID o hyd. Mae canslo trenau'n tarfu'n sylweddol ar gymudwyr ac yn niweidio'r economi. Mae’r llwybr yn chwarae rhan economaidd hanfodol, gan gysylltu porthladd Caergybi â gweddill rhwydwaith rheilffyrdd y DU. Mae hefyd yn gweithredu fel llwybr allweddol i fyfyrwyr sy'n teithio o bob rhan o'r DU i astudio ym Mhrifysgol Bangor yng ngogledd-orllewin Cymru. Serch hynny, mae'r llinell reilffordd hanfodol hon yn cael ei difetha gan y gweithredwr ac wedi bod yn aneffeithlon. Rwy’n deall y gallai Llywodraeth y DU fynd â'r fasnachfraint oddi ar Avanti yn gynt na'r disgwyl, a'i rhoi mewn perchnogaeth gyhoeddus o bosibl, os na allant gyflawni eu cynllun gwella a’u gwasanaethau. A all Ysgrifennydd y Cabinet esbonio pam fod gwasanaethau yn y gogledd mor wael, a beth a wnaeth ei adran i ddwyn Avanti i gyfrif?

Wel, rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gofnodi pa mor siomedig rwyf i gyda pherfformiad Avanti a faint rwy’n edrych ymlaen at weld Great British Railways yn cael ei sefydlu o dan Lywodraeth y DU i fod yn gyfrifol am y fasnachfraint honno unwaith eto. Oherwydd mae'r Aelod yn llygad ei le fod perfformiad wedi dirywio dros y blynyddoedd, ac nid perfformiad yn unig, ond mae nifer y gwasanaethau a gynigir gan Avanti West Coast wedi lleihau’n aruthrol, ac mae COVID wedi hen basio bellach, felly ni ellir defnyddio COVID fel esgus mwyach dros beidio ag adfer y gwasanaethau hynny.

Cyfarfûm yn ddiweddar â’r Ysgrifennydd trafnidiaeth, Louise Haigh. Buom yn trafod Avanti, buom yn trafod y broses o greu Great British Railways, ac yn hanfodol bwysig, y rhan y byddwn ni a'r Senedd yn ei chwarae nawr yn pennu gwasanaethau’r dyfodol, gan eu bod yn effeithio ar nifer enfawr o bobl sy’n teithio ar drenau, nid yn unig yn y gogledd, ond gyda CrossCountry yng Nghymru, a hefyd GWR. Felly, bydd gennym fwy o rôl, mwy o lais, wrth bennu'r gwasanaethau hynny yn y dyfodol, ac mae hynny o ganlyniad i ddwy Lywodraeth yn gweithio fel un, ac mae'r Aelod hefyd yn iawn i dynnu sylw at nifer y trenau rydym wedi'u gweld yn cael eu canslo gan Avanti yn ddiweddar. Mae'r ffigurau diweddaraf un yn dal i ddangos bod nifer y trenau sy'n cael eu canslo yn y ffigurau dwbl, ac nid yw hynny'n dderbyniol.

13:50

Nifer y trenau sy'n cael eu canslo yn y ffigurau dwbl—felly, mae gennych y wybodaeth honno. Daw â mi at gwestiwn sy'n nes at adref i mi, o bosibl, yn fy rhanbarth yn y de-ddwyrain, ac edrych ar berfformiad. Cysylltodd etholwyr rhwystredig â mi yn ddiweddar. Fel yr amlinellais heddiw, nid yw eu disgwyliadau sylfaenol gan y rhwydwaith rheilffyrdd yn cael eu bodloni. Mae eu teulu cyfan yn ceisio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gorsafoedd trenau lleol fel rhan o’u hymrwymiad ar y cyd i leihau eu hôl troed carbon a defnyddio dulliau teithio cynaliadwy. Fodd bynnag, maent yn dod yn fwyfwy rhwystredig gyda nifer y gwasanaethau cymudwyr allweddol o orsaf Tŷ-du sy'n cael eu canslo. O ystyried mai dim ond ddwywaith yr awr y mae’r gwasanaeth yn mynd drwy’r dref, gall canslo un gwasanaeth yn unig gael effaith enfawr ar eu gallu i gyrraedd y gwaith ar amser ai peidio. Gyda hyn mewn golwg, a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i ni faint o drenau uniongyrchol o Lynebwy i Gasnewydd sydd wedi'u canslo ers i'r gwasanaeth ddechrau, os yw'r manylion hynny gennych, neu a allech chi ysgrifennu ataf os nad ydynt? A pha effaith y mae hynny wedi'i chael ar economi Casnewydd, tagfeydd ar y ffyrdd lleol ac ar ddinasyddion, yn enwedig grwpiau a ymyleiddiwyd heb drafnidiaeth breifat at eu defnydd? Ac a wnewch chi ddweud wrthyf beth y mae 'da' yn ei olygu, a beth y byddech chi'n ei ddisgwyl fel cyfradd o drenau'n cael eu canslo, os o gwbl?

Wel, unwaith eto, a gaf i ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Cyfle arall i amlinellu’r llwyddiant rydym yn ei weld yma yng Nghymru lle mae gennym reolaeth dros wasanaethau, ac mae'n ymwneud â’r trenau newydd. Rydym wedi archebu gwerth £800 miliwn o drenau newydd ar gyfer y rhwydwaith, ac maent yn cyfrannu at y cynnydd y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei nodi mewn dibynadwyedd a phrydlondeb. Ond er gwaethaf y gwerth £800 miliwn o drenau newydd, nid yw bron i hanner y munudau o oedi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r trenau; mae 44 y cant o’r munudau o oedi yn ymwneud yn uniongyrchol â materion yn ymwneud â’r seilwaith, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn gweithio gyda Great British Railways a Llywodraeth y DU i gael y buddsoddiad sydd ei angen arnom yn ein seilwaith; ni fyddai cyllid canlyniadol o £320 miliwn i £350 miliwn yn ddigon i dalu amdano. Mae angen inni gael buddsoddiad sylweddol mewn gwelliannau, a dyna rydym yn ceisio cytuno arno yn fuan iawn.

Nawr, ar y cerbydau trên, mae'n rhaid imi ddweud hefyd fy mod wedi fy syfrdanu yr wythnos hon, pan ymunodd Vikki Howells â mi i weld y trên trydan cyntaf ar gyfer y metro yn cyrraedd, a chael gwybod mai’r tro olaf i drên newydd gael ei gyflwyno cyn i Trafnidiaeth Cymru wneud hynny—y tro diwethaf i Gymru weld trên newydd gyda'r gweithredwyr blaenorol oedd 1991. Rydym yn mynd i weld fflyd a oedd yn un o fflydoedd trên hynaf Prydain—yn wir, un o'r fflydoedd trên hynaf yn Ewrop—y gwnaethom ei hetifeddu gan Trenau Arriva Cymru yn 2018, fflyd o 270 o drenau—dyna faint y gwnaethom eu hetifeddu; un o’r fflydoedd hynaf—ac erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, bydd gennym un o'r fflydoedd mwyaf newydd yn Ewrop, gyda nid 270 o drenau, ond 484, ac nid wyf yn ymwybodol o unrhyw le arall yn Ewrop sy’n gweld cynnydd mor gyflym, cynnydd sylweddol, yn nifer y cerbydau a'r gostyngiad yn oedran cyfartalog y trenau sy'n rhedeg ar eu rhwydweithiau. Mae’n rhywbeth y credaf y dylem fod yn falch ohono. Gwn fod llawer i'w wneud o hyd o ran dibynadwyedd, ond rwy'n credu bod ein huchelgais yn dechrau cael ei gwireddu.

Gwelliannau i Ddiogelwch Cyffyrdd

3. Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r gwelliannau i ddiogelwch cyffyrdd sydd eu hangen yng nghanolbarth Cymru? OQ61891

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu data gan yr heddlu ar wrthdrawiadau a achosodd anafiadau personol fel mater o drefn i nodi safleoedd lle ceir clystyrau o wrthdrawiadau er mwyn llywio'r rhaglen cynlluniau diogelwch lleol, a’r maen prawf i ddynodi safle lle ceir clwstwr o wrthdrawiadau ar y rhwydwaith ffyrdd strategol yw pedwar gwrthdrawiad mewn tair blynedd o fewn 100m. Byddai'r gwaith hwn yn cynnwys cyffyrdd.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.

Hoffwn godi cyffordd Pont-y-bat, mater yr ysgrifennais atoch yn ei gylch ar sawl achlysur. Mae cyffordd Pont-y-bat rhwng Llys-wen a Bronllys, ac yn 2021, nododd yr awdurdod cefnffyrdd gyffordd Pont-y-bat fel blaenoriaeth ar gyfer gwelliannau ar ôl 10 gwrthdrawiad mewn pum mlynedd. Fe wnaethant ddrafftio cynlluniau ar gyfer cylchfan bedair ffordd, ac eto, er bod y cynlluniau hyn yn barod i'w rhoi ar waith, mae pobl leol a’r cyngor cymuned yn dal i aros am asesiad arall fyth, sydd i’w ddiweddaru.

Powys sydd â'r gyfradd uchaf y pen o farwolaethau ac anafiadau difrifol ar y ffyrdd yng Nghymru, ac mae’r A470, y gwyddom ei bod yn ffordd hir iawn, ond sy’n cynnwys cyffordd Pont-y-bat, yn parhau i fod yn un o ffyrdd mwyaf peryglus Cymru. Ynghyd â’r ymrwymiadau eraill a wnaethoch i ymweld â llawer o gyffyrdd a ffyrdd yma yn y Siambr y prynhawn yma, tybed, ar eich ffordd, neu yn eich hofrennydd efallai, a allech chi alw heibio i gyffordd Pont-y-bat gyda mi i gyfarfod â thrigolion a’r cyngor cymuned i weld y safle a’r pryderon sydd gan bobl. Diolch yn fawr iawn.

13:55

Diolch yn fawr iawn, Jane Dodds. Ar gyfer y cofnod, a gaf i nodi nad oes gennyf yr un hofrennydd? Mae gennyf dri. [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Yn sicr. Buaswn yn mwynhau ymweld â'r safle gyda’r Aelod, a chyfarfod ag arweinwyr cymunedol a thrigolion yr ardal. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi ymrwymo i gynnal astudiaeth, fel y gŵyr yr Aelod, ym Mhont-y-bat, yn unol â’r dull newydd, rhagweithiol o ymdrin â diogelwch ar y ffyrdd, y deuaf ato yn y man. Rydym yn gobeithio dechrau’r broses honno naill ai’n ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol hon neu yn 2025-26. Felly, dyna yw ein targed.

Soniais am ein dull newydd, rhagweithiol. Yn y gorffennol, byddai data'n cael ei ddefnyddio gan ddefnyddio gwrthdrawiadau—gwrthdrawiadau a gofnodwyd yn unig. Rydym wedi newid i ddefnyddio data niwed personol ar wrthdrawiadau, gan ei fod yn adlewyrchu'n fwy cywir yr hyn sy'n digwydd gyda digwyddiadau a gofnodwyd, ac mae hefyd yn ein galluogi i nodi'r ardaloedd lle ceir y perygl mwyaf, gan gynnwys cyffyrdd. Felly, rydym yn mabwysiadu ymagwedd fwy deallus at gynllunio ac yn bod yn rhagweithiol o ran rhoi mesurau diogelwch ar y ffyrdd ar waith. Ond rwy'n fwy na pharod i ddod i weld y safle fy hun ac i gyfarfod â thrigolion.

Gwasanaethau Bysiau

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau bysiau yng Ngorllewin De Cymru? OQ61874

Rydym yn darparu cymorth ariannol sylweddol i wasanaethau bysiau yn ne-orllewin Cymru, gan gynnwys gwasanaethau TrawsCymru a Fflecsi. Bydd y ddeddfwriaeth bysiau sydd ar y ffordd yn cyflwyno masnachfreinio i ganiatáu inni gefnogi’r diwydiant, ac i awdurdodau lleol allu darparu gwasanaethau bysiau gwell yn y rhanbarth.

Diolch. Ers ei gyflwyno dros 10 mlynedd yn ôl, mae’r grant cynnal gwasanaethau bysiau wedi aros yr un fath ar £25 miliwn. Pe bai wedi codi yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, byddai'n werth £34 miliwn heddiw. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru ymchwil sy’n dangos bod pob punt ychwanegol o fuddsoddiad mewn gwella gwasanaethau bysiau yn cynhyrchu bron i £5 o fudd i’r economi, a hefyd i’r amgylchedd a llesiant pobl. Felly, er fy mod yn falch o ddweud y bydd cymunedau yn fy rhanbarth ar flaen y gad yn y newid i fasnachfreinio gwasanaethau bysiau pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r Bil bysiau hirddisgwyliedig, mae'r rhwydwaith lleol yn parhau i wynebu heriau enfawr. Cymru yw’r unig wlad yn y DU bellach lle mae nifer y teithwyr yn dal yn is na chyn y pandemig, er gwaethaf y buddsoddiad brys i gynnal gwasanaethau a nodwyd gan y Prif Weinidog ddoe.

Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau yn y gyllideb? Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i sicrhau bod nifer y teithwyr yn tyfu er mwyn sicrhau bod mwy o lwybrau'n gynaliadwy, cyn cyflwyno’r Bil bysiau? Ac a ydych chi'n ystyried ac yn asesu effaith cynlluniau yma a'r tu allan i Gymru ac yn dysgu ganddynt, fel cynllun trafnidiaeth am ddim Llywodraeth yr Alban i bobl ifanc, neu gynlluniau lleol fel yr un yn fy rhanbarth i, sef teithiau bws tymhorol am ddim gan Gyngor Abertawe? Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, mae’n gwestiwn amserol iawn, oherwydd yn y sgwrs a gefais gyda Gweinidogion y gweinyddiaethau eraill ddoe, fe wnaethom gytuno i rannu arferion arloesol a’u canlyniadau ac i rannu rhagor o wybodaeth ynglŷn â newid deddfwriaethol.

Nawr, fe atebaf rai o’r pwyntiau hynny, os caf, Lywydd. Yn gyntaf oll, ar y cyllid, rydym wedi dyrannu £0.25 biliwn ar gyfer gwasanaethau teithwyr ers COVID i gefnogi'r rhwydwaith, ac ar hyn o bryd, rydym yn gwario oddeutu £180 miliwn y flwyddyn ar deithio gan ddysgwyr. Felly, pan fyddwch yn ei gyfuno â'r rheilffyrdd, mae’r buddsoddiad cyhoeddus mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn enfawr. Ac mae fy nghyd-Aelodau o'r Cabinet yn fy atgoffa’n rheolaidd o hynny pan fyddwn yn trafod cyllidebau. Ni fyddai’n briodol imi drafod na gwneud awgrymiadau heddiw ynglŷn â chyfeiriad trafodaethau cyllidebol o fewn y Llywodraeth, ond rwy'n gobeithio y gallwn gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth a diogelu gwasanaethau bysiau wrth inni symud tuag at fasnachfreinio, a bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr.

Ar nifer y teithwyr, mae’r darlun yn amrywio’n eithaf sylweddol ledled Cymru, ac er bod teithwyr sy’n talu am docynnau wedi cynyddu yn ôl i lefelau cyn COVID, yr hyn y mae'r data yn ei ddangos yw mai teithwyr tocynnau teithio consesiynol sydd heb gael eu denu'n ôl, ac rwy'n credu ei bod yn werth archwilio hynny ymhellach. Rwy'n ystyried gweithio gyda grwpiau amrywiol i ddeall beth sy'n datgymell neu'n atal pobl â thocynnau teithio consesiynol rhag ailddechrau defnyddio'r rhwydwaith bysiau. Ac rwy'n credu bod rôl allweddol i'r comisiynydd pobl hŷn yn hyn o beth.

14:00

Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r rhwystrau mwyaf i fabwysiadu bysiau yn ehangach fel dewis arall yn lle'r car yw'r amrywio mawr yng nghost defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Fodd bynnag, dros y ffin yn Lloegr, fe geir cap o £2, er y bydd hyn yn dod yn £3 yn y flwyddyn newydd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gennym rwydwaith fforddiadwy, dibynadwy wrth symud ymlaen?

Wel, a gaf i ddiolch i Altaf Hussain am ei gwestiwn? Mae'n gwneud pwynt hanfodol bwysig fod yn rhaid i deithio ar fysiau fod yn fforddiadwy i'r cyhoedd sy'n teithio. A lle nododd yr Aelod yn flaenorol y budd economaidd mawr sydd i fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau, i mi, y budd mewn gwirionedd yw'r hwb i gyfiawnder cymdeithasol a mynediad at gyfleoedd, yn enwedig i'r rhai ar y cyflogau isaf a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Dyna, i mi, y gwerth mwyaf buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau.

Nawr, o ran dysgu o fannau eraill a sut y gallem adlewyrchu rhaglenni o'r fath, rydym yn ystyried rhaglenni amrywiol ledled y DU wrth gwrs, gan gynnwys rhaglen sydd i ddod yn weithredol yn fuan yn Rhondda Cynon Taf, er mai un dros dro yw hi, sef un pris yn ystod mis Rhagfyr. Yr hyn sy'n sicr yw mai dibynadwyedd a phrydlondeb gwasanaethau sy'n chwyddo nifer y defnyddwyr, a hefyd y graddau y mae gennych rwydwaith gweithredol ar draws rhanbarth gweithredol, os mynnwch—rhanbarth teithio i'r gwaith. Yn y pen draw, ein huchelgais ni, drwy fasnachfreinio, yw creu un amserlen, un rhwydwaith ac un tocyn ar gyfer pob trafnidiaeth gyhoeddus, a bydd hynny'n cynnwys trefn brisiau teithio sy'n deg a thryloyw.

Metro De Cymru

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd metro de Cymru? OQ61889

Mae trenau trydan bellach yn gweithredu ar reilffyrdd craidd y Cymoedd am y tro cyntaf erioed. Mae hon yn foment hanesyddol ac yn garreg filltir arwyddocaol tuag at gyflawni metro de Cymru. Mae'r diolch am hynny i'n buddsoddiad o dros £1 biliwn i drawsnewid y rhwydwaith yn wasanaeth 'cyrraedd a mynd'.

Diolch am eich ymateb. Yr wythnos hon, rydym wedi gweld cyswllt metro newydd Porthcawl yn agor fel rhan o gynlluniau metro de Cymru. Yn ddiweddar, mynychais gyfarfod o Fforwm Shout Porthcawl—cyfarfod i drigolion Porthcawl, lle cafodd materion eu codi, a gwn eich bod wedi derbyn nifer o wahoddiadau heddiw, ond rydych chi hefyd wedi cael gwahoddiad, felly mae croeso i chi ddod draw. Codwyd dau fater am yr orsaf fysiau newydd. Yn gyntaf oll, mae pedwar llwybr yn mynd o'r orsaf fysiau ar hyn o bryd, ond gan edrych ar un fel enghraifft, mae'r un sy'n dod yma i Fae Caerdydd yn cymryd bron i ddwy awr, ac nid oes toiled wedi'i gynnwys yn yr orsaf fysiau gyswllt metro newydd ym Mhorthcawl, ac mae'n ymddangos bod pobl yn lleol yn meddwl y gallai hynny fod yn gamgymeriad braidd yn y cynllun metro. Yn ail, fe'i sefydlwyd—ac rwy'n dyfynnu—er mwyn gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar draws de-ddwyrain Cymru. Nawr, fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r ddaearyddiaeth yma; rydym ar y pwynt mwyaf gorllewinol, os mynnwch, o dde-ddwyrain Cymru, prifddinas-ranbarth Caerdydd ac mae trigolion yn poeni nad yw'r orsaf fysiau newydd hon, y cynllun newydd hwn, yn cydamseru â theithiau a allai fynd i'r gorllewin yn y dyfodol, yn enwedig gan fod cynllun metro bae Abertawe wedi datblygu llawer mwy nag un de Cymru. Felly, sut y byddwch chi'n sicrhau bod prosiectau fel hyn sy'n disgyn rhwng rhanbarthau daearyddol fel petai, yn gwasanaethu buddiannau'r poblogaethau sy'n byw ar y ddwy ochr i'r rhwystrau hyn ac nad ydynt ond yn hunangynhwysol yn yr un rhanbarth hwnnw'n unig?

14:05

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn fod yn rhaid cynllunio gwasanaethau'n drawsffiniol. Mae gennym y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn cael ei ddatblygu ar gyfer de-orllewin Cymru, a'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn cael ei ddatblygu ar gyfer de-ddwyrain Cymru, ond mae rôl hanfodol yn cael ei chwarae gan Trafnidiaeth Cymru i sicrhau eu bod yn rhyngweithio â'i gilydd.

Nawr, yn dilyn y ddeddfwriaeth a gyflwynir gennym ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, bydd cyfnod dwys o gynllunio, ac fe fydd hwnnw'n edrych ar rwydweithiau rhanbarthol—parthau, os mynnwch—ar gyfer gwasanaethau bysiau. Bydd de-orllewin Cymru yn mynd yn gyntaf gyda'r masnachfreinio, a byddwn yn gallu sicrhau, gyda'r gwasanaethau masnachfraint a ddaw yn ne-ddwyrain Cymru, eu bod wedi'u cynllunio a'u hintegreiddio'n llawn gyda chymorth Trafnidiaeth Cymru. Rwy'n gwybod y bydd hi'n daith a fydd yn cymryd rhai blynyddoedd, ond fe fydd hi'n daith werth chweil. Ac ni ellir gorbwysleisio faint o waith fydd ei angen, ond mae'n waith yr ydym yn benderfynol o symud ymlaen ag ef.

Gwasanaethau Bysiau

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau? OQ61868

Rydym yn parhau i ddarparu cyllid hanfodol i awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau bysiau lleol ledled Cymru, gan gydnabod y rôl hanfodol y mae'r gwasanaethau hyn yn ei chwarae ar draws ein cymunedau. Rydym hefyd yn parhau i adeiladu ar ein rhwydwaith TrawsCymru presennol drwy welliannau pellach a chyflwyno llwybrau newydd.

Diolch. Wrth ymateb i fy nghyd-Aelod, Gweinidog trafnidiaeth yr wrthblaid Natasha Asghar, ar fater gwasanaethau bysiau ddoe, dywedodd y Prif Weinidog fod yn rhaid i'r Gweinidog cyllid weithredu'n unol â'i blaenoriaethau, a bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i gynllunio a gweithredu rhwydweithiau bysiau. Cyfeiriwyd eisoes at ymchwil annibynnol gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, a ganfu y byddai pob £1 o fuddsoddiad ychwanegol a gwella gwasanaethau bysiau yn cynhyrchu £4.55 o fudd economaidd pellach. 

O ystyried cost uchel masnachfreinio bysiau fel y gwelwyd ym Manceinion, a oedd yn cynnwys ardoll treth gyngor, sut y bwriadwch chi wneud y mwyaf o'r buddion hyn felly, pa waith penodol rydych chi'n ei wneud gydag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru ac mewn mannau eraill i nodi cyfleoedd ar gyfer cynlluniau blaenoriaeth i fysiau a darparu buddsoddiad cyfalaf i'w cyflawni, a sut y bwriadwch chi gefnogi'r diwydiant i lywio'r heriau cyllido ychwanegol a grëir gan gost ychwanegol yswiriant gwladol, yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU, yr amcangyfrifwyd y bydd yn £800 i £1,000 am bob gweithiwr?

Wel, mae yna amryw o gwestiynau'n cael eu codi gan yr Aelod. Rwy'n mynd i ailadrodd eto, serch hynny, y ffaith bwysig ein bod wedi buddsoddi £250 miliwn mewn gwasanaethau bysiau ers COVID. Mae hwnnw'n swm enfawr o arian sydd wedi cynnal rhwydwaith sydd mor hanfodol i bobl ledled Cymru, a hynny ar ben yr arian a fuddsoddwyd gennym mewn teithio gan ddysgwyr hefyd. Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd y Bil bysiau i ddarparu cyfrwng i ni allu sicrhau bod gennym system drafnidiaeth gyhoeddus integredig genedlaethol sy'n ymateb i anghenion pobl. Byddwn yn gweithio gyda'r sector, nid yn unig yn ystod y broses o fasnachfreinio, ond rhwng nawr a'r pwynt pan fydd masnachfreinio'n dechrau, i gynnwys cymaint o arloesedd, syniadau a chreadigrwydd i ddatrys problemau heddiw, ond hefyd i groesawu cyfleoedd yfory. Ac fe gododd yr Aelod ffaith allweddol unwaith eto y bydd mwy na £4.50—rwy'n credu ei fod yn £4.65 i gyd—yn cael ei gronni gan yr economi y maent yn eu gwasanaethu am bob £1 a fuddsoddir mewn gwasanaethau bysiau. Ond unwaith eto, rwy'n pwysleisio mai fy mlaenoriaeth i yw hybu cyfiawnder cymdeithasol o ran darparu bysiau lleol, a sicrhau, boed eich bod chi'n ddysgwr, yn gyflogedig, yn chwilio am waith, ar drywydd gwasanaethau neu gyfleoedd hamdden, ac yn enwedig os ydych chi'n agored i niwed, fod gennych chi fws yn dod yn rheolaidd ac ar amser, a dyna rydym yn ymdrechu i'w gyflawni trwy ddeddfwriaeth.

Parth Taliadau Cosb Trafnidiaeth Cymru

7. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ehangu parth taliadau cosb Trafnidiaeth Cymru? OQ61867

Gwnaf. Ehangodd Trafnidiaeth Cymru ei barth taliadau cosb ddydd Llun 18 Tachwedd. Mae'r parth taliadau cosb bellach yn cynnwys gwasanaethau prif reilffordd gogledd Cymru i'r dwyrain o Landudno, rhai gwasanaethau rheilffordd y Cambrian, yn ogystal â gwasanaethau i Lerpwl a Manceinion.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi siarad sawl gwaith yn y gorffennol am ehangu parth taliadau cosb Trafnidiaeth Cymru a'r problemau y mae'n eu hachosi i deithwyr, yn enwedig mewn perthynas â chardiau teithio rhatach. Fodd bynnag, nid yw'r broblem wedi'i chywiro yn hollol, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae arwyddion wedi eu gosod ar gyffordd twnnel Hafren yn rhybuddio pobl eu bod yn wynebu'r risg o gael dirwy os ydynt yn mynd ar y trên heb docyn. Ar yr arwyddion mae'n dweud, os na allwch chi brynu tocyn ar-lein a bod swyddfa'r orsaf ar gau, fod rhaid i chi gael tocyn 'addewid i dalu' o beiriant y platfform. Eto i gyd, er gwaethaf yr arwyddion hyn yn yr orsaf honno nid oes unrhyw opsiwn ar y peiriannau i gael tocyn 'addewid i dalu', gan adael teithwyr mewn sefyllfa braidd yn ansicr. Mae teithwyr yn wynebu'r posibilrwydd o gael dirwy oherwydd y methiant hwn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi cyfarwyddyd i Trafnidiaeth Cymru edrych ar hyn ar frys i gywiro'r mater cyn gynted â phosibl? Diolch.

14:10

Byddaf yn sicr o wneud, oherwydd nid wyf yn gyfarwydd â'r arwyddion hynny a'r ffaith amdani yw, os na allwch brynu tocyn cyn i chi fynd ar y trên, mae disgresiwn yno i'r casglwyr tocynnau a'r swyddogion gorfodi beidio â chodi tâl cosb. Yn wir, mae pob casglwr tocynnau'n gallu gwerthu tocynnau ar y trên nid yn unig i bobl sy'n defnyddio taliadau di-arian, ond hefyd i bobl sy'n defnyddio arian parod. Cododd Mencap yr union fater hwn dros y penwythnos, felly rwy'n falch o allu sicrhau'r Aelodau y bydd modd defnyddio arian parod.

Holl bwynt y taliadau cosb yw mynd i'r afael â'r rhai sy'n osgoi talu am docynnau yn fwriadol. Lle bynnag y bo modd, nid ydym yn mynd ar drywydd erlyniadau am nad ydym am roi pobl yn y system cyfiawnder troseddol a chreu risg y bydd gan bobl euogfarnau troseddol. Yn hytrach, rydym yn defnyddio taliadau cosb, sy'n ffordd lawer mwy cymesur o ymdrin â theithwyr heb docynnau. Rydym wedi amcangyfrif bod cost osgoi talu am docynnau, sef pobl sy'n osgoi talu am docynnau'n fwriadol, oddeutu £10 miliwn bob blwyddyn i Trafnidiaeth Cymru. Mae'n swm sylweddol o arian. Mae'n swm sylweddol o arian trethdalwyr y gellid ei wario fel arall ar wasanaethau gwell, mwy o wasanaethau neu ar wasanaethau cyhoeddus eraill, felly rydym am sicrhau bod y system yn gweithredu'n deg ac yn gymesur, a'n bod yn adennill unrhyw arian sy'n cael ei gadw'n ôl yn fwriadol. Rwy'n croesawu'n fawr yr adolygiad gan y Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd o fesurau diogelu refeniw ledled y DU. Fe'i cyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Rydym yn awyddus iawn i gyfrannu at yr adolygiad hwnnw, oherwydd credaf fod yn rhaid cael chwarae teg a chysondeb ledled y DU, gan fod gwahanol weithredwyr yn mabwysiadu gwahanol fesurau yn ôl disgresiwn. Mae angen unioni hynny ac rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at yr adolygiad hwnnw.

Teithio Llesol

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teithio llesol yng Ngogledd Caerdydd? OQ61894

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cerdded, olwyno a beicio yng Ngogledd Caerdydd drwy ddarparu cyllid ar gyfer gwelliannau seilwaith, cynlluniau cymunedol a chynlluniau ysgolion. Drwy feithrin hyder drwy seilwaith mwy diogel a rhaglenni cynhwysol, ein nod yw darparu manteision hirdymor i gymunedau, gan annog teithiau llesol bob dydd i bawb.

Diolch am yr ateb.

Yn ôl Dinas Feicio Caerdydd, Llwybr Taf yw'r llwybr beicio prysuraf yn y ddinas i gymudwyr a beicio hamdden. Mae'n llwybr gwych i bobl ei deithio, gyda llwybr yn rhedeg wrth ochr yr afon ac wedi'i orchuddio gan goed y rhan fwyaf o'r ffordd, ac yn mynd trwy fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd. Rhoddwyd sylw i faterion diogelwch cerddwyr, a chynigiwyd gwelliannau hefyd ar gyfer rhan o'r llwybr ym Mharc Hailey, gan sicrhau diogelwch y ffyngau capiau cwyr yn y parc, yr wyf yn hyrwyddwr rhywogaethau iddynt. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ein rhwydwaith teithio llesol yn hygyrch i bawb: i feicwyr, i gerddwyr, i bobl anabl. Felly, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i wella Llwybr Taf yng Nghaerdydd a llwybrau eraill ledled y ddinas?

Mae Julie Morgan yn ffodus iawn fod Llwybr Taf yn rhedeg drwy ei hetholaeth. Mae'n llwybr gwych, mae'n hynod boblogaidd i bobl o bob oed, ac rwyf innau'n mwynhau Llwybr Taf fel llwybr rhedeg. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod gormod o leoedd, serch hynny, lle mae'r llwybr yn rhy gul i ddarparu ar gyfer pob defnyddiwr yn gyfforddus, ac rwy'n arbennig o bryderus ynghylch dinasyddion dall a rhannol ddall. Gwn fod yr Aelod wedi fy ngwahodd i gyfarfod â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, ac rwy'n hapus i wneud hynny, i drafod y llwybrau sy'n rhy gul, nid yn unig ar Lwybr Taf, ond mewn mannau eraill hefyd, lle ceir defnydd trwm gan feicwyr a cherddwyr.

Rydym wedi darparu cyllid i Gyngor Caerdydd dros nifer o flynyddoedd i wella rhannau o Lwybr Taf neu i adeiladu llwybrau cyfagos hefyd, i leddfu'r pwysau mewn lleoliadau lle ceir tagfeydd. Er enghraifft, mae'r buddsoddiad diweddar yn cynnwys adeiladu mynediad ramp i'r llwybr o Rodfa'r Gorllewin, lle nad oedd ond grisiau serth iawn o'r blaen, ac mae Cyngor Caerdydd wrthi'n adolygu eu cynlluniau gwreiddiol ar gyfer Llwybr Taf trwy Barc Hailey hefyd ac yn gweithio ar gynigion diwygiedig i'w cyflwyno ar gyfer cyllid. Byddwn ni, a chydweithwyr yn Trafnidiaeth Cymru, yn cefnogi'r awdurdod i sicrhau bod y cynigion yn diwallu anghenion pob defnyddiwr.

14:15
Perfformiad Rheilffordd y Cambrian

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar reilffordd y Cambrian? OQ61884

Gwnaf, wrth gwrs. Yn gyffredinol, yn 2024, mae gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn fwy dibynadwy na gweithredwyr eraill yng Nghymru. Rhoddodd TrC gynllun ar waith yr wythnos diwethaf ar gyfer gwasanaethau ar reilffordd y Cambrian, mewn ymateb i sefyllfa'r fflyd bresennol. Bydd hyn yn darparu cysondeb ac eglurder i gwsmeriaid, yn ogystal â gwell dibynadwyedd.

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mae'r Llywodraeth, yn briodol felly, yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth gwrs, ond nid yw pobl yn mynd i ddefnyddio gwasanaeth trên os na allant gael sedd. Efallai y byddant yn fodlon gwneud hynny ar daith fer, ond nid ar daith hir. Ac nid ydynt yn mynd i wneud hynny pan fydd trenau'n orlawn, a hynny'n digwydd yn rheolaidd. Cafwyd ymrwymiad ar ôl ymrwymiad i sicrhau cerbydau ychwanegol ar reilffordd y Cambrian ers sawl blwyddyn, ac mae'r ymrwymiadau hynny wedi eu torri'n gyson. Rwy'n cael gohebiaeth yn wythnosol am y gwasanaeth gwael ar reilffordd y Cambrian Trafnidiaeth Cymru, er gwaethaf yr hyn a ddywedwch chi.

Fe ddywedodd un etholwr wrthyf yr wythnos diwethaf ei fod wedi mynd ar y trên dau gerbyd, ac fe aeth i mewn i un, roedd anhawster gyda chael teithiwr anabl ar y trên oherwydd ei fod yn orlawn, ac roedd teithwyr yn sefyll yn yr eiliau. Roedd hynny, wrth gwrs, yn gwneud y daith yn anodd iawn o'r Drenewydd i'r Amwythig, sy'n anghyfforddus iawn, a phan wnaethant aros yn y Trallwng, fe wasgodd mwy fyth o bobl i mewn i'r trên ac wrth gwrs, mae'n gofyn y cwestiwn, 'Beth fyddai'n digwydd pe bai damwain?', fel y gwelwyd yn Nhalerddig yr wythnos o'r blaen.

Byddai'n wych cael gwasanaeth lle gallai pobl fynd i doiled glân, a chael lle ar gyfer pramiau a chadeiriau coetshis cadair a beiciau, ac ati, a Wi-Fi, a chael trol fwyd sy'n dod ar hyd y trên yn rheolaidd. Mae arnaf ofn nad yw'r pethau hyn yn gyffredin ar reilffordd y Cambrian. Ond y peth mwyaf sylfaenol oll yw cael sedd. Felly, a gaf i ofyn pryd y byddwn ni mewn sefyllfa pan allaf roi'r gorau i sefyll yn y Siambr hon i ofyn am wasanaeth da i bobl ar reilffordd y Cambrian?

A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiwn a'r cyfle i rannu gyda'r Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o drenau newydd ar reilffordd y Cambrian? Wrth gwrs, mae trenau newydd sbon yn gweithredu mewn sawl ardal ledled Cymru a'r flwyddyn nesaf byddwn yn eu gweld yn cael eu cyflwyno ar reilffordd y Cambrian. Ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â lle a chapasiti. Hyd yn hyn, rydym wedi darparu 223 o drenau newydd, ac mae 365 o gerbydau mewn defnydd ar hyn o bryd—dyna gynnydd o 35 y cant yn nifer y cerbydau a etifeddwyd gennym. Ond mae'n dal i fod tua 120 yn llai na chyfanswm y fflyd a welwn y flwyddyn nesaf, gan ddarparu llawer mwy o gapasiti a llawer mwy o seddi ledled Cymru, gan gynnwys mewn ardaloedd a wasanaethir gan reilffordd y Cambrian, llwybrau y mae pobl yn etholaeth Russell George yn dibynnu arnynt.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf, felly, fydd yr ail set o gwestiynau'r prynhawn yma, a'r rhain i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.

Tlodi Ymhlith Pobl Hŷn

1. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i drechu tlodi ymhlith pobl hŷn yn Nwyrain De Cymru? OQ61893

Member (w)
Jane Hutt 14:18:32
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. 

Rhwng 2022 a 2025, rydym wedi darparu cymorth gwerth bron i £5 biliwn i gefnogi pobl yng Nghymru, gan gynnwys pobl hŷn yn Nwyrain De Cymru, trwy raglenni i leddfu pwysau ariannol, helpu i fanteisio i'r eithaf ar incwm a chadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru.

Diolch am yr ateb yna.

Yn debyg iawn i'r ddadl am gyllid HS2, roedd cytundeb ar un adeg rhwng Plaid Cymru a Llafur fod menywod a anwyd yn y 1950au wedi cael eu twyllo o'r ymddeoliad roeddent wedi cynllunio ar ei gyfer. Cafodd menywod a oedd wedi cyfrifo eu pot pensiwn yn ofalus gam yn sgil polisi'r Torïaid i gydraddoli pensiwn y wladwriaeth yn gynamserol. Mae hyn wedi golygu bod miloedd o fenywod bellach yn treulio blynyddoedd eu hymddeoliad mewn tlodi heb unrhyw fai arnynt hwy.

Gan fod Llafur mewn sefyllfa bellach i wneud rhywbeth am y peth, ar ôl ennill yr etholiad cyffredinol diwethaf, yn union fel HS2, nid ydym wedi gweld na chlywed unrhyw beth eto. Roedd cyfle i unioni pethau yng nghyllideb ddiweddar San Steffan, ond collwyd y cyfle hwnnw. Er mwyn gwneud y peth iawn i fenywod a anwyd yn y 1950au, pa bwysau rydych chi'n ei roi ar eich cymheiriaid yn San Steffan i wireddu'r holl addewidion a wnaethoch pan oeddech chi'n wrthblaid? A wnewch chi hefyd ailadrodd eich ymrwymiad i gael cyfiawnder i'r menywod hyn?

Wel, diolch, ac rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn hwnnw, Peredur. Mae'n agos iawn at lawer ohonom yn y Siambr hon, yr ymgyrch dros y menywod hyn, menywod y 1950au. Cafwyd llawer o ymgyrchoedd gwahanol: WASPI—. Mae gan bob un ohonom fenywod yn ein hetholaethau a menywod yn y Siambr hon yr effeithir arnynt gan hyn, ac rydym wedi bod yn gyson yn ein cefnogaeth i'r menywod hynny ac i geisio cyfiawnder ar eu rhan. Felly, mae hyn yn rhywbeth lle byddaf yn mynd ar drywydd hyn, nid yn unig gyda Llywodraeth y DU, gyda'r Gweinidog pensiynau, ond byddaf hefyd yn pwyso a mesur eto gyda'r rhai sy'n arwain yr ymgyrch beth yr hoffent hwy i ni ei wneud. Hynny yw, fe wyddoch fod rhywfaint o gynnydd wedi bod, a buaswn yn dweud bod Stephen Timms, a oedd gynt yn Gadeirydd y pwyllgor dethol, wedi bod yn gadarn ac yn adeiladol iawn gyda hyn. Mae'n aelod o Lywodraeth newydd y DU bellach. Felly, fe af â hyn yn ôl a rhannu'r ymatebion gyda'r Siambr, gyda chyd-Aelodau.

14:20

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr eich bod wedi gweld ystadegau diweddaraf yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu sylw at ba mor drychinebus oedd y penderfyniad i gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf i bensiynwyr. Mae'n ymddangos y bydd 50,000 o bensiynwyr ychwanegol yn cael eu gwthio i dlodi y flwyddyn nesaf, a 50,000 arall erbyn 2030. Nawr,fe wyddom fod Llafur yr Alban wedi bod yn ddigon doeth i fynd yn erbyn eu harweinwyr yn San Steffan ac addo adfer y taliad yn yr Alban, tra bod yr Aelodau a'r Gweinidogion yma yn parhau i amddiffyn y penderfyniad echrydus. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda hynny mewn golwg, faint o bensiynwyr yng Nghymru sy'n mynd i orfod cael eu gwthio i dlodi cyn i'r Llywodraeth gondemnio'r polisi dinistriol hwn?

Wel, rydym yn parhau i gefnogi pawb sydd mewn perygl o ddisgyn i dlodi tanwydd. Mae'n bwysig ein bod yn defnyddio'r holl ddulliau sydd gennym i wneud hynny, gan wneud y mwyaf o'r dulliau hynny, parhau i fuddsoddi yn ein taleb tanwydd a'n cynlluniau cymorth dewisol i helpu pobl gyda chostau tanwydd, cael mwy o arian i mewn i bocedi pobl, manteisio i'r eithaf ar incwm, sicrhau bod pobl yn gallu ac yn dal i wneud cais. Mae ganddynt amser o hyd i gael credyd pensiwn er mwyn cael mynediad at daliad tanwydd y gaeaf. Mewn gwirionedd, mewn cyfarfod â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiweddar, cytunwyd bod angen inni barhau i ddod at ein gilydd i annog pobl hŷn i hawlio credyd pensiwn erbyn y dyddiad cau ym mis Rhagfyr.

Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud wrth ein cyd-Aelodau mai un dull Cymreig sydd gennym yw'r gronfa cymorth dewisol. Rhwng mis Mai 2023 a 30 Ebrill 2024, gwnaed mwy na 70,000 o ddyfarniadau i bobl hŷn mewn argyfwng o'r gronfa cymorth dewisol. Hefyd, dull arall sydd gennym yw ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sy'n darparu cymorth ariannol hanfodol i bron i 260,000 o aelwydydd, ac mae bron i 102,000 o bensiynwyr yn cael cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, gyda dros 76,000 heb fod yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Felly, rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, i gydnabod eu bod, yn rhan o'u hymgyrch i ehangu'r nifer sy'n cael credyd pensiwn, yn ysgrifennu at 6,600 o aelwydydd Cymru yn uniongyrchol—yr Adran Gwaith a Phensiynau—yng Nghymru, y nodwyd eu bod yn gymwys i gael credyd pensiwn, oherwydd fel y gwyddoch, mae'r nifer sy'n manteisio ar y credyd pensiwn yn siomedig o isel, Peter Fox. Felly, mae'r cartrefi hynny'n cael eu gwahodd yn uniongyrchol i hawlio credyd pensiwn. Ac wrth gwrs, rydym wedi gweld ymyrraeth awdurdodau fel Castell-nedd Port Talbot, gyda Policy in Practice yn dangos y gallwn fynd at bensiynwyr yn uniongyrchol drwy weithio gydag awdurdodau lleol, ac y gall pobl fanteisio ar hyn drwy'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'.

Rwy'n credu hefyd ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod y £30 miliwn a fuddsoddir gennym eleni yn ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd, oherwydd dyna sydd angen i ni ei wneud: sicrhau bod pobl yn byw mewn cartrefi sy'n gynnes. Mae hynny'n ein helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd i berchnogion cartrefi ac aelwydydd sy'n rhentu gan landlordiaid preifat, ac mae cyngor arbenigol am ddim ar ynni sydd mor bwysig ar gael drwy'r rhaglen honno, drwy linell gymorth Nyth.

Cefnogi Pobl sy'n Gadael y Carchar

2. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn cydweithio ag aelodau eraill o'r Cabinet a Llywodraeth y DU i gydlynu cefnogaeth i bobl ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar? OQ61886

Diolch yn fawr, Luke Fletcher. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl yng ngharchar, cynorthwyo gyda'u hadsefydlu, a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi wrth gael eu rhyddhau. A thrwy gydweithio â'n hawdurdodau lleol a'n partneriaid yn y trydydd sector, rydym yn sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus perthnasol ar gael i'r rhai sy'n gadael carchar.

14:25

Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd Cabinet.

Rwy'n ofni bod y realiti ar lawr gwlad yn wahanol iawn i'r hyn a nodwyd yn eich ateb. Mae effaith cynllun rhyddhau cynnar Llywodraeth y DU yn cael ei deimlo'n ddifrifol yn fy rhanbarth, yn enwedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae gennym garchar y Parc. Mae llawer o'r bobl sy'n cael eu rhyddhau ar hyn o bryd yn cael eu rhyddhau heb fawr o rybudd neu ar fyr rybudd, heb fawr o gefnogaeth; rhai yn oriau mân y bore; rhai yn cael cyfarfodydd wedi'u trefnu ar eu cyfer, ond heb fod yn cael eu rhyddhau mewn pryd wedyn iddynt fynychu'r cyfarfodydd hynny mewn gwirionedd; a rhai heb ddim mwy na'r crysau ar eu cefnau i'w henw.

Mae Rebecca Lloyd, prif swyddog gweithredol canolfan allgymorth gymunedol y ganolfan adnoddau oedolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi cysylltu â fy swyddfa sawl gwaith ynghylch effaith y cynllun. Mae hi wedi dweud wrthym ei bod hi'n gweld, yn rheolaidd, ac rwy'n dyfynnu, 'Pobl yn cerdded o'r carchar allan ar y stryd, ac yna mae pobl yn aildroseddu'n fwriadol i ddychwelyd i ddiogelwch cymharol y carchar.' Mae'r bobl hyn bellach yn wynebu'r gaeaf, sy'n mynd i ymwneud â goroesi. Mae llawer ohonynt yn yr ardal yn dibynnu ar wasanaethau fel un Rebecca pan fo awdurdodau lleol yn cael trafferth dod o hyd i le iddynt fyw. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r sefydliadau hyn ar lawr gwlad ac yn eu cefnogi, a pha waith sydd ar y gweill gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ateb mwy parhaol, oherwydd mae'r trefniant presennol yn gorfodi pobl i ddioddef?

Wel, diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Fe gofiwch, ar 12 Gorffennaf, yn fuan ar ôl yr etholiad cyffredinol, fod yr Arglwydd Ganghellor, Shabana Mahmood, wedi gwneud araith yn esbonio, pe bai carchardai'n rhedeg allan o lefydd, y byddai llysoedd yn cael eu gorfodi i oedi cyn anfon troseddwyr i'r carchar a byddai'r heddlu'n methu arestio troseddwyr peryglus. Ac mae'n argyfwng a grëwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno ac yn cydnabod yr argyfwng hwnnw.

Ymateb tymor byr yw hwn, ond yn amlwg, mae angen diwygio radical, hirdymor ar ein system gyfiawnder. Ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig wrth edrych ar y cynllun rhyddhau cynnar yw ei fod yn gam pendant a gymerwyd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â phroblemau capasiti mewn carchardai. Rydym wedi cymryd rhan yn y broses. Nid yw wedi'i ddatganoli wrth gwrs, ond rydym wedi bod yn rhan o'r broses, a chawsom ein cynrychioli yn y tasglu a oruchwyliai'r dull gweithredu, a'n cynrychioli ar fwrdd gweithredu Cymru dan arweiniad Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru. Yn bwysig, a dyma'r mater sy'n codi gyda'r hyn sy'n digwydd pan gewch eich rhyddhau, fel y disgrifioch chi, mae swyddogion tai yn ymwneud â'n hawdurdodau lleol, gan weithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a'r gwasanaeth prawf.

Felly, yn amlwg, mae'n rhaid iddo ymwneud â gwersi a ddysgwyd o'r gyfran gyntaf. Rhyddhawyd y gyfran gyntaf ar 10 Medi. Mae'r adborth wedi dangos bod cysylltiadau rhwng gweithwyr prawf, swyddogion tai ac arweinwyr iechyd wedi gweithio'n effeithiol. Ond fe gefais gyfarfod â'r Gweinidog Alex Davies-Jones cyn y rhyddhau cynnar, a byddaf yn cyfarfod â hi eto'n fuan, ac yn bwydo'n ôl i Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF. Felly, mae'n bwysig eich bod wedi rhannu'r pwyntiau hynny gyda mi heddiw.

Diolch i fy nghyd-Aelod am godi'r mater pwysig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, yn anffodus, mae'r gyfradd aildroseddu'n parhau'n ystyfnig o uchel, yn enwedig ymhlith menywod. Un o'r prif resymau pam y mae llawer yn aildroseddu yw oherwydd diffyg cefnogaeth, fel tai a chymorth iechyd meddwl. Mewn cyfweliad diweddar ar Sky News, yn tynnu sylw at fater digartrefedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, soniodd un o'r rhai a gafodd eu cyfweld am y tebygolrwydd o aildroseddu er mwyn cael gwely cynnes dros y gaeaf. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno bod hon yn sefyllfa drist? Ac a wnewch chi amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y rhai sy'n gadael carchar yn cael llety a'r holl gefnogaeth angenrheidiol?

Diolch, Altaf Hussain, ac unwaith eto, cwestiwn hynod bwysig yn dilyn cwestiwn Luke Fletcher. Mae gennym gyllideb cymorth ac atal digartrefedd. Rydym yn darparu dros £267,000 i gefnogi darpariaeth lety i bobl sy'n gadael carchar, ac mae hyn yn cynnwys £90,000 i gydariannu chwe chydlynydd llwybrau llety, a hynny mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ledled Cymru. Mae gennym wasanaeth Cyswllt Carchardai Cymru yng ngogledd Cymru hefyd—cymorth hanfodol a ddarperir i bobl sy'n gadael carchar a lleihau'r risg o ddigartrefedd ac aildroseddu.

Ar fater tai ac ailsefydlu troseddwyr—ac mae hyn yn gweithio'n agos iawn ar yr ymyl garw fel y'i galwn rhwng cyfrifoldebau datganoledig a chyfrifoldebau heb eu datganoli—mae gennym wasanaeth llety cymunedol haen 3. Mae wedi'i gyflwyno ar draws 12 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'n cynnig hyd at 84 noson o lety dros dro i bobl a fyddai fel arall mewn perygl o fod yn ddigartref ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar. Hyd yn hyn, mae 165 o leoedd gwely wedi'u creu. Ac fel y dywedais, mae gennym gydlynwyr llwybrau llety ledled Cymru. 

Yn bwysig hefyd, rydym wedi dysgu gwersi o'r gweithgor llety i rai sy'n gadael carchar. Ac mae Shelter Cymru wedi cael ei ariannu eleni i ddarparu cyngor a chymorth tai a digartrefedd i fenywod ac unigolion trawsryweddol yng ngharchar EF Eastwood Park. Mae hyn yn digwydd drwy gyfuniad o bresenoldeb corfforol rheolaidd a gweithio o bell yng ngharchar EF Eastwood Park. Felly, yr hyn sy'n bwysig yw'r ffordd yr ymatebwn ar ein cyfrifoldebau, gan weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth y DU, a bod y cyllid yn cael ei ryddhau.

Ond hoffwn ddweud—ac fe wneuthum ymateb i Luke Fletcher ar y pwynt hwn yn gynharach—fod yr Arglwydd Ganghellor wedi gorfod cymryd camau pendant oherwydd y problemau capasiti hirsefydlog mewn carchardai o ganlyniad i fethiannau'r Llywodraeth flaenorol, mae arnaf ofn, Altaf. Y cynllun rhyddhau cynnar cynaliadwy yr oeddem yn sôn amdano yn gynharach yw hwn. Ond mae angen diwygio'r system gyfiawnder yn radical ac yn hirdymor. Mae ein gweledigaeth ar gyfer cyfiawnder yn seiliedig ar ddull ataliol, ystyriol o drawma, sydd hefyd yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu, gan atal troseddu rhag digwydd yn y lle cyntaf a chadw pobl allan o'r carchar.

14:30

Ysgrifennydd y Cabinet, cefais fy nghalonogi’n fawr wrth weld bod James Timpson wedi ei benodi'n Weinidog Gwladol dros Garchardai, y Gwasanaeth Prawf a Lleihau Aildroseddu gan Lywodraeth y DU. Yn ei fusnesau ei hun, mae wedi dangos esiampl drwy gyflogi cyn-garcharorion, sydd mor bwysig iddynt. Mae’n rhoi’r cyfle iddynt ailadeiladu eu bywydau er eu lles eu hunain a’u teuluoedd, mae’n lleihau aildroseddu, ac mae’n bolisi effeithiol a gwerth chweil. Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a allech chi weithio gyda busnesau yng Nghymru i roi hyder iddynt ddilyn y trywydd hwn. Dengys ystadegau fod 90 y cant o gyflogwyr sydd wedi cyflogi cyn-garcharorion yn fodlon iawn â pherfformiad y staff hynny, ac mae'n werth chweil i gymdeithas yn gyffredinol, fel y gwyddom.

Diolch, John Griffiths, am ategu'r pwyntiau a wneuthum ynghylch sut y gallwn gadw pobl allan o’r carchar gyda dull ataliol, ond hefyd y rheini sydd yn y carchar, i ymyrryd a darparu cefnogaeth er mwyn atal aildroseddu. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â’r Arglwydd Timpson, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Garchardai, y Gwasanaeth Prawf a Lleihau Aildroseddu. Dyna ei deitl—ni fu teitl felly erioed, yn sicr nid gyda'r Llywodraeth flaenorol. Buom yn trafod y blaenoriaethau a rennir gennym, ac fe fyddwch yn ymwybodol ei fod wedi sôn yn glir iawn—yn gyhoeddus—am y ffaith nad yw’n credu y dylai pawb fod yn y carchar, yn enwedig menywod, ond hefyd fod angen inni edrych ar y cyfleoedd atal.

Mae’n bwysig fod carcharorion yn cael mynediad at wasanaeth cyngor ac arweiniad Cymru’n Gweithio, eu bod yn cael cyngor cyflogadwyedd a gyrfaoedd diduedd. Mae gennym gynghorwyr Cymru’n Gweithio sy’n gweithredu fel pwynt atgyfeirio i Lywodraeth Cymru, i raglenni cymorth cyflogadwyedd a sgiliau. Mae dysgu a datblygu sgiliau yn faes sydd wedi’i ddatganoli, felly ni sy’n gyfrifol. Mae’n bwysig, y neges a roddwch i fusnesau, gan fod hyn yn rhywbeth, hefyd, gyda’r gwasanaeth prawf, lle gallwn weithio i sicrhau, fel y digwyddodd flynyddoedd lawer yn ôl—yn anffodus, cafodd ei atal pan breifateiddiwyd y gwasanaeth prawf gan y Llywodraeth flaenorol—. Ond bydd y profiad hwnnw, yn enwedig i bobl ar brawf, sy'n gadael y carchar, a sicrhau eu bod yn cael y cymorth—felly, gweithio'n uniongyrchol gyda charchardai a charcharorion i ddarparu sgiliau a chyflogaeth ystyrlon pan gânt eu rhyddhau—yn amlwg yn helpu i atal aildroseddu.

14:35

Diolch i Luke Fletcher am y cwestiwn pwysig yma. Mae hi mor rhwydd inni anghofio am garcharorion. Trefnydd, dwi ddim cweit yn cytuno â'ch dadansoddiad chi mai'r cynllun rhyddhau cynnar sydd wedi creu'r broblem yma. Efallai ei fod e wedi dod â'r broblem i'r amlwg, ond mae hon yn hen broblem. Mae'r diffyg cefnogaeth yn y carchar, ac ar ôl cael eich rhyddhau o'r carchar, yn broblem sy'n mynd nôl ddegawdau, ac, yn wir, yn broblem roedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn rhan ohoni. Cafwyd cynnydd enfawr o fewn y boblogaeth yn y carchardai dan Lywodraeth Tony Blair a Gordon Brown.

Un ffordd allweddol i sicrhau nad yw pobl yn aildroseddu yw eu bod nhw'n cael y gefnogaeth gywir yn y carchar, eu bod nhw'n cael y gefnogaeth iechyd meddwl a iechyd corfforol yn y carchar. Cost gwariant iechyd yng ngharchardai cyhoeddus Cymru yw £7.1 miliwn, ond £2.5 miliwn yw'r grant bloc, ac mae hwn wedi aros yr un peth ers 2004, heb gymryd i ystyriaeth chwyddiant na'r cynnydd ym mhoblogaeth ein carchardai ni. Mae'n hollbwysig o ran adferiad a lleihau risg bod pobl yn cael y mynediad cywir at y feddygaeth a'r driniaeth y maen nhw eu hangen. Roeddwn i'n gweld hwnna pan oeddwn i'n fargyfreithiwr troseddol—roeddwn i'n gweld nad oedd cleientiaid yn cael y cyffuriau a'r gefnogaeth roedden nhw eu hangen.

Mae'r mater yma, o ran y diffyg yn y grant bloc, wedi cael ei godi droeon gan Dr Rob Jones a hyd yn oed y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yma. A ydy'r Trefnydd wedi siarad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gynyddu'r grant bloc? Oherwydd nid yw'r gap sydd gyda ni ar hyn o bryd yn gynaliadwy o gwbl. Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Mae'n bwysig ein bod hefyd yn gweld yr hyn rydym yn gyfrifol amdano fel Llywodraeth Cymru a'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano, a sut rydym yn cydweithio. Fe wnaethoch godi pwyntiau pwysig iawn. O ran iechyd troseddwyr a darpariaeth iechyd meddwl, mae gennym gytundeb partneriaeth ar gyfer iechyd mewn carchardai yng Nghymru. Mae’n gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, y byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fe'i cadeirir ar y cyd, unwaith eto, fel llawer a wnawn, ar draws y ddwy Lywodraeth. Ond credaf ei bod yn bwysig imi ddyfynnu o'r flaenoriaeth yn y cytundeb:

'dylai'r carchar fod yn lle i'r unigolyn gael cyfle i newid cyfeiriad ei fywyd.'

Mae'n ymrwymo i'r

'nod a rennir o sicrhau bod y rheini sydd yn y carchar yn cael byw mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo iechyd a llesiant, lle mae mynediad at wasanaethau iechyd o safon gyfatebol i'r gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned'.

Yn wir, yn ddiweddar hefyd rydym wedi cyhoeddi polisi 'Gwell Dysgu, Gwell Cyfleoedd: darparu cyfleoedd dysgu a sgiliau mewn carchardai'. Felly, mae gennym y polisïau, mae gennym y bartneriaeth, mae gennym y cydweithredu, ac mae gennym y dyhead, dan arweiniad cadarn yr Arglwydd Timpson, i fynd i'r afael â'r materion hyn, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â Dr Rob Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn yr ychydig wythnosau nesaf, gyda chydweithwyr o Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF, i edrych yn arbennig ar ei ffeil ffeithiau hynod bwysig ar garchardai a dedfrydu yng Nghymru, a’r un a ddiweddarwyd yn fwy diweddar ar gyfer 2024.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cymunedau Cymru yn dod yn fwyfwy amrywiol ac yn wynebu llawer o heriau, oherwydd mudo economaidd, amddifadedd, tlodi, gwahaniaethau rhwng cenedlaethau, a'r cynnydd mewn troseddau casineb a bygythiad eithafiaeth, sy'n destun pryder. Mae cydlyniant cymunedol yn hanfodol, felly, i helpu i leihau problemau posibl a helpu i ddatrys problemau cyn iddynt godi. Fel y gwyddoch yn iawn, mae cydberthynas uniongyrchol hefyd rhwng cydlyniant cymunedol a safbwynt unigolyn ynglŷn ag a all ddylanwadu ar benderfyniadau lleol ai peidio. Mae lefelau uwch o gydlyniant cymunedol yn cael eu nodi gan bobl sy’n teimlo eu bod yn deall gwleidyddiaeth leol, er enghraifft, lle mae ganddynt ddealltwriaeth dda o’r gwaith a wneir gan eu cynghorwyr lleol, a lle mae perthynas waith agos rhwng swyddogion etholedig a’u cymuned. Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan yr arolwg cenedlaethol wedi datgelu mai dim ond oddeutu 30 y cant o bobl yng Nghymru sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel leol. Gwyddom hefyd fod difaterwch cynyddol tuag at bleidleisio yn gyffredinol, gyda’r nifer sy’n pleidleisio, ar y cyfan, yn gostwng ym mhob etholiad o'r bron. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, ac at ddibenion gwella cydlyniant cymunedol, pa fentrau cyfredol sydd gennych i wella a hybu diddordeb mewn gwleidyddiaeth leol a gwaith cynrychiolwyr a etholir yn lleol? Diolch.

14:40

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn diddorol a dwys, Joel James. Nid wyf yn siŵr a wnaethoch chi gyfrannu ddoe at y datganiad a wnaed ar y mater hwn gan Jayne Bryant, ar y ffyrdd rydym yn ceisio gwella democratiaeth leol a gwella ymgysylltiad y cyhoedd â democratiaeth leol, a democratiaeth yn gyffredinol. Rwy'n cydnabod eich pwyntiau allweddol am gydlyniant cymunedol, a’n bod am geisio cael cenedl sy’n arddel gobaith nid casineb; dyna ein hymgyrch yng Nghymru. Cawsom ymgyrch wedi’i thargedu Mae Casineb yn Brifo Cymru yn gynharach eleni, a gwyddoch ein bod wedi cael yr ystadegau troseddau casineb yn fwyaf diweddar, a oedd yn peri pryder oherwydd y cynnydd, er enghraifft, mewn troseddau casineb crefyddol yng Nghymru.

Rydym yn ceisio mynd i'r afael â hyn yn fy mhortffolio mewn llawer o ffyrdd. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cael cyfle go iawn gyda chyflwyno Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024—gallaf weld y cyn-Gwnsler Cyffredinol yn ymuno â ni yn rhithiol; fe aeth â hyn drwodd ym mis Gorffennaf—lle rydym yn mynd i gael cyfle, fel y dywedwyd ddoe, i fwy o bobl gael eu cofrestru, o ran cofrestru gorfodol, i annog mwy o bobl i ymgysylltu ac i bleidleisio. Credaf hefyd fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb fel pleidiau gwleidyddol, onid oes, i annog ein pobl ifanc, ac yn enwedig ein pobl ifanc 16 a 17 oed, i fanteisio ar y system bleidleisio.

Un pwynt yr hoffwn ei wneud yw bod gennym gyfle, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymateb i’r canllawiau drafft a arweiniais o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth honno—adran 32—i bleidiau gwleidyddol ddatblygu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb am gyflawni ar y data a niferoedd y bobl amrywiol yr hoffem eu cael mewn swyddi etholedig, a hefyd i ystyried llwybr gwirfoddol tuag at gwotâu rhywedd. Un ran yn unig o fy nghyfrifoldeb yw hynny i geisio sicrhau bod y lle hwn yn gallu adlewyrchu Cymru wrth redeg Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Dangoswyd bod gwirfoddoli yn agwedd ar ryngweithio cymdeithasol sydd â manteision cadarnhaol profedig o safbwynt iechyd ac o safbwynt llesiant. Yn ychwanegol at hynny, ceir yr hyn a elwir yn gylch rhinweddol rhwng gwirfoddoli a chydlyniant cymdeithasol, lle mae cyfrannu at fudd y gymuned yn darparu ymdeimlad o undod a chysylltiad â phobl eraill a’u hardal. Nid yn unig ei fod yn helpu pobl i ddod i adnabod eraill yn y gymuned, ond mae ymchwil wedi dangos ei fod hefyd yn helpu i gynyddu ymdeimlad o ymddiriedaeth, balchder yn y lle rydych chi'n byw ynddo, a chysylltiad rhwng pobl o gefndiroedd gwahanol, gan adeiladu gwytnwch cyffredinol o fewn y gymuned yn wyneb ymraniadau posibl a chyfnodau heriol. Felly, mae annog gwirfoddoli o fudd enfawr i gymunedau.

Gwyddom fod heriau gyda recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, a chredaf fod hyn yn deillio o’r ymdeimlad cyfeiliornus fod gwirfoddoli, er ei fod yn dechrau fel parodrwydd i helpu ac i gymryd rhan, yn aml yn dod yn faich, yn enwedig baich gweinyddol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynlluniau a roddwyd ar waith gennych i hyrwyddo manteision gwirfoddoli i gymunedau, a pha gamau y gellid eu cymryd yn eich barn chi i leihau beichiau gweinyddol ar wirfoddolwyr? Diolch.

Diolch yn fawr. Cwestiwn pwysig iawn, ac un o fy nghyfrifoldebau allweddol hefyd i gefnogi’r trydydd sector, a seilwaith y trydydd sector, sydd mewn gwirionedd yn sail i’r holl gynlluniau i annog gwirfoddoli yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o fod wedi gweithio gyda’r sector gwirfoddol, a chyngor partneriaeth y trydydd sector, i gefnogi ein gwirfoddolwyr.

Roedd yn ddiddorol yn ystod y pandemig faint o bobl a ddechreuodd wirfoddoli mewn sawl ffordd. Daeth pobl a oedd ar ffyrlo i wirfoddoli. Ond ar ôl y pandemig, gyda phobl yn ceisio dychwelyd i'r gwaith ac at eu cymunedau a'u teuluoedd ar ôl cyfnod cythryblus iawn, ac yna’r argyfwng costau byw, aeth pethau'n anodd iawn ar y sector gwirfoddoli. Felly, mae bellach yn fater o gefnogi gwirfoddolwyr i ddychwelyd i'r rolau pwysig y maent yn eu chwarae yn ein sefydliadau. Felly, mewn gwirionedd, mae'n gysylltiedig â'ch cwestiwn cyntaf, oherwydd onid dyma anadl einioes Cymru, ymgysylltiad dinesig, cydlyniant cymunedol, a chredaf fod pob un ohonom yn cyfarfod â gwirfoddolwyr yn ein hetholaethau ac ym mhopeth a wnawn. Credaf fod y gwirfoddoli a welwn, y gallwn ei gefnogi wedyn drwy sicrhau bod y cyllid ar gael ar gyfer y seilwaith gwirfoddoli, yn y sector gwirfoddol ar lefel awdurdod lleol, a'i fod yn cael ei gefnogi.

Nawr, credaf fod rhywbeth yn ystod yr wythnos hon, fel Wythnos y Rhuban Gwyn, ac yn yr 16 diwrnod nesaf o weithredu—. Mae llawer o wirfoddolwyr yn ymwneud â mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac rwy’n canmol y gwaith a wnânt. A hoffwn ganmol yr holl waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn ein cymunedau i gefnogi ein canolfannau clyd. Ac yn ddiweddar, ymwelais â chanolfan yn Nhrelái yng Nghaerdydd, lle roedd gwasanaethau statudol yn cael eu rhedeg, ond hefyd roedd gwirfoddolwyr yno yn gweithio ac yn ennill profiad. Ac wrth gwrs, mae hynny'n un o fanteision allweddol gwirfoddoli, i bob oed—ennill profiad—a all helpu pobl yn aml i symud ymlaen, nid yn unig gyda'u hiechyd a'u lles, ond i swyddi a chyflogaeth.

14:45

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae tuedd amlwg tuag at fwy o gydlyniant cymunedol ac amddifadedd mewn ardal. Un o'r rhesymau pam yw bod pobl yn teimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi ac yn fwy diogel wrth deithio a cherdded o gwmpas eu hardal. Mae tystiolaeth yn dangos bod 72 y cant o bobl sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn teimlo’n ddiogel ym mhob sefyllfa, o gymharu â dim ond 54 y cant o bobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Yn anffodus, un o’r rhesymau eraill yw bod mwy o densiynau cymunedol mewn ardaloedd mwy difreintiedig, a all arwain, fel y gwelsom eleni, at ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus, troseddau casineb, bygythiadau, aflonyddu ac yn y blaen, ac mae hyn yn cynyddu pryder ac ofn yn y gymuned, yn enwedig rhwng gwahanol genedlaethau. Mae hefyd yn aml yn arwain at chwalfa yn y berthynas â'r heddlu ac awdurdodau lleol, oherwydd diffyg ymddiriedaeth mewn pobl mewn awdurdod. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, dengys ymchwil fod cymunedau a chanddynt lawer o weithgareddau ar gyfer pobl iau, lleoedd iddynt fynd a chael profiadau gwerth chweil, a lle gallant gael cymorth gan fentoriaid cymunedol, yn tueddu i weld llai o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gyda hyn mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella nifer ac amrywiaeth y gweithgareddau ar gyfer pobl iau mewn cymunedau difreintiedig? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn, Joel. Credaf fod llawer ohonom yn y Siambr hon wedi cefnogi, dros y blynyddoedd ac mewn Llywodraeth—a bellach, yn ffodus, yn gallu ei adfer—ein gwasanaeth ieuenctid gwych, y gwasanaethau ieuenctid y mae llawer ohonom, yn ôl pob tebyg, wedi eu mwynhau ein hunain hefyd fel pobl ifanc, ac yn wir, yn ein hetholaethau. Ond mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gallu ailadeiladu'r gwasanaethau ieuenctid hynny mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r trydydd sector yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac mae hynny'n rhywbeth lle gallaf weld bod y buddsoddiad a wnawn yn ein gwasanaethau ieuenctid gydag awdurdodau lleol yn hollbwysig. Nawr, ar 28 Tachwedd, yr wythnos nesaf, mae gennym Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru gyda phartneriaethau Cymunedau Mwy Diogel lleol. A'r wythnos nesaf, byddant yn arddangos gwaith partneriaeth rhagorol, llwyddiannau ym maes diogelwch cymunedol, a fydd yn cynnwys y ffyrdd y maent yn gweithio gyda phobl ifanc, partneriaethau sy'n dangos mentora a chefnogaeth gan gymheiriaid, cynnal ymgyrchoedd gwybodaeth i'r cyhoedd, a gweithio'n agos gyda chymunedau hefyd. Ac a gaf i ddiolch i’n hysgolion am arwain ar hyn, a’n gwasanaethau cymorth cymunedol a theuluol, sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth yn estyn allan at bobl ifanc yn y cymunedau hyn?

14:50

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech chi a mi a phawb a oedd yma nos Lun yn dyst i'r wylnos bwerus a gynhaliwyd yng ngolau cannwyll yma yn y Senedd i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ac ymgyrch y Rhuban Gwyn. Mae bob amser yn dorcalonnus clywed goroeswyr yn tystio i effaith y trais ofnadwy y maent wedi'i ddioddef dan law dynion. Ond clywsom hefyd sut y mae goroeswyr yn dod o hyd i oleuni yn y tywyllwch hwnnw, a gwyddom mai gwasanaethau cymorth arbenigol yw’r llwybr at y goleuni hwnnw yn aml. Mae'r adroddiad sydd ar y ffordd gan Cymorth i Fenywod Cymru ar gyflwr y sector, a gaiff ei gyhoeddi ar 10 Rhagfyr, ac y cefais copi ymlaen llaw ohono fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant, yn tynnu sylw at broblem barhaus cyllid byrdymor yn y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, gyda’r rhan fwyaf o grantiau’n para 12 mis yn unig, ac wrth gwrs, mae hyn yn cael effaith andwyol ar recriwtio, cadw staff a’r gallu i ddarparu cymorth sy'n ystyriol o drawma. Ac mae mater yr angen am wasanaethau a ariennir yn gynaliadwy hefyd yn cael ei amlygu yn adroddiad blynyddol y cynghorwyr cenedlaethol, a gyhoeddir yr wythnos hon. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod bod angen inni weld modelau ariannu hirdymor cynaliadwy i sicrhau y gall gwasanaethau gynllunio'n effeithiol a darparu cymorth di-dor i oroeswyr? Ac a ydych chi wedi gwerthuso pa oblygiadau sydd ynghlwm wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol i sefydliadau'r trydydd sector sy'n cefnogi goroeswyr yng Nghymru?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Mae'n wirioneddol bwysig fod gennych—. Diolch am ofyn y cwestiwn hwn yr wythnos hon, gan ei fod mor berthnasol i’r hyn y gwnaethom ei rannu ddydd Llun ac rydym yn parhau i’w rannu, nid yn unig drwy’r 16 diwrnod hyn o weithredu, ond drwy gydol y flwyddyn, ac yn fy nghyfrifoldeb i fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.

Mae’n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn y gwasanaethau arbenigol hyn, gan fuddsoddi mewn gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan fod hynny'n allweddol i’n hymrwymiad yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Felly, rydym yn gweithio gyda darparwyr arbenigol y sector i adolygu trefniadau ariannu ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy'n edmygu ein cynghorwyr cenedlaethol yn fawr, ynghyd â’r rôl y maent yn ei chwarae. Mae Yasmin Khan wedi bod yn cadeirio ffrwd waith ariannu cynaliadwy ar gyfer ein strategaeth partneriaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Hynny yw, mae'n gymhleth, fel y gwyddoch—yr ystod o ffrydiau ariannu sydd ar waith. Mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu wedi bod yn ariannu llawer o gynlluniau rhagorol, gan gynnwys cynlluniau cyflawnwyr. Clywsom am y rheini ddydd Llun yn y digwyddiad a gadeiriwyd gan Joyce Watson a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched. Rydym yn edrych ar sut y gallwn gael cyllid teg ac effeithiol a chyson ar gyfer y gwasanaethau arbenigol hynny yng Nghymru. Ond gan edrych ar y rhaglen gyfalaf, er enghraifft, roedd yn £2.2 miliwn y llynedd. Mae wedi cael ei chynnal ar y lefel honno am eleni. Mae’r prosiectau cyfalaf hynny’n wirioneddol bwysig i’r gwasanaethau hynny, ac rydym wedi rhoi cyllid uniongyrchol i nifer o sefydliadau, nid yn unig Cymorth i Fenywod Cymru, ond BAWSO, Llwybrau Newydd, Cymru Ddiogelach, Hafan Cymru, Bae’r Gorllewin, Calan DVS, Adferiad. Rydym yn ariannu ledled Cymru.

Nawr, rwyf am ddweud yn gyflym fy mod wedi cyfarfod ag Alex Davies-Jones, sef Is-ysgrifennydd Seneddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth gwrs, a buom yn siarad am y ffaith bod—. Unwaith eto, yn ôl i'r ymyl garw. Pwy sy'n ariannu beth? Mae arnom angen cysondeb rhwng y ffrydiau a ddaw gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, gyda'r trydydd sector, rydym yn asesu effaith y codiadau yswiriant gwladol, o safbwynt cyfrifoldebau cyflogwyr. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gweithio gyda'r trydydd sector yn gyffredinol. Mae gennym drydydd sector cadarn iawn, sy'n gweithio gyda chyngor partneriaeth y trydydd sector, a gadeirir gennyf i. Rydym wrthi'n ymgysylltu—yn gyffredinol gyda'r trydydd sector—â'n partneriaid yn y trydydd sector, yn unol â'r cod ymarfer ar gyfer ariannu'r trydydd sector, i asesu eu hanghenion cyllidebol yn dilyn cyllideb yr hydref Llywodraeth y DU.

14:55

Mae'r amser ar gyfer y set hon o gwestiynau gweinidogol bron â dod i ben, ac nid ydym ond ar ail gwestiwn yr ail lefarydd. Felly, os caf ofyn am atebion gweinidogol byrrach, os gwelwch yn dda. Gall cwestiynau fod cyhyd ag yr amserwyd ar eu cyfer. Efallai fod angen inni fyfyrio nawr ar amseru atebion gweinidogol. Rwy'n gwybod mai dyma hoff bwnc y Dirprwy Lywydd, ac mae ar fin dod i’r gadair. Felly, cadwch at eich amser, os gwelwch yn dda, bawb, ac efallai y bydd angen inni amseru pawb yn y dyfodol.

Ond, Sioned nawr.

Fe wnaeth yr wylnos ein helpu i gofio’r menywod sydd wedi colli eu bywydau oherwydd trais gan ddynion. Ddoe, fe ofynnoch chi i bob un ohonom ailymrwymo i gydnabod y dylai menywod deimlo'n ddiogel yn gyhoeddus—yn ddiogel i fynd allan, yn ddiogel i gerdded ar y stryd. Mae stelcio'n aml yn dechrau gyda mân ymddygiadau obsesiynol, ond gall waethygu'n aflonyddu a thrais angheuol hyd yn oed. Mae'n un o ragfynegyddion pennaf benywladdiad. Yn ôl arolwg troseddu diweddaraf Cymru a Lloegr, mae un o bob pump o fenywod wedi cael eu stelcio, ac mae menywod du hefyd yn fwy tebygol o gael eu stelcio. Ond mae cyfraddau euogfarnau yn dal yn frawychus o isel, gyda dim ond 1.7 y cant o achosion yn arwain at euogfarn. Dywed ymgyrchwyr fel Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh fod angen inni gydnabod stelcio fel bygythiad penodol a mater brys, ac y dylid cael ymateb penodol a phriodol iddo, dull rhagweithiol sy’n targedu stelcio'n uniongyrchol, sy'n ymyrryd yn gynnar ac sy'n cefnogi dioddefwyr. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cynllun ar gyfer mynd i'r afael â stelcio i ategu'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol? A pha gamau a gymerir gennych i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus, megis y rheini ym maes gofal iechyd, yn cael hyfforddiant arbenigol annibynnol ar ymdrin ag achosion o stelcio? Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch. Wel, mae gennym ein Deddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac wrth gwrs, mae honno'n cynnwys pob agwedd ar drais rhywiol ac aflonyddu. Felly, mae gennym ffrwd waith yn ein strategaeth ar fynd i’r afael â thrais mewn mannau cyhoeddus. Ac yn sicr, byddaf yn datblygu opsiynau ar gyfer strategaeth stelcio o'r math hwnnw.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r rhan fwyaf o fenywod yn y system cyfiawnder troseddol yn ddioddefwyr trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae bron i 60 y cant o fenywod sy'n troseddu wedi dioddef cam-drin domestig. Mae’r system cyfiawnder troseddol yn gwneud cam â menywod Cymru, fel yr amlygwyd unwaith eto gan ymchwil Dr Rob Jones yn ei adroddiad diweddaraf. Mae glasbrint cyfiawnder i fenywod Llywodraeth Cymru i fod i gynnig agwedd newydd at droseddu gan fenywod, ond yn hytrach na gweld gostyngiad yn nifer y menywod sy'n troseddu yng Nghymru, rydym ar y trywydd iawn i weld cynnydd, yn ôl ymchwil Dr Jones. Pan ofynnodd Canolfan Llywodraethiant Cymru am wybodaeth, er enghraifft, ynglŷn â faint o fenywod o Gymru yn y carchar sy’n feichiog neu’n famau i blant o dan 18 oed, gwrthododd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ryddhau’r data hwnnw, er y gwyddom fod gwahanu menywod oddi wrth eu plant yn aml yn cael ei nodi fel un o’r agweddau mwyaf trallodus ar garchariad, gydag effeithiau dwys ar iechyd meddwl. Mae adroddiad Dr Jones yn nodi'n glir nad yw'r sefyllfa'n gwella i garcharorion benywaidd Cymru, ac mae'n tanlinellu'r angen am ddata ar gyfer Cymru yn unig. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu nodi a mynd i'r afael â'r heriau sy'n cael effaith ddifrifol ar y ffordd y caiff menywod Cymru eu trin gan y system cyfiawnder troseddol? Ac a allech chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at sefydlu’r ganolfan breswyl i fenywod yn Abertawe?

Diolch, Sioned Williams. Rwy’n cyfarfod â Dr Rob Jones yn fuan, ac nid Dr Rob Jones yn unig, ond Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF hefyd, i edrych ar sut y gallwn sicrhau bod gennym fynediad priodol at ddata wedi’i ddadgyfuno. Mae parodrwydd a chydsyniad clir bellach â Llywodraeth newydd y DU i sicrhau ein bod yn goresgyn hynny, o ran y sefyllfa lle mae gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y data wedi'i ddadgyfuno, ac mae angen inni dynnu sylw at wneud hynny’n hygyrch, i sicrhau bod y system gyfiawnder yn gweithio yng Nghymru. Mae gennym ein glasbrint cyfiawnder i fenywod wrth gwrs, a hefyd, aeth fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i gyfarfod yn ddiweddar ar gyfiawnder a chyfiawnder menywod, lle rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod wedi gofyn ynglŷn â'r ganolfan breswyl i fenywod. Fe'i cadeiriwyd gan yr Arglwydd Ganghellor, sy'n frwdfrydig iawn dros ganolfannau preswyl i fenywod. Gennym ni y mae'r unig gynllun peilot yng Nghymru a Lloegr, ac rwy'n pwyso amdano. Mae gennym y safle; nawr, mae angen ei agor.

15:00
Cynllun Canolfannau Clyd

3. Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn hyrwyddo cynllun canolfannau clyd Llywodraeth Cymru, y dyrannwyd £1.5 miliwn ar ei gyfer? OQ61887

Diolch, Buffy Williams. Fis diwethaf roeddwn yn falch o gadarnhau cyllid o £1.5 miliwn eleni ar gyfer mannau diogel a chynnes yn y gymuned o dan y teitl Canolfannau Clyd—Agored i Bawb. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i hyrwyddo ein hymdrechion ar y cyd i helpu yn ein cymunedau dros fisoedd y gaeaf.

Hoffwn ddatgan diddordeb, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n dal i fod yn ymddiriedolwr yng Nghanolfan Pentre. Rwy'n gwybod y gwahaniaeth y mae'r cyllid canolfannau clyd yn ei wneud i redeg y ganolfan o ddydd i ddydd. Mae'n golygu y gallwn barhau i ddarparu ein gwasanaethau sefydledig yn ogystal â sesiynau gwasanaeth ychwanegol, ond gallwn gadw ein drysau ar agor am fwy o amser a chefnogi mwy o breswylwyr. Rwy'n gwybod bod arian canolfannau clyd yn y gorffennol wedi cefnogi grwpiau cymunedol fel canolfannau Pont-y-gwaith a Waun Wen, cwmnïau budd cymunedol fel Manage Money Wales a Mothers Matter, ac eglwysi fel Capel y Bedyddwyr Bethany yn Ynys-hir a Seion ym Maerdy, mewn ffyrdd tebyg. Ond un o'r heriau mwyaf o'r blaen oedd cyfathrebu â phreswylwyr. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyfathrebu clir a hygyrchedd canolfannau clyd y gaeaf hwn?

Diolch yn fawr, Buffy Williams, ac a gaf i dalu teyrnged i'ch gwaith? Rydych chi'n ymddiriedolwr, ac rwyf wedi bod yng Nghanolfan Pentre ac mae'n darparu gwasanaeth mor wych i'ch cymuned leol. Yn ddiweddar, ysgrifennais at holl Aelodau'r Senedd a'r Aelodau Seneddol i dynnu sylw at y cyllid newydd ar gyfer canolfannau clyd. Hynny yw, mae'n ddiddorol, o ran Rhondda Cynon Taf, y bydd yn derbyn £124,170 eleni o'r rhaglen canolfannau clyd a gyhoeddais. Ond eisoes, mae Rhondda Cynon Taf hefyd wedi bod yn darparu cyllid ei hun dros y ddwy flynedd ddiwethaf i grwpiau a sefydliadau lleol i redeg canolfannau croeso yn y gaeaf, felly mae hynny'n mynd i gael ei gefnogi gan ein cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, heb os, bydd y cymorth ychwanegol rydych chi wedi'i ddarparu ar gyfer y cynllun canolfannau clyd yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau, ac yn enwedig rhai ynysig y gaeaf hwn. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod unrhyw fenter sy'n helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd yn un sy'n werth buddsoddi ynddi. Sut rydych chi'n gweld y cynllun canolfannau clyd yn ehangu yn y tymor hir? O ystyried bod y fenter hon yn fwyaf tebygol o gael ei defnyddio gan yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed, a ydych chi'n gweld potensial i ganolfannau clyd gysylltu â gwasanaethau iechyd sylfaenol eraill, gan eu defnyddio fel cyfle i wneud archwiliadau iechyd rheolaidd, er enghraifft? Os felly, beth sydd angen ei roi ar waith i wneud i hyn ddigwydd? Diolch.

Diolch, Joel James. Mae llawer o ganolfannau clyd eisoes wedi'u sefydlu, felly fe soniaf am un yr ymwelais â hi, yn Nhrelái, ac mae gan Gaerdydd ganolfannau ym mhob rhan o'r gymuned. Maent yn dda iawn ar gyfer cyfeirio at wasanaethau eraill, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys iechyd a llesiant, ond yn bwysicaf oll i bob grŵp oedran sy'n defnyddio canolfannau clyd, yn enwedig pobl hŷn, fe fydd yn gyfle i leihau ynysu, i gyfarfod â phobl eraill, i gael lluniaeth a chael eu cyfeirio at wasanaethau cynghori pwysig, er enghraifft cyngor ar gael credyd pensiwn, a mynediad at fudd-daliadau eraill hefyd, fel y gronfa cymorth dewisol a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.

Mae croeso mawr i gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer canolfannau clyd eleni yn Wrecsam, lle bydd ein llyfrgelloedd, unwaith eto, yn cymryd rhan yn y fenter. Maent yn darparu mannau diogel, cysurus, ac fel y dywedoch chi, maent yn lle i gyfarfod â phobl hefyd. Er iddynt dynnu sylw at eu pwysigrwydd, ychydig wythnosau yn ôl, wrth hyrwyddo canolfannau clyd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam bellach yn ymgynghori ar ddyfodol ein llyfrgelloedd, gan ddweud bod angen iddo arbed £185,000. Er fy mod yn deall bod yna bwysau ariannol wrth gwrs, mae'r effaith y mae'r swm cymharol fach hwn o arian yn ei wneud yn sylweddol. Rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod llyfrgelloedd yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau—mae'n bwysig iawn fod pobl Wrecsam yn ymateb i'r ymgynghoriad—ond a wnaiff hi barhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i wneud iddynt sylweddoli nad ar gyfer cyfleusterau llyfrgell yn unig y mae llyfrgelloedd yno, ond bod ganddynt fanteision ychwanegol fel canolfannau clyd hefyd? Diolch.

Diolch yn fawr, Lesley Griffiths. Wel, mae'r canolfannau cymunedol yr ymwelais â hwy sydd wedi'u lleoli mewn llyfrgelloedd—pan fyddwch chi'n siarad â staff y llyfrgell, maent yn dweud bod y defnydd o'r llyfrgell ac adnoddau'r llyfrgell, y llyfrgelloedd plant, bob amser wedi cynyddu o ganlyniad i fod yn rhan o rywbeth ehangach. Mae Wrecsam, yn y rownd ariannu hon, yn cael £64,470 tuag at ganolfannau clyd, swm a ddylai ei alluogi i edrych yn greadigol ar y ffyrdd y gall ddatblygu ei lyfrgelloedd cymunedol. Ond hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, ar draws Cymru, mae awdurdodau lleol wedi llwyddo i gadw eu llyfrgelloedd cymunedol i fynd mewn amryw o ffyrdd, trwy redeg y gwasanaethau'n uniongyrchol a thrwy drosglwyddo rhai asedau i grwpiau cymunedol neu gynghorau cymuned a thref. Ond mae'n amlwg fod yn rhaid i bobl ymateb, ac rwy'n gobeithio y byddant yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, ond mae'n amlwg fod rôl y llyfrgell gymunedol yn llawer mwy na'i rôl draddodiadol yn unig a gall fod yn hanfodol i leihau ynysu ac i alluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau eraill.

15:05
Tlodi Tanwydd

4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU i leddfu tlodi tanwydd? OQ61872

Diolch yn fawr. Ces i gyfarfod cynhyrchiol iawn gyda’r Gweinidog defnyddwyr ynni fis diwethaf. Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ysgogiadau pwysig i helpu i liniaru tlodi tanwydd, ac rwy’n croesawu’r cyfle i weithio'n agored ac ar y cyd a rhannu polisïau i ddiogelu aelwydydd Cymru yn well.

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet. Rwy'n gwirfoddoli mewn banc bwyd yng nghwm Tawe ac roedd un fenyw sy'n dod yn gyson i'r banc bwyd wedi gofyn am help gan ei bod hi wedi gweld ei biliau ynni yn saethu lan yn ddiweddar ac yn cael trafferth i ymdopi. Roedd hi'n gymwys am gymorth gan gynllun ECO4 sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a chafodd hi baneli solar, gwaith inswleiddio a system wresogi newydd. Ond nawr, er ei bod yn gallu profi bod ei biliau wedi codi ers i'r gwaith dan y cynllun gael ei gwblhau, ac angen trafod beth allai fod yn achosi hyn, dyw'r rhai a wnaeth y gwaith ddim ar gael i'w helpu. Rwy'n obeithiol y bydd National Energy Action Cymru yn medru ei chynorthwyo, ond mae sefyllfa fy etholwr yn codi'r cwestiwn o ran pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth San Steffan er mwyn sicrhau bod pobl fregus sy'n gorfod meddwl am gynllunio pob ceiniog o wariant ddim yn cael eu gadael mewn argyfwng, yn hytrach na lle gwell o ran eu costau gan gynlluniau atal tlodi tanwydd. Ydych chi'n hyderus bod cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cynnig lefel ddigonol o ofal a chyngor wedi i'r mesurau effeithlonrwydd ynni gael eu gosod yng nghartrefi pobl?

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n cydnabod y gwaith a wnewch yn y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, ac rwy'n siŵr y bydd y materion hyn yn cael eu codi maes o law. Fel y dywedais, cyfarfûm â'r Gweinidog defnyddwyr ynni fis diwethaf—Miatta Fahnbulleh AS—a buom yn siarad am y ffyrdd y gall Llywodraeth y DU weithio gyda ni fel Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ond rwyf wedi bod yn bryderus iawn am yr effaith—ac mae'n glir iawn—yr effaith andwyol y mae codi'r cap prisiau gan Ofgem ym mis Hydref wedi'i chael. Yn wir, byddaf yn mynd yn ôl at y Gweinidog i godi'r mater hwn am gynllun ECO4, nad yw wedi'i ddatganoli i Gymru, ac rwyf wedi crybwyll y cynllun Cartrefi Clyd, y £30 miliwn sy'n cael ei roi ar waith eleni.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig fy mod hefyd wedi cyfarfod â chyflenwyr ynni. Gwnaeth Sefydliad Bevan adroddiad da iawn yn ddiweddar a oedd yn annog pobl i fynd at eu cyflenwyr ynni, oherwydd gallant helpu gyda biliau ynni, ond hefyd, yn gyson, ac rwyf wedi codi hyn gyda'r Gweinidog, rwyf wedi bod yn gofyn am dariff cymdeithasol, a fyddai'n helpu cwsmeriaid yn fy marn i.

A gaf i ddweud yn olaf fy mod yn gobeithio y bydd cyd-Aelodau yma wedi ymweld â'r Sefydliad Banc Tanwydd a oedd yma ddoe yn y Senedd, sefydliad sy'n estyn allan at filoedd o bobl yng Nghymru? Mewn gwirionedd, fe all pob un ohonoch chi fod yn asiantau cyfeirio ar gyfer y Sefydliad Banc Tanwydd. Cyhoeddais £70,000 arall i gefnogi gwaith y Sefydliad Banc Tanwydd.FootnoteLink Fe fydd hwnnw'n helpu pobl sydd â mesuryddion rhagdalu yn fwyaf arbennig, ond pobl oddi ar y grid hefyd.

15:10
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Difrod Troseddol

6. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a rhieni i atal y cylch o ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol a achosir gan oedolion ifanc yn Aberconwy? OQ61870

Diolch yn fawr, Janet Finch-Saunders. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngogledd Cymru. Er bod plismona'n fater a gadwyd yn ôl ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n agos gyda chymheiriaid yn y maes plismona a rhanddeiliaid cyfiawnder troseddol eraill i ymgysylltu â chymunedau a chefnogi diogelwch pobl ledled Cymru.

Diolch, Weinidog. Fel aelod blaenorol o gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer diogelu'r cyhoedd a diogelwch cymunedol, rai blynyddoedd yn ôl bellach, roedd yn arfer bod gennym fesurau lle byddai Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r bobl cyfiawnder ieuenctid a'r heddlu yn gallu dod at ei gilydd i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol. Mae'n rhaid imi ddweud, yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn bryderus iawn pan ddaw preswylwyr ataf i sôn am bobl ifanc fferal a rhai o'r problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch cymunedol. Rydym newydd gael llochesi newydd gwych ar hyd y promenâd yn Llandudno, tua £25,000 yr un, ac mae 17 o ffenestri wedi'u chwalu. Yn ddiweddar, cafodd tân ei ddechrau yn Stryd Mostyn, ac ymladd. Nid yw'n edrych yn dda mewn tref braf sydd eisiau denu twristiaid.

Nawr, y broblem fawr a gefais gyda materion fel hyn—

Nid yw Gwasanaeth Erlyn y Goron na'r llysoedd yn fodlon rhoi dedfrydau o garchar, na gwneud unrhyw beth, mewn gwirionedd, i gadw trefn ar y bobl ifanc hyn. Pan fyddent yn cysylltu â'r rhieni, byddai'r rhieni'n dweud, 'Wel, nid oes unrhyw beth y gallaf i ei wneud. Nid fy nghyfrifoldeb i ydyw.' Wel, roeddwn i'n meddwl, mae £160 miliwn wedi'i roi i mewn yn y gyllideb hon, ond sut rydych chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol, Gwasanaeth Erlyn y Goron a chyfiawnder ieuenctid i sicrhau, lle mae gennych ddiwylliant gangiau'n cychwyn, ei fod yn cael ei atal ar unwaith cyn iddo ddatblygu ac nad yw pobl yn byw mewn ofn rhag pobl ifanc 11 oed, pobl ifanc 13 oed a phobl ifanc 15 oed sydd â gangiau'n eu cefnogi? Mae'n annerbyniol yn yr oes sydd ohoni. Diolch.

Diolch. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi cyfarfod â Heddlu Gogledd Cymru yn ddiweddar, i godi'r materion hyn sy'n peri pryder. Mae'n rhaid imi ddweud bod rhai ohonom wedi mwynhau ein penwythnos yn Llandudno—diolch yn fawr iawn—y penwythnos diwethaf, ac roedd i'w gweld yn gymuned glos a chyfeillgar iawn. Fy nealltwriaeth i, wrth gwrs, yw bod yn rhaid inni fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond mae'n ymwneud ag estyn allan, a buom yn siarad yn gynharach am bwysigrwydd y gwasanaeth ieuenctid yn dargyfeirio pobl ifanc oddi wrth y math hwn o ymddygiad, gan eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion. Ac rwy'n deall bod—. Ac o fy nglasbrint cyfiawnder ieuenctid, fe wyddom y gallwn gadw pobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol os ydym yn ymyrryd yn briodol. Mae gan ysgolion ran i'w chwarae yn hyn, ac mae cryn dipyn o grantiau wedi bod ar gael i asiantaethau partner lleol, sydd wedi bod o fudd i bobl ifanc. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae cyfiawnder ieuenctid a gwaith ieuenctid yn gweithio'n agos gyda'i gilydd ac ymgysylltiad cymunedol hefyd.

I orffen, rwyf am sôn yn gyflym am y ffaith bod yna rwydwaith yn bodoli, Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru; maent yn arddangos enghreifftiau da o weithio mewn partneriaeth, a fydd yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc drwy gyfiawnder ieuenctid, ac mae'n ddull partneriaeth pendant iawn, a byddant yn cyhoeddi eu dyfarniadau yr wythnos nesaf. Byddaf yn chwilio'n benodol am ffyrdd y gallwn ddysgu ynglŷn â sicrhau ein bod yn gallu dargyfeirio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r system cyfiawnder troseddol.

Trais yn erbyn Menywod

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched? OQ61898

Diolch, Julie Morgan. Rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog y DU dros ddioddefwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Alex Davies-Jones, sy'n awyddus i ymgysylltu a dysgu o'n gwaith yng Nghymru, a Gweinidog y DU dros ddioddefwyr yn y Swyddfa Gartref, Jess Phillips, sydd wedi dangos ymrwymiad hirsefydlog i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod.

Diolch am yr ateb.

Ddydd Llun byddwn yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig, neu Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, ac roeddwn yn falch o fynychu'r digwyddiad a'r wylnos yr wythnos hon, a gynhaliwyd gan Joyce Watson, a byddaf yn cynnal fy ngwylnos fy hun, fel y gwnaf bob blwyddyn, yng Ngogledd Caerdydd.

Bron bob wythnos, clywn stori arall am fenyw arall sydd wedi cael ei lladd drwy drais neu sydd wedi dioddef trais. Yn gynharach eleni, llofruddiwyd un o fy etholwyr a daeth yn un o'r 71 o fenywod hyd yma eleni sydd wedi colli eu bywydau yn sgil trais gan ddynion yn y DU. Mae'n ymddangos ein bod mewn epidemig, ac mae'n rhaid iddo ddod i ben. Thema Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni yw 'mae'n dechrau gyda dynion'. Mae'n rhaid i ddynion ddod yn gynghreiriaid i ni a chodi llais yn erbyn yr ymddygiad ofnadwy hwn. Beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i atal trais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru?

15:15

Diolch yn fawr, Julie Morgan. Diolch unwaith eto am ein hatgoffa am y 71 o fenywod sydd wedi colli eu bywydau—y dioddefwyr sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i drais gan ddynion. Mae'n rhaid iddo ddechrau gyda dynion. A gaf i ddweud pa mor drawiadol oedd cael dynion o bob rhan o'r Siambr yn siarad yn yr wylnos—cyfraniadau trawsbleidiol—a llysgenhadon y Rhuban Gwyn? Ddoe, cyfarfûm â 140 o weision sifil a oedd yn llysgenhadon y Rhuban Gwyn. Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth yn y DU sydd wedi'i hachredu ar gyfer llysgenhadon y Rhuban Gwyn mewn gwirionedd.

Ond yn gyflym iawn, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar y ffyrdd rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r diwylliant o drais yn erbyn menywod. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â chasineb at fenywod ac aflonyddu rhywiol. Mae gennym ymgyrch 'Iawn' effeithiol iawn, sy'n edrych ar sut y gallwn ganolbwyntio ar ymddygiadau a niwed sy'n gysylltiedig ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus. Mae'n ymwneud â dynion yn ymgysylltu â'i gilydd, ac mae'n gwneud gwahaniaeth i'r ffordd y maent yn gweld menywod a'u perthynas â menywod. Ond hefyd, wrth gwrs, mae'n rhaid iddo fynd yn ôl at addysg a'n cwricwlwm newydd arloesol yn dechrau yn dair oed, cwricwlwm y gwyddom ei fod yn galluogi plant i ddysgu am berthnasoedd iach a llawn parch.

Cefnogi Pensiynwyr

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pensiynwyr yn Nwyrain De Cymru? OQ61904

Mae ystod eang o ffrydiau ariannu a chynlluniau ar waith ar draws Llywodraeth Cymru i gefnogi pensiynwyr yn Nwyrain De Cymru. Mae enghreifftiau'n cynnwys buddsoddi yn y gronfa integreiddio ranbarthol, cyllid ar gyfer canolfannau clyd, a gweithredu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn, dod â cham-drin i ben a chreu cymunedau oed-gyfeillgar.

Ysgrifennydd y Cabinet, bydd penderfyniad ffiaidd Llafur i ddileu taliadau tanwydd y gaeaf yn taro tua 540,000 o bensiynwyr ledled Cymru, gan gynnwys bron i 100,000 yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru yn unig. Unwaith eto, mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi siomi pobl Cymru, yn enwedig ein pensiynwyr, drwy beidio â gwneud y peth iawn yn foesol a chodi llais yn erbyn yr ymosodiad creulon hwn.

Yr wythnos diwethaf, roedd y Prif Weinidog yn ymffrostio bod y Llywodraeth wedi buddsoddi £1.5 miliwn mewn canolfannau clyd ledled y wlad i gadw trigolion yn gynnes y gaeaf hwn. Mae'n feirniadaeth ddamniol o Lafur fod y mathau hyn o ganolfannau hyd yn oed yn cael eu sefydlu yn 2024. Gwrthododd y Prif Weinidog ddweud a oedd hi'n falch o benderfyniad ei Llywodraeth i dynnu taliadau tanwydd y gaeaf yn ôl—cam a fydd yn arwain at 4,000 o farwolaethau cynamserol yma yn y DU. Ond o'm rhan i, dangosodd ei diffyg geiriau ei bod hi, yn nyfnder ei chalon, yn gwybod bod y polisi hwn yn gamgymeriad difrifol iawn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi sefyll dros Gymru, pan nad oes unrhyw un o'ch cyd-Aelodau'n gwneud hynny, a chyfaddef bod y toriad hwn yn gamgymeriad difrifol, ac ymladd yn galed i'w adfer er budd pob preswylydd sydd ei angen yma yng Nghymru?

Wel, rwyf wedi ateb llawer o gwestiynau y prynhawn yma, ac rwyf wedi cofnodi'n glir y ffyrdd rydym yn mynd i'r afael â hyn gyda'r dulliau sydd gennym, gan gefnogi pobl hŷn mewn sawl ffordd wahanol trwy ein cynlluniau. Ond mae'n rhaid imi ddweud: pam rydym ni yn y sefyllfa hon? Pam rydym ni yn y sefyllfa hon? Rydym ni yn y sefyllfa hon oherwydd y twll du gwerth £22 biliwn a adawodd eich Llywodraeth. Felly, mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd—. Llywodraeth y DU, wrth gwrs—eu polisi hwy ydyw. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd y gallwn nid yn unig ailadeiladu ein heconomi ond yn bwysicaf oll, ailadeiladu ein gwasanaethau cyhoeddus, sydd mor bwysig i bobl hŷn.

Datganoli Cyfiawnder Ieuenctid a'r Gwasanaeth Prawf

9. Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf? OQ61871

Diolch yn fawr, Mick Antoniw. Fel fy nghyd-Aelodau, rwyf wedi cael amrywiaeth o sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU, gan gynnwys ynghylch eu hymrwymiadau maniffesto i archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. 

Diolch am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, mae ein system gyfiawnder ar ymyl y dibyn ar ôl 14 mlynedd o bolisi trychinebus y Llywodraeth Dorïaidd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaed cryn waith gan Lywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf. Swyddogaethau datganoledig yw'r prif elfennau ar gyfer gwneud y meysydd hynny'n llwyddiannus. Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i archwilio datganoli'r meysydd hyn. O gofio faint o waith sydd wedi'i wneud, a ydych chi'n cytuno â mi nawr fod yr amser ar ben ar gyfer archwilio pellach, ac mae angen inni fwrw ati i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf er mwyn sicrhau gwell cyfiawnder i'r rhai y mae'r gwasanaethau hynny'n effeithio arnynt?

15:20

Diolch am y cwestiwn hwn, ac wrth gwrs, diolch i chi am y gwaith a ddechreuasom gyda'n gilydd ar y mater pan oeddech chi'n Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni ar y daith hon yn barod, a'r cynnydd a wnaed gennym ar gyflwyno'r achos—nid yn unig ar wneud yr achos mewn gwirionedd, ond ar baratoi—ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf? Rwy'n credu mai dyna lle roeddem yn meddwl y byddem ni nawr, ac rydym yn falch iawn ei fod ym maniffesto Llywodraeth y DU. Felly, byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol wrth inni fwrw ymlaen â thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar eu hymrwymiad maniffesto i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cwestiynau nawr i Gomisiwn y Senedd. Bydd y cwestiwn cyntaf gan Gareth Davies ac yn cael ei ateb gan Hefin David.

Cost Diwygio'r Senedd

Darpariaeth cyllideb y Comisiwn ar gyfer costau diwygio'r Senedd ar gyfer 2023-24 oedd £571,000. Yn y flwyddyn gyfredol, 2024-25, y gyllideb yw £2.1 miliwn. Ac mae cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, 2025-26, yn cynnwys darpariaeth o £6.5 miliwn ar gyfer diwygio'r Senedd, ond mae hynny, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i bleidlais yn y Siambr hon yn ddiweddarach y prynhawn yma. Mae costau diwygio'r Senedd yn cynnwys darpariaeth i staff newydd baratoi ar gyfer y seithfed Senedd, cynnydd i gyllidebau nad ydynt yn gyllidebau staff a chyllid ar gyfer aildrefnu'r Siambr, a swyddogion Aelodau ychwanegol yn Nhŷ Hywel. Wrth gwrs, bydd pwysau costau pellach ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ond mae'r rhain yn dal i fod yn amcangyfrifon ac yn amcanestyniadau sydd eto i'w mireinio'n fanwl a'u hymgorffori mewn cyllideb flynyddol, a fydd eto'n destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ac i'w benderfynu gan y Senedd hon yn ei chyfanrwydd.

Diolch am yr ymateb cynhwysfawr hwnnw, Gomisiynydd. Mae cyllideb Comisiwn y Senedd 2025-26 yn gyfanswm cynnydd o bron i 17 y cant ar gyllideb 2024-25, ond nid yw'r gyllideb yn ystyried yr arian ychwanegol sydd ei angen i staffio swyddfeydd 36 Aelod ychwanegol. Yn wahanol i Lafur, Plaid Cymru a Reform UK, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu ehangu'r Senedd, ac un rheswm yw'r pris o £120 miliwn am Senedd ddatganoledig fwy ar adeg pan fo Llywodraethau Llafur Cymru a'r DU yn gwneud toriadau gwariant ac yn codi trethi. Felly, mae'n peri pryder i mi nad yw costau manylach diwygio'r Senedd wedi'u cyhoeddi i ystyried costau staffio Aelodau newydd.

Adolygwyd cost diwygio'r Senedd hefyd, gan gynyddu £1.2 miliwn ers yr amcanestyniadau blaenorol, sy'n ychwanegu at ein pryder y byddai'r wir gost yn llawer uwch o hyd. Nid yw'r gyllideb ychwaith wedi gwneud targedau ar gyfer arbedion posibl a nodwyd mewn cyllidebau blaenorol. Felly, a allai'r Comisiwn amlinellu beth fydd gwir gost diwygio'r Senedd, gan ystyried popeth, ac a yw'r Comisiwn wedi bod yn ddiwyd wrth nodi ffyrdd posibl o leihau ergyd ariannol diwygio'r Senedd i'r pwrs cyhoeddus? Diolch.

Wel, roedd yna gryn dipyn o gwestiynau yno; fe ddewisaf y rhai sy'n berthnasol i'r Comisiwn. Yn gyntaf oll, credaf ei bod yn bwysig nodi bod y penderfyniad i ddiwygio'r Senedd yn benderfyniad i'r Senedd gyfan, a chafodd ei basio gan fwyafrif o ddwy ran o dair, ac rwy'n credu bod angen cyfeirio unrhyw gwynion ynghylch yr holl beth at Weinidogion, sydd yno i benderfynu, yn hytrach na Chomisiynwyr, sydd yma i wasanaethu yn unig.

Y peth arall yr hoffwn ei ddweud—[Torri ar draws.] Y peth arall yr hoffwn ei ddweud yw ei fod yn sôn am gynnydd o £1.2 miliwn ar y costau a ragwelwyd. Mewn gwirionedd, roedd hwnnw'n gynnydd o £1.2 miliwn ar y costau cyfalaf, ond mae costau staffio wedi gostwng, felly dim ond cynnydd o £400,000 ar gostau blaenorol ydyw. Ac mewn gwirionedd, os caiff y gyllideb sydd gerbron y Senedd ei phasio yn ddiweddarach heddiw, a'n bod yn cytuno bod costau staffio'n cyfateb i gostau staffio Llywodraeth Cymru, gallech ddadlau y byddai'r dyfarniadau cyflog wedi'u haddasu yn arwain at ostyngiad yng nghostau diwygio'r Senedd o'r asesiad effaith rheoleiddiol yn flaenorol. Felly, o ystyried yr egwyddorion y gallem gytuno arnynt yn nes ymlaen, rydym yn gweld costau'n disgyn mewn gwirionedd. Mae'n ddadl y bûm yn amharod i'w defnyddio, oherwydd rwy'n credu ei fod yn dibynnu ar y Senedd yn trafod ac yn pasio'r gyllideb.

Ond o ystyried cost o £120 miliwn, nid wyf yn gwybod o ble y daw hynny, gan mai dim ond yn flynyddol y gall Comisiwn y Senedd basio cyllideb. Nid ydym yn cario arian wrth gefn. Gallwn basio cyllideb, a gallwn gynhyrchu cyllideb ar sail flynyddol yn unig, gydag amcanestyniad ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol. Ond mae hynny'n amodol iawn ar gytundeb y Senedd, a gellir ei atal ar unrhyw adeg gyda phleidlais y Senedd, a fydd yn digwydd y prynhawn yma. Felly, rwy'n credu y byddai'n ffôl iawn ceisio amcangyfrif costau i'r dyfodol y tu hwnt i'r ddwy flynedd nesaf. A byddwn yn cyrraedd sefyllfa sefydlog yn y seithfed Senedd, ond wrth gwrs, ni all un Senedd rwymo'r nesaf, felly materion i'r seithfed Senedd fydd y rheini.

15:25
Hygyrchedd Trafodion y Senedd

2. Sut y mae'r Comisiwn yn gweithio i wella hygyrchedd trafodion y Senedd ar gyfer pobl fyddar a phobl ag amhariad ar y clyw? OQ61897

Diolch am y cwestiwn, Julie. Mae cwestiynau'r Prif Weinidog yn cael eu dehongli yn Iaith Arwyddion Prydain bob wythnos ar brynhawn Mawrth, yn fuan ar ôl yr eitem, a'u lanlwytho ar y nos Fawrth. Darperir dehongliad byw ar gyfer y trafodion yn y Cyfarfod Llawn a'r pwyllgorau mewn ymateb i gynnwys y trafodion hynny neu pan ofynnir amdanynt. Mae enghreifftiau diweddar yn y Cyfarfod Llawn yn cynnwys dadl Aelodau gan Mark Isherwood a dadl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar anghydraddoldebau iechyd meddwl. Nid yw'n bosibl isdeitlo trafodion ar hyn o bryd gyda'n seilwaith darlledu presennol. Fodd bynnag, mae swyddogion y Comisiwn eisoes wedi dechrau'r broses o newid hyn, gan ddefnyddio'r feddalwedd AI ddiweddaraf. Bwriad y Comisiwn yw dechrau defnyddio technoleg a fydd yn caniatáu isdeitlo sesiynau'r Cyfarfod Llawn a adleolir i Siambr Hywel o fis Mai 2025.

Diolch am yr ateb.

Joyce, rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol fy mod wedi codi'r anawsterau hyn yn y Siambr o'r blaen ac mae nifer o bobl fyddar neu bobl ag amhariad ar y clyw wedi cysylltu â mi ers yr adeg honno, yn etholwyr ac o bob cwr o Gymru, i ddweud cymaint y teimlant wedi'u hallgáu o drafodion y Senedd am nad oes isdeitlau ar gael ar gyfer yr holl drafodion, ac rwy'n falch o'ch clywed yn dweud heddiw eich bod am geisio gwneud rhywbeth am hynny. Ond mae un etholwr wedi nodi nad oes isdeitlau ar gael ar recordiadau o'r trafodion hyd yn oed, gan ei adael i fynd drwy oriau o destun er mwyn dod o hyd i'r ddadl neu'r datganiad y mae'n chwilio amdano.

Rwyf hefyd yn siomedig nad oes gan y Senedd ddefnydd rheolaidd o ddehonglwr. Dysgais yn ddiweddar mai cyfrifoldeb yr Aelod o'r Senedd yw ceisio dod o hyd i ddehonglwr os ydynt yn cyfarfod ag etholwr byddar, ac nad yw'r Comisiwn yn chwarae unrhyw ran yn helpu gyda hyn. Felly, rwy'n teimlo bod pethau y gellir eu gwneud, ac rwy'n falch o glywed beth sy'n cael ei wneud, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud ymdrech lawer mwy i sicrhau bod y trafodion ar gael. Rwy'n gwybod y gallai rhai trafodion fod ar gael yn hygyrch, ond mae angen i'r cyfan fod felly, fel nad oes rhaid i rywun baratoi a gofyn cyn gwneud rhywbeth. Felly, tybed a ydych chi wedi gallu edrych ar unrhyw ffyrdd rhyngwladol o wneud trafodion yn hygyrch i bobl fyddar a phobl ag amhariad ar y clyw. Rwy'n gwybod bod Senedd yr Alban wedi gwneud llawer iawn yn y maes hwn ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi edrych ar hynny.

Unwaith eto, gwn eich bod yn malio, a bod eraill yn malio'n angerddol am hyn, a gwn ein bod wedi ymrwymo i ddarparu profiad cyfartal i bawb. Gwn hefyd fy mod i a'r Llywydd yn hapus i gyfarfod â chi i drafod rhai o'r materion a nodwyd heddiw ymhellach.

Ond mae prosiect aml-flwyddyn i osod systemau darlledu a seilwaith newydd sbon ar y gweill, ac rydym yn gobeithio y bydd yn gyflawn ymhen dwy flynedd, ond ar gamau cynyddol. Bydd yn cyflawni gwelliannau hygyrchedd sylweddol, a dyna'r prif ysgogiad ar gyfer y gwaith. Fel rhan o'r prosiect hwnnw rydym yn cynnig prynu a gosod offer gyda nodweddion sy'n caniatáu i ddata gael ei amlyncu, ei drosi a'i arddangos fel isdeitlau, a bwriad y Comisiwn, os yw'r cyllid yn caniatáu, yw dechrau defnyddio'r seilwaith darlledu newydd ar gyfer sesiynau'r Cyfarfod Llawn a adleolir yn 2025, ac yna, wedi hynny, ei gyflwyno ar draws ystafelloedd pwyllgor ac yn y Siambr newydd.

Byddwn yn profi galluoedd isdeitlo a chapsiynau yn drylwyr ar y system ddarlledu newydd pan fyddant wedi'u gosod a'u comisiynu, a gobeithiwn adrodd ar gynnydd ar ddechrau toriad yr haf yn 2025. Ac fel rhan o'r profion hynny, byddwn yn ymchwilio i'r defnydd o offer awtomataidd llais i destun a gynhyrchir gan AI a'r modd o'u hintegreiddio i'r system.

Rydym hefyd yn bwriadu cynnal prosiect yn ystod 2025 i gymryd lle'r gwasanaeth Senedd.tv presennol. Yn rhan o'r gofynion ar gyfer y gwasanaeth newydd, byddwn yn chwilio am welliannau hygyrchedd, gan gynnwys chwaraewr fideo datblygedig sy'n gallu arddangos isdeitlau a chapsiynau. Diolch.

15:30
Gweithdrefnau Goleuo'r Senedd

3. Pa weithdrefnau sydd ar waith ar gyfer penderfynu pryd y caiff y Senedd ei goleuo i gefnogi gwahanol achosion? OQ61877

Mae protocol mewnol mewn lle i benderfynu ar oleuo. Mae dau gategori i'r protocol. Y cyntaf yw goleuo ar bum diwrnod blynyddol sydd fel arfer yn cael eu nodi drwy weithgarwch ehangach Comisiwn y Senedd. Y pum diwrnod yma yw: Diwrnod Cofio’r Holocost, Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, a Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Mae goleuadau'r Senedd hefyd yn cael eu diffodd bob blwyddyn i nodi Awr Ddaear.

Mae'r ail gategori yn y protocol ar gyfer digwyddiadau un tro ag iddynt arwyddocâd cenedlaethol. Achlysuron yw'r rhain sydd naill ai'n annisgwyl neu nad ydynt yn digwydd bob blwyddyn, ac yn nodi digwyddiad arwyddocaol.

Mae fy swyddfa yn derbyn nifer fawr o geisiadau i oleuo'r Senedd i gefnogi elusennau, ymgyrchoedd ac achosion da. Yn anffodus, mae'n anymarferol darparu ar gyfer yr holl geisiadau yma. Er enghraifft, rydyn ni wedi derbyn 12 cais ers mis Medi. Mae pob dydd, pob wythnos yn nodi rhyw achos da, ambell waith mwy nag un.

Mae'r protocol, fel Llywydd, dwi wedi sôn amdano ac yn ei weithredu ar oleuo ond yn wybyddus yn fewnol ar hyn o bryd o fewn fy swyddfa i. Dwi'n meddwl bod angen i fi wneud y protocol yn gyhoeddus ac mi fyddaf yn gwneud hynny o ganlyniad i'r cwestiwn yma, felly diolch am y cwestiwn.

Diolch, Lywydd. Ac rwy’n ddiolchgar eich bod chi, yn gynharach eleni, wedi caniatáu i bosteri ymwybyddiaeth canser y coluddyn gael eu gosod yn y Senedd, a gwn fod pobl wedi gwerthfawrogi a chroesawu'r cam hwn. Fodd bynnag, roeddwn yn siomedig na fu modd inni oleuo'r Senedd i gydnabod Diwrnod Ymwybyddiaeth Ostomi, sy’n digwydd ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis Hydref.

O'r trafodaethau a gefais gyda'ch swyddfa ac o'ch ymateb heddiw, rwyf wedi deall mai'r rheswm pam nad oedd modd goleuo'r Senedd oedd oherwydd pryderon, pe bai hynny'n digwydd ar gyfer un diwrnod ymwybyddiaeth, y byddai'n gosod cynsail ar gyfer pob diwrnod ymwybyddiaeth, na fyddai'n bosibl, ac rwy'n deall y ddadl honno. Fodd bynnag, rwy'n dal i feddwl ei bod yn siomedig ein bod yn colli cyfle gwych i ymgysylltu ag elusennau a sefydliadau, i ymgysylltu â'r gwaith a wnânt, ac yn y pen draw, i godi ymwybyddiaeth o'u hachosion.

Fe sonioch chi eich bod yn bwriadu cyhoeddi eich gweithdrefn fewnol, a chroesawaf hynny’n llwyr, ond tybed a oes lle i ehangu’r weithdrefn honno i gysylltu â’r elusennau a’r sefydliadau hyn, gan y byddai’n dda dangos wedyn fod y Senedd yn llwyr gefnogi’r gwaith a wnânt. Diolch.

Diolch am y cwestiwn atodol, ac rwy’n gwerthfawrogi eich dealltwriaeth o’r materion rydych wedi’u hwynebu ac y mae Aelodau eraill wedi’u hwynebu wrth wneud cais i oleuo’r Senedd er mwyn cefnogi achos da, a'r cais hwnnw'n cael ei wrthod gyda’r protocol cyfredol.

I roi blas i chi o rai o’r ceisiadau ychwanegol a wnaed i oleuo dros y pump neu chwe blynedd diwethaf a mwy, maent wedi cynnwys: tîm pêl-droed Cymru ym mhencampwriaeth yr Ewros; croesawu Geraint Thomas adref fel enillydd y Tour de France; clapio i'r gofalwyr yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19; canmlwyddiant yr Urdd. Nid oes llawer o geisiadau wedi cael eu derbyn. Ac fel y dywedais, y sefyllfa sy’n ein hwynebu yw ein bod weithiau’n cael sawl cais a cheisiadau mynych am wahanol ddyddiau neu wythnosau er mwyn tynnu sylw at achosion elusennol ac achosion da. Soniais am y 12 rydym wedi'u cael ers diwedd mis Medi—un gennych chi, wrth gwrs, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Ostomi. Mae Wythnos Rhoi Organau, ymwybyddiaeth lewcodystroffi, ymwybyddiaeth colli babanod, ac eraill, oll wedi'u cyflwyno fel ceisiadau gan Aelodau.

Fel cam nesaf nawr, yn dilyn eich cwestiwn—cwestiwn rwy'n ei groesawu’n fawr, fel y dywedais, er mwyn rhoi cyfle inni fyfyrio ar hyn—wedi imi gyhoeddi’r protocol ar fewnrwyd y Senedd, rwy'n credu y gallai fod yn ddefnyddiol i unrhyw Aelod feddwl am unrhyw syniadau a allai fod gennych, i ystyried a yw’r protocol yn bodloni eich dyhead ar gyfer sut y defnyddir ystad y Senedd i dynnu sylw at waith da yng Nghymru, ond wrth gwrs, gan ddeall y llu o geisiadau a allai lifo i'r Senedd, ac na all fod yn amryliw bob dydd o'r wythnos. Felly, mae'n bwysig cael y cydbwysedd yn iawn. Rydych chi wedi herio’r cydbwysedd hwnnw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny, ac fe ddown o hyd i ffordd ymlaen sy’n adlewyrchu barn y mwyafrif yn y Senedd ar gyfer y ffordd ymlaen. Felly, diolch.

15:35

Mae cwestiwn 4 [OQ61906] wedi ei dynnu nôl, a hefyd mae cwestiwn 5 [OQ61892] wedi ei dynnu nôl. Felly, diolch i'r Comisiynwyr.

4. Cwestiynau Amserol
Y Cynllun Dychweled Ernes

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ynglŷn â pham y mae Llywodraeth Cymru yn camu allan o'r dull pedair cenedl o ymdrin â'r cynllun dychwelyd ernes? TQ1248

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:36:48
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, Janet. Mae Cymru yn ail yn y byd am ailgylchu, sy’n golygu bod ein perfformiad ailgylchu eisoes yn gymaradwy â chynlluniau dychwelyd ernes rhyngwladol. Gan fod ein hawdurdodau lleol eisoes yn ailgylchu ar lefel y byddai cynllun dychwelyd ernes cul ailgylchu yn unig yn ei chyflawni, mae'n hanfodol fod y cynllun yng Nghymru yn gweddu i'n huchelgeisiau, gan gynnwys ar gyfer ailddefnyddio.

O, mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn disgwyl ateb hirach—mae'n ddrwg gennyf. [Chwerthin.] Ar y nodyn hwnnw, serch hynny, mae'n rhaid imi ddweud, ac mae'n rhaid rhoi clod lle mae'n ddyledus, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy—ac mae'n mynd yn ôl i'r adeg pan oedd Sam Rowlands, fy nghyd-Aelod ar y chwith i mi, yn arweinydd hefyd—mae gennym gyfraddau ailgylchu gwych yng Nghonwy, ac mae Cymru ei hun yn chwarae ei rhan gydag ailgylchu, ac mae’n rhaid inni gydnabod hynny. Fodd bynnag, os ewch i ddigwyddiad glanhau traeth, a gweithio gyda sefydliadau fel y Gymdeithas Cadwraeth Forol, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae llawer o boteli ac ati i'w gweld ar draethau o hyd pan fyddwch yn glanhau traeth. Mae’r rhain wedyn yn cael eu llyncu gan lawer o’n mamaliaid morol, ac mae’n rhaid inni beidio ag anghofio bod gennym argyfwng adfer byd natur yma.

Felly, i mi, deuthum â chynnig deddfwriaethol i'r Senedd—oddeutu tair blynedd yn ôl, rwy'n credu; bedair blynedd yn ôl—ar gyfer cynllun dychwelyd ernes a Bil lleihau gwastraff. Cafodd gefnogaeth drawsbleidiol. Nawr, rwyf wedi dweud o'r blaen mai un peth cyflwyno'r rhain, sicrhau cefnogaeth i'r cynigion hyn, ond wedyn, mae'n rhaid rhoi hynny mewn polisi. Ond roedd y cynllun dychwelyd ernes yn rhywbeth yr oedd llawer o bobl yn edrych ymlaen ato. Rwy’n deall y materion sy'n codi gyda gwydr, ond nid wyf yn cytuno â hwy. Ond i fod wedi atal hyn yn llwyr, credaf eich bod—

Rydych chi'n gofyn cwestiwn ar bwnc amserol. Cyfeiriwch ef at Ysgrifennydd y Cabinet ac nid eich cyd-Aelodau, a gofynnwch y cwestiwn, os gwelwch yn dda.

Na, mae'n iawn. Felly, diolch i'ch gweithredoedd nawr, fel y mae UKHospitality Cymru wedi'i nodi, mae cynllun dychwelyd ernes bellach yn edrych ymhellach i ffwrdd nag erioed. Mae'n symptom go iawn o'r angen i ddiwygio Senedd Cymru, y bydd wedi cymryd dros ddegawd o drafod i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru.

Felly, Weinidog, beth yw eich dyddiad targed ar gyfer cyflwyno'r cynllun Cymru yn unig? Dau, rydych chi wedi rhoi’r bai yn gyhoeddus ar Lywodraeth flaenorol y DU a Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020—fe ddefnyddioch chi honno fel esgus—ond eto, nid ydych yn cytuno y gallai eich plaid, sydd bellach mewn grym yn Llywodraeth y DU, newid y Ddeddf. Cwestiwn arall: roeddwn yn cefnogi cynnwys gwydr ar un adeg, ond rwyf wedi gwrando—. Dywed y Prif Weinidog ei bod hi'n gwrando, ond fe wrandewais i, ac rwy'n cytuno â’r ffordd ymlaen sy’n cael ei dilyn yn y tair gwlad arall. Felly, pa asesiad a wnaethoch—

15:40

Gadewch i’r cwestiwn gael ei ofyn, ac rwy’n siŵr fod yr Aelod yn dod at y cwestiwn olaf yn ei chwestiynau.

Pa asesiad a wnaethoch chi o’r effaith y mae hyn yn mynd i’w chael nawr, bod heb gynllun dychwelyd ernes? Pa asesiad a wnaethoch, cyn tynnu allan, o gost eich penderfyniad i dorri'ch cwys eich hun i Lywodraeth Cymru, ac yn bwysicach, i’n busnesau yng Nghymru? Diolch, Ddirprwy Llywydd.

Diolch yn fawr iawn, Janet, ac rwy'n ymddiheuro, Ddirprwy Llywydd. Rwyf wedi fy syfrdanu’n llwyr o weld bod y Ceidwadwyr, unwaith eto, wedi gwneud tro pedol ar bwynt cadarn o egwyddor, ac os nad yw'r egwyddorion hynny'n werthadwy un diwrnod, yna ‘Fe ddown o hyd i set arall o egwyddorion fel y gallwn symud ymlaen.' Rwy'n cymeradwyo'r unigolyn a gyflwynodd y Bil, a ddywedodd,

'Gwelwyd cynnydd yn y diddordeb o ran cynnwys poteli gwydr mewn cynllun o'r fath. Rwy’n falch o gytuno…y dylai gwydr fod yn rhan o’r cynllun yng Nghymru.

'Mae ailgylchu poteli gwydr yn gostwng y risg o anaf i bobl a bywyd gwyllt yn ogystal â lleihau ein heffaith amgylcheddol. A dweud y gwir, bydd cynnwys gwydr…yn arwain at ostyngiad yn allyriadau CO2 cyfwerth o fwy na 50,000 tunnell bob blwyddyn–neu bron i 1.3 miliwn tunnell dros 25 mlynedd!'

Bydd hyn yn helpu, meddai'r unigolyn hwnnw,

'i fynd i’r afael â phla sbwriel poteli gwydr mewn cymunedau, gan y bydd cynnwys gwydr yn arwain at ailgylchu 53,000 tunnell ychwanegol o gynwysyddion. Byddai’n wych gweld'

hyn yn digwydd yng Nghymru hefyd.

Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, Janet, gan mai eich geiriau chi oedd y rheini wrth gyflwyno eich Bil. Nawr, rwy'n sylwi eich bod wedi gwneud tro pedol ac wedi colli'ch potel; ymddengys bod mainc flaen y Ceidwadwyr wedi colli eu potel hefyd. Rydym ni wedi bod yn gyson ar hyn. Roeddem yn gyson, Ddirprwy Lywydd, pan ymgynghorwyd ar ddull y pedair gwlad dair blynedd yn ôl, pan gytunodd y pedair gwlad mai cynllun ailddefnyddio gwydr, plastigion, alwminiwm ac eraill, nid ailgylchu'n unig, y dylem ei gyflwyno, er mwyn datgarboneiddio, yn ogystal â mynd i’r afael â sbwriel, ac yn ogystal â mynd i’r afael â'r pla sbwriel morol sydd gennym ac ati. Felly, rwy'n gofyn am gysondeb yma.

Rydych chi'n gofyn i mi beth fyddai'r canlyniadau negyddol. Wel, gadewch imi ddweud wrthych. Y canlyniadau negyddol pe baem yn bwrw ymlaen gyda dull pedair gwlad fyddai: yn gyntaf, rydym yn mynd yn gwbl groes i ganlyniad clir yr ymgynghoriad hwnnw, lle roedd 86 y cant o’r cyhoedd o blaid cynllun cynnwys popeth, gan gynnwys gwydr. Nid yn unig hynny, ond byddem o bosibl yn gweld gostyngiad yn y lefelau ailgylchu yng Nghymru, gan ein bod eisoes yn cyflawni'r lefel o ailgylchu a fyddai’n cael ei chyflawni. A chwarae teg, mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon am godi eu cyfraddau ailgylchu, ac rydym yn eu canmol am hynny. Rydym eisoes yn cyflawni'r lefel honno.

Os oes rhaid inni nofio yn ein hunfan, Janet, am y pum, chwe, saith mlynedd nesaf, bydd ein cyfraddau ailgylchu yn cwympo, nid cynyddu. Mae ymagwedd gul ailgylchu yn unig eisoes wedi wynebu her, Janet, gan ein hawdurdodau lleol mewn perthynas â'r cyfiawnhad dros eu dull o weithredu ar eu perfformiad ailgylchu a'i effaith, nad yw wedi’i gyflawni'n ddi-boen a heb rywfaint o ymdrech wirioneddol. Byddai cynllun heb wydr yn golygu costau ychwanegol a tharfu sylweddol er mwyn ôl-osod y seilwaith sydd ei angen ar gyfer gwydr yn y dyfodol. A chredwch fi, Ddirprwy Lywydd, bydd angen inni ailddefnyddio gwydr ac alwminiwm a phlastig mewn cynlluniau yn y dyfodol, a bydd hynny’n ychwanegu cost os bydd yn rhaid inni ôl-osod y peiriannau ar gyfer gwneud hynny. A hefyd, ni fyddai llwybr clir o gwbl i’r sector gwydr ddatgarboneiddio yn unol â sero net, nac i gynhyrchwyr allu cyflawni eu targedau datgarboneiddio unigol eu hunain.

Felly, diben hyn yw helpu a gweithio gyda'r gadwyn gyflenwi i gyrraedd yno, ac nid ydym ond yn gofyn am gysondeb gan Aelodau sydd wedi gweld y dystiolaeth o'r blaen, ac wedi dweud eu bod yn cefnogi hyn, ac i lynu wrth yr hyn y maent wedi'i ddweud o'r blaen.

Ysgrifennydd y Cabinet a’r Dirprwy Brif Weinidog, mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi’i drafod droeon yn y Siambr hon, ac mae’n rhywbeth y gwyddom fod cefnogaeth sylweddol iddo yn y gymuned, i gynllun dychwelyd ernes.

Ond rydych chi'n cydnabod ein bod yn ymdrin â hyn o fan cychwyn gwahanol, o ystyried ein llwyddiant gydag ailgylchu wrth ymyl y ffordd yma yng Nghymru, a'r newid ymddygiad a diwylliant sydd wedi dod yn ei sgil. Pan wnaethom edrych ar gynllun dychwelyd ernes yng Nghymru gyntaf, penderfynwyd yn erbyn cyflwyno cynllun wrth fynd, yn rhannol oherwydd y dull gweithredu pedair gwlad hwnnw. Gan ein bod bellach yn dilyn ein llwybr ein hunain, tybed a ellid ailystyried hynny fel ffordd o ategu ein casgliadau wrth ymyl y ffordd, ond o leihau sbwriel hefyd ac annog ailgylchu ac ailddefnyddio? Ysgrifennydd y Cabinet, ni waeth beth y byddwn yn penderfynu ei wneud yng Nghymru, mae angen system sy’n galluogi ac yn cefnogi lle rydym arni, ac sy’n gweithio i Gymru.

15:45

Yn sicr. Hannah, diolch. I ateb eich cwestiwn, ac i ateb y pwynt, Janet, mae'n ddrwg gennyf, anghofiais sôn wrthych am yr amseru, mae gennym amser nawr, mewn gwirionedd, nid i oedi'n ormodol, ond i weithio gyda chadwyni cyflenwi, gydag awdurdodau lleol ac eraill, fel rydym bob amser wedi'i wneud. Rydym mewn sefyllfa dda iawn yma yng Nghymru i wneud y gwaith hwnnw a’i gael yn iawn, ac i edrych ar y gwahanol ffyrdd y dylem fwrw ymlaen â hyn. Os caf atgoffa pobl, mae o fewn ein cymwyseddau i fwrw ymlaen â hyn. A nodaf, Ddirprwy Lywydd, fod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno datganiad hefyd, gan eu bod, er clod iddynt, yn bwrw ymlaen â chynllun dychwelyd ernes sy’n canolbwyntio ar ailgylchu. Maent yn dweud:

'Gyda Chymru eisoes yn ail yn y byd am ailgylchu, maent mewn sefyllfa unigryw i roi cynllun ar waith mewn gwlad sydd eisoes â chyfraddau ailgylchu uchel. Am y rheswm hwn, mae'n well ganddynt barhau i weithio ar gynllun sy'n addas i'w cyd-destun. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wrth iddynt wneud penderfyniadau ynghylch Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru.'

Ond rydych chi'n llygad eich lle, Hannah. Mae angen inni weithio gyda’n holl bartneriaid ar hyn, ac rwyf wedi ymgysylltu’n ddwys dros y misoedd diwethaf â’r holl bartneriaid hynny, gan gynnwys yn y gadwyn gyflenwi, i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, ond mae gennym amser. Y cam nesaf ar gyfer datblygu'r cynllun yng Nghymru fydd cynllun ailddefnyddio ar raddfa fawr yng Nghasnewydd, gan adeiladu ar y gwaith a wnaethom eisoes yn Aberhonddu a mannau eraill y buom yn gweithio arno eisoes mewn partneriaeth â'r diwydiant. Yna, byddwn yn cyflwyno cynigion ar gyfer y cynllun hwn, wedi’u llywio gan y treial hwnnw, er mwyn cynnal ymgynghoriad cyn diwedd tymor y Senedd hon, a'n nod wedyn yw cyflwyno’r ddeddfwriaeth i roi’r cynllun ar waith yng Nghymru cyn gynted â phosibl yn nhymor y Senedd nesaf. Felly, byddwn yn gwneud y gwaith nawr, a byddwn yn ei gyflwyno. Ni fydd unrhyw oedi mawr a byddwn yn gweithio gyda'r holl bartneriaid i'w gyflwyno. Ond mae’n rhaid iddo fod yn rhywbeth sy’n gweithio gyda'r cyd-destun a’r uchelgais sydd gennym yma yng Nghymru. Rydym wedi arwain o'r blaen, fe wnawn arwain eto.

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am nodi'r amserlen honno. Credaf ei bod yn deg dweud y bu ymateb cymysg a rhywfaint o ddryswch ynghylch y cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru. Rwy'n credu mai'r broblem oedd y ffaith iddo gael ei ddifetha gan y Llywodraeth flaenorol, pan gyhoeddasant nad oeddent yn cynnwys gwydr yn eu cynllun. Mae gennyf fy amheuon ynghylch cynnwys gwydr; rwyf wedi bod yn gyson ynghylch hynny. Ac mae peth pryder, yn amlwg iawn, ymhlith busnesau ynghylch sut y bydd cynnwys gwydr yn effeithio nid yn unig ar sefyllfa ariannol y busnesau hynny, ond hefyd ar sefyllfa logistaidd y busnesau hynny yn ogystal, y costau ychwanegol a fydd yn codi. Fe fyddwch yn ymwybodol o fragdy Bang-On ar ystad ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi mynegi eu pryderon yn gryf iawn. Felly, yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w ddeall yma yw sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r materion a'r pryderon a fynegir gan fusnesau bach yng Nghymru ynghylch y posibilrwydd o gynnwys gwydr mewn cynllun dychwelyd ernes, ac yna pa gamau a gymerir i sicrhau bod unrhyw gynllun a gyflwynir yn deg ac yn ymarferol i’r busnesau hynny.

Luke, diolch. Mae hwnnw'n bwynt da iawn. Un o'r pethau sydd wedi nodweddu ein dull o weithredu dros y misoedd diwethaf, a'r blynyddoedd diwethaf yn wir, lle rydym wedi arddel safbwynt cyson, yw ein hymgysylltiad agos â'r gadwyn gyflenwi. Ac er y bydd rhai yn y gadwyn gyflenwi yn dweud, 'Wel, beth y mae hyn yn ei olygu i ni?'—microfragdai, siopau cornel llai, pan fydd gennych offer cynllun dychwelyd ernes ac ati—mae ffyrdd drwodd i'w cael. Dyna'r sicrwydd y gallaf ei roi i fragdy Bang-On, yr wyf yn gobeithio ymweld ag ef cyn bo hir hefyd, ac rwy'n fwy na pharod i drafod y manylion gyda hwy ac eraill.

Oherwydd os edrychwn ar y 53 a mwy o wledydd sydd wedi cyflwyno cynllun dychwelyd ernes gydag ailddefnyddio, y mae rhai ohonynt yn gweithredu mewn gwledydd lle mae rhywfaint o wahaniaethu hyd yn oed o fewn gwledydd a’r un cyflenwyr corfforaethol mawr sy’n gweithredu'n llwyddiannus iawn o fewn y gwledydd hynny, nid yw’n darnio'r farchnad neu'n tarfu ar y farchnad, gallwch ddod o hyd i ffyrdd o'i wneud. Ond byddwn yn sicrhau nad ydym yn tarfu ar y busnesau llai hynny, y manwerthwyr llai hynny, y bragdai llai; byddwn yn gweithio gyda hwy ar hyn. Felly, edrychaf ymlaen at gyfarfod â bragdai Pen-y-bont ar Ogwr ac eraill i drafod hyn, oherwydd mae arnom angen eu cymorth i ddyfeisio’r cynllun hwn yn y ffordd gywir.

Nid ydym yn gwneud hyn mewn ffordd ddifeddwl, credwch fi, ac nid ydym yn dechrau hyn gyda dalen wag. Rydym wedi treulio blynyddoedd nid yn unig yn bod yn gyson ynghylch y ffordd orau ymlaen, ond yn gweithio gyda phobl, gan edrych ar enghreifftiau rhyngwladol, i ddweud, 'Sut rydym yn osgoi canlyniadau anfwriadol?' a lleihau'r effaith ar—mae'n rhaid imi ddweud—ein microfragdai gwych, ein bragdai bach a'n sector bwyd a diod. Felly, byddwn yn gwneud hynny. Rwy'n rhoi fy ymrwymiad i chi y byddwn yn gwneud hynny, ac mae gennym dipyn o amser i'w wneud, ond nid ydym yn mynd i oedi'n ormodol; hoffem gyflwyno hyn cyn gynted â phosibl yn nhymor y Senedd nesaf. Felly, mewn gwirionedd, nid yw'n bell iawn o gynlluniau Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, ond bydd ein cynllun ni'n canolbwyntio ar ailddefnyddio yn ogystal ag ailgylchu.

15:50
Llawdriniaethau Fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd

2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar gyhoeddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i oedi darpariaeth llawdriniaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, a fydd yn arwain at gleifion yn gorfod derbyn triniaethau yn Lloegr? TQ1253

Ar 15 Tachwedd, gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddatganiad o'i benderfyniad i oedi llawdriniaeth wedi'i chynllunio ac ar frys ar gyfer open abdominal aortic aneurysm yng ngogledd Cymru. Mae wedi gweithio gydag Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke i ddodi trefniadau yn eu lle ar gyfer y rhifau bach o bobl fydd angen y lawdriniaeth hon.

Mi ddaeth y newyddion am y toriadau i lawdriniaethau abdominal aortic aneurysm fel ergyd drom arall, mae gen i ofn, i ranbarth sydd wedi gweld diffygion gwirioneddol mewn gwasanaethau fasgiwlar dros y blynyddoedd diwethaf. Does dim angen i fi ddweud, nac oes, bod symud gwasanaethau ar draws y ffin i Stoke am fod yn anghyfleus. Mae'n mynd i fod yn anghyfleus i bobl sy'n byw yn y gogledd-ddwyrain, ond i rywun sy'n byw yn fy etholaeth i, yn Ynys Môn, neu ymhellach draw i'r gorllewin, pen draw Llŷn, o bosib, mae'r penderfyniad yma am gael effaith wirioneddol ar hygyrchedd y lawdriniaeth allweddol yma.

Ond beth sy'n creu y rhwystredigaeth fwyaf yn fan hyn, dwi'n meddwl, ydy hanes diweddar y ffordd mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi trin gwasanaethau fasgiwlar a'r ffaith bod ymgyrchwyr lleol, a ninnau ar y meinciau yma, wedi rhybuddio dro ar ôl tro am y peryg o'r hyn a wnaed, ac y byddai fo yn arwain at ddirywiad gwirioneddol hirdymor mewn gwasanaethau fasgiwlar a oedd yn rhagorol. Y cyfiawnhad gawsom ni dros gau'r uned fasgiwlar byd-enwog yn Ysbyty Gwynedd ac i ganoli gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd oedd y byddai fo'n arwain at ganlyniadau gwell i gleifion gogledd Cymru. Doedd yna neb ohonom ni yn credu hynny. Chwe blynedd yn ddiweddarach, nid yn unig mae gwasanaethau fasgiwlar Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, maen nhw hefyd yn cael eu gyrru rŵan i Loegr, heb unrhyw sôn am ailgyflwyno'r gwasanaeth am y dyfodol rhagweladwy. Mae gwasanaethau a oedd yn rhagorol wedi cael eu dad-wneud, a phobl y gogledd sy'n talu'r pris am hynny.

Mi oedd canfyddiadau'r arolygiaeth gofal iechyd o gynnydd mewn gwasanaethau fasgiwlar yn y gogledd dros y flwyddyn diwethaf yn galonogol—hynny ydy, dwi yn chwilio am arwyddion positif. Ond beth rydym ni'n ei weld yn fan hyn, a'r hyn roeddem ni'n ei hofni, ydy cam mawr arall yn ôl. Felly, a gaf i, gan yr Ysgrifennydd Cabinet, wybod beth ydy'r amserlen? Beth ydy'r amserlen rŵan o ran dychwelyd y gwasanaethau yma yn ôl i ogledd Cymru? Ac yn bwysicach oll, pryd fydd yr addewidion a gafodd eu gwneud nôl yn 2018 am y buddiannau o ganoli gwasanaethau fasgiwlar arbennig yn Ysbyty Glan Clwyd yn dwyn ffrwyth? Achos ychydig iawn ohonom ni wnaeth gredu ar y pryd mai gwella fyddai'r gwasanaeth o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw. 

Rwy'n gobeithio ei bod yn ddefnyddiol imi roi rhywfaint o gyd-destun i’r penderfyniad a wnaed. Mae’r penderfyniad i atal llawfeddygaeth agored anewrysm aortig yn yr abdomen sydd wedi’u cynllunio a rhai brys yn dangos yn glir fod angen gwneud rhagor o waith i wella’r gwasanaeth fasgwlaidd i drigolion yng ngogledd Cymru. Gwnaed y penderfyniad, fel y byddai’r Aelodau’n ei ddisgwyl, ar sail cyngor clinigol gan arbenigwyr fasgwlaidd yng Nghymru a’r DU yn ehangach, yn ogystal â chlinigwyr o fewn y bwrdd iechyd ei hun. Mae’r math o lawdriniaeth yr effeithir arni gan y penderfyniad yn arbenigol iawn; mae'n gymhleth ac mae'n bwysig. Mae'n cynrychioli llai na 0.5 y cant y flwyddyn o wasanaethau fasgwlaidd yn gyffredinol. Fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, gwnaed trefniadau gydag Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke, sy’n adeiladu ar gysylltiad sydd eisoes yn bodoli â’r ysbyty hwnnw, mewn perthynas â thrawma a gwasanaethau fasgwlaidd. Gall y penderfyniad effeithio ar oddeutu 10 i 15 o bobl y flwyddyn sydd angen y math penodol hwn o ymyrraeth.

Nid yw’r ffaith bod cleifion yn cael eu trin yn Lloegr ar gyfer arbenigedd ar y lefel hon yn newydd. Mae eisoes yn digwydd, wrth gwrs, ar gyfer rhai llawdriniaethau anewrysm aortig yn yr abdomen, yn ogystal, fel y dywedais, â rhai mathau o drawma a chyflyrau niwrolegol. Mae'r bwrdd wedi datblygu a chytuno ar brotocol ar gyfer rheoli cleifion yn ddiogel, a fydd yn egluro'r llwybr newydd ar gyfer timau clinigol, ac mae'n cael ei drafod gyda phob un o'r unigolion y mae'n disgwyl y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio arnynt. Cefais gyfle i gyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd, Dyfed Edwards, ddydd Sul yn ystod cyfarfod arall, i drafod hyn gydag ef, a chefais fy nhrafodaeth reolaidd gydag ef fel cadeirydd y bwrdd yn nes ymlaen yn yr wythnos. Mae wedi ymrwymo ar ran y bwrdd i roi gwybod i'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol am ddatblygiadau wrth iddynt adolygu'r ddarpariaeth nawr, ond hyd yma, nid oes unrhyw ddyddiad ar gyfer ailddechrau'r gwasanaethau hynny.

15:55

A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno’r cwestiwn amserol hwn yma heddiw, a diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cychwynnol i Rhun ap Iorwerth, ond a gaf i hefyd gefnogi’r Aelod o ran ei bryderon ehangach ynghylch gwasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Mae’r Aelod eisoes wedi nodi’r pryderon a gawn fel Aelodau o’r Senedd gan yr etholwyr a gynrychiolir gennym, ac mae’n gwbl gywir i’w rhannu eto yma heddiw. Rwyf hefyd yn cefnogi’r Aelod gyda rhai o’r heriau y mae rhai o’n hetholwyr yn debygol o’u hwynebu mewn perthynas â mynediad a theithio gyda’r llawdriniaeth benodol hon.

Hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gydnabod y cyngor clinigol y mae’r bwrdd wedi’i gael ar y driniaeth arbenigol hon a chydnabod, lle mae’n glinigol gywir i wneud hynny, mai gweithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr yw'r peth iawn i’w wneud weithiau. Fe fyddwch yn cydnabod sawl gwaith y gwneuthum y pwynt hwnnw yn y Siambr hon, mai gweithio trawsffiniol yw’r peth iawn i’w wneud weithiau, gan fod angen inni edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â rhestrau aros yma yng Nghymru, ac mae gweithio trawsffiniol yn rhan o’r strategaeth bwysig ar gyfer gwneud hynny yn fy marn i, yn enwedig pan fydd modd gwneud y driniaeth naill ai’n fwy diogel neu’n gyflymach mewn rhannau eraill o’r GIG ar draws y Deyrnas Unedig. Felly, hoffwn gydnabod y cyngor clinigol ar y driniaeth benodol hon a chydnabod hefyd, fel rydych chi wedi'i nodi, er ei fod yn bwysig i'r grŵp penodol hwnnw o bobl, mai nifer cyfyngedig o bobl y bydd hyn yn effeithio'n uniongyrchol arnynt bob blwyddyn.

Fy mhryder i, efallai, yw sut y mae gwneud penderfyniadau yn y ffordd hon yn rhan o strategaeth a chynllun ehangach ar gyfer gweithio trawsffiniol, ac a yw penderfyniadau fel hyn efallai’n adweithiol ar adegau ac nad ydynt o reidrwydd yn rhan o gynllun a meddylfryd ehangach bwrdd iechyd. Hoffwn wybod hefyd a fydd y niferoedd hyn yn cynyddu—maent yn niferoedd gweddol gyfyngedig ar hyn o bryd—a fyddech chi'n disgwyl i'r bwrdd iechyd ddod â'r llawdriniaeth hon yn ôl yn fewnol, fel petai, yng ngogledd Cymru, a sut y mae hynny'n mynd i gael ei fonitro i sicrhau, pe bai pethau'n newid yn y dyfodol, fod y cyngor clinigol yn cael ei ailystyried efallai i fod naill ai'n fwy diogel neu'n fwy priodol yn ôl ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, hyd yn oed pan allai'r niferoedd newid. Diolch.

Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod mai’r rheswm, yn ôl yr hyn a ddeallaf, y bu'n bosibl i’r bwrdd iechyd allu datblygu’r trefniadau gydag ysbyty Brenhinol Stoke, fel y nodais yn gynharach, yw oherwydd bod ganddynt berthynas â’r ysbyty eisoes mewn perthynas ag anewrysm aortig yn yr abdomen yn benodol, ond gwasanaethau fasgwlaidd yn ehangach hefyd, yn ogystal â thrawma. Felly, yn yr ystyr y mae’r Aelod yn gofyn ei gwestiwn, mae eisoes yn rhan o’r cynllun ehangach hwnnw, os mynnwch. Mae’n cydnabod y pwynt fy mod yn ymwybodol mai ei farn ef yw y gall fod yn briodol, am y rhesymau cywir ac yn y sefyllfa gywir, i bobl deithio dros y ffin i’r ddau gyfeiriad i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt pan fydd y driniaeth, efallai, ar lefel benodol o arbenigedd.

Mewn perthynas â datblygiadau yn y dyfodol a'r nifer o bobl yr effeithir arnynt, dylwn ddweud bod y trefniadau sgrinio anewrysm aortig yn yr abdomen sy'n bodoli i nodi'r rhai a allai fod â'r cyflwr—oherwydd yn aml iawn, nid oes symptomau hyd nes y daw'n arbennig o broblemus—heb gael eu heffeithio gan y penderfyniad y mae’r bwrdd iechyd wedi’i wneud, gan ei fod yn wasanaeth a gomisiynir yn genedlaethol drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, byddai’n bosibl nodi’r rheini sydd mewn perygl o gael anewrysm aortig yn yr abdomen drwy’r gwasanaeth sy’n bodoli'n barod ac sy'n parhau.

16:00

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn deall bod y ffaith bod gwasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru yn y newyddion eto yn creu pryder i fy etholwyr. Rydym eisoes wedi clywed yma ei fod wedi cyrraedd y penawdau o'r blaen, ond ers hynny cafodd gwasanaethau fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn gyffredinol, eu hisgyfeirio yn 2023 gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar ôl i gynnydd gael ei ddangos, er eu bod yn cydnabod bod angen gwneud gwelliannau o hyd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y newyddion diweddaraf, sut rydych chi'n ystyried bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithredu ar argymhellion Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn eu hadolygiad isgyfeirio? A pha sicrwydd pellach y gellir ei geisio gan y bwrdd iechyd ar wasanaethau fasgwlaidd fel y gellir sicrhau fy etholwyr ac eraill?

Wel, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud. Yng nghyd-destun gwasanaethau fasgwlaidd yn y bwrdd iechyd, bydd ei hetholwyr ac eraill yn bryderus o glywed y newyddion hwn. Rwy'n gobeithio y bydd o gymorth fy mod wedi bod mor benodol ag y bûm ynglŷn â'r gwasanaethau yr effeithir arnynt, oherwydd rwyf am sicrhau pobl ynghylch effaith benodol y penderfyniad hwn, a rhoi ymdeimlad o'r cyd-destun, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau yn teimlo bod hynny wedi bod o gymorth.

Mae hi'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r ffaith fod nifer o adolygiadau wedi'u cynnal o'r gwasanaethau fasgwlaidd yn Betsi Cadwaladr oherwydd yr heriau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau hynny, rhywbeth y mae Aelodau eraill wedi cyffwrdd arno hefyd. Felly, adolygiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn rhan o'i fecanwaith uwchgyfeirio ac isgyfeirio, yn ogystal â'r adolygiad sicrwydd ar wahân a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, ac adolygiad o nodiadau achos hefyd. Felly, mae'n set o wasanaethau sydd wedi bod dan oruchwyliaeth gyson ers i'r newidiadau gael eu cyflwyno gyntaf. Gwnaed nifer o argymhellion yn ystod penderfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i isgyfeirio'r gwasanaeth y llynedd, ac mae'r bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â'r rheini. Cafwyd gwelliannau yn y gwasanaeth yn gyffredinol ers adolygiad blaenorol Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn enwedig, gyda thystiolaeth glir o glinigwyr yn gweithio'n fwy cydweithredol, a mwy o rôl i dimau amlddisgyblaethol, ond mae angen gwneud gwaith ychwanegol wrth gwrs, ac mae'r bwrdd yn gweithio drwy'r argymhellion hynny yn barhaus.

Hoffwn ganolbwyntio ar Ysbyty Glan Clwyd, os caf, ac wrth inni fynd i mewn i'r bumed flwyddyn ers dechrau'r pandemig COVID-19, ac mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn materion gwaith achos yn fy etholaeth, rwyf wedi cyflwyno cais rhyddid gwybodaeth yn gofyn i Betsi Cadwaladr am nifer y triniaethau a'r llawdriniaethau yn yr ysbyty penodol hwnnw. A'r hyn a welsom yw bron i 4,000 yn llai o lawdriniaethau yn Ysbyty Glan Clwyd, o 26,256 yn 2019. Bu gostyngiad bach yn ystod blynyddoedd COVID, am resymau amlwg, ond yn 2023 roedd wedi gostwng i 22,620, sy'n ostyngiad o bron i 4,000 o lawdriniaethau yn yr ysbyty hwnnw bob blwyddyn. O ystyried yr amseroedd aros cronig—

A gaf i eich atgoffa mai cwestiwn am wasanaethau fasgwlaidd yw hwn, nid yr ystod gyfan o lawdriniaethau?

Ie, rwy'n ymwybodol o hynny. Felly, o ystyried hynny, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei ymateb i hynny a pha waith adfer y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatrys rhai o'r problemau hyn sy'n ddifrifol iawn yn yr ysbyty lleol yn fy etholaeth? Diolch.

Ddirprwy Lywydd, gan nad yw cwestiwn yr Aelod yn ymwneud â llawfeddygaeth anewrysm aortig yn yr abdomen yng Nglan Clwyd, rwy'n ofni nad oes gennyf ateb i'w gwestiwn o'm blaen. Ond os hoffech ysgrifennu ataf, rwy'n siŵr y gallaf ddarparu'r wybodaeth sydd ar gael.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae pobl yn bryderus yng ngogledd Cymru. Maent yn poeni am fregusrwydd nifer o wasanaethau, a dyma'r mater diweddaraf yn unig sy'n cael sylw yn y cyfryngau gan ein hetholwyr, ac sydd, yn ddealladwy, yn mynd i achosi gofid a dychryn.

Er mai ar nifer bach o bobl yn unig y gallai effeithio, y gwir amdani yw bod yr effaith neu'r goblygiadau diogelwch posibl i'r unigolion hynny yn arwyddocaol iawn, o ystyried y pellteroedd hir, yn enwedig ar gyfer achosion brys nad ydynt wedi'u cynllunio, sydd angen y math hwn o lawdriniaeth. Felly, a gaf i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i asesu effaith debygol y milltiroedd ychwanegol niferus y bydd gofyn i bobl eu teithio nawr er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau hanfodol hyn ar farwolaethau yn yr achosion brys hynny?

16:05

Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn gywir i ddweud y bydd pob unigolyn yr effeithir arnynt—wyddoch chi, mae'n fater difrifol i'r unigolion hynny. Nid oeddwn yn ceisio bychanu hynny, roeddwn eisiau creu cyd-destun i roi sicrwydd i'w etholwyr o'r mathau o wasanaethau yr effeithir arnynt a'r niferoedd sy'n debygol o gael eu heffeithio, felly rwy'n gobeithio bod fy sylwadau wedi'u cymryd yn yr ysbryd hwnnw.

Yn amlwg, rydym wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â'r bwrdd fel rhan o'r broses mesurau arbennig beth bynnag, ac yn y dyddiau yn arwain at benderfyniad y bwrdd yn benodol ar y mater hwn. Rwy'n credu bod y trefniadau presennol gydag ysbyty Royal Stoke mewn perthynas â thrawma yn arbennig yn rhoi rhywfaint o brofiad i'r bwrdd i lywio ei benderfyniad i—. Mewn perthynas ag unrhyw glaf unigol, nid wyf yn glinigwr—nid wyf yn gallu rhoi'r sicrwydd uniongyrchol hwnnw—ond rwy'n tybio ei fod yn dibynnu'n fawr iawn ar amgylchiadau unigol y claf, ac rwy'n dychmygu mewn sawl achos y bydd y ddaearyddiaeth yn un ystyriaeth ond efallai na fydd yn brif ffactor bob amser. Ond mae'r ystyriaethau hyn wedi bod yn rhan o ystyriaethau'r bwrdd wrth ddod i'r penderfyniad a wnaeth, yn seiliedig ar brofiad o'r gwasanaeth y mae'n teimlo y gall ei ddarparu'n ddiogel.

5. Datganiadau 90 Eiliad
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Felly, symudwn ymlaen at gynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y tri chynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau, NNDM8741, NNDM8742 ac NNDM8743, eu grwpio ar gyfer eu trafod a phleidleisio. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiadau, a galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynigion yn ffurfiol.

Cynnig NNDM8741 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.

Cynnig NNDM8742 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn lle Hefin David (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Cynnig NNDM8743 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur Cymru) yn lle Carolyn Thomas (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Cynigiwyd y cynigion.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion NNDM8741, NNDM8742 ac NNDM8743? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynigion wedi eu derbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau dros dro

Nesaf yw'r cynnig i benodi comisiynydd safonau dros dro. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i wneud y cynnig—Hannah Blythyn.

Cynnig NNDM8744 Hannah Blythyn

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod Comisiynydd Safonau'r Senedd wedi hysbysu'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad na all weithredu mewn perthynas â chwyn benodol.

2. Yn penodi Melissa McCullough yn Gomisiynydd dros dro mewn perthynas â’r gŵyn y cyfeirir ati ym mhwynt 1, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ar sail y telerau a ganlyn:

a) daw’r penodiad i rym ar 21 Tachwedd 2024;

b) daw'r penodiad i ben pan fydd Clerc y Senedd yn hysbysu’r Comisiynydd dros dro;

c) tâl y Comisiynydd dros dro fydd cyfradd ddyddiol o £458.36 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) am weithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd, ynghyd â threuliau rhesymol; a

d) Comisiwn y Senedd fydd yn talu pob swm y cyfeirir atynt ym mhwynt 2(c) i'r Comisiynydd dros dro.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, dwi'n gwneud y cynnig yn ffurfiol i benodi comisiynydd safonau dros dro.

Mae'r comisiynydd safonau wedi hysbysu'r pwyllgor fod angen iddo esgusodi ei hun o ystyriaeth o gŵyn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid penodi comisiynydd dros dro yn ei le, ac mae'r pwyllgor wedi cytuno i argymell penodi Melissa McCullough. Mae Melissa wedi bod yn gomisiynydd safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon ers 2020, yn ogystal â'r comisiynydd safonau ledled Iwerddon ers 2023. Oherwydd y rolau hyn, mae'r pwyllgor yn hyderus fod ganddi'r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl hon mewn modd amserol ac effeithlon. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd heddiw. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar yr hawl i dai digonol
7. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26

Felly, eitem 7, cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26. Galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8729 Hefin David

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, a osodwyd gerbron y Senedd ar 13 Tachwedd 2024, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n gwneud cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2025-26 ac yn gofyn iddo gael ei ymgorffori yn y cynnig cyllidebol blynyddol. Ddirprwy Lywydd, eleni mae Comisiwn y Senedd wedi cael y dasg gan fwyafrif o ddwy ran o dair o'r Siambr hon o lunio cyllideb o newid trawsnewidiol. Yn y cyfnod cythryblus hwn, mae cryfhau democratiaeth mewn unrhyw wlad yn aml yn ymdrech anodd ond yn sicr yn un aruchel, ac er nad wyf mewn unrhyw fodd yn dibrisio gwrthwynebiadau'r rhai sy'n gwrthwynebu diwygio, mae'r Aelodau sydd wedi cefnogi ehangu'r Senedd wedi gwneud hynny er mwyn adeiladu Senedd gryfach i bobl Cymru, a bod yn rhaid cefnogi'r Senedd gryfach honno wrth gwrs os yw am gyflawni nodau'r ddeddfwriaeth a'i creodd. Er mwyn sicrhau cynnydd o 60 y cant ym maint y Senedd, mae Comisiwn y Senedd heddiw yn gofyn am godiad o 16 y cant yn ein cyllideb. Felly, cais cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2025-26 yw £83.845 miliwn, cynnydd o £11.65 miliwn, a £456,000 yn is na'r hyn a gynhwyswyd yn y gyllideb atodol. 

Mae cais y gyllideb yn mynd i'r afael â phedwar math o bwysau twf clir: diwygio'r Senedd wrth gwrs, a drafodwyd gennym yn y cwestiynau i'r Comisiwn; rhaglen seilwaith hanfodol ar gyfer ystad y Senedd; codiadau cyflog staff sy'n adlewyrchu mandad cyflog diweddar Llywodraeth y DU; a rhaglen Ffyrdd o Weithio a fydd yn mynd i'r afael â diwedd les Tŷ Hywel yn 2032. Mynd i'r afael â'r holl fesurau hyn nawr yw'r dull mwyaf costeffeithiol ac effeithlon o bell ffordd o weithredu, ac rwyf am droi nawr at bob un o'r meysydd yn y gyllideb. 

Ar gyfer rhaglen ddiwygio'r Senedd, bydd yr Aelodau'n nodi mai'r gost yn y gyllideb yw £6.5 miliwn, sy'n dangos cynnydd o gyllideb y llynedd o £4.4 miliwn. Mae rhaglen ddiwygio'r Senedd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer staff newydd i baratoi ar gyfer y seithfed Senedd, cynnydd i gyllidebau nad ydynt yn staff a chyllid ar gyfer aildrefnu'r Siambr a swyddfeydd ychwanegol i Aelodau yn Nhŷ Hywel. Mae'r gyllideb ar gyfer 2025-26 wedi cynyddu o amcangyfrif yr asesiad effaith rheoleiddiol cychwynnol a baratowyd ar gyfer Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Wrth baratoi'r gyllideb hon, mynychais sesiwn graffu gyda'r Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref, ac rwy'n ddiolchgar iawn amdani, gofynnwyd cwestiynau i mi yn y Siambr, ac rwyf wedi cynnal trafodaethau anffurfiol gyda'r Aelodau trwy eu grwpiau. Mae'r Aelodau wedi bod yn drylwyr wrth holi ynghylch y gwahaniaeth rhwng yr asesiad effaith rheoleiddiol a'r costau cyfredol, ac er bod yr asesiad effaith rheoleiddiol yn is na'r costau amcangyfrifedig cyfredol, mae'n bwysig nodi bod y gwahaniaeth net yn llai na chynnydd o 8 y cant, ar £400,000. Ac os yw'r Aelodau'n cytuno i'r cais cyflogau, gellid dadlau hyd yn oed ei fod yn is na'r asesiad effaith rheoleiddiol.

Mae costau cyfalaf wedi cynyddu er mwyn cyflwyno cynllun penodol ar gyfer y Siambr y gofynnwyd amdano gan yr Aelodau. Dechreuodd y broses o nodi cynllun y Siambr yn haf 2023, ac roedd yn cynnwys grŵp cyfeirio'r Aelodau, a fynychwyd gan Aelodau o bob plaid, cynhaliwyd sawl sesiwn galw heibio yn y cwrt trwy gydol y flwyddyn, a chafwyd trafodaeth mewn grwpiau gwleidyddol yr oeddwn yn rhan ohonynt. Mae'r broses bellach wedi datblygu'n dda, ac mae gennym ddyddiad clir ar gyfer gorffen adeiladu yn 2026. Mae'r Aelodau wedi chwarae rhan hollbwysig yng nghynllun y Siambr a bydd y Siambr newydd yn addas ar gyfer y dyfodol oherwydd hynny. Ac mae'n anochel y byddai gohirio pellach yn achosi oedi cyn gallu cyflawni'r gwaith o ddiwygio'r Senedd.

Drwy ddadansoddiad gofalus o'r angen am adnoddau, mae costau staffio yn y dyfodol wedi gostwng o'r 60 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn cychwynnol yn yr asesiad effaith rheoleiddiol i ffigur cyfwerth ag amser llawn o 48, sydd wedyn yn achosi cynnydd bach ar yr hyn a gaed yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, er gwaethaf costau cyfalaf cynyddol, yn amodol ar y cafeat y soniais amdano am gyflogau staff. 

At ei gilydd, mae'r Comisiwn yn hyderus ein bod yn bwrw ymlaen ar sail effeithlon o ran adnoddau sy'n cadw at y pum egwyddor y mae'r Pwyllgor Cyllid yn gofyn i gyrff a ariennir yn uniongyrchol eu hystyried wrth baratoi cyllideb. Dyna oedd eu cwestiwn cyntaf i mi yn sesiwn y Pwyllgor Cyllid. Yn fwyaf nodedig, lle mae angen cynyddu cyllid, maent yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu tystiolaeth o'r angen, y budd a'r ymdrechion a wnaed i leihau costau o'r fath. Yn yr adroddiad yn dilyn y sesiwn graffu ar 3 Hydref, rwy'n falch o ddweud bod y Pwyllgor Cyllid wedi cydnabod ein bod wedi cyflawni'r nod pwysig hwn a bod mwyafrif yn cefnogi'r gyllideb yn llawn. Ac rwy'n siŵr y bydd gan y Cadeirydd fwy i'w ddweud am hynny yn ei araith. Ond hoffwn ddweud wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid fod y Comisiwn, yn ei dro, yn derbyn pob un o'r 17 argymhelliad a wnaeth eich pwyllgor yn yr adroddiad a ddilynodd y sesiwn dystiolaeth honno.

Mae cost y rhaglen seilwaith allweddol ar gyfer yr ystad yn £2.5 miliwn yn y gyllideb. Mae'r gyllideb hefyd yn adlewyrchu costau uchaf y rhaglenni seilwaith allweddol ar gyfer yr ystad y mae angen i ni edrych arnynt, ac mae'r manylion yn adroddiad y gyllideb. Ond mae nifer o eitemau allweddol yn agosáu at ddiwedd eu hoes yn y Senedd a Thŷ Hywel. Bydd gwariant yn cael ei flaenoriaethu, ond nodwyd angen clir i adnewyddu TGCh a seilwaith yr ystad eleni. Bydd yr Aelodau'n nodi nad yw un o'r lifftiau'n gweithio heddiw, er enghraifft. Mae costau'r atgyweiriadau'n achosi problemau i gyllidebau'r dyfodol, ac felly nid ydynt yn arbed mewn gwirionedd drwy ohirio'r pethau hyn. Ni fydd gohirio'r rhain at gyllidebau'r dyfodol yn gosteffeithiol a bydd yn arwain at geisiadau cyllidebol pellach. 

Mae codiadau cyflog staff yn costio £2.7 miliwn. Dyma gynnydd o 9 y cant, o'i gymharu â'r gyllideb a osodwyd ar gyfer 2024-25. Yn rhannol, mae'n adlewyrchu cynnydd o 5 y cant Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflogau'r sector cyhoeddus, a gyhoeddwyd ers mis Gorffennaf. A hoffwn atgoffa'r Aelodau fod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn sicrhau cydraddoldeb rhwng staff y Comisiwn a staff yn Llywodraeth Cymru, a dyna pam y mae angen i ni dderbyn y 5 y cant hwnnw. Nid oes unrhyw gynnydd parhaol yn ein sylfaen staff bresennol, gyda phedair swydd dros dro wedi'u cynnwys i gefnogi pwyllgorau ychwanegol y gofynnodd Llywodraeth Cymru a'r Senedd amdanynt. Bydd y swyddi a'r costau hyn yn diflannu pan fydd gwaith y pwyllgorau wedi ei gwblhau.

Ac yn olaf, Ffyrdd o Weithio a Bae 32. Dyna gost o £2.4 miliwn yn y gyllideb eleni. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi sefydlu nifer o opsiynau sydd ar gael i'r Comisiwn ar ddyfodol yr ystad hon. O ganlyniad, rydym yn cymryd rhan mewn proses gystadleuol i sicrhau'r gwerth gorau i'r pwrs cyhoeddus ac i adlewyrchu arferion gorau caffael cyhoeddus wrth gaffael adeilad yn y dyfodol. Rwyf wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o dystiolaeth drwy sesiynau craffu cyhoeddus gyda'r Pwyllgor Cyllid ar y prosiect hwn yn gynnar y flwyddyn nesaf ac edrychaf ymlaen at wneud hynny.

Nodwyd nad yw'r gyllideb ddrafft hon yn cynnig arbedion, ond mae'r Comisiwn wedi gwneud cyfanswm o ychydig o dan £1.6 miliwn o arbedion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a bydd ein cyllideb yn parhau i gael ei rheoli'n dynn iawn, gyda chyfiawnhad clir dros bob cais a wnawn. Byddai toriadau pellach i gyllideb weithredol y Comisiwn, yn enwedig mewn blwyddyn pan ydym wedi gofyn am ehangu'r Senedd, yn anodd iawn eu cyflawni mewn gwirionedd heb ddiraddio gwasanaethau i'r Aelodau yn barhaol. Byddai hefyd yn arwain at gymariaethau negyddol o bosibl rhyngom ni a Seneddau eraill. Roeddwn yn falch o nodi bod y Pwyllgor Cyllid wedi cefnogi'r safbwynt hwn yn unfrydol.

Byddwn yn cyrraedd sefydlogrwydd yn y seithfed Senedd yn dilyn y gyllideb o newid sylweddol ac yna byddwn yn dychwelyd at ein dadansoddiad o arbedion parhaus a ddarperir gan ein cynllun adnoddau tymor canolig. Mae'r gyllideb a gyflwynais heddiw yn cyflawni penderfyniad democrataidd y Senedd hon ac rwyf am ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi ymgysylltu mor adeiladol yn ei datblygiad, yn ogystal â'r Pwyllgor Cyllid, a wnaeth graffu mor drylwyr ar ein cynigion.

Drwy gefnogi'r gyllideb hon heddiw, bydd yr Aelodau'n gosod y llwybr tuag at Senedd sy'n gweithio i Gymru, ac rwy'n ei chymeradwyo i chi.

16:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. A cyn i mi ddechrau, mi fuaswn i'n licio diolch i Hefin David, Comisiynydd y Senedd dros y gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd, am ddod i'r cyfarfod o'r Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref i drafod cynigion cyllidebol y Comisiwn. Dwi hefyd yn ddiolchgar i’r Comisiwn am ddarparu ei ymateb i’r adroddiad cyn y ddadl yma, ac rwy’n falch eu bod nhw wedi derbyn 16 o’r argymhellion, ac wedi nodi un ohonyn nhw. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r Comisiynydd am gadarnhau bod yr arian a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft sy’n ymwneud ag ôl-daliadau ar gyfer staff graddau is y Comisiwn wedi’i dynnu yn sgil y Senedd yn cytuno ar y gyllideb atodol gyntaf ar 22 Hydref.

Fel y nododd y Comisiynydd, mae hon yn gyllideb o newid sylweddol, gyda'r mwyafrif o'r cynnydd ar gyfer gweithredu penderfyniad y Senedd i gynyddu nifer yr Aelodau ar ôl yr etholiad. Mae mwyafrif o'r pwyllgor yn argymell bod y Senedd yn cefnogi'r cais cyffredinol hwn. Fodd bynnag, ceir nifer o feysydd lle mae angen mwy o eglurder. Ar y cyfan, roeddem yn falch o'r ffordd y cyflwynir y gyllideb ac yn croesawu'r ffordd y parheir i wahanu cyllidebau a glustnodwyd ar gyfer diwygio'r Senedd, Ffyrdd o Weithio, a chostau etholiadol, gyda'r holl danwariant yn erbyn y llinellau cyllidebol hynny yn cael eu dychwelyd i'r pwrs cyhoeddus. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu y gallai'r Comisiwn wneud mwy i ddangos sut y mae'n hybu arbedion effeithlonrwydd wrth reoli ei gyllideb.

Mae ein datganiad o egwyddorion yn glir y dylai pob corff a ariennir yn uniongyrchol geisio gwella prosesau a chronni arbedion effeithlonrwydd yn barhaus, a chredwn na ddylai'r Comisiwn fod yn rhydd rhag hyn oherwydd ehangu'r Senedd. Er ei bod yn ddealladwy na cheir targed arbedion yn y gyllideb hon, oherwydd pwysau costau'n ymwneud ag ehangu'r Senedd, mae'r pwyllgor o'r farn bod cynnwys targedau gyda'r nod o gynhyrchu arbedion yn hanfodol. Nodwn fod y Comisiwn, yn ei ymateb i'r argymhellion hyn, wedi cadarnhau y bydd yn mabwysiadu dull newydd o gyflwyno ei gyllideb fel ei fod yn cynnwys cynllun twf, cynllun arbedion effeithlonrwydd a chynllun cynilo. Edrychwn ymlaen at weld sut y datblygir y dull hwn o weithredu cyn rownd nesaf y gyllideb.

Gan symud ymlaen at agweddau eraill ar gyllideb y Comisiwn, mewn perthynas â chynlluniau ar gyfer datblygu ystad y Senedd, rydym yn croesawu ffordd agored y Comisiwn o ymgysylltu â'r pwyllgor ar y materion hyn ac edrychwn ymlaen at gynnal y sesiynau tystiolaeth cyhoeddus yn y flwyddyn newydd. Wrth i brosiect Bae Caerdydd 2032 ddatblygu, credwn hefyd fod angen eglurder ynglŷn â phwy fydd yn gwneud penderfyniadau'n ymwneud â'r prosiect ac a fydd gan yr Aelodau lais terfynol yn y Cyfarfod Llawn. Rydym hefyd wedi gofyn am wybodaeth ynghylch rhwymedigaethau'r Comisiwn i atgyweirio a chynnal a chadw ystad Tŷ Hywel yn ystod tymor y les, gan gynnwys eglurder ar y trefniadau ar gyfer cytuno ar unrhyw daliadau dadfeiliad.

Mae'r pwyllgor hefyd yn gofyn am ragor o wybodaeth am strategaeth ystad hirdymor y Comisiwn dros y pump i 10 mlynedd nesaf, gan gynnwys unrhyw amcangyfrif o gostau, yn ogystal â diweddariad o brosiect adolygu'r Pierhead, y disgwylir iddo adrodd yn ôl y mis nesaf. Rydym hefyd wedi gofyn am fanylion llif prosiectau'r Comisiwn ar gyfer 2025-26 yn ogystal â'i gynllun prosiectau hirdymor i'w rannu.

Ddirprwy Lywydd, mae'r pwyllgor wedi datgan yn gyson na all roi barn ar faterion gweithredol, fel cyflogau staff, o fewn y cyrff a ariennir yn uniongyrchol, gan mai cyfrifoldebau'r uwch arweinwyr yn y sefydliadau hynny yw'r rheini. Fodd bynnag, hoffai'r pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas â'r materion hyn, o ystyried eu heffaith ar gynlluniau cyllidebol y Comisiwn.

O ran llesiant staff, rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd gan y Comisiwn i ddeall lefelau salwch a'u heffaith ar y sefydliad ehangach. Yn ogystal, er ein bod yn credu y gallai deallusrwydd artiffisial arwain at fanteision i Aelodau a staff, nid ydym yn ddall i'r risgiau sydd ynghlwm wrtho ac rydym am gael rhagor o wybodaeth am drefniadau llywodraethu wrth i'w ddefnydd yn y Senedd ehangu.

I gloi, Dirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau’n ymwybodol mai byr yw’r amser sydd ar gael i’r pwyllgor graffu ar gyllideb y Comisiwn, gyda Rheolau Sefydlog yn caniatáu tair wythnos yn unig rhwng gosod y gyllideb ddrafft ym mis Hydref a chyhoeddi ein hadroddiad. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd dod i ddeall beth sy’n ysgogi newidiadau mewn costau ar draws y gyllideb ddrafft, a hoffem gael gwybodaeth yn rheolaidd am sut mae’r gyllideb ar gyfer 2026-27 yn cael ei datblygu er mwyn cael gwell syniad o sut olwg fydd ar gyflwr sefydlog cyson y gyllideb y tu hwnt i’r etholiad yn 2026.

Mae’r pwyllgor hefyd yn cydnabod y camau a gymerwyd gan y Comisiwn i ymgysylltu ag Aelodau cyn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft eleni, ac mae’n credu bod y dull gweithredu hwn yn ddefnyddiol ac y dylid ei ffurfioli yn y blynyddoedd sydd i ddod. Diolch yn fawr.

16:20

Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i bobl cyllid y Comisiwn am eu hymdrechion ymroddedig wrth baratoi cyllideb y Comisiwn 2025-26? Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid, a chi, Peredur, fel y Cadeirydd, a hefyd Hefin David fel ein Mr Canghellor. Rwy'n credu o ddifrif mai dyma'r swydd anoddaf sydd gennych. Mae'r gwaith craffu amhrisiadwy a wnaethoch ar y gyllideb hon wedi bod yn allweddol iawn wrth siapio'r broses. Rydym wedi adolygu eu hargymhellion yn ofalus, ac rydym yn gwerthfawrogi'r cyfle i'w hystyried, ac fel aelod balch iawn o'r Comisiwn ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n ymwybodol iawn o sut rydym ni, y Comisiwn hwn, yn defnyddio ac yn gwario arian trethdalwyr. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r pwysau ar y gyllideb.

Felly, mae'n amlwg fod y gyllideb hon yn adlewyrchu ymdrechion sylweddol i sicrhau rheolaeth effeithiol ar adnoddau, gan fynd i'r afael ag anghenion gweithredol y Senedd, yn enwedig wrth inni agosáu at y cyfnod pontio i'r seithfed Senedd fwy o faint. Yn fy marn i, dangosodd y Comisiwn ragwelediad trwy neilltuo cronfeydd ar gyfer meysydd hanfodol fel gwaith paratoi ar gyfer diwygio'r Senedd, y rhaglen Ffyrdd o Weithio a pharatoadau cyn yr etholiad. Rwy'n cymeradwyo'r ymdrechion meddylgar a wnaed i reoli pwysau cyllidebol, o ganlyniad i greu pwyllgorau newydd, ac fel y nodwyd gan y Comisiynydd i'r Pwyllgor Cyllid, mae'r rhain yn amlwg wedi cynyddu rhai costau gweithredol, gan dynnu sylw at y ffordd y bu'n rhaid i'r gyllideb barhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i angen sy'n esblygu. Fel y nododd y Pwyllgor Cyllid, rydym yn gweld cynnydd o 16 y cant yn y gyllideb ar gyfer cynnydd o 60 y cant ym maint y Senedd, ac mae'r costau hyn yn cymharu'n ffafriol, mewn gwirionedd, â Seneddau eraill, a nodwn fod Senedd yr Alban bron £200,000 yn ddrutach fesul Aelod na Senedd Cymru.

Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo'n glir i werth am arian, ac yn nodi'r dull cyfrifol o reoli costau cylchol sy'n gysylltiedig â'r cyfnod cyn yr etholiad. Mae ffocws hefyd ar ailgynllunio ein hystadau a'n gwasanaethau, tra bod paratoi ar gyfer seithfed Senedd estynedig yn golygu buddsoddiad sylweddol mewn addasiadau i'r ystad, uwchraddio TGCh a chynnal a chadw seilwaith. Yn yr un modd, mae tryloywder ynghylch costau staffio a'r addasiadau a wneir i gyfrif am ddyfarniadau cyflog a chyfraniadau pensiwn cyflogwr yn arwydd o ymrwymiad Comisiwn ein Senedd i degwch ac effeithlonrwydd. Fel yr eglurodd y Comisiynydd ynglŷn â'r cynnydd o 11 y cant yn y costau gweithredol, y broblem sydd gennym yw bod cytundeb cyflog o 5 y cant, sy'n uwch nag y gwnaethom fargeinio amdano, a ffactorau fel hyn y tu hwnt i'n Comisiwn a'i reolaeth.

Fodd bynnag, mae'n rhaid imi nodi'r eliffant yn yr ystafell. Rydym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn datgan ac yn ategu ein gwrthwynebiad cadarn i ehangu'r Senedd, cyflwyno Aelodau newydd, y system bleidleisio newydd sy'n mynd i gael ei chyflwyno, sydd, yn ein barn ni, yn llai democrataidd i'n pleidleiswyr, ac wrth gwrs, y costau ychwanegol. Er ein bod yn cydnabod yr angen i baratoi ar gyfer newidiadau sy'n deillio o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, rydym yn dal i gredu y byddai'n well dyrannu'r adnoddau hyn i wasanaethau cyhoeddus hanfodol fel gofal iechyd, addysg, ein seilwaith ffyrdd, gwasanaethau cymdeithasol—gallwn barhau.

Mae ehangu'r Senedd o 60 i 96 Aelod yn golygu costau hirdymor sylweddol, fel y gwelwyd yn glir yn y cynnydd yn y gyllideb i dros £84 miliwn, sef cynnydd o 16.77 y cant dros y flwyddyn flaenorol. Ac mae'n deg dweud, fel yr Aelod dros Aberconwy, fy mod wedi cael llu o bobl yn dweud, 'Pam na chawn ni refferendwm ar y mater hwn?' Mae yna rai aelodau o'r cyhoedd nad ydynt yn ymwybodol fod hyn yn digwydd hyd yn oed, oherwydd, oni bai bod gennych ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, gallech fethu'r pethau hyn. Mae'r cynnydd enfawr yn y gyllideb—cynnydd enfawr—yn ganlyniad i ehangu'r Senedd, fel y gwelir yn y cynnydd o 147 y cant ar gyfer diwygio'r Senedd a gwaith cysylltiedig, a £3.9 miliwn ar gyfer uwchraddio'r Siambr hon yn unig—dywedaf 'yn unig' fel cymhariaeth. Yn anffodus, teimlwn nad oes cyfiawnhad dros hyn, yn enwedig o ystyried y pwysau ariannol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r gyllideb ar gyfer y rhaglen Ffyrdd o Weithio, a fydd yn siapio'r strategaeth ystadau yn y dyfodol ar gyfer staff y Comisiwn, Aelodau a staff cymorth, i'w gweld wedi'i strwythuro'n dda, ond rwy'n ymwybodol y gall hyn, unwaith eto, fod yn broses sy'n esblygu. Rhaid imi ei gwneud yn glir y dylai fod tryloywder parhaus ar hyn, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod yn gweld mwy o dryloywder yn y ffordd y gweithiwn. Fel Ceidwadwr Cymreig, mae fy safbwynt yn parhau i fod yn glir: mae ehangu'r Senedd yn gam na allwn ei gefnogi. Roedd yn dasg heriol, felly, i fod ynghlwm wrth y gwaith ar y gyllideb hon, a heb os, mae'r Comisiwn a phawb a gymerodd ran wedi ymateb i'r her honno. Diolch.

16:25

Nododd y Pwyllgor Cyllid gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, ac o fwyafrif, argymhellodd fod y Senedd yn cefnogi'r gyllideb hon, yn amodol ar y sylwadau a'r argymhellion yn yr adroddiad, yr ymatebodd y Comisiynydd iddynt yn gynharach.

Roeddwn i'n un o'r rhai a gefnogodd gynigion y gyllideb. Rwyf am godi tri phwynt. Yn gyntaf, eglurodd y Comisiynydd sut y mae'r Comisiwn yn ceisio gwella prosesau ac effeithlonrwydd. Credaf y byddai'r Comisiwn yn elwa o strwythur mwy gwastad. Rwy'n gwybod, o sgyrsiau a gefais gyda'r Comisiynydd, nad yw'n cytuno.

Beth yw rôl deallusrwydd artiffisial a sut y gall leihau costau? A oes rôl i'r defnydd o wasanaeth cyfieithu cyfrifiadurol i'w wirio a'i gywiro gan gyfieithydd yn hytrach na defnyddio cyfieithwyr i gyfieithu'r cyfan? A ellid defnyddio llais i destun ar gyfer cyfarfodydd y Cyfarfod Llawn a'r pwyllgorau ac yna ei wirio am wallau a'i gywiro?

Yn ail, rwy'n cefnogi argymhelliad y pwyllgor y dylai Comisiwn y Senedd ddarparu rhestr o brosiectau a gynlluniwyd ar gyfer 2025-26, gydag amcangyfrif o'r dyraniad cyllid ar gyfer dechrau blwyddyn ariannol 2025-26, ac i ddull o'r fath gael ei fabwysiadu ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol; fod cynllun rhaglen gyfalaf yn cael ei gynhyrchu, ac os bydd llithriant yn digwydd, y gellir cyflwyno prosiectau'n gynt, ac os yw'r prosiectau'n gor-redeg ar gostau, y gellir gwthio prosiectau ymlaen i'r blynyddoedd i ddod.

Y trydydd pwynt, os byddwn yn bwrw ymlaen i ehangu'r Senedd yn 2026, yw bod y costau dan sylw yn anochel. Credaf fod y gwaith o ehangu'r Senedd yn cael ei ruthro ac mae pawb ohonom yn gwybod, pan fydd rhywbeth yn cael ei ruthro, fod camgymeriadau'n digwydd. Am y tro olaf, rwy'n gofyn yn gyhoeddus i'r Prif Weinidog gyflwyno cynigion i ohirio diwygio'r Senedd tan ar ôl etholiadau 2026.

Hoffwn ddiolch i'r rhai a gyfrannodd i'r ddadl hon, ac sydd wedi gwneud hynny mor adeiladol. Rwy'n credu bod ychydig o her wedi dod gan Peredur Owen Griffiths, a byddaf yn ateb mewn eiliad, ond diolch i chi, Janet, am y geiriau caredig, a Mike hefyd.

Pred, ynglŷn â'r cynllun ymgysylltu, cyfathrebu. Rwyf am weld cynllun ymgysylltu ffurfiol wedi'i godeiddio'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Senedd ar sut rydym yn ymgysylltu yng nghyllidebau'r dyfodol, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion lunio'r cynllun hwnnw cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu y byddai cael hwnnw i nodi'r prosesau ffurfiol a'r prosesau anffurfiol, gydag argymhellion ar sut y dylem symud ymlaen, yn ddefnyddiol iawn, ac rwy'n awyddus iawn i chi ei weld cyn gynted ag y bydd ar gael.

A fydd yr Aelodau'n cael y gair olaf ar Bae 32? Wel, yn y gyllideb yn bendant, oherwydd mae'n benderfyniad cyllidebol; bydd yn rhaid i ni gael pleidlais arno yn y Siambr hon. Os ydych chi'n gofyn i mi am fwy o lais ar y pethau hyn, efallai ei fod yn rhywbeth y gallwn ei drafod gyda'r pwyllgor mewn sesiwn dystiolaeth yn gynnar y flwyddyn nesaf, fel y gallwn siarad am yr hyn rydych chi'n chwilio amdano mewn gwirionedd a sut y gallem ei gyflawni.

Mike, y llif prosiectau—hollol gywir. Mae angen inni gyflwyno hwnnw, a bydd hynny'n cael ei wneud. Rwyf wedi gofyn am hynny. Ar seiberddiogelwch, rwy'n gobeithio y gallwn ysgrifennu llythyr eto at y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â sut rydym yn ymdrin â seiberddiogelwch a goblygiadau deallusrwydd artiffisial a'i ddefnydd. Mae amserlen y cyfnod trawsnewid o dair wythnos yn dilyn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid yn symptom o rywbeth sydd y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedwch.

Ac yn olaf, gwrthwynebiad Janet Finch-Saunders i ddiwygio'r Senedd. Nodaf mai dyma'r unig wrthwynebiad gan y Ceidwadwyr Cymreig. Nid yw'n ymddangos bod ganddynt unrhyw broblem ehangach gyda'r gyllideb weithredol, sy'n dangos trylwyredd y ffordd yr aethpwyd drwy hyn. Y gwrthwynebiad i ddiwygio'r Senedd sydd wedi gyrru'r 'gwrthwynebu' a glywn ar ddiwedd y ddadl hon, rwy'n tybio. Rwy'n falch fod y gyllideb weithredol yn mynd i gael ei derbyn.

Pwyntiau terfynol. Refferendwm ar ddiwygio'r Senedd: nid yw honno'n rôl i Gomisiynydd ei thrafod. Sylw olaf Mike Hedges am ohirio diwygio'r Senedd: unwaith eto, nid fy rôl i yw trafod hynny. Mae ymhell y tu hwnt i fy nghyfrifoldebau, a'r tu hwnt i gyfrifoldebau'r Dirprwy Brif Weinidog hyd yn oed, rwy'n tybio. Felly, gyda hynny, hoffwn ddiolch i staff y Comisiwn, sy'n hollol anhygoel, ond hefyd i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. 

16:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru'

Eitem 8 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Peredur Owen Griffiths. 

Cynnig NDM8730 Peredur Owen Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n gwneud y cynnig hwnnw. Diolch, Dirprwy Lywydd. Fis Ebrill diwethaf, pasiodd y Senedd gynnig yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Cyllid, o dan Reol Sefydlog 17.2, i gynnal adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau a gynhelir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd hyn yn dilyn honiadau bod arweinydd tîm yn nhîm cod ymddygiad yr ombwdsmon wedi mynegi barn wleidyddol bersonol a oedd yn cynnwys iaith sarhaus ar gyfryngau cymdeithasol.

Fel sy'n hysbys, cafodd yr arweinydd tîm ei gwahardd i ddechrau, ac yna ymddiswyddodd. Mae'r pwyllgor bellach wedi cwblhau'r gwaith hwn, a gwnaethon ni osod ein hadroddiad gerbron y Senedd yn gynharach y mis hwn, ar 8 Tachwedd.

Fy mwriad heddiw yw nodi'r safbwyntiau, y casgliadau a'r argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn ein hadroddiad, ac esbonio ein dull o gynnal yr ymchwiliad. Nid wyf am ailadrodd nac ailedrych ar y postiadau cyfryngau cymdeithasol a arweiniodd at gynnal yr ymchwiliad hwn, ond gadewch imi fod yn glir: roedd y digwyddiad yn destun gofid mawr, ac ni ddylai fod wedi digwydd. Dylai pob corff cyhoeddus yng Nghymru gadw at egwyddorion uniondeb a thegwch, ond yng nghyd-destun gwaith yr ombwdsmon, mae'r rhain yn sylfaenol. Mae angen ymdrin ar unwaith ag unrhyw awgrym o ragfarn neu annhegwch ym mhrosesau'r ombwdsmon.

Dechreuodd y pwyllgor ei ymchwiliad yn fuan ar ôl i'r ombwdsmon gomisiynu ei hadolygiad annibynnol allanol ei hun ym mis Ebrill. Cytunwyd i edrych ar y digwyddiadau a arweiniodd at ymddiswyddiad yr arweinydd tîm; y broses a ddilynwyd; y trefniadau ar gyfer ymchwiliadau cod ymddygiad; a'r mecanweithiau sydd ar waith i sicrhau didueddrwydd a thegwch. Cytunwyd hefyd i edrych ar gwmpas, maint a chanfyddiadau'r adolygiad allanol annibynnol a gomisiynwyd gan yr ombwdsmon.

Fe wnaethom gynnal dwy sesiwn dystiolaeth gyda'r ombwdsmon, un ar 9 Mai a'r ail ar 10 Hydref, ar ôl i adroddiad yr adolygiad annibynnol gael ei gyhoeddi ar 27 Medi. Roedd y sesiynau hyn yn hanfodol er mwyn rhoi cyfle i'r pwyllgor graffu ar faterion yn ymwneud â'r digwyddiad, gan gynnwys ymateb yr ombwdsmon, yn ogystal â chanfyddiadau'r adolygiad annibynnol ac unrhyw wersi a ddysgwyd. Rydym yn ddiolchgar i'r tîm adolygu annibynnol am gynnal ei waith yn drylwyr ac yn gyflym, a hefyd i'r ombwdsmon ei hun am ymgysylltu â ni mewn ysbryd agored a thryloyw trwy gydol yr ymchwiliad.

Daw ein hadroddiad i naw casgliad ac mae'n gwneud pedwar argymhelliad. Yr hyn a ganfuom oedd bod y digwyddiad cyfryngau cymdeithasol heb os wedi cael effaith negyddol ar enw da'r ombwdsmon. Roedd perygl y gallai danseilio hyder y cyhoedd yn y gwaith. Fodd bynnag, gwelsom hefyd fod y camau cyflym a gymerwyd gan yr ombwdsmon i ymdrin yn rhagweithiol â'r mater hwn yn sicrhau bod rhagor o niwed i enw da'r sefydliad wedi cael ei osgoi.

Daw'r pwyllgor i'r casgliad hefyd ei bod yn angenrheidiol ac yn gywir i'r ombwdsmon gomisiynu'r adolygiad annibynnol. Roedd yn hanfodol fod yr adolygiad annibynnol yn cael ei arwain gan berson â'r cefndir proffesiynol cywir, ac arbenigedd a phrofiad priodol i sicrhau bod hygrededd ac uniondeb yn perthyn i'r gwaith. Daethom i'r casgliad mai Dr Melissa McCullough oedd y person iawn i arwain yr adolygiad annibynnol. Mae gan Dr McCullough brofiad o ymdrin â chwynion yn erbyn gwleidyddion etholedig, ac roeddem yn fodlon fod yr adolygiad wedi'i gynnal mewn modd trylwyr a chadarn.

Credwn hefyd fod cylch gorchwyl a methodoleg yr adolygiad annibynnol yn gadarn ac yn darparu digon o gyfle i sicrhau bod y materion a oedd yn ymwneud â'r digwyddiad cyfryngau cymdeithasol penodol, ac arferion ehangach yn swyddfa'r ombwdsmon, wedi cael eu hymchwilio'n llawn ac yn annibynnol. Mae ein hystyriaeth o'r materion, o ran asesu canfyddiadau'r adolygiad annibynnol, a'r dystiolaeth a gyflwynwyd i ni gan yr ombwdsmon yn ystod y sesiynau tystiolaeth, wedi ein harwain i'r casgliad ein bod yn parhau i fod â hyder yn yr ombwdsmon i ymgymryd â'i gwaith gyda didueddrwydd a thegwch.

Rydym yn croesawu holl gasgliadau ac argymhellion yr adolygiad annibynnol, yn enwedig bod yr holl benderfyniadau yn swyddfa'r ombwdsmon yn seiliedig ar dystiolaeth a ffeithiau'n unig, ac nad oes tystiolaeth o ragfarn wleidyddol, a bod prosesau cod ymddygiad yr ombwdsmon yn gadarn, yn cael eu cymhwyso'n gyson, yn deg ac yn addas i'r diben. Nodwn na wnaeth yr adolygiad annibynnol ganfod unrhyw dystiolaeth o ragfarn wleidyddol, a bod y penderfyniadau a wnaed gan yr ombwdsmon a'i staff yn seiliedig ar ffeithiau a thystiolaeth yn unig ac nad oedd ymlyniad gwleidyddol wedi dylanwadu arnynt. Mae'r pwyllgor yn sicr nad yw'r digwyddiad yn dynodi bod problemau diwylliannol ehangach y mae angen mynd i'r afael â hwy yn swyddfa'r ombwdsmon.

Mae'n amlwg fod y canfyddiadau hyn i'w croesawu, ond mae'r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion gyda'r nod o sicrhau bod gwersi'r adolygiad hwn yn cael eu rhoi ar waith, ac nad ailadroddir digwyddiadau tebyg. Mae hyn yn cynnwys gofyn i'r ombwdsmon rannu amserlen ar gyfer gweithredu unrhyw newidiadau sy'n deillio o'r adolygiad annibynnol, a chyflwyno dangosydd perfformiad allweddol newydd i sicrhau y cynhelir gwiriadau enghreifftiol o benderfyniadau swyddogion ymchwilio a rheolwr tîm y cod.

Rydym hefyd am i'r ombwdsmon roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn ag a fydd unrhyw waith dilynol yn cael ei wneud yn dilyn yr adolygiad annibynnol, ac rydym wedi gofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y mae'r ombwdsmon yn monitro cydymffurfiaeth staff mewn perthynas â'r polisi cyfryngau cymdeithasol. Eu bwriad yw rhoi sicrwydd ychwanegol i'r pwyllgor a'r Senedd fod prosesau cadarn ar waith i sicrhau nad ailadroddir y digwyddiad, a bod gwelliant parhaus yn rhan annatod o waith yr ombwdsmon.

Ar fater staff, nid yw'r pwyllgor am golli golwg ar effaith ddynol y digwyddiad, ac rydym am nodi bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb dan sylw. Mae wedi bod yn straen arbennig ar y rhai sy'n gweithio yn swyddfa'r ombwdsmon, ac rydym yn croesawu'r dull a fabwysiadwyd i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi drwy gydol y cyfnod, a bod eu llesiant wedi'i flaenoriaethu.

Dirprwy Lywydd, mae'r ombwdsmon yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd cyhoeddus Cymru, ac mae ein hadroddiad yn dod i'r casgliad bod gennym hyder o hyd yn y prosesau sydd ar waith ar gyfer ymdrin â chwynion ac ymchwilio iddyn nhw. O ran y camau nesaf, rwy'n falch o ddweud bod yr ombwdsmon eisoes wedi ysgrifennu at y pwyllgor gyda chynllun gweithredu ar gyfer sut mae'n bwriadu ymateb i argymhellion yr adolygiad annibynnol, ac rydyn ni'n disgwyl ymateb ffurfiol i'n hadroddiad yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymagwedd hon ac yn gobeithio y gall yr ombwdsmon symud ymlaen o'r digwyddiad hwn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed barn eraill yn ystod y ddadl heddiw. Diolch yn fawr.

16:35

Rwyf am ddechrau drwy groesawu trylwyredd yr ymchwiliad hwn i fater hynod anodd, ac rwy'n cytuno â phopeth y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid newydd ei ddweud. Rwy'n hyderus fod pethau wedi cael eu gwneud yn dda. Er gwaethaf y dechrau ansicr, fel y clywsom, gyda phenodi'r unigolyn a oedd yn amlwg yn unigolyn anghywir, roedd yn dda fod y penodiad dilynol wedi gallu ennyn hyder trwy gydol y broses.

Roedd y gŵyn wreiddiol, a ddeilliodd o sylwadau atgas, fel y gwyddom, gan uwch aelod yn swyddfa'r ombwdsmon, yn frawychus iawn, ac roedd risg wirioneddol o niweidio enw da'r swyddfa, yn enwedig o ystyried y pwyslais y mae swyddfa'r ombwdsmon yn ei roi ar werthoedd fel urddas a pharch. Roedd yn bwysig i swyddfa'r ombwdsmon gydnabod bod ymddygiad yr aelod staff dan sylw ymhell o gyrraedd y safonau ymddygiad a ddisgwylir gan staff, ac rwy'n falch fod camau cyflym wedi'u cymryd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwelsom y niwed y gall hyd yn oed y canfyddiad o gamwedd ei gael ar enw da y swyddi uchaf yng Nghymru hyd yn oed, felly rwy'n falch fod yr ymchwiliad cadarn hwn wedi'i gynnal ac wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw ragfarn wleidyddol yn swyddfa'r ombwdsmon. Rwy'n falch o weld bod nifer o wersi wedi'u dysgu o'r digwyddiad a bod holl argymhellion yr adolygiad annibynnol wedi cael eu derbyn gan yr ombwdsmon. Hefyd, rwy'n croesawu'r cydweithrediad y mae'r ombwdsmon wedi'i ddangos drwyddi draw.

Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynnydd y mae'r ombwdsmon yn ei wneud ar argymhellion y pwyllgor, yn enwedig cyflwyno dangosyddion perfformiad allweddol yn seiliedig ar sampl o benderfyniadau a wnaed gan y swyddog ymchwilio a gwiriadau ychwanegol i reolwyr tîm y cod. Bydd hyn, ynghyd â'r argymhelliad fod swyddfa'r ombwdsmon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ynglŷn â sut y mae'n monitro cydymffurfiaeth staff mewn perthynas â'i bolisi cyfryngau cymdeithasol, yn cyfrannu'n helaeth at sicrhau nad yw digwyddiadau fel hyn yn digwydd eto.

Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig fod ein cyrff cyhoeddus yn dangos didueddrwydd ac nad oes canfyddiad hyd yn oed fod ganddynt ragfarnau gwleidyddol, ac rwy'n hyderus fod yr ombwdsmon wedi dangos hynny'n drylwyr.

16:40

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, ar 26 Mawrth, derbyniodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gŵyn a brofwyd yn nodi honiadau fod arweinydd tîm yn y tîm cod ymddygiad wedi mynegi barn wleidyddol bersonol a oedd yn cynnwys iaith sarhaus ar y cyfryngau cymdeithasol. Adroddwyd am hyn yn eang yn y cyfryngau. Cafodd arweinydd y tîm ei wahardd i ddechrau ac ymddiswyddodd wedi hynny.

Ym mis Ebrill eleni, fe wnaeth y Senedd ystyried a chytuno ar gynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn ymwneud ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd y cynnig hwnnw'n cynnwys cyfarwyddyd i'r Pwyllgor Cyllid, yn cynnig bod y Senedd,

'Yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Cyllid i adolygu ar frys weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sicrhau:

a) bod didueddrwydd a thegwch yn bresennol drwy gydol cyflogaeth y cyn Bennaeth Ymchwiliadau; a

b) y gall y Senedd fod yn hyderus bod y swyddfa yn gallu cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol mewn ffordd ddiduedd a theg.'

Yn dilyn honiadau o ragfarn wleidyddol, cyhoeddodd yr ombwdsmon ar 9 Ebrill 2024 y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i roi sicrwydd fod ei brosesau cod ymddygiad yn gadarn ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol. Cafodd adroddiad yr adolygiad annibynnol ei gyhoeddi ym mis Medi eleni. Croesawodd yr ombwdsmon yr adroddiad a'r cadarnhad fod penderfyniadau a wneir mewn perthynas â chwynion cod ymddygiad yn rhydd o ragfarn wleidyddol. Ychwanegodd:

'Mae’r adolygiad hwn yn cydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan y Tîm Cod Ymddygiad ac rydym yn falch bod yr Adolygydd Annibynnol wedi datgan y dylai roi sicrwydd, i’r cyhoedd ac aelodau etholedig, fel y gallant fod â ffydd a hyder yng ngwaith OGCC.'

Canfu'r pwyllgor yn unfrydol fod y digwyddiad yn frawychus ac yn destun gofid mawr. Mae annibyniaeth, didueddrwydd, tegwch a didwylledd yn egwyddorion sylfaenol sy'n sail i rôl yr ombwdsmon. Mae unrhyw gamau sy'n tanseilio hyder yn yr ombwdsmon yn achos pryder i bob un ohonom.

Mae cyflawni'r egwyddorion hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwaith y swyddfa'n gywir ac yn ennyn hyder y cyhoedd. Cytunodd y pwyllgor fod y digwyddiad hwn wedi cael effaith negyddol ar enw da'r ombwdsmon a bod perygl y gallai danseilio hyder y cyhoedd yn ei waith wrth symud ymlaen. Rwy'n gobeithio na fydd hynny'n digwydd. Cytunodd y pwyllgor yn unfrydol fod gan y pwyllgor hyder fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gallu ymgymryd â'u gwaith yn ddiduedd ac yn deg.

A ddylai polisïau ac arferion cod ymddygiad staff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy'n ymwneud â defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol fod yn fwy cynhwysfawr mewn perthynas â nodi'r amgylchiadau lle mae gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol gan weithiwr yn amlygu camymddwyn, yn eu gwaith a'u bywyd preifat, gan ystyried cyfraith achosion gyfredol mewn perthynas â rhyddid mynegiant ac achosion cynsail perthnasol eraill? Bydd gan y rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus farn wleidyddol. Er bod yr achos hwn yn eglur ac wedi ei ddatrys diolch i weithredu'r ombwdsmon a'r ymchwilydd annibynnol, eglurodd yr ombwdsmon ei bod yn credu bod gwahaniaeth rhwng mynegi barn ar bolisi sy'n effeithio ar bawb a gwneud sylwadau penodol am blaid wleidyddol, sef y sefyllfa roeddem ynddi.

Rwyf am orffen trwy ofyn am bum gweithred wahanol, ac a ellid eu hystyried yn rhai sy'n dangos tuedd wleidyddol gan staff yr ombwdsmon. A fyddai lefel hynafedd yn bwysig? A fyddai'r maes y maent yn gyfrifol amdano'n bwysig? Ar y cyfryngau cymdeithasol, hoffi pennawd ac erthygl yn y Daily Telegraph ; gwrthwynebu rhan fawr o gynigion cyllidebol Llywodraeth Cymru neu'r DU; hoffi postiadau gwleidyddol gwleidyddion y Senedd, e.e. yn erbyn 20 mya; cefnogi maniffesto un blaid; mynegi barn ar ddigwyddiadau sy'n cael eu hymchwilio gan y gwasanaeth ombwdsmon. Buaswn yn dweud bod Rhif 1 yn iawn, mae Rhif 5 yn bendant yn anghywir. Nawr mae'n rhaid ichi benderfynu lle yn y canol rydych chi'n tynnu'r llinell. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni fel y Pwyllgor Cyllid gael trafodaethau pellach gyda'r ombwdsmon yn ei gylch, oherwydd credaf ei bod hi ond yn deg i'r staff a'r cyhoedd yng Nghymru wybod yn union beth y gellir ac na ellir ei wneud.

16:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddiolchgar iawn i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Diolch yn gyntaf i Peter Fox.

Diolch am eich sylwadau, Peter. Rwy'n gwybod ein bod wedi mynd trwy bethau'n drwyadl iawn, ac fe dreuliasom gryn dipyn o amser yn mynd i fanylder gyda'r ombwdsmon. Fe wnaethoch chi sôn am y camgymeriad ar y dechrau mewn perthynas â'r unigolyn a ddewiswyd, ond fel y dywedoch chi'n gywir, roedd yn dyst i allu'r ombwdsmon i addasu eu bod wedi gallu gweld hynny, ei newid a chael rhywun sy'n arbennig o dda am wneud y math hwn o ymchwiliad ar ein rhan. Diolch am eich sylwadau.

Mike, diolch am eich cyfraniad chi hefyd. Mae cymhlethdod y polisi cyfryngau cymdeithasol yn anodd. Oherwydd rydych chi'n iawn, mae gennych ryddid mynegiant, ond mae yna sefyllfaoedd gwahanol mewn gwahanol sefydliadau. Rydym ni mewn sefydliad gwahanol i'r ombwdsmon, ac rydym ni'n gweld pethau'n dod i'r pwyllgor safonau'n ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol, felly mae yna wahanol lefelau mewn gwahanol leoedd, ac mae'n rhywbeth y byddwn ni'n debygol o'i godi wrth graffu maes o law, pan fyddwn ni'n mynd drwy'r broses gyllidebol gyda'r ombwdsmon. Rwy'n credu bod gallu mynd i'r afael â rhywfaint o hynny'n bwysig iawn.

Dwi'n sylweddoli fy mod i wedi mynd dros yr amser, Dirprwy Lywydd, ond buaswn i jest yn licio cloi fel hyn. Fel rydym ni wedi sôn yn gynharach, dwi'n falch o ddweud bod yr ombwdsmon eisoes wedi ymateb yn gadarnhaol i'r adolygiad annibynnol ac wedi ymrwymo i weithredu'r holl argymhellion a'r gwersi a ddysgwyd. Mae proses gwyno annibynnol a chadarn yn hanfodol er mwyn rhoi llais i bobl yng Nghymru a sicrhau bod y safonau ymddygiad uchaf yn rhan annatod o lywodraeth leol yng Nghymru. Dwi'n credu'n gryf bod canfyddiadau adolygiad annibynnol Dr McCullough a'n hymchwiliad, yn ogystal ag ymateb yr ombwdsmon i'r digwyddiad hwn, yn rhoi sicrwydd bod yr ymchwiliadau a gynhelir gan yr ombwdsmon yn addas i ddiben a bod y Senedd yn gallu bod yn hyderus y bydd yn gallu cynnal ymchwiliadau yn y dyfodol mewn modd diduedd a theg. Buaswn i'n licio diolch i bawb. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl Plaid Cymru: Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Eitem 9 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8732 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref.

2. Yn credu y dylai'r gost ychwanegol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gael ei dalu'n llawn gan Drysorlys y DU.

3. Yn nodi asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fod disgwyl i'r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr arwain at arafu twf cyflogau gwirioneddol ar adeg pan mai Cymru sydd â’r cyfraddau cyflogaeth isaf yn y DU.

4. Yn gresynu at y diffyg eglurder o ran a fydd yr ad-daliad gan Drysorlys y DU yn cynnwys, ymhlith sectorau eraill, cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r trydydd sector.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i bwyso ar Drysorlys y DU i sicrhau bod yr ad-daliad ar gyfer costau ychwanegol cyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector cyhoeddus yn seiliedig ar ddiffiniadau StatsCymru a’r Arolwg o’r Lafurlu o weithlu'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys ymhlith sectorau eraill cyflogwyr fel prifysgolion, meddygon teulu a sefydliadau'r trydydd sector.

b) i ddarparu dadansoddiad cynhwysfawr o'r effaith y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar y farchnad swyddi yng Nghymru; ac

c) i gynyddu lefel y rhyddhad ardrethi busnes yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod er mwyn lliniaru ar effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn y sector busnesau bach a chanolig domestig.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl heddiw yn ymwneud ag effeithiau ymarferol a phellgyrhaeddol penderfyniadau gwael gan Lywodraeth, ac mae hi hefyd yn ymwneud â gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth. Mi fydd llawer yn cofio rhybuddion Plaid Cymru ac eraill yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol eleni fod yna ddiffyg gonestrwydd yn cael ei arddangos gan Lafur a'r Ceidwadwyr ynglŷn â chynlluniau gwario a threthu. Mi fyddan nhw'n cofio rhybudd yr IMF fod yna gynllwyn o gyfrinachedd, neu conspiracy of silence, rhwng y ddwy blaid am y gwirionedd bod yna dwll o ddegau o biliynau o bunnau yn y cynlluniau roedden nhw'n eu cyflwyno i etholwyr.

Dro ar ôl tro mi glywsom ni Lafur yn addo peidio â chodi trethi ar weithwyr, ond dyma ni, gwta pedwar mis i mewn i oes y Llywodraeth newydd, ac mae Keir Starmer wedi mynd yn ôl ar ei air a tharo pocedi gweithwyr. Achos dyna sydd yn digwydd yma—rhywbeth yr oedd o wedi addo ei warchod. Ac nid dehongliad pleidiol gwleidyddol ydy hynny. Mae yna ddadleuon ynglŷn â lefelau trethiant wastad, ond mae sylwebwyr uchel iawn eu parch fel Paul Johnson o'r IFS yn dweud bod codi cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn torri addewid maniffesto'r Blaid Lafur mewn ffordd ddigamsyniol.

Yn ôl asesiad yr OBR, mi fydd dros tri chwarter o'r gost yn cael ei basio ymlaen i weithwyr, naill ai drwy wasgfa ar gyflogau neu grebachu ar y gweithlu ei hun, gan niweidio cyfleon am greu cyflogaeth a chadw cyflogaeth, ac mae hynny, yn ei dro, yn siŵr o erydu safonau byw. Ac i'n busnesau domestig ni, asgwrn cefn ein heconomi, mae'r codiad yn eu cyfraniadau yswiriant gwladol yn golygu bil ychwanegol ar gyfartaledd o £900 i bob gweithiwr yn flynyddol.

Fel y dywedais i, mi wnes i a fy nghyd-Aelodau ar y meinciau yma rybuddio'n gyson yng nghyfnod yr etholiad nad oedd cynlluniau gwario Llafur yn dal dŵr, ac y byddan nhw'n arwain at fwy o lymder. Mae hynny, onid ydy, wedi cael ei brofi'n wir yn yr hyn sy'n cael ei amlygu rŵan yn dilyn y gyllideb, ac yn anwybyddu ein galwadau ni i gyflwyno mesurau mwy blaengar i godi refeniw, trethi ar gyfoeth—mae yna gymaint sydd ddim wedi cael ei ymchwilio iddo fo yn y maes hwnnw—neu opsiynau mwy pellgyrhaeddol ar enillion cyfalaf, o bosib. Mae Llafur wedi creu twll iddyn nhw eu hunain, a phobl Cymru sydd yn mynd i dalu'r pris. Nid am y tro cyntaf, mae mesurau Sir Keir Starmer yn diystyru anghenion Cymru.

Mae'r newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn adlais o'r ffordd mae'r Prif Weinidog wedi cosbi pensiynwyr drwy dynnu'r lwfans tanwydd oddi arnyn nhw yn ddisymwth, a'r penderfyniad i amharchu Cymru drwy beidio â sicrhau fformiwla ariannu deg a'n hamddifadu o arian HS2. Ac efo lefelau cyflogaeth ar eu hisaf ers bron i ddegawd, yn is nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, mae'r baich ychwanegol ar gyflogwyr yn siŵr o gael effaith anghymesur ar gyflogwyr Cymru.

Rwy'n credu bod rhaid cydnabod y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar weithwyr yn gyffredinol, yn effeithio ar greu swyddi, yn effeithio ar gyflogau—gwasgfa ar gyflogau. I lawer o fusnesau, cyflogwyr, mae'n ergyd ddwbl gan Lafur, gyda chodiad yswiriant gwladol Prif Weinidog y DU a thoriad i ryddhad ardrethi busnes Prif Weinidog Cymru. Mae Llafur yn gyflym i gyhuddo eraill o economeg ffantasi tra bod eu cynlluniau eu hunain yn economeg hunllef i filoedd o gyflogwyr a gweithwyr. Ond nid y sector preifat yn unig sy'n ysgwyddo'r baich wrth gwrs. Mae elusennau, meddygfeydd, prifysgolion, sectorau sydd eisoes yn teimlo'r wasgfa, a dweud y lleiaf, wedi cael eu gwthio i ymyl y dibyn. Bydd ein mewnflychau, bob un ohonom, ar draws y pleidiau gwleidyddol yn Siambr y Senedd, yn dyst i hynny.

Gadewch imi nodi ychydig o enghreifftiau'n unig o sut yr effeithir ar y sectorau hyn. Mae un feddygfa ym Mhwllheli yn amcangyfrif y bydd cost flynyddol y cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn £19,000—ffigur go syfrdanol—ond mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud y gallai fod yn £90,000 i rai meddygfeydd. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhybuddio y gallai mwy o feddygfeydd meddygon teulu gau o ganlyniad i ddull cosbol y Canghellor Llafur. Mae hyn yn effeithio ar y bobl a gynrychiolwn. Mae Marie Curie Cymru a'r elusen iechyd meddwl Platfform ill dwy yn wynebu bil blynyddol o £250,000 yr un—chwarter miliwn o bunnoedd. Fe wyddom y bydd prifysgolion Cymru, sydd eisoes wedi'u llyffetheirio gan heriau ariannol ac sy'n aros yn dragywydd i Lywodraeth Cymru roi model ariannu cynaliadwy ar waith, hefyd yn wynebu pwysau pellach sylweddol iawn.

Os yw slogan 'partneriaeth mewn grym' y Prif Weinidog yn golygu unrhyw beth, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru, fan lleiaf, bwyso ar Lywodraeth y DU i gymhwyso diffiniad StatsCymru o'r sector cyhoeddus i sicrhau nad yw sefydliadau'r trydydd sector, gwasanaethau meddygon teulu, y sector addysg uwch, rhai o'r sectorau eraill y soniais amdanynt, yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau Rachel Reeves. Bydd Plaid Cymru yn gwrando'n astud am yr ymrwymiad hwn yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet heddiw.

Rwyf am ddod i ben drwy gofnodi gofid mawr Plaid Cymru ynghylch y modd y gwnaeth Llywodraeth Lafur y DU droi'r gyllideb ddiweddar yn gyfle a gollwyd i wneud penderfyniadau beiddgar, i helpu'r rhai lleiaf cefnog mewn cymdeithas, yn ogystal â'n siom wedyn ynghylch y modd y gwnaeth Llywodraeth Lafur Cymru eu hamddiffyn yn hyn o beth. Nid yw cyllideb sy'n cosbi busnesau, ffermwyr, meddygon teulu, elusennau, prifysgolion yn achos dathlu. Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau sy'n dymuno dangos eu cefnogaeth i'r sectorau hyn a mwy i wneud hynny drwy gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.

16:55

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad;

b) asesiad cyffredinol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth y DU yn cynyddu twf yn y tymor hwy;

c) awgrym Trysorlys y DU y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus;

d) cadarnhad Trysorlys y DU y bydd, wrth wneud hynny, yn dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr hyn a fabwysiadwyd gan lywodraethau blaenorol; ac

e) o ganlyniad i’r holl fesurau yng Nghyllideb Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr sydd ag atebolrwydd i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim newid neu ar eu hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach fod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad yn ei maniffesto i beidio â chodi treth ar bobl sy'n gweithio.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy'n cynnig, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Nid oes fawr y gallaf anghytuno ag ef yn y cynnig. Mae fy safbwynt i, a safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, bob amser wedi bod yn glir: os ydym eisiau twf economaidd gwirioneddol, mae angen inni greu'r amgylchedd busnes cywir yng Nghymru. Bydd hyd yn oed cynnydd o 1 y cant yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr y sector cyhoeddus yn costio £100 miliwn ychwanegol i drethdalwyr Cymru. Ac ydy, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn darparu cyllid i dalu am gost cyfraniadau yswiriant gwladol i'r gweithwyr hynny, ond bydd yn dal i ddod allan o boced y trethdalwr. Er fy mod yn cefnogi'r pwynt yn y cynnig sy'n galw ar Lywodraeth y DU i dalu'r cynnydd yn y dreth, yn y pen draw y trethdalwyr sy'n mynd i dalu am gynnydd treth y Canghellor.

Ar ben hynny, yn debyg iawn i ymarferoldeb cynnydd Llafur i'r dreth etifeddiant ar ffermwyr, ni fu fawr o eglurder ynghylch y print mân ar y polisi hwn. Mae llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu ar fusnes preifat i'w helpu i redeg, fel y clywsom—meddygon teulu, practisau deintyddol a chartrefi gofal. Maent i gyd yn ei chael hi'n anodd a gallent wynebu pwysau ariannol pellach o ganlyniad. A fydd cefnogaeth gan y Llywodraeth i'r busnesau hyn? Nid ydym yn gwybod. Rydym yn gobeithio y byddant yn cael eu hystyried. Yn y pen draw, y gwir gollwyr, pan ddaw'r cynnydd i yswiriant gwladol, yw'r perchnogion busnesau bach gweithgar sydd wedi gorfod brwydro drwy'r pandemig, y cynnydd byd-eang yng nghost gwneud busnes, a nawr, wrth iddynt ddechrau ailadeiladu a chynllunio ar gyfer y dyfodol, cânt eu taro gan godiadau treth pellach. Nododd prif economegydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr fod hwn yn amser arbennig o wael i fod yn codi'r dreth hon, oherwydd pan fo

'hyder busnesau'n isel, cynlluniau cyflogi eisoes wedi cael eu taro, a nifer y swyddi gwag yn gostwng, bydd hyn yn taro rhagolygon cyflogaeth ac enillion.'

Ac mae hi'n llygad ei lle pan nododd:

'Gweithwyr fydd yn ysgwyddo effeithiau costau yswiriant gwladol uwch.'

Yn olaf, un peth nad yw'r cynnig hwn yn mynd i'r afael ag ef yw'r ffaith syml fod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad maniffesto i beidio â chodi treth ar weithwyr. Dro ar ôl tro, gwelwyd y Canghellor yn gwneud yr honiad ar y teledu, ac yna'n gwneud tro pedol ar ôl iddynt ddod i rym. Mae hyn yn golygu un o ddau beth i'r Llywodraeth Lafur: mae naill ai'n addewid a dorrwyd, neu'n awgrymu nad yw perchnogion busnesau bach yn weithwyr. Nid oes unrhyw ffordd arall o sbinio hynny.

Y gwir amdani yw nad dyma'r tro cyntaf i Lafur fod yn anonest wrth bobl Cymru. Ni wnaethant ddweud wrth bleidleiswyr y byddent yn cael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf i bensiynwyr, maent wedi gwneud tro pedol ar y cyllid ar gyfer HS2, ac maent wedi gwneud tro pedol ar hyn. Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cefnogi ein gwelliant, gan nodi'r ffordd y torrwyd addewid maniffesto, ac rwy'n gobeithio y gwnaiff Aelodau Llafur ddechrau sefyll dros bobl Cymru a gwrthwynebu eu cymheiriaid yn San Steffan. Diolch.

Mentrau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn economi Cymru yn llythrennol, pan ystyriwch eu bod yn cynrychioli dros 90 y cant o weithgarwch busnes yng Nghymru. A gadewch inni fod yn onest, maent wedi wynebu amseroedd heriol. Maent wedi cael y pandemig, argyfwng costau byw, chwyddiant, prisiau ynni, toriadau i ryddhad ardrethi busnes, a nawr, heb os, mae'r her ychwanegol hon yn eu hwynebu. Bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn arwain at gostau ychwanegol.

I roi hynny yn ei gyd-destun, i ficrofusnes sy'n cyflogi pump o bobl ar yr isafswm cyflog, mae hyn yn ychwanegu hyd at £3,800 o bunnoedd ychwanegol y flwyddyn mewn gorbenion, sydd wedyn yn cyfateb yn fras, i 4 y cant o drosiant blynyddol cyfartalog microfusnesau Cymru. Mae'n werth pwysleisio hefyd y byddai'r cynnydd cymharol uchaf mewn costau yn disgyn ar gyflogwyr gweithwyr rhan-amser neu dymhorol, a fyddai wedyn yn creu goblygiadau i'r sector lletygarwch a manwerthu annibynnol yn arbennig. Ac wrth gwrs, rydym yn siarad yn helaeth yn y Siambr am fod eisiau cefnogi'r sector lletygarwch a pha mor bwysig yw tafarndai, bwytai a siopau lleol i gyfoethogi canol ein trefi a'n strydoedd mawr. Wel, nid mewn punnoedd yn unig y mesurir cost methiant i'w cefnogi. Maent yn elfen ddiwylliannol bwysig ar ein stryd fawr.

Nawr, rwy'n cydnabod bod y lwfans cyflogwr wedi'i uwchraddio i wrthbwyso rhywfaint o'r niwed, ond mae angen i gyflogwyr ei hawlio. Felly, hoffwn annog y Llywodraeth i sicrhau bod busnesau'n cael gwybod yn llawn am y newidiadau i feini prawf cymhwysedd a throthwyon ymhell cyn y flwyddyn ariannol nesaf, ac yna mae angen inni weld Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut y gall ddefnyddio ei hadnoddau ei hun i roi pob cyfle i fusnesau ffynnu yn yr amodau anodd hyn. Rwy'n credu mai dyna pam y mae cyllideb Cymru sydd ar y ffordd yn gyfle i ymestyn y gangen olewydd honno. Rydym wedi clywed yn rheolaidd nawr gan Aelodau Llafur y bydd y symiau canlyniadol a ddaw i law drwy gyllideb yr hydref yn drawsnewidiol—wel, dyma gyfle i ddangos hynny. A yw'r Llywodraeth yn edrych ar rewi'r lluosydd ardrethi annomestig fel y mae ar hyn o bryd? A yw'n edrych yn rhagweithiol ar ddefnyddio'i phwerau newydd mewn perthynas â'r lluosydd pan fyddant ar gael ym mis Ebrill? A yw'r Llywodraeth yn edrych ar ryddhad ardrethi? Mae'r rhain yn gwestiynau sy'n cael eu gofyn gan fusnesau yr eiliad hon.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, fel y crybwyllodd Rhun eisoes, nid yw'r honiad na fydd y mesurau hyn yn taro pocedi gweithwyr nac yn crebachu cyflogaeth yn wir. Hyd yn oed pan anwybyddwch chi'r diffiniad o beth yw gweithiwr, bydd gweithwyr yn cael eu taro gan brisiau uwch a chynnydd cyflog is. Gwyddom y bydd y cynnydd i'r cyfraniad yswiriant gwladol yn llesteirio'r farchnad swyddi yng Nghymru sydd eisoes yn ddifywyd, a bydd hynny yn ei dro yn ergyd bellach i safonau byw disymud. Nawr, nid oeddwn yn siŵr am ymateb y Llywodraeth i'r ystadegau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a ddangosai mai Cymru sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf o holl wledydd a rhanbarthau'r DU. Mae datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yn bwrw amheuaeth ar ddilysrwydd yr ystadegau eu hunain. Pan ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet, drwy gwestiwn ysgrifenedig, beth yw cyfanswm y gost i fusnesau Cymru o benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, wyddoch chi beth oedd yr ateb? Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Felly, ni allwn ymddiried yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ôl Llywodraeth Cymru, a dylem gymryd gair y Llywodraeth ar hyn. Edrychwch, os nad yw mor ddrwg â hynny i gyd, rhannwch y data sy'n sail i'r honiad, oherwydd mae busnesau bach a chanolig yn bryderus, ac maent am i Lywodraeth Cymru leddfu rhywfaint ar y pryder hwnnw.

17:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y broblem gyda dadleuon fel hyn yw eu bod yn cynyddu'r pryder yn hytrach na'i leddfu, oherwydd mae llawer o'r hyn y siaradwn amdano heddiw yn ddamcaniaethol, a pheth ohono, buaswn yn dweud, yn ffeithiol anghywir. Mae 248,000 o gwmnïau bach yng Nghymru, ac o'r cwmnïau bach hynny, nid yw 95 y cant ohonynt yn cyflogi neb. Maent yn dibynnu ar gyfalaf cymdeithasol yn eu cymunedau. Felly, o ran cyfraniadau yswiriant gwladol, ni fyddant yn eu talu, a byddant yn elwa o economi sy'n tyfu o ganlyniad i'r polisi. Felly, mae'n werth ystyried y ffaith bod y sector cwmnïau bach yn aml yn cael ei ramanteiddio i'r graddau eich bod yn meddwl amdanynt fel cwmnïau cyffrous iawn sy'n tyfu'n gyflym, ond mewn gwirionedd, maent yn rhamantus mewn ffordd sy'n fwy dibynnol ar bethau fel cyfalaf cymdeithasol, lle mae cwmnïau'n dibynnu ar deulu, ffrindiau, rhwydweithiau, i adeiladu a thyfu, a'r mathau o gymunedau y maent yn eu creu yn tueddu i fod yn gymunedau sy'n gynhwysol yn gymdeithasol yn ogystal yn hytrach nag yn ddeinamig yn economaidd. A fy nadl i, o'r PhD a ysgrifennais 11 mlynedd yn ôl, yw bod y sector cwmnïau bach yn gyfrannwr cyson a dibynadwy i'r economi, ond nid yw byth yn mynd i fod yn ffynhonnell twf hynod o ddeinamig oherwydd bod gan berchnogion cwmnïau bach ddewis arall bob amser yn lle cyflogaeth. Mae ganddynt gyfalaf cymdeithasol i ddibynnu arno. A hyd yn oed pan fyddant yn symud i ffwrdd o deulu a ffrindiau, byddant yn dod o hyd i rwydweithiau busnesau eraill a fydd yno i'w cefnogi drwy'r broses. Rwyf wedi dadlau ers amser maith, ac roedd hyn yn y dyddiau pan oeddwn i'n addysgu'r pethau hyn, fod y cwmnïau sy'n mynd i dyfu angen help a chefnogaeth, mae'n wir, ond maent yn mynd i dyfu. Nid yw'r cwmnïau sylfaenol sy'n bodoli o fewn yr economi yn mynd i dyfu yn yr ystyr confensiynol y meddyliwn amdano. Felly, rwy'n credu y gallwn or-ddweud effaith cyfraniadau yswiriant gwladol ar y sector busnesau bach.

Y peth arall roeddwn i eisiau ei ddweud yw bod hon yn gyllideb sydd wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ac os nad ydych chi'n gwneud y penderfyniadau hynny, mae'n dal i fod rhaid i chi lenwi'r twll du £22 biliwn a adawyd gan y Ceidwadwyr—o, mae Peter Fox yn deffro. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ymyrryd. Ac mae'n rhaid gosod y mesurau cywir yn y mannau cywir. Felly, rwy'n poeni ein bod yn dadlau mewn trobwll negyddol, lle rydym yn beirniadu'r economi ac yn cyrraedd rhywle lle rydym, yn hytrach nag edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd—ac rwy'n estyn allan at Blaid Cymru ar hyn—lle rydym ond yn beirniadu Llywodraeth y DU am geisio cyweirio economi sydd angen set enfawr o flociau adeiladu ar y sylfeini. 

Felly, mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain, 'A ydym eisiau gwasanaethau cyhoeddus gwell?' Ac os ydym, sut rydym ni'n talu amdanynt? Ac rydym wedi cael cyni dros y 14 mlynedd diwethaf, ac rwy'n anghytuno â'r hyn ddywedodd Rhun ap Iorwerth, fod hyn yn ddychwelyd at ryw fath o gyni. Rwy'n credu mai'r hyn ydyw yw gofyn i gyflogwyr mwy o faint dalu ychydig bach mwy, ond mae mesurau ar waith, felly, i sicrhau bod cwmnïau bach a micro, yn y ffordd a ddisgrifiais, yn elwa o'r newidiadau mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu y bydd y rhai ohonom sydd wedi hyrwyddo'r economi sylfaenol yn gweld y budd yn dod drwodd yn y ffordd honno. Felly, oes, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ond rwy'n credu bod hyn er budd pawb yn y tymor hwy. 

17:05

Pan fo effeithiau tlodi ac afiechyd yn dod yn glir drwy brofiadau ein hetholwyr, mae Llywodraethau Llafur ar ddau ben yr M4 yn pwyntio bys at bolisïau llymder y Torïaid dros y 14 mlynedd diwethaf. Ac rwy'n cytuno'n llwyr fod yna fai aruthrol i'w ganfod yn y rhes o Brif Weinidogion Torïaidd a oedd yn gwbl agored am eu hideoleg o ddiberfeddi gwasanaethau cyhoeddus, o danseilio'r system les cymdeithasol wrth warchod buddiannau eu dosbarth, a chaniatáu i'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd dyfu i raddau gwbl droëdig.

Gan nad ydym yn codi digon o drethi ar y mwyaf cyfoethog i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus rŷn ni eu hangen ac y mae pobl Cymru yn eu haeddu, mae ein trydydd sector yn gwbl allweddol i lenwi'r bylchau hynny. Maen nhw hefyd yn darparu arbenigedd hanfodol wrth weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cyhoeddus, gan gyfrannu gwerth dros £6.6 biliwn o lesiant cymdeithasol ac economaidd i Gymru bob blwyddyn. Ond mae'r sector eisoes ar y dibyn, gyda chwyddiant wedi peryglu a gwasgu ei gwasanaethau a'u gallu i gadw a recriwtio staff. 

Roedd penderfyniad Llywodraeth Lafur San Steffan i godi'r cyllid roedd ei angen ar y Canghellor ar gyfer ei chynlluniau drwy roi pwysau ychwanegol ar y sector hon nid yn unig yn syndod, ond hefyd yn gwbl hurt. Roedd yn teimlo eu bod nhw wedi creu cynllun ar gefn paced sigarét yn hytrach na datblygu strategaeth gyllidol ofalus a thrylwyr dros y blynyddoedd diwethaf fel gwrthblaid. Ac wrth beidio ag ymrwymo o’r cychwyn i ariannu’r gost ychwanegol sy’n wynebu'r sector o’r codiad yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr—cost does dim modd i'r sector hon ei hamsugno yn yr un modd â rhai busnesau mwy yn y sector breifat—mae Llywodraeth Starmer wedi creu’r argraff anffodus ac annerbyniol, dwi'n credu, taw rhyw fath o 'neis i'w chael' yw’r sector yma, sydd ddim yn haeddu’r un lefel o gefnogaeth â gwasanaethau statudol.

Ond ble fyddai ymdrechion y Llywodraeth yma yng Nghymru i ddelio â phroblemau iechyd meddwl, er enghraifft, heb waith arwrol Mind, sydd nawr yn wynebu cost ychwanegol o £20,000 y flwyddyn yng Nghwm Taf Morgannwg yn unig? Faint yn waeth fyddai sefyllfa rhai o’n dinasyddion mwyaf difreintiedig heb wasanaethau Cyngor ar Bopeth Cymru, sydd nawr yn wynebu costau ychwanegol o rhwng £125,000 a £180,000 y flwyddyn mewn rhai mannau o Gymru? Faint yn fwy ansicr fyddai cleifion canser Cymru heb gefnogaeth Tenovus Cymru a Marie Curie, sydd nawr yn wynebu costau ychwanegol o £250,000 y flwyddyn? Sut fedrwn ni obeithio mynd i’r afael â'r lefelau cywilyddus o dlodi yn ein cymdeithas heb gyfraniad elusennau fel Wastesavers Charitable Trust, sydd nawr yn wynebu costau ychwanegol o £107,000 y flwyddyn? Ac mae sectorau hanfodol eraill hefyd yn wynebu'r un bygythiad ac annhegwch. A hoffwn i sôn yn benodol am y sector gofal plant. 

Sut gallwn ni sicrhau bod mwy o'n plant ifanc yn cael y cyfle i gael mynediad at ofal plant cynnar cyfrwng Cymraeg pan fod y Mudiad Meithrin yn dweud bod rhai o’u cylchoedd nhw nawr yn gorfod canfod hyd at 10 y cant yn fwy o'u cyllideb flynyddol ar gyfer costau staff? Gall darparwyr gofal ddim hawlio lwfans cyflogwyr, felly mae’r sector yn teimlo ergyd y mesurau hyn heb allu cael mynediad at y mesur polisi lliniarol. Maen nhw hefyd wedi eu cyfyngu o ran eu gallu i drosglwyddo'r costau hyn. Mae'n anodd iawn iddynt dorri staff i wneud hynny, achos gofynion rheoliadol, ac er bod cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y bydd darparwyr gofal plant yn cael eu heithrio’n barhaol rhag ardrethi busnes i'w groesawu, fydd e ddim yn ddigonol i liniaru ar effaith y cynnydd yn eu costau.

Mae cefnogi'r sector yma yn gwbl ganolog i gydraddoldeb rhywedd, i sicrhau y dechrau gorau i bob plentyn, ac yn gonglfaen i'r strategaeth tlodi plant. Dim ond esiamplau yw'r rhain, esiamplau a fydd yn tanseilio gwaith cwbl ganolog i gefnogi'r rhai sydd angen ein cefnogaeth fwyaf.

A thra bod Rachel Reeves yn mynnu bod llymder wedi dod i ben, y gwir yw bod eu mesurau hi am danseilio’r union haen o’r sector gyhoeddus sydd wedi cyflawni gymaint i warchod pobl Cymru o effeithiau mwyaf niweidiol llymder dros y degawd a hanner diwethaf. Mae’n tanlinellu yn glir fod strategaeth y Llywodraeth i adfer ein sector gyhoeddus yn seiliedig ar resymeg hollol ddiffygiol, achos fydd yna ddim adferiad os dim ond tynnu adnoddau i ffwrdd o un rhan o’r sector i’r llall rŷch chi’n ei wneud. Llymder yw hwnna; dyna’r diffiniad.

Wedi clymu un llaw tu ôl eu cefnau, drwy addo peidio â gweithredu agwedd wirioneddol sosialaidd tuag at drethiant, maen nhw nawr yn rhoi gydag un llaw ac yn tynnu i ffwrdd â’r llall, ac mae pobl Cymru yn mynd i orfod ymdopi gyda hyn. Ac mae Llywodraeth Cymru unwaith eto yn mynd i orfod camu mewn i wneud yn iawn am hynny, i wneud yn iawn am effeithiau niweidiol Llywodraeth San Steffan ar Gymru. Ond y tro hwn, fydd na ddim pwyntio bys, na—gwneud esgusodion bydd hi, esgusodi, celu bai, nid ei dadlennu, nid ei alw mas.

Rŷn ni’n glir taw diweddglo pendant ar lymder sydd ei angen, nid cyfrifyddu creadigol, ac mae ein cynnig ni yn dangos y camau cyntaf pwysig i alluogi hyn i ddigwydd.

17:10

Unwaith eto, rydym yn gweld ergyd arall i Gymru a'i busnesau. Nid yw penderfyniad Llywodraeth y DU i godi cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref yn ddim llai na gwarth. Mae'r polisi hwn yn gibddall, mae'n niweidiol, mae'n ymosodiad uniongyrchol ar fusnesau a gweithwyr, gyda'r perygl y gallai arafu twf cyflogau, cyfyngu ar greu swyddi a gwanhau economi Cymru sydd eisoes yn fregus. Mae'r Canghellor, y Gwir Anrhydeddus Rachel Reeves, yn honni bod angen codi treth yn y ffordd hon i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Ond gadewch inni fod yn glir, ni fydd y baich yn disgyn ar ei desg hi yn San Steffan, bydd yn disgyn ar ein cyflogwyr, ein gweithwyr, ein busnesau bach, eu teuluoedd, sydd eisoes yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Rydym eisoes wedi gweld dwy brotest enfawr yn Llandudno a Llundain gan ein ffermwyr gweithgar, ac er bod y pwyslais ar y dreth etifeddiant, mae nifer y siaradais â hwy yn Aberconwy yn dweud bod goblygiadau yswiriant gwladol a'r codiadau'n mynd i greu anawsterau go iawn iddynt.

Mae penderfyniad y Llywodraeth i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr o 13.8 y cant i 15 y cant yn torri eu haddewid maniffesto eu hunain hyd yn oed i beidio â chodi trethi ar weithwyr, ac fe wnaeth hynny ddenu pobl i bleidleisio drostynt. Sut y gallant fradychu pobl a bleidleisiodd drostynt wedyn a gwneud y gwrthwyneb? Mae'n warthus. Mae Darren Millar yn llygad ei le yn cyflwyno gwelliant gennym ni ar hyn.

Mae'r polisi hwn, sy'n effeithio'n anghymesur ar Gymru, yn bradychu ymddiriedaeth, ac yn anwybyddu'r heriau sy'n wynebu pobl a busnesau ein gwlad. Mentrau bach a chanolig yw asgwrn cefn Cymru, a dyna yw 99.3 y cant o fusnesau. Mae'r mentrau hyn eisoes yn brwydro yn erbyn pwysau economaidd, a nawr mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Lafur y DU, yn gofyn iddynt ysgwyddo mwy fyth o straen ariannol.

Ar deledu Cymru neithiwr, honnodd Mountain Warehouse y bydd yn gweld cynnydd o £800 y gweithiwr, gan atal twf ac yn y pen draw, gallai greu goblygiadau o ran nifer y gweithwyr a gyflogant ac o bosibl, o ran trosglwyddo'r gost i gwsmeriaid na allant ei fforddio, am fod cwsmeriaid eisoes yn wynebu costau uchel yn y cartref a phethau. Bydd cyflogau disymud a llai o gyfleoedd gwaith. Fodd bynnag, nid dyna'r unig ganlyniadau. Bydd y cynnydd hwn yn rhoi baich ychwanegol o £100 miliwn ar gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan effeithio ar y 460,800 o weithwyr sector cyhoeddus ledled y wlad. Clywsom ddoe y bydd hefyd yn effeithio'n fawr ar ein meddygfeydd ar draws Cymru, gydag un feddygfa yn gorfod talu £30,000 ychwanegol, cyflog cyfan nyrs frechiadau. Ble mae'r synnwyr yn hynny?

Dyma arian y gellid ac y dylid ei ddefnyddio i wella gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, nid i gywiro penderfyniadau polisi gwael San Steffan. Rydym yn dal i glywed, Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, am y twll £22 biliwn. Wel, gallaf ddweud wrthych fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn amau hynny, a hoffwn i chi ddweud wrthym heddiw beth yw'r prawf, y dystiolaeth, sy'n cefnogi'r twll £22 biliwn hwnnw. Bydd hyd yn oed cyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig, sydd eisoes wedi'u gwasgu gan gostau uchel, yn cael eu taro'n galed. Os byddant yn talu cyflog iddynt eu hunain, byddant hwythau hefyd yn wynebu cyfraniadau yswiriant gwladol uwch. Dangosodd arolwg gan Ffederasiwn y Busnesau Bach fod 92 y cant o gyflogwyr bach eisoes yn poeni am gostau a risgiau cyflogi. Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle methodd gwariant ymwelwyr yn 2023 ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Ers y pandemig, mae 17 y cant o leoliadau lletygarwch yng Nghymru wedi cau, o gymharu â 14 y cant yn Lloegr a 13 y cant yn yr Alban. Bydd y codiad treth hwn yn taro'r sectorau hyn yn galed, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar weithwyr rhan-amser.

Ond y cyfan a welsom ers mis Gorffennaf yw Llywodraeth Lafur Cymru heb unrhyw asgwrn cefn yn caniatáu i San Steffan bennu polisïau sy'n niweidio ein pobl a'n busnesau ein hunain. Gadewch imi fod yn glir: efallai na wnaiff Llywodraeth Cymru sefyll dros fusnesau bach, ond mae un blaid yn y Siambr hon sy'n gwneud hynny, a ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yw honno. Byddwn yn parhau i frwydro dros bolisïau tecach sy'n diogelu swyddi, yn annog twf ac yn sicrhau bod Cymru'n ffynnu. Mae'n bryd newid, mae'n bryd cael polisïau sy'n gweithio dros Gymru, nid yn ei herbyn, ac ymhen 18 mis fe gaiff pleidleiswyr Cymru y cyfle hwnnw. Deled y dydd.

17:15

Fel mae Rhun wedi nodi eisoes, does dim amheuaeth fod prifysgolion Cymru ar hyn o bryd yn wynebu’r argyfwng mwyaf difrifol yn eu hanes. Ac mae’n werth i ni adlewyrchu ar y sefyllfa bresennol yn gyntaf cyn i ni drafod goblygiadau y newidiadau sydd ar ddod drwy’r codiad mewn yswiriant gwladol. Yn ddiweddar, rŷn ni wedi gweld Prifysgol Caerdydd yn gorfod cyflwyno rhaglen o ddiswyddiadau er mwyn ymateb i dwll o ryw £30 miliwn yn eu cyllideb. Mae Aberystwyth wedi cyflwyno rhaglen yn yr un modd i lenwi twll o ryw £15 miliwn yn eu cyllideb, tra bod Abertawe eisoes wedi gorfod cael gwared o ryw 240 o aelodau staff oherwydd pwysau ariannol tebyg. A dim ond wythnos diwethaf y clywsom ni’r newyddion fod Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn bwriadu symud eu cyrsiau israddedig o gampws Llanbed i Gaerfyrddin, a fydd o bosibl yn dod â hanes dros ddwy ganrif o addysg uwch yn Llanbed i ben.

Ac yn y cyfamser, mae prifysgolion Cymru yn ei gweld hi’n anodd denu digon o fyfyrwyr i wrthbwyso’r cynnydd o ran costau gweithredu dros y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, mae Bangor yn wynebu diffyg o £9 miliwn o ganlyniad i gwymp o ryw 7 y cant yn y nifer o ymgeiswyr israddedig o’i gymharu â llynedd, a chwymp o 50 y cant o ran ymgeiswyr uwchraddedig.

Mae'n glir felly, yn awr, yn fwy nag erioed, rŷn ni angen Llywodraeth sydd yn barod i sefyll cornel ein prifysgolion ni, a hynny’n gadarn er mwyn cynnig y datrysiadau blaengar fyddai’n sicrhau eu dyfodol hirdymor nhw. Ond trwy’r mesurau a gyhoeddwyd yn ystod y gyllideb, mae’r blaid Lafur yn San Steffan, partner Llywodraeth Cymru fan hyn, wedi anwybyddu’n llwyr y rhybuddion clir y mae prifysgolion wedi bod yn eu hamlygu ers sbel am y sefyllfa ariannol ddifrifol a hollol anghynaliadwy yn y sector.

Yn ôl amcangyfrifon cychwynnol, bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol yn golygu cost ychwanegol blynyddol o ryw £20 miliwn i'n prifysgolion ni yma yng Nghymru—dros £1.5 miliwn i Aberystwyth, bron i £2 filiwn ym Mangor, £4 miliwn yn ychwanegol i Abertawe a £7 miliwn ychwanegol i Gaerdydd, i nodi dim ond rhai enghreifftiau. Heb os, fe all y costau ychwanegol hyn wthio ein sefydliadau addysg uwch dros y dibyn, lle mae'n bosibl na fydd ffordd nôl iddyn nhw, a hyn er eu bod nhw'n chwarae rôl allweddol o ran paratoi ein pobl ifanc ni ar gyfer y byd gwaith a chyfrannu i ffyniant economi Cymru yn y dyfodol.

Dwi’n ymbil arnoch chi, fel Llywodraeth, i ddefnyddio pob dylanwad sydd gyda chi yn San Steffan i adleisio pryderon difrifol ein prifysgolion ni a sicrhau bod ganddyn nhw ddyfodol ariannol diogel sy’n adlewyrchu eu cyfraniad cwbl allweddol nhw i ddyfodol ein cenedl.

17:20

Llywydd, diolch yn fawr. Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl.

Rwy'n ymateb i ddadl ar fater nad oes gennyf i na Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb drosto. Fe ddeuaf at fanylion yswiriant gwladol cyflogwyr mewn eiliad. Ond nid yswiriant gwladol ei hun sydd wrth wraidd y ddadl hon, ond ffordd o feddwl sy'n uno meinciau'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Mae'r ddwy blaid yn fodlon gwario arian ar bron unrhyw beth; nid yw'r naill na'r llall yn fodlon codi'r arian sy'n angenrheidiol gan unrhyw un. Nid oes raid i chi eistedd yn hir yn y Siambr hon cyn i'r biliau ddechrau llifo i mewn. Roeddwn yma am awr yn gynharach y prynhawn yma, Lywydd, pan gafwyd galwadau am fwy o wariant ar docynnau bysiau, mwy o wariant ar deithiau bws am ddim, mwy o wariant ar deithiau bws tymhorol, mwy o wariant ar gefnogi tocynnau trên—popeth. Nid oes raid i chi fod yma'n hir cyn bod y gwrthbleidiau'n awyddus iawn i wario arian. Eto i gyd, maent yn gwbl amharod i godi'r arian o unrhyw le: ni ddylai pensiynwyr dalu; ni ddylai ffermwyr dalu; ni ddylai cyflogwyr dalu; ni ddylai'r trydydd sector dalu, meddai Sioned Williams wrthym; ni ddylai prifysgolion dalu, meddai Cefin Campbell wrthym. Y prynhawn yma, roedd meinciau'r Ceidwadwyr yn dweud wrthym na ddylai rhai sy'n osgoi talu am docynnau teithio dalu ychwaith. Nid oes unrhyw un—

A ydych chi'n credu mewn treth ar gyfoeth? Oherwydd dyna beth y gwnaethom ni ei argymell. Fe ddywedoch chi nad oeddem am i neb dalu: fe wnaethom argymell treth ar y mwyaf cyfoethog yn ein maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Dyna sut y gwnaethom ni ddweud y byddem yn ceisio codi arian ar gyfer y gwasanaethau sydd eu hangen arnom. 

A ydych chi'n cytuno â hynny—a wnewch chi ddweud 'ydw' neu 'nac ydw' ar ei ben? 

—a bydd yr Aelod, heb os, yn deall nad oes ganddi hi na minnau nac unrhyw un yn y Siambr hon unrhyw bŵer o gwbl i gyflwyno treth ar gyfoeth—

Mae hi eisiau gwario arian ar y pethau y mae gennym gyfrifoldeb amdanynt, ac mae hi eisiau codi arian mewn ffordd nad oes gennym unrhyw gyfrifoldeb o gwbl amdani. Dyma wleidyddiaeth y maes chwarae, ac fe'i gwelsom yn glir iawn yma y prynhawn yma. Roeddwn i'n meddwl bod—

Roeddwn i'n meddwl bod arweinydd Plaid Cymru yn ddewr i gydnabod y cyfeirir at ei bolisïau yn gyffredinol fel economeg ffantasi, ac aeth llawer o'r hyn a glywsom oddi ar ei feinciau ymlaen i ddangos yn union hynny.

Nawr, Lywydd, canfu'r Canghellor fod cyllid cyhoeddus mewn llanast, lle roedd y bwlch rhwng yr hyn yr oedd y Llywodraeth flaenorol wedi'i roi ar waith o ran gwariant a faint o arian yr oedd y Llywodraeth honno'n ei godi i dalu am y gwariant hwnnw yn £22 biliwn—

Mae hynny'n anghywir. Nododd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—. Rydym yn derbyn bod yna fwlch, ond roedd y bwlch hwnnw oddeutu £9 biliwn ac mae'n eithaf cyffredin, mewn cyllideb o £1 triliwn, i gael diffygion a gwargedion ganol tymor, neu chwarter ffordd drwy'r tymor. Ond cyfeiriodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol at £9 biliwn, nid £22 biliwn. Cafodd y bwlch o £22 biliwn ei achosi i'r wlad gan godiadau cyflog sy'n uwch na chwyddiant nad oedd unrhyw beth yn debyg i godiadau'r cyrff adolygu cyflogau, a argymhellodd setliadau cyflog llawer is.

Wel, Lywydd, rwyf wedi deall wrth gwrs mai polisi'r Blaid Geidwadol yma ers amser maith—rydym wedi ei glywed dro ar ôl tro—yw nad oeddent am dalu gweithwyr am y gwaith y maent yn ei wneud yma yng Nghymru. Cwynion bob amser ganddynt fod y rhain yn godiadau cyflog na ddylid bod wedi'u gwneud. Yr hyn a ddywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol oedd bod £9 biliwn o fwlch nad oeddent hyd yn oed yn ymwybodol ohono, am nad oedd y Llywodraeth flaenorol wedi datgelu gwybodaeth iddynt i'w galluogi i wneud asesiad cywir o'r bwlch a oedd yn bodoli.

Bu'n rhaid i'r Canghellor ddod o hyd i'r arian, ac fe wnaeth hynny drwy ddychwelyd yswiriant gwladol yn fras i lle roedd wedi bod fel cyfran o gynnyrch domestig gros am 13 o'r 14 mlynedd o dan y Ceidwadwyr. Ac wrth wneud hynny, fel yr awgrymodd Hefin David, rhoddodd y Canghellor gyfres o fesurau ar waith hefyd i wrthbwyso effaith codiadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyflogwyr bach trwy fwy na dyblu'r lwfans cyflogaeth. Dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach fod y cynnydd hwn yn y lwfans cyflogaeth

'i'w groesawu'n fawr, gan ei fod yn mwy na dyblu o £5,000 i £10,500, a fydd yn gwarchod y cyflogwyr lleiaf rhag y dreth ar swyddi ac felly mae'n flaenoriaeth o blaid swyddi mewn Cyllideb anodd.'

Dyna oedd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach i'w ddweud.

Y gwir amdani, Lywydd, yw bod yn rhaid talu biliau, a gwnaeth y Canghellor ei phenderfyniadau y byddai'r baich yn disgyn lle gellir ei gynnal fwyaf. Byddaf yn y Trysorlys ddydd Llun nesaf. Byddaf yn archwilio gyda Gweinidogion y Trysorlys, y diffiniad y bydd y Trysorlys yn ei ddefnyddio o weithwyr y sector cyhoeddus, oherwydd maent hwy hefyd—. Bydd y gost i gyflogwyr yno hefyd yn cael ei hysgwyddo gan y Trysorlys.

Canlyniad y cyfan, Lywydd, yw bod gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon £1.7 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus nag a fyddai wedi bod gennym pe bai cyllideb mis Mawrth diwethaf yn parhau'n weithredol. Nawr, nid wyf erioed wedi dadlau—. Dywedodd Luke Fletcher y byddai'r arian hwnnw'n drawsnewidiol. Nid wyf erioed wedi dadlau, mewn un gyllideb, y gallem wneud iawn am yr holl niwed a wnaed mewn 14 mlynedd. A heb os, Lywydd, bydd y gwrthbleidiau yma'n cwyno, o ran y gyllideb, nad yw'r £1 biliwn ychwanegol a fydd gennym y flwyddyn nesaf yn ddigon. Bydd rhestr siopa hir arall o'r holl bethau yr hoffent ddod o hyd i arian ar eu cyfer, tra byddant yn parhau, fel arfer, yn gwbl dawel ynghylch sut y gellir dod o hyd i'r arian hwnnw.

Lywydd, rwy'n gofyn i'r Siambr wneud y peth synhwyrol: y peth a fydd yn cael ei adlewyrchu ym mywydau ein cyd-ddinasyddion. Os ydych chi eisiau talu am bethau, mae'n rhaid ichi ddod o hyd i'r arian i wneud hynny. Dyna beth oedd yn rhaid i'r Canghellor ei wneud. Dyna sut y cawn ni'r arian a ddaw i wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Pleidleisiwch yn erbyn y cynnig, cefnogwch y gwelliant Llafur, a chyflwynwch ymdeimlad o reolaeth economaidd briodol i'n dadleuon yma ar lawr y Siambr.

17:25

Diolch, Lywydd, ac dwi'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma. Fel dywedais i ar y dechrau, mae yna bryderon difrifol ar draws sectorau cyhoeddus a phreifat am effaith y newidiadau y mae Llafur wedi’u cyhoeddi i yswiriant gwladol. Mi addawyd bod newid Llywodraeth yn mynd i warchod pobl gyffredin, gwarchod ein cymunedau ni, ar ôl yr holl flynyddoedd o lymder Ceidwadol. Ond mae’r newid yma yn mynd i barhau’r llymder i gymaint o bobl mewn ffordd ymarferol.

Mae llymder wedi tanseilio gwasanaethau cyhoeddus dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn mynd i danseilio gwasanaethau cyhoeddus. Mae llymder wedi tynnu arian allan o bocedi pobl dros ddegawd a mwy. Mi fydd hynny’n digwydd eto rŵan. Mi oedd llymder y Ceidwadwyr yn boenus. Mi gafodd effaith drom ar rai o’r bobl fwyaf bregus rŷn ni yn eu cynrychioli. Ond llymder Llafur ydy hyn, yn dod yn ei le. A dim rhyfedd bod pobl sydd wedi bod yn driw i Lafur cyhyd yn teimlo mor siomedig yn gweld yr hyn sydd yn digwydd.

Mi wnaeth Hefin David awgrymu ein bod ni, drwy siarad am hyn, yn creu poen meddwl. Ond nid siarad am lymder sydd yn creu poen meddwl, y llymder ei hun sydd yn creu poen meddwl, a dyna pam fy mod i'n apelio ar Hefin David, a'i gyd-Aelodau o ar y meinciau Llafur, i'n cefnogi ni i alw am newid cyfeiriad gan ei benaethiaid o o fewn y Blaid Lafur. Ac mae o hefyd yn disgyn i'r trap o ddweud bod yna ddim dewis, ond wrth gwrs bod yna ddewis. Mi soniais i am rai o'r dewisiadau amgen y bues i'n cyfeirio atyn nhw yn ystod yr etholiad eleni, a dwi'n parhau i wneud rŵan, ynglŷn ag, ie, dod â rhagor o arian i'r coffrau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyllido yn iawn, ond disgyn i'r trap o ddilyn yn ôl traed y Ceidwadwyr mae Llafur wedi'i wneud. 

Wedi sôn ydw i, a'm cyd-Aelodau i ar y meinciau yma, am y problemau ymarferol sylweddol sydd yn cael eu creu oherwydd y newidiadau yma, a hynny i gyrff cyhoeddus, sefydliadau sy'n cynnig gwasanaethau hanfodol, a busnesau preifat, a oedd mewn sefyllfa fregus yn barod ar ôl yr holl flynyddoedd hynny o lymder. Mi wnaf i droi at sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet.

Rwy'n troi at sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid. Fe'i galwodd yn gynnig am rywbeth nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gyfrifoldeb amdano, ond mae ein gofynion yn y cynnig hwn heddiw yn benodol iawn: mae’n alwad ar Lywodraeth Cymru i sefyll dros Gymru, i ddadlau'r achos dros Gymru. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos dros Gymru o ran yr amddiffyniadau y gellid eu rhoi ar waith i fusnesau a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru. Mae'n galw am asesiad effaith, y mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i'w gynnal. Mae'n galw am gymorth i'r rhai yr effeithir arnynt, gan gynnwys busnesau. Ond yn hytrach, mae Llafur yn dewis cau'r rhengoedd.

Mae gwelliant Llafur heddiw yn dileu popeth o gynnig Plaid Cymru. Mae’n dileu'r pryderon a godwn, yn ddiffuant, ar ran y bobl a gynrychiolwn. Darllenwch ef. Mae’n welliant sy’n swnio fel pe bai ar ran y Trysorlys. Gallai fod wedi'i ysgrifennu gan y Trysorlys. Ac mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig. Os yw amddiffyn gweithredoedd Llywodraeth Lafur y DU yn flaenoriaeth i’n Llywodraeth Lafur yng Nghymru, ni waeth beth y bo'r camau hynny, yn hytrach na blaenoriaethu llesiant pobl Cymru, a herio—yn gadarnhaol, ie; yn gadarn, yn sicr—Llywodraeth y DU ar ran pobl Cymru, yna mae gennym broblem go iawn. Ac mae gennym dystiolaeth gliriach nag erioed fod angen newid y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â Llywodraeth y DU ac yn negodi â hi, yn rhoi pwysau arni ac yn ei dwyn i gyfrif. Mae arnom angen Llywodraeth Blaid Cymru sy'n sefyll dros Gymru. Felly, cefnogwch y cynnig hwn heddiw.

17:30

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly, byddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe fyddaf yn symud i'r bleidlais. Y pleidleisio, felly. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 7, y cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26 yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Hefin David. Agor y bleidlais.

Nid oes recordiad ar gael o’r cyfarfod rhwng 17:34 a 17:35.

Eitem 7. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26: O blaid: 31, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

17:35

Gaf i jest tsiecio bod y cyfieithu yn gweithio nawr? Dyw e ddim yn gweithio i bawb, felly. Ydy e'n gweithio? Mae'n gweithio i bawb nawr. Felly, iawn. Diolch yn fawr am eich amynedd chi ar hynny.

Fe awn ni i'r pleidleisiau ar eitem 9, dadl Plaid Cymru, cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Dwi'n galw am bleidlais yn gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. 

Nid oes recordiad ar gael o’r cyfarfod rhwng 17:35 a 17:36.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 19, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 sydd nesaf, ac fe fydd y bleidlais nesaf, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais, felly, ar welliant 1 yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i basio. 

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynnig NDM8732 fel y'i ddiwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr hydref, er mwyn helpu i sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad;

b) asesiad cyffredinol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y bydd effaith net polisïau Cyllideb Llywodraeth y DU yn cynyddu twf yn y tymor hwy;

c) awgrym Trysorlys y DU y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer costau cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus;

d) cadarnhad Trysorlys y DU y bydd, wrth wneud hynny, yn dilyn dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sef yr hyn a fabwysiadwyd gan lywodraethau blaenorol; ac

e) o ganlyniad i’r holl fesurau yng Nghyllideb Llywodraeth y DU, na fydd 865,000 o fusnesau yn y DU yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol o gwbl, ac y bydd dros hanner y cyflogwyr sydd ag atebolrwydd i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai’n gweld dim newid neu ar eu hennill yn gyffredinol y flwyddyn nesaf.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Eitem 9. Dadl Plaid Cymru - Cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 21, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Jest i gadarnhau canlyniad y bleidlais ar eitem 7, gan iddo fe beidio gael ei ddarlledu: canlyniad y bleidlais ar eitem 7, sef cyllideb y Comisiwn, roedd 31 o blaid, neb yn ymatal, ac 13 yn erbyn. Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio.

11. Dadl Fer: Gwneud cynnydd neu gadw pethau fel ag y maent: sut y dylai llywodraeth gyfrifol ymateb i newid diwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru?

Byddwn ni'n symud nawr i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan Gareth Davies, ac felly croeso i Gareth Davies i gyflwyno ei ddadl fer.

Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon ac rwy’n derbyn bod y cylch gwaith hwn yn eang iawn, ond rwy’n ddiolchgar i unrhyw Aelod sy’n barod i rannu eu barn ar y pwnc ym mha bynnag fodd y teimlant sydd orau. Rwyf wedi cytuno i roi munud o amser i Natasha Asghar yn y ddadl hon heno.

Ysgrifennodd Edmund Burke, sylfaenydd ceidwadaeth Brydeinig fodern ac un o athronwyr gwleidyddol gorau’r ddeunawfed ganrif, am gontract, partneriaeth, rhwng y rheini sy’n fyw, y rheini sydd wedi marw a’r rheini nad ydynt wedi'u geni eto. I mi fel Ceidwadwr, mae’n bwysig gwarchod yr hyn sy’n werthfawr i ni a’r hyn rydym yn ei garu rhag y rhai sydd am ddinistrio’r pethau hynny, oherwydd pan fyddant wedi mynd, maent wedi mynd, ac anaml y ceir cyfle i ni eu hatgyfodi. Mae a wnelo â gwahaniaethu rhwng yr hyn y dylem ymladd i'w warchod a'r hyn y dylem ei newid. Ni yw'n golygu gwrthod pob newid er mwyn ei wrthod, ac nid yw ceidwadaeth yr un peth â hiraeth, ac nid yw'n cynnwys dyhead i ddychwelyd i gyfnod euraidd canfyddedig o'r gorffennol.

Ond yn ddiau, gallwn gytuno bod cyflymder newid cymdeithasol, diwylliannol, technolegol ac economaidd wedi bod yn ddramatig dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, ac mae’n rhaid i bob un ohonom benderfynu sut y dylai Llywodraeth gyfrifol ymateb i hyn, os o gwbl. Mae effeithiau'r newidiadau hyn wedi arwain at ddad-ddiwydiannu, newid demograffig, chwyldro cyfryngau cymdeithasol, rhyfel diwylliant fel y'i gelwir, newid hinsawdd, argyfwng iechyd meddwl, globaleiddio a llawer mwy. Mae’r holl bethau hyn, heb os, wedi newid y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn rhyngweithio â’i gilydd.

A sut y mae’r wladwriaeth yn rheoli’r newid hwn, sy'n aml yn llawer mwy na galluoedd un Llywodraeth genedlaethol yn unig, ac yn lliniaru’r effaith ar y wlad yn gyffredinol? Nid oes atebion hawdd i'r cwestiynau hyn, ac rwy'n ddiolchgar i unrhyw Aelod sy'n fodlon rhannu eu barn ynglŷn â sut y mae newid cymdeithasol ehangach wedi effeithio ar eu hetholwyr, a sut y gallwn fynd i'r afael â hyn fel cynrychiolwyr etholedig, a sut y dylai Llywodraethau datganoledig a chenedlaethol fynd i'r afael â hyn.

Os caf ddechrau gyda fy mriff fel llefarydd yr wrthblaid, sef iechyd meddwl a’r blynyddoedd cynnar, rwy’n ymwybodol iawn o’r argyfwng iechyd meddwl rydym ynddo ar draws y byd gorllewinol. Mae effaith yr argyfwng ar bobl ifanc yn ddinistriol, gydag adroddiadau gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, ym Mhrifysgol Caerdydd fod gan bron i chwarter ein disgyblion ysgol uwchradd lefelau uchel o symptomau iechyd meddwl. Dywedodd 32 y cant o oedolion a ymatebodd i arolwg yng Nghymru fod ganddynt les meddyliol isel, ac mae llawer o bobl yn adrodd yn anecdotaidd fod y byd yn lle mwy cymhleth, ac felly mae cymhlethdodau bywyd yn effeithio ar eu lles meddyliol. Mae dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol wedi darparu manteision enfawr i ni fel cymdeithas, ac mewn rhai ffyrdd, wedi gwella ansawdd ein bywyd, ond mae’r dystiolaeth yn gryf iawn fod hollbresenoldeb y cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith hynod niweidiol ar les meddyliol pobl ifanc.

Mae’r seicolegydd Jonathan Haidt yn dadlau mai’r rheini a aned ar ôl 1995 oedd y bobl gyntaf mewn hanes i fynd drwy’r glasoed gyda phorth i fydysawd amgen yn eu pocedi, ac mae’r dreth y mae hyn wedi’i chael ar eu llesiant wedi bod yn ddinistriol, gyda lefelau digynsail o orbryder ymhlith Cenhedlaeth Z, gyda merched yn cael eu heffeithio'n arbennig. Sut y mae mynd i’r afael â hyn fel deddfwyr? Mae'n anodd iawn diogelu rhyddid pobl i lefaru wrth ddiogelu lles meddyliol ein pobl ifanc ar yr un pryd. Ac nid oes un ateb hawdd y gall y wladwriaeth ei ddefnyddio i fynd i'r afael yn llawn â'r niwed a ddaw yn sgil y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r newidiadau cymdeithasol-ddiwylliannol a ddaeth yn ystod y pandemig wedi cael effaith barhaol. Mae newidiadau yn niwylliant y gweithle, megis gweithio gartref, lle mae’r rhan fwyaf o ryngweithio cymdeithasol yn rhithwir, wedi darparu rhai manteision o ran cynhyrchiant, er nad yw’r dystiolaeth yn ddiymwad, ond mae hefyd wedi cyfrannu at ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.

Yn ôl data Llywodraeth Cymru rhwng 2022 a 2023, dywedodd 48 y cant o bobl eu bod weithiau'n teimlo’n unig. Mae’r cynnydd mewn gweithio gartref a'r newid diwylliannol cyffredinol tuag at gymdeithas fwy unigolyddol, lle mae’r cysylltiadau rhwng y rheini mewn cymuned yn llai pwysig, wedi cyfrannu at hyn hefyd. Mae'r ffordd y mae Llywodraeth gyfrifol yn ymateb i hyn unwaith eto'n destun dadl, ond yn fy marn i, dylem annog busnesau a’r sector cyhoeddus i ddod â gweithwyr yn ôl i’r swyddfa ac arfogi cyflogwyr i gefnogi llesiant eu staff yn well. Fodd bynnag, mynd i'r afael â symptomau problem ehangach yw hynny'n dal i fod.

Fel yr Aelod o'r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, rwy’n cynrychioli’r Rhyl, tref lan môr sy’n aml yn cael ei chysylltu yn y cyfryngau ag ystrydebau am ddirywiad, hiraeth a gogoniant diflanedig; tref a adeiladwyd ar y diwydiant twristiaeth, gyda ffracsiwn o'r dwristiaeth a arferai ddod i'r dref ar ei hanterth. Heddiw, ceir teimlad yn y Rhyl eu bod wedi cael eu gadael ar ôl. Mae’r hen ddiwydiant a ffurfiai asgwrn cefn y dref wedi dirywio, ac mae troseddu ac amddifadedd cymdeithasol wedi cynyddu’n ddi-baid. Clywn honiadau’n aml mai’r Llywodraeth yn unig sydd ar fai am ddad-ddiwydiannu, ond casgliad cibddall yw hwn. Mae llawer o ffactorau sy'n cyfrannu at ddad-ddiwydiannu wedi effeithio ar drefi ledled Cymru. Ac nid yw'n gwbl glir sut y gall cymunedau sydd wedi'u hadeiladu ar ddiwydiant ymadfer ac addasu pan fydd y gymuned wedi'i dadwreiddio.

Mae globaleiddio, unwaith eto, yn darparu manteision, ond mae canlyniadau globaleiddio i gymunedau hefyd wedi arwain at heriau, ac yn ddi-os, wedi arwain at gynnydd mewn gwleidyddiaeth boblyddol a chynhenidiaeth fel ymateb. Mae globaleiddio wedi arwain at fasnachu rhydd, prisiau rhatach i ddefnyddwyr, a gweithwyr i lenwi prinder llafur, ond nid yw'r cymunedau sy'n dioddef fwyaf oherwydd colli diwydiant a newidiadau demograffig bellach yn teimlo'n gysylltiedig â'u cymuned, ac maent yn teimlo eu bod wedi colli eu rhan mewn cymdeithas, ac mae hyn yn hybu cynnydd poblyddiaeth, yn anffodus. Unwaith eto, fel deddfwyr, mae’n rhaid inni gydbwyso’r manteision a ddaw yn sgil globaleiddio gan liniaru ei heriau a gwrando ar bryderon y rhai sy’n gresynu at gyflymder y newid ar yr un pryd. Ni allwn ac ni ddylem sarhau na bychanu eu pryderon. Fodd bynnag, mae sut y mae hyn yn trosi'n bolisi a deddfwriaeth yn anodd yn y broses honno. Ond mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i wrando ar bryderon yr etholwyr ac amddiffyn cymunedau nad ydynt erioed wedi ymrwymo i fod yn barthau economaidd, a chael eu hystyried yn ddarn gwyddbwyll ar fwrdd masnach fyd-eang. Maent yn gymunedau bregus a chanddynt berthnasoedd a thraddodiadau bregus y mae'n rhaid eu parchu.

Mae newidiadau economaidd wedi newid blaenoriaethau a galluoedd ein cenhedlaeth iau yn llwyr, lle mae perchentyaeth bellach yn cael ei ystyried yn rhywbeth anghyraeddadwy i lawer o bobl ifanc. Mae arolwg gan The Week a gynhaliwyd yn 2023 o 1,500 o oedolion ifanc ym Mhrydain yn cefnogi hyn ymhellach. Canfu’r arolwg fod 81 y cant o oedolion ifanc naill ai’n gandryll, yn rhwystredig neu’n flin ynghylch fforddiadwyedd tai, a bod 44 y cant naill ai wedi rhoi’r gorau iddi’n llwyr neu’n credu ei bod yn annhebygol y byddant byth yn prynu tŷ. Mae tai yn bwnc sydd wedi cael ei drafod droeon yn y Siambr hon, ac mae’n siŵr y bydd hynny'n parhau, ond dylem roi ystyriaeth ddifrifol i oblygiadau cenhedlaeth gyfan na fyddant byth yn dod yn berchnogion tai yn yr oed y gwnaeth eu rhieni hynny o ganlyniad i argyfwng tai a waethygwyd gan boblogaeth gynyddol, ynghyd â lefelau isel o adeiladu tai oherwydd system gynllunio doredig.

Mae’r anallu i fod yn berchen ar gartref a chael cyfran yn y gymdeithas yn effeithio ar flaenoriaethau pobl mewn bywyd ac ymddygiad defnyddwyr, gyda llawer o bobl ifanc yn dewis peidio â chael plant, a fydd, yn y degawdau nesaf, yn un o ddilemâu mwyaf ein hoes. Mae hyn yn creu teimlad cynyddol ymhlith pobl fod rhyddfrydiaeth a globaleiddio wedi methu sicrhau economi gref, diogelwch cenedlaethol cadarn, polisi diwydiannol llwyddiannus a stori genedlaethol gydlynol.

Ar draws cenhedloedd y byd datblygedig, mae'r gyfradd enedigaethau'n cwympo. Yn y 1960au, roedd menywod Prydain yn cael tua 2.6 o blant ar gyfartaledd, ac erbyn hyn, mae'n llai nag 1.6. Mae’r gyfradd ffrwythlondeb yn y DU bellach ymhell islaw'r lefel adnewyddu, ac mae’n parhau i ostwng. Ar hyn o bryd, mae oddeutu pedwar o bobl o oedran gweithio am bob pensiynwr yn y DU, ond yn seiliedig ar ragamcanion presennol, ymhen un genhedlaeth yn unig, yn 2053, bydd llai na thri unigolyn o oedran gweithio am bob pensiynwr. Dyma drychineb sy'n agosáu'n gyflym y bydd yn rhaid i lywodraethau cyfrifol fynd i'r afael ag ef ar ryw bwynt, fel rydym wedi'i wneud gyda newid hinsawdd. Gallai canlyniadau economaidd a chymdeithasol cwymp yn ein cyfraddau genedigaethau fod yn gatastroffig.

Rwy’n derbyn bod cwmpas y ddadl hon wedi bod yn eang iawn heno, ond rwy'n gobeithio ei bod wedi gwneud ichi feddwl sut yr awn i’r afael â’n cymdeithas a’n diwylliant sy’n newid yn gyflym, rhai o’r problemau nad ydym yn rhoi sylw iddynt ar hyn o bryd, a sut y dylai’r Llywodraeth ymateb yn y ffordd orau er budd y wlad hon. Diolch yn fawr.

17:45

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod, Gareth Davies, am gyflwyno’r ddadl fer hynod bwysig hon heddiw. Heb os, fe ŵyr pob un ohonom fod ein cymdeithas yn parhau i newid yn gyflym iawn. Mae technoleg yn esblygu'n gyson, o ddatblygiad deallusrwydd artiffisial i'r defnydd helaeth o sianeli cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, gyda newidiadau digynsail, daw canlyniadau dieithr, ac fel cymdeithas, mae’n rhaid inni addasu’n hynod o gyflym, heb wybod beth a ddaw nesaf, sy'n aml yn arwain at y genhedlaeth hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl, ac yn cael eu gadael ar ôl. Mae nifer wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo, fel y dywedodd Gareth yn hyfryd iawn, fel darn ar fwrdd gwyddbwyll, a soniodd am hyn yn fanwl iawn yn ei gyfraniad.

Yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, mae etholwyr dirifedi wedi cysylltu â mi ynghylch allgáu digidol, boed ar y nifer cynyddol o fanciau’r stryd fawr sy'n cau neu’r anallu i adnewyddu cardiau teithio rhatach ar-lein. Lywydd, er bod technoleg yn rhoi llawer o gyfleoedd i ni, rwy’n ofni bod cael cymaint o’n bywydau ar-lein wedi gadael mwy o le i’r cenedlaethau hŷn, yn enwedig, gael eu gadael ar ôl.

Er nad wyf mewn unrhyw ffordd yn dadlau o blaid rhagor o ymyrraeth gan Lywodraeth gwladwriaeth fawr, credaf fod gan y Llywodraeth hon ddyletswydd gofal i weithio gyda busnesau a rhanddeiliaid, fel yr amlinellwyd gan Gareth yn ei gyfraniad. Mae'n rhaid iddynt ddefnyddio atebion arloesol i gadw gwasanaethau'n gynhwysol ac i sicrhau eu bod yn esblygu'n gadarnhaol wrth symud ymlaen. Yn ogystal â hyn, Lywydd, credaf fod problem wirioneddol mewn rhai achosion gydag anallu'r gyfraith i ddal i fyny â chyflymder datblygiad technoleg. Mae pob un ohonom yn byw mewn byd lle mae digon o hiliaeth, rhywiaeth, casineb at fenywod, ac ymddygiad rheibus ar-lein. Felly, mae’n rhaid inni sicrhau bod y gyfraith yn ddigon cryf i'n hamddiffyn ni oll, ond yn enwedig ein plant a’n pobl ifanc, sydd mewn mwy o berygl o niwed dan law pobl sy’n dymuno cymryd mantais arnynt ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Lywydd, er bod fy amser yn gyfyngedig heddiw, hoffwn gloi drwy ddiolch unwaith eto i Gareth am gyflwyno’r ddadl hon. Rwy'n gobeithio bod hwn yn faes y byddwn yn parhau i gael dadl agored yn ei gylch, ac y byddwn hefyd yn parhau i drafod y materion hyn yn fanwl wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr.

Member (w)
Jane Hutt 17:49:55
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch yn fawr i Gareth Davies am godi'r pwnc pwysig hwn.

Diolch am gyflwyno’r ddadl hon heno. Credaf ei bod yn ddadl amserol, gan ein bod ar drobwynt, fel rydych chi wedi'i gydnabod, yn hanes y byd, lle bydd penderfyniadau heddiw yn siapio dyfodol cymdeithas. Mae’r ddadl yn rhoi’r cyfle inni edrych ar y ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i newid diwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru, ond hefyd yn ei siapio. Natasha, fe sonioch chi am hynny hefyd—beth yw ein cyfrifoldebau, yn enwedig fel Llywodraeth.

Os edrychwch ar y blynyddoedd diwethaf, a nodi maint yr heriau sy'n ein hwynebu ledled y byd, mae taer angen gweithio ar y cyd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Rwy'n meddwl am ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae honno'n mynd i fod yn thema allweddol yn fy ymateb, fod gennym fframwaith arloesol yng Nghymru i’n helpu i wella ansawdd bywyd drwy ein hannog i fynd i’r afael â materion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, gan atal penderfyniadau a fydd yn anfanteisiol i genedlaethau’r dyfodol. Rwy'n credu bod pob un ohonom sydd â phlant, ac wyrion ac wyresau yn wir, yn meddwl mwy a mwy am y dyfodol i'n plant a'n hwyrion a'r penderfyniadau a wnawn, ac ychydig iawn o reolaeth sydd gennym dros rai ohonynt.

Ond os edrychwn ar y Ddeddf, mae'n ein helpu i wreiddio gweithio cynaliadwy ar draws y sector cyhoeddus, gan roi sgiliau ac adnoddau i lunwyr polisi ystyried canlyniadau penderfyniadau heddiw, nawr ac yn y dyfodol. Ac unwaith eto, edrychwn ar y Ddeddf i weld yr arfau allweddol sydd gennym i'n helpu yn yr ymdrech hon. Mae gennym ein hadroddiad 'Llesiant Cymru', sy'n ein helpu i ddeall yn well ein cynnydd tuag at ein nodau llesiant cenedlaethol, ac mae ein hadroddiad tueddiadau'r dyfodol hefyd yn ein helpu i archwilio tarfu posibl a rhagweld senarios posibl yn y dyfodol. Felly, mae defnyddio’r Ddeddf fel ein canllaw, meddwl am y nodau llesiant yr ydym wedi’u gosod i ni’n hunain fel cymdeithas, gyda golwg ar bum ffordd o weithio’r Ddeddf, yn ein helpu i lywio drwy heriau’r presennol a’r dyfodol. Mae a wnelo â blaenoriaethu meddwl strategol hirdymor a meithrin cydweithrediad â'n partneriaid.

Credaf fod pob un ohonom yn teimlo'n well, onid ydym, pan fyddwn yn cydweithredu ac yn cydweithio, ac rydym yn teimlo hynny ar draws y Siambr hon. Credaf fod y rôl graffu, o ran y Llywodraeth ac mewn pwyllgorau trawsbleidiol, yn hollbwysig i'n democratiaeth ac i Senedd Cymru, ac rydym yn dysgu o'r ffordd honno o weithio. Ac mae hynny'n sicr wedi'i ategu gan y ffyrdd o weithio yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Nid wyf yn siŵr faint sy’n gwybod, ond mae’r Ddeddf newydd gael Gwobr Polisi Dyfodol y Byd, sef thema eich dadl, Gareth. Fe’i dyfarnwyd gan Gyngor Dyfodol y Byd, ac fe’i dyfarnwyd ar sail dull arloesol y Ddeddf o wreiddio cyfiawnder rhwng cenedlaethau a helpu i greu’r amodau ar gyfer heddwch ar draws cymdeithas Cymru. Rwy'n gobeithio y gallwn gyfiawnhau'r wobr honno yn y ffordd y gweithiwn gyda’n gilydd fel Senedd Cymru.

I mi, mae diwylliant yn cwmpasu gwerthoedd, credoau ac egwyddorion cymdeithas, sut rydym yn cyfathrebu a sut i ymddwyn tuag at ein gilydd. Mae'r nodau llesiant cenedlaethau’r dyfodol a rennir gennym yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu Cymru fwy cyfartal a chymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, ni waeth beth y bo’u cefndir neu eu hamgylchiadau. Fe gyfeirioch chi at gymaint o'r heriau i bobl ifanc yn y ddadl. Rwy’n ymwybodol o’r ffaith, yn ein cerrig milltir cenedlaethol ar gyfer Cymru, sy’n rhan o waith llesiant cenedlaethau’r dyfodol a’r disgwyliadau llesiant ar y Llywodraeth, fod gennym y cerrig milltir y mae'n rhaid iddynt ein harwain a'n cyfeirio, ac y cawn ein monitro arnynt fel Llywodraeth Cymru.

Os caf edrych ar rai o’r materion hyn yng nghyd-destun y pwyntiau a wnaethoch, un o’r cerrig milltir cenedlaethol yw gwella lles meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch yn lles meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru erbyn 2050. Mae honno’n garreg filltir; yna, mae'n rhaid inni ddadansoddi hynny a dweud, 'Wel, beth y mae hynny'n ei olygu o ran polisi a deddfwriaeth, a pha rôl sydd gan ein partneriaid i'w chwarae yn hynny?'

17:55

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch. Nid yw'n arferol, efallai, i gael ymyriad mewn dadl fer, ond fe'm trawodd, wrth ichi siarad, mai un o'r strwythurau cymdeithasol pwysicaf sydd gennym yw'r teulu. Tybed a ydym, ar adegau, wedi bod yn euog fel gwleidyddion o esgeuluso, efallai, pwysigrwydd strwythurau teuluol cryf, diogel—ni waeth beth fo'r strwythur teuluol hwnnw. Daw teuluoedd ym mhob lliw a llun, ac nid oes yr un ohonynt yn berffaith, ond tybed a wnewch chi fyfyrio gyda mi ar y ffaith nad ydym bob amser yn rhoi digon o ffocws ar gryfhau a chefnogi teuluoedd i fod y gorau y gallant fod, i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r union faterion yr ydych chi newydd eu codi.

Diolch. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod llawer o’n polisi iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd addysg, yn ymwneud â chefnogi teuluoedd ac aelwydydd. Buaswn yn dweud yn hynny o beth fod gennym strategaeth fagu plant gref iawn a chymorth a roddwn i deuluoedd. O'm safbwynt i, rhai o'r teuluoedd mwyaf difreintiedig sydd angen fwyaf o sylw, ac maent yn dueddol o fod—a gwyddom eu bod—yn deuluoedd un rhiant. Mae’n rhaid inni barchu a chefnogi eu hanghenion. Mae a wnelo â lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion gwarchodedig ac allweddol penodol a’r rheini heb y nodweddion hynny erbyn 2035. Mae gennym dargedau heriol hefyd.

Hoffwn achub ar y cyfle—ac rwy'n gobeithio y byddwch yn amyneddgar gyda mi ar hyn am ychydig funudau—i ddweud, pan oeddwn yn meddwl am ymateb i'r adroddiad hwn—. Gallech gwmpasu cymaint, oni allech, Gareth? Ond roeddwn yn teimlo bod arnaf eisiau troi at rywbeth sy’n gyfredol ac yn amserol iawn ar hyn o bryd, sef sut y mae angen inni ymateb i’r newid cymdeithasol a diwylliannol sydd ei angen i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod. Soniodd Natasha am hyn. Oherwydd credaf ein bod ar ddechrau'r 16 diwrnod o weithredu. Rwy'n credu o ddifrif fod ymrwymiad ar draws y Siambr hon, a Gareth, roeddech chi ar y grisiau ar gyfer yr wylnos, lle soniodd cymaint o bobl am fod yn dadau, yn frodyr, yn ewythrod—y dynion o amgylch y Siambr hon.

Hoffwn dynnu sylw, gyda'ch caniatâd chi, Gareth, a chithau Lywydd, at y pwynt ynglŷn â newid cymdeithasol a diwylliannol. Os na allwn gael gwared ar y casineb dwfn sydd fel pe bai’n megino'r epidemig o drais yn erbyn menywod, ble rydym ni'n mynd i fod arni gyda'n teuluoedd, ein plant, a’u hamgylchiadau hwy? Felly, roedd arnaf eisiau dweud ein bod yn gwybod bod hon yn broblem gymdeithasol y mae angen ymateb cymdeithasol iddi. Mae’r 16 diwrnod hwn o weithredu yn cael ei arwain gan ymrwymiad sy’n dweud, 'Mae’n dechrau gyda dynion’, ac rwy’n gobeithio y gallwn, dros yr 16 diwrnod nesaf, weithio gyda’n gilydd ar draws y Siambr. Gofynnwch gwestiynau i mi, lle bynnag y gallwch. Fe gododd y pwnc, a gwelais fod amynedd y Llywydd yn cael ei drethu gan hyd rhai o'r ymatebion yr oeddwn yn eu rhoi a'r cwestiynau a ofynnwyd. Ond mae mor bwysig ein bod yn canolbwyntio ar hyn. Mae'n her gymdeithasol y mae angen inni fynd i'r afael â hi gyda'n gilydd.

Felly, er gwaethaf y llu o faterion cymhleth sy'n ein hwynebu, rwy'n credu bod eich dadl wedi cyffwrdd â rhai pwyntiau allweddol o ddealltwriaeth, y gallem fwrw ymlaen â hwy mewn dadleuon eraill o bosibl. Mae Llywodraeth Cymru'n ceisio sicrhau’r cydbwysedd cywir o ran cefnogi cynnydd yma yng Nghymru, gan gadw’r pethau gorau—ac rwy’n siŵr y byddech chi'n cytuno, o’ch ideoleg Geidwadol a’r athroniaeth a grybwyllwyd gennych—a drosglwyddwyd i ni gan genedlaethau blaenorol. Ond mater i ni yw trosglwyddo a pharchu'r pethau hynny, a'u cadw pan fyddant yn werth eu trosglwyddo. A'n bod yn parhau i gydweithio yn ein gwahanol feysydd polisi, gan ddefnyddio ein cryfderau a chynnal ein hegwyddorion. Os gwnawn hynny, fe lwyddwn i siapio dyfodol da nid yn unig i ni ein hunain, ond yn bwysicaf oll, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Diolch.

18:00

Daeth y cyfarfod i ben am 18:00.