Y Cyfarfod Llawn

Plenary

06/11/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni fydd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Samuel Kurtz.

Y Sector Rhentu Preifat

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector rhentu preifat? OQ61803

Diolch. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i sicrhau ein bod yn cynnal sector rhentu preifat hyfyw yng Nghymru, gan gynnig dewis eang o lety o ansawdd uchel. Mae gennym nifer o gynlluniau grant ar gael i landlordiaid neu denantiaid, ac rydym yn darparu arweiniad a gwybodaeth drwy Rhentu Doeth Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cefais y—wel, ni allaf ei galw’n fraint—ond ymwelais â thai yn fy etholaeth, sy’n eiddo i landlord preifat, ac roedd yr amodau y mae’r tenantiaid yn byw ynddynt yn wael. Ac rwy’n ddiolchgar i Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro—mae’r landlord hwn yn berchen ar eiddo yn ardaloedd y ddau awdurdod lleol—oherwydd rwy'n gweithio gyda hwy nawr i geisio helpu’r tenantiaid hyn oherwydd y sefyllfa y maent ynddi. Ond un peth a wnaeth fy synnu’n fawr oedd bod gan Rhentu Doeth Cymru allu i rwystro landlordiaid o ansawdd da o'r sector, ond nid i ddwyn landlordiaid diegwyddor i gyfrif ar yr un pryd. Felly, beth rydych chi'n ei wneud yn eich rôl a chydag Ysgrifenyddion Cabinet eraill i sicrhau bod gan Rhentu Doeth Cymru allu i gosbi landlordiaid diegwyddor sy'n cymryd mantais ar eu tenantiaid, ond hefyd i'w gwneud mor groesawgar ac mor hawdd â phosibl i ddenu mwy o landlordiaid preifat i’r sector i ddarparu’r cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel hynny y sonioch chi amdanynt yn eich ymateb agoriadol?

Diolch, Sam, ac mae’n ddrwg gennyf glywed am y problemau sydd gan eich etholwyr. Rhentu Doeth Cymru sy’n gyfrifol am gofrestru a thrwyddedu landlordiaid, gan sicrhau eu bod yn cael eu hyfforddi ac yn bodloni gofynion o ran bod yn bobl addas a phriodol. Os yw’r landlord yn torri’r safonau a nodir yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022, dylai’r tenant roi gwybod i dîm iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol perthnasol, sy’n gyfrifol am ymchwilio i’r achosion hynny. Felly, os yw landlord yn torri eu contract, gallai unrhyw hysbysiadau y gallent eu cyflwyno yn y dyfodol, gan gynnwys ar gyfer rhenti neu droi allan heb fai, fod yn annilys. Felly, buaswn yn sicrhau bod eich etholwyr yn codi hynny gyda’r awdurdod lleol.

Yn anffodus, mae'n debyg nad oes prinder o landlordiaid diegwyddor yng Nghaerdydd, yn wahanol, o bosibl, i sir Benfro a sir Gaerfyrddin—rwy'n gobeithio. Ond mae gennyf denant sydd wedi bod yn byw mewn eiddo ers amser maith gyda phlentyn ifanc, a gŵyr pob un ohonom pa mor anodd y gall fod i gael tenantiaeth pan fydd gennych blentyn. Ac maent wedi bod yn dioddef ers blynyddoedd lawer am fod y landlord yn gwrthod gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol. Maent bellach wedi cael gorchymyn gwella gorfodol gan iechyd yr amgylchedd, ond a dweud y gwir, dylai hynny fod wedi digwydd ymhell cyn hyn, gan mai’r landlord hwn sy’n berchen ar y rhan fwyaf o’r fflatiau yn y bloc mawr hwn ac nid dyma’r achos cyntaf rwy'n ymwybodol ohono. A chredaf fod datgysylltiad rhwng iechyd yr amgylchedd a’r system drwyddedu, gan fod angen i'r adran iechyd yr amgylchedd roi gwybod i Rhentu Doeth Cymru eu bod wedi cael y broblem hon gyda’r trwyddedai ac felly fod angen marc cwestiwn enfawr drosto. Ymddengys nad oes gan Rhentu Doeth Cymru y dannedd sy'n angenrheidiol i wneud i'r system drwyddedu gael mwy o effaith.

Diolch am eich cwestiwn ac am godi pryderon eich etholwr a’u sefyllfa, yn ogystal â rhai Sam yn ei gwestiwn cychwynnol. Unwaith eto, os yw landlord yn torri’r safonau a nodir yn y rheoliadau ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi, dylai’r tenant roi gwybod am hynny, fel y gwnaeth eich etholwyr, i’r awdurdod lleol perthnasol. Dylai’r awdurdod lleol wedyn roi gwybod i Rhentu Doeth Cymru am unrhyw hysbysiadau gorfodi neu wella sydd wedi’u cyflwyno i landlord, neu os nad ydynt yn unioni’r mater hwnnw, gall Rhentu Doeth Cymru gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig ac ystyried dirymu trwydded y landlord, a fyddai’n golygu na allent bellach fod yn gyfrifol am reoli'r llety gosod yn ôl y gyfraith, a byddai angen iddynt benodi asiant. Mae’n bosibl y byddai gan denant hawl hefyd, o dan y contractau meddiannaeth newydd, i atal eu taliadau rhent os ydynt wedi rhoi gwybod am faterion sy’n effeithio ar y gallu i fyw yn yr eiddo a bod y landlord wedi methu unioni’r mater. Felly, mae ffyrdd o sicrhau bod hawliau gan denantiaid i wneud hyn.

Ond hoffwn gofnodi fod gennym y Papur Gwyn ar dai digonol, ac rydym yn awyddus i edrych ar wiriadau blynyddol a fyddai'n cadarnhau a yw landlordiaid ac eiddo yn weithredol yn y sector i sicrhau bod gennym ddata cyfredol yn hytrach nag aros tan ddiwedd y cyfnod cofrestru neu drwyddedu pum mlynedd, fel bod gennym well dealltwriaeth o bwy sydd wedi'u cynnwys yn hynny. Felly, mae gennym y Papur Gwyn ar hyn o bryd. Ac rwyf hefyd yn awyddus i weld sut y gallwn gefnogi landlordiaid da sy'n darparu llety diogel a fforddiadwy o ansawdd uchel, fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel i aros a buddsoddi yn y sector ar gyfer y dyfodol.

13:35
Rheolaethau Rhent

2. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch gweithredu rheolaethau rhent? OQ61814

Diolch, Luke. Mae'r dystiolaeth sydd ar gael ar reoli rhenti yn y sector rhentu preifat yn dangos y byddai mesurau o'r fath yn debygol o fod yn aneffeithiol neu hyd yn oed yn cael effeithiau negyddol ar fforddiadwyedd. Fel y cyfryw, ac fel y nodir yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar, nid ydym yn bwriadu bwrw ymlaen â mesurau rheoli rhenti cenedlaethol ar hyn o bryd.

Mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru yn cilio oddi wrth y syniad o reoli rhenti, er gwaethaf yr anghydbwysedd grym clir sy’n bodoli rhwng tenantiaid a landlordiaid. Nawr, mae'r Papur Gwyn ar dai digonol a lansiwyd ar 24 Hydref yn nodi sylfaen dystiolaeth annigonol ar gyfer bwrw ymlaen â rheoli rhenti—fe gyfeirioch chi at hynny yn eich ateb. Ond mae sylfaen dystiolaeth glir o heriau fforddiadwyedd uniongyrchol i denantiaid, a gallwn ddweud i sicrwydd fod rhenti preifat wedi cynyddu’n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae digonedd o enghreifftiau o leoedd yn y byd lle mae cyfyngiadau ar godiadau rhent wedi gweithio i sefydlogi marchnadoedd tai. Tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro bwriadau'r Llywodraeth felly? A yw hyn yn golygu bod y Llywodraeth yn bwriadu ailystyried y syniad o reoli rhenti pan fydd digon o ddata wedi'i gasglu, neu a yw wedi diystyru’r cysyniad yn gyfan gwbl, gan fod lle ac angen clir yng Nghymru am system reoli rhenti wedi’i chynllunio’n dda?

Diolch, Luke. Mae’r dystiolaeth o’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd, a thystiolaeth o’r cap rhenti cenedlaethol yn yr Alban, yn dangos bod mesurau rheoli rhenti yn annhebygol o fod yn effeithiol ac y gallent gael effaith andwyol ar fforddiadwyedd a chyflenwad. Mae’r Alban bellach wedi codi eu cap rhenti cenedlaethol ac yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gasglu data rhent, a darpariaeth i awdurdodau lleol wneud cais i ddynodi ardaloedd penodol yn barthau pwysau rhent. Rydym bob amser wedi dweud yn glir na fyddem yn cyflwyno mesurau rheoli rhenti heb ddealltwriaeth o ganlyniadau anfwriadol posibl rheoli rhenti ar y sector rhentu preifat. Felly, rydym wedi ystyried ystod o dystiolaeth, sydd wedi llywio’r Papur Gwyn, ac fel y dywedais, mae’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn nodi y byddai mesurau rheoli rhenti'n debygol o fod yn aneffeithiol, ac fel y dywedais, gallent gael effaith niweidiol ar fforddiadwyedd.

Ni chredaf fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar reoli rhenti yn glir, gan eich bod wedi chwarae â'r syniad o reoli rhenti yn y gorffennol, ac wedi ymgynghori ar y pwnc hwn, gyda'r syniad, diolch byth, yn cael ei ddiystyru, er yn llugoer, gan y Llywodraeth. Ond buaswn yn gwerthfawrogi pe gallai Llywodraeth Cymru nodi eu safbwynt ar y pwnc yn gliriach, a chadarnhau i’r Senedd nad oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i ddilyn arweiniad trychinebus yr Alban drwy roi mesurau rheoli rhenti ar waith, sy’n gwaethygu’r union broblem y maent wedi'u cynllunio i'w hunioni, gyda miloedd o landlordiaid yn tynnu eu heiddo oddi ar y farchnad rentu. Rwy'n siŵr na fyddent wedi gwneud hynny pe bai negeseuon Llywodraeth Cymru ar y mater hwn yn gliriach. Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl y byddai mesurau rheoli rhenti'n dinistrio'r sector hwn ymhellach ac y byddai'n drychineb i denantiaid. Ac wrth edrych draw at Ddulyn a Gweriniaeth Iwerddon, gallwn weld effaith wirioneddol y polisi llawn bwriadau da ond ffôl hwn, sydd wedi gwaethygu eu hargyfwng tai yn sylweddol. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet nodi a yw Llywodraeth Cymru yn dal i wrthod y syniad o reoli rhenti, ac ai dyna safbwynt Llywodraeth Lafur y DU hefyd, ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn hytrach, yn canolbwyntio ar adeiladu tai, er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o dai yn y sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat? Credaf fod angen llai o amwysedd a mwy o eglurder ar y pwnc hwn. Diolch.

Diolch, Gareth. Fel y dywedais mewn ymateb i Luke Fletcher, yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gennym, nid ydym ar hyn o bryd yn cynnig bwrw ymlaen â mesurau rheoli rhenti cenedlaethol. Fel y dywedais, bwriad y Papur Gwyn yw cymeradwyo fforddiadwyedd y sector rhentu preifat drwy archwilio sut i sicrhau data gwell a mwy lleol ar rentu, er mwyn gwella ein dealltwriaeth o renti’r farchnad. Fe wnaethom gadarnhau i landlordiaid cymdeithasol yn ôl ym mis Mai y byddai’r setliad rhent presennol, CPI+1, yn cael ei ymestyn i gwmpasu’r flwyddyn ariannol nesaf, wrth inni weithio gyda’r sector i ddatblygu ein cynigion ar gyfer polisi rhent cymdeithasol yn y dyfodol, a thrwy hynny, darparu sicrwydd iddynt ar gyfer 2026. Byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer polisi rhent cymdeithasol newydd i Gymru yn yr haf.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau ac, yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.

13:40

Diolch. Mae Llywodraethau Llafur Cymru wedi torri cyllid ar gyfer tai ers 1999, gan anwybyddu rhybuddion mynych am argyfwng tai, ac mae hyn wedi arwain at argyfwng cyflenwad tai sy'n golygu bod bron i 140,000 o bobl bellach ar restrau aros am dai cymdeithasol. Nododd adolygiad tai y DU yn 2012 mai Llywodraeth Cymru, erbyn 2009-10, oedd â'r lefel gyfrannol isaf o bell ffordd o wariant ar dai o unrhyw un o bedair gwlad y DU, ac mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i fod ar ei hôl hi byth ers hynny. Mae cymdeithasau tai gogledd Cymru wedi tynnu sylw at adroddiad Archwilio Cymru, a ganfu, heb gyllid ychwanegol, y bydd Llywodraeth Cymru 4,140 yn fyr o'i tharged o 20,000 o gartrefi. Fel y dywed Sefydliad Bevan, mae darpariaeth cartrefi cymdeithasol newydd yn brin o gymharu â dyheadau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â realiti’r galw cynyddol. Ac fel y dywed Cartrefi Cymunedol Cymru, yr hyn sydd ei angen arnynt yn fawr yw setliad amlflwyddyn cynaliadwy a hirdymor. Pa sicrwydd y gallwch ei roi, felly, y bydd y cyllid cartrefi fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gael fel cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU—a mwy, gobeithio—yn cael ei ddyrannu’n llawn ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru?

Diolch, Mark. Ar eich pwynt ynglŷn â chartrefi fforddiadwy, credaf fod tai fforddiadwy yn flaenoriaeth y mae pob un ohonom yn ei chefnogi yn y Siambr hon, fel y dylem. Ar y gwaith a wnawn ar adeiladu mwy o gartrefi, mae gennym—. Dros yr haf, ysgrifennais at bob awdurdod lleol, pob landlord cymdeithasol cofrestredig, a gofyn iddynt yn benodol beth oedd y baneri coch yn eu rhaglenni o ran adeiladu mwy o gartrefi i’w rhentu yn y sector cymdeithasol, ac mae’r wybodaeth honno gennym bellach. Ac unwaith eto, rwyf wedi cyhoeddi tasglu fel rhan o hynny, a fydd yn edrych ar y rhwystrau penodol yn hynny o beth.

Felly, credaf ein bod yn gwneud popeth a allwn, ac rwy'n teimlo o ddifrif ein bod yn gweithio'n gyflym. Gŵyr pob un ohonom fod angen inni adeiladu mwy o dai, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei wneud, fel y gwnaethom yn y gorffennol, ac rydym yn awyddus i weld lle mae’r rhwystrau hyn a sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i gael gwared arnynt.

Diolch, ond y cwestiwn oedd: pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd y dyraniad ar gyfer cyllid tai fforddiadwy a gewch fel cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU yn cael ei ddyrannu’n llawn ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru?

At hynny, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Shelter Cymru adroddiad newydd a ddangosai, yn 2023-24, fod cyfanswm cost llety dros dro yng Nghymru wedi cyrraedd £99 miliwn, mwy na dwbl yr hyn ydoedd yn 2020-21, gan nodi'r cynnydd sylweddol mewn llety dros dro yng Nghymru, ac effaith hyn ar bobl, gyda dros 11,000 o bobl, gan gynnwys bron i 3,000 o blant, bellach yn byw mewn lleoedd o’r fath. Mae eu hymchwil hefyd yn dangos dibyniaeth gynyddol ar ddarpariaeth sector preifat. Sut rydych chi'n ymateb felly i alwadau gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl am gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phrinder dybryd o gartrefi i’w gosod yn breifat, gyda’r galw yn fwy na’r cyflenwad, sydd nid yn unig yn rhoi pwysau cynyddol ar renti, ond hefyd yn tanseilio pŵer prynu tenantiaid yn y farchnad, gan ei gwneud yn fwy anodd i ddwyn landlordiaid gwael a throseddol i gyfrif, ac i’r datganiad gan Cartrefi Cymunedol Cymru—llais cymdeithasau tai yng Nghymru, fel y gwyddoch—wrth inni agosáu at gyllideb Llywodraeth Cymru, fod angen cynnal y grant cymorth tai mewn termau real fan lleiaf, a chadw pobl yn eu cartrefi?

Diolch, Mark, a gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn codi'r ddadl honno ynghylch y grant cymorth tai o amgylch bwrdd y Cabinet. Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan bobl a sefydliadau, fel yr amlinelloch chi yn eich cwestiwn, a gwyddom fod y grant cymorth tai wedi bod yn wirioneddol bwysig, a’r cynnydd yr ydym wedi llwyddo i’w wneud iddo. Rydym wedi gwneud cymaint ag y gallwn yn y rownd gyllidebol ddiwethaf, ond rwy'n credu'n wirioneddol fod gwaith y bobl sy'n gweithio yn y sector yn anhygoel, a heb hynny, nid ydym ond yn rhoi mwy o bwysau ar rannau eraill o'r system.

I fynd yn ôl at y cwestiwn cyntaf—ymddiheuriadau—a godwyd gennych ynghylch cyllideb Llywodraeth y DU, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno’n ofalus iawn. Mae ein proses o osod y gyllideb yn mynd rhagddi, fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, ond rydym yn gwneud popeth a allwn i unioni—. Rydym yn gweld Llywodraeth y DU sydd am unioni sylfeini’r wlad, ar ôl y gyllideb a’r 14 mlynedd diwethaf o gamreoli economaidd a gawsom gan y Llywodraeth flaenorol. Gwyddom fod angen inni adeiladu mwy o dai. Fel y dywedais, rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud, a gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf i, y Prif Weinidog, y Gweinidog Cyflawni a’n tasglu newydd yn canolbwyntio ar hynny, gan y gwyddom fod gormod o bobl mewn llety dros dro. Fe sonioch chi am gost ddynol hynny, ac rwy'n teimlo hynny'n gryf iawn fy hun. Rydym yn aml yn gweld ffigurau ac yn gweld yr ystadegau, ond mae unigolion y tu ôl i’r rheini.

13:45

Diolch am ateb rhai o’r cwestiynau, ond ni wnaethoch ymateb i’r cwestiwn ynglŷn â Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl yn tynnu sylw at brinder dybryd o gartrefi i’w gosod yn breifat ac yn galw am gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny. Ac wrth gwrs, bu'n rhaid i'r Llywodraethau Ceidwadol blaenorol ymdrin â'r diffyg mwyaf yn y G20, pandemig byd-eang ac argyfwng costau byw byd-eang, gan adael diffyg a oedd yn dal i fod, fel cyfran o'r cynnyrch domestig gros, ddwywaith a hanner yn llai na’r hyn a adawyd gan Lywodraeth y DU yn 2010. Ond ar wahân i hynny, roeddwn yn ceisio osgoi’r mathau hynny o sylwadau heddiw.

Dywedodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi fis diwethaf fod Cymru yn parhau i wynebu argyfwng fforddiadwyedd tai, sydd wedi'i achosi'n rhannol gan ddiffyg cyflenwad newydd o dai dros ddegawdau lawer. Yn wir, dywedant fod data diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y cyflenwad tai yn cadarnhau mai'r nifer o anheddau newydd a adeiladwyd yng Nghymru ym mlwyddyn ariannol 2023-24 oedd y nifer isaf ond un a gofnodwyd erioed. Yn ychwanegol at hynny, roedd fframwaith 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' gan Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif fod angen 7,400 o gartrefi ychwanegol bob blwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2019-24, gyda'r rhan fwyaf i'w rhentu neu eu gwerthu ar y farchnad. Fodd bynnag, dim ond 5,498 oedd y nifer cyfartalog a gwblhawyd dros y pum mlynedd diwethaf. Maent hefyd—.

Wel, gan nodi’r datganiad gennych yn gynharach ar gymorth i ddarparu tai, a gyhoeddwyd 50 munud yn ôl yn unig, a ydych chi'n cytuno bod angen ateb marchnad gyfan arnom i’r argyfwng tai yng Nghymru? Ac os felly, sut y byddwch yn cydgynhyrchu, yn cydgynllunio ac yn cydgyflawni atebion gyda darparwyr tai, gan gynnwys landlordiaid preifat ac adeiladwyr tai, gyda landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau lleol ar draws y sector cyfan?

Diolch, Mark. Mae gennym hanes balch o gyflawni mewn amgylchiadau anodd yma yng Nghymru o ran tai. Rydym wedi darparu’r lefelau uchaf erioed o gyllid i gefnogi darparu tai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon; mae mwy na £1.4 biliwn wedi'i ddyrannu. Er y cyllidebau heriol a welsom dros y 14 mlynedd diwethaf, rydym wedi diogelu’r gyllideb ar gyfer tai cymdeithasol. Yn 2023-24, dyfarnwyd £61 miliwn yn ychwanegol gennym ar ben y gyllideb wreiddiol o £300 miliwn ar gyfer y grant tai cymdeithasol, ond mae mwy i’w wneud bob amser. Wyddoch chi, rwy'n ymwybodol iawn o hynny, ac rwy'n canolbwyntio'n agos ar beth arall y gallwn ei wneud gyda'n gilydd. A dyna pam mai un o'r rhesymau yr ysgrifennais at yr holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac at awdurdodau lleol, oedd er mwyn gweld beth arall y gellir ei wneud. A byddaf yn gweithio mewn partneriaeth ar draws pob rhan o'r sector i weld sut y gallwn wneud hyn, gan ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn dod at ein gilydd. Mae hyn yn uchelgais gan bob un ohonom, a chredaf fod angen inni ganolbwyntio ar sut y gallwn gyflawni ar ran pobl yng Nghymru.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. 'Mae cyni wedi dod i ben'—dyna eiriau'r Prif Weinidog ddoe. Gwn y bydd hynny'n newyddion i’r cynghorau ledled Cymru sydd yng nghanol argyfwng ariannol, ac yn wynebu diffyg o £559 miliwn. Mae angen cynnydd refeniw o 7 y cant arnynt ddim ond i gynnal gwasanaethau presennol, heb sôn am fuddsoddi mewn gwelliannau. Hoffwn wybod a yw Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn credu bod cyni wedi dod i ben. Cyhoeddodd cyllideb y DU gyllid o £1.7 biliwn i Gymru. A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu amserlen ar gyfer y gwariant hwn o £1.7 biliwn a rhoi gwybod inni faint y mae’n gofyn amdano ar gyfer awdurdodau lleol mewn trafodaethau â’r Ysgrifennydd cyllid, ac a fydd yn ddigon i lenwi’r bwlch cyfan o £559 miliwn?

Diolch, Peredur. Wyddoch chi, mae'n rhaid inni gofio yma fod gennym dwll du o £22 biliwn gan Lywodraethau blaenorol y DU y mae Canghellor newydd y Trysorlys, Rachel Reeves, wedi dechrau gorfod ei lenwi. Ni ellir trawsnewid y sefyllfa y mae Llywodraeth newydd y DU wedi’i hetifeddu mewn un gyllideb, a chredaf fod yn rhaid inni fod yn ymwybodol o hynny, ac y bydd yn cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer. Mae’r gyllideb i’w chroesawu, ac mae’n fuddsoddiad i’w groesawu yng Nghymru, ei phobl a’i chymunedau, busnesau lleol a gwasanaethau cyhoeddus. Fe wyddoch fod y cyd-destun ariannol ehangach yn parhau i fod yn heriol, yn parhau i fod yn anodd, ond mae'r gyllideb yn cynrychioli'r camau cyntaf hanfodol ymlaen at unioni'r niwed a etifeddwyd gennym.

O ran awdurdodau lleol yn benodol, rwy’n amlwg yn cyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol yn rheolaidd, rwy’n siarad â hwy'n rheolaidd. Ac mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni'r gorau sy'n bosibl, gan fod awdurdodau lleol wedi bod o dan bwysau aruthrol dros nifer o flynyddoedd bellach, ac rydym wedi gwneud ein gorau yma yng Nghymru i ddiogelu ein hawdurdodau lleol. Maent wedi bod o dan bwysau, fel y dywedaf, ers nifer o flynyddoedd, ac rwy'n ymwybodol iawn o hynny ac rwy'n clywed hynny'n uniongyrchol ganddynt hwy.

13:50

Diolch. Mae’n siomedig nad yw’r sicrwydd hwnnw yno ar hyn o bryd. Rwy’n siŵr eich bod yn gwrando ar awdurdodau lleol. Rwyf innau wedi bod yn siarad â hwy, ac maent yn gofyn y cwestiynau hynny ynghylch faint o'r £1.7 biliwn a gaiff ei ddarparu iddynt hwy i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Clywsom ddoe hefyd y bydd y newidiadau mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn cael eu hariannu’n llawn, ar wahân i’r £1.7 biliwn, yn seiliedig ar ddiffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o weithwyr y sector cyhoeddus. A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro’r diffiniad hwn a chadarnhau a yw’n cynnwys gweithwyr y trydydd sector sydd wedi’u contractio i awdurdodau lleol? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y bydd codiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cael effaith enfawr ar y trydydd sector a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu ar ran awdurdodau lleol?

Diolch, Peredur. Mae Trysorlys EF wedi cydnabod y bydd y newid i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr o fis Ebrill yn cynyddu costau i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, ac maent wedi dweud y byddant yn darparu cyllid i’r sector cyhoeddus i’w cefnogi â chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r newidiadau hyn. Rydym yn gweithio gyda Thrysorlys EF i gael eglurder ynghylch y manylion, a gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y gallwn.

Iawn, nid yw hynny mor gadarnhaol â’r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid ddoe, ond gwn fod llawer o bethau i’w gweithio drwyddynt. Edrychaf ymlaen at gael y diweddariad hwnnw gennych.

Yn olaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i ni y bydd cyllid canlyniadol yn sgil y gwariant ar ofal cymdeithasol yn Lloegr yn mynd yn uniongyrchol i gynghorau Cymru yn hytrach na chael ei amsugno i gyllideb iechyd Cymru, er mwyn sicrhau bod cynghorau'n gallu ariannu gwasanaethau hanfodol?

Yn bendant, gallaf sicrhau y byddwn yn ysgrifennu atoch ymhellach ynglŷn â hynny, gan fod hyn yn rhywbeth y gwn fod awdurdodau lleol yn bryderus iawn yn ei gylch. Unwaith eto, rwy’n siarad â hwy'n rheolaidd, ac mae gofal cymdeithasol yn un o’r heriau sy’n codi dro ar ôl tro. Rwyf wedi clywed am y pwysau sydd wedi bod arnynt ac y maent yn ei wynebu, a gwn fod yr Ysgrifennydd cyllid yn ymwybodol iawn o hynny hefyd. Gallaf sicrhau ein bod yn ysgrifennu atoch gyda gwybodaeth bellach am hynny'n benodol.

Eiddo Masnachol Gwag

3. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i sefydliadau sy'n trosi eiddo masnachol gwag yn dai preswyl? OQ61799

Diolch, Adam. Drwy ein rhaglenni ariannu, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ailddatblygu eiddo gwag, gan gynnwys eiddo masnachol gwag ledled Cymru, gyda llawer o'r eiddo nas defnyddir hyn yn cael eu hadfywio ar gyfer datblygiadau defnydd cymysg, gan gynnwys tai preswyl.

Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei hateb. Mae yna angen dybryd o ran digartrefedd a thai cymdeithasol yn ardal Rhydaman a Dyffryn Aman. Er enghraifft, mae yna tua 400 o bobl ar restr aros tai'r cyngor yn Rhydaman yn unig, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw ar y lefel uchaf o ran angen, felly band A. Mae llawer ohonyn nhw angen tai un person, sydd yn brin iawn, wrth gwrs.

Wrth drafod gyda’r banc bwyd yn lleol a’r cyngor sut ŷn ni’n gallu bod yn ddyfeisgar wrth ymateb i’r angen yma, rŷn ni wedi bod yn trafod gyda Habitat for Humanity, yr elusen sydd ar hyn o bryd yn datblygu cynlluniau peilot yn Lloegr i droi adeiladau gwag yn dai cymdeithasol. Mae diddordeb gyda nhw i wneud rhywbeth yng Nghymru. Mae yna adeiladau gwag gyda ni yn Rhydaman, ac mae diddordeb gyda’r cyngor i fod yn rhan o gynllun peilot o’r fath. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn gallu cynnig er mwyn hwyluso hyn a’i droi e'n gynllun efallai y gellir wedyn ei efelychu mewn cymunedau eraill ar draws Cymru?

Diolch, Adam. Rwy'n deall yn iawn y sefyllfa y mae canol ein trefi, yn arbennig, yn ei hwynebu, a phan welwn eiddo gwag yng nghanol y trefi hynny, credaf fod pob un ohonom yn edrych arnynt ac yn meddwl, 'A ellid eu defnyddio ar gyfer busnesau neu lety?' Gwn am rai lleoedd fel yn fy etholaeth fy hun, mewn gwirionedd, lle maent wedi gweithio'n galed iawn i roi—. Mae’r landlord cymdeithasol cofrestredig lleol wedi prynu peth o’r eiddo ac wedi creu tai ychwanegol yng nghanol y ddinas, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran denu pobl i’r stryd fawr hefyd. Felly, mae hyn yn rhywbeth rydym yn amlwg yn hoff ohono ac yn edrych arno, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae gennym nifer o fenthyciadau a chynlluniau grant a allai fod yn ddefnyddiol, a gwahanol gronfeydd. Mae gennym ein cronfa datblygu tir ac adeiladau, sy'n ymwneud â chartrefi carbon isel drwy gadwyn gyflenwi gref, fer i wneud defnydd o ddulliau adeiladu modern. Gwyddom hefyd fod gennym ein grant cartrefi gwag. Er gwybodaeth, rydym wedi cael 904 o geisiadau dilys ar gyfer y cynllun hwn hyd yma, ac mae 122 o'r eiddo wedi'i gwblhau. Ond gallaf ysgrifennu atoch ynglŷn â chronfeydd penodol, ac efallai y gallech chi ysgrifennu ataf i ynglŷn â'r cynllun penodol y sonioch chi amdano hefyd, gan y buaswn yn awyddus iawn i glywed am hynny.

13:55

Diolch i fy nghyd-Aelod, Adam Price, am godi’r mater hynod bwysig hwn, oherwydd ers blynyddoedd, rydym wedi trafod y prinder tai fforddiadwy. Rwyf am ddatgan buddiant yn y mater a chyfeirio’r Aelodau at fy natganiadau o fuddiant. Mae gennym gymaint o eiddo gwag yn ein hetholaethau yng nghanol trefi. Nid oes ond angen edrych ar drefi fel Bangor a Chaernarfon; mae’r strydoedd mawr hynny bellach yn edrych yn drist iawn gan fod cymaint o eiddo wedi cau. Mae'n ffaith bod y farchnad fasnachol yn crebachu a bod llawer o eiddo manwerthu ar y llawr gwaelod yn addas i'w troi'n ôl yn gartrefi yn hawdd, ond mae hyn wrth gwrs yn dibynnu ar adrannau cynllunio awdurdodau lleol yn meddwl yn arloesol. Yn rhy aml, mae ceisiadau o'r fath yn methu sicrhau'r dosbarth newid defnydd angenrheidiol i gael caniatâd i droi'r adeiladu hyn yn gartrefi. Felly, a wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, weithio gyda, efallai, neu anfon canllawiau at awdurdodau lleol i awgrymu iddynt mai un ffordd y gallent leihau’r cynnydd yn y gwariant ar lety dros dro fyddai drwy droi rhai o’r unedau masnachol hyn yn ôl yn gartrefi hyfryd, ac y dylai awdurdodau cynllunio ystyried hynny nawr fel cyfeiriad newydd ar gyfer canol rhai o'r trefi hyn? Diolch.

Fel y dywedaf, rwy'n cytuno, ac rwyf wedi gweld lle mae wedi dechrau digwydd yn dda iawn. Yn gynharach yr wythnos hon, ymwelais â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, gyferbyn â'r man lle maent yn ailddatblygu eiddo gwag yng nghanol tref Pont-y-pŵl, a fydd yn llety â chymorth, byw â chymorth, sy'n ddiddorol iawn. Felly, edrychaf ymlaen at weld y cynllun hwnnw’n agor, ond un enghraifft yn unig yw honno, efallai, ar ein strydoedd mawr o adeilad nad yw’n addas neu nad yw’n cael ei ddefnyddio mwyach yn cael ei adfywio gyda phobl yn byw ynddo.

Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i sôn am ein hymgyrch Cynllun Lesio Cymru. Rwy'n ceisio ei annog mor aml ag y gallaf pan fyddaf yn siarad ag awdurdodau lleol, a phe gallai pob Aelod yma hefyd edrych ar ymgyrch Cynllun Lesio Cymru sydd ar y gweill gennym—. Mae'r cynllun hwnnw'n edrych ar rai landlordiaid preifat a allai fod yn ystyried gadael neu werthu eu heiddo, neu sydd efallai ag eiddo gwag, ac mae hwnnw'n gynllun y mae awdurdodau lleol yn ei weinyddu, felly gallant gysylltu â'u hawdurdodau lleol. Ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn helpu i'w hyrwyddo. Mae fideo ar wefan Llywodraeth Cymru gyda Rhentu Doeth Cymru. Credaf fod Rhentu Doeth Cymru wedi anfon gwybodaeth at landlordiaid a allai fod â diddordeb yng Nghynllun Lesio Cymru. Fe ddechreuodd yn fach. Dim ond yn ddiweddar y cafodd ei gyhoeddi, ond rydym yn gwneud cynnydd da iawn. Dim ond newydd ei roi ar waith y mae rhai awdurdodau lleol, felly pan oeddwn yn siarad â Thorfaen, rwy'n gwybod mai newydd ddechrau oedd hwnnw. Ond rwy'n annog yr Aelodau'n gryf i rannu'r fideo hwnnw gymaint â phosibl, ac efallai y gallwn ysgrifennu at bob Aelod i sicrhau bod y wybodaeth honno gan bob un ohonoch.

14:00
Y Cynllun Arbed yng Nghaerau

4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am weithredu'r cynllun Arbed yng Nghaerau? OQ61788

Diolch, Tom. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £2.65 miliwn o gyllid grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer gwaith adfer ar gartrefi yr effeithir arnynt yng Nghaerau. Yn ddiweddar, cyfarfu fy swyddogion â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a byddwn yn cael diweddariad ar y cynnydd ar drin yr eiddo yr effeithiwyd arno ddechrau mis Rhagfyr.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ymateb. Yn amlwg, mae'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghaerau yn un o'r anghyfiawnderau mwyaf a welsom ers amser maith. Yr hyn a welsom oedd un o'r cymunedau tlotaf yng Nghymru yn cael gwaith adferol—nid gwaith adferol hyd yn oed, gwaith i inswleiddio eu heiddo, i gychwyn—drwy brosiect gan Lywodraeth Cymru, wedi'i wneud gan y cyngor lleol, a gontractiodd gwmni wedyn lle roedd cynghorydd Llafur yn gyfarwyddwr a gwelwyd bod gwaith gwael wedi'i wneud a olygai fod y tai hynny mewn cyflwr llawer gwaeth na chyn iddynt gael y gwaith wedi'i wneud. Nawr, mae wedi cymryd dros ddegawd i'r gwaith hyd yn oed ddechrau ar ddatrys y difrod a wnaed. Mae hon yn broblem enfawr, ac mae wedi niweidio'r ffydd sydd gan bobl yng Nghaerau nid yn unig yn y cynllun ond mewn gwleidyddiaeth ac mewn gwleidyddion. Nawr, gofynnais y cwestiwn hwn i'r Prif Weinidog gyda Luke Fletcher ychydig dros fis yn ôl, a dywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i mi,

'Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Brif Weinidog, wedi bod yn sicrhau bod y gwersi'n cael eu dysgu.'

Nawr, bydd hynny wedi bod yn newyddion i mi a phob un ohonom, rwy'n credu, a'r tro cyntaf y byddem wedi clywed hynny, felly a allwch chi ein hysbysu yn union beth y mae'r gwaith hwnnw'n ei olygu? A yw'n ddarn ffurfiol o waith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a phryd y gallwn ddisgwyl clywed yr ymarfer gwersi a ddysgwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog?

Diolch, Tom, ac unwaith eto, hoffwn gofnodi fy mod yn cydnabod ac yn deall rhwystredigaeth perchnogion tai yng Nghaerau. Gwn fod hwn wedi bod yn fater hirsefydlog, fel y dywedwch, a gwn fod trigolion yn cael gwybod am gynnydd nawr. Rwy'n gwybod bod sesiynau galw heibio yn digwydd o leiaf bob wythnos, a gwn y bydd cyfleoedd i gyfarfod â chydlynydd a benodwyd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi penodi'r rheolwr cyswllt cymunedol hwnnw i ateb unrhyw ymholiadau gan drigolion pryderus, felly rwy'n gobeithio y gallai pawb rannu hynny gyda thrigolion Caerau i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r cyfarfodydd wythnosol hynny.

Ac ar y gwersi a ddysgwyd, mae rhai o'r pethau o'r gwersi a ddysgwyd, o'r materion etifeddol hynny yng Nghaerau, wedi dylanwadu ar ein rhaglen Cartrefi Clyd newydd, lle rydym wedi ymgorffori safon uwch o sicrwydd ansawdd. Os caf ddweud, mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â'r awdurdod lleol a byddwn yn cael diweddariadau ar gynnydd bob chwarter, ond byddaf hefyd yn gofyn i fy swyddogion roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd hefyd. Ond mae gwersi i'w dysgu yn ogystal â'r rhaglen Cartrefi Clyd, er enghraifft, lleihau gwrthdaro buddiannau posibl trwy osod contractau ar wahân ar gyfer ein darparwr cyngor a chyfeirio a'n darparwr cyflenwi, gan gyflwyno dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer cwynion a ddaeth i law. Felly, mae yna wersi y mae angen inni eu dysgu yn bendant, a gallaf eich sicrhau ein bod yn gwneud hynny.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn caniatáu imi ddod i mewn ar hyn. Mae Tom Giffard yn iawn, mae'r trigolion yng Nghaerau—neu o leiaf y teimlad rwy'n ei gael—wedi colli ffydd mewn gwleidyddion a sefydliadau i ddatrys y mater hwn ar ôl dros ddegawd neu fwy o ymwneud ag ef. Mae merch un preswylydd wedi byw o dan yr amodau hyn ar hyd ei hoes. Nawr, ni fyddwn i'n derbyn yr amodau byw hynny; ni fyddech chi'n eu derbyn; ni fyddai neb yn y Siambr hon yn derbyn yr amodau byw hynny.

Hoffwn fynd ar drywydd un peth a ddywedwyd yn eich ateb i Tom Giffard, sef bod trigolion yn cael amserlen ar gyfer pryd y bydd gwaith yn digwydd. Nid dyna beth rydym ni'n ei glywed ar lawr gwlad. Mae nifer o drigolion wedi cysylltu â mi dros y misoedd diwethaf gyda dyddiadau gwahanol ar gyfer pryd y bydd y gwaith yn dechrau, felly mae yna broblem gyfathrebu go iawn yma. Felly, yr hyn rwyf am ei bwysleisio wrth y Llywodraeth yw bod angen iddynt gydlynu sut y dylent gyfathrebu'n llawer gwell â thrigolion, oherwydd ar hyn o bryd mae hynny'n achosi llawn cymaint o rwystredigaeth wrth i'r gwaith ddechrau symud yn ei flaen.

Diolch, Luke. Rwy'n gwybod am eich diddordeb chi a Tom, a diddordeb y Dirprwy Brif Weinidog yn y maes hwn. Rwy'n credu, o fy safbwynt i, ei bod yn obeithiol ac yn ddefnyddiol gwybod am y rheolwr cyswllt cymunedol newydd sy'n ateb ymholiadau gan drigolion, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig fy mod yn gallu bwydo hynny'n ôl a bod hynny'n cael ei fwydo yn ôl i'r rheolwr cyswllt cymunedol hefyd, oherwydd fel y dywedwch, rwy'n credu bod cyfathrebu mor bwysig, onid yw, os yw'r trigolion wedi bod yn byw gyda hyn ers cymaint o amser. Rwy'n credu y gallwn sicrhau bod cyfathrebu mor glir â phosibl i breswylwyr. Felly, byddaf yn mynd â'r wybodaeth honno yn ôl hefyd. Ond rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig fod rhywle i bobl fynd. Mae sesiwn galw heibio sy'n digwydd, fel y dywedaf, yn wythnosol fan lleiaf, ac rwy'n annog trigolion i fynychu honno hefyd.

14:05
Dyletswyddau Cydraddoldeb Awdurdodau Lleol

5. A yw Llywodraeth Cymru yn monitro sut y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? OQ61777

Diolch, Mark. Mae awdurdodau lleol yn atebol yn ddemocrataidd i'w hetholwyr. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd â'r cyfrifoldeb o reoleiddio a gorfodi Deddf Cydraddoldeb 2010 a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Diolch, ac wrth gwrs, mae ganddynt bwerau cyfyngedig i fynd ar drywydd achosion unigol. Ond ers dros naw mlynedd, rwyf wedi gweithio gyda phobl anabl ac eraill ledled sir y Fflint sy'n ceisio gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i gael gwared ar bob rhwystr ar hyd llwybr arfordir Cymru, a reolir gan y cyngor, i ganiatáu mynediad i bawb. Mae'r ymgyrch yn cynnwys Trefnu Cymunedol Cymru, elusen sy'n cefnogi 40 o grwpiau sy'n aelodau i fynd i'r afael â materion cyfiawnder cymdeithasol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, Cycling UK, Canolfan Byw'n Annibynnol TheFDF, Sustrans Cymru, Disabled Ramblers UK, Wheels for Wellbeing, Chester Wheelers, a phobl sydd â phrofiad bywyd o effaith y rhwystrau hyn arnynt. Mae'r sefyllfa bresennol yn mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb y DU 2010 a fframweithiau cyfreithiol a pholisi Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint ei hun. Cysylltodd Age Cymru â mi hefyd yng nghyd-destun y Ddeddf Cydraddoldeb ar ôl i ymatebwyr i'w harolwg blynyddol nodi bod mannau cyhoeddus yn dod yn fwyfwy anhygyrch i bobl hŷn oherwydd diflaniad toiledau cyhoeddus, meinciau, palmentydd wedi'u gostwng a darnau hanfodol eraill o seilwaith. Pa gamau y gallwch chi eu cymryd felly pan fydd achosion o dorri'r ddeddfwriaeth fel y rhain yn cael eu nodi gan gyrff allanol a phobl sydd â phrofiad bywyd?

Diolch, Mark, a diolch—rwy'n gwybod eich bod wedi codi'r mathau hyn o faterion dros nifer o flynyddoedd nawr—ac am y gwaith a wnewch gyda grwpiau pobl anabl hefyd. Rwy'n gwybod bod gennych hanes hir o hynny.

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol yn hyrwyddo'r Ddeddf Cydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys mewn partneriaeth gymdeithasol, trwy gyngor partneriaeth y gweithlu, ac mae cyngor partneriaeth y gweithlu wedi hyrwyddo'r cynllun Hyderus o ran Anabledd ar draws y sector cyhoeddus, partneriaid cymdeithasol, ac wedi cynhyrchu amryw o ddatganiadau ac adroddiadau ar amrywiaeth, monitro a phethau fel y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod hefyd yn dod o hyd i feysydd o arferion gorau a sut y gallwn rannu hynny. Fe geir cyfleoedd lle mae hynny'n digwydd. Mae'n cynnwys digwyddiadau fel yr un sy'n cael ei gynllunio ar gyfer gwanwyn 2025 sy'n arddangos arferion gorau ac yn datblygu dulliau newydd er mwyn annog mwy o amrywiaeth mewn democratiaeth leol. Felly, mae yna ffyrdd, ond rydym o ddifrif ynglŷn â hyn.

Tai Cydweithredol

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dai cydweithredol yng Nghymru? OQ61773

Diolch, Mike. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru. Rydym wedi cynyddu cyllid drwy Cwmpas i £180,000 bob blwyddyn rhwng 2022-23 a 2024-25. Mae Cwmpas yn blaenoriaethu cymorth i 41 o grwpiau tai dan arweiniad y gymuned sy'n ceisio darparu tai fforddiadwy yng Nghymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ar dai cydweithredol, mae gan Gymru a gweddill Prydain lawer llai o dai cydweithredol nag Ewrop a Gogledd America. Pam mae tai cydweithredol mor boblogaidd mewn llefydd mor amrywiol ag Efrog Newydd a Sgandinafia, ond wedi methu dod yn fath safonol o gartref yng Nghymru a gweddill Prydain? Fel y gŵyr pawb ohonom, roedd John Lennon yn byw yn adeilad Dakota, fflat cydweithredol ym Manhattan. Mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond rwy'n credu bod gan Vancouver fwy o dai cydweithredol na Phrydain gyfan. Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fel modd o ddarparu tai cymdeithasol. Pa gamau pellach y gellir eu cymryd i gynyddu nifer yr unedau tai cydweithredol?

Diolch, Mike, ac mae cael John Lennon i mewn i gwestiwn yn dipyn o gamp, felly diolch am hynny. Rhaid cydnabod bod gennym wahanol fodelau yng Nghymru o'i gymharu â rhai gwledydd Ewropeaidd, ac mae ein model tai cymdeithasol traddodiadol yn un lle mae awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn chwarae rhan ganolog. Mae model Denmarc, er enghraifft, wedi dewis hyrwyddo tai dan arweiniad y gymuned yn hytrach na'n dull mwy traddodiadol ni o gyflenwi tai cymdeithasol. Ond rydym yn ceisio dysgu lle gallwn. Mae tai dan arweiniad y gymuned yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r ateb tai yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ein huchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd drwy ddarparu cymorth ar y ddau ben, gan ddarparu mwy o gartrefi ochr yn ochr ag ymyrraeth gynnar, atal a systemau cefnogi. Felly, rydym yn gweithio gyda Cwmpas ar becyn cymorth yn y dyfodol i barhau i dyfu'r sector, ac rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi ymchwil sy'n cael ei wneud gan Brifysgol Caerdydd a Co-op Dan Do i gefnogi anghenion y sector.

14:10

Ysgrifennydd y Cabinet, er ein bod wrth gwrs yn croesawu unrhyw gamau i annog mwy o fentrau tai cydweithredol, dim ond darn bach o'r pos yw'r rhain. Mae angen inni fynd i'r afael ar frys â chyflenwad tai i'w rhentu yn y sector cymdeithasol ac rydych chi'n bell o gyrraedd y targed o 20,000. Felly, er y bydd mentrau tai cydweithredol yn chwarae rhan wrth fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru, a gobeithio, ymhen amser, yn rhan fawr o'r angen hwnnw, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r presennol. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau uniongyrchol rydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder tai a sicrhau nad oes unrhyw deuluoedd yn cael eu gorfodi i fyw mewn llety dros dro hirdymor? Diolch.

Diolch, Altaf, ac fel y dywedais yn gynharach, mae tai fforddiadwy yn flaenoriaeth y mae pawb ohonom yn ei chefnogi, fel y dylai fod. Gwyddom na allwn barhau i ddarparu cartrefi yn y ffordd draddodiadol yn unig, a dyna pam mae datrysiadau tai arloesol wedi'u prif ffrydio i raglen ariannu'r grant tai cymdeithasol. Hoffwn annog pob landlord cymdeithasol cofrestredig ac awdurdod lleol i archwilio atebion tai amgen, fel tai dan arweiniad y gymuned, fel mecanwaith i ddiwallu anghenion eu cymunedau. I gefnogi hyn, rydym wedi lansio ystod o gynlluniau a fydd yn darparu mwy o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy cyn gynted â phosibl i ddiwallu'r angen am dai, megis ein rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro, a Chynllun Lesio Cymru fel y soniais yn gynharach. Felly, fe wyddom fod llawer o bethau i'w gwneud ar hyn, ond rwy'n credu bod hyn yn gwneud—. Yn sicr, mae gan dai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned ran i'w chwarae, ond fe wyddom ei fod yn sector bach.

Darparu Gwasanaethau mewn Ardaloedd Gwledig

7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn effeithiol? OQ61781

Diolch, Cefin. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu gwasanaethau awdurdodau lleol cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddefnyddio a chynnal fformiwla ariannu deg a thryloyw ar gyfer pob awdurdod lleol, fformiwla y cytunir arni gyda llywodraeth leol.

Diolch. Fel y nododd pedwar arweinydd mewn cynghorau yn cael eu harwain gan Blaid Cymru mewn ardaloedd gwledig yn ddiweddar mewn llythyr at y Canghellor cyn y gyllideb, maen nhw'n nodi bod llawer iawn o awdurdodau lleol yn ei gweld hi'n anodd i ddarparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig gwasanaethau craidd fel addysg a gofal cymdeithasol. Yn ogystal, wrth gwrs, mae'n rhaid inni sylweddoli'r pwysau mawr, y straen, sydd ar gynghorwyr sir sydd yn gorfod gwneud penderfyniadau fel hyn, ac mae'r WLGA wedi cydnabod hynny yn ddiweddar. Ac mae'n rhaid inni gofio bod yna bwysau arbennig ar gynghorau mewn ardaloedd gwledig oherwydd y gost ychwanegol o ddarparu gwasanaethau, yn arbennig y gost o deithio o un man i'r llall.

Ysgrifennydd Cabinet, wythnos diwethaf, gwnes i lansio strategaeth tlodi gwledig, ac un o'r argymhellion yn y strategaeth oedd bod angen inni osod ar sail statudol prawf fesur gwledig o bob polisi gan Lywodraeth Cymru. A wnewch chi gytuno i archwilio'r posibilrwydd o ddeddfu ar gyfer dyletswydd o'r fath?

Diolch, Cefin, a diolch am godi'r problemau mewn cymunedau gwledig. Rydym yn cydnabod bod heriau penodol mewn cymunedau gwledig, heriau sy'n gysylltiedig â phethau fel costau byw a thlodi, er enghraifft. Fe wyddom am yr heriau hynny, a chlywais gan awdurdodau lleol am hynny'n benodol, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â sir Gaerfyrddin a sir Benfro yn yr wythnos nesaf, rwy'n meddwl—felly, yn fuan iawn—ac rwy'n siŵr y byddaf yn clywed am rai o'r problemau yr ydych chi wedi'u codi heddiw. 

Nid oes bwriad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth wledig. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ar draws pob rhan o Gymru drwy ystod o ymyriadau polisi a mecanweithiau ariannu, ac rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein blaenoriaethau craidd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad fel rhan o'i hasesiadau effaith integredig wrth ddatblygu unrhyw bolisi, ac rydym wedi ymrwymo i ddileu tlodi ac yn cytuno y dylai cymorth fod ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru. Fel y dywedais, rydym yn cydnabod y gall profiadau bywyd o dlodi fod yn wahanol i lawer mewn ardaloedd gwledig.

14:15
Dyletswyddau Statudol Awdurdodau Lleol

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n adeg wirioneddol anodd a gwyddom fod ein hawdurdodau lleol dan bwysau anhygoel. Pan ddaw—. Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf wedi gofyn fy nghwestiwn cyntaf. Mae'n wir ddrwg gennyf. 

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol yn effeithiol? OQ61805

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyrff sy'n atebol yn ddemocrataidd. Mae Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn asesu eu perfformiad. Mae hyn yn cynnwys ystyried eu cydymffurfiaeth â gofynion statudol a chanllawiau.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y soniais o'r blaen, mae'n adeg wirioneddol anodd i bawb. Felly, rwy'n siŵr y byddwch wedi eich brawychu, fel finnau, wrth glywed y datgeliad diweddar fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dyfarnu taliad o £209,000 i'w cyn-brif swyddog gweithredol mewn cytundeb a luniwyd y tu ôl i ddrysau caeedig. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hwnnw'n swm syfrdanol o arian a gallai dalu cyflogau ychydig o dan saith meddyg y flwyddyn, gan gynnwys cynyddrannau cyflog hefyd. Ac rwy'n credu bod y ffigur hwn yn rhoi popeth mewn persbectif i bob un ohonom. Rwy'n siŵr y byddai'n well gan fy etholwyr yng Nghaerffili fod yr arian hwn yn cael ei wario ar fwy o nyrsys neu feddygon, neu unrhyw beth arall a fyddai o fudd i'r awdurdod lleol mewn gwirionedd, ond nid ar dâl ymadael i rywun sydd ar fin dod yn  gyn-weithiwr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi fod gweithredu yn y dirgel fel hyn yn gwbl annerbyniol, ac a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod cynghorau mor agored a thryloyw â phosibl gyda'r bobl y maent yn eu gwasanaethu? Wedi'r cyfan, arian cyhoeddus yw eu harian.

Diolch, Natasha. Awdurdodau lleol sy'n gwneud y penderfyniadau. Maent yn atebol am eu penderfyniadau, felly rwy'n cytuno bod awdurdodau lleol yn gwneud y penderfyniadau hynny ac yn atebol amdanynt.

Cartrefi Clyd

9. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y rhaglen Cartrefi Clyd? OQ61789

Rydym yng nghamau cynnar y rhaglen Cartrefi Clyd newydd, sy'n rhaglen uchelgeisiol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a'r argyfwng hinsawdd. Mae swyddogion yn cynnal adolygiad chwe mis i sicrhau bod y cynllun yn bodloni gofynion deiliaid tai Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n falch o glywed bod swyddogion yn cynnal yr adolygiad chwe mis hwnnw. Mae Gofal a Thrwsio yn dweud wrthyf fod eu gweithwyr achos a'u swyddogion ynni cartref wedi profi anawsterau wrth gyfeirio eu cleientiaid at y cynllun. Yn ail, gwelwyd problem hefyd lle mae heriau difrifol i ddiwallu anghenion gwresogi eu cleientiaid mwyaf agored i niwed. Mae gan lawer ohonynt gartrefi aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni ac anghenion iechyd cymhleth hefyd.

Felly, o ystyried yr heriau hyn, tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried adolygu'r meini prawf cymhwysedd a meini prawf ariannu'r rhaglen Cartrefi Clyd er mwyn diwallu anghenion gwresogi penodol ac uniongyrchol y rhai mwyaf agored i niwed yn well, yn enwedig mewn achosion lle mae cyfnewid tebyg am debyg yn hanfodol ar gyfer eu hiechyd a'u lles.

Diolch, Russell. Rydym yn buddsoddi mwy na £30 miliwn eleni yn y cynllun Nyth Cartrefi Clyd newydd i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith. Bydd aelwydydd cymwys yn derbyn pecyn pwrpasol o fesurau i inswleiddio a datgarboneiddio eu cartref, gan arwain at filiau ynni is a'u symud allan o dlodi tanwydd. Rydym yn targedu'r lleiaf cefnog, ac fel bod trothwy incwm wedi'i gyflwyno, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar y budd-dal prawf modd.

Mae'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn ymateb i'r argyfwng costau byw presennol ac mae'n ddull gwneuthuriad, gwaethaf a charbon isel yn gyntaf i wella effeithlonrwydd ynni hirdymor yr aelwydydd incwm isel lleiaf effeithlon yn thermol yng Nghymru. Mae'n mynd i alw am ddull deublyg o weithredu, trwy wasanaeth cynghori a thrwy fynd ati'n weithredol i wella cartrefi pobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Mae'r cynllun yn ei ddyddiau cynnar ac mae fy swyddogion yn adolygu cynnydd i sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni ei phrif amcanion. Mae cyngor am ddim ar arbedion ynni ar gael i bob deiliad tŷ yng Nghymru ac rwyf hefyd wedi cyflwyno llwybr argyfwng i aelwydydd bregus heb wres a dŵr poeth ar 7 Hydref, ac rwy'n falch fod y gwasanaeth hwn eisoes wedi helpu 26 o aelwydydd bregus.

14:20
2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Julie Morgan.

Pynciau STEM

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu'r nifer sy'n dewis dilyn pynciau STEM mewn addysg bellach ac uwch? OQ61815

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal, gan annog diwylliant o lythrennedd gwyddoniaeth a chynnydd dysgwr. Rydym yn darparu cefnogaeth o addysg feithrin i addysg uwch a thu hwnt, gan flaenoriaethu STEM ar draws y Cwricwlwm i Gymru, addo £1.6 miliwn ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi STEM, a hyrwyddo mentrau fel cynllun addysg wyddoniaeth Cymru.

Diolch am yr ateb.

Gwyddom fod cael pobl ifanc, yn enwedig merched, i mewn i STEM a sicrhau eu bod yn parhau â hynny i addysg bellach ac uwch yn golygu bod yn rhaid iddo ddechrau ar oedran cynnar ac y dylid ei atgyfnerthu ar bob lefel o addysg. Felly, ers mis Ebrill, mae Sacyr, y cwmni sy'n adeiladu canolfan ganser newydd Felindre yn fy etholaeth i, wedi cyflwyno sesiynau ymgysylltu STEM sy'n gysylltiedig ag adeiladu i fwy na 1,400 o bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd ledled de Cymru. Byddant hefyd yn darparu gweithgareddau addysg STEM i ddisgyblion mewn cynifer â 19 o ysgolion cynradd lleol sy'n agos at ganolfan newydd Felindre. Mae Sacyr hefyd yn gweithio gyda Choleg Caerdydd a'r Fro i hyrwyddo pynciau STEM, ac mae hyn mor bwysig ar bob lefel o addysg. Felly, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i annog y math hwn o weithio mewn partneriaeth mewn addysg, i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau â STEM mewn addysg bellach ac uwch?

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am y cwestiwn atodol hwnnw, a gwn o fy ngwaith fy hun fel AS lleol, pan fo prosiectau adeiladu fel hwn yn darparu manteision addysg go iawn o'r fath, y gall helpu ein dysgwyr i ddeall sut y gall astudio pynciau STEM arwain at gyfleoedd gyrfa ymarferol ar gyflogau da. A hoffwn ychwanegu hefyd fy mod yn gweithio'n agos gyda'r Gweinidog sgiliau, oherwydd mae hwn yn faes trawsbynciol, ac un o'r pethau allweddol yr ydym yn gweithio arno yw cytuno ar y ffordd orau o ddatblygu rhai o'r argymhellion a wnaed gan Hefin David AS yn ei adroddiad ar bontydd i gyflogaeth, a oedd wrth gwrs yn pwysleisio pwysigrwydd partneriaethau effeithiol rhwng ein hysgolion, colegau a chyflogwyr, ochr yn ochr â'r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol.

Weinidog, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw mewn gwirionedd, ond mae Julie newydd ofyn fy nghwestiwn, felly hoffwn ddweud fy mod yn croesawu'n fawr yr hyn a ddywedoch chi heddiw. Nid oes digon wedi ei wneud ynghylch pynciau STEM hyd yma. Rydych chi wedi cael llu o gyfleoedd i wneud pethau, ond rwy'n edrych ymlaen at weld y Llywodraeth hon nawr yn camu i'r adwy ac o leiaf yn gwneud cystal â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, oherwydd maent ymhell ar y blaen i ni, yn enwedig gan eu bod wedi cadw eu gwyddoniaeth driphlyg yn eu hysgolion, a ninnau wedi symud at wyddoniaeth ddwbl, sy'n rhoi ein plant a'n pobl ifanc dan anfantais ar unwaith wrth ddilyn pynciau STEM, ac mae'n anfon y neges anghywir, pan ddylent fod yn canolbwyntio ar bynciau STEM ar gyfer swyddi'r dyfodol. Rwy'n meddwl ei bod hi'n hollol annheg ein bod ni'n rhoi ein plant dan anfantais yn y ffordd honno. Ond addawyd y byddai diwydiannau STEM—lleol, yn enwedig—yn ymgysylltu ag ysgolion, felly fel y dywedodd Julie, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed mwy o enghreifftiau, ac rwyf am glywed beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau y gall Cymru gyfan elwa o'r diwydiannau STEM hyn, nid Caerdydd yn unig. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn atodol, Laura Anne Jones. Ac rwy'n anghytuno â'r hyn a ddywedoch chi yno; rwy'n credu bod gan y Llywodraeth hanes cryf iawn o fuddsoddi mewn STEM. Bydd ymrwymiad o £1.6 miliwn yn estyn ar draws y portffolio STEM i ddarparu ystod o weithgareddau cyfoethogi, a hefyd cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon, oherwydd mae hynny'n bwysig hefyd, a'r cyfan yn annog disgyblion i ddilyn pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch. Ac wrth gwrs, bydd y £1.1 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd eleni yn gwella cyrhaeddiad mewn llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth hefyd.

Hoffwn fynd ar drywydd y pwynt a wnaethoch am wyddoniaeth. Profwyd trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid a thrwy'r holl sianeli proffesiynol nad oes unrhyw dwpeiddio'n digwydd i gymwysterau gwyddoniaeth yma yng Nghymru.

14:25
Euogfarn Neil Foden

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am ymateb y Llywodraeth yn sgil euogfarn Neil Foden? OQ61812

Mae bwrdd diogelu rhanbarthol gogledd Cymru wedi comisiynu adolygiad ymarfer plant. Mae angen i ni ganiatáu i'r adolygiad gael ei gwblhau cyn ystyried pa gamau sydd eu hangen. Felly, bydd canlyniad yr adolygiad hwnnw'n llywio ein camau nesaf.

Dwi wedi cael gwybod am bryderon gan etholwyr ynglŷn â’r broses gyfathrebu ar gyfer rhieni a phobl ifanc sy’n dymuno rhannu gwybodaeth efo bwrdd diogelu gogledd Cymru fel rhan o’r adolygiad ymarfer plant rydych chi’n sôn amdano fo, yn dilyn euogfarn y cyn-bennaeth Neil Foden o droseddau rhyw yn erbyn plant ysgol. Ydych chi’n hyderus bod yr ymateb yn briodol ac yn amserol i’r rhai sydd am ddarparu gwybodaeth neu am rannu pryderon? Yn ail, ydy cylch gorchwyl yr adolygiad diogelu plant wedi cael ei gyhoeddi eto? Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau tryloywder ac ymddiriedaeth yn broses. Os nad ydy o wedi cael ei gyhoeddi erbyn hyn, pryd fydd o’n cael ei gyhoeddi a beth oedd y rheswm dros yr oedi? Dwi’n parhau i gredu, fel mae nifer cynyddol o bobl, mai ymchwiliad cyhoeddus fyddai’r ffordd orau a thecaf o ymdrin â’r sefyllfa yma, yn enwedig gan ystyried honiadau pellach a ddatgelwyd mewn rhaglen deledu yn ddiweddar. Gennych chi fel Llywodraeth mae’r grym i gomisiynu—

Gennych chi mae’r grym i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus. A wnewch chi wneud hynny, os gwelwch chi’n dda?

A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei chwestiwn atodol, ac a gaf i ddweud fy mod yn cydymdeimlo â'r bobl ifanc a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y cam-drin erchyll a achoswyd gan Neil Foden? Cododd Siân Gwenllian sawl pwynt yno. Rwy'n ymwybodol fod rhai Aelodau o'r Senedd wedi codi pryderon ynghylch y broses o gyfathrebu â'r adolygiad ymarfer plant. Rwy'n deall bod llythyr wedi'i ddosbarthu cyn hanner tymor gyda chyfeiriad e-bost y gallai pobl gysylltu ag ef pe baent am gyfrannu at yr adolygiad, ac nad oes rhaid i blant, pobl ifanc a'u rhieni fynd trwy'r awdurdod lleol neu'r ysgol i gysylltu. Byddaf yn gwneud gwaith dilynol gyda swyddogion i wirio, ac efallai y gallech ysgrifennu ataf am bryderon penodol os ydych chi'n siarad am amseroldeb ymateb. Yn amlwg, adolygiad yw hwn sy'n cael ei gynnal o dan oruchwyliaeth bwrdd diogelu gogledd Cymru, felly nid ein hadolygiad ni fel Llywodraeth Cymru mohono, ond rwy'n hapus iawn i fynd ar drywydd unrhyw bryderon penodol sydd gennych ynglŷn â'r ymatebion sy'n dod o'r adolygiad ymarfer plant i deuluoedd.

O ran cyhoeddi'r cylch gwaith, gallaf yn sicr ofyn i swyddogion edrych ar hynny gyda bwrdd diogelu gogledd Cymru hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod popeth mor dryloyw â phosibl.

Os caf ddod at eich prif bwynt ynglŷn ag ymchwiliad cyhoeddus, rwy'n credu bod angen i ni ganiatáu i'r adolygiad ymarfer plant gael ei gwblhau cyn i ni ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen, gan gynnwys y posibilrwydd o ymchwiliad cyhoeddus. Fe fyddwch chi'n gwybod, Siân, fod ymchwiliadau cyhoeddus yn brosesau hir a fydd hefyd yn ymestyn y broses hon. Rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn aros i weld beth y mae'r adolygiad ymarfer plant yn ei ddweud, ac yna bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y camau nesaf.

Mae'r unigolyn hwn yn un o'r troseddwyr rhyw gwaethaf yn hanes Cymru, ac fe wnaeth cyfres o fethiannau, esgeulustod, baneri coch a fethwyd ganiatáu i'r cam-drin barhau heb ei herio.

Efallai mai'r mwyaf brawychus o'r honiadau yw bod Neil Foden wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru. Cafodd ei amddiffyn yn warthus hefyd gan arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, a wrthododd ymddiheuro i ddioddefwyr Foden wedi i'r pennaeth gael ei ddyfarnu'n euog. Diolch byth, mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo erbyn hyn, yn dilyn pwysau i wneud hynny gan ei blaid ei hun. Ond erys cwestiynau y mae angen eu hateb pam ei fod yn parhau'n gyflogedig gan Gyngor Gwynedd pan ddechreuodd ei achos. Ac mae cwestiynau'n codi hefyd ynghylch trylwyredd fetio Llywodraeth Cymru, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn ddiarwybod yn derbyn cyngor ar bolisi addysg gan bedoffeil.

Cafodd Neil Foden ei geryddu gan y rheoleiddiwr addysgu a'i ddiarddel o'i undeb yn 2020. Ond flwyddyn yn ddiweddarach yn 2021, cafodd fwy o gyfrifoldeb fel uwch-bennaeth strategol a oruchwyliai ddwy ysgol wahanol yng ngogledd Cymru. Felly, yn amlwg mae diffygion enfawr—

14:30

—yn y broses adrodd, wrth gyfathrebu rhwng asiantaethau a phroses fetio Llywodraeth Cymru. Felly, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod y diffygion hyn yn cael eu nodi a'u datrys cyn gynted â phosibl fel na wneir y camgymeriadau hyn byth eto?

Diolch, Gareth. Rwy'n meddwl ei bod hi'n anffodus dod â gwleidyddiaeth plaid i mewn i bwnc mor ddifrifol â hyn, boed hynny—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod hynny'n beth anffodus i'w wneud. Mae hwn yn fater difrifol iawn. Dyma droseddwr cyson na chafodd ei ganfod ac mae'n rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â hynny.

Fel yr eglurais, rydym yn cynnal adolygiad ymarfer plant, sy'n cael ei gyflawni gan fwrdd diogelu gogledd Cymru. Nid wyf wedi cael unrhyw gyngor gan Neil Foden. Fel llawer o benaethiaid, byddai wedi cael cyswllt â Llywodraeth Cymru yn y gorffennol. Mewn gwirionedd, rhoddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan oeddwn yn Gadeirydd, oherwydd ei fod yn uwch swyddog i Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ar y pryd. Yn amlwg, mae pob pennaeth yn destun gweithdrefnau llym iawn o ran diogelu, felly ni allai fod wedi bod unrhyw syniad ar lefel Llywodraeth Cymru, neu hyd yn oed ar lefel y pwyllgor, ei fod yn droseddwr cyson o'r fath.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gadael i'r adolygiad ymarfer plant ddilyn ei gwrs. Os bydd yr adolygydd, aelodau'r panel neu aelodau'r bwrdd, yn ystod yr adolygiad, yn nodi unrhyw faterion ynghylch gweithwyr proffesiynol neu asiantaethau unigol y mae angen eu harchwilio ymhellach, bydd y materion hyn yn cael eu hailgyfeirio at y sefydliadau perthnasol a byddant hwy'n cymryd unrhyw gamau pellach sydd eu hangen. Felly, mae'n rhaid i unrhyw sefydliadau sydd â gwaith dysgu o'r achos hwn wneud hynny.

Bydd yr adolygiad ymarfer plant yn golygu gofyn i bob asiantaeth sy'n cael ei chynrychioli ar y bwrdd, ac unrhyw asiantaethau eraill sydd wedi cael cyswllt â'r dioddefwyr a'u teuluoedd, baratoi llinell amser o'u cysylltiad, a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyfuno i greu cronoleg amlasiantaethol o'r holl gyswllt hysbys ag asiantaethau. Bydd yr adolygwyr annibynnol, y cadeirydd ac aelodau'r panel yn craffu ar hynny ac yn ei herio, bydd ymarferwyr mewn digwyddiad dysgu yn gwirio synnwyr hynny, ac yna bydd herio a chraffu pellach mewn cyfarfodydd byrddau diogelu rhanbarthol.

Fel y dywedais mewn ymateb i Siân Gwenllian, pan fyddwn wedi cael y wybodaeth o'r adolygiad ymarfer plant, byddwn yn ystyried wedyn a oes unrhyw gamau pellach y mae angen inni eu cymryd. Ond gallwch fod yn sicr, Gareth, fy mod am wneud yn siŵr ein bod mor drylwyr â phosibl er mwyn cael cyfiawnder i'r bobl ifanc sydd wedi dioddef oherwydd y dyn yma.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau y nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddoe, fel rhan o'ch datganiad, gofynnais i chi a oedd y codiad cyflog a gyhoeddwyd gennych ar gyfer athrawon—. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, nid y Gweinidog. 

Rwy'n credu mai cwestiynau Cefin sydd i'r Gweinidog ac mae fy rhai innau i Ysgrifennydd y Cabinet.

Iawn. Nid wyf yn siŵr beth aeth o'i le yno. Mae arnaf ofn nad oes gennyf gwestiwn wedi ei baratoi i'r Gweinidog. 

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am dderbyn y cwestiynau. Diolch, ac rwy'n ymddiheuro am hynny os yw'n gamgymeriad gweinyddol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

Ddoe, fe wnaethoch chi gyhoeddi'r codiad cyflog o 5.5 y cant i athrawon yn ysgolion Cymru. Gofynnais i chi a fyddai hynny'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac na fyddai'n rhaid i unrhyw ysgol nac awdurdod lleol ddod o hyd i hynny yn eu cyllideb eu hunain. A allwch chi gadarnhau heddiw na fydd yn rhaid i unrhyw ysgol nac awdurdod lleol yng Nghymru ddod o hyd i'r arian i dalu am y codiad cyflog hwnnw o'u cyllidebau eu hunain?

14:35

Rydym eisoes wedi gwneud darpariaeth, Tom, ar gyfer rhywfaint o'r codiad cyflog hwnnw yn yr arian sydd wedi'i ddyrannu i lywodraeth leol. Diolch byth, oherwydd bod gennym Lywodraeth Lafur y DU nawr yn San Steffan sydd wedi ymrwymo i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus, bydd arian ychwanegol hefyd yn dod i'n galluogi i fynd y tu hwnt i argymhelliad corff adolygu cyflogau annibynnol Cymru, sef 4.3 y cant, i'n codi i 5.5 y cant. Felly, rwy'n credu ein bod yn gwneud darpariaeth dda iawn. Nid yw hynny'n golygu nad wyf yn cydnabod y pwysau ar ysgolion, ac rwyf wedi bod yn glir iawn gyda chi o'r blaen ein bod wedi gwneud yr hyn a allwn i ddiogelu'r arian sy'n mynd i ysgolion drwy'r grant cynnal refeniw. Ac yn amlwg, rydym yn mynd trwy broses gyllidebol ar hyn o bryd i edrych ar ddyraniadau'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y DU, wedi gwneud darpariaeth dda ar gyfer y codiad cyflog hwnnw.

Rwy'n ddiolchgar iawn ichi am eich ymateb. Yn amlwg, darllenais eich datganiad ysgrifenedig a anfonwyd tua awr yn ôl, a'r hyn a wnaed yn glir iawn yn y datganiad hwnnw oedd na fyddai'r codiad cyflog hwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod disgwyliad gan y cyhoedd ac ysgolion, os ydych chi'n cyhoeddi rhywbeth, y dylech dalu amdano. Mae ysgolion yn gwneud penderfyniadau anodd iawn ar hyn o bryd. Rydym wedi gweld ysgolion yn gwneud toriadau ar bynciau mewn cwricwla, yn gwneud toriadau i deithiau ysgol a gwelliannau ysgol, ac mae rhai athrawon yn cael eu diswyddo hyd yn oed. Heb y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyn yn llawn, bydd yn rhaid i ysgolion wneud penderfyniad o ganlyniad i'r cyhoeddiad a wnaethoch chi ddoe i wneud toriadau pellach yn eu cyllidebau, heb sôn am y penderfyniadau y gallai fod yn rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud. Felly, ar y sail honno, beth ydych chi'n cynghori ysgolion i'w dorri?

Diolch, Tom. Rwy'n credu fy mod wedi bod yn glir iawn ein bod wedi sicrhau bod cyllid ar gael i dalu'r codiad cyflog a ddyrannwyd gennym. Rydym hefyd wedi diogelu'r cyllid sydd wedi mynd i ysgolion gystal ag y gallwn. Ac a gaf i eich atgoffa ein bod mewn sefyllfa lle mae cyllidebau ysgolion, ac yn wir yr holl wasanaethau cyhoeddus, o dan bwysau oherwydd gweithredoedd eich Llywodraeth chi yn San Steffan, a fu'n tanariannu'r Llywodraeth hon yn gyson mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus? Mae hon yn Llywodraeth sy'n diogelu gwasanaethau cyhoeddus, a thrwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y DU, rydym wedi nodi cyllid ar gyfer y codiad cyflog i'n hathrawon ysgol.

O dan Lywodraeth Geidwadol, yn gyson fe welsom y setliadau cyllideb mwyaf erioed i Lywodraeth Cymru, a beth a wnaeth Llywodraeth Cymru â'r arian hwnnw? Fe wnaethant wario arian ar fwy o wleidyddion, fe wnaethant wario arian ar barthau 20 mya, ar gynnal meysydd awyr—mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. Ac eto, ar yr un pryd, roedd ysgolion yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, yn diswyddo athrawon, yn gwneud toriadau i bynciau, ac yn cyflawni'r canlyniadau addysg gwaethaf yn y Deyrnas Unedig. Gallwch feio Llywodraeth ddiwethaf y DU cymaint ag y dymunwch; chi sydd wrth y llyw ar ddau ben yr M4, a ddoe clywsom y Prif Weinidog yn dweud bod cyni wedi dod i ben. Felly, a wnewch chi ymrwymo bellach—o ystyried bod cyni wedi dod i ben—i ariannu'r hyn a gyhoeddoch chi ddoe yn llawn, fel na fydd yn rhaid i ysgolion wneud toriadau pellach o ganlyniad i'r cyhoeddiad a wnaethoch?

Wel, mae Llywodraeth Lafur y DU wedi bod mewn grym ers mis Gorffennaf—mater o fisoedd. Mae'n hurt, mewn gwirionedd, i—. Rwy'n hynod falch o'r hyn y maent eisoes wedi'i wneud. Cafodd eich Llywodraeth 14 mlynedd o chwalu ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym wedi gwneud darpariaeth, mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y DU, ar gyfer codiad cyflog i athrawon sy'n uwch na'r hyn a argymhellwyd gan gorff adolygu cyflogau annibynnol Cymru. Gallech fod ychydig yn fwy graslon a chroesawu'r arian a ryddhawyd i athrawon. Ac yn fwy na hynny, Tom, rwy'n hyderus, yn dilyn y gyllideb yr wythnos diwethaf, eich bod wedi clywed am y swm enfawr o gyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu inni yma yng Nghymru, sef yr hwb mwyaf a gawsom ers inni gael Llywodraeth Lafur yn San Steffan ddiwethaf. Llywodraeth yw hon a fydd yn gwario'r arian ychwanegol hwnnw ar ein blaenoriaethau, ac addysg yw un o'n blaenoriaethau.  

14:40

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ddydd Llun, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd addysg Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol y bydd myfyrwyr yn talu mwy i fynd i brifysgolion yn Lloegr y flwyddyn nesaf, gyda ffioedd dysgu yn codi i £9,535. Gan roi’r ffaith bod Keir Starmer wedi torri’i addewid ar hyn o’r neilltu am eiliad, mae’n glir y bydd hyn yn sicr o gael effaith ar brifysgolion yma yng Nghymru, yn ogystal â’n myfyrwyr.

Mae’r naill a’r llall wedi'u siomi dros y degawdau diwethaf gan Lywodraethau Ceidwadol a Llafur sydd heb roi strategaeth gydlynol ar gyfer y sector yn ei lle, a chan ddiffyg cyllid, buddsoddiad a chefnogaeth, a thoriadau i ymchwil ac arloesi. Mae Plaid Cymru yn credu yn yr egwyddor o fynediad unifersal i’n prifysgolion ni, ond mae’n amlwg bod rhaid i ni roi ein prifysgolion ar seiliau llawer mwy cadarn cyn y gallwn ni feddwl am wneud hynny.

Felly, yn sgil y cyhoeddiad, a gaf i ofyn i chi, Weinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu ffioedd yn yr un modd a gyhoeddwyd yn Lloegr? Ac os ydych chi, a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn, hyd yn oed gydag unrhyw gynnydd, y bydd prifysgolion yn dal i wynebu argyfwng ariannol heriol? Ac yn olaf, pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd i gefnogi mynediad i addysg uwch i’r rhai sydd yn dod o gefndiroedd mwy difreintiedig?   

Diolch i Cefin Campbell am y cwestiynau hynny. Dechreuaf drwy ddweud fy mod yn cydnabod bod ein prifysgolion, yn union fel prifysgolion ledled y DU a thu hwnt, o dan bwysau ariannol sylweddol. Rwy'n gweithio gyda fy swyddogion i ystyried effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i godi ffioedd dysgu £285 y flwyddyn i bob myfyriwr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig edrych ar effaith hynny, ar y sector addysg uwch ac ar fyfyrwyr. Rwyf am wneud penderfyniad ar hynny'n gyflym, gyda sail dystiolaeth wybodus, fel y gallwn roi sicrwydd i'r prifysgolion ac i'r myfyrwyr eu hunain.

Gallaf gadarnhau heddiw y bydd pob myfyriwr o Gymru ar gyrsiau mewn sefydliadau a reoleiddir yn cael costau llawn eu ffioedd dysgu israddedig wedi'u talu gan Lywodraeth Cymru drwy'r system cyllid myfyrwyr, boed eu bod yn dewis astudio yng Nghymru neu rywle arall yn y DU. Mae hyn yn parhau ein polisi hirsefydlog nad oes unrhyw fyfyriwr o Gymru'n talu costau ymlaen llaw am eu hyfforddiant israddedig.

Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn siŵr a ofynnodd yr Aelod ei dri chwestiwn i gyd ar yr un pryd.

Fe wnaf atgoffa'r Aelod fod ganddo dri chwestiwn. Nid oes raid iddo roi'r tri yn yr un cyntaf a mynd dros yr amser. Rwy'n siŵr nad oedd yn bwriadu gwneud hynny, ac rwy'n siŵr na fydd yn gwneud hynny yn y dyfodol ychwaith. 

Diolch yn fawr iawn. Dwi’n edrych ymlaen at y datganiad ynglŷn ag ydych chi’n bwriadu codi ffioedd yn yr un ffordd, a byddwn i’n hoffi clywed rhyw amserlen wrthych chi ynglŷn â phryd mae hynny yn debygol o ddigwydd, achos mae yna ansicrwydd mawr yn y sector ar hyn o bryd.

Cyhoeddiad arall yng nghyllideb San Steffan yn y dyddiau diwethaf oedd y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Mae hyn hefyd yn mynd i gael effaith ariannol mawr iawn ar ein prifysgolion ni. Yr amcangyfrif yw bod hyn yn mynd i ychwanegu rhyw £20 miliwn yn fwy ar y costau.

Felly, a allwch chi, Weinidog, roi eglurhad i ni ynghylch a ydych chi’n credu y gallai prifysgolion Cymru dderbyn unrhyw gymorth o dan gynlluniau’r Trysorlys a’i peidio? Achos fe glywon ni yr Ysgrifennydd Cabinet dros gyllid ddoe yn dweud bod y sector cyhoeddus yn rhydd o’r taliadau yma, ond mae’r sector prifysgolion yn rhan o’r sector preifat. Felly, a allwch chi esbonio i ni a ydy staff ein prifysgolion ni yn dod o dan y sector cyhoeddus neu'r sector preifat, ac, os na fydd cefnogaeth ar gael—

14:45

Diolch am y cwestiwn, Cefin Campbell. Rwy'n cydnabod y bydd cyhoeddiadau'r Canghellor am newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr o fis Ebrill y flwyddyn nesaf yn cynyddu costau i'n prifysgolion, ac rwyf ar hyn o bryd yn gweithio gyda fy swyddogion gyda'r sectorau yr effeithir arnynt i ddeall cwmpas y costau newydd hyn. Rydym yn ystyried effaith cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar bob cyflogwr sector cyhoeddus a gwasanaethau sector cyhoeddus yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf maes o law.   

Felly, hyd yn oed cyn yr ergyd ddiweddaraf hon i brifysgolion Cymru—gorfod ymdopi â chodiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol—mae prifysgolion Cymru wedi bod ar y dibyn ariannol ers tro, gyda diffygion cronnol o dros £100 miliwn. Nawr, bythefnos yn ôl, gofynnais i'r Gweinidog a oedd hi neu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cael trafodaethau drwy ohebiaeth swyddogol â phrifysgolion unigol yng Nghymru ynghylch y gronfa drawsnewid a grybwyllodd. Nawr, ymatebodd y Gweinidog drwy ddweud, 

'Ydw, rwyf eisoes wedi dechrau ar hynny.' 

Felly, rwyf wedi cysylltu â holl brifysgolion Cymru yn uniongyrchol, gan ofyn iddynt pa ohebiaeth y maent wedi'i chael rhyngddynt hwy a Llywodraeth Cymru ynghylch y gronfa drawsnewid hon neu unrhyw becyn cymorth posibl arall. Mae arnaf ofn fod yr ateb a gefais hyd yma yn paentio darlun gwahanol i'r un a baentiwyd gan y Gweinidog bythefnos yn ôl: y Drindod Dewi Sant, dim gohebiaeth; Prifysgol Aberystwyth, dim gohebiaeth; Abertawe, dim gohebiaeth; Caerdydd, dim gohebiaeth. Unwaith eto, mae'n ymddangos bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud un peth ar lawr y Senedd, nad yw'n ymddangos ei fod yn cyfateb i'r realiti o'n tystiolaeth ni. Felly, mae'r cwestiwn yn aros, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cymryd ar lefel weinidogol a swyddogol i ddatblygu'r gronfa drawsnewid hon ac unrhyw becynnau cymorth eraill ar gyfer prifysgolion Cymru ar y cyd â phrifysgolion Cymru?

Diolch, Cefin. Mae gohebiaeth, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, yn ohebiaeth ysgrifenedig. Mae fy holl waith yn ymwneud â'r prifysgolion hyd yma wedi bod trwy gyfarfodydd a thrafodaethau wyneb yn wyneb, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o allu cyfarfod â chymaint o is-gangellorion, Prifysgolion Cymru, rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector, a byddaf yn parhau i wneud hynny wrth imi deithio o amgylch pob sefydliad addysg uwch yng Nghymru. Ac eglurais wrth y Senedd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i archwilio pa fecanweithiau cymorth posibl, os o gwbl, sy'n ymarferol i gefnogi'r sector addysg uwch yng Nghymru. Mae'r trafodaethau hynny, fel yr amlinellais ddwywaith, yn ysgrifenedig ac yma ar lawr y Siambr hon, ar gam cynnar ac archwiliadol a bydd angen eu hystyried yng nghyd-destun ein blaenoriaethau cyllidebol ehangach. Ond fel y dywedais o'r blaen, ac fel y gwn fod yr Aelod yn gwybod, mae'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'n sefydliadau addysg uwch yn ffurfio 10 y cant o'u cyllid cyffredinol, ac felly mae'n bwysig iawn fod pob prifysgol yn edrych ar weddill eu ffrydiau cyllido. Ac rwy'n gwybod mai dyna'n union y maent yn ei wneud—gan archwilio ffyrdd arloesol o weithio, mwy o gydweithio â'r sector addysg bellach yn enwedig, sy'n sicr yn fuddiol, fel y gallant archwilio ffyrdd o dorri costau a chyflawni'r cyfleoedd heriol hyn. Mae cronfa Digarbon Llywodraeth Cymru, y soniais amdani yma o'r blaen, wedi cael gwerth £33 miliwn o geisiadau gan ein sefydliadau addysg uwch, ac mae hynny'n dangos un ffordd yn unig y maent yn archwilio ffyrdd gwahanol o dorri costau ac o wneud yr arbedion hynny. 

Cyn imi symud ymlaen, rwy'n disgwyl i bob aelod o'r meinciau cefn barhau i gadw at eu hamser a gofyn eu cwestiynau o fewn eu hamser. Rwy'n disgwyl yr un peth gan lefarwyr hefyd, ac os oes ganddynt sawl cwestiwn, mae gan lefarwyr y fantais o allu gofyn mwy nag un cwestiwn. Felly, os gwelwch yn dda, yn y dyfodol, cadwch at eich amseroedd i sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i ofyn eu cwestiwn, gan gynnwys aelodau o'r meinciau cefn. 

Recriwtio a Chadw Athrawon

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio a chadw athrawon yng Ngorllewin De Cymru? OQ61798

14:50

Rydym yn parhau i gefnogi recriwtio i raglenni addysg gychwynnol i athrawon drwy amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r rhain yn cynnwys darparu cymhellion i gefnogi recriwtio i bynciau â blaenoriaeth ac ar gyfer hyfforddeion cyfrwng Cymraeg, gan ehangu'r pynciau sydd ar gael drwy'r rhaglenni TAR cyflogedig ac ymgyrch farchnata Addysgu Cymru.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae morâl athrawon ar ei isaf erioed. Mae penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan awdurdodau lleol i dorri cyllidebau ysgolion, gan arwain at ddiswyddo athrawon a chynorthwywyr addysgu, yn cynyddu'r llwyth gwaith ar weddill y staff addysgu, gyda llawer o rybuddion y bydd maint dosbarthiadau'n tyfu, gan ychwanegu at y pwysau. Ond y bygythiad mwyaf ohonynt i gyd yw ymddygiad y disgyblion a'r diffyg cefnogaeth a roddir i staff addysgu sy'n agored i gamdriniaeth a thrais corfforol. Ysgrifennydd y Cabinet, mae athrawon yn fy rhanbarth wedi gorfod ymdrechu i gael eu lleisiau wedi eu clywed ynglŷn ag ymosodiadau ar staff. Nodaf eich datganiad cynharach ynghylch fforwm partneriaeth gymdeithasol ysgolion a'r camau y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael ag ymddygiad disgyblion. Fodd bynnag, nid yw'n gwneud llawer i ddiogelu staff ar hyn o bryd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y byddwch yn eu cymryd ar unwaith i ddiogelu staff yn ein hysgolion? Rydym ni wleidyddion yn cael larymau panig; a ydych chi wedi ystyried rhoi'r rhain i'n hathrawon?

Diolch am eich cwestiwn atodol, Altaf. Fe wnaethoch chi godi nifer o bwyntiau yno. Hoffwn eich sicrhau ein bod o ddifrif ynghylch recriwtio a chadw athrawon a'n bod yn cydnabod y pwysau enfawr sydd ar athrawon, a hefyd y cysylltiad rhwng llwyth gwaith a'u llesiant. Mae'n hanfodol fod athrawon yn gallu cynnal cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith, ac mae ymrwymiad gan yr holl randdeiliaid i wneud newidiadau ymarferol, effeithiol a fydd yn sicrhau newid cadarnhaol go iawn i athrawon.

Rydym wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ar faterion llwyth gwaith, ac rydym wedi cael grŵp strategol annibynnol ar gydlynu llwyth gwaith, y daw ei aelodaeth o blith rhanddeiliaid allweddol a chynrychiolwyr o bob rhan o'r system addysg. Ychydig wythnosau yn ôl, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r diweddaraf ar ein hymdrechion i fynd i'r afael â llwyth gwaith athrawon. 

Ar y pwyntiau a godwch am ymddygiad mewn ysgolion, fel y dywedais yn glir ddoe mewn atebion i gwestiwn, rwy'n poeni'n fawr am yr hyn y mae ysgolion yn ymdrin ag ef. Maent yn ymdrin ag amrywiaeth gymhleth iawn o broblemau cymdeithasol sydd i'w gweld mewn ysgolion erbyn hyn, am mai dyna'r lleoedd sydd yno drwy'r amser, ac mae athrawon yn canolbwyntio ar y problemau hynny pan fyddant eisiau canolbwyntio ar addysgu a dysgu.

Rydych chi wedi gweld fy llythyr, felly fe wyddoch fy mod yn cael y cyfarfod â'r undebau llafur yr wythnos nesaf, a bod gennym y gynhadledd penaethiaid gyda phenaethiaid uwchradd ddydd Gwener, lle byddwn yn canolbwyntio ar ymddygiad. Mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod ysgolion yn lle diogel i weithio. Ond yr hyn a wnaf, yn dilyn y cyfarfodydd hynny, rwy'n hapus iawn i ystyried y materion sy'n codi o'r rheini. Hynny yw, pethau fel larymau panig, a allai gael eu codi—nid wyf yn gwybod. Rwyf am wrando ar y bobl sydd ar y rheng flaen pan ystyriwn sut y gallwn helpu gyda hyn, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at y pethau eraill a wnawn fel y pecyn cymorth ymddygiad a'r ymchwil a wnawn ar ymddygiad.

Canlyniadau Addysgol

4. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau addysgol i bobl ifanc yn Nwyrain De Cymru? OQ61780

Mae fy mlaenoriaethau ar gyfer ysgolion yn Nwyrain De Cymru yn cynnwys codi lefelau cyrhaeddiad, presenoldeb a chau'r bwlch i'n dysgwyr tlotaf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Sefydliad Glyn Ebwy ym Mlaenau Gwent yn ased cymunedol annwyl sydd ar hyn o bryd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, a dau ohonynt yw rhaglenni profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae'r ddau beth, yn wir, yn rhan hanfodol o adeiladu addysg gyflawn, yn ogystal â pharatoi pobl o bob oedran a chefndir ar gyfer gwaith a meithrin hunan-barch, sydd hefyd o fudd i'r gymuned leol. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, yn union fel cymaint o asedau lleol llewyrchus, mae hyb cymunedol Sefydliad Glyn Ebwy, sy'n cynnig y gwasanaethau hyn, wedi dibynnu cryn dipyn ar gyllid ffyniant bro. Fodd bynnag, wedi i'r Llywodraeth newydd gymryd rheolaeth ar y safle, rwy'n naturiol yn bryderus am y dyfodol. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi heddiw y byddwch yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai i gefnogi hybiau gwych fel hyn i sicrhau bod dull cyfannol yn cael ei weithredu mewn addysg, lle gall pobl ifanc ac oedolion wella sgiliau hanfodol gan fod o fudd i'w cymunedau yn gyffredinol? Diolch. 

14:55

Diolch, Natasha, ac rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn am brofiad gwaith. Mae'n dda i bob person ifanc gael y cyfleoedd hynny, ond yn fy mhrofiad i, ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn aml sy'n cael y gorau o'r cyfleoedd hynny i wneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, ac i brofi byd gwaith go iawn. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r problemau ariannu yn Sefydliad Glyn Ebwy y cyfeirioch chi atynt. Yn amlwg, mae'r gronfa ffyniant bro a'r cronfeydd eraill mewn cyfnod o bontio ar hyn o bryd, ond rwy'n rhoi fy ymrwymiad i chi y byddaf yn siarad â chyd-Aelodau yn y Cabinet, nid dim ond y Gweinidog llywodraeth leol ond Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid hefyd, am y materion a godwyd gennych, ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu atoch ynglŷn â hynny.

Merched a Phynciau STEM

5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog rhagor o ferched i astudio pynciau STEM? OQ61800

Rydym am sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn gallu ymgysylltu'n gadarnhaol â byd sy'n cael ei yrru'n gynyddol gan arloesedd technolegol a digidol. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae Llywodraeth Cymru yn darparu dros £1.6 miliwn ar gyfer gweithgareddau STEM mewn ysgolion, gan ganolbwyntio ar annog merched i fynd ar drywydd cymwysterau a gyrfaoedd STEM.

Diolch, Weinidog. Mae menywod a merched yn dal heb gynrychiolaeth sy'n agos at fod yn ddigonol mewn pynciau STEM, ac maent yn dal i gael eu stereoteipio fel pynciau i fechgyn. Roeddwn yn falch iawn o weld bod Coleg Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro yn ceisio mynd i'r afael â'r duedd hon trwy ymgysylltu â diwydiannau lleol fel RWE Renewables, Blue Gem Wind, Floventis Energy, Porthladd Aberdaugleddau a Ledwood Engineering. Ddiwedd y llynedd, fe wnaethant greu menter gyrfaoedd o'r enw SPARC i helpu i ysbrydoli gweithlu mwy amrywiol mewn diwydiannau STEM, ac nid oes agos digon o fenywod yn y diwydiannau hyn ac wrth gwrs, mae hyn yn aml yn dechrau gyda'r pynciau a astudiant yn yr ysgol neu yn y coleg. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi fod mentrau fel hyn yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r anghydbwysedd o ran y nifer o ferched a menywod sy'n astudio pynciau STEM?

Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn atodol hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hi am bwysigrwydd mentrau fel honno. Ac mewn gwirionedd, rwy'n ymweld â Choleg Sir Benfro ymhen pythefnos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed mwy am y gwaith hwn pan fyddaf yno. Gall meithrin partneriaethau rhwng ysgolion a diwydiant ysbrydoli ein merched ifanc i fynd ar drywydd eu brwdfrydedd ynghylch pynciau STEM, ac wrth gwrs, gall hynny eu harwain at yrfaoedd gwerth chweil a boddhaus. Fel rhan o'n cyllid i Gynllun Addysg Beirianneg Cymru, rydym yn cefnogi'r fenter Denu Merched i Faes STEM, ac mae hyn yn helpu i chwalu rhwystrau, gan roi cyfle i ferched ymweld â chyflogwyr a phrifysgolion, a'u hannog i ddilyn cymwysterau a llwybrau gyrfa STEM. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd 390 o ferched yn rhan o'r fenter Denu Merched i Faes STEM, gan ymweld ag amrywiaeth o bartneriaid diwydiant. Ac fe fyddwch chi'n gwybod, Joyce Watson, fod Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'i datganiad llafar ddydd Mawrth wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol yng Nghynllun Addysg Beirianneg Cymru, gan gynnwys gwella'r fenter Denu Merched i Faes STEM ymhellach. Daw hynny â chyfanswm ein buddsoddiad yn y gwaith hwn i £196,000 eleni yn unig.

Cyfarfûm â SPARC yng Ngholeg Sir Benfro yn ddiweddar, yn lansiad yr hyb pontio sgiliau, sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Shell. Ddydd Gwener, yn Noc Penfro, rwy'n cyfarfod â Cymbrogi gan eu bod yn cynnal digwyddiad gyda phedair ysgol yn yr ardal i hyrwyddo pynciau STEM i fechgyn a merched ifanc yn yr ysgol uwchradd i ddangos nid yn unig eu bod yn gallu mynd ar drywydd gyrfaoedd gwych gan ddefnyddio STEM, ond y cyfleoedd eraill sydd ar gael yn y gweithlu i aros yn lleol yn yr ardaloedd lle cawsant eu geni a'u magu, sy'n bwysig iawn, yn enwedig yng ngorllewin Cymru lle gwelwn newid demograffig o ran pobl ifanc yn gadael, gwaetha'r modd, a'r oedran demograffig yn newid gan roi pwysau ar y sectorau gofal. Felly, os yw'n iawn gyda chi, Weinidog, a fyddech chi'n gallu cyfarfod â Cymbrogi yn y dyfodol, gan fod ganddynt gynlluniau cyffrous iawn o ran sut y cânt allgymorth i mewn i'n sefydliadau addysg, cael pobl i feddwl am yrfaoedd ym maes STEM a'r dewisiadau amgen sydd ar gael mewn meysydd fel peirianneg, mathemateg a gwyddoniaeth? Diolch.

15:00

Diolch am eich cwestiwn atodol, Sam. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedoch chi. Mae mor bwysig ein bod yn edrych ar fwy na'r setiau sgiliau hyn yn unig, ac ar sut y gallant alluogi ein pobl ifanc i aros yn y cymunedau lle cânt eu geni a'u magu a chael effaith gadarnhaol ar yr economïau lleol hynny. A dyna'n union y math o waith trawsbynciol rwy'n edrych arno gyda'r Gweinidog sgiliau, a buaswn yn falch iawn o gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwnnw. Edrychaf ymlaen at ddarganfod mwy ac at ymweld yn y dyfodol, gobeithio.

e-sgol

6. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am y defnydd o e-sgol yn Nwyrain De Cymru? OQ61811

Mae e-sgol yn brosiect arloesol a gyflwynir ledled Cymru. Ym mis Medi, lansiais bartneriaeth e-sgol yn sir Fynwy a gweld sut y mae’n galluogi dysgwyr i gael mynediad at bynciau na fyddai’n cael eu cynnig fel arall o bosibl. Ar hyn o bryd, mae prosiect e-sgol yn cael ei gyflwyno mewn tri awdurdod yn Nwyrain De Cymru ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 12 a 13.

Diolch am yr ateb yna. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, dwi wedi bod yn cael trafodaethau gyda'r proffesiwn addysgu ynglŷn â defnydd o e-sgol yn fy rhanbarth. Fel y dywedoch chi, sefydlwyd yr adnodd yma ar-lein yn wreiddiol i gynorthwyo darpariaeth chweched dosbarth mewn ardaloedd gwledig, ond mae o wedi dod yn opsiwn sy'n cael ei ffafrio ar gyfer rhai ardaloedd a rhai pynciau yn lle addysgu wyneb yn wyneb. Fel dŷch chi wedi sôn, mae addysgu Cymraeg safon uwch yn sir Fynwy yn un o'r enghreifftiau o hyn.

Er bod gan y math yma o addysgu ei rinweddau, dylai fo ddim bod yn norm ar draul addysgu wyneb yn wyneb. Yn fy marn i a barn llawer o addysgwyr, does dim yn gallu cymryd lle addysgu wyneb yn wyneb o ran darparu profiad cyfoethog ac amrywiol i ddisgyblion. A allwch chi, felly, roi addewid y bydd y Llywodraeth hon yn mynd i'r afael â diffyg athrawon mewn rhai meysydd a rhai pynciau, fel bod e-sgol ddim yn dod yn fwy cyffredin, yn enwedig yng nghyd-destun y darpariaethau yn y Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) a'r prif amcan o gael pob disgybl yn siaradwr hyderus erbyn 2050? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn, Peredur. Heb e-sgol, yn anffodus, mae posibilrwydd cryf na fyddai naw myfyriwr Safon Uwch yn sir Fynwy wedi gallu astudio Cymraeg Safon Uwch—dau yn Ysgol Cil-y-coed, dau yn Ysgol Brenin Harri'r VIII a phump yn Ysgol Gyfun Trefynwy. Ac rwy'n credu y gall e-sgol helpu i ailadeiladu darpariaeth iaith Gymraeg yn sir Fynwy, fel bod y niferoedd yn cynyddu eto. Ceir rhywfaint o ddarpariaeth wyneb yn wyneb yn rhan o’r prosiect, a chefais sicrwydd o hynny pan euthum i’w weld; maent yn cael cyfleoedd i gyfarfod â'i gilydd, wyneb yn wyneb.

Credaf eich bod yn codi materion pwysig, serch hynny, ynglŷn â niferoedd pobl ifanc sy’n astudio'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch, ac rwy’n awyddus i edrych eto ar y Safon Uwch i sicrhau bod gennym gymhwyster sy’n ysgogi mwy o bobl ifanc i astudio'r pwnc ar gyfer Safon Uwch. Bydd mwy o waith yn cael ei wneud gydag ysgolion, disgyblion a rhieni i arddangos darpariaeth ac ansawdd e-sgol er mwyn rhoi hyder iddynt ei fod yn darparu addysgu o ansawdd uchel a phrofiad da i ddysgwyr. Ac efallai y bydd yn galonogol i chi fod yr holiadur cychwynnol i ddisgyblion wedi nodi ymateb cadarnhaol o 94 y cant mewn perthynas â’r ddarpariaeth. Gwn fod yr awdurdod lleol wedi cynnal cylch arsylwi gwersi yn ddiweddar ac wedi cael adborth cadarnhaol iawn. Fel y dywedais, euthum i’w weld ar waith gyda’r gwersi Sbaeneg ym mis Medi a chefais gyfle i siarad â’r bobl ifanc. Roedd i'w weld yn mynd yn dda iawn ac roeddent yn fodlon â sut y gweithiai. Credaf fod y canlyniadau academaidd yn galonogol hefyd. Mae canlyniadau Safon Uwch 2023 yn dangos bod 15.2 y cant o ddysgwyr wedi cael graddau A* drwy e-sgol, o gymharu â 13.5 y cant ledled Cymru, ac yn yr un modd, mae cyflawniad ychydig yn uwch o ran graddau A i C gydag e-sgol, o gymharu â gweddill Cymru. Fe fyddwch yn falch o glywed hefyd, rwy’n siŵr, fod Estyn wedi cydnabod darpariaeth e-sgol yn eu hadroddiad ar bartneriaethau ôl-16.

Mae pennaeth strategol e-sgol yn fwy na pharod i ddod i gyfarfod ag Aelodau’r Senedd i siarad â chi am eich pryderon os byddai hynny o gymorth. Rydych yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â Bil y Gymraeg ac addysg, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwaith a wnawn, nid yn unig drwy’r Bil ond drwy ein cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a thrwy ein cynllun ar gyfer y gweithlu, yn golygu y byddwn yn cynyddu’r llif o bobl ifanc sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch, oherwydd yn amlwg, yr hyn sy’n creu’r her yma yw’r ffaith nad oes cymaint â hynny o ddisgyblion, ac mae angen inni fynd i’r afael â hynny.

15:05

Mae'n dda iawn clywed am dechnolegau sy'n datblygu, fel e-sgol, a sut y maent yn cysylltu ystafelloedd dosbarth ledled Cymru. Rwy'n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r ymweliad â’r dosbarth Sbaeneg yng Nghil-y-coed, a gwyddom fod yr ysgol honno, fel rydych chi wedi’i rannu, yn rhannu darpariaeth ag Ysgol Gyfun Trefynwy, ac mae’n wych fod sir Fynwy yn arwain y ffordd. Mae’n wych fod y technolegau hyn yn bodoli i sicrhau bod disgyblion yn gallu gwneud y mwyaf o’u presenoldeb ond hefyd yn gallu dysgu pynciau newydd na fyddent wedi bod ar gael o bosibl, gan sicrhau hefyd nad oes unrhyw blentyn yn cael eu gadael ar ôl.

Yn anffodus, serch hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, mae disgyblion yng Nghymru yn dal i gael eu gadael ar ôl, yn seiliedig ar sgorau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar gyfer 2023. Nodaf fod eich rhagflaenydd wedi datgan pan gyhoeddwyd y canlyniadau fod cynlluniau wedi’u lansio i godi safonau. A gaf i ofyn, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gynnydd a wnaed ar wella safon systemau addysg yng Nghymru, ac ar sicrhau bod y bwlch rhwng Cymru a gwledydd eraill y DU nid yn unig yn cael ei leihau ond yn cael ei ddileu’n gyfan gwbl?

Diolch am eich cwestiwn atodol, Peter. Yn wir, roedd yn bleser ymweld â phrosiect e-sgol; credaf fod ganddo lawer o botensial ar gyfer pynciau nad oes cymaint o ddysgwyr yn eu dewis. Mae tystiolaeth dda bellach ein bod yn dechrau gweld y prosiect yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd, lle mae pobl ifanc yn cael cyfleoedd na fyddent byth yn eu cael fel arall i weithio gyda phethau fel y Goethe-Institut, felly mae'n gyfle da iawn ac rwy'n canmol y cyngor am eu gwaith arno.

Yn amlwg, fe aethoch yn eich blaen wedyn i wneud pwynt gwleidyddol ehangach am y safonau ysgolion yng Nghymru. Gwneuthum ddatganiad ar hynny ddoe yr hoffwn eich cyfeirio ato. Roedd yn nodi ei bod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i gynyddu presenoldeb a chyrhaeddiad; ein bod yn mynd i ganolbwyntio'n bendant ar lythrennedd a rhifedd. Soniais mewn cryn dipyn o fanylder yn y sesiwn ddoe sut y gwnawn hynny, felly hoffwn eich cyfeirio at y datganiad hwnnw, sy’n nodi ein cynlluniau yn eithaf manwl.

Plant Bach sy'n Mynychu'r Ysgol mewn Cewynnau

7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i ysgolion o ran plant bach sy'n mynychu'r ysgol mewn cewynnau? OQ61782

Mae ein dull o weithredu yng Nghymru yn ymwneud â chymorth cynnar ac atal, gan ddarparu cymorth i deuluoedd yn gynnar er mwyn helpu i sicrhau bod plant yn pontio'n rhwydd i’r ysgol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf gan Child of the North a’r Centre for Young Lives yn esbonio nad ystyrir bod traean o blant yn barod ar gyfer yr ysgol yn 2022-23, gyda phryderon ynghylch datblygiad lleferydd ac iaith a dod i'r ysgol mewn cewynnau. Datgelodd adroddiad o oddeutu 10 mlynedd yn ôl hyd yn oed fod o leiaf hanner y staff ysgolion cynradd wedi gweld cynnydd yn nifer y plant nad oeddent yn gallu mynd i’r toiled eu hunain yn ystod y dydd. Wrth siarad â fy mhenaethiaid fy hun yn lleol, mae pryderon ynghylch plant yn dod i'r ysgol mewn cewynnau yn cynyddu.

Mae dros hanner y plant nad ydynt yn barod ar gyfer yr ysgol yn perfformio’n waeth na’r disgwyl yn eu hasesiad darllen cyfnod allweddol 1, felly mae rhywfaint o gydberthynas uniongyrchol yma. Pa ganllawiau, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallwch eu rhoi i rieni a theuluoedd? Hefyd, pa adnoddau y gallwch eu darparu i benaethiaid ac athrawon ysgol, oherwydd yn amlwg, mae unrhyw amser a dreulir yn newid cewynnau yn amser allan o’r ystafell ddosbarth? Yn amlwg, mae angen rhywfaint o arweiniad ar hyn nawr, gan ei bod yn broblem sy’n cynyddu’n barhaus. Diolch.

A gaf i ddiolch i Janet am ei chwestiwn? Yn wir, rwyf wedi clywed fy hun gan rai penaethiaid eu bod yn gweld plant nad ydynt wedi'u hyfforddi i ddefnyddio'r toiled yn dod i'r ysgol, a pha mor heriol y gall hynny fod. Mae'n rhan o'r hyn a ddisgrifiais yn y Siambr ynglŷn ag ysgolion yn ymdrin ag ystod ehangach o faterion nad ydynt yn ymwneud ag addysg, ac mae hynny'n rhoi llawer o bwysau arnynt. Mae gennym ein hymgyrch 'Magu plant. Rhowch amser iddo' ac ymgyrch a gwefan Teulu Cymru, sy’n darparu gwybodaeth hanfodol i deuluoedd gan gynnwys gwybodaeth am fagu plant, cyngor ar bryderon yn ymwneud â rhianta megis ymddygiad, strancio, amser gwely, amser bwyd a hyfforddiant toiled, ac sy’n cyfeirio rhieni at ffynonellau cymorth pellach. Mae ymgyrch 'Magu plant. Rhowch amser iddo’ wedi gweithio gydag elusen Children's Bladder and Bowel Charity i gyd-frandio dau o’u hadnoddau, un o’r enw ‘Meddwl am bi-pi a phw pw gan dy fod di bellach yn ddwy oed’ ac un o’r enw ‘Meddwl am bi-pi a phw pw nawr eich bod ar y ffordd i'r ysgol!', i egluro pwysigrwydd pledren a choluddion iach.

Fe fyddwch chi hefyd yn ymwybodol o'n rhaglen Dechrau'n Deg, yr ydym wedi'i chadw yng Nghymru er nad yw wedi bod ar waith cyhyd dros y ffin. Mae ein harweiniad trosiannol ar gyfer teuluoedd Dechrau’n Deg yn defnyddio dull cyfannol i sicrhau bod plant yn pontio'n gadarnhaol yn y blynyddoedd cynnar, ac yn hyrwyddo pwysigrwydd deall anghenion plant, gan gynnwys mynd i’r toiled.

15:10
Mynediad i Gyfleusterau Chwaraeon Ysgolion

8. Pa gamau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella mynediad cyhoeddus i gyfleusterau chwaraeon ysgolion y tu allan i oriau ysgol? OQ61786

Mae buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon yn ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu ac rydym yn gweithio’n agos gyda Chwaraeon Cymru i wella ac adnewyddu cyfleusterau ledled Cymru. Ers 2022-23, mae ein rhaglen grant cyfalaf ysgolion bro gwerth £60 miliwn wedi darparu cyfleusterau chwaraeon a gwell mynediad at ein safleoedd ysgol ar gyfer y gymuned.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddiad arbennig oddeutu blwyddyn yn ôl y byddai ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cael eu galw'n 'ysgolion cymunedol', ond yn anffodus, nid yw hwnnw wedi bod yn ddisgrifiad teilwng, Ysgrifennydd y Cabinet, gan nad oes llawer o ysgolion ar agor ar ôl oriau ysgol ac yn darparu mynediad i'r gymuned at y cyfleusterau chwaraeon gwych sydd ar gael yno? Mae hon yn broblem arbennig mewn ardaloedd gwledig lle mae cyfleusterau chwaraeon yn wael ledled Cymru, a gallai’r ysgolion ddarparu cyfle unigryw i annog plant, pobl ifanc, y gymuned gyfan i barhau i ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon y tu hwnt i oriau ysgol. Y pethau sy’n atal yr ysgolion rhag agor yw pryderon ynghylch diogelwch, ond hefyd yr anallu i dalu rhywun i agor a chau’r ysgol ar ôl oriau ysgol oherwydd bod cyllidebau ysgolion eisoes dan bwysau, fel y gallwch ddychmygu. Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i geisio goresgyn y rhwystrau hynny? Diolch.

Diolch, Laura. Wel mae'n rhaid imi anghytuno â chi nad yw hwn yn faes lle rydym wedi gwneud cynnydd da yng Nghymru. Fel y dywedais, erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, 2024-25, byddwn wedi buddsoddi £60 miliwn mewn ysgolion bro. Daw hynny ar ben y biliynau o bunnoedd a wariwyd gennym ar adeiladau ysgol newydd ac ati, felly credaf fod ein hanes o fuddsoddi mewn adeiladau ysgol yng Nghymru yn un y gallwn fod yn falch ohono.

O ran Dwyrain De Cymru, rydym wedi buddsoddi £9.5 miliwn yn benodol ar gyfer prosiectau yn ardal Dwyrain De Cymru. Fe wnaeth hynny gefnogi cyfleusterau chwaraeon yn yr ardal drwy grantiau cyfalaf eraill, megis y cae 3G newydd yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhorfaen a neuadd chwaraeon newydd yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd, a ddarperir drwy’r cyllid grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg, ac mae bron i 30 y cant o'r cyllid hwn wedi'i dargedu'n benodol i ddarparu a gwella ystod eang o gyfleusterau chwaraeon dan do ac awyr agored.

Nawr, mae’r Aelod yn gwneud pwynt dilys nad yw pob ysgol yn gwneud hyn, ac mae llawer o ysgolion yng Nghymru yn darparu ar gyfer gwasanaethau ysgol a chymunedol estynedig gan gynnwys chwaraeon, ond mae'n fater i’r corff llywodraethu, sy’n chwarae rhan hanfodol yn rheoli’r defnydd o’r cyfleusterau hyn, o fewn a thu hwnt i oriau ysgol. Mae’r penderfyniad i hwyluso defnydd cymunedol ehangach fel arfer yn nwylo’r corff llywodraethu a’r pennaeth, ac mae’n bwysig iawn fod gweledigaeth glir yn cael ei chyfleu gan uwch-arweinwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Wrth rannu adnoddau, bydd trefniant addas rhwng ysgolion a phartneriaid eraill yn amrywio yn dibynnu ar natur y gymuned, ac mae angen i arweinwyr ysgol fod yn glir ynglŷn â sut y mae rôl yr ysgol yn ffitio o fewn mentrau ehangach ar lefel leol, a datblygu’r partneriaethau mwyaf perthnasol iddynt hwy.

Yn amlwg, yn ogystal â chyfalaf, rydym hefyd wedi buddsoddi £6.5 miliwn eleni mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd i weithio gyda theuluoedd a chymunedau o amgylch ysgolion, ac mae hwnnw'n gyfraniad pwysig at hyn hefyd. Ond rydym hefyd yn parhau i ariannu treial o reolwyr ysgolion bro a fydd yn gweithio ar ddatblygu gwell ymgysylltiad rhwng ysgolion a’u cymunedau, a bydd hynny, gobeithio, yn arwain at fwy o gysondeb o ran gallu pobl i elwa ar y cyllid hwn.

15:15
3. Cwestiynau Amserol
Undeb Rygbi Cymru

1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr honiadau a adroddwyd o fwlio a rhywiaeth yn URC yn ymwneud â thîm rhyngwladol y menywod? TQ1228

Diolch. Cyfarfûm â chynrychiolwyr Undeb Rygbi Cymru ddydd Llun a chyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw. Fy nod nawr yw deall yr amgylchiadau ynghylch y negodiadau contract diweddar i chwaraewyr benywaidd yn llawn, a sut y gellir bwrw ymlaen â gwelliannau i brosesau presennol mewn ffordd fwy cadarnhaol yn y dyfodol.

Diolch am y diweddariad, ac rwy’n amlwg yn croesawu’n fawr y ffaith eich bod wedi cyfarfod yn brydlon â chynrychiolwyr URC, yn dilyn yr honiadau mwyaf diweddar. Ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom wedi ein synnu a'n digalonni o weld yr honiadau hyn pan wnaethant ymddangos yn The Telegraph yr wythnos diwethaf, a hoffwn dalu teyrnged i'r newyddiadurwr Fiona Thomas a ddatgelodd y stori, ac wrth gwrs, i'r menywod a fu'n ddigon dewr i godi llais.

I mi, mae’r datgeliad mwyaf echrydus yn ymwneud â sut y cafodd y chwaraewyr eu bygwth â chamau disgyblu, a’r potensial i’r tîm gael ei dynnu allan o gwpan y byd os na fyddent yn cydymffurfio â dymuniadau'r URC ac yn arwyddo eu contractau newydd. A all unrhyw un yn y Siambr ddychmygu tîm y dynion yn cael eu trin yn y fath fodd? Ac wedi hynny, mewn cynhadledd i'r wasg a drefnwyd ar frys gan URC ddydd Gwener, adroddwyd bod URC wedi ymddiheuro'n llaes ac yn edifar am beidio â thrin eu chwaraewyr benywaidd fel gweithwyr cyflogedig ac am unrhyw straen a loes a achoswyd, ond eu bod yn gwadu honiadau o rywiaeth.

Weinidog, y diffiniad o rywiaeth yw rhagfarn, stereoteipio neu wahaniaethu, yn erbyn menywod fel arfer, ar sail rhyw. Credaf ei bod yn amlwg i lawer fod yr hyn y mae’r tîm cenedlaethol wedi’i brofi yn cyd-fynd yn llwyr â'r diffiniad o rywiaeth. A ydych chi'n cytuno â mi mai dyma y mae tîm y menywod wedi’i brofi? Ac er fy mod yn sicr fod y tîm yn gwerthfawrogi'r ymddiheuriad, rydym wedi bod yma o'r blaen, ac nid yw geiriau'n ddigon. Nid yw ymddiheuriad yn ddiwedd arni, ac ni all fod. Nid yw'n ymwneud ag unigolion; mae'n sefydliadol.

Felly, yn ogystal ag adolygiad URC ei hun, pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd? A wnewch chi adolygu perthynas y Llywodraeth ag URC, a bod angen mwy o dryloywder ac atebolrwydd? Hoffwn annog yr un gofal yma ag a anogais yn y gorffennol ynglŷn â'ch cynnig i gyfarfod â'r chwaraewyr. Mae'n rhaid iddynt beidio â chael eu rhoi mewn sefyllfa lle gallai codi llais beryglu nid yn unig eu gyrfa broffesiynol ond eu hiechyd meddwl hefyd, ac mae'n rhaid eu diogelu.

Mae'n rhaid i unrhyw gonsensws sefydliadol clyd ddod i ben. Ni allwn ddwyn pobl i gyfrif os ydym yn rhannu gwybodaeth neu flwch lletygarwch â hwy, a'r tro hwn, mae'n rhaid gwneud newid diwylliannol gweladwy ac ystyrlon. Mae arnom ddyled nid yn unig i fenywod y tîm rhyngwladol ond i bob merch ifanc sydd am chwarae rygbi yng Nghymru.

Lywydd, a gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn ac am y ffordd y cyfrannodd ei chwestiwn atodol y prynhawn yma? Credaf ei bod yn deg dweud bod pob un ohonom yn y Siambr hon wedi ein synnu a'n digalonni gan y datgeliadau yr wythnos diwethaf yn The Telegraph, ac ymunaf â Hannah Blythyn i ddiolch yn arbennig hefyd i’r chwaraewyr am fod yn ddigon dewr i godi eu llais yn sgil y broses honno.

Fel y nodais yn fy natganiad i Aelodau’r Senedd ddydd Llun, Lywydd, cyfarfûm ag URC fel mater o frys, yn dilyn y ffocws yn y cyfryngau dros y penwythnos ar yr honiadau o rywiaeth a wynebwyd gan dîm cenedlaethol y menywod yn eu negodiadau contract. Mynegais yn glir fy siom fod rygbi Cymru, unwaith eto, yn y penawdau am y rhesymau anghywir, yn enwedig o ystyried cyd-destun y blynyddoedd diwethaf. Yn fy nghyfarfod ag URC, ac fel y mae Hannah Blythyn eisoes wedi'i nodi, mae’n amlwg fod URC eisoes wedi derbyn rhai methiannau yn y broses ac yn chwilio am feysydd i’w gwella. Mae URC eu hunain yn bwriadu cyfarfod â’r chwaraewyr i roi'r ymddiheuriad hwnnw, ac fel y dywedais eto yn fy natganiad ddydd Llun, mae’r adolygiad o’r broses yn mynd rhagddo, ac nid yw’r adroddiad hwnnw wedi’i gyhoeddi eto. Felly, nid wyf wedi cael golwg ar yr adroddiad, ond rwy'n gobeithio gwneud hynny yn yr wythnosau nesaf i gael darlun llawn a dealltwriaeth lawn o’r hyn sydd wedi digwydd a pha gamau sydd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion sy'n codi, gan fy mod yn cytuno gyda Hannah Blythyn nad yw geiriau'n ddigon.

Mae fy marn ar unrhyw honiadau o’r natur hon yn glir: ni fydd Llywodraeth Cymru yn cadw'n dawel ar unrhyw fath o rywiaeth, bwlio neu gam-drin, ac y dylai menywod a merched fod yn ddiogel ac y dylent deimlo’n ddiogel ym mhob agwedd ar eu bywydau, gan gynnwys yn eu gweithle, ac rydym yn disgwyl yr un lefel o ymrwymiad gan ein holl bartneriaid a rhanddeiliaid a dinasyddion yng Nghymru, gan gynnwys URC.

Lywydd, yr hyn sydd bwysicaf i mi yn y broses hon yw sut y mae’r menywod eu hunain yn teimlo am hyn, ac a ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn wahanol. Rwy’n derbyn pwynt yr Aelod ynglŷn â thîm y dynion, ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn y Siambr hon yn teimlo'r un ffordd â hi a minnau, na fyddai tîm y dynion wedi cael eu trin fel hyn, gyda’r posibilrwydd o beidio â mynd i gwpan y byd yn opsiwn ar y bwrdd negodi. Dyna pam fy mod yn gobeithio cyfarfod ag awduron adroddiad yr adolygiad maes o law, ac yn wir, chwaraewyr tîm cenedlaethol y menywod, ac rwy’n gobeithio gwneud hynny mewn man lle maent yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel, a bydd y cyfarfodydd hynny'n cael eu cynnal yn gyfrinachol. Lywydd, i gloi, gall y chwaraewyr wneud hynny naill ai drwy URC eu hunain neu’n uniongyrchol i mi, naill ai eu hunain ar y cyd neu drwy eu cyrff cynrychioliadol, felly mae’n ofod diogel lle maent yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu’r hyn y maent am ei rannu â mi, fel fy mod yn cael dealltwriaeth lawn o ba gamau sydd angen eu cymryd.

Dylwn ddweud, Lywydd, yn hyn oll, fod pob un ohonom am i’r mater gael ei ddatrys gan ein bod ni yng Nghymru eisiau i rygbi ffynnu yn y dyfodol.

15:20

Diolch, Hannah, am gyflwyno’r cwestiwn hwn. Mae llai na dwy flynedd, onid oes, ers inni weld rhaglen ddogfen y BBC ar y diwylliant gwenwynig a’r rhywiaeth a fodolai yn Undeb Rygbi Cymru, ac yn sgil y rhaglen ddogfen honno, cawsom sicrwydd fod gwersi wedi’u dysgu ac y byddai pethau'n newid yn Undeb Rygbi Cymru. Ond credaf fod yr adroddiad a welsom ddiwedd yr wythnos diwethaf yn The Telegraph yn dangos bod cryn dipyn o ffordd i fynd o hyd i drechu rhywiaeth yn un o’n prif sefydliadau yng Nghymru.

Credaf mai un o’r sylwadau a oedd yn peri’r pryder mwyaf i mi ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, pan ofynnwyd iddynt ai methiant un unigolyn yn Undeb Rygbi Cymru oedd hyn neu fethiant sefydliadol, oedd bod Undeb Rygbi Cymru wedi dweud ei fod yn fethiant sefydliadol, sy'n codi cwestiynau ynglŷn ag a ddysgwyd y gwersi hynny ac a yw pethau wedi newid. Felly, tybed beth oedd eich asesiad chi cyn cyhoeddi’r adroddiad hwn am y diwylliant yn Undeb Rygbi Cymru, ac a oeddech chi'n teimlo ei fod yn lle croesawgar, yn lle diogel i weithio, a bod pobl a oedd yn ymgysylltu ag ef yn cael eu trin â'r parch a’r urddas a haeddent, a pha gamau a gymerwyd gennych ers cyhoeddi’r adroddiad hwnnw i sicrhau ei fod yn bodloni’r safonau y mae pob un ohonom yng Nghymru yn disgwyl iddo eu bodloni.

A gaf i ddiolch i Tom Giffard am gyfrannu y prynhawn yma? Tom, rwy'n credu ei bod yn bwysig, onid yw, ein bod yn ymuno â'n gilydd yn wleidyddol yn y Senedd ac yn gweithredu, ac yn sicrhau ein bod yn tynnu sylw at y math hwn o ymddygiad pan fyddwn yn ei weld, a diolch i Tom am wneud hynny hefyd.

Mae’r pwyntiau a wna’r Aelod yn rhai pwysig a dilys. Dylwn bwysleisio, Lywydd, nad yw’r adroddiad ar yr honiad hwn wedi’i gyhoeddi’n llawn eto. Nid wyf wedi gweld cynnwys yr adroddiad hwnnw, ond byddaf yn ei weld maes o law. Rwyf wedi gofyn am gael gweld yr adroddiad; hoffwn ddeall cynnwys yr adroddiad, ond nid gweld yr adroddiad hwnnw'n unig—rwyf am gyfarfod ag awduron yr adroddiad a hefyd y Fonesig Rafferty, sy'n arwain y gwaith yn y grŵp goruchwylio, sy'n adlewyrchu pwynt yr Aelod ynghylch y materion a ddaeth i'r amlwg flwyddyn yn ôl. Hoffwn wneud hynny am ddau reswm, Lywydd: yn gyntaf, i gael barn y Fonesig Rafferty ar ble y mae URC arni o ran newid y diwylliant, y newid diwylliant mawr ei angen a nodwyd flwyddyn yn ôl, a’r honiadau ger ein bron eto, a beth arall sydd angen ei wneud a pha gymorth y gellir ei gynnig i URC i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto. Ni allaf orbwysleisio fy siom, Lywydd, fel y dywedais yn y datganiad ysgrifenedig ddydd Llun, ac i fynd yn ôl at bwysigrwydd clir a hanfodol chwaraewyr y tîm cenedlaethol yn hyn, i mi, yr hyn sy'n hynod drallodus yn y cyfnod diweddaraf a'r honiadau a wnaed yn The Telegraph oedd y diffyg cydnabyddiaeth i'r anghydbwysedd grym yn y sefyllfa hon. Mae’r menywod hyn, Lywydd, wedi gweithio ar hyd eu hoes i gyrraedd lefel elît eu camp. Cynrychioli eu cenedl ar y llwyfan byd-eang yw pinacl eu gyrfaoedd, ac mae cael eu trin yn y ffordd y cafodd y chwaraewyr eu trin yn ystod y negodiadau contract yn gwbl annerbyniol, a hynny cyn i ni hyd yn oed ystyried y ffaith bod terfyn amser caeth wedi’i roi ar waith.

Felly, rwyf wedi clywed cyfraniad Heledd Fychan i’r Trefnydd ddoe yn ystod y datganiad busnes, ac rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedodd yr Aelod yn ystod y datganiad hwnnw a’r cais am ddatganiad pellach gennyf i, Lywydd. Pan fyddaf wedi gweld cynnwys yr adroddiad gan URC, pan fydd y cyfarfodydd wedi’u cynnal gyda’r awduron a’r chwaraewyr eu hunain, fe ddof yn ôl i Siambr y Senedd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.

15:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am eich ymateb? Credaf eich bod wedi gweld, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, pan fo URC wedi bod yn y penawdau, pa mor bryderus yw Aelodau’r Senedd, a hoffwn gytuno'n llwyr â sylwadau Hannah Blythyn. Rhywiaeth yw hyn. Ni fyddai byth wedi digwydd i dîm cenedlaethol y dynion. Mae angen inni ddweud hynny'n glir. A hoffwn ategu eich teyrnged i ddewrder y rheini sydd wedi codi llais, a'r newyddiadurwyr hefyd, gan y byddant yn cael eu cosbi am godi eu llais oni bai ein bod ni'n tynnu sylw at y peth hefyd, oherwydd mae'n rhywiaeth sefydliadol. Wrth edrych ar ddatganiad Jess Kavanagh, a oedd yn hynod ddewr fel cyn-chwaraewr, fe ddywedodd,

'Mae'n drueni, mewn gwirionedd, gan ein bod wedi clywed ymddiheuriadau dros y tair a phedair blynedd diwethaf, ac rydym yn dal i glywed yr un ymddiheuriadau heddiw.'

Felly, mae'n rhaid inni gwestiynu beth sydd wedi newid, gan ein bod yn ceisio annog mwy o gyfranogiad mewn chwaraeon. Bydd hyn yn anghymell menywod rhag chwarae rygbi oni bai bod URC yn dangos newid ystyrlon.

Hoffwn eich holi, yn dilyn cwestiwn Hannah, gan nad wyf yn credu inni gael eglurhad clir ynghylch y pwynt hwnnw, ynglŷn â pherthynas barhaus Llywodraeth Cymru ag URC. Yn amlwg, maent yn bartner allweddol, o ran ein cysylltiadau rhyngwladol yn aml, er enghraifft. Maent yn bartner allweddol hefyd, fel y gwelsom, o ran hyrwyddo Cymru i’r byd, ond hefyd y manteision economaidd yn sgil eu gemau enfawr yma yng Nghymru. Felly, maent yn chwaraewr allweddol. Felly, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi URC yn flaenorol, gan gynnwys rhoi benthyciad yn 2022. A gaf i ofyn beth yw'r disgwyliadau o ran y berthynas honno, a sut y mae'r berthynas honno'n dod yn ei blaen?

Rwy’n falch iawn y byddwch yn dychwelyd i’r Senedd. Rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor diwylliant hefyd yn edrych yn fanwl ar hyn. Mae angen sicrwydd arnom nad gwrando yn unig y mae URC, ond ei fod yn sicrhau newid gwirioneddol. Nid yw'n ddigon da ein bod yn gweld URC yn y penawdau unwaith eto, a bod yn rhaid i bobl godi llais ynglŷn â rhywiaeth. Mae angen inni allu symud ymlaen a sicrhau bod pawb sy’n chwarae rygbi yma yng Nghymru yn cael eu parchu, ni waeth i ba dîm y maent yn chwarae.

Diolch, Heledd. Unwaith eto, rwy'n cytuno â’r pwyntiau a wnaed gennych y prynhawn yma. Fel y dywedais ar y dechrau, ydw, rwyf am i rygbi ffynnu, Lywydd, ond nid wyf am gadw'n dawel yn y broses hon. Roeddwn yn credu ei bod yn bwysig i mi, ar y cyfle cyntaf, gyfarfod ag URC ddydd Llun, fy mod wedi cyfarfod â’u cadeirydd, eu prif weithredwr a’u cyfarwyddwr gweithredol, ac wedi mynegi fy siom iddynt, ond eu hatgoffa—. Rydych chi'n llygad eich lle, mae'r bartneriaeth sydd gennym fel Llywodraeth—. Ac fe wnaethom eu hatgoffa, wrth aildrafod eu benthyciad, y dylai arferion yn y gweithle, yn arbennig, fod yn deg i bawb, ar y cae ac oddi arno. Dyna ymrwymiad ein hochr ni o hyd. Dyna rwy'n ei ddisgwyl nid yn unig gan URC, ond gan bob cyflogwr yng Nghymru. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen ac yn y datganiad, rwy’n awyddus i sicrhau y bydd proses gadarn ar waith i sicrhau gwelliannau i’r prosesau o fewn URC er mwyn gwneud yn siŵr fod y diwylliant yn newid i gefnogi undeb rygbi ffyniannus a chynhwysol yng Nghymru.

Ac rwyf am gael hyder yn y broses honno. Dyna pam fy mod am siarad â'r chwaraewyr; dyna pam fy mod am siarad â'r cadeirydd, awduron yr adolygiad; dyna pam fy mod am siarad â’r Fonesig Rafferty ynghylch y grŵp goruchwylio a’r argymhellion, a dyna pam y byddaf yn cyfarfod â’r prif weithredwr a’r cadeirydd eto i drafod y camau hynny, gan eu bod yn gamau pwysig, fel y mae'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma wedi'i gydnabod. Mae'n rhaid inni gael undeb rygbi yng Nghymru sy’n gefnogol i gyfranogiad cynhwysol yn y gamp, ni waeth ar ba lefel a pha gêm y mae’r chwaraewyr yn ei chwarae.

Ailadroddaf fy siom am yr hyn sydd wedi digwydd yn y penawdau. Rwy'n gobeithio y gallwn gyrraedd lle gwell. Wrth gwrs, byddaf yn cyflwyno datganiad pellach i Aelodau’r Senedd hon, ac rwy’n fwy na pharod i gymryd rhan yn y sgyrsiau hynny gydag Aelodau y tu allan i’r Senedd, gan fy mod yn cydnabod bod hwn yn fater o bwys iddynt, ac rwy'n croesawu'r craffu ar y mater hwn hefyd.

15:30
Diogelwch Trenau

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o drenau eraill Trafnidiaeth Cymru sydd wedi cael eu ffitio â'r system ddiogelwch awtomataidd y bwriedir i chwistrellu tywod pan fydd olwynion yn llithro ac a fethodd ar drên a fu'n rhan o'r ddamwain angheuol ddiweddar ym Mhowys, a beth yw'r asesiad o'r risg o fethiannau tebyg? TQ1234

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diogelwch yw'r brif flaenoriaeth i Trafnidiaeth Cymru a Network Rail bob amser. Maent wedi cynnal archwiliadau estynedig o'r trenau a'r rheilffordd ei hun i alluogi rheilffordd y Cambrian i ailagor, ac rwy'n ddiolchgar i'w staff sydd wedi gweithio'n ddiflino ers y digwyddiad i ailddechrau gwasanaethau.

Diolch am yr ateb yna, Cabinet Secretary.

Diolch byth fod damweiniau fel yr un a ddigwyddodd ym Mhowys fis diwethaf yn ddigwyddiadau prin iawn bellach. Arweiniodd at farwolaeth teithiwr, ac rwy'n cydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau, ond gallai hyn fod wedi bod yn llawer gwaeth ac rwy'n poeni bod perygl iddo ddigwydd yn amlach o ystyried natur y nam.

Mae archwiliadau yn dilyn y ddamwain yn datgelu bod pibelli y bwriedir iddynt chwistrellu tywod pan fydd olwynion yn llithro wedi'u blocio. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y pibelli ar drenau eraill Trafnidiaeth Cymru heb eu blocio a heb namau tebyg?

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau na ddigwyddodd y methiant i'r system ar un o drenau newydd Trafnidiaeth Cymru? Ac os gwnaeth, a fydd y fflyd newydd gyfan yn cael ei harchwilio am ddiffygion tebyg, a sut y byddai hynny'n cael ei ariannu a pha warantau contract sydd mewn grym y gellir pwyso arnynt i unioni unrhyw ddiffygion systematig?

Ac ymhellach, pa sgyrsiau ac ymgynghoriadau a gawsoch chi gydag undebau rheilffyrdd a staff Trafnidiaeth Cymru i siarad am rai o'r gwersi sydd i'w dysgu o'r digwyddiad trasig hwn?

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau gwerthfawr am ddiogelwch rheilffyrdd yn gyntaf a pha mor brin yw digwyddiadau o'r fath ar rwydwaith rheilffyrdd y DU, diolch byth. Gan y DU y mae'r rhwydwaith rheilffyrdd mwyaf diogel yn Ewrop gyfan. Fodd bynnag, mae digwyddiadau fel y rhain yn ofnadwy pan fyddant yn digwydd ac mae'n hanfodol bwysig ein bod yn rhoi amser priodol i'r arbenigwyr—yr arbenigwyr sy'n cynnal ymchwiliadau i'r rheilffyrdd—asesu'n llawn yr hyn a allai fod wedi mynd o'i le a pha wersi y gellir eu dysgu. A byddai'n amhriodol i mi fwrw amcan ynghylch achos y digwyddiad.

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn adroddiad interim ac nid yw'n rhoi unrhyw fanylion pellach na'r hyn y mae'r Aelodau eisoes wedi'i weld. Fodd bynnag, rwyf wedi ysgrifennu at brif weithredwr Trafnidiaeth Cymru ac at brif weithredwr Network Rail. Rwyf wedi gofyn iddynt roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi am yr hyn y maent yn ei wneud o ran archwiliadau estynedig i sicrhau bod y rhwydwaith a'n trenau sy'n teithio ar y rheilffyrdd mor ddiogel ag y gallant fod. Ddirprwy Lywydd, byddaf yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y caf ymateb gan y prif weithredwyr. 

Rwyf hefyd wedi cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru. Yn amlwg, y digwyddiad hwn oedd y prif reswm dros y cyfarfod hwnnw a chefais sicrwydd fod Trafnidiaeth Cymru, ynghyd ag undebau llafur, yn gweithio'n agos iawn gyda Network Rail a'r rhai sy'n ymchwilio i'r digwyddiadau i sicrhau, lle gellir dysgu gwersi, y gellir eu gweithredu cyn gynted â phosibl. Ond rwy'n credu y byddai'n amhriodol imi fwrw amcan ynghylch achos y digwyddiad.

Ar y pibelli tywod, caiff y rhain eu gosod ar drenau fel technoleg safonol, er mwyn sicrhau y gellir sicrhau cymaint â phosibl o adlyniad rhwng y rheilffordd a'r olwynion pan fydd y rheilffyrdd yn llithrig. Nawr, bydd y trenau dosbarth 197 newydd, y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt, yn dod yn weithredol yn haf 2025—yr haf nesaf. Ond fel y dywedais, mae angen inni roi amser i'r ymchwilwyr, yr arbenigwyr, sy'n gwneud gwaith helaeth iawn, a sicrhau bod y gwersi a ddysgwn yn seiliedig ar y dystiolaeth y gallant ei chanfod.

15:35

Wrth gwrs, nid mater i ni yw ceisio rhagweld yr ymchwiliad i'r digwyddiad ofnadwy hwn, ac mae'n bwysig cofio pa mor anarferol yw marwolaethau ar y rheilffyrdd, ond awgrymodd yr adroddiad ddoe y gallai'r rhwystr yn y bibell a oedd yn chwistrellu tywod pan fo llithriadau'n digwydd ddynodi problem gyda chynnal a chadw. Ac mae heriau hanesyddol wedi bod gyda pherfformiad depos cynnal a chadw y mae Trafnidiaeth Cymru yn is-gontractio iddynt. Felly, ar wahân i'r ymchwiliad gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ofyn i Trafnidiaeth Cymru gynnal adolygiad o berfformiad y depos cynnal a chadw, ac a fydd unrhyw gamau yn cael eu cymryd yn ddarbodus nawr i'w gwella?

A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n hollol gywir: nid oes yr un ohonom yn y Senedd yn arbenigwyr ar ddamweiniau rheilffyrdd, ac mae angen inni adael y gwaith hwn i'r arbenigwyr, i'r swyddfa sydd wedi cael ei gwahodd i sicrhau y gallwn ganfod beth yn union a ddigwyddodd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod y systemau tywod yn dechnoleg safonol, a bod yna safon sy'n cael ei chymhwyso o ran sut a phryd y cânt eu cynnal a'u cadw. Rwy'n sicr y bydd y swyddfa sy'n ymchwilio i ddamweiniau rheilffyrdd yn cynnal yr holl ymchwiliadau perthnasol ynghylch y safonau cynnal a chadw ar gyfer y trenau hynny, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â hwy. Ond unwaith eto, byddai'n amhriodol i mi fwrw amcan ynghylch y rheswm pam oedd y pibelli wedi'u blocio ar ddiwrnod y digwyddiad.

Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Peredur Owen Griffiths am godi'r cwestiwn pwysig hwn y prynhawn yma. Rwyf i, a fy nghyd-Aelodau hefyd rwy'n siŵr, yn cydymdeimlo ag anwyliaid David Tudor Evans a phawb a oedd yn rhan o'r digwyddiad erchyll hwn.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg o ganfyddiadau cychwynnol y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd fod system brecio brys y trên sy'n cynnwys pibelli tywod wedi'i blocio—mae fy nghyd-Aelod wedi sôn am hynny eisoes—ac rwy'n deall na allwch fwrw amcan, ond hoffwn yn fawr pe gallech edrych ar yr hyn a achosodd y rhwystr mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn am lithrigrwydd—rwy'n derbyn yr holl bethau hynny—ond hoffwn wybod pam na chafodd ei nodi yn yr archwiliadau cyn i'r trên gychwyn ar ei daith.

Hoffwn wybod a deall mwy am ba mor aml y cynhelir archwiliadau diogelwch ar bob trên Trafnidiaeth Cymru newydd a hen, ac a oes unrhyw gyfarwyddiadau wedi'u rhoi gan Lywodraeth Cymru i Trafnidiaeth Cymru i gynyddu a chryfhau'r archwiliadau hyn o ganlyniad i'r digwyddiad trasig hwn. Ac rwyf hefyd yn chwilfrydig iawn i wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes unrhyw broblemau pellach gyda threnau eraill Trafnidiaeth Cymru wedi'u nodi ers i'r gwrthdrawiad hwn ddigwydd. Oherwydd, fel rwy'n siŵr y gallwn i gyd ddeall, rhaid cymryd camau i sicrhau bod diogelwch teithwyr o'r pwys mwyaf ac yn brif flaenoriaeth er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth tebyg i hyn yn digwydd eto. Diolch.

A gaf i ddiolch i Natasha am ei chwestiynau? Rwy'n ailadrodd ei bod yn beryglus iawn pennu o'r adroddiad interim beth oedd achos sylfaenol y digwyddiad. Oedd, roedd y pibelli wedi blocio, ond nid ydym yn gwybod pam eu bod wedi blocio, ac nid wyf am gael fy nenu i fwrw amcan ynghylch y rheswm pam. Gallaf sicrhau bod y trenau, fel rhan o fflyd Trafnidiaeth Cymru, yn cael eu cynnal a'u cadw'n unol â'r gofynion a nodir ar gyfer eu gweithredu'n ddiogel, ac mae archwiliadau estynedig ar y gweill. Ac fel y soniais yn gynharach, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan gaf ymateb gan brif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru a phrif swyddog gweithredol Network Rail.

Data Coll ynghylch Marwolaethau Staff y GIG oherwydd COVID

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar ddatguddiad diweddar yr ymchwiliad COVID-19 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n tynnu sylw at ddata coll ynghylch marwolaethau staff y GIG oherwydd COVID? TQ1235

15:40

Hoffwn gydymdeimlo â theuluoedd y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig. Mae data mewn perthynas â marwolaethau o ganlyniad i haint COVID-19 yn cael eu casglu o nifer o ffynonellau. Roedd y dystiolaeth a glywodd yr ymchwiliad cyhoeddus i COVID-19 ddoe yn ymwneud â chwblhau dogfennaeth gwyliadwriaeth gyflym, a oedd yn un ffynhonnell o'r fath.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd yn hynod o ofidus clywed tystiolaeth yr Athro Fu-Meng Khaw, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru, am y methiannau data mawr yn ystod ton gyntaf y pandemig. Mae tua 17 y cant o'r data ar farwolaethau COVID ymhlith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i golli, tra bod hyd a lled effaith y pandemig ar gymunedau lleiafrifol ethnig wedi ei dangofnodi'n sylweddol, gyda data coll ar fwy na 1,000 o gofnodion marwolaeth COVID. Ni allaf ddychmygu pa mor ofidus oedd clywed y canfyddiadau hyn i anwyliaid y rhai yr effeithiwyd arnynt.

Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymddiheuro ar ran Llywodraeth Cymru, ond nid yw ymddiheuriadau ar eu pen eu hunain fawr o werth os na ddysgir gwersi. Ac mae hyn yn allweddol, onid yw, yn enwedig o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd sefydledig sy'n costio £300 miliwn y flwyddyn i'r GIG, ac sy'n arwain at ganlyniadau iechyd anghymesur o wael i gymunedau lleiafrifol ethnig. Felly, mae unrhyw bolisi i fynd i'r afael â hyn yn sicr o fethu os ydym yn dibynnu ar wybodaeth sy'n ddiffygiol, hyd yn oed os mai'n rhannol yn unig y bo felly, ac yn hollbwysig yn y cyd-destun hwn, os yw'n tanddatgan maint y peth.

Felly, a gaf i ofyn pa fesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r bylchau data? Pa mor fuan y gallwn ddisgwyl i'r data coll hwn gael ei adfer, os o gwbl? A sut y mae'r diweddariad o 'Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol', y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wrthym yn gadarn iawn ddoe ei fod yn gyfrifoldeb trawslywodraethol, yn mynd i fynd i'r afael â hyn? Roedd yn frawychus clywed bod meddalwedd yn nodi ethnigrwydd ar sail enwau. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn mai ymchwiliad penodol i Gymru i ddadansoddi'r methiannau hyn yw'r ffordd orau a mwyaf effeithiol i'r gwersi hanfodol hynny gael eu dysgu?

Wel, mewn perthynas â'r pwynt olaf, hoffwn atgoffa'r Aelod mai'r rheswm y mae hi'n gofyn y cwestiwn yw oherwydd cwestiynau a ofynnwyd i swyddog Cymreig mewn perthynas ag ymarfer yng Nghymru, yr union fath o gwestiwn y byddai hi'n siŵr o'i groesawu, fel pawb ohonom.

Ar y pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei chwestiwn, credaf ei bod yn bwysig dweud, yn ei dystiolaeth i'r ymchwiliad, y gofynnwyd yn benodol i'r Athro Fu-Meng Khaw o Iechyd Cyhoeddus Cymru am y ffurflen a roddwyd ar waith i ddarparu darlun gwyliadwriaeth gyflym, yn yr hyn a oedd yn amlwg yn bandemig a oedd yn esblygu'n gyflym iawn. Ac fe fydd hi'n gwybod bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi mynd ati, ar wahân, i gynhyrchu ystadegau swyddogol ar farwolaethau drwy gydol y pandemig, yn seiliedig ar ddadansoddiad o dystysgrifau marwolaeth. Ac yn ei dystiolaeth, nododd yr Athro Khaw nad pwrpas y wyliadwriaeth oedd darparu gwybodaeth gynhwysfawr, a chyfeiriodd at yr ystadegau swyddogol at y diben ehangach hwnnw.

Ar y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, sy'n bwynt pwysig iawn, am gasglu data ynghylch hil ac ethnigrwydd yn y sector iechyd a gofal, cefais gyfarfod y bore yma, mewn gwirionedd, gyda'r Athro Anton Emmanuel, sydd wedi bod yn bennaeth strategaeth a gweithredu ar gyfer safon cydraddoldeb hiliol y gweithlu. Ac fel rhan o'r ymrwymiad ehangach y mae fy adran yn ei wneud, yn rhan o 'Gynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol', mae yna ymrwymiad clir, a chynnydd wedi'i wneud i wella'r data sy'n cael ei gasglu ar draws y sector mewn perthynas â chefndir ethnig y gweithlu. A'r peth hanfodol nawr yw nid yn unig casglu'r data, ond gallu defnyddio'r data hwnnw'n ystyrlon i wella profiad gweithwyr o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn ein gweithlu.

Yn amlwg, mae'r dystiolaeth a glywyd yn ymchwiliad COVID y DU ddoe yn bryderus, ac un o'r elfennau mwyaf pryderus a ddarllenwn o'r dystiolaeth oedd bod

'dros fil o elfennau data coll yn y cwestiwn ynghylch statws gweithiwr allweddol.'

Nawr, yn amlwg, fe fyddwch chi wedi bod yn defnyddio'r data hwn fel Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch pa gyfyngiadau i'w codi, ac ymarfer pandemig a'r gweithle yn ystod y pandemig, a bydd hynny'n amlwg yn ymwneud nid yn unig â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ond â gweithwyr allweddol eraill a fydd wedi cael eu heffeithio gan benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Felly, yn ystod y pandemig, gwn mai chi oedd y Gweinidog addysg, yn gwneud penderfyniadau am gyfyngiadau ar ysgolion, er enghraifft, a'u gallu i agor, a'r risg, felly, a wynebai staff ysgolion yn ystod y pandemig. 

Felly, a gaf i ofyn, a yw hwn yn ddarlun sy'n debygol o ddod yn amlwg o bob rhan o Lywodraeth Cymru, o bob sector, fod y data hwn yn anghyflawn yn ystod y pandemig a bod Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau, os mynnwch, gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'w chefn? Neu a yw hyn yn rhywbeth sy'n gyfyngedig i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru? 

15:45

Rwy'n credu y bydd yr Aelod wedi clywed yr ateb a roddais i Sioned Williams eiliad yn ôl. Er bod tystiolaeth yn cael ei rhoi gan Lywodraeth Cymru yn yr ymchwiliad, nid wyf yn siŵr ei bod yn arbennig o ddefnyddiol i mi ddarparu sylwebaeth ar hynny. Yn amlwg, rydym hanner ffordd drwy ymchwiliad eithaf helaeth, ac mae cwestiwn yr Aelod, mewn gwirionedd, yn ymestyn amserlen a chwmpas y cwestiwn hwnnw yn llawer ehangach. Mae gennym fecanwaith ar gyfer rhoi tystiolaeth ac i hynny gael ei herio fel rhan o'r ymchwiliad. Pan fydd y dystiolaeth yn gyflawn, pan fydd yr ymchwiliad wedi dod i gasgliadau, bydd mecanwaith ar wahân i'r Senedd hon fodloni ei hun fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi'u gofyn, ac rwy'n credu mai dyna'r cyd-destun priodol ar gyfer ystyried y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod. 

Diolch i Sioned am y cwestiwn pwysig yma, achos mae'r dystiolaeth yma yn amlygu dwy o'r problemau mwyaf elfennol a sylfaenol sydd gennym ni o fewn y gwasanaeth iechyd. A dydy o ddim yn syndod i'r rhan fwyaf sydd yn gweithio yn y sectorau iechyd a gofal i glywed y stori yma, oherwydd mae'n amlwg fod problemau dybryd yn y gwasanaeth iechyd pan fo'n dod at ddata neu'r diffyg data. Neithiwr, roeddwn i yn swper yr NHS Confederation; heddiw, roeddwn i ym Mhrifysgol Caerdydd; mae tystion pwyllgor wedi sôn droeon a throeon. Bob tro, mae pobl yn y llefydd yma yn sôn am y diffygion data sydd gennym ni yng Nghymru. Sut mae'n bosib, felly, datblygu polisi effeithiol os nad ydy'r data yn gywir neu os nad oes yna gysondeb yn y data sy'n cael ei gasglu?

A'r ail broblem ydy diffygion dybryd yr isadeiledd ddigidol, heb sôn, fel rydyn ni wedi clywed, am yr hiliaeth oedd yn rhan o'r stori yma, efo ethnigrwydd pobl yn cael ei gofnodi ar sail enw, sydd yn gwbl warthus. Mae'n hen bryd gweld gweddnewidiad llwyr yn agwedd y Llywodraeth tuag at ddigideiddio cofnodion iechyd, ynghyd â'r arfer o gasglu data a chysoni data. Felly, ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno y dylai Iechyd a Gofal Digidol Cymru gael ei gyllido a'i ariannu'n gywir er mwyn mynd i'r afael â hyn? Ydych chi hefyd am gynnal awdit gynhwysfawr o addasrwydd y ffynonellau data sydd gennym ni yng Nghymru? Ac a ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cydnabod, yng ngoleuni'r dystiolaeth yma, fod yna fethiannau sylfaenol wedi bod ac yn parhau i fod, a bod camau am gael eu cymryd er mwyn eu cywiro nhw?  

Rwyf wedi ateb rhai o'r cwestiynau yna eisoes yn fy atebion i Sioned Williams. Gobeithio y bydd yr Aelod yn ffeindio'r atebion hynny o gymorth i'w gwestiynau fe. Mae data a rôl datblygiad digidol, wrth gwrs, yn y gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Mae'n rhedeg fel llinyn drwy bopeth rŷn ni'n ceisio ei wneud yn y gwasanaeth iechyd. Ond o ran yr amgylchiadau a godwyd yn yr ymchwiliad ddoe, sef testun y cwestiwn gwreiddiol, rwy'n gobeithio bod yr atebion rwyf eisoes wedi eu rhoi wedi bod yn ddigonol. 

A gaf i ddiolch i Sioned Williams hefyd am godi'r cwestiwn pwysig hwn yn y Siambr heddiw? Ac rwy'n ategu sylwadau a wnaed gan Aelodau yn y lle hwn eisoes. Fe enynnodd fy niddordeb yn arbennig oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn cofio'r drafodaeth a gawsom yma ddoe yn sgil eich datganiad ynghylch prosesau uwchgyfeirio. Roedd un o'r pwyntiau a godais yn y drafodaeth honno ar eich datganiad yn ymwneud â chywirdeb y data a'r wybodaeth a roddir i chi er mwyn i chi allu gwneud eich rôl cystal â phosibl.

Mae'n debyg eich bod wedi ateb nifer o gwestiynau a oedd gennyf eisoes, ond tybed a ydych chi'n credu bod yna rôl yn benodol ar fater ehangach a godwyd gan yr Aelodau yma heddiw ynghylch data, cywirdeb data a bod y wybodaeth mor ddefnyddiol â phosibl. A ydych chi'n credu bod rôl bellach y tu allan i'r Llywodraeth y gallai'r Senedd hon ei chwarae i graffu ar y data a gaiff ei rhyddhau a chefnogi gwaith y Llywodraeth, i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael gwasanaethau a bod polisïau'n cael eu gosod ar sail y wybodaeth gywiraf a mwyaf defnyddiol sy'n bosibl? 

Rydym yn ceisio cyhoeddi data yn rheolaidd mewn perthynas â pherfformiad y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau gofal yng Nghymru, ac mae'r data hwnnw ar gael i'r Aelodau graffu arno, fel y dylai fod. Fe'i defnyddir yn aml yn sail ar gyfer sut y caf fy herio'n briodol yn y Senedd hon. Rwy'n credu bod hynny'n fanteisiol er mwyn cael gwasanaethau cyhoeddus tryloyw a hefyd er mwyn gwella'r ffordd y cânt eu darparu gennym. Felly, rwy'n croesawu hynny'n fawr.

4. Datganiadau 90 Eiliad
15:50

Diolch, Dirprwy Lywydd. Pen-blwydd hapus yn 40 oed, Cyfeillion y Ddaear Cymru.

Eleni, mae'n ddeugain mlynedd ers sefydlu Cyfeillion y Ddaear Cymru. Fe'i sefydlwyd gan Margaret a Robert Minhinnick ym 1984, a'i leoli'n wreiddiol ym Mhorthcawl, a daeth yn hyb i ymgyrchwyr amgylcheddol yng Nghymru. Canolbwyntiai'r ymgyrchoedd cynnar ar gynyddu ymwybyddiaeth o law asid ac ailgylchu. Yn y 1990au, ochr yn ochr â'u rhwydwaith cynyddol o grwpiau lleol, roedd Cyfeillion y Ddaear Cymru yn casglu tystiolaeth ynghylch gollyngiad olew y Sea Empress ac yn ymgyrchu i warchod cynefinoedd morol cyfoethog fel bae Ceredigion. Yn fwy diweddar, mae'r sefydliad wedi gweithio ar faterion fel ffracio, gwenyn, ffasiwn gynaliadwy, llygredd plastig, teithio llesol, llosgi gwastraff, a chael cronfeydd pensiwn i symud miliynau o bunnoedd allan o danwydd ffosil.

Yr argyfyngau hinsawdd a natur yw'r materion mwyaf difrifol sy'n wynebu ein planed. Yn y 25 mlynedd ers datganoli, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi helpu i lunio polisïau a deddfwriaeth arloesol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, y cynllun gweithredu ar gyfer peillwyr, a deddfwriaeth aer glân sy'n achub bywydau. Dros y pedwar degawd diwethaf, mae'r corff anllywodraethol hwn wedi gweithio'n ddiflino i wneud Cymru'n lle mwy gwyrdd a chynaliadwy i fyw ynddo. Ochr yn ochr â'u rhwydwaith o ymgyrchwyr a grwpiau, bydd Cyfeillion y Ddaear Cymru yn parhau i frwydro dros ddyfodol cyfiawn a chynaliadwy i bobl a'r blaned. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt barhau â'u gwaith yng Nghymru.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Yr ail adroddiad ar bymtheg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—yr ail adroddiad ar bymtheg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.

Cynnig NDM8707 Hannah Blythyn

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Ail Adroddiad ar Bymtheg i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Hydref 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, dwi’n cynnig y cynnig yn ffurfiol.

Ystyriodd y pwyllgor yr adroddiad gan y comisiynydd safonau mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Andrew R.T. Davies AS ynghylch defnyddio'r term 'blanket' i ddisgrifio'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn dilyn cyhoeddi wythfed adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd ac mae ein hadroddiad ni yn nodi dyfarniad y pwyllgor.

Cafodd y pwyllgor ddau adroddiad ar y mater hwn gan y comisiynydd a chytunodd i'w hystyried gyda'i gilydd. O ystyried nifer y cwynion a chydnabyddiaeth yr Aelod ei fod yn ymwybodol o'r canfyddiad yn wythfed adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, mae'r pwyllgor yn argymell cerydd y tro hwn. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhelliad wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle, Ddirprwy Lywydd, i atgoffa'r Aelodau o bwysigrwydd cydnabod a gweithredu ar ganfyddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Yn yr achos hwn, roedd y pwyllgor eisoes wedi cynghori y dylai Aelodau ofalu rhag gwneud datganiadau sy'n annelwig ac yn anghywir.

Mae'r cynnig yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor. Diolch.

Mae cerydd gan y Senedd yn beth difrifol. Ni ddylai'r un ohonom gymryd cerydd gan ein cymheiriaid na chanfyddiad yn ein herbyn gan y comisiynydd safonau annibynnol yn ysgafn. Ond rhaid imi nodi patrwm o ymddygiad gan arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies. Mae'r ffaith nad yw yma y prynhawn yma, nad yw ar sgrin—nid wyf yn ymwybodol, Ddirprwy Lywydd, a yw wedi cynnig unrhyw esboniad—yn awgrymu dirmyg tuag at ein safonau. Nid dyma'r tro cyntaf i gwestiynau gael eu codi ynghylch ei eiriau a'i ymddygiad.

Heddiw, mae'n wynebu dau adroddiad ar wahân gan y pwyllgor safonau am ei ymddygiad—dau. Ac yn yr ail ohonynt, ni wnaeth ymateb i wahoddiadau i wneud sylwadau ysgrifenedig neu ar lafar i waith y pwyllgor yn y gŵyn amdano. Mae'n bwriadu dal ati i'w diystyru. Nid dyma'r ymddygiad y mae gennym hawl i'w ddisgwyl gan Aelod, heb sôn am arweinydd yr wrthblaid yn ein Senedd genedlaethol.

Mae disgrifio'r newid mewn terfynau cyflymder fel un cyffredinol, 'blanket', pan fo ond yn berthnasol i leiafrif o ffyrdd, yn fwriadol ac wedi ei fwriadu i gamarwain. Ond nid rhyw hwyl diniwed yw hyn; mae bywydau yn y fantol, ac mae defnydd anghywir o iaith yn hau dryswch. Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar drafnidiaeth, Natasha Asghar, eisoes wedi cael cerydd am ei hanonestrwydd.

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod y newid i derfynau cyflymder wedi peri i dwristiaid gadw draw. O sylwadau a welais ar-lein, y rheswm a roddwyd gan bobl a gafodd eu perswadio i beidio ag ymweld yw eu bod yn poeni bod y terfyn cyflymder yn un 'cyffredinol'. Y termau camarweiniol a ddefnyddiwyd gan arweinydd yr wrthblaid sy'n gwneud y niwed y mae ef yn cwyno amdano wedyn.

Ond nid un digwyddiad yw hwn. Mae hefyd wedi honni dro ar ôl tro fod gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd yng Nghymru. Nid yw'n wir, ac mae'n gwybod nad yw'n wir, ond mae'n diystyru hynny. Awgrymodd heb dystiolaeth fod plant yn cael eu gorfodi i fwyta cig halal. Hyd yn oed pan rybuddiodd Cyngor Mwslimaidd Cymru am y canlyniadau real ar ein strydoedd yn sgil yr hyn a alwyd ganddynt yn

'ymdrechion trwsgl i ysgogi hiliaeth 'chwiban y ci'',

roedd yn dal i fod yn ddiedifar. Yn ei ganfyddiad, mae'r comisiynydd safonau yn dweud wrthym fod Andrew R.T. Davies yn dweud y dylai'r hyn y mae'n ei ddweud

'gael ei oddef fel "gor-ddweud anghywir".'

Felly, mae'n derbyn nad yw'r hyn y mae'n ei ddweud yn gywir, ond nid yw'n credu bod hynny'n bwysig. Wel, Lywydd, mae'n bwysig. Mae gonestrwydd yn bwysig. Mae cywirdeb yn bwysig. Mae safonau'n bwysig.

15:55

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad ac ailadrodd unwaith eto y gwahoddiad i'r Senedd gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor. Diolch. 

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Y deunawfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

Eitem 6 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, y deunawfed adroddiad i’r chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Hannah Blythyn. 

Cynnig NDM8708 Hannah Blythyn

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Deunawfed Adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Hydref 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol. Trafododd y pwyllgor adroddiad gan y comisiynydd safonau am gŵyn yn erbyn Andrew R.T. Davies AS yn ymwneud â neges drydar y nodwyd ei bod yn gamarweiniol ac yn beryglus. 

Rhoddodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyriaeth ofalus i adroddiad y comisiynydd ac mae ein hadroddiad yn nodi dyfarniad y pwyllgor, er ein bod o'r farn fod yr Aelod yn torri'r cod ymddygiad, nad ydym yn ystyried bod cyfiawnhad dros unrhyw gamau pellach. Mae'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r gŵyn a rhesymau'r pwyllgor dros ei argymhellion wedi'u nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor. 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn eto i atgoffa'r Aelodau, er ein bod yn cydnabod bod cyfryngau cymdeithasol yn offeryn sydd â photensial i gael ei ddefnyddio'n effeithiol ar gyfer cyfathrebu a thrafod, mater i'r Aelodau yw pennu cywirdeb y wybodaeth y maent yn ei phostio a bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i wahaniaethu rhwng ffaith wirioneddol a mynegi barn. Hoffem gynghori'r Aelodau nad yw dyfynnu neu ailadrodd neu bostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn eu hesgusodi o'u dyletswydd i ystyried addasrwydd a sensitifrwydd yr hyn y maent yn ei rannu ac i wirio ffeithiau i sicrhau cywirdeb gwybodaeth. 

Mae'r pwyllgor yn ymwybodol o'r cynnydd cyson yn y cwynion a wneir yn erbyn ymddygiad Aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn ei gydnabod. Mae'r Llywydd hefyd wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn codi'r un pryderon â'r rhai a rennir gennym ni a'r comisiynydd safonau ar y mater hwn, felly ein bwriad yw ystyried y mater hwn ymhellach yn fwy cyffredinol fel rhan o'n hymchwiliad i atebolrwydd Aelodau. Byddwn yn adrodd yn ôl i'r Senedd gydag unrhyw gynigion maes o law.   

Mae'r cynnig yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor. Diolch. 

Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. A hoffech chi ychwanegu unrhyw beth arall? Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Adroddiad Blynyddol: Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd'

Eitem 7 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Adroddiad Blynyddol: Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jenny Rathbone.

Cynnig NDM8710 Jenny Rathbone

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Adroddiad Blynyddol: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd' a osodwyd ar 8 Ebrill 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Galwodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y ddadl hon i dynnu sylw'r holl Aelodau at y dystiolaeth y mae ein pwyllgor wedi'i chasglu am gynllun preswylio'n sefydlog yr UE, mewn adroddiad a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill a thystiolaeth bellach a gasglwyd gennym yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, ac mae'n dystiolaeth sy'n peri pryder. Diolch i'r holl bobl a gyfrannodd at ein gwaith, ac mae rhai ohonynt yn yr oriel heddiw. Yn gyntaf oll, y staff o Settled, elusen sy'n cynorthwyo dinasyddion Ewropeaidd i lywio eu ffordd drwy'r llanast a grëwyd gan ymadawiad y DU â'r UE, ac sydd bellach yn canolbwyntio ar gefnogi pobl gyda cheisiadau hwyr y cafodd eu ceisiadau eu gwrthod, yn ogystal â cheisio dod o hyd i bobl nad ydynt yn ymwybodol neu sy'n rhy ofnus i wneud cais. Hefyd, hoffwn groesawu aelodau o'r awdurdod monitro annibynnol, y corff gwarchod hawliau dinasyddion a sefydlwyd o dan y cytundeb ymadael—a sefydlwyd gan, ond sy'n annibynnol ar Lywodraeth y DU—y mae'r pwyllgor wedi gweithio gyda hwy ers ei sefydlu. Croeso mawr i chi i gyd i wrando ar y ddadl hon.

Daeth Paul Davies i'r Gadair. 

16:00

Roedd dinasyddion yr UE a oedd yn byw yng Nghymru cyn Brexit i fod i wneud cais i aros yma erbyn diwedd mis Mehefin 2021. Fel y byddwch yn cofio, roedd hynny tua'r un adeg ag yr oedd pwyllgorau'r chweched Senedd yn cael eu sefydlu. Mae’r pwyllgor rwy’n ei gadeirio wedi bod yn monitro’r ystadegau chwarterol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ers 2021 ac yn dethol y ffigurau sy’n berthnasol i Gymru. Yn wreiddiol, amcangyfrifid y byddai angen i 95,000 o ddinasyddion wneud cais yng Nghymru, ond amcangyfrif yn unig oedd hynny. Mae cyfrif faint o bobl agored i niwed, yn bennaf, sydd wedi colli eu hawl yn waith sy'n mynd rhagddo. Mae'r cyfanswm o 125,000 o geisiadau hyd yma eisoes yn sylweddol uwch na’r amcangyfrif hwnnw. O'r rhain, mae dros 86,000 wedi cael hawl i aros yn barhaol. Rydym yn eu croesawu. Achos pryderon y pwyllgor hwn yw’r holl bobl eraill sydd wedi cael caniatâd dros dro i aros yn unig, pobl y gwrthodwyd caniatâd iddynt aros, pobl nad oes penderfyniad wedi'i wneud ar eu ceisiadau eto, neu bobl sydd eto i wneud cais i aros yn y wlad hon.

Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y gwaith y mae’r awdurdod monitro annibynnol wedi’i wneud gyda chyrff cyhoeddus i’w helpu i nodi pobl agored i niwed a fethodd wneud cais erbyn y terfyn amser gwreiddiol—er enghraifft, plant â phrofiad o fod mewn gofal; pobl sy'n gadael gofal; pobl eiddil, oedrannus sydd angen cymorth gyda'r broses ymgeisio. Mae rhwng 500 ac 800 o geisiadau newydd y mis wedi’u cyflwyno gan bobl yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf neu fwy, ac nid ydym yn gwybod faint yn rhagor o bobl a allai gael eu heffeithio. Nid yw’n afresymol i rywun nad ydynt yn gwybod llawer am y penderfyniad mawr i adael yr UE ar ôl bron i 40 mlynedd feddwl nad yw’r broses hon yn berthnasol iddynt hwy os cafodd rhywun ganiatâd amhenodol i aros gan y Swyddfa Gartref ymhell cyn inni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Mae gan hyn holl nodweddion ail Windrush. Dim ond 28 diwrnod sydd gan unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â’r wladwriaeth ac y dylent fod wedi gwneud cais i wneud hynny, ac yn y cyfamser, gellir gwrthod mynediad iddynt at y GIG, gofal cymdeithasol, gallant golli eu swydd, ac yn y senario waethaf, gallent gael eu hallgludo. Mae gan dros 40,000 o ddinasyddion yng Nghymru statws preswylydd cyn-sefydlog, sy'n golygu eu bod mewn limbo, i bob pwrpas.

Enillodd yr awdurdod monitro annibynnol fuddugoliaeth gyfreithiol bwysig ym mis Rhagfyr 2022 pan ddyfarnodd yr Uchel Lys ei bod yn anghyfreithlon ei gwneud yn ofynnol i bobl â statws preswylydd cyn-sefydlog ailymgeisio. Penderfynodd Llywodraeth y DU beidio ag apelio, ac ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd y byddai statws yr holl ddinasyddion hyn yn cael ei ymestyn am ddwy flynedd, ac o 2024 ymlaen, y byddai pobl yn cael eu huwchraddio’n awtomatig i statws sefydlog ar sail gwiriadau awtomataidd. Mae sut y mae unrhyw un i fod i olrhain beth yn union yw eu statws yn rhywbeth y mae angen ei egluro, oherwydd oni bai bod ôl troed digidol y dinesydd ar gael, gallai fod yn rhaid iddynt wneud cais arall. Felly, er enghraifft, oni bai eich bod yn talu trethi neu'n derbyn budd-daliadau, efallai na fyddwch yn gallu profi, ar-lein, eich bod wedi bod yma am y cyfnod gofynnol o bum mlynedd. Efallai y cânt eu huwchraddio'n awtomatig i statws sefydlog erbyn y terfyn amser, ond efallai na fydd hynny'n digwydd, a bydd angen i rai wneud cais am yr eildro.

Mae ceisiadau hwyr bellach yn destun meini prawf caeth, ac mae'r trothwy ar gyfer tystiolaeth yn uwch. Mae'r cynllun cyfan yn dod yn anghymesur o gymhleth. Ceir mwy a mwy o adroddiadau o ganlyniadau newydd a gofidus, yn enwedig gan mai system ddigidol yn unig yw'r cynllun preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, a dyma’r cyntaf i gael ei threialu fel arbrawf yn y DU. Bydd heriau o ran llythrennedd digidol, allgáu digidol a gwallau ynghlwm wrth unrhyw gynllun sy'n ddigidol yn unig, ac rydym wedi gweld pob un o'r rheini yn yr achos hwn. Mae’r rhai sydd â’r prawf gofynnol o breswyliad a’r sgiliau iaith, fel aelodau o fy nheulu, wedi canfod bod gwneud cais i’r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE yn broses syml, ond nid yw hynny’n wir i eraill. Hyd yn oed gyda statws, sut rydych chi'n ei brofi pan fydd yr holl beth wedi'i ddigideiddio? Clywsom sut y mae rhai landlordiaid, cyflogwyr, awdurdodau lleol a gwasanaethau statudol wedi gwrthod gwasanaethau i bobl am eu bod yn amharod i fentro mynd yn groes i'r broses, ac yn gwrthod yr hyn y mae ganddynt hawl iddo i ddinasyddion am nad ydynt yn deall y manylion o ran sut i wirio.

Mae methu cael statws, fel y dywedais yn gynharach, yn wirioneddol ddifrifol, a gall arwain at allgludo, hyd yn oed i bobl y mae eu teuluoedd wedi byw yn y wlad hon ers cenedlaethau. Dro ar ôl tro, clywsom sut y mae hyn yn peri heriau, nid yn unig i'r rhai sydd angen gwneud cais heddiw, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas: plant a phobl ifanc; pobl hŷn; plant mewn gofal neu sy'n derbyn gofal; y gymuned Roma nad ydynt yn siarad Saesneg na Chymraeg nac unrhyw un o'r ieithoedd sydd fel arfer yn gyffredin yn y wlad hon ac nad oes ganddynt lefelau llythrennedd i ddarllen unrhyw wybodaeth; pobl ddigartref; dioddefwyr cam-drin domestig; dioddefwyr masnachu pobl. Mae hon yn broblem sy'n peri pryder arbennig i'r rheini a allai fod â phlant yn y wlad hon y bydd eu statws hwy'n cael ei effeithio os na fydd yr unigolion hyn yn gwneud cais. Felly, rydym yn cymeradwyo ymdrechion y bobl sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi dinasyddion yr UE i aros yma yng Nghymru, eu cartref. Mae hynny’n cynnwys Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, a Llywodraeth Cymru, sydd wedi darparu cyllid yn gyson i alluogi sefydliadau i gefnogi Aelodau drwy’r broses hynod anodd hon i rai pobl.

Felly, mae angen inni godi ymwybyddiaeth o’r angen i wneud cais, fel Aelodau, fel pwyllgor ac fel Senedd. Rydym yn croesawu datganiadau Llywodraeth Cymru o gefnogaeth i ddinasyddion yr UE a’r camau a gymerwyd i helpu, megis adnewyddu’r cyllid ar gyfer y gwasanaethau cynghori arbenigol hyn yn rheolaidd. Ond fe wnaethom alw’r ddadl hon am un prif reswm, sef i ofyn i’r holl Aelodau a’r Senedd ar y cyd wneud mwy i dynnu sylw at fater yn ein cymunedau a fydd yn creu Windrush arall, sef gwarafun cyfiawnder a gwneud anghyfiawnder, a dyna sy'n rhaid i ni ei osgoi, neu fel arall, byddwn yn dal i sôn am hyn ymhen 20, 30 mlynedd.

16:05

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Cadeirydd am agor y ddadl ac i’r tîm clercio am lunio adroddiad mor gynhwysfawr. Fel y gwelwch o'r cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE ac adroddiad hawliau dinasyddion ar ôl Brexit, mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r materion a godwyd a'r ffaith bod ei hargymhellion yn deg ac yn realistig yn eithaf calonogol. Ac rwy'n falch iawn fod y mesurau rhagweithiol a roddwyd ar waith gan awdurdodau lleol Cymru wedi'u cydnabod, yn gwbl briodol, gyda phob un o'r 22 wedi'u graddio'n wyrdd. Gwn hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio'n galed iawn ar y materion hyn a'i bod yn eu hyrwyddo'n angerddol, sydd i'w weld yn glir iawn yn llawer o agweddau cadarnhaol yr adroddiad hwn. Wedi dweud hynny, hoffwn godi ychydig o bwyntiau, sy'n feysydd i feddwl amdanynt yn hytrach na beirniadaeth.

Rwy'n synnu bod cymaint o geisiadau hwyr o hyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod mai ailgeisiadau yw’r rhain yn bennaf ac nid rhai newydd, a bod pryderon fod y rhain yn gynyddol gymhleth. Fodd bynnag, o ystyried yr effaith ar fywydau pobl, credaf y byddai’n fuddiol iawn deall y prif resymau pam y cawsant eu gwrthod yn y lle cyntaf. Byddai cael y data hwnnw yn sicr yn helpu gyda’r canllawiau y gellid eu rhoi a’r camau y gellid eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ymgeiswyr.

Sylwaf fod yr adroddiad yn nodi bod bron i 425,000 o bobl wedi gorfod aros am fwy na chwe mis a bod bron i 65,000 o bobl wedi gorfod aros am fwy na blwyddyn i gael eu statws. Ac er fy mod yn derbyn bod mewnlif o geisiadau'n mynd i gynyddu amseroedd aros, buaswn yn dadlau y gallai fod problemau wedi bod i gael data o’r wlad wreiddiol a mwy o angen am graffu gwell a fyddai wedi cyfrannu’n sylweddol at hyn, sy'n rhywbeth y credaf y dylem geisio ei ganfod. Mae’r Awudrdod Monitro Annibynnol wedi mynegi pryderon yn y gorffennol ynghylch cadw cofnodion cywir, casglu data a storio ceisiadau, yn enwedig ar gyfer yr achosion sy'n gysylltiedig â phlant a phobl sy’n gadael gofal, fel y clywsom, ac er bod hyn wedi dechrau gwella, mae’n golygu serch hynny fod gwersi i'w dysgu ynghylch pam na chafodd y safonau newydd hyn eu gorfodi o'r cychwyn cyntaf.

Yn olaf, Lywydd dros dro, hoffwn dynnu sylw at fater y diffyg ymwybyddiaeth a'r ffaith y rhagwelir efallai na fyddwn yn gwybod am genhedlaeth, mewn gwirionedd, pwy sydd heb wneud cais i'r cynllun eto. Gadawodd y DU yr UE yn swyddogol dros bedair blynedd yn ôl, ac rwy’n ei chael hi'n anodd iawn credu y byddai unrhyw un o ddinasyddion yr UE heb fod yn ymwybodol o hyn a bod angen iddynt adolygu eu statws mewnfudo. Ond fel y mae’r adroddiad yn ei amlygu, mae angen inni ofyn beth yw’r rhwystrau, a hyd yn oed yn fwy difrifol, a oes pobl yn cael eu gorfodi i beidio â gwneud ceisiadau? Yn anffodus, Lywydd dros dro, mae masnachu pobl yn broblem enfawr, a gorau po fwyaf o ddata y gallwn ei gasglu i'n helpu i nodi unigolion a allai fod yn ddioddefwyr.

Dywedir bod pobl wedi bod yn y DU ers peth amser a ddylai fod wedi cael statws preswylydd sefydlog, ond sydd wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog am y rheswm mai ychydig iawn o ôl troed sydd ganddynt i ddangos eu bod wedi bod yma. Credaf fod angen inni ofyn yn barhaus pam mae hyn yn digwydd. Er y dangosir bod sgiliau digidol yn un rhwystr mawr, gallwn ddisgwyl, serch hynny, wrth i amser fynd yn ei flaen, y bydd hyn yn dod yn llai o reswm, ac felly mae angen inni barhau i nodi a deall yn well y rhwystrau newydd a allai godi. Yn y gorffennol, pan oeddwn yn gynghorydd lleol, cynhaliais gymorthfeydd cyngor yn benodol i helpu dinasyddion yr UE i ddeall y broses, ac rwyf wedi gweld rhai o’r anawsterau a’r pryderon a oedd ganddynt drosof fy hun. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser, ac mae angen inni fod yn wyliadwrus bob amser, ond ar hyn o bryd, ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd da. Diolch.

16:10

Diolch, Llywydd dros dro. Chlywsom ni ddim sôn am effeithiau andwyol Brexit yn natganiad y Canghellor yr wythnos diwethaf. Yn wir, mae'r Blaid Lafur wedi bod yn ofalus iawn i beidio â rhoi unrhyw sylw i'r eliffant anferth sy'n eistedd yn ystafell wleidyddol ein gwlad—yr eliffant sy'n cael effaith mor fawr ar ein heconomi a'n diwylliant, ac ar hawliau dinasyddion Ewrop sy'n byw yng Nghymru.

Yn sgil ein gwaith craffu ar sut mae'r degau o filoedd o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw ymhob rhan o Gymru yn ymwybodol o ac yn cael mynediad at y broses sydd angen ei dilyn nawr er mwyn cael yr hawl i aros yn ein cenedl yn sgil Brexit, mae'r adroddiad wedi canu sawl larwm pwysig sydd angen sylw brys a chadarn gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Gyfunol, achos os na fydd yna weithredu nawr, gallwn wynebu sefyllfa gwbl annerbyniol mewn rhai blynyddoedd a fyddai'n gweld degau ar filoedd o bobl a'u disgynyddion sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn colli eu hawl i fyw a gweithio yma, yn colli eu hawl i ofal iechyd ac addysg, yn methu â rhentu cartref, ac yn wynebu'r posibilrwydd o gael eu gyrru o'r wlad. Nid ar chwarae bach mae arbenigwyr wedi dweud wrth y pwyllgor ein bod ni’n wynebu rhywbeth allai ymdebygu i sgandal Windrush.

Y peth cyntaf i'w nodi yn glir yw nad yw'r data sy'n cael ei gasglu a'i adrodd ar hyn yn ddigonol. Dyw'r niferoedd sy'n cael eu hadrodd ddim yn cynnwys gwybodaeth fyddai'n ysgogi ac yn cefnogi ymgyrch effeithiol i sicrhau nad oes yna bobl mewn perygl o golli eu cyfle i aros yma, nac addasu wedyn y prosesau yn unol â'r wybodaeth hynny. Mae'r setiau data ar nifer o gamau'r broses naill ai ddim ar gael i'w rhannu’n gyhoeddus, neu ddim yn cael eu casglu gan adrannau ac asiantaethau Llywodraeth San Steffan. Mae gwir angen datrys hyn ar fyrder. Ac fel y clywon ni gan Jenny Rathbone, y rhai mwyaf bregus sydd angen cefnogaeth fwyaf, sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn andwyol yn sgil y cawlach cymhleth a dryslyd hwn—cawlach a achoswyd yn uniongyrchol gan Brexit. Achos mae arbenigwyr wedi pwysleisio wrth y pwyllgor mai plant, pobl hŷn a phobl incwm isel sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn sgil y sefyllfa yma. Pobl sydd â salwch tymor hir, pobl â dementia, pobl mewn gofal, pobl sydd yn ddioddefwyr caethwasanaeth a chamdriniaeth ddomestig.

Mae newid wedi bod yn y Llywodraeth yn San Steffan ers inni gyhoeddi'r adroddiad ac ers i Lywodraeth Cymru ymateb iddo. Felly, mae angen inni glywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet pa drafodaethau, pa newidiadau a pha gynlluniau sydd ar droed i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau posib presennol ac i'r dyfodol, a'r gofid a'r niwed tebygol y mae hynny'n peri i nifer sylweddol o bobl sy'n byw yng Nghymru.

Hoffwn i glywed diweddariad i'r ymatebion i argymhelliad 1, er enghraifft—y mwyaf sylfaenol o'n hargymhellion ni fel pwyllgor—sut mae Llywodraethau Llafur Cymru a'r Deyrnas Gyfunol am gydweithio ar hyn? Ydy'r heriau sylweddol gyda'r Swyddfa Gartref—fel y cawson nhw eu disgrifio gan Lywodraeth Cymru yn eu hymateb—wedi eu datrys, ac os felly, sut? Ydy'r Llywodraeth wedi derbyn pwysigrwydd cyllido gwaith Settled a TGP Cymru yn unol â'ch ymateb i'n ail argymhelliad?  Ac o ran eich hymateb i'n hail argymhelliad, bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi dinasyddion Ewrop, gan gynnwys y rheini sy’n gwneud cais i’r EUSS, a yw Llywodraeth Cymru wedi galw felly ar Lywodraeth newydd San Steffan i adolygu'r meini prawf cymhwysedd culach ac ailgyflwyno'r hawl i adolygiad gweinyddol, ill dau sydd wedi arwain at fwy o alw am gyngor a chymorth?

Ydy Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol nawr yn fodlon gwrando ar gais Llywodraeth Cymru i ehangu'r cynllun aduno teuluol, er enghraifft, sy'n cael ei amlinellu yn eich ymateb i argymhelliad 5, er mwyn sicrhau ei fod yn fwy hygyrch ar gyfer ceiswyr noddfa sydd ag aelodau teulu yn y Deyrnas Gyfunol, beth bynnag eu cenedligrwydd?

Problem ddifrifol nad yw'n diflannu yw hon, problem gudd, i raddau, ond problem allai gael canlyniadau hynod o ddifrifol i filoedd o bobl sy'n byw yng Nghymru ac yn cyfrannu i ddyfodol ein cenedl. Mae'n hanfodol bod y gwaith o godi ymwybyddiaeth, o sicrhau cefnogaeth ac o wella'r broses yn cael ei gefnogi yn wleidyddol ac yn ariannol. Felly, pa sicrwydd gall Llywodraeth Cymru ei roi na fydd yna gwtogi ar ariannu'r gwaith pwysig hwn o adnabod, annog, cefnogi a sicrhau bod y rhai sydd angen gwneud cais i aros neu drosi statws cyn-sefydlog yn parhau i'r dyfodol ac yn peidio â lleihau? Achos rhaid i ni wrando ar rybudd yr arbenigwyr, fel Migration Observatory, ac rwy’n dyfynnu nawr i orffen, Dirprwy Lywydd:

'Cafwyd ymdeimlad, i raddau, yn y Llywodraeth y bydd y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE yn fater a fydd yn diflannu'n raddol. Mae amser hir wedi bod ers cyflwyno'r cynllun. Ond bydd y problemau hyn yn parhau i fod yma am amser maith, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod y sicrwydd hwnnw ar gael, i'r grwpiau hyn ac i'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.'

Felly, hoffwn gael sicrwydd y prynhawn yma bod y Llywodraeth yn gwrando ac yn mynd i bwyso ar ei chwaer Llywodraeth yn San Steffan i wrando hefyd. Diolch.

16:15

Dwi'n galw nawr ar Mike Hedges fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gyfrifol am rwymedigaethau rhyngwladol, gan gynnwys cytundebau rhwng y DU a’r UE, ac mae’r cytundeb ymadael yn un ohonynt. Mae’r pwyllgor hefyd yn gyfrifol am yr agweddau cyfansoddiadol ar faterion allanol, ac mae llawer ohonynt yn deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae'r cytundeb ymadael yn llywodraethu'r ymadawiad hwn, a chydag ef, yn gwarantu hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd a'u teuluoedd.

Bydd llawer ohonom wedi dilyn yr achos yn yr Uchel Lys a grybwyllwyd gan Jenny Rathbone yn gynharach, a ddyfarnodd fod agwedd Llywodraeth flaenorol y DU at hawliau dinasyddion yn anghyfreithlon o dan y cytundeb ymadael, mater a ddylai beri pryder i bob un ohonom. Dyfarnodd y llys na ddylai dinasyddion cyn-sefydlog, y rhai â statws dros dro, golli eu hawliau yn awtomatig am nad oeddent wedi gwneud ail gais i uwchraddio eu statws i un parhaol.

Cafwyd oddeutu 125,000 o geisiadau gan ddinasyddion yr UE yng Nghymru i'r cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE. Mae rhai ohonynt wedi cael statws parhaol, rhai wedi cael statws dros dro, a rhai heb gael statws o gwbl. Nid yw eraill wedi gwneud cais eto, ac nid oes unrhyw un yn gwybod pwy ydynt na ble y maent.

Ydy, mae'r cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE yn gymhleth. Ond ni ddylai hynny olygu ein bod yn cilio rhag gweithredu ein rhwymedigaethau, nac yn methu deall yr hyn y mae’n ei olygu i’r bobl ac i ni fel Senedd. Mae gennym ddyletswydd i gadw at rwymedigaethau rhyngwladol—mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi hynny'n gwbl glir—ac mae sut y mae rhwymedigaethau rhyngwladol yn gweithio ar lawr gwlad yn gwestiwn allweddol i bob un ohonom. Pan wnaethom ystyried cydymffurfiaeth â'r cytundeb ymadael ar gyfer y dadleuon ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon yn 2022, nododd Gweinidogion Cymru y risgiau amlwg y byddai peidio â chyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol yn eu creu i Gymru ac i’r DU. Yma yn y Senedd, mae gennym hanes cryf o roi’r parch mwyaf i’n rhwymedigaethau rhyngwladol. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yw gwarcheidwad a phorthgeidwad y gwaith hwn. Byddwn yn parhau i ddilyn y materion a drafodir yma heddiw gyda chryn ddiddordeb, a diolch i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am gyflwyno’r ddadl hon. Diolch.

Dwi nawr yn galw ar Delyth Jewell fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Diolch, Lywydd dros dro. Mae hawliau dinasyddion yn rhan sylfaenol o’r cytundeb ymadael, ond yn aml maen nhw’n cael eu colli mewn trafodaethau am brotocol Gogledd Iwerddon neu fframwaith Windsor. Rwy’n diolch yn fawr i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am y cyfle i drafod darpariaethau ar hawliau dinasyddion. Fel Cadeirydd y pwyllgor sy’n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, rwyf i bob amser yn croesawu’r cyfle i’r Senedd gyfan drafod materion y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Lywydd dros dro, heddiw mae’n pwyllgor ni wedi cyhoeddi adroddiad ar effeithiau Brexit ar ein sector diwylliant. Mae'r adroddiad yn edrych ar effeithiau'r cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn bennaf, ond mae llinyn cyffredin rhwng ein gwaith ac ym mhwnc y ddadl hon, sef effeithiau Brexit ar bobl. Gwyddom oll fod Brexit wedi dod â'r rhyddid i symud i ben. Yn ein hadroddiad, rŷm ni'n sôn am y ffaith nad arafu symudiad pobl yn unig oedd hyn; arafodd hefyd y rhyddid i symud o ran creadigrwydd, syniadau a photensial.

Nawr, rwy'n croesawu adroddiadau rheolaidd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—y mapiau a'r graffiau a'r siartiau sydd mor bwysig. Ond fel y dywedwn yn ein hadroddiad, mae'n rhaid inni edrych y tu hwnt i'r data at y bylchau i weld yr effaith wirioneddol ar fywydau pobl—pobl y mae pob un ohonom yn eu cynrychioli; pobl sydd wedi adeiladu eu bywydau yng Nghymru; pobl sy'n perthyn yma.

Mae Jenny wedi amlinellu cymhlethdod cynyddol y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE, y fiwrocratiaeth, y rhwystrau, y beichiau a roddir ar neu o flaen y rhai â'r lleiaf o allu i’w goresgyn. Mae ymadawiad y DU â’r UE wedi creu angen i ddinasyddion yr UE wneud cais i aros yn rhywle y gallent fod wedi byw ers blynyddoedd, neu ers degawdau. A bum mlynedd yn unig yn ddiweddarach, dyma ni, yn sôn am y perygl o ail Windrush. Dylai hynny fod yn canu larymau. Yn adroddiad fy mhwyllgor fy hun heddiw, yn y rhagair i'r adroddiad, rwyf wedi dweud bod yn rhaid i bob un ohonom wneud mwy, a gwneud yn well. Mae'n rhaid i bob un ohonom ddilyn yr esiampl a osodwyd gan y sefydliadau sy’n ein gwylio yma heddiw, a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gyda’u gwaith, a pheidio â rhoi'r gorau i ganolbwyntio ar yr hyn sydd yn y fantol i fywydau pobl. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom nid yn unig i drafod y materion hyn, ond i helpu i godi ymwybyddiaeth yng nghalon ein democratiaeth yng Nghymru. Rwy'n cynnig mai dyna’r lleiaf y gallwn ei wneud, yn wir.

Felly, unwaith eto, rwy'n diolch yn fawr i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am ei waith parhaus ar hyn, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac am ei gefnogaeth ddiwyro i ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Maent yn byw ochr yn ochr â ni, maent yn ffrindiau ac yn gymdogion, a Lywydd dros dro, maent yn perthyn yma.

16:20

Yn 2016, addawodd Vote Leave y byddai dinasyddion yr UE yn cael caniatâd amhenodol i aros yn y DU yn awtomatig, a sicrhawyd na fyddai unrhyw newidiadau sylweddol i’r rhai sy’n byw yma’n gyfreithlon. Gofyniad cywilyddus i'r bobl hynny sydd wedi rhoi cymaint i'r wlad hon. A datododd y sicrwydd a'r hawliau hynny'n gyflym. Mae'r hyn a ddylai fod wedi bod yn broses syml wedi dod yn brofiad cymhleth, rhwystredig yn lle hynny. Heb unrhyw fai arnynt hwy, mae miloedd o ddinasyddion yr UE yng Nghymru bellach wedi’u dal mewn system ddryslyd sy’n peryglu eu hawl i aros yma. Y rhai agored i niwed sy'n wynebu'r risg fwyaf: yn aml, nid yw pobl oedrannus o'r UE sydd wedi preswylio yma'n hirdymor yn ymwybodol fod angen iddynt wneud cais, hyd yn oed; aelodau o'r gymuned Roma, fel y clywsom, sydd weithiau'n methu cael mynediad at system sy'n gweithredu'n gyfan gwbl ar-lein.

Felly, mae rhai pethau rydym wedi’u gwneud yn dda yng Nghymru. Rwy'n falch o weld cynnydd ar gefnogi'r cymunedau hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad. Yn nodedig, cymeradwyaf bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi ennill statws gwyrdd gan yr awdurdod monitro annibynnol am gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal. Ac eto, mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion ein hadroddiad yn peri cryn dipyn o bryder. Mae'r ymrwymiad i gefnogi gwasanaethau fel Settled tan fis Mawrth 2025 yn unig yn dangos camddealltwriaeth sylfaenol o'r hyn y mae tystion wedi'i ddweud yn glir wrthym—fod hwn yn fater a fydd yn para cenhedlaeth ac na fydd yn diflannu. Nid yw cyllid yn y dyfodol sy'n gysylltiedig ag adolygiadau blynyddol o alw yn unig yn darparu'r sefydlogrwydd sydd ei angen i osgoi sgandal Windrush arall, o bosibl, fel y clywsom sawl gwaith heddiw. Yn gyntaf, felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymrwymo i gyllid hirdymor cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cymorth y tu hwnt i 2025.

Ffactor allweddol arall wrth gynnal cymorth yw gwella prosesau rhannu data, fel rydym eisoes wedi'i glywed gan Sioned Williams. Mae sefydliadau fel Settled yn pwysleisio na allwn nodi pwy sydd angen y cymorth na ble y maent heb ddata, gan leihau effeithiolrwydd unrhyw ymdrechion. Felly, a fydd Llywodraeth Lafur newydd y DU yn cael ei pherswadio a’i dylanwadu gan Lywodraeth Lafur Cymru i fanteisio ar y gallu i gydweithio o’r newydd a defnyddio’r holl ddylanwad sydd ar gael i sicrhau mynediad at y data hanfodol hwn?

Yn olaf, hoffwn sôn am effaith digideiddio cyflym system fewnfudo’r DU, a gyflymwyd gan y Llywodraethau Ceidwadol blaenorol. Mae'r newid hwn wedi creu system y mae llawer yn dweud ei bod yn anaddas i'r diben ac sydd eisoes yn amharu ar bobl agored i niwed. Datgelodd ein sesiynau tystiolaeth sut y mae statws digidol yn unig y cynllun preswylio’n sefydlog yn parhau i eithrio llawer o bobl a chanddynt lythrennedd digidol cyfyngedig neu nad ydynt yn rhugl yn y Saesneg. Fel y nododd Fiona Costello, mewn cymunedau fel y Roma yng Nghymru, mae llawer o ymgeiswyr yn ei chael hi'n anodd, ac yn aml yn dibynnu ar blant neu aelodau o'r teulu i reoli a gwirio eu statws.

Cyn bo hir, bydd mwy yn y fantol. O 1 Ionawr 2025, mae’n bosibl y bydd cynifer â 4 miliwn i 5 miliwn o bobl yn byw yn y DU heb eu dogfennu, i bob pwrpas. Nid yw'r unigolion hyn wedi colli eu hawl i fod yma—maent yn breswylwyr cyfreithlon—ond maent yn gaeth i system ddigidol a oedd i fod i'w diogelu. Felly, yn olaf, ac i gloi, galwaf ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar San Steffan i sicrhau bod dinasyddion yr UE a’u teuluoedd yn y DU yn cael prawf ffisegol o’u hawl i aros. Mae hwn yn gam syml ond hanfodol i atal trigolion bregus rhag cael eu cosbi'n anghyfiawn gan system ddiffygiol. Dangoswch i ni, os gwelwch yn dda, y gallwch ddylanwadu ar Lywodraeth Lafur y DU yn eich rôl fel Gweinidog Llafur yma yng Nghaerdydd. Diolch yn fawr iawn.

16:25

Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.

Member (w)
Jane Hutt 16:27:01
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, a phrynhawn da bawb. 

Hoffwn ddiolch yn fawr, yn gyntaf, i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiad. Mae mor dda ein bod yn ei drafod yma heddiw, ynghyd â phawb sydd mor ymrwymedig i sicrhau, gyda'i gilydd, fod dinasyddion yr UE yng Nghymru yn cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i sicrhau dyfodol sefydlog a diogel yma yng Nghymru, a chredaf mai dyna’r neges gref y mae pob un ohonom yn ei rhannu heddiw.

Ond yn deillio o’r dystiolaeth honno—tystiolaeth hollbwysig—gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer eich adroddiad yn gynharach eleni, a'ch adroddiad monitro hefyd yn wir, a gyhoeddwyd ym mis Medi, diolch i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol nid yn unig am yr adroddiadau hyn, ond am eich ymrwymiad a'ch gwaith craffu parhaus—craffu, yn gwbl briodol, ar Lywodraeth Cymru—ac rwyf am sôn hefyd am ailosod y berthynas â Llywodraeth y DU, Llywodraeth newydd y DU, a fydd, gobeithio, yn galondid i'r Aelodau yma heddiw.

Hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd y pwyllgor diwylliant, gan groesawu eich adroddiad chi hefyd, a fydd, rwy’n siŵr, yn berthnasol iawn, o’r hyn rydych chi wedi’i ddweud. Rydych wedi tynnu sylw at ganfyddiadau a themâu allweddol o ran effaith effeithiau Brexit ar gynifer o ddinasyddion yng Nghymru, ond byddaf yn edrych yn benodol arno o ran yr effaith ar ddinasyddion yr UE.

Gallaf ddweud yn gwbl glir fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch rhannu’r wybodaeth. Unrhyw beth sydd gennym, rydym yn ei wybod ac rydym yn ei geisio, fe'i rhannwn â chi, gan roi lefel o hyder i Aelodau’r Senedd, ond hefyd i’r holl randdeiliaid, partneriaid a dinasyddion yr UE eu hunain, ynghylch ein hymagwedd at y cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE a hawliau dinasyddion yr UE. Rwyf bob amser wedi canolbwyntio ar yr hawliau hynny. Mae'n ymwneud â hawliau dinasyddion yr UE; ein pobl ni a ydynt, fel y dywedoch chi yn y ddadl hon.

Felly, fe wnaethom gefnogi pob un o argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gynharach eleni. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ym mis Gorffennaf, cyn yr etholiad cyffredinol, wrth gwrs. Hoffwn ddiolch i Aelodau’r Senedd am eich holl gyfraniadau heddiw, sydd wedi bod yn werthfawr ac yn addysgiadol iawn, a gallaf eu hystyried ymhellach yng nghyd-destun y ddadl. Mae llawer o’r materion a drafodwyd gennym yn ganlyniad i’r dystiolaeth a roddwyd i chi yn ymchwiliad eich pwyllgor, ac maent yn faterion y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn mynd i’r afael â hwy, yn gweithio arnynt ac yn eu codi gyda Llywodraeth y DU—Llywodraeth flaenorol y DU—ac mae cyfle gennym bellach gyda Llywodraeth newydd y DU. Ond hefyd y ffordd rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn deall gan ein rhanddeiliaid a chan y rhai rydym yn eu cefnogi ac yn eu hariannu ein bod yn cael y dystiolaeth honno i sicrhau ein bod yn darparu ein cefnogaeth yn y ffordd orau sy'n bosibl.

Nawr, do, fel y cafodd ei gydnabod, ym mis Medi cyhoeddodd Llywodraeth newydd y DU gynlluniau i awtomeiddio'r broses ar gyfer uwchraddio unigolion cymwys o statws preswylwyr cyn-sefydlog i statws sefydlog, a bydd carfan o unigolion o hyd a fydd yn gorfod gwneud cais am uwchraddiad a dyna lle mae'n rhaid inni sicrhau bod y systemau cymorth ar waith. Gallaf ddweud heddiw fy mod yn cydnabod ei bod yn hanfodol fod gwasanaethau cymorth yn parhau i fod ar waith ar ôl mis Mawrth 2025. Rwy'n credu bod hynny'n ymateb uniongyrchol i'r pwynt y mae Jane Dodds ac eraill wedi'i wneud heddiw.

Ac rwyf wedi sôn am Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig. Yr wythnos hon, ymwelodd Seema Malhotra AS, y Gweinidog Mudo a Dinasyddiaeth, â Chymru. Nid ydym wedi cael Gweinidog y Swyddfa Gartref yn ymweld â Chymru ers amser hir iawn. Bellach mae gennym Weinidogion o Lywodraeth newydd y DU yn gwneud hynny. Ymwelodd â Chymru, cyfarfu â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, cyfarfu â Windrush Cymru Elders hefyd, a chyfarfu â'r Prif Weinidog a minnau, a buom yn trafod llawer o faterion, gan gynnwys e-fisâu a materion mudo eraill. Byddaf yn adrodd yn ôl iddi ar y ddadl hon heddiw a'r materion a godwyd, gan gynnwys—ac mae hyn yn rhywbeth y bûm yn ei drafod gyda phob Gweinidog ac Ysgrifennydd Gwladol y DU—pwysigrwydd rhannu data. Mewn gwirionedd, fe wnaethom gyffwrdd ar hyn ddoe gyda fy niweddariad o 'Gynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol', ac rwy'n credu y bydd cynnydd pwysig o ran rhannu data o ganlyniad i Lywodraeth newydd y DU, a hefyd y dystiolaeth a roddwn fod hyn yn eithrio pobl, mae'n ddiangen, ac mae angen inni ddadgyfuno data ar bob lefel, a dyna yw ein nod.

Hefyd, fe gyfarfûm â'r Fonesig Angela Eagle, y Gweinidog Diogelwch Ffiniau a Lloches, a'r Arglwydd Wajid Khan, y Gweinidog Ffydd, Cymunedau ac Adsefydlu. Unwaith eto, fe wnaethant ofyn am gael cyfarfod â ni ac maent yn mynd i gymryd rhan yn cenedl noddfa: bwrdd trosolwg strategol. Maent eisiau ymgysylltu â Chymru, maent eisiau dysgu beth rydym ni'n ei wneud, sydd hefyd yn gynnydd pwysig o ran y math hwnnw o ymgysylltu. Mae'n ddull mwy cydweithredol o weithredu rhwng ein Llywodraethau, gan gefnogi mudwyr yn cynnwys dinasyddion yr UE yng Nghymru, ac fel y dywedais, byddaf yn adrodd yn ôl ar y ddadl heddiw a'r materion a godwyd o ganlyniad i'r ymchwiliad.

Fel rydym wedi'i ddweud erioed, mae Llywodraeth Cymru yn gweld gwerth mawr yn y cyfraniadau y mae dinasyddion yr UE yn eu gwneud i'n cymunedau, ein diwylliant a'n heconomi. Byddwn yn parhau i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu o ran cefnogaeth, a dyna'r ymrwymiad rwy'n ei roi i chi heddiw fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y gall dinasyddion yr UE barhau i fyw a ffynnu yng Nghymru. Rydym wedi darparu bron i £3 miliwn o gyllid grant i gefnogi dinasyddion yr UE i wneud cais am gynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE, ac i aros yma yng Nghymru os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae'r cyllid wedi ategu'r cymorth a ddarparir gan Lywodraeth y DU, felly cafwyd ymdrech ar y cyd i gefnogi dinasyddion yr UE yng Nghymru, ac yn amlwg mae'n dda iawn gwybod bod gennym ni Settled a phartneriaid eraill yma gyda ni heddiw. Mae Settled wedi derbyn £140,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac wrth i ni osod ein cyllidebau, edrychwn ar y flwyddyn ariannol nesaf, ond rwy'n falch iawn hefyd ein bod wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer Tros Gynnal Plant Cymru yn ddiweddar iawn, cynllun sy'n hanfodol ar gyfer cefnogi pobl Sipsiwn, Roma, Teithwyr. Rwy'n meddwl hefyd am recriwtio—rydym yn cefnogi'r broses o recriwtio gweithiwr allgymorth yng ngogledd Cymru am 12 mis hefyd. Dyna ddatblygiad arall i ddangos ein hymrwymiad.

Mae'n bwysig iawn fod y dinasyddion a allai fod wedi methu dyddiad cau y cynllun preswylio'n sefydlog, y rhai sydd angen gwneud cais arall am statws preswylydd sefydlog, unrhyw ddinesydd sydd wedi apelio yn erbyn penderfyniad, yn parhau i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt, a dyna fy ymrwymiad. Felly, rwy'n ymwybodol o'r amser, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi datblygu fforwm hawliau dinasyddion yr UE i gymryd lle grŵp cydgysylltu blaenorol y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Mynychais y fforwm newydd hwn ym mis Hydref gyda'n rhanddeiliaid, ac fe wneuthum gydnabod rôl gadarnhaol awdurdodau lleol. Mae cylch gwaith y grŵp yn ehangach erbyn hyn, gan gwmpasu mynediad at hawliau yn ogystal â chynllun preswylio'n sefydlog yr UE, a materion eraill a allai effeithio ar ddinasyddion yr UE sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog. Felly, dyma ddechrau ar waith pwysig.

Hefyd, arweiniodd newid cadarnhaol a phwysig mewn polisi, a ddaeth yn sgil dyfarniad yr Uchel Lys ynghylch hawliau deiliaid statws cyn-sefydlog, at ail rownd o newidiadau i'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE. Felly, nawr, yn awtomatig, bydd statws dinasyddion yr UE sydd â statws cyn-sefydlog yn cael ei ymestyn yn awtomatig i bum mlynedd cyn iddo ddod i ben, os nad ydynt eisoes wedi gwneud cais am statws sefydlog. Yn ogystal, mae proses ar waith lle bydd unigolion sydd â statws cyn-sefydlog sydd ag ôl troed digidol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cael eu statws wedi'i uwchraddio'n awtomatig i statws sefydlog heb fod angen gwneud cais arall.

Felly, i gloi, fel y dywedais, rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae'r ddadl hon heddiw yn bwysig. Mae gennym berthynas newydd â Llywodraeth newydd y DU. Bydd yr awdurdod monitro annibynnol—fe wneuthum eu llongyfarch ar eu buddugoliaeth yn yr Uchel Lys dros ddinasyddion yr UE—yn parhau i sicrhau bod dinasyddion yr UE yn cael eu trin yn deg. Rydym yn cefnogi'r awdurdod monitro annibynnol. Mae eu hadroddiad blynyddol, a gyflwynwyd fis diwethaf, yn bwysig iawn i bwyllgorau arbenigol yr UE a chyd-bwyllgorau. Mae'n dangos—

16:35

Ysgrifennydd y Cabinet, rhaid i chi ddod i ben. Rwyf wedi bod yn hael iawn.

—cael ei wneud ledled Cymru. Diolch yn fawr. Diolch am eich amser heddiw.

Diolch. Mae'n dda gwybod bod Joel James, yn ei rôl fel cynghorydd, yn hyrwyddo'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE, ac mae hynny'n rhywbeth y dylai pob cynghorydd ac yn wir, Aelodau'r Senedd ac Aelodau Seneddol fod wedi bod yn ei wneud.

Mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain nad yw pawb yn darllen papurau newydd, nid oes gan bawb ffonau clyfar, ac mae gan 25 y cant o'r boblogaeth heriau llythrennedd sylweddol. Felly, mae deall yr angen i wneud cais am rywbeth na feddylioch chi erioed y byddai'n rhaid i chi ei wneud, os daethoch chi yma yn y 1950au a'r 1960au, ymhell cyn inni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, dyna pam y mae wedi profi mor anodd inni allu dweud gyda sicrwydd fod pawb wedi ei gynnwys yn hyn. Ac fel y rhestrodd Sioned Williams, mae cymaint o bobl yn mynd i gael anhawster: y rhai sydd â salwch meddwl; y rhai sydd wedi bod yn destun caethwasiaeth a cham-drin domestig. Nid yw'r rhain yn bobl sy'n gallu mynd i swyddfa cyfreithiwr a dweud, 'Helpwch fi i lenwi'r cais hwn.' A'r peth mwyaf brawychus yw bod hyn yn ymwneud â mwy na hawliau'r dinesydd Ewropeaidd a'u gallu i aros yn y wlad hon, mae hefyd yn ymwneud â hawliau eu plant i aros yn y wlad hon, ac mae'n bosibl nad ydynt yn gwybod dim am hynny.

Yn ein hadroddiad, rydym wedi tynnu sylw hefyd at rai o'r gwallau digidol sydd eisoes wedi digwydd, sy'n sicr o ddigwydd mewn system ddigidol yn unig, yn enwedig pan fo'n gynllun peilot. Felly, er enghraifft, gwrthodwyd statws i rai pobl ac maent wedi cael eu nodi fel rhai sydd â statws wedi'i dderbyn. Wel, mae'n debyg fod y gwrthwyneb wedi digwydd hefyd. Mae rhai pobl wedi gorfod talu yn gwbl anghywir am wasanaethau iechyd y mae—. Codwyd tâl am driniaeth GIG ar oddeutu 141,000 o bobl, ac roeddem yn falch iawn, pan ysgrifenasom at Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod wedi mynd o gwmpas pob un o'r byrddau iechyd i sicrhau na chodir tâl ar neb yng Nghymru, neu os oedd hynny wedi digwydd, fod yr arian wedi ei dalu'n ôl. Felly, mae hynny'n bwysig iawn. Ond mae'n dangos sut nad yw'n bosibl dweud, 'Mae hon yn system berffaith a bydd popeth yn cael ei roi mewn trefn.'

Rwy'n tybio mai un o'r pethau na soniais amdanynt yn fy sylwadau cynharach yw dileu'r hawl i apelio.

Ar y pwynt a wnaethoch chi yno ynglŷn â thaliadau iechyd, rhywbeth arall a gododd yn yr adroddiad oedd y taliadau a godir ar gam ar fyfyrwyr weithiau, nad ffioedd cartref a godir arnynt, pan ddylai hynny fod yn digwydd fel dinasyddion Ewropeaidd, ac maent yn cael trafferth gyda rhentu. Felly, byddai'n dda clywed bod Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud gwaith gyda Prifysgolion Cymru, efallai, a Medr ar hynny hefyd, oherwydd mae'n atal pobl lawn cymaint rhag manteisio ar gyfleoedd, onid yw?

16:40

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, a gwelaf Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, ac rwy'n siŵr y gallwn gydweithio ar hynny. Mae'n dda iawn cael cefnogaeth Mike Hedges yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac yn wir, Delyth Jewell o'r pwyllgor diwylliant, sydd â chysylltiadau rhyngwladol yn ei gylch gwaith. Rwy'n credu ei bod mor bwysig ein bod yn gweld hyn yn ei gyfanrwydd, ac rydych chi'n llygad eich lle i dynnu sylw at y mapiau, y graffeg a'r data sydd wedi'u llunio gan ein Gwasanaeth Ymchwil a'n clercod, oherwydd mae hyn yn hanfodol i ddeall stori sy'n wirioneddol gymhleth mewn gwirionedd. Dyna pam y mae'n rhaid inni barhau i drafod y materion hyn.

Tynnodd Jane Dodds sylw at addewid a wnaed yn 2016, ymhlith cymaint o addewidion—beth am y £230 miliwn yr wythnos neu beth bynnag i'r GIG? Ond mae gennym ddyletswydd i gyflawni dros bobl sydd fel arall yn mynd i ddioddef anghyfiawnderau, a hefyd i ddiolch i'r holl bobl sy'n parhau i ymladd ar ran dinasyddion Ewropeaidd i sicrhau nad ydynt yn dioddef anghyfiawnder: Travelling Ahead, Settled, the3million, y bobl sy'n rhan o fforwm dinasyddion yr awdurdod monitro annibynnol. Mae'r rhain yn bobl sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dinesydd Ewropeaidd yn cael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu. Ac mae'n rhaid i ni i gyd sicrhau, pan fyddwn yn siarad â phobl, nad ydym yn dal yn ôl rhag gofyn iddynt, 'A wnaethoch chi wneud cais?', 'A oes gennych chi statws sefydlog?' Sgwrs gyflym yw hi, ond mae'n bwysig iawn, ac rwy'n gwbl ymwybodol fod hwn yn gwestiwn y mae angen imi barhau i'w ofyn i fy nghymdogion sy'n eithaf oedrannus, ac fe allai effeithio ar eu plant hefyd.

Felly, rwy'n credu bod dileu'r hawl i apelio yn fater difrifol iawn, oherwydd mae camgymeriadau'n digwydd, fel yr amlinellwyd yn ein hadroddiad, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym berthynas dda iawn â Llywodraeth y DU erbyn hyn oherwydd mae'n rhoi'r gallu inni godi materion a dweud, 'Nid yw hyn yn teimlo'n iawn.' Ac mae'n rhaid inni wrthsefyll y drafodaeth wrth-fewnfudo sy'n digwydd, gyda'r arddangosfa wych honno sy'n dal i fod wrth droed grisiau'r Senedd, y credaf fod Seema Malhotra wedi ymweld â hi. Mae'n wych ei bod wedi dod yma ac wedi cyfarfod â chymaint o'r bobl berthnasol ar hyn. Mae angen inni barhau i hyrwyddo hawliau dinasyddion Ewropeaidd i aros yma a pharhau i fod yn aelodau gwerthfawr o'n cymuned.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar ddeiseb P-06-1400, 'Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru'

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 8, sef dadl ar ddeiseb P-06-1400, 'Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru'. Mae'r Dirprwy Lywydd wedi penderfynu cyfyngu cyfraniadau gan Aelodau i dair munud er mwyn caniatáu i gynifer â phosib i gael eu galw o fewn yr amser sydd ar gael. Dyw'r terfynau ar gyfer y Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet ddim wedi newid, felly byddwn i'n ddiolchgar os gallai Aelodau gadw tu fewn yr amser er mwyn i fi allu galw pawb. Felly, dwi nawr yn galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Carolyn Thomas.

Cynnig NDM8709 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb P-06-1400 'Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru’ a gasglodd 21,620 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar gyllid practisau cyffredinol. Cafodd y ddeiseb ei chreu gan Lewis Williams o Gymdeithas Feddygol Prydain fel rhan o'u hymgyrch, 'Achubwch ein Meddygfeydd'. Casglodd 21,620 o lofnodion. Mae testun y ddeiseb yn dweud,

'Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru.

'Mae practisau cyffredinol yng Nghymru dan straen sylweddol a chynyddol. Mae nifer y meddygon teulu yn gostwng, mae'r galw yn cynyddu, ac mae practisau'n cael trafferth recriwtio a chadw staff.

'Mae practisau cyffredinol yn cael eu gorfodi i geisio ymdopi ag adnoddau annigonol, llwyth gwaith anghynaliadwy, a gweithlu sydd o dan bwysau ledled Cymru, gyda rhai meysydd mewn argyfwng.

'Mae’r diffyg capasiti a welir ar hyn o bryd yn deillio o broblemau hirsefydlog o ran llwyth gwaith, y gweithlu, a llesiant, sy’n gysylltiedig â thanariannu cronig ym maes gwasanaethau meddygol cyffredinol.

'Mae ymgyrch gan BMA Cymru Wales, sef Achubwch ein Meddygfeydd, yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i becyn achub ar gyfer practisau cyffredinol, a hynny er mwyn sicrhau bod gan feddygon teulu a'u cleifion y cymorth sydd ei angen arnynt.'

Ddiwedd mis Medi, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol weithdy gyda meddygon teulu i lywio gwaith y byddant yn ei wneud yn ddiweddarach eleni. Yn y digwyddiad, roedd y neges gan feddygon teulu yn glir: mae'r model ariannu presennol yn anghynaliadwy. Dros y ddau ddegawd diwethaf, er bod nifer yr apwyntiadau wyneb yn wyneb, cysylltiadau digidol a galwadau ffôn wedi codi, mae cymhlethdod y gwaith wedi'i drawsnewid, mae costau wedi codi, ac mae cost mangreoedd wedi codi. Ac eto mae cyfran y gyllideb iechyd sy'n cael ei gwario ar wasanaethau meddygon teulu wedi crebachu. Dyma gefndir ymgyrch Cymdeithas Feddygol Prydain.

Nid oes unrhyw atebion hawdd. Gwyddom fod arian yn dynn ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, hyd yn oed ar ôl y gyllideb, ond mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd o sicrhau hyfywedd hirdymor gwasanaethau gofal sylfaenol a'n meddygfeydd. Gwyddom fod pwysau llwyth gwaith, gweithlu, a llesiant yn cynyddu mewn ymarfer cyffredinol, ac edrychaf ymlaen at glywed beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwahanol rannau o Gymru wrth inni gynnal y ddadl hon heddiw. Mewn rhai ardaloedd, recriwtio a chadw yw eu prif bryder, ond mewn ardaloedd eraill cyflwr adeiladau sy'n dadfeilio yw'r prif destun pryder. Mewn eraill, y boblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym neu lwyth gwaith cynyddol heb gynnydd cyfatebol mewn capasiti i ateb y galw yw'r prif bryder. Ond yn sail i'r pryderon i gyd, mae arian i dalu am y gwasanaethau y mae pawb ohonom eisiau eu gweld.

Fel y soniais yn gynharach, bydd y pwyllgor iechyd yn gwneud gwaith pellach ar wasanaethau meddygon teulu yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond rwy'n gobeithio bod y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i baratoi ar gyfer y gwaith manwl hwnnw, i dynnu sylw at rai o'r heriau, ac awgrymu atebion hyd yn oed. Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl ac ymateb y Gweinidog. Diolch.

16:45

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau am agor y ddadl heddiw ar adnoddau teg a digonol ar gyfer practisau cyffredinol yng Nghymru, a'r pwyllgor cyfan am ystyried y ddeiseb bwysig hon a gyflwynwyd gan Lewis Williams, fel y nodoch chi'n briodol, Gadeirydd? Rwy'n credu bod arwyddocâd y ddeiseb hon i'w weld yn nifer y bobl a'i llofnododd—dros 21,000, rwy'n credu. Ac rydym weithiau'n anghofio, o ran deisebau'r Senedd, fod hwnnw'n nifer enfawr. Weithiau byddwn yn edrych arno yng ngoleuni rhai o'r materion sy'n codi gyda 20 mya, ac yn anghofio bod 21,000 o bobl yn llofnodi'r ddeiseb hon yn dangos pwysigrwydd ymarfer cyffredinol i bobl Cymru, ac i gymunedau ledled y wlad hon. Mae'n amlwg fod pobl ar draws y wlad hefyd yn teimlo bod ymarfer cyffredinol yn cael ei danariannu a'i fod yn cael ei orfodi i ymdopi ag adnoddau annigonol a llwyth gwaith sy'n anghynaliadwy. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom ni yn y Siambr hon heddiw wedi clywed gan feddygon teulu yn uniongyrchol pa mor anghynaliadwy yw'r sefyllfa bresennol iddynt hwy.

Fel y mae, fe wyddom fod 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd i feddygon teulu a phractisau meddygon teulu, canran sydd mewn gwirionedd yn is na'r lefelau yn 2005-06, sydd, yn ôl pob tebyg, yn adlewyrchu ychydig o'r gwerth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar feddygon teulu ar hyn o bryd. Pe byddent yn cael eu gwerthfawrogi'n iawn a'u deall yn iawn, byddent yn cael adnoddau i gyfateb â hynny. Y rheswm pam ein bod wedi gweld dros 100 o feddygfeydd yng Nghymru yn cau yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, heb unrhyw arwydd go iawn o wrthdroi, yw oherwydd nad oes cyllid ar gael i fynd i'r afael â'r pwysau sydd arnynt. Ac mae hynny'n effeithio'n fawr ar bobl ar draws Cymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl fer y bydd James Evans yn ei harwain yn ddiweddarach heno ar effaith cau practisau cyffredinol mewn rhannau gwledig o Gymru.

Roeddwn yn falch o amseriad y ddeiseb hon hefyd, oherwydd arweiniodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl yn seiliedig ar ymgyrch BMA Cymru, sef Achubwch Ein Meddygfeydd yn ystod y misoedd diwethaf. Rwy'n adleisio'r galwadau a wnaethom yn y ddadl honno eto, gan gynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod strategaeth glir ar gyfer y gweithlu i sicrhau ein bod yn hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu ar gyfer y tymor hir. Oherwydd fe wyddom fod ganddynt rôl ganolog i'w chwarae yn gwella llesiant dinasyddion, ac yn bwysig, yn atal afiechyd. Gwyddom fod atal gymaint yn well na gwella. Cael pethau'n iawn yn y lle cyntaf ar lefel gofal sylfaenol yn ein cymunedau—dyna yw'r ateb cywir. Felly, unwaith eto, wrth orffen, diolch i'r deisebydd ac rwy'n ailadrodd y galwadau ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo'r cyllid i feddygon teulu i ddarparu'r gwasanaethau cynaliadwy yr ydym i gyd am eu gweld yn ein cymunedau. Diolch yn fawr iawn.

16:50

Dwi'n falch iawn bod y ddeiseb yma wedi dod o flaen y Senedd heddiw. Mae o'n tynnu sylw at fater sy'n mynd at wraidd y problemau sy'n effeithio ar ein gwasanaeth iechyd ni. Dwi wedi derbyn ymhell dros 600 o e-byst ar draws fy rhanbarth i, gan rai sydd yn gweithio yn y maes, ond hefyd gan nifer o bobl sy'n llwyr ddibynnol, ac mae'r pryder yn aruthrol. Fel mae Mabon ap Gwynfor, fel ein llefarydd iechyd, wedi sôn nifer o weithiau, mae gwasanaethau cynradd yn rhan allweddol o'r agenda ataliol, ac mae hyn yn dod yn fwyfwy amlwg dros y degawdau nesaf, o ganlyniad i'r newidiadau demograffig yn ein poblogaeth.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd yna 372 o wasanaethau GP yng Nghymru ar ddiwedd mis Mehefin, sef 14 yn llai na phan lansiwyd ymgyrch Save Our Surgeries gan y BMA. Mae'n amlwg felly bod y rhybuddion clir a chyson yma ynglŷn â phrinder darpariaeth ar draws ein cymunedau wedi syrthio ar glustiau byddar y Llywodraeth. Dwi'n sicr bod pob un ohonom ni yn y Siambr yma wedi clywed pryderon ein hetholwyr am ddiffyg argaeledd i wasanaethau meddygon teulu, yn enwedig y sawl ohonom ni sy'n cynrychioli etholaethau gwledig, er enghraifft, lle mae presenoldeb meddygfa gymunedol yn fwy o foethusrwydd prin y dyddiau yma.

O ran y gweithlu, mae Cymru hefyd yn parhau i fod dros 500 meddyg teulu yn fyr o gyfartaledd yr OECD. Mae'n amlwg felly, fel y mae'r ddeiseb yn ei amlygu, fod angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r tanfuddsoddiad aruthrol sydd wedi digwydd yn y sector yma dros ddegawd. Rhan o'r ateb ydy i adfer canran y gyllideb iechyd sy'n mynd tuag at GPs nôl i'w lefel hanesyddol o 8.7 y cant, ac mi ydym ni ym Mhlaid Cymru yn ymbil ar y Llywodraeth i ddefnyddio'r arian ychwanegol sydd wedi deillio o gyllideb y Deyrnas Unedig ar iechyd i gyflawni hyn.

Ond dim ond un rhan o'r ateb ydy arian. Mae hefyd angen ystyried diwygiadau i strwythur a strategaeth yn y sector er mwyn ymdopi â'r cynnydd mewn galw sydd i ddod. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld tueddiad o gwmnïau mawr, yn aml wedi eu lleoli tu allan i Gymru, yn dechrau camu i mewn i'r farchnad o wasanaethau GPs, gan brynu a rhedeg amryw o feddygfeydd. Mae presenoldeb eHarleyStreet yn ardal Aneurin Bevan yn enghraifft amlwg. Mae hyn yn parhau efo'r patrwm niweidiol o elw yn cael ei sugno allan o'r system iechyd i bocedi'r sector preifat, a hefyd yn creu sefyllfa fregus iawn o ran darpariaeth.

Mae'n amlwg felly fod angen rhyw fath o gynllun i warchod yn erbyn y posibilrwydd yma o golli mwy a mwy o'n GPs ni a'r meddygfeydd eithriadol o bwysig yma yn ein cymunedau ni. Rydym ni hefyd eisiau gweld mwy o gydweithredu rhyngwasanaethol er mwyn ymateb yn fwy effeithiol i gynnydd mewn galw. Gaf i ofyn, felly, wrth i'r Llywodraeth ystyried y ddeiseb hon, pa ystyriaeth sydd wedi ei roi i'r ffaith bod yna gymaint o bryderon yn cael eu mynegi? Ydy'r Llywodraeth yn derbyn bod yna greisis o ran gwasanaethau GPs? Maen nhw'n teimlo nad yw hyn yn cael ei gydnabod gan y Llywodraeth ar y funud, a dwi eisiau gweld yr eglurder hwnnw heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet.

Rwy'n credu bod hon yn ddeiseb i'w chroesawu'n fawr, oherwydd mae angen i bob bwrdd iechyd wario mwy o arian a rhoi mwy o egni ac amser i ofal sylfaenol. Rwyf am edrych yn gyflym ar rai o'r materion cyfiawnder cymdeithasol sy'n gysylltiedig â hyn, oherwydd mae 389 o bractisau yng Nghymru, oni bai bod un neu ddau wedi cau yn y cyfamser, ond mae'r prosiect Deep End yn edrych ar y rhai sy'n gwasanaethu'r ardaloedd cynnyrch ehangach o amddifadedd, ac mae ganddynt 30 y cant yn fwy o gleifion fesul meddyg teulu ar gyfartaledd na'r rhai yn y 100 practis lleiaf difreintiedig.

Mae'r rhain yn ffigurau pwysig iawn. Os edrychwch chi ar y rhai sy'n darparu gofal iechyd yn ei gyfanrwydd—felly nid y meddygon yn unig ond yr holl weithwyr proffesiynol perthynol eraill—mae yna wahaniaeth mwy amlwg fyth. Mae llai o bobl gan y rhai sy'n gorfod gwasanaethu'r poblogaethau sydd â'r heriau iechyd mwyaf, sy'n mynd yn fwy sâl yn gynharach, ac sydd â llai o lythrennedd iechyd. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith bod y Pwyllgor Deisebau'n mynd i edrych ymhellach ar hyn, oherwydd rwy'n credu bod llawer mwy y mae angen inni ei ddweud am hyn.

Mae'n amlwg fod angen inni gael llawer mwy o waith amlddisgyblaethol, oherwydd yn syml iawn, ni cheir digon o feddygon teulu, na nyrsys yn wir. Mae'n rhaid inni feddwl y tu allan i'r bocs. Mae'n rhaid inni dyfu ein cynnyrch ein hunain. Mae angen inni recriwtio o'n cymunedau ein hunain, yn hytrach na dod â phobl o'r tu allan i mewn, a rhoi llwybrau recriwtio a chadw iddynt fel eu bod yn aros yn y cymunedau y maent wedi tyfu i fyny ynddynt ac yn llawer llai tebygol o'u gadael. Felly, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud ar hyn, Ac mae angen inni ddod yn ôl at hyn a chael dadl lawnach, na allwn ei wneud o fewn yr amser byr hwn. 

16:55

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon i geisio tynnu sylw at bwysigrwydd y ddeiseb. Mae ein gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru mewn anhrefn ac nid yw'n ddigon da. Fel y mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands eisoes wedi dweud, mae 21,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb hon, yn galw ar y Llywodraeth i gynnig pecyn achub i feddygon teulu. Mae'n hen bryd i'r Llywodraeth Lafur hon gymryd cyfrifoldeb a gweithredu. Ar draws Cymru, clywn straeon am bobl sy'n methu cael apwyntiadau. Rwy'n gwybod o fy meddygfa fy hun mai'r un hen stori yw hi, ddydd ar ôl dydd—system drefnu apwyntiadau sy'n ymddangos fel pe bai wedi'i chynllunio i'w gwneud hi'n amhosibl cael help, ac mae hynny'n golygu bod cleifion yn aros am oriau am alwad yn ôl i weld a oes apwyntiad, a'r dewis arall yw system ar-lein, sydd, wrth gwrs, yn eithrio llawer o'r henoed a rhai ag anableddau ar unwaith. 

Yn ddiweddar, e-bostiodd meddyg teulu yn Nhorfaen i nodi bod Cymru wedi colli 51 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024. Mewn arolwg diweddar, dywedodd 37 y cant o feddygon teulu yng Nghymru efallai na fyddant yn y proffesiwn ymhen pum mlynedd. Aeth y meddyg teulu hwn rhagddo i ddweud bod 74 y cant o'u haelodau'n credu y gallent leddfu pwysau ar ysbytai pe bai ganddynt fwy o staff ac adnoddau. Mae meddygon teulu ar draws fy rhanbarth yn crefu am help a rhywfaint o synnwyr gan y Llywodraeth hon. Mae'n amlwg y gallai ymarfer cyffredinol fod yn rhan fawr o'r ateb i argyfwng y GIG, ond nid yw hyn yn digwydd. Gwelwn gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, ond lle mae'r gwasanaethau ysgolion a meddygon teulu i gyd-fynd â hynny? Mae tai yn cael eu hadeiladu, ond heb ystyriaeth i'r seilwaith sydd eisoes dan bwysau i ateb y galw, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae llai o bractisau. Gall fferyllfeydd cymunedol chwarae rhan allweddol yn helpu yma, ond ble mae'r ymgyrch wybodaeth i roi gwybod i bobl am y cynnydd yn y gwasanaethau y gallant eu cynnig i geisio lleddfu hyn a helpu ein meddygon teulu? 

Yng Nghymru, rydym eisoes wedi colli 100 o safleoedd meddygon teulu yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, ac eto mae nifer y cleifion yn parhau i godi. Pam na allwn ni fod yn arloesol yma, a dod â chynigion, galluoedd, gwahanol i mewn i leddfu baich meddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys wrth gwrs, ar gyfer atgyfeiriadau ar y safle yn y fan a'r lle? Mae angen inni wybod yn union faint yn fwy y bydd meddygon teulu yn ei dalu mewn cyfraniadau yswiriant gwladol. Dylai'r wybodaeth hon fod gan y Gweinidog eisoes, ond os nad yw hi, galwaf arno i'w chael a rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl. Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen cefnogaeth briodol ar ein practisau meddygon teulu. Mae eu llwyth gwaith yn anghynaliadwy. Mae angen i feddygon teulu fod yn hygyrch i'n hetholwyr, dim mwy o'r un esgusodion ac rwy'n annog y Gweinidog i fynd i'r afael â'r argyfwng cynyddol hwn mewn gofal sylfaenol hanfodol. 

Rwy'n croesawu'r ddadl hon—dadl baratoadol, rwy'n meddwl, ar gyfer llawer o'r gwaith sy'n mynd i fod yn digwydd drwy'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd ar y ffordd. Gallwn wrando ar gyfraniadau sy'n cael eu gwneud ar draws y Siambr ac rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno bod problem o fewn practisau meddygon teulu, boed yn fater ariannu neu brinder meddygon teulu. Rwy'n credu bod y rhwystredigaeth i feddygon teulu yn deillio o'r ffaith, er bod pob un ohonom yn cytuno bod yna broblem, ein bod eto i ganfod yr ateb. 

Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar feddygon teulu locwm. Roedd hon yn broblem a nodwyd gan nifer o feddygon teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae data o Loegr yn adrodd stori arswydus wrthym. Mae arolwg a gynhaliwyd gan y BMA wedi canfod nad yw bron bedwar o bob pum meddyg teulu locwm yn gallu dod o hyd i waith, er bod amseroedd aros cleifion yn cyrraedd y lefelau uchaf erioed. Mae hynny yn Lloegr, ond yma yng Nghymru mae symptomau'r un argyfwng wedi bod yn weladwy ers tro, ond eto nid yw'n ymddangos bod y data ar gael, ac rwy'n credu y dylid ymchwilio ymhellach i hyn. Yn anecdotaidd, dywedwyd wrthyf am feddygon locwm yng Nghymru sy'n troi at feysydd eraill. Mae rhai yn ystyried swyddi'n gyrru tacsis ac mewn manwerthu. Ar adeg pan ydym yn crefu am feddygon teulu ac rydym i gyd yn derbyn bod prinder meddygon teulu, mae'r sefyllfa hon yn wallgof. Mae meddygon hyfforddedig yn cael eu gorfodi allan o ofal iechyd gan strwythur cyllido sy'n methu cydnabod eu gwerth yn y bôn, oherwydd yn y pen draw dyna yw hyn. Mae'r sefyllfa gyda meddygon teulu lleol a meddygon sesiynol fel y caneri yn y pwll glo, fel y disgrifiodd un meddyg teulu i mi, yn ein rhybuddio o'r perygl o chwalfa lawer mwy. Bydd y chwalfa honno'n digwydd os byddwn yn parhau ar hyd y llwybr hwn. Bydd yr effeithiau canlyniadol yn ymestyn y tu hwnt i feddygon teulu i staff derbynfa, nyrsys practis, a methu cael partneriaid yn lle'r rhai sy'n gadael practisau.

Felly, heb newid, byddwn yn wynebu amseroedd aros hirach am apwyntiadau, mwy o gleifion yn cael eu gorfodi i droi at ofal brys oherwydd diffyg mynediad at feddygon teulu, a GIG dan straen annioddefol. Felly, ni allwn fforddio anwybyddu'r arwyddion rhybudd hyn mewn perthynas â meddygon teulu locwm, ac rwy'n gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r sefyllfa mewn perthynas â meddygon locwm, a hoffwn glywed ei farn ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r broblem.

17:00

Hoffwn roi amser i ganolbwyntio'n fyr ar gyllid meddygon teulu yng Ngogledd Caerdydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, ymwelais â llawer o feddygfeydd yng Ngogledd Caerdydd, yng Ngogledd Llandaf, Llanisien, Gabalfa, y Mynydd Bychan a Birchgrove ac eraill, a'r un neges a gefais gan bob un ohonynt: maent yn cael trafferth cynnal lefelau diogel o wasanaeth ac yn poeni ynglŷn â'u gallu i barhau. Hoffwn dalu teyrnged i'w hymrwymiad i'w cleifion ac i'w hawydd i wella eu gwasanaethau, yn enwedig gan gynnwys gwaith ataliol, gwaith y maent mewn sefyllfa hollol ddelfrydol i'w ddarparu, yn amlwg, ond mae cymaint mwy yr hoffent ei wneud ac mae cymaint mwy y credaf y byddem ni am iddynt ei wneud, ond galluogi hynny i ddigwydd, rwy'n credu, yw'r ateb allweddol. Maent yn ei chael hi'n anodd ateb y galw, maent i gyd wedi dweud yr un peth, ac maent i gyd wedi gorfod cyfyngu ar nifer eu staff, ac mae hyn yn golygu nad yw pobl yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt ac y mae meddygon teulu eisiau ei ddarparu.

Nawr, mae un mater ariannu penodol wedi cael ei ddwyn i fy sylw ynghylch cyllid ar gyfer practisau meddygon teulu yng Ngogledd Caerdydd, ac maent yn honni eu bod mewn sefyllfa arbennig am eu bod yn cael llai o gyllid y pen na phractisau eraill ledled Cymru, a dywedodd un meddyg teulu partner wrthyf fod Gogledd Caerdydd yn yr 1 y cant isaf o bractisau a ariennir yn y DU. A dywedir wrthyf fod hyn oherwydd bod fformiwla Carr-Hill, sy'n cyfrifo'r arian a gaiff practisau meddygon teulu, wedi dyddio ac mae angen ei diwygio ar frys. Felly, tybed a yw'n bosibl i Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar y fformiwla hon yn ei gyfraniad i'r ddadl. Mae hynny'n rhywbeth y mae meddygon teulu Gogledd Caerdydd wedi ei ddwyn i fy sylw yn gadarn iawn.

Felly, i gloi, rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw symud at yr agenda ataliol, a chredaf mai'r allwedd i'r agenda ataliol yw practisau meddygon teulu, a'r hyn y gallwn ei wneud ar y cyd â hynny. Mae ehangu'r hyn y gall fferyllfeydd ei wneud yn amlwg yn gam mawr ymlaen, mae'r cyllid ychwanegol ar gyfer timau nyrsio cymunedol, unwaith eto, yn gam mawr ymlaen, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni feddwl am hynny i gyd yn ei gyfanrwydd.

Nid yw geiriad y ddeiseb hon yn newydd i mi. Roeddwn yn noddwr digwyddiad, gan weithio ochr yn ochr â'r BMA, yn ôl ym mis Gorffennaf, a oedd yn cydnabod ei bod yn flwyddyn ar y pwynt hwnnw ers i'r BMA lansio eu hymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn achub brys fel rhan o'u hymgyrch. Felly, dros y blynyddoedd, mae llawer o fy etholwyr, meddygon teulu y siaradais â hwy, wedi sôn am y pwysau sylweddol sydd arnynt, a sut y maent hefyd yn cystadlu â mater methu recriwtio staff. Felly, mae angen adfer cyllid GIG ar gyfer ymarfer cyffredinol cyn inni weld y gwasanaeth hwn yn chwalu'n llwyr yng Nghymru. Nid wyf yn credu mai codi bwganod yw hynny o gwbl, dyna'r realiti.

Nawr, cyfeiriodd Carolyn Thomas, yn ei hagoriad i'r ddadl hon heddiw, at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwneud gwaith yn y maes hwn, ac mae hynny'n gywir, fe gytunodd aelodau'r pwyllgor i wneud hynny yn gynharach eleni. Ond nid yn unig hynny, roedd Aelodau eraill yn ysgrifennu at y pwyllgor yn gofyn inni ystyried y gwaith hwn hefyd. Fe wnaeth sawl Aelod arall gysylltu â'r pwyllgor ynglŷn â hynny. Ac fe wnaethom gynnal sesiwn rhanddeiliaid yn ôl ym mis Medi. Gwnaethom ei chynnal mewn sesiwn breifat; roeddem am i feddygon teulu, nyrsys, gweithwyr iechyd proffesiynol eraill fod mor agored a gonest â phosibl gyda ni, felly fe wnaethom gynnal hynny mewn sesiwn breifat, ac roeddent yn onest iawn gyda ni. A'r negeseuon a roesant i ni fel pwyllgor oedd bod pwysau ariannu'n peryglu cynaliadwyedd ymarfer cyffredinol; mae pwysau chwyddiant a chost rheoli a chynnal adeiladau yn gwasgu cyllidebau meddygon teulu ymhellach; mae practisau'n ei chael hi'n anodd recriwtio a chadw staff ar bob lefel, o feddygon teulu partner i staff gweinyddol; ac mae meddygon teulu ac eraill sy'n gweithio mewn ymarfer cyffredinol yn rheoli cymhlethdod cynyddol yn eu llwyth gwaith wrth i fwy o wasanaethau gofal iechyd gael eu symud i'r gymuned. Felly, mae'r pwyllgor wrthi nawr yn datblygu ei gylch gorchwyl. Pan fydd wedi'i wneud, wrth gwrs, byddwn yn gwneud galwad ffurfiol am dystiolaeth.

Ond fe wnaeth fy nharo fod yr hyn rwyf newydd ei ddarllen allan—rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol o'r materion hynny, ac fel y nododd Luke Fletcher yn ei gyfraniad, yr hyn sydd eu hangen arnom yw'r atebion. Rwy'n credu y bydd yn waith cymhleth iawn i ni fel pwyllgor iechyd, oherwydd nid wyf yn credu y bydd dod o hyd i atebion i rai o'r problemau hyn yn hawdd iawn i ni. Mae honno'n mynd i fod yn her ynddi ei hun.

17:05

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i BMA Cymru am eu hymgyrch Achubwch ein Meddygfeydd. Roeddwn i yno yn y derbyniad yn y Senedd yn ôl ym mis Gorffennaf y cyfeiriodd Russell ato nawr, ac roedd yn hynod drist clywed straeon meddygon teulu sy'n wynebu heriau anhygoel yn 2024 a thu hwnt. Meddygon teulu yw'r pwynt cyswllt cyntaf ym mywyd claf, ac yn aml nawr maent yn ymyrryd mwy, o ystyried y rhestrau aros hirach. Diolch yn fawr iawn i bawb sy'n gweithio mewn meddygfeydd fel meddygon teulu, rheolwyr practis, nyrsys a staff ychwanegol. Mae'n waith caled ac rydym yn ddiolchgar i chi.

Mae'r ystadegau, yn eu hadroddiad diweddaraf, yn creu darlun trist o sefyllfa meddygon teulu a'u practisau yma yng Nghymru. Ond nid ystadegau yw meddygon teulu, ein ffrindiau ydynt, ein cymdogion, ein cydweithwyr, ac ni ddylai eu llesiant fod yn ôl-ystyriaeth. Mae eu lles, corfforol, meddyliol ac emosiynol yn hanfodol os ydym am sicrhau eu bod yn gweithio hyd eithaf eu galluoedd. Mae hyn yn amhosibl heb arian digonol i bractisau meddygon teulu.

Chwe mis yn ôl, fe ymwelais â'r meddygon teulu ym Mrycheiniog a sir Faesyfed a chlywed ganddynt am yr heriau sylweddol i recriwtio a chadw meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig. Rwyf wedi galw, ac rwy'n galw eto, am bremiwm meddygon teulu gwledig i gydnabod yr heriau sylweddol ac ychwanegol i feddygon teulu yn ein hardaloedd gwledig. Ond rwy'n gorffen gyda chwestiwn penodol iawn i Ysgrifennydd y Cabinet: a wnewch chi barhau i ariannu a recriwtio meddygon teulu drwy'r ymarfer a'r rhaglen arloesol a oedd yno o'r blaen? Roedd yn rhaglen arloesol iawn a oedd yn caniatáu i feddygon teulu mewn ardaloedd gwledig gael eu recriwtio a'u cadw. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd dros dro.

Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles.

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae meddygaeth teulu yn darparu gofal ataliol hollbwysig, ac rwy’n hynod ddiolchgar i feddygon teulu a’u staff am weithio mor galed bob dydd. I lawer o bobl, fel rŷn ni wedi trafod yn y ddadl, y feddygfa yw eu cyswllt cyntaf a’u prif gyswllt gyda’r gwasanaeth iechyd, ac mae’n ddealladwy iawn felly fod deiseb sy’n mynegi pryder am ddyfodol meddygfeydd wedi denu cymaint o ddiddordeb. Rŷn ni i gyd eisiau sicrwydd y bydd ein meddyg teulu lleol yno bob amser i ddarparu’r gofal rŷn ni ei angen, ac rwyf i am fod yn glir ein bod yn credu y bydd meddygon teulu yn parhau i fod yn gwbl ganolog i ofal sylfaenol nawr ac yn y dyfodol, yn enwedig gan ein bod am symud mwy o ofal allan o’r ysbyty ac i gymunedau lleol.

Mae ymgyrch BMA Cymru Achub ein Meddygfeydd a’r ddeiseb yn tynnu sylw at rai agweddau pryderus iawn o weithio yn y maes hwn heddiw. Rwyf am sicrhau meddygon teulu ein bod ni wedi clywed y negeseuon am y galw mawr a’r pwysau ar les staff, fel soniodd Jane Dodds. Rŷn ni wrthi’n cymryd camau i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Mae meddygfeydd Cymru yn gweld tua 1.5 miliwn o bobl bob mis, sydd yn nifer syfrdanol, ond efallai nad oedd angen i bob un o’r 1.5 miliwn hyn weld meddyg teulu. Gallen nhw gael eu gweld gan aelod arall o’r tîm gofal sylfaenol neu gan wasanaeth gofal sylfaenol arall. Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi bod yn datblygu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol i’w gwneud hi’n haws i bobl gael y gofal cywir yn gyflymach gan y person cywir ar yr adeg gywir.

Cafodd y contract unedig newydd a gyflwynwyd y llynedd ei ddatblygu i gydnabod bod meddygon teulu yn rhan o'r system ofal ehangach honno. Rhoddodd eglurder defnyddiol am ba wasanaethau y dylai pob meddygfa yng Nghymru eu darparu.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

17:10

Ddirprwy Lywydd, rhan o wneud ymarfer cyffredinol yn gynaliadwy yw caniatáu i feddygon teulu ofalu am eu cleifion yn fwy effeithlon a lleddfu rhywfaint o'r pwysau a'r galw y maent yn ei brofi trwy weithio'n fwy cydweithredol â gwasanaethau gofal sylfaenol eraill—mater a drafodais yn fy nghyfarfod diweddar â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae fferyllfeydd wedi creu capasiti ychwanegol trwy ddarparu mwy na 600,000 o ymgynghoriadau. Datblygwyd canolfannau gofal sylfaenol brys ledled Cymru i helpu i ymateb i'r galw ac maent bellach yn gweld mwy na 70,000 o bobl y mis. Rydym wedi buddsoddi £5 miliwn y flwyddyn mewn gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a mwy nag £8 miliwn i gynyddu'r gweithlu nyrsio cymunedol ar benwythnosau. Bydd hyn yn cynyddu'r cymorth sydd ar gael i feddygon teulu ymhellach drwy dimau adnoddau cymunedol, gan helpu pobl sy'n byw gydag eiddilwch. Rydym hefyd wedi targedu buddsoddiad at gynyddu staffio mewn practisau cyffredinol i wella mynediad i gleifion. Mae £4 miliwn ychwanegol wedi bod ar gael drwy fyrddau iechyd dros y tair blynedd diwethaf i gefnogi practisau i gynyddu adnoddau staffio. Mae'r cyllid hwn yn galluogi practisau meddygon teulu i gyflogi staff gweinyddol a chlinigol ychwanegol. Ac rydym yn parhau i fuddsoddi mewn timau amlddisgyblaethol i sicrhau y gall pobl gael mynediad at grŵp ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol gofal sylfaenol, gan gynnwys nyrsys practis, ffisiotherapyddion a fferyllwyr.

Mewn ymateb i'r pwynt a wnaeth Julie Morgan yn y ddadl, rwy'n ymwybodol o adroddiad gan Brifysgol Caerdydd sy'n edrych ar ddosbarthiad cyllid ac yn mynd i'r afael â chwestiwn fformiwla Carr-Hill, y nododd hi'n briodol fel y fformiwla sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r cyllid lefel practis i feddygon teulu. Er nad wyf yn gallu gwneud sylwadau ar y sefyllfa benodol yng Ngogledd Caerdydd, er fy mod yn hapus iawn i edrych i mewn iddi, rwy'n ymwybodol hefyd fod cysylltiad rhwng yr adroddiad hwnnw a Deep End Cymru, y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato yn ei chyfraniad, sydd wedi gwneud gwaith gwerthfawr iawn i'n helpu i ddeall yn iawn beth yw her y pwysau ar bractisau sy'n gwasanaethu cymunedau arbennig o ddifreintiedig. Ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi gallu cyfrannu at ariannu'r gwaith hwnnw.

Rwy'n gwybod bod yr Aelodau'n poeni am ddyfodol y gweithlu meddygon teulu. Rydym wedi cynyddu nifer yr hyfforddeion meddygon teulu—cafodd 199 eu recriwtio y llynedd ac rydym yn parhau i ddarparu cymhellion ariannol yn y ffordd yr oedd Jane Dodds yn gofyn yn ei gylch i annog meddygon teulu i weithio mewn ardaloedd lle mae recriwtio wedi bod yn anodd yn draddodiadol. Rydym hefyd yn adolygu Cyfarwyddiadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol—Costau Mangre) (Cymru) 2015 i gefnogi buddsoddiad mewn cyfleusterau gwasanaethau meddygol cyffredinol ledled Cymru, a fydd yn helpu i wella cynaliadwyedd a diogelwch cleifion a staff mewn practisau meddygon teulu.

Ddirprwy Lywydd, rydym wedi dewis ymrwymo £1 biliwn dros dymor y Senedd hon i glirio'r ôl-groniad a lleihau amseroedd aros a gronnodd yn ystod y pandemig. O reidrwydd, mae hyn yn golygu bod cyfran fwy o gyllid wedi mynd i ofal eilaidd. Bydd unioni'r anghydbwysedd hwn yn flaenoriaeth ar gyfer penderfyniadau cyllido—[Torri ar draws.]

Mae'r Gweinidog wedi—[Anghlywadwy.]—amser, felly nid yw'n mynd i ildio, oherwydd nid wyf am adael iddo wneud.

—yn y dyfodol, ac rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o ddarparu mwy o ofal yn nes at adref.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i chi am ganiatáu imi siarad ychydig y tu hwnt i fy amser. Hoffwn ddweud fy mod yn ddiolchgar am y berthynas sydd gennym â'r proffesiwn meddygon teulu yng Nghymru, a byddwn yn parhau i weithio gyda chynrychiolwyr meddygon teulu i sicrhau bod gan Gymru fodel cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol fel rhan o fodel gofal sylfaenol ffyniannus i'r dyfodol.

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu hymatebion. Nododd Sam Rowlands a Laura Anne nifer y llofnodion—21,000—felly mae'n dangos pa mor bwysig yw'r mater hwn ac nad yw cyllid yn cyfateb i'r pwysau. Siaradodd pawb am bwysigrwydd atal ar y lefel sylfaenol ac felly hefyd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb. Mae cymunedau gwledig, yn arbennig, yn broblem, a gofynnodd Jane Dodds am bremiwm gwledig i feddygon teulu a soniodd am raglen ar gyfer cadw meddygon teulu, ac rwy'n credu y gallai hynny fod yn rhywbeth y gallai'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol edrych arno.

Mae angen inni edrych hefyd ar adfer y seilwaith—felly, nid meddygon teulu eu hunain yn unig ond yr adeiladau hefyd—a soniodd Heledd am wasanaethau corfforaethol yn cymryd yr awenau, gan roi elw o flaen gwasanaethau mewn rhai ardaloedd gwledig, ac mae angen cydweithio gwell.

Soniodd Jenny ei fod hefyd yn fater gofal cymdeithasol. Nododd fod anghydraddoldebau iechyd yn gysylltiedig ar sail angen ag ardaloedd penodol, felly, lle ceir anghydraddoldebau iechyd mwy, efallai y bydd mwy o angen hefyd, a soniodd am y prosiect Deep End.

17:15

Rwy'n credu mai'r broblem oedd bod llai o bobl yn gwasanaethu'r cymunedau tlotaf, fod llai ohonynt yn gwasanaethu pobl ag anghenion llawer mwy.

Diolch. Diolch am yr eglurhad hwnnw. Soniodd Laura Anne hefyd am y system trefnu apwyntiadau, a bod cael apwyntiad yn dal i fod yn anodd mewn rhai ardaloedd, felly mae angen inni edrych ar symud adnoddau. Yn aml iawn, caiff cartrefi newydd eu hadeiladu, ond nid yw'r seilwaith bob amser yn dilyn. 

Siaradodd Julie Morgan am y fformiwla ariannu—fformiwla ariannu Carr-Hill—nad oeddwn wedi clywed amdani o'r blaen. Cawsom ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet, ond efallai fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei drafod ymhellach. Russell, diolch am ddod i mewn, fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fe wnaethoch chi siarad am yr ymchwiliad a wnaethoch, yn edrych ar adeiladu ar y cylch gorchwyl hwnnw'n barod ar gyfer yr ymchwiliad a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf. 

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb, gan siarad am bwysigrwydd gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, a sicrhau bod y ffocws ar hynny. Hefyd, siaradodd am les staff, sy'n bwysig iawn, a'r awydd i weithio gyda meddygon teulu, wrth symud ymlaen, a'u cefnogi.

Mae hwn yn fater na fydd yn cael ei ddatrys y prynhawn yma, ond mae wedi rhoi cyfle i bawb ohonom fyfyrio, cyn i'n cyllideb ein hunain gael ei chwblhau, ar faes sy'n wynebu pwysau sylweddol. Nid dyma'r unig faes sy'n crefu am gyllid ychwanegol. Yn gynyddol, fel Pwyllgor Deisebau, gwelwn ddeisebau'n cael eu defnyddio i dynnu sylw at y meysydd lle mae cyllid yn diflannu neu'n rhy brin. Mae'r ddadl heddiw wedi rhoi cyfle inni edrych ar feddygfeydd ac i glywed rhai o'r problemau dybryd a wynebir ganddynt.

Bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n credu y bydd gwaith y pwyllgor iechyd yn dechrau yn 2025. Nid y ddadl hon yw'r gair olaf ar y mater, ac rwy'n gobeithio ei bod yn ddechrau ar ffocws o'r newydd ar ofal iechyd sylfaenol yng Nghymru. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a diolch i'r deisebwyr. 

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Eitem 9 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig: ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf ar Peter Fox i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8713 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU yn torri ymrwymiad maniffesto Llafur i beidio codi trethi ar bobl sy'n gweithio.

2. Yn gresynu y bydd yn rhaid i lawer o bensiynwyr ddewis rhwng bwyta a gwresogi o ganlyniad i dynnu taliadau tanwydd y gaeaf yn ôl.

3. Yn cydnabod y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei gwneud yn anos i fusnesau gyflogi a chadw staff.

4. Yn mynegi ei siom bod cyllideb Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni naill ai trydaneiddio prif linell reilffordd Gogledd Cymru neu gyllid canlyniadol Barnett o brosiect HS2 i Gymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio cyllid sy'n deillio o Gyllideb yr Hydref i gefnogi'r gwaith o leihau rhestrau aros y GIG a chryfhau gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru;

b) darparu cymorth i bensiynwyr Cymru drwy fisoedd y gaeaf drwy sefydlu lwfans tanwydd gaeaf yng Nghymru;

c) cynyddu buddsoddiad yn system addysg Cymru i wella deilliannau dysgwyr yn ein hysgolion;

d) amddiffyn ffermwyr drwy gefnogi'r achos i gynnal rhyddhad eiddo amaethyddol a rhyddhad eiddo busnes at ddibenion treth etifeddiant; ac

e) sefyll dros Gymru drwy chwilio am fformiwla ariannu newydd sy'n seiliedig ar anghenion i gymryd lle fformiwla Barnett.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig yn enw Darren Millar. Deugain biliwn o bunnoedd—dyna faint o drethiant ychwanegol y mae Llafur wedi ei godi ar bobl y Deyrnas Unedig. A dweud y gwir, rwyf wedi synnu pa mor anonest y mae'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi bod mewn perthynas â'r gyllideb hon. Mae hyd yn oed y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dweud bod Llafur yn gwybod yn fras beth oedd yr heriau ariannol a oedd yn wynebu'r wlad, ond eu bod wedi gwrthod eu hwynebu yn eu maniffesto neu ddatganiadau cyn yr etholiad.

Mae'n rhyfeddol mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth y Llywodraeth Lafur oedd dileu'r cymorth gwresogi hanfodol i'n pensiynwyr, cam y dywedir wrthym a allai arwain at 4,000 o farwolaethau cynamserol yng Nghymru. Nawr, mae hwn yn gam a gefnogwyd gan bob AS Llafur Cymru ac yn gam y mae Aelodau Llafur yma wedi methu ei gondemnio.

Addawodd y Blaid Lafur beidio â chodi trethi ar y gweithiwr, ac maent wedi penderfynu yn gyfleus iawn nad yw perchnogion busnes yn cyfrif fel gweithwyr er bod llawer ohonynt yn ei chael hi'n anodd ac nad ydynt yn mynd â mwy na'r isafswm cyflog adref. Addawodd y Canghellor beidio â newid ei rheolau cyllidol i alluogi mwy o fenthyca, ond erbyn hyn mae biliynau o bunnoedd wedi'u hychwanegu at ddyled y wlad trwy ei ffidlan amlwg â'i rheolau cyllidol ei hun.

Yn groes i'r hyn y byddai Llafur am i bawb ei gredu, mae'r gyllideb hon yn wrth-dwf eithriadol. Nawr, gwyddom fod busnesau Cymru eisoes yn dioddef yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, a nawr mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd yn rhaid i gyflogwyr dalu £900 ychwanegol am bob gweithiwr ar yr enillion cyfartalog canolrifol; bydd hyd yn oed cyflogai ar yr isafswm cyflog yn costio £770 ychwanegol i gyflogwyr.

Nawr, mae prif economegydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae cynnydd mewn yswiriant gwladol yn gynnydd syml yng nghostau busnesau. Yn y bôn, mae'n gyfwerth â threth y pen ar gwmnïau, ac nid yw'n ystyried a yw busnes yn broffidiol ai peidio. Ar adeg pan fo hyder busnesau'n isel, pan fo cynlluniau cyflogi eisoes wedi'u taro, a nifer y swyddi gwag yn gostwng, bydd hyn yn taro rhagolygon cyflogaeth ac enillion.'

Ei eiriau ef, nid fy ngeiriau i. A bydd yr ergyd hon yn arbennig o niweidiol i economi Cymru, lle mae gennym y gyfradd uchaf o ddiweithdra yn y Deyrnas Unedig eisoes.

Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd yn rhoi amser i ystyried y niwed y bydd y polisi hwn yn ei wneud i fusnesau yng Nghymru ac yn gweithredu toriadau treth eu hunain. Fan lleiaf, mae angen inni sicrhau bod rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr, fel na chaiff y busnesau yma eu cosbi am weithredu yng Nghymru.

Mae disgwyl i godiadau treth Llafur daro cymunedau gwledig hefyd, a byddant yn rhwygo'r galon allan o ffermydd teuluol, er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd, gan achosi niwed anadferadwy i'n heconomi wledig ac yn bwysicaf oll, i'n diogeledd bwyd. Nid dyma'r tro cyntaf i Lafur gefnu ar bobl Cymru pan fo'n gyfleus yn wleidyddol. Ar ôl blynyddoedd o alw am biliynau o bunnoedd—fe'i clywsom yn y Siambr hon dro ar ôl tro—mewn symiau canlyniadol yn sgil HS2, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru y Blaid Lafur yn hapus i wneud tro pedol 180 gradd llawn, gan ddweud na ddylai Cymru gael y lefelau hyn o symiau canlyniadol mwyach. Ar yr un pryd, mae Aelodau Llafur yma yn hapus i alw am geiniogau cymharol o'i gymharu â'r biliynau yr arferent alw amdano yn y gorffennol.

Un peth yr oeddem yn siomedig i beidio â'i weld yn y gyllideb oedd cyllid yn cael ei ddyrannu i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, rhywbeth a addawyd—[Torri ar draws.]—rhywbeth a addawyd gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.

17:20

Mae'n ddiddorol eich clywed yn gwneud y pwynt hwnnw, oherwydd ysgrifennais at Network Rail, wrth gwrs, pan wnaeth Llywodraeth y DU, Llywodraeth Geidwadol y DU, gyhoeddiad o £1 biliwn i'w wario ar drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, a'r hyn a ddywedodd Network Rail wrthyf oedd nad oedd unrhyw arian yn bodoli, nid oedd unrhyw gyllideb, nid oedd Llywodraeth y DU wedi eu cyfarwyddo i wneud unrhyw waith cynllunio ac nid oedd unrhyw beth wedi'i wneud yn ei gylch ers dros ddegawd.

Roedd yr ymrwymiad yno gan y Llywodraeth Geidwadol i'w wneud a byddai wedi bod—[Torri ar draws.] Byddai wedi cael ei wneud, a byddai'n rhoi hwb enfawr i economi gogledd Cymru.

Diolch yn fawr. Rwy'n meddwl fy mod yn cofio'r Ysgrifennydd Cabinet presennol dros gyllid yn gwneud ymrwymiad clir dros ddegawd yn ôl i wario arian ar ysbyty newydd sbon yn y Rhyl, sydd wedi'i anghofio'n llwyr a heb ei gyllidebu yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ei hun. A wnewch chi gytuno bod hynny'n rhagrith syfrdanol ar ei ran, i beidio â sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael ar adeg pan fo'n lladd ar Lywodraeth flaenorol y DU a'r biliynau roedd hi am eu buddsoddi yng Nghymru, gan gynnwys mewn gwasanaethau trenau cyflym yn y gogledd?

Rwy'n cytuno ei bod yn siomedig pan fo pobl yn cael eu camarwain yng Nghymru a dim byd yn dod o ganlyniad i hynny. Beth rydym ni'n ei wybod? Yr hyn a wyddom yw ei bod yn anochel y bydd polisi trethu a gwario Llafur yn dod yn ôl i frathu pobl Cymru, ac er y gallai'r benthyca ychwanegol hwn chwyddo'r economi yn artiffisial yn y tymor byr, pan ddaw'r arian benthyg i ben, oherwydd fe ddaw i ben, bydd twf yn aros yn ddigyfnewid at ei gilydd yn y tymor hir, gyda'r economi ar fin tyfu llai na'r hyn a ragwelwyd ym mis Mawrth. Efallai y bydd mewnlif o arian benthyg yn edrych yn dda nawr, ond wrth ei flas mae profi pwdin.

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio unrhyw symiau canlyniadol ychwanegol i fynd i'r afael ag amseroedd aros ein GIG yn effeithiol, rhywbeth y mae Gweinidogion iechyd olynol wedi colli rheolaeth arno, yn amlwg. Bydd hyn yn cynnwys dull cyfannol o weithredu ein gwasanaeth iechyd, gan ystyried y pwysau cynyddol ar ofal cymdeithasol. Ac rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi crybwyll pethau tebyg.

Hefyd, mae angen inni weld cyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i'n system addysg, sydd yn amlwg wedi dioddef yn sgil 25 mlynedd o gamreoli Llafur. Ond yn y pen draw, mae angen—[Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gennyf, iawn, fe wnaf, Joyce.

Diolch. Roeddwn eisiau gofyn i chi am ateb gonest am arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio er budd y trethdalwyr. A wnewch chi gondemnio camreolaeth eich Llywodraeth, eich Llywodraeth flaenorol, yn caniatáu i Michelle Mone fanteisio'n bersonol o elw o £60 miliwn am gyfarpar diogelu personol?

17:25

Gwerth £60 miliwn o elw cyfarpar diogelu personol yn mynd yn uniongyrchol i Michelle Mone: a wnewch chi gondemnio hynny, oherwydd arian trethdalwyr oedd hwnnw yn cael ei daflu i boced un unigolyn heb unrhyw fudd o gwbl?

Gallem sefyll yma am oriau, Joyce, yn siarad am sut y dylai arian fod wedi cael ei wario mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n debyg y gallwn dynnu sylw at filiynau o bunnoedd a wariwyd yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru y gellid bod wedi ei wario mewn ffordd wahanol efallai, felly nid wyf yn cytuno â chi, Joyce.

Ond yn y pen draw—[Torri ar draws.] Ond yn y pen draw, mae angen gwell fformiwla ariannu arnom, rhywbeth y mae'r rhan fwyaf ohonom yma yn gytun yn ei gylch, fformiwla'n seiliedig ar anghenion sy'n disodli'r system Barnett gyfredol, ac rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno bod angen ailfeddwl am hynny.

Yn olaf, rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi dweud bod ganddi gymaint o ddylanwad dros Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau ag sydd ganddi dros Keir Starmer, ond rwy'n credu bod hynny'n rhy hawdd; rydym i gyd yn gwybod hynny. Yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen ar Gymru nawr yw Aelodau Llafur yma sy'n barod i wrthwynebu eu cymheiriaid yn San Steffan a rhwystro'r cyrch hwn ar bocedi pobl. Mae'n amlwg—[Torri ar draws.] Mae'n amlwg nad yw'r ASau Llafur yma yng Nghymru am wneud hynny, ond rwy'n gobeithio y gwnaiff Aelodau'r Senedd yma ailystyried. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Rwyf wedi dethol y chwech gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 1—Jane Hutt

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) cyllideb y DU a’r cyllid ychwanegol gwerth £1.7 biliwn i Gymru; a

b) y cyllid ychwanegol ar gyfer diogelwch tomenni glo a’r cynnydd mewn cyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith.

2. Yn cydnabod bod hyn yn gam cyntaf tuag at unioni’r difrod a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a chyllid cyhoeddus.

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:

a) yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, gan nodi sut y bydd yn cefnogi blaenoriaethau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y GIG, ysgolion a llywodraeth leol; a

b) yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid teg i’r rheilffyrdd yng Nghymru a mwy o hyblygrwydd cyllidebol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y difrod dwys a achoswyd i gyllid a gwasanaethau cyhoeddus Cymru gan bedair blynedd ar ddeg o gyni dan Lywodraeth Ceidwadwyr flaenorol y DU a'r adladd o gyllideb fach Hydref 2022.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 a'i ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y methiant i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn creulon sy'n cyfrannu'n uniongyrchol i gyffredinrwydd brawychus tlodi plant mewn cymdeithas.

Gwelliant 4—Heledd Fychan

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn mynegi ei siom nad yw cyllideb Llywodraeth y DU wedi cynnwys cyllid canlyniadol HS2 i Gymru, heb ddarparu arian newydd ar gyfer prosiectau trydaneiddio rheilffyrdd, a lleihau'r ffactor cymharedd adrannol ar gyfer gwariant rheilffyrdd y DU yn berthnasol i Gymru ymhellach fyth, a fydd yn gwaethygu'r tanfuddsoddiad systematig yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru.

Gwelliant 5—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4:

Yn mynegi siom am anweithred Llywodraeth Lafur bresennol y DU ar ddatganoli Ystad y Goron i alluogi Cymru i elwa ar gyfoeth ei hadnoddau naturiol ei hun.

Gwelliant 6—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw:

a) ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn yn ddi-oed;

b) am fargen ariannu deg i awdurdodau lleol yng nghyllideb Cymru sydd ar ddod i sicrhau nad yw'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cael effaith andwyol ar eu cyllid; ac

c) ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r arian ychwanegol a gafodd o gyllideb yr hydref i wrthdroi'r toriad i ryddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd ym mis Ebrill.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae yna eironi, onid oes, fod y Ceidwadwyr wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw a’u bod nhw'n cwyno am gyllideb sydd yn cynnwys setliad gwell i Gymru na phe bydden nhw'n dal wrth y llyw yn Llundain. Fe gafodd eu polisïau llymder nhw effaith niweidiol a dinistriol ar gynifer yn ein cymunedau, gan normaleiddio bod pobl methu â fforddio hanfodion megis bwyd a chartref cynnes. Gwaddol o weld banciau bwyd wedi eu normaleiddio ac yn fwy niferus na McDonald's; gwaddol o dwf mewn tlodi plant; gwaddol o economi ar chwal yn dilyn cyllideb echrydus Liz Truss a sgil effeithiau Brexit.

Hefyd, tra’n croesawu bod y Torïaid yn cefnogi safbwynt Plaid Cymru o ran cyllid HS2, ac o ran diwygio’r fformiwla Barnett, byddai yn esgeulus ohonof i beidio â thynnu sylw at y ffaith bod eu meistri yn Llundain wedi cael 14 mlynedd i newid hyn a’u bod wedi dewis peidio.

Mae’n ddyddiau cynnar o ran y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, fel gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ein hatgoffa ddoe, ac, heb os, mae disgwyliadau Cymru yn uchel o ran beth fydd hyn yn ei olygu i’r Senedd hon, wedi blynyddoedd o glywed pa mor wahanol fydd pethau gyda dwy Lywodraeth Lafur mewn grym. Mae yna arwyddion cadarnhaol o ran hynny. Mae’r cyllid ychwanegol i’w groesawu, ynghyd â nifer o elfennau y cyfeiriais atyn nhw ddoe. Ond, wrth gwrs, mae yna bethau eraill rydym ni eisiau gweld y Llywodraeth Lafur newydd yn eu cyflawni, a dyma’n cyfle heddiw, drwy’r cynnig hwn, gyda’n gwelliannau ni, i yrru neges bendant o’r Senedd hon o ran ein disgwyliadau.

Ymatebodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn chwyrn imi ddoe pan ddywedais bod llymder yn parhau yn y gyllideb hon, er imi ddyfynnu eraill sydd o’r farn, rheini sydd ddim yn wleidyddion. Ond does dim gwadu’r ffaith bod parhau gyda’r cap dau blentyn a thynnu i ffwrdd y lwfans tanwydd gaeaf oddi ar filiynau o bensiynwyr yn barhad â llymder. Efallai nad llymder i’r un graddau â’r hyn a welwyd o dan y Torïaid, ond maen nhw’n bolisïau niweidiol sy’n effeithio ar bobl yn ein cymunedau ni. Does dim amheuaeth chwaith bod y gyllideb a gyhoeddwyd wythnos diwethaf yn tanseilio addewidion Llafur yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol o ran trethiant, rhywbeth y cyfaddefodd y Canghellor mewn cyfweliad ar y penwythnos. Ac yn hytrach nag ymrwymo i ddiwygiadau mwy blaengar o ran trethu’r rhai mwyaf cyfoethog yn ein cymdeithas, mae Llywodraeth Keir Starmer wedi mynd ati i godi yswiriant gwladol i gyflogwyr. Mae’r syniad na fydd gweithwyr yn cael eu heffeithio gan hyn yn ffuglen llwyr. Mae’r OBR yn barod wedi amcangyfrif y bydd tyfiant mewn cyflogau a safonau byw yn cael eu niweidio dros y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i’r mesur yma. Mae hyn hefyd wedi dilyn penderfyniad y Llywodraeth hon i leihau rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant, felly mae yna double whammy yn wynebu busnesau Cymreig o ganlyniad i benderfyniadau Llafur ar ddau begwn yr M4. Mae'n angenrheidiol, felly, fod y Llywodraeth yn asesu effaith posib y codiad mewn yswiriant gwladol ar fusnesau yng Nghymru, ac yn y cyfamser yn edrych pa gefnogaeth gall y Llywodraeth hon ei chynnig yn sgil yr arian ychwanegol.

Yr hyn sydd wedi dod yn amlwg hefyd ydy'r effaith ar y trydydd sector. Hoffwn pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet, yn ei ymateb heddiw, yn gallu ateb y cwestiynau y gwnes i ac eraill eu holi ddoe ynglŷn â hyn yn benodol, ac os ydy'r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o ran effaith hyn ar wasanaethau mae'r trydydd sector yn eu darparu yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth sy'n pryderu arweinwyr llywodraeth leol hefyd yn fawr, oherwydd bod nifer o wasanaethau maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw'n cael eu darparu gan y trydydd sector. Mae eglurder ar hyn yn hollbwysig.

Da oedd clywed ddoe gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod y Llywodraeth hon yn parhau i gytuno â Phlaid Cymru ar yr angen i ddiwygio Barnett, am ddatganoli Stad y Goron yn llawn i Gymru, ac am sicrhau'r arian sy'n ddyledus i Gymru o ran HS2, ynghyd â diwygiadau eraill sydd eu hangen, megis o ran benthyg. Efallai mai dim ond 14 wythnos mae Llafur wedi bod wrth y llyw yn San Steffan, ond maen nhw wedi cael 14 mlynedd fel gwrthblaid a 25 mlynedd o lywodraethu yma yng Nghymru i sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith, felly rwy'n gobeithio yn fawr y gwelwn hynny'n digwydd, a hynny'n fuan.

Mae'n bwysig ein bod ni fel Senedd, lle mae cytundeb, yn parhau i gydweithio i fynnu tegwch i Gymru. Ac yn sicr, fe gaiff y Llywodraeth hon ein cefnogaeth ni ym Mhlaid Cymru o ran mynnu'r hyn sy'n ddyledus i Gymru. Gobeithiaf, felly, y gall y Senedd heddiw gefnogi ein gwelliannau ni, a gyrru neges glir i San Steffan fod y Senedd hon eisiau gweld camau pellach yn cael eu cymryd i sicrhau'r adnoddau a'r grym sydd eu hangen arnom er mwyn cyflawni i'n cymunedau.

17:30

Gadewch inni ddechrau drwy egluro'r cyd-destun ar gyfer y gyllideb Lafur gyntaf hon: 14 mlynedd hir o gyni; 14 mlynedd o ymosodiadau ar wasanaethau cyhoeddus; 14 mlynedd o anghydraddoldeb cyfoeth rhemp; toriadau cyflog mewn termau real i weithwyr; argyfwng tai a rhentu ledled y wlad; cynghorau ar ymyl y dibyn; y GIG ar ei liniau; carthion yn dinistrio ein hafonydd a'n moroedd; dyled fel canran o gynnyrch domestig gros ar ei chyfradd uchaf ers mwy na 60 mlynedd; cyfraddau morgais drwy'r to; biliau ynni yn codi i'r entrychion; a mwy o fanciau bwyd nag o ganghennau McDonalds. Dyna waddol y Ceidwadwyr, a go brin ei fod yn waddol i ymfalchïo ynddo.

Y gyllideb yw’r cam mawr cyntaf ar y llwybr i atgyweirio'r wlad, ac mae hi mor braf cael Llywodraeth sy’n credu mewn gwasanaethau cyhoeddus ac sy’n onest am y ffaith bod angen talu am wasanaethau cyhoeddus da. Daw, fe ddaw'r taliad hwnnw ar ffurf trethi uwch—mae'n fuddsoddiad. Mae'n fuddsoddiad i wneud y GIG yn rhywbeth i'r wlad ymfalchïo ynddo unwaith eto. Mae'n fuddsoddiad yn ein hysgolion a dyfodol ein plant. Mae’n fuddsoddiad i adeiladu’r tai y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn eu galw’n gartrefi. Mae’r rhain yn fuddsoddiadau mawr eu hangen ym mlociau adeiladu ein gwlad, fel rwy'n gofyn amdanynt drwy’r amser, ond maent yn bwysig iawn, ac maent yn fuddsoddiadau yn y miliynau o bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt bob dydd.

I Gymru, y gyllideb hon yw’r setliad cyllid mwyaf mewn termau real ers amser maith. Pa arwydd mwy y gellid ei gael fod gennym Lywodraeth y DU o'r diwedd sy’n credu ym mhotensial Cymru ac sy’n barod i fuddsoddi yn y potensial hwnnw? Mae'r buddsoddiadau hyn yn flaendal ar ddyfodol mwy disglair. Gwyddom am effaith hirdymor buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Gwyddom fod gwlad iachach yn wlad hapusach; mae'n fwy cynhyrchiol. Gwyddom mai trafnidiaeth gyhoeddus yw un o’r arfau mwyaf sydd gennym yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Gwyddom fod buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon a hamdden yn gam hollbwysig i atal salwch. Gwyddom mai creu gweithlu addysgedig yw’r sail ar gyfer ffyniant yn y dyfodol. A gwyddom fod diogeledd tai yn creu sicrwydd a sefydlogrwydd.

Yn y bôn, mae Llywodraeth yn ymwneud â dewisiadau. Am y 14 mlynedd diwethaf, cawsom Lywodraeth a oedd wedi dewis cyni, gwladwriaeth gyhoeddus lai, a nawr, mae gennym Lywodraeth sy'n dewis buddsoddi, Llywodraeth sy'n dewis adnewyddu cenedlaethol, a Llywodraeth sy'n dewis credu yng ngrym gwasanaethau cyhoeddus a'r bobl sy'n gweithio ynddynt. Nid buddsoddiad mewn iechyd, addysg a thai yn unig mo’r gyllideb hon; mae'n fuddsoddiad yn y peirianwyr, y meddygon, yr athrawon, y gofalwyr, yr adeiladwyr, y nyrsys, a phlant yfory. Mae’n gred mewn Prydain well ac yn ymrwymiad i ddyfodol mwy disglair, yn rhydd rhag anrhaith cyni. Mae angen inni adeiladu bywyd gweddus i bobl. Dyna'r cyfan y gofynnant amdano—bywyd gweddus—a dyma yw hanfod y gyllideb hon. Diolch.

17:35

Roedd yr ymgais gyntaf ar gyllideb yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth Lafur y DU yn sylweddoliad trist ein bod yn wynebu pum mlynedd, neu un tymor, ddywedwn ni, o boen. Mae’n rhaid disgrifio hon fel cyllideb o addewidion wedi'u torri, gyda llu o fesurau a oedd yn gwrth-ddweud addewidion eu maniffesto eu hunain gan y Gwir Anrhydeddus Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y DU. Fe wnaeth gamarwain, fe ddywedodd gelwydd, a methodd gyflawni'r hyn a addawodd i'r etholwyr, yn ysgrifenedig, yn ei faniffesto, gan fradychu ein gwlad, ei phobl, a phobl Cymru yn enwedig.

Yr hyn sy’n peri’r pryder mwyaf i Gymru, wrth gwrs, yw’r cynnydd digynsail yn y baich treth. Naw wfft i feirniadaeth gyson Llafur Cymru o’r Llywodraeth Geidwadol flaenorol. Roeddent mewn grym am y 14 mlynedd diwethaf, oeddent. Diolch byth. Llywodraeth a sicrhaodd dwf yn ein heconomi yng nghyfnod pontio Brexit, pandemig COVID byd-eang a’r rhyfel yn Wcráin, ac a wynebodd yr argyfwng ysgytwol a welwn nawr yn y dwyrain canol. Pan ddaeth Llafur i rym, daethant yn gyfrifol am yr economi a oedd yn tyfu gyflymaf yn y G7, gyda chwyddiant i lawr i'w lefel isaf, a chyfraddau llog, i bobl â chynilion, yn cynyddu.

O ganlyniad i’r gyllideb hon, rydym bellach yn wynebu baich treth y rhagwelir y bydd yn cyrraedd 38.2 y cant o gynnyrch domestig gros erbyn 2028-29—y lefel uchaf ers diwedd y 1940au. Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i gynnydd o £25 biliwn mewn yswiriant gwladol, sy'n effeithio ar gyflogwyr a gweithwyr hefyd, gan fod y baich yn cael ei drosglwyddo i lawr i weithwyr drwy gyflogau is. Eglurodd pensaer y gyllideb ei hun, y Gwir Anrhydeddus Rachel Reeves:

'Bydd yn golygu y bydd yn rhaid i fusnesau amsugno rhywfaint o hyn drwy elw ac mae'n debygol o olygu y gallai codiadau cyflog fod ychydig yn llai nag y byddent wedi bod fel arall.'

Eisoes, mae perchnogion busnes yn Aberconwy yn ennill llawer llai na’r gyfradd ganolrifol genedlaethol. Mae’r polisi hwn yn mynd i waethygu gwahaniaethau economaidd rhanbarthol a gyrru mwy o weithwyr Cymru i galedi economaidd. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhybuddio bod y gyllideb hon yn debygol o gynyddu chwyddiant ymhellach, drwy ei gadw uwchlaw’r targed o 2 y cant tan 2029. Bydd hyn yn arwain at ganlyniadau trychinebus i safonau byw ledled Cymru. Gyda chostau byw yn parhau'n uchel, a chwyddiant bellach ar gynnydd, bydd cyllidebau aelwydydd o dan fwy byth o bwysau, gan ei gwneud yn fwy heriol i deuluoedd fforddio costau bob dydd, dibyniaeth gynyddol ar wasanaethau lles—efallai eich bod yn hapus ynglŷn â hynny—a rhoi mwy o straen ar adnoddau sydd eisoes dan bwysau.

Mae’r stori dylwyth teg y byddai dwy Lywodraeth Lafur yn arwain at agenda sy’n canolbwyntio mwy ar Gymru yn cael ei chwalu’n llwyr gan y gyllideb hon. Ddoe, bûm yn dyst yma i’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn ceisio cyfiawnhau’r ymgais gyntaf drychinebus hon ar gyllideb. Ar adeg pan ydym yn wynebu diffyg diogeledd ynni, ni fu unrhyw ymrwymiad i brosiect Wylfa, a oedd wedi hen ddechrau o dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU. Nid oes unrhyw ymrwymiad—[Torri ar draws.] Bihafiwch. Nid oes unrhyw ymrwymiad i gyllid canlyniadol HS2, er gwaethaf yr holl neidio o gwmpas y mae Llafur Cymru—

Janet—. Hoffwn glywed y cyfraniadau. Ei meinciau cefn ei hun sy'n cadw sŵn mewn gwirionedd, ni allaf ei chlywed.

Iawn. A dim ymrwymiad i wella prif linell reilffordd gogledd Cymru. Yn eironig, hefyd, yr unig le yr ymddengys eu bod yn cydweithio yw ar atgyfnerthu'r ymosodiad ar ein ffermwyr: ymrwymiad dideimlad i fynd ag arian oddi ar deuluoedd ffermio gweithgar, pan nad yw'r hylifedd gan lawer ohonynt i dalu treth etifeddiant o 20 y cant, a byddant yn cael eu gorfodi i werthu eu tir i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau. A gawn ni fod o ddifrif am funud? Mae wedi arwain at enghraifft drasig o un ffermwr yn cyflawni hunanladdiad mewn anobaith ynghylch canlyniadau'r gyllideb hon.

Mae cynlluniau economaidd Llafur, a nodweddir gan drethi uwch a mwy o fenthyca, yn bygwth sefydlogrwydd economaidd uniongyrchol a thwf hirdymor. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi israddio twf 0.7 y cant dros y pum mlynedd nesaf, a rhagwelir bellach y bydd dyled yn cyrraedd £3 triliwn o fewn dwy flynedd. Mae hynny'n £3,000,000,000,000. Mae effeithiau’r gyllideb ar chwyddiant, buddsoddiad a chyflogau gwirioneddol yn golygu y bydd Cymru, er gwaethaf ei huchelgeisiau a’i gwytnwch, yn fwy agored i niwed economaidd ac amgylcheddol. Yn ystod y—

17:40

Iawn. Rydym bellach yn wynebu'r dasg heriol o liniaru effeithiau'r gyllideb hon. Ddoe, roeddech yn falch iawn eich bod yn rhoi’r holl arian yn y sector cyhoeddus ac y byddai’n tyfu’r economi. Yr unig ffordd y gwnewch chi dyfu’r economi yw drwy gefnogi eich busnesau sy’n cyflogi mwy o weithwyr, sy’n talu mwy o dreth. Mae’r dreth honno’n talu am eich gwasanaethau cyhoeddus. Dyna ni. Mae'n gyllideb drychinebus ac ni fyddaf i'n bersonol byth yn ei chefnogi. Diolch.

Credaf mai'r ffordd orau o farnu cyllideb yw yng nghyd-destun y cyllidebau o'i blaen ac ar ei hôl. Yn amlwg, nid oes cyllideb i ragflaenu hon, ac eithrio cyllidebau trychinebus y Ceidwadwyr, ond mae’r rhai sy’n ei dilyn wedyn yn ei rhoi yn ei chyd-destun, ac mae angen ichi farnu’r rheini dros y misoedd a’r blynyddoedd hynny.

Felly, gadewch inni ystyried, er enghraifft, cyllideb Nigel Lawson ym 1987, a gafodd ei chanmol ar y pryd am £2.6 biliwn o doriadau treth, a arweiniodd at Margaret Thatcher yn ennill etholiad cyffredinol 1987. Ond yr hyn yr arweiniodd ato hefyd oedd ymchwydd mewn treuliant a achosodd un o’r dirwasgiadau gwaethaf a welsom, a gymerodd rhwng 1987 a 1997 i adfer ohono, wrth i'r Ceidwadwyr geisio cloddio eu hunain allan o'r twll a dyllwyd ganddynt. Felly, mae angen barnu cyllideb sy’n cael ei chroesawu ar unwaith neu gyllideb yr ymosodir arni ar unwaith yn y cyd-destun hwnnw, ac mae hon yn gyllideb sy’n gosod y sylfeini. Ac mae a wnelo ag ideoleg. Mae'r Ceidwadwyr eisiau—ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno—gwladwriaeth fach, gwasanaethau cyhoeddus cyfyngedig a chul, ac ymgais i ostwng trethi. Ond pan fyddwch yn ceisio gostwng trethi, fe welwch eich bod yn cael yr un profiad â'r un a gafodd Nigel Lawson, neu'n cael y profiad a gafodd Kwasi Kwarteng o dan Liz Truss. Dyna sy’n digwydd pan fyddwch yn ceisio cael gwladwriaeth fach mewn gwlad Ewropeaidd.

Blaenoriaeth Llafur yw blaenoriaethu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny, a golyga hynny fod angen i’r rheini sydd â’r ysgwyddau lletaf ysgwyddo peth o’r baich, sef o ble y daeth y toriadau treth, ond ni ellir ond barnu hynny dros y cyfnod hwnnw o amser lle daw'r cynlluniau cyllidebol i rym. Ac wrth gwrs, mae angen inni feddwl am bensiynwyr hefyd. Nodais y sylwadau am lwfans tanwydd y gaeaf, ond mae’r cynnydd ym mhensiwn y wladwriaeth y flwyddyn nesaf yn 4.1 y cant oherwydd y clo triphlyg, ac fe welwch—[Torri ar draws.] Ac mae’n digwydd y flwyddyn nesaf, o dan y Llywodraeth Lafur hon, ac fe welwch hynny. [Torri ar draws.]

Mae’r hwb o £1,700 miliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru yn aruthrol o arwyddocaol hefyd, ac rydym yn aros gyda diddordeb am gyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn datgelu sut yn union y bydd hynny’n cyfrannu at y meysydd niferus sydd eu hangen o ganlyniad i 14 mlynedd o gyni. Rydym hefyd wedi gweld codiad cyflog i hyd at 70,000 o weithwyr Cymru drwy godiad i'r cyflog byw cenedlaethol—ni allwch beidio â chefnogi hwnnw—ac rwy'n croesawu'r £25 miliwn a ddarparwyd i wneud tomenni glo yn fwy diogel. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd—efallai fy mod yn teimlo braidd yn Geidwadol ar hyn—fod angen rhywfaint o arian preifat cyfatebol i fynd gyda'r arian hwnnw, a dyna sy'n digwydd yng Nghaerffili, gyda'r gwaith ailddatblygu ar y domen lo a glo'n cael ei symud a'i wneud yn ddiogel o ganlyniad i ymwneud y sector preifat. Credaf y gallwn barhau i gael yr ymwneud sector preifat hwnnw, a gefnogir wedyn gan £25 miliwn eleni gan Lywodraeth y DU.

Diolch. Rydych chi wedi cyfeirio at ambell gyllideb hanesyddol y buaswn yn fwy na pharod i ddadlau yn eu cylch, ond nid oes amser. Anwybyddodd Gordon Brown rybuddion rhyngwladol, gan gynnwys gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, y byddai dydd o brysur bwyso'n dod pe bai’n parhau i gynyddu benthyca yn gyflymach na chyfradd dwf yr economi ar adeg o dwf, ac fe adawodd y diffyg mwyaf yn y G20, sydd wedi’i ddiffinio ers hynny fel cyni, sy’n golygu dim digon o arian. Nawr, drwy gynyddu benthyca yn y ffordd y gwnaethom, drwy gael gwared ar hyblygrwydd a chreu risg o doriadau mwy yn y dyfodol, rydym yn mentro—

17:45

Mark, mae gormod o sgyrsiau'n mynd rhagddynt rhwng eich meinciau chi a meinciau cefn Llafur. Gadewch inni gael y sgyrsiau hynny y tu allan i'r Siambr fel y gallwn glywed y bobl yn siarad yn y Siambr.

Oni allwch weld ein bod mewn perygl o ailadrodd hanes os byddwn yn parhau i gynyddu benthyca fel hyn a bod y marchnadoedd yn colli hyder? Gallem gael toriadau mwy yn y pen draw, fel y rhai a orfodwyd arnom—

—gan Alistair Darling i ddechrau ac wedi hynny gan y rhai a etifeddodd y llanast yn 2010.

A gaf i 10 munud ychwanegol ar gyfer hynny? Rwy'n parchu Mark Isherwood; nid wyf am ddibrisio ei sylw. Rwyf am ddweud mai gwasgfa gredyd fyd-eang oedd honno, a ddechreuodd o ganlyniad i'r marchnadoedd morgeisi yn America.

Ond roeddwn yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1997 mewn gwirionedd, yn eistedd y tu ôl i Nigel Lawson a Jeffrey Archer yn yr oriel. Llwyddais i gael tocyn gan Allan Rogers ar gyfer oriel yr Arglwyddi, yn eistedd y tu ôl i Nigel Lawson. Rwy'n ei gofio, pan oedd Gordon Brown yn cyhoeddi ei gyllideb, yn gwneud nodyn ar ei ddarn o bapur wrth i Gordon Brown siarad, 'Strategaeth ariannol dymor canolig, fersiwn 2’. Felly, mewn gwirionedd, yr hyn a welai Nigel Lawson oedd bod dull Gordon Brown ym 1997 yn eithaf ceidwadol. Dim ond yn ddiweddarach y gwariwyd arian ychwanegol, ac arweiniodd hynny at yr hwb mwyaf erioed i’r GIG cyn neu ers hynny. Felly, nid wyf yn mynd i feirniadu cyllideb Gordon Brown. Cafodd dyddiau olaf y Llywodraeth honno eu heffeithio gan argyfwng byd-eang a effeithiodd ar economïau ym mhob rhan o'r byd.

Rwyf hefyd am godi rhywbeth roeddwn am ei ddweud ddoe: dwy Lywodraeth Lafur yn gweithio gyda'i gilydd. Mae gennym gyngor Llafur yng Nghaerffili hefyd, ac mae £88 miliwn wedi'i ddarparu i ddatgloi twf yn nhrefi a dinasoedd Cymru. Mae hyn o fudd i drefi yn fy etholaeth, fel Caerffili, Ystrad Mynach a Bargoed. Rydym yn gweld strategaeth drefi angor yn cael ei chyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae hynny o fudd i’r trefi hynny yn fy etholaeth.

Felly, i gloi—er fy mod yn amau nad wyf wedi cael digon o amser heddiw—hoffwn ddweud bod hon yn gyllideb sy'n gosod y sylfeini. Ond mae angen i unrhyw gyllideb a wneir ym mlwyddyn gyntaf Llywodraeth gael ei gosod yng nghyd-destun yr hyn sy’n digwydd nesaf, ac rwy’n hyderus ein bod yn mynd i ddechrau gweld rhywfaint o dwf economaidd a chynnydd Keynesaidd clasurol.

Heddiw, rwyf yma i ddatgelu effeithiau gwirioneddol newidiadau di-hid Llafur i ryddhad eiddo amaethyddol a'r bygythiad y maent yn ei greu i deuluoedd ffermio a chymunedau gwledig yma yng Nghymru.

Mae cyllideb hydref y Canghellor wedi anfon neges glir: mae Llafur yn fodlon aberthu asgwrn cefn amaethyddiaeth Cymru a’r cymunedau sy’n dibynnu arno. O fis Ebrill 2026, bydd unrhyw fferm deuluol sy'n werth dros £1 filiwn yn wynebu treth etifeddiant o 20 y cant. Ers amser maith, mae rhyddhad eiddo amaethyddol wedi caniatáu i ffermydd teuluol gael eu trosglwyddo drwy'r cenedlaethau heb filiau treth niweidiol, gan gydnabod eu rôl hollbwysig yn bwydo’r genedl ac yn gofalu am ein tirweddau. Mae Llafur yn cael gwared ar y cymorth hwnnw, gan honni mai dim ond ar 25 y cant o ffermydd y bydd y dreth hon yn effeithio. Nid yw hynny’n wir, ac mae’n dangos cyn lleied o gysylltiad sydd gan Lafur â'r hyn sy'n bwysig i'r Gymru wledig.

Mae trothwy £1 filiwn Llafur ar gyfer rhyddhad yn syfrdanol o isel. Yma yng Nghymru, mae bron yn amhosibl prynu fferm deuluol gymedrol ei maint hyd yn oed am lai nag £1 filiwn. Gyda phrisiau tir yn codi i’r entrychion, mae pris fferm deuluol gyffredin yn £1.5 miliwn i £2 filiwn ac uwch yn hawdd, ac nid yw hynny’n cynnwys yr offer hanfodol a’r adeiladau, sy’n ychwanegu cannoedd ar filoedd o bunnoedd at y gost honno. Ac mae tir yn unig bellach yn costio rhwng £8,000 a £10,000 yr erw—ymhell y tu hwnt i drothwyon Llafur. [Torri ar draws.] Iawn, ewch amdani, Lee, pam lai?

Yn y dadleuon ynghylch plannu coed, rydych chi a’ch cyd-Aelodau yn aml yn dadlau na allwn ofyn i ffermwyr wneud pethau o'r fath am eu bod yn amharu ar eu gallu i weithredu fel busnes, ac y dylent gael eu trin fel busnes. Wel, a hwythau bellach yn mynd i gael eu trin fel busnesau, rydych chi'n dal yn anfodlon.

Y peth gyda'n meinciau ni yw ein bod eisiau plannu'r goeden iawn yn y lle iawn; yr hyn y mae eich Llywodraeth chi am ei wneud yw plannu coed ym mhobman, ledled Cymru gyfan. Rwy'n awgrymu i’r Blaid Lafur, os hoffech weld gwir bris ffermydd yng Nghymru, edrychwch ar Google a theipiwch, ‘Pris ffermydd yng Nghymru’. Fe welwch yn gyflym fod llawer ohonynt yn werth dros £1 filiwn.

Ymddengys bod llawer o'n cyd-Aelodau Llafur yn credu bod ffermwyr yn dirfeddianwyr cyfoethog. Nid oes llawer o ffermwyr yn dirfeddianwyr cyfoethog; mae ganddynt fwy o asedau nag arian. Yn 2018, roedd ffermwyr ucheldir Cymru yn ennill cyn lleied â £15,000 y flwyddyn, ac yn gweithio 365 diwrnod y flwyddyn. Teuluoedd gweithgar yw'r rhain sy'n aml yn ennill llai na’r cyflog cyfartalog cenedlaethol. Maent yn dibynnu ar gyllidebau tynn i gynnal eu ffermydd. O dan reolau treth newydd Llafur, gallent wynebu biliau treth mor uchel â £200,000 am eu bod eisiau i'r genhedlaeth nesaf etifeddu eu fferm deuluol. Gallai teuluoedd gael eu gorfodi i werthu tir ac offer er mwyn talu'r bil, gan ddatgymalu cenedlaethau o dreftadaeth ffermio teuluol Cymru.

A gadewch inni beidio ag anghofio'r addewidion y mae Llafur wedi'u torri. Ychydig cyn yr etholiad, addawodd Ysgrifennydd DEFRA, Steve Reed:

'Nid oes gennym unrhyw fwriad i newid rhyddhad eiddo amaethyddol.'

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, maent bellach yn dweud wrth ffermwyr, 'Gwnewch fwy gyda llai'. Mae hynny’n dangos agwedd Llafur at ffermio yng Nghymru. Bydd y newidiadau hyn yn gwthio ein ffermydd teuluol bach allan o'r diwydiant, tra bo cwmnïau corfforaethol mawr yn prynu'r ffermydd at ddibenion gwyrddgalchu, er mwyn iddynt allu bodloni eu rhinweddau amgylcheddol. Nid oes ots ganddynt am Gymru. Nid oes ots ganddynt am y bobl sy'n byw yma, dim ond am edrych yn wyrdd ar y llwyfan rhyngwladol.

A rhywbeth rwy’n siŵr yr hoffai Alun Davies glywed amdano: nid oes ond angen inni edrych ar Ewrop i weld beth sy’n digwydd pan fydd ffermydd teuluol bach yn cael eu gorfodi allan. Rhwng 2005 a 2016, diflannodd 5.3 miliwn o ffermydd bach ar draws yr UE, a hynny oherwydd yr agenda werdd a gâi ei gwthio gan yr Undeb Ewropeaidd. Ac os caiff Llafur eu ffordd, Cymru fydd nesaf. Nid yn unig fod y polisi hwn yn bygwth cefn gwlad Cymru, mae'n bygwth pawb sy'n dibynnu ar y bwyd a gynhyrchwn. Pan fydd ffermydd teuluol yn ei chael hi'n anodd, mae prisiau bwyd yn codi. Ac fel y dywed yr hen air: dim ffermwyr, dim bwyd.

Mae hynny'n syml. Nid mater sy'n ymwneud â chefn gwlad yn unig yw hwn, mae'n fater sy'n ymwneud â diogeledd bwyd i bawb ledled y wlad. Mae’n hen bryd i Lafur wrthdroi eu hymosodiad ar ein cymunedau ffermio. Gadewch inni sefyll gyda’n gilydd i ddiogelu asgwrn cefn Cymru: ein ffermwyr, ein cymuned wledig a’n cadwyni cyflenwi bwyd. Cofiwch yr hyn a ddywedaf: dim ffermwyr, dim bwyd.

17:50

Rydym wedi cael cyfraniadau bywiog ar bob ochr i’r Siambr heno. Rwyf braidd yn bryderus fy mod yn mynd i siomi’r Aelodau gyda fy nghyfraniad nawr, gan mai'r hyn rwyf am siarad amdano'n benodol yma yw ardrethi busnes. Wrth gwrs, ceir canfyddiad fod gwell bargen o ran ardrethi busnes i'w chael dros y ffin. Yr hyn a welsom yn y gyllideb hon oedd potensial diwygio ardrethi busnes. Gwelsom y rhyddhad ardrethi busnes o 40 y cant hefyd. Gallwn fentro fy lwc a gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet beth fydd ymateb Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb ei hun, ond rwy’n dychmygu mai’r ateb fydd naill ai, ‘Mae’n rhy ddrud’ neu, ‘Arhoswch am y gyllideb’, sef yr ateb mwy tebygol, mae'n siŵr.

Ond yr hyn rwy'n awyddus iawn i'w glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet heno yw ei farn ar amrywio'r lluosydd ardrethi busnes. Oherwydd cyn y gyllideb hon, cefais nifer o sgyrsiau gyda'i ragflaenydd ynghylch yr argymhelliad i amrywio'r lluosydd, a chyfaddefodd cyn y gyllideb hon fod cynnig yr hyn a oedd ar gael yn Lloegr yn rhy ddrud i Lywodraeth Cymru. Ond rwy'n credu'n gryf fod cyfle gennym yma i ddarparu rhywbeth i fusnesau ar ein stryd fawr—y busnesau bach hynny, y busnesau Cymreig hynny—sy'n mynd i fod yn gymharol rad, gan newid y pwyslais, felly, ar bwy sy'n talu faint o fewn y system ardrethi busnes. Rwyf wedi dweud nifer o weithiau y dylai archfarchnadoedd, canolfannau siopa ar gyrion trefi a chadwyni mawr dalu mwy o ardrethi busnes, a defnyddio’r cyllid hwnnw wedyn i ostwng yr ardrethi busnes i rai o’n busnesau llai, rhai o’n busnesau Cymreig ar y stryd fawr, a thrwy wneud hynny, helpu i adfywio’r stryd fawr.

Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr yn ei farn ar beth fyddai'r potensial i amrywio'r lluosydd, ac os yw'n cytuno â mi y gallai hyn fod yn rhywbeth a fyddai, er ei fod yn ymddangos yn eithaf diflas, yn cael effaith aruthrol ar fusnesau bach y stryd fawr yma yng Nghymru.

Rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelodau Ceidwadol. [Torri ar draws.] Yn amlwg, nid yw hynny’n fawr o syndod. Wrth gwrs fy mod. Mae cyllideb Llafur y DU yr hydref hwn wedi bod yn gwbl wallgof. Mae wedi bod yn hynod niweidiol, gan dorri addewid etholiad ar ôl addewid etholiad, ac mae wedi bod yn hynod niweidiol i gymunedau gwledig. Dyma eu cyllideb DU gyntaf ers dod yn ôl i rym, ac unwaith eto, gwelwn eu dirmyg llwyr tuag at gefn gwlad. Felly, unwaith eto, teimlaf fod rheidrwydd arnaf i siarad am faterion gwledig. A minnau'n dod o gefndir ffermio, gwn o fy mhrofiad fy hun pa mor anodd yw rhedeg fferm deuluol. Rwyf wedi siarad â llawer o ffermwyr yn sir Fynwy ac ar draws fy rhanbarth, ac maent yn bryderus iawn am y newidiadau hyn i’r dreth etifeddiant a rhyddhad eiddo amaethyddol. Fel y dywedais ddoe, i ffermwyr nid ffigurau ar dudalen yn unig yw’r rhain, maent yn fygythiadau i’w bywoliaeth, i ddyfodol ffermydd teuluol yng Nghymru.

Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog fy mod, drwy amddiffyn ffermydd teuluol yn erbyn y gyllideb o godiadau treth, yn amddiffyn y cyfoethocaf mewn cymdeithas. Yn amlwg, nid yw’n deall bod llawer o deuluoedd fferm yn ennill ychydig mwy na’r isafswm cyflog ac nad yw asedau uchel eu gwerth yn golygu incwm uchel. Mae mathemateg Llafur yn anghywir unwaith eto, a Llafur sy’n camarwain pobl Cymru drwy ddrysu rhwng asedau ag incwm. O dan y rheolau newydd, bydd unrhyw fferm sy'n werth dros £1 filiwn yn wynebu ergyd enfawr pan gaiff ei throsglwyddo. Mae ffermwyr am drosglwyddo eu ffermydd i’w plant, fel y mae fy nghyd-Aelodau newydd ddweud, a sicrhau bod bwyd yng Nghymru yn cael ei gynhyrchu gan deuluoedd lleol, nid cwmnïau diwydiannol ac nid drwy fewnforion. Ond bydd unrhyw aelodau o'r teulu sy'n gobeithio parhau â'r gwaith o redeg y fferm yn wynebu bil mawr o gannoedd o filoedd o bunnoedd. Gallem golli cenhedlaeth gyfan o ffermwyr fel hyn.

Yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf, mewn hustyngau ym marchnad Rhaglan, diystyrodd fy AS lleol fy hun, Catherine Fookes, bryderon ynghylch newidiadau i dreth etifeddiant i ffermwyr, gan sicrhau pawb a oedd yn bresennol y byddai Llafur yn sefyll o blaid ffermwyr Cymru. Mae’n hynod siomedig, felly, ychydig fisoedd yn unig yn ddiweddarach, fod y ffermwyr hynny’n wynebu colli cannoedd ar filoedd o bunnoedd a’u bywoliaeth o ganlyniad i’r newidiadau difeddwl hyn gan y Llywodraeth Lafur. Rwyf bellach wedi ysgrifennu at ein Haelod Seneddol yn sir Fynwy i ofyn a yw hi’n dal i gefnogi’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ac a yw’r hyn a ddywedwch yma, yn y Siambr hon, yn gywir, a yw’n deall effaith y gyllideb hon ar ffermydd lleol, yn wahanol i'r Aelodau Llafur yn y lle hwn, ac a yw'n barod i sefyll o blaid ffermwyr yn ein cymuned sy’n mynd i golli cymaint.

Nid yw’r newidiadau hyn yn targedu’r cyfoethog fel y mae’r Llywodraeth yn ei honni; maent yn targedu’r union bobl y dywedodd y Llywodraeth y byddent yn eu diogelu: y gweithwyr. Oherwydd ffermwyr yw'r gweithwyr yng nghefn gwlad. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ganran enfawr o ffermydd Cymru, ynghyd â phwysau cyllidebol eraill fel y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, a fydd yn cael effaith fawr iawn ar fusnesau bach. Mae hyd yn oed y Canghellor wedi cyfaddef y gallai hyn olygu codiadau cyflog isel i weithwyr. Mae angen inni gael eglurder gan y Llywodraeth hon. Hoffwn yn fawr pe bai rhywun yn codi ac yn dweud wrthyf beth fydd y gyllideb yn ei olygu i'r sector cyhoeddus. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru a fy AS lleol i gefnogi ffermydd teuluol fel y gallant barhau i wneud yr hyn a wnânt orau: cynhyrchu bwyd, cefnogi cymunedau gwledig a chadw traddodiadau Cymru'n fyw.

Heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych ddewis. Gallwch gytuno unwaith eto â'r gyllideb y gwyddoch y bydd yn niweidio amaethyddiaeth yng Nghymru, y gwyddoch y bydd yn niweidio busnesau Cymru, neu gallwch godi a siarad o blaid Cymru, o blaid ffermwyr a dangos nad siambr atsain i wleidyddion Llafur San Steffan yn unig mo’r Senedd hon, ond gwir amddiffynnydd buddiannau Cymru. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn heddiw.

17:55

Etifeddodd Rachel Reeves economi sydd wedi torri, ac mae wedi dechrau ar y gwaith o'i hatgyweirio. Roedd hon yn gyllideb angenrheidiol, yn angenrheidiol am fod cyni wedi methu. Ac unwaith eto, gadawyd i Lywodraeth Lafur drwsio'r difrod. Gadewch inni gofio mai dewis gwleidyddol oedd y polisi cyni. Roedd dewisiadau eraill ar gael yn 2010, ond dewisodd Llywodraeth y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol—[Torri ar draws.] Ddim eto. Fe wnaethant ddewis dull y bydd hanes yn dangos ei fod wedi achosi niwed gwirioneddol i'n gwlad. Nid yn unig eu bod wedi crebachu'r wladwriaeth, fe wnaethant grebachu'r economi: cwymp o 2 y cant yn y cynnyrch domestig gros. Fe'n gwnaed yn dlotach gan eu polisi cyni, a gwnaed ein gwasanaethau allweddol yn dlotach. Gostyngodd gwariant y pen mewn termau real bob blwyddyn rhwng 2010 a dechrau COVID. Ar adeg pan oedd poblogaeth sy'n heneiddio yn galw am fwy o fuddsoddiad yn y GIG a gofal cymdeithasol, cafwyd cyllidebau gwariant gwastad gan y Torïaid.

Bu'n rhaid i weithwyr allweddol amsugno hynny drwy gyflogau wedi'u rhewi. Mae’r gyllideb Lafur hon wedi rhoi achubiaeth i’n gwasanaethau rheng flaen gyda chodiadau cyflog i weithwyr allweddol i ddechrau gwneud iawn am y blynyddoedd hynny o aberth. Ond nid yw'r Torïaid wedi dysgu dim o'u llanast, heb ddangos unrhyw edifeirwch, dim cydnabyddiaeth o ganlyniadau eu hanhrefn. Mae'n anghredadwy fod cynnig y Torïaid heddiw yn condemnio codiadau treth ac yn galw am fwy byth o wariant. Ond fel y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi, pe bai’r Torïaid wedi ennill yr etholiad, byddai eu cyllideb gyntaf wedi cyflwyno toriadau llym i wariant—toriad o £20 biliwn, yn ôl y Resolution Foundation—ac eto, maent yn beirniadu’r gyllideb hon. Nid oes ryfedd fod pleidleiswyr yn sinigaidd ynglŷn â gwleidyddiaeth.

Ddirprwy Lywydd, nid oes unrhyw gyllideb yn berffaith. Mae yna agweddau yr hoffwn pe baent wedi cael eu gwneud yn wahanol, ond rwy'n cymeradwyo Rachel Reeves am wneud y prif bethau'n iawn. Rwy'n gresynu ein bod wedi rhoi'r gorau i ddadlau'r achos dros drethu blaengar; y syniad, po fwyaf y byddwch yn ei ennill—[Torri ar draws.]—na, diolch—y mwyaf y dylech ei gyfrannu. Dyna'r pris a dalwn am gymdeithas wâr. Mae'n syniad ag iddo draddodiad Cymreig cryf. Jim Griffiths a sefydlodd y system yswiriant gwladol a ariannodd y wladwriaeth les ar ôl y rhyfel, a Lloyd George, yng nghyllideb y bobl, a ddefnyddiodd dollau marwolaeth fel y prif arf i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau. Mae traddodiad blaengar cryf Cymreig o ddefnyddio’r system drethi i hybu tegwch, a buaswn yn gobeithio y byddai’r Rhyddfrydwyr a Phlaid Cymru yn cofio bod treth etifeddiant yn dreth flaengar. Ond er mai ychydig iawn o bobl sy'n talu treth etifeddiant—dim ond oddeutu 4 y cant o bobl sy'n gorfod ei thalu—y peth amdani yw bod arolygon barn yn dangos bod 10 gwaith yn fwy yn credu y bydd yn effeithio arnynt hwy, a dyna rydym yn ei weld eto: mae'r honiadau y bydd y gyllideb hon yn dinistrio dyfodol y fferm deuluol yn anwybyddu'r ffeithiau. Mae Paul Johnson, pennaeth uchel ei barch y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yn dweud bod y cwynion wedi’u gorliwio'n aruthrol ac y bydd y newid yn y dreth yn effeithio ar nifer fach iawn o ffermydd mawr, meddai, a byddant yn dal i gael eu trin yn well nag unrhyw un arall o ran treth etifeddiant. Mae'r rhai ohonom nad ydym yn ffermwyr—[Torri ar draws.] Ie.

18:00

Rydych chi'n dweud 'ffermydd mawr'. Mae yna fferm ar werth yn fy etholaeth i, ac mae'n fferm gydag 20 erw ac yn werth £1.9 miliwn. A ydych chi'n dweud bod honno'n fferm fawr?

Gadewch imi fynd drwy'r ffigurau. Bydd y rhai ohonom nad ydym yn ffermwyr yn wynebu tollau marwolaeth o 40 y cant ar unrhyw beth dros £325,000 a drosglwyddir gennym. Ni fydd hyn yn digwydd gyda ffermydd. Ni fydd treth etifeddiant i'w thalu ar unrhyw ystad sy'n werth llai na £1 filiwn—mantais dreth enfawr i ffermwyr. Mae'r Financial Times yn dweud mai dim ond 462 o ffermydd a etifeddodd dros £1 filiwn ar draws y DU gyfan. Ac mae'r Llywodraeth yn nodi, pan fyddwch chi'n ychwanegu'r lwfansau eraill, fod y trothwy go iawn yn agosach at £2 filiwn. Dywed yr arbenigwr trethi, Dan Neidle, y gallai gynnwys cyn lleied â 100 o dirfeddianwyr mawr ar draws y DU. Ni fydd llawer o'r rheini yng Nghymru, os o gwbl. Pan fydd ffermydd cyfoethog yn gymwys ar gyfer treth etifeddiant, byddant yn wynebu cyfradd o 20 y cant yn hytrach na 40 y cant fel pawb arall. Felly, gadewch inni gael rhywfaint o gymesuredd. Rwyf wedi clywed llawer o ofid gan y gymuned wledig am gwmnïau ac unigolion cyfoethog yn prynu ffermydd i fanteisio ar fylchau treth. Wel, mae'r newid hwn wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â hynny. Os oes cwestiynau dilys yn codi, os oes canlyniadau anfwriadol, gadewch inni fynd i'r afael â hwy wrth iddynt godi, fel yr enghraifft sydd newydd gael ei rhoi.

Ond gadewch inni gofio'r cyfraniad enfawr y bydd y gyllideb hon yn ei wneud i ddechrau atgyweirio ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, oherwydd, yn y gyllideb hon, bydd ein Senedd yn cael £21 biliwn y flwyddyn i'w fuddsoddi yng Nghymru—y setliad mwyaf, mewn termau real, yn hanes datganoli.

Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael y ddadl hon am mai'r gyllideb yw'r peth mwyaf gwleidyddol a wnawn yn y flwyddyn, am mai dyma lle rydym yn dweud a lle rydym yn datgan ein blaenoriaethau—beth sy'n bwysig i ni, beth sy'n bwysig i ni fel Senedd a'r hyn sy'n bwysig i ni fel Llywodraeth, lle rydym ni'n mynd i fuddsoddi a lle nad ydym yn mynd i fuddsoddi, sut rydym ni'n mynd i godi ein harian, a chan bwy a sut. Dyma'r peth mwyaf gwleidyddol a wnawn oherwydd mae'n dangos beth yw ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau. Ac fel y siaradwr blaenorol, rwy'n croesawu'r blaenoriaethau a nodwyd yn y gyllideb hon gan Rachel Reeves yn fawr. Rwy'n croesawu'r buddsoddiad—[Torri ar draws.] Fe dderbyniaf yr ymyriad, ond rwy'n croesawu'n fawr y buddsoddiad mewn ysgolion, y mae'r Aelod wedi bod yn galw amdano dros y pedair blynedd diwethaf. Fe dderbyniaf yr ymyriad.

Yn sicr. Felly, byddech yn cytuno â safbwynt Llywodraeth y DU ar gosbi pensiynwyr.

Rwy'n cytuno'n gryf y dylem fod yn buddsoddi mewn pobl a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ni allwch ddod yma—rwy'n mynd i fod yn hollol glir wrth y Ceidwadwyr—ni allwch ddod yma bob prynhawn dydd Mercher a mynnu bod arian yn cael ei wario unrhyw le dan haul a gwrthwynebu trethi. Ni allwch ei wneud, ac nid ydych yn gredadwy pan fyddwch chi'n gwneud hynny. A'r cyd-destun ar gyfer hyn—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am dderbyn un arall nawr. Peidiwch â phoeni, rwy'n mynd i ddweud rhywbeth sy'n mynd i'ch cythruddo chi'n fuan—gallwch gael ymyriad bryd hynny, iawn? Mae'r realiti, a'r cyd-destun y gosodwyd y gyllideb hon ynddo, yn gyd-destun o ddiffyg twf economaidd am ddegawd a hanner. Fe fethodd cyni y Deyrnas Unedig ac mae Brexit wedi gwneud cyni yn llawer gwaeth. Gallwch edrych ar y ffigurau. Rwy'n cynghori'r Ceidwadwyr i ddarllen testunau economaidd ac nid eu datganiadau i'r wasg yn unig. Byddent yn dysgu llawer mwy, oherwydd rydym wedi gweld buddsoddiad gwael yn y byd cyhoeddus ac rydym wedi gweld pobl yn mynd yn dlotach o ganlyniad i bolisi'r Llywodraeth Geidwadol, nid fel sgil-effaith, ond o ganlyniad i bolisi.

Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i'r heriau hyn hefyd, ac mae fy nghwestiynau heddiw i Lywodraeth Cymru, gan ein bod yn cael y ddadl hon yn Senedd Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cael y sgwrs hon yma. Hoffwn ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â materion yn ymwneud â'r fframwaith ariannol. Cawsom sgwrs dda ar hyn ddoe drwy'r datganiad, a chredaf fod cytundeb cyffredinol ym mhob rhan o'r Siambr fod y fframwaith ariannol sydd gennym ar hyn o bryd yn gwneud cam â Chymru. Mae Cymru'n cael ei gwasanaethu'n arbennig o wael gan fformiwla Barnett a chan y fframwaith ariannol presennol. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi clir iawn ar hyn, felly sut rydym ni'n mynd i fwrw ymlaen â hyn nawr? Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi siarad am hyn fel proses gyllidebu dau gam, felly a fydd Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yn cyhoeddi Papur Gwyn ar y materion hyn er mwyn galluogi'r Senedd hon i drafod sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â diwygio'r fframwaith ariannol?

Yr ail gwestiwn sydd gennyf i Lywodraeth Cymru yw: a oes agenda ddiwygio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus? Mae'r Ysgrifennydd cyllid ac eraill wedi siarad yn glir iawn ac yn argyhoeddiadol iawn ynghylch yr angen am fwy o gyllid i wasanaethau cyhoeddus, ac rwy'n cytuno â'r ddadl honno. Rwy'n ei derbyn yn llwyr. Ond a ydym yn mynd i fuddsoddi mwy a mwy o gyllid yn y gwasanaethau cyhoeddus fel y maent heddiw, neu a ydym am ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol? Hoffwn wybod a deall sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â hynny.

Yn drydydd ac yn olaf yn y ddadl hon, agenda economaidd. Nawr, lle rwy'n cael anawsterau gyda'r gyllideb hon yw fy mod yn credu ei bod yn eithaf clir nad yw agenda dwf Llywodraeth y DU yn ddigonol i liniaru effaith bod y tu allan i'r farchnad sengl Ewropeaidd. Rydym wedi gweld effaith Brexit ar ein heconomi, rydym wedi gweld effaith Brexit ar ein gallu i wario. Un o'r rhesymau pam y mae gennym amgylchedd treth cymharol uchel heddiw yw oherwydd bod llawer llai o ddwysedd masnach yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad uniongyrchol i Brexit. O ganlyniad i hynny, mae'n rhaid ichi godi mwy o drethiant er mwyn codi mwy o incwm. Felly, rwy'n credu bod angen i'r Ceidwadwyr feddwl o ddifrif am hyn. Beth felly yw agenda economaidd Llywodraeth Cymru? A yw Llywodraeth Cymru yn credu y bydd bod y tu allan i'r farchnad sengl yn cael effaith ar ein refeniw treth ein hunain yn y blynyddoedd i ddod? A oes gennym strategaeth a pholisi economaidd sy'n seiliedig ar y gwaith a wneir yn Llundain, a sut y gallwn ymdrin â hynny a thrafod hynny?

Yn olaf, gadewch i mi orffen gyda hyn. Roedd llawer ohonom yn effro yn hwyr neithiwr yn gwylio'r canlyniadau o'r Unol Daleithiau, ac un o'r graffiau a arhosodd gyda mi—un o'r graffiau a welais ar CNN neithiwr—oedd y gydberthynas rhwng y gostyngiad yn y gefnogaeth i'r Blaid Ddemocrataidd ac effaith chwyddiant ar gyflogau. Lle roedd pobl wedi gweld ansawdd a safon byw yn gostwng fwyaf, felly wedyn y gostyngodd y bleidlais i'r Blaid Ddemocrataidd, ac efallai mai dyna oedd craidd stori'r etholiad neithiwr. Felly, mae gan Lywodraeth Cymru 18 mis i gael y pethau hyn yn iawn, a'r hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw buddsoddi—

18:05

—yn ein gwasanaethau, ein pobl a'n cymunedau i sicrhau ein bod yn cael cyfle i barhau i wneud hynny yn y dyfodol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y Prif Weinidog Disraeli a ddywedodd fod y Blaid Geidwadol yn rhagrith trefnus, ac mae'r cynnig o flaen y Senedd heddiw yn cloddio'n ddwfn i'r traddodiad cyfoethog hwnnw. Mae cyfres o gyd-Aelodau yma wedi amlygu sail y cyngor a gynigiwyd i ni oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, cyngor a dynnwyd o gyfnod o 14 mlynedd o gyni, y dywedodd ei awdur, George Osborne, y byddai'n para tair blynedd ac a barhaodd am 14 mlynedd. Y cyfnod hiraf yn ein hanes o dwf anaemig. [Torri ar draws.] Rwyf am wneud peth cynnydd, Joel; rwy'n credu bod munud ychydig yn fuan i gael ymyriad. Ni wnaf gadw'r Siambr yn hir gyda hyn, Ddirprwy Lywydd, oherwydd mae eraill eisoes wedi'i ddweud. Ond cawn gynnig cyngor gan blaid sy'n gyfrifol am y cyfnod hiraf yn ein hanes o dwf anaemig, cynhyrchiant disymud, erydu cyflogau, gostyngiadau mewn cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, a chwymp dinistriol mewn buddsoddiad cyfalaf, a hyn i gyd gan beiriannu'r argyfwng mwyaf difrifol o ran rheolaeth ariannol ers y rhyfel gan Brif Weinidog y gwnaeth letysen oroesi'n hwy na hi ond y mae ei heffaith yn parhau ar fywydau dinasyddion Cymru, gyda chyfraddau morgais uwch, cyfraddau llog uwch a safonau byw wedi'u herydu. Ddirprwy Lywydd, o'r sylfaen hon y mae'r blaid gyferbyn yn ceisio cyfarwyddo eraill ar eu cyfrifoldebau. Ac er bod un ar ôl y llall o'r llefarwyr Ceidwadol wedi cael eu hanfon dros y top gydag amrywiadau ar areithiau Apocalypse Now, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud ar yr ochr hon yw pleidleisio yn erbyn eu cynnig am ei fod mor amlwg yn methu nodi ffeithiau'r gyllideb yr wythnos diwethaf, ffeithiau a nodwyd yn y gwelliant yn enw'r Trefnydd.

Ac rwy'n dweud mai dyma'r ffeithiau, Ddirprwy Lywydd, oherwydd, bythefnos yn ôl, cawsom ddadl cyn y gyllideb a nawr fe wyddom beth a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Ac yn y pethau a nodwyd gennym bythefnos yn ôl, mae pob un o'r rheini wedi'u cadarnhau yn y gyllideb a gyflwynwyd gan Rachel Reeves, cyllideb sydd, fel y dywedodd Hefin David ac a adleisiwyd gan Alun Davies, yn weithred wleidyddol yn ei hanfod—cyllideb a aeth ymhellach i ddangos bod y Llywodraeth Lafur newydd hon yn y DU yn hybu'r economi mewn ffordd sy'n gwbl groes i bolisïau neoryddfrydiaeth aflwyddiannus ac sy'n gwneud yn siŵr fod yna ddyfodol gwahanol i bobl yma yng Nghymru. Siaradais bythefnos yn ôl am Lywodraeth a fydd yn ystyried gweithwyr yn asedau allweddol yn y gwaith o adeiladu ein heconomi. Dyna pam y cynyddwyd y cyflog byw cenedlaethol 6.7 y cant yn y gyllideb a'r isafswm cyflog cenedlaethol 16.3 y cant, mewn cyllideb hefyd, yma yng Nghymru, a unionodd y cam a wnaed i gronfa bensiwn y glowyr, gan ei dychwelyd i'r ymddiriedolwyr lle roedd hi i fod.

Bythefnos yn ôl, fe wnaethom ddweud y byddai'r Canghellor yn ymdrin â'r bwlch o £22 biliwn rhwng gwariant yr ariannwyd ar ei gyfer a gwariant gwirioneddol yn y flwyddyn ariannol hon. Dywedodd y Canghellor y byddai'n derbyn pob un o'r 10 argymhelliad gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a byddai'n rhaid iddi lunio pecyn o fesurau sy'n gofyn i'r rhai sydd fwyaf abl i wneud hynny wneud cyfraniad at lenwi'r twll du hwnnw. Mewn un arall o'r cyfraniadau hynod ymfflamychol hynny—[Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf hynny nawr. Iawn, Joel.

18:10

Rwy'n ddiolchgar am hynny. Fe ddywedoch chi ar y dechrau mai George Osborne oedd pensaer cyni. Mae hynny'n ffeithiol anghywir. Alistair Darling a osododd y gyllideb gyni gyntaf. A wnewch chi newid eich datganiad?

Na wnaf, wir. Roedd Alistair Darling yn ymateb i'r amgylchiadau economaidd a wynebai. Roedd George Osborne—[Torri ar draws.]. Na, na, na—[Torri ar draws.] Byddwch yn dawel. Byddwch yn dawel. Byddwch yn dawel. Dechreuodd George Osborne ar bolisi o gyni fel mater o bolisi a dewis. Ei benderfyniad oedd crebachu'r wladwriaeth, polisi y clywaf arweinydd presennol y Blaid Geidwadol yn ei adleisio— [Torri ar draws.] 

Mae gennyf erthygl yn fy ffolder o The Guardian yn 2009, lle mae Alistair Darling yn datgan—

—pe bai'r Blaid Lafur yn cael ei hailethol, y byddai eu toriadau'n waeth na rhai Thatcher. Ac roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd yn addo toriadau llym pe baent hwy'n Llywodraeth. Felly, mae dweud George Osborne, mai ei bolisi ef ydoedd, unwaith eto'n ffeithiol anghywir.

Wel, dyma ymgais eithaf arwrol i ailysgrifennu hanes, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ofni na fyddai George Osborne ei hun yn cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud, oherwydd fe aeth ati, fel y dywedodd ar y pryd, i leihau cwmpas y wladwriaeth, ac ymhen tair blynedd byddai'r uchelfannau heulog yno i bawb eu mwynhau, heblaw bod yr uchelfannau hynny wedi diflannu ymhellach byth i'r dyfodol.

Ddirprwy Lywydd, gadewch imi roi un enghraifft yn unig o'r ffordd y defnyddiodd y Canghellor y gyllideb i ymdrin â'r bwlch o £22 biliwn. Daeth o hyd i £80 miliwn i gefnogi gweithwyr Port Talbot, er na wnaeth y Blaid Geidwadol ddim mwy na chyhoeddi cronfa, cronfa heb unrhyw arian o gwbl ynddi tan y gyllideb yr wythnos diwethaf.

Bythefnos yn ôl fe wnaethom ddweud y byddai'r Canghellor yn cychwyn ar daith i atgyweirio'r difrod a wnaed i wasanaethau cyhoeddus. Am gyferbyniad a welwyd yr wythnos diwethaf, oherwydd nid George Osborne yn unig a aeth ati i grebachu'r wladwriaeth, mae Kemi Badenoch wedi gwneud hynny'n ganolbwynt i'w gwerthoedd Ceidwadol. Mae ganddi un cyflawniad rhyfeddol i'w henw'n barod, gan ei bod wedi llwyddo i fod yn rhy asgell dde i ennyn cefnogaeth Andrew R.T. Davies hyd yn oed. Ni allai'r gwrthgyferbyniad rhwng Mrs Badenoch a Changhellor y Trysorlys fod yn gliriach.

Yma yng Nghymru, mae gennym gyfle nawr i ddechrau atgyweirio'r difrod a wnaed—

18:15

Diolch. Diolch yn fawr, Ysgrifennydd cyllid. A allech chi nodi i mi ble mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—oherwydd rydych chi'n defnyddio hyn i amddiffyn y gyllideb a'r twll du tybiedig o £22 biliwn—a allech chi ddweud lle nododd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y mae'r twll du o £22 biliwn yn bodoli? Oherwydd ni allaf ddod o hyd iddo, ac yn sicr ni wnaethant ei nodi yn eu hadroddiad.

Rwy'n credu bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud ddoe gerbron pwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin y gallai'r Llywodraeth Geidwadol fod wedi torri'r gyfraith drwy gelu—[Torri ar draws.] Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wrth roi tystiolaeth ddoe gerbron pwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin a ddywedodd y gallai Llywodraeth y DU fod wedi torri'r gyfraith drwy gelu maint y twll du yng nghyllideb olaf Jeremy Hunt rhag y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a ddywedodd hynny. Gallwch ddarllen eu tystiolaeth ddoe ddiwethaf drosoch eich hun. [Torri ar draws.] Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd. Diolch.

Ddoe, nodais y cyfle sydd gan Gymru nawr i ddechrau'r broses o atgyweirio'r difrod a wnaed gan y 14 mlynedd hynny—£700 miliwn yn fwy eleni, £700 miliwn yn fwy y flwyddyn nesaf, i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, efallai, ar gyfer y tymor hir, darparodd y gyllideb fuddsoddiad ar gyfer twf, £300 miliwn rhwng eleni a'r flwyddyn nesaf i ni allu buddsoddi yn yr amodau, yn y seilwaith, yn y peirianwaith, yn yr offer a fydd yn caniatáu i weithwyr yma yng Nghymru a busnesau yma yng Nghymru lwyddo. Gofynnodd Alun Davies i mi ynglŷn â diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Wel, rwyf wedi bod yn siarad â fy holl gyd-Aelodau a chyda sefydliadau eraill am y ffordd rwyf am geisio defnyddio'r cyfle cyfalaf hwnnw i ddiwygio fel y gall gweithwyr Cymru yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus fod mor gynhyrchiol â'r rhai mewn rhannau eraill o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna pam, Ddirprwy Lywydd, y cefnogodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol ffocws y Llywodraeth ar hybu twf trwy gynyddu buddsoddiad cyhoeddus. Dyna pam y dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd cyfuniad y gyllideb o fuddsoddiad ychwanegol, diwygio cynllunio a mwy o sefydlogrwydd oll yn helpu i hybu twf.

A gadewch i mi am eiliad ailadrodd y pwynt a wnaeth Lee Waters. Pennaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Paul Johnson, yr olwg annibynnol uchel ei pharch honno ar faterion economaidd, a ddywedodd y bydd y newidiadau i dreth etifeddiant mewn amaethyddiaeth yn disgyn ar nifer hynod gymedrol o ffermydd. Nawr, pan nad yw Aelodau'r gwrthbleidiau yn hoffi cyngor annibynnol, maent yn ysgwyd eu pennau arnaf, ond dyna sydd gan rywun heb unrhyw fuddiant o gwbl o geisio gorliwio'r effaith neu danddatgan yr effaith i'w ddweud.

Gadewch i mi ddod i ben, felly, Ddirprwy Lywydd. Roedd hon yn gyllideb nad oedd byth yn mynd i ddatrys pob problem, llenwi pob twll, cywiro pob camgymeriad. Ond yr hyn y mae wedi'i wneud yw gosod economi a rhagolygon y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru ar lwybr gwahanol i'r dyfodol. Wrth gwrs, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i godi llais dros Gymru, i fod yn glir ynglŷn â'n blaenoriaethau, ond gan weithio nawr ochr yn ochr â Llywodraeth a etholwyd mor bendant yma yng Nghymru ychydig fisoedd yn ôl, fel y gallwn greu llwybr at fywyd gweddus, fel y dywedodd Carolyn Thomas, ar gyfer y dyfodol, ac economi sy'n ffynnu ac yn gweithio i bob un ohonom.

18:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon yma yn y Senedd heno. Roedd Alun Davies yn anarferol o gywir pan ddywedodd yn ei sylwadau agoriadol fod dadl ar y gyllideb yn bwysig am ei bod yn dangos blaenoriaethau ac agweddau Llywodraeth. Yr hyn y mae'r gyllideb hon wedi'i ddangos yn ei blaenoriaethau a'i hagwedd yw y bydd Llywodraeth Lafur bob amser yn codi mwy o dreth arnoch, bob amser yn cynyddu'r baich ar weithwyr a bob amser yn cynyddu'r baich ar fusnesau sy'n creu swyddi, oherwydd mae'r Blaid Lafur yn meddwl ei bod yn gwybod sut i wario eich arian yn well nag y gwyddoch chi eich hun sut i'w wario.

Agorodd Peter Fox y ddadl yma heno trwy dynnu sylw at effaith llym y gyllideb ar fusnesau gweithgar, gyda'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi y bydd yn rhaid i gyflogwyr dalu £900 ychwanegol am bob gweithiwr ar enillion cyfartalog canolrifol. Bydd hyd yn oed cyflogai ar yr isafswm cyflog yn golygu y bydd cyflogwyr yn gwario £770 ychwanegol mewn cyfraniad yswiriant gwladol.

Dychmygwch feddwl na fyddai gweithwyr yn cael eu trethu ymhellach yn sgil goblygiadau'r gyllideb hon. Dychmygwch feddwl nad yw perchnogion busnes yn weithwyr. Dychmygwch feddwl nad yw ffermwyr yn weithwyr. Dyma ragrith y gyllideb Lafur a gyflwynwyd yn San Steffan yr wythnos diwethaf. Maent yn parhau i honni nad ydynt yn cosbi gweithwyr, ond fe welsom yn y ddadl hon heddiw fod pawb trwy gymdeithas, gweithwyr yn enwedig, yn cael eu cosbi oherwydd y gyllideb hon.

Clywsom gan Heledd Fychan—ac roedd yn fy mhoeni braidd fod agoriad cyfraniad Heledd Fychan yn lladd ar ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd, gan anghofio'n amlwg fod ein heconomi yn y DU yn perfformio'n llawer gwell na'r economi yn ardal yr ewro—ac roedd Heledd Fychan yn hollol gywir i godi effaith cyfraniadau yswiriant gwladol ar y trydydd sector ac elusennau. Rwy'n barod i glywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet ar hynny yn y dyfodol, a holl Ysgrifenyddion y Cabinet, ar y portffolios y maent yn eu cynrychioli—yr effaith y bydd mwy o yswiriant gwladol yn ei chael ar y trydydd sector a'r sector elusennol.

Roedd Carolyn Thomas yn awyddus i dynnu sylw at y 14 mlynedd diwethaf o her o fewn gwahanol sectorau yma yng Nghymru, gan anghofio bod bron bob un o'r rhai a grybwyllodd—tai, iechyd, yr amgylchedd, trafnidiaeth, llywodraeth leol, addysg—yr holl feysydd hynny'n gyfrifoldeb y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru.

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Onid yw'n syndod i chi nad yw Aelodau gogledd Cymru yn y Siambr hon yn unedig, ar bob ochr i'r Siambr, ynghylch yr angen am fuddsoddiad yng ngogledd Cymru, mewn pethau fel trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, na chlywais yr Aelod gyferbyn yn cyfeirio ato, na'r buddsoddiad mewn ysbytai yng ngogledd Cymru, nad ydym yn ei weld i'r un graddau ag yn y de?

Rwy'n ddiolchgar am yr ymyriad gan yr Aelod dros Orllewin Clwyd, oherwydd roedd Janet Finch-Saunders hefyd yn awyddus i dynnu sylw at y pwynt ynglŷn â diffyg cyhoeddiadau am fuddsoddiad yn y rheilffyrdd.

Oherwydd eich bod chi'n arfer bod yn arweinydd cyngor a oedd yn gorfod cwtogi cyllidebau am fod eich Llywodraeth chi'n torri ein cyllideb ni, hoffwn wybod a oeddech chi'n cefnogi torri'r cyllidebau pan oeddech chi'n arweinydd, ac amddifadu eich etholwyr o wasanaethau, am eich bod chi'n cefnogi Llywodraeth nad oedd yn credu mewn gwasanaeth cyhoeddus.

Mae'n ymyriad ddiddorol. Yn amlwg mae'r Aelod wedi anghofio eto mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ariannu cynghorau yma yng Nghymru, felly mae cynghorau ar hyd a lled Cymru yn gorfod ymdopi â heriau fformiwla ariannu Llywodraeth Cymru sy'n cosbi cynghorau yng ngogledd Cymru, ac rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yng ngogledd Cymru yn eu cefnogi, i weld mwy o gyllid i'r awdurdodau lleol hynny.

Dechreuodd cyfraniad Hefin David swnio ychydig bach fel Mark Isherwood ifanc yn mynd ar daith ar hyd lôn atgofion, ac yna fe wnaeth y Mark Isherwood go iawn ymyrryd, diolch byth, i'w gywiro ar ganlyniadau ychwanegol Llywodraethau Llafur blaenorol. Roeddwn yn ddiolchgar i James Evans ac i Laura Anne Jones am eu cyfraniadau, yn ein hatgoffa o effaith y gyllideb hon ar ffermwyr yng Nghymru. Tynnodd James Evans sylw arbennig at y ffaith bod Ysgrifennydd newydd DEFRA wedi addo na fyddai unrhyw newidiadau i ryddhad eiddo amaethyddol cyn i Lafur wneud y tro pedol mawr yr wythnos diwethaf, gan adael ein cymunedau ffermio mewn twll. Ac mae'n rhaid inni gofio, fel y nododd James Evans a Laura Anne Jones yn enwedig, fod ein ffermwyr yn gweithio'n galed i ddiogelu ein hamgylchedd a rhoi bwyd ar y bwrdd i bobl ledled Cymru, ac mae angen inni eu diogelu gymaint â phosibl. Fe wnaeth Lee Waters ei orau i amddiffyn polisi'r Blaid Lafur ar hyn, ond ni allodd wneud hynny'n ddigonol.

Roeddwn yn ddiolchgar i Luke Fletcher am ei onestrwydd ynghylch y risg o fod yn ddiflas. Nid wyf am farnu a oedd yn gywir yn ei asesiad risg ai peidio, ond roedd yn llygad ei le i herio mater ardrethi busnes a'r effaith lluosydd ac yn ei gefnogaeth i'r stryd fawr. Oherwydd os nad yw ein strydoedd mawr yn gweithio'n dda, ac effaith y lluosydd ardrethi busnes ar y stryd fawr honno—os nad ymdrinnir â hynny'n fuan, rydym yn wynebu problem go iawn. Roedd Alun Davies yn sicr yn ddiflas pan ddechreuodd siarad am y fframwaith ariannol, ond roedd yn iawn i godi'r pwynt oherwydd mae'n fater y mae angen ymdrin ag ef, er mwyn sicrhau bod modd darparu gwasanaethau'n iawn yma yng Nghymru.

Roeddem yn ddiolchgar, wrth gwrs, i'r—roeddwn i'n mynd i ddweud 'Prif Weinidog'; rwy'n ymddiheuro. Roeddem yn ddiolchgar, ar y diwedd, i Ysgrifennydd y Cabinet am ei farn ar bethau, ond yn anffodus, roedd perygl i'w ffocws ar ffeithiau lithro i fod yn 'ffeithiau amgen' Trumpaidd yn fy marn i. Oherwydd roedd ei her yn ymwneud â'r ffeithiau a nodwyd yn ein cynnig yma heddiw. Ac rydym yn glynu wrth ein cynnig yma heddiw am ei fod yn ffeithiol gywir. Fe ddarllenaf y ffeithiau hyn allan nawr i'r Aelodau ar draws y Siambr. Ar y fainc hon, rydym yn credu bod

'Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU yn torri ymrwymiad maniffesto Llafur i beidio codi trethi ar bobl sy'n gweithio.'

Mae hynny wedi cael ei nodi yma sawl gwaith heddiw. Rydym yn gresynu

'y bydd yn rhaid i lawer o bensiynwyr ddewis rhwng bwyta a gwresogi o ganlyniad i dynnu taliadau tanwydd y gaeaf yn ôl.'

Mae hynny'n ffaith. Rydym yn cydnabod

'y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei gwneud yn anos i fusnesau gyflogi a chadw staff.'

Mae hynny'n ffaith. Rydym yn mynegi

'siom bod cyllideb Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni naill ai trydaneiddio prif linell reilffordd Gogledd Cymru neu gyllid canlyniadol Barnett o brosiect HS2 i Gymru.'

Felly, yn fyr, Ddirprwy Lywydd, mae'r gyllideb a glywsom yr wythnos diwethaf yn wrth-dwf, yn wrth-fusnes, yn mynd i gynhyrchu dyledion uwch, trethi uwch, ac yn erbyn gweithwyr Prydain a Chymru. Diolch yn fawr iawn.

18:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes—dwi wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Felly, bydd y bleidlais ar eitem 9 heno, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gynigiwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.

18:30

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Symudwn ymlaen nawr at welliant 6. Galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi ei wrthod.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU. Gwelliant 6, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM8713 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu:

a) cyllideb y DU a’r cyllid ychwanegol gwerth £1.7 biliwn i Gymru; a

b) y cyllid ychwanegol ar gyfer diogelwch tomenni glo a’r cynnydd mewn cyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith.

2. Yn cydnabod bod hyn yn gam cyntaf tuag at unioni’r difrod a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a chyllid cyhoeddus.

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru:

a) yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, gan nodi sut y bydd yn cefnogi blaenoriaethau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y GIG, ysgolion a llywodraeth leol; a

b) yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid teg i’r rheilffyrdd yng Nghymru a mwy o hyblygrwydd cyllidebol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A daw hynny â'r pleidleisio i ben am heddiw, ond nid ydym wedi gorffen ein busnes, felly, os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel.

11. Dadl Fer: Dyfodol gofal iechyd lleol yng nghefn gwlad Cymru

Symudaf yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar James Evans i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. James.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Russell George, Sam Rowlands, Gareth Davies a'r dihafal Janet Finch-Saunders.

Mae dyfodol gofal iechyd yng nghefn gwlad Cymru dan straen ddifrifol. Ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, rydym yn wynebu cyfres unigryw o heriau oherwydd ein hardaloedd prin eu poblogaeth, lle mae mynediad at ysbytai a gwasanaethau brys yn gyfyngedig. Mae'r rhan fwyaf o drigolion yn cael eu gorfodi i deithio y tu allan i'r sir i gael gofal hanfodol. Mae'r broblem yn arbennig o bryderus o ystyried ein poblogaeth sy'n heneiddio ym Mhowys, lle mae bron i 28 y cant o'r boblogaeth yn 65 oed neu'n hŷn, sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn codi i'r entrychion, gyda nifer y bobl dros 65 oed yn cyrraedd 47,000 erbyn 2036. Er gwaethaf yr anghenion cynyddol hyn, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn brwydro dan ddiffyg cyllidebol o £23 miliwn, arwydd clir o gamreoli ariannol.

Er bod rhai camau cadarnhaol wedi'u gwneud, megis datblygiadau ym maes adsefydlu strôc ac unedau deintyddol symudol—mae'r rhain i gyd i'w croesawu—cânt eu tanseilio'n gyson gan doriadau sylweddol i'n gwasanaethau hanfodol, sydd bob amser ar y rheng flaen. Y toriadau mwyaf gofidus yw'r rhai i oriau agor unedau mân anafiadau ar draws cefn gwlad Cymru, ac israddio ward Crug yn Aberhonddu, a ofalai am gleifion dementia. Mae ysbyty Trefyclo yng ngogledd fy etholaeth wedi cael ei leihau'n uned seibiant fechan, gan gyfyngu fwyfwy ar gwmpas y gofal y gallwn ei ddarparu'n lleol yn ein hysbytai bwthyn yng nghefn gwlad Cymru.

Nid yw israddio'r gwasanaethau hyn wedi'i gyfyngu i Bowys yn unig. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fod wardiau'n cau ac yn israddio, gan olygu colli bron i 15 gwely, fan lleiaf. Mae ein hysbytai cyffredinol dosbarth ym Merthyr Tudful, Henffordd, sydd dros y ffin, Abertawe a'r Faenor yn aml yn llawn ac ar rybudd coch, ac ni all gwasanaethau mamolaeth yn ysbyty Bronglais dderbyn rhagor o gleifion. Nid achosion ynysig yw'r rhain ond arwyddion o system—ein GIG yma yng Nghymru—yn gwegian o dan y pwysau. Rwy'n cymeradwyo cyd-Aelodau o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol yn y Siambr hon sydd wedi siarad am doriadau i'r GIG yn eu cymunedau eu hunain, gan ein bod i gyd yn wynebu'r un heriau ar draws Cymru.

Ar gyfer gofal nad yw'n acíwt, mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy tameidiog. Mae'n annerbyniol fod yn rhaid i drigolion oedrannus yn Aber-craf deithio cyn belled â Telford i gael apwyntiadau llygaid oherwydd cytundebau lefel gwasanaeth y mae byrddau iechyd gwledig yn eu taro ar draws y wlad er y gallai ysbyty agosach, yn Abertawe, wneud y driniaeth honno. Nid yw'n ddigon da. Yn yr un modd, mae cleifion o gefn gwlad Cymru yn gyrru i Amwythig am ofal orthodontig i'w plant, er bod y gwasanaethau hyn ar gael yn llawer agosach yng Nghymru.

Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos y methiant i gydlynu rhwng byrddau iechyd, gan adael cleifion yn sownd mewn gwe o fiwrocratiaeth a theithio diangen, ac yn amlach na pheidio, fel Aelod Senedd ac Aelodau eraill o'r Senedd yma sy'n cynrychioli'r Gymru wledig, mae pobl yn cysylltu â ni i godi'r darnau. Efallai fod ein byrddau iechyd o dan bwysau cyllidebol, ond nid oes esgus dros gamreoli. Mae hynny'n cael effaith anghymesur ar ein gwasanaethau rheng flaen. Gellid dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd yn y GIG drwy symleiddio rheolaeth, gwella trefniadaeth ac ailfeddwl ein dull o ddarparu gofal iechyd.

Dro ar ôl tro, clywn gan yr Ysgrifennydd iechyd nad ydynt am ymyrryd mewn penderfyniadau lleol, ond eto nid penderfyniad lleol yn unig yw hwn, mae'n broblem genedlaethol. Rydym yn dal i fod heb system TG unedig ledled Cymru ar draws y byrddau iechyd, ac mae rhestrau aros yng Nghymru allan o reolaeth. Mae angen goruchwyliaeth gref gan y Gweinidog, ac mae'n bryd rhoi ysgytwad i'r system, cael gwared ar wastraff a blaenoriaethu iechyd ein pobl. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd iechyd blaenorol wedi gwneud peth gwaith ar edrych ar drefniadaeth ac atebolrwydd byrddau iechyd ledled Cymru, a byddai'n ddiddorol iawn clywed ychydig am hynny gan Ysgrifennydd y Cabinet a sut y gallwn ddwyn byrddau iechyd i gyfrif yn well. 

Yr hyn a welwn, serch hynny, yw swyddi rheoli lefel uchaf ar draws y byrddau iechyd yn parhau i gael eu hysbysebu, ac eto rwy'n clywed straeon dirifedi—fel eraill, rwy'n siŵr—am rolau yr arferai un person eu gweithredu bellach yn cael eu hehangu'n sawl swydd heb unrhyw gynnydd mewn effeithlonrwydd. Rhaid i hyn newid. Mae'r fiwrocratiaeth yn tyfu ac yn tyfu wrth i wasanaethau rheng flaen gael eu torri.

Ni ellir gorbwysleisio rôl hanfodol practisau meddygon teulu mewn cymunedau gwledig. Cawsom ddadl dda yma yn gynharach ar ddyfodol ein practisau meddygon teulu. Hwy yw ein rheng flaen; hwy sy'n sefyll yn y bwlch rhwng gwasanaethau hanfodol a gwasanaethau cymunedol, ond mae llawer ohonynt yn teimlo eu bod yn brwydro'n barhaol â byrddau iechyd i ddarparu lefel sylfaenol o ofal yn unig am na allant gael contractau wedi'u trefnu gyda byrddau iechyd. Mae eu syniadau a'u hatebion arloesol i wella meysydd gwasanaeth yn aml yn cael eu hanwybyddu. Cânt eu cyflwyno i fyrddau iechyd ar draws cefn gwlad Cymru, ac nid yw'r byrddau iechyd eisiau gwrando arnynt, a hoffwn glywed hefyd gan y Gweinidog sut y gall ein meddygon teulu fwydo mwy i mewn i'r broses a gohebu'n uniongyrchol â'r Gweinidog i sicrhau bod eu penderfyniadau a'u syniadau'n cael eu clywed gan y Llywodraeth. Os ydym o ddifrif ynglŷn â gofal iechyd gwledig, mae angen inni rymuso ein meddygon teulu a rhoi offer iddynt reoli eu practisau'n effeithlon. 

Mae gofal dementia yn fater arall eto sydd angen sylw ar unwaith. Yng nghefn gwlad Powys, dim ond 40 y cant o'r rhai sy'n byw gyda dementia sydd wedi cael diagnosis ffurfiol—mae hynny'n arswydus—sy'n golygu bod mwy na'u hanner heb fod yn cael cymorth a thriniaeth hanfodol, a heb y diagnosis hwnnw, ni allant gael y newidiadau a'r addasiadau sydd eu hangen arnynt i aros yn eu cartrefi am fwy o amser. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio, mae'r diffyg mynediad hwn at adnoddau diagnostig yn frawychus. Mae'n rhaid inni wneud yn well i'r unigolion hynny, gan sicrhau bod pob person, ble bynnag y bo'n byw, yn gallu cael gofal iechyd amserol o safon.

Mae pobl cefn gwlad Cymru yn haeddu gwell. Mae ein cymunedau yn cael eu hesgeuluso gan system sydd wedi colli golwg ar yr hyn sy'n bwysig go iawn ac sy'n canolbwyntio mwy ar ardaloedd trefol. Mae arnom angen system gofal iechyd sy'n gwasanaethu ei phobl ac nid un sy'n gorfodi trigolion oedrannus i fynd ar deithiau anodd ac sy'n anwybyddu gwaith caled ein meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. 

Un peth y mae angen inni edrych arno yw strwythur ein GIG ledled Cymru. Nid yw'r GIG yn fuwch gysegredig. Ni ddylai fod yn rhydd rhag newid. A dro ar ôl tro, rydym yn gweld Llywodraethau'n amharod i fynd i'r afael â hyn a chyflawni'r newid sydd ei angen, am fod Llywodraethau'n poeni am yr ymateb gwleidyddol i newid y GIG, i yrru arbedion effeithlonrwydd a gwneud iddo wasanaethu pobl cefn gwlad Cymru a Chymru gyfan yn well. Ac rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru: anghofiwch y blwch pleidleisio, meddyliwch am y bobl y gallai'r newidiadau eu helpu drwy sicrhau eu bod yn cael eu gweld mewn apwyntiadau, yn cael llawdriniaethau wedi'u gwneud, a thrwy sicrhau bod y system yn gweithio'n well. Mae dyfodol gofal iechyd gwledig yng Nghymru yn dibynnu ar weithredu ac atebolrwydd ac ymrwymiad i wneud newidiadau go iawn i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Mae'n bryd blaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen, buddsoddi yn ein meddygon teulu, mynnu'r dull cydgysylltiedig a fydd yn darparu'r gofal iechyd y mae ein cymunedau yn ei haeddu a darparu'r GIG sydd ei angen arnom i gyd ar gyfer y dyfodol. Diolch.

18:40

Diolch i James Evans am ganiatáu imi gyfrannu yn y ddadl hon hefyd. Wrth gwrs, nid oes gan Bowys ysbyty cyffredinol dosbarth, ac yn aml mae'n rhaid i James a minnau ddweud wrth ein hetholwyr a nodi'r rhesymau pam nad yw'n bosibl cael ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Ond yr hyn y gallwn ei ddisgwyl, fan lleiaf yn fy marn i, yw rhwydwaith da, dibynadwy o ysbytai cymunedol ar draws Powys.

Nawr, mae gennyf bryderon enfawr ar hyn o bryd, rwyf wedi eu codi gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn ag israddio ysbyty Llanidloes, sy'n siomedig. Ond rwy'n gobeithio, pan fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i'r ddadl hon heddiw, y bydd yn nodi ei weledigaeth gadarnhaol ar gyfer iechyd gwledig, ac wrth wneud hynny, rwy'n gobeithio y gall roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynlluniau ar gyfer ysbyty a chanolfan iechyd newydd yn y Drenewydd, a gwn fod y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford, wedi gwneud sylwadau ar hynny droeon ac wedi ymrwymo i hynny, oherwydd mae hyn yn gwbl hanfodol nid yn unig i wasanaethu'r dref, ond gogledd Powys gyfan, gan weithio gydag ysbytai cymunedol eraill. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol yn hynny o beth gan Ysgrifennydd y Cabinet hefyd.  

Rwy'n ddiolchgar i James Evans am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw hefyd. Hoffwn ddweud dau beth yn fyr. Mae'r cyntaf mewn perthynas ag ymarfer cyffredinol, a'r hyn a welsom ledled Cymru yn ystod y 12 mlynedd diwethaf yw mwy na 100 o feddygfeydd meddygon teulu yn cau, dros y 12 mlynedd diwethaf yng Nghymru, fel y dywedais. A phan gafodd hyn ei godi'n flaenorol yn y lle hwn, mae Gweinidogion neu Ysgrifenyddion Cabinet blaenorol wedi cyfeirio at nod strategol o greu'r canolfannau iechyd hyn, sy'n gweithio'n dda iawn mewn trefi a dinasoedd lle mae cysylltiadau trafnidiaeth yn gweithio'n dda, ond yn ein hardaloedd gwledig, yn amlwg, gall mynd i'ch meddygfa meddyg teulu ac oddi yno fod yn her wirioneddol ar adegau, yn enwedig gyda thrafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai ardaloedd yn gyfyngedig iawn. Felly, hoffwn glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y bydd grwpio ymarfer cyffredinol a'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu gyda'i gilydd yn gweithio a sut y bydd yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, ac a ddylid gwneud mwy o waith i sicrhau bod gan ein cymunedau gwledig feddygfeydd meddygon teulu sy'n hygyrch.

A'r ail bwynt, yn gryno, yw nad ydym wedi crybwyll digon ar yr heriau iechyd meddwl yn rhai o'n cymunedau gwledig, yn enwedig gyda'n ffermwyr a'n gweithwyr fferm, ac rwy'n awyddus i glywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ar ble y gall gwasanaethau iechyd meddwl ddarparu cymorth ychwanegol, penodol efallai, i rai pobl yn ein hardaloedd gwledig, yn enwedig i ffermwyr, sy'n teimlo pwysau gwirioneddol ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi yn y ffordd fwyaf priodol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, James, am gyflwyno'r drafodaeth bwysig hon heno yn y Senedd. Er bod croeso i'r ffaith ein bod yn siarad am ehangu cwmpas y ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol mewn ardaloedd gwledig wrth gwrs, rwy'n credu ein bod yn cael sgwrs am rywbeth a sefydlwyd yn organig flynyddoedd maith yn ôl, oherwydd rwy'n meddwl am fy ardal i, er enghraifft—roedd gennym ysbyty cymunedol yn y rhan fwyaf o drefi yn mynd yn ôl mewn hanes. Roedd gennym Chatsworth ym Mhrestatyn, Royal Alexandra yn y Rhyl, HM Stanley yn Llanelwy. Ond yr hyn a wnaethant, yn organig, oedd tynnu pwysau oddi ar yr unedau acíwt yng Nglan Clwyd ac ysbytai mawr eraill yng ngogledd Cymru. Ond mae'n ymddangos ein bod—nid yn ailddyfeisio'r olwyn, ond bron yn cael sgyrsiau am rywbeth a oedd yno'n organig beth bynnag.

Ond yr hyn rwy'n chwilio amdano yn ymateb y Gweinidog yw ei ymateb i gyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, ac a ellir gwneud unrhyw gynnydd ar adeiladu, neu ynghylch yr oedi cyn adeiladu, ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, a fyddai'n gwella rhai o'r amseroedd aros acíwt yn adran damweiniau ac achosion brys Glan Clwyd. Mae wedi cael ei addo ers dros ddegawd bellach, ac mae gwir angen inni wneud rhywfaint o gynnydd er mwyn i fy etholwyr gael gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol amserol yn eu hardal leol. Diolch.

18:45

Diolch i James Evans am ddod â'r ddadl bwysig hon yma, a hefyd am ganiatáu munud i mi. Problem newydd sydd wedi dechrau effeithio ar etholwyr Aberconwy, ac ar gleifion Betsi Cadwaladr yn wir, yw gwasanaeth ambiwlans Cymru sy'n canslo apwyntiadau i bobl yn agos iawn at adeg eu hapwyntiad. Mae hyn yn gadael cleifion yn poeni, yn ofidus ac yn teimlo eu bod wedi methu apwyntiad yn y lle cyntaf. Maent angen yr apwyntiad hwnnw, ac yn aml mae'r rhain yn bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig anghysbell. Mae'r gwasanaethau hyn yn achubiaeth hanfodol i lawer yn nyffryn Conwy. Mae Aberconwy yn ymestyn o Lanfairfechan i Fae Penrhyn, dyffryn Conwy, hyd at Gapel Curig a Dolwyddelan. Mae'n ardal enfawr o rannau gwledig ynysig. Heb y drafnidiaeth hon, caiff rhai cleifion eu gorfodi i dalu am ddewisiadau amgen ar ffurf tacsis drud, ac mae gwasanaethau bws ar draws yr un ardaloedd yn wael.

Yn ddiweddar, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi clywed am apwyntiadau ymhell y tu allan i'n sir, rhai cyn belled â Lerpwl—apwyntiadau calon brys a phethau—ac unwaith eto, cafodd cludiant ei drefnu, cyn ei ganslo wedyn. Mae'n gwbl annerbyniol. Rhaid cadw'r gwasanaethau hyn a'u gwarchod er mwyn sicrhau bod pobl mewn ardaloedd gwledig—sydd ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed yn aml—yn gallu cael mynediad at y driniaeth feddygol sydd ei hangen arnynt heb orfod gwario mwy ar deithiau tacsi diangen. A hefyd, faint mae'r holl apwyntiadau sy'n cael eu methu'n ei gostio mewn adnoddau, lle mae'r meddyg ymgynghorol yn aros am y claf? Ni ddylai eu hiechyd byth fod mewn perygl o ganlyniad i rywbeth fel hyn. Sut y bwriadwch chi fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb sylfaenol hwn? Diolch.

A Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl. Jeremy Miles.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac mae hon yn ddadl bwysig sy'n adlewyrchu pwysigrwydd gofal iechyd gwledig i gymunedau ledled Cymru. A fy ngweledigaeth i, mewn ymateb i'r cwestiwn y mae cyd-Aelodau wedi'i ofyn, yw y dylai pawb allu cael mynediad at ofal GIG o safon mor agos at adref â phosibl, ble bynnag y bônt yn byw yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithio gyda'r GIG i symud mwy o ofal allan o ysbytai, sy'n cyd-fynd â'r dull gweithredu a nodir yn ein cynllun hirdymor, 'Cymru Iachach'. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn technoleg ddigidol, offer a gwasanaethau, buddsoddi yng ngweithlu'r GIG, yn enwedig denu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ardaloedd gwledig, ac yn ein hystad GIG hefyd, a darparu arweiniad strategol i fyrddau iechyd i gynllunio gwasanaethau lleol, ac rydym wedi clywed pa mor bwysig yw hynny heddiw.

Fe ddywedaf rywbeth am bob un o'r meysydd hyn. Fis diwethaf, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys £1.7 miliwn ar gyfer offer pelydr-x digidol newydd, a fydd yn cael ei osod mewn dau gam: mae'r cyntaf yn dechrau y mis hwn yn Ystradgynlais, Llandrindod a'r Trallwng, a bydd yr ail gam yn dechrau yn gynnar ym mis Ionawr 2025. Rydym wedi ariannu hyn, a bydd yr offer newydd yn cynhyrchu delweddau cyflymach, cliriach, gan helpu i wella profion diagnostig i bobl ym Mhowys, drwy leihau amseroedd aros a darparu canlyniadau cyflymach a mwy cywir.

Rydym hefyd yn ariannu'r portffolio trawsnewid meddyginiaethau digidol, a fydd yn digideiddio'r holl bresgripsiynau ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae'r gwasanaeth presgripsiynau electronig yn elfen bwysig o'r portffolio hwn, ac mae rhaglen fawr o newid yn cael ei chyflwyno ledled Cymru, o bractis i bractis, o fferyllfa gymunedol i fferyllfa gymunedol, gan gynnwys yng nghefn gwlad Cymru. Ar ddechrau mis Hydref, roedd y gwasanaeth yn fyw mewn 13 practis meddyg teulu a 51 fferyllfa gymunedol. Bydd cyflymder y newid yn dechrau cynyddu'n gyflym nawr. Pan fydd wedi'i gyflwyno ledled Cymru, bydd y gwasanaeth yn caniatáu i bresgripsiynau gael eu trosglwyddo'n gyflym rhwng Cymru a Lloegr, ac mae llif trawsffiniol presgripsiynau yn bwysig i lawer, yn enwedig y rhai sy'n byw ac yn defnyddio fferyllfeydd mewn cymunedau gwledig ger ac ar hyd y ffin. Ar ôl ei gyflwyno, bydd yn golygu, yn y pen draw, y bydd pobl yn gallu enwebu unrhyw fferyllfa yng Nghymru neu Loegr i ddosbarthu eu presgripsiwn.

Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i rannu rhai enghreifftiau, gan fy mod wedi cael fy ngwahodd gan Aelodau i wneud hynny, o sut y mae byrddau iechyd yn datblygu ffyrdd newydd o ddod â gofal iechyd yn agosach at bobl mewn ardaloedd mwy gwledig. Yng ngogledd Cymru, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi lansio gwasanaeth awdioleg symudol, i ddarparu gofal GIG o ansawdd uchel i rai o'i gymunedau lleol. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, fel y clywsom, yn defnyddio uned ddeintyddol symudol—ac rwy'n falch o glywed bod honno'n cael croeso—i ddarparu deintyddiaeth y GIG mewn ardaloedd sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol. Mae uned ddeintyddol symudol yn y Gelli Gandryll yn cynnig yr un ystod o driniaethau deintyddol ag a fyddai ar gael mewn unrhyw bractis ar y stryd fawr, o dynnu dannedd i osod coronau a dannedd gosod. 

Gall recriwtio a chadw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn anos mewn ardaloedd gwledig ac mae'n rhan allweddol o'n strategaeth ar gyfer gwella mynediad at ofal y GIG, gan gynnwys deintyddiaeth. Rydym yn awyddus i nodi a sefydlu cyfleoedd arloesol i uwchsgilio a gwella llwybrau gyrfaol i wneud gweithio yng nghefn gwlad Cymru yn fwy atyniadol.

18:50

Diolch. Rydych chi'n siarad am uwchsgilio'r gweithlu, mewn rhai rhannau o gefn gwlad Cymru, rydym yn gweld gwasanaethau'n cael eu hisraddio, nid eu huwchraddio. Felly, sut y gallwn ni annog pobl i ddod i weithio yng nghefn gwlad Cymru pan fo'r gwasanaethau yno'n fawr mwy na chartref nyrsio, a gofalu am bobl oedrannus, pan ddylid eu huwchraddio fel bod nyrsys a phobl sydd eisiau gweithio yng nghefn gwlad Cymru yn gallu gwneud mwy?

Wel, nid wyf yn derbyn y disgrifiad hwnnw. Fe wnaf gyffwrdd â hynny mewn munud.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi datblygu cynllun i annog hyfforddeion deintyddol i weithio mewn practisau deintyddol gwledig, ac mae cynnig recriwtio estynedig Cymru yn cymell hyfforddeion deintyddol i gyflawni eu blwyddyn sylfaen mewn practisau mewn mwy o leoliadau. Mae yn ei ail flwyddyn bellach, ac yn cynnig £7,000 ychwanegol o gyflog, ynghyd â chymorth addysgol a llesiant ychwanegol. Cafodd yr holl leoedd a oedd ar gael eu llenwi ar gyfer y garfan ym mis Medi 2024.

Yn fwy cyffredinol, mae byrddau iechyd sy'n gwasanaethu poblogaethau gwledig yn parhau i weithio'n galed i ddiwallu anghenion gwahanol y gweithlu ac i ddenu a chadw staff. Er enghraifft, mae pob un wedi penodi arweinydd cadw staff i sicrhau bod yr egwyddorion a'r arferion gorau yn rhaglen gadw staff genedlaethol GIG Cymru yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau i sicrhau bod gofal parhaus yn cael ei gynnal. Rydym yn cefnogi mentrau sy'n annog gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal i ystyried y cyfleoedd unigryw y mae gweithio mewn cymunedau gwledig yn eu cynnig. Rydym hefyd yn ymgorffori lleoliadau gwledig yn ein rhaglenni addysg a hyfforddiant, fel y gall gweithlu'r GIG y dyfodol gael profiad o'r rhain a gwneud dewisiadau gwybodus am eu gyrfaoedd.

Gofynnwyd i mi am ystad y GIG, Ddirprwy Lywydd. At ei gilydd, mae cyllideb gyfalaf Cymru yn werth 8 y cant yn llai mewn termau real yn 2024-25 na phan gafodd ei gosod yn 2021. Mae ein gallu i fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus, gan gynnwys ystad y GIG, wedi ei beryglu'n ddifrifol gan benderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan Lywodraethau blaenorol y DU, a gyfyngodd ar lif cyllid cyfalaf i Gymru a GIG Cymru. Mae'r gyllideb gyntaf gan y Canghellor Llafur newydd, Rachel Reeves, yn dynodi newid cyfeiriad sydd i'w groesawu, gyda chynnydd amlwg yn argaeledd cyllid cyfalaf i Gymru eleni a'r flwyddyn nesaf.

Er gwaethaf y cyfyngiadau ar ein cyllidebau cyfalaf, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ystad y GIG. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, er enghraifft, newydd gyhoeddi rhaglen o waith gwella hanfodol i osod ffenestri newydd, ailosod wyneb ffyrdd a llwybrau troed, a gwneud atgyweiriadau i do Ysbyty Coffa Llandrindod, er enghraifft. Arweiniodd cam cynharach o'r gwaith at uwchraddio mannau clinigol yn yr ysbyty. Rydym hefyd wedi dyfarnu £4.2 miliwn i'r bwrdd iechyd fel rhan o raglen Re:fit Cymru i osod paneli solar newydd, gwell systemau gwresogi a goleuadau LED mewn ysbytai ledled Powys.

Gofynnodd Russell George i mi gadarnhau'r sefyllfa mewn perthynas â champws iechyd a llesiant gogledd Powys. Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau ei fod yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu'r campws yn y Drenewydd, ac mae trafodaethau'n parhau gyda fy swyddogion mewn perthynas â'r achos amlinellol strategol ar gyfer hwnnw. Yn amodol ar gymeradwyo hynny, bydd y bwrdd iechyd yn lansio sgyrsiau pellach wedyn gyda chymunedau lleol, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl, ar y camau nesaf y byddai eu hangen i ddatblygu'r achos busnes amlinellol.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:54.