Y Cyfarfod Llawn

Plenary

23/10/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Mabon ap Gwynfor.

Datblygu Gofodol

1. Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o ba un ai ydi'r cyngor sydd yn cael ei roi i awdurdodau cynllunio ynghylch datblygu gofodol yn addas i bwrpas? OQ61752

Mae'r llawlyfr cynlluniau datblygu yn rhoi cyngor manwl ar sut i baratoi cynllun datblygu lleol. Mae'n seiliedig ar arferion gorau ac yn nodi'r materion allweddol y mae angen mynd i'r afael â hwy a lefel y dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni CDLl mabwysiedig.

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb yna. Wel, ges i'r fraint o fynd o amgylch Pwllheli yn ddiweddar iawn efo Katalina Harper. Mae Katalina Harper yn gaeth i gadair olwyn ac, felly, mae'n anodd iawn iddi hi deithio o amgylch y dref, neu yn wir unrhyw dref. Wrth iddi fynd o amgylch corneli weithiau, oherwydd natur y palmant, mae'r gadair olwyn yn tipio drosodd, neu mae'r palmentydd yn mynd yn gul iawn, sy'n golygu ei bod hi'n methu â chyrraedd gwasanaethau hanfodol, yn methu â mynd i siopa, ac weithiau, pan fydd hi eisiau mynd ar fws, dydy'r palmentydd ddim wedi cael eu codi i'r lefel i gyrraedd mynediad y bws yna—a llwyth o broblemau eraill.

Un enghraifft yn unig ydy Katalina Harper ym Mhwllheli; mae hyn yn wir am fywyd sawl person efo anabledd neu drafferth symudedd mewn cymunedau ar draws Cymru. Felly, mae'n rhaid inni edrych i sicrhau wrth gynllunio gofodol wrth ddatblygu cynlluniau trefol eu bod nhw'n addas ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn neu efo trafferth symudedd. Felly, pa gynlluniau ydych chi am eu rhoi ar y gweill i sicrhau bod llywodraethau lleol yn mynd i gymryd i ystyriaeth anghenion pobl fel Katalina wrth ddatblygu cynlluniau trefol?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn y prynhawn yma ac am dynnu sylw at bwysigrwydd creu lleoedd mewn perthynas â chanol ein trefi a'n dinasoedd. Ac mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, fod unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei gyflawni ar y cyd ac yn unol â'n polisïau cynllunio sy'n hyrwyddo hynny. Ond yn yr un modd, mae gennym drefi a phentrefi sy'n ganrifoedd oed, nad ydynt o reidrwydd wedi dal i fyny â'r math o newid yr hoffem ei weld o ran hygyrchedd.

Felly, credaf fod y gwaith y dylai llywodraeth leol fod yn ei wneud yn ymgysylltu â grwpiau cynrychiadol a phobl anabl eu hunain yn wirioneddol bwysig er mwyn nodi’r rhannau penodol o fewn y gymuned y mae angen mynd i’r afael â hwy drwy fuddsoddi neu, yn aml, gwneud rhywfaint o newidiadau cymharol syml. A chredaf y byddai rhai o'r fforymau pobl anabl sydd gan awdurdodau lleol yn lleoedd perffaith i gael y trafodaethau ynglŷn â nodi pethau cymharol syml, yn aml, yn y gymuned a allai newid ond a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn.

Hoffwn wybod i ba raddau y mae cynllunio gofodol wedi helpu neu lesteirio adeiladu tai yn gyffredinol ers i’r cynllun gofodol gwreiddiol gael ei fabwysiadu gan y Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd yn 2004. Mae adeiladu tai wedi bod yn dirywio’n gyson, ac mae ein hargyfwng tai yn parhau i waethygu. Mae llawer o ffactorau’n cyfrannu at y methiant i gyflawni targedau adeiladu tai, ond mae’r system gynllunio yn rhan sylweddol o hyn, ac mae cynllun gofodol Cymru yn creu haen arall o oedi cyn cymeradwyaeth gynllunio ac adeiladu.

Mae dulliau a arweinir gan y gymuned wedi’u hawgrymu er mwyn ategu’r system gynllunio bresennol, megis y syniad o bleidleisiau stryd, fel y’u gelwir. Cynhaliodd Lywodraeth flaenorol y DU ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Chwefror eleni ynghylch y gorchmynion datblygu pleidleisiau stryd, lle gall trigolion gynnig datblygiad ar y cyd ar eu stryd, a chyhyd â bod y cynnig yn bodloni gofynion penodol, pleidlais i weld a ddylid rhoi caniatâd cynllunio i'r datblygiad ai peidio. Y bwriad yw i ddatblygiadau gael eu rhoi ar waith yn gyflym er mwyn rhoi rheolaeth i drigolion a darparu mwy o gartrefi cyn gynted â phosibl. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw cynllun gofodol Cymru wedi cyfrannu at arafwch cymeradwyaeth cynllunio, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried pleidleisiau stryd fel atodiad posibl i'r system gynllunio? Diolch.

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, ac mewn gwirionedd, amser cinio heddiw, roeddwn mewn cyfarfod bwrdd crwn gyda chylchgrawn Building, a daethant â nifer o gynrychiolwyr y diwydiant adeiladu o amgylch y bwrdd yng Nghymru i drafod rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu mewn perthynas â chyflawni prosiectau adeiladu. Ac roedd rhai o'r problemau yr oeddent yn sôn amdanynt yn y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â gwelededd y llif argaeledd sgiliau, er enghraifft. Felly, nid oeddent yn sôn am syniad y pleidleisiau stryd mewn gwirionedd, ac nid wyf yn hollol siŵr mai dyna'r cyfeiriad y byddem am fynd iddo, oherwydd, mae'r system sydd gennym o dan 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi ffyrdd ystyrlon y gellid ac y dylid cynnwys cymunedau o'r cychwyn cyntaf mewn perthynas â datblygiadau. Felly, mae gennym y cyfleoedd ffurfiol hynny, ac maent yn aml yn codi droeon yn ystod y broses gynllunio, i gymunedau gael dweud eu dweud. Mae gennym ddull a arweinir gan gynlluniau o ddatblygu, ac rydym o'r farn fod cynnal CDLlau yn arf cwbl hanfodol i gyflawni’r blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, megis datblygu cynaliadwy drwy adeiladu tai, creu lleoedd, tai fforddiadwy, newid hinsawdd, ansawdd aer, ynni adnewyddadwy, sero net, a thrafnidiaeth gynaliadwy. Fodd bynnag, mae’r egwyddorion sydd gennym yn ein dull yn 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ein symud o gyfrif tai yn unig i feddwl am ganlyniadau ac ansawdd y lleoedd a adeiladwn hefyd. Felly, credaf fod ein dull yn wahanol, ond rwy’n cymryd ein bod am gyrraedd yr un lle o ran adeiladu cymunedau cynaliadwy.

13:35
Anweithgarwch Economaidd yng Ngogledd Cymru

2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yng ngogledd Cymru? OQ61759

Gwnaf. Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi sut rydym yn defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym i leihau'r bwlch sgiliau a chefnogi swyddi gwell, gyda'n cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn blaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf angen cymorth. Mae hyn yn cynnwys cefnogi pobl i aros mewn gwaith a chefnogi'r rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith.

Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o'r llwybrau i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yw'r hyn rydych wedi cyfeirio ato yno—cael gweithlu wedi'i hyfforddi'n dda. Ac i bobl iau yn enwedig, gellir gwneud llawer drwy brentisiaethau, sydd, fel y gwyddoch—a gwn fod eich cyd-Weinidog, Jack Sargeant, hefyd yn gwybod—yn darparu ffordd wych o ddysgu crefft a sgiliau gwirioneddol y gallant eu defnyddio drwy gydol eu bywyd gwaith. Yn anffodus, o gymharu â lleoedd eraill yn y DU, ac yn enwedig Lloegr, dim ond ystod fach o radd-brentisiaethau a gynigir yma. Golyga hynny, ynghyd â’r toriadau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i’r rhaglen brentisiaethau, fod gennym broblemau yn ein rhaglen radd-brentisiaethau yma yng Nghymru. Cyfarfûm ag is-ganghellor newydd Prifysgol Wrecsam yn ddiweddar, a chyfarfûm hefyd â Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, a oedd ill dau yn glir iawn y gall gradd-brentisiaethau wneud gwahaniaeth mawr nid yn unig i’r economi, ond i’r gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt yma hefyd. Felly, hoffwn ofyn beth sy'n cael ei wneud i gynyddu'r nifer o radd-brentisiaethau a gynigir, ac yn bwysig, sut rydych chi'n ymgysylltu â'r sefydliadau addysgol hynny ac eraill i sicrhau'r cynnydd y byddai pob un ohonom, rwy'n siŵr, yn dymuno ei weld yn y nifer sy'n manteisio ar radd-brentisiaethau.

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd prentisiaethau, ac yn gwneud buddsoddiad sylweddol iawn yn ein rhaglen brentisiaethau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Medr yn arwain ar hyn bellach, ac mae Jack Sargeant yn ymwneud yn agos â'r gwaith penodol hwn y mae’n ei arwain. Ond cydweithio yw ein dull o weithredu, yn bendant iawn. Felly, mae'n rhaid i ddarparwyr gydweithio â'n sector prifysgolion, a'r sector addysg yn ehangach, gan sicrhau bod anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r gymuned ehangach, ac wrth gwrs, yr economi, yn cael eu cefnogi. Felly, mae gradd-brentisiaethau lefel 6 ar gael, ond mae'n rhaid i unrhyw newidiadau neu adolygiadau i’r llwybrau presennol gael eu gwneud ar y cyd. Felly, rwy'n falch o glywed eich bod wedi cael y sgyrsiau hynny, a gwn y byddai Jack Sargeant yn awyddus i ddarllen trawsgrifiad o'ch cyfarfod. Diolch.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Mae cwestiynau'r llefarwyr heddiw i'w hateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Tom Giffard.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf i eich llongyfarch ar gael eich penodi yn Weinidog, gyda chyfrifoldeb yn benodol heddiw am ddiwylliant a chwaraeon? Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at y dadleuon hyn—gwn eich bod chithau hefyd—ac rwyf hefyd wedi bod yn ddiolchgar iawn am yr amser rydych chi wedi'i roi i gyfarfod â mi eisoes yn eich briff. Fodd bynnag, chi yw'r pumed Gweinidog eleni â chyfrifoldeb am ddiwylliant. A ydych chi'n derbyn bod rhywfaint o ansicrwydd wedi bod yn y sector oherwydd yr anhrefn yn Llywodraeth Cymru eleni?

Yn gyntaf, Lywydd, a gaf i ddiolch i Tom Giffard am ei groeso cynnes i'r Siambr y prynhawn yma, a hefyd am roi amser i gyfarfod â mi—yr wythnos diwethaf, rwy'n credu—i drafod y materion pwysig y mae'r sectorau diwylliant a chwaraeon yn eu hwynebu? Credaf ei bod yn deg dweud, Tom, nid yn unig ar eich meinciau chi, ond ar yr holl feinciau yn y lle hwn, fod ymrwymiad cyfunol gennym i weld y sector diwylliant yn llwyddo. Efallai eich bod yn dymuno canolbwyntio ar y gorffennol, Tom; rwyf i am ganolbwyntio ar y dyfodol. Mae hwn yn sector sy'n fy nghyffroi, mae'n weithlu sy'n benderfynol ac yn uchelgeisiol, a byddaf yn canolbwyntio ar ddeall blaenoriaethau llawer o randdeiliaid, fel y rhai rwyf eisoes wedi cyfarfod â hwy. Yn y cyfnod ariannol heriol sydd ohoni, rydym yn ceisio gwireddu cyfleoedd y sector. Ac mae hynny'n cynnwys sicrhau bod diwylliant, chwaraeon, gan gynnwys y diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn agored ac yn hygyrch i bawb, gan gynnwys cymunedau dosbarth gweithiol fel fy un i. Felly, edrychaf ymlaen at y gwaith yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen yn fawr at y dadleuon hyn. Lywydd, pe bawn am grynhoi fy sgyrsiau cynnar ar ymrwymiad i’r diwydiant a’r sector hwn, byddai’n debyg iawn i’r llinell enwog o’r gerdd 'Bread and Roses’:

'rhowch i ni fara, ond rhowch i ni rosod.’

13:40

Diolch yn fawr. Roedd gennyf deimlad y byddech yn dweud nad oeddech am edrych tua'r gorffennol ond tua'r dyfodol. Felly, y llynedd, y llinell ddiwylliant yng nghyllideb Llywodraeth Cymru a gafodd y toriad mwyaf o unrhyw linell unigol yn y gyllideb. Felly, os yw hyn yn droi cefn ar y gorffennol, ac edrych tua'r dyfodol newydd, gyda chyllideb eleni ar y gorwel, sut y byddwch chi'n llwyddo i sefyll dros y sector, pan na lwyddodd eich rhagflaenwyr i wneud hynny?

Unwaith eto, diolch i Tom Giffard am godi’r cwestiwn y prynhawn yma. Edrychwch, nid wyf am gael trafodaethau ynglŷn â'r gyllideb nawr. Rwy’n siŵr y cawn y trafodaethau hynny yn y Cabinet, ac ni fyddai Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn hapus gyda mi pe bawn yn dweud y pethau hynny. Ond yr hyn rwy'n ei ddweud—ac nid wyf yn gwadu'r ffaith bod penderfyniadau anodd wedi’u gwneud yn y sector hwn yn y gorffennol—yw mai'r hyn a welsom gan y sector, fodd bynnag, yw’r gwytnwch a’r arloesi y gall y sector eu cynnig wrth edrych tua’r dyfodol.

Ond rydych yn llygad eich lle, mae penderfyniadau anodd wedi bod. Bu'n rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hynny oherwydd anghymhwysedd Llywodraeth flaenorol y DU, a adawodd dwll du ariannol a'r llanast y mae cyllid cyhoeddus ynddo. [Torri ar draws.] Rydych chi'n llygad eich lle, felly byddaf yn edrych tua’r dyfodol, Sam Rowlands. Yr hyn rydym wedi’i weld eisoes yw’r £5 miliwn ychwanegol dros yr haf. Adeiladodd hynny ar y £3.2 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ar gyfer y diwydiant. Yr hyn y gallaf ymrwymo iddo, Tom, ar lawr y Siambr heddiw, yw y byddaf yn llais i’r sectorau diwylliant, chwaraeon a chreadigol yn y trafodaethau cyllidebol hynny. Bydd ganddynt Weinidog ynof sy’n falch o’u cynrychioli, sy’n credu yn y sectorau, ac sy'n awyddus i weithio ar y cyd â’r sectorau, i sicrhau bod y sectorau'n llwyddo, sy'n rhywbeth y gwn fod pob un ohonom yn y lle hwn am iddo ddigwydd.

Mae sefydliadau yn y sector diwylliannol wedi bod yn rhybuddio am eu sefyllfa ariannol enbyd ers peth amser. Ac mae hynny'n wir am y sefydliadau cenedlaethol mawr yn ogystal â sefydliadau lleol llai, y mae llawer o gymunedau nid yn unig yn rhan ohonynt, ond hefyd yn ffynnu ar lawer o'r sefydliadau lleol hyn. Canfu adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig ym mis Awst fod cyllid ar gyfer y celfyddydau wedi gostwng 30 y cant yng Nghymru mewn termau real ers 2017. Dyna'r gostyngiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig. A’r hyn a welsom yn eich cyfnod mewn grym hyd yma, yn y gyllideb atodol ddiweddaraf, yw toriad o £130,000 ar gyfer prosiectau diwylliant a chwaraeon lleol. Felly, er y gallwn edrych ymlaen tua'r dyfodol, mae'r hanes yn glir. Felly, sut y gallwch roi sicrwydd i'r sefydliadau hynny—yn fach a mawr—ledled Cymru, y bydd pethau'n wahanol?

Unwaith eto, diolch i lefarydd yr wrthblaid am yr ystod o gwestiynau ynglŷn â sut olwg fydd ar y dyfodol. Mae'n wir fod y sefyllfa'n anodd, onid yw. Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa’n anodd, ac rydym yn dal i wynebu’r heriau anodd hynny. Fel y dywedais yn gynharach, rwyf am roi ymrwymiad i’r diwydiant—ac rwyf wedi cyfarfod â phob un o’n cyrff hyd braich yng Nghymru yn y portffolio hwn—i sicrhau, pan fyddaf yn cael y trafodaethau cyllidebol hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet, ein bod yn dadlau'r achos gorau ar ran y sector. Mae hwn yn sector a all lwyddo, yn fy marn i. Mae angen inni ei gefnogi. Mae angen inni fod yn greadigol yn y ffordd yr edrychwn ar bethau yn y dyfodol, ond pa ffordd well o gydweithio â’r sector creadigol na thrwy ddod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi’r diwydiant? Nid wyf yn mynd i wneud sylw ar drafodaethau cyllidebol yn y dyfodol am nad ydynt wedi cael eu trafod ar lefel rwy'n barod i’w trafod ar lawr y Siambr. Ond bydd yr ymrwymiad i sicrhau bod llais y diwydiant yn hollbwysig i Lywodraeth Cymru yn parhau.

O ran y sector yn gyffredinol, Lywydd, a lle rydym wedi cefnogi llwyddiannau yn y sector, gadewch imi sôn am Cymru Greadigol fel stori gadarnhaol, yn enwedig yn y diwydiant cynhyrchu. Ers sefydlu'r corff yn 2020, mae £26.5 miliwn wedi’i fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Disgwylir y bydd hyn yn arwain at dros £313 miliwn o wariant yn ôl yn economi Cymru. Mae hwnnw’n llwyddiant rwy'n falch ohono. Mae’n llwyddiant y gallwn adeiladu arno, ac mae’n llwyddiant yr edrychaf ymlaen at gydweithio arno, nid yn unig gyda’r Aelod, ond gyda’r diwydiant hefyd, wrth symud ymlaen.

13:45

Diolch, Llywydd. Weinidog, hoffwn innau ychwanegu fy llongyfarchiadau i chi ar eich penodiad, a dwi yn gwerthfawrogi’r ffaith ein bod ni eisoes wedi cael cyfarfod i drafod y portffolios sy’n gorgyffwrdd gennym. Fel y gwnes i ddweud wrthych chi ar yr adeg hynny, a dwi’n falch eich bod chi’n gwybod nad sylw arnoch chi’n bersonol mo hyn, mi ydw i’n siomedig nad ydy diwylliant a chwaraeon o fewn portffolio Ysgrifennydd Cabinet. Maen nhw’n feysydd sydd yn allweddol o ran ein hunaniaeth, ein heconomi a’n lles fel cenedl, ac mi o’n i’n croesawu’n fawr y dyrchafiad a gafodd y portffolio pan ddaeth Vaughan Gething yn Brif Weinidog. Wnaf i ddim eich rhoi chi mewn lle cas drwy ofyn a ydych chi o’r un farn a fi, mai Ysgrifennydd Cabinet y dylech chi fod, ond a gaf i fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda o ran beth ydy’ch gweledigaeth chi a’ch prif flaenoriaethau chi ar gyfer y portffolio hwn? Roeddech chi’n sôn am fod yn llais, ond beth fydd y llais yna’n ei ddweud wrth y Cabinet?

Diolch, Heledd. Unwaith eto, diolch am roi eich amser i gyfarfod â mi yr wythnos diwethaf. Nid wyf am wneud sylw am safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet. Os hoffech ddadlau’r achos hwnnw i’r Prif Weinidog, mater i chi yw gwneud hynny, nid fi. Rwy’n falch iawn o fod yn Weinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn adran yr economi, o dan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

Bydd fy llais ar ran y sector hwn yn uchel ac yn glir. Mae’n sector yr wyf am ei weld yn llwyddo. Yn y sgyrsiau a gaf gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet, maent yn ymwneud i raddau helaeth â ffocws a sut y gallwn rannu ein hunaniaeth ddiwylliannol. Oherwydd rwy’n cytuno â’r Aelod, mae’r sector hwn yn sicr yn ymwneud â llesiant y genedl. Byddaf yn sicrhau ein bod yn llunio cynlluniau gyda’n gilydd i sicrhau bod treftadaeth ein cenedl yn ddiogel at y dyfodol, ond hefyd yn hygyrch i bawb, ni waeth o ble yng Nghymru rydych chi'n dod. A byddaf yn bwrw ymlaen â hynny nid yn unig drwy drafodaethau'r gyllideb, ond drwy’r holl feysydd polisi hefyd.

Yn fy mhortffolio i, os edrychwch ar sgiliau'n benodol ac ar rôl partneriaeth gymdeithasol efallai, bydd y sgyrsiau y mae angen i ni eu cael yn y sector hwn i sicrhau ei fod yn ddiogel at y dyfodol yn digwydd drwy bartneriaeth gymdeithasol er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau. Ac rwy'n ymwybodol iawn o'r rôl rwy'n ei chwarae ym maes sgiliau hefyd, a sicrhau bod gennym weithlu medrus, boed hynny mewn cynhyrchiant, gemau cyfrifiadurol, boed hynny yn ein hagweddau diwylliannol a threftadaeth, neu ym mhob un o'r agweddau eraill sy'n ymwneud â chwaraeon yn ogystal. Felly, rwy’n ymwybodol o’r rôl sydd gennyf i’w chwarae yn hynny hefyd.

Diolch am eich ymateb. Os caf adeiladu ar yr hyn a ofynnodd Tom Giffard i chi, mae'n amlwg, nid yn unig ei fod wedi bod yn gyfnod heriol, ond mae wedi bod yn ddinistriol i nifer o’r sefydliadau sydd yn eich portffolio. Rydym wedi clywed rhybuddion am sefydliadau enfawr yn wynebu'r posibilrwydd o orfod cau eu drysau. Rydym wedi colli nifer fawr o swyddi. Rydych chi wedi sôn am fod yn wydn. Rydym wedi clywed bod sectorau ar ymyl y dibyn mewn nifer o feysydd rydych chi'n gyfrifol amdanynt. Nid oes lle i dorri ymhellach. Mae gwasanaethau allweddol yn cael eu colli. Mae casgliadau cenedlaethol mewn perygl.

Felly, a gaf i ofyn—? Pan oedd Lesley Griffiths yn ei rôl, roedd yn benderfynol iawn o geisio sicrhau’r cyllid ychwanegol hwnnw o iechyd, o addysg, a deall gwerth y rheini. Hoffwn ddeall eich blaenoriaethau yma yn y portffolio hwn. Fe'ch clywaf yn dweud eich bod am fod yn llais, ond beth fyddwch chi'n ei gyflawni i'r sectorau hyn mewn gwirionedd? Beth yw eich blaenoriaethau nawr i’w sicrhau gan y Llywodraeth—? Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn wydn, mae'n ymwneud â goroesi.

Wel, rwy’n cytuno; mae angen inni oroesi, ond mae angen inni edrych ymhellach na goroesi'n unig, ac mae angen inni geisio diogelu’r diwydiant at y dyfodol, fel diwydiant sydd am lwyddo. Rwy’n cytuno, roedd y ffaith ein bod wedi gorfod gwneud y toriadau hynny—ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a chi wedi trafod y materion sy’n ein hwynebu—yn ddinistriol i sefydliadau unigol. Ond gadewch imi dynnu sylw at y cyhoeddiad ym mis Medi gan y Llywodraeth hon o £5 miliwn ychwanegol o gyllid refeniw i gefnogi cyrff hyd braich diwylliant a chwaraeon Cymru. Dyna £725,000 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru; £90,000 i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru; £1.5 miliwn i Gyngor Celfyddydau Cymru; £1 filiwn i Chwaraeon Cymru; £940,000 i Amgueddfa Cymru; a Cadw, £745,000. Mae hwnnw’n swm sylweddol o arian, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu dod o hyd iddo.

Y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud ynghylch cyllidebau eraill, unwaith eto, nid wyf yn mynd i ddechrau trafodaethau am y gyllideb yma heddiw. Ond rwy’n cytuno â chi fod y portffolio hwn a'i gyfrifoldebau, a’r camau y mae’r portffolio hwn yn eu cyflawni, yn cael effeithiau trawsbynciol, yn enwedig o ran rôl iechyd meddwl a llesiant. Mae fy nghyd-Aelod Sarah Murphy a minnau eisoes wedi cael trafodaethau ynghylch y rôl y gall chwaraeon ei chwarae ac ynghylch y rôl y gall y celfyddydau ei chwarae yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl. Dyna fyddaf i'n ei wneud pan fyddaf yn cael y cyfarfodydd hynny—. Nid yn unig yno, ond addysg hefyd. Rydych yn llygad eich lle, y bore yma, roeddwn ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn yr amgueddfa lofaol, ac mae'n wych gweld y gwaith a wnânt i gefnogi'r cymunedau lleol, eu hysgolion lleol. Hoffwn weld mwy o hynny, a gallaf roi sicrwydd i chi mai dyna fyddaf i'n dadlau drosto.

13:50

Diolch. Fel y dywedais ddoe wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, yn amlwg, mae'r £5 miliwn hwnnw i'w groesawu'n fawr, ond nid yw'n crafu'r wyneb. Ac o ran y sectorau hyn, rydym wedi colli pobl yn y rolau hyn, rydym wedi colli arbenigedd, rydym wedi colli'r gallu i gyflawni ar lawer o'r rhaglenni a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobl. Felly, nid yw'n fater o ofyn i'r sefydliadau hyn wneud mwy, ond yn hytrach eu cefnogi i wneud yr hyn roeddent yn ei wneud a chynyddu hynny. Felly, o ran y weledigaeth honno, rydym yn amlwg yn disgwyl strategaeth ddiwylliannol a hoffwn glywed beth yw'r amserlenni, nawr eich bod yn y swydd, ar gyfer y gwaith hwnnw, ond o ran y cyllid i gefnogi'r gyllideb honno hefyd.

Hefyd, pa asesiad a wnaethoch o effaith y toriadau ar alluoedd sefydliadau yr ydych yn darparu llythyr cylch gwaith iddynt i gyflawni ar y llythyrau cylch gwaith hynny? Ac os nad yw hynny wedi digwydd eto, a wnewch chi ymrwymo i wneud hynny, fel y gallwn ddeall yr effaith y mae’r toriadau hyn wedi’i chael ar eu gallu i gyflawni ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? Ac a ydych chi'n derbyn mai ar elfen ddiwylliannol Deddf cenedlaethau’r dyfodol y gwnaed y cynnydd lleiaf arni hyd yn hyn, a sut y dylem unioni hynny?

Diolch. Ar hynny, o ran yr effaith ar y cyrff yr ydym yn darparu llythyrau cylch gwaith iddynt, yr hyn y mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed amdano yn y maes hwn yw gwaith y pwyllgor diwylliant, a gadeirir gan eich cyd-Aelod Delyth Jewell. Deallaf fod llawer o sefydliadau eisoes wedi bod gerbron y pwyllgor, lle mae'r effeithiau—. Wel, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed eu barn ar hynny, a byddant yn cael y sgyrsiau hynny gyda mi yn uniongyrchol, ond hoffwn glywed safbwyntiau’r pwyllgor hefyd i weld sut y gallwn liniaru hynny wrth symud ymlaen. Fel y dywedaf, mae hwn yn sector yr wyf am lwyddo ynddo.

O ran symud ymlaen ac edrych ar sut y gallwn wneud pethau’n well, mae’n rhaid inni feddwl yn wahanol yn y senarios hyn. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa anodd a heriol o ran pwysau cyllidebol, felly mae angen inni ddod ynghyd, mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol, i ddod o hyd, efallai, i ffyrdd amgen o wneud pethau. Dyna fydd yn gwneud i sector diwylliant Cymru lwyddo. Byddaf yn cael y sgyrsiau hynny gyda nifer o randdeiliaid yn y sector. Yr hyn rwy'n awyddus i’w wneud hefyd, fel y dywedais mewn ymateb i Tom, yw cael sgwrs ar lawr y Senedd a chlywed eich barn ar ble y gallwn fwrw ymlaen â hyn. Oherwydd fel y dywedaf, yn y sector hwn, mewn diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth, rwy'n credu ein bod yn perfformio'n well na'r disgwyl yn gyson mewn chwaraeon, a hoffwn barhau i wneud hynny a chefnogi clybiau a gweithgareddau ar lawr gwlad, ac mae mor bwysig, mewn perthynas â diwylliant a'r celfyddydau, ein bod nid yn unig yn eu diogelu at y dyfodol, ond fod gennym uchelgais i dyfu. A chredaf fod hwn yn ymrwymiad a rennir ar draws y Siambr, ac edrychaf ymlaen at gael y sgyrsiau hynny gyda chi.

Lywydd, i gloi, gan fod cyfle gennyf i ddweud hyn, a ninnau'n trafod chwaraeon, ni chredaf y bydd ots gennych imi ddweud 'Pob lwc' i Gymru yn y gemau ail gyfle sydd ar y ffordd ar gyfer pencampwriaeth Ewrop 2025.

Dim problem o gwbl i ddymuno pob lwc i Gymru ar unrhyw lefel ac mewn unrhyw chwaraeon. 

Cynllun Storio Tanfor i Ddal Carbon

3. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynigion ar gyfer cynllun storio tanfor i ddal carbon yn Sir y Fflint? OQ61753

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol a gweinidogol i sicrhau bod prosiectau dal carbon arfaethedig ledled Cymru yn destun rheolaethau rheoleiddiol cadarn, yn hwyluso datgarboneiddio hirdymor ac yn adeiladu economi gryfach a gwyrddach.

Yn gynharach y mis hwn, fe ddywedoch chi mai

'bwriad Llywodraeth Cymru yw darparu datganiad cliriach o'n barn a'n dull gweithredu o ran y defnydd o ddal a storio carbon,'

ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod hyn yn digwydd yn barod. Yn amlwg, nid ydym yn gwybod yn iawn beth yw eich safbwynt ar hyn, ac os caf awgrymu, mae'n teimlo fel pe baech chi'n cysgu wrth y llyw. Nawr, mae perygl y gall technoleg dal a storio carbon roi rhwydd hynt i allyrwyr carbon, gan y gallant barhau i lygru, neu ar y gorau, bydd o leiaf yn arafu'r broses o bontio oddi wrth allyrru carbon deuocsid, a gwyddom fod risgiau a phroblemau difrifol i iechyd y cyhoedd hefyd. Mae enghreifftiau mewn mannau eraill o ollyngiadau a ffrwydradau gan achosi i bobl fygu a gorfod mynd i'r ysbyty. Dywed yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod ganddo beryglon mawr posibl. A yw hynny'n risg rydych chi'n fodlon agor pobl gogledd-ddwyrain Cymru iddi wrth iddynt ddod yn bibell egsôst i'r Deyrnas Unedig?

13:55

Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, yn yr wythnosau nesaf, byddaf yn ymgynghori ar safbwynt polisi Llywodraeth Cymru ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg dal a storio carbon, ond rydym yn canolbwyntio ar ble y gall wneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaus at ddatgarboneiddio wrth inni bontio o ddefnyddio tanwydd ffosil. Buaswn yn rhannu eich pryderon pe bai hyn yn ymwneud ag ymestyn oes tanwyddau ffosil, ond nid dyna yw hyn. Mae rhai sectorau, er enghraifft sment, na ellir eu datgarboneiddio ac eithrio drwy dechnolegau fel dal a storio carbon.

Dyma’r mathau o feysydd y mae’n rhaid inni fod yn realistig yn eu cylch, ac mae hyd yn oed astudiaethau rhyngwladol a gynhaliwyd gan sefydliadau sy'n cynnwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd a’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol oll wedi dod i’r casgliad yn gyson fod dal a storio carbon yn llwybr tuag at leihau allyriadau, ac nad ydym yn mynd i gyflawni ein targedau sero net hebddo. Felly, mae’n dechnoleg y mae’n rhaid i ni ei defnyddio, ond wrth gwrs, mae’n rhaid iddi fod yn ddiogel, ac mae’n rhaid ei wneud drwy’r drefn gynllunio briodol, ac yn y blaen.

Gwn fod Llywodraeth y DU wedi gwneud ystod o waith ymchwil yn y maes hwn, ac rwy'n fwy na pharod i rannu mwy o hynny gyda chyd-Aelodau. Un o’r enghreifftiau sydd gennyf yw'r ddogfen ymchwil a dadansoddi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, a oedd yn trafod storio carbon deuocsid yn ddaearegol ddwfn, oddi ar arfordir y DU, ac roedd hynny’n ymwneud â'i storio'n ddiogel. Felly, roedd hwnnw’n ymchwil penodol a ddangosai lefel uchel iawn o hyder ynghylch diogelwch hirdymor storio carbon deuocsid mewn man dal a storio carbon arferol yn y DU ac o'i chwmpas. Felly, mae'r ymchwil yno ac mae ar gael, a byddwn yn rhannu mwy ohoni pan fyddwn yn dechrau ymgynghori.

Ond er eglurder: mae'r polisi'n ymwneud â rôl dal a storio carbon mewn perthynas â'n taith at sero net, ac mae'n canolbwyntio'n benodol ar feysydd o'r economi na ellir eu datgarboneiddio drwy ddulliau eraill.

Mae rhanbarth clwstwr diwydiannol y gogledd-orllewin yn ymestyn o sir y Fflint a Wrecsam drwy Swydd Gaer, dinas-ranbarth Lerpwl a Manceinion fwyaf i mewn i swydd Gaerhirfryn. Darparwyd £72 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn 2021 i brosiect hydrogen a dal carbon HyNet North West i chwarae rhan hollbwysig wrth i'r DU bontio i sero net, ac felly mae’r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth newydd y DU yn parhau i gefnogi hyn i'w groesawu. Bydd y prosiect yn troi nwy naturiol yn hydrogen carbon isel i bweru diwydiant a thrafnidiaeth a chynhyrchu trydan.

Felly, a ydych chi'n cytuno â'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd fod gan dechnoleg dal a storio carbon rôl i'w chwarae ochr yn ochr â chamau gweithredu eraill i fynd i'r afael ag allyriadau byd-eang? A pha ymgysylltiad rydych chi'n ei gael â diwydiannau sir y Fflint, gan gynnwys gorsaf ynni Cei Connah, gwaith sment Heidelberg Materials yn Padeswood a Pharc Adfer, cyfleuster troi gwastraff yn ynni ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, a oedd yn cynnig cludo carbon deuocsid wedi'i ddal i gyfleusterau storio parhaol ar y môr mewn hen feysydd nwy alltraeth wedi eu haddasu at ddibenion gwahanol, fel rhan o glwstwr diwydiannol HyNet?

Rwy’n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac fel y dywedais mewn ymateb i’r cwestiwn blaenorol, rydym yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd ac amrywiaeth o sefydliadau eraill wedi dweud y bydd dal a storio carbon o reidrwydd yn rhan o'n taith tuag at sero net, yn enwedig os ydym am gyflawni ein targedau sero net mewn pryd. Hoffwn roi sicrwydd i chi ein bod yn cael y trafodaethau rheolaidd hynny; mae swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â HyNet a phartneriaid y consortiwm i ddeall y cynigion yn well ac i gynnig ein cefnogaeth fel y bo'n briodol.

Ac ymwelais â ffatri sment Heidelberg yn ddiweddar gyda'r Gweinidog dros ogledd Cymru i ddeall mwy am y dechnoleg sy’n cael ei hargymell, a’r effaith y byddai’n ei chael ar ddatgarboneiddio cynhyrchiant sment.

Gwn fod pryderon ynghylch maint y prosiect a chwestiynau ynglŷn ag ai dyma’r llwybr cywir tuag at ddatgarboneiddio a’n huchelgeisiau sero net, ond hoffwn ganolbwyntio heddiw ar bryderon ynghylch yr effaith ymarferol bosibl ar fy etholaeth a’r cymunedau ynddi, boed yn darfu yn sgil y gwaith o adeiladu'r bibell gangen o Padeswood i'r safleoedd arfaethedig uwchben y ddaear ger Northop Hall. Rwy’n gwasanaethu, ac rwy’n falch o wasanaethu, ardal sydd wedi’i chreithio’n ddwfn gan ddiwydiant yn y gorffennol, ac nid wyf am i hynny fod yn ddyfodol i ni. Felly, a gaf i ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill, i sicrhau bod pobl a lleoedd yn gwbl ymwybodol o'r broses ac yn rhan ohoni, fod y tarfu a'r effaith ar y dirwedd yn cael eu lliniaru i'r graddau mwyaf posibl, a bod buddion cymunedol yn ystyrlon ac wedi eu mandadu?

14:00

Byddwn yn gwneud y pwyntiau pwysig hynny yn ein trafodaethau gyda HyNet a hefyd gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â phwysigrwydd ymgynghori â barn trigolion yr ardal a rhoi ystyriaeth briodol iddi, ac ynglŷn â gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i'r ardal drwy swyddi newydd ac yn y blaen. Bydd yr effaith ar yr ardal yn cael lle blaenllaw yn ein trafodaethau, a phwysleisio wrth y partneriaid eraill wrth gwrs fod angen ymgynghori'n briodol â chymunedau, fel y bo'n briodol, wrth inni symud ymlaen ar y cynigion hyn.

Datblygiadau Ffermydd Solar Mawr

4. Beth yw meini prawf cyffredinol y Llywodraeth ar gyfer cymeradwyo neu wrthod datblygiadau ffermydd solar mawr? OQ61762

Mae polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer ystyried ffermydd solar mawr wedi'u cynnwys yn 'Polisi Cynllunio Cymru' a 'Cymru'r Dyfodol'.

Diolch am yr ateb yna.

Mae arwyddocâd rhyngwladol i wastadeddau Gwent ac maent yn wirioneddol unigryw o fod yn cynnwys rhwydwaith o gaeau ffrwythlon a chyrsiau dŵr hanesyddol, a elwir yn lleol yn ffosydd draenio, gyda rhai o'r gwlyptiroedd hyn wedi eu hadfer yn wreiddiol o'r môr gan y Rhufeiniaid. Maent yn dal heb eu cyffwrdd i raddau helaeth ers canrifoedd. Yn ogystal â gwartheg, mae'n gartref i fwy na 200 rhywogaeth o bryfed ac infertebratau eraill, gyda llawer ohonynt wedi'u gwarchod oherwydd eu prinder, o fewn safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Mae'n syndod felly, y gallai'r dirwedd anhygoel hon fod yn lleoliad i chwe fferm solar enfawr i fynd gyda fferm solar Llan-wern sydd eisoes wedi'i chymeradwyo. Mae hyn yn golygu bod bron i draean o gyfanswm arwynebedd SoDdGA unigol gwastadeddau Gwent wedi'i gynnig ar gyfer datblygu ffermydd solar. Er fy mod o blaid ynni solar a mathau eraill o ynni adnewyddadwy, yn fy marn i ni ddylid ei leoli o fewn cynefinoedd naturiol allweddol a bregus fel y gwlyptiroedd hyn.

Weinidog, gwn na allwch gynnig barn ar rinweddau ceisiadau cynllunio o'r fath, ond a allwch chi roi syniad pellach o sut y penderfynir ar geisiadau cynllunio o'r fath, a rhoi rhyw arwydd o ba feini prawf sy'n cael blaenoriaeth o fewn y fframwaith cynllunio ar gyfer prosiectau mawr fel y rhain? Pa statws sydd i SoDdGA, asesiadau 'tir gorau a mwyaf amlbwrpas' ac asesiadau effaith amgylcheddol o gymharu â chynhyrchiant ynni a budd economaidd? Diolch.

Y peth cyntaf i'w nodi yw pwysigrwydd gwastadeddau Gwent. Rwy'n credu bod y pwysigrwydd yn cael ei adlewyrchu'n gadarn ym mholisi 'Cymru'r Dyfodol' 9 drwy gael ei dynodi'n ardal adnoddau naturiol cenedlaethol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Mae swyddogion wrthi'n paratoi canllawiau cynllunio pellach ar hyn o bryd yn unol â pholisi 9 'Cymru'r Dyfodol', a bydd hynny'n golygu datblygu canllawiau cynllunio pellach ar gyfer gwastadeddau Gwent, gan weithio gydag awdurdodau lleol a chyda rhanddeiliaid. Mae gwaith cwmpasu ar y sylfaen dystiolaeth ar gyfer hynny yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor ar gyfer gwastadeddau Gwent sy'n cael ei gadeirio gan John Griffiths AS. Mae'n edrych ar sut y gellir gwella diogelwch a rheolaeth ar wastadeddau Gwent. Un o flaenoriaethau strategol y gweithgor hwnnw yw datblygu canllawiau cynllunio gwell i alluogi'r datblygiadau cywir yn y lle iawn ac i osgoi rhagor o effeithiau annerbyniol ar fioamrywiaeth a thirwedd ar wastadeddau Gwent. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi o leiaf rywfaint o sicrwydd ynglŷn â pha mor bwysig yw gwastadeddau Gwent i ni a'r gwaith y bydd John Griffiths yn ei arwain.

Diolch i fy nghyd-Aelod Peredur am godi hyn. Cyn hyn yn y Siambr hon, rwyf wedi nodi ardaloedd gwledig hardd Ynys Môn sydd dan fygythiad ar hyn o bryd gan ddatblygwyr sydd am osod paneli solar ar 3,000 erw o dir amaethyddol gwerthfawr.

Bydd cynllun Maen Hir yn cael effaith niweidiol i'r graddau fod un o'r adroddiadau'n nodi bod posibilrwydd y gallai'r prosiect greu effeithiau economaidd amaethyddol niweidiol o ganlyniad i lai o incwm amaethyddol. Ar ben hynny, mae elfen y prosiect y disgwylir iddo godi incwm i'w wario ar y gymuned leol wedi'i lleoli yn un o leoliadau'r safle sy'n fwyaf agored i lifogydd. Mae hyn yn annheg i'r gymuned. Mae gwrthwynebiad mawr i hyn. Mae 'Cymru'r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040' yn nodi:

'Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid egwyddor datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel o bob technoleg ac ar bob graddfa er mwyn diwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol.'

Mae hynny'n swnio i mi fel pe baech chi'n barod i golli tir amaethyddol a ffermio da er mwyn creu ffermydd solar dros filoedd o erwau. A wnewch chi edrych ar ddiwygio'r polisi cynllunio, os gwelwch yn dda?

14:05

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn. Mae cyd-Aelodau'n gwybod na allaf wneud sylw ar unrhyw gynllun penodol am y bydd y rhan fwyaf o brosiectau solar mawr yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru, ond mae gennym bolisi cynllunio cynhwysfawr a chyfredol sy'n caniatáu ystyriaeth o'r cyfleoedd a'r effeithiau a ddaw yn sgil datblygiadau solar. Mae gennym darged uchelgeisiol iawn o ddiwallu 100 y cant o'n hanghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, ond nid yw hynny'n golygu ein bod yn mynd i roi'r gorau i bolisïau ar gyfer diogelu ein hamgylcheddau a'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr. Mae'n rhaid cael cydbwysedd wrth inni symud ymlaen ar y daith i sero net. Fe ddywedaf, serch hynny, fod 'Cymru'r Dyfodol' yn gwneud datganiad clir am bwysigrwydd tir amaethyddol o ansawdd uchel, gan ei fod yn cael ei ystyried yn adnodd naturiol cenedlaethol o dan bolisi 9, ac mae llawer o fanylion ynghlwm felly wrth sut y caiff y tir hwnnw ei raddio. Ond fel y dywedais, rwy'n sicr yn credu bod 'Cymru'r Dyfodol' yn bendant yn cydnabod pwysigrwydd tir amaethyddol yn ogystal.

Diolch am eich atebion ar y pwyntiau hyn i'r Siambr heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch am yr hyn a ddywedoch chi am waith gweithgor gwastadeddau Gwent, sydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn ac yn dangos ymrwymiad yr ardal leol i ddiogelu'r dirwedd unigryw honno.

Mae rhai o'r materion sy'n codi o ran 'Polisi Cynllunio Cymru' yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, a pholisi 9, yn ymwneud â SoDdGAoedd a graddau'r diogelwch a ddarperir, ac rwy'n croesawu rhai o'r gwelliannau a'r mesurau diogelu gwell sydd wedi'u datblygu hyd yn hyn. Ond fel y sonioch chi, mae gwaith pellach ar y gweill, a tybed a allech chi ddweud ychydig am y gwaith pellach hwnnw yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, a sut y mae'n ymwneud ag effaith gronnol. Oherwydd un o'r problemau gyda ffermydd solar mawr, os oes nifer ohonynt wedi cael caniatâd, yw'r effaith gronnol ar yr ardal. Bob tro y rhoddir caniatâd i un, byddai fel arfer yn gwneud datblygiad pellach yn fwy tebygol wedyn, oherwydd bod y datblygiad hwnnw eisoes wedi digwydd.

Yn olaf, ar amgylchiadau eithriadol, mae yna deimlad fod angen mwy o eglurder mewn perthynas â dehongliad, oherwydd weithiau mae'n ymddangos bod prosiect ynni adnewyddadwy yn cael ei ystyried yn eithriadol ni waeth beth yw natur amgylcheddol y tir dan sylw. 

Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn ac am y gwaith y mae John Griffiths yn ei wneud yn y maes hwn. Credaf fod budd net i bolisi bioamrywiaeth yn bwysig iawn yn y gofod hwn, a gobeithio y bydd hynny'n ceisio lliniaru o leiaf rai o'r effeithiau cronnus hynny, oherwydd mae'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ddilyn y dull 'stepwise' fel modd o ddangos y camau a gymerwyd i sicrhau budd net i fioamrywiaeth. Rwy'n credu y bydd hynny'n gwbl hanfodol. Mae hynny'n golygu gweithio drwy nifer o gamau—felly, osgoi effaith yn y lle cyntaf, ond lleihau a cheisio lliniaru ac adfer wedyn, ac yn y pen draw gwneud iawn ar y safle am unrhyw golledion. Mae hwnnw'n amlwg yn ddewis olaf absoliwt. Credaf fod y dull polisi newydd yn bwysig iawn. Byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i'r pwyntiau penodol ynghylch amgylchiadau eithriadol a sut y gallwn ddiffinio'r rheini'n well, os oes pethau y gallwn eu gwneud i gynnig mwy o eglurder.

Allgymorth Cymunedol gan Gyrff Chwaraeon

5. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â chyrff chwaraeon ynghylch allgymorth cymunedol? OQ61741

Diolch. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr Chwaraeon Cymru yr wythnos diwethaf, lle buom yn trafod cefnogaeth i chwaraeon cymunedol a chwaraeon llawr gwlad, gan gynnwys gan gyrff llywodraethu cenedlaethol a phartneriaid eraill. Mae'r rhan fwyaf o chwaraeon yn cynnwys allgymorth cymunedol yn eu gweithgareddau, ac rwy'n gwerthfawrogi eu cyfraniadau pwysig.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi gweithio gyda nifer o glybiau chwaraeon llawr gwlad yn fy etholaeth—y rhai sydd gennyf mewn golwg yw grwpiau lles Beddau a lles Coed-elái—mae pob un ohonynt wedi datblygu o'u rôl les draddodiadol mewn cymunedau glofaol i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon ac yn y blaen. Mae un o'r cyfraniadau amlwg a wnânt yn ymwneud yn gynyddol nid yn unig ag iechyd corfforol, ond ag iechyd meddwl a lles ehangach y cymunedau hefyd. A gaf i ofyn i'r Gweinidog pa gamau y mae'n eu cymryd i annog clybiau chwaraeon llawr gwlad i chwarae rhan fwy penodol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cefnogaeth i iechyd meddwl yn y cymunedau a llesiant ehangach?

14:10

A gaf i ddiolch i Mick am y cwestiwn pwysig hwnnw a'r pwyntiau a wnaed yn y cwestiwn, ond yn bwysicach, diolch iddo am yr holl waith y mae'n ei wneud yn ei etholaeth ym Mhontypridd yn y maes penodol hwn, yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl, yn cefnogi clybiau chwaraeon a sefydliadau eraill i gefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl?

Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fy mod, ers nifer o flynyddoedd bellach, wedi hyrwyddo'r syniad o rôl clybiau chwaraeon yn cefnogi cefnogwyr a chwaraewyr gyda'u hiechyd meddwl eu hunain. Fe wyddom, oni wyddom, Lywydd, y gall dynion yn enwedig ei chael hi'n anodd bod yn agored a siarad â'i gilydd ynglŷn â sut maent yn teimlo, felly mae darparu lle diogel a lle cyfforddus mor bwysig. Rwy'n credu bod cyfleusterau chwaraeon, yn enwedig chwaraeon llawr gwlad, yn un o'r mannau hynny.

Lywydd, fe wnaeth dau dîm pêl-droed yng Nghymru ennill gwobrau yng ngwobrau llawr gwlad Cymdeithas Bêl-droed Cymru eleni am godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo llesiant meddyliol, yn deillio, yn y ddau achos, o golli chwaraewyr i hunanladdiad: Clybiau Pêl-droed Heolgerrig Red Lion a Chei Connah yn fy etholaeth i, er cof am fy ffrind gorau am 20 mlynedd, Jamie Wynne. Mae hon yn enghraifft arall o arfer da, ond nid mewn pêl-droed yn unig. Mae gan Athletau Cymru bartneriaeth gyda Mind Cymru hefyd, ac yn ddiweddar maent wedi cyhoeddi eu bod wedi hyfforddi 34 o hyrwyddwyr iechyd meddwl mewn 23 o glybiau rhedeg ledled Cymru.

Ar yr hyn y mae'r Aelod yn ei ofyn yn benodol, rwyf eisoes wedi cael cyfle i siarad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru ynglŷn â hyn, yn ogystal â Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Cafodd fy nghyd-Aelod Sarah Murphy a minnau sgyrsiau ynglŷn â lle gall chwaraeon, yn arbennig, chwarae rhan fwy yn cefnogi pobl gyda'u hiechyd meddwl ledled Cymru. Gyda'n gilydd, fe wnawn ddatblygu'r gwaith hwnnw i weld beth allai fod yn bosibl yn y dyfodol.

Weinidog, mae allgymorth cymunedol i'n clybiau chwaraeon yn bwysig iawn, ond hefyd y ffordd y maent yn cysylltu ag iechyd cymunedol. Yr hyn sydd gennym ar draws Cymru yw epidemig o ordewdra, ac rwy'n credu y gall chwaraeon chwarae rhan enfawr yn mynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra sydd gennym ledled Cymru. Felly, hoffwn wybod, Weinidog, beth rydych chi'n mynd i'w wneud i gael gwell cysylltiadau ag iechyd i sicrhau y gall ein clybiau chwaraeon chwarae eu rhan yn rhoi diwedd ar ordewdra ledled Cymru. Pa amserlenni y cawn eu gweld ar gyfer pryd y bydd hyn yn cael ei weithredu a phryd y gwelwn ganlyniadau'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud?

Diolch am hynny, James Evans. Rwy'n gwybod bod gan yr Aelod ddiddordeb angerddol yn y rôl y gall chwaraeon ac iechyd ei chwarae yng Nghymru ac yn ei etholaeth ei hun. A gwn ei fod yn chwaraewr brwd, Lywydd—

Ag yntau'n chwaraewr cymedrol ei hun, mae hynny'n greulon, Sam Kurtz. Na, mae'n dda iawn. Lywydd, rwyf wedi chwarae dartiau yn erbyn James—mae'n llawer gwell na fi.

Ond mae'r rôl y mae'n sôn amdani mewn chwaraeon a'r hyn y gall ei wneud o ran mesurau ataliol ym maes iechyd mor bwysig. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y bydd yr Ysgrifennydd iechyd a minnau, gyda'i Ddirprwy Weinidogion hefyd, yn cael sgyrsiau pellach yn ei gylch, ynglŷn â sut olwg sydd ar hynny wrth symud ymlaen.

Rwyf am nodi raglen Undeb Rygbi Cymru a rhaglen Ffit, Bwydo, Hwyl yr Urdd sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae hynny'n helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac ynysigrwydd, ac mae hefyd yn gwneud pob un o'r pethau y mae James Evans yn dymuno i chwaraeon ei wneud i gael pobl yn ffit, yn iach. Rwy'n ymrwymedig iawn i sicrhau y gall unrhyw un sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru wneud hynny ym mha bynnag gamp a ddymunant, ar ba lefel bynnag, i sicrhau bod gennym genedl iach ar gyfer y dyfodol.

Prosiectau Dal Carbon

6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r achos busnes dros brosiectau dal carbon yng Nghymru? OQ61757

Mae'r cyfrifoldeb am ddangos bod achosion busnes dal a storio carbon yn gwneud y cyfraniad angenrheidiol at ddatgarboneiddio hirdymor ac adeiladu economi gryfach, wyrddach yn dibynnu'n llwyr ar y datblygwr. Er mwyn cael y cydsyniadau angenrheidiol, rhaid i ddatblygwyr ddarparu tystiolaeth yn unol â'n polisïau a nodir yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.

14:15

Ysgrifennydd y Cabinet, mae sawl adroddiad wedi nodi bod dal carbon yn wyddoniaeth heb ei phrofi, ac rydym eisoes wedi clywed rhai pryderon ynglŷn â hynny, yn dilyn cwestiwn Llyr Gruffydd. Ni ddylem synnu bod y diwydiant tanwydd ffosil yn awyddus i fachu ar y llygedyn bach hwn o oleuni fel ffordd o ymestyn hyd oes tanwydd allyrru carbon, yn hytrach na newid i gynhyrchu ynni amgen. O ystyried nifer yr arbenigwyr ynni sy'n dweud nad yw technoleg dal a storio carbon yn werth buddsoddi ynddi, beth allai achos busnes Llywodraeth Cymru fod dros suddo arian i'r dechnoleg amheus hon, pan fo cymaint o opsiynau ynni adnewyddadwy ar garreg ein drws yng Nghymru y gallwn eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu ynni a chynhesu ein cartrefi?

O ran buddsoddiad Llywodraeth Cymru ei hun, fe welwch hwnnw yn y sector ynni adnewyddadwy. Fe'i gwelwch drwy Trydan Gwyrdd Cymru a'r pum prosiect yr ydym yn ceisio eu datblygu yno. Fe'i gwelwch yn ein cefnogaeth ehangach drwy Ynni Cymru i ragor o ffynonellau ynni adnewyddadwy cymunedol hefyd. Felly, o ran ble y gwelwch fuddsoddiad Llywodraeth Cymru, dyna lle mae'n mynd, ac rydym yn glir iawn fod ein dulliau dewisol o ddatgarboneiddio yn parhau i gynnwys lleihau galw, effeithlonrwydd ynni, defnydd o ynni adnewyddadwy a phontio oddi wrth danwydd ffosil. Ac mae angen inni sicrhau nad yw dal a storio carbon ond yn cael ei ddefnyddio pan fydd opsiynau eraill ar gyfer datgarboneiddio wedi'u harchwilio ac wedi eu diystyru'n briodol. Byddwn yn cefnogi'r diwydiant ledled Cymru, os mai'r unig ateb posibl i ddatgarboneiddio ar ôl dihysbyddu pob un o'r opsiynau eraill yw dal a storio carbon. Ac mae'n werth sôn hefyd y bydd unrhyw gynnig ar gyfer dal a storio carbon yn galw am ganiatâd cynllunio, trwyddedau amgylcheddol, trwyddedau morol, trwydded dechnegol ac economaidd ar gyfer gweithgareddau cludo a storio, a bydd gan bob un o'r rheini ofynion technegol ac economaidd heriol y mae'n rhaid eu cyflawni cyn rhoi unrhyw gydsyniad. Ac mae pob cyfundrefn reoleiddiol yn ei gwneud yn ofynnol i'r datblygwr ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth fanwl ar brosesau, effeithiau, monitro a mesurau lliniaru, cyn y gall unrhyw ynni ddigwydd. Ond i ailadrodd, o ran ein buddsoddiadau ein hunain, maent yn bendant yn canolbwyntio ar y gofod ynni adnewyddadwy.

Cenedl Cyflog Byw

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at y nod o Gymru yn dod yn genedl cyflog byw? OQ61749

Diolch. Rydym yn cydweithio â'r mudiad cyflog byw, cyflogwyr, undebau llafur a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo'r cyflog byw gwirioneddol, ac rydym yn annog cyflogwyr ledled Cymru i fabwysiadu'r cyflog hwn a cheisio achrediad i'w hymrwymiad.

Diolch am yr ateb.

Hefyd, llongyfarchiadau ar eich swydd. Mae'n dda cael eich holi chi heddiw. Rwy'n falch iawn fod y cyflog byw gwirioneddol newydd wedi codi i £12.60 yng Nghymru, ac mae'r cyfraddau cyflog byw gwirioneddol bellach yn werth dros £2,262 yn fwy y flwyddyn i'r gweithiwr llawn amser yng Nghymru na'r isafswm cyfreithiol, y cyflog byw cenedlaethol. Mae 582 o gyflogwyr cyflog byw gwirioneddol achrededig yng Nghymru, ac mae mwy na 22,000 o weithwyr yng Nghymru wedi cael codiad cyflog oherwydd y cyflog byw gwirioneddol. Ers 2014, mae holl staff GIG Cymru wedi cael y cyflog byw gwirioneddol, ac yn y maes gofal cymdeithasol, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu helpu gyda chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ond er bod pethau'n mynd rhagddynt yn dda, mae yna lawer o gyflogwyr o hyd nad ydynt yn talu'r cyflog byw gwirioneddol, felly a allai'r Gweinidog awgrymu ffyrdd y gallwn gynyddu nifer y cyflogwyr sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol?

A gaf i ddiolch yn bersonol i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw ac ymuno â Julie Morgan i groesawu'r cyhoeddiad heddiw am y gyfradd cyflog byw gwirioneddol yn codi i £12.60 yng Nghymru? Mae'n wych fod cyflogwyr o ddifrif ynglŷn â hyn yng Nghymru—cyflogwyr fel Trafnidiaeth Cymru a Tiny Rebel. Mae'r Aelod yn iawn i nodi'r gwaith a wnawn yn y maes hwn yn y GIG, ac yn y sector gofal cymdeithasol wrth gwrs. Rydym yn falch o gael yr ymrwymiad hwnnw, ac rwyf am gofnodi fy niolch i Julie Morgan am wireddu'r ymrwymiad hwnnw a'i harweinyddiaeth pan oedd hi'n Weinidog gofal cymdeithasol.

Lywydd, bydd y cyflog uwch a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i filoedd o weithwyr sy'n gweithio i gyflogwyr cyflog byw gwirioneddol ledled Cymru, ac i mi'n bersonol, a'r gymuned dosbarth gweithiol rwy'n dod ohoni, rwy'n ymwybodol iawn o'r gwahaniaeth y bydd hyn yn ei wneud i deuluoedd incwm is sydd â phlant yn arbennig.

Mae'r cyflog byw gwirioneddol nid yn unig o fudd i weithwyr, mae'r dystiolaeth yn awgrymu ei fod o fudd i gyflogwyr yn ogystal â'r gymuned ehangach. Rydym yn agosáu at Wythnos Cyflog Byw ym mis Tachwedd. Mae honno'n gyfle i ddathlu ac annog mwy o gyflogwyr i ystyried talu'r cyflog byw gwirioneddol os gallant, a cheisio achrediad am wneud hynny.

Mae'r Aelod yn gofyn beth arall y gallwn ei wneud yn Llywodraeth Cymru, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gweld a oes mwy i'w wneud yma gyda'r contract economaidd a gwaith Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i annog cyflogwyr i wneud hynny. A gaf i hefyd dalu teyrnged, Lywydd, i'r mudiad yn gyffredinol a mudiad yr undebau llafur, sydd wedi hyrwyddo'r achos hwn ers blynyddoedd lawer, ac wedi sicrhau codiadau cyflog mewn termau real i'w haelodau?

14:20
Datblygu Economaidd ym Mlaenau Gwent

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad datblygu economaidd ym Mlaenau Gwent? OQ61746

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid fel prifddinas-ranbarth Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a busnesau allweddol i sicrhau ffyniant a manteision twf economaidd i bob rhan o dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ddatblygiad Goldworks sydd newydd gael ei agor ym Mlaenau Gwent, a dylwn fanteisio ar y cyfle i'w gwahodd i Flaenau Gwent i fynd i weld y datblygiad hwnnw ac i weld beth sy'n cael ei gyflawni yn y fwrdeistref. Ond wrth i ffordd ddeuol yr A465 gael ei chwblhau, yr hyn a welwn yn y fwrdeistref yw mwy o alw am unedau busnes ac unedau diwydiannol. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, ar ei hymweliad â Blaenau Gwent, gyfarfod â'r awdurdod lleol a minnau i drafod sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi yn y mathau o amgylcheddau busnes sydd eu hangen arnom yn y fwrdeistref i fanteisio'n llawn ar y buddsoddiad a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru ar ddeuoli'r A465?

Diolch i Alun Davies. Rwy'n hapus iawn i dderbyn ei wahoddiad caredig i ymweld â Blaenau Gwent. Gwn fod fy rhagflaenydd hefyd wedi cael taith ddiddorol iawn o amgylch rhai o'r uchafbwyntiau mewn perthynas â buddsoddiad Llywodraeth Cymru a'r cyfle i siarad am bethau ychwanegol y gallem eu gwneud gyda'n gilydd hefyd. Ac fel y dywed Alun Davies, ariannwyd y gwaith o adeiladu canolfan fusnes Goldworks gan Lywodraeth Cymru. Menter ar y cyd oedd honno gyda'r cyngor, a'i gosod wedyn gan Blaenau Gwent, gan ddefnyddio rhywfaint o arian o'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae adeiladau eraill a adeiladwyd gennym ym Mlaenau Gwent yn cynnwys uned Rhyd y Blew—mae honno'n 50,000 troedfedd sgwâr, ac mae cais amdani wedi dod gan fusnes peirianneg lleol sydd eisiau ehangu—a hefyd Tech Valleys House y mae dau fewnfuddsoddwr credadwy wedi dangos ddiddordeb ynddo. Felly, unwaith eto, pethau cadarnhaol iawn. A rhwng y ddau fuddsoddiad hwnnw, rwy'n credu bod hynny wedi galw am gyllideb o fwy na £10 miliwn. Felly, mae'n fuddsoddiad sylweddol iawn ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n cynnwys Tech Valleys House wrth gwrs. 

Gwn fod Menter Cymoedd y Gogledd hefyd wedi nodi eiddo fel un o'r tri phrif le y mae am edrych arnynt. Felly, rydym yn barod i gefnogi'r gwaith hwnnw hefyd. Felly, os caf gydnabod pwysigrwydd cael unedau ar gael i fusnesau symud i mewn iddynt ac ehangu yn bwysig iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fy nhaith o gwmpas Blaenau Gwent.  

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Jenny Rathbone. 

Deddf Gofal Gwrthgyfartal

1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw gofal sylfaenol yn ddarostyngedig i'r ddeddf gofal gwrthgyfartal? OQ61758

Wel, 53 mlynedd ers sefydlu'r cysyniad o'r ddeddf gofal gwrthgyfartal gan Julian Tudor Hart a hefyd Brian Gibbons a aeth ymlaen i ddod yn Aelod o'r Senedd hon wrth gwrs, yn anffodus mae'r ddeddf hon yn parhau i fod yn realiti'n rhy aml ar draws y DU Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gweithio dros Gymru lle nad yw'r ddeddf hon yn gymwys mwyach. 

Diolch, ac rwy'n llwyr gymeradwyo eich sylwadau am bwysigrwydd gwaith Julian Tudor Hart yn sicrhau bod hyn yn dod yn flaenllaw ym meddyliau'r rhan fwyaf o glinigwyr. Ond roeddwn yn drist iawn i ddarllen ymchwil gan Brifysgol Caerdydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd fis Awst, yn awgrymu bod meddygfeydd yn y llefydd tlotaf dan anfantais ariannol. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd yn ariannu timau gofal sylfaenol yn deg fel bod y rhai sy'n gwasanaethu'r cymunedau tlotaf, ac felly, y bobl fwyaf sâl, yn cael y gefnogaeth fwyaf. 

Wel, darllenais innau yr adroddiad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ei chwestiwn hefyd, a chroesewais ei gyhoeddiad am ei fod yn taflu goleuni ar fater dyrannu cyllid i bractisau sy'n gwasanaethu ardaloedd mwy difreintiedig. Fel Llywodraeth fe fyddwn yn parhau i ystyried tystiolaeth newydd ar effeithiau anghydraddoldeb ar iechyd a chyllid gofal sylfaenol a sut y gallwn sicrhau bod adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg. Roedd un o awduron yr adroddiad yn gyn-gadeirydd Deep End Cymru, ac rwy'n falch ein bod, yng nghyd-destun gofal sylfaenol, yn cyfrannu at ariannu'r prosiect hwnnw yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y canfyddiadau y bydd y prosiect yn eu cynhyrchu ar gyfer y ffyrdd gorau o gefnogi meddygon teulu sy'n gweithio mewn amgylchiadau heriol mewn cymunedau sydd â'r lefelau amddifadedd uchaf. Yn ogystal â'r fformiwla, sydd i gyfrif am ddwy ran o dair o'r cyllid ar gyfer meddygfeydd teulu yn ôl pob tebyg, mae gwaith da yn digwydd ar draws clystyrau meddygon teulu ar nodi'r ymyriadau pellach y gellir eu hariannu a fydd yn cynorthwyo, drwy'r set o drefniadau cyflym ar gyfer datblygu clwstwr, i wneud buddsoddiad pellach mewn gwasanaethau sydd o werth arbennig i'r cymunedau y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt yn ei chwestiwn.

14:25

Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi blynyddoedd cynnar a'r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn allweddol i wella canlyniadau iechyd tymor byr a hirdymor. Mewn gwirionedd, gall tlodi yn ystod plentyndod arwain at ganlyniadau iechyd gwael pan fyddant yn oedolion fel asthma, gordewdra, iechyd meddwl gwael, y mae angen gofal sylfaenol mawr ar bob un ohonynt.

Fel y gwyddoch, mae cyfraddau tlodi wedi parhau'n uchel yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf, gyda phlant yn gyson yn wynebu'r risg uchaf o unrhyw grŵp oedran o fyw mewn tlodi. Mae'r dystiolaeth yn glir fod plant sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o fod angen cymorth meddygol dwys. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd i geisio mynd i'r afael ag un o'r ffactorau sylfaenol gwaelodol sy'n golygu bod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas angen y gofal iechyd dwys hwn?

Mae'r Aelod yn gywir i ddweud y gall effaith tlodi, yn enwedig ar y blynyddoedd cynnar, achosi heriau gydol oes yn aml iawn ac mae'r GIG yno i gefnogi'r unigolion hynny, ond maent yn heriau cymdeithasol ehangach yn y ffordd y mae'r Aelod yn cydnabod yn ei chwestiwn, yn deg iawn yn fy marn i. Dyna pam y mae ein hymrwymiad fel Llywodraeth i Dechrau'n Deg ac i'r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn mor bwysig, oherwydd rydym yn cydnabod mai drwy sicrhau ein bod yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd, y cyd-destun mwyaf cefnogol, i bob unigolyn y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Cymorth i Fyfyrwyr Prifysgol

2. Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod cymorth ar gael i fyfyrwyr prifysgol â meddyliau hunanladdol? OQ61742

Rydym yn disgwyl i sefydliadau addysg uwch roi anghenion dysgwyr yn y canol yn y system i ddiogelu eu hiechyd meddwl a'u llesiant meddyliol. Mae ystod o gymorth iechyd meddwl ar gael i fyfyrwyr, sy'n cael ei ddarparu gan brifysgolion, y trydydd sector a gwasanaethau iechyd y GIG.

Iawn, diolch am hynny. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod pethau'n mynd o chwith weithiau, ac mae'n fater o sut y cânt eu nodi a'r gwersi a ddysgir wrth symud ymlaen. Y diwrnod o'r blaen, cyfarfûm â rhieni Mared Foulkes. Maent yn dal i alaru nawr ar ôl y sefyllfa frawychus yno, pan roddwyd canlyniadau arholiadau anghywir, ac fe gollodd ei bywyd o ganlyniad.

Rwy'n ymwybodol o'r ymgynghoriad ar gynllun strategol y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Fel y mae'n dweud yn y cynllun, 'bydd telerau ac amodau cyllido'n dod yn gyfrwng ar gyfer arfer ein pwerau rheoleiddio.' Nawr, yr hyn a'm diflasodd oedd bod y rhieni'n gweithio'n galed iawn ar hyn o bryd i sicrhau nad yw hyn yn digwydd i neb arall, ac felly maent wedi ysgrifennu papur. Maent wedi dosbarthu'r papur hwnnw i'r Senedd—pob Aelod Seneddol, pob Aelod o'r Senedd hon. Fodd bynnag, nid yw'r ymateb wedi bod yn wych. Rwy'n ei chael hi'n anghredadwy y gallai rhywun ysgrifennu i mewn, i dynnu sylw at eu tystiolaeth eu hunain o'r hyn a welsant—. Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei chyhuddo gan y rhieni—ac maent wedi dweud y caf ei godi yma heddiw—o ddiffyg tosturi, o ddiffyg ymateb i'r hyn ddigwyddodd i Mared. Dyma ferch ifanc na fydd yn gweld y bywyd y dylai fod wedi ei gael ac mae'n rhaid dysgu gwersi o sefyllfa fel hon.

Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i gydweithredu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau bod gan bob prifysgol yng Nghymru fesurau cryfach ar waith i ofalu am y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, er mwyn sicrhau nad yw'r canlyniadau arholiadau anghywir byth yn digwydd eto, a bod—? Mae hyn yn anodd iawn i mi. Mae hon yn farwolaeth y gellid bod wedi'i hatal, ac mae'n rhaid dysgu gwersi, ac rwyf am estyn allan at Brifysgol Caerdydd, gan ddefnyddio'r fforwm hwn: ymatebwch i'r teulu hwn, gweithiwch gyda nhw i sicrhau nad oes unrhyw brifysgol arall yng Nghymru, na'r DU mewn gwirionedd, yn colli myfyriwr yn y ffordd hon. Diolch.

14:30

Ie. Diolch yn fawr iawn, Janet Finch-Saunders. Rydych yn llygad eich lle—roedd hon yn farwolaeth y gellid bod wedi'i hatal ac na ddylai fod wedi digwydd. Rwy'n cydymdeimlo â rhieni Mared, sydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac sydd, yn y cyfamser wrth inni baratoi’r ymateb, wedi cael gohebiaeth gan fy swyddogion hefyd i ddiolch o galon iddynt a chydnabod yr holl waith y maent yn parhau i'w wneud i sicrhau, fel y dywedoch chi, nad yw hyn byth yn digwydd eto. Hoffwn nodi hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, bellach, yn ei rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, wedi cyfarfod â’r teulu—wedi cyfarfod â Mr a Mrs Foulkes—i drafod hyn hefyd ac i roi sicrwydd iddynt y bydd hyn yn bendant yn gwneud gwahaniaeth. Rwyf bellach yn gyfrifol am y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio a fydd yn cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Gallaf roi sicrwydd i chi fod yr hyn y maent wedi’i rannu wedi chwarae rhan enfawr yn hyn.

Rwyf hefyd wedi cyfarfod â fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Hwn oedd y cwestiwn cyntaf i ni ei drafod: sut rydym yn sicrhau nad yw’r pethau hyn yn digwydd? Sut rydym yn sicrhau bod myfyrwyr, pan fyddant oddi cartref fel arfer, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt? A chredaf fod hynny bob amser yn bryder i rieni—bob amser yn bryder.

O ran Prifysgol Caerdydd, maent bellach wedi ymgeisio i fod yn rhan o brosiect ymchwil ledled y DU a fydd yn edrych ar ba ymyriadau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae'n cael ei arwain gan Brifysgol Caerwysg. Rwy'n falch iawn o weld eu bod wedi ymgeisio i fod yn rhan o hyn, gan gydnabod, rwy'n credu, fod gwir angen iddynt ddysgu o hyn a gweld beth sy'n gweithio. Ond rydych chi'n llygad eich lle—mae gennym Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 erbyn hyn, ac mae gennym brosiect Medr. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer hyn, ond rydym hefyd yn disgwyl gweld canlyniadau ac yn disgwyl i hyn beidio â pharhau i ddigwydd. Diolch.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn sôn am Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a sut y mae'n rhyngweithio â Deddf Iechyd Meddwl 1983. Mae ansicrwydd, wrth gwrs, ynglŷn â’r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan fod Llywodraeth Keir Starmer wedi addo diwygio’r Ddeddf yn raddol, ond nid oes amserlen wedi'i phennu ar gyfer hyn eto. Ond un mater a godwyd ynghylch y Mesur iechyd meddwl, ar ôl 14 mlynedd ar y llyfr statud, yw nad yw'r Mesur yn cael ei orfodi ac nad yw mynd yn groes i’w orchmynion yn arwain at unrhyw ganlyniadau gwirioneddol, yn wahanol i'r Ddeddf Iechyd Meddwl, sydd â mwy o rym. O ystyried yr amser y bydd yn ei gymryd i ddeddfu ar gyfer Deddf iechyd meddwl i Gymru, byddai’n gwneud mwy o synnwyr i ddiwygio’r Mesur iechyd meddwl i gynnwys cod ymarfer newydd a fyddai’n cryfhau’r Mesur ac yn sicrhau cydymffurfiaeth. Mae’r Mesur hefyd yn 14 oed, ac nid oes unrhyw welliannau atodol wedi’u hawgrymu iddo, megis y rheini a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, James Evans, sy’n cynnwys dileu’r terfyn oedran ar gyfer pwy a all ofyn am ailasesiad o’u hiechyd meddwl, a diwygio’r Mesur i ehangu’r gallu i ofyn am ailasesiad i bobl a enwebir gan y claf. Felly, a all y Gweinidog ddweud a fydd Llywodraeth Cymru yn ailasesu’r Mesur iechyd meddwl i ystyried elfennau a allai fod wedi dyddio ac i ystyried cryfhau’r cod ymarfer i sicrhau bod mwy o bwysau gan y Mesur nag mewn lleoliad clinigol yn unig?

Diolch am eich cwestiwn. Yn ddiddorol, cyfarfûm â Gweinidog Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb am hyn, y Farwnes Merron, y bore yma. Mae'n sicr yn dal i ddigwydd. Roedd yn Araith y Brenin. Rydym yn falch iawn y bydd yn mynd rhagddo gan fod cymaint o waith wedi'i wneud ar hyn gan randdeiliaid, gan wleidyddion. Bu cymaint o ddadlau gwirioneddol adeiladol am hyn yn San Steffan, ac o ddifrif, roedd bron iawn yn barod a chredaf ei bod yn drueni na lwyddodd. Felly, credaf fod llawer o bobl wedi croesawu'r ffaith, ac wrth eu boddau, mai hwn yw un o’r Biliau cyntaf a godwyd gan Lywodraeth Lafur newydd y DU, gan y gwyddant pa mor bwysig yw'r gwaith hwn.

Felly, cawsom sgwrs adeiladol iawn amdano y bore yma. Mae arnaf ofn, serch hynny, nad wyf yn mynd i allu gwneud sylw ar Fil nad wyf wedi’i weld. Felly, rwy’n cytuno â chi—mae llawer o’r pethau rydych chi wedi eu nodi yn bethau y buaswn yn disgwyl eu gweld ynddo, ac maent wedi bod mewn drafftiau cychwynnol, ond hyd nes y gwelwn y drafft terfynol, a fydd, gobeithio, yn dod cyn bo hir, ni fyddaf yn gallu gwneud sylw ar ei fanylion. Ond credaf fod hwn yn Fil rhagorol fel man cychwyn. Cyfarfûm â James Evans yr wythnos hon hefyd. Nid fy lle i yw trafod Bil Aelod James a'i ddyfodol, ond rydym wedi cael sgyrsiau adeiladol iawn, ac rwy’n edmygu popeth y mae James wedi’i wneud.

14:35

Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, ac rwy'n deall y sylwadau a wnewch ar y Ddeddf, ond mae fy nghwestiwn yn ymwneud i raddau mwy â'r Mesur a beth y gallwn ei wneud fel Senedd Cymru, ac yn wir, chi fel Llywodraeth Cymru, er mwyn ehangu’r hyn a gyflwynwyd yma 14 mlynedd yn ôl, a sut y gallwn wella hynny a chynyddu hynny'n gyfres ehangach o fesurau modern y gallwn eu hymgorffori yn y pethau presennol y cytunwyd arnynt 14 mlynedd yn ôl, ond wedyn hefyd ei ymgorffori, ac fe all, yn wir, symud gydag amser. Felly, mae a wnelo â'r sgyrsiau, mae a wnelo â Llywodraeth Cymru a’ch gwaith chi mewn perthynas â'r Mesur a’r hyn sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, a sut y gall hynny weithio gyda Deddf Iechyd Meddwl bresennol 1983, a sut y gall hynny gyd-fynd a gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd symlach, oherwydd yn aml, mewn ymarfer iechyd meddwl, ceir dadl fewnol ymhlith gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, sy'n dweud bod dryswch ynghylch sut i ddehongli'r Ddeddf, ac yn wir, y Mesur hefyd. Felly, sut y gellir symleiddio'r rheini gyda'i gilydd mewn ffordd fwy cryno, a fyddai'n gwneud bywyd yn haws i weithwyr proffesiynol, ac yn wir, yn sicrhau'r gofal iawn ar gyfer y claf iawn ar yr adeg iawn?

Diolch. Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedwch, ac ni chredaf ein bod yn anghytuno yma. Rydym yn sicr ar yr un dudalen, gan mai dyna ble'r hoffem ei gyrraedd. Y rheswm pam y cafodd Bil James Evans gefnogaeth y Llywodraeth oedd am ei fod yn mynd i gyflawni llawer o’r pethau hynny. Fel y mae, mae’n gynnig deddfwriaethol o hyd, ar yr amserlen sydd gennym. Felly, mae hynny'n sicr yn—. Dyna pam y gwnaethom ei gefnogi, gan mai dyna y byddai'n ei wneud—popeth rydych chi newydd ei nodi, dyna y byddai'n ei gyflwyno, a'r hyn y byddai Llywodraeth Cymru wedi'i wneud wedyn yw edrych ar yr holl bethau hynny rydych chi wedi'u nodi. Felly, ar hyn o bryd, yn anffodus, tra ydym yn y lle hwn lle mae Bil James yn dal i fynd rhagddo, mae hynny'n rhywbeth i James ei drafod a'i rannu, ac rydym yn sicr yn ceisio cyrraedd yr un lle. Felly, dyna ble rydym arni. Rwyf wedi cyfarfod â James Evans yr wythnos hon i drafod hynny.

Rwy’n falch eich bod wedi cael y trafodaethau hynny gyda James Evans ynghylch ei gynnig deddfwriaethol, ond unwaith eto, mae'r cwestiwn yn ymwneud â’r Mesur. Mae’r Mesur wedi bod ar waith ers 14 mlynedd, ac mae’n gorfodi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ymarferwyr iechyd meddwl i anrhydeddu’r hyn y cytunwyd arno yn y Senedd hon 14 mlynedd yn ôl. Ac mae hynny wedi'i wreiddio mewn ymarfer ar draws pob un o awdurdodau iechyd Cymru, a phob un, yn wir, o'r awdurdodau lleol a'r sectorau trydyddol hynny sy'n gweithio gyda gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn fod cydnabyddiaeth gan y Llywodraeth, yn eich cyd-destun chi, i gydnabod rôl y Mesur, deall ei fod wedi bod ar waith ers 14 mlynedd, a sut y gall fod yn hyblyg yn wir, o ystyried ei fod wedi'i ymgorffori ers cyhyd, cael ei ddiweddaru a gweithio mewn ffordd symlach, fel y crybwyllwyd, gyda'r Ddeddf. Felly, o ran yr elfen wleidyddol, gan fod gennym Lywodraeth Lafur yn San Steffan bellach a Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru, pa sgyrsiau y gallwch eu cael gyda'ch cymheiriaid ar ben arall yr M4 i symleiddio'r penderfyniadau hyn mewn ffordd sydd, fel y dywedaf, yn iawn i'r claf, yn iawn ar gyfer darparu gofal ac yn iawn i'r gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol hefyd?

Diolch. Iawn, wel, i brofi ein bod ar yr un dudalen yma, rwy'n cydnabod y rôl, rwy'n cydnabod ei bod wedi bod yn 14 mlynedd, rwyf am ei symud ymlaen, rwyf am iddo gael ei ddiweddaru, ac rydym am iddo gael ei symleiddio. Ar bob un o’r pethau hynny, rydym yn cytuno’n llwyr. Ar hyn o bryd, yr hyn rydym yn edrych arno yw bod gennym Fil Aelod sy'n anelu at gyflawni llawer o'r pethau hynny, sydd yma, ac rwyf wedi cyfarfod â James Evans yn ei gylch yr wythnos hon. Felly, rwyf wedi edrych arno mewn cyd-destun Cymreig, gyda fy swyddogion, a dyna'n union rydym yn edrych i weld a allwn ei gyflawni. Ac ar yr ochr arall, fel rydych newydd ofyn, am yr hyn rydym yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU, rwyf hefyd wedi cyfarfod â Llywodraeth y DU y bore yma i drafod yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud gyda'u Bil iechyd meddwl a sut y gallai hwnnw weithio gyda'r ddwy Lywodraeth gyda'i gilydd, fel y gallwn gyflawni'r holl bethau a nodwyd gennych. Diolch.

Diolch, Llywydd. Llywydd, yn ystod ymddangosiad yr Ysgrifennydd Cabinet ar un o raglenni gwleidyddol y Sul yn ddiweddar, fe wnaeth o ddisgrifio’r bartneriaeth newydd rhwng yr NHS yng Nghymru a’r NHS yn Lloegr fel ffordd newydd o weithio, cyn sôn mai’r cyfan oedd y bartneriaeth yna, mewn gwirionedd, oedd dysgu arferion da. Ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud wrthym ni, felly, nad oedd yr NHS yng Nghymru yn dysgu ac yn edrych ar arferion da o Loegr cyn hyn?

14:40

Mae diddordeb yr Aelod mewn proses ar draul allbwn yn eithaf trawiadol. [Chwerthin.] Ond, er mwyn ateb ei gwestiwn e, yr hyn sy'n newydd yw’r parodrwydd a welwn ni gan Lywodraeth yn San Steffan i weithio gyda’r Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru mewn ffordd agored, gydweithredol. Dyna sydd yn newydd yn hyn o beth. Mae e wastad yn bwysig i edrych ar arfer dda, o ble bynnag mae hynny’n dod, yn cynnwys o fewn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Gyfunol, ond beth sydd yn newydd yw’r brwdfrydedd ar ran Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan i gydweithio â ni.

Diolch am yr ateb yna. 

Nawr, rwyf i, a llawer o bobl yng Nghymru yn wir, yn ddryslyd ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar restrau aros yng Nghymru. Pan ofynnwyd iddo ai’r cynllun yw anfon cleifion o Gymru i Loegr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, yn ei eiriau ef,

'Nid dyma rydym yn sôn amdano'.

Ac eto, mae Ysgrifennydd Cymru yn mynnu y bydd cleifion o Gymru yn cael gofal a gynlluniwyd mewn theatrau mewn ysbytai yn Lloegr. Felly, faint o gleifion o Gymru, yn ychwanegol at y rheini sy’n derbyn gofal a gynlluniwyd yn Lloegr eisoes, fydd yn cael triniaeth mewn theatrau mewn ysbytai yn Lloegr?

Cyfeiriaf yr Aelod at y cyhoeddiad a wnaeth y Llywodraeth— bythefnos yn ôl, mae’n debyg, rwy'n credu, neu ychydig o dan hynny ar y pwynt hwn—sy’n nodi lefel y gweithgarwch o ran pobl o Gymru sy’n cael eu trin yn Lloegr a phobl o Loegr sy'n cael eu trin yng Nghymru. Mae honno’n gyfres bragmatig iawn o drefniadau hirsefydlog, sydd ar waith am resymau da iawn—am resymau daearyddol, rhesymau'n ymwneud â bodolaeth arbenigeddau—a byddaf yn gweithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros iechyd i archwilio a oes cyfleoedd i gydweithio'n agosach, ac rwy’n siŵr y bydd. A bydd hyn, wrth gwrs, yn adeiladu ar y bartneriaeth bresennol rhwng y ddau GIG, sydd eisoes yn golygu bod miloedd o bobl o Loegr yn derbyn eu gofal yng Nghymru ac fel arall.

Felly, os caf grynhoi'r hyn rydych wedi'i ddweud, a'm dealltwriaeth i, rydych chi wedi dweud wrthym fod yr arfer gorau, yn y bôn, eisoes yn cael ei rannu rhwng GIG Cymru a GIG Lloegr beth bynnag, ond eich bod chi'n edrych am ffordd well, efallai, o weithio'n agored gyda'n gilydd. Nid oes capasiti ychwanegol yn y GIG yn Lloegr i ddarparu mwy o driniaeth i gleifion o Gymru, ond rydych chi'n edrych ar archwilio’r posibiliadau hyn, ac nid yw byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd ar y naill ochr i’r ffin na'r llall wedi cael unrhyw ohebiaeth ynghylch unrhyw fath o bartneriaethau cydgymorth neu unrhyw gytundebau eraill. Felly, yr unig beth sydd wedi dod o'r polisi newydd hwn mewn gwirionedd yw grŵp cynghori i helpu Ysgrifennydd y Cabinet gyflawni gwell polisi, ond na fydd cleifion yn gweld unrhyw fanteision diriaethol. A yw hwnnw’n grynodeb teg, neu a all Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar sut yn union y bydd rhestrau aros yn lleihau o ganlyniad i’r polisi hwn sy'n bachu'r penawdau?

Wel, fe ŵyr yr Aelod fy mod wedi gwneud cyhoeddiad, dair wythnos yn ôl mae’n debyg, a oedd yn nodi’r trefniadau yr ydym yn eu rhoi ar waith ar gyfer grŵp o bobl sydd â phrofiad sylweddol o leihau rhestrau aros. Byddant yn cael y dasg o nodi'r trefniadau sydd gennym ar waith ar hyn o bryd, a byddant hefyd yn ein cynghori ar drefniadau y gallem ystyried eu rhoi ar waith i wella perfformiad ar draws y GIG, gan gynnwys mewn perthynas â rhestrau aros. Rwy’n disgwyl cyfarfod â hwy yn y dyddiau nesaf wrth iddynt ddechrau ar eu gwaith, a byddaf yn cyhoeddi’r cylch gorchwyl unwaith y byddant wedi ei ystyried yn eu cyfarfod sydd i ddod. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn caniatáu i’r grŵp hwnnw o bobl wneud ei waith. Nawr, mae gennym nifer o fentrau ar waith eisoes er mwyn lleihau amseroedd aros, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau am ragor ohonynt cyn bo hir. Ond bydd y grŵp hwn o bobl yn dod â'r wybodaeth orau, y profiad gorau, a'r arferion gorau i fynd i'r afael â her barhaus. Rwy'n gobeithio y byddant yn ein hannog i fod yn feiddgar yn ein hymateb ac i ddysgu gan y corff ehangaf posibl o brofiad, gan ein bod am i’r GIG yng Nghymru allu cael ei ysbrydoli gan arfer da yng Nghymru a thu hwnt.

14:45
Gofal Iechyd Cymunedol yn Nyffryn Clwyd

3. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth gofal iechyd cymunedol yn Nyffryn Clwyd? OQ61765

Gwnaf. Ein gweledigaeth yn 'Cymru Iachach' yw i bobl gael mynediad cyfartal at ystod gynyddol o wasanaethau cymunedol i'w cefnogi i gadw'n iach a byw'n annibynnol. Disgwyliwn i bartneriaid lleol gydweithio i feithrin capasiti cymunedol a chynllunio a darparu gwasanaethau integredig ac ataliol.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae pryderon wedi’u codi gyda mi ynghylch pa mor hawdd yw cael addasiadau yn y cartref a chyllid i bobl sy’n byw gydag anableddau yng Nghymru. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi bod cymhwystra yn golygu bodloni’r set o feini prawf cenedlaethol ar gyfer oedolion, plant a gofalwyr. Mae llawer o etholwyr y cyfarfûm â hwy wedi wynebu anawsterau i gael cyllid ar gyfer addasiadau yn y cartref ac offer anabledd a ariennir gan y GIG, gan fod set anhyblyg o feini prawf i’w bodloni. Mae pedair amod wedi’u nodi gan y ddeddfwriaeth y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn cael mynediad at y cyllid, ond ceir llawer o bobl anabl â symudedd cyfyngedig nad ydynt yn bodloni pob amod. I gleifion â chyflyrau prin sydd ond yn bodloni rhai o’r amodau, maent yn ei chael hi’n anodd cael cyllid ar gyfer yr offer cywir ar gyfer eu cartref, ac nid yw’r hyn a gynigir iddynt yn bodloni eu gofynion. Gall y fiwrocratiaeth fod yn anodd hefyd, ond gall cael mynediad at gyllid ar gyfer offer hygyrchedd ysgafnhau'r baich ar y gwasanaeth iechyd yn sylweddol drwy ganiatáu i bobl ag anableddau gael cyfleusterau i fyw gartref. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i adborth gan bobl ag anableddau i symleiddio'r broses o wneud cais am gyllid ar gyfer addasiadau yn y cartref ac offer gan y GIG a fydd, yn y pen draw, yn ysgafnhau'r baich ar ddarpariaeth gwasanaethau'r GIG? Diolch.

Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig, ac rwy’n cytuno’n llwyr â byrdwn ei gwestiwn, sef, fel y gwyddom—. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld hyn yn fwyaf diweddar gydag adroddiad Darzi ar gyfer y GIG yn Lloegr, onid ydym, fod gallu cynyddol y GIG i ddarparu gofal i bobl yn eu cartrefi neu yn y gymuned yn rhan gwbl hanfodol nid yn unig o sicrhau bod y gwasanaeth y gall y GIG ei ddarparu yn gadarn, yn wydn ac yn gynaliadwy, sy’n amlwg yn hollbwysig, ond hefyd y byddai’n well gan y rhan fwyaf o bobl gael y gofal iechyd priodol mor agos i’w cartrefi â phosibl. Felly, dyna’n sicr yw byrdwn polisi’r Llywodraeth hon. Os oes rhwystrau penodol y mae’r Aelod wedi’u nodi y gallwn helpu i’w datrys, os gall nodi’r rheini i mi mewn gohebiaeth, fe edrychaf i weld beth arall y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r pwyntiau penodol hynny.

Canlyniadau i Gleifion Canser

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau i gleifion canser? OQ61739

Mae ein dull gweithredu wedi’i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser, a nododd y GIG pa gamau y bydd yn eu cymryd yn y cynllun gwella gwasanaethau canser. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys ein buddsoddiad mewn canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr.

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Bob blwyddyn, mae bron i 20,000 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser. Mae’n gyflwr gwirioneddol greulon, gydag un o bob dau o bobl yn y DU yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes. Roedd fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru yn arfer bod yn gartref i ganolfan ganser arloesol a oedd yn defnyddio therapi pelydr proton, math o radiotherapi mwy targededig. Caeodd canolfan Rutherford ei drysau yn 2022, a oedd yn ergyd enfawr i gleifion canser a’r gymuned ehangach yn gyffredinol. Cafwyd adroddiadau yn dilyn cau'r ganolfan y gallai'r Llywodraeth gymryd yr awenau o bosibl, ond nid yw'n edrych fel pe bai hynny wedi digwydd.

Ysgrifennydd y Cabinet, o'r hyn a ddeallaf, mae holl offer achub bywyd arloesol y ganolfan yn parhau i fod mewn adeilad adfeiliedig hyd heddiw. Yn wir, gellid gwneud defnydd da iawn o’r offer hwn yn ein gwasanaeth iechyd i drin cleifion canser Cymru, yn hytrach na'i fod yn hel llwch. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw sgyrsiau am gaffael yr offer hwn i'w ddefnyddio yn ein GIG? Ac os na, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio ymhellach i weld a ellir gwneud hyn? Diolch.

Diolch am eich cwestiwn pellach. Yn bersonol, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau o’r fath. Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi’n drwm mewn gwasanaethau canser, fel y byddai’r Aelod yn ei ddisgwyl, o ystyried lefel y flaenoriaeth yr ydym yn ei rhoi, ac y gwn ei bod hithau'n ei rhoi, i wasanaethau canser da. Degau o filiynau o bunnoedd ar gyfer offer, cyfleusterau a hyfforddiant, yn ogystal â moderneiddio ac ehangu rhaglenni sgrinio, ac yn hollbwysig, cyflwyno canolfannau diagnosis cyflym o'r math y cyfeiriais atynt yn fy nghwestiwn cychwynnol. Felly, byddwn bob amser yn edrych i weld beth arall y gallwn ei wneud, beth arall y gallwn ei wneud i ddwyn ynghyd y mathau o arbenigedd, y mathau o arloesedd sydd eu hangen, fel y gallwn ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleifion yng Nghymru.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymgyrch o’r enw Ymgyrch Claire, sy’n coladu profiadau menywod o ganser gynaecolegol ac yn ymgyrchu dros wella gwasanaethau. Eu tystiolaeth yw bod pryderon cychwynnol gormod o fenywod ynghylch canser yn cael eu diystyru gan eu meddyg teulu: ni cheir amheuaeth o ganser, caiff cyflyrau eraill eu cynnig, a thros amser, cânt eu diystyru, ac yn llawer rhy aml, mae eu poen a’u hanghysur eithafol yn cael ei ddiystyru neu ei anwybyddu. Nid lladd ar feddygon teulu mo hyn, maent yn gwneud gwaith gwych, ond o ran yr hyfforddiant a’r cymorth a gynigir iddynt, efallai fod angen edrych ar hynny. Oherwydd, i ormod o fenywod, mae eu canser yn datblygu cyn y ceir amheuaeth fod canser arnynt, hyd yn oed, heb sôn am ddechrau diagnosis a thriniaeth, ac mae gormod o fenywod yn marw o ganlyniad. Rydym yn gwneud anghymwynas â menywod, a gall y system gyfan wneud mwy i gael diagnosis a thrin canserau'r menywod hyn yn gynharach. Mae'r cynllun iechyd menywod yn gyfle enfawr yma. Beth y gall menywod ddisgwyl y bydd y cynllun yn ei ddweud a’i wneud i wella diwylliant y GIG o wrando ar fenywod sy’n dioddef poen a symptomau a allai fod yn ganserau gynaecolegol?

14:50

Wel, diolch i Delyth Jewell am ei chwestiwn ac am y ffordd y mae wedi tynnu sylw at waith Ymgyrch Claire, y buaswn yn sicr yn dymuno ei chefnogi, a’r gwaith y mae Claire a’i chydweithwyr yn ei wneud i dynnu sylw at heriau yn y system, y byddem yn bendant yn eu cydnabod. Fe wnaeth y dystiolaeth a roddwyd i bwyllgor y Senedd yn ei ymchwiliad diweddar argraff fawr arnaf hefyd.

Cefais sgwrs y bore yma ynglŷn â phwysigrwydd ymateb i symptomau yn yr ymgynghoriad cyntaf hwnnw, fel y maent yn ymgyflwyno, a sicrhau bod hynny’n cael ei gymryd o ddifrif, fel y gallwn sicrhau bod pobl yn cael y gofal cyflym sydd ei angen arnynt. O drafodaethau gyda’r Gweinidog, rwy'n gwybod ein bod yn edrych yn fanwl iawn ar sicrhau bod y cynllun, pan gaiff ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, mor gadarn ac mor gefnogol ag y gall fod, ac mewn gwirionedd, mae rhywfaint o’r meddylfryd hwnnw'n sicr wedi'i siapio gan Ymgyrch Claire.

Profion Canser y Prostad

5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am brofion canser y prostad i ddynion dros 50 oed? OQ61747

Dylai dynion sy'n pryderu am eu risg o ganser y prostad ofyn am apwyntiad gyda'u meddyg teulu i drafod eu pryderon ac i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn ag archwiliadau pellach. Mae canllawiau cyhoeddus ar gael i gefnogi dynion a meddygon teulu i gael y drafodaeth honno.

Diolch am eich ymateb. Ers cyflwyno’r cwestiwn hwn, mae Syr Chris Hoy wedi cadarnhau ei ddiagnosis angheuol ei hun o ganser y prostad, a chanser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin mewn dynion, ac mae ei risg yn cynyddu gydag oedran ac ystod o ffactorau eraill. Ond os caiff ei ddal yn gynnar, mae'n bosibl byw bywyd hir a chadarnhaol. Fel fi, mae’r Ysgrifennydd iechyd dros 50 oed, sy’n un o’r ffactorau y dylai dynion eu hystyried wrth geisio cyngor a’r posibilrwydd o brawf. Mae gennyf risg ychwanegol o fod yn hil gymysg o dras du Affricanaidd. Mae fy mhrofiad fy hun o ymgysylltu ag ymarfer cyffredinol ar y mater wedi bod yn gadarnhaol. Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd iechyd yn eu cymryd i sicrhau bod mwy o ddynion yn deall y ffactorau risg ac yn cael eu hannog i weithredu’n gynnar arnynt? Ac a all gadarnhau pa gynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gynnal profion mwy cywir ar gyfer canser y prostad?

Diolch i’r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiwn, gan gynnwys fy atgoffa o fy oedran. Diolch am hynny. Mae’n gwbl hanfodol cydnabod, yn y ffordd a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn, pa mor bwysig yw canfod canser yn gynnar. Mae canllawiau cenedlaethol clir ar waith, sy’n seiliedig ar symptomau a ffactorau risg, i feddygon teulu eu dilyn wrth atgyfeirio ar gyfer amheuaeth o ganser y prostad. Rydym wedi ategu hyn gyda deunyddiau hyfforddi digidol ar gyfer meddygon teulu, yn manylu ar sut i asesu pobl. Os yw pobl yn teimlo y gallent fod mewn perygl, dylent weld eu meddyg teulu. Mae canllawiau cenedlaethol clir ar hynny i gefnogi’r sgyrsiau hynny. Credaf ei bod hefyd yn bwysig edrych ar ddulliau gweithredu sy'n datblygu'n gyson yn y maes hwn. Fel y gŵyr, nid oes unrhyw argymhelliad ar hyn o bryd mewn perthynas â sgrinio—sgrinio’r boblogaeth—yn y maes hwn, ond rwyf hefyd yn ymwybodol o’r gwaith y mae Prostate Cancer UK wedi bod yn ei wneud gyda Phwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, a bydd gennyf ddiddordeb mewn edrych ar y datblygiadau yn y maes hwnnw.

Lywydd, rwy’n datgan buddiant, fel rhywun sy’n byw gyda chanser y prostad, ac yn amlwg, fel rhywun arall sydd dros 50 oed hefyd. Nawr, fy nealltwriaeth i yw na all meddygon fynd ati'n rhagweithiol ar hyn o bryd i gynnig profion antigenau penodol i’r prostad i ddynion risg uchel heb unrhyw symptomau, megis dynion dros 50 oed, dynion du a dynion â hanes teuluol o ganser y prostad, ac felly mae'n amlwg fod angen gwneud mwy yn y maes hwn i fynd i'r afael â hynny.

Nawr, yr wythnos diwethaf, cymerais ran yn nhaith gerdded Prostate United gyda Chlwb Pêl-droed Hwlffordd, menter sy’n codi arian ar gyfer Prostate Cancer UK drwy annog pobl i gerdded, rhedeg neu feicio bob dydd ym mis Hydref. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i ddathlu ymdrechion pawb sydd wedi cymryd rhan yn her Prostate United hyd yma? A wnewch chi ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i fod yn llawer mwy rhagweithiol wrth estyn allan at ddynion sydd â’r risg uchaf o ganser y prostad?

14:55

Byddaf yn sicr yn dathlu’r gwaith y cyfeiria ato yn ei gwestiwn, ac mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn defnyddio’r cyfleoedd hynny i dynnu sylw at y risgiau yn y ffordd y mae’r gyfres hon o gwestiynau yn ei gwneud heddiw, a bod hynny’n digwydd ar lefel y byrddau iechyd lleol hefyd. Fel y soniais yn fy ymateb i Vaughan Gething, mae’r gwaith y mae Prostate Cancer UK yn ei wneud ar opsiynau eraill heblaw profi yn y maes hwn a’r datblygiadau o ran profi yn y dyfodol yn rhan gwbl hanfodol o’r dirwedd honno.

Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cyn-filwyr y lluoedd arfog sy'n byw yng Nghymru yn cael y gofal iechyd y mae arnynt ei angen? OQ61744

Mae ein dyled yn fawr i'n cyn-filwyr. Adlewyrchir hyn yn ein polisi, sy'n rhoi mynediad blaenoriaethol i driniaeth y GIG ar gyfer cyflyrau iechyd sy'n deillio o'u hamser mewn gwasanaeth milwrol. Rydym hefyd yn darparu mynediad at GIG Cymru i Gyn-filwyr ar gyfer materion iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth.

Diolch, Weinidog. Yn ôl adroddiad diweddar Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn gwario oddeutu £1,600 fesul cyn-filwr sy'n ceisio gwasanaethau iechyd meddwl; yn Lloegr, mae'r ffigur yn fwy na dwywaith hynny, sef £3,400. Yno, mae cyn-filwyr yn cael cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau, caethiwed a therapïau anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth. Nid yw hyn ar gael yma yng Nghymru. Yma, caiff cyn-filwyr eu cyfeirio’n ôl at wasanaethau iechyd meddwl cyffredinol ar gyfer unrhyw faterion nad ystyrir eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â’u cyfnod mewn gwasanaeth. Nawr, fel y nodwyd gennych ar ddechrau eich ateb, mae'r unigolion hyn wedi wynebu amgylchiadau na allwn ddechrau eu dirnad. Maent yn aml wedi mentro eu bywydau. Ac eto, rwy’n cyfarfod â chyn-filwyr digartref ar strydoedd Caerdydd. Rydym yn gwneud cam â hwy. A ydych chi'n gwybod pam fod gennym fwlch mor enfawr yma yng Nghymru o gymharu â Lloegr, ac a ydych chi'n credu bod gwariant digonol yng Nghymru i ddarparu’r gwasanaethau y maent yn eu haeddu? Diolch yn fawr.

Diolch am y cwestiwn hwn, Rhys ab Owen, ac am dynnu sylw at adroddiad y comisiynydd cyn-filwyr a gyhoeddwyd, yr adroddiad blynyddol, sydd, yn fy marn i, yn asesiad personol defnyddiol iawn o’r materion allweddol sy'n effeithio ar gyn-filwyr yng Nghymru, ac rydych chi newydd sôn am lawer ohonynt. Hoffwn ddweud hefyd ein bod yn parhau i fuddsoddi yn GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac mae iechyd meddwl yn un o bedwar maes blaenoriaeth y Prif Weinidog, felly dof yn ôl at yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, yn gynharach, sef na allaf achub y blaen ar beth fydd yn y gyllideb sydd i ddod.

Fodd bynnag, hoffwn ddweud bod angen amodi rhai o'r cymariaethau trawsffiniol, ac mae’r comisiynydd cyn-filwyr yn cydnabod hynny, mewn perthynas â gwelyau argyfwng a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol. Felly, ydy, mae ein gwasanaeth iechyd meddwl ar gyfer cyn-filwyr, GIG Cymru i Gyn-filwyr, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cyflawni ei dargedau gyda rhai eithriadau lleol, lle mae swydd wag neu lle mae proses recriwtio ar waith. Mae’r gwasanaeth hwn bellach hefyd yn cefnogi cyn-filwyr sydd yn y carchar yng Nghymru.

Credaf ei bod yn werth sôn hefyd, serch hynny, eich bod chi'n iawn, mae llawer o hyn yn ymwneud â gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr, ond mae gennym hefyd ystod wych o sefydliadau trydydd sector sy’n gwneud gwaith aruthrol ar lawr gwlad yng nghymunedau pobl. Felly, mae gwaith TGP Cymru yn cynnwys ffocws penodol ar ddulliau adferol ar gyfer cyn-filwyr a gwasanaethau teuluoedd, felly mae hynny'n eu helpu'n fawr i ailgysylltu â'u teuluoedd ac i gael bywyd teuluol gwirioneddol gadarnhaol ac iach. Mae gennym Adferiad hefyd, sydd â rhaglen Change Step sy'n gweithio gyda chyn-filwyr, ac maent yn gwneud gwaith aruthrol unwaith eto gyda rhaglen Places, Pathways and People, sy'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Felly, daliwch ati i godi'r mater. Rwy'n falch iawn o gael iechyd meddwl cyn-filwyr yn rhan o fy mhortffolio, a byddaf yn parhau i gyfathrebu â'r gymuned hefyd a sicrhau eu bod yn cael popeth sydd ei angen arnynt. Diolch.

Y peth cyntaf yr hoffwn ddechrau gydag ef yw diolch i Lisa Rawlings o’r Female Veterans Alliance am godi mater pwysig iawn yn ddiweddar yng ngrŵp trawsbleidiol y Senedd ar gyfer y lluoedd arfog. Tynnodd sylw at y ffaith bod cyn-filwyr benywaidd yn wynebu heriau unigryw, yn ystod ac ar ôl eu gwasanaeth. Mae camau breision wedi’u cymryd, wrth gwrs, ym maes gofal cyn-filwyr ers cyflwyno cyfamod y lluoedd arfog o dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, ond mae angen gwneud llawer mwy yma yng Nghymru yn arbennig. Un o’r prif rwystrau o ran cefnogi cyn-filwyr benywaidd yw nad oes gennym unrhyw fentoriaid cymheiriaid penodol ar gyfer cyn-filwyr benywaidd yng ngwasanaeth cyn-filwyr y GIG.

Yn 2021, roedd menywod yn y lluoedd arfog 10 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef aflonyddu rhywiol. Canfu astudiaeth o gyn-filwyr benywaidd y DU gyfraddau uwch o anawsterau iechyd meddwl ymhlith cyn-filwyr benywaidd, o gymharu â menywod nad ydynt wedi gwasanaethu. Mae’r ffaith nad oes gan Gymru unrhyw fentoriaid cymheiriaid penodol ar gyfer cyn-filwyr benywaidd yn creu rhwystr o ran mynediad at y gwasanaeth, sy’n golygu bod llawer yn amharod i sôn am faterion a oedd efallai’n ymwneud â dyn wrth gyn-filwr gwrywaidd, sef yr unig opsiwn yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae adborth yn awgrymu bod angen clir am fwy o gymorth i gyn-filwyr benywaidd yn y GIG. Felly, Weinidog, a allwch chi roi sicrwydd i ni, os gwelwch yn dda, y byddwch yn ymchwilio i hyn, ac efallai’n cyfarfod â’r Female Veterans Alliance fel y gellir mynd i’r afael â hyn ar fyrder? Diolch.

15:00

Rwy'n croesawu eich cwestiwn heddiw, Laura Anne Jones. Mae'n bwysig iawn. Hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch i Lisa Rawlings am rannu ei phrofiad bywyd. Rwyf bob amser yn gwerthfawrogi ac yn edmygu unrhyw un sy'n gallu gwneud hynny, yn enwedig pan allai fod stigma'n gysylltiedig ag ef, pan all fod yn drawmatig, pan all fod yn boenus, yn y gobaith y byddant yn gwneud gwahaniaeth i bobl eraill. Felly, hoffwn eich sicrhau fy mod yn sicr yn cytuno i gyfarfod â'r Female Veterans Alliance. Hoffwn glywed mwy. Rwy'n gredwr mawr mewn cymorth gan fentoriaid cymheiriaid; mae'n mynd yn anhygoel o dda. Mae un mentor cymheiriaid GIG Cymru i Gyn-filwyr ym mhob bwrdd iechyd sydd gennym bron iawn. Fodd bynnag, os nad oes unrhyw fentoriaid cymheiriaid benywaidd, mae honno'n broblem enfawr. Felly, buaswn yn croesawu cyfarfod ac yn sicr, fe edrychaf ymhellach ar hyn. Diolch.

Ni ofynnwyd cwestiwn 7 [OQ61763].

Amseroedd Aros Gastroenteroleg

8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros gastroenteroleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro? OQ61730

Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydym yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn blaenoriaethu canser ac atgyfeirio brys ar gyfer gastroenteroleg ac yna'n canolbwyntio ar ddiagnosis a thriniaeth y cleifion sy'n aros hiraf.

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae diagnosis cynnar o broblemau gastroenterolegol a mynediad at driniaeth i gael symptomau dan reolaeth yn hanfodol i bobl sy'n byw gyda chlefyd Crohn a llid y colon. Mae oedi i ddiagnosis a thriniaeth yn cynyddu'r risg o gymhlethdod difrifol ac yn cynyddu'r tebygolrwydd o lawdriniaeth. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae'r nifer sy'n aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol gastroenterolegol cyntaf wedi codi o dri pherson ym mis Gorffennaf 2023 i 449 ddiwedd mis Gorffennaf eleni. Gydag amser aros canolrifol am apwyntiad gastroenterolegol o 37.6 wythnos ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i atal pobl sy'n byw gyda chlefyd Crohn a llid y colon rhag gorfod mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys? Diolch.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Rwy'n credu ei bod yn gwbl deg dweud bod y bwrdd iechyd wedi gweld amseroedd aros diagnostig yn her go iawn. Yn fy nghyfarfod cyfnodol gyda'r cadeirydd, buom yn trafod yr union gwestiwn hwnnw ac rwy'n gwbl glir fod y bwrdd iechyd yn cydnabod yr angen i wneud cynnydd go iawn cyn gynted â phosibl, yn rhannol am y rhesymau y mae'r Aelod yn eu nodi yn ei gwestiwn. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd wedi sicrhau uned endosgopi symudol, a gafodd ei defnyddio tan yn ddiweddar, a bellach yn cynyddu capasiti trwy fewnoli ychwanegol. Mae'n her sylweddol, mae'n un a fydd, yn anffodus, yn cymryd peth amser i'w datrys yn ei chyfanrwydd, ond rwy'n gobeithio y gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fy mod wedi codi hynny yn fy nghyfarfod gyda'r cadeirydd a bod y bwrdd iechyd yn llwyr gydnabod bod angen gwella'r gwasanaeth.

3. Cwestiynau Amserol

Y cwestiynau amserol sydd nesaf. Mae dau wedi cael eu dewis heddiw. Mae'r cyntaf i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ac i'w ofyn gan James Evans.

Cyfoeth Naturiol Cymru

1. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2023-24 sy'n cynnwys manylion ymchwiliadau Cyllid a Thollau EF i gydymffurfiaeth hanesyddol Cyfoeth Naturiol Cymru â gofynion gweithio oddi ar y gyflogres, a maint yr atebolrwydd posibl a allai fod yn ddyledus? TQ1220

Member (w)
Huw Irranca-Davies 15:04:46
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch, James. Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei hymgysylltiad â CNC i fonitro cynnydd ar ddatrys y mater ac i ddysgu gwersi o'r ffordd y digwyddodd y sefyllfa. Mae hwn yn fater gweithredol i CNC, wrth iddo barhau ei drafodaethau gyda CThEF i sicrhau datrysiad.

15:05

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n peri gofid mawr i glywed bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn destun ymchwiliad gan CThEF, ac amcangyfrifir yn y wasg y gallai trethdalwyr Cymru orfod talu gymaint â £19 miliwn. Mae hwnnw'n ffigur gwirioneddol syfrdanol. 

Ac eto, nid dyma'r tro cyntaf i CNC gamarwain y cyhoedd ynghylch ei gymwyseddau ariannol. Mae'r Gynghrair Cefn Gwlad eisoes wedi cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru o gamarwain y cyhoedd yn ystod ei ymgynghoriad cyhoeddus, yn dilyn prynu tir yn sir Gaerfyrddin gan y sefydliad.

Ysgrifennydd y Cabinet, wrth edrych ar y trafferthion niferus yn gysylltiedig â chyllid y mae CNC wedi'u hwynebu ers ei greu yn 2013, mae'n amlwg nad yw'n gallu rheoli ei gyllid. Felly, gofynnaf i chi: beth yw cyfanswm yr atebolrwydd a ragwelir o'r ffiasgo diweddaraf yn CNC, a faint yn fwy o arian trethdalwyr Cymru fydd yn rhaid i ni ei dalu am lanast CNC?

Hoffwn ofyn cwestiwn i chi hefyd yn eich rôl fel y Dirprwy Brif Weinidog. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i edrych ar draws y Llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru ar reolau IR35, i sicrhau nad oes unrhyw sefydliad arall, boed yn Llywodraeth Cymru neu'n awdurdod lleol, wedi mynd yn groes i'r rheolau ac yn mynd i wynebu dyled o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr i CThEF?

Wel, Lywydd, yn gyntaf oll, gadewch inni gydnabod bod hwn yn fater pwysig y mae angen i CNC ei ddatrys yn ei drafodaethau â CThEF. Ond un peth nad wyf yn mynd i'w wneud yw cymryd rhan mewn ymosodiadau gwleidyddol ar y sefydliad, sef y prif warcheidwad a rheoleiddiwr amgylcheddol yn y gofod hwn. Fel y gwelsom, mae wedi ehangu i fod yn ymosodiad mwy ar CNC, y sefydliad.

I fod yn hollol glir, nid CNC yw'r unig sefydliad sydd wedi bod yn destun ymchwiliadau IR35 gan CThEF. Yn wir, dan Lywodraeth Geidwadol y DU, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn a DEFRA—rwy'n siŵr y gallai fod eraill hefyd—wedi bod yn y sefyllfa hon. Ond mater i CNC—corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, ond heb ei weithredu gan Lywodraeth Cymru—yw ymgysylltu nawr, fel y mae'n gwneud, gyda CThEF i ddatrys hyn.

I fod yn glir—yn groes, gyda llaw, i rai o'r awgrymiadau a wnaed ar dudalennau Twitter y Ceidwadwyr a chan arweinydd yr wrthblaid yr wythnos hon yn y Senedd—nid yw'n fater o'r trethdalwr yn agor llyfr siec i CNC. Mewn gwirionedd, y rheswm y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad cywir yn fy marn i i alluogi CNC i gael benthyciad wrth ddechrau'r trafodaethau gyda CThEF oedd osgoi costau uwch a allai gronni trwy gyfraddau llog ar hynny.

Felly, mae'n ddefnydd doeth o arian trethdalwyr i'w atal rhag mynd i sefyllfa anos. Gyda llaw, mae'r £19 miliwn yn swm dangosol, a gwneuthum ddatganiad ysgrifenedig ddydd Llun, James, fel y gwyddoch. Rwyf wedi bod yn gwneud ymdrechion mawr, gyda llaw, i ymgysylltu â llefarwyr yr wrthblaid ar y mater hwn, ond yn anffodus, nid wyf wedi cael unrhyw ymateb—

—ac mae hynny'n siomedig, oherwydd buaswn wedi hoffi mynd drwy fanylion go iawn hyn.

Fodd bynnag, gadewch imi ddweud, mae adroddiad a chyfrifon blynyddol CNC yn cynnwys manylion ymchwiliadau CThEF i'r hyn sy'n fater cydymffurfio hanesyddol â rheolau IR35 a maint atebolrwydd posibl—gwyliwch y geiriau hynny: atebolrwydd posibl—a allai fod yn ddyledus. Lywydd, fe wnaethom osod y datganiad ysgrifenedig ddydd Llun, fel y gwyddoch. Maent yn trafod y mater hwn, rhwng CNC a CThEF, er mwyn sicrhau datrysiad.

Rydym yn parhau i weithio gyda CNC i ddarparu'r cymorth angenrheidiol wrth iddo fynd drwy'r broses. Rwyf wedi trafod hyn gyda chadeirydd CNC yn rheolaidd ers iddo ddod i fy sylw, gan gynnwys mor ddiweddar â dydd Llun. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda CNC i ddatblygu trefniadau monitro gwell a chefnogaeth bellach ar gyfer capasiti a gallu, fel sy'n ofynnol.

Ond gadewch inni fod yn glir hefyd: pan fyddwn yn gwneud ymosodiadau gwleidyddol ar CNC sy'n mynd y tu hwnt i'r mater IR35 hwn, fel y gwelsom yn gynharach yr wythnos hon yn y Senedd—. Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur. Mae gwaith CNC fel rheoleiddiwr o'r pwys mwyaf i ni i gyd, ac mae staff proffesiynol ac angerddol CNC yn gweithio o ddydd i ddydd i helpu i ddiogelu natur a phobl yng Nghymru. Yn wir, mae gan Lywodraeth Cymru rôl glir, Lywydd, yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny a sicrhau y bydd ei waith hanfodol yn parhau, a byddwn yn cefnogi CNC yn ei drafodaethau gyda CThEF.

15:10

Diolch, Lywydd. Mae'r taliad hwn i CThEF yn codi pryderon difrifol am reolaeth a chydymffurfiaeth, ond mae hefyd yn ysgogi cwestiynau ynghylch pa brosesau sydd ar waith i gefnogi staff yn y sefyllfa hon. Nid wyf yn gwybod manylion yr hyn sydd wedi digwydd yma, ond byddai fy ngreddf yn dweud wrthyf na fyddai unrhyw un wedi dymuno i bethau gyrraedd y cam hwn, na fyddai hyn wedi digwydd trwy dwyll bwriadol, ond yn hytrach, mesurau diogelwch annigonol a phwy a ŵyr, ofnau staff efallai. Hoffwn wybod pa gymorth sy'n cael ei roi i'r staff y mae hyn yn effeithio arnynt ar hyn o bryd, a hoffwn wybod pa gamau a gymerodd y Llywodraeth i fonitro arferion ariannol CNC, unwaith eto, ie, i glywed sicrwydd na fydd methiannau tebyg yn digwydd eto mewn cyrff cyhoeddus o dan ei goruchwyliaeth. Rhaid cryfhau prosesau, rhaid egluro llinellau atebolrwydd clir os oes angen, ond mae CNC yn gwneud gwaith pwysig iawn. Fy marn i yw y dylem ganolbwyntio ar y dyfodol, gan sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, i ddiogelu staff, yn ogystal â chyllid. Nid yw canolbwyntio ar feio'n unig yn mynd â ni i unman. Fe wnaed camgymeriad, roedd yn gamgymeriad difrifol iawn, ond mae angen rhoi'r bai ar brosesau nid ar bobl.

Delyth, diolch am hynny. Rydych chi'n codi rhai pwyntiau pwysig iawn yma, oherwydd, wrth wraidd hyn hefyd—. Mae hwn yn fater cydymffurfio hanesyddol y maent yn ymdrin ag ef; mae'n mynd yn ôl sawl blwyddyn. Maent yn gwneud gwaith craffu priodol ar yr hyn a ddigwyddodd er mwyn dysgu gwersi wrth symud ymlaen—er mwyn ei osgoi. Yn wir, rwyf wedi cyfarfod â chadeirydd y bwrdd yn aml ar hyn, wedi rhoi trefniadau llywodraethu a goruchwylio cryfach ar waith, a dadansoddi risg, i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto. Rwy'n disgwyl hynny ac maent yn ei wneud. Ond wrth wraidd hyn mae pobl sy'n angerddol am y gwaith a wnânt ar bob lefel o fewn CNC. A dyna pam rwy'n dweud yn gryf iawn, 'Gadewch inni beidio â phwyntio bys at unigolion neu CNC fel sefydliad', a dweud wrth CNC fod angen iddynt ddatrys hyn o ran eu perthynas â CThEF, mae angen datrys yr atebolrwydd posibl hwn, mae angen inni weld union swm yr hyn ydyw, ac yna mae Llywodraeth Cymru yno i helpu i gefnogi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, mewn ffordd gyfrifol, gyda'n cyfrifoldeb priodol ein hunain fel y corff sy'n noddi CNC, ond heb gamu i'r gofod y mae'n rhaid iddynt hwy ei ddatrys. 

Ac os caf egluro un peth hefyd, Delyth, a Lywydd: er bod hwn yn fater i CNC ei hun a'r bwrdd, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, mae CNC wedi dweud yn glir nad yw'n defnyddio contractwyr oddi ar y gyflogres mwyach, a'i safbwynt diofyn yw na fydd yn eu defnyddio yn y dyfodol, ac mae hynny'n dda i'w glywed. Felly, mae yna faterion hanesyddol i ymdrin â hwy, i'w deall, i ddysgu sut y gellir osgoi hyn yn y dyfodol. Rwy'n credu bod yn rhaid i CNC fod yn onest yn eu dadansoddiad mewnol o hynny. Rydym ni hefyd, fel Llywodraeth Cymru, yn y gofod hwnnw, yn ceisio deall yn union beth sydd wedi digwydd mewn corff a noddir gennym, ond mater iddynt hwy yw datrys hyn nawr. Ac yn y cyfamser, mae'n rhaid iddynt fwrw ymlaen â'u gwaith hanfodol fel rheoleiddiwr yr amgylchedd naturiol yma yng Nghymru, a hefyd yr holl waith a wnânt ar amddiffynfeydd rhag llifogydd, y gwaith a wnânt gyda chymunedau ledled Cymru. Ac rwy'n gwybod yn bendant nad dyma lle roeddech chi'n mynd, ond gadewch inni beidio â cheisio eu llusgo i lawr a defnyddio hyn fel cyfle gwleidyddol i'w tanseilio fel sefydliad; mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae.

Dim ond er eglurder—nid wyf yn gwybod at bwy roeddech chi'n cyfeirio—nid wyf wedi cael e-bost oddi wrthych am y mater penodol hwn. Rwy'n gwybod ein bod wedi siarad y tu allan, ond roedd hynny'n ymwneud â'ch datganiad ddoe a dim byd i'w wneud â CNC.

Mae'n rhaid i mi fod yn onest, dyma fethiant arall gan CNC. Roedd hyd yn oed eich datganiad chi ddoe, Ddirprwy Weinidog, wedi ichi achub ei groen, yn gyfaddefiad clir fod Cyfoeth Naturiol Cymru nid yn unig yn ei chael hi'n anodd, ond bod angen mwy o oruchwyliaeth. Mae'r sgandal ddiweddaraf hon yn tynnu sylw at yr arweinyddiaeth wael—anhygoel o wael—o fewn CNC. Wythnos ar ôl wythnos, clywn am fethiannau niferus y sefydliad hwn.

Rwy'n teimlo'n flin iawn dros y staff gweithgar, y byddaf yn gweithio gyda hwy'n rheolaidd, ac maent yn teimlo'n siomedig ynghylch diffygion rheoli cyson. Maent yn gwneud gwaith gwych, ond maent yn cael eu siomi. Dylid gofyn cwestiynau difrifol. Nid wyf yn ymddiheuro am fynd gam ymhellach na chi: pe bai hwn yn gwmni preifat, byddai pobl wedi cael rhybudd. Pam y dylai'r sector cyhoeddus, y Llywodraeth hon neu CNC fod yn wahanol? Pwy a benodwyd i archwilio'r cyfrifon hyn? Pam na wnaethant dynnu sylw at y sefyllfa hon yn gynharach, pan fo'n sôn am gydymffurfiaeth hanesyddol CNC â gwaith oddi ar y gyflogres? Ni fuaswn i byth yn cael dianc rhag hynny mewn busnes, na fawr o neb yn y sector preifat.

Yn y GIG yng Nghymru, mae gennym fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio. A ydych chi erioed wedi meddwl am gael proses debyg ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill, i gynnwys CNC? Ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych, pe bawn i'n cael fy ffordd yma heddiw byddai gofyn i rywun o blith yr uwch-reolwyr ystyried eu sefyllfa. Diolch.

15:15

Lywydd, mae yna bwynt dilys a difrifol yn hyn o beth am CNC yn cymryd cyfrifoldeb am y ffordd y digwyddodd hyn, gan ddysgu'r gwersi a bod yn dryloyw hefyd, ac mae'r broses honno ar y gweill, Janet. Ond i fod yn glir, rydych chi newydd sôn yno, os clywais chi'n iawn, am arweinyddiaeth anhygoel o wael, rheolaeth ddiffygiol, gan dalu teyrnged i angerdd y gweithwyr rheng flaen ar yr un pryd. A dweud y gwir, mae yna bobl yn CNC ar bob lefel sy'n angerddol ynglŷn â diogelu ein hamgylchedd naturiol, a—[Torri ar draws.]—ac mae defnyddio hyn fel cyfle i danseilio a lladd ar y sefydliad a'r bobl ynddo—

—nid wyf yn credu y dylech chi ymosod arnynt.

Felly, a gaf i ddweud hefyd, er eglurder, Lywydd, yn ystod y dyddiau diwethaf, gan gynnwys dydd Llun, ond cyn hynny hefyd mewn gwirionedd, fe wneuthum siarad fel Ysgrifennydd Cabinet â phob llefarydd ar y fainc flaen. Janet, fe sonioch chi nad oedd y fy ymgysylltiad wyneb yn wyneb â chi ddoe yn ymwneud ag CNC. Nid yw hynny'n wir. CNC yw hyn. [Torri ar draws.] CNC ac IR35 yw hyn, ac er eglurder, er mwyn y cofnod, Lywydd, rydym wedi—[Torri ar draws.] 

I geisio bod yn hollol glir, fe wnaethom gysylltu dro ar ôl tro trwy e-bost, ffôn a thrwy neges bersonol uniongyrchol yn wir i ddweud a allem siarad am hyn, os oeddech chi eisiau, i fynd trwy hyn yn fanwl cyn inni ddod ag ef i'r llawr. Felly mae'r rheini wedi cael eu gwneud i bob un blaid wleidyddol yn ddiwahân er mwyn egluro hyn. Byddwn yn parhau i geisio gwneud hynny yn y dyfodol hefyd, ond mae rhan o hyn oherwydd y manylion y tu ôl iddo. Oherwydd credaf mai'r hyn sydd gennym yma o'n blaenau yw sefydliad sydd â phroblem gydymffurfiaeth hanesyddol ag IR35. Mae'r sefydliad yn gweithio gyda CThEF i ddatrys hyn. Mae yna atebolrwydd posibl o hyd at £19 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'r sefydliad mewn ffordd gyfrifol i sicrhau nad yw hynny'n cynyddu ac i ddarparu cefnogaeth lle bo hynny'n briodol. Ond dyna yw ein rôl ni fel noddwr y corff hwn, ac nid wyf am ymuno mewn ymosodiadau ar sefydliad a grëwyd i ddiogelu'r gorau o'n hamgylchedd naturiol, ein hafonydd, ein moroedd, ein pridd, popeth arall, ac i ymdrin ag amddiffyn rhag llifogydd i unigolion ledled Cymru.

Wrth gwrs, nid yw'r materion IR35 yn newydd o ran cyrff sector cyhoeddus. Rydym yn cofio bod y BBC wedi cael ei ddal yn hyn flynyddoedd lawer yn ôl, a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar lefel Llywodraeth y DU hefyd rai blynyddoedd yn ôl. Ond byddai'n ddiddorol deall pa gyngor os o gwbl a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i'w hadrannau ei hun neu i gyrff noddedig o ganlyniad i'r materion hynny yn y gorffennol, gan dynnu sylw at risgiau i'r sefydliadau sy'n dod o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru. Rydych chi nawr wedi gofyn i CNC gynyddu capasiti a gallu, yn enwedig ar drefniadau risg a rheolaeth ariannol. A yw hynny'n gyfaddefiad bach eu bod yn cael trafferth gyda chapasiti yn fwy cyffredinol? Oherwydd rydym ni fel Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi rhybuddio ers tro ynglŷn â'n pryderon yn hynny o beth. A yw hwn yn un o'r mathau o ganlyniadau a welwn bellach o ganlyniad i'r llwybr anghynaliadwy o fwy o ddyletswyddau ac adnoddau sy'n lleihau? Ac yn olaf, a ydych chi'n disgwyl i CNC ad-dalu unrhyw arian allan o'r £19 miliwn hwnnw yn y pen draw?

Llyr, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny. Yn gyntaf oll, mae ymwybyddiaeth o'r mater hwn ar draws y Llywodraeth. Felly, mae pob Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o hyn ac mae pob corff a noddir yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau uniongyrchol. Dylwn ddweud yn glir iawn, er mai mater i CThEF yw asesu cydymffurfiaeth neu ddiffyg cydymffurfiaeth ag IR35 ar draws pob sefydliad, nid ydym yn ymwybodol o unrhyw achosion byw eraill mewn perthynas â chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Ond fe sonioch chi am gefnogaeth o ran capasiti, felly un o'r pethau a wnaethom yn y sefyllfa hon, sydd, yn fy marn i, yn ffordd gyfrifol ymlaen, yn ein hymgysylltiad â CNC a'r cyfarfodydd niferus a gefais gyda'r Cadeirydd a'r uwch-reolwyr, yw dweud os oes angen cymorth ychwanegol arnynt i gefnogi eu trafodaethau gyda CThEF, i'w galluogi i fynd yn eu blaen—. Rydym am i hyn gael ei ddatrys cyn gynted â phosibl; y peth gwaethaf yw bod hyn yn hongian uwchben y sefydliad. Felly, rydym wedi ceisio gweithio gyda hwy i ddweud, 'Gadewch inni gael amserlenni yma', gan gofio mai mater i CThEF yw pa mor gyflym y maent am ei ddatblygu, ond credaf fod CThEF hefyd yn ymwybodol o awydd i gwblhau hyn i weld beth yw'r atebolrwydd posibl. Rydych chi'n gofyn hefyd: a yw hyn yn golygu y bydd angen i CNC ad-dalu unrhyw arian i ni? Oherwydd rydym wedi camu i mewn, ac rwy'n dweud, unwaith eto, fy mod yn credu ei bod hi'n ffordd gyfrifol o gamu i mewn, oherwydd rydym yn osgoi llog a chostau eraill rhag cronni. Nawr, ar y sail, os gallwn ni benderfynu'n gyntaf—. Mae'n ddrwg gennyf, 'os gallwn'. Os gall CNC benderfynu gyda CThEF yn gyntaf beth yw ei atebolrwydd posibl, bryd hynny byddaf i, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yma ac eraill, yn cael y trafodaethau hynny gyda CNC i siarad ynglŷn â sut y gall arian y trethdalwr fynd yn ôl i'r lle y daeth. Nid ydym ar y pwynt hwnnw eto, ond mae'n gwestiwn cymwys iawn. 

Un peth arall i'w ddweud yw bod hyn yn wahanol iawn i'r pwysau ehangach y mae rhai pobl yn ceisio ei gyfuno gyda'r 'Achos dros Newid', gyda'r pwysau cyllidebol cyfarwydd y mae CNC yn eu hwynebu, dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, sy'n bwysau ar Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr hefyd. Mae hyn ar wahân i hynny'n gyfan gwbl, ond rydym yn ymwybodol nad ydym am i hwn fod yn fater sy'n tynnu sylw felly rhag bwrw ymlaen gyda'r undebau drwy'r ymgynghoriad 'Achos dros Newid', a phenderfynu sut y maent yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau statudol a bod yn addas i'r diben ar gyfer heddiw ac ar gyfer y dyfodol. 

Felly, rydym yn awyddus i sefyll yn y ffordd iawn gyda chymorth i CNC a'i ymgysylltiad â CThEF ond i fod yn glir, mater iddynt hwy i'w ddatrys gyda CThEF yw hwn.  

15:20

Weinidog, diolch am eich ymatebion y prynhawn yma. Rwyf wedi gwrando'n astud ac roeddwn yn ddiolchgar am ymateb arweinydd y tŷ ddoe, a chredaf fod hwnnw'n graff iawn, yn enwedig gan i chi gytuno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr.

Ambell bwynt, os caf. Roeddwn yn deall o'r adroddiadau a ddarllenais mai'r £19 miliwn yw'r swm meintiol o arian sy'n ddyledus i CThEF ar hyn o bryd. Nid cyfanswm yr atebolrwydd ydyw ac mae'r trafodaethau'n parhau, ac yn sicr gallai'r atebolrwydd hwnnw gynyddu. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir? 

Ac yn ail, a yw'r gweithwyr hyn, gyda nifer ohonynt wedi derbyn diswyddiadau, yn cael eu rhoi yn ôl ar lyfrau CNC drwy'r llwybr hunangyflogedig a'r llwybr is-gontractio, ac felly ai dyna sut y mae'r atebolrwydd wedi codi? Oherwydd, yn amlwg, mae pob corff cyhoeddus wedi bod yn lleihau nifer eu gweithwyr, ond yn y pen draw, pan fyddwch chi'n mynd i rai o'r sefydliadau hyn, maent wedi ailgyflogi'r unigolion fel is-gontractwyr neu ar sail hunangyflogedig, a dyma lle mae'n amlwg fod yr atebolrwydd wedi dod i'r golwg. Oherwydd mae £19 miliwn yn swm sylweddol o arian yng nghyd-destun unrhyw un, a'n gwaith ni fel yr wrthblaid yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif ynglŷn â'r rheswm pam y digwyddodd yr atebolrwydd hwnnw. 

Yn wir, a gwrandewch, diolch am y ffordd rydych chi wedi gofyn y cwestiynau hynny, Andrew; mae hynny'n ddefnyddiol iawn. Yn gyntaf oll, un peth i fod yn glir iawn yn ei gylch—ac mae hwn yn bwynt diffuant—yw nad ydym yn gwneud sylw manwl ar drafodaethau rhwng corff noddedig a CThEF, iawn. Nid ydym, ac mae rhesymau da pam na ddylem wneud hynny, oherwydd mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Ond y ffigur penodol o £19 miliwn—. Gadewch imi bwysleisio eto: mae atebolrwydd posibl yn golygu yn union hynny; atebolrwydd posibl. Ond nid wyf yn gwneud sylwadau ar beth y gallai'r ffigur fod yn y pen draw; dyna'n hollol yw'r trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Mater i CNC yw cael y trafodaethau hynny gyda CThEF. 

Os caf ddweud yn glir, mae mater diswyddiadau ac yn y blaen yn gyfan gwbl ar wahân i fater IR35. Mae hyn ar wahân i'r 'Achos dros Newid', mae ar wahân i'r pwysau ehangach ar y sefydliad hwn a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Felly, mae angen inni ei wahanu oddi wrth hynny. Ac fel y soniais yn gynharach, fe wnaed yn glir gan CNC nad oes ganddynt unrhyw gontractwyr oddi ar y gyflogres ar hyn o bryd, ac nid ydynt yn bwriadu cael unrhyw gontractwyr oddi ar y gyflogres yn y dyfodol. Ond fel y dywedais, fel y soniais o'r blaen, Andrew, nid CNC yw'r sefydliad cyntaf i fod yn y diriogaeth hon a thrafodaethau gyda CThEF, yn adrannau'r Llywodraeth neu fel arall. Nid wyf yn credu y byddent eisiau bod yma, ac ni fyddem ni fel eu noddwyr ychwaith, ond bydd yn rhaid iddynt fwrw ymlaen yn gyflym nawr â'r trafodaethau gyda CThEF fel y gallant gyrraedd y ffigur, ac yna sut rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn eu helpu drwy hyn. Ond rwy'n dod yn ôl at y pwynt fod ganddynt waith i'w wneud hefyd ar eu gorchwylion o ddydd i ddydd, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar hynny hefyd. 

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn nesaf yw ateb gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac i'w ofyn gan Cefin Campbell. 

15:25
Prifysgolion Cymru

2. A wnaiff Llywodraeth Cymru egluro’r cymorth ariannol sydd ar gael i brifysgolion Cymru sydd mewn perygl, yn dilyn llythyr y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch at Aelodau'r Senedd ar 16 Hydref 2024? TQ1223

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi sector addysg uwch cynaliadwy. Bydd y sector yn derbyn £197 miliwn o gyllid grant y flwyddyn ariannol hon gan Medr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r cap ffioedd dysgu i £9,250 yn 2024-25, a bydd £20 miliwn ychwanegol o gymorth cyfalaf ar gael i ddarparwyr addysg drydyddol ar gyfer datgarboneiddio.

Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnna. Mae'r cyfan yn ddirgelwch llwyr, onid yw e?

Mewn ymateb i gwestiwn gennyf yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r argyfwng ariannol sy'n wynebu prifysgolion Cymru, fe ddywedoch chi

'Mae Medr yn mynd i gael ei arian ei hun i gefnogi ein sefydliadau... Bydd yn cael ei galw'n gronfa drawsnewid'.

Ond wele, o fewn 24 awr, cawsom lythyr gennych yn cefnu ar yr ymrwymiad o gefnogaeth i brifysgolion Cymru. Yn y llythyr hwnnw, fe wnaethoch chi ysgrifennu:

'mai megis dechrau yn unig y mae'r gwaith yn y maes polisi hwn ac rydym yn dal i weithio trwy'r hyn y gallai mecanwaith cymorth posibl, os o gwbl, edrych, mewn partneriaeth gyda Medr a sefydliadau eraill.'

Felly, ar y pwynt hwnnw, tybed a oeddech chi'n creu pethau wrth ichi fynd yn eich blaen fel Llywodraeth. Yn yr un modd ag y mae eich Llywodraeth wedi rhoi gobaith ffug i gleifion â chynlluniau iechyd trawsffiniol nad ydynt yn bodoli, rydych chi hefyd wedi camarwain y sector addysg uwch yr wythnos diwethaf trwy godi disgwyliadau ffug.

Nawr, Weinidog, mae ar brifysgolion Cymru angen gwarant gadarn gennych chi y byddant yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt nid yn unig i oroesi ond i ffynnu. Nawr, rydych chi hefyd yn ailadrodd nad ydych chi'n credu bod unrhyw brifysgolion yng Nghymru mewn perygl o fethu. Ond mae o leiaf bum prifysgol yng Nghymru yn gweithredu cynlluniau diswyddo gwirfoddol pellach neu newydd eu cwblhau. Ac fel y crybwyllais yn flaenorol yn y Siambr, mae'r diffygion cyfunol bellach yn uwch na thua £100 miliwn. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi fod rhoi'r argraff ffug fod cefnogaeth ar y ffordd yn erydu hyder y sector? Ni all hyn barhau. Nid yw'n gynaliadwy, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gael rheolaeth ar y sefyllfa.

Felly, mae gennyf ddau gwestiwn penodol: yn gyntaf, a ydych chi neu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cael trafodaethau drwy ohebiaeth swyddogol gyda CCAUC, Medr, neu brifysgolion unigol Cymru ynghylch y gronfa drawsnewid hon? Ac yn ail, pryd fyddwch chi'n penderfynu pa gefnogaeth, os o gwbl, fydd yn cael ei darparu yn ychwanegol at yr hyn rydych chi newydd ei amlinellu heddiw? Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch am eich cwestiynau atodol, Cefin Campbell. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi sector addysg uwch cynaliadwy, ac wrth hynny rwy'n golygu sefydliadau cryf sy'n gallu cyflawni nid yn unig ein huchelgeisiau ni ar gyfer myfyrwyr ac ar gyfer ymchwil ond ar gyfer sbarduno twf economaidd ledled Cymru hefyd.

Rwy'n cydnabod y pwysau ariannol sydd ar ein sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac ar draws y DU, ac ar draws y byd yn wir, ond gan fod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, fe fyddwch chi'n ymwybodol iawn eu bod yn rheoli eu cyllidebau mewn amryw o ffyrdd. Ac fe ychwanegaf fod ein pecyn cymorth i fyfyrwyr ar gyfer costau byw myfyrwyr yn parhau i fod yr uchaf yn y DU, sy'n rhywbeth y credaf y dylem fod yn falch iawn ohono yma, a bod yr incwm y mae hynny'n ei gynhyrchu i sefydliadau Cymru fesul myfyriwr yn parhau i fod yn debyg i Loegr ac yn uwch na'r hyn a geir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Rydych chi'n gofyn a wyf i wedi cael trafodaethau gyda CCAUC. Nac ydw, oherwydd nid ydynt yn bodoli mwyach. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda Medr, sef y corff sydd wedi'i sefydlu i gymryd eu lle, ac mae'r trafodaethau hynny wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan gynnwys cyfarfod â staff ar lawr gwlad a chyfarfod gyda'r bwrdd yn ogystal â'r cadeirydd a'r prif swyddog gweithredol.

Rydych chi'n gofyn a wyf i wedi cael trafodaethau gyda sefydliadau. Ydw, rwyf eisoes wedi dechrau ar hynny. Fel y dywedais yn y Siambr yr wythnos diwethaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn mynd allan ac yn ymweld â phob sefydliad addysg uwch yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi dechrau gwneud hynny. Rwyf wedi bod ym Mhrifysgol De Cymru yn barod, ac rwy'n edrych ymlaen yn ystod yr wythnosau nesaf at gyfarfod â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd.

Mae'r sgyrsiau a gefais hyd yma wedi bod yn adeiladol iawn ac mae llawer o awydd wedi bod am gydweithio pellach o fewn y sector hefyd, sy'n rhywbeth lle rwy'n gweld llawer o waith cadarnhaol eisoes. Ac eglurais wrth y Senedd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i archwilio pa fecanweithiau cymorth posibl, os o gwbl, y gellid eu defnyddio i gefnogi'r sector yng Nghymru.

Mae'n bwysig ychwanegu nad ydym yn credu bod unrhyw sefydliad yng Nghymru mewn perygl uniongyrchol o fethu. Mae Medr yn monitro cyllid sefydliadol yn ofalus ac yn dweud bod hyblygrwydd priodol i reoli risgiau parhaus tra bod y penderfyniadau strategol pwysig yn cael eu gwneud ym mhob sefydliad annibynnol i sicrhau eu cynaliadwyedd parhaus.

Ac os caf ychwanegu fel sylw terfynol i gloi, dywedais fy mod yn teimlo bod y sector o ddifrif yn archwilio llawer o ffyrdd adeiladol ymlaen. Ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei grynhoi gan y ffaith bod gennym y gronfa ddatgarboneiddio gwerth £20 miliwn ar gyfer y sector trydyddol. Ac rydym eisoes wedi derbyn £33 miliwn mewn ceisiadau ar gyfer honno. Felly, rwy'n credu bod hynny'n crynhoi pa mor galed y mae'r sector yn gweithio o fewn y meysydd newydd hyn er mwyn gwella eu cynaliadwyedd.

15:30

Rwy'n credu bod Cefin yn iawn: fe wnaethoch chi roi gobaith ffug i brifysgolion a sefydliadau eraill ledled Cymru gyda’ch datganiad yr wythnos diwethaf. O fewn tua 24 awr, daeth cronfa

'i gefnogi ein sefydliadau yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o ddweud y bydd yn fath mwy cadarnhaol o gronfa…gronfa drawsnewid,'

o fewn 24 awr yn

'megis dechrau yn unig y mae'r gwaith yn y maes polisi hwn ac rydym yn dal i weithio trwy'r hyn y gallai mecanwaith cymorth posibl, os o gwbl, edrych…gyda Medr a sefydliadau eraill.'

Ac mae’r sefydliadau hynny, yn amlwg, yn deall maint yr her ariannu y maent yn ei hwynebu. Soniodd Prifysgol Caerdydd am dwll du o £30 miliwn y mae angen iddi fynd i’r afael ag ef; Prifysgol Bangor, diffyg o £9 miliwn; Aberystwyth, £15 miliwn; mae Prifysgol Abertawe yn mynd drwy 240 o ddiswyddiadau gwirfoddol ar hyn o bryd. Felly, mae'n sector—mae'n gas gennyf gytuno â Phlaid Cymru—yr ydych chi wedi rhoi gobaith ffug iddo.

Mae’n llanast, a dweud y gwir, Weinidog, ac mae’n llanast a ddigwyddodd ddyddiau’n unig ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg newid canllawiau’r Llywodraeth ar ddarllen yng Nghymru deirgwaith mewn tair wythnos. Mae'n codi'r cwestiwn: a oes unrhyw un yn adran addysg Llywodraeth Cymru yn gwybod beth y maent yn ei wneud?

Wel, diolch, Tom. Efallai eich bod yn hoff o ormodiaith a sgorio pwyntiau gwleidyddol rhad, ond gallaf roi sicrwydd i chi fy mod i ac Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio i gyflawni ar gyfer myfyrwyr o bob oed ledled Cymru.

Ac rydym hefyd yn darparu £197 miliwn o arian grant ar gyfer y flwyddyn ariannol hon drwy Medr i'n prifysgolion yng Nghymru. Fe fyddwch yn ymwybodol fod 90 y cant o incwm prifysgolion yn dod o ffynonellau y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, a dyna pam fy mod eisoes wedi ailadrodd pa mor bwysig yw hi fod y sector yn gweithio o fewn y meysydd y mae ganddynt reolaeth drostynt, ac rwy'n gweld llawer o arwyddion yno o lawer o ymyriadau cadarnhaol.

Y £20 miliwn ychwanegol a ddarparwn ar gyfer datgarboneiddio hefyd, mae hynny oll yn bwysig iawn, ac felly rwy'n fodlon iawn ar y cyfeiriad rydym yn mynd iddo, ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu ymhellach â'r sector yn y misoedd i ddod.

4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr wythnos hon, mae’r Wyddgrug yn dathlu Gŵyl Daniel Owen—gŵyl gelfyddydol a llenyddol ddwyieithog wythnos o hyd yn yr Wyddgrug i ddathlu’r awdur Daniel Owen. Mae hi’n cael ei chynnal bob blwyddyn tua diwedd mis Hydref. Daniel Owen yw nofelydd Cymraeg mwyaf blaenllaw'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chafodd ei eni ym 1836 yn y Wyddgrug. Yn gynharach y mis hwn, roedd yn fraint ymuno â maer yr Wyddgrug, a llu o bobl eraill, i ddadorchuddio plac glas ar y tŷ lle bu’n byw ar un adeg.

Daeth Daniel yn brentis mewn siop teiliwr, a cheir sôn ei fod yn llanc a oedd yn caru llenyddiaeth. Ar ôl treulio amser yn astudio yng Ngholeg y Bala, aeth yn ôl adref i'r Wyddgrug. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Dreflan, ei chyhoeddi yn 1881, a dilynodd Rhys Lewis, efallai ei nofel enwocaf, yn 1885, gan olrhain hanes gweinidog. Heddiw, mae Gŵyl Daniel Owen yn cynnwys teithiau cerdded, sgyrsiau, cyfleoedd i ganu a dawnsio, a llawer mwy. Braf oedd gwylio rhai o’r perfformiadau yn Sgwâr Daniel Owen dros y penwythnos. Yn wir, fe wnaeth fy nghi bach fwynhau hefyd, gan siglo ei chynffon i rythm y gerddoriaeth. Roedd yn wych gweld dathliad mor ddiwylliannol ei naws yng nghanol y dref. Hoffwn i ddiolch o galon i bob gwirfoddolwr, a dwi'n edrych ymlaen at weld yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth.

15:35

Ym 1790, cyfarfu grŵp o bobl yng Ngwesty’r Castell yng Nghastell-nedd, a phenderfynwyd adeiladu camlas o Lyn-nedd i Gastell-nedd. Agorodd ym 1795, ac fe’i hymestynnwyd yn fuan wedi hynny i ddoc Brunel yn Llansawel, ac ym 1824, fe’i cysylltwyd â chamlas newydd Tennant, a oedd yn caniatáu i nwyddau gyrraedd dociau Abertawe. Mae camlas Tennant yn dathlu ei daucanmlwyddiant eleni. Ar ei anterth, roedd oddeutu 200,000 tunnell o lo yn cael ei gludo ar hyd y wythïen hanfodol hon. Fodd bynnag, yn dilyn datblygiad rheilffordd Cwm Nedd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, defnyddiwyd llai a llai ar gamlas Castell-nedd, a rhoddwyd y gorau i'w defnyddio fel modd o gludo nwyddau. Cafodd y refeniw i’r perchnogion ei gynnal drwy gyflenwi dŵr i ddiwydiannau lleol, ond yn raddol, cafodd rhannau o’r gamlas eu llenwi, adeiladwyd drostynt, a chawsant eu hanghofio. A bellach, mae hyd yn oed y diwydiannau hynny wedi mynd.

Heddiw, mae Grŵp Camlas Tŷ Banc, grŵp gwirfoddol anhygoel, wedi dechrau gweithio gyda'r perchnogion, St. Modwen, i sicrhau bod y gamlas yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol fel ased ac adnodd cymunedol bywiog a chynaliadwy. Mae camlas Castell-nedd yn hŷn na'r stamp post modern a hyd yn oed y Deyrnas Unedig ei hun. Mae wedi gweld y cymunedau y mae'n rhedeg drwyddynt yn cael eu diwydiannu a'u dad-ddiwydiannu. Ond mae wedi para drwy ganrifoedd o chwyldro, rhyfeloedd a darganfyddiadau. Gyda chamlas Castell-nedd yn cael ei phen-blwydd yn ddau gant a hanner y flwyddyn nesaf, ein cenhedlaeth ni fydd naill ai'r un sy'n gweld y gamlas yn diflannu'n gyfan gwbl, neu'r genhedlaeth sy'n gweld y gamlas yn cael ei hadnewyddu a'i haddasu at ddibenion gwahanol. Diolch i'r holl wirfoddolwyr a'r grwpiau sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod y dewis cywir yn cael ei wneud ar gyfer dyfodol y gamlas.

Ugain mlynedd yn ôl, fe wnaeth criw ohonom ni, o dan arweiniad a chymhelliad Rob Nicholls, ymgynnull yn festri y Tabernacl, Caerdydd, i ffurfio Côr Meibion Taf. Ers hynny, mae’r côr wedi bod yn fuddugol yn y Genedlaethol, eisteddfodau lleol, ac mewn sawl gŵyl gerddorol. Y cerddor amryddawn Steffan Jones yw’r arweinydd bellach, ac, o dan ei faton ef, mae’r côr wedi mynd o nerth i nerth, gyda rhyw 70 o gantorion. Yn gwbl allweddol i lwyddiant y côr y mae Lowri Guy, y cyfeilydd am bron y cyfnod i gyd.

Er nad yw’r côr wedi gorfod gwrando ar fy ymdrechion i i ganu ers sawl blwyddyn bellach, gallaf dystio o hyd, ar lefel bersonol, i garedigrwydd a gofal y côr—yn y llon a’r lleddf. Oherwydd mae Côr Meibion Taf yn fwy na grŵp dysgu nodau. Mae’n gymdeithas o bobl, o arddegwyr i bensiynwyr. Mae’n creu siaradwyr Cymraeg hyderus, maent yno yn gefn i’w gilydd a’u teuluoedd, ac maent wedi llwyddo cefnogi llu o elusennau ac achosion da ar draws yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Côr Meibion Taf wedi cyfoethogi cerddoriaeth yng Nghymru, ond, yn fwy na hynny, mae wedi cyfoethogi bywydau cannoedd o aelodau, cyn aelodau, a’u teuluoedd. Diolch am yr 20 mlynedd, Côr Meibion Taf. Llongyfarchiadau i Steff, Lowri a’r bois i gyd, ac ymlaen i’r ddegawd nesaf. Diolch yn fawr.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cymorth i farw

Yr eitem nesaf yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): cymorth i farw. Galwaf ar Julie Morgan i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8656 Julie Morgan, Adam Price, James Evans, Heledd Fychan

Cefnogwyd gan Carolyn Thomas, Jenny Rathbone, Mick Antoniw, Rhys ab Owen

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi nad yw'r cyfrifoldeb dros ddeddfu i ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ei fod ar hyn o bryd yn fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith droseddol.

2. Yn nodi, pe bai cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael dealltwriaeth fanwl o unrhyw gynigion.

3. Yn credu y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn.

4. Yn nodi bod ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan wedi canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran gofal lliniarol mewn sawl awdurdodaeth.

5. Yn nodi bod y Swyddfa Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y feddygaeth liniarol orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn marw heb unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis olaf.

6. Yn nodi bod agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith.

7. Yn nodi, o ran pobl o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn dewis dod â'u bywyd i ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod llawer yn rhagor a fyddai'n dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r costau uchel perthnasol, sy’n aml ymhell dros £10,000.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi egwyddorion cymorth i farw; a

b) cefnogi senedd San Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl Aelodau hon ar gymorth i farw i’r Senedd yma heddiw, dadl a gyd-gyflwynir gan fy nghyd-Aelodau trawsbleidiol, James Evans, Heledd Fychan ac Adam Price. Mae 10 mlynedd ers y tro diwethaf inni drafod cymorth i farw yn y Senedd. Mae llawer wedi newid ers hynny, felly gan fod y sgwrs genedlaethol ynglŷn â hyn yn cynyddu, credaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn cael dadl ar y mater pwysig hwn yma yn Senedd Cymru heddiw. Mae’n fater o bwys mawr, ac rwyf mor falch ein bod yn gallu gwneud hyn yma y prynhawn yma.

Ac wrth gwrs, mae'n arbennig o bwysig o ystyried y ffaith bod Bil Aelod preifat Kim Leadbeater AS ar gymorth i farw wedi'i gyflwyno yn San Steffan ac y bydd pleidlais yn cael ei chynnal arno ym mis Tachwedd. Os bydd y bleidlais honno'n llwyddo, bydd y Bil wedyn yn mynd yn ei flaen i’r Cyfnod Pwyllgor. Felly, nid oes gennym unrhyw bŵer yma i newid y gyfraith ar gymorth i farw, ond gan ein bod yn gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol, ein lle ni fydd gweithredu unrhyw gyfraith newydd, felly mae llawer yn y fantol i ni yn y ddadl yma yn y Siambr hon.

Yn ogystal â Bil Aelod preifat Kim Leadbeater yn Nhŷ’r Cyffredin, mae gan yr Arglwydd Falconer Fil Aelod preifat yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae un hefyd yn Senedd yr Alban, a gyflwynwyd gan Liam McArthur ASA. Mae gan Ynys Manaw hefyd Fil Aelod preifat yn mynd rhagddo, a bydd yn symud i’r siambr uchaf yr hydref hwn, a chymeradwywyd cynlluniau ar gyfer cyfreithloni cymorth i farw mewn egwyddor gan y Cynulliad yn Jersey yn gynharach eleni. Felly, mae’r ddadl hon yn codi ym mhobman. Ac wrth gwrs, mae 31 o awdurdodaethau ledled y byd eisoes wedi cyfreithloni cymorth i farw. O Awstralia, yr Iseldiroedd, i Ganada, mae mwy a mwy o wledydd yn cymryd y cam hwn ymlaen. Felly, ni ellir anwybyddu’r ddadl hon.

Felly, pam fy mod i'n cefnogi cymorth i farw? Credaf fod angen inni ddangos mwy o dosturi at y bobl hynny sy’n dioddef salwch annioddefol na ellir ei wella ac sydd â dymuniad pendant i farw. Ar hyn o bryd, mae un unigolyn, bob wyth diwrnod, yn mynd o'r DU i Dignitas neu rywle tebyg yn y Swistir. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae unrhyw berthynas neu ffrind sy'n eu cynorthwyo yn agored i gael eu herlyn; cânt eu troseddoli. Gwrandewais ar Syr Max Hill, y cyn gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus, a ddywedodd ei bod yn amlwg iawn iddo nad yw’r gyfraith yn gweithio. Yn ei gyfnod yn y swydd, cyfeiriwyd 27 o bobl ato—perthnasau pobl a fu farw—ac mewn 26 o achosion, ni chymerodd unrhyw gamau pellach. Pobl oedrannus oedd y rhain, yn eu 70au a’u 80au fel arfer, a oedd newydd golli rhywun agos iawn, a dywedodd ei bod yn cymryd hyd at ddwy flynedd weithiau i wneud penderfyniad i beidio ag erlyn. Dychmygwch hynny'n crogi uwch eich pen ar adeg o golled. Am gyfraith greulon. Gallwn wneud yn well na hynny.

Bydd llawer ohonoch wedi siarad â Sue Lawford, sydd wedi siarad yn gyhoeddus, ac sydd wedi disgrifio’r camau a gymerwyd gan yr heddlu yn ei herbyn ar ôl iddi fynd gyda Sharon Johnston o Aberteifi i Dignitas—Sue Lawford o Gaerdydd, sy’n disgrifio’r arswyd a’r gofid a wynebodd ar ôl helpu Sharon Johnston i fynd i Dignitas. Credaf fod yn rhaid i hyn fod yn benderfyniad gan y Senedd yn hytrach na chan gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus unigol, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Nid yw’r gyfraith yn glir, a hoffwn gael cyfraith fwy tosturiol, fel na fydd teuluoedd yn dioddef fel hyn, fel ein bod yn lleihau’r dioddefaint hwnnw. Credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i edrych ar wneud hyn.

Rwy'n credu hefyd fod angen inni ddangos ein tosturi drwy gynyddu ein cefnogaeth i’r mudiad hosbis. Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi ymwneud yn agos â’r mudiad hosbis, ac am flynyddoedd lawer, bûm yn is-lywydd hosbis leol yng Ngogledd Caerdydd sy’n darparu gofal yn y cartref. Ac nid yw'r awydd i newid y gyfraith yn lleihau pwysigrwydd y mudiad hosbis mewn unrhyw ffordd. Mewn gwirionedd, mewn rhai gwledydd lle mae cymorth i farw wedi’i gyflwyno, mae’r arian sy’n cael ei wario ar yr hosbisau wedi cynyddu. Nid yw'n fater o'r naill neu'r llall. Ac mae’r adroddiad manwl iawn gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn San Steffan wedi dangos hyn yn glir. Nid yw’n fater o'r naill neu'r llall, ac nid yw cefnogaeth i’r Bil hwn yn dynodi unrhyw ddiffyg cefnogaeth i’r mudiad hosbis. Mae ein hosbisau’n wych, yn deillio o’r sector elusennol, a bellach yn chwarae rhan bwysig gyda’r GIG i ddarparu gofal diwedd oes.

Ac wrth gwrs, ar hyn o bryd, mae'r gost o gael cymorth i farw a theithio i Dignitas yn ormodol, gyda'r gost gyfartalog rhwng £10,000 a £15,000. Golyga hyn mai dim ond opsiwn i'r cyfoethog ydyw. Mae’n peri cryn ofid fod pobl yn cael eu gorfodi i wneud hyn, ac mai dim ond pobl a all ei fforddio sy’n gallu ei wneud. Mae'n rhaid inni geisio gwneud rhywbeth yn ei gylch. Hefyd, mae pobl yn teithio i Dignitas tra'u bod yn dal i deimlo'n ddigon da i gyrraedd yno, gan fod rhaid iddynt ystyried hynny. Y broblem mawr arall yw'r anhawster mawr i gael angladd neu gladdedigaeth addas i rywun y bu'n rhaid iddynt adael y wlad. Felly, mae hyn yn cael ei orfodi ar bobl am nad ydym wedi rhoi sylw priodol i’r gyfraith.

Gwn fod llawer o safbwyntiau gwahanol ar y pwnc hwn, ac rwy’n parchu barn pawb yn yr ystafell hon yn llwyr. Credaf ei bod yn iawn ein bod yn cael pleidlais gydwybod ar hyn, ond credaf fod rhai o’r rhesymau sy’n codi—. Rwyf wedi clywed llawer o sôn am y syniad ei fod yn llethr llithrig, ac y bydd yn ymestyn i bobl â diffyg galluedd meddyliol neu bobl anabl, er enghraifft. Rwy’n parchu’r safbwyntiau hynny’n llwyr, a chredaf fod yn rhaid cydnabod yr ofnau hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bosibl darparu mesurau diogelu cyfreithiol a meddygol cryf.

Mae'n rhaid inni sicrhau bod o leiaf ddau feddyg yn cymryd rhan ac yn bresennol pan fydd rhywun yn cael cymorth i farw—un ag arbenigedd mewn cymorth i farw, un arall yn y salwch penodol sydd gan yr unigolyn. Dylid cofnodi popeth, a dylid dilyn prosesau priodol. A gallwn ddysgu gan wledydd eraill a'u harferion. Mae gennym 31 o wledydd eisoes yn gwneud hyn. Mae cymaint y gallwn ei ddysgu i gyflwyno'r gyfraith orau sy'n bosibl.

Hefyd, mae llawer o bobl yn dweud, 'Dyma’r math o gyfraith y bydd pobl anabl yn ei gwrthod’, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio bod pobl anabl, mewn sawl ffordd, wedi arwain yr ymgyrch dros gymorth i farw. Os meddyliwch am Tony Nicklinson, a oedd yn dioddef o syndrom cloi i mewn, ni allai ond symud ei ben a’i lygaid, ac roedd wedi dymuno dod â’i fywyd i ben ers blynyddoedd lawer. Aeth i'r Uchel Lys i ofyn am gymorth i farw. Gwrthodwyd hynny. Bu farw Tony yn fuan wedyn ar ôl gwrthod bwyd a dŵr.

Wedyn mae achos Debbie Purdy a oedd ag MS. Dadleuodd na fyddai gwybod a fyddai ei gŵr yn cael ei erlyn pe bai'n mynd dramor gyda hi i farw yn mynd yn groes i'w hawliau dynol. Enillodd ei hachos, a gorchmynnwyd y cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus i gynhyrchu canllawiau cliriach ar bwy na fyddai'n cael eu herlyn. Wrth gwrs, mae pobl anabl hefyd yn arwain ac yn gweithio i sefydliadau sydd o blaid cymorth i farw.

Felly, pa dystiolaeth sydd gennym o farn y cyhoedd? Ym mhob arolwg a gynhaliwyd ar gyfreithloni cymorth i farw yn y DU, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gefnogol bellach. Cynhaliwyd rheithgor dinasyddion yn Lloegr y llynedd, a phleidleisiodd 26 o'r 28 o reithwyr o'i blaid. Mae newid wedi bod yn agweddau'r cyhoedd. Mae cyn Archesgob Caergaint, yr Arglwydd Carey, o blaid cymorth i farw, ac mae'n dweud bod

'Gwneud yr hyn a allwn i leddfu dioddefaint diangen a dod â heddwch yn weithred Gristnogol iawn.'

Yn y proffesiwn meddygol, mae'r colegau brenhinol wedi penderfynu arddel safbwynt niwtral. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhoi'r gorau i'w gwrthwynebiad a bellach mae ganddynt safbwynt niwtral.

Nid yw cyflwyno cymorth i farw yn y DU yn rhywbeth y dylid ei gymryd yn ysgafn neu ei ruthro. Mae'n bwysig ein bod yn cael y dadleuon hyn lle gall pawb leisio'u barn. Fy nghred i yw y dylem allu cyrraedd canlyniad deddfwriaethol a fydd yn mynd i’r afael â’r holl bryderon y mae llawer o bobl yn eu teimlo ond a fydd yn ein galluogi i ddarparu system lawer mwy trugarog. Edrychaf ymlaen at y ddadl. Diolch yn fawr iawn.

15:45

Mae gennyf lawer o Aelodau sy’n dymuno siarad yn y ddadl hon. Rwy'n gobeithio galw ar bob Aelod, ond gofynnaf i bob Aelod sy’n siarad sicrhau, yn gyntaf oll, eich bod yn cadw at eich amser, os gwelwch yn dda, ac ni fyddaf yn derbyn unrhyw geisiadau i unrhyw Aelodau eraill siarad, gan fod y rhestr eisoes yn llawn.

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i’r ddadl hon drwy nodi yn y termau cryfaf posibl fy mhryder dwfn a fy ngwrthwynebiad i’r cynnig hwn. Mae wedi'i brofi dro ar ôl tro fod cyfreithiau cymorth i farw, pan gânt eu cyflwyno, yn creu llu o broblemau bron yn syth, o orfodaeth gan berthnasau i ddethol meddygon penodol sy’n barod i ewthaneiddio. Credaf y byddai'n gosod cynsail peryglus ac yn arwain at gyfres o ganlyniadau anfwriadol pe bai’n cael ei gyflwyno i’r DU. Rwy'n sylweddoli bod hwn yn bwnc emosiynol iawn, ac felly rwyf am ganolbwyntio ar y dystiolaeth yn fy nghyfraniad.

Yn wahanol i lawer o wledydd eraill, mae gan bob unigolyn yn y DU hawl i ofal lliniarol o ansawdd uchel, a hawl i fynegi eu dymuniadau ynghylch sut y maent yn dymuno ei dderbyn. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng yr hyn sydd gennym yma yn y DU a’r hyn y mae gwledydd eraill yn ei gynnig o ran gofal lliniarol. Credaf fod hyn yn gogwyddo’r meddylfryd, ac efallai, y rhesymeg o blaid cymorth i farw. Er enghraifft, gwelwn yng Nghanada fod gan lai na 30 y cant o ddinasyddion Canada fynediad at ofal lliniarol hosbis o ansawdd uchel, ac nad yw mynediad at ofal lliniarol hosbis yn cael ei ystyried yn hawl gofal iechyd sylfaenol. Yn yr Iseldiroedd, nid yw gofal lliniarol yn arbenigedd meddygol penodol, ond mae wedi'i ymgorffori mewn gofal ysbyty cyffredinol, sydd fel arfer yn canolbwyntio ar ddiagnosis, triniaeth a rhyddhau. Mae astudiaethau o'r system hon wedi dangos nad yw anghenion cleifion sy'n marw yn cael eu diwallu, a bod diffygion difrifol yn ansawdd eu gofal. Yn Seland Newydd, dim ond nawr, ym mis Hydref 2024, y mae’r hawl i fynediad at ofal lliniarol wedi’i gyflwyno gan Fil aelod preifat.

O ran canlyniadau anfwriadol, un o'r canlyniadau na allwn eu hatal pan fydd drws cymorth i farw ar agor yw nad oes modd o atal cenedlaethau'r dyfodol o wleidyddion rhag diwygio'r ddeddfwriaeth yn andwyol. Mae tystiolaeth wedi dangos bod tuedd yn y gwledydd sydd wedi cyflwyno cymorth i farw i ehangu’r meini prawf cymhwysedd. Maent wedi’u hehangu yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg i gynnwys plant, ac yng Nghanada, o 2027 ymlaen, byddant yn caniatáu i bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn unig, heb unrhyw gyflwr corfforol o gwbl, gael cymorth i farw. Yn ôl data o Ganada, nododd 17.1 y cant o’r rhai a aseswyd ar gyfer cymorth i farw yn 2022 unigrwydd neu ynysigrwydd fel y rheswm dros eu dioddefaint.

Ceir tystiolaeth gynyddol fod pobl yn cael mynediad at gymorth i farw oherwydd problemau ariannol. Datgelwyd mewn ymchwiliadau yn sgil achosion o gymorth i farw fod dynes 41 oed a gafodd ei hewthaneiddio yn 2021 ar ôl dweud wrth feddygon na allai ddioddef y boen a gâi ei hachosi gan ei ffibromyalgia wedi dweud wrth ffrindiau yn breifat mai'r rheswm go iawn pam y dymunai farw oedd am ei bod mor dlawd. Ceir achos arall lle cafodd dyn 61 oed ei ewthaneiddio er mai'r unig broblem iechyd a restrwyd ar ei gais oedd colled clyw. Dylai hynny fod yn faner goch enfawr i beryglon cyflwyno deddfwriaeth cymorth i farw. [Torri ar draws.] Mae pobl yn cael mynediad ato am y rhesymau anghywir—

15:50

Diolch. Nid yw'r enghreifftiau rydych chi'n eu dyfynnu yn enghreifftiau a fyddai'n berthnasol i'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei thrafod yn y DU ar hyn o bryd.

Diolch am eich ymyriad, Lee. Yr hyn rwy'n ceisio ei nodi, er hynny, yw bod y ddeddfwriaeth, ar un adeg, yn wahanol i’r hyn sydd wedi digwydd yn y gwledydd hynny erbyn hyn. Ar bob cyfle, mae hynny wedi newid, a phe bai’r ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno yn y DU, ar ryw adeg, 10 mlynedd, pum mlynedd neu 20 mlynedd yn ddiweddarach, fy mhryder i yw y byddai’r meini prawf hynny’n cael eu hehangu.

Fodd bynnag, fy mhryder mwyaf ac un sydd wedi’i gyfleu’n aml i mi gan etholwyr yw eich bod, drwy gyflwyno cymorth i farw, yn newid y naratif o sut y gallwn ddarparu’r gofal gorau posibl i rywun sy’n marw i pa bryd y dônt yn faich, yn ariannol neu fel arall, ar y wladwriaeth, ar eu teulu neu ar eu gofalwyr. Mae pobl ag anableddau yn cael eu hanghofio’n aml—rwyf wedi gorfod atgoffa Aelodau’r Llywodraeth yma yn y Siambr hon i'w crybwyll yn eu datganiadau—a chânt eu brawychu gan y posibilrwydd o gymorth i farw yn cael ei gyflwyno yma, gan y byddai cymdeithas yn symud yn reddfol i ffurfio barn ar werth eu bywydau, sy'n rhywbeth y maent eisoes wedi gorfod ymgodymu ag ef wrth geisio dod o hyd i waith neu fynediad at wasanaethau.

Ddirprwy Lywydd, y teimlad mewnol o fod yn faich yw'r hyn y mae'n rhaid i bobl oedrannus a phobl anabl fyw gydag ef bob dydd. Byddai'r pwysau allanol y byddent yn ei deimlo gan eraill i benderfynu beth fyddai gwerth eu bywyd neu eu marwolaeth yn annioddefol. Byddai pobl yn cymryd bod pobl ag anableddau, yn enwedig anableddau gwybyddol neu bobl sy'n hen ac yn eiddil, yn well eu byd pe baent yn marw. Mae tystiolaeth o wledydd eraill lle mae cymorth i farw wedi’i gyflwyno yn dangos bod llawer o bobl anabl a hŷn yn ofni bod dangos unrhyw arwyddion o wendid, iselder ysbryd, rhwystredigaeth ynghylch eu cyflwr, neu’r ffaith y gallent fod yn ei chael hi’n anodd, yn cadarnhau nad ydynt o unrhyw werth mwyach a'u bod yn dymuno marw.

Mae pob un ohonom yn dymuno'r un peth i bobl sy'n dioddef: urddas a thosturi. Ond nid ewthanasia yw'r ffordd, pan fo cymaint o dystiolaeth yn dangos nid yn unig fod y meini prawf cymhwysedd yn newid yn gyflym ond hefyd y gwerth y mae cymdeithas yn ei roi ar ein pobl fwyaf agored i niwed. Er fy mod o blaid gweld yr Aelodau'n codi’r ddadl hon, yn enwedig o ystyried bod Bil cymorth i farw i’w drafod yn San Steffan, rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef, ac felly rwy'n annog pawb yma i bleidleisio yn ei erbyn. Diolch.

15:55

Gwn fod hon yn ddadl a ysgogwyd gan dosturi: yr awydd i beidio â gweld rhywun a garwn yn dioddef. Mae'n reddf rwy'n ei deall yn llwyr, ac rwy'n cydymdeimlo â'r rhai sy'n ei chynnig, ond byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig. Rwyf innau hefyd yn cael fy ysgogi yma gan dosturi, credaf fod hynny'n wir am bob un ohonom, gan y bydd bron bawb sy’n cyfrannu at y ddadl hon yn gwneud hynny drwy lens eiliadau olaf rhywun y maent yn eu caru, rhywun y maent wedi’u gweld yn dioddef, rhywun y maent wedi ysu am allu lleihau eu poen. Sut y gallai unrhyw un anghytuno â hynny?

Fy nadl i, serch hynny, yw bod yn rhaid inni edrych ar hyn hefyd drwy lens y rhai nad ydynt wedi’u hamgylchynu gan bobl y maent yn eu caru: y rhai sydd ar y cyrion, wedi eu gwthio i’r ymylon gan gymdeithas—pobl a allai ddod o dan bwysau mewn dyfodol sy’n arswydus o agos i ddod â’u bywydau i ben am nad yw’r gofal lliniarol angenrheidiol ar gael, neu am eu bod yn teimlo eu bod yn faich.

Mae fy ofn ynghylch y cynnig hwn—wel, fy arswyd, a dweud y gwir—yn ymwneud mwy â sut y bydd pethau yn y pen draw na sut y byddant ar y cychwyn. Mae mesurau diogelu yn yr hyn sy'n cael ei gynnig yn San Steffan, oes yn wir, ond mae pob cynsail rhyngwladol a welwn yn dangos nad oes unrhyw fesur diogelu yn dragwyddol; mae profiadau Canada, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a rhai taleithiau yn yr UDA yn dangos beth a all ddigwydd mor hawdd, mor anochel. Mae cyfreithiau’n cael eu cyflwyno gyntaf ar gyfer pobl â salwch angheuol, fel sy’n cael ei gynnig yn San Steffan, ac o dipyn i beth, mae’r mesurau diogelu wedi’u herydu fel y gall pobl ag iselder, anorecsia, a llawer o anhwylderau eraill nad ydynt yn angheuol fod yn gymwys bellach—anhwylderau y gall pobl wella ohonynt, bywydau a allai fod wedi gwella wedi dod i ben.

Ond yr hyn sy'n peri mwy o bryder na'r normaleiddio hwnnw yw pa mor gyflym y teimlai'r bobl fregus yn y cymdeithasau hynny eu bod mewn perygl. Yn nhalaith Oregon yn yr Unol Daleithiau, nododd dros 47 y cant o’r bobl a ddaeth â’u bywydau i ben y ffaith nad oeddent am fod yn faich ar eu teuluoedd a’u gofalwyr fel rheswm, ac rwy’n ofni y bydd y newidiadau hynny’n anochel os bydd y Bil yn San Steffan yn cael ei dderbyn, gan fod llysoedd yn y mannau hynny wedi teimlo rheidrwydd i ymestyn yr hawliau a roddir i rai dinasyddion. I eraill, bydd yn dod yn sicrwydd erchyll; ni fydd troi'n ôl oddi wrtho.

Mae’r ddadl ynghylch cymorth i farw yn aml yn cael ei chyflwyno, yn ddealladwy—yn gwbl ddealladwy—fel ffordd o gynnig dewis i bobl, ond i lawer o bobl anabl neu bobl nad ydynt yn agos at eu teuluoedd, pobl sy’n bryderus ac yn ofidus ac yn unig, byddai’n arwain at y teimlad nad oes ganddynt ddewis ond dod â'u bywydau i ben. Dyna’n union y mae Tanni Grey-Thompson wedi rhybuddio yn ei gylch: yr ymdeimlad y bydd rhai pobl yn ei gael fod eu bywydau yn llai pwysig, neu oherwydd costau uchel eu gofal, y byddai’n hunanol aros yn fyw. Nid wyf yn ceisio codi bwganod; mae'n adlewyrchiad o'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r byd sydd wedi agor y drws fymryn ac wedi'i weld yn chwythu led y pen, a dim modd o'i gau. Dyna pam y dywedodd Nicola Sturgeon yn gynharach eleni ei bod wedi rhoi'r gorau i gefnogi cymorth i farw oherwydd yr holl bethau anochel tawel a brawychus hyn.

Mae cyn Archesgob Caergaint wedi cael sylw yn y penawdau yn ddiweddar yn y ddadl hon drwy ddweud nad oes unrhyw beth yn sanctaidd ynghylch poen. Mae hynny'n berffaith wir. Ond ni fyddai unrhyw beth yn garedig ychwaith mewn achosi i bobl deimlo nad oes ganddynt ddewis, oherwydd mewn dadl o’r natur hon, dadl ag iddi ganlyniadau mor sylfaenol, mae'n rhaid inni feddwl nid yn unig am ei bwriadau, ond ei heffaith debygol ar fywydau’r holl bobl na fyddwn byth yn eu cyfarfod, ond a fydd yn cael eu heffeithio’n angheuol gan y penderfyniad hwn.

Mae’n debyg mai hon yw’r ddadl anoddaf imi orfod siarad ynddi ers dod i'r Senedd. Roeddwn yn teimlo bod yn rhaid imi siarad. Mae'n anodd am y gallaf ddeall yn llwyr pam fod cymaint o bobl yn dymuno cael y newid hwn; rwy'n llwyr ddeall hynny, rwy'n ei deimlo yn fy nghalon. Ond nid yw'r arswyd a deimlaf ynglŷn â hyn yn ddibwys. Mae’n ddyfodol rwy'n ei weld nid yn unig fel y senario waethaf, ond yr unig senario yn y pen draw: dyfodol lle nad oes fawr o fesurau diogelu ar ôl, lle bydd llai o fuddsoddi mewn gofal lliniarol, yn hytrach na'i gynyddu fel y dylem, a lle mae pobl yn eu trallod yn teimlo rheidrwydd i gymryd cam na allant byth gamu'n ôl ohono. Am y rhesymau hyn, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn teimlo rheidrwydd i siarad, gyda phob parch ac empathi tuag at y rhai sy'n ei gynnig, ond dyna pam y teimlaf reidrwydd hefyd i bleidleisio yn ei erbyn.

16:00

Ddeng mlynedd yn ôl, roeddwn yn rhan o'r ddadl a gawsom bryd hynny ar gymorth i farw yn y Siambr hon, a rhoddais fy enw wrth y cynnig hwnnw i'w gefnogi. Ac yn ystod y ddadl, fe newidiais fy meddwl mewn gwirionedd. Nid o ran egwyddor, ond o ran a fu digon o ystyriaeth i sut y gallem weithredu hyn mewn cymdeithas, sut y gellid cynllunio a ffocysu deddfwriaeth i'w alluogi i ddigwydd, er mwyn galluogi'r egwyddor i gael ei gweithredu, heb yr holl bryderon y mae pawb ohonom yn eu rhannu ynglŷn â hyn, rwy'n siŵr. Ac mae'n wir, mae'n ddeddfwriaeth hynod o anodd.

Ond yn ystod y 10 mlynedd wedyn—. Yn ystod y ddadl honno, newidiais fy meddwl yn ei gylch, ac fe bleidleisiais yn ei erbyn, ond 10 mlynedd yn ddiweddarach, rwy'n credu ein bod bellach ar groesffordd. Cafwyd llawer mwy o feddwl, llawer mwy o ddadansoddi, llawer mwy o ymchwil, ond rwy'n credu hefyd ein bod wedi cyrraedd y pwynt lle mae gwir angen i'r Senedd wneud penderfyniad ar hyn, a dyna pam rwy'n croesawu'r Bil Aelod preifat, ac rwy'n croesawu'r ddadl yn y Siambr hon. Mae'r ddeddfwriaeth yn un benodol iawn, ac mae'n canolbwyntio ar ddisgrifiad penodol iawn o salwch angheuol ac wrth gwrs, ceir llawer o safbwyntiau gwahanol, safbwyntiau sensitif ac emosiynol iawn, ac rwy'n parchu'r holl safbwyntiau a geir yma. Ond rwy'n credu ein bod wedi cyrraedd cam lle mae'n rhaid inni wneud penderfyniad. A gaf i ddweud hefyd fod hwn yn fater—? Er nad yw'r agwedd droseddol arno, sef yr hyn y mae a wnelo'r ddeddfwriaeth â hi, yn fater sydd wedi'i ddatganoli, mae gweithredu'r hyn sy'n digwydd yn y ddeddfwriaeth hon yn amlwg wedi'i ddatganoli, ac efallai y bydd y Gweinidog yn gallu cadarnhau a yw'n cytuno bod hwn yn fater a ddaw yn ôl i'r Siambr hon, y bydd angen cydsyniad deddfwriaethol mewn gwirionedd, oherwydd mae'n ymwneud yn benodol â chyflawni a gweithredu gan wasanaethau wedi'u datganoli.

Ond i mi, mae hyn yn ymwneud â dewis mewn gwirionedd, a gallaf grynhoi hynny mewn tri neu bedwar pwynt, rwy'n credu. Yn gyntaf, rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag urddas dewis, ac yn wir am urddas marwolaeth. Yn ail, byddai'n ymwneud mewn rhai amgylchiadau â fy hawl i allu dewis. Mae hefyd, rwy'n credu, yn glir iawn mai rôl y Llywodraeth yw peidio â gwadu'r dewis hwnnw i mi, ond i osod y fframwaith deddfwriaethol y gellir arfer y dewis hwnnw o'i fewn. Credaf fod gennyf hawl i wneud y dewis hwnnw, i wneud y penderfyniad hwnnw fy hun, ond o fewn cyfyngiadau cul a ffocws y ddeddfwriaeth ei hun. Rwy'n cefnogi'r Bil sy'n mynd trwy San Steffan. Buaswn yn cefnogi'r syniad o ddadl yn y Siambr hon ynghylch cydsyniad deddfwriaethol, yn enwedig mewn perthynas â rhai o'r manylion. Ond nid wyf yn credu ei bod yn iawn i'r Senedd barhau i wadu'r dewis hwnnw i mi mewn amgylchiadau penodol iawn. Diolch.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl bwysig ac emosiynol hon yma heddiw. Rwyf hefyd yn llwyr dderbyn didwylledd yr Aelodau sydd wedi cyflwyno'r cynnig hwn yma heddiw, ond byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig yma heddiw. A'r rheswm pam y credaf yn sylfaenol fod hwn yn gynnig na allaf gytuno ag ef, rwy'n credu, yw bod y cynnig, i mi, yn canolbwyntio ar y ffordd y gwelwn werth pobl yn ein cymdeithas a phawb yn ein cymdeithas. Beth bynnag yw cyflwr eu hiechyd corfforol ar hyn o bryd, beth bynnag yw eu cyflwr eu hiechyd meddwl ar hyn o bryd, ar ba bynnag gam mewn bywyd y maent arno, mae pawb yn werthfawr, mae pob bywyd yn werthfawr, a dylem ddangos y gwerth hwnnw iddynt bob amser. Ac i mi, mae'r cynnig hwn a'r hyn y mae'r cynnig hwn yn ei awgrymu yn neges sy'n dweud nad oes gan bob bywyd yr un lefel o werth yn ein cymdeithas. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ei gefnogi. Credaf fod y cynigion ar gymorth hunanladdiad ac o fewn y cynnig sydd ger ein bron heddiw yn tanseilio'r gred sydd gan gan bob un ohonom yn y Siambr fod pob bywyd yn gyfartal a'r un mor werthfawr—

16:05

Os ydym yn ystyried pob bywyd yn werthfawr, onid ydym yn ystyried hawl unigolion i wneud dewisiadau am eu bywydau a sut y daw eu bywydau i ben yn werthfawr?

Ac mae'r ddadl honno'n debyg i'r modd y siaradodd Mick Antoniw yn ei gyfraniad ychydig eiliadau yn ôl. Ond clywsom gan Delyth Jewell, ac eraill yn y Siambr hyd yma, er y gallai fod yn ddewis damcaniaethol weithiau, oherwydd y baich y gallai rhai pobl ei deimlo, nid yw'r dewis sydd ganddynt yn un go iawn mewn gwirionedd. Oherwydd yr hyn sy'n digwydd mewn sefyllfaoedd fel y nodwyd yn Oregon, lle mae cyfran sylweddol o bobl yn teimlo eu bod yn faich ar y rhai o'u cwmpas, yw ei fod yn symud o hawl i farw i ddyletswydd i farw mewn gwirionedd, oherwydd y sefyllfa, ac yna mae pobl yn teimlo bod dyletswydd arnynt i beidio â bod ar y Ddaear mwyach er mwyn y rhai o'u cwmpas. Felly, nid yw'n ddewis mwyach. Daw'n ddyletswydd ganfyddedig. Felly, rwy'n credu bod y ddadl honno'n chwalu yn y fan honno.

A phan fydd y wladwriaeth yn caniatáu hyn, ac mewn rhai achosion, fel y gwelsom mewn gwledydd eraill a thaleithiau yn yr Unol Daleithiau, pan fydd y wladwriaeth yn caniatáu hyn, mae hynny'n mynd ag ef i lefel hollol newydd, ac mewn rhai achosion, mae'r wladwriaeth yn annog hyn hefyd. Fe wyddom—. Rwy'n siŵr y gallem i gyd gyfnewid enghreifftiau o gwmpas y Siambr y prynhawn yma, ond fe wyddom am enghreifftiau lle caiff pobl gynnig, mewn sefyllfaoedd lle gallent wella yn sicr, fel y disgrifiwyd yn gynharach, yn yr ystyr y gallai pobl fod yn dioddef gydag anorecsia, lle, gyda'r gofal iawn, gyda'r cymorth iawn, gyda'r cariad a'r sylw iawn, y gall pobl weithio drwy'r amgylchiadau anodd iawn hynny. Nid wyf yn tanseilio neu'n ceisio lleihau'r anawsterau a wynebant. Gall pobl weithio drwy'r rheini. Ond yn drist iawn, yn llawer rhy aml, mewn gwledydd eraill lle mae hyn yn digwydd, mae pobl yn cael cynnig opsiwn i ddod â'u bywydau i ben. I mi, nid yw hynny'n dangos ein bod yn gweld eu gwerth yn y ffordd iawn o dan yr amgylchiadau, a sancteiddrwydd y bywyd sydd ganddynt yn y foment honno.

Mae'n ddrwg gennyf, diolch, ydw. Rydym yn siarad am bobl â salwch angheuol, nid pobl ag anorecsia. Rydych chi'n gwyrdroi'r ddadl.

Iawn. Fe wnaf drafod y pwynt hwnnw hefyd. Rwy'n teimlo bod sylwadau wedi eu gwneud ar hynny eisoes yn y Siambr heddiw. Rwy'n gwybod efallai nad ydych chi'n derbyn yr ymadrodd 'llethr llithrig' ond dyna ydyw mewn gwirionedd, oherwydd, pan gaiff deddf ei phasio yn y maes hwn, gyda meini prawf penodol y gall rhai pobl eu bodloni i gael mynediad at hyn, meini prawf a fydd yn anochel yn cael eu herio yn y llysoedd, fel sydd wedi'i wneud mewn gwledydd eraill, oherwydd daw'n fater cydraddoldeb—cydraddoldeb mynediad at yr un lefel o'r hyn y gellir ei bennu fel opsiwn iechyd. Felly, daw'n fater o gydraddoldeb, a fydd yn cael ei herio yn y llysoedd, a dyna pryd y caiff ei ehangu, fel a wnaed mewn gwledydd eraill, ac yn fwyaf nodedig yng Nghanada, ac rwy'n siŵr, yn yr achos hwnnw, na fyddech chi felly'n cytuno â'r hyn sy'n digwydd yng Nghanada, lle, yn 2027, bydd pobl â mathau o salwch meddwl yn gallu cael mynediad at neu'n cael cynnig—nid dim ond gallu cael mynediad; byddant yn cael cynnig hyn—fel ffordd allan o'u sefyllfaoedd. Felly, nid syniad athronyddol yn unig yw'r llethr llithrig. Mae'n sefyllfa real iawn mewn mannau eraill ledled y byd, ac rwy'n ofni y byddai hynny'n union yr un fath yn y wlad hon, oherwydd byddai her yn y llys barn.

Rwyf am ddod i ben, Ddirprwy Lywydd; rwy'n ymwybodol o'r amser. Nid wyf wedi gallu mynd drwy'r pwyntiau y buaswn wedi bod eisiau eu gwneud o bosibl, ond rwyf am ddod â fy sylwadau i ben trwy ddweud, boed drwy gymorth iechyd meddwl effeithiol neu wneud lleoedd yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau, mai'r ffordd y dylem weithio trwy hyn yw drwy gyllido priodol, cefnogaeth briodol, boed yn gymorth gofal lliniarol trugarog, neu sicrhau ein bod yn gweld gwerth pob unigolyn yn ein cymdeithas. Mae bywyd yn werthfawr beth bynnag yw'r sefyllfa rydych chi ynddi, gan atgoffa pobl bod gofal, ein bod yn tosturio, fod gennym gariad, a bod gobaith, a bod gobaith i'w gael yn ein plith, a dylem rannu hynny, a pheidio â chynnig marwolaeth fel ffordd allan trwy gynigion deddfwriaethol. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Fel pwynt o egwyddor, rwy'n cefnogi cyfreithloni cymorth i farw. Credaf y dylai unigolion sy'n wynebu dioddefaint a phoen annioddefol ar ddiwedd eu hoes gael hawl i ddewis sut a phryd y daw eu bywyd i ben. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod llawer o bryderon y rhai sy'n gwrthwynebu'r cynnig hwn yn ddilys ac maent yn haeddu ystyriaeth feddylgar. Ac yn hytrach na diystyru'r pryderon hynny, yn fy sylwadau rwyf am ganolbwyntio ar sut y gallai fframwaith polisi wedi'i gynllunio'n dda fynd i'r afael â hwy. Drwy adeiladu system, polisi, o amgylch egwyddorion allweddol penodol, credaf y gallwn gyflwyno deddfwriaeth sy'n cyfuno gofal a thosturi, nid yn unig i unigolion ond i gymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Yr egwyddor gyntaf, i mi, yw'r un allweddol, sef ymreolaeth a chydsyniad. Rhaid i gymorth i farw fod yn seiliedig ar sylfaen o ymreolaeth bersonol, hawl pobl i wneud penderfyniadau am eu cyrff eu hunain, am eu bywydau eu hunain, ac am eu marwolaeth eu hunain. I'r rhai sy'n wynebu salwch angheuol a dioddefaint annioddefol—a gadewch inni eu cadw lle dylent fod, yng nghanol ein ffocws yn y ddadl hon—rhaid i'r penderfyniad i ddod â'u bywyd i ben fod yn benderfyniad ganddynt hwy eu hunain a neb arall. Ac i ddiogelu'r ymreolaeth honno, mae'n hanfodol fod y penderfyniad yn seiliedig ar gydsyniad cwbl wybodus. Mae'n rhaid rhoi gwybodaeth glir i unigolion am yr holl opsiynau, gan gynnwys gofal lliniarol, nad yw'n gweithio ym mhob amgylchiad i bawb. Ac mae'n rhaid cadarnhau cydsyniad ar gamau lluosog. A dylai hyn sicrhau bod y penderfyniad yn feddylgar, yn wirfoddol ac yn cael ei wneud gan rywun sy'n deall y goblygiadau'n llawn.

Ail egwyddor bwysig yw'r angen i ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed, fel y clywsom—yr henoed, yr anabl—a allai deimlo dan bwysau i ddewis cymorth i farw o ymdeimlad o rwymedigaeth neu ddyletswydd, fel y mae eraill wedi dweud. Mae hwnnw'n bryder dilys, ond gall amddiffyniadau cryf fynd i'r afael ag ef. Rhaid i'r system, gan dynnu ar y profiad mewn mannau eraill, gynnwys asesiadau annibynnol gan nifer o weithwyr proffesiynol—meddygon a gwerthuswyr seicolegol sy'n gallu cadarnhau bod y penderfyniad yn cael ei wneud yn rhydd heb bwysau allanol. Bydd cyfnodau aros gorfodol hefyd yn atal rhag gwneud penderfyniadau ar frys. Bydd y mesurau diogelu hyn yn sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu a'u cefnogi.

Egwyddor allweddol arall: uniondeb meddygol. Mae rhai yn ofni y gallai cyfreithloni cymorth i farw danseilio cyfrifoldebau moesegol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn enwedig yr egwyddor o 'beidio â gwneud niwed'. Ond credaf y gellir creu system sy'n cynnal uniondeb y proffesiwn meddygol gan ganiatáu gofal tosturiol ar yr un pryd. Rhaid i gyfranogi mewn cymorth i farw fod yn wirfoddol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a dylai fod canllawiau moesegol clir ar waith. Rhaid cefnogi meddygon yn eu rôl i leddfu dioddefaint, yn hyderus eu bod yn gweithredu er budd gorau cleifion. A dylai fod system oruchwylio briodol a fyddai'n sicrhau bod sylfeini moesol meddygaeth yn cael eu cynnal. Mae atebolrwydd a thryloywder yn hanfodol. Rhaid i system sy'n cynnwys penderfyniadau bywyd a marwolaeth fod yn agored i graffu. Dylai corff annibynnol oruchwylio pob achos o gymorth i farw er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni meini prawf cyfreithiol a moesegol. Byddai archwiliadau rheolaidd ac adroddiadau cyhoeddus yn darparu tryloywder, gan sicrhau bod y system yn cael ei defnyddio'n gyfrifol ac yn deg at ei dibenion arfaethedig.

Ac yn olaf, rhaid i dosturi ac urddas fod yn y canol mewn unrhyw system ac unrhyw bolisi. Mae cymorth i farw yn golygu caniatáu i bobl ddod â'u bywydau i ben ar eu telerau eu hunain, gan osgoi dioddefaint diangen. Mae system dosturiol yn rhoi unigolion yn y canol, gan ganiatáu iddynt benderfynu pryd a sut y byddant farw, a ydynt yn dewis bod gartref neu mewn lleoliad clinigol, er enghraifft; rhaid i'r system barchu eu gwerthoedd a'u credoau personol bob amser, gan sicrhau bod yr eiliadau olaf yn heddychlon ac yn urddasol.

I droi at y ddadl am y llethr llithrig, fe'i defnyddir yn aml pryd bynnag y byddwn yn deddfu, oni wneir? A mater i ni ydyw—mater i ni mewn Senedd, felly, yw gwneud yn siŵr ein bod yn cadw at y dibenion a fwriadwyd. Mae rhai o'r gwledydd sydd wedi cyflwyno systemau wedi cynnal canllawiau llym iawn; nid ydynt wedi gwyro oddi wrthynt. Os oes dadl ar ryw ddyddiad yn y dyfodol, a bod dadl ddilys a dadl resymegol y dylem ddiwygio'r ddeddfwriaeth, dylem ystyried hynny ar y cam hwnnw, ond yr hyn y soniwn amdano nawr yw pobl sydd mewn poen annioddefol. Maent yn wynebu clefyd angheuol heb obaith o iachâd ac maent yn gofyn i ni, maent yn gofyn i ni fel eu cynrychiolwyr, glywed eu llais, ac rwy'n credu y dylem wrando arnynt.

16:15

Mae gen i deimladau cymysg iawn am y mater cymhleth yma. Mewn gwirionedd, pwy ydw i i leisio barn? Does dim diagnosis terfynol gen i. Dwi ddim yn byw bob dydd mewn poen dychrynllyd a dwi ddim yn hollol ddibynnol ar eraill am fy ngofal. Ar un llaw, mae meddygaeth yn sicrhau bod pobl yn byw yn hirach; antibiotics yn golygu bod pobl sydd â salwch marwol yn gallu goroesi afiechyd fel niwmonia a fyddai wedi eu lladd yn flaenorol. Niwmonia sydd ar dystysgrif marwolaeth fy nhadcu, oedd yn dioddef o gancr yr ysgyfaint; y morffin ychwanegol hynny i leddfu y boen hefyd yn ei gynorthwyo ar ei daith olaf o’r byd hwn.

Fel y gwyddoch chi, eleni fe gollais i Dad ar ôl iddo ddioddef 12 mlynedd o Alzheimer’s. Dros y cyfnod hwnnw, fe aeth Dad o fod yn ddyn llawn brwdfrydedd, llawn egni dros Gymru a'r Gymraeg i fedru gwneud dim byd. Methu siarad, methu bwyta, methu mynd i'r tŷ bach, dyna oedd ei flynyddoedd olaf e. Heblaw am ei deulu agos, fe gafodd Dad ei anghofio yn llwyr yn ystod ei flynyddoedd olaf. Roedden nhw’n flynyddoedd creulon. Roedden nhw'n greulon i ni fel teulu, a does dim geiriau i ddisgrifio pa mor greulon oedd y profiad iddo fe. Pwy ydw i i orfodi unrhyw berson i fynd trwy hynny os nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny? Byddwn i ddim yn dymuno y profiad yna i unrhyw unigolyn nac i unrhyw deulu.

Eto, ar y llaw arall, hyd yn oed yn yr wythnosau olaf, roedd ei wên e yno o hyd, ac roedd hynny yn meddwl y byd i ni. Mae'n fater dyrys. Mae teuluoedd yn bethau cymhleth, onid ŷn nhw? Ac mae marwolaeth cymar neu riant yn aml yn amlygu llawer o densiynau blaenorol. Byddai ychwanegu cymorth i farw yn siŵr o gynyddu problemau teuluol wedi marwolaeth. Bydd yn rhaid hefyd ystyried yr impact ar y proffesiwn meddygol, yr heddlu a’r llysoedd. Ac a ydy’r impact ar ein gwasanaeth iechyd ni a gofal yng Nghymru yn cael ei ystyried yn llawn trwy fynd trwy San Steffan a thrwy fynd trwy Fil preifat?

A fydd diweddu oes yn digwydd yn yr ysbyty, lle mae achub bywyd yn digwydd mewn un gwely a helpu i farw mewn gwely arall? Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi colli nifer o bobl yn yr hosbis arbennig, Holme Towers. A fyddai'r hosbis arbennig yna, sydd mewn lleoliad mor braf, yn dod yn lleoliad cymorth i farw? Gofal lliniarol mewn un ystafell ac yna cymorth i farw mewn ystafell arall. Ac a ydyn ni'n bwriadu sicrhau gwasanaeth iechyd a gofal iawn, atebol, gwell, cyn i ni 'implement-eiddio' y gyfraith yma? Dylai neb orfod wynebu y dewis o wario miloedd o bunnoedd yr wythnos ar gartref gofal neu gymorth i farw. Dyw'r dewis yna jest ddim yn deg.

Yn olaf, dwi hefyd yn bryderus am bobl yn newid eu meddyliau nhw. Mae nifer ohonom ni wedi bod trwy gyfnodau tywyll, a thrwy hynny yn ystyried gwneud pethau, hyd yn oed yn cynllunio gwneud pethau, hyd yn oed yn cymryd y camau cyntaf at ddiweddu bywyd, ond wrth edrych yn ôl yn hynod ddiolchgar nad ydy hynny wedi digwydd. Wel, mae diagnosis terfynol, mae diagnosis o salwch poenus hefyd yn mynd i fynd â chi i gyfnod hynod, hynod dywyll. Mae'n mynd i gymryd amser i ddygymod â'r newyddion ac efallai byddai hynny yn arwain i berson yn newid eu meddyliau nhw.

Nid wyf yn credu bod defnyddio'r geiriau 'lladd a gymeradwywyd gan y wladwriaeth' yn helpu unrhyw un, ac mae rhai wedi ei ddisgrifio felly. Wrth gwrs, gall rhai yma a'i disgrifiodd fel lladd a gymeradwywyd gan y wladwriaeth gyfiawnhau lladd pobl eraill a gymeradwywyd gan y wladwriaeth, gan gynnwys pobl ddiniwed yn ystod rhyfel.

Mi fyddaf i'n pleidleisio o blaid heddiw, jest—jest. Mae gen i concerns mawr. Dwi'n credu ei bod hi’n drafodaeth bwysig i’w chael, a diolch i chi, Julie Morgan, am ddod â'r ddadl bwysig yma. I fi, tosturi sy'n ennill y diwrnod, ond mae’r peryglon yn amlwg iawn hefyd. Diolch yn fawr.

16:20

Hoffwn ddechrau drwy gydnabod bod cymorth i farw, neu gymorth hunanladdiad, gan fy mod yn credu bod hwnnw'n derm mwy cywir ar gyfer yr hyn a drafodwn, yn fater sensitif ac emosiynol iawn. Mae gan lawer ohonom deulu, ffrindiau ac anwyliaid a welsom yn dioddef, ac wrth gwrs, y profiadau hynny sy'n ein cymell i fod eisiau atal hynny rhag digwydd i bobl eraill. Ond y cwestiwn sydd ger ein bron heddiw yw sut y dylid lleihau'r boen a'r dioddefaint hwnnw. A ddylem ni, fel yr awgrymir gan y cynnig sydd o'n blaenau, newid y gyfraith i gefnogi pobl sydd am ddod â'u bywydau i ben cyn pryd, neu a oes ffordd arall ymlaen?

Nawr, gadewch imi fod yn glir o'r cychwyn cyntaf fod fy marn wedi ei llywio gan, a'i seilio ar fy ffydd Gristnogol, gan fy ffydd yn Iesu Grist. Rwy'n ystyried pob bywyd yn sanctaidd, credaf fod pob bod dynol wedi ei greu ar ddelw Duw a beth bynnag y bo ein hoedran, ein hamgylchiadau neu ein statws cymdeithasol, mae pob bywyd yn werthfawr, mae iddo werth ac urddas cyfartal ac mae'n werth ei fyw. Ond nid fy ffydd yn unig ac nid fy nghydwybod yn unig sy'n gwneud imi ddod i'r casgliad fod cymorth hunanladdiad yn anghywir, ond y ffaith hefyd fod cyfreithloni cymorth hunanladdiad yn llawn peryglon na fydd unrhyw newid yn y gyfraith byth yn gallu eu lliniaru.

Mae'n bwysig datgan hyn: mae'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn mynd ymhell y tu hwnt i gwmpas y ddeddfwriaeth sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd yn Senedd y DU a'r Alban. Yno, mae'r rhai sy'n cefnogi newid yn y gyfraith yn ceisio cyfyngu cymorth hunanladdiad i'r rhai sydd â salwch angheuol, ond yma gofynnir i ni gefnogi'r farn y bydd cymorth hunanladdiad ar gael i unrhyw un yn ei lawn bwyll a chadarn ei ewyllys sy'n dioddef yn annioddefol, boed yn salwch angheuol ai peidio. Nid yw'r ymadrodd 'salwch angheuol' i'w weld yn unman yn y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Nawr, mae 'dioddefaint annioddefol' yn derm goddrychol. Fel y clywsom eisoes, lle cafodd ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill, mae cymorth hunanladdiad yn cael ei ganiatáu ar gyfer pob math o gyflyrau, hyd yn oed rhai fel tinitws, anorecsia, fel y clywsom eisoes, briwiau gorwedd a dallineb hyd yn oed.

Gall hefyd fod yn anodd iawn penderfynu a yw rhywun yn ei iawn bwyll ac yn gadarn ei ewyllys. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi dweud wrthym fod y dystiolaeth yn gyfyngedig ynglŷn ag i ba raddau y bydd asesiadau seicolegol ac asesiadau seiciatrig o iawn bwyll ac ewyllys gadarn yn ddiogelwch effeithiol yn y broses o gwbl. Ac mae gorfodaeth bron yn amhosibl ei chanfod, mewn gwirionedd. Y gwir amdani yw y gall agweddau pobl tuag at salwch angheuol newid, ac mae hynny'n digwydd yn aml. Efallai y bydd llawer o bobl sy'n teimlo gofid ac anobaith ar adeg eu diagnosis neu newid sylweddol a sydyn yn eu hiechyd yn teimlo bryd hynny eu bod am roi diwedd ar y cyfan, ond maent yn aml yn mynd ymlaen i ddod o hyd i'r gallu i addasu ac ymdopi wrth iddynt barhau â'u taith.

Mae'r cynnig hefyd yn awgrymu bod cymorth hunanladdiad wedi ei gysylltu â gwelliannau mewn gofal lliniarol a bod cefnogaeth boblogaidd iddo. Ond mae'r rhai ohonom a fynychodd y briff ardderchog ar ofal lliniarol gan y Farwnes Ilora Finlay ddoe, a lle trafodwyd y pwnc hwn, yn gwybod nad yw hynny'n wir o reidrwydd, oherwydd yn y mannau lle mae gofal lliniarol wedi gwella, nid yw wedi gwneud hynny ar y gyfradd a wnaeth yn y gwledydd lle mae cymorth hunanladdiad yn parhau i fod yn anghyfreithlon. Mae cefnogaeth y cyhoedd i newid yn y gyfraith yn lleihau pan fydd y cyfreithiau cyfredol yn cael eu hesbonio i bobl a lle caiff telerau cymorth hunanladdiad eu hegluro iddynt.

Felly, byddai cyfreithloni cymorth hunanladdiad yn anfon neges glir nad yw rhai bywydau'n werth eu byw, ac nid wyf yn credu bod honno'n neges y dylai unrhyw gymdeithas wâr ei hyrwyddo i unrhyw un o'i dinasyddion, yn enwedig pan fo llawer o bobl ledled Cymru nawr yn mwynhau bywyd boddhaus er gwaethaf eu salwch angheuol, neu er gwaethaf cyflwr gwanychol. Rwy'n credu mai dyna pam y mae cymaint o bobl anabl yn gwrthwynebu newid yn y gyfraith yn y maes hwn. Cawsom ohebiaeth ddoe, Julie—clywais eich sylwadau yn gynharach, ond cawsom ohebiaeth ddoe gan gynghrair gyfan o sefydliadau anabledd. Nid oes yr un ohonynt yn cefnogi newid yn y gyfraith, a hynny oherwydd bod pob un ohonynt yn cydnabod y perygl i bobl gael canfyddiad o faich, eu bod yn rhywun nad yw'n haeddu bod yn fyw. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael ag ef.

Hefyd—yn olaf, os caf—pryder arall, lle mae cymorth hunanladdiad wedi ei gyflwyno, yw ei fod yn tueddu i gael effaith anghymesur ar gymunedau tlotach a mwy ymylol mewn cymdeithas, ac nid oes amheuaeth mai dyna fyddai'n digwydd yma yng Nghymru hefyd. Byddai pobl ag incwm gweddus, rhwydwaith cryf o ffrindiau ac anwyliaid a mynediad at ofal iechyd da yn ystyried cymorth hunanladdiad mewn ffordd wahanol iawn i bobl sy'n unig, yn methu cael gofal da, yn methu cael cymorth—

16:25

Dyna fu'r profiad dramor ac mae hi bron yn sicr mai dyna fyddai'r profiad yma hefyd. Felly, beth yw'r ateb? Yr ateb, yn fyr, yw buddsoddi mewn gofal lliniarol, buddsoddi mewn gofal diwedd oes. Gwyddom fod Hospice UK wedi dweud wrthym eu bod yn wynebu argyfwng ariannol sylfaenol ar hyn o bryd. A chyda'n gilydd, rwy'n gobeithio mai un peth y gallwn i gyd gytuno arno, hyd yn oed os nad ydym yn cytuno ar y cynnig hwn, yw bod yn rhaid inni wneud mwy i sicrhau eu bod hwy'n cael yr arian y maent yn ei haeddu.

Diolch i Julie Morgan am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Er bod marwolaeth yn digwydd i ni i gyd, dydyn ni fel cenedl ddim yn dda iawn am drafod marwolaeth, a dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni ddim yn ei thrafod yn golygu, wedyn, ein bod ni ddim wastad yn gwrando ar bobl. Bydd gennym ni i gyd farn, ond, i fi, mae hyn am hawl bob unigolyn i allu gwneud y dewis hwn. Oherwydd mi fedrwn ni ddychmygu sut fath o beth ydy o, ond tan i chi fod yn y sefyllfa honno o fod mewn poen dirdynnol, hyd yn oed efo'r gofal lliniarol gorau, fedraf i ddim dweud bod yn rhaid i chi drio parhau. A dwi hefyd eisiau dod â bach o—wel, ein bod ni'n atgoffa ein hunain o pam fod pobl wedi gwneud y ddadl yma, a mynd nôl i'r pwyntiau cychwynnol gan Julie Morgan.

Os caf, fe wnaethoch chi ein hatgoffa bod pobl eisoes yn gwneud y dewis hwn. Maent yn gadael y wlad, heb gefnogaeth anwyliaid, neu os yw eu hanwyliaid gyda hwy, gan wynebu'r perygl o erlyniad. Mae pobl yn gwneud y dewis hwnnw trwy gyflawni hunanladdiad. A gwyddom fod hynny'n digwydd. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig berson yma heddiw sydd wedi cael gohebiaeth gan etholwyr lle mae eu rhieni wedi cyflawni hunanladdiad, neu rywun annwyl, am nad oedd cymorth i farw yn opsiwn. Felly, gadewch inni beidio ag esgus nad yw hyn yn digwydd. Yr hyn sy'n hynod drist yn yr ohebiaeth a gefais yw bod pobl wedi dweud nad oeddent yn gwybod eu bod yn bwriadu cyflawni hunanladdiad, am eu bod yn ofni beth fyddai hynny'n ei olygu pa bai'r unigolyn hwnnw yn gwybod am eu cynlluniau, ac ati, ac nad oedd urddas mewn marwolaeth, dim ffarwel, fel pe baech chi wedi gwneud y dewis, dewis gwybodus, gyda'r holl fesurau diogelu y mae fy nghyd-Aelod Adam Price wedi'u hamlinellu. Rwy'n credu bod y rhain yn gamau rhesymegol ymlaen. Ac ydw, rwy'n ofnus iawn hefyd, pan ddarllenaf am y sefyllfaoedd llethr llithrig hynny, lle mae pobl wedi ei gael yn anghywir wrth ei weithredu. Ond yn y pen draw, mae yna fframweithiau y gallwn eu rhoi ar waith.

Rwy'n cytuno'n llwyr â Darren Millar ynglŷn â buddsoddi mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Mae'n rhaid inni fod yn onest nad yw gofal diwedd oes a gofal lliniarol yn cael eu hariannu'n iawn yma yng Nghymru ar hyn o bryd, a bod pobl yn marw heb y gefnogaeth y maent yn ei haeddu. Mae pobl yn marw heb urddas. Rwyf hefyd yn credu'n llwyr y gall rhai pobl â salwch angheuol fyw bywydau llawn wedi eu cefnogi'n llawn, a chael marwolaeth heddychlon, ond nid pawb sy'n cael y farwolaeth heddychlon honno; nid yw pawb yn cael y farwolaeth braf a welwn mewn ffilmiau a'r hyn yr hoffai pawb ohonom iddo ddigwydd ar ddiwedd ein bywydau.

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Fe glywsom, mewn cryn fanylder ddoe, am y dulliau a ddefnyddir i gyflawni cymorth i farw yn rhai o'r gwledydd lle mae wedi ei gyfreithloni—nid yw honno'n farwolaeth braf, ychwaith. Mae llawer o bobl yn brwydro am oriau lawer. Mewn gwirionedd, roeddem yn darllen adroddiadau o Oregon am 137 awr cyn iddynt farw. Roedd rhai pobl yn adfywio ar ôl cymryd y gwenwynau a thabledi eraill. Nid dyna'r farwolaeth braf Hollywoodaidd sy'n digwydd yn ôl rhai o gefnogwyr cymorth hunanladdiad.

16:30

Na, a dyna pam y mae angen i chi ei gael yn hollol gywir. Ond rwy'n credu bod gan rywun hawl i ddewis pryd y daw eu dioddefaint i ben. Nid wyf yn teimlo bod gennyf hawl i orfodi'r unigolyn hwnnw i barhau i ddioddef. Felly, rwy'n credu bod y mesurau diogelwch hynny, y pryderon hynny, i gyd yn ddilys iawn, ond mae hyn yn ymwneud â thosturi a phobl yn cael diwedd urddasol a chael y dewis hwnnw. 

Credaf mai ein rôl ni yma yw gwrando ar ein holl etholwyr. Mae rhai ohonynt yn ofnus iawn ynghylch y newidiadau arfaethedig, ac rwy'n deall hynny'n llwyr. Mae rhai'n edrych arno o safbwynt crefyddol, ond mae eraill yn gweld pobl yn dewis dod â'u bywyd i ben mewn ffordd nad yw o'u dewis. Byddai hyn yn caniatáu i bobl gael urddas wrth farw. Yn sicr, nid wyf i am gamu yn eu ffordd, ond mae angen y mesurau diogelu ar waith. Dyna pam rwy'n teimlo bod angen inni gael y sgwrs honno am farwolaeth, ond caniatáu i bobl wneud y dewis, nad yw'n bodoli ar hyn o bryd.

Yn gyntaf oll rwyf am siarad am ofal lliniarol, oherwydd cefais brofiad ofnadwy tua naw mlynedd yn ôl, ac rwy'n ei gofio'n fyw iawn, sef sgwrs ofidus gydag etholwr a oedd wedi newydd ddod yn wraig weddw. Roedd ei gŵr wedi cael diagnosis o ganser angheuol rai misoedd ynghynt, ac roedd y gefnogaeth a gafodd y ddau ohonynt gan deulu a ffrindiau, yn ogystal â'r meddyg lleol a'r fferyllfa, yn gwbl ardderchog. Felly, nid oeddwn yn barod o gwbl am y disgrifiad o'i bum diwrnod olaf mewn hosbis, yn enwedig ei noson olaf.

Yn ôl ei weddw, roedd mewn artaith, yn crio allan drwy'r nos, yn codi beil du drwy'r amser. Roedd hyn yn peri gofid mawr i'w wraig, yn ogystal ag aelodau eraill o'r teulu a oedd yn bresennol. Rwy'n ymddiheuro os yw hyn yn peri gofid i unrhyw un sy'n gwrando ar y ddadl hon, ond yn anffodus, nid yw marw, fel y mae eraill wedi'i ddweud, yn brofiad heddychlon fel y byddem i gyd yn dymuno ei gael. Ac mae hynny'n cynnwys mewn lleoliad sy'n gofalu am bobl â salwch angheuol, yn ogystal â lle i farw.

Ni chafodd cymorth i farw ei drafod gan y cwpl hwn am eu bod am dreulio cymaint o amser gyda'i gilydd ag y gallent. Yn sicr, ni fyddent wedi bod ag arian i fynd ar awyren i fynd i Zurich pe bai'r gŵr wedi dymuno hynny. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod, i lawer o bobl sydd ag arian, fod ganddynt yr opsiwn eisoes i roi diwedd ar eu bywyd os ydynt yn meddwl—. Ac fe wnaeth un o fy ffrindiau agosaf ddewis yr opsiwn hwnnw a mynd i Dignitas, ond roedd yn rhaid iddi ei guddio rhag llawer o bobl eraill oherwydd y posibilrwydd y gallent gael eu herlyn am fod wedi cynorthwyo'r hyn a oedd yn ddymuniad pendant ganddi.

Rwy'n cytuno ag Ilora Finlay nad yw cymhlethdodau'r materion yr ydym yn eu trafod heddiw yn cael eu cynnwys yn ddigonol yn y penawdau na'r ystrydebau. Mae hynny oherwydd ein bod, fel cymdeithas, yn amharod i drafod y digwyddiad sy'n ein haros ni i gyd. Cyferbynnwch hynny â'r diwylliant ym Mecsico, lle, yr wythnos nesaf, oherwydd ei bod yn ddeuddydd y meirw—1 a 2 Tachwedd—bydd anwyliaid yn ymgasglu o amgylch beddau'r ymadawedig gyda'u hoff fwyd, eu hoff ddiod, yn ogystal â chofroddion a lluniau ohonynt, ac mae trafodaeth yn digwydd am yr hyn y maent yn ei golli am yr unigolyn hwnnw.

Rwy'n siŵr fod diwylliannau eraill yn y byd yn ymdrin â marwolaeth yn well na ni. Yn anffodus, am nad ydym yn trafod y llinyn bogail absoliwt hwn rhwng geni a marwolaeth, rhwng colled ac adnewyddiad, nid ydym yn cael y trafodaethau hynny gyda'n hanwyliaid mewn pryd. Rwy'n dal i deimlo'n euog am y modd y bu farw fy nhad am fy mod wedi methu ei drafod, gydag ef—mae'n amheus a oedd ganddo'r gallu i wneud erbyn hynny—neu gyda fy mrodyr/chwiorydd. A oedd ef yn dioddef o salwch angheuol? Roedd yn sicr yn dod at ddiwedd ei oes gan iddo ei gyflymu trwy fwyta'r holl bethau anghywir, yfed gormod o lawer, peidio â gwneud unrhyw ymarfer corff, a chael cyfres o strociau.

Roeddwn i dramor, yn anffodus, ar yr ochr arall i'r byd pan gafodd y strôc olaf ond un, a chymerodd 24 awr imi ddychwelyd. Ac am fy mod wedi methu cael y drafodaeth gyda fy mrodyr/chwiorydd ynglŷn ag a ddylid ei adfywio pe bai'n cael strôc arall, rwy'n dal i deimlo'n drist fod ei fywyd wedi dod i ben gyda llwyth o bobl yn neidio arno yn gorfod ei adfywio, am mai dyna a ddywedodd un o fy mrodyr/chwiorydd eu bod am iddo ddigwydd. Nid oedd yn briodol a dylai fod wedi cael mynd yn naturiol.

Mae yna ormod o lawer o ffyrdd lle mae meddygaeth fodern yn cadw pobl yn fyw ymhell y tu hwnt i'w gallu i fwynhau bywyd, ac mae hwn yn gyfyng-gyngor sy'n wynebu'r proffesiwn meddygol bob diwrnod o'u bywydau gwaith os ydynt yn gweithio mewn meddygaeth frys. Mae'n anodd iawn, ond rwy'n deall yn llwyr fod angen i ni fwrw ymlaen yn ofalus iawn â hyn. Mae gwir angen inni gael y mesurau diogelwch ar waith, ond ar yr un pryd, pam y mae angen inni sicrhau nad yw'r wladwriaeth yn ein gwahardd rhag dod â'n bywydau i ben pan gredwn ein bod wedi cael digon?

Cofiwch sut y byddem yn arfer trin pobl a oedd wedi cyflawni hunanladdiad. Byddent yn cael eu hamddifadu o farwolaeth urddasol; caent eu gwthio i gornel a byddai eu teuluoedd yn cael eu gwnaed i deimlo fel pe baent yn fychod dihangol. Felly, mae'n rhaid inni symud ymlaen yn ofalus. Rwy'n cefnogi'r Bil sy'n cael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, ond rwy'n credu bod gwir angen inni gael yr holl fesurau diogelu ar waith, ac fel y dywedodd Adam Price, os nad yw'n gweithio, mae angen inni wneud deddfwriaeth bellach.

16:35

Wrth gwrs, fel y nodwyd yn briodol heddiw, mae cymorth i farw yn gymhleth ac yn emosiynol, gyda phryderon sylweddol yn erbyn ei gyfreithloni. Mater i Lywodraeth y DU yw newid y gyfraith yn hyn o beth. Gallaf ddeall pam fod yr Aelod yn cyflwyno hyn, ond fel y dywedwyd eisoes gan fy nghyd-Aelodau ar y meinciau hyn, nid yw'r cynnig sydd gennym ger ein bron heddiw yn adlewyrchu'n hollol yr hyn y gofynnir iddynt bleidleisio o'i blaid yn Senedd y DU. Mae'n amwys. Hoffwn ofyn beth a olygir ym mhwynt 3 wrth

'gyflwr corfforol annioddefadwy, na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw'. 

Wel, rydym yn gwybod, o dystiolaeth—. A hoffwn ddiolch i'r Farwnes Finlay a Julian Hughes am roi copi o'r llyfr hwn i'r holl Aelodau. Mae'n llawer o waith darllen, ac rwyf i wedi ei ddarllen, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae yna enghreifftiau niferus o ble mae cymhlethdodau o'r math a drafodwyd gennym—. Nid codi bwganod ydyw, maent yn sefyllfaoedd sydd wedi digwydd mewn gwledydd lle mae hyn wedi'i ganiatáu. 

Nodwn bwynt 1 nad yw hwn yn fater wedi'i ddatganoli ac mae'n dal i gael ei lywodraethu gan gyfraith droseddol. Gadewch inni beidio ag anghofio'r llw Hipocratig y mae'r rheini yn y maes meddygol yn ei wneud. I mi, mae'n ymddangos yn rhyfedd ein bod ni'n gofyn i rywun y mae ei brif rôl yn galw am helpu pobl sâl hyd eithaf eu gallu a'u crebwyll ac ymatal rhag niweidio neu gam-drin unrhyw un drwy hynny—. Mae'n gorchymyn i feddygon wneud eu gorau yn eu swydd, a pheidio â defnyddio eu sgìl na'u gwybodaeth i niweidio neu ladd cleifion. Am hynny rydym ni'n sôn.

Un pwynt a wnaeth Darren Millar oedd nad yw'n farwolaeth Hollywoodaidd. Pe bawn i'n destun cymorth i farw nawr, gallwn gymryd mwy—. Gallant roi coctel o dabledi i chi, neu bigiad efallai. Gallai gymryd mwy o amser, ac mewn rhai achosion, hyd at 137 awr—o 3 munud i 137 awr, yn dibynnu ar eich corff. Ac mewn rhai achosion, fel y dywedwyd eisoes, mae pobl wedi—. Beth yw'r gair am pan na allant symud? [Torri ar draws.] Wedi'u parlysu, ie. Gallant gael eu parlysu yn ystod hyn. Rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn eithaf realistig ynglŷn â'r hyn y gofynnwn i'r Llywodraeth ysgwyddo cyfrifoldeb amdano.

Un mater allweddol yw'r cysylltiad rhwng salwch angheuol ac iechyd meddwl, oherwydd gall trallod emosiynol, fel iselder, hybu'r awydd i gyflymu marwolaeth. Gallaf ddweud wrthych—rydym wedi defnyddio enghreifftiau personol—byddai fy nhad yn aml yn dweud, 'Rwyf wedi blino. Mae'n hen bryd imi fynd adref.' Ar y noson y bu farw, gwrthodwyd ei ddadebru. Nid oedd ganddo DNR ar ei gofnod, ac roedd yn gofyn i mi, yn gweiddi arnaf i'w helpu, ond ni chafodd ei ddadebru. Rhoddwyd pum gwaith y diamorffin i fy mam, 20 mlynedd yn ôl, a bu farw yn y pen draw o ganlyniad i'r pigiad, ac eto, ar ei chofnod, dim diamorffin. Roedd hi'n ofnus iawn, ar ôl byw trwy lofruddiaethau Harold Shipman.

Yn ogystal, mae'r triniaethau'n aml yn bell o fod yn llyfn. Mae cleifion yn cael eu parlysu, yn methu cyfathrebu, yn methu dweud 'stop'. Maent yn dioddef poen ofnadwy. Sut y mae hyn yn helpu'r dioddefaint? Gallant ddioddef poen aruthrol wrth gael cymorth i farw.

Gellir cam-drin unrhyw system—fe wyddom amdano. A oes gan unrhyw un ohonoch chi yma unrhyw enghreifftiau o lwybr gofal Lerpwl? Mae gennyf dri pherthynas y gwrthodwyd bwyd a dŵr iddynt er mwyn prysuro eu marwolaeth. Mae'n frawychus ein bod ni—. Gallaf ddeall bod pobl sy'n cyflwyno hyn eisiau ei wneud am y rhesymau cywir, i atal y dioddefaint aruthrol hwnnw, ond gallwch atal dioddefaint aruthrol trwy gefnogi iechyd meddwl, drwy sicrhau cyllid Llywodraeth, sicrhau bod gennym ddigon o ymarferwyr iechyd meddwl, fel bod rhywun sydd eisiau marw un diwrnod oherwydd eu poen a'u dioddefaint yn cael ei helpu i fywyd gwell i'w fyw. Mae bywyd yn werthfawr iawn, fel y crybwyllwyd yma. Llinell denau yw'r ffin rhwng bywyd a marwolaeth, ac nid wyf yn credu mai mater i'r Llywodraeth yw cymryd rhan yn hynny.

Rydym hefyd yn gwybod bod nifer y rhai yng Nghanada, lle cyflwynwyd cymorth i farw, sy'n dewis hyn yn cynyddu o hyd. Mae wedi cynyddu tua 36 y cant. Ar yr un pryd, rydym yn gwybod bod y swm a werir ar ofal lliniarol wedi gostwng fwyfwy.

16:40

Iawn, fe wnaf. Rwyf am orffen drwy ddweud na ddylem siarad am realiti cymorth i farw. Dylem fod yn siarad am realiti cymorth i fyw. Diolch.

Fel y nodwyd yn y llyfr The Reality of Assisted Dying, a gyd-olygwyd gan yr Athro Ilora Finlay, Barwnes Llandaf, a'r Athro Julian C. Hughes, y ddau yn hyrwyddwyr newid yn y gyfraith, mae'r rhai sy'n gwrthwynebu newid o'r fath yn cael eu cymell gan dosturi. Ond nid yw cymhlethdodau'r materion dan sylw yn cael eu cynnwys yn ddigonol ym mhenawdau neu ystrydebau'r cyfryngau modern. Mae'r cymhlethdodau hyn a chanlyniadau anfwriadol newid yn y gyfraith yn peri pryder difrifol i'r rhai sy'n gyfrifol am lunio deddfwriaeth a gweithredu newid.

Pan fuom yn dadlau ddiwethaf am gymorth i farw yma ddegawd yn ôl, dywedodd y Farwnes Ilora Finlay, a fu'n gweithio fel meddyg ymgynghorol gofal lliniarol am 40 mlynedd, wrthyf fod y rhai ohonom sy'n gofalu am bobl â salwch angheuol o ddydd i ddydd yn ymwybodol iawn o fregusrwydd pobl sy'n marw, sut y gallant fod yn dueddol o deimlo iselder, teimlo'n faich ar y rhai o'u cwmpas, dod o dan bwysau pobl ddiegwyddor, a gwyro o obaith un diwrnod i anobaith y diwrnod nesaf ac yn ôl eto, heb sôn am y posibilrwydd y gallai diagnosis a phrognosis meddygol fod yn anghywir. Dyna pam, meddai, fod mwyafrif o feddygon ac yn enwedig y rheini ohonom sy'n trin cleifion sy'n marw yn gwrthwynebu newid yn y gyfraith. Gallai cyfreithloni cymorth i farw fodloni dymuniadau lleiafrif bach o bobl benderfynol iawn, meddai, ond mae risg y gallai greu perygl o niwed i lawer mwy o gleifion bregus.

Pan siaradais â hi yr wythnos diwethaf, dywedodd wrthyf ei bod yn sefyll wrth yr hyn a ddywedodd bryd hynny. Ac fel y dywedodd hi ddoe ddiwethaf, mae un o bob chwech o bobl dros 65 oed yn cael eu heffeithio gan gamdriniaeth ac mae perygl gwirioneddol o orfodaeth. Mae'r Journal of Pain and Symptom Management wedi cyhoeddi tystiolaeth sy'n dangos bod gwledydd sydd wedi cyflwyno cymorth i farw wedi gostwng yn y safleoedd byd-eang ar gyfer gofal diwedd oes. Ac er bod y cynnig hwn yn nodi bod hyd at 88 y cant o'r cyhoedd o blaid newid yn y gyfraith, nid yw'r arolygon barn yn ystyried ymarferoldeb hyn. Mewn cyferbyniad, yn 2019, canfu Coleg Brenhinol y Meddygon mewn arolwg barn fod 80 y cant o feddygon gofal lliniarol, y rhai sy'n gweithio gyda phobl sy'n marw, yn parhau i wrthwynebu defnyddio meddygaeth i ddod â bywydau cleifion i ben, gyda dim ond 4 y cant o blaid.

Mae'r Farwnes Grey-Thompson, yr athletwr cadair olwyn arobryn, wedi datgan ei bod yn poeni'n fawr am gynigion i gyfreithloni cymorth i farw a rhybuddiodd y gallai llawer o bobl anabl gael eu hystyried yn bobl â salwch angheuol, gan eu gwneud yn agored i'r newidiadau. Mae Anabledd Cymru a Pobl yn Gyntaf Cymru wedi rhybuddio bod goblygiadau'r Bil Aelod preifat yn bellgyrhaeddol gyda chanlyniadau difrifol posibl, gan ychwanegu mai dyna pam nad oes unrhyw sefydliadau pobl fyddar ac anabl yn y DU o blaid deddfwriaeth. 

Fel y dywed Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, mae unigolyn sydd â salwch corfforol angheuol yn fwy tebygol o fod â salwch meddwl ac mae pobl ar ddiwedd eu hoes yn haeddu triniaeth seiciatrig o ansawdd uchel, ac mae ymchwil yn awgrymu, os caiff iselder ei drin mewn pobl â salwch corfforol angheuol, fod eu dymuniad i gyflymu marwolaeth yn lleihau. Mae argymhellion ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ'r Cyffredin i gymorth i farw/cymorth hunanladdiad hefyd yn berthnasol i'r ddadl cymorth i farw yng Nghymru, lle maent yn nodi: 

'mae mynediad at a darpariaeth gofal lliniarol a diwedd oes yn dameidiog. Rhaid i'r Llywodraeth sicrhau darpariaeth gyffredinol o wasanaethau lliniarol a diwedd oes, gan gynnwys gofal hosbis yn y cartref.'

Fel y mae Hospice UK yn datgan, beth bynnag am unrhyw newid yn y gyfraith, mae angen i Lywodraeth Cymru leihau annhegwch o ran mynediad at, a phrofiad o ofal lliniarol a diwedd oes. Ac fel y dywed Marie Curie, mae angen gweithredu ar frys yng Nghymru i sicrhau bod ein system gofal lliniarol a diwedd oes yn diwallu anghenion pobl ledled Cymru ac yn gallu ymateb i'r nifer gynyddol o bobl a fydd angen gofal lliniarol a diwedd oes yn y blynyddoedd i ddod, gan ychwanegu bod bwlch gweithredol rhwng yr hyn a nododd Llywodraeth Cymru yn ei gweledigaeth ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes a hyn yn dod yn realiti i bawb.  

Os oes gennych chi salwch na ellir ei wella, mae gofal lliniarol yn eich gwneud mor gyfforddus â phosibl trwy reoli eich poen a symptomau trallodus eraill. Mae hefyd yn cynnwys cefnogaeth seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol i chi a'ch teulu neu ofalwyr. Gwrthwyneb gofal lliniarol yw cymorth i farw ac fel y dywed Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr, sy'n cynrychioli barn cymaint o bobl, datrys cyflwr gwael y GIG a gwasanaethau gofal lliniarol ddylai'r flaenoriaeth fod, nid cyfreithloni cymorth hunanladdiad.  

16:45

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Julie Morgan am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw ac os caf, i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae bron i ddegawd ers inni drafod cymorth i farw ddiwethaf yn y Senedd. Mae'n bwnc cymhleth ac emosiynol, a hefyd mor bwysig, ond mae'n ddadl amserol. Cyflwynwyd Bil Aelod preifat newydd yn Nhŷ'r Cyffredin gan Kim Leadbeater AS yr wythnos diwethaf, ac mae Bil diweddaraf yr Arglwydd Falconer ar gam Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi. 

Fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw cymorth i farw wedi'i ddatganoli i Gymru ond pe bai un o'r Biliau meinciau cefn hyn yn dod yn gyfraith, fe fyddai goblygiadau enfawr i Gymru wrth gwrs. Fel mater o gydwybod, gallaf gadarnhau y bydd aelodau'r Llywodraeth a'r meinciau cefn ar y meinciau hyn yn cael pleidlais rydd ar y cynnig heddiw. Fel Aelod o'r Senedd, mae gennyf farn, y byddaf yn ei hadlewyrchu yn fy mhleidlais, ond yn fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, nid wyf am siarad am yr achos o blaid neu yn erbyn cymorth i farw heddiw. Rwy'n bwriadu canolbwyntio yn fy ymateb ar ran y Llywodraeth ar gyd-destun ymarferol y ddau Fil sydd ger bron dau Dŷ'r Senedd a'r hyn y gallent ei olygu i Gymru. 

Pleidleisiodd Senedd y DU ar gymorth i farw ddiwethaf yn 2015, pan wrthododd Fil Aelod preifat o 330 pleidlais i 118. Daeth yr ymgais ddiweddaraf i newid y gyfraith yr haf hwn gyda chyflwyno Bil Aelod preifat yr Arglwydd Falconer ar gymorth i farw i oedolion â salwch angheuol yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae'r Bil hwn yn gais i roi cymorth meddygol byw i oedolion â salwch angheuol sydd â chwe mis neu lai i fyw i roi diwedd ar eu bywydau drwy hunanweinyddu meddyginiaeth wedi'i phresgripsiynu. Ni fyddai hyn ond yn berthnasol i bobl sy'n gallu gwneud y penderfyniad yn feddyliol. Byddai angen i benderfyniad oedolyn â salwch angheuol gael ei gymeradwyo gan ddau feddyg a'r Uchel Lys.

Bydd ASau hefyd yn cael pleidlais ar gymorth i farw, fel y clywsom, ar ôl i Kim Leadbeater ennill yr hawl i gyflwyno ei Bil Aelod preifat ei hun ar gymorth i farw. Ni fyddwn yn gwybod yr union fanylion tan fis nesaf, pan fydd ar ei Ail Ddarlleniad. Byddwn yn parhau i fonitro hynt y ddau Fil drwy'r Senedd, ac rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth y DU i ddeall a chynllunio ar gyfer y goblygiadau i bobl Cymru. 

Mewn ymateb i'r cwestiwn gan y cyn-Gwnsler Cyffredinol, pe bai Bil cymorth i farw yn mynd rhagddo, byddem yn parhau â'r ymgysylltiad â Llywodraeth y DU i benderfynu pa agweddau ar y Bil a ddatganolir. Byddai'r penderfyniad hwn yn sefydlu a fyddai angen i ni fwrw ymlaen â memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ond yn naturiol, mae'r maes iechyd wedi'i ddatganoli i raddau helaeth ac felly mae'n debygol y byddai goblygiadau o ran datganoli.

Fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, Ddirprwy Lywydd, os yw'r gyfraith ar gymorth i farw yn newid, bydd goblygiadau pellgyrhaeddol i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau gofal diwedd oes yng Nghymru. Beth bynnag yw canlyniad y ddadl ar gymorth i farw yn Senedd y DU, mae'n hanfodol ein bod yn parhau â'n gwaith yng Nghymru ar wella ansawdd gofal lliniarol a gofal diwedd oes a mynediad ato.

Mae tua 33,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn. Wrth i'n poblogaeth heneiddio, bydd nifer gynyddol o bobl yn dioddef o afiechydon cronig lluosog a allai gyfyngu ar fywyd. Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd yn dangos bod nifer y plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau wedi cynyddu bron i chwarter yn y degawd rhwng 2009 a 2019. Mae hyn yn tanlinellu ymhellach pa mor bwysig yw darparu gofal lliniarol o ansawdd da.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig am y gwaith a wnaethom yn ystod tymor y Senedd hon ar wella mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Er ein bod wedi gwneud cynnydd da, mae heriau'n parhau yn sicr, gan gynnwys amrywiadau yn argaeledd ac ansawdd gwasanaethau gofal lliniarol rhwng gwahanol rannau o Gymru: cynaliadwyedd darpariaeth hosbis, prinder gweithlu a diffyg data cynhwysfawr am ganlyniadau a phrofiad cleifion. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda bwrdd y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes i fynd i'r afael â'r heriau hyn trwy ffocysu ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwn yn parhau i wneud hyn wrth fonitro cynnydd y ddadl yn y Senedd, oherwydd ni fydd y galw am ofal lliniarol o ansawdd uchel yn lleihau os yw'r gyfraith ar gymorth i farw'n newid.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod y ddadl heddiw wedi bod yn un lle mae cymhlethdod mater cymorth i farw wedi cael ei archwilio, ac mae'n amlwg fod yr Aelodau wedi ystyried materion cydwybod ac ymarferoldeb. Mae safbwynt y Llywodraeth yn niwtral, ac mae'r Llywodraeth yn cydnabod y bydd Aelodau, o blaid ac yn erbyn y cynnig, yn bwrw eu pleidleisiau wedi'u hysgogi gan dosturi a gofal. Credaf fod y ddadl, o ran ei chynnwys a'i naws, yn adlewyrchu'n dda ar y Senedd, ac unwaith eto, mae'r Llywodraeth yn ddiolchgar i Julie Morgan am gyflwyno'r cynnig.

16:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac yn bersonol hoffwn ddiolch a thalu teyrnged i Julie Morgan am gyflwyno'r ddadl hollbwysig hon i'r Senedd heddiw, ac am ei chyfraniadau craff. Rwy'n gwybod bod Julie wedi hyrwyddo hyn pan oedd hi yn y Llywodraeth a hefyd pan oedd hi yn San Steffan, ac rwyf am dalu teyrnged i Julie am yr holl waith a wnaeth ar y mater hwn dros yr amser hwnnw.

Rwyf am siarad am y rheswm pam rwy'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Rydym i gyd wedi mynd i fyd gwleidyddiaeth am resymau penodol—. Fe geisiaf i beidio â bod yn emosiynol. Mae pob un ohonom yn mynd i fyd gwleidyddiaeth am resymau penodol. Euthum innau ynghlwm wrth wleidyddiaeth oherwydd fy mod wedi rhoi addewid i fy mam-gu na fuaswn i byth yn gadael i neb fynd drwy'r hyn a aeth hi drwyddo ar ddiwedd ei hoes—byth. Roedd dementia gwael iawn ar fy mam-gu, a bu fy mam-gu a fy nhad-cu yn trafod ei gofal, ac fe wnaethant y penderfyniad rhyngddynt, pe bai unrhyw beth drwg yn digwydd, y byddai fy nhad-cu yn gwneud y penderfyniad na fyddai fy mam-gu yn dioddef. Cafodd fy mam-gu strôc wael iawn. Fe'i gadawodd hi'n anabl iawn. Ni allai siarad, ni allai agor ei llygaid, ond roedd hi'n dal yn fyw. Nid oedd ganddi fywyd nac ansawdd bywyd. Dywedodd y meddygon wrth fy nhad-cu y gallent gadw fy mam-gu yn fyw trwy osod tiwb bwydo i mewn i'w stumog. Gwnaeth fy nhad-cu y penderfyniad, yn seiliedig ar y sgyrsiau a gafodd gyda fy mam-gu, na fyddai'n gwneud hynny iddi, a phenderfynodd y dylai gael yr opsiwn i ddod â'i bywyd i ben yn naturiol. Daeth yr ysbyty at fy nhad-cu a dweud, 'Os gwnewch chi hyn, fe wnawn ni eich erlyn am ddynladdiad.' Am weddill ei ddyddiau, fe wnaeth fy nhad-cu ddifaru'r penderfyniad y bu'n rhaid iddo ei wneud ar y pryd i ymestyn bywyd fy mam-gu. Fe wneuthum addewid i'r ddau ohonynt na fuaswn i byth yn gadael i unrhyw un ddioddef fel hynny eto, a dyna pam rwy'n cefnogi hyn heddiw.

Fel y dywedodd Julie, mae 31 o wledydd ar draws y byd wedi cyflwyno hyn. Maent wedi gwneud hynny oherwydd trugaredd, oherwydd tosturi. Soniodd Adam Price am drugaredd a thosturi a rhoi'r mesurau diogelu ar waith i ofalu am bobl. Dyna pam ein bod ni'n gwneud hyn; dyna pam y mae'n rhaid i hyn ddigwydd. Mae arnom yr hawl i bobl wneud eu penderfyniadau eu hunain. Gall pobl wneud penderfyniadau am eu bywydau bob dydd, sut maent yn dewis eu byw, pwy maent yn dewis eu caru, pwy maent yn pleidleisio drostynt hyd yn oed, ond nid ydym yn rhoi hawl i bobl ar ddiwedd eu hoes i ddewis a ydynt yn dymuno rhoi diwedd ar eu bywyd mewn urddas neu mewn poen. Efallai y bydd rhai pobl yn penderfynu nad ydynt am ddewis y llwybr cymorth i farw—byddant yn ffafrio'r opsiwn gofal lliniarol. Mae mor bwysig ein bod yn ariannu ein gofal lliniarol yn iawn. Ond mae'n rhaid inni roi'r hawl i bobl ddewis. Iawn, fe wnaf dderbyn ymyriad, Darren.

16:55

Diolch, James, a diolch am rannu'r stori sydd gennych am y teulu. Rwy'n gwybod bod hynny'n anodd i chi ei rannu, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn rhoi cipolwg i ni ar eich profiad personol. Rwy'n credu mai un o'r heriau yma yw ein bod yn tybio bod llawer o'r drafodaeth a'r ddadl ynghylch y mater hwn yn ymwneud â phoen tuag at ddiwedd oes. Un peth a wyddom o brofiad Oregon yw mai dim ond 28 y cant o'r bobl sy'n dewis dod â'u bywyd i ben trwy gymorth hunanladdiad sy'n nodi poen fel rheswm, neu boen yn y dyfodol fel rheswm—dim ond 28 y cant. Onid ydych chi'n gweld hwnnw'n ystadegyn rhyfeddol, ac o ystyried ein bod ni i gyd eisiau bod yma heddiw i gefnogi'r angen i leddfu dioddefaint, oni fyddai'n well gallu parhau i gefnogi'r gyfraith bresennol, sy'n caniatáu tynnu triniaeth yn ôl, ond nad yw'n caniatáu rhoi diwedd ar fywyd dynol yn fwriadol?

Y broblem a welwn yw bod tynnu'r driniaeth yn ôl yn digwydd pan fydd pobl wedi cyrraedd y diwedd, ar ôl iddynt fynd trwy ddioddefaint anfesuradwy, a dylai'r person hwnnw gael hawl i ddewis. Nid hawl llunwyr polisi yw dewis; mae'n rhaid inni alluogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Rydym yn gwneud hyn bob dydd, a dylem wneud mwy o hynny. Rydym yn siarad am dosturi. Soniodd Julie Morgan fod un o bob wyth yn mynd i Dignitas. Dyna bobl sy'n teimlo nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall yn y wlad hon, a dim ond pobl a all ei fforddio sy'n gwneud hynny. Mae yna bobl sy'n dioddef oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio mynd yno. A yw hynny'n iawn? Nid wyf yn meddwl ei fod. Nid wyf yn credu ei fod yn iawn i unrhyw un.

Ac rwy'n deall bod yna bryderon ynghylch diogelu. Rwy'n llwyr ddeall hynny, ac rwy'n cydnabod hynny fy hun, ond pe byddem yn arddel y farn ar unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth neu gyfraith ei bod yn llethr llithrig, neu nad yw'r mesurau diogelu ar waith, ni fyddem byth yn deddfu ynghylch unrhyw beth. Mae yna beryglon bob amser, a dyna pam ein bod ni'n deddfu, dyna pam y mae gennym graffu, i fynd trwy broses i gyrraedd y canlyniad cywir yn y pen draw. Ni allwn ddiystyru rhywbeth am ei fod ar gam cychwynnol. Nid yw hynny'n iawn. Pe byddem yn gwneud hynny, ni fyddem byth yn cyflawni unrhyw beth. Byddem yn Senedd anfedrus a byth yn cyflawni unrhyw beth i'r bobl a gynrychiolwn.

Ond siaradais am ofal lliniarol yn gynharach, a chredaf fod hwn yn faes lle rwy'n credu bod angen i lywodraeth, pob Llywodraeth, o bob lliw—yn San Steffan, yr Alban, yma yng Nghymru—mae angen i bawb gamu i'r adwy a gwneud mwy. Mae angen mwy o arian ar ein gofal lliniarol. Mae gofal lliniarol yn cael ei ariannu'n bennaf gan roddion elusennol, ac os na chawn roddion elusennol, ni fydd y driniaeth gofal lliniarol honno yno. Ac fel y dywedodd Julie, mewn rhai gwledydd maent wedi gweld mwy o arian yn cael ei fuddsoddi mewn gofal lliniarol ers i'r cyfreithiau hyn gael eu cyflwyno. Rwy'n credu bod y dadleuon hyn yn rhoi ffocws ar ddiwedd oes; nid yw'n rhywbeth yr ydym ni ym Mhrydain, yng Nghymru, yn hoff o siarad rhyw lawer amdano, ond mae pobl angen marw gydag urddas a pharch, a sut bynnag y bydd pobl yn dewis diwedd eu bywydau, boed hynny drwy ofal lliniarol neu drwy gymorth i farw, mae gennym hawl i sicrhau bod hynny ar waith.

Siaradais am fy stori bersonol, ond hoffwn sôn am rywbeth y gofynnodd rhywun i mi ei godi'n benodol wrth gau'r ddadl hon heddiw, a chawsant ganiatâd eu gwraig, cyn iddi farw, i wneud hyn. Dywedodd, 'Gwyliais fy ngwraig yn llwgu i farwolaeth', am nad oedd am weld ei gŵr yn cael ei erlyn pe byddent yn mynd at Dignitas. Dioddefodd am oddeutu wythnos gyfan, yn newynu ei hun, yn ymatal rhag yfed, oherwydd ei bod am ddod â'i bywyd i ben. Nid oes unrhyw beth yn foesol grefyddol am hynny: dioddefaint yw hynny. Ac mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn cefnogi—. Ydy, mae pob bywyd yn sanctaidd, mae'n rhaid inni ddeall hynny, ond mae gan bobl hawl i ddewis. Ni ddylai unrhyw un orfod rhoi diwedd ar eu bywyd yn y ffordd honno. Ni ddylai unrhyw un orfod rhoi diwedd ar eu bywyd fel hyn. A chywilydd ar unrhyw un sy'n meddwl y dylent ddiwedd eu bywyd yn y ffordd honno. Cywilydd arnoch.

Rwy'n gwybod nad oes gennyf lawer o amser, Ddirprwy Lywydd, ond gwelwyd newid agwedd yn y maes hwn. Rwyf am ganmol pobl fel y Fonesig Esther Rantzen a sefydliadau fel My Death, My Decision. Maent wedi mynd ati'n ddiflino i hyrwyddo'r achosion hyn—yn ddiflino—yn wyneb ymosodiadau digon milain arnynt yn dweud eu bod yn cynorthwyo pobl i farw, neu eu bod yn lladd pobl. Nid ydynt yn lladd pobl. Nid dyna'r ffordd y gwnawn bethau. Rydym yn rhoi cyfle i bobl, cyfle i ddewis.

Rwy'n gwybod bod fy amser ar ben, ond rwyf ar fin gorffen. I gloi, gyda mesurau diogelu cadarn ar waith, rwy'n credu bod angen inni fwrw ymlaen yn ofalus, ond dyna'r ffordd y mae'r broses seneddol yn gweithio. Os ydym yn cael opsiwn i wneud hyn, credaf y dylem wneud hynny. Ac rwy'n dweud wrth Aelodau sy'n ansicr ynghylch y bleidlais hon heddiw, neu nad ydynt yn siŵr pa ffordd y maent am bleidleisio, roedd yna ddynes eithriadol o ddewr ar Politics Wales dros y penwythnos a oedd yn dioddef o glefyd niwronau motor—ac rwy'n cymeradwyo'r bobl hyn sy'n codi llais—a dywedodd wrth yr holl bobl a oedd yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon, 'Cerddwch yn fy nghorff i. Cerddwch yn fy nghorff i.' A gofynnaf i'r holl Aelodau sydd yma, peidiwch â meddwl amdanoch eich hunain, meddyliwch am y bobl hynny, y bobl sy'n dioddef. Fel y dywedais, nid ein gwaith ni yw amddifadu'r bobl hynny o'u hawl i ddewis. Cerddwch yn eu cyrff hwy, meddyliwch amdanynt hwy wrth i chi fwrw eich pleidlais heddiw. Diolch.

17:00

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cyn inni symud ymlaen at yr eitem nesaf, a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau meddylgar a thosturiol i'r ddadl heddiw? Rwy'n credu bod y drafodaeth wedi adlewyrchu'n dda iawn ar y Senedd.

6. Dadl ar y cyd ar Adroddiadau gan Bwyllgorau: Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Chyswllt Ffermio

Eitem 6 heddiw yw'r ddadl ar y cyd ar adroddiadau gan bwyllgorau: cynllun ffermio cynaliadwy a Chyswllt Ffermio, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Paul Davies.

Cynnig NDM8702 Paul Davies, Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd yn nodi:

1. Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2024;

2. Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y rhaglen Cyswllt Ffermio a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2024; a

3. Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar Gynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 11 Medi 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae'r cynnig heddiw yn gofyn i'r Senedd nodi tri adroddiad pwyllgor: dau a gyhoeddwyd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ac un a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae'r ddau bwyllgor wedi gweithio gyda'i gilydd yn y gorffennol, ac o ystyried bod llawer o'r themâu a'r materion a gynhwysir yn adroddiadau'r pwyllgorau'n ymdrin â chylchoedd gwaith y ddau bwyllgor, roedd yn gwneud synnwyr perffaith i'r pwyllgorau gydweithio eto. Nawr, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi cyhoeddi adroddiadau ar y cynllun ffermio cynaliadwy a Cyswllt Ffermio, ac rydym yn trafod yr adroddiadau hyn gyda'i gilydd oherwydd bydd Cyswllt Ffermio neu'r hyn a ddaw yn ei le yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi ffermwyr i ddeall ac addasu i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ar y pwynt hwn, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymchwiliadau'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig. Roedd y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor gan randdeiliaid yn hanfodol i helpu'r Aelodau i ddeall yn llawn beth oedd pryderon y diwydiant, ac fe fu o gymorth i ni fel pwyllgor gyrraedd yr argymhellion a wnaethom. Yn gryno, mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn nodi cyfeiriad newydd ar gyfer polisi amaethyddol, a'r cynllun ffermio cynaliadwy, fel y'i gelwir, yw dull newydd Llywodraeth Cymru o gefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig. Fodd bynnag, mae datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy wedi'i lethu gan anawsterau, camgyfathrebu ac ansicrwydd. Bydd yr Aelodau'n cofio'r protestiadau ledled Cymru, y welintons ar risiau'r Senedd, a'r feirniadaeth groch i'r cynllun gan randdeiliaid amaethyddol ac amgylcheddol. Ac felly, ym mis Mai, fel y gwyddom, penderfynodd yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ohirio'r broses o gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy o 2025 i 2026. Y flwyddyn nesaf fe geir cam paratoadol i ddatblygu'r cynigion ymhellach, wedi ei lywio gan fwrdd crwn o randdeiliaid y cynllun ffermio cynaliadwy.

Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir i ohirio gweithrediad y cynllun. Rwy'n gobeithio bod yr oedi wedi rhoi amser i'r Dirprwy Brif Weinidog fyfyrio ar y pryderon a godwyd oherwydd mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cael y polisi hwn yn iawn, gan y bydd yn siapio'r sector amaethyddol am genedlaethau i ddod. Ar hyn o bryd, mae'r Aelodau'n dal yn ansicr sut y caiff cydbwysedd ei daro rhwng diogelu dyfodol y diwydiant ffermio a chynhyrchiant bwyd a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac nid dyna'r unig bryder y mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi'i godi. Nid yw'n glir o hyd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cynllun yn hygyrch i bob ffermwr, boed yn ffermwyr ucheldir neu dir isel, yn ffermwyr tenant, yn berchnogion neu'n gominwyr. Dywedodd yr Athro Janet Dwyer o Brifysgol Sir Gaerloyw wrth y pwyllgor ei bod yn egwyddor bwysig fod y cynllun ar gael i bob fferm yng Nghymru, gydag opsiynau ar gyfer gwahanol fathau o ffermydd a'r marchnadoedd y maent yn bwydo iddynt. A dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth yr Aelodau mai'r egwyddor gyntaf oedd sicrhau bod y gweithredoedd cyffredinol ar gael go iawn i bob ffermwr sydd am fod yn rhan o hyn. Clywodd y pwyllgor fod 30 y cant o Gymru yn cael ei ffermio gan rywun ac eithrio'r tirfeddiannwr, ac os nad yw'r ffermwyr hynny'n gallu cael mynediad at y cynllun, mae'n annhebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hamcanion cynaliadwyedd. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn deall y gallai fod yn cymryd un cam ymlaen a dau gam yn ôl os ydynt yn parhau i fwrw ymlaen â'r cynllun ffermio cynaliadwy heb wneud newidiadau sylweddol.

Daeth peth o'r dystiolaeth fwyaf pwerus a gafodd y pwyllgor gan Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, a oedd yn dadlau nad oedd digon o gefnogaeth i newydd-ddyfodiaid a ffermwyr ifanc, ac nad ymgynghorwyd yn ystyrlon â hwy. Casgliad cyntaf y pwyllgor yn ein hadroddiad yw atgyfnerthu'r ffaith bod yn rhaid i anghenion newydd-ddyfodiaid fod yn y canol yn y cynlluniau cymorth i ffermwyr, er mwyn diogelu dyfodol y diwydiant. Clywodd y pwyllgor fod diffyg ymgynghori ystyrlon, a methiant hyd yn oed i sefydlu gweithgor y genhedlaeth nesaf. Nawr, roedd hyn yn atgyfnerthu'r pryderon ehangach sydd wedi bod gan y pwyllgor ynglŷn â sut y cafodd cynigion polisi Llywodraeth Cymru eu cyfleu i randdeiliaid, ac felly edrychaf ymlaen at glywed pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fynd i'r afael â hyn.

Mae ail gasgliad y pwyllgor yn ymwneud â diffyg gwybodaeth i'r diwydiant am fethodoleg a chyfraddau talu. Dywedodd yr holl randdeiliaid wrthym eu bod o'r farn y byddai'r fethodoleg ar gyfer costau yr eir iddynt a thaliadau incwm a ildiwyd yn gymhelliant annigonol i ffermwyr ymuno â'r cynllun, ac a dweud y gwir, os nad yw ffermwyr yn ymuno â'r cynllun oherwydd diffyg manylion am daliadau, nid yw'r cynllun yn mynd i weithio. Yn wir, mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud saith argymhelliad, ac mae dros hanner yr argymhellion yn galw am ragor o fanylion am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar ddatblygu'r cynllun.

Nawr, rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru naill ai wedi derbyn neu dderbyn mewn egwyddor ein holl argymhellion yn yr adroddiad. Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod rhai o'r ymatebion i'n hargymhellion naill ai'n methu'r pwynt a wnaeth y pwyllgor neu heb fynd i'r afael yn llwyr â'r pryderon a leisiwyd gan randdeiliaid. Er enghraifft, mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyllgor yn nodi nad yw'n ymwybodol o unrhyw rwystr unigryw i ffermwyr tenant. Ond clywsom y byddai ffermwyr tenant yn wynebu heriau rhag cyflawni'r gweithredoedd gofynnol o dan y cynllun gan y gallai eu cytundeb tenantiaeth gyfyngu ar eu gallu i newid eu tir. Er enghraifft, efallai na fyddant yn gallu plannu coed. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion a wnaed. Bwriad y pwyllgor yw ysgogi gwelliannau ac annog newid lle mae ei angen.

Nawr, trydydd casgliad y pwyllgor oedd cydnabod awydd rhanddeiliaid i adolygu ac ailbecynnu gweithredoedd cyffredinol y cynllun a chyflwyno gweithredoedd gwahanol yn dameidiog yn haenau dewisol a chydweithredol y cynllun. Disgrifiodd NFU Cymru 17 o feysydd cyffredinol fel rhai cwbl anymarferol, ac awgrymodd y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur a Cyswllt Amgylchedd Cymru y gallai'r gweithredoedd cyffredinol gael eu pecynnu'n wahanol i'w gwneud yn llai beichus. Roedd consensws y byddai gohirio'r gweithredoedd opsiynol a chydweithredol yn creu anfantais i'r rhai sy'n gwneud mwy dros yr amgylchedd ar hyn o bryd, megis ffermwyr tir comin, y rhai sy'n rheoli tir a ddynodwyd yn safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a ffermwyr organig. Gwyddom fod tua 40 y cant o dir comin Cymru wedi'i ddynodi'n safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac mae 50 y cant yn dod o fewn tirwedd warchodedig Cymru. Ac felly, o ystyried faint o dir comin a geir yng Nghymru, efallai y gwnaiff y Dirprwy Brif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cynefinoedd gwerthfawr hyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun fel y gellir eu rheoli a'u hadfer.

Nawr, mae'r pwyllgor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd, o leiaf bob tri mis, ar gynnydd ar ddatblygu manylion gweithredoedd y cynllun, gan gynnwys y statws a'r amserlenni ar gyfer ymgynghori'n ehangach a chytuno ar newidiadau terfynol i'r broses o gyflwyno'r cynllun. A daw hynny â mi at y ddadl fwyaf yng nghynigion y cynllun ffermio cynaliadwy o bosibl, sef y pryderon a'r gamddealltwriaeth ynghylch y gofynion gorchudd coed. Teimlai cynrychiolwyr ffermio fod yn rhaid cael mwy o hyblygrwydd ynghylch y targedau plannu coed, ac mae angen ystyried ymarferoldeb cyflawni newid cynaliadwy a pharhaol. Clywsom bryderon dealladwy iawn hefyd am dynnu tir allan o gynhyrchiant a sut y gallai hynny wneud Cymru'n fwy dibynnol ar fewnforion, a chreu allyriadau carbon alltraeth. Pwysleisiodd Undeb Amaethwyr Cymru fod y goeden iawn yn y lle iawn yn rhywbeth yr oeddent hwy a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn ei hyrwyddo, ond teimlai fod yr ymagwedd hon wedi'i cholli mewn sgyrsiau o fewn Llywodraeth Cymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ailedrych ar y targedau hyn ac o leiaf yn gwella'r diffyg data ar orchudd coed sy'n bodoli eisoes.

Cafodd y pwyllgor dystiolaeth werthfawr hefyd gan yr Athro John Gilliland o Brifysgol Queen's Belfast, am ei waith ar dechnolegau atafaelu carbon, ac fe wnaethom archwilio opsiynau atafaelu carbon yn fwy cyffredinol, gan edrych ar ddulliau amaethyddol i ddal carbon yn gysylltiedig â gwrychoedd, pridd, mawndir a chnydau ynni. Mae ein hargymhelliad yn dweud yn glir y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae'n ystyried arferion gorau mewn mannau eraill yn y DU a gwerthuso gwahanol dechnolegau ac opsiynau dal ac atafaelu carbon. Credwn hefyd y dylai'r Dirprwy Brif Weinidog nodi sut y bydd y gwaith hwn yn cael ei ymgorffori yn y broses o ddatblygu a gwerthuso'r cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol, Rwy'n edrych ymlaen at ei sylwadau ar hyn.

Nawr, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, mae hon yn ddadl ar ddau adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ac mae hynny'n fy arwain yn daclus at adroddiad y pwyllgor ar Cyswllt Ffermio. I'r Aelodau nad ydynt yn gyfarwydd â'r rhaglen, Cyswllt Ffermio yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu pecyn cydlynol o drosglwyddo gwybodaeth, arloesi a gwasanaethau cynghori ar gyfer busnesau ffermio a choedwigaeth, ac yn gyffredinol, caiff ei barchu'n fawr gan ffermwyr. Am y rheswm hwn, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio Cyswllt Ffermio yn well i gyfathrebu â'r diwydiant am y cynllun ffermio cynaliadwy yn y lle cyntaf. Bydd Cyswllt Ffermio, neu ei olynydd, yn chwarae rhan ganolog yn sicrhau bod amcanion rheoli tir cynaliadwy yn cael eu cyflawni, ac mae'n hanfodol ei fod hefyd yn gallu parhau â'i waith pwysig yn cefnogi a diogelu iechyd meddwl ffermwyr. 

Mae adroddiad y pwyllgor yn cynnwys chwe chasgliad ac yn gwneud un argymhelliad, ond yn anad dim rwy'n credu, mae angen eglurder llwyr ar yr hyn y bwriedir i'r contract Cyswllt Ffermio newydd ei gyflawni a pham. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth eithaf amrywiol gan wahanol randdeiliaid ar beth y dylai rôl Cyswllt Ffermio fod yn y dyfodol a sut y mae'n cyd-fynd â chymorth arall sydd ar gael i ffermwyr yng Nghymru. Felly, o ystyried yr ystod o safbwyntiau ar gylch gwaith a swyddogaethau Cyswllt Ffermio yn y dyfodol, rhaid i Lywodraeth Cymru nodi ei genhadaeth a'i rôl yn glir iawn. 

Nawr, clywodd y pwyllgor hefyd y gallai Cyswllt Ffermio chwarae rhan allweddol yn y broses o drosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac fe wnaethom ystyried ffermydd arddangos hyd yn oed fel ffordd o ddileu nerfusrwydd ffermwyr ynglŷn â newidiadau'r cynllun ffermio cynaliadwy sydd ar y ffordd ac i ddangos sut y gall cynhyrchiant a rheoli cynefinoedd weithio gyda'i gilydd mewn gwirionedd. Rydym wedi argymell bod Cyswllt Ffermio yn sefydlu ffermydd arddangos i ddangos sut y gallai fferm weithredu o dan y cynllun ffermio cynaliadwy. Yna gallai ffermwyr ymweld â'r ffermydd peilot hyn, dysgu o'u profiad a rhagweld sut y gallai eu fferm eu hunain edrych yn y dyfodol. Mae'n ymwneud â rhannu arferion gorau. Wrth gwrs, mae'r pwyllgor yn deall nad oes gan Cyswllt Ffermio adnoddau a chapasiti di-ben-draw, ac felly rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried yr arian y mae'n ei gael, oherwydd bydd angen i Cyswllt Ffermio helpu i gefnogi ffermwyr i bontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy a pharhau â'i waith yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o ofal iechyd meddwl yn ein cymunedau gwledig. Mae gan Cyswllt Ffermio rôl bwysig hefyd yn cyfeirio at gymorth iechyd meddwl, yn enwedig yng ngoleuni lefelau uchel o orbryder ac anniddigrwydd yn y sector am yr heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu ac ansicrwydd y cyfnod pontio y mae'r diwydiant ynddo. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwerthuso cadarn yn digwydd i weld a yw gwasanaethau Cyswllt Ffermio wedi'u hanelu'n ddigonol tuag at gefnogi iechyd meddwl a lleihau pwysau, yn hytrach nag ychwanegu ato mewn unrhyw ffordd. 

I grynhoi, Lywydd, mae'n adeg anodd ar ffermwyr Cymru ac maent yn wynebu cyfnod o newid enfawr, ac mae angen i Lywodraeth Cymru gael y cynllun ffermio cynaliadwy yn iawn. Mae angen cynllun ffermio cynaliadwy arnom gyda methodolegau talu sy'n ddeniadol i ffermwyr, oherwydd os byddant yn penderfynu peidio ag ymuno, nid oes fawr o bwrpas cael y cynllun yn y lle cyntaf. Mae arnom angen cynllun sy'n agored ac yn hygyrch i bawb, neu efallai y bydd tenantiaid yn cael eu cloi allan, ac mae angen inni feithrin amgylchedd ffermio croesawgar i newydd-ddyfodiaid drwy hyfforddiant sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio. Ac mae hefyd yn bwysig fod gan Cyswllt Ffermio ddigon o adnoddau a'i fod yn cael ei gefnogi ac yn gallu rhoi cefnogaeth i ffermwyr wrth iddynt bontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ac yn olaf, fe wyddom fod gan Cyswllt Ffermio berthynas waith gadarn ag elusennau iechyd meddwl eisoes, ac mae'n hanfodol fod hynny'n parhau fel y gall y tîm Cyswllt Ffermio barhau i helpu ffermwyr i ddod o hyd i'r cymorth cywir pan fydd ei angen arnynt. 

Felly, wrth gloi, Lywydd, a gaf i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymchwiliadau'r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig? Rwy'n edrych ymlaen at glywed Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn rhoi trosolwg o adroddiad ei bwyllgor ef, ac rwy'n edrych ymlaen hefyd at glywed barn yr Aelodau ar y cynllun ffermio cynaliadwy, a Cyswllt Ffermio yn wir. Diolch.

17:15

Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith nawr, Llyr Gruffydd.

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr i Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am agor y ddadl yma. Dwi’n falch i gyflwyno barn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y cynllun ffermio cynaliadwy, sydd yn cynrychioli dechrau pennod newydd i ffermio yng Nghymru, gan ei fod yn gwneud newidiadau sylfaenol i’r ffordd y mae ffermwyr yn cael cymorth ariannol i reoli eu tir. Mi fydd e’n llywio dyfodol ffermio yng Nghymru am genedlaethau i ddod, ac yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd, bydd angen i Gymru gyflawni ei hymrwymiadau byd-eang a domestig i gyrraedd sero net erbyn 2050, atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030, a sicrhau adferiad wedyn erbyn 2050. Felly, mi fydd angen ymdrech enfawr ar y cyd i gyflawni hyn ac mi fydd gofyn am weithredu gan bob sector o’r gymdeithas, ac yn wir gan bob unigolyn yn y gymdeithas er mwyn cael y maen i’r wal.

Rŷn ni i gyd yn ymwybodol o ymateb cryf y gymuned amaethyddol i gynigion y cynllun, fel y mae Cadeirydd y pwyllgor economi eisoes wedi’i grybwyll. Wrth gymryd tystiolaeth i lywio ein gwaith ni, mi wnaethom ni ganfod, er bod barn cyfranwyr yn amrywio o ran dyluniad y cynllun, eu bod nhw i gyd yn cytuno ar un peth, sef y bydd y cynllun ddim ond yn cyflawni'r canlyniadau amgylcheddol angenrheidiol os yw digon o bobl yn manteisio ar y cynllun. Nawr, mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’r cynllun, felly, fod yn ddeniadol ac mae'n rhaid iddo fe fod yn ymarferol i ffermwyr Cymru.

I fod yn glir, dyw hyn ddim yn fater o ddewis rhwng cefnogi ffermwyr neu gefnogi'r amgylchedd. Mae’n rhaid i’r cynllun wneud y ddau. Mae gan Lywodraeth Cymru yn wir gyfle i lunio cynllun sy’n sicrhau bod ffermio Cymru ar sylfaen wirioneddol gynaliadwy, ac sy’n sicrhau bod ffermwyr yn arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a dirywiad byd natur. Fodd bynnag, mae yna dipyn o ffordd i fynd cyn cyrraedd y pwynt hwnnw.

Wrth i ni fynd ati i baratoi ein hadroddiad ni ym mis Mai, mi gafwyd sawl cyhoeddiad allweddol, gan gynnwys cyfnod o flwyddyn o oedi cyn cyflwyno'r cynllun, ac er bod y penderfyniad yna i oedi’r broses yn amlwg wedi’i seilio ar fwriadau da, ddylem ni ddim anghofio bod y broses o ddatblygu’r cynigion wedi cymryd saith mlynedd. Ac erbyn i'r cynllun gael ei gyflwyno, mae’n debyg y bydd gan Gymru rhyw bedair blynedd yn unig ar ôl i fodloni targedau allweddol o ran newid hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae ymchwiliad cyfredol y pwyllgor i atal a gwrthdroi colli natur wedi ein hatgoffa ni bod amser yn prysur brinhau os ydym ni am dynnu bioamrywiaeth yn ôl o’r dibyn. I nifer o gyfranwyr, mae'r cynllun rŷn ni’n ei drafod heddiw yn un o'r arfau mwyaf pwerus, os nad yr arf mwyaf pwerus, sydd ar gael i’r Llywodraeth o ran rhoi Cymru ar y llwybr i adfer natur. Ac i'r rheini, wrth gwrs, all y cynllun ddim dod yn ddigon buan.

Gan droi at ein hadroddiad ni, ein prif neges ni, fel y byddech yn ei ddisgwyl, yw bod yn rhaid i'r cynllun terfynol gadw ffocws amgylcheddol cryf. Rŷn ni’n gwybod ei bod hi’n debygol y bydd rhai newidiadau yn dilyn yr ymgynghoriad a chanlyniadau’r ford gron weinidogol. Serch hynny, ddylai'r rheini ddim peryglu uchelgais amgylcheddol y cynllun.

Mae'n bwysig cydnabod y bu rhai datblygiadau cadarnhaol ers cyhoeddi'r cynigion, ynghylch y taliadau cynnal ar gyfer ardaloedd SSSI, er enghraifft, cyflwyno’r haenau dewisol a chydweithredol yn gynnar, a’r cadarnhad y bydd taliad gwerth cymdeithasol yn cael ei gynnwys o ddechrau'r cynllun. Ond mae'r rhain efallai yn faterion lle mae yna gonsensws wedi bod o’u cylch nhw ymhlith rhanddeiliaid. Mae yna faterion eraill, fel dwi’n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn fwy ymwybodol nag unrhyw un, sydd yn fwy dadleuol, yn enwedig efallai mewn perthynas â rheolau'r cynllun, ac mae nifer o’r rheini eto i’w datrys.

Ac mi wnaf i droi at rai o’r rheolau hynny, felly, ac yn gyntaf, y gofyniad o 10 y cant o orchudd coed. Mae sicrhau cynnydd o ran plannu coed yn hanfodol os yw Cymru am gyrraedd sero net. Mae cyfraddau plannu coed wedi bod yn druenus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru, sef plannu 43,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2030. Yn syml, fydd y targed yna ddim yn cael ei fodloni yn hawdd iawn, ac mae cefnogaeth y diwydiant amaeth yn bwysig iawn i hynny, gan mai ffermwyr sy'n rheoli dros 80 y cant o dir Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod y gofyniad o 10 y cant yn llinell goch i lawer ac y byddai goblygiadau pellgyrhaeddol i lawer o ffermydd, i ddiogelwch bwyd ac yn y blaen, yn sgil hynny.

Fel pwyllgor amgylchedd, wrth gwrs, ein prif ffocws ni yw canlyniadau amgylcheddol y cynllun ac rŷn ni’n agored i fesurau amgen a all sicrhau canlyniadau tebyg, neu hyd yn oed ganlyniadau gwell o’u cymharu â phlannu coed, pan fydd hi’n dod i ddal a storio carbon a bioamrywiaeth. Serch hynny, mae’n rhaid i unrhyw fesurau arfaethedig fod yn gredadwy, a hynny’n unol â dilyn llwybr cytbwys i sero net. Mi fyddai Pwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig, fel cynghorydd statudol Llywodraeth Cymru ar leihau allyriadau, mewn sefyllfa i roi cyngor ar hynny, dwi’n siŵr, yn unol â’r hyn rŷn ni wedi’i argymell. Fodd bynnag, dyw hi ddim yn glir o ymateb y Dirprwy Brif Weinidog a yw e'n bwriadu ymgysylltu â phwyllgor y Deyrnas Unedig ar y mater yma cyn gwneud penderfyniad terfynol, ac efallai gallwn ni gael ychydig o eglurder ar hynny heddiw.

Fel y pwyllgor, rwy'n siŵr bod y rhan fwyaf o'r Aelodau yn aros yn eiddgar am adroddiad y panel adolygu tystiolaeth atafaelu carbon. Dirprwy Brif Weinidog, rŷch chi wedi dweud y gallwn ni ddisgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn. Efallai y byddwch chi mewn sefyllfa i ddweud wrthyn ni pryd y byddwch chi’n gwneud penderfyniad terfynol ar y dull o blannu coed ac a ydych chi’n barod i rannu hynny gyda ni cyn i’r cynllun terfynol gael ei gyhoeddi, fel bod modd i ni ddeall yn union i ba gyfeiriad ŷch chi'n symud. Byddwch chi’n ymwybodol iawn o'r angen i roi eglurder ar y mater penodol yma i’r sector ac i bawb arall cyn gynted ag y bo modd. Felly, byddwn i’n hoffi clywed gennych chi tua pryd ŷch chi’n meddwl y cawn ni wybod, oherwydd dwi yn credu y byddai hi'n weddol anfoddhaol pe baem ni’n gorfod aros yn rhy hir cyn deall y cyfeiriad ŷch chi’n symud iddo fe.

Gan symud ymlaen i’r gofyniad rheoli cynefin o 10 y cant, yn anffodus mae Cymru eisoes yn un o’r gwledydd sydd wedi gweld y dirywiad mwyaf o ran natur yn y byd, ac mae natur yn parhau i ddirywio ar raddfa frawychus. Mae adroddiad sefyllfa byd natur 2023 yn dangos bod bywyd gwyllt Cymru wedi gostwng 20 y cant ar gyfartaledd ers 1994, a bod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru o dan fygythiad o ddifodiant. Er mwyn atal a gwrthdroi dirywiad natur, mae’n rhaid sicrhau bod creu a rheoli cynefinoedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Yn sgil argymhelliad y pwyllgor, mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi ymrwymo i sicrhau bod gofyniad yn cefnogi’r broses o greu ystod amrywiol o gynefinoedd y bydd eu hangen ar gyfer adferiad byd natur, sydd yn rhywbeth calonogol iawn.

Yn olaf, er ein bod yn gwybod y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r gwaith o gyflawni’r cynllun, mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi dweud wrthym ni nad oes modd iddo fe wneud sylw ar, a dwi’n dyfynnu,

'natur na hyd a lled terfynol cyfranogiad CNC na'r costau sy'n gysylltiedig ag ef.'

Er ein bod yn gwybod nad yw'r cynllun wedi'i gwblhau, mi fyddwn ni yn bryderus os nad oes hyd yn oed rhyw waith rhagarweiniol wedi'i wneud o ran cyfrifo'r costau, achos mae heriau ariannol presennol Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbys iawn, a’r rheini efallai wedi dwysáu yn sylweddol yn y dyddiau diwethaf. Ond, fel pwyllgor, rŷn ni yn ceisio sicrwydd gan y Dirprwy Brif Weinidog nad yw effaith y cynllun ar Gyfoeth Naturiol Cymru yn rhyw fath o ôl-ystyriaeth. Mae hwn yn fater yn sicr y byddwn ni fel pwyllgor yn awyddus i ddychwelyd ato fe yn ddiweddarach yn y Senedd yma, wrth i ni barhau i graffu’r cynllun, ond hefyd i graffu gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'n deg dweud bod y broses o ddatblygu’r cynllun yma wedi bod yn un hir ac yn un llafurus, ac, wrth gwrs, dyw hi ddim drosodd eto. Mi fydd gan y Dirprwy Brif Weinidog, yn ddi-os, benderfyniadau anodd i’w gwneud dros y misoedd nesaf, ond wrth iddo fe wneud y penderfyniadau hynny, rŷn ni yn ei annog e i sicrhau bod y cynllun terfynol yn cefnogi ffermwyr i gyflawni camau gweithredu ystyrlon ar gyfer newid hinsawdd a natur, a hynny mewn modd sy’n sicrhau bod y cynllun yn ddeniadol ac, wrth gwrs, yn ymarferol i ffermwyr, a’i fod e’n sicrhau ar ben bob dim arall fod ffermio yng Nghymru yn cael ei roi ar sylfaen wirioneddol gynaliadwy. Diolch.

17:20

Diolch, Lywydd, mae'n ymddangos yn fuan iawn i fod yn ôl yn siarad eto. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau, dan gadeiryddiaeth Paul Davies a Llyr Gruffydd, am y gwaith y maent wedi'i wneud ar graffu ar Lywodraeth Cymru ynghylch ei chynllun ffermio cynaliadwy, oherwydd mae ffermio yng Nghymru ar groesffordd, ac mae'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r cynllun ffermio cynaliadwy yn peri pryder mawr, oherwydd mae'n bygwth dyfodol diwydiant sy'n hanfodol i'n heconomi a'n hamgylchedd. Fel Ceidwadwyr, rydym yn cefnogi model ffermio sy'n diogelu ein tirwedd gan ddiogelu bywoliaeth holl ffermwyr Cymru ar yr un pryd. Ond beth a welwn gan y Llywodraeth? Cymysgedd pryderus o oedi, cyfathrebu gwael a methiant i ymgysylltu'n ystyrlon â'r gymuned ffermio.

Mae adroddiad diweddar Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y buom yn siarad amdano heddiw ar y cynllun ffermio cynaliadwy yn dweud yn glir fod bylchau difrifol yn parhau i fodoli yn null Llywodraeth Cymru o weithredu. Er gwaethaf sawl cylch ymgynghori, mae'r cynllun, ar ei ffurf bresennol, yn methu mynd i'r afael â phryderon sylfaenol ffermwyr. Mae NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru ill dau wedi mynegi siom fod y materion allweddol a godwyd yn ystod y trafodaethau cydgynllunio, yn enwedig ynghylch sefydlogrwydd ariannol a chymhlethdod y cynllun, wedi cael eu hanwybyddu. Mae'r Llywodraeth unwaith eto wedi bwrw ymlaen â'i pholisïau nad ydynt yn adlewyrchu realiti go iawn y bobl ar lawr gwlad. Yn waeth na hynny, mae'r pwyllgor yn nodi nad yw cynigion y cynllun ffermio cynaliadwy wedi cadw i fyny â Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, a oedd i fod i sicrhau canlyniad cynaliadwy gan sicrhau sefydlogrwydd economaidd i ffermwyr ar yr un pryd. Yn hytrach, mae gennym gynllun sy'n bygwth llethu ffermwyr drwy greu mwy o fiwrocratiaeth yn hytrach nag atebion ymarferol.

Mae argymhelliad 2 gan y pwyllgor yn arbennig o ddamniol. Maent yn galw am ailfeddwl yn llwyr, gan annog y Llywodraeth i fynd yn ôl i'r dechrau a chydgynllunio cynllun sy'n gweithio. Ond a fydd y Llywodraeth yn gwrando? Rwy'n gwybod eu bod wedi cael llawer o drafodaethau bwrdd crwn. Wrth ei flas mae profi pwdin, Weinidog, ac rwy'n siŵr y byddwch yn gwneud cyhoeddiad yn y ffair aeaf.

Ond gadewch inni siarad am y gofyniad gorchudd coed 10 y cant—elfen ganolog yn y cynllun ffermio cynaliadwy. Er ein bod i gyd yn cefnogi ymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae'r cynigion presennol yn dangos cymaint allan o gysylltiad yw'r Llywodraeth. Mae undebau ffermio Cymru wedi dweud yn glir y gallai'r gofyniad hwn arwain at golli tir amaethyddol gwerthfawr heb ddigon o iawndal ariannol na hyblygrwydd. Er gwaethaf y pryderon hyn, daliodd y Llywodraeth ati. Mae angen polisïau sy'n gwella bioamrywiaeth heb gosbi ffermwyr am wneud eu gwaith o gynhyrchu'r bwyd a rheoli'r tir.

Nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ddiffygion yn y cynllun hefyd, yn enwedig ynghylch ymgysylltiad a thryloywder. Mae'r gymuned ffermio wedi cael ei gadael yn y tywyllwch droeon ynglŷn â manylion ymarferol y cynllun. Fel y dywedais yn gynharach, mae gan y Gweinidog lawer o fyrddau crwn, ond nid yw'r diwydiant, yn fwy eang na rhai o'r undebau, yn gwybod beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. Felly, maent i gyd yn dal i fod mewn limbo, heb wybod a ddylid buddsoddi neu sut i gynllunio ar gyfer eu dyfodol. Galwodd y pwyllgor hefyd am gyfathrebu gwell, mwy cyson—rhywbeth nad yw'r Llywodraeth yn teimlo fel ei wneud mewn gwirionedd. Argymhelliad y mae ffermwyr yn teimlo ei fod wedi cael ei anwybyddu gan y Llywodraeth—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau ychwanegu unrhyw beth, Mike? Na?

17:25

Nid wyf yn cael. Hoffwn wneud hynny, ond rwyf wedi bod allan ac ni wnânt adael i mi wneud ymyriad. 

Fe hoffech chi. Dyna ni. O'r gorau.

Mae rhanddeiliaid, o ffermwyr tenant i newydd-ddyfodiaid ifanc, wedi pwysleisio dro ar ôl tro fod eu mewnbwn wedi'i anwybyddu. Rydym wedi gweld y byrddau crwn; nid oes llawer o ffermwyr ifanc ar y byrddau crwn hynny. Mae'n ymddangos bod popeth yn cael ei wneud iddynt ac nid gyda hwy.

Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y pwynt na fu unrhyw ymgysylltiad ystyrlon. Ar ôl i'r Blaid Geidwadol fy annog i gymryd peth amser i fynd drwy hyn yn iawn ac i ymgysylltu'n ystyrlon, sut y mae'n egluro hynny i'r NFU, Undeb Amaethwyr Cymru, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad a'r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur, yr holl bobl nad ydynt wedi cael gwyliau yr haf hwn, sydd wedi bod yn gwneud y gwaith ac yn gwneud yr ymgysylltu ystyrlon? A ydych chi wedi methu rhywbeth, James?

Wel, nid yw ffermwyr byth yn cymryd gwyliau, Weinidog. Efallai y dylech chi ddysgu rhywbeth ganddynt, gan nad yw'r ffermwr cyffredin byth yn cymryd gwyliau; maent yn gweithio 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'n wir, wrth ei flas mae profi pwdin, onid e, felly cawn weld beth fydd gennych i'w ddweud yn y ffair aeaf, i weld a ydych chi'n mynd i wrando ar y ffermwyr hynny—

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Nid yw hynny'n wir; wrth gwrs fod ffermwyr yn cymryd gwyliau, yn union yr un fath â phawb arall—ac fe ddylent. Ond maent yn dewis adeg o'r flwyddyn pan fo'n bosibl gwneud hynny. Mae hynny'n nonsens llwyr.

Fel rhywun a oedd yn rhan o'r gymuned amaeth, Jenny, nid oeddwn i'n mynd yn bell pan oeddwn yn blentyn. Ond dyna ni.

Ond mae cwestiwn yn codi am amseru. Ar benderfyniad y Llywodraeth i oedi cyn cyflwyno'r cynllun tan 2026, fel y dywedwyd, mae angen gwneud pethau'n iawn ac rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw; mae'n rhaid inni wneud pethau'n iawn. Mae angen inni sicrhau ei fod yn iawn, ond mae realiti'r oedi ynddo'i hun yn dod o gamreoli a diffyg paratoi gan y Llywodraeth. Mae ffermwyr angen sicrwydd gan y Llywodraeth am yr hyn y mae'n methu ei ddarparu. Felly, sut y gall ffermwyr ddisgwyl cynllunio ar gyfer y dyfodol, Weinidog, pan fyddant yn cael eu gadael i aros am fwy o fanylion? Rwy'n credu bod adroddiadau'r pwyllgorau yn tynnu sylw at hynny drwyddi draw, ac rwy'n credu ei bod yn bryd i'r Llywodraeth hon gefnogi ein ffermwyr a chefnogi cymunedau gwledig. Ac rwy'n credu bod y gwaith y mae'r pwyllgorau wedi'i wneud ar y cynllun hwn yn ardderchog. Diolch, Lywydd.

17:30

Diolch i'r ddau bwyllgor am yr adroddiadau yma ar y cynllun ffermio cynaliadwy a Cyswllt Ffermio. Maen nhw'n adroddiadau pwysig dros ben sy'n mynd i lywio ein hymateb ni, gobeithio, i ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru, yn arbennig wrth inni fynd i’r afael â’r heriau o ran newid hinsawdd a’r heriau economaidd hefyd sy’n wynebu ein cymunedau gwledig. Fel mae’n digwydd, y bore yma, roeddwn yn lansio strategaeth yn ymwneud â thlodi gwledig, ac mae sicrhau cefnogaeth economaidd i’n ffermydd teuluol ni yn rhan hanfodol o sicrhau dyfodol economaidd llewyrchus a lleihau tlodi mewn ardaloedd gwledig.

Wrth ddiolch i’r ddau bwyllgor am eu gwaith, maen nhw hefyd yn tynnu sylw at nifer o bryderon y mae’r rhai ohonom ni sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn hen gyfarwydd â nhw. Ymateb Plaid Cymru yw bod angen gweithredu pellach a mwy o eglurder, er enghraifft o safbwynt y cynllun ffermio cynaliadwy. Fel rŷn ni wedi clywed gan bawb sydd wedi siarad, mae yna wrthwynebiad cryf iawn i’r orfodaeth yma i blannu coed 10 y cant ar dir fferm. Mae hyn yn broblematig iawn i nifer fawr iawn o’n ffermydd ni.

Mae Plaid Cymru yn croesawu argymhelliad y pwyllgorau y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r gofyniad gorchudd coed ac archwilio ffyrdd amgen o gyflawni nodau amgylcheddol. Nid yw ffermwyr yn gwrthwynebu cyfrannu at weithredoedd newid hinsawdd, ond bydd gorfodi gorchudd coed cyffredinol o 10 y cant yn ffactor allweddol i nifer o ran penderfynu a ddylent gymryd rhan yn y cynllun ai peidio. Ac os nad ydynt yn cymryd rhan yn y cynllun, nid oes dyfodol—

Ar y defnydd o'r term 'cyffredinol', a glywn eto. Mae'n swnio'n gyfarwydd, mewn cyd-destun arall. Cafwyd llawer o ddatganiadau am y gofyniad am orchudd coed ar ffermydd dros, mae'n debyg, y naw mis diwethaf neu fwy. Yr hyn sy'n glir—ac nid wyf am i'r bobl ar y tu allan gamddeall y derminoleg a ddefnyddir yma—yw ei fod yn uchafswm o 10 y cant, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ond gan ystyried yr hyn sydd yno'n barod.

Rwy'n credu bod cryn dipyn o gamddealltwriaeth wedi codi o hyn. Mae pobl wedi teimlo—y bobl rydym y gofynnwn iddynt gyflawni hyn—fod yn rhaid iddynt gyflawni 10 y cant ychwanegol ble bynnag y maent yn ffermio. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn fod datganiadau eraill wedi'u gwneud am y goeden iawn yn y lle iawn, lle mae hynny'n briodol. Roeddwn am egluro’r pwyntiau hynny, gan y credaf eu bod yn bwyntiau pwysig.

Diolch am egluro, gan mai diffyg eglurder sydd wedi achosi llawer o’r problemau a welsom a’r dicter a ddangoswyd gan ffermwyr yn y protestiadau diweddar a welsom y tu allan i'r fan hon ychydig fisoedd yn ôl. I lawer o ffermwyr, gallant fodloni'r gofynion hynny. Bydd yna ffermwyr eraill na allant wneud hynny. Credaf fod angen inni gydnabod bod pob fferm yn wahanol, ac mae’r pwynt a wnewch am y goeden iawn yn y lle iawn yn gwbl gywir, felly rwy'n cytuno â chi ar hynny.

Yn amlwg, mae’r gofyniad gorfodol o 10 y cant wedi dod yn fater gwenwynig, felly mae angen inni ddadwenwyno hynny drwy fod yn gliriach ynghylch yr hyn a ddisgwyliwn ac a yw gorchudd coed presennol yn dderbyniol ai peidio, gan nad oedd hynny’n glir yn yr ymgynghoriad cyntaf. Felly, mae angen inni ehangu’r ymgysylltiad â’r rhanddeiliaid sy’n ymwneud â'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae hynny’n digwydd, ond yn amlwg, rydym yn aros am ganlyniadau’r broses ymgysylltu honno. Mae pryderon o hyd hefyd ynghylch y nifer fawr o weithredoedd cyffredinol a pha mor gyraeddadwy ydynt i ffermwyr.

Yng nghyd-destun datgarboneiddio’r sector ffermio, un set o atebion sydd wedi bod yn absennol o’r drafodaeth i raddau helaeth yw ynni adnewyddadwy. Os yw ffermwyr am chwarae rhan yn lleihau allyriadau carbon, rhaid rhoi mwy o bwyslais ar ddewisiadau amgen o’r fath. Felly, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried hyn. Gallai ynni adnewyddadwy ddarparu ateb mwy hyblyg ac ymarferol, gan alluogi ffermwyr i gyflawni targedau cynaliadwyedd gan gynyddu cynhyrchiant tir i’r eithaf. Rydym eisoes wedi clywed am y tensiwn ynghylch yr angen i dyfu ein bwyd ein hunain yn gynaliadwy, yn hytrach na mewnforio’r bwyd hwnnw, os byddwn yn colli tir gwerthfawr i goed.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn tynnu sylw at bryderon ynghylch ffermwyr tenant—ac rydym wedi clywed hynny eisoes—a’r rheini sy’n ffermio tir comin. Mae hwn yn faes yr ydym ni, fel Plaid Cymru, yn ei gefnogi’n gryf, ac rydym wedi galw’n gyson am fwy o ystyriaeth i anghenion ffermwyr tenant, yn enwedig eu gallu cyfyngedig i ymgymryd â rhai o ofynion y cynllun oherwydd amodau lesio. Felly, credwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ffermwyr tenant yn cael eu cosbi mewn unrhyw ffordd.

Rydym yn croesawu’r argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor ynglŷn â sut y mae’n bwriadu cynnwys ffermwyr tenant yn y cynllun a diogelu ffermydd cynghorau sir hefyd, yn ogystal â chymorth i newydd-ddyfodiaid a’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.

17:35

Ie, iawn. Rwyf am droi yn gyflym at Cyswllt Ffermio, i gloi.

Yn gyflym iawn, mae'r ddau adroddiad wedi codi pryderon difrifol am y datgysylltiad rhwng Cyswllt Ffermio a nodau polisi amaethyddol cyffredin y Llywodraeth, felly mae hwn yn rhywbeth i edrych arno. Amcanion rheoli tir cynaliadwy hefyd—mae angen bod yn gliriach ynglŷn â rôl Cyswllt Ffermio yn hynny, a hefyd rôl Cyswllt Ffermio yn rhoi cefnogaeth i ffermwyr sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Felly, fe wnaf i adael y sylwadau fanna. Diolch yn fawr iawn.

Mae hon yn ddadl bwysig iawn. Mae’n rhaid i’r cynllun ffermio cynaliadwy fod yn gydnaws â’n hangen i addasu, er mwyn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd sy’n anochel. O ystyried cyflwr truenus ein hafonydd a’n moroedd, pam ein bod yn parhau i dalu busnesau i daenu gwrtaith, yn hytrach na chylchdroi eu cnydau, i borthi eu tir? Pam ar y ddaear y byddem yn rhoi caniatâd cynllunio i ffermydd ieir dwys oni bai fod ganddynt gynllun rheoli credadwy ar gyfer gwaredu’r ffosffadau anochel a grëir? Felly, nid yw peidio â newid yn opsiwn.

Wrth gwrs, mae'n rhaid inni gael cyfnod pontio teg a chefnogi busnesau ffermio teuluol i addasu i’r realiti newydd, yn union fel y bydd angen cefnogi unrhyw fusnesau neu weithgarwch arall yn y sector preifat neu gyhoeddus i newid. Ond mae'n anffodus iawn fod gwrthwynebiad i gynigion y cynllun ffermio cynaliadwy wedi canolbwyntio cymaint ar y gorchudd coed o 10 y cant a awgrymir, fel pe bai hyn rywsut yn amharu ar fusnes ffermio.

Fel y mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi'i ddweud yn glir iawn, mae plannu mwy o goed yn hanfodol os yw Cymru am gyflawni ei thargedau newid hinsawdd. Yn ogystal â bod coedwigo'n ffordd effeithiol o gynyddu cyfraddau atafaelu carbon, fe allai gyflwyno buddion ehangach hefyd, gan gynnwys lles da byw, lleihau llygredd, atal llifogydd ac erydu pridd, yn ogystal â diogelu bioamrywiaeth.

Ymwelais â fferm Hywel Davies yn sir Gaerfyrddin dros yr haf, yn dilyn y cyflwyniad a wnaeth mewn seminar yma yn y Senedd yn gynharach eleni, a drefnwyd gan Cyswllt Amgylchedd Cymru. Mae ganddo lawer mwy o goed na 10 y cant, ac maent yn darparu cysgod hanfodol i ddefaid a gwartheg rhag y glaw, yn ogystal â'r haul, ac mae'n anochel ein bod yn mynd i gael mwy o law, glaw trymach, yn ogystal â llawer mwy o wres a gynhyrchir gan hinsawdd gynhesach.

Ar y pwynt hwnnw, a ydych chi'n credu nad yw'r ffigur mympwyol o gael gorchudd coed o 10 y cant ar bob fferm yn cyd-fynd â'r naratif, pan fo gan rywun fel Hywel fwy na 10 y cant, ond ni all ffermydd ar arfordir Cymru dyfu'r un goeden fach?

17:40

Na, nid wyf yn credu y dylai fod yn fympwyol. Credaf fod angen inni newid o cyffredinol, nad wyf yn credu ei fod yn bolisi erioed, i diofyn. Rwy'n derbyn ei bod yn anodd iawn tyfu unrhyw goed mewn ardaloedd arfordirol am fod gwyntoedd y gorllewin yn gwneud hynny'n wirioneddol heriol. Yn sicr, mae angen inni edrych—ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â hyn—ar realiti topograffi ffermydd pobl. Ond mae dweud bod coed yn beth drwg yn gyffredinol, pan fo lles anifeiliaid yn y fantol—

Rwy'n gwybod na wnaethoch chi ddweud hynny, ond dyna mae rhai pobl yn ei awgrymu yn y ffordd yr edrychant ar hyn.

A allwch chi ddeall pam fod rhai ffermwyr yn amheus ynghylch coed? Oherwydd pan oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd, roeddech chi'n cael eich cosbi am gael tir o dan goed a oedd yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad sylfaenol. Ac roedd gennym goetiroedd heb anifeiliaid bryd hynny hefyd, lle roedd gan bobl goetir ac nid oedd caniatâd i bori oddi tano. Roedd y cyfan yn mynd rhwng y cŵn a'r brain oddi tanynt. Felly a allwch chi ddeall pam y mae ffermwyr braidd yn amheus ynghylch plannu coed? Oherwydd mae'r hyn a ddywedir y dylem ei wneud gyda choed yn newid drwy'r amser.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, James. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Oherwydd rwy'n ddigon hen, ac nid ydych chi, i gofio’r dyddiau pan oedd pobl yn cael eu talu i dorri eu coed a’u cloddiau, ac roedd yn amser dinistriol ar goed. Mae’n rhaid inni ddysgu o’n camgymeriadau a sylweddoli bod coed yn rhan bwysig o’r dirwedd. Yn ogystal, hoffwn wneud apêl ar ran perllannau, wrth gwrs, ar gyfer cynhyrchu bwyd. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw un yn meddwl am berllannau pan fyddant yn dweud, 'Ni allaf gael coed ar fy fferm', gan y gall perllannau gynhyrchu cynnyrch y gall pobl ei werthu.

Credaf fod yn rhaid inni edrych ar hyn yn gyfannol mewn perthynas â'r ffordd y rheolwn ein tir, o ystyried yr heriau sy'n ein hwynebu. Felly, mae angen inni gael strategaeth rheoli tir. Daeth hyn yn gwbl amlwg i mi pan gadeiriais seminar ychydig wythnosau yn ôl ar y camau nesaf ar gyfer addasu i'r newid yn yr hinsawdd. Roedd mor bwerus clywed pryderon a blaenoriaethau Undeb Amaethwyr Cymru, bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg a’r Ymddiriedolaethau Natur, a chlywed sut roedd y gweithredoedd y dymunent eu gweld mor gydgysylltiedig. Er enghraifft, byddai ailgyflwyno afancod i arafu llif dŵr glaw gormodol o fudd i’r 50 y cant o dai ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n wynebu perygl llifogydd, yn ogystal â nifer fawr iawn o gyfleusterau iechyd na fydd pobl yn gallu eu cyrraedd os na wnawn rywbeth mwy dychmygus na dim ond ceisio esgus nad yw'r broblem yn bodoli.

Yn olaf, hoffwn ddweud bod yn rhaid inni gynnwys strategaeth ar wella ein diogeledd bwyd yn hyn oll. Rwy’n cofio ymweld â siop fferm yn Nhreorci y diwrnod o’r blaen, a oedd yn ardderchog o ran gwerthu cig y ffermydd lleol, ond nid oeddent yn gallu darparu unrhyw ffrwythau a llysiau heblaw rhai a oedd wedi dod o’r Iseldiroedd, a oedd wedi cael eu chwistrellu â sylweddau erchyll i ymestyn eu hoes. Mae angen inni gynhyrchu bwyd yn lleol. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n falch iawn o glywed ei fod yn digwydd ym Mhowys, lle mae tair fferm newydd yn cael eu datblygu—rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod am hyn. Maent wedi nodi bod marchnadoedd lleol ar gyfer y bwyd hwn, gan fod prinder ohono mewn cymaint o ardaloedd gwledig. Felly, mae'n rhaid inni newid, mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol, ac ni allwn anwybyddu'r ffaith bod gennym dirwedd wahanol i'r un y cynlluniwyd ar ei chyfer o dan y cynllun Ewropeaidd. Ni allwn ailadrodd yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol am nad yw wedi cynhyrchu'r diogelwch sydd ei angen arnom.

Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Paul Davies, a diolch i staff y pwyllgor a’r tystion a roddodd dystiolaeth i ni. Rwy’n siŵr y gallaf ymestyn y teyrngedau hynny i gynnwys Llyr Gruffydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Er nad wyf ar y pwyllgor hwnnw, fe wneuthum gyfrannu, ac mae Janet yn dweud eich bod yn Gadeirydd gwych.

Ond rwy’n falch iawn o gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Ni fyddaf yn canolbwyntio ar bob un o’r tri adroddiad a gyhoeddwyd, ond byddaf yn canolbwyntio ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Nid oes gennyf ddigon o amser i fanylu ar adroddiadau Cyswllt Ffermio na’r pwyllgor newid hinsawdd, felly rwy’n falch fod llawer o siaradwyr yma heno.

Fy mhrif reswm dros groesawu’r ddadl hon yw am ei bod yn angenrheidiol. Mae'n rhaid gwrando ar argymhellion y ddau bwyllgor, ac yn hollbwysig, mae'n rhaid gweithredu arnynt. Hoffwn weld amaethyddiaeth yn ffynnu, amaethyddiaeth Cymru yn ffynnu, fel y diwydiant cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, amgylcheddol gynaliadwy ag ydyw ac y gwn y gall barhau i fod. Mae'n amlwg o adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig fod problemau difrifol gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, ac mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi tynnu sylw at lawer ohonynt. Hoffwn ganolbwyntio ar rai agweddau sydd, yn fy marn i, yn dangos diffyg rhagofal yn y cynllun, yn enwedig y geiriad ynghylch gwerth cymdeithasol.

Mae argymhelliad 4 yn yr adroddiad yn gwneud hyn yn gwbl glir, gan annog Llywodraeth Cymru i weithio’n gyflym, drwy’r bwrdd crwn, i ddiffinio elfen gwerth cymdeithasol y cynllun. Mae'n anodd credu bod angen datgan hyn hyd yn oed. Yn sicr, ni ddylai fod angen i bwyllgor nodi gofyniad—argymhelliad—i orfodi’r Llywodraeth i egluro ei therm allweddol ei hun a fydd yn rhan o gymorth amaethyddol hollbwysig wrth symud ymlaen.

Fodd bynnag, dim ond un agwedd yw egluro'r derminoleg. Mae diffyg cymorth ariannol digonol i ffermwyr yn agwedd arall. O edrych ar argymhelliad 2 yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, mae'r cynllun ffermio cynaliadwy wedi methu cynnwys ffermwyr tenant a ffermwyr sy’n gweithio ar dir comin. Dywedodd y Gweinidog amaethyddol blaenorol, y Gweinidog materion gwledig, dro ar ôl tro, os nad yw’n gweithio i denantiaid, nid yw’n gweithio. Wel, yn ôl y diffiniad hwnnw, nid yw'r cynllun yn gweithio.

Mae hyn yn fy arwain at bwynt ehangach, sydd wedi'i grynhoi yng nghasgliad 2 yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, sy'n mynd i'r afael â'r ddau fater rwyf eisoes wedi eu crybwyll: cyfathrebu â ffermwyr a'r taliadau y byddant yn eu cael. Mae'r wybodaeth a ddarparwyd i ffermwyr am fethodoleg talu a’r cyfraddau y gallant eu disgwyl yn frawychus o brin. Er bod y cyfnod paratoi yn caniatáu rhywfaint o amser i drafod y manylion, mae’n hanfodol fod y gwaith hwn yn cael ei gwblhau yn ddi-oed, gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i farn rhanddeiliaid, gan nodi hefyd nad yw pob ffermwr yn aelod o undebau ffermio. Sut y gall y neges a'r wybodaeth honno eu cyrraedd, a sut y clywir eu hymateb?

Mae’r ddadl ynglŷn â'r cynllun ffermio cynaliadwy wedi datgelu un gwirionedd diymwad: mae ffermwyr yn ysu am eglurder ynghylch y rheolau, y cyllid, y dyfodol. Ac eto, mae eu galwadau wedi’u hanwybyddu braidd, gyda ffermwyr yn gofyn iddynt eu hunain pam: pam ein bod wedi treulio cymaint o amser yn cyrraedd y pwynt hwn ac yn dal heb system ymarferol i sicrhau dyfodol ffermio yng Nghymru? Lansiwyd yr ymgynghoriad cyntaf, 'Brexit a'n tir', yn 2018, ac eto, chwe blynedd a phum ymgynghoriad yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros am gynllun ymarferol y mae ffermwyr yn awyddus i ymrwymo iddo. Pam fod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i hyn barhau cyhyd?

Pam nad oedd y broses gydgynllunio yn ddim mwy na gweithred symbolaidd? Pe bai cydgynllunio yn golygu rhywbeth mewn gwirionedd, ni fyddem yn y sefyllfa hon heddiw yn trafod y tri adroddiad pwyllgor hyn. Pam fod pryderon ffermwyr, undebau, arbenigwyr y diwydiant a chymunedau gwledig cyfan ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy hynod ddiffygiol wedi syrthio ar glustiau byddar? Pam ei bod wedi cymryd cyfres o brotestiadau ledled Cymru, gan gynnwys un o’r rhai mwyaf ar risiau’r Senedd hon, i Lywodraeth Cymru dalu sylw o’r diwedd? A pham—a dyma sy'n peri cymaint o rwystredigaeth i mi, Lywydd—pam fod amaethyddiaeth a'n ffermwyr yn cael eu trin dro ar ôl tro fel pethau i'w diystyru, ac i wfftio at eu pryderon, yn hytrach na chael eu cefnogi'n briodol am yr hyn ydynt, sef asgwrn cefn ein cymunedau gwledig?

I gloi, Lywydd, rwy’n annog y Llywodraeth hon i wrando, i glywed lleisiau ein ffermwyr, ein cymunedau gwledig a’r ddau bwyllgor Senedd hyn. Nid ydynt yn gofyn am yr amhosibl—maent yn gofyn am eglurder, tegwch a pharch. Mae ffermio yng Nghymru yn hollbwysig i'n cenedl, yn sylfaen i’n cymunedau gwledig, a chredaf ei fod yn haeddu gwell. Mae'r amser ar gyfer oedi wedi hen fynd heibio. Mae'n rhaid i’r Llywodraeth hon weithredu nawr cyn ei bod yn rhy hwyr i ddiogelu dyfodol amaethyddiaeth Cymru ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau i ddod.

17:45

Wel, mae gan Brexit lawer i ateb drosto. Rydym wedi clywed llawer o rethreg mewn perthynas â’r cynllun ffermio cynaliadwy, gyda lleisiau angerddol ar ddwy ochr y ddadl a llawer o dwyllwybodaeth hefyd. Rwy'n croesawu'r digwyddiadau bwrdd crwn a’r holl drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda ffermwyr a grwpiau amgylcheddol i geisio dod o hyd i ffordd bragmatig ymlaen. Y gwir amdani, fodd bynnag, yw bod y wyddoniaeth a’r dystiolaeth yn glir iawn: mae’r DU yn un o’r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf yn y byd ac mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Rheoli tir yn anghynaliadwy yw’r rheswm mwyaf dros golledion i fyd natur yma yng Nghymru, o’r 1970au ymlaen—y ffordd yr ydym wedi colli ein gweirgloddiau blodeuog, a pherthi wedi’u rhwygo allan ac ati. Ynghyd â’r ffaith bod 90 y cant o arwynebedd tir Cymru’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio, mae’n amlwg fod angen inni weithio’n agos gyda ffermwyr i wrthdroi’r argyfwng natur sy’n ein hwynebu. Heb natur, nid oes gennym unrhyw economi, nid oes gennym unrhyw fwyd. Y cynllun ffermio cynaliadwy yw ein cyfle gorau o bell ffordd i weithredu'n bendant ac yn ystyrlon i atal colledion i fyd natur ac i fynd ati'n weithredol i adfer cynefinoedd.

Un feirniadaeth allweddol o’r cynllun ffermio cynaliadwy hyd yn hyn yw’r 10 y cant o orchudd coed, y bu cryn dipyn o sôn amdano yn barod. Lluniwyd y rhan hon o’r cynllun oherwydd, heb i ffermwyr chwarae eu rhan, ni fyddwn byth yn gallu cyflawni ein targedau plannu coed ac atafaelu carbon. Ar y wyneb—

17:50

Mae'n ddrwg gennyf, Carolyn; diolch am ildio. Soniodd y Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, sut y mae morwellt yn llawer mwy effeithlon am atafaelu carbon. Pam, felly, fod Llywodraeth Cymru yn dyfalbarhau â pholisi atafaelu carbon nad yw'n gweithio cystal â thechnolegau ac atebion ar sail natur eraill?

Ydy, mae morwellt yn bwysig iawn, gweirgloddiau blodeuog—hoffwn i hynny oll gael ei ymgorffori. Plannu coed hefyd. Mae angen inni wneud llawer iawn, gan fod angen inni atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth a—. Rwyf am barhau i sôn am fanteision plannu coed, os yw hynny'n iawn, ac fe roddaf sylw i'r hyn rydych chi'n dweud os caf barhau.

Iawn. Felly, ar yr wyneb, mae 10 y cant yn swnio'n ffigur uchel, ond pan fyddwch yn ystyried bod y gorchudd coed cyfartalog ar dir fferm eisoes yn 6 y cant i 7 y cant, rydych chi'n gweld pa mor gyraeddadwy y gall hyn fod ar lawer o ffermydd. Rwy'n deall, serch hynny, fod yn rhaid ystyried topograffi a’r ddaearyddiaeth, ond mae’n rhyfeddol sut y gellir plannu gwahanol goed mewn gwahanol ardaloedd; mae angen inni addysgu hefyd, dyna i gyd. Ond rwy'n cytuno; ni ddylai ymwneud â rhifau yn unig. A gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet, drwy ei gyfarfodydd, yn ystyried hyn oll, wrth symud ymlaen.

Mae angen inni ddangos bod plannu coed yn darparu manteision niferus i’r ffermwyr eu hunain, drwy wella iechyd pridd, arwain at welliannau i les anifeiliaid drwy ddarparu cysgod a lloches ychwanegol i dda byw—maent yn hapusach ac yn fwy cynhyrchiol pan nad ydynt yn gordwymo—ac mae coed yn amddiffynfa naturiol rhag llifogydd. Mae perthi ac ymylon caeau mor bwysig hefyd, fel coridorau natur. Maent yn dal y lleithedd a'r maethynnau yn y ddaear, gan nad oes unrhyw beth yn tarfu arnynt. Mae maethynnau pridd yn cael eu herydu gan ffermio dwys a dŵr ffo, sydd wedyn yn achosi llifogydd ar y briffyrdd ac yna mae'r llifogydd yn effeithio ar gartrefi. Mae tywydd eithafol a newid hinsawdd yn cael effaith, a bydd hynny'n dod yn norm. Bydd yn creu risg sylweddol i ddiogeledd cynhyrchiant bwyd yng Nghymru ac i hyfywedd ffermio. Ond mae'r ymylon nad ydynt yn cael eu ffermio'n ddwys yn cadw'r lleithedd a'r maethynnau, felly mae'n dangos pa mor wahanol y gallai pethau fod pe bai mannau'n cael eu rheoli'n wahanol.

Ledled Cymru, mae’r dystiolaeth yn dangos bod ffermwyr sy’n mabwysiadu arferion adfywiol ac organig yn gwella gwytnwch tir ac yn eu galluogi i liniaru ac addasu’n well i sychder neu lifogydd. Hwy yw'r rhai mwyaf gwydn, felly, rhag effeithiau newid hinsawdd. A gwyddom fod y risg dymor canolig i hirdymor fwyaf i gynhyrchiant bwyd yng Nghymru yn deillio o newid hinsawdd. Ac fel y nododd WWF, yn gywir ddigon, mae ffermwyr sy'n mynd ati'n weithredol i ddefnyddio arferion ffermio sy'n ystyriol o natur, sy'n adfer natur, neu sy'n fwy amrywiol yn gallu gwrthsefyll digwyddiadau tywydd eithafol yn well. Er enghraifft, mae tir yn llai llosg yn ystod cyfnodau o wres a phwysau dŵr, ac yn llai agored i lifogydd. Mae’n rhaid inni ddiogelu ein systemau ffermio at y dyfodol er mwyn ein galluogi i fod yn fwy gwydn rhag effeithiau newid hinsawdd.

Dros y blynyddoedd, mae ffermio dwys wedi bod yn cynyddu, ond gyda gwrtaith a bwyd mor ddrud, mae’r rheini sydd wedi lleihau nifer y da byw sydd ganddynt a lleihau eu gwariant ar fwyd a gwrtaith wedi sylweddoli y gallant wneud elw o hyd ond gyda llai o wariant a llai o waith drwy ffermio sy'n ystyriol o natur. Mae fel mynd yn ôl genedlaethau lawer. Amlygodd Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Cymru, yn ystod sesiynau tystiolaeth y pwyllgor, nad oes yn rhaid i reoli tir ar gyfer cynefin ddigwydd ar draul cynhyrchiant, ac y gall integreiddio ystod amrywiol o gynefinoedd a nodweddion ar dir fferm gynnal a hyd yn oed gynyddu pwysau’r cnwd. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o ffermwyr sydd wedi datblygu arferion ystyriol o natur yn dweud eu bod bellach yn fwy proffidiol.

Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad yn y Senedd ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Cymru, a bydd y rheini a fynychodd wedi clywed areithiau anhygoel Liliana ac Ellie am Sefyll dros Natur a’u maniffesto ieuenctid ar gyfer COP16. Gwnaethant ein hatgoffa o’r rolau breintiedig sydd gennym, fel y cynrychiolwyr etholedig, a’r newidiadau y gallem eu gwneud pe baent yn cael diwrnod yn ein hesgidiau ni. Ni allwn eu siomi. Mae'n rhaid inni weithredu ar unwaith cyn inni wynebu colledion na ellir eu gwrthdroi i fioamrywiaeth. Heb natur—ac mae hynny'n cynnwys pob pryfyn, pob peillydd, gwyfyn, aderyn, mwydyn, chwilen y dom; maent yn rhannau pwysig o’n hecosystemau—. Nid oes economi hebddynt, ac nid oes bwyd, felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i ateb, gan weithio gyda ffermwyr, gyda’n gilydd. Diolch.

17:55

Mae llawer o’r pwyntiau yr oeddwn am eu gwneud eisoes wedi’u gwneud, ond hoffwn ddiolch i'r ddau bwyllgor am ganolbwyntio ar y cynllun ffermio cynaliadwy, a rhai pwyntiau gwirioneddol allweddol yn hynny. Hoffwn ddechrau drwy ailddatgan fy nghred fod y cynllun ffermio cynaliadwy yn gam hollbwysig ymlaen i ffermwyr a chymunedau yma yng Nghymru, gan anelu at adeiladu diwydiant ffermio cynaliadwy, blaengar a llewyrchus. Ond yn bendant, mae ganddo wendidau. Mae agweddau ar y cynllun ffermio cynaliadwy yn hynod amhoblogaidd ymhlith ffermwyr, a hynny am resymau da, ond gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn gweithio’n galed i ymgysylltu â’r undebau ffermio hynny, ac rwyf wedi clywed hynny’n uniongyrchol ganddynt.

Mae ffermwyr yn dymuno cael dyfodol cynaliadwy. Maent yn dymuno cyflawni mewn perthynas â ffermio cynaliadwy, ac maent yn gynghreiriaid allweddol, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor hinsawdd, yr amgylchedd a seilwaith—maent yn gynghreiriaid allweddol o ran newid hinsawdd, ac maent yn cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ar gyfer ein byrddau. Ond drwy gydol yr ymgynghoriadau ar y cynllun ffermio cynaliadwy, rydym yn clywed yr un peth dro ar ôl tro gan ffermwyr: fod y cynllun hwn yn rhy gymhleth, yn rhy feichus, ac yn rhy anhylaw. Crynhodd yr Athro Dwyer o Brifysgol Caerdydd y mater yn dda iawn pan ddywedodd mai'r hyn y gofynnir i ffermwyr ei wneud yw

'llawer iawn o waith ychwanegol am fudd amhenodol ond annigonol, o bosibl'.

Felly, mae gennyf bum mater penodol yr hoffwn eu trafod yn gyflym. Gellir dweud llawer, wrth gwrs, mewn perthynas â'r adroddiadau, ond rwyf am ganolbwyntio ar y pum peth hwn yn gyflym, ac rwy'n gobeithio eu bod yn adeiladol.

Yn gyntaf, y taliad sylfaenol: pan edrychwn ar ba mor ymarferol yw’r cynllun ar gyfer systemau ffermio gwahanol, mae'n amlwg fy mod yn croesawu argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am sut y mae’n bwriadu cynnwys cymorth i ffermwyr tenant a ffermwyr tir comin. Rydym wedi clywed gan gyfranwyr eraill pa mor bwysig yw ffermwyr tenant a ffermwyr tir comin. Maent yn ffermwyr, maent yn cynhyrchu bwyd, a dylent gael eu trin yn union yr un fath ag unrhyw ffermwr arall. Mae'r NFU ac Undeb Amaethwyr Cymru yn mynnu na chaiff unrhyw ffermwyr eu gadael ar ôl, ac felly gofynnaf i’r taliad sylfaenol cyffredinol gael ei ymestyn.

Yn ail—ac rwy'n gwisgo fy helmed dun yma—gorchudd coed. Mae hwn yn ofyniad beichus iawn, a buaswn yn annog unrhyw un sy'n siarad am hyn a heb fod yn cytuno â hyn efallai i feddwl: a ydych am i goed gael eu plannu ar dir pob ffermwr—byddai rhywfaint o'r tir yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd—er mwyn bodloni'r gofyniad hwnnw? Os nad yw'n ofyniad sylfaenol, yn wir—a chawn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet yn nes ymlaen—yna os gwelwch yn dda, a all hyn fod yn glir yn eich ymateb? Buaswn yn croesawu hynny, os gwelwch yn dda. Nid oes unrhyw un—unrhyw un—yn gwadu bod angen inni blannu mwy o goed, ond mae angen inni fod yn hyblyg, ac mae angen inni ddweud yn glir wrth ein ffermwyr nad galwad am orchudd o 10 y cant o leiaf ar eu tir yw hwn.

Yn drydydd, ffermwyr ifanc: mae angen inni gydnabod bod adroddiad y pwyllgor wedi dweud, ar gyfer ffermwyr ifanc, nad oes llawer i annog y genhedlaeth nesaf. Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi dweud, fel y mae, y byddai’r cynllun ffermio cynaliadwy yn

'ei gwneud yn amhosibl denu gwaed newydd i'r diwydiant.'

Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu’r ffyrdd y bydd yn annog newydd-ddyfodiaid a ffermwyr newydd i mewn i'r byd ffermio?

Yn bedwerydd, yr argyfwng iechyd meddwl. Rwy'n sylweddoli ei fod wedi cael ei grybwyll. Yr hyn a wyddom am ffermio yw—. Wel, o ran materion iechyd meddwl, dyma grib y rhewfryn; nid yw’n syndod fod ffermwyr o bob oed yn wynebu argyfwng iechyd meddwl. Yn ôl Sefydliad DPJ, maent wedi gweld cynnydd o 73 y cant mewn galwadau ffôn sydd wedi cael eu cyfeirio at wasanaeth cwnsela. Felly, buaswn yn croesawu ymateb i'r mater penodol hwnnw.

Yn olaf, ar ynni adnewyddadwy, cafodd y ddarpariaeth honno ei chynnwys fel gwelliant yn y Bil amaethyddiaeth, ac roeddwn yn ddigon ffodus i wthio am hynny. Hoffwn awgrymu bod pob adeilad fferm yn cael cymorth ariannol ar gyfer gosod paneli solar. Ar unwaith, byddech yn dechrau sicrhau bod gennym ddull mwy cynaliadwy, a mwy poblogaidd, gobeithio, o ymdrin ag ynni adnewyddadwy.

Mae angen inni feddwl—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod a gaf i dderbyn ymyriad, o ystyried bod fy amser ar ben. A gaf i barhau, Lywydd?

18:00

Un frawddeg arall. Rwy'n gobeithio y caf glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet nad oes unrhyw rwystrau yn y cynllun ffermio cynaliadwy i ffermwyr nad ydynt yn gallu darparu 10 y cant o goed, i ffermwyr tenant, i ffermwyr ifanc, ac i'r rhai sy'n ffermwyr tir comin hefyd. Diolch yn fawr iawn.

A gaf i gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau yn gyntaf fel ffermwr ac un o dderbynwyr cynllun y taliad sylfaenol? Hoffwn ddiolch i bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r pwyllgor newid hinsawdd am eu gwaith ar y cynllun ffermio cynaliadwy, ac rwy'n cytuno â llawer o'u canfyddiadau a'u hargymhellion, ac maent wedi tyrchu'n drylwyr i'r materion sy'n codi, ac rydym yn diolch iddynt am hynny.

Mae angen ystyried eu hargymhellion, fel y clywsom eisoes, gan y bydd cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol yn llywio dyfodol llawer o bethau. Bydd yn siapio'r economi amaethyddol. Bydd yn siapio sut y bydd ein cefn gwlad rhyfeddol o amrywiol yn edrych. O ganlyniad, bydd yn siapio ein cymunedau gwledig ac o'r herwydd, ein diwylliant yn y dyfodol a'r iaith sy'n ffynnu yn y cymunedau hynny. Yr holl bethau hyn sy'n ffurfio gwead Cymru fel y'i hadwaenwn, felly mae'n hanfodol ein bod yn cael y pethau hyn yn iawn.

Pan gynhaliwyd ymgynghoriad y cynllun ffermio cynaliadwy y llynedd, ni allai unrhyw un ohonom fod wedi rhagweld y gallai'r Llywodraeth fod wedi cael pethau mor anghywir a'u bod allan o gysylltiad i'r fath raddau â realiti gwledig, ac mae hyn yn aml yn wir pan nad yw pobl sy'n llunio polisi yn deall y pwnc yn ddigonol. Roedd y llu o weithredoedd cyffredinol a disgwyliadau ar ffermwyr yn anymarferol, yn annheg, ac roedd rhai yn anghyraeddadwy. Dim ond rhai o'r pethau y clywsom amdanynt eisoes heddiw yw'r gorchudd coed o 10 y cant, y 10 y cant o gynefin, y pyllau dŵr a'r pyllau dŵr tymhorol. Ni chafodd pethau eu helpu gan ddiffyg strwythur talu i ffermwyr ei ystyried. Nid aethpwyd i'r afael â'r pryderon ynghylch dibrisio eu hased cyfalaf eu hunain, ac maent wedi codi ofn.

Cafodd y cynllun ei frandio yn 'Cadw ffermwyr i ffermio', a dywedodd y miloedd o ffermwyr a orymdeithiodd i'r Senedd wrthym yn wahanol, a dywedasant wrthym mai'r gwrthwyneb oedd yn wir. Ac fe wyddom, ac mae'n werth atgoffa ein hunain, y byddai wedi arwain at ostyngiad o 122,000 o unedau da byw i bob pwrpas, tua 10.8 y cant o nifer da byw Cymru, a thoriad o 11 y cant yn y llafur ar ffermydd Cymru, sy'n cyfateb i golli 5,500 o swyddi, yn seiliedig ar lefelau cyflogaeth presennol ffermydd Cymru. Ac rydym yn gwybod y byddai wedi creu ergyd o £125 miliwn i allbwn y sector a cholled o £199 miliwn i incwm busnesau fferm.

Nawr, roeddwn yn falch iawn fod yr Ysgrifennydd Cabinet newydd—. O, mae'n ddrwg gennyf, Jenny.

Ffigurau ffeithiol gwirioneddol ydynt sydd wedi cael eu cynhyrchu a'u hailadrodd sawl gwaith mewn llawer o ddogfennau sydd wedi bod yn gefndir i'r dystiolaeth ar hyn, a llawer ohonynt gan y Llywodraeth ei hun, rwy'n credu, Jenny.

Fel roeddwn i'n dweud, roeddwn i'n falch iawn fod yr Ysgrifennydd Cabinet newydd wedi penderfynu cymryd seibiant, ac roedd yn adfywiol, ac wedi rhoi amser i wrando—[Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi gymryd seibiant, ac fe wnaethoch chi gymryd amser i wrando, ac mae miloedd o ffermwyr a busnesau gwledig yn gobeithio eich bod chi wedi gwrando. Mae'r sector yn gwybod bod angen iddo newid. Mae bob amser wedi derbyn hyn, ond beth bynnag yw'r cynlluniau terfynol, mae'n rhaid iddo fod yn wirioneddol gydlynol, ac rwy'n mawr obeithio bod hynny'n digwydd nawr.

Yn ddiweddar ystyriodd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb—rhif P-06-1461—a ofynnai am gael gwared ar y gweithredoedd cyffredinol a'r gostyngiadau i'r taliadau yn y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Fe ddenodd tua 16,000 o lofnodion ac fe'i cyflwynwyd gan Mr Jethro Small. A chytunodd y pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan wybod y byddai pryderon y deisebydd yn cael eu codi ar lawr y Senedd yn ystod y ddadl heddiw, ac rwy'n falch o allu cyflwyno'r pryderon hynny i'r Aelodau ar ran y deisebwyr. Roedd y ddeiseb yn dweud, a'u geiriau hwy yw'r rhain:

'Bydd y cynnig i’w gwneud yn "ofynnol" plannu 10% o orchudd coed a throi 10% o dir cynhyrchiol yn dir cynefin yn arwain at ostyngiad amlwg o 20% a mwy yn y bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, colli swyddi a throsiant cyffredinol busnesau, a hynny mewn diwydiant sydd eisoes mewn cyni. Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith enfawr'—

18:05

Yn amlwg, mae gennyf raglawiaid galluog iawn sy'n gwylio pwy sydd wedi bod i mewn a phwy sydd wedi bod allan yn ystod y ddadl gyfan. A ydych chi wedi bod yma ar gyfer y ddadl gyfan, Lee?

Ar hyn o bryd rwy'n dyfynnu beth—[Torri ar draws.] Ar hyn o bryd rwy'n dyfynnu beth y mae'r deisebydd—[Torri ar draws.] Ar hyn o bryd, rwy'n dyfynnu'r hyn y mae'r deisebydd wedi'i ddweud. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain; geiriau'r ddeiseb ydynt:

'colli swyddi a throsiant cyffredinol busnesau, a hynny mewn diwydiant sydd eisoes mewn cyni. Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith enfawr ar fusnesau gwledig, ar gymunedau, ac ar safonau byw cyffredinol teuluoedd.

'Bydd pob gweithred sylfaenol yn golygu cynnydd o ran llafur/gwaith papur a chostau i alwedigaeth sydd eisoes dan straen, ond ni fydd taliadau uwch i gyd-fynd â hyn.

'Anymarferol!'

Felly, roeddwn eisiau rhannu'r rheini, oherwydd fe wnaethom addo i'r deisebwyr y byddem yn rhoi'r rheini gerbron y Siambr. Rydym yn gwybod bod pethau wedi symud ymlaen ers i'r ddeiseb agor, ond mae'r teimladau sylfaenol a'i hysgogodd yn dal i fodoli ym meddyliau ffermwyr ledled Cymru, a dyna pam ei bod yn hanfodol cael pethau'n iawn. Mae'n amlwg fod angen creu cynllun a fydd yn hygyrch i bob ffermwr, tenant a pherchennog, ar bob math o ffermydd ym mhob lleoliad. Mae angen eglurder yn fuan ar strwythurau talu posibl a all gynnig diogelwch wrth symud ymlaen yn yr un modd ag y mae'r diwydiant wedi elwa, dros nifer o flynyddoedd, o gynllun cyfredol y taliad sylfaenol. Yn fy marn i, rhaid i gynllun ffermio cynaliadwy terfynol y Llywodraeth gydnabod gwerth cynhyrchu bwyd, yn ogystal â chreu'r amodau ar gyfer mwy o fioamrywiaeth a budd amgylcheddol. Lywydd, rwy'n gobeithio y daw'r diwydiant o hyd i gynllun a all weithio, a gobeithio y bydd gan y rhai sy'n ymdrechu am fwy o fuddion amgylcheddol hyder hefyd y bydd yr hyn a gyflwynir yn cyflawni'r hyn sydd ei angen. Diolch.

Mae'n rhaid inni edrych ar y ffaith mai'r gair allweddol yn hyn yw 'cynaliadwy', ac mae'n rhaid iddo fod yn gynaliadwy i bawb—y rhai sy'n byw oddi ar y tir, yn amlwg, a'r rhai fydd yn dod ar eu hôl. Un maes y credaf fod gwir angen ffocws arno yw'r arferion ffermio dwys, yn enwedig dofednod a llaeth, a rhaid eu hystyried mewn perthynas â rheoli slyri ac a ydych chi'n defnyddio hynny ar gyfer cynhyrchu ynni, neu a oes gennych y trefniadau storio cywir. Ond fy nghynnen ynglŷn â hyn, os oes gennych ffermydd llaeth yn enwedig, sydd mor fawr fel na allant reoli'r mecanweithiau storio hynny, yw na ddylent gael caniatâd cynllunio yn y lle cyntaf. Dylai cynllunio fynd i'r afael â'r materion hyn ar yr adeg y byddant yn caniatáu ehangu, oherwydd fel arall rydych chi'n creu perygl o lygru afonydd, neu bentyrru slyri, nad yw'n dda. Ac fe ddyfynnaf Peter Fox. Dywedodd y bydd y cynllun hwn yn 'siapio' cefn gwlad ac mae'n iawn—fe fydd yn siapio cefn gwlad—ond nid ysguboriau mawr yw'r siâp ar gefn gwlad y bydd y genhedlaeth nesaf eisiau ei weld o reidrwydd. Felly, dyna yw fy man cychwyn ac wrth gwrs, yr hyn sy'n digwydd hefyd gyda ffermio dwys mawr yw caffael y tir wrth ei ymyl a'r tir wrth ymyl hwnnw a'r tir wrth ymyl hwnnw wedyn. Felly, nid ydych o reidrwydd yn cael yr amrywiaeth y mae pawb ohonom yn gobeithio amdano, ac y credaf y byddai pawb yma'n gobeithio amdano.

Mewn munud. Rwy'n mynd ymlaen at y rownd nesaf o ffermydd, sef ffermydd cyngor a welir yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n deall eu bod o dan reolaeth awdurdodau lleol, ond rwy'n teimlo y gall ac yn sicr y dylai Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar gadw'r tir hwnnw ar gyfer y cymunedau a wasanaethant ac atal y gwerthiannau ar raddfa fawr sydd wedi bod yn digwydd. Dylai buddsoddiad mewn ffermydd cyngor ddigwydd, a gellir defnyddio'r ffermydd hynny i dreialu dulliau ac i hyrwyddo cynaliadwyedd yn y ffermio er lles natur a fyddai'n rhoi syniad o sut y gallem gyflwyno hynny hyd yn oed ymhellach. Fe gymeraf eich pwynt. 

18:10

Diolch, Joyce. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi ildio. Ar eich pwynt ynglŷn â dwysáu, mae hynny'n ganlyniad uniongyrchol dilyn y polisi amaethyddol cyffredin. Rydym yn ceisio gwrthdroi 40 mlynedd o bolisi Ewropeaidd mewn un cam. Ond y pwynt arall yw y bydd mwy o ffermwyr yn dilyn llwybr dwys os nad ydynt yn ymuno â hyn. Os nad yw'r cynllun yn ddigon deniadol i ffermwyr ddweud, 'Ydw, rwyf am ddod yn un o ffermwyr y cynllun ffermio cynaliadwy', bydd mwy o bobl yn dilyn y llwybr dwys, yn union fel rydych chi wedi disgrifio, ac onid ydych chi'n meddwl bod hynny er anfantais i gefn gwlad?

Rwy'n bendant yn credu bod ffermio dwys yn niweidiol i gefn gwlad oherwydd rwyf newydd ei nodi. Felly, nid wyf yn dadlau gyda chi am hynny. 

Y maes arall yr hoffwn symud ymlaen ato, y soniodd rhywun amdano'n fyr, ac rwy'n credu efallai mai Jenny a wnaeth, yw'r defnydd o afancod. Roeddwn ym Mhrosiect Gweilch Dyfi yr wythnos hon—a dweud y gwir, rwy'n mynd yno'n weddol rheolaidd, rhaid i mi ddweud—a'r hyn y maent yn ei wneud, unwaith eto, yw rheoli ar raddfa fach ac arsylwi a monitro'r defnydd o afancod ar gyfer eco-reoli eu tir. Ac fe fydd yn atal y gwlyptiroedd rhag sychu a rhag llifogydd hefyd. Ac os ydym yn sôn am gynaliadwyedd, mae'n rhaid inni sôn am gynaliadwyedd sy'n defnyddio'r holl offer yn y bocs, ac mae'n rhaid i afancod fod yn rhan o hynny—[Torri ar draws.] Un eiliad. A phan soniwn am reoli tir, rwyf hefyd yn falch iawn nad yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn caniatáu cynhyrchu adar tramor ar raddfa fawr ar eu tir—rydym yn sôn am ffesantod yn arbennig—sy'n amlwg yn diraddio'r pridd, ac eto rywsut mae eraill yn honni, ac ni wn sut, eu bod yn geidwaid y tir. Yn amlwg, nid dyna'r gwir ac mae'r dystiolaeth yn dweud hynny. Mae'n ddrwg gennyf, mae fy amser ar ben.

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gyfrannu at y ddadl—Huw Irranca-Davies. 

Member (w)
Huw Irranca-Davies 18:13:02
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i'r pwyllgorau a diolch i bawb sydd wedi siarad yn y debate hwn.

Mae hon wedi bod yn ddadl ddiddorol. Rwy'n credu ein bod wedi cael mwy na 10 o gyfraniadau. Pe bai hyn yn digwydd ar raddfa San Steffan, byddai hynny'n golygu bod dros 100 o ASau wedi siarad mewn dadl o'r fath. Mae'n dyst i'r pwysigrwydd y mae'r Aelodau yn ei roi i adroddiadau'r pwyllgor ond hefyd i ddyfodol y cynllun ffermio cynaliadwy a rôl Cyswllt Ffermio hefyd. Felly, rwyf eisiau dweud 'diolch' yn ddiffuant wrth bawb, gan gynnwys y ddau gyd-Aelod Ceidwadol yma sydd wedi tynnu fy nghoes ynghylch yr oedi, ar ôl fy annog yn flaenorol i gymryd saib, i feddwl drwy hyn, cael pethau'n iawn, ymgysylltu â'r holl randdeiliaid, sef yn union beth rwy'n ei wneud, a nawr maent yn dweud wrthyf, 'Peidiwch ag oedi, bwriwch ymlaen ag ef.' Fe gewch eich diawlio os gwnewch chi, a'ch diawlio os na wnewch chi. [Torri ar draws.] Fe ildiaf. 

Diolch. Yr oedi cyn cyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy ar ôl chwe blynedd o ymgynghori a phum ymgynghoriad o fewn y chwe blynedd hynny, mae'r oedi cyn gweithredu'r cynllun ffermio cynaliadwy i'w groesawu, ond pam ei bod hi wedi cymryd mor ddiawl o hir i gael y cynllun i'r sefyllfa y mae ynddo?

Wel, Lywydd, rwy'n poeni'n fawr nawr, gyda fy nefnydd i o 'cewch eich diawlio os gwnewch chi, eich diawlio os na wnewch chi', rydym bellach wedi cael—un, dau, tri, pedwar—pum defnydd o'r gair hwnnw yn hyn a'n bod yn mynd i gael cerydd. Ond edrychwch, rydym yn datblygu cynllun ffermio gwirioneddol gynaliadwy ym mhob un o'r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy yn yr ysbryd a ddywedwyd, gydag ehangder y cyfraniadau. Ond gadewch imi ddweud yn nhermau lleygwr beth y mae hynny'n ei olygu. Mae hynny'n golygu, fel y dywedais dro ar ôl tro, busnesau fferm cynaliadwy, busnesau fferm hyfyw, cadw ffermydd ar y tir yn eu holl amrywiaeth wych, ond hefyd cynaliadwyedd o ran yr heriau natur a hinsawdd sy'n ein hwynebu hefyd. Ac mewn gwirionedd, os ydych chi wir eisiau gwneud ffermydd yn wydn ar gyfer y dyfodol yn yr heriau hinsawdd sy'n ein hwynebu, fe fyddwch chi'n ymgorffori gwytnwch hinsawdd, ac mae hynny'n rhan o'r hyn y ceisiwn ei wneud gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ac a gaf i ddweud diolch wrth yr holl bobl, ar ôl cael cerydd gan un siaradwr nodedig yma am fethu ymgysylltu'n ystyrlon—? Wel, roedd yna 25 o gyfarfodydd, gyda rhai ohonynt yn gyfarfodydd diwrnod llawn, nid awr yma ac acw, ond cawsom ddyddiau llawn yn parhau gyda'r nos, gan gynnwys, gyda llaw, James— 

18:15

—yn y grŵp swyddogion—fe ildiaf mewn eiliad, i weld beth yw eich ateb diddorol i hyn—gan gynnwys yn y grŵp, Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, neu'r grŵp swyddogion a'r bwrdd crwn gweinidogol, y clybiau ffermwyr ifanc, y rhai a ddywedoch chi na chafodd eu cynrychioli yn hyn: wel, maent yn y grŵp swyddogion mewn gwirionedd. Maent yn cyfrannu'n uniongyrchol at hyn. Gallaf fynd trwy'r lleill os dymunwch hefyd. Yr holl bobl hynny sydd wedi bod, yr holl ffordd drwy'r haf, yn y grŵp atafaelu carbon, ar y bwrdd crwn gweinidogol, ac yn y grŵp swyddogion, yn gwneud yr hyn y dywedasom y byddem yn ei wneud yn wreiddiol, sef rhoi amser wedi'r ymateb mwyaf i ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru erioed wedi'i weld, i fynd drwyddo'n fanwl a'i gael yn iawn wrth symud ymlaen.

Nid ydym wedi cyrraedd yno eto, ond mae'n datblygu'n dda, a bydd rhwystrau ar y ffordd hefyd, ond fe ddown drwy hynny, rwy'n argyhoeddedig, oherwydd y dull cydweithredol. Fy null o weithredu yr holl ffordd drwy hyn oedd gwrando, ymgysylltu, dod â phobl ynghyd yn yr un lle, yn yr un ystafell, a gweithio drwy faterion anodd iawn am gynaliadwyedd gwirioneddol, yn yr holl bethau y mae'r Cadeirydd, Llyr, newydd eu disgrifio, ac y mae eraill wedi'u disgrifio, gan wneud i hyn weithio i ffermwyr, y mae'n rhaid iddynt fod yn rhan annatod o fwrw ymlaen â hyn, ond hefyd ar gyfer yr hyn sy'n rhaid ei wneud o ran natur a'r hinsawdd, yn ogystal â'r cynhyrchiant bwyd gwych yr ydym yn rhagori arno yng Nghymru: twf o 10 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf mewn bwyd a diod o Gymru. Rydym yn gwneud yn dda nid yn unig yn y wlad hon, ond hefyd o ran yr hyn a allforiwn. Mae'n seiliedig ar y safonau uchaf o'r hyn a wnawn yn amgylcheddol a chyda lles anifeiliaid ac yn y blaen, yn ogystal ag ansawdd cynhyrchiant bwyd.

Nawr, yr adroddiadau sydd wedi'u cyflwyno, Paul a Llyr, diolch yn fawr iawn i chi yn wir; rydym yn eu darllen gyda diddordeb ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno ein bod wedi rhoi ymateb cadarnhaol i'r argymhellion a'r syniadau. Cawsant eu cyflwyno yn yr haf mewn gwirionedd, wrth inni ymgysylltu; roeddem yng nghanol ymgysylltu a gwneud rhai o'r pethau rydych chi wedi'u nodi yn eich adroddiadau.

Nawr, hyd yma, yr hyn y buom yn ei wneud, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn gryno yma, yw adolygu'r holl weithredoedd cyffredinol, rheolau allweddol y cynllun, gan weithio trwy rai o'r materion anodd hynny hefyd, yn cynnwys gwaith y panel adolygu tystiolaeth ar atafaelu carbon. Byddant yn adrodd eu canfyddiadau i'r bwrdd crwn gweinidogol yn fuan iawn. Rydym yn aros am hynny.

Mae gwaith y grŵp yn seiliedig ar strwythur y cynllun, fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad, fel y cafodd ei gefnogi gan randdeiliaid. Yr hyn y bwriadwn ei wneud yw ceisio cyflwyno rhywbeth sydd—fel y mae'r adroddiadau wedi crybwyll—yn cefnogi gwytnwch pob ffermwr yng Nghymru drwy ddull integredig fferm gyfan o weithredu, a hefyd y taliad sylfaenol cyffredinol. Mae hwn yn seiliedig ar gwblhau set o weithredoedd cyffredinol. Bydd y rhai sydd am fynd ymhellach yn cael cyfle i wneud hynny, ac rydym yn cael y trafodaethau hynny hefyd, naill ai gyda'r gweithredoedd dewisol neu gydweithredol, ac yn cael cymorth ariannol ychwanegol.

Mae hyn i gyd yn gweithio tuag at 2026 ar gyfer cyflwyno hyn, ond nid ydym yn aros, oherwydd fe fyddwch chi wedi gweld drwy'r haf, mewn llawer o'r pethau—a byddaf yn cyffwrdd ar rai ohonynt nawr—nid ydym yn aros, rydym yn bwrw ymlaen â materion. Felly, pan fydd gennym y cynllun interim, byddwn wedyn yn ymgymryd â—ac mae Aelodau wedi crybwyll hyn heddiw—gwaith modelu pellach ac asesiad effaith economaidd diwygiedig, fel bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf, ac mae'n adlewyrchu ffurf y cynllun, nid rhywbeth a fodolai yn y gorffennol ar ryw adeg. Bydd hyn yn cael ei ystyried gan y bwrdd crwn cyn i mi wneud penderfyniad terfynol y flwyddyn nesaf, a bydd y grwpiau'n parhau, gyda llaw, i gefnogi'r broses wrth inni ddechrau'r camau nesaf, gan gynnwys datblygu elfennau eraill o'r cynllun.

Felly, edrychwch, mae'r gwaith yn dwyn ffrwyth. Gyda chefnogaeth y bwrdd crwn, yn ystod yr haf pan oedd yr adroddiadau hyn yn cael eu cyflwyno, roeddwn yn y Sioe Frenhinol, fe wnaethom gyhoeddi yno ein bod wedi dod i gonsensws ar fater pwysig iawn, a oedd yn ymwneud â SoDdGAoedd. Gallasom ddweud rhywbeth yn gyhoeddus. Wrth inni allu dweud pethau a chytuno ein bod am eu dweud, fe fyddwn yn gwneud hynny, ond rwyf bob amser wedi dweud yn glir, yn hytrach na rhoi sylwebaeth ar y pryd, ac rwy'n deall y rhwystredigaeth sy'n bodoli, rydym am gael hyn yn iawn a dweud wedyn ble rydym wedi cyrraedd, gan weithio gyda'r holl randdeiliaid. Mae llawer i'w wneud o hyd mewn cyfnod byr iawn o amser, felly dyna pam fy mod i hefyd yn pwysleisio wrth y grŵp fod yn rhaid inni barhau i weithio yr un mor gyflym a dygn ag a wnawn, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i'r holl bartneriaid am eu cyfraniadau. [Torri ar draws.][Chwerthin.] Mae'n ddrwg gennyf, James.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog blaenorol am ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet fy mod am wneud ymyriad? Roeddech chi'n dweud am gael pethau'n iawn ac fe wnaethoch chi siarad yn gynt am rwystrau yn y ffordd, ac efallai fy mod ychydig yn annheg arnoch chi'n gynharach—

18:20

—Ysgrifennydd y Cabinet. Ond rydych chi wedi fy nghamddyfynnu ddwywaith heddiw, felly dyna ni.

Bydd rhwystrau ar y ffordd, fel rydych chi wedi dweud, ond os nad yw rhywbeth yn iawn, ac os nad yw'r undebau ffermio yn cytuno â'ch safbwynt terfynol, i ble'r awn ni wedyn? I ble'r awn ni os yw'r undebau amaeth yn dweud, 'Wel, mae'n ddrwg gennym, nid ydym yn cytuno â hyn. Nid ydym yn meddwl bod hyn yn iawn i'r diwydiant, rydym yn camu'n ôl'? Ble fyddwch chi'n sefyll wedyn? Nid wyf am weld y sefyllfa honno'n digwydd, oherwydd, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Sam yn gynharach, os nad yw pobl yn cefnogi'r cynllun hwn, rydym yn mynd i weld mwy a mwy o ffermio dwys ledled Cymru, sy'n mynd yn groes i bopeth rydych chi'n ceisio'i wneud.

Edrychwch, yn y pen draw, James, yn fy senario ddelfrydol, rydym yn cyrraedd pwynt—efallai nad yw'n foment ardd rosynnau, oherwydd mae yna rai eiliadau gardd rosynnau drwgenwog—lle rydym i gyd yn cerdded allan gyda'n gilydd ac yn dweud, 'Efallai na fydd hyn yn berffaith—.' Dyma enghraifft glasurol o Churchill yn yr ail ryfel byd, 'Rhowch radar imi.' 'Gallaf roi tri opsiwn i chi. Bydd un ohonynt yn barod, bydd yn berffaith ymhen dwy flynedd.' 'Na, rhowch yr un sy'n barod i mi, oherwydd maent yn dod ar draws y sianel.' Felly, yr hyn rwy'n gobeithio y gallwn ei gyrraedd yw pwynt lle mae gennym gefnogaeth gan yr holl bobl sydd wedi bod yn rhan o'r broses hon, a gallant ddweud yn ddiffuant, 'Ewch amdani. Mae'n hygyrch i bob ffermwr. Bydd yn gwneud y pethau sy'n rhaid eu cyflawni o ran natur a hinsawdd hefyd.'  Dyna fy nelfryd.

Os na chyrhaeddwn y fan honno, yn y pen draw, dyna pam rwy'n cael fy nhalu; mae'n rhaid i mi ddyfarnu ar hyn. Rhaid i mi ddyfarnu ar gyfer yr holl bethau sy'n rhaid eu cyflawni y mae'r ddau bwyllgor a'r Aelodau eraill sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi siarad amdanynt. Mae angen imi ddyfarnu os oes anghytundeb, ac rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond rwyf am i bob un ohonom fod y tu ôl i hyn, am ei bod hi mor bwysig cael ffermwyr y tu ôl i hyn a chael y Gymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad, yr undebau ffermio, y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur ac eraill i ddweud, 'At ei gilydd, mae hwn yn iawn. Ewch amdani, cymerwch ran,' yn hytrach na 'Nid wyf yn siŵr am hyn,' troi cefn neu beth bynnag. Rydym wedi gwneud cymaint o waith, mae angen inni weld hwn yn cael ei gyflawni a'i gyflwyno. 

A gaf i droi at Cyswllt Ffermio a'r gwaith sydd wedi'i wneud ar ddadansoddi hwnnw hefyd? Os caf ddweud mai un o'r awgrymiadau yn y fan honno yw y dylem arddangos ar ffermydd. Wel, yn wir. Bellach mae gan y rhaglen Cyswllt Ffermio 220 o ffermydd ledled Cymru. Maent i gyd yn ymwneud â gwahanol fathau o dreialon a phrosiectau ar y fferm, gan ganolbwyntio ar arloesi, technolegau newydd a'u helpu hwy a ffermydd eraill i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae hyn yn helpu i adeiladu gwytnwch a chynaliadwyedd yn yr hinsawdd newidiol hon. Ar draws 220 o ffermydd, mae'r rhaglen wedi cyflawni 94 o brosiectau rheoli tir yn gynaliadwy. Mae'r goreuon yn cael eu rhannu fel enghreifftiau o arfer gorau, ffermwr i ffermwr, gan rannu, trafod, dangos yn ystod diwrnodau agored, astudiaethau achos a chyhoeddiadau.

I droi'n fyr at gasgliad 2 hefyd, yr angen i archwilio'r defnydd o ffermwyr fel mentoriaid, rydym yn cytuno'n llwyr. Rhaid i hyn fod yn rhan o'r ffordd ymlaen. Darparwyd yn dda ar ei gyfer yn rhan o'r rhaglen rydym arni ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid iddo symud ymlaen yn y dyfodol, oherwydd nid yw peth o'r cyfathrebu yn mynd i gael ei wneud, ac ni ddylid ei wneud, gan y Llywodraeth yn dweud, 'Edrychwch ar y pethau gwych hyn.' Mae angen iddo ddigwydd rhwng ffermwr a ffermwr, rhwng cymheiriaid, yn dweud, 'Edrychwch beth sy'n gweithio ar y math hwn o fferm. Edrychwch beth sy'n gweithio ar y math acw o fferm.'

Mae gennym gyfeiriadur nawr o dros 90 o fentoriaid, ffermwyr llawn amser yn bennaf sydd wedi bod yno ac wedi gwneud hynny. Maent yn datblygu'r cysylltiadau'n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch, ac ym mis Gorffennaf, roedd 406 o ffermwyr wedi sicrhau mynediad at y rhaglen fentora, gyda chyfanswm o bron i 2,500 awr o fentora. Nid yw hynny'n ansylweddol. O 2026 ymlaen, gall ffermwyr ddisgwyl derbyn o leiaf yr un ystod o gefnogaeth ag sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Cyswllt Ffermio, er y gellid ei deilwra mewn ffordd wahanol i adlewyrchu anghenion newidiol y sector.

Nawr, i gloi, oherwydd nid wyf yn gwybod faint o amser sydd gennyf, Lywydd—

Munud i orffen. Wel, gadewch imi ddweud y byddaf yn dod yn ôl. Rwy'n gobeithio dod yn ôl yn eithaf buan i ddarparu diweddariad pellach, nid mewn ymateb i adroddiadau'r pwyllgor, ond i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ba mor bell y byddwn wedi mynd.

Rwy'n credu'n wirioneddol fod yr ystod eang o syniadau a glywsom heddiw yn ddefnyddiol iawn. Rydym yn ceisio eu cynnwys, ond fe wnaed y pwynt yn gwbl briodol yn y ddadl hon fod yn rhaid inni wneud penderfyniad yn y pen draw, oherwydd mae angen inni roi sicrwydd i ffermwyr, mae angen inni roi sicrwydd i'r rhai sydd allan yno sy'n gweithio'n ddyfal, ymhlith rhanddeiliaid eraill, cyrff amgylcheddol anllywodraethol ac yn y blaen, fod gennym gyfeiriad teithio clir ac mae'n rhaid inni fynd amdani. Ond nid ydym wedi cyrraedd yno eto, rydym yn gweithio'n galed arno, ac rwy'n gwerthfawrogi amynedd pobl sydd eisiau gweld beth fydd ffurf derfynol y cynllun: ffurf, methodoleg, dadansoddiad o effaith economaidd, ac yna rydym yn barod. Mae'n rhaid inni fynd amdani gyda hyn oherwydd mae'n gyfle go iawn. Mae'n bosibl ei fod yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i'w gael yn iawn i'r holl ffermwyr, ond hefyd i bawb yng Nghymru sydd am weld y manteision lluosog yn cael eu darparu drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy. Diolch yn fawr iawn.

18:25

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Brif Weinidog a'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma?

Gwyddom fod dros 90 y cant o arwynebedd tir Cymru yn cael ei ffermio ac fel y cyfryw, mae'n bwysig fod y cynllun ffermio cynaliadwy yn ymarferol a'i fod wedi ei gefnogi gan y diwydiant ffermio. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod angen gwneud newidiadau ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir ei bod wedi ymrwymo i ddarparu cynllun sy'n hygyrch i bob ffermwr a phob math o ffermydd. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cyfeirio at grwpiau ac is-grwpiau bwrdd crwn swyddogol a gweinidogol y cynllun ffermio cynaliadwy, ac rwy'n deall eu bod yn ystyried pob agwedd ar y cynllun ffermio cynaliadwy.

Mae'r Aelodau wedi codi rhai agweddau pwysig iawn ar y cynllun y prynhawn yma, ac rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ystyried y pwyntiau sydd wedi'u gwneud yma heddiw. Cododd Aelodau, fel yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro y problemau'n ymwneud â chyfathrebu â ffermwyr drwy gydol y broses hon, a'r diffyg eglurder a sicrwydd ynghylch rhai o argymhellion y cynllun ffermio cynaliadwy. Rydym wedi clywed sut y dylai Cyswllt Ffermio fod wedi cael ei ddefnyddio'n well ac mae angen ei ddefnyddio o hyd i helpu ffermwyr i bontio i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'n rhaid i ffermwyr allu dilyn datblygiad y cynllun ffermio cynaliadwy a deall yn union yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl ganddynt. A gall Cyswllt Ffermio chwarae rhan bwysig iawn yn y maes hwn.

Fe wnaeth Aelodau, fel yr Aelodau dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell a Jane Dodds, a'r Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro nodi methodoleg a chyfraddau talu yma heddiw. Rwy'n falch fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi ailddatgan bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried sut y gall cyfraddau talu gynnwys ffactorau y tu hwnt i'r costau yr eir iddynt ac incwm a ildiwyd. Mae ein pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio'n gyflym i bennu elfen gwerth cymdeithasol y cynllun a chyfathrebu'n glir beth y mae hyn yn ei olygu i ffermwyr fel rhan o fethodoleg dalu'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, edrychaf ymlaen at ddiweddariadau pellach ar fethodoleg a chyfraddau talu maes o law.

Rydym hefyd wedi clywed pryderon yr Aelodau ynghylch gorchudd coed posibl. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell, a'r Aelod dros Fynwy wedi codi'r pryderon hyn yma heddiw. Yn ystod yr ymchwiliad, pwysleisiodd y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur a Cyswllt Amgylchedd Cymru werth coed i'r amgylchedd a chynhyrchiant amaethyddol. Roedd cynrychiolwyr ffermio yn glir iawn hefyd fod yn rhaid cael mwy o hyblygrwydd yn y targedau plannu coed, ac mae angen ystyriaeth bellach o ymarferoldeb cyflawni newid cynaliadwy a pharhaol. Roedd yr Aelod dros Ganol Caerdydd yn iawn i ddweud bod plannu coed mewn ardaloedd arfordirol yn fwy heriol nag mewn ardaloedd mwy mewndirol, ac felly, mae angen inni weld hyblygrwydd. Felly, rwy'n gobeithio bod y grwpiau bwrdd crwn a grybwyllwyd gan yr Aelod dros Ogledd Cymru, Carolyn Thomas, yn edrych ar y materion hyn ac yn myfyrio ar yr adborth a gafodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Dywedodd yr Aelod dros Fynwy fod angen i unrhyw gynllun gynnwys pob math o ffermio, ac mae angen iddo gynnwys ffermio organig. Rwy'n deall bod trafodaethau pellach yn cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Fforwm Organig Cymru i benderfynu ar y bylchau rhwng cynigion y cynllun ffermio cynaliadwy ac ardystiad ac arferion organig. Ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar gynlluniau ffermio organig o bob rhan o Ewrop, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn y ffordd orau i wobrwyo ffermwyr organig drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy.

Ar Cyswllt Ffermio, clywsom gyfraniad gan yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell, ynglŷn â sut y mae angen iddo fod yn addas i'r diben, ac mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod ganddo strwythur llywodraethu cadarn wrth ei wraidd, sy'n cynnwys gweithredwyr allweddol o sefydliadau ffermio ac amgylcheddol. Rydym hefyd wedi clywed bod Cyswllt Ffermio wedi cyflwyno categorïau cyngor technegol newydd o fewn y gwasanaeth cynghori Cyswllt Ffermio, ac mae hyn yn cynnwys popeth o gyngor ar garbon i gyngor ar bren, a hyd yn oed cyngor ar arddwriaeth. A chyfeiriodd y Dirprwy Brif Weinidog hefyd at sefydlu rhwydwaith o ffermydd arddangos yn ei gyfraniad, ac rwy'n falch o weld y gweithgaredd hwn yn digwydd.

Mae Aelodau heddiw wedi nodi sut y mae Cyswllt Ffermio yn helpu i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr, ac mae'n hanfodol fod Cyswllt Ffermio yn cael digon o adnoddau ac yn gallu parhau i gyfeirio ffermwyr at ble y gallant gael cymorth. Mae sawl sefydliad cymorth yn darparu gwasanaethau i'r diwydiant ffermio ac rwy'n arbennig o falch o glywed gan Lywodraeth Cymru fod Sefydliad DPJ—elusen iechyd meddwl o fy etholaeth i—bellach yn cynrychioli elusennau ffermio ar fwrdd crwn gweinidogol y cynllun ffermio cynaliadwy.

Lywydd, wrth gloi, a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliadau y buom yn eu trafod y prynhawn yma? A gaf i hefyd ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ac aelodau'r pwyllgor hwnnw am eu cyfraniadau i'r ddadl hon? Yn olaf, a gaf i hefyd ddiolch i glercod ac ymchwilwyr y ddau bwyllgor am eu cefnogaeth a'u gwaith drwy gydol yr ymchwiliadau pwysig hyn? Bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn parhau i fonitro'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r rhaglen Cyswllt Ffermio a byddwn yn parhau i bwyso am welliannau fel bod y cynllun yn gweithio i'r diwydiant ffermio a'n hamgylchedd fel ei gilydd. Diolch yn fawr iawn.

18:30

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiadau'r pwyllgorau? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Cymdeithas heb arian parod? P-06-1335: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod'

Eitem 7 yw'r eitem nesaf. Y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau yw'r eitem yma, 'Cymdeithas heb arian parod? P-06-1335: Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig yma. Carolyn Thomas.

Cynnig NDM8700 Carolyn Thomas

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cymdeithas heb arian parod?: P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Mencap Cymru a daeth i ben ar 15 Mai gyda 2,504 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn dweud:

'Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod'

'gall y newid tuag at gymdeithas heb arian parod wneud cam â phobl anabl na allant gael mynediad at ddulliau electronig ar gyfer talu. 

'Yn ystod y misoedd diwethaf, mae pobl ag anableddau dysgu wedi methu talu am nwyddau a gwasanaethau ac wedi gorfod gadael busnesau’n waglaw. Ni chaniateir i weithwyr cymorth ddefnyddio’u cardiau eu hunain, ac ni ddylid disgwyl iddynt wneud hynny.

'Mae’n mynd yn anoddach iddynt brynu nwyddau a gwasanaethau wrth i nifer o fusnesau a sefydliadau droi at systemau electronig o dalu.'

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Mencap Cymru am godi'r mater hollbwysig hwn drwy'r broses ddeisebau ac ysgogi ymchwiliad y pwyllgor. Cymerodd y pwyllgor dystiolaeth bwerus gan Mencap Cymru fis Hydref diwethaf ar y rhwystrau sy'n wynebu oedolion bregus rhag gallu talu am nwyddau a gwasanaethau gydag arian parod. Clywodd yr aelodau am unigolyn ifanc na châi brynu crys rygbi â'i arian pen-blwydd oherwydd bod y siop yn ddi-arian. Cyfarfûm â Steven McGee na allodd fynd i mewn i gaffi a phrynu coffi gydag arian parod. Dim ond dwy enghraifft yw'r rhain o bobl yn cael eu hamddifadu o'u hawliau sylfaenol i fod yn annibynnol yn ariannol ac i gymdeithasu. Mae'n peri gofid mawr i oedolion bregus sy'n ymdrechu i fyw'n annibynnol.

Mae ein hymrwymiad i'r model cymdeithasol o anabledd yn gofyn i ni wneud popeth posibl i oresgyn rhwystrau rhag gallu cyfranogi'n llawn a chyfartal mewn cymdeithas, ond mae mynediad yn ymwneud â mwy na mynediad corfforol i adeilad neu gael toiled hygyrch. Ni allwn ganiatáu i'r rhuthr i gofleidio technoleg newydd greu rhwystrau newydd sy'n eithrio pobl. Mae Mencap Cymru ac eiriolwyr eraill wedi ymgysylltu â thasglu hawliau anabledd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ond mae'r ymateb i adroddiad y pwyllgor yn dangos ei fod ymhell o fod wedi'i ddatrys. Er bod rhai o'r ysgogiadau wedi'u cadw i Lywodraeth y DU, mae'n dal yn siomedig ein bod ymhell o gael atebion.

Mae mynediad at arian parod yn broblem i fwy nag oedolion bregus yn unig, wrth gwrs, mae'n effeithio ar yr henoed a pherchnogion busnes. Mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi codi pryderon am eithrio pobl hŷn. Canfu adroddiad yn 2022 gan UK Finance, cymdeithas fasnach y diwydiant bancio a chyllid, fod bron i 40 y cant o bobl yn dal i ddefnyddio arian parod i dalu am rywbeth o leiaf unwaith yr wythnos, a dywedodd traean ohonynt eu bod wedi cael taliad arian parod wedi'i wrthod.

Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o fynediad at arian parod, roedd cyflwyno hybiau bancio yn cael ei ystyried yn gam pwysig i'r cyfeiriad cywir. O'r 11 hyb sydd wedi'u rhestru o amgylch Cymru, mae chwech ar agor, mae dau wedi'u rhestru fel rhai dros dro, ac mae pump yn dal i gael eu datblygu. Dywed Llywodraeth Cymru fod cyfleusterau talu i mewn gwell wedi cael eu hargymell mewn 11 o gymunedau, gan gynnwys Ystrad Mynach, y Bont-faen a'r Mwmbwls.

Nododd adroddiad y pwyllgor yr angen i gyfleu'n glir a yw busnes neu sefydliad yn derbyn arian parod. Byddai rhywbeth mor syml â hynny yn arbed yr embaras o fynd i mewn a methu defnyddio arian parod. Byddai arddangos arwydd clir yn nodi 'Rydym yn derbyn/nid ydym yn derbyn arian parod', yn debyg i'r arwyddion sgorio hylendid bwyd, yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pryder a'r trallod a brofir pan na dderbynnir taliadau arian parod yn y man talu.

Mae ymateb y Llywodraeth yn dweud nad yw'n derbyn bod cymdeithas ddi-arian yn anochel, ac mae wedi gwrthod yr argymhelliad cyntaf sy'n galw am ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ganiatáu taliadau arian parod, gan ei bod yn dweud nad oes ganddi'r dulliau cyfreithiol angenrheidiol at ei defnydd. Rydym yn siarad am yr angen i fusnesau sy'n cael eu hariannu drwy arian y Llywodraeth gaffael a chyflogi'n foesegol, felly nid wyf yn deall pam na allai hyn fod yn rhan ohono. Dywed Mencap Cymru fod gan Lywodraeth Cymru bŵer drwy ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i fynnu bod sefydliadau sy'n cael arian cyhoeddus yn derbyn arian parod, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb ar y pwynt hwnnw, neu dewch yn ôl atom ar hynny. 

Rwy'n croesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a LINK i fynd i'r afael â materion hygyrchedd arian parod, ac i ymgynghori â safbwyntiau unigryw sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru. Mae gofyn i'r Awdurdod ddefnyddio mwy na mesuriadau pellter llinell syth yn unig i ddangos pa mor agos yw peiriannau ATM arian parod yn enghraifft dda o sicrhau bod mesurau ledled y DU yn ystyried anghenion sy'n benodol i Gymru. Cafodd hyn ei weithredu yn rheolau newydd yr Awdurdod, a ddaeth i rym fis diwethaf.

Mae argymhelliad terfynol yr adroddiad ar gyfleusterau bancio cymunedol, ac mae'r ymateb yn nodi bod hwn yn fater a gadwyd yn ôl. Fodd bynnag, bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i sefydlu banc cymunedol, ond cafodd y cynlluniau hynny eu gohirio ar ôl i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy dynnu allan. Y rheswm a roddwyd ganddynt oedd na ellid rhagweld economi'r DU—dyna pam y cafodd y cyfan ei ohirio—a oedd yn siomedig, ac mae ymateb y Llywodraeth yn canolbwyntio yn lle hynny ar hybiau bancio newydd a gwaith ei rhwydwaith benthycwyr cyfrifol.

Mae croeso mawr hefyd i waith parhaus y tasglu hawliau anabledd ar fynd i'r afael â materion mynediad ymarferol, er fy mod yn siŵr fod yr Aelodau'n awyddus i weld newidiadau pendant yn deillio o'r gwaith ymgysylltu hwn. Rydym yn sicr yn bell o fynd i'r afael â gallu Steven, a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor fis Hydref diwethaf, i wario ei arian ei hun fel y mynno. Dyna'r hyn y gofynnwn amdano. Diolch i'r deisebwyr. Mae hwn yn fater hynod bwysig i'r Aelodau, felly diolch i chi am dynnu sylw at hyn. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw ar y mater hwn. Diolch.

18:35

Daeth y Dirprwy Lywydd i'r Gadair.

A gaf innau hefyd ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb? Efallai fod y defnydd o dechnoleg wrth dalu am eitemau bob dydd i'w weld yn gwneud ein bywydau yn haws, ac mae'n rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol—mae llawer ohonom heb fod yn defnyddio cardiau mwyach hyd yn oed, gallwn brynu'r rhan fwyaf o bethau rydym eu heisiau gyda'n ffonau, neu hyd yn oed ein horiorau clyfar—ond gyda'r nifer cynyddol o fusnesau'n derbyn cardiau'n unig, mae perygl gwirioneddol fod aelodau o'r gymdeithas yn cael eu cau allan.

Clywodd y pwyllgor straeon hynod o drist, fel y clywsom eisoes, am bobl yn teimlo'n ynysig ar ôl cael gwybod na allent brynu cynnyrch, yn amrywio o baned o goffi i grys rygbi. Aeth un dyn ifanc ag anableddau dysgu mor ofidus pan ddywedwyd wrtho na allai brynu cylchgrawn fel y bu'n rhaid galw'r heddlu. Fel y clywsom hefyd, nid pobl ag anableddau'n unig sy'n ei chael hi'n anodd i dalu am nwyddau a gwasanaethau. Gall aelodau hŷn o'r gymdeithas gael trafferth bancio ar-lein a theimlo'n fwy cyfforddus yn talu gydag arian parod.

Mae'r defnydd o arian parod yn unig wedi cael ei ddefnyddio'n eang fel cyngor ariannol effeithiol i'r rhai sy'n ceisio cyllidebu, gan y gallwn golli synnwyr o werth arian yn hawdd wrth ddefnyddio cerdyn. Mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai mewn cymdeithas sy'n byw o un pecyn cyflog i'r llall, gan sicrhau bod pob punt yn cyfrif. Mae'n amlwg fod llawer o waith i'w wneud i sicrhau nad yw'r aelodau hyn o'r gymdeithas yn cael eu gadael ar ôl. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau a banciau i sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i ddarparu ar gyfer hynny a bod mwy o ymwybyddiaeth o'r rhai sy'n dibynnu'n fawr ar arian parod i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei wahardd rhag prynu nwyddau a gwasanaethau.

Rhaid i'r Llywodraeth sicrhau hefyd fod mwy o fynediad at gyfleusterau bancio yn y gymuned i sicrhau bod busnesau'n gallu parhau i gael gafael ar arian parod a'i dalu i mewn, ac i sicrhau bod anghenion bancio'r rhai ag anableddau dysgu yn cael eu diwallu. Diolch.

18:40

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mencap Cymru am ddod â'r ddeiseb hon i'r Senedd, a phawb sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad. Mae hwn yn fater mor bwysig oherwydd rwy'n credu ei fod yn mynd at wraidd cydraddoldeb a'r hyn a olygwn wrth gydraddoldeb, oherwydd yn fy marn i, mae'n fater syml o degwch a chynhwysiant. Ac mae'n dangos yn glir sut beth yw methiant i arfer y model cymdeithasol o anabledd mewn bywyd o ddydd i ddydd. Mae'n enghraifft arall, yn anffodus, o sut y mae newidiadau a phrosesau yn cael eu rhoi ar waith heb ystyried yr effaith ar bobl anabl, oherwydd mewn iaith blaen, mae'n ymwneud â gwahaniaethu.

Dros flwyddyn yn ôl, codais y pryder hwn—yr effaith niweidiol y gallai cymdeithas ddi-arian ei chael ar ddinasyddion ag anabledd dysgu—gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac mae'n ddigalon nad oes fawr ddim wedi newid ers hynny. Rwy'n obeithiol y bydd y ddadl heddiw yn gorfodi Llywodraeth Cymru i weithredu ac y byddant yn ailystyried rhai o'u hymatebion gwangalon, afresymegol a siomedig i lawer o argymhellion yr adroddiad.

Rydym yn clywed yn gyson sut y mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod am weld Cymru decach. Mae'n rhaid i hynny olygu rhywbeth, yn ymarferol, mewn bywyd bob dydd. Ac nid yw caniatáu i sefydliadau sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ddilyn arferion sy'n eithrio pobl ag anableddau dysgu, sy'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau dysgu, sy'n achosi trallod i bobl ag anableddau dysgu, yn cyd-fynd â hynny. Mae'n rhaid i eiriau olygu rhywbeth go iawn, yn enwedig pan fo ffydd yng ngeiriau gwleidyddion ar ei lefel isaf erioed. Ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi ei harian ar ei gair ar hyn, yn llythrennol.

Mae'n siomedig iawn eu bod wedi gwrthod argymhelliad 1, sy'n gofyn iddynt wneud hynny. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd dysgu ac fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, rwyf wedi parhau i glywed am enghreifftiau o hyn yn digwydd. Mynychais lansiad yr adroddiad yn y Senedd, gyda phobl yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr arferion gwaharddol hyn.

Rwyf wedi clywed sut na all pobl ag anabledd dysgu brynu bwyd na diod ar drên Trafnidiaeth Cymru. Ni allant brynu'r hyn y maent ei eisiau o siop neu gaffi ac ni allant brynu hufen iâ neu raglen mewn theatr, hyd yn oed os ydynt yn llwyddo i brynu tocynnau yn y lle cyntaf. Oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu cerdyn Hynt, y cynllun mynediad sy'n caniatáu i ddeiliaid cardiau gael tocyn yn rhad ac am ddim i gael cynorthwyydd personol neu ofalwr mewn theatrau a chanolfannau celfyddydau sy'n rhan o'r cynllun, ond nid yw'r Llywodraeth yn mynnu bod yn rhaid i'r lleoliadau hynny, sy'n derbyn cyllid cyhoeddus, alluogi pobl ag anableddau dysgu i allu prynu tocyn gydag arian parod. Nid yw'n gwneud synnwyr.

Yn y grŵp trawsbleidiol, clywsom bryderon hefyd am y dirwyon newydd ar drenau Trafnidiaeth Cymru i bobl nad ydynt yn prynu tocyn cyn iddynt fynd ar y trên. Gall hyn fod yn anodd i bobl ag anabledd dysgu os na allant ddefnyddio'r peiriannau tocynnau yn yr orsaf na thalu gydag arian parod ar y trên. Felly, mae canlyniadau peidio â chymryd taliadau arian parod yr un mor groes i'r model cymdeithasol o anabledd â rhwystrau corfforol i hygyrchedd, ac rwy'n credu y dylid eu gweld yn yr un modd.

Roeddwn yn bryderus iawn ynghylch y dystiolaeth a glywyd gan y pwyllgor ond yn anffodus, nid yw'n fy synnu. Yr hyn sydd angen ei bwysleisio, rwy'n credu, yw nad mater o anghyfleustra mohono. Gall fod yn anghyfleustra i'r rhai ohonom sydd â dewis ynghylch defnyddio arian parod neu gerdyn neu ap neu beth bynnag, cerdyn debyd. Nid oes dewis gan y bobl hyn ac mae'n cael effaith emosiynol annerbyniol.

Rwy'n credu bod pwynt pwysig wedi'i godi, gan fod canolfannau dydd wedi cau mewn sawl ardal, fod gweithgareddau yn y gymuned wedi cynyddu, ac yn cael eu cynnal mewn caffis, canolfannau celfyddydau, canolfannau hamdden, ond yn aml nid yw pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau na chymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned am mai dim ond taliadau cardiau sy'n cael eu derbyn.

Gwneir pwynt pwysig arall yn yr adroddiad am y dyfodol. Os ydym yn mynd i symud tuag at fod yn gymdeithas ddi-arian, rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU a'r cyrff rheoleiddio ac mewn partneriaeth, yn hollbwysig, gyda phobl ag anabledd dysgu i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu datblygu o sicrhau mynediad i bawb at nwyddau a gwasanaethau. Ac os yw Llywodraeth Cymru o'r farn nad oes ganddynt y dulliau ar hyn o bryd i sicrhau bod gofyn i bob sefydliad sy'n cael arian cyhoeddus dderbyn taliadau arian parod, dylai fod ymrwymiad cadarn i archwilio'r camau y gallai'r rhai sy'n cael arian cyhoeddus eu cymryd, sydd o fewn eu pwerau presennol, yn unol â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, fel y clywsom.

Pan godais y mater hwn gyda chi yn y Siambr y llynedd, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch chi y byddai'r tasglu hawliau anabledd yn edrych ar y mater ac yn ei godi gyda'r sectorau perthnasol. Wrth gwrs, rydym yn dal i aros i'r cynllun gweithredu hawliau anabledd gael ei gynhyrchu. Yn eich ymateb i—

18:45

Iawn. Yn eich ymateb i argymhelliad 3, sonnir am waith y tasglu, ond a allech chi fanylu'n benodol ar sut y bydd y cynllun gweithredu hawliau anabledd sydd ar y ffordd yn mynd i'r afael â'r mater? 

Mae hwn yn fater pwysig iawn. Mae'n ymwneud â gwireddu'r tegwch a'r cydraddoldeb y mae pawb ohonom yn dweud ein bod am eu gweld. 

Diolch yn fawr i Carolyn Thomas, y Cadeirydd, am agor ac i Jack Sargeant a oedd yn Gadeirydd y rhan fwyaf o'r cyfnod y gwnaethom ni gymryd tystiolaeth. Ac roedd y dystiolaeth yn hynod bwerus gan bobl sy'n byw ag anableddau a hefyd pobl o fusnesau bach, yr impact ar elusennau. Dwi ddim yn mynd i ailadrodd yr hyn rŷch chi wedi ei ddweud ac mae Sioned Williams wedi ei ddweud yn bwerus iawn am yr effaith ar bobl ag anableddau. 

Ychydig o sylwadau gen i. Mae'n rhaid i ni dderbyn y ffaith bod y defnydd o arian wedi newid yn llwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 50 y cant i jest ychydig dros 10 y cant nawr. Nawr, o bersbectif cenedlaetholgar a gweriniaethol—bear with me on this one—mae'n bosib efallai fod e'n beth da dydyn ni ddim gydag arian yn ein pocedi ni. Ynghyd â lleihad mewn stampiau, ciosgau ffôn a blychau postio, mae'n un arwydd llai o frenhiniaeth Lloegr o gwmpas y lle. 

Ond beth am y pwynt ymarferol, yr impact ymarferol ar bobl? Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio defnyddio arian ffug yn yr ysgol i ddysgu cyfrif, ond, wrth chwarae siop yn ddiweddar, roeddwn i'n sylwi bod Esther, fy merch fach i, yn mynd 'blîp, blîp' fel yna wrth dalu am rhywbeth. Wrth gwrs, roedd hi'n talu am nwyddau gyda'i ffôn hi, oherwydd dyna mae'n weld ni yn ei wneud, defnyddio'r ffôn. Duw, mae arian yn beth dieithr iawn i Esther. Nawr, dyw talu gyda ffôn ddim yn mynd i helpu Esther dysgu adio a thynnu, a chyllido.

A beth am yr impact ar elusennau? Roedd gweld blwch elusen ar bwys til yn beth cyfarwydd iawn ar un adeg, a bydden ni'n rhoi'r newid mân roeddem ni'n ei dderbyn i mewn i'r blwch, ac yn ystod gemau rhyngwladol a chyngherddau yng nghanol Caerdydd byddai bwced yn mynd o gwmpas tafarndai ac ar y stryd, a phobl yn taflu arian mân i'r bwced. Nawr, wrth gwrs, mae modd i ni wneud bank transfer neu greu standing order, ond mae hwnna yn wahanol iawn, onid yw e, i dderbyn arian mân a rhoi e yn syth mewn i flwch elusen. Nawr, dwi'n siŵr bod hwn yn cael impact mawr ar elusennau llai ac ar elusennau mwy lleol.  

Ac yna beth am bobl digartref? Wnaethom ni ddim clywed lot am hyn yn y dystiolaeth ond, wrth gwrs, mae nifer o bobl digartref yn hollol ddibynnol ar dderbyn arian ar y stryd, ac fel rŷm ni'n gwybod mae agor cyfrifon banc o hyd yn heriol i bobl digartref. Mae arolygon wedi dangos dro ar ôl tro mai o ardaloedd difreintiedig mae'r defnydd mwyaf o arian parod yn digwydd, ac yn aml mewn ardaloedd ble mae yna gymuned aml-ethnig fawr iawn. Felly, mae angen cofio am y bobl sydd o hyd yn ddibynnol iawn ar arian parod.

Nawr, dŷn ni ddim yn mynd i stopio'r duedd o beidio defnyddio arian parod. Mae siŵr o fod yn mynd i gynyddu, ond cofiwn ein bod ni wedi darogan diwedd y cheque book ers blynyddoedd mawr, a derbyniais i cheque dydd Sul. Mae rhai pobl o hyd yn defnyddio cheque. Felly, dyw arian ddim yn mynd i ddiflannu. Dŷn ni ddim yn mynd i gael cashless society am ddegawdau i ddod. Mae wedi bod yn rhan o'n hanes ni ers canrifoedd cyn Crist, a bydd yn parhau yn rhan o'n hanes ni. Ond yr hyn sy'n bwysig yw, wrth i gymdeithas newid, wrth i dechnoleg ddatblygu, fod yn rhaid i ni ymdrechu i sicrhau ein bod ni'n gadael neb ar ôl. Gall newid arferiad, gall datblygiad technoleg, byth, byth fod yn esgus i anwybyddu anghenion yr union bobl mae'n rhaid i ni eu hamddiffyn mwyaf, y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni. Diolch yn fawr.

Yn gyntaf, hoffwn i gydnabod y gwaith sydd wedi ei wneud ar y mater pwysig yma. 

A gaf i ddiolch i Carolyn hefyd yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau am ei llythyrau meddylgar a thrylwyr a anfonodd ataf yn ddiweddar mewn ymateb i rai o ymholiadau fy etholwyr ar y mater a drafodir gennym heddiw? Fel llawer o bobl yma, mae'n rhywbeth y cefais sgyrsiau gydag unigolion a sefydliadau yn ei gylch yn y gorffennol. Yn fwy diweddar, fe'i codwyd gyda mi pan euthum i siarad â menywod gwych Sefydliad y Merched Caerwys ym mis Awst. Mae ganddynt ymgyrch weithredol ar hyn o bryd i godi ymwybyddiaeth am symudiadau i wneud cymunedau'n ddi-arian a sut y mae hynny wedi bod yn effeithio ar bobl nad oes ganddynt fynediad at gyfleusterau bancio ac ati i wneud hyn yn bosibl. Mewn gwirionedd, maent yn weithgar iawn—fe ddaethant i fy ffair ariannu ddydd Gwener ac roeddent yn casglu cefnogaeth i'w deiseb tra oeddent yno, ac yn siarad â phobl am yr ymgyrch. Oherwydd fe wyddom nad yw pawb yn fy rhan i o'r wlad, yng ngogledd Cymru, yn gallu mynd yn ddi-arian, fel y clywsom, ac mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd defnyddio bancio ar-lein neu efallai eu bod yn amheus ohono. Ac yna, i waethygu'r sefyllfa, fe wyddom fod banciau'n cau'n rheolaidd mewn cymunedau ledled y wlad, sy'n creu risg o adael llawer o rannau o'r gymdeithas ar ôl.

Ac er fy mod yn cydnabod bod y gallu i ddeddfu ar y mater hwn yn parhau i fod wedi ei gadw'n ôl mewn sawl ffordd i San Steffan, rwy'n credu bod cyfleoedd i Lywodraeth Cymru, drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru, ystyried ymhellach yr hyn y gallem ei wneud yma yng Nghymru gyda'r dulliau sydd gennym, boed yn feddwl ychydig yn wahanol am ein darpariaethau cyllid cyhoeddus, ar gaffael, drwy lythyrau cylch gwaith, neu hyd yn oed drwy sut y gellir defnyddio ein dull partneriaeth gymdeithasol, ein gwaith partneriaeth, i ddod â sefydliadau a busnesau gyda ni, ac a oes pethau y gallwn eu defnyddio o ran trethiant, gydag ardrethi busnes, i gymell rhai pethau hefyd. Felly, rwy'n credu bod cyfleoedd i wneud pethau'n wahanol a meddwl yn wahanol, ac mae angen inni sicrhau hefyd, yn amlwg, fod hyn ar agenda Llywodraeth y DU hefyd, ac nad ydym yn cymryd yn ganiataol fod pawb yn gyfforddus, yn hyderus ac yn gallu symud gyda'r oes. Oherwydd, os gwnawn hynny, nid ydym yn mynd i fod yn wlad gynhwysol a hygyrch yma yng Nghymru. Diolch.

18:50

Rwy'n falch o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw yn sgil y ddeiseb bwysig hon. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes, yn enwedig gan Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru; roeddwn i'n meddwl bod yr hyn a ddywedoch chi'n deimladwy iawn. A diolch i'r deisebwyr am roi cyfle inni drafod hyn heddiw.

Rydym yn byw mewn cyfnod o newid cyflym, gyda mwy o bobl yn defnyddio cardiau a ffonau i dalu am bron bopeth. Mae'r newid, a gyflymwyd gan bandemig COVID, yn teimlo'n anochel. Fodd bynnag, mae mor bwysig, ac mae wedi cael ei ddweud sawl gwaith heddiw, nad ydym yn gadael pobl ar ôl. Yn ôl arolwg 'Bywydau Ariannol' 2022, mae 3.1 miliwn o oedolion y DU, 6 y cant o'r boblogaeth, yn dal i ddibynnu'n helaeth ar arian parod. Yng Nghymru, mae'r ffigur hwnnw'n 5 y cant. Fel y dywedwyd, mae'r grwpiau hyn yn cynnwys yr henoed, pobl fregus, a'r rhai nad ydynt yn gallu bancio ar-lein, gyda rhai pobl yn anghyfforddus ynglŷn â mynd ar-lein—mae 26 y cant yn defnyddio arian parod ar gyfer eu holl drafodion ariannol bron—tra bod 19 y cant o bobl 85 oed a hŷn yn dibynnu arno fel eu prif ddull talu.

Un o'r grwpiau arwyddocaol yr effeithir arnynt, fel y dywedwyd, yw'r rhai ag anableddau dysgu. Wrth i fusnesau symud at daliadau cardiau'n unig, mae Mencap Cymru wedi mynegi pryderon fod yr unigolion hyn yn wynebu cael eu heithrio. Iddynt hwy, mae arian parod yn cynnig ffordd hylaw o drafod cyllid; hebddo, maent yn wynebu risg o embaras ac yn aml ni allant wneud pryniannau sylfaenol. Ni all gweithwyr cymorth ddefnyddio eu cardiau eu hunain ar ran unigolion, gan waethygu'r mater. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr her, ond yn pwysleisio mai penderfyniad masnachol i raddau helaeth yw'r dulliau talu hyn. Fodd bynnag, mae angen ymrwymiad i ymgysylltu â rhanddeiliaid, i gadw systemau arian parod a sicrhau cynhwysiant.

I lawer o bobl oedrannus, mae arian parod yn fwy na dim ond ffordd o dalu—mae'n fodd o gynnal annibyniaeth ariannol. Wrth i ganghennau banc gau, mae cael gafael ar arian parod yn mynd yn anos, gan ynysu'r rhai sy'n dibynnu arno ymhellach. Fel y dywedwyd, mae teuluoedd ar gyllidebau tynn hefyd yn teimlo bod arian parod yn helpu i reoli gwariant. Mae busnesau bach, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, fel fy un i, yn elwa o drafodion arian parod, gan eu bod yn osgoi ffioedd taliadau cardiau. Daw rhai busnesau i'r meddwl yn syth. Gyda rhyngrwyd annibynadwy mewn rhai mannau, mae arian parod yn parhau i fod yn opsiwn hanfodol i fusnesau a chwsmeriaid.

Er y gall symud tuag at gymdeithas ddi-arian ymddangos yn anochel, mae'n amlwg nad yw'n gweithio i bawb. Gyda llaw, gwelais ŵr bonheddig oedrannus yn methu prynu bwyd a diod ar daith drên hir iawn o Gaerdydd i ogledd Cymru, ac nid yw hynny'n ddigon da. Nid mater o atal cynnydd yw hyn; mae'n ymwneud â sicrhau tegwch a thrugaredd. Rhaid inni ddiogelu'r hawl i ddefnyddio arian parod i'r rhai sydd ei angen fwyaf, gan adeiladu cymdeithas sy'n gweithio i bawb, nid dim ond i'r rhai sy'n gallu addasu'n hawdd i fyd heb arian parod. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru heddiw i wrando ar y safbwynt hwn a sicrhau bod y pryderon hyn yn cael eu clywed yn San Steffan. Diolch.

18:55

A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am hyn, ond, yn bennaf, i Mencap Cymru, am ddod â'r achos hwn ger ein bron? Mae'n biti ein bod ni'n gorfod cael y ddadl yma, oherwydd mae'r ddadl wedi'i gwneud o ran pam mae hyn mor bwysig, ac mae yn siomedig dros ben yn gweld Llywodraeth Cymru yn gwrthod yr hyn sydd yn gwneud synnwyr. Rydym ni'n sôn am sicrhau bod pawb yn gallu cyfrannu, cyfranogi, fod yn rhan o gymdeithas, rhywbeth mae Llywodraeth Cymru wedi'i ymrwymo iddo fo, rhywbeth rydym ni'n gobeithio ein bod ni i gyd wedi ymrwymo iddo fo. A'r cwestiwn sydd gen i: pam na all Llywodraeth Cymru, drwy lythyrau cylch gwaith, sicrhau bod hwn ynddyn nhw? Mi fyddai'n gweld i fi y byddai hyn yn diwallu argymhelliad 1, oherwydd, wedi'r cyfan, dwi wedi bod yn mynd nôl drwy lythyrau cylch gwaith nifer o sefydliadau, megis y cyngor celfyddydau, ac un o'r nodau a rennir, sydd yn cael ei nodi, ydy:

'Gwella mynediad a chyfranogiad i bawb'.

Ac un o'r prif amcanion sy'n cael ei nodi yn y llythyr hwnnw ydy:

'Dathlu amrywiaeth a symud i ddileu anghydraddoldeb o bob math'.

Felly, byddwn i yn hoffi eglurhad pam na allwch chi roi yn benodol, yn y llythyrau cylch gwaith hynny, fod yn rhaid i bob sefydliad sy'n cael ei ariannu gan y cyngor celfyddydau, a thrwy arian Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol—. Pam na allwch chi ddweud bod yn rhaid iddyn nhw, felly, dderbyn arian parod?

Hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod gennym Neil yma, unigolyn ifanc o Gasnewydd, ac mae yma gyda'i fam. Aeth i Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae'n fusnes enfawr; rhaid bod y trosiant yn y miliynau. Ni allodd brynu hufen iâ iddo'i hun yn ystod yr egwyl, am nad oedd ganddo fodd o wneud. Nid ydynt yn derbyn arian—wyddoch chi, y gofid y mae hynny'n ei achosi. Fel y dywedwch, pan fo cyngor y celfyddydau, sy'n rheoli'r sefydliadau a'r lleoliadau cenedlaethol enfawr hyn, yn dweud eu bod am weld cynwysoldeb a bod rhywbeth fel hynny'n digwydd, nid yw'n gwneud synnwyr. Felly, roeddwn eisiau codi achos Neil gyda chi.

Diolch, Sioned, a diolch i Neil am ddod yma heddiw, oherwydd, am bob stori y tu ôl i'r ddeiseb honno, mae rhywun wedi ei droi ymaith. Rwyf wedi ei glywed gan etholwyr. Mae'n rhywbeth sy'n digwydd mor aml. Nid un digwyddiad bob hyn a hyn ydyw; mae'n rhywbeth sy'n digwydd bob dydd.

Roeddwn hefyd yn falch, Carolyn, eich bod chi wedi nodi yn eich cyflwyniad i'r ddadl ei fod yn effeithio ar fwy na'r grŵp penodol hwn o bobl. Rwy'n meddwl am blant hefyd, gyda llawer ohonynt heb fod yn ddigon hen i gael cardiau. Nid wyf yn gwybod amdanoch chi, ond mae plant yn dal i fod ag obsesiwn gydag arian parod. Efallai nad ydych chi wedi cyrraedd yr oedran hwnnw eto, ond pan fyddant yn deall beth y mae arian parod yn ei olygu, rwy'n addo i chi, mae gwario eu harian eu hunain yn obsesiwn. Ac mae'n ymwneud ag annibyniaeth, a dysgu cyfrifoldeb hefyd, ac mae hynny'n llawer haws i'w wneud gydag arian nag ar-lein. Felly, rwy'n teimlo bod honno'n elfen arall. Hefyd rheolaeth drwy orfodaeth. Clywn am lawer o bobl lle caiff eu gwariant ei fonitro, ac os yw ar-lein, gall hynny fod yn anodd dros ben. Felly, mae yna lawer iawn o bobl a fyddai'n elwa o hyn, yn ogystal â'r dadleuon a wnaed eisoes.

Felly, i mi, hoffwn gael eglurder: pam na allwn ni ddefnyddio'r llythyrau cylch gwaith i sicrhau bod y newid hwn yn digwydd? Nid yw'n anodd, mae'n rhywbeth y gellid ei gywiro'n syml, ond byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr i gymaint o'r bobl a gynrychiolwn. Ac os ydym o ddifrif ynglŷn â sicrhau tegwch i bawb yma yng Nghymru, cyfranogiad teg, gadewch inni gael gwared ar yr un rhwystr bach ond arwyddocaol hwn, fel y gall pobl ddefnyddio arian parod ac nad ydynt yn cael eu gwrthod rhag cael hufen iâ neu rhag gallu cymryd rhan yn y pethau y mae pawb ohonom yn eu mwynhau mewn bywyd. Dylai pawb allu eu mwynhau.

Rwy'n cefnogi'r ddeiseb. Fe geisiaf osgoi ailadrodd unrhyw beth y mae unrhyw un arall wedi'i ddweud. Ond dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod oedolion bregus heb gardiau banc a dulliau electronig eraill yn gallu talu gydag arian parod, a hefyd fod y rhai nad ydynt eisiau defnyddio cardiau yn gallu defnyddio arian parod. Mae llawer o bethau, fel gweithio gartref a symud i gyfarfodydd rhithwir, yn ddifidend ôl-COVID; un o'r anfanteision yw symud i gymdeithas ddi-arian. Er bod llawer o fanwerthwyr, manwerthwyr mwy o faint yn bennaf, eisiau i bobl ddefnyddio ffôn, oriawr neu gerdyn, sy'n gwneud cadw cyfrifon yn haws ac yn osgoi gorfod rhoi newid, mae'n well gan lawer o fanwerthwyr llai o faint arian parod. Fel arfer, gall ffioedd prosesu cardiau amrywio o 1.5 y cant i 3.5 y cant o gost eitem. Mae hyn yn bwyta i mewn i elw manwerthwyr bach. Yr hyn y gallwn ei wneud yw defnyddio arian parod pryd bynnag y byddwn yn prynu gan fanwerthwyr bach lleol. Bydd yn eu helpu hwy a bydd yn costio'r un faint i ni.

Y fantais o ddefnyddio arian parod yw y gallwch gyllidebu a rheoli eich gwariant. Sawl gwaith y mae pobl ond yn sylweddoli faint y maent wedi'i wario wrth edrych ar eu datganiad banc neu gerdyn credyd, neu pan fydd taliad yn cael ei wrthod? Mae defnyddio cerdyn yn golygu y gallwch chi orwario'n hawdd. Mae arian parod yn rhoi rheolaeth i chi ar eich gwariant. Pan fydd wedi mynd, fe fydd wedi mynd. Gallwch osgoi llog trwy dalu gydag arian parod ac arbed arian. Mae'n hyrwyddo gwariant gofalus. Mae sweipio neu bipian cerdyn yn hawdd, ond gall tynnu arian allan a'i drin yn eich llaw eich gwneud yn fwy ymwybodol o'ch gwariant a faint sydd yn eich cyfrif banc.

Rwy'n gwahodd yr Aelodau i fyd pobl sydd ag incwm cyfyngedig. Mae gennych y system tun, lle mae pobl yn rhoi arian mewn tuniau ar gyfer pob taliad rheolaidd, gan sicrhau y gallant dalu eu biliau pan fyddant yn cyrraedd. I'r rhai sydd ag incwm cyfyngedig, dim ond gydag arian parod y gellir gwneud hyn. Pan fyddwch chi'n defnyddio arian parod, gallwch ddeall faint y mae eitem yn ei gostio. Mae yna bobl sydd eisiau defnyddio cardiau debyd a chredyd i dalu ac i archebu ar-lein, ond mae eraill eisiau defnyddio arian parod. Mae angen i'r dewis fod yno i ddefnyddio arian parod neu gerdyn, heb orfodi neb i ddefnyddio cerdyn.

Yn olaf, gall Llywodraeth Cymru wneud datganiad, ac nid o reidrwydd mewn llythyr cylch gwaith, y byddai'n hoffi i bob corff cyhoeddus yng Nghymru gymryd a derbyn arian parod. Cofiwch fod addysg gyfun wedi'i chyflwyno yn sgil cylchlythyr o'r Adran Addysg a Gwyddoniaeth. Gellir cyflawni llawer iawn drwy fod y Llywodraeth yn dweud rhywbeth heb orfod cyflwyno deddfwriaeth.

19:00
Member (w)
Jane Hutt 19:01:35
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Diolch yn fawr, Dirprwy Llywydd am y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig iawn hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau.  

Gadewch inni ddatgan eto beth yw pwrpas hyn—cymdeithas heb arian parod: 'Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gardiau banc dalu ag arian parod'. Mae hon wedi bod yn ddadl wych, onid yw? Mae wedi bod yn wirioneddol bwysig. Mae'n rhaid imi ddweud bod y Pwyllgor Deisebau—. Rwy'n croesawu Cadeirydd newydd y Pwyllgor Deisebau i'r rôl ac am ein hannerch heddiw a rhoi argymhellion mor graff inni, a hefyd am siarad am y dystiolaeth a gawsoch. Felly, rwy'n diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eich gwaith caled ar y mater pwysig hwn, a'r dystiolaeth a gasglwyd gennych. Wrth gwrs, mae'n dda iawn fod gennym rai o'r bobl a ddylanwadodd ar y pwyllgor yma heddiw yn yr oriel gyhoeddus. Rydym yn eich croesawu'n gynnes ac yn cydnabod bod profiad bywyd yma, onid oes? Ac nid yn unig yma heddiw, yn gwrando a rhannu ar y ddadl hon, ond hefyd yn rhoi tystiolaeth ynglŷn â sut yr effeithiwyd ar eu bywydau, sut y cawsant eu rhoi dan anfantais gan ddiffyg mynediad at arian parod.

Rwy'n cofio cyfarfod â Mencap Cymru a chyd-Aelodau, a bod hyn wedi codi yn y tasglu hawliau anabledd, gan i chi ofyn y cwestiwn, Sioned, ynglŷn â'n gwaith ar y materion hyn. Clywsom yn uniongyrchol, fel y gwnaethom heddiw, am enghreifftiau o bobl anabl yn cael eu heithrio rhag cael mynediad at fusnesau a gwasanaethau yn sgil gwrthod arian parod. Felly, ydy, mae cynhwysiant ariannol wedi'i ddatganoli, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda LINK a Cash Access UK i sicrhau bod arian parod yn parhau i fod ar gael mewn cymunedau, trwy fanciau ac yn gynyddol nawr wrth gwrs, trwy swyddfeydd post mewn ardaloedd lle mae banciau wedi cau, a pheiriannau ATM, gyda rhai ohonynt â chyfleusterau talu i mewn. Mae gennym y ciosg OneBanx yng Nghymdeithas Adeiladu'r Principality yng nghangen y Bont-faen, ond maent hefyd yn cyflwyno hynny, ac rwy'n cyfarfod â benthycwyr cyfrifol ariannu moesegol yn rheolaidd trwy eu rhwydwaith.

Ond rwy'n ymwybodol iawn o'r pryderon a godwyd am argymhelliad 1 heddiw. Roedd yn dweud, 'Oni allem ni wneud rhywbeth fel Llywodraeth Cymru i sicrhau y dylai'r rhai yr ydym yn eu cyllido, yn enwedig, dderbyn arian parod?' Rwy'n credu bod y pryderon a godwyd nad yw busnesau, lleoliadau chwaraeon a chanolfannau celfyddydol bob amser yn derbyn taliadau arian parod yn eu lleoliadau yn glir iawn o'r ddadl heddiw. Felly, hoffwn ddweud heddiw, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yr hoffwn fynd ar drywydd hyn. Hoffwn ofyn am gyfarfod gyda Mencap i drafod hyn ymhellach, ac edrych arno hefyd o ran yr hyn y gallem ni ei wneud. Gadeirydd, rwy'n credu eich bod wedi sôn am ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Rwyf am edrych ar honno wrth gwrs. Soniodd Hannah Blythyn am yr ymgyrch gan Sefydliad y Merched, felly mae'n debyg y buaswn am ymgysylltu â grwpiau ymgyrchu eraill hefyd, ac efallai y gallwch dynnu sylw at y rhai a roddodd dystiolaeth, oherwydd credaf fod hyn yn rhywbeth lle gallem ofyn beth y gallwn ei wneud, er efallai na fydd gennym yr holl bwerau, efallai na fyddwn yn gallu mandadu. Ac rwy'n credu bod argymhelliad 1 yn rhesymol iawn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n dweud na fydd gan rai sefydliadau gyfleusterau i dderbyn arian parod mwyach, neu dalu arian parod i mewn, ac felly, bydd angen cymorth ac arweiniad. Felly, mae angen inni siarad â sefydliadau. Mae hyn yn golygu gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth gymdeithasol gyda busnesau a chyflogwyr hefyd wrth gwrs.

Ac rwy'n credu bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cael ei grybwyll. Mae cyngor y celfyddydau'n awyddus iawn i sicrhau bod eu holl wasanaethau'n hygyrch. Mae hynny'n rhan o'r cylch gwaith mewn perthynas â chyllid, ond yn amlwg, fe wyddom fod newidiadau wedi bod. Mae yna faterion yn codi ynghylch diogelwch, gweinyddiaeth, ynglŷn â rheoli. Dyna pam y mae manteision pryniannau di-arian i leoliadau wedi datblygu, ond nid wyf yn credu bod yr hyn y mae hynny wedi'i olygu wedi'i ddeall a'i fesur yn llawn. Ac a gaf i ddweud nad oes gan Cadw unrhyw gynlluniau i ddileu llwybrau talu arian parod yn ei adeiladau ledled Cymru? Sioned.

19:05

A gaf i ofyn i chi gael sgyrsiau gyda'r Gweinidog trafnidiaeth, oherwydd mae mater trenau, a Trafnidiaeth Cymru, yn un real iawn hefyd, yn enwedig gyda chyflwyno'r system ddirwyo? Rwy'n gwybod ein bod bob amser yn meddwl am hygyrchedd corfforol; mae hyn yn llawn cymaint o rwystr, ac felly, yn yr un ffordd ag y bu'n rhaid inni ymladd y frwydr honno flynyddoedd yn ôl, pan oedd pobl yn dweud, 'Na, ni allwn ledu drysau oherwydd byddai'r adeilad yn disgyn', mae hon yn broblem debyg. Mae'n rhaid inni ddweud, 'Rhaid i drafnidiaeth fod yn hygyrch ac fe gewch chi ddefnyddio arian parod'.

Fe af ar ôl hynny hefyd; diolch am hynny. A rhoddwyd enghraifft, beth bynnag, o berson oedrannus nad oedd yn gallu prynu paned o de. Nawr, ni ddylai hyn fod yn digwydd. Felly, fe edrychwn ar hynny hefyd.

Felly, yn olaf gennyf i, Ddirprwy Lywydd—rydych chi wedi bod yn hael iawn gydag amser—os caf eich sicrhau, rwy'n ystyried hwn yn fater cyfiawnder cymdeithasol allweddol, a byddaf yn mynd ar ei drywydd yn y ffordd y mae angen inni wneud. Mae angen inni weithio ar draws y Llywodraeth hefyd i godi ymwybyddiaeth o'r mater. Darparwyr gwasanaethau, busnesau, grwpiau cydraddoldeb—fe wnaf gyfarfod â chi. Mae'n rhaid iddi fod yn ymdrech ar y cyd, yn drawslywodraethol, yn draws-sector, ac mae hefyd yn cynnwys Llywodraeth newydd y DU, felly rwyf am ymgysylltu â hwythau hefyd.

Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl bwysig hon.

Diolch am y ddadl hon heddiw. Rwy'n credu y gallwn agor drysau i fynd i'r afael â'r mater hwn yma yng Nghymru. Diolch.

Diolch. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Siaradodd Peter am y teimlad o werth arian, a Rhys hefyd, a Heledd, yn enwedig i blant, yn dysgu am werth arian. Siaradodd Sioned am gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant, gan dynnu sylw at yr angen i fusnesau sy'n cael arian cyhoeddus lynu wrth eu gwerthoedd cymdeithasol moesegol a chaniatáu i bobl ddefnyddio arian parod, ac rwy'n falch iawn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â hynny.

Siaradodd Rhys hefyd am y defnydd o arian parod yn lleihau a'r effaith ar elusennau hefyd, gyda blychau casglu, a phobl ddigartref hefyd, ar gyfer cyfrannu wrth fynd—mae'n bwysig iawn. Ac mae ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o ddefnyddio arian parod. Siaradodd Hannah am gaffael a llythyrau cylch gwaith, a threthiant ac ardrethi busnes, ac ysgrifennu at Lywodraeth y DU hefyd, a gwnaeth Heledd hynny hefyd.

Soniodd Laura Anne na ddylem adael pobl ar ôl. Ni ddylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar fasnacheiddiwch yn unig, a soniodd Heledd hefyd am reolaeth drwy orfodaeth i bobl sydd ond yn defnyddio bancio ar-lein yn hytrach nag arian parod. A siaradodd Mike ynglŷn â sut y mae arian yn frenin, a'i bwysigrwydd ar gyfer cyllidebu hefyd, yn enwedig, fel y dywedais, mewn ardaloedd difreintiedig.

Felly, rwy'n ystyried bod hon wedi bod yn ddadl dda iawn, a diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ymateb cadarnhaol, ac am gytuno i gyfarfod â Mencap i fynd trwy bopeth—mae hynny'n dda iawn—a siarad gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth hefyd.

Diolch i'r Pwyllgor Busnes am roi amser i'r ddadl bwysig hon, a Mencap Cymru, a phawb sy'n ymwneud â'r gwaith hwnnw. Mae'n dangos bod codi llais, cael deiseb, yn gallu gwneud gwahaniaeth, ac rydym i gyd yma i wrando a gweithio drwy hyn. Felly, diolch yn fawr iawn. Rydym wedi bod yn ceisio chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl anabl rhag byw eu bywydau i'r eithaf. Mae'n amlwg fod y ddibyniaeth gynyddol ar drafodion di-arian parod yn creu rhwystr newydd, annisgwyl. Felly, rwy'n gobeithio bod pobl ar draws yr ystafell a ledled Cymru wedi gwrando ar y ddadl hon ac y bydd busnesau'n meddwl yn hir ac yn galed am hyn ac yn newid y ffordd y maent yn ymddwyn. Ni ddylai fod yn seiliedig ar fasnacheiddiwch yn unig; mae'n rhaid inni feddwl am bobl yn ogystal. Felly, diolch yn fawr am gael y ddadl hon.

19:10

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Cyllideb Llywodraeth y DU

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.

Symudwn ymlaen at eitem 8, dadl Plaid Cymru: cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwaf ar Heledd Fychan i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8701 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cyllideb Llywodraeth y DU sydd ar ddod; a

b) y sefyllfa cyllid cyhoeddus hynod heriol, gyda chyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol gwerth £700 miliwn yn llai mewn termau real o'i gymharu â phan gafodd ei gosod gyntaf.

2. Yn gresynu fod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod:

a) darparu unrhyw gyllid canlyniadol i Gymru o brosiect HS2;

b) datganoli Ystâd y Goron yng Nghymru i sicrhau bod elw o'i hasedau yn mynd yn syth i gyllideb Cymru; ac

c) disodli fformiwla Barnett gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion.

3. Yn gresynu at fethiant y 'bartneriaeth o bŵer' rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau buddion diriaethol i Gymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, gan ofyn i'r gyllideb gynnwys:

a) ailddosbarthu HS2 yn brosiect i Loegr yn unig;

b) ymrwymiad bod Cymru'n derbyn £4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2, fel y mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi galw amdano;

c) ymrwymiad i ddatganoli Ystâd y Goron cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;

d) ymrwymiad i ddisodli fformiwla Barnett cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol;

e) ymrwymiad i adfer lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr; ac

f) ymrwymiad i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.

Cynigiwyd y cynnig.

Pwrpas dadl heddiw ydy rhoi llais i’r Senedd hon o ran y gyllideb fydd yn cael ei chyflwyno'r wythnos nesaf gan Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig. O ystyried y goblygiadau i Gymru, y Senedd hon a’r holl gyrff rydym yn eu hariannu, mae’n bwysig bod llais Cymru yn cael ei glywed yn glir, a dyna pam mae'r cynnig yn canolbwyntio ar bum gofyniad.

Yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol, addawyd newid i Gymru. Ers blynyddoedd, rydym wedi clywed Gweinidogion y Llywodraeth yn y Siambr hon yn dweud dro ar ôl tro, pan fyddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan, y byddai pethau'n wahanol i Gymru. Hyd yma, mae'r bartneriaeth honedig sydd mewn grym wedi tangyflawni dros Gymru, a thrwy gyflwyno'r cynnig hwn, sy'n mynnu tegwch i Gymru a thegwch i bobl Cymru, gobeithiwn y gallwn ni fel Senedd uno, ac mewn rhai achosion ailddatgan galwadau y gwnaethom gytuno arnynt o'r blaen, ac ar draws y rhaniadau rhwng pleidiau.

Mewn ymateb i gwestiynau Rhun ap Iorwerth ddoe, dywedodd y Prif Weinidog wrthym ei bod yn cael sgyrsiau uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU ac mae wedi dweud ei bod wedi egluro blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ond beth yw'r blaenoriaethau hynny, oherwydd maent yn ymddangos yn wahanol iawn nawr i'r hyn roeddent cyn yr etholiad? Os ydym am dderbyn hynny ar ei olwg ac edrych ar yr hyn sydd yng ngwelliant y Llywodraeth, maent yn wahanol iawn. Cymerwch, er enghraifft, ein gofyniad cyntaf yn y cynnig, sy'n ymwneud â HS2, lle rydym yn galw am ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig a bod Cymru'n derbyn swm canlyniadol HS2 gwerth £4 biliwn y galwyd amdano yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru yn ogystal ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru mor ddiweddar â 2022. Nawr, mae gwelliant y Llywodraeth yn glastwreiddio'r gofynion blaenorol hynny ac yn nodi bod Llywodraeth Cymru bellach yn gofyn am ymrwymiad i drafodaeth bellach am gyllid mewn perthynas â HS2. Felly, gadewch inni edrych yn fanylach ar hynny: ymrwymiad i drafodaeth bellach. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro heddiw ai dyna y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano mewn perthynas â HS2 yn y sgyrsiau uniongyrchol hynny, ac os felly, pam y mae'r cais hwnnw wedi'i lastwreiddio. Wedi'r cyfan, clywsom yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru fod y cyllid hwn yn rhywbeth yr oedd gan Gymru hawl i'w gael. Yn sicr, fel Senedd, dylem fod yn unedig wrth ailadrodd galwadau a wnaethom i Lywodraeth flaenorol y DU mewn perthynas â hyn. Nid yw gofyn am ymrwymiad i siarad yr un fath â mynnu'r hyn y mae gennym hawl iddo.

Mae ein hail ofyniad hefyd yn un y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gefnogi: ymrwymiad i ddatganoli Ystad y Goron. Mae'r gofyniad hwn ar goll o welliant Llywodraeth Cymru. Pam? A ydym yn cymryd felly nad yw'r Prif Weinidog yn gofyn am hynny bellach? Wedi'r cyfan, ychydig fisoedd sydd yna ers i'r Dirprwy Brif Weinidog nawr ddweud ei fod yn edrych ymlaen at Lywodraeth o liw gwahanol yn y dyfodol yn sicrhau bod y buddion yng Nghymru o asedau Ystad y Goron yn cael eu cadw yma yng Nghymru. Beth sydd wedi newid? Onid yw Llafur Cymru yn cefnogi'r alwad hon mwyach, galwad a fyddai'n gwarantu bod elw o'n cyfoeth o adnoddau naturiol yn mynd yn uniongyrchol i gyllideb Cymru? Ac os ydych, pam ei fod wedi cael ei ddileu?

A dyma ddod wedyn at ein trydydd galwad, sef ymrwymiad i ddisodli fformiwla Barnett cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol. Mae gwelliant y Torïaid yn cadw’r alwad hon, ond beth am welliant y Llywodraeth? Unwaith eto, dim cyfeiriad at ddiwygio fformiwla Barnett. Pam gwanhau y galwadau y buoch yn eu gwneud mor groch pan oedd plaid arall wrth y llyw yn San Steffan? Ond efallai na ddylem ni fod yn synnu at y gwelliant hwn, efo'r Prif Weinidog wedi cadarnhau mewn gohebiaeth ysgrifenedig gyda Rhun ap Iorwerth ei bod yn bwriadu gweithio am gymhwysiad teg o Barnett. Ond sut mae sicrhau tegwch o system sy’n sylfaenol ddim yn deg? Hyd yn oed ym mis Mai, fe bleidleisioch chi o blaid disodli Barnett yn y Senedd hon; beth sydd wedi newid ers hynny?

Pan ddaw at ein pedwerydd a'n pumed galwad, sef ymrwymiad i adfer y lwfans tanwydd gaeaf i bensiynwyr a chael ymrwymiad i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn, unwaith eto wedi eu dileu o welliant y Llywodraeth. Pam? O ran y cap budd-dal dau blentyn, rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi ei alw’n frad cywilyddus ar y 30 y cant o blant Cymru sy’n byw mewn tlodi ar hyn o bryd, pam eich bod bellach mor dawedog?

Ac mae’r un peth yn wir o ran dileu y lwfans tanwydd gaeaf. Pe byddai’r Llywodraeth flaenorol yn San Steffan wedi gwneud hyn, mi fyddech chi wedi bod yn gweiddi’n groch ynglŷn â chreulondeb y polisi. Pam yr amharodrwydd i godi llais dros y rhai rydyn ni’n eu cynrychioli yma? Fel rhybuddiodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, bydd hyn yn arwain at rai o’n hetholwyr yn marw. Ond eto, nid yw hyn yn un o’ch galwadau.

Mae Cymru wedi cael cam gan San Steffan a gallwn weld effaith uniongyrchol hyn ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar bobl Cymru. Fel Senedd, mae'n ddyletswydd arnom i weithio'n drawsbleidiol a sefyll dros y rhai a gynrychiolwn drwy fynnu cyllid sy'n ddyledus i ni, pa bynnag blaid sydd mewn grym yn San Steffan. Nid gwleidyddiaeth plaid yw hyn; mae'n ymwneud â rhoi pobl o flaen plaid, a sicrhau bod gennym yr adnoddau sydd eu hangen i wneud ein gwaith yma yng Nghymru. Ac er bod Llafur yn arfer bod yn unedig gyda Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth wrthwynebu cyni, pam rydych chi bellach yn caniatáu i Lywodraeth Lafur y DU barhau â chyni?

Felly, rwy'n annog y meinciau cefn Llafur sydd wedi galw'n glir am gefnogi galwadau ein cynnig yn flaenorol i sefyll heddiw, fel y gall y Senedd hon anfon neges glir i San Steffan ynglŷn â'r hyn rydym am weld cyllideb yr wythnos nesaf yn ei ddarparu i Gymru. Mae rhoi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol neu ysgrifennu erthyglau i Nation.Cymru yn amlinellu eich gwrthwynebiad i doriadau i daliadau tanwydd y gaeaf ac yn y blaen yn ddiystyr os ydych chi wedyn yn bwrw ymlaen yn y Siambr hon i bleidleisio yn erbyn cynigion sy'n eu gwrthwynebu.

Edrychaf ymlaen at y ddadl a gobeithio y bydd pob Aelod yn darllen y cynigion a gyflwynwyd yn fanwl, yn ogystal â'r ddau welliant, ac yn pleidleisio yn unol â'u gwerthoedd a chyda phobl Cymru mewn cof, drwy gefnogi ein cynnig heddiw fel y mae a heb ei ddiwygio.

19:15

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol, a galwaf ar Peter Fox i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyllideb Llywodraeth y DU sydd ar ddod.

2 Yn gresynu fod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod:

a) dileu'r toriad mewn taliadau tanwydd gaeaf, a fydd yn gweld tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli hyd at £300 y pen; 

b) diystyru unrhyw gynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol;

c) sicrhau bod Cymru'n derbyn ei symiau canlyniadol o HS2;

d) ariannu'r gwaith o drydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru; ac

e) cyflwyno trefniant ariannu newydd i Gymru i ddisodli'r fformiwla Barnett hen ffasiwn.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi’r ohebiaeth, gan ofyn i'r gyllideb gynnwys cynlluniau i:

a) dileu toriad taliadau tanwydd y gaeaf;

b) sicrhau nad oes cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol;

c) galluogi Cymru i dderbyn ei chyfran deg o gyllid canlyniadol HS2;

d) trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru; ac

e) dileu'r fformiwla Barnett hen ffasiwn a'i ddisodli â fformiwla ariannu newydd yn seiliedig ar anghenion, sy'n deg, yn dryloyw ac yn darparu ar gyfer pobl Cymru. 

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ie, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar. Rwyf am ddechrau drwy ddweud bod llawer rwy'n cytuno ag ef yn y cynnig hwn. Mae'n amlwg nad yw Llafur yn San Steffan a Llafur yma yng Nghymru yn gweithio dros bobl Cymru. Fodd bynnag, mae yna un neu ddwy o elfennau—neu un elfen yn sicr—o fewn y cynnig nad ydym yn cytuno ag ef, sef datganoli Ystad y Goron. Mae Cymru ar fin bod yn arweinydd byd-eang yn y sector ynni adnewyddadwy ac mae ganddi gymaint o botensial, a byddai datganoli'r cyfrifoldeb hwnnw'n creu amheuaeth ynghylch hyn, ac ni fyddai hynny er lles gorau Cymru ar hyn o bryd. Yr wythnos nesaf—[Torri ar draws.] Wel, dyna yw ein safbwynt. [Torri ar draws.] Am mai dyna yw ein safbwynt. [Torri ar draws.] 

Dyna yw ein safbwynt. [Torri ar draws.] Dyna ni.

Felly, yr wythnos nesaf, rydym o'r diwedd yn mynd i gael gweld y gyllideb hirddisgwyliedig gan y Llywodraeth Lafur newydd hon yn San Steffan. Hoffwn ddweud fy mod yn obeithiol, ond mae'n ymddangos y bydd yn dilyn ôl troed hynod siomedig 100 diwrnod cyntaf Llafur. Nid ydym wedi gweld dim ond sbin, twyll a throeon pedol gan Weinidogion Llafur yn San Steffan, ac yn anffodus, ymddengys bod eu cymheiriaid yma yn y Senedd yn eu dilyn ar hynny.

Mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi dweud y gallai dileu taliadau tanwydd y gaeaf arwain at 4,000 o farwolaethau ychwanegol. Pam nad yw Gweinidogion Llafur yma yn gandryll ynglŷn â hyn? Fel y nododd Heledd, rwy'n berffaith siŵr, pe bai'r Ceidwadwyr yn gwneud hyn, y byddent yn bownsio i fyny ac i lawr, ac yn gweiddi arnom yn ddiddiwedd.

Yn anffodus, mae'n edrych yn debyg y bydd y Canghellor yn torri addewid maniffesto yr wythnos nesaf drwy godi yswiriant gwladol ar gyflogwyr. Ac rwyf am fod yn glir: maent yn torri eu haddewid maniffesto. Nid fi yn unig sy'n dweud hyn, mae cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi dweud hynny hefyd. Mae torri'r addewid hwn yn mynd i gael effaith ddofn ar fusnesau a threthdalwyr yma yng Nghymru. O ran y sector cyhoeddus yn unig, pe bai yswiriant gwladol ar gyflogwyr yn codi 1 y cant yn unig, byddai'r bil i awdurdodau lleol fel cyflogwyr oddeutu 140,000 o bobl yn codi degau o filiynau ar ben y pwysau enfawr cyfredol gwerth £540 miliwn sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Pan oedd yn Ganghellor yr wrthblaid, dadleuodd Rachel Reeves y bydd yr yswiriant gwladol ar fusnesau

'yn gwneud pob gweithiwr newydd yn ddrytach ac yn cynyddu'r costau i fusnesau'.

Aeth ymlaen i ddweud bod cyfraniadau yswiriant gwladol gan gyflogwyr a gweithwyr

'yn mynd ag arian o bocedi pobl'.

Mae gweinidogion Llafur yma ym Mae Caerdydd a San Steffan fel ei gilydd yn dweud eu bod am weld twf economaidd, ac eto mae busnesau yma yng Nghymru yn talu'r lefelau uchaf o ardrethi annomestig a bydd yn rhaid iddynt dalu mwy o dreth ar gyflogi gweithwyr nawr. Os mai dyma mae Llafur yn ei feddwl yw'r ffordd orau o gael twf economaidd, rwy'n anobeithio.

Nid dyma'r unig achos o ASau Llafur yn gwneud tro pedol yn dilyn etholiad. Cyn dod i rym, fel y clywsom heddiw yn barod, dadleuodd Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid fod biliynau o bunnoedd yn ddyledus i Gymru o HS2 a newidiodd ei safbwynt yn sgil gwrthwynebiad gweinidogol gan Weinidogion Llafur yma hefyd. Roeddem yn arfer clywed Aelodau Llafur yn gweiddi am y biliynau a oedd yn ddyledus, ond nawr mae'n ymddangos bod yr un lleisiau yn hapus i fodloni ar geiniogau cymharol, a hynny am fod eu cymheiriaid ar ben arall yr M4 mewn grym bellach.

Felly, sut y mae hyn i gyd yn sefyll dros bobl Cymru? Lywydd, bydd yr wythnos nesaf yn gyllideb galed i bobl ledled Cymru, ac mae gwir angen i ASau ac Aelodau Llafur yma sefyll yn erbyn eu harweinyddion yn San Steffan. Mae angen inni weld taliadau tanwydd y gaeaf yn cael eu hadfer ar frys, gan sicrhau nad oes unrhyw bensiynwyr yn marw oherwydd dewisiadau Llafur. Mae ein busnesau angen i Lafur ddiystyru unrhyw gynnydd i yswiriant gwladol, a fydd yn crebachu twf ac yn cadw diweithdra'n uchel. Hefyd, rydym am weld y fformiwla Barnett sydd wedi dyddio yn cael ei disodli, a rhaid inni weld Cymru'n cael ei chyfran deg o symiau canlyniadol HS2 ac i Weinidogion yma beidio â bodloni ar lai. Rydym hefyd am weld trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Ddirprwy Lywydd—

19:20

Yn fyr, rwy'n cytuno â llawer o'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud ar y rheilffyrdd, ond cafodd y rheilffyrdd cyntaf eu trydaneiddio yn y DU ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A ydych chi'n cytuno bod Llywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol wedi gwneud cam â Chymru dros y rheilffyrdd?

Na, nid oes gennyf amser ar ôl. Ond yn amlwg, rydym am weld hynny. Ni allaf wneud esgusodion dros yr hyn sydd wedi digwydd o'r blaen, ond yr hyn sydd angen inni ei weld yn y dyfodol yw'r brif reilffordd honno wedi'i thrydaneiddio, a dyna un peth y byddwn yn gofyn amdano. Ddirprwy Lywydd, cyfrifoldeb cynrychiolwyr etholedig yma yw sefyll dros bobl Cymru, a dyna beth rwyf i a fy nghyd-Aelodau'n ei wneud ar y meinciau hyn. Nawr mae angen i Aelodau Llafur ac ASau Llafur wneud yr un peth. Diolch.

Dwi'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i gynnig yn ffurfiol welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.

Gwelliant 2—Jane Hutt

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn sylweddoli bod y sefyllfa ariannol a etifeddodd Llywodraeth Lafur y DU gan Lywodraeth flaenorol y DU yn un hynod heriol.

Yn cydnabod bod ethol Llywodraeth newydd y DU yn gyfle i ailosod a gwella’r berthynas rynglywodraethol.

Yn nodi mai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb Llywodraeth y DU yn yr hydref yw:

a) cynnydd mewn gwariant adnoddau a chyfalaf uwchlaw’r lefel a bennwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU;

b) hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol;

c) rhaglen fuddsoddi ar y cyd i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo; a

d) ymrwymiad i ragor o drafodaethau am gyllid mewn perthynas â HS2, ac am fuddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn y dyfodol.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Ni ddylai fod yn syndod ein bod wedi galw unwaith eto yn y cynnig am ddatganoli Ystad y Goron. I unrhyw un a etholwyd i'r Senedd, mae'n anodd deall sut y byddech chi'n dadlau yn erbyn rheolaeth dros y potensial cyfoeth yma yng Nghymru. Ein rôl ni yw sicrhau bod elw o adnoddau yng Nghymru yn creu budd i bobl Cymru, nid i Lywodraeth y DU a'r frenhiniaeth yn unig. Mae hwn yn fater o gyfiawnder naturiol, mater o degwch sy'n seiliedig ar egwyddor sylfaenol y dylai'r rhai sy'n cynhyrchu'r cyfoeth elwa ar y cyfoeth hwnnw hefyd. Mae'n hen bryd i ni gael rheolaeth dros y cyfoeth a gynhyrchir o'n gwynt, o'n moroedd a'n tir, oherwydd ar hyn o bryd mae asedau Ystad y Goron yng Nghymru yn cynhyrchu cannoedd o filiynau mewn refeniw bob blwyddyn, ond eto nid oes dim o'r cyfoeth hwnnw'n aros yng Nghymru, ac yn lle hynny mae'n llifo'n uniongyrchol i mewn i Drysorlys y DU, gyda 25 y cant o'r elw wedi'i neilltuo i'r sawl sy'n teyrnasu, gan gynnwys codiad o 10 y cant i adnewyddu Palas Buckingham—ar adeg, gyda llaw, pan wyddom fod gwir angen ôl-osod ein stoc tai cymdeithasol yng Nghymru.

Yn 2007, gwerth asedau Ystad y Goron yng Nghymru oedd £21.1 miliwn. Symudwch ymlaen at 2023-24 ac mae'r ffigur hwnnw wedi codi i dros £853 miliwn, wedi'i ysgogi'n bennaf gan ynni gwynt ar y môr ac ynni morol. Dangosodd astudiaeth annibynnol hefyd y gallai prosiect gwynt ar y môr 4.5 GW arfaethedig Ystad y Goron yn y môr Celtaidd yn unig gynhyrchu £1.4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros a chreu 5,300 o swyddi. Ac eto, oni bai bod camau'n cael eu cymryd, bydd Cymru'n cael ei hamddifadu'n llwyr o'r rhan fwyaf o'r budd economaidd hwnnw, yn union fel y câi yn ystod oes y glo. Mae'n realiti trist fod Cymru wedi cael ei thrin fel fawr mwy na darparwr adnoddau ers canrifoedd. Mae'n realiti trist ein bod yn dal i ddadlau ac yn galw am gydraddoldeb â'r Alban. Wyddoch chi, mae'n ddigon da i'r Albanwyr, ond nid yw'n ddigon da i'r Cymry. Ac mae'r model echdynnol hwn wedi methu bod o fudd i economi Cymru a'n cymunedau, a—

19:25

A ydych chi'n cydnabod bod Ystad y Goron a reolir gan Lywodraeth yr Alban wedi cael ei gwerthu am lawer llai na'i gwerth, a bod Audit Scotland wedi cyfeirio at y biliynau o bunnoedd y mae Llywodraeth yr Alban yn eu colli mewn refeniw am nad oeddent yn gallu arwerthu hawliau gwely'r môr a gwneud y mwyaf o'u gwerth? Rwy'n credu eu bod wedi dweud mai £60 biliwn yw eu gwerth dros oes y trwyddedau.

Wel, rwy'n credu bod hwnnw'n fwy o gwestiwn i Lywodraeth yr Alban na'r hyn y byddem ni'n ei wneud o ran Llywodraeth Cymru. Gallai Llywodraeth Cymru wneud ei phenderfyniadau ei hun ar wahân i'r hyn y mae Llywodraeth yr Alban wedi'i wneud, felly rwy'n credu mai cwestiwn i Lywodraeth yr Alban yw hwnnw.

Hynny yw, edrychwch, gadewch inni fod yn hollol onest yma, mae'r potensial ynni adnewyddadwy yn Ystad y Goron yn sylweddol. Byddai system ynni adnewyddadwy wedi ei rheoli'n llawn gan Gymru yn ein galluogi i ddatgarboneiddio ein pŵer, ein diwydiannau, ein gwres a'n trafnidiaeth, gan gefnogi datblygiad seilwaith lleol, cadwyni cyflenwi a swyddi ar yr un pryd. Mae'n gam sylfaenol tuag at ddyfodol gwyrdd, ond hefyd tuag at ddyfodol lle mae'r cyfoeth a gynhyrchir gan ein hadnoddau naturiol yn aros yng Nghymru, er budd ei phobl.

Rwy'n credu hefyd fod angen inni grybwyll problem a achoswyd gan y Llywodraeth Lafur hon yn y DU. Nid yw partneriaeth ddiweddar Ystad y Goron â'r Great British Energy arfaethedig wedi gwneud fawr ddim i dawelu pryderon am ddiwydiant echdynnol. Mewn gwirionedd, mae'n bygwth dyfnhau'r broblem gydag Ystad y Goron yn elwa o brydlesu tiroedd a môr Cymru ar gyfer gwynt ar y môr, tra bod yr enillion economaidd yn cael eu sugno ymaith i fod o fudd i rannau eraill o'r DU. Disgrifiodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru y sefyllfa bresennol yn berffaith: trosglwyddiad cyfoeth o Gymru i Loegr ac

'nid oes sicrwydd bod Cymru’n cael swm cyfatebol yn ôl.'

Rhaid buddsoddi'r refeniw a gynhyrchir gan weithgareddau Ystad y Goron yng Nghymru yn ôl i Gymru. Dylai honno fod yn llinell waelod i unrhyw Lywodraeth Cymru, a dyma pam y mae Plaid Cymru yn argymell y dylid sefydlu cronfa gyfoeth sofran Gymreig, gan sicrhau bod yr elw o'r sector ynni adnewyddadwy a phrosiectau ynni adnewyddadwy yn nyfroedd Cymru yn cael ei ailfuddsoddi er budd hirdymor pobl Cymru. Ond y gwrthwyneb sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU, heb fawr iawn o wrthwynebiad ar yr ochr hon i'r M4 yn ôl pob golwg.

Ddirprwy Lywydd, mae'r wobr economaidd yn llawer mwy na'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Nid cam tuag at Gymru fwy ffyniannus yn unig yw datganoli Ystad y Goron, mae'n gam tuag at Gymru decach a mwy cyfiawn, lle mae cyfoeth ein tir a'n moroedd yn cael ei roi o'r diwedd i weithio dros bobl y genedl hon. Nawr, mae hwn yn gyfle y mae'n rhaid inni ei fachu.

Ni fydd ymrwymiad i ddatganoli Ystad y Goron cyn gynted â phosibl, gydag amserlenni perthnasol, yn cynhyrchu unrhyw arian ychwanegol. Bydd yn dod oddi ar y grant bloc. Sut y gwn i hynny? Dyma a ddigwyddodd pan gafodd treth incwm ei datganoli'n rhannol a phan ddatganolwyd treth stamp a threth tirlenwi. Rwy'n cefnogi datganoli Ystad y Goron mewn gwirionedd, oherwydd mae yna lawer o resymau da pam y byddai o fudd i Gymru, ond nid wyf yn credu y byddai'n dod ag unrhyw arian ychwanegol—

I mi, nid yw'n ymwneud â'r arian sy'n mynd i Lundain yn dod i Gymru, mae'n ymwneud â ni'n gwneud mwy o ddefnydd o'r potensial sydd gennym yn ein hadnoddau.

Mae hynny'n eithaf diddorol. Nid wyf yn hollol siŵr sut y mae'n mynd â ni gam ymhellach ymlaen. Hynny yw, y pwynt yw y byddai'n dod oddi ar y grant bloc. Rwy'n cefnogi ei weld yn dod i Gymru, oherwydd mae pethau y gallwn eu gwneud ag ef, ond nid wyf yn credu bod arian yn un ohonynt.

Mae HS2 yn brosiect i Loegr yn unig; nid oes dadl resymol dros ei ddisgrifio fel prosiect i Gymru a Lloegr. Mae'n mynd rhwng Birmingham a Llundain. Dylai unrhyw wariant yn y dyfodol ar HS2 gynhyrchu swm canlyniadol Barnett. Dylai Cymru gael ei chyfran o'r gwariant. Yn anffodus, penderfyniad y Trysorlys ydyw. Wrth inni symud ymlaen, mae angen mecanwaith arnom i ganiatáu cymrodeddu ar wariant fel HS2. Digwyddodd yr un peth gyda Gemau Olympaidd Llundain—mae'r cliw yn yr enw. Prosiect adfywio yn nwyrain Llundain oedd hwn, a dylem fod wedi cael swm canlyniadol Barnett ohono. Cawsom rywfaint, ond roedd oddeutu 2.5 y cant o'r hyn y dylem fod wedi'i gael.

Mae fformiwla Barnett yn fecanwaith a ddefnyddir gan y Trysorlys i addasu faint o wariant cyhoeddus a ddyrennir yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru yn awtomatig i adlewyrchu newidiadau yn y lefelau gwariant a ddyrennir i wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr. Mae'r fformiwla'n berthnasol i gyfran fawr ond nid y cyfan o gyllidebau'r Llywodraethau datganoledig. Mae'r bargeinion dinesig a rhanbarthol yng Nghymru, er enghraifft, y tu allan i'r fformiwla. Mae Gogledd Iwerddon wedi cael arian ychwanegol yn rheolaidd y tu hwnt i'w symiau canlyniadol Barnett. Barnett yw'r isafswm, nid yr uchafswm. Nid oes gan fformiwla Barnett unrhyw statws cyfreithiol a gall y Trysorlys newid y confensiwn ar unrhyw adeg. Gwelwyd gwrthwynebiad bron yn llwyr i fformiwla Barnett fel modd o bennu cynnydd blynyddol.

Ceir tair ffordd o'i newid. Cynigiodd Plaid Genedlaethol yr Alban ymreolaeth ariannol lawn i'r Alban, a fyddai'n rhoi rheolaeth lawn i Senedd yr Alban ar drethiant yr Alban yn y pen draw. Byddai'r canlyniadau wedi arwain at wrthdroi'r cyllid presennol, gyda Senedd yr Alban yn talu grant i Lywodraeth y DU i dalu am gyfran yr Alban o faterion a gedwir yn ôl. Cafodd yr opsiwn hwn ei wrthod gan Lywodraeth y DU. A yw Plaid Cymru'n cefnogi'r opsiwn hwn i Gymru? Rwy'n cymryd mai 'na' yw'r ateb.

Ffordd arall fyddai rhoi cyfran ei phoblogaeth i Gymru o'r gwariant mewn meysydd datganoledig. Byddai hyn hefyd yn cael effaith drychinebus ar gyllideb Cymru. Yn 2009, daeth Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar Fformiwla Barnett i'r casgliad na ddylid ei defnyddio mwyach i bennu cynnydd blynyddol yn y grant bloc ar gyfer gweinyddiaethau datganoledig y Deyrnas Unedig. Dylid cyflwyno system newydd sy'n dyrannu adnoddau i'r gweinyddiaethau datganoledig yn seiliedig ar asesiad penodol o'u hanghenion cymharol. Pwy allai anghytuno â hynny?

O 2018, cafodd ffactor newydd yn seiliedig ar anghenion ei gynnwys yn fformiwla Barnett i bennu newidiadau i gyllid grant Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwariant. Mae'n bosibl cynhyrchu fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae'r fformiwla llywodraeth leol yn fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion, ond fe geir dadleuon yn ei chylch a gwrthwynebiad iddi. Mae'r fformiwla'n hynod hir a chymhleth, ac mae pawb yn meddwl eu bod yn cael cam ganddi.

Sut rydych chi'n penderfynu pwysoliadau yn y fformiwla ar gyfer teneurwydd poblogaeth, tlodi ac oedran? Mae angen i'r gwaith ddechrau ar hyn nawr. Er y bydd y rhan fwyaf yn cael eu hysgogi gan boblogaeth a newid yn y boblogaeth, fel sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gyda fformiwla llywodraeth leol, bydd angen adeiladu elfennau fel teneurwydd poblogaeth, cost teithio, cyfraddau diweithdra, iechyd, oedran, dosbarthiad poblogaeth, hyd ffyrdd, troseddau a gofnodwyd, niferoedd anheddau is na'r safon a phwysoliad oedran yn rhan o'r fformiwla. Fe allwn barhau, ond nid wyf yn meddwl y byddai unrhyw un yn dymuno i mi wneud hynny.

Pan gaiff y fformiwla ei chreu, gellir ei ddiweddaru bob blwyddyn a'i diweddaru yn ôl yr angen gyda newidiadau i'r pwysoliadau. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai Cymru'n gwneud yn well gyda fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion nag y mae o dan y fformiwla Barnett bresennol gyda llawr Barnett. Cwestiwn i Blaid Cymru yw hwn: a yw Cymru'n genedl gyfoethog, fel y mae un o gyn ymgeiswyr Plaid Cymru i'r Senedd yn ei honni, yn genedl nad oes angen cymorth ariannol arni, neu a yw'n genedl sydd angen cymorth ariannol ar hyn o bryd? 'Rhowch ein cyfran o'r boblogaeth i ni' fyddai'r ateb, onid e? Nid oes angen unrhyw gefnogaeth ychwanegol arnom. A yw Plaid Cymru'n dadlau hynny?

Rwy'n credu bod angen inni gael system lle rydym yn siarad o ddifrif am ddyfodol fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Ond mae'r fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn mynd i fod yn gymhleth ofnadwy, a bydd yn cynhyrchu llawer iawn o anghytuno ynglŷn â beth yw'r anghenion.

19:30

Mae Cymru'n cael ei hamddifadu o biliynau o bunnoedd o'r gwariant ar HS2 yn Lloegr. Nid barn Plaid Cymru yn unig yw hyn, ond barn llawer o arbenigwyr trafnidiaeth y siaradais â hwy yn ddiweddar. Arferai fod yn farn gonsensws yn y Senedd hon.

Cafodd prosiect HS2 ei gamreoli a'i ariannu'n annheg gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, ond yn siomedig, mae'r Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan yn hapus i barhau'r annhegwch. Er bod yr Alban a Gogledd Iwerddon ar fin derbyn cyllid ychwanegol o ganlyniad i HS2, nid yw Cymru'n cael unrhyw beth er nad oes un fodfedd o drac yn cael ei osod yng Nghymru. Gadewch inni ei alw yr hyn ydyw: lladrad trên mawr Cymru.

Cyn i Keir Starmer ddod yn Brif Weinidog, roedd Llafur Cymru wedi bod yn galw am y biliynau sy'n ddyledus i Gymru o HS2. Roedd y Senedd, y Senedd Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd, wedi mynnu cyfran deg, ac roedd Ysgrifennydd trafnidiaeth presennol Cymru wedi galw'n benodol am £5 biliwn. Roedd hyd yn oed Jo Stevens, sydd bellach yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi argymell unwaith y dylai Cymru gael yr hyn y mae'n ei haeddu o HS2. Ond gan eu bod bellach mewn grym, maent wedi newid eu meddyliau. Mae'n amlwg fod Llafur Cymru yn fodlon gwneud cam â Chymru er mwyn plesio Keir Starmer.

Boed yn Llywodraeth Geidwadol neu Lafur yn San Steffan, caiff Cymru ei hesgeuluso gan Lywodraeth San Steffan na fydd byth yn blaenoriaethu ein hanghenion. Dychmygwch beth y gallem ei gyflawni gyda'r arian ar gyfer system drafnidiaeth. Gyda llai na 4 y cant o'n rheilffyrdd wedi'u trydaneiddio, a dim cysylltiad rheilffordd uniongyrchol rhwng Aberystwyth a Chaerdydd heb fynd trwy Loegr, gallai'r biliynau sy'n ddyledus i ni drawsnewid ein rhwydweithiau bysiau a threnau. Gallai'r buddsoddiad hwn roi hwb i'n heconomïau lleol, creu swyddi a denu busnesau a diwydiannau newydd, gan ddod â ffyniant a chyfleoedd i gymunedau sydd eu hangen yn ddybryd ledled Cymru.

Mae hyn yn ymwneud â mwy na thrafnidiaeth yn unig, mae hefyd yn ymwneud â mynd i'r afael â newid hinsawdd. Gallai cyllid teg o HS2 helpu Cymru i wneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni sero net. Gwella trafnidiaeth gyhoeddus yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau allyriadau carbon. Drwy wella ein gwasanaethau trên a bysiau, gallem annog mwy o bobl i ddewis trafnidiaeth gynaliadwy dros geir, gan leihau ein hôl troed carbon a diogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn amlwg, nid yw hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Drwy wrthod brwydro am gyllid teg, rydych chi'n gadael pobl yng Nghymru heb fynediad at y cyfleoedd y maent yn eu haeddu. Mae ein cymunedau'n parhau i fod wedi'u hynysu, ac mae ein rhwydwaith trafnidiaeth wedi'i adael i ddadfeilio. Mae'n bryd newid; mae'n bryd i Gymru gael y buddsoddiad sy'n ddyledus iddi a'r dyfodol y mae'n ei haeddu. Diolch.

19:35

Nid oes amheuaeth fod gwaddol y Ceidwadwyr yn y Llywodraeth yn un o ddinistr economaidd: ein gwasanaethau cyhoeddus yn llarpiau, ein cyllid wedi dirywio, morgeisi'n codi allan o reolaeth a theuluoedd yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Fe'm synnwyd yn fawr gan Peter Fox yn dweud bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu sefyll dros Gymru, a'r Ceidwadwyr Cymreig heb wneud unrhyw beth am 14 mlynedd i sefyll dros Gymru. Mae pobl Cymru—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf. Mae pobl Cymru yn disgwyl—[Torri ar draws.]

Diolch. Mae pobl Cymru'n disgwyl yn gwbl briodol y byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn creu partneriaeth a pherthynas ystyrlon a heriol gyda Llywodraeth Cymru—un a fyddai'n sicrhau'r cyllid a'r cydweithrediad sydd ei angen i wyrdroi'r blynyddoedd o ddirywiad y cawsom ein gadael gyda hwy.

Mae eu penderfyniad i dorri taliadau tanwydd y gaeaf a pharhau â pholisi niweidiol y cap dau blentyn ar fudd-daliadau a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr yn warthus ac yn gosbol. Ar adeg pan fo angen mwy o gymorth ar bobl, nid llai, nid yw'r mesurau hyn ond yn cynyddu'r caledi sy'n wynebu teuluoedd bregus. Yn fy rhanbarth i ym Mhowys, mae hyn yn golygu bod dros 30,000 o bobl yn wynebu realiti llwm cartrefi oer, a 2,200 o blant yn parhau i ddioddef. 

Yr un mor bryderus yw'r sibrydion y bydd Llafur yn cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol. Gyda 99.3 y cant o fusnesau yng Nghymru yn fentrau bach a chanolig, ni all y busnesau hyn ddioddef; maent yn parhau i fod yn allweddol i ysgogi twf yn ein heconomi. Mae Keir Starmer wedi dweud y byddai'r gyllideb hon yn boenus ac yn rhan o frwydr a rennir. Mae hyn yn sarhaus iawn ac yn ddadl wag i gymaint o bobl ar draws Cymru. Rwyf am ofyn pam y ceir rhyfel yn erbyn y tlawd. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw trethu'r cyfoethog. 

Gan Brydain bellach y mae un o'r bylchau cyfoeth mwyaf yn y byd datblygedig—dim ond yr Unol Daleithiau sy'n gwneud yn waeth. Mae'r bwlch rhwng y 10 y cant cyfoethocaf a'r 10 y cant tlotaf wedi chwyddo 47 y cant mewn 10 mlynedd. Mae angen inni fod yn glir fod digon o arian ar gael. Mae'r 10 y cant cyfoethocaf o aelwydydd yn berchen ar 57 y cant o'r cyfoeth yn y DU, a gallai treth gyfoeth gymedrol o 2 y cant ar y cyfoethocaf oll, dim ond 0.04 y cant o'r boblogaeth, godi hyd at £24 biliwn bob blwyddyn, sef y twll y mae angen iddynt ei lenwi yn ôl yr hyn a glywn drwy'r amser gan Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur y DU. Trethu'r cyfoethog, dyna beth sydd angen inni ei wneud. 

Fe wnaeth ein pedwar banc mwyaf—Lloyds Bank, NatWest, Barclays a HSBC—elw o £40 biliwn y llynedd, eto maent yn parhau i elwa o doriadau treth y Ceidwadwyr. Drwy wrthdroi'r toriadau treth hyn, gallem helpu i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus ac atal cau banciau'r stryd fawr mewn ardaloedd gwledig, fel y mae'r pedwar banc yn ei wneud yn gyson. Dyna pam ein bod ni, y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi cyflwyno cynllun beiddgar ond teg. Drwy wyrdroi'r toriadau i fanciau mawr, cau'r bylchau yn y dreth enillion cyfalaf a sicrhau bod cwmnïau'n talu eu cyfran deg, gallwn greu system dreth—

19:40

Rwy'n cytuno â rhai o'r pethau yr ydych yn eu dweud am drethu'r cyfoethog, ond a fyddech chi'n cytuno bod yn rhaid gwneud hynny mewn ffordd deg a chymesur fel ein bod yn osgoi system fel y 1970au, pan welsom ecsodus torfol o gyfoeth a thalent sy'n gwneud cyfraniad mor bwysig i broffil economaidd ein gwlad?

Diolch i chi am ddweud y byddech chi'n trethu'r cyfoethog. Rwyf eisiau ymateb i hynny drwy ddweud fy mod wedi edrych ar wefan ddiddorol iawn. Ei henw oedd Patriotic Millionaires. Maent yn dweud yn glir iawn eu bod eisiau cael eu trethu fwy ac na fyddant yn gadael y wlad. Felly mae'n amlwg mai myth yw hyn sy'n cael ei bedlera drwy'r amser. Dywedodd un dyn busnes, miliwnydd o'r enw Phil White:

'Nid ydym yn mynd i gefnu ar y wlad hon. Mae angen treth gyfoeth arnom nawr.'

Rwy'n annog pawb i ystyried sut y gallwn helpu'r tlotaf yma yng Nghymru, ac mae angen inni drethu'r cyfoethog. Ni ddylai'r baich o lanhau'r llanast Torïaidd ddisgyn ar bobl gyffredin. Dylai ddisgyn ar y rhai sydd â'r ysgwyddau lletaf.

Gadewch imi orffen trwy ganolbwyntio ar fater sy'n agos at fy nghalon, a thlodi plant yw hwnnw. Rwy'n annog Llafur Cymru i sefyll a herio Llywodraeth Lafur y DU i weithredu'n bendant. Mae'r agwedd ben yn y tywod ynghylch y cap dau blentyn ar fudd-daliadau yn ofnadwy tra bod ein plant yn dioddef. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i herio'r polisi creulon hwn, a galw ar Lywodraeth y DU i weithredu nawr i gael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau? Diolch yn fawr iawn.

Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth Lafur y DU i ofyn am ymrwymiad i ddau fesur yn y gyllideb a fyddai'n diogelu rhai o ddinasyddion mwyaf bregus Cymru rhag caledi ac a fyddai hefyd yn lleddfu'r pwysau ychwanegol ar wasanaethau a chyllid Cymru a fyddai'n deillio o'r caledi hwnnw. Fe fyddech chi'n meddwl y dylai hynny fod yn amlwg i blaid Attlee a Bevan, y blaid y mae cymaint o Gymry sy'n credu'n angerddol mewn cefnogi ac ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol. Ac mewn gwirionedd mae'n amlwg i Lywodraeth Cymru o unrhyw liw sydd eisiau gweld llai o bwysau ar gyllidebau sydd eisoes dan straen. Oherwydd byddai adfer lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr a chael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau yn gwneud hynny.

Mae cyfyngu taliad tanwydd y gaeaf i bensiynwyr sy'n derbyn credyd pensiwn yn unig wedi codi pryderon eang. Fel y clywsom, rhybuddiodd y comisiynydd pobl hŷn y gallai gostio miloedd o fywydau. Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn dangos y byddai 83 y cant o bobl dros 80 oed yn colli'r taliad a bydd yn rhaid i 71 y cant o bensiynwyr ag anableddau wynebu'r gaeaf heb y taliad. Mae hyn yn digwydd wrth i'r gaeaf agosáu, yn union fel y mae prisiau ynni wedi codi ac yn parhau i fod yn llawer uwch na'r lefelau cyn yr argyfwng. A hyn pan fo de a gogledd Cymru yn dal i fod yn y tri rhanbarth drytaf ledled y DU o ran prisiau ynni.

Nid oes raid imi ailadrodd y rhesymau pam fod hwn yn benderfyniad cywilyddus. Oherwydd mae gwleidyddion Llafur Cymru yn gwybod bod hyn yn drychineb i Gymru. Ond maent yn rhoi plaid o flaen y wlad. Yr hyn sy'n rhaid iddynt ei wneud yw rhoi'r bobl y maent yn eu cynrychioli—y bron i hanner miliwn o bensiynwyr a fydd mewn perygl y gaeaf hwn—o flaen buddiannau'r rhai sy'n gallu fforddio aberthu rhai pethau os oes angen. Dylent bwyso am i'r dewisiadau cywir gael eu gwneud pan fo angen gwneud dewisiadau anodd.

Mae mynd ag arian oddi wrth bensiynwyr Cymru, y bydd cymaint ohonynt bob amser ar gyrion tlodi, tra bod y 50 teulu cyfoethocaf yn y DU yn berchen ar £500 biliwn cyfunol, yn gywilyddus. A phwy sy'n mynd i dalu pan fydd angen mwy o gymorth iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd y toriad hwn? Rwyf wedi gofyn hyn sawl gwaith. Nid wyf wedi cael ateb eto. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ariannol y galw cynyddol anochel am y gwasanaethau y maent yn eu hariannu?

Rwy'n gwybod beth y byddwn yn ei glywed mewn ymateb, oherwydd mae'n anochel y byddwn yn eu clywed yn ailadrodd llinellau Llafur y DU, y llinellau a ysgrifennwyd yn Llundain, y llinellau a glywn gan Syr Keir: 'O, ond beth am y clo triphlyg', y cynnydd i bensiwn y wladwriaeth a fydd yn gwrthbwyso colledion taliadau tanwydd y gaeaf. Wel, gwiriad ffeithiau cyflym i chi: yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, nid yw mor syml â hynny. Nid yw pawb yn cael yr un swm o bensiwn y wladwriaeth, felly byddai p'un a fyddai hyn yn fwy na'r taliadau a gollir ai peidio yn dibynnu ar eu hawl pensiwn. Mae'r swm y mae pobl yn ei gael ar gyfer taliad tanwydd y gaeaf hefyd yn amrywio. Er enghraifft, bydd pobl sengl dros oedran pensiwn y wladwriaeth—66—a chyplau lle mae o leiaf un person yn hŷn nag oedran pensiwn y wladwriaeth ond y ddau o dan 80 oed yn colli £200 y gaeaf hwn. Ond bydd pobl sengl dros 80 oed a chyplau lle mae o leiaf un person dros 80 oed yn colli £300 y gaeaf hwn. Ac wrth gwrs, mae uwchraddio pensiwn y wladwriaeth yn digwydd ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf; mae newidiadau i daliadau tanwydd y gaeaf yn digwydd eleni. Mae taliad tanwydd y gaeaf hefyd yn daliad di-dreth, tra bod pensiwn y wladwriaeth yn agored i dreth incwm.

Ac mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd wedi nodi, ac rwy'n dyfynnu,

'byddai pensiynwyr wedi disgwyl i'w pensiwn y wladwriaeth gynyddu yn unol â'r clo triphlyg beth bynnag oherwydd bod Llafur wedi addo cadw'r clo triphlyg yn eu maniffesto.'

Felly

'yn yr ystyr hwnnw mae cael gwared ar Daliadau Tanwydd y Gaeaf gan gadw'r ymrwymiad clo triphlyg yn doriad o'i gymharu â'r hyn roeddent yn ei ddisgwyl'—

i'r hyn y cawsant eu harwain i'w ddisgwyl. Mae Llywodraeth Cymru, Prif Weinidogion a Gweinidogion Cymru ddoe a heddiw wedi cyflwyno'r achos yma dros nifer o flynyddoedd dros ddileu'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau, polisi Torïaidd gwrthun sy'n cosbi plant am faint eu teulu. Naill ai nad oeddent yn ei olygu bryd hynny neu maent yn rhagrithio nawr, oherwydd naill ai rydych chi'n credu mewn cynnal hawliau plant neu nid ydych chi'n credu mewn gwneud hynny. Ni allwch ei chael hi'r ddwy ffordd, hyd yn oed pan fydd hynny'n anghyfleus yn wleidyddol.

Mae 65,000 o blant yng Nghymru yn cael eu gwasgu i lawr, wedi eu rhoi dan anfantais am weddill eu bywydau gan y polisi hwn. Nid yw'n ddim llai nag esgeuluso dyletswydd ar ran Llywodraeth Cymru os ydynt yn parhau i roi plaid o flaen y wlad. Mae'r rhai a bleidleisiodd dros gael gwared ar y Torïaid, dros roi diwedd ar fesurau cyni, yn cael eu bradychu gan wleidyddion Llafur sy'n warth ar draddodiadau a gwerthoedd gorau eu plaid. Mae'r holl alwadau yn ein cynnig yn rhai y dylai sosialwyr, y dylai'r rhai sydd â buddiannau gorau pobl Cymru yn agos at eu calonnau, fod yn falch o'u cefnogi.

19:45

Rwy'n credu mai Willie John McBride, onid e, Llewod 1974, a'n cynghorodd i gael ein dial i mewn i ddechrau, ac mae'n sicr yn dda gweld Plaid Cymru yn cofnodi eu siom am gyllideb nad yw wedi cael ei chyflwyno eto. Buaswn yn sicr yn cynghori unrhyw un heddiw i wrando ar y gyllideb cyn iddynt ei chondemnio. Nid oes yr un ohonom lle byddem yn dymuno bod heddiw, ac eithrio'r Ceidwadwyr o bosibl. Mae cyni wedi bod yn drychineb i'r Deyrnas Unedig. Roedd yn drychineb yn 2011, mae'n drychineb heddiw, ac mae'r trychineb hwnnw wedi'i gryfhau ymhellach gan Brexit, sydd wedi tanseilio ein gallu i fasnachu a hyrwyddo twf. A'r un gair o gyngor yr hoffwn ei roi i Ganghellor y Trysorlys yw hyn: os ydych chi am weld twf yn economi'r DU yn ystod y blynyddoedd nesaf, ailymunwch â'r farchnad sengl—bydd hynny'n sicrhau rhywfaint o dwf a bydd yn cyflawni'r hyn y mae pobl Cymru am ei weld. [Torri ar draws.] Efallai nad ydynt hwy yn ei hoffi ond rwy'n credu y byddai'r bobl ar yr ochr hon i'r Siambr yn sicr yn ei hoffi.

Ond gadewch inni edrych ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud. Buaswn yn dweud yn y ddadl hon y gall pob un ohonom gytuno neu anghytuno ar rai materion unigol. Mae'n amlwg y dylai HS2 sicrhau cyllid canlyniadol i Gymru. Nawr, dylai'r swm canlyniadol hwnnw gael ei gyflwyno i'r wlad hon. Mae'n annerbyniol na fydd rheilffordd a fydd yn creu anfantais economaidd i Gymru, fel y gwelsom o ddadansoddiad y DU ei hun, yn darparu cyllid canlyniadol i'r wlad hon. Fe ildiaf.

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Pam felly fod Llafur wedi tynnu'r alwad yn ein cynnig ni heddiw, drwy geisio ei ddiwygio, sy'n galw am roi'r arian canlyniadol llawn i Gymru? Ac onid y gwir yw bod gennym gyfaddefiad yng ngwelliant Llafur heddiw, a ninnau â Llywodraeth Lafur yn y DU erbyn hyn, y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn camu'n ôl ac na fydd yn torchi ei llewys i flaenoriaethu buddiannau gorau Cymru? Ac mae'n fater o roi buddiannau Llafur o flaen buddiannau pobl Cymru.  

Fel y ceisiais ddweud yn fy sylwadau rhagarweiniol, Rhun, arhoswch am y gyllideb cyn i chi ei chondemnio, iawn. Nawr, rwy'n credu—[Torri ar draws.] Rwy'n credu—. Fe wnaf barhau, os nad oes ots gennych, oherwydd mae angen inni edrych hefyd ar ddyfodol y gronfa ffyniant gyffredin. Mae rhai buddsoddiadau wedi digwydd yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent, lle mae yna sefydliadau'n cyflogi unigolion y bydd eu contractau'n dod i ben yn fuan. Mae angen sicrwydd arnom i wybod beth fydd yn digwydd yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae angen inni sicrhau bod olynydd i'r gronfa ffyniant gyffredin a fydd yn darparu'r cyllid y mae pobl yn dibynnu arno heddiw.

Ond hefyd—ac rwy'n cytuno gyda fy nghyfaill Mike Hedges ac eraill—mae angen gweld Ystad y Goron yn cael ei datganoli oherwydd y cyfleoedd y bydd hynny'n eu darparu i ni.

Ond nid yw'r holl bethau unigol hyn, ar eu pen eu hunain, yn ddigon da. Rhaid i'r Deyrnas Unedig, os yw'n unrhyw beth o gwbl, fod yn beiriant ailddosbarthu cyfoeth a dileu anghydraddoldeb. Dyna'r pethau sylfaenol y dylem gadw ein llygaid arnynt. Mae'r holl wahanol eitemau sydd wedi dominyddu'r ddadl hyd yn hyn y prynhawn yma yn bwysig fel pethau unigol—nid wyf yn anghytuno â hynny—ond yr hyn sydd angen inni ei weld mewn gwirionedd, a dyma beth y buaswn i'n hoffi ei weld dros y blynyddoedd nesaf, yw ailgynllunio ac ailbeiriannu strwythurau ariannol y Deyrnas Unedig. Yr hyn a welsom mewn gormod o rannau o'r Deyrnas Unedig—mae Cymru'n dioddef ohono, mae fy etholaeth i'n dioddef ohono, ond mae'n wir hefyd am rannau eraill o'r Deyrnas Unedig—yw eu bod yn dioddef o anghydraddoldeb strwythurol, lle rydym wedi gweld Dinas Llundain, o ganlyniad i bolisi yr aethpwyd ar ei drywydd ddegawd ar ôl degawd ar ôl degawd, yn dominyddu economi'r DU fel mater o bolisi. A'r hyn rwyf am ei weld yw ailddosbarthu cyfoeth sy'n cael ei greu ledled y Deyrnas Unedig, a bod y cyfoeth hwnnw'n cael ei ddosbarthu'n deg ymhlith gwledydd y Deyrnas Unedig a chymunedau'r Deyrnas Unedig. Mae angen inni weld cydraddoldeb ariannol ar draws y Deyrnas Unedig. Darren.

19:50

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. A fyddech chi hefyd yn cytuno bod angen inni weld cydraddoldeb ariannol yng Nghymru: yn lle'r holl fuddsoddiad sy'n mynd i rai rhannau o Gymru, fod lleoedd fel gogledd Cymru, sydd wedi bod ar eu colled yn sylweddol o ran buddsoddiad cyfalaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn cael eu cyfran deg hefyd?

Os oes gennych ddadansoddiad sy'n cefnogi hynny, fe wnaf eich cefnogi, ond mewn 15 mlynedd yn y lle hwn, nid wyf erioed wedi gweld y dadansoddiad sy'n dod i'r math hwnnw o gasgliad mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Dangoswch y dadansoddiad i mi, Darren, ac fe wnaf eich cefnogi, iawn. Ond nid oes gennych y dadansoddiad.

Felly, gadewch imi orffen—[Torri ar draws.] Gadewch imi orffen, gadewch imi orffen. Credaf fod angen strwythur ariannol newydd, peirianneg ariannol newydd o fewn y Deyrnas Unedig. Mae angen inni gael rhywbeth yn lle Barnett; rwy'n credu y bydd fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yn darparu'r math o gydraddoldeb yr ydym yn edrych amdano. Ond yn fwy na hynny, mae angen Teyrnas Unedig arnom sydd wedi ymrwymo'n gyfartal i bob rhan o'r Deyrnas Unedig, nad yw'n blaenoriaethu un rhan dros y llall, lle mae Cymru'n chwarae ei rhan lawn, a lle mae pawb yng Nghymru yn cael y driniaeth gyfartal â'r hyn sydd gennym mewn mannau eraill. A beth bynnag sy'n digwydd mewn un neu ddau o ddigwyddiadau ariannol unigol neu ddigwyddiadau cyllidol—cyllideb yr wythnos nesaf a chyllidebau dilynol—rwy'n gobeithio y bydd yr hyn a welwn mewn gwirionedd yn bwysicach ac yn fwy sylfaenol nag eitemau unigol ar restr siopa, ac y gwelwn Deyrnas Unedig sy'n cynhyrchu cyfoeth, sy'n ailddosbarthu cyfoeth ac sydd â'r nod o ddileu anghydraddoldeb, fel sy'n berthnasol i bob un ohonom.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, fe wneuthum wrando'n astud ar y ddadl. Bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu'r cynnig a gwelliant y Blaid Geidwadol. Mae yna agweddau ar y cynnig gwreiddiol y byddem yn cytuno â hwy, ac fe geisiaf ddychwelyd at y rheini'n ddiweddarach. Yr hyn na allwn gytuno yn ei gylch yw honiad sylfaenol y cynnig, a ailadroddwyd dro ar ôl tro gan Aelodau Plaid Cymru, nad yw ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan—dewis a gymeradwywyd mewn 27 o'r 32 etholaeth yng Nghymru—yn gwneud unrhyw wahaniaeth, a bod yr holl Gymry a wnaeth cymaint i sicrhau'r Llywodraeth honno wedi gwneud camgymeriad.

Nawr, fe ddangosaf, Ddirprwy Lywydd, fod gan y Llywodraeth Lafur hon economi wleidyddol wahanol ar y sail y mae Alun Davies eisoes wedi'i nodi, agwedd wahanol tuag at y ffordd y bydd economeg y Deyrnas Unedig o fudd i bobl ledled y Deyrnas Unedig. Nid oes gennyf ddiddordeb, fel sydd gan Luke Fletcher, mewn ymagwedd genedlaetholgar tuag at Ystad y Goron, lle na ellir gwario arian yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, hyd yn oed pan fydd hynny o fudd i bobl sydd ag anghenion y mae angen eu diwallu. Fe ddangoswn y bydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur yng Nghymru, yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Ac fe arhoswn am y gyllideb i'w weld.

Mae'r cynnig, a'r rhai sy'n ei gefnogi, yn gymysgedd o gymdeithas drafod undeb myfyrwyr—. Collais gyfrif ar y nifer o weithiau y defnyddiodd Aelodau Plaid Cymru y gair 'galw', fel pe bai grym ein llais yn bwysicach nag ansawdd ein dadl. Ac ochr yn ochr â'r dull undeb myfyrwyr o drafod, mae gennych ryw fath o ddull Mystic Meg o adeiladu cynigion ar gyfer dadl. Nid ydym yn gwybod, ac nid ydych chi'n gwybod mewn gwirionedd, beth fydd yn y gyllideb yr wythnos nesaf, ac eto mae eich cynnig yn dweud wrthym eisoes ei bod wedi gwneud cam â Chymru.

19:55

A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch. Mae'r cynnig a gyflwynwyd gerbron y Senedd heddiw yn glir iawn. Mae'n gofyn beth y mae'r bartneriaeth bŵer yn ei roi i ni yng Nghymru, beth yw'r manteision. A na, nid ydym yn gwybod beth sydd yn y gyllideb yr wythnos nesaf, ond yn sicr dylem allu gwybod beth sydd gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn set o ddisgwyliadau a wnaed i Lywodraeth y DU am y mathau o bethau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ac unigolion yng Nghymru. Dyna sydd gennym ni heddiw, ac rydym yn gweld arwydd clir iawn yng ngwelliant Llafur yma na fydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn sefyll dros bobl Cymru drwy wneud y galwadau hynny, y gofynion hynny, beth bynnag yr hoffech eu galw, i Lywodraeth y DU.

Wrth gwrs, rwy'n gwrthod hynny'n llwyr. Mewn ychydig eiliadau, fe ddof at y pethau yr ydym eisoes wedi'u dweud wrth Lywodraeth y DU. Mae yno yn y llythyr a ysgrifennais at Ganghellor y Trysorlys yn ystod yr wythnos gyntaf wedi imi ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid. Fe af i'r afael â'r materion hynny mewn munud.

Hoffwn ddweud yn syml, Lywydd, o ran gwelliant y Ceidwadwyr, ei fod yn gynnyrch amnesia cyfunol. Pwy fyddai wedi credu, wrth ddarllen y gwelliant hwnnw, fod cyllid y Deyrnas Unedig wedi bod yn eu dwylo hwy ers 14 mlynedd hir? Roeddwn yn cytuno â phopeth a oedd gan Jane Dodds i'w ddweud ar hynny. A chefais fy atgoffa yn gynharach y prynhawn yma—. Cyfeiriodd fy nghyd-Aelod y Dirprwy Brif Weinidog at Winston Churchill. Gofynnwyd i Churchill, ar ôl i'r Blaid Geidwadol gael ei threchu yn 1945, pa neges y credai fod pobl y Deyrnas Unedig wedi ei rhoi i'r Blaid Geidwadol, a dywedodd ei fod yn credu mai'r neges oedd y byddai pobl y Deyrnas Unedig yn gwerthfawrogi cyfnod hir o dawelwch ar ran y blaid honno. A phe bai'r blaid yn myfyrio—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs. Wrth gwrs. Hir —[Torri ar draws.] Fe ailadroddaf: cyfnod hir o dawelwch yw'r hyn a argymhellodd Syr Winston.

Wrth gwrs, mae'r cyfnod hir o dawelwch a gawsom gan y cyn Brif Weinidog a'r Gweinidog cyllid a'r holl Aelodau hynny yn golygu na chafwyd unrhyw feirniadaeth o fethiant y Llywodraeth Lafur i ddarparu lwfans tanwydd y gaeaf i bensiynwyr a fydd yn gweld 4,000 o bensiynwyr yn marw, yn ôl eich ffigurau eich hun. Dyna lle mae'r distawrwydd, a dyna pam y dylai fod cywilydd arnoch.

Dyna ni. Wel, Lywydd, mae arnaf ofn fy mod yn credu bod arweinydd yr wrthblaid yn tynnu sylw at ddoethineb yr hyn a oedd gan Syr Winston Churchill i'w ddweud.

Edrychwch, yr hyn rwy'n mynd i'w wneud nesaf yw rhoi amlinelliad byr o bedair ffordd allweddol y bydd Llywodraeth Lafur yn gwneud gwahaniaeth i economi'r DU ac i ragolygon economaidd Cymru.

Mae'n sicr yn un o'r pethau mwyaf cywilyddus a adawodd Jeremy Hunt ar ei ôl, pan adawodd ei gyfrifoldebau fel Canghellor y Trysorlys, fod ganddo gynllun pum mlynedd i leihau buddsoddiad cyfalaf yn economi'r DU o 2.4 y cant i 1.7 y cant o'r cynnyrch domestig gros. Ni allwch dyfu economi fel un y Deyrnas Unedig oni bai bod gennych fuddsoddiad cyhoeddus yno i dyrru buddsoddiad preifat i mewn ac i greu'r amodau ar gyfer twf. Credaf y bydd hynny'n dechrau cael ei unioni ar 30 Hydref. Fe fydd yn Llywodraeth ar gyfer buddsoddi, buddsoddiad ar gyfer twf, a bydd yr agenda honno'n gwneud gwahaniaeth enfawr i Gymru.

Yn ail, fe fydd yn Llywodraeth a fydd yn talu ei biliau. Os nad oedd gan Jeremy Hunt unrhyw syniadau ar ochr gyfalaf ei gyfrifoldebau, fe adawodd dwll du gwerth £22 biliwn ar ochr refeniw'r Llywodraeth. Rwy'n gwybod—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod—. Rwy'n gwybod eich bod chi'n meddwl os gwaeddwch chi'n ddigon uchel—

Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, Ddirprwy Lywydd, fod y twll du gwerth £22 biliwn yn ganlyniad anghyfrifol penderfyniad i leihau trethiant heb unrhyw gynllun o gwbl ar gyfer sut i ymdrin â'r canlyniadau. Ac mae £19 biliwn—£19 biliwn—o'r £22 biliwn hwnnw'n parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Nawr, rwy'n credu y bydd y Llywodraeth Lafur newydd yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny i sicrhau bod ochr refeniw cyfrifoldebau'r Llywodraeth honno'n cael eu hunioni. Ac rwy'n credu y bydd yn ei wneud yn y ffordd y mae Jane Dodds wedi awgrymu. Oherwydd mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i beidio â chodi baich trethiant ar bobl sy'n gweithio, sydd eisoes, o ganlyniad i benderfyniadau Jeremy Hunt, yn cael eu trethu ar y lefel uchaf yn y 70 mlynedd diwethaf. Bydd yn cael ei wneud drwy godi trethi ar y rhai sy'n gallu talu.

A thrydedd ffordd y mae'r Llywodraeth hon yn San Steffan, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur, mor wahanol i'r hyn sydd wedi mynd o'r blaen yw y bydd yn dechrau atgyweirio'r niwed a wnaed i'n gwasanaethau cyhoeddus. Welwch chi, i'r Blaid Geidwadol, mae gwasanaethau cyhoeddus yn foethusrwydd—dyna beth a gewch pan fyddwch chi'n gwasgu tamaid bach allan o ddifidend twf. Yr hyn y mae Llywodraeth Lafur yn ei ddeall yw nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn gynnyrch twf—rhagamod twf ydynt. Ni allwch gael twf yn yr economi oni bai bod gennych wasanaethau cyhoeddus sy'n darparu gweithlu sy'n ffit i fod mewn gwaith, a gweithlu gyda'r sgiliau angenrheidiol. Rwy'n credu y bydd y gyllideb yr wythnos nesaf yn dechrau atgyweirio niwed y 14 mlynedd o newyn yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

Ac yn olaf, mewn cyferbyniad terfynol, rheswm olaf pam y bydd pobl yng Nghymru yn gwybod pam y gwnaethant bleidleisio dros Lywodraeth Lafur, yw y bydd yn Llywodraeth Lafur a fydd yn cyflawni ein hymrwymiad ar hawliau gweithwyr. Bydd 14 mlynedd o ymosodiad y Ceidwadwyr ar yr adnodd gwerthfawr sydd gennym yn ein heconomi, y bobl sy'n gweithio ynddi, yn cael ei unioni gan y Llywodraeth Lafur, oherwydd canlyniad 14 mlynedd o ymosodiad parhaus ar hawliau gweithwyr yw bod gennym Deyrnas Unedig farwaidd. Mae symudedd cymdeithasol yn farwaidd. Mae symudiad daearyddol yn farwaidd. Mae ein heconomi wedi bod yn farwaidd ers 14 mlynedd. Pam y byddech chi, fel gweithiwr, yn cymryd y risg o symud gyda'ch teulu i ran arall o'r Deyrnas Unedig i gymryd swydd well ac i hyrwyddo twf pan fyddwch chi'n gwybod, wrth wneud hynny, y byddwch chi'n colli'r holl hawliau a gronnwyd gennych yn y gweithle lle dechreuoch chi? [Torri ar draws.]

20:00

Bydd Llywodraeth Lafur yn unioni hynny, a phan fydd yn gwneud hynny, ochr yn ochr â'r holl bethau eraill y bydd yn eu gwneud, bydd gennym lwyfan, llwyfan lle bydd Gweinidogion yma, Gweinidogion Llafur yma, wrth gwrs, yn sefyll dros ac yn ymladd drost—

—y buddiannau yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio yn erbyn y cynnig, pleidleisio yn erbyn gwelliant y Ceidwadwyr, cefnogi gwelliant Llafur, a chreu'r llwyfan hwnnw ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, rydym wedi cael ein beirniadu am ein cynnig, ac nid wyf yn deall yn iawn pam, oherwydd cynsail y ddadl hon, fel y nodais ar y dechrau, oedd ceisio dylanwadu ar y gyllideb. Nid oedd yn rhagweld, roedd yn gwneud yn siŵr, yn drawsbleidiol, o'r pethau y cytunwyd arnynt yn flaenorol, y mwyafrif ohonom yn enwedig, ein bod yn ailddatgan ein hymrwymiad fel Senedd i'r rheini fel y gallem ddylanwadu ar y gyllideb. Ac a dweud y gwir, fe glywsom amddiffyniad cadarn o gyllideb nad ydym wedi'i gweld. Dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf nad yw'n gwybod beth fydd yn y gyllideb sydd i ddod. Felly beth yw hi am fod? A ydych chi, erbyn hyn, yn gwybod beth fydd ynddi ac felly, fod gennych yr amddiffyniad cadarn hwn? Nid oeddem yn beirniadu cyllideb nad ydym wedi'i gweld—rydym yn ceisio dylanwadu arni. A'r hyn rydym am fod yn glir yn ei gylch yma yw beth yw gofynion, galwadau, Llywodraeth Cymru a'u sylwedd. A gofynnais nifer o gwestiynau ynghylch pam y mae rhai pethau wedi cael eu dileu o'r gwelliant. Gofynnais a oedd y rhain yn dal i fod yn ymrwymiad i chi fel Llywodraeth Cymru. Ni chefais ymateb. Ymddengys mai araith a ysgrifennwyd gan 10 Stryd Downing oedd hi, yn rhoi'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn ei lle. [Torri ar draws.]

Gan imi ofyn am dawelwch i Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n deg hefyd ein bod yn cael tawelwch ar gyfer yr ymateb.

Fe wnaethoch chi siarad am y pleidleiswyr a bleidleisiodd dros newid ychydig fisoedd yn ôl. Fe wnaethant bleidleisio dros newid er gwell, nid newid er gwaeth. Ac rwy'n siŵr y byddent yn hoffi ein gweld yn sefyll yn unedig dros ein cymunedau, gan dynnu sylw at unrhyw bolisïau creulon sy'n mynd i effeithio'n uniongyrchol arnynt. Er fy mod yn croesawu rhai o'r sylwadau a wnaed gan Peter Fox yn ei gyfraniad, mae'n rhaid i minnau hefyd ddweud ei fod yn dipyn o dro pedol ar ôl yr etholiad. Rwy'n eich cofio'n dweud, Peter, ychydig fisoedd yn ôl, fod gennym ddigon o arian yma yng Nghymru. Beth yw hi am fod? Ac rwy'n credu bod angen inni weithio'n drawsbleidiol yma i sicrhau ein bod yn gwasanaethu pobl Cymru. Wedi'r cyfan, rydym i gyd yn gweld effaith ddinistriol cyni. A'r ffaith bod—. Mae Alun Davies yn beirniadu cyni, tra bo Llywodraeth Lafur y DU yn parhau â chyni gyda'r polisïau, ac mae hyn yn rhywbeth y dylem i gyd dynnu sylw ato'n unedig. Mae pobl Cymru wedi cael digon o esgusodion, yr oedi, y troeon pedol. Maent yn crefu am Lywodraeth Cymru sy'n gallu gwneud yn well na'r disgwyl a dwyn eu partneriaid yn San Steffan i gyfrif, i ddangos bod ganddi bŵer gwirioneddol yn y bartneriaeth hon.

Nid ydym wedi gweld y llythyr a ysgrifennwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet at y Canghellor. Nid ydym yn gwybod beth yw'r galwadau hynny. Felly, mae'n rhaid inni dderbyn ar ei olwg fod y gwelliant hwn yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Un peth y gofynnais yn glir yn ei gylch oedd am gyllid HS2, ac rwy'n hapus i dderbyn ymyriad yma. Beth yw galwadau Llywodraeth Cymru? A yw'n gofyn am ymrwymiad i drafodaethau pellach am gyllid mewn perthynas â HS2? Ymrwymiad i drafod ymhellach—onid yw'r amser i siarad ar ben? Mae'n bryd darparu'r hyn sy'n ddyledus i Gymru. Dim ymyriad—iawn.

Felly, drwy gefnogi'r cynnig hwn, fe allwn, yn drawsbleidiol, anfon neges gref at Lywodraeth Lafur y DU na ellir cymryd Cymru'n ganiataol. Mae hyn yn ymwneud â dylanwadu ar gyllideb yr wythnos nesaf. Mae'n ymwneud â thegwch i bobl Cymru. Dylem fod yn unedig wrth sefyll dros bawb a gynrychiolwn. Mae'r ffaith nad yw Llafur am gondemnio parhad y cap dau blentyn ar fudd-daliadau, ac wedi dileu o'n cynnig yr hyn a fydd yn digwydd i bensiynwyr yma yng Nghymru, nid yn unig yn siomedig, mae'n syfrdanol, ac mor bell o'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru amdano pan wnaethant bleidleisio dros newid.

Felly, os gwelwch yn dda, a gawn ni roi pobl Cymru a'r rhai a gynrychiolwn yn gyntaf, yn lle rhoi plaid o flaen pobl, na phlaid o flaen Cymru? Cawn ein hethol i'r Senedd hon. Dylem wrando ar bobl Cymru, nid ar feistri'r Llywodraeth Lafur sydd yn Llundain.

20:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, symudwn yn syth i’r cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, mae’r bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 5, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—cymorth i farw. Galwaf ar bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie Morgan. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 19, naw yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cymorth i farw: O blaid: 19, Yn erbyn: 26, Ymatal: 9

Gwrthodwyd y cynnig

Mae’r bleidlais nesaf ar eitem 8, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

20:10

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Cyllideb Llywodraeth y DU. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 12, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, 10 yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Cyllideb Llywodraeth y DU. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 15, Yn erbyn: 29, Ymatal: 10

Gwrthodwyd y gwelliant

Nesaf, galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, 27 o blaid, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.  

Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Cyllideb Llywodraeth y DU. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gan nad yw'r Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, caiff y cynnig, felly, ei wrthod. 

Daw hynny â'r pleidleisio i ben am heddiw. Os gwelwch yn dda, gadewch yn dawel gan fod y ddadl fer ar fin dechrau. 

10. Dadl Fer: Economi Cymru: Problemau strwythurol a'u cywiro

Symudwn nawr at y ddadl fer, a galwaf ar Mike Hedges i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Mike. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud i Tom Giffard.

Mae economi Cymru yn perfformio'n wael o'i gymharu â gweddill Prydain ac wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer. Roedd gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn 2021 yn £22,380, sef 74.1 y cant o ffigur y DU, yr ail isaf o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Llundain oedd â'r gwerth ychwanegol gros uchaf y pen, sef £54,686, a oedd yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU. Mae'r ffigurau hyn yn amlygu'r anghyfartaledd economaidd, gyda Llundain yn llawer cyfoethocach na'r rhannau eraill.

Gellir priodoli'r gwahaniaethau economaidd rhwng rhanbarthau, fel y rhai a welwyd yng ngwerth ychwanegol gros y pen y DU, i amrywiaeth o ffactorau: strwythur diwydiannol, lefelau buddsoddi, sgiliau'r gweithlu, polisi economaidd a ffactorau daearyddol. Ond mae datblygu band eang cyflym yn lleihau'r angen am agosrwydd at farchnadoedd i lawer o feysydd o'r economi. Mae gan Gymru gyfran uwch o'i phoblogaeth yn gweithio ym maes gweithgynhyrchu, gweinyddiaeth gyhoeddus, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota na naill ai'r DU gyfan neu dde-ddwyrain Lloegr. Mae gan Gymru gyfran lai o'i gweithlu mewn TGCh, eiddo tirol, gwasanaethau gweinyddol a chymorth, gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, y celfyddydau ac adloniant ac yn hollbwysig, gwyddorau bywyd na naill ai'r DU gyfan neu dde-ddwyrain Lloegr. Mae hyn yn nodi lle mae ein problemau gyda'n heconomi. Ceir prinder cyflogaeth mewn sectorau cyflog uwch fel TGCh a gwyddorau bywyd, a dyna un o brif achosion ein cynnyrch domestig gros a'n gwerth ychwanegol gros isel.

Mae'r rhanbarthau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop wedi'u lleoli o amgylch prifddinasoedd, ac mae hynny hefyd yn wir am Gymru, a'r ardal o amgylch Caerdydd yw'r fwyaf llwyddiannus. Ond nid yw'r llwyddiant hwn yn mynd mor bell â chymoedd Morgannwg a Gwent sy'n rhan o ddinas-ranbarth Caerdydd na chyn belled ag Abertawe. Y tu allan i brifddinasoedd mae rhanbarthau llwyddiannus o fewn ac o amgylch dinasoedd fel Hamburg, Bafaria, a Salzburg. Ym mhob un o'r tair, mae gwyddorau bywyd a TGCh, trwy fewnfuddsoddiad ac yn bwysicach fyth, cwmnïau sy'n tyfu gyda chefnogaeth gan brifysgolion, yn rhan fawr o'u heconomi. Maent wedi penderfynu mai eu hallwedd yw gwyddorau bywyd a TGCh. Nid ydym erioed wedi gwneud hynny. Rwy'n dal i ofyn amdano, ond nid ydym erioed wedi gwneud hynny. Ac os edrychwch chi ar economïau llwyddiannus ledled Ewrop, dyna'r ddau ffactor ysgogol. Gallwn siarad am Iwerddon, ond mae Iwerddon hyd yn oed yn fwy cymhleth oherwydd y ffordd y maent yn ymdrin â threthiant a phencadlysoedd. Ond yn gyffredinol, dyna'r ddau ddiwydiant sy'n gyrru economïau mewn gwirionedd.

O'r 1940au i'r 1970au, cyfeiriodd Llywodraethau Prydeinig fusnesau gweithgynhyrchu tuag at ranbarthau ymylol a ddynodwyd fel rhai sydd angen mwy o gyflogaeth. Yn y 1930au, cawsom ystad ddiwydiannol Trefforest. Cawsom lawer o bethau yn dod i mewn i Gymru, ond gwelwyd y polisi rhanbarthol mwyaf llwyddiannus gan y Llywodraeth yn y 1960au, pan ddaeth ag amryw o gyrff Llywodraeth i Gymru, megis y Bathdy Brenhinol i Lantrisant, Tŷ'r Cwmnïau i Gaerdydd, y Swyddfa Ystadegau Gwladol i Gasnewydd a'r Ganolfan Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau i Abertawe. Mae'r DVLC bellach wedi dod yn brif gyflogwr nad yw'n gysylltiedig ag awdurdod lleol na iechyd yng ngorllewin Morgannwg gyfan, a Tata Steel a arferai fod â'r rôl honno, ond yn anffodus, oherwydd newidiadau sy'n digwydd yno, rydym bellach yn ddibynnol iawn ar yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.

Ar ddechrau'r 1980au, crëwyd ardaloedd menter gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan er mwyn ysgogi'r economi. Roedd gan Gymru dair ardal o'r fath, yn Aberdaugleddau, Delyn a'r fwyaf ym Mhrydain yn Abertawe. I ddechrau, cafodd manwerthu ei eithrio o ardaloedd menter, ond mewn llawer, gan gynnwys Abertawe, daeth yn rhan sylweddol o'r ardal. Ac fel y gŵyr y Gweinidog, yn Abertawe, defnyddir y term 'ardal fenter' ar gyfer 'canolfan siopa y tu allan i'r ddinas'. Eu pwrpas oedd ysgogi gweithgarwch economaidd y sector preifat, a thrwy hynny greu cyflogaeth mewn ardaloedd llai cefnog. Nododd adroddiad y Sefydliad Gwaith fod 80 y cant o'r swyddi sy'n cael eu creu mewn ardaloedd menter yn cael eu dadleoli o lefydd eraill; byrhoedlog yw'r ffyniant a ddaw yn eu sgil; ac mae pob swydd yn costio £23,000 i'w chreu. Awgrymwyd bod llawer o'r swyddi newydd wedi cael eu dadleoli o'r un dref neu ddinas, ac yn eithaf aml mewn gwirionedd, o ystad ddiwydiannol gerllaw. 

Yng nghyllideb 2011, crëwyd rownd newydd o ardaloedd menter. Dilynodd Cymru yn gyflym, gan sefydlu ardaloedd menter ledled Cymru. Er bod ardal fenter Canol Caerdydd ac ardal fenter Glannau Dyfrdwy wedi bod yn llwyddiannus, ar ôl cael eu lleoli mewn ardaloedd twf, mae'r ardaloedd eraill wedi bod yn llawer llai llwyddiannus, ac rwy'n credu bod angen adolygu i weld a ydym yn cael budd economaidd o'r ardaloedd menter eraill mewn gwirionedd. Buaswn i'n dweud, 'na'. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn dweud ein bod. Ond os edrychwch chi ar nifer y swyddi sy'n cael eu creu yn yr ardaloedd menter hynny, maent yn druenus o fach.

Sefydlwyd Awdurdod Datblygu Cymru ym 1976, i wella economi Cymru drwy annog datblygu busnes a buddsoddiad yng Nghymru, clirio mannau a ddefnyddid yn flaenorol ar gyfer diwydiant, a gwella'r amgylchedd. Dyna rai o'r nodau, a chafodd lawer o glod yn ôl yn y 1970au a'r 1980au. Fe wnaeth ddenu, sicrhau a diogelu mewnfuddsoddiad gan gwmnïau mawr fel Ford, Bosch, Panasonic, Sony, Hoover, TRW, Alwminiwm Môn, Toyota a British Airways. Y cwestiwn yw: faint ohonynt sydd yma o hyd?

Ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn un o'r pethau am ein mewnfuddsoddiad: maent yn dod, maent yn cymryd, maent yn mynd. Ac i mi, mae hynny'n achos pryder difrifol. Mae'n costio llawer o arian i ni yn y tymor byr i ddenu'r cwmnïau hyn ac rydym yn teimlo'n falch iawn, ac mae pawb yn mynd i gael tynnu ei lun yn yr agoriad, ac yna, mae'n cau'n gyflym iawn. Hynny yw, Bosch yw'r enghraifft glasurol, ac rwy'n credu bod Bosch wedi agor a chau yn ystod yr amser y bûm yn Aelod yma. Ni allwch fod yn economi lwyddiannus ar ffatrïoedd cangen. A'r rhai a oroesodd, a yw'r lefelau cyflogaeth yn agos at yr hyn a addawyd neu'r hyn a gyflawnwyd ar y dechrau?

Roedd gennym gwmnïau gwasanaethau ariannol hefyd fel Legal & General a Lloyds Bank. Ac nid ydym erioed wedi bod yn dda iawn am eu cael mewn niferoedd mawr. Yr un llwyddiant mawr, y cynorthwyodd Cyngor Sir De Morgannwg ac Awdurdod Datblygu Cymru i'w sefydlu, yw Admiral Insurance, sydd bellach yn gwmni FTSE 100 ac yn un o'r ychydig lwyddiannau mawr a ddechreuodd yng Nghymru. Rwy'n credu bod gwir angen inni weld sut y gallwn greu mwy o Admiral Insurances, oherwydd mae hynny'n bwysig iawn i ni. Mae'n rhywbeth a ddechreuodd yma, ac nid yn unig ei fod wedi dechrau yma, fe wnaeth nifer o gwmnïau eraill ymsefydlu ohono, fel nad Admiral Insurance yn unig ydyw, ond rhai o'r cwmnïau eraill sydd wedi deillio ohono a hefyd wedi dod yn llwyddiannus iawn.

Technium oedd yr enw brand ar gynllun deori busnes yng Nghymru. Roedd y cynllun yn darparu gofod swyddfa i denantiaid, cymorth busnes, cysylltiadau telathrebu cyflym a chyllid menter. Datblygwyd y cysyniad yn wreiddiol gan bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe ac Awdurdod Datblygu Cymru, a adeiladodd ganolfan arloesi. Arweiniodd y prosiect hwn at adeiladu'r adeilad technium cyntaf, cyfleuster i gartrefu technoleg gyffredinol. Mae llwyddiannau wedi bod o raglen technium Abertawe, ac mae cwmnïau'n dal yno, ac mae cwmnïau'n dal i ddatblygu yno ac mae cyflogaeth yn cael ei datblygu yno. Ond yr hyn a ddysgwyd gennym oedd bod brandio pob ffatri uwch yng Nghymru fel technium yn sicr o fethu; ffatrïoedd uwch dan enw arall oeddent, dyna i gyd.

Mae'r model lle mae'r Llywodraeth, y byd academaidd a diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i greu economi arloesi fywiog yn un o'r grealau sanctaidd i wneuthurwyr polisi ledled y byd, ac mae wedi gweithio'n dda mewn nifer o leoedd. Rwy'n meddwl am Gaergrawnt, ond hefyd o gwmpas Bryste, ac o gwmpas Leamington Spa. Dyma lle mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ac mae wedi cael ei ysgogi gan y prifysgolion a'i gefnogi gan y Llywodraeth, nid ei redeg fel cynllun Llywodraeth. Yr allwedd yw cefnogaeth a chymorth prifysgol.

Yr arloesedd diweddaraf oedd rhaglen Sêr Cymru, a gynlluniwyd i adeiladu sylfaen ymchwil wyddonol gref a deinamig yng Nghymru. Mae cam 4 y rhaglen bellach yn canolbwyntio ar ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a datblygu datblygiadau arloesol i helpu i ddatrys yr heriau economaidd-gymdeithasol sy'n wynebu Cymru. Mae rhaglen Sêr wedi addasu i gyd-fynd â datblygiadau ymchwil newidiol ac ysgogwyr arloesi, sydd, yn eu tro, wedi ymateb i faterion economaidd ac iechyd.

Gwyddom nad yw economi Cymru yn gwneud cystal nag economi Prydain. Un datblygiad yr hoffwn dynnu sylw ato, ac a gefnogaf yn fawr, yw M-SParc yn ardal Bangor. Rhan o Brifysgol Bangor ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, neu M-SParc, yw lle mae cwmnïau cyffrous a blaengar yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg, yn enwedig sectorau carbon isel, digidol a gwyddorau bywyd, yn ymgartrefu ac yn derbyn cymorth i ddatblygu eu busnesau. Y peth i'w nodi am hyn yw ei fod wedi deillio o Brifysgol Bangor; nid cynllun Llywodraeth ydoedd. Cafodd gefnogaeth y Llywodraeth, a daeth cyn Weinidog y Llywodraeth yn bennaeth arno ar un adeg, ond câi ei gefnogi gan y Llywodraeth, a'i yrru gan y brifysgol, yn hytrach na bod y Llywodraeth wedi penderfynu cael adeilad yno a dweud, 'Mae hyn yn mynd i weithio', oherwydd ni wnaiff; mae angen cefnogaeth y brifysgol.

Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn gefnogol iawn iddo, gyda chydweithrediad diwydiannol, gan ddarparu cyfleoedd i raddedigion ac i bobl sydd wedi'u tangyflogi neu sy'n dymuno uwchsgilio a'r rhai sydd eisiau newid gyrfa. Mae'n dechrau gwneud gwahaniaeth i fyny yng ngogledd-orllewin Cymru. Dim ond datblygiad bach ydyw, ond rwy'n credu bod yn rhaid iddo dyfu'n organig. Y peth gwaethaf y gallem ni ei wneud yw pe bai Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn dweud, 'Mae M-SParc yn mynd yn dda iawn; os awn i adeiladu dau adeilad arall iddynt a dweud wrthynt y gallant gael rhywfaint o arian, maent yn siŵr o dyfu ddwy neu dair gwaith mor gyflym.' Mae'n rhaid iddo dyfu'n organig. Dyna sut y mae llwyddiant yn digwydd. Nid yw'n digwydd am fod rhywun yn dweud, 'Mae gennym syniad gwych. Mae hyn yn sicr o weithio.'

Mae'r academi sgiliau yn M-SParc wedi'i hadeiladu i bontio'r bwlch sgiliau yng ngogledd Cymru, yn enwedig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg ddigidol a'r meysydd creadigol, gan ddarparu cyfleoedd gan gynnwys gradd-brentisiaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gyrfa. M-SParc yw'r ecosystem sy'n dod â'r byd academaidd, busnes, diwydiant a menter at ei gilydd. Anogir myfyrwyr Prifysgol Bangor i ymgymryd â lleoliadau gwaith ac interniaethau yno, gyda'u tenantiaid, ac mae dros 70 y cant o interniaethau'n dod yn yrfaoedd yn M-SParc. Felly, mae gennych chi'r brifysgol, mae'r brifysgol yn cynhyrchu graddedigion, maent yn mynd i weithio yn M-SParc, ar ôl mynd trwy interniaethau yno. Mae hwnnw'n gylch rhinweddol.

Fel y dywedais yn gynharach, gwyddom fod gan Gymru lawer llai na'i chyfran o'r boblogaeth o'i gweithlu mewn TGCh, gwyddorau bywyd, gweithgareddau eiddo tirol, gwasanaethau gweinyddol a chymorth, gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, y celfyddydau ac adloniant na naill ai'r DU gyfan neu dde-ddwyrain Lloegr. Mae gan economïau llwyddiannus gymysgedd o fewnfuddsoddiad gan gwmnïau rhyngwladol a chwmnïau a ddatblygwyd yn lleol. Yr hyn rydych chi ei eisiau mewn gwirionedd, serch hynny, os gallwch chi gael mewnfuddsoddiad, rydych chi am fod yn ganolfan ranbarthol iddynt, nid yn ffatri gangen. Rwy'n credu mai dyna y mae Salzburg wedi'i wneud a'r hyn y mae Hamburg wedi'i wneud, a Cork a Dulyn yn fwy o lawer. Maent wedi dod yn ganolfan ranbarthol—y 'rhanbarth' yw Ewrop—yn hytrach na bod yn fath o ffatri gangen, sef y lle hawsaf i'w gau.

Mae prifysgolion mawr yn bwysig iawn i ddatblygu'r economi. Mae meysydd twf allweddol gwyddorau bywyd a TGCh yn bwysig i economïau llwyddiannus. Nid yw parhau i chwilio am ateb i bob dim o ran datblygu economaidd wedi gweithio. Cafwyd llwyddiannau a methiannau gyda phob strategaeth, ond dim digon o lwyddiannau, ar wahân i adleoli adrannau ac asiantaethau'r Llywodraeth. Mae angen inni ddysgu o lwyddiannau fel Admiral yng Nghymru a llwyddiannau mewn rhannau eraill o Ewrop. Rwy'n credu mai un o'r problemau sydd gennym yw nad ydym yn dda iawn am ddysgu o leoedd eraill yn Ewrop. Credwn ein bod yn Gymry/Prydeinwyr a'n bod yn wahanol. Os yw'n gweithio yn Salzburg, os yw'n gweithio yn Hamburg, pam na fyddai'n gweithio yma? Nid yw adeiladu ffatrïoedd uwch a hyd yn oed rhoi enw newydd iddynt yn gweithio.

Rwy'n galw am bum cam allweddol: llunio strategaeth i gynyddu cyflogaeth TGCh a gwyddorau bywyd yng Nghymru drwy fewnfuddsoddiad a thyfu a chreu cwmnïau o Gymru; trafod adleoli gwasanaethau Llywodraeth San Steffan i Gymru gyda Llywodraeth Cymru; cynnal uwchgynhadledd a chynllun gweithredu i ddilyn gyda'r prifysgolion yng Nghymru ar ddatblygu cwmnïau o ymchwil prifysgol; gosod targed y bydd cynnyrch domestig gros Cymru, bob blwyddyn, yn cynyddu 1 y cant o'i gymharu â'r DU. Mewn 25 mlynedd, byddwn ar 100 y cant ohono. Mae'n hawdd dweud y gallwn fynd yn gyflymach na hynny, ond mae hwnnw'n gyfeiriad go iawn. Y peth olaf yw bod angen inni sicrhau bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd ac nad oes neb yn ceisio dweud wrth y datblygwyr, neb yn ceisio dweud wrth y prifysgolion beth i'w wneud, mae'n rhaid ichi gael eu cefnogaeth. Mae'n ddrwg gennyf, Tom, draw atoch chi.

20:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Mike am ddod â'r ddadl hon i lawr y Senedd ar faterion strwythurol yn economi Cymru, ac am ei asesiad di-flewyn-ar-dafod arferol o'r economi yma yng Nghymru. Roeddwn eisiau defnyddio fy munud i gyflwyno'r achos dros ein system gynllunio, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth y gwyddom ei bod yn dal twf economaidd yn ôl yn y wlad hon. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwneud synau ynglŷn â gweithio yn y gofod hwn. Y ddau beth mwyaf y credaf eu bod yn ein dal yn ôl yw tai a thrafnidiaeth. I ormod o bobl fy oedran i ac iau, mae tai yn ddyhead nid yn realiti. Rydym yn gwybod bod y system gynllunio yn feichus, mae'n cymryd llawer o amser, ac yn ychwanegu treuliau, nad oes angen iddynt fod yno mewn nifer o achosion, at y gost o brynu cartref.

Yna'n ail, i edrych ar drafnidiaeth a drafodwyd yn helaeth gennym yn y Siambr hon, gan gynnwys heddiw ar HS2, dim ond i weld cymdogion Ewropeaidd fel Ffrainc a'r Eidal ac eraill yn adeiladu seilwaith rheilffyrdd cyflym am ffracsiwn o'r gost rydym ni'n ei wneud yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn hefyd oherwydd ein system gynllunio. Felly, rwy'n croesawu'r geiriau cynnes gan y Llywodraeth Lafur yn y gofod hwn ar lefel y DU, ac rwy'n gobeithio mai'r ymateb i hynny fydd gweithredu a'r realiti rydym yn ei haeddu, oherwydd gwyddom ein bod yn fwriadol, os mynnwch, yn cael ein dal yn ôl gan y cyfyngiadau a osodwn arnom ein hunain o ganlyniad i'n system gynllunio.

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.

Diolch, a diolch hefyd i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon heddiw, ond hefyd am y darnau sy'n ysgogi'r meddwl y mae'n eu cynhyrchu'n rheolaidd hefyd. A diolch i Tom am ei gyfraniad mewn perthynas â chynllunio.

Wrth gwrs, mae'r economi yn cyffwrdd â phob rhan o'n bywydau, ac mae gennym lawer o ddulliau at ein defnydd ar draws y Llywodraeth mewn meysydd fel cyllid, sgiliau, addysg, caffael, cymorth economaidd, trafnidiaeth, iechyd, a chynllunio, wrth gwrs, yr ydym am eu defnyddio'n llawn i helpu i greu economi fwy bywiog a chenedl lewyrchus. Byddwn yn gweithio ar draws y Cabinet, ond hefyd yn allweddol gyda phartneriaid ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus, undebau llafur, y byd academaidd, a Llywodraeth y DU wrth gwrs, i edrych ar sut y gallwn barhau i greu'r amgylchedd sydd ei angen arnom ar gyfer twf economaidd.

Rydym wedi wynebu heriau parhaus i gyllid cyhoeddus a buddsoddiad, ac mae mesurau cyni y blynyddoedd diwethaf wedi cyfyngu ar gyllid cyhoeddus ac wedi rhwystro ein gallu i fuddsoddi mewn seilwaith a rhaglenni cymorth hanfodol. Fodd bynnag, rydym wedi gallu gweithio ar y cyd i ddatblygu ein cenhadaeth economaidd i nodi ffordd ymlaen gymhellol ag iddi ffocws i ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael inni.

Mae gwaith bellach wedi dechrau ar adolygiad o wariant Llywodraeth Cymru. Mae hwnnw'n ymarfer a fydd yn ystyried y cynlluniau cyllidol mwy hirdymor i Gymru. Gan ymestyn y tu hwnt i'r cyfnod cyllidebol nesaf, dyma gyfle i edrych ar yr holl ddulliau cyllidol sydd gennym ar gael i ni, ond ni ellir tanamcangyfrif maint y dasg honno. Bydd y newid o'r penderfyniadau tactegol tymor byr a'r ymatebion i argyfwng a fu'n angenrheidiol dros y blynyddoedd diwethaf, tuag at y cynllunio strategol hirdymor hwnnw drwy lens fwy ataliol, yn sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau gwariant mwyaf effeithiol o fewn yr hinsawdd gyllidol heriol sydd o'n blaenau.

Mae'r economi fyd-eang yn parhau i newid, ac mae'n rhaid inni groesawu'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn. Mae angen inni edrych ar ddiwydiannau'r presennol, ond hefyd y dyfodol, er mwyn sicrhau bod gennym y swyddi, y sgiliau, y seilwaith cywir ar waith, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle gorau i fyw a gweithio ynddo. Byddwn yn dangos ein bod o blaid busnes ac o blaid y gweithiwr, gan adeiladu ar ein henw da a'n hymrwymiad i waith teg a llesiant.

Roeddwn yn croesawu'r papur ymchwil meddylgar a gyhoeddodd Mike Hedges ym mis Awst yn fawr, a chlywsom rywfaint o hynny yn y ddadl heno, yn enwedig yr argymhellion ar y diwedd. Enw'r papur oedd 'The Welsh Economy and Improving GVA'. Rwy'n llwyr gydnabod rhai o'r heriau sy'n ymwneud â thwf economaidd, ond rwyf hefyd yn croesawu'r ystyriaeth o atebion posibl yn y papur, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â gwyddorau bywyd a'r economi ddigidol. Mae gennym gyfleoedd pwysig i ystyried sut y gall y meysydd hyn helpu i dyfu'r economi, a byddwn yn parhau i ddefnyddio ein cryfderau rhanbarthol i ffocysu ein dull o weithredu ar dwf economaidd.

O ran cynnyrch domestig gros, nid ydym yn cael amcangyfrifon chwarterol ar gyfer Cymru ar hyn o bryd; maent wedi cael eu hoedi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ers dros flwyddyn bellach. Felly, daw'r data diweddaraf sydd gennym o fis Ebrill eleni, sy'n dangos, yn 2022, fod twf economaidd fesul person yng Nghymru yn debyg ar y cyfan i weddill y DU, ac mae hynny'n adlewyrchu'r integreiddio agos rhwng yr economi yng Nghymru a gweddill y DU. Mae twf blynyddol Cymru mewn cynnyrch domestig gros gwirioneddol y pen yn perfformio'n well na swydd Efrog a Humber, Gogledd Iwerddon, gorllewin canolbarth Lloegr a dwyrain canolbarth Lloegr, ond rwyf am bwysleisio mai dim ond un dimensiwn o berfformiad economaidd yw allbwn economaidd. Ac ar fesurau fel incwm aelwydydd, a allai fod yn fesur gwell o les economaidd, mae Cymru'n llawer agosach at weddill y DU mewn gwirionedd.

Mewn perthynas â thwf economaidd, mae gennym gyfleoedd i gryfhau darpariaeth yn y dyfodol, ond i wneud hynny mewn partneriaeth. Mae Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU ar y strategaeth ddiwydiannol, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn cyfeirio at wyth sector twf, ac mae'n gynllun 10 mlynedd sy'n cynnig y sicrwydd a'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar fusnesau i fuddsoddi er mwyn hybu twf economaidd. Felly, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill ar nifer o faterion cymhleth sy'n rhwystrau i fuddsoddiad ar draws yr wyth sector blaenoriaeth. Mae'r rheini'n cynnwys meysydd fel sgiliau, recriwtio talent, data, ymchwil a datblygu, mabwysiadu technoleg, mynediad at gyllid, cystadleuaeth, rheoleiddio, prisiau ynni, cysylltiadau grid, seilwaith a chynllunio wrth gwrs, a'r cyfan drwy lens hyrwyddo buddsoddiad. 

Byddwn hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i ystyried creu a thyfu swyddi pellach ar draws y strategaeth ddiwydiannol, a bydd hynny'n ystyried lle gallwn barhau i dyfu sylfaen ar gyfer creu swyddi'r sector cyhoeddus ar draws sectorau sy'n datblygu a nodir ar draws yr wyth maes blaenoriaeth hynny. Ac mae gennym gryfderau sector sylweddol iawn yng Nghymru eisoes. Er enghraifft, mae ein gwyddorau bywyd yn gwbl allweddol ar gyfer twf economaidd ac i sicrhau gwell canlyniadau i gleifion, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Mike am gydnabod hynny, yn y papur ac yn y ddadl heddiw hefyd.

Yn ystod y cyfnod 2021-22, cyflogodd y sector hwn fwy na 13,000 o bobl dros 300 o gwmnïau, yn amrywio o BBaChau a busnesau newydd i gwmnïau mawr o'r radd flaenaf, gyda throsiant bras o £2.8 biliwn. Gall y cyfleoedd sgiliau a recriwtio mewn cwmnïau gwyddor bywyd ddarparu cyfleoedd rhannu gradd-brentisiaethau, a hefyd, gall cydlynu gweithgareddau helpu i adeiladu ar ein dull o ymdrin â'r economi sylfaenol. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r Swyddfa Gwyddorau Bywyd i benderfynu sut y gallwn ganolbwyntio ar dwf, a byddwn hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddod â mwy o fuddsoddiad i mewn.

O ran digidol a thechnolegau, mae ein strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru wedi'i hanelu at unrhyw un sy'n creu, dylunio, darparu neu ddefnyddio offer a gwasanaethau digidol. Rydym am ddefnyddio'r cyfleoedd y gall technoleg eu cynnig, lle rwyf wedi sefydlu adolygiad tymor byr, er enghraifft, i edrych ar ddeallusrwydd artiffisial, i weld ble y gallwn harneisio'r effaith ac edrych ar y cyfleoedd economaidd, ac mae hynny'n mynd i ddechrau yn yr hydref.

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn sectorau penodol. Er enghraifft, mae ein cynllun gweithredu sector seiber yn cynnwys buddsoddiadau a phartneriaethau ar draws y byd academaidd a diwydiant, ac mae ein sector wedi'i seilio ar gymuned fenter fach a chanolig fywiog, a chlystyrau rhagoriaeth seiber, gyda chysylltiadau clir rhwng cwmnïau rhyngwladol, y byd academaidd, BBaChau a'r Llywodraeth. Mae'r ecosystem sydd gennym yng Nghymru yn helpu i wneud defnydd o'n talent cartref, gan ddod â syniadau ffres a ffyrdd newydd o feddwl i'r farchnad, ac mae'n cefnogi ein busnesau bach a chanolig i ffynnu.

Rydym hefyd wedi rhoi datblygu diwylliant o arloesi wrth wraidd popeth a wnawn drwy ein strategaeth arloesi ar gyfer Cymru. Gwyddom fod ysgolion, colegau, prifysgolion a sefydliadau ymchwil yn creu gwybodaeth trwy ymchwil, a bod ymchwil yn gallu arwain at fasnacheiddio, creu gwerth cymdeithasol a chefnogi economi gryfach. Felly, rwy'n awyddus iawn i archwilio ac ystyried sut i harneisio manteision economaidd hynny i Gymru. Rwy'n credu bod Mike wedi cyfeirio ato fel y greal sanctaidd, ac felly rydym yn mynd i fynd ar drywydd y greal sanctaidd hwnnw, a chan gydnabod, fel y dywedodd Mike, fod yn rhaid iddo gael ei arwain gan y brifysgol mewn sawl ffordd, ac yn sicr, mae angen arweinyddiaeth a chefnogaeth prifysgol.

Mae grwpiau ymchwil yn y sectorau academaidd, preifat a chyhoeddus wedi bod yn ddibynnol ar gronfeydd strwythurol yr UE i gefnogi gweithgareddau ymchwil ac arloesi. Mae angen pontio i ffynonellau cyllid amgen, gan gynnwys Llywodraeth y DU, Ymchwil ac Arloesi y DU, elusennau a busnesau. Felly, byddwn yn ffocysu ar ddull strategol sy'n canolbwyntio ar feysydd cryfder sy'n fwriadol ac yn rhyngwladol gystadleuol ac yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau.

Maes hanfodol i seilwaith yw'r bwlch sgiliau yn ein gweithlu. Wrth inni symud tuag at economi sy'n seiliedig ar wybodaeth, mae'r galw am lafur medrus yn cynyddu, ac mae angen inni fuddsoddi mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol sy'n cyd-fynd ag anghenion ein heconomi. Drwy feithrin diwylliant o ddysgu gydol oes, gallwn rymuso ein gweithlu a'u paratoi ar gyfer swyddi'r dyfodol. Felly mae ein cynllun gweithredu cyflogadwyedd a sgiliau, cynllun gweithredu sgiliau sero net a datganiadau polisi prentisiaethau yn rhoi'r fframwaith polisi cryf hwn i ni, ac rydym eisoes wedi cymryd camau i greu dau borth cyngor a chyfeirio cenedlaethol i alluogi mynediad at gymorth drwy Cymru'n Gweithio i unigolion a thrwy Busnes Cymru i fusnesau.

Rydym wedi cyflawni ein hymrwymiadau i greu gwarant i bobl ifanc ac wedi lansio ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, ac rydym hefyd yn gwella'r system addysg alwedigaethol a'r system addysg uwch trwy greu corff trydyddol newydd, Medr, gyda chyllideb o £900 miliwn, ac wrth gwrs rydym wedi cyflwyno ein rheoleiddiwr cymwysterau ein hunain i sicrhau bod cymwysterau'n ystwyth a hefyd yn berthnasol i anghenion cyflogwyr yng Nghymru.

Gallwn barhau i ddarparu twf a datblygu seilwaith mewn ffordd unigryw Gymreig drwy bartneriaeth. Mae'n sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn gwneud busnes a gwyddom fod arweinyddiaeth wedi'i gwreiddio'n lleol yn bwysig oherwydd mae'n golygu bod penderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau yn cael eu llywio gan flaenoriaethau rhanbarthol a lleol.

Un o'r problemau strwythurol mwyaf sy'n ein hwynebu yw anghydraddoldeb rhanbarthol, felly mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwnnw trwy feithrin datblygu economaidd ym mhob rhanbarth, gan sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl. Mae ein fframweithiau economaidd rhanbarthol yn helpu i ddod â phartneriaid ynghyd i gytuno ar ddull clir, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu perthynas gydweithredol â'r bargeinion dinesig a thwf a phob un o'r pedwar cyd-bwyllgor corfforedig i sicrhau'r cyflawniad mwyaf posibl. Rydym yn dysgu'r gwersi y soniodd Mike Hedges amdanynt mewn perthynas â phrofiad blaenorol yr ardaloedd menter, a sut y gwnaethant dynnu buddsoddiad allan o ganol ein trefi yn y gorffennol.

Rydym yn gwybod bod agenda ffyniant bro Llywodraeth flaenorol y DU a'i chronfa ffyniant gyffredin wedi arwain at glytwaith cymhleth o fuddsoddiadau gwahanol heb gyfeiriad strategol ystyrlon, ond rydym yn hyderus y gallwn weithio gyda Llywodraeth y DU ar ddull newydd nad yw'n anwybyddu Llywodraeth Cymru na'r Senedd, a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a sectorau eraill ar ddull buddsoddi rhanbarthol mwy hirdymor sy'n bodloni ein blaenoriaethau ar gyfer swyddi a thwf gwyrdd.

Fe ddof i ben ar bwynt pwysig, sef yr angen i gael twf economaidd amrywiol—mae'n hanfodol ar gyfer adeiladu cymunedau cynhwysol. Rwyf hefyd eisiau canolbwyntio ar fenywod mewn arweinyddiaeth. O dan gylch gwaith bwrdd strategol Busnes Cymru, sefydlwyd y panel cefnogi menywod entrepreneuraidd yng Nghymru fel is-grŵp i gynyddu cyfranogiad mewn entrepreneuriaeth, ac rydym wedi comisiynu prosiect ymchwil i ddeall yr heriau y mae allforwyr benywaidd yng Nghymru yn eu hwynebu. Rydym am hybu cydraddoldeb rhywiol wrth galon y dull economaidd hwnnw.

I gloi, mae'r problemau strwythurol yn economi Cymru yn gymhleth ac maent yn amlochrog. Fodd bynnag, nid ydynt yn anorchfygol. Drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, buddsoddi mewn sgiliau ac addysg, amrywio ein sylfaen economaidd a gwella seilwaith, gallwn adeiladu economi gryfach a mwy gwydn yng Nghymru gyda gwell perthynas waith â Llywodraeth y DU, ac mae gennym gyfleoedd go iawn i ganolbwyntio ar dwf.

20:35

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch i Tom a Mike hefyd. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 20:38.