Y Cyfarfod Llawn
Plenary
25/09/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i’r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi leol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ61563
Mae ein cynllun ar gyfer cefnogi’r economi ledled Cymru wedi’i nodi yn ein cenhadaeth economaidd, yn benodol i sicrhau pontio teg i economi werdd a chynhyrchiol, platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant, partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a’r economi bob dydd a buddsoddi ar gyfer twf.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Cefais ohebiaeth yn ddiweddar gan etholwyr pryderus ynghylch y cyhoeddiad y bydd cangen banc Lloyd's yn Aberhonddu yn cau yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ac yn union fel llawer o drefi eraill, mae banciau eraill wedi cau, gan gynnwys HSBC a Barclays yn yr ardal honno, gan adael llawer o etholwyr â llai o opsiynau i ryngweithio wyneb yn wyneb â'r banc fel yr hoffent. Ac mae hynny'n broblem arbennig i gwsmeriaid mewn ardaloedd gwledig nad ydynt yn gallu teithio i gangen arall. Rwy'n sylweddoli nad yw bancio'n fater datganoledig a bod hwn yn benderfyniad masnachol a wnaed gan y banc hwn ac eraill. Fodd bynnag, credaf eich bod chi a'ch cyd-Aelodau wedi ymrwymo i wella cynhwysiant ariannol ar gyfer ein hetholwyr. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno y gall cau canghennau gael effaith ar yr economi leol mewn trefi fel Aberhonddu, sy’n dibynnu ar ddenu pobl i’w stryd fawr?
Rwy’n ddiolchgar iawn i Joyce Watson am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma. Fel y mae'n cydnabod yn gywir ddigon, nid yw'n fater datganoledig, ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn fater nad yw Llywodraeth Cymru yn poeni amdano. Ac yn wir, yn ddiweddar, rhoesom ein hymateb i ymgynghoriad yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar fynediad at arian parod, ac yn yr ymateb hwnnw, fe wnaethom nodi pryderon sylweddol ynghylch cau canghennau a chyflymder y broses o gyflwyno hybiau bancio ar hyn o bryd, gan fod arnom eisiau gweld hynny'n cyflymu'n sylweddol.
Hoffwn dynnu sylw fy nghyd-Aelodau at Link, sydd wedi cael y dasg o asesu’r angen am wasanaethau bancio newydd, ac maent yn gwneud hynny ar ôl pob cyhoeddiad y bydd banc yn cau, ac maent yn edrych ar ble mae’r banc agosaf ac ati, ac yna maent yn gwneud argymhellion ynghylch ble y dylai'r hybiau hynny fod. Felly, hyd yma, maent wedi nodi'r angen am 11 o hybiau bancio yng Nghymru, gan gynnwys yn y rhanbarth y mae Joyce Watson yn ei gynrychioli, er enghraifft, yn y Trallwng. Ond hoffwn annog pob un o'm cyd-Aelodau i ymgysylltu â Link os oes ganddynt gymunedau penodol fel Aberhonddu, y maent yn arbennig o bryderus yn eu cylch fel rhai nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda gan y diwydiant bancio.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r materion sy’n atal twf mewn rhannau o’r canolbarth yw’r diffyg eiddo masnachol sydd ar gael i fusnesau ehangu a symud i mewn iddynt. Mae rhai o’r busnesau hyn wedi bodoli ers blynyddoedd lawer ac yn awyddus i ehangu a symud i safleoedd mwy, ac mae eraill yn fusnesau cymharol newydd sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i eiddo, yn enwedig yn ardaloedd y Drenewydd a’r Trallwng. Felly, rwy'n awgrymu bod hon yn broblem dda, ond yn un rwy'n credu'n wirioneddol fod angen ei datrys a'i chefnogi gan y Llywodraeth. Mae'n fater a godais gyda rhai o'ch rhagflaenwyr hefyd. Ymwelais ag un cwmni o'r fath dros yr haf, sef Purus Energy. Maent yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi eu systemau paneli solar eu hunain ar gyfer eiddo na ellir eu cysylltu â'r grid. Maent yn awyddus iawn i ehangu ac maent yn gweithio mewn sied eithaf mawr, os mynnwch, ar hyn o bryd. Mae angen uned bwrpasol arnynt er mwyn ehangu a chynyddu eu busnes. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn yn fawr pe gallech chi nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau yn y maes penodol hwn—busnesau sydd am dyfu ac ehangu, ond na allant ddod o hyd i eiddo? A pha gymorth y gallwch chi ei ddarparu iddynt?
Hefyd, mae’r cynnig yno, Weinidog, i chi ddod i ganolbarth Cymru. Rwy’n fwy na pharod i gael grŵp o 10 neu hanner dwsin o bobl, sy’n awyddus i symud i mewn i eiddo newydd, i siarad gyda chi fel y gallant ddisgrifio eu sefyllfa a'ch helpu chi a’ch swyddogion efallai i ddatblygu cynllun mwy strategol wrth symud ymlaen.
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, ac fel y dywed Russell George, mae’n broblem dda i’w chael, ond yn sicr, mae'n un y mae angen inni fod yn gweithio i’w datrys. Felly, mae'r eiddo y gallwn ei ddarparu a'i nodi yn rhan o'n cynnig economaidd i Gymru, gan y gall y safle cywir fod yn hollbwysig, fel y credaf eich bod wedi cydnabod, o ran galluogi busnesau i leoli eu hunain yma, ond wedyn hefyd i ehangu eu gweithrediadau yma yng Nghymru. Mae gennym dîm seilwaith eiddo yn Llywodraeth Cymru, ac maent yn gyfrifol am ddarparu safleoedd cyflogaeth sy'n barod ar gyfer buddsoddiad. Felly, byddai’r rheini’n cynnwys, er enghraifft, gweithdai, ffatrïoedd, swyddfeydd, ac yn y blaen, i gefnogi datblygiad economaidd. Felly, efallai y gallwn ofyn i'r tîm seilwaith eiddo gysylltu â'r busnes penodol yr ydych wedi gwneud sylwadau ar eu rhan y prynhawn yma, i weld a oes ffordd y gallwn eu cefnogi.
2. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am brosiect Porth Wrecsam? OQ61569
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol yn Wrecsam i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn ar Ffordd yr Wyddgrug. Mae ein huchelgeisiau cyffredin i ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig a theithio llesol a hwyluso pêl-droed rhyngwladol cystadleuol yn y gogledd yn parhau i fod yn ganolog i'n rhan yn y prosiect.
Diolch yn fawr. Mae'n dda iawn clywed hynny. Mae prosiect Porth Wrecsam yn rhywbeth yr wyf wedi'i gefnogi ers amser maith, gan y credaf y gallai fod yn wirioneddol drawsnewidiol i'n dinas. Gan weithio gyda phartneriaid lleol yn ôl yn 2021, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £25 miliwn, a nod y cynllun oedd adfywio ardal Ffordd yr Wyddgrug, fel y nodwyd gennych. Mae'n goridor allweddol i Wrecsam. Er gwaethaf y rhwystr sylweddol ym mis Ionawr 2023, pan wrthododd Llywodraeth Geidwadol y DU gais Wrecsam am gyllid ffyniant bro am yr eildro, addasodd y bartneriaeth ei chynlluniau i ganolbwyntio mwy ar ochr orllewinol y cynllun, gan fod mwy o gyfle ar y pryd i gyflwyno tystiolaeth bendant o gynnydd ar Ffordd yr Wyddgrug. Yn anffodus, cafwyd rhwystrau—er enghraifft, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi gorfod gohirio'r gwaith o adeiladu stand Kop newydd. Ac yna cawsom ymgynghoriad, a gychwynnwyd gan Trafnidiaeth Cymru, a ddaeth i ben ddiwedd y llynedd. Ond ers hynny, ychydig iawn o ddiweddariadau a gawsom. Felly, rwy'n ddiolchgar am gymorth Llywodraeth Cymru, ond hoffwn pe gallech gadarnhau eich ymrwymiad llawn i gyflawni'r prosiect adfywio trawsnewidiol hwn, a tybed a allwch ddarparu amserlen.
Rwy'n fwy na pharod i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r prosiect, ac wrth gwrs, i gydnabod y ffaith bod Lesley Griffiths wedi hyrwyddo hyn ers amser maith hefyd. Mae ein brwdfrydedd dros hyn yn ddiamau. Gwyddom fod Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi egluro mai eu bwriad yw i'r stadiwm, gan gynnwys y cae newydd a'r stand Kop, fod yn barod ar gyfer pencampwriaethau dan-19 UEFA yn haf 2026, gyda gogledd Cymru yn cynnal y gystadleuaeth hon yn ystod blwyddyn canmlwyddiant a hanner Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Felly, dylai fod yn dipyn o ddigwyddiad. Mae'r amserlen yn gwbl gyraeddadwy, yn ein barn ni, ac rydym yn fwy na pharod i barhau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid i gyflawni'r nod pwysig hwnnw. Gwn fod yr oedi wedi'i achosi gan y dyhead i greu cyfleuster sydd yno ar gyfer y gymuned drwy gydol y flwyddyn, sydd hefyd yn gadarnhaol iawn, yn fy marn i.
Yn ehangach, mae prosiect Porth Wrecsam yn parhau i ddatblygu'n gyflym, gyda gweithrediad y gyfnewidfa drafnidiaeth gyhoeddus yng ngorsaf Wrecsam Cyffredinol wedi’i diffinio, ac mae trafodaethau ar gyfer darpariaeth ar ochr canol y ddinas i’r rheilffordd yn parhau. Mae’n anodd bod yn benodol ynglŷn â’r amseru ar hyn o bryd, ond mae’r bartneriaeth yn Wrecsam yn dal i ganolbwyntio’n agos ar gyflawni’r prosiect yn ei gyfanrwydd.
Fy nealltwriaeth i gan gyngor Wrecsam yw mai'r newyddion da yw y dylai prosiect Porth Wrecsam fod yn ddiogel, yn rhannol oherwydd cyllid Llywodraeth Cymru, yn rhannol oherwydd cyllid y gronfa ffyniant gyffredin a gafodd Wrecsam—bron i £23 miliwn o'r dros £126 miliwn a dderbyniwyd yn y gogledd—a chan fod hwn yn brosiect blaenoriaeth ar gyfer bargen twf gogledd Cymru a'r bwrdd uchelgais. Rwy'n gobeithio y gallwch gadarnhau mai eich dealltwriaeth chi hefyd yw bod y prosiect hwn yn ddiogel. Ond mae pryder y gallai’r dyraniad o £20 miliwn i Wrecsam o'r gronfa drefi gael ei ddileu gan Lywodraeth newydd y DU, ynghyd â'r dyraniadau ar gyfer Merthyr Tudful, Cwmbrân a’r Barri, a’r £20 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU ar gyfer y Rhyl, o dan eu cynllun hirdymor ar gyfer trefi, a’r £160 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer parth buddsoddi gogledd-ddwyrain Cymru. Felly, tybed a allwch gadarnhau pa sylwadau a wneir gennych i swyddogion Llywodraeth y DU i ddiogelu'r prosiectau hynny, sy'n golygu cymaint i'r sefydliadau, busnesau, cynghorau ac eraill sy'n gysylltiedig â hwy yn rhanbarth gogledd Cymru.
Wel, hoffwn ddechrau drwy ailadrodd ein bod yn canolbwyntio’n agos ar gyflawni’r prosiect yn ei gyfanrwydd, ac mae’r £25 miliwn y llwyddodd Llywodraeth Cymru i’w ddarparu yn ôl ym mis Mawrth 2021 yn hollbwysig i hynny gan ei fod yn galluogi’r prosiect i symud yn ei flaen.
O ran y gronfa drefi, credaf fod pob un ohonom yn cydnabod bod y cyllid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn rhan o’r twll du sydd yno ar hyn o bryd, gan nad oedd unrhyw arian gwirioneddol ynghlwm wrth hynny erioed. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig cydnabod bod hwn yn fater a godais eisoes gyda Gweinidogion Swyddfa Cymru, ac mae fy nghyd-Aelodau hefyd yn ei godi gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU cyn cyllideb hydref Llywodraeth y DU, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar ddiwedd mis Hydref, a bryd hynny, rwy'n disgwyl y cawn yr eglurder y gwn fod pob cyd-Aelod yn dymuno'i gael.
Llefarwyr y pleidiau nawr i holi cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn gyntaf, croeso i’ch rôl newydd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi dros y misoedd nesaf, a gwerthfawrogais y cyfle i gyfarfod â chi ddoe, felly diolch am hynny. Ac er mai chi yw’r trydydd Ysgrifennydd dros yr economi i mi ei gysgodi eleni, nid yw hynny’n esgus dros yr ystadegau cyflogaeth diweddaraf pan fo Llafur wedi bod wrth y llyw ers 25 mlynedd. Nid yw’r ystadegau hyn yn dangos fawr o arwydd o newid, gan baentio darlun o gynhyrchiant isel, diweithdra cynyddol, a lefel o anweithgarwch economaidd ar 27.2 y cant—dros 5 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU. Newid—dyna’r un gair a fu’n sylfaen i fuddugoliaeth y Blaid Lafur yn gynharach eleni. Felly, pa newid a wnewch chi yn y portffolio hwn? Sut y bwriadwch newid economi Cymru er gwell, a sicrhau bod mwy o bobl yn cael gwaith ac yn economaidd weithgar?
Wel, yn gyntaf oll, rwyf am ddechrau drwy ddiolch yn fawr iawn i Sam Kurtz am y croeso cynnes i’r rôl, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chi, ac at gyfarfod â Luke Fletcher hefyd. Gwn y bydd digon o adegau pan fydd gennym farn wahanol, o ran cyflymder a phwyslais ac yn y blaen efallai, ond digonedd o adegau hefyd pan fydd gennym dir cyffredin y gallwn weithio arno.
Hoffwn ddweud, serch hynny, mewn perthynas ag ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer arolwg y gweithlu llafur, fy mod yn credu bod hyd yn oed y SYG ei hun wedi cydnabod bod problemau gyda’r data hwnnw. Dyna pam nad yw’r data hwnnw bellach yn cael ei ystyried yn ystadegau cenedlaethol; dim ond set o ystadegau answyddogol ydynt bellach, a chredaf ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Credaf fod angen inni edrych yn ehangach ar ystod o ystadegau, sydd, yn fy marn i, yn rhoi darlun llawer mwy cadarnhaol o berfformiad Cymru.
Fy mwriad yw ceisio cyfarfod â’r prif ystadegydd—prif ystadegydd y DU—er mwyn trafod y camau i wella’r ystadegau hyn. Gwn fod ffrwd waith ar y gweill ar hyn o bryd, y mae prif ystadegydd Cymru yn gweithio arni, i geisio gwella’r ystadegau hynny. Ond fel y dywedaf, ar hyn o bryd, nid ydynt yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol.
Wedi dweud hynny, mae Llywodraeth Cymru, o dan y Prif Weinidog newydd, wedi nodi ffocws y cyfeiriad yn glir iawn. Mae'n ymwneud â thwf gwyrdd, mae'n ymwneud â chyflawni newid cyflym sy’n gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru. A dyna pam y credaf ei bod mor bwysig fod gennym Jack Sargeant yn ei rôl, i edrych yn benodol ar brentisiaethau, gan gydnabod rôl bwysig iawn sgiliau i fynd i'r afael â heriau’r dyfodol.
Wel, ar ôl ic hi gael y cyfarfod hwnnw gyda'r prif ystadegydd, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn croesawu datganiad llafar neu ysgrifenedig gennych chi ar hynny. Ac mae’n ddiddorol fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynhyrchu ystadegau answyddogol, a dyna anomaledd y credaf fod angen ei ddatrys, gan ei bod yn amlwg fod angen cynllun brys ar Gymru i weddnewid ei heconomi. Tra bo'r ystadegau hyn, boed yn swyddogol ai peidio, yn rhoi golwg eang i ni, mae’n bwysig cofio, y tu ôl i bob ystadegyn, y tu ôl i bob rhif, fod yna unigolyn—rhywun sy’n ymdrechu i gyfrannu at ein cymdeithas, darparu ar gyfer eu teulu a diogelu eu dyfodol.
Nawr, fe gaf y fraint o fynychu agoriad hyb sgiliau trawsnewid ynni Coleg Sir Benfro ddydd Gwener—prosiect arloesol, a ariennir gan Shell, sydd â'r nod o arfogi ein gweithlu â'r sgiliau, fel y sonioch chi, sydd eu hangen ar gyfer swyddi yfory. Nawr, rwy'n eich annog i ymweld â gorllewin Cymru a gweld yr hyb drosoch chi eich hun, ond hefyd, yr holl brosiectau posibl sydd ar y gweill, a sut, o’u cyflawni, y gallai defnyddio gweithlu lleol medrus a chadwyni cyflenwi yn briodol fod yn drawsnewidiol i gymunedau ledled Cymru, gan fod y diwydiant ar bigau'r drain. Mae’n gwybod beth sydd ei angen arno o ran sgiliau. Mae’n gwybod beth sydd ei angen o ran cydsyniad ac amserlenni i allu cyflawni’r prosiectau hyn a thrawsnewid ein cymunedau. Ond a yw Llywodraeth Cymru yn deall? A ydych chi a'ch adran yn deall pa mor angenrheidiol yw hi i gyflawni'r prosiectau hyn, ac os felly, sut ydych chi'n helpu i wireddu'r cyfleoedd hyn?
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr am y gwahoddiad i ymuno â chi ddydd Gwener. Mae’n ddrwg gennyf nad wyf yn gallu gwneud hynny oherwydd ymrwymiad blaenorol, ond roeddwn yn ddiolchgar iawn am y gwahoddiad a byddaf yn sicr yn dod i ymweld ar ryw adeg arall. Ddoe, cawsom gyfle i drafod yr ystod enfawr o gyfleoedd sydd i'w cael yn yr ardal a gynrychiolir gennych yn lleol ac y gallwn ei chefnogi fel Llywodraeth Cymru. Credaf fod sgiliau a phrentisiaethau yn gwbl hanfodol i ddiwallu anghenion busnesau’r dyfodol, a dyna pam ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud y gwaith mapio i ddeall ble mae’r sgiliau ar hyn o bryd, ond wedyn hefyd beth yw anghenion y dyfodol. Bydd rhywfaint o hynny’n ymwneud â’r technolegau newydd a fydd yno inni fanteisio arnynt o ran sero net. Mae’n debyg y byddwch yn gyfarwydd â ‘Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach’, y cynllun gweithredu sgiliau sero net. Credaf fod honno’n ddogfen gwbl hanfodol ac yn gynllun cwbl hanfodol o ran sicrhau ein bod yn gallu darparu'r gweithwyr medrus sydd eu hangen ar fusnesau ar gyfer y dyfodol. Hoffwn dalu teyrnged i Vaughan Gething am y gwaith a wnaeth ar hynny, gan y credaf fod hynny’n wirioneddol bwysig. Hefyd, y datganiad polisi ar brentisiaethau, wrth gwrs, sy'n nodi rhagor o fanylion am y fframwaith strategol ar gyfer dyfodol y rhaglen brentisiaethau hefyd. Credaf fod hynny oll yn bwysig. Bydd pob un o’n partneriaethau hynod bwysig sydd gennym gyda’r sector addysg bellach a’r sector addysg uwch yn fwy cyffredinol yn bwysig iawn hefyd. Mae hyn yn ymwneud â chysylltu, mae'n ymwneud â phartneriaeth, mae'n ymwneud â diwydiant, y byd academaidd, Llywodraeth Cymru, undebau, ac wrth gwrs, Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd. Rydych chi'n gweld enghreifftiau gwych o hynny'n digwydd eisoes, ond yn sicr, rwy'n awyddus i wneud mwy o hynny.
Diolch, oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn clymu'r holl bethau hyn gyda'i gilydd, fel y dywedwch yn gywir ddigon. Gan fod cogiau'r sector cyhoeddus yn troi gymaint yn arafach na chogiau'r sector preifat, ac os ydynt yn bwriadu buddsoddi yma yng Nghymru ac nad yw Llywodraeth Cymru yn agored i fusnes, yna bydd y buddsoddiad hwnnw'n mynd i rywle arall, a byddwn yn colli'r cyfleoedd hynny. Mae gwella sgiliau, cyfleoedd gwaith a chyflogaeth hirdymor yn un ffordd o sicrhau budd i gymuned; un arall yw cronfeydd budd cymunedol, a chefais gyfle yn ddiweddar i gyfarfod â chynrychiolwyr o ryng-gysylltwyr Greenlink a MaresConnect, dau brosiect mawr sy'n cysylltu gridiau pŵer Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, gan alluogi llif trydan dwy ffordd rhwng ein gwledydd. Mae'r cwmnïau hyn yn defnyddio model cap a therfyn isaf, sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng cymhellion masnachol, mesurau lliniaru risg priodol ar gyfer datblygwyr prosiectau, ac yn targedu refeniw dros ben er mwyn lleihau costau i ddefnyddwyr. Mae hwnnw'n un mecanwaith, ond os ydym o ddifrif am gyflawni'r newid dros genedlaethau sydd ei angen i drawsnewid ein cymunedau lle caiff y prosiectau hyn eu lleoli a gwella bywydau pobl Cymru, mae'n rhaid cael ffordd addas, strategol a chynhwysfawr o dargedu cronfeydd budd cymunedol. Mae'n rhaid i hyn fynd y tu hwnt i noddi citiau timau chwaraeon lleol. Felly, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y prosiectau hyn yn sicrhau manteision cymunedol ystyrlon, hirdymor, gan wella bywydau a chyfleoedd i bobl ledled Cymru?
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac fel chi, yn cydnabod pwysigrwydd buddion cymunedol, a hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y rheini'n cael eu cynnal yn y dyfodol. Felly, nid yw hyn o reidrwydd, fel y dywedwch, yn ymwneud â phethau bach unigol ond â phethau a chanddynt hirhoedledd hefyd. Rwy'n edrych ar ein contract economaidd ar hyn o bryd i archwilio a oes angen i ni ei ddiweddaru, neu efallai ei wneud yn fwy penodol, felly byddaf yn sicr yn ystyried rôl buddion cymunedol wrth imi fwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Llywydd. Hefyd, fe wnaf i fachu ar y cyfle i groesawu’r Ysgrifennydd Cabinet i’r rôl newydd, ac am amser i gymryd ymlaen portffolio’r economi, gyda’r holl heriau sydd yn bodoli.
Nawr, mae'r datganiad hwnnw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau â stori, onid yw, ni waeth sut y gwnewch ei ddehongli? Cyflogaeth isel ac anweithgarwch economaidd uchel. Rwy'n derbyn bod problemau gyda’r data hwnnw. Mae'n un o'r rhesymau pam fod angen SYG penodol i Gymru, un sy'n casglu data penodol o safbwynt Cymreig ar draws nifer o sectorau gwahanol. Rwyf wedi gwrando ar yr atebion a roesoch i Sam Kurtz, ac mae'n amlwg fod sgiliau a phrentisiaethau yn flaenoriaeth gennych. Byddai’n dda deall beth yw’r blaenoriaethau eraill sydd yma nawr. Felly, byddai’n wych pe gallech nodi rhai o’r blaenoriaethau hynny, fel y mae eich rhagflaenwyr wedi’i wneud yn flaenorol, o ran beth yn union y mae angen i ni ei wneud i ddatrys y problemau sy'n ymwneud ag economi Cymru. Tywyll yw'r rhagolygon o hyd.
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac eto am y croeso i'r swydd. Roedd yn dda iawn siarad gyda chi ddoe am eich blaenoriaethau penodol a’ch meysydd arbenigedd, gan gydnabod bod gennym lawer o feysydd y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd arnynt hefyd rwy'n siŵr.
Os caf ddweud un peth arall am ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn fy rôl flaenorol, roeddwn yn gyfrifol am ystadegau, a chyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd, yn nodi’r heriau mewn perthynas â data arolwg y gweithlu. Nid oes unrhyw beth wedi newid ers hynny mewn gwirionedd, ond yn sicr, gallwn roi diweddariad pellach ar y gwaith y mae ein tîm yn ei wneud gyda'r SYG er mwyn mireinio'r data hwnnw. Credaf ei fod yn ymwneud yn y bôn â diffyg ymatebwyr pan gânt eu gwahodd i roi barn, a chredaf fod hynny oherwydd llawer o bethau, megis y pwysau sydd eisoes ar bobl sydd mewn cyflogaeth neu'n rhedeg busnesau. A phan gewch alwad ffôn y tu allan i oriau gwaith, mae'n debyg nad oes arnoch eisiau siarad am hynny a'r math hwnnw o beth o reidrwydd. Mae problemau yno o ran ceisio cynyddu nifer y bobl sy’n ymateb.
Fy mwriad yw gwneud datganiad yn y Senedd—credaf ei fod wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf neu'r wythnos wedyn—lle byddaf yn nodi ystod gyfan o flaenoriaethau. Ond yn y datganiad hwnnw gallwch ddisgwyl clywed mwy am brentisiaethau, a hefyd am bwysigrwydd mewnfuddsoddi, yr economi sylfaenol, ond wedyn hefyd ein taith wirioneddol bwysig tuag at sero net a sut rydym yn cefnogi busnesau ar y daith honno hefyd.
Wrth gwrs, nid yw’r problemau gyda chasglu data ond yn pwysleisio’r angen am gorff penodol i Gymru, oherwydd os nad oes gennym y data i ddeall y problemau yng Nghymru, sut ar y ddaear y gallwn ddisgwyl datrys y problemau hynny? Yn y datganiad a roddwch i’r Senedd, rwy'n gobeithio y gwelwn addewid o strategaeth ddiwydiannol. Onid yw'r sefyllfa'n galw am strategaeth ddiwydiannol? Mae hynny’n amlwg. A diffyg un dros y degawd diwethaf yw'r union reswm pam ein bod yn y sefyllfa yr ydym ynddi. Nawr, mae Tata yn crisialu hyn. Rwy’n teimlo fel pe bawn yn byw mewn bydysawd cyfochrog, lle mae’r hyn sydd wedi digwydd ym Mhort Talbot yn dderbyniol. Hynny yw, rydym newydd golli gallu diwydiannol hollbwysig heb unrhyw wrthwynebiad amlwg gan Lywodraeth y DU, Llafur neu Dorïaidd. Mae'r DU yn eithriad o ran y ffordd y gwnaethom ymdrin â hyn. Felly, oni bai ein bod yn cael strategaeth ddiwydiannol sy'n nodi cyfeiriad economi Cymru ar gyfer y dyfodol, byddwn yn parhau i ddod yn ôl i'r Siambr hon i gyflwyno a chlywed yr un hen newyddion. Mae bod yn rhagweithiol ac nid yn adweithiol yn hollbwysig.
Felly, os caf sôn am strategaeth ddiwydiannol am funud, byddai sgiliau'n bennod bwysig. Nawr, mae nifer o gydweithwyr yn y sector addysg bellach wedi codi pryderon ynghylch y ffordd y mae'r portffolios presennol wedi'u trefnu. Nawr, ymddengys bod llai o bwyslais ar bwysigrwydd prentisiaethau, llai o ffocws ar brentisiaethau, gyda rhan o'r cyfrifoldeb yn eich adran chi a rhan arall, drwy Medr, gyda'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch. Felly, a oes perygl yma i bolisi fod yn anghydlynol?
Felly, mae llawer yn eich cwestiwn. Ond credaf fod yn rhaid imi gydnabod y cyfeiriad a wnaethoch at Tata, oherwydd, wrth gwrs, bydd cau ffwrnais chwyth 4 a'r asedau trwm sy'n weddill ym Mhort Talbot cyn bo hir yn dod â chynhyrchiant dur traddodiadol i ben yng Nghymru. A hoffwn gydnabod pa mor anferthol yw hynny mewn gwirionedd, a beth y mae'n ei olygu i Bort Talbot, ond hefyd i'r gymuned ehangach a'r gweithlu hefyd, gan y bydd rhai pobl wedi gweithio yno ar hyd eu bywydau gwaith. Felly, credaf y bydd yn amser tywyll iawn. Byddaf yn gwneud datganiad pellach maes o law, gan adeiladu ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ynglŷn â'r cymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu a'r gwaith a wnawn mewn partneriaeth â'r cwmni, ond gyda Llywodraeth y DU hefyd, a'r undebau ac awdurdodau lleol ac eraill. Felly, nid oeddwn am adael i’r foment fynd heibio heb gydnabod hynny.
O ran prentisiaethau, wrth gwrs, byddant yn bwysig yn ein hymateb i Tata hefyd. Mae angen inni sicrhau bod pobl sy’n ymgymryd â phrentisiaethau ar hyn o bryd yn gallu eu cwblhau, ond wedyn mae angen inni edrych ymlaen at yr arc hefyd, pa sgiliau sydd eu hangen arnom. Mae angen inni ddechrau cynllunio ar unwaith, yn y bôn, i sicrhau bod y bobl hynny’n barod i ddechrau yn y gwaith hwnnw. Ni chredaf fod y ffaith bod prentisiaethau wedi'u gwasgaru ar draws y Llywodraeth yn y ffordd honno'n beth negyddol, mewn gwirionedd. Credaf ei fod yn cydnabod pa mor bwysig yw prentisiaethau. Felly, bydd Jack Sargeant yn arwain ar hyn, ond wrth gwrs, fe fydd yn gweithio mewn partneriaeth agos â Vikki Howells ym maes addysg bellach ac addysg uwch, ac yna gyda mi yn fy rôl innau hefyd. Felly, rydym yn dîm bach. Gallwn weithio’n effeithiol gyda’n gilydd, ac ni chredaf fod y ffaith bod gan fwy nag un Gweinidog ddiddordeb yn hyn yn beth drwg.
Wrth gwrs, mae'n bwysig nad ydym yn syrthio i'r elfen gwaith seilo wrth edrych ar brentisiaethau, gan y bydd effaith polisi da ar brentisiaethau yn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant. Os caf droi at gynhyrchiant, mae’r ffigurau rheolaidd a gawn yn aml yn dangos bod Cymru’n cael trafferth gyda chynhyrchiant, gan ein bod yn aml ar waelod y tablau hynny. Amlygodd eich rhagflaenydd welliannau i gynhyrchiant fel blaenoriaeth allweddol, ac roedd yn iawn i wneud hynny. A yw'n ddiogel tybio bod gwella cynhyrchiant yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i chi? A thrwy ba lens y byddwch yn edrych ar welliannau i gynhyrchiant, oherwydd, yn y pen draw, beth yw'r economi? Ar ei lefel sylfaenol, pobl yw'r economi, onid e? Yr hyn y dylem fod yn anelu ato yw economi sy’n darparu rolau ystyrlon a boddhaus i’r bobl hynny a’u bywydau. Dylai unrhyw bolisïau sydd â’r nod o wella cynhyrchiant gadw hynny mewn cof.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â hyn. Nid yw gwella cynhyrchiant yn ymwneud â gwneud i bobl weithio’n galetach. Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn gweithio yn yr amgylcheddau sydd eu hangen arnynt er mwyn bod yn gynhyrchiol, a bod y busnesau y maent yn gweithio ynddynt yn buddsoddi yn y busnes ei hun, ein bod yn buddsoddi yn sgiliau pobl. Yn fy rôl flaenorol, rwy’n cofio siarad â Llywodraeth y DU ar y pryd ar sawl achlysur am waith gan gomisiwn twf Ysgol Economeg Llundain, a hefyd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac roedd y ddau sefydliad yn cydnabod, os ydych chi am dyfu’r economi ac os ydych chi am ddod yn fwy cynhyrchiol, fod angen i chi fuddsoddi mewn pobl—felly, buddsoddi mewn sgiliau—ond buddsoddi mewn seilwaith hefyd, a dyna pam fod buddsoddiad cyfalaf mor bwysig hefyd. Felly, rwy'n dal i ddweud bod y ddau beth hynny'n wirioneddol bwysig, a byddaf yn dadlau drostynt, ond credaf hefyd fod y gwaith a wnawn ar waith teg yn wirioneddol bwysig yn y cyd-destun a ddisgrifiwyd gennych, i sicrhau bod pobl yn cael eu gwerthfawrogi yn y gweithlu, yn cael cyfleoedd i wneud cynnydd, a bod ganddynt urddas yn y gweithlu hefyd, sydd hefyd yn bwysig.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector bancio i sicrhau hybiau bancio yn Nwyrain De Cymru? OQ61561
Rydym yn parhau i bwyso ar Cash Access UK, sy’n arwain ar ddatblygiad hybiau bancio a rennir, i gyflymu hyn yng Nghymru. Mae cyfanswm o 81 wedi eu hagor yn y DU hyd yma. Mae 15 arall i’w cyhoeddi cyn bo hir, gyda Threfynwy wedi’i chynnwys ar y rhestr.
Diolch am hynna.
Cangen Barclays yn Ystrad Mynach yw’r bumed gangen yn y fwrdeistref sirol i gau yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae hwn yn argyfwng tawel a welir ar draws fy rhanbarth. Os ewch i'r gogledd i Fargoed, nid oes unrhyw ganghennau banc neu hybiau, ac mae'r peiriannau arian yn y dref weithiau'n cael eu gadael yn hollol wag o arian dros y penwythnos, gan adael trigolion heb unrhyw ffordd hawdd o gael mynediad at arian parod, ac mae hynny wedi'i godi gyda mi gan y cynghorydd cymuned, Joshua McCarthy. Pan fydd banciau’n cau eu drysau, gall hynny ynysu cymunedau ac unigolion, felly hoffwn ofyn pa drafodaethau y gallwch chi fel Llywodraeth Cymru eu cael gyda busnesau ariannol a banciau ynghylch sefydlu mwy o’r hybiau bancio hyn ar ôl i ganghennau adael, ac a wnewch chi archwilio’r cyfle i ddarparu gwasanaethau ychwanegol mewn hybiau bancio, fel cyngor ar ddyledion a hyfforddiant cynhwysiant digidol? Oherwydd, er yr holl bethau da am weld bancio'n symud ar-lein, ydy, mae'n mynd i'w gwneud yn haws i'r rhan fwyaf o bobl gael mynediad at eu harian, gan y gallwch wneud hynny'n gyflym ar eich ffôn, ond i'r bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, mae'r bwlch yn tyfu ac yn tyfu, felly beth y gellir ei wneud i sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael ymhellach ar ôl, os gwelwch yn dda?
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Credaf fod yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd gennych yn Ystrad Mynach yn ficrocosm o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru yn yr ystyr fod 376 o ganghennau banc wedi cau yng Nghymru ers mis Ionawr 2015. Mae honno'n golled gwbl ddifrifol, mewn gwirionedd, pan feddyliwch am werth y gwasanaethau hynny i gymunedau. Felly, gan y rhagwelir mai dim ond 183 o ganghennau banc a chymdeithasau adeiladu a fydd ar agor erbyn diwedd 2025, credaf y bydd yr effeithiau ar gynhwysiant ariannol yn eithaf sylweddol, a chredaf fod pob un ohonom yn cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn a phobl anabl, yn dibynnu mwy ar ddarpariaeth bancio wyneb yn wyneb. Felly, byddwn yn sicr yn pwyso am i fwy o'r hybiau hynny ddod yma ac i hynny ddigwydd yn gyflymach, ond hoffwn annog fy nghyd-Aelodau yn gryf, fel y dywedais yn fy ateb i Joyce Watson yn gynharach, i wneud sylwadau i LINK, fel bod LINK yn gallu clywed eich pryderon ynglŷn â chymunedau sy'n amddifad o gyfleusterau bancio mewn rhai mannau ar hyn o bryd, er mwyn gallu nodi’r mannau lle mae angen yr hybiau. Wrth gwrs, mae'n ymrwymiad gan Lywodraeth y DU hefyd i gynyddu'r nifer o hybiau bancio, felly byddwn yn pwyso ymhellach arnynt hwy yn ogystal mewn perthynas â hynny.
Fel y nododd fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, yn gywir ddigon, mae cau banciau yn peri pryder mawr i gymaint o bobl ledled de-ddwyrain Cymru. Mae cau banc TSB yng Nghwmbrân yn ddiweddar yn un o gyfres hir o fanciau sy'n cau yng Nghymru rhwng 2024 a 2025, gan gynnwys saith banc Lloyds ac wyth banc Halifax. A minnau wedi gweithio i fanc fy hun, rwy'n deall yn llwyr fod banciau'n fusnesau, a chyda’r mwyafrif o wasanaethau ar gael ar-lein bellach, yn aml, nid yw cynnal banciau ar y stryd fawr yn gosteffeithiol i lawer o fanciau erbyn hyn, ac rwy’n derbyn hynny. Fodd bynnag, mae llawer o drafodiadau y byddai’n well gan etholwyr eu trafod wyneb yn wyneb, yn enwedig y genhedlaeth hŷn, fel y soniodd fy nghyd-Aelod, pobl heb fynediad at wasanaethau ar-lein, o bosibl, gyda chymaint o sgamiau’n digwydd, yn ogystal â chynhwysiant digidol, fel y crybwyllodd fy nghyd-Aelod.
Mae hybiau bancio yn ffordd wych o fynd i’r afael â’r problemau sy'n gysylltiedig â chau banciau, gan y gall trigolion alw i mewn i’w mannau cymunedol lleol, megis eu swyddfa bost, ar y diwrnod y mae eu banc yn yr hyb, a siarad â banciwr cymunedol mewn ystafell breifat am unrhyw beth yr hoffent ei drafod. Felly, yng ngoleuni’r dewis amgen cadarnhaol hwn, o ystyried y gwahanol ddewisiadau y mae banciau’r stryd fawr yn eu hwynebu bellach gyda chau canghennau, a all Llywodraeth Cymru ymrwymo i edrych ar gymorth ariannol pellach yn y gyllideb eleni i hybu cymorth ar gyfer hybiau bancio er budd hirdymor etholwyr a allai orfod teithio milltiroedd lawer am gymorth fel arall? Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn ac fel chi, rwy'n cydnabod pwysigrwydd hybiau ac y gallant ddarparu dewis arall cadarnhaol. Felly, nid yw'r rhain yn bethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt neu'n eu hariannu'n uniongyrchol, ond byddwn yn sicr yn pwyso am i fwy ohonynt ddod i Gymru. Yr hyn a wnawn, serch hynny, yw rhoi cymorth i'n hundebau credyd yma yng Nghymru. Felly, darperir £0.5 miliwn y flwyddyn i gefnogi 13 o brosiectau cymunedol, ac mae'r rheini'n cynnwys datblygu hybiau undeb credyd newydd, a gaiff eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol. Mae un newydd yng nghanolfan Cana yn Aberdâr, er enghraifft, sy'n cael ei rhedeg gan Fanc Cymunedol Smart Money Cymru. Felly, dim ond un enghraifft yw honno o'r ffyrdd y cefnogwn undebau credyd i ehangu eu cynnig yma yng Nghymru.
Ac rwy'n credu bod ffordd wahanol o gael gafael ar arian parod a gwybodaeth a chyngor yn bwysig. Ac mae'r pwynt cynharach ynglŷn â sicrhau bod cynhwysiant ariannol a chyngor ar gael i bobl hefyd yn bwysig. Felly, mae cyfeirio o'r canolfannau hyn i fannau lle gall pobl gael mwy o wybodaeth am gynhwysiant ariannol yn bwysig iawn.
Fel y dywedwch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae hon yn broblem ledled Cymru. Er enghraifft, yn sir Fynwy, mae wyth banc stryd fawr wedi cau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys yng Nghil-y-coed yn fy etholaeth i, Dwyrain Casnewydd. Bu ein AS Llafur newydd dros Fynwy, Catherine Fookes, yn ymgyrchu yn hir ac yn galed ar y materion hyn cyn cael ei hethol, ac ers hynny, ac fel y dywedwch, mae'n gyfrifoldeb a rennir gyda Llywodraeth San Steffan. Yn yr ardal honno yng Nglannau Hafren, Ysgrifennydd y Cabinet, gwelwn boblogaethau sy'n tyfu'n gyflym lle mae'r hyn a arferai fod yn bentrefi bach yn drefi bach erbyn hyn. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid cydnabod hynny wrth ddarparu gwasanaethau bancio stryd fawr lle mae pobl yn byw a lle mae pobl eu hangen. A yw honno'n agwedd ar y darlun cyffredinol yr ydych chi'n ei gydnabod ac y byddwch chi'n ei hystyried wrth wneud penderfyniadau?
Ie, diolch yn fawr iawn am godi hynny. Credaf fod hynny'n cael ei gydnabod yn fawr gan y mudiad y tu ôl i'r hybiau bancio, o ran eu pwysigrwydd mewn cymunedau ledled Cymru. Rwy'n gwybod y bydd Catherine Fookes yn falch iawn o'r cyhoeddiad diweddaraf ynghylch hyb bancio Trefynwy, sy'n un o'r 15 a gyhoeddwyd yn fwy diweddar. Mae nifer ar draws Cymru, ond yn sicr, mae angen inni weld mwy ohonynt. Ac yng nghyd-destun y gostyngiad yn nifer y banciau, y soniais amdano yn fy ateb blaenorol, gyda dim ond 183 o fanciau a chymdeithasau adeiladau ar agor erbyn diwedd 2025, mae gwir angen inni weld y rhain yn datblygu'n gyflym. Felly, byddwn yn gwneud unrhyw beth a allwn i'w cefnogi a'u hwyluso, ac yn amlwg, rydym yn falch iawn o weld ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynyddu'r nifer a hynny'n gyflym.
4. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch mesur gwerth economaidd creu sefydliadau hyfforddiant meddygol newydd mewn gwahanol rannau o Gymru? OQ61559
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a minnau'n falch ein bod wedi buddsoddi'n sylweddol yn natblygiad ysgol feddygol newydd gogledd Cymru, sy'n derbyn ei myfyrwyr cyntaf y mis hwn. Mae ysgol feddygol gogledd Cymru yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n dymuno bod yn feddygon yng ngogledd Cymru astudio'n agos at eu cartref. Mae'n bwysig nawr ein bod yn asesu llwyddiant ysgol feddygol gogledd Cymru.
Diolch yn fawr. Symud ymlaen o'r ysgol feddygol i'r angen am ysgol ddeintyddol, ac mae adroddiad annibynnol a gafodd ei lansio yr wythnos diwethaf yn gwneud yr achos dros leoli ysgol ddeintyddol newydd i Gymru ym Mangor. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r achos economaidd yn ogystal â’r holl resymau eraill clir sydd yna dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad ar dudalen 26:
'Mae achos economaidd cryf dros leoli ysgol ddeintyddol ym Mangor.'
Mae o’n mynd ymlaen i ddweud:
‘Byddai ysgol ddeintyddol ym Mangor yn adeiladu ymhellach ar fuddsoddiadau pellgyrhaeddol diweddar gan ehangu’r ddarpariaeth hyfforddiant ym maes iechyd a gofal. Gall clwstwr o’r fath greu cyfleoedd newydd i gyfoethogi profiadau hyfforddiant ac academaidd, a hefyd i arloesi a datblygu cyfleoedd busnes newydd yn y maes.’
Felly, a wnewch chi drafod canfyddiadau’r adroddiad yma efo Gweinidogion eraill ac Aelodau eraill o’r Cabinet er mwyn ystyried yr effaith y byddai ysgol ddeintyddol yn ei gael ar economi’r ardal? Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiwn, Siân Gwenllian, a diolch am y gwaith a wnaethoch ar adroddiad 'Filling the Gaps'. Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a minnau yr wythnos hon i drafod pwysigrwydd y sector iechyd i'r economi ac rydym yn ymwybodol o'r adroddiad, a dros y dyddiau diwethaf, darllenais yr achos economaidd, fel y nodwyd gennych, ar dudalen 26 o'r adroddiad gyda diddordeb.
Gan gyfeirio at yr angen a'r argymhelliad am ail ysgol ddeintyddol, yn enwedig yng ngogledd Cymru, rhaid i'r bwrdd iechyd arwain unrhyw gynnig o'r fath. Mae'n bwysig fod prifysgolion fel Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth yn helpu i ddatblygu'r argymhellion hyn ac rwy'n annog y prifysgolion i wneud hynny. Yna bydd unrhyw argymhelliad o'r fath a gyflwynir yn y modd hwnnw yn cael ei ystyried gan Weinidogion ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn amodol ar fod cyllid ar gael, ond credaf fod eich adroddiad, 'Filling the Gaps', yn mynd beth o'r ffordd tuag at helpu i lunio argymhelliad o'r fath.
Lywydd, yn fwy cyffredinol, rwy'n falch iawn o'r buddsoddiad a hanes Llywodraeth Lafur Cymru o fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i gefnogi a chynnal y gweithlu iechyd ledled Cymru. Mae gan y GIG fwy o bobl yn gweithio ynddo nawr nag erioed o'r blaen, ac mae'n darparu cyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf fel ysgol feddygol gogledd Cymru. Mae'r buddsoddiad o £3.5 miliwn gan y Llywodraeth hon yn gam cyntaf pwysig i annog gweithwyr meddygol proffesiynol i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru, ac mae hyn nid yn unig yn fuddiol i'r myfyrwyr sy'n cael archwilio popeth sydd gan ein gwlad hardd i'w gynnig; mae'n hanfodol ar gyfer recriwtio i'r GIG. Ond hefyd—fel y mae'r Aelod yn gywir i'w nodi—mae'n helpu i roi hwb i'n heconomi leol hefyd.
A gaf i longyfarch Jack Sargeant yn gyntaf ar ei swydd newydd? Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at ei weld yn ffynnu yn ei rôl yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, rwy'n siŵr.
Weinidog, yr hyn a'm trawodd wrth glywed y cwestiwn gan Siân Gwenllian yw rhai o'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth bartneriaeth gyhoeddus a phreifat i fuddsoddi mewn sefydliadau hyfforddiant meddygol. Roeddwn yn eich etholaeth yr wythnos hon, yn cyfarfod â'r optegwyr Specsavers, oherwydd mae'n Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid, ac fe wnaethant rannu rhywfaint o'r buddsoddiad y maent yn ei wneud mewn cyfleusterau hyfforddi yn Lloegr, ar gyfer optometryddion ac mewn offthalmoleg hefyd, felly rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol i'r partneriaethau cyhoeddus-preifat hynny wella cyfleusterau hyfforddi yma yng Nghymru hefyd. Felly, rwy'n awyddus i ddeall pa gydweithio y gellir ei wneud gyda'r sector preifat yma yng Nghymru yn eich barn chi, fel y gallwch chi, fel Llywodraeth Cymru, weithio law yn llaw â'r cwmnïau a'r busnesau hynny i sicrhau bod gennym hyfforddiant o'r radd flaenaf wedi'i ddarparu gan ddarparwyr hyfforddiant y sector cyhoeddus, ie, ond hefyd gan ddarparwyr hyfforddiant y sector preifat, yn sicr, i helpu ein cadwyn gyflenwi economaidd hefyd? Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n ddiolchgar i Sam Rowlands am y croeso cynnes a'r cwestiwn, ac yn wir edrychaf ymlaen at weithio gydag ef yn y dyfodol hefyd. Ac mae bob amser yn dda croesawu Sam i Alun a Glannau Dyfrdwy. Rwy'n credu mai'r tro diwethaf imi fod yn Specsavers oedd pan gefais fy mhrawf llygaid yn lleol, ond rwy'n ddiolchgar am ei gefnogaeth i'r busnes yn Alun a Glannau Dyfrdwy.
O ran hyfforddiant yn gyffredinol, a'r cyfleusterau hyfforddi yn y sector preifat, rwy'n awyddus iawn i ni wneud popeth yn ein gallu i weithio gyda'r sector cyhoeddus a'r darparwyr hyfforddiant gwych sydd gennym yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach, ond hefyd gyda diwydiant, sy'n chwarae rhan allweddol yn hynny, felly yn uniongyrchol gyda busnesau neu'n wir gyda darparwyr hyfforddiant preifat hefyd. Ac nid yn unig yn y sector iechyd, ond ar draws pob sector, mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gennym raglen sgiliau sy'n uchelgeisiol, yn enwedig mewn perthynas â swyddi gwyrdd a'r blaenoriaethau twf.
Rwy'n gwybod bod yr Aelod ym Mhrifysgol Manceinion yn ddiweddar yn edrych ar rai o'r rhaglenni sy'n ymwneud â gofal iechyd a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial a digideiddio. Credaf fod hwn yn faes cyffrous iawn, nid yn unig mewn gofal iechyd, ond ar draws holl bortffolios y Llywodraeth, ac rwy'n siŵr y byddwn yn awyddus i weld beth arall y gallwn ei wneud yn y pethau hynny, a bydd yn sgwrs y byddaf yn ei mynd ar ei thrywydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
5. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd ardaloedd menter? OQ61548
Dros nifer o flynyddoedd, mae'r ardaloedd menter a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru wedi parhau i gyflawni yn erbyn cefndir economaidd heriol. Mae nifer o swyddi wedi cael eu cefnogi ar draws yr ardaloedd, ac mae buddsoddiad y sector cyhoeddus wedi galluogi ystod eang o brosiectau trawsnewidiol ar draws pob un o'r wyth ardal.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Yn yr 1980au, roedd gan Gymru dair ardal: Aberdaugleddau, Delyn a'r mwyaf ym Mhrydain, Abertawe. Beirniadwyd ardaloedd menter am ddadleoli'r rhan fwyaf o'r swyddi a gâi eu creu, o leoedd eraill yn yr ardal yn aml, ac fe gostiodd pob swydd a gafodd eu creu £23,000. Yn 2012-13, cafodd sawl ardal fenter eu dynodi, ac yn 2017-18, sefydlwyd ardal fenter Port Talbot. Roedd dewis canol Caerdydd fel ardal fusnes a Glannau Dyfrdwy fel ardal weithgynhyrchu, a oedd yn sicr o lwyddo, yn golygu y gellid ystyried bod y polisi yn llwyddiant. Pryd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i adolygu'r holl ardaloedd menter a chyhoeddi adroddiad yn amlinellu sut y maent wedi perfformio?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac rwy'n credu y byddwn yn cydnabod y ffordd y mae Mike Hedges wedi categoreiddio a disgrifio ardaloedd menter yr 1980au. Rwy'n gwybod bod ganddo bryderon mawr ynglŷn â sut y gwnaethant dynnu buddsoddiad allan o ganol dinasoedd a'r effaith a gafodd hynny, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei gydnabod yn llwyr. Fodd bynnag, mae'r dull presennol o ddynodi parthau buddsoddi yn wahanol iawn, yn yr ystyr ein bod wedi dynodi ein hardaloedd menter i gefnogi sectorau twf allweddol, megis gweithgynhyrchu uwch, TGCh, ynni a'r amgylchedd, a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Felly, nid ydynt yn seiliedig ar y sector manwerthu, felly ni fydd effeithiau dadleoli'n digwydd fel y gwelwyd mewn ymateb i ddynodiadau'r 1980au.
Ond mae'n bwysig cydnabod bod gwelliannau sylweddol yn digwydd y tu allan i Gaerdydd, a thu allan i Lannau Dyfrdwy—yr ardaloedd allweddol hynny—er enghraifft, datblygiad M-SParc ar Ynys Môn, sy'n rhan o Brifysgol Bangor, sy'n llwyddiant pwysig iawn, a'r gwaith yn Eryri, sydd wedi helpu i ddyrchafu'r safle fel un a ffafrir ar gyfer datblygiadau carbon isel newydd. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ac yna pan edrychwn ar ardal dyfrffordd y ddau Gleddau, mae gwaith yn mynd rhagddo yno i ddarparu parc bwyd sir Benfro, a fydd yn ychwanegu gwerth at gynnyrch lleol, yn darparu swyddi newydd a hefyd yn helpu gyda diogeledd bwyd y DU. A chan droi at Lyn Ebwy, er enghraifft, mae'r ardal fenter yno bellach yn alinio â rhaglen y Cymoedd Technoleg, ac mae hynny wedi arwain at ddatblygiad campws technoleg Thales, gan ddarparu atebion ymchwil ar gyfer seiber-wytnwch. Fel y dywedais o'r blaen, rwy'n credu, os oes unrhyw un eisiau cael agoriad llygad go iawn, trefnwch ymweliad â'r fan honno, oherwydd mae'r pethau a wnânt yn hollol anhygoel. Ac mae enghreifftiau pellach o gwmpas Port Talbot, Bro Tathan ac ati hefyd. Felly, rwy'n credu y gallwch brofi a phwyntio at welliannau, buddsoddiad sylweddol a buddsoddiad cyffrous y tu hwnt i Gaerdydd a Glannau Dyfrdwy.
Ysgrifennydd y Cabinet, gadewch imi fynd â chi yn ôl at ardal fenter glannau Port Talbot. Cyfeiriodd eich rhagflaenydd lawer gwaith at ardaloedd menter sefydledig fel ffordd o fynd i'r afael ag anawsterau economaidd gorllewin Cymru a'r Cymoedd, ond gwaetha'r modd, nid ydym wedi medi'r budd hyd yma. Mae gwerth ychwanegol gros yn fy rhanbarth yn parhau i fod ymysg yr isaf yn y DU, ac er bod ardaloedd menter ledled Cymru wedi cael peth llwyddiant yn diogelu swyddi, nid ydynt wedi cael yr effaith ddramatig a addawyd i ni dros ddegawd yn ôl. Fodd bynnag, rwy'n pryderu'n fawr am ddyfodol ardal fenter Port Talbot. Mae'r nifer enfawr o swyddi a gollir yn Tata, un o brif gwmnïau angori'r ardal, yn sicr o gael effaith. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch chi o iechyd yr ardal fenter a sut y gwnewch chi weithio gyda bwrdd pontio Tata Llywodraeth y DU i sicrhau effaith gadarnhaol barhaol ar anawsterau economaidd y rhanbarth?
Mae dyfodol Port Talbot yn gwbl dyngedfennol, ac er y newyddion trist ar hyn o bryd a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'r gweithlu yn Tata, rwy'n credu bod dyfodol cyffrous a disglair iawn i Bort Talbot. Gallwch weld ein hymrwymiad hirdymor yn y modd y gwnaethom gaffael hen safle BP Chemicals ym Mae Baglan. Mae hynny'n rhoi cyfle i ni gyflwyno safle datblygu strategol mawr, sydd wedyn yn creu cyfle a photensial i helpu i drawsnewid sylfaen economaidd y rhanbarth o ddiwydiant trwm a diwydiannau'r gorffennol i ddiwydiannau'r dyfodol, megis gweithgynhyrchu gwerth uchel a chynhyrchiant ynni gwyrdd. Bydd hefyd yn cefnogi cyfleoedd sero net yn ne-orllewin Cymru yn ehangach a thu hwnt. Mae canolfan arddangos gwerth uchel Baglan yn cyd-fynd â gwaith Llywodraeth Cymru gydag Innovate UK, ac un enghraifft yn unig yw honno o'r gwaith pwysig a wnawn yn y gofod hwnnw ar hyn o bryd.
Hoffwn groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl newydd hefyd. Rwy'n falch iddi sôn am M-SParc a'r gwaith gwych sy'n digwydd yno ar ddeori ac annog datblygiad busnesau yn y sectorau digidol, carbon isel ac eraill. Rwyf wedi bod yn argyhoeddedig ers tro fod angen rhywbeth tebyg arnom yn y sector cynhyrchu bwyd, ac mae yna dir wedi'i nodi fel tir ardal fenter y gellid ei ddefnyddio i ddatblygu parc cynhyrchu bwyd o'r fath. Mae gennym yr holl gynhwysion, os mynnwch, ar Ynys Môn i ddatblygu parc bwyd o'r fath—mae'r ganolfan technoleg bwyd yn wych yn Llangefni; mae gennym draddodiad o gynhyrchu bwyd, ac mae gennym gwmnïau cynhyrchu bwyd llai o faint sy'n awyddus i dyfu ac yn chwilio am help. Mae Gweinidogion eraill yn gefnogol i edrych ar hyn mewn egwyddor. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i fy helpu, i weithio gyda buddsoddwyr i geisio gwireddu hyn? Ac a wnaiff hi gyfarfod â mi i edrych ar sut y gallwn symud hyn ymlaen o'r diwedd, gobeithio, gan gofio bod gennym fwy o bartneriaid yn ein cefnogi bellach?
Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â Rhun ap Iorwerth i siarad ychydig yn fanylach am hyn. Rwy'n credu fy mod yn cofio dadl fer a hyrwyddwyd gan yr Aelod yn y Senedd gryn dipyn o amser yn ôl, a hyd yn oed bryd hynny, roedd yna botensial sylweddol. Ond mae pethau wedi symud ymlaen ers hynny ac rwy'n credu bod hynny'n galonogol iawn. Felly, yn sicr, rwy'n hapus iawn i gael y cyfarfod hwnnw.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i greu swyddi gwyrdd mewn trefi, a chymoedd ôl-ddiwydiannol fel y Rhondda? OQ61554
Mae cyfleoedd sero net enfawr ledled Cymru i gefnogi twf busnes ac i ddatblygu technolegau newydd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd creu llif o unigolion medrus a thalentog, rhywbeth a oedd yn un o'r saith blaenoriaeth allweddol yn y cynllun gweithredu sgiliau sero net.
Roedd fy etholaeth yn allweddol yn ystod y chwyldro diwydiannol, ac nid yw'n gyfrinach ein bod ers hynny, ar wahân i swyddi mewn crefftau, wedi cael anhawster gwirioneddol gyda chyflogaeth leol gyfyngedig, yn enwedig yn y sector ynni. Mae gan swyddi gwyrdd botensial i wrthdroi hyn. Gyda digonedd o adnoddau naturiol, megis prosiect hydro Cambrian a thyrbinau gwynt ledled y cwm, ynghyd â'r farchnad gynyddol ar gyfer cartrefi cynaliadwy, mae gennym botensial sylweddol heb ei gyffwrdd. Pa mor bwysig yw ffurfio partneriaethau rhwng colegau, cwmnïau ynni a chymdeithasau tai i greu swyddi gwyrdd y dyfodol? Yn ogystal, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog a hwyluso'r partneriaethau hyn i sicrhau bod y Rhondda'n elwa o'r pontio i ynni gwyrdd a chreu swyddi?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a'r cyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd swyddi gwyrdd a thwf gwyrdd i bob rhan o Gymru, yn enwedig y rhai sydd â'r dreftadaeth ddiwydiannol iawn honno, oherwydd gallant fod ar y blaen yn y don nesaf o ddiwydiant a'r gofod gwyrdd a sero net hwnnw. Rwy'n credu y bydd y gwaith a wnawn trwy Trydan Gwyrdd Cymru yn bwysig iawn wrth ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, ac yn hollbwysig, wrth gadw buddion y rheini yn ein cymunedau yma yng Nghymru ac o fewn y cadwyni cyflenwi sydd gennym yma yng Nghymru. A hefyd, wrth gwrs, bydd yr incwm o'r prosiectau, wrth iddynt ddatblygu, yn cael ei gadw yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i fod yn gyffrous iawn yn ei gylch ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn barhau i ailfuddsoddi yn ein cymunedau. Ac wrth gwrs, mae gennym Ynni Cymru yn cefnogi prosiectau ynni cymunedol, gyda £10 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi prosiectau ynni lleol clyfar. Wrth gwrs, roedd Ynni Cymru yn rhan o'n hymrwymiad gyda'r cytundeb cydweithio. Felly, rydym yn parhau â'r ddau beth hyn. Rwy'n credu eu bod yn gyffrous iawn. A phan fyddwch chi'n rhoi hynny yng nghyd-destun y cynllun gweithredu sero net, y cyfeiriais ato'n gynharach, sy'n ymwneud â sgiliau o'r ysgol yr holl ffordd at bobl sy'n awyddus i ailsgilio yn dilyn gyrfa flaenorol, rwy'n credu ein bod mewn man cyffrous iawn.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog rhieni plant ifanc yn ôl i'r gweithlu? OQ61572
Diolch. Ynghyd â'r Adran Gwaith a Phensiynau, mae gennym set gynhwysfawr o fesurau ar waith trwy ein rhaglenni cyflogadwyedd a'n cynnig gofal plant i gynorthwyo rhieni i ddychwelyd i'r gwaith.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae cael rhieni i ddychwelyd i'r gweithlu yn allweddol i economi ffyniannus. Rwy'n gwybod y byddech chi'n cytuno â hynny. Y llynedd, canfu Oxfam fod dros chwarter y rhai a ymatebodd i'w harolwg o Gymru yn gwario dros £900 y mis ar gostau gofal plant, gyda 43 y cant yn dweud nad oeddent wedi gallu talu costau hanfodol eraill ar ôl talu am ofal plant.
Mae'n destun pryder fod dros hanner yr ymatebwyr wedi dweud nad yw'n gwneud synnwyr ariannol iddynt weithio, ar ôl talu am gostau gofal plant. Mae'n amlwg fod gan hyn oblygiadau i economi Cymru. Oes, mae gan Lywodraeth Cymru gymorth i blant dros dair oed. Ond dyna werth tair blynedd o gostau gofal plant y mae rhieni Cymru yn eu talu ond nad yw rhieni o Loegr yn eu talu. Gyda hyn mewn golwg, Weinidog, pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i ehangu cymorth gofal plant yng Nghymru fel ffordd o roi hwb i economi Cymru?
Diolch i Peter Fox am y cwestiwn atodol. Rwy'n cytuno ag ef fod cael rhieni i ddychwelyd i'r gwaith yn bwysig i economi Cymru. Ar y cynnig gofal plant, cyfrifoldeb y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yw'r cynnig gofal plant, ac mae wedi clywed yr hyn a ddywedoch chi heddiw. Ond bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r cynnig gofal plant a'r sgyrsiau a gawsom gan iddo gymryd rhan yn y broses ddeisebau, a gwyntyllu rhai o'r problemau hyn gyda chynnig Cymru a chynnig Llywodraeth flaenorol y DU, a'r pryderon ynghylch y cynnig yn Lloegr oherwydd diffyg staff cymwys.
Felly, Lywydd, rwy'n ymatal rhag camu i faes cyfrifoldebau fy nghyd-Aelod, ond rwyf am ddweud ein bod yn sicrhau ein bod yn hyfforddi digon o staff cymwys ym maes gofal plant. Rwy'n falch iawn o'r ymrwymiad a roddwn, a'r gefnogaeth a roddwn, i ddarparu hyfforddiant ac uwchsgilio yn y sector hwn, yn enwedig drwy ein rhaglen brentisiaethau, gyda chyllid ar gyfer dysgu seiliedig ar waith mewn gofal plant a chwarae a datblygu.
Lywydd, mae pwysigrwydd dychwelyd i'r gwaith—. Wel, fel tad newydd—ac rwy'n credu bod Noa a'i fam yn y Siambr y prynhawn yma—rwy'n gwybod yn iawn am y pwysau o gydbwyso'r cyfrifoldeb o fod yn rhieni i blentyn ifanc â chyfrifoldebau gwaith.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod rhieni sy'n ceisio dychwelyd i'r gwaith yn deall eu hawliau a'u rolau yn y gweithle. Gwn fod ein partneriaid yn yr undebau llafur yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn, gan sicrhau bod eu haelodau'n deall eu hawliau wrth iddynt ddychwelyd i'r gwaith, drwy'r cyfnod pontio, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am bopeth a wnânt.
Yn olaf, cwestiwn 8—Luke Fletcher.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am ddarparu prentisiaethau yng Nghymru? OQ61577
Diolch i Luke Fletcher am y cwestiwn. Mae £143 miliwn wedi'i ddyrannu i'r rhaglen brentisiaethau eleni, er mwyn sicrhau manteision economaidd hirdymor a chyfleoedd gyrfa cryf. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb o gyflwyno'r rhaglen brentisiaethau i Medr o 1 Awst. Mae data Medr yn dangos bod 55,095 o brentisiaid wedi dechrau ar y rhaglen brentisiaethau y tymor seneddol hwn hyd yma.
Diolch am yr ateb, Weinidog.
Yn anecdotaidd, mae colegau'n nodi cynnydd yn nifer yr unigolion sy'n dweud eu bod am ddechrau yn y coleg, yn ogystal â dysgwyr sy'n gwneud hynny mewn gwirionedd. Maent hefyd yn nodi cynnydd yn y nifer sy'n dechrau ar draws pob maes galwedigaethol. Ar y llaw arall, adroddodd UCAS yn ôl ym mis Gorffennaf am her sylweddol i brifysgolion Cymru o ran niferoedd ymgeiswyr, gyda nifer yr ymgeiswyr o Gymru yn gostwng i'r lefel isaf ers 15 mlynedd.
Felly, a yw'r Gweinidog yn credu ein bod yn dechrau gweld tuedd tuag at hyfforddiant galwedigaethol mwy lleol yn y colegau, a sut y mae hyn yn dylanwadu ar syniadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â Medr? A yw, er enghraifft, yn rhagweld y bydd cyllid Medr yn dilyn y dysgwyr?
Diolch i Luke Fletcher am y cwestiwn atodol. A gaf i ddiolch iddo hefyd am y gwaith a wnaed ganddo ef a'i gyd-gadeirydd, Hefin David, yn y grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau? Credaf ei fod yn grŵp trawsbleidiol gwerthfawr yma yn y Senedd. Mae'r cyfrifoldebau am Medr bellach wedi cael eu trosglwyddo. Felly, maent yn gyfrifol am yr holl faterion gweithredol sy'n ymwneud â phrentisiaid, ac rydym yn disgwyl iddynt hwy a phartneriaid gyflawni yn erbyn ein datganiad polisi, a nodwyd ym mis Chwefror y llynedd.
Efallai nad wyf yn synnu gweld mwy o ddysgwyr yn dewis y llwybr galwedigaethol. Rwy'n falch iawn o'r ffaith mai felly mae hi. Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch sy'n goruchwylio cyfrifoldebau Medr, ac rwy'n siŵr y bydd yn ystyried yr hyn a ddywedoch chi heddiw. Maent wedi amlinellu eu cynllun strategol ar gyfer ymgynghori yr wythnos hon, ac rwy'n siŵr y byddant wedi clywed syniadau’r Aelod ynglŷn ag a ddylai'r cyllid ddilyn y llwybr penodol hwnnw.
Ond ar brentisiaid, Lywydd, rwy'n llwyr gefnogi prentisiaethau yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o hanes y Llywodraeth hon yng Nghymru gyda phrentisiaethau—dylwn wybod, fel cyn brentis fy hun. Credaf mai fi yw'r Gweinidog cyntaf â chyfrifoldeb dros brentisiaethau i fod wedi dilyn y llwybr hwnnw. Rwy'n hynod falch o hynny, ac rwy'n falch o'n cyflawniad. Bydd prentisiaethau'n chwarae rhan allweddol yn cyflawni ein potensial twf gwyrdd a swyddi yng Nghymru, ac mae honno'n flaenoriaeth a nodwyd gan y Prif Weinidog, ac yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.
A dylwn ddweud, Lywydd, roeddwn yn falch o weld cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ardoll twf a sgiliau newydd yn y DU, yn lle'r ardoll bresennol. Rwy'n gweld hwn fel cyfle go iawn i ddwy Lywodraeth Lafur gydweithio ar ardoll ddiwygiedig—un sy'n gweithio gyda busnesau Cymru, un sy'n gweithio gyda darparwyr hyfforddiant Cymru, ac yn bwysig, un sy'n gweithio i brentisiaid Cymru. Edrychaf ymlaen at ymgysylltu â Gweinidogion y DU ar y mater hwnnw, a chyda'r Aelod hefyd ar y materion hyn wrth symud ymlaen.
Diolch i'r Gweinidog, a diolch, hefyd, i'r Ysgrifennydd Cabinet am y sesiwn yna.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Carolyn Thomas.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ymuno â gweithlu'r GIG yng Ngogledd Cymru? OQ61574
Yng ngoleuni'r prinder byd-eang o weithwyr gofal iechyd, mae pob gwlad ledled y DU yn wynebu heriau gweithlu. Mae effeithiau hyn i'w gweld ar hyd a lled Cymru. Wrth gydnabod yr angen i weithredu, ym mis Ionawr 2023, fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu, sy'n nodi camau i wella recriwtio a chadw staff, gan gynnwys gwella lles staff.
Diolch am yr ateb, Weinidog. Y mis hwn, diolch i gymorth buddsoddiad Llywodraeth Cymru, mae'r ysgol feddygaeth newydd, Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru, ym Mhrifysgol Bangor wedi croesawu ei myfyrwyr cyntaf, sy'n cynnwys cymysgedd o rai sy'n gadael ysgol a myfyrwyr graddedig. Bydd Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru yn tyfu dros amser i ddarparu gradd i hyd at 140 o feddygon newydd gymhwyso ymuno â gweithlu'r GIG bob blwyddyn, gan greu llwybrau newydd i fyfyrwyr wireddu eu breuddwyd o ymuno â'r proffesiwn meddygol, a gwneud eu cartref yng ngogledd Cymru—gogledd Cymru hardd—fel y mae pawb ohonom eisiau ei weld. Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod hon yn enghraifft wych o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog y rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal iechyd i hyfforddi, gweithio a byw yma yng Nghymru, yng ngogledd Cymru? A sut y bwriadwch chi weithio gyda'n cymheiriaid Llafur newydd yn San Steffan i helpu i gau'r bylchau yn ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Yn amlwg, bydd sefydlu'r ysgol feddygol newydd yng ngogledd Cymru yn ein galluogi i hyfforddi mwy o fyfyrwyr meddygol yma yng Nghymru, ond bydd hefyd yn sicrhau y gallwn ddosbarthu cyfleoedd hyfforddi a darparu meddygon â chanddynt gymwysterau da ledled Cymru hefyd, gobeithio.
Mae'r profiad a gynigiwn i fyfyrwyr yng Nghymru ar frig y tablau cynghrair yn rheolaidd o ran profiad rhagorol i fyfyrwyr, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono. Ac mae myfyrwyr hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn yn darparu gwasanaethau, trwy eu lleoliadau ledled Cymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, fel rydym eisoes wedi trafod yn y Siambr heddiw, i fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad a wnawn trwy gyflogi a chadw gweithwyr proffesiynol newydd gymhwyso. Rwy'n meddwl bod yr ysgol feddygol newydd yn newydd da i fyfyrwyr, mae'n newydd da i bobl gogledd Cymru, ac i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr hefyd.
Mae'r broblem sy'n gysylltiedig â recriwtio a chadw staff yn fater anwleidyddol i raddau helaeth iawn, ac fel cyn-weithiwr ym mwrdd Betsi Cadwaladr, nid yw'r ymadrodd 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yng ngogledd Cymru yn newydd o gwbl yn hynny o beth, oherwydd roedd bob amser yn rhywbeth a gâi sylw. Rwy'n falch y bydd yr ysgol feddygol, gobeithio, yn creu ffyrdd o gyflawni hynny, ac y gallwch fyw a gweithio mewn amgylchedd lle rydych chi'n ennill wrth i chi ddysgu, os mynnwch. Oherwydd mae hynny'n rhywbeth a oedd, yn ei hanfod, yn rhwystr mawr yn fy ngyrfa gynnar yn y GIG. Mewn gwirionedd, y nenfwd gwydr yn torri i mewn ydoedd, a chael cyfleoedd hyfforddi o fewn y gweithlu.
Ond hoffwn ofyn cwestiwn ynglŷn â hyfforddi a datblygu staff presennol yn y GIG a pha gymorth ac arweiniad y byddech chi'n ei roi i fyrddau iechyd yn hynny o beth, oherwydd mae'n bwysig cofio nad yw ceisio dewis arall addysgol i rai o'r proffesiynau hyn bob amser yn deg yn ariannol ac mae'n galw am lawer o aberth ac ymroddiad. Felly, rwy'n awyddus i edrych ar lwybrau y gall Llywodraeth Cymru eu harchwilio—cynllun datblygu ennill-wrth-ddysgu yn fewnol o fewn y GIG a all greu mwy o hylifedd o fewn y gweithlu, a rhoi amser gwarchodedig i weithwyr proffesiynol hefyd fel nad ydynt yn cael eu dadrithio yn eu gyrfaoedd ac yn y bôn, fel nad ydynt yn gadael y gwasanaeth iechyd, fel bod 'Hyfforddi. Gweithio. Byw', yn gallu golygu mwy na geiriau cynnes yn unig. Diolch.
Mae ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' wedi bod yn ymgyrch lwyddiannus iawn, mewn gwirionedd. Y llynedd, rwy'n credu bod cyfanswm o 199 o feddygon teulu dan hyfforddiant newydd wedi’u recriwtio i gynlluniau ledled Cymru, sy’n nifer fawr. Credaf fod yr Aelod yn iawn i ddweud ei bod yn bwysig ein bod yn darparu, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi ac addysg da i weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob math gymhwyso, 80 o leoedd hyfforddi ychwanegol i fyfyrwyr newydd yn y gogledd i ddechrau, gan gynyddu i 140. Bydd hynny’n gwneud cyfraniad sylweddol i'r niferoedd cyffredinol, a dim ond y gogledd yw hynny; mae'n amlwg fod cynnydd wedi bod yn y de hefyd.
Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai'r hyn sydd hefyd yn hollbwysig, rwy'n credu, o ran darparu gofal a chynnal gwybodaeth gyfredol o ran sgiliau, yw'r cymhellion sy'n annog pobl i aros yn y sectorau iechyd a gofal, sy'n flaenoriaeth hollbwysig i ni. Mae hynny’n dibynnu ar allu cynnig, fel y gwnawn, pecyn deniadol o hyfforddiant ac addysg barhaus a llwybr clir o hyfforddiant israddedig i hyfforddiant ôl-raddedig drwy yrfa’r unigolyn. Felly, credaf fod yr ymrwymiad i gadw staff—mae gennym bellach arweinydd cadw staff ym mhob ardal bwrdd iechyd lleol—gyda dimensiwn wedi'i gynllunio, yn y cynllun gweithredu ar gyfer y gweithlu, wedi'i ategu gan ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant, yn hollbwysig.
2. Faint o fyrddau iechyd sydd â chynlluniau teithio ar waith ar gyfer staff a chleifion, a beth yw’r trefniadau ar gyfer monitro ac adrodd ar y cynlluniau hyn? OQ61551
Ers 2008, mae wedi bod yn ofynnol i fyrddau iechyd yng Nghymru fod â chynlluniau teithio cynaliadwy ar waith ar gyfer cleifion a staff yn eu prif ysbytai. Mae trefniadau monitro yn nwylo’r byrddau iechyd, ac nid yw’r cynlluniau’n cael eu cyflwyno na’u monitro gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
Diolch. Mae unrhyw un sydd wedi ceisio parcio mewn ysbyty yn gwybod pa mor hunllefus y gall fod, ac mae’r ymchwil hefyd yn dangos, yn y rhan fwyaf o achosion, fod mwyafrif y staff mewn ysbyty yn byw o fewn pellter agos ac yn gweithio oriau swyddfa, ac eto’n gyrru. A gwyddom y gall cynllunio teithio, o'i fonitro a'i gefnogi'n iawn—nad yw'n digwydd bob amser ar hyn o bryd, yn ôl yr ateb—arwain at leihau nifer y bobl sy'n gyrru i'r ysbyty, a all wedyn ryddhau lleoedd mewn meysydd parcio i ymwelwyr. Er mwyn cyflawni ein targedau newid hinsawdd ehangach, gwyddom fod angen inni leihau nifer y teithiau a wneir mewn ceir, a dywedodd adroddiad Sero Net 2035 Cymru yr wythnos diwethaf fod gan gyflogwyr mawr fel y GIG ran allweddol i’w chwarae yn cymell cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau i'r gwaith. Felly, beth arall y gall y sectorau iechyd a gofal ei wneud i gyfrannu at y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac i leddfu’r tagfeydd ar safleoedd ysbytai?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Credaf mai’r hyn sy’n sail i'w gwestiwn yw’r cyfraniad y gall y gwasanaeth iechyd ei wneud i’r uchelgeisiau ehangach sydd gennym fel gwlad mewn perthynas â’n nodau sero net ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Ond credaf hefyd ei bod yn lens bwysig i'w defnyddio wrth edrych ar gynaliadwyedd y gwasanaeth iechyd ei hun a'r ymddygiadau y gall fodelu, i'w staff a'i gleifion, ac i'w bartneriaid yn fwy cyffredinol.
Fel y dywedais, ers 2008, mae’r gofynion hynny wedi bod ar waith. Fe wnaethom eu hailddatgan yn 2018 drwy gylchlythyr iechyd Cymru, a oedd yn nodi’r gofynion ar sefydliadau i roi’r cynlluniau hynny ar waith. Mae'r gofynion hynny'n parhau i fod yn berthnasol. Gwn fod byrddau iechyd yn defnyddio amrywiaeth o gymhellion i annog staff i ddefnyddio teithio llesol—felly, cynlluniau pasys bws, cynlluniau beicio i’r gwaith, rhannu ceir, ac ati. Mae’r cynllun cyflawni strategol ar gyfer datgarboneiddio GIG Cymru, a lansiwyd dair blynedd yn ôl, yn dilyn y canllawiau yn y cynllun teithio llesol i Gymru yn agos, i sicrhau bod teithio llesol yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau, yn enwedig yng nghyd-destun datblygiadau newydd. Ond credaf ei bod yn deg dweud, ar ôl gwneud ymholiadau gyda'r byrddau iechyd, fod y darlun yn amrywio mewn perthynas â chyhoeddi’r cynlluniau teithio llesol hynny. Ac o ystyried cyhoeddiad cynllun teithio llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru 2024-27, rwy'n credu ei bod yn amserol atgoffa’r sefydliad o’r gofyniad i fod â chynlluniau ar waith. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion yn fy adran wneud hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r diffyg gwasanaethau bws i ysbyty’r Faenor yn parhau i fod yn broblem fawr i lawer o fy etholwyr ar draws de-ddwyrain Cymru. Yn 2023, cyhoeddwyd y byddai llwybr bws uniongyrchol newydd yn rhedeg rhwng Coed-duon a’r ysbyty ei hun. Ond oddeutu saith mis yn ddiweddarach, daeth y gwasanaeth i ben pan roddodd Llywodraeth Cymru y gorau i ddarparu cyllid. Fel y gwyddoch yn iawn, rwy'n siŵr, Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o broblemau'n codi gydag ysbyty’r Faenor, gan gynnwys diffyg hygyrchedd. Roedd y gwasanaeth hwn yn hynod fuddiol i fy etholwyr, yn enwedig y rheini nad ydynt yn gyrru, neu'n wir, yn dilyn triniaethau, a bellach, maent yn gorfod dioddef teithiau hir ar sawl bws. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi fod yn rhaid gwneud gwelliannau brys ar unwaith fel y gall trigolion gael mynediad at ysbyty'r Faenor, a pha drafodaethau a gawsoch gyda'r Ysgrifennydd trafnidiaeth ynglŷn â mynd i'r afael â'r mater, wrth symud ymlaen? Diolch yn fawr.
Wel, mae’r Ysgrifennydd trafnidiaeth a minnau'n gytûn ar hyn. Mae’r ddau ohonom yn cydnabod pa mor bwysig yw cael gwasanaethau bws sy’n galluogi teuluoedd, cymunedau i gysylltu â gwasanaethau, yn ogystal â’i gilydd. Credaf fod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud yn tynnu sylw at un o’r heriau sy’n ein hwynebu yn ein model presennol ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau, y credaf y gellir dweud, drwy unrhyw fesur realistig, ei fod yn ffaeledig ac angen lefelau enfawr o gymhorthdal cyhoeddus, ac nad yw'n darparu'r budd cyhoeddus y mae angen iddo ei ddarparu. Dyna sydd wrth wraidd y ddeddfwriaeth y bwriadwn ei chyflwyno i’r Senedd, i'n galluogi i ailreoleiddio’r rhwydwaith bysiau yng Nghymru, gan roi cyfle inni sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu lle mae eu hangen, yn hytrach na lle maent yn broffidiol i gwmnïau bysiau.
I ddilyn ymlaen o gwestiwn Natasha—
—a heb ailadrodd yr un ddadl, gan nad yw ysbyty'r Faenor yn cael ei wasanaethu'n dda gan rai o'r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi bod yno, ac yn amlwg, cafodd y gwasanaeth bws y soniodd Natasha amdano ei ddiddymu ar ôl chwe mis, a allech chi fanylu rhywfaint ar sut olwg sydd ar y trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, a hefyd beth yw eich barn am y Bil bysiau, pan ddaw? Sut y bydd y GIG yn cyfrannu at astudiaethau dichonoldeb ar gyfer ble mae angen i’r llwybrau hynny fod a sut y mae angen ichi gysylltu ysbytai ar draws y de-ddwyrain a ledled Cymru â’r gwasanaeth bysiau?
Mae honno’n ystyriaeth bwysig. Yn amlwg, rwy'n credu bod sicrhau bod gwasanaethau y mae'r cyhoedd angen mynediad atynt yn cael eu cefnogi gan ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth newydd yn hollbwysig. Credaf y bydd cyfle i drafod yn fanylach sut olwg fydd ar hynny pan fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno. Felly, efallai y bydd yn rhaid i’r Aelod fod yn amyneddgar am ychydig bach eto.
Cwestiynau'r llefarwyr nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei bod yn barod i ddefnyddio’r sector preifat yn GIG Cymru. A ydych chi'n barod?
Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud defnydd o gapasiti’r sector preifat er lles pawb, os mynnwch, ers blynyddoedd lawer. Rydym yn cydnabod bod y flaenoriaeth y mae’r Llywodraeth yn ei rhoi i leihau rhestrau aros yn golygu y bydd yn rhaid inni edrych ar ba bynnag opsiynau sydd ar gael. Mewn gwirionedd, yn y tymor hir, rwy'n credu mai’r hyn yr hoffem ei wneud yw sicrhau bod gennym y lefel o arloesedd a dysgu o arferion gorau o fewn y sector cyhoeddus, ond mae adegau wedi bod pan fo angen inni ddefnyddio capasiti'r sector preifat i'n helpu gyda'r nodau cyhoeddus hynny.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym wedi galw’n gyson am fwy o waith partneriaeth gyda’r sector preifat a’r trydydd sector, fel y dywedwch, i ategu a chynorthwyo’r GIG yma yng Nghymru, sy'n gwegian ar ôl chwarter canrif o dan reolaeth Llafur Cymru. Felly, rwy'n falch eich bod yn cytuno ag un o syniadau'r Ceidwadwyr Cymreig ac wedi dechrau cefnogi hynny hefyd. Fel Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros iechyd, rwy'n gobeithio y gwelwn ymagwedd fwy cydlynol a chadarnhaol gennych at ddefnyddio’r sector preifat a’r trydydd sector er mwyn cefnogi, fel y dywedwch, y rhestrau aros ofnadwy a welwn yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Mewn perthynas â’r rhestrau aros hynny, ni chefais ateb ddoe gan y Prif Weinidog ar y mater hwn. Felly, a allwch chi ddweud wrthyf pa dargedau a osodir gennych ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG?
Wel, i fod yn glir, credaf fod yr Aelod, os caf ddweud, yn anghywir os yw’n credu fy mod yn rhannu barn y Ceidwadwyr ar sut i redeg y GIG. Ac i fod yn glir, yr egwyddor y mae Llywodraeth Cymru wedi’i defnyddio wrth wneud defnydd o gapasiti’r sector preifat yw na ddylai hynny fod ar draul capasiti hirdymor y GIG, sy’n gwbl wahanol i’r dull a ddefnyddiwyd gan Lywodraethau Ceidwadol yn Lloegr dros y 14 mlynedd diwethaf.
Y targedau a gyhoeddwyd gennym mewn perthynas ag amseroedd aros yw'r targedau sydd ar gael i'r cyhoedd, ac rydym yn eu hadrodd yn fisol. Cyhoeddwyd y ffigurau diweddaraf fis diwethaf, wrth gwrs. Yr hyn yr hoffwn ei sicrhau, gyda'r lefel o flaenoriaeth y mae’r Llywodraeth hon yn ei rhoi i leihau’r amseroedd aros, yw y gallwn wneud gwell cynnydd yn erbyn y targedau a osodwyd gennym eisoes. Fel y bydd yr Aelod wedi’i weld o’r wybodaeth a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, mae'r darlun yn amrywio rhwng byrddau iechyd mewn perthynas â gwahanol fesurau, gwahanol wasanaethau, a’r her a'r cyfle i ni yw sicrhau bod y rhannau o'r sefydliad sydd angen gwneud mwy i gyflawni eu targedau yn gallu dysgu oddi wrth y rhai sy'n gwneud yn well. Mae pob bwrdd iechyd yn gwneud yn dda mewn rhai meysydd, ac mae gan bob bwrdd iechyd feysydd y mae angen iddynt weithio arnynt. Felly, mae cael dull cydweithredol, arloesi cydweithredol, ar draws y system, yn rhan allweddol o'r ateb yn fy marn i.
Ydy, ac fel y dywedwch, mae’r dull cydweithredol hwnnw’n wirioneddol bwysig, ond yn anffodus, ni chredaf ein bod wedi gweld digon ohono. Ac enghraifft fyw y gallaf ei rhoi i chi, ar gyfer llawdriniaethau glawcoma yn Wrecsam ar hyn o bryd, yw bod cleifion yno'n aros am dair blynedd ar restr aros ar gyfer clefyd sy'n amlwg yn cael effaith aruthrol ar eu bywydau bob dydd. Os ydych chi'n byw yn swydd Gaer, mae’n amser aros o bedair wythnos, dafliad carreg dros y ffin, gan fod gan yr ymddiriedolaeth iechyd yno drefniant partneriaeth gyda chwmni sector preifat i ddarparu'r llawdriniaethau hynny. Amser aros o bedair wythnos yn swydd Gaer, amser aros o dair blynedd yn Wrecsam. Felly, mae yna gyfleoedd enfawr.
O ran y targedau y soniasom amdanynt hefyd, mae'n siomedig nad yw llawer o'r targedau sydd yn eu lle yn werth y papur y maent wedi'u hysgrifennu arno. Ac ymddengys bod canlyniadau methiant i gyflawni'r targedau hynny yn eithaf gwan, a dweud y lleiaf. Ac mae'n rhyfeddol, wrth inni glywed eto ddoe gan y Prif Weinidog am y cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar dorri rhestrau aros a gweithio ar y cyd, mae'n rhyfeddol ei fod mor brin o fanylion ynglŷn â sut olwg fydd ar y cydweithio, gan y byddech chi'n cytuno, rwy’n siŵr, fod torri rhestrau aros yn sicr yn un o’ch prif flaenoriaethau yma yng Nghymru—dyna mae pobl Cymru am ei weld. Felly, pam nad oes cynllun pendant, yn ôl pob golwg, ar gyfer lleihau'r rhestrau aros hynny?
Wel, rwy'n credu bod yna gynllun ar gyfer lleihau'r rhestrau aros hynny. Mae’r pwynt a wnaeth y Prif Weinidog ddoe yn adlewyrchu’r pwynt yr wyf newydd ei wneud i’r Aelod yn fy ateb nawr, sef ei bod hi'n bwysig iawn i'r gwasanaeth iechyd edrych ar arferion gorau mewn rhannau eraill o’r sefydliad a thu hwnt, yn union fel y caiff yr holl wasanaethau cyhoeddus yr ydym yn gyfrifol amdanynt yma yng Nghymru eu hysbrydoli gan arferion gorau, lle bynnag y bônt. A’r pwynt yr oedd y Prif Weinidog yn ei wneud oedd, lle rydym wedi gweld, mewn rhannau o GIG Lloegr yn yr achos penodol hwn, strategaethau llwyddiannus ar gyfer cefnogi lleihau rhestrau aros—ac yn sicr, nid yw targedau’n cael eu cyflawni yn Lloegr ychwaith, ond mae elfennau o gynnydd—y cwestiwn yw sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddysgu o hynny. Bydd rhai o’r rheini’n gweithio i ni yng Nghymru, efallai, a bydd yna rai eraill na fyddant yn gweithio, ond rwy'n credu bod cael dull cydweithredol, lle gallwn ddysgu o bethau sydd wedi gweithio, yn gwneud synnwyr.
Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, dwi am groesawu’r Ysgrifennydd Cabinet i’w rôl newydd unwaith eto, ac rydyn ni i gyd yn dymuno’n dda iddo fo wrth iddo fo ymdrechu i fynd i’r afael â’r heriau anferthol sydd o fewn y sector iechyd.
Wrth gwrs, Llywydd, yr Ysgrifennydd Cabinet presennol ydy’r chweched aelod o’r grŵp Llafur i ddal y portffolio iechyd ac, yn wir, y trydydd eleni. Ond er y chwyrligwgan yma o apwyntiadau gweinidogol, yr un ydy’r record iechyd o hyd. Mae pob Gweinidog neu Ysgrifennydd Cabinet yn ei dro, neu yn ei thro, wedi sôn am leihau'r rhestrau aros, a dŷn ni wedi clywed hwnna eto y prynhawn yma. Ond, yn y pen draw, maen nhw’n gadael y swydd gyda’r un rhestrau aros yna wedi cynyddu. Beth ydych chi am wneud yn wahanol?
Wel, rwy’n credu, os edrychwch chi ar y rhestrau aros hiraf o dan fy rhagflaenydd i, y Prif Weinidog, rŷn ni wedi gweld cynnydd sylweddol iawn dros y ddwy flynedd diwethaf, gyda chynnydd wrth gyrraedd y nod, gyda rhyw 67 y cant yn llai ar y rhestrau hwy nag oedd gyda ni ddwy flynedd yn ôl. Rydym ni wedi gweld dros y tri, pedwar mis diwethaf ein bod ni wedi colli’r cynnydd hwnnw. Felly, beth mae hynny’n dangos yw bod angen cynnydd cynaliadwy i’r dyfodol.
Felly, mae llawer o bethau yn y system yn barod i fynd i’r afael â hyn. Y peth cyntaf yw ffyrdd newydd, ffyrdd arloesol, o fynd i’r afael â rhai o’r heriau. Felly, rydym ni’n edrych ar beth yn fwy gallwn ni ei wneud i sicrhau bod defnydd o operating theatres yn fwy effeithiol, sut allwn ni greu clinigau er mwyn i lawdriniaethau llai cymhleth gael eu gwneud yn gyflymach, heb orfod aros dros nos, pa ddefnydd pellach gallwn ni ei wneud o AI, er enghraifft. Felly, mae enghreifftiau o arloesi yn y system yn barod. Beth rwyf i eisiau ei weld yw bod mwy a mwy o hynny yn digwydd. Rwyf wedi sôn yn barod am ba mor bwysig yw hi ein bod ni’n dysgu o lwyddiannau o fewn y system yn gyflymach, ein bod ni’n gallu gweld lle mae’r llwyddiannau a’u rhannu nhw, eu lledaenu nhw'n gynt nag yr ydym ni wedi llwyddo ei wneud yn y gorffennol.
Rydym ni hefyd wedi gweld—beth mae’r Prif Weinidog wedi bod yn dweud dros yr wythnosau diwethaf—cymaint o flaenoriaeth yw lleihau rhestrau aros nawr. Felly, mae hynny’n golygu bod ailflaenoriaethu o fewn y Llywodraeth yn dod yn sgil hynny. Ond, wrth wraidd yr holl waith yma, rwy’n credu, mae cydweithio gwell o fewn y gwasanaeth iechyd a rhwng y gwasanaeth iechyd ac, er enghraifft, cynghorau lleol, ond partneriaid eraill hefyd.
Geiriau cynnes, ond yr hyn a welwn, mae arnaf ofn, yw'r un canlyniad. Nawr, mae adroddiad Darzi yn nodi'r methiannau yn system iechyd Lloegr, system y mae’r Gweinidog Llafur, Wes Streeting, a Phrif Weinidog y DU, Keir Starmer, yn dweud ei bod wedi torri ac mai'r Llywodraeth Dorïaidd flaenorol sydd ar fai am hynny. Dywedant y byddant yn cymryd cyfrifoldeb am ei thrwsio. Ar bob metrig, mae’r GIG yn perfformio’n waeth yng Nghymru, ac eto, mae’r Llywodraeth hon yn gwadu unrhyw gyfrifoldeb ac yn beio pawb arall, o reolwyr iechyd i’r cyhoedd, am wahanol fethiannau. Felly, yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb am drwsio'r system, yn hytrach datganiad i'w graffu yn y Senedd, cawn bennawd o gynhadledd y Blaid Lafur fod y Llywodraeth hon yn bwriadu allanoli ei chyfrifoldeb am y GIG i San Steffan. Arhoswn gyda diddordeb i weld manylion y cytundeb, ond onid yw hyn yn enghraifft o Lywodraeth Cymru yn ymwrthod â chyfrifoldeb? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai cyfaddefiad yw hyn fod 25 mlynedd o Lafur mewn Llywodraeth yng Nghymru wedi bod yn fethiant enbyd o ran rhedeg ein GIG?
Credaf fod rhethreg yr Aelod yn anwybyddu ffeithiau'r mater hwn. I ailadrodd, os na chlywodd fy ymateb i’r cwestiwn cynharach, rwy'n credu mai'r hyn a gyhoeddodd y Prif Weinidog yn y gynhadledd oedd dull gwahanol o weithredu, a chredaf y byddai’r Aelod yn cytuno â mi, y dylai pob agwedd ar y gwaith yr ydym yn gyfrifol amdano yma yn y Senedd ddysgu o arferion da yng Nghymru a lle bynnag arall y'i ceir. Roedd y Prif Weinidog yn disgrifio dull partneriaeth er mwyn inni allu gwneud mwy o hynny yn y dyfodol. Fel y nodais yn glir iawn yn yr holl gyfweliadau a wneuthum ers imi ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, nid oes unrhyw amheuaeth fod pob un ohonom yn atebol am ein rolau a’n cyfrifoldebau o fewn y Llywodraeth ac o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae gan bob un ohonom ran wahanol i’w chwarae, ac mae pob un ohonom yn gyfrifol am weithio gyda’n gilydd ac yn atebol am y canlyniadau hynny.
Mae’r problemau yn y gwasanaeth iechyd wedi bod, wrth gwrs, yn wybyddus ers blynyddoedd, gyda rhybuddion wedi cael eu rhoi o brinder meddygon teulu a phrinder nyrsys ac eraill yn y gweithlu ers degawd a mwy. Mae’r diffyg gweithredu ar y rhybuddion yn effeithio, felly, yn uniongyrchol ar les ac iechyd pobl bob dydd heddiw.
Ystyriwch hanes Rhythwyn Evans o ardal Tregaron. Bedair blynedd yn ôl, ar ôl cael ei ysbrydoli gan Gapten Tom, fe gododd Rhythwyn £50,000 yn ystod y pandemig i fwrdd iechyd Hywel Dda trwy gerdded o amgylch ei fyngalo. Rŵan, mae Rhythwyn yn derbyn gofal mewn gwely yn ysbyty Tregaron, ar yr union amser pan fo’r bwrdd yn ystyried cau y gwelyau yno. Mae hyn yn dilyn cau ward Dyfi yn Nhywyn, cau unedau mân anafiadau Llandrindod, Aberhonddu a Prince Philip yn Llanelli dros nos, ac wrth gwrs yn ystyried cau uned plant Bronglais, oll oherwydd diffyg nyrsys ac anallu staffio, ac yn gwbl groes i’ch rhethreg chi o ddarparu gofal yn agosach i adref. Felly, beth yn wahanol ydych chi am wneud i sicrhau bod gyda ni y gweithlu angenrheidiol mewn lle er mwyn sicrhau bod y cleifion yma yn derbyn gofal yn eu cymuned?
Wel, mae mwy o bobl yn gyflogedig gan y gwasanaeth iechyd nawr nag erioed. Mae'r ffigurau meddyg teulu yn gyson, ar ôl cynnydd sylweddol. Mae heriau recriwtio mewn mannau yn y gwasanaeth iechyd a gofal, fel sy'n wir ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mae'r gwaith rŷn ni wedi bod yn ei wneud i recriwtio yn cael llwyddiannau. Mae gyda ni fwy o lefydd ar gyfer hyfforddi nyrsys eleni nag a gafodd eu llenwi llynedd. Dyw popeth ddim yn iawn. Dwi wedi cydnabod bod anghenion penodol. Ond mae gwaith gyda ni sydd yn dangos llwyddiant. Dyw e ddim wedi cyrraedd yr hyn rŷn ni eisiau ei weld ac mae heriau yn y system. Ond mae'n glir o'r drafodaeth rŷn ni wedi'i chael yn barod heddiw beth yw ein hymrwymiad ni fel Llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n hyfforddi mwy o feddygon, hyfforddi mwy o nyrsys, recriwtio mwy o ddeintyddion a phobl broffesiynol eraill. Mae gwaith i'w wneud, ond mae cynlluniau gyda ni ar y gweill ar gyfer pob un o'r pethau hynny.
3. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sef 'Cysylltu’r dotiau: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'? OQ61567
Rydym yn parhau i wneud cynnydd ar y camau gweithredu a nodir yn ein hymateb i’r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor, a byddwn yn rhoi diweddariad llawn i’r pwyllgor yn gynnar yn 2025.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Yn ôl conffederasiwn y gwasanaeth iechyd, mae cyfraddau hunanladdiad mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru rhwng dwy a thair gwaith yn uwch nag mewn ardaloedd breintiedig. Mae 61 y cant o oedolion Cymru yn dweud bod eu sefyllfa ariannol nhw yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl. Yn syml, mae tlodi yn dinistrio bywydau, mae tlodi yn effeithio ar iechyd, mae tlodi yn lladd. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i daclo tlodi, sy'n effeithio ar iechyd cynifer yn ein gwlad ni ac yn arwain at nifer yn cymryd eu bywydau? Diolch yn fawr.
Diolch am eich cwestiwn. Fel i fy rhagflaenwyr, mae atal hunanladdiad yn flaenoriaeth, ac yn rhan o hyn, cytunwyd ar gyllid newydd ar gyfer iechyd meddwl, gyda chyllid ychwanegol ar gyfer cymorth wedi’i dargedu i'r agenda hon, ac mae’r cyllid hwn wedi trawsnewid y seilwaith yng Nghymru i atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae hyn yn cynnwys cryfhau’r trefniadau partneriaeth amlsector lleol drwy gydgysylltwyr rhanbarthol a sbarduno gweithredu cenedlaethol gyda’n harweinwyr atal hunanladdiad a hunan-niweidio cenedlaethol. Yn 2022 hefyd, fe wnaethom gyflwyno gwyliadwriaeth amser real hunanladdiad tybiedig yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth i helpu partneriaid i dargedu mesurau atal, sicrhau bod cymorth ar gael ac ymateb pan fo angen. Ac fel rhan o ddatblygu ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio newydd, sydd i’w chyflwyno cyn bo hir, rydym yn adolygu ein trefniadau llywodraethu i gryfhau ein gallu i gasglu a dadansoddi tystiolaeth mewn perthynas â hunanladdiad a hunan-niweidio. A chan gyfeirio'n benodol at yr hyn yr oeddech chi'n ei ofyn am dargedu pobl o gefndiroedd penodol, rydym hefyd yn adolygu sut y down â phartneriaid trawslywodraethol a thraws-sector ynghyd i helpu i lunio camau gweithredu, gan gynnwys ar draws iechyd, tai, trafnidiaeth, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, plismona a lleoliadau carcharu, lles a chyflogaeth. Mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar gymunedau ac yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ei gylch, ac rydym yn gwneud popeth a allwn i fynd i'r afael ag ef. Diolch.
Byddai gennyf innau gryn ddiddordeb mewn gweld pa gamau a gymerwyd yn sgil yr adroddiad i’r anghydraddoldebau hyn. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n ymwybodol, Weinidog, ond ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, hyd yn oed os cewch eich rhoi ar restr frys y GIG ar gyfer cwnsela iechyd meddwl, mae'n rhaid aros misoedd ar fisoedd am apwyntiad ffôn yn unig ar gyfer cwnsela, a'r dewis arall fyddai aros am saith mis arall am sesiwn gwnsela wyneb yn wyneb. A ydych chi'n ymwybodol, Weinidog, fod gwahaniaeth enfawr i'w weld rhwng byrddau iechyd Cymru o ran y rhestrau aros hyn ar gyfer cwnsela? A hoffwn wybod a ydych chi wedi dechrau mynd i'r afael â hyn, gan ei bod yn hawdd sôn am bwysigrwydd iechyd meddwl, ond sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod gwasanaethau cwnsela iechyd meddwl yn cael y staff a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt, yn enwedig yn dilyn llwyddiant '111 pwyso 2'? Oherwydd mae'r galw am y gwasanaethau hyn yn cynyddu, ond mae'n peri pryder nad yw'n ymddangos bod cyllid ar gael i gefnogi'r cynnydd yn y galw, ac ni all pobl fforddio mynd yn breifat. Diolch yn fawr.
Diolch. Do, fel y gŵyr llawer o bobl yn y Siambr, gan eich bod chi gyda mi, roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol pan gynhaliwyd yr ymchwiliad hwn gennym. Clywais yr holl dystiolaeth, ac rwy'n falch iawn am hynny, a minnau bellach yn y rôl hon yn Llywodraeth Cymru. I ailadrodd, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau o ran mynediad at gymorth iechyd meddwl a'i ganlyniadau, ac mae ein dull o weithredu yn parhau i gael ei lywio gan yr argymhellion yn yr adroddiad hwnnw. Fel y soniais hefyd, mae gennym y strategaeth iechyd meddwl ar y ffordd; mae ar y ffordd yn fuan iawn. Cawsom dros 370 o ymatebion iddo—cawsom nifer enfawr, gyda llawer ohonynt yn adlewyrchu’r hyn a ddywedoch chi, yn sicr, a dyna pam ein bod o ddifrif yn ei gylch yn yr hyn a nodwyd gennym yn y strategaeth gyda’r targedau hynny, a rhannu arferion gorau ar draws y bwrdd iechyd. Mae clywed hyn yn peri pryder, serch hynny. Hoffwn pe gallech ysgrifennu ataf wedyn er mwyn imi allu ymchwilio ymhellach i hyn gyda’r bwrdd iechyd penodol hwnnw. Ond roeddwn am ddweud hefyd y bydd gweithrediad ein strategaeth derfynol gyhoeddedig yn mabwysiadu dull seiliedig ar hawliau o sicrhau bod gan bawb yr iechyd meddwl gorau posibl ac y byddant yn gallu cael y gwasanaeth iawn ar yr adeg iawn. Diolch.
4. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel y galw y mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn ei wynebu ers y pandemig? OQ61549
Mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn brysurach nag erioed, yn darparu gwasanaethau clinigol mwy datblygedig na chyn y pandemig ar draws y gwahanol broffesiynau, gan gyflawni ein hymrwymiad i ddod â gofal yn nes at adref. Erbyn hyn mae oddeutu 2 filiwn o ryngweithiadau cleifion bob mis, ac rydym yn parhau i fonitro'r galw a chefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau.
Gofal sylfaenol yw’r pwynt mynediad cyntaf i lawer o drigolion, gan arwain at alw uchel, gyda niferoedd uwch nag erioed ers y pandemig. Bydd aelodau o’r timau amlddisgyblaethol, gan gynnwys llyw-wyr gofal, yn wynebu gaeaf heriol, gyda thrigolion eisoes yn cysylltu â fy swyddfa ynghylch anawsterau i drefnu apwyntiadau, yn enwedig yn ystod y rhuthr wyth o’r gloch. Er nad oes gan y rhan fwyaf o drigolion unrhyw bryderon neu broblemau gyda'r gofal y maent yn ei gael, mae eu profiad o geisio gwneud apwyntiadau yn anfoddhaol. Pa gymorth penodol y gellir ei ddarparu i staff gofal sylfaenol i gynyddu argaeledd apwyntiadau? A yw hyn yn cynnwys systemau digidol gwell, ac os felly, sut y gallwn sicrhau bod trigolion, yn enwedig trigolion oedrannus, yn cael eu cefnogi yn y newid i blatfformau digidol? Yn ogystal, pa fesurau eraill sydd ar waith i atal tagfeydd pellach wrth i bwysau’r gaeaf barhau i gynyddu?
Yn gyntaf, gadewch imi ddweud fy mod yn siomedig o glywed am y profiad y nodwch fod eich etholwyr wedi'i gael. Mae'n amlwg yn bwysig fod y cyhoedd yn gallu cael mynediad amserol at wasanaethau meddygon teulu. Fel y gŵyr yr Aelod, mae’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol sy’n llywodraethu gwasanaethau meddygon teulu wedi’i ddiwygio i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu. Mae hynny bellach yn rhan o'r contract newydd, ac mae'n ofynnol fod gan bractisau meddygon teulu systemau ffôn a thrin galwadau priodol ar waith—felly, cynnig cymysg, sy'n mynd i'r afael â'r pwynt a gododd yr Aelod yn ei chwestiwn ynghylch hygyrchedd i bob claf. A dylai hynny osgoi, a'r bwriad yw osgoi, yr angen i bobl ffonio'n ôl sawl gwaith.
Felly, mae hynny bellach yn ddarpariaeth yn y contract meddygon teulu. Credaf fod achos i'w gael dros fonitro, yn amlwg, o ystyried yr hyn rydych chi wedi bod yn ei ddweud, dros wella monitro'r trefniadau hynny. Ar sail hunangofnodedig, dywed y practisau wrthym fod oddeutu 97 y cant ledled Cymru yn cydymffurfio â hynny, ond rwyf wedi gofyn i fy swyddogion beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod y darlun ar lawr gwlad fel y dylai fod, yn unol â'r contract.
Fe ofynnoch chi'n benodol am dechnoleg ddigidol a’r rôl sydd gan dechnoleg ddigidol i’w chwarae yn y cymysgedd yn y dyfodol o ran mynediad at feddygon teulu. Mae ap digidol GIG Cymru yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, fel y gwyddoch, a gall practisau meddygon teulu ddefnyddio hwnnw i drefnu apwyntiadau—apwyntiadau rheolaidd, i bob pwrpas—ar gyfer pethau fel adolygiadau blynyddol ar gyfer cyflyrau cronig neu archebu meddyginiaeth reolaidd. Felly, trwy wneud hynny, gall ryddhau capasiti arall i bobl gael mynediad at apwyntiadau a lleihau nifer y galwadau ffôn y mae’n rhaid i bobl eu gwneud ar gyfer hynny. Felly, mae ganddo rôl i’w chwarae, ond mae’n rhan o gynnig cymysg.
Yn olaf, o ran y cymorth a ddarparwn fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn buddsoddi ein cyllid i alluogi staff i gael eu cyflogi—capasiti ychwanegol, i bob pwrpas—a chredaf y gallwn weld tystiolaeth o hynny mewn nifer o bractisau lle mae gennym bobl yn cefnogi clinigwyr i ddarparu mynediad, ac yn helpu cleifion i lywio’r math o ofal sydd ei angen arnynt, nad yw, yn aml iawn, yn golygu ymweliad â’r meddyg eu hunain.
Ysgrifennydd y Cabinet, er bod y straen ar wasanaethau meddygon teulu wedi’i ddogfennu’n dda, ni sonnir yn aml am y pwysau sy’n cael ei roi ar fferyllfeydd cymunedol. Rydym yn dweud wrth y cyhoedd i ddewis yn dda, i weld fferyllydd cyn meddyg teulu, a meddyg teulu cyn adrannau damweiniau ac achosion brys, ond nid ydym yn darparu adnoddau digonol i gefnogi'r cyngor hwnnw. O ganlyniad i'r straen ar fferyllfeydd, mae llawer yn ystyried protest gweithio yn ôl y rheolau, gan agor am yr oriau a gontractiwyd gan y GIG yn unig. Byddai hwn yn gam dealladwy ond eto’n ergyd ddinistriol i ofal sylfaenol a’n GIG cyfan, yn enwedig wrth inni wynebu'r tymor annwyd a ffliw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda’r sector i sicrhau eu bod yn cael yr adnoddau priodol ar gyfer y gwaith amhrisiadwy y maent yn ei wneud i'n GIG?
Wel, bydd yr Aelod am wybod bod y trafodaethau ar gontractau, gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol, ond hefyd i ddarparwyr gofal sylfaenol, wedi dechrau heddiw, felly rydym yn gobeithio y byddant yn symud ymlaen mewn ffordd adeiladol ac yn ei gwneud hi'n bosibl i'r cymorth hwnnw gael ei ddarparu. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai ffordd hanfodol o sicrhau gwytnwch y ddarpariaeth gofal sylfaenol, sydd mor bwysig, yw model cymysg, ac mae'n iawn i ddweud, er mwyn i'r model cymysg hwnnw weithio, fod angen digon o adnoddau a hygyrchedd i'r pwyntiau mynediad eraill y gwnaethom gyffwrdd arnynt ddoe yn y datganiad ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf, a phwysigrwydd cynyddol mynediad at fferyllfeydd cymunedol.
Mae'r ffigurau sydd gennyf yn awgrymu bod dros 20,000 o ymgynghoriadau gwasanaeth anhwylderau cyffredin wedi digwydd mewn fferyllfa yng Nghymru ym mhob mis o'r flwyddyn ddiwethaf, sy'n gynnydd sylweddol iawn. Ac mae gennym fferyllwyr presgripsiynu annibynnol bellach yn darparu tua 11,000 o ymgynghoriadau bob mis, fel y gallwn ddechrau gweld y newid i gyfeiriad darpariaeth nad yw'n ddarpariaeth gan feddygfeydd meddygon teulu. Fel y dywedaf, mae'r trafodaethau ar gyfer y contractau newydd wedi dechrau heddiw, ac rwy'n gobeithio y byddant yn dod i ben yn llwyddiannus yn fuan.
Mae gofal sylfaenol yn ardal Caergybi wedi dioddef yn fawr ar ôl y pandemig, ac yn ystod y pandemig, achos mae hi yn mynd i fod yn bum mlynedd, o fewn ychydig ddyddiau rŵan, ers cwymp meddygfeydd Longford Road a Cambria—y bwrdd iechyd yn gorfod cymryd drosodd y ddau a ffurfio un feddygfa newydd. Ond mi wnaethom ni'r achos bryd hynny am yr angen am feddygfa newydd amlddisgyblaethol yng Nghaergybi, ac mewn egwyddor mi enillon ni'r ddadl honno'n gynnar iawn. Ond mae wedi cymryd tan rŵan, bum mlynedd ymlaen, i'r achos amlinellol strategol fynd o flaen bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a dwi'n falch iawn ei fod o'n mynd o flaen y bwrdd iechyd yfory. Dwi'n hyderus y byddan nhw'n rhoi sêl bendith i'r rhan honno o'r cynllun. Dwi'n apelio, felly, ar yr Ysgrifennydd Cabinet i beidio ag oedi, i roi arwydd clir iawn bod y Llywodraeth yn barod i roi'r gefnogaeth ariannol i sicrhau bod hwn yn gallu mynd i'r camau nesaf, er mwyn gallu cael ei ddelifro yn gyflym, achos dydy pobl Caergybi a'r ardal yn haeddu dim llai.
Rwy'n gwybod bod Hwb Iechyd Cybi wedi cael llwyddiant yn recriwtio meddygon teulu yn ddiweddar—mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr iawn. Mae'r sefyllfa'n gallu bod yn heriol iawn, onid yw e, pan fo gapiau'n codi sydd yn anodd eu llenwi, ac mor bwysig yw hynny. Felly, gwnawn ni aros i weld beth ddaw allan o gyfarfodydd bwrdd Betsi Cadwaladr, sydd yn digwydd yn hwyrach yr wythnos hon.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cleifion sydd wedi cael gofal dwys? OQ61571
Fe wnaethom gyhoeddi ein dull polisi o ofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael ym mis Hydref 2021. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd yng Nghymru gymhwyso canllawiau clinigol gan y Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys a'r Gymdeithas Gofal Dwys. Mae rhwydwaith clinigol perthnasol gweithrediaeth y GIG yn cynorthwyo byrddau iechyd i weithredu'r canllawiau hyn.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gynharach y mis hwn, cefais gyfle—fe wnaeth imi deimlo'n ostyngedig iawn—i ymweld â grŵp cefnogi gwych ICUsteps yn y Fenni, ac roedd yn hynod o emosiynol. Nid oeddwn yn sylweddoli, tan hynny, faint o drawma y mae pobl sydd wedi mynd drwy ofal dwys yn ei deimlo. Mae'n grŵp cymorth amhrisiadwy, ac mae'n cael ei redeg gan gleifion, perthnasau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cael profiad o unedau gofal dwys. Maent yn darparu cefnogaeth barhaus i gleifion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty. Rwy'n credu mai dim ond un neu ddau o'r rhain sy'n gweithredu ledled Cymru, ac mae'n rhywbeth y byddwn i'n sicr yn ei argymell, oherwydd roedd y bobl hyn yn ystyried bod y cymorth yn werthfawr iawn.
Mae'n drist fod y profiad o fod mewn uned gofal dwys yn gallu bod yn hynod drawmatig, fel y dywedais, i gleifion a pherthnasau, gyda llawer o gleifion heb unrhyw atgof o'u profiadau ac yn gorfod wynebu anawsterau adferiad. Dywedodd rhai wrthyf eu bod hyd yn oed wedi ystyried hunanladdiad. Mae hyn yn aml yn cael ei waethygu gan gyfathrebu gwael rhwng y meddyg teulu a'r ysbyty, o ysbyty i ysbyty, ac o ward ysbyty i ward ysbyty, i feddyg teulu. Roedd holl drywydd y diffyg cyfathrebu yn rhywbeth a gododd sawl gwaith i lawer o bobl yno. Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wella gwasanaethau iechyd meddwl a chefnogaeth ymarferol i'r rhai sydd wedi profi trawma uned gofal dwys? Hoffwn eich annog efallai i edrych ar y grŵp cymorth ICUsteps—mae'n grŵp cymorth gwych.
Wel, yn gyntaf, mae'n ddrwg gennyf glywed am brofiad yr unigolion fel y gwnaethant ei nodi wrth yr Aelod. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r grŵp y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, ac os byddech chi'n hapus i ysgrifennu ataf, efallai y gallwn ymgyfarwyddo â'r gwaith a wnânt, a chyfarfod â hwy o bosibl hyd yn oed.
O ran y gwaith y gallwn ei wneud ar lefel genedlaethol i geisio mynd i'r afael â'r mathau o heriau y mae'r Aelod yn eu disgrifio, soniais yn fy ateb cychwynnol am rôl y rhwydweithiau clinigol a roddwyd ar waith gan weithrediaeth y GIG, a phwynt y rheini yw ceisio safoni darpariaeth ar sail arferion gorau ledled Cymru mewn ystod o feysydd ymarfer gwahanol. Lansiwyd un rhwydwaith penodol mewn perthynas â gofal critigol, trawma a meddygaeth frys, ac mae hwnnw wedi datblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer adferiad ar ôl gofal critigol, y dylai pob bwrdd iechyd ei ddilyn. Hefyd—gan gofio am y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am amrywiad—maent wedi sefydlu rhaglen adolygu cymheiriaid a all helpu byrddau iechyd i nodi bylchau yn y math o ddarpariaeth y mae'r Aelod yn cyfeirio ati, i geisio gwella'r ddarpariaeth honno o wasanaethau yn sgil hynny. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n waith y gallwn ei wneud ar lefel genedlaethol, drwy'r weithrediaeth, ac mae rhaglen weithredu ac adolygu cymheiriaid i fynd gyda hynny. Mae'n siŵr fod mwy o waith i'w wneud, ond edrychaf ymlaen at glywed mwy am y grŵp y sonioch chi amdano.
6. Ar sail pa dystiolaeth y gwnaeth Llywodraeth Cymru roi cefnogaeth i leoli uned mamau a babanod yng Nghaer ar gyfer teuluoedd o ogledd Cymru? OQ61560
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, a oedd yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau arbenigol ar ran byrddau iechyd ar y pryd. Gwnaed yr asesiad fod lefel y galw yng ngogledd Cymru'n is na'r isafswm maint a argymhellir ar gyfer uned mamau a babanod.
Mae yna lawer o bryderon am y cynllun yma, a dwi'n grediniol bod yna well ffordd ymlaen na'r hyn sydd dan sylw. Mae'n ymddangos nad ydy dau wely am fod yn ddigon o ran ateb y galw. Mae yna ystadegau o 2018 yn dangos bod mamau wedi peidio mynd i unedau allan o ardal oherwydd pellter teithio a chael eu gwahanu o'u teuluoedd, ac wrth gwrs mae angen cefnogaeth cyfrwng Cymraeg. Mae oedi'n digwydd rŵan ar y cynllun Caer, sy'n rhoi cyfle i ni adlewyrchu, dwi'n credu, ar wir anghenion mamau a gwir anghenion teuluoedd yn y gogledd sydd angen cefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y dystiolaeth, wrth gwrs, onid ydy? Ond dwi wedi holi a holi, ac mae'r modelu rydych chi'n sôn amdano fo a wnaed yn flaenorol, dydy hwnnw ddim wedi gweld golau dydd; dydw i ddim wedi'i weld o, a dwi wedi bod yn tyrchu'n hir iawn. Felly, a fedrwch chi gael gafael ar y modelu yma i'w rannu fo efo ni, ac a fedrwn ni gael sgwrs bellach ar sail dystiolaeth glir ynglŷn â'r cynllun? Diolch.
Diolch. Fel y gwyddom, mae hyd at 20 y cant o fenywod yn profi problem iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol, a gall y rhain amrywio o gymedrol i ddifrifol, a bydd angen llwybrau nad ydynt yn cynnwys triniaeth cleifion mewnol mewn uned mam a babanod. Ond yn y rôl o gomisiynu gwasanaethau arbenigol ar ran byrddau iechyd, roedd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar y pryd yn amcangyfrif y byddai galw am wyth gwely ar draws Cymru—dau yng ngogledd Cymru a chwech yn y de—a'r isafswm o welyau a argymhellir i gynnal uned yw chwe gwely. Fel y gwnaethom drafod yn ein cyfarfod—ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr, oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi'n hynod o angerddol ynglŷn â hyn, fel finnau—mae'r ystadegau a ddefnyddiwch yn deillio o 2018, rwy'n credu bod pethau wedi newid yn fawr iawn ers hynny, ac rwy'n seilio hynny ar y ffaith fy mod i wedi cyfarfod â'r bobl sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ac nid ydynt yn credu bod angen mwy na dau ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, rwy'n rhoi ystyriaeth ddifrifol i hyn ac felly, yn dilyn eich gohebiaeth, rwyf wedi ymgysylltu â swyddogion, cyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru, fel y maent ar hyn o bryd, a chlinigwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i archwilio'r pwyntiau a godwyd gennych ynghylch priodoldeb uned Caer ac i ystyried unrhyw ddewisiadau posibl eraill. Er mwyn llywio unrhyw benderfyniadau ynghylch darpariaeth yn y dyfodol, rwyf wedi gofyn i'r cyd-bwyllgor gynnal adolygiad cynhwysfawr o alw a chapasiti y ddarpariaeth o unedau mamau a babanod yng Nghymru cyn gynted â phosibl. Bydd hyn nid yn unig yn nodi lleoliadau a wneir mewn uned mamau a babanod, ond bydd hefyd yn cynnwys asesiad o ble y teimlid bod lleoli cleifion yn fewnol yn briodol ond na ddigwyddodd hynny, gyda sail resymegol glir dros hynny, fel y gofynnoch chi. Bydd canlyniadau'r gwaith hwn ar gael i chi. Ac rwyf am ddweud hefyd y byddai'r cyd-bwyllgor yn sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith yn ogystal i sicrhau ansawdd unrhyw leoliadau a wneir gan drigolion Cymru. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb llawn hwnnw, a oedd yn ystyrlon iawn yn fy marn i? Un elfen o'r ymateb na wnaethoch chi gyfeirio ato, y gobeithiwn y byddech chi'n sôn amdano, oedd y ffaith, er fy mod yn derbyn bod gwaith wedi'i wneud ar edrych ar nifer y gwelyau y gallai fod eu hangen i wasanaethu'r boblogaeth yng ngogledd Cymru, ein bod bob amser wedi cael sefyllfa lle mae'r boblogaeth, a dweud y gwir, yn ei gwneud hi'n anodd cynnal uned mamau a babanod. Rwyf wedi gwybod hynny ers blynyddoedd lawer ac mewn gwirionedd, gallaf gofio bod ar y pwyllgor iechyd pan oeddem yn ystyried y materion hyn yn y gorffennol. Fodd bynnag, ar sail drawsffiniol, mae'n amlwg fod digon o bobl, ond mae'n ymddangos i mi bob tro y bydd angen darpariaeth drawsffiniol, mae honno bob amser ar yr ochr arall i'r ffin. A thybed a allai fod rhywfaint o gydweithio â'r gwahanol sefydliadau iechyd yng ngogledd-orllewin Lloegr i weld a oes unrhyw bosibilrwydd o gael uned ymhellach ar hyd arfordir gogledd Cymru, a allai wasanaethu'r poblogaethau hynny sy'n bell o Gaer yn well ac y mae gwneud penderfyniad ar eu cyfer i fynd i uned eisoes yn anodd, er efallai mai dyma'r penderfyniad gorau iddynt, ac nad yw eu hanghenion felly yn cael eu cynrychioli yn y ffordd orau gan y pellter sylweddol hwnnw.
Diolch, ac mae hyn hefyd yn rhywbeth a drafodais gyda Siân Gwenllian sydd wedi codi hyn hefyd, a, 'Pam na allwn ni ei adeiladu yng ngogledd Cymru ac yna gallwn gomisiynu'r gwelyau?' Ond yn anffodus, mae hyn yn rhywbeth y mae Caer wedi bod yn cynllunio ar ei gyfer ers amser hir iawn ac maent wedi mynd gyn belled erbyn hyn fel y bydd eu huned yn cael ei chyflwyno y flwyddyn nesaf, ni waeth a yw Llywodraeth Cymru yn comisiynu gwelyau yno ai peidio. Rwy'n ystyried yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud, serch hynny, am y dyfodol a'r hyn a wnawn gyda gwasanaethau yn y dyfodol a sut y gallai fod yna elfen lle mae preswylwyr yn teimlo, 'Wel, mae hyn bob amser i'w weld yn digwydd.' Felly, byddaf yn ystyried hynny ac yn edrych ar beth arall sy'n mynd i godi ar gyfer y dyfodol.
Ond roeddwn i hefyd eisiau dweud bod yr ystadegau a ddyfynnwyd yn 2018 yn ofnadwy, ac rwy'n credu mai'r rheswm pam eu bod yn llawer is nawr yw oherwydd ein bod wedi gweld buddsoddiad yn y timau iechyd meddwl amenedigol cymunedol, a datblygiad y llwybr gofal integredig hefyd, fel bod y gwaith ataliol hwnnw'n digwydd. Pan gyfarfûm â'r menywod sy'n darparu'r gwasanaeth hwn yng ngogledd Cymru, fe wnaethant ddweud eu bod yn cynnal archwiliadau clinigol nawr lle maent yn mynd yn ôl trwy gofnodion pobl, maent yn trafod gyda menywod cyn iddynt fynd i mewn i roi genedigaeth, byddant yn siarad am eu sbardunau gyda hwy, a'r holl fathau hyn o bethau, fel mai dyma'r amgylchedd mwyaf cefnogol y gallant fod ynddo. Ac rwy'n gobeithio mai'r rheswm pam ein bod yn gweld—. I fod yn onest, nid yw'r angen yno, ac nid wyf yn am weld angen i lenwi'r gwelyau hynny. Felly, rwy'n gobeithio mai'r rheswm am hynny yw'r gwaith sydd wedi'i wneud yn y gymuned, sef, yn ddelfrydol, lle rydym am i fenywod a'u babanod aros. Diolch.
7. Pa fesurau neu wersi y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried ar gyfer Cymru mewn ymateb i adolygiad diweddar y Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr i'r dynladdiadau a gyflawnwyd gan Valdo Calocane yn Swydd Nottingham? OQ61575
Er mai adolygiad o wasanaethau yn Lloegr oedd hwn, rydym wedi ymrwymo i ddysgu o ddigwyddiadau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau iechyd meddwl, ac rydym wedi buddsoddi dros £2 filiwn yng ngweithrediaeth y GIG i ysgogi'r gwelliannau hyn drwy ein rhaglen strategol ar gyfer iechyd meddwl.
Diolch am yr ymateb, Weinidog, ond yn anffodus, fe fyddwch yn gwybod yn rhy dda fod argymhellion tebyg wedi'u gwneud ynghylch achosion tebyg yng Nghymru, fel y rhai a godwyd gan etholwr i mi, Barry Topping-Morris. Roedd Barry'n gweithio yn y GIG a datgelodd arferion annigonol a threfniadau asesu risg a rhyddhau gwael mewn uned iechyd meddwl leol bron i 20 mlynedd yn ôl. Mae'n parhau â'i waith ar wella mesurau diogelwch mewn gwasanaethau iechyd meddwl, er na chafodd ymddiheuriad erioed am y canlyniadau enbyd a gafodd codi llais ar ei yrfa ar y pryd. Amlinellodd hyn yn ddiweddar mewn erthygl Nation.Cymru am ei brofiadau. Yn anffodus, rydym yn gweld yr argymhellion hyn yn cael eu hailadrodd, ac mae'r gost emosiynol ac ariannol, yn ogystal â'r gost i fywydau a theuluoedd, yn ddinistriol, am nad yw'r gwasanaethau iechyd meddwl yn gallu mynd i'r afael â'r pryderon a'r argymhellion. Felly, Weinidog, sut y byddwch chi'n sicrhau bod Cymru'n blaenoriaethu gwelliannau mewn gwasanaethau i gleifion â chyflyrau iechyd meddwl, fel na welwn ailadrodd y galwadau i'r gwersi hyn gael eu dysgu eto yn y dyfodol?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am eich etholwr. Rwy'n canmol ac yn croesawu unrhyw un sy'n gallu rhannu eu profiad personol. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud yw fy mod yn addo ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn, oherwydd cynhaliodd Llywodraeth Cymru uwchgynhadledd weinidogol iechyd meddwl ym mis Tachwedd 2023 ar ofal iechyd meddwl cleifion mewnol, a bydd ail uwchgynhadledd weinidogol yn cael ei chynnal nawr ym mis Tachwedd. Daeth yr uwchgynhadledd â chydweithwyr o sefydliadau'r GIG ledled Cymru ynghyd i drafod yr heriau ac i ymrwymo i gynlluniau cadarn ar gyfer gwelliannau diogelwch a thrawsnewid gofal iechyd meddwl acíwt yn y tymor hir. Ac yn ddiweddar, rydym wedi ymgynghori ar ein strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol drafft, a fydd yn nodi'r gwelliannau hynny dros y 10 mlynedd nesaf. Ond y rhan allweddol yma yw y bydd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn lansio'r adolygiad diogelu unedig sengl ar gyfer Cymru yma ddydd Mawrth 1 Hydref. Mae hwn wedi cael adnoddau ychwanegol ac arweinyddiaeth glinigol, a fydd yn sbarduno'r newid. Y rhan allweddol, sy'n ymwneud â'ch cwestiwn, yw y bydd y broses hon yn dileu'r angen am adolygiadau lluosog pan fydd bywyd yn cael ei golli neu ei effeithio'n sylweddol gan gamdriniaeth, esgeulustod neu drais. Ac ar gyfer pob adolygiad, bydd digwyddiadau dysgu dan arweiniad ymarferwyr a'r defnydd o'r hyn sy'n cael ei hystyried yn storfa ddiogelu Cymru o'r radd flaenaf yn sicrhau bod dysgu a themâu allweddol yn cael eu nodi a'u targedu. Oherwydd, fel y dywedoch chi, nid oes amser i fynd trwy bob un o'r rhain a'r argymhellion. Bydd hynny hefyd yn cynnwys y materion allweddol sy'n gysylltiedig â lladdiadau iechyd meddwl. Diolch.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ61543
Cefais gyfarfod gyda chadeirydd y bwrdd iechyd yr wythnos hon i drafod cyflawniadau'r bwrdd iechyd, yn cynnwys y gostyngiad o 80 y cant yn nifer y llwybrau cleifion sy'n aros dros ddwy flynedd ers mis Mawrth 2022, y gwelliannau yn y perfformiad iechyd meddwl, a heriau'n sy'n gysylltiedig â gwasanaethau bregus, gofal sylfaenol a balans ariannol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch eich bod wedi sôn am amseroedd aros, oherwydd mae un maes gwella sydd ei angen yn fawr yn ymwneud â sganiau mesur dwysedd esgyrn, neu sganiau DEXA fel y'u gelwir yn fwy cyffredin, gan fod etholwyr wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod wedi bod yn aros dros flwyddyn i gael eu canlyniadau. Rwy'n derbyn y gall sganiau arbenigol gymryd peth amser i gasglu canlyniadau a'u dehongli'n llawn, ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod aros dros 12 mis yn annerbyniol. Mae cleifion sy'n aros am ganlyniadau yn teimlo'n rhwystredig, a hynny'n ddealladwy, ac mae'n hanfodol eu bod yn cael eu canlyniadau cyn gynted â phosibl. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw cleifion sy'n aros am ganlyniadau eu sgan DEXA yn gorfod aros dros flwyddyn amdanynt, a pha sicrwydd y gallwch ei gynnig i gleifion fod hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei flaenoriaethu yn y dyfodol?
Mae'n ddrwg gennyf glywed am brofiad etholwyr yr Aelod o hynny, ac mae'n annerbyniol. Bydd yn gwybod am y flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei rhoi i leihau amseroedd aros. Ceir targedau clir yr ydym yn disgwyl i fyrddau iechyd berfformio yn eu herbyn, ond mae galw mawr am y gwasanaeth a phwysau o ran adnoddau hefyd. Ond fe fydd yn gwybod o'r trafodaethau yn y Siambr heddiw, ac yn ystod yr wythnos ddiwethaf, pa mor bwysig yw hyn i ni, a'r dulliau newydd y gobeithiwn eu cyflwyno. Fel y soniais mewn ateb i gwestiwn yn gynharach, mae yna lefel o amrywioldeb ledled Cymru mewn perthynas â rhai o'r targedau amseroedd aros. Hoffwn weld llai o amrywioldeb, a hoffwn weld sefyllfa lle byddem yn gwneud cynnydd da tuag at ein targedau pe baem yn cael y perfformiad gorau ar draws pob bwrdd iechyd. Ond rhowch sicrwydd i'ch etholwyr ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf fyddai eitem 3, ond does dim cwestiynau amserol heddiw.
Eitem 4, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf y prynhawn yma gan Julie Morgan.
Mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol. Yng Nghymru, mae tua 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol bob blwyddyn, ac mae 470 o bobl yn marw. Y pum math mwyaf cyffredin yw ceg y groth, ofarïau, endometriaidd, y wain a'r fwlfa. Mae gan wahanol ganserau gynaecolegol symptomau gwahanol. Gallant gynnwys bol yn chwyddo, poen pelfis a gwaedu rhwng y mislif. Mae'n bosibl na fydd symptomau rhai canserau, fel canser yr ofarïau, yn ymddangos tan yn hwyr, neu fod y symptomau'n amhenodol. Er y ceir nifer o achosion o'r canserau hyn yng Nghymru, mae menywod yn aml yn teimlo nad yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt. Yn aml, gall symptomau gael eu hesgeuluso, eu diystyru a'u camddiagnosio, a gall hyn olygu bod y canser yn datblygu'n ddiangen. Dyma brofiad Claire O'Shea, a gafodd gamddiagnosis o syndrom coluddyn llidus pan oedd ganddi fath prin ac ymosodol o ganser y groth.
Daeth diagnosis canser Claire ddwy flynedd ar ôl iddi sôn yn gyntaf wrth ei meddyg teulu am ei symptomau. Mae'r oedi'n golygu erbyn hyn fod gan Claire ganser cam 4 na ellir ei wella, ac mae wedi lledaenu i'w hysgyfaint, ei hafu ac asgwrn ei chlun. Oherwydd ei phrofiadau ei hun a chlywed am rai menywod eraill, mae Claire wedi sefydlu Ymgyrch Claire i hyrwyddo newid—newid i'r diwylliant o ddiystyru lleisiau menywod mewn lleoliadau gofal iechyd, newid i'r rhagfarn ar sail rhywedd a brofir gan lawer o fenywod pan fyddant yn mynegi pryderon a gaiff eu priodoli i faterion emosiynol neu seicolegol, newid fel bod menywod yn cael eu clywed. Diolch.
Eleni, mae Theatr na nÓg, a sefydlwyd yn y Cymoedd a'i lleoli yng Nghastell-nedd, yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed. Mae'r sefydliad yn dod â straeon ysbrydoledig am gymeriadau Cymreig sy'n cyflawni'r anghyffredin yn fyw, fel eu drama newydd The Fight, am Cuthbert Taylor, bocsiwr o Ferthyr Tudful a gafodd ei wahardd rhag ymgeisio am deitl bocsio Prydain oherwydd lliw ei groen. Wedi'i sefydlu ar ddechrau'r 1980au i ddiwallu anghenion cymunedau Gorllewin Morgannwg, mae'r cwmni'n credu mewn theatr fyw hygyrch o ansawdd uchel i bawb.
Mae hanes Cymru, yr iaith Gymraeg a'n diwylliant yn eu holl amrywiaeth yn ganolog i'w cynyrchiadau, o sioeau ysgol i deithiau cenedlaethol.
Yn ystod y degawd diwethaf, maent wedi ehangu eu cyrhaeddiad gyda theithiau yn y DU gyda Tom, Eye of the Storm, Shirley Valentine Cymreig, ac Operation Julie. Ac yn ystod y pandemig COVID, fe wnaethant gynhyrchu cynnwys ar-lein, gan gynnwys cân Nadolig Gymraeg boblogaidd, 'Hwyl yr Ŵyl', a chalendr Adfent i ysgolion, gan ddiogelu swyddi 158 o weithwyr llawrydd ar 16 prosiect.
Drwy gydol y cyfnod hwn, mae'r ethos wedi parhau yr un fath—y gred y dylai pobl o bob oedran a chefndir allu cael profiad o theatr fyw hygyrch o'r ansawdd uchaf sydd â phŵer i gyffroi ac ennyn diddordeb cynulleidfaoedd o bob oed gyda straeon i apelio i bawb. Mae dros 1 filiwn o bobl wedi gweld cynhyrchiad na nÓg. Pen-blwydd hapus, Theatr na nÓg, a boed ichi barhau i danio dychymyg y genedl. Mae pobl Castell-nedd yn ffodus iawn o gael cwmni sydd mor llwyddiannus, ymroddedig ac o'r fath ansawdd uchel yn eu cymuned.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle y prynhawn yma i dalu teyrnged i berson arbennig iawn o Wrecsam, a laddwyd yn Wcráin ym mis Awst. Roedd Ryan Evans yn gweithio gydag asiantaeth newyddion Reuters yn Kramatorsk yn nwyrain y wlad, 16 milltir yn unig o'r rheng flaen, pan gafodd y gwesty lle roedd yn aros ei daro gan daflegryn Rwsiaidd. Roedd Ryan yn gynghorydd diogelwch i Reuters, ac roedd yn aros yn y gwesty gyda thîm o gyd-newyddiadurwyr. Anafodd y ffrwydrad sawl un o'i dîm, gan gynnwys dyn camera Wcreinaidd a fu mewn coma gydag anafiadau a newidiodd ei fywyd.
Fel cyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, caiff Ryan ei gofio'n annwyl gan staff a disgyblion fel ei gilydd. Ar ôl gadael yr ysgol, ymunodd Ryan â chatrawd y Cymry Brenhinol yn 17 oed, lle bu'n gwasanaethu yn Irac yn ogystal ag Affganistan, gan godi i reng corporal. Ar ôl gadael y lluoedd arfog yn 2010, dechreuodd weithio fel swyddog amddiffyn agos gyda diplomyddion Prydeinig ar deithiau i lawer o wledydd gan gynnwys Libya, Tiwnisia a Syria. Yn fwy diweddar, fel arbenigwr ar amddiffyn agos, aeth gyda newyddiadurwyr i rai o'r parthau rhyfel mwyaf peryglus.
Roedd ei daith olaf yn un o dros 20 a wnaeth i Wcráin ers dechrau'r gwrthdaro, a'i brif flaenoriaeth bob amser oedd sicrhau diogelwch llwyr ei gydweithwyr. Talodd Reuters deyrnged i Ryan, gan ei ddisgrifio fel gweithredwr diogelwch o'r radd flaenaf. Roedd wedi gweithio'n helaeth yn Israel eleni, yn ogystal ag yn Gaza a'r Lan Orllewinol, gan ddarparu amddiffyniad i newyddiadurwyr. Yn ddiweddar, bu'n ymdrin â diogelwch i staff Reuters yng Ngemau Olympaidd Paris ac roedd yn barafeddyg hyfforddedig a wnaeth helpu sifiliaid wedi'u hanafu ar sawl achlysur.
Mae Ryan yn gadael gweddw, Kerrie, a phedwar o blant, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn y Senedd yn dymuno estyn ein cydymdeimlad dwysaf iddynt hwy a'i deulu ehangach yn eu colled enfawr a phoenus.
Y cynnig nesaf, o dan eitem 5, yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ar gydsyniad mewn perthynas â Biliau Senedd y DU. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.
Cynnig NDM8662 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 29.1 (Cydsyniad mewn Perthynas â Biliau Senedd y DU)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2024.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 29.1, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Mae'r cynnig wedi'i wneud yn ffurfiol, felly y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Y Pedwerydd adroddiad ar ddeg i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9'. Dwi'n galw ar aelod o'r pwyllgor i wneud y cynnig. Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM8661 Hannah Blythyn
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—'Y Pedwerydd Adroddiad ar Ddeg i'r Chweched Senedd' a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Medi 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Fel aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, cynigiaf y cynnig yn ffurfiol.
Bu'r pwyllgor yn ystyried adroddiad y comisiynydd safonau mewn perthynas â chŵyn a wnaed yn erbyn Natasha Asghar AS ynghylch trydariad a oedd yn defnyddio iaith amwys ac anghywir wrth ddisgrifio y terfyn cyflymder 20 mya. Ystyriodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad adroddiad y comisiynydd yn ofalus, ac mae ein hadroddiad yn nodi barn y pwyllgor ynghylch y gosb sy'n briodol yn yr achos hwn. Mae'r ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r gŵyn a'r rhesymau dros argymhelliad y pwyllgor wedi eu nodi'n llawn yn adroddiad y pwyllgor.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i atgoffa Aelodau pa mor bwysig yw talu sylw manwl i argymhellion y pwyllgor hwn a chanfyddiadau'r comisiynydd safonau fel y maent yn ymwneud â dehongli'r cod ymddygiad a'r safonau a ddisgwylir gan Aelodau yn fwy cyffredinol.
Hoffwn hefyd atgoffa Aelodau am eu cyfrifoldeb personol wrth ystyried unrhyw fuddiannau posib cyn cymryd rhan ym musnes y pwyllgorau. Mae'n ddyletswydd ar Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau perthnasol ac i esgusodi eu hunain o'r trafodon lle bo angen. Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn gwahodd y Senedd i gymeradwyo argymhelliad y pwyllgor. Diolch yn fawr.
Ni allaf gredu ein bod yn sefyll yma heddiw yn trafod y defnydd o'r gair 'blanket' pan fo materion llawer mwy i ymdrin â hwy. Ond dyma ni. Ar ôl bod yn aelod o'r Pwyllgor Safonau, rwy'n gwybod pa mor galed y mae pob Aelod o'r gwahanol bleidiau gwleidyddol, yn ogystal â'r Cadeirydd, y clercod, yn gweithio ochr yn ochr â'r comisiynydd yn ddiflino i edrych ar gwynion mewn perthynas ag Aelodau. Fodd bynnag, heddiw, rwyf i, Natasha Asghar, yn datgan yn barchus fy ngwrthwynebiad llwyr i'r dyfarniad fy mod wedi torri tair rheol o fewn y cod ymddygiad. Mae dweud fy mod wedi dwyn anfri ar y Senedd drwy ddefnyddio'r gair 'blanket', i mi, yn hollol hurt.
Gadewch imi fod yn gwbl glir i bawb heddiw: o'r cychwyn cyntaf, nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am sefyll dros fy etholwyr a phreswylwyr ledled Cymru ynghylch polisi terfyn cyflymder 20 mya Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais o'r blaen, gyda 97 y cant o hen ffyrdd 30 mya yn gostwng i 20 mya o ganlyniad i'r polisi hwn, rwy'n dal o'r farn mai dull cyffredinol, blanket, yw hwn. A dyna ni, Lywydd: dyna yw fy marn. Dyna rwy'n ceisio ei gyfleu.
Rwy'n mynd i—. I'r Aelodau gael gwybod, wrth gwrs, mae'r comisiynydd safonau wedi—[Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda, nid wyf am gael unrhyw sylwadau o'r ochr. Mae'r comisiynydd safonau a'r pwyllgor safonau wedi dweud bod defnyddio'r term 'blanket' yng nghyd-destun y polisi 20 mya yn amwys ac yn anghywir, ac y dylai Aelodau feddwl yn ofalus iawn am ddefnyddio geiriau amwys ac anghywir i ddisgrifio polisïau. Mewn gwirionedd, rwyf wedi newid fy meddwl fy hun ar y defnydd o'r gair 'blanket'. Fe wneuthum ganiatáu iddo gael ei ddefnyddio yn y Siambr am nifer o fisoedd, ond pan ddyfarnodd y comisiynydd safonau a'r pwyllgor safonau ei bod yn ffordd amwys ac anghywir o ddisgrifio'r polisi 20 mya, fe newidiais fy marn ac nid yw'n gywir ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwnnw yn y Siambr mwyach. Dyna fy marn i, a fi yw'r Llywydd. Gofynnaf i chi i gyd barchu fy marn ar hyn, a barn y pwyllgor safonau, a gofynnaf i chi ddangos y parch hwnnw heddiw, Natasha Asghar.
Mae hynny'n iawn. Diolch, Lywydd. Rwy'n gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â fy swydd. Rwy’n caru fy rhanbarth, de ddwyrain Cymru, ac mae gennyf bob parch at Senedd Cymru fel sefydliad. Lywydd, rwy’n cydnabod yr adroddiad, ac unwaith eto, fel y dywedais, yn diolch i’r pwyllgor a’r comisiynydd safonau am eu hamser, ond mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn teimlo bod y gallu gennyf i wrthwynebu'r polisi penodol hwn, y mater penodol hwn. Mae'n rhywbeth rwy'n teimlo'n angerddol amdano yn bersonol ac yn broffesiynol hefyd. Felly, rwyf am i bawb fod yn dawel eu meddyliau y byddaf yn parhau i ymgyrchu’n ddiflino yn erbyn y polisi trychinebus hwn, er gwaethaf ymdrechion enbyd gan eraill i fy atal, ac rwy'n gobeithio gallu symud ymlaen o hyn a chanolbwyntio ar fy swydd, yr wyf yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei chylch. Diolch yn fawr.
Y Cadeirydd—. Dim y Cadeirydd, sori, aelod o'r pwyllgor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Roeddwn i'n poeni yn fanna fod gen i job newydd. Mae'r Cadeirydd, wrth gwrs yn y Siambr.
Hoffwn i ddiolch i Natasha am ei sylwadau ac rwy'n nodi ei sylwadau hi. Mae'r adroddiad yn glir ac wedi ei gyflwyno gydag argymhellion trawsbleidiol, felly, dwi'n galw ar y Senedd i dderbyn yr argymhelliad hwnnw. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?
A oedd gwrthwynebiad? Dim gwrthwynebiad.
Felly, mae'r adroddiad wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Eitem 7 yw'r ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig, a chredwch neu beidio, mae hon ar derfynau cyflymder 20 mya. Felly y ddadl i'w chyflwyno gan Natasha Asghar. Natasha Asghar.
Cynnig NDM8667 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn.
2. Yn nodi:
a) y 469,571 o bobl a lofnododd ddeiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’;
b) y Memorandwm Esboniadol gan Lywodraeth Cymru ei hun ar gyfer Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, lle nodwyd anfantais economaidd o hyd at £8.9 biliwn yn sgil yr amseroedd teithio hirach a fyddai’n gysylltiedig â'r polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya;
c) sylwadau'r cyn-Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth y dylid bod wedi defnyddio mwy o synnwyr cyffredin wrth gyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya yng Nghymru;
d) adroddiad monitro ansawdd aer Trafnidiaeth Cymru sy’n dangos, o ran hanner yr ardaloedd lle cynhaliwyd profion, y bu cynnydd mewn lefelau nitrogen deuocsid y tu mewn i’r parthau 20mya o'i gymharu â'r tu allan; ac
e) bod awdurdodau lleol Cymru wedi cael ceisiadau i newid miloedd o ffyrdd o 20mya yn ôl i 30mya.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddiddymu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya; a
b) i weithio gydag awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno dull wedi'i dargedu o bennu terfynau cyflymder o 20mya, sydd â chydsyniad pobl leol.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd; fe wnaethoch chi fy nal yn ddiarwybod yno braidd.
Pan addewais i bobl Cymru y byddwn yn sefyll dros eu teimladau a bod yn llais iddynt yn y Senedd yn fy rôl fel Gweinidog yr wrthblaid dros drafnidiaeth, roeddwn yn ei olygu—weithiau, hyd yn oed i’r pwynt lle mae'n mynd â mi i drwbwl, fel y mae pob un ohonoch wedi'i weld. Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers cyflwyno’r polisi hwn, ac er bod Gweinidogion Llafur wedi dweud wrth bob un ohonom y byddai pobl Cymru yn dod i arfer ag ef yn y pen draw, a bod y cynnwrf o’i amgylch yn bennaf am nad oedd pobl yn ei hoffi a dim mwy na hynny, credaf ein bod bellach yn gwybod i sicrwydd mai dim ond ymdrech oedd hon i geisio diystyru teimladau'r cyhoedd. Rwyf wedi dweud ar sawl achlysur nad yw’r dicter a’r rhwystredigaeth tuag at y polisi yn mynd i unman. Ac nid fy marn i yn unig mo'r datganiad hwn; caiff ei ategu gan y ffaith bod arolwg barn diweddar gan YouGov wedi profi bod saith o bob 10 o bobl yn dal i wrthwynebu’r polisi 20 mya diofyn.
Nawr, rwy'n canmol Ysgrifennydd y Cabinet, yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, ar ei agwedd newydd—agwedd fwy pragmatig, synhwyrol, gyda phwyslais, ac rwy'n ei ddyfynnu ef, ar synnwyr cyffredin a mynd â'r cyhoedd gyda chi, yn hytrach na dweud wrthynt beth y mae angen iddynt ddod i arfer ag ef. Ac er fy mod yn falch o weld newid yn y dull llym o gyflwyno'r polisi, gan gynnwys rhaglen wrando i ymgorffori barn pobl, nid oes llawer o newid ymarferol wedi'i wneud eto. Llofnododd bron i 500,000 o bobl ddeiseb yn galw am ddileu’r polisi—y ddeiseb fwyaf erioed yn hanes y Senedd a ddangosodd mor amhoblogaidd yw’r polisi hwn. Nid oes unrhyw Lywodraeth yn hanes Senedd Cymru—y Senedd Cymru hon, mewn gwirionedd—wedi cynnal taith wrando o ganlyniad i bolisi mor amhoblogaidd ac ymrannol, ac rwy'n credu bod hynny’n dweud y cyfan.
Rhoddodd y polisi hwn gychwyn ar flwyddyn o sgandal a dadlau, ac o bosibl, y gyfres o ddigwyddiadau fwyaf allan o gysylltiad a welsom gan Lafur Cymru hyd yma—£33 miliwn i’w roi ar waith, ac ergyd o £9 biliwn i economi Cymru. Mewn gwirionedd, gallai’r ffigur hwn o £9 biliwn, mewn theori, fod wedi talu am y codiadau cyflog diweddar i staff y GIG, a byddai felly wedi helpu i leihau'r twll du honedig o £22 biliwn y clywsom gymaint amdano.
Ysgrifennydd y Cabinet, o ganlyniad uniongyrchol i’r polisi hwn dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld pentref cyfan yn colli ei holl wasanaethau bws, gyrwyr dosbarthu nwyddau yn gorfod gweithio goramser, y ddeiseb fwyaf erioed, ras feicio yn cael ei byrhau a’i newid am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 1981, 10,500 o geisiadau i’r cynghorau ar gyfer ffyrdd y dylid eu newid yn ôl i 30 mya, protestiadau di-rif, ac mae’r rhestr yn mynd yn ei blaen.
Rydym wedi clywed cryn dipyn o sôn am newid ers ymgyrch etholiad cyffredinol y Blaid Lafur ym mis Mai 2024, ond bydd angen mwy na slogan arnoch i sicrhau newid ledled Cymru ar ôl 25 mlynedd o Lafur Cymru yma. Ond dyma ni: yr hyn y mae pobl Prydain ar fin cael eu hatgoffa ohono yw'r pethau y mae pobl Cymru wedi bod yn byw gyda hwy ers chwarter canrif ac wedi’u gweld yn cael eu hamlygu hyd yn oed yn fwy dros y flwyddyn ddiwethaf. 'Byddwch yn berchen ar ddim ac yn hapus' yw'r ymadrodd sy'n dod i fy meddwl. Disgwylir i bobl fod yn hapus gydag 20 mya a dod i arfer â'r newidiadau enfawr a'r polisïau costus hyn pan fo lefel anweithgarwch economaidd Cymru yn uwch nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, canlyniadau addysgol Cymru yn is nag unman arall yn y Deyrnas Unedig, a nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i'r brifysgol yn gostwng. Mae un o bob pedwar o bobl ar restrau aros yng Nghymru, ac maent ar eu lefelau uchaf erioed, gyda saith bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig. Rydych chi bob amser yn brin o arian fel Llywodraeth, ac eto mae £1.6 biliwn wedi'i wastraffu ar brosiectau nad ydynt erioed wedi cyrraedd y llinell derfyn o dan oruchwyliaeth Llafur. Mae bron i draean o blant Cymru yn byw mewn tlodi. Yn anffodus, gallwn fynd yn fy mlaen. A yw hon o ddifrif yn record y gall Llywodraeth Lafur Cymru fod yn falch ohoni? Os parhewn fel hyn am 25 mlynedd arall, mae arnaf ofn meddwl sut olwg fydd ar Gymru. Boed yn osgoi craffu drwy gymharu Keir Starmer â Donald Trump, neu drosglwyddo'r baich i lawr yr M4, mae’r Llywodraeth hon, yn anffodus, yn casáu atebolrwydd.
Yn yr achos hwn, mae’r baich wedi'i drosglwyddo i'n cynghorau sydd eisoes o dan bwysau, ac nid ydym wedi clywed eto sut y bydd y ceisiadau i newid ffyrdd yn cael eu hystyried, na sut y byddant hyd yn oed yn gwneud penderfyniadau ynghylch pa ffyrdd y mae angen eu newid a pha rai sydd i aros yr un fath. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, flwyddyn ar ôl cyflwyno'r polisi, mae pobl ledled Cymru yn teimlo'n fwy difreiniedig nag erioed, yn teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando arnynt, ac yn llai tueddol o ymgysylltu â ni fel gwleidyddion ar bob lefel. Dyna pam nad wyf yn ymddiheuro am hyrwyddo gwleidyddiaeth synnwyr cyffredin, 20 mya lle mae ei angen—ger ysgolion, ger ysbytai, mannau addoli a strydoedd mawr. Mae’n drueni ei bod wedi cymryd gwrthwynebiad mor chwyrn gan y cyhoedd i newid neu hyd yn oed edrych ar y canllawiau, ac yn drueni meddwl hefyd y gallai’r arian ychwanegol hwn a’r holl amser a wastraffwyd fod wedi’i osgoi pe byddent wedi ymgynghori â’r cyhoedd o'r cychwyn ar newid mor fawr.
Felly, wrth inni edrych yn ôl ar y flwyddyn, ac ymlaen at y nesaf, rydym yn dal i aros yn eiddgar am ganlyniadau newidiadau y dywedwyd wrthym y byddent yn gwneud gwahaniaeth. Mae amser o hyd i wneud newid gwirioneddol, fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rhowch yr hyn y mae arnynt ei eisiau i’r bobl, caniatewch i’w lleisiau arwain y polisi hwn sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, ac os gwelwch yn dda, diddymwch y polisi 20 mya diofyn hwn sydd wedi ysgubo drwy Gymru. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Peredur Owen Griffiths i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd
1. Yn nodi:
a) bod y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros flwyddyn; a
b) cefnogaeth drawsbleidiol flaenorol y Senedd ar gyfer cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya yng Nghymru a phresenoldeb cynlluniau tebyg mewn cynghorau sy'n cael eu rhedeg gan y Ceidwadwyr yn Lloegr.
2. Yn credu, o'u gweithredu'n briodol ac yn rhesymegol, bod gan derfynau cyflymder 20mya rôl ddefnyddiol wrth wneud cymunedau'n fwy diogel a lleihau'r pwysau ar y GIG.
3. Yn gresynu at yr oedi gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu ar welliant Plaid Cymru a gefnogir gan y Senedd, a fyddai wedi grymuso cymunedau ar unwaith i adolygu a gwneud eithriadau pellach yn ogystal ag adolygu'r canllawiau i awdurdodau lleol.
4. Yn cydnabod cryfder teimladau ar y mater hwn o ganlyniad i weithredu, ymgysylltu a chyfathrebu anghyson ynghylch y newidiadau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr adolygiad presennol yn mynd i'r afael â'r pryderon y gellir eu cyfiawnhau, a'i fod ag adnoddau digonol.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig y gwelliant.
Mae’r adolygiadaeth sydd wedi bod yn digwydd drwy'r ddadl hon yn eithaf rhyfeddol. Wedi’r cyfan, roedd cefnogaeth drawsbleidiol ar y cychwyn i'r newid i 20 mya. Nid yw hwn yn bolisi newydd.
O nac oedd.
Mae'n—. Rydym wedi gweld y lluniau.
Dewch. Dewch nawr, Aelodau. Gallaf wneud yn well na phantomeim, os gwelwch yn dda. Gadewch i Peredur Owen Griffiths barhau.
Mae wedi cael ei roi ar waith mewn mannau ledled Ewrop, ac er na fyddant yn dymuno sôn am hyn yn eu dadl, mae wedi’i gyflwyno mewn cynghorau Ceidwadol ledled Lloegr. Cytunodd Plaid Cymru, Llafur a’r Torïaid fod mwy o ffyrdd 20 mya yn briodol, y byddent yn darparu manteision, ac rydym wedi gwireddu’r manteision hynny. Yn ystod tri mis cyntaf 2024, rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn anafusion ar ffyrdd 20 mya ledled Cymru. Gostyngodd anafiadau difrifol a marwolaethau 23 y cant, gyda chyfanswm nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd 20 mya a 30 mya yn gostwng o 101 i 78, o gymharu â’r llynedd. Hyd yn oed wrth gynnwys mân anafiadau, ceir gostyngiad cyffredinol o 26 y cant yn nifer yr anafusion. Mae hyn wedi arbed swm sylweddol o arian i’n GIG. Dyma’r ffigur chwarterol isaf ar gyfer anafiadau ffyrdd yng Nghymru y tu allan i gyfnod pandemig COVID. Mae hyn yn dangos effaith gadarnhaol y terfynau cyflymder hyn ar ddiogelwch y cyhoedd, ein cymunedau a’n GIG.
Fodd bynnag, yr hyn sydd wedi mynd o’i le yma yw'r ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi rhoi hyn ar waith. Rwy'n gresynu at y ffordd y rhoddwyd hyn ar waith a’r ddadl ymrannol a ddilynodd. Mae wedi amharu ar ymddiriedaeth yn ein democratiaeth gymharol newydd, ac mae’n destun gofid. Mae'r polisi wedi'i roi ar waith yn anghyson o ran pa ffyrdd ac ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf. Mae gan y cyhoedd bryderon dilys. Gofynnwyd i mi yn ddiweddar pam fod terfynau cyflymder yn cynyddu fesul 10 mya yn unig, a pham nad oes cynyddrannau 5 mya yn cael eu defnyddio. Ac mae hynny'n ymwneud â gweithredu terfynau cyflymder priodol yn y mannau priodol.
Yn ddealladwy, mae teimladau cryf yn gysylltiedig â'r mater am fod y Llywodraeth hon wedi methu ymgynghori ac ymgysylltu’n briodol â phobl Cymru. Drwy eithrio’r llais lleol o benderfyniadau ynglŷn â’u cymunedau, roedd y polisi bob amser yn mynd i fod yn ddiffygiol. Mae'n rhwystredig fod y fath—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Diolch yn fawr. Rwy’n deall yr hyn a ddywedwch, ond felly, os ydych chi mor bryderus ynghylch ei weithrediad ac nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n briodol, pam felly y cefnogodd Plaid Cymru y polisi, gan wybod bod problemau gyda'i weithrediad, ac nad ymgynghorwyd yn briodol â phobl Cymru?
Roeddem yn cefnogi’r polisi, ond wedyn cawsom y gwelliant yma i ddweud bod angen yr ymgynghoriad lleol, ac mae hynny, yn y pen draw, wedi digwydd. Roedd—. Mae’r oedi gan Lywodraeth Cymru cyn gweithredu ar y gwelliant hwnnw gan Blaid Cymru, a gefnogwyd gan y Senedd, gwelliant a oedd yn grymuso cymunedau i adolygu a gwneud eithriadau pellach, yn ogystal ag adolygiad o’r canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol—. Fel arfer, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio orau pan fydd yn gwrando ar Blaid Cymru. Fodd bynnag, faint o amser, arian a rhwystredigaeth fyddai wedi’u harbed pe bai Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar y gwelliant hwn yn gynt?
Rydym bellach yn symud ymlaen yn araf i'r cyfeiriad cywir. Mae’r ffordd y mae’r Ceidwadwyr wedi ymdrin â'r ddadl hon wedi bod yn elyniaethus ac yn ymrannol. Wrth inni roi mwy o lais i gymunedau lleol ddylanwadu ar y polisi yn eu hardaloedd, mae angen inni sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn cael yr adnoddau priodol. Dylai’r adnoddau hyn alluogi cydweithio rhwng cymunedau, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, felly rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda’n hawdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau bod y broses adolygu hon yn cael yr adnoddau priodol ac yn cael ei chynnal er budd pobl Cymru. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2. Ken Skates.
Gwelliant 2—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros flwyddyn.
2. Yn nodi:
a) y gostyngiad sylweddol mewn gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a
b) y ffaith bod 469,571 o bobl wedi llofnodi deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’
c) y rhaglen gynhwysfawr o wrando a gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol;
d) y ffaith y bydd y gwaith monitro a gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o effeithiau’r polisi o ran yr economi, iechyd a’r amgylchedd;
e) y ffaith bod adroddiad monitro ansawdd aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn dangos nad oedd unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd yma; ac
f) y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd wedi derbyn ceisiadau i newid y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi awdurdodau lleol Cymru er mwyn cyflawni terfynau cyflymder 20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau bod y terfyn mewn grym ar y ffyrdd cywir ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Diolch. Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Wel, beth ydym ni'n ei wybod? Fe wyddom fod amser ymateb yn lleihau gyda chyflymder, fod pellter stopio yn ymestyn gyda chyflymder—darllenwch reolau'r ffordd fawr—po fwyaf yw’r cyflymder, y mwyaf yw’r difrod i bobl a cherbydau modur, fod ffigurau anafusion ar y ffyrdd wedi lleihau yn dilyn cyflwyno’r terfyn 20 mya diofyn, fod cwmnïau yswiriant yn ystyried lleihau premiymau oherwydd y terfyn cyflymder is. Yn ôl data gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau, ar gyflymder traffig o 30 mya i 40 mya, mae’r risg o farwolaethau cerddwyr o ganlyniad i wrthdrawiad â cherbyd dros bum gwaith yn uwch nag ar gyflymderau rhwng 20 mya a 30 mya. Mae consensws ymhlith y bobl y siaradaf â hwy fod 20 mya yn derfyn cyflymder addas ar ystadau a thrwy ardaloedd o dai teras. Mae hon yn farn gref gan y bobl sy'n byw ar y ffyrdd hyn.
Pan fyddaf yn teithio i fy swyddfa yn Nhreforys, mae’n filltir union, ond mae’r sat nav yn dweud wrthyf y bydd yn cymryd pum munud, sef cyflymder cyfartalog o 12 mya, yn un fath â chyn i’r terfyn cyflymder gael ei ostwng. Y tu hwnt i'r system draffyrdd, mae'r system ffyrdd yn cynnwys ffyrdd A, sef ffyrdd mawr y bwriedir iddynt ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr o fewn neu rhwng ardaloedd a ffyrdd diddosbarth, ffyrdd B sy'n ffyrdd y bwriedir iddynt gysylltu gwahanol ardaloedd ac i fwydo traffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai ar y rhwydwaith, a ffyrdd diddosbarth neu heb eu rhifo, sef ffyrdd llai y bwriedir iddynt gysylltu ffyrdd diddosbarth â ffyrdd A a B, sy'n aml yn cysylltu ystadau tai neu bentrefi â gweddill y rhwydwaith. Mae'r rhain yn debyg i isffyrdd ar fap arolwg ordnans, ac fe'u gelwir weithiau yn answyddogol yn ffyrdd C. Mae rhai o'r ffyrdd hyn o dan 50m o hyd. Mae ffyrdd diddosbarth yn ffyrdd lleol a fwriedir ar gyfer traffig lleol. Mae'r mwyafrif helaeth o ffyrdd ym Mhrydain—dros 60 y cant ohonynt—yn y categori hwn. Mae ardaloedd o dai teras hŷn ac ystadau cyngor, neu dai lle nad oes dreif, yn golygu na all pobl yrru'n ddiogel ar gyflymder o dros 20 mya. Mae ceir wedi'u parcio ar bob ochr i'r ffordd, wrth i bobl geisio parcio'n agos at eu cartrefi. Hyd yn oed gydag ystadau mwy newydd, lle mae dreifiau, mae ceir yn dal i barcio ar y ffordd, yn enwedig lle mae dreifiau'n serth iawn, lle mae llethrau sylweddol, neu er hwylustod.
Dylid ymdrin â ffyrdd sy’n brif ffyrdd, neu'n ffyrdd A a B dynodedig, yn eu rhinwedd eu hunain, gan ganiatáu 30 mya oni bai eu bod yn mynd heibio i fynedfa ysgol neu ardal siopa. Er mai mater i gynghorau unigol yw penderfynu ar y terfyn cyflymder ar bob ffordd, byddwn yn gobeithio y bydd cynghorau’n mynd i’r afael â’r ffyrdd hyn.
Cysylltodd etholwr â mi sy’n byw yn Nhrefansel ar ffordd sydd eisoes yn 20 mya. Roeddent yn derbyn bod angen terfyn cyflymder o 20 mya mewn ardaloedd preswyl, a dywedasant nad oeddent am i’w ffordd fynd yn ôl i 30 mya, ac nad oedd wedi bod felly ers 20 mlynedd. Mae sôn am derfynau cyflymder 20 mya fel pe baent yn rhywbeth newydd, nad yw erioed wedi’i wneud o’r blaen; os ewch chi o gwmpas ardaloedd—a gwelaf bobl sy'n cynrychioli, yn rhannol, Trefansel—fe welwch, yn Nhrefansel, yn yr Hafod, fod dros eu hanner mae'n debyg—wel, dros eu hanner yn Nhrefansel mewn gwirionedd, ychydig o dan eu hanner yn yr Hafod—yn 20 mya cyn inni gael y newid i'r terfyn diofyn.
Ond mae yna bobl sy'n anghytuno. Dywedwyd wrthyf gan ddyn 23 oed ei fod, fel gyrrwr profiadol, yn gyrru yn unol ag amodau’r ffyrdd, ac y dylai pob un ohonom yrru yn unol ag amodau’r ffyrdd, nad oedd arnom angen terfynau cyflymder o unrhyw fath, 20 mya, 30 mya, neu unrhyw beth. Byddai'n gyrru ar y cyflymder angenrheidiol, gan ei fod wedi bod yn gyrru ers pum mlynedd. Ond os yw'r amodau yr un peth i bawb, pam fod rhai cerbydau'n teithio ar gyflymder gwahanol? Hynny yw, byddai'r cyflymder yr un peth pe bai pawb yn gyrru yn unol â'r amodau.
Fy mhrofiad i wrth drafod y mater gyda phobl sy'n gwrthwynebu 20 mya yw bod hynny fel arfer mewn perthynas â ffordd nad ydynt yn byw arni; mae'n ymwneud â ffordd arall y maent yn gyrru arni. Er mai 30 mya oedd y terfyn cyflymder diofyn blaenorol, gostyngwyd y terfyn cyflymder ar lawer o ffyrdd i 20 mya, ac mae ffyrdd eraill hefyd—a ydych chi'n cofio'r twmpathau, y rhwystrau igam-ogamu, yr holl fesurau arafu traffig eraill a oedd yn bodoli er mwyn gostwng y terfyn cyflymder? A beth a welwn? Rydym yn gweld symudiad traffig ar gyffyrdd yn gwella, ac mae wedi dod yn haws croesi’r ffordd, ond yn sicr, mewn ardaloedd trefol y tu hwnt i ffyrdd A a B, mae 20 mya yn amhosibl ar hyn o bryd ar y rhan fwyaf o'r ffordd.
Beth a ddylai ddigwydd? Adolygiad llawn o ffyrdd A a B. Ni fyddai hyn yn gwneud i bob un ohonynt newid yn ôl i 30 mya. Mae yna lawer o ffyrdd o'r fath nad ydynt yn 20 mya ar hyn o bryd beth bynnag. Fodd bynnag, mae rhai ffyrdd a fyddai'n elwa o gynnydd yn y cyflymder. Rwyf wedi gofyn am godi'r terfyn cyflymder ar Heol Llangyfelach o Rodfa Rheidol i oleuadau Cwm Level yn ôl i 30 mya. Rwyf hefyd wedi gofyn am godi'r terfyn ar Ffordd Clydach o Westy'r Midland i gylchfan Plas Cadwgan yn ôl i 30 mya. Dyma’r unig ddwy ffordd yn Nwyrain Abertawe y credaf y byddent yn elwa o gynnydd mewn cyflymder, gan fod 20 mya yn iawn ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd trefol, ond ni ddylai fod wedi’i gyflwyno ar gyfer ffyrdd A a B ar yr un pryd ag y cafodd ei gyflwyno ar gyfer ffyrdd trefol.
Ond os ydych chi am ei brofi, dewiswch ardal, dewiswch un o'r ardaloedd rydych chi'n eu cynrychioli, a diddymwch y terfynau cyflymder ar y ffyrdd yno. Maent yn dweud nad yw cyflymder yn bwysig, felly cewch wared arnynt. Awgrymwch, mentraf ddweud, na ddylai fod terfyn cyflymder gan sir Benfro, a bod pawb yn cael gyrru ar 60 mya. Gadewch inni weld a ydych chi wir yn credu hynny.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae dros flwyddyn wedi bod bellach ers i'r terfyn 20 mya gael ei gyflwyno ym mis Medi y llynedd. Efallai y dylem gymryd eiliad i fyfyrio ac i gofio digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth, ac rwy’n hapus i roi crynodeb i chi.
Syniad y cyn-Weinidog newid hinsawdd, Lee Waters, sydd yn y Siambr y prynhawn yma, oedd y polisi, ac mae wedi cyfaddef bod camgymeriadau wedi’u gwneud a bod angen dull sy'n defnyddio mwy o synnwyr cyffredin. Rydym hefyd wedi clywed gan y Prif Weinidog fod y ffordd y cafodd y ddeddfwriaeth 20 mya ei rhoi ar waith wedi creu problemau, yn ei geiriau ei hun. Cydnabu'r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros drafnidiaeth na ddylai rhai ffyrdd byth fod wedi cael eu newid i 20 mya. A gwyddom o waith ymchwil Llywodraeth Cymru ei hun y bydd y polisi yn costio £9 biliwn i economi Cymru. Ac wrth gwrs, y bron i 0.5 miliwn o lofnodion ar y ddeiseb yn galw am ddileu'r terfyn 20 mya diofyn. Canfu arolwg barn gan YouGov fod 70 y cant o Gymry yn gwrthwynebu’r newid i’r terfyn cyflymder o 20 mya. Felly, os nad yw'r polisi yn ennyn unrhyw gefnogaeth gan y cyhoedd yng Nghymru ac nad oes iddo gefnogaeth gan garfan o Weinidogion Llywodraeth Cymru, pam parhau i arbed wyneb, gan lynu wrth y polisi hwn nad oes unrhyw un, gan gynnwys y rheini a'i cyflwynodd, yn cytuno ei fod yn llwyddiant o'i ddechreuad yn y Siambr hon i'w gyflwyniad ledled y wlad?
Mae’r effaith ar fusnesau ledled Cymru wedi bod yn ddifrifol. Gwyddom o’r baromedr twristiaeth fod twristiaid yn llai awyddus i deithio ac i aros yng Nghymru oherwydd y newid i’r terfyn cyflymder 20 mya. Mae'n cymryd mwy o amser i ddosbarthu nwyddau; mae amseroedd ymateb y gwasanaethau brys yn waeth, os yw hynny'n bosibl; ac amharwyd ar wasanaethau bysiau, gan gynnwys gwasanaeth Arriva Cymru yn fy etholaeth, y bu'n rhaid iddo gael gwared ar arosfannau oddi ar ei lwybr er mwyn cynnal prydlondeb—yr un mwyaf nodedig oedd siop ffatri Tweedmill yn Llanelwy. Rwy'n falch fod y ffordd honno yn cael ei newid yn ôl, ond mae arosfannau bysiau eraill yn dal i fod wedi'u heithrio o'r amserlen bysiau am y rheswm hwn, a nodwyd hynny gan Bysiau Arriva Cymru eu hunain. Felly, nid yw 20 mya ond yn un o gyfres o bolisïau Llywodraeth Cymru sy'n dal ffyniant economaidd Cymru 'sausage’, neu a ddylwn i ddweud 'hostage', yn wystl?
O 20 mya i’r dreth dwristiaeth—[Chwerthin.] Cymerodd funud. O 20 mya i’r dreth dwristiaeth, i dorri rhyddhad ardrethi busnes, mae Llywodraeth Cymru yn ymddwyn fel pe bai’n ceisio difrodi economi Cymru yn fwriadol. Go brin fod y £9 biliwn y rhagwelir y bydd y polisi 20 mya yn ei gostio i economi Cymru yn cyd-fynd â chynllun Keir Starmer ar gyfer twf.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, os gwelwch yn dda.
I ba raddau y mae damweiniau ar ffyrdd sy'n arafu traffig yn effeithio ar economi Cymru? Fel rhywun a dreuliodd awr yn teithio ar yr A4234 ddoe, mae gennyf ddiddordeb personol.
Nid yw’r ffigurau hynny gennyf wrth law, ond efallai, pe byddech yn cysylltu â’ch bwrdd iechyd lleol, Mike, i lawr yn Abertawe, efallai y gallent roi mwy o ffigurau i chi ynghylch hynny, ond nid ydynt wrth law gennyf, yn anffodus, felly ni fyddwn yn rhoi ateb cywir i chi ar hynny.
Honnodd y cyn Weinidog newid hinsawdd yn gynt hefyd y byddai’r terfyn 20 mya diofyn yn lleihau llygredd lle mae pobl yn gyrru'n fwy llyfn, ond mae’r dystiolaeth yn dangos bod y gwrthwyneb yn wir, gyda synwyryddion ansawdd aer yn canfod cynnydd mewn allyriadau nitrogen mewn 50 y cant o leoliadau. Mae awdurdodau lleol wedi cael miloedd o geisiadau i newid ffyrdd 20 mya yn ôl i 30 mya, ond nid yw'r ceisiadau'n cael eu derbyn. Roedd y canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd i awdurdodau lleol yn rhoi gobaith ffug y byddai dull synnwyr cyffredin yn cael ei ddefnyddio, ac nid yw hyn wedi digwydd. Er hynny, dim ond 0.6 y cant o ffyrdd yn sir Ddinbych sydd wedi’u heithrio o’r terfyn cyflymder 20 mya, ac rwyf wedi codi hyn yn y Senedd a chyda Chyngor Sir Ddinbych, ond ymddengys nad oes unrhyw fwriad i wneud yr eithriadau y mae pobl am eu gweld. Credaf fod hynny’n rhannol oherwydd cyfansoddiad gwleidyddol y cyngor y dyddiau hyn, ac yna hefyd y cymhlethdodau o ran deall canllawiau Llywodraeth Cymru ar hynny. Felly, credaf ei fod yn ddeublyg mewn sawl ffordd yn hynny o beth.
Felly, anwybyddwyd yr ymgynghoriad cychwynnol yn ôl ym mis Mawrth 2022 a wrthododd y terfyn 20 mya, anwybyddwyd adborth o dreialon, anwybyddwyd yr ymchwil o Belfast a ddangosai sylfaen dystiolaeth wael, ac yn wir, anwybyddwyd y 0.5 miliwn o bobl a lofnododd y ddeiseb i ddileu'r terfyn 20 mya. Nid yw pobl yn hoffi cael cyfyngiadau ar eu rhyddid yn enw eu cadw, ac er i’r Prif Weinidog nodi’n glir fod ei pherthynas â Syr Keir Starmer yr un mor agos â chyda Donald Trump, maent yn sicr yn rhannu’r un meddylfryd ynghylch gwladwriaeth faldodus. Os yw’r Prif Weinidog o ddifrif am fod yn Llywodraeth sy’n gwrando, byddwn yn ei chynghori y dylai wrando ar y 70 y cant o bobl Cymru, a diddymu’r polisi amhoblogaidd a niweidiol hwn, yn hytrach na gwneud styntiau cysylltiadau cyhoeddus yn unig. Diolch yn fawr, ac edrychaf ymlaen at glywed gweddill y ddadl. Diolch.
Lywydd, rwyf wedi credu ers tro, ac rwy'n dal i gredu, mai polisi 20 mya diofyn yw’r un cywir, a chredaf fod Llywodraeth Cymru yn iawn i’w gyflwyno, ac mai cynnal yr adolygiad hefyd yw’r peth cywir i’w wneud. Ac yn dilyn yr adolygiad hwnnw, rwy’n siŵr y bydd rhai addasiadau’n cael eu gwneud, gan adlewyrchu barn pobl leol ynghylch pa ffyrdd a ddylai newid yn ôl i 30 mya, ac yn amlwg, byddwn yn gweld canlyniad yr ymarfer hwnnw cyn bo hir.
Lywydd, rwy'n credu ei bod yn eithaf rhyfeddol ein bod wedi clywed gan ddau Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig heb fawr ddim sôn—yn wir, dim o gwbl o bosibl—am ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae mor amlwg ei bod yn bwysig, onid yw, fod polisi a gyflwynwyd yn bennaf er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei ystyried a'i archwilio yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny o ran diogelwch ar y ffyrdd? Ond yn amlwg, mae rhai ffeithiau anghyfleus yno i'r Ceidwadwyr Cymreig o ran yr hyn sydd wedi digwydd ar ôl iddo gael ei gyflwyno.
Felly, mae gennym ddau chwarter o ddata bellach, yn dilyn cyflwyno'r terfyn diofyn o 20 mya, o gymharu â’r cyfnod tebyg cyn ei gyflwyno, sy’n dangos cyflymderau is, llai o anafusion a llai o hawliadau difrod i gerbydau. Rwy'n awgrymu bod honno'n dystiolaeth eithaf cryf o lwyddiant y polisi i ostwng cyflymder, atal damweiniau a lleihau marwolaethau ac anafusion. Felly, yng Nghymru, ar gyfer y cyfnod o chwe mis ar ôl ei gyflwyno, o gymharu â'r cyfnod blaenorol cyn ei gyflwyno, gan gymryd ffyrdd 20 a 30 mya gyda'i gilydd, gwelwn nifer yr anafusion yn gostwng o 1,191 i 840—gostyngiad o 29 y cant. Ac ar yr un pryd, gostyngodd nifer yr anafusion ar ffyrdd eraill hefyd, yn debyg i'r profiad ym Mryste a Brighton, er enghraifft, lle canfuwyd bod cael terfynau cyflymder o 20 mya ar raddfa fawr yn lleihau cyflymder yn gyffredinol, gan eu bod yn newid ymddygiad gyrwyr yn gyffredinol ar yr holl ffyrdd, gyda'r manteision amlwg yn sgil hynny.
Onid yw'n rhyfeddol nad ydym wedi clywed fawr ddim gan y Ceidwadwyr Cymreig wrth drafod gweithrediad y polisi ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd, ynglŷn â marwolaethau, anafusion a gwrthdrawiadau? Rwy’n siŵr y bydd pobl sy’n dilyn y ddadl hon heddiw a’r hyn a glywsom gan y Ceidwadwyr Cymreig hyd yma heddiw, yn synnu at y diffyg sôn am yr hyn y gallai gael ei weld gan lawer yn ffeithiau anghyfleus i’r Ceidwadwyr Cymreig hynny.
O ran rhai o’r agweddau ariannol, Lywydd, gwyddom gan esure, y cwmni yswiriant—gŵyr pob un ohonom fod cwmnïau yswiriant yn bengaled, maent yn gweithredu ym myd real cyllid a mantais ariannol i’r rhai sydd mewn busnes, i wneud elw—eu bod yn lleihau premiymau polisi oddeutu £50 i gwsmeriaid sydd yn yr ardaloedd terfyn 20 mya estynedig hyn. Pe bai'r terfyn 20 mya yn cael ei gyflwyno ledled y DU yn y ffordd y'i cyflwynwyd yng Nghymru, amcangyfrifwyd y byddai hynny'n arwain at werth oddeutu £1.4 biliwn o arbedion i fodurwyr yr effeithir arnynt yn y ffordd honno. Yng Nghymru, byddai hynny’n arwain at arbedion o ddegau o filiynau o bunnoedd. Rwy'n ildio.
Diolch, John Griffiths. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi derbyn yr ymyriad. Rydych chi'n sôn am yswiriant. Rydym wedi cael miloedd o bobl ledled Cymru sydd wedi cael dirwyon, a phwyntiau o ganlyniad i'r dirwyon hynny. Rwy’n siŵr y gallwch ddeall, pan fyddwch chi'n sôn am hawliadau yswiriant, un peth y credaf, Lywydd, nad yw llawer o bobl yn ei ddeall yw na fydd cwmnïau yswiriant, os oes gennych bwyntiau ar eich trwydded, byth yn gostwng eich premiwm, ni fydd ond yn codi. Felly, mae miloedd o bobl ledled Cymru sydd wedi cael dirwyon am yrru uwchlaw'r terfyn 20 mya, sut bynnag y digwyddodd hynny. Ond nid yw sôn am bremiymau yswiriant yn gostwng yn mynd i ddigwydd i gynifer o bobl ledled Cymru, gan mai cynyddu'n unig a wnânt.
Wel, onid oedd hwnnw'n ymyriad eithaf rhyfeddol? Mae pobl ledled Cymru a ledled y DU gyfan yn torri pob math o derfynau cyflymder, yn anffodus, ac wrth gwrs, maent yn wynebu’r canlyniadau o ran y gyfraith a phremiymau yswiriant. Yn amlwg, dyna'r sefyllfa yn gyffredinol, ar gyfer terfynau cyflymder. Rydym yn disgwyl i bobl gydymffurfio â'r gyfraith a chadw at derfynau cyflymder, a byddwn yn gobeithio y byddai’r Aelodau gyferbyn yn disgwyl yr un math o ymddygiad hefyd.
A gaf i gloi, Lywydd, drwy sôn am yr angen am orfodi a mwy o orfodi, a byddwn yn gweld hynny wrth inni symud ymlaen, gan ddod at y pwyntiau y mae’r Aelod newydd eu crybwyll? Wrth gwrs, rydym yn disgwyl i bobl gydymffurfio â therfynau cyflymder. Hoffwn sôn am un o fy etholwyr, Clare Kenney, sy’n byw ar Heol Caerllion yng Nghasnewydd. Ar y rhan o'r ffordd y mae hi'n byw, mae yna gyfyngiad 20 mya. Mae wedi gofyn am fwy o orfodi, oherwydd pan gynhaliwyd gwaith monitro, dangosodd fod gostyngiad mewn cyflymder, a oedd i’w groesawu’n fawr, ond fod modurwyr yn dal i yrru uwchlaw'r terfyn 20 mya, ac mae’n gwbl briodol ei bod yn disgwyl y gorfodi yr ymddengys bod o leiaf rai o'r Aelodau gyferbyn yn ei wrthwynebu. Mae am i’w phlant allu cerdded i’r ysgol yn ddiogel, gallu chwarae’n ddiogel ac am i'r henoed a phobl fwy agored i niwed ar y rhan honno o Heol Caerllion, lle mae siopau, arosfannau bysiau a thai yn agos iawn at y ffordd, allu byw eu bywydau gyda'r gwell diogelwch ffyrdd a ddaw yn sgil 20 mya. Felly, soniais am yr enghraifft honno oherwydd, er y bydd yr adolygiad hwn y gŵyr pob un ohonom amdano yn cael ei gynnal, Lywydd, mae'n rhaid inni gadw'r terfyn 20 mya ar y ffyrdd lle ceir budd o ran diogelwch ffyrdd, ac mae’n rhaid iddo barhau wrth inni symud ymlaen.
A hithau'n benderfynol o ddilyn ei pholisïau diogelwch ffyrdd, anwybyddodd Llywodraeth Cymru bob tystiolaeth anghyfleus i’r gwrthwyneb. Diystyrodd yr astudiaeth ymchwil annibynnol awdurdodol ar 20 mya a gyhoeddwyd gan Adran Drafnidiaeth y DU ym mis Tachwedd 2018, a ganfu fod gwedd a theimlad y ffordd yn dylanwadu mwy ar gyflymder pobl wrth yrru na pha un a oes terfyn 20 neu 30 mya ar waith, ac nad oedd canlyniad diogelwch sylweddol o ran gwrthdrawiadau ac anafusion mewn ardaloedd preswyl ar sail y data a gasglwyd ar ôl cyflwyno terfyn. Yn dilyn hyn, fe wnaethant hefyd ddiystyru astudiaeth yn 2022 gan Brifysgol y Frenhines, Belfast, Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Caergrawnt, a ganfu nad oedd gostwng terfynau cyflymder o 30 i 20 mya yn cael fawr o effaith ar ddiogelwch ffyrdd. Fe wnaethant honni ym mis Medi—
A wnewch chi ildio?
O, iawn. Un ymyriad.
Rydych chi'n parhau i gamgyfleu astudiaeth Belfast o Ogledd Iwerddon, nad oedd yn seiliedig ar set o ffyrdd 30 mya. Roedd yn seiliedig ar set o ffyrdd 20 mya a oedd yn bodoli'n barod, a'r hyn a ddywedasant yw y byddai terfyn cyflymder ardal gyfan, fel yr un a gyflwynwyd gennym ni, yn fwy effeithiol, sef yr hyn rydym ni wedi’i wneud. Rydych chi'n parhau i gamgyfleu'r hyn y mae'r adroddiad hwnnw'n ei ddweud.
Canfuwyd nad oedd gostwng terfynau cyflymder o 30 mya i 20 mya yn cael fawr o effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Fe wnaethoch chi ddiystyru hynny.
Roeddent yn honni ym mis Medi 2023, yn Sbaen, a oedd eisoes ag 20 mya fel eu sefyllfa ddiofyn, fod marwolaethau a damweiniau wedi gostwng er bod Gweinidog mewnol Sbaen wedi nodi y mis Ionawr blaenorol, o gymharu ffigurau 2022 â rhai 2019, y flwyddyn olaf cyn y pandemig heb gyfyngiadau symud yno, fod 2022 wedi gweld mwy o farwolaethau nag yn 2019, ac roedd nifer y marwolaethau mewn perthynas â beicwyr wedi codi hefyd. Er bod data damweiniau ffordd dilynol ar gyfer Sbaen yn ystod 2023 wedi dangos gostyngiad bach yn nifer y marwolaethau, gostyngiad o dri yn unig ydoedd ar gyfer 2022 gyfan. Ac mae defnyddwyr bregus, gan gynnwys beicwyr modur, cerddwyr a beicwyr, wedi gweld cynnydd o 9 y cant yn nifer y marwolaethau.
Byddai dweud bod y terfyn cyflymder diwahân o 20 mya wedi bod yn amhoblogaidd yn danddatganiad. Fel y gwyddom, llofnododd 469,571 o bobl ddeiseb y Senedd, 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20 mya', y ddeiseb fwyaf yn hanes y Senedd, ac mae awdurdodau lleol Cymru wedi cael ceisiadau i filoedd o ffyrdd gael eu newid yn ôl o 20 mya i 30 mya. Cyrhaeddodd deiseb ar wahân, a lansiwyd yn Bwcle, sir y Fflint, ardal beilot 20 mya gogledd Cymru, bron i 86,000 o lofnodion. Canfu arolwg o ddarllenwyr North Wales Live mai dim ond 12 y cant o'r ymatebwyr sy'n cefnogi cynlluniau Llafur i newid y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl i 20 mya, gydag 88 y cant yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
Pan ofynnwyd i'r bobl am eu barn am derfynau cyflymder diofyn 20 mya Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2023, roedd y gwrthwynebiad yn 61 y cant. Ddeufis yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr 2023, canfu arolwg barn YouGov ITV Cymru fod y gwrthwynebiad wedi codi i 70 y cant. Gyda bron flwyddyn wedi mynd heibio ers rhoi'r ddeddfwriaeth 20 mya mewn grym yng Nghymru, dangosodd arolwg barn YouGov fis diwethaf fod saith o bob 10 o Gymry yn dal i wrthwynebu hyn.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ddatganiad ysgrifenedig lle dywedodd fod data newydd ar wrthdrawiadau ar y ffordd yn dangos bod nifer yr anafusion wedi gostwng ers cyflwyno'r terfynau cyflymder newydd o 20 mya ym mis Medi y llynedd. Yr hyn na ddywedodd oedd bod y data newydd a ddyfynnwyd ganddo ar gyfer tri mis olaf 2023, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2022, yn dangos, hyd yn oed gyda'r eithriadau cyfyngedig i'r terfynau diofyn o 20 mya a osodwyd gan awdurdodau lleol sy'n gweithredu yn unol â meini prawf eithriadau Llywodraeth Cymru, fod nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20 mya wedi codi 800 y cant, o lai na 5 y cant i 36 y cant o'r cyfanswm, tra bo'r nifer a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 30 mya wedi gostwng 88 y cant, o 49 y cant i ddim ond 5 y cant o'r cyfanswm, gyda nifer y beicwyr modur a beicwyr a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn cynyddu. At hynny, roedd cyfanswm yr anafusion ffyrdd wedi cynyddu dros 13 y cant.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi galw ffigurau diweddar yn dangos gostyngiad o 17 y cant yn nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20 mya a 30 mya yn y chwe mis cyntaf ar ôl i'r terfyn gael ei gyflwyno yn galonogol, ni wnaethant sôn bod y nifer a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20 mya wedi codi o 4 y cant i 34 y cant o'r cyfanswm, er gwaethaf eu sicrwydd dro ar ôl tro y byddai ffyrdd 20 mya yn darparu hafan o ddiogelwch, tra bo'r nifer ar ffyrdd 30 mya wedi gostwng o 47 y cant i ddim ond 6 y cant o'r cyfanswm. Ac ni wnaethant sôn bod cyfanswm y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd wedi cynyddu 10 y cant.
Cyn i'r terfyn diofyn o 20 mya ddod i rym, rhybuddiais y byddai newid o derfynau cyflymder 30 mya i derfynau 20 mya yn trosglwyddo cyfran yr anafusion ffyrdd o'r naill i'r llall, gan symud gyrwyr, ac felly nifer yr anafusion ffyrdd, i'r rhwydwaith ffyrdd ehangach, ac mae'r data hwn yn dangos bod hyn yn digwydd.
Flwyddyn yn ddiweddarach, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y polisi 20 mya wedi cael ei feirniadu'n fawr, ond mae'n bolisi sy'n llwyddo i gyflawni ei ganlyniadau. Mae'r data hyd yma yn dangos bod cyflymderau cyfartalog wedi gostwng, fel y dywedasom y byddent yn ei wneud. Mae gwrthdrawiadau ar bob ffordd ar eu lefel isaf ers cyfyngiadau symud COVID. Mae nifer yr anafusion i lawr 32 y cant, sef yr ymyrraeth diogelwch ffyrdd fwyaf effeithiol sydd wedi'i gwneud. Ac mae bywydau wedi cael eu hachub: chwe marwolaeth yn llai yn y chwe mis cyntaf o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod y polisi wedi bod yn drychinebus. Rwy'n credu bod y rhain yn ganlyniadau y gallwn fod yn falch ohonynt. A yw ein strategaeth wedi bod yn berffaith? Nac ydyw. Rwy'n canmol Ysgrifennydd y Cabinet am ei holl waith yn ystod y chwe mis diwethaf i ymgysylltu â chymunedau a defnyddio synnwyr cyffredin lle mae ei angen. Pan fydd y broses honno wedi'i chwblhau, rwy'n gobeithio y gall yr heddlu ddechrau gorfodi yn yr ardaloedd lle nad yw cyflymderau'n gostwng, ac y gallwn i gyd gefnogi'r neges y dylai pethau fod ychydig yn arafach ac yn llawer gwell ar strydoedd lle mae pobl a thraffig yn cymysgu.
Mae gennyf ddiddordeb yng nghynllun y Ceidwadwyr i gael gwared ar y terfyn cyflymder a'u dewis amgen. Dywed Natasha Asghar y dylid gosod 20 mya ar ffyrdd lle mae llawer o bobl yn cerdded, megis y tu allan i addoldai prysur, ysgolion, meysydd chwarae a strydoedd mawr, ysbytai, neu fannau lle gellid dod ar draws defnyddwyr ffyrdd bregus eraill—ac mae hi'n cadarnhau hynny o'i sedd. Maent yn galw hynny'n ddull synnwyr cyffredin, tra bo'r dull a gefnogwyd gan ddwy ran o dair o Aelodau'r Senedd yn cael ei ddisgrifio fel dull rhy llym.
Felly, gadewch i ni gymharu eu dull hwy a'n dull ni. Dywed y Torïaid y dylai'r terfyn cyflymder fod yn 20 mya y tu allan i ysbytai. Dywed ein canllawiau ni y dylid gosod 20 mya o fewn 100m i ysbytai. Mae'r Torïaid yn ffafrio 20 mya y tu allan i ysgolion a meysydd chwarae. Mae'r canllawiau ni'n dweud y dylid gosod 20 mya o fewn 100m i unrhyw leoliad addysgol. Da iawn, cyn belled. Mae'r Torïaid yn cefnogi 20 mya ar y stryd fawr. Mae'r canllawiau ni'n dweud ein bod yn disgwyl i strydoedd o fewn 100m i safleoedd manwerthu fod yn 20 mya. Mae'r Torïaid eisiau 20 mya y tu allan i addoldai a mannau lle gellir dod ar draws defnyddwyr ffyrdd bregus eraill. Mae ein canllawiau ni'n dweud bod 20 mya yn briodol yn agos at ganolfannau cymunedol, sy'n cynnwys eglwysi, ac o fewn 100m i safleoedd preswyl.
Felly, nid oes gwahaniaeth o ran sylwedd. Mae'r gwahaniaeth yn ymwneud â gwleidyddiaeth yn unig. Mae'n ymwneud ag oportiwnistiaeth noeth. Dechreuodd y gefnogaeth i 20 mya yn y Siambr hon gyda Cheidwadwr. David Melding a ymgyrchodd amdano'n wreiddiol, gyda chefnogaeth cyd-Aelodau Torïaidd. Pan ddaethom ag adroddiad y tasglu arbenigol i'r Senedd, a argymhellodd y dylem osod terfyn cyflymder diofyn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gadewch imi wneud rhywfaint o gynnydd. Cafodd gefnogaeth arweinydd y Torïaid bryd hynny, a'r rhan fwyaf o'r Aelodau Torïaidd. Dim ond pan wnaethant synhwyro cyfle i droi hwn yn destun cynnen y gwnaethant newid eu safbwynt. Maent yn dweud nawr eu bod am gael gwared ar y gyfraith sydd wedi arwain at gwymp o 32 y cant yn nifer yr anafusion. Darren.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Fi oedd y cyfarwyddwr polisi pan drafodwyd y materion hyn, a gallaf eich sicrhau nad yw erioed wedi bod yn bolisi gan y Blaid Geidwadol Gymreig i gefnogi terfynau cyflymder diofyn 20 mya. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod aelodau o'r cyhoedd mewn rhai cymunedau yn gofyn am wneud 20 mya yn ddiofyn ar eu hystadau, ac roedd rhai achlysuron lle cefnogwyd hynny gan Aelodau unigol.
Ymgyrchais dros derfynau cyflymder 20 mya y tu allan i un neu ddwy o ysgolion lleol yn fy etholaeth fy hun, ond nid wyf erioed wedi pleidleisio dros derfynau cyflymder diofyn 20 mya. Pleidleisiodd rhai o'r Aelodau ar y meinciau hyn o blaid gweld cynllun peilot yn mynd rhagddo er mwyn iddynt gael gwell gwybodaeth i weld ai dyma'r dull cywir o weithredu. Ac wrth gwrs, pan gyhoeddwyd y dystiolaeth ar ganlyniad y treialon hynny, fe wnaethant yn glir nad oedd hynny'n rhywbeth yr oeddent yn ei gefnogi—
Diolch. Lee Waters i barhau.
Mae wedi'i gofnodi'n gyhoeddus fod adroddiad y tasglu 20 mya, a ddaeth i'r Siambr hon ac a gafodd gefnogaeth y rhan fwyaf o'r Aelodau Ceidwadol—ac eithrio Darren Millar—yn argymell dull terfyn cyflymder diofyn, a chefnogwyd hynny gan ddwy ran o dair o Aelodau'r Senedd hon, gan gynnwys nifer o'r Ceidwadwyr sydd yma heddiw. Mae honno'n ffaith.
Rydych chi nawr yn dweud eich bod chi eisiau cael gwared ar y ddeddfwriaeth, er na allaf weld unrhyw wahaniaeth amlwg rhwng eich dewis chi a'n hun ni. Rydych chi eisiau i'r holl arwyddion y dywedoch chi ein bod wedi gwastraffu arian arnynt gael eu tynnu i lawr. Rydych chi'n dweud y dylai'r gorchmynion cyfreithiol y mae cynghorau wedi gweithio'n galed i'w rhoi ar waith gael eu taflu ymaith. Ac yn lle cael un broses syml i gwmpasu ardal gyfan, maent eisiau gweld gorchymyn cyfreithiol newydd sbon ar gyfer pob stryd—felly, gorchymyn rheoleiddio traffig newydd ar gyfer pob ffordd lle mae ysgol, ysbyty, man addoli, maes chwarae, stryd fawr, a man lle gellid dod ar draws defnyddwyr ffyrdd bregus eraill. Byddai'n rhaid drafftio pob un o'r gorchmynion hyn o'r newydd, Lywydd, ymgynghori ar bob un, pasio pob un trwy broses ar wahân. A chofiwch, mae'r rhain yn costio £15,000 yr un—[Torri ar draws.]
Ni allaf glywed y cyfraniad. A gawn ni ei glywed yn ei fanylder ac yn llawn, os gwelwch yn dda? Lee Waters.
Maent eisiau gorchymyn rheoleiddio traffig ffyrdd newydd ar bob un o'r ffyrdd hyn, sef £15,000 yr un, ac maent yn dweud mai ni yw'r rhai sy'n gwastraffu arian. Ymhell o fod yn goelcerth o reoliadau, mae eu dull synnwyr cyffredin yn ganon conffeti o fiwrocratiaeth wedi ei gwasgaru ledled Cymru. Y gwahaniaeth go iawn rhyngom yw ein bod ni'n rhoi achub bywydau o flaen gwleidyddiaeth. Y gwahaniaeth go iawn yw nad ydym ni wedi mynd ati i geisio drysu neu gamarwain. Y gwahaniaeth go iawn yw nad ydym ni wedi bod yn anonest nac wedi dangos ysgelerder moesol, fel y mae'r comisiynydd safonau wedi ei ganfod yn erbyn llefarydd y Ceidwadwyr. A'r gwahaniaeth go iawn, oherwydd ein dull ni o weithredu, yw bod nifer yr anafusion i lawr 32 y cant. Y Nadolig hwn, Lywydd, bydd yna deuluoedd yn cael eistedd gyda'i gilydd o amgylch y ford ginio, na fyddai wedi gallu gwneud hynny pe bai'r Ceidwadwyr wedi llwyddo i rwystro'r newid. Dyna'r gwahaniaeth rhyngom.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mae'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar draws y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl yng Nghymru wedi wynebu peth o'r feirniadaeth fwyaf sylweddol i ddeddfwriaeth a welais erioed. Mae'r hyn a fwriadwyd i wella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau allyriadau wedi sbarduno rhwystredigaeth, condemniad a gwrthwynebiad eang gan y cyhoedd, ein busnesau lleol ac awdurdodau lleol. Gwariwyd £33 miliwn ar ei weithredu, sydd, fel y gallwch ddychmygu, wedi gwylltio'r rhai sy'n teimlo y dylai'r arian hwnnw fod wedi mynd i'n gwasanaeth iechyd aflwyddiannus, neu i'n cyllidebau addysg i ariannu'r prinder truenus o athrawon.
Un o'r problemau sylfaenol gyda'i weithredu oedd y diffyg ymgynghori ac ymgysylltu â'r rhai y byddai'n effeithio arnynt, h.y. ein modurwyr, ein gofalwyr, ein gweithwyr, ein preswylwyr, ein gwasanaethau brys, ac wrth gwrs, ein systemau trafnidiaeth lleol. Cymaint yw amhoblogrwydd y ddeddfwriaeth ddiffygiol hon, bellach fe geir adroddiadau fod niferoedd ymwelwyr yn gostwng, rhag ofn y gallent gael dirwy neu gael pwyntiau ar eu trwydded. Ac os nad ydych chi'n fy nghredu, siaradwch â'r diwydiant lletygarwch, y gofynnir iddynt yn gyson, hyd yn oed cyn i bobl drefnu gwyliau, ac mae pobl weithiau'n canslo'r archebion hynny.
Er mwyn amddiffyn y polisi hwn wrth symud ymlaen, trosglwyddodd y Gweinidog ar y pryd, Lee Waters, y cyfrifoldeb dros ei wneud i'n hawdurdodau lleol a gafodd y gwaith o ddiwygio cyflymder y ffyrdd a'r arwyddion priodol. Nid wyf yn cymeradwyo hyn, ond difwynwyd neu fandaleiddiwyd nifer o'r arwyddion hyn, cymaint oedd dicter a rhwystredigaeth pobl nad ydynt erioed wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd troseddol.
Rhai o'r problemau a glywais gan etholwyr yw eu bod, wrth lynu at y terfyn cyflymder, yn cael gyrwyr rhwystredig, sy'n ceisio ymgodymu â'r newidiadau cyson yn y terfyn cyflymder, yn gyrru'n agos ac yn ymosodol y tu ôl iddynt. Mae gennyf ffordd yn Aberconwy sy'n 60 mya, yna'n 40 mya, yna'n 20 mya, yna'n 60 mya, ac mae pobl yn ei chael hi'n anodd iawn. Mae rhai hyd yn oed yn anwybyddu'r cyfyngiadau newydd, gan godi pryderon fod lefelau cydymffurfio â chyfraith Cymru'n dirywio, ac y gallai ffyrdd fynd yn fwy peryglus. Mae yna amheuaeth nawr hyd yn oed a yw'r gostyngiad a ragdybiwyd mewn allyriadau wedi digwydd, a'u bod wedi cynyddu mewn gwirionedd, am fod llawer yn gyrru mewn gêr is. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru: beth ydych chi wedi'i wneud ynglŷn â hyn?
Yng ngogledd Cymru, mae llwybr bws 4 rhwng Bangor a Chaergybi angen 11 munud ychwanegol i bob cyfeiriad, tra bod angen pum munud ychwanegol ar fysiau 14 a 15 rhwng Llysfaen a Chonwy. Yn wir, mae Arriva wedi gorfod newid rhai llwybrau bysiau yn Aberconwy, gan beri i bentref ochr mynydd gael ei ddatgysylltu'n llwyr oddi ar y prif lwybr bysiau.
Yr wythnos diwethaf, nodais wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth fod enw drwg iawn i'r ddeddfwriaeth hon ar draws y DU. Ym mis Mai, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn egluro bod angen canllawiau ar gyfer pa ffyrdd yr oedd angen eu heithrio, ac y byddai'n cefnogi awdurdodau lleol i wneud hynny. Y diwrnod canlynol yn y cyfryngau gwelwyd pennawd yn nodi bod y Cabinet wedi gwneud tro pedol, neu rywbeth, ar y polisi hwn. Wel, roedd hynny'n anghywir. Fodd bynnag, mae blwyddyn wedi mynd heibio ers ei roi mewn grym, ac er gwaethaf y geiriau cynnes gan Ken Skates, mae gennym 20 mya diofyn ar lawer o'n ffyrdd o hyd.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfaddef bod y ffordd y cafodd y polisi ei weithredu yn wael, ac rydym bellach mewn sefyllfa lle mae dros 10,000 o geisiadau wedi mynd at ein hawdurdodau lleol sydd dan bwysau ar hyd a lled Cymru, gyda dros 1,500 darn o ffordd i'w newid, ac eto nid oes dim yn cael ei wneud. Y ddeiseb sy'n gwrthwynebu'r polisi yw'r un sydd wedi cael y nifer fwyaf o lofnodion yn hanes y Senedd hon, gan gyrraedd 469,571, ac mae llofnodion yn dal i gael eu hychwanegu. Bydd polisi gwerth £34 miliwn sy'n cael ei orfodi'n ar fodurwyr Cymru nawr yn gweld £5 miliwn arall yn cael ei wario i droi ffyrdd a newidiwyd yn anghywir i 20 mya yn ôl, gyda chynghorau ledled Cymru sydd eisoes ar eu gliniau'n ariannol yn cael eu gorfodi i glirio'r llanast a adawyd ar ôl gennych chi, Lee Waters, a chan Lywodraeth Cymru. Mae hyd yn oed wedi gadael enw da un cyn-Weinidog yn yfflon, gan ei orfodi i ymddiswyddo o'r swydd yn dilyn adwaith brawychus i'r polisi. Rydych chi hyd yn oed wedi dweud bod negeseuon Llywodraeth Cymru yn dilyn y tro pedol yn llanast llwyr, gan egluro bod modurwyr yn dweud, 'Mae'r cyfan yn newid ym mis Medi, felly nid oes angen inni drafferthu cadw at 20 mya.'
Mae'n bryd newid, Aelodau, ac unrhyw un sy'n gwylio, fe fyddwch chi'n sylwi bod pobl yn dod yn ôl i mewn—
Janet, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—ar feinciau Llafur a Phlaid Cymru, ond maent wedi bod yn absennol i raddau helaeth yn ystod y rhan fwyaf o hyn—
Janet, mae angen i chi orffen, os gwelwch yn dda.
Iawn. Mae'n bryd newid ac yn bryd cefnu ar hyn yn sydyn a chyda synnwyr cyffredin, gan ganiatáu dewis i'n modurwyr a hawl i fwynhau eu rhyddid.
Janet, gorffennwch os gwelwch yn dda.
Rwy'n erfyn arnoch i bleidleisio gyda ni heddiw. Gyda'n gilydd, gallwn wyrdroi'r cyfeiriad teithio presennol a chael Cymru yn ôl i symud. Diolch.
Fe wnaethom gynnal adolygiad o'r terfyn cyflymder pan oeddwn yn aelod cabinet yn sir y Fflint. Mae'n rhaid i chi eu gwneud bob hyn a hyn oherwydd datblygiadau newydd, damweiniau a deisebau, deisebau lleol. Cymerodd tua phum mlynedd i'w wneud, llunio cynlluniau, ymgynghori, ysgrifennu a hysbysebu hysbysiadau cyfreithiol, rhoi'r holl arwyddion ar waith a gweithio trwy'r anghysonderau, oherwydd fe gewch chi anghysonderau. Gydag unrhyw adolygiad mawr o derfyn cyflymder, mae anghysonderau a newidynnau i weithio drwyddynt, a allai fod yn seiliedig ar heriau pellach gyda data damweiniau a natur y ffordd.
Nid oes unrhyw awydd i weld awdurdodau lleol, sef yr awdurdodau priffyrdd, yn cael gwared ar yr 20 mya a fu'n weithredol ers blwyddyn, a dechrau eto. Nid oes ganddynt yr adnoddau. Rwy'n sefyll gydag awdurdodau gogledd ddwyrain Cymru a ddywedodd fod y canllawiau cychwynnol yn rhy llym, gan gyfyngu ar yr hyn y gellid ei godi i 30 mya, pwynt a wneuthum dro ar ôl tro, a cheisio ei ddatrys. Roedd yn rhaid iddynt ddangos tystiolaeth nad yw llwybr yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr a beicwyr, ond nid oedd meini prawf Llywodraeth Cymru yn diffinio faint o gerddwyr a beicwyr, a theimlent fod angen hynny arnynt. Ac roeddwn i'n teimlo ar y pryd y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwrando ar bryderon awdurdodau lleol, gan mai hwy yw cyrff cyflawni'r ddeddfwriaeth. Felly, os ydynt hwy'n dweud bod problem, mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda hwy i ddatrys y problemau ar y camau cynnar, wrth iddo ddigwydd.
Yr awdurdodau lleol sy'n gorfod ymdrin ag atebolrwydd am eu penderfyniadau, yn seiliedig ar ddehongliad o'r ddeddfwriaeth. Mae angen iddo fod mor glir â phosibl pe bai her os oes damwain, neu os yw trigolion yn cwestiynu pam nad oes cyfyngiad tebyg yn yr ardal y maent yn byw ynddi. Mae dwysedd o 20 o dai o fewn 1 km yn rhy uchel ac mae angen cael gwared arno wrth symud ymlaen. Cytunwyd ar hyn yn ddiweddar gan swyddogion Llywodraeth Cymru a'r grŵp gorchwyl 20 mya, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill mewn cyfarfodydd a fynychais.
Mae'r broses o gyflwyno 20 mya a'r mater dwysedd wedi bod yn bryder arbennig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle mae llawer o gysylltedd rhwng dinasoedd a datblygiadau rhuban o dai ar hyd y llwybrau prifwythiennol hyn, sy'n broblem. Gallwch deithio o un canol tref i'r llall gyda'r terfyn cyflymder yn parhau i fod yn 20 mya oherwydd y dwysedd tai a adeiladwyd ar hyd y ffordd. Dyna fel y mae rhwng Bwcle a'r Wyddgrug, a dyna pam y mae gennym lawer o gwynion o Bwcle. Mae hyn hefyd wedi achosi problem o ran cydymffurfiaeth ag amserlenni bysiau yn y rhanbarth, a bydd y diwydiant yn croesawu newid yn ôl i 30 mya ar rai o'r llwybrau prifwythiennol. Mae angen i ni hefyd gynnwys rhai ffyrdd nad ydynt wedi cael eu gwneud yn rhai 20 mya, ac rwy'n teimlo y dylent fod.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Carolyn? Rydych chi'n rhestru llawer o'r cymhlethdodau ynghylch awdurdodau lleol sy'n ceisio llywio drwy'r canllawiau, ac yn amlwg mae gwahaniaeth rhwng awdurdodau lleol, ac yn amlwg mae adnoddau yn fater y tynnoch chi sylw ato hefyd. Oni fyddai'n haws pe byddem yn cael gwared arno a newid yn ôl i 30 mya, oherwydd byddai'r cymhlethdodau hynny i gyd yn diflannu?
Na, mae hynny—. Na fyddai. Dywedais ei fod yn fater cymhleth. Cymerodd bum mlynedd pan wnaethom adolygiad terfyn cyflymder yn lleol, felly byddai'n cymryd gormod o amser i ddechrau eto, felly mae angen inni weithio gyda'r hyn sydd gennym nawr.
Felly, ffordd leol sydd y tu allan i leoliad marchogaeth i'r anabl, lle mae yna gopa anweladwy—fe hoffent gael 20 mya yno, ond nid yw'n bodloni'r meini prawf, am nad oes ganddynt oleuadau stryd na'r dwysedd tai. Felly, mae angen cynnwys rhai ffyrdd yn yr 20 mya mewn gwirionedd, felly mae angen edrych ar hynny fel rhan o'r canllawiau wrth symud ymlaen, a hyblygrwydd. Mae'r un peth yn wir yn Nhywyn ac wrth Ddyfroedd Alun.
Mae'n adeg dyngedfennol. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda phob awdurdod lleol—. Rwy'n credu bod gennyf amser i dderbyn ymyriad arall.
O'r gorau. Diolch yn fawr, Carolyn, oherwydd mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn a ddywedwch, fod gan ogledd-ddwyrain Cymru un set o broblemau, oherwydd, o edrych ar yr ystadegau, mae gan Conwy 149 o ffyrdd y maent wedi codi cwestiynau yn eu cylch, ac mae gan sir y Fflint 956, ac rwy'n credu bod gan y gwahaniaeth mewn dwy ardal debyg iawn rywbeth i'w wneud â chymhwysedd yr awdurdod lleol dan sylw a faint o ymdrech a wnaethant i ddadansoddi beth sy'n ddatrysiadau synhwyrol.
A gaf i ddod i mewn? A gaf i ddod i mewn? Rydych chi'n dweud cymhwysedd—diolch. Nid yw hynny'n deg. Rwyf wedi gweithio gyda swyddogion priffyrdd fel aelod cabinet, ac yn Wrecsam, sir Ddinbych, sir y Fflint, mae angen i swyddogion priffyrdd gael deddfwriaeth mewn du a gwyn ar eu cyfer, fel y dywedais, pe bai damwain yno, fel y gallant sefyll y tu ôl i'r ddeddfwriaeth ddu a gwyn honno, a'i bod hi'n glir iddynt, fel—. Fel swyddogion cynllunio hefyd, mae angen iddynt gael canllawiau mewn du a gwyn. Ac roeddent yn poeni am gymhwyso'r hyblygrwydd hwnnw iddo, y gallai rhai ardaloedd fod wedi'i wneud. Felly, Wrecsam, sir y Fflint a sir Ddinbych, mae ganddynt gysylltedd rhyng-drefol a llawer o ddwysedd tai, felly, os yw'r maen prawf dwysedd yn cael ei ddileu, bydd yn ei gwneud hi'n llawer haws.
Mae hon bellach yn adeg dyngedfennol. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda'n hawdurdodau lleol i dawelu meddyliau swyddogion priffyrdd fod newid wedi bod ac y gellir cymhwyso hyblygrwydd, gyda'r awdurdodau sy'n pryderu am eu hatebolrwydd neu eu hyblygrwydd, yn seiliedig ar natur y ffyrdd—o dan hen ddeddfwriaeth priffyrdd, gallech wneud rhai eithriadau'n seiliedig ar natur y ffordd—wrth iddynt fynd drwy'r adeg dyngedfennol hon—
Rwyf wedi rhoi peth amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau.
—fe wnaf grynhoi nawr—asesu ffyrdd—cymerais ddau ymyriad—sydd wedi eu cyflwyno—
Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau hynny.
—diolch—am eithriadau yn seiliedig ar wybodaeth leol a gwybodaeth y diwydiant bysiau. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Ac er ein bod wedi cyflwyno sawl gwelliant gan y Llywodraeth, hoffwn ailadrodd i'r Ceidwadwyr yr hyn a ddywedais mewn ymateb i gwestiynau yr wythnos diwethaf, sef nad wyf yn credu ein bod yn rhy bell ar wahân ar y mater hwn, a'r unig wahaniaeth yw bod gennym lwybr gwahanol tuag at sicrhau bod gennym y cyflymderau cywir yn y mannau cywir.
Cyflwynwyd y polisi hwn i wneud lleoedd yn fwy diogel, ac mae data'r heddlu'n dangos yn glir ac yn ddiamwys fod nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 mya a 30 mya wedi gostwng ers cyflwyno 20 mya, y lefel isaf erioed heblaw am gyfnod y pandemig COVID. Nawr, blwyddyn yn unig sydd wedi mynd heibio ers iddo ddod yn weithredol, ac mae rhywfaint o ffordd i fynd, ac rwy'n rhagweld y gallai'r ffigurau amrywio, ond rwy'n credu ei bod yn galonogol gweld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Ac os yw'r Aelodau'n amau'r ffigurau, rwy'n gwahodd y pwyllgor perthnasol yma yn y Senedd i gynnal adolygiad sicrwydd ohonynt. A Ddirprwy Lywydd, fel y mae llawer o'r Aelodau eisoes wedi dweud heddiw, mae pob un anaf yn llai yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac rwy'n gobeithio bod pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno bod unrhyw bolisi sy'n achub bywydau yn beth da.
Nawr, fel y gwelwyd yn y ddadl heddiw, mae'n parhau i rannu barn. Rwy'n derbyn hynny. Cafodd yr Aelodau a minnau gyfle i gydnabod y ddeiseb yn ôl ym mis Mai eleni mewn ymateb i ddadl y Pwyllgor Deisebau, ac fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais bryd hynny wrth bawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb: gallaf sicrhau ein bod yn gwrando. Yn gynharach eleni, cyhoeddais gynllun tri cham ar gyfer 20 mya, a oedd yn cynnwys rhaglen wrando genedlaethol, a thros yr haf fe wnaethom ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru i rannu safbwyntiau, yn enwedig ar ffyrdd a ddylai gadw'r terfyn 20 mya a'r rhai a ddylai newid yn ôl i 30 mya. Mae Aelodau wedi nodi bod mwy na 10,000 o bobl wedi nodi llwybrau a ddylai newid, ac mae'r mewnbwn hwn wedi bod yn hanfodol wrth lunio'r camau nesaf.
Nawr, ar ôl cwblhau dau gam cyntaf ein cynllun, y rhaglen wrando a gweithio mewn partneriaeth â chynghorau, rydym bellach wedi dechrau ar y trydydd cam: gwneud newidiadau ar lawr gwlad. Mae ein canllawiau sydd wedi'u diweddaru yn cydnabod bod 20 mya yn addas lle mae pobl yn cymysgu'n rheolaidd â thraffig modur, gan gynnwys mewn ardaloedd preswyl adeiledig a ger ysgolion ac ysbytai. Ar gyfer prif ffyrdd sy'n gwasanaethu llwybrau strategol, gellir gosod terfyn o 30 mya, ar yr amod ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Felly, mae ein canllawiau diwygiedig yn cyflwyno fframwaith i gefnogi cynghorau i wneud penderfyniadau mwy cytbwys, ac os bydd cynghorau'n penderfynu addasu terfynau cyflymder ar ffyrdd penodol, byddant yn dechrau ar broses y gorchmynion rheoleiddio traffig statudol, gan roi cyfle arall i ymgysylltu â'r cyhoedd, a bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau'n parhau i fod yn dryloyw, a bod cymunedau'n parhau i fod yn rhan o'r dewisiadau lleol hyn ar bob cam. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym hefyd wedi rhyddhau cyllid i gynorthwyo awdurdodau lleol i wneud newidiadau, a byddwn yn parhau i'w cefnogi trwy'r broses hon.
Mae'n werth dweud bod terfynau 20 mya newydd yn cael eu cyflwyno ar draws Lloegr a'r Alban hefyd. Nawr, gallai pethau fod wedi cael eu gwneud yn wahanol, ac nid oedd hwn byth yn mynd i fod yn bolisi hawdd i'w weithredu. Mae wedi arwain at y newid mwyaf mewn diogelwch ffyrdd ers cenhedlaeth, a byddwn yn parhau i fonitro'r duedd hirdymor i werthuso effeithiau iechyd economaidd ac amgylcheddol y polisi. Bydd hyn yn cynnwys gwerthusiad pum mlynedd, gan ddarparu adroddiad gwerthuso prosesau erbyn 2025, adroddiad gwerthuso canol tymor erbyn mis Ebrill 2027, ac adroddiad gwerthuso effaith terfynol erbyn 2029. Nawr, mae'r dystiolaeth ryngwladol yn glir: mae cyflymderau is yn achub bywydau. Ceir llai o wrthdrawiadau, llai o farwolaethau a llai o anafiadau difrifol, gan leihau'r dinistr i unigolion a'u teuluoedd. Ond fel gyda phob polisi, rydym yn gwybod bod mwy y gallwn ei wneud. Rydym wedi gwrando ac rydym wedi gweithio gyda'n gilydd. Nawr, dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn dechrau gweld newidiadau i sicrhau bod y cyflymderau cywir yn cael eu gosod ar y ffyrdd cywir, gan barhau i wneud ffyrdd Cymru'n fwy diogel i bawb, gan gadw'r economi i symud a chysylltu cymunedau ar yr un pryd.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn ymyriad gan Darren Millar?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gwybod bod gennym farn wahanol ar lawer o faterion, ond un o'r pethau y mae angen i Lywodraeth Cymru edrych arno hefyd o ran diogelwch ffyrdd yw'r terfynau cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Mae gennym lawer o ardaloedd lle ceir cyfyngiadau cyflymder amhriodol, gyda'r terfyn cyflymder yn llawer rhy gyflym; rwyf wedi nodi llawer ohonynt yn y Siambr hon gyda chi a'ch rhagflaenwyr yn y gorffennol, ond mae'n ymddangos nad oes unrhyw gamau i fynd i'r afael â hwy. Pam ydych chi'n gorfodi awdurdodau lleol i gydymffurfio â therfynau amser byr iawn i ymateb i gyfyngiadau sy'n newid ar y ffyrdd diofyn hyn, ond nad ydych chi'n dangos yr un angerdd ac egni fel Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r cyflymderau amhriodol ar eich cefnffyrdd?
Wel, a gaf i ddiolch i Darren Millar am y pwynt y mae wedi'i wneud a chroesawu'r ffaith bod Ceidwadwr yn pwyso am gyflymder mwy diogel ar ein ffyrdd, cyflymder is, lle bo hynny'n briodol? Pan fydd y maes polisi penodol hwn wedi'i gyflawni, gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd sylw ein swyddogion wedyn yn troi'n gyflym at sicrhau bod y cyflymderau cywir ar waith ar ein rhwydwaith cefnffyrdd, a bydd hynny'n cynnwys y cymunedau y mae Darren Millar wedi codi pryderon yn eu cylch yn ystod y misoedd diwethaf.
Ddirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon.
Galwaf ar Peter Fox i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, bawb sydd wedi cyfrannu heddiw. Fel y dywedais mewn cyfraniadau eraill yn y Siambr am hyn a phethau eraill, mae arweinyddiaeth yn galw am y gallu i gyfaddef pan fo pethau'n anghywir. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau fod yn onest a dod o hyd i atebion i gywiro pethau, a chwarae teg, mae pobl wedi cydnabod eu bod wedi gwneud hyn yn y ffordd anghywir, ond mae angen inni ei gywiro nawr. Y gwir syml yw bod yr holl beth wedi'i drin yn wael. Fel y clywsom, dywedodd bron i 0.5 miliwn o bobl hynny wrthym ac arwyddo deiseb, y ddeiseb fwyaf yn hanes y Senedd. Ac rydym wedi clywed gan Natasha, wrth agor y ddadl hon, na allwn anwybyddu pobl, a bydd hi'n parhau i wrthwynebu'r polisi hwn, fel y mae hi wedi'i wneud o'r dechrau. Mae dicter a rhwystredigaeth, meddai, yn parhau, a gallwn deimlo hynny. Gallwn ei deimlo yn y Siambr heddiw. Mae saith o bob 10 o bobl yn dal i wrthwynebu'r polisi, ac fe wnaeth ein hatgoffa ynglŷn â'r ddeiseb o 500,000 a mwy o bobl, y gwerth £33 miliwn o fuddsoddiad, y goblygiadau i'r economi, a sut y mae prosiectau gwastraffus eraill wedi digwydd yn yr un modd.
Mae Peredur yn cefnogi 20 mya ac wedi awgrymu bod gostyngiad wedi bod yn nifer y damweiniau. Rhoddodd nifer o ystadegau i ni. Rydym wedi clywed llawer o ystadegau heddiw, ac yn aml maent yn gwrth-ddweud ei gilydd. Ond aeth ymlaen i feirniadu'r ffordd yr aeth y Llywodraeth Lafur ati i roi hyn ar waith, a chredaf y gall pob un ohonom gytuno â hynny, fod yr ymgynghori'n wael. Ymyrrodd Sam Kurtz a gofyn, 'Pam y cefnogodd Plaid Cymru bolisi pan oeddent yn gwybod nad oedd yr ymgynghoriad wedi'i gynnal ac y byddai'n aflwyddiannus?' Ni chawsom ateb synhwyrol i hynny mewn gwirionedd.
Soniodd Mike Hedges am bellteroedd stopio, ac ati, a'u pwysigrwydd, ac y gallai fod budd mewn premiymau yswiriant. Cafodd hynny ei herio, fel y clywsom yn nes ymlaen. Ac rydym yn cytuno â Mike. Mae pawb yn y Siambr yn cytuno y dylai 20 mya fod ar waith ar y strydoedd preswyl hynny. Nid oes unrhyw un erioed wedi anghytuno â hynny, yn ôl yr hyn a gofiaf. Ond mae'r mater allweddol yn ymwneud â'r elfen ddiofyn. Ac rydym yn cytuno, serch hynny, y dylid ymdrin â ffyrdd yn eu rhinwedd eu hunain.
Tynnodd Gareth Davies sylw at yr angen i gymryd eiliad i fyfyrio, i’n hatgoffa o’r gorffennol a sut y cydnabu Gweinidogion nad oedd pethau wedi'u rhoi ar waith yn dda. Tynnodd sylw at yr effaith ar ein twristiaeth a’n gwasanaethau busnes a sut roedd y canllawiau newydd yn rhoi gobaith ffug gan nad oes unrhyw beth i'w weld yn digwydd ar lawr gwlad.
Mae John Griffiths yn cefnogi’r polisi, fel y mae wedi’i wneud droeon o’r blaen, a chefnogodd yr angen am adolygiad, gan gydnabod unwaith eto fod problemau, ond tynnodd sylw at y ffaith nad oedd diogelwch ffyrdd yn bwysig i'r Ceidwadwyr yn ôl pob golwg. Wel, mae hynny'n nonsens llwyr. Mae'n credu bod y polisi yn llwyddiant.
Dywedodd Mark Isherwood fod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu’r holl ddata credadwy, gan wfftio ymchwil o Belfast, Caergrawnt a Sbaen. Mae angen inni ddileu'r gyfraith hon. Rhoddodd dystiolaeth gymhellol a data, a oedd unwaith eto'n gwrth-ddweud llawer o'r pethau eraill a glywsom yma. Ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y diwedd, fod angen pwyllgor, o bosibl, i adolygu’r data a mynd at wraidd hyn.
Lee Waters, flwyddyn yn ôl, ac mae llawer wedi'i feirniadu, ond dywed fod y data'n dangos bod nifer yr anausion wedi gostwng a chwe bywyd wedi'u hachub. Roedd yn cydnabod nad yw pethau wedi bod yn berffaith. Ond yna aeth yn ei flaen—ac mae hyn yn aml yn digwydd yn y fan hon—i gyfuno 20 mya â'r terfyn diofyn. Ac mae dau beth gwahanol yma. Nid oes yr un ohonom yn anfodlon ar 20 mya mewn mannau priodol, mewn parthau, fel y dywedwyd. Y broblem oedd gennym oedd y ffaith ei fod wedi'i gyflwyno fel terfyn diofyn ar 97 y cant o'r holl ffyrdd 30 mya. Roeddwn yn gosod terfynau 20 mya o gwmpas ysgolion flynyddoedd yn ôl, ac mae llawer o awdurdodau eraill wedi gwneud hynny, a dyna sydd wedi digwydd yn Lloegr. Llawer o barthau 20 mya, lle bo'n briodol, ond ni wnaethant gyflwyno terfyn diofyn ym mhobman arall yn eu siroedd, a dyna'r darn cynhennus. Felly, mae'n hawdd iawn cyfuno'r ddau beth, camgyfleu'r sefyllfa a'n dadl ni, ond mai'r broblem go iawn i ni yw'r ffaith ei fod yn derfyn diofyn. Ac eglurodd Darren ein safbwynt, ac rwy'n croesawu ei eglurhad ar hynny.
Janet Finch-Saunders, mae hi wedi wynebu mwy o ddicter ar hyn nag unrhyw beth y mae erioed wedi'i brofi. Ar yr arian a wastraffwyd, mynegodd ddicter etholwyr a’r pwysau enfawr sydd ar ein cynghorau bellach. Tynnodd Carolyn sylw at y ffaith bod adolygiadau o derfynau cyflymder yn cymryd amser maith, ac maent yn creu anomaleddau, ac awgrymodd nad oes gan gynghorau'r awydd i wneud mwy ac na allant fforddio dad-wneud y polisi hwn. Ond roedd yn cydnabod y byddai newid rhai ffyrdd yn ôl i'w groesawu. Ac mae'n awgrymu bod angen inni weithio gyda'r hyn sydd gennym.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ffordd o fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Rydych chi'n cydnabod yn glir iawn, er bod yn rhaid ichi fod yn ofalus sut rydych chi'n siarad am hyn, nad yw pethau wedi’u gwneud cystal ag y gallent fod wedi'u gwneud, ac rwy'n croesawu rhai o’r camau rydych chi'n ceisio’u cymryd i’w unioni. Serch hynny, credwn mai'r ffordd iawn fyddai dileu'r polisi a mynd yn ôl i wneud rhywbeth mwy synhwyrol yn y lle cyntaf. Ond fe'ch calonogwyd gan gynnydd. Roeddech yn cydnabod bod yna wahaniaeth barn. Fe sonioch chi am y cynllun tri cham sydd gennych, a nodi bod gan Loegr a’r Alban barthau 20 mya. Ond nid oes ganddynt derfyn 20 mya diofyn—unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â chyfuno'r ddau beth—a chroesawn y gwerthusiad tymor hwy hwn. Yn anffodus, fodd bynnag, pan fyddwn yn clywed hynny, mae'n ymddangos na fyddwn yn dileu unrhyw beth.
Felly, Aelodau, mae’n bryd symud ymlaen. Nid oes yr un ohonom yn y lle hwn yn erbyn terfynau cyflymder 20 mya. Rwyf wedi dweud hynny eto. Mae pob un ohonom wedi dweud hynny. Mae pawb yn dweud hynny. Maent yn effeithiol o ran mynd i’r afael â diogelwch ar y ffyrdd mewn ardaloedd a dargedir, a’r ardaloedd y mae pob un ohonom yn eu cydnabod. Rwyf wedi dweud o’r cychwyn cyntaf y gallai’r Llywodraeth fod wedi cyflawni cymaint mwy drwy weithio gyda chynghorau lleol, gwleidyddion lleol a chymunedau lleol, gan ddefnyddio £33 miliwn i helpu i gyflwyno mwy o barthau 20 mya lle roedd eu hangen ar y cymunedau lleol hynny. Mae'r polisi hwn wedi dod yn rhwystr enfawr, ac roedd yn ddiangen.
Tynnodd Darren sylw at fater terfynau cyflymder ar gefnffyrdd, a nodaf enghraifft o hynny. Mae un enghraifft berthnasol iawn yn fy etholaeth i, sy’n effeithio ar gefnffordd yr A48 sy’n rhedeg drwy Gas-gwent, a ostyngodd i 20 mya dros nos, a bellach, dywedir wrthym fod yn rhaid inni aros 18 mis cyn y gellir gwrthdroi hyn. Mae'n dangos pa mor chwerthinllyd yw’r polisi hwn bellach, ac mae arnom angen pragmatiaeth, Llywodraeth bragmatig a all gydnabod ei bod wedi gwneud pethau’n anghywir, newid pethau yn ôl i’r ffordd yr arferent fod, derbyn hyn a dysgu ohono, a gadewch inni symud ymlaen. Ddirprwy Lywydd, mae angen i Lywodraeth Cymru gyfaddef eu bod wedi gwneud camgymeriad, diddymu’r terfyn cyflymder diofyn, a gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru i ddarparu dull wedi’i dargedu o gyflwyno terfynau cyflymder priodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Eitem 8 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8665 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
2. Yn gresynu:
a) wedi 25 mlynedd o lywodraethu, na allai Llywodraeth Lafur ddiweddaraf Cymru nodi blaenoriaethau pobl Cymru heb 'ymarfer gwrando' a gychwynnwyd gan y Prif Weinidog; a
b) fod cerrig milltir, targedau a dyddiadau cyflawni yn absennol o ddatganiad blaenoriaethau'r Prif Weinidog.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) pennu amserlen ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG;
b) cyhoeddi cynllun cyflawni sy'n seiliedig ar yr ystod o 'flaenoriaethau’r bobl', yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gerrig milltir, targedau, a dyddiadau cyflawni;
c) cyflwyno Rhaglen Lywodraethu a Rhaglen Deddfwriaethol wedi'i diweddaru; a
d) anrhydeddu ei egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy ddefnyddio'r holl sianeli rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid teg, datganoli Ystad y Goron ac i ddatganoli cyfiawnder yn llawn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch o galon, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl yma wedi cael ei chyflwyno gan Blaid Cymru am reswm syml, i bwysleisio wrth Lywodraeth Cymru nad ydy sefydlu blaenoriaethau a dweud wrthym ni fod ganddyn nhw flaenoriaethau yn ddigon ynddo fo'i hun heb fod yna strategaeth sydd yn gallu sicrhau gweithredu, neu o leiaf rhoi gobaith i ni o weld gweithredu.
Mi gawsom ni haf o wrando gan y Prif Weinidog, a'r cyfaddefiad, dwi'n cymryd, fod eu rhagflaenwyr hi ddim wedi bod yn gwrando, ac mi ddaeth y Prif Weinidog yn ôl i'r Senedd yr wythnos diwethaf a chyhoeddi, i bob pwrpas, yr hyn sydd yn eithaf amlwg i bawb, sef bod pobl Cymru yn anhapus efo rhestrau aros hir sy'n tyfu yn fisol yn yr NHS, bod canlyniadau addysg yn mynd am yn ôl, a bod yr economi yn tanberfformio. Lle fuodd Llywodraethau wedi eu harwain gan Lafur am 25 mlynedd?
Mae yna'r ymdeimlad cynyddol yma bod yna fethiant gan y Llywodraeth yma i sylweddoli'r angen am gynlluniau a pholisïau i drawsnewid mewn meysydd polisi allweddol. Mae'r problemau yn ddigon amlwg i bawb: 20 y cant o boblogaeth Cymru yn disgwyl am driniaeth; diwydiannau allweddol yn crebachu; dur, fel rydyn ni'n gwybod, wedi cael ergyd mor enfawr; economi Cymru yn parhau i lusgo tu ôl i wledydd eraill y Deyrnas Unedig; y canlyniadau PISA diweddaraf yn dangos dirywiad pellach yn ein safonau addysg; prifysgolion Cymru yn ei chael hi'n fwy a mwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Mae'r rhain yn faterion rydyn ni angen gweld atebion a chynigion am atebion newydd ar eu cyfer nhw. Ond mae'n bryderus, o ystyried hynny, ei bod hi wedi cymryd cyfnod o wrando dros gyfnod yr haf i'r Llywodraeth dderbyn ac i ddygymod efo'r gwir, sy'n amlwg i bobl Cymru, ac mae'n gwneud i rywun feddwl os ydyn nhw wedi bod yn talu sylw o gwbl i bryderon pobl Cymru—pryderon rydyn ni, wrth gwrs, wedi bod yn eu lleisio dro ar ôl tro, dros y blynyddoedd.
Mae'n deg dweud bod cryn dipyn o sinigiaeth ynghylch beth yn union oedd pwrpas yr ymarfer gwrando a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog yr haf hwn. Mae'n dda gwrando, fel pwynt o egwyddor, wrth gwrs, a dylem fod yn gwrando bob amser, ond y Prif Weinidog yn nodi nad oedd ei rhagflaenwyr wedi bod yn gwrando? Mae hynny'n gyfaddefiad defnyddiol, efallai, ond yn absenoldeb ei syniadau ei hun, ar beth yn union y bu'n ymgynghori?
Ond gadewch inni roi mantais yr amheuaeth iddi. Efallai y gallai helpu i fireinio meddyliau ynglŷn â'r camau ymarferol sydd eu hangen i newid cyfeiriad, i ddangos bod y Prif Weinidog o ddifrif ynglŷn â goruchwylio dull gweithredu newydd yn y Llywodraeth, a fyddai’n cael croeso mawr gan gynifer o bleidleiswyr Cymru sydd wedi dod i'r casgliad cywir nad yw agwedd 'busnes fel arfer' Llafur ers cynifer o flynyddoedd yn opsiwn bellach.
Yn anffodus, serch hynny, credaf mai busnes fel arfer yw’r union beth a roddwyd i ni eto. Mae arnaf ofn fod tueddiadau cyfarwydd Llafur mewn grym yng Nghymru i'w gweld yn amlwg ym mhob agwedd ar y datganiad a wnaed yr wythnos diwethaf. Cafodd problemau eu rhestru, do, ond heb unrhyw syniad gwirioneddol o atebion newydd. Datganiadau amwys ar y gorau fod cynlluniau’n cael eu datblygu ar gyfer adeg amhenodol yn y dyfodol. Mae'n nodedig nad oes unrhyw gerrig milltir, amserlenni na thargedau wedi'u crybwyll.
Ac rydym hefyd yn gweld yr arferion drwg hyn yn cael eu harddangos yng ngwelliannau'r Llywodraeth i'r cynnig heddiw:
'ymrwymiad...i ddarparu, maes o law'
y manylion perthnasol am sut y bydd y blaenoriaethau'n cael eu cyflawni. A byddai'r fath ddiffyg gweledigaeth a brys o ran sut i fynd i’r afael â phrif faterion y dydd yn ddamniol hyd yn oed i blaid sydd newydd ddechrau mewn Llywodraeth, ond gan blaid sydd wedi bod mewn grym am chwarter canrif ac sy'n ddyledus am gymaint o'i llwyddiant i etholwyr Cymru sy'n ysu bellach am newid, mae'n eithaf anfaddeuol. Ac a oes angen imi atgoffa'r Gweinidogion mai 18 mis yn unig sydd ar ôl tan ddiwedd y Senedd hon, a'n cyfle wedyn, wrth gwrs, i gael newid go iawn?
Gair am gydweithredu. Bûm yn darllen Cofnod y Senedd ddoe, a dywedodd y Prif Weinidog wrthyf,
'Meddwl ydw i tybed a ydych chi wir yn awyddus i ni weithio gyda'n gilydd,
hynny yw, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Gwrandewch, rwyf wedi bod yn galw’n frwd ar Brif Weinidog Cymru i ddefnyddio’r dylanwad y dywed sydd ganddi er mwyn ceisio gwneud i Lywodraeth y DU a Keir Starmer—credaf mai rhif 26 neu 27 oedd hwnnw—i weithio gyda Llywodraeth Cymru a galluogi penderfyniadau i gael eu gwneud. O ran tlodi plant, fel y soniodd Sioned Williams, fy nghyd-Aelod, ddoe, mae Eluned Morgan yn credu bod ganddi gymaint o ddylanwad ar Donald Trump ag sydd ganddi ar Keir Starmer—ei geiriau hi, nid fy ngeiriau i. Ac efallai yr hoffai’r Cwnsler Cyffredinol wneud sylw ar hynny. A yw'n cytuno â'r farn honno ynglŷn â chyn lleied o ddylanwad sydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd?
Ond mae angen Llywodraeth Cymru arnom sy'n fodlon cyflwyno'r dadleuon yn adeiladol, a pheidio â derbyn, 'Na, na, na', bob tro mewn perthynas â Chymru. Dyna a arweiniodd at roi'r gorau i'r ddeddfwriaeth cydraddoldeb ddoe, am nad oedd Llafur ar lefel y DU yn fodlon cydweithredu na’i chefnogi. Dyna sydd wedi arwain at y methiant i symud ymlaen ar Ystad y Goron, y methiant i symud ymlaen ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru, y methiant ar gynifer o lefelau i gyflwyno'r syniad o ariannu teg, sicrhau ein bod yn cael ein cyfran deg o HS2, ac ati. Yn hytrach, mae gennym y cynllun cwbl amwys hwn, a ddatgelwyd ychydig ddyddiau yn ôl, ar gyfer cydweithredu ar iechyd. Dim manylion o gwbl. Yn ôl pob tebyg, rydym i fod i ddysgu Lloegr o wasanaeth deintyddol ffaeledig ein GIG sut y gallant symud ymlaen, a chawn ninnau rywbeth arall. Nid wyf yn siŵr beth yw'r 'rhywbeth arall' hwnnw. Mae angen mwy na hynny arnom. Mae angen inni wybod beth yn benodol yw’r cynllun ar gyfer GIG Cymru.
Felly, i ddod â ni nôl yn fan hyn at fwriad gwreiddiol y ddadl, beth ydy pwrpas cael blaenoriaethau amwys heb unrhyw ymdrech i gynnig llwybr i ni ar gyfer cyflawni? Y gwir ydy bod geiriau gwag a diffyg cyfeiriad y Llywodraeth Lafur yma yn y Senedd, fel gwelsom ni gan ddatganiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, wedi ein harwain ni i ryw fath o dir neb, onid ydy, mewn cymaint o feysydd sydd o bwysigrwydd enfawr i bobl Cymru. Drwy gefnogi'r cynnig yma, mi allai'r Llywodraeth ddangos eu bod nhw yn gallu derbyn eu bod nhw ar y trywydd anghywir mewn nifer o feysydd allweddol, achos mae'n amlwg ein bod ni, a bod ganddyn nhw hefyd yr ystwythder i newid cyfeiriad, er cyn lleied o amser sydd ganddyn nhw ar ôl yn y Senedd yma i wneud hynny. Gadewch inni ddechrau heddiw. Os nad ydy'r Llywodraeth yn gallu gwneud hynny a phrofi bod y syniadau ganddyn nhw, yr uchelgais, y tân yn eu boliau i wneud y mwyaf o beth sydd gan ddatganoli i’w gynnig, mae’n hen bryd iddyn nhw gamu i’r naill ochr ar gyfer y rheini sydd yn barod i wneud hynny.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Darpar Gwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi ffocws y Llywodraeth ar flaenoriaethu’r bobl ac yn cymeradwyo’r blaenoriaethau fel y’u nodwyd gan y Prif Weinidog.
3. Yn nodi ymhellach ymrwymiad y Prif Weinidog i ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y bydd y blaenoriaethau yn cael eu cyflawni.
4. Yn cymeradwyo ymrwymiad y Llywodraeth i:
a) iechyd da—lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwella gwasanaethau iechyd menywod;
b) swyddi gwyrdd a thwf—creu swyddi gwyrdd i sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu natur, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru;
c) cyfle i bob teulu—hybu safonau yn ein hysgolion a'n colegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol; a
d) cysylltu cymunedau—trawsnewid ein rheilffyrdd a darparu gwell rhwydwaith bysiau, trwsio ein ffyrdd, a grymuso cymunedau lleol i benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y cannoedd o filoedd o bensiynwyr yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio'n andwyol gan doriadau Llywodraeth y DU i daliadau tanwydd gaeaf;
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu is-bwynt 3(d) a rhoi yn ei le:
anrhydeddu ei egwyddor 'partneriaeth mewn grym' drwy ddefnyddio'r holl sianeli rhynglywodraethol i bwyso ar Lywodraeth y DU am symiau canlyniadol o HS2 i Gymru ac i fwrw ymlaen â thrydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru;
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Mae llawer i’w gymeradwyo yn y cynnig hwn. Yn amlwg, mae’n drueni na allai Llywodraeth Lafur Cymru, ar ôl 25 mlynedd mewn Llywodraeth, nodi blaenoriaethau pobl Cymru heb gynnal yr ymarfer gwrando a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog, ac mae unrhyw gerrig milltir, targedau a dyddiadau cyflawni yn absennol o'i datganiad o flaenoriaethau. Ond wrth gwrs, rydym wedi hen arfer â hynny. Mae hefyd yn gwbl briodol galw ar Lywodraeth Cymru i osod amserlen ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG, cyhoeddi cynllun cyflawni sy'n seiliedig ar flaenoriaethau’r bobl, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gerrig milltir, targedau, a dyddiadau cyflawni, a chyflwyno rhaglen lywodraethu wedi'i diweddaru a rhaglen ddeddfwriaethol. Fodd bynnag, o ystyried bod Plaid Cymru wedi bod yn cynnal y rhan fwyaf o Lywodraethau Llafur Cymru ers 1999, wedi pleidleisio dros lawer o’u polisïau llym—fel 20 mya—a hefyd yn galw’n barhaus am bwerau pellach i Lywodraeth sy’n methu gwneud y defnydd gorau o’r pwerau sydd ganddi eisoes, mae'r cynnig hwn yn ymddangos braidd yn rhagrithiol ar y gorau, mentraf ddweud.
Fodd bynnag, mae’r cynnig yn iawn i dynnu sylw at y rhestrau aros anferthol yn GIG Cymru. Yr wythnos diwethaf, dangosodd ffigurau amseroedd aros yng Nghymru gynnydd arall yn y bobl sy’n aros ar restrau aros y GIG—bron i 800,000 o driniaethau bellach ar y rhestrau aros hynny, a thros 600,000 o bobl yng Nghymru yn aros i gael un neu ddwy o’r triniaethau hynny. Mae amseroedd aros dwy flynedd wedi cynyddu eto am y trydydd mis yn olynol i 23,418 yng Nghymru, o gymharu â dim ond 120 yn Lloegr, gyda 50 gwaith y boblogaeth. Addawodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, sydd bellach yn Brif Weinidog, ddileu’r amseroedd aros hyn erbyn mis Mawrth 2023, ond methodd gyflawni'r targed hwnnw. Mae’r nifer sy’n aros dros flwyddyn am unrhyw apwyntiad bellach yn 160,000, ond o ystyried mai poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn o bobl sydd gan Gymru, mae hyn yn adlewyrchu’n wael iawn ar stiwardiaeth Llywodraeth Cymru. Dim ond 48.2 y cant o alwadau coch, y mwyaf difrifol, a gafodd ymateb ambiwlans brys o fewn wyth munud ym mis Gorffennaf, a dim ond 56.7 y cant oedd y perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod ar gyfer pobl yn dechrau triniaeth ganser. Mae’r rhestrau aros hyn yn debygol o waethygu y gaeaf hwn am nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y cannoedd o filoedd o bensiynwyr tlawd o ran tanwydd yng Nghymru a fydd yn cael eu heffeithio’n andwyol gan doriadau Llywodraeth Lafur y DU i daliadau tanwydd y gaeaf. Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn unol â hynny.
Yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, fe fu'r Prif Weinidog blaenorol yn canu clodydd y manteision y byddai dwy Lywodraeth Lafur ar bob pen i’r M4 yn eu darparu i Gymru a’r dylanwad y byddai gan Lafur Cymru. Fodd bynnag, fel y dywedwyd eisoes heddiw, yn ddiweddar, cymharodd y Prif Weinidog newydd ei dylanwad ar Keir Starmer â’i dylanwad ar Donald Trump. Er gwaethaf hyn, gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio eu sianeli rhynglywodraethol honedig i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid canlyniadol yn sgil HS2 i Gymru, ac i fwrw ymlaen â'r gwaith o drydaneiddio prif linell reilffordd gogledd Cymru. Rwy'n cynnig gwelliant 3 yn unol â hynny, er, a minnau'n Aelod yma y tro diwethaf y cafwyd Llywodraethau Llafur yn Llundain a Chaerdydd, nid wyf yn dal fy ngwynt.
Mae’n ffodus, o leiaf, fod absenoldeb partneriaeth mewn grym wedi arwain Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wrthod galwadau gan Lywodraeth Cymru am reolaeth dros blismona a chyfiawnder troseddol oedolion, ac nad oedd maniffesto Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol y DU yn cynnwys hyn, y tu hwnt i ddatgan y byddai’n archwilio datganoli’r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid. Ar raglenni atal ac adsefydlu, o ganolfannau preswyl i fenywod i raglenni ymyrraeth ieuenctid, roedd Llywodraeth flaenorol y DU yn arwain a Llywodraeth Cymru'n dilyn. Mae plismona yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn faterion datganoledig yno, ond am resymau'n ymwneud â hanes, daearyddiaeth a phoblogaeth, a chyda phatrymau troseddu yn gweithredu ar sail drawsffiniol dwyrain-gorllewin, mae’r sefyllfa yng Nghymru yn gwbl wahanol. Yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae gan Gymru ardal drawsffniol â phoblogaeth fawr gyda Lloegr, gydag amcangyfrif o 95 y cant neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru'n gweithredu ar sail drawsffiniol dwyrain-gorllewin, a'r nesaf peth i ddim ar sail Cymru gyfan. Mae pobl Cymru, felly, yn haeddu gwell na gweld amser ac adnoddau Llywodraeth Cymru yn cael eu rhoi i ymgyrch ddigywilydd i gipio grym er ei fwyn ei hun.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn brolio am ei pholisïau a’i deddfwriaeth ond yn methu monitro a gwerthuso’r modd y cânt eu rhoi ar waith. Maent yn honni eu bod yn malio wrth oruchwylio sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n rhydd i fwlio, beio, bygwth a chosbi pobl agored i niwed a staff egwyddorol sy’n meiddio chwythu’r chwiban a chodi problemau neu ddatgelu camweinyddu. Nid yw hyn wedi newid yn ystod fy nau ddegawd a mwy fel Aelod yma, gan adael y rhai sydd â’r angen mwyaf heb ddim mwy na system gwynion sy’n gwneud cam â hwy. Dim ond newid yn Llywodraeth Cymru a fydd yn sefydlu’r atebolrwydd na all Llywodraeth effeithiol fodoli hebddo.
Mae'n siomedig, onid ydy, ein bod ni wedi cael datganiad yr wythnos diwethaf gan Brif Weinidog oedd yn honni gwrando sydd ddim yn gallu bod yma ar ddadl ynglŷn â’r blaenoriaethau hynny. Fawr o wrando, ddywedwn i. Ers blynyddoedd bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw Cymru na’r Senedd hon yn derbyn y cyllid y dylem fod yn ei dderbyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi ydyn ni, wrth gwrs, yn cytuno efo hynny fel plaid ac wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cyllid teg i Gymru. Hyd at yr etholiad cyffredinol eleni, roedd yn ymddangos ei bod hi’n flaenoriaeth gan y Llywodraeth hon i sicrhau cyllid teg i Gymru. Yn wir, faint o weithiau clywson ni a phobl Cymru gan y Blaid Lafur yng Nghymru pa mor wahanol fyddai pethau unwaith roedd yna Lywodraeth Llafur yma ac yn San Steffan? Mi ddechreuodd hynna newid yn ystod yr etholiad, heb os.
Gadewch inni atgoffa ein hunain o’r hyn a ddywedodd y Gweinidog cyllid ar y pryd, Rebecca Evans, mewn llythyr at Lywodraeth y DU fis Tachwedd diwethaf, wrth i Ganghellor y Ceidwadwyr ar y pryd gwblhau datganiad hydref y DU. Galwodd bryd hynny am gyllid teg i Gymru, yn ogystal â buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys ar gyfer diogelwch tomenni glo a'r seilwaith rheilffyrdd.
Beth sydd wedi digwydd ers hynny? Thema gyffredin o'r ddadl ddoe pan wnaethom ofyn, 'Beth sydd wedi newid yn yr wythnosau diwethaf?' Yn y pedair blaenoriaeth a amlinellwyd yr wythnos diwethaf ac sy’n ymddangos yn y gwelliant a gyflwynwyd gan Lafur heddiw, ble mae'r cyfeiriad at gyllid teg i Gymru? Pam eich bod yn cynnig dileu’r elfen honno o’n cynnig? Ble mae'r galw am yr £20 miliwn tuag at adfer tomenni glo? Roedd Llywodraeth Cymru yn arfer bod o'r farn fod gwrthod gwneud hynny’n anamddiffynadwy. A yw hynny'n wir o hyd? A allwn gael y cadarnhad hwnnw? Oherwydd yn ystod ymgyrch gasglu data'r Blaid Lafur, a elwid gennych yn ymarfer gwrando, rydym yn amau'n gryf na chododd cyllid fel pryder pwysig i bobl Cymru. Rwy’n amau na chododd diogelwch tomenni glo, nad yw pobl yn teimlo bod angen i Lywodraeth y DU ddarparu’r £20 miliwn hwnnw bellach.
Er mwyn i flaenoriaethau olygu rhywbeth, mae'n rhaid bod bwriad i ddihysbyddu pob llwybr posibl i sicrhau eu bod yn gyraeddadwy. Roedd Rhun ap Iorwerth yn iawn i feirniadu trydydd pwynt y cynnig diwygiedig a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru:
'nodi...ymrwymiad y Prif Weinidog i ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y bydd y blaenoriaethau yn cael eu cyflawni.'
Nid oes etholiad wedi bod yng Nghymru. Rydych chi wedi bod mewn Llywodraeth ers 2021 yma ac ers 25 mlynedd. Pam na chawn ni wybod nawr sut y bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni?
Mae angen inni wybod pam mae Llafur Cymru bellach yn cefnogi cyni, gan mai dyna realiti’r bleidlais yr wythnos diwethaf. Ni allaf ddychmygu y byddai Llafur Cymru wedi pleidleisio fel y gwnaethoch chi yr wythnos diwethaf ynghylch diddymu lwfans tanwydd y gaeaf pe bai Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gwneud hynny. Pam nad ydych chi'n ymladd dros gyllid teg i Gymru? Beth y mae Prif Weinidog newydd y DU, Keir Starmer—fe wnawn ni ychwanegu at y cyfrif—wedi’i ddweud pan fo Llywodraeth Cymru wedi trafod hyn gydag ef, neu a ydych chi heb hyd yn oed drafferthu i geisio dylanwadu arno? Mae derbyn y cyllid annigonol a gawn gan San Steffan yn ddiachwyn felly'n nodweddiadol o’r diffyg ysgogiad sydd wrth wraidd y Llywodraeth hon. Rydym wedi bod yn galw am dargedau a mesurau ers blynyddoedd; dyna'r lleiaf y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Mae arnom angen Llywodraeth Cymru a fydd yn sefyll o blaid Cymru nawr fod gennym Lywodraeth Lafur yn y DU.
Mae perygl o dangyflawni ar yr hyn y maent yn honni yw eu blaenoriaethau, ac mae'n anodd rhagweld sut y gall colli rhagor o adnoddau o ganlyniad i agenda cyni Llafur y DU arwain at unrhyw welliant. Felly, yn fwy na dim, hoffwn wybod, yn ymateb y Llywodraeth heddiw, sut rydych chi'n cynnig darparu cyllid teg i Gymru? Pam fod hynny wedi'i ddileu o’r cynnig? A allwch chi gadarnhau bod sicrhau cyllid teg i Gymru ac ymladd dros Gymru yn dal i fod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru? Oherwydd nid yw'n ymddangos eu bod.
Mae'n hawdd cymryd yr hyn sydd wedi'i gyflawni dros 25 mlynedd y Senedd yn ganiataol. Dyma ddetholiad: daeth yr hawl i brynu i ben; buddsoddiad mewn cartrefi effeithlon o ran ynni, ysgolion newydd, ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu awyr agored; buddsoddiad mewn cyfleusterau cymunedol; llwybr arfordir Cymru gyfan; brecwastau ysgol am ddim a chinio ysgol am ddim i bawb; cael gwared ar dablau cynghrair ysgolion; pasys bws am ddim i bobl dros 60 oed; buddsoddiad mewn rheilffyrdd; presgripsiynau am ddim a pharcio am ddim mewn ysbytai; y wlad gyntaf yn y DU i godi tâl am fagiau siopa a’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, dal y deunydd i’w ailddefnyddio yng Nghymru, a thyfu’r diwydiant a chreu ynni; yr iaith Gymraeg; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; a pholisïau cyfeillgar i natur.
Mae ethol Eluned Morgan yn Brif Weinidog newydd Cymru wedi darparu cyfle i’w groesawu i Lywodraeth Cymru ailffocysu ei blaenoriaethau gwleidyddol am weddill tymor y Senedd. Ynghyd ag ethol Llywodraeth Lafur yn y DU, yma yng Nghymru, mae gennym gyfle gwerthfawr nawr i wneud y gorau o’r amgylchiadau hyn i adnewyddu ein hymrwymiadau i’r cyhoedd yng Nghymru a mynd ati i ryddhau potensial ein gwlad.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, y maes polisi y credaf ei fod yn darparu’r cyfleoedd mwyaf cyffrous a helaeth i weithio ar draws y Llywodraeth, yn wir, yw trafnidiaeth gyhoeddus. Gall system drafnidiaeth gyhoeddus lwyddiannus ddarparu manteision cymdeithasol helaeth i Gymru. Rydym newydd gael cyhoeddiadau y bydd gwasanaethau rheilffyrdd yn y gogledd yn cynyddu 50 y cant, a diolch i gwmni rheilffyrdd Cymru, buddsoddiad o £800 miliwn gan Trafnidiaeth Cymru, mae capasiti wedi cynyddu 40 y cant, gyda mwy o gerbydau i ddod y flwyddyn nesaf. Gall trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy, effeithlon o ansawdd uchel gael effaith hynod gadarnhaol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd drwy gael gwared ar yr angen y mae llawer yn ei deimlo i deithio mewn ceir, gan arwain at ostyngiadau sylweddol mewn allyriadau carbon.
Mewn byd lle mae ynysigrwydd cymdeithasol yn dod yn broblem gynyddol, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gatalydd ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol, gan gysylltu cymunedau â'i gilydd a rhoi cyfle i'r grwpiau sy'n wynebu'r perygl mwyaf o deimlo’n ynysig i fynd allan a symud o gwmpas. Mae hefyd yn agor cyfleoedd datblygu, rhwydweithio ac economaidd a all arwain at dwf economaidd cynaliadwy, gan roi arian ym mhocedi pobl—[Torri ar draws.] Rwy'n ildio.
Rwy'n cytuno â’ch pwynt olaf ynglŷn â phwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi gweld mwy o lwybrau bysiau’n cael eu torri yng Nghymru nag unrhyw ran arall o’r DU, felly a ydych chi'n credu bod hynny’n enghraifft o lwyddiant y Llywodraeth hon?
Mae'n anodd i Gymru, gan fod gennym lawer o ardaloedd gwledig, onid oes? Yn Lloegr, ceir ardaloedd lle mae'r boblogaeth yn ddwys, felly mae'n llawer haws. Gwn fod angen inni wneud mwy, a bod pobl yng Nghymru yn dibynnu ar drafnidiaeth bysiau, felly rwy'n gobeithio, wrth symud ymlaen—. Rwy'n mynd i sôn am hyn yn gyflym nawr, iawn?
Rydym wedi crybwyll ynysigrwydd cymdeithasol—fod bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus yn agor cyfleoedd rhwydweithio ac economaidd a thwf economaidd cynaliadwy, gan roi arian ym mhocedi pobl. Nid oes angen inni edrych yn bell i weld canlyniadau cadarnhaol buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy o ansawdd uchel ledled Ewrop; o Lwcsembwrg i Malta ac o Ffrainc i Estonia, mae Llywodraethau'n dechrau medi manteision hirdymor buddsoddi mewn systemau trafnidiaeth gyhoeddus o safon fyd-eang. Mae'r gwobrau'n dod yn ôl, onid ydynt?
Am y rhesymau hyn, rwy'n falch iawn o weld bod cysylltu cymunedau drwy drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ac atgyweirio ein ffyrdd yn un o'r pedair blaenoriaeth allweddol y mae Eluned Morgan wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hwy. Fel cyn ddirprwy arweinydd cyngor sir ac aelod cabinet dros drafnidiaeth, gwn pa mor bwysig yw ffyrdd a phriffyrdd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Boed ein bod yn defnyddio beic, bws, car neu'n cerdded, mae pawb yn elwa o wasanaethau a phalmentydd sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda heb dyllau yn y ffyrdd, sydd wedi dod yn nodwedd hollbresennol o Brydain, yn anffodus, yn sgil 14 mlynedd o doriadau i gyllid gan y Llywodraeth Geidwadol.
Bydd Bil bysiau Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd, a chael gwared ar waharddiad Thatcher ar gwmnïau bysiau sy'n eiddo i gynghorau yn rhoi llais uniongyrchol i gymunedau dros wasanaethau a llwybrau bysiau. Fel sydd wedi digwydd ledled Ewrop, mae trafnidiaeth gyhoeddus mewn sefyllfa unigryw i ddarparu adfywiad o ran datblygu cysylltedd, sydd hefyd yn gweithredu fel arf hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, anghydraddoldeb, ynysigrwydd cymdeithasol a chostau byw. Rwy'n edrych i weld faint o funudau neu eiliadau sydd gennyf ar ôl i ymateb i Mabon.
Gyda’r Bil bysiau yn mynd rhagddo, a’r swm o arian sydd gennym, gan weithio gyda’n cymunedau a’n hawdurdodau lleol, rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau bod gennym amserlenni bysiau sy’n gweithio i’n cymunedau lleol, ac yn sicrhau ein bod yn defnyddio’r cyllid sydd gennym yn y ffordd orau bosibl, gan weithio gyda gweithredwyr, a chydag awdurdodau lleol, gobeithio, fel y gallant ddod yn weithredwyr trafnidiaeth eu hunain a rhedeg eu cwmnïau bysiau eu hunain. Ond gan weithio’n drawsffiniol gyda Llywodraeth y DU, a sicrhau ein bod yn cael arian i mewn, yn cael y cyllid i gyflawni hyn. Diolch yn fawr.
Beth ddylai ein blaenoriaethau fod? Beth sy'n newid? Wel, hoffwn ddechrau gyda chyflawni, a byddwn yn esgeulus i beidio â manteisio ar y cyfle i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi i ganolbwyntio ar gyflawni a gosod targedau ar gyfer economi Cymru pan fydd hi'n nodi ei blaenoriaethau dros yr wythnosau nesaf. Yn y cynllun economaidd diwethaf a nodwyd gan ragflaenydd, ni welsom unrhyw dargedau o gwbl—dim byd i fesur cyflawniad. Nawr, ar ei orau, mae hyn osgoi craffu, ac ar ei waethaf, mae'n arwydd o Lywodraeth ddigyfeiriad. Felly, os bydd Gweinidogion ac Ysgrifenyddion Cabinet olynol dros yr economi yn gwrthod gosod targedau, sut y gallwn asesu a yw polisi Llywodraeth Cymru yn gweithio neu'n cael yr effaith a ddymunir?
Nawr, er tegwch, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wneud pethau'n iawn yn y dyddiau cynnar. Fe wnaethant osod targedau ar gyfer yr economi, megis targedau ar gyfer cynhyrchiant, gan leihau'r bwlch rhyngom a gweddill y DU i 90 y cant. Nawr, roedd hynny ar adeg pan nad oedd ganddynt bŵer go iawn i greu newid. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir bellach. Mae yna bethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud, a dylai targedau adlewyrchu'r newid hwnnw.
Nid oes modd gwadu nad yw'r darlun a baentiwyd o economi Cymru yn un cadarnhaol, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol inni ddangos ein bod o ddifrif ynglŷn â chodi allan o'r gors hon. Nawr, mae targedau'n mynd rywfaint o ffordd i ddynodi'r bwriad hwnnw.
Pan fo’n dod at iechyd, yr unig gysondeb yr ydym ni wedi’i weld o’r Llywodraeth yma ydy ei methiant llwyr i gyrraedd unrhyw dargedau a thorri addewidion. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn wych yn generadu penawdau ynghylch cael gwared ar restrau aros dwy flynedd a blwyddyn o hyd. Mae pobl yn darllen y penawdau yna ac yn gwbl gegrwth tra’n aros blynyddoedd am driniaeth.
Mae’r ymdrechion i wella ar y cyfraddau trychinebus o ddiagnosis a thriniaeth ganser wedi methu yn llwyr. Yn y cyfamser, mae adroddiad diwethaf gan Archwilio Cymru yn dangos bod pob awdurdod iechyd yn torri’r ddyletswydd i fantoli’r gyllideb ac, yn wir, fod y rhelyw wedi methu â gwneud hynny dros y tair blynedd diwethaf.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl fod y Prif Weinidog yn ddiffuant ynghylch ei dymuniad i weld y GIG yn cael ei roi yn ôl ar ei draed. Mae'n rhywbeth y mae pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau ei weld yn digwydd cyn gynted â phosibl. Ond ni allwch adeiladu llywodraethiant effeithiol ar fwriadau da yn unig. Dyna pam, pan ddadorchuddiodd y Llywodraeth ddulliau newydd honedig o ymdrin â hen broblemau, fel a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf, mae'n anodd peidio â theimlo cryn rwystredigaeth. Rydym wedi bod yma o'r blaen, ac fe wyddom sut y mae'n gorffen.
A heb y ffocws di-baid hwn ar drosi geiriau cynnes o fwriad yn weithredu a chanlyniadau diriaethol, y canlyniad anochel yw colli awdurdod yn llwyr, i'r graddau ein bod bellach mewn sefyllfa lle mae'r Llywodraeth yn allanoli rheolaeth ar ofal iechyd i San Steffan. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, nid yw'n ddim llai na chefnu'n llwyr ar gyfrifoldeb a bradychu'r hyn yr oedd datganoli i fod i'w gyflawni i Gymru.
Yn olaf, mae un absenoldeb amlwg ym mlaenoriaethau'r Llywodraeth hon, heb unrhyw gyfeiriad o gwbl at un o'r heriau mwyaf a mwyaf uniongyrchol sy'n ein hwynebu heddiw—sef y sector gofal. Mae'r sector gofal yn cael ei ystyried yn rhy aml fel y gwasanaeth sinderela, o'i gymharu â'r gwasanaeth iechyd, ac mae blaenoriaethau'r Llywodraeth hon yn tanlinellu hynny'n llwyr. Mae'r ddau wedi'u cysylltu'n anochel ac er mwyn i un sector lwyddo, mae'n dibynnu ar y llall. Mae'n amlwg nad oes gwerth wedi'i osod ar waith gofalwyr di-dâl, sy'n 10 y cant o'r boblogaeth, ac y mae eu gwaith yn werth dros £8 biliwn yng Nghymru—arian y byddai'n rhaid i'r Llywodraeth hon ddod o hyd iddo fel arall, heblaw am y gofalwyr hyn. Hyd nes y bydd y Llywodraeth hon yn cydnabod pwysigrwydd y sector gofal yn iawn, ni all fod unrhyw hygrededd i unrhyw raglen lywodraethu.
Nododd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf fod codi safonau mewn addysg yn flaenoriaeth iddi. Ond, mewn gwirionedd, doedd dim angen iddi deithio o gwmpas Cymru na bod yn rhyw fath o Mystic Meg i ddod i’r casgliad hwnnw. Ac, ar ôl degawdau o fethiannau yn y maes hwn gan Lywodraeth Lafur yng Nghymru, un ar ôl y llall, dylai hyn fod wedi bod yn amlwg beth bynnag.
Brynhawn yma, dwi eisiau mynd ar ôl canlyniadau PISA 2022 a methiant llwyr y Llywodraeth o ran cyrraedd eu targedau recriwtio ar gyfer athrawon yng Nghymru, sydd ill dau yn tanlinellu'r heriau sylweddol sy'n wynebu'r sector addysg yma yng Nghymru. Fe welodd Cymru, fel rŷn ni wedi clywed droeon yn y Siambr, yn 2022, y canlyniadau PISA gwaethaf erioed, gan syrthio'n is na gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol ac yn is na'r cyfartaledd rhyngwladol. A dweud y gwir, mae ein perfformiad mewn mathemateg, gwyddoniaeth a darllen wedi bod yn gostwng ers 2018, ac ar gyflymder fwy nag yng ngwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol. Mae adroddiad yr IFS yn ddiweddar yn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr inni o ganlyniadau PISA yng Nghymru, sy'n dangos na ellir priodoli'r sgoriau is hyn i lefelau tlodi uwch yn unig. Yn wir, mae plant difreintiedig yn Lloegr yn sgorio tua 30 pwynt yn uwch ar gyfartaledd na'u cymheiriaid yma yng Nghymru. Yn Lloegr, mae plant difreintiedig naill ai'n uwch neu'n debyg i'r cyfartaledd ar gyfer pob plentyn yng Nghymru, waeth beth yw eu cefndir cymdeithasol. Ac mae'n drist nodi bod y perfformiad isaf i ddisgyblion difreintiedig ar draws holl wledydd y Deyrnas Gyfunol bron yn gyfan gwbl yma yng Nghymru.
Mae'n werth nodi hefyd fod gwariant fesul disgybl yn debyg yng Nghymru a Lloegr, sy'n dangos nad buddsoddiad ariannol yn unig yw'r prif achos. Mae hyn yn dangos yn glir fod Llywodraeth Cymru yn dinistrio cyfleoedd bywyd cymaint o'n pobl ifainc ni. Mae'r gostyngiad mewn safonau addysg yn amlwg yn fater mae'r Llywodraeth wedi gwybod amdano ers blynyddoedd lawer, a dyma ni, ar ôl gweld dirywiad pellach, yn gorfod gofyn y cwestiwn: a oes gyda chi, fel Llywodraeth, ateb i'r heriau sy’n wynebu addysg yng Nghymru? A oes gyda chi strategaeth i fynd i'r afael â nhw? Mae'n amlwg, o graffu ar eich record ddiweddar, eich bod chi wedi methu'r prawf.
Rwyf eisiau symud ymlaen yn gyflym nawr at recriwtio athrawon. Mae recriwtio athrawon, yn enwedig mewn pynciau â blaenoriaeth, yn faes arall eto lle gwelwn yr un hen gyflawni aflwyddiannus a chamreoli gan Lywodraeth Cymru. Ddoe ddiwethaf, fe wnaethom ddarllen am ysgol yn sir Fynwy, Ysgol Cil-y-coed, yn pacio 60 disgybl i ddosbarth mathemateg oherwydd prinder athrawon arbenigol—dim bai ar yr ysgol, ond dyma'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â'r genhedlaeth nesaf o blant.
Yn y garfan addysg gychwynnol athrawon ar gyfer 2021-22, dim ond un o'r wyth pwnc â blaenoriaeth a welodd y targed yn cael ei gyrraedd ac yn gyffredinol, roedd y nifer o athrawon a recriwtiwyd 300 islaw'r targed a osodwyd. Mewn ffiseg, roedd y targed yn 61 o fyfyrwyr, ond dim ond tri a gafodd eu hyfforddi mewn ffiseg y llynedd. Felly, mae'n amlwg fod angen gwneud mwy i ddenu athrawon i feysydd pwnc â blaenoriaeth.
Felly, Dirprwy Lywydd, yn absenoldeb targedau a cherrig milltir clir ar wella canlyniadau PISA a chyrraedd targedau recriwtio athrawon, mae'n hanfodol ein bod ni'n cael, wrth Lywodraeth Cymru, gynllun gweithredu gyda thargedau clir, gyda cherrig milltir penodol, gydag amserlen gyraeddadwy, hefyd, achos mae disgyblion a rhieni yng Nghymru yn haeddu llawer, llawer gwell na hyn. Ac os nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i ddelifro, fe alla i addo i chi hyn: bydd Plaid Cymru, yn 2026, yn barod i wella safonau a lefelau cyrhaeddiad ein plant ni yng Nghymru.
Drwy roi iechyd da yn gyntaf ar y rhestr flaenoriaethau, mae Llywodraeth Eluned Morgan wedi cydnabod yn glir pa mor bwysig yw gwella ein perfformiad ym maes iechyd, gan sylweddoli'n llawn mai dyma'r her fwyaf i leihau'r rhestrau aros am driniaethau a all ddigwydd mewn lleoliad ysbyty yn unig. Mae'r ffaith bod 23,000 yn aros am fwy na dwy flynedd yn llawer rhy hir, ac mae angen i ni ei ddadansoddi fesul bwrdd iechyd i ddeall ble ac ar gyfer pa driniaethau y ceir problemau. Mae llawer o'r ceisiadau hyn am ofal eilaidd ar gyfer gwasanaethau diagnostig, lle nad yw meddygon teulu yn siŵr a yw'r mater y mae'r claf wedi'i godi yn rhywbeth cyffredin y gellir mynd i'r afael ag ef yn hawdd mewn gofal sylfaenol, neu a oes rhywbeth mwy pryderus yn digwydd. Yn amlwg, ym meddyliau meddygon, mae yna bob amser berygl o ganser neu broblem ddifrifol arall. Ei ganfod yn gynnar yw'r peth pwysicaf bob amser ar gyfer canlyniad da ac adferiad.
Yn amlwg, mae unrhyw un sydd angen llawdriniaeth na ellir ond ei wneud mewn ysbyty angen gwely iddynt wella ynddo, ac mae hynny'n golygu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i gyflymu'r broses o gael pobl allan o'r ysbyty pan nad yw eu triniaeth feddygol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn yr ysbyty mwyach. Gwnaed llawer iawn o waith ar wella nifer y timau nyrsio cymunedol sydd ar gael. Roedd gennym dri chynllun peilot cyn i COVID daro, ac erbyn hyn mae gennym 62 o dimau nyrsys ardal yn gweithredu yn ein cymunedau. Rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon pa mor effeithiol ydynt yn sicrhau bod modd asesu pobl ar gyfer anghenion iechyd parhaus yn eu cartref eu hunain, sy'n llawer gwell a chliriach ynghylch eu hanghenion na phe baech chi'n ceisio eu hasesu yn yr ysbyty.
Mae hwn yn fater cymhleth iawn, a dyna pam ei bod yn hollol briodol inni rannu arferion da ar draws ein ffiniau. Ni allwn fod yn ddall i'r hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad, a chyn belled â'n bod ni'n gweithio gyda phobl sydd â'r nod o gynnal gwasanaeth iechyd cyhoeddus, rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Yr hyn nad oeddem am ei wneud oedd gweithio gyda'r Torïaid y mae eu hunig amcan yn ymwneud â phreifateiddio'r gwasanaeth iechyd gwladol, ond oni bai ein bod yn gwella ein gwasanaeth iechyd gwladol, byddwn yn wynebu pobl yn pleidleisio gyda'u traed. Ac mae'n rhaid inni weithio gyda phobl unigol, ein holl staff, y mae llawer ohonynt wedi llwyr ymlâdd o ganlyniad i COVID a hynny heb unrhyw adnoddau ychwanegol. Mae gennym sefyllfa heriol iawn, ond mae angen inni gydnabod y sefyllfa honno a sicrhau ein bod yn gwneud rhywbeth am y peth, oherwydd fel arall mae pobl yn mynd yn rhwystredig iawn a byddant eisiau newid mwy radical hyd yn oed fel y gwn fod Plaid Cymru yn ei dybio. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r dicter a'r rhwystredigaeth a fynegwyd yn yr etholiad cyffredinol, gyda chymaint o bobl mewn 13 etholaeth yn pleidleisio dros Blaid Cymru fel eu hail ddewis—esgusodwch fi, dros blaid Reform fel eu hail ddewis—oherwydd mae hyn yn dangos bod rhwystredigaeth wirioneddol gyda'r dogni sydd wedi bod yn digwydd dros y 14 mlynedd ddiwethaf, ac mae pobl angen gobaith y bydd yna newid. Ac rwy'n hyderus y byddwn yn cael newid cyflym. Cafwyd cryn dipyn o newid yn barod gan Lywodraeth y DU, ac rydym yn mynd i weld llawer mwy.
Pan nododd ei blaenoriaethau, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n adeiladu cenedl decach, wyrddach a mwy llewyrchus, Cymru lle gall pob person ifanc deimlo'n hapus ac yn obeithiol ar gyfer y dyfodol. Wel, os felly, fel y mae ein cynnig yn ei wneud yn glir, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nodi cynlluniau a thargedau clir a manwl i wneud i hynny ddigwydd, ac mae angen inni weld arddangosiad o'r pŵer yn y bartneriaeth o bŵer honedig hon gyda Llywodraeth Lafur y DU, ac yn enwedig yn ei hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi plant, sydd, wrth gwrs, yn ganolog i'r nodau datganedig hyn—Cymru lle y gall pob person ifanc deimlo'n hapus ac yn obeithiol ar gyfer y dyfodol.
In my final opportunity to question the previous First Minister, I asked him whether the Labour Welsh Government would be calling on its newly elected sister Labour Government in Westminster to abolish the benefits cap and the two-child limit. When I did so, the chaos within Labour in Wales meant that Wales was left without a Minister with responsibility for child poverty. I referred to a report by Loughborough University that demonstrated that more than 65,000 children in Wales are directly impacted by this policy. But all we saw from the former First Minister was him repeating Keir Starmer's stance that economic growth was crucial in terms of how we should tackle child poverty.
Well, of course, economic growth is crucial to generating additional wealth, but growth does not necessarily lead to socioeconomic fairness. And growth, of course, also takes time, whilst one in three children in Wales are living in poverty and there are no statutory targets on child poverty. And now Wales has another First Minister. I called on Eluned Morgan, when she was elected, to put tackling child poverty at the top of the agenda and to ensure that her first step was to restore the target for eradicating child poverty.
Ar hyn o bryd, nid yw strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru yn cynnwys unrhyw dargedau ac o'r herwydd, cafodd ei beirniadu'n hallt gan y comisiynydd plant, Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd a nifer o sefydliadau plant a grwpiau gwrthdlodi yng Nghymru.
Pan gafodd y targed ei ollwng gan Lywodraeth Cymru yn 2016, nodwyd mai'r rheswm am hynny oedd bod polisïau Llywodraeth y DU yn gwneud y targed yn anghyraeddadwy. Roeddent yn dweud bod eu gallu i leihau tlodi plant yng Nghymru, ac rwy'n dyfynnu,
'yn amlwg yn dibynnu ar gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU'.
Ond nawr mae gennym Lywodraeth newydd sy'n addo cyflawni. Yn ei geiriau hi, yn ei hanerchiad i ni yma wrth gael ei hethol ym mis Awst, bydd Eluned Morgan yn 'arweinydd sy'n canolbwyntio ar gyflawni', ac mae ganddi Weinidog cyflawni hyd yn oed rhag ofn bod angen atgoffa ei Chabinet fod eu gwaith yn ymwneud â chyflawni. Fe fyddech chi'n meddwl, felly, y gallai targedau fod yn eithaf defnyddiol i fesur y cyflawniad hwnnw. Ond pan ofynnais a fyddai'r targedau tlodi plant yn cael eu hadfer, oherwydd bod y Torïaid yn hanes bellach, diolch byth, a'u mesurau cyni creulon ac aflwyddiannus, fel y cap ar fudd-daliadau a'r terfyn dau blentyn gyda hwy, byddech yn disgwyl, dywedodd y Prif Weinidog wrthyf am godi'r mater gyda fy Aelod Seneddol.
Efallai y dylai'r Gweinidog cyflawni, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Weinidog wrando ar eiriau Chris Birt, cyfarwyddwr cyswllt yn Sefydliad Joseph Rowntree, a oedd yn bennaeth uned polisi a chyflawni Prif Weinidog yr Alban. Mae'n gwybod un neu ddau o bethau am fynd i'r afael â thlodi plant, a dywedodd wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, pan oeddem yn craffu ar y strategaeth tlodi plant ddrafft, mai un o'r pethau sy'n allweddol i strategaeth lwyddiannus yw cyflawniad. Mae angen i chi wybod beth yw'r camau gweithredu ynddi, sut y byddant yn cael eu mesur. Oherwydd, fel arall, sut y gallwn ni wybod eu bod yn gweithio? Rhoddodd gipolwg gwerthfawr i'r pwyllgor ar sut y mae'r targedau statudol yn yr Alban a'r dull o weithredu cyffredinol ar dlodi plant sy'n cael ei yrru gan dargedau yno yn gweithio. Ac fe'n hatgoffodd hefyd mai un o'r prif rwystrau i wneud cynnydd ar fynd i'r afael â thlodi plant yw penderfyniadau gwleidyddion. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â gosod targedau statudol, wedi penderfynu peidio â galw ar Lywodraeth Lafur y DU i gael gwared ar y cap, wedi penderfynu peidio â blaenoriaethu bwydo pob plentyn o deuluoedd incwm isel yn ein hysgolion uwchradd, wedi penderfynu peidio â sicrhau bod y plant tlotaf yn cael eu bwydo yn ystod gwyliau'r ysgol.
Rwyf wedi siarad ar y mater hwn fwy o weithiau nag y gallaf ei gofio yn ystod fy amser byr fel Aelod o'r Senedd, oherwydd mae'n gwbl hanfodol i sicrhau ffyniant Cymru. Oherwydd mae'r anghydraddoldeb yr ydym i gyd wedi dod mor gyfarwydd ag ef nid yn unig yn atgas yn foesol, ond mae hefyd yn drychinebus i'n cenedl. Nid yw'r rhethreg simsan a glywsom hyd yma yn gynllun ar gyfer sicrhau Cymru deg a llewyrchus i'w holl ddinasyddion. Mae angen gweithredu pendant, cynnydd amlwg—
Mae'n rhaid ichi orffen, os gwelwch yn dda.
—a thargedau inni allu mesur cyflawniad newid go iawn.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Fel bob amser, nid oes gennyf ddigon o amser i ateb pob pwynt yn fanwl, ond fel bob amser, rwyf am geisio mynd i'r afael â'r themâu cyffredinol.
Yr wythnos diwethaf, yn ei Chyfarfod Llawn cyntaf a'i sesiwn gwestiynau cyntaf, nododd y Prif Weinidog flaenoriaethau'r Llywodraeth hon, gan nodi mai blaenoriaethau pobl Cymru oedd y blaenoriaethau hynny, fel y mae llawer o'r siaradwyr wedi cydnabod y prynhawn yma. Gwnaeth y Prif Weinidog yn glir fod y rhain wedi'u siapio gan sgyrsiau a gynhaliwyd dros yr haf, a bydd yn siapio'r hyn y byddwn ni fel Llywodraeth yn canolbwyntio arno dros y 18 mis olaf o dymor y Senedd hon, gan adeiladu ar y cyflawniadau sylweddol a gyflawnwyd gennym eisoes, fel y nodwyd gan fy nghyd-Aelod, Carolyn Thomas, ymhlith eraill. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando ar bawb ac nid dim ond y rhai sydd â'r lleisiau mwyaf croch. Mae hyn yn sicrhau y gallwn ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl Cymru. Felly, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer gwrando. Dyna pam, dros y 18 mis nesaf, y byddwn yn blaenoriaethu'r newidiadau ymarferol y gallwn eu gwneud i barhau i wella ein GIG, ein heconomi, ein hysgolion a'n cymunedau. Maes o law, byddwn yn nodi mwy o fanylion ar sut y byddwn yn cyflawni'r blaenoriaethau hynny ac yn ymrwymo i ddarparu diweddariadau rheolaidd i'r Senedd ar gynnydd y rheini. Rydym yn gwybod y bydd hyn yn galw am ymdrech Llywodraeth gyfan, a dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau bod ein hadnoddau'n cael eu cyfeirio'n effeithiol at gyflawni'r meysydd blaenoriaeth hyn.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi datgan y bydd yn cynnal sesiwn Cabinet bob mis sy'n canolbwyntio'n benodol ar gyflawniad, a bod fy rôl fel Gweinidog cyflawni wedi'i chynllunio i ddarparu capasiti ychwanegol i ddod â phobl ynghyd i ganfod ffyrdd arloesol a chreadigol o ysgogi cyflawniad yn yr amser byr sydd gennym ar ôl. Heb oedi, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ei wythnos gyntaf, wedi cyfarfod â chadeirydd y GIG i nodi blaenoriaethau a disgwyliadau'r Llywodraeth. Hefyd, mynychodd yr uwchgynhadledd weinidogol ar ganser, gan glywed am welliannau i ganlyniadau canser. Lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ymgynghoriad yr wythnos diwethaf i ofyn am safbwyntiau ar y gyfundrefn cydsyniad seilwaith newydd, i alluogi cymunedau lleol i gael gwell dealltwriaeth o'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Dros yr haf, gwelsom gynnydd gyda chanlyniadau arholiadau cryf yn y graddau uchaf ar draws ystod o bynciau, a'r wythnos diwethaf cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fod cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd wedi'i gyflawni yn gynt na'r disgwyl, gan ddarparu dros 30 miliwn o brydau bwyd ychwanegol ers ei lansio—rhywbeth y gallwn ddiolch amdano i'r cytundeb cydweithio a chynghrair o bleidiau blaengar ar draws y Siambr hon, rhywbeth y dylem ei gofio pan fyddwn yn meddwl am y ffordd ymlaen.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ailbwysleisio'r angen i archwilio pob opsiwn i ddarparu mwy o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w rhentu. Mae hyn yn cynnwys edrych ar sut y mae amrywiaeth o ffrydiau ariannu yn cael eu defnyddio i ddarparu mwy o gartrefi a gwneud y mwyaf o gyfleoedd drwy gaffaeliadau ymhlith mesurau eraill.
Fel y clywsom y prynhawn yma, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth wedi bod yn gwrando ar y pryderon ynghylch y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya, ac o ganlyniad mae wedi diweddaru'r canllawiau i awdurdodau lleol ar sut a ble y dylid gweithredu'r terfynau cyflymder hyn.
Gwnaeth cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ddatganiad ym mis Gorffennaf ar ein cynnydd tuag at gyflawni'r rhaglen lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol, a byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar gynnydd.
Ddirprwy Lywydd, ceir nifer fawr o raglenni parhaus sy'n cyflawni'r rhaglen lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol nad oes gennyf amser i roi sylw iddynt y prynhawn yma, ond nid wyf am i'r Senedd fod o dan unrhyw gamargraff nad ydym yn cyflawni busnes fel arfer yn ogystal â chanolbwyntio ar y blaenoriaethau ar gyfer y 18 mis olaf o dymor y Senedd hon.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Llywodraeth Lafur hon gytundeb cyflog sy'n llawer uwch na chwyddiant i weithwyr y sector cyhoeddus: mwy o arian ym mhoced gweithwyr, rhywbeth yr ydym yn falch iawn o fod wedi'i gyflawni. Dyma enghreifftiau go iawn o Gabinet sy'n bwrw ymlaen â gwaith y Llywodraeth, sy'n gweithredu ar yr hyn y mae pobl Cymru wedi'i ddweud wrthym, ac sy'n canolbwyntio ar gyflawniad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i atgyweirio a chryfhau datganoli, fel y nodwyd yn adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Rwyf am roi sicrwydd i gyd-Aelodau Plaid Cymru yn enwedig, oherwydd rwy'n credu bod y Ceidwadwyr y tu hwnt i sicrwydd ar y pwynt hwn, fod y newid cywair wedi bod yn rhyfeddol. Mae cyd-Aelod i mi yn y Cabinet sydd yn yr ystafell gyda ni wedi ei ddisgrifio'n syml iawn: pe bai £100 yn ddyledus i ni trwy fformiwla Barnett o dan y Torïaid, byddent yn treulio tri mis yn ceisio cael £10 wedi'i dynnu oddi arno, neu £20 os gallent; ni fyddent yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol. Mae gennym Lywodraeth nawr sy'n ei drosglwyddo'n uniongyrchol, ac am wahaniaeth y mae hynny eisoes wedi'i wneud: un gwahaniaeth syml, heb newid y fformiwla, dim ond newid cywair ac agwedd. Gallaf dystio yn fy swydd fy hun i'r gwahaniaeth y mae hynny eisoes wedi'i wneud. Ni ddylid tanbrisio'r hyn sy'n digwydd pan fydd gennych bobl o'r un meddylfryd yn ceisio cyflawni'r un pethau, hyd yn oed os nad yw'r system y maent yn gweithio ynddi yn gweithio'n arbennig o dda.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
A fyddech chi'n dweud felly eich bod chi o'r un meddylfryd ynglŷn â'r cap dau blentyn ar fudd-daliadau?
Wel, nid wyf wedi gweld y gyllideb gyfan eto, felly nid wyf mewn sefyllfa i ddweud. Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch, wrth gwrs—byddem i gyd yn hoffi gweld rhai newidiadau, ond mae'n rhaid i chi ei weld yn ei gyfanrwydd, y darlun llawn, ac rwyf ond yn dweud wrthych sut y mae'n teimlo'n barod. Mae'r newid o fewn y Llywodraeth yn amlwg ac yn real. Rwy'n dal i gofio'r creithiau a gefais fel Gweinidog sgiliau dros yr ardoll prentisiaethau, pan gafodd y £110 miliwn y dylem fod wedi'i gael yng Nghymru ei ostwng i -£11 miliwn o ganlyniad i drafod medrus ar fformiwla Barnett. Ni ddylech fychanu'r gwahaniaeth y gall y math hwnnw o bolisi ei wneud mewn gwirionedd. Mae'r cysylltiadau rhynglywodraethol newydd, y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gonfensiwn Sewel, fframwaith cyllidol wedi'i ddiweddaru, adfer y broses o wneud penderfyniadau ynghylch cronfeydd strwythurol ôl-UE i Lywodraeth Cymru, a mynd ati i archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf ymhlith y nifer o bethau yr ydym yn eu trafod ar hyn o bryd. Ar HS2, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau dull teg o gymhwyso Barnett mewn perthynas â chyllid rheilffyrdd. Byddem yn croesawu adolygiad o gymaroldeb gyda'r Adran Drafnidiaeth a phrosesau llif buddsoddi Network Rail, er enghraifft.
Rydym bob amser wedi dweud y byddem yn cefnogi trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, ac rwyf am ychwanegu'r brif reilffordd i Abertawe wrth fynd heibio hefyd, gan fy mod yn dod oddi yno, ond rhaid i'n ffocws fod ar y blaenoriaethau rheilffyrdd uniongyrchol ar gyfer gogledd Cymru a mannau eraill yng Nghymru a'n partneriaid dros y ffin. Ni dderbyniodd Network Rail unrhyw gylch gwaith ffurfiol nac arian gan y weinyddiaeth flaenorol yn San Steffan ar gyfer gwaith ar ddatblygu trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru. Cyferbynnwch hynny â'r hyn a gadarnhawyd gennym ni yn ddiweddar—hwb enfawr yn y capasiti rheilffyrdd i bobl, busnesau a chymunedau yng ngogledd Cymru, i'w gyflawni yn 2026. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu llif o welliannau seilwaith rheilffyrdd wedi'u cytuno ledled Cymru, gan gynnwys gwelliannau i ogledd Cymru drwy fwrdd rheilffyrdd Cymru.
Mae llawer o enghreifftiau eraill y gallwn eu defnyddio. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU, er enghraifft, ar sut y gallwn ddarparu gwell system ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol. Mae yna lawer iawn o bethau y gallwn eu gwneud gyda'n gilydd i helpu'r diwydiant i ddod ynghyd, oherwydd mae'n ymwneud â mwy na chynllunio ac arian yn unig—mae'n ymwneud ag ymagwedd tuag at adeiladu sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn ar lawr gwlad, ac mae yna wahaniaeth gwirioneddol, fel y gobeithiaf fod pawb yn y Senedd hon yn ei ddeall, rhwng tai rhent cymdeithasol a thai fforddiadwy, er enghraifft. Mae cael Llywodraeth sy'n deall y gwahaniaeth hwnnw ar lefel y DU yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r ffordd y gallwn gyflawni yma yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflawni ar ran pobl Cymru. Bydd y blaenoriaethau yn ein harwain ac fel Llywodraeth, byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio'n bendant iawn ar adeiladu Cymru sy'n perthyn i bob un ohonom. Diolch.
A galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bob un sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw yma, ac i'r Gweinidog am ymateb. Mae siaradwr ar ôl siaradwr wedi mynd â ni, dwi'n meddwl, drwy’r dystiolaeth eithaf clir sy'n disgrifio’r diffyg cynllun, y diffyg cyfeiriad, gan y Llywodraeth, ac, fel y dywedais i yn gynharach, apêl ydy'r cynnig yma ar Weinidogion Llafur i gydnabod yr angen am gynllun a'r angen am newid cyfeiriad. Mae llefarwyr ar y meinciau yma wedi gallu manylu ar y gwahanol feysydd polisi. Rydym ni'n wynebu heriau gwirioneddol sydd yn mynnu ymateb brys, ac, er bod pobl Cymru yn ysu am newid—dwi'n siŵr o hynny—ac yn tyfu yn eu rhwystredigaeth wrth i amser fynd yn ei flaen, gwell hwyr na hwyrach, felly gadewch i ni weld beth ydy'r cynlluniau.
Roeddwn i wedi gobeithio cyflwyno'r cynnig hwn i'r Prif Weinidog newydd. Wedi'r cyfan, mae'n ymateb i'w datganiad ar ei blaenoriaethau. Roeddwn eisiau iddi glywed ac ymateb, mewn gwirionedd, i'r pryderon sydd gennym fod amwysedd y datganiad y mae hi wedi'i roi i ni am ei blaenoriaethau yn broblem fawr. Yn hytrach, fe ymatebodd y Gweinidog cyflawni. Mae cynnig y Llywodraeth ei hun, wrth gwrs, yn cyfaddef nad oes ganddi unrhyw beth i oruchwylio ei gyflawniad eto. '[Byddwn] yn nodi... maes o law, ragor o fanylion am sut y bydd blaenoriaethau'n cael eu cyflawni' yw'r hyn a ddywedwyd wrthym. Cawsom restr o gyfarfodydd a oedd wedi eu cynnal, disgrifiadau o rai pethau a oedd eisoes wedi digwydd. Clywsom fod newid cywair wedi bod. Rwy'n gobeithio nad yw hynny'n golygu rhywbeth mwy cyffyrddus, oherwydd rwyf am weld perthynas dda rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac rwy'n annog hynny'n weithredol, ond rwyf am gael her anodd, adeiladol bob amser gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU, ac nid yw'n teimlo fel pe baem yn cael hynny ar hyn o bryd.
Hyd yn oed nawr, ar y diffyg cynllunio, ar ddiffyg rhaglen glir, dair blynedd a hanner i mewn i oes y Senedd hon, y cyfan sydd gennym, ar iechyd er enghraifft, yw addewid i dorri amseroedd aros—wel, fe wyddom fod angen inni dorri amseroedd aros—gwasanaeth iechyd menywod gwell—rwy'n gwybod bod angen hynny arnom; mae Delyth Jewell yn gymaint o hyrwyddwr i hynny—gwell mynediad at ofal cymdeithasol—fe wyddom fod angen i hynny ddigwydd. Ond yn y bôn, nid oes unrhyw amlinelliad hyd yn oed o sut y caiff hynny ei wneud. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig 'dileu popeth' a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur, sy'n dweud i bob pwrpas, 'Mae'r cyfan ar y gweill', oherwydd nid yw ar y gweill. Mae'r dystiolaeth y mae pob un o'n hetholwyr yn ei theimlo yn awgrymu, yn amlwg, nad yw ar y gweill. Y Ceidwadwyr: rydym yn cytuno â'u gwelliant cyntaf, nad yw Llywodraeth Cymru, meddai, yn clywed cymaint y mae torri taliadau tanwydd y gaeaf yn taro pensiynwyr. Mae un cyflawniad y gall Llafur fod yn falch ohono yno—syniad a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr i dorri taliad tanwydd y gaeaf, wedi'i gyflawni gan Lafur mewn grym. Fodd bynnag, ni fyddwn yn cefnogi ail welliant y Ceidwadwyr, sy'n dileu ein galwad am gyllid teg i Gymru. Fe fydd yn rhaid i chi ofyn i'r Ceidwadwyr pam y byddent yn awyddus i gael gwared ar alwad am gyllid teg i'r bobl y maent yn eu cynrychioli.
Am yr eildro eleni, rydym yn dwyn Prif Weinidog newydd i Gymru i gyfrif. Mae amser yn brin—cyfaddefiad o hynny yn sylwadau clo'r Gweinidog cyflawni. Nawr, ar yr ochr olau, mae amser yn brin am fod etholiad ychydig dros 18 mis i ffwrdd, gan greu posibilrwydd o newid go iawn. Bydd Plaid Cymru yn gofyn i bobl ymddiried ynom i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, fel y bydd y pleidiau eraill yma yn ei wneud. Ond wrth gwrs, y gwir amdani yw bod pob mis y mae pobl yn ei dreulio ar restr aros, pob mis a gollir i wella safonau addysg, pob mis o ddiffyg egni yn y Llywodraeth ar yr economi, yn ddrwg i'r cymunedau ac yn ddrwg i'r etholaethau y mae pob un ohonom yn eu cynrychioli. Felly, cefnogwch ein cynnig heddiw a dywedwch ei bod hi o ddifrif yn bryd cael cyfeiriad newydd, cynllun clir, targedau mesuradwy—mae'n bryd gweithredu.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Terfynau cyflymder 20mya. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais ar welliant 1 nawr, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Terfynau cyflymder 20mya. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Terfynau cyflymder 20mya. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM8667 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dros flwyddyn.
2. Yn nodi:
a) y gostyngiad sylweddol mewn gwrthdrawiadau ac anafusion ers cyflwyno’r terfyn; a
b) y ffaith bod 469,571 o bobl wedi llofnodi deiseb y Senedd: ‘Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya’
c) y rhaglen gynhwysfawr o wrando a gynhaliwyd dros yr haf, gan ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol;
d) y ffaith y bydd y gwaith monitro a gwerthuso parhaus yn casglu tystiolaeth o effeithiau’r polisi o ran yr economi, iechyd a’r amgylchedd;
e) y ffaith bod adroddiad monitro ansawdd aer Cam 1 Trafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn dangos nad oedd unrhyw effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol hyd yma; ac
f) y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol Cymru sydd wedi derbyn ceisiadau i newid y terfyn i 30mya ar rai ffyrdd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi awdurdodau lleol Cymru er mwyn cyflawni terfynau cyflymder 20mya trwy ddull targedu, gan sicrhau bod y terfyn mewn grym ar y ffyrdd cywir ble mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Terfynau cyflymder 20mya. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Byddwn nawr yn pleidleisio ar eitem 8, dadl Plaid Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 10, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn a gwelliannau 2 a 3 wedi eu dad-ddethol.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8665 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
2. Yn cefnogi ffocws y Llywodraeth ar flaenoriaethu’r bobl ac yn cymeradwyo’r blaenoriaethau fel y’u nodwyd gan y Prif Weinidog.
3. Yn nodi ymhellach ymrwymiad y Prif Weinidog i ddarparu, maes o law, ragor o fanylion am sut y bydd y blaenoriaethau yn cael eu cyflawni.
4. Yn cymeradwyo ymrwymiad y Llywodraeth i:
a) iechyd da—lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl, a gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwella gwasanaethau iechyd menywod;
b) swyddi gwyrdd a thwf—creu swyddi gwyrdd i sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diogelu natur, a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru;
c) cyfle i bob teulu—hybu safonau yn ein hysgolion a'n colegau, a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol; a
d) cysylltu cymunedau—trawsnewid ein rheilffyrdd a darparu gwell rhwydwaith bysiau, trwsio ein ffyrdd, a grymuso cymunedau lleol i benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl Plaid Cymru - Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Daw hynny â'r pleidleisio i ben. Nawr, mae gennym ddadl fer, felly os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel.
Symudaf yn awr i'r ddadl fer a galwaf ar Hannah Blythyn i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Hannah.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddweud ar y dechrau yr hoffwn roi munud o fy amser i Mike Hedges ac i Luke Fletcher?
Rwy'n cyflwyno'r ddadl fer hon ar adeg pan wyddom fod yr economi ledled y DU yn wynebu llawer o heriau—storm berffaith wedi ei chymell gan fflamau cyni economaidd, pandemig byd-eang a'r argyfwng costau byw yn sgil hynny. Mae'r ffeithiau a'r ystadegau yn sicr yn siarad drostynt eu hunain, ond roedd Cymru a gweithwyr yn teimlo pwysau cyfuniad gwenwynig o dwf araf, lefelau uchel o anghydraddoldeb a'r erydu cyson i hawliau'r gweithle ymhell cyn i'r argyfwng costau byw daro. Nid cyfalafiaeth ddilyffethair sy'n gadael i'r marchnadoedd reoli eu hunain a chyfyngu ar hawliau gweithwyr yw'r cyfrwng ar gyfer sicrhau urddas yn y gwaith a mwy o ffyniant i'n pobl a'n lleoedd. Mae angen system economaidd arnom sy'n grymuso pobl, nid eu hecsbloetio. Mae angen i ni ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni i ddatgloi potensial economaidd ein cymunedau a'n gwlad.
Y gwir amdani yw bod y prif ysgogiadau macro-economaidd y tu hwnt i rym Llywodraeth Cymru a'r lle hwn, a'r gwir cyllidol yw bod angen mwy o bŵer ariannol arnom i wneud ac i gynnal buddsoddiadau cynaliadwy a sylweddol yn ein cymunedau. Felly, gallwn fod wedi defnyddio'r ddadl hon i alw am gyllid tecach i Gymru neu ddatganoli Ystad y Goron, a allai sicrhau newid sylfaenol a dechrau newid trawsnewidiol. Ond fel y dywed yr hen air, celfyddyd yr hyn sy'n bosibl yw gwleidyddiaeth, ac rwyf am ganolbwyntio heddiw ar yr hyn y gallwn ei wneud gyda'r ysgogiadau datganoledig sydd gennym i helpu i wneud i'n heconomi weithio'n well i weithwyr ac i Gymru, o gynllunio i gaffael a chymryd y camau nesaf gyda'n dull partneriaeth gymdeithasol, hyfforddiant ar gyfer swyddi yfory yn ogystal â heddiw, gan ddysgu nid yn unig sgiliau newydd, ond darparu cyfle i ailsgilio drwy gydol eich bywyd gwaith, ac i brofiad gael ei drosglwyddo'n well o un genhedlaeth i'r nesaf gyda photensial ar gyfer llwybr graddol i ymddeoliad, ochr yn ochr â chefnogi gweithwyr y dyfodol. Mae newid technolegol yn trawsnewid gweithleoedd, a'r rhai â'r lleiaf o sgiliau sy'n wynebu'r risg fwyaf yn sgil pethau fel deallusrwydd artiffisial. Felly, mae angen inni weithio gyda'r undebau llafur i sicrhau bod y trawsnewidiad gwyrdd a thechnolegol yn digwydd gyda'r gweithlu ac nid iddynt. Wedi'r cyfan, ni ellir cael cyfiawnder amgylcheddol heb gyfiawnder economaidd a chymdeithasol hefyd.
Gan gydnabod yr angen am amddiffyniadau a phrosesau o fewn y system gynllunio, rhaid bod mwy y gallwn ei wneud i ddefnyddio cynllunio'n well er mwyn galluogi datblygu economaidd ag iddo werth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Boed yn system symlach ar gyfer prosiectau sy'n cyflawni meini prawf penodol neu gryfhau disgwyliadau ac atebolrwydd am werth cymdeithasol a buddion cymunedol, rydym angen mwy o elw ar fuddsoddiad preifat mewn lleoedd ac ar gyfer y bobl sy'n byw ynddynt. A beth arall y gallwn ei wneud gyda'r pwerau codi trethi sydd gennym yng Nghymru? Rhai ardrethi annomestig i bosibiliadau mwy newydd, a allant gynnig ffordd well o gymell ac ysgogi economïau lleol?
Mae'n ddealladwy fod pobl eisiau denu mewnfuddsoddiad i Gymru, ond mae'n well gwneud hynny mewn ffordd sydd wedi'i hangori yn ein cymunedau. Yn rhy aml, fe welsom enwau mawr yn dod yma i gael arian cyhoeddus, a diflannu oddi yma wedyn, weithiau o fewn y degawd. Ac er ein bod yn naturiol eisiau creu cymaint o swyddi gweddus â phosibl, mae'n rhaid iddo ymwneud ag ansawdd y swyddi hynny, nid eu nifer yn unig. Ni ddylai arian cyhoeddus fynd i gwmnïau nad yw eu hegwyddorion eu hunain yn cyd-fynd â safbwynt Llywodraeth Cymru ar waith teg. Mae'r contract economaidd wedi esblygu, ond yn fy marn i, fe allai ac fe ddylai fynd ymhellach o lawer. Dylai unrhyw sefydliad sy'n derbyn arian cyhoeddus ymrwymo o leiaf i dalu'r cyflog byw go iawn, cynnig oriau contract i'w holl weithwyr os ydynt eu heisiau, a chaniatáu mynediad at undebau llafur a hyrwyddo aelodaeth o undebau llafur.
Ddirprwy Lywydd, mae llawer y gallwn ei gynnwys ar y pwnc hwn y prynhawn yma, ond gan mai dadl fer yw hon, rwy'n mynd i ganolbwyntio gweddill fy nghyfraniad ar rôl caffael cyhoeddus, oherwydd gwn fod Ysgrifennydd yr economi yn frwd ei gefnogaeth i gaffael, fel finnau, a phŵer y sector cyhoeddus i sicrhau newid economaidd eang a photensial datblygu economaidd ac adfywio drwy adeiladu cyfoeth cymunedol yng Nghymru.
Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 oedd y ddeddfwriaeth sylfaenol gyntaf ar gaffael yng Nghymru, ac mae'n debyg y dylwn ddatgan buddiant ar y pwynt hwn, fel yr Aelod a gyflwynodd y ddeddfwriaeth honno. Ond pan gaiff rhan gaffael y ddeddfwriaeth honno ei deddfu, bydd yn golygu y bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ymgymryd â chaffael cyfrifol yn gymdeithasol, gan roi lles amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth wraidd gwariant caffael blynyddol Cymru. Mae hwnnw'n newid enfawr o'r ffordd y câi caffael ei weld yn draddodiadol, trwy lens biwrocratiaeth a'r llinell sylfaen ariannol, i gaffael fel modd o sicrhau ffyniant cyffredin. Mae cyfle i gaffael a arweinir gan y sector cyhoeddus siapio a dylanwadu ar gymaint o'r gweithgareddau y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn eu cyflawni, a sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn arwain at y budd lleol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mwyaf posibl.
Rydym yn gwybod bod cyllid cyhoeddus dan bwysau difrifol, ond gellir dadlau mewn cyfnod o her economaidd a chyfyngu cyllidol, fod pŵer caffael hyd yn oed yn bwysicach. Mae angen inni sicrhau bod pob punt a werir ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a chaffael nwyddau a gwasanaethau yn sicrhau'r gwerth a'r budd mwyaf. Mae'r sector cyhoeddus yn ganolog, nid yn unig i ddarparu'r gwasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt, ond fel sbardun economaidd allweddol. Dyma lle y cawn fwyaf o ddylanwad ar waith teg a chyflenwi darpariaeth mewn ffordd sy'n sicrhau manteision ehangach. Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i archwilio lle y gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i sector cyhoeddus cryfach.
Mae angen llwybr clir neu amserlen ar gyfer sut y gellid cyflawni'r dyhead hwn, er mwyn cyrraedd pwynt yng Nghymru lle mae'r sector cyhoeddus yn brif ddarparwr gwasanaethau cyhoeddus. Dyna fel y dylai fod, ac mewn gwirionedd, nid yw'n ideolegol, mae'n foesol, ond mae hefyd yn synnwyr cyffredin economaidd. Unwaith eto, mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn nodi camau y mae'n rhaid i awdurdodau contractio eu cymryd mewn perthynas ag allanoli gwasanaethau, a cheir darpariaeth newydd yn gysylltiedig â chymal gweithlu cyhoeddus. Ond credaf yn gryf fod angen newid sylweddol arnom i fewnoli, a thrwy weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr ac undebau llafur, man cychwyn synhwyrol fyddai cytundeb ar y cyd i beidio ag allanoli ymhellach, oherwydd realiti allanoli yw y bydd bron bob amser yn ymwneud ag elw, nid pobl. Ac mae talu a thrin pobl yn well yn gadarnhaol i gynhyrchiant, yn dda i dwf, ac yn galluogi buddsoddiad yn ein canolfannau trefol a chymunedol, trwy ddarparu sicrwydd economaidd, sefydlogrwydd a gwell pŵer gwario yn y busnesau annibynnol hynny sy'n aml yn llai o faint ac yn echelbin i fywyd lleol.
Mae iechyd gwasanaethau cyhoeddus wedi'i gysylltu'n anochel â chyfoeth ein gwlad. Mae sector cyhoeddus cryf a'r rôl, er enghraifft, y mae sefydliadau iechyd yn ei chwarae fel cyflogwyr lleol yn golygu bod ganddynt botensial fel peiriannau twf economaidd. Os ydym yn parhau i gerdded yr un llwybr economaidd, byddwn yn parhau i gyrraedd yr un cyrchfan. Mae arferion datblygu economaidd traddodiadol ac adfywio dan arweiniad datblygwyr yn methu mynd i'r afael â heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein hoes. Mae adeiladu cyfoeth cymunedol yn ddull newydd sy'n canolbwyntio ar bobl o ddatblygu economi leol ac sy'n ailgyfeirio cyfoeth yn ôl i'r economi leol, ac yn rhoi rheolaeth a buddion yn nwylo pobl leol. Gall ganolbwyntio ar gyflogaeth deg a marchnadoedd llafur teg, gan wneud i bŵer ariannol weithio i leoedd lleol, perchnogaeth luosog ar yr economi, defnydd cymdeithasol cynhyrchiol o dir ac eiddo, a modd blaengar o gaffael nwyddau a gwasanaethau.
Yn aml mae gan adeiladu cyfoeth cymunedol sefydliadau angori fel y'u gelwir wrth ei wraidd, sefydliadau sydd â phresenoldeb pwysig a lle, fel arfer trwy gyfuniad o fod yn gyflogwyr mawr, prynwyr mwyaf nwyddau a gwasanaethau yn yr ardal, rheoli rhannau mawr o dir a meddu ar asedau cymharol sefydlog. Mae enghreifftiau'n cynnwys pethau fel awdurdodau lleol, byrddau iechyd, prifysgolion, undebau llafur, busnesau mawr lleol, ac, efallai, gweithgareddau cyfunol y sector cymunedol a gwirfoddol a chymdeithasau tai. Gallant greu rhwydweithiau angori i gynyddu pŵer y pwrs cyhoeddus a thwf sy'n deg. Gallai llawer o'r strwythurau yr ydym eisoes wedi deddfu ar eu cyfer yma yng Nghymru gynnig modd i hwyluso dull newydd o ddatblygu economi ranbarthol a lleol ac adfywio ein trefi a'n canolfannau cymunedol, gan adeiladu ar ein dull Trawsnewid Trefi a 'chanol y dref yn gyntaf', ond gan greu mecanweithiau ystyrlon a rhwydweithiau o bobl sydd o ddifrif yn siapio'r lleoedd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.
Gallai'r sefydliadau angori hyn gynnwys yr asedau diwylliannol mawr yr ydym yn briodol falch ohonynt yma yng Nghymru, ac nid oes angen imi edrych ymhellach na fy stepen ddrws fy hun yn Delyn i weld enghraifft wych Theatr Clwyd. Ar hyn o bryd mae'r theatr yn cyflawni ailddatblygiad gwerth £50 miliwn, diolch i raddau helaeth i Lywodraeth Cymru. Yn 2016, roedd eu trosiant yn £4.6 miliwn ac roeddent yn cyflogi 60 o aelodau yn y cwmni gydag effaith economaidd yng ngogledd-ddwyrain Cymru o £7.2 miliwn. Y trosiant presennol yw £7.6 miliwn, gyda 153 o aelodau yn y cwmni, ac erbyn i'r datblygiad gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf, bydd ganddynt bron i 250 o weithwyr craidd, gyda'r effaith economaidd yn debygol o dyfu i dros £20 miliwn y flwyddyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Maent hefyd wedi dod â'r gwasanaethau cerddoriaeth sirol o dan eu rheolaeth, yr unig dŷ cynhyrchu yn y DU i ddarparu addysg cerddoriaeth, ac wedi rhoi'r gadwyn gyflenwi leol yn brif flaenoriaeth. Yn ogystal, mae'r datblygiad yn yr Wyddgrug hefyd yn bwriadu dod yn garbon niwtral gyda systemau gwres o'r aer, paneli solar a chynaeafu dŵr glaw yn cael eu gosod.
Siaradais mewn cynhadledd ar adeiladu cyfoeth cymunedol ychydig flynyddoedd yn ôl yn Preston, a'r hyn a'm trawodd bryd hynny oedd faint o egwyddorion y dull hwn o weithredu sy'n cyd-fynd â dull partneriaeth Cymru, gan gydnabod bod cydweithio nid yn unig yn fwy effeithiol, ond yn golygu bod mwy ohonom yn cael dweud ein dweud, a chyfran yn y materion sy'n effeithio arnom, ac yn bwysig, ar geisio atebion llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer newid. Mae'n bryd cymryd y cam nesaf a rhoi'r egwyddorion hynny ar waith, a sicrhau canlyniadau ymarferol.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddod i ben heddiw lle y dechreuais, a hynny gyda mudiad yr undebau llafur. Rwy'n datgan buddiant fel aelod balch o undeb llafur. A dweud y gwir, rwy'n aml yn dweud fy mod wedi cael fy nghreu yn y mudiad undebau llafur. Mae undebau llafur yn rym er daioni i weithleoedd ac i Gymru gyfan. Er ein bod wedi deddfu yng Nghymru ar gyfer partneriaeth gymdeithasol, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno mai man cychwyn yw hwnnw, nid y llinell derfyn. Gallwn fynd y tu hwnt i lythyren y gyfraith, gan gynnwys llais gweithwyr wrth lunio polisi ehangach, gwella gwasanaethau cyhoeddus a rhoi hwb i fusnesau ac economïau lleol. Bydd bargen newydd Llywodraeth y DU ar gyfer gweithwyr wedi'i weithredu'n llawn yn cynrychioli'r newid rhagweithiol mwyaf mewn cenhedlaeth o ran hawliau cyflogaeth, a bydd hefyd yn darparu llwyfan newydd a chryfach ar gyfer ein dull partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru.
Ond hefyd mae angen newid mwy na'n hymagwedd at fuddsoddi a datblygu economaidd; rwy'n credu bod angen newid y ffordd y siaradwn am yr economi hefyd. Rydym yn aml yn clywed sôn am dwf, ond twf i bwy? A phan fyddwn yn siarad am yr economi, mae angen inni siarad mwy am waith. Wedi'r cyfan, gwaith yw sylfaen ein heconomi, ein cymunedau a'n gwlad. Felly, er gwaethaf y cyd-destun heriol, mae cyfle gwirioneddol o hyd i gydweithio fel bod datganoli o ddifrif yn gwneud i'r economi weithio i weithwyr a Chymru. Diolch.
Mae'n debyg y dylwn wneud datganiad yma: rwyf ar fin ailymuno ag Unite. Mae llawer o'r gwaith a wnaethant gyda'r gweithwyr dur wedi dod â mi'n ôl i'r gorlan yn yr ystyr honno, ond hefyd y gwaith y maent yn ei wneud nawr ar roi cynrychiolaeth i'r gweithwyr lletygarwch ledled y DU. Yn amlwg, o'r blaen, pan oeddwn yn y maes lletygarwch, roeddwn yn aelod o Unite, felly rwy'n bwriadu ailymuno i gefnogi'r ymdrech honno.
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn cytuno â llawer o'r pethau sydd wedi'u dweud eisoes: mae'n rhaid i fewnfuddsoddiad a'r ffordd yr ydym yn ei wneud newid. Rydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle rydym yn rhoi arian i gwmnïau rhyngwladol, a gwelwn wedyn beth sy'n digwydd yn nes ymlaen. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gennych Ford, mae gennych Biomet nawr yn fwy diweddar yn gadael ar ôl derbyn arian y Llywodraeth. Gellir dweud yr un peth am Tata, hefyd: rhoddwyd arian Llywodraeth i Tata, ac rydym yn dal i golli 2,800 o swyddi yn uniongyrchol yn Tata, a 10,000 wedyn o bosibl, os cyfrwch chi'r colledion swyddi yn y gadwyn gyflenwi.
Yr un peth y byddwn i'n ei ychwanegu—ac rwy'n sôn llawer am hyn—yw: yr economi, beth yw ei bwrpas? Mae'n ymwneud â phobl, a dyna beth y dylem fod yn canolbwyntio arno. Ni fydd Cymru'n un o'r gwledydd mwyaf pwerus yn y byd yn economaidd. Nid ydym yn mynd i fod yn cystadlu â gwledydd fel yr Unol Daleithiau a Tsieina mewn ystyr draddodiadol, ac mae hynny'n hollol iawn. Ond os dechreuwn fesur beth sydd o werth i'r bobl yn ein heconomi—felly, a oes ganddynt fywyd a gwaith boddhaus mewn swyddi y maent yn eu mwynhau, a oes ganddynt incwm gwario a bywydau y gallant eu mwynhau—fe welwch chi'n eithaf cyflym fod safleoedd economïau byd-eang yn newid, mae bron â bod yn troi ar ei ben. Nid yw'r G7 bellach yn G7; mae'r G7 ymhellach i lawr y rhestr oherwydd y diffyg ffocws ar bobl.
Felly, rwy'n cytuno â llawer sydd wedi'i ddweud eisoes, ond rwy'n credu bod yn rhaid i'r ffordd yr ydym yn mesur llwyddiant economaidd newid. Mae'n rhaid inni ganolbwyntio mwy ar bobl ac mae'n rhaid inni ddechrau meddwl sut rydym yn mesur hapusrwydd, sut rydym yn mesur boddhad o fewn yr economi, oherwydd dyna'r prawf go iawn sy'n dangos a yw economi yn cyflawni go iawn i bobl ar lawr gwlad.
A gaf i hefyd ychwanegu fy mod i'n undebwr llafur balch iawn?
Diolch i chi, Hannah Blythyn, am roi munud i mi yn y ddadl hon. Rwy'n cytuno â phopeth rydych chi newydd ei ddweud. Rydym wedi cael twf mewn contractau ecsbloetiol, nid yn unig contractau dim oriau, ond llawer gydag oriau gwarantedig isel, weithiau cyn lleied â phump neu wyth awr yr wythnos, ar yr isafswm cyflog—ewch i stryd fawr yn agos atoch chi. Rydym hefyd wedi gweld preifateiddio ac allanoli contractau gwasanaethau allweddol fel gofal cartref. Os gall y contractwyr preifat wneud elw drwy wneud swyddogaeth yn rhatach, rhaid ei fod yn seiliedig naill ai ar amodau gwasanaeth mwy cyfyngedig i'r gweithwyr neu lai o oriau i'r gweithwyr; nid oes unrhyw ffordd arall o'i wneud yn rhatach. Ni ddylai unrhyw gwmni sydd â thelerau neu amodau gwasanaeth ecsbloetiol gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny'n bwysig iawn.
Yr ail beth a ddywedaf yw y dylai cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ar ddiwedd contractau, geisio dod â gwasanaethau a roddwyd ar gontract allanol yn ôl yn fewnol. Ac yn olaf, rwyf am ddweud—ac ysgrifennais am hyn yn ddiweddar—fod y nifer o gwmnïau sydd wedi dod i Gymru am bump neu 10 mlynedd, wedi cael grantiau sylweddol gan y Llywodraeth ac yna wedi gadael yn warthus.
Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch yn fawr, a diolch i Hannah Blythyn am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw ar bwysigrwydd twf economaidd a hawliau gweithwyr. Yn fy rôl weinidogol newydd, rwy'n glir iawn ynghylch yr angen i ddefnyddio pwerau trawslywodraethol mewn perthynas â'r economi. Mae angen inni feddwl yn agored ac yn greadigol er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd twf economaidd, ac rwy'n credu bod hynny wedi dod drwodd yn gryf ym mhob dim a ddywedodd Hannah, yn enwedig am y modd y defnyddiwn yr holl ysgogiadau sydd gennym a sut mae eu defnyddio'n dda i gyflawni newid go iawn. Mae'r economi yn effeithio ar bob rhan o'n bywydau ac mae'n bwysig ystyried sut rydym yn defnyddio ein dulliau fel Llywodraeth i ledaenu cyfoeth a mynd i'r afael â rhai o achosion dwfn anweithgarwch economaidd. Gallwn gymryd camau pwysig o fewn ein pwerau datganoledig i sicrhau bod dosbarthiad cyfoeth yn cynnwys pob rhanbarth ac o fudd i bob gweithiwr.
Byddaf yn gwneud datganiad ar lafar ar 8 Hydref a bydd hwnnw'n nodi'r ffordd y canolbwyntiwn ar dwf economaidd a gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i helpu i wneud y mwyaf o gyfleoedd yng Nghymru. A bydd hyn, wrth gwrs, yn cynnwys y ffordd yr awn ati i gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar dyfu ein heconomi a swyddi gwyrdd. Mae'n rhaid inni fod yn glir ble rydym yn adeiladu ohono a dyna pam rwy'n cytuno â safbwynt y Canghellor, sydd wedi dod â ffocws mawr ei angen i'r angen i ddatblygu twf yn seiliedig ar sylfeini cadarn a diogel sefydlogrwydd, buddsoddiad a diwygio, a'i ffurfio drwy bartneriaeth newydd gyda'r sector preifat.
Rydym wedi wynebu dros ddegawd o gyni gan Lywodraeth Geidwadol, ond nawr mae angen inni wynebu'r heriau i sbarduno twf a sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd yn y tymor hwy. Bydd cael Llywodraeth Lafur yn y DU yn helpu i gyflawni ein cenhadaeth economaidd a'n pedwar maes blaenoriaeth cenedlaethol: ffyniant teg a gwyrdd; llwyfan i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant; partneriaethau cryfach gyda rhanbarthau cryfach a'r economi bob dydd; a buddsoddi mewn twf. Mae'r blaenoriaethau hyn yn parhau i fod yn sail i'n dull gweithredu ac maent yn cyd-fynd â dull gweithredu Llywodraeth y DU sy'n seiliedig ar genhadaeth.
Wrth wraidd ein cryfderau cyflawni yng Nghymru mae ein partneriaethau a'n rhanbarthau. Dim ond mewn partneriaeth y gellir cyflawni twf economaidd a ffocws ar hawliau gweithwyr—ni ein hunain, Llywodraeth y DU, y sector preifat, y sector cyhoeddus ac undebau llafur yn gweithio gyda'n gilydd. Ac yn amlwg, rwyf am dalu teyrnged i Hannah am y rôl flaengar iawn y mae hi wedi'i chwarae yn y gofod hwn ers blynyddoedd lawer, a datgan buddiant personol yma fel aelod o Unison ac Unite.
Gwyddom fod arweinyddiaeth wedi'i gwreiddio'n lleol yn bwysig oherwydd mae'n golygu bod penderfyniadau a wneir ynglŷn â buddsoddi a gwasanaethau yn cael eu llywio gan flaenoriaethau rhanbarthol a lleol. Mae ein fframweithiau economaidd rhanbarthol yn helpu i ddod â phartneriaid ynghyd i gytuno ar ddull clir o weithredu. Bydd ein hymrwymiad, trwy gyd-bwyllgorau corfforedig, sy'n gwreiddio pwerau o gwmpas lles economaidd, yn helpu rhanbarthau i weithio gyda'i gilydd i fod yn fwy ymatebol i anghenion a heriau lleol, ac i ddeall y potensial sy'n gwneud pob lle yn unigryw. Dyna pam y byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn partneriaethau hirdymor sy'n gallu cysylltu arloesedd a sgiliau â chyflog gwell a llesiant. Mewn sectorau fel awyrofod, y diwydiannau creadigol ac ynni, mae ein partneriaethau wedi adeiladu gyrfaoedd parhaol sy'n cefnogi trefniadau ariannol teuluol cryfach mewn nifer o'n cymunedau.
Mae ein gwasanaethau Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn darparu cymorth a chyllid cynaliadwy, effeithiol, ac mae ein gwasanaethau ar gyfer busnesau bach yn ddigon agos i ddeall economïau lleol ac anghenion entrepreneuriaid, ac yn ddigon mawr i gael effaith. Mae hyn yn helpu i ddod ag uchelgeisiau'n fyw a thanio posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru. Mae ein Deddf cyllid llywodraeth leol newydd yn helpu i foderneiddio ein trethi annomestig a'n systemau treth gyngor, ac mae'n sefydlu cyfres o newidiadau i wella'r systemau trethi, gan eu gwneud yn decach ac i weithio'n well ar gyfer anghenion Cymru yn y dyfodol, drwy sicrhau bod trethi lleol yn adlewyrchu amgylchiadau economaidd yn fwy rheolaidd.
Wrth i'r economi fyd-eang newid, byddwn yn gwneud y mwyaf o'n pwerau datganoledig, gan ddangos yn glir ein bod yn wlad sydd o blaid busnes ac o blaid y gweithiwr, yn seiliedig ar enw da am waith teg a llesiant, ac ymrwymiad iddynt. Rwy'n credu bod hyn wedi dod drwodd yn gryf iawn yng nghyfraniad Luke Fletcher y prynhawn yma. Mae'n rhaid i'n dull o weithredu fel gwlad sydd wedi ymrwymo i economi llesant olygu rhywbeth go iawn.
Felly, rydym yn gweithio gyda Llywodraethau fel Canada a Seland Newydd fel rhan o grŵp Rhwydwaith Llywodraethau'r Economi Llesiant i ddeall y blaenoriaethau allweddol ar gyfer economi llesiant. Rydym am hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n arwain yn ein dull o weithredu, ac arloesi a gosod ffocws penodol ar rôl busnes, lle a phobl i ddiwallu ystod o anghenion.
Rhan allweddol o'n heconomi llesiant yw ein ffocws ar waith teg a phartneriaeth gymdeithasol, a dyna pam y mae ein ffordd Gymreig o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol wedi arwain at ddatblygu—ac nid oes angen imi ddweud hyn wrth Hannah Blythyn—ein Deddf partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus newydd yr oedd hi'n rhan mor allweddol o'i datblygu. Mae hon yn cynnig potensial sylweddol i gryfhau ein partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru drwy roi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ymgysylltu ag undebau llafur pan fyddant yn nodi'r hyn y byddant yn ei wneud i gydymffurfio â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Mae ein dull partneriaeth gymdeithasol yn seiliedig ar fuddion cyflogwyr ac undebau llafur, yn gweithio fel partneriaid mewn ysbryd o gydweithrediad, cyd-ymrwymiad a pharch at ei gilydd. Mae hyn o fudd i gyflogwyr yn ogystal ag undebau llafur, ac rwy'n credu bod hynny wedi dod drwodd yn gryf iawn yng nghyfraniad Mike Hedges, yn enwedig pan oedd yn sôn am gontractau dim oriau ac yn y blaen.
Gall perthynas dda gydag undeb llafur helpu busnes gyda materion diogelwch, fel bod llai o ddyddiau'n cael eu colli o ganlyniad i anafiadau cysylltiedig â gwaith a salwch galwedigaethol. Gall hefyd helpu i drefnu hyfforddiant a dysgu a datblygu, gan gynnwys mynediad at gronfa ddysgu undebau Cymru, a gall fod yn ffactor hanfodol i gyfrannu at weithlu mwy ymgysylltiedig a chynhyrchiol. Am y rhesymau hynny ac eraill, rydym yn annog pob cyflogwr i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, er eu budd hwy a lles eu gweithluoedd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio ein contract economaidd i annog mynediad at undeb llafur.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni'r uwchraddiad mwyaf i hawliau gweithwyr ers cenhedlaeth, drwy gyflawni cytundeb newydd trawsnewidiol Llafur i bobl sy'n gweithio. Rydym yn falch o ymrwymiad clir Llywodraeth y DU i gyflwyno Bil hawliau cyflogaeth, i gwmpasu meysydd fel gwahardd contractau dim oriau ecsbloetiol; gwarantu hawliau sylfaenol yn y gwaith o'r diwrnod cyntaf; ac i sicrhau gorfodaeth gryfach drwy sefydlu asiantaeth gwaith teg newydd. Bydd y mesurau hyn yn gwneud gwaith yn decach, yn fwy sicr ac yn fwy diogel i bawb, ac maent yn hanfodol i farchnad lafur ac economi iach, weithredol a chynhyrchiol. Bydd y Bil hawliau cyflogaeth yn gosod hawliau a dyletswyddau y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol ar lawer o feysydd y buom yn ceisio eu hyrwyddo a'u hannog yng Nghymru drwy ein pwerau datganoledig mwy cyfyngedig.
Gall adeiladu cyfoeth cymunedol gynnwys pobl yn weithredol wrth siapio'r economi, yn enwedig wrth inni ystyried yr angen am bontio teg, ac i sefydliadau angori wireddu cyfleoedd datblygu economaidd lleol, a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rydym am flaenoriaethu gwario arian Cymru yng Nghymru, gan gefnogi cwmnïau o Gymru lle bynnag y bo modd—cwmnïau sy'n cyflogi pobl ac sy'n darparu swyddi a hyfforddiant mewn cadwyn gyflenwi leol. Pan fyddwn yn gwario arian trethdalwyr Cymru, dylai gefnogi ein gweithlu lleol a mynd tuag at wella bywydau a chyfleoedd pobl. Mae'r ystod newydd o ddeddfwriaeth gaffael sydd bellach yn cael ei chyflwyno yn dangos y newid mwyaf mewn 30 mlynedd ym maes caffael, ac mae'n rhoi llawer mwy o gyfleoedd i ni yn y gofod hwn.
Mae ein dull o weithredu ar yr economi sylfaenol yn cynnig cyfle i gryfhau'r economi sylfaenol a byrhau ein cadwyni cyflenwi i gefnogi nwyddau uniongyrchol neu wasanaethau a brynir gennym, gan gynnwys gwneud y mwyaf o gyfleoedd caffael i alluogi cyfleoedd cyflogaeth lleol. Mae rhai enghreifftiau penodol yn cynnwys trwy GIG Cymru, lle rydym wedi gallu integreiddio meini prawf yr economi sylfaenol a gwerth cymdeithasol yn eu proses o wneud penderfyniadau caffael. Ac oherwydd y dull hwn, mae busnesau Cymru wedi sicrhau £40 miliwn o wariant ychwanegol, a oedd wedi ei golli o Gymru yn flaenorol. Rydym hefyd wedi cysylltu contractwyr lleol â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i helpu i gyflawni'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Ac fe wnaethom gefnogi grŵp o bum landlord cymdeithasol cofrestredig i nodi dros 500 o gontractwyr lleol, nad oeddent yn ymwybodol ohonynt yn flaenorol, ac mae llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i gael gwaith ychwanegol.
Byddwn yn parhau i edrych ar ffyrdd o gefnogi busnesau lle rydym wedi prif ffrydio egwyddorion yr economi sylfaenol yn narpariaeth Busnes Cymru. Bydd dau expo yn cael eu cynnal yr hydref hwn—digwyddodd y cyntaf yn Abertawe y mis hwn, a bydd y nesaf yn Llandudno ar 2 Hydref. Drwy'r digwyddiadau expo, rydym wedi casglu llif o gontractau gwerth bron i £40 biliwn i gyd ar gyfer y dyfodol, ac mae'r digwyddiadau'n galluogi busnesau lleol i ymgysylltu'n uniongyrchol ag awdurdodau contractio i ddarganfod sut y gallant gael gwaith.
Mae busnesau cymdeithasol hefyd yn elfen bwysig a deinamig o economi Cymru. Maent yn darparu swyddi yn agosach at adref lle mae eu hangen ar gymunedau. Mae busnesau cymdeithasol yn gweithio i fynd i'r afael â materion lleol trwy fasnachu, ac yna'n ailfuddsoddi'r incwm y maent yn ei ennill yn y pethau sy'n bwysig iddynt. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn parhau i gefnogi datblygiad mentrau cymdeithasol i ychwanegu at gyfansoddiad ein dulliau economaidd lleol.
I gloi'r ddadl, hoffwn dynnu sylw at arferion blaenllaw yma yng Nghymru eisoes o ran gwaith teg, caffael a phartneriaeth, sy'n helpu i rymuso hawliau cyflogwyr a gweithwyr. Wrth gwrs, mae mwy y gallwn ei wneud gyda'n gilydd, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae cyfleoedd sylweddol nawr i alinio gyda Llywodraeth y DU ar gryfhau amodau gwaith yng Nghymru. Bydd ein cenhadaeth economaidd yn parhau i fod yn llwyfan i'n cyflawniad ar draws y Llywodraeth, a chyda phartneriaid, i ateb heriau'r economi heddiw ac yn y dyfodol.
Diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:02.