Y Cyfarfod Llawn
Plenary
17/07/2024Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Y cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet sydd gyntaf y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gynyddu cyflog y sector cyhoeddus yn Nwyrain De Cymru? OQ61463
Mae gweithlu ymroddedig a brwdfrydig yn hollbwysig er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i dalu setliadau teg sy’n gwobrwyo gweithwyr ond sy’n fforddiadwy o fewn ein cyllideb.
Diolch am yr ateb yna.
Mae Plaid Cymru wedi hyrwyddo telerau ac amodau gwell ar draws y sector cyhoeddus ers amser maith. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng ngoleuni'r argyfwng costau byw, lle mae llawer o weithwyr amser llawn wedi cael eu gwthio i mewn i dlodi. Yn ôl ym mis Mai eleni, yn dilyn datganiad y Canghellor Torïaidd ar y pryd, fe ddywedoch chi,
'Mae mynd yn ôl at sefyllfa o gyni i wasanaethau cyhoeddus yn dangos difaterwch llwyr Llywodraeth y DU ynghylch rheoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol, ac yn golygu y bydd angen toriadau anymarferol i wariant yn y dyfodol.'
Gan fod gennym Lywodraeth Lafur yn Llundain bellach, pryd y gallwn weld gwelliant cyffredinol yng nghyllid gwasanaethau cyhoeddus? A ydych chi wedi cael cyfle eto i lobïo eich cyd-aelodau o'r blaid Lafur yn y Trysorlys ynglŷn â darparu’r math o setliad a fyddai’n rhoi codiad cyflog i weithwyr diwyd ac ymroddedig y gwasanaethau cyhoeddus?
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, a chefais drafodaeth gynnar iawn gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys, Darren Jones. Yn y trafodaethau hynny, tynnais sylw at gyflogau’r sector cyhoeddus fel un o’r materion pwysicaf a mwyaf arwyddocaol i ni yn Llywodraeth Cymru, ond wedyn, hefyd, un o’r ffynonellau mwyaf o bwysau ar ein cyllideb. Bydd partneriaeth gymdeithasol yn parhau i lunio ein holl gysylltiadau â’r undebau llafur, ac mae’n sail i’r trafodaethau a gawn yma yn Llywodraeth Cymru ynghylch cyflogau. Ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i barchu a gweithio gyda phroses y corff adolygu cyflogau annibynnol ar draws y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru hefyd. Fodd bynnag, mae’n werth dweud wrth fy nghyd-Aelodau y prynhawn yma na fyddwn yn cyhoeddi manylion yr argymhellion ar gyfer eleni nac yn agor ymgynghoriad ar gyflogau athrawon hyd nes y bydd Llywodraeth newydd y DU wedi cael cyfle i ystyried ei hadroddiadau a’i hymateb ei hun, o gofio pwysigrwydd ymateb Llywodraeth y DU ac unrhyw gyllid canlyniadol a allai ddod i ni yn y cyswllt hwnnw. Felly, rwy'n dweud hynny wrth fy nghyd-Aelodau y prynhawn yma.
Nid yw cynorthwywyr addysgu yn cael eu gwerthfawrogi na’u talu’n ddigonol, ac yn aml, nhw yw'r rhai cyntaf i gael eu diswyddo pan ddaw’n amser gwneud toriadau, ac nid ydynt yn cael cyflogau digonol o bell ffordd yn y sector cyhoeddus. Mae’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol eisoes yn cael eu hesgeuluso mewn ystafelloedd dosbarth mwy ac nid ydynt yn cael y cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt, ac mae parhau i gael gwared ar gynorthwywyr addysgu yn gwaethygu’r broblem ymhellach. Y llynedd, mewn arolwg gan yr Undeb Addysg Cenedlaethol, dywedodd hanner athrawon Cymru a Lloegr na allant reoli eu llwyth gwaith oherwydd diffyg cefnogaeth yn yr ystafell dosbarth o ganlyniad i doriadau. Mae angen mwy o gynorthwywyr addysgu arnom, nid llai. O ystyried eu llwyth gwaith a’r cyfan y disgwylir iddynt ei wneud, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bryd adolygu a chynyddu cyflogau cynorthwywyr addysgu a darparu’r contractau blwyddyn y maent yn gofyn amdanynt? Pa sgyrsiau a gawsoch gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ynglŷn â hyn? Diolch.
Ni fyddwn wedi cael unrhyw drafodaethau uniongyrchol gydag awdurdodau lleol neu randdeiliaid; bydd y trafodaethau hynny’n cael eu harwain gan y Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet bellach, dros addysg. Rwyf newydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â ble rydym arni mewn perthynas â chyflogau athrawon a sut y byddwn yn bwrw ymlaen â’r argymhellion mewn perthynas â’r corff adolygu cyflogau annibynnol. Fodd bynnag, o ran cynorthwywyr addysgu, rwy'n gwybod eu bod yn aml yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol, ac fel y cyfryw, nid yw Llywodraeth Cymru ei hun yn rhan o’r trafodaethau ar delerau ac amodau a chyflogau cynorthwywyr addysgu a gyflogir yn uniongyrchol gan lywodraeth leol. Yr hyn y gallwn ei wneud, wrth gwrs, yw ceisio rhoi’r setliad gorau posibl y gallwn ei roi i lywodraeth leol o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni. Ac rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth ein bod wedi bod yn ceisio gwneud hynny yn y blynyddoedd diwethaf o ran y codiadau a ddarparwyd gennym i lywodraeth leol, ond nid yw hynny am eiliad yn diystyru'r pwysau enfawr sydd arnynt.
2. Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer rheilffyrdd Cymru? OQ61448
Edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth y DU i sicrhau tegwch o ran cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ar draws ystod o feysydd. Mae penodi’r Arglwydd Hendy yn Weinidog rheilffyrdd yn gam cadarnhaol, o ystyried ei wybodaeth arbenigol a’i ddealltwriaeth o’r angen am fuddsoddiad yng Nghymru.
Rwy'n credu y byddech yn cytuno â mi fod yn rhaid codi pryderon nawr am y diffyg o £100 miliwn yng nghyllideb 2023-24, ond mewn gwirionedd, mae'r diffyg hwn yn mynd ymlaen i'r twf refeniw a ragwelir. Mae’n rhaid inni geisio denu mwy o bobl yn ôl ar y rheilffyrdd ar ôl COVID, ond yn amlwg, nid ydym yno eto, gyda dibynadwyedd y trenau, a rhai o’r amodau ar y trenau hynny weithiau. Yng ngogledd Cymru, mae cyllid canlyniadol yn ddyledus i ni yn sgil lleihau prosiect HS2. Mae angen i Lywodraeth Lafur y DU gamu i'r adwy a'i ddarparu i Gymru. Ni all Trafnidiaeth Cymru fod yn siec wag. Yn wir, mae angen inni sicrhau bod cyllidebau’n cael eu cynnal yn gynaliadwy os ydym am gael arian ychwanegol ar gyfer trydaneiddio rheilffordd arfordir y gogledd. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wneud iawn am y diffygion hyn? Sut y gallwch roi sicrwydd i ni, pan fo bylchau yng nghyllid Trafnidiaeth Cymru, y bydd y rhain yn cael eu llenwi yn gynaliadwy ac yn gyfrifol? A pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd fel y Gweinidog cyllid i gael y £350 miliwn gan Lywodraeth Lafur y DU nawr i'n helpu i wneud y gwelliannau sydd eu hangen arnom yma ar ein rheilffyrdd?
Wel, rydym yn sicr cydnabod y pwysau sydd ar y sector rheilffyrdd yma yng Nghymru, a dyna un o’r rhesymau, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, wrth ymateb i’r effeithiau ar chwyddiant, pam y gwnaethom gynnal yr ymarfer ar draws y Llywodraeth i ailflaenoriaethu arian o feysydd pwysig a gwerthfawr iawn tuag at y meysydd sydd o dan bwysau eithafol, sef y GIG a'r rheilffyrdd. Felly, bu modd inni wneud hynny yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
O ran y gogledd yn benodol, rydym wedi galw droeon am drydaneiddio prif linell reilffordd gogledd Cymru, a gwn fod hynny’n rhywbeth sydd o ddiddordeb ar draws y Senedd. Ac fe roesom groeso gofalus i'r cyhoeddiad ynglŷn â chymorth gan Lywodraeth flaenorol y DU. Fodd bynnag, yn anffodus, ni ddarparwyd unrhyw arian i Network Rail ar gyfer datblygu’r gwaith o drydaneiddio’r rheilffordd. Felly, o ran hynny, nid oedd erioed yn gyhoeddiad go iawn am raglen go iawn.
Credaf mai'r maes blaenoriaeth i ni yw gwaith bwrdd rheilffyrdd Cymru, sydd wedi nodi nifer o enghreifftiau eraill o waith uwchraddio yn y gogledd y byddai’n rhaid ei gyflawni er mwyn sicrhau’r manteision hynny i deithwyr yn gynt o lawer, a byddem yn ystyried y rheini'n gam cyntaf cyn trydaneiddio'r rheilffordd. Felly, credaf y bydd gwaith y bwrdd yn gwbl hanfodol i nodi meysydd ar gyfer buddsoddi, a byddwn yn cael y trafodaethau hynny gyda Llywodraeth newydd y DU a hefyd, wrth gwrs, gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i gytuno ar sut y gallwn wella ein rheilffyrdd ar gyfer y dyfodol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru? Diolch.
Gallaf, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Rwyf wedi cyfarfod â dau o gadeiryddion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ac wedi trafod ymateb Llywodraeth Cymru, yn enwedig i’r argymhellion a anelwyd at Lywodraeth Cymru, yn hytrach na phartïon eraill, gan gynnwys y Senedd wrth gwrs. Mae un o’r trafodaethau cynnar a gawsom yn ymwneud â’r argymhelliad penodol mewn perthynas ag arloesi—arloesi democrataidd—ac roedd hynny’n ymwneud i raddau helaeth â chynulliad dinasyddion, paneli dinasyddion, y gwahanol ffyrdd y gallwn gynnwys dinasyddion wrth wneud penderfyniadau ledled Cymru. Un o fy nghamau nesaf fydd penodi panel a fydd yn ein helpu i fwrw ymlaen ymhellach â’r gwaith hwnnw, ac mae hynny’n rhywbeth y cawsom drafodaethau â chyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru yn ei gylch, drwy’r cytundeb cydweithio, fel yr oedd ar y pryd. Ond hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau ein bod yn cael pob un o'r cyfarfodydd y byddech yn disgwyl i ni eu cael, ac yn gwneud y cynnydd y byddech am ei weld, ac yn rhoi'r flaenoriaeth ddyledus i hyn, ac wrth gwrs, roedd ein cyllideb ar gyfer eleni'n cynnwys arian ychwanegol i gefnogi'r gwaith hwnnw.
Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod llawer o bobl yn meddwl pam ar y ddaear nad yw’r comisiwn hwn wedi dod i ben eto. Cynhyrchodd adroddiad hir yn ôl ym mis Ionawr—ei adroddiad terfynol. Roedd yn amlwg yn un a drafodwyd wedyn yn Siambr y Senedd hon. Rwy’n siomedig wrth glywed eich bod wedi cael trafodaethau dwyochrog gyda Phlaid Cymru yn unig ynglŷn â'r panel yr ydych chi newydd ei grybwyll yn y Siambr hon—dyma’r tro cyntaf i hynny gael ei rannu yn y Siambr yn ôl yr hyn a ddeallaf—ac nid wyf yn gwybod pam nad ydych yn cael y drafodaeth honno gyda holl Aelodau'r Senedd, ac yn wir, gyda phob plaid wleidyddol. Ond o ystyried bod y comisiwn wedi cwblhau ei waith ym mis Ionawr, pam ar y ddaear ei fod yn dal i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar yr un gyfradd a phan oedd ar ei brysuraf?
Wel, dau bwynt o esboniad. Cafwyd y trafodaethau hynny gyda Phlaid Cymru mewn perthynas â’r trafodaethau a gawsom ynglŷn â'r gyllideb er mwyn hwyluso hynt cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rwyf wedi sôn o’r fan hon wrth y Senedd yn y gorffennol ynglŷn â'r bwriad i benodi panel neu fwrdd cynghori. Nodais y trafodaethau a gefais gyda phobl sy’n arbenigwyr ym maes ymgysylltu â dinasyddion, er enghraifft, er mwyn sicrhau, pan fyddwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n caniatáu mynediad i ni at y math o arbenigedd sydd ei angen arnom ar gyfer y dyfodol.
Fe wnaeth y Senedd hon nodi a chytuno ar y camau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i’r adroddiad, ac rydym o ddifrif ynghylch yr adroddiad hwnnw. Mae pethau ynddo y credaf y byddant yn gyffrous wrth inni ymgysylltu â Llywodraeth newydd y DU ynglŷn â'r posibilrwydd o ddatganoli pwerau i’r Senedd hon yn y dyfodol. Credaf fod yr adroddiad wedi bod yn hynod ddefnyddiol ac y bydd yn parhau i fod yn ddefnyddiol. Rwy'n credu bod y trafodaethau yr ydym yn parhau i’w cael gyda’r ddau gadeirydd yn bwysig iawn hefyd.
Mae’n ddrwg gennyf, Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid wyf yn derbyn bod eich ateb yn un da iawn, mae arnaf ofn. Fi yw llefarydd yr wrthblaid ar y cyfansoddiad ar feinciau'r wrthblaid swyddogol yma, ac nid ydych wedi cael unrhyw drafodaethau o gwbl gyda mi ers cael eich penodi’n Ysgrifennydd y Cabinet gyda’r cyfrifoldeb am y cyfansoddiad ynghylch bwrw ymlaen ag unrhyw waith. Credaf fod hynny braidd yn frawychus a dweud y gwir, yn enwedig o gofio bod hwn i fod yn gomisiwn cyfansoddiadol hollbleidiol a oedd yn ymwneud â’r holl wleidyddiaeth, os mynnwch, yng Nghymru. Gofynnaf i chi eto: pryd y byddwch chi'n estyn allan ac yn ymgysylltu'n briodol â phob plaid, sef y bwriad pan sefydlwyd y comisiwn? Pam eich bod yn credu ei bod yn briodol buddsoddi £1 filiwn arall? Rydych chi'n dweud nad oes gennych arian ar gyfer ein GIG er mwyn adeiladu ysbytai neu gyflogi mwy o feddygon a nyrsys. Rydych chi'n dweud nad oes gennych arian i fuddsoddi mwy yn ein system addysg. Rydych chi'n dweud nad oes gennych chi arian i’w fuddsoddi yn ein ffyrdd, yn enwedig yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn y gogledd. Fodd bynnag, ymddengys bod gennych ddigon o arian i’w daflu, unwaith eto, at y comisiwn hwn am 12 mis arall—cyfanswm o £1 filiwn o leiaf—ac eto, ni welaf unrhyw dystiolaeth fod unrhyw waith wedi’i wneud, ac nid ydych yn ymgysylltu â mi na fy mhlaid ynglŷn â sut mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ychwaith. Felly, a gaf i ofyn ichi dorchi eich llewys, sicrhau eich bod yn ymgysylltu'n briodol â fy mhlaid, a rhoi esboniad priodol ynglŷn â sut mae'r arian a ddyrannwyd gennych ar gyfer gwaith y comisiwn hwn yn y cyfnod ariannol cyfredol a'r flwyddyn ariannol hon yn cael ei wario, gan fod angen tryloywder ar y materion hyn?
Lywydd, nid oedd yn fwriad gennyf i sarhau na phechu drwy beidio â chynnal y trafodaethau llawnach hynny gyda meinciau'r Ceidwadwyr ar faterion yn ymwneud â'r cyfansoddiad. Fe ymdrechaf i unioni hynny cyn gynted â phosibl.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Rydym wedi trafod a dadlau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ynglŷn â chyllid HS2, a hyd nes yn ddiweddar, roeddem wedi dod i gonsensws lle credaf fod pob un ohonom wedi cytuno yn y Siambr hon fod £4 biliwn yn ddyledus i ni. Roedd hyd yn oed Jo Stevens, yn y cyfnod cyn yr etholiad fel Ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru, yn cytuno â ni ar hynny—pan nad oedd yn gwadu ei fod yn bodoli, ond mater arall yw hynny. Wrth i ganlyniad yr etholiad cyffredinol ddechrau edrych yn fwy ffafriol i’r Blaid Lafur, fe fuoch chi'n ddigon caredig i anfon nodyn esboniadol—a’i anfon ddwywaith; diolch am hynny—a oedd yn awgrymu y byddai Cymru'n cael llai o gyllid canlyniadol Barnett. Awgrymai mai dim ond llai na degfed ran o’r cyllid hwnnw oedd yn ddyledus i ni, sef £350 miliwn. Darllenais y llythyr gyda diddordeb, ac a dweud y gwir, fe'i darllenais eilwaith i geisio deall yr hyn roeddech yn ei egluro. Yn ôl fy nehongliad i o’r llythyr, mae’r disgwyliadau'n gostwng yn ddramatig o’r safbwynt y cytunwyd arno, gyda’r sylweddoliad araf y byddai’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur gyflawni rhywbeth neu y byddai’n rhaid iddi unioni cam neu roi ei harian ar ei gair. A allwch chi egluro i mi a’r bobl sy’n ei chael hi mor anodd gyda chyflwr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru pam eich bod chi a’ch cyd-aelodau o'r blaid Lafur yn Llundain wedi penderfynu ar ffigur llawer is yn sydyn iawn a pham na chafwyd yr esboniad hwn yn ystod y nifer o ddadleuon a gawsom ar y pwnc?
Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod y ffigur o £350 miliwn wedi'i grybwyll yn y dadleuon a gawsom. Credaf inni gael dadl benodol yn y Senedd mewn perthynas â HS2, ac yn y ddadl honno, esboniais y ffigur o £350 miliwn, ond wedyn, wrth i’r ddadl barhau, roeddem yn dal i glywed £4 biliwn, £5 biliwn, ac yna ar y teledu drannoeth, roeddwn yn dal i glywed £4 biliwn, £5 biliwn, a’r un peth ym maniffesto Plaid Cymru ac ati hefyd. Felly, dyna a wnaeth i mi feddwl, 'Iawn, mae angen sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r ffigur cywir', a dyna pam yr ysgrifennais at fy nghyd-Aelodau, ac yna cefais fy herio yn ei gylch gan un arall o'ch cyd-Aelodau ar feinciau Plaid Cymru, ac ailanfonais y llythyr. Nid oedd unrhyw fwriad anffafriol yn sail i anfon y llythyr, yr unig fwriad oedd sicrhau bod y ffigurau cywir yn cael eu trafod. Y rheswm pam mai rheini yw'r ffigurau cywir yw oherwydd pan welsom y prosiect HS2 gyntaf, fel y'i rhagwelwyd yn wreiddiol, gallem fod yn edrych ar y ffigurau uwch hynny yn y biliynau o bunnoedd, ac rydym wedi eu defnyddio ein hunain fel Llywodraeth Cymru. Ond wrth i’r prosiect fynd yn llai ac yn llai, ac wrth edrych ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni dros y cyfnod ers i’r prosiect ddechrau, nid wyf yn credu y gellid dadlau nad £350 miliwn yw'r ffigur.
Ond gan edrych ar y blynyddoedd i ddod, bydd popeth yn dibynnu ar y ffactorau cymharedd, ac i ba raddau y mae Llywodraeth y DU, wrth symud ymlaen, yn ystyried y prosiect yn brosiect Cymru a Lloegr. Nawr, mae gennym safbwynt clir iawn ar hynny. Rydym eisoes wedi cael rhai trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar HS2. Rydym wedi rhannu'r un nodyn esboniadol gyda Llywodraeth y DU ag y gwnaethom ei rannu gyda chyd-Aelodau o'r Senedd hefyd, ac rydym yn llawn obeithio gwneud rhywfaint o gynnydd ar hynny.
Diolch. Credaf y byddai o gymorth i ni pe bawn yn galw ar fy Mike Hedges mewnol ac yn galw arnoch chi i ddangos eich gwaith cyfrifo, gan fod y geiriad yno, ond mae'r manylion ynghylch y ffigurau—. Felly, byddai hynny o gymorth mawr i ni, yn enwedig os ydych am gamu'n ôl ar y ffigur.
Nawr, mae chwistrelliad o £350 miliwn mewn arian parod yn dal i fod yn ffigur mawr, a gallai gael effaith fawr ar ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ffaeledig. Rydych chi hefyd wedi dweud y byddai diffyg o £700 miliwn o arian parod yn setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 mewn termau real, o gymharu â’r hyn a ragwelwyd yn ystod adolygiad o wariant 2020-21. Pan adiwch chi'r ddau swm, mae ychydig dros £1 biliwn yn ddyledus i Gymru. Rwy'n siŵr fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi eisoes wedi'i ofyn yn eich sgyrsiau cynnar â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ac Ysgrifennydd Cymru, a byddwn yn siomedig pe na baech wedi gwneud hynny, ond beth oedd ganddynt i'w ddweud pan ofynnoch chi yn ei gylch, a phryd y byddant yn ei ddarparu?
Mae'n debyg na fyddwn yn dadlau bod y £700 miliwn yn ddyledus i Gymru; byddwn yn defnyddio iaith wahanol i hynny, yn yr ystyr ei fod yn ganlyniad i chwyddiant ac mae chwyddiant wedi cael yr un effaith dros y ffin. Felly, o ran hynny, nid yw fel pe bai Llywodraeth y DU wedi ein twyllo, dim ond effaith chwyddiant ar ein cyllideb ydoedd. Rydym wedi newid a diwygio ein cynlluniau gwariant yn unol â hynny er mwyn ymdopi â'r gostyngiad yng ngwerth ein cyllideb.
Mewn perthynas â’r £350 miliwn o gyllid canlyniadol a gollwyd o ganlyniad i ddosbarthiad HS2, fel rwy'n dweud, rydym wedi dwyn hynny i sylw Gweinidogion Llywodraeth y DU. Cawsom drafodaethau cynnar yn ei gylch, rydym wedi rhannu’r nodyn esboniadol ac yn y blaen, ac wrth gwrs, rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i fy nghyd-Aelodau wrth i’r sgyrsiau hynny barhau.
Byddai'n ddiddorol—beth oedd eu hymateb? A oeddent yn bositif? A oeddent yn negyddol? A oeddent yn dweud, 'Wel, na, ewch o 'ma'? Byddai'n ddiddorol gwybod hynny.
Ond cyn y ddadl ar flaenoriaethau yn nes ymlaen, lle bydd rhestr o ddymuniadau ar gyfer penderfyniadau gwariant o bob man yma yn cael ei chyflwyno i chi, byddwn yn dychmygu, beth y rhagwelwch y bydd y penderfyniad anoddaf o ran beth i'w ddadflaenoriaethu? Sut y byddwch yn gwneud y penderfyniadau hynny gyda Chabinet llai, a pha effaith a gaiff digwyddiadau ddoe ar y broses o osod y gyllideb?
Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn. Dylwn fod wedi dweud mewn ymateb i’r cwestiwn blaenorol y byddwn yn fwy na pharod i drefnu briff technegol ar gyfer fy holl gyd-Aelodau mewn perthynas â'r ffigur HS2 er mwyn darparu rhywfaint o fanylion ynglŷn â'r ffigurau hynny a sicrhau bod rhai o'n tîm Trysorlys ar gael i drafod hynny oll gyda fy nghyd-Aelodau.
O ran ble rydym arni nawr yn y flwyddyn ariannol, wrth gwrs, dyma’r adeg pan fyddwn yn dechrau mabwysiadu’r agwedd strategol at y gyllideb, a dyna pam fod gennym ein dadl dan arweiniad y Pwyllgor Cyllid y prynhawn yma, ac mae honno'n ymwneud â nodi'r prif flaenoriaethau allweddol. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid cyn toriad yr haf, fel y gwnawn bob amser, yn disgrifio peth o'r darlun macro-economaidd hefyd, a fydd, unwaith eto, yn llywio ein gwaith cynllunio. Mewn gwirionedd, rydym yn aros i’r Canghellor wneud ei datganiad nawr cyn toriad yr haf yn Senedd y DU, pan gawn well syniad o’r amserlenni, ac unwaith eto, os ydym mewn sefyllfa i gyflwyno ein cyllideb, byddwn yn ystyried gwneud hynny i gefnogi’r Senedd a’r gwaith craffu hefyd.
O ran dadflaenoriaethu, rydym yn dechrau'r trafodaethau hynny nawr, ac mae’n rhywbeth y buom yn ei ystyried dros y mis neu ddau diwethaf i archwilio sut y gallwn ymdopi o fewn y gyllideb sydd gennym, neu o leiaf ymdopi o fewn y gyllideb y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru a'u huned dadansoddi cyllid wedi awgrymu y gallai fod gennym yn y dyfodol. Hyd nes y bydd gennym y gyllideb ei hun, dyna'r rhagdybiaeth gynllunio orau sydd gennym, felly rydym yn gweithio yn unol â hynny ar hyn o bryd.
Felly, nid wyf am fanylu ar y gwaith dadflaenoriaethu, neu'r gwaith ailflaenoriaethu, yn dibynnu ar eich safbwynt, o ran y dewisiadau a fydd gan Weinidogion y Cabinet i'w gwneud, ond ar hyn o bryd, hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau ein bod yn gwneud y gwaith hwnnw er mwyn canolbwyntio o'r newydd ar y blaenoriaethau a nododd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ar flaenoriaethau’r Llywodraeth. Ac wrth gwrs, bydd angen inni ystyried yn ofalus yr holl sylwadau a wneir y prynhawn yma yn y ddadl, wrth inni barhau â'r gwaith hwnnw.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod digon o ryddhad ardrethi annomestig ar gael i fusnesau bach? OQ61453
Rydym yn darparu gwerth £134 miliwn o gymorth ardrethi annomestig ychwanegol eleni, ar ben ein gwerth dros £250 miliwn o ryddhadau parhaol. Mae talwyr ardrethi ar gyfer bron i hanner yr eiddo, gan gynnwys miloedd o fusnesau bach, yn cael rhyddhad llawn. Pan fo cymorth rhannol yn cael ei gynnwys, bydd mwy nag 80 y cant o eiddo yn elwa ar ryddhad yn 2024-25.
Rwy’n ddiolchgar i chi am eich ateb, ond mae enghreifftiau ledled Cymru o fusnesau bach yn cau eu drysau ac eto mae disgwyl iddynt dalu ardrethi busnes o hyd, er nad ydynt yn masnachu. Mae hyn yn peri rhwystredigaeth a gofid enfawr i'r perchnogion busnes hynny a'u teuluoedd sy'n talu ardrethi Cymru er nad yw eu busnes yn gweithredu mewn gwirionedd. Mae'n amlwg nad yw hyn yn deg a bod angen hyblygrwydd yn y system i gydnabod amgylchiadau unigol busnesau. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod digon o ryddhad ardrethi i'r rhai sydd ei angen, ac a allwch chi ddweud wrthym hefyd beth sy'n cael ei wneud i wneud y system ardrethi busnes yn decach yma yng Nghymru?
Felly, mae gennym becyn cymorth eang iawn i fusnesau. Rydym yn buddsoddi mwy na £0.33 biliwn eleni mewn cymorth i fusnesau mewn perthynas â'u hardrethi busnes. Byddaf yn edrych ar y canllawiau a ddarparwn i awdurdodau lleol ar gyfer cydnabod amgylchiadau unigol a busnesau sydd wedi rhoi’r gorau i fasnachu yn ddiweddar, oherwydd wrth gwrs, mae gan awdurdodau lleol lefel dda o hyblygrwydd lleol er mwyn gallu cefnogi busnesau. Ond fe ofynnaf i swyddogion edrych yn benodol ar y canllawiau ar hynny, gan y credaf fod pwynt pwysig wedi’i wneud, yn sicr.
O ran y dull o ddiwygio ardrethi, pasiwyd Cyfnod 4 ein deddfwriaeth ddoe, ac mae’n nodi cyfeiriad diwygio ar gyfer ardrethi annomestig a’r dreth gyngor. Ar ardrethi annomestig, mae’n cyflwyno cylch ailbrisio tair blynedd. Mae hynny'n sicrhau cydbwysedd felly rhwng cael prisiadau eiddo cyfredol, ond yn darparu sefydlogrwydd i fusnesau hefyd. A’r cylch tair blynedd hwnnw oedd yr hyn a awgrymwyd i ni gan y sector busnes, felly mae hynny wedi cael ei groesawu'n fawr. Ond ochr yn ochr â hynny, rydym wedi gofyn i Alma Economics gynnal adolygiad o'r holl ryddhadau a ddarparwn i fusnesau, ac yna bydd swyddogion yn eu hystyried a byddwn yn ystyried argymhellion ar gyfer newidiadau posibl yn y dyfodol. Ond credaf fod llawer yn digwydd ar hyn o bryd ym myd cyllid llywodraeth leol, ond credaf y bydd yr adolygiad o’r rhyddhadau yn ein helpu i nodi’r camau nesaf, ac wrth gwrs, bydd y ddeddfwriaeth a aeth drwy Gyfnod 4 ddoe yn rhoi’r dulliau inni allu bod yn fwy ymatebol i fusnesau hefyd.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Os caf aros gyda'r mater a godwyd gan Paul Davies, gwyddom fod busnesau bach a'r sector lletygarwch yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol am nad ydynt yn cael y rhyddhad ardrethi busnesau bach o 75 y cant yr arferent ei gael. Ac rwyf newydd glywed yr hyn a ddywedoch chi am yr adolygiad, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn. Fe wyddom mai busnesau bach yw anadl einioes ein cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, felly roeddwn yn meddwl tybed a ydych chi wedi ystyried ailedrych ar y toriad penodol hwnnw i ryddhad ardrethi busnes, ac a wnewch chi ymrwymo i gyfarfod â’r Ffederasiwn Busnesau Bach er mwyn trafod yr effaith ar fusnesau bach, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. O ran y rhyddhad ardrethi ychwanegol a ddarparwn i fusnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden, sef y rhyddhad penodol y cyfeirioch chi ato, ni fwriadwyd erioed iddo fod yn rhyddhad parhaol; fe’i cyflwynwyd yn ystod pandemig COVID-19 i gydnabod yr effeithiau penodol, difrifol iawn yr oedd y pandemig yn eu cael ar y busnesau hynny, ac yna cafodd ei leihau i 75 y cant wrth inni gefnu ar y pandemig, ac roedd hynny i gydnabod yr argyfwng costau byw, a oedd, unwaith eto, yn effeithio ar y busnesau hynny. Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, fodd bynnag, rydym wedi cyflwyno rhyddhad ardrethi o 40 y cant yn hytrach na 75 y cant er mwyn tapro'r rhyddhad. Ni chredaf ei bod yn gynaliadwy i fusnesau fod yn ddibynnol ar ardrethi busnes dros dro yn y tymor hwy, gan y gall y rhyddhadau dros dro hynny ddod i ben ar unrhyw adeg, sy'n rhan o'r syniad ynghylch tapro'r rhyddhad hwnnw.
Ond yn sicr, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â'r Ffederasiwn Busnesau Bach i drafod effaith y newidiadau hyn, ond wedyn hoffwn bwysleisio hefyd nad oedd yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn, fe'i gwnaed gyda dealltwriaeth o effaith cyllideb Cymru yn ei chyfanrwydd a’r pwysau aruthrol ar y gwasanaeth iechyd. Oherwydd penderfyniadau anodd fel hwnnw, bu modd inni ddarparu cynnydd o oddeutu 4 y cant i’r GIG yn y gyllideb o gymharu ag 1 y cant yn Lloegr, ac mae hynny, yn anffodus, wedi golygu dewisiadau anodd mewn rhannau eraill o’r Llywodraeth.
4. Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd y newid yn Llywodraeth y DU yn ei chael ar amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru? OQ61480
Un o’r camau cyntaf a gymerwyd gan y Canghellor oedd gofyn i Drysorlys EF ddarparu asesiad o gyllid cyhoeddus cyn toriad yr haf yn senedd y DU. Bydd hefyd yn cadarnhau ei chynlluniau cyllidol, gan gynnwys pennu dyddiad ar gyfer y gyllideb. Bydd y sicrwydd cynnar hwn yn helpu i lywio ein cynlluniau.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Y bore yma, nododd eich arweinydd, Prif Weinidog y DU, ei gynllun ar gyfer y genedl yn Araith y Brenin, gan adeiladu ar yr addewidion a wnaed yn yr etholiad cyffredinol, ac addo cael trefn ar bopeth, o’r rheilffyrdd i’r GIG. Ni waeth o ble y mae'n mynd i swyno'r arian hwn, gallai'r addewidion arwain at wariant sylweddol yn Lloegr, ac felly bydd hynny'n arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau cynnar a gawsoch gyda Thrysorlys EF am yr effaith ar gyllideb Cymru, ac a yw’r posibilrwydd o gyllid ychwanegol i Gymru yn golygu eich bod yn ystyried gohirio cyllideb Cymru hyd nes y ceir darlun cliriach o faint y grant bloc?
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Roedd gennyf innau hefyd gryn ddiddordeb yng nghynnwys Araith y Brenin heddiw. Un o’r pethau a ddaliodd fy sylw, sy’n rhywbeth y bûm yn galw amdano, yw’r Bil cyfrifoldeb cyllidebol. Bydd hynny’n ei gwneud yn ofynnol i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddarparu asesiad annibynnol o unrhyw gynlluniau treth a gwariant mawr. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny’n golygu na fyddwn byth eto'n gweld mini-gyllideb arall fel un Liz Truss oherwydd ymagwedd Llywodraeth y DU at gyfrifoldeb cyllidol, felly credaf fod hynny i’w groesawu yn Araith y Brenin heddiw.
O ran y dyddiadau ar gyfer y gyllideb, nawr, mae ein Rheolau Sefydlog ein hunain yn ei gwneud yn ofynnol inni ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Cyllid cyn toriad yr haf, felly ar hyn o bryd, rydym wedi dweud y byddwn yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer y gyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr, a'r gyllideb derfynol ar 25 Chwefror. Os cawn gyllideb gynharach, yna byddwn yn sicr yn ystyried ei chyflwyno yn gynharach fel y gall y Senedd graffu arni yn gynharach, ond ni fyddwn yn gwybod y manylion hyn, o leiaf hyd nes i’r Canghellor wneud ei datganiad cyn toriad yr haf. Ond nid wyf yn rhagweld y byddwn mewn sefyllfa lle mae'n rhaid inni ohirio'r gyllideb.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau trethiant er budd cymunedau ledled Cymru? OQ61455
Un o’n hegwyddorion allweddol o ran treth yw codi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl. Mae trethi datganoledig a lleol yn codi refeniw hanfodol sy’n cefnogi ac sydd o fudd i gymunedau ledled Cymru. Yn 2023-24, cododd y trethi hyn dros £6 biliwn i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, roeddwn yn frwd fy nghefnogaeth i gynlluniau i gyflwyno treth ar dir gwag pan gawsant eu cynnig gan Lywodraeth Cymru yn ystod y Senedd ddiwethaf. Gallent fod yn ddull hynod bwerus i hyrwyddo adfywio a mynd i'r afael â mannau problemus ('grot spots') sy'n falltod ar ein cymunedau lleol. Roeddwn yn siomedig pan ataliwyd ymdrechion i gyflwyno hyn oherwydd diffyg cytundeb gan Lywodraeth ddiwethaf y DU, felly gyda Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan, Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gennych unrhyw gynlluniau i ailystyried y drafodaeth hon fel y gallwn fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflwyno treth ar dir gwag yma yng Nghymru?
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, a hoffwn gydnabod cefnogaeth gyson Vikki Howells i dreth ar dir wag, gan gydnabod ei bwysigrwydd i adfywio cymunedau. Rwy'n hoffi'r cyfeiriad at 'grot spots'—rwy'n credu y byddem yn bendant eisiau mynd i'r afael â'r rheini.
Fe dreuliasom flynyddoedd, yn llythrennol, yn ceisio ymgysylltu'n briodol â Llywodraeth y DU ar hyn. Fe wnaethom ddilyn yr holl gamau a osodwyd ar ein cyfer yn y broses a osodwyd ar ein cyfer i ddatganoli pwerau dros drethiant yma yng Nghymru. Ond ni wnaethom gynnydd am fod Llywodraeth y DU, rwy'n credu, eisiau penderfynu a oedd yn hoffi bwriad y polisi, a oedd yn hoffi'r dewisiadau ar gyfer y ddeddfwriaeth. Mater i'r Senedd yw hynny wrth gwrs. Rwy'n gwbl hyderus, gyda Llywodraeth newydd yn y DU, y byddwn yn cael sgwrs wahanol iawn ac un sy'n parchu datganoli a rôl y Senedd hon, ac mae'n sicr yn rhywbeth y byddem eisiau mynd ar ei drywydd gyda'r Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys newydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, gyda phob parch, byddwn yn dadlau nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau trethiant er budd llawer o bobl. Gadewch inni edrych ar y dystiolaeth. Yng Nghymru, mae ein sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn talu dwywaith cymaint mewn ardrethi busnes â'u cymheiriaid yn Lloegr, er bod llawer o fusnesau filltiroedd yn unig, neu mewn rhai achosion, led afon, i ffwrdd oddi wrth Loegr.
Mae prynwyr tro cyntaf yng Nghymru hefyd yn cael eu gorfodi i dalu cyfraddau uwch o dreth trafodiadau tir o'i gymharu â'r dreth stamp yn Lloegr, gan nad oes gennym ryddhad penodol i'n pobl ifanc. Golyga hyn y gallai pobl ifanc yng Nghymru dalu hyd at £14,000 yn fwy ar eiddo o werth tebyg na phe baent yn Lloegr. Felly, er bod prisiau tai yn rhatach yma yng Nghymru, mae angen inni sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn gosod rhwystrau ariannol diangen i ddyheadau pobl. Gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddiwygio'r sefyllfa annheg hon a sicrhau nad yw pobl ifanc a busnesau yn cael eu trethu'n annheg am fyw yma yng Nghymru?
Rwy'n credu mai'r pwynt yma yw ein bod yn sôn am fusnesau sydd wedi'u lleoli yma yng Nghymru a phobl sy'n byw yma yng Nghymru, ac yng Nghymru, mae'r sylfaen drethu yn wahanol iawn. Felly, rydym yn wahanol iawn i Loegr o ran ein hardrethi annomestig. Mae gennym gyfran lawer uwch o eiddo bach gyda gwerthoedd ardrethol isel, felly mae'n hollol iawn fod ein system ardrethi yn cydnabod hynny. Ac wrth gwrs, fe wnaethom gapio'r lluosydd ar 5 y cant yma yng Nghymru, ac yna fe gyfyngodd hynny y bwlch rhwng y lluosydd yn Lloegr. Ond nid yw hwnnw ond yn un ffactor sy'n penderfynu beth fydd bil trethdalwr wrth gwrs, ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Ffactor arall sy'n bwysig iawn yw gwerth ardrethol yr eiddo. Nawr, mae gan ein sylfaen drethu yng Nghymru werth ardrethol cyfartalog o tua £19,000. Mae hynny'n wahanol iawn i Loegr, sydd â gwerth cyfartalog llawer uwch, tua £34,000. Felly, rwy'n credu mai dyna yw'r ffactor allweddol sy'n sbarduno gwahaniaeth mawr yn atebolrwydd cyfartalog trethdalwyr. Felly, nid wyf yn credu ein bod yn cymharu dau beth cyfartal pan edrychwn ar y sylfeini trethu yng Nghymru a Lloegr.
Ac yna, mewn perthynas â'r dreth trafodiadau tir, unwaith eto mae'n sefyllfa wahanol iawn yma yng Nghymru. Ym mis Hydref 2022, fe wnaethom godi'r isafbwynt y codir y dreth trafodiadau tir arno o £180,000 i £225,000. Gwnaed hynny er mwyn helpu perchnogion tai ar draws Cymru. Mae trothwy dechrau'r dreth trafodiadau tir yn uwch na'r pris cyfartalog o £208,000 a'r pryniant tro cyntaf cyfartalog o £180,000, felly mae hynny'n golygu nad yw'r mwyafrif o brynwyr tai yng Nghymru mewn gwirionedd, oddeutu 60 y cant, ac mae hynny'n cynnwys y rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf, yn gorfod talu unrhyw dreth trafodiadau tir o gwbl. Felly, fe welwch fod ein systemau yma yng Nghymru wedi'u teilwra i gyd-destun penodol Cymru, ond maent hefyd yn decach, yn enwedig o ran y dreth trafodiadau tir, sydd o fudd i bawb, nid prynwyr tro cyntaf yn unig, cyn belled â'u bod yn prynu eiddo o fewn y trothwy.
6. Faint o gyllid ychwanegol y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn disgwyl i Lywodraeth newydd y DU ei ddarparu i Gymru? OQ61457
Ar hyn o bryd, nid oes gan Lywodraeth Cymru setliad cyllidebol y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol. Mae Canghellor y Trysorlys wedi dweud y bydd hi'n nodi manylion ynglŷn ag amseriad cyllideb y DU cyn toriad yr haf. Byddwn yn gwybod mwy am y rhagolygon ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru ar ôl hynny.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ers i mi gyrraedd yma yn 2021, rydych chi a Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru wedi dweud ar sawl achlysur fod angen mwy o arian ar Lywodraeth Cymru ac y byddai Llywodraeth Lafur yn y DU yn agor y tapiau ac yn dychwelyd mwy o arian i Gymru. Yn amlwg, ni fydd hynny'n digwydd, yn ôl y sgyrsiau y tybiaf eich bod chi wedi'u cael gyda Rachel Reeves a'r hyn y mae hi wedi bod yn ei ddweud yn y cyfryngau. Ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod—. Rydych chi'n amlwg wedi cael trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Faint o gyllid ychwanegol y credwch chi, fel rhagdybiaeth, y byddant yn ei ddarparu i Gymru, a sut rydych chi'n bwriadu sicrhau y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario ar ofal iechyd, addysg a datblygu economaidd yma yng Nghymru, yn hytrach nag ar brosiectau porthi balchder Llywodraeth Cymru, fel cael mwy o wleidyddion yn y lle hwn, neu brosiectau eraill sydd gennych mewn golwg yn ôl pob tebyg, na fyddant o fudd i bobl Cymru mewn gwirionedd?
Wel, hoffwn gywiro James Evans, oherwydd nid wyf yn credu fy mod erioed wedi defnyddio'r ymadrodd 'agor y tapiau' mewn perthynas â Llywodraeth newydd y DU pan ddaeth, o ran yr hyn y gallai hynny ei olygu i ni, ac ni fyddwn erioed wedi defnyddio'r ymadrodd hwnnw, oherwydd fe wyddom yn iawn beth yw'r sefyllfa y mae Llywodraeth y DU wedi'i hetifeddu, sy'n waeth hyd yn oed na'r disgwyl a'r hyn a ragwelwyd yn ôl pob tebyg. Fel y dywedaf, nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd faint o gyllid ychwanegol a allai fod ar gael i ni yn y blynyddoedd i ddod. Y cyfan y gallwn seilio ein tybiaethau arno ar hyn o bryd yw'r hyn a ddywedodd y Canghellor blaenorol ym mis Mawrth, a rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol mewn perthynas â threthi ac yn y blaen, ac yna hefyd yr hyn a ddywedwyd yn yr atodiad yng nghefn maniffesto Llafur, sy'n nodi cyllid ychwanegol posibl hefyd. Felly, mae uned ddadansoddi cyllidol Canolfan Llywodraethiant Cymru, fel y nodais yn gynharach, wedi edrych ar y ddau ffigur hynny ac wedi darparu rhai rhagdybiaethau cynllunio, ond ar y pwynt hwn, fel y dywedaf, byddwn yn gwybod mwy am y sefyllfa pan fydd y Canghellor yn gwneud ei datganiad, ac yna byddwn yn edrych at ddyddiad cyllideb yr hydref, ac ar y pwynt hwnnw bydd gennym yr eglurder a'r sicrwydd hwnnw, ond rydym yn gwneud cynlluniau'n seiliedig ar y rhagdybiaethau gorau posibl sydd gennym.
7. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth newydd y DU ynglŷn â chyllid teg i Gymru? OQ61481
Cefais alwad ffôn adeiladol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ddydd Mercher diwethaf, ac yn ystod yr alwad honno fe wnaethom gyffwrdd â sawl pwnc, gan gynnwys cyllid teg i Gymru. Bydd cyfle i gael trafodaeth fwy sylweddol gyda'r Prif Ysgrifennydd yn y dyfodol agos.
Diolch am hynna.
Mae gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau Cymru yn wynebu bylchau syfrdanol yn y gyllideb. Mae cyngor Merthyr Tudful yn rhagweld bwlch o £8 miliwn, ac adroddwyd yn gynharach eleni fod Caerffili yn ceisio arbed £30 miliwn er mwyn gosod cyllideb gytbwys. Nawr, nid oes dim o hynny'n anochel. Rydym wedi cael blynyddoedd o gyni creulon, ond mae gofidiau economaidd Cymru yn cael eu gwaethygu gan y fformiwla gyllido drychinebus o annheg yr ydym wedi ein dal ynddi—gafael haearnaidd Barnett ar ein heconomi. Felly, rwy'n falch o glywed eich bod wedi cael y drafodaeth gychwynnol honno. A allech chi ddweud wrthyf, os gwelwch yn dda, pryd y bydd y trafodaethau pellach hynny—byddwn yn eu hystyried yn rhai brys—pryd y bydd y trafodaethau brys pellach hynny yn digwydd gyda Llywodraeth y DU Keir Starmer, i sefydlu fformiwla gyllido sy'n seiliedig ar anghenion i Gymru, i ddod â'r cyni creulon i ben o'r diwedd, oherwydd mae'r holl doriadau hyn i gyllidebau a'r creulondeb—oherwydd mae'n mynd i arwain at greulondeb—yn deillio o ddewisiadau gwleidyddol yn y pen draw.
Wel, rydym yn gobeithio cael cyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid cyn diwedd y mis hwn. Bydd yn cael ei gynnal yn Belfast y tro hwn, oherwydd un o gryfderau'r peirianwaith rhynglywodraethol o amgylch cyllid yw ein bod yn symud rhwng yr holl wledydd er mwyn cael y trafodaethau hynny. Felly, bydd hynny'n digwydd cyn diwedd y mis, ac yn amlwg byddaf yn cael cyfarfod dwyochrog gyda'r Prif Ysgrifennydd yn y cyfarfod penodol hwnnw.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae pob plaid yn Senedd Cymru yn amlwg yn cytuno y dylai Cymru dderbyn ei chyfran deg o symiau canlyniadol HS2. Mae'n fater a godais yn uniongyrchol gyda Llywodraeth flaenorol San Steffan, ac rwy'n gwybod bod rhai o fy nghyd-Aelodau wedi gwneud hynny hefyd. Fodd bynnag, ers dechrau ar ei swydd o fewn yr wythnosau diwethaf, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, wedi gwrthod darparu unrhyw wybodaeth bellach am y cyllid ychwanegol hwn. Pan gafodd rhan Birmingham i Fanceinion o HS2 ei ganslo, penderfynodd Llywodraeth Geidwadol y DU ddefnyddio £1 biliwn o'r arbediad i drydaneiddio prif linell rheilffordd gogledd Cymru. Ers i Keir Starmer fynd i Stryd Downing, nid oes unrhyw sôn o gwbl wedi bod am yr hyn y mae Llafur yn bwriadu ei wneud mewn perthynas â'r prosiect trydaneiddio pwysig hwn. Rwyf hefyd yn ystyried na soniwyd gair am hyn yn Araith y Brenin. Clywais eich ymateb i fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders am fwrdd rheilffyrdd Cymru, felly hoffwn wybod—fel Llywodraeth Lafur Cymru yma yng Nghymru—beth yw eich blaenoriaeth ar gyfer bwrdd rheilffyrdd Cymru wrth symud ymlaen, a hoffwn wybod hefyd a fyddwch chi'n pwyso am gyllid tecach mewn perthynas â HS2 yma yng Nghymru, neu a ydych chi'n bwriadu cymryd cam yn ôl gan fod eich plaid chi wedi cyrraedd Rhif 10 bellach? Diolch.
Rwy'n credu mai un pwynt pwysig i'w wneud, er bod Llywodraeth flaenorol y DU wedi cyfeirio at gyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell rheilffordd gogledd Cymru, yw na nodwyd unrhyw gyllid erioed ar gyfer hynny mewn gwirionedd, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cofnodi hynny. O ran gwaith y bwrdd, i'r graddau y mae'n ymwneud â gogledd Cymru, credaf mai'r hyn yr ydym eisiau ei weld mewn gwirionedd yw cynllun sydd wedi'i ddatblygu'n briodol ar gyfer buddsoddi yng ngogledd Cymru. Ac rydym yn credu, yn y lle cyntaf, mai blaenoriaethau seilwaith fyddai'r rheini, yn hytrach na thrydaneiddio, am mai dyna'r math o beth sy'n gallu denu mwy o bobl i ddefnyddio rheilffyrdd unwaith eto. Felly, dyna'r meysydd blaenoriaeth, ac rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU ac eraill ar y gwaith hwnnw.
8. Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cyllid ychwanegol i sefydliadau iechyd cymunedol? OQ61459
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o'r broses gyllidebol flynyddol a'n gwaith monitro rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys trafodaethau ar baratoadau ar gyfer cyllideb ddrafft 2025-26, gan gydnabod bod cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn heriol tu hwnt, wrth symud ymlaen.
Diolch am yr ateb.
Mae un o fy etholwyr, Joanne, yn rhedeg Empower Inspire, sy'n gwneud gwaith anhygoel gydag unigolion sy'n byw gyda dementia. Nawr, sefydlwyd Empower Inspire ym mis Ionawr 2022 i ddarparu cefnogaeth gymdeithasol fawr ei hangen i bobl sy'n dal i deimlo effeithiau ynysu o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae sefydliad Joanne yn derbyn atgyfeiriadau gan awdurdodau lleol a'r bwrdd iechyd lleol yn rheolaidd, ond nid yw'n cael unrhyw gyllid i ateb y galw ychwanegol hwn. Maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl, ond mae'n anodd iawn talu treuliau fel cyflogau a rhenti tra bo'n gorfod gwneud ceisiadau am gyllid yn barhaus. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru o leiaf yn cynnig cymorth i ddarparu adnoddau digonol i sefydliadau fel un Joanne, yn enwedig o gofio eu bod yn helpu i leddfu'r pwysau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd?
Rwy'n gwybod y gellir comisiynu cwmnïau buddiannau cymunedol a busnesau eraill o fewn clystyrau gofal sylfaenol i ddarparu gwasanaethau lleol i'r gymuned, ac rydym eisiau gweld mwy o fyrddau iechyd lleol a gwasanaethau llesiant yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaethau hynny, y mae'n gwneud synnwyr i'w darparu ar gyfer poblogaeth glwstwr. Gallai'r rheini gynnwys sefydlu cwmni buddiannau cymunedol, er enghraifft. Nid wyf yn siŵr ai dyna'r model sydd gan eich etholwr Joanne, ond os caf, hoffwn ofyn i chi ysgrifennu ataf gyda gwybodaeth bellach am yr heriau penodol sy'n wynebu Joanne a'i busnes o ran ei gallu i dderbyn atgyfeiriadau a darparu gwasanaeth iddynt. A byddaf yn sicrhau ei fod wedyn yn cael sylw'r Gweinidog iechyd, sef y Gweinidog cyfrifol yn y mater hwn.
Mae cwestiwn 9 [OQ61454] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 10, Jenny Rathbone.
10. Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i gynyddu’r cyllid ar gyfer diwylliant yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru? OQ61475
Yn ddiweddar, cytunais i ddyrannu £5 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i'r prif grŵp gwariant diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Fe fyddwch yn ymwybodol fod y sector diwylliannol wedi cael sawl ergyd o ganlyniad i'r cyllid anodd ar gyfer y sector addysg uwch, sydd wedi effeithio ar angen Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i ystyried a fyddant yn cau'r adran iau ai peidio, ond yn yr un modd, gwn fod Opera Cenedlaethol Cymru hefyd wedi'i chael hi'n anodd o ganlyniad i'r ffaith bod Cyngor Celfyddydau Lloegr wedi gwrthod caniatáu iddo berfformio mewn llefydd fel Birmingham, lle roeddent yn llwyddo i gael llawer iawn o incwm. Felly, rwy'n sylweddoli ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn yn y gyllideb eleni, ond rwy'n teimlo nad yw'r cydbwysedd yn hollol gywir, ac roeddwn i'n meddwl tybed pa gyfle y gallai fod i unioni hynny yn eich paratoadau ar gyfer y gyllideb atodol.
Byddai angen i unrhyw benderfyniadau yn hynny o beth gael eu gwneud o fewn y prif grŵp gwariant penodol, ond gallaf ddweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i drafod ei gynigion, gyda fy nghyd-Aelod Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rwy'n credu bod y cyfarfod hwnnw wedi'i gynnal yn gynharach yr wythnos hon, felly byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny i Jenny Rathbone.
11. Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ynglŷn â chynyddu’r dyraniadau cyllidebol ar gyfer taclo’r argyfwng tai? OQ61474
Byddaf yn parhau i gael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio fel rhan o'n proses gyllidebol flynyddol, ac mae monitro rheolaidd hefyd yn mynd rhagddo mewn perthynas â'r portffolio hwnnw. Er fy mod yn cydnabod yr heriau i'r sector, mae cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn heriol dros ben.
Wrth gwrs, does gennym ni ddim Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol a thai ar hyn o bryd, nag oes? Yn ôl un amcangyfrif, mae tai gwael yn costio £95 miliwn y flwyddyn i’r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, a dim ond tua 4 y cant o gyfanswm gwariant y Llywodraeth sydd yn mynd ar dai. Sut, felly, y mae cyfiawnhau’r lefel gymharol isel o wariant presennol, o gofio'r arbedion ariannol y gallai ddeillio o gynyddu’r buddsoddiad, heb sôn am y buddion i bobl Cymru?
Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r cyllid a ddarparwn ar gyfer tai yn gyfalaf, ac yn yr ystyr hwnnw mae'n cymryd cyfran lawer mwy o'r gyllideb gyfalaf. Ac mewn gwirionedd, mae ein hymrwymiad i dai cymdeithasol yn amlwg wedi'i ategu gan ein cyllid o dros £1.4 biliwn yn ystod tymor y Senedd hon. Mae hwnnw'n gyllid sylweddol, yn enwedig o ystyried bod ein cyllideb gyfalaf mewn termau real wedi bod yn gostwng. Mae ein hymrwymiad i dai cymdeithasol yn gwbl glir a bydd yn parhau. Credaf fod y gwaith yr oedd y Gweinidog blaenorol yn ei wneud mewn perthynas â'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro a Chynllun Lesio Cymru hefyd yn arbennig o bwysig, ac yn ddiweddar fe agorodd hi'r rhaglen gyfalaf ar gyfer llety dros dro ar gyfer 2024-25 gyda gwerth dangosol o £100 miliwn. Unwaith eto, mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol iawn i geisio darparu llety mwy hirdymor o safon i bobl sydd mewn tai dros dro ar hyn o bryd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Hefin David.
1. Sut bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU i wella ansawdd dŵr afonydd yng Nghymru? OQ61471
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch iawn o weld bod ansawdd dŵr yn cael ei amlinellu'n glir fel un o flaenoriaethau allweddol Ysgrifennydd Gwladol newydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Rwyf eisoes wedi cynnal trafodaethau cynnar gyda Llywodraeth newydd y DU a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda nhw ar ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer ansawdd dŵr gwell.
Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi sylwi pa mor gyflym y mae'r trafodion yn mynd rhagddynt heddiw, felly rwy'n falch fy mod wedi cyrraedd mewn pryd. [Chwerthin.]
Mae Llywodraeth Cymru wedi arloesi gydag uwchgynadleddau llygredd afonydd, gan ddwyn ynghyd rhanddeiliaid allweddol fel rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr, datblygwyr, llywodraeth leol, undebau ffermio, y byd academaidd a'r sectorau amgylchedd. Rwy'n credu bod y rhain yn gyfarfodydd allweddol i'w cynnal ac rwy'n deall bod pedwar wedi digwydd hyd yma ac y bydd y nesaf yn cael ei gynnal yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf. O ystyried diddordeb y cyhoedd yn hyn o beth, pa gynnydd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gobeithio ei wneud yn ystod yr uwchgynhadledd llygredd afonydd yr wythnos nesaf?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol hwnnw, ac yn wir, rydym eisoes wedi cyflawni cryn dipyn ers cynnal yr uwchgynhadledd llygredd afonydd gyntaf ymhell yn ôl yn 2022, ac rydym wedi cael y cyfarfodydd rheolaidd hynny fel y dywedwch. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae partneriaid wedi gweithredu yn barod, ond yn y Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf—sy'n mynd i fod yn wythnos brysur i mi, rwy'n deall; dyddiadur llawn dop—mae'n cynnwys yr uwchgynhadledd llygredd afonydd ddiweddaraf. Mae'n canolbwyntio ar y rôl hanfodol y gall amaethyddiaeth ei chwarae.
O edrych ar y data, mae'n amlwg iawn y gellir priodoli cyfran sylweddol o achosion, o lygredd ffosfforws yn arbennig, mewn llawer o'n hafonydd ardaloedd cadwraeth arbennig sy'n methu, i ddefnydd tir gwledig. Felly, bydd hwn yn gyfle gwych yn y Sioe Frenhinol i'r gymuned amaethyddol a phartneriaid barhau i feithrin y dull rhagweithiol hwn tuag at stiwardiaeth afonydd, dangos ein bod ni i gyd ynddi gyda'n gilydd a bod yr ateb gan bawb ohonom, i gydnabod y rôl hanfodol i amaethyddiaeth yn enwedig, a sut y gallwn ni i gyd annog a chefnogi'r sector, i gymryd perchnogaeth ar yr effaith ar ein dyfrffyrdd—yr ardaloedd cadwraeth arbennig yn enwedig—a hefyd i gyflawni ymrwymiad ar y cyd ar sut i ddatblygu'r gwaith hwn dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd yn gyfle da iawn i gynrychiolwyr y sector ddangos sut y gallant a sut y byddant yn gyrru'r newidiadau sydd eu hangen arnom er budd yr afon a'r sector ei hun.
Mae'n werth nodi hefyd ein bod eisoes wedi ymrwymo lefelau sylweddol o gyllid ar gyfer gweithredu gofynion rheoleiddio newydd a gynlluniwyd i ddiogelu'r amgylchedd, ac rydym hefyd yn bwriadu darparu cyllid sylweddol drwy'r dull cydweithredol rydym yn ei fabwysiadu i gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ond mae'n rhaid inni fod yn glir fod yn rhaid i bawb chwarae eu rhan ac ni ddylai llygredd nas caniateir fod yn digwydd o gwbl, a rhaid i bob busnes fferm fod yn gyfrifol am ei atal hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd yn gwybod yn iawn fod llygredd afonydd yn bwnc dadleuol iawn ac yn fater y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Yn 2023, ar sawl achlysur, fe wnaeth Dŵr Cymru ddympio carthion amrwd yn afon Gwy yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, yn ogystal â Rhymni, yn etholaeth Hefin David a fy rhanbarth i, ac er bod Hefin David wedi ceisio tynnu sylw at Lywodraeth y DU a'r hyn y gallant hwy ei wneud i helpu, fe wyddom i gyd fod y cyfrifoldeb am ansawdd dŵr yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, corff y mae'r Llywodraeth Lafur hon, fel y gwyddom i gyd yn rhy dda, wedi bod yn gyfrifol amdanynt ers oes pys.
Felly, gyda hyn mewn golwg, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid monitro gollyngiadau carthion amrwd yn agosach ac y dylid rhoi sancsiynau llymach ar waith i Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, fel ein bod yn dechrau gweld gostyngiad yn y cyfraddau hyn o'r diwedd a gwella ansawdd afonydd o dan y Llywodraeth Lafur hon i bobl Cymru? Diolch.
Mae gennyf ddau bwynt i'w gwneud mewn ymateb, Natasha, a diolch am y cwestiwn. Y pwynt cyntaf yw bod angen iddo fod yn ddull ar y cyd o ymdrin â hyn yn nalgylch afon Gwy, a'r un fath gyda'r Wysg a'r Hafren, a'r afonydd nad ydynt yn parchu ffiniau, maent yn llifo o Gymru i Loegr, o fryniau Pumlumon i lawr drwy ardaloedd ar y ffin ac yna'n ôl i'n haberoedd mawr. Felly, mae'n rhaid iddo fod yn ddull ar y cyd, ac mae'n rhaid imi ddweud, o fewn 48 awr wedi i Lywodraeth y DU ddod i rym, Llywodraeth newydd y DU, rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y drafodaeth honno gyda Steve Reed, yr Ysgrifennydd newydd. Roedd yn un o'r pethau y gwnaethom eu trafod, yr awydd i weithio'n agosach ac yn fwy cydweithredol, nid yn unig ar lefel weinidogol, ond ar lefel swyddogol hefyd. Mae peth cydweithio da wedi bod, ond ni fu'n 110 y cant llawn. Rwyf eisiau gweld hynny'n digwydd, felly rwy'n edrych ymlaen at fynd ar drywydd hynny.
Mae gennym ni rôl i'w chwarae yng Nghymru yn benodol wrth gwrs, ac mae yna nifer o faterion yn codi. Fe wnaethom ni gyffwrdd â llygredd gwasgaredig amaethyddol. Mae yna hefyd faterion yn codi ym maes adeiladu a datblygu, yn ogystal â materion yn ymwneud â charthffosiaeth. Mae ein dull ni yng Nghymru yn glir. Rydym eisiau i bawb chwarae eu rhan—pawb sy'n cyfrannu at y llygredd. Rydym yn sylwi bod yr adolygiad pris, PR24, newydd gael ei gyhoeddi, y penderfyniad drafft. Mae cynnydd sylweddol yn hwnnw, ac mae'n rhaid inni amddiffyn rhag effaith amhriodol y costau hynny, yn enwedig ar gwsmeriaid agored i niwed. Ond yr hyn y mae'n ei wneud yw dangos gwelliant sylweddol yng ngraddfa'r buddsoddiad i fynd i'r afael â gorlifoedd carthffosiaeth gyfun a gollyngiadau carthion. Mae angen rhoi pob darn o'r jig-so hwn at ei gilydd os ydym am lanhau'r afonydd, fel y gall pawb eu mwynhau yn y ffordd yr ydym wedi eu mwynhau yn draddodiadol. Pan fyddwn eisiau denu twristiaid i Gymru a phan fyddwn eisiau i bobl ymweld â ni, yn ogystal â chymunedau lleol, mae angen i'r afonydd fod yn pefrio ac yn llawn bywyd.
Hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y rheoliadau ansawdd dŵr, oherwydd gwyddom fod gofynion storio slyri yn dechrau ar 1 Awst. Nawr, ni fydd rhai ffermydd, yn anffodus, yn barod mewn pryd oherwydd efallai y gallai ceisiadau cynllunio ar gyfer mwy o seilwaith storio slyri fod yn sownd yn y system gynllunio yn rhywle. Gyda'r tywydd gwlyb rydym wedi'i gael, efallai nad ydynt wedi gallu gwagio eu storfeydd slyri er mwyn eu hehangu, neu'n wir, efallai fod materion heb eu datrys rhwng landlordiaid a thenantiaid mewn rhai achosion. Felly, hoffwn wybod beth fydd eich cyngor i'r asiantaeth orfodi mewn perthynas â mabwysiadu ymagwedd bragmataidd a rhesymol tuag at y rhai nad ydynt yn gallu bodloni'r gofynion newydd heb unrhyw fai arnynt hwy.
Llyr, mae'n gwestiwn da iawn, oherwydd rydym yn gwybod bod sawl her yn wynebu ffermwyr ar hyn o bryd: y system gynllunio a'r ôl-groniad o fewn y system honno, y pwysau sydd ar y system gynllunio—rhywbeth, gyda llaw, rwyf wedi'i drafod gyda fy nghyd-Aelod, cyn-Ysgrifennydd y Cabinet. Ac rwy'n gobeithio parhau â'r drafodaeth honno ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd, gan gydnabod y cyfyngiadau ar adnoddau hyd yn oed, i weld a allwn symleiddio'r broses honno a gweithio ar y cyd. Ond mae'n rhaid ystyried y tywydd gwlyb yr ydym wedi'i gael hefyd, felly hyd yn oed os ydych chi'n cael caniatâd cynllunio, a allwch chi fwrw ymlaen â'r gwaith mewn gwirionedd? Ac yna mae gennych y broses reoleiddio a chydsynio hefyd.
Nawr, fy nghyngor i neu fy arweiniad i yw mabwysiadu dull pragmataidd fesul achos, ond mae'n rhaid inni ei wneud o fewn y system reoleiddio sydd gennym. Ni allwn gael gwared arni; mae'n rhaid inni ei wneud o fewn y system honno. Ond byddwn yn annog swyddogion rheng flaen i weithio gyda'r gymuned ffermio fesul achos, oherwydd bydd pob un yn wahanol, er mwyn gweld a oes yna ffordd ymlaen. Rwy'n gwybod bod awydd yn y gymuned ffermio i fwrw ymlaen â hyn. Rydym wedi rhoi swm sylweddol o arian i gynorthwyo'r gymuned ffermio i wneud hyn, yn ogystal, ond mae yna gyfyngiadau ar y gallu i fwrw ymlaen yn gyflym, felly rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld dull pragmataidd, fesul achos, ond gan weithio o fewn y strwythur rheoleiddio hefyd.
Prynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ddilyn trywydd rhai o'r materion hynny hefyd, ond hoffwn ganolbwyntio ar yr asiantaeth yr ydym yn dibynnu arni yma yng Nghymru er mwyn monitro ein hafonydd, sef CNC, Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn gwybod bod chwythwyr chwiban wedi cyflwyno tystiolaeth frawychus yn gynharach yr wythnos hon, gan ddisgrifio CNC fel sefydliad sydd wedi'i barlysu gan fiwrocratiaeth a diffyg gweithredu, ac roedd yna ddogfennau mewnol yn dangos nad oedd 80 y cant o drwyddedau gollyngiadau yn cael eu monitro. Yn ogystal â hynny, dangosodd ymchwil gan Y Byd Ar Bedwar fod CNC wedi methu rhoi sylw i fwy na hanner y digwyddiadau llygredd a gofnodwyd rhwng mis Ionawr 2023 a mis Ionawr 2024.
Felly, mae hwn yn bryder gwirioneddol ynghylch gallu a galluoedd CNC, sy'n digwydd yn erbyn cefndir lle rydym ni yma yng Nghymru yn talu mwy am ein dŵr, mewn gwirionedd, nag a wnânt yn Lloegr. Felly, a gaf i ofyn yn benodol i chi pa ymateb sydd gennych chi i'r dystiolaeth honno, a hefyd beth rydych chi'n ei wneud i gynyddu'r lefelau staffio a'r capasiti o fewn CNC? Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cwestiwn. Gwyliais raglen Y Byd ar Bedwar a gwelais dystiolaeth pobl a oedd wedi gweithio o fewn CNC a'r myfyrio gonest ar yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn gyfyngiadau ar CNC i gyflawni eu dyletswyddau statudol a rheoleiddiol. Y peth cyntaf y byddwn i'n ei ddweud yw y byddwn yn annog unrhyw un sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad neu unrhyw asiantaeth i godi'r pryderon hynny a pheidio â bod ofn gwneud hynny; mae angen inni gefnogi'r gallu, nid dim ond chwythwyr chwiban, fel rydym yn eu galw'n dechnegol, ond mewn gwirionedd, i godi pryderon dilys. Dyna'r pwynt cyntaf i'w wneud ac rwy'n credu ei fod yn bwysig.
Yr ail beth yw bod gennym ddisgwyliadau uchel o CNC, o'i holl staff, o'r uwch reolwyr yr holl ffordd i lawr, i gyflawni eu dyletswyddau statudol a rheoleiddiol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf—ac roeddwn i'n ymddangos ar y rhaglen honno, felly gadewch imi ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yn glir iawn. Mewn gwirionedd, pan oeddwn ar y pwyllgor o dan stiwardiaeth Llyr, pan oeddem yn holi CNC yn rheolaidd, roeddem yn awyddus i'w gweld yn cynnal adolygiad sylfaenol o'u swyddogaethau a'u cylch gwaith, ac fe wnaethant hynny. Yn dilyn hynny, rydym wedi buddsoddi £18.5 miliwn ychwanegol yn CNC, ond maent hefyd wedi ymgymryd â threfn adennill costau lawn, fel y gallant sicrhau nad ydynt yn sybsideiddio gweithgareddau, ac fel y gallant ennill yr incwm cymesur ar sail adennill costau. Felly, mae'r holl bethau hynny yn eu lle, ond rydym yn disgwyl—rydym ni fel Llywodraeth yn disgwyl bod CNC yn cyflawni eu swyddogaethau statudol a rheoleiddiol. Maent yn sefydliad hyd braich, ond nhw yw ein sefydliad amgylcheddol.
A fy mhwynt olaf—rwy'n ymddiheuro, Lywydd, am drethu eich amynedd yma—hoffwn ddiolch i holl staff CNC am yr hyn a wnânt. Oherwydd mae CNC yn destun beirniadaeth yn aml iawn ac eto maent yn angerddol, fel y gwelsom yn y rhaglen honno, maent yn unigolion angerddol, ymroddedig sydd eisiau gwella'r wlad yr ydym yn byw ynddi a'r amodau amgylcheddol. Felly, oedd, roedd gwylio'r rhaglen honno'n anodd. Rwy'n siŵr fod CNC o ddifrif ynghylch y pryderon hynny, a phan fyddaf yn cyfarfod ag CNC eu hunain nesaf, byddaf yn codi'r pryderon hynny hefyd, yn amlwg.
Rwy'n falch iawn fod y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr yn cymryd camau i leihau llygredd dŵr o'r diwedd. Rydym wedi gweld carthion amrwd yn cael ei ollwng o waith trin dŵr gwastraff Trebanos oherwydd gorlif storm i'r Tawe ac yna i'r môr. Mae dŵr yn unigryw o agored i lygredd. Fel toddydd cyffredinol, gall dŵr doddi mwy o sylweddau nag unrhyw hylif arall. Dyna pam mae dŵr mor hawdd i'w lygru. Boed yn garthion neu'n sylweddau gwenwynig o ffermydd, trefi neu ffatrïoedd, maent yn toddi'n hawdd mewn dŵr, gan achosi llygredd dŵr. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau llygredd afonydd nad yw'n cael ei achosi gan garthion?
Mike, diolch yn fawr iawn. Ac i droi'n ôl at ein cwestiynau cychwynnol ar hyn, rwy'n credu bod ein dull dalgylch afon, gan gynnwys yr uwchgynadleddau afonydd, lle rydym yn dod â phawb at ei gilydd ac yn dweud, 'Mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonoch i wella hyn, boed yn ddatblygwyr, boed yn aelodau o'r gymuned amaethyddol a ffermio, neu boed yn gwmnïau carthffosiaeth a dŵr, mae gan bob un ohonynt rôl i'w chwarae. Os ydym ond yn mynd i'r afael ag un ffynhonnell i'r llygredd hwn, ni fyddwn yn datrys y broblem, oherwydd rydym eisiau adeiladu cartrefi fforddiadwy, ond mae'n rhaid inni reoli'r pwysau sy'n dod yn sgil hynny gyda llwyth ffosffad. Rydym eisiau sicrhau dyfodol ffermio hyfyw, ond mae'n rhaid inni reoli'r llwyth nitrad a ffosffad yn sgil hynny. Rydym hefyd eisiau gweld y buddsoddiad cywir gan y cwmnïau dŵr a charthffosiaeth yn y rhwydwaith, ond mae hyn yn anodd, oherwydd mae'n rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn diogelu'r cwsmeriaid mwyaf agored i niwed. Fel y soniais, mae yna benderfyniad drafft a fydd yn cymryd chwe mis neu fwy, mae'n debyg, i dderbyn sylwadau, gan gynnwys gan y cyrff defnyddwyr hefyd, i sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed. Ond y gwir amdani, Mike, fel rydych chi'n ei ddweud, yw bod angen inni ddatrys problemau o sawl ffynhonnell o lygredd yn ein afonydd, nid yn unig i'r pysgotwyr, ond i bawb sydd eisiau sicrhau statws ecolegol gwell a'r bobl sy'n brwydro i sicrhau ansawdd dŵr ymdrochi yn eu hafonydd hefyd.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid Llywodraeth y DU i gefnogi'r diwydiant cwrw a thafarndai? OQ61466
Diolch yn fawr, Jack. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Llywodraeth newydd y DU pan fydd y cyfleoedd yn codi i weithio mewn partneriaeth i hybu'r diwydiannau cwrw a thafarndai. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio ar weithredu'r cynllun dychwelyd ernes yn 2027.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn angerddol am y diwydiant ac mae ei gefnogaeth i'r grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai wedi bod yn allweddol drwy gydol ei gyfnod yn y swydd a swyddi blaenorol hefyd. Mae'n wych ei weld yn ei dei seneddol y prynhawn yma hefyd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu eich ymgysylltiad â'r diwydiant. Drwy hyn, fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon ynghylch y cynllun dychwelyd ernes ac ardrethi annomestig. A wnewch chi ymrwymo eto ar lawr y Senedd i ymgysylltu ymhellach â phartneriaid yn Llywodraeth y DU a'r diwydiant yn uniongyrchol i sicrhau ein bod yn cael yr atebion cywir i'r problemau hyn fel y gall y diwydiant cwrw a thafarndai ffynnu yng Nghymru? Diolch.
Byddaf yn bendant yn ail-ymrwymo i hynny, Jack. Mae angen inni gyflwyno cynllun dychwelyd ernes sy'n gweithio, nid yn unig ar draws y pedair gwlad, ond gan barchu ein safbwynt yng Nghymru hefyd, a bod gennym awydd i fwrw ymlaen â'r cynllun ar gyfer popeth, gan gynnwys gwydr hefyd. Ond rydym am weithio gyda'r sector i wneud i hynny ddigwydd. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y sectorau lletygarwch a manwerthu fel rhan o'n heconomi, felly rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda nhw.
Rwyf hefyd wedi ymrwymo, gyda llaw, i weithio, fel y dywedais yn fy ymateb cychwynnol i chi, Jack, gyda Llywodraethau eraill ledled y DU, gan gynnwys Llywodraeth newydd y DU. Gyda llaw, roeddwn i wedi cyfarfod â nhw cyn yr etholiad, ac roeddem wedi dechrau archwilio'r materion hyn. Siaradais â Steve Reed, a soniwyd am hyn ar yr agenda o fewn 48 awr. Rwy'n edrych ymlaen at fanylu ar hyn gydag ef a'i dîm nawr, ac mae ein swyddogion wedi dechrau cydweithio'n agos iawn hefyd. Ond byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant.
A dylwn nodi am y tei, Lywydd, mae fy aelodaeth flaenorol o'r grŵp hollbleidiol pan oeddwn yn seneddwr y DU—rwy'n falch o wisgo'r tei heddiw—wedi cael ei ddatgan yn fy rhestr o fuddiannau gweinidogol.
Rwyf bob amser yn teimlo wedi fy eithrio'n llwyr pan fydd gwleidyddion gwrywaidd yn dechrau trafod y tei y maent yn ei wisgo. Dim sgarffiau, dim teis.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Jack Sargeant am ofyn y cwestiwn pwysig hwn heddiw i Ysgrifennydd y Cabinet. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n siarad am eich gwaith gyda Llywodraeth y DU, ac rydych chi'n gwybod yn iawn fod Llywodraeth ddiwethaf y DU—y Llywodraeth Geidwadol—wedi darparu rhyddhad ardrethi o 75 y cant i'n diwydiant tafarndai a lletygarwch yn Lloegr ac wedi trosglwyddo'r arian hwnnw ymlaen i chi, fel Llywodraeth Cymru, i alluogi'r un lefel o ryddhad i'n tafarndai yma yng Nghymru. Fe wnaethoch chi benderfynu peidio â gwneud hynny. Mae tafarndai yma yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi o 40 y cant, ac felly maent dan anfantais gystadleuol o gymharu â chwmnïau dros y ffin. Felly, os ydych chi o ddifrif ynglŷn â chefnogi'r diwydiant hwn, pam na wnewch chi godi'r rhyddhad ardrethi yn ôl i 75 y cant?
Mae rhyddhad ardrethi yn un ffactor. Rhaid imi ddweud, Sam, fy mod yn falch ein bod yn dal i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes i'r sector, hyd at £78 miliwn ychwanegol mewn gwirionedd, i ddarparu'r bumed flwyddyn yn olynol o gymorth gyda biliau ardrethi annomestig. Mae hyn yn adeiladu ar y gefnogaeth o bron i £1 biliwn a ddarparwyd drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi i'r sector manwerthu, hamdden a lletygarwch ers 2020-21. Ond nid dyna'r cyfan ychwaith.
Roedd busnesau lletygarwch hefyd yn gallu gwneud cais am y gronfa baratoi at y dyfodol gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru, a gynigiwyd ar gyfer 2024-25, ac a gynlluniwyd i'w helpu i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol. Mae cymorth ariannol ar gael hefyd gan Croeso Cymru i'r rhannau o'r sector lletygarwch sy'n rhan o'r cynnig twristiaeth, fel bwytai cyrchfan neu fwytai ym mhen uchaf y farchnad. Mae'r gronfa fuddsoddi yn nhwristiaeth Cymru yn rhoi arian i'r sector hefyd. Ac mae mwy y gallwn siarad amdano.
Ar y mater penodol y cyfeiriwch ato, rwy'n falch ein bod yn gallu cadw cefnogaeth drwy'r cynllun rhyddhad ardrethi am y bumed flwyddyn yn olynol, ond mae cefnogaeth ehangach ar gael i'r sector hefyd, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad iddo a'n cydnabyddiaeth o faint y mae'n ei gyfrannu at economi Cymru. A byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector fel y gallwn barhau â'r gefnogaeth honno ar sail barhaus.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau.
Diolch, Lywydd. Fe af â chi'n ôl at lygredd dŵr. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfeirio at y problemau presennol sydd gennym yma yng Nghymru mewn perthynas â llygredd dŵr? Fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon, rwy'n gobeithio, rwyf wedi croesawu Araith y Brenin ac ymrwymiadau Llywodraeth Lafur newydd y DU yn y dyfodol. Dywedodd ein Brenin:
'Mae fy Llywodraeth yn cydnabod yr angen i wella ansawdd dŵr a bydd Bil yn cael ei gyflwyno i gryfhau pwerau'r rheoleiddiwr dŵr.'
Rwy'n credu y byddwn i gyd yn croesawu hynny. Rwy'n gobeithio eich bod yn croesawu'r sylw sydd bellach yn cael ei roi i hyn gan Lywodraeth y DU.
Yma yng Nghymru, mae gennym lawer o nofwyr gwyllt, ac yn aml iawn, nid ydynt yn gallu cymryd rhan yn y gamp y maent yn ei charu am fod ein hafonydd a'n moroedd wedi'u llygru. Mae gan Gymru bedair gwaith cymaint o ollyngiadau carthion yn gyfrannol o gymharu â Lloegr, a'r wythnos hon fe wnaethom nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi colli ei ffordd. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i adolygu Cyfoeth Naturiol Cymru a'i ddull o orfodi pan fydd digwyddiadau'n codi, ac yn gyffredinol, i fynd i'r afael â'r llygredd dŵr sydd mor gyffredin ledled Cymru?
Diolch am y cwestiwn. Fel yr eglurais yn gynharach, rwy'n gobeithio, un agwedd ar hyn yw mynd i'r afael â phob ffynhonnell llygredd. Ond yn enwedig o ran rôl CNC, rwyf wedi ei gwneud yn glir heddiw, ac rwyf am ailadrodd, fod ganddynt ddyletswyddau statudol a rheoleiddiol clir i'w cyflawni fel corff diogelu'r amgylchedd, ac rydym yn disgwyl iddynt gyflawni'r rheini. Heb os, maent o dan bwysau, a dywedais yn glir mewn ymateb i raglen Y Byd ar Bedwar mai'r realiti caled yw bod y 10 mlynedd a mwy diwethaf wedi rhoi pwysau mawr arnynt, fel ar bob asiantaeth gyhoeddus, awdurdod lleol a phawb arall.
Ond byddwn yn parhau i'w cefnogi. Rydym wedi rhoi £18.5 miliwn iddynt yn dilyn yr adolygiad sylfaenol. Yn yr adolygiad sylfaenol hwnnw, maent wedi edrych ar y cylch gwaith, sut maent yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau cywir, gan gynnwys eu gorfodaeth statudol a rheoleiddiol. Ac mae ganddynt bwerau i orfodi hefyd, ac rydym yn disgwyl iddynt ddefnyddio'r pwerau gorfodi hynny. Dull CNC ar y cyfan, yw ceisio gweithio gyda'r rhai yn y sector i gael pawb i godi eu safonau, gan gynnwys ar ollyngiadau carthion, ond byddant hefyd yn dirwyo, a byddant yn erlyn hefyd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n debyg y gallai rhywun ddadlau, dros y 26 mlynedd diwethaf yn y lle hwn, a datganoli Cymru, ei bod yn deg dweud bod 12 mlynedd wedi bod o dan Lywodraeth Lafur yn y DU, ac wrth gwrs, y 14 mlynedd diwethaf o dan Lywodraeth Geidwadol, ac am fy 13 mlynedd yma, roedd llawer o feirniadaeth ynglŷn â diffyg adnoddau gan Lywodraeth y DU i'r fan hon, er bod £1.20 am bob £1 a werir yn Lloegr yn cael ei roi i Gymru a'i ddarparu i Lywodraeth Cymru. A yw'n wir, felly, y bydd mwy o gyllid yn dod nawr gan Lywodraeth Lafur y DU i'n helpu gyda'n llygredd dŵr? A fyddwch chi'n cymryd y camau y mae Llywodraeth Lafur y DU yn eu cymryd nawr drwy gyflwyno Bil, neu'n gweithio gyda nhw ar sut y gallwn efelychu'r camau y maent yn eu cymryd yma?
Rwyf wedi nodi o'r blaen ei bod yn wendid na all CNC dderbyn ymgymeriadau amgylcheddol am dorri rheolau o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, yn wahanol i Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, er mwyn atal refeniw dirwyon amgylcheddol rhag gadael Cymru a mynd i Drysorlys y DU. Pan fyddaf yn beirniadu CNC, maent yn dweud wrthyf, 'Ond, Janet, mae'r cyllid hwnnw'n mynd i Drysorlys y DU.' Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i weithio gyda Llywodraeth y DU nawr i gadw'r arian hwnnw yma yng Nghymru? Enghraifft glasurol yw Jeff Lane. Achosodd golled ddinistriol i'r amgylchedd drwy gwympo 2,000 o goed yn anghyfreithlon yn 2019. Cafodd ddirwy o bron i £13,000 i gyd, a chafodd orchymyn atafaelu. Pe gallem fod wedi cadw'r ddirwy o £13,000 yma, gallai'r arian hwnnw fod wedi mynd yn ôl i mewn i'r amgylchedd pan fu tramgwydd. Gallent fod wedi defnyddio'r arian i blannu coed.
Rwyf wedi caniatáu mwy na 2 funud i chi ar gyfer eich ail gwestiwn. Rwy'n credu bod digon i'w ateb yno, Ysgrifennydd y Cabinet.
A fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n well pe bai'r arian hwnnw'n cael ei gadw yng Nghymru, ac a wnewch chi weithio tuag at y nod hwnnw?
Fel y dywedais yn fy ateb i'r cwestiwn cynharach, byddaf yn sicr yn awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn. Rwy'n falch o weld bod deddfwriaeth wedi ei chynnig y bydd Llywodraeth y DU yn ei chyflwyno. Rwy'n credu eu bod wedi nodi'n glir o'i mewn mai peth o hynny fydd anfon yr arwyddion cywir at gwmnïau dŵr ac eraill y byddant yn cael eu dwyn i gyfrif yn bendant iawn gyda'r mesurau newydd sy'n cael eu cyflwyno. Felly, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r ddeddfwriaeth honno wrth i'r manylion ddod yn glir mewn dull partneriaeth pendant iawn.
Ar y cwestiwn a ofynnoch chi am fwy o gyllid, 'Nid wyf yn gwybod eto' yw'r ateb. Mae Rachel Reeves wedi dweud yn glir iawn, fel Canghellor newydd, nad yw'n hoffi'r hyn y mae wedi ei weld nawr. Mae'n rhaid inni weld manylion yr hyn sy'n dod yn y gyllideb, ond rwy'n credu nad oes disgwyl mawr y bydd tapiau'n sydyn yn cael eu hagor—nid yn y dyfodol agos yn sicr. Os felly, bydd angen i ni, Cyfoeth Naturiol Cymru, pawb yma yng Nghymru, weithio o fewn y cyfyngiadau ariannol presennol sydd gennym, ond ei wneud yn y ffordd y'i gwnawn yng Nghymru, sef gweithio mewn partneriaeth a dweud wrth bawb, 'Mae gennych chi i gyd ran i'w chwarae; o fewn eich cyfyngiadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn glir ynghylch eich cyfrifoldebau statudol ac mae hon yn ymdrech ar y cyd i lanhau ein hafonydd.' Rwy'n falch iawn, gyda llaw, fod ffocws y cyhoedd mor gadarn ar hyn, oherwydd mae hynny'n helpu i ysgogi pob un ohonom fel gwleidyddion i wneud y peth iawn.
O ran Rachel Reeves, mae'n deg dweud o leiaf na adawodd y Canghellor sy'n gadael nodyn yn dweud nad oes arian ar ôl.
Yn olaf, mewn pythefnos, mae ffermwyr ledled Cymru yn mynd i deimlo grym llawn Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Bydd yr effaith yn ddifrifol ar lawer o'n ffermydd—ar lawer o'n ffermwyr diniwed sydd erioed yn eu bywydau wedi llygru. Hyd yn oed lle nad oes gan fferm hanes o lygredd amaethyddol, yn dechnegol fe gânt ddirwy ariannol. Er enghraifft, mae'n ofynnol i fferm laeth yng ngogledd Cymru wneud buddsoddiad cyfalaf o £50,000 i ymestyn merllyn er mwyn cynyddu'r gallu i ymdopi â'r cyfnodau gwaharddedig. A wnewch chi edrych ar hyn nawr a cheisio gweithio gyda'n ffermwyr, a chydnabod unwaith ac am byth mai prin iawn yw'r achosion o lygredd sy'n fai ar ffermwyr?
Yn fy etholaeth i, rydym wedi cael sawl achos, ac maent i gyd wedi bod yn gysylltiedig â chwmni dŵr. Ac nid wyf yn beio Dŵr Cymru am bob un o'r rheini. Yn rhy aml rydym—. Wel, nid wyf i, mewn gwirionedd, ond mae unigolion yn fflysio weips gwlyb a phethau i lawr y toiled a gall hynny achosi rhwystr mawr wedyn. Mewn un achos, bu farw cannoedd o bysgod mewn afon yn Aberconwy a hynny am fod popeth wedi arafu i stop oherwydd bod pobl—. Pryd ydych chi'n mynd i ddechrau rhoi arweiniad go iawn, addysg go iawn, nad yw'n dderbyniol i bobl fflysio'r eitemau hynny? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch fod hyn wedi ei godi eto ar y llawr heddiw. O ddifrif, rwy'n falch ei fod wedi cael ei godi. Mae sawl ffynhonnell o lygredd, wrth gwrs, ond lle mae'r broblem yn deillio o lygredd amaethyddol yn sgil rheoli slyri, mae angen inni fynd i'r afael â hi. Ond rwyf am ailadrodd yr hyn a wneuthum yn glir ar lawr y Siambr eisoes heddiw, sef y byddem yn gobeithio ac yn rhagweld, o fewn y strwythur rheoleiddiol, y byddai'r rhai ar y rheng flaen yn gweithio gyda ffermwyr fesul achos i edrych ar bob enghraifft. Os oes problemau lle mae ffermwyr o dan bwysau a chyfyngiadau gwirioneddol sy'n golygu na allant gael y storfeydd i'w lle, a'r rheolaeth ar waith ac yn y blaen, byddem yn disgwyl i hynny gael ei ystyried fesul achos. Ond mae'n rhaid inni gydymffurfio â'r strwythur rheoleiddiol, sydd wedi'i gynllunio i sicrhau ein bod yn osgoi digwyddiadau y gellir eu hatal o slyri ac elifiant yn golchi i mewn i'n hafonydd a'n cyrsiau dŵr, oherwydd y cwestiynau cynharach—yn union yr hyn yr oeddem yn ei ddweud. Dull pragmataidd fesul achos ond o fewn y cyfyngiadau rheoleiddio a weithredwn yw'r hyn y byddwn yn gobeithio ac yn disgwyl ei weld yn digwydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi ynglŷn â datganoli Ystad y Goron, os gwelwch yn dda, a fyddai'n grymuso Cymru i reoli'n uniongyrchol ac elwa o'n hadnoddau naturiol a chynhyrchu biliynau o bunnoedd posibl mewn refeniw a thwf economaidd lleol. Er gwaethaf honiadau dro ar ôl tro o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'w datganoli, ymddengys nad yw'n parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Prif Weinidog na hyd yn oed yn ôl-ystyriaeth i Lywodraeth Lafur y DU. Mae'r diffyg diddordeb hwn yn tanseilio ein gallu i gynllunio ar gyfer ein dyfodol. Felly, a wnewch chi amlinellu, os gwelwch yn dda, sut rydych chi wedi bod yn gweithio gyda chyn Ysgrifennydd y Cabinet dros ynni i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli Ystad y Goron?
Mae cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac ynni a minnau, mewn trafodaethau a gawsom—ac y mae cyd-Aelodau eraill yn y Cabinet wedi'u cael—gydag Ystad y Goron, wedi dweud yn glir ein bod am wneud yn siŵr fod y cyfleoedd enfawr y gellir manteisio arnynt ar hyd arfordir Cymru yn cael eu hoptimeiddio drwy sicrhau ein bod yn cael y gwerth cymdeithasol a'r cadwyni cyflenwi lleol yn ystod y broses geisiadau yn enwedig fel y gall y cyfleoedd hynny fod yn wirioneddol drawsnewidiol. Os yw Ystad y Goron unwaith eto yn gwrando ar y trafodion yma heddiw, fel y gwn eu bod yn ei wneud, rwy'n gobeithio y byddant yn cael y neges honno'n glir iawn. Mae yna ffordd o ddatblygu'r broses geisiadau a cheisio sicrhau'r cyfleoedd hynny'n gynaliadwy, yn enwedig gyda phethau fel ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, fel y gallant fod o fudd i'r cymunedau yng Nghymru, a'r gadwyn gyflenwi a'r gweithgynhyrchu ac yn y blaen.
Os caf ddweud, mae'n ymddangos bod y newidiadau sydd wedi'u cynnig heddiw, rwy'n deall, a'r hyn y clywsom amdano yn y cynigion gan Lywodraeth y DU, yn gam i'r cyfeiriad cywir. Ac rydym o ddifrif yn croesawu'r cyfle i gydweithio gyda Llywodraeth y DU nawr ar y cynigion a chamu ymlaen tuag at ddatganoli Ystad y Goron yng Nghymru, sef ein huchelgais o hyd. Mae manylion y mae'n rhaid gweithio drwyddynt ar hynny hefyd, ond credaf fod yr ymgysylltiad cadarnhaol a welsom hyd yma gan Lywodraeth y DU ar wneud y mwyaf o fanteision y ffordd y mae Ystad y Goron yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol hefyd.
Diolch am hynna. Byddai datganoli Ystâd y Goron, wrth gwrs, yn rhoi'r gallu i ni osod termau prosiectau ynni yn y dyfodol. Byddai e'n ein galluogi ni i sicrhau bod y prosiectau yn cyd-fynd â'n targedau amgylcheddol ac anghenion ein cymunedau. Mae gosod rhain, efallai, mewn termau cymdeithasol—. Rwy'n poeni ychydig byddai hwnna'n amhosibl heb ddatganoli'r pwerau hyn—rhai o'r newidiadau cymdeithasol dŷch chi eisiau gwneud.
Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn dal â hyn fel aspiration. Buaswn i eisiau clywed gennych chi fod hyn nid dim ond yn aspriation, ond fod hyn yn rhywbeth dŷch chi'n mynd i fynnu gan San Steffan. A allwch chi osod mas i ni sut ŷch chi'n meddwl bydd datganoli Ystâd y Goron yn galluogi Cymru i ddatblygu'r prosiectau hyn ar gyfer ein hanghenion ni yn y dyfodol? Ydych chi'n cytuno â fi fod datganoli Ystâd y Goron nid dim ond yn bwysig, ond yn hanfodol i ni gyrraedd ein nodau newid hinsawdd ac amgylcheddol ni?
Yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw bod Ystad y Goron yn gweithio gyda ni, naill ai o dan ddatganoli yn y dyfodol neu yma nawr mewn gwirionedd, oherwydd mae'r gwaith sy'n digwydd gydag awdurdodau'r porthladd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a mannau eraill, y gwaith sy'n digwydd yn y gadwyn gyflenwi i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gyrru'r cyfleoedd hynny yma yng Nghymru, a'r swyddi a'r twf gwyrdd a ddaw yn sgil hynny, yn ei gwneud yn ofynnol i Ystad y Goron fynd ati i weithio gyda ni nawr. Mae'n rhaid imi ddweud, roedd fy rhagflaenydd—fy rhagflaenydd yn y rôl newid hinsawdd, mae'n ddrwg gennyf—a chyn-Ysgrifennydd y Cabinet hefyd bob amser yn glir iawn mewn cyfarfodydd cynhyrchiol iawn gydag Ystad y Goron fod yna ddisgwyliad eu bod yn gweithio gyda ni yma, nawr. Ac maent wedi gwneud hynny ac maent yn awyddus i weithio. Maent yn deall y gwerth cymdeithasol a'r gwerth economaidd yr ydym am ei gyflawni yma yng Nghymru. Felly, ni waeth am ddatganoli Ystad y Goron, dylem fod yn gwneud hyn beth bynnag; dylai Ystad y Goron fod yn gweithio gyda ni. Ac rydym yn obeithiol y byddant yn parhau i wneud hynny ac y byddant yn gwrando ar y sylwadau a wneir, er mwyn iddynt deilwra'r ffordd y maent yn bwrw ymlaen â'r broses hon mewn ffordd sydd o fudd i Gymru, ac yn darparu'r swyddi gwyrdd hynny yma ac nad yw'n awtomatig yn tramori'r twf gwyrdd hwnnw i wledydd eraill. Er mor dda y byddai i'r gwledydd hynny, rydym ei eisiau yma yng Nghymru. Rwy'n gwenu wrth imi ddweud hynny oherwydd rwy'n gobeithio'n wirioneddol eu bod yn darllen y trawsgrifiad fan hyn, ac rwy'n meddwl eu bod.
Diolch. Wel, rwy'n gobeithio eu bod yn darllen y trawsgrifiad hefyd. Ac yn sicr, o ran yr hyn sy'n digwydd yma nawr wrth gwrs, rwy'n cytuno â chi. Ond hoffwn bwyso arnoch ar y pwynt hwnnw, oherwydd fe ddywedoch chi 'ni waeth am ei ddatganoli'. A ydych chi'n credu mai peth braf i'w gael yn unig ydyw ac mai helpu'n unig a wnâi, yn hytrach na'i bod yn hanfodol i ni gael y pwerau hynny yma yng Nghymru? Ac os ydych chi'n credu y bydd yn hanfodol i ni gyflawni'r lefel o uchelgais yr ydym ei heisiau i harneisio ein hadnoddau a bod o fudd i'n cymunedau, os ydych chi'n credu bod hynny'n hanfodol, sut y gwnewch chi argyhoeddi aelodau o Gabinet Keir Starmer ei fod yn hanfodol, ei fod yn fwy na phrosesau a ffidlan gyda phrosesau, yn fwy na mater o egwyddor yn unig, ond yn hytrach ei fod yn ymwneud â dyfodol hinsawdd Cymru, â sgiliau'r dyfodol, anghenion ein cymunedau heddiw ac yfory? Felly, a ydych chi'n credu ei fod yn hanfodol, a sut y gwnewch chi argyhoeddi Cabinet Keir Starmer?
Ie, sut mae argyhoeddi? Mae'n benbleth clasurol mewn gwleidyddiaeth. Mae'n ymwneud ag ansawdd yr ymgysylltiad. Yr hyn a nodais yn ystod y dyddiau diwethaf, yr wythnos neu ddwy ddiwethaf—a oes cymaint â hynny'n barod ers yr etholiad cyffredinol—yw bod ymgysylltiad o ansawdd yno nawr, ac rydym yn rhagweld y bydd ymgysylltu rheolaidd bellach hefyd. Ac mae hynny'n ein galluogi i gael trafodaethau cynhyrchiol fel y gallwn symud ymlaen tuag at ddatganoli Ystad y Goron, ond gan weithio drwy'r manylion hefyd. Nid ydym eisiau canlyniadau anfwriadol. Rydym wedi gweld hyn yn rhy aml mewn meysydd datganoli o'r blaen. Felly, mae angen inni sicrhau bod gennym ymgysylltiad cynhyrchiol fel ei fod yn gweithio'n dda iawn i Gymru os cyrhaeddwn y pwynt lle caiff Ystad y Goron ei datganoli'n llawn. Ond yn y cyfamser, rydym yn canolbwyntio ar ddweud wrth Ystad y Goron, 'Daliwch ati i weithio gyda ni, oherwydd mae angen inni sicrhau'r buddion mwyaf posibl yma nawr', wrth inni geisio manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd o bethau fel gwynt ar y môr.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo mynediad diogel i ddyfrffyrdd? OQ61479
Diolch, Altaf. Ar 8 Mai, cefais y fraint o fynychu digwyddiad Diogelwch Dŵr Cymru yn y Senedd, i dynnu sylw at y bartneriaeth newydd rhwng Diogelwch Dŵr Cymru a'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau i hyrwyddo diogelwch dŵr ledled Cymru y mae'r Llywodraeth hon yn ei chyllido. Bydd yn cefnogi partneriaid allweddol i wella diogelwch dŵr ledled Cymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Ar drothwy gwyliau'r ysgol, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i atgoffa plant o beryglon ein dyfrffyrdd a'n crynofeydd dŵr. Gall atyniad pwll dŵr, llyn, afon neu gamlas fod yn ormod o demtasiwn, yn enwedig os daw'r haf i'r golwg, a chredaf y gallai hynny ddigwydd y penwythnos hwn. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld canlyniadau trasig peidio â deall y peryglon sy'n llechu o dan yr wyneb disglair. Mae llawer gormod o bobl ifanc wedi boddi yn chwarae ar neu ger crynofeydd dŵr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i rybuddio plant a phobl ifanc am beryglon dŵr agored, a beth ydych chi'n ei wneud i hyrwyddo dewisiadau amgen mwy diogel yn lle dyfrffyrdd a chrynofeydd dŵr heb eu monitro?
Altaf, diolch i chi, ac i Aelodau eraill, am hyrwyddo hyn, ac mae'n foment amserol yn y flwyddyn, gan y bydd llawer o'n pobl ifanc, ac eraill, yn mynd allan i fwynhau cefn gwlad, gan gynnwys dŵr mewndirol ac ar yr arfordir. Ond mae angen inni ddeall y risgiau, ac addysgu am y risgiau o fewn hynny hefyd, fel bod pobl yn ymwybodol o'u galluoedd, yn ogystal â gallu mwynhau'r amgylchedd awyr agored yn ddiogel.
Soniais yn fyr am y digwyddiad a gynhaliwyd gennym yn y Pierhead fel rhan o ddigwyddiad Senedd yma. Rhan ohono yw dod â rhaglenni addysgol at ei gilydd i dargedu ysgolion, cymunedau a theuluoedd ar ddiogelwch dŵr; mae'n dod â phartneriaeth newydd at ei gilydd sy'n ceisio gwella mesurau diogelwch dŵr mewn lleoliadau risg uchel, a'r mathau hynny o leoliadau yr arferai fy nhri mab fynd iddynt. Ni wnaf sôn lle mae, ond mae'n ardal fewndirol lle bydd llwyth o bobl leol yn mynd ar ddiwrnod poeth, heb fod yn llwyr ymwybodol o'r risgiau a dyfnder y dŵr ac yn y blaen. Bydd calonnau rhieni'n curo'n gyflym wrth iddynt obeithio bod eu plant yn ddiogel. Felly, mae rhai o'r dulliau partneriaeth yn ymwneud â gwell arwyddion yn y lleoliadau risg uchel hyn, gosod offer achub bywyd, fel y bo'n briodol, cynnal asesiadau risg rheolaidd hefyd, a hefyd mae'n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth ac addysgu'r cyhoedd ynglŷn â diogelwch dŵr, fel y gallwn rymuso unigolion i fwynhau ein dyfrffyrdd, ond ei wneud yn ddiogel. Gyda llaw, Lywydd, rydym hefyd yn goleuo ein swyddfa ym Mharc Cathays yn las ddydd Mawrth 25 Gorffennaf i nodi Diwrnod Atal Boddi y Byd. Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd diogelwch dŵr, yn enwedig gan fod plant a phobl ifanc ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein gwlad. Felly, diolch am y cwestiwn.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon? OQ61477
Rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol ac eraill ledled Cymru drwy ariannu rhaglen Taclo Tipio Cymru. Mae'r tîm yn cydlynu ymyriadau partner, mae'n darparu cymorth technegol ac yn cynorthwyo gyda chamau gorfodi llwyddiannus. Mae hefyd yn darparu ymgyrchoedd cenedlaethol sy'n codi ymwybyddiaeth o effeithiau tipio anghyfreithlon ac mae'n annog gwaredu gwastraff yn gyfrifol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae tipio anghyfreithlon yn falltod ar ein cymunedau ledled Cymru ac yn anffodus, mae'n dod yn fwyfwy cyffredin yn sir Ddinbych dan arweiniad Llafur, sydd newydd gyflwyno system ailgylchu newydd hollol ddi-drefn. Mae'n arwain at wastraff yn mynd heb ei gasglu am hyd at saith wythnos yn eiddo rhai pobl ac o ganlyniad i hynny, mae llawer o bobl yn cymryd camau i gael gwared ar y gwastraff oddi ar eu heiddo drwy dorri'r gyfraith a'i adael ar strydoedd, ei adael wrth ymyl biniau gwastraff, biniau gwastraff cyhoeddus, a'i daflu i alïau. Yn amlwg, mae hynny'n ymddygiad annerbyniol y mae angen mynd i'r afael ag ef, ond gwraidd hyn yw gweithrediad anhrefnus y system ailgylchu newydd. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl yn cael eu gwastraff wedi ei gasglu'n aml, yn ôl yr amserlen heb y math o broblemau y mae'n rhaid i drigolion sir Ddinbych eu hwynebu?
Rydych chi'n codi dau fater yno, a gadewch imi ddweud yn gyntaf, o ran sir Ddinbych, mae cynghorwyr arbenigol Llywodraeth Cymru o WRAP Cymru a'r bartneriaeth leol yn rhoi cyngor a chymorth ymarferol i Gyngor Sir Ddinbych, ac mae hyn yn cynnwys nodi ac unioni problemau gwastraff heb ei gasglu a sbwriel cysylltiedig a achoswyd gan y newidiadau diweddar. Bydd y gefnogaeth hon yn parhau hyd nes y bydd y mater wedi ei ddatrys, ac rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa. Ond os caf ddweud, nid yw'r poenau y mae sir Ddinbych yn eu dioddef yn annhebyg i'r poenau y mae awdurdodau lleol eraill wedi eu dioddef ar y daith i fynd â ni i'r pwynt o fod yn ail yn y byd am ailgylchu. Ein bwriad yw symud i frig y tabl, os cawn gefnogaeth Aelodau fel chi i barhau ar y trywydd hwnnw. Ond mae'n anodd ac mae'n gallu bod yn boenus, ac rwyf wedi ei weld yn fy ardal i pan aethom drwy hyn rai blynyddoedd yn ôl. Ond rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i'w helpu drwy'r cyfnod pontio.
Ond roedd y pwynt agoriadol a godwyd gennych ar fater tipio anghyfreithlon. Gadewch inni fod yn gwbl glir ar draws y Siambr hon nad oes modd cyfiawnhau tipio anghyfreithlon mewn unrhyw amgylchiadau. Mae'n rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod eu gwastraff eu hunain yn cael ei waredu'n gyfreithlon, a byddwn yn parhau i dargedu'r rhai sy'n dewis torri'r gyfraith. Rydym wedi dyblu'r cyllid i Taclo Tipio Cymru dros dair blynedd—£1.2 miliwn nawr i'w galluogi i ganolbwyntio ar gryfhau camau gorfodi ledled Cymru. Mae'n cynnwys swyddogion gorfodi newydd i dargedu mannau problemus hysbys lle ceir tipio anghyfreithlon, ac wrth gwrs, rydym hefyd yn gweithio gyda swyddogion gorfodi, er enghraifft yng ngogledd Cymru, i dargedu'r mannau problemus hynny yng ngogledd Cymru. Cafwyd sawl ymchwiliad llwyddiannus ac ymarferion gwyliadwriaeth sydd wedi arwain at erlyniadau. Felly, mae angen inni barhau i wneud hyn a phan gawn yr erlyniadau hynny, mae angen inni roi cyhoeddusrwydd da iddynt er mwyn cyfleu'r neges i bobl: eich cyfrifoldeb chi yw gwaredu gwastraff yn gyfreithiol.
5. Pa gamau y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i annog gweithredu cymunedol dros natur? OQ61461
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth o gynlluniau i annog gweithredu cymunedol dros natur, gan gynnwys y gronfa rhwydweithiau natur, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a'r cynllun Caru Gwenyn. Mae partneriaethau natur lleol yn allweddol i helpu i gydlynu gweithredu lleol sy'n cysylltu pobl â natur, gan helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym gymaint o dir â phosibl ar gyfer natur fel y gallwn gysylltu pobl â'r mannau hynny, gallwn annog gwirfoddoli, gallwn wella bioamrywiaeth a mynediad. Yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd, gwelsom Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent yn agor Comin Bridewell yn ddiweddar, ardal o dir y maent wedi'i wella ac wedi gweithio arno ar gyfer natur a mynediad i'r cyhoedd. Rydym yn ffodus fod gennym wastadeddau Gwent a gwarchodfa gwlyptiroedd yr RSPB, ac wrth gwrs, y bartneriaeth Gwastadeddau Byw sy'n gweithio i gysylltu ein cymunedau â natur ar wastadeddau Gwent. Un agwedd ar hyn oll, Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn y penderfyniad i beidio â chael ffordd liniaru'r M4, yw y bydd y tir a brynwyd ar gyfer y ffordd honno ar gael at ddefnydd arall nawr. A fyddech chi'n cytuno â mi y dylid defnyddio cymaint o'r tir hwnnw â phosibl ar gyfer natur, ar gyfer bioamrywiaeth, ar gyfer ein cymunedau?
John, diolch am y cwestiwn atodol, ac am hyrwyddo hyn ochr yn ochr â gweithgor gwastadeddau Gwent a phartneriaeth tirwedd Gwastadeddau Byw. Maent yn gwneud gwaith anhygoel ar ymgysylltu â chymunedau a rheolwyr tir i helpu i reoli ac adfer bioamrywiaeth a nodweddion tirwedd ar hyd gwastadeddau Gwent.
Nawr, mae rhywfaint o'r tir y sonioch chi amdano o fewn cynllun gwella safle strategol coridor yr M4 o amgylch Casnewydd (M4 CAN), felly mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar yr asedau tir a ddelir ar gyfer yr M4, y safleoedd M4 CAN ar neu gerllaw SoDdGA gwastadeddau Gwent, i asesu a ellid eu defnyddio'n fwy buddiol i wella bioamrywiaeth, ecosystemau a hamdden cynaliadwy yng nghyd-destun y gwastadeddau. Felly, gallai rhai o'r rhain gynnig cyfle unigryw, John, nid yn unig i wella ansawdd y SoDdGA mewn rhai mannau allweddol, ond hefyd i ddarparu mynediad i'r cyhoedd, addysg yn yr awyr agored a safleoedd enghreifftiol neu borth i wastadeddau Gwent. Felly, mae'r cynllun gwella strategol wedi'i lunio i lywio ein dull o ymdrin â hyn. Mae cyngor wedi'i gyflwyno ar gyhoeddi'r cynllun gwella strategol, ac rydym yn aros am y penderfyniad, ond mae gwir botensial, John, a diolch i chi a gwirfoddolwyr eraill am hyrwyddo hyn.
Yn Nyffryn Clwyd, mae gennym Ffos y Rhyl a Gwter Prestatyn, sy'n aml yn dioddef yn sgil taflu sbwriel, yn debyg i'r hyn a grybwyllodd Darren Millar. Beth bynnag y bo, mae'n mynd i mewn yno—trolïau siopa ac eitemau mawr, a dweud y lleiaf—ac un o'r atebion i hyn a nodwyd gennym gyda'r awdurdod lleol yw gwneud y rhodfa—rydym yn eu galw'n 'destiny paths'—ond agor y llwybrau hynny i rodfeydd, llwybrau teithio llesol, i adfer peth o'r balchder cymunedol yn yr ardal leol, eu hagor i lwybrau teithio llesol, cynyddu ein twristiaeth, hyrwyddo byw'n iach ac ymarfer corff. Felly, pa sgyrsiau y gallech eu cael gyda Chyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ynglŷn â gwneud i hyn ddigwydd fel y gall pawb fwynhau'r gorau o'r hyn sydd gan Ddyffryn Clwyd i'w gynnig?
Diolch am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n credu ei bod yn gyffrous pan fydd nifer o fanteision y gellir eu darparu trwy brosiectau. Nawr, nid wyf yn ymwybodol o'r prosiect penodol yr ydych chi'n cyfeirio ato yno, ond ar bob cyfrif, ysgrifennwch ataf gyda rhagor o fanylion fel y gallaf edrych ar hynny. Ac yn aml iawn, mae hyn yn dibynnu ar ddod â phartneriaid at ei gilydd ar lefel leol a rhanbarthol i weld sut y gallant gyfrannu at ddatblygu hynny, a bodloni eu holl amcanion cyffredin—pethau y sonioch chi amdanynt megis teithio llesol, adfer bioamrywiaeth, rhwydweithiau cymunedol ac yn y blaen. Ond dyma lle mae'r potensial cyffrous. Nid mewn un cynllun mawr y mae, ond mewn mentrau o'r fath a arweinir gan bartneriaeth, a arweinir ar lawr gwlad, a arweinir gan y gymuned. Ond fel y dywedais, nid wyf yn ymwybodol o'r prosiect penodol, ond ysgrifennwch ataf a byddaf yn hapus i ddod yn ôl atoch.
6. Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o lwyddiant polisïau Llywodraeth Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi bwyd lleol? OQ61472
Diolch, Siân. Mae ein gweledigaeth strategol a'r rhaglenni cymorth busnes cysylltiedig yn darparu cymorth hanfodol i'n diwydiant bwyd a diod a'i gadwyni cyflenwi. Mae adeiladu a chryfhau gwaith partneriaeth llwyddiannus yn flaenoriaeth i'r strategaeth bwyd cymunedol. Bydd y strategaeth bwyd cymunedol yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Diolch yn fawr. Mewn datganiad gan y Llywodraeth yn 2022 fe ddywedwyd hyn:
'Mae sicrhau y bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024, yn cyflwyno cyfle go iawn am newid sylweddol mewn polisi ac ymarfer i drawsnewid y system fwyd'.
A dwy flynedd yn ôl, fe lansiwyd adnodd caffael bwyd arlein, un newydd o'r enw 'Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol'. Cyn i hwn gael ei gyflwyno, roedd caffael bwyd yn y sector cyhoeddus werth tua £85 miliwn y flwyddyn, ond dim ond tua chwarter o'r bwyd yna oedd yn tarddu o Gymru. Felly, hoffwn i wybod pa welliant sydd wedi bod ers cyflwyno'r adnodd newydd yma, a pha ganran o fwyd sector cyhoeddus sydd bellach yn tarddu o Gymru? Diolch.
Nid oes gennyf yr ystadegau, y data, wrth law. Rwy'n gwybod na fyddech yn disgwyl imi gael hynny i gyd ar flaenau fy mysedd, ond byddaf yn hapus i ddod yn ôl atoch. Ond os caf ddweud, mae rhagor o waith i'w wneud yn y maes, ond rwy'n credu ein bod yn dechrau dangos cynnydd. Fel y nodoch chi, rydym yn gweithio'n agos iawn nawr gydag awdurdodau lleol, a chydweithwyr yn y GIG yn wir, Ysgrifennydd y Cabinet, i gynyddu'r cyflenwad o fwyd lleol i ysgolion ac ar blatiau ysbytai. Ac mae hefyd yn ymwneud â newid meddylfryd ar gaffael bwyd, lle bo angen, i un sy'n creu gwerth yn hytrach nag arbed arian. Nawr, mae hynny'n newid allweddol y mae angen inni ei wneud gyda'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau caffael, ac mae cyfyngiadau ymarferol hefyd, a materion capasiti a gallu, ond rydym yn gweithio ar hyn.
Felly, er mwyn helpu gyda hyn, mae'r canllawiau newydd ar gaffael bwyd wedi'u cynhyrchu. Mae'n dwyn y teitl bachog 'Pŵer Prynu'r Plât Cyhoeddus: Canllaw Cyfreithiol i Fewnosod Cynaliadwyedd wrth Gaffael Bwyd i greu Cymru Iachach, Fwy Cyfoethog'. Mae'n llifo'n rhwydd. Ac fe'i gwelir ar yr adnodd caffael bwyd ar-lein newydd, 'Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol'. Rydym am wneud mwy nawr i sicrhau ein bod yn gogwyddo tuag at gwmnïau bwyd lleol a rhanbarthol, gan barhau i gydymffurfio â rheolau caffael. Felly, rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud, ond rwy'n credu ein bod yn gwthio i'r cyfeiriad cywir nawr.
Mae cwestiwn 7 [OQ61476] wedi ei dynnu nôl. Cwestiwn 8 yn olaf, Peredur Owen Griffiths.
8. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau'r Llywodraeth i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn? OQ61462
Diolch, Pered. Cafodd diweddariad ar fridio cyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn ei gyhoeddi ar 13 Mawrth eleni. Mae swyddogion yn y tîm lles anifeiliaid yn parhau i weithredu dull cydweithredol amlasiantaethol, gan weithio'n agos gyda sefydliadau'r trydydd sector a heddluoedd a chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol i hyrwyddo bridio cyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
Diolch am yr ateb yna a'r update yna.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, bu rhai digwyddiadau trasig yn ymwneud â chŵn yn fy rhanbarth. Mae gwahardd y bwli XL yn un offeryn sydd wedi'i ddefnyddio, ond nid yw'n ddigon yn fy marn i. Mae angen newid mawr yn niwylliant perchnogaeth ar gŵn sy'n rhoi rhagor o faich ar y perchennog. Mae angen hyn yn arbennig yng ngoleuni'r niferoedd cynyddol o bobl sy'n berchen ar gŵn a nifer yr ymosodiadau gan gŵn yn y blynyddoedd diwethaf. Rwyf wedi gwthio'r Llywodraeth ar y mater hwn, ac wedi hynny, fe gynhaliodd eich rhagflaenydd uwchgynhadledd a gweithdy ar y mater. A allwch chi ein sicrhau nad yw'r mater hwn wedi'i roi o'r neilltu ac y bydd hyn yn flaenoriaeth i chi? A allwch chi hefyd roi syniad o'r amserlen ar gyfer newid ar y mater hwn? Yn ystod yr wythnosau diwethaf, gwelwyd mwy fyth o ymosodiadau gan gŵn yn fy rhanbarth, felly ni allwn fforddio gohirio hyn mwyach.
Peredur, diolch am y cwestiwn atodol. Rwyf wedi sefyll yn rhy hir mewn dwy Senedd wahanol ac wedi gweld ymosodiadau gan gŵn wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac nid gan un brîd yn unig. Dyna pam y mae'n rhaid canolbwyntio ar berchnogaeth gyfrifol hefyd, a chredaf mai'r dull rydym yn ei fabwysiadu yng Nghymru, gan ddod â'r partneriaid y soniais amdanynt ynghyd i ganolbwyntio ar hyn, yw'r dull cywir. Mae angen inni wneud llawer mwy ym mhob rhan o'n cymuned i wreiddio'r syniad fod bod yn berchen ar gi yn cynnwys cyfrifoldebau sylweddol, yn enwedig o ran y ffordd y byddwch yn cadw ac yn gofalu am y ci hwnnw a'i les, a'r rhai sy'n agos at y ci hwnnw hefyd.
Felly, fel y soniais—a diolch i chi am wthio hyn hefyd—yn dilyn yr uwchgynhadledd perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a gawsom yn ôl ym mis Hydref 2023, rydym wedi cael cyfres o ddigwyddiadau bellach, ac mae'r momentwm yn parhau trwy gydol 2024 i archwilio'r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd ar y daith hon, argymhellion pellach i hyrwyddo a chefnogi bridio cyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Felly, mae gennych fy ymrwymiad: rydym yn cadw hyn yn flaenllaw yn ein hamcanion yn y Llywodraeth, a byddwn yn ei wneud drwy weithio gyda'r bobl yr effeithiwyd arnynt, y trasiedïau, a sefydliadau'r trydydd sector hefyd a'r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu cyhyd ac mor galed dros les cŵn a diogelwch y cyhoedd yn gyffredinol.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiwn amserol. Y cwestiwn heddiw i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ac i'w ofyn gan Mabon ap Gwynfor.
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y fframwaith mesurau arbennig newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? TQ1157
Mae fframwaith mesurau arbennig newydd, gan gynnwys meini prawf isgyfeirio, sy'n gosod blaenoriaethau clir a disgwyliadau ar gyfer cyfnod nesaf ymyrraeth mesurau arbennig presennol, wedi'i gytuno rhwng prif weithredwr yr NHS yng Nghymru a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cafodd y fframwaith ei ystyried yng nghyfarfod cyhoeddus y bwrdd ar 30 Mai.
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond fe fyddwch yn cofio pan gyhoeddwyd yr archwiliad o fframwaith mesurau arbennig Cymru gyfan yn gynharach eleni, mynegais fy mhryderon ei fod wedi tyfu mewn cymhlethdod heb roi llawer o eglurder ynghylch a allai ymgorffori gwelliannau mewn safonau yn effeithiol ar sail barhaol. Ar ôl darllen drwy'r newidiadau i'r trefniadau yn Betsi Cadwaladr, sydd, gadewch inni beidio ag anghofio, wedi treulio dros ddwy ran o dair o'i fodolaeth gyfan mewn mesurau arbennig, mae arnaf ofn fy mod yn parhau i fod heb fy argyhoeddi o gwbl y byddant yn darparu llwybr clir a chynaliadwy yn ôl i normalrwydd.
Cefais fy nharo'n arbennig yn hyn o beth gan rai o'r meini prawf isgyfeirio a restrir yng nghofnodion y bwrdd. Er enghraifft, mae uchelgais i gynnal targed perfformiad o 55 y cant ar gyfer llwybrau canser dros bedwar mis, er mai'r isafswm targed perfformiad parhaus ledled Cymru yw 75 y cant. Yn yr un modd, dylid cymharu'r meini prawf ar gyfer arosiadau diagnostig a therapi, sydd dros wyth wythnos a 14 wythnos yn y drefn honno, â'r ffaith bod y Llywodraeth i fod i gael gwared ar yr holl arosiadau o'r fath yn llwyr ym mis Mawrth eleni. Hoffwn gyfeirio hefyd at y frawddeg ganlynol yn y rhagymadrodd i'r meini prawf:
'Bydd penderfyniadau ar isgyfeirio yn seiliedig ar asesiad cyffredinol o'r cynnydd ar draws y meysydd yn hytrach na chyflawniad absoliwt pob un o'r meini prawf o dan bob maes.'
Mae hyn yn awgrymu y bydd gwelliannau cymedrol neu rannol mewn rhai meysydd yn cael eu hystyried yn ddigonol at ddibenion isgyfeirio. Yr argraff bennaf, felly, yw bod y trothwyon ar gyfer isgyfeirio yn is na disgwyliadau swyddogol y Llywodraeth o ran sut y dylai'r GIG yng Nghymru fod yn perfformio fel isafswm. Wrth gwrs, y realiti anffodus yw bod targedau perfformiad y Llywodraeth ar gyfer gofal iechyd wedi bod mewn enw'n unig i raddau helaeth am beth amser beth bynnag. Felly, a yw'r fframwaith diwygiedig hwn yn gydnabyddiaeth ddealledig fod y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i'w thargedau ei hun ar gyfer gofal iechyd a bod y pyst gôl yn cael eu symud yn unol â hynny?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Nac ydy, yn bendant nid ydynt yn cael eu symud, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni fyw mewn realiti, a'r gwir amdani yw, os ydych chi'n destun mesurau arbennig, mae angen ichi wybod ble mae'r camau, mae'n rhaid ichi ddarparu rhywbeth sy'n eich galluogi i fynd i mewn i'r fframwaith isgyfeirio hwnnw. Holl bwynt hyn yw bod y rhain yn faterion gweithredol, maent yn faterion y cytunir arnynt rhwng prif weithredwr y GIG a phrif weithredwr y bwrdd iechyd unigol, felly maent wedi cytuno ar yr hyn sy'n bosibl o fewn yr hyn y gallant ei wneud gyda'r capasiti sydd ganddynt ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn glir fod yna lwybr. Rydym bob amser wedi bod yn glir nad yw mesurau arbennig yn mynd i fod yn rhywbeth y bydd y bwrdd iechyd yn gallu dod allan ohonynt dros nos, a'r hyn a ddarparwn yma yw llwybr ar gyfer isgyfeirio. Mater i'r bwrdd iechyd, wrth gwrs, yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r isgyfeirio hwnnw.
Rwy'n ddiolchgar i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r cwestiwn amserol hwn heddiw, oherwydd mae'n sicr yn amserol—yn amserol i bobl gogledd Cymru yn y ffaith bod pobl yng ngogledd Cymru wedi cael eu gwasanaethu'n wael am ormod o amser gan y Llywodraeth hon, yn enwedig yn ei goruchwyliaeth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd ers yn rhy hir, fel y gwyddom, fel cyd-destun, wedi bod yn gwbl annerbyniol, ac rydym yn ei weld bob dydd yn y gwaith achos yr wyf innau a chyd-Aelodau yn ei weld yn ein mewnflychau.
Dychmygwch y dicter gan etholwyr i mi ac eraill yn yr ystafell hon, yn hytrach nag wythnosau fel hon—yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn lle gwneud eu gorau glas i ddatrys y problemau hirhoedlog hynny, mae gennym anhrefn y brad a'r ymladd mewnol ymhlith y Blaid Lafur yma yn y Senedd, sydd, yn ôl pob golwg, yn malio dim am y dioddefaint y mae pobl yng ngogledd Cymru yn ei wynebu. Er bod croeso i weld fframwaith yn ei le, i weld bod rhywbeth yno y gall bwrdd iechyd weithio tuag ato, rwy'n sicr yn rhannu pryderon fy nghyd-Aelodau ei bod yn ymddangos fel pe bai safon ddisgwyliedig yr amodau yng ngogledd Cymru yn llawer is na'r hyn a geir ar gyfer pobl eraill yma yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hynny'n annerbyniol a dweud y gwir.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â fframwaith, nad ydym o reidrwydd yn argyhoeddedig yn ei gylch yn y lle hwn ar hyn o bryd—nid wyf wedi fy argyhoeddi ei fod yn mynd i wasanaethu ein trigolion yn y ffordd orau bosibl—mae angen inni weld cynllun hirdymor cynaliadwy hefyd i ryddhau Betsi o'r llanast y mae'n parhau i fod ynddo. Mae hyn yn cynnwys ysgrifennu a gweithredu cynllun gweithlu i hybu niferoedd staffio, yn ogystal â gwario pob ceiniog sydd ar gael iddo drwy gyllid canlyniadol Barnett ar wasanaethau iechyd. Felly, gyda'r wybodaeth fod y fframwaith hwn bellach ar waith, tybed a allwch chi roi dyddiad ar gyfer pryd y disgwyliwch i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gael ei ryddhau o fesurau arbennig, a phan fydd hynny'n digwydd, a yw'r fframwaith hwn yn sicrhau na fyddwn yn suddo'n ôl i'r mesurau arbennig hynny ychydig fisoedd yn ddiweddarach? Gobeithio na welwn ailadrodd yr hyn a welsom cyn etholiad diwethaf y Senedd. Ymhellach, beth yw statws y cynllun ar gyfer y gweithlu i sicrhau bod Betsi yn addas i'r diben, nid yn unig yn ystod y cyfnod lle mae'n destun mesurau arbennig ond am flynyddoedd a degawdau i ddod, fel nad oes rhaid i drigolion gogledd Cymru boeni bob tro y byddant yn mynd yn sâl neu'n cael damwain? Diolch yn fawr iawn.
Wel, diolch yn fawr. Rwy'n ofni nad yw'n amserol mewn gwirionedd. Cafodd ei gyhoeddi gan y bwrdd iechyd ar 30 Mai. Felly, os oes gennych chi ddiddordeb go iawn, byddai'n gwneud synnwyr i chi gadw llygad am bapurau'r bwrdd, lle cafodd ei gyhoeddi. Felly, rwy'n meddwl, o ran —. Ac roeddwn am sicrhau fy mod yn tynnu sylw Aelodau Gogledd Cymru ato, ond mewn gwirionedd, papur y bwrdd iechyd ydyw, a mater o gwrteisi oedd tynnu eich sylw at y ffaith ei fod yn bodoli.
Felly, o ran pryd y caiff ei ryddhau o fesurau arbennig, mae llawer o waith i'w wneud yn Betsi, ac rwy'n gwybod hynny oherwydd fy mod yn cael cyfarfodydd misol gyda'r cadeirydd, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r bwrdd. Cefais gwestiwn gan aelod o'r cyhoedd yn ddiweddar yn gofyn imi faint o amser rwy'n ei dreulio ar Betsi. Ac rwy'n credu y byddent yn synnu faint o amser rwy'n ei dreulio ar Betsi. Rwy'n treulio llawer iawn o fy amser yn sicrhau ein bod yn cadw'r pwysau ar fwrdd iechyd heriol iawn. Rwy'n credu bod newidiadau wedi digwydd.
O ran yr hyn a ddisgwylir, mae yna rai meysydd. Mae tua chwe maes y mae'n rhaid iddynt ganolbwyntio arnynt. Felly, cyllid, perfformiad, gwasanaethau bregus, llywodraethu, arweinyddiaeth ac ansawdd gofal. Felly, mae gan bob un o'r pethau hynny feini prawf ar eu cyfer, ond maent yn benodol, felly maent i fod i geisio gweithio tuag atynt. Maent yn benodol, ond o ran gwneud penderfyniad cyffredinol ynglŷn ag a ydynt yn cael eu rhyddhau ai peidio, mater i'r GIG, i'r gwasanaeth sifil yma, fydd hynny, i roi cyngor i mi ynglŷn ag a ydynt, yn gyffredinol, yn y lle cywir, ac wrth gwrs, mae angen iddynt fod yn hyderus na fyddwn yn mynd tuag yn ôl. Felly, ni allwn gael sefyllfa lle rydym yn eu rhyddhau a'u bod yn mynd yn ôl i mewn wedyn. Felly, mae cynaliadwyedd yn gwbl allweddol yma.
Ac o ran y gweithlu, mae mwy o bobl yn gweithio yn Betsi Cadwaladr heddiw—cryn dipyn yn fwy—nag sydd erioed wedi bod o'r blaen. Mae wedi cynyddu'n sylweddol ers 2019. Rwy'n credu ein bod yn disgwyl i'r niferoedd ffurfiol gael eu cyhoeddi yfory. Er bod pwysau ariannol enfawr yn y GIG, rwy'n credu ei bod yn ddiddorol iawn nodi y bu cyfle o hyd i recriwtio i'r gweithlu yn y GIG, yn enwedig yn Betsi. Felly, rydym yn gwario £250 miliwn y flwyddyn yn hyfforddi pobl, yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf, gan sicrhau bod gweithlu'r dyfodol yn barod ar gyfer y dyfodol. Y gwir amdani yw bod y galw yn parhau i ddod, ac nid yw hynny'n mynd i newid, felly mae'n rhaid inni feddwl am ffyrdd newydd o wneud pethau, gan gynnwys trawsnewid digidol, er enghraifft, sy'n faes arall rwy'n treulio llawer o amser arno.
Diolch, Weinidog, am yr ymatebion a roesoch chi eisoes. Cefais fy synnu braidd pan ddarllenais drwy'r ddogfen yn nodi'r llwybr allan o fesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd yn ymddangos i mi, a'r etholwyr y siaradais â nhw, fod y targedau y mae'r bwrdd iechyd wedi'u gosod yn llawer rhy hawdd i'w cyflawni, ac mae'r ffaith y gellir methu eu cyrraedd nhw hyd yn oed a bod y bwrdd iechyd yn dal i gael ei ryddhau o fesurau arbennig yn ymddangos yn eithaf rhyfeddol.
Rwy'n credu bod pobl Cymru yn dal i synnu mai gwleidyddion sy'n dal i wneud penderfyniad ynglŷn ag a yw bwrdd iechyd yn mynd yn destun mesurau arbennig ai peidio. Mae hynny'n gwbl amhriodol, nid dyna sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r DU, lle ceir proses gwbl annibynnol er mwyn gosod sefydliad yn y GIG dan fesurau arbennig, a hoffwn awgrymu bod angen yr annibyniaeth honno yma hefyd. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yna broses gwbl dryloyw ac annibynnol sy'n tynnu Gweinidogion fel chi allan o'r broses honno'n gyfan gwbl?
Ac yn y datganiad busnes ddoe nodais bwysigrwydd cwynion sy'n helpu i driongli a oes gwelliannau gwirioneddol yn cael eu cyflawni. Gwyddom i gyd mai un o'r heriau a gawsom ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dros y blynyddoedd fu gorddibyniaeth, gan Weinidogion a chan eraill sy'n gwneud y penderfyniadau allweddol hyn, ar sicrwydd ffug a roddwyd gan y bwrdd iechyd ynglŷn â gwelliant, ac nad ydynt wedi cynrychioli'r ffeithiau gwirioneddol ar lawr gwlad o ran cyflawni. Nawr, un ffordd y gallwch ganfod a yw'r sicrwydd a roddir yn ffug yw gwrando ar brofiad bywyd cleifion yn y GIG sy'n ymgysylltu â gwasanaethau. Ni cheir unrhyw beth yn y fframwaith uwchgyfeirio na'r ddogfen isgyfeirio, a ddarllenais yn fanwl o'r dechrau i'r diwedd, sy'n sôn am rôl cwynion i helpu i lywio'r penderfyniadau hynny. Rwy'n credu bod hynny'n ddiffyg enfawr y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef, a hoffwn eich annog, Weinidog, i edrych ar adolygu'r ddogfen honno, gyda chytundeb y partïon eraill yn y trefniadau teirochrog, i sicrhau bod cwynion yn cael eu hystyried. Rwy'n gwybod eich bod chi'n nodio'ch pen mewn cytundeb ddoe pan oeddwn yn sôn am rôl cwynion, a chefais fy nghalonogi gan hynny, felly a allwch chi ddweud wrthym sut y byddwch yn ymgorffori cwynion yn hynny? Diolch.
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, fel Gweinidog, ie, fi yw'r un sydd, yn y pen draw, yn penderfynu, ond rwy'n gweithredu ar y cyngor sy'n dod o'r gwasanaeth sifil, ond hefyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, felly mae dull clir o weithredu'r ffordd y mae uwchgyfeirio'n digwydd. Cyhoeddais fframwaith goruchwyliaeth ac uwchgyfeirio'r GIG ym mis Ionawr, ac mae'r cyfan wedi'i nodi'n glir yno.
Ar y cwynion, fe fyddwch yn falch iawn o glywed, Darren, fy mod yn gwrando arnoch yn y Siambr, a fy mod wedi mynd yn ôl a gofyn beth yw'r sefyllfa yn benodol mewn perthynas â hyn, ac os edrychwch chi ar y fframwaith fel y mae wedi ei osod, ar dudalen 19, mae'n sôn am adolygu data ynghylch digwyddiadau, cwynion, Datix, digwyddiadau 'byth', i sefydlu unrhyw batrymau ac ymchwilio i ba raddau y mae dysgu'n digwydd ar draws y sefydliad. Felly, mae yno. [Torri ar draws.] Mae yno, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod ei fod wedi'i gynnwys. Darren, fe wnaethoch chi ofyn i mi os yw yno. Fe ddywedoch chi wrthyf eich bod wedi darllen yr adroddiad yn fanwl—
Edrychwch arno. Roeddech chi'n nodio'ch pen mewn cytundeb ddoe oherwydd—
Darren, gadewch i'r Gweinidog ymateb. Darren, gadewch i'r Gweinidog ymateb.
Tynnais eich sylw at yr union eiriad y dywedoch chi wrthyf nad oedd yno, ac mae yno. Diolch.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedodd yr Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd, un o'r meini prawf cymhwyso ar gyfer isgyfeirio yn wir yw lleihau amseroedd aros, ac fel y gwyddoch ac fel y gwn i, ac fel y gŵyr y rhan fwyaf o bobl, mae'r amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd yn ofnadwy. Maent yn gwaethygu, ac yn amlwg os yw hynny'n un o'r meini prawf cymhwyso ar gyfer isgyfeirio, yna nid yw byth yn mynd i gael ei ryddhau o fesurau arbennig. Ac un o'r atebion i'r amseroedd aros ofnadwy yn adran damweiniau ac achosion brys Glan Clwyd yw adeiladu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn y Rhyl, a welir ers tro fel ateb i rai o'r amseroedd aros hynny, gan y bydd yn gwella'r clwyfedig sy'n gallu cerdded, os mynnwch, gan adael gwasanaethau damweiniau ac achosion brys Glan Clwyd i ymdopi â'r achosion mwyaf difrifol. Yn amlwg, mae wedi cael ei addo ers dros ddegawd bellach, heb unrhyw gyflawniad, er mawr rwystredigaeth i lawer o fy etholwyr yn y Rhyl, Prestatyn ac yn rhai o'r trefi a'r pentrefi cyfagos yng ngogledd sir Ddinbych. Felly, yn amlwg, mewn ymateb i fy nghwestiynau ar hyn o'r blaen, rydych chi wedi beio Llywodraethau'r DU neu Lywodraethau Ceidwadol y DU. Bellach, mae gennym Lywodraeth Lafur y DU wrth y llyw, felly pa sgyrsiau y gallwch chi eu cael i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect hanfodol hwn i fy etholwyr, mewn sgyrsiau â'r bwrdd iechyd a Llywodraethau allanol eraill ledled y DU, i sicrhau bod fy etholwyr yn gallu cael mynediad da a diogel at wasanaethau gofal sylfaenol yng ngogledd sir Ddinbych? Diolch.
Diolch yn fawr. Fe fyddwch yn ymwybodol, o edrych ar y gostyngiad mewn amseroedd aros, mai dyma fy mhrif flaenoriaeth mewn gwirionedd. Rwy'n treulio llawer o amser ar hyn hefyd. Rwy'n cyfarfod â fy ngweision sifil bob pythefnos i fynd drwy fanylion yr hyn sy'n digwydd ble, o dan ba amodau gwahanol, a ble'r ydym arni. Rwy'n edrych ar hyn yn fanwl iawn; mae'n siŵr y gallaf enwi'r bobl sydd wedi bod ar y rhestrau aros hiraf. Felly, amseroedd aros yw'r hyn rwy'n canolbwyntio arno. Y peth arall yw Glan Clwyd. Wrth gwrs, daw hyn o dan wasanaethau bregus, sef un o'r meysydd a nodwyd yn y meini prawf uwchgyfeirio a'r meini prawf isgyfeirio. Mae gofal brys Glan Clwyd ar y rhestr honno, felly mae rhai awgrymiadau penodol yno o ran yr hyn y dylent fod yn ei wneud. Yn amlwg, rydym yn dal i aros am yr achos busnes gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â'r Rhyl, ac rwy'n credu ei bod yn werth nodi, yn gyntaf oll, fod chwyddiant hefyd wedi chwarae rhan yn y ffaith, pan ddaeth y cynnig cychwynnol i mewn, ei fod tua £20 miliwn i £30 miliwn; heddiw, mae'n llawer uwch na hynny ac nid yw'n bosibl i ni ei wneud. Ac rydych chi'n hollol iawn, byddai'n hyfryd pe baem yn cael rhagor o arian gan Lywodraeth Lafur y DU, ond rydych chi wedi gadael yr economi mewn cymaint o lanast. A gadewch inni beidio ag anghofio ein bod wedi cael £1 filiwn—[Torri ar draws.] Cawsom £1 filiwn o gyfalaf ychwanegol—[Torri ar draws.] Na, arhoswch eiliad. Rydym wedi gwario cannoedd o filiynau yng ngogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf hefyd. Felly, £1 filiwn o gyfalaf ychwanegol—mae'r Ysgrifennydd cyllid yn ei sedd—ar gyfer holl—ar gyfer holl wariant Llywodraeth Cymru. Felly, mae hynny'n anodd iawn i ni. Felly, yn amlwg, fe fydd yn rhaid inni osod hyn yn erbyn y blaenoriaethau eraill y mae'r bwrdd iechyd am eu gweld yng ngogledd Cymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad. Dim ond un datganiad sydd heddiw, a bydd hwnnw gan Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Yn 1984, fe ysbrydolwyd R. Gwynn Davies o Waunfawr gan amgylchiadau personol i drawsnewid canfyddiad pobl o rôl unigolion ag anableddau dysgu mewn cymdeithas. Aeth ati i sefydlu Antur Waunfawr i ddarparu cyfleon i bobl ag anableddau dysgu o fewn y gymuned, yn hytrach na rhoi gofal a gwaith mewn canolfannau arbenigol, ynysig. Mae’n anodd cyfleu gweledigaeth mor arloesol oedd hwn yn y 1980au.
Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’r Antur yn dal i ddatblygu. Mae ganddi amrywiaeth o fusnesau cynaliadwy llewyrchus, ac mae’n cynnig cyfleon cyflogaeth, hyfforddiant, lles a gwirfoddoli i unigolion. Mae gwaith yr Antur hefyd yn helpu i daclo her newid hinsawdd; boed hynny ar y safle ailgylchu ar ystad ddiwydiannol Cibyn, yn siop ddodrefn ail-law y Warws Werdd, gyda’u cynllun ailgylchu dillad, neu gyda’u siop feics reit yng nghanol tref Caernarfon, mae Antur Waunfawr yn parhau i fod ar flaen y gad, fel ag yr oedd hi yn 1984.
Chwalu rhwystrau ydy’r egwyddor sydd wedi bod wrth galon gwaith yr Antur ers ei sefydlu yn 1984, ac er bod cymaint yn fwy y gallwn ei ddweud am y fenter arbennig yma, digon am y tro ydy dweud, 'Pen-blwydd hapus iawn i Antur Waunfawr yn 40', gan obeithio y caiff y criw hwyl dda arni wrth ddathlu. Diolch.
Nesaf yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, os nad oes unrhyw wrthwynebiad, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'r pleidleisio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.
Felly, galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud yn cynigion yn ffurfiol. Darren Millar.
Cynnig NNDM8646 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Cynnig NNDM8647 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Natasha Asghar (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig).yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Cynigiwyd y cynigion.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatau i eitem 5 gael ei drafod. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.
Cynnig NNDM8649 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal dros dro Reol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i NNDM8648 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Y cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 5 yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Darren Millar.
Cynnig NNDM8648 Elin Jones
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y dylai trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) gael eu hystyried gan Bwyllgor o’r Senedd Gyfan.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 heddiw yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—atebolrwydd Aelodau unigol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Vikki Howells.
Ddirprwy Lywydd, yn ystod eleni, codwyd y cwestiwn ynghylch sut i ddwyn Aelodau unigol i gyfrif mewn sawl cyd-destun, yn ogystal â'r gwaith sydd ar y gweill yn y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Heddiw, hoffwn fanteisio ar y cyfle i nodi i'r Senedd y cyd-destun pam mae hyn yn bwysig, y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud hyd yma, a'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud gyda'i ymchwiliad i atebolrwydd Aelodau unigol.
Ddirprwy Lywydd, bu cryn drafod ar y lefelau isaf erioed o ymddiriedaeth mewn gwleidyddion yn y cyfryngau ac mewn sgyrsiau ar y stryd. Fel cynrychiolwyr etholedig, mae'n ddyletswydd arnom i wneud popeth a allwn i ailadeiladu a chynnal ymddiriedaeth ynom. Bydd llawer o'r gwaith ailadeiladu'n digwydd drwy ein gweithredoedd a'r ffordd rydym yn ymddwyn.
Mae rhai o'r themâu sy'n dod i'r amlwg yn adroddiadau diweddar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn dangos bod angen i bob Aelod sicrhau bod ein trafodaethau'n cael eu cynnal mewn modd parchus. Nid yw hyn yn golygu na allwn fod yn gadarn, ond ein bod yn mynegi ein barn a'n dadleuon gyda pharch ac ystyriaeth. Fodd bynnag, agwedd bwysig arall ar adeiladu’r ymddiriedaeth hon yw datblygu atebolrwydd, gan ganiatáu i’r rheini sydd wedi ymddiried ynom gael dweud eu dweud pan fydd ein safonau wedi gostwng ymhell islaw’r hyn a ddisgwylir gan gynrychiolwyr etholedig.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae proses annibynnol gadarn eisoes ar waith i ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd. Fodd bynnag, yn y sesiynau tystiolaeth a gynhelir gan y pwyllgor, mae neges glir wedi dod i’r amlwg y gellir adolygu, ac mewn mannau, gwella’r ffordd y caiff Aelodau eu dwyn i gyfrif.
Un opsiwn ar gyfer cyflawni hyn yw drwy gyflwyno mecanwaith ar gyfer adalw Aelodau, lle caiff yr etholwyr opsiwn i adalw Aelod o’r Senedd pan gaiff cwyn am gamymddwyn ei chadarnhau. Mae'r pwyllgor wedi cytuno i flaenoriaethu ystyriaeth o'r maes hwn sy'n ymwneud ag atebolrwydd Aelodau unigol. Wedi inni ystyried y dystiolaeth a glywsom gan dystion, ein nod yw dod i gasgliad a fydd yn llywio ymrwymiad uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ddeddfu yn y maes erbyn diwedd y Senedd hon.
Mae’r pwyllgor eisoes wedi clywed gan ystod eang o randdeiliaid, ac mae’r mewnbwn hwn wedi helpu i lywio dogfen ymgynghori, y byddwn yn ei chyhoeddi yr wythnos nesaf. Mae'n bwysig pwysleisio bod y pwyllgor yn cadw meddwl agored ar y pynciau hyn i'w hystyried, ac edrychwn ymlaen at dderbyn tystiolaeth gan ystod eang o ymatebwyr yn nhymor yr hydref.
Fe wnaethom benderfynu gwahodd tystion i roi tystiolaeth cyn ymgynghori, i sicrhau bod yr ymgynghoriad yn ddogfen drylwyr a luniwyd ar sail gwybodaeth ac sy'n gofyn y cwestiynau cywir. Ar hyn o bryd, Tŷ’r Cyffredin yw’r unig Senedd yn y DU sydd â system adalw, ac mae’r pwyllgor wedi clywed llawer i gefnogi'r model y mae’n ei ddefnyddio. Fodd bynnag, drwy ein hystyriaeth gychwynnol, mae wedi dod yn amlwg i’r pwyllgor fod angen inni addasu a datblygu system a fydd yn gweithio i Gymru, a’r safbwynt hwn sy'n sail i’n hymgynghoriad.
Hoffwn rannu rhai o’r ystyriaethau ar gyfer y pwyllgor. Yn gyntaf, bydd y Senedd yn newid i system etholiadol rhestr gaeedig yn y seithfed Senedd. Mae’r pwyllgor felly’n ystyried sut y byddai system adalw bosibl yn gweithio gyda’r system hon o gynrychiolaeth gyfrannol. Bydd angen i unrhyw system ar gyfer adalw Aelodau gael ei llunio yn unol â'r system etholiadol newydd.
Yn ail, mae’r pwyllgor wedi bod yn ystyried yr amgylchiadau a fyddai’n sbarduno proses adalw. Byddai’r pwyllgor yn croesawu safbwyntiau ar hyn, yn enwedig a ddylai eithrio rhywun o drafodion y Senedd am nifer penodol o ddyddiau sbarduno’r broses adalw, fel sy’n digwydd yn San Steffan; a ddylai fod darpariaeth ar gyfer sbarduno’r broses adalw pan fo Aelod yn ymuno â phlaid wahanol, er nad oedd y rhan fwyaf o dystion o blaid hyn; ac a fyddai’r broses adalw’n cael ei sbarduno pan na fydd Aelod yn cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd am gyfnod penodol o amser heb reswm da.
Yn drydydd, mae model adalw San Steffan yn ei gwneud yn ofynnol ar hyn o bryd i 10 y cant o’r etholwyr lofnodi deiseb yn galw am adalw Aelod, y gellir ei wneud mewn nifer o fannau dynodedig. Os bydd 10 y cant wedi llofnodi'r ddeiseb ar ddiwedd y cyfnod llofnodi o chwe wythnos, rhoddir camau ar waith i gynnal is-etholiad. Mae’r pwyllgor wedi bod yn ystyried materion megis y trothwy canran yr etholwyr sy’n ofynnol er mwyn diswyddo’r Aelod; yr amserlen ar gyfer cynnal deiseb; a ddylai fod opsiwn i fynegi ffafriaeth o blaid cadw’r Aelod; a nifer y lleoedd dynodedig sydd ar gael i lofnodi deiseb, sy'n amrywio’n sylweddol ar hyn o bryd yn ôl yr hyn a glywsom.
Ynghyd ag adalw, mae’r pwyllgor wedi ystyried a oes unrhyw faterion ymddygiad a ddylai arwain at anghymhwyso Aelodau o’r Senedd. Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae unrhyw Aelod sy’n cael dedfryd o garchar o 12 mis neu fwy yn cael eu hanghymhwyso o’r Senedd. Mae’r pwyllgor yn awyddus i glywed a ddylai dedfrydau byrrach o garchar arwain at anghymhwyso Aelod.
Ar fater anghymhwyso, mae’r pwyllgor yn croesawu’r gwaith a wnaed gan Aelodau ar ddatblygu’r cynigion ar gyfer gwneud dichell yn rheswm dros anghymwyso. Mae’n sicr yn faes diddorol i’r pwyllgor ei ystyried, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda grŵp ehangach o Aelodau er mwyn ffurfio barn ar hyn.
Bydd y pwyllgor yn cyhoeddi ei ymgynghoriad llawn yr wythnos nesaf, ac rwy’n annog cymaint o bobl â phosibl i edrych arno. Rydym yn bwriadu parhau i edrych ar atebolrwydd Aelodau unigol yn nhymor yr hydref. Ein nod yw cwblhau ein gwaith mewn modd amserol er mwyn llywio unrhyw gynigion deddfwriaethol y gallai Llywodraeth Cymru eu cyflwyno cyn etholiadau 2026.
Gyda phasio Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, mae’r Senedd hon wedi cymryd camau pwysig i sicrhau bod gan Gymru y gynrychiolaeth angenrheidiol i fod yn Senedd effeithiol a gwirioneddol gynrychioliadol. Ond fel y dywed yr hen air, gyda grym daw cyfrifoldeb, ac mae’n hanfodol ein bod ni fel Aelodau o’r Senedd yn derbyn y cyfrifoldeb hwn ac yn cydnabod yr angen am atebolrwydd cryfach i’n hetholwyr. Rwy'n gobeithio y bydd gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn floc adeiladu pwysig i gryfhau ein democratiaeth.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill, felly diolch i'r Cadeirydd.
Eitem 7 yw dadl y Pwyllgor Cyllid: blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Peredur Owen Griffiths.
Cynnig NDM8642 Peredur Owen Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:
a) digwyddiad i randdeiliaid yng Nghanolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin;
b) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion; a
c) digwyddiadau ymgysylltu gyda phobl ifanc.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gennyf godi heddiw i agor y ddadl yma gan y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.
Mae’r dadleuon hyn wedi dod yn arf gwerthfawr i ni fel pwyllgor i ddweud wrth Lywodraeth Cymru sut mae ei phenderfyniadau cyllidebol yn effeithio ar bobl ym mhob rhan o Gymru yn ddyddiol. Mae’n llinyn mesur i ni weld sut mae cyllid, neu ei ddiffyg, yn effeithio ar bobl ar y rheng flaen, a bwydo’r safbwyntiau hyn yn ôl i’r Llywodraeth, a fydd yn gosod ei blaenoriaethau gwariant yn y gyllideb ddrafft yn hwyrach yn y flwyddyn.
Rydym yn gwerthfawrogi parodrwydd ein rhanddeiliaid i gymryd rhan yng ngwaith ymgysylltu’r pwyllgor, ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi siarad mor angerddol a gonest am eu barn sydd, mewn llawer o achosion, hefyd yn brofiadau byw. Y nod i lawer ohonynt oedd cynnig atebion ymarferol am ffyrdd mwy effeithiol o ddefnyddio cyllid, gan ein hatgoffa ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at yr un nod: gwella bywydau pobl yma yng Nghymru.
Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y safbwyntiau yn yr adroddiad hwn ac yn gosod ei blaenoriaethau flwyddyn nesaf gan gofio’r rhain.
Ddirprwy Lywydd, roedd ein gwaith ymgysylltu ar gyllideb y flwyddyn nesaf yn cynnwys tair elfen: digwyddiad rhanddeiliaid yng Nghanolfan S4C yr Egin yng Nghaerfyrddin, nifer o grwpiau ffocws gyda sefydliadau a dinasyddion ledled Cymru, a digwyddiadau ymgysylltu ag ieuenctid, gan gynnwys grŵp ffocws penodol gyda myfyrwyr yng Ngholeg y Cymoedd, a sesiwn alw heibio yn Eisteddfod yr Urdd.
Cyn imi nodi ein blaenoriaethau, hoffwn bwysleisio y bydd cyllideb y flwyddyn nesaf yn cael ei datblygu mewn cyd-destun gwahanol, yn dilyn ethol Llywodraeth newydd yn San Steffan. Yn amlwg, mae’n rhy gynnar i asesu effaith hyn ar sefyllfa cyllid Llywodraeth Cymru, ond hoffwn fanteisio ar y cyfle i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pa wybodaeth y mae wedi’i chael gan y Canghellor neu’r Trysorlys ar ddatblygiadau yn y maes hwn.
Hoffwn fynegi siom fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r gyllideb ddrafft yn hwyr eto eleni, ar 10 Rhagfyr. Fodd bynnag, rwy'n derbyn bod yna ansicrwydd hyd nes y bydd y Canghellor yn cadarnhau dyddiad digwyddiad cyllidol yr hydref, ac rwy'n croesawu'r ffaith y caiff y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi yn ystod tymor y Senedd eleni, a fydd o leiaf yn caniatáu i’r Aelodau yn y Siambr ystyried y cynigion cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi.
Ddirprwy Lywydd, trof yn awr at ein gwaith ymgysylltu. Fel sylw cyffredinol, ceir dealltwriaeth fod adnoddau llywodraethol yn dynn, a bod ffocws diamau ar leihau aneffeithlonrwydd ariannol yn hytrach na chynyddu cyllid. Yn fyr, mae'r hinsawdd economaidd yn anodd. Mae effaith hirdymor yr argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar y cyd-destun ariannol, ac mae ei effaith i'w gweld ar draws y meysydd blaenoriaeth a nodwyd gennym yn ein hadroddiad. Mae hyn, wedi’i waethygu gan ddigwyddiadau byd-eang a’r ddibyniaeth gynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, sydd eu hunain yn ei chael hi'n anodd gweithredu’n effeithiol, yn cyfuno i greu darlun llwm.
Fodd bynnag, er gwaethaf honiad Llywodraeth Cymru yn ei naratif cyllidebol y llynedd ei bod yn diogelu gwasanaethau rheng flaen craidd, teimlai rhanddeiliaid fod angen llai o benderfyniadau adweithiol byrdymor, yn y gred fod hynny wedi digwydd ar draul cyllidebu strategol mwy hirdymor. Fel y dywedodd un cyfranogwr wrthym,
'Nid taflu arian at bethau yw'r ateb, ond sut y caiff ei wario yn hytrach na faint sy'n cael ei wario.'
Yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys ymbellhau oddi wrth y defnydd o staff asiantaeth yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn arbennig. O ganlyniad, mae ein hadroddiad yn nodi rhai meysydd blaenoriaeth allweddol y disgwyliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf fynd i’r afael â nhw.
Yn gyntaf oll, ers amser maith, mae taer angen datblygu dull cynaliadwy a chyfannol o ariannu iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n gydgysylltiedig ac sydd wedi’i wreiddio mewn cydweithrediad â gwasanaethau rheng flaen eraill. Fel y dywedodd un gofalwr di-dâl wrth ein grwpiau ffocws,
'Mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol, ni chredaf fod y llaw chwith yn gwybod beth mae'r llaw dde yn ei wneud.'
Soniodd rhanddeiliaid yn ein digwyddiad yng Nghaerfyrddin am yr anghydbwysedd yn y cyllid rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n aml yn arwain at dagfeydd yn y system. Byddai mynd i’r afael â hyn yn golygu y gallai cleifion gael eu trosglwyddo’n gynt o ysbytai i ofal cymdeithasol, ac yn ôl adref. Ym mhob un o’n digwyddiadau, roedd teimlad cryf fod angen parch cydradd rhwng gweithwyr gofal cymdeithasol a staff y GIG.
Yn ail, mae'n amlwg fod angen mynd i’r afael ar frys â’r pwysau cyllidebol yn y sector addysg, y clywsom eu bod ar ymyl y dibyn. Gyda nifer o ysgolion yn wynebu diswyddiadau gorfodol ac awdurdodau lleol heb yr adnoddau mwyach i ddarparu rhai gwasanaethau ysgol penodol, cafwyd neges glir gan randdeiliaid fod taer angen cyllid ychwanegol.
Clywsom bryderon ynglŷn â sut mae costau byw yn effeithio ar blant a phobl ifanc sydd angen prydau ysgol am ddim, ond sut nad yw hyn bob amser yn bosibl gan nad yw trothwyon incwm wedi’u codi yn unol â chwyddiant. Lleisiwyd pryderon hefyd am fynediad y plant mwyaf agored i niwed at brydau bwyd fforddiadwy yn ystod gwyliau ysgol.
Dywedodd myfyrwyr mewn un grŵp ffocws wrthyf fod cost y diwrnod ysgol yn codi’n raddol, yn enwedig gwisg ysgol, ymweliadau ac offer. Eto eleni, ac yn enwedig o blith y rhai y buom yn siarad â nhw yn Eisteddfod yr Urdd, roedd pobl yn ofni y byddai toriadau pellach i’r sector addysg yn drychinebus i’r disgyblion mwyaf agored i niwed, gan effeithio ar wasanaethau allweddol sydd wedi’u targedu at ddarparu gofal iechyd meddwl i ddisgyblion a chefnogi’r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn drydydd, nodwyd tai ac adeiladu cymunedau lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael y cymorth i fyw a gweithio fel blaenoriaeth allweddol. Daeth hyn drwyddo’n gryf yn ein grwpiau canolbwyntio ar y dinesydd. Dywedodd rhywun,
'Dylai tai o ansawdd da fod yn hawl ddynol sylfaenol.'
Codwyd pwysigrwydd adeiladu tai carbon isel o ansawdd da y gellir eu haddasu’n hawdd i bobl ag anableddau a chyflyrau iechyd. Ond roedd neges glir ei bod yn hanfodol bod cartrefi yn y mannau cywir, yn agos at ysgolion, trafnidiaeth, siopau ac ardaloedd gwyrdd, nid yn unig er mwyn lleihau costau adeiladu seilwaith newydd, ond hefyd er mwyn lleihau’r ôl-troed carbon a sbarduno twf economaidd. Byddai buddsoddi fel hyn nid yn unig yn helpu i fynd i’r afael â’r angen am dai, ond byddai hefyd yn sicrhau nifer o fanteision eraill, sef lleihau rhenti a chystadleuaeth, gwella iechyd a llesiant pobl, lleihau biliau ynni, a galluogi cartrefi i arbed ynni.
Siaradodd rhai yn angerddol am y manteision diwylliannol hefyd, gan gynnwys helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Drwy helpu pobl ifanc i aros yn eu cymunedau, a neilltuo cyllid ar gyfer yr iaith, gallwn ni sicrhau bod mwy o bobl yn siarad y Gymraeg nag erioed o’r blaen, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. At hynny, drwy ddatblygu gweithlu dwyieithog a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc astudio a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r ateb yn ymarferol. Bydd hyn nid yn unig yn helpu i ddiogelu y Gymraeg, ond bydd hefyd yn ei galluogi i ffynnu yn ein cymunedau.
Mae ein pedwerydd maes blaenoriaeth yn ymwneud â gwario'n fwy effeithlon ac effeithiol i adeiladu’r economi leol drwy greu swyddi cynaliadwy, darparu gwell cysylltiadau trafnidiaeth, ac adeiladu tai fforddiadwy. Soniodd y cyfranogwyr am alinio ysgogiadau polisi fel y dylid ymdrechu, wrth fuddsoddi mewn sectorau fel iechyd neu'r pontio gwyrdd, i sicrhau’r buddion mwyaf posibl i fusnesau ac economïau lleol. Byddai’n esgeulus imi beidio â sôn am y pryderon ynghylch y gostyngiad yn y rhyddhad ardrethi a’r effaith enfawr y bydd hyn yn ei chael ar rai sectorau megis busnesau hamdden a lletygarwch, gan arwain at gau lleoliadau a cholli swyddi.
Yn anffodus, unwaith eto eleni, soniodd nifer o randdeiliaid am y statws anghyfartal sydd i fenywod yn yr economi, gyda llawer yn gweithio mewn swyddi rhan-amser ac ar gyflogau isel. Mae menywod yn fwy tebygol o ddibynnu ar wasanaethau cyhoeddus, yr union wasanaethau y gwyddom eu bod o dan fygythiad. Nodwyd eto eleni fod costau gofal plant uchel yn atal menywod rhag dychwelyd i'r gweithle. Roedd rhwystredigaeth gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri cyllid cymorth gofal plant, ond hyd yn oed yn fwy felly gyda’r diffyg asesu i ddeall pam mai nifer isel a oedd yn manteisio ar y cynnig, yn enwedig gan nad yw'n ymddangos ei fod yn cyd-fynd â’r sefyllfa ar lawr gwlad o gwbl. Croesawyd cronfeydd caledi fel cymorth defnyddiol, ond teimlai pobl eu bod yn cuddio’r anghydraddoldebau strwythurol a’r buddsoddiad yn y gyllideb, sy'n galw am atebion hirdymor.
Yn olaf, hoffem wybod beth gaiff ei wneud yn y gyllideb ddrafft ar gyfer pobl ifanc. Dyma grŵp demograffig y cyfeirir ato yn ein hadroddiad drwyddo draw fel un sydd wedi'i wasgu'n anghymesur o bron bob ochr: pwysau ar wasanaethau addysg; materion yn deillio o'r pandemig a’r cyfryngau cymdeithasol sy'n achosi i blant a phobl ifanc droi at wasanaethau iechyd meddwl; lleihad yn y cyllid sydd ar gael ar gyfer prentisiaethau addysg bellach; diffyg tai fforddiadwy; diffyg cyfleoedd i weithio a byw yn y cymunedau y maent yn eu galw’n gartref. Gallwn barhau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond yn lle hynny, rwyf am droi at yr hyn a gynigiodd ein grwpiau ffocws a’n rhanddeiliaid fel atebion: trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc—mae hyn eisoes wedi’i dreialu mewn lleoedd fel Rhondda Cynon Taf, a dywedodd cyfranogwyr wrthym fod hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol; gostwng y costau sy'n gysylltiedig ag addysg uwch—mae'n cael effaith andwyol ar hyn o bryd ar uchelgeisiau pobl ifanc i geisio cymwysterau pellach; canolbwyntio cymorth i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig drwy adeiladu tai fforddiadwy, annog ffermio cynaliadwy fel bywoliaeth hyfyw, a darparu gwell seilwaith trafnidiaeth i gymunedau ynysig; darparu cyfleusterau i blant a phobl ifanc eu mwynhau yn eu cymunedau, gan gynnwys mynediad at y celfyddydau creadigol. Ni ellir anwybyddu’r safbwyntiau hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y gyllideb ddrafft yn eu hystyried.
Yn olaf, hoffwn sôn yn fyr am yr ymwybyddiaeth o drethi Cymru. Dangosodd ein gwaith fod gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o drethi datganoledig yn parhau i fod yn dameidiog, yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc. Mae’n dangos bod cryn dipyn o ffordd i fynd ac yn cwestiynu a yw’r gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i gwaith ar wella’r gyllideb yn dwyn ffrwyth. Mae trethiant yn ddull gweithredu allweddol gan y Llywodraeth i godi arian er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae’n hanfodol fod y cyhoedd yng Nghymru yn deall pwerau trethu Llywodraeth Cymru.
Dirprwy Lywydd, mae’r rheini sydd wedi cymryd rhan yn ein digwyddiadau dros y misoedd diwethaf wedi rhoi digon i’r pwyllgor a’r Ysgrifennydd Cabinet gnoi cil yn ei gylch. Mae llawer o ddatrysiadau mae rhanddeiliaid wedi’u hawgrymu yn ymddangos yn fuddiol iawn i’r pwyllgor, a hoffem weld yr Ysgrifennydd Cabinet yn bwrw ymlaen â’r syniadau a’r mentrau hyn yn y gyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf. Hoffwn bwysleisio pa mor werthfawr oedd y sesiynau hyn o ran llywio ein hadroddiad. Rwy’n edrych ymlaen at glywed cyfraniad Aelodau eraill a chyd-Gadeiryddion pwyllgorau ar y materion hyn, mewn dadl a fydd, gobeithio, yn un ffrwythlon ac adeiladol. Diolch yn fawr.
Mae 13 o Aelodau eisiau siarad yn y ddadl hon.
Rwy'n mynd i ganiatáu i bawb siarad, ond byddwch yn gryno yn eich cyfraniadau er mwyn i hynny allu digwydd, os gwelwch yn dda.
Byddaf yn galw Cadeiryddion pwyllgorau yn gyntaf. John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, hoffwn ailadrodd rhai o gasgliadau allweddol y pwyllgor yn dilyn ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yn gynharach eleni. Mae’r rhain yn dal yn berthnasol ac yn bwysig, a hoffem eu gweld yn cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Pan siaradais yr adeg hon y llynedd, pwysleisiais ein pryder ynghylch y nifer uchel o bobl sy’n byw mewn llety dros dro a phwysigrwydd blaenoriaethu cyllid i alluogi pobl i gael eu symud i lety parhaol hirdymor. Roedd taer angen y cynnydd o £13 miliwn i’r grant cymorth tai yng nghyllideb 2024-25 er mwyn mynd i’r afael â chyflogau isel yn y sector ac atal darparwyr gwasanaethau rhag gorfod rhoi contractau yn ôl. Mae gwasanaethau a ariennir gan y grant hwn yn hanfodol i atal a lliniaru digartrefedd. Felly, dylai'r cynnydd hwn fod o leiaf yn unol â chwyddiant ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylai cyllid ar gyfer y grant hollbwysig hwn, unwaith eto, fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
Hoffwn bwysleisio, fel y gwneuthum y llynedd, y dylai sicrhau llety hirdymor mewn amgylchedd diogel fod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Mae’r datganiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf ar ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno Bil digartrefedd i helpu pobl i aros yn eu cartrefi a chanolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar. Bydd yn hollbwysig sicrhau y caiff cyllid ei flaenoriaethu yng nghyllideb y flwyddyn nesaf er mwyn cyflawni’r ddeddfwriaeth hon yn effeithiol. Bydd yn arbennig o bwysig blaenoriaethu cyllid ar gyfer adeiladu a chaffael mwy o gartrefi cymdeithasol.
Maes arall y dylid ei flaenoriaethu yw sicrhau cyllid digonol i wneud gwaith adfer ar adeiladau preswyl uchel iawn, sy'n faes arall y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth arno y flwyddyn nesaf, ac y bydd cyllid digonol ar ei gyfer yn hanfodol.
Ddirprwy Lywydd, gan droi at lywodraeth leol, mae'r straen ariannol digynsail a wynebir gan awdurdodau lleol yn thema sy'n codi dro ar ôl tro yn ein gwaith craffu ar y gyllideb. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaeth awdurdodau lleol wynebu un o’r setliadau cyllideb mwyaf heriol yn y blynyddoedd diweddar, yn ystod cyfnod o bwysau cynyddol ar wariant cyllid cyhoeddus. Fel pwyllgor, fe wnaethom nodi ein pryder fod awdurdodau lleol mewn sefyllfa o orfod gwneud penderfyniadau a oedd nid yn unig yn anodd, ond hefyd yn ddewisiadau gwael a fydd, heb os, yn cael effaith ar gynaliadwyedd gwasanaethau yn y tymor hwy. Ni all hyn barhau. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal deialog reolaidd ag awdurdodau lleol i fonitro eu cadernid ariannol a sicrhau, wrth symud ymlaen, fod cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn cael ei flaenoriaethu.
Thema arall sy’n codi dro ar ôl tro yn ein gwaith craffu ar y gyllideb yw’r tanwariant yn y grant cyfalaf safleoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a’r cymunedau dan sylw i annog defnydd ac ymwybyddiaeth o’r grant ac i ddarparu canllawiau clir ar geisiadau. Byddwn yn ystyried hyn ymhellach yn ein gwaith dilynol sydd ar y ffordd ar ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac rydym yn debygol o wneud argymhellion pellach ar ôl hynny. Diolch yn fawr.
Sam Rowlands ar ran y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn wneud pedwar pwynt byr yn fy rôl fel Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae hwn yn faes o ddiddordeb penodol i'r pwyllgor ac yn un a chanddo broblemau hirsefydlog. O ystyried y prinder presennol yn y gweithlu a'r galw cynyddol am wasanaethau, mae gwir angen buddsoddiad mewn gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol medrus a chynaliadwy gyda ffocws cryf ar wella cyfraddau cadw staff. Byddai’r pwyllgor yn mynegi bod yn rhaid i hyn barhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi a gwella gan Lywodraeth Cymru, gan y byddai’n lliniaru ac yn lleihau risgiau a phwysau costau yn y tymor hir.
Yn ail, ar wasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol, mynegodd ein hadroddiad fel pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 ein pryder ynghylch y lefelau uchaf erioed o alw am y gwasanaethau a’r bwlch cyllidebol sy’n wynebu gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Felly, wrth edrych ymlaen, bydd yn hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn monitro mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol i sicrhau nad yw pwysau cyllidebol yn y dyfodol yn golygu bod gwasanaethau gofal a chymorth yn cael eu gwrthod i bobl sy’n gymwys i'w cael. Pwynt penodol yma, y byddwn yn gwerthfawrogi pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gyfeirio ato yn ei hymateb, yw'r cyllid ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol, sy'n nodi'n glir fod angen oddeutu 10 y cant o gynnydd yn eu cyllid i allu talu am y cynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol, sy'n sicr i'w groesawu. Dim ond cynnydd o 3 y cant y mae rhai darparwyr yn ei gael, nad yw’n eu galluogi i ateb gofynion y cyflog byw gwirioneddol. Felly, hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ariannu’r diffyg hwn i sicrhau ein bod yn gweld y gwasanaethau hyn yn parhau yn y dyfodol.
Mae’r trydydd pwynt o safbwynt y pwyllgor yn ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd. Mae hyn yn parhau i fod yn fater pwysig i’r pwyllgor iechyd ei ystyried, ac mae’r pwyntiau a wnaed yn ystod y ddadl y llynedd yn werth eu hailadrodd. Mae'n bwysig iawn fod effeithiau gwahaniaethol dyraniadau cyllid ar wahanol grwpiau a chymunedau yn cael eu hasesu a'u hystyried wrth ddatblygu cynigion y gyllideb, nid ar ddiwedd y broses yn unig.
Ac yn olaf, ar wariant cyfalaf, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi adrodd yn y gorffennol fod diffyg cyllid cyfalaf a buddsoddiad yn rhwystr rhag darparu gwasanaethau nawr, nid yn y dyfodol yn unig. Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth fod dyraniadau cyllid cyfalaf yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau a bod blaenoriaethau byrddau iechyd ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn cyd-fynd â rhai Llywodraeth Cymru. Felly, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i'r pwyntiau hyn. Diolch.
Delyth Jewell fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gynnal y ddadl hon heddiw. Hoffwn i ddiolch hefyd i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a swyddogion y pwyllgor am eu holl waith yn cefnogi’r ddadl.
Dirprwy Lywydd, bydd Aelodau’r Siambr yn ymwybodol o’r effaith ddinistriol mae toriadau diweddar yn y gyllideb yn ei chael ar ddiwylliant a chwaraeon yng Nghymru. Mae ein sefydliadau cenedlaethol, fel Amgueddfa Cymru, y llyfrgell genedlaethol a chyngor y celfyddydau wedi dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid, boed hynny yn bethau sydd wedi cael effaith ar sefydliadau eraill ai peidio, sy’n arwain at risg gwirioneddol i’n casgliadau cenedlaethol a’n bywyd diwylliannol. Mae’r colledion swyddi yn y sefydliadau hyn wedi gweld gwerth degawdau o wybodaeth yn cael eu colli dros nos. Dyma wybodaeth does dim modd ei hadennill.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi gweld toriad o 12 y cant yn ei gyllideb gan Gyngor Celfyddydau Cymru a 35 y cant gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Dywedodd Undeb y Cerddorion wrthyn ni, a gwnaf i ddyfynnu eu geiriau:
'Mae'r gostyngiadau hyn yn arwain at newidiadau mor sylweddol a pharhaol mewn cwmni cenedlaethol sy'n strwythurol bwysig i'r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru fel bod achos cryf i Lywodraeth Cymru gamu i mewn gyda chymorth ychwanegol.'
Mae heriau ariannu mewn rhannau eraill o’r sector diwylliant hefyd, gyda sefydliadau cenedlaethol eraill yn teimlo’r pwysau yn aruthrol. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi bod yn ymgynghori yn ddiweddar ar gynigion i atal rhai o’u rhaglenni penwythnos i bobl ifanc. Mae’r sefyllfa ariannol sy’n wynebu’r coleg yn wael, ond os bydd y cynigion hyn yn mynd yn eu blaen, bydd Cymru heb conservatoire ieuenctid i ddarparu hyfforddiant lefel uwch i ddysgwyr ifanc. Eto, mae cap wastad yn cael ei roi, ymddengys, ar botensial ein diwylliant i ffynnu.
Nid diwylliant yn unig, wrth gwrs, sydd wedi cael ergyd. Mae chwaraeon ac ymarfer corff wedi cael eu taro yn galed hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym dro ar ôl tro
‘Gall chwaraeon fod yr offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol i’r wlad’.
Dŷn ni fel pwyllgor yn cytuno, ond ble mae’r cydlyniad mewn ariannu’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol drwy wneud toriad o 8 y cant i gyllideb Chwaraeon Cymru ac felly storio problemau mwy a drutach i’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol yn y dyfodol? Os ydyn ni o ddifri ynglŷn â diogelu’r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, mae angen inni edrych ar atal yn ogystal â gwella.
Mae gwir effaith penderfyniadau a gafodd eu gwneud y llynedd bellach yn torri trwyddo i’r cyrff diwylliant a’n cyrff chwaraeon. Er bod croeso mawr i’r cyhoeddiad cyllid diweddar ar gyfer amgueddfeydd a’r llyfrgell genedlaethol gan gyn Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant, roedd hyn yn rhywbeth bach iawn o’i gymharu gyda’r hyn sydd ei angen, a gwnaeth hi gydnabod hynny.
Bydd y pwyllgor yn parhau â’n galwadau ni i’r Llywodraeth ddarparu cyllid digonol i gefnogi diwylliant a chwaraeon. Fodd bynnag, byddwn yn adeiladol. Dyna pam y byddwn yn lansio ymchwiliad cyn bo hir ar effaith gostwng cyllid ym meysydd diwylliant a chwaraeon. Rydym yn bwriadau darparu argymhellion i Lywodraeth Cymru cyn iddyn nhw gyhoeddi eu cyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni. Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu effaith y toriadau eleni a gwneud newidiadau yn y flwyddyn ariannol nesaf, ac mae’r pwyllgor yn edrych ymlaen i gyfrannu at hyn.
Jack Sargeant fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ar Bwyllgor Deisebau’r Senedd, rydym mewn sefyllfa unigryw yn y Senedd hon fel y pwyllgor y mae ei agenda'n cael ei phennu gan bobl Cymru. O ganlyniad, mae gennym bersbectif unigryw yn aml ar y materion sy'n bwysig. Dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y deisebau sy’n cael eu cyflwyno mewn perthynas â phob un o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yn galw am fwy o gyllid, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Bydd Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru eisoes yn gyfarwydd â’r rhan fwyaf ohonynt, ond hoffwn achub ar y cyfle heddiw i dynnu sylw at rai o’r deisebau hynny.
Teitl un o'r deisebau hyn yw 'Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru'. Ddirprwy Lywydd, mae’r un hwn yn eithaf hunanesboniadol, ond mae wedi cael dros 20,000 o lofnodion, a gwn fod practis cyffredinol yn faes y mae’r pwyllgor iechyd yn bwriadu edrych arno yn nes ymlaen eleni, ac nid yw’r cwestiwn hwn yn mynd i ddiflannu.
Yn yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld tair deiseb yn ymwneud â chyllid ar gyfer diwylliant. Fe wnaethom drafod deiseb, 'Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol'. Rydym wedi gofyn am ddadl, fel pwyllgor, ar y ddeiseb, 'Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau', sydd i fod i gael ei chynnal yn yr hydref. Ac rydym hefyd wedi ystyried deiseb, 'Ailsefydlu cyllid craidd ar gyfer TRAC Cymru’. Er bod rhai o’r rhain yn cael eu hariannu o linellau gwariant addysg yn hytrach na diwylliant, credaf eu bod yn tynnu sylw at bryder eang ymhlith sefydliadau diwylliannol yng Nghymru fod y wasgfa arnynt yn arbennig o ddifrifol.
Lywydd, soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid—a diolch iddo am ei amser yn y Pwyllgor Deisebau hefyd—am gyllid addysg yn ei sylwadau agoriadol. Rhoddwyd tystiolaeth i ni fel pwyllgor ddiwedd y llynedd gan lywodraethwyr ysgolion i gefnogi eu deiseb o’r enw, ‘Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru’, ac mae’r pwyllgor wedi cael gohebiaeth yn ddiweddar gan dri undeb athrawon sy'n cefnogi’r ddeiseb hon, yn galw am adolygu cyllid addysg. Rydym wedi rhannu'r wybodaeth hon gyda'n cyd-Aelodau. Ochr yn ochr â’r galwadau hyn am adolygiad o gyllid craidd, rydym hefyd wedi cael y ddeiseb, 'Ehangu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion uwchradd’, rhywbeth y byddai angen cyllid ychwanegol ar ei gyfer, wrth gwrs, Lywydd.
Rwy'n rhannu'r deisebau hyn fel ciplun. Mae eraill yn galw am gyllid ychwanegol ar gyfer llwybrau bysiau ac ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd newydd. Ac mae deisebau eraill yn galw am fwy o arian i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflogi mwy o arolygwyr a bod yn warcheidwad mwy cadarn ar gyfer ein hafonydd ac i gadw ein cyfleusterau ymwelwyr ar agor. Gwn hefyd mai dim ond hyn a hyn o arian sydd i'w gael. Mae’r ddadl heddiw'n rhoi cyfle i’n Senedd ystyried yr holl bethau yr hoffem eu cael, a’r holl bethau sydd eu hangen arnom, ac i wirio’r rhestr honno yn erbyn yr hyn y gallwn ei fforddio’n realistig.
Lywydd, rwy'n gobeithio bod fy nghyfraniad heddiw wedi tynnu sylw at rai o’r pethau y mae deisebwyr a’u cefnogwyr, pobl Cymru, yn awyddus i glywed amdanynt yn rownd nesaf y gyllideb yn nes ymlaen eleni. Diolch.
A Llyr Gruffydd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A dwi'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu. Dwi hefyd yn ddiolchgar, wrth gwrs, i'r Pwyllgor Cyllid am ei ymdrechion parhaus i wella’r trefniadau craffu ar y gyllideb ddrafft.
Nawr, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith eisoes wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i godi pryderon ynghylch ansawdd y dogfennau sy’n cyd-fynd â’r gyllideb ddrafft. Fe gawsom ni broblemau sylweddol eleni, gyda’r wybodaeth allweddol y gofynnodd y pwyllgor amdani ar goll, a hynny heb esboniad, a rhannau eraill yn anghywir neu’n anghyflawn. Wrth gwrs, rŷn ni’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gweithio o dan gyfyngiadau sylweddol, yn enwedig o ystyried ei bod yn dibynnu cymaint ar amseriad proses gyllidebol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac mae gwaith craffu’r Senedd bron bob amser, yn anffodus, yn cael ei gwtogi’n sylweddol o ganlyniad i hynny. Gaf i awgrymu, felly, fod y Senedd yn ystyried opsiynau amserlennu mwy hyblyg o fewn yr amser sydd ar gael ar gyfer gwaith craffu? Yn amlwg, allwn ni ddim rheoli amserlen Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond fe allwn ni newid ein gweithdrefnau ni ein hunain i sicrhau ein bod ni’n manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer craffu effeithiol.
Nawr, fe allai hyn gynnwys sesiynau drwy’r dydd o’r Cyfarfod Llawn, mi allai olygu cynyddu nifer y slotiau sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor, neu ymestyn hyd yr amser sydd ar gael ar gyfer y cyfarfodydd hynny. Fe allai gynnwys dadleuon gwahanol yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad unigol pob pwyllgor ar y gyllideb ddrafft, fel ein bod ni’n sicrhau ein bod ni wedi trafod yr holl elfennau mewn ffordd na fyddem ni'n gallu ei wneud mewn un ddadl 90 munud gyfan. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dwi'n gwybod, eisoes wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ynglŷn â rhai o'r materion yma, a dwi wir yn edrych ymlaen at weld yr ymateb.
Nawr, jest yn fyr, dwi eisiau tynnu sylw at ddau faes penodol sydd o fewn cylch gwaith y pwyllgor. Mae'r cyntaf ynghylch ariannu Trafnidiaeth Cymru. Bydd yr Aelodau, dwi'n siŵr, yn ymwybodol iawn o'r heriau ariannol yr oedd Trafnidiaeth Cymru yn eu hwynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys bwlch ariannu o £100 miliwn, a oedd yn deillio o ddiffyg yn nhwf refeniw arfaethedig gwasanaethau rheilffyrdd. Rŷn ni, fel pwyllgor, wrth gwrs, yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy er mwyn cau'r bwlch hwnnw, ond rŷn ni yn parhau i fod yn bryderus ynghylch pa mor gynaliadwy yw'r sefyllfa ariannol. Gyda hynny mewn golwg, ar ran y pwyllgor, dwi, fel Cadeirydd, wedi ysgrifennu at y swyddfa archwilio, i ofyn iddi ystyried darpariaeth y gwasanaethau rheilffyrdd a darpariaeth project moderneiddio llinellau craidd y Cymoedd.
Yn ail, mi fydd yr Aelodau hefyd, dwi'n siŵr, yn ymwybodol o bennod o Y Byd ar Bedwar a ddarlledwyd ar S4C yn gynharach yr wythnos yma. Cyfoeth Naturiol Cymru oedd testun y rhaglen honno, ac roedd yn cynnwys pryderon gan chwythwyr chwiban ynghylch lefelau biwrocratiaeth o fewn y corff, a'i fethiannau cyson i fynychu achosion o lygredd. Rŷn ni, fel pwyllgor, yn parhau i fod yn bryderus bod diffyg adnoddau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn tanseilio ymdrechion nid yn unig i amddiffyn afonydd Cymru ond yr amgylchedd ehangach, sydd, fel rŷn ni wedi clywed eisoes ar lawr y Siambr yma y prynhawn yma, o dan fygythiad cyson o amryw o ffynonellau.
Felly, wrth gloi, rydw i eisiau rhoi sicrwydd i'r Senedd y bydd y pwyllgor yn parhau i adolygu'r ddau fater yna dros y flwyddyn i ddod. Ond dwi wir eisiau ategu bod yn rhaid i ni, fel Senedd, fod yn llawer mwy hyblyg a chreadigol wrth graffu ar y gyllideb ddrafft yn y dyfodol, a gobeithio y gallwn ni gychwyn gwireddu hynny yn nes ymlaen eleni. Diolch.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a'r clercod am eu gwaith ar yr adroddiad hwn, yn ogystal â'r nifer fawr o randdeiliaid a gyfrannodd. Byddaf yn siarad heddiw fel llefarydd y Ceidwadwyr yn hytrach nag fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn ddiddorol, ac mae'n tynnu sylw at faterion pwysig. Yn amlwg, y teimlad yw bod y blaenoriaethau anghywir wedi'u dilyn, neu fod cyllidebu difeddwl wedi achosi anghydbwysedd yn y ffordd y cafodd gwasanaethau rheng flaen eu blaenoriaethu dros feysydd ataliol, sy'n ymagwedd annoeth. Ar adeg pan fo angen gwasanaethau cyhoeddus yn fwy nag erioed, cafwyd cydnabyddiaeth fod torri meysydd allweddol o wariant cyhoeddus yn mynd i'r cyfeiriad anghywir pan fo angen y gwasanaethau hynny ar ddinasyddion yn fwy nag erioed, mewn hinsawdd anodd ar ôl COVID. Enghraifft glir yw cyflwr enbyd ein gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Y llynedd gwelsom gynnydd o £450 miliwn i'r gyllideb gofal iechyd—arian yr oedd ei angen yn fawr, o ystyried y blynyddoedd o danariannu yn y maes. Er bod y cyllid hwnnw i'w groesawu, a gafodd ei ystyried yn llawn, gan fod diffyg blaengynllunio na ellir ei esgusodi wedi bod o ran ein gwasanaethau gofal cymdeithasol? Y llynedd, gwelsom doriad enfawr mewn termau real i lywodraeth leol, gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi cynnydd o tua £25 miliwn tuag at wariant gofal cymdeithasol, lle roedd y pwysau ariannol yn agosach at £260 miliwn.
Ni allwn ddatrys y sefyllfa enbyd yn ein gwasanaeth iechyd heb ganolbwyntio'n iawn ac yn ystyrlon ar ofal cymdeithasol, gan ei fod mor hollbwysig i fynd i'r afael â'r problemau y mae ein GIG yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Rwyf hefyd yn credu'n gryf fod angen adolygiad trylwyr o'n gwasanaeth iechyd, er mwyn sicrhau bod ein systemau'n gweithio'n dda a bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon, gan fod yna gost cyfle i bob punt na chaiff ei gwario'n dda.
Mae gwasanaethau cyhoeddus da yn galw am economi gref a bywiog, ond gwyddom fod busnesau Cymru yn wynebu trethi uwch nag yn Lloegr, ac yn cael trafferth dod o hyd i staff i lenwi rolau pan fyddant yn dewis ehangu. Mae hyn yn tanseilio twf. Ar yr ochr arall i'r geiniog, mae pobl sydd am ddatblygu eu hunain yn cael trafferth cael mynediad at hyfforddiant angenrheidiol i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Maent yn wynebu trafnidiaeth gyhoeddus enbyd, gan eu hatal rhag ehangu eu rhagolygon gwaith, ac mae'n debygol y byddant yn cael y pecyn cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n amlwg fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fuddsoddi yn ein heconomi a hyrwyddo twf. Yn rhy aml, mae'n ymddangos bod yr economi yn ôl-ystyriaeth yma. Lle mae'r meddylfryd strategol i Gymru?
Nodwyd bod menywod mewn sefyllfa anghyfartal yn economi Cymru, gan eu bod yn fwy tebygol o fod yn gweithio'n rhan-amser mewn swyddi ar gyflogau is, ac yn fwy dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod prinder ofnadwy o ddewisiadau gofal plant yng Nghymru, gan orfodi menywod allan o'r gweithlu am flynyddoedd ar y tro. Mae'r mwyafrif llethol o deuluoedd angen incwm dwbl i dalu'r biliau, ac mae'r diffyg gofal plant fforddiadwy yn golygu bod menywod yn cael eu gorfodi allan o'r gweithle. Ydy, mae Llywodraeth Cymru wedi honni bod toriadau i gymorth gofal plant i'w gweld oherwydd bod nifer llai na'r disgwyl yn manteisio arno yma yng Nghymru, fel y clywsom yn gynharach, ond fel y mae'r adroddiad yn nodi, ni wnaed ymchwiliad i'r rhesymau am hyn, ac mae angen i hynny ddigwydd.
Ddirprwy Lywydd, fe fydd yn anodd newid ffyniant Cymru, yn enwedig ar adeg o'r fath ansefydlogrwydd gwleidyddol yng ngrŵp Llafur Cymru a'r Llywodraeth anhrefnus hon. Ni fydd y sefyllfa yma, ynghyd â blaenoriaethau gwariant hanesyddol y Llywodraeth hon, yn gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â phryderon gwirioneddol teuluoedd ledled Cymru ynghylch y materion allweddol sy'n effeithio cymaint ar eu bywydau. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eich gwaith trylwyr ar hyn? Mae o'n adroddiad difyr dros ben, mae o'n adroddiad difrifol dros ben, a dwi'n meddwl yr hyn sydd wedi bod yn ddifyr—dyw hwnna ddim yn swnio fel y gair cywir, mewn ffordd—ydy clywed yr holl Gadeiryddion pwyllgorau yn amlinellu'r ystod eang o bryderon sydd yna yn drawsbleidiol—felly, nid pwyntiau gwleidyddol mo'r rhain—ond y gwir, gwir broblem sydd yna o ran diffyg adnoddau a pha mor anghynaliadwy ydy hyn bellach.
Roeddwn i'n falch iawn o glywed Delyth Jewell yn sôn am y pwysigrwydd o ran yr ataliol, oherwydd mi ydyn ni wedi gweld dro ar ôl tro yn y degawd a mwy yma y pethau ataliol yn cael eu torri, yn cael eu dibrisio, oherwydd yr argyfyngau sydd gennym ni. Ond mae difrifoldeb y sefyllfa hefyd yn dod drwodd yn glir gan y Pwyllgor Cyllid, drwy'r gwaith ymgysylltu, o ran beth ydy realiti hyn i bobl Cymru. Dwi'n arbennig o falch eich bod chi wedi gwneud y gwaith efo plant a phobl ifanc, a'n bod ni'n cael y mewnwelediad pwysig yna, oherwydd, wedi'r cyfan, dŷn ni'n enwog ledled y byd am gael Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ond dŷn ni'n methu gweithredu hynna yn ein cyllidebau ni, a medrwn ni ddim parhau i siarad ynglŷn â phwysigrwydd cenedlaethau'r dyfodol heb ddechrau buddsoddi ynddyn nhw a chael y sgyrsiau yna.
Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar yr hyn sy'n dod drwy'r adroddiad yma, ond ddim jest gwrando, gweithredu. Felly, dwi yn ddiolchgar iawn am hynny. A dwi'n gresynu bod Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddim yma, oherwydd, o glywed Jack Sargeant hefyd yn sôn ynglŷn â'r deisebau sydd wedi dod drwodd sydd yn benodol ynglŷn â phlant a phobl ifanc, mae hwn yn bwyllgor allweddol i ni, a dwi'n gobeithio y bydd y Cadeirydd yn gallu cyfrannu yn y dyfodol i'r trafodaethau hyn, oherwydd mae'n allweddol bwysig.
Yn amlwg, nid oes dianc rhag y sylfeini cyllidol sydd wedi eu dryllio gan gyni Torïaidd, ond nid ydym yn gweld unrhyw arwyddion y bydd pethau'n gwella. Mewn gwirionedd, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan yn bwriadu parhau ag agenda cyni. Hyd yn oed os bydd Llywodraeth y DU yn llwyddo i hybu twf yn unol ag amcanestyniad tymor canolig y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, sef 1.8 y cant, sydd wedi'i ddisgrifio fel gobaith annhebygol o optimistaidd gan nifer o ddadansoddwyr economaidd, bydd yn rhaid iddynt barhau i gystadlu â bylchau mawr, a heb eu cyfrifo hyd yma, gwerth biliynau o bunnoedd yn y pwrs cyhoeddus. Ac yn eironig, i blaid sydd â'r fath obsesiwn â thwf, gwrthododd Plaid Lafur y DU dynnu'r lifer mwyaf amlwg ac effeithiol i gyflawni'r nod hwn, sef ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Er y sicrwydd blaenorol gan bobl fel cyn-Brif Weinidog Cymru y byddai Llywodraeth Lafur y DU newydd yn sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen ar Gymru, mae'r holl dystiolaeth yn rhoi darlun cyfarwydd iawn o Gymru sy'n cael ei gorfodi i ymdopi â briwsion o fwrdd San Steffan, briwsion sy'n annigonol ar gyfer ein hanghenion.
Mae'r goblygiadau wedi'u nodi gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, gyda meysydd heb eu clustnodi yng nghyllideb Cymru yn wynebu diffyg o £248 miliwn erbyn y flwyddyn ariannol nesaf, a £683 miliwn erbyn 2028-29. Ac rwy'n credu ei bod yn werth atgoffa pawb o'r baich y bu'n rhaid i'r meysydd hyn ei ysgwyddo yn ddiweddar. Cafodd dros £400 miliwn ei dorri oddi ar bob prif grŵp gwariant heblaw am iechyd a thrafnidiaeth fel rhan o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, a ddilynodd ymarfer ailflaenoriaethu digynsail ym mis Hydref y llynedd. A dylem nodi hefyd fod cynlluniau Llafur yn seiliedig ar ostyngiad mewn termau real o 5 y cant yng ngrym gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru, sy'n arbennig o frawychus pan ystyriwch fod ystad y GIG yng Nghymru yn wynebu gwerth £0.25 biliwn o gostau ôl-groniad gwaith cynnal a chadw risg uchel.
Felly, mae gan Ysgrifennydd y Cabinet ddau opsiwn o ran llunio blaenoriaethau gwariant y Llywodraeth dros y flwyddyn nesaf, ac er mwyn darparu rhywfaint o eglurder o leiaf i ddarparwyr ein gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal ag osgoi ailadrodd yr ansefydlogrwydd di-fudd a achoswyd gan yr ymarfer ailgyllidebu canol blwyddyn ym mis Hydref, hoffwn ei hannog i ymrwymo i un opsiwn heddiw. Gall Ysgrifennydd y Cabinet naill ai nodi'n glir sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r diffyg yn y cyllid sydd ar y ffordd, neu gall Ysgrifennydd y Cabinet adleisio neges Plaid Cymru i Lywodraeth y DU, a adlewyrchir yn ein gwelliant i Araith y Brenin heddiw, nad yw eu cynnig presennol i Gymru yn ddigon da, a bod cael bargen gyllido decach yn seiliedig ar gylchoedd cyllidebol aml-flwyddyn yn lle fformiwla Barnett sydd wedi dyddio yn anghenraid dirfodol i'n gwasanaethau cyhoeddus. Oherwydd, a bod yn onest, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa gyllidol y mae Llywodraeth Cymru ynddi, ni fyddwn yn gallu cyflawni ar ran pobl Cymru heb yr adnoddau sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru.
Fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid hoffwn ddiolch i'n Cadeirydd, Peredur Owen Griffiths, am ei ddiwydrwydd, a fy nghyd-aelodau pwyllgor Mike Hedges, Peter Fox, a chlercod ein pwyllgor, sy'n cefnogi ein holl waith. Ac wrth inni drafod adroddiad ymgysylltu'r Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26, fe ganolbwyntiaf fy sylwadau heddiw ar ddiwylliant, ond heddiw nid wyf am siarad am y 14 mlynedd o gyni cyllidol.
Mae'r adroddiad yn nodi yn ei grynodeb o ganfyddiadau ym mhwynt 3 fod diwylliant wedi'i nodi gan grwpiau ffocws y pwyllgor fel blaenoriaeth ar gyfer cyllid, ac rwy'n croesawu ymchwiliad y pwyllgor diwylliant. Mae erthygl olygyddol papur newydd cenedlaethol Cymru, y Western Mail, yn dweud y gallai dyfodol y celfyddydau yng Nghymru fod yn y fantol. Ac mae archwiliad dwfn Ben Summer i ddiwylliant ar Wales Online yn dweud bod y celfyddydau dan ymosodiad yng Nghymru a dylai fod yn destun gofid i bawb ohonom.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n siarad heddiw nid yn unig fel yr Aelod dros Islwyn ac aelod o'r pwyllgor hwn, ond hefyd fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar gerddoriaeth, ac fel cerddor. Mae Opera Cenedlaethol Cymru, y trysor byd-enwog sydd gennym yng Nghymru, yn wynebu toriadau a fydd yn golygu ei fod yn dod yn rhan-amser, yn methu recriwtio'r dalent orau na chadw talent, ac mae'r gwymp i gyffredinedd a allai ddeillio o hynny yn ddifrifol. Mae angen ei gadw'n gwmni llawn amser, fel y mae'r ddeiseb a lofnodwyd gan dros 10,000 o bobl yn ei nodi, a chyda datganiad a gyhoeddwyd yn The Times a The Guardian gan Elizabeth Atherton yn cael ei gymeradwyo gan eiconau fel Bryn Terfel, Katherine Jenkins, Michael Sheen a Ruth Jones. Ac ar 21 Mai anerchais y dorf a ymgasglodd ar risiau ein Senedd, dan arweiniad yr arweinydd enwog Carlo Rizzi, i fynnu bod y Senedd hon yn sefyll ac yn ymladd dros oroesiad cwmni opera llawn amser Cymru, sydd wedi bodoli ers 70 mlynedd—opera'r bobl, a ffurfiwyd gan lowyr, meddygon a cherddorion Cymru ym 1943 ochr yn ochr â chreu ein GIG.
Ac mae'r toriad i adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yr un mor frawychus i ddiwylliant Cymru, gan effeithio ar 426 o fyfyrwyr a 112 o staff rhan amser. Mae Undeb y Cerddorion yn rhybuddio y bydd y toriadau hyn yn cael effaith niweidiol iawn ar gerddoriaeth broffesiynol yng Nghymru, ac mae'r ddeiseb yma'n gwrthwynebu'r toriad i'r adran iau eisoes wedi denu dros 10,500 o lofnodion. Bydd ei chau yn golygu bod plant ifanc iawn yn aml o Gymru yn mynd i Lundain neu Birmingham neu Fanceinion i gael mynediad at ddarpariaeth debyg. Am feirniadaeth ddamniol ohonom i gyd wrth inni nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru. Hyd yn oed yn waeth, mae bron i hanner y myfyrwyr hynny'n cael bwrsariaethau prawf modd i fynd i adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn amlwg, yma, bydd y plant dawnus tlotaf yng Nghymru yn wynebu rhwystrau enfawr i barhad eu hastudiaethau elitaidd, a fydd yn anochel yn achosi i lawer roi'r gorau i'r astudiaethau hynny. Fe wyddom fod y celfyddydau yn ganolog i ysbryd ac enaid Cymru, ein cenedligrwydd a'n hymdeimlad ohonom ein hunain, ac ni ddylai cyfoeth ac incwm bennu'r llwybrau ar gyfer camu ymlaen i'r celfyddydau.
I gloi, rwyf am rybuddio'r Senedd hon heddiw, ac rwy'n rhybuddio'r cyhoedd yng Nghymru, ein bod yn wynebu dinistr bywyd diwylliannol Cymru fel y gwyddom amdano. Dim ond Llywodraeth Cymru sydd â'r pŵer, y dylanwad a'r gallu i ymyrryd, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu a darparu chwistrelliad ariannol blaenoriaethol o £550,000 i Opera Cenedlaethol Cymru, ac i drafodaethau brys ddechrau'n ffurfiol gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol De Cymru i sicrhau dyfodol unig conservatoire Cymru ar fodel ariannu newydd. Ac oni bai bod Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy fel blaenoriaeth i ddiogelu ein Hopera Cenedlaethol Cymru ac adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwn yn gweld ac yn bresennol ar adeg dyngedfennol yng nghrebachiad bywyd diwylliannol Cymru.
Ddirprwy Lywydd, ni fydd esgus y bydd trefniadau amgen dros dro sy'n osgoi ariannu anghenion diwylliannol ein gwlad yn tawelu meddyliau Aelodau'r Senedd yma na'r cyhoedd yng Nghymru. Nawr yw'r amser i weithredu a gofynnaf am i'r niwed gwirioneddol sy'n cael ei achosi gael ei wrthdroi nawr cyn ei bod hi'n rhy hwyr, ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog presennol a'r Prif Weinidog nesaf i weithredu ar frys a sicrhau ac ariannu dyfodol diwylliant a cherddoriaeth fel blaenoriaeth. Mae'n rhaid inni barhau i fod yn wlad y gân yn rhyngwladol a gartref, nawr ac ar gyfer holl genedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn amlygu, fel y clywsom, y prinder tai fforddiadwy ac yn nodi bod tai a digartrefedd wedi'u crybwyll yn amlach eleni na'r holl flynyddoedd blaenorol. Ym 1999, pan ddaeth Llafur i rym yma am y tro cyntaf, nid oedd argyfwng cyflenwad tai yng Nghymru, ond fe wnaethant dorri'r cyllidebau tai yn ystod eu tri thymor cyntaf. Gyda Llywodraethau Llafur yn Llundain a Chaerdydd, fe wnaethant dorri'r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy newydd 71 y cant, yn ôl eu ffigyrau swyddogol eu hunain.
Yn ystod ail dymor y Cynulliad, 2003 i 2007, daeth sector tai Cymru at ei gilydd i ddechrau rhybuddio Llywodraeth Cymru y byddai'n argyfwng tai os na fyddent yn gwrando. Pan gyflwynais gynigion i gefnogi hyn, y cyfan a wnaeth Llywodraeth Cymru oedd cyflwyno gwelliannau i gael gwared ar y geiriau 'argyfwng tai', yn hytrach na mynd i'r afael â'r rhybuddion gan y sector. Fel y dywedais yn Siambr y Cynulliad ar y pryd yn 2003, mae cyfiawnder cymdeithasol yn eistedd ar stôl deircoes—iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a thai, a byddai'r stôl yn dymchwel pe bai'r goes dai'n cael ei thorri. Rhybuddiais fod Llywodraeth Cymru, drwy ddargyfeirio cyllid ar gyfer tai i'w rhaglenni ymladd tlodi a oedd yn aflwyddiannus yn y pen draw, yn taflu mwd at y wal tra'n cloddio sylfeini'r wal. Dyna pam mae gennym argyfwng cyflenwad tai.
Dim ond 2,825 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol a gwblhawyd yng Nghymru yn ystod y tair blynedd gyntaf o dymor y Senedd hon hyd at fis Rhagfyr diwethaf, yn erbyn targed Llywodraeth Cymru o 20,000 ar gyfer y tymor pum mlynedd, ac mae ffigurau diweddaraf y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn dangos gostyngiad o 43 y cant yn nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd yng Nghymru, yn gydradd olaf ymhlith 12 gwlad a rhanbarth y DU.
Yn ei bapur briffio ar gyfer y ddadl hon, mae Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn galw am i gyllideb 2025-26 gynnwys, ymhlith pethau eraill, mwy o fuddsoddiad yn y grant tai cymdeithasol hyd at £407 miliwn fan lleiaf i gyfrif am godiadau i gostau yn sgil chwyddiant ac i sicrhau bod y cyflenwad tai fforddiadwy ar y lefel gywir i liniaru'r argyfwng tai presennol a lefelau cynyddol o ddigartrefedd. Maent yn galw am ariannu safon ansawdd tai Cymru yn iawn, am i fuddsoddiad ychwanegol yn y grant cymorth tai gael ei gynnal er mwyn sicrhau mai rhywbeth prin, byr nad yw'n ailadrodd yw digartrefedd, ac i'r hawl i dai gweddus gael ei hymgorffori yn neddfwriaeth Cymru, lle bydd pob £1 a werir ar wireddu hyn yn gynyddol yn cynhyrchu £2.30 mewn buddion y gellir eu buddsoddi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Hefyd, fe wnaethant bwysleisio'r angen am weledigaeth strategol ar gyfer tai yng Nghymru, lle nad oes digon o gartrefi a chartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol, a lle mae digartrefedd a rhestrau aros tai yn mynd i'r cyfeiriad anghywir.
Mae cymdeithasau tai wedi fy mriffio ar yr heriau allweddol i'r ddarpariaeth digartrefedd a phwysigrwydd atal, gyda'r galw am gartrefi'n enfawr, cyflenwad nad yw'n ateb y galw, a phroblemau fforddiadwyedd a gorlenwi. Nododd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl ymchwil sy'n dangos bod 38 y cant o landlordiaid yng Nghymru yn bwriadu lleihau eu portffolio eiddo eleni, o'i gymharu â dim ond 3 y cant sy'n bwriadu cynyddu eu portffolio. Dywedodd elusen ddigartrefedd Crisis wrthyf fod landlordiaid y sector rhentu preifat yn chwarae rhan hanfodol yn ein tirwedd dai, a bod mynd i'r afael â'r tangyflenwad o dai fforddiadwy yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. A dywedodd yr elusen gydraddoldeb a thai, Tai Pawb, wrthyf fod Cymru yng nghanol argyfwng tai; mae'r galw'n llawer mwy na'r cyflenwad.
Efallai mai brad Llafur dros dai yng Nghymru yw'r anghyfiawnder cymdeithasol mwyaf a achoswyd i bobl Cymru ers iddynt ddod i rym ym 1999, ac mae'n hen bryd gweithredu i fynd i'r afael ag achosion argyfwng tai Cymru.
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn canolbwyntio eto ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant ar faterion sy'n ymwneud â chyfiawnder. Mae'r pwyllgor yn gobeithio gweld rhagor o waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar wella eu tryloywder o ran gwariant ar faterion cyfiawnder. Bydd unrhyw welliant yn helpu'r pwyllgor a'n rhanddeiliaid i ddeall yn well lle mae arian ar y materion pwysig hyn yn cael ei wario.
Fe ddechreuaf gydag adroddiad yn ôl o'r cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin, a fynychais gyda Peredur Owen Griffiths ac Altaf Hussain, a'r Pwyllgor Cyllid, gyda'r sefydliadau a gafodd wahoddiad, ac rydych chi'n mynd i glywed pethau gwahanol gennyf i i'r hyn a glywsoch gan Peredur, oherwydd roeddem ar fyrddau gwahanol.
Ar yr economi, codwyd y materion canlynol: yr angen i adeiladu mwy o dai, a fydd yn adfywio'r economi yn ogystal â dechrau mynd i'r afael â'r prinder tai; mae angen prentisiaid adeiladu i sicrhau bod gennym ddigon o allu i adeiladu'r tai a'r seilwaith sydd eu hangen arnom. Mae angen arian i gynnal seilwaith. Ni allwn adeiladu a disgwyl i ffyrdd ac adeiladau bara am byth heb unrhyw waith cynnal a chadw. Croesawyd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ac fe'i hystyrid yn enghraifft ardderchog o wariant cyfalaf effeithiol. Yr angen i adolygu polisi cynllunio i helpu i dyfu ein heconomi. Addysg yw'r allwedd i dwf economaidd. Mae cyllid ysgolion yn bwysig, fel y gall pob disgybl gyrraedd ei botensial. Pwysleisiwyd pwysigrwydd prentisiaid. Codwyd yr angen i adeiladu capasiti, yn enwedig mewn meysydd fel cynllunio trefol, arweinyddiaeth a rheoli. Roedd yr angen i ddiogelu cyllid addysg bellach yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth. Roedd yna gred fod angen mwy o radd-brentisiaethau, gan gynnwys peirianneg sifil, i hybu twf economaidd. Mae economïau llwyddiannus yn rhai sy'n seiliedig ar wybodaeth. Cefnogir economïau gan raddedigion o ansawdd uchel a chan y sector prifysgolion. Mae ymchwil prifysgol yn bwysig iawn i wella ein heconomi, wrth inni symud tuag at economi sy'n fwy seiliedig ar wybodaeth.
Roedd pryder hefyd fod y lwfans tai lleol yn cael ei danariannu. Mae chwyddiant rhent yn golygu nad yw'r lwfans tai lleol yn ddigon i dalu am lety. Mae gormod o bobl yn gorfod defnyddio llety dros dro. Gwelwyd twf mewn tlodi mewn gwaith oherwydd oriau isel ac amrywiol, ynghyd â thâl ar yr isafswm cyflog. Disgrifiwyd prydau ysgol am ddim cyffredinol fel rhywbeth pwysig iawn i sicrhau nad yw plant yn llwglyd yn yr ysgol, ond mae angen cymorth yn ystod gwyliau'r ysgol hefyd.
Prif faes gwariant Llywodraeth Cymru yw iechyd a gofal cymdeithasol. Gall ymyrraeth gofal cymdeithasol gynnar ac ymyrraeth iechyd gynnar leihau'r nifer sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys ac sydd angen mynd i'r ysbyty. Mae angen strwythur cyflog mewn gofal cymdeithasol sy'n cadw staff rhag gadael. Mae'r cyflog byw go iawn mewn gofal cymdeithasol yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen i gyflog gynyddu o hyd.
Fy marn i ar y gyllideb, pum pwynt allweddol: mae angen mwy o gynhyrchiant, yn enwedig o fewn ysbytai; mae angen mwy o gymorth ar ofal sylfaenol i leihau'r niferoedd sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys naill ai am nad ydynt yn gallu cael apwyntiad neu am fod eu hiechyd wedi dirywio wrth aros am apwyntiad meddyg teulu; addysg yw'r allwedd i wella cynhyrchiant ac adeiladu economi sy'n seiliedig ar wybodaeth; mae llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau allweddol sydd angen cefnogaeth; rwy'n cytuno â'r grŵp trafod yng Nghaerfyrddin fod angen inni adeiladu mwy o dai, cynyddu nifer y bobl sydd â sgiliau adeiladu a gwella seilwaith—
Mike, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs, Carolyn.
Mae'r holl bethau y soniwch amdanynt yn wasanaethau cyhoeddus—neu'r rhan fwyaf ohonynt—felly a fyddech chi'n cytuno â mi mai gwasanaethau cyhoeddus yw'r blociau adeiladu i adeiladu'r economi? Felly, mae angen inni ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn, rhywbeth nad ydym wedi bod yn ei wneud—wel, nid yw Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud—dros y 14 mlynedd diwethaf, ond dyna sydd angen inni ei wneud i gael y cydbwysedd hwnnw.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Bydd pobl yma, cyn i chi ddod yma, wedi arfer fy nghlywed yn dweud bod llywodraeth leol yn darparu sylfaen i gymdeithas wâr, a nhw sy'n darparu'r gwasanaethau allweddol, nid addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn unig, pethau y siaradwn lawer amdanynt, ac nid dim ond ffyrdd, y gwn fod gennych chi ddiddordeb mawr ynddynt, Carolyn, ond yr holl wasanaethau eraill, yr oddeutu 530 neu 540 o wasanaethau y mae awdurdod lleol yn eu darparu. Ni allaf roi'r rhestr i chi, ac ni fyddech yn gadael imi wneud hynny beth bynnag, Ddirprwy Lywydd. [Torri ar draws.] Yn sicr.
I adeiladu ar y pwynt pwysig a gododd Carolyn Thomas, rwy'n siŵr y byddech yn derbyn bod y trethi i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny yn amhosibl heb economi sy'n gweithio'n dda.
Byddwn. Dyna pam y siaradais am economi sy'n seiliedig ar wybodaeth ac economi cyflog uwch. Mae gennym ormod o swyddi cyflog isel gydag oriau afreolaidd, ac mae pobl yn byw mewn tlodi oherwydd hynny.
Rwy'n edrych ymlaen at weld Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn cynhyrchu cyllidebau amgen. [Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda. Yr hyn a wyddom gan Blaid Cymru, er mwyn llunio cyllideb ar gyfer Cymru annibynnol, yw y byddai angen inni roi'r gorau i ariannu pensiwn y wladwriaeth a pheidio â thalu ein cyfran o'r ddyled genedlaethol. [Torri ar draws.]
Yn olaf, os na chaiff y gyllideb ei phasio, mae'r canlynol yn digwydd: mae'r cyllid yn cael ei leihau i 90 y cant o'r cyllid eleni ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd sefydliadau'r trydydd sector yn rhoi tri mis o rybudd ym mis Ionawr i'w staff. Bydd problemau ar draws y sector cyhoeddus. Wrth gwrs, os na all y Senedd hon gytuno ar gyllideb, yr unig ffordd allan o'r cyfyngder yw etholiad Senedd i ethol Senedd a all basio'r gyllideb. [Torri ar draws.] A ydych chi'n gweld pam eich bod chi wedi dod yn bedwerydd yn yr etholiad diwethaf?
Nid yw tlodi yn digwydd ar ddamwain. Mae'n cael ei greu a'i ddwysáu gan ddewisiadau gwleidyddol—dewisiadau gwleidyddol a gaiff eu penderfynu gan ddewisiadau cyllidol. Ac fe glywsom yno am yr angen i ariannu ein hawdurdodau lleol oherwydd mai'r bobl dlotaf sy'n dibynnu fwyaf ar wasanaethau ein hawdurdodau lleol, ar wasanaethau cyhoeddus. Ni welsom unrhyw beth heddiw am ailddosbarthu, yr ailddosbarthu cyfoeth yr ydym ei angen mor daer yn y wlad hon i ariannu'r gwasanaethau hynny'n briodol, i helpu'r bobl sy'n dioddef amddifadedd a thlodi yn un o'r gwledydd cyfoethocaf ar y ddaear.
Dylai methiant Llywodraeth Lafur newydd y DU i amlinellu cynllun credadwy, wedi'i gostio i roi diwedd pendant i ddogma didostur cyni, a gyflwynwyd gan y Torïaid, sy'n amlwg yn cynnwys y penderfyniad cywilyddus hwn i beidio â chael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau, beri pryder i'r rhai yma sydd â'r dasg o gynllunio cyllideb Cymru.
Rydym wedi bod yn ymwybodol ers amser maith o effaith ddinistriol a phellgyrhaeddol cyni yn ehangu a dwysáu anghydraddoldebau cymdeithasol, boed yn lefelau brawychus o uchel o dlodi plant, y gostyngiad o 12 y cant mewn termau real yng nghyllid llywodraeth leol sydd wedi arwain at dorri gwasanaethau cymdeithasol hanfodol hyd at yr asgwrn, neu'r cynnydd o 37 y cant yn y defnydd o fanciau bwyd ledled Cymru dros y flwyddyn flaenorol yn unig, ac roedd eisoes ar y lefel uchaf erioed.
O'r herwydd, bydd dadwreiddio'r etifeddiaeth drychinebus hon yn galw am flynyddoedd o ymdrech barhaus a phwrpasol ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a bydd unrhyw oedi yn caniatáu i'r craciau yn ein cymdeithas ledu hyd yn oed ymhellach. Mae'n rhaid i'r gwaith o adnewyddu ac adfer ddechrau o ddifrif nawr, ond mae'r addewid o newid gan Lywodraeth Starmer yn diflannu'n gyflym yn sgil y realiti fod ei chynnig i Gymru yn awgrymu y bydd ein hadnoddau, sydd eisoes yn annigonol ac o dan bwysau, yn crebachu hyd yn oed ymhellach.
Fel y clywsom yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, mae'r broblem yn cael ei gwaethygu gan y ffaith bod anhrefn Llafur Cymru bellach wedi ein gadael heb lefarydd penodol dros gyfiawnder cymdeithasol, felly pwy sy'n cyflwyno'r achos brys i San Steffan na all Cymru fforddio fersiwn wedi'i hail-bobi o gyni? Y gyllideb cyfiawnder cymdeithasol a gafodd y toriad cyfrannol mwyaf yng nghyllideb ddiwethaf Llywodraeth Cymru, ac yn anochel fe wnaeth hynny beryglu gallu'r Llywodraeth hon i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn ein cymdeithas, yn gymdeithasol ac yn economaidd, a'u heffaith ar ddinasyddion Cymru.
Felly, er budd gonestrwydd a thryloywder llawn wrth inni agosáu at ddechrau'r cylch cyllidebol nesaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ateb y cwestiynau canlynol: a ydych chi o ddifrif yn credu bod modd rhoi diwedd ar gyni o fewn paramedrau presennol cyllideb Cymru, ac os felly, a wnewch chi egluro sut y gellir cyflawni hyn yn ymarferol, o ystyried bod meysydd heb eu clustnodi yng nghyllideb Cymru yn wynebu diffyg o £248 miliwn y flwyddyn nesaf? Ac a ydych chi'n cytuno, oni bai ein bod ni'n gweld camau gan Lywodraeth Lafur y DU i'n helpu i roi diwedd ar gyni, i gyflawni newid go iawn, y bydd Cymru'n aros mewn sefyllfa ariannol lle na allwn gefnogi anghenion ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ddigonol?
Rhaid i newid fod yn real ac yn ystyrlon. Drwy fesurau gwrth-dlodi a chydraddoldeb strategol wedi'u costio yn unig y gellir sicrhau tegwch, ac mae'n rhaid i wariant ddilyn strategaeth, oherwydd ni fydd rhethreg wag yn llenwi stumogau gwag.
Felly, ni allwn wario arian nad oes gennym, felly mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar leihau aneffeithlonrwydd ariannol. Pam, er enghraifft, fod gennym ddau gorff yn gyfrifol am adeiladau hanesyddol—Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru? Ai'r rheswm am hynny yw oherwydd bod gan yr olaf y gair 'brenhinol' yn ei enw, sy'n ein hatal rhag eu cyfuno? Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ein goleuo. Ond yn gyffredinol, mae gennym bellach 58 o gyrff y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym yn boblogaeth o 3 miliwn, ac mae'n rhaid inni ddechrau meddwl sut y gallwn ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol drwy gydweithio a chyfuno ymdrechion.
Heddiw, dysgais fod chwech awdurdod lleol gogledd Cymru wedi penodi chwe chadwraethwr gwahanol, lle mae'n teimlo y byddai rhannu nifer mor fach o unigolion a fyddai'n gallu gwneud y swydd arbenigol honno yn hytrach na chystadlu yn erbyn ei gilydd mewn maes cyfyngedig iawn yn ddadl well dros gydweithio, a rhaid mai partneriaeth yw'r ffordd ymlaen.
Pa mor dda ydym ni am ddirprwyo cyllidebau i un corff ar ran y lleill? Cododd hyn mewn cyfarfod bord gron gan y Sefydliad Materion Cymreig a fynychais heddiw gyda chyrff yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol. Rydym yn ddeddfwyr ac yn wneuthurwyr polisi gwych. Nid ydym mor dda am weithredu. Felly, mae'n rhaid inni weithio'n galetach i elwa ar fanteision ein polisïau a'n deddfwriaeth, a sicrhau ein bod yn gwneud ychydig yn well o ran hynny. Dyma'r her fwyaf sy'n ein hwynebu mewn gwirionedd.
Er enghraifft, prydau ysgol am ddim. Rwyf am siarad ar ran y grŵp trawsbleidiol ar fwyd ysgol, oherwydd rydym wedi cael sawl trafodaeth am hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn ad-dalu awdurdodau lleol ar gyfradd o £3.20 y pryd bwyd. Dylai hynny fod hollol bosibl os nad oes perthynas amhriodol rhwng cyflenwyr ac arlwywyr, a bod ysgolion yn gallu defnyddio'r adnodd bwyd i greu prydau bwyd maethlon a hefyd i osgoi gwastraff bwyd. Felly, a yw pob ysgol yn gofyn i ddisgyblion cynradd archebu eu pryd bwyd ymlaen llaw? Mae dau reswm da iawn dros wneud hynny. Un yw ei fod yn osgoi'r pryder y gall plant ei deimlo pan ofynnir iddynt fwyta rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi, ond hefyd ni allwn gyfiawnhau gwastraff bwyd ar unrhyw gyfrif.
Dysgodd y grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf fod lefelau salwch ac absenoldeb yn broblem fawr mewn un awdurdod lleol, a gwyddom o drafodaethau cynharach nad yw'r materion hyn yn unigryw i'r awdurdod penodol hwnnw. Rydym yn ceisio cystadlu gyda'r diwydiant lletygarwch am bobl sy'n gwybod sut i goginio, ac mae'n debyg na fyddwn byth yn cyrraedd y pwynt hwnnw. Bydd yn rhaid inni feddwl sut y gallwn greu ein rhai ni ein hunain a gwneud pethau'n wahanol.
Rwy'n eich gwahodd chi i gyd i ddarllen dogfen Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, o'r enw 'Cyfleoedd i wella iechyd plant yng Nghymru. Potensial bwyd ysgol.' Roeddwn i'n meddwl, i ddechrau, mai dweud popeth rwy'n ei wybod yn barod fyddai'r ddogfen hon. Yna edrychais ar y ffeithlun a oedd yn dangos y we gymhleth o bwy sy'n gysylltiedig â hyn a faint o wahanol sefydliadau sy'n rhan ohono. Fe'ch cyfeiriaf at dudalennau 8 a 9 o'r ddogfen i chi gael gweld pa mor gymhleth yw comisiynu prydau ysgol, a chyn lleied a wyddom am yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd.
Felly, fe wnaeth Gareth Thomas o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyflwyniad yn ddiweddar. Mae 18 o'r 22 awdurdod lleol yn rhan o broses ardystio CLlLC, ond nid oes unrhyw archwiliad—dim archwiliad—yn cael ei gynnal i weld a yw'r awdurdodau lleol yn gwneud yr hyn y maent yn addo ei wneud mewn gwirionedd. Rwy'n awgrymu bod angen rhoi sylw i hynny.
Yn olaf, clywsom gan wahanol bartïon sydd wedi bod yn rhan o werthusiad Llywodraeth Cymru, yn fewnol, mai'r ysgolion a oedd â'r nifer uchaf o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw'r ysgolion sydd â'r nifer isaf yn manteisio ar y rhaglen prydau ysgol am ddim i bawb yr ydym yn buddsoddi miliynau ynddi, ar gyfer pob disgybl. Nawr, mae CLlLC yn dweud nad yw'r ffigurau sydd ganddynt yn ddigon cadarn i'w cyhoeddi, ac rwy'n aros yn eiddgar i weld y ffigurau hynny'n cael eu cyhoeddi—
Diolch yn fawr, Jenny.
—gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y ffigurau ym mis Mehefin 2023.
Diolch, Jenny. Luke Fletcher.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddwn yn cytuno â'r pwynt a wnaeth Jenny Rathbone wrth agor, ynghylch yr angen i edrych ar sut y gallwn lywodraethu'n fwy effeithlon mewn gwirionedd. Byddwn yn pwyntio at Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru. Dyna ddau gorff sy'n ymddangos fel pe baent yn gwneud yr un peth, gyda'r un amcan, sef helpu i ddatblygu busnesau Cymru. Byddwn i'n cwestiynu a oes angen dau gorff arnom. A oes ffordd y gallwn ffocysu Banc Datblygu Cymru mewn ffordd sy'n cyflawni'r hyn y'i sefydlwyd i'w wneud mewn gwirionedd? A hoffwn annog yr Aelodau i ddarllen adroddiad diweddaraf Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fanc Datblygu Cymru, lle rydym yn galw am ddiwygio'r strwythurau hynny, a byddwn yn awgrymu i Ysgrifennydd y Cabinet fod honno'n un ffordd o ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd.
Un peth arall yr hoffwn ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet yw mater yr wyf wedi'i godi sawl gwaith gyda hi eisoes. Fe'i codais ef yn y Siambr, fe'i codais ef gyda hi wrth graffu ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), sef amrywio'r lluosydd ar gyfer ardrethi busnes. Gallai hwn fod yn bolisi niwtral o ran cost. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar sut rydym yn cefnogi busnesau mewn gwirionedd, oherwydd rydym wedi gweld y gostyngiad mewn rhyddhad ardrethi busnes, ac rydym yn gwybod y byddai'n anodd iawn i'r Llywodraeth wrthdroi'r penderfyniad hwnnw, ond un ffordd y gallwn helpu'r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y toriad hwnnw mewn rhyddhad ardrethi busnes yw edrych ar bwy sy'n talu beth yn union, pwy sy'n talu gormod, a phwy nad yw'n talu digon. Byddwn yn dadlau, er enghraifft, y dylai canolfannau siopa ac archfarchnadoedd y tu allan i drefi dalu llawer mwy nag y maent yn ei dalu ar hyn o bryd, a rhoi'r arbedion hynny i'r sector lletygarwch. Mae hyn yn rhywbeth y mae Hospitality UK a'r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, ymhlith eraill, wedi bod yn galw amdano ers peth amser. Felly, mae gennym bolisi a allai fod yn niwtral o ran cost, ond a fyddai o gymaint o fudd i fusnesau mewn gwahanol sectorau, a gallai hynny wedyn ganiatáu i fusnesau eraill sefydlu, gan gynyddu'r refeniw sy'n dod i mewn i Lywodraeth Cymru.
Ac o ddiddordeb personol i mi, rydym wedi clywed sawl Aelod yn y Siambr yn siarad am dai fel mater y mae angen ei ddatrys ac sydd angen bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Un peth yr hoffwn ei ystyried yw sut y gallwn newid y system gynllunio a diwygio'r system gynllunio i'w gwneud hi'n llawer haws i awdurdodau lleol droi eiddo masnachol yn llety rhent. Felly, er enghraifft, sut y gallwn ni ei gwneud hi'n haws i addasu siop nodweddiadol ar y stryd fawr a allai fod â rhywfaint o ofod uwch ei phen i fod yn fflatiau gydag un neu ddwy ystafell wely, oherwydd rydym yn gwybod bod y mathau penodol hynny o lety yn brin? Bydd hynny eto yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol greu mwy o refeniw, ond bydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar fusnesau, drwy ddarparu cwsmeriaid parod yn ei sgil yn ein trefi; drwy ddenu pobl i ganol trefi, byddant yn gwario mwy o arian, bydd mwy o dreth yn dod i law, a mwy o refeniw i Lywodraeth Cymru. Felly, dyna'r tri phwynt yr wyf eisiau eu gwneud, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr.
Galwaf nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet. Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw, a hoffwn ddiolch yn fawr i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma, ac wrth gwrs hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymarfer ymgysylltu'r pwyllgor, sy'n fwyfwy cynhwysfawr bob blwyddyn, mae'n rhaid imi ddweud, felly rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith y maent yn ei rannu gyda ni ar hynny. Ac wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod yn ymgysylltu â phobl Cymru ac yn gwrando arnynt wrth inni ddechrau ar ein paratoadau ar gyfer cyllideb 2025-26, ac mae'r pwyntiau a godwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac yma heddiw yn bethau y bydd angen inni eu hystyried gyda'n gilydd, ac wrth gwrs byddant yn helpu i ffurfio ein syniadau wrth inni symud tuag at gyllideb 2025-26.
Mae canlyniad etholiad cyffredinol y DU yn rhoi cyfle unigryw inni ailosod y cysylltiadau hynny a dechrau cyfnod newydd o bartneriaeth, gyda dwy Lywodraeth yn cydweithio ar weledigaeth gyffredin i Gymru. Mae'r sefyllfa ariannol yr ydym yn ei hwynebu heddiw, serch hynny, yn ganlyniad i gamreoli'r economi gan Lywodraeth flaenorol y DU. Fe wnaethant roi mwy na degawd o gyni i ni a'r fini-gyllideb drychinebus, ac wrth gwrs yr argyfwng costau byw a chyfradd chwyddiant dau ddigid uchel iawn, felly mae arnaf ofn fod pregethau oddi ar feinciau Ceidwadol am fuddsoddi mewn tai neu wasanaethau cyhoeddus yn wirioneddol anghredadwy. [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriad ar hyn o bryd. Mae'r sefyllfa economaidd a chyllidol y mae Llywodraeth newydd y DU wedi'i hetifeddu yn anhygoel o anodd, ac wrth gwrs bydd yn cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer. Ni allwn ddadwneud y 14 mlynedd diwethaf a'u heffeithiau, er cymaint yr hoffem wneud hynny.
Wrth inni edrych ymlaen at gyllideb nesaf Llywodraeth Cymru, fe fydd yn heriol iawn unwaith eto, a bydd yn rhaid inni ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau pwysicaf oll, ac ni fydd digon o arian i fynd i'r afael â'r holl bwysau sy'n ein hwynebu. Ac fel y mae rhai o'r cyd-Aelodau wedi dweud, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cynhyrchu amcanestyniadau tymor canolig ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio rhagdybiaethau blaenorol Llywodraeth y DU ar gyfer trywydd gwariant cyhoeddus dewisol, a chan ystyried y wybodaeth ym maniffestos pleidiau'r DU ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Ac mae'r amcanestyniadau hynny, fel y mae rhai cyd-Aelodau wedi nodi, yn dangos natur yr heriau sydd o'n blaenau'n glir. Un o'r camau cyntaf y mae'r Canghellor wedi'u cymryd yw gofyn i Drysorlys EF ddarparu asesiad o gyflwr cyllid cyhoeddus y DU, a bydd hwn yn cael ei gyflwyno cyn toriad haf Senedd y DU. Bydd y Canghellor yn nodi'r manylion ar amseriad cyllideb y DU bryd hynny hefyd.
Fe fydd yn ddefnyddiol cael eglurder cynnar ynghylch amseriad a chwmpas digwyddiadau cyllidol y DU sydd ar y ffordd i gynorthwyo ein paratoadau cyllidebol, ond mae'n ymddangos yn debygol na fyddwn yn gwybod beth fydd ein cyllideb tan yr hydref, gan fod Llywodraeth newydd y DU angen rhywfaint o amser i ystyried a nodi ei chynlluniau. O ystyried yr ansicrwydd presennol ynglŷn â phryd y byddwn yn gwybod beth fydd ein setliad y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol gyfredol, rydym wedi rhoi gwybod i Bwyllgor Busnes a Phwyllgor Cyllid y Senedd fod yn rhaid inni weithio ar hyn o bryd ar sail cyhoeddi'r cyllidebau drafft amlinellol a manwl gyda'i gilydd ar 10 Rhagfyr 2024 a'r gyllideb derfynol ar 25 Chwefror 2025.
Rwy'n llwyr gydnabod yr her y mae hyn yn ei chreu i graffu ar y gyllideb ddrafft. Wrth gwrs, mae'n her i ni o ran paratoi'r gyllideb hefyd. Ar gyfer y gyllideb sydd gennym yn y flwyddyn ariannol hon, dim ond tair wythnos a phedwar diwrnod a gawsom i baratoi'r gyllideb honno. A phan feddyliwch am yr holl wybodaeth sy'n cyd-fynd â'r gyllideb, o'n hadroddiadau treth i'n naratif cyllidebol, i'r gwaith y mae'r prif economegydd yn ei wneud, rydym yn darparu llawer iawn o ddogfennaeth mewn cyfnod byr iawn. Ac er ein bod ni bob amser eisiau gweld beth arall y gallwn ei ddarparu, os oes pethau yr ydym yn eu cynhyrchu nad yw cyd-Aelodau'n eu hystyried yn ddefnyddiol, wrth gwrs, gallwn gyfeirio ein hymdrechion i ffwrdd o'r pethau hynny hefyd. Os bydd dyddiad y digwyddiad cyllidol yn y DU sy'n cadarnhau ein setliad y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol hon yn gynharach yn nhymor yr hydref, byddwn yn ceisio cyflwyno amserlen ein cyllideb yn gynt wrth gwrs. A byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau am hynny.
Cafwyd rhai sylwadau am y ddogfennaeth a'r wybodaeth a ddarparwn ochr yn ochr â'r gyllideb. Mae'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn partneriaeth â'r Pwyllgor Cyllid, unwaith eto, yn bwysig iawn yn y gofod hwn oherwydd rydym yn adolygu ein protocol ar gyfer y gyllideb. Rydym wedi dod i gytundeb ar lawer o feysydd, ac mae'n dal i fod rhai meysydd yr ydym wedi gofyn i'n timau ganolbwyntio arnynt gyda'i gilydd dros yr haf gyda'r bwriad o barhau i wneud cynnydd yma.
Mae llawer o'r materion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn adlewyrchu'r materion yr ydym wedi'u nodi fel ein blaenoriaethau ein hunain fel Llywodraeth ar gyfer eleni. Er enghraifft, rydym yn cydnabod y pwysau enfawr ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus, felly rydym wedi sicrhau bod lleihau amseroedd aros ac ariannu'r GIG a gofal cymdeithasol yn un o'n blaenoriaethau allweddol. Rydym hefyd yn gwybod bod yr argyfwng costau byw yn dal i gael effaith enfawr ar bobl, a dyna pam mae ein blaenoriaethau craidd yn cynnwys codi plant allan o dlodi drwy gefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar. Ac wrth gwrs, mae'r pwysau ar y sector addysg, y cyfeiriwyd atynt, a'r effaith ar fyfyrwyr a staff yn bryder yr ydym yn ei rannu. Ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol.
Fel pawb yma, rwy'n cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn atal. Er mwyn inni sicrhau bod ein gwasanaethau'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, bydd angen dull gwahanol o weithredu. Ac er bod angen inni wneud dewisiadau anodd gyda'r cyllid sydd ar gael i ni yn y tymor agos, rwyf wedi nodi'r dull newydd ar gyfer ein hadolygiad o wariant yng Nghymru. Ac rwy'n credu bod adroddiad y pwyllgor, unwaith eto, yn ddefnyddiol iawn wrth inni ddechrau ar y daith honno, a byddaf yn gallu dweud mwy am hynny maes o law.
Rwyf wedi talu sylw gofalus iawn i safbwyntiau a sylwadau cyd-Aelodau mewn perthynas â meysydd blaenoriaeth y prynhawn yma, gan gynnwys tai cymdeithasol, y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y cyflog byw gwirioneddol, gofal sylfaenol, y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, Cyfoeth Naturiol Cymru, gwasanaethau rheilffordd, prentisiaethau addysg bellach, sgiliau—cymaint o feysydd, ac roedd bron pob cyfraniad yn galw am gyllid ychwanegol. Felly, roeddwn yn ddiolchgar iawn i fy nghyd-Aelod Heledd Fychan pan agorodd ein llygaid, yng nghanol y ddadl, i'r sefyllfa gyllidol heriol iawn sy'n ein hwynebu. Oherwydd bydd blaenoriaethu, fel y mae rhai cyd-Aelodau wedi cydnabod, yn galw am ddadflaenoriaethu mewn meysydd eraill. Felly, fel erioed, mae'n her i ni nodi lle rydym yn dadfuddsoddi. Ac wrth gwrs, mae hynny'n mynd yn anos drwy'r amser. Rydym wedi cael cyfnod mor hir o gyni, ac rydym wedi cael effeithiau chwyddiant, a arweiniodd at ein hymarfer ailflaenoriaethu ein hunain y llynedd.
Rwy'n cytuno ein bod wedi etifeddu cyni, fel yr amlinellais yn fy nghyfraniad, ond a ydych chi'n cytuno bod yna bethau y gallai Llywodraeth y DU eu gwneud i godi refeniw, a allai wedyn gael ei drosglwyddo drwy gyllid tecach i Gymru? Er enghraifft, gallent gydraddoli treth ar enillion cyfalaf gyda threth incwm, yr amcangyfrifir y byddai'n codi rhwng £8 biliwn ac £16 biliwn, a fyddai'n fwy na digon, er enghraifft, i helpu'r GIG ac yn gallu mwy nag ariannu cael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau. Felly, mae yna bethau y gellid eu gwneud i godi refeniw.
Mae yna offer ar gael i Lywodraeth y DU wrth gwrs—er enghraifft, y cyhoeddiadau ynghylch pobl â statws byw tu allan i'r wlad, mewn perthynas â TAW ar gyfer ysgolion preifat. Dyma ychydig o feysydd lle mae wedi dweud y bydd yn gweithredu, ac fe welsoch chi hynny, yng nghefn y maniffesto, lle roedd yn nodi pa gyllid ychwanegol a fyddai'n dod i Gymru pe baent yn cymryd y camau hynny. Felly, mae yna bethau y gall Llywodraeth y DU eu gwneud yn sicr, ond mae Llywodraeth y DU yn ystyriol, fel yr ydym ni, o'r ffaith bod unigolion ac aelwydydd yn teimlo'r baich treth uchaf y maent wedi'i deimlo ers 70 mlynedd, diolch i weithredoedd y Ceidwadwyr, ac mae'n rhaid i ni ystyried y pethau hynny hefyd.
Roeddwn eisiau dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn ei hun rhag y dewisiadau anodd. Rydym wedi mynd drwy gyfnod o gynllun ymadael gwirfoddol i rai o'n staff. Rydym wedi bod yn drist iawn o golli rhai o'n staff gwych. Pan fyddwn yn siarad am y dewisiadau anodd sy'n wynebu cyrff hyd braich ac eraill, nid wyf eisiau i gyd-Aelodau feddwl bod Llywodraeth Cymru rywsut yn rhoi statws gwahanol iddi ei hun yn y trafodaethau hynny.
Gallaf weld bod fy amser yn dirwyn i ben, felly hoffwn ddiolch i gyd-Aelodau—
Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriadau.
Mae hynny'n garedig iawn; diolch. Hoffwn ddweud 'diolch' wrth gyd-Aelodau sydd wedi ymgysylltu â'r cwestiynau ynghylch arbedion ac effeithiolrwydd gwariant a defnyddio dulliau gweithredu eraill fel cynllunio. Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn ymyriadau pwysig iawn hefyd.
A hoffwn ddweud ein bod wedi gwneud dewisiadau anodd iawn ar wariant dros y blynyddoedd diwethaf, ond credaf fod cymaint y gallwn fod yn falch ohono, o fod wedi cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth aeddfed yma yn y Senedd. Drwy weithio gyda Phlaid Cymru ar y cytundeb cydweithio, fe wnaethom gyflawni llawer iawn, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion cynradd, darparu gofal plant ychwanegol am ddim, cyflwyno pecyn radical o fesurau i greu cymunedau lleol ffyniannus, a helpu pobl i fyw'n lleol a mynd i'r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi mewn sawl ardal yng Nghymru.
Gwn fod cyd-Aelodau yma yn cydnabod yr heriau ariannol sylweddol sy'n ein hwynebu, ond rwy'n credu mai'r ffordd y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl yng Nghymru yw drwy wrando ar ein gilydd a chydweithio.
Galwaf ar Peredur Owen Griffiths i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae hon wedi bod yn ddadl ardderchog. Rwy'n croesawu'r nifer uchel o siaradwyr, sy'n adlewyrchu cryfder y teimlad yn y Siambr. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, Rhianon, Peter a Mike, a gyfrannodd fel aelodau o'r pwyllgor, ond cyfrannodd Mike yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd.
Rwy'n ddiolchgar hefyd i Gadeiryddion y pwyllgor am eu cyfraniadau. Soniodd John Griffiths am y pwysau a wynebir ym maes tai, yn enwedig yr angen i ddarparu cyllid i liniaru digartrefedd, a ddylai fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom, pwynt a godwyd gan Mark Isherwood yn ogystal, ac fe gododd hyn yn aml yn ystod trafodaethau ein grwpiau ffocws.
Sam Rowlands, fe wnaethoch chi sôn am yr anawsterau sy'n wynebu'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig prinder yng ngweithlu'r sector hwnnw, a'r angen i fodloni gofynion y cyflog byw gwirioneddol.
Rwy'n ddiolchgar i Jack am sôn am y deisebau sydd wedi'u cyflwyno—am gyllid meddygon teulu a'r cyllid craidd ar gyfer addysg a'r holl bethau eraill y sonioch chi amdanynt. Cafodd yr un teimladau eu rhannu yn ein digwyddiadau rhanddeiliaid.
Mi wnest ti siarad, Delyth, am y blaenoriaethau ar gyfer eich pwyllgor chi, gan adleisio'r pwyntiau difrifol a godwyd gan Jack ac Aelodau eraill am y toriadau yn y sector celfyddydau a diwylliant. Mi wnaeth Delyth pwyntiau grymus iawn am yr effaith mae diffyg cyllid mewn mentrau a chyfleusterau chwaraeon yn ei gael ar wasanaethau cyhoeddus. Soniodd hefyd am y cap ar y potensial i’r diwylliant i ffynnu.
Dwi hefyd yn croesawu pwyntiau Llyr ynglŷn â pwyso ar y Llywodraeth i wella dogfennau, ond hefyd i wella’r prosesau sydd gennym ni yn y lle yma ynglŷn â sut rydyn ni yn mynd i’r afael â sgrwtini sydd wedi cael ei dorri’n fyrrach oherwydd pethau sydd tu hwnt i’n rheolaeth ni. Buaswn i hefyd yn licio diolch iddo fo am y blaenoriaethau eraill y gwnaeth o eu nodi.
Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfraniadau eraill a wnaed gan Heledd, Mark, y soniais amdano'n gynharach, Sioned, Jenny a Luke. Fe wnaethoch chi siarad am y materion hynny, a bydd y Pwyllgor Cyllid yn cadw'r rheini mewn cof wrth inni ymgymryd â'n gwaith craffu. Rwy'n gobeithio y bydd Cadeiryddion pwyllgorau eraill yn rhannu'r cyfraniadau hynny hefyd.
Rwy'n cydnabod sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet am y pwysau cyllidebol aruthrol; mae pwysau enfawr yn hynny o beth, ond mae gwasanaethau rheng flaen yn cael eu taro, ac fel y dywedodd Sioned yn rymus, y rhai tlotaf mewn cymdeithas sy'n cael eu heffeithio gan hyn i gyd. Rwy'n gwybod bod hynny'n agos at galonnau pawb yn y lle hwn. Rwy'n cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r gyllideb yn hwyr, ac fel pwyllgor, nid ydym yn ddall i'r heriau hynny.
Rydym wedi cael 13 o gyfraniadau, ac rwy'n ceisio rhoi popeth at ei gilydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses, diolch i'r holl randdeiliaid, yr holl ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd. Rwy'n gwybod y bydd yn gyllideb anodd eto eleni, ond rwy'n siŵr, rhyngom ni, y gwnawn ein gorau i graffu ar Lywodraeth Cymru ac i roi llais i'r bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael eu clywed yn y broses o lunio'r gyllideb. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 heddiw yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Y sefyllfa bresennol: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell.
Cynnig NDM8641 Delyth Jewell
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Y sefyllfa sydd ohoni: Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2024.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i gynnal y ddadl hon heddiw. Mae’r sector darlledu yn mynd trwy gyfnod o newid pwysig iawn. Mae hyn yn cael ei sbarduno’n rhannol gan ddatblygiadau technolegol a newidiadau yn y ffordd mae pobl yn defnyddio’r cyfryngau. Dyw darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ddim yn cael ei gysgodi rhag y cyfryw newidiadau. Diben ein gwaith fel pwyllgor oedd pennu sut un yw’r sefyllfa sydd ohoni yn y sector yng Nghymru, ond roedd un cwestiwn yn codi dro ar ôl tro wrth inni ystyried y gwaith hwn, a hynny yw pa mor effeithiol y mae buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli gan y system bresennol.
Mae ateb syml i’r cwestiwn dan sylw. Ein barn ni yw nad yw buddiannau Cymru yn cael eu hystyried i raddau digonol mewn trafodaethau sy’n ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Dirprwy Lywydd, dro ar ôl tro, adroddiad ar ôl adroddiad, yr un stori sy’n dod i’r amlwg. Dywedodd y pwyllgor a’n rhagflaenydd fel pwyllgor yn y bumed Senedd fod y cyflenwad o gyfryngau yng Nghymru yn annigonol. Yn hydref 2021, yn ein hadolygiad o ganfyddiadau’r adroddiad ‘Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr’, gwnaethon ni argymell y dylai’r Deyrnas Unedig ddatblygu cynigion polisi a deddfwriaethol i roi effaith i argymhellion Ofcom. Yn yr un adroddiad, fe wnaethon ni alw am gynrychiolaeth o Gymru i gael ei chynnwys yn yr adolygiad nesaf o setliad ffi’r drwydded, ac ar y panel cynghori ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Yn fwy diweddar, dywedodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru fod persbectif Cymreig ar faterion y Deyrnas Unedig yn aml yn absennol o gynnwys y cyfryngau, a galwodd am ddiwygiadau cyfansoddiadol i roi llais cryfach i Gymru o ran polisi darlledu. Er gwaethaf galwadau niferus, nid oes digon wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf o ran buddiannau Cymreig ym myd darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Dirprwy Lywydd, un peth a ddaeth i’r amlwg yn ystod ein hymchwiliad oedd y cyfleoedd i gynyddu’r portread o Gymru ar y sgrin. O ran y BBC, mae wedi lledaenu gweithgarwch ledled y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni’n croesawu hynny. Mae cynnydd yng ngwariant rhwydwaith y BBC wedi bod yn gatalydd ar gyfer y sector sgrin yng Nghymru, a hynny mewn diwydiant sydd bellach yn ffynnu. Dyma rywbeth yr ydyn ni i gyd yn falch ohono.
Rydyn ni hefyd yn credu bod ymagwedd y BBC o ran cael darpariaeth yn y gwledydd sy’n gweddu i’w buddiannau unigol hefyd yn briodol. Fodd bynnag, dŷn ni ddim yn credu ei bod yn briodol fod gwariant y BBC ar gynnwys teledu Saesneg yn yr Alban ddwywaith y ffigwr cyfatebol yng Nghymru. Ar y mater hwn, dywedodd Rhuanedd Richards o BBC Cymru wrthyn ni, a gwnaf i ddyfynnu ei geiriau:
'Rydym wedi llwyddo i gynyddu ein gwariant ar deledu Saesneg y llynedd, ac eleni rwy'n credu y byddwn yn gweld twf pellach. A dyna yw fy nod mewn gwirionedd: os oes gennyf darged, twf flwyddyn ar ôl blwyddyn yw'r targed hwnnw'.
Gwnaethon ni hefyd siarad gydag ITV. Er gwaethaf yr heriau masnachol, credwn fod lle i ITV hefyd gynyddu ei wariant rhwydwaith yng Nghymru. Yn 2022, gwariodd ITV yn agos at 0 y cant o’i wariant rhwydwaith cymwys yng Nghymru ar ôl i I’m a Celebrity...Get Me Out of Here! ddychwelyd i Awstralia. Pan fo ITV wedi creu cynnwys yng Nghymru, mae wedi cael derbyniad da iawn. Byddem ni wrth ein boddau o'u gweld yn defnyddio'r sector sgrin sydd ar gynnydd yma yng Nghymru. Bydd cynyddu cyfran y cynnwys sy'n cael ei greu yng Nghymru yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at gynyddu cynrychiolaeth Gymreig ar allbwn y darlledwr.
Hoffwn gyfeirio, wrth gwrs, at S4C. Mae ariannu S4C yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ddim llai na siomedig. Er i'r darlledwr gael cynnydd yn ei setliad ariannu diweddaraf, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lleihau cyllid S4C 30 y cant mewn termau real ers 2010. Dywedodd swyddogion S4C wrthym ni eu bod wedi gorfod torri'r got yn ôl y brethyn a'u bod yn blaenoriaethu rhaglenni plant, dramâu a chwaraeon. Mae angen ffynhonnell ariannu gyson a dibynadwy ar y sianel. Ac mae'r setliad ariannu cyfredol yn cyfyngu'n ddifrifol ar y darlledwr ar adeg pan fo angen iddo ehangu i ddarparu gwasanaethau ar draws platfformau darlledu ac ar-alw. Mae angen hyn nid yn unig i ganiatáu i S4C gyflawni ei rhwymedigaethau fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ond hefyd i sicrhau y gall barhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi targed Cymraeg 2050.
Nawr, mae diffyg cynrychiolaeth Gymreig hefyd yn y ffordd y mae darlledwyr yn cael eu rhedeg, ac rydym ni wedi gwneud argymhellion ynghylch yr angen i wella llywodraethiant ym maes darlledu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er nad yw darlledu wedi cael ei ddatganoli, rydyn ni o'r farn y dylai'r Senedd a Llywodraeth Cymru gael mwy o lais yn y ffordd y mae penodiadau sy'n cynrychioli buddiannau Cymru yn cael eu gwneud. Dywedodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a dwi'n dyfynnu'r geiriau:
'Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi, craffu ac atebolrwydd ym maes darlledu, a dylai gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli.'
Rydyn ni'n cytuno'n llwyr â hyn. Wrth ei osod yn erbyn y cefndir cyfansoddiadol presennol, lle mae darlledu yn parhau, wrth gwrs, i fod yn fater sy'n cael ei gadw nôl, prin yw'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer gwella'r craffu ar drefniadau llywodraethu presennol ym maes darlledu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ond dyw hyn ddim yn golygu nad oes modd gwneud newidiadau. Ar y pwynt hwn, dylwn i nodi ein bod ni'n croesawu'n fawr frwdfrydedd a pharodrwydd y BBC, S4C, ITV ac Ofcom i ymddangos gerbron ein pwyllgor. Mae lle, wrth gwrs, i gryfhau hyn.
Credwn y byddem ni'n gweld gwelliannau yn atebolrwydd y rhai sydd â'r dasg o redeg sefydliadau darlledu pe bai gan y Senedd rôl ffurfiol yn y broses o'u penodi. Dyna pam rydyn ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gytuno na ddylai penodiadau aelodau Cymru i fyrddau'r BBC ac Ofcom gael eu cytuno hyd nes y bydd pwyllgor yn y Senedd wedi gwneud gwaith craffu cyn penodi. Rydyn ni hefyd yn credu y dylai fod yn ofynnol i benodiad cadeirydd S4C gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gael cytundeb Llywodraeth Cymru, ac y dylai un o bwyllgorau Senedd Cymru gynnal gwrandawiad cyn penodi. O ystyried pwysigrwydd darlledu i Gymru a'i democratiaeth, rydyn ni'n credu y byddai hyn yn ychwanegu haen bwysig arall o atebolrwydd.
Cyn imi gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn i nodi ar ran ein pwyllgor ein bod yn croesawu'r ymatebion a gafwyd gan Ofcom, y darlledwyr, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Er nad oedd nifer o'r argymhellion hyn wedi'u hanelu'n benodol at Lywodraeth Cymru, rydyn ni'n croesawu'r gefnogaeth sydd wedi'i hamlinellu yn eu hymatebion. Yn hynny o beth, byddwn ni'n croesawu cael y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet—dwi'n ymwybodol bod Ysgrifennydd Cabinet arall yn eistedd i mewn, ond buaswn i'n croesawu trafodaeth neu unrhyw wybodaeth rŷch chi'n gallu ei rhoi i ni am drafodaethau ynghylch argymhelliad 16, hynny yw pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ar gytuno na ddylai aelodau dros Gymru o fyrddau BBC ac Ofcom cael eu penodi hyd nes y bydd un o bwyllgorau'r Senedd wedi cynnal gwaith craffu cyn penodi.
Fel y dywedais i ar y dechrau, mae newid sylweddol ar droed yn y sector darlledu. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys effaith y Ddeddf cyfryngau newydd ac adolygiadau cyfredol o setliad ffi'r drwydded. Rhaid inni wneud yn siŵr ein bod ni'n effro i'r newidiadau hyn, gan nad yw darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn ddiogel rhag newidiadau sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at glywed barn Aelodau eraill.
A gaf i ddiolch i Delyth am agor y ddadl heddiw ac i holl glercod y pwyllgor, y staff a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor? Roedd yn teimlo fel amser maith yn ôl pan oeddem yn derbyn tystiolaeth ar hyn, a sylweddolais ei fod yn amser maith yn ôl mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr adroddiad wedi'i gyhoeddi ym mis Mawrth, ond rwy'n credu ei fod yn fwy amserol, mae'n debyg, ac fe wnaf egluro pam yn nes ymlaen, a myfyrio ar y rôl y mae ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae. A phan fyddant yn meddwl am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, rwy'n credu bod gwleidyddion yn aml yn meddwl ynglŷn â sut mae gwleidyddiaeth yn cael ei chynnwys, onid ydynt? Rydym yn greaduriaid gwleidyddol. Mae'n debyg bod gennym fwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth na'r person cyffredin ar y stryd, ac felly, byddwn yn edrych ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus drwy'r lens o sut mae ein gwleidyddiaeth yn cael sylw, ac mewn gwirionedd, yn aml nid yw'n dweud y stori gyfan o ran yr hyn y mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ei gynnig. O gyfarfod ag ITV a'r BBC, gwelsom y rhaglenni eraill y byddent yn eu cynhyrchu, ar fywyd cefn gwlad, bywyd gwledig, neu'r celfyddydau a diwylliant, sydd hefyd yn hynod o bwysig. Ac a dweud y gwir, fel gwleidyddion, weithiau rwy'n credu bod angen inni beidio â bod mor hunandybus a sylweddoli nad yw pobl yn aml yn malio, a bod pobl iau yn enwedig yn cael eu cyfryngau mewn ffordd hollol wahanol. Ond rwy'n credu mai dyna yw pwrpas darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Maent yno i roi sylw i bethau sydd er budd y cyhoedd yn hytrach na'u diddordebau masnachol eu hunain, ac mae honno'n rôl bwysig ac yn rhywbeth na allwn golli golwg arno wrth drafod ein tirlun darlledu.
Ac rwy'n credu, mae'r wythnos hon—dyma'r rheswm pam rwy'n credu bod yr adroddiad yn amserol—wedi bod yn enghraifft dda iawn o'r gorau a'r gwaethaf yn y maes hwn mewn gwirionedd. Ac nid wyf yn cyfeirio at hyn fel astudiaeth achos er mwyn creu embaras i unrhyw un o fy ffrindiau Llafur, ond rwy'n credu bod natur proffil uchel digwyddiadau'r wythnos hon wedi dangos cyfryngau'r DU a'r cyfryngau Cymreig yn eu holl gymhlethdod a'u gallu i ymdrin â straeon proffil uchel a phwysig iawn i bobl Cymru, ac rwy'n credu ein bod wedi gweld darlledu gwirioneddol dda yng Nghymru. Os caf ddechrau gyda'r enghreifftiau da, gan y BBC, er enghraifft, a ddarlledodd y rhaglen Wales Today estynedig honno neithiwr, gan roi sylw i ymddiswyddiad y Prif Weinidog. Rwy'n gwybod bod Sharp End neithiwr wedi gwneud llawer iawn o waith er mwyn ymdrin â'r stori gyda'r dyfnder a'r ehangder yr oedd yn ei haeddu. A gwn fod S4C wedi gwneud llawer o waith ar hynny hefyd. Ac roeddwn eisiau oedi a meddwl am eiliad fod llawer o'r dystiolaeth a gawsom mewn cyfnod anodd iawn i S4C, rwy'n meddwl. Ac rwy'n credu y dylai S4C, yn enwedig fod yn brif ffynhonnell newyddion Cymreig, yn yr iaith Gymraeg yn amlwg, ond newyddion Cymreig mewn unrhyw iaith. Ac mae'n dda gweld bod S4C ar sail fwy sefydlog ac yn dilyn trywydd mwy sefydlog, gyda'i gallu i wneud hynny, nawr ac i'r dyfodol.
Credaf mai rhai o'r enghreifftiau gwaethaf, serch hynny, yw lle mae cyfryngau'r DU wedi ymdrin â straeon Cymreig. Dyma enghraifft i chi. Ddoe, gwyliais newyddion y DU am 6 p.m. ac ymddiswyddiad y Prif Weinidog yma oedd y bedwaredd stori. Ac rwy'n meddwl tybed a fyddai hynny'n digwydd i Brif Weinidog yn yr Alban, heb sôn am Brif Weinidog y DU. Ymddangosais yn gynharach yr wythnos hon, ddydd Llun, ar orsaf radio fasnachol—nid wyf am ei henwi—i siarad am yr eitem nesaf sydd gennym ar yr agenda, a'r cwestiwn cyntaf un a ofynnwyd i mi oedd, 'Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ennill un bleidlais o ddiffyg hyder, pam eich bod chi wedi cyflwyno un arall?' Ac fe aeth yr amser y bu'n rhaid i mi ei dreulio'n egluro ei fod wedi colli'r bleidlais o ddiffyg hyder ac nad ydym wedi cyflwyno pleidlais arall o ddiffyg hyder mewn gwirionedd—. Roeddwn yn teimlo mai fi oedd y gohebydd yn hytrach na'r gwleidydd yn rhoi'r persbectif gwleidyddol. [Torri ar draws.] Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn myfyrio ar y rôl y mae'r cyfryngau yn ei chwarae yn hynny o beth.
Tom, rwy'n cytuno'n llwyr â chi yn eich dadansoddiad o'r newyddion ddoe, oherwydd cefais fy synnu mewn gwirionedd. Ni wnaeth Newsnight sôn o gwbl am yr hyn a ddigwyddodd yma ddoe—dim gair. Roedd yn syfrdanol, a bod yn onest. Dyna'r prif fan lle caiff materion cyfoes eu dadansoddi'n fanwl. Rwy'n derbyn nad yw'n gynulleidfa dorfol, ond fel roeddech chi'n ei ddweud, nid yw darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ymwneud â chynulleidfaoedd torfol, mae'n ymwneud â sicrhau dealltwriaeth. A ydych chi'n cytuno, yn groes i ymateb Tim Davie i adroddiad y pwyllgor diwylliant, lle mae'n dweud eu bod wedi ymrwymo i adrodd ar y gwledydd datganoledig—? Gwelsom dystiolaeth ddoe lle nad oedd hynny'n wir mewn gwirionedd, ac rydych chi wedi rhoi'r enghreifftiau. A ydych chi'n meddwl, felly, fod y pwynt a wnaeth Delyth Jewell ynglŷn â sicrhau y gall y Senedd oruchwylio aelodaeth o fyrddau'r sefydliadau darlledu hyn yn bwysicach fyth, o ystyried yr enghraifft eithafol a welsom ddoe?
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Rwy'n cytuno, ac yn amlwg roeddwn yn aelod o'r pwyllgor a fyddai wedi cytuno ar yr argymhellion. Roeddwn i'n ddigon bodlon i gytuno i rai o'r argymhellion y sonioch chi amdanynt oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod gan y Senedd rôl. Er nad yw darlledu ynddo'i hun wedi'i ddatganoli, mae'n bwysig ein bod yn cofio bod gan y Senedd rôl i'w chwarae mewn llawer o ffyrdd eraill, ac mae gan gymwyseddau datganoledig rôl mewn sawl ffordd arall hefyd. Felly, rwy'n cytuno â'r pwynt a wnewch.
Nawr, fel y dywedaf, rwy'n credu ein bod wedi gwneud llawer iawn o bethau yn gywir ac yn anghywir yr wythnos hon. Rwy'n credu bod yna sgwrs ehangach am ddatganoli darlledu, a gwn nad oes gennyf amser i fynd i mewn i hynny, sy'n bwnc trafod ynddo'i hun. Nid wyf yn argyhoeddedig o'r dadleuon hynny. Rwy'n siŵr y bydd eraill yn gwneud y ddadl honno heddiw. Mewn byd sy'n gynyddol fasnachol, lle rydych chi'n gweld y chwaraewyr mawr hyn ar y llwyfan rhyngwladol sydd eisiau darlledu yn y DU ac yng Nghymru, rwy'n credu ei bod yn gwneud mwy o synnwyr i gael fframwaith rheoleiddio y mae'r chwaraewyr mawr, fel Disney+ a'r Amazon Primes a'r Netflixes, yn gallu glynu wrtho a'i barchu. Rwy'n poeni am yr effaith y byddai cael cyfundrefnau deddfwriaethol gwahanol mewn gwahanol rannau o'r DU yn ei chael ar eu gallu i reoli'r ffrydwyr hynny.
Ond fel y soniodd Delyth Jewell ar y cychwyn cyntaf, rwy'n credu bod hyn yn datblygu'n gyson. Nid wyf yn credu bod y ddeddfwriaeth a oedd ar waith cyn y Bil Cyfryngau, a gafodd ei setlo, rwy'n credu, wrth i Senedd ddiwethaf y DU ddod i ben, wedi bod—. Ni welwyd unrhyw ddeddfu sylweddol yn y maes hwn ers cyflwyno Ofcom yn 2003 mewn gwirionedd. Ac nid wyf yn credu y dylem ei gadael mor hir eto cyn ein bod yn edrych ar sut yn union y mae tirlun ein cyfryngau wedi datblygu, a sut felly y gallwn amddiffyn a gwella'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus hynny, eu canmol pan fyddant yn gwneud yn dda, eu dwyn i gyfrif pan nad ydynt yn gwneud eu gwaith yn iawn, ond yn y pen draw, i fod yno i'w diogelu oherwydd yn y pen draw maent yn hanfodol i'r gymdeithas ddemocrataidd yr ydym yn byw ynddi, ac i adlewyrchu lleisiau pobl Cymru.
Gaf i ddiolch i’r pwyllgor am eu gwaith ar hwn, a hefyd am y drafodaeth dŷn ni eisoes wedi’i chael, sydd wedi amlinellu pwysigrwydd y gwaith yma? Dwi’n gwybod fy mod i’n rhan o’r pwyllgor rŵan, ond doeddwn i ddim yn rhan o’r gwaith. Ond mae o’n ddatblygiad o’r gwaith dŷch chi eisoes wedi bod yn ei wneud, a dwi’n credu ei fod o’n eithriadol o bwysig ein bod ni’n trin a thrafod hyn—efo Tom Giffard a Sioned Williams hefyd yn dangos pa mor berthnasol ydy o i’n democratiaeth ni.
Mi fydd o'n eithriadol o bwysig efo etholiad 2026, wrth gwrs. Yn un peth, i gael ymgeisyddion i fod yn sefyll. Mae yna rôl bwysig iawn gan ddarlledwyr cyhoeddus o fod yn argyhoeddi pobl i fod yn ynghlwm yn ein democratiaeth ni, ond o ran pleidleisio hefyd. Oherwydd un o'r pethau efo'r etholiad cyffredinol sydd newydd fod, wrth gwrs, ar lefel Brydeinig—mi gafwyd yr holl drafodaethau. Mi oedd yna lu o ddadleuon ac ati. Ond mae'n anodd iawn, hyd yn oed yn y rheini—. Fe welsoch fod rhai o'r pleidiau sydd yma yng Nghymru, gan gynnwys Plaid Cymru—cael slot ychwanegol oedden nhw yn hytrach na chael bod ar y prif blatfform yna. Mae hynna yn effeithio yn fawr ar ganlyniad etholiadau hefyd. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n herio.
Wrth gwrs, ym Mhlaid Cymru, datganoli darlledu y byddem ni'n hoffi ei weld, ac yn amlwg, yn y cytundeb cydweithio—. Rydw i ddod â hynny mewn, os caf i, Gadeirydd, i mewn i'r ddadl yma, ond dwi'n meddwl ei fod o yn cyd-fynd efo'ch gwaith chi fel pwyllgor. Yr hyn oedd yn y cytundeb, wrth gwrs, oedd ynglŷn ag awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol newydd, a'r hyn yr hoffwn i ei glywed gan y Gweinidog heddiw ydy beth sy'n digwydd o'r rhan hynny rŵan? Oes yna amserlen ar gyfer sefydlu? Oes yna gadarnhau cadeiryddion a'r cylch gorchwyl? Oherwydd, am yr holl resymau sydd eisoes wedi'u hamlinellu, mae hyn yn allweddol bwysig.
Dwi'n meddwl ei fod o'n ddifyr, o ddarllen eich adroddiad chi, y gydnabyddiaeth bod llai o bobl, efallai, yn edrych ar deledu y dyddiau hyn. Mi oeddech chi'n pwysleisio hefyd y platfformau amgen yna dŷn ni'n eu gweld, efo Hansh ac ati. Mae ITV efo'i brentisiaethau a'r gwaith sy'n cael ei wneud ar TikTok yr un mor bwysig, ond mae o hefyd yn dod o dan ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ar y funud. Mae o'n bwysig iawn bod lot o'r cynnwys yma ar y platfformau digidol hefyd yn y Gymraeg, oherwydd, os ydych chi'n edrych ar YouTube ac ati, lle mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn mynd i wylio pethau y dyddiau yma, cynnwys Saesneg ydy o. Os ydych chi'n gofyn i unrhyw berson ifanc sydd eisiau bod yn YouTuber ac ati, maen nhw'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw gynhyrchu'r cynnwys yma yn y Saesneg er mwyn iddo fo gael unrhyw reach a likes. Felly, mae cael hyn ar gael yn eithriadol o bwysig. Felly, dwi yn croesawu eich argymhellion chi o ran ariannu S4C hefyd, oherwydd maen nhw angen y buddsoddiad ar gyfer y platfformau yma.
Mae yna nifer o'ch argymhellion chi, wrth gwrs, ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r fantais fawr fod yr etholiad wedi bod yn gynt ydy bod yna Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru ac yn San Steffan. Felly, dwi'n gobeithio hefyd clywed pa drafodaethau fydd yn mynd rhagddynt o ran hynny. Mae llais Cymru ar goll yn llawer rhy aml. Mi ydym ni'n gorfod brwydro. Mi oeddem ni'n gorfod brwydro ar gyfer cael ein sianel genedlaethol yn y Gymraeg, wrth gwrs. Rydym ni'n parhau i frwydro. Mae hyn yn cydfynd â'r drafodaeth wythnos diwethaf, wrth gwrs, ynglŷn â gemau'r chwe gwlad a darlledu ac ati. Mi oeddech chi'n sôn bryd hynny ynglŷn â phwysigrwydd rygbi o ran hunaniaeth. Mae yna gymaint o elfennau gwahanol fan hyn.
Felly, dwi'n diolch i'r pwyllgor am eich gwaith, ond mae o'n bwysig rŵan ein bod ni yn gweld gweithredu ar hyn er mwyn ein democratiaeth, er mwyn hunaniaeth, er mwyn ein hiaith, gymaint o elfennau sydd yn bwysig eithriadol, a chofio hefyd am bobl hŷn o fewn ein cymdeithas sydd yn dal i hoffi gwylio teledu. Mae'n bwysig bod Cymru yn cael y gynrychiolaeth haeddiannol yn y ddwy iaith swyddogol.
Diolch i'r Cadeirydd a'r pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae cyfryngau annibynnol sy'n eiddo i'r cyhoedd yn hanfodol i'n democratiaeth a hygyrchedd gwybodaeth ddiduedd. Mae'r sector darlledu yn chwarae rhan hanfodol yn hysbysu, yn difyrru ac yn creu ein dinasyddiaeth ddiwylliannol gyffredin yng Nghymru, ac mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus hefyd yn gwneud cyfraniad hanfodol i dwf ein heconomi, i ddatganoli ac i gyflawniad ein huchelgeisiau ar gyfer cynnal a thyfu'r Gymraeg.
Fel pwyllgor, rydym yn croesawu Bil Cyfryngau Llywodraeth y DU, gan ei fod yn darparu fframwaith deddfwriaethol i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn barod at y dyfodol. Fodd bynnag, mae rhai addasiadau y dylid eu gwneud. Fel y mae argymhelliad 2 yn cydnabod, mae amlygrwydd yn bwysig iawn o ystyried yr oes ddigidol sydd ohoni a goruchafiaeth cyfryngau cymdeithasol, setiau teledu clyfar a YouTube. Fel y mae pethau, daw'r ffynonellau gwybodaeth a hyrwyddir fwyaf ar-lein o'r Daily Mail a The Sun, cyhoeddiadau hynod ragfarnllyd. Fel yr amlygodd y BBC yn ystod sesiynau tystiolaeth, mae angen inni roi amlygrwydd sylweddol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, yn hytrach na defnydd cyfredol y Bil o amlygrwydd 'priodol'. Er mwyn i hyn fod yn bosibl yn ymarferol, rhaid i Lywodraeth y DU hefyd sicrhau fod gan Ofcom ddigon o bwerau i ddatrys anghydfodau pan fydd llwyfannau'n methu cario darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Fel y nododd ITV, bydd Ofcom yn herio chwaraewyr mawr byd-eang, felly mae'n bwysig iawn fod gallu ganddynt i ymateb yn gadarn.
Gwn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn deall gwerth ein darlledwyr Prydeinig gwych, sy'n darparu cymaint mwy i'n cymunedau lleol nag adloniant yn unig. Maent yn darparu swyddi da mewn cymunedau ledled y wlad a chyfleoedd i'r sectorau creadigol sy'n tyfu'n gyflym, ochr yn ochr â diogelu diwylliant, gwerthoedd a rhagoriaeth greadigol Prydain dramor, gan helpu Cymru i ffynnu. Ac er ein bod wedi gweld ffyniant ym maes cynhyrchu teledu a ffilm yng Nghymru, mae lle i ddatblygu ymhellach eto, gan gynnwys yng ngogledd Cymru, ac roeddwn wedi gobeithio y byddai'r diwydiannau creadigol wedi cael eu cynnwys yn rhan o'r parth buddsoddi.
Rwy'n cytuno gyda'r BBC na ddylai staff orfod gadael Cymru i ddatblygu eu gyrfaoedd. Dyna pam mae argymhelliad 11 mor bwysig. Mae Cymru angen ei chyfran deg o wariant y BBC, gan sicrhau cydraddoldeb â'r hyn sy'n cael ei wario ar gynnwys Saesneg yn yr Alban. Fel y mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi, nododd adroddiad y panel arbenigol ar ddarlledu nad oes digon o gynnwys penodol i Gymru ar gyfer cynulleidfaoedd di-Gymraeg o hyd, ac mae'r bwlch cyllido yn y maes gwasanaeth hwn, o'i gymharu â'r Alban, yn parhau. Ar hyn o bryd, mae'r BBC yn gwario dwbl yr arian y mae'n ei wario yng Nghymru yn yr Alban, ac ni all hyn barhau.
Rwy'n falch fod ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad hwn yn cadarnhau ei hymrwymiad i weithio gyda'r BBC i gefnogi cynnydd yn y gwariant ar gynnwys teledu Saesneg drwy Cymru Greadigol. Diolch i'r dull cydweithredol a strategol hwn, y llynedd oedd y flwyddyn orau erioed o ran cynyrchiadau drama'r BBC yng Nghymru, gyda chwe chyfres ddrama yn cael eu cynhyrchu ledled y wlad.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru dynnu sylw Llywodraeth flaenorol y DU yn gyson at y niwed y mae toriadau cyllidebol olynol wedi'i wneud i allu S4C i gyflawni ei rôl hanfodol i ddiwallu anghenion ein poblogaeth o siaradwyr Cymraeg. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn clywed ein galwad am fwy o fuddsoddiad yn S4C ac y bydd cyllid dangosol dros nifer o flynyddoedd yn cael ei ddarparu, fel y gall y darlledwr gynllunio'n briodol ar gyfer y dyfodol.
Mae'r adroddiad pwyllgor hwn yn tynnu sylw at rai o'r heriau uniongyrchol a mwy hirdymor sy'n wynebu darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Bil Cyfryngau yn mynd rywfaint o'r ffordd i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond mae mwy i'w wneud o hyd i ddarparu'r amddiffyniad, yr amlygrwydd a'r ffyniant y mae'r darlledwyr hyn eu hangen i gyflawni eu rôl bwysig yn hysbysu ac yn diddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru. Diolch.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol am eu hadroddiad? Mae'r adroddiad manwl hwn i'w groesawu'n arbennig mewn cyd-destun lle rydym wedi gweld newidiadau mwy cyflym yn y broses o greu a defnyddio cyfryngau nag y gallai rhai ohonom fod wedi'i ddychmygu, ar draws y byd ac i ni yma yng Nghymru. Rhaid i ni roi hyn mewn cyd-destun byd-eang hefyd, lle gwelwn gyfundrefnau sy'n gormesu eu pobl a'u poblogaethau yn rhwystro mynediad at gyfryngau diduedd. Felly, mae hwn yn adroddiad hynod bwysig. Diolch yn fawr iawn.
Fodd bynnag, yn anffodus, nid yw brwdfrydedd a thrylwyredd yr adroddiad i'w deimlo i'r un graddau gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ymatebion wedi bod yn dila, a dweud y lleiaf. Dro ar ôl tro, cafodd adroddiad y pwyllgor ei ateb gyda'r byrdwn, 'Nid mater i Lywodraeth Cymru yw'r argymhelliad hwn. Nid mater i Lywodraeth Cymru yw'r argymhelliad hwn.' Ac maent yn iawn: nid yw darlledu wedi'i ddatganoli. Nid oes rheidrwydd arnynt i fynd i'r afael â'r adroddiad hwn, ac mae ganddynt hawl i ailadrodd y byrdwn hwn. Ond nid yw gwneud hynny, ac ymateb yn hytrach mewn ffordd mor dila, yn ateb pryderon y pwyllgor, a nodir yn glir yn yr adroddiad, a difrifoldeb y materion sy'n wynebu Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Felly, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, safbwynt y Blaid Lafur yn San Steffan oedd mai dim ond un cyfeiriad at ddarlledu a gafwyd yn eu maniffesto. Roeddent yn dweud hyn:
'Byddwn yn gweithio’n adeiladol gyda’r BBC a’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill er mwyn iddynt barhau i hysbysu, addysgu a diddanu pobl, a chefnogi’r economi greadigol drwy gomisiynu cynnwys sy'n nodweddiadol Brydeinig.'
Rwy'n gobeithio bod Llafur Cymru yn meddwl yn wahanol. Dim sôn am S4C. Dim sôn am ddim byd nodweddiadol o Gymru. Dim sôn am y Gymraeg. Dim sôn am ddarlledu Albanaidd. Dim sôn am ddarlledu mewn Gaeleg. Rhaid i ni fod yn fwy uchelgeisiol.
Roeddem eisiau sicrhau ein bod yn diogelu'r BBC, S4C, BBC ALBA, Channel 4, fel darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus annibynnol sy'n eiddo i'r cyhoedd, ac roeddem eisiau datganoli pwerau dros ddarlledu er mwyn sicrhau bod gennym yr atebolrwydd democrataidd a'r ffynonellau gwybodaeth dibynadwy hynny hefyd.
Rwyf am droi'n ôl at y Gymraeg.
Diolch yn fawr iawn am sôn am hynny. Mae'n bwysig, bwysig iawn.
Roedd y pwyllgor yn gwbl gywir i godi'r mater iaith—mater, unwaith eto, nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud sylwadau arno yn anffodus, ond mae'n dweud bod ganddynt bryderon yn ei gylch. Dywed yr adroddiad fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y cynigion—hynny yw, i ddeddfu i wella newyddion a darpariaeth Gymraeg ar radio masnachol. Mae'n rhaid inni fod yn glir iawn: os yw dyfodol darlledu cyhoeddus mewn perygl, onid yw'r Gweinidog yn cytuno y byddai'n ddoeth inni ffurfioli'r trefniadau hyn er mwyn sicrhau dyfodol darlledu iach yma yng Nghymru, ac yn y Gymraeg? Ac felly rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio eu sicrwydd newydd yn San Steffan i sicrhau nad yw'r defnydd o'r Gymraeg yn dibynnu ar drefniadau anffurfiol. Mae arnaf ofn na allwn ni byth ganiatáu i hynny ddigwydd. Rwy'n ofni na allwn ni byth ymddiried mewn Llywodraeth DU i wneud y peth iawn.
Felly, yn olaf, fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae dyfodol darlledu cyhoeddus da, iach yma yng Nghymru yr un mor fregus o dan Lywodraeth Lafur y DU ag yr oedd o dan y Ceidwadwyr, a bydd yn parhau i fod felly oni bai ein bod yn gweld gweithredu gan y Llywodraeth hon i roi pwysau ar eich ffrindiau yn San Steffan i roi sylfaen fwy diogel i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad pwysig yma—tystiolaeth unwaith eto i ddangos i ba raddau mae Cymru ar ei hôl hi o ran darlledu. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gydnabod, fel gwnaeth Delyth a Jane Dodds awgrymu, fod y diwydiant wedi newid llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae YouTube, TikTok, a gwasanaethau ffrydio fel Netflix ac Amazon, wedi cael effaith mawr ar bobl o bob cenhedlaeth, ond yn arbennig ar y genhedlaeth iau. Dim ond 16 y cant o wylio fideo gan bobl rhwng 16 a 34 mlwydd oed oedd teledu byw, ac mae hyn dim ond cynyddu i 23 y cant wrth i ni ychwanegu teledu 'catch up' i hynny. Mae hyn yn rhoi pwysau anhygoel ar weithwyr yn y diwydiant.
Mae etholwr i mi, sy'n gweithio fel gweithiwr llawrydd yn y byd teledu, wedi tynnu fy sylw at faint y broblem drwy ymgyrch Left in the Dark. Er mai gweithwyr llawrydd sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o gwmnïau cynhyrchu'r DU, mae bron i 80 y cant ohonynt yn nodi rhyw raddau o galedi ariannol, gyda nifer yn profi dirywiad sylweddol yn eu hiechyd meddwl.
Mae hyn yn bownd o gael effaith arbennig ar Gymry Cymraeg. Y neges glir i fi o'r adroddiad yw sut mae Cymru unwaith eto ar ei cholled oherwydd penderfyniadau gan San Steffan. Mae hyn nid yn unig yn effeithio ar ddarlledu, ond ar feysydd eraill o ddiwylliant Cymru. Mae rôl S4C o gefnogi iaith a diwylliant ein gwlad yn hollol amlwg. Mae Delyth yn barod wedi sôn am y gostyngiad o 30 y cant mewn termau real i gyllideb S4C.
Fodd bynnag, nid wyf yn gweld llawer o frwdfrydedd gan weinidogaeth newydd Starmer i adfer y cyllid hwnnw. Mae hyn er gwaethaf adroddiad diweddar gan Wavehill a ddangosodd fod pob £1 sy'n cael ei gwario ar S4C y maent yn ei chael o ffi'r drwydded, yn ennill £1.53 i economi Cymru. Nid oes unrhyw reswm dros barhau i dorri cyllid S4C. Fel y gwelsom yn y ddadl ar hawliau darlledu pencampwriaeth rygbi'r chwe gwlad yr wythnos diwethaf, mae yna amharodrwydd amlwg ar ran San Steffan i hyrwyddo tegwch yn y byd darlledu yng Nghymru. Gallai ein pencampwriaeth chwe gwlad, sydd mor annwyl i ni ac sydd wedi'i nodi yng nghalendr pob un o gefnogwyr rygbi Cymru, gael ei chloi y tu ôl i wal dalu y flwyddyn nesaf oherwydd ddiffyg dealltwriaeth a difaterwch Llywodraeth y DU tuag at chwaraeon Cymru a darlledu yng Nghymru.
Enghraifft arall o'r diystyrwch a'r diffyg gwybodaeth yma o leisiau Cymraeg a Chymreig yn San Steffan yw'r Ddeddf Cyfryngau diweddar. Dilëwyd y swyddogaeth statudol i Ofcom i reoleiddio cymeriad gwasanaeth gorsafoedd masnachol lleol. Nawr, os ydym ni am symud tuag at y filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dylem fod yn mynnu bod gan raglenni Cymraeg lais o hyd ar ein gorsafoedd radio.
Ond wrth edrych tua'r dyfodol, mae gennym lawer i fod yn optimistaidd yn ei gylch. Mae'r ymchwil yn dangos, er gwaethaf yr anawsterau a nodais, fod ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru a'r gwaith a wnawn yn y Senedd yn cynyddu ledled y DU. Rhan o'r rheswm am hynny yw oherwydd gwaith da ein darlledwyr. Fodd bynnag, mae gennym ni rôl i'w chwarae hefyd. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi gweld clip o Rhun ap Iorwerth ar Good Morning Britain yn addysgu ac yn egluro mater HS2 yng Nghymru i gyflwynwyr dryslyd a'u gwylwyr. Mae budd gwirioneddol i ddarlledu na ellir ei danbrisio. Fel y dywedodd Heledd, byddwn i'n dadlau mai'r ffordd orau o weithredu polisi darlledu fyddai ar lefel Gymreig. Mae Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen o ran ei dealltwriaeth, o ddweud na ddylid datganoli darlledu i ddweud y dylid ei ddatganoli, a hynny o dan y cytundeb cydweithio. Fel y mae Heledd wedi gofyn, hoffwn innau hefyd wybod pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddatganoli darlledu yma i'r Senedd. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol nawr sy'n ymateb i'r ddadl. Sarah Murphy.
Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu cyhoeddi adroddiad 'Y sefyllfa sydd ohoni: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru'. Hoffwn ddiolch i aelodau’r pwyllgor, a’r rheini a fu'n dirprwyo ar brydiau, am ei ymchwiliad. Mae wedi cynnwys cryn dipyn o waith casglu tystiolaeth a grynhowyd gennych yn un cwestiwn cyffredinol allweddol: pa mor effeithiol y mae buddiannau Cymru’n cael eu cynrychioli gan y system bresennol? Oherwydd ceir llawer o dystiolaeth o bwysigrwydd di-gwestiwn ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Maent yn chwarae rhan hanfodol yn darparu ystod amrywiol o gynnwys gwerthfawr, gan gysylltu â chynulleidfaoedd ar draws llwyfannau. Maent yn gyfranwyr hanfodol at ein heconomi greadigol, gan ddarparu cyfleoedd i gwmnïau annibynnol a gweithwyr llawrydd a chefnogi amrywiaeth a chynaliadwyedd parhaus drwy ddatblygu sgiliau a thalent.
Yng Nghymru yn enwedig, maent yn gwneud cyfraniad hollbwysig at luosogrwydd newyddion, asgwrn cefn unrhyw gymdeithas ddemocrataidd weithredol, fel y clywsom gan lawer heddiw. Yn ogystal, mae darlledwyr yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi cyflawniad ein huchelgeisiau ar gyfer y Gymraeg, gan ddarparu cynnwys, adnoddau addysgol, a chyfleoedd cyflogaeth i gynulleidfaoedd Cymraeg, yn cynnwys siaradwyr newydd. Felly, i ni yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli gan y system bresennol.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darlledu mewn cymaint o’n blaenoriaethau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn ei gallu i weithio gyda’n rhanddeiliaid i gefnogi sector addas i’r diben sy’n gwasanaethu anghenion holl gynulleidfaoedd Cymru. Mewn rhai meysydd, mae’r gwaith hwn wedi rhoi llawer i ni ei ddathlu. Mae ein hymateb i adroddiad y pwyllgor yn manylu ar ein perthynas gadarnhaol â darlledwyr yng Nghymru. Mae memoranda cyd-ddealltwriaeth Cymru Greadigol gyda’r BBC ac S4C yn cefnogi cyfleoedd cyd-fuddsoddi cyffrous, megis Men Up, Lost Boys and Fairies, a Pren ar y Bryn. Maent yn darparu llif o waith ar gyfer ein sector cynhenid, ac yn creu cynnwys o safon sy’n portreadu’r Gymru go iawn ac sy’n cael ei fwynhau gan gynulleidfaoedd y DU, a hefyd yn rhyngwladol.
Mae ein diwydiant sgrin ffyniannus, sydd wedi bod yn gartref i gynyrchiadau byd-eang mawr, megis House of the Dragon, yn parhau i gyfrannu’r mwyafswm o sectorau creadigol Cymru, gyda throsiant o £459 miliwn yn 2022—cynnydd o 37 y cant ers 2017. Fodd bynnag, mae pob un ohonom yn ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu’r sector, a breuder y system bresennol. Mewn marchnad gynyddol fyd-eang, lle mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cystadlu gyda chyllidebau enfawr y llwyfannau ffrydio, ac yn rheoli refeniw llai ac effaith chwyddiant, mae cynaliadwyedd parhaus y sector mewn perygl. Mae’r heriau ariannol hyn yn cael eu gwaethygu gan gynulleidfa gynyddol dameidiog, lle mae darlledwyr yn darparu ar gyfer amrywiaeth o wylwyr a gwrandawyr ar draws llwyfannau lluosog.
Os yw ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus am addasu a llwyddo yn wyneb yr heriau hyn, mae'n hanfodol fod ganddynt y fframwaith cywir i weithredu ynddo, a dyna pam rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor sy'n nodi argymhellion clir, un ohonynt ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond fe wnaethom ymgysylltu’n drylwyr â’r gweddill—yr 16 arall. Credaf mai'r bwriad yw cefnogi tirwedd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sy’n atebol, yn gynhwysol, ac sy’n adlewyrchu anghenion a disgwyliadau penodol cynulleidfaoedd yng Nghymru.
Rydym yn cytuno ag argymhellion y pwyllgor ynghylch Deddf Cyfryngau 2024 a rôl bwysig Ofcom yn sicrhau bod ei fesurau sy'n ymwneud â materion fel amlygrwydd yn cael eu gorfodi’n effeithiol. Hefyd, y dylai’r BBC ac Ofcom adrodd yn ôl i’r pwyllgor cyn diwedd y chweched Senedd i adrodd ar gynnydd, fel y gofynnwyd yn eich argymhellion 8, 10, 12 a 13. Credaf y byddai hynny ynddo’i hun yn gam tuag at sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli gan y system bresennol hefyd.
Rydym yn cytuno bod yn rhaid i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gael sicrwydd o gyllid digonol a hirdymor os ydynt am allu cyflawni yn unol â’u cylch gwaith, a bod yn rhaid i’r trefniadau hyn ystyried anghenion a gofynion penodol gwahanol genhedloedd, ac rydym wedi darparu tystiolaeth i Lywodraeth y DU ar yr adolygiad o fodel ariannu’r BBC yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda darlledwyr i dargedu lefelau uwch o fuddsoddiad ym mhob rhan o Gymru, ac rydym yn cydnabod yr angen am welliannau i faterion adrodd a pholisi, a phwysigrwydd sylw cywir a digonol i newyddion o Gymru i Gymru. Mae arnom angen lleisiau cryf ac angerddol ar fyrddau darlledu sy'n hyrwyddo anghenion Cymru ac sy'n sicrhau bod amgylchiadau Cymru'n cael eu hystyried yn ddigonol ar lefel y DU. Rydym yn archwilio ein pwerau i ddiwygio prosesau’r BBC ac Ofcom mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor.
Mae’n siomedig fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod yr alwad hyd yma am rôl gryfach i Gymru ym mhenodiadau bwrdd S4C. Rwy’n awyddus i barhau â’r trafodaethau hyn gan fod gennym Lywodraeth newydd yn San Steffan erbyn hyn. Ac rydym yn cytuno bod yn rhaid i Gymru, fel cenedl yn ei hawl ei hun, fod yn rhan ganolog o unrhyw sgwrs am ddyfodol darlledu, er mwyn sicrhau bod ein diwylliant, iaith, natur a hanes unigryw yn cael eu diogelu a’u dathlu mewn unrhyw drefniant yn y dyfodol. Mae nawr yn adeg hollbwysig i ddarlledu. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen llais cryf arnom yn y ddadl am ei ddyfodol.
Mae nifer o gerrig milltir pwysig o’n blaenau, yn enwedig penderfyniadau ar drefniadau ariannu yn y dyfodol, fel y nodwyd heddiw, gweithredu Deddf cyfryngau, adolygiad Ofcom o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, a gwaith i ddatblygu siarter nesaf y BBC. Mae'n rhaid i unrhyw fodel ariannu ar gyfer ein darlledwyr yn y dyfodol fod yn gynaliadwy ac yn ddigonol i ddiwallu anghenion ein cynulleidfaoedd. Dim ond ar ôl trafodaethau ystyrlon a rheolaidd gyda ni y dylid gwneud unrhyw benderfyniad ar y model hwnnw er mwyn sicrhau bod ein hanghenion yn cael eu deall a'u hadlewyrchu'n llawn.
Gellir dadlau bod y ffordd y caiff y Ddeddf cyfryngau ei rhoi ar waith yr un mor bwysig â’r ddeddfwriaeth ei hun. Bil fframwaith ydyw, yn union fel Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Bydd sicrhau bod ei darpariaethau’n cael eu cyflawni’n effeithiol yn hollbwysig, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU ac Ofcom wrth i fanylion ymarferol y Ddeddf gael eu datblygu.
Yn olaf, rydym yn sefydlu grŵp cynghori ar ddarlledu a chyfathrebu, mewn ymateb i argymhellion y panel arbenigwyr darlledu. Bydd y grŵp yn ffynhonnell bwysig o gyngor ac arweiniad wrth inni lywio’r datblygiadau pwysig hyn a bwrw ymlaen â gwaith i ddiogelu dyfodol y sector. Ond Heledd Fychan, mewn perthynas â’ch cais penodol am y manylion hynny, mae arnaf ofn na allaf roi diweddariad penodol heddiw ar yr amserlen, ond hoffwn roi sicrwydd i chi fod ein timau penodiadau cyhoeddus a gwasanaethau cyfreithiol yn gweithio’n agos iawn gyda'i gilydd i lunio'r cylch gorchwyl cyn gynted â phosibl.
Felly, wrth inni wynebu’r cerrig milltir hyn, a'r amryw newidiadau yn y sector, rwy’n ddiolchgar am ffocws parhaus y pwyllgor ar ddarlledu yng Nghymru. Rwyf am barhau i beidio â bod yn dila. Diolch, Lywydd, a diolch yn fawr i’r holl Aelodau yn y ddadl heddiw.
Y Cadeirydd nawr i ymateb i'r ddadl. Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Diolch i Tom, yn gyntaf.
Diolch am eich gwaith ar y pwyllgor, unwaith eto, Tom. Fe welir eich colli, er ein bod yn falch iawn fod Laura wedi ymuno â ni. Cyflwynwyd rhywfaint o'r dystiolaeth beth amser yn ôl—rwy'n cytuno—fel y dywedwch. Mae’r dystiolaeth sydd gennym, er iddi gael ei chyflwyno beth amser ôl, yn hynod berthnasol, yn enwedig o ran sylw i faterion gwleidyddol, y diffyg democrataidd, budd y cyhoedd yn hytrach na budd masnachol. Rwy’n cytuno mai dyna yn wir yw hanfod darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Ar yr ymyriad a wnaeth Sioned, a'r sylw a roddwyd i bethau dros y dyddiau diwethaf, mae wedi bod yn llwm. Roedd yn fy atgoffa—. Yn gynharach yn y pandemig, rwy'n credu bod cyfryngau'r DU wedi anwybyddu, i raddau helaeth—. Wel, ar y dechrau. Newidiodd pethau'n gyflym iawn, mewn gwirionedd, ond ar y dechrau, cawsom ein hanwybyddu i raddau helaeth o ran unrhyw benderfyniadau democrataidd a wnaed, ond rhoddwyd llawer o sylw i'r geifr yn Llandudno. Dylai ein democratiaeth fod yr un mor bwysig â'r gimics a'r jôcs. Ond na, o ddifrif, mae'n fraint cael cwmni Laura a’i chyfraniad rhagorol i’r pwyllgor, a diolch i chi eto, Tom, am eich cyfraniad rhagorol hefyd.
Diolch, Heledd, a chroeso nôl i'r pwyllgor. Mae'n hyfryd i gael ti nôl. Ie, awdurdod cyfathrebu cysgodol—gwnes ti ofyn. Rwy'n falch iawn bod hynna wedi cael ei ateb gan y Gweinidog.
Roedd Heledd wedi sôn am y platfformau eraill sydd yn bodoli, nid dim ond ar y teledu, fel Hansh, fel TikTok. Oes, mae angen i'r cynnwys fod ar gael yn Gymraeg ac yn Gymreig hefyd, ei fod e'n adlewyrchu ein bywyd ni yma yng Nghymru. Rwy'n cytuno gyda beth roeddech chi'n ei ddweud, Heledd: i bobl hŷn, bydd teledu yn dal mor, mor, mor bwysig. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn cael eu gadael ar ôl, neu bwy bynnag sy'n dibynnu ar ac yn cael eu cynnwys nhw o'r teledu. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd ymateb Llywodraeth newydd San Steffan ar hyn i gyd.
Soniodd Carolyn sut mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn helpu i greu dinasyddiaeth gyffredin. Ie, nid yn unig adlewyrchu'r ddinasyddiaeth honno, ond helpu i'w ffurfio, drwy addysgu. Credaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Ac ydy, mae cystadleuaeth fyd-eang yn enfawr o ran yr arian sydd ar gael i gwmnïau fel Netflix ac Amazon. Rwy’n cofio Phil Henfrey, pan oedd gydag ITV, yn sôn am y tswnami, y don sy'n nesu at y traeth o ran yr effaith y gallai hynny ei chael ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Soniodd Jane, unwaith eto, am berthnasedd yr adroddiad. Roeddwn yn credu bod hwnnw’n bwynt diddorol gan Jane ac yn rhywbeth y mae angen inni ei gadw mewn cof, am gyd-destun byd-eang y cyfundrefnau mewn mannau eraill sy’n cyfyngu ar y cyfryngau a’u dinasyddion o ran sut y gallant gael mynediad atynt. Mae'n wir na ddylem gymryd ein rhyddid yn ganiataol yn hynny o beth. Ond rwy'n cytuno â Jane hefyd na ddylai hynny arwain at laesu dwylo neu israddio unrhyw un o'r mesurau hyn—i'r gwrthwyneb. A soniodd Jane fod diffyg sôn, efallai, am rai o'r mesurau a allai fod wedi mynd i'r afael â hyn yn Araith y Brenin hefyd.
Soniodd Rhys am y newidiadau technolegol sydd wedi digwydd—fel roedd Heledd wedi gwneud hefyd—a'r ffordd mae pobl ifanc yn arbennig yn derbyn cynnwys. Ie, dwi'n cytuno â Rhys bod gan S4C rôl arbennig yn niwylliant Cymru ac mae'n rhaid cael sicrwydd ariannol. Mae'r pwyllgor yn teimlo'n gryf iawn am hwnna. Ac fe wnes i gytuno â phwynt Rhys am bwysigrwydd sianeli teledu i bobl hŷn eto i daclo unigrwydd. Mae angen sicrhau nad oes unigrwydd ymysg unigolion nac ychwaith ynysrwydd ein diwylliant ni, ein ffordd o fyw. Mae hwnna i gyd yn bwysig. A diolch i'r Gweinidog am ymateb.
Diolch am eich geiriau caredig. Yn wir, mae sawl stori lwyddiant am gynnwys a gynhyrchwyd yng Nghymru. Cafwyd sawl enghraifft yn y misoedd diwethaf, a bydd yn hyfryd gweld hynny’n parhau, yn ogystal â chynnwys sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru hefyd, sy'n hollbwysig—mae’r cynnwys a gynhyrchir yma i’w ganmol. Mae croeso arbennig bob amser i'r cynnwys sy'n adlewyrchu Cymru. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau gyda Llywodraeth newydd San Steffan yn digwydd yn gyflym o ran sut y gellir rhoi ein hargymhellion ar waith. Ac rwy'n falch o glywed eich bod yn awyddus i ailddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan gan fod gennym Lywodraeth newydd bellach.
Fel yr amlinellais i ar ddechrau'r ddadl hon, ein barn ni yw nad yw buddiannau Cymru'n cael eu hystyried i raddau digonol mewn trafodaethau sy'n ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Dyw cyfyngiadau cyllidebol a diffyg cyfeiriad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf ddim wedi helpu'r sefyllfa hon mewn unrhyw ffordd, ond ddylem ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau—fel mae'r Sais yn dweud—ychwaith a disgwyl i newid ddigwydd.
Mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd. Mae sicrhau presenoldeb darlledu gwasanaeth cyhoeddus cryf yn hanfodol er mwyn cynnal democratiaeth iach. Mae sicrhau bod ein darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cynrychioli pwy ydym ni a ble rydyn ni'n byw yn bwysig er mwyn dod â phobl ynghyd. Mae'n denu pobl i'r sianeli hyn ac yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth iddyn nhw. Rydyn ni'n gwneud yr argymhellion hyn i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn rhoi ystyriaeth i'r cyd-destunau technolegol, cymdeithasol, gwleidyddol sy'n newid yn gyflym. Ac i gloi, Llywydd, mae'r rhain yn rhai mae Cymru yn eu hwynebu, ac mae'n rhaid sicrhau bod ein gwasanaethau darlledu yn ateb y galw mewn oes ddigidol. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r adroddiad wedi ei nodi.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 9 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr yw hon ar y cynnig o dan adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dwi'n galw ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8643 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
Yn sgil y datganiad personol a wnaed gan Hannah Blythyn AS i'r Senedd ar 9 Gorffennaf 2024, a gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn galw ar y Prif Weinidog i gynhyrchu at ddibenion y Senedd, gyda deunydd priodol wedi'i olygu i sicrhau bod tystion yn ddienw, yr holl dystiolaeth yr oedd yn dibynnu arni wrth benderfynu diswyddo'r cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol o Lywodraeth Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Darren Millar ar y papur trefn y prynhawn yma.
Yn amlwg, mae digwyddiadau wedi achub y blaen ar y cynnig a osodwyd ddydd Mercher diwethaf, ond mae’n dilyn y datganiad personol a gyflwynodd yr Aelod i’r Siambr ddydd Mawrth diwethaf, a adawodd rai cwestiynau heb eu hateb yn fy marn i. Ac roedd yn ddyletswydd arnom ni fel yr wrthblaid i gyflwyno'r cynnig hwn a defnyddio darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru i geisio’r dystiolaeth a ddefnyddiodd y Prif Weinidog wrth ddiswyddo Hannah Blythyn, y Gweinidog, o’i Lywodraeth. Credaf fod hynny’n ddefnydd teg o’r darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru inni sicrhau ein bod yn defnyddio’r darpariaethau hynny fel ein bod yn cael tryloywder ac yn deall yr union broses a ddefnyddiodd y Prif Weinidog i ddiswyddo'r Gweinidog o’i Gabinet.
Hoffwn pe gallai'r Prif Weinidog sôn yn ei ymateb am ei ddatganiad ddoe, lle dywedodd na fyddai’r agwedd benodol hon ar Ddeddf Llywodraeth Cymru, adran 37, yn berthnasol i'r wybodaeth a gyhoeddodd ddoe. Hoffwn pe gallai ymhelaethu pam ei fod yn credu na fyddai’r cynnig ger bron y Senedd y prynhawn yma'n berthnasol i'r wybodaeth benodol a gyhoeddodd ddoe. Credaf fod hwnnw'n fanylyn pwysig er mwyn ceisio deall pa dystiolaeth y gallai hyn fod yn berthnasol iddi ym marn y Llywodraeth, a'r hyn nad yw'n yn berthnasol iddo. Ond rwy'n gwneud y cynnig ar y papur trefn yn enw Darren Millar yn ffurfiol, ac yn gobeithio y caiff ei dderbyn ar lawr y Senedd y prynhawn yma.
Yng ngoleuni penderfyniad y Prif Weinidog i ymddiswyddo, hawdd fyddai dod i’r casgliad bod yna deimlad o drannoeth y ffair yn perthyn i'r cynnig heddiw, ond mae o’n dal yn fater o bwys yn ymwneud â sgrwtini o Lywodraeth. Dwi'n ategu, wrth gwrs, yr hyn sydd wedi cael ei ddweud gan nifer yn barod, sef bod mynd at wraidd pwy oedd wedi dweud beth wrth bwy wedi peri gwewyr gwirioneddol i unigolion. Os oes yna un wers i'w dysgu yn fan hyn, yna’r wers honno ydy sicrhau fod proses deg a chywir yn digwydd wrth ddiswyddo Gweinidog mewn amgylchiadau fel hyn, lle mae’r unigolyn yn cael gweld y dystiolaeth yn eu herbyn, a chyflwyno tystiolaeth eu hunain. Yn absenoldeb hynny, mae gen i ofn bod hyder yn cael ei golli. Mae gan y sawl sydd dan amheuaeth yr hawl i gyfiawnder naturiol.
Os ydym yn onest, nid yw cyhoeddi'r deunydd ddoe mewn perthynas â'r achos o ddatgelu gwybodaeth yn answyddogol wedi mynd â ni fawr pellach. Gofynnir inni chwarae gêm o gysylltu'r dotiau yma, i ddod i'r casgliad fod gan yr Aelod dan sylw ran uniongyrchol yn rhyddhau gwybodaeth, heb lawer iawn o dystiolaeth i ategu hynny. A chofiwch: yn ei ddatganiad personol ddoe, rhoddodd y Prif Weinidog lawer o bwyslais ar y baich profi mewn perthynas â chwestiynau ynghylch ei grebwyll ei hun.
Ond gadewch inni beidio â cholli golwg ar yr hyn a ddywedai'r negeseuon a ryddhawyd i'r wasg mewn gwirionedd. Mewn sgwrs grŵp gweinidogol ar anterth y pandemig COVID, dywedodd y Prif Weinidog:
'Rwy'n dileu'r negeseuon yn y grŵp hwn. Gellir eu dal mewn cais rhyddid gwybodaeth ac rwy'n credu ein bod i gyd yn y lle iawn ar y dewis sy'n cael ei wneud.'
Ni ddylai Prif Weinidogion geisio osgoi Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn fwriadol; mae peidio â darparu'r negeseuon hynny i'r ymchwiliad COVID yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru ac yn bradychu, wrth gwrs, y teuluoedd a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig.
Nid achos oedd hyn o'r Prif Weinidog rywsut yn colli ei ddata o ganlyniad i gynnal a chadw ar ei ffôn, ond yn hytrach, cyfarwyddyd i guddio’r hyn a ddylai eisoes fod wedi bod yn gyhoeddus. Ac yn hytrach na beirniadu eraill, mae'n rhaid i’r Prif Weinidog daflu goleuni ar ei weithredoedd ei hun. Pam ei fod yn ceisio pwyntio bys at eraill pan dorrodd y rheolau ei hun? Ac mae'n rhaid inni beidio ag anghofio bod Gweinidog arall hefyd yn ddigon parod i gefnogi dyhead y Prif Weinidog i ddileu'r negeseuon.
Fe ddylai'r dystiolaeth gael ei datgelu'n llawn i'r Senedd; mae angen inni ddeall yn well y broses a arweiniodd at ddiswyddo Hannah Blythyn o’r Llywodraeth. Mae'n rhaid dysgu gwersi, a dim ond drwy adolygiad annibynnol y gellir gwneud hynny.
Mae yna fater arall, Lywydd, y byddaf yn defnyddio’r cyfle hwn i fynd ar ei drywydd, sef y ffaith, o ganlyniad i’r gyfres ddigynsail o ymddiswyddiadau yr wythnos hon, fod gennym leoedd gwag yn y Llywodraeth mewn meysydd allweddol. Dim Gweinidog yr economi yn ystod argyfwng yn yr economi ddur, dim Gweinidog llywodraeth leol ar adeg o bwysau aruthrol ar gynghorau, dim Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol yn ystod argyfwng costau byw parhaus. Sut mae’r Prif Weinidog yn bwriadu sicrhau bod ei Lywodraeth ddi-lyw yn gallu gweithredu ar hyn o bryd? Onid yw'n ddyletswydd arno i'r Senedd i gyhoeddi'r Llywodraeth newydd nawr, cyn diwedd y tymor hwn?
Pedwerydd ymddiswyddiad y Llywodraeth, wrth gwrs, oedd y Cwnsler Cyffredinol. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod y Cwnsler Cyffredinol wedi ymddiswyddo’n ffurfiol? Ac o ystyried mai’r Senedd, a dim ond y Senedd ei hun, a all gadarnhau penodiad Cwnsler Cyffredinol newydd, sut y bydd hynny'n digwydd, o ystyried mai ychydig oriau'n unig sydd gennym ar ôl o’r Cyfarfod Llawn olaf yn nhymor y senedd hon? Mae canlyniadau gwirioneddol i anhrefn y Llywodraeth Lafur hon.
Mae'r dystiolaeth wedi'i chyhoeddi. Roeddwn yn hapus iddi gynnwys fy enw heb ei hepgor. Roedd yn sioc i mi—nid i bawb arall efallai—fod Jeremy Miles am imi gael fy niswyddo fel ymgeisydd Dwyrain Abertawe. Yn sicr, roedd yn sioc i mi, ac nid oedd yn sioc bleserus gwybod bod un o’ch cyd-Aelodau’n chwilio am ffordd o’ch diswyddo.
Ond dylai'r rheswm dros gael gwared ar bob Gweinidog ac arweinwyr pleidiau fod yn wybodaeth gyhoeddus. Credaf fod hynny’n anhygoel o bwysig. Ond nid rheol ar gyfer Vaughan Gething yn unig mohoni. Nid Vaughan Gething yn unig sy'n gorfod gwneud hynny; rhaid i bob arweinydd wneud yr un peth. Rwy'n siŵr yr hoffai Mark Drakeford esbonio pam, pan ddaeth ef yn Brif Weinidog, y diswyddodd Huw Irranca-Davies fel Gweinidog, dim ond i gael ei ailbenodi gan Vaughan Gething. Rwy'n gwbl sicr bellach hefyd, ar ôl yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, ei fod yn mynd i ddarparu'r dystiolaeth a achosodd i Adam Price ymddiswyddo fel arweinydd Plaid Cymru, oherwydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gofio mai'r hyn a oedd wrth wraidd penderfyniad y Prif Weinidog sy’n ymadael i ddiswyddo Gweinidog oedd cyhuddiad am y Gweinidog dan sylw, ac rydym yn sôn yma am beth oedd y dystiolaeth a roddodd sail iddo ddiswyddo’r Gweinidog.
Roedd hynny'n ddefnyddiol iawn, Rhun. Rydych chi'n dweud, felly, nad oedd unrhyw dystiolaeth yn erbyn Adam Price. Fe wnaethoch chi gyflawni coup, dyna i gyd.
Ni wnaed unrhyw honiadau yn ei erbyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae gwahaniaeth mawr rhwng arweinydd gwrthblaid ac arweinydd Llywodraeth.
Mater o farn yw hynny. Credaf y dylid dwyn pob arweinydd—
Mae gwahaniaeth mawr. Yn ôl y gyfraith, mae gwahaniaeth mawr iawn.
Diolch. Fe gymeraf eich cyngor cyfreithiol, ond mae llawer iawn o gyfreithwyr yma yn ogystal â chi. Ond credaf ei fod—[Torri ar draws.] O, mae’n ddrwg gennyf, roeddech chi'n rhoi—
Rwy'n deall gwleidyddiaeth.
Nid oeddwn yn credu eich bod yn deall unrhyw beth, ond parhewch. Ond rwy'n credu bod coup—
Ar bwynt o drefn, dylai’r Aelod dynnu hynny’n ôl.
Rwy’n hapus i dynnu’r sylw hwnnw’n ôl, os caiff y sylw a wnaed i mi ac yr ymatebais iddo ei dynnu’n ôl hefyd.
Diolch, Mike Hedges, am dynnu'r sylw yn ôl—
Pa un?
Yr un gan Sioned Williams. Y pwynt y ceisiwn ei wneud yw bod Plaid Cymru i'w gweld yn gwbl benderfynol o beidio ag egluro pam y cafodd Adam Price ei ddiswyddo. Bydd pobl eraill yn dod i'w casgliadau eu hunain.
Fe wnaf ddatganiad byr iawn, os caf, ac yn anffodus, mae'n ymwneud â'r math hwnnw o groesi cleddyfau a'r awyrgylch. Rydym yma i siarad am gynnig a phroses, ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei gefnogi. Y peth allweddol i mi yw y dylai Hannah Blythyn fod wedi cael cyfle, yn ôl yr hyn a ddeallaf, i fod wedi gweld y dystiolaeth ac i ymateb cyn iddi gael ei diswyddo, ac felly—[Torri ar draws.] Wel, os yw hynny'n wir, hoffwn weld hynny. A gaf i ddweud hefyd fod hyn, i mi yn ymwneud â thosturi mewn gwleidyddiaeth ac yn ein byd gwleidyddol? Mae'n ymwneud â charedigrwydd, mae'n ymwneud â gonestrwydd, mae'n ymwneud â bod yn agored a thryloyw, ac rwy'n teimlo efallai ein bod wedi colli hynny mewn llawer o bethau. Rwy'n gobeithio y gallwn eu hadfer i'r Senedd hon sydd mor bwysig i mi. Diolch yn fawr iawn.
Y Prif Weinidog, nawr. Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i roi cyd-destun ychwanegol ar y mater hwn ac i fyfyrio ar y datganiad ysgrifenedig a'r atodiadau a gyhoeddais ddoe. Ymdriniwyd â llawer o’r cwestiynau a godwyd yn ystod cwestiwn amserol yr wythnos diwethaf, felly nid wyf am ailadrodd pob un o’r pwyntiau hynny. Fodd bynnag, rwy'n myfyrio eto ar ba mor anodd oedd y penderfyniad hwn. Fel y gŵyr pob Prif Weinidog neu unrhyw Brif Weinidog yn y dyfodol, mae’r rhain ymhlith y penderfyniadau mwyaf heriol y mae’n rhaid i ddeiliad swydd eu gwneud. Fodd bynnag, maent yn gyfrifoldeb angenrheidiol a phwysig yn y rôl. Mae'n hanfodol i Weinidogion allu cael trafodaethau heriol ac i’r gwasanaeth sifil gynnig cyngor cadarn a diduedd. Yn y ddau beth, rhaid i bobl allu gweithio mewn amgylchedd cyfrinachol.
Yn ystod y pandemig, pan anfonwyd y negeseuon hyn, fe’n gorfodwyd i wneud penderfyniadau yn gyflymach nag y byddai unrhyw un wedi’i ddisgwyl ar faterion a newidiodd fywydau pob un ohonom ac sy’n dal i gael yr effaith honno ar lawer ohonom. Roedd Gweinidogion yn gweithio gyda thystiolaeth anghyflawn ac adnoddau prin yn wyneb afiechyd anrhagweladwy ac angheuol a oedd yn lledaenu'n gyflym. Pe bai Gweinidogion o dan yr argraff y byddai eu sgyrsiau’n cael eu datgelu i’r cyfryngau, byddai trafodaethau’n cael eu mygu, gan lesteirio her onest a didwyll. Yn y senario honno, ni allem fod wedi gweithredu'n ddigon cyflym i gyflawni ar faterion brys, gyda chanlyniadau difrifol i bob cymuned ledled Cymru.
Pan gaiff ymddiriedaeth ei thorri, mae'n bwysig fod unrhyw Brif Weinidog yn gallu gweithredu'n gyflym i ddiogelu'r sefydliad a'r wlad a wasanaethwn. Nid perthynas gyflogaeth mo hon; caiff Gweinidogion eu penodi, ac mae hynny'n wahaniaeth pwysig. Wrth wneud penderfyniadau o’r fath, gall y Prif Weinidog ofyn am arweiniad a chyngor wrth gwrs, ond eu dyfarniad a'u penderfyniad nhw a nhw yn unig ydyw. Mae canlyniadau personol iawn ynghlwm wrth y penderfyniad, ac nid wyf yn cymryd dim o’r ystyriaethau hynny'n ysgafn. Gallai peidio â gweithredu arwain at oblygiadau difrifol i’r Llywodraeth gyfan.
Cyn fy nghyfarfod â’r cyn Weinidog, roeddwn yn awyddus ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol i ddarparu cymorth, gan fy mod yn ymwybodol y byddai'r penderfyniad yn cael effaith bersonol. Roedd y cymorth a gynigiwyd yn seiliedig ar weithrediad y gwersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu dros y blynyddoedd diwethaf. Golyga hyn fod mwy o gymorth ar gael nag o'r blaen. Roeddwn yn awyddus hefyd i gynnig y lleoliad mwyaf sensitif posibl o dan yr amgylchiadau, felly gofynnais am gael gweld y Gweinidog ar fore dydd Iau yn rhydd rhag llygadrythu'r Cyfarfod Llawn a phresenoldeb y cyfryngau o'n cwmpas. Sicrheais fod car gweinidogol ar gael i ddarparu cymaint o breifatrwydd â phosibl, a nodais yn glir y gallai fod llwybr yn ôl i’r Llywodraeth pe dymuna'r Aelod ei ddilyn.
Fel y gŵyr yr Aelodau, ddoe, dewisais gyhoeddi’r dystiolaeth a gefnogai fy mhenderfyniad, ynghyd â datganiad ysgrifenedig. Ni ddylai hyn ddod yn arfer cyffredin, gan y gallai gymell datgeliadau answyddogol. Ond er eglurder a chywirdeb y ddadl barhaus ar y mater hwn yn y Senedd a thu hwnt, credaf ei bod yn briodol nodi’r dystiolaeth a oedd yn sail i’r penderfyniad hwnnw. Yn benodol, credaf fod hyn yn bwysig er uniondeb Llywodraeth Cymru, a bod eglurder ynghylch natur syml iawn y dystiolaeth honno.
Gan droi at y cynnig, ni chredaf fod adran 37 yn ei gwneud yn ofynnol i’r dystiolaeth y gofynnwyd amdani gael ei chyhoeddi, ond mae hynny bellach yn amherthnasol, gan fod gwybodaeth sy’n mynd y tu hwnt i’r cais hwn ar gael i’r cyhoedd. Felly, byddwn yn cefnogi'r cynnig heddiw, gan fod digwyddiadau, i bob pwrpas, wedi achub y blaen ar y cais, ac mae'n briodol fod cytundeb eang ar yr angen i gyhoeddi'r wybodaeth y tro hwn. Nid yw’r agwedd ffurfiol ar adran 37 yn angenrheidiol, gan na all y Senedd fynnu rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd.
Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ddoe gyda dau ddarn o dystiolaeth. Y cyntaf yw llun o ddarn o sgwrs iMessage o fis Awst 2020 yn cynnwys 11 o Weinidogion Cymru, nid 10, fel roedd rhai pobl yn credu. Fe’i hanfonwyd at Lywodraeth Cymru ym mis Mai eleni ar benwythnos gŵyl y banc, yn union fel y'i cyhoeddwyd, gan newyddiadurwr a oedd yn gofyn am sylw ar ei gynnwys. Mae'r ail yn llun cyfatebol o'r un sgwrs, a ddaeth wedyn o ffôn cyfranogwr arall wedi i ffotograff y newyddiadurwr gael ei gyhoeddi i ni. Mae'r sgwrs lawn hon wedi'i chyflwyno i'r ymchwiliad COVID.
Mae’r ail lun hwn yn cadarnhau bod y cyn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn aelod o’r sgwrs honno ar y diwrnod hwnnw ar yr adeg honno. Pan edrychir ar sgwrs iMessage ar ddyfais unigolyn, fel y gŵyr llawer ohonoch, gellir gweld llythrennau cyntaf enwau'r holl gyfranogwyr eraill, ar wahân i'r cyfranogwr ei hun. Y rheswm am hynny yw bod y llun yn dod o ffôn yr unigolyn hwnnw. Drwy groesgyfeirio’r lluniau hyn, daw’n amlwg mai’r unig lythrennau sydd ar goll yn y llun cyntaf yw llythrennau cyntaf enw'r cyn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Y ddau ddarn hyn o dystiolaeth gyda’i gilydd yw’r rheswm pam fy mod wedi dweud yn glir wrth y Senedd mai dim ond llun o ffôn y cyn Weinidog y gallai'r llun a gafwyd ar ŵyl y banc cyntaf mis Mai eleni fod.
Byddai wedi bod yn llawer gwell gennyf pe na bai'r penderfyniad hwn yn angenrheidiol—[Torri ar draws.]—ond mae arnaf ofn nad oedd unrhyw opsiwn credadwy arall—
A yw’r Prif Weinidog yn derbyn ymyriad? Penderfynwch chi.
Gallaf wneud hynny.
A yw'r lluniau hynny wedi'u cadarnhau fel rhai dilys? A ydych chi'n fodlon nad oes unrhyw ffordd y gallent fod wedi cael eu ffugio? Oherwydd mae ffyrdd o newid enwau mewn ffonau, ac yn y blaen, ac rydym wedi gweld cymaint o luniau ffug. A ydych chi'n sicr? A pha gamau a gymerwyd i gadarnhau'r wybodaeth honno? Oherwydd os yw hyn ar sail y ddau lun hynny yn unig—. Fe wyddom nawr fod pobl yn cymryd camau i wirio. Hoffwn fod yn gwbl sicr yma, gan ein bod wedi clywed dwy stori wahanol. Felly, a wnewch chi gadarnhau i ni pa gamau a gymerwyd y tu hwnt i weld y lluniau hynny'n unig? A pha broses a ddilynwyd, felly, i’r Gweinidog dan sylw allu ymateb ac i ymchwiliad llawn gael ei gynnal?
Roedd yna nifer o bethau yn yr ymyriad gweddol hir hwnnw ac fe af i'r afael â nhw mor gyflym ag y gallaf. Ar y diwrnod, cynigiwyd cyfle i'r Gweinidog ar y pryd edrych ar y dystiolaeth. Gwrthododd fwy nag un cyfle i edrych ar y dystiolaeth honno. Nid oes angen cynnal ymchwiliad pan fo'r dystiolaeth mor syml a chlir. Nid yw'n gredadwy awgrymu bod yna ffordd arall i'r ddelwedd honno gael ei darparu. A hoffwn ofyn i bobl ystyried beth maent yn ei ddweud. Weithiau, yr ateb amlwg yw'r ateb amlwg oherwydd ei fod yn wir, a'r baich y mae'n rhaid i chi ymdopi ag ef yw peidio â cheisio dilyn proses droseddol y tu hwnt i bob amheuaeth resymol; mae'n rhaid i chi ddeall beth sy'n digwydd ar y pryd, ac os ydych chi'n awgrymu bod rhywun arall wedi golygu'r ddelwedd honno, rydych chi'n pwyntio bys at y 10 Gweinidog Llafur Cymru arall a oedd yn rhan o'r sgwrs honno. Nid yw hwnnw'n safbwynt credadwy.
Hoffwn pe bai hyn heb ddigwydd. Hoffwn pe bai'r llun heb gael ei dynnu a'i ddarparu i newyddiadurwr a'i gadw am bron i bedair blynedd cyn cael ei ddarparu. Hoffwn pe na baem yn y sefyllfa hon heddiw na'r wythnos ddiwethaf, na'r sefyllfa y cefais fy hun ynddi lle roedd yn rhaid i mi wneud dewis, oherwydd mae wedi achosi poen a phryder gwirioneddol. Ac fe wneuthum ddewisiadau am fy mod i eisiau amddiffyn pobl eraill rhag yr hyn sydd wedi digwydd heddiw ac yn yr wythnos ddiwethaf, ac ymhellach yn ôl. Fe wneuthum hynny oherwydd pwy wyf i fel person. Mae'n ddrwg gennyf am y sefyllfa rydym ynddi ac mae'n ddrwg gennyf am y niwed a achoswyd i lawer o bobl o ganlyniad i hyn, ond rwyf wedi gweithredu ar sail parch ac uniondeb, a byddaf yn parhau i wneud hynny cyhyd ag y byddaf yn Aelod o'r Senedd, nid Prif Weinidog yn unig, a dyna a wneuthum wrth ddod i'r penderfyniad anodd hwn.
Andrew R.T. Davies nawr i ymateb i'r ddadl.
Lywydd, nid wyf yn bwriadu cymryd gormod o amser i grynhoi, oherwydd credaf fod llefarwyr y gwahanol bleidiau a'r Prif Weinidog wedi siarad a rhannu eu safbwyntiau. Nid wyf yn credu bod unrhyw un wedi bwriadu achosi niwed yn y sefyllfa hon. Rwy'n credu bod llawer o ofid ar bob ochr i'r Siambr—rwy'n credu hynny'n ddiffuant. Rwy'n sylweddoli bod meinciau'r Llywodraeth yn edrych arnaf gyda dirmyg, ond rwy'n credu hynny'n ddiffuant. Ac yn amlwg rwy'n edrych ymlaen at weld y cynnig hwn yn pasio heddiw, ac yn y pen draw, er budd cyflawnder a chyflawnrwydd, y gall Aelodau gael unrhyw wybodaeth sydd ei hangen i lywio eu penderfyniadau, oherwydd mae'n amlwg fod gennym ddwy stori wahanol o hyd. Yn y pen draw, rhyddhawyd tystiolaeth sydd wedi cefnogi safbwynt y Prif Weinidog, ac fe gafwyd datganiad personol gan yr Aelod sydd wedi ymhelaethu, yn amlwg, ar yr hyn y mae hi wedi'i ddweud wrth y wasg. Credaf y bydd defnyddio'r ddarpariaeth hon o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru yn caniatáu i unrhyw wybodaeth ychwanegol a allai fod ym meddiant y Llywodraeth gael ei chyflwyno o'r cais ffurfiol, ac edrychaf ymlaen at weld y Senedd yn cefnogi'r cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.FootnoteLinkFootnoteLink
A gaf i wneud pwynt o drefn yn gyflym iawn, Llywydd?
Y gyflym iawn.
Mi ofynnais i gwestiynau penodol ynglŷn ag, yn arbennig, rôl y Cwnsler Cyffredinol. Dwi'n deall bod pobl yn gallu anghofio mynd i mewn i un cyfeiriad wrth ymateb, ond tybed ai dyma'r amser inni gael eglurdeb ynglŷn â beth yn union ydy'r sefyllfa o ran rôl y cwnsler.
Mae'r cwestiwn wedi'i ofyn ynglŷn ag ymddiswyddiad y Cwnsler Cyffredinol. Mae'n siŵr bod y Llywodraeth wedi clywed y cwestiwn, ac mae'n siŵr bydd y Llywodraeth nawr yn edrych i sicrhau bod y wybodaeth fwyaf cywir a diweddar yn cael ei chyflwyno i'r Senedd ar sefyllfa'r Cwnsler Cyffredinol, yr ymddiswyddiad ac unrhyw ddarpar apwyntiad o Gwnsler Cyffredinol newydd, os hynny, a hefyd ar unrhyw Weinidogion newydd neu gyfrifoldebau portffolio newydd, ac yn gwneud hynny cyn gynted ag y bo modd i'r Llywodraeth i wneud.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Jane Hutt, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Fe awn ni ymlaen i'r ddadl nesaf, eitem 10, a dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ffermio yw hon. James Evans sy'n gwneud y cynnig.
Cynnig NDM8644 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu cyfraniad economaidd gwerthfawr ffermio yng Nghymru i economi Cymru.
2. Yn cydnabod manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a sioeau'r haf wrth gefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg.
3. Yn cefnogi cryfder y teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy, a'r neges bwerus 'dim ffermwyr dim bwyd'.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod gan gynllun ffermio cynaliadwy newydd gefnogaeth gan y gymuned ffermio, gyda diogelwch bwyd a diogelu'r amgylchedd wrth ei wraidd, sy'n tynnu sylw at y neges bwerus 'dim ffermwyr dim bwyd'; a
b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ehangu ar y 87 gair ynghylch ffermio sydd wedi'u cynnwys ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol y DU, i gyflwyno cynllun ar gyfer ffermio a ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy'n agor y ddadl hon ar y buddion sylweddol ac enfawr sy'n wynebu ein cymunedau gwledig a'n sector ffermio ar hyd a lled Cymru. Bydd y ddadl y prynhawn yma yn archwilio pedwar maes allweddol sy'n hanfodol i ddyfodol ein diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru.
Yn gyntaf, gadewch inni gydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y mae ffermio Cymru yn ei wneud i economi Cymru. Mae amaethyddiaeth yn un o bileri allweddol ein ffyniant cenedlaethol, gan ddarparu cyflogaeth i filoedd a chynnal bywoliaeth pobl mewn ardaloedd gwledig ar hyd a lled Cymru.
Mae ffermwyr Cymru nid yn unig yn cynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel ar gyfer y bwrdd bwyd, maent hefyd yn cefnogi ystod eang o ddiwydiannau cysylltiedig, o brosesu bwyd i amaeth-dwristiaeth. Yn 2022, amcangyfrifwyd bod gwerth ychwanegol gros amaethyddiaeth Cymru dros £810 miliwn, sef tua 0.7 y cant o gyfanswm gwerth ychwanegol gros Cymru. Mae'r ffigur hwn yn uwch na chyfartaledd y DU o 0.5 y cant. Mae ffigurau diweddar hefyd yn dangos cynnydd yng nghyfanswm yr incwm o ffermio, a oedd yn fwy na £590 miliwn yn 2022. Mae effaith economaidd ganlyniadol ffermio yn sylweddol, yn sail i economïau lleol ac yn meithrin cymunedau cryf ar draws ein gwlad.
Yn ail, Lywydd, mae'n rhaid inni ddathlu arwyddocâd diwylliannol digwyddiadau eiconig fel sioe amaethyddol Frenhinol Cymru, a arferai fod yn wyliau haf blynyddol i mi cyn i fy nyddiadur fynd yn brysur iawn, cyn i mi gael fy ethol yma. Mae'r sioe yn denu dros 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae'r sioe hon yn achubiaeth i fy etholaeth ym Mrycheiniog a Maesyfed a thref Llanfair-ym-Muallt, a gallaf ddweud wrthych ein bod yn falch iawn o'i chael. Ond mae'r Eisteddfod Genedlaethol a sioeau haf amrywiol, y gwn y bydd yr Aelodau'n eu mynychu dros yr haf, hefyd yn chwarae eu rhan yn nhreftadaeth ddiwylliannol ein cenedl ac yn cefnogi economïau lleol. Fodd bynnag, mae'r digwyddiadau hyn yn fwy na dim ond achlysuron llawen. Maent yn llwyfannau hanfodol ar gyfer cefnogi cymunedau gwledig, gan hyrwyddo diwylliant Cymru a chadw'r Gymraeg yn fyw. Maent yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt. Yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, mae gennym ddirprwyaeth yn dod o Ynysoedd y Falkland, rhywbeth rwy'n frwd iawn yn ei gylch, ac rwy'n edrych ymlaen at siarad â ffermwyr o'r Falklands. Ond mae'n gwneud mwy nag arddangos amaethyddiaeth Cymru yn unig, mae'n arddangos ein celfyddydau a'n traddodiadau, ac mae'r rhain yn cryfhau ein synnwyr o gymuned. Maent yn hybu economïau lleol ac yn denu miliynau o bunnoedd o refeniw bob blwyddyn, ac mae'n sicrhau bod ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yn cael throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yma yng Nghymru.
Yn drydydd, fodd bynnag, credaf y byddai'n esgeulus imi beidio â sôn am y pryderon o fewn y gymuned amaethyddol mewn perthynas â'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Rwy'n cydnabod bod y Llywodraeth wedi ymgysylltu â'r diwydiant. Fodd bynnag, mae yna deimlad cryf ymhlith ein ffermwyr nad ydynt yn hapus o hyd. Ac mae'r teimlad hwnnw'n cael ei gyfleu mewn un neges bwerus iawn: dim ffermwyr, dim bwyd. Mae'r neges honno'n amlygu'r cysylltiad sylfaenol rhwng arferion ffermio cynaliadwy a'n diogeledd bwyd cenedlaethol. Mae'r gymuned ffermio yn ofni, heb eu cyfranogiad a'u cefnogaeth, y gallai unrhyw gynlluniau newydd beryglu eu bywoliaeth, ac o ganlyniad, ein gallu i fod yn hunangynhaliol o ran cynhyrchu bwyd ledled y wlad.
Nid yw'r cynigion presennol ar gyfer y cynllun amaethyddol, yn fy marn i, yn cynnig yr hyn sydd ei angen ar ein ffermwyr i gynhyrchu'r bwyd y mae Cymru ei angen. Un broblem sylfaenol yw'r diffyg cefnogaeth gan y gymuned ffermio oherwydd cyfyngiadau amgylcheddol rhy llym ac absenoldeb cymhellion clir i ffermwyr gymryd rhan. Heb gynllun y mae ffermwyr yn ei gefnogi a'i groesawu'n llwyr, mae yna berygl y bydd y camau sylweddol a wneir gan Lywodraeth Cymru tuag at dargedau amgylcheddol yn cael eu tanseilio. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar y diwydiant ac yn datblygu polisi sy'n cefnogi cynhyrchiant bwyd cynaliadwy, gwella'r amgylchedd a bywiogrwydd ein cymunedau gwledig.
Rwy'n awyddus i weld cynllun sy'n grymuso ffermwyr i gynhyrchu bwyd o'r ansawdd uchaf posibl, sy'n cofleidio lles anifeiliaid i'r safonau uchaf, ac yn cydnabod y cyfraniad cymdeithasol amhrisiadwy y mae amaethyddiaeth yn ei wneud i Gymru. Mae hyn yn cynnwys creu cynefinoedd bywiog, rheoli coetiroedd, gwella gwrychoedd ac adfer gweirgloddiau a thir pori. Rhaid i'r cynllun arfaethedig newydd fod yn gynhwysol, gan fynd i'r afael ag anghenion penodol ffermydd bach, a darparu meini prawf clir ar gyfer diffinio ffermwr actif. Dylai hefyd feithrin y genhedlaeth nesaf o ffermwyr drwy gynnig cymorth a sicrwydd cadarn i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant amaethyddol. Rhaid iddo hefyd gydnabod y materion sy'n wynebu pobl sy'n ffermio ein tiroedd comin. Os nad yw cynllun yn gweithio i'n cominwyr, nid yw'n gweithio i unrhyw un.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf hefyd yn bryderus iawn am hyblygrwydd y cynllun presennol. Bydd diffyg hyblygrwydd yn rhwystro effeithlonrwydd ac yn peryglu nodau amgylcheddol a chynhyrchiant bwyd, ac rwy'n credu y dylai unrhyw gynllun yn y dyfodol fod yn ddigon hyblyg i ffermwyr benderfynu beth sydd angen iddynt ei wneud ar eu fferm, beth sy'n addas ar gyfer eu fferm, gan weithio gyda nhw i gynllunio rhywbeth a all weithio iddynt hwy. Rydym yn eich annog chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gydweithio â'r gymuned ffermio i greu cynllun sy'n ymarferol ac yn effeithiol, cynllun sy'n sicrhau dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru, yn diogelu ein hamgylchedd ac yn cefnogi economïau a swyddi cefn gwlad.
Yn olaf, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur newydd y DU, i symud y tu hwnt i'r ffocws cyfyngedig ar ffermio yn y maniffestos gwleidyddol, a'r wybodaeth gyfyngedig iawn a ddarparwyd yn Araith y Brenin heddiw ynglŷn â sut roedd Llafur Cymru yn bwriadu cefnogi amaethyddiaeth ar draws y Deyrnas Unedig. Mae angen cynllun cynhwysfawr a blaengar arnom ar gyfer ein ffermwyr a'n diwydiant ledled y Deyrnas Unedig.
Felly, i gloi, Lywydd, gadewch inni gydnabod heddiw y rôl hanfodol y mae ffermio Cymru yn ei chwarae yn ein heconomi. Gadewch inni ddathlu arwyddocâd diwylliannol ein cymorth gwledig, a chefnogi ein ffermwyr i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel gan lynu wrth y safonau lles uchaf yn y byd, oherwydd heb ein ffermwyr, bydd y slogan 'dim ffermwyr, dim bwyd' yn adleisio ym mhobman. Ac rwy'n dweud wrth bawb yn y Siambr heddiw, 'Cefnogwch ein ffermwyr a chefnogwch y cynnig hwn y prynhawn yma.' Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cadw ffermwyr yn ffermio' a gyhoeddwyd ar 11 Gorffennaf 2024.
Yn croesawu agwedd Llywodraeth Cymru tuag at gydweithio, wrth iddi barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn cwblhau’n derfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a hynny’n unol ag amcanion y Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) o ran Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Ydy, mae e'n cael ei gynnig yn ffurfiol. Rwy'n galw nawr, felly, ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2 a 3.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu:
a) bod cymunedau gwledig Cymru wedi colli £243 miliwn er gwaethaf ymrwymiad o 'ddim ceiniog yn llai' gan lywodraeth flaenorol y DU; a
b) bod cytundebau masnach newydd wedi agor y drws i fewnforion rhatach sy'n bygwth tanseilio'r cynhyrchwyr domestig.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sicrhau gyda Llywodraeth y DU gyllideb o dros £500 miliwn bob blwyddyn i amaethyddiaeth sy’n ystyried chwyddiant, i sicrhau bod modd cyflawni uchelgeisiau'r diwydiant ar gyfer bwyd, natur a hinsawdd;
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac a gaf i ddweud hefyd nad oes yna ddim byd yn y cynnig dwi'n anghytuno gydag e, ond dwi'n awyddus i ychwanegu gwelliannau oherwydd dwi ddim yn meddwl bod hi'n deg bod y Ceidwadwyr yn cael getaway gyda'r addewid sydd wedi cael ei dorri o 'ddim ceiniog yn llai' i'r diwydiant yng Nghymru, pan mai'r realiti yw, wrth gwrs, ei fod e'n £0.25 biliwn yn llai. Maen nhw wedi torri eu gair drwy dorri cyllid a fyddai wedi ac a ddylai fod yn dod i amaethyddiaeth yng Nghymru.
Ond, erbyn hyn, mae gennym ni Lywodraeth newydd yn y Deyrnas Unedig, ac felly mae yna gyfle gan y Blaid Lafur i gywiro hynny. A dwi'n atgoffa fy hun o rai o eiriau'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r ariannu:
'mae'n destun cryn ofid i mi',
meddai, nad yw'r arian yn dod i Gymru.
'Nid rhywbeth trist yn unig mo hyn; credaf fod ffermwyr y siaradais â nhw yn hynod o ddig am hyn hefyd, gan yr addawyd na fyddent yn cael "ceiniog yn llai" ac rydym wedi cael llai o arian.'
Wel, fel dwi'n dweud, mae yna gyfle nawr i gywiro yr anghyfiawnder yna, onid oes e?
Mae yna flwyddyn, bron iawn, ers i fi rybuddio bod 'not a penny less' ddim yn ddigon erbyn hyn, gyda chostau mewnbwn amaethyddol wedi cynyddu, ac, wrth gwrs, gofyn i'r diwydiant gyflawni mwy hefyd mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae'r cyrff amgylcheddol a'r undebau amaeth wedi amlygu bod y £500 miliwn yma nawr sy'n ddyledus i Gymru yn angenrheidiol er mwyn cael y maen i'r wal.
Gall Llafur unioni hynny, a gobeithio y byddant yn gwneud hynny.
Yn ail, wrth gwrs, mae angen inni fynd i'r afael â'r bygythiad a achosir gan gytundebau masnach newydd. Nawr, mae'r cytundebau hyn gydag Awstralia a Seland Newydd wedi agor y drws ar fewnforion rhatach, gan danseilio ein cynhyrchwyr domestig. Mae ffermwyr Cymru, sy'n enwog am eu safonau uchel a'u cynnyrch o ansawdd, bellach yn wynebu cystadleuaeth annheg gan fewnforion o safon is. Nawr, mae hynny nid yn unig—[Torri ar draws.]
Na, rydych chi wedi gwneud hon yn ddadl fer a dim ond 180 eiliad sydd gennyf, felly nid wyf am roi amser i chi, mae arnaf ofn.
Mae hynny nid yn unig yn peryglu bywoliaeth ein ffermwyr, mae hefyd yn peryglu ansawdd y bwyd sydd ar gael i gwsmeriaid Cymru. Felly, mae angen inni sicrhau bod unrhyw gytundebau masnach yn diogelu ein sector amaethyddiaeth domestig ac yn cynnal y safonau uchel yr ydym yn falch ohonynt, a dyna pam, wrth gwrs, fod Plaid Cymru wedi galw am feto ar gytundebau masnach yn y dyfodol. Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddibrisio'r ffaith nad oes gan Gymru lais mewn trafodaethau ar gytundebau masnach pan dynnais ei sylw at hynny yn ddiweddar. Nawr, yn fy marn i, mae hynny'n cyfiawnhau rhoi feto i ni. Os yw'r cytundebau masnach hyn yn niweidiol i Gymru, dylai Cymru allu gwasgu'r botwm stop. Nawr, fe wnaeth y Ceidwadwyr adael amaethyddiaeth Cymru wedi ei thanariannu, ac mae'n rhaid i mi ddweud, wedi ei thanseilio hefyd gan y cytundebau masnach niweidiol hyn, ond rwy'n annog y Senedd i gefnogi ein gwelliannau fel y gall ein Hysgrifennydd Cabinet ddadlau'r achos cryfaf posibl nawr i Lywodraeth y DU unioni'r camweddau hynny. Diolch.
Rwy'n mwynhau'r sioeau amaethyddol, y digwyddiadau diwylliannol a ffeiriau'r haf. Maent yn gyfleoedd gwych i siarad â phobl, i weld arddangosfeydd gwych ac i flasu'r cynnyrch. Rwy'n gwybod bod llawer o waith trefnu ynghlwm wrthynt, felly rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Rwy'n croesawu'r cynllun ffermio cynaliadwy wrth gwrs, fel y mae'r rhanddeiliaid sydd wedi siarad â mi o'r cymunedau ffermio a'r amgylchedd. Mae'n bwysig gwrando, ymgynghori a dod â phobl gyda ni. Mae cymaint o gamwybodaeth wedi bod am y cynllun ffermio cynaliadwy, ac fe gafodd y mater ei wleidyddoli'n fawr. Rwy'n credu bod y slogan 'dim ffermwyr, dim bwyd' wedi cael ei greu gan James Melville, sydd hefyd ar fwrdd Together, a gynhaliodd ymgyrchoedd ar gyfyngiadau symud COVID ac ar barthau allyriadau isel iawn yn Llundain, ac roeddwn yn eu galw'n wrth-grŵp. Pan euthum i goleg y Rhyl, roedd yn ddychrynllyd, ac fe geisiais siarad gyda ffermwyr, ond roedd yn amhosibl; cafodd y digwyddiad ei gymryd drosodd.
Mewn cymhariaeth, roedd gweld yr holl esgidiau glaw ar risiau'r Senedd yn gofiadwy ac yn emosiynol. Roeddwn yn gwerthfawrogi'r holl ymdrech a aeth i mewn i hynny, a gallu siarad â ffermwyr yn dawel, a hefyd y cyfarfodydd bord gron eraill a ddilynodd. Rwy'n gwybod nawr fod trefnwyr 'dim ffermwyr, dim bwyd' yn dweud ei fod yn ymwneud â phrisiau prynu annheg yr archfarchnadoedd i ffermwyr—anfantais gystadleuol nwyddau wedi'u mewnforio i ffermwyr y DU—ac iechyd meddwl hefyd, felly efallai ei fod wedi newid—gobeithio.
Y rheswm pam y bu'n rhaid i Gymru sefydlu ei chynllun ei hun yw oherwydd ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac ni chafwyd arian yn lle £243 miliwn mewn taliadau ffermio. Rwy'n croesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw yn cadarnhau cefnogaeth ariannol i ffermwyr yn 2025, a bydd y cyfnod paratoi hwn yn cynnwys nifer o gynlluniau, gan gynnwys Cynefin Cymru a chynllun adnoddau naturiol integredig, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi'r hyder a'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i ffermwyr yn y cyfnod cyn 2026.
Yn dilyn oedi'r cynllun ffermio cynaliadwy, cynhaliwyd dau gyfarfod bord gron gweinidogol ym mis Mehefin, rhywbeth a oedd i'w groesawu, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet ac roedd yn cynnwys 18 o randdeiliaid yn cynrychioli sectorau ffermio, bwyd, natur, coedwigaeth a milfeddygaeth, yn ogystal â'r cadwyni cyflenwi ehangach. Rwy'n credu bod y cyfarfodydd hyn yn bwysig iawn i ddod â ffermwyr ac arbenigwyr amgylcheddol ynghyd i rannu arferion gorau. Mae angen inni sicrhau bod cyngor ac arbenigedd ar gael i ffermwyr, i ddysgu am reoli'r tir ac i adeiladu cadernid yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, a thrafod hyblygrwydd i'r cynllun, a fydd yn bwysig.
Mae'n debygol y bydd digwyddiadau tywydd eithafol, fel sychder a llifogydd, yn dod yn fwy cyffredin wrth i'n hinsawdd gynhesu, a chyda ffermwyr yn ysgwyddo baich ariannol yr effeithiau, mae newid hinsawdd eisoes yn costio degau o filiynau y flwyddyn i ffermwyr am ddifrod a cholli cynhyrchiant. Felly, mae ffermwyr sy'n ymgysylltu'n weithredol â gwaith adfer natur, arferion ffermio sy'n gyfeillgar i natur neu arferion ffermio mwy amrywiol, yn fwy gwydn i wrthsefyll digwyddiadau tywydd eithafol, er enghraifft mae tir yn llai llosgedig yn ystod cyfnodau o wres eithafol a phrinder dŵr ac yn llai tebygol o brofi llifogydd. Deillia'r perygl llifogydd mwyaf yn y tymor canolig i'r tymor hir i gynhyrchiant yng Nghymru o newid hinsawdd a phwysau amgylcheddol eraill fel dirywiad pridd, ansawdd dŵr a cholli bioamrywiaeth. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn ddiogelu ein sector ffermio rhag y peryglon hyn ar gyfer y dyfodol .
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, i gydnabod pwysigrwydd ein cymunedau gwledig a ffermio yma yng Nghymru, pa mor hanfodol ydynt i'n cenedl, a sut y gallwn eu cefnogi'n well wrth symud ymlaen. Yn dilyn helynt y cynllun ffermio cynaliadwy, lle cafodd yr ymddiriedaeth rhwng y gymuned ffermio a Llywodraeth Cymru ei niweidio'n ddifrifol, mae bellach yn bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn cydweithio i atgyweirio'r berthynas hon.
Yn gyntaf, hoffwn dalu teyrnged i'r gymuned wledig yng Nghymru, sy'n rhan o'n heconomi sy'n cefnogi mwy o bobl na phoblogaeth Caerdydd ond nad yw'n derbyn parch cyfartal ag ardaloedd prifddinesig. Mae'r gwerth a gynhyrchir gan y sector amaethyddol yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU, ond incwm fferm cyfartalog Cymru yw'r isaf o bedair gwlad y DU, gyda rhwystrau ychwanegol yng Nghymru i hybu twf economaidd gwledig, megis prinder llafur a sgiliau, mynediad gwael at gyllid, cysylltiadau trafnidiaeth gwael a chysylltedd digidol ysbeidiol. Mae'n hanfodol fod mwy o ffocws yn cael ei roi ar gael gwared ar y rhwystrau hyn, er mwyn rhyddhau potensial economi wledig Cymru, sydd, er gwaethaf y maen melin am ei gwddf, wedi dangos y gall berfformio'n well na gweddill y DU.
Mae sioeau a digwyddiadau'r haf yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru, ac fe gawsant ergyd enfawr yn ystod pandemig COVID-19, pan gafodd yr Eisteddfod a Sioe Frenhinol Cymru, sy'n cyfrannu £40 miliwn y flwyddyn i'r economi, eu canslo. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn cael eu cefnogi, oherwydd maent yn arddangos arwyddocâd diwylliannol bywyd gwledig Cymru a'r bwyd a diod o safon a gynhyrchwn, ac un enghraifft yw eirin Dinbych yn fy etholaeth i—[Torri ar draws.]—sydd heb gael eu crybwyll ers tro. [Chwerthin.] Felly, meddyliais y byddwn yn cyfeirio at eirin Dinbych un tro olaf cyn toriad yr haf—ac maent yn aeddfedu ddiwedd mis Awst, felly bydd yna eirin Dinbych o ansawdd da i'w cael erbyn inni ailymgynnull ar ôl toriad yr haf.
Felly, achosodd y diwygio arfaethedig i galendr yr ysgol gryn dipyn o ofid i Sioe Frenhinol Cymru, a rhagwelwyd y byddai'n colli £1 filiwn o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig. Yn dilyn y cynllun ffermio cynaliadwy, rwy'n credu bod hyn wedi anfon y neges anghywir, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn pwyso a mesur hyn pan gaiff y cynigion hyn eu hailystyried. Ond ar wahân i economeg, mae cyfraniad amaethyddol Cymru i ddiogeledd bwyd, stiwardiaeth amgylcheddol a'i harwyddocâd diwylliannol yn hynod bwysig. Mae problemau'r gadwyn gyflenwi fyd-eang yn dilyn goresgyniad Wcráin wedi dangos pa mor bwysig yw diogeledd bwyd i'r DU, ac mae'n rhywbeth rydym wedi'i gymryd yn ganiataol. Mae'r Athro Tim Lang o Brifysgol Dinas Llundain wedi rhybuddio bod y DU heb baratoi'n ddigonol ar gyfer prinder bwyd, a allai arwain at silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd a chynnydd pellach mewn prisiau, felly mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd ffermio drwy Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Rwy'n sylweddoli bod fy amser yn prysur ddirwyn i ben, ond hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ddangos mwy o werthfawrogiad o'r gymuned wledig yng Nghymru, a lleddfu'r pryderon sydd gan lawer o ffermwyr yn fy etholaeth. Rwy'n gobeithio y bydd y cynigion yn cael eu hailystyried, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gynlluniau ar gyfer ffermio. Diolch yn fawr iawn.
Mae gennyf gyfraniad byr iawn gyda chwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet ar y diwedd. Ond hoffwn droi'n ôl at yr hyn a ddywedodd James, rwy'n cytuno bod y slogan, 'Dim ffermwyr, dim bwyd' yn bwerus iawn, ond hoffwn ddadlau hefyd fod y neges, 'Dim ffermwyr, dim amgylchedd' yr un mor bwysig, oherwydd ein ffermwyr yw stiwardiaid ein tir, ac mae agwedd gynaliadwy tuag at ffermio yn hanfodol ar gyfer hyfywedd hirdymor ein diwydiant. Rwy'n cydnabod yr amserlen newydd ar gyfer gweithredu'r cynllun ffermio cynaliadwy a'r ymrwymiad i ymgysylltiad ystyrlon, y clywais gan yr undebau ei fod wedi ei werthfawrogi'n fawr, ond yr hyn y mae ein ffermwyr yn ei haeddu yw cynllun y gallant ymddiried ynddo, un sy'n arwain y newid tuag at gynaliadwyedd gan warchod bywoliaeth a dyfodol amaethyddiaeth Cymru ar yr un pryd. Felly, hoffwn ofyn yn benodol i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r camau gweithredu cyffredinol, eu hymarferoldeb a'r baich gweinyddol o fewn y cynllun ffermio cynaliadwy ar hyn o bryd? Mae ein ffermwyr eisoes dan bwysau, ac mae perygl y bydd cymhlethdod presennol yr 17 o gamau gweithredu cyffredinol yn eu gorlethu. Diolch yn fawr iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig heddiw, sy'n rhoi cyfle inni ddathlu cyfraniad gwerthfawr ffermio yng Nghymru i economi Cymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni gydnabod manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a sioeau haf wrth gefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae'r cytundeb cyllido dwy flynedd bresennol gyda Sioe Frenhinol Cymru a Llywodraeth Cymru yn dangos ein hymrwymiad i'r gymdeithas, a'r rôl arweiniol y mae'n ei chwarae yn natblygiad amaethyddiaeth a'r economi wledig yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at fynd i'r sioe'r wythnos nesaf.
Mae'r cytundeb cyllido gyda Chymdeithas Amaethyddol Sir Benfro a Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos ein cymorth i un o'r sioeau sirol mwyaf yng Nghymru, yn ogystal â'r rôl y mae'n ei chwarae o ran datblygu cydlyniant cymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru. Rydym yr un mor gefnogol i sioeau amaethyddol eraill a'r Eisteddfod Genedlaethol, a byddaf yn mynychu llawer ohonynt dros fisoedd yr haf.
Mae wedi bod yn gyfnod heriol i ffermwyr, ac rwy'n cydnabod bod llawer yn y gymuned ffermio wedi profi cyfnod o newid ac ansicrwydd mawr dros y blynyddoedd diwethaf.
Lywydd, oherwydd hyn, oherwydd y ffordd rydym yn gwrando ar y cymunedau gwledig hynny, y gwnaethom benderfynu cyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy yng Nghymru yn 2026, gyda'r cam paratoi yn 2025. Rwy'n falch iawn o'r dull cydweithredol a fabwysiadwyd gennym wrth ddatblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy. Rydym yn defnyddio'r amserlen newydd hon i weithio mewn partneriaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod gennym gynllun sy'n cefnogi cynhyrchiant bwyd a ffermwyr yn briodol, ac sy'n cynnal yr amcanion rheoli tir cynaliadwy yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Rydym yn gwrando, ac rydym yn parhau i wrando. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu eu safbwyntiau yn ystod yr ymgynghoriad. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r ffermwyr ar hyd a lled Cymru sydd wedi rhoi amser i siarad â mi wrth fyrddau fferm a rhannu eu barn ar hyn a chymaint o bynciau eraill. Byddwn yn parhau i weithio'n gyflym i gwblhau'r cynllun fel y gallwn roi sicrwydd mawr ei angen i ffermwyr ynghylch cymorth yn y dyfodol cyn gynted â phosibl.
Ond wrth gwrs, mae yna ffactorau eraill hefyd yn cyfrannu at yr ansicrwydd y mae ffermwyr a chymunedau gwledig wedi bod yn ei wynebu, ac mae'n rhaid imi grybwyll yma, o ganlyniad i gamau a gymerwyd gan Lywodraethau Ceidwadol blaenorol y DU, ac ymadael â'r UE yn wir, ei bod wedi mynd yn fwyfwy anodd darparu sicrwydd i ffermwyr sy'n caniatáu ar gyfer y cynllunio hirdymor sydd ei angen ar ffermwyr er mwyn rheoli tir yn effeithiol. Ac yn ogystal, fel y nodwyd gan y gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, y byddwn yn ei gefnogi heddiw, o ganlyniad i gyfnod y Ceidwadwyr yn Llywodraeth y DU, mae ein cymunedau gwledig yng Nghymru wedi colli £243 miliwn o gyllid. Gellid bod wedi defnyddio'r arian hwnnw i fuddsoddi yn ein cymunedau gwledig yng Nghymru, er budd ffermwyr, ond ni chafodd ei ddarparu er iddo gael ei addo. A thrwy'r adeg, mae prisiau ynni wedi saethu i fyny ac mae cytundebau masnach newydd wedi agor y drws ar fewnforion rhatach sy'n bygwth tanseilio cynhyrchwyr domestig.
Mae'r problemau y mae ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig yn eu hwynebu yn gymhleth iawn, ac mae angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i'w datrys hyd eithaf ein gallu. Felly, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i gefnogi ffermwyr Cymru, gan gynnwys gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU. Yn wir, rwyf wedi siarad â'r Ysgrifennydd Gwladol newydd i drafod meysydd o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys cymorth i ffermydd yn y dyfodol a'n dyheadau am berthynas gydweithredol gref wrth symud ymlaen. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi bod yn glir fod ailadeiladu hyder ffermwyr yn flaenoriaeth gynnar allweddol, ac mae'r ddau ohonom yn uchelgeisiol ynghylch dyfodol ffermio yma yng Nghymru.
Ac fel y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod, mae gweithredoedd Llywodraethau blaenorol y DU wedi creu anawsterau ariannol difrifol i Lywodraeth Cymru, ac yn yr un modd, mae Llywodraeth newydd y DU bellach wedi etifeddu economi sydd mewn trafferthion enbyd, ynghyd ag argyfwng costau byw hefyd. Felly, nid dyma'r amser i wneud ymrwymiadau gwario heb eu hariannu, fel yr awgrymir yn ail welliant Plaid Cymru. Yr hyn sydd ei angen arnom, gan weithio gyda Llywodraeth newydd yn y DU, yw sefydlogrwydd a sicrwydd a phroses adolygu gwariant gadarn a fydd yn rhoi'r hyder sydd ei angen arnynt i ffermwyr a'n holl gymunedau, ac i wneud hynny, mae angen inni roi amser i'r adolygiad o wariant a'r broses gyllidebol ddigwydd.
Nawr, er gwaethaf heriau ariannol, rydym wedi parhau i gefnogi ein ffermwyr a chynhyrchiant bwyd yng Nghymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Ac fel y nodwyd gennym yn ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad y cynllun ffermio cynaliadwy, rydym bellach yn bwriadu i'r cynllun ffermio cynaliadwy ddechrau yn 2026. Bydd cyfnod paratoi cyn hynny yn 2025, i ddarparu cyngor a chefnogaeth i ffermwyr cyn cyflwyno'r cynllun.
Nawr, y bore yma, fel y nododd Carolyn yn ei chyfraniad—diolch i bawb am eu cyfraniadau—cyhoeddais union fanylion rhai o'r cynlluniau allweddol ar gyfer 2025 i roi mwy o sicrwydd i ffermwyr ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ac mae'r cynlluniau'n cynnwys cynllun Cynefin Cymru, sydd bellach yn cael ei gynnig yn 2025, a bydd pob ffermwr unigol cymwys yn gallu gwneud cais, a gellir ymestyn cytundebau tir comin cynllun Cynefin Cymru sy'n bodoli'n barod ar gyfer 2025. Bydd taliadau cymorth organig yn cael eu cynnal ar gyfer 2025. Byddwn yn ymestyn Cyswllt Ffermio hyd at 2026, gan ddarparu parhad i gymorth trosglwyddo gwybodaeth ac arloesi ar ffermydd, yn ogystal â chynllun adnoddau naturiol integredig newydd, gan gefnogi partneriaethau sy'n canolbwyntio ar ffermwyr i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur ar lefel tirwedd, dalgylch, neu hyd yn oed Cymru gyfan. Bydd yn parhau i bontio i ffordd newydd o gefnogi ffermwyr a'r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud cyn cyflwyno camau gweithredu cydweithredol y cynllun ffermio cynaliadwy.
Yn ogystal â’r cynlluniau hyn, byddwn yn lansio ymarfer cadarnhau data SFS. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ffermwyr adolygu a chadarnhau faint o’u tir sy'n gynefin ac sydd o dan ganopi o goed a choetir yn barod ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy a hefyd cynllun Cynefin Cymru 2025.
Nid datganiad cynllun yw hwn, ac nid ydym ychwaith yn ceisio cosbi neb. Mae’r ymarfer gwirfoddol hwn yn ein galluogi i weithio gyda ffermwyr i sicrhau ein bod yn cael y mapiau a'r data sylfaenol yn iawn. Rwy'n annog pob ffermwr i ddweud wrthym am eu tir a sicrhau bod y data ar gyfer ei fferm yn gywir. Rwy'n bwriadu gwneud cyhoeddiadau pellach ar gynlluniau ar gyfer cam paratoi y flwyddyn nesaf maes o law. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r ffermwyr a chyda'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan, i sicrhau bod cymorth i ffermwyr a chynhyrchu bwyd yn y dyfodol yn deg, yn hygyrch, ac yn sicrhau bod ein ffermwyr yn parhau i ffermio. Diolch yn fawr iawn.
Samuel Kurtz nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Lywydd, rwy'n llawn cyffro ar gyfer yr wythnos nesaf. Dyna pryd y cynhelir Sioe Frenhinol Cymru—fy Glastonbury, fel rwy'n hoff o'i galw. Dyma’r gwyliau yr wyf wrth fy modd yn ei gymryd bob blwyddyn, gan deithio i etholaeth James Evans i ddathlu popeth sy’n wych ac yn dda am amaethyddiaeth Cymru a'r ffordd wledig o fyw yng Nghymru. A Lywydd, a gaf i ddymuno'n dda i chi, gan mai Ceredigion yw'r sir sy'n noddi Sioe Frenhinol Cymru eleni?
Pob lwc a llongyfarchiadau i chi a'r sir hefyd.
Wrth agor, disgrifiodd James Evans amaethyddiaeth Cymru fel piler allweddol ein ffyniant cenedlaethol—ac mae'n llygad ei le—gan amlygu arwyddocâd diwylliannol nid yn unig amaethyddiaeth ond Sioe Frenhinol Cymru hefyd. Rwy'n credu bod 200,000 o ymwelwyr â chanolbarth Cymru, yn dathlu popeth sy'n dda ac yn wych am amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru, yn wych. Caiff hynny ei adlewyrchu gan yr eisteddfodau a welwn ledled Cymru hefyd, a’r holl sioeau llai yn ein siroedd ac yn ein pentrefi hefyd—cyfleoedd gwirioneddol i ddod â phobl ynghyd mewn diwydiant y gwyddom fod ganddo lefelau uchel o ynysigrwydd, lefelau uchel o broblemau iechyd meddwl a lefelau uchel o hunanladdiad. Mae pwysigrwydd cael digwyddiadau diwylliannol megis Sioe Frenhinol Cymru a digwyddiadau eraill, i ddod â phobl ynghyd a chaniatáu i ffermwyr gael y trafodaethau hynny, yn wirioneddol bwysig ar lefel economaidd ac o ran iechyd meddwl a llesiant hefyd, ac ni ddylid tanbrisio hynny.
Soniodd Llyr Gruffydd am yr ymrwymiad o ‘ddim ceiniog yn llai’. Ie, dyma'r arian wedi'i neilltuo y byddem wedi'i gael pe baem wedi aros yn yr undeb Ewropeaidd, felly mae'n gamarweiniol dweud ein bod £243 miliwn yn brin, oherwydd—[Torri ar draws.] Oherwydd, pe byddem wedi cadw—. Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cadw cynllun y taliad sylfaenol ar yr un lefel yn dangos ein bod ni, mewn gwirionedd, yn cael yr un faint yn union o arian â'r hyn roeddem yn ei gael cyn hynny, gan ei fod yn arian wedi’i neilltuo. Ac ar y cytundebau masnach hefyd—[Torri ar draws.] Ar y cytundebau masnach hefyd, mae'r pwyllgor wedi gwneud llawer o waith ar hyn, a chig oen Seland Newydd, nid ydynt wedi gallu bodloni eu cwota o ran dod â chig oen i mewn i’r DU ers nifer o flynyddoedd. Mae hyn—[Torri ar draws.] Naw punt y cilogram am gig oen; mae'n broblem wirioneddol yma, ac Awstralia—
Rwy'n mynd i orfod torri ar draws yr Aelod. Dim ond hanner awr a drefnwyd ar gyfer y ddadl hon gan eich plaid eich hun, ac felly rwy'n disgwyl i’ch cyfraniadau eich hun fod yn ddisgybledig ac o fewn yr amser. Felly, bydd yn rhaid ichi—. Er eich bod yn llawn cyffro ynghylch sioe'r Cardis, sioe frenhinol Cymru Ceredigion yr wythnos nesaf, mae'n rhaid i chi ddod â'ch cyffro i ben. [Chwerthin.]
Sut y gallwch chi roi'r corcyn yn ôl yn y botel, ar ôl iddo bopio? [Chwerthin.] Lywydd, y cyfan y byddwn i'n ei ddweud yw bod amaethyddiaeth a ffermio angen ffrind. Gall y lle hwn fod yn ffrind i amaethyddiaeth. Rwy'n falch o'n record ar y meinciau hyn. Rwy’n falch fy mod wedi gallu siarad â’n ffermwyr a brotestiodd ar risiau’r Senedd. Rwy’n falch y byddwn yn parhau i fod yn ffrind i ffermio, ac rwy'n annog y Senedd i gefnogi ein cynnig heno. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe awn ni i'r cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe awn ni yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
Y bleidlais ar eitem 10 fydd y pleidleisiau yma; dadl y Ceidwadwyr rŷn ni newydd ei chlywed ar ffermio yw hyn. Felly mae'r bleidlais gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 sydd gyntaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Gwelliant 1, felly, yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Jane Hutt: O blaid: 26, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 sydd nesaf—gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei gymeradwyo.
Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 37, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Gwelliant 3. Pleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac fe fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn y gwelliant. Felly, gwelliant 3 wedi ei wrthod.
Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais olaf ar y cynnig wedi ei ddiwygio gan welliant 2.
Cynnig NDM8644 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu cyfraniad economaidd gwerthfawr ffermio yng Nghymru i economi Cymru.
2. Yn cydnabod manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a sioeau'r haf wrth gefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg.
3. Yn cefnogi cryfder y teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy, a'r neges bwerus 'dim ffermwyr dim bwyd'.
4.Yn gresynu:
a) bod cymunedau gwledig Cymru wedi colli £243 miliwn er gwaethaf ymrwymiad o 'ddim ceiniog yn llai' gan lywodraeth flaenorol y DU; a
b) bod cytundebau masnach newydd wedi agor y drws i fewnforion rhatach sy'n bygwth tanseilio'r cynhyrchwyr domestig.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod gan gynllun ffermio cynaliadwy newydd gefnogaeth gan y gymuned ffermio, gyda diogelwch bwyd a diogelu'r amgylchedd wrth ei wraidd, sy'n tynnu sylw at y neges bwerus 'dim ffermwyr dim bwyd'; a
b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i ehangu ar y 87 gair ynghylch ffermio sydd wedi'u cynnwys ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad cyffredinol y DU, i gyflwyno cynllun ar gyfer ffermio a ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, 14 yn ymatal, 23 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ffermio. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 23, Ymatal: 14
Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Dyna ddiwedd ar y pleidleisio, diwedd ar ein pleidleisio ni am y tymor yma. I'r rhai ohonoch chi sy'n gadael, gaf i ddymuno rhywfaint o doriad i chi dros yr haf? Ond dyw'r gwaith heb ei orffen, oherwydd mae'r ddadl fer i'w chynnal eto.
Os gall yr Aelodau adael yn dawel, os gwelwch yn dda. Nid ydym wedi gorffen ein busnes am heddiw.
Luke Fletcher sydd yn cyflwyno ei gynnig ar y ddadl fer, ac felly Luke Fletcher.
Diolch, Llywydd. Dwi wedi cytuno i roi munud yr un i Mabon ap Gwynfor, Siân Gwenllian a James Evans.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Mae digartrefedd yn broblem amlweddog ac yn un sy'n amhosibl ei gwahanu oddi wrth amgylchiadau cymdeithasol ehangach. Rydym yn aml yn trafod maint y broblem yn y lle hwn a’i hachosion niferus, boed yn anghydraddoldeb cyfoeth, tai ansicr o ansawdd gwael—sydd, gyda llaw, yn cael effaith andwyol ar ganlyniadau iechyd corfforol a meddyliol—chwalfeydd teuluol a chymaint o achosion eraill. Mae trafod digartrefedd yn ei holl ffurfiau, o fynd o soffa i soffa a digartrefedd ar y stryd a chysgu allan i fyw mewn llety dros dro, yn golygu sôn am anghydraddoldebau a methiannau systemig ar draws ystod o feysydd a gwasanaethau yn ein cymdeithas. Ac os yw'r broblem yn amlweddog, mae'n rhaid bod yr ateb hefyd yn amlweddog.
Nawr, pan fyddwn yn gofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru am ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, bydd eu hymateb nodweddiadol bron bob amser yn cyfeirio at ymrwymiad y Llywodraeth i roi diwedd ar bob math o ddigartrefedd. Wrth gwrs, mae hyn i’w ganmol; mae'n rhywbeth y gall pob un ohonom gytuno arno, rhywbeth y gall pob un ohonom ei gefnogi. Ond fel sy'n digwydd yn aml, mae pobl ifanc yn cael eu hanwybyddu ac mae'r sefydliad yn aml yn methu ar eu rhan.
Mae hefyd yn osgoi'r ffaith bod ymyrraeth gynnar yn mynd yn bell iawn wrth fynd i’r afael â digartrefedd yn fwy cyffredinol. Hoffwn ddefnyddio’r ddadl hon heddiw i annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu ffocws penodol ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc er mwyn adeiladu strategaeth ddigartrefedd wedi’i theilwra i anghenion penodol pobl ifanc, gan fod hanner yr holl bobl a fydd yn ddigartref ar ryw adeg yn ystod eu hoes yn profi digartrefedd gyntaf erbyn eu bod yn 21 oed. Drwy fynd i'r afael â gwraidd y broblem yn gynnar, gallwn atal digartrefedd rhag ymwreiddio ym mywydau pobl, a'i wneud yn brofiad prin nad yw'n para ac nad yw'n digwydd eto. Mae digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn aml yn rhagflaenydd i ddigartrefedd mwy hirdymor, ac oherwydd eu hoedran, mae pobl ifanc yn wynebu rhwystrau unigryw. Ar gyfer pobl ifanc mewn gwaith, mae enillion posibl eisoes yn gyfyngedig. Nhw sydd leiaf tebygol o fod yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol. Maent yn cynnwys cyfran sylweddol o bobl yn y sector rhentu preifat, sector sydd wedi mynd â rhenti enfawr oddi ar denantiaid ac sydd heb gael ei herio o gwbl dros y degawd diwethaf. Ac i ychwanegu at hynny, mae'r rheini sy'n dioddef gydag iechyd meddwl gwael, y rheini â phrofiad o fod mewn gofal, y rheini sy'n gadael gofal, pobl ifanc LHDTC+, pobl ifanc niwrowahanol, yn ogystal â'r rheini sydd wedi'u gwahardd o'r ysgol—canfuwyd fod pob un ohonynt yn wynebu risg arbennig o uchel o ddigartrefedd yn bobl ifanc.
I ddangos y pwynt, mae 33 y cant o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn profi digartrefedd yn ystod y ddwy flynedd gyntaf ar ôl gadael gofal; mae 25 y cant o’r holl bobl sengl ddigartref wedi bod mewn gofal ar ryw adeg yn eu bywydau, ac mae 73 y cant o’r holl bobl sy’n ddigartref ac sy’n byw yng Nghymru wedi bod yn ddigartref fwy nag unwaith. Yn y bôn, yr unig ffordd o roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yw mynd i’r afael â’r problemau dybryd y mae Cymru’n eu hwynebu ar draws ystod o feysydd polisi. Mae a wnelo â mwy na thlodi plant yn unig. Mae a wnelo â mwy na phrinder tai fforddiadwy yn unig. Mae a wnelo â mwy na chwalfa deuluol neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn unig. Gall un o'r pethau hyn, neu bob un ohonynt mewn unrhyw gyfuniad, olygu bod unigolyn ifanc yn profi digartrefedd yn y pen draw.
Fel rwyf eisoes wedi sôn, nid oes cynllun na strategaeth genedlaethol benodol ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Byddai strategaeth ddigartrefedd genedlaethol drawsadrannol sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc, sydd â’r nod o ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac sy’n cydnabod digartrefedd ymhlith pobl ifanc fel problem gymdeithasol benodol sy'n galw am atebion penodol, yn mynd rywfaint o’r ffordd i gael gwared ar ddigartrefedd yn gyfan gwbl.
Mae gennym gryn dipyn o brofiad ac arbenigedd i'n llywio, ac er y dylai fod yn destun cywilydd ein bod yn gallu dweud hynny, ar yr un pryd, mae’n rhoi cryn dipyn o obaith i ni, a chyfoeth o wybodaeth a phrofiad y gallwn bwyso arnynt.
Ystyriwch ganfyddiadau menter Upstream Cymru, sy’n adeiladu ar lwyddiant menter gynharach yn Awstralia. Nod y rhaglen hon, sydd ar waith mewn ysgolion, yw nodi ffactorau risg ar gyfer digartrefedd yn gynnar a darparu cymorth i'r rheini sy'n wynebu risg. Mae cynllun peilot Cymru, sydd ar waith mewn chwe ysgol ar draws tri awdurdod lleol, wedi dangos y llwyddiant y gall modelau ymyrraeth gynnar ei gael, ac mae gennym waith sylweddol eisoes, dogfennau hanfodol fel cynllun End Youth Homelessness Cymru, a allai fod yn un o'r dogfennau hynny a allai fod yn un o gonglfeini strategaeth Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, dychwelaf at fy sylwadau agoriadol: dylai fod yn ddyhead gennym fel Senedd i roi diwedd, o'r diwedd, ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc a chreu'r amodau fel bod digartrefedd, lle mae'n digwydd, yn brofiad prin nad yw'n para ac nad yw'n digwydd eto. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog gytuno heddiw i ymrwymo i gefnogi gweithrediad pellach Upstream Cymru, sydd wedi bod mor llwyddiannus wrth nodi a thargedu gwasanaethau arbenigol at bobl ifanc sydd mewn perygl o wynebu digartrefedd. Byddwn yn croesawu ymrwymiad heddiw hefyd i weithredu strategaeth ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc sy’n ystyried ac yn adeiladu ar waith anhygoel a syniadau cynghreiriau fel End Youth Homelessness Cymru. Yn y pen draw, beth yw’r pwynt i ni fod yma yn y lle hwn os nad ydym yn mynd i gymryd y camau beiddgar, y camau angenrheidiol, i fynd i’r afael â’r mater hwn?
Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at gyfraniadau gan Aelodau eraill yn y ddadl hon a'r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch i ti, Luke, am ddod â'r ddadl yma ger ein bron ni heno. Dwi'n falch iawn o glywed Luke yn cyfeirio at Upstream Cymru, a gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cymryd sylw o hynny, oherwydd pan oeddwn i mewn sgyrsiau efo pobl yn Llywodraeth y Ffindir yn ddiweddar, dyna'n union yr hyn maen nhw'n ei wneud yn y Ffindir, ond ar raddfa anferthol. Maen nhw'n adnabod yr anghenion ymhell cyn ei fod o'n digwydd; maen nhw'n mynd i ddatrys y problemau cyn bod y problemau yna'n dod i fodolaeth, ac yna does yna ddim pobl yn ffeindio'u hunain yn ddigartref yn y rhelyw o'r Ffindir. Felly, mae profiad Upstream Cymru yn rhywbeth y dylid ei rolio allan, ac, wrth gwrs, mae profiad pobl ifanc yn wahanol iawn i brofiadau pobl eraill yng Nghymru sydd yn ffeindio'u hunain yn ddigartref, a dyna pam mae'n rhaid inni weld yr hawl i dŷ digonol yn rhan o bolisi’r Llywodraeth, i sicrhau bod gan bobl ifanc mynediad i drafnidiaeth, mynediad i addysg, mynediad i waith. Felly, os gwnewch chi gyfeirio at yr hawl i dai digonol yn rhan o’ch ateb chi, a phryd ydych chi’n mynd i rolio hwnna allan fel polisi, byddwn i’n falch iawn o glywed. Diolch yn fawr iawn.
Fel mae'r ddau ohonoch chi wedi sôn, mae gwaith ataliol o oedran cynnar yn hollbwysig i atal digartrefedd ymhlith yr ifanc. Drwy gydweithio ar draws sectorau, mi fedrir adnabod pobl ifanc sy’n wynebu risgiau llawer iawn cyn iddyn nhw gyrraedd y pwynt o argyfwng neu gyn i bobl ifanc gael eu bygwth efo digartrefedd. Rydyn ni wedi sôn am Upstream Cymru, adnodd gwych sy’n caniatáu adnabod risgiau yn gynnar ac yn caniatáu i staff y fenter roi’r ymyrraeth briodol ar waith, boed hynny yn y maes tai, cymedroli teuluol neu gymorth efo problemau iechyd meddwl. Mae yna arolwg blynyddol yn cael ei gynnal, arolwg sydd wedi ei ddatblygu gan Brifysgol Caerdydd, lle mae disgyblion ysgol yn gallu cofnodi eu profiadau, ac felly mae modd cynnig y cymorth cynnar yna.
Mae Plaid Cymru wedi arddel y cysyniad o ysgolion cymunedol neu ysgolion teulu ers blynyddoedd, oherwydd ein bod ni yn credu y dylai ysgolion gynnig gwasanaethau amlasiantaethol i deuluoedd, efo’r athrawon yn canolbwyntio, wrth gwrs, ar yr addysgu. Ond dyma’r ffordd orau o gau’r bwlch cyrhaeddiad yn ogystal â’r ffordd orau o adnabod a goresgyn problemau sydd yn aml yn arwain at ddigartrefedd. Felly, dwi’n meddwl bod Upstream Cymru yn gam pwysig tuag at wireddu gweledigaeth yr ysgol deulu, ond mae angen llawer iawn mwy ohono fo i fod yn digwydd ar draws Cymru. Ac mae’r cysyniad yma o’r ysgol amlasiantaethol yn angenrheidiol o ran cefnogi y mwyaf bregus yn ein cymdeithas, gan gynnwys atal digartrefedd.
Hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon heddiw, ac mae'n drueni gweld nad oes llawer mwy o Aelodau yn y Siambr, mewn gwirionedd, ar gyfer y mater pwysig iawn hwn. Fe sonioch chi yn eich araith, Luke, am bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, a chredaf fod honno'n agwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc nad yw’n cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu, mae'n debyg. Mae llawer o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, un o bob pedwar o blant â phrofiad o fod mewn gofal yn ddigartref erbyn iddynt droi’n 18 oed, ac mae hwnnw’n ystadegyn go frawychus ar gyfer y bobl ifanc hynny ledled Cymru. Mae’n dangos ein bod yn gwneud cam â'n plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru.
Gwn fod aelodau o’ch grŵp chi wedi bod ar yr un pwyllgor a minnau, y pwyllgor plant a phobl ifanc, yn edrych ar ddiwygiadau radical i'r system ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru, ac roedd diwygiad radical 3 yn nodi rhai o'r argymhellion ynghylch sut y gallem helpu plant â phrofiad o fod mewn gofal sy'n ddigartref. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen i'r Llywodraeth ei ddatblygu, sut rydym yn gofalu am y grŵp penodol iawn hwnnw o bobl ifanc sy'n wynebu heriau unigryw iawn, yn fwy felly na phobl ifanc eraill. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi sôn, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr hyn rydych chi'n mynd i'w wneud i helpu pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ac sydd mewn perygl o wynebu digartrefedd ac sy'n ddigartref yng Nghymru. Mae angen gwneud mwy yn y maes, gan ein bod yn gwneud cam â'r bobl ifanc hyn, ac mae hynny’n destun cywilydd i Gymru.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma, ond hefyd i'r holl gyd-Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Hoffwn roi sicrwydd i fy nghyd-Aelodau fod atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon fel rhan o’n nod hirdymor i roi diwedd ar bob math o ddigartrefedd yng Nghymru, fel y nododd Luke Fletcher. Fel y mae cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a thai wedi dweud droeon, os ydym o ddifrif eisiau atal digartrefedd o bob math, mae'n ymwneud â llawer mwy na thai yn unig. Credaf fod hynny wedi'i gydnabod yn y ddadl y prynhawn yma, ac mae'n ymwneud ag atal, ac mae'n rhaid i bartneriaeth ddigwydd yn llawer iawn cynharach a chynnwys ymateb gan y gwasanaethau cyhoeddus i gyd.
Mae sicrhau bod pobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd a'u bod yn meddu ar y sgiliau a'r adnoddau i lwyddo yn elfen hanfodol o atal digartrefedd yn y dyfodol. Os yw unigolyn ifanc yn profi digartrefedd, fe wyddom eu bod yn llawer mwy tebygol o wynebu digartrefedd eto drwy gydol eu hoes. Gwyddom hefyd fod yna lawer o bobl ifanc nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn ddigartref, a weithiau nad yw’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi hyd yn oed yn cydnabod eu bod yn ddigartref ychwaith, a chredaf fod hynny wedi’i gydnabod yn y sylwadau agoriadol gyda'r cyfeiriad at bobl sy'n mynd o soffa i soffa, er enghraifft. Dyna pam ei bod mor braf ein bod wedi gweld llawer o gefnogaeth, dros y pum mlynedd diwethaf yn enwedig, i wasanaethau ieuenctid ac addysg sy'n cefnogi ac yn cyflawni'r agenda bwysig hon.
Mae ein cynllun gweithredu rhoi diwedd ar ddigartrefedd, sy’n cynnwys camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc ym maes tai a chymorth, yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lle mae gan bawb gartref diogel sy’n diwallu eu hanghenion ac sy'n cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a ffyniannus. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n gilydd ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i atal digartrefedd, a lle na ellir ei atal, i sicrhau ei fod yn brin, nad yw'n para ac nad yw'n digwydd eto.
I gefnogi hyn, rydym yn buddsoddi bron i £220 miliwn mewn gwasanaethau cymorth ac atal digartrefedd eleni yn unig, ac mae hyn yn cynnwys dros £7 miliwn wedi’i dargedu’n benodol at nodi digartrefedd yn gynnar ymhlith pobl ifanc a chymorth i helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau bywyd i fyw'n annibynnol. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, os ydym am barhau i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl ifanc, fod rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, a dyna pam fod y diwygiadau arfaethedig yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yn uchelgeisiol ac yn galw am gyfranogiad ehangach y sector cyhoeddus ledled Cymru. Mae’r cynigion wedi’u gwreiddio o fewn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ac mae ganddynt botensial enfawr i drawsnewid profiadau pobl ifanc, yn enwedig y rheini sy’n gadael gofal ac sy’n ddigartref neu’n wynebu risg o ddigartrefedd.
Er nad yw Cymru’n unigryw yn yr heriau sy’n ein hwynebu, rydym wedi buddsoddi mewn dulliau o atal a lleihau digartrefedd ymhlith pobl ifanc sy’n seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol gadarn, gan ddefnyddio dull system gyfan a thrawslywodraethol, a chan edrych ar yr enghraifft y cyfeiriwyd ati mewn perthynas â'r Ffindir. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau, rydym wedi ystyried rhai o’r methiannau yn y system a allai olygu bod unigolyn ifanc yn cwympo drwy’r bylchau oherwydd bod y ddarpariaeth yn annigonol, o fewn neu rhwng gwasanaethau, ac wrth wneud hynny, fe wnaethom nodi ein fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid fel enghraifft brofedig o sut y gellir cydgysylltu'r gwaith o gefnogi’r ysgol a’r lleoliad cymunedol yn well ar draws ystod o bartneriaid.
Drwy'r fframwaith, ceir ffocws ar nodi'n gynnar, deialog broffesiynol, cefnogaeth amlasiantaethol ac olrhain cynnydd. Lle mae'r fframwaith yn gweithio'n dda, mae'n cynrychioli system ddata fyw, lle mae dangosyddion risg ac arsylwadau proffesiynol yn cael eu cyfuno'n rheolaidd i ddiwallu anghenion pobl ifanc unigol wrth iddynt drosglwyddo rhwng gwasanaethau. Un gwasanaeth allweddol o'r fath yw'r gwasanaeth ieuenctid. Drwy weithio gyda phobl ifanc mewn mannau diogel a thrwy berthynas ag oedolyn y gellir ymddiried ynddynt, mae gweithwyr ieuenctid yn cael gwell dealltwriaeth o'u bywydau a'r heriau penodol y gallai llawer ohonynt eu hwynebu. Golyga hyn eu bod mewn sefyllfa unigryw i'w helpu i ddeall a gweithio drwy'r heriau hyn fel rhan o'u taith ddatblygiadol.
Gan edrych ar addysg ffurfiol ac anffurfiol, gwyddom hefyd y gall presenoldeb yn yr ysgol ategu ffactorau diogelu cymdeithasol allweddol yn erbyn digartrefedd, drwy feithrin gwydnwch, sgiliau cymdeithasol a pherthnasoedd cymdeithasol cadarnhaol. Gwyddom hefyd fod gwaith ieuenctid yn allweddol i ddarparu'r ffactorau amddiffynnol hyn, gan ei fod yn ymestyn y tu hwnt i gatiau'r ysgol ac i’r gymuned ehangach. Am yr holl resymau hyn, rydym wedi buddsoddi o'r gyllideb atal digartrefedd i adeiladu ar y sylfeini cadarn lle mae gennym allu profedig i sicrhau newid.
Felly, wrth wneud hynny, rydym wedi darparu £3.7 miliwn y flwyddyn ers 2019-20 ar gyfer y grant cymorth ieuenctid, fel rhan o'r buddsoddiad ehangach mewn atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a hynny er mwyn buddsoddi mewn gwaith ieuenctid, ymgysylltu a chynnydd, yn ogystal â chymorth iechyd meddwl a lles i bobl ifanc, sydd mor hanfodol i'w helpu i ffynnu. Gyda’r cyllid hwn, rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid awdurdod lleol i sicrhau bod cydgysylltydd digartrefedd ymhlith pobl ifanc ar waith yng ngwasanaeth ieuenctid pob awdurdod lleol yng Nghymru, ac wedi cryfhau’r ffordd rydym yn nodi ac yn cefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o wynebu digartrefedd o'r cyfle cyntaf. Mae’r camau gweithredu hyn wedi codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc a sut i ymateb iddo, ac wedi gwella’r broses o gydgysylltu gwasanaethau, fel bod y bylchau rhyngddynt yn cael eu lleihau a bod pobl ifanc yn elwa o gynnig cymorth mwy di-dor.
Rydym wedi parhau i weithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc bellach wedi’i wreiddio yn y fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid ar ei newydd wedd, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ar y pryd mai ein hymrwymiad yw parhau i ddatblygu, addasu a buddsoddi yn y dulliau a’r systemau sydd gennym eisoes, a dyna pam y gwnaethom gyhoeddi canllawiau pellach ym mis Tachwedd 2023, i ganolbwyntio ar nodi'n gynnar y rheini sydd mewn perygl o fod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, neu o fod yn ddigartref. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, rydym wedi dangos ymrwymiad parhaus i gyd-adeiladu a chydweithio, gan weithio’n agos gyda’r sector ac End Youth Homelessness Cymru, y mae swyddogion yn cyfarfod â nhw'n rheolaidd.
Yn ogystal â'r gwaith ataliol cynnar gydag addysg a gwasanaethau ieuenctid, mae hefyd wedi bod yn braf gweld nifer y prosiectau sydd wedi datblygu dros y pum mlynedd diwethaf fel rhan o'r gronfa arloesi ar gyfer pobl ifanc ddigartref. Drwy ein buddsoddiad o £3.3 miliwn, mae gennym dros 20 o brosiectau sy’n darparu dulliau newydd ac arloesol o ddarparu tai a chymorth i bobl ifanc ledled Cymru, ac mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’n buddsoddiad yn y gronfa hon. Mae'r prosiectau hyn yn benodol ar gyfer pobl ifanc agored i niwed rhwng 16 a 25 oed sydd mewn perygl o wynebu digartrefedd neu sy'n ddigartref ar hyn o bryd. Byddai’n esgeulus imi beidio â sôn ar y pwynt hwn am brosiect gwych Tŷ Pride yn y Rhyl, yr ymwelais ag ef yn weddol ddiweddar, a gwnaeth y staff yno argraff fawr arnaf, fel y gwnaeth gwydnwch a phenderfynoldeb y bobl ifanc sy’n byw yno. Fel rhan o’r gwaith hwn, o ran y prosiectau, mae pedwar prosiect Tai yn Gyntaf i Ieuenctid ar waith ar draws pum awdurdod lleol yng Nghymru. Yn seiliedig ar ganlyniadau llwyddiannus y model tai yn gyntaf, rydym wedi addasu’r dull hwn i ganolbwyntio ar anghenion penodol pobl ifanc, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i’w cynorthwyo ar eu taith tuag at fyw’n annibynnol.
Fel Llywodraeth, rydym yn deall bod rhoi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn bryder i bawb sy’n ymwneud â bywydau pobl ifanc. Felly, hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymdrechu i wneud gwahaniaeth ac am eu hymroddiad a'u gwaith caled yn newid bywydau pobl ifanc a rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol. Ac unwaith eto, diolch i Luke Fletcher am gyflwyno'r ddadl hon heddiw.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet a diolch, bawb, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Mwynhewch y toriad, bawb. Edrychaf ymlaen at weld pob un ohonoch chi nôl yn siriol ac yn llon, yn hapus a chyda gwên ar eich wynebau, ym mis Medi.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.