Y Cyfarfod Llawn

Plenary

04/06/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni gychwyn, licen i hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar ddydd Llun 3 Mehefin. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths. 

Datblygiad Economaidd

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu datblygiad economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ61219

Diolch am y cwestiwn. Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd i gynyddu ffyniant economaidd. Mae ein fframwaith economaidd rhanbarthol ar gyfer y de-ddwyrain wedi nodi bod datblygu clystyrau twf allweddol yn flaenoriaeth, ochr yn ochr â'n buddsoddiad mewn seilwaith sy'n cefnogi'r genhadaeth economaidd.

Rydyn ni yng nghanol etholiad cyffredinol hanfodol bwysig ar gyfer dyfodol Cymru a'r DU yn ei chyfanrwydd. Byddai adroddiad Gordon Brown ar gael i Lywodraeth Lafur y DU newydd, gan gydnabod anghydraddoldebau rhanbarthol y DU, a darparu buddsoddiad mawr i Gymru mewn seilwaith, ynni adnewyddadwy a chlystyrau yn ne-ddwyrain Cymru, fel seiberddiogelwch a'r diwydiant lled-ddargludyddion, yn ogystal â hwyluso'r broses o drosglwyddo i ddur gwyrdd. Am gyferbyniad i Gymru yn cael sawl miliwn o bunnoedd yn annigonol gan y Torïaid wrth beidio â chyflawni eu haddewid i ddisodli cymorth economaidd yr UE i Gymru fesul punt, ac ymrwymo nawr i gyflwyno gwasanaeth cenedlaethol hen ffasiwn ar gyfer ein pobl ifanc, y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn amcangyfrif fyddai'n gadael Cymru £275 miliwn yn waeth ei byd, wrth gymryd arian o'r cynllun ffyniant cyffredin honedig gwerth £1.5 biliwn, a glustnodwyd yn wreiddiol, wrth gwrs, i ddisodli cymorth economaidd yr UE. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, am gyferbyniad llwyr yw hyn rhwng polisi atchweliadol hwnnw Torïaid y DU a gwarant i bobl ifanc Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed, gan ddarparu cymorth ar gyfer lle mewn addysg, hyfforddiant, gwaith neu hunangyflogaeth?

Iawn, mae hyn funud a hanner i mewn i'r darllediad gwleidyddol pleidiol hwn bellach. Rwy'n siŵr nad chi fydd yr unig un sy'n rhoi cynnig ar hyn dros yr wythnosau nesaf, a bydd yn dod o bob cyfeiriad, rwy'n siŵr. Ond os gallwn ni ganiatáu i'r Prif Weinidog ddod o hyd i'r cwestiwn yn y fan yna ac ateb. 

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n cytuno nad oedd y model gwasanaeth cenedlaethol a gynigiwyd fel sioc gan Rishi Sunak yn sioc i bobl ifanc yn unig, ond yn sioc i lawer o ASau Ceidwadol ac yn wir, Gweinidogion—gimig anobeithiol ar ddechrau etholiad cyffredinol hollbwysig i Gymru a Phrydain. Ac mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y cyferbyniad rhwng hynny a'r hyn yr ydym ni wedi dewis ei wneud gyda'r gwarant i bobl ifanc—buddsoddiad hirdymor yn nyfodol pobl ifanc a'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i oroesi a ffynnu yn y byd yr ydym ni'n ceisio ei greu. Mae'n gyferbyniad uniongyrchol i'r Torïaid yn cymryd arian a phwerau oddi wrth Cymru—mae £275 miliwn fel isafswm bob blwyddyn yn cael ei golli i Gymru oherwydd y gronfa ffyniant gyffredin y mae'r Torïaid yn cynnig ei gyfrannu bellach at fodel gwasanaeth cenedlaethol nad oes neb yn credu sy'n mynd i weithio na chynnig dyfodol i bobl ifanc mewn gwirionedd. Dyna record y Torïaid. Rwy'n credu y bydd pobl yn gwneud dewis pendant ar 4 Gorffennaf. Edrychwch ar yr hyn y maen nhw wedi ei wneud i Gymru. Edrychwch ar yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig. Pwy ar y ddaear fyddai eisiau sefyll gyda'r Torïaid pan ddaw i 4 neu 5 Gorffennaf? Edrychaf ymlaen at ddyfarniad pobl Cymru.

Prif Weinidog, gadewch i ni ddod â pethau yn ôl i Gymru nawr. Rydym ni yn Senedd Cymru; gadewch i Lywodraeth y DU ganolbwyntio ar eu pethau eu hunain. Nawr, Prif Weinidog, mae busnesau yng Nghymru yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri rhyddhad ardrethi busnes. Mae cam Gweinidogion Llafur i leihau'r rhyddhad o 75 y cant i 40 y cant bellach yn golygu y bydd busnesau sydd â gwerth ardrethol o £15,000 yn cael eu gadael â bil ardrethi o bron i £8,500. Nid dim ond cwpl o geiniogau neu bunnoedd yw hyn, Prif Weinidog; rydym ni'n sôn am ddisgwyl i fusnesau ddod o hyd i filoedd o bunnoedd. Yn ddiweddar, disgrifiodd Rachel Reeves, Canghellor gwrthblaid Llafur y DU, eich plaid fel plaid naturiol busnesau Prydain a dywedodd eich bod o blaid gweithiwr ac o blaid busnes. Nid yw hynny'n wir, onid yw, Prif Weinidog, o dan Lafur, oherwydd yma yng Nghymru mae gennym ni'r ardrethu busnes uchaf ym Mhrydain Fawr, cyfraddau goroesi busnesau eithriadol o isel, yr ail dwf i wrth ychwanegol gros ers 1999 o wledydd y DU, a'r lefelau anweithgarwch economaidd uchaf o'r pedair gwlad. Felly, a ydych chi'n credu y dylai Llywodraeth Cymru roi'r gorau o'r diwedd i gosbi busnesau sy'n gweithio'n galed a dechrau eu helpu nhw i ffynnu? Ac onid ydych chi'n credu y byddai ailgyflwyno'r cymorth rhyddhad ardrethi o 75 y cant yn lle da i ddechrau? Diolch.

13:35

Rwy'n cytuno nad ydym ni'n sôn am ychydig geiniogau neu bunnoedd yn unig; rydym ni'n sôn am dros £1 biliwn a gollwyd i Gymru oherwydd bod y Torïaid wedi torri eu haddewid maniffesto i ddisodli cyllid yr UE yn llawn. Rwy'n cofio Andrew R.T. Davies yn dweud dro ar ôl tro na fyddai Cymru'n colli'r un geiniog. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi colli mwy nag £1 biliwn, ac ar ben hynny, mae ein cyllideb werth £700 miliwn yn llai mewn termau real na dim ond tair blynedd yn ôl. Dyna record y Torïaid. Dyna mae'r Torïaid wedi ei wneud i Gymru. Rwy'n falch ein bod ni o blaid gweithwyr ac o blaid busnes. [Torri ar draws.] Rwy'n edrych ymlaen at gario ein neges i gymunedau a cherrig drws ledled y wlad. [Torri ar draws.] Rwyf i eisiau dechrau newydd i Gymru—

Allaf i ddim clywed y Prif Weinidog. A allwn ni gael ychydig o dawelwch os gwelwch yn dda?

—droi'r dudalen ar 14 o flynyddoedd Torïaidd anobeithiol.

Cymorth i Fusnesau yng Nghaerffili

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghaerffili? OQ61210

Diolch am y cwestiwn. Ein gwasanaeth Busnes Cymru ddylai fod y man galw cyntaf i unrhyw fusnes yn ardal Caerffili sydd angen cymorth. Ers 2016, mae wedi cefnogi creu dros 1,400 o swyddi, 283 o fusnesau newydd sbon, ac wedi darparu cymorth i dros 1,800 o unigolion a busnesau yng Nghaerffili.

Roeddwn i'n darllen y diwrnod o'r blaen am y gronfa diogelu at y dyfodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyno. A all ef roi mwy o fanylion i ni am sut y bydd hynny o fudd i fusnesau mewn meysydd fel y sectorau manwerthu a hamdden yng Nghaerffili, Ystrad Mynach a Bargod yn fy etholaeth i?

Diolch am y cwestiwn. Lansiwyd y gronfa diogelu at y dyfodol gan Ysgrifennydd yr economi ar 20 Mai. Mae'n gronfa gwerth £20 miliwn i ddarparu cymorth ariannol dewisol i ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig eu maint yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden. Ei fwriad yw helpu i fuddsoddi mewn mesurau i'w helpu i leihau eu costau rhedeg, ac i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld y ceisiadau a fydd yn dod i mewn ar gyfer y gwahanol fusnesau yr ydym ni eisiau gallu eu cefnogi. Mae'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud wrth fuddsoddi yn nyfodol ein heconomi, yn y swyddi sydd eu hangen ar ein cymunedau a'n gweithwyr lleol. Rwyf i eisiau gweld mwy o ddulliau yn ein harfogaeth i wneud hynny, nid ymladd yn daer yn erbyn ymgais fwriadol i gymryd arian a phwerau oddi wrth y Llywodraeth hon a'r Senedd hon. Rwy'n disgwyl y bydd mwy y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd, gydag awdurdodau lleol, gyda busnesau, os byddwch yn gweld dechrau newydd ar 4 Gorffennaf. Ond byddwn yn parhau i wneud yr hyn y dylem ni ei wneud, gyda'r pwerau sydd gennym ni, gyda'r arian sydd gennym ni, i wneud y dewisiadau cadarnhaol hynny i gefnogi busnesau yng Nghaerffili a thu hwnt.

Fel y mae fy nghyd-Aelod eisoes wedi ei ddweud, rydym ni bellach yn gweld busnesau Cymru yn wynebu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain. Yn sicr, nid chi yw'r blaid i fusnesau bach. Mae'r busnesau hyn, yn enwedig yn ein rhanbarth ni, wedi bod angen cymorth yn daer, a'r hyn y mae etholwyr wedi bod yn ei ddweud wrthym ni i gyd ers misoedd yw y bydd y cynnydd hwn i ardrethi busnes yn achosi i fusnesau gau neu symud i Loegr hyd yn oed. Mae hyn yn amlwg yn niweidiol i'r economi ac mae'n enghraifft o'r Llywodraeth hon yng Nghymru ddim yn cefnogi pobl ifanc, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, nac unrhyw bobl o gwbl. Fel yr ydym ni'n ei wybod ar y meinciau hyn, ni allwch drethu economi i ffyniant. Mae'n ymwneud â dewisiadau, Prif Weinidog. A'r hyn sy'n fy mhoeni i fwy fyth yw bod Keir Starmer bellach yn dweud mai Cymru yw ei gynllun ar gyfer gweddill y DU. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni sut mae'r Llywodraeth hon, a phryd mae'r Llywodraeth hon, mewn gwirionedd yn bwriadu helpu busnesau yn fy rhanbarth i a thu hwnt, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gweddill y DU, yn hytrach na'u trethu allan o fusnes?

Wel, mae'n beth rhyfeddol i gynrychiolydd Ceidwadol sefyll ar ei thraed a siarad am drethi. Mae gennym ni'r baich treth uchaf mewn cyfnod o heddwch, o dan y Llywodraeth Geidwadol hon yn y DU—y baich treth uchaf mewn cyfnod o heddwch. Mae gennym ni'r ail dwf isaf o unrhyw wlad G7 dros y flwyddyn ddiwethaf—y cwbl o dan oruchwyliaeth y Torïaid. Ac maen nhw'n dweud nawr mai nhw yw plaid busnes a phlaid yr economi. Wel, bydd pobl yn gwneud dyfarniad ar hynny ar 4 Gorffennaf, ac edrychaf ymlaen at y dyfarniad hwnnw. Rydym ni'n ymdrin â gostyngiad bwriadol i'n cyllideb—£700 miliwn mewn termau real—a'r cymryd arian a phwerau bwriadol o fwy na £1 biliwn o arian y dylai'r Senedd hon a'r Llywodraeth hon fod wedi ei derbyn, i'w fuddsoddi yn nyfodol hirdymor ein heconomi. Gwnaed yr holl ddewisiadau hynny gan Lywodraeth Geidwadol y DU, gyda chefnogwyr brwd yn y lle hwn. Ni chododd yr un Ceidwadwr Cymreig eu llais yn erbyn cymryd arian a phwerau oddi wrth Gymru. Rwy'n hyderus y byddwn ni'n gwneud dadl gadarnhaol i bobl yng Nghymru yn yr etholiad hwn, ar gyfer ein dyfodol. Ac rwy'n dweud eto, pwy ar y ddaear fyddai eisiau sefyll gyda'r Torïaid yn yr hyn sydd i ddod ar ôl yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud i Gymru?

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe, darlledodd y BBC raglen o'r enw A Big Stink. Roedd yn rhaid i chi deimlo cydymdeimlad ac empathi tuag at bobl druan Withyhedge sy'n dioddef yr arogleuon sy'n dod o'r domen honno. Fe wnaethoch chi gymryd £200,000 fel rhodd arweinyddiaeth gan y cwmni hwnnw. Fe wnaethom ni ddarganfod o'r rhaglen ddoe bod ymchwiliad troseddol i'r cwmni hwnnw. A allwch chi gadarnhau pryd yr oeddech chi'n gwybod bod y cwmni hwnnw yn destun ymchwiliad troseddol?

Wel, wrth gwrs, rwy'n cydymdeimlo ag unrhyw un sydd wedi'i effeithio yn uniongyrchol gan y materion a godwyd yn y rhaglen ynghylch gweithredu'r safle. Bydd yr Aelod yn gwybod, ac rwy'n tynnu sylw eto at fy nghofrestr buddiannau, ond, mewn gwirionedd, mae hwn yn faes lle byddai'n gwbl anghywir neu'n amhriodol i mi wybod am yr ymchwiliad yr adroddodd y BBC amdano. Dyna pryd roeddwn i'n ymwybodol ohono gyntaf—pan adroddwyd arno. Naill ai yn fy swyddogaeth fel yr Aelod etholaeth dros Dde Caerdydd a Phenarth neu, yn wir, yn fy swyddogaeth fel Gweinidog o fewn y Llywodraeth, ni fyddai'n briodol i mi gael fy hysbysu am unrhyw fath o ymchwiliad sy'n cael ei gynnal i weithrediad y safle yn sir Benfro. Sut allwn i wybod am yr ymchwiliad a oedd yn cael ei gynnal? Ac ni ddylwn i wybod. Dyna'r pwynt. Mae angen i bwy bynnag sy'n cynnal yr ymchwiliad allu cynnal yr ymchwiliad heb ofn na ffafr a dod i beth bynnag yw'r canlyniad cywir i weld y gwelliant y gellid ac y dylid ei wneud.

Felly, rwy'n cymryd o'ch ateb nad oeddech chi'n gwybod tan i'r pwynt gael ei wneud i chi gan y BBC yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu fy mod i'n casglu hynny o'ch ateb. Felly, mae hynny'n arwain at y pwynt lle'r ydych chi wedi dweud y cyflawnwyd diwydrwydd dyladwy ar bob rhoddwr i'ch ymgyrch. Pa ddiwydrwydd dyladwy a wnaed mewn gwirionedd, o ystyried eich bod chi wedi derbyn y rhodd wleidyddol fwyaf yn hanes gwleidyddol Cymru? Anghofiwch am y rhoddion eraill, ond, ar y rhodd benodol hon o £200,000—o gofio eich bod chi wedi dweud nad oeddech chi'n gwybod bod yr ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal tan, rwy'n tybio, yr wythnos diwethaf, oherwydd dyna pryd y gwnaeth y BBC eich holi amdano—pa ddiwydrwydd dyladwy oeddech chi a'ch tîm yn ei gyflawni, fel y byddai unrhyw berson rhesymol yn disgwyl iddo fod wedi cael ei gyflawni ar rodd o'r maint hwnnw?

Wel, wrth gwrs, fe wnaethom ni gyflawni'r holl ddiwydrwydd dyladwy yr oedd yn ofynnol i ni ei gyflawni. Dyna'n union beth ddigwyddodd. Eto, doedd hyd yn oed rhaglen y BBC ddim yn gallu dod o hyd i achos lle'r oedd unrhyw un o'r rheolau wedi cael eu torri. Felly, rydym ni wedi ymrwymo i ddiwydrwydd dyladwy. Eto, rwy'n dychwelyd at y pwynt sy'n cael ei wneud: byddai'n anghywir ac yn amhriodol i mi wybod am ymchwiliad, pa un a yw'n cael ei gynnal gan reoleiddiwr neu unrhyw awdurdod arall â'r gallu i ddwyn achos troseddol. Ni fyddai unrhyw sail i mi gael fy hysbysu, ac ni ddylwn gael fy hysbysu am hynny. Dyna'r pwynt. Nid wyf i'n credu bod llawer o sail resymol i berson rhesymol fynd drosti. Rwyf i wedi ateb y cwestiynau hyn dro ar ôl tro, a byddaf yn parhau i ymateb yn onest ac yn ddidwyll dro ar ôl tro. Dylwn hefyd gywiro'r Aelod, gan y gwnaed y rhodd wleidyddol fwyaf yn hanes gwleidyddol Cymru i Blaid Cymru mewn gwirionedd.

Nid ar sail unigol, Prif Weinidog. Roedd y rhodd unigol fwyaf i'ch ymgyrch arweinyddiaeth chi fel unigolyn. Rydych chi wedi derbyn £200,000. Nawr, nid yw'n afresymol tybio y cyflawnwyd diwydrwydd dyladwy o ystyried y gwnaed cyfraniad mor fawr gan y gŵr busnes hwn. Roeddech chi'n gwybod bod gan y gŵr busnes hwn ddwy euogfarn droseddol yn ei erbyn—perchennog y cwmni hwn—ac eto nid oeddech chi'n barod i ofyn y cwestiynau treiddgar; roeddech chi'n barod i fancio'r arian a rhedeg. Dyna hyd a lled y mater. Mae pleidlais o hyder ynoch chi yma yfory, Prif Weinidog. A ydych chi'n mynd i ennill?

Eto, rwy'n dychwelyd at atgoffa'r Aelod fy mod i, ar bob achlysur, wedi ateb yn onest ac yn ddidwyll am yr hyn a ddigwyddodd, am y diwydrwydd dyladwy a oedd yn angenrheidiol ac, yn wir, y ffaith nad oes unrhyw reolau wedi'u torri, nad yw cod y gweinidogion wedi cael ei dorri. Ac rydym ni'n dychwelyd at—. Ac rwy'n deall pam mae'r Ceidwadwyr wedi cyflwyno cynnig yfory—pleidlais nad yw'n rhwymol, ond pleidlais, serch hynny, yn y Senedd hon. Mae dull ffurfiol ar gael. Rwy'n deall pam mae'r Aelod yn cyflwyno'r bleidlais. Rwy'n deall, ar yr adeg hon, pan fo pobl yn gwneud dewisiadau, pam nad yw eisiau siarad am record ei blaid. Rwy'n deall y pwyntiau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â chrebwyll. Rwy'n deall yr hyn y mae hynny'n ei olygu a sut mae'n edrych. Edrychwch ar y dyfarniadau yr wyf i wedi eu gwneud a chymharwch nhw. Edrychwch ar y dyfarniadau yr wyf i wedi eu gwneud ar brofi ac olrhain. Edrychwch ar y dyfarniadau yr wyf i wedi eu gwneud ar gyfarpar diogelu personol yn ystod y pandemig, heb unrhyw lôn VIP lygredig yng Nghymru o dan fy ngoruchwyliaeth i. Edrychwch ar y dyfarniadau y mae ef wedi eu gwneud: amddiffyn Boris Johnson i'r carn, cefnogi Liz Truss i'r carn. Pan wnaeth ei haraith i gynhadledd y Ceidwadwyr, ei ymateb oedd, 'Mae honna'n araith wych'. Gofynnwch i ddeiliaid morgeisi beth yw eu barn amdani, gofynnwch i bobl â buddsoddiad busnes beth yw eu barn amdani. Os ydych chi eisiau trafod yr hyn sy'n mynd i ddigwydd o ran dyfarniad pobl, rwy'n gyffyrddus iawn yn cael unrhyw gymhariaeth rhwng y ddau ohonom ni.

Rwy'n hyderus am yfory. Edrychaf ymlaen at y ddadl, y byddaf yn ei mynychu. Gallwn, a dylwn, yn fy marn i, fod wedi bod yn rhywle arall, ond byddaf yn y Senedd hon i ymateb i'r ddadl. Ac rwy'n dweud eto, gyda record y Ceidwadwyr o'r hyn yr ydych chi wedi ei wneud i Gymru, pwy ar y ddaear fyddai'n barod i sefyll gyda chi? Nid wyf i'n credu y bydd pobl Cymru yn sefyll gyda chi pan ddaw i 4 Gorffennaf.

13:45

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Efallai bod y Prif Weinidog wedi nodi ei agwedd tuag at y bleidlais o ddiffyg hyder wrth ddweud nad yw'n rhwymol, ond rwy'n credu y dylem ni ei chymryd o ddifrif. Mae'n beth prin i'r Senedd gynnal pleidleisiau o ddiffyg hyder, yn enwedig yn y Prif Weinidog, ac felly dylai fod. Er efallai na fyddwn ni yn y gwrthbleidiau yn cytuno â Gweinidogion ar bolisi, rydym ni'n parchu canlyniad etholiadau democrataidd. Ond, yn yr achos hwn, mae swydd y Prif Weinidog wedi cael ei thanseilio i'r fath raddau fel nad oes gen i unrhyw amheuaeth bod pobl Cymru wedi colli hyder ynddo. Ceir dicter gwirioneddol. Mae ei dderbyniad o rodd o £200,000 gan lygrwr a gafwyd yn euog wedi erydu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, ac rydym ni'n ei weld ar feinciau Llafur eu hunain, hyd yn oed. Cymaint yw lefel y pryder, yr adroddwyd ddoe bod ffigwr uwch o fewn y Blaid Lafur wedi cynnig rhoi benthyg £200,000 i'r Prif Weinidog fel y gallai ad-dalu'r rhodd. O ystyried y gallai rhywfaint o edifeirwch fod wedi dangos mewn gwirionedd ei fod yn deall dicter y cyhoedd, pam ar y ddaear wnaeth y Prif Weinidog wrthod y cynnig hwnnw? 

Fel yr wyf i wedi dweud yn glir o'r blaen, nid oes gen i £200,000 i ad-dalu unrhyw un. Nid wyf i'n siŵr a oes gan yr Aelod fynediad at yr arian parod hwnnw; does gen i ddim, yn sicr. Wedi dilyn y rheolau ar gyfer rhoddion ac wedi dilyn cod y gweinidogion hefyd—. Ac rwy'n deall bod yr Aelod eisiau gwneud dadl arall, waeth am unrhyw dorri rheolau, y dylwn i serch hynny ddioddef y pris eithaf mewn termau gwleidyddol. Ac rwy'n dweud wrth yr Aelod, nid yw'r syniad nad yw pleidleisiau o ddiffyg hyder yn gyffredin yn cael ei gadarnhau gan unrhyw archwiliad arwynebol o'r cofnod. Bu tair pleidlais o ddiffyg hyder yn nhymor y Senedd hon. Mae pob Gweinidog iechyd wedi wynebu pleidlais o ddiffyg hyder ar ryw adeg. Felly, mae hyn yn rhan annatod o'r hyn sy'n digwydd. Edrychaf ymlaen at ymateb i'r ddadl yfory a nodi'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud, yr hyn yr ydym ni'n parhau i'w wneud: yr ymrwymiad parhaus, di-derfyn i wella ein gwlad, y rheswm pam mae'r bleidlais ar 4 Gorffennaf yn bwysig i'r lle hwn ac i'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu. Edrychaf ymlaen at barhau i wneud fy nyletswydd fel Prif Weinidog Cymru. Edrychaf ymlaen at arwain Llywodraeth sydd eisiau gweddnewid bywydau cymunedau ym mhob rhan o'n gwlad, ac a fydd yn gwneud hynny. Dyna pam rydym ni yma. 

Efallai y gall y Prif Weinidog egluro pa un a yw hynny'n golygu ei fod yn bwriadu parhau beth bynnag fo canlyniad y bleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd yfory. Ond, unwaith eto, dim edifeirwch, dim cydnabyddiaeth leiaf gan y Prif Weinidog bod ei weithredoedd wedi dangos crebwyll difrifol wael. Mae hyn hyd yn oed yn fwy syfrdanol o gofio ein bod ni wedi darganfod ddoe bod cwmni a roddodd i ymgyrch y Prif Weinidog yn destun ymchwiliad troseddol ar yr adeg y gwnaed rhodd. Rydym ni'n dychwelyd, onid ydym, at y mater hwn o ddiwydrwydd dyladwy a pham ar y ddaear y gallai'r Prif Weinidog fod wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa lle'r oedd o dan gymaint o fygythiad. Gadewch i mi ofyn hyn: pe bai'n cael y cyfle eto, a fyddai'n cymryd agwedd wahanol tuag at ddiwydrwydd dyladwy, neu a fyddai'n blaenoriaethu eto ei gronfa ryfel arweinyddiaeth dros yr hyn a oedd yn gywir a phriodol?  

Eto, mae'r Aelod wedi gofyn cwestiwn damcaniaethol i mi am y gorffennol. Dychwelaf at yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen. Byddai'n anghywir ac yn amhriodol i mi fod wedi gwybod bod unrhyw ymchwiliad ar yr adeg y dechreuodd yr ymchwiliad hwnnw. A allwch chi ddychmygu pe bawn i wedi cael fy hysbysu am yr ymchwiliadau hynny, boed hynny gan y rheoleiddiwr, gan yr heddlu neu unrhyw awdurdod arall a allai gynnal ymchwiliad a allai arwain at gosb droseddol? Ni allaf ateb cwestiynau am ymchwiliad nad wyf i'n ymwybodol ohono. Ni allwch chi gyflawni diwydrwydd dyladwy ar faterion nad ydych chi'n ymwybodol ohonyn nhw. Yr hyn yr wyf i'n canolbwyntio arno yw gallu troi tudalen newydd i Gymru ar 4 Gorffennaf a'r bartneriaeth yr wyf i'n credu ddylai ddigwydd. Os edrychwch ar ein cymunedau a'r heriau sy'n ein hwynebu, ar garreg y drws, yr argyfwng costau byw yw'r prif fater, ac, yn fwy na hynny, yr holl faterion y mae'n eu ysgogi: realiti ein cyllideb, y ffaith ein bod ni wedi colli £700 miliwn mewn termau real, yr hyn y mae hynny'n ei wneud i allu ariannu'r GIG a'r gwasanaethau cyhoeddus yn iawn, i gefnogi'r economi. Dyna'r pethau sy'n fy ysgogi i mewn bywyd cyhoeddus. Dyna'r pethau sy'n sail i'n hymgyrch dros yr wythnosau nesaf ac, yn fwy na hynny, sut mae'r Llywodraeth yr wyf i'n ei harwain eisiau newid Cymru er gwell.

13:50

Wrth gwrs, roedd y Prif Weinidog yn gwybod am yr euogfarnau a roddwyd eisoes i'r unigolyn a oedd wedi rhoi'r £200,000. Mae bron i bythefnos bellach ers i Rishi Sunak edrych tua'r nefoedd yn Downing Street a dymuno y byddai ganddo ymbarél, ond yma yng Nghymru, edrychwch i fyny a'r hyn yr ydym ni'n ei weld yw parasiwtiau ymgeiswyr Llafur a orfodwyd gan bencadlys Llafur yn Llundain. Wrth i nifer yr ASau gael ei thorri yng Nghymru o 40 i 32 yn yr etholiad hwn, ni allwn fforddio, ni all y Senedd fforddio, ni all Llywodraeth Cymru fforddio i'n llais gael ei wanhau ymhellach drwy gael ymgeiswyr neu ASau nad ydyn nhw wedi dangos unrhyw ddiddordeb o gwbl yn y gorffennol mewn mynd ar drywydd yr hyn sy'n iawn i Gymru—materion cyllid teg, er enghraifft. Mae glanio parasiwtiau mewn mannau fel Gorllewin Caerdydd a Gorllewin Abertawe yn niweidiol i ddemocratiaeth Cymru, mae'n dangos diystyrwch llwyr o Gymru, ac o safbwyntiau a lleisiau, a dweud y gwir, Aelodau Llafur lleol, sydd, yn ddealladwy, yn gandryll gydag arweinyddiaeth plaid y DU. Efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym ni a wnaeth ef gymeradwyo dewis yr ymgeiswyr hynny dros ddewisiadau lleol amgen. Ac o ystyried bod Keir Starmer yn amlwg ddim yn fodlon ymddiheuro i aelodau Llafur lleol, nac i bobl Cymru yn ei chyfanrwydd, a wnaiff y Prif Weinidog wneud hynny ar ei ran?

Rwy'n gweld unwaith eto bod gan arweinydd Plaid Cymru obsesiwn gyda democratiaeth fewnol y Blaid Lafur. O ran ymgeiswyr sydd wedi'u cymeradwyo i sefyll, yn y ddau achos diweddar, roedd panel ar y cyd o aelodau lleol ac aelodau etholedig o weithrediaeth Cymru. Mae angen nawr i'r ymgeiswyr hynny fynd allan a gweithio ochr yn ochr ag aelodau lleol ac, yn fwy na hynny, ar eich pwynt am ddemocratiaeth Cymru, mae angen iddyn nhw berswadio pleidleiswyr Cymru mai nhw yw'r person iawn i sefyll dros eu cymunedau lleol o fewn Senedd y DU. Mae'n Senedd y DU a fydd â gwaith aruthrol o'i blaen ar ôl 14 mlynedd o anhrefn Torïaidd, 14 mlynedd lle nad wyf i'n credu bod teuluoedd yn well eu byd, a'r pedair blynedd a hanner anhrefnus diwethaf, gyda'r hyn y mae hynny wedi ei olygu i ac ar gyfer Cymru. Rwy'n credu bod angen dechrau newydd arnom ni, a dyna'r ddadl y byddwn ni'n ei gwneud. Os edrychwch chi nid yn unig ar yr argyfwng costau byw, nid yn unig y ffordd y mae arian a phwerau wedi cael eu dwyn oddi wrthym ni yn y Senedd hon, ofn a rhaniadau rhyfeloedd diwylliant, y methiant o ran yr economi, mae'r ffaith bod dewisiadau bwriadol a wnaed yn Senedd y DU bellach yn golygu bod mwy o blant yn tyfu i fyny yn dlawd yng Nghymru na phan ddaeth y blaid hon ar draws y DU i'r Llywodraeth gyntaf, dyna'r pethau yr wyf i'n credu fydd yn gyrru pobl i'r blwch pleidleisio i wneud eu dewisiadau ar bob ymgeisydd Llafur yr ydym ni'n ei gynnig. Rwy'n falch o sefyll ar ochr Llafur Cymru a chynnig Llafur mewn etholiad ar lefel y DU. Rwy'n credu na ddylai'r un ohonom ni sy'n credu mewn gwleidyddiaeth flaengar sefyll gyda'r Torïaid. Rwy'n gwneud y rhaniad hwnnw yn eglur iawn am yr hyn nad wyf i o'i blaid a'r hyn rwy'n credu ddylai ddigwydd gydag ac ar gyfer pobl y wlad rwy'n falch o'i harwain.

Mae cwestiwn 3 [OQ61184] gan Jack Sargeant wedi cael ei dynnu'n ôl, am y rheswm gorau posibl am dynnu cwestiwn yn ôl. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn croesawu Noa Sargeant bach i'r byd hwn. Croeso, Noa.

Economi Gogledd Cymru

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu economi gogledd Cymru? OQ61188

Rwy'n gobeithio y bydd economi'r gogledd yn cael hwb gan ddyfodiad Noa Sargeant, ond mae ein cynllun ar gyfer hybu economi Cymru wedi'i nodi yn ein cenhadaeth economaidd, sef sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i economi werdd, llwyfan i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant, gyda phartneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach, yr economi bob dydd rydym ni'n ei mwynhau, a buddsoddi ar gyfer twf.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod y gogledd wedi cael cryn sylw, buddsoddiad a chefnogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan Lywodraeth Geidwadol y DU, sy'n trawsnewid rhagolygon economaidd y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, gyda phorthladd rhydd newydd yn Ynys Môn yn creu swyddi hirdymor o ansawdd uchel, gan ddenu gwerth tua £1.4 biliwn o fuddsoddiad; galluogi pwerdy niwclear yn Wylfa sy'n rhan allweddol o'n chwyldro niwclear ac a fydd yn creu miloedd o swyddi ar yr ynys; parth buddsoddi newydd yn Wrecsam a sir y Fflint, a fydd yn beiriant ar gyfer twf economaidd pellach a gwella sgiliau a hyfforddiant; ac £1 biliwn wedi'i ymrwymo i uwchraddio a moderneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, a fydd yn gwella cysylltiadau ar draws y gogledd ac i mewn i ogledd-orllewin Lloegr. Mae hyn i gyd yn cael ei wneud yn bosibl gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Pam nad yw Llafur Caerdydd yn dangos yr un ymrwymiad a ffydd i ogledd Cymru?

13:55

Rwy'n edmygu'r Aelod am ddweud hynna i gyd gydag wyneb syth. O ran yr holl feysydd y mae wedi'u nodi, ceir buddsoddiad ar y cyd a gwneud penderfyniadau ar y cyd â Llywodraeth Cymru, wrth gwrs. Rwy'n falch fy mod i wedi mabwysiadu dull pragmatig o weithio gydag amrywiaeth o Weinidogion gwahanol iawn yn olynol ar y porthladd rhydd, ar fargeinion twf, ac ar ddyfodol parthau buddsoddi yn wir. Ac edrychwch ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud: y buddsoddiad yn Llanberis gyda Siemens, gan wneud yn siŵr bod swyddi o ansawdd uchel yng nghefn gwlad Cymru. Meddyliwch am yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud ar Ynys Môn, buddsoddi yn Halen Môn ac eraill—partneriaeth dros gyfnod hir, yn gweithio ochr yn ochr â nhw. Edrychwch ar yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y gogledd-ddwyrain gydag Enfinium a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud yno, gyda mwy o swyddi yn dod yn rhan o'r chwyldro gwyrdd sydd ar garreg ein drws, a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud i fanteisio ar ynni ar y môr.

Gallem ni wneud cymaint mwy gyda Llywodraeth sefydlog a theg ar draws y DU, Llywodraeth a all wneud penderfyniadau. Y rheswm pam nad ydym ni wedi gweld buddsoddiad yn cael ei ddarparu mewn cenhedlaeth newydd o niwclear, boed hynny ar gyfer radioisotopau sydd eu hangen yn daer yn ein gwasanaeth iechyd gwladol neu'n adweithyddion modiwlaidd bach newydd neu'n dechnoleg fwy, yw oherwydd nad yw'r Ceidwadwyr erioed wedi llwyddo i gyflwyno Gweinidog a allai wneud penderfyniad. Oherwydd yr anrhefn yn y Llywodraeth Geidwadol nad yw'r buddsoddiad hwnnw wedi cael ei wneud. A phwy ar y ddaear oedd yn gwybod, pan wnaethon nhw brynu safle Wylfa gan Horizon, pan wnaethon nhw gyhoeddiad ar y diwrnod cyn yr etholiad cyffredinol, y byddai hwnnw'n gimig ar gyfer yr etholiad? Rwyf i eisiau Llywodraeth sydd o ddifrif am fod yn bartner gyda Llywodraeth Cymru a'r gogledd i ddarparu swyddi da o ansawdd uchel yn y chwyldro gwyrdd sydd i ddod.

Nid ydym ni hyd yn oed wedi gweld unrhyw gyllid datblygu ar gyfer y prosiectau hynny y soniwyd amdanyn nhw yn y gogledd eto. Yn ystod y 14 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi gweld Llywodraeth Dorïaidd y DU yn gwneud toriadau termau real dieflig i flociau adeiladu twf economaidd: iechyd, gofal cymdeithasol, tai, cyflogau a chyllidebau awdurdodau lleol. Rydym ni wedi eu gweld nhw'n amddifadu Cymru o'r cyllid sydd ei angen arni, boed hynny drwy gyllidebau cyni cyllidol olynol neu drwy ddal biliynau o gyllid HS2 yn ôl yn fwriadol. Rydym ni wedi eu gweld nhw'n cynllwynio i dynnu arian allan o bocedi pobl trwy daranfollt morgeisi a chwyddiant Liz Truss. Ac rydym ni wedi eu gweld nhw'n rhoi mwy o gyllid ffyniant bro i Canary Wharf yn Llundain na Chymru gyfan gyda'i gilydd eleni. Onid yw'n wir felly, Prif Weinidog, mai'r peth gorau y gallwn ni ei wneud i roi hwb i economi’r gogledd yw pleidleisio i gael gwared ar Lywodraeth Geidwadol y DU ar 4 Gorffennaf?

Rwy'n credu o fewn y cwestiwn bod yr Aelod yn gwneud pwynt penodol sy'n dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am agwedd y Ceidwadwyr tuag at Gymru a pha un a yw ffyniant bro yn ddilys: y ffaith bod Canary Wharf yn Llundain wedi derbyn mwy na Chymru gyfan gyda'i gilydd. Nid yw honno'n Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol yr economi, nid yw'n Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i ffyniant bro gwirioneddol i'r cymunedau sydd angen Llywodraeth ar eu hochr nhw. Ac ni ddylai neb synnu bod y grŵp Ceidwadol hwn yn gymaint o gefnogwyr Liz Truss a'r drychineb a grëwyd ganddi, oherwydd, wrth gwrs, dim ond o dan eu goruchwyliaeth eu hunain, roedd ganddyn nhw gyfres o doriadau treth heb eu hariannu a addawyd ganddyn nhw i bobl Cymru yn 2021. Ni ellir ymddiried yn y grŵp hwn o Dorïaid, ac ni ellir ymddiried yn y criw anobeithiol i lawr y ffordd sydd yn Llywodraeth bresennol y DU chwaith. Edrychaf ymlaen at eu gweld nhw'n cael eu gorfodi i adael yn y blwch pleidleisio a chychwyn newydd i Gymru a Phrydain.

Addysg Gychwynnol Athrawon

5. Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cynllun cymhelliant addysg gychwynnol athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth? OQ61195

Diolch am y cwestiwn.

Cyhoeddwyd sawl adroddiad ymchwil ar ddenu graddedigion i faes addysgu, gan gynnwys defnyddio cymhellion, ers 2019. Mae gwaith rhagarweiniol i werthuso'r cynllun cymhelliant pynciau blaenoriaeth yn benodol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Diolch. Rŷn ni'n gwybod bod yna broblemau mawr gyda ni o ran recriwtio a chadw athrawon ar draws Cymru gyfan. Yn wir, mae negeseuon etholiadol eich plaid eich hun yn cydnabod bod yr argyfwng hwn wedi digwydd o dan eich arweiniad chi, ac mae hyn yn gyfaddefiad sy'n cael ei adlewyrchu yn un o'ch chwe addewid etholiadol. A does dim prinder cyhoeddiadau wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf gan Lywodraeth Cymru yn annog pobl ifanc i feddwl am yrfa fel athrawon neu gynorthwywyr dosbarth, ond a ydyn ni'n gwybod a yw'r ymgyrchoedd hyn wedi bod yn llwyddiannus? 

A allwch chi ddweud wrthyf i, Prif Weinidog, pa un a yw'r cynllun cymhelliant addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer pynciau blaenoriaeth yn gweithio, a sut ydych chi'n gwybod hyn, oherwydd cefais dipyn o sioc yn ddiweddar o ddarganfod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddata i ddarganfod a yw derbynwyr y cymhelliant cyn 2022-23 yn dal i addysgu yng Nghymru, yn addysgu yn rhywle arall neu ddim yn addysgu o gwbl? Nawr, mae hwn yn gynllun sydd wedi bod yn rhedeg, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ers dros ddegawd, gyda miliynau o bunnoedd wedi'u gwario arno, ac nid ydym ni'n gwybod a oes unrhyw un o'i dderbynwyr blaenorol yn dal i fod mewn swyddi addysgu. Nawr, mae hynny'n gwbl syfrdanol i mi. Felly, a allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, y bydd yr esgeulustod rhyfeddol hwn yn cael ei chywiro, ac esbonio i mi sut?

14:00

Rwy'n credu bod un neu ddau o wahanol bethau, i geisio mynd i'r afael â chwestiynau a phwyntiau'r Aelod yn uniongyrchol. Ceir pwynt ynglŷn â sut rydych chi'n cysylltu data ar gyfer pryd mae pobl yn mynd i mewn i'r gweithlu a sut y gallwch chi olrhain ble maen nhw, a sut rydych chi'n gwneud hynny'n llwyddiannus, a deall lle maen nhw wedi cyflawni cymhelliant. Yn wir, cytunwyd ar gymhellion ar gyfer hyfforddiant athrawon ar sail drawsbleidiol yn ystod y rhan fwyaf o oes datganoli, cydnabyddiaeth bod angen i chi gael cymhellion i ddod â phobl i mewn i'r gweithlu athrawon, ac yna yn benodol ar draws amrywiaeth o bynciau. Felly, dyna pam rydym ni'n cynnal gwerthusiad i ddeall yn fwy bwriadol, ar ôl cyfnod o gymhellion, pa mor llwyddiannus fu hynny. Mae angen i ni ddeall hefyd heb y cymhellion hynny, lle byddem ni wedi bod gyda'r gweithlu sydd ei angen arnom i wybod beth mae pob un ohonom ni eisiau ei weld ar gyfer plant a phobl ifanc.

Felly, dyna pam mae'r ymchwil yn bwysig, ond byddwn yn dweud yn y pynciau sydd gennym ni—amrywiaeth o wyddorau, dylunio a thechnoleg, TGCh, mathemateg, ieithoedd tramor modern, ffiseg, Cymraeg ac unrhyw un o'r pynciau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg—rydym ni'n gwybod bod angen mwy o weithlu arnom ni. Mae'n her i addysg cyfrwng Saesneg ac, yn wir, addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr uchelgeisiau yr ydym ni'n eu rhannu. Nawr, i gyrraedd yno, mae'n rhaid i chi ddeall sut rydych chi'n cael athrawon ac yna eu cadw. Mae'n rhannol am y cam cychwynnol am gymhellion, rwy'n credu. Mae hefyd yn rhannol am yr amgylchedd yn yr ystafell ddosbarth. Mae hefyd yn ymwneud yn rhannol â sut maen nhw'n cael eu cefnogi a'r diwygiadau yr ydym ni'n eu gwneud ar newid ein cwricwlwm. Mae llawer o athrawon eisiau dod i Gymru yn gadarnhaol oherwydd y daith yr ydym ni arni, ac mae angen iddo weithio i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd drwy'r 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, ac i fyd addysg.

Felly, byddwn, mi fyddwn yn edrych ar yr ymchwil a'r dystiolaeth sydd yno. Y rhan hanfodol yw: sut ydym ni'n cael y gweithlu sydd ei angen arnom ni i ddeall sut rydym ni'n ei gwneud yn eglur bod bod yn athrawes neu athro yn yrfa wych i wneud gwahaniaeth mawr i'r gymuned yr ydych chi'n byw ynddi ac yn ei gwasanaethu, a'r wlad, a gall fod yn broffesiwn gwerth chweil iawn i unigolion hefyd? Yn anffodus, ymosodwyd ar lawer o rannau o'r proffesiwn addysgu yn rheolaidd gan wahanol weithredwyr, ac mae hynny wedi troi rhai pobl—[Anghlywadwy.]—eisiau bod yn athrawon drwy'r pandemig ac yn syth ar ei ôl. Mae hynny'n gwastadu ychydig, felly mae angen i ni ddeall beth arall y gallwn ni ei wneud i gael yr athrawon o ansawdd uchel sydd eu hangen arnom ni, ac y mae pob un o'n hetholwyr a'u teuluoedd eisiau eu gweld ym myd addysg Cymru. 

Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn siarad llawer am y 14 mlynedd diwethaf. Wel, yn ystod y 14 mlynedd diwethaf yn Lloegr, rydym ni wedi gweld twf enfawr yn y sector addysg yn Lloegr, diolch i ddiwygiadau dan arweiniad y Ceidwadwyr sydd wedi sicrhau'r canlyniadau Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol gorau yn unrhyw le yn y DU yn gyson. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod dilyn yr un trywydd, gan lywyddu dros y sgoriau addysg gwaethaf yn unrhyw le yn y DU ac sy'n gwaethygu.

Nawr, mae'r cynllun cymhelliant pynciau blaenoriaeth addysg gychwynnol athrawon, fel yr amlinellodd y Prif Weinidog, yn cynnwys ffiseg fel proffesiwn y gellir ei addysgu drwyddo. Targedodd Llywodraeth Cymru recriwtio 61 o fyfyrwyr i gwblhau'r rhaglen AGA ar gyfer 2023-24. Hoffech chi wybod faint wnaeth gymhwyso yn 2023-24? Tri. Onid yw'n un wers, Prif Weinidog, y gallwn ni ei dysgu gan Gymru a Llywodraeth Lafur Cymru na allwch chi ymddiried yn Llafur o ran addysg?

Mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r Aelod yn ei nodi yw bod y cymhellion yn rhan o'r ateb, ond nid yr ateb cyfan, ac os ydych chi eisiau trafodaeth ddifrifol am sut rydym ni'n cael y gweithlu sydd ei angen arnom, nid yw'r cyfraniad hwnnw yn eich arwain i'r man lle mae angen i chi fod. Mae angen i chi ddeall yr hyn y mae angen i ni ei wneud i wneud addysgu yn broffesiwn deniadol i bobl eisiau ei astudio, ac yna aros ynddo ac eisiau parhau i'w ddarparu. Nawr, es i i'r brifysgol gydag amrywiaeth o bobl sydd bellach yn athrawon; fe wnes i gyfarfod rhai ohonyn nhw yn Eisteddfod yr Urdd, a dweud y gwir—mae maffia Aber ym mhobman, fel y mae'r Llywydd yn gwybod—ond i ddeall pam wnaethon nhw aros mewn addysg Gymraeg a'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth, mae hynny'n rhan o'r gwaith y mae angen i ni ei wneud, yn ogystal ag ymrwymiad i fod eisiau codi safonau gyda phlant a phobl ifanc ac ar eu cyfer.

Rhan ohono yw'r amgylchedd y maen nhw'n gweithio ynddo hefyd, ac, wrth gwrs, rydym ni bellach wedi gweld, yn barhaus, y rhaglen adeiladu ysgolion a cholegau fwyaf ar gyfer cyfleusterau newydd ers y 1960au. Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae Llafur Cymru wedi ei wneud i fuddsoddi mewn cyfleusterau; byddwn yn parhau i weithio gyda'r proffesiwn, ac eraill, i'w gwneud yn eglur bod addysgu yn broffesiwn deniadol. Gallwch ymgymryd â gyrfa lawn boddhad a hynod werthfawr a gwneud gwahaniaeth mawr i'r cymunedau yr ydych yn byw ynddyn nhw. A dyna'r daith yr ydym ni arni, ac nid wyf i'n ymddiheuro o gwbl am fod eisiau bod yn gadarnhaol am yr anghenion gweithlu sydd gennym ni a sut rydym ni eisiau mynd ati i'w diwallu ar gyfer dyfodol y wlad.

14:05
Lles Milgwn Rasio

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn lles milgwn rasio, ar y trac rasio yn ogystal ag oddi arno? OQ61220

Diolch. Ym mis Mawrth eleni, fe wnaethom ni orffen ein hymgynghoriad 12 wythnos ar reoleiddio sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosion lles anifeiliaid. Mae hyn yn cyfeirio at anifeiliaid anwes. Fe wnaeth yr ymgynghoriad gynnig trwyddedu perchnogion, ceidwaid a hyfforddwyr cŵn rasio, gan gynnwys milgwn, gyda'r bwriad o wella eu lles gydol oes, o'u genedigaeth hyd at ymddeol, pan fyddan nhw'n cael eu bridio neu eu magu'n benodol ar gyfer chwaraeon.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Wrth geisio cael eich ethol i swydd y Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud ar eich sianel cyfryngau cymdeithasol

'Mae amddiffyn milgwn yn mynd y tu hwnt i ddod â'r gamp i ben—mae angen i ni sicrhau gofal da drwy gydol oes milgi.'

Allwn i ddim cytuno mwy. Ond a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod rhoi terfyn ar rasio milgwn yn fuan yn hytrach nag yn hwyrach yn allweddol i amddiffyn lles yr anifeiliaid hyfryd hyn? Felly, a wnewch chi ymrwymo i gyfarfod â chlymblaid Cut the Chase, sydd wedi bod yn ymgyrchu ar y mater, i drafod eu pryderon am lesiant y cŵn sy'n dal i gael eu defnyddio ar gyfer rasio masnachol yng Nghymru? Diolch.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'r diffuantrwydd. Rwy'n gwybod ei fod yn gefnogwr o'r ymgyrch i ddod â rasio milgwn i ben a'r rhesymau sy'n sail i hynny. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad; cawsom dros 1,100 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Felly, mae'n rhaid i ni fynd drwy'r rheini, cynnal dadansoddiad priodol ohonyn nhw, yna dod allan gyda'r ymateb gan y Llywodraeth. Dyna pam na allaf i roi ymrwymiad y gwn y gallai'r Aelod ac eraill fod eisiau ei glywed, am ganlyniad penodol, oherwydd mae angen i ni ddeall beth yw'r ymateb hwnnw, yn ei holl dermau, ac yna nodi beth fydd ymateb y Llywodraeth.

Un o'r pwyntiau yn yr ymgynghoriad yw a ddylid cefnogi gwaharddiad graddol ai peidio, ond fel y dywedais i, ac y byddaf yn parhau i'w ddweud, mae angen i chi feddwl nid yn unig am filgwn ar gyfer heddiw ond, mewn gwirionedd, lles y milgwn hynny, os bydd y gamp yn parhau neu, yn wir, os bydd rasio milgwn yn dod i ben. Dyna beth y byddwn ni'n edrych arno. Nid wyf i eisiau rhagfarnu na rhagweld yr ymgynghoriad, ond rwy'n cymryd o ddifrif y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, a gwn fod cefnogaeth drawsbleidiol wirioneddol ar y mater hwn.

Bore da, Prif Weinidog. Nid yw'n syndod i lawer fy mod i eisiau dweud ychydig eiriau ar y mater hwn, ac rwy'n ddiolchgar i'm cydweithiwr Altaf Hussain. Rwy'n deall yn llwyr nad ydych chi'n gallu rhagfarnu unrhyw ganlyniad o ran y cyfnod ymgynghori, ond dim ond i ddweud ychydig am fy nghi i, Wanda, mae hi—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf i fynd i mewn i hynny. Roedd hi a'r ci blaenorol yr oeddwn i'n berchen arno, y milgi rasio blaenorol, ill dau wedi'u trawmateiddio'n fawr gan rasio. A dweud y gwir, rhedodd Wanda ei ras olaf ym mis Hydref y llynedd—hon oedd ei hwythfed ras ar ddeugain mewn pedair blynedd. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cyfnod ymgynghori yn golygu bod gennym ni waharddiad graddol ar rasio milgwn.

Fy nghwestiwn i chi yw hwn—gobeithio y cawn ni'r canlyniad hwnnw—beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad milgwn sydd ar y trac rasio yng Nghaerffili, i sicrhau eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn yn ystod y cyfnod hwnnw? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cwestiwn. Dylwn i ddweud fy mod i'n berchennog ci fy hun; rydym ni'n teimlo weithiau mai'r ci sydd berchen arnom ni. Ond nid yw'n filgi, ond rwy'n deall eu bod nhw'n anifeiliaid anwes teuluol gwych. Ond ceir pwynt yma am y lles ehangach a'r hyn sy'n digwydd gyda'r milgwn hynny sy'n cael eu bridio ar gyfer rasio, pa un a ydyn nhw'n ei wneud yn rasio milgwn ai peidio, a gwn am y pryderon sydd yno. Mae trac y Cymoedd bellach yn rhan o Fwrdd Milgwn Prydain Fawr, felly mae'n rhaid iddo fodloni safonau allanol. Byddwn yn parhau i gynnal diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yno, waeth beth fydd canlyniad yr ymgynghoriad ac ymateb y Llywodraeth.

Nid oes gan yr awdurdod lleol gyfrifoldebau statudol i archwilio'r trac a deall lles anifeiliaid, ond rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y safonau Prydain Fawr gyfan y gwnaethon nhw gytuno iddyn nhw dim ond y llynedd, pan wnaethon nhw ymuno â chorff cyffredinol Prydain Fawr, yn cael eu bodloni. Ac rwy'n cymryd o ddifrif y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am les tra bod y gamp yn parhau i filgwn yng Nghymru a thu hwnt a hefyd beth allai ddigwydd os oes gwahanol ddyfodol, oherwydd rwy'n cymryd lles yr anifeiliaid hyfryd hyn o ddifrif. Byddaf yn stopio yn y fan yna, oherwydd fel arall byddaf yn dechrau siarad am hanes teuluol gyda milgwn, sydd fwy na thebyg y tu hwnt i gwestiynau'r Prif Weinidog.

14:10

Prif Weinidog, 2 Mehefin yw Diwrnod Cenedlaethol y Milgwn. Mae'n atgof amserol bod Cymru yn un o ddim ond 10 gwlad ar draws y byd i gyd—mae hyn yn cynnwys holl wledydd y DU—lle mae rasio milgwn masnachol yn dal i ddigwydd yn 2024. Mae canlyniadau cyhoeddedig o rasys a threialon yn stadiwm milgwn y Cymoedd, sydd wedi'i leoli yn sedd Islwyn y Senedd, yn dangos y cofnodwyd bod naw ci wedi 'cwympo' a bod 15 wedi cael eu 'bwrw drosodd' rhwng 3 Mawrth a 29 Mai eleni. Mae lles y milgwn gwerthfawr hyn sydd wedi cwympo mewn rasys yn parhau i fod yn anhysbys. Mae'r glymblaid Cut the Chase, sy'n cynnwys sefydliadau uchel eu parch yr RSPCA, Dogs Trust, Blue Cross, Hope Rescue a Greyhound Rescue Wales, wedi rhoi llawer o sylw i'r diffyg lles gwirioneddol syfrdanol a ddangosir yn y diwydiant rasio milgwn tuag at les yr anifeiliaid. Prif Weinidog, pa amserlenni a pha fanylion pellach, felly, allwch chi eu rhoi am ganlyniad yr ymgynghoriad 12 wythnos yn ystyried dyfodol rasio milgwn, a phryd fydd hwnnw'n adrodd i'r Senedd? Hoffwn hefyd roi sylw i'r pwynt o'r hyn sy'n mynd i ddigwydd yn y cyfamser i'r cŵn hynny a'u lles.

Diolch am y cwestiwn. Eto, rwy'n deall yr ymateb yr hoffai'r Aelod i mi ei roi, ond na allaf ei roi gan ein bod ni'n mynd drwy'r ymateb i'r ymgynghoriad, ond mae'n drawiadol, y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, bod Cymru yn un o ddim ond 10 gwlad ledled y byd sy'n dal i fod â rasio milgwn masnachol. Mae angen i ni ddeall mwy am les y cŵn, y safonau sydd gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr ar gyfer milgwn i allu gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu bodloni a'u bod nhw'n ymgymryd â'r ymgysylltiad lles y maen nhw i fod i'w wneud, ac mae'n rhaid i ni ymdrin â'r ymateb i'r ymgynghoriad. Nawr, ni allaf roi amserlen bendant i chi ar gyfer pryd y bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn arwain y gwaith ar hyn; byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion, a byddwn yn cyhoeddi ymateb gan y Llywodraeth ynglŷn â sut rydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen â'r materion hynny. Felly, byddwn yn gofyn i Aelodau ar bob ochr i fod yn amyneddgar, i ddeall ein bod ni'n trin hyn o ddifrif, gyda'r nifer sylweddol o ymatebion sy'n dangos gwir ddiddordeb yn y mater, a byddwn yn cyflwyno ymateb y Llywodraeth cyn gynted ag y gallwn. Ac eto, rwy'n cydnabod y pryder sylweddol a diffuant iawn a da ei fwriad a thwymgalon ar bob ochr i'r Siambr.

Gwasanaethau'r GIG yng Ngogledd Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran mynediad at wasanaethau'r GIG yng ngogledd Cymru? OQ61191

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ysgogi gwelliant cynaliadwy sy'n galluogi cleifion i gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal diogel a phrydlon. Rydym ni wedi nodi disgwyliadau eglur ar gyfer gwelliant y byddaf i ac Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd camau dilynol arnyn nhw.

Prif Weinidog, o dan Lafur, mae'r GIG yn y gogledd ar ei liniau: mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig ers 2015; mae methiant wedi bod i gyflawni gwelliannau, sydd wedi arwain at gleifion yn dioddef niwed; mae cleifion yn aros yn hirach nag mewn rhannau eraill o'r DU am lawdriniaethau a thriniaethau; ac rydym ni i gyd yn gwybod mai Ysbyty Glan Clwyd, sy'n gwasanaethu pobl Conwy a sir Ddinbych, sydd â'r perfformiad adran achosion brys gwaethaf yn y wlad, gydag un o bob pedwar o bobl yn aros 12 awr neu fwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae'n gwbl annerbyniol.

Nawr, mewn ymgais i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, 11 mlynedd yn ôl, addawodd Llywodraeth Cymru adeiladu ysbyty newydd sbon yn y Rhyl i wasanaethu'r llain arfordirol, i wella mynediad at wasanaethau'r GIG ac i leddfu'r pwysau ar Glan Clwyd. Dylai fod wedi bod ar agor yn 2016, ond nid ydym ni wedi gweld rhaw yn y ddaear eto, Prif Weinidog, ac eto, ers hynny, ers hynny, ers 2013, rydych chi wedi agor ysbyty newydd sbon yn y de. Pam mae'r gogledd bob amser yn dod yn ail i'r de o dan eich Llywodraeth chi? A phryd fydd pobl yng Nghonwy a sir Ddinbych yn cael y cyfleuster hanfodol hwn y mae cleifion ei angen?

14:15

Wel, rwy'n cydnabod na fyddai amseroedd aros hir yn rhywbeth y byddwn i'n ceisio'u hamddiffyn, p'un a yw'n ofal brys neu'n ofal arferol, wedi'i gynllunio. Mae amseroedd aros hir wedi gostwng yn y gogledd, gostyngiad o fwy nag 20 y cant. Mae gostyngiad o fwy na 55 y cant wedi bod, mae'n ddrwg gennyf i, yn nifer cleifion orthopedig sy'n aros hefyd, ac mae buddsoddiad yn mynd i'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Mae Ysbyty Glan Clwyd ei hun wedi cael ei adnewyddu'n sylweddol, nid yn unig yn yr adran damweiniau ac achosion brys, ond mae'r ysbyty cyfan wedi'i ailwampio ac adnewyddu mewn gwirionedd. Rydyn ni hefyd wedi gweld arian yn mynd i unedau iechyd meddwl newydd ac yn wir yr uned orthopedig yn Llandudno, yr aeth Ysgrifennydd y Cabinet ati i'w hagor a'i gweld. Felly, mae buddsoddiad gwirioneddol yn cael ei gyflwyno. Ond nid ym mrics a morter yr ysbyty yn unig y mae'r her, mae hi'n ymwneud â thrawsnewid a moderneiddio'r gwasanaeth yn gyffredinol, a'r angen i gael nid yn unig nifer y staff, ond y ffordd y maen nhw'n gweithio. Mae'n bartneriaeth ar gyfer staff a'r cyhoedd yn ehangach; partneriaeth, yn wir, gyda llywodraeth leol a thu hwnt.

Rhan o'n her fwyaf o gael pobl drwy ofal mewn ysbytai yw'r ffaith bod gormod o lawer o bobl sy'n ffit yn feddygol yn dal i fod mewn gwelâu ysbyty. Ni allwn ni ddatrys hynny heb yr adnoddau a'r cydweithio rhwng iechyd, gofal lleol, llywodraeth leol ac eraill. Ac, wrth gwrs, rydyn ni mewn amgylchedd, fel y mae'r Aelod yn gwybod yn dda iawn, lle mai nid yn unig ein cyllideb sydd wedi'i pheryglu, gyda gostyngiad o fwy na £700 miliwn mewn termau gwirioneddol yn ystod y tair blynedd diwethaf, ond mewn gwirionedd mae hynny'n cael effaith wirioneddol ar iechyd a'i bartneriaid hefyd.

Mae yna gwestiynau gwirioneddol i ni, ac rwy'n credu y bydd tudalen newydd yn cael ei throi ar lefel y DU yn rhoi mwy o adnoddau a phartneriaethau gwahanol i ni weithio gyda nhw. Rwy'n edrych ymlaen at wrando ar y cyhoedd, at ddeall yr heriau rwy'n ymwybodol ein bod ni'n eu hwynebu, ond, yn hollbwysig, rwy'n edrych ymlaen at bartneriaeth newydd sy'n ein galluogi ni i gyflawni dyheadau'r Llywodraeth hon a phob cymuned ledled y wlad.

Sganiau MRI

8. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i leihau'r angen i anfon cleifion yn allanol i glinigau preifat ar gyfer sganiau MRI ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ61214

Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydyn ni wedi bod yn glir gyda byrddau iechyd y dylen nhw ddefnyddio'r holl gapasiti sydd ar gael, gan gynnwys drwy'r sector annibynnol, i leihau amseroedd aros. Ein nod cyffredinol yw bod â gwasanaeth iechyd cenedlaethol cyhoeddus gwirioneddol gynaliadwy.

Diolch. Wel, yn ddiddorol, o ran Betsi, maen nhw'n ei alw'n fewnoli triniaethau allanol, wyddoch chi. Nawr, mae 8,568 o lwybrau cleifion yn aros dros 105 wythnos, dwy flynedd, i ddechrau triniaeth, ac mae hynny 3,600 y cant yn fwy na Lloegr gyfan. Nawr, mewn ymdrech i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn, fe wnaeth y bwrdd iechyd droi at fewnoli, gan ddefnyddio cwmnïau preifat. Maen nhw wedi bod yn ymrwymo i gontractau gyda darparwyr gofal iechyd allanol i ddarparu timau clinigol i fynychu safleoedd byrddau iechyd, gweld cleifion a hefyd ymgymryd â nifer o ganlyniadau o sganiau. Nawr, dim ond newydd ddod at fy sylw i mae hyn, ond, oherwydd pwysau cyllidol, mae'r bwrdd iechyd yn ddiweddar—. Mae gennyf i etholwyr yn aros sawl mis am ganlyniadau sgan. Nawr, mae'n siŵr, Prif Weinidog, y gallwch chi ddeall bod unrhyw un sy'n mynd am sgan, mae'n gyfnod pryderus iddyn nhw; unrhyw un sy'n aros am y canlyniadau hynny, mae hi hyd yn oed yn fwy pryderus iddyn nhw. A phan nad yw'r canlyniadau hynny'n cael eu cyflwyno, mae'n achosi baich ychwanegol o straen a phryder. Nawr, yr hyn sydd wedi digwydd yw, oherwydd pwysau ariannol, gwnaeth y bwrdd iechyd benderfyniad i atal y gwaith mewnoli gwasanaethau allanol ar sganiau o fis Ebrill 2023, flwyddyn yn ôl. Fodd bynnag, yn hytrach na dod â'r cleifion hynny yn ôl o dan ymbarél y GIG—

Iawn. Felly, yn y bôn, cafodd y cleifion hynny eu rhoi o'r neilltu am fisoedd a misoedd a misoedd ar y tro. Nawr, maen nhw wedi ysgrifennu ataf i yn dweud—

Ie iawn. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud, gan weithio gyda'r Gweinidog iechyd, Prif Weinidog, i sicrhau eich bod chi'n edrych  ar sut yn union mae mewnoli rhaglenni allanol yn gweithio? Oherwydd, mewn gwirionedd, mae ei atal am flwyddyn a pheidio ag ailgydio ag ef yn warthus. Rwyf i eisiau sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto.

Rwy'n credu, fel y gwnaeth yr Aelod ei gydnabod, mewnoli yw lle mae pobl yn cael eu dwyn i mewn i'r GIG i ddarparu rhai o'r sganiau sydd eu hangen arnyn nhw, a'n her ni yw, os ydyn ni eisiau cynhyrchu'r capasiti sydd ei angen arnon ni, mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl ac mewn offer i wneud hynny. Ac mae angen i ni ddefnyddio rhannau o'r sector annibynnol i sicrhau nad oes gennym ni amseroedd aros annerbyniol o fewn y system. Ac mewn gwirionedd, o ran sganiau MRI yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd gostyngiad o tua 30 y cant yn nifer y bobl sy'n aros yn hirach na'n disgwyl, felly mae wedi gwneud gwahaniaeth. Ac mae'r gostyngiad hwnnw yn nifer y bobl sy'n aros wedi digwydd mewn gwirionedd er bod cynnydd o 14 y cant yn y galw. Nawr, rwy'n gwybod bod problem wedi bod a chafodd rhai pobl eu methu ar gyfer apwyntiadau dilynol. Mae hynny'n rhywbeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol ohono. Mae hefyd yn rhywbeth y mae'r bwrdd iechyd yn ymwybodol ohono. Maen nhw wedi adolygu'r holl achosion hynny i sicrhau bod pobl yn cael eu rhoi yn ôl i mewn i'r system lle dylen nhw fod wedi bod. Rhan o'n her ni yw nid yn unig dweud yr hyn yr ydyn ni eisiau'i wneud i gydnabod bod yna broblem y mae angen i ni ei datrys; mae hefyd, yn ymwneud â phan fo pethau'n mynd o chwith, ynghylch a ydych chi'n barod i'w gywiro. Dyna'n union a ddigwyddodd yn yr achos hwn. A bydd angen i ni fuddsoddi mwy yn y maes hwn i gyrraedd pwynt o fod yn wirioneddol gynaliadwy, ac yna mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i barhau i fuddsoddi mewn gofal iechyd mwy ataliol hefyd. Dyna'r her sy'n ein hwynebu ni. Rwy'n deall hyn yn dda iawn fel cyn weinidog iechyd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn deall hynny'n dda iawn a dyna'n union y mae hi'n ei wneud: mynd i'r afael ag amseroedd aros hir ac yn bwriadu symud ein system i ofal iechyd mwy ataliol.

14:20
Gwasanaethau Ysbyty yn Nwyrain De Cymru

9. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau ysbyty yn Nwyrain De Cymru? OQ61216

Mae mynediad i wasanaethau ysbytai yn Nwyrain De Cymru o dan bwysau parhaus, gyda'r galw a'r angen uchaf erioed. Mae'n anochel bod hyn yn effeithio ar staff a chleifion. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda byrddau iechyd yn y rhanbarth hwn i wella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal diogel ac amserol.

Diolch am hynny. Mae i'w weld bod ein hysbytai yng Nghymru yn agos at argyfwng byth a beunydd. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar y cafodd ei fam 92 oed ei chludo i ysbyty'r Faenor ar ôl cwympo. Roedd hi'n anymwybodol. Roedd tri ar ddeg o ambiwlansys yn aros y tu allan pan gyrhaeddon nhw, ac ar ôl brysbennu roedd yn rhaid iddyn nhw aros am bum awr mewn ambiwlans y tu allan cyn i'r fenyw 92 oed yma gael ei symud yn ôl i'r adeilad, a dim ond ar ôl iddyn nhw gwyno—hyn oll cyn iddo gael ei sefydlu a oedd hi'n gwaedu ar yr ymennydd. Nawr, rwyf i wedi sôn o'r blaen yma am sut mae ambiwlansys yw'r ystafelloedd aros newydd, ei bod yn arferol gweld ciwiau o ambiwlansys yn aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys. Ni ddylai fod yn normal, ond mae wedi dod yn normal. Nawr, siawns na fyddech chi'n cytuno nad yw hynny'n ddigonol, nad yw hynny'n iawn. Yn yr etholiad hwn, mae'r Blaid Lafur yn canolbwyntio ar yr angen i foderneiddio ein GIG ac maen nhw hyd yn oed yn ymgyrchu ar hynny yng Nghymru, lle mae eu plaid eu hunain yn rhedeg y gwasanaeth iechyd. Onid eich bai chi yw rhan o hyn?

Rwy'n credu os edrychwch chi ar yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud—. Gadewch i ni gymryd y pwynt penodol. Mae'n ddrwg gennyf i glywed am yr enghraifft y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato. Ni allaf ymdrin â materion unigol, ond rwy'n gobeithio bod yr Aelod, ynghyd â'r bwrdd iechyd, yn edrych ar hynny, ac mae gwasanaethau eraill ar gael, gan gynnwys Llais ac eraill, i helpu i gefnogi'r Aelod os oes angen codi cwyn neu bryder, ac mae'n bwysig bod pryderon yn cael eu codi. Rwy'n cofio, pan oedd yr Aelod dros Orllewin Caerdydd yn Weinidog iechyd, am y rhodd cwynion, a deall, pan fo cwynion yn cael eu gwneud, eu bod yn gyfleoedd i wella, ac i'w wneud mewn amgylchedd lle nad yw staff yn teimlo eu bod o dan y lach, ond yn hytrach, sut ydych chi'n gwneud hyn yn well yn y dyfodol. Mae rhywfaint ohono'n ymwneud â sut yr ydyn ni'n ymdopi â'r galw. Mae rhywfaint yn ymwneud â sut mae ein systemau cyfan yn gweithio.

Fe wnes i'r pwynt mewn cwestiynau cynharach mai rhan o'n her ni yw bod gennym ni ormod o bobl sy'n feddygol ffit i gael eu rhyddhau sydd ddim yn gallu symud i gam nesaf eu gofal a'u triniaeth y tu allan i'r ysbyty. Mae hefyd yn rhywbeth sy'n ymwneud â gallu wrth y drws ffrynt. Felly, yn y Faenor yn benodol, maen nhw'n ceisio dyblu'r capasiti ar gyfer yr holl ardal aros. Dylai hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n dod i mewn, ac mae modd rhyddhau ambiwlansys i ymdrin â'r risg sydd yn y gymuned bryd hynny. Ond mae'n rhaid i ni ymdrin â'r drws cefn, lle y gall pobl fynd allan o'r ysbyty. Nawr, mae hyn yn rhan o'r hyn y mae angen i chi ei wneud i foderneiddio'r gwasanaeth: buddsoddi yn eich staff, buddsoddi mewn cyfleusterau. Ac nid wyf i'n ymddiheuro am ymgyrchu dros wasanaeth iechyd gwladol wedi'i foderneiddio, ynghyd â'r adnoddau sydd eu hangen arnon ni i gadw'r staff sydd gennym ni ac i recriwtio'r staff y bydd eu hangen arnon ni.

Os ydych chi'n ystyried yr hyn yr ydyn ni eisoes wedi'i wneud i foderneiddio'r gwasanaeth iechyd, y gronfa triniaethau newydd a gafodd ei chyflwyno gennym ni yn nhymor diwethaf y Senedd, mae'n rhoi gwell mynediad a mynediad cyflymach at driniaethau newydd. Fe wnaethon ni'r dewis hwnnw yma yng Nghymru cyn gweddill y DU. Ystyriwch yr hyn yr ydyn ni wedi'i wneud mewn optometreg. Gall eich optometrydd ar y stryd fawr nawr ymdrin ag amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gymryd pwysau oddi ar wasanaethau gofal iechyd mewn ysbyty ar gyfer gofal llygaid, ac mae hynny'n golygu bod pobl yn cael gwell brofiad a mynediad cyflymach at ofal. Rwyf i wedi gweld hynny yn fy nheulu i fy hun. Ac mewn fferylliaeth, mae'r Ceidwadwyr yn Lloegr erbyn hyn yn bwriadu gwneud yr hyn yr ydyn ni eisoes wedi'i wneud yma yng Nghymru, wrth ddiwygio fferylliaeth, ei foderneiddio a darparu gwasanaethau newydd yn agosach at ble mae pobl yn byw. Mae hwnnw'n gyflawniad yr ydyn ni eisiau ei ddatblygu. Nid wyf i'n ymddiheuro fy mod i eisiau moderneiddio a gwella gwasanaeth iechyd cenedlaethol cyhoeddus gyda'r adnoddau i allu gwneud hynny, ac rwy'n credu y bydd y canlyniad ar 4 Gorffennaf neu 5 Gorffennaf yn hanfodol i ba mor gyflym y gallwn ni wneud hynny yma yng Nghymru.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd, felly, i wneud y datganiad hwnnw—Jane Hutt.

14:25

Mae dwy ddadl a dau ddatganiad llafar wedi cael eu hychwanegu at agenda heddiw; mae'r teitlau i'w gweld yn agenda y Cyfarfod Llawn. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol am yr adroddiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion i wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Rwy'n credu bod yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar yn hynod ofidus. Canfu fod llai na hanner yr 84 o argymhellion a gwelliannau allweddol a gafodd eu haddo oherwydd argymhellion yn dilyn adolygiadau annibynnol yn y gorffennol i wasanaethau iechyd meddwl heb eu gweithredu eto. Ac, o ganlyniad i hynny, mae cleifion wedi bod yn dod i niwed ac maen nhw hyd yn oed wedi colli eu bywydau o ganlyniad i anallu arweinwyr lleol ac, yn wir, Llywodraeth Cymru wrth allu ymdrin â'r problemau yn y bwrdd iechyd hwnnw sydd mewn trafferthion.

Roedd hi'n 2013 pan ddarllenom ni yn gyntaf yr adroddiad gwarthus i'r sefyllfa yn Tawel Fan. Rydyn ni wedi darllen adroddiadau am y gwasanaethau gwael iawn sy'n cael eu darparu gan uned Hergest, ac rydyn ni wedi cael sawl adroddiad ers hynny yn dweud bod angen gwella pethau o hyd. Pam ar y ddaear ydy hi'n cymryd cymaint o amser i'r bwrdd iechyd hwn, sydd mewn mesurau arbennig, ymdrin â'r materion hyn, a beth ar y ddaear ydy Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatrys y pethau hyn? Mae pobl yn haeddu gwybod, a dyna pam rwy'n credu bod angen datganiad brys arnon ni. 

A gaf i hefyd ofyn am ail ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr economi am yr adroddiad gan Croeso Cymru yr wythnos diwethaf, a wnaeth ddarganfod bod pobl yn cael eu perswadio i beidio â dod i Gymru fel ymwelwyr oherwydd polisi terfyn cyflymder 20 mya diofyn Llywodraeth Lafur Cymru yng Nghymru? Mae hyn yn bryder sylweddol i bobl yn y gogledd, yn enwedig yng Nghonwy a sir Ddinbych, sy'n dibynnu'n helaeth ar yr economi ymwelwyr, ac mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i sicrhau nad ydyn ni'n gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr ymwelwyr o ganlyniad i barhad y polisi lloerig hwn. Diolch.

Diolch yn fawr, Darren Millar, am eich cwestiynau.

O ran iechyd meddwl, wrth gwrs, rydych chi'n cyfeirio at yr adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn 2023, ac roedd hynny i gynnal yr adolygiad hwnnw o bedwar adolygiad iechyd meddwl blaenorol a hefyd ystyried i ba raddau yr oedd argymhellion wedi'u cwblhau—wedi'u hymwreiddio a'u cwblhau. Nawr, mae'r adroddiad hwnnw wedi'i gwblhau ac—yn amserol iawn—cafodd ei gyflwyno i'r bwrdd iechyd yn ei gyfarfod ar 30 Mai. Felly, mae yno o'u blaenau nhw o ran adolygiad y bwrdd iechyd o'r argymhellion hynny a'u gweithrediad. 

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig, ac efallai eich bod chi'n ymwybodol o hyn fel Aelod lleol, bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyfarfod â grŵp bach o gynrychiolwyr o deuluoedd sydd â phrofiad o wasanaethau iechyd meddwl yn y bwrdd iechyd ar 20 Mai 2024 i drafod canfyddiadau adroddiad y Coleg Brenhinol cyn ei gyhoeddi. Ac mae'n bwysig iawn bod y drafodaeth honno wedi'i chynnal gyda'r teuluoedd hynny, dim ond yn ystod y pythefnos diwethaf, a bod y bwrdd iechyd, unwaith eto, wedi ymddiheuro i'r rhai y gwnaeth fethiannau'r gorffennol effeithio arnyn nhw, a hefyd bod y teuluoedd wedi cynnig eu barn. Cafodd eu pryderon, wrth gwrs, eu mynegi yn y cyfarfod hwnnw, ac roedd yr alwad am atebolrwydd, tryloywder ac onestrwydd gan y teuluoedd hynny'n bwysig. Rwy'n credu bod ymateb wedi bod gan y cyfryngau i hynny, diddordeb yn hynny, ond tystiolaeth dda o weithredu o ran 37 o gyfanswm o 84 o argymhellion yn y pedwar adroddiad allanol. 

A hefyd, wrth gwrs, maen nhw wedi cyfweld â chadeirydd y bwrdd iechyd ac mae cyfryngau wedi rhoi cryn sylw i'r adroddiad, yn ogystal ag ymgysylltu rhwng y Prif Weinidog ac unigolyn a geisiodd gyflwyno copi caled o'r adroddiad iddo. Felly, mae llawer o ymgysylltu â'r bwrdd iechyd nawr, a chadeirydd y bwrdd iechyd—sy'n ymgysylltiedig iawn wrth iddo fynd i'r bwrdd ar 30 Mai. Felly, mae'n amserol i'w godi heddiw, ond, yn amlwg, mae'n ymwneud â gweithredu, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wrth gwrs, yma gyda ni heddiw.

Wel, wrth gwrs, o ran y ddadl 20 mya, rwy'n credu eich bod chi wedi cymryd rhan, Darren Millar, yn y ddadl bwysig a gafodd ei chynnal ar 22 Mai, ac roedd yn ddadl bwysig, ac, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth a ymatebodd gan ei gwneud yn glir iawn, yn ei holl sgyrsiau, ei fod yn rhoi cymunedau wrth wraidd ein hystyriaeth gan wrando ar leisiau dinasyddion, a hefyd, gan wrando ar yr holl bartneriaid hynny sy'n ymgysylltu â hyn. Ac roedd yn ddadl gadarnhaol iawn, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â hynny. 

Ond yr hyn yr oedd mor bwysig oedd bod hyn yn bwysig iawn i ymwelwyr, a bod yn rhaid i bobl deimlo'n ddiogel wrth deithio, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr, gan fod cymaint o'n hymwelwyr yn gerddwyr a beicwyr. A dywedodd ei fod eisiau gweld y dull wedi'i dargedu hwnnw o 20 mya ar ffyrdd lle mae defnyddwyr ffyrdd agored i niwed yn cymysgu â thraffig trwm, ac, wrth gwrs, mae hynny'n hanfodol o ran cael cymuned groesawgar a diogel i'n twristiaeth ac i'n hymwelwyr ni, oherwydd, yn olaf, mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, prif amcan, unwaith eto, y polisi o 20 mya yw achub bywydau a lleihau anafiadau ar ein ffyrdd ni. A dyna'r hyn y mae ein hymwelwyr ni eisiau pan eu bod yn dod i Gymru. Ac, wrth gwrs, nawr rydyn ni'n bwrw ymlaen â mireinio'r polisi, sy'n ymwneud ag ymgysylltu â'r 22 awdurdod lleol a sut maen nhw'n ymgynghori hefyd, gan edrych ar hynny o safbwynt Cymru gyfan yn wlad groesawgar ac agored a diogel.

14:30

Trefnydd, ar drywydd tebyg, rwyf i hefyd yn canolbwyntio ar ddiogelwch cerddwyr, a hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth ynghylch bwrw ymlaen â'r argymhellion a gafodd eu gwneud yn adroddiad y tasglu parcio ar balmentydd. Yn amlwg, cafodd hynny ei ohirio tan eleni, a oedd yn ddealladwy o safbwynt pwysau ar lywodraeth leol, ond mae'r oedi wedi effeithio ar lawer o bobl, fel y rhai sy'n defnyddio cadeiriau olwyn, y rhai â nam ar eu golwg, y rhai sy'n defnyddio bygis, neu gerddwyr, pob un yn dweud bod parcio ar balmentydd yn broblem fawr. Yn amlwg, yng nghymunedau'r Cymoedd, rydyn ni'n gwybod bod honno'n her enfawr, oherwydd pe na bai pobl yn parcio ar balmentydd, yna byddai materion eraill. Ond, mewn ardaloedd eraill, mae'n bosibl ac mae'n cael effaith arnyn nhw. Felly, rwyf i wedi cael y cais hwn gan nifer fawr o etholwyr: pryd fyddwn ni'n gweld cynnydd i sicrhau, o ran y rhai sy'n parcio'n hunanol, sy'n golygu na all pobl ddefnyddio palmentydd yn ddiogel, fod y bobl hynny'n gallu gweld camau gweithredu a chynnydd ar hyn?

Wel, diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn, achos mae yn gwestiwn pwysig. 

Mae'n rhaid i ni ystyried hyn wrth edrych ar ddiogelwch ein cerddwyr, fel y dywedwch chi. A dyna lle mae parcio ar balmentydd yn beryglus, a dyna pam, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth a gafodd ei gyflwyno gan y cyn Weinidog trafnidiaeth. A nawr, yn sicr fe wnaf i godi hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth i gael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran ble yr ydyn ni gyda hyn o ran cyflawni. 

Rwy'n gofyn am ddau ddatganiad. Y cyntaf yw diweddariad ar drwyddedu a rheoli Airbnb. Mae pryderon bod Airbnb yn lleihau faint o lety preifat sydd ar gael i'w rentu ac yn effeithio ar lety gwyliau traddodiadol. A gawn ni ddatganiad i nodi pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran creu cofrestr o bob math o lety i ymwelwyr a chael rheolaethau cynllunio ar greu lletyau Airbnb, a phryd y bydd Bil drafft ar y cynigion hyn yn cael ei gynhyrchu?

Yn ail, mae disgyblion yn ysgol Hafod yn Abertawe wedi cysylltu â mi, sy'n pryderu am gost llogi bws sy'n hygyrch i gadair olwyn i fynd â'r plant i nofio. Mae'n sylweddol ddrytach na bws nad yw'n hygyrch i gadeiriau olwyn. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am ddarpariaeth a chost bysiau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn?

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Fe wnaethoch chi godi pwynt pwysig iawn am effaith Airbnb, ac, yn amlwg, y dystiolaeth yw ei fod yn lleihau faint o letyau preifat sydd ar gael i'w rhentu, ac mae hefyd yn effeithio ar letyau gwyliau traddodiadol hefyd. Ac rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol ystyried adroddiad Sefydliad Bevan ar letyau gwyliau yn y sector rhentu preifat. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn eithaf rhanbarthol a lleol—Gwynedd yw'r awdurdod lleol sydd â'r niferoedd mwyaf wedi'u rhestru fel lletyau Airbnb, ac yna sir Benfro a Phowys. Mae llai, llawer llai, yng Nghymoedd y de. Ond mae'n ymddangos bod llawer ohonyn nhw, rwy'n credu, o'r adroddiad hwnnw, o'r rhestrau 21,000 a mwy ar Airbnb, bod 14,000 a mwy yn addas ar gyfer byw ynddyn nhw yn yr hirdymor, sy'n profi bod—. Dyna 1 y cant o stoc anheddau Cymru. Ar gyfer Gwynedd, mae'n 4.6 y cant; sir Benfro, 3.7 y cant; a Cheredigion, 3.1 y cant.

Mae'n rhywbeth yr ydyn ni'n bwriadu datblygu cynllun arno, lle mae'n rhaid i bob darparwr llety ymwelwyr ddangos ei fod yn cadw at rai gofynion i weithredu. Rydyn ni wedi sôn am ddiogelwch i'n hymwelwyr. Rydyn ni eisiau dangos i ymwelwyr â Chymru y pwysigrwydd yr ydyn ni'n ei roi ar eu diogelwch, ond mae hynny'n ymwneud â safonau, onid ydyw, yn y sector twristiaeth? Ac yna, wrth gwrs, rydyn ni erbyn hyn yn edrych tuag at ddull graddol o weithredu, gan ganolbwyntio i ddechrau ar gynllun cofrestru statudol ar gyfer pob darparwr llety, gan fwriadu cefnogi polisïau ehangach eraill Llywodraeth Cymru, fel cynllun ardoll ymwelwyr ac amcanion tai ehangach. Mae'n bwysig, rwy'n credu, edrych yn ôl ar y datganiad a gafodd ei wneud ar 9 Ionawr 2024—datganiad llafar ar gynnydd o ran ymdrin â mater Airbnb. Rydyn ni wedi newid rheoliadau cynllunio i ganiatáu i awdurdodau cynllunio lleol reoli newid defnydd cartrefi parhaol i lety tymor byr. Ac mae'n ddiddorol ystyried cyngor sir Gwynedd, sydd wrthi'n cyflwyno rheolaethau lleol gan ddefnyddio'r pwerau yma, ac mae eraill yn edrych ar hyn. A nawr mae Lloegr yn dilyn yr arweiniaeth y mae Cymru wedi'i rhoi. Felly, diolch i chi am roi'r cyfle i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny.

Ond fe wnaethoch chi hefyd godi materion pwysig o ran hygyrchedd cerbydau gwasanaeth cyhoeddus. Nid yw'r rheoliadau wedi'u datganoli i Gymru ac mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn dal yn eu harwain. Mae'r rheoliadau hynny'n berthnasol i bob cerbyd gwasanaeth cyhoeddus newydd—bysiau neu goetsys—sydd wedi'u cyflwyno ers 2000 yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gyda gallu penodol. Nawr, yn bwysig, mae'n bwysig bod pob bws un llawr maint llawn dros 7.5 tunnell yn gwbl hygyrch o fis Ionawr 2016, a phob un deulawr o Ionawr 2017, ac mae wedi bod yn ofynnol iddyn nhw gael mynediad i gadeiriau olwyn o 1 Ionawr 2005. Mae'n bwysig gweld hyn o ran sut mae'n rhaid i'r gweithredwyr gydymffurfio â'r Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus. Felly, mae'n ymwneud â ni'n gweithredu'n rhagweithiol. Rydyn ni wedi sôn am fod yn rhagweithiol, gan ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r Adran Drafnidiaeth ar y mater hwn. Ond rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod gennym ni dasglu hawliau anabledd, sydd erbyn hyn yn cael ei gyd-gadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Roeddwn i'n gyd-gadeirydd gyda'r Athro Debbie Foster, ac roedd gennym ni grŵp trafnidiaeth gweithgar iawn, gweithgor teithio'r tasglu—pobl anabl yn dweud wrthyn ni sut beth ydyw, ac yn cynhyrchu argymhellion i gefnogi trafnidiaeth gynhwysol a hygyrch, ac rwy'n siŵr y bydd y rhain yn cael eu gweithredu.

14:35

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar ddarpariaeth meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig. Mae ymateb wedi'i rannu gyda mi i gais rhyddid gwybodaeth gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, sy'n dangos mai dim ond un safle gofal sylfaenol bach sydd wedi'i adeiladu yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae'r diffyg buddsoddi hwnnw'n peri eithaf pryder, yn sicr o ystyried yr effaith anghymesur y gall meddygfeydd llai ei chael pan fyddan nhw'n cael eu hadeiladu mewn cymuned wledig. Mae hefyd yn peri pryder bod 99 o feddygfeydd teulu ledled Cymru wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy'n creu rhwystr arall i'r cymunedau gwledig hynny. Un enghraifft sy'n codi yn fy rhanbarth i yw meddygfa Hanmer, sydd wedi'i chynnwys yn ddiweddar mewn rhaglen deledu ar Channel 4, sy'n tynnu sylw at ansawdd y gofal y mae pobl yn ei dderbyn yno, ond hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r safle'n addas i'r diben a bod angen buddsoddi. Mae pobl leol yn rhwystredig ar gyflymder y cynnydd, sy'n boenus o araf. Felly, hoffwn i gael datganiad yn ymdrin â'r hyn sy'n cael ei wneud i ddod â'r gwasanaethau meddygon teulu hynny yn agosach at bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru. Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn hanfodol, gan ei fod yn rhoi gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion, optometryddion a'r holl weithwyr iechyd proffesiynol eraill hynny sy'n hanfodol i drawsnewid gwasanaethau, ac mae'n ymrwymiad gan y Llywodraeth.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud, ar gyfer y cofnod, fod meddygon teulu, bob mis, yn cysylltu â 322,000 o bobl yn y gogledd. Maen nhw'n atgyfeirio 30,000 o bobl at ysbytai ar gyfer gofal eilaidd bob mis. Roedd y Prif Weinidog yn ymateb i gwestiwn ar hyn yn gynharach. Hefyd, y ffaith yw bod yna feddygfeydd sydd wedi wynebu heriau diweddar o ran staffio ac mae cymhellion ariannol ar gyfer hyfforddi meddygon teulu yng Nghymru. Mae'r cynllun cymhelliant wedi'i dargedu yng Nghymru yn rhoi £20,000 i hyfforddeion meddygon teulu i ymgymryd â swyddi hyfforddi yn y gogledd, Ceredigion, sir Benfro neu Bowys. Fe wnaf i ond dweud, o ran un ganolfan feddygol benodol, Canolfan Feddygol y West End, fod meddyg teulu newydd yn dechrau'r wythnos hon, yr wythnos sy'n dechrau 3 Mehefin, a dau arall o fewn y misoedd nesaf. Felly, mae hynny'n dangos yr ymdrechion mawr sy'n cael eu gwneud gan dîm y practis i ymgysylltu â recriwtio, i ymgysylltu â'r gymuned i wneud gwelliannau. Yn amlwg, mae'r Ysgrifennydd Cabinet a'i swyddogion yn adolygu'r cynnydd i wella staffio parhaol nid yn unig ar gyfer y practis hwnnw, ond trwy bractisau eraill i sicrhau bod y gwasanaethau meddygon teulu hynny mewn ardaloedd gwledig yn cael eu cefnogi.

14:40

Hoffwn i gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ar y ffaith bod Cyngor Sir Ddinbych wedi newid biniau glas ailgylchu cymysg i system blwch troli â thair lefel lle mae'n rhaid gwahanu gwastraff—yn flaenorol, roedd yn system gymysg. Mae'r system newydd wedi'i chyflwyno ddydd Llun yr wythnos hon, er mawr siom i drigolion ledled sir Ddinbych. Fy mhryder cychwynnol i yw bod y penderfyniad wedi'i wneud heb ganiatâd trigolion, nad ydyn nhw'n hoffi'r system biniau newydd o gwbl. Yr angen i gynyddu cyfraddau ailgylchu yw'r rheswm dros y newid, ond mae gan sir Ddinbych eisoes un o'r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru, sef 65.9 y cant. Felly, rwy'n credu mai'r gwir reswm dros y newid yw eu hawydd i dorri costau, ac rwy'n siŵr bod yr arian a gafodd ei gynnig gan Lywodraeth Cymru hefyd yn gymhelliant ar gyfer y newid hefyd. Mae'n amlwg iawn y bydd y biniau newydd hyn, mewn gwirionedd, yn annog pobl i beidio ailgylchu gan y byddai'n well gan lawer o drigolion daflu eu sbwriel i'r bin cyffredinol na threulio amser yn twrio trwy wastraff, gan ei wahanu i wahanol adrannau. Felly, a gaf i ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych yn bwrw ymlaen â pholisïau amhoblogaidd heb gydsyniad preswylwyr?

Rydych chi eisoes wedi cydnabod y cyfraddau ailgylchu da yn sir Ddinbych. Gadewch i ni ddiolch i ddinasyddion sir Ddinbych, a'r awdurdod lleol o ran arweinyddiaeth, am gyflawni'r cyfraddau da hynny. Mae Cymru ar flaen y gad yn fyd-eang o ran cyflawni ailgylchu. Gobeithio eich bod chi'n falch o hynny hefyd. Mewn gwirionedd, mewn llawer o awdurdodau, gan gynnwys yr un yr wyf i'n byw ynddo, mae trigolion ledled Cymru wedi ymateb i'r newidiadau yn y trefniadau ar gyfer ein hailgylchu. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod gwahanu yr ailgylchu yn bwysig ar gyfer cyrchfan y nwyddau hynny i'w hailgylchu, ac mae awdurdodau lleol yn rhoi llawer o gefnogaeth. Mae rhai awdurdodau wedi bod yn gwneud hyn ers degawdau, neu yn sicr ddegawd neu ddwy. Felly, mae sir Ddinbych yn adennill tir mewn gwirionedd. Rwy'n credu y byddwch chi'n gweld y bydd pobl yn addasu iddo. Mae'n rhywbeth sy'n arfer gorau ac mae'n cael ei gyflwyno'n llwyddiannus ledled Cymru. Ac, wrth gwrs, mae hi eto, drwy'r ffyrdd y mae ailgylchu erbyn hyn yn mynd rhagddo yng Nghymru, yn sicrhau y bydd Cymru—fel rwy'n siŵr y bydd sir Ddinbych a dinasyddion sir Ddinbych yn cydnabod—ar flaen y gad yn y cyfraddau ailgylchu rhagorol hynny.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Chyfiawnder Cymdeithasol ar fapio cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru. Mae'n amlwg o sgyrsiau gyda chyrff a sefydliadau chwaraeon ei bod ar hyn o bryd yn anodd iawn dod o hyd i restr glir o gyfleusterau chwaraeon ledled Cymru a hyd yn oed yn anoddach ddod o hyd iddyn nhw ar unrhyw fath o fap. Mae'r Llywodraeth hon yn honni ei bod eisiau annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, dyrchafu ein sêr chwaraeon yn y dyfodol, lleihau'r gyfradd gordewdra, a sicrhau bod gennym ni Gymru iach. Felly, yn sicr, mae mapio lle mae cyfleusterau chwaraeon mewn gwirionedd yn hanfodol er mwyn sicrhau cydraddoldeb darpariaeth i bawb yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wybodaeth ar gael. Felly, byddwn i'n ddiolchgar os gallai Ysgrifennydd y Cabinet dros chwaraeon roi datganiad ysgrifenedig neu ar lafar ar fapio cyfleusterau yng Nghymru. Diolch.

14:45

Diolch yn fawr am eich cwestiwn. 

Mae cyfleusterau chwaraeon yn hanfodol, onid ydyn nhw, y ddarpariaeth yn lleol ac yn genedlaethol. Maen nhw'n allweddol i alluogi chwaraeon, iechyd corfforol a lles, yn enwedig ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Eto, mae gan awdurdodau lleol swyddogaeth hanfodol o ran darpariaeth a chymorth, er ei bod hi'n anodd iawn ac maen nhw dan bwysau mawr, oherwydd y cyni a'r diffyg cyllid gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, ac oddi yno i awdurdodau lleol, i gynnal a gwella cyfleusterau chwaraeon. Ond a gaf i ddweud hefyd fod Chwaraeon Cymru â rhan bwysig iawn hefyd? Mae'r cyllid a ddaw drwy Chwaraeon Cymru yn hawdd iawn ei gael, a darperir gwybodaeth hefyd am y cyfleusterau chwaraeon yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig edrych ar hyn o safbwynt ein hysgolion hefyd. Roeddem ni'n meddwl yn gynharach am y rhaglen drawsnewidiol o ddatblygiad ysgolion, ac, mewn gwirionedd, mae llawer o'r ysgolion newydd hynny sydd gennym ni—cynradd ac uwchradd—hefyd nid yn unig wedi cael eu cyfleusterau chwaraeon eu hunain, o'r radd flaenaf, ond maen nhw ar gael i'r gymuned hefyd, a dyna sy'n bwysig iawn. Ond rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ystyried, o ran ei phortffolio hi, y cysylltiadau pwysig iawn, wrth gwrs, rhwng darparu'r wybodaeth honno, darparu'r cyfleusterau, a phwysigrwydd hygyrchedd, yn enwedig i'n plant a'n pobl ifanc, ond i'n hoedolion hefyd, gan eu bod nhw'n cymryd rhan nid yn unig eu hunain o ran mwynhau cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon, ond wrth fwynhau cefnogi eu plant a'u pobl ifanc ar ochr y maes chwarae ac mewn hyfforddiant, fel mae llawer ohonyn nhw'n gwneud.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Nesaf, mae'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i eitem 3, adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig, gael ei thrafod. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Eluned Morgan. 

Cynnig NNDM8596 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8595 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 4 Mehefin 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.  

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

3. Dadl: Adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Heledd Fychan.

Nesaf, mae eitem 3, dadl ar adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig. Eluned Morgan. 

Cynnig NNDM8595 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) y niwed a'r dioddefaint a achoswyd i filoedd o bobl yn sgil y sgandal gwaethaf o ran triniaethau yn hanes y GIG;

b) ymgyrchu diflino a gwaith caled pawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef, i geisio'r gwir; ac

c) ymddiheuriad Llywodraeth y DU am y degawdau hir o fethiant moesol wrth galon ein bywyd cenedlaethol.

2. Yn croesawu adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a gyhoeddwyd ar 20 Mai 2024 a'i argymhellion.

3. Yn croesawu gwaith y pedair gwlad i sefydlu Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig.

4. Yn nodi y bydd taliadau iawndal pellach yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gael y ddadl hon heddiw, yn dilyn cyhoeddiad adroddiad terfynol yr ymchwiliad gwaed heintiedig fis diwethaf. Rwy'n awyddus i fod yn eglur: hon oedd y sgandal waethaf yn hanes triniaethau'r GIG. Er ei bod yn rhagflaenu datganoli, gan mai fi yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, rwy'n dymuno ymddiheuro i bawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi eu heffeithio gan y drasiedi ofnadwy hon. Rwy'n dymuno rhoi teyrnged i'r rhai sydd wedi eu heintio a'u heffeithio, ac fe gwrddais i â rhai ohonyn nhw'n gynharach heddiw ac maen nhw yn yr oriel y prynhawn yma i wrando ar y ddadl hon. Mae cymaint o bobl wedi dioddef. Fe fuon nhw'n ymladd am ddegawdau a dweud y gwir, ac mae'n rhaid eu canmol nhw am hynny.

Rwyf i newydd gwrdd â rhai o'r dioddefwyr hynny ac wedi clywed eu straeon: Tony a Pat Summers, sydd wedi brwydro am gyfiawnder i'w mab, Paul, am ddegawdau; Rose, a gollodd ei brawd yn 1990, yn 44 oed; Suzanne, a ddywedodd mai ychydig yn anemig oedd ei mam pan gafodd hi waed heintiedig gan wasanaeth a oedd i fod i'w gwella hi ond a wnaeth ei lladd hi yn y pen draw a'i hamddifadu o'r cyfle i gwrdd â’i naw gorwyr; y stori ddirdynnol a glywais gan Margaret Sugar am sut y bu i'w mab Lee ddioddef a sut mae ei mab Craig yn talu pris o hyd; Joanne, a esboniodd sut y cafodd ei brawd yng nghyfraith ei wrthod yn yr ysgol am fod ganddo HIV a methiant yr ysgol i gadw hynny'n breifat; Kirk, sy'n dal i ddioddef ac sy'n benderfynol o sicrhau cyfiawnder; Sharon a Ceri, y bu farw eu tad heb i unrhyw un ddweud wrthyn nhw fod ganddo hepatoma; Ruth, y bu farw ei gŵr yn 1989, ac ni ddywedwyd wrtho fod ganddo hep C. Maen nhw i gyd wedi brwydro ers degawdau i'r gwir gael ei ddatgelu.

Daeth yr ymchwiliad gwaed heintiedig i'w gyflawniad ar 20 Mai a gwnaeth argymhellion Syr Brian Langstaff roi llawer o'r atebion iddyn nhw i lawer o'r cwestiynau y maen nhw wedi bod yn eu gofyn cyhyd. Mae'r ymdeimlad o gyfiawnhad a rhyddhad yn amlwg. Ond felly hefyd y dicter oherwydd i hyn gael eu caniatáu i ddigwydd erioed. Fe hoffwn i ddiolch i aelodau'r grŵp trawsbleidiol sydd wedi cefnogi'r dioddefwyr hefyd ac wedi ymgyrchu dros gynnal ymchwiliad yn y DU. Fe hoffwn i roi teyrnged arbennig i Julie Morgan, sydd wedi gweithio yn ddiflino ers degawdau lawer gyda Haemophilia Wales, gan helpu pobl fel Tony Lane. Rwyf i am roi teyrnged hefyd i'r cadeirydd, Lynne Kelly. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi brwydro am yr ymchwiliad, maen nhw wedi lobïo am daliadau ex-gratia, am gydraddoldeb a phecyn iawndal.

Dirprwy Lywydd, yn dilyn casgliad yr ymchwiliad gwaed heintiedig a chyhoeddiad yr adroddiad terfynol, rydym ni wedi dechrau gweithio eisoes i ystyried ei argymhellion. Fe wnaethom ni sefydlu grŵp y camau nesaf i Gymru ar yr ymchwiliad gwaed heintiedig, dan gadeiryddiaeth ein dirprwy brif swyddog meddygol newydd, Dr Push Mangat, ac fe fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yn fuan. Bydd yn gweithio gyda byrddau iechyd, Gwasanaeth Gwaed Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddogion polisi i sicrhau ein bod ni'n ystyried camweddau'r gorffennol ac yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau na all rhywbeth fel hyn fyth ddigwydd eto. Mae yna rai materion y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â nhw'n gyflym, ac fe wnawn ni hynny; fe fydd eraill yn cymryd mwy o amser. Fe fyddaf i'n adrodd yn ôl i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Fe wnes i gyfarfod â John Glen, y Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn yn Swyddfa'r Cabinet, ychydig ar ôl cyhoeddi'r etholiad cyffredinol, ac fe ddywedais i y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar sail pedair gwlad i weithredu gwelliannau ledled y DU. Mewn ymateb i hynny, fe ddywedodd wrthyf na fyddai'r etholiad yn oedi'r gwaith. Mae'r Aelodau yn siŵr o fod yn cofio bod y Senedd hon wedi rhoi ei chydsyniad i'r darpariaethau ym Mil Dioddefwyr a Charcharorion y DU i sefydlu'r trefniadau iawndal newydd ar gyfer pobl sydd wedi eu heintio a'u heffeithio. Cafodd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion ei gymeradwyo gan Senedd y DU yn rhan o broses cau pen y mwdwl y Senedd honno, ac mae wedi cael Cydsyniad Brenhinol erbyn hyn. Mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod iawndal gwaed heintiedig newydd yn cael ei sefydlu yn ffurfiol ac fe fydd y taliadau yn cael eu gwneud.

Mater i Lywodraeth y DU yw'r iawndal a'i ariannu, ond fe fydd fy swyddogion i'n parhau i weithio gyda'u cymheiriaid yn Whitehall i sicrhau y bydd trosglwyddiad rhwydd i fuddiolwyr ar gyfer y trefniadau newydd. Bydd y bobl hynny a gafodd eu heintio a'u heffeithio yn gallu hawlio iawndal, a hynny'n briodol, ac fe fyddwn ni'n eu cynorthwyo nhw gyda'r broses hon. Fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y bydd pawb sy'n gymwys i gael taliadau iawndal interim pellach yn eu derbyn cyn gynted â phosibl hefyd. Fe fydd ail daliad dros dro yn cael ei wneud ymhen 90 diwrnod i'r buddiolwyr sy'n fyw ac sydd ar gofrestr cynllun cymorth. Bydd taliadau dros dro pellach yn cael eu gwneud i ystadau'r rhai a gofrestrwyd ac fe fydd cynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru yn parhau i wneud taliadau ex gratia i ddarparu cymorth lles a seicolegol hyd nes y caiff y pontio ei gwblhau.

Bydd Syr Robert Francis, a ysgrifennodd yr adroddiad iawndal i Swyddfa'r Cabinet, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau dros yr haf ar gyfer ymgysylltu ynglŷn â'r pecyn iawndal a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y wybodaeth gywir gan y rhai sy'n gallu gwneud hawliadau a hefyd, lle bod angen, y gellir clywed eu barn ar y cynigion.

Rwyf am droi i'r Gymraeg nawr, felly efallai y bydd angen eich clustffonau arnoch chi.

Dirprwy Lywydd, roedd hi'n drychineb i bob un gafodd eu heintio a’u heffeithio. Gwaetha'r modd, dyw nifer fawr ohonyn nhw ddim gyda ni bellach. Dwi eisiau sicrhau pobl sy'n gwrando heddiw bod newidiadau wedi cael eu gwneud ac, yn bwysig iawn, fod y gwasanaeth a’r cyflenwad gwaed yn dra gwahanol erbyn hyn. Mae pawb sy’n rhoi gwaed yn wirfoddolwr di-dâl, ac mae’r risg o waed wedi'i heintio yn mynd i gyflenwad gwaed y Deyrnas Unedig yn llai nag un mewn 20 miliwn ar gyfer HIV a hepatitis C. Mae modd i unrhyw un sy'n poeni y gallai fod wedi heintio gael gafael ar becyn profi gartref trwy wasanaeth ar-lein Iechyd Cyhoeddus Cymru neu drwy eu bwrdd iechyd neu feddygfa.

Dirprwy Lywydd, mae'r sgandal gwaed heintiedig yn taflu cysgod tywyll ar hanes y GIG a'n sefydliadau cyhoeddus. Mae'n rhaid i ni fod yn well, ac mae'n rhaid i ni wneud yn well na'r gwadiadau, y sicrwydd di-sail, yr hunanfodlonrwydd, y celu, y cymylu a'r methiannau dro ar ôl tro ar lefel unigolion, sefydliadau a Llywodraeth a fu'n nodweddu a gwaethygu'r drasiedi enbyd hon, a achosodd i gymaint o bobl golli eu bywydau a'u dyfodol.

14:55

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru yn derbyn eu hail daliad iawndal interim o fewn 90 diwrnod i gyhoeddi adroddiad Langstaff.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu holl argymhellion adroddiad Langstaff sy'n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb datganoledig yn llawn ac yn ddi-oed.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i estyn allan yn rhagweithiol at yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru gyda'r cynnig o gefnogaeth a chwnsela perthnasol.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Llywodraeth am gytuno i gyflwyno'r ddadl yma heddiw. Er ei bod yn ddadl sydd yn amlwg yn haeddu sylw brys, y gwir ydy na ddylem ni fod yn y sefyllfa yma o orfod cael y ddadl yn y lle cyntaf. 

Mae canfyddiadau adroddiad Langstaff ar y sgandal gwaed heintiedig yn ddyfarniad llwyr ddamniol yn erbyn diwylliant ymwreiddiedig o gam-drin sefydliadol, esgeulustod llywodraethol a chymylu gwleidyddol a ganiatawyd i gronni yn ein corff gwleidyddol ers degawdau ac a arweiniodd at ganlyniadau trychinebus ar raddfa ddigynsail. Yn gyntaf i gyd, mae hi'n iawn i ni roi teyrnged i ymgyrchu ysbrydoledig yr unigolion a gafodd eu heffeithio sydd wedi brwydro dros gyfiawnder yn ddiflino yn wyneb buddiannau breintiedig grymus a geisiodd roi taw ar eu trafferthion ar bob cam. Dylid diolch hefyd i fy nghydweithiwr Rhun ap Iorwerth am ei gadeiryddiaeth o'r grŵp trawsbleidiol a'i gefnogaeth gyson i bawb a gafodd ei effeithio. Felly hefyd fe hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad aruthrol i'r frwydr hon.

Er na all unrhyw beth lwyr atgyweirio'r difrod a achoswyd i fywydau gan y sgandal hon, rwy'n gobeithio y gall yr adroddiad roi rhywfaint o ddiweddglo ar y mater i'r unigolion hynny a gafodd eu heffeithio a chychwyn y broses atebolrwydd y bu llawer gormod o aros amdani. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd hwn yn drobwynt o ran mynd i'r afael â grym sy'n amlwg yn anghytbwys ac sydd yng nghraidd ein system cyfiawnder troseddol. O drychineb Hillsborough i sgandal Horizon Swyddfa'r Post, yn rhy aml fe all olwynion cyfiawnder droi yn llawer yn rhy araf o ran camymddygiad a methiannau'r cyfoethog, yr elît a'r rhai â chysylltiadau da fel, yn anffodus, y mae'r ffaith i gymaint o ddioddefwyr fynd i'w beddau ymhell cyn i gyfiawnder ddod i'r golwg yn tystio i hynny.

Am y rheswm hwn, rwy'n credu bod cyfrifoldeb arbennig arnom ni'r cynrychiolwyr etholedig, ni waeth beth fo'n cysylltiadau gwleidyddol, i fyfyrio ar yr adroddiad gyda'r gwyleidd-dra mwyaf teilwng ac ymdrechu bob amser i beidio â cholli golwg fyth ar wir ystyr gwasanaeth cyhoeddus. Yn yr ysbryd hwn, rydym ni wedi cyflwyno cyfres o welliannau i gynnig gwreiddiol y Llywodraeth i'r ddadl hon. Fis diwethaf, fe gadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei hymateb i fy nghwestiwn amserol ynglŷn â'r mater hwn ei bod hi wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd yr ail daliad iawndal dros dro o £210,000 i unigolion a gafodd eu heffeithio sydd wedi eu cofrestru ar y cynllun cymorth yn cael ei dalu o fewn 90 diwrnod i gyhoeddiad yr adroddiad. Mae ein gwelliant cyntaf ni, felly, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau y bydd yr addewid hwn yn cael ei gadw fel yr addawyd. Mae'n hanfodol nad yw iawndal i unigolion yr effeithir arnynt, waeth pa mor fach y gallai fod yng nghyd-destun eu dioddefaint, yn cael ei ddal yn ôl gan newid yn y Llywodraeth yn San Steffan.

Fe fyddwn i'n croesawu diweddariad hefyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei hymateb ynghylch hyd y cynllun taliadau rheolaidd. Mynegwyd pryder mai dim ond hyd at fis Ebrill 2025 y bwriedir gwneud taliadau rheolaidd, ar hyn o bryd. Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i ymestyn y taliadau hyn y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw?

Rydym ni o'r farn hefyd fod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fod yn rhagweithiol wrth estyn allan at y 264 o bobl sydd wedi'u cofrestru ar gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru ar hyn o bryd gyda chynigion o gefnogaeth a chwnsela perthnasol, fel mae ein trydydd gwelliant yn ei nodi. Wrth gwrs, fe gymerodd y sgandal hon gymaint o amser, gwnaeth hi bontio'r cyfnod cyn ac ar ôl datganoli yng Nghymru, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae ystod a chymhlethdod y pwerau a neilltuwyd i'r Senedd wedi esblygu yn sylweddol. Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod anallu Swyddfa Cymru a Llywodraethau cynharaf Cymru i herio neu graffu ar safiad sefydlog gweinyddiaethau olynol y DU ar fater y defnydd o waed heintiedig yn rhoi sylwebaeth ddigalon iawn ar effeithiolrwydd y trefniadau rhynglywodraethol hyn. Yn amlwg, felly, ni ellir caniatáu i'r fframweithiau llywodraethu yma yn y Senedd nac ar lefel y DU gyfan fyth eto â methu mewn ffordd mor eithriadol. Ac o safbwynt Llywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddi yn y ffordd fwyaf effeithiol ac eang â phosibl. 

Felly, am y rheswm hwn, mae ein gwelliant terfynol yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad sy'n ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig yn llawn ac yn ddi-oed. Mae'r penodau tywyllaf yma yn hanes y gwasanaeth iechyd, a'r sefydliad gwleidyddol yn ehangach, yn wers hollbwysig yn y modd y mae sefydliadau sydd i fod i ymgorffori'r egwyddor o wneud dim niwed yn gallu cael eu hecsbloetio, gan arwain at fwy o niwed yn y pen draw. Mae'n ddyletswydd, felly, arnom i ddioddefwyr y sgandal hwn, i gynnal y tryloywder a'r atebolrwydd mwyaf mewn bywyd cyhoeddus, a ddylai cynnwys mesurau diogelu cadarn ar gyfer chwythwyr chwiban a grymuso lleisiau'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Hyderaf, felly, y byddwch yn cefnogi ein gwelliannau heddiw. Diolch.

15:00

Mae llawer o Aelodau sy'n dymuno siarad ar yr eitem hon, felly os bydd Aelodau'n cadw eu cyfraniadau'n fyr, byddaf yn gallu galw mwy o siaradwyr. Sam Rowlands.

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Er, yn dechnegol, nid dadl mohoni, nid oes safbwyntiau pleidiol yma o ran y mater dan sylw, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn cytuno â'r holl gynigion a nododd y Llywodraeth a hefyd gyda'r gwelliannau a gyflwynodd Plaid Cymru yma heddiw. A'r cyfan oherwydd bod gwarth gwaed heintiedig yn un o'r camweddau mwyaf erchyll a fu erioed yn hanes cyfiawnder ym Mhrydain. Cafodd bywydau pob un o'r dioddefwyr eu troi wyneb i waered, bywydau wedi eu dinistrio neu hyd yn oed eu colli mewn amgylchiadau mor ingol, ac mae hi'n gwbl gyfiawn ei bod hi'n flaenoriaeth nawr i Lywodraethau, yma ac yn San Steffan, i sicrhau bod iawndal yn cael ei roi i'r dioddefwyr hynny a theuluoedd y dioddefwyr hynny hefyd.

Mae'n ystrydeb, ond mae angen i ni sicrhau yn ogystal fod gwersi yn cael eu dysgu o hyn hefyd. Mae'n rhaid iddi fod yn flaenoriaeth na fyddwn ni fyth yn caniatáu i bethau gael eu celu ac, yn y bôn, nad oes llygredd o'r fath yn digwydd eto yn ein sefydliadau, ac yn enwedig ein sefydliadau cyhoeddus mwyaf sy'n bodoli i amddiffyn a gwasanaethu'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli. Ysgrifennydd Cabinet, fel chi, fe hoffwn innau rannu cwpl o straeon y mae trigolion wedi dweud wrthyf amdanyn nhw o ran rhai o'u profiadau mwyaf ingol. Rhannodd un o drigolion y gogledd, a oedd wedi cael gwaed o gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, ei stori gyda mi o gael ei heintio yn blentyn â hepatitis B a HIV a hepatitis C, ac fe dreuliodd fisoedd mewn gofal dwys. Disgrifiodd yr effaith gydol oes arno, ei wraig a'i rieni fel 'rhywbeth yn cnoi ar ein heneidiau ers talwm'. Felly, ar wahân i'r effaith ar iechyd corfforol, y 'rhywbeth yn cnoi ar ein heneidiau ers talwm' hwnnw a oedd gyda nhw trwy'r amser. Cafodd etholwr arall ei heintio â hepatitis C trwy driniaethau ar gyfer clefyd Von Willebrand, ac fe gafodd ei mam ef ei heintio hefyd, ac fe fu'n rhaid i'r ddwy gael trawsblaniad iau—sy'n amlwg yn driniaeth ddifrifol iawn, iawn sydd ag effeithiau hirdymor arnyn nhw a'u teulu. Ac mae llawer o fanylion trawmatig i'r achosion hyn a llawer gormod o rai eraill. Mae'r bobl hyn i gyd yn ein meddyliau ni yma heddiw, wrth i ni gymryd rhan yn y ddadl hon.

Wrth gwrs, fe gawsom ni gyfle i drafod adroddiad yr ymchwiliad cyn ein toriad ychydig wythnosau yn ôl, ond Ysgrifennydd Cabinet, fel roeddech chi'n ei nodi, bu rhai diweddariadau yn y cyfamser, ac rwy'n falch fod y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, ar 24 Mai, wedi cael cydsyniad yn rhan o'r broses cau pen y mwdwl cyn etholiad, y cafodd y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, fel rydych chi'n dweud, Gydsyniad Brenhinol, sy'n creu'r awdurdod i roi iawndal am waed heintiedig, a fydd yn gyfrifol am wneud y taliadau terfynol hyn i ddioddefwyr. Wrth gwrs, mae nifer o rannau symudol yn hynny, felly tybed, Ysgrifennydd Cabinet, pe gallech chi, yn rhan o'ch diweddglo, egluro'r hyder sydd gennych chi, gyda'r etholiad cyffredinol yn digwydd nawr, a rhai o'r materion newidiol hynny, yr hyder sydd gennych chi y bydd yr iawndal hwn yn wir yn cyrraedd y bobl sy'n ei haeddu â phob cyfiawnder yn yr amserlen gyflymaf bosibl; fe ddywedir wrthym ni mai erbyn 24 Awst yw'r dyddiad cau.

Rwy'n falch hefyd, fel roeddech chi'n sôn, Ysgrifennydd Cabinet, bod cadeirydd dros dro'r awdurdod iawndal gwaed heintiedig, Syr Robert Francis, wedi gwneud datganiad eu bod ni'n gweithio mor gyflym â phosibl i fod mewn sefyllfa i dderbyn y ceisiadau hynny a gwneud y dyfarniadau hynny, felly fe hoffwn i ddeall sut y gallech fod yn gweithio gyda'r awdurdod iawndal gwaed heintiedig i helpu'r broses honno fynd rhagddi gyda'r cyflymder y mae cymaint o angen amdano.

Rwy'n ymwybodol bod llawer o siaradwyr yma heddiw, Dirprwy Lywydd, ond fe hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon a chydnabod yr holl waith caled a wnaeth cymaint o bobl dros gymaint o flynyddoedd i sicrhau cyfiawnder o'r diwedd. Diolch.

15:05

Rwy'n falch iawn fod grŵp mawr o'r rhai sydd wedi eu heintio a'u heffeithio yma yng Nghymru yn ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus, gan gynnwys fy etholwyr, Sybil a Bev, a chadeirydd Haemophilia Wales, Lynne Kelly. Fe hoffwn i roi teyrnged arbennig i Lynne Kelly i ddiolch iddi hi am y ffordd deimladwy a phenderfynol y mae hi wedi arwain y grŵp hwn. Oherwydd mae'n rhaid i'r rhai y mae eu bywydau wedi cael eu troi yn gwbl wyneb i waered fod yn flaenllaw yn y ddadl hon heddiw. Fe hoffwn, felly, roi profiadau dau o fy etholwyr, Sybil a Bev, sy'n dangos profiad llawer o rai eraill, wrth gwrs, ar y cofnod heddiw.

Cafodd Sybil lawdriniaeth ar ei chalon yn 1989. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cafodd lythyr gan bennaeth gwasanaeth trallwyso gwaed Cymru a chafodd y newyddion ei bod wedi cael gwaed a oedd wedi'i heintio â hepatitis C. Dywedwyd wrthi am beidio â defnyddio'r un llestri na'r un cyllyll a ffyrc â'i gŵr, a pheidio â chael cyfathrach agos. Ni chafodd Sybil unrhyw gwnsela. Bu'n rhaid iddi fynychu'r clinig clefydau heintus yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac fe ddisgrifiodd sut y byddai hi'n teimlo yn aflan oherwydd bod ganddi hepatitis C. Roedd sgil effeithiau ei thriniaeth yn waeth na chael cemotherapi. Roedd cyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig ar 20 Mai yn garreg filltir yn yr ymgyrch dros gyfiawnder. Yng ngeiriau Sybil ei hun, 'Ni all neb ddechrau amgyffred sut rwy'n teimlo ar hyn o bryd wrth glywed sylwadau agoriadol Syr Brian Langstaff pan ddywedodd, "Nid damwain oedd hon"'.

Rwyf i am droi nawr at Bev, y bu farw ei dau frawd, Gareth a Haydn, mewn 10 mis o'i gilydd yn 2010 ar ôl cael gwaed heintiedig a oedd wedi'i heintio â HIV a hepatitis C. Roedd Gareth a Haydn yn ffigurau allweddol yn yr ymgyrch i ddarparu cefnogaeth a chyfiawnder i bobl â hemoffilia a'u teuluoedd trwy Birchgrove Cymru, Haemophilia Wales, Grŵp Cenedlaethol Birchgrove a grŵp ymgyrchu Tainted Blood, ac, mewn gwirionedd, fe ddechreuon nhw drwy gyfarfod fel grŵp yn nhafarn y Birchgrove yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, ond erbyn hyn, wrth gwrs, mae wedi dod yn Birchgrove Cymru.

Pan ddywedwyd wrth gleifion hemoffilia am eu diagnosis o HIV, roedd yn brofiad arswydus—dedfryd o farwolaeth, gydag amcangyfrifon disgwyliad oes o rhwng dwy a phum mlynedd. Roedd y gwarthnod yn erchyll ac roedd y mwyafrif o gleifion yn cadw eu cyflwr yn gyfrinachol. Roedd y grwpiau a sefydlodd Gareth a Haydn i gefnogi'r rhai a oedd wedi eu heintio yn achubiaeth i'r bobl hyn. Dywedodd Bev wrthyf fod Gareth yn ddig, yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn benderfynol, tra bod Haydn yn llawer tawelach ac yn bwyllog yn ei ddull o weithio, gan weithio i ffwrdd ac ymchwilio yn dawel.

Gyda datganoli yn 1999, aeth yr ymgyrchu i fynd at y gwir o nerth i nerth, ac fe gyflwynodd Gareth, fel cadeirydd Haemophilia Wales a oedd newydd gael ei sefydlu, yr achos dros ymchwiliad cyhoeddus yn y grŵp trawsbleidiol cyntaf a gynhaliwyd yn y Cynulliad a oedd newydd ei ffurfio. Pan deithiodd Bev i Lundain ar 20 Mai, roedd hi'n ei ddisgrifio fel 'profiad emosiynol, dyrchafol' wrth glywed y canlyniad a gweld goroeswyr o bob rhan o'r DU, ond llanwyd hi â thristwch enfawr o ystyried nad oedd ei brodyr hi, Gareth a Haydn, gyda'u cyfraniad enfawr tuag at yr ymchwiliad, yno i'w glywed. Roedd hi'n dymuno y bydden nhw wedi gallu bod yno gyda hi.

Ond nid yw'r frwydr wedi ei hennill eto. Mae Brian Langstaff wedi dweud nad damwain oedd hon, ac mae hynny wedi bod o gysur mawr, rwy'n credu, i lawer o'r bobl sydd wedi eu heintio a'u heffeithio. Ond mae pryderon eang o ran a fydd rhestr lawn argymhellion Brian Langstaff yn cael ei gweithredu. Mae pryderon ynglŷn â'r cynllun cymorth misol, ac mae llawer o bobl yn poeni y gallen nhw fod yn dlotach yn ariannol os na weithredir ar argymhellion Syr Brian. Rwy'n credu bod llawer o bobl yn credu mai gobaith di-sail a roddwyd. Ac rwy'n credu, os edrychwch chi ar hanes yr hyn sydd wedi digwydd i'r grŵp hwn, fe allwch chi ddeall yn iawn pam mae pobl yn teimlo felly. Mae hwn yn adroddiad gwych, roedd Brian Langstaff yn hollol wych ym mhopeth a ddywedodd, ond nawr mae'n rhaid i ni sicrhau bod hynny'n cael ei roi ar waith, ac fe wn i y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwneud popeth yn ei gallu gyda'r pwerau sydd gennym ni yma i sicrhau bod yr argymhellion hynny i gyd yn cael eu gweithredu. Mae hi wedi cymryd 40 mlynedd i gyrraedd y sefyllfa hon, ac mae angen i ni ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol a gwneud yr hyn sy'n iawn o'r dechrau'n deg. 

15:10

Mi oedd hi'n anrhydedd go iawn i fod yn Llundain ychydig wythnosau'n ôl i wrando ar Syr Brian Langstaff yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol. Mi oedd Julie Morgan yno hefyd, a chymaint o'r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd yma yng Nghymru. Mi oedd o'n ddigwyddiad emosiynol iawn, iawn, efo llawer iawn yn eu dagrau, wrth gwrs, ac yn cofio am y rheini oedd yn methu bod yno—y rhai oedd wedi gorfod talu efo'u bywydau am y sgandal yma ddylai fod erioed wedi digwydd ac, ie, oedd ddim o gwbl yn ddamwain. Ac yno oedden nhw i glywed y canfyddiadau ac i dderbyn y cyfiawnder roedden nhw'n ei haeddu, ac i glywed y gwir, wrth gwrs, dŷn ni i gyd yn gwybod oedd yn wirionedd drwy'r cyfan.

Etholwyr i mi, Mr a Mrs Hutchinson, wnaeth fy nghyflwyno i i fawredd y sgandal yma, a dwi wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd efo nhw dros y blynyddoedd. Drwyddyn nhw y dysgais i am yr anghyfiawnder. Drwyddyn nhw y des i'n rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar waed wedi'i heintio, yn cael ei gadeirio gan Julie Morgan ar y pryd. A phan ddaeth Julie Morgan yn Weinidog yn y Llywodraeth, fy mraint i oedd cael cymryd drosodd fel cadeirydd, a gweithio'n agos efo Lynne Kelly a'r holl unigolion a theuluoedd hynny sydd wedi rhoi eu bywydau yn llythrennol, neu eu hamser, eu hegni a'u holl angerdd i frwydro am y cyfiawnder dydyn ni ddim wedi'i gael eto, ond o leiaf rydyn ni'n agos at ei gael. Mi oedd gwrando arnyn nhw unwaith eto amser cinio heddiw—y brodyr wedi colli eu chwiorydd, y chwiorydd wedi colli eu brodyr, pobl wedi colli eu rhieni, rhieni wedi colli eu plant; y stigma, y galw enwau, y cywilydd sydd wedi bod yn gysgod dros gymaint o fywydau.

Dwi ddim yn mynd i wneud pwyntiau ychwanegol o ran yr hyn dŷn ni angen ei weld gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain, fwy na sydd wedi cael ei ddweud gan Mabon ap Gwynfor ar ran y meinciau Plaid Cymru yma'n barod, ond i ategu y geiriau hynny a gwneud y pwynt na allwn ni ildio eiliad yn ein penderfynoldeb i gyrraedd at ben draw hyn a chael y cyfiawnder gwirioneddol, oherwydd mae yna garreg filltir bwysig wedi'i chyrraedd yn y datganiad hwnnw gan Syr Brian Langstaff a gwaith yr ymchwiliad, ond dim ond carreg filltir ydy hi ar hyn o bryd.

Mi ddaeth yr ymddiheuriadau a'r ymateb taer gan Weinidogion yn San Steffan oriau, mewn difri, cyn i etholiad cyffredinol gael ei alw, felly mae pethau ar stop, ond mae'n rhaid inni rŵan, dan y Llywodraeth nesaf, o ba bynnag liw fydd honno, fod mor benderfynol ag erioed o fwrw'r maen i'r wal, er mwyn y rheini sy'n dal i ymgyrchu, a'r rheini sydd, oherwydd eu bod nhw wedi talu i'r eithaf am hyn, yn methu â gwneud hynny bellach. Mae'n ddyletswydd arnom ni, a'n dyled ni iddyn nhw ydy gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod y cyfiawnder yna'n dod.

15:15

O, fi sydd i siarad. Diolch. Roedd canfyddiadau damniol yr ymchwiliad gwaed heintiedig a gyhoeddwyd ar 25 Mai yn taflu goleuni ar un o'r sgandalau mwyaf yn hanes triniaethau'r GIG. Amcangyfrifir bod 3,000 o bobl a heintiwyd â HIV a hepatitis C ar ôl cael cynhyrchion gwaed heintiedig wedi marw. Gwyddys bod tua 400 o bobl yng Nghymru wedi cael eu heintio, ac eithrio'r rhai a fu farw heb gael gwybod eu bod wedi eu heintio. Mae Haemophilia Wales yn dweud bod 283 o gleifion yng Nghymru wedi cael eu heintio â hepatitis C yn y 1970au a'r 1980au, a bu farw dros 70 o bobl â hemoffilia yng Nghymru yn unig.

Fel y gwnaeth yr ymchwiliad pum mlynedd ei fynegi, nid damwain ydoedd ac roedd modd ei osgoi. Cafodd y gwirionedd ei gelu a chafodd dioddefwyr eu siomi dro ar ôl tro. Mae Haemophilia Wales wedi gofyn i mi siarad am effaith gwaed heintiedig ar etholwraig o'r gogledd, Jane Jones, a'i theulu. Cafodd Jane ei heintio â hepatitis C trwy driniaeth ar gyfer clefyd Von Willebrand, anhwylder prin ar y gwaed. Ni chafodd wybod am yr haint a oedd arni. Cafodd ei diweddar fam, Anona, ei heintio â hepatitis C hefyd ac fe gafodd y ddwy drawsblaniad iau oherwydd hepatitis C. Teithiodd Jane o'r gogledd i Lundain i glywed argymhellion Syr Brian Langstaff, cadeirydd yr ymchwiliad gwaed heintiedig. Cafodd ei chyfweld gan y cyfryngau Cymraeg a Saesneg am wythnosau cyn yr ymchwiliad ac ar y diwrnod ei hun, fe gafodd ei dewis i gynrychioli dioddefwyr Cymru a Haemophilia Wales. Ar 21 Mai, cynrychiolodd Jane Haemophilia Wales a dioddefwyr gwaed heintiedig Cymru yn y Senedd gan fod yno i weld datganiad John Glen ar iawndal gwaed heintiedig o oriel y Llefarydd.

Mae Haemophilia Wales yn ddiolchgar iawn iddi am ran bwysig Jane a'i mam yn yr ymgyrch dros gael ymchwiliad cyhoeddus i ganfod y gwirionedd o'r diwedd ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd. Roedd y ddwy yn honni nad oedden nhw erioed wedi cael gwybod am risgiau'r driniaeth ac na chawson nhw wybod wedyn eu bod nhw wedi eu heintio. Fel y dywedodd Jane yn ei datganiad i'r ymchwiliad, mae cael eich heintio â hepatitis C yn rhywbeth na fyddech chi'n ei ddymuno ar eich gelyn pennaf.

Mae etholwraig o sir Ddinbych, Rose Richards, wedi ysgrifennu hefyd yn gofyn i mi siarad ar ei rhan yn y ddadl hon. Mae hi wedi ei heffeithio am ei bod yn cario genyn hemoffilia ac fel chwaer i frawd a oedd â hemoffilia a fu farw o AIDS yn 46 oed ym 1990, ar ôl derbyn triniaeth ffactor VIII halogedig yn gynnar yn y 1980au. Mae hi hefyd yn gyfranogwr craidd yn yr ymchwiliad gwaed heintiedig ac mae hi wedi cyflwyno dau ddatganiad ysgrifenedig i hwnnw. Fe wnaeth hi benderfyniad ynghylch a ddylai gael plant ar sail y wybodaeth a oedd yn dal y gwir yn ôl am y risg hysbys o niwed difrifol. Mae gan ei meibion hi, a aned ym 1983 a 1985, hemoffilia. Yn ffodus, nid oedd angen ffactor VIII ar y ddau hyd nes ei fod yn gynnyrch mwy diogel ar ddiwedd yr 1980au. Fel mae hi'n dweud, er hynny, mae'r profiad o glywed rhieni eraill yn colli eu plant wedi bod yn ddirdynnol nawr ein bod ni'n gwybod y gwir am y sgandal. Ychwanegodd hi, er bod Syr Brian Langstaff yn argymell y dylai'r taliadau cymorth parhaus presennol o dan gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru barhau i bobl a phriod heintiedig neu bartneriaid pobl heintiedig a fu farw, ac y dylid talu iawndal yn ychwanegol at y taliadau cymorth, ni fu unrhyw ymrwymiad i anrhydeddu hyn. Fe ddaeth hi i'r casgliad, 'Fel grŵp, rydym ni'n bryderus iawn ynglŷn ag unrhyw oedi eto gan y Llywodraeth.' Mae dioddefwyr yn parhau i farw ar gyfradd o un bob pedwar diwrnod heb gael cyfiawnder.

Wrth siarad yma mewn dadl yn 2017, wrth alw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i drychineb gwaed heintiedig y 1970au a'r 1980au, fe ddyfynnais i Monica Summers, y bu farw ei gŵr Paul, a oedd yn ddioddefwr oherwydd banc gwaed heintiedig, ar 16 Rhagfyr 2008, yn 44 oed. Pum mlwydd oed oedd eu merch. Dywedodd Monica,

'Bob dydd am 18 mis roedd hi'n holi "pryd bydd dadi'n dod adref?" Fe drodd hi'n 13 oed ym mis Hydref ac mae'r ddwy ohonom ni'n dal i'w chael hi'n anodd. Ni chafodd fy ngŵr ddewis, fe wnaeth rhywun ddewis drosto ac fe gollodd ei fywyd oherwydd penderfyniadau a wnaeth eraill. Ond dros 30 mlynedd yn ddiweddarach rydym ni'n dal i geisio rhywfaint o gytundeb. Gadewch i'r penderfyniadau nesaf gael eu gwneud gan leisiau pobl sy'n dioddef o HIV a Hepatitis C ar hyn o bryd, gan y gweddwon a'r teuluoedd sy'n cael eu gadael ar ôl ac sy'n ceisio gwella ac adeiladu bywyd normal newydd.'

Byddai eu merch yn 20 oed erbyn hyn. Fel y dywedais i bryd hynny, mae gwaed heintiedig wedi cael ac yn parhau i gael effaith ddinistriol ar fywydau miloedd o bobl a heintiwyd a'u teuluoedd. 

15:20

Dirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o dri dioddefwr y sgandal gwaed heintiedig o fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd: Colin John Smith, Terry Webley a Bill Dumbleton, ac mae pob un ohonyn nhw wedi dioddef oherwydd methiannau gresynus y systemau iechyd a gwleidyddol a oedd yn gysylltiedig â hyn ac a nodwyd yn yr adroddiad. Yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn gynharach gan Haemophilia Wales ac a gadeiriwyd gan Lynne Kelly, a fu'n ymgyrchydd mor anhygoel ynglŷn â'r materion hyn ac yn ffynhonnell mor wych o gadernid a chefnogaeth i'r teuluoedd, fe gwrddais i â Joanne Davies a sonioddd am frawd ei gŵr Gavin, sef Terry Webley, a fu farw yn 10 oed, ac am yr anwybodaeth a'r ofn a glywsom ni amdano eisoes, y stigma a oedd yn bodoli ynghylch HIV/AIDS ar y pryd, a oedd yn golygu eu bod yn cael eu hosgoi yn y gymuned, y teuluoedd dan sylw, nad oedd yr ysgolion yn darparu'r gefnogaeth y dylen nhw fod wedi ei rhoi, nad oedd y cyfryngau lleol yn garedig nac yn deall ac nad oedden nhw'n dangos llawer o gydymdeimlad, roedd bwlio a galw enwau yn gysylltiedig â hynny ac, wrth gwrs, mae'r effaith ar iechyd y teuluoedd yn parhau, ac, yn achos Joanne, ar iechyd ei gŵr Gavin a'r teulu yn fwy eang.

Ac yn bresennol hefyd yr oedd Colin a Janet Smith, a gollodd eu mab Colin John Smith, a fu farw yn saith oed o AIDS yn pwyso dim ond 13 pwys, ar ôl dioddef methiannau o'r fath. Ac rwy'n gwybod bod eu tŷ nhw, Dirprwy Lywydd, wedi cael ei paentio â sarhad a graffiti oherwydd cyflwr Colin John Smith, a'i bod hi'n anodd ei gael mewn i ysgol a bod problemau yn yr ysgol wedyn ac, unwaith eto, problemau fel hyn yn y gymuned yn fwy eang. Roedd hi'n sgandal ofnadwy ac yn gondemniad o systemau'r cyfnod, Dirprwy Lywydd, ac fe ddioddefodd cymaint o deuluoedd yn y ffordd y gwnaeth y teuluoedd hyn. Roedd Colin John Smith yn gwybod ei fod ar farw a'r hyn a wnaeth mewn gwirionedd oedd rhoi ei deganau, cyn iddo farw, i'w frodyr. Rydych chi'n meddwl am y don enfawr honno o emosiwn a ddaeth dros deuluoedd yn y cyfnod hwnnw, cymaint o deuluoedd, a methiannau ofnadwy'r systemau hynny a nodir yn yr adroddiad yn dilyn yr ymchwiliad.

Ond fe hoffwn i ddweud wrth gloi, Dirprwy Lywydd, wrth i ni fyfyrio ar y dioddefaint hwnnw—ac fe fyddwn ni'n clywed enghreifftiau pellach yma heddiw, ac fe glywsom ni'r enghreifftiau hynny drwy adroddiad yr ymchwiliad a'r achosion i fyny yn Nhŷ'r Cyffredin yn San Steffan hefyd—pan fyddwn ni'n myfyrio ar raddfa'r drasiedi i bobl a'r dioddefaint cysylltiedig, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni fyfyrio ar ba mor gadarnhaol yw ysbryd y bobl yn nheuluoedd y dioddefwyr, y cariad a'r ymrwymiad sydd wedi cael ei gynnal dros gyfnod hirfaith ac sy'n dal i gael ei gynnal heddiw a hwnnw a gynhyrchodd yr ymgyrch, a gynhyrchodd yr ymchwiliad a'r adroddiad a gafodd y gydnabyddiaeth honno i'r dioddefwyr a'u teuluoedd, fe ddylai hynny arwain nawr at y camau cyflym y mae eraill wedi galw amdanynt heddiw.

Ac fe hoffwn i orffen gyda geiriau Janet Smith, mam Colin John Smith, pan fynegodd hi'n union beth yw ystyr yr ymgyrch hon, yr ymchwiliad, yr adroddiad i'r dioddefwyr a'r teuluoedd nhw. Meddai Janet:

'Mae angen cydnabyddiaeth arnaf i. Rwyf eisiau i fy mab gael ei enw yn ôl. Ei enw yw Colin John Smith. A dyna yr wyf i eisiau i bobl ei gofio.' 

'I arbed wyneb ac arbed cost, cafodd llawer o'r gwirionedd ei gelu.'

Mae'n rhaid i eiriau damniol a brawychus Syr Brian Langstaff fod yn flaenllaw yn ein meddyliau wrth i ni ystyried effaith y sgandal gwaed heintiedig ar etholwyr yr ydym ni'n eu cynrychioli yma. Mae dwy chwaer o Gwm Tawe yn yr oriel gyhoeddus heddiw, Sharon a Rhian. Roedden nhw'n dymuno i mi dynnu sylw at sefyllfa a dioddefaint eu teulu nhw o ran y sgandal echrydus ac anfaddeuol hon, oherwydd mae eu stori nhw'n tynnu sylw at sut y mae'n rhaid ystyried, a chydnabod a gwneud cyfiawnder yn deg ac yn gyfartal heb oedi dim mwy. Roedd eu diweddar dad, Arwyn Davies, o Drebanos, â hemoffilia. Roedd dan ofal y proffesiynau meddygol ac roedd yn ymddiried ynddyn nhw, a oedd yn darparu triniaeth ar gyfer ei gyflwr. Roedd yn mynd i ganolfannau hemoffilia Caerdydd ac Abertawe, a Mr Bloom oedd ei brif ymgynghorydd. Bu farw Arwyn Davies ar 18 Mawrth 1992, yn 60 mlwydd oed. Roedd tystysgrif ei farwolaeth yn nodi ei fod wedi marw o hepatitis C, hepatoma a emoffilia.

Treuliodd ei yrfa gyfan yn swyddog llywodraeth leol, ond, yn yr 1980au, dechreuodd ei iechyd ddirywio a bu'n rhaid iddo ymddeol yn gynnar o'i waith, ac ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach roedd wedi marw. Bu farw ei wraig Eira yn 2018, 26 mlynedd ar ôl ei gŵr, a dim ond ar ôl marwolaeth eu mam y daeth Rhian a Sharon yn ymwybodol o'r hyn a nodwyd ar dystysgrif marwolaeth eu tad. Yn ystod y 26 mlynedd hynny, ni wnaed unrhyw gyswllt i roi gwybod i unrhyw un o'r teulu am unrhyw un o'r risgiau yr oedden nhw wedi dod yn agored iddynt, nac i'w hysbysu bod ganddyn nhw hawl i unrhyw fath o daliadau budd-dal. Roedd hi mor anodd clywed gan Sharon a Rhian am eu brwydr faith a dolurus i gael gafael ar gofnodion meddygol a oedd yn ymwneud â'u tad, wrth iddyn nhw ymgyrchu dros gyfiawnder i'w teulu. Ond fe gawson nhw brawf o'r diwedd, a oedd yn cadarnhau mai wedi cael ffactor heintiedig yr oedd eu tad a bod y meddygon ymgynghorol yn ymwybodol o achos ei farwolaeth.

Ers cael y wybodaeth hon, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda'r ymchwiliad gwaed heintiedig a Haemophilia Wales i sicrhau bod rhywun yn cael ei ddwyn i gyfrif. Ac er i Syr Brian Langstaff gymryd y cam anarferol o gyhoeddi iawndal dros dro cyn yr adroddiad terfynol, dim ond ar gyfer y rhai sy'n fyw a gafodd eu heintio a'r gweddwon mewn profedigaeth yr oedd hyn. Ni chafwyd unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i'r argymhelliad yn yr ail adroddiad interim ar iawndal, ym mis Ebrill 2023, a oedd yn galw am daliad iawndal dros dro am y marwolaethau nas cydnabuwyd yn flaenorol, ac, hyd yma, nid yw plant a gollodd rieni, fel Rhian a Sharon, erioed wedi cael iawndal na chydnabyddiaeth o farwolaeth eu tad. Nid ydyn nhw wedi cael llythyr ymddiheuriad gan eu bwrdd iechyd lleol, hyd yn oed. Felly, fy nghwestiwn i yw: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sicrhau nad yw Llywodraeth y DU yn oedi'r cynnydd  ymhellach?

Ac yn y rheoliad newydd o iawndal gwaed heintiedig, o dan y pennawd, 'Cais ystad', mae'n nodi:

'pan fo unigolyn yr effeithiwyd arno wedi marw, nid yw'n bosibl i gynrychiolwyr personol eu hystad wneud cais am iawndal.'

Ysgrifennydd Cabinet, a ydych chi'n cytuno nad oes modd cyfiawnhau hynny pan ddioddefodd pobl, fel mam Rhian a Sharon, sef Eira, galedi ariannol a salwch, heb unrhyw gymorth ariannol, yn dilyn marwolaeth Arwyn? A yw Llywodraeth Cymru felly yn derbyn mai'r peth iawn i'w wneud mewn amgylchiadau fel un y teulu hwn fyddai sicrhau bod y teulu yr effeithiwyd arno'n cael manteisio ar iawndal? Rwy'n credu nid yn unig mai dyna sy'n foesol gywir, ond ei fod hefyd yn arwydd o ymddiheuriad dyledus gan y wladwriaeth—y wladwriaeth, cofiwch, a gelodd y mater—i'r rhai y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnyn nhw, y rhai y mae eu bywydau cyfan wedi eu creithio gan golled a chan gelwyddau? A pha mor bell y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau y bydd pawb sydd bellach yn byw gyda hemoffilia, fel ŵyr Arwyn, mab Sharon, yn cael y cymorth gorau posibl gan wasanaethau cyhoeddus, heb orfod egluro goblygiadau eu cyflwr i leoliadau addysg a lleoliadau gofal iechyd, er enghraifft, bob tro, sef yr hyn sy'n digwydd, er mwyn rhoi camau ehangach ar waith i gynyddu ymwybyddiaeth a sicrhau diogelwch i bawb sy'n byw gyda hemoffilia? Diolch.

15:25

Rwy'n cofio'r diwrnod wyth mlynedd yn ôl, roeddwn i'n eistedd wrth ymyl Julie Morgan yn y Siambr hon, ac ychydig ar ôl amser cinio, fe ddywedodd hi, 'Mae yna grŵp trawsbleidiol yr wyf i'n ei gadeirio, a wnewch chi ddod i gwrdd â rhai o'ch etholwyr chi sydd wedi'u heffeithio gan y sgandal hon?' Ac fe es i gyfarfod â nhw—ac rwy'n gallu gweld Kirk Ellis yn yr oriel heddiw—ac fe gafodd hynny effaith aruthrol arnaf i ac roeddwn i'n awyddus i ymuno â'r ymgyrch honno, ac felly rwy'n falch o fod yn is-gadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar hemoffilia a gwaed heintiedig.

Fe hoffwn i roi rhai enghreifftiau i chi o'r etholwyr hynny yr wyf i wedi cwrdd â nhw ac wedi bod mewn cysylltiad â nhw ers hynny. Ysgrifennodd Janet Morgan a'i merch Felicity ataf i sôn am ei diweddar ŵr a thad a oedd â hemoffilia, a gafodd ei drwytho â ffactor VIII ac, o ganlyniad i hynny, fe gafodd ei heintio â hepatitis C. Cafodd nifer o feddyginiaethau clinigol arbrofol a oedd yn ei wneud yn wan iawn, a chafodd ef a'i deulu eu hamddifadu o fywyd normal. Dim ond 12 oed oedd Felicity pan gafodd ei thad wybod bod ganddo hepatitis C a thair i bum mlynedd o fywyd ar ôl. Fe wnaeth colli gŵr a'u tad yn 2010 eu hysgwyd ac mae hynny'n dal i effeithio'n fawr ar eu teulu, gan ei fod yn ŵr, tad a thaid mor annwyl, ac nid yw eu bywydau fyth wedi bod yr un fath.

Cysylltodd Susan Hughes â mi, yr oedd ei brawd Alan Jones â hemoffilia ac fe gafodd ei heintio â HIV a hepatitis C ar ôl derbyn gwaed heintiedig yn y 1980au yn 15 oed. Cafodd wybod hynny'n 17 oed, heb i'w rieni fod yn bresennol, sef ei fod wedi cael y firysau. Roedd gan Alan anawsterau dysgu ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd yn dair oed, ac fe fu farw yn 1994 yn ddim ond 25 oed o diwmor ar yr ymennydd a achoswyd gan y firws AIDS. Mae rhieni Alan a Susan wedi marw eu hunain bellach yn drist, ac ni welson nhw gyfiawnder erioed.

Cysylltodd yr Athro Nicholas Moran â mi, y cafodd ei ddiweddar frodyr, Peter a Tim, a oedd yn efeilliaid, eu cyd-heintio â HIV a hepatitis C gan gynhyrchion gwaed heintiedig y GIG. Bu'r ddau farw yn ifanc oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â HIV. Dioddefodd iechyd eu mam o ganlyniad, ac roedd ei marwolaeth hi o ganlyniad uniongyrchol i hynny. Mae'r Athro Moran yn uwch lawfeddyg sydd wedi gweithio ar hyd ei yrfa yn y GIG ers dros bedwar degawd, ond fe ddywedodd ef wrthyf ei fod wedi cael ei ysgwyd gymaint o ganlyniad i'r sgandal hon fel bod ei hyder yn y gwasanaeth wedi cael ei chwalu, yn enwedig gan ddatguddiadau dinistriol adroddiad Syr Brian Langstaff. O ganlyniad i hynny, mae wedi penderfynu ymadael â'r GIG. Mae'n dymuno gweld argymhellion adroddiad Syr Brian yn cael eu gweithredu yn eu llawnder ac yn ddiymdroi, ac mae'n pryderu, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd taliadau dros dro yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio, ni chafwyd unrhyw ymrwymiad i gefnogi perthnasau a effeithiwyd na chydnabod marwolaethau nad oedden nhw wedi cael eu nodi yn flaenorol.

Rwy'n dod at Kirk Ellis. Kirk a roddodd y tei yma i mi, sydd â lliwiau'r ymgyrch arno, y tu allan i swyddfa Wayne David ym Medwas, rwy'n credu ei bod hi'n dair blynedd oddi ar hynny erbyn hyn. Roeddem ni'n dal i weithio ar gyfraddau iawndal sylfaenol ar yr adeg honno. Bydd ef yn mynychu cyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn rheolaidd, ac, fel y soniais i, mae ef yn yr oriel gyhoeddus. Fe wnes i gyfarfod ag ef ychydig ar ôl cinio heddiw, ac fe ddywedodd fod pryderon gwirioneddol ganddo ynglŷn â chynllun iawndal arfaethedig Llywodraeth y DU. Gallai hwnnw mewn gwirionedd fod yn waeth yn y pen draw er gwaethaf y taliadau pe byddai ef yn cael y cyfandaliad a grybwyllir yn natganiad y cynllun iawndal, oherwydd fe fyddai'r taliadau cymorth y mae'n eu derbyn yn dod i ben wedyn. Fe fyddai ei gyfandaliad ef yn para 20 mlynedd ar y mwyaf iddo ef a'i deulu, ac mae'n nodi bod Llywodraeth yr Alban yn yr Alban wedi gwarantu y bydd y taliadau cymorth cyfredol parhaus yn para am oes, yn ogystal â'r taliadau cyfandaliad iawndal a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i adroddiad Syr Brian. Yr hyn y mae ef yn dymuno i Lywodraeth Cymru ei wneud—mae'n cydnabod mai mater cyn datganoli oedd hwn—yw sicrhau bod y mater hwnnw yn cael ei ddatrys, ac nad yw'n ddibynnol ar ddim ond 20 mlynedd o gyllid o ganlyniad i'r iawndal, ac nad yw'n cael ei ddal yn y fagl o weld yr incwm hwnnw'n lleihau, wedyn, sef incwm y budd-daliadau anabledd yr oedd hawl ganddo i'w cael o'r blaen.

Ac yn olaf, rwy'n dymuno rhoi teyrnged i Wayne David, cyn AS Caerffili erbyn hyn. Gweithiodd Wayne yn galed iawn ar y mater hwn yn Nhŷ'r Cyffredin, ac fe gyflwynodd ddeiseb yn ddiweddar ar yr ymchwiliad gwaed heintiedig yn Siambr Tŷ'r Cyffredin. Roedd y ddeiseb yn galw am roi iawndal ar unwaith i'r rhai a gafodd eu heffeithio gan waed heintiedig, ac ar y cyd ag ef, roedd ein hetholwyr Lee Stay a Kirk Ellis wedi ychwanegu nifer o enwau lleol at y ddeiseb honno. Rwy'n credu y bydd Tŷ'r Cyffredin yn gweld eisiau ysbryd ymgyrchu Wayne ar hyn, ond rwy'n credu ei fod ef wedi gweithio yn galed hefyd i sicrhau ein bod ni'n gweld y canlyniad sydd gennym heddiw, er fy mod i o'r farn o hyd, mai un cam ar y daith o ddarparu cyfiawnder llawn ydyw i'r teuluoedd a'r bobl y mae'r sgandal hon yn effeithio arnyn nhw.

15:30

Yn gyntaf i gyd, fe hoffwn i roi teyrnged i bawb sydd wedi ymgyrchu dros y mater hwn ac sy'n parhau i wneud hynny. Mae rhai gyda ni yma heddiw, ac fe gofiwn ni'r rhai nad ydyn nhw. Fel y gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dynnu sylw ato, cyn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, roedd yna gyfle i wrando ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan y sgandal hon, ac nid wyf i'n credu y gallai unrhyw un fod wedi gadael yr ystafell honno heb ddealltwriaeth eglur o'r anghyfiawnder y mae teuluoedd wedi ei wynebu. Fe fyddech chi wedi clywed sut y gwnaeth pobl mewn safleoedd o awdurdod ddifenwi'r teuluoedd am godi pryderon, gan eu cyhuddo o ddweud celwydd, eu cyhuddo o godi bwganod. Anonestrwydd, dim llai, onid e—ymgais i arbed arian. Wel am ddyfarniad yn erbyn ein cyfundrefn ni.

Wythnos diwethaf, fe gysylltodd Deborah James, etholwraig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, â mi i adrodd hanes ei brawd. Bu ei brawd, a oedd yn swyddog heddlu gweithredol, farw yn 31 oed yn 1982, o ganlyniad i gael gwaed heintiedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Datgelodd Deborah wrthyf ei fod wedi bod yn brwydro yn erbyn lymffoma Hodgkin, a'i fod wedi cael diagnosis cadarnhaol yn dilyn cemotherapi. Serch hynny, roedd cymhlethdodau yn golygu iddo ddioddef gwaedu mewnol ac fe'i cludwyd i Gaerdydd, lle cafodd sawl peint o waed yn lle'r gwaed yr oedd yn ei golli. Dywedwyd wrthyn nhw ei fod wedi cael yr hyn y cyfeiriwyd ato'n 'beint drwg', a'i fod wedi cael ei heintio â hepatitis C. Oherwydd yr effaith ar ei iau, dioddefodd brawd Deborah glefyd melyn. Roedd yn ei frifo iddo eu cael nhw'n ei gofleidio, ac—rwy'n dyfynnu Deborah nawr—nid ydyn nhw erioed wedi dod dros yr hyn a ddigwyddodd yn ystod wythnosau olaf ei fywyd.

Un o'r pethau allweddol a oedd yn sefyll allan i mi yn y cyfarfod yn gynharach heddiw oedd rhywbeth a gafodd ei ddweud: nid yw ymddiheuriad yn golygu dim os nad oes cydnabyddiaeth o'r hyn y mae pobl wedi bod trwyddo. Mae iawndal yn un ffordd o gydnabod, ac er y bydd yna daliad iawndal dros dro o £210,000 yn cael ei roi i'r rhai a gafodd eu heintio, yn siomedig iawn, ni chafwyd ymrwymiad i sicrhau y bydd y taliad iawndal dros dro yn cael ei wneud pan nad oes cydnabyddiaeth, fel y mynegodd Aelodau eraill. Fe fyddwn i'n gobeithio y gallai'r Gweinidog roi sylw ar hyn, oherwydd mae hwnnw, wrth gwrs, yn ofid i deuluoedd—yn benodol o ran sut y byddwn ni'n cynorthwyo'r teuluoedd hynny a gollodd eu perthnasau ond mai achos arall a roddwyd i'r farwolaeth a dyna'r hyn a gafodd ei gofrestru.

Ni ellir gwadu bod marwolaethau wedi cael eu celu, cafodd dogfennau eu difa—roedd hynny yn yr adroddiad. I deulu Deborah, mae hi wedi cymryd 42 o flynyddoedd i gael gwybod y gwirionedd. Y pryder nawr yw, er gwaethaf y gydnabyddiaeth nad damwain oedd yr hyn a ddigwyddodd, y bydd teuluoedd yn cael eu hamddifadu o iawndal oherwydd y cafodd dogfennau eu difa yn ystod y cyfnod hwnnw o guddio'r gwir. Rwyf i am orffen, Dirprwy Lywydd, drwy gyfeirio yn ôl at eiriau Deborah wrthyf i: 'Prin y gellir credu, 42 mlynedd ar ôl ei farwolaeth, ac yn dilyn adroddiad Syr Brian, bod ansicrwydd yn parhau, a bod brwydrau eto i ddod dros y rhai a heintiwyd ac a effeithiwyd.'

15:35

Rydyn ni eisoes wedi clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a llawer o bobl eraill am y degau o filoedd sydd wedi'u heintio a'u heffeithio, yn ogystal â'r 3,000 o bobl a fu farw o waed heintiedig. Ond nid sgandal triniaeth yn unig yw hyn, fel y dywedodd Luke Fletcher eisoes. Mae hyn yn ymwneud â chuddio gweithredoedd troseddol. A dyna yr hoffwn i fynd i'r afael ag ef yn fy sylwadau heddiw. Mae Syr Brian Langstaff yn catalogio tair set wahanol o ddogfennau a gollwyd, neu a ddifrodwyd yn fwriadol yn y rhan fwyaf o achosion, a'r methiant i ddiogelu'r dogfennau hyn, a oedd i fod i gael eu cadw mewn man diogel, er mwyn i ddioddefwyr allu galw arnyn nhw i atgyfnerthu eu cais am iawndal.

Roedd y set gyntaf yn bapurau yn ymwneud â'r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Feiregol Gwaed. Darganfuwyd yn ôl yng nghanol 1995 fod un o'r cyfrolau wedi ei ddinistrio, ym mis Medi 1994. Ni wnaed unrhyw ymdrech i ddiogelu'r holl gyfrolau o ddogfennau a oedd yn weddill, a gafodd eu dinistrio rhwng Hydref 1997 a Thachwedd 1998. Mae hyn yn wirioneddol, wirioneddol frawychus. Mae'n rhaid i ni ddeall sut y caniatawyd i'r Adran Iechyd barhau i geisio cuddio hyn, hyd yn oed ar ôl i Yvette Cooper ofyn am adroddiad, a alwyd yn adroddiad hunangynhaliaeth, pan ddaeth yn Is-Ysgrifennydd Gwladol Iechyd y Cyhoedd yn 2002.

Arweiniodd hyn at achos rhyfeddol o geisio cuddio'r hyn ddigwyddodd. Cyflwynwyd adroddiad cychwynnol gan uwch swyddog yn yr Adran Iechyd i rywun ar y diwrnod cyn Nadolig 2002, ac ni ddaeth i olau dydd am dair blynedd arall, ac erbyn hynny roedd wedi cael ei ddoctora o gyfrif ffeithiol o'r hyn y dywedodd y ddogfen am hunangynhaliaeth i esgus pam nad oedd wedi bod yn bosibl osgoi'r sgandal ofnadwy hon. Mae'r rhain yn bwyntiau gwirioneddol, gwirioneddol ddinistriol y mae'n rhaid i ni eu cymryd o ddifrif.

Fe ddiflannodd papurau'r Arglwydd Owen, y cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, yn llwyr, oherwydd yn amlwg roedden nhw'n datgelu pethau nad oedden nhw am eu cyfaddef. Ac mewn un achos, roedd yr Adran Iechyd yn dweud ei bod yn debygol iddyn nhw gael eu dinistrio gan aelod iau o staff. O ddifrif? Dydw i ddim yn gallu gweld hynny. Mae'n ymddygiad cwbl ddigyfiawnhad a dybryd gan ein gweision cyhoeddus.

I'r perwyl hwn, mae'n rhaid i ni wir herio diwylliant amddiffynnol celu a chefnogi galwadau Syr Brian Langstaff i Weinidogion ystyried dyletswyddau statudol gonestrwydd ar gyfer gweision sifil a Gweinidogion yn eu holl waith o ddydd i ddydd.

Rwy'n falch iawn bod Mark Drakeford, o dan ei arweinyddiaeth, wedi cyflwyno'r ddyletswydd gonestrwydd hon y llynedd, ond mae angen i ni sicrhau ei bod yn ymestyn i arweinwyr yn ein gwasanaethau iechyd hefyd. Mae'n amlwg bod llawer mwy i'w ystyried ar hyn. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd arweinwyr y GIG yng Nghymru, gan gynnwys aelodau'r bwrdd, yn dilyn hyn mewn gwirionedd ac nad yw ein gweision sifil ein hunain ychwaith yn parhau i fod yn llai na gonest â'r gwir.

15:40

Mi hoffwn i gysylltu fy hun efo nifer o'r sylwadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud. Weithiau, mae yna gysylltiad yn dod gan etholwr sydd jest yn eich taro chi, a dwi'n meddwl ein bod ni i gyd wedi derbyn e-byst gan deuluoedd a'r rheini sydd wedi dioddef ac yn parhau i ddioddef heddiw sydd wedi cael yr effaith hwnnw. Felly, dwi'n mynd i ddefnyddio fy amser i roi llais a rhannu rhai o'r straeon hynny, yn ôl yr hyn sydd wedi'i ofyn ohonof.

Efallai bod nifer ohonoch chi wedi darllen neu weld ar y teledu stori Owain Harris am ei dad, Norman. Roedd gan Norman hemoffilia, ac yn y 1970au a’r 1980au cynnar fe ddechreuodd ar driniaeth newydd ar gyfer y cyflwr. Yng nghanol yr 1980au, fe gafodd wybod ei fod wedi dal hepatitis C a bod ganddo HIV. Pedair oed oedd ei fab Owain ar y pryd, ac ni wnaeth ei rieni rannu'r diagnosis llawn gydag o tan oedd o’n 26 oed. Bu Norman farw yn 2012. Mae Owain, ei chwaer a’i fam wedi rhoi tystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad, ond dim ond y mis diwethaf y gwnaethon nhw am y tro cyntaf siarad yn gyhoeddus am hyn, gydag Owain yn dweud, 'Roedd hwn yn cover-up llwyr gan y sefydliad.'

Rhannodd David gyda mi yn ei eiriau ei hun, 'Cefais fy heintio â hepatitis C ar ddechrau'r 1980au, yn debygol rhwng naw a 13 oed. Cefais wybod am fy diagnosis yn 23 oed yn 1994, a byth ers y dyddiad hwn rwyf wedi bod mewn cyflwr o bryder parhaol am fy iechyd a fy marwoldeb.' Aeth ymlaen i rannu gyda mi effaith hyn ar ei fywyd, gan gynnwys gorfod ymladd yn galed i gael y cyffuriau retrofirysol newydd a oedd ar gael tua diwedd 2014.

Dywedodd etholwr arall, Paul o Gaerdydd, 'Rwy'n un o'r hemoffiligion sydd wedi'i heintio yng nghanol y 1970au, dechrau'r 1980au, gyda hep C. Mae hyn wedi gwneud bywyd yn hunllef. Roedd yn rhaid i mi ymgymryd â thriniaethau erchyll. Allwn i ddim parhau i weithio oherwydd fy iechyd meddwl a'r stigma. Rwyf wedi cuddio fy hun i ffwrdd, ddim bellach yn teimlo fy mod yn gallu rhyngweithio ag eraill ac wedi dod yn ynysig. Gwnaeth pobl ymateb i fy nghyflwr ar sawl achlysur gydag ymosodiad geiriol. Mae wedi fy ngadael â chymhlethdodau gydol oes, heb sôn am beidio â gallu cael plant ac achosi llawer o broblemau yn fy mherthnasoedd trwy fy mywyd.' Mae'n ein hannog ni fel Senedd, 'Os gwelwch yn dda, gyda phobl yn marw ar gyfartaledd o bedwar yr wythnos, y cyfan yr ydym ni ei eisiau yw cael rhywfaint o'n bywyd ni sy'n eiddo i ni a heb ei ddwyn oddi wrthym gan y defnydd bwriadol hwn o waed heintiedig, sydd wedi dinistrio fy mywyd i a bywydau llawer o bobl eraill.'

Rhannodd etholwr arall, sydd eisiau aros yn ddienw, stori ei thad, a fu farw 20 mlynedd yn ôl yn ddim ond 38 mlwydd oed. Dywedodd Carol wrthyf am farwolaeth ei thad Ian yn 2004, yn 48 oed.

Ysgrifennodd Rachel ataf gan ddweud, 

'Bu farw fy nhad (oedd yn hemoffilig) o AIDS yn 1990 ar ôl salwch chwe mlynedd, lle gwastraffodd ei gorff a'i ymennydd i ddim.'

Fe wnaethoch chi gyfeirio ar y dechrau, Ysgrifennydd Cabinet, at y teulu Sugar. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n adrodd hanes Leigh, mab, gŵr a thad annwyl iawn, a oedd â ffurf ysgafn ar hemoffilia, a gafodd ei heintio â'i driniaeth gyntaf a'i unig driniaeth yn 14 oed, yn dilyn cwymp o'i geffyl. Un deg pedwar mlynedd yn ddiweddarach y cafodd wybod am ei haint am y tro cyntaf, ac erbyn hynny roedd yn briod ac roedd ganddo ferched pump a thair oed. Bu farw yn 44 oed o ganser yr iau, ar ôl cael ei heintio â hepatitis C. Rhannodd ei deulu iddo dreulio blwyddyn olaf ei fywyd mewn poen a dioddefaint dwys, a bod ei dad Graham wedi marw dair blynedd yn ôl, heb weld cyfiawnder. Maen nhw'n dweud bod eu teulu 'wedi ei rwygo ar wahân gan waed heintiedig'. 

Hoffwn dalu teyrnged i'r holl ddioddefwyr a'u teuluoedd sydd wedi ymgyrchu dros gyfiawnder ac sydd wedi bod yn ddigon dewr i rannu eu dioddefaint a'u poen parhaus gyda ni. Gallwn ni gydnabod hynny heddiw, ymddiheuro am bopeth y maen nhw wedi bod drwyddo, ond hefyd ddatgan yn unedig y byddwn yn sicrhau y gwneir popeth posibl y gellir ei wneud i unioni'r cam ofnadwy, ofnadwy hwn. Ni ddylai byth fod wedi digwydd ac ni fydd unrhyw beth a wnawn yn unioni hyn, ond gallwn ni geisio cynnig y gefnogaeth honno. Mae hyn yn mynd i gael effaith ar genedlaethau i ddod ar y teuluoedd hyn yr effeithiwyd arnynt. Felly, hoffwn orffen drwy ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet: pa gymorth sy'n cael ei ddarparu i'r rhai sy'n dal i fyw gyda'r haint, sydd mewn poen, sy'n dioddef, ond hefyd eu teuluoedd, sy'n dal i fod mewn poen a dioddefaint? Mae angen i ni allu darparu nid yn unig iawndal, ond cefnogaeth barhaus, a hoffwn wybod sut y byddant yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw. Diolch.

15:45

Fel siaradwyr eraill o fy mlaen, hoffwn ddarllen tystiolaeth dau o fy etholwyr y mae eu bywydau wedi eu newid yn anadferadwy gan y sgandal gwaed heintiedig. Ac rwy'n credu ei fod yn dweud y cyfan, o ran y stigma sy'n dal ynghlwm wrth hyn, fod fy etholwyr ill dau wedi gofyn i'w straeon aros yn ddienw. Fe wnaeth un o fy etholwyr ddal hepatitis C o waed heintiedig tra'r oedd yn cael triniaeth am lewcemia rhwng 1985 a 1989. Mae bellach wedi byw gyda hepatitis am 35 mlynedd, gan gael pum cwrs anodd o interfferon, nifer o brofion mewnwthiol ac anfewnwthiol, gobeithion gyrfa is a chyfyngiadau ar faint y teulu. Cyn cael diagnosis, cafodd ei anfon i un o'r wardiau AIDS cyntaf yn Llundain ac yna i sefydliad iechyd meddwl yng Nghaerdydd, oherwydd bod y gweithwyr meddygol proffesiynol yn meddwl ei fod yn dychmygu ei salwch. Yn ffodus, mae fy etholwr yn dweud wrthyf ei fod wedi gweithio'n galed i reoli ei gyflwr a'i fod bellach mewn iechyd da, ond mae'n dweud bod llawer o bobl yn llai ffodus, ac mae'n credu eu bod yn haeddu cymaint yn fwy. 

Dim ond 17 oed oedd fy etholwr arall ac yn barod i ddechrau ei fywyd, pan ddywedwyd wrtho gan ei feddyg hemoffilia ei fod wedi dal HIV o waed heintiedig. Dywedwyd wrtho am beidio â dweud wrth neb, dim hyd yn oed ei fam. Dywedodd meddygon y byddai'n byw tua 18 mis. Mae wedi gweld ei ffrindiau hemoffilig yn marw o AIDS yn yr ysbyty, ac roedd yn meddwl y byddai'n marw yn yr un ffordd. Roedd hon yn ddedfryd o farwolaeth. Cafodd dri chwalfa'r nerfau dros y blynyddoedd, ceisio lladd ei hun dair gwaith, ac am flynyddoedd bu'n treulio cyfnodau i mewn ac allan o'r ysbyty. Mae'r stigma sy'n gysylltiedig ag HIV, meddai, yn annioddefol, ac mae'n gweld hyn ym mhob agwedd ar ei fywyd bob dydd. Yn 1994 dywedwyd wrth yr un etholwr ei fod hefyd wedi'i heintio â hepatitis C. Cafodd dri chwrs o driniaeth gyda sgil-effeithiau erchyll. Nid yw wedi gallu cael plant, cael sicrwydd bywyd nac amddiffyniad morgais, oherwydd effaith HIV a hepatitis C.

Dywed fy etholwyr eu bod yn gobeithio y bydd argymhellion yr ymchwiliad yn atal pethau fel hyn rhag digwydd eto, na fydd pobl yn cael eu profi heb ganiatâd, na fydd buddiannau masnachol yn cael blaenoriaeth dros ddiogelwch cleifion. Maen nhw'n gobeithio na fydd yn rhaid i genedlaethau'r dyfodol ddioddef y boen a'r stigma y mae'n rhaid iddyn nhw, ac y bydd gweithwyr meddygol proffesiynol yn cael eu haddysgu i sicrhau eu bod yn cael eu trin gyda'r parch y maen nhw'n ei haeddu. 

15:50

Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddadl emosiynol iawn, ac mae wedi bod yn eithaf torcalonnus clywed rhai o straeon eich etholwyr. Dim ond ychydig bwyntiau rwyf eisiau mynd i'r afael â nhw. Yn gyntaf oll, un o'r materion y mae pobl wedi gofyn amdano yw'r rhai nad ydyn nhw'n cael eu cydnabod. Rhan o'r broblem yma yw bod angen cofnodion i wneud hawliadau. Nawr, rydym yn ymwybodol bod problemau wedi bod gyda chofnodion y GIG yn y gorffennol. Bydd ein cynllun cymorth gwaed heintiedig yng Nghymru a'r awdurdod iawndal gwaed heintiedig newydd yn gweithio gyda'r rhai sydd wedi'u heintio a'r rhai y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i hawliadau gael eu gwneud. O ran buddiolwyr ifanc, mae hwn yn fater y mae fy swyddogion wedi'i godi gyda Swyddfa'r Cabinet, ac rydym wedi cael sicrwydd bod hyn yn rhywbeth y maen nhw'n edrych arno. 

O ran y camau uniongyrchol nesaf, bydd Syr Robert Francis, ynghyd â Phrif Swyddog Gweithredol dros dro yr IBCA, David Foley, yn cwrdd â'r prif grwpiau ymgyrchu, gan gynnwys Lynne Kelly o Haemophilia Wales, i drafod edrych ar y cynigion am iawndal i wirio a ydyn nhw'n deg. Byddan nhw'n gwirio a fydd y cynllun yn gweithio, a byddan nhw'n gwirio a oes unrhyw beth wedi'i fethu. A bydd yr hyn y byddan nhw'n ei ddysgu o'r cyfarfodydd hyn yn helpu i fframio gwaith yr IBCA. O ran cynlluniau cyfredol a chynlluniau yn y dyfodol, mae sylwadau wedi'u gwneud ym mhob un o'r gwledydd i gadw'r cynlluniau cymorth. Megis dechrau mae'r trafodaethau, rwy'n gwybod, a bydd swyddogion yn ystyried y sylwadau a dderbyniwyd.

Hoffwn ei gwneud yn glir y byddwn ni'n derbyn holl welliannau Plaid Cymru. 

Dwi hefyd eisiau talu teyrnged i Rhun ap Iorwerth am ei waith e fel arweinydd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed wedi'i heintio. Dwi'n gwybod eich bod chi wedi bod yn brwydro am flynyddoedd lawer gyda'r rheini sydd wedi bod yn ymladd am gyfiawnder. 

Hoffwn i gael amser i fynd drwy'r adroddiad. Mae wedi cymryd blynyddoedd i ysgrifennu'r adroddiad hwn ac mae angen i ni roi'r parch y mae'n ei haeddu iddo, ac felly byddwn ni'n gwneud hynny. Ac rwyf am sicrhau Jenny Rathbone bod yna ddyletswydd gonestrwydd eisoes yn y GIG yng Nghymru, fel y nodwyd gennych, gan gynnwys yr un sy'n berthnasol i arweinwyr yn y gwasanaeth iechyd. Heno rwy'n credu ein bod ni'n uno fel Siambr ac fel Senedd, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymuno â mi i dalu teyrnged i'r rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i hyn, y sgandal fwyaf yn hanes y GIG. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig NNDM8595 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod:

a) y niwed a'r dioddefaint a achoswyd i filoedd o bobl yn sgil y sgandal gwaethaf o ran triniaethau yn hanes y GIG;

b) ymgyrchu diflino a gwaith caled pawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef, i geisio'r gwir; ac

c) ymddiheuriad Llywodraeth y DU am y degawdau hir o fethiant moesol wrth galon ein bywyd cenedlaethol.

2. Yn croesawu adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig a gyhoeddwyd ar 20 Mai 2024 a'i argymhellion.

3. Yn croesawu gwaith y pedair gwlad i sefydlu Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig.

4. Yn nodi y bydd taliadau iawndal pellach yn cael eu gwneud i bobl a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru yn derbyn eu hail daliad iawndal interim o fewn 90 diwrnod i gyhoeddi adroddiad Langstaff.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu holl argymhellion adroddiad Langstaff sy'n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb datganoledig yn llawn ac yn ddi-oed.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i estyn allan yn rhagweithiol at yr holl unigolion yr effeithir arnynt yng Nghymru gyda'r cynnig o gefnogaeth a chwnsela perthnasol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig wedi ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig wedi ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: ymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dair wythnos yn ôl, roeddwn i'n falch o ddod i'r Siambr hon a siarad â'r Aelodau am fy mlaenoriaethau ar gyfer y system addysg yng Nghymru. Rwyf bob amser wedi hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc, ac yn y datganiad hwnnw fe nodais yn glir fy ymrwymiad i godi cyrhaeddiad, i fod yn uchelgeisiol ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru ac i gefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a chau'r bwlch cyrhaeddiad. I mi, mae'r rhain yn uchelgeisiau canolog ac, fel y dywedais i, maen nhw'n rhai yr wyf eisiau ac yr wyf yn disgwyl i'r system addysg gyfan gydweithio i'w cyflawni.

Fel y gŵyr yr Aelodau, ymrwymodd y Llywodraeth yn y rhaglen lywodraethu i archwilio diwygio'r flwyddyn ysgol, a hoffwn ddiolch i fy rhagflaenydd, Jeremy Miles, am ei holl ymdrechion yn y gwaith hwnnw. Hoffwn ddiolch hefyd i Siân Gwenllian am ei hymdrechion a'i chefnogaeth wrth fwrw ymlaen â hyn.

Gyda deilliannau dysgwyr yn ganolog iddi, rydym wedi edrych ar y system yn ei chyfanrwydd i weld sut y gallai'r ffordd yr ydym yn strwythuro calendr yr ysgol gefnogi staff ysgolion yn well i wella profiadau addysgol ein pobl ifanc, yn enwedig ein rhai mwyaf difreintiedig, ac alinio'n fwy effeithiol â'r ffordd y mae pobl a theuluoedd yn byw ac yn gweithio ar yr un pryd.

Ar 13 Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd lansiad yr ymgynghoriad ar y flwyddyn ysgol. Heddiw, rwy'n cyhoeddi canfyddiadau'r ymgynghoriad hwnnw, a ddaeth i ben ar 12 Chwefror. Ar ôl derbyn dros 16,000 o ymatebion, mae'n amlwg yn un o ymgynghoriadau mwyaf pellgyrhaeddol Llywodraeth Cymru, ac mae'n deg dweud bod mater y flwyddyn ysgol yn un sy'n cyrraedd ar draws cymdeithas, gyda barn ar bob ochr. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr ymatebion, lle rhannwyd barn bron yn gyfartal ar bob cwestiwn a ofynnwyd a phob opsiwn a gyflwynwyd.

Roedd yr ymgynghoriad yn nodi tri chynnig craidd sef, yn gyntaf, i gynnal y status quo; byddai'r ail yn gweld pum wythnos o haf, toriad o bythefnos yn yr hydref, a'r hyblygrwydd i ddatgysylltu toriad diwedd tymor y Pasg o ŵyl y Pasg; roedd y trydydd opsiwn a'r opsiwn olaf yn adeiladu ar hyn, a byddai'n edrych ar symud i bedair wythnos o haf, cyflwyno toriad o bythefnos ym mis Mai, a threfnu i ganlyniadau UG, Safon Uwch a TGAU gael eu cyhoeddi ar yr un diwrnod.

Bydd yr Aelodau'n gweld, er bod y canlyniadau'n dangos bod cefnogaeth i newidiadau i batrwm y flwyddyn ysgol, nid oedd dewis cryf i unrhyw un o'r opsiynau a gyflwynwyd. Yn y cyd-destun hwn, rwyf wedi dychwelyd i'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer newid, ac unwaith eto, fel y gŵyr yr Aelodau, nid yw hyn yn glir.

Mae yna dystiolaeth sy'n awgrymu bod cyfnod yr haf yn cyfrannu at golli dysgu, ac mae yna bryderon amlwg ynghylch sut rydym yn cefnogi'r plant hynny y mae'r ysgol yn fwy diogel na'u cartref. Ond mae yna dystiolaeth hefyd sy'n dangos budd toriad estynedig i les plant a'r gweithlu, a sut mae hynny'n cyfrannu'n gadarnhaol at fywyd teuluol. Un enghraifft o blith llawer yw hon, a gall Aelodau weld mwy o fanylion yn y wybodaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol ar ein gwefan.

Yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, fe ddywedais i y byddwn i'n gwrando ar farn y rhai sy'n gweithio o fewn y system addysg, ac ar farn plant, pobl ifanc a rhieni, ac rwyf wedi cymryd amser i ystyried y sylwadau a wnaed mewn ymateb i'r ymgynghoriad ac i wrando ar y farn a'r safbwyntiau gwahanol. O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu na fyddwn yn rhoi unrhyw newidiadau i batrwm y flwyddyn ysgol ar waith yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'n bwysig bod yn glir am hyn, ac felly rwyf hefyd yn cadarnhau heddiw fy mod i wedi gofyn i awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill gyhoeddi dyddiadau tymhorau ar gyfer 2025-26. Fodd bynnag, rwyf am barhau i edrych ar beth arall y gellir ei wneud i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, eu dysgu a'r camau hollbwysig sydd eu hangen i godi cyrhaeddiad, safonau a dyheadau.

Dros weddill tymor y Senedd hon, rwy'n bwriadu parhau i archwilio'r cynigion a nodwyd yn ein hail opsiwn yn yr ymgynghoriad: pum wythnos o haf, toriad o bythefnos yn yr hydref, a'r hyblygrwydd i ddatgysylltu toriad diwedd tymor y Pasg o ŵyl y Pasg. Fodd bynnag, mae diwygio pethau'n iawn yn golygu sicrhau ei fod wedi'i gynllunio'n iawn a'i fod yn cael yr amser a'r lle i lwyddo. Rwyf am gymryd yr amser hwn i drafod gyda phlant a phobl ifanc, rhieni, y gweithlu a phartneriaid eraill yr hyn y gallai'r newidiadau hyn ei olygu a phryd fyddai'r amser iawn ar eu cyfer nhw. Ni fydd unrhyw benderfyniadau terfynol cael eu gwneud yn nhymor y Senedd hon, gan fy mod i'n teimlo'n gryf bod angen i ni barhau i ganolbwyntio ar y rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau sy'n gennym eisoes yn ystod y cyfnod hwn, ac rwy'n ymwybodol iawn ein bod ni'n gofyn llawer gan athrawon ac ysgolion.

Yn ystod y misoedd nesaf, byddaf yn blaenoriaethu cymorth ar ddylunio'r cwricwlwm, cynnydd ac asesu. Byddaf yn gweithio gydag athrawon i sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cyrraedd eu hystafelloedd dosbarth a bod ganddyn nhw'r wybodaeth, yr adnoddau a'r hyder i sicrhau bod pob dysgwr a phob rhan o Gymru yn teimlo budd y cwricwlwm.

Fel y dywedais i cyn y toriad, byddaf hefyd yn canolbwyntio ar ddiwygio ADY. Rwyf am sicrhau bod sylfeini deddfwriaethol cadarn ar waith, ac rwyf am gryfhau gweithredu trwy wella cysondeb y dull gweithredu sy'n cael ei gymryd. Yn sicr, nid yw hynny'n golygu na fyddwn ni'n gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael ag effaith toriad hir yr haf nawr. Ein blaenoriaeth gyntaf fydd sicrhau bod dysgwyr yn cael y cymorth mwyaf posibl yn ystod gwyliau'r haf, gan gynnwys gwneud mwy i dargedu'r ddarpariaeth honno tuag at y cymunedau tlotaf a chynyddu gwerth addysgol y ddarpariaeth honno.

Byddwn ni'n ceisio cynyddu effaith y rhaglen gwella gwyliau'r haf a gwella ein rhaglen ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan gynnwys drwy'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y rhaglen partneriaeth gwella ysgolion. Rwy'n falch bod Julie Morgan AS wedi cytuno i arwain adolygiad o SHEP i Lywodraeth Cymru ar sut y gellir gwneud y mwyaf o ddarpariaethau yn ystod gwyliau'r haf i sicrhau eu bod yn cyrraedd y plant a'r bobl ifanc hynny sydd eu hangen fwyaf. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi ar y gwaith pwysig hwn.

Mae'r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad yn dangos bod hwn yn faes lle mae llawer o ddiddordebau, gan gynnwys o sectorau a sefydliadau nad ydyn nhw'n ymwneud ag addysg ein plant a'n pobl ifanc. Ac felly mae angen i mi fod yn glir, fel yr Ysgrifennydd Cabinet, mai fy mlaenoriaeth i yw lles a dysgu ein plant a'n pobl ifanc. Dyna fydd y sbardun y tu ôl i'm gweithredoedd a bydd yn ganolog wrth fynd ati i archwilio'r cynigion ymhellach.

I gloi, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod ein system addysg yn cefnogi pob plentyn a'i uchelgeisiau. Byddaf yn parhau i archwilio newidiadau i batrwm y flwyddyn ysgol lle gall y rhain gefnogi cyrhaeddiad, uchelgais a lles, yn enwedig i'r rhai mwyaf difreintiedig, er mwyn rhoi'r cyfleoedd gorau iddyn nhw mewn dysgu ac mewn bywyd. A byddaf yn gwneud hyn dros weddill tymor y Senedd hon, gan weithio mewn partneriaeth â'r sector addysg, plant, pobl ifanc a rhieni i sicrhau ein bod ni'n gwneud y newidiadau cywir ar yr adeg gywir. Diolch.

16:00

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw ac am gyfarfod â mi yn gynharach y prynhawn yma i drafod cynnwys y datganiad? Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwthio ei chynlluniau diweddaraf ar gyfer newidiadau i'r flwyddyn ysgol i'r naill ochr. Ond dylem fod yn glir iawn nad yw'r cynlluniau hyn wedi diflannu am byth, ac mae'n ymddangos y gallen nhw ddychwelyd o ddifrif ymhen dwy flynedd, os bydd y Llywodraeth Lafur Cymru hunanfodlon hon yn parhau mewn grym erbyn hynny.

Rydym yn gwybod ei fod yn bolisi hynod amhoblogaidd ar draws ystod o sectorau yng Nghymru ac, yn ôl ym mis Ionawr, daeth 11 o wahanol gyrff at ei gilydd, gan gynnwys undebau athrawon, undebau ffermio a chynrychiolwyr o'r sector twristiaeth a llawer mwy, ac fe wnaethon nhw ysgrifennu at y Gweinidog addysg ar y pryd i rybuddio am y difrod y gallai'r cynlluniau hyn ei achosi ledled Cymru. Fe ddywedodd y llythyr, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae yna risg y bydd y cynnig hwn yn datrys problem nad yw'n bodoli, pan nad oes llawer o awydd ymhlith y cyhoedd am newid o'r fath.'

Diwedd y dyfyniad. Ac maen nhw'n iawn. Mae'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cyflwyno'r newid yn wan ar y gorau. Mae'r syniadau hyn am ddysgu coll dros fisoedd yr haf yn ddiffygiol i ddechrau. Rydym yn gwybod bod y dystiolaeth hon yn aml yn seiliedig ar wledydd fel UDA, sy'n cael toriad haf llawer hirach nag yr ydym ni'n ei gael. Mewn gwirionedd, mae ein gwyliau haf eisoes ymhlith y byrraf yn Ewrop, a byddai'r cynlluniau hyn wedi eu lleihau ymhellach. Ac mae gwledydd sy'n uwch na ni o ran safleoedd y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr—ac mae llawer ohonyn nhw—yn cael gwyliau haf llawer hirach na ni.

Ond mae hyd yn oed ymchwil ddiweddar o UDA yn dangos bod rhagdybiaeth graidd Llywodraeth Cymru bod toriad yr haf yn cael effaith anghymesur ar ddisgyblion tlotach yn ddiffygiol yn y lle cyntaf. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd ychydig cyn y pandemig gan yr academyddion Americanaidd Megan Kuhfeld a Karyn Lewis, ac rwy'n dyfynnu eto,

'nid yw data diweddar yn dangos bod gostyngiadau mewn sgoriau profion haf wedi'u crynhoi ymhlith myfyrwyr sydd mewn tlodi'.

Diwedd y dyfyniad. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn nawr bod y dystiolaeth academaidd am effaith gwyliau haf ar enillwyr incwm is wedi newid, neu a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn dal i lynu wrth ragdybiaethau hen ffasiwn am y mater?

Ond gadewch imi ddychwelyd at y llythyr cynharach hwnnw, oherwydd ynddo maen nhw'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'r undebau addysg hefyd yn anghrediniol, ar adeg pan fo ysgolion yn wynebu argyfwng o ran cyllid, recriwtio ac ymddygiad disgyblion, fod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymaint o sylw i rywbeth sy'n gwbl ddiangen.'

Rwy'n siŵr nad ydyn nhw'n defnyddio gair fel 'anghrediniol' yn ysgafn. Ond maen nhw'n hollol gywir. Ar ôl 25 mlynedd o'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, rydym wedi gweld disgyblion a staff gweithgar yn cael eu tanseilio'n llwyr gan record Llafur o safonau sy'n gostwng. Rydym wedi bod ar waelod tablau cynghrair ledled y DU ym mhob un pwnc a aseswyd gan PISA bob tro rydym wedi cael ein hasesu. Am ddyfarniad damniol o bolisïau addysg di-drefn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Rydym yn gwybod hefyd fod y polisi hyd yma wedi costio £350,000 i drethdalwyr Cymru. Y gwahaniaeth y gallai hynny fod wedi'i wneud i'n hysgolion. Mae'r neges gan rieni ac athrawon fel ei gilydd yn glir, Ysgrifennydd Cabinet: dydyn ni ddim eisiau i'r cynnig hwn gael ei ohirio; rydym eisiau iddo gael ei fwrw i ebargofiant am byth.

Yn ehangach, roedd y sector twristiaeth a lletygarwch yn glir y byddai'r newidiadau hyn yn golygu y byddai busnesau'n cau a swyddi'n cael eu colli. Mae hynny'n ychwanegol at y polisïau eraill y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn eu dilyn, fel treth dwristiaeth, y mae'n ymddangos eu bod yn bwriadu difrodi sector y mae un o bob saith swydd yng Nghymru yn dibynnu arno. Roedd y sector amaethyddol hefyd yn glir y byddai'n achosi niwed aruthrol i'r ffermydd hynny sydd wedi arallgyfeirio i fanteisio ar fisoedd yr haf. Ac yn yr un modd, dywedodd Sioe Frenhinol Cymru y byddai ysgolion yn aros ar agor yn ystod wythnos y sioe yn arwain at golled o £1 filiwn i'r sioe ac yn bygwth ei hyfywedd ariannol yn y dyfodol. Dywedodd cynrychiolwyr o bob un o'r sectorau hyn yn y llythyr damniol hwnnw bod y rhain yn

'rhai o blith llawer o ddadleuon yr ydym oll wedi ailadrodd dro ar ôl tro i swyddogion Llywodraeth Cymru, ond does neb yn gwrando.'

Felly, a wnaeth Llywodraeth Cymru ei diwydrwydd dyladwy ar yr effaith y byddai'r newidiadau hyn yn ei chael ar sectorau eraill yng Nghymru, a pham mae hi'n credu eu bod nhw wedi dweud nad oes neb yn gwrando?

Ac yn olaf, byddai'n esgeulus i mi beidio â nodi, Llywydd, lle mae hyn yn y darlun ehangach o ran y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Yn ystod yr wythnosau diwethaf yn unig, rydym wedi gweld cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei ohirio, diwygiadau ADY yn cael eu hadolygu, newidiadau i'r dreth gyngor yng Nghymru yn cael eu rhoi o'r neilltu, cam yn ôl o ran 20 mya, a nawr diwygiadau i'r flwyddyn ysgol yn cael eu gwthio i'r naill ochr. Mae'r rhain yn bolisïau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru yn ystod y tymor hwn—arian yn cael ei wastraffu ar ddatblygu ac ymgynghori—ac sydd wedi cael eu rhoi o'r neilltu wedyn yn wyneb gwrthwynebiad. Mae hynny'n syml. Mae'r rheswm am hynny'n syml. Y rheswm am hyn yw bod hon yn Blaid Lafur ranedig a gwan yn y Senedd nad yw'n gallu cytuno ar unrhyw beth, a Phrif Weinidog gwan na all reoli ei grŵp. Ac rydym ni, y cyhoedd yng Nghymru, i gyd yn talu'r pris am hynny. Pan ddywedodd Keir Starmer fod Llywodraeth Lafur Cymru yn lasbrint i Lywodraeth Lafur y DU, rwy'n deall nawr beth mae'n ei olygu. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod ei fod yn hoffi ffit-ffatian, ond nawr rwy'n gwybod o ble mae'n cael ei ysbrydoliaeth.

16:05

Felly, wrth gloi, Ysgrifennydd Cabinet, y tro nesaf y bydd Gweinidog Llafur yn codi ar ei draed yn Siambr y Senedd hon, neu Weinidog Llafur damcaniaethol yn San Steffan, ac yn cyhoeddi polisi, sut allwn ni gael unrhyw ffydd y bydd yn digwydd mewn gwirionedd?

A gaf i ddiolch i Tom Giffard am ei sylwadau? Fe ddechreuodd mor gadarnhaol, onid oedd e, ac fe aeth popeth i lawr yr allt o'r fan yna, ond dyna ni. Dydw i ddim yn ystyried bod hyn wedi cael ei wthio o'r neilltu. Fel yr ydych wedi nodi, Tom, mae'r sylfaen dystiolaeth ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol yn ddarlun cymysg. Mae llawer ohono'n seiliedig ar America, sydd â system hollol wahanol i ni. Roedd llawer ohono'n seiliedig ar rywbeth o'r enw addysg drwy gydol y flwyddyn. Felly, rydym wedi edrych ar y sylfaen dystiolaeth, ond rydym hefyd wedi cynnal ymgynghoriad trylwyr iawn, y gobeithiaf eich bod chi wedi cael y cyfle i'w ddarllen, ac roedd yr ymgynghoriad hwnnw'n gymysg ac yn groesddywedol. Roedd mwyafrif o bobl o'r farn bod yna ffyrdd gwell o ailgynllunio'r flwyddyn ysgol, ond roedd mwyafrif o bobl hefyd eisiau cadw'r status quo, a doedd yna ddim mwyafrif ar gyfer unrhyw un o'r opsiynau oedd ar gael. Felly, yn hytrach na'i wthio o'r neilltu, rwy'n ystyried hyn yn wrando—gwrando ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym. Pam fydden ni'n cael ymgynghoriad ac wedyn ddim yn gwrando? Ac roedd hwn yn ymgynghoriad a gafodd dros 16,000 o ymatebion. Dyna'r ymgynghoriad mwyaf rydym erioed wedi'i gael ym maes addysg.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r llythyr y gwnaethoch chi gyfeirio ato gan yr undebau llafur, a anfonwyd at fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, ac rwy'n ymwybodol o bryderon yr undebau llafur am y cynigion. Rwyf hefyd wedi manteisio ar bob cyfle rwyf wedi'i gael ers ymgymryd â'r swydd i siarad â staff rheng flaen am y cynlluniau hyn. Ac am y rheswm hwnnw, yn ogystal â gwrando ar yr ymgynghoriad ac i gydnabod ein bod ni'n gofyn llawer iawn gan ein hysgolion—maen nhw'n gwella ar ôl pandemig, maen nhw'n gweithredu diwygiadau mawr gyda'r Cwricwlwm i Gymru ac ADY, maen nhw'n delio â rhai heriau enfawr o ran presenoldeb, ac rwyf eisiau sicrhau eu bod nhw'n cael yr amser a'r lle i ganolbwyntio ar gyflawni'r diwygiadau hynny, a thra bod hynny'n digwydd, byddwn ni'n parhau i archwilio'r trafodaethau hyn gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y sector twristiaeth a lletygarwch, ac rwy'n siŵr y byddwch chi wedi gweld bod eu barn wedi'i hadlewyrchu yn yr ymgynghoriad, a bu ymgysylltu â'r ddau sector ac yn wir gyda'r Sioe Frenhinol drwy gydol yr ymgynghoriad. Ac rwyf wedi bod yn glir iawn, rwy'n credu, y bydd y penderfyniadau y byddaf yn eu gwneud ar hyn yn cael eu gwneud ar sail yr hyn sydd er budd gorau plant a phobl ifanc a gweithlu'r ysgol sy'n eu cefnogi. Ond fe fyddwn ni dal, wrth gwrs, yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach, y mae'n iawn ac yn briodol i'w wneud.

Dydw i ddim, fwy na thebyg, yn mynd i ymateb i'ch llith pleidiol wleidyddol ar y diwedd.

16:10

Diolch i’r Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad heddiw. Yn amlwg, mi wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod nifer o hyn yn deillio o’r cytundeb cydweithio, a sôn am waith Siân Gwenllian ar hyn. Yn amlwg, mi fydd yna nifer o bobl yn siomedig dyw'r diwygiadau radical hir-ddisgwyliedig yma ddim yn digwydd, ac, fel rydych chi wedi cydnabod ac fel sy’n glir o’r dystiolaeth, mae’r ymateb wedi bod yn gymysg iawn, ac mae nifer eisiau gweld newid, felly er bod yna nerfusrwydd ymhlith rhai, ac, yn amlwg, mae’n rhaid inni wrando ar y straen aruthrol sydd o ran athrawon, a’u lleisiau nhw o ran hyn yn y sefyllfa eithriadol o heriol, dwi’n meddwl bod yn rhaid inni edrych hefyd o ran yr amserlen ehangach yna o ran sut ydym ni am fynd â hynny rhagddo. Ac efallai mai'r cwestiwn i'w ofyn ydy: oeddem ni'n edrych ar ddigon o opsiynau? Oes yna opsiynau hyd yn oed yn fwy radical y dylem ni fod yn eu hystyried?

Dwi yn falch o glywed eich bod wedi rhoi tasg i Julie Morgan o ran rhaglen gwella'r gwyliau haf, oherwydd dwi’n credu ei fod o’n eithriadol o bwysig, onid ydy? Hyd yn oed os bydden ni’n lleihau'r gwyliau haf i bum wythnos, mae hynny’n dal i adael pum wythnos i rai plant sy’n methu cael pryd o fwyd iach fel maen nhw’n ei gael yn yr ysgol, sy’n methu cael mynediad i’r math o weithgareddau ac ati sydd ar gael i rai eraill o’u cyfoedion nhw.

Felly, mae yna broblem ehangach fan hyn, onid oes, o ran edrych ar gyd-destun plant a phobl ifanc, o ran un peth ydy’r gefnogaeth yn yr ysgol, ond hefyd beth ydym ni’n ei wneud yn y gwyliau haf? Dwi wedi bod yn rhan o’r gwaith ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chlywed am yr heriau aruthrol o ran rhieni sydd gyda phlant efo anghenion dysgu ychwanegol, neu blant gydag anableddau, o ran gallu cael mynediad at unrhyw fath o ofal plant yn y gwyliau haf o gwbl, felly. Felly, dydy o ddim yn gwneud gwahaniaeth pa mor hir ydy’r gwyliau; mae yna ddiffyg darpariaeth.

Felly, ydw i’n iawn i gymryd, o’r ffaith eich bod chi yn oedi gweithredu rŵan—? Ydy hyn yn mynd i fod yn waith ehangach i edrych ar yr holl becyn o gefnogaeth sydd ar gael o ran gofal plant, o ran darpariaeth y gwyliau haf, ac ydym ni’n mynd i weld cynigion mwy radical yn dod gerbron? Oherwydd un o'r pethau oedd yn dod yn glir gan athrawon a rhieni, dwi’n meddwl, o'r ymchwil oedd doedd pobl ddim eisiau ein gweld ni'n tincro er mwyn newid pethau, ond bod pobl eisiau gweld newid fyddai hefyd yn ateb rhai o'r heriau hynny. Yn amlwg, mi oedd yna bryderon o ran y sioe frenhinol, yr effaith ar yr Eisteddfod Genedlaethol ac ati, sydd hefyd, fel sydd eisoes wedi ei amlinellu, nid jest yn bwysig o ran twristiaeth, ond hefyd economi leol nifer o’n hardaloedd ni, ac yn rhan bwysig o'r calendr. Felly, mae rhaid inni edrych yn ehangach.

Os caf i ofyn un cwestiwn hefyd: o ran y rhaglen gwella'r gwyliau haf, pa mor hir, beth ydy’r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw, ac ai'r bwriad ydy bod yna bethau yn cael eu rhoi mewn lle ar gyfer gwyliau yr haf yma? Oherwydd dwi eisoes yn cael banciau bwyd ac ati yn cysylltu gyda mi sydd eisiau gwybod pa gymorth fydd ar gael.

Ac a gaf fi ofyn hefyd: fyddwch chi'n edrych ar yr elfen o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg? Oherwydd yn aml—. Mi oedd Trystan Edwards o ysgol Garth Olwg, fu’n rhan o’r gweithgor oedd yn edrych ar hyn, ar y radio y bore yma, ac roedd o’n sôn, wrth gwrs, mai un o’r heriau efo addysg cyfrwng Cymraeg ydy faint o golli’r Gymraeg sydd yn digwydd yn ystod y gwyliau haf, ac, yn anffodus, er bod yna weithgareddau gwych yn cael eu trefnu gan yr Urdd ac ati, y mentrau iaith ledled Cymru, nid yw pawb yn gallu cael mynediad at y gweithgareddau hynny ar hyn o bryd. Yn sicr, yn fy rhanbarth i, doedd y cynllun SHEP yn aml ddim ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, neu dim ond nifer fach o sesiynau cyfrwng Cymraeg oedd ar gael. Felly, sut ydyn ni'n sicrhau bod beth bynnag sydd ar gael hefyd gyda'r elfen yna o ran y Gymraeg ynddo fo? Felly, os cawn ni eglurder o ran amserlen ar gyfer y gwyliau haf yma, ond hefyd o ran mynd â'r gwaith yma rhagddo, ei fod o ddim yn rhywbeth sydd yn dod yn angof, ond ein bod ni'n gweld y gweithredu radical sydd ei angen i sicrhau'r gorau i bob un o'n dysgwyr ni. Diolch.

16:15

Diolch yn fawr iawn, Heledd. Fel y sonioch chi, roedd y gwaith hwn yn rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd arno, yn enwedig y berthynas adeiladol iawn yr oedd gennyf â Siân Gwenllian ar hyn, a Dafydd Trystan hefyd, a oedd yn helpu gyda'r gwaith hwnnw. Fel y sonioch chi, cymysg iawn oedd yr ymateb, ac rwy'n ddiolchgar am eich cydnabyddiaeth bod hyn yn ymwneud â gwrando.

O ran y gwaith y mae Julie yn mynd i'w wneud ar SHEP, rydym wedi gofyn i hwn fod yn adolygiad cyflym. Mae angen i mi gael trafodaethau pellach gyda Julie ynglŷn â sut y bydd hynny'n edrych. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cydnabod bod gan Julie record wirioneddol ragorol o weithio gyda phobl ifanc sy'n profi anfantais, felly rwyf hefyd eisiau ystyried ei barn am yr hyn y dylid ei gynnwys hefyd. Yn ôl yr hyn rwyf yn ei ddeall, ar gyfer SHEP eleni, mae cynlluniau eisoes wedi'u gwneud, felly mae'n fwy tebygol y bydd hyn ar gyfer y flwyddyn ganlynol, er ein bod ni eisoes wedi cytuno i ymestyn SHEP eleni er gwaethaf yr amgylchiadau ariannol anodd iawn.

Rwy'n deall yn iawn yr hyn rydych chi'n ei ddweud am ADY, ac fe fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud wrth y pwyllgor pa mor bryderus ydw i i sicrhau ein bod ni'n cael cymorth ar gyfer ADY yn iawn. Mae fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, yn arwain ar faterion gofal plant, ac rwy'n gwybod ei bod hi, fel fi a Lesley Griffiths, yn aros am adroddiad y pwyllgor ar fynediad at ofal plant ac addysg ar gyfer plant anabl. Byddwn ni eisiau sicrhau ein bod ni'n ystyried hynny'n ofalus ac yn ymateb i'r argymhellion.

O ran yr hyn rydych chi wedi'i ddweud am addysg Gymraeg, rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn. Roedd hyn yn rhywbeth a ystyriwyd fel rhan o'r ymgynghoriad o ran colli dysgu ar gyfer y plant hynny lle nad oedd ganddyn nhw deulu Cymraeg eu hiaith gartref. Unwaith eto, roedd y farn yn eithaf cymysg, ac ni chafwyd ystod gref o safbwyntiau. Ond rydym yn darparu SHEP mewn cryn nifer o awdurdodau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mewn rhai awdurdodau lleol mae gennym ni ddarpariaeth ddeuol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Rwy'n cydnabod y gallai fod yn fwy ac yn well. Byddaf yn sicr yn sicrhau mai dyna fydd un o'r pethau y bydd Julie yn edrych arno, ac rwy'n fwy na pharod, os yw'n ddefnyddiol, i ysgrifennu atoch gyda rhestr o'r awdurdodau lleol sy'n cynnig SHEP drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgrifennydd Cabinet, hoffwn ddiolch i chi am fod yn ddigon dewr i wrthsefyll pwysau gwleidyddol ac i wrando ar yr ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y flwyddyn ysgol. Wrth siarad fel cyn-athro a chan ystyried graddfa'r diwygiadau radical yr ydym eisoes yn disgwyl i'n hysgolion ymgymryd â nhw, rwy'n credu mai eich ffocws ar godi safonau yw'r union le y mae angen i ni fod. Bydd gohirio'r cynlluniau hyn yn caniatáu i'n hysgolion ganolbwyntio ar hynny, yn enwedig mynd i'r afael â materion presenoldeb a chyrhaeddiad ymhlith ein disgyblion mwyaf difreintiedig. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a allech chi ymhelaethu ar sut rydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r ddau fater allweddol hyn?

Yn ail, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu'n llwyr eich penderfyniad i benodi Julie Morgan AS i oruchwylio adolygiad o'r rhaglen gwella gwyliau'r haf. Rwy'n arfer ymweld â rhaglenni SHEP yn fy etholaeth bob haf, ac mae'r prydau maethol rhagorol a'r tasgau addysgol hwyliog sydd ar gael wastad yn creu argraff arnaf. Fodd bynnag, mae'r nifer sy'n manteisio yn broblem bob amser, a'r hyn a welaf yw, er bod rhaglenni SHEP bob amser wedi'u lleoli yn ein cymunedau mwy difreintiedig, dydw i dal ddim i deimlo, mewn gwirionedd, eu bod nhw'n cyrraedd y disgyblion mwyaf difreintiedig yn y cymunedau hynny. Felly, allwch chi gadarnhau y bydd yr adolygiad yn cymryd golwg galed, hir a manwl ar sut y gallwn ni gyrraedd y disgyblion mwyaf difreintiedig hynny go iawn?

16:20

A gaf i ddiolch i Vikki Howells am ei sylwadau ac am ei chefnogaeth? Rwy'n croesawu'n arbennig y ffaith eich bod chi wedi tynnu ar eich profiad fel athro a'r gydnabyddiaeth honno o ran faint o waith diwygio yr ydym yn gofyn i ysgolion ei reoli ar hyn o bryd. Rwyf wedi bod yn glir iawn ers i mi ymgymryd â'r swydd bod codi cyrhaeddiad yn flaenoriaeth i mi. Yn sicr, dydw i ddim yn cydnabod y darlun llwm a baentiwyd gan Tom Giffard, ond rwyf yn cydnabod bod ein canlyniadau PISA diwethaf yn siomedig a bod angen i ni ganolbwyntio ar godi cyrhaeddiad yn gyffredinol.

Mae swyddogion wrthi'n gweithio ar gynllun a fydd yn ein galluogi i godi cyrhaeddiad addysgol ledled Cymru, gan roi tegwch, cynhwysiant a lles wrth wraidd hynny, a bydd pedair elfen o waith i gyflawni hynny. Y gyntaf yw bod cyrhaeddiad i ni yn cynnwys cynhwysiant, tegwch, dyhead ac ymestyn. Yn ail, mae'r cwricwlwm a diwygio anghenion dysgu ychwanegol yn ganolog i gyflawni safonau gwell yng Nghymru. Yn drydydd, mae angen i ni sefydlu ein harweinyddiaeth genedlaethol er mwyn dod â'n partneriaid at ei gilydd i ganolbwyntio ar safonau gwell, ac fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r rhaglen partneriaeth gwella ysgolion, sydd ar ail gam ei gwaith ar hyn o bryd. Yn bedwerydd, fel yr wyf wedi'i ddweud sawl gwaith, mae iechyd meddwl a lles yn hanfodol i'r agenda hon yn ei chyfanrwydd.

Rydych chi'n hollol iawn i gydnabod y materion sy'n ymwneud â phresenoldeb. Mae'r ffigurau presenoldeb yng Nghymru yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ond mae mwy i'w wneud. Rwy'n arbennig o bryderus am bresenoldeb plant a phobl ifanc sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Felly, rydym yn edrych ar beth arall y gallwn ni ei wneud o ran hynny. Rwy'n cadeirio'r tasglu presenoldeb cenedlaethol, y mae ei holl ffrydiau gwaith a'i is-grwpiau ar waith erbyn hyn, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni ddod â ffocws manwl go iawn i'r gwaith hwnnw.

Diolch am eich sylwadau ar SHEP; byddwn i'n sicr yn annog unrhyw Aelod i fynd i ymweld â'i gynlluniau SHEP lleol yn ystod yr haf. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud â'r nifer sy'n cymryd rhan ac mae hynny'n rhywbeth rydw i wedi bod yn poeni amdano fy hun. Rwy'n gwybod bod cryn dipyn o dargedu meddal sy'n mynd ymlaen gyda SHEP sy'n seiliedig ar wybodaeth leol gan y bobl sy'n rhedeg y cynlluniau, ond un o'r pethau rwy'n awyddus iawn i Julie edrych arno mewn gwirionedd yw sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod y cynlluniau'n cyrraedd y plant hynny sydd—rwy'n casáu'r term 'anodd eu cyrraedd'—yn lleiaf tebygol o ymgysylltu â'r rhaglen SHEP, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael allan.

Gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet? Dwi'n meddwl bod cymryd cam yn ôl yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn gam synhwyrol. Dwi'n synnu bod yna ddim cyfeiriad penodol yn eich datganiad chi at yr effaith y byddai rhai o'r cynigion wedi'i chael ar y sioe fawr a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn enwedig gan fod hynny wedi bod yn nodwedd flaenllaw iawn yn y crynodeb rŷch chi wedi'i gyhoeddi heddiw o'r ymatebion, ac yn sicr rhywbeth roeddem ni, fel plaid, wedi gwneud yn glir ynglŷn â'n gwrthwynebiad ni i newidiadau fyddai'n cael effaith negyddol ar y sioe neu'r Eisteddfod. Rŷch chi wedi dweud na fydd yna benderfyniad terfynol, felly, yn cael ei wneud yn y Senedd yma, ond yn eich datganiad, rŷch chi hefyd yn dweud y byddwch chi nawr, fel Ysgrifennydd Cabinet ac fel Llywodraeth, yn parhau i archwilio'r ail gynnig yn benodol yn yr ymgynghoriad yn ystod gweddill y Senedd yma. Ond, wrth gwrs, mi oedd hwnnw'n un o'r cynigion fyddai wedi cael effaith ar y sioe frenhinol yn enwedig. Felly, allwch chi gadarnhau, wrth ichi ddatblygu'r gwaith yna, nid yn unig y byddwch chi'n ymwybodol o'r angen i warchod buddiannau'r sioe fawr a'r Eisteddfod, ond y byddwch chi'n sicrhau na fydd unrhyw newid yn y pen draw yn arwain at effaith negyddol ar y gwyliau hynny?

Diolch yn fawr iawn, Llyr. Fel y dywedwch chi, fe gafodd y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ac mae trafodaethau wedi bod gyda sefydliadau perthnasol mewn perthynas â hynny. Rwyf am fod yn glir iawn, serch hynny, fy mod i'n credu bod hwn yn benderfyniad y mae'n rhaid ei wneud ar sail yr hyn sydd orau i blant a phobl ifanc, ond rwy'n gwybod hefyd fod cymunedau yng Nghymru sydd wir yn gwerthfawrogi mynd â'u plant a'u pobl ifanc i ymweld â'r Sioe Frenhinol. Yn wir, roedd yr ymgynghoriad ei hun yn adlewyrchu'r angen i wneud yn siŵr bod digwyddiadau mawr yn cael eu darparu ar eu cyfer yn hynny o beth. Felly, rwy'n deall bod hyn yn achos pryder i Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd gwledig, ac fe allaf eich sicrhau y byddwn ni'n parhau i ymgysylltu â'r Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod a sefydliadau eraill ynglŷn â hyn wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

16:25

Hoffwn groesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac mae yna ddadleuon a gwerth ar ddwy ochr y mater hwn. Ond mae'r ymgynghoriad ar y newid i'r calendr ysgolion yng Nghymru wedi derbyn 16,000 o ymatebion, ac mae'n rhaid i ni nodi mai dyma'r ymgynghoriad addysg mwyaf erioed yng Nghymru. Mae'r rhestr o sefydliadau sy'n gwrthwynebu yn helaeth iawn, felly hefyd yr ymateb cymysg iawn gan rieni, sy'n dangos bod angen mabwysiadu dull synnwyr cyffredin. Mae'n iawn ymgynghori ar y mater hwn, ac mae hefyd yn iawn gwrando ar yr ymgynghoriad hwnnw ac yna gweithredu arno.

Heddiw, wrth i'n cymunedau ysgol barhau i geisio symud ymlaen o gysgod pandemig COVID-19 a brwydro allan o dywyllwch cyni, rydym yn gwybod bod yr heriau maen nhw'n eu hwynebu yn rhai dwys a gallwn ni ddim, a dylen ni ddim, danbrisio hyn, yn enwedig y gostyngiad mewn presenoldeb ysgol a welwyd ledled Cymru, yn dyngedfennol gan rai o'r plant tlotaf yn ein cymdeithas, ein carfan fwyaf bregus.

Ysgrifennydd Cabinet, diolch am yr eglurder rydych chi wedi'i roi heddiw; bydd yn cael ei groesawu'n eang. O ran y sicrwydd y gallwch chi ei roi i ni heddiw—i'r plant, yr athrawon, y staff a'r teuluoedd ar draws Islwyn—y byddwch chi'n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ac yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â phresenoldeb, rhoi'r cwricwlwm newydd ar waith, ymgymryd â'r diwygiadau sydd eu hangen o ran anghenion dysgu ychwanegol, datblygu rhaglen gwella gwyliau'r haf gryfach, lleihau'r fiwrocratiaeth sy'n wynebu athrawon ac, yn olaf, mynd i'r afael â'r angen i gryfhau cadw staff ar draws ysgolion Cymru, mae angen y blaenoriaethu hwnnw arnom. 

Diolch yn fawr iawn, Rhianon, am y croeso hwnnw i'r cyhoeddiad heddiw, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd i chi fod presenoldeb yn gwbl hanfodol. Dydy plant ddim yn mynd i ddysgu a ffynnu os nad ydyn nhw yn yr ysgol, ac rydym yn gwybod bod gennym fwy o waith i'w wneud o ran hynny. Rydym yn cyflwyno diwygiadau uchelgeisiol i'r Cwricwlwm i Gymru, ac rwyf wedi bod yn glir iawn bod gennym fwy o waith i'w wneud ar ein diwygiadau ADY. Mae yna faterion llwyth gwaith hefyd fel yr ydych newydd eu crybwyll—rydym yn gwneud llawer o waith ar hynny. Mae gennym grŵp gweithlu strategol o fewn Llywodraeth Cymru; rydym yn datblygu teclyn digidol i benaethiaid wneud asesiadau o'r effaith ar y gweithlu. Rydych chi'n codi pwynt pwysig hefyd am gadw, oherwydd un o'r materion yr oedd y gweithlu yn poeni amdano oedd y gallai'r cynigion hyn effeithio ar gadw'r gweithlu. Felly, rwy'n credu mai dyna pam ei bod yn bwysig iawn, wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ein bod ni'n gwneud hynny mewn partneriaeth â'r gweithlu a chyda'n partneriaid undebau llafur. 

Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar effeithiau'r hyn y gallai'r newid fod wedi ei olygu. Fe wnes i bostio fideo ar fy nhudalen Facebook yn gofyn i bobl sy'n byw yng Nghaerffili am eu barn, ac roedd yn gymysg iawn, sy'n adlewyrchu'r ymatebion a gawsoch. Un o'r pethau a ddaeth drwodd yn amlwg ymhlith y bobl rwy'n mynychu grŵp Sparrows gyda nhw, gyda fy merch sydd ag ADY, yw bod llawer mwy o weithgareddau am ddim ar gael iddyn nhw yn yr haf, a gallwch chi ddim cadw plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn y tŷ yn barhaus dros wyliau'r haf, neu unrhyw wyliau. Fe aethon ni i Barc Morgan Jones dros y penwythnos; mae yna bad sblasio yno, ac mae yna lawer o weithgareddau awyr agored tywydd da sy'n tueddu i gau yn hanner tymor mis Hydref. Yn hanner tymor mis Hydref, rydym yn tueddu i weld chwarae meddal, trampolinio—y pethau hynny y mae'n rhaid i chi dalu amdanyn nhw o dan do—ac mae'n llawer mwy costus i deuluoedd, yn enwedig i deuluoedd sydd yn y sefyllfa honno ac sydd hefyd yn fwy tebygol o fod ar incwm is. Felly, rwy'n croesawu'r saib hwn, ond byddwn i hefyd yn gofyn i chi gadw mewn cof yr hyn rwyf wedi'i ddweud, os byddwch chi'n penderfynu bwrw ati yn y dyfodol.

Diolch yn fawr iawn, Hefin. Yn wir, daeth y materion hynny i'r amlwg drwy'r ymgynghoriad: pryderon am bethau fel gwresogi eich cartref yn ystod hanner tymor estynedig ym mis Hydref a'r ffaith ei bod yn anoddach dod o hyd i weithgareddau i'w gwneud yn rhad ac am ddim. Ond yr ochr arall i hynny oedd bod yna gydnabyddiaeth hefyd o'r blinder y mae plant a'r gweithlu yn ei brofi yn ystod y tymor hir iawn hwnnw hyd at y Nadolig. Mae'r ddadl rydym yn ei chael heddiw wir yn tynnu sylw at ba mor gymysg a gwrthgyferbyniol yw'r materion hyn, a sut mae'r gwaith hwnnw i'w wneud i gydbwyso'r anghysondebau hynny.

16:30

Fe wrandawais i'n ofalus ar ddatganiad siomedig yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma. Fe sylwais i ei bod hi wedi dewis dechrau a gorffen ei datganiad drwy gyfeirio at ei hymrwymiad i fudd gorau plant. Wrth gwrs, dydy ansawdd ei hymrwymiad ddim yn fater y prynhawn yma—mae hynny'n amlwg wythnos ar ôl wythnos yma yn y Siambr. Ansawdd ei phenderfyniadau hi yr ydym yn craffu arno, nid ansawdd ei hymrwymiad. A gadewch i ni fod yn glir mai'r hyn rydym wedi'i glywed y prynhawn yma yw cefnu ar ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf. A dylai'r Gweinidog ddim ceisio cysgodi y tu ôl i semanteg wrth ddweud wrthyf mai ymrwymiad i archwilio diwygio'r diwrnod ysgol oedd hwn, oherwydd mae hi'n gwybod yn iawn bod ei rhagflaenwyr wedi cyhoeddi cynllun—nid archwiliad, ond cynllun—i weithredu'r ymrwymiad hwnnw, a bydd hynny ddim yn digwydd nawr yn nhymor y Senedd hon. A beth oedd y cynllun hwnnw, Llywydd? Byddai wedi symud un wythnos—un wythnos—mewn pum mlynedd o wyliau'r ysgol yn yr haf i hanner tymor yr hydref. Gallai neb, dydw i ddim yn meddwl, honni bod y Llywodraeth yn rhuthro'n bendramwnwgl i lawr rhyw lwybr radical, ond roedd yn ddechrau. Roedd yn ddechrau ar daith a fyddai wedi gwella'r deilliannau i blant yng Nghymru. Rwy'n gresynu at y niwed gwleidyddol. Rwy'n gresynu at y difrod a fydd yn cael ei wneud i enw da Cymru, yn union fel yr oedd rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn edrych ar Gymru ac yn pwyntio atom fel enghraifft o'r hyn y gallai Llywodraeth flaengar ei wneud. Yr hyn rwy'n gresynu ato fwyaf yw'r difrod a fydd yn cael ei wneud i gyfleoedd bywyd y plant sydd wrth wraidd y polisi hwn.

Bydd cyd-Aelodau yma yn gwybod am yr anawsterau a brofwyd ar ystad Trelái yma yng Nghaerdydd. Dywedaf wrth yr Ysgrifennydd Cabinet: fydd y plant rwy'n poeni amdanyn nhw, eu teuluoedd ddim yn poeni, fel y dywedwyd yn eich datganiad, am y cyfleoedd ansawdd bywyd sy'n dod gyda thoriad estynedig dros yr haf. Bydd y teuluoedd hynny yn agosáu at wyliau'r haf yn teimlo'n bryderus, weithiau'n ofnus. Ac mae cyfleoedd bywyd y plant hynny yn dibynnu'n llwyr ar yr hyn y gall yr ysgol ei wneud iddyn nhw, a'r ysgolion gwych ar yr ystad sy'n gwneud cymaint i fuddsoddi yn y plant hynny sydd heb gyfle—[Torri ar draws.]—fel arall, ac sy'n gweithio trwyddyn nhw i gyd, o fis Medi i fis Gorffennaf. Ac ym mis Gorffennaf, mae'r plant hynny wedi cael—

Mae Hefin David yn ceisio heclo ar hyn o bryd. Rwy'n caniatáu i'r Aelod barhau â'i gyfraniad. Mark Drakeford.

Diolch, Llywydd. Mae'r plant hynny, ym mis Gorffennaf, wedi cael budd o bopeth y gall yr ysgol honno ei wneud. [Torri ar draws.] Ac yna mae'r plant hynny'n mynd i ffwrdd—

Esgusodwch fi, peidiwch â chwestiynu fy mhenderfyniad i ganiatáu i Mark Drakeford—. Fe ddywedoch chi, 'Mae hyn yn hurt', fy mod i'n caniatáu i Mark Drakeford barhau. Dyw e ddim. Rwyf wedi caniatáu disgresiwn i chi dro ar ôl tro i barhau ar faterion sy'n bwysig i chi eich hun, felly cofiwch hynny, Hefin David. Rwy'n caniatáu i Mark Drakeford barhau.

Diolch, Llywydd. Pan fydd y plant hynny'n mynd i ffwrdd ym mis Gorffennaf, yn y chwe wythnos hynny, fyddan nhw ddim yn gweld llyfr, fyddan nhw ddim yn cael cyfle i chwarae mewn ffordd sy'n eu galluogi i werthfawrogi'r hyn y gall mathemateg ei wneud iddyn nhw yn eu bywydau, a phan fyddan nhw'n dod yn ôl ym mis Medi, mae'r ysgol yn dechrau eto. Mae'r syniad nad oes unrhyw ddysgu yn cael ei golli ym mywydau'r plant hynny yn hollol hurt. Yr hyn y byddai'r polisi hwn wedi'i wneud yw y byddai wedi dechrau cau'r bwlch ym mywydau'r plant hynny. Dyma Lywodraeth a allai fod wedi gwneud rhywbeth i'w helpu, ond mae wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Pa esboniad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn credu y dylwn i ei gynnig i'r plant hynny sydd bellach yn gweld bod eu buddiannau nhw yn yr ail safle, yn erbyn rhai'r grymoedd adweithiol a fydd wastad ynghlwm wrth y status quo?

A gaf i ddiolch i Mark Drakeford am ei sylwadau? Rwy'n difaru naws rhai o'r sylwadau hynny, yr wyf yn teimlo eu bod yn cwestiynu fy ymrwymiad fy hun i blant a phobl ifanc, sef yr unig reswm pam fy mod i'n gwneud y swydd hon, a'r rheswm pam rwyf wedi gwneud pob swydd rwyf wedi'i gwneud yn y Siambr hon: i hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc. A chyda pharch, Mark, rwy'n credu fy mod i wedi nodi'n glir iawn fy rhesymau dros y penderfyniad hwn heddiw. Mae'n ymwneud â gwrando ar ymgynghoriad. Gallwch chi ddim cael ymgynghoriad ac yna anwybyddu'r ymgynghoriad hwnnw. Fyddai hynny ddim yn dderbyniol. Ond mae hefyd yn ymwneud â chydnabod bod yn rhaid i ni weithredu cyfres o ddiwygiadau mawr a mynd i'r afael â rhai materion cyrhaeddiad difrifol yn ein hysgolion. A wyddoch chi pwy sy'n dioddef fwyaf o'r heriau hynny o ran cyrhaeddiad? Yr union blant hynny rydych chi'n sôn amdanyn nhw. Cael y plant hynny allan o dlodi yw'r hyn y mae gen i ddiddordeb yn ei wneud, trwy roi ein diwygiadau ar waith. A dweud y gwir, mae meddwl bod newid wythnos yn y flwyddyn ysgol yn mynd i wneud gwahaniaeth i'r heriau systemig rydym yn eu hwynebu ym myd addysg yn chwarae'r crwth a Rhufain yn llosgi, ac mae'n ddrwg iawn, iawn gen i eich bod chi wedi dewis ei roi fel yna.

Mae'r cyfraddau absenoldeb parhaus ar gyfer plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn yr ysgol uwchradd yn 50 y cant a mwy. Mae hynny'n ffigwr rhyfeddol, a dyna'r hyn y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Dydy e ddim yn ymwneud â newid wythnos yma ac acw. A dydy hyn ddim yn ymwneud â grymoedd adweithiol. [Torri ar draws.] Allwch chi adael i mi orffen? Oherwydd fe wnes i adael i chi siarad, onid oeddwn i? Wnes i ddim dweud gair tra roeddech chi'n siarad. Dydy hyn ddim yn ymwneud â grymoedd adweithiol. Mae hyn yn ymwneud â phenderfyniad rwy'n ei wneud yn seiliedig ar ymgynghoriad 16,000 a mwy a'r hyn rwy'n ei glywed ar lawr gwlad am system ysgol sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac yn cael ei llethu â diwygiadau, sy'n ei chael hi'n anodd codi cyrhaeddiad, ac sydd hefyd yn cael trafferth dod o hyd i gyllid. Felly, dyna'r hyn rwy'n ei flaenoriaethu, a dydw i ddim yn ymddiheuro am y penderfyniad hwnnw. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwnnw ar ôl wythnosau lawer o ystyriaeth ofalus, er budd gorau pob plentyn a pherson ifanc yn fy marn i, gan gynnwys y plant ar ystad Trelái, yr wyf yn teimlo'n angerddol amdanyn nhw.

16:35
5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol—Ailddatgan ein gwerthoedd

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, ar ailddatgan ein gwerthoedd. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o wneud y datganiad hwn ar fy mlaenoriaethau ar gyfer y portffolio diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hwn yn bortffolio amrywiol sy'n ymestyn ar draws sawl agwedd ar y Llywodraeth, ac sydd â'r potensial i wneud newid dwys a pharhaol i fywydau pobl a chymunedau ledled Cymru. Mae diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a chyfiawnder cymdeithasol yn bileri rhyng-gysylltiedig, a phan gânt eu hysgogi'n effeithiol gallan nhw helpu i adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol, teg a bywiog. Rwyf am harneisio effaith gyfunol yr elfennau hyn i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig, cryfhau cydlyniant cymunedol a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn genedl noddfa.

Un o fy mhrif flaenoriaethau yw gwneud cynnydd o ran trechu tlodi, yn enwedig tlodi plant. Helpodd mwy na 3,000 o bobl i ddatblygu ein strategaeth tlodi plant, a'r neges a gafwyd amlaf o lawer gan randdeiliaid yw bod gennym ni'r amcanion a'r blaenoriaethau cywir. Ein ffocws nawr yw eu darparu mewn ffordd sy'n garedig, yn dosturiol ac sy'n canolbwyntio ar y person, gan gynnwys sicrhau bod pobl yn cael eu cynnwys yn ariannol ac yn ddigidol, ac yn gallu hawlio'r holl fudd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl i'w cael.

Mae ymrwymiad i hawliau plant ar draws fy mhortffolio o ran trechu tlodi, sicrhau'r hawl i chwarae a'r hawl i gyfarfod, mynd i'r afael â gwahaniaethu, amddiffyn rhag trais a chamdriniaeth, a'u galluogi i gymryd rhan yn rhydd mewn bywyd diwylliannol.

Blaenoriaeth allweddol arall fydd parhau â'n ffocws ar sicrhau cydraddoldeb, cynhwysiant a pharch at hawliau dynol. Mae ein hamcanion cydraddoldeb cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol. Mae pobl anabl yn aml yn cael eu heithrio o gyflogaeth a chyfleoedd eraill, gan gynnwys gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a chwaraeon. Byddwn ni'n parhau â'n gwaith i hyrwyddo tegwch i bobl anabl, gan ystyried profiad bywyd pobl. Mae gwaith pwysig y tasglu hawliau anabledd yn cefnogi datblygiad cynllun a fydd yn nodi ein huchelgais ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar wneud newidiadau i wella bywydau pobl anabl yn fesuradwy.

Rwy'n gwbl ymrwymedig i fwrw ymlaen â 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a gwireddu ein gweledigaeth o fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym wedi ymrwymo mwy na £5 miliwn rhwng 2022 a 2025 i gefnogi'r gwaith hwn. Rwy'n falch bod ein cynllun gweithredu LHDTC+ wedi'i gydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd yn erbyn Hiliaeth ac Anoddefiad fel enghraifft dda, ac yn fodel posibl i eraill. Byddaf yn parhau i arwain y gwaith i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop.

Ym mhob maes yn fy mhortffolio, fel sy'n digwydd ar draws Llywodraeth Cymru, mae'r trydydd sector a gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau a chefnogi cymunedau. Yfory byddaf yn siarad yn Gofod3, wrth i ni ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr gyda'n gilydd.

Gan droi at gyfiawnder troseddol, byddwn ni'n parhau â'n hymdrechion i wella canlyniadau i bobl yn y system gyfiawnder. Er nad yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli i Gymru eto, mae'r gwasanaethau hyn yn rhyngweithio'n rheolaidd â meysydd datganoledig fel tai, gofal iechyd ac addysg. Trwy ein glasbrint cyfiawnder menywod a'n glasbrint cyfiawnder ieuenctid, rydym yn ymgorffori dull ataliol o ymdrin â chyfiawnder sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu ac sy'n helpu pobl i fyw bywydau cyflawn, di-drosedd. Yn 2024 i 2025, byddwn ni'n ymestyn dull y rhaglen fraenaru i fenywod i Gymru gyfan i gryfhau ymhellach ein cefnogaeth i fenywod sy'n aml yn agored i niwed, yn ogystal â chynnal ein ffocws cryf ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol trwy lasbrint VAWDASV. 

Byddaf hefyd yn canolbwyntio'n glir ar ddarparu cynnig diwylliannol, treftadaeth a chwaraeon cryf. Mae llesiant diwylliannol Cymru yn anwahanadwy o'n cymdeithas, ein hamgylchedd a'n heconomi. Rwy'n cydnabod gwerth cynhenid diwylliant ac yn ymrwymo i'r egwyddor bod gan bob person yng Nghymru yr hawl i gael mynediad, i greu, i gyfranogi ac i weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithgarwch diwylliannol ein cenedl. Ein huchelgais yw bod diwylliant yng Nghymru yn ffynnu, gyda chynllun strategol hirdymor ar gyfer buddsoddi. Yn ddiweddar, fe gyhoeddais i'r ymgynghoriad ar gyfer ein strategaeth ddiwylliant, sy'n darparu fframwaith polisi ar gyfer ein sectorau cyhoeddus a diwylliant yng Nghymru, gan ddiffinio'r cyfeiriad strategol ar gyfer sectorau'r celfyddydau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a'r amgylchedd hanesyddol.

Mae'r blaenoriaethau a nodir yn y strategaeth wedi'u datblygu yn ystod cyfnod o gyfyngiadau ariannol difrifol. Byddai'n esgeulus i mi beidio â chydnabod y dirwedd ariannol, ac rwy'n gwybod bod llawer o sefydliadau yn wynebu heriau ariannol anodd. Mae toriadau mewn cyllid dros nifer o flynyddoedd wedi effeithio ar y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r sector diwylliant yn teimlo'n fregus. Rwy'n ymwybodol o'r effaith y bydd y gostyngiad yn ein dyraniad cymorth grant dangosol ar gyfer 2024-25 yn ei chael ar ein cyrff hyd braich diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon. Rwyf wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb arnyn nhw, ond does dim hyblygrwydd yn y gyllideb a all atal gostyngiadau sylweddol i'w cyllidebau.

Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod y dyraniadau'n cael eu targedu tuag at barhau i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu. Mae cydweithio â'r Llywodraeth ac o fewn y sector yn bwysicach nawr nag erioed. Rwy'n gwybod pa mor wydn yw'r sectorau celfyddydol a diwylliannol, ac rwyf wedi edmygu eu hagwedd gallu gwneud ers tro. Rwy'n cydnabod y cyfraniad gwirioneddol y gall treftadaeth a gwaith Cadw ei wneud i'm blaenoriaethau ehangach o gynhwysiant a chydraddoldeb—ehangu mynediad i bawb i safleoedd a thirweddau hanesyddol eithriadol Cymru, ac adrodd straeon ehangach Cymru.

Rwy'n gwybod nad oes unrhyw beth fel gêm bêl-droed wych yn eich tref enedigol i ddod â phobl at ei gilydd, a dyna pam mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion arloesol i'r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu ar draws ystod o chwaraeon. Trwy gydweithio ar draws y Llywodraeth a chyda'n partneriaid allanol, mae gennym gyfle i fynd i'r afael â llawer o rwystrau ac achosion niweidiol anghydraddoldeb a thlodi a brofir gan bobl yng Nghymru, a'u dymchwel. Rwy'n benderfynol o wneud fy rhan i sicrhau bod Cymru'n lle ffyniannus, teg a mwy diogel i'w holl ddinasyddion. Diolch. 

16:40

Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, er nad yw'n un ymrwymol iawn. Mae'n rhaid i mi gyfaddef bod y datganiad yn un diddorol iawn yn fy marn i oherwydd fe wnaethoch chi sôn am ddiwylliant, ac eto mae dyfodol Opera Cenedlaethol Cymru, yn llythrennol, yn hongian yn y fantol, a galla' i ddim dweud bod unrhyw ran o'r datganiad wedi tawelu fy meddwl. Dydy hi ddim yn ymddangos bod unrhyw gynllun clir ar unrhyw beth rydych chi wedi sôn amdano, yn enwedig chwaraeon, sy'n ymddangos fel pe bai'n ôl-ystyriaeth ar ddiwedd eich datganiad, a does dim ymrwymiadau ar sut i wella'r sefyllfa bresennol yng Nghymru.

Rydych chi'n sôn am eich cynllun gweithredu LHDTC+. Byddai bwrw ymlaen â'r cynllun hwn nawr, yng ngoleuni canfyddiadau adolygiad Cass, yn anghyfrifol a gallai beri risg i blant a phobl ifanc o bosibl. Mae angen i gynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru gael ei adolygu yng ngoleuni canfyddiadau Dr Cass. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, gofynnaf unwaith eto: pryd all dinasyddion pryderus Cymru—a'r Senedd hon—ddisgwyl i adolygiad o'r cynllun gael ei gynnal? Nid blaenoriaethau presennol pobl Cymru yw'r blaenoriaethau hyn.

Fodd bynnag, roeddwn i'n falch o'ch clywed yn sôn, er yn fyr, am chwaraeon yn y datganiad heddiw, fel rhywbeth y gwyddys ei fod yn dod â chymunedau ynghyd, fel y gwyddoch chi, ac yn newid bywydau. Mae'r Llywodraeth Lafur, yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, wedi siomi pobl Cymru yn llwyr o ran cyfleusterau chwaraeon. Nid yw chwaraeon yn cael, ac nid ydyn nhw erioed wedi cael y buddsoddiad sydd ei wir angen arnyn nhw, o lefel gymunedol i lefel genedlaethol, dros y 2.5 degawd diwethaf—mae'n gywilyddus o gymharu â gweddill y DU. Mae'r Llywodraeth hon i fod eisiau bod yn arweinydd ym maes cyfranogiad mewn chwaraeon ar lawr gwlad, a dylai fod eisiau bod yn arweinydd ar lefel elitaidd hefyd. Fyddwn ni ddim yn cyflawni hyn, na hyd yn oed yn dod yn agos ato, ar y llwybr presennol hwn. Mae'n amlwg i bawb, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, bod mynediad at gyfleusterau chwaraeon yn fwyfwy anodd neu'n amhosibl, ac eto mae'n gwaethygu yn ystod y gaeaf, oherwydd diffyg cyfleusterau chwaraeon pob tywydd, yn enwedig, unwaith eto, mewn ardaloedd gwledig, lle mae diffyg cyfleusterau o'r fath. Ysgrifennydd Cabinet, pan fo chwaraeon yn wastatäwr, mae'n darparu buddion iechyd, mae'n ennyn balchder cenedlaethol, mae'n gwella llesiant, pryd y bydd yn cael y lefel o fuddsoddiad y mae'n ei haeddu cymaint, oherwydd y rôl enfawr y mae'n ei chwarae wrth atal anhwylderau iechyd, yn ogystal, wrth gwrs, â hawl pobl i gael mynediad at gyfleusterau chwaraeon yn agos atyn nhw, lle bynnag y maen nhw yng Nghymru?

Ac yn olaf, Ysgrifennydd Cabinet, gan barhau eto gyda chwaraeon, mae'n hanfodol bwysig bod menywod a merched yn cael eu cefnogi er mwyn tyfu chwaraeon menywod, wrth symud ymlaen. Am resymau diogelwch a thegwch, mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Cheidwadwyr y DU yn cefnogi cryfhau Deddf Cydraddoldeb 2010 i ymgorffori hawliau menywod a merched mewn chwaraeon yng Nghymru drwy roi pwyslais ar ryw biolegol. Dylai pawb gael y cyfle i chwarae chwaraeon, ond dylai menywod ddim cael eu cosbi trwy fod â mantais fiolegol gwrywaidd—trwy orfod derbyn gwrywod biolegol i'w categori. Mae'n niweidio chwaraeon benywaidd ac yn cael effaith negyddol ar lefelau cyfranogiad menywod a merched. Mae'n debyg, cyn y gall Llafur ddechrau honni eu bod yn cefnogi menywod yn iawn, fod angen iddyn nhw ddysgu yn gyntaf, wrth gwrs, sut i ddiffinio un. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, allwch chi ymrwymo heddiw i ddiogelu chwaraeon menywod biolegol, os gwelwch yn dda? Diolch.

16:45

Diolch. Wel, fe wnes i ddweud ar ddechrau fy natganiad fod gen i bortffolio amrywiol iawn, felly mae'n anodd iawn ei gyfyngu i'ch blaenoriaethau chi, ond os gallaf ei gwmpasu mewn tri o'r datganiad hwnnw—ac fe wnes i hyn yn glir iawn i'm cyd-Aelodau yn y Cabinet—trechu tlodi ddylai fod yn brif flaenoriaeth, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys tlodi plant. Ond rydym yn gwybod bod plant mewn tlodi oherwydd bod eu rhieni mewn tlodi, felly rwy'n defnyddio'r ymadrodd 'trechu tlodi', sy'n amlwg yn cynnwys tlodi plant. I mi, mae cydlyniant cymunedol neu ddiogelwch cymunedol yn bwysig iawn, oherwydd rwy'n credu, i'n hetholwyr ac i bawb yng Nghymru, mae angen iddyn nhw deimlo'n ddiogel yn y gymuned honno ac yn eu cartref. A'r trydydd yw dod â phobl ynghyd yn gyffredinol. Doedd e' ddim yn ôl-ystyriaeth o gwbl; roedd yn ymwneud â dod â'r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon at ei gilydd, oherwydd rwy'n credu bod y tri ohonyn nhw—mae gennym ni lawer iawn i'w gynnig yma yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod nad oes gennym ddigon o arian i allu cefnogi ein sector celfyddydol, diwylliant a chwaraeon yn y ffordd y byddem i gyd yn dymuno, ond mae'n rhaid i ni fod yn bragmatig ac yn y Llywodraeth mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau anodd, ac, yn anffodus, roedd ein sefyllfa ariannol yn golygu bod yn rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hynny. Ond rwyf am roi sicrwydd i bawb fy mod i'n parhau i weithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae gen i gyfarfod gyda Rhianon Passmore yfory. Rwyf wedi cyfarfod ag Opera Cenedlaethol Cymru. Rwy'n credu, y tro diwethaf i mi fod yn y Siambr, roeddwn i eisoes wedi cwrdd â nhw i weld beth allem ei wneud, oherwydd rwy'n cydnabod yn llwyr eu bod nhw'n em yn ein coron ni, ac rwy'n credu fy mod wedi sôn, yn ein sesiwn holi, eu bod, o safbwynt byd-eang, yn cael eu cydnabod yn eang iawn. Felly, wyddoch chi, galla' i ddim cynnig sicrwydd am gyllid, ond yr hyn y gallaf ei gynnig yw fy ymrwymiad i barhau i weithio gyda phob rhan o'r sector celfyddydau, y sector diwylliant a'r sector chwaraeon.

Rwy'n cytuno'n llwyr fod chwaraeon yn dod â phobl at ei gilydd, ac, os ydw i'n meddwl am fy mhrofiad i fy hun, mae fy merch, sy'n dod i'r pêl-droed gyda fi, yn byw dwy awr o gartref, ond, ar brynhawn Sadwrn am 3 o'r gloch, rydym yn dod at ein gilydd, a dyna'r achos—. Rwy'n edrych o gwmpas stadiwm y Cae Ras, a gallaf weld hynny ar draws stadiwm y Cae Ras, felly, i mi, mae hynny'n bwysig iawn. O safbwynt chwaraeon elitaidd, rwy'n credu ein bod ni'n gwneud yn well na'r disgwyl yng Nghymru.

Gan fynd yn ôl at lawr gwlad, mae angen i ni weld mwy o gaeau pob tywydd, er enghraifft, oherwydd, fel y dywedwch chi, nid dim ond yn y gaeaf mae caeau yn gorlifo ac ati. Rwyf wedi cwrdd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i drafod y cynllun sydd ganddyn nhw, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cydweithio i sicrhau bod cyllid yno. Mae gennym ni hefyd bobl eraill sy'n hapus iawn i'n helpu ni yn y ffordd hon gyda chwaraeon llawr gwlad, ac rwyf i a fy swyddogion wedi cael cyfarfodydd a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. 

O ran y cynllun gweithredu LHDTC+ y sonioch amdano, fel y gwyddoch chi, cafodd y cynllun hwnnw ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023, felly dydw i ddim yn credu bod angen i ni gael adolygiad ohono; mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar weithredu ac ar wneud effeithiau sylweddol a chadarnhaol i fywydau pobl LHDTC+ yma yng Nghymru. Byddwn ni'n sicrhau ein bod yn diweddaru'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn pob gweithgaredd a phwynt gweithredu yn y cynllun, a byddan nhw'n cael eu monitro.

Y pwynt rydych chi'n ei wneud ar y diwedd, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi gyfeirio at y Ddeddf Cydraddoldeb—. Does dim cyfeiriad at ryw biolegol yn y Ddeddf Cydraddoldeb. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth mae Llywodraeth y DU—y Torïaid—yn ei gynllunio o gwmpas ymdrechion i ddiwygio'r Ddeddf ar y sail honno, ond rwy'n credu bod angen iddyn nhw droedio'n ofalus iawn.

16:50

Diolch am y datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Dwi'n falch o glywed y ffocws sydd gyda chi ar dlodi plant yn enwedig. Mae'n gywilyddus, yn fy marn i, cyn lleied rŷn ni wedi clywed gan arweinwyr Llafur a Thorïaidd yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma am y miliynau sy'n mynd heb hanfodion bywyd, am y ffaith bod defnydd o fanciau bwyd ar ei lefel uchaf erioed. Dyw taflu termau o gwmpas fel 'tyfu'r economi' ddim yn banacea; mae twf economaidd yn cymryd blynyddoedd. Heb gynlluniau trethiant a gwariant gwahanol, fe welwn ni doriadau i wasanaethau cyhoeddus a lefelau tlodi yn cael eu normaleiddio, achos, fel rŷch chi'n gwybod, mae lefel tlodi plant yng Nghymru gyda'r uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.

Pan wyf wedi holi'r Llywodraeth—Llywodraeth Cymru—am yr hyn maen nhw'n ei wneud i fynd i'r afael â'r sgandal genedlaethol hon, rwyf bob tro yn clywed mewn ymateb, 'Llywodraeth San Steffan sydd bennaf ar fai', a dwi'n cytuno bod yna lawer y dylai ac y gallai Llywodraeth San Steffan ei wneud i ddileu tlodi plant, gan gynnwys, wrth gwrs, cael gwared ar y cap dau blentyn ar fudd-daliadau, sy'n dyfnhau tlodi plant yng Nghymru.

Yn ôl yr End Poverty Coalition, mae dros 65,000 o blant Cymru sydd mewn tlodi yn cael eu taro gan y polisi annynol hwn. Mae Torsten Bell, cyfarwyddwr y Resolution Foundation, fel ag yr oedd, ond sydd nawr, wrth gwrs, yn gobeithio cynrychioli Gorllewin Abertawe dros Lafur yn San Steffan, wedi dweud bod cost cael gwared ar y cap yma yn ddim o'i gymharu â'r gost o'i gadw—neu efallai bod hwnna'n un o'r tweets mae wedi eu dileu erbyn hyn.

Ydych chi'n cytuno gydag ymgeisydd Llafur Gorllewin Abertawe, felly, neu gyda'ch arweinydd, Keir Starmer, sydd wedi dweud bod hyn yn anfforddiadwy, tra bod arfau yn gwbl fforddiadwy? Ac a fyddwch chi fel aelod o Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am fesurau i ddileu tlodi plant yn gwneud yr achos dros gael gwared ar y cap dau blentyn i Lywodraeth nesaf San Steffan er mwyn plant Cymru? 

Ac, wrth gwrs, mae yna gamau sy'n llwyr o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru. A wnewch chi wrando ar gyngor arbenigwyr polisi a grwpiau ymgyrchu tlodi plant, y comisiynydd plant, adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a seiliodd ein hargymhellion ar dystiolaeth ryngwladol, a sicrhau bod y camau hynny'n rhai effeithiol, y rhai sydd yn y strategaeth tlodi plant, drwy osod targedau statudol i fesur cynnydd, sicrhau perchnogaeth, a ffocysu a gyrru gweithredu? Achos yn wahanol i'r hyn gawsom ni yn eich datganiad, doedden nhw ddim yn fodlon o gwbl gyda'r strategaeth tlodi plant. Mae'r awgrym yna i ddefnyddio cerrig milltir cenedlaethol yn lle targedau. Dwi'n meddwl taw Dr Victoria Winckler o Sefydliad Bevan a darodd yr hoelen ar ei phen pan ddywedodd hi:

'Mae ychydig fel marcio'ch gwaith cartref eich hun. Rwy'n credu ei bod yn anodd monitro cynnydd pan nad oes gennych chi dargedau clir, oherwydd dim ond adrodd ar dueddiadau ydych chi. Dydych chi ddim yn adrodd ar effeithiolrwydd eich ymyriadau eich hun mewn gwirionedd.'

A wnawn ni weld newid, felly, Ysgrifennydd Cabinet? Ydych chi'n barod i wrando ar y cyngor hwn a dangos eich bod o ddifrif am wneud popeth posib i sicrhau bod eich gwaith yn y maes hwn mor effeithiol â phosib?

Rŷch chi hefyd yn dweud bod y frwydr i godi plant o dlodi wrth hanfod eich holl waith. Felly, pa waith byddwch chi'n ei wneud i yrru'r gwaith i greu system budd-daliadau Cymreig, a allai fod yn drawsnewidiol o ran mynd i'r afael â thlodi plant? Fe ellid cyflawni hynny cymaint yn haws pe byddai'r pwerau gennym ni yng Nghymru, wrth gwrs. Felly, pa wahaniaeth y mae'r siarter budd-daliadau, sydd wedi’i gyflwyno gyda chi, wedi ei wneud yn barod? Wnewch chi roi diweddariad inni ar hynny? Ac oes yna waith modelu wedi ei wneud o ran sut byddai creu system statudol yn fwy effeithiol o ran lliniaru tlodi plant?

Ac, wrth gwrs, rydyn ni ar hyn o bryd yn dathlu Mis Pride, Mis Balchder. Ac wrth inni wneud hynny, rhaid inni ailddatgan ein hymrwymiad i bobl LHDTC+ Cymru ein bod yn parchu eu hawliau ac y byddwn yn ymladd dros eu hawliau. Mae Plaid Cymru yn credu y dylid datganoli pwerau sy'n ymwneud â'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 i Gymru er mwyn helpu i sicrhau hawl pobl draws i fyw eu bywydau fel y dymunant, gydag urddas, ac yn rhydd o ormes. Ac o ystyried yr hyn glywon ni gan y Torïaid ddoe—yr ymgais ciaidd i chwarae gwleidyddiaeth gyda bywydau pobl—ydych chi fel Llywodraeth yn cadw at yr hyn oedd yn eich maniffesto diwethaf chi, sef gweithio i ddatganoli y Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned draws? Diolch. 

16:55

Diolch yn fawr iawn ac rwy'n cydnabod yn llwyr y pwysigrwydd rydych chi hefyd yn ei roi ar weithio gyda ni i ddileu tlodi plant. Pan ddes i i mewn i'r portffolio, ar ôl bod yn y portffolio hwn 10 mlynedd yn ôl, mae'n hynod siomedig gweld tlodi plant ar lefel mor uchel.

Rwy'n hapus iawn i wrando ar arbenigwyr polisi. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â'r comisiynydd plant, rwyf wedi cyfarfod â Sefydliad Bevan, ac rydym wedi cael trafodaeth ynghylch y strategaeth tlodi plant. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n Weinidog sy'n edrych yn reddfol at dargedau, a chefais sgwrs gyda fy rhagflaenydd, Jane Hutt, ynghylch hynny. Ond rwyf yn credu y dylid caniatáu i'r fframwaith monitro tlodi plant sydd gennym fod yn union fel ag y mae—wedi'i fonitro. Felly, pan wnes i gyfarfod â'r comisiynydd plant ddoe, bydd gennym ni adroddiad o fewn y flwyddyn gyntaf yn erbyn y fframwaith monitro hwn. Rwy'n credu ei fod yn seiliedig ar ystod o fesurau tlodi perthnasol iawn. Mae'n asesiad o gynnydd wrth gyflawni ein hymrwymiadau polisi. Mae hefyd yn ymwneud â gwrando ar blant ac oedolion a theuluoedd sydd â phrofiad bywyd o dlodi. Rwyf wir yn meddwl y bydd hynny'n ein helpu ni i weld beth yw effaith ein dull gweithredu ni, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni, ymhen blwyddyn, yn edrych ac yn meddwl am yr hyn rydym yn ei wneud i geisio lleihau tlodi, ac mae hynny'n cynnwys tlodi plant—. Dydw i ddim yn rhywun sy'n mynd i ymrwymo am bum mlynedd a pheidio â gwneud rhywbeth yn wahanol. Does dim pwynt parhau i wneud yr un pethau, hyd yn oed yr un pethau'n wahanol. Efallai y bydd angen i chi wneud pethau gwahanol iawn.

Mae gennym ni ddulliau ysgogi fel Llywodraeth, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn bod rhai o'r dulliau ysgogi hynny gyda Llywodraeth y DU, a byddaf yn hapus iawn i gael y sgyrsiau hynny pan fydd gennym ni Lywodraeth Lafur ar waith. Ond, fel Llywodraeth Cymru, yn amlwg, rydym wedi gweithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio ynghylch ein cynnig gofal plant, ynghylch bwyd mewn ysgolion—mae'r rhain yn bethau sy'n mynd ati i wneud gwahaniaeth—y grant hanfodion ysgol, y lwfans cynhaliaeth addysg ac, wrth gwrs, cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, oherwydd y syniad yw cael cymaint o arian i bocedi pobl.

Fe wnaethoch chi sôn am siarter budd-daliadau Cymru. Does gen i ddim y ffigurau wrth law, ond byddaf i, yn sicr, yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd gennym y data cyntaf hwnnw i allu dangos tystiolaeth o'r hyn rydym yn ei wneud, ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael effaith fawr. Ond rwy'n credu y byddai'n wych pe gallai Llywodraeth y DU efallai gael rhyw fath o ymgyrch y gallem ni i gyd ei chefnogi i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddyn nhw yr hawl i'w gael. Ac unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth roeddwn i wedi dechrau siarad amdano gyda Llywodraeth y DU, ond bydd yn rhaid i ni aros tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nawr.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ei ddweud am fis Pride. Mae'n rhywbeth y dylid ei ddathlu a'i barchu, ac fe soniais i yn fy ateb cynharach i Laura Anne Jones am y ffaith ein bod ni wedi bod yn canolbwyntio ar roi'r cynllun LHDTC+ a gyhoeddwyd y llynedd ar waith.

Ysgrifennydd Cabinet, diolch yn fawr iawn am y datganiad, ac rwy'n mynd i gyfyngu fy sylwadau heddiw i'r sector perfformiad yng Nghymru. Mae diwylliant Cymru, y celfyddydau Cymreig a cherddoriaeth Cymru ar gyfer pawb, ac nid dim ond ar gyfer yr elît neu'r rhai sy'n gallu eu fforddio. Ond mae hefyd yn iawn bod rhagoriaeth fel cysyniad yn cael ei chydnabod o fewn ein strategaeth ddiwylliannol, ac nid felly y mae hi ar hyn o bryd. Nid yw sicrhau amrywiaeth o ran mynediad a chyflawni llwybrau at ragoriaeth a chyflawni potensial unigol yn gysyniadau sy'n annibynnol ar ei gilydd, felly mae angen i'r nod artistig hwnnw o ragoriaeth fod wedi'i gynnwys yn gadarn yn y strategaeth honno. Ond mae'n ffaith syml, ac nid yw'n sgorio pwyntiau gwleidyddol, i ddatgan bod crebachu'r wladwriaeth, gwasanaethau cyhoeddus a gwariant cyhoeddus wedi creu amgylchedd cras lle bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i ddiogelu bywyd diwylliannol Cymru. Mae hynny'n ffaith syml. Ac rwy'n cydnabod geiriau'r Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n ymwybodol o'r effaith y bydd y gostyngiad yn ein dyraniad cymorth grant dangosol ar gyfer 2024-25 yn ei chael ar ein cyrff hyd braich diwylliant, celfyddydau a chwaraeon, ac rwyf wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb arnyn nhw, ond does dim hyblygrwydd yn y gyllideb a all atal gostyngiadau sylweddol i'w cyllidebau.'

Mae hyn yn sicr yn gywir, ac mae'n codi cwestiynau i ni o ran sut mae ein cyrff hyd braich yn gweithredu o ran llywodraethu a gwneud penderfyniadau. Pam mae hyn mor bwysig? Heddiw ar risiau'r Senedd, fe gwrddais i â rhai aelodau angerddol iawn o adran iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, oherwydd ar ddydd Sadwrn mae'r dysgwyr, sydd rhwng pedair a 18 oed, yn ymgynnull i ddysgu, ac mae'r penderfyniadau cyllido a wneir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn bygwth y fodolaeth honno nawr. Ar 21 Mai, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gerddoriaeth, roeddwn i hefyd yn gallu croesawu'r arweinydd enwog, Carlo Rizzi, ac aelodau o Opera Cenedlaethol Cymru i risiau'r Senedd, lle buon nhw'n protestio am eu bodolaeth. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn ac, Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n croesawu eich parodrwydd i gwrdd â chyfarwyddwr cyffredinol dros dro Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â minnau, i drafod y pryderon enfawr sy'n bodoli. Ac mae'n iawn nad yw ein sefydliadau rhagoriaeth, fel Opera Cenedlaethol Cymru, yn cael eu colli ond yn cael eu cydnabod a'u cefnogi gan eu cyrff hyd braich sy'n eu cadw'n fyw.

Ysgrifennydd Cabinet, wrth i ni ailddatgan ein gwerthoedd diwylliannol, mae'n rhaid i ni sicrhau, yn ogystal â chyfranogiad ar lawr gwlad, bod rhagoriaeth o fewn ein bywyd diwylliannol yn cael ei diogelu. Mae'n rhaid i ni wneud y ddau. Ysgrifennydd Cabinet, gyda'r etholiad cyffredinol sydd ar ddod yn cynnig cyfeiriad newydd i bobl Prydain, pa opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i ail-lunio'r bygythiadau i ddiwylliant Cymru, a sut allwch chi weithio gyda Llywodraeth newydd y DU i adolygu cytundebau hirsefydlog rhwng y ddwy genedl sydd wedi cefnogi bywyd diwylliannol Cymru ers degawdau? Diolch.

17:00

Diolch. Wel, fel y soniais yn gynharach, rwy'n credu, rwyf eisoes wedi cwrdd ag Opera Cenedlaethol Cymru, gyda'r cyfarwyddwr dros dro, ac edrychaf ymlaen at gwrdd â chi hefyd. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad ydym erioed wedi gweld nac wedi clywed protest fel yr un a gawsom gan Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn sicr, y trafodaethau a gefais gydag Opera Cenedlaethol Cymru, oherwydd—. Mae'n sefydliad anarferol iawn gan ei fod yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru, a hynny oherwydd ei fod wedi cael ei gydnabod am y gwaith mae'n ei wneud yn Lloegr hefyd. Rwy'n credu hefyd nad yw llawer o bobl yn ymwybodol fwy na thebyg o'r gwaith allgyrsiol, os mynnwch chi, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ei wneud, yn enwedig mewn lleoliad iechyd. Rwyf wedi cael trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod, yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd, i weld a oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu i'w cefnogi yno. Yn sicr, dyna'r tro cyntaf i mi ddod ar draws Opera Cenedlaethol Cymru, pan ddaethon nhw i fy etholaeth a gwneud gwaith mewn rhan ddifreintiedig iawn o fy etholaeth gyda phlant ifanc, oherwydd, fel y dywedwch chi, mae ar gyfer pawb.

Mae'r blaenoriaethau rwyf wedi'u nodi yn y strategaeth ddiwylliannol—. A hoffwn dalu teyrnged i waith fy rhagflaenydd, Dawn Bowden, oherwydd fe wnaeth Dawn y rhan fwyaf o'r gwaith o amgylch y strategaeth ddiwylliant o dan gyfyngiadau ariannol anodd iawn. Dydyn ni ddim yn gofyn i'r sector diwylliant wneud mwy gyda llai. Yr hyn rydym yn ei wneud yw nodi blaenoriaethau clir iawn gyda nhw, i helpu i wneud penderfyniadau ar lefel fwy gronynnog, felly gofyn iddyn nhw weithio mewn partneriaeth ychydig yn fwy, oherwydd hyd yn oed gyda Llywodraeth Lafur newydd yn y DU, mae'n rhaid i ni dderbyn na fydd cymaint o arian, efallai, ag y byddem ei eisiau. Ond, yn sicr, rwy'n credu y bydd yna ffocws, os byddwn ni'n cael Llywodraeth Lafur, ar y celfyddydau a diwylliant mewn ffordd nad yw'n wir ar hyn o bryd. Felly, yr hyn rwyf wedi'i ddweud wrth Opera Cenedlaethol Cymru, yr hyn rwyf wedi'i ddweud wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, yw na ddylem daflu ymaith y da i ganlyn y drwg. Rhaid i ni beidio â cholli sgiliau a fydd yn anodd iawn, iawn eu cael yn ôl. Ond rwy'n addo parhau i gael y sgyrsiau hynny.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymateb i un o bwyntiau Sioned Williams yn eich ymateb i mi, dim ond i egluro beth yw safbwynt y Llywodraeth ar y cap dau blentyn—rhywbeth sydd, wrth gwrs, o bryder enfawr i lawer ohonom oherwydd y polisi creulon iawn hwnnw.

Byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad ar y celfyddydau a diwylliant, a byddwn yn gofyn i chi, efallai, fyfyrio ar un o'ch brawddegau pan ddywedoch chi eich bod yn edmygu agwedd a gwytnwch y sector celfyddydau a diwylliannol. Wel, ie, mae hynny wedi bod yn wir ond mae'r 'gallu gwneud' wedi troi'n 'ddim yn gallu mwyach', ac mae gan bawb bwynt torri ac, yn anffodus, mae hynny wedi ei gyrraedd. Nid bygythiadau yw'r rhain bellach—rydym wedi colli arbenigwyr, arbenigedd allweddol. Mae'r sgiliau hynny wedi mynd. Mae'r difrod wedi'i wneud o ran ein sefydliadau cenedlaethol, i'r Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru. Noddais amser cinio ddigwyddiad gan Prospect, lle roedd llawer o'r arbenigwyr hynny yno. Roedd yn dorcalonnus, Ysgrifennydd Cabinet, a byddwn i'n eich annog i efallai gael y sgwrs gydag Aelodau Prospect a PCS i glywed am y sefyllfa dorcalonnus honno—. Gallan nhw ddim gwneud mwy. Maen nhw'n bryderus iawn am ddyfodol y casgliadau cenedlaethol, ond hefyd hygyrchedd swyddi o fewn ein sefydliadau cenedlaethol, oherwydd maen nhw'n dweud na fyddan nhw'n gallu darparu cyfleoedd i bobl ifanc, y bydd yn dod yn elitaidd, ac nid dyna rydyn ni eisiau ei weld. Felly, os gwelwch yn dda, a gaf i ofyn ichi fyfyrio ar y sylw hwnnw, oherwydd mae difrifoldeb i sefyllfa ein sefydliadau cenedlaethol, a'r hyn yr hoffwn ei wybod yw sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fynd i'r afael â hyn yn y tymor byr, nid dim ond y tymor hir?

17:05

Diolch. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Prospect a PCS, ac rwy'n credu fy mod i'n cael cyfarfod ar wahân gydag Undeb y Cerddorion, yr wyf hefyd wedi cyfarfod â nhw, ond rwy'n credu eu bod nhw wedi gofyn am gyfarfod pellach. Fel y gwyddoch chi, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, Dawn Bowden a Siân Gwenllian, un o'r pethau a wnaethant, o ran yr arian a roddwyd o'r neilltu rwy'n credu ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i roi'r strategaeth ddiwylliant ar waith, mae wedi cael ei ddefnyddio i achub cynifer o swyddi â phosibl. Rwy'n cydnabod, yn amlwg, bod diswyddiadau gwirfoddol wedi bod, ond rwyf wedi cael sicrwydd eu bod nhw wedi ceisio sicrhau nad yw'r holl sgiliau o un maes penodol wedi mynd. Iawn, efallai y bydd yn cael ei ledaenu ychydig yn fwy tenau i geisio diogelu rhai o'r sgiliau hynny, ond, fel y dywedais i, rwy'n hapus iawn i barhau i weithio gyda nhw. Mae rhai o'r sefydliadau yn gofyn am swm bach iawn o arian. Nawr, os byddwn ni'n cael yr arian hwnnw, os byddwn ni'n cael Llywodraeth Lafur, oherwydd rwy'n credu y byddai gennym ni rywfaint, os edrychwch chi ar yr hyn maen nhw'n ei addo—ac, yn amlwg, nid yw'r maniffesto wedi cael ei gyhoeddi eto—byddem yn cael cyllid canlyniadol. Felly, yr hyn rwy'n ceisio ei ddweud wrth bawb yw, 'Os gallwch chi aros ychydig yn hirach a gallwn ni weld a allwn ni ddod o hyd i ychydig mwy o arian.' Ond rydym mewn sefyllfa ariannol anodd iawn a dydw i ddim eisiau tanbwysleisio hynny.

Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi cyfeirio at y cap dau blentyn. Yr hyn roeddwn i wedi'i ddweud yw y byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hynny, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod pa mor bwerus y gallai'r dull ysgogi hwnnw fod.

Diolch, Llywydd. I mi, mae gwerthoedd Llafur Cymru yn ymwneud â sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, a gall mynediad at chwarae, cerddoriaeth, diwylliant ddod yn fforddiadwy yn hawdd i'r rhai sy'n gyfoethog yn unig os nad ydyn nhw'n cael eu hariannu gan gyllid cyhoeddus, ac mae'r cyllid hwnnw wedi'i dorri cymaint dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae'n fy mhoeni pan fyddaf yn clywed rhethreg hefyd yn dweud bod angen i ni dyfu'r economi cyn y gallwn ni gael cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Dydw i ddim yn credu bod angen i hynny fod y ffordd ymlaen, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi wneud sylwadau am hynny.

Hefyd, rwy'n poeni bod llawer o hyn yn cael ei wleidyddoli hefyd, megis Cymru fel cenedl noddfa, sy'n golygu helpu ffoaduriaid i berthyn i gymunedau sy'n gydlynol; dydy e' ddim yn ymwneud â cheiswyr lloches. Felly, sut ydych chi'n mynd i'r afael â hynny hefyd, wrth symud ymlaen, oherwydd pan gewch chi niferoedd mawr o'r cyhoedd gael y wybodaeth anghywir honno, yna mae hynny'n helpu i reoli penderfyniadau gwleidyddol ac yn gwneud i'r penderfyniadau fynd y ffordd anghywir, os ydych chi'n gwybod beth rwy'n ei olygu.

Ac mae llawer o benderfyniadau yn seiliedig ar gynnyrch domestig gros a busnes. Sut ydyn ni'n rhoi gwerth i iechyd a lles? Oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl angen lefel benodol o hapusrwydd a lles, mynediad at gerddoriaeth, diwylliant, cydraddoldeb, i fyw, nid dau dŷ a chyfoeth. Mae gennym ni Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant, felly sut allwn ni gymhwyso honno fel mesur? A sut allwn ni fesur yr holl bethau gwerthfawr hyn er mwyn gwneud cymdeithas gyfartal? Mae'n ddrwg gennyf, dydy hwnnw ddim yn gwestiwn da iawn, ond dyna rwy'n teimlo sy'n bwysig ac sy'n ein gwneud ni fel Plaid Lafur Cymru yn bwysig, i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Diolch.

Diolch. Roeddwn i wrthi'n myfyrio, pan oeddech chi'n sôn am genedl noddfa a chymunedau cydlynol, fy mod i bore yma wedi cyfarfod â HOPE Not Hate, a chawson ni drafodaeth ddiddorol iawn am rannu gwybodaeth a pha mor bwysig yw hynny. Fe wnaethon ni ganolbwyntio'r bore 'ma, oherwydd roedden ni'n sôn am wersi i'w dysgu—roedd cyn i mi ddod i mewn i bortffolio—am sicrhau ein bod ni'n osgoi sefyllfa fel yr oedd gennym ni yn Llanelli, gyda Gwesty Parc y Strade, a phwysigrwydd dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd. Nid wyf wedi gallu cyfarfod â'r Ysgrifennydd Cartref. Rydw i wedi bod yn y swydd nawr tua 11 wythnos ac rwy'n sylweddoli nawr bod gennym ni etholiad cyffredinol, felly dydw i ddim yn mynd i gyfarfod â'r Ysgrifennydd Cartref nes bod un newydd. Ond mae'n bwysig iawn bod gwybodaeth yn cael ei rhoi sy'n gywir, nad ydych chi'n cael rhethreg, fel y gwnaethoch chi gyfeirio ato rwy'n credu, lle nad yw pobl yn deall y ffeithiau, oherwydd gall hynny arwain at y gwrthwyneb yn llwyr i'r hyn yr ydym ei eisiau o ran cydlyniant cymunedol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.

Mae gennym ni sefydliadau gwych yn ein cymunedau sydd eisiau bod yn rhan o genedl noddfa, sydd eisiau bod yn rhan o groesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Does dim ond rhaid i ni weld y ffordd y gwnaethom ni agor ein drysau—pan oeddwn i yn y portffolio hwn 10 mlynedd yn ôl, ffoaduriaid o Syria ydoedd. Nawr, yn amlwg, ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi cael eu croesawu yma. Felly, rydym yn genedl noddfa, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod hynny'n parhau.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ei ddweud am iechyd a lles a'r celfyddydau a diwylliant, ac rwyf wedi dweud ychydig o weithiau fy mod i'n credu bod y celfyddydau'n achubwr bywyd gwych. Mae'n bwysig iawn nad ydyn nhw'n elitaidd a bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu gwneud hynny fel y gallan nhw ffynnu ac nid goroesi yn unig.

17:10
6. Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Trawsnewid Gwasanaethau Plant

Y datganiad nesaf fydd yr un gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol ar drawsnewid gwasanaethau plant. Y Gweinidog, felly, i gyflwyno'r datganiad—Dawn Bowden.

Diolch, Llywydd. Ychydig cyn y toriad, cefais y fraint wirioneddol o gyflwyno'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) i'r Senedd hon fel un o'm gweithredoedd cyntaf fel y Gweinidog Gofal Cymdeithasol. Yn ystod y datganiad, cafwyd llawer o gwestiynau gan yr Aelodau am wasanaethau plant yn gyffredinol. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle hwn i roi diweddariad amserol i'r Aelodau ar ein cynnydd o ran cyflawni'r wyth ymrwymiad penodol yn y rhaglen lywodraethu a fydd yn trawsnewid gofal cymdeithasol plant yng Nghymru yn sylweddol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ymdrin yn fanylach â rhai o'r meysydd a drafodwyd gennym yn ystod y datganiad ar y Bil iechyd a gofal cymdeithasol.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod wedi ymrwymo'n gadarn i gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon drwy wneud popeth o fewn fy ngallu i, a phopeth y gall y Llywodraeth hon ei wneud, i gefnogi teuluoedd i ofalu am eu plant yn llwyddiannus. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i'm rhagflaenydd, Julie Morgan, sydd wedi gwneud cymaint o gynnydd yn y maes hwn. Dyma'r trawsnewidiad mwyaf o wasanaethau plant yn ystod ein hoes. Rydym am newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu fel ein bod yn canolbwyntio ar gadw teuluoedd gyda'i gilydd, agenda ataliol, gyda llai o blant yn cael eu derbyn i ofal ac anghenion plant wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae ein huwchgynadleddau blynyddol profiad o ofal wedi rhoi llais i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal rannu eu profiadau a rhannu eu syniadau â Gweinidogion am y newidiadau maen nhw'n credu y mae angen eu gwneud. Rydym yn bwrw ymlaen â gwaith i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed yn natganiad yr uwchgynhadledd profiad o ofal, sef y cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi ymrwymo i gyflawni'r uchelgais a amlinellwyd gan y llysgenhadon ifanc, a bydd y ddau ohonom yn llofnodi'r datganiad gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ddiweddarach y mis hwn, gan bwysleisio ein hymrwymiad i'w gyflawni.

Mae mwy na blwyddyn wedi mynd heibio erbyn hyn ers i'n grŵp cyflawni ar gyfer trawsnewid gael ei sefydlu, ac mae gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal sedd ar y grŵp hwn, sy'n gyfrifol am fwrw ymlaen â dau faes gwaith. Mae'r cyntaf yn canolbwyntio ar ddata a metrigau, a'r ail ar atal a chymorth cynnar, gan gydnabod yr angen am gymorth dwys, cofleidiol ar ffiniau gofal ar gyfer rhieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal er mwyn lleihau'r risg y bydd eu plant yn cael eu cymryd oddi arnynt.

Rydym yn buddsoddi £1.6 miliwn i gryfhau a chynyddu eiriolaeth rhieni. Mae'r prosiectau hyn yn cefnogi rhieni i ymgysylltu â gweithwyr cymdeithasol, sefydliadau trydydd sector, llysoedd teulu a gweithwyr proffesiynol eraill i ddatrys materion sy'n cael effaith negyddol ar eu teulu. Bydd y cyllid yn sicrhau bod gwasanaethau newydd yn cael eu sefydlu ym mhob un o'r saith rhanbarth yng Nghymru fel rhan o'r broses o gyflwyno eiriolaeth rhieni yn genedlaethol.

Yn ganolog i'r gwaith trawsnewid mae datblygu a chyflwyno'r fframwaith ymarfer cenedlaethol. Dyma fydd y set gyntaf o safonau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru a bydd yn cael ei chynllunio i gyd-fynd â gweithdrefnau eraill Cymru gyfan, megis gweithdrefnau diogelu Cymru gyfan. Rydym wedi datblygu a gweithio ar y chwe safon gyntaf ac, erbyn hyn, rydym yn datblygu drafft llawn y fframwaith, a fydd yn cael ei rannu â gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr dros yr haf. Bydd y fframwaith llawn yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

17:15

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Bydd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gyda'i ddarpariaeth graidd i ddileu elw preifat o ofal plant, os caiff ei basio, yn bodloni un arall o'r ymrwymiadau yn ein rhaglen lywodraethu i helpu i drawsnewid gofal plant. Fodd bynnag, fel yr eglurais yn fy natganiad diwethaf i chi, mae dileu elw preifat yn ymwneud â llawer mwy na dim ond y model o berchnogaeth ac elw yn y dyfodol. Mae'n ymwneud ag adeiladu gwytnwch yn y sector bregus hwn; mae'n ymwneud â'r ffordd orau o ddiwallu anghenion gofal a chymorth plant a phobl ifanc; mae'n ymwneud â sut rydym yn eu cadw yn eu cymunedau lleol a sut rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi i fod gyda'u teuluoedd.

Gwnaethom lansio'r siarter rhianta corfforaethol ym mis Medi y llynedd, ac rwy'n falch o nodi bod 40 o sefydliadau wedi cytuno i'w chefnogi hyd yma, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru. Rydym yn parhau i annog pob corff cyhoeddus a sefydliad preifat a'r trydydd sector i ddod yn rhieni corfforaethol, a byddwn yn eich annog i wneud yr un peth. Byddwn yn cryfhau canllawiau i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ynghylch rhianta corfforaethol gyda phennod benodol yng nghod ymarfer Rhan 6 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd hyn yn nodi'n llawer cliriach eu dyletswyddau fel rhieni corfforaethol ac yn gyrru dull strategol cryfach a thraws-sector o ymdrin â rhianta corfforaethol.

Rwyf am droi nawr at sut rydym yn bodloni'r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i gefnogi plant ag anghenion cymhleth. Rhwng 2021 a 2023, rydym wedi sicrhau bod £3.5 miliwn o gyllid llety rhanbarthol ar gael i ddarparu 15 o brosiectau ledled Cymru. Mae hyn wedi arwain at greu 26 o welyau newydd ar gyfer plant ag anghenion cymhleth a chefnogaeth i 62 o blant a phobl ifanc eraill. Ers hynny, rydym wedi dyrannu £23 miliwn arall ac rydym yn parhau i dderbyn cynigion drwy'r gronfa tai â gofal. Bydd hyn yn darparu 96 o welyau ychwanegol ac, o'r rhain, mae pum cartref eisoes yn weithredol, gyda 15 o welyau.

Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn cynnwys buddsoddiad sylweddol o tua £18 miliwn y flwyddyn i gefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd yn ddiogel ac i ddarparu cymorth therapiwtig i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi'n helaeth yn ein cynllun maethu cenedlaethol, Maethu Cymru, i wella gallu gwasanaethau maethu awdurdodau lleol i recriwtio a chadw gofalwyr maeth. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr maeth sy'n berthnasau yn derbyn yr un gefnogaeth â gofalwyr maeth prif ffrwd, a thrwy ymrwymiad cenedlaethol Maethu Cymru rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod pecyn o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision y cytunwyd arno ar gael yn gyson i bob gofalwr maeth drwy bob un o’r 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae'r ymrwymiad olaf yn y rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i barhau i gefnogi a chynnal hawliau plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches ac mae'n cyd-fynd i raddau helaeth â'n dull cenedl noddfa. Yng Nghymru, rydym yn trin pob plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches fel plentyn sy'n derbyn gofal. Rydym yn falch o fabwysiadu dull 'plentyn yn gyntaf', sy'n cynnal buddiannau gorau a hawliau darparu gofal a chymorth i bob plentyn yng Nghymru. Rwy'n ymrwymedig i weithio gyda phob awdurdod lleol a phartneriaid yn y trydydd sector i sicrhau bod pob plentyn ar ei ben ei hun yn cael mynediad at y gofal, y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arno tra ei fod dan ofal awdurdodau lleol yng Nghymru. Ni fyddwn yn pardduo nac yn gwleidyddoli'r plant a'r bobl ifanc hyn sy'n agored iawn i niwed. Byddwn yn rhoi croeso cynnes iddynt a'r un cyfleoedd â phlant a phobl ifanc yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, rydym am i bob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a chyrraedd ei lawn botensial. Bydd trawsnewid gwasanaethau plant i roi eu hanghenion yn gyntaf yn sicrhau canlyniadau gwell i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Diolch yn fawr. 

17:20

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Trawsnewid gofal plant yw un o'r tasgau pwysicaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Fel y mae'r Gweinidog yn derbyn yn briodol, mae llawer gormod o blant yn mynd i mewn i'r system gofal ffurfiol—nifer uwch nag mewn unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu, nid yn unig i sicrhau diogelwch plant, ond hefyd i sicrhau nad ydynt yn mynd i mewn i'r system gofal yn ddiangen. Felly, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i agenda ataliol.

Fel y dywedais wrth i ni ryngweithio yn ystod Pythefnos Gofal Maethu, roedd y rhaglen 'Step Up Step Down' yn sicrhau canlyniadau addawol. Gweinidog, yn eich ymateb i Julie Morgan, dywedoch ei bod hi'n rhy gynnar i werthuso'r rhaglen, ond eich bod wedi gobeithio ymweld â pheilot Gogledd Iwerddon. A allwch roi unrhyw ddiweddariadau pellach ar yr ymweliad hwnnw? Rwyf hefyd yn croesawu datblygu fframwaith ymarfer cenedlaethol. Mae angen set genedlaethol o safonau arnom, a byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe gallech ehangu ar yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r fframwaith llawn a pha mor rhwymol fydd y safonau ar ddarparwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

O ran y siarter rhianta corfforaethol, Gweinidog, a allwch amlinellu a oes awdurdodau lleol o hyd nad ydynt wedi cytuno i gefnogi'r siarter? Yn anffodus, mae gormod o amrywiaeth o hyd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal fesul 10,000 o'r boblogaeth yn ôl ardal awdurdod lleol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gweld nifer y plant sy'n derbyn gofal yn dyblu o gymharu â chynghorau eraill sydd â demograffeg debyg. Hefyd, yn fwy brawychus, mae gennym awdurdodau lleol o hyd sydd wedi colli golwg ar blant yn eu gofal. Felly, Gweinidog, sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r amrywiad hwn ac a ydych yn credu y bydd y siarter yn helpu i fynd i'r afael ag achosion o blant sydd ar goll o ofal?

Yn olaf, Gweinidog, rwyf am ailadrodd fy ymrwymiad i chi i weithio gyda chi i sicrhau bod gwasanaethau plant yn cael eu trawsnewid, gan roi plant yn gyntaf a helpu i sicrhau bod ein plant yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Diolch yn fawr.

Diolch, Altaf. Yn gyntaf, a gaf i ddiolch yn fawr iawn i chi am y sylwadau hynny? Rwy'n croesawu'r cyfle i weithio gyda chi. Rwy'n credu bod consensws i raddau helaeth ynghylch yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni yma. Mae hyn yn ymwneud â cheisio lleihau nifer y plant a welwn mewn gofal ledled Cymru, ac mae popeth yr ydym yn ei wneud drwy'r rhaglen drawsnewid hon a'r wyth ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu sy'n ceisio cyflawni hyn yn ymwneud â chyflawni'r nod hwnnw. Fel y soniwyd yn flaenorol, cyflwynais y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), sy'n ymwneud â dileu elw mewn gofal plant, ond mae'n ymwneud â llawer mwy na hynny; mae'n ymwneud ag ail-gydbwyso'n llwyr y ffordd rydym yn darparu gofal i blant a, lle mae'n rhaid, y ffordd rydym yn darparu gofal preswyl. Mae'r rhaglen gyfan hon yn ymwneud â lleihau'r galw am y math hwnnw o ofal preswyl. Oherwydd yr hyn y mae pob un ohonom yn ei wybod yw mai’r lle gorau i blant fod, lle gellir gwneud hynny'n ddiogel, yw i aros gyda'u teuluoedd yn eu cymunedau. A dyna hanfod ein hagenda ataliol.

Fe wnaethoch chi sôn am y fframwaith ymarfer cenedlaethol; rydym yn anelu at roi hwn ar waith erbyn mis Medi, erbyn yr hydref, ac mae'n mynd i fod yn gymysgedd o ofynion gorfodol a chyfarwyddiadau ymarfer. Mae'n ymwneud â sicrhau bod agweddau allweddol ar ymarfer yn gyson ledled Cymru. Rhoddaf  enghraifft i chi. Mae gennym 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru, a gwelwn rai awdurdodau lleol yn cymryd mwy o blant i ofal nag awdurdodau lleol eraill. Ac nid yw hynny oherwydd bod y plant hynny'n arbennig o wahanol; mae'n ymwneud â'r gwahanol ddulliau a welwn mewn gwahanol awdurdodau lleol. Mae rhai gwasanaethau cymdeithasol a rhai gweithwyr cymdeithasol yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y plant hynny'n aros gyda'u teuluoedd. Maen nhw, os mynnwch chi, ychydig yn llai gwrthwynebus i risg, ond mae bod yn llai gwrthwynebus i risg yn eithaf llafurddwys, ac mae'n rhaid i chi weithio'n galed iawn gyda'r teuluoedd hynny. Mae'n rhaid i ni weld newid diwylliannol mawr ar draws ein holl awdurdodau lleol i wneud hynny. Rydym yn gobeithio'n fawr, gyda fframwaith cenedlaethol sy'n datblygu'r awgrymiadau hynny ac yn datblygu'r arferion hynny, y bydd gweithwyr cymdeithasol yn yr ardaloedd hynny yn teimlo'n fwy hyderus ynghylch gweithio yn y ffordd yr ydym am iddynt weithio a chadw cynifer o blant â phosibl allan o ofal.

O ran rhianta corfforaethol, rydym yn hapus iawn gyda nifer y sefydliadau sydd wedi cofrestru hyd yma. Mae deugain o sefydliadau—a'r mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol—wedi cofrestru. Nid yw rhai wedi cofrestru o hyd, ac nid yw hynny oherwydd diffyg parodrwydd i wneud hynny. Rwy'n credu i lawer o sefydliadau nad ydynt wedi cofrestru eto, nid ydynt yn gwbl glir ynghylch beth fyddai'r cyfrifoldeb. Dyna pam rydym yn mynd i ymgorffori a chryfhau'r canllawiau, fel y dywedais yn fy natganiad, i sicrhau ein bod yn ymgorffori hynny yn Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel y bydd yn dod yn llawer cliriach. Mae nifer o sefydliadau wedi dweud wrthym eu bod yn barod i wneud hyn, ond maen nhw am sicrhau eu bod yn barod ar ei gyfer cyn iddyn nhw ei wneud. Dydyn nhw ddim eisiau mynd i mewn i wneud rhywbeth ac yna canfod na allant gyflawni'r hyn sydd ei angen arnom. Felly, rwy'n credu ei bod yn well i'r sefydliadau hynny weithio gyda ni i nodi ble mae'r bylchau yn eu sefydliad a allai eu hatal rhag cofrestru, ac yna, pan fyddant yn barod i wneud hynny, ein bod yn eu cofrestru. Mae'r broses sydd gennym yn un barhaus, ond rwy'n falch iawn bod gennym 40 o sefydliadau wedi cofrestru erbyn hyn.

Bydd y fframwaith cenedlaethol, rwy'n credu, hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r mater yr ydych wedi'i godi ynghylch plant sydd ar goll o ofal. Ychydig iawn ohonyn nhw sydd—yn ystadegol, mae hwnnw'n nifer bach iawn, iawn—ond mae unrhyw nifer yn ormod. Yn anffodus, mewn rhai o'r rhai a welwn gyda'r lefel uchaf o blant sydd ar goll o ofal, mae'n tueddu i fod ymhlith ceiswyr lloches ar eu pennau eu hunain. Mae hynny am nifer o resymau cymhleth iawn, yn anad dim bod rhai o'r plant hyn sy'n dod yma yn cael eu masnachu ac mae rhai ar eu pennau eu hunain, ac maent yn cael eu symud i ddiwylliant newydd ac amgylchedd newydd. Mae'n gyfnod brawychus iddyn nhw, ac rydym wedi gweld un neu ddau o'r rheini'n diflannu. Mae hynny'n fy mhoeni, oherwydd tybed i ble aiff y plant hynny yn y pen draw, yn enwedig os ydyn nhw'n blant sydd wedi cael eu masnachu. Ond rwy'n hyderus iawn y bydd y darpariaethau o fewn y fframwaith ymarfer cenedlaethol, pan gaiff ei gyflwyno a phan gaiff ei gymhwyso'n gyson ar draws pob ardal awdurdod lleol, yn ein helpu i nodi a sicrhau na fydd hynny'n digwydd.

17:25

A gaf i gychwyn drwy ddatgan buddiant, gan fod fy ngwraig wych yn gweithio i elusen yn y sector yma? Mae adeiladu cenedl sydd yn galluogi cenedlaethau'r dyfodol i ffynnu, lle nad yw un plentyn yn cael ei adael ar ei ôl oherwydd amgylchiadau personol sydd y tu hwnt i'w reolaeth, yn achos sydd yn greiddiol i ethos a daliadau Plaid Cymru. Oherwydd ein cred ddiysgwyd yn hyn, mi rydym ni yn ymfalchïo bod y rhaglen yma ar gyfer gwasanaethau plant yn cynnwys y mesur blaengar o gael gwared ag elw o'r sector plant sydd yn derbyn gofal, a oedd, wrth gwrs, yn rhan o'r cytundeb cydweithredu a oedd yn bodoli rhyngom ni a'r Llywodraeth.

Yn wahanol i ddaliadau craidd y Blaid Geidwadol, ac, yn wir, carfan sylweddol o'r Blaid Lafur Brydeinig, yn cynnwys yr Ysgrifennydd iechyd cysgodol, mi rydym ni yn ymwrthod yn llwyr â'r mantra mai'r farchnad sydd yn gwybod orau pan fo'n dod i ddarparu ar gyfer anghenion iechyd a lles ein cymdeithas, ac yn enwedig, felly, plant bregus. Fe wnaeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd y pwynt yn glir yn eu hadroddiad yn 2022 drwy ddangos sut mae'r farchnad plant mewn gofal yn gwyro yn sylweddol ac yn anghymesur o blaid darparwyr preifat, gyda'r darparwyr yma yn medru codi crocbris am eu gwasanaethau, wrth i allu awdurdodau lleol i ddarparu'r gofal maeth eu hunain erydu yn sylweddol yn sgil 14 mlynedd o lymder ideolegol Ceidwadol. Canlyniad hyn ydy model o wasanaethau plant mewn gofal sydd wedi torri yn sylfaenol yma yng Nghymru, ac sydd wedi tanseilio'n gyfan gwbl yr elfennau hollbwysig o barhad gofal pan ei fod yn dod at ddarparu'r gwasanaeth, a lleoliad ardaloedd daearyddol.

Roedd hi'n hen bryd diwygio yn y maes hwn, ac felly rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i fwrw ymlaen â pholisi Plaid Cymru drwy'r Bil iechyd a gofal cymdeithasol. Ond yn debyg iawn i ymgais yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd i berswadio pleidleiswyr bod ei phlaid ar flaen y gad o ran moderneiddio'r GIG yng Nghymru, mae'n rhaid cymryd y syniad y gellir ymddiried yn Llafur Cymru i drawsnewid gwasanaethau plant yn ehangach, ar ôl 25 mlynedd mewn grym, gyda phinsiad mawr o halen. Wedi'r cyfan, chwarter canrif ers dechrau datganoli, mae bron i draean o blant yng Nghymru yn byw mewn cyflwr o dlodi, gyda galwadau ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaethau tlodi plant wedi'u cefnogi gan dargedau cadarn a chlir yn parhau i syrthio ar glustiau byddar. Yn y cyfamser, mae ystadegau diweddar gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn tanlinellu bylchau brawychus yn y gweithlu gofal plant, gyda chynnydd o 38.3 y cant yn nifer y swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol plant yn 2022, yr oedd dros 50 y cant ohonynt yn swyddi gwag i weithwyr cymdeithasol cymwysedig.

Rydym yn deall cyfyngiadau cynhenid adnoddau'r Llywodraeth yn hyn o beth, sydd yn y pen draw yn deillio o annhegwch fformiwla Barnett sydd wedi gadael Cymru ar ei cholled o'r naill flwyddyn i'r llall. Ond er mai hi yw'r wlad, y gellid dadlau, y mae'r Blaid Lafur yn fwyaf dyledus iddi, o ran ei llwyddiant etholiadol a'i bodolaeth, mae'n ddyfarniad damniol o'r ffordd y caiff Cymru ei chymryd yn ganiataol gan Keir Starmer ei fod yn gwrthod ymrwymo i gael gwared ar fformiwla anghyfiawn Barnett. Mae'r ymdeimlad hwn o hunanfodlonrwydd wedi'i grynhoi gan chwe addewid ymgyrch etholiad cyffredinol Llafur i Gymru, y mae pedwar ohonynt wedi bod yn gyfrifoldeb datganoledig Llywodraeth Lafur Cymru ers blynyddoedd. A dweud y gwir, mae hyn yn sarhad ar ddeallusrwydd pleidleiswyr Cymru. Ond yn hytrach na beirniadu difaterwch arweinydd y DU, a mynnu gwell i Gymru o'r Llywodraeth sy'n dod i mewn, ymddengys fod Gweinidogion Cymru wedi bod yn fodlon mabwysiadu dull 'aros a gobeithio am y gorau', tra bod ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys gwasanaethau plant, yn parhau i blygu oherwydd diffyg cyllid.

Ni allwn ddymuno am ddyfodol mwy disglair i'n plant o ewyllys da yn unig, mae angen yr adnoddau ymarferol arnoch i'w adeiladu. Felly, fy nghwestiwn i, ar ddiwedd fy nghyfraniad i'r Gweinidog yw: a wnaiff y Blaid Lafur, ledled y DU, ymrwymo i ddiwygio fformiwla Barnett, a fformiwla ariannu Cymru, er mwyn cyflawni'r hyn y mae'r Gweinidog wedi nodi y bwriedir ei gyflawni yma heddiw?

17:30

Diolch, Mabon. Diolch am y sylwadau hynny. Rydym yn amlwg yng nghanol etholiad cyffredinol o ddifrif erbyn hyn, onid ydyn, felly cyfeiriwyd y rhan fwyaf o'r sylwadau hynny at Lafur y DU, yn hytrach nag at Lafur Cymru, o ran yr hyn y gallaf i fel Gweinidog Cymru ei wneud a'r hyn rwyf yn ei wneud. Felly, byddaf yn canolbwyntio ar ymateb i'r pethau rwy'n gyfrifol amdanynt, ac yna byddwn yn parhau ac yn ymgyrchu dros ein partïon priodol y tu allan i'r Siambr hon. Rwy'n gobeithio y byddaf yn gweld Keir Starmer yn Rhif 10 ar ôl 4 Gorffennaf, ac rwy'n siŵr y byddwn ni mewn sefyllfa lawer gwell nag yr ydym ni nawr.

Yn amlwg, o'n sefyllfa ariannol ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod dim o ran ble fyddwn ni o fis Mawrth 2025. Mae gennym ni gyllid a setliadau cyllideb hyd at fis Mawrth 2025. Mae Llywodraeth newydd sy'n dod i mewn yn mynd i fod â dull gwahanol iawn o ymdrin ag ystod eang o bethau, felly ni allwn siarad y tu hwnt i hynny mewn gwirionedd. Ond un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud, i'n cadw ar sail gadarnhaol, oherwydd nid wyf yn credu bod gwahaniaeth enfawr rhyngom o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma, yw bod gennym ddyhead ar y cyd i drawsnewid gwasanaethau plant. Ac rydych chi'n llygad eich lle, fe wnaethon ni weithio'n dda iawn gyda'n gilydd ar y cytundeb cydweithio, ac rwy'n difaru'n fawr iawn bod y cytundeb hwnnw wedi dod i ben, yn enwedig o ran meysydd o'r rhaglen dileu yn benodol. Rydym wedi gweithio'n agos, rydym wedi gweithio ar y cyd, ac roedd gennym agenda ar y cyd ac roeddem ar y llwybr hwnnw i gyflawni'r agenda ar y cyd honno. Mae'n rhaid i ni gyflawni hynny ar ein pennau ein hunain nawr, fel Llywodraeth Cymru, ond rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i gael cefnogaeth Plaid Cymru, gan ei bod yn ymddangos bod ganddi gefnogaeth gyffredinol meinciau'r Ceidwadwyr hefyd.

Mae yna heriau—wrth gwrs mae yna heriau. Allwn ni ddim esgus nad oes unrhyw heriau. Rwy'n lansio strategaeth gweithlu newydd yr wythnos hon, sy'n mynd i'r afael â nifer o'r pwyntiau rydych wedi'u codi. Rydym wedi gwneud llawer iawn yn y maes hwnnw eisoes, yn enwedig o ran dod â'r cyflog byw gwirioneddol i mewn i'r gweithlu gofal cymdeithasol. Ond y tu hwnt i gyflogau, hyfforddiant a datblygu gyrfa, proffesiynoli, sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru a hynny i gyd—mae'r cyfan yn helpu tuag at ein symud i weithlu gofal cymdeithasol proffesiynol, lle gallwn ni ddatblygu ein gweithlu ein hunain hefyd, lle gallwn ni gael pobl sy'n dod i mewn fel gweithwyr gofal cymdeithasol ond sy'n gallu datblygu o fewn y rôl honno i ddod yn weithwyr cymdeithasol ac sydd, yn y pen draw, yn dod yn arweinwyr ein gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol.

Felly, mae gen i gryn uchelgais ar gyfer hynny. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi'i hyrwyddo ers ymhell cyn i mi ddod i mewn i'r Senedd hon. Fel y byddwch yn ei werthfawrogi, roeddwn i'n swyddog Unsain ers talwm, felly rydw i wedi bod yn hyrwyddo hyn ers amser maith, ac rydym wedi gweld llawer iawn o lwyddiant a chynnydd anhygoel yn y maes hwnnw, ond mae llawer iawn o waith i'w wneud o hyd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n hundebau llafur, ac mae gennym y fforwm gofal cymdeithasol, ac erbyn hyn rydym yn cyflwyno cynigion ar gyfer symud y mathau hynny o amodau cyflog, polisïau datblygiad cyflog, i'r sector preifat yn ogystal ag i'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Felly, mae llawer mwy o waith i'w wneud, ond rwy'n credu ein bod ni yn dal i fod ar y ffordd honno.

O ran dileu, rwyf eisiau ail-bwysleisio, am wn i, y pwyntiau roeddech chi'n eu gwneud, Mabon, bod cael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal yn rhywbeth rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'w wneud, ac rydym wedi ymrwymo i'w wneud oherwydd ein bod yn gwybod mai dyna beth mae plant eu hunain—y lleisiau o ofal, y plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal eu hunain—wedi dweud, eu bod yn gwrthwynebu'n gryf sefydliadau yn elwa o'r profiad o fod mewn gofal, ac mae angen i ni wrando arnynt. Mae angen i ni wrando ar leisiau plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. A dydyn ni ddim yn sôn am blant ifanc iawn—rydym yn sôn am bobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi bod drwy'r system ac sydd bellach wedi cyrraedd yr oedran hwnnw lle maen nhw'n gallu mynegi sut roeddent yn teimlo fwy na thebyg yn blant ifanc iawn, ond sydd bellach yn gallu ei fynegi, ac mae'n rhaid i ni wrando arnyn nhw.

Mae'r cysyniad o elw yn cael ei dalu i gyfranddalwyr ar gefnau'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn anathema i mi, ac rwy'n siŵr ei fod i chithau, ac rydw i am weld yr arian hwnnw sy'n mynd mewn elw i gyfranddalwyr ar hyn o bryd yn cael ei ailfuddsoddi yng ngofal ein plant a'n pobl ifanc.

Felly, ydy, mae'n rhaglen uchelgeisiol iawn. Mae'r rhan fwyaf o'n rhaglen eisoes wedi'i chostio. Rwyf wedi nodi'n hollol glir rywfaint o'r gwariant yn barod, a byddwn yn edrych i hwnnw gael ei ddatblygu a chynyddu wrth i ni fynd ymlaen.

Byddaf yn y pwyllgor ddydd Iau gyda chi, lle byddwch yn craffu ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), ac rwy'n siŵr y byddwn yn archwilio hyn ymhellach o lawer bryd hynny. Ond fel y dywedais, fy safbwynt i wrth sefyll yma heddiw yw ein bod wedi ymrwymo'n llwyr, nid yn unig i gyflawni'r Bil iechyd a gofal cymdeithasol, ond pob elfen o drawsnewid gwasanaethau plant, a fydd yn cyfrannu at lwyddiant y Bil hwnnw.

17:35

Rwyf am ganolbwyntio ar Rannau 3 a 4, ond rwyf hefyd am nodi fy mod yn croesawu gweithio gyda Phlaid Cymru ar ddileu'r elfen elw honno o'r sector gofal. Ond oherwydd cyfyngiadau amser, rwyf am ganolbwyntio ar 3 a 4. Mae Rhan 3 yn ymwneud â rhannu, drwy fforwm arferion da, anghenion plant ag anghenion cymhleth sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa lle mae angen gofal preswyl arnynt. Mae'r arian, y £25.4 miliwn sydd wedi mynd i mewn i'r gronfa gofal integredig honno a'r gronfa tai â gofal ar gyfer lletya'r unigolion hynny, yn hanfodol. Mae'r rheswm pam fy mod i wedyn yn cysylltu â Rhan 4, gan gydnabod rôl y rhiant corfforaethol yma, yn eithaf amlwg, oherwydd rwy'n gobeithio, Gweinidog—a dyma fy nghwestiwn i, a dweud y gwir—y bydd hynny'n cael ei ategu gan arolygiaeth annibynnol a fydd yn adrodd. Yn fy marn i—. Gofynnaf mai adroddiad blynyddol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yw hwnnw, fel y gellir craffu arno, ac y gall y bobl hynny yn yr ardaloedd hynny, yn enwedig awdurdodau lleol, fod yn fodlon bod y plant y maent yn dal i fod yn gyfrifol amdanynt fel rhieni corfforaethol, ond nad ydynt yn byw o fewn eu hawdurdodaeth efallai—y gallant fodloni eu hunain drwy'r adroddiadau hynny bod y plant hynny wedi derbyn gofal yn effeithiol, yn effeithlon, ond hefyd eu bod yn cael gofal priodol.

17:40

Diolch, Joyce Watson, am y sylwadau hynny, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn rydych chi'n ei wneud. Mae arolygu yn gwbl hanfodol i ddatblygiad y gwasanaethau hyn. Mae gennym arolygiaeth dda iawn yng Nghymru. Mae gennym Arolygiaeth Gofal Cymru ar hyn o bryd, sy'n annibynnol ar y Llywodraeth. Gwnaethom yn siŵr bod yr arolygiaeth honno yn cael ei hariannu'n llawn fel y gallant barhau gyda'r arolygiadau hynny a'u harolygiadau ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant—y JICPAs, fel y'u gelwir—sy'n bwysig iawn lle mae gennym addysg ar y cyd, gofal ac ati, arolygiadau'r heddlu, y gambit cyfan.

Ac mae gennym rai enghreifftiau da iawn o rai o'r prosiectau sy'n darparu'r dull newydd neu'r mathau newydd o ofal i blant ag anghenion cymhleth. Mae yna ddau yn benodol yr hoffwn sôn amdanynt. Mae enghraifft o'r enw MyST yng Ngwent, ac mae hynny'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl hyd at 21 oed sy'n derbyn gofal, ac mae'n cynnwys plant drwy ofal cymdeithasol ac anghenion iechyd meddwl cymhleth iawn sy'n deillio o drawma cynnar. Ac mae honno wedi bod yn rhaglen lwyddiannus iawn. Felly, unwaith eto, mae'r rhain yn fodelau o ganolfannau sydd wedi'u sefydlu gyda'r gronfa honno y cyfeirioch ati a allai fod yn enghraifft o'r ffordd rydym yn eu cyflwyno mewn ardaloedd eraill, yn fy marn i.

Mae yna enghraifft arall o'r enw MAPS, ac maen nhw'n darparu hyd at 12 o sesiynau therapi i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal gan ddadansoddwyr ymddygiad, fel y gallant weithio gyda phobl ifanc i sefydlu emosiynau ac yn y blaen. Ac fe fydd yn gwbl hanfodol bod y gwasanaethau hynny'n cael yr arolygiad priodol, ein bod yn cael adborth nid yn unig eu bod yn darparu'r hyn yr ydym am iddynt ei gyflawni, ond bod hynny'n cael ei wneud mewn ffordd briodol mewn lleoliad priodol, ac rydym yn cael y canlyniadau y mae eu hangen arnom yn glir iawn. Ac, wrth gwrs, bydd hynny hefyd yn cael ei gynnwys yn y Ddeddf iechyd a gofal cymdeithasol, yn nhrydedd Rhan y Ddeddf ynghylch y rheoliadau y mae angen eu diwygio ar gyfer Deddfau eraill i'w cysoni â hyn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, ond rwy'n anghytuno â dileu'r elw, yn anffodus, ond nid yw'n ddim byd newydd, byddwch yn falch o glywed, oherwydd rwyf wedi trafod hyn ers amser maith gyda'ch rhagflaenydd, Julie Morgan, yn y Senedd ac yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, oherwydd cefais y briff gwasanaethau cymdeithasol am dair blynedd. Felly, fe ymdriniais ag ef yn eithaf helaeth. 

Y broblem sydd gennyf yw, yn amlwg, rydych chi'n gwneud y gymhariaeth â chyfranddalwyr mewn cwmnïau mwy, sy'n bwynt mwy dilys, ond cysylltwyd â mi pan oedd gen i'r portffolio gwasanaethau cymdeithasol gan berchnogion busnesau bach sydd wedi buddsoddi llawer o arian yn y busnesau hynny, a buddsoddiad personol i'r rheini ers blynyddoedd lawer. A gwnaethant gysylltu â mi i ddweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â nhw yn ystod y cyfnod dilynol hwnnw o 2021 pan ffurfiwyd y cytundeb cydweithio, ac roeddwn i'n gobeithio, gyda Phrif Weinidog newydd a diwedd y cytundeb cydweithio, y byddai'n dod i ben, ond nid yw hynny'n wir.

A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd y prynhawn yma am pa ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda darparwyr gofal plant preifat ynglŷn â hynny, gan eu bod nhw'n cyfrif am 80 y cant o'r sector ar hyn o bryd? Mae'n darged uchelgeisiol, felly rwy'n meddwl tybed pa ymgynghoriad rydych chi wedi'i gael gyda'r sectorau hynny. Diolch. 

Rwy'n credu eich bod chi ar y pwyllgor iechyd hefyd, Gareth, felly byddwn ni'n archwilio hyn—

O, dydych chi ddim mwyach. Iawn. Felly, fyddwch chi ddim yn archwilio hyn gyda mi ddydd Iau. Iawn. Wel, wna'i ddim mynd drwy'r agweddau dileu'r elw oherwydd, fel y dywedwch, mae hynny wedi cael ei drafod yn helaeth; dydyn ni ddim yn mynd i gytuno ar hynny, ond rwy'n deall y pwyntiau rydych yn eu gwneud. Rydym wedi nodi'n glir iawn yn y Bil y gwahanol fodelau o sefydliadau nid-er-elw y teimlwn y gallan nhw weithredu yn y maes hwn, sef sefydliadau trydydd sector, elusennau, awdurdod lleol ac yn y blaen.

Nawr, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw rhoi cyfle i lawer o'r sefydliadau llai rydych yn sôn amdanynt, y mae llawer ohonyn nhw—. Nid wyf yn awgrymu am eiliad nad yw'r sefydliadau hyn, y busnesau bach hyn sy'n rhedeg cartrefi plant yn gwneud hynny'n effeithiol ac nad ydynt yn ei wneud yn y ffordd iawn, ond nid ydym yn teimlo bod y sector yn ddigon gwydn ar hyn o bryd, oherwydd nid yw'r sector preifat, yn ein barn ni, yn darparu'r un lefel honno o wydnwch. A bydd disgwyl i awdurdodau lleol lunio cynllun cydnerthedd, lle bydd yn rhaid iddynt nodi bod ganddynt ddigon o leoedd i blant yn eu hardal leol, ar gyfer eu plant eu hunain, fel nad oes gennym gymaint o blant yn mynd allan o'r sir ac yn y blaen. Yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw ein bod ni'n sôn am gyfnod pontio; nid ydym yn sôn am ymyl clogwyn, lle bydd yr holl ddarparwyr preifat hyn yn rhoi'r gorau i weithredu yn y farchnad yn sydyn. Bydd gan lawer ohonynt gontractau tymor hir gydag awdurdodau lleol, bydd ganddynt blant yn eu gofal lle dyna yw cartrefi'r plant hynny, ac nid ydym yn bwriadu tanseilio'r rheini. Ac fe fydd amgylchiadau achlysurol iawn lle gall y setiau mwyaf cymhleth ac anarferol o amgylchiadau ei gwneud yn ofynnol i ni leoli plentyn mewn darpariaeth breifat, ac mae'r Bil yn darparu ar gyfer hynny hefyd. Yr hyn a fydd yn digwydd yw, o fis Ebrill 2027, ni fydd unrhyw ddarparwyr preifat newydd yn cael eu hawdurdodi i'r farchnad.

Ond beth fyddwn i’n ei ddweud, o ran yr ymgynghoriad, yw bod darparwyr y trydydd sector, y sector preifat a darparwyr awdurdodau lleol i gyd yn rhan o fwrdd y rhaglen dileu, ynghyd â'r comisiynydd plant, ynghyd â Voices from Care Cymru, ynghyd â chomisiynwyr gwasanaethau, undebau llafur—maen nhw i gyd ar y bwrdd hwnnw ac maen nhw i gyd wedi bod yn cyfrannu at ddatblygu darpariaethau'r Bil, a byddwn ni'n parhau i siarad â nhw. Mae tipyn o waith i'w wneud ar y Bil eto; dim ond ar Gyfnod 1 ydym o hyd. Rwy'n amau y bydd yna nifer o welliannau yng Nghyfnodau 2 a 3, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd bydd angen newid hyn wrth i ni fynd ymlaen. Mae angen i ni ei gael yn iawn. Mae angen i ni ei gael yn iawn; rydym am sicrhau nad yw'r Bil hwn yn cyflawni canlyniadau anfwriadol. Felly, bydd yr holl bobl rydych yn sôn amdanynt—y sector preifat, y sector cyhoeddus, y trydydd sector—yn parhau i fod yn rhan o'r trafodaethau gyda ni wrth i ni symud y Bil yn ei flaen.

17:45
7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Trawsnewid y rheilffyrdd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Metro yn Ne Cymru a’r rhaglen i ddiweddaru’r fflyd

Eitem 7 heddiw yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: trawsnewid y rheilffyrdd, y wybodaeth ddiweddaraf am y metro yn ne Cymru a’r rhaglen i ddiweddaru’r fflyd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn ôl ym mis Tachwedd 2015, dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, fod metro de Cymru yn cynrychioli dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru. Gyda'r newid yn yr amserlen yn digwydd ar reilffyrdd craidd y Cymoedd yr wythnos hon, mae'r dyfodol hwnnw'n dod yn realiti yn gyflym, gyda theithiau amlach i deithwyr, gwella cysylltedd, cysylltu pobl a chreu cyfle. Mae'r amserlen newydd yn newid sylweddol tuag at y gwasanaeth 'cyrraedd a mynd' y bydd y metro yn ei ddarparu.

Mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn rhedeg chwe thrên yr awr rhwng Caerffili a Chaerdydd ac wyth trên yr awr rhwng Pontypridd a Chaerdydd—dau wasanaeth ychwanegol bob awr ar y ddau lwybr yma, gan roi mwy o ddewis a mwy o hyblygrwydd i deithwyr. Ac am y tro cyntaf, mae gwasanaethau Sul ar linell y Ddinas yng Nghaerdydd, sy'n caniatáu i fwy o bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer hamdden neu weithio yng nghanol y ddinas. Mae'r amserlen newydd, well, wedi'i chynllunio ar gyfer y trenau trydan newydd sbon a fydd yn cael eu cyflwyno drwy gydol y flwyddyn hon. Gallwn wneud y newid hwn i'r amserlen oherwydd y cynnydd sy'n cael ei wneud i uwchraddio'r seilwaith ei hun. Bob wythnos rydym gam yn nes at gyflawni yn derfynol y rhaglen drawsnewidiol hon gwerth £1 biliwn. Dim ond yr wythnos diwethaf, llwyddodd Trafnidiaeth Cymru i gwblhau egnioli llinell Treherbert. Bydd hyn yn rhoi pŵer i'r fflyd newydd ddechrau cael eu profi ac yn y pen draw rhedeg gwasanaethau teithwyr ar y llinell honno. A fis diwethaf fe wnaethom hanes, wrth i'r trên trydan cyntaf un redeg i'r gogledd o Gaerdydd i Bontypridd yn ystod oriau golau dydd.

Mae'r cerrig milltir cynyddrannol hyn yn nodi camau hanfodol yn ein gweledigaeth i adeiladu metro o'r radd flaenaf, gan gynnig cipolwg i deithwyr ar yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol ar draws rhwydwaith craidd llinellau'r Cymoedd, trawsnewidiad a wnaed yn bosibl trwy fuddsoddiad o £1 biliwn. Mae'n ein galluogi i ddarparu gwasanaethau 'cyrraedd a mynd' o ansawdd uchel, trenau newydd sbon a chyflwyno tocynnau talu wrth fynd ar draws metro de Cymru. Mae'r gwelliannau hyn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gan Lywodraeth Cymru y pwerau a'r cyllid i fuddsoddi yn ein rheilffyrdd. Rydym yn darparu newid gwirioneddol i deithwyr.

Nawr, mae ein gallu i wneud newid trawsnewidiol y tu allan i linellau craidd y Cymoedd yn fwy cyfyngedig. Mae'r pwerau hynny, a'r cyllid, yn parhau i fod gyda Llywodraeth y DU. Ond rwy'n benderfynol na fydd unrhyw ran o Gymru yn cael ei gadael ar ôl. Rydym yn dod tuag at ddiwedd ein rhaglen uwchraddio fflyd—dros £800 miliwn mewn trenau modern newydd sbon sy'n gwasanaethu pob cornel o Gymru. Gallwch nawr deithio o Landudno i Wrecsam, o Gaergybi i Aberdaugleddau, neu o Lynebwy i Gaerdydd, i gyd ar drenau newydd sbon sy'n fwy cyfforddus, yn fwy dibynadwy ac yn fwy hygyrch. Rydym bellach wedi derbyn 70 y cant o'r fflyd newydd, ac mae mwy o drenau yn cael eu darparu drwy'r amser. Mae rhai o'r rhain mewn gwasanaeth dyddiol ac mae rhai yn cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddi gyrwyr. Erbyn diwedd y rhaglen, bydd 90 y cant o deithiau gyda Trafnidiaeth Cymru ar drenau newydd.

Dirprwy Lywydd, rydym wedi mynd o fod ag un o'r fflydoedd trên hynaf ym Mhrydain i fod ag un o'r rhai mwyaf newydd. Bydd gennym 484 o gerbydau ar gael, o'i gymharu â dim ond 270 o gerbydau a etifeddwyd gennym gan Trenau Arriva Cymru yn 2018. A bydd y trenau newydd hyn yn sail i'r lefelau uchel cyson o berfformiad yr ydym yn benderfynol o'u cyflawni.

Rydym yn gwybod nad yw perfformiad bob amser wedi bod yn ddigon da. Mae disodli'r fflyd gyfan a chyflawni'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn seilwaith yng Nghymru wedi bod yn anodd ei reoli, ond rydym yn gadael yr heriau deublyg hynny ac rydym wedi troi cornel. Rydym yn dechrau elwa ar enillion gwaith caled a blynyddoedd o fuddsoddiad.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwella eu perfformiad ledled Cymru a'r gororau. Ar y cyfan, maent yn fwy dibynadwy nag unrhyw wasanaeth trên arall yng Nghymru. Mae'r canlyniadau perfformiad diweddaraf yn dangos gwelliannau o flwyddyn i flwyddyn. Ym mis Ebrill, cafodd 3.4 y cant o holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru eu canslo o'i gymharu â 7.5 y cant y llynedd, ac roedd prydlondeb ar reilffyrdd craidd y Cymoedd dros 90 y cant, gwelliant o bron i 10 y cant ers y llynedd. Ac rydym yn gwneud hyn gan gludo mwy o deithwyr ar draws ein gwasanaethau. Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaeth llawer mwy dibynadwy ac o ansawdd uwch i deithwyr ar linell Wrecsam i Bidston. Mae trenau newydd sy'n gweithredu gwasanaethau ychwanegol yn annog mwy o bobl i deithio ar y llwybr trawsffiniol pwysig hwn.

Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud, ond ni fyddwn yn hunanfodlon. Mae'n bryd cydnabod y newidiadau gwirioneddol y mae teithwyr yn eu profi. Rwy'n falch o'r daith yr ydym arni, a pha mor bell yr ydym wedi dod ers sefydlu Trafnidiaeth Cymru. Mae gennym ddull unigryw yng Nghymru. Byddwn bob amser yn rhoi teithwyr yn gyntaf, gan addasu ein gwasanaethau i fodloni gofynion pryd mae pobl eisiau ac angen teithio. Rydym yn darparu mwy o gapasiti ar y gwasanaethau prysuraf, ac rydym yn darparu mwy o wasanaethau i adlewyrchu'r galw. Mae hyn yn golygu ein bod bellach yng Nghymru yn dathlu mwy o wasanaethau, gwell perfformiad, gwell profiad i gwsmeriaid, gwell dibynadwyedd a threnau newydd sbon. Yn fyr, rydym yn cyflawni newid cadarnhaol, trawsnewidiol ac mae hyd yn oed mwy i ddod yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.

17:50

Diolch yn fawr, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad y prynhawn yma. Gall pob un ohonom yma, rwy'n siŵr, gytuno ein bod am weld gwasanaethau rheilffyrdd dibynadwy o'r safon uchaf a thrafnidiaeth integredig ledled y wlad, gyda'n cymunedau'n fwy cysylltiedig. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un ddadlau â hynny i fod yn onest. Ond, fel y mae pethau'n sefyll, byddwn i'n dadlau nad yw trigolion yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu, er bod llawer iawn o arian cyhoeddus yn cael ei roi i Trafnidiaeth Cymru.

Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi'n sôn am y metro gyda chymaint o bositifrwydd, ond mae pensaer y cynllun wedi mynegi rhywfaint o feirniadaeth eithaf llym. Nawr, disgrifiodd yr Athro Mark Barry, y dyn a luniodd y syniad o fetro de Cymru mewn gwirionedd, y cynllun, ac rwy'n dyfynnu, fel 'bargen wael' i Gaerdydd a mynnodd nad oedd y ddinas yn cael metro mewn gwirionedd. Dywedodd yr Athro Barry hefyd na fyddai'r cynllun, y mae ei gost wedi cynyddu i fwy nag £1 biliwn, yn arwain at unrhyw wasanaethau ychwanegol mewn mwy na hanner gorsafoedd y brifddinas. Mae hynny'n sylw eithaf mawr i'w wneud, Ysgrifennydd Cabinet. Ydych chi'n cytuno â sylwadau'r Athro Barry? A sut fyddwch chi'n sicrhau bod y prosiect trafnidiaeth hwn yn cyflawni dros Gaerdydd mewn gwirionedd? Bydd mwy o wasanaethau, yn enwedig yn hwyrach gyda'r nos ac ar ddydd Sul, bron yn sicr o gael eu croesawu gan lawer. Fodd bynnag, mae cwestiynau'n cael eu codi, Ysgrifennydd Cabinet, ynglŷn â sut y byddwch yn sicrhau y byddant yn cyrraedd mewn pryd. Y rheswm dros fy mhryder yw oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cronni gwerth mwy na miliwn o funudau o oedi yn 2023—y gwaethaf a gofnodwyd hyd yma.

Rydych chi'n sôn yn eich datganiad bod prydlondeb ar linellau craidd y Cymoedd yn 90 y cant. Mae hynny, wrth gwrs, yn newyddion i'w groesawu, ond sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hyn yn cael ei gynnal wrth symud ymlaen? Ar ôl galw dro ar ôl tro am gyflwyno cerdyn teithio Cymru gyfan, rwyf wirioneddol wrth fy modd o weld y prisiau rheilffyrdd talu wrth fynd yn cael eu cyflwyno, gyda theithwyr yn gallu defnyddio eu cardiau banc a'u dyfeisiau clyfar i fynd o gwmpas, ac rwy'n gobeithio, hyd yn oed fel yr Aelod rhanbarthol dros dde-ddwyrain Cymru, y byddwn yn gallu gweld hyn ym mhob cwr o Gymru wrth symud ymlaen.

Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi ddweud bod y Llywodraeth yn disgwyl i 90 y cant o deithiau gael eu gwneud ar drenau newydd erbyn diwedd y rhaglen metro, felly pa mor hyderus ydych chi y bydd y targed hwn yn cael ei gyflawni, a phryd ydych chi'n disgwyl i ni fod yn cyflawni'r cwmpas 100 y cant? Fel rhan o'r gwaith metro, mae tua 40 o orsafoedd yn cael eu hadnewyddu. Un o'r materion mawr rydw i wedi bod yn gweithio arno yn y rôl hon yw sicrhau bod hybiau trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bawb. Felly, Ysgrifennydd Cabinet, a gaf i ymrwymiad gennych chi heddiw bod anghenion pobl ag anableddau, menywod a defnyddwyr bregus wedi cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith gwella, a bod pethau fel palmentydd cyffyrddol, systemau uwchseinyddion Tannoy, yn wir, teledu cylch cyfyng hygyrch a gwirioneddol gynhyrchiol yn mynd i gael eu gosod i sicrhau bod diogelwch teithwyr yn hollbwysig, wrth symud ymlaen?

Mae gorsafoedd newydd hefyd yn cael eu hadeiladu o dan y prosiect hwn, ac eto mae cwmwl o ansicrwydd yn hongian dros orsaf parcffordd Caerdydd. Fel y mae pethau, nid oes gorsaf reilffordd sy'n gwasanaethu dwyrain Caerdydd ar hyn o bryd, felly byddai'r datblygiad hwn yn Llaneirwg yn allweddol i gysylltu teithwyr a sicrhau bod trigolion yr ardal hon yn elwa ar y buddsoddiad hwn. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen gyda chi, Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n gwybod y byddwch yn amharod i fynd i fanylion ar hyn o bryd, ond a allwch chi amlinellu amserlen ar gyfer pryd y bydd penderfyniad yn debygol o gael ei wneud ar y prosiect hwn?

Ysgrifennydd Cabinet, mae llawer i fod yn obeithiol amdano, ac mae gen i lefel o hyder ynoch chi, ond mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn gwneud hyn yn iawn ac yn ei wneud yn iawn nawr, oherwydd ers llawer yn rhy hir mae rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael wedi siomi pobl yng Nghymru ac, yn syml, mae'n rhaid i hynny newid. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

17:55

Wel, a gaf i ddiolch i Natasha Asghar am ei chwestiynau ac am ei thôn bositif, yn wir? Byddwn yn cytuno'n llwyr bod y posibilrwydd o drafnidiaeth gyhoeddus integredig ledled Cymru yn gyffrous ac yn cael ei rannu ar draws y sbectrwm gwleidyddol. A thrwy'r Bil bysiau a newidiadau eraill, gobeithiwn allu integreiddio amserlenni, tocynnau a sicrhau bod pobl yn y gogledd, y de a'r canolbarth—ym mhobman yng Nghymru—yn gallu mwynhau system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig o'r safon uchaf.

Nawr, o ran y sylwadau sydd wedi'u gwneud am Gaerdydd, maen nhw'n benodol, rwy'n deall, i linell y Ddinas a rheoleidd-dra gwasanaethau ar y llwybr penodol hwnnw. Fy nealltwriaeth i yw na fyddai'n bosibl cynnal y math o wasanaethau lefel Metro ar y llinell honno heb uwchraddio seilwaith y mae Network Rail yn gyfrifol amdano. Felly, yn y pen draw, mae'n fater i Lywodraeth y DU, gan ei bod yn rhan o'r trefniant seilwaith prif linell, i wneud y penderfyniad mewn gwirionedd ynghylch ariannu'r uwchraddiadau seilwaith sydd eu hangen. Felly, mewn gwirionedd, mae'n rhywbeth y gallem weithio gyda'n gilydd arno, rwy'n credu, pe gallem ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i wneud y buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau bod llinell y Ddinas yn gallu mwynhau'r un lefel o reoleidd-dra o ran gwasanaethau.

Nawr, o ran ffigurau 2023, byddwn yn cytuno nad oedden nhw'n ddigon da, ond maen nhw wedi bod yn gwella, ac rydyn ni ar bwynt nawr lle mae 84 y cant o wasanaethau rheilffyrdd yn cyrraedd o fewn tair munud i'r amserlen, ac os edrychwn ni ar berfformiad gweithredwyr ledled Cymru rhwng 1 Ebrill a 27 Ebrill—a dim ond cipolwg yw hwn o sut mae pethau'n mynd yn 2024, ond mae'n dangos bod gwelliannau sylweddol wedi bod yng ngwasanaethau Trafnidiaeth Cymru—fe welwn ni, yn ardal Cymru gyfan a'r gororau, mai'r gyfradd brydlondeb yw 77.9 y cant ar gyfer y mis penodol hwnnw. Mae hynny'n uwch nag unrhyw weithredwr arall, gan gynnwys Avanti, West Coast, CrossCountry a Great Western. Ac os edrychwch chi hefyd ar linellau craidd y Cymoedd, fel y nodoch chi, mae'r prydlondeb yno wedi bod yn 90 y cant.

O ran cerbydau newydd, rydym wedi gweld danfoniad enfawr o'r fflyd gwerth £800 miliwn, ac mae hynny ledled Cymru. Mae hynny'n berthnasol i Gymru gyfan—nid dim ond i ardaloedd craidd y Cymoedd y mae wedi'i gyfyngu. Ac o fewn y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn gweld yr archeb trenau gyfan yn cael ei darparu, a bydd hynny, fel y dywedais i yn fy natganiad, yn golygu y bydd gennym un o'r fflydoedd mwyaf newydd yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, o'i gymharu â'n bod wedi etifeddu un o'r fflydoedd hynaf yn ôl yn 2018.

Byddwn yn cytuno'n llwyr hefyd â Natasha Asghar ynghylch yr angen i sicrhau bod gorsafoedd yn hygyrch i bawb, ac roedd hyn yn rhywbeth y bu'r llefarydd a minnau yn ei drafod pan wnaethom ni gyfarfod yn ddiweddar, ac mae grŵp cynghori sy'n gallu gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod y math cywir o seilwaith a'r math cywir o gymorth yn cael ei roi ar waith mewn gorsafoedd. Felly, rydym yn cynyddu nifer y llysgenhadon, er enghraifft, ond rydym hefyd yn edrych ar balmentydd cyffyrddol i sicrhau bod pobl sydd yn rhannol ddall neu sydd â symudedd cyfyngedig yn gallu llywio o amgylch gorsafoedd yn ddiogel.

Rwy'n ofni na allaf fynd i unrhyw fanylion ynghylch parcffordd Caerdydd ar hyn o bryd. Bydd yr Aelod, ac rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o Aelodau yn y Siambr, yn ymwybodol o'r adolygiad sy'n cael ei gynnal i hynny, ac mae'n ddigon posibl y bydd yn dod ataf i wneud penderfyniad, felly ni allaf wneud sylw ar hynny rwy'n ofni. Ond rwy'n siŵr y bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn y dyfodol agos.

Ac yn olaf, o ran talu wrth fynd, byddwn yn rhannu brwdfrydedd yr Aelod unwaith eto am y cynllun penodol hwn. Mae'n seiliedig ar y cynllun a ddefnyddir yn eang yn Llundain. Yn y pen draw, yr hyn yr hoffwn ei weld yn digwydd yw integreiddio tocynnau gwasanaeth bysiau a rheilffyrdd yn llawn a mabwysiadu talu wrth fynd ar gyfer pob math o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. Ni fydd hynny'n cael ei gyflawni yn y tymor byr, oherwydd faint o seilwaith a thechnoleg sydd eu hangen, ond, yn sicr, fel amcan yn y pen draw, rwy'n credu y byddai talu wrth fynd ar draws y rhwydwaith bysiau a threnau yn uchelgais gwych i'w gyflawni.

18:00

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet—dwi byth yn cofio beth ydy hynny yn Gymraeg—am ein diweddaru ni ar y cynlluniau hyn.  Fe wnes i ddal trên dan yr amserlen newydd y bore yma, ac roedd e'n braf i ddod i'r bae heb orfod newid yn Stryd y Frenhines.

Rwy'n deall, er bod rhai o'r trenau newydd wedi'u cyflwyno'n barod, fod mwy i fod i gael eu hychwanegu mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yr ydym i gyd yn gyffrous iawn yn ei chylch. A gaf i ofyn a yw'r rhaglen yn dal ar amser i allu cyflawni hynny? Ac a allech chi amlinellu pa ran fydd yn ei chwarae wrth ddarparu capasiti ychwanegol i annog mwy o bresenoldeb, wrth gwrs, yn yr Eisteddfod hon a sut y byddai'n helpu pobl i gyrraedd adref yn ddiogel ar ddiwedd y dyddiau hynny?

Er mwyn cael y gorau o'r metro, wrth gwrs, rhaid edrych ymhellach na beth fydd yn fuddiol i deithwyr heddiw yn unig, er mwyn gwneud yn siŵr bod newidiadau ymddygiad yn dod.

Mae angen i ni edrych ar ddwysáu datblygiad, yn enwedig pa dai fforddiadwy fydd yn cael eu datblygu, yn ogystal â phrosiectau adfywio ffisegol a chymdeithasol ger y canolfannau trafnidiaeth hynny yn llawer o'n trefi yn y Cymoedd sydd wedi cael eu hanwybyddu yn flaenorol. Mae'r Athro Mark Barry eisoes wedi ei godi y prynhawn yma. Mae wedi galw yn flaenorol am gorfforaeth datblygu metro i arwain ar y gwaith hwnnw yr wyf newydd ei grybwyll. Ydy hynny'n rhywbeth y byddech chi'n ymrwymo i weithio i'w gyflawni, os gwelwch yn dda?

Yn olaf, hoffwn godi mater datganoli ac ariannu Trafnidiaeth Cymru, ac nid Trafnidiaeth Cymru yn unig, ond trafnidiaeth Cymru ac yng Nghymru. Mae llawer o'r datblygiadau newydd hyn, mewn gwirionedd, rwy'n credu y dylid eu croesawu. Mae llawer iawn yma sy'n gyffrous. Ond mae'r trefniadau presennol sydd gennym ni sy'n cyfyngu ar yr hyn sy'n bosib—ac rydych chi eisoes wedi sôn beth na fydd yn bosib ar hyn o bryd ar gyfer llinell y Ddinas—yn annheg, yn annhegwch sylfaenol i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod talu am rwydwaith de Cymru, y newidiadau hyn, allan o'r gyllideb gyffredinol. Nid yw seilwaith trafnidiaeth wedi'i ddatganoli. Ac un o'r amlygiadau mwyaf annheg o hyn—fe gawn ni ddadl ar hyn yfory—yw'r ffaith ein bod ni'n gorfod talu £4 biliwn ar gyfer rhwydweithiau rheilffyrdd cyflym yn Lloegr, a does dim un darn o drac ar gyfer hynny yn cael ei osod yng Nghymru.

Nawr, yng nghyd-destun yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei drafod y prynhawn yma, dychmygwch, bawb, yr hyn y gellid bod wedi'i wneud gyda'r arian hwnnw. Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, nid yn unig â pha mor rhwystredig yw hyn ond pa mor anghyfiawn yw hyn, oherwydd, o dan y trefniadau presennol, a fyddech chi'n cytuno siawns na allwn ni—? O ran yr uchelgais y gallwn ei gael ar gyfer trafnidiaeth a thrwy'r rhwydwaith heb y pwerau datganoledig hynny, mae cap ar yr uchelgais hwnnw, onid oes? Heb Farnetteiddio gwariant seilwaith trafnidiaeth ar gyfer Lloegr, mae cap ar yr hyn fydd yn bosib.

Does dim rheswm pam na allem ni gael y pwerau hyn wedi'u datganoli.  Mae gwledydd dros Ewrop yn rheoli isadeiledd trawsffiniol yn effeithiol. Does gan Gymru ddim llais yng nghymaint o'r penderfyniadau.

Ni fydd economi sydd wedi'i lleoli'n gyfan gwbl o amgylch San Steffan byth yn gweithio i Gymru. Gallwn ni weld hyn ym methiant y rhaglen ffyniant bro. Mae angen i ni fod â rheolaeth, siawns, dros ein cyllid ein hunain er mwyn i'n rhwydwaith trafnidiaeth sicrhau ffyniant bro yn ein cymunedau. Felly, a ydych chi'n cytuno bod arnom angen, er mwyn bod â'r uchelgais hwnnw, y pwerau ychwanegol hynny i gyrraedd lle mae angen i ni fod?

Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i Delyth Jewell am ei chwestiynau? Rwy'n rhannu llawer o'r pryderon y mae'r Aelod wedi'u codi y prynhawn yma. Byddwn i'n dweud ar y dechrau nad oes gen i fanylion penodol am y trenau fydd yn cael eu defnyddio yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf a fydd yn briodol ar gyfer cludo teithwyr i'r Eisteddfod, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw, ar rai llwybrau allweddol, ein bod bellach wedi gweld y fflyd trenau yn dychwelyd i tua 90 y cant lle maen nhw'n newydd. Ar brif linell y gogledd mae'n 80 y cant, ac ar y llinell rhwng Wrecsam a Bidston, er enghraifft, mae'r holl wasanaethau yn cael eu darparu gan drenau newydd. Ar hyn o bryd, mae gennym 342 o'r 484 o gerbydau a fydd ar gael yn y pen draw, ac mae 71 y cant o'r rhai hynny yn newydd hefyd, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â sut yr ydym yn cyflwyno trenau newydd i'r rhwydwaith yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Nawr, o ran yr hyn sy'n cael ei wneud ar lefel ranbarthol ac o ran metro de-ddwyrain Cymru ac, yn wir, cynlluniau metro mewn mannau eraill, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod cyd-bwyllgorau corfforedig ar hyn o bryd yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am gynllunio trafnidiaeth, ac, ar hyn o bryd, maen nhw'n llunio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol. Maen nhw hefyd yn llunio'r cynlluniau datblygu rhanbarthol ac, ar lefel ranbarthol, trwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig, mae awydd mawr i sicrhau bod y ddau gynllun ar gyfer trafnidiaeth ac ar gyfer datblygiad a ganiateir yn cael eu prosesu ar yr un pryd fel eu bod yn gallu integreiddio'n llawn ac fel y gellir gwneud penderfyniadau synhwyrol ynghylch datblygu ochr yn ochr â darpariaeth trafnidiaeth.

Nawr, gallwn siarad yn helaeth am y fargen y mae Cymru'n ei chael o ran seilwaith rheilffyrdd. Os oes gan unrhyw Aelod ddiddordeb, gallaf ddarparu'r dystiolaeth a roddais i bwyllgor trafnidiaeth seneddol y DU ychydig wythnosau yn ôl, ond, yn gryno, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod angen i ni fod â phroses raddol o ddatganoli ochr yn ochr â chyllid teg ar gyfer buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru. Fel y mae pethau, oherwydd ein bod yn rhan o ranbarth Cymru a'r gorllewin ar gyfer buddsoddi trwy Network Rail, rydym yn y bôn yn gorfod cystadlu â llwybrau o ddyffryn Tafwys draw i Penzance, ac, yn anffodus, oherwydd Llyfr Gwyrdd y Trysorlys a'r ffordd y mae'n gweithredu o ran penderfyniadau buddsoddi, byddwn bob amser yn cystadlu ag ardaloedd mwy cefnog sy'n cludo mwy o deithwyr, ac felly byddwn o dan anfantais, oherwydd, fel arfer, dyna lle mae'r buddsoddiad yn mynd, i'r ardaloedd hynny lle cewch yr elw mwyaf, lle gall y Trysorlys ystyried bod gan brosiect penodol gymhareb cost a budd gref. Felly, mae angen diwygio, nid yn unig y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, a datganoli'r broses benderfynu, ond mae'n rhaid i ni hefyd fod â mecanwaith ariannu teg ar waith ochr yn ochr â hynny.

Nawr, y rheswm pam y rhoddais dystiolaeth i'r pwyllgor ychydig wythnosau yn ôl yw oherwydd bod ganddyn nhw ddiddordeb yn y Bil rheilffyrdd drafft wrth sefydlu rheilffyrdd Prydain Fawr, ac rwy'n credu yn bendant pe bai rheilffyrdd Prydain Fawr yn cael eu datblygu, yna byddai'n rhaid i ni fel Gweinidogion Cymru, Cymru fel cenedl, allu penderfynu sut a/neu ble y caiff cyllid ar gyfer buddsoddiad rheilffyrdd ei wneud, ac yn amlwg byddai hynny er budd ardal gwasanaeth Cymru a'r gororau yr ydym yn gyfrifol amdani.

18:05

Diolch am eich datganiad. Yn gyntaf, rwy'n siŵr y byddech chi am ymuno â mi i dalu teyrnged i Lee Waters am yr uchelgais a'r egni rhagorol a roddodd i mewn i ysgogi'r buddsoddiad o £800 miliwn hwn mewn trenau newydd sbon. Rwy'n croesawu'r gwelliannau ar linell y Ddinas, oherwydd ei bod yn gwasanaethu'r rhan o Gaerdydd lle adeiladwyd nifer enfawr o dai heb system trafnidiaeth gyhoeddus briodol, sydd yn amlwg wedi achosi llawer iawn o dagfeydd a llygredd aer. Felly, mae unrhyw welliant ar linell y Ddinas wir yn mynd i fod o fudd i bobl yng Nghaerdydd.

Meddwl oeddwn i tybed a allwn i ofyn ychydig mwy i chi am y tocyn talu wrth fynd a chysylltiad y rhaglen ailreoleiddio bysiau, fel bod metro de Cymru yn rheilffyrdd a bysiau. A'r peth arall yw, tybed a oeddech chi, cyn galw'r etholiad cyffredinol, wedi cael unrhyw gyfle i siarad â Llywodraeth y DU am ble a phryd y byddwn yn cael y buddsoddiad yn y pedair llinell sy'n rhedeg i'r dwyrain o Gaerdydd Canolog sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb i Network Rail nad yw'n cael ei ariannu'n ddigonol a Llywodraeth y DU. Fel arall, rydyn ni'n mynd i barhau i fod â phobl yn cymudo i Gaerdydd sy'n byw i'r dwyrain a'r gogledd o Gasnewydd mewn car oherwydd nad yw'r gwasanaethau'n ddigon da, ac felly meddwl oeddwn i tybed allech chi ddweud ychydig mwy am hynny.

A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau a'i chyfraniad, a chytuno bod Lee Waters wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r prosiect uchelgeisiol hwn? Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'm rhagflaenydd fel Gweinidog trafnidiaeth, Edwina Hart, a rhagflaenydd Edwina Hart hefyd, Carl Sargeant, a oedd i gyd yn ymwneud yn helaeth â datblygu metro de Cymru, a chreu Trafnidiaeth Cymru. Efallai, yn anad dim, y dylwn dalu teyrnged i'r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, hefyd, gan mai ei weledigaeth ef oedd hyn i bob pwrpas. Roedd Carwyn Jones a Mark Drakeford hefyd, fel Prif Weinidog, yn gefnogwyr brwd i'r cynllun hwn, ac mae wir wedi bod yn ymdrech grŵp, ymdrech tîm, i gyrraedd lle'r ydym ni hyd yma heddiw. Bydd yn parhau i fod yn ymdrech tîm, gan gynnwys holl ranbarthau Cymru wrth i ni geisio moderneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd ledled ein gwlad.

O ran y pedair llinell i'r dwyrain o Gaerdydd Canolog, rwy'n ofni na roddwyd unrhyw ymrwymiad i mi cyn yr etholiad cyffredinol gan Weinidogion Llywodraeth y DU o'r angen i uwchraddio'r seilwaith a'r parodrwydd i wneud hynny. Bydd llinell y Ddinas, wrth gwrs, yn gweld gwelliannau ei hun. Hoffem weld gwelliannau pellach o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol i'r llinell benodol honno, ond, fel y dywedais i wrth Natasha Asghar, yn anffodus, rydym yn dibynnu ar Lywodraeth y DU am benderfyniad ynghylch buddsoddi yn y darn penodol hwnnw o seilwaith.

O ran tocynnau talu wrth fynd, rwy'n credu bod hon yn fenter hynod, hynod gyffrous, ac, yn y bôn, mae'n seiliedig ar docynnau newydd ar sail parth, felly bydd bob amser yn rhoi'r opsiwn lleiaf drud i chi am docynnau. Bydd yna hefyd gyfradd wedi'i chapio, fel na fyddwch chi byth yn talu mwy nag y byddech chi'n ei wneud pe baech chi'n prynu'r tocynnau unigol. I bob pwrpas, dyma sut mae pobl yn talu am deithio ar drenau tanddaearol Llundain. Mae eisoes ar waith ar wasanaethau ar linell Glynebwy a rhwng Casnewydd a Phont-y-clun, ac mae'n mynd i gael ei gyflwyno i holl ardal metro de Cymru eleni. Ond, fel y soniodd Jenny Rathbone, yr uchelgais yn y pen draw yw bod â hyn fel system dalu integredig, wedi'i hintegreiddio â gwasanaethau bysiau, ac, yn y pen draw, nid yn ardal metro de-ddwyrain Cymru yn unig. Hoffwn ei weld yn cael ei gymryd ymhellach; hoffwn weld hyn yn dod yn ddull cenedlaethol, ond byddai angen buddsoddiad enfawr yn y seilwaith mewn gorsafoedd ac mewn seilwaith digidol. Ond nid yw'n uchelgais y dylem ei osgoi.

18:10

A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Yn amlwg, mae llawer iawn o gyffro yn y rhanbarth yr wyf yn ei gynrychioli ynghylch rhai o'r newidiadau sy'n dod i rym ac, yn amlwg, mae'r fflyd newydd i'w chroesawu'n fawr. Ond fe fyddwch chi'n gwybod bod un o'r pryderon yn ymwneud â thoiledau ar y fflyd newydd. Mae hyn yn bryder enfawr i etholwyr i mi, yn enwedig o edrych ar yr amserlen lle, gyda'r nos, bydd un bob awr. Felly, mae pryderon am yr hyn y maen nhw i fod i'w wneud. Oes rhaid iddyn nhw aros ar blatfform am awr? Felly, os oes angen iddyn nhw fynd i'r toiled, y cyngor oedd dod oddi ar y trên, defnyddio'r cyfleusterau yn y gorsafoedd hynny. A oes sicrwydd y bydd y cyfleusterau hyn ar agor? Hefyd, o ran diogelwch teithwyr, fydd hynny'n cael ei sicrhau, oherwydd mae pobl yn nerfus am y syniad o ddod oddi ar drên yn hwyr gyda'r nos? Felly, ar rai o'r pethau ymarferol yn unig, tybed a allech chi egluro.

Hefyd, o ran y trên olaf o Dreherbert yn ôl i Fae Caerdydd, mae'r un olaf am 21:12, sy'n golygu os ydych chi am fwynhau swper yn y Cymoedd neu fynd i'r Parc a'r Dâr yn Nhreorci, mewn gwirionedd, byddai'n rhaid i chi adael cyn diwedd y ddrama. Felly, pa gynlluniau sydd yna i'w hymestyn fel ein bod yn cysylltu nid yn unig Caerdydd â'r Cymoedd, ond yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau a gwario arian yn ein Cymoedd cyn dychwelyd i Gaerdydd?

Mae'r rhain yn gwestiynau gwych yr wyf wedi'u codi yn ddiweddar a byddaf yn parhau i'w codi gyda Trafnidiaeth Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n cyfarfod â'r prif weithredwr ymhen cwpl o wythnosau, a fy mwriad, mewn gwirionedd, oedd codi mater glendid gorsafoedd, diogelwch mewn gorsafoedd a darparu toiledau, ar ôl i mi deithio yn hwyr gyda'r nos rhwng Caer a Wrecsam yn ddiweddar. Roedd y ddarpariaeth gwasanaeth yn ardderchog, ond fe wnaeth fy nharo i fod yn rhaid i ni sicrhau, i fenywod yn benodol, fod gorsafoedd mor ddiogel ag y gallant fod.

O ran toiledau, ni fydd metro de-ddwyrain Cymru yn wahanol i fwy neu lai unrhyw fetro arall yn y Deyrnas Unedig neu ledled y byd. Nid wyf yn gwybod am fetro arall sydd â thoiledau ar drafnidiaeth. Yn sicr, o ran trenau, gellir cynnwys toiledau, ond o ran cerbydau metro—felly, y tramiau, os hoffech chi—ychydig iawn o weithgynhyrchwyr, os o gwbl, sy'n darparu toiledau ar gerbydau o'r fath, ac mae'n bennaf oherwydd pa mor gul ydyn nhw a bod mynediad anabledd yn anodd gan eu bod mor gul. Ond mae'n golygu bod darparu toiledau mewn gorsafoedd yn hanfodol bwysig. Byddaf yn codi pwyntiau'r Aelod gyda phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru. Fe ofynnaf iddo amlinellu unrhyw ddarpariaeth gwasanaeth a fydd yn cael ei gwella yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf o ran cyfleusterau toiledau a diogelwch mewn gorsafoedd, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn i'w wneud i bobl a fyddai, efallai, yn defnyddio gwasanaethau trên gyda'r nos ond yn cael eu hatal oherwydd ofn am eu diogelwch neu'r ddarpariaeth o gyfleusterau toiled.

Mae ein holl wasanaethau yn ddibynnol ar refeniw. Yn y bôn, mae'n rhaid iddyn nhw gael cymhorthdal er mwyn gweithredu, ac eithrio ychydig iawn o wasanaethau, yn bennaf y rhai rhwng Caerdydd a Manceinion ac, rwy'n credu, gwasanaethau prif linell gogledd Cymru i Fanceinion hefyd. Nhw yw'r rhai sy'n cynhyrchu'r lefelau uchaf o refeniw. Mae ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau yn hwyrach gyda'r nos yn seiliedig ar yr angen i gynyddu'r arian o docynnau o wasanaethau eraill. Holl bwynt y metro o fewn ardal de-ddwyrain Cymru yw y byddwn yn darparu mwy o wasanaethau i fwy o deithwyr, a fydd yn cynhyrchu mwy o arian, a fydd wedyn yn ein galluogi i ddefnyddio'r cymhorthdal mewn ardaloedd eraill o Gymru ac, yn wir, yn hwyrach gyda'r nos ac o bosibl yn gynharach yn y bore. Felly, yn y bôn, rydyn ni'n mynd i fod yn cynyddu'r arian o docynnau er mwyn talu am wasanaethau gwell ledled Cymru. 

18:15

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ysgrifennydd Cabinet, fel yr ydym eisoes wedi crybwyll yn y datganiad hwn, y tu allan i linellau craidd y Cymoedd, mae gallu Llywodraeth Cymru i wneud newid trawsnewidiol yn fwy cyfyngedig, ac yn amlwg mae partneriaeth â Llywodraeth y DU yn hanfodol. Fel chi, rwy'n siŵr, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Lafur newydd yn y DU cyn hir. Sut fyddech chi'n gweithio gyda Llywodraeth Lafur newydd yn y DU, os gawn ni un, ar brosiectau fel gorsafoedd rheilffyrdd newydd ym Magwyr, Llanwern a Somerton yn Nwyrain Casnewydd, a allai helpu i ddod â'r newid trawsnewidiol hwnnw y tu hwnt i linellau craidd y Cymoedd? Ac a fyddech chi'n cytuno â mi fod cael CAF, y gwneuthurwr trenau, yng Nghymru—eto yn Nwyrain Casnewydd, yn fy etholaeth i—wedi bod yn bwysig iawn wrth gyfrannu at y cerbydau newydd ac y bydd yn bwysig iawn ar gyfer y presennol a'r dyfodol?

Diolch i John Griffiths am ei gwestiynau. Byddwn yn cytuno, mae presenoldeb CAF yng Nghasnewydd yn hynod bwysig i'r rhanbarth ac i Gymru gyfan. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu denu CAF i Gymru, gan adeiladu'r trenau 197 gwych hynny y mae llawer ohonom yn eu defnyddio'n rheolaidd iawn, gan gynyddu ansawdd y gwasanaeth a ddarperir a rhoi dibynadwyedd. Mae presenoldeb CAF, rwy'n credu, hefyd wedi tynnu sylw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel y DU i'r hyn y gallem ni ei gyflawni ymhellach i'r gorllewin yng Nghymru, y ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd. Rydym yn gwybod bod yn rhaid i weithgynhyrchwyr trenau gynnal profion, ond mae'r profion hynny yn digwydd ar brif linellau ac ar linellau cangen. Byddai'n rhywbeth i Ewrop gyfan ei ddathlu o ran y diwydiant rheilffyrdd pe gallem ddarparu'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd. Ac mae'n rhywbeth y byddwn i'n gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn y dyfodol—ac fel y gwelaf i hi, Llywodraeth Lafur yn y dyfodol gobeithio—yn wir yn buddsoddi ynddo. 

O ran y gorsafoedd ychwanegol a amlinellodd John Griffiths, wrth gwrs, nododd comisiwn de-ddwyrain Cymru fod y gorsafoedd ychwanegol hyn yn hanfodol bwysig fel rhan o'r adroddiad gan yr Arglwydd Burns a'i dîm, ac fe'u nodwyd hefyd trwy adolygiad cysylltedd yr undeb yn rai sy'n hanfodol bwysig. Felly, wrth i ni edrych tuag at Lywodraeth y DU yn y dyfodol, byddwn ni, heb os, yn trafod cyfleoedd buddsoddi ledled Cymru. Ond, wrth gwrs, mae'r ddau ddarn mawr o waith yn ddiweddar ynglŷn â seilwaith rheilffyrdd wedi ymwneud â'r gogledd, gyda chomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, ac yna comisiwn trafnidiaeth y de-ddwyrain, gan edrych yn benodol ar ardal Casnewydd a'r ardal ehangach o amgylch yr M4. Felly, rydym yn awyddus i sicrhau y gallwn symud ymlaen â'r gwaith o gyflawni yn erbyn yr adroddiadau hynny, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys gorsafoedd rheilffordd ychwanegol. 

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Nesaf, rydyn ni angen cael y cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i eitem 8 ddigwydd, y ddadl ar y diwydiant dur. Os caf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gynnig i atal Rheolau Sefydlog. 

Cynnig NNDM8598 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8597 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 4 Mehefin 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Cynnig yn ffurfiol.

Ydy, mae'r cynnig yn cael ei wneud. Y cwestiwn yw: a ddylid atal Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad, ac felly mae hynny'n cael ei ganiatáu.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

18:20
8. Dadl: Y Diwydiant Dur yng Nghymru

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 3, 4, 5 a 6 yn enw Heledd Fychan.

Mae hynny'n ein caniatáu ni i glywed y ddadl ar y diwydiant dur. Felly, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi i wneud y cynnig—Jeremy Miles.

Cynnig NNDM8597 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod gan gynhyrchu dur ddyfodol hyfyw yng Nghymru o fewn proses bontio sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru.

2. Yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru ac i'r llwybr at sero-net.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae dur yn rhan bwysig o'n bywyd ni, ac rŷn ni'n ffodus bod gyda ni'r gallu i wneud dur sylfaenol a dur arc trydan yng Nghymru ar hyn o bryd. Dur yw sylfaen ein diwydiant gweithgynhyrchu ehangach ac mae'n cynhyrchu deunyddiau sy'n gwbl hanfodol os rŷn ni am newid i sero net. Yn yr un modd ag ym mhob sector o'n heconomi, mae cwmnïau yn y sector dur wedi bod yn canolbwyntio ar sut y gallan nhw hefyd, er mwyn i ni fedru gwireddu'n hymrwymiadau o ran y newidiadau i'r hinsawdd sydd i'w gweld ymhob cwr o'r byd. Mae'n hanfodol bod y sector yn parhau'n gonglfaen i'n heconomi ni ac yn dal i fod wrth galon ein cymunedau. Mae newid i wneud dur mewn ffordd carbon isel yn hollbwysig er mwyn cyrraedd y nod hwnnw.

Dwi o'r farn bod gan y diwydiant cynhyrchu dur ddyfodol hyfyw yng Nghymru os awn ni ati i newid mewn ffordd a fydd yn helpu i greu dyfodol cryfach a gwyrddach i economi Cymru. Er efallai bod y newid ym Mhort Talbot yn golygu y bydd y gwaith cynhyrchu dur yn cael ei ddiogelu yng Nghymru at y dyfodol, dwi, fel chithau, yn poeni'n fawr iawn am raddfa'r newidiadau yn Tata, am ba mor gyflym maen nhw'n digwydd, ac am golli capasiti i wneud dur sylfaenol yn y tymor byr a'r tymor canolig.

Rydym yn cydnabod, Llywydd, fod ymchwil a datblygu yn mynd rhagddo i archwilio sut y gall dur o ffwrneisi arc drydan gynhyrchu ystod ehangach o gynhyrchion, ond mae sectorau allweddol yn y DU—modurol a phecynnu, er enghraifft—dal angen cynhyrchion sydd wedi'u gwneud o ddur crai. Mae Tata yn gorfod mewnforio'r slab a'r swbstrad coiliau rholio poeth sydd eu hangen yn ystod y cyfnod pontio ar gyfer y busnesau y mae'n eu cyflenwi.

Fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddodd Tata Steel ar 25 Ebrill ei benderfyniad i wrthod y cynnig a gyflwynwyd gan sawl undeb. Doedd arnom ni ddim eisiau gweld y penderfyniad hwn. Bydd nawr yn mynd ymlaen i gau ffwrnais chwyth 5 ym mis Mehefin a ffwrnais chwyth 4 ym mis Medi, ynghyd â dirwyn gwaith trwm Port Talbot i ben. Bydd y llinell brosesu anelio barhaus yn cau ym mis Mawrth 2025. Credwn fod cynllun gwell ar gael. Pe bai Tata wedi derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gan yr undebau a gomisiynwyd gan bwyllgor dur y DU, byddai hyn wedi golygu cyfnod pontio hirach, arafach a thecach. Mae'n rhwystredig iawn na chyrhaeddwyd cytundeb yn gynharach yn y trafodaethau rhwng Tata Steel a Llywodraeth y DU. Gallai cytundeb cynharach hefyd fod wedi arwain at drawsnewidiad hirach a thecach. Mae hefyd yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi'i heithrio o drafodaethau, gan ein gadael yn y niwl braidd ar agweddau sy'n ymwneud â chymhwysedd datganoledig.

Ers misoedd lawer bellach, mae gweithwyr dur a'u teuluoedd, busnesau a chymunedau wedi bod yn paratoi am y swyddi a fyddai'n cael eu colli o ganlyniad i drosglwyddo cynnar i gynhyrchu dur arc drydan ym Mhort Talbot. Mae lefel y swyddi rydym yn wynebu eu colli yn ofnadwy. Mae Tata Steel wedi cyhoeddi y bydd disgwyl i hyd at 2,800 o swyddi gael eu colli fel rhan o'i gynllun pontio, ac y cai tua 2,500 o'r rhain eu heffeithio bob yn dipyn dros y 18 mis nesaf, gyda'r disgwyl y bydd y gyfran gyntaf o swyddi'n cael eu colli ym mis Medi nawr. Mae'r cwmni'n disgwyl y cai 300 o swyddi pellach eu colli ymhen tua thair blynedd ar safle Llanwern. Ni wyddir yn iawn faint yn union o swyddi a fydd yn cael eu colli, gan gynnwys y rhai yn yr economi ehangach, ond gallai fod hyd at 9,500.

Er mwyn sicrhau cefnogaeth ar unwaith i'r rhai yr effeithir arnyn nhw, rydym yn gweithio gyda bwrdd pontio Tata i'w gwneud yn ymwybodol o'r holl gefnogaeth sydd ar gael i'r gweithlu fel y gallan nhw elwa ar hynny nawr. Rydw i, ac eraill ar y bwrdd pontio, wedi ei gwneud hi'n glir fod arnom ni eisiau iddo fod mor hawdd â phosibl i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac i hynny ddigwydd yn gyflym. Mae porth gwybodaeth cynhwysfawr wedi ei sefydlu ar wefan Castell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth am yr holl gymorth sydd ar gael i bobl a busnesau a byddwn yn gofyn i'r Aelodau am eich help i'w hyrwyddo i'ch etholwyr.

Mae'r bwrdd pontio wedi cytuno ar bum maes eang ar gyfer cefnogaeth. Mae'r rhain yn cynnwys paru swyddi, sgiliau a chyflogadwyedd, sefydlu cronfa bontio'r gadwyn gyflenwi, sefydlu cronfa twf busnes a dechrau busnes, cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles, a phrosiectau adfywio a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol i'r economi ym Mhort Talbot. Mae gan Lywodraeth Cymru raglenni eisoes ar waith i gynorthwyo gweithwyr sydd wedi cael eu diswyddo i ddychwelyd i'r gwaith. Gall ein rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy ddarparu cymorth hyfforddiant a mentora i'r rhai sy'n dymuno aros yn y farchnad lafur. Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth i unigolion sy'n wynebu colli eu swyddi os ydyn nhw'n dymuno ystyried dechrau eu busnes eu hunain, yn ogystal â chael gafael ar gyllid busnes.

Ochr yn ochr â blaenoriaeth cymorth brys i weithwyr, rhaid i ni edrych ar y cyfleoedd i ddatblygu economïau lleol a chyflogaeth gynaliadwy, yn enwedig ym Mhort Talbot a'r ardal gyfagos. Mae angen i ni gadw cynifer o weithwyr Tata ag y gallwn ni. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn, ac mae angen eu doniau a'u hymrwymiad i aros yng Nghymru. Mae'r bwrdd pontio wedi comisiynu cynllun gweithredu economaidd lleol sy'n nodi cynigion a allai, o bosibl, gyfyngu ar yr effeithiau tymor byr a darparu ar gyfer dyfodol cadarnhaol i'r rhanbarth yn y tymor hwy. Bydd y bwrdd pontio yn defnyddio'r cynllun gweithredu fel canllaw wrth ystyried dyrannu cyllid.

Mae llawer o'r cyfleoedd economaidd yn y dyfodol yn gysylltiedig â'n hymdrech ehangach i bontio i sero net yn ne Cymru. Mae gan y porthladd rhydd Celtaidd bwyslais clir iawn ar weithgynhyrchu a seilwaith porthladdoedd i gefnogi ffermydd gwynt arnofiol ar y môr Celtaidd, gan adeiladu ar eu cysylltiadau â dau borthladd dwfn. Mae'r porthladd Celtaidd hefyd wedi nodi cyfleoedd penodol ar gyfer ynni glân sy'n gysylltiedig â hydrogen, tanwydd cynaliadwy, dal a storio carbon, dur glanach a logisteg carbon isel. O safbwynt gweithgynhyrchu a'r gadwyn gyflenwi, mae cyfleoedd i gwmnïau yng Nghymru mewn meysydd fel datblygu gwynt arnofiol a sefydlog ar y môr, gan wneud ein stoc dai yn fwy ynni-effeithlon trwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, adeiladu ein gallu i bweru cerbydau yn y dyfodol trwy seilwaith gwefru cerbydau trydan, a gweithgynhyrchu cydrannau ar gyfer cerbydau trydan. Rydym yn adeiladu mapiau cadwyni cyflenwi i helpu cwmnïau sy'n gwneud cais am drwyddedau gwynt ar y môr i allu dod o hyd i gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Bydd cynnydd sylweddol yn yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir i ateb y galw cynyddol yn gofyn am seilwaith rhwydwaith trosglwyddo trydan newydd. Mae dadansoddiad o'n hadroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru' yn dangos y gallai ein galw am drydan dreblu bron iawn erbyn 2050. Bydd hyn yn dod â chyfleoedd sylweddol i'r gadwyn gyflenwi. Trwy'r gwaith a wnaed gan glwstwr diwydiannol de Cymru, sydd bellach yn cael ei ddatblygu gyda Diwydiant Sero Net Cymru, mae gweledigaeth o ran sut y gellir datgarboneiddio diwydiant ledled de Cymru. Mae datblygu ffyrdd posib o ddal a storio carbon yn edrych ar fuddsoddiadau sylweddol ar gyfer eu camau nesaf. Gallai'r rhain fod yn hanfodol wrth alluogi datgarboneiddio asedau diwydiannol a chyflymu datrysiadau datgarboneiddio ar draws de Cymru, gan gynnwys cyflenwi hydrogen.

Yn ddiweddar, dyfarnwyd mwy na £13 miliwn i Celsa o'r gronfa trawsnewid ynni diwydiannol ar gyfer ffwrnais newydd gyda'r holl seilwaith ar y safle i weithredu gyda hyd at 100 y cant o danwydd hydrogen. Bydd y prosiect yn gam sylweddol yn llwybr datgarboneiddio Celsa. Rwy'n croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i gynnwys Associated British Ports Port Talbot ar y rhestr fer am gyfran o'i chynllun gweithgynhyrchu a seilwaith ffermydd gwynt arnofiol ar y môr gwerth £160 miliwn. Fodd bynnag, cydnabyddir ledled y sector bod angen mwy nag un porthladd ar y môr Celtaidd i ddarparu ateb integredig i sicrhau'r buddion economaidd mwyaf posibl i'r DU, ac felly, rwy'n awyddus i archwilio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer porthladd Penfro.

Llywydd, mae colli swyddi oherwydd cyflymder y trawsnewid o wneud dur mewn ffwrneisi chwyth yn dorcalonnus. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi gweithwyr sy'n wynebu colli swyddi, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Mae colli'r gallu y mae technoleg ffwrneisi chwyth yn ei ddarparu yn bryder enfawr i'r economi, ac rwy'n annog Tata Steel i ystyried dewisiadau nawr yng ngoleuni'r penderfyniad i gynnal etholiad cyffredinol cynnar a'r posibilrwydd gwych iawn y bydd Llywodraeth Lafur. Gall colli swyddi yn yr economi ehangach hefyd fod yn ddinistriol, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU yn y dyfodol, i nodi a chefnogi cyfleoedd yn y dyfodol mewn marchnadoedd newydd. 

18:25

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Samuel Kurtz i gynnig gwelliannau 1 a 2.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw gefnogaeth ariannol i Tata Steel ers 2019.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu grant £500 miliwn Llywodraeth y DU i Tata Steel i gefnogi cadw swyddi gweithwyr dur ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn ar gyfer ailhyfforddi a sgiliau.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon, ar bwnc y mae'r Senedd hon wedi treulio llawer o'i hamser dros y misoedd diwethaf yn ei drafod, a hynny'n gwbl briodol. Cynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar, ac rwy'n cadarnhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliannau 3 a 4, ond nid 5 a 6.

Mae gwneud dur fel diwydiant yn un sy'n cyfrannu at bob agwedd ar y wlad. Rydym ni wedi bod yn glir ar yr ochr yma i'r Siambr yr hoffem ni weld un ffwrnais chwyth yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod pontio o ffwrneisi chwyth i ffwrneisi arc drydan. Rydym ni'n siomedig na fu i Tata wneud hyn.

Ysgrifennydd Cabinet, roeddwn yn ddiolchgar eich bod chi wedi sôn wrth agor y ddadl hon am y cyfleoedd posibl wrth inni symud ymlaen yn y cyfnod pontio hwnnw. Sylwais eich bod chi wedi sôn am y porthladd rhydd Celtaidd, ffermydd gwynt arnofiol ar y môr—dwy elfen yr ydw i wedi bod yn eiriolwr mawr drostyn nhw. Ac o wybod cyfraniadau Aelodau eraill yn y Siambr hon, a fydd, rwy'n siŵr, yn siarad yn nes ymlaen—yr Aelod dros Aberafan, er enghraifft—mae'r angen am y trosglwyddiad cyfiawn hwnnw yn yr achos hwn yn bwysig iawn. Bydd y porthladd rhydd Celtaidd yn gyfle am swyddi newydd yn ardal Port Talbot a'r cymunedau ehangach, ond mae a wnelo hyn â'r newid hwnnw o'r fan hon nawr i'r adeg yna yn y dyfodol a sut rydym ni'n cefnogi gweithwyr yn yr ardal honno.

Fe hoffwn i hefyd ganmol yn y fan yma waith Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar eu hymchwiliad i wneud dur yn dilyn cyhoeddiad Tata y llynedd, dan gadeiryddiaeth gref Paul Davies, a Luke Fletcher ar y pwyllgor hefyd, a fydd, rwy'n siŵr, yn fy nilyn i wrth siarad yn y ddadl hon. Rwy'n credu bod rhywfaint o waith da wedi'i wneud yn y pwyllgor hwnnw wrth archwilio cynhyrchu dur yng Nghymru. Rhai cyfleoedd, ie, ond hefyd o ran gweld yr heriau maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Ysgrifennydd Cabinet, fe wnaethoch chi grybwyll rhai o'r rheini ynghylch capasiti'r grid, fel un enghraifft. Ond rwy'n credu bod angen ystyried adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wrth drafod dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru, oherwydd rwy'n credu bod ansawdd y gwaith hwnnw wir yn siarad drosto'i hun.

Ond tra bod y newidiadau hyn yn mynd rhagddyn nhw a'r gweithlu'n delio â phryder diswyddiadau, gadewch i ni ofyn i ni'n hunain beth mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi'i wneud i'w cefnogi. Dim. Pa gyllid y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i ddarparu i'r gweithwyr ym Mhort Talbot ers 2019? Dim. Beth mae'r Llywodraeth Lafur wedi cyfrannu at y bwrdd pontio a grëwyd i gefnogi gweithwyr a'r gymuned ehangach? Dim. A thra rydw i'n sôn am y pwnc hwn, dywedodd Prif Weinidog blaenorol Cymru ym mis Mawrth eleni fod yr Ysgrifennydd Gwladol, ac rwy'n dyfynnu,

'erioed wedi ymweld â Phort Talbot.'

Wel, dydy hynny ddim yn wir, mae arnaf i ofn. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi ymweld â Phort Talbot ddwywaith, ym mis Ebrill a mis Medi'r llynedd. A phan gynigiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru siarad â Phrif Weinidog Cymru, ni chafodd yr alwad honno ei hateb.

Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen am y pryderon na fydd gweithwyr sydd â sgiliau penodol yn gallu trosglwyddo'r sgiliau hynny i swyddi eraill heb ymgymryd â mwy o gymwysterau, oherwydd bod yr achrediad sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ar gyfer Tata yn unig. Nawr, mae'r Llywodraeth Lafur yn y fan yma yn aml wedi codi hynny, pan fo wedi cefnogi gweithwyr Tata—roedd hynny cyn 2019, fel rydw i wedi nodi—roedd hynny o ran hyfforddiant a datblygu sgiliau. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw pa sicrwydd a oedd yno fod gan y gefnogaeth, a roddwyd unwaith gan Lywodraeth Cymru, amodau penodol ynghlwm wrtho, gan olygu y byddai gan weithwyr gymwysterau cwbl drosglwyddadwy, neu a roddwyd cymorth blaenorol gan Lywodraeth Cymru heb unrhyw amodau?

Rydym ni'n croesawu'r £500 miliwn o gymorth gan Lywodraeth y DU, y byddai Tata wedi cau Port Talbot yn llwyr hebddo. Bydd gweithwyr dur yn cael eu cadw, ni fydd sgiliau'n cael eu colli, a bydd dur yn parhau i gael ei wneud yng Nghymru, ond nid fel y byddem wedi hoffi iddo fod o ran y cyfnod pontio hwnnw a gaiff ei grybwyll, rwy'n siŵr, yn nes ymlaen.

Rydym ni hefyd yn croesawu'r gronfa bontio gwerth £100 miliwn, y daw 80 y cant ohoni o Lywodraeth y DU, 20 y cant o Tata, a fydd yn mynd tuag at, fel y nododd yr Ysgrifennydd Cabinet, sgiliau a chyflogadwyedd, y gadwyn gyflenwi, twf busnes a busnesau newydd, cymorth iechyd meddwl a lles, ac adfywiad ehangach Port Talbot. Fe ddylem ni wir fanteisio ar y gronfa hon a'r gwaith y gallai ei gwneud, nid yn unig i'r rhai a ddiswyddwyd ond i'r gymuned ehangach hefyd. Felly, mae'n drueni, mae'n drueni mawr, rwy'n credu, bod y Llywodraeth Lafur hon wedi penderfynu peidio â chyfrannu'n ariannol i'r gronfa hon.

Ac mae Llafur yn honni—

18:30

Bydd yn rhan o fy nghyfraniad i, ond a ydych chi'n derbyn y ffaith fod—? Rydych chi wedi defnyddio 2019, fe af i yn ôl i 2016, os hoffech chi, a dweud wrthych chi fod Llywodraeth y DU wedi methu â gwneud unrhyw beth yn 2016 ar gyfer gweithwyr dur Cymru. Ond gadewch i ni siarad am y sefyllfa bresennol—. A ydych chi'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian mewn gwirionedd nawr? Mae arian ar gael, mae pobl yn ei ddefnyddio, o dan y cyfrifon ar gyfer manteisio ar ddysgu—y cyfrifon dysgu personol—oherwydd maen nhw wedi newid y meini prawf trothwy i weithwyr Tata a'r contractwyr er mwyn caniatáu iddyn nhw fanteisio ar hynny. Felly, mae arian ar gael heddiw i bobl ailhyfforddi, ailddatblygu, o dan y cyfrifon dysgu personol.

Fe allem ni fynd yn ôl i'r flwyddyn 2000 a chyn lleied a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU yn y flwyddyn 2000. Ond mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Aberafan yn ei wneud yn ddilys, ac fe wnaf i ystyried y sylw bod newidiadau wedi'u gwneud. Ond o ran y bwrdd pontio ei hun, a'r manylion penodol sy'n cyd-fynd â'r bwrdd pontio, faint o brofiad ac arbenigedd sydd ar y bwrdd pontio hwnnw—rwy'n credu mai dyna lle mae tristwch nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan fwy rhagweithiol o ran cyllid yn y bwrdd pontio hwnnw. Rwy'n ymwybodol iawn o'r amser, felly fe wnaf i, os caf i, barhau am ychydig, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am yr ymyrraeth gan yr Aelod dros Aberafan.

O ran beth fydd dewisiadau Llafur—a buom yn siarad am hyn, ac mae Aelodau blaenorol wedi siarad o'r blaen; gadewch i ni aros i weld beth ddaw yn sgil Llywodraeth Lafur y DU—beth fydd gan Lywodraeth Lafur i'w gynnig? Mae ganddyn nhw £3 biliwn ar gyfer rhaglen dur gwyrdd, ond mae hynny eisoes yn cyfateb ac yn cynnwys y £500 miliwn y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi'i ddyrannu i Bort Talbot. Felly, a oes mwy o arian yn dod o'r cynllun dur gwyrdd hwnnw gan Lafur? Efallai y clywn ni fwy am hynny gan Aelodau yma heddiw. Ond beth arall sy'n digwydd? Oherwydd does dim sicrwydd o gwbl y byddai Llywodraeth Lafur y DU—Llywodraeth Lafur arfaethedig, o bosib, gobeithio ddim, i'r DU—yn gwneud unrhyw beth gwahanol i'r hyn sydd wedi digwydd ar hyn o bryd. Ac efallai y bydd Aelodau yma y gall fod angen iddyn nhw dynnu eu geiriau'n ôl—efallai fy mod yn un ohonyn nhw—ond rwy'n hapus i gael fy nghywiro. Nid wyf yn gweld unrhyw gysylltiad yn y fan yna yn hynny o beth.

Rydw i yn credu bod dyfodol cadarnhaol i greu dur yng Nghymru. Rwy'n credu bod cyfle i wneud dur yng Nghymru. Rydym ni wedi crybwyll y porthladd rhydd Celtaidd, rydym ni wedi crybwyll y cyfleoedd ynghylch seilwaith. Rwy'n credu bod caffael hefyd yn rhywbeth y gallwn ni geisio ei archwilio, ac, yn amlwg, y cyfleoedd o ran ffermydd gwynt arnofiol ar y môr. Ond o ran y penderfyniadau a wneir gan y Senedd hon, a'r Llywodraeth hon yn benodol, rwy'n credu y bydd Aelodau clwstwr diwydiannol de Cymru, ac ardaloedd ar hyd coridor de Cymru, yn deall bod y Llywodraeth Geidwadol wedi rhoi eu llaw yn eu poced, ac nid yw Llafur Cymru yma yn y Senedd wedi gwneud hynny. Diolch, Llywydd.

18:35

Galwaf ar Luke Fletcher nawr i gynnig gwelliannau 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Luke Fletcher.

Gwelliant 3—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Tata wedi gwrthod cynllun aml-undeb a fyddai wedi diogelu swyddi ac wedi cadw un o'r ffwrneisi chwyth ar agor yng ngwaith dur Port Talbot.

Gwelliant 4—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch sut y byddai'r cynllun gwerth £3 biliwn gan Lafur y DU ar gyfer dur yn amddiffyn swyddi ac yn cefnogi datgarboneiddio yng ngwaith dur Port Talbot.

Gwelliant 5—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i gymryd y camau angenrheidiol i ddod â gwaith dur Port Talbot i berchnogaeth gyhoeddus.

Gwelliant 6—Heledd Fychan

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn absenoldeb cynllun gan Lywodraeth y DU, i archwilio opsiynau deddfwriaethol ar gyfer prynu'r ffwrneisi chwyth yn orfodol ym Mhort Talbot, ynghyd â'r potensial o greu cwmni dur cydweithredol Cymreig.

Cynigiwyd gwelliannau 3, 4, 5 a 6.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Dechreuaf drwy ddweud bod Plaid Cymru yn cefnogi'r hyn a nodir yn y cynnig gwreiddiol. Yn hyn o beth, rydym ni'n glir bod dyfodol ar gyfer gwneud dur sylfaenol yng Nghymru ac y dylid cefnogi ein gweithwyr dur, ond mae hyn, a dweud y gwir, yn datgan yr amlwg. Nid yw'r cynnig gwreiddiol yn ein galluogi i gymryd y camau y mae angen i ni eu cymryd i sicrhau bod dyfodol i ddur yng Nghymru. Heb amlinellu'r rhain, ni fyddai fawr ddiben pasio'r cynnig.

Daw'r ddadl hon ar yr unfed awr ar ddeg, gyda'r disgwyl y bydd y ffwrnais chwyth gyntaf yn cael ei chau y mis yma. Er gwaethaf hyn, mae testun gwreiddiol y cynnig bron yn union yr un fath â'r un a drafodwyd gennym ni yn ôl ym mis Chwefror. Nid yw'r cynnig fel y'i cyflwynwyd yn condemnio penderfyniad Tata, ac nid yw'n nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy disglair. Mae'n dweud yn syml ein bod yn credu y dylai fod dyfodol, heb unrhyw gamau penodol wedi'u hamlinellu ar y llwybr tuag ato. Ar adeg pan fo gweithwyr yn y cymunedau yn ysu am weithredu, mae angen i ni wneud mwy nag ailddatgan yr hyn a ddywedwyd eisoes. Mae angen i ni symud y ddadl hon ymlaen oherwydd fel, y mae'n rhaid i mi ddweud, yr ydw i a fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi bod yn ceisio ei wneud ers misoedd.

Byddaf yn dweud fy mod yn anghytuno â'r ffordd y mae'r holl ddadl wedi'i nodweddu gan y Torïaid. Mae'r un hen gân nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu'n ariannol at Tata yn ddim ond yn rhan o'r darlun, onid ydyw? Er tegwch i'r Llywodraeth Lafur, yn ôl yn 2016, fel y nododd Dai Rees, ac er tegwch, mewn gwirionedd, i Carwyn Jones—rydym ni i gyd wedi clywed y straeon amdano yn gwersylla y tu allan i'r swyddfeydd ym Mumbai—ni fyddai Tata yma oni bai am yr hyn a wnaed yn ôl bryd hynny. Byddwn hefyd yn dweud ei bod hi'n anodd gwybod ble y gallwch chi wneud lle i gefnogaeth os nad ydych chi'n rhan o'r sgyrsiau cychwynnol ynghylch sefydlu'r bwrdd pontio, ac nad ydych chi'n derbyn y data cywir chwaith gan Tata.

Mae Llywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan yn rhannu cyfran enfawr o'r bai ynghylch pam fod pethau fel y maen nhw. Dydyn nhw ddim wedi dangos gweledigaeth wrth amlinellu sut ddyfodol allai fod i ddur ac, yn ehangach, i'r sector diwydiannol, a gyda wynebau syth, mae Gweinidogion Ceidwadol wedi sefyll i ddweud bod pecyn gwerth £500 miliwn i Tata yn gyfnewid am golli 9,500 o swyddi yn drafodiad teg. Fuon nhw ddim yn ddigon dewr i gymryd rheolaeth o'r sefyllfa a chreu llwybr newydd—llwybr sy'n annibynnol ar sefydliad rhyngwladol sy'n hidio dim am y cymunedau sy'n dibynnu arno.

Rydym ni wedi clywed gan y Ceidwadwyr nad dyma beth fydden nhw wedi hoffi digwydd, felly pam derbyn mai dyma ddiwedd y gân? Yn anffodus, mae'n ymwneud â'r diffyg dewrder y mae Llafur a'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi bod mewn perygl o'i adlewyrchu. Dyma gyfle i nodi beth yn union a olygir gan y £3 biliwn ar gyfer dur. Hyd yn hyn, does neb wedi gallu dweud wrtha i'n union faint o hynny fydd yn mynd i Bort Talbot yn uniongyrchol. Dyma gyfle i ddangos ffordd ymlaen, sut y gall y Senedd hon ymyrryd yn ystyrlon. Dyma gyfle i fyw'r broffes ein bod ni'n gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Rwy'n glynu wrth yr hyn yr ydw i wedi'i ddweud erioed. Pam ddylen ni ganiatáu i gwmni rhyngwladol hanner ffordd rownd y byd bennu dyfodol ein cymunedau? Fydd Tata ddim yn newid eu meddwl, maen nhw wedi gwneud hynny'n glir—hyd yn oed os oes newid yn y Llywodraeth. Felly, pam ddylem ni barhau i syllu i waelod pydew amddifadedd ôl-ddiwydiannol sy'n bygwth ein llyncu ni eto?

Cymerwch reolaeth. Cenedlaetholwch y safle ym Mhort Talbot. Gadewch i ni wneud y buddsoddiadau ein hunain, gadewch i ni osod y cyfeiriad strategol ein hunain a gadewch i ni adennill rhywfaint o urddas. Oherwydd ar hyn o bryd, mae ein cymunedau'n edrych atom ni am arweinyddiaeth, ac rwy'n ofni y byddwn ni wedi eu methu os bydd y cynnig hwn yn pasio heb unrhyw welliannau. Dyw e ddim fel pe na bai cynllun yn barod i fynd, mae'r undebau eisoes wedi gwneud y gwaith.

Dydw i ddim yn credu y byddai unrhyw un ohonom ni yma eisiau edrych yn ôl ar yr adeg yma a meddwl tybed a allai un peth neu'r llall fod wedi gweithio. Nawr, y sawl sy'n mentro sy'n ennill. Wel, dylai'r Llywodraeth fentro. Gadewch i ni wthio am wladoli safle Tata. Os na lwyddwn ni â hynny, gadewch i ni edrych ar sut y gallwn ni warchod ei asedau yno, er mwyn sicrhau dyfodol ar gyfer gwneud dur sylfaenol yng Nghymru. A gadewch i ni greu llwybr at ddyfodol newydd i'n gweithwyr a'u cymunedau.

18:40

A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno hyn? Mae'n ddadl bwysig yr ydym ni wedi ei thrafod. Oherwydd fel rydych chi eisoes wedi nodi—mae tri pherson eisoes wedi dweud—bydd ffwrnais chwyth Rhif 5 yn cau y mis hwn, ffwrnais chwyth Rhif 4 ym mis Medi. Nawr, rwy'n cofio, mewn gwirionedd, y ffrwydrad yn Rhif 5, lle collodd tri dyn eu bywydau. Roedd hynny 20 mlynedd yn ôl, ac mae wedi cael ei hailadeiladu. Felly, rydym ni'n deall yr amserlen ar gyfer Rhif 5.

Mae'n ymwneud â chreu dur. Mae'n ymwneud â'r diwydiant. Mae'r DU wedi bod yn cynhyrchu dur mewn gwirionedd, ac mae'n un o'n hasedau sofran. Mae'n ddiwydiant sylfaenol. Mae'n gwneud dur ym mhopeth rydym ni'n ei ddefnyddio. Sawl un ohonom ni gododd y bore yma a defnyddio'r microdon ar gyfer ein brecwast, neu'r tostiwr? Gyrrodd yma yn ein car? Daeth yma ar y trên? Daeth ar gefn beic, o bosib? Agorodd yr oergell, estynnodd y llaeth ar gyfer eu Weetabix y bore yma. Mae'r dur rydym ni'n ei ddefnyddio bob dydd yma. Fe wnaed rhywfaint o hynny, mewn gwirionedd, ym Mhort Talbot. P'un a oes gennych chi duniau o ffa pob, neu fe wnes i fwydo fy nghi y bore yma gyda thun. Oedd hynny'n dod o Bort Talbot? Dydyn ni ddim yn gwybod, ond dyma'r dur rydym ni'n ei ddefnyddio.

Mae'n ddiwydiant sylfaenol. Mae'n adeiladu ein sylfaen gweithgynhyrchu. Ac eto rydym ni yma yn trafod beth sy'n digwydd i'r diwydiant hwnnw. Ei fod yn mynd i ddiflannu. Ni fyddwn yn gwneud dur sylfaenol yma. Byddwn yn cael gwared ohono, neu bydd Tata yn cael gwared ohono, ac yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi eu cefnogi i wneud hynny drwy roi £500 miliwn heb unrhyw amodau arno i sicrhau bod trosglwyddo i fathau eraill o wneud dur sylfaenol.

Fe allwch chi ddefnyddio dulliau gwyrdd i wneud dur sylfaenol. Mae'n siom nad oedd llywodraeth y DU hyd yn oed wedi meddwl am y peth. Ac fe gymerodd hi iddyn nhw—beth? Fe wnaethon ni blagio a phwyso am sawl blwyddyn i gael rhyw fath o fargen i'r sector dur, neu hyd yn oed strategaeth ar ddur? A phan wnaethan nhw'n cyflwyno hynny, eu strategaeth yw £500 miliwn, cael gwared ar y ffwrneisi chwyth. Dyna ni.

Felly, p'un a ydym ni'n byw mewn byd geowleidyddol ai peidio, rydym ni'n agored i niwed os nad yw dur sylfaenol yn cael ei wneud yn y wlad hon. Ac felly mae Port Talbot yn dod yn gyfrannwr hanfodol i'r sector hwnnw. Ond nid dim ond dur ar gyfer ein dinas. Mae'n fwy na hynny, oherwydd bu'n rhan o deuluoedd yn ein tref ers cenedlaethau. Ac rwy'n mynd i ysgolion ac rwy'n gweld plant sydd eisiau ymgyrraedd at yr hyn y mae eu rhieni'n ei wneud yn eu bywydau gwaith, neu'r hyn a wnaeth eu neiniau a theidiau, boed hynny yng ngwaith dur Port Talbot neu yn y diwydiannau sy'n gwasanaethu gwaith dur Port Talbot. Maen nhw'n ei weld. Ac fel y dywedodd un o'n swyddogion undeb cymunedol yn y gynhadledd ychydig flynyddoedd yn ôl, mae dur yn ein DNA. Mae'n rhan ohonom ni.

Nawr, mae yna ddewis arall. Rydym ni wedi trafod hyn o'r blaen. Mae'r undebau llafur dur, fel yr amlygwyd, wedi cyflwyno'r cynllun Syndex hwn. Nid eu cynllun nhw, gyda llaw—cynllun arbenigwyr yw e. Fe wnaethon nhw ei gyflwyno ac mae wedi cael ei wrthod, ac mae'n drueni bod Tata wedi ei wrthod felly, oherwydd fe weithiodd. Goroesodd y ffwrneisi chwyth; byddai rhif 4 yn parhau i weithio wrth iddyn nhw adeiladu ffwrnais arc drydan. Gyda llaw, y ffwrnais arc drydan maen nhw'n sôn amdani fyddai'r un fwyaf a adeiladwyd erioed. Nid yw'r rhan fwyaf o leoedd eraill yn adeiladu ffwrneisi arc drydan 3 miliwn tunnell, maen nhw'n adeiladu ffwrneisi arc drydan 1.5 miliwn tunnell, i weithio gyda ffwrneisi chwyth. Ac mae Tata yn adeiladu ffwrneisi chwyth yn India. Mae'r Almaen yn adeiladu ffwrneisi chwyth. Mae'n ymddangos yn rhyfedd nad ydym ni'n gwneud hynny, ein bod ni'n cael gwared arnyn nhw, a byddwn yn dibynnu ar ddur wedi'i fewnforio ar gyfer ein tuniau a'n ceir a'n microdonnau.

Ond ynghyd â gweithwyr dur, mae angen i ni dderbyn newid. Mae'n dod. Dydyn ni ddim yn gwadu hynny. Ond mae'n ymwneud â sut rydym ni'n sicrhau bod y newid hwnnw'n digwydd, sut rydym ni'n trosglwyddo i broses y cyfeiriad gwyrdd. A dyna beth y dylid ei gofleidio. A gobeithiaf y bydd unrhyw lywodraeth newydd—ac rwy'n gobeithio mai llywodraeth goch fydd hi, ond gallai fod yn unrhyw lywodraeth newydd—yn achub ar y cyfle i ddweud, 'I ddweud y gwir, gadewch i ni ei newid'. Gadewch i ni weithio gyda'n cymunedau. Gadewch i ni gael y bobl rydym ni'n eu rhoi ar y clwt, rydym ni'n eu hamddifadu o gyfleoedd, plant sy'n gweld eu gobaith yn diflannu—gadewch i ni roi rhywbeth yno iddyn nhw, gadewch i ni achub ar y cyfleoedd hynny i wneud hynny. Ac rwy'n gobeithiaf y bydd Llywodraeth newydd y DU yn gwneud hynny mewn gwirionedd.

Nawr, y cwestiwn ynghylch £3 biliwn. Gadewch i ni fod yn onest am hynny. Dydyn ni ddim yn gwybod ble y caiff ei wario, ond rydym ni yn gwybod bod yna ffigwr yna. Ni fu erioed ffigwr gyda'r Llywodraethau blaenorol. Ac mae'n rhaid i chi hefyd drafod ble mae'r ffigwr hwnnw'n cael ei wario a sut mae'n cael ei ddefnyddio i adeiladu economi dur gwyrdd mewn gwirionedd. Pa elfennau mae arnoch chi eisiau canolbwyntio arnyn nhw? Pa elfennau allwch chi annog diwydiannau eraill i ymrwymo a chyfrannu eu refeniw atyn nhw? Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwybod bod yna arian, ac rydym ni'n gwybod y bydd trafodaeth o ran sut i wario'r arian yna.

Yr agwedd arall rydym ni wedi sôn amdani—rwy'n mynd i barhau; mae gen i ychydig o amser. Ynglŷn â'r gwelliannau a gafodd eu cyflwyno—. Gwelliannau'r Ceidwadwyr. Mae'n ddrwg gen i, ond, cyn yr hyn rydym ni wedi'i weld mewn blynyddoedd blaenorol, dyweder MacGregor, 2016, pan wnaethoch chi ddim—mae'n ddrwg gen i, alla i ddim gwrando ar y trafodaethau hynny. Ac rwy'n derbyn yr hyn rydych chi'n ei ddweud—. Rhif 3, rwy'n derbyn gwelliant 3 yn llwyr. Rhif 4, mae eglurder yn iawn, mae angen i ni ei gael, ond Rhif 5 a Rhif 6, rwy'n gwrando. Rwy'n awyddus i wrando, ond mae cymaint o bethau ymarferol. Prynu ffwrneisi chwyth yn orfodol—beth mae hynny'n ei olygu? Pwy fydd yn cael ei gyflogi i wneud hynny? Ydych chi'n mynd i gyflogi pobl? Sut mae'n mynd i drosglwyddo deunyddiau crai mewn gwirionedd os ydych chi'n mynd i'w gadw i fynd? Lle mae'r dur yn mynd i fynd os ydych chi'n ei gadw i fynd? Os ydych chi'n ei gau, sut y caiff ei reoli? Lle bydd yn aros? Sut fyddwch chi'n ei weithredu? Sut ydych chi'n cael mynediad iddo, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw'r tir o'i gwmpas yn hygyrch?

Felly, mae llawer o bethau ymarferol yma. Penawdau gwych, ond beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i bobl y dref, i'r bobl yn y gwaith i weld mewn gwirionedd sut y gall weithio? Ac os oes arnoch chi eisiau rhoi'r gorau i'w ddefnyddio, dyna maen nhw'n ei wneud nawr. Felly, nid yw'n wahanol i'r hyn y mae Tata yn ei gynnig, dim ond ei gau a rhoi'r gorau i'w ddefnyddio. Felly, mae hi yn bwysig, beth yw'r bargeinion yno, a chyda'r—. Cenedlaetholi, fe aethoch chi a fi ein dau, Luke, i'r sgwrs ar wladoli. Fe gyflwynodd wladoli dros dro dim ond i'w gadw i fynd dros dro nes ein bod ni mewn gwirionedd yn cael rhywun i'w gefnogi, ond, y buddsoddiad sydd ei angen i wneud hynny i gyd, o ble y daw hynny? Oherwydd, gadewch i ni fod yn onest, does gennym ni ddim hynny yn y Llywodraeth hon, yn y Senedd hon. Nid dim ond y £3 biliwn rydym ni'n sôn amdano; mae angen buddsoddiad ar y cyd arnom ni yn yr achos hwnnw, felly os ydych chi'n mynd i siarad am wladoli, sut ydych chi'n mynd i ariannu'r gwladoli? Sut fyddwch chi'n cael y marchnadoedd? Pwy sy'n mynd i'w reoli? Sut y bydd yn cael ei gyflawni? Oherwydd rydych chi ym myd busnes, nid byd gwasanaeth cyhoeddus. Felly, mae llawer o gwestiynau yr hoffwn i glywed atebion iddyn nhw ynghylch y pwyntiau hynny nad ydw i wedi'u clywed eto.

Mae amser wedi mynd yn drech na fi, Llywydd; rydw i'n mynd i dewi. Ond un peth. Mae pobl Port Talbot eisiau gweld y Llywodraeth hon yn ymladd drostyn nhw. Maen nhw eisiau ein gweld ni'n gweithio iddyn nhw. Maen nhw eisiau gweld Llywodraeth y DU yn gwneud hynny. A dyna pam, yn fy marn i, mae'n rhaid i ni newid y Llywodraeth, oherwydd nid yw'r Llywodraethau blaenorol wedi gwneud hynny. 

18:45

Ym mhob datganiad a dadl a gawn ni ynghylch Tata—ac rydym ni wedi cael cryn dipyn ohonyn nhw, fel y crybwyllodd yr Aelodau—rydym ni bob amser yn clywed Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at y gwahaniaeth y gallai Llywodraeth Lafur San Steffan ei wneud i ddyfodol y ffatri ym Mhort Talbot a thynged y miloedd o'i gweithwyr, ac nid oedd heddiw yn eithriad. Ac, wrth gwrs, fe glywsom ni Keir Starmer yn dweud pan oedd yng Nghymru yr wythnos diwethaf y byddai'n ymladd dros bob un swydd ac am ddyfodol dur yng Nghymru. Ond doedd dim manylion ynghylch beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, ac fe wnaethoch chi ofyn nifer o gwestiynau, David Rees. Wel, mi fuaswn i'n dweud mai Llywodraeth Cymru a Keir Starmer yw'r bobl sydd angen gweithio ac a ddylai fod wedi bod yn gweithio ar yr atebion i'r cwestiynau hynny, oherwydd tynnodd y gohebwyr gwleidyddol a oedd yn adrodd ar ymweliad Keir Starmer sylw at hyn. Roedd Gareth Lewis o BBC Cymru ymhlith y rhai a ddywedodd am y datganiad nad oes neb yn hollol siŵr beth mae'n ei olygu, ac o'r gronfa ddur hon gwerth £3 biliwn, beth yn union maen nhw'n mynd i'w wneud â hi, gofynnodd Gareth Lewis. Ac felly, i mi, y cwestiwn sydd wir angen ei ateb heddiw, er y dylid bod wedi ei ateb, efallai, fisoedd yn ôl, yw: beth yw'r cynllun?

Nid yw Tata wedi nodi bod ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb mewn cadw'r ffwrneisi chwyth ar agor, hyd yn oed os bydd Llafur yn ennill yr etholiad hwn ac mewn Llywodraeth erbyn mis Gorffennaf. Felly, beth yn union fydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn ei wneud i argyhoeddi Tata i newid eu meddyliau? Beth yw'r fargen a fydd yn cadw'r ffwrneisi chwyth ynghyn? Neu oes yna gynllun arall, fel y mae ein gwelliannau'n ei wneud yn glir ac yn ei amlinellu? A wnaiff Keir Starmer weithredu ar y galwadau hyn i wladoli gwaith dur Port Talbot dros dro? Yr holl syniadau y mae Adam Price a Luke Fletcher wedi cyfrannu at y ddadl hon dros fisoedd lawer.

Beth fydd yn newid? Oherwydd mae'r gweithwyr, eu teuluoedd, eu cymunedau a'r holl fusnesau sy'n eu gwasanaethu, y clybiau a'r grwpiau sy'n dibynnu ar gymdeithas a bywyd cymdeithasol yn yr ardal hon, maen nhw wir yn haeddu mwy na sylwadau bachog. Mae angen mwy na geiriau cysurus arnyn nhw. Rydym ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn hynny o beth. Fel y dywedais, rydym ni wedi nodi ffyrdd y gellid diogelu swyddi a dur Cymru yng Nghymru, ond gallai'r camau hynny gael eu cefnogi a'u hyrwyddo gan Lywodraeth Lafur yn San Steffan yn gynharach na'r disgwyl. Felly, mae angen cynllunio, gweithredu a manylion arnom ni—oes, yn wir. Pa drafod sy'n digwydd gyda Tata? Gwaith y Llywodraeth yw trafod y pethau hyn, edrych ar y posibiliadau, ateb y cwestiynau, gwneud y modelu. Mae'n siomedig bod Tata wedi gwrthod cynllun yr undebau, ond allwn ni ddim anobeithio, allwn ni ddim dweud, 'Dyna drueni.' Mae cwestiynau yma y mae angen i'r Llywodraeth hon a'r Llywodraeth Lafur newydd a ddaw i San Steffan eu hateb.

18:50

Fel rhywun a arferai weithio yn y ganolfan ymchwil ym Mhort Talbot cyn MacGregor, a phan oedd dan berchnogaeth gyhoeddus, mae gen i rai sylwadau yr hoffwn i eu gwneud.

Ar hyn o bryd mae gwaith dur Port Talbot yn waith cynhyrchu dur integredig, sy'n gallu cynhyrchu bron i 5 miliwn tunnell o slabiau dur y flwyddyn o fwyn haearn. Mae 'integredig' yn golygu eich bod yn rhoi'r mwyn haearn a'r golosg i mewn, a'ch bod yn anfon allan y dur wedi'i rolio'n oer. Felly, mae popeth yn cael ei wneud ar yr un safle. Dyma'r mwyaf o'r ddau waith dur mawr yn y DU. Mae dros 4,000 o bobl yn gweithio yn y gwaith ar hyn o bryd, mae'n debyg bod yr un nifer eto yn gweithio i gontractwyr, ac mae'n debyg bod yr un nifer eto yn dibynnu ar y gwaith. Mae'r slab yn cael ei rolio naill ai ar y safle ym Mhort Talbot neu'n cael ei gludo i Lanwern i wneud cynhyrchion o stribedi dur. Mae angen i haearn sy'n dod i mewn i Bort Talbot, haearn ocsid, gael ei echdynnu o'r mwyn mewn ffwrnais chwyth. Rhaid tynnu'r ocsigen o'r ocsid haearn er mwyn gadael yr haearn. Dyna wneud yr haearn; nid gwneud dur—gwneir dur yn ddiweddarach yn y broses, yn y gwaith dur ocsigen sylfaenol. Yna symudir i gynhyrchu dur. Gellir rhannu prosesau gwneud dur modern yn dri cham: sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Mae gwneud dur sylfaenol yn cynnwys mwyndoddi haearn i ffurfio dur. Mae gwneud dur eilaidd yn cynnwys ychwanegu neu dynnu elfennau eraill, megis asiantau aloi a nwyon toddedig. Mae gwneud dur trydyddol yn golygu castio i ddalen, rholiau neu ffurfiau eraill.

Gyda ffwrnais arc drydan, rydych chi i bob pwrpas yn ailgylchu dur a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Ffwrnais sy'n cynhesu dur trwy ddefnyddio arc drydan yw ffwrnais arc drydan, sy'n egluro'r enw. Er mwyn cynhyrchu tunnell o ddur mewn ffwrnais arc drydan mae angen tua 400 kWh y dunnell. Mae dwy brif broblem gyda ffwrneisi arc drydan. Y gyntaf yw cost trydan. Yn 2021, bu i ArcelorMittal roi'r gorau i gynhyrchu dros dro yn rhai o'i ffatrïoedd ar yr oriau brig, wrth i gostau ynni anferthol daro gwneuthurwr dur mwyaf Ewrop. Mae hynny wedi digwydd gyda llawer o bobl eraill sy'n defnyddio ffwrneisi arc drydan, pan fyddan nhw'n darganfod bod y gost o ddefnyddio trydan yn anghystadleuol. Dywedodd y cwmni fod yr oedi yn cyd-fynd â'r newidiadau beunyddiol fesul awr ym mhrisiau trydan, gan ychwanegu eu bod mewn ymateb i'r prisiau ynni uchel, oedd yn ei gwneud hi'n heriol iawn i gynhyrchu dur am bris economaidd.

Yn 2019, yn ôl Cymdeithas Dur y Byd, roedd dros 3,500 o raddau gwahanol o ddur, gan gwmpasu priodweddau ffisegol, cemegol ac amgylcheddol unigryw. Yn llawer rhy aml, rydym ni'n defnyddio'r gair 'dur' yn yr un modd ag yr ydym ni'n defnyddio'r gair 'plastig', fel petai'n un peth. Mae'n gyfres o wahanol eitemau. Mae cynnwys carbon dur yn amrywio o 0.1 y cant i 1.5 y cant, ond mae'r rhan fwyaf yn cynnwys rhwng 0.1 y cant a 0.25 y cant o garbon. Mae pedwar prif fath o ddur, sef dur carbon, dur aloi, dur di-staen, dur offer, ac mae gennym ni ddur trydanol, yr oedd yr hen waith yn arfer gweithio arno cyn iddo gau, yn anffodus. Er bod duroedd carbon yn cynnwys symiau bychain iawn o elfennau aloi, ac yn cyfrif am 90 y cant o gyfanswm y dur a gynhyrchir, gellir eu categoreiddio ymhellach i dduroedd carbon isel, duroedd carbon canolig, a duroedd carbon uchel. O hyn, mae'n amlwg na fydd casglu dur a'i doddi yn gweithio. Bydd angen ei raddio i fathau o ddur.

Er mwyn prynu'r ffwrneisi chwyth yn orfodol, yn gyntaf, mae angen i Lywodraeth Cymru geisio negodi i'w prynu. Pam na fyddai Tata eisiau eu trosglwyddo i rywun arall, oherwydd, pan fydd gwneud haearn a dur yn dod i ben, byddant yn faich? Oni bai bod gennych chi ffatri gwneud dur i anfon y mwyn haearn iddo, yna nid yw ffwrnais chwyth o unrhyw ddefnydd. Ym mis Ionawr eleni, cafodd ffwrnais chwyth Saltzgitter A ei thanio yn dilyn moderneiddio llwyr, a barodd ychydig dros 100 diwrnod. Wrth i'r gwaith o leinio'r ffwrnais chwyth yn llwyr ddod i ben, cymerodd grŵp Saltzgitter gam gweithredol allweddol ymlaen, gan sicrhau ei gyflenwad haearn bwrw wrth iddo drawsnewid tuag at gynhyrchu dur carbon deuocsid isel erbyn 2033. Yn ystod y cyfnod adeiladu, cafodd ffwrnais chwyth A ei hail-leinio'n llwyr. Ymhlith pethau eraill, adnewyddwyd y leinin anhydrin, gyda 3,000 o dunelli o frics carbon a deunydd anhydrin arall. Moderneiddiwyd y broses gymhleth a'r dechnoleg reoli hefyd; buddsoddwyd ychydig dros €100 miliwn yn yr ail-leinio a'r uwchraddio. Pam y gall grŵp Saltzgitter uwchraddio eu ffwrnais chwyth ac na all Tata uwchraddio? Pam, ledled gweddill y byd, fod gan bobl ffwrneisi chwyth sy'n dod yn ffwrneisi chwyth carbon isel? Ac er nad yw'n dechnoleg sydd wedi'i phrofi'n llawn, mae'r defnydd o hydrogen, yn hytrach na charbon, i leihau'r ocsid haearn i haearn yn ymarferol, ac rwy'n credu ei fod yn gyfeiriad yr hoffwn ein gweld yn mynd iddo. Dydw i ddim yn credu bod dyfodol i ffwrneisi arc drydan; rwy'n credu mai dim ond cam 1 o'r broses gau yw hynny. Ac rwy'n credu bod angen i ni gadw'r ffwrnais chwyth, mae angen i ni barhau i wneud haearn a dur, ac rwy'n credu, beth bynnag a wnawn ni, y gallai fod angen i ni, unwaith eto, ddod â'r gwaith yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, fel yr oedd pan oeddwn i'n gweithio yno, er y bydd y bobl a oedd yn gweithio yno bryd hynny yn dweud nad oedd y dyddiau hynny'n fêl i gyd.

18:55

Mae angen i ni droi 'achub ein dur' o fod yn slogan i fod yn gynllun, onid oes, a dim ond dyddiau, wythnosau o bosib, sydd gennym ni i wneud hynny. Felly, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd, ac mae'n rhaid defnyddio adnoddau'r Llywodraeth nawr, oherwydd dim ond Llywodraeth, yn y pen draw, sydd â'r gallu, gan weithio gyda'r undebau, i gyflwyno cynllun mewn gwirionedd. Ac rydym ni wedi gweld, onid ydym ni, yn y datganiadau yn ystod y dyddiau diwethaf, yr haerllugrwydd llwyr gan Tata. Nawr mae'n rhaid i ni ymateb i'r haerllugrwydd hwnnw gyda phendantrwydd cadarn. Edrychwch ar yr hyn y mae'r Prif Swyddog Gweithredol, Rajesh Nair, wedi'i ddweud yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf: (a) eu bod wedi tynnu'r cynnig oddi ar y bwrdd nawr, o ran y taliadau diswyddo i'r gweithwyr, oherwydd bod y gweithwyr wedi bod mor hy â defnyddio eu pleidlais ddemocrataidd drwy undeb llafur i bleidleisio mewn gwirionedd i amddiffyn eu cymunedau a'u swyddi. Ac felly mae Tata wedi dweud, 'Wel, dydyn ni ddim yn rhoi hynny i chi mwyach.' Ond nid yn unig hynny, maen nhw wedi dweud eu bod nhw bellach yn

'adolygu a ddylem ni nawr gynllunio i gau ffwrnais chwyth 5 ynghynt',

sydd eisoes i fod i gau y mis hwn. A'r hyn maen nhw'n ei ddweud yw, 'Edrychwch, rydym ni'n mynd i wneud pethau yn gyflymach, yn ystod y dyddiau nesaf.' Felly, mae angen i ni weithredu. Mae angen i ni weithredu nawr. Nawr, mae'n debyg, y bydd gennym ni, bron yn sicr—newid Llywodraeth yn San Steffan ymhen pedair wythnos, felly dyna'r bwlch, iawn, ac mae'n rhaid i ni lenwi'r bwlch hwnnw. Mae'n rhaid i ni amddiffyn y diwydiant dur yng Nghymru am y pedair wythnos nesaf. Dydyn ni ddim yn mynd i gael unrhyw help gan San Steffan yn y cyfamser; mae'r Senedd yno wedi ei diddymu. Dyma'r unig Senedd i Gymru ar hyn o bryd, a dyma'r unig un sy'n gallu gweithredu. Ac mae gennym ni'r pwerau. Mae gennym ni'r pwerau. Rydym ni wedi gwirio. Bydd cyfreithwyr y Llywodraeth yn dweud yr un peth, heb os, â chyfreithwyr y Senedd: mae gennym ni'r pwerau i gyflwyno deddfwriaeth frys, gan ddefnyddio ein Rheolau Sefydlog—bydd y Dirprwy Lywydd yn gwybod y dull. Gellir ei wneud mewn dyddiau. Gellid ei wneud mewn dyddiau i gyflwyno Bil byr a fydd yn gosod gorchymyn prynu gorfodol ar y ffwrneisi chwyth hynny a'r agweddau gwaith trwm.

Nawr, Dai Rees, rydych chi'n hollol gywir. Y peth tyngedfennol yma yw dull y digomisiynu a, wyddoch chi, mae yna ddwsinau o wahanol ffyrdd y gellir digomisiynu ffwrnais chwyth, gellir ei diffodd, ac mae rhai ohonyn nhw'n caniatáu i chi—. Oherwydd weithiau does dim o'u hangen, o ran weithiau rydych chi'n rheoli'r galw, ac ati, felly mae hyn yn digwydd. Weithiau rydych chi'n gwneud hynny er mwyn ail-leinio. Weithiau mae yna ffyrdd rydych chi'n diffodd y ffwrnais er mwyn ei hailgychwyn, ac mae hynny wedi digwydd, yn wir, ym Mhort Talbot, onid ydyw? Mae wedi digwydd mewn llawer o weithfeydd dur ledled y byd. Ond mae yna ffyrdd eraill y gallwch chi ddigomisiynu ffwrnais chwyth, oherwydd rydych chi'n hollol glir bod cyfeiriad y teithio i un cyfeiriad yn unig, ac nid oes unrhyw ffordd yn ôl yn economaidd o hynny. A dyna beth sy'n rhaid i ni ei atal. Dyna'r cynllun sydd ei angen arnom ni, a'r hyn rwy'n ei awgrymu yw: gadewch i ni weithio gyda'r ymgynghorwyr a weithiodd gyda'r undebau, Syndex, i lunio cynllun sydd mewn gwirionedd yn pontio'r wythnosau nesaf. Rwy'n ildio.

Diolch i'r Aelod am ildio, ac rwy'n deall yn iawn beth rydych chi'n ei ddweud, y cynllun ynglŷn â digomisiynu. Rydych chi'n llygad eich lle: gall digomisiynu naill ai ei digomisiynu i gael ei hailddefnyddio neu ei digomisiynu i'w chau, i bob diben. Ond rwy'n dal i ofyn y cwestiwn—gorchymyn prynu gorfodol ar ffwrnais chwyth; rwy'n deall beth rydych chi'n ei ddweud—beth ydych chi'n ei wneud gyda'r ffwrnais chwyth? Pwy ydych chi'n ei gyflogi? Sut ydych chi'n cyflogi? Beth yw'r holl agweddau eraill hynny y mae angen i mi wybod amdanyn nhw? Rwy'n ceisio cael atebion ar gyfer yr agweddau hynny: sut y byddai'n gweithio ac yn cyflawni i'r bobl i sicrhau y gallwn ni ei diffodd ac felly bod mewn sefyllfa lle gellir ei hail-danio.

19:00

Bydd yn rhaid i ni greu cwmni, cwmni daliannol, a fydd yn rhedeg y ffwrnais chwyth a'r agweddau gwaith trwm cysylltiedig ar gyfer y cyfnod hwnnw ar yr isafswm sy'n angenrheidiol i gynnal yr ased, ac mae angen i ni weithio'n gyflym iawn, iawn—dros y dyddiau nesaf, yn ddelfrydol—i gyfrifo beth yw cost hynny, beth yn union—. Yr arbenigwyr gorau yw'r rhai rydych chi'n eu hadnabod, Dai—y bobl sy'n gweithio yno. Felly, mae atebion i'r holl gwestiynau hyn i'w cael o weithio gyda'r undebau a hefyd gyda chynghorwyr yr undebau, ymgynghorwyr Syndex sy'n arbenigwyr yn y diwydiant dur, i lunio cynllun ar gyfer cwmni daliannol dur o Gymru, o leiaf, wrth i ni ystyried sut olwg allai fod ar y dyfodol. Fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, credaf fod y dyfodol hirdymor mewn perchnogaeth gyhoeddus, er y dylid ystyried y syniad o gydweithfa ddur i Gymru hefyd yn rhan o hyn. Ond mae'n rhaid i'n cynllun uniongyrchol amddiffyn y safle rhag bwriad datganedig Tata, sef cael gwared arno, ei ddiffodd mewn ffordd na ellir byth ei hadfer. Mae gennym y pŵer cyfreithiol i atal hynny; gadewch i ni baratoi'r cynllun a chyflwyno'r ddeddfwriaeth honno ar lawr y Senedd.

Fel y soniodd David Rees gyda Phort Talbot, felly hefyd gyda Llanwern yng Nghasnewydd: mae hanes aruthrol o wneud dur sy'n atseinio heddiw, ac mae llawer o bobl yn dal i feddwl am Gasnewydd, i ryw raddau, fel tref ddur, neu ddinas, bellach.

Ar ddechrau'r 1960au, pan agorwyd Llanwern, roedd tua 13,000 o weithwyr a chontractwyr ar y safle a chrëwyd llawer iawn o gyfleusterau llety yn lleol i gartrefu'r gweithwyr hynny, ac adeiladwyd llawer o'r ystadau tai o amgylch Casnewydd o leiaf yn rhannol ar gyfer gweithwyr dur Llanwern. Roedd yn fodern iawn ac o'r radd flaenaf pan gafodd ei agor gyntaf ac yn integredig iawn, ac wrth gwrs mae wedi mynd trwy gyfres o newidiadau llym iawn ers hynny, gyda diwedd gwneud dur a chau agweddau eraill ar y gwaith yn rhannol ac ailddatblygu rhan o'r safle. Ond mae'n dal i fod yn gyflogwr mawr yn lleol yng Nghasnewydd, ac wrth gwrs yn arwyddocaol iawn ar gyfer cyflogaeth yn ardal ehangach de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd.

Felly, mae'r syniad y bydd tua 300 o swyddi yn mynd yn Llanwern ymhen ychydig flynyddoedd, fel y cynigiwyd o dan y cynlluniau presennol, yn amlwg yn newyddion drwg iawn, iawn yng Nghasnewydd a'r ardal ehangach. Mae gennym ni ran, y rhai ohonom ni sy'n wleidyddion lleol, i sicrhau bod Llanwern yn cael ei ystyried yn y darlun dur cyffredinol hwnnw yng Nghymru, oherwydd yn ddealladwy, wrth gwrs, mae yna ganolbwyntio enfawr ar Bort Talbot oherwydd nifer y swyddi yno, y capasiti yno, ac wrth gwrs sut mae Port Talbot wedi ei integreiddio â'r gweithfeydd dur eraill yng Nghymru, ond mae Llanwern, fel y dywedais, yn arwyddocaol iawn fel cyflogwr hefyd, ac fel gyda'r gweithfeydd dur eraill, nid yw'n ymwneud â'r rhai sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol yno yn unig; mae'r contractwyr, y gwariant yn yr economi leol, y cyflenwyr, yr holl faterion ehangach hynny. Ac mae oedran cyfartalog y gweithlu yn Llanwern yn llawer iau nag y mae pobl yn ei feddwl, yn y 30au cynnar, ac mae gennym ni gryn nifer o brentisiaid sydd wir eisiau dyfodol yn y diwydiant.

Pan fyddwch chi'n siarad â phobl—dim ond i adleisio eto beth mae David Rees ac eraill wedi'i ddweud—maen nhw wir yn dweud eu bod wedi'u syfrdanu gan agwedd Llywodraeth bresennol y DU wrth beidio â sylweddoli pwysigrwydd sylfaenol y diwydiant dur, o ran amddiffyn, er enghraifft, yn yr hyn rydym ni'n ei wybod sy'n fyd mor beryglus ac ansicr ar hyn o bryd; y pwysigrwydd ar gyfer seilwaith, yr ydym ni yn daer ei angen; ar gyfer ynni adnewyddadwy, gyda'i arwyddocâd ar gyfer y dyfodol; ar gyfer adeiladu ac ar gyfer gweithgynhyrchu. Mae pobl yn synnu'n fawr nad yw'n ymddangos bod digon o werthfawrogiad yn Llywodraeth y DU o bwysigrwydd strategol a sylfaenol ein diwydiant dur. Felly, wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni'n gobeithio amdano yn y mudiad Llafur, gan weithio gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur a'r gweithlu, yw y bydd gennym ni'r Llywodraeth Lafur newydd honno yn y DU yn fuan, gyda'r £3 biliwn hwnnw ar y bwrdd i'w ddefnyddio, gyda dull newydd iawn, agwedd wahanol iawn at bwysigrwydd gwneud dur a phwysigrwydd ein cymunedau dur.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud, pan oeddwn yn y digwyddiad yn y Fenni, siaradodd Keir Starmer yn gryf iawn, iawn ac yn angerddol iawn am y diwydiant dur a'r angen i ddiogelu'r swyddi hynny, yr angen i symud y diwydiant hwnnw ymlaen. Roedd ymrwymiad cryf iawn ac ymdeimlad cryf iawn o flaenoriaethu, ac roedd yn un o'r materion a bwysleisiodd yn fawr y tro hwnnw, ac rwy'n credu bod hynny'n argoeli'n dda i'r bartneriaeth y gallwn ni ei chael rhwng Llywodraeth Lafur yng Nghymru a Llywodraeth Lafur newydd yn y DU.

Mae'r undebau wedi gwneud llawer o waith gyda Syndex. Mae llawer iawn o fanylion. Mae yno ar y bwrdd i'w ddefnyddio. Oes, mae penderfyniadau wedi eu gwneud, ond mae amseru'r etholiad bellach wedi newid hyn, fel y mae eraill wedi sôn. Mae'n llawer cynt nag yr oedd bron pawb yn ei ddisgwyl, ac mae hynny'n rhoi cyfleoedd newydd i ni. Y cwestiwn yw: a fydd Tata, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd, yn manteisio ar y cyfleoedd hynny i ddeall gwahaniaeth dyddiad yr etholiad hwn ac ymrwymiad Llywodraeth Lafur newydd yn y DU? Nid yw'n rhy hwyr. Gobeithio y bydd synnwyr yn ennill y dydd.

19:05

Felly, rwy'n codi i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan Jane Hutt, ac yn sylfaenol, rwyf o'r farn bod y cynnig o bwysigrwydd dwys i'r DU a Chymru ccc, sef bod y Senedd hon yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru a'r llwybr at sero net. Ac rwy'n pwysleisio eto, nid yn unig i Gymru, ond i'r Deyrnas Unedig. A 'gweinyddiaeth ddatganoledig', 'DA', yw sut mae Cabinet y DU yn cyfeirio at Gymru, a gallaf ond dweud mor fychan, cyfyngedig a myopig yw safbwynt y Torïaid o Gymru a'r Deyrnas Unedig os nad ydynt am weld Cymru a'r DU yn cadw ei gallu craidd i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Lafur y DU yn buddsoddi yn ein diwydiant dur. Bydd yn sicrhau'r pontio teg i ddur gwyrdd, sy'n cael ei ysgogi gan sgiliau cryf a gwir dalent ac uchelgais anhygoel ein gweithwyr dur yng Nghymru. Yn wir, fel y dywedwyd, mae Llafur wedi clustnodi cyfanswm o £3 biliwn o fuddsoddiad dros bum mlynedd ar draws diwydiant dur y DU os cawn ein hethol. Bydd cronfa cyfoeth cenedlaethol Llafur y DU yn buddsoddi £2.5 biliwn ar ben y £500 miliwn pitw sydd wedi'i gynllunio gan y Llywodraeth mewn dur y DU yn ystod Senedd nesaf y DU, ac mae hynny'n sylweddol. Yn wir, mae buddsoddiadau hanesyddol bellach yn cael eu gwneud gan ein cystadleuwyr gwneud dur Ewropeaidd mewn dur gwyrdd, ond mae diffyg uchelgais cronig y Llywodraeth Dorïaidd i Brydain a'i diffyg affwysol o unrhyw strategaeth hirdymor wedi siomi miloedd o weithwyr medrus. Mae hefyd wedi siomi eu teuluoedd, ac yn y pen draw bydd yn arwain, os bydd hyn yn parhau, at Deyrnas Unedig llai diogel.

Mae cyflogaeth yn y diwydiant dur wedi bod yn hanfodol bwysig i gymunedau Islwyn dros y degawdau diwethaf, ac mae wedi chwarae rhan ganolog wrth dyfu economi Cymru a chodi safonau byw. Yn wir, yn Islwyn mae Tŷ Sign, a dyna'r ystad dai fwyaf yng nghyngor bwrdeistref Caerffili, a adeiladwyd ar ddechrau'r 1960au fel pentref o dai ar gyfer gwaith dur Llanwern. Mae'n gymuned falch a chryf, a dyma lle ganwyd tri o fy mhlant a lle y codais fy nheulu, ac rwy'n gwybod yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r diwydiant dur i gymunedau fel fy un i. Ac yn wir, mae safle Zodiac yn hanfodol i'r sector modurol hefyd.

Ond mae Llywodraeth Cymru, ar sawl achlysur, wedi egluro wrth y Ceidwadwyr Cymreig nad yw Tata wedi gofyn am unrhyw arian yn ffurfiol ers 2019. Dros gyfnod o flynyddoedd lawer, pan fo Tata wedi gwneud cais am gyllid, boed hynny ar gyfer sgiliau, ymchwil a datblygu, neu brosiectau amgylcheddol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ariannol, sy'n cyfateb i fwy na £17.5 miliwn ers 2009, ac mae'n cael ei gydnabod gan y busnes, gan yr undebau llafur dur a Llywodraeth y DU, fel mater o ffaith a synnwyr cyffredin, nad oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau na'r pwerau angenrheidiol a fyddai'n caniatáu iddi ymyrryd ar y raddfa sydd ei hangen ar gyfer y cyfnod pontio angenrheidiol. Ac mae hynny'n fater sylfaenol. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig y pot gwerth £500 miliwn i sicrhau'r cytundeb presennol gyda Tata Steel UK, ond mae'r swm hwn yn cyfateb i ddim ond 2.2 y cant o'r gyllideb flynyddol y gall Gweinidogion Cymru ei dyrannu'n uniongyrchol. Ac ar gyfer cyd-destun, nid yw 2.2 y cant o'r gyllideb flynyddol gyfatebol ar gyfer y DU y gall Gweinidogion alw arni werth hynny; mae'n werth £11 biliwn. Y cyd-destun hwnnw yw popeth.

Felly, o ystyried y rôl uchel ond anghymesur y mae diwydiant dur Cymru yn ei chwarae yn sector ehangach y DU, deallir yn dda, heblaw am sgorio pwyntiau gwleidyddol, fod y DU yn ei chyfanrwydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am yr ased sofran. Dyna pam mae'r etholiad cyffredinol sydd i ddod mor hanfodol i Gymru a'r Deyrnas Unedig. A bydd Llafur yn blaenoriaethu amddiffyn ein diwydiant dur ac ni fydd y Torïaid.   

19:10

Diolch, Llywydd. Wel, rydyn ni wedi clywed yn y ddadl heno farn gyffredin ar draws y Siambr fod dyfodol hyfyw ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru o fewn y cyfnod pontio hwnnw sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod honno'n neges glir y mae'r Senedd hon yn ei hanfon ar sail drawsbleidiol. Rydyn ni wedi clywed heddiw, yn arbennig, gan David Rees a John Griffiths, ond gan eraill hefyd, am ba mor eithriadol o anodd yw pethau ar hyn o bryd i weithwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â'r rhai hynny o fewn cymunedau lleol.

Rwyf eisiau mynd i'r afael â nifer o bwyntiau a wnaed yn y ddadl, yn gryno, wrth gloi. Gwnaeth Sam Kurtz araith yr oeddwn i o'r farn ei bod yn anarferol, os caf ddweud, o amddiffynnol ac yn gamgynrychioliadol o'r sefyllfa. Nid wyf yn credu bod cynulleidfa ar gyfer ymryson gwleidyddol yn gysylltiedig â sefyllfa lle mae 9,000 a mwy o swyddi mewn perygl, a dylai'r drafodaeth fod yn seiliedig ar ffeithiau, hyd yn oed pan fyddwn ni'n anghytuno. Felly, er mwyn cywiro'r cofnod, gadewch imi egluro beth yw'r ymrwymiadau ariannol y mae pob plaid wedi'u gwneud: y £500 miliwn gan y Blaid Geidwadol, nid wyf yn credu ei fod hyd yn oed wedi'i wario hyd yn hyn; yr £80 miliwn, sydd wedi'i glustnodi ar gyfer y bwrdd pontio, nid yw yr un dimai goch o hwnnw wedi'i wario, mewn gwirionedd. Nid yw yr un dimai goch ohono yn helpu yr un gweithiwr. Dyna'r realiti ar lawr gwlad. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo cyllid. Mae gennym gyllidebau o amgylch ReAct a Cymunedau am Waith, sy'n gyfanswm o tua £25 miliwn ar sail Cymru gyfan. Mae ein cyllideb cyfrifon dysgu personol ar draws Cymru gyfan oddeutu £21 miliwn. Rydym wedi ymestyn cymhwysedd y rheini i weithwyr Tata ac yn y gadwyn gyflenwi. Byddan nhw'n gallu hawlio yn erbyn y cyllidebau hynny. Mae'r cyllid hwnnw eisoes yn cael ei wario. Mae'r cyllid hwnnw'n cael ei wario'n weithredol i gefnogi'r gweithlu yn barod. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cael y cyd-destun priodol hwnnw ar gyfer y drafodaeth. Ac mae'n sôn am 'amodau ynghlwm'. Os yw'r amodau y mae Llywodraeth y DU wedi'u rhoi ynghlwm â'r £500 miliwn yn mynd i arwain at golli 9,000 a mwy o swyddi, rwy'n credu bod hynny'n fargen wael. Rwy'n credu bod honno'n fargen wael ac y gallai Llywodraeth well y DU fod wedi taro bargen well.

Fe wnaf ymdrin â'r pwyntiau a wnaeth Luke Fletcher ac Adam Price, mewn ymdrech—ac rwy'n derbyn yr ymdrech ewyllys da—i geisio dewisiadau amgen i'r cynllun. Nid wyf yn gweld sut y gall prynu gorfodol un ased mewn cyfleuster cynhyrchu dur integredig gan gorff nad oes ganddo ddim gallu i reoli'r asedau hynny fod yn rhan o'r ateb. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaeth David Rees yn y ddadl sy'n archwilio hynny yn bwyntiau da, maen nhw'n bwyntiau dilys, maen nhw'n dangos meddwl agored. Ond rwy'n credu bod cwestiynau pwysig iawn ynglŷn â'r cynnig hwnnw. Yn yr un modd, mewn perthynas â gwladoli Tata, nid wyf yn credu bod hynny'n adlewyrchu—

Mae pawb yn derbyn bod cwestiynau pwysig i'w hateb. Y broblem yw mai dim ond chi, fel y Llywodraeth, sydd â'r adnoddau i allu darparu'r atebion hynny. Felly, a fyddwch chi'n pleidleisio, a fyddwch chi'n derbyn y gwelliant sy'n cyfeirio at yr opsiwn hwn? Ac a fyddwch chi wedyn yn comisiynu'r gwaith hwnnw gan eich swyddogion, gan weithio gyda'r undebau llafur a'u cynghorwyr? 

Mae'n bwysig i'r Llywodraeth ymgysylltu â'r realiti ar lawr gwlad. Ac er bod y pwyntiau y mae Adam Price a Luke Fletcher yn eu gwneud yn gyfraniadau pwysig i'r ddadl, dydw i ddim yn credu eu bod yn adlewyrchu'r realiti ar lawr gwlad yn Tata. Ac rwy'n credu ar hyn o bryd, mae'n bwysig ein bod yn ymgysylltu â hynny.

Mae'n hanfodol bod y cwmni'n gwneud popeth o fewn ei allu i osgoi diswyddiadau gorfodol o fewn gweithlu sydd wedi bod yn arbennig o ffyddlon. Mae'n hanfodol ei fod yn gweithio gyda'r bwrdd pontio i sicrhau bod gweithwyr yn cael y cymorth a'r gefnogaeth i ailsgilio sydd eu hangen arnyn nhw, ac mae'n hanfodol bod y bwrdd pontio'n gweithio'n gyflymach i ddarparu'r cymorth hwnnw. [Torri ar draws.]

19:15

Diolch am gymryd yr ymyriad. Ydych chi'n cytuno—rwy'n credu bod Adam Price wedi tynnu sylw at y pwynt—bod angen i ni siarad â Tata, oherwydd mae'r bygythiad y mae Tata yn ei roi ar eu gweithlu yn gwbl annerbyniol? Maen nhw wedi dod i gytundeb, a nawr, oherwydd bod y gweithwyr wedi dod i farn, maen nhw eisiau mynegi eu barn am ba mor wael yw'r fargen, ac maen nhw'n dymuno gweithredu. Gyda llaw, nid gweithredu drwy streicio mohono; gweithio yn ôl y rheolau yn unig yw hwn sef, yn syml, stopio goramser. Felly, nid, mewn gwirionedd, eu bod nhw'n mynd ar streic, ond mae'n rhaid diddymu'r bygythiad o dynnu'r cynnig i'r gweithwyr yn ôl, ac a wnewch chi siarad â Tata i sicrhau eu bod nhw hefyd yn deall bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud, mewn gwirionedd, yn gwneud y sefyllfa'n llawer gwaeth nag y gallai fod?

Gwnaf, ac rwy'n cytuno â'r pwynt hwnnw. Rwy'n credu bod David Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn, iawn. Bu trafodaethau ynghylch telerau cymorth i weithwyr, a chafwyd pecyn gwell, fel y disgrifiwyd ef, ac mae'n bwysig bod hynny'n parhau i fod ar gael i weithwyr fel bod ganddyn nhw'r cymorth gorau sydd ar gael y gall Tata ei ddarparu. Felly, byddwn i yn cymeradwyo'n llwyr y pwynt y mae David Rees wedi'i wneud. 

Yr hyn rydyn ni'n ei weld yw cyflymder y trawsnewid i ddur ffwrnais arc drydan yn cael effaith eisoes heddiw. Mae colli'r gallu y mae technoleg ffwrnais chwyth yn ei ddarparu yn bryder enfawr i'n heconomi ni ac yn ein gwneud yn ddibynnol i bob pwrpas ar fewnforion. Bellach mae gennym benderfyniad i alw etholiad cyffredinol cynnar. Mae hynny'n newid y dirwedd y mae Tata wedi gwneud ei benderfyniad oddi mewn iddi, a byddwn yn eu hannog nhw i beidio â gwneud penderfyniadau na ellir eu gwrthdroi yn erbyn cyd-destun y dirwedd newydd honno, pan fo gennym y posibilrwydd o Lywodraeth newydd gydag ymrwymiad newydd i strategaeth ddiwydiannol, ymrwymiad newydd i seilwaith ynni adnewyddadwy ac ymrwymiad newydd i gynhyrchu dur. Dyna'r realiti newydd, ac rwy'n credu bod angen i Tata fyfyrio ar hynny ac edrych eto ar y penderfyniadau y mae wedi'u gwneud. Bydd gennym wedyn bartner yn gweithio gyda ni fel Llywodraeth Lafur Cymru i amddiffyn cynhyrchu dur yng Nghymru.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 1. Felly, fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma, a gweddill y gwelliannau a'r cynnig, tan y cyfnod pleidleisio. Ac oni bai bod tri Aelod yn gwrthwynebu, fe fyddwn ni'n symud nawr i'r cyfnod pleidleisio. Does yna ddim gwrthwynebiad.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Felly, awn ni at y gyfres o bleidleisiau o dan eitem 8, ar y ddadl rŷn ni newydd ei chlywed ar y diwydiant dur yng Nghymru. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1, ac fe gymerwn ni bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod. 

Eitem 8: Dadl ar y Diwydiant Dur yng Nghymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf, wedi ei gyflwyno gan Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

19:20

Eitem 8: Dadl ar y Diwydiant Dur yng Nghymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 fydd nesaf. Mae gwelliant 3 wedi ei gyflwyno gan Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.

Eitem 8: Dadl ar y Diwydiant Dur yng Nghymru. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 49, Yn erbyn: 1, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 4 nesaf, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

Eitem 8: Dadl ar y Diwydiant Dur yng Nghymru. Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 24, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 5, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Mae gwelliant 5 wedi ei wrthod.

Eitem 8: Dadl ar y Diwydiant Dur yng Nghymru. Gwelliant 5, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 11, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 6, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod.

Eitem 8: Dadl ar y Diwydiant Dur yng Nghymru. Gwelliant 6, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NNDM8597 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod gan gynhyrchu dur ddyfodol hyfyw yng Nghymru o fewn proses bontio sy'n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru.

2. Yn credu bod cadw'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yng Nghymru yn ganolog i fuddiannau economaidd Cymru ac i'r llwybr at sero-net.

3. Yn gresynu bod Tata wedi gwrthod cynllun aml-undeb a fyddai wedi diogelu swyddi ac wedi cadw un o'r ffwrneisi chwyth ar agor yng ngwaith dur Port Talbot.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Eitem 8: Dadl ar y Diwydiant Dur yng Nghymru. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 50, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Daeth y cyfarfod i ben am 19:22.