Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/05/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor

Prynhawn da. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd yr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd pwyllgor. Felly, dwi nawr yn gwahodd enwebiadau, o dan Reol Sefydlog 17.2F, i ethol Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a ddyrannwyd i'r grŵp Llafur. Dim ond aelod o'r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo a all gael ei enwebu'n Gadeirydd, a dim ond aelod o'r un grŵp plaid sy'n cael cynnig yr enwebiad. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 aelod, mae'n rhaid i'r enwebiad gael ei eilio gan aelod arall o'r un grŵp. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os ceir dau enwebiad neu fwy ar gyfer yr un pwyllgor, bydd yna bleidlais gyfrinachol yn cael ei chynnal, a byddaf i'n parhau gyda'r enwebiadau. Felly, dwi'n gwahodd enwebiadau gan y grŵp Llafur. Oes yna enwebiad? Jack Sargeant.

Oes aelod o'r un grŵp yn eilio Mike Hedges? Oes, mae Hefin David yn eilio. A oes rhagor o enwebiadau? 

Oes, mae Alun Davies wedi'i enwebu. A oes yna eilydd i'r enwebiad yna? Oes, mae Mark Drakeford yn eilio'r enwebiad yna. Oes yna enwebiad arall o fewn y grŵp Llafur? Na, does yna ddim enwebiad arall. Felly, mae yna ddau Aelod wedi eu henwebu, sef Alun Davies a Mike Hedges. Gan fod yr enwebiadau felly wedi eu cyfeirio ar gyfer pleidlais gyfrinachol, yn unol â'r Rheolau Sefydlog, rwy'n hysbysu'r Aelodau y bydd y bleidlais gyfrinachol yn cael ei chynnal yn ystafell briffio 13 yn y Senedd, a bydd yr Aelodau yn derbyn e-bost yn fuan i'w hysbysu bod pleidleisio wedi agor, neu yn agor, am 2 o'r gloch, a bydd y pleidleisio'n dod i ben am 4 o'r gloch. Y clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r broses bleidleisio a'r broses o gyfri'r pleidleisiau. Ar ôl y bleidlais gyfrinachol, byddaf i'n cyhoeddi'r canlyniad ar ddiwedd y Cyfarfod Llawn yma heddiw.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Felly, yr eitem nesaf ar yr agenda fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Darren Millar.

Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghonwy a Sir Ddinbych

1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau gofal iechyd i breswylwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych? OQ61178

Diolch am y cwestiwn. Llywydd, gan mai hwn yw'r cwestiwn iechyd cyntaf y gwnaf i ei ateb, a'r cyfle cyntaf i wneud hynny ar y cofnod yn dilyn sgandal gwaed heintiedig ddoe, a gaf i roi fy ymateb uniongyrchol ar gof a chadw, gan y bydd hyn yn sicr yn effeithio ar etholwyr nid yn unig yng Nghonwy a sir Ddinbych, ond ledled y wlad? Roedd graddfa ryfeddol y loes a'r celu a ddatgelwyd gan adroddiad yr ymchwiliad gwaed heintiedig yn wirioneddol frawychus. Mae'n achos o gelu degawdau o hyd sydd wedi effeithio ar Lywodraethau o bob arlliw, a'n gwasanaeth iechyd gwladol, a bydd gan bob Aelod yn y Siambr hon etholwyr yr effeithiwyd arnynt.

Fe wnaf i ddod at y cwestiwn.

Hoffwn, yn arbennig, dalu teyrnged i'r rhai a ymgyrchodd ar y mater hwn, ar draws pleidiau, ac nid yn unig Julie Morgan mewn gwahanol Seneddau, ond y bobl yr effeithiwyd arnyn nhw'n uniongyrchol eu hunain, ac i roi ymddiheuriad uniongyrchol a diamwys ar ran Llywodraeth Cymru, ac i nodi y bydd dadl yn cael ei chynnal ar 4 Mehefin. 

Yn uniongyrchol ar wasanaethau eraill yng Nghonwy a sir Ddinbych, byddwn yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i wella mynediad at ofal diogel a phrydlon ac at wasanaethau o ansawdd uchel.

A gaf i ymyrryd yn gyflym? Roedd hwnna'n ddefnydd amhriodol o gwestiwn 1. Byddwn wedi disgwyl, pe bai'r Llywodraeth yn mynd i wneud datganiad, a bod y Prif Weinidog yn dymuno gwneud hynny, y byddai unrhyw gais i mi i wneud datganiad ar y mater pwysig iawn hwn wedi cael ei dderbyn heddiw, ac rwy'n siŵr y byddai'r Pwyllgor Busnes wedi ei dderbyn mewn modd tebyg. Gofynnaf i Darren Millar barhau gyda'i gwestiwn atodol.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, nid yw gwasanaethau gofal iechyd yng Nghonwy a sir Ddinbych mewn lle da. Rydym ni'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn y gogledd mewn mesurau arbennig. Un o'r problemau sydd gen i yn fy etholaeth i yw problem Canolfan Feddygol West End Bae Colwyn. Mae'n bractis a reolir, sy'n cael ei redeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, ac rwy'n derbyn sawl cwyn am y gwasanaethau gan y feddygfa benodol honno bob un wythnos. A dweud y gwir, mae 100 y cant o'r cwynion yr wyf i wedi eu derbyn am wasanaethau meddygon teulu ers dechrau'r flwyddyn hon wedi bod am yr un practis unigol hwn yn fy etholaeth. Mae cleifion yn cwyno am fethu â gallu cael apwyntiadau, methu â chael drwodd ar y ffôn, methu â chael atebion i negeseuon e-bost, methu â chael galwadau yn ôl a addawyd iddyn nhw, methu â chael brechiadau sydd ar gael mewn meddygfeydd eraill, a methu â chael presgripsiynau mewn pryd a rhedeg allan o'r feddyginiaeth hanfodol sydd ei hangen arnyn nhw. Nid yw'n ddigon da. Mae'n rhoi cleifion mewn perygl o niwed. Mae'r bwrdd iechyd hwn mewn mesurau arbennig, fel y dywedais yn gynharach, ac mae'r practis hwn yn cael ei redeg yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd. Pa gamau ydych chi a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd er mwyn datrys y problemau hyn, fel bod fy etholwyr yn cael y gwasanaethau y maen nhw'n eu haeddu?

13:35

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol bod practis y West End yn achos o uno, rwy'n deall, practisiau blaenorol nad oedden nhw'n gallu gweithredu'n llwyddiannus. Fy nealltwriaeth i yw bod hwn yn bractis a reolir yn uniongyrchol sydd wedi bod yn recriwtio staff newydd i ddod i mewn, gan gynnwys meddygon hefyd. Byddaf yn hapus i siarad â'r Ysgrifennydd Cabinet, ond hefyd gyda'r bwrdd iechyd, i sicrhau bod nodyn uniongyrchol i'r Aelod ar yr hyn sy'n digwydd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol os nad yn unig ar gyfer y rhestr o faterion y mae wedi eu codi nawr, ond i fod yn eglur am unrhyw faterion penodol y mae eisiau iddyn nhw gael eu codi ac i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn ymateb gan y bwrdd iechyd, oherwydd rwy'n cymryd o ddifrif, yn hwn neu yn unrhyw bractis arall, bod trigolion yn gallu cael mynediad at ofal a gwasanaethau o ansawdd uchel, a, lle nad yw hynny'n wir, ein bod ni'n ymwybodol ohono fel y gallwn ni wneud rhywbeth amdano. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn manteisio ar gyfleoedd i siarad yn uniongyrchol â'r bwrdd iechyd eu hunain, yn ogystal â'r rhai sy'n rhedeg y practis yn uniongyrchol.

Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am gynllun gweithredu strategol y Llywodraeth ar gyfer urddas mislif? OQ61180

Diolch am y cwestiwn. Cyhoeddwyd diweddariad ar 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif' ar wefan Llywodraeth Cymru ar 8 Mawrth, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Gwnaed cynnydd ym mhob agwedd ar y cynllun a bydd yn parhau, gan sicrhau bod urddas mislif yn parhau i fod yn ymrwymiad allweddol i'r Llywodraeth hon.

Diolch, Brif Weinidog. Dwi wedi darllen y diweddariad hwnnw, ond, yn amlwg, o ran yr ochr ymarferol, mi fyddwch chi'n ymwybodol, yn Awst 2022, y daeth yna ddeddfwriaeth mewn yn yr Alban oedd yn ei gwneud hi'n Ddeddf bod yn rhaid darparu cynnyrch mislif am ddim.

Byddwch yn gwybod bod hwn y cyntaf o'i fath yn y byd, gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi mislif, hyrwyddo urddas mislif a thorri'r stigma, a dilynodd Gogledd Iwerddon yn gynharach y mis hwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y cynllun, i fynd i'r afael â thlodi mislif yng Nghymru, ac, fel yr amlinellwyd gennych chi yn eich ymateb, diweddarwyd yr ymrwymiad hwn, ond nid yw'n ofyniad cyfreithiol. Mae'n golygu bod anghysondeb o ran mynediad a'r mathau o gynhyrchion sydd ar gael, yn dibynnu ar le mae pobl yn byw yng Nghymru. Rwy'n dal i glywed am gynhyrchion wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cloi i ffwrdd mewn cypyrddau ysgolion yn casglu llwch, â dysgwyr ddim yn gallu cael gafael ar gynhyrchion y mae taer eu hangen arnyn nhw. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro llwyddiant y cynllun gweithredu o ran cael y cynhyrchion i'r bobl sydd eu hangen? Ac a roddwyd ystyriaeth i ymgorffori'r hawl i fynediad at gynhyrchion trwy ddeddfwriaeth? Os naddo, pam ddim?

Diolch am y cwestiwn. Mae'n destun pryder i mi glywed unrhyw enghreifftiau o gynhyrchion yn cael eu cloi i ffwrdd ac nad oes mynediad hawdd atynt er mwyn eu defnyddio. Dyna holl bwynt yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ceisio ei wneud. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn o glywed enghreifftiau penodol, i wneud yn siŵr yr ymdrinnir â bwriad a phwrpas ein cynllun y cytunwyd arnyn nhw yn ymarferol. Wrth gwrs, rydym ni'n ystyried yr achos ynghylch a fydd deddfwriaeth yn cyflawni'r newid ymarferol yr ydym ni eisiau ei weld. A dweud y gwir, yn y dysgu sy'n digwydd rhwng Cymru a'r pedair gwlad arall, rydym ni'n gweld bod llawer i'w ddysgu o'r hyn y mae gwledydd eraill yn ei wneud, ond, hefyd, mae gan wledydd eraill yn y DU ddiddordeb yn yr hyn y mae Cymru'n ei wneud. Felly, nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gopïo'r ddeddfwriaeth mewn rhannau eraill o'r DU. Mae gennym ni ddiddordeb yn y cynnydd ymarferol yr ydym ni'n ei wneud. A rhan o hyn yw gwneud yn siŵr bod sgwrs wedi'i normaleiddio am y mislif ac iechyd mislif, nad yw'n rhywbeth i beidio ei drafod, ond, mewn gwirionedd, i'w drafod yn agored a gwneud yn siŵr bod mynediad yn cael ei ddarparu'n ymarferol ar gyfer cynhyrchion mislif. Byddwn yn fwy na pharod i weithio gyda Gweinidogion perthnasol yn y Llywodraeth, os gwnaiff yr Aelod roi'r enghreifftiau y mae wedi eu rhannu i mi, oherwydd mae angen i ni fynd i'r afael â'r rheini.

Aelodau, 'Addysg, addysg, addysg' oedd hen ymadrodd Llafur Newydd. Nawr, fel y mae Plan International yn ei nodi yn eu hadroddiad 'Break the Barriers', mae'r tabŵs a'r diffyg addysg ynghylch y mislif wedi cael nifer o effeithiau negyddol gwirioneddol ar fywydau merched o ddydd i ddydd. Wrth gwrs, mae cynllun 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif' Llywodraeth Cymru yn cyflwyno uchelgais i wreiddio urddas mislif mewn ysgolion, ond gallai gymryd tan 2027 i'r targed hwnnw gael ei gyrraedd. Nawr, rwy'n cytuno â geiriau'r Gweinidog partneriaeth gymdeithasol blaenorol, Hannah Blythyn AS, a ddywedodd yn gynharach eleni bod yn rhaid gwneud mwy i wella addysg ynghylch cylchoedd mislif os ydym ni'n mynd i fynd i'r afael ag urddas mislif mewn ysgolion. Ac mae Hannah i'w chanmol nid yn unig am hyrwyddo'r achos hwn, ond hefyd am weithredu'n uniongyrchol yn y sector addysg i helpu i fynd i'r afael â thlodi mislif. O ystyried ymadawiad cyn pryd yr Aelod â Llywodraeth Cymru, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr arweinyddiaeth agored a chryf a ddangosodd ar y mater hwn yn parhau, mewn gwirionedd? Diolch.

13:40

Ceir ymrwymiad gan y Llywodraeth gyfan i gyflawni nid yn unig yn erbyn y cynllun, ond y newidiadau ymarferol yr ydym ni eisiau eu gweld yn digwydd. Os ystyriwch chi'r dewis bwriadol i sicrhau, yn y cod ar berthnasoedd ac addysg rywiol, bod iechyd mislif yn rhan allweddol o hynny, i wneud yn siŵr ei bod yn sgwrs i bawb mewn ystafell ddosbarth. Mae'r gwaith hwnnw yn cael ei ddatblygu, a gallaf eich sicrhau bod pob aelod o'r Llywodraeth yn cymryd o ddifrif o fewn eu portffolio sut y caiff hyn ei ddatblygu, pa un a yw'n Lynne Neagle fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, neu'n rhan o'r gwaith y mae Eluned Morgan yn ei arwain ar gael cynllun iechyd menywod priodol, gan gynnwys arweinydd clinigol cenedlaethol am y tro cyntaf. Felly, mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud ymrwymiadau y byddwn yn eu cadw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. A gaf i gymeradwyo'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn ei sylwadau agoriadol a thalu teyrnged i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd, os caf, sydd wedi arwain ers blynyddoedd lawer ar y pwnc pwysig iawn hwn, nid yn unig yn y lle hwn, ond yn San Steffan hefyd? Weithiau, rydym ni'n anghytuno ar draws y Siambr, ond gellir goresgyn yr anghytuno hwnnw pan fyddwn ni'n gweld y cydweithrediad hwnnw ar fater mor bwysig. Ac rwy'n cymeradwyo'r Aelod am y gwaith y mae hi wedi ei wneud arno. 

Prif Weinidog, ddydd Iau diwethaf, fe wnaethoch chi ddiswyddo o'ch Llywodraeth y Dirprwy Weinidog cyfiawnder cymdeithasol. Y rheswm a roesoch oedd eich bod chi'n honni bod gennych chi dystiolaeth a oedd yn dangos ei bod wedi datgelu gwybodaeth allan o'r Llywodraeth i'r cyfryngau. A allwch chi gadarnhau yn union pa dystiolaeth sydd gennych chi, a sut mae'r dystiolaeth honno yn gwneud synnwyr, pan fo'r Dirprwy Weinidog wedi ei gwneud yn gwbl eglur na wnaeth hi ddatgelu gwybodaeth a'i bod yn dadlau ei huniondeb? 

Wel, mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i aelodau ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys, wrth gwrs, yr Aelod sydd bellach wedi gadael y Llywodraeth. Ni fyddai unrhyw Lywodraeth mewn unrhyw ran o'r DU naill ai'n rhoi sylwebaeth barhaus nac yn cyhoeddi'r holl wybodaeth. Mae rhywfaint o'r wybodaeth honno'n sensitif i Weinidogion eraill. Mae'n bwysig, fodd bynnag, ar ôl i chi ddod i gasgliad yn briodol nid yn unig bod gennych chi ddewis, ond, yn y swydd hon, gyfrifoldeb i weithredu, sef yr hyn yr wyf i wedi ei wneud, er gwaethaf yr holl anawsterau a'r her y mae hynny'n eu hachosi.

Fodd bynnag, hoffwn ddiolch iddo am gydnabod gwaith nid yn unig yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, ond pobl ar draws y Siambr hon ac mewn Seneddau eraill hefyd ar yr ymgyrch eang i gwblhau'r ymchwiliad ar waed heintiedig, ond hefyd y ffordd y mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar y cynllun iawndal i etholwyr ledled ein gwlad ac, yn wir, a gynrychiolir gan bobl o bob arlliw gwleidyddol.

Prif Weinidog, pan fo dwy ochr mor wahanol i benderfyniad—eich penderfyniad chi i ddiswyddo'r Aelod o'r Llywodraeth, yn seiliedig ar y dystiolaeth y gwnaethoch chi ddweud eich bod wedi ei hasesu ac y mae'r Gweinidog iechyd yn ei ddweud, rwy'n tybio, y mae wedi ei gweld, oherwydd yn ei chyfweliad ddoe fe wnaeth hi gefnogi'r penderfyniad yr oeddech chi wedi ei wneud ar sail y dystiolaeth, ac yna mae gennych chi Ddirprwy Weinidog sydd wedi gwasanaethu o fewn y Llywodraeth yn dweud yn eglur nad hi yw ffynhonnell y datgeliad hwnnw, ac mae'n mynd ymlaen i ddweud bod uniondeb yn bwysig mewn gwleidyddiaeth ac mae hi'n dadlau ei huniondeb—allwch chi ddim gweld, nid yn unig gen i fel gwleidydd cystadleuol, ond o dybiaeth y cyhoedd yn gyffredinol o'r hyn sy'n digwydd yma, na all y ddwy stori hynny fod yn iawn? Mae un ohonyn nhw'n iawn, mae un ohonyn nhw'n anghywir. A wnewch chi sicrhau bod y dystiolaeth honno ar gael fel y gellir cau pen y mwdwl ar hyn, fel y gall y Llywodraeth fwrw ymlaen â'i gwaith pwysig o lywodraethu er budd pennaf pobl Cymru, ac y gallwn ni, mewn gwirionedd, weld pwy sy'n dweud y gwir yma? Nid arweinydd y Ceidwadwyr sy'n dweud hyn; mae'n fater o'r Prif Weinidog yn dweud un peth a chyd-Weinidog Llafur y diswyddodd o'i Lywodraeth yn dweud peth arall. Mae anghysondeb yno. Mae angen egluro'r anghysondeb hwnnw.

Fe wnaf i ailadrodd yr hyn a ddywedais. Mae hwn yn ddewis eithriadol o anodd ei wneud, ond serch hynny mae cyfrifoldeb arnaf i wneud y dewis hwnnw. O ddeall y sefyllfa, gweithredais yn unol â chod y gweinidogion a llawlyfr Cabinet y Llywodraeth, a gofynnais am gyngor gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y broses. Ni wnaf i roi sylwebaeth barhaus ac ni wnaf i gyhoeddi gwybodaeth, oherwydd ni fyddai unrhyw Lywodraeth yn y sefyllfa hon yn gwneud hynny, o unrhyw arlliw, mewn unrhyw ran o'r DU. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, fodd bynnag, fod gan y Llywodraeth hon genhadaeth i lywodraethu dros y wlad gyfan, sef yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Os edrychwch chi ar y pethau yr ydym ni eisoes yn cymryd camau arnyn nhw, pa un a yw'n ddyfodol ffermio cynaliadwy, y sgyrsiau sy'n cael eu cynnal i oedi gweithredu diwydiannol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar geisio cael gwahanol ddyfodol i weithwyr dur, mae'r Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â'r gwaith yr ydym ni yma i'w wneud. Rwy'n cydnabod bod Aelod yn gadael y Llywodraeth yn ddigwyddiad ynddo'i hun. Rydym ni'n ceisio ymdrin â'r sefyllfa anodd honno mor sensitif â phosibl. Rwy'n dal i feddwl bod dyfodol i'r Aelod yn y sefydliad hwn, ac o bosibl yn y Llywodraeth yn y dyfodol. Byddaf yn parhau i ymddwyn felly, mewn ffordd ddidwyll, yn y ffordd y mae angen i mi wneud dewisiadau, ac rwy'n cymryd fy uniondeb fy hun o ddifrif, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl.

13:45

Tynnodd yr Aelod dros Aberconwy sylw at y gwaith da a wnaeth y Dirprwy Weinidog o ran ei chyfrifoldebau portffolio. Rwyf i wedi gweld y gwaith da hwnnw'n cael ei wneud o ran gwasanaeth tân de Cymru. Ond mae enw da'r Aelod yn deilchion heddiw oherwydd i chi ei diswyddo o'r Llywodraeth oherwydd i chi ddweud mai hi oedd ffynhonnell datgeliad i'r cyfryngau. Mae hwnnw'n gyhuddiad difrifol iawn i'w wneud, yn enwedig pan fo'r cyhuddiad hwnnw'n cael ei ddadlau.

Rwy'n derbyn honiad y Prif Weinidog na all unrhyw Weinidog aros o fewn Llywodraeth a datgelu gwybodaeth ohoni. Ni allai Llywodraeth o unrhyw arlliw oddef hynny. Mae'n rhaid cael cyfrifoldeb cyfunol. Nid dyna'r ddadl na'r drafodaeth yma. Y ddadl neu'r drafodaeth—[Torri ar draws.] Gallaf glywed yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn grwgnach yn y fan yna. Os ydych chi eisiau dweud rhywbeth, byddai'n dda ei glywed a chlywed yr amddiffyniad sydd gennych chi i'r Prif Weinidog. Ond y pwynt yn y fan yma yw bod dwy stori wahanol yma, ac nid yn afresymol mae pobl yn pendroni pwy sy'n dweud y gwir. Pwy sy'n dweud y gwir yma o ran y penderfyniad hwn sy'n terfynu gyrfa? Oherwydd rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am lwybr yn ôl i'r Llywodraeth, ond mae'r cyhuddiad yr ydych chi wedi ei wneud yn erbyn y cyn-ddirprwy Weinidog yn terfynu ei gyrfa os yw'n wir. Ni wnewch chi gyhoeddi'r wybodaeth honno, sy'n destun edifeirwch. Gofynnaf i chi oedi a myfyrio a meddwl am wneud yr wybodaeth honno yn gyhoeddus. Fel y mae Hannah Blythyn wedi ei ddweud, mae ei huniondeb yn parhau; A yw eich uniondeb chi, Prif Weinidog?

Fe wnaf i ailadrodd y pwynt yr wyf i wedi ei wneud eto. Ni fyddai unrhyw Lywodraeth o unrhyw arlliw y bu'n rhaid iddi weithredu ar y sail hon yn cyhoeddi'r wybodaeth honno. Rydym ni wedi gweld hynny mewn sefyllfaoedd eraill hefyd, mewn gwirionedd. O ran y dyfodol, rwyf i wedi cydnabod y gwaith y mae'r Aelod wedi ei wneud, nid yn unig yn y sgwrs anodd iawn a gafwyd, ond hefyd yn fy ymateb ysgrifenedig iddi. Byddwn yn dweud, mewn gwirionedd, ein bod ni wedi canfod, mewn achosion blaenorol lle mae Gweinidogion wedi torri'r cod gweinidogol, eu bod nhw wedi cael cyfleoedd i ddychwelyd mewn mannau eraill ac yma hefyd, yn wir. Mae dau Weinidog blaenorol wedi cael mwy nag un tro yn y Llywodraeth. Felly, nid wyf i'n derbyn honiad yr Aelod mai dyma ddiwedd gyrfa'r Aelod. Rwy'n credu ei bod hi'n berffaith bosibl yn y dyfodol y gallai ddychwelyd, ac edrychaf ymlaen at gyfle i weithio gyda hi i gyflawni ac adeiladu ar y gwaith y mae eisoes wedi ei wneud. Rwy'n eglur iawn ynghylch fy uniondeb a'r dewis anodd iawn y bu'n rhaid i mi ei wneud, ond rwy'n eglur iawn mai'r dewis yw'r un cywir i'r Llywodraeth ac i'r gwaith y mae angen i ni ei wneud ar ran y wlad, ac mae hynny'n tanlinellu'r holl benderfyniadau yr wyf i wedi eu gwneud yn y mater hwn.

Diolch, Llywydd. Ddydd Gwener diwethaf mi wnes i roi gwybod i'r Prif Weinidog fod grŵp Plaid Cymru wedi penderfynu dod â diwedd i'r cytundeb cydweithio. Dŷn ni ar y meinciau yma yn falch iawn o beth gafodd ei gyflawni drwy'r cytundeb hwnnw, ac mi wnes i bwysleisio wrth y Prif Weinidog ein hymrwymiad ni i barhau i gydweithio, wrth gwrs, ar faterion lle dŷn ni yn gytûn efo nhw. Dwi'n ailadrodd y neges honno heddiw yn ddiffuant.

Mi oedd y penderfyniad i dynnu allan o'r cytundeb yn seiliedig ar nifer o ffactorau, a'r ffactorau hynny yn golygu bod gormod o sylw yn y pen draw yn cael ei dynnu oddi ar waith pwysig y cytundeb. Mae gan Brif Weinidog newydd berffaith hawl i osod cyfeiriad newydd i'w Lywodraeth, ond doedden ni ddim yn gytûn ar ei amserlen newydd o ar gyfer diwygio'r dreth gyngor, er enghraifft. Ond, wrth gwrs, mae gennym ni hefyd yr argyfwng parhaus o gwmpas arweinyddiaeth y Prif Weinidog.

Peth arall a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf oedd cyhoeddiad bod £31,000 a oedd yn weddill o'r rhodd o £200,000 gan lygrydd amgylcheddol y'i cafwyd yn euog yn cael ei drosglwyddo i'r Blaid Lafur yn ganolog. Dywedir wrthym ni heddiw ei fod yn cael ei roi i achosion blaengar. Gadewch i mi ofyn y cwestiwn syml hwn: a yw'r Prif Weinidog yn credu mai dyma ddiwedd y mater rywsut?

13:50

Felly, ceir nifer o bwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi. Fe wnaf i ymdrin â'r pwynt rhoddion yn gyntaf, sef, yn unol â rheolau'r ornest, mae'n ofynnol i mi ddychwelyd yr arian i Lafur Cymru. Maen nhw wedi cytuno i'm cais i ddarparu'r arian hwnnw i achosion blaengar, ac mae angen i weithrediaeth Llafur Cymru benderfynu hynny nawr. Rwyf i eisiau bod yn eglur na fyddaf yn cymryd rhan yn y broses o wneud y penderfyniad hwnnw; rwy'n credu bod angen iddyn nhw gael y sgwrs honno'n rhydd a heb i mi fod yn yr ystafell.

O ran eich pwynt ehangach ynghylch y cytundeb cydweithio a'r ffaith ei fod yn dod i ben, rwy'n gresynu ymadawiad cynnar Plaid Cymru o'r cytundeb hwnnw. Mater i'r Aelod, fel arweinydd Plaid Cymru, yw dewis amseriad hynny. Byddwn wedi bod yn hapus i weld y cytundeb yn mynd yr holl ffordd drwodd i'r diwedd. Mae llawer yr ydym ni wedi ei wneud gyda'n gilydd. Roeddwn i yn Ysgol Gynradd Ringland yr wythnos diwethaf, yn dathlu'r ugain miliynfed pryd o fwyd yr ydym ni wedi ei ddarparu o dan ein polisi prydau ysgol am ddim cyffredinol i blant ysgol gynradd. Cafwyd datganiad i'r wasg ar y cyd â sylwadau gan arweinydd Plaid Cymru. Mae mwy o bethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud o hyd hefyd: lansiad y strategaeth ddiwylliant yr wythnos hon; yn y dyfodol, y gwaith sy'n cael ei wneud ar y ford gron ar y cynllun ffermio cynaliadwy; a llawer iawn mwy. Byddwn wedi hoffi cael y cyfle i barhau i gydweithio, a hoffwn ddiolch i'r arweinydd blaenorol, ond hefyd y ddau Aelod dynodedig am y ffordd broffesiynol ac adeiladol iawn y cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny a phroffesiynoldeb cynghorwyr arbennig Plaid Cymru a gefnogodd y cytundeb hwnnw.

Wrth gwrs, byddwn yn anghytuno ynghylch amrywiaeth o bethau o fewn y cytundeb a'r tu allan iddo, ond byddaf yn parhau i weithio mewn ffordd sy'n ceisio gwneud y peth iawn i'r wlad ac i fwrw ymlaen â'r ymrwymiadau yr ydym ni eisoes wedi'u cyflawni, y rhai nad ydym wedi'u cyflawni eto hefyd, a dyna fydd y ffordd y bydd fy Llywodraeth yn parhau. Dylwn nodi hefyd, wrth gwrs, mai'r Aelod yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar haemoffilia a gwaed heintiedig, ac mae ef ac eraill wedi chwarae rhan wirioneddol i wneud yn siŵr bod gan yr ymgyrch honno lais go iawn yn y Senedd hon hefyd.

Rwy'n cael fy nghalonogi gan sylwadau'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylem ni barhau i gydweithio, wrth gwrs, lle ceir meysydd lle rydym ni'n rhannu blaenoriaethau. Ond gwelais ei fod eisiau symud yn weddol gyflym ymlaen o fater y rhoddion. Ni allwn symud ymlaen mor gyflym â hynny. Talwyd yr arian i Lafur yn ganolog, wrth gwrs. Yn un peth, byddwn yn dweud bod y penderfyniad i roi'r arian nawr i achosion blaengar yn rhoi'r achosion hynny mewn sefyllfa eithaf anodd, ond nid wyf i'n mynd i'w beirniadu.

Yn ail, trosglwyddo'r £31,000 gweddilliol yw'r darn hawdd, onid yw? Rydym ni'n dal i feddwl, fel y mae llawer o Aelodau Llafur, mai'r peth iawn y dylid ei wneud oedd ad-dalu'r arian yn ei gyfanrwydd. Ond hefyd mae gennym ni gadarnhad nawr na fydd Llafur yn cymryd yr arian. Byddai'r arian hwnnw wedi pardduo holl ymgyrch etholiad cyffredinol y Blaid Lafur. Felly, onid yw penderfyniad Llafur i'w wrthod yn profi camgymeriad difrifol y Prif Weinidog o ran crebwyll o fod yn fwy na pharod i'w gymryd yn y lle cyntaf?

Rwy'n credu ei fod yn dangos mewn gwirionedd eu bod nhw wedi cymryd o ddifrif y cais a wneuthum i'r arian gael ei ddefnyddio at wahanol ddiben. Fel erioed, nid yn unig yr wyf i wedi gweithredu yn unol â'r rheolau, ond rwyf i hefyd wedi cydnabod y pwyntiau y mae nifer o Aelodau wedi eu gwneud, a dyna pam mae proses o fewn fy mhlaid fy hun i edrych ar reolau'r dyfodol i ddeall y profion y mae angen i bawb eu bodloni. Ond hefyd rwy'n credu ei bod hi'n briodol edrych ar hyn ar sail drawsbleidiol, oherwydd mae angen i unigolion a phleidiau i gyd ddeall y prawf y mae angen iddyn nhw ei fodloni, pa un a yw hynny'n ymwneud â chapiau ar roddion, pa un a yw hynny'n ymwneud ag unrhyw wybodaeth arall yr hoffech chi ei gweld o ffynhonnell y rhodd fel bod pawb yn deall y profion y mae angen iddyn nhw eu cyrraedd. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig i wneud yn siŵr nad ydym ni'n ceisio cael gwahanol brofion ar wahanol adegau mewn amser. 

Rwy'n hyderus iawn ynglŷn â'r ymgyrch etholiadol y bydd fy mhlaid yn ei rhedeg yma yng Nghymru ac ar draws y DU gyfan. Os gwrandewch chi ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud yn rheolaidd, maen nhw wedi cael llond bol ar Lywodraeth bresennol y DU, maen nhw'n ysu am weld newid ac, mewn gwirionedd, yma yng Nghymru, rwy'n credu bod gwir ddealltwriaeth y gall dwy Lywodraeth Lafur sy'n cydweithio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ym mhob cymuned ledled y wlad. Dyna'r ddadl yr wyf i'n edrych ymlaen at ei gwneud yn gadarnhaol, ac rwy'n credu bod honno'n ddadl y mae pobl yng Nghymru yn barod i'w clywed ac yn barod i'w chefnogi. 

Rwy'n sicr yn cytuno â'r Prif Weinidog bod goblygiadau i bob ymgyrch arweinyddiaeth yn y dyfodol o ran gosod capiau ar roddion, ond yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn gwrthod yn llwyr ei gyfaddef yw mai ei weithredoedd ef a'i grebwyll ynghylch y rhodd benodol hon sydd wedi dod â ni i'r sefyllfa o fod angen taflu goleuni ar hyn. Nawr, rwyf i wedi defnyddio'r ymadrodd 'sylw wedi'i dynnu'. Mae sylw'r Llywodraeth wedi'i dynnu; mae hyn oll yn parlysu ei gwaith. Rwy'n credu mewn gweithio trawsbleidiol, fel y dywedais. Dylem ni i gyd gredu hynny. Rwy'n ailadrodd eto fy ymrwymiad i gydweithio â'r Llywodraeth ar gyflawni'r hyn a oedd yn y cytundeb, ond, wrth gwrs, rwyf i eisiau dylanwadu'n adeiladol ar Weinidogion i weithredu, fel y dylai unrhyw wrthblaid, ar yr holl faterion eraill hynny sy'n bwysig i bobl Cymru. Dyna pam yr oeddem ni eisiau symud yn gyflym ar y dreth gyngor, ond dyna hefyd pam rydym ni'n parhau i bwyso am newid dull i sicrhau gwell canlyniadau yn y GIG ac ym myd addysg; dyna pam rydym ni'n annog y Llywodraeth i gefnogi busnesau ac i wthio am y pwerau sydd eu hangen arnom ni i redeg ein materion ein hunain. Ond ar hyn o bryd, fel y dywedaf eto, mae sylw'r Llywodraeth wedi'i dynnu'n ofnadwy. Pa mor hir y mae'r Prif Weinidog yn fodlon rhoi i'w hun i newid trywydd? A pha mor hir ddylai fod yn rhaid i bobl Cymru aros?

13:55

Wel, gallaf ddweud wrth yr Aelod, ers dod i mewn i'r swydd, fy mod i wedi bod yn canolbwyntio ar anghenion â blaenoriaeth i bobl Cymru. Y tri grŵp cyntaf o bobl y gwnes i eu cyfarfod oedd gweithwyr dur, meddygon a ffermwyr, yn bwriadu cymryd camau uniongyrchol, gan weithio gyda thîm gweinidogol newydd yr wyf i'n falch iawn ohono. Ceir y pwyslais sydd gennym ni ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn; yr adolygiad ar 20 mya; y buddsoddiad ychwanegol mewn seilwaith trafnidiaeth; y ffaith ein bod ni'n dal i wneud yn siŵr ein bod ni'n bwrw ymlaen â diwygio'r Senedd—ymrwymiad gwirioneddol yn cael ei gyflawni, a bydd mwy i'w wneud; y Bil etholiadau sy'n mynd drwy'r Senedd, hefyd; a'r cynllun cyntaf o'i fath yn y DU i helpu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag ymosodiadau seiber. Llywodraeth yw hon sy'n canolbwyntio ar y gwaith o ddiwallu a gwasanaethu anghenion pobl Cymru. Rwy'n credu y gallwn ni ac y byddwn ni'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl sydd wedi ein hethol ni, ac rwy'n credu y gallwn ni ac y byddwn ni'n gwneud hyd yn oed mwy os gallwn ni berswadio pobl yng Nghymru ac ar draws y DU i ethol Llywodraeth flaengar fel partner mewn grym, nid cystadleuydd ymosodol sy'n benderfynol o gymryd ein pwerau a'n harian. Mae hwnnw'n ddyfodol sy'n sicr yn werth ymladd drosto ac yn sicr yn werth ei ennill.

Unedau Iechyd Meddwl yn y Gogledd

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar honiadau o gamdrin sefydliadol hanesyddol mewn unedau iechyd meddwl yn y gogledd? OQ61181

Diolch am y cwestiwn.

Mae'r materion yn ymwneud ag ansawdd gofal mewn sawl uned iechyd meddwl yn y gogledd yn cael eu cydnabod ac wedi cael llawer o sylw. Roedden nhw'n rhan o'r hyn a gyfrannodd dros y degawd diwethaf at osod y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Mae rhaglen waith gynhwysfawr ar y gweill i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn gwneud y cynnydd parhaus sydd ei angen mewn gwasanaethau iechyd meddwl i'r staff a'r bobl y maen nhw'n gofalu gyda nhw ac amdanyn nhw.

Mae unedau iechyd meddwl, fel Tawel Fan, wrth gwrs, wedi bod yn y penawdau, fel y maen nhw ers nifer o flynyddoedd. Ond y tro hwn, rwy'n ymwybodol bod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi penderfynu diarddel nyrs seiciatrig ar ôl gwrandawiad am yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel cam-drin sefydliadol yn yr uned, yn mynd yn ôl dros 10 mlynedd. Nawr, yn amlwg, digwyddodd y cam-drin cyn eich cyfnod fel Gweinidog iechyd, ond yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog, fe wnaethoch chi ddweud nad oedd unrhyw gam-drin sefydliadol wedi digwydd. Felly, yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd, a ydych chi'n dymuno newid eich barn flaenorol nawr? Oni ddylech chi fod wedi gwneud mwy ar y pryd i ddarganfod y gwirionedd? Ac a ydych chi bellach yn difaru paentio darlun gwahanol iawn pan oeddech chi'n Weinidog, o gofio ein bod ni bellach yn gwybod bod y realiti yn wahanol iawn, iawn?

Rwy'n credu bod dau beth ychydig yn wahanol yma. Felly, mae'r defnydd o'r term 'cam-drin sefydliadol' yn un nad wyf i'n cilio oddi wrtho ym mhenderfyniad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Dylwn ddweud fy mod i wedi cynrychioli pobl mewn gwrandawiadau ymarfer rheoleiddio yn ystod fy ngyrfa flaenorol fel cyfreithiwr cyflogaeth; rwy'n gwybod bod y gwrandawiadau'n anodd. Ond mewn gwirionedd, yn yr achos hwn, roedd yn peri gofid arbennig, nid yn unig oherwydd ymddygiad yr unigolyn dan sylw a'r effaith ar y claf, ond hefyd yr effaith ar aelodau eraill o staff. Roedd gweithiwr dan hyfforddiant yn dyst i'r digwyddiad ac yn achwyn ei fod wedi peri cymaint o ofid iddi fel y gadawodd nyrsio hefyd. Felly, ceir pwynt ynglŷn â phan fo pobl uwch mewn sefydliad yn ymddwyn yn y ffordd honno, daw haenau lluosog o niwed.

Pan oeddwn i'n Ddirprwy Weinidog iechyd ac, yn wir, yn Weinidog iechyd y Cabinet, roeddwn i bob amser yn eglur iawn ynghylch y ffaith bod methiannau sylweddol mewn gofal iechyd, ac ar yr adeg pan wnes i'r sylwadau hynny, nid oedd tystiolaeth i gefnogi'r canfyddiad o gam-drin sefydliadol. Yr hyn a wnaethom ni, fodd bynnag, oedd cael ymchwiliad trylwyr i'r hyn a oedd wedi digwydd yno, ac, yn wir, mae hwnnw'n parhau nawr, nid yn unig yn yr un uned ond mewn gwirionedd yn edrych ar wasanaethau iechyd meddwl ledled y gogledd. Felly, mae'r Llywodraeth, Eluned Morgan, wedi sicrhau bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cynnal adolygiad annibynnol o wasanaethau iechyd meddwl i ddeall a rhoi sicrwydd ar gynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn argymhellion blaenorol.

Felly, nid yw hyn yn ymwneud yn syml â dychwelyd i iaith benodol yn unig; mae'n edrych ar yr her sydd gennym ni heddiw, a deall ble mae'r bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd. Bydd yr adroddiad hwnnw'n cael ei gyhoeddi a'i drafod yn gyhoeddus mewn cyfarfod bwrdd ddiwedd y mis hwn. Mae'r didwylledd hwnnw, rwy'n credu, yn bwysig iawn i ailadeiladu perthnasoedd ac ymddiriedaeth yn y gwasanaeth, i wneud yn siŵr ein bod ni'n dysgu o adegau pan nad yw hynny wedi bod yn wir, ac eisiau symud ymlaen a gwella'r gwasanaeth y dylai fod gan bobl hawl i ddibynnu arno heddiw ac yn y dyfodol.

14:00

Mae gan Ddyffryn Clwyd hanes maith o sefydliadau a chyfleusterau iechyd meddwl, sy'n dyddio'n ôl cyn belled â'r 1800au, gydag ysbyty gogledd Cymru yn Ninbych ac, yn fwyaf diweddar, uned Ablett gyda ward Tawel Fan. O ystyried yr achosion hanesyddol hynny o gam-drin, mae fy etholwyr wedi bod yn y sefyllfaoedd mwyaf dirdynnol o gam-drin iechyd meddwl efallai ar draws y gogledd cyfan yn ystod hanes diweddar. Felly, o gofio bod Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig, sy'n golygu rheolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, pa strategaethau neu fframweithiau uniongyrchol allwch chi eu datblygu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wneud yn siŵr nad yw achosion fel hyn byth yn digwydd eto?

Wel, mae hynny bob amser yn rhan o'r her, onid yw: cydnabod pan fydd methiannau, peidio byth â cheisio bychanu'r methiannau sydd wedi digwydd a gwrando ar leisiau pobl sy'n cwyno neu bobl sy'n dweud eu bod nhw wedi cael eu siomi, ac, ar yr un pryd, gwneud yn siŵr nad ydych chi'n condemnio gwasanaeth cyfan a cheisio dweud nad oes dim da byth yn digwydd. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae peidio â mynd i'r afael â'r problemau gwirioneddol iawn sy'n cael eu hamlygu mewn gwirionedd yn tanseilio sefyllfa'r holl weithwyr proffesiynol ymroddedig hynny sy'n darparu gofal o ansawdd uchel. Felly, mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â cheisio gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod gwersi'n cael eu dysgu o fethiannau yn y gorffennol, a gwneud yn siŵr bod atebolrwydd priodol, lle gallwch nodi pwy sy'n gyfrifol naill ai ar lefel arweinyddiaeth neu ar lefel unigol. Ond mae'n rhaid i chi gael diwylliant lle, os yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu beio, eich bod chi'n deall, os dyna'r broses sydd gennych chi ar waith, na fydd pobl yn dod ymlaen, ac, mewn gwirionedd, bydd eich cyfle i unioni'r pethau sydd wedi mynd o'i le yn cael ei roi o'r neilltu, a bydd y sefyllfa yn gwaethygu, nid yn gwella. Felly, mae'r her ddiwylliannol yn un bwysig iawn o ran sut mae gwelliant yn edrych.

Nid wyf i eisiau gweld unrhyw etholwr mewn unrhyw ran o Gymru yn gorfod mynd i gyfleuster gofal iechyd lle nad yw'n cael ei drin gyda'r urddas a'r parch y mae'n ei haeddu, ac nad yw'n cael yr ansawdd o ofal y mae'n ei haeddu, a bod ein staff yn teimlo eu bod nhw'n gweithio mewn amgylchedd lle bydd rhywun yn gwrando ar eu pryderon ac y byddan nhw'n darparu'r ansawdd o ofal y maen nhw ei angen a'i eisiau. Dyna pam mae'r adroddiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, er enghraifft, mor bwysig—i roi'r sicrwydd hwnnw y gwrandawyd ar argymhellion blaenorol a'u bod yn cael sylw.

Mae hyn, wrth gwrs, yn rhan o'r fframwaith mesurau arbennig: i weld gwelliant yn y maes hwn a chael cyngor annibynnol, gwrthrychol cyn y gall Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wneud penderfyniad ynghylch y camau nesaf mewn mesurau arbennig, pa un a ydyn nhw'n parhau neu, yn wir, pa un a oes llwybr i ddad-ddwysáu. Rwy'n hyderus bod y prosesau hynny a'r sgyrsiau hynny ar waith, gyda sicrwydd allanol, i wneud yn union hynny.   

Anghydraddoldebau Iechyd Menywod

4. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd menywod? OQ61131

Diolch. Am gyfnod rhy hir, bu anghydraddoldebau dwfn a sefydledig yn y gofal iechyd a ddarparwyd i fenywod. Rwyf i wedi dweud yn rheolaidd yn y gorffennol, pe bai'r un anghydraddoldebau gofal iechyd yn bodoli i ddynion, y bydden nhw wedi cael sylw ers talwm. Rydym ni wedi ymrwymo i newid a gwella iechyd menywod a merched ac rydym ni'n cymryd camau i wella'r canlyniadau iechyd i fenywod yng Nghymru, gan gynnwys datblygu'r cynllun iechyd menywod.

Diolch, Prif Weinidog. Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i mi gynnal fy nadl fer ar PMDD, anhwylder dysfforig cyn mislif. Mae menywod sy'n dioddef o PMDD yn dioddef symptomau gwanychol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae'r salwch yn effeithio ar waith, perthnasoedd a bywydau cymdeithasol mewn ffordd na fydd y rhai nad ydynt yn ei ddioddef byth yn ei deall. Pan oeddwn i'n dioddef, doeddwn i ddim yn gallu gwneud dim am dair wythnos o bob mis.

Mae'r pwysau ar ormod o fenywod yn mynd yn ormod. Mae llawer eisiau cymryd eu bywydau eu hunain. Credir fod un o bob 20 o fenywod yn dioddef o PMDD, ond, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, mae'r ffigur hwn yn debygol o fod yn uwch, gyda rhai menywod yn cael diagnosis anghywir o endometriosis a chyflyrau eraill.

Yn ei hymateb i'm dadl fer, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd na fu digon o gydnabyddiaeth o PMDD, bod angen gwell hyfforddiant ac ymwybyddiaeth, gan gynnwys ymhlith ymarferwyr, a bod yn rhaid darparu mwy o wybodaeth ar wefannau byrddau iechyd ac 111. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf, ac amlinellu os gwelwch yn dda unrhyw gynlluniau a ddisgwylir yn y dyfodol?

14:05

Diolch. A diolch am y cwestiwn, am godi'r mater hwn yn y lle cyntaf gryn amser yn ôl ac am ddychwelyd ato i sicrhau bod cynnydd wedi cael ei wneud. Ac rwy'n cytuno. Nid wyf i'n siŵr beth mae'r Aelod wedi ei ddweud, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi dweud yn flaenorol am ddarparu mwy o ymwybyddiaeth o amrywiaeth o gyflyrau iechyd menywod, gan gynnwys PMDD. Ac mae'n mynd yn ôl i'r pwynt a wneuthum mewn cwestiwn cynharach am normaleiddio cwestiynau ynghylch iechyd menywod, gan gynnwys iechyd mislif. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw sicrhau bod gwybodaeth am PMDD wedi ei chynnwys ar wefan GIG Cymru 111, fel ei bod ar gael i'r cyhoedd, ac mae hynny'n cyfeirio gwybodaeth at wefan Mind, lle mae hyd yn oed mwy o wybodaeth ar gael ac y rhoddwyd sicrwydd yn ei gylch.

Mae iechyd mislif yn fater llesiant ehangach pwysig, ac rwy'n dychwelyd at y pwynt ei fod yn rhan bwysig o'n cod addysg perthnasoedd a rhywioldeb—mae'n rhan orfodol o hynny. Felly, mae'n golygu gwneud yn siŵr bod pob cenhedlaeth sy'n dod drwy ein system ysgolion yn dysgu bod hyn yn rhan arferol o fywyd, i fod eisiau gwneud y lle iddi fod yn sgwrs arferol, yn y ffordd nad yw o hyd heddiw.

Gwnaed rhywfaint o gynnydd, ond mae llawer mwy i'w wneud, a dyna pam mae gennym ni gynllun gweithredu Balch o'r Mislif a dyna pam mae angen i ni barhau i gymryd y camau a nodwyd yn y cynllun iechyd menywod am y tro cyntaf gydag arweinydd clinigol cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod materion iechyd menywod yn cael eu cydnabod a'n bod ni'n ymdrin â materion fel camddiagnosis hefyd. Felly, rwy'n cydnabod bod gennym ni rai pethau y gallwn ni dynnu sylw atyn nhw lle gallwn ni ddweud bod cynnydd yn cael ei wneud, ond rwyf i hefyd yn cydnabod bod llawer mwy i ni barhau i'w wneud, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn parhau i godi'r mater yn y Siambr hon a thu hwnt i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny.

Prif Weinidog, roeddwn i mewn trafferthion gyda'r menopos heb wybod beth oedd o'i le am ychydig flynyddoedd, wrth i symptomau waethygu'n raddol ddiwedd y llynedd i bwynt lle roeddwn i'n meddwl fy mod i'n marw mewn gwirionedd. Rhannais fy stori yn y wasg i geisio helpu eraill a chynyddu ymwybyddiaeth o'r menopos—rhywbeth y mae hanner y boblogaeth yn ymdrin ag ef ar ryw ffurf, ar ryw lefel ar ryw adeg. Ers fy niagnosis ym mis Rhagfyr fy mod i yng nghanol y menopos, nid hyd yn oed perimenopos, a nawr yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnaf i, o siarad ag eraill mae'n amlwg bod diffyg addysg neu ymwybyddiaeth o'r menopos ymhlith merched a menywod, ond hefyd ymhlith dynion a bechgyn ac aelodau o deuluoedd. Gadawodd 900,000 o fenywod swydd yn 2022-23 oherwydd symptomau'r menopos. Prif Weinidog, mae'n bwysig bod gan bob unigolyn, busnes a sefydliad well dealltwriaeth o effeithiau a symptomau'r menopos. Mae'n amlwg bod llawer iawn mwy i'w wneud i normaleiddio a sicrhau mwy o ymwybyddiaeth o'r menopos. Beth wnewch chi a'r Llywodraeth hon ymrwymo i'w gyflawni i sicrhau bod hyn yn digwydd? Does bosib na fydd buddsoddiad yn yr anghydraddoldeb hwn yn talu ar ei ganfed o ran iechyd, yn y gweithlu, yn y dyfodol ac i genedlaethau'r dyfodol. Diolch.

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n croesawu'r sylwadau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Byddwn, wrth gwrs, yn rhan o'r cynllun gweithredu iechyd menywod, yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud o ran gwasanaethau gwell ar gyfer y menopos. Flynyddoedd lawer yn ôl, es i gaffi menopos i gael sgwrs gyda menywod a effeithiwyd yn uniongyrchol, ond hefyd dynion a oedd eisiau darganfod mewn ffordd lle nad oedden nhw'n teimlo y bydden nhw'n cael eu barnu, ond yn chwilfrydig ac eisiau gwybod beth y gallen nhw ei wneud. Eto, rydym ni'n dychwelyd at, pe bai hwn yn fater yr oedd dynion yn ei wynebu ac, ar ryw adeg, yn aml yn ystod rhan fwyaf cynhyrchiol eich gyrfa, pan fyddwch chi wedi cael llawer o brofiad, pe baech chi wedyn yn wynebu'r sefyllfa mewn gwirionedd y gallai effeithio ar eich cynhyrchiant eich hun, lle rydych chi'n cwestiynu eich hun ac o bosibl y gallai cyflogwyr eich colli chi, oherwydd mae rhai menywod yn gadael y gweithlu yn ystod y cyfnod hwn, yna rwy'n hyderus ei fod yn fater y byddem ni wedi ei ddatrys amser maith yn ôl. Ac rwy'n falch bod yr Aelod wedi teimlo'n hyderus ac yn ddigon cadarnhaol i rannu ei hanes ei hun.

Mae Carolyn Harris, yr Aelod Seneddol Llafur, wedi siarad llawer am y mater hwn, ac rwy'n credu ei fod yn un o'r meysydd hynny lle ceir cefnogaeth drawsbleidiol wirioneddol. Ac rwy'n sôn amdani hi gan ei bod wedi trefnu i rai dynion wisgo gwisg menopos i gael profiad o rywfaint o'r gwres a'r pyliau o wres. Pan adroddwyd hynny wedyn mewn rhai rhannau o'r cyfryngau, fe'i hystyriwyd fel ymgais i fod yn 'woke', mewn ffordd yr oeddwn i'n meddwl oedd yn wirioneddol ddi-fudd. Cafodd y dynion eu beirniadu am wneud rhywbeth, oherwydd roedd rhai ohonyn nhw mewn swyddi arweinyddiaeth mewn sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysicach, nid yn llai pwysig, bod dynion yn cydnabod bod yn rhaid i ni fod yn rhan o'r ateb yn hyn o beth, ac mae sut mae hynny'n edrych yn dal i ymwneud â gwrando ar brofiad pobl eraill a'i ddeall, a deall yr hyn y gallwn ni ei wneud i wneud y newid sy'n digwydd yn un sydd mor hawdd â phosibl, gyda'r holl sicrwydd sydd ei angen arnom ni, gan ei fod o fudd i ni i hynny ddigwydd, yn ogystal â'r gwaith uniongyrchol sy'n cael ei wneud ar y gwasanaethau meddygol a'r cymorth gofal iechyd i'w ddarparu. Mae'n fater llawer iawn mwy na hynny, gan gynnwys ar gyfer dyfodol yr economi.

14:10

Rwy'n croesawu'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud, Prif Weinidog, oherwydd mae'r menopos yn un o'r pynciau tabŵ hynny y mae ein cymdeithas wedi penderfynu na ddylem ni siarad amdanyn nhw. Mae'n un o'r pethau mwyaf naturiol a all ddigwydd i'n cyrff wrth i ni fynd yn hŷn, ond does dim byd naturiol nac arferol am gael eich gwneud i deimlo na allwch chi siarad â'ch cyflogwr am sut mae'r menopos yn effeithio arnoch chi. Fel yr ydym ni wedi ei glywed, gall symptomau'r menopos fod yn anodd iawn, gallan nhw ynysu rhywun, o flinder i orbryder parlysol, synnwyr o ddatgysylltiad, a gall ynysu menywod yn ofnadwy.

Nawr, mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr ar gamau y gallan nhw eu cymryd i helpu gweithwyr, ond nid yw'r canllawiau eu hunain yn rhwymo mewn cyfraith. Felly, gan adeiladu ar yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, beth arall ydych chi'n meddwl y gall Llywodraeth Cymru ei wneud nid yn unig i hysbysu cyflogwyr am eu rhwymedigaethau, ond hefyd i rymuso menywod fel y gallan nhw deimlo'n llai unig pan fyddan nhw'n mynd drwy hyn?

Rwy'n credu bod yr Aelod yn siarad am un neu ddau o bethau sydd efallai'n werth chweil. Ceir pwynt ynghylch ble mae canllawiau yn mynd, hyd yn oed pan nad ydyn nhw'n statudol, ond i ddeall sut mae 'gwell' yn edrych ac i wneud y ddadl bod hyn yn dda i unrhyw wasanaeth cyhoeddus neu unrhyw fusnes mewn gwirionedd. Dylai unrhyw gyflogwr weld bod budd o gael hyn yn iawn a bod mor gefnogol â phosibl. Fodd bynnag, ceir y pwynt ehangach ynglŷn â sut rydych chi'n normaleiddio sgwrs am bwnc cwbl normal. Mae'n ddigwyddiad a fydd yn digwydd, ac felly sut ydych chi'n ei ddeall i'ch cydweithwyr, i bobl o'ch cwmpas, o bosibl i chithau hefyd? Oherwydd rhan o'r datgysylltiad y mae menywod yn siarad amdano'n rheolaidd yw nad oedden nhw'n siŵr beth oedd yn digwydd, doedden nhw ddim wir yn gwybod, ac felly'r ddealltwriaeth honno, i chi'ch hun, ond i eraill hefyd—dyna pam mae angen i bobl fod yn gynghreiriaid gwirioneddol wrth wrando i ystyried hyn. Pe bai newidiadau yn y maes cyflogaeth, mae'r rheini'n bethau yr wyf i'n credu y dylai Llywodraeth yn y dyfodol eu cymryd o ddifrif, ond, yn fwy na hynny, newid y diwylliant, normaleiddio'r sgwrs a'i gwneud yn un cefnogol fel y gall pobl estyn allan a siarad â phobl, a pheidio â theimlo cywilydd am ddigwyddiad cwbl naturiol ym mywyd rhywun.

Prynhawn da, Prif Weinidog, ac rwy'n uniaethu â'm cyd-Aelodau Buffy a gyda Laura Anne, a gyda Delyth hefyd. Diolch am godi'r mater hwn. Ond tybed a fyddai'n iawn i mi gymryd safbwynt o gam pellach i ffwrdd, a dweud y gwir, ar anghydraddoldebau iechyd menywod ac edrych ar y cysylltiad rhwng tlodi ac iechyd menywod. Yn ôl ffigurau a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mawrth, mae disgwyliad oes iach adeg geni yng Nghymru wedi gostwng yn raddol ers 2011, ac mae'r dirywiad yn arbennig o amlwg i fenywod, a all ddisgwyl dim ond 60 mlynedd o iechyd da erbyn hyn. Mae'r ystadegau hyn yn dod hyd yn oed yn fwy llwm o gymryd tlodi i ystyriaeth. Mae data o 2022 yn dangos bod gan fenywod yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ddisgwyliad oes iach tua 20 mlynedd yn is na menywod yn yr ardaloedd mwy cefnog. Felly, gall menywod yn ein cymunedau tlotaf ddisgwyl byw mwy na thraean o'u bywydau cyfan gyda salwch sy'n cyfyngu ar weithgarwch neu anabledd. Felly, fy nghwestiwn ar y mater hwn yw: pa fesurau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi er mwyn codi disgwyliad oes iach i fenywod yn rhannau tlotaf Cymru? Diolch yn fawr iawn.

Diolch am y cwestiwn. Nid wyf i'n credu y gallaf i wneud cyfiawnder â maint yr her y mae'r Aelod wedi ei chyflwyno mewn ymateb munud o hyd. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud am anghydraddoldeb ac am groestoriadedd byw mewn tlodi. Mae'n cael effaith uniongyrchol ar ganlyniadau iechyd, ar ganlyniadau bywyd, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, am y tro cyntaf nawr, bod disgwyliad oes cyfartalog yn is i fenywod na dynion, sy'n rhyfeddol.

Rwyf i hefyd yn cydnabod nifer o'r rhesymau. Felly, mae pobl ar aelwydydd un rhiant yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi, yn fwy tebygol o gael eu harwain gan fenyw sy'n oedolyn. Pobl ar aelwydydd sy'n gweithio'n rhan-amser, eto, yn union yr un darlun. Ac mewn gwirionedd, yn enwedig nawr gyda'r argyfwng costau byw yn ogystal, mae menywod yn llawer mwy tebygol o hepgor prydau bwyd i fwydo eu plant hefyd. Mae hynny i gyd yn gwaethygu ac yn ychwanegu at y darlun o dlodi.

Nawr, mae ein strategaeth tlodi plant yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau rhag cyflogaeth a llwybrau gyrfa. Ceir amrywiaeth eang o fesurau y mae angen iddyn nhw gael eu cymryd. Rydym ni wedi siarad am ddiwylliant a gweithredu yn y gweithle—mae hynny'n rhan ohono. Rydym ni wedi sôn am werthfawrogi gwaith menywod yn rheolaidd, a gwneud yn siŵr nad yw menywod yn cael eu talu'n annigonol am y swydd y maen nhw'n ei gwneud—mae hynny'n rhan fawr ohono. Ac rydym ni'n sôn am y cymorth yr ydym ni eisoes yn ei ddarparu drwy ein rhaglenni cyflogadwyedd a thu hwnt o ran gwneud yn siŵr bod gan bobl y sgiliau i ddychwelyd i'r gwaith a'r gofal plant i ganiatáu i fenywod â phlant fynd i'r gweithle neu fynd i addysg a hyfforddiant i'w caniatáu i fynd i mewn i'r gwaith y maen nhw wedi dewis ei wneud. Ceir nifer fawr o fesurau yr ydym ni eisoes yn eu cymryd yr ydym ni'n eu disgrifio yn ein cynllun trechu tlodi, ond mae mwy y gallwn ni ei wneud bob amser, ac yna'r asesiad o ba wahaniaeth yr ydym ni'n ei wneud, ynghyd â'r mesurau hynny lle mae angen i ni weld newid i ddull gweithredu Llywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol agos.

14:15
Rhaglenni Cyflogadwyedd a Sgiliau

5. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno cymorth hyfforddiant mewn swydd fel rhan o gynigion yn y dyfodol ar gyfer ei rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys ReAct Plws a Cymunedau am Waith a Mwy? OQ61179

Diolch am y cwestiwn. Mae ein rhaglenni cyflogadwyedd yn parhau i ddarparu cymorth wrth i swyddogion weithio drwy'r dystiolaeth a fydd yn llywio ein cynigion ar gyfer y dyfodol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg yn bwriadu gwneud datganiad yn yr hydref ynglŷn â'r model gweithredu sengl newydd ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae hynny'n ddefnyddiol iawn, i wybod am y datganiad yna. Rwyf wedi gweithio'n agos gydag Engage to Change, sy'n cael ei arwain gan Anabledd Dysgu Cymru ac sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, a'r hyn maen nhw'n ei wneud yw darparu cynllun hyfforddi swyddi i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig awtistiaeth, i ddod o hyd i leoliadau gwaith a mathau eraill o gyflogaeth. Nid yw rhai mathau o interniaethau â chymorth y tu allan i'r rhaglen honno, fel Twf Swyddi Cymru+ a chymorth swydd mewn addysg bellach, bob amser yn addas ar gyfer pobl ag anableddau dysgu difrifol iawn a mathau o awtistiaeth. Mae Engage to Change wedi llenwi'r bwlch hwnnw, ac maen nhw wedi profi bod gan gefnogaeth hyfforddi swyddi i'r bobl hynny gyfradd gyflogaeth prosiect o 41 y cant yng Nghymru, o'i gymharu â'r ffigur cyflogaeth o 4.8 y cant ar gyfer pobl debyg yn Lloegr. Felly, mae'n brosiect llwyddiannus iawn. 

Mae hefyd yn fater o gydraddoldeb. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd hyfforddi swydd. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno y dylai cymorth hyfforddi swydd ReAct Plws a Chymunedau am Waith a Mwy fod ar gael i'r rhai na allent gael swydd hebddo, yn enwedig y rhai a oedd yn rhan o'r prosiect Engage to Change?  

Rwy'n credu bod y ffordd y mynegodd yr Aelod y cwestiwn yn arbennig o fedrus—'i'r bobl hynny na allent gael gwaith hebddo'—a dyna'r her o ran ein dealltwriaeth y bydd rhai pobl nad oes angen cymorth hyfforddi swydd arnynt. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi sôn am gymorth hyfforddi swydd fel rhan o'u rhaglen dychwelyd i'r gwaith. Ac rydym yn gwybod, a bydd yr Aelod yn gwybod—rwyf wedi ymweld â phobl ar y rhaglen Engage to Change gydag ef—ei fod, mewn gwirionedd, i'r grŵp penodol hwn o bobl ag anghenion ychwanegol, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol, ac mae'r ffaith y tynnodd yr Aelod sylw ato eisoes yn rhan o'r dull gweithredu yn Twf Swyddi Cymru+.   

Felly, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yw archwilio'r dystiolaeth ehangach ar gyfer un model gweithredu i ddeall y rôl y mae hyfforddi swydd yn ei chwarae, a lle y gall fod o'r budd mwyaf. Ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, yn benodol, yn ystyried yr adroddiad 'Symud o Addysg i Gyflogaeth', y mae Dr David efallai yn ymwybodol ohono, sy'n cyfeirio at hyfforddi swydd a'r cymorth posibl y mae'n ei ddarparu fel un o'i argymhellion allweddol. Felly, rydym yn gweithio drwy hynny o ddifrif i sicrhau pan fydd datganiad yn yr hydref, y gallwn nodi pa rôl y mae'n ei chwarae a ble y dylai fod, ac, ar yr un pryd, ceisio sicrhau nad oes gennym ddull gwrthgyferbyniol â'r gwaith y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau ei hun yn ei wneud. 

Prif Weinidog, er bod cymorth hyfforddi swydd yn bwysig wrth sicrhau y gall rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau helpu i gadw gweithwyr, i ateb y galw yn y farchnad swyddi, gyda'r newid arfaethedig ym Mhort Talbot y diweddaraf mewn llinell hir o golli swyddi trwm yn y diwydiant ar draws fy rhanbarth i, rhaid i ni sicrhau mai'r sgiliau hynny yw'r sail ar gyfer dod â sectorau newydd i'r rhanbarth, fel cynhyrchu ynni gwyrdd. Prif Weinidog, sut ydych chi'n sicrhau bod rhaglenni Llywodraeth Cymru yn addasu i ofynion sgiliau yn y dyfodol?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy'n credu ei fod wedi gofyn cwestiwn gwahanol i'r un a ofynnwyd gan Hefin David am rôl hyfforddi swydd a lle mae'n arbennig o briodol. Rwy'n credu y bydd gan lawer o'r gweithwyr yn Tata a'r cyffiniau, a gyflogir yn uniongyrchol gan Tata yn sicr, her wahanol, ac efallai na fydd llawer o'r gweithwyr hynny sydd yno ers amser wedi cael cyfweliad ers tro byd. Bydd ganddynt angen gwahanol i weithwyr mwy diweddar a allant fod yn derbyn cynigion rhagweithiol, yn enwedig y gweithlu medrus, os gwelwn raddfa'r diswyddo yn mynd yn ei flaen sy'n cael ei drafod.

Bydd angen i ni weld o hyd sut rydym hefyd yn dilysu'r sgiliau y mae pobl wedi'u cael. Efallai na fydd ganddynt gymwysterau a gydnabyddir yn allanol ar gyfer y swydd y maent yn ei gwneud. Felly, mae yna ystod o wahanol fesurau i weithio drwyddynt os gwelwn y lefelau dychrynllyd o golli swyddi a gynigir. Fodd bynnag, bydd llawer mwy o effaith yng ngweithlu'r contractwyr a'r economi ehangach sy'n dibynnu ar bŵer gwario gweithlu Tata. Dyna lle gallwn gael effaith llawer mwy sylweddol.

Bydd hynny'n llawer anoddach i'w nodi ar y dechrau, ond mae hynny'n rhan o'r gwaith yr ydym eisiau ei wneud, a dyna pam y mae Ysgrifennydd yr economi wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ynghylch y ffordd y mae'r bwrdd pontio'n gweithredu, i sicrhau ei fod yn fwy ystwyth ac yn canolbwyntio ar yr hyn y gallai'r bwrdd pontio ei wneud, a'r hyn y mae angen i wahanol asiantaethau ymarferol ei wneud, er mwyn darparu lefel y gefnogaeth, ond hefyd cyflymder y gefnogaeth fydd ei hangen. Mae yna ddarn ymarferol iawn o waith i'w wneud gan Lywodraeth Cymru, gan bartneriaid mewn llywodraeth leol, ond hefyd gyda gwahanol rannau o Lywodraeth y DU hefyd, ac yna gallem wneud rhywbeth a allai fod yn fwy effeithiol na'r hyn a allai ddigwydd fel arall, os bydd y ffordd bresennol o weithio'r bwrdd pontio yn parhau i ddatblygu.

14:20

Gan adeiladu ar yr agenda sgiliau a chyflogadwyedd honno, ac, i raddau, ar yr hyn y mae Altaf Hussain newydd ei ofyn, mae un o'r trafferthion yr ydym yn ei weld yn Tata yn profi mewn gwirionedd pam y mae angen i ni fod ar ben ein strategaeth sgiliau. Mae'r ansicrwydd sydd wedi ei brofi yn ardal Port Talbot a'r rhanbarth ehangach wedi golygu bod nifer o weithwyr wedi dechrau gadael Tata i weithio mewn mannau eraill, weithiau y tu allan i Gymru. Rydym yn gwybod am nifer o bobl sydd wedi mynd i weithio yn Hinkley Point, felly mynd â sgiliau hanfodol gyda nhw, sgiliau y gwyddom y byddant yn hanfodol bwysig i ddyfodol economi Cymru. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r effaith y gallai hyn i gyd ei chael ar economi ehangach Cymru a chyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ynghylch sero net ac uchelgeisiau eraill.

Wel, mae hyn yn tynnu sylw at y rhwystredigaeth sydd gen i ac Ysgrifennydd yr economi am y diffyg gwybodaeth am y gweithlu presennol, sy'n debygol o gael gwybod y bydd eu swyddi'n cael eu dadleoli, ond yn benodol, gweithlu'r contractwyr hefyd. Nawr, mae'r wybodaeth honno ar gael i'r cwmni, ac mae rhannu hynny gyda ni yn hynod bwysig i ni allu asesu effaith hynny'n iawn. Mae gennym asesiadau eang o'r ddealltwriaeth o effaith swydd gweithiwr dur, ei bŵer gwario, nifer y swyddi eraill yn yr economi leol sy'n dibynnu arno. Rydym yn gwybod bod yna weithlu medrus y bydd cyflogwyr eraill â diddordeb yn y gweithwyr medrus iawn. Yr hyn na allwn ei weld gyda'r manylder yr ydym ei eisiau yw nifer y bobl hynny yr effeithir arnynt o bosib a sut rydym yn darparu cynnig iddynt i aros yn yr economi yng Nghymru. Mae Hinkley a phrosiectau eraill yn ddeniadol, maen nhw'n talu'n dda ac nid ydyn nhw'n bell iawn oddi wrthym. Y perygl fydd os bydd y bobl hynny'n symud yn barhaol ac yn cael eu dadleoli, mae hynny, o bosibl yn golled barhaol i economi Cymru, yn ogystal â'r effaith ehangach ar y gymuned. Mae'n gwbl gyson â'r achos rydym wedi'i wneud nid yn unig i'r cwmni, ond i Lywodraeth y DU, am y ffordd y mae'r dull gweithredu presennol yn cael ei redeg ac, o bosibl, effaith sylweddol a chenedlaethol os na allwn gael hyn yn iawn ar gyfer talp sylweddol o'r bobl sy'n byw yn ne Cymru.

Diogelu Gwasanaethau Cyhoeddus rhag Seiberymosodiadau

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru rhag seiberymosodiadau? OQ61165

Diolch am y cwestiwn. Gyda'r bygythiad cynyddol a achosir gan ymosodiadau seiber, mae uned seibergadernid Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod mor gydnerth ag y gallant fod. Mae'r gwaith hwn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i gyflawni'r 'cynllun gweithredu seiber i Gymru' a gyhoeddais y llynedd, yn fy rôl flaenorol fel Gweinidog yr Economi.

Diolch am yr ateb yna. Ac, wrth gwrs, wrth i'n dibyniaeth ar y byd digidol dyfu, felly hefyd y risg i'n data o ymosodiadau seiber gynyddu'n esbonyddol. Felly, roeddwn yn falch o weld lansiad CymruSOC, canolfan gweithrediadau diogelwch, yn gynharach y mis hwn. Mae'n gynllun a arweinir gan Gymru mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a reolir gan gwmni o Gaerdydd, Socura, ac mae'n fenter wych. Bydd CymruSOC yn helpu i sicrhau bod sefydliadau allweddol, fel yr awdurdodau lleol a'r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru, yn gallu cynnal gwasanaethau critigol heb unrhyw darfu os bydd ymosodiad seiber. Ac, wrth gwrs, wrth i bobl wneud cais am y pethau hynny sydd eu hangen arnynt mewn gwirionedd, fel trwyddedau priodas, cofrestru genedigaethau, cofrestru marwolaeth, gallwn weld pa mor ddefnyddiol yw'r data hynny mewn gwirionedd. Y cynllun cenedlaethol hwnnw, rwy'n credu, yw'r cyntaf o'i fath yn y DU, ac mae i'w gymeradwyo, felly a ydych chi'n cytuno bod y dull cydweithredol hwn o ymdrin â seiberddiogelwch yn allweddol i ddarparu a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus rhag ymosodiadau seiber mwy soffistigedig?

Ydw, rwy'n falch iawn o'r ffaith mai hwn yw'r cyntaf go iawn ledled y DU. Ac mae'n dod o bartneriaeth yn ogystal ag arbenigedd mewn bod eisiau tyfu'r sector fel busnes, ond hefyd i ddeall natur y bygythiadau sy'n bodoli hefyd. Ac nid yw'r cam hwn ymlaen yn golygu mai dyma ddiwedd y ffordd; mae llawer mwy y mae angen i ni barhau i'w wneud: partneriaethau yng Nghymru i ddiogelu llywodraeth leol a gwasanaethau tân ac achub, ond hefyd partneriaethau gyda'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth.

Mae'n bwysig iawn oherwydd natur y data yr ydym bellach yn gallu ei gyfnewid sy'n helpu i alluogi gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwasanaeth mwy cyflawn ac weithiau mae gwasanaeth mwy unigol hefyd yn golygu bod y gwerth yn y data hwnnw hyd yn oed yn fwy. Mae troseddwyr seiber yn gwbl ddiegwyddor; byddant yn ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer data'r Gwasanaeth Iechyd, byddant yn ymosod ar lywodraeth leol. Yn wir, yng Nghaerlŷr yn ddiweddar ymosodwyd ar ysgol, ac wrth gwrs yr ymosodiadau a gadarnhawyd yn gyhoeddus ar y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae yna unigolion, mae yna sefydliadau, ac mae gweithredwyr gwladol yn y maes hwn hefyd, felly bydd angen i ni fuddsoddi'n barhaus yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud ac i sicrhau ein bod ni'n edrych yn gyson i weld a yw'r model gorau gennym o hyd, a ydyn ni'n denu ac yn cadw'r bobl orau yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat, oherwydd bod pob un ohonynt bellach yn deall bod seiberddiogelwch yn rhan o fywyd bob dydd, nid rhywbeth braf iawn i'w gael.

14:25
Cwmni Egino

Diolch am y cwestiwn. 

Yn dilyn cadarnhad diweddar Great British Nuclear nad yw Trawsfynydd yn safle a ffefrir ar gyfer adweithydd modiwlaidd bach cyntaf o'r fath, mae Cwmni Egino yn canolbwyntio ar gadw'r opsiwn i'w ddatblygu yn nes ymlaen. Mewn deialog â Llywodraeth y DU a GBN, ceisir dyfodol mwy uniongyrchol i'r cwmni, gan weithio'n ehangach ar draws y gogledd.

Diolch am yr ateb. Wel, wrth gwrs, nôl yn 2012, fe sefydlodd y Llywodraeth yma barth menter Eryri er mwyn creu hinsawdd economaidd ffafriol yn yr ardal—ardal Llanbedr a Thrawsfynydd—a fyddai yn y pen draw yn arwain at dwf economaidd, ond methiant llwyr oedd y parth menter yma. Dros gyfnod o 10 mlynedd, ddaru o ddim creu'r un swydd o gwbl, dim ond wedyn er mwyn i'r Llywodraeth fynd ymlaen a chreu cwmni lled braich o'r enw Cwmni Egino. Yn ei dro wedyn mi ydyn ni'n clywed, hwyrach, fod Egino yn mynd i gael ei ffocws wedi'i newid a'i symud. Tybed ydy Egino'n mynd i edrych ar ddatblygu ardal arall yng Nghymru, neu a fydd Cwmni Egino yn cael ei chlymu i fyny yn llwyr? Felly, dwi'n chwilio am sicrwydd gan y Prif Weinidog heddiw, os gwelwch yn dda, y bydd y Llywodraeth yma'n parhau i ganolbwyntio'n economaidd ar Feirionnydd ac y bydd pwrpas Egino yn cael ei addasu er mwyn datblygu prosiectau eraill ym Meirionnydd a fydd yn dod â budd economaidd i'r ardal.

Diolch am y cwestiwn. Mae mwy nag un pwynt yr wyf eisiau ei wneud mewn ymateb. Y cyntaf yw, i Gwmni Egino, eu bod wedi llwyddo yn y broses yn ymwneud â'r gwaith datgomisiynu yn Nhrawsfynydd. Mae llawer o'r gwaith hwnnw wedi cael ei gadw, a'i gadw'n lleol—ni fyddai o reidrwydd wedi gorfod bod i'r raddfa y bu. Mae hynny'n dda i weithwyr lleol ac mae'n dda i'r iaith hefyd oherwydd bod dwy ran o dair o'r gweithlu hwnnw'n siaradwyr Cymraeg. Felly, dyna waith y mae Cwmni Egino eisoes wedi'i wneud.

Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn y gallan nhw ei wneud. Fe'u sefydlwyd i fod yn fwy arbenigol yn yr ardal niwclear, felly mae ganddynt ddiddordeb yn y potensial ar gyfer adweithydd ymchwil. Mae gennym broblem sylweddol o hyd wrth wneud y math o radioisotopau sydd eu hangen arnom fel rhai safonol ar gyfer diagnosis a thriniaeth yn y gwasanaeth iechyd. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU ei gefnogi; byddai hwnnw'n brosiect sylweddol wedi'i angori yn y gogledd-orllewin. Mae Cwmni Egino hefyd yn chwilio am ran yn y sgyrsiau gyda GBN ynghylch a allant chwarae rhan fwy gweithredol mewn opsiynau posibl o ran Wylfa hefyd.

Mae gen i ddiddordeb mewn dyfodol sy'n angori swyddi yn y tymor hwy yn y gogledd-orllewin, i sicrhau na ellir mynd â'r budd economaidd hwnnw i rywle arall a swyddi'n cael eu cyflawni o bell. Felly, oes, wrth gwrs mae gen i ddiddordeb, ac mae mwy i'w wneud yn y rhan yma o'r byd hefyd, nid dim ond dau brosiect yn y sector niwclear; mae gen i lawer mwy o uchelgeisiau ar gyfer dyfodol ynni adnewyddadwy, dyfodol bwyd, ffermio a thir. Dwi'n credu bod gan Feirionnydd dipyn i'w gynnig i Gymru a'r byd ehangach. 

Defnydd Moesegol o Ddeallusrwydd Artiffisial

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd moesegol o ddeallusrwydd artiffisial yng Nghymru? OQ61150

Diolch am y cwestiwn. Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn alluogwr byd-eang allweddol sydd â'r potensial i greu buddion cymdeithasol sylweddol, i fod yn gatalydd ar gyfer twf economaidd a ffyniant, ac i alluogi gwella gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Dylid gwneud y defnydd o dechnolegau AI yn gyfrifol, yn foesegol a chyda dull partneriaeth gymdeithasol o'r cychwyn cyntaf.

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb. Bydd y Prif Weinidog yn cofio digwyddiad a gynhaliwyd gan Sarah Murphy a minnau yn ddiweddar gyda TUC Cymru i lansio eu hadroddiad ar ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle. Roeddwn yn ddiolchgar i'r Prif Weinidog am fynychu'r digwyddiad a gwrando ar bryderon undebwyr llafur yng Nghymru. Mae'r adroddiad gan TUC Cymru yn dogfennu am y tro cyntaf sut mae cyflwyno deallusrwydd artiffisial i weithleoedd Cymru yn effeithio'n negyddol ar weithwyr. Wrth i'r gymuned ryngwladol ddechrau dod at ei gilydd i siarad am sut y gallwn reoleiddio deallusrwydd artiffisial a sicrhau ei fod yn gweithio i bob un ohonom, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddysgu o adroddiad TUC Cymru a sicrhau pontio teg i ddeallusrwydd artiffisial mewn gweithleoedd ledled Cymru?

14:30

Diolch i chi am y cwestiwn a'r ffordd y cafodd ei fynegi, gan gydnabod yr heriau sylweddol. Roedd canolbwyntio mawr ar hynny yn y digwyddiad y gwnaethoch chi ei gynnal gyda Sarah Murphy, na fydd hi, bellach, yn gallu cynnal digwyddiadau o'r fath ar y cyd yn y dyfodol. Yn arbennig, fe gefais i fy nharo gan y cyflwyniad gan Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu am y ffordd yr oedden nhw o'r farn fod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd amhriodol yn y gweithle, a'r diffyg rheolaethau a ddaeth yn ei sgil, a'r diffyg dealltwriaeth hefyd o ran yr wybodaeth a gafwyd.

Mae yna her wirioneddol o ran yr hyn sy'n ymddangos fel defnydd amhriodol o ddeallusrwydd artiffisial, a hefyd y defnydd posibl o ran diogelwch a gweithgareddau i orfodi'r gyfraith hefyd. Mae hynny'n cyd-fynd â'r budd posibl o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, yn y sector preifat, yn y maes yr oedd yr Aelod yn arfer gweithio ynddo, yn ogystal ag yn y gwasanaeth iechyd a thu hwnt. Mae hyn i gyd yn amserol iawn o ystyried y penawdau ynghylch y copi o lais Scarlett Johansson a'r cwmni deallusrwydd artiffisial yn dileu'r llais hwnnw wedyn.

Mae yna fygythiadau gwirioneddol yn ogystal â chyfleoedd sy'n dod yn sgil hyn, a dyna pam mae hi'n bwysig yn fy marn i ein bod yn gweithio yn rhyngwladol. Os ydych chi'n ystyried ymagwedd Llywodraeth y DU, maen nhw'n ystyried rheoleiddio gwirfoddol—cod gwirfoddol—rhywbeth nad wyf i'n credu a fydd yn gweithio, nid yn unig oherwydd maint y cyfleoedd a'r pryderon sy'n bodoli, ond mae rhannau eraill o'r byd yn ystyried yr amgylchedd rheoleiddiol. Os ydych chi'n ystyried yr hyn y mae'r UE yn ei wneud wrth fwrw ymlaen â rheoleiddio yn y maes hwn, mae hynny'n bwysig nid yn unig yn y ffordd maen nhw'n gweld y cynnwys, ond yn y ffaith fod gwasanaethau deallusrwydd artiffisial yn cael eu hallforio o Gymru i'r UE eisoes. Fe fydd angen i'r gwasanaethau y gellir eu darparu o'r fan hon i'r UE gydymffurfio â rheoliadau'r UE yn y dyfodol. Os na allwn ni wneud felly, fe fydd hynny'n effeithio ar y safonau digonolrwydd data sydd gennym ni ac fe fydd yn effeithio ar fasnach llawer ehangach.

Os ydym ni'n dymuno hynny neu beidio, fe fydd y ffaith fod gweddill y byd yn ystyried dull rheoleiddiol o ymdrin â deallusrwydd artiffisial o bwys i bob un ohonom ni. Fe fyddai hi'n well gennyf i pe byddem ni nid yn unig â rhan yn y drafodaeth ond yn y broses o wneud penderfyniadau hefyd. Barn eglur Llywodraeth Cymru—rydym ni wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU—yw ein bod ni'n credu y dylai fod fframwaith rheoleiddio a fydd yn dynodi'r mesurau diogelu y byddai pobl yn disgwyl eu gweld nhw, ac yn awyddus i'w ddylunio yn ei chynnwys o'i dechreuad. Rwy'n credu y byddai hynny'n beth da nid yn unig i unigolion a gwasanaethau, ond, mewn gwirionedd, ac yn y pen draw, yn beth da i fusnesau ac yn beth da i wasanaethau cyhoeddus hefyd. 

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Luke Fletcher. 

Datganoli'r System Gyfiawnder

1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli'r system gyfiawnder? OQ61160

Diolch i chi am eich cwestiwn. Rydym ni'n parhau i gefnogi datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, fel yr argymhellwyd hynny gan nifer o gomisiynau annibynnol dros y blynyddoedd, gan gynnwys y comisiwn cyfansoddiadol yn fwyaf diweddar.

Diolch am yr ateb, Cwnsler Cyffredinol. 

Yr wythnos diwethaf, fe ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol am y sefyllfa bryderus yng Ngharchar Ei Fawrhydi Parc, ac yn benodol a oedd yna gefnogaeth i'r galwadau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fod yn disodli G4S o ran rhedeg y carchar. Yn ddiamau, fe fydd swyddogaeth carchardai preifat yn rhan o'r ddadl ynghylch datganoli cyfiawnder, ac felly yn y gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, pa ystyriaeth a roddir i sut wedd allai fod ar system garchardai ddatganoledig, sut y gellid ei strwythuro, a pha wrthdaro cyfreithiol posibl allai godi wrth ei datganoli hi?

Diolch i chi am y cwestiwn pwysig iawn hwn. Mae'r marwolaethau diweddar yn peri pryder mawr, ac yn sicr, rwy'n awyddus i fynegi fy nghydymdeimlad â'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Rwy'n deall bod cyfanswm o naw o farwolaethau wedi bod yn ystod y ddau fis diwethaf yng Ngharchar Ei Fawrhydi Parc. Er bod rhedeg carchardai yn fater a gedwir yn ôl, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru i drafod y marwolaethau hyn, ac ar gyfer cytuno ar gamau i helpu i leihau'r perygl o niwed i'r dyfodol, o ystyried y cyswllt rhwng carchardai a meysydd datganoledig. 

Fel gŵyr yr Aelod, wrth gwrs, er bod y rhain yn faterion a gedwir yn ôl, mae swyddogaeth a gwaith penodol iawn gennym ni o ran iechyd ac addysg yn y carchardai hynny, ac mae swyddogaeth benodol iawn gennym ni hefyd o ran carcharorion wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau o'r carchar gyda phethau fel cyflogaeth, fel tai a swyddogaethau datganoledig eraill. Fe allaf i ddweud wrthych chi fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at Edward Argar, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Garchardai, Parôl a Phrawf ynglŷn â'r mater hwn, ac mae ef yn aros am ateb. Ac, unwaith eto, fel gydag unrhyw farwolaeth yn y ddalfa, fe fydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf yn ymchwilio i hyn. 

Prynhawn da, Cwnsler Cyffredinol. Mae'r amcanestyniad diweddaraf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhagweld cynnydd syfrdanol o 30 y cant ym mhoblogaeth carchardai dros y pedair blynedd nesaf, a fydd yn cyrraedd 115,000 o garcharorion erbyn 2028 o bosibl, sy'n amcanestyniad a ddisgrifir fel un hollol anghynaladwy gan yr Howard League for Penal Reform. Mae'r Deyrnas Unedig yn ymgodymu eisoes â rhai o'r cyfraddau carcharu uchaf fesul poblogaeth yng ngorllewin Ewrop, gyda'n system gyffredinol yn orlawn bob blwyddyn ers 1994. O fis Ebrill eleni, mae cyfradd y DU yn aros ar 145 o garcharorion fesul 100,000, sef bron ddwywaith y canolrif rhanbarthol, sef 73. Mae hi'n amlwg y bydd yn rhaid i ni wrthod datrysiad diffygiol yr uwchgarchardai, fel CEF Berwyn yn Wrecsam. Er gwaethaf yr addewidion o ran adsefydlu, roedd un o bob 10 carcharor yng Ngharchar Berwyn yn dweud bod ei brofiad yno'n fwy tebygol o wneud iddo aildroseddu. A datgelodd yr arolygiad diweddaraf, y llynedd, gyfraddau brawychus o uchel o hunan-niweidio, fel tynnodd Luke Fletcher sylw at hynny yng Ngharchar y Parc, cefnogaeth annigonol, a 43 y cant yn teimlo yn anniogel. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi, Cwnsler Cyffredinol, pan fyddwn ni'n datganoli cyfiawnder troseddol yma i Gymru, a fyddwch chi'n cau CEF Berwyn yn Wrecsam? Diolch yn fawr iawn.

14:35

Diolch i chi am y cwestiwn a'r pwyntiau pwysig iawn y gwnaethoch chi eu codi. Ymwelodd y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau â Berwyn a charchardai eraill i edrych ar lawer o'r materion y gwnaethoch chi eu codi. Rydych chi'n iawn i ddweud y bu yna bwysau parhaus ar yr ystad carchardai dynion i oedolion o ran y niferoedd, ac rwy'n deall bod Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ag ystod o fesurau i ysgafnu'r pwysau hwnnw. Mae hi'n amlwg iawn fod poblogaeth carchardai wedi codi, a bod polisi carchardai yn fethiant mawr. Rydym ni'n sefyll ar wahân oddi wrth y polisïau blaengar o ran carchardai ac adsefydlu a geir yn Ewrop i gyd. Rwyf i o'r farn fod y pwysau ar y system cyfiawnder troseddol presennol yn adlewyrchu effaith degawdau o ymagwedd gosbol ac atchweliadol tuag at faterion troseddu a chyfiawnder. Fe ddaeth yn fwyfwy amlwg fod angen dull amgen o weithredu. Ac mae hynny mewn sawl ffordd yn sail i'r dadleuon y gwnaethom ni eu cyflwyno o ran datganoli cyfiawnder a chyfiawnder troseddol—nid o ran cymryd rheolaeth ar rywbeth er ei fwyn ei hunan, ond ar gyfer gwneud hynny mewn dull arall, i'w integreiddio â'r swyddogaethau cymdeithasol hynny i gyd sydd mor bwysig o ran adsefydlu.

Fe allaf i ddweud wrthych chi hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod ag Amy Rees, cyfarwyddwr cyffredinol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, ac Ian Barrow, cyfarwyddwr gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi. Fe ddigwyddodd hynny ar 22 o fis Ebrill, pan drafodwyd rhai o'r materion hyn mewn gwirionedd. Mae ein swyddogion ni, hyd yn oed yn y maes hwn a gedwir yn ôl, yn parhau i weithio mewn partneriaeth â nhw, ac rydym ni'n dal ati i wneud ymyraethau yn y meysydd hynny sydd yn ein cyfrifoldeb, i geisio gwneud y gwahaniaeth arbennig hwnnw, ond ar gyfer deall y datblygiadau hefyd a'r hyn sy'n digwydd a sut mae hynny'n effeithio o ran y gefnogaeth a'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu fel Llywodraeth.

Moeseg Deallusrwydd Artiffisial

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch argymhelliad UNESCO ar foeseg deallusrwydd artiffisial? OQ61142

Diolch i chi am y cwestiwn yna. Bydd cynnydd ym maes deallusrwydd artiffisial yn creu cyfleoedd, ond fe fydd yn creu heriau moesegol sylweddol hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y ddarpariaeth economaidd, gyhoeddus sylweddol a'r manteision cymdeithasol ehangach y gellid eu cael o'i ddefnyddio, ond yr angen hefyd i ganolbwyntio yn fanwl ar ymgorffori ystyriaethau moesegol a phartneriaeth gymdeithasol o'r cychwyn cyntaf.

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am hynna. Mae'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn cynyddu'n esbonyddol. Mae oblygiadau cyfreithiol difrifol i hynny i drigolion Cymru mewn myrdd o feysydd, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni'n llunio'r rheoliadau yn iawn. Mae hynny'n golygu pontio teg, lle mae gweithwyr ar eu mantais ac nid ar eu colled. Fel dywedodd yr AS Darren Jones yn Nhŷ'r Cyffredin, 'Ar ôl gadael yr UE, rwy'n gweld dwy ffordd o'n blaenau. Fe fyddwn ni naill ai'n parhau gyda'r hyn a wnawn ni nawr, neu fe fyddwn ni'n moderneiddio ein gwlad.' Cwnsler Cyffredinol, a ydych chi'n cytuno â mi, er mwyn moderneiddio ein gwlad, y dylai pob Llywodraeth yn y DU geisio gweithredu fframwaith deallusrwydd artiffisial UNESCO, a'i bod hi'n gyfrifoldeb ar bob un o adrannau'r Llywodraeth a phob Senedd yn y DU, gan gynnwys y Senedd hon, i gadw i fyny â chyflymder arloesi deallusrwydd artiffisial trwy ddeddfu lle bo hynny'n briodol?

14:40

Diolch i chi am y pwyntiau yna. Gan ddilyn rhai o'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn gynharach efallai, rydym ni, wrth gwrs, yn y Llywodraeth, wedi bod yn hyrwyddo'r angen am reoleiddio priodol a mecanwaith llywodraethu a sicrwydd priodol a arweinir gan egwyddorion allweddol. Wrth gwrs, yr egwyddorion allweddol sy'n berthnasol yn uniongyrchol i ni yw'r rhai sy'n codi o argymhellion UNESCO, ac mae'r Deyrnas Unedig yn aelod-wladwriaeth yn UNESCO. Mabwysiadwyd yr argymhellion hynny ynglŷn â gwerthoedd a buddiannau moesol, dibynadwy ac ati, ynghylch hygyrchedd, cynwysoldeb, arloesi, cydweithio, ond hefyd, yn bwysig iawn o ran yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, y dylai deallusrwydd artiffisial fod yn dryloyw, fe ddylai fod yn atebol, ac fe ddylai fod yn destun i lywodraethu a goruchwyliaeth briodol.

Wrth gwrs, mae rhywfaint o waith diddorol iawn, fel cafodd ei grybwyll yn barod, yn digwydd gyda'r Undeb Ewropeaidd—y ffaith bod gwaith yn mynd rhagddo ar Ddeddf eisoes, sydd â nifer o elfennau allweddol ynddi, sy'n gysylltiedig â defnyddio deallusrwydd artiffisial, ond hefyd yr amddiffyniadau angenrheidiol rhag rhai ffyrdd o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, a hefyd yr hyn sy'n dilyn ymlaen ar yr agwedd arall, a hynny yw hygyrchedd a defnydd data sy'n codi o reoliad diogelu data cyffredinol yr UE 2018. Felly, er nad ydym ni'n rhan o'r UE nawr, oherwydd y ffaith bod cymaint o'n masnach a'n hymgysylltiad ni gyda'r UE, mae'r hyn sy'n digwydd yno a'r datblygiadau arloesol sy'n digwydd yno yn hanfodol bwysig i ni.

Mae yna, yn Llywodraeth Cymru, weithgor deallusrwydd artiffisial traws-sefydliadol, a sefydlwyd i ymgorffori ystyriaethau deallusrwydd artiffisial i bolisi a chyflawniad. Mae cyngor partneriaeth y gweithlu wedi sefydlu gweithgor yn ogystal â datblygu'r egwyddorion a'r canllawiau hynny. Ac rydym ni'n parhau i weithio gyda'r partneriaid perthnasol i gyd ar gyfer cadw mewn cysylltiad, a bod yn ymwybodol, ond ar gyfer edrych hefyd ar y camau y gallwn ni eu cymryd i weithredu'r egwyddorion y gwnaethom ni eu mabwysiadu ac sy'n rhoi sail i'r defnydd a wneir o ddeallusrwydd artiffisial.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Ym mis Mehefin 2023, fe wnaethoch chi gyhoeddi ymgynghoriad Papur Gwyn o'r enw 'System dribiwnlys newydd i Gymru', a gaewyd fis Hydref diwethaf, ar ôl cael dim ond 54 o ymatebion. Fel gwyddoch chi, roedd y cynigion yn y Papur Gwyn yn nodi'r bwriad i greu system dribiwnlysoedd unedig i Gymru, sy'n cynnwys dau dribiwnlys newydd: tribiwnlys haen gyntaf Cymru a thribiwnlys apêl Cymru, yn y drefn honno. Wrth i chi ddatblygu'r newidiadau deddfwriaethol ar gyfer eich bwriad o ddiwygio'r system tribiwnlysoedd yng Nghymru, sut fyddwch chi'n ymateb i'r 91 y cant o'r ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn yn yr ymgynghoriad a oedd yn gofyn a yw'r ymatebwyr yn cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaethau tribiwnlysoedd Cymru i dribiwnlys haen gyntaf Cymru, gyda rhai ohonyn nhw'n gwneud y pwynt pwysig y dylid sicrhau'r amhariad lleiaf posibl heb unrhyw effeithiau dinistriol ar fusnes parhaus pob tribiwnlys?

Diolch i chi. Unwaith eto, mae hwnna'n gwestiwn pwysig iawn, oherwydd, yn dilyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith, mae deddfwriaeth yn cael ei pharatoi o ran yr argymhellion hynny, gyda golwg ar Fil tribiwnlysoedd, i weithredu'r gwaith a wnaeth Comisiwn y Gyfraith, ond hefyd ar gyfer diweddaru hyd at ddisgwyliadau'r unfed ganrif ar hugain, mewn ffordd sy'n briodol yn farnwrol, yr holl dribiwnlysoedd hynny sydd wedi dod i Gymru mewn ffordd ad hoc—tribiwnlysoedd pwysig iawn, ond tribiwnlysoedd sydd â strwythurau amrywiol a hynny'n dibynnu ar natur y tribiwnlysoedd ac ym mha ffordd y gwnaethon nhw gyrraedd. Y bwriad, fel rydych chi'n dweud, yw creu tribiwnlys haen gyntaf, a hefyd, fel dywedais i yn y gorffennol, am y tro cyntaf yn hanes Cymru, am dros 600 mlynedd a mwy mae'n debyg, strwythur apeliadol.

Fe ddaw'r rhan hon o'r system farnwrol a ddatganolwyd eisoes gyda nifer o heriau ychwanegol. Yn gyntaf, rwy'n credu bod cryn dipyn o gefnogaeth wedi bod. Roedd yr ymgynghoriad, y Papur Gwyn, rwy'n credu, yn gefnogol iawn i'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo. Rydym ni'n awyddus i oresgyn unrhyw broblemau trosiannol yn y man lleiaf, a dyna pam mae angen i hyn gael ei gynllunio yn ofalus iawn. Un o'r materion, wrth gwrs, sy'n bwysig iawn yw annibyniaeth y tribiwnlysoedd a'r angen i ystyried bod â'r tribiwnlysoedd hynny mewn strwythur ar wahân, ond hefyd i fod yn dribiwnlysoedd priodol sydd â'r anffurfioldeb y byddem ni'n ei ddisgwyl gan dribiwnlysoedd. Hefyd, wrth gwrs, mae tribiwnlysoedd yn rhywbeth sy'n cynnig cyfle i ddefnyddio llawer mwy, rwy'n credu, o'r Gymraeg yn y rhan honno o'r system farnwrol.

Yr hyn y gallaf i sicrhau'r Aelod ohono yw: na fyddai unrhyw drawsnewidiad ysgytwol sydyn o ran y tribiwnlysoedd na'r ffordd y maen nhw'n gweithredu, ond fe fydd yna fwy o foderneiddio arnyn nhw, mwy o sicrwydd o annibyniaeth yn y ffordd y maen nhw'n gweithio, y cyfleusterau, yr adnoddau a'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer y gyfran honno o farnwriaeth Cymru, a hefyd, wrth i'r tribiwnlysoedd ddatblygu, ystyriaeth o feysydd eraill a fyddai'n dod yn naturiol i mewn i strwythur tribiwnlys ar gyfer gweld sut y gellir hwyluso hynny mewn gwirionedd.

Roedd fy edmygedd i'n fawr ac fe ddysgais i lawer wrth fynychu Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban yn yr Alban, a gyflwynodd ddeddfwriaeth yn 2014 yn hyn o beth. Mae ganddyn nhw, wrth gwrs, hanes gwahanol iawn, ond roedd hwnnw'n ymarfer defnyddiol iawn ar gyfer dysgu o'u profiad nhw eu hunain, ac mae'r gwersi hynny'n rhai yr wyf i'n rhoi cryn ystyriaeth iddyn nhw wrth edrych ar sut y gallwn ni elwa arnyn nhw.

14:45

Diolch i chi. Roeddech chi'n cyfeirio at annibyniaeth y tribiwnlysoedd. Wrth i chi ddatblygu'r newidiadau deddfwriaethol yr ydych chi'n bwriadu diwygio'r system tribiwnlysoedd yng Nghymru â nhw, sut fyddech chi'n ymateb i'r 94 y cant o'r ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn yn yr ymgynghoriad a oedd yn gofyn a oedd yr ymatebwyr yn cytuno â'r ddyletswydd statudol arfaethedig i gynnal annibyniaeth farnwrol sy'n berthnasol i bawb sydd â chyfrifoldeb am weinyddu cyfiawnder fel bo'n berthnasol i'r system tribiwnlysoedd ddiwygiedig yng Nghymru, gyda llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru yn datgan,

'Yn gwbl sicr. Mae hwnnw'n gam hanfodol y mae angen ei sefydlu yn bendant cyn trosglwyddo pwerau awdurdodaethol',

gyda Dr Huw Evans o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn datgan,

'tra bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal annibyniaeth aelodau tribiwnlys Cymru, fe fydd hi'n rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol amddiffyn yr annibyniaeth honno ar ben hynny',

a gyda SNAP Cymru yn mynegi ei gefnogaeth i argymhellion Comisiwn y Gyfraith y dylai fod dyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth y tribiwnlysoedd datganoledig?

Mae annibyniaeth y tribiwnlysoedd yn fater a gododd ar sawl achlysur, nid yn unig yn yr ymgynghoriad ond mewn trafodaethau hefyd gyda llywydd newydd y tribiwnlysoedd, Syr Gary Hickinbottom, y byddaf i'n cwrdd ag ef yn ddiweddarach yr wythnos hon. Ni oes unrhyw gwestiwn o gwbl ynghylch pwysigrwydd annibyniaeth y system. Gan mai nhw sydd wedi dod atom ni, mae angen ffurfioli'r annibyniaeth honno. Fy marn bersonol—mae hwn yn faes i'w ystyried—yw nad wyf i'n credu bod angen deddfu ar gyfer yr annibyniaeth. Yr hyn sy'n angenrheidiol yw bod strwythur llys gennym ni sy'n gweithio yn wirioneddol annibynnol mewn fframwaith barnwrol priodol. Ac nid awdurdodaeth a drosglwyddwyd i ni yw hi; mae hyn gennym ni eisoes mewn nifer o feysydd, a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yw dod a'r cyfan at ei gilydd mewn system haen gyntaf addas sy'n sicrhau'r fantais y bydd barnwyr Cymru yn gallu eistedd mewn mwy nag un tribiwnlys, ond hefyd, wrth i ni basio deddfwriaeth a allai greu strwythurau ynglŷn â throseddau neu apeliadau neu faterion a fyddai'n cael eu cyfeirio at dribiwnlys, mai hwnnw fyddai'r cartref naturiol i'r materion hynny gael eu hystyried mewn gwirionedd.

Diolch i chi. Fy nghwestiwn olaf i ar y thema hon: wrth i mi ymateb i'ch datganiad yn y fan hon fis Mehefin y llynedd ar ddiwygio tribiwnlysoedd a'r dirwedd farnwrol sy'n esblygu yng Nghymru, fe wnes i godi pryderon gyda chi unwaith eto fod plant agored i niwed a'u teuluoedd nhw yng Nghymru yn cael eu siomi oherwydd nad oes gan Dribiwnlys Addysg Cymru unrhyw bwerau gorfodi ac na allan nhw gymryd camau gorfodi pellach pan fo'r cyrff cyhoeddus perthnasol yn methu â chyflawni eu gorchmynion. Er i'r Uchel Lys ddyfarnu yn 2018 fod gwahardd disgybl awtistig am ymddygiad sy'n deillio o'i awtistiaeth yn anghyfreithlon, rwy'n parhau i dderbyn gwaith achos yn y gogledd lle mae hyn yn digwydd. Felly, wrth i chi ddatblygu'r newidiadau deddfwriaethol yr ydych chi'n bwriadu diwygio'r system tribiwnlysoedd yng Nghymru trwyddyn nhw, sut ydych chi felly am ymateb i'r 80 y cant o'r ymatebion cadarnhaol i'r cwestiwn yn yr ymgynghoriad a oedd yn gofyn a oedd ymatebwyr yn cytuno y dylid trosglwyddo awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion i dribiwnlys haen gyntaf Cymru, gyda llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru yn datgan, 

'Mae arbenigedd arbenigol Aelodau Arbenigol ein Tribiwnlys yn golygu mai ni sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau teg a chyfiawn sy'n annibynnol ar brosesau Ysgolion neu Awdurdod Lleol unigol'?

Rwy'n cytuno â'r pwyntiau olaf hynny a wnaethoch chi yn hyn o beth, ac rwy'n credu mai'r bwriad yw bod materion ynglŷn â gwaharddiadau o ysgolion yn faterion a ddaw i mewn i'r tribiwnlysoedd maes o law. A ddaw hynny'n union ar y dechrau sy'n fater arall. Fel gwyddoch chi, mae yna fecanwaith eisoes o ran gwaharddiadau o ysgolion. Ond, wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni'n ei gydnabod, ac yn sicr rwy'n cydnabod hynny o ran y nifer o droeon yr wyf i wedi eistedd i mewn yn y llysoedd ieuenctid erbyn hyn, yw ein bod ni'n gweld pa mor bwysig yw mater gwaharddiadau, y swyddogaeth sydd ganddo yn llwybrau pobl ifanc, os yw hynny'n arwain at droseddu, ac ati. Felly, mewn sawl ffordd, o ran ein hamcanion cymdeithasol ni o gadw pobl ifanc o'r system cyfiawnder troseddol, o'r system carchardai yn y pen draw, a mynd i'r afael â'r problemau sydd ganddyn nhw ac ymyrryd yn gynnar, rwy'n credu bod gwaharddiadau yn rhan sylweddol iawn o hynny, mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n trin hyn yn iawn, ac rwy'n credu yn sicr mai'r cyfeiriad yr ydym ni'n mynd iddo yw y bydd gwaharddiadau yn fater, maes o law, a ddaw i mewn i'r system dribiwnlysoedd haen gyntaf, pan sefydlir hi mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu y byddai hynny, mae'n debyg, yn cyd-fynd â chanlyniad yr ymgynghoriad a'r sylwadau a gafwyd yn ystod y broses honno o ymgynghori.

14:50

Diolch, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, rydych chi a minnau wedi cael cyfle ar fwy nag un achlysur erbyn hyn i drafod y cynnig i gyflwyno gwaharddiad ar dwyll bwriadol gan Aelodau presennol a darpar Aelodau'r Senedd. Nawr, fe ymgorfforwyd y cynnig hwnnw mewn adran newydd, adran 64, o'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), yn dilyn cyfnod pwyllgor y Bil hwnnw'r wythnos diwethaf. Fe wnaethoch chi wrthwynebu'r cynnig yn y cyfnod pwyllgor, ond fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n dweud wrth y Senedd beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud yng Nghyfnod 3 o ran y cynnig hwn nawr. A fyddwch chi'n ceisio ei ddiddymu, neu a fyddwch chi'n cyflwyno gwelliannau ar gyfer ei fireinio, a fydd ym mynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd gennych chi?

Wel, diolch i chi am hynna. O ran y gwelliant, fel gwyddoch chi o'r cyfraniadau a wnes i yn ystod y sesiwn Cyfnod 2 hwnnw, mae gennyf i bryderon difrifol iawn ynghylch hynny, o ran a fydd yn gymwys, ynghyd â mater rheolaeth y gyfraith, eglurder y ddeddfwriaeth, y gallu i honno gael ei gweithredu, creu trosedd o bosib pan na fu unrhyw ymgysylltiad nac ymgynghoriad priodol, ac ati. Fe fyddaf i, yn sicr, yn dadansoddi'r gwelliant a wnaethpwyd. Fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth iddo, ac yn sicr fe fyddaf i'n mynegi barn cyn Cyfnod 3, a ddaw o gwmpas 17 neu 18 o fis Mehefin rwy'n credu. Ond rydych chi'n ymwybodol o'r safbwyntiau sydd gennyf i ynglŷn â hyn.

Mae'r dewisiadau a allai fod ar gael i Lywodraeth Cymru naill ai ar gyfer gwelliant neu sicrhau y bydd effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth yn parhau i fod dan ystyriaeth. Fel gwyddoch chi, fy hoff gyfeiriad i fyddai i hwn fod yn fater, ynghyd â mater adalw, y byddai'n well iddynt gael eu hystyried a'u harchwilio gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a ddechreuodd y gwaith hwnnw mewn gwirionedd. Nid fy mhrif amcan i yw o ran beth yw bwriad y gwelliant hwnnw, ond beth yw'r ffordd orau i lunio cyfraith sy'n gyfraith dda ond sy'n gyfraith effeithiol hefyd. Mae gennyf i lawer o amheuon ynghylch natur y rhan honno o'r gwelliant deddfwriaethol a wnaethpwyd, ond mae hi'n parhau i gael ei hystyried gennyf.

Yn eich sylwadau'r wythnos diwethaf yn y cyfnod pwyllgor, roeddech chi'n dweud nad oedd y Llywodraeth wedi cynhyrchu archwiliad dwfn cynhwysfawr eto—rwy'n credu mai dyna oedd eich ymadrodd chi, Cwnsler Cyffredinol—dadansoddiad cyfreithiol o'r cynnig. Rydym ni wedi trafod hynny droeon erbyn hyn, ond ni chafodd y dadansoddiad hwnnw ei gynnal hyd yn hyn, meddwch chi. Rydych chi wedi rhoi crynodeb byr o'r meysydd y ceir pryderon ynddyn nhw, ond a fyddwch chi nawr yn comisiynu'r dadansoddiad cyfreithiol cynhwysfawr hwnnw gan gynghorwyr cyfreithiol y Llywodraeth? Ac, ar gyfer hwyluso'r gwaith craffu seneddol ac yn wir, cyhoeddus ehangaf posibl, ar y cynnig a dehongliad y Llywodraeth ohono, a wnewch chi gyhoeddi'r dadansoddiad cyfreithiol hwnnw er mwyn i ni fod â sail gyffredin i ddeall ym mha le y mae'r Llywodraeth wedi nodi'r materion y mae angen i ni eu datrys yng Nghyfnod 3?

14:55

Wel, diolch i chi am y sylwadau yna. Wrth gwrs, pan ddaeth y gwelliant i mewn, prin y cafwyd ychydig ddyddiau o rybudd i roi ystyriaeth i hwnnw mewn gwirionedd. Felly, mae hi'n bryder bod â deddfwriaeth sylweddol yn cael ei chyflwyno heb i'r gwaith manwl hwnnw gael ei wneud arni eisoes na'r craffu cyn hynny chwaith, a dyna un o'm pryderon i ynghylch gwneud gwelliant fel hyn ar gefn darn o ddeddfwriaeth o fewn cwpl o ddiwrnodau. Mae'r materion hynny o ran cymhwysedd yr wyf i'n awyddus i'w hystyried yn faterion sy'n ymwneud â Deddf Anudon 1911. Maen nhw'n ymwneud â Deddf Hawliau Dynol 1998 hefyd. Mae yna rai materion o ran rheolaeth y gyfraith hefyd.

Nawr, rwyf i am fod yn ofalus iawn o ran sut y byddaf i'n ystyried mater cymhwysedd oherwydd, yn gyntaf, mae'n rhaid i mi ffurfio barn ar hynny. Ond, yn ail, mae gen i swyddogaeth benodol ar ddiwedd darn o ddeddfwriaeth, yn Gwnsler Cyffredinol, yr wyf i'n ei gwneud yn annibynnol ar y Llywodraeth, na allaf ei hymarfer ond ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei chwblhau, sef p'un ai i'w chyfeirio at y Goruchaf Lys ai peidio, neu a ellid ei chyfeirio gan y Twrnai Cyffredinol i'r Goruchaf Lys. Os felly, mae'n rhaid i mi gymryd safbwynt ar hynny ar y cam penodol hwnnw. Dyna pam, mewn gwirionedd, y mae gennyf i'r pryderon am natur gwelliant mor sylweddol, sy'n creu trosedd nad yw wedi bod yn destun unrhyw un o'r prosesau ymgysylltu neu graffu arferol ar gyfer pethau o'r fath. Ac, wrth gwrs, peidied neb ag anghofio, pe bai'r mater yn cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys, mae hi'n annhebygol iawn y byddai'r Bil hwn yn gallu dod i rym ar gyfer etholiad 2026. Felly, mae honno hefyd yn ystyriaeth i mi o ran sut y dylai'r ddeddfwriaeth hon fynd ar ei hynt drwy Gyfnod 3.

Fe garwn i dynnu sylw'r Cwnsler Cyffredinol at y ffaith mai 18 Mehefin fydd y pedwerydd cyfle ffurfiol i'r Senedd drafod y cynnig hwn. Dyma'r hyn y mae seneddau yn ei wneud—maen nhw'n diwygio Biliau'r Llywodraeth, ac mae hi'n debyg y dylem ni wneud hynny'n fwy rheolaidd.

Onid yw ef yn derbyn bod yr ymchwiliad i waed heintiedig, yn y ffordd fwyaf graffig ac erchyll, wedi dangos bod diwylliant o ddweud celwydd a chelu mewn gwleidyddiaeth? Ac mae yna anghymesuredd o ddioddefaint ar hyn o bryd, oherwydd nid yw'r gwleidyddion sy'n dweud celwydd yn wynebu unrhyw ganlyniadau, ond mae'r bobl sy'n dioddef oherwydd y rhain yn wynebu'r canlyniadau mwyaf ofnadwy, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei newid gyda'r cynnig hwn. A gaf i roi awgrym iddo, o ystyried y cyd-destun hwnnw, ac yn hinsawdd bresennol y farn gyhoeddus, ni fyddai hi'n gwneud unrhyw les o gwbl i enw da'r Llywodraeth hon pe byddech chi'n ceisio diddymu cynnig i wahardd, i nadu dweud celwydd ym myd gwleidyddiaeth? Felly, yn lle gwneud hynny, gweithiwch gyda ni ar sail drawsbleidiol i wneud hyn yn iawn, oherwydd dyna'r hyn y mae'r cyhoedd yn awyddus i'w weld.

Rwy'n sicr yn cytuno â'r pwynt olaf yna, a dyna pam rwy'n credu mewn gwirionedd, yn y maes hwn o ran materion adalw, ym materion safonau, a'r materion o dwyll, y dylid cael darn o ddeddfwriaeth a ystyriwyd yn briodol a darn o ddeddfwriaeth a fu'n destun craffu, a deddfwriaeth sydd wedi ymgysylltu yn briodol â phobl a phleidiau a rhanddeiliaid perthnasol hefyd, a honno fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni deddfwriaeth sy'n gweithio mewn gwirionedd.

Nawr, rydych chi'n hollol gywir—o ran digwyddiadau, boed hynny'n Hillsborough, boed yn alwadau o ran Orgreave, boed hynny o ran y gwaed heintiedig, Horizon ac ati—mai'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw'r hyn y gofynnodd fy nghyd-Aelod Jack Sargeant amdano, a hynny yw dyletswydd gonestrwydd statudol. Yr hyn sy'n peri pryder i mi yw gwelliant i ddeddfwriaeth sy'n honni ei fod yn datrys problem ond, mewn gwirionedd, nid yw'n llawer gwell na chyfraith ddrwg ac aneffeithiol. Hwnnw yw fy mhryder i—ein bod ni'n gweld rhywbeth fel ateb cyflym, yn fwled hud, ond yn y diwedd, wrth graffu ar y peth, nid yw'n ddim o'r fath. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dros ben fod y ddeddfwriaeth a luniwn ni yn y lle hwn ar faterion mor bwysig yn ddeddfwriaeth a fydd yn gweithio mewn gwirionedd, a fydd yn effeithiol mewn gwirionedd ac a fydd yn cyflawni'r hyn yr ydym ni awyddus iddi wneud mewn gwirionedd. Mae cryn amheuon gennyf i a yw'r gwelliant a basiwyd yn goresgyn y rhwystrau hynny.

15:00
Ymgysylltu â'r Cyhoedd mewn Etholiadau

3. Pa wersi y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn credu y gellid eu dysgu o etholiadau diweddar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ynghylch sut i ymgysylltu'n well â'r cyhoedd mewn etholiadau? OQ61135

Diolch i chi am eich cwestiwn. Nid yn annisgwyl, roedd y niferoedd a wnaeth bleidleisio yn etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throseddu diweddar yng Nghymru yn isel iawn. Ymhlith y rhesymau niferus am hynny, roedd ymgysylltiad aneffeithiol â'r cyhoedd ynghylch yr etholiadau hyn yn un amlwg. Ar gyfer cryfhau ymgysylltiad y cyhoedd ag etholiadau yn fwy eang, rwyf i am gyflwyno deddfwriaeth i wella argaeledd gwybodaeth a goresgyn y rhwystrau rhag cyfranogi.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am chwalu'r rhwystrau rhag cyfranogi, oherwydd dyna fydd fy nghwestiwn atodol o ran cyflwyno dogfennau adnabod pleidleiswyr. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod cyflwyno'r rhain wedi bod yn anniben heb unrhyw resymeg wirioneddol. Fe gewch chi bleidleisio gyda phas bws unigolyn hŷn, ond nid gyda phas bws unigolyn ifanc. Fe gewch chi ddefnyddio rhai pasbortau, fel pasbortau'r DU, yr UE a'r Gymanwlad, ond nid unrhyw un arall. Roedd rhai adroddiadau bod rhai â phasbortau o Bangladesh a Pacistan yn cael eu gwrthod ar gam mewn etholiadau lleol yn Lloegr. Efallai fod y staff pleidleisio eu hunain yn ansicr o'r rheolau. Ac o ran hawl unigolyn i bleidleisio, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gwneud cyfiawnder â hynny. A yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn casglu data ar effaith dogfennau adnabod pleidleiswyr, ac a fu gwahaniaeth ar sail hil o ran y rhai a wrthodwyd rhag bwrw eu pleidlais? Diolch yn fawr.

Wel, diolch i chi am godi'r mater parhaus hwn. Wrth gwrs, mae llawer o sôn wedi bod am etholiadau'r cynghorau diweddar, yn enwedig yn Lloegr. Wrth gwrs, isel iawn oedd nifer y pleidleiswyr yn etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru, am mai nhw oedd yr unig etholiadau, ac nid oedd gan yr ymgeiswyr unrhyw gefnogaeth o ran rhannu cyhoeddusrwydd a deunydd a gwybodaeth ar gyfer etholwyr. Felly, fe fydd unrhyw ddadansoddiad o sut ddigwyddodd pethau yng Nghymru yn rhywbeth o ddiddordeb, yn amlwg. Efallai y byddwn ni'n dysgu rhagor o wersi o'r hyn a ddigwyddodd yn Lloegr, lle gwyddom ni, y tro diwethaf, fod o leiaf 14,000 wedi cael eu gwrthod rhag pleidleisio yn yr etholiadau; cafodd rhai eraill eu troi i ffwrdd a dod yn ôl wedyn; ac eraill, rwy'n amau, nad aethon nhw i'r drafferth i fynd allan i bleidleisio o gwbl am eu bod yn rhagdybio nad oedd y cardiau adnabod angenrheidiol ganddyn nhw. Rwy'n cofio'r cyn-Brif Weinidog, Boris Johnson, wrth gwrs, o ran cerdyn adnabod, y byddai ef yn ei rwygo yn ddarnau a'i fwyta gyda'i rawnfwyd i frecwast. Wel, mae'n rhaid ei fod ef wedi gwneud felly, oherwydd fe ddaeth i bleidleisio, nid oedd cerdyn adnabod ganddo, ac fe wnaethon nhw ei anfon ef adref.

Testun gofid llawer mwy, wrth gwrs, yw'r pryder bod pobl fel y cyn-filwr a gyflwynodd ei gerdyn adnabod cyn-filwr ac na chafodd ei dderbyn, ac wrth gwrs mae yna lawer o fyfyrwyr sydd â chardiau adnabod, ond am ryw reswm—ni allwn ni ond dychmygu pam—na chafodd y cardiau adnabod myfyrwyr eu derbyn. Felly, mae pryder gwirioneddol am hynny a'r system o gardiau adnabod a'r effaith y mae hynny'n ei chael. Fel gwyddoch chi, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn un sy'n canolbwyntio ar godi'r rhwystrau rhag cyfranogi mewn etholiadau. Ac fe wyddom ni, o'r sylwadau a wnaeth y cyn-Weinidog Ceidwadol Rees-Mogg, mai mesur oedd hwn a gyflwynwyd gyda'r amcan o gyfyngu ar allu pobl i gyfranogi yn y pleidleisio—syniad a ddeilliodd o dactegau Americanaidd o atal pleidleiswyr. Ond yr hyn y gallaf eich sicrhau chi yw, pan fydd dadansoddiad pellach gan y Comisiwn Etholiadol—rwy'n cyfarfod â hwnnw o bryd i'w gilydd—fe fydd hwn yn un o'r materion y byddwn ni'n awyddus i'w ystyried. Ond fe fyddwn ni'n awyddus hefyd i ystyried sut i atal dryswch i bobl yn yr etholiadau datganoledig yng Nghymru pan gynhelir y rheiny, ac atal dryswch i bobl o ran eu hawl a'u gallu i bleidleisio yn etholiadau Cymru heb gardiau adnabod.

Rwy'n anghytuno â'r Cwnsler Cyffredinol. Fe ddywedodd ef mai niferoedd bychain a bleidleisiodd; fe ddywedwn i mai bychain iawn oedden nhw. Roedd diffyg diddordeb yn yr etholiad. Arhosodd pobl gartref a fyddant fel arfer yn pleidleisio ym mhob etholiad arall. Mae hi'n bosibl mai hwn oedd yr etholiad cyntaf erioed i'r rhai a bleidleisiodd drwy'r post fod yn fwy niferus na'r rhai a bleidleisiodd yn y cnawd. Roedd dryswch ynghylch yr hyn y mae comisiynwyr heddlu a throseddu yn gyfrifol amdano. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi mai prif achos prinder pobl yn pleidleisio oedd absenoldeb unrhyw lenyddiaeth gan y pleidiau, yn enwedig pan fo'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn cwmpasu ardal mor eang, ac mae hi'n anodd iawn bod yn adnabyddus yn yr ardal eang honno? A fydd y Cwnsler Cyffredinol yn pwyso am lythyru rhadbost i bob ymgeisydd yn yr etholiad nesaf? Fel yna mae democratiaeth yn gweithio.

15:05

Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Y ffaith eich bod yn cynnal etholiad a sefydlwyd ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu sydd â swyddogaeth benodol i'w chyflawni, ac yn wahanol i unrhyw etholiad arall, lle mae gan ymgeiswyr hawl i gynhyrchu cyfran benodol o lenyddiaeth, nid oes gan gomisiynwyr heddlu a throsedd unrhyw beth o'r fath. Mae hi'n ymddangos i mi ei fod yn rheswm sylfaenol i gynghorwyr ac Aelodau'r Senedd ac Aelodau Senedd San Steffan gael cyfran benodol o radbost, oherwydd ei bod hi'n bwysig fod pobl yn gwybod pwy yw'r ymgeiswyr, yn gwybod dros beth y maen nhw'n sefyll, ac unrhyw faterion maniffesto sydd ganddyn nhw, felly mae honno'n rhan o broses ddemocrataidd dda. Dim ond proses ddemocrataidd wael all hi fod os oes gennych chi ymgeiswyr nad yw pobl yn gwybod pwy ydyn nhw mewn gwirionedd, nad oes ganddyn nhw hawl i dderbyn unrhyw lenyddiaeth neu wybodaeth amdanyn nhw, ac mae hynny'n tanseilio'r broses ddemocrataidd a'r hyder sydd ynddi, ac felly rwy'n cytuno yn llwyr â chi. Wrth gwrs, nid yw comisiynwyr heddlu a throseddu wedi cael eu datganoli; wel, heb eu datganoli eto, ac rwy'n gobeithio, pe bydden nhw'n cael eu datganoli, fe fyddem ni'n gallu datrys hyn. Ond fe allaf eich sicrhau chi, gan ystyried yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, mae gennym ni grŵp rhyng-weinidogol ar etholiadau. Rwy'n credu bod un o'r rhain yn dod yn fuan iawn ac fe fyddaf i'n gwneud y pwyntiau hyn yn y cyfarfod arbennig hwnnw.

Cwestiwn 4, Rhys ab Owen. [Torri ar draws.]

Na, dim pwynt o drefn; nid ar yr adeg hon, rydym ni ar ganol cwestiynau.

Cwestiwn 4, Rhys ab Owen.

Y Cynllun Dychwelyd Ernes

4. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch bwriad Llywodraeth y DU i ddefnyddio ei phwerau o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig i rwystro gwydr rhag cael ei gynnwys yn y cynllun dychwelyd ernes? OQ61136

Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod o'r farn fod Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn dramgwyddus i Gymru gan ei bod yn ceisio tanseilio pwerau'r Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae'r problemau gyda'r cynllun dychwelyd ernes yn enghraifft arall o'r problemau gyda'r darn hwn o ddeddfwriaeth.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n cytuno â chi ac yn cytuno â'r hyn a ysgrifennodd Huw Irranca-Davies fis diwethaf yn ei ddatganiad ysgrifenedig ef sef bod hon yn enghraifft arall o gamddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol gan Lywodraeth San Steffan. Fe ddylai datganoli ein galluogi ni i archwilio syniadau newydd, ond nid yw hi'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn rhannu'r dyhead hwn i Gymru. Yn hytrach, mae rhywbeth mor syml â chynnwys gwydr mewn cynllun ailgylchu yn cael ei droi yn bêl-droed wleidyddol. Mae hi'n drueni ei bod hi'n rhaid i Lywodraeth Cymru ohirio'r cynllun dychwelyd ernes tan 2027 ar gyfer cyd-fynd ag amserlen Llywodraeth y DU, yn arbennig pan fo taer angen i ni annog ailgylchu nawr yn fwy nag erioed; mae dyfrffyrdd yn cael eu llygru gyda sbwriel, mae traethau yn cael eu halogi â phlastigau ac mae arogl tirlenwi yn niweidio iechyd pobl, fel cododd Paul Davies hynny'n ddiweddar o ran safle tirlenwi Withyhedge. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried camau cyfreithiol os bydd Llywodraeth y DU yn rhwystro cynllun dychwelyd ernes? Diolch.

Unwaith eto, diolch i chi am eich cwestiwn. Mater y camau cyfreithiol—rwyf i am ymdrin â'r pwynt olaf hwnnw'n gyntaf—wrth gwrs, dyma un y gwnaethom ni gymryd camau cyfreithiol ac, wrth gwrs, roedd gennym ni'r ddeddfwriaeth blastig untro a gafodd ei chyflwyno, wrth gwrs, fe ddewisodd Llywodraeth y DU beidio â herio honno. Rwy'n credu bod hynny'n cadarnhau, mewn gwirionedd, ein safbwynt ni o ran goruchafiaeth ein statudau cyfansoddiadol dros Ddeddf y farchnad fewnol, sef y ddadl sydd rhyngom, nad yw'r gallu ganddi i newid y ddeddfwriaeth warchodedig gyfansoddiadol graidd.

Nawr, ynglŷn â'r mater penodol hwn, o ran y cynllun dychwelyd ernes, wel, wrth gwrs, ein polisi ni yw cyflwyno cynllun dychwelyd ernes. Y broblem gyda hynny yw bod Llywodraeth y DU wedi ei phenodi eu hun yn farnwr ac yn rheithgor i'r Ddeddf marchnad fewnol, ac nid dyna sut y byddech chi'n sicrhau rheoleiddio marchnad unigol yn effeithiol. Fel gwyddoch chi, mae gennym fframweithiau cyffredin a gyflawnwyd a'u cyrraedd trwy gydweithrediad rhwng pedair gwlad y DU, a'r broblem gyda Deddf y Farchnad Fewnol yw ei bod yn caniatáu i Lywodraeth y DU ddiystyru hynny'n llwyr.

Nawr, daethpwyd i gytundeb â Llywodraeth y DU mewn gwirionedd o ran cynnwys cynllun dychwelyd ernes ar gyfer gwydr. Cytunwyd ar hynny rhwng y gwledydd. Roedd yr Alban, mewn gwirionedd, yn ddatblygedig iawn o ran gweithredu hynny, ond Llywodraeth y DU a wnaeth, wedi cytuno ar ffordd o symud ymlaen gyda'n gilydd yn hyn o beth, ymwahanu o'r hyn y cytunwyd arno ar y cyd a'r safbwynt yr ymgynghorwyd arno.

Felly, ein dewis ni o hyd yw cynllun sy'n alinio'n gyfan gwbl ledled y DU, fel y cytunwyd yn flaenorol. Serch hynny, rydym ni'n nodi'r bygythiad a wnaeth Llywodraeth y DU i ailadrodd eu camau wrth ddiddymu'r cynllun yn yr Alban trwy ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol i gyfyngu ar ein gallu i fynd ymhellach a gorfodi cynllun dychwelyd ernes wedi ei lastwreiddio. Rwy'n credu bod camddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol i atal Llywodraeth Cymru a Llywodraethau eraill rhag cyflwyno cynllun dychwelyd ernes, a fyddai wedi bod o fewn eu cymhwysedd i raddau helaeth, yn rhywbeth hynod anffodus. Rydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen â hyn; mae'r gwaith yn parhau i fynd rhagddo. Yn sicr, mae manteision o gynllun dychwelyd ernes. Mae hi'n llawer anos gyda'r safbwynt a gymerodd Llywodraeth y DU o ran Lloegr, ac, yn amlwg, mae hwn yn fater sy'n parhau, fel dywedais i, i fod dan ystyriaeth.

15:10
Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar absenoldeb y diffiniad o ddyn ym Mil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)? OQ61127

Nid yw'r Bil yn defnyddio'r gair 'dyn'. Mae rheolau'r cwota yn ymdrin â chyfran a lleoliad menywod ar restrau'r ymgeiswyr i fod yn Aelodau yn y Senedd. Nid yw'r Bil yn ymwneud â diffinio beth yw menyw, na diffinio beth yw dyn.

Felly, mae'r Bil sy'n cael ei gynnig yn nodi y bydd yn rhaid i o leiaf hanner yr ymgeiswyr ar restr etholiadol fod yn fenywod, ond fel eglurodd y Trefnydd, Jane Hutt, nid yw'r Bil hwn yn cynnwys diffiniad o 'fenyw', gan nad yw'r Bil yn ymwneud â diffinio beth yw menyw. Nid yw'n ymddangos ei fod yn ceisio diffinio beth yw dyn ychwaith heblaw am fod i'r gwrthwyneb i fenyw nas diffinnir. Efallai fod hynny'n newyddion da gan mai'r peth olaf yr wyf i'n dymuno ei glywed yw diffiniad clogyrnaidd, afresymol, wedi ei wleidyddoli o ddyn. Y broblem yw, yn wahanol i ddeddfwriaeth arall sy'n defnyddio cwotâu rhywedd, nid oes angen diffiniad, oherwydd wrth gyfeirio at fenywod, yr ystyr yw rhyw biolegol, yn hytrach na rhywedd hunan-adnabod. Mae gwledydd eraill wedi dirymu heriau cyfreithiol oherwydd y ffaith hon. Rhywbeth biolegol yn hytrach nag emosiynol yw hwn iddyn nhw. Pam ydym ni'n wahanol? Mae Cymru yn ei rhoi ei hun yn agored i heriau cyfreithiol diangen os bydd ymgeiswyr yn nodi eu rhywedd yn anghywir ar restrau etholiadol. Felly, a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi bod yr amwysedd hwn yn rhoi system etholiadol Cymru yn agored i gamdriniaeth, a allai arwain at ddiffyg ymddiriedaeth cynyddol gan y cyhoedd, ac felly sut bydd heriau cyfreithiol i ganlyniadau etholiadau ar sail datganiadau ffug a wnaeth ymgeiswyr yn cael eu trin a'u lliniaru?

Diolch i chi am y cwestiwn o fwriad da. Nid wyf i'n siŵr beth yw tarddiad eich dryswch chi nac ym mha le y mae'r amwysedd honedig yn codi. Fel dywedais i, bwriad y Bil hwn yw gweithio tuag at Senedd sy'n fwy effeithiol a sicrhau cydbwysedd rhywedd gwell. Mae'r Bil yn nodi rheolau o ran cyfran a lleoliad menywod ar restrau pleidiau, sef y mwyafrif nad yw'n cael ei gynrychioli yn ddigonol yn y Senedd hon, fel gwyddoch chi'n amlwg oherwydd cynrychiolaeth annigonol menywod yng ngrŵp y Blaid Geidwadol.

Mae cwotâu rhywedd yn fecanwaith prif ffrwd; maen nhw'n cael eu defnyddio mewn llawer o wledydd yn fyd-eang i atgyfnerthu sefydliadau democrataidd. Mae gan dros 130 o wledydd, mwy na hanner o wledydd y byd, gwotâu rhywedd o ryw fath. Fe gaiff y rheolau eu cynllunio i gydweddu â'r system etholiadol a gynigiwyd ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a'r rheolau presennol o ran enwebiadau sy'n golygu ymgeiswyr yn nodi gwybodaeth bersonol yn fanwl gywir. Mater i ymgeiswyr a phleidiau fydd sicrhau bod y datganiadau a wnân nhw ochr yn ochr â chywirdeb gwybodaeth bersonol arall sy'n ofynnol yn rhan o'r broses enwebiadau yn gywir. Ond, efallai dim ond er mwyn ailadrodd eto, mae rheolau'r cwotâu yn ymdrin â chyfran a lleoliad menywod ar restrau yn unig, nid yw'r Bil yn defnyddio'r gair 'dyn', ac felly nid oes angen unrhyw ddiffiniad o hwnnw. Nid yw'r Bil yn ymwneud â chydnabod rhywedd.

Y Gofrestr Etholiadol

6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Comisiwn Etholiadol ynghylch nifer y dinasyddion o Gymru y mae eu henwau ar goll o'r gofrestr etholiadol? OQ61157

Diolch yn fawr am y cwestiwn.

Amcangyfrifir na fydd hyd at 400,000 efallai o'r dinasyddion cymwys yng Nghymru wedi cofrestru yn briodol i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol na Senedd Cymru, ac rwyf i wedi codi fy mhryderon gyda'r Comisiwn Etholiadol. Dyma un o'r rhesymau pam y byddwn ni'n cyflwyno cofrestriad awtomatig o etholwyr drwy'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), sydd wedi bod trwy Gyfnod 2 ac a fydd yn symud i Gyfnod 3 yn ddiweddarach ym mis Mehefin.

15:15

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Wel, diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny. Fe wrandawais yn ofalus ar y drafodaeth gyda Rhys ab Owen ar gardiau adnabod yn gynharach. Rwy'n credu mai'r hyn a ddywedodd Syr Jacob Rees-Mogg, mewn gwirionedd, Dirprwy Lywydd, oedd bod polisi'r Llywodraeth ar gardiau adnabod yn ymgais aflwyddiannus i jerimandro, ac, o ran hynny, rwy'n credu y dylen ni ymostwng i'w arbenigedd. I'r gwrthwyneb, bydd eich cynigion chi eich hun yn mynd i'r afael â'r nifer rhyfeddol hwnnw o ddinasyddion Cymru nad ydyn nhw byth yn cael cyfle i bleidleisio o gwbl. Rwy'n credu, fel y gwn fod eraill yn y Siambr yn ei wneud, bod cymryd rhan mewn etholiad democrataidd yn ddyletswydd dinasyddiaeth, ond os nad yw 400,000 o ddinasyddion Cymru hyd yn oed ar y gofrestr, fyddan nhw byth yn cael y cyfle hwnnw, a bydd y gwaith rydych chi'n ei wneud ar gofrestru awtomatig yn mynd yn bell iawn i unioni'r diffyg democrataidd hwnnw. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ar ba mor gyflym rydych chi'n meddwl y gallwn ni wneud y cynnydd hwnnw yma yng Nghymru.

Diolch am y cwestiwn hwnnw a'r sylwadau hynny. Rwy'n credu bod yna ddeddfwriaeth drawsnewidiol iawn sydd wedi bod yn mynd drwy'r Senedd, a ddechreuodd ar ddechrau'r sesiwn, a hynny yw nid yn unig ein bod ni'n diwygio'r Senedd ac yn dileu, rwy'n credu, y system annemocrataidd cyntaf i'r felin, yr her fawr sydd gennym ni yw dechrau siarad o ddifrif am iechyd democrataidd. Hynny yw, mae sefydlogrwydd unrhyw gymdeithas yn dibynnu ar i ba raddau y mae pobl yn barod i gymryd rhan a rhoi ei chefnogaeth iddi. Po leiaf y bobl sy'n cymryd rhan, y gwannaf yw mandad unrhyw Lywodraeth, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sy'n dechrau atseinio drwy, rwy'n credu, gwledydd lle mae llai o bobl wedi bod yn cymryd rhan. 

Nawr, gallwn ni ddim gorfodi pobl i bleidleisio, ond yr hyn y gallwn ni ei wneud yw sicrhau bod y cam cyntaf yno, bod pobl yn eu lle ac yn gallu pleidleisio. Ac, wrth gwrs, fel y nododd y Comisiwn Etholiadol, yng Nghymru, rydym 400,000 o bobl yn brin o'r rhai a ddylai fod. Mae hynny, fwy na thebyg, yn rhywbeth fel tua 8 miliwn yn y DU. Mae hynny'n codi mater hygrededd gwirioneddol o ran mandad democrataidd. Allwn ni ddim gorfodi pobl i bleidleisio. Yn amlwg, rydym ni eisiau sicrhau bod pobl yn pleidleisio, ond, oni bai eu bod ar y gofrestr yn y lle cyntaf, yna mae hynny'n dod yn rhywbeth yr ydym yn gwybod o etholiadau nad yw'n bosibl.

Felly, nid bwled arian yw hwn, ond mae'n fan cychwyn ar gyfer mwy o ddiwygio o ran cydnabod y gwendidau o fewn ein strwythurau presennol. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y ddeddfwriaeth, yr wyf yn credu ei bod yn mynd i Gyfnod 3 ar 17 neu 18 Mehefin ac rwy'n gobeithio y bydd wedi cwblhau ei hynt yr haf hwn ac wedi mynd i gael Cydsyniad Brenhinol, y bydd yn berthnasol, wedyn, ar gyfer etholiadau 2026—. Ac rwy'n credu bod hon yn ddeddfwriaeth lle rydym yn dangos sut y gellir ei wneud, a bydd gwledydd eraill yng ngweddill y DU, Lloegr rwy'n credu ac, yn wir, yr Alban, a lleoedd eraill, yn gweld hyn fel model i'w ddilyn, fel man cychwyn ar gyfer gwella ein hiechyd democrataidd a sicrhau mwy o gyfranogiad mewn etholiadau.

Rwyf wedi fy synnu braidd nad yw'r Cwnsler Cyffredinol a chyn-Brif Weinidog Cymru wedi cyfeirio o gwbl at y ffaith y gall unrhyw un o drigolion y DU wneud cais am dystysgrif awdurdod pleidleisiwr, sy'n hollol rhad ac am ddim ar wefan Llywodraeth y DU. Ac os ydym o ddifrif ynglŷn â chynyddu'r ganran sy'n pleidleisio, yr wyf yn cytuno â hynny—roedd yn druenus yn ystod etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn ddiweddar; yn fy etholaeth i, rwy'n credu bod rhai blychau pleidleisio mor isel ag 8 y cant mewn rhai ardaloedd—os ydym o ddifrif ynglŷn â chynyddu'r ganran sy'n pleidleisio, a wnewch chi ymuno â mi i gofnodi'n gyhoeddus y gall pobl yng Nghymru wneud cais am dystysgrif awdurdod pleidleisiwr drwy wefan Llywodraeth y DU, yn hollol rhad ac am ddim?

Wel, rydych chi'n gwneud achos rhannol ddilys yn yr ystyr bod y Comisiwn Etholiadol wedi gwneud llawer o waith i ddweud wrth bobl, ond mae llawer o bobl o hyd nad oeddent yn ymwybodol. Lle mae'n rhaid i chi fynd yn ôl iddo, wrth gwrs, yw: beth oedd y cymhelliant dros gyflwyno hyn? A oedd hyn oherwydd rhyw bryder mawr am dwyll etholiadol neu gadernid y system etholiadol? Doedd na ddim—[Torri ar draws.] Doedd dim tystiolaeth—[Torri ar draws.] Doedd dim tystiolaeth—

15:20

Ydy, mae hi'n anodd pan fyddech chi'n cael eich heclo gan eich ochr eich hun, onid yw e? Doedd dim tystiolaeth ar gyfer hyn. Fel y soniodd Mark Drakeford, y pwrpas y cafodd ei gyflwyno—. Gadewch i ni fod yn glir—oherwydd fe adawodd Rees-Mogg y gath allan o'r cwd on'd do fe—roedd yn ymwneud ag atal pleidleiswyr. Roedd yn ymwneud â cheisio ei gwneud hi'n anoddach i bobl bleidleisio. Yn amlwg, mae hynny'n digwydd pan fydd un o'ch cyn Brif Weinidogion yn troi i fyny ac yn methu pleidleisio, pan fydd cyn-filwr yn methu pleidleisio, pan fydd myfyriwr ar ei gerdyn adnabod yn methu pleidleisio. Mae'n codi'r cwestiwn ynghylch pam mae angen dangos cerdyn adnabod mewn gwirionedd os nad oes unrhyw dystiolaeth bod ei angen mewn gwirionedd. Rydych chi'n gwybod cystal â minnau mai'r pwrpas y tu ôl iddo yw atal pleidleiswyr, gan fod categorïau o bleidleiswyr nad ydych chi wir eisiau iddyn nhw gymryd rhan yn ein hetholiadau. Dyna'r rhesymeg y tu ôl iddo. Fe adawodd Rees-Mogg y gath allan o'r cwd ac rydych chi'n ofni cyfaddef hynny.

Hawliau Ceiswyr Lloches

7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch hawliau ceiswyr lloches yng Nghymru? OQ61129

Nid yw polisi mudo wedi'i ddatganoli, ond mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gefnogi integreiddio mudwyr yng Nghymru. Felly, byddwn ni'n parhau i chwarae rhan lawn a chymesur wrth gefnogi ceiswyr lloches, a byddwn ni'n anelu at sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at wasanaethau a gwybodaeth berthnasol i gyfrannu'n llawn at fywyd cymunedol Cymru.

Diolch. Mae pobl ledled y byd yn wynebu cythrwfl a thrais, ac felly, yn briodol, yn chwilio am noddfa ledled y byd. Ym Mhrydain, dydyn ni ddim yn wahanol, ac rwy'n falch o'r degau o filoedd o ymgeiswyr lloches y mae Llywodraeth y DU yn eu prosesu bob blwyddyn. Fodd bynnag, rhaid i ni yma yng Nghymru fynd i'r afael â'r pwnc hwn yn ofalus, oherwydd nid yw'n ymddangos bod yna rywbeth i ddiffinio—na gwahaniaeth rhwng ceiswyr lloches a mewnfudwyr anghyfreithlon. Nawr, gallwn ni ddim hefyd fforddio i roi'r swm enfawr o £1,600 y mis i geiswyr lloches nad ydynt yn gymwys. I gymharu, gadewch i ni gofio bod y lwfans safonol ar gyfer credyd cynhwysol o dan £400. Dyma'r adborth rwy'n ei gael gan fy nhrigolion. Rwy'n gobeithio nad yw'r ffigur hwn yn cael ei brofi fel rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb ehangach ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol Llafur. Allwch chi ddychmygu'r gost os oes rhaid i'r Llywodraeth roi £1,600 y mis i bob dinesydd o Gymru? Rwy'n credu mai dyna'r iwtopia, mewn gwirionedd, yma. A all y Cwnsler Cyffredinol gyfiawnhau sut y gall y Llywodraeth fforddio parhau i roi'r arian hwn pan na all trigolion Cymru, fy etholwyr, etholwyr ledled y gogledd a lleoedd eraill, gael eu gweld gan feddyg am dros chwe mis, pan na allan nhw fforddio gwresogi eu cartrefi oherwydd bod eu treth gyngor wedi codi 20 i 30 y cant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a dyw rhai pobl ddim hyd yn oed yn gallu cael cartref? Diolch.

Bydden i'n gobeithio y byddech chi'n teimlo cywilydd o'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu gwneud i ddechrau, y gwyddoch chi nid yn unig eu bod nhw'n anwir ond yn hynod—[Torri ar draws.]—yn hynod gamarweiniol a chamgynrychioladol. A gaf i ddweud, o ran y wybodaeth honno, pa mor siomedig ydyw ac anfoesegol ydyw i wneud y sylwadau hynny yn y ffordd benodol honno?

A gaf i ddweud? Mae'r Ddeddf, Deddf Rwanda, yn anghydnaws yn sylfaenol â rhwymedigaethau hawliau dynol y DU a'r egwyddor sylfaenol o gyffredinoldeb hawliau dynol i bawb. Ar ben hynny, mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi disgrifio'r Ddeddf fel un sy'n gyfystyr â gwaharddiad ar loches, a fyddai'n torri confensiwn ffoaduriaid 1951. Does dim amheuaeth o gwbl ei bod hefyd yn tanseilio statws y DU yn y byd fel arweinydd mewn cadw hawliau dynol a pharch at gyfraith ryngwladol.

Gadewch i mi roi'r un sylw yma, pan drafodwyd y mater hwn yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan gyn-AS Ceidwadol, yr Is-iarll Hailsham CB. Dywedodd:

'Yn fy marn i, dylen ni ddim rhoi datganiad mewn Bil sy'n amlwg yn anwir...yr hyn a fyddai, mewn amgylchiadau eraill, yn cael ei ddisgrifio fel celwydd'.

A yw sofraniaeth Senedd y DU yn ddibynnol ar gelwydd? Ai dyna beth mae Brexit yn ei olygu? Ai dyma'r hyn yr ydych chi wedi dod â'r wlad hon iddo: i basio deddfwriaeth sy'n dweud bod celwydd yn wirionedd er mwyn cyflawni amcan sydd, yn y bôn, yn anghyfreithlon? Dylai fod cywilydd arnoch. 

15:25
3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: mae'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ymgynghori ar y flwyddyn ysgol wedi cael ei ohirio tan 4 Mehefin. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd mewn perthynas â gwasanaethau deintyddol y GIG yn y gogledd? Rydym yn gwybod bod deintyddiaeth y GIG yn y wlad yn wynebu argyfwng. Rydym wedi cael cynnydd mawr mewn prisiau i'r bobl hynny sy'n gallu cofrestru gyda deintydd GIG, sy'n llawer uwch na chyfradd chwyddiant. Ond, wrth gwrs, yng Nghonwy a sir Ddinbych yn benodol, mae'n ymddangos ein bod ni wedi cael rhywfaint o ecsodus o sector y GIG, gyda phobl yn penderfynu rhoi eu contractau yn ôl, a, hyd yn oed o fewn sector y GIG, rydym wedi gweld clinig iechyd deintyddol cymunedol Bae Colwyn yn dweud ei fod, yn ei hanfod, yn rhwyfo allan o wasanaethau deintyddol cyffredinol. Nawr, yn amlwg, mae hyn yn achosi llawer iawn o angst i'm hetholwyr, y mae miloedd lawer ohonynt heb gofrestru gyda deintydd y GIG. Fe gysylltodd un etholwr â mi yr wythnos diwethaf i ddweud ei bod wedi cael dyfynbris o £23,000 ar gyfer triniaeth ddeintyddol y GIG yr oedd ei hangen arni nawr ac na allai gael mynediad ati drwy ddeintydd y GIG. Mae gennym ni gleifion orthodonteg, plant ifanc, sy'n aros 222 o wythnosau, yn ôl yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y byrddau iechyd. Mae hynny'n bedair blynedd. Mae'n gwbl annerbyniol. Mae angen gweithredu er mwyn datrys hyn. Dydy pobl ddim yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw. Mae loteri cod post ar draws y gogledd ac yng ngweddill y wlad. A gawn ni ddatganiad ar hyn, fel mater o frys, fel y gallwn ni ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei methiant i ddarparu gwell gofal deintyddol?

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Darren Millar. Yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol nid yn unig yn mynd i'r afael â hyn o ran y gogledd, ond, fel y dywedwch chi, o ran Cymru gyfan, i sicrhau bod gennym ni wasanaethau deintyddol, yn enwedig ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, ac, wrth gwrs, dyna lle mae'r ffocws. Gofynnaf iddi roi diweddariad i chi yn benodol o ran y gwasanaethau sydd ar gael yn y gogledd, ond, wrth gwrs, mae'r symud ymlaen gyda'r contract deintyddol wedi bod yn bwysig, ac, yn wir, ariannu a rhyddhau gwasanaethau deintyddol. Ond rwyf hefyd yn ymwybodol o'r datblygiadau ym Mangor, er enghraifft—mae yng ngogledd-orllewin gogledd Cymru, ond mae'r rheiny, rwy'n credu, yn bwysig iawn o ran y gwasanaethau deintyddol sy'n cael eu datblygu yno o ran mynediad, hyfforddiant ac annog y proffesiwn nid yn unig i ddod i Gymru, ond i aros yng Nghymru pan fyddan nhw wedi cael eu hyfforddi.

Yng Nghymru, ein diwylliant yw ein henaid, y peth sy'n ein gwneud ni pwy ydym, ond mae toriadau i ddiwylliant yn bygwth y rhan hanfodol hon o hunaniaeth, a hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth yn nodi sut y bydd yn mynd i'r afael â'r storm o amgylch toriadau i'n sefydliadau diwylliannol. Nawr, mae cydnabyddiaeth ganmoladwy wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf nad yw hyn yn gynaliadwy. Rwy'n croesawu'r ffaith bod yr Ysgrifennydd Diwylliant newydd wedi dweud na fydd yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yn cau ar ei gwyliadwriaeth hi, ond mae'r argyfwng cymaint yn ddyfnach na hynny. Rydyn ni'n gwybod bod y toriadau—. Ac rydym wedi gwybod ers amser maith y byddent yn brathu, ond mae'n dod yn fwy amlwg pa mor noeth y bydd yr esgyrn o ran yr hyn fydd ar ôl heb ymyrraeth ddrastig. Gallai Opera Cenedlaethol Cymru, a ganodd mor hyfryd y tu allan i'r Senedd y prynhawn yma, fod heb gorws neu gerddorfa barhaol yn fuan. Mae ein theatr genedlaethol mewn argyfwng. Mae cylchgronau fel Planet wedi cael eu gorfodi i roi'r gorau i argraffu. Mae Michael Sheen wedi rhybuddio bod ein diwylliant dan ymosodiad. Felly, a all datganiad fynd i'r afael â hyn ar frys, os gwelwch yn dda, a sicrhau'r Senedd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod beth yn union sydd yn y fantol yma, ac y byddan nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i wyrdroi'r toriadau trychinebus hyn i'n diwylliant?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Do, rwy'n credu i ni glywed y canu gwych gan Opera Cenedlaethol Cymru ac mae cynifer ohonom yn gwerthfawrogi'r opera wych, Opera Cenedlaethol Cymru, a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni a bod hynny'n parhau i'r tymhorau nesaf hefyd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y gwnaethoch ei nodi, ei bod yn ymwneud â'r darlun cyfan o ran y set gyfan o amgylchiadau, o ran diwylliant, bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi lansio'r strategaeth ddiwylliant heddiw. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, ac rwy'n gwybod bod cyfraniad enfawr wedi mynd i mewn i hynny o ganlyniad i'n cytundeb cydweithio. A dydy hynny ddim yn diflannu. Bydd y dylanwad hwnnw a'r cydweithio hwnnw, rwy'n gobeithio, yn parhau, ac rwy'n siŵr y bydd yn gwneud hynny, oherwydd dyna'r hyn yr hoffem ni.

Ond, yn amlwg, mae'r rhain yn amgylchiadau ariannol eithriadol o anodd yr ydym ni ynddyn nhw fel Llywodraeth Cymru, ac yna, wrth gwrs, mae hynny hefyd yn rhoi'r pwysau ar ein cyrff hyd braich—ac mae gennym ni'r egwyddor ariannu hyd braich gref honno o ran cyllid drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Felly, mae'r adolygiad buddsoddi wedi chwarae rhan yn hyn o ran y penderfyniadau hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, o ran Opera Cenedlaethol Cymru, y clywsom amdano heddiw, ei bod yn dal i dderbyn y cynnig ariannu aml-flwyddyn mwyaf o blith bob un o 81 sefydliad CCC.

Ond mae hyn yn mynd yn ôl i'r toriadau rydym wedi'u cael i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU, a'r anawsterau o ran y blaenoriaethau yr ydym wedi gorfod eu gosod gyda'r gyllideb ar gyfer eleni, yr ydych, wrth gwrs, yn gyfarwydd â nhw hefyd. Ond a gaf i ddweud eto pa mor bwysig yw hi fod gennym ni'r strategaeth ddiwylliant honno, y gwnaethoch chi chwarae eich rhan ynddi, a, hefyd, fel cadeirydd y pwyllgor trawsbleidiol, y bydd y materion hyn yn cael eu trafod a'u craffu'n llawn o ran effeithiau a ffordd gadarnhaol ymlaen?

15:30

Roeddwn i'n falch o glywed y bydd yna ddadl ar y sgandal gwaed heintiedig, ar yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe, ac, yn amlwg, bydd hyn yn gofyn am gryn dipyn o ystyriaeth gan y Senedd, oherwydd mae hwn yn un o saith llyfr a gyhoeddwyd ddoe—cyfrolau enfawr. Ac a gaf i ofyn hefyd i'r ddadl ystyried mater iawndal, oherwydd cafodd datganiad ar wahân ei wneud yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw ynghylch iawndal, gyda Syr Robert Francis yn cael ei benodi'n gadeirydd dros dro i'r pwyllgor yn edrych ar iawndal, fel y deallaf, er mawr lawenydd i'r ymgyrchwyr oedd yn bresennol yn yr oriel? Felly, a yw'r Trefnydd yn credu y byddwn ni'n gallu ymdrin â hyn i gyd mewn un ddadl, neu a yw hi'n credu bod angen dadl neu ddatganiad ar wahân am y materion manwl iawn sydd wedi codi am iawndal?

A dim ond i ddweud, yn gyflym iawn, fe ges i'r fraint o fod yn y gwrandawiad olaf ddoe, gyda grŵp o bobl sydd wedi'u heintio a phobl y mae hyn wedi effeithio arnynt o Gymru, gan gynnwys etholwyr y Trefnydd, a oedd yn achlysur teimladwy iawn, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio bod 70 o bobl wedi marw yng Nghymru a bod 400 o bobl wedi'u heintio yng Nghymru. Felly, hoffwn dalu teyrnged i'r grŵp hwnnw o bobl sydd wedi ymgyrchu ers cymaint o flynyddoedd, a hefyd i'r holl wleidyddion yma yn y Siambr sydd hefyd wedi gwneud yr un peth, a'r grŵp trawsbleidiol hefyd, dan gadeiryddiaeth Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr, Julie Morgan. Ac a gaf i, unwaith eto, ddiolch i Julie Morgan—ac rwy'n siŵr bod hyn yn cael ei fynegi ar draws y Siambr—am ei degawdau o ymgyrchu ar ran ei hetholwyr? Ac rwy'n credu bod hwn yn fesur o'r rôl y mae Julie wedi'i chwarae, yn gyntaf fel AS, fel Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd, ac yna fel Aelod o'r Senedd, bod ei hetholwyr wedi dod ati ar y mater hwn a'i bod wedi ymgymryd â'r ymgyrch honno mewn modd mor gadarn ac wedi cyfrannu at y ffordd y mae'r ymchwiliad hwn wedi'i sefydlu, yn fy marn i, i ymchwilio i sgandal meinweoedd a chynhyrchion gwaed heintiedig a gyflenwyd gan y GIG yn y 1970au a'r 1980au. Ac roedd hyn ymhell cyn i Julie ddod a chael ei hethol i'r Senedd hon, ond chwarae'r rhan honno yn y grŵp trawsbleidiol, ac rwy'n gwybod, wrth gwrs, bod gennym ni gyd-Aelodau ar draws y Siambr a oedd yn rhan o hynny, a Rhun ap Iorwerth. 

Ac a allwn ni hefyd ddweud diolch i Julie? Fe aeth hi i fyny i Lundain, roedd hi gyda'r teuluoedd ddoe, ac mae hynny'n cynnwys fy etholwyr i a nifer o etholwyr Aelodau ar draws y Siambr. Ac, wrth gwrs, dyma'r sgandal triniaeth waethaf yn y GIG. Fe ddigwyddodd cyn datganoli, ond mae'n rhaid i ni wedyn edrych ar ffyrdd y gallwn ni ymateb, fel yr ydym wedi gwneud erioed. Ac yn wir, rwy'n cofio hynny yn fy rôl flaenorol fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig eich bod chi wedi gwneud y cyfraniad hwn heddiw a chodi'r cwestiwn, Julie, yn y datganiad busnes, oherwydd rydym yn edrych i gael y ddadl hon gan y Llywodraeth. Cyhoeddwyd hynny gan y Prif Weinidog heddiw. Fe roddodd ei ymddiheuriad llawn heddiw, yn dilyn yr ymddiheuriad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei datganiad ysgrifenedig. Wrth gwrs, mater i Lywodraeth y DU yw'r mater hwn am iawndal, ac rydym yn gweithio ar sail pedair gwlad i sicrhau bod y rhai yr effeithiwyd arnynt a'u teuluoedd yn cael iawndal. Felly, mae angen i ni edrych ar—. Rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet, ac, fel y dywedoch chi, yn ei datganiad ysgrifenedig, yn edrych ar yr adroddiad nawr, yn edrych ar bob cam o'r hyn y dylai'r ymateb fod. Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol iawn eich bod chi wedi codi'r mater hwn, o ran cyd-destun y ddadl.

Ac rwy'n credu hefyd, i fyfyrio efallai ar y ffaith ein bod ni wedi cael dadl yn ôl ar 7 Mai. Ac wrth gwrs, yn eich rôl flaenorol fel Dirprwy Weinidog, rwyf am gydnabod y rôl y gwnaethoch chi ei chwarae bryd hynny, a chadarnhau bod ein safbwynt mewn perthynas â chynnig Llywodraeth y DU i sefydlu corff hyd braich i fod yn gyfrwng ar gyfer talu'r iawndal yn bwysig iawn. Roedd y gwaith a wnaethoch yn arwain i fyny at hynny yn bwysig iawn, y gwaith rydych wedi'i wneud ar sail pedair gwlad, y gwaith a wnaethoch gyda nifer o Weinidogion iechyd hefyd.

Rwyf hefyd eisiau dweud bod Julie Morgan wedi rhannu gyda ni yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar y goroeswyr a'u teuluoedd—ac mae hyn wedi cael ei gydnabod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—a'r hyder yr oedd ganddyn nhw yn Syr Brian Langstaff, cadeirydd yr ymchwiliad, a ddechreuodd gymryd tystiolaeth yn 2019, yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol nawr. Rwyf wedi treulio peth amser yn ymateb i'r cwestiwn hwn, Dirprwy Lywydd, oherwydd ei fod mor bwysig. Heddiw yw'r diwrnod yr ydym yn myfyrio arno, ond yna byddwn yn cael dadl lawn gan y Llywodraeth, a fydd yn ystyried y pwyntiau a'r cwestiynau y mae'r Aelod dros Ogledd Caerdydd, Julie Morgan, wedi'u gwneud. Byddwn ni'n ystyried y rheini wrth edrych ar y cynnig a fydd yn dod gerbron y Senedd.

15:35

Trefnydd, dydw i ddim yn gwybod sawl gwaith y mae angen i mi sefyll i fyny yn y Siambr hon a chodi sgandal safle tirlenwi Withyhedge, ond, yn anffodus, mae'r gymuned leol yn dal i fyw gydag allyriadau a allai fod yn wenwynig yn dod o'r safle, er gwaethaf y ffaith mai dyddiad cau hysbysiad gorfodi diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru i'r gweithredwr oedd yr adeg hon yr wythnos diwethaf. Mae'n gynddeiriogol bod yn rhaid i bobl sy'n byw ger y safle oddef y sefyllfa ofnadwy hon, ac mae'n ymddangos nad oes diwedd yn y golwg iddyn nhw. Mae'r gymuned yn teimlo eu bod nhw'n mynd rownd a rownd mewn cylchoedd.

Dydy Cyfoeth Naturiol Cymru ddim wedi cadarnhau a yw'r gweithredwr wedi cydymffurfio â'r hysbysiad gorfodi diweddaraf, dydy neb wedi cadarnhau pa mor wenwynig yw'r allyriadau, ac, a dweud y gwir, mae'n ymddangos nad oes neb yn poeni beth sy'n digwydd i'r gymuned hon. Wel, rwyf innau'n poeni, a byddaf yn codi'r mater hwn dro ar ôl tro nes bod y gymuned yn cael yr atebion a'r gefnogaeth y mae'n ei haeddu.

Trefnydd, rwyf wedi ysgrifennu i Cyfoeth Naturiol Cymru, rwyf wedi ysgrifennu i Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi cwrdd â nhw, ond mae'n eithaf amlwg nad yw hyn yn cael ei drin yn briodol wrth i'm hetholwyr barhau i ddioddef. Rwy'n credu nawr bod angen ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â hyn. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu ei safbwynt ar y sgandal hon, ac a fydd yn cefnogi'r galwadau am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol?

Diolch yn fawr, Paul Davies. Gallaf ddeall yn iawn, fel cynrychiolydd etholedig, pam eich bod yn cyflwyno hyn ac yn ei gyflwyno i mi yn fy natganiad busnes, ac rwy'n siŵr eich bod chi wedi manteisio ar y cyfle i'w gyflwyno i'r Ysgrifennydd Cabinet pan oedd ganddo ei gwestiynau llafar yn y Senedd. Ond mae angen datrys hyn. Dyna'r alwad eto heddiw.

Dim ond i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi: rwy'n deall bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu ei bresenoldeb ar y safle, a'i fod yn diweddaru'r gymuned, trwy ei wefan. Mae hysbysiadau gorfodi wedi'u cyflwyno i'r gweithredwr tirlenwi, y mae'n ofynnol iddo orchuddio'r holl wastraff agored a chwblhau gwaith peirianneg tirlenwi i atal a chasglu nwy tirlenwi. Ac os bydd y gweithredwr tirlenwi yn methu â chydymffurfio â dyddiad cau terfynol yr hysbysiad, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cymryd camau gorfodi priodol yn unol â'i bolisi gorfodi ac erlyn.

Wna i ddim ailadrodd rhai o'r adroddiadau yn ôl yr wyf wedi'u rhoi mewn wythnosau blaenorol, ond, dim ond i ddweud, o ran y datblygiadau diweddaraf, fy mod i'n ymwybodol bod y cyngor—Cyngor Sir Penfro—yn ystyried gwaharddeb, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr atal y niwsans cyhoeddus, ond yn amlwg yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu a yw'r gweithredwr wedi mynd i'r afael â'r holl gamau yn hysbysiad Cyfoeth Naturiol Cymru, cyn cymryd camau pellach. 

15:40

Hoffwn ofyn am ddatganiad Llywodraeth yn dilyn dyfarniad y llys ynglŷn â chyn-bennaeth Ysgol Friars, Bangor. Mae plant yn fy etholaeth i a thu hwnt wedi dioddef yn enbyd. Mae fy nghalon i'n gwaedu drostyn nhw a dros eu teuluoedd, a dwi yn edmygu dewrder y rhai ddaeth ymlaen i adrodd eu profiadau hunllefus. Roedd y troseddau yn wirioneddol erchyll. Dwi yn deall y bydd y bwrdd diogelu plant yn y gogledd yn cynnal ymchwiliad, ac, wrth gwrs, rydyn ni yn croesawu hynny. Mi fuaswn i'n hoffi deall beth yn union fydd sgôp ymchwiliad y bwrdd diogelu. Ond hoffwn i wybod hefyd pa fathau eraill o ymyriadau ac ymchwiliadau annibynnol allai gael eu cynnal. Beth sydd o dan ystyriaeth gan y Llywodraeth? Beth ydy'r arweiniad mae'r Llywodraeth yn ei roi yn sgil difrifoldeb y sefyllfa? Felly, mi fyddwn i'n pwysleisio pwysigrwydd cael datganiad Llywodraeth ar lawr y Senedd, ar ôl y toriad, yn gosod allan beth sy'n digwydd, er mwyn i ni fedru dysgu gwersi i'r dyfodol. Diolch.  

Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Diolch yn fawr am eich cwestiwn, a hefyd am eich datganiad pwysig iawn y prynhawn ma.

Rydym ni i gyd yn rhannu gyda chi a'ch etholwyr, a phawb sydd wedi'u heffeithio, y sioc a'r ffieidd-dra bod Neil Foden wedi gallu camddefnyddio'r awdurdod yr oedd ganddo yn ei swydd i gyflawni'r troseddau hynny. Ac mae ein meddyliau ni yma heddiw—. A gallaf weld ar draws y Siambr bod ein meddyliau gyda'i ddioddefwyr ar yr adeg hon. Felly, nawr bod y broses droseddol wedi dod i ben, bydd y bwrdd diogelu rhanbarthol, fel y dywedoch chi, yn cynnal adolygiad ymarfer plant. Adolygiad annibynnol ydyw. Bydd yn ystyried y rhan a chwaraeodd asiantaethau perthnasol, bydd yn nodi'r hyn y gellir ei ddysgu ac yn gwneud argymhellion i wella arferion diogelu yn y dyfodol, ac rydym yn barod i gefnogi'r adolygiad yn llawn ac ymgysylltu'n llawn ag ef. Mae'n bwysig ein bod ni'n deall graddau llawn unrhyw fethiannau yn y trefniadau diogelu presennol, a sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith yn ddi-oed i atal digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol.

Roeddwn i eisiau codi mater arall yn ymwneud â gwastraff gwenwynig, sef y carthion yn ein moroedd a'n hafonydd. Fe fyddwch chi'n ymwybodol, Trefnydd, bod pobl wedi cael eu gorchymyn i ddod allan o'r dŵr yn Ynys y Barri ddydd Sadwrn, oherwydd ansawdd y dŵr, a hyn tra bod niferoedd mawr o bobl yno oherwydd gŵyl gerddoriaeth ac adloniant stryd Gwŷl Fach y Fro. Mae Surfers Against Sewage wedi rhybuddio bod 19 o draethau yng Nghymru wedi cael eu llygru gan garthion storm neu wedi cael dosbarthiadau dŵr gwael.

Rwy'n awyddus iawn i ddeall sut y digwyddodd hyn ddydd Sadwrn, o gofio na chafwyd glaw sylweddol yn ystod dydd Iau a dydd Gwener. Felly, tybed a allem ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros newid hinsawdd ar sgyrsiau a all fod wedi digwydd gyda Dŵr Cymru a sut allwn fynd i'r afael â hyn. Mae'n sefyllfa sy'n drychinebus i dwristiaeth ac o bosibl i iechyd y cyhoedd. Ac mae hynny yng nghyd-destun y trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim annigonol sydd gennym, felly er mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r rheoleiddiwr, mae angen i ni hefyd gael sefydliad sy'n gallu delio, mewn gwirioneddol, ag unrhyw un o'r digwyddiadau llygredd mawr hyn. Felly, tybed a allwch chi ychwanegu unrhyw beth, o ystyried eich diddordeb etholaethol penodol yn hyn.

15:45

Diolch, Jenny Rathbone, am y cwestiwn hwnnw. Ydy, mae yn fy etholaeth i. Yn y Barri, y dref lle rydw i'n byw, mae Bae Whitmore, lle y digwyddodd hyn, wedi cyrraedd safonau ansawdd dŵr ymdrochi llym yn gyson. Yn 2023, fe gafodd ddosbarthiad da o ran ei ddŵr ymdrochi. Fy nealltwriaeth i yw bod Dŵr Cymru, brynhawn Sadwrn, wedi arsylwi ar weithgarwch ar y monitor yng ngorlif y Barri, a bod hynny wedi ysgogi'r asiantaethau perthnasol i gymryd mesurau diwydrwydd dyladwy, gan gynnwys yr RNLI yn cyhoeddi baner goch ar y traeth a gwneud cyhoeddiadau yn cynghori defnyddwyr y traeth i beidio â mynd i mewn i'r dŵr. Yn dilyn ymchwiliad, cadarnhaodd Dŵr Cymru mai camrybudd ydoedd a achoswyd gan nam gyda'r monitro, sydd yn bosibl. Maen nhw wrthi'n mynd i'r afael â'r broblem gyda'r monitor ac yn ymddiheuro am y digwyddiad a'r dryswch. Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi sicrwydd i'r cyhoedd bod y dŵr yn Ynys y Barri yn cael ei brofi'n rheolaidd. Does dim rheswm ar hyn o bryd i ystyried bod y dŵr ym Mae Whitmore yn anniogel.

Fel Llywodraeth, rydym bob amser wedi bod yn glir ein bod ni'n disgwyl i gwmnïau dŵr yng Nghymru weithio'n galed i gyflawni gwelliannau gweithredol ac amgylcheddol, yn ogystal â darparu gwasanaethau rhagorol i'w cwsmeriaid. Ond, wrth gwrs, mae hyn yn achos pryder enfawr o ran y bobl. Daeth yr haul allan, mae pobl yn dod i'r Barri, mae'n draeth gwych ar stepen drws de Cymru o ran y cyfleoedd sydd i ddod. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle mae angen i ni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy'n digwydd o ran Dŵr Cymru a'r camgymeriad yna o ran y monitor. Maen nhw wedi gosod, rwy'n deall, monitro hyd digwyddiadau ar gyfer 9 y cant o'u hasedau gorlif storm, sydd yn darparu data ynghylch pryd y gallai fod gollyngiadau gorlif storm, ac mae hynny'n wybodaeth amser real. Felly, mae yna fonitro agos, a dyna'r hyn sydd angen i ni ei weld yn cael ei gyflawni, ac effeithiolrwydd systemau rhybuddio yn ein dyfroedd ymdrochi.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad sy'n nodi'r broses galw i mewn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, os gwelwch yn dda? Fy mhryder i yw'r amser y mae'n ei gymryd i Lywodraeth Cymru ystyried cais galw i mewn. Mae gen i sawl achos lle mae busnesau ac ymgeiswyr yn wynebu oedi am gyfnodau sylweddol o amser tra bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn penderfynu a ddylid derbyn cais galw i mewn ai peidio.

Mae yna achos penodol y byddwn i'n cyfeirio ato. Yr enghraifft yma yw bod cais galw i mewn wedi'i wneud ar 7 Chwefror y llynedd, neu'n hytrach fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet—Gweinidog ar y pryd—Julie James ofyn i'r awdurdod lleol beidio â rhoi caniatâd cynllunio, ac mae wedi cymryd 15 mis ac rydym yn dal i aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru ynghylch a fydd y cais hwnnw'n cael ei alw i mewn ai peidio.

Yn ail, ac yn fwy rhwystredig, fe ysgrifennais i at yr Ysgrifennydd Cabinet ar 15 Mai y llynedd—nid eleni, y llynedd—i ofyn am ddiweddariad ar y cais hwn ac fe ges i ymateb ym mis Gorffennaf y llynedd, a oedd yn ymateb dros dro. Ers hynny, rwyf wedi anfon pum e-bost sydd heb eu hateb, ar 25 Hydref, 21 Tachwedd, 4 Ionawr, 5 a 26 Chwefror eleni. Mae'n wirioneddol anghwrtais peidio ag ymateb i mi, ac nid wyf yn gallu ymateb i fy etholwyr i ddweud wrthyn nhw beth yw'r canlyniad a pham mae yna oedi cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu a ddylai'r cais hwn gael ei alw i mewn ai peidio.

Allwch chi, Trefnydd, godi hyn gyda'ch cyd-Aelod Julie James o ran yr achos penodol hwn, yr wyf i'n hapus iawn i'w anfon atoch chi, Trefnydd, yn ysgrifenedig, ac a gaf i ofyn am ddatganiad hefyd ynghylch y broses galw i mewn i ddeall pam ei bod hi'n cymryd cyhyd i Weinidogion Llywodraeth Cymru benderfynu ar gais?

Rwy'n siŵr, Russell George—diolch am eich cwestiwn—y byddwch chi'n gwerthfawrogi na allaf wneud sylw ar achosion cynllunio penodol o'r math hwn sy'n arwain at alwad i mewn er mwyn i Lywodraeth Cymru roi'r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio wedyn. Mae'r rhain yn digwydd ledled Cymru, felly bydd amgylchiadau gwahanol ym mhob achos, ond byddaf yn sicr yn codi eich pryderon gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n siŵr y bydd hi am gadarnhau'r trefniadau o ran y darlun cyffredinol o sut y caiff galw i mewn ei reoli a'i weithredu. 

15:50

Gaf i ofyn am ddatganiad am ddiweddariad ar gynllun gwella gwasanaethau canser Cymru gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda, ac yn benodol lefelau cynnydd yn adnabyddiaeth canser y fron yn y gogledd? Mae gen i etholwraig sydd yn dioddef o ganser y fron, ac yn anffodus, mae'r oncolegydd arbenigol yn Ysbyty Gwynedd yn sâl, sy'n golygu bod yn rhaid i gleifion canser y fron o'r gogledd-orllewin deithio i Wrecsam i weld oncolegydd sydd yn gweithio yno fel locwm. Yn anffodus, oherwydd y sefyllfa staffio, mae'r cleifion sydd angen gwneud trefniadau i fynd yno yn cael apwyntiadau wedi'u canslo'n hwyr ac yn gorfod canslo, er enghraifft, gwestai, ac yn y blaen, ac mae'n golygu eu bod yn methu eu hapwyntiadau, sy'n achosi trafferthion iddyn nhw. Mae hyn yn golygu bod merched gogledd-orllewin Cymru yn colli allan oherwydd nad oes darpariaeth deg i ddarpar gleifion canser y fron yn yr ardal. Mae hyn yn anghyson â'r cynllun gwella gwasanaethau canser yng Nghymru, felly mi fyddwn i'n ddiolchgar am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y pwnc yma.

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Mae gennym Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda ni. Mater i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw hwn, ond rwy'n credu y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn edrych ar yr amgylchiadau hyn o ran cysondeb a hygyrchedd gofal i'ch etholwyr yn y gogledd-orllewin sydd â chanser y fron. 

Ysgrifennydd Cabinet, yn y pen draw, Llywodraethau yw prif geidwaid cyfrifol ein treftadaeth ddiwylliannol a'r bensaernïaeth sydd oddi mewn iddi. Hoffwn ofyn am ddatganiad i'r lle hwn sy'n amlinellu'r dadansoddiad a wnaed o effeithiau cyfunol y toriadau cronnus gan gynghorau celfyddydau Cymru a Lloegr ar allu Opera Cenedlaethol Cymru i weithredu, i berfformio ac i deithio; yr asesiad a wnaed o effaith colli swyddi medrus ac ansoddol iawn ar y cyflogwr mwyaf ym maes y celfyddydau yng Nghymru; effaith model cyflawni rhan-amser ar gadw a recriwtio ansawdd a rhagoriaeth; ac yn olaf yr asesiadau a wnaed o'r lleihad yn yr allgymorth cymunedol, llesiant ac ysgolion o'r radd flaenaf a ddarperir gan Opera Cenedlaethol Cymru ledled Cymru.

Gweinidog, gallwn ni byth wylio tra bod fandaliaeth ddiwylliannol yn mynd rhagddi, a gallwn ni yn y lle hwn ddim fod yn wylwyr, yn gynulleidfa, a gwylio o'r cadeiriau hyn wrth i'r em yng nghoron perfformio Cymru gael ei ddiddymu o'n blaenau. Gofynnaf i'r datganiad nodi'r cyllid sydd ei angen i gadw Opera Cenedlaethol Cymru yn llawn amser ac amlinellu'r cynnydd o ran cael cytundeb cyllido newydd rhwng y ddwy wlad. Mae gennym ni, yn y lle hwn, ddyletswydd gofal ar y cyd i amddiffyn ein sefydliadau cenedlaethol, ac, fel mae'r arweinydd byd-enwog Carlo Rizzi newydd ddweud munud yn ôl ar risiau'r Senedd, i amddiffyn un o'r cwmnïau opera gorau yn y byd—cwmni a anwyd yng Nghymru, a fagwyd yng Nghymru, yng ngwlad y gân. Mae'n rhan o frand Cymru. Diolch.

Diolch, Rhiannon Passmore. Rwyf wedi ymateb i gwestiwn ar y sefyllfa gyffredinol o ran diwylliant yn gynharach y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni wedi clywed safbwyntiau Rhianon Passmore y prynhawn yma. Rwy'n cydnabod eich bod chi wedi cyflwyno datganiad barn hefyd, fel Aelod o'r meinciau cefn Llafur, gyda chefnogaeth. Unwaith eto, fel y dywedoch chi, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn adnabyddus yn fyd-eang am ei ragoriaeth, ei berfformiad a'i allgymorth, ac rwy'n gobeithio y gellir dod o hyd i ffordd ymlaen i'r sector diwylliannol, fel y dywedais i yn gynharach. Ac mae'n dda bod gennym ni'r strategaeth ddiwylliant a gyhoeddwyd heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynghylch darpariaeth gwasanaethau fflebotomi yn rhanbarth Gorllewin De Cymru ac argaeledd y gwasanaethau hynny? Rwyf wedi cael nifer o etholwyr yn cysylltu â mi yn nodi'r trafferthion y maen nhw wedi'u cael yn mynychu'r apwyntiadau hyn oherwydd y model canolog ar gyfer y gwasanaethau hyn a'r effaith y gallai cysylltiadau trafnidiaeth cyfyngedig ei chael wedyn ar y cleifion hynny. Fe gymerodd un etholwr bedair awr i gyrraedd yr ysbyty i gael triniaeth syml sy'n para bum munud. Rwy'n deall, ar ôl siarad ag un o'r byrddau iechyd yn fy rhanbarth am ganoli gwasanaethau, mai'r rheswm amdano oedd i leihau'r amser a oedd yn cael ei dreulio yn cludo samplau gwaed ac i leddfu pwysau ar bractisau lleol, ac rwy'n deall hynny, ond mae'n rhoi pwysau ychwanegol ar gleifion, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd eu hapwyntiadau. A gaf i ofyn, felly, am y wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael i bawb sydd eu hangen?

15:55

Diolch am y cwestiwn yna. Rydych chi wedi gwneud y peth iawn i ddwyn hyn at sylw'r byrddau iechyd, sy'n gyfrifol, ac mae eich pwynt wedi'i gofnodi heddiw. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg y prynhawn yma? Wrth i ni ddechrau misoedd yr haf, mae Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn dal heb weithredwr, a hynny bron i chwe mis ers i Grŵp Gwesty a Hamdden Mikhail dynnu'n ôl yn anffodus. Mae pobl leol yn dechrau gweld y datblygiad newydd fel eliffant gwyn, gyda dros £12 miliwn wedi'i fuddsoddi yn yr hyn a oedd yn cael ei weld flwyddyn yn ôl fel cnewyllyn gweithgaredd manwerthu, ond mae hwnnw, bedair blynedd yn ddiweddarach, bellach yn adeilad gwag. Credaf y gallai Marchnad y Frenhines fod yn gatalydd i adfywio'r dref, ond mae'n annerbyniol, ar ôl cryn amser a swm sylweddol o arian trethdalwyr a fuddsoddwyd, nad yw'r farchnad yn weithredol o hyd.

Hoffai fy etholwyr weld rhywfaint o oruchwyliaeth dros sut mae eu harian yn cael ei wario. Hoffent i Lywodraeth Cymru sicrhau, pan fyddant yn gwario arian trethdalwyr ar y datblygiad, eu bod yn sicrhau bod trethdalwyr yn gweld canlyniadau eu buddsoddiad ac nad anghofir am yr arian. Felly, a gaf i ddatganiad i gadarnhau i'm hetholwyr y bydd y Llywodraeth hon yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i sicrhau bod y prosiect hir-ddisgwyliedig hwn yn sicrhau gweithredwr ac yn dechrau bod o fudd i'r dref yn hytrach na bod yn eliffant gwyn drud na all neb gael mynediad ato?

Wrth gwrs, ni fyddem eisiau gweld hynny. Rydych wedi codi cwestiwn Marchnad y Frenhines, ac mae'n bwysig bod hynny'n ddull partneriaeth gyda chyllid o nifer o ffynonellau. Yn amlwg, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o'r pwynt hwn, a byddwn yn mynd ar ei drywydd o ran y sefyllfa ddiweddaraf, yn enwedig cyfrifoldebau Cyngor Sir Ddinbych. 

4. Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog, Dawn Bowden. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddoe, gosodais y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Senedd. A gaf i gofnodi fy niolch i'm rhagflaenydd, Julie Morgan, ac i'r cyn Aelod dynodedig o Blaid Cymru, Siân Gwenllian, am y gwaith y maent wedi'i wneud i ddod â'r Bil i'r pwynt lle mae nawr? Diolch yn fawr.

Mae'r Bil yn nodi dau brif ddarpariaeth: atal tynnu elw preifat allan o rai mathau o ofal cymdeithasol plant, a rhoi'r gallu i bobl ofyn am daliadau uniongyrchol mewn cysylltiad â gofal iechyd parhaus y GIG. Mae hefyd yn cefnogi gweithrediad effeithiol parhaus ein dwy Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol blaenllaw.

Mae'r holl gynigion a nodir yn y Bil hwn wedi bod yn destun ymgynghori ac ymgysylltu helaeth â'r cyhoedd a chyda rhanddeiliaid. Bydd y darpariaethau ar gyfer dileu elw yn cyfyngu ar y gallu i dynnu elw preifat wrth ddarparu gwasanaethau cartrefi gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant, gwasanaethau llety diogel, a gwasanaethau maethu. Bydd yn gwneud hyn drwy sicrhau bod yn rhaid i unrhyw ddarparwr gwasanaeth plant cyfyngedig newydd ac eithrio awdurdod lleol fod yn endid nid-er-elw ar ôl i'r darpariaethau ddod i rym.

Diffinnir 'endid nid-er-elw' yn y Bil fel cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau; sefydliad elusennol corfforedig; cymdeithas gofrestredig elusennol; neu gwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau.

Mae'r farchnad gofal cymdeithasol i blant yn dameidiog ac yn gymhleth ac mae diffyg lleoliadau o'r math cywir, yn y mannau cywir. Mae hyn yn golygu nad oes gan blant fynediad at ofal a llety sy'n diwallu eu hanghenion, ac yn rhy aml maent yn cael eu lleoli ymhell o'u cymunedau lleol lle maent wedi sefydlu cysylltiadau. 

Wrth ddatblygu'r Bil hwn, rydym wedi cael ein harwain gan yr hyn y mae pobl ifanc wedi'i ddweud wrthym. Mae ganddyn nhw deimladau cryf iawn ynghylch cael gofal gan sefydliadau preifat sy'n elwa ar eu profiad o fod mewn gofal. O dan ein cynigion, bydd gofal preswyl, llety diogel a gofal maeth plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, yn y dyfodol yn cael eu darparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu nid-er-elw.

Mae'r Bil yn un rhan o'n rhaglen ehangach i drawsnewid gwasanaethau plant. Rydyn ni eisiau i lai o blant gael eu derbyn i ofal. Rydym eisiau i wasanaethau ddarparu'r cymorth cywir i deuluoedd, ar yr adeg iawn, i'w helpu i aros gyda'i gilydd, lle bynnag y bo modd. Pan fydd plant yn cael eu derbyn i ofal, rydym eisiau iddynt gael gofal mor agos at eu cartrefi â phosibl, gyda'r cymorth cywir ar gyfer eu hanghenion. A phan fydd pobl ifanc yn barod i adael gofal, byddwn yn eu cefnogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac i fyw bywyd annibynnol.

Dirprwy Lywydd, mae'r ail brif ddarpariaeth yn y Bil yn ymwneud â darparu gofal iechyd parhaus y GIG. Mae'n ceisio diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud taliadau uniongyrchol i unigolion sydd, ar ôl cael eu hasesu fel rhai sydd ag angen iechyd sylfaenol, felly, â hawl i gael gofal iechyd parhaus. Bydd hyn yn eu galluogi i sicrhau gwasanaethau yn uniongyrchol i ddiwallu eu hanghenion a aseswyd ar gyfer gofal cymdeithasol a rhai tasgau gofal iechyd dirprwyedig, yn lle derbyn gwasanaethau a ddarperir neu a gomisiynir gan y GIG yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi mwy o lais a mwy o reolaeth i'r grŵp hwn o bobl dros reoli eu hanghenion iechyd.

Mae'r Bil hefyd yn gwneud nifer o welliannau i reoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r gweithlu gofal cymdeithasol, i helpu'r fframwaith rheoleiddio i weithredu'n fwy effeithiol. Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn darparu'r drefn reoleiddio ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol dynodedig. Yma, nod y gwelliannau arfaethedig yw gwella ymarferoldeb y fframwaith rheoleiddio a chynorthwyo Arolygiaeth Gofal Cymru i gyflawni ei chyfrifoldebau rheoleiddio mewn cysylltiad â chofrestru, arolygu a gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal rheoledig yng Nghymru.

Mae'r newidiadau yn cwmpasu pedwar prif faes. Y rhain yw: y ddyletswydd i gyflwyno a chyhoeddi ffurflenni blynyddol; gwybodaeth sydd i'w darparu mewn cysylltiad â chais i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth; canslo cofrestriad darparwr gwasanaeth heb gais; a phŵer i ofyn am wybodaeth mewn cysylltiad ag arolygiadau. Yn ogystal, mae'r Bil yn gwneud gwelliant i Ddeddf 2016 mewn cysylltiad â swyddogaethau Gofal Cymdeithasol Cymru fel cofrestrydd a rheoleiddiwr gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r gwelliant yn ymwneud â phwerau Gofal Cymdeithasol Cymru i adolygu ac ymestyn gorchmynion dros dro. Mae gorchmynion dros dro yn galluogi gorfodi cyfyngiadau dros dro ar berson cofrestredig tra bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal i honiadau a wneir yn erbyn yr unigolyn hwnnw.

Mae'r gwelliant yn ceisio darparu panel gorchmynion dros dro, neu banel addasrwydd i ymarfer y dygir trafodion gorchymyn interim o'i flaen, gyda'r pŵer i ymestyn hyd gorchymyn interim hyd at uchafswm o 18 mis o'r dyddiad y gwneir y gorchymyn interim gyntaf, heb fod angen cais i'r tribiwnlys haen gyntaf.

Mae'r Bil hefyd yn diwygio adran 79 o Ddeddf 2016 i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ymestyn y diffiniad o 'gweithwyr gofal cymdeithasol' at ddibenion y Ddeddf i gynnwys pob gweithiwr gofal plant a chwarae. At ddibenion y gwelliant hwn, gweithwyr gofal plant a chwarae yw'r unigolion sy'n cael eu cyflogi gan, neu sy'n gweithio i berson sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 fel darparwr gofal dydd, i ddarparu gofal a goruchwyliaeth i blant. Bydd y gwelliant yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud gan addasu'r diffiniad o 'weithiwr gofal cymdeithasol' fel y mae'n ymwneud â gofal plant, a thrwy hynny ddarparu sail ffurfiol ar gyfer y cymorth y mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei ddarparu i bawb yn y gweithlu gofal plant a chwarae.

Yn olaf, mae'r Bil yn cynnwys darpariaeth i wella'r aliniad rhwng Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac arfer cyfredol. Yn bwysig, mae hyn yn cynnwys gwelliant i ad-drefnu'r darpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf 2014 sy'n galluogi awdurdodau lleol i wneud taliadau uniongyrchol. Bydd y gwelliant hwn yn galluogi gwneud taliad uniongyrchol i drydydd parti a enwebwyd gan unigolyn sydd â hawl i gael taliad o'r fath, mewn achosion lle mae gan yr unigolyn alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw.

Fel y dywedais i yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe, edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau ac at barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth graffu ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) dros y misoedd nesaf. Diolch yn fawr. 

16:05

Diolch am eich datganiad, Gweinidog, a diolch am friffio llefarwyr yr wrthblaid y bore yma. Gadewch imi ddweud ar y dechrau bod llawer i'w groesawu yn y Bil hwn, a chaiff ein cefnogaeth gyffredinol.

Roeddwn yn bryderus, cyn ein cyfarfod, fod nod y Bil hwn wedi'i lunio'n ideolegol ar sail agwedd amherffaith bod elw yn ddrwg. Nid yw er-elw yn anghydnaws â gofalu am y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas: plant mewn gofal. Mae mwyafrif y darparwyr gofal annibynnol, sy'n darparu tri chwarter o'r holl wasanaethau gofal i blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, yn weithredwyr bach sy'n darparu gofal rhagorol. Ni ddylem fod yn cosbi'r darparwyr hyn oherwydd eu bod yn fusnesau preifat. Mae elwa, ar y llaw arall, yn rhywbeth arall. Pan fyddwch yn siarad â'r mwyafrif o ddarparwyr annibynnol, maent yn cytuno na ddylid defnyddio arian cyhoeddus er budd cronfeydd cyfoeth sofran a chyfranddalwyr corfforaethol mawr.

Nid oes gan gwmnïau ecwiti preifat Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig unrhyw le ym maes rhedeg gwasanaethau plant yng Nghymru, ond dylid caniatáu i bobl fel Amberleigh Care a Landsker Child Care barhau i ddarparu gofal rhagorol. Nid ydynt yn ei wneud er mwyn elw; maent yn rhedeg busnes i fuddsoddi mewn gofal rhagorol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Roedd yn rhyddhad imi felly eich clywed yn dweud nad elw yw'r mater; yr hyn sy'n digwydd i'r elw hwnnw sy'n bwysig. Yn hyn o beth, mae gennych chi fy nghefnogaeth lawn ac, rwy'n meiddio dweud, cefnogaeth y mwyafrif o ddarparwyr yng Nghymru. Fel erioed, mae'r diafol yn y manylion, ond gallwn i gyd gytuno na ddylai neb fod yn elwa ar blant gwych. Ni ddylid cymryd arian cyhoeddus allan o Gymru er budd rheolwyr cronfeydd rhagfantoli tramor. Gweinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i annog darparwyr preifat er-elw yng Nghymru i symud i un o'r modelau a amlinellir yn eich datganiad cyn i'r Bil hwn gael Cydsyniad Brenhinol?

O ran Rhan 2 o'r Bil, mae croeso mawr i'r cynnig i gyflwyno taliad uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cydraddoldeb i lawer o bobl, yn enwedig pobl anabl, gan roi dewis a rheolaeth iddynt dros eu triniaeth. Gweinidog, mae taliadau uniongyrchol wedi bod yn drawsnewidiol ym maes gofal cymdeithasol i lawer o bobl. Sut y byddwch yn annog mwy o bobl i dderbyn taliadau uniongyrchol?

O ran rhan olaf y Bil, er bod llawer ohoni'n dechnegol ei natur, serch hynny mae'n bwysig hefyd—mae sicrhau bod y prawf cymhwysedd llawn yn berthnasol i'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn hanfodol er mwyn sicrhau ansawdd gwasanaethau gofal iechyd parhaus. Gweinidog, un o'r newidiadau yw ailddiffinio'r rhai sy'n darparu gofal a goruchwyliaeth i blant fel gweithwyr cymdeithasol. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y gweithlu gofal plant?

Yn olaf, Gweinidog, mae nodyn y Llywydd sy'n cyd-fynd â'r Bil yn nodi nad yw paragraff 4 o Atodlen 2 o fewn cymhwysedd y Senedd hon. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chaniatâd ar gyfer y rhan hon o'r Bil?

Diolch unwaith eto am eich datganiad a'ch briff, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni nodau'r Bil hwn, sef gwell gofal a chymorth i bobl Cymru, yn enwedig plant gwych. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, a diolch am y sylwadau yna, Altaf, ac rwy'n croesawu eich cefnogaeth gyffredinol i'r Bil yn fawr. Rydyn ni wedi nodi'n glir iawn beth rydyn ni'n ceisio ei gyflawni yn y Bil hwn, oherwydd nid ydym yn credu—. Ein man cychwyn yw nad ydym yn credu y dylai fod marchnad ar gyfer gofalu am rai o'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Plant yw'r rhain sydd wedi bod trwy'r cyfnod mwyaf trawmatig ac yn y diwedd yn dod i mewn i'r system ofal, ac mae'n rhaid i ni gynnig y gofal gorau y gallwn ni iddyn nhw ym mha bynnag ffordd y gallwn. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid ailfuddsoddi unrhyw arian sy'n dod i mewn i'r system. Dyna pam rydyn ni'n bwriadu cymryd yr elw preifat allan o ofal plant, fel y gellir ail-fuddsoddi hwnnw, oherwydd nid yw'r farchnad hon yn gweithio'n effeithiol ar hyn o bryd. Rydym eisiau sicrhau bod yr arian hwnnw'n mynd yn ôl i'r system.

Rydych chi'n llygad eich lle, mae yna lawer o ddarparwyr preifat da allan yna, a'r hyn rydyn ni wedi'i wneud yw sefydlu bwrdd gweithredu dileu sydd wedi bod yn gweithredu ers cwpl o flynyddoedd bellach i baratoi ar gyfer y gwaith rydyn ni'n ceisio ei wneud trwy'r ddeddfwriaeth hon, ac mae darparwyr preifat ar y bwrdd hwnnw, mae darparwyr trydydd sector, mae yna awdurdod lleol sy'n eistedd ar y bwrdd hwnnw, y Comisiynydd Plant, cynrychiolydd o Voices from Care Cymru, sydd yn yr oriel heddiw, mae gennym undebau llafur yno, mae gennym y comisiynwyr gwasanaeth, i gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn gweithio trwy sut rydym yn modelu'r dull gweithredu newydd hwn o ddarparu gwasanaethau preswyl i blant. Ac rwy'n gwybod bod llawer o'r darparwyr preifat hynny mewn trafodaethau gweithredol a chalonogol gyda ni ynghylch sut y gallant drosglwyddo eu gweithrediad i fodel nid-er-elw. Ni fydd dibyn yn wynebu darparwyr er-elw gwasanaethau plant; bydd proses bontio y byddwn yn mynd drwyddi, a thrwy gydol y cyfnod hwnnw, hyd at y pwynt pryd mai darpariaeth nid-er-elw fydd yr unig ddarpariaeth ar gael yng Nghymru, bydd y darparwyr hynny yn rhan o'r drafodaeth honno.

O ran taliadau uniongyrchol, rydych chi'n hollol gywir. Mae'r taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, sydd wedi bod ar gael yn Lloegr ers tua 10 mlynedd a'r adborth a gawsom gan dderbynwyr taliadau gofal uniongyrchol am ofal iechyd parhaus yn Lloegr wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae llesiant ac ymateb a chydnerthedd unigolion sy'n derbyn y taliadau uniongyrchol hynny wedi gwella'n sylweddol gan fod ganddynt y dewis hwnnw a'r llais hwnnw dros y ffordd y darperir y gofal iechyd parhaus hwnnw iddynt gan rywun y maent yn ei gyflogi'n uniongyrchol i ddarparu'r cymorth hwnnw iddynt yn eu cartref.

Felly, rwy'n obeithiol iawn y bydd yr ychydig bobl sydd gennym nad ydynt yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd, pan fyddwn ni'n hyrwyddo'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud, yn gwneud cais am asesiad gofal iechyd parhaus gan y GIG fel y gallant ddefnyddio eu llais i gyfarwyddo'r ffordd y darperir eu gwasanaethau gofal. I lawer o'r bobl hynny, maen nhw eisoes yn derbyn taliadau gofal uniongyrchol am ofal cymdeithasol, ond mae eu gofal—rhai o'r bobl hynny—mae eu gofal yn ymestyn y tu hwnt i'r hyn y mae gofal cymdeithasol yn ei ddarparu, ond maen nhw wedi gwrthsefyll trosglwyddo, os mynnwch, i ofal iechyd parhaus, oherwydd byddai hynny'n dileu'r rheolaeth a'r llais uniongyrchol y byddai taliad uniongyrchol yn ei roi iddyn nhw. Felly, rwy'n obeithiol iawn, drwy gyflwyno taliad uniongyrchol am ofal iechyd parhaus y byddwn yn gweld pobl yn cael y gofal priodol sydd ei angen arnynt drwy eu darpariaeth iechyd.

Rydych chi wedi nodi, Altaf, fod rhan olaf y Bil yn un dechnegol yn bennaf. Mae'n ymwneud ag unioni'r rheoliadau yn y ddau Fil gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth newydd hon, ac o ran y gweithwyr gofal plant rydych chi wedi cyfeirio atyn nhw, mae'n ymwneud â'u rhoi ar sylfaen reolaidd fel gweithwyr gofal plant proffesiynol cydnabyddedig o dan nawdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Felly, rydym yn gweld hynny fel cam cadarnhaol iawn ym maes proffesiynoli gweithwyr gofal plant.

16:10

Mae Plaid Cymru yn gadarn yn ein cred y dylai ein gwasanaethau iechyd a gofal gael eu rhedeg er budd y bobl, nid er budd masnachol. Yn wahanol i'r Blaid Geidwadol, ac elfennau nid ansylweddol o'r Blaid Lafur, sy'n cynnwys Gweinidog iechyd cysgodol San Steffan, rydyn ni'n gwrthod yn llwyr y gred mai'r farchnad sydd yn gwybod orau pan fo'n dod at iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym felly yn croesawu'r ffaith y bydd y ddeddfwriaeth yma'n delifro ar ein daliadau craidd, ac mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn gweithio gyda'r Llywodraeth arno drwy'r cytundeb blaenorol, sef cael gwared ar yr elfen o elw allan o'r sector gofal plant.

Mae'r angen i ddiwygio'r maes yma wedi bod yn amlwg ers tro, ac rydym fel plaid wedi cyfeirio'n aml at oblygiadau niweidiol i ddarpariaeth ac ansawdd y gwasanaethau hanfodol hyn o gael eu pennu gan rymoedd y farchnad.

Fel y gwnaed yn glir yn adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd 2022, mae'r farchnad ar gyfer y sector ar hyn o bryd yn gogwyddo'n drwm ac yn anghymesur o blaid cyflenwyr preifat, sydd wedi gallu codi prisiau premiwm, gan fod gallu awdurdodau lleol i ddarparu eu gofal maeth eu hunain wedi cael ei beryglu'n ddifrifol gan effaith 14 mlynedd o gyni a ysgogwyd gan y Torïaid. Mewn llawer o achosion, mae hyn wedi agor y drws i gwmnïau ecwiti i elwa ar anffawd rhai o'r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas—beirniadaeth gywilyddus o'r ffordd mae ein gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei breifateiddio gam wrth gam.

O safbwynt ymarferol, mae'r orddibyniaeth ar gyflenwyr preifat yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn cyfrif am bron i 80 y cant o'r holl leoliadau plant sy'n derbyn gofal, hefyd wedi achosi ansicrwydd sylweddol yn y sector. Dangosodd adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd sut mae nifer yr achosion o ddyled ymhlith darparwyr preifat yn peri risg uchel y bydd cwmnïau'n gadael y farchnad ar fyr rybudd, gyda chanlyniadau trafferthus i'r plant yn eu gofal.

Nid yw cyflwr y farchnad ychwaith yn talu fawr o sylw i leoliad daearyddol, sy'n ffactor o'r pwysigrwydd mwyaf ar gyfer llesiant plant sy'n derbyn gofal. O'r herwydd, tra bod 84 y cant o blant mewn gofal maeth awdurdodau lleol yng Nghymru yn aros yn eu hardal leol, gan sicrhau rhywfaint o barhad hanfodol yn eu bywydau yn ystod cyfnod o ansicrwydd cynhenid, mae 79 y cant o blant mewn maethu preifat yn derbyn gofal y tu allan i'w hardal leol, ac mae 6 y cant yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl.

Ond mae'n siŵr bod yr achos mwyaf cymhellol dros newid yn dod o dystiolaeth y plant eu hunain, sy'n dangos anfodlonrwydd ac anghysur eang ynghylch sut y gellir defnyddio eu hamgylchiadau nhw fel cyfrwng ar gyfer gwneud elw. Rhaid i'w lleisiau bob amser gael blaenoriaeth yn y ddadl hon, a thrwy greu gofynion newydd i bob darparwr gofal yng Nghymru gofrestru fel endidau nid-er-elw, gallwn sicrhau eu bod yn cael gwrandawiad.

Ond er bod y Llywodraeth hon wedi ariannu awdurdodau lleol dros dair blynedd i baratoi ar gyfer pontio'r ddeddfwriaeth hon, mae marc cwestiwn ynghylch parodrwydd llawer o awdurdodau lleol. Felly, a all y Gweinidog roi sicrwydd inni fod awdurdodau lleol wedi paratoi ar gyfer y newid hwn mewn gwirionedd?

Gan droi at agweddau eraill y Bil, rydym yn cefnogi cyflwyno dyletswydd gyfreithiol ar gyfer adrodd ar blant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio, yn unol ag argymhellion yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol. Mae'n hanfodol bod y ddyletswydd hon yn cael ei hategu gan fecanweithiau cymorth cadarn ar gyfer yr unigolion yr effeithir arnynt, a ddylai gynnwys dull gweithredu hawliau plant yn achos plant dan oed. Dylid datblygu'r canllawiau adrodd hefyd er mwyn atal creu hierarchaeth de facto o achosion cam-drin. Bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol bod Swyddfa Gartref y DU yn bwriadu deddfu ar gyfer adrodd gorfodol am gam-drin plant yn rhywiol fel rhan o'r Bil Cyfiawnder Troseddol, a byddwn yn croesawu ei barn ar sut y bydd hyn yn rhyngweithio â'r cynigion yn y darn hwn o ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw.

Yn olaf, er bod y Llywodraeth yn iawn i fynd i'r afael â'r diffygion yn y fframwaith deddfwriaethol presennol ynghylch taliadau uniongyrchol i'r rhai sy'n gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG, mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn cael yr adnoddau angenrheidiol i reoli'r cyfrifoldeb ychwanegol hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi syniad o'r gost flynyddol ddisgwyliedig i awdurdodau lleol o ganlyniad i'r newidiadau hyn, ac egluro sut y bydd y grant cynnal refeniw yn cael ei uwchraddio i ddarparu ar eu cyfer.

Diolch yn fawr iawn unwaith eto am y datganiad, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio gyda'r Gweinidog er mwyn gwthio’r Bil yma ymlaen.

16:15

Diolch yn fawr, Mabon, ac unwaith eto, diolch am eich cefnogaeth i'r Bil. Mae'n uchelgais ar y cyd. Mae wedi bod yn uchelgais ar y cyd gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn nawr ac, fel y dywedais i, rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith yr ydym wedi'i wneud gyda Phlaid Cymru i'n dwyn i'r fan hon. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r holl bwyntiau a wnaethoch ynghylch y ddarpariaeth er-elw a'r gwaith a wnaed gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, y gwaith a nodwyd ganddynt, neu sut y gwnaethant nodi, yr ymchwil a gynhyrchwyd ganddynt a nodi, ein bod yn gweld y sefydliadau hyn yn cynhyrchu elw o tua 22, 23 y cant. Roedd erthygl, efallai i chi ei gweld dros y penwythnos ym mhapur The Guardian—erthygl George Monbiot oedd hi dros y penwythnos—roedd honno'n sôn am hyn—. Roedd o safbwynt Seisnig, ond mae'r materion yn union yr un fath, ac mae hyn yn cael sylw mewn ffordd debyg iawn yn awr yn Lloegr. Rwy'n credu eu bod wedi cydnabod bod yn rhaid iddynt wneud rhywbeth fel hyn. Roedd y costau oedd yn gysylltiedig â gosod un plentyn mewn lleoliad gofal preswyl ar gyfer sefydliad mawr er-elw tua £280,000 i un plentyn—tua £5,000 i £6,000 yr wythnos. Nawr, os ydych chi'n rhoi hynny yng nghyd-destun faint mae'n ei gostio i anfon plentyn i Eton, sef £46,000 y flwyddyn, gallem anfon chwe phlentyn i Eton yn hytrach na rhoi un plentyn mewn lleoliad preswyl sy'n cael ei redeg gan gwmni preifat.

Felly, rydym yn llwyr ymwybodol o'r heriau sy'n bodoli. Ond rydych chi'n gwneud pwynt da iawn am awdurdodau lleol a'u cydnerthedd a'u gallu i lenwi'r bylchau a allai godi yn sgil cael gwared ar ddarparwyr preifat o'r farchnad. Yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw, yn y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud ar y rhaglen ddileu, rydyn ni wedi bod yn ymgorffori gwahanol senarios. Felly, mae'n rhaid i ni edrych ar—. Gallem gael senario A, pan efallai nad oes unrhyw ddarparwr preifat yn trosglwyddo i'r sector nid-er-elw, ac i'r pegwn arall, efallai fod 100 y cant yn gwneud hynny, neu rywle rhwng y ddau begwn.

Nawr, rydym yn cael trafodaethau cadarnhaol iawn gyda nifer o'r darparwyr hyn, sy'n nodi eu parodrwydd i siarad â ni am symud eu model gweithredu i un nid-er-elw, ond rydym yn gwerthfawrogi, wrth gwrs, y gallai fod rhai bylchau, gyda phob un o'r darparwyr hyn yn dymuno symud i'r farchnad nid-er-elw, ac felly mae'n rhaid i ni weithio gydag awdurdodau lleol i adeiladu'r cydnerthedd hwnnw i'r system a fydd yn galluogi iddynt ddarparu gwasanaeth nid-er-elw, p'un a ydynt yn ei ddarparu eu hunain yn uniongyrchol fel awdurdod lleol, neu drwy un o'r modelau a amlinellais yn fy natganiad. 

Ond yr hyn rwy'n credu sy'n bwysig i'w nodi'n glir iawn yma yw nad yw'r darn hwn o ddeddfwriaeth i'w weld fel darn o ddeddfwriaeth sy'n eistedd ar ei ben ei hun. Mae gennym raglen trawsnewid gwasanaethau plant gyfan yng Nghymru, sy'n ataliol i raddau helaeth, ac sy'n ymwneud yn bennaf â gweithio gyda theuluoedd i gadw teuluoedd gyda'i gilydd, fel bod llai o alw am wasanaethau preswyl i blant, oherwydd y galw sy'n gwthio'r elw i fyny. Os gall darparwr preifat ddod i mewn ac yn gallu gweld marchnad, bydd yn llenwi'r farchnad honno. Dyna beth mae'r sector preifat yn ei wneud. Felly, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i feithrin y cydnerthedd hwnnw drwy'r gwahanol brosesau, ac rydym yn gwybod y bydd cost i hynny. Yr hyn na allaf ei ddweud wrthych ar hyn o bryd, oherwydd bod y modelu hwnnw'n dal i ddigwydd, am yr holl resymau rwyf newydd eu nodi, yw faint yn union y bydd hynny'n ei gostio. Ond rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r ddeddfwriaeth hon, a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i ffordd y gallwn sicrhau bod yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni hyn ar gael. Ond, fel y dywedais i, nid yw hyn yn rhywbeth y gallaf ei nodi'n union ar hyn o bryd, ond trwy gydol cynnydd y Bil hwn, byddwn yn cael gwell syniad, oherwydd mae llawer o'r darparwyr eisiau gweld mwy o fanylion cyn iddynt ymrwymo un ffordd neu'r llall.

O ran y dyletswyddau cyfreithiol a'r adrodd gorfodol, Mabon, rydych chi'n hollol gywir; mae gennym eisoes broses adrodd orfodol yng Nghymru. Mae'n wahanol i'r model y maent yn ei gynnig yn Lloegr, ond ar hyn o bryd rydym yn credu bod y broses sydd gennym, sy'n gorfodi sefydliadau i adrodd, yn iawn i ni ac yn iawn i Gymru, ond byddwn yn parhau i adolygu hynny, oherwydd nid ydym yn sefyll yma ac yn dweud bod popeth yn iawn, ond rydym yn credu bod y broses sydd gennym ni ar y blaen i'r broses oedd ar waith yn Lloegr ac y mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn Lloegr yn ceisio mynd i'r afael â hi, ond nid ydym yn cynnig ar hyn o bryd i gyflwyno adroddiadau gorfodol ar unigolion. Rydym yn cadw'r mandad sefydliadol ar gyfer adrodd ar hyn o bryd.

16:20

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad pwysig hwn heddiw. Rwy'n cefnogi'r Bil ac uchelgeisiau'r Bil yn llawn, a dylwn i roi ar gof a chadw hefyd fy niolch i Julie Morgan ac yn wir Mark Drakeford am ddangos dewrder wrth gyflwyno'r gwaith hwn a'i ddechrau. Gweinidog, os cysylltaf fy sylwadau â deiseb y mae'r Pwyllgor Deisebau yn ei hystyried ar hyn o bryd gan un o drigolion etholaeth Wrecsam, etholaeth Lesley Griffiths, mae'r ddeiseb yn galw am gynnydd mewn eglurder a hawliau i bobl ar daliadau uniongyrchol neu'n derbyn Grant Byw'n Annibynnol Cymru, allu byw'n annibynnol. Mae gan y deisebydd bryderon; er gwaethaf egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'n galw am weithredu gan gynnwys gwell cymorth eiriolaeth, proses datrys anghydfodau, sianeli cyfathrebu gwell a gweithdrefn gwyno sydd â gwybodaeth am gyfraith Cymru. Nid wyf yn siŵr a yw hyn o fewn cwmpas y Bil penodol hwn, ond efallai ei fod ar gyfer ei daith. Byddwn yn ddiolchgar am eich sylwadau ar y galwadau hyn, boed hynny yn y Bil hwn neu mewn ffyrdd eraill.

16:25

Diolch am y pwyntiau yna, Jack. Ac na, nid yw'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Bil hwn, ond mae'r egwyddorion eang yn berthnasol, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig, oherwydd, yn fwy cyffredinol, yr hyn yr ydym yn ei wneud yw bwrw ymlaen â'r rhaglen waith a nodwyd gan y tasglu hawliau anabledd, a fyddai'n cwmpasu'r lwfans byw annibynnol, ac sy'n dod â phobl â phrofiad bywyd at ei gilydd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioliadol, ac mae gwaith y tasglu hwnnw yn seiliedig ar y ddealltwriaeth gyffredin honno o'r model anabledd cymdeithasol a'r cydgynhyrchu ac ati. Felly, yr hyn yr ydym wedi'i wneud yw cyflwyno canllawiau newydd i awdurdodau lleol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt hunanasesu eu perfformiad a'u darpariaeth yn erbyn wyth safon ansawdd. Mae hynny'n cynnwys dangos gyda thystiolaeth sut maent yn hyrwyddo llais a rheolaeth unigolion sydd angen gofal a chymorth i'w helpu i fyw mor annibynnol â phosibl, ac mae angen iddynt ddangos sut mae barn defnyddwyr gwasanaethau a'r gofalwyr yn cael eu hadlewyrchu yn asesiad yr awdurdod o'i berfformiad. Felly, rydym yn parhau i weithio ar draws y sector i sicrhau bod yr ymrwymiadau hynny'n cael eu cyflawni'n brydlon, ac rwy'n disgwyl gweld cynnydd clir yn cael ei wneud arnynt yn ystod y flwyddyn, ac rwy'n hapus i adrodd yn ôl neu ysgrifennu atoch eto, Jack, wrth i ni ddatblygu hynny wrth i amser fynd yn ei flaen. Diolch.

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet. Mae'n galonogol iawn clywed am y datblygiad hwn. Rwy'n un o'r cyn-weithwyr cymdeithasol hynny a fyddai, allan o anobaith, yn anffodus, yn gorfod rhoi plentyn yn y lle diwethaf posibl yr oeddwn eisiau ei leoli. Clywsom—. Rhai ohonom a oedd mewn gweithdy yr wythnos diwethaf ar blant coll, clywsom dystiolaeth bwerus gan awdurdodau lleol a sefydliadau plant ynghylch sut, yn drasig, mae plant yn mynd ar goll o sefydliadau preswyl oherwydd eu bod yn ysu am gael bod adref. Pa mor ddigalon yw hynny? Dyna beth fyddem ni i gyd eisiau ei wneud, dyna beth fyddem ni'n ei wneud yn naturiol, felly rwy'n falch o glywed gennych fod hon yn rhan o broses drawsnewidiol, oherwydd, mewn gwirionedd, dylem fod yn edrych ar y pen blaen, fel y dywedwch chi. Felly, mae angen i ni osgoi rhoi plant mewn gofal, ac, yn anffodus, yng Nghymru, rydyn ni wedi gweld y niferoedd yn cynyddu yn y degawd diwethaf—ddim yn dderbyniol o gwbl. Felly, rwyf wir eisiau apelio arnoch chi: beth yw eich mesuriadau ar gyfer sicrhau ein bod yn cadw plant gartref? Beth yw eich targedau ar gyfer y tair blynedd nesaf i sicrhau ein bod yn lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal, a'n bod yn rhoi'r arian yn ein gwasanaethau rheng flaen, oherwydd dyna lle mae angen iddo fod? Diolch yn fawr iawn.

Diolch Jane, am y sylwadau yna, ac rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth rydych chi'n ei ddweud. Rydym yn gwario swm enfawr o arian ar wasanaethau preswyl i blant. Os dywedaf wrthych ein bod, yn 2017, wedi gwario £65 miliwn ar wasanaethau preswyl plant ac eleni mae hynny wedi codi i £200 miliwn, ac mae 80 y cant o hynny'n mynd i ddarparwyr preifat, darparwyr er-elw, gallwch weld maint yr her sy'n ein hwynebu. A realiti hynny yw, dim ond ar sail ariannol, heb sôn am yr achos moesol dros wneud hyn—y byddaf yn dod ato mewn eiliad—ond, ar sail ariannol yn unig, mae hynny'n anghynaladwy. Os ydym yn gweld y costau hynny'n codi, treblu, mewn llai na deng mlynedd, ac rydym yn parhau â'r llwybr hwnnw am y 10 mlynedd nesaf, gallem fod yn edrych ar wasanaethau plant, gwasanaethau preswyl plant, yn costio bron i £1 biliwn i ni. Ar hyn o bryd mae'r gyllideb gwasanaethau plant oddeutu £350 miliwn y flwyddyn, £200 miliwn o hynny ar wasanaethau preswyl, ac nid yw llawer o'r gwasanaethau preswyl hynny a'r lleoliadau preswyl hynny, fel y dywedwch yn gwbl briodol, yn lleoliadau y mae plant eisiau bod ynddyn nhw. Ac felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr mai'r rhaglen drawsnewid yr ydym yn ceisio ei chyflawni yw'r mesur ataliol hwnnw sy'n lleihau nifer y plant sy'n mynd i fod angen gofal preswyl, a bydd hynny'n cynnwys—. Oherwydd nid yw hyn yn ymwneud â chartrefi preswyl a lleoliadau preswyl yn yr ystyr hwnnw yn unig; mae hyn yn ymwneud â gwella'r niferoedd—neu gynyddu'r niferoedd, mae'n ddrwg gennyf—o ofalwyr maeth sydd gennym yn y system. Rydym yn gwybod, o'r datganiad a wneuthum yr wythnos diwethaf, ein bod yn sôn am yr angen i ni ddod o hyd i 800 o deuluoedd gofal maeth eraill ledled Cymru i ateb rhywfaint o'r galw presennol. Ond yr allwedd i hyn, ac ni allaf roi'r ffigurau ar hyn o bryd, Jane, hoffwn pe gallwn i, yw bod yn rhaid i ni weld sut mae'r holl bolisïau hyn yn gweithio, ond mae'n rhaid iddyn nhw weithio i ni allu dod â nifer y plant mewn gofal i lawr.

Felly, rwy'n gwbl benderfynol y bydd y mesurau hyn yn cael eu gweithredu, y byddwn yn rhoi arian yn y gwasanaethau ataliol lle byddwn yn gweithio gyda rhieni a phlant i'w cadw gartref lle mae'n ddiogel gwneud hynny. Rydym newydd gael yr adroddiad i mewn nawr gan y cynllun treialu llys teulu, cyffuriau ac alcohol, ac rwy'n cymryd peth amser i ystyried hwnnw. Rydym wedi gweld lle cafodd hwnnw ei dreialu, ei fod yn llwyddiannus iawn wrth gadw teuluoedd gyda'i gilydd. Felly, rwy'n credu os yw hwnnw wedi bod yn llwyddiannus, mae angen i ni ystyried cyflwyno hwnnw o ddifrif hefyd. Felly, mae llawer o bethau ar y gweill, ac mae'n rhaid iddyn nhw i gyd ddod at ei gilydd. Y darn hwn o ddeddfwriaeth yw darn olaf y jig-so o ran cyflwyno sector gofal plant wedi'i ailbwrpasu a'i ailfodelu.

16:30

Diolch i chi am ateb y cwestiwn am y costau a fyddai'n cynyddu pe baem yn gwneud dim. Ond, gan ddilyn sylwadau Jane Dodds ac, yn wir, Mabon ap Gwynfor, rwy'n pryderu am allu awdurdodau lleol i gomisiynu'r gwasanaethau yn lleol, fel bod plant sydd angen naill ai gwasanaeth maethu neu lety preswyl yn gallu derbyn y gwasanaeth hwnnw yn eu hardal leol, oherwydd fel arall mae'n gwneud bywyd bron yn amhosibl i'r rhiant corfforaethol yn yr awdurdod lleol hwnnw sicrhau ei hun bod y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu yn addas i'r bobl ifanc hynny sy'n agored i niwed. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i lety diogel. Felly, rwyf wir eisiau pwysleisio pwysigrwydd y rôl sydd gennym i gyd i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed.

Rwy'n cytuno'n gryf â deddfwriaeth i ganiatáu i bobl ag anghenion gofal iechyd parhaus gomisiynu'r gwasanaethau a fydd yn diwallu eu hanghenion orau drostynt eu hunain, ac rwy'n eich canmol am dderbyn yr adborth o Loegr.

O ran gofal plant, pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i drosglwyddo rheoleiddio gweithwyr gofal plant a chwarae i Estyn? Rwy'n pryderu bod gofal plant yn eistedd ar ymyl garw rheoleiddio yma, a gobeithiaf ein bod i gyd yn cytuno bod angen arolygiadau o wasanaethau sy'n canolbwyntio ar blant arnom sy'n hyrwyddo cydnerthedd emosiynol plant. Gan fod gofal plant yn cael ei ddarparu wedi'i gyd-leoli ag ysgolion cynradd yn gynyddol, mae'n ymddangos yn rhyfedd iawn bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn arolygu'r gwasanaeth blynyddoedd cynnar, ac yna sefydliad gwahanol, Estyn, yn arolygu'r feithrinfa a'r ysgol gynradd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei archwilio gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Diolch am y sylwadau yna, Jenny. Rwy'n gwybod fy mod mewn perygl o ailadrodd rhywfaint o hyn, ond rwy'n glir iawn ein bod wedi gweithio'n agos iawn, iawn gydag awdurdodau lleol ynglŷn â hyn. Nid yw hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei gyflwyno iddyn nhw nawr yn unig. Rydym wedi bod yn gweithio gyda nhw dros nifer o flynyddoedd i baratoi ar gyfer hwn. Nid yw'n dod heb ei heriau. Dydw i ddim yn mynd i sefyll yma ac esgus bod hyn yn mynd i fod yn rhywbeth sy'n mynd i fod yn hawdd i'w gyflawni. Mae awdurdodau lleol o dan bwysau ariannol aruthrol, fel y gwyddom i gyd. Ond yr hyn rwy'n ei wybod, ac rwyf wedi cwrdd â'r holl arweinwyr gofal cymdeithasol yr awdurdodau lleol, yw eu bod wedi ymrwymo i wneud hyn. Maen nhw'n gwybod mai dyma'r peth iawn i'w wneud.

Mae rhai awdurdodau lleol wedi gallu symud cryn dipyn yn barod gyda'r gefnogaeth rydym wedi'i rhoi drwy'r rhaglen ddileu. Os ydych yn cymryd awdurdod fel sir Gaerfyrddin, er enghraifft, prin fod ganddynt unrhyw ddarpariaeth breifat yn barod. Ar ben arall y sbectrwm, nid yw'n syndod, fod yna broblemau sylweddol yng Nghaerdydd, ac nid yw hynny'n syndod. Felly, rwy'n gwybod, i Gaerdydd y bydd honno'n her fwy o lawer nag y bydd i sir Gaerfyrddin, ond maen nhw wedi ymrwymo i'w chyflawni. Bydd cynllun y byddaf yn disgwyl i bob awdurdod lleol ei greu, sy'n ymwneud â'u cydnerthedd i allu cyflawni hyn.

Nawr, pan na allant ei gyflawni, yna ni fyddwn yn gallu mynd â'r darparwr preifat allan o'r farchnad am y cyfnod hwnnw, ac mae'r Bil yn caniatáu i Weinidogion wneud penderfyniadau eithriadol ynghylch lleoliadau a fydd yn parhau i ddarparwyr er-elw pan mai dyna'r unig ddewis arall a phan fo hynny er budd gorau'r plentyn. Ond dyna sy'n allweddol i hyn, buddiannau'r plentyn yw'r peth pwysicaf, a'r math o lety y mae angen iddo fod ynddo.

Taliadau uniongyrchol—rydych chi eisoes wedi gwneud y pwynt ac rwy'n cytuno â chi.

O ran gofal plant, nid ydym wedi ystyried trosglwyddo'r arolygiad i Estyn fel rhan o'r Bil hwn. Nid yw hynny'n rhywbeth yr ydym wedi cael unrhyw drafodaethau yn ei gylch trwy'r broses hon. Mae'n rhywbeth rwy'n hapus i gael sgwrs gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg amdano—a fyddai Estyn eisiau bwrw ymlaen ai peidio, neu a ydyn nhw'n teimlo bod hyn yn y lle priodol ar hyn o bryd oherwydd yr effaith ar blant ifanc iawn. Mae hyn hefyd yn rhywbeth y mae'n debyg y byddai angen i mi siarad â fy nghyd-Weinidog, Jayne Bryant amdano, gan mai hi sydd â'r cyfrifoldeb dros y blynyddoedd cynnar. Ni fyddwn yn dweud y byddem yn ei ddiystyru, Jenny, ond ar hyn o bryd, nid yw'n rhan o'r ystyriaeth ar gyfer y Bil penodol hwn oherwydd credaf fod gennym fater llawer, llawer ehangach a phwysig y mae angen i ni ymdrin ag ef ynghylch yr agenda dileu elw ar hyn o bryd. 

16:35

Rwy'n croesawu'n fawr y gweithredu yma i waredu elw o'r system ofal. Fel y sonioch chi, un darn o waith yn unig sydd angen ei wneud i sicrhau'r diwygio radical o'r system ofal rŷn ni'n dirfawr angen ei weld yng Nghymru. Ac fel y soniodd Jane Dodds, rhaid inni wneud mwy i atal cymaint o blant a phobl ifanc—llawer gormod yng Nghymru—rhag mynd i mewn i'r system yn y lle cyntaf, lle bo modd. Ac un modd o wneud hynny yw mynd i'r afael â'r rhagfarn strwythurol sy'n cael ei phrofi gan famau ifanc yn sgil eu profiad o ofal, sy'n golygu eu bod nhw'n gallu cael eu cyfeirio at wasanaethau amddiffyn plant tra eu bod nhw'n feichiog, weithiau heb esboniad. Mae NYAS Cymru, wrth gwrs, gyda grant Llywodraeth Cymru, yn darparu cefnogaeth ddwys i fenywod ifanc sydd â phrofiad o ofal, drwy ei brosiect Undod, ac mae'n gallu cyfrannu at dorri'r cylch yna, y cylch gofal, drwy helpu meithrin hyder mewn mamau ifanc a'u grymuso nhw i leisio'u barn a chael mynediad at hyfforddiant, addysg a chyfleoedd eraill.

Fe wnaeth y Llywodraeth dderbyn mewn egwyddor argymhelliad adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ddiwygio radical i'r system ofal, y dylai model o'r fath, fel y prosiect Undod, fod ar gael fel hawl statudol. Felly, fyddwn i'n hoffi diweddariad ar hynny. Oes modd cael ymrwymiad gan y Gweinidog hefyd o ran cyllid hirdymor i'r prosiect Undod, gan fod y gwaith ataliol yma, fel rŷch chi wedi sôn, mor bwysig?

Diolch yn fawr, Sioned, am y sylwadau yna. Rydych chi'n llygad eich lle ynghylch y rhagfarn strwythurol y mae mamau ifanc yn ei phrofi, yn enwedig mamau sydd wedi bod mewn gofal eu hunain, a'r tueddiad i dybio, gan fod y fam wedi bod mewn gofal, mai dyna'r lle gorau i'r plentyn fod ynddo. Mae hynny hollol i'r gwrthwyneb i'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma. Ac rydych chi'n llygad eich lle: mae'r gwaith y mae NYAS wedi bod yn ei wneud yn y maes hwn wedi bod yn eithaf trawsnewidiol mewn llawer o leoedd, ac mae wedi helpu i gadw mamau a babanod gyda'i gilydd, a byddem eisiau parhau i gefnogi hynny.

O ran yr hawl statudol yna, Sioned, rwy'n mynd i orfod dod nôl atoch chi ar hynny, mae gen i ofn. Nid oes gennyf yr wybodaeth honno ar hyn o bryd. Digon yw dweud, o fewn y rhaglen ehangach, ein bod yn edrych ar yr agwedd ataliol honno o gadw mamau a babanod gyda'i gilydd, cadw teuluoedd ehangach at ei gilydd a'u cadw gyda'i gilydd mewn lleoliadau hefyd. Fe glywsom ni'n gynharach—rwy'n meddwl mai Jenny wnaeth y sylw—am blant yn cael eu gosod yn rhy bell i ffwrdd o ble mae eu holl gysylltiadau a lle mae eu teuluoedd. Ac os ydym o ddifrif ynghylch cadw teuluoedd gyda'i gilydd, yna tra byddwn ni'n mynd drwy'r trafodaethau hynny, mae'r mathau hynny o gynigion o gymorth, yr eiriolaeth y gallwn ni gynorthwyo rhieni i'w chael, mae'n rhaid gwneud hynny i gyd o fewn lleoliad lle gall pawb aros gyda'i gilydd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n hollol gywir. Mae popeth rydych chi'n ei ddweud yn hollol gywir. Mae gennym ffocws clir ar yr hyn yr ydym eisiau ei wneud. Nid ydym yn edrych ar unrhyw un o'r pethau hyn ar wahân. Ond y pwynt penodol y gwnaethoch ei godi, byddaf yn dod yn ôl atoch ar hynny. Diolch.

Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ddod â'r datganiad hwn i'r Senedd heddiw. Rwy'n credu bod dileu elw o ofal ein plant sy'n derbyn gofal yn ddatganiad beiddgar a chlir ein bod, yma yng Nghymru, yn rhoi profiadau a hawliau ein plant yn gyntaf. Ac mae'n hollol wych bod gennym blant yn yr oriel heddiw, yn gwrando ar y ddadl hon.

Wrth gwrs, dyna beth mae ein plant eisiau. Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro, mewn system farchnad, eu bod yn teimlo eu bod nhw'n nwyddau ar werth, gyda phobl yn elwa ar eu sefyllfaoedd anffodus, a gwn y byddant wedi dweud hynny wrth y Gweinidog hefyd. Felly, rwy'n credu, drwy gyflwyno'r Bil hwn, yr ydym yn anfon neges gref at ein plant yn y system ofal ein bod wedi gwrando ar yr hyn y maent wedi gofyn i ni amdano. Oherwydd eu bod yn sicr wedi gofyn cyn yr etholiad diwethaf, ac maen nhw wedi gofyn ym mhob uwchgynhadledd rydyn ni wedi'i chael ers hynny, bod hyn yn rhywbeth y maen nhw'n dymuno ei gael.

A yw'r Gweinidog yn cytuno y bydd gwrando ar yr hyn y mae plant yn ei ddweud a gweithredu ar hynny yn helpu i ddatblygu perthynas o ymddiriedaeth gyda'r plant, a bod hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn? Ac a yw hi hefyd yn cytuno y bydd cael gwared ar elw o'r system ofal hefyd yn cynnig gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc? Rwy'n gwybod ei bod yn anodd cael tystiolaeth am hynny gan mai ychydig iawn o ddarpariaeth breifat sydd ar gael ledled y byd. Rwy'n meddwl ein bod ni'n weddol unigryw, gyda chwpl o wledydd eraill, o ran cael unrhyw ddarpariaeth breifat o gwbl, felly mae'n anodd cymharu. Ond a fyddai'n cytuno, gyda'r dystiolaeth sydd yna, ei bod yn fwy tebygol y bydd plant yn elwa ac yn ffynnu mewn sefyllfa nid-er-elw nag mewn sefyllfa er-elw breifat?

Mae nifer o bobl wedi sôn am y mater ynglŷn â bod yn agos at eu teuluoedd eu hunain, ac atal, a hoffwn bwysleisio fy mod yn teimlo'n gryf iawn bod y rheini'n faterion pwysig iawn. Ac yn olaf—

16:40

Gallwch siarad â fi wedyn, Julie, am eich pwynt olaf. Diolch, ac unwaith eto, rwy'n cytuno'n llwyr. Yr un peth sydd wedi fy nharo pan oeddwn i, dros yr wythnosau diwethaf, yn siarad â phlant â phrofiad o ofal, p'un a ydyn nhw'n blant sydd wedi profi gofal preswyl mewn sefydliadau, os mynnwch chi, o eisiau gwell term, neu gyda gofalwyr maeth, yr hyn a amlygwyd dro ar ôl tro yw eu gwrthwynebiad i'w defnyddio fel adnodd; eu gwrthwynebiad i gael eu defnyddio at ddibenion elw.

Fel y dywedais reit ar y cychwyn, dyma rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac rydym ni'n eu defnyddio fel nwyddau marchnad—neu'r sector preifat, mewn rhai amgylchiadau, yn eu defnyddio fel nwyddau preifat. Ac rydych chi'n hollol gywir: mae'n rhaid i ni gael ymddiriedaeth y plant hyn. Mae'n rhaid i ni gyd-gynhyrchu'r holl bolisïau hyn, onid oes?

Mae'n rhaid i ni wneud yr hyn y dywedsom ni y byddem ni'n ei wneud, a gwrando ar leisiau'r plant hynny a ddywedodd wrthym ni ynghylch sut yr hoffen nhw i'w gofal gael ei ddarparu. Os na fyddwn ni'n gwrando arnyn nhw, byddwn ni wedi torri'r ymddiriedaeth honno, a gobeithio eu bod nhw'n teimlo—. Maen nhw yma i wrando ar hyn heddiw, a gobeithio eu bod nhw'n teimlo ein bod ni wedi gwrando arnyn nhw, a bod cyflwyno hyn ymlaen heddiw yn arwydd o hyn.

Dw i'n gwybod, Julie, eich bod chi a'r cyn-Brif Weinidog wedi llofnodi'r ddogfen hon—y datganiad hwn—y llynedd. Rydw i a'r Prif Weinidog newydd yn mynd i'w ail-lofnodi, fel y byddwn ni'n gwneud ein datganiadau personol fel y Gweinidogion newydd y byddwn yn bwrw ymlaen â'r rhaglen waith hon hefyd.

Dim ond yn olaf i ddweud, yn hollol, yr hyn rydych chi'n ei ddweud o ran cael gwared ar elw, sut y bydd hynny'n sicrhau'r canlyniadau gwell hynny, oherwydd yna byddwn yn gallu gweld yr elw hynny sy'n mynd i'r cyfranddalwyr yn cael ei ailfuddsoddi yn uniongyrchol yn y gwasanaeth, er mwyn sicrhau bod yr amcanion cyffredinol hynny o ddarparu gwell gofal i'r plant hynny, mewn dyluniad, mewn ffordd sy'n gweddu i anghenion y plant hynny, bydd yn fwy fforddiadwy nag y maen nhw ar hyn o bryd, a byddwn yn gallu eu cyflawni.  

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'r Bil hwn a gyflwynir. Rwy'n arbennig o awyddus i grybwyll—. Dydw i ddim eisiau ailadrodd dim byd arall, ond mae'r bobl sydd yn y sector cyhoeddus—a dwi'n meddwl ein bod ni eisiau dweud —y sector preifat, mae'n ddrwg gen i, darparu gofal, mae'r gweithwyr yno yn poeni am y plant. Maen nhw'n gweithio oriau hir, rhai ohonyn nhw fwy na thebyg y tu hwnt i'r oriau maen nhw'n cael eu talu amdanyn nhw. Ac wrth gwrs, Gweinidog—ac fe ddaw hyn yn amlwg pan fyddwch yn gwneud datganiadau pellach—os yw lleoliad yn dda i'r plentyn, er ei fod yn y sector preifat, bydd yn parhau ar gyfer lles y plentyn hwnnw cyhyd ag y bydd angen y lleoliad hwnnw arnyn nhw, a hefyd y bydd gan ddarparwr preifat gyfle i ddod â hwnnw i'r sector cyhoeddus. Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud hynny, gan nad oes neb arall wedi dweud hynny.

Yr unig sylw arall yr hoffwn i ei wneud heddiw yw talu'n uniongyrchol am ofal iechyd parhaus. Wrth gwrs, mae hynny'n beth da, ond nid o reidrwydd yr hyn y mae ar bobl ei eisiau trwy'r amser. Felly, fe hoffwn i wybod am y mesurau diogelu ar gyfer pobl agored i niwed, p'un a ydyn nhw'n anabl neu'n oedrannus, er mwyn sicrhau, os gwneir y penderfyniad hwnnw, y caiff ei wneud er budd gorau'r unigolyn, yn hytrach na chael ei wthio o rywle arall.

16:45

Diolch yn fawr, Joyce. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl gywir dweud a nodi bod y mwyafrif helaeth o bobl sy'n gweithio mewn sefydliadau er-elw ac sy'n darparu gofal ar gyfer y plant hyn yn gwneud hynny am y rhesymau cywir, ac mae rhai ohonyn nhw ymhlith y rhai sydd â'r cyflogau lleiaf yn y sector. Unwaith eto, o fy safbwynt i, rwy'n ei weld yn gwbl annerbyniol bod yr elw mwyaf yn cael ei wneud gan sefydliadau sy'n talu'r lleiaf i'w gweithlu. Mae sefydliadau awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector yn tueddu i fod â thelerau ac amodau llawer gwell na'r rhai yn y sector preifat. Rwy'n credu ei bod hi'n gywir dweud ein bod yn siarad nid o reidrwydd am y staff sy'n darparu gofal rhagorol mewn llawer o amgylchiadau. Mae hefyd yn gywir dweud—rydych yn hollol gywir yn dweud hyn, Joyce—pan fo plentyn gyda darparwr er-elw, lle ystyrir bod y lleoliad hwnnw er budd y plentyn hwnnw, bydd hynny'n parhau. Rydym ni wedi ysgrifennu yn y ddeddfwriaeth yr hawl i Weinidogion allu awdurdodi hynny. Felly, fel y dywedais, nid yw hyn yn ymwneud â therfynu gwasanaeth, nid yw hyn yn ymwneud â symud pawb o'r system yr eiliad y caiff y ddeddfwriaeth ei phasio; mae'n ymwneud â chyfnod pontio, mae'n ymwneud â chloriannu sefyllfa pob plentyn yn ôl ei haeddiant, gan edrych ar beth yw'r gofal gorau iddyn nhw.

O ran y taliadau uniongyrchol, y peth i'w ddweud ac i fod yn glir iawn amdano yw bod y taliadau uniongyrchol yn wirfoddol o ran a ydyn nhw'n ceisio asesiad ar gyfer taliad uniongyrchol o dan ofal iechyd parhaus. Felly, ni fydd neb yn cael eu gorfodi i wneud hyn. Bydd hon yn broses wirfoddol y gallan nhw fynd drwyddi os ydyn nhw o'r farn mai dyna fyddai fwyaf llesol. Byddan nhw'n gallu penderfynu pwy maen nhw'n ei benodi i gyflawni'r gofal hwnnw, a bydd pwy bynnag maen nhw'n ei benodi i gyflawni'r gofal hwnnw, wrth gwrs, yn destun gwiriadau DBS hefyd—os ydyn nhw'n rhywun maen nhw'n dod â nhw i mewn o sefydliad allanol, neu beth bynnag. Ond yn eithaf aml, wrth gwrs, aelodau o'u teulu fydd hynny, pobl maen nhw'n ymddiried ynddyn nhw. Dyma'r dewis sydd ganddyn nhw i adnabod y person maen nhw'n credu bydd yn darparu'r gofal gorau iddyn nhw. Ond er mwyn gwneud hyn yn gwbl glir, nid yw hwn yn llwybr gorfodol i unrhyw un; bydd yn hollol wirfoddol. Diolch.

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru

Felly, eitem 6 sydd nesaf, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fframwaith imiwneiddio cenedlaethol Cymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae ychydig dros 18 mis ers i mi lansio'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd rydym ni wedi'i wneud ac i rannu rhai o'r cynlluniau sydd gennym ni ar gyfer gweddill eleni.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud mai brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf diogel a mwyaf effeithiol o atal lledaeniad, ac amddiffyn pobl rhag dal afiechydon a allai beryglu bywyd. Mae brechlynnau'n rhan o'r arfau sydd gennym ni ar flaenau ein bysedd i frwydro yn erbyn afiechydon a chlefydau—afiechydon sydd wedi lladd degau o filoedd o bobl bob blwyddyn yn y DU, heb sôn am yn fyd eang. Rydym ni wedi cael gwared ar frech wen yn llwyddiannus yn fyd-eang, diolch i ymdrechion arwrol timau ledled y byd i frechu poblogaethau cyfan, ac rydym ni ar ein ffordd i ddileu clefydau marwol eraill.

Fe welsom ni i gyd pa mor effeithiol oedd brechu yn ystod y pandemig. Mae'r brechlyn COVID wedi achub miloedd o fywydau ac wedi atal hyd yn oed mwy o achosion o salwch difrifol. Arweiniodd ein profiad o ddarparu'r brechlyn COVID at ddatblygu'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol i Gymru. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, fe wnaethom ni greu tîm brechu cenedlaethol yng Ngweithrediaeth newydd GIG Cymru. Mae'r tîm yn darparu cymorth cenedlaethol ac yn rheoli perfformiad, a hefyd yn sicrhau bod gan fyrddau iechyd hyblygrwydd i ddarparu rhaglenni brechu yn y ffordd fwyaf effeithiol i'w poblogaeth leol.

Mae ein hymrwymiad i sicrhau mynediad teg at frechu i bob dinesydd yng Nghymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd. Fe welsom ni adeg y pandemig y goblygiadau difrifol y gall annhegwch o ran gallu cael brechiad ei achosi ar gyfer iechyd. Roedd yn ysbrydoledig gweld y datblygiadau a wnaed wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau trwy gael gwared ar rwystrau ac estyn at a gweithio gyda chymunedau. Mae cynnal y momentwm hwnnw wedi bod yn heriol ar ôl y pandemig, ac rydym ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n derbyn brechlynnau, gyda rhai canlyniadau pryderus iawn. Ond rwy'n gwbl glir bod yn rhaid i ni gynnal momentwm i leihau anghydraddoldebau lle maen nhw'n bodoli ac i wella'r niferoedd sy'n derbyn lle bu gostyngiad.

Mae'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol yn gosod gofyniad i fyrddau iechyd ddatblygu strategaethau tegwch brechu i nodi'n glir sut maen nhw'n lleihau anghydraddoldebau. Mae'r gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu ac edrychaf ymlaen at weld yr effeithiau yn y byd go iawn. Yn cyd-fynd yn agos â'n hymrwymiad i degwch yw'r ymrwymiad yn y fframwaith i lythrennedd  gwell o ran brechlynnau. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi strategaeth lythrennedd o ran brechlynnau, a fydd yn helpu i wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o frechlynnau a chefnogi gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n cael eu brechu.

A dyna yw hanfod y fframwaith imiwneiddio: cynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar ein holl raglenni brechu. Mae'n hawdd anghofio, weithiau, nifer y clefydau peryglus a difrifol rŷn ni'n brechu yn eu herbyn yng Nghymru. Hyd yn oed cyn i fabi gael ei eni, bydd y fam wedi cael cynnig sawl brechiad i amddiffyn eu babi yn nyddiau ac wythnosau cyntaf ei fywyd. Un o'r rheini yw brechiad yn erbyn y pas, neu whooping cough. Rwy'n poeni'n fawr o weld cynnydd yn nifer yr achosion eleni. Yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod pum babi yn Lloegr wedi marw o whooping cough eleni. Yn ffodus, does dim marwolaethau wedi bod yng Nghymru hyd yma, ond dylai'r newyddion trasig yma fod yn rhybudd i ni i gyd. Dwi'n apelio ar fenywod beichiog yng Nghymru i fynd i gael y brechiad hwn, sy'n ddiogel ac yn effeithiol iawn.

Dros y flwyddyn diwethaf, rŷn ni hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o'r frech goch ledled y byd. Yn yr hydref, daeth achosion newydd i'r amlwg yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Ar hyn o bryd, rŷn ni'n delio ag achosion pellach yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae'n siomedig dros ben gweld achosion o'r frech goch yn ôl yng Nghymru. Gan fod sawl achos parhaus dros y ffin, mae'r risg yn parhau'n uchel yma. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn cymryd camau i wella'r amddiffyniad yn erbyn y salwch difrifol hwn. Ym mis Chwefror, ysgrifennodd Prif Swyddog Meddygol Cymru at fyrddau iechyd yn gofyn iddyn nhw sicrhau bod 90 y cant o ddysgwyr mewn ysgolion wedi'u brechu'n llawn erbyn diwedd mis Gorffennaf. Dwi'n sylweddoli faint o waith y mae hyn yn ei olygu i'n timau imiwneiddio a nyrsys ysgol, a hoffwn ddiolch o galon i bawb sy'n rhan o'r gwaith hwn i ddal i fyny.

Dirprwy Lywydd, dwi nawr am droi at y camau nesaf yn y fframwaith. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod datblygu datrysiadau digidol i helpu'r gwaith brechu yng Nghymru wedi bod yn garreg filltir bwysig. Gofynnais i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gynnal gwaith darganfod digidol i ystyried y ffordd ymlaen. Dwi'n falch o ddweud bod y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau ac mae'r camau nesaf, er mwyn symud i'r cam gweithredu, wrthi yn cael eu hystyried. Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith pwysig yma. Mae ein rhaglenni brechu tymhorol yn parhau i gynnig amddiffyniad pwysig i bobl sy'n agored i niwed, ac i'r gwasanaethau iechyd a gofal. Mae rhaglen frechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn ar ei hanterth ar hyn o bryd. O ran rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol, fe wnaethom ni roi dros 1.7 miliwn o frechlynnau yn erbyn COVID a'r ffliw. 

Mae'r fframwaith imiwneiddio yn nodi ein huchelgais i symud at fodel canolog ar gyfer caffael brechlynnau ffliw. Byddai hyn yn cael gwared ar y baich caffael i feddygon teulu a fferyllwyr, ac yn creu system fwy hyblyg i gefnogi nodau ehangach y fframwaith. Mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud, a dwi'n gobeithio gallu rhannu rhagor o fanylion yn ystod y misoedd nesaf. Yn olaf, dwi eisiau rhannu cymaint o fraint oedd hi i gael annerch cynhadledd imiwneiddio Cymru fis diwethaf. Roedd yn wych i weld yr egni, yr angerdd a'r ymrwymiad i ddatblygu gwasanaeth brechu sydd o safon fyd-eang. Hoffwn i ddiolch o galon i bawb sy'n cyfrannu at gyflawni'r gwasanaeth gwerthfawr hwn dros bobl Cymru. 

16:55

Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am y datganiad heddiw am y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol i Gymru. Gadewch imi hefyd ategu eich sylwadau, Ysgrifennydd Cabinet, a dweud bod pwysigrwydd y rhaglen imiwneiddio effeithiol honno yn hanfodol i unrhyw genedl. Wrth gwrs, mae'n amddiffyn pawb yn ein cymdeithas, ond yn enwedig y rhai sydd ar adegau bregus mewn bywyd, fel plant, babanod a menywod beichiog. O'r herwydd, mae mor bwysig bod pobl yn cael y brechlynnau sy'n berthnasol iddyn nhw ar yr adeg y gallan nhw, oherwydd, wrth gwrs, mae'n eu hamddiffyn nhw ac mae'n amddiffyn eraill hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, am y newyddion da y gwyddom ni am ddileu'r frech wen yn fyd-eang. Mae enghreifftiau eraill o glefydau eraill a drechwyd yn dod i'r meddwl hefyd, fel difftheria a tetanws, ill dau wedi cael eu lleihau'n ddramatig oherwydd bod rhaglenni brechu yn cael eu cyflwyno ledled y DU yn y 1940au a'r 1960au yn y drefn honno. Mae mor bwysig bod yr achosion hynny'n cael eu deall a'u holrhain, a gwaith pwysig y fframwaith wrth wneud hynny hefyd.

Mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd nad yw hyn yn wir ym mhob gwlad ledled y byd, ac mae'n dangos pwysigrwydd y brechiadau effeithiol, a hefyd bod â phoblogaeth sy'n ymddiried yn y broses i gymryd y brechlyn i'w hamddiffyn hefyd. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae fel gwleidyddion wrth annog ein hetholwyr i fanteisio ar frechlynnau pan fyddan nhw ar gael.

O ran y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol y gwnaethoch chi gyfeirio ato, wrth gwrs, cafodd datganiad yn ymwneud â hynny ei gyhoeddi yn 2022, ac mae gennyf ychydig o gwestiynau. Mae'r cyntaf mewn perthynas â swyddogaeth y fframwaith gan ei fod yn neilltuo'r cyfrifoldeb dros weithredu i uned gyflawni GIG Cymru, ac mae goruchwylio hynny, wrth gwrs, yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Cabinet. Mae gen i ddiddordeb deall pa mor fodlon ydych chi fod yr uned gyflawni yn gweithio a bod gennych chi, Llywodraeth Cymru, ddigon o afael ar y sefyllfa a'r llywodraethu i arwain os nad yw pethau'n gweithio fel y dylen nhw. Rwy'n deall bod gennych chi ddiddordeb mewn strwythurau llywodraethu ar hyn o bryd; byddai gen i ddiddordeb yn y maes hwnnw, yn arbennig.

Fe wnaethoch chi gyfeirio'n briodol at yr ymateb i COVID-19 yn eich datganiad, ac rwy'n sicr yn ategu eich canmoliaeth o ymdrechion pawb fu'n rhan o gyflwyno'r brechlyn pwysig hwnnw. Rydym ni hefyd yn gwybod nad yw'r heintiau a'r afiechydon bacteriol hyn yn parchu ffiniau gwledydd neu weinyddol, felly fe hoffwn i ddeall ychydig mwy am sut rydych chi'n gweithio gyda chyrff eraill, fel cydweithwyr ar lefel Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol, i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r defnydd o imiwneiddio, a hefyd yn gallu ymateb os a phan fydd gennym ni achosion pellach neu lefelau pandemig byd-eang hefyd.

Diolch heddiw am gyfeirio at y pas a'r gwaith sydd wedi'i wneud i geisio lleihau'r niferoedd hynny. Rwy'n bryderus iawn am y cynnydd yn yr achosion hynny, ac rwy'n sicr yn cytuno â'ch neges y dylai menywod beichiog ofyn am y brechiad hwnnw os nad ydyn nhw wedi'i gael eisoes, i geisio atal a lleihau unrhyw niwed posibl. Felly, rwy'n ategu eich geiriau yn hynny o beth.

Fe hoffwn i gyfeirio hefyd at y modd y bu ichi amlygu pwysigrwydd brechu ar gyfer y frech goch hefyd, sydd, fel y dangosoch chi, yn anffodus ar gynnydd yma yn y DU ac ar draws y byd. Gellir atal hynny, wrth gwrs, gyda'r brechlyn MMR. Fe wnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad, Ysgrifennydd Cabinet, y ffigur o 90 y cant o blant ysgol sydd am gael eu brechu erbyn diwedd mis Gorffennaf; mae hynny'n sicr i'w groesawu. Ond fe hoffwn i wybod pa mor grediniol ydych chi y cyflawnir y ffigur hwnnw, a pha waith rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod plant nad ydyn nhw mewn lleoliadau ysgol traddodiadol, fel y rhai sydd efallai yn cael eu dysgu gartref, yn gallu cael y brechlynnau hyn hefyd.

Felly, fe hoffwn i derfynnu drwy ddim ond croesawu'r gwaith digidol hefyd sy'n cael ei wneud i gefnogi'r gwelliant yn nifer y bobl sy'n derbyn brechlynnau. Rwy'n credu ei fod yn faes gwaith pwysig iawn, gan sicrhau bod systemau a rhaglenni'n cyfathrebu â'i gilydd o ran gofal sylfaenol a'n hysbytai hefyd. Fe hoffwn i hefyd ategu'ch cydnabyddiaeth o'n rhan ni i gyd, unwaith eto, i sicrhau bod ein hetholwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd cael y brechlynnau hynny, pan fyddant ar gael, i leihau'r peryglon iddyn nhw eu hunain ac i eraill hefyd. Diolch yn fawr iawn.

17:00

Diolch yn fawr iawn, a dw i'n meddwl ei bod hi'n dda cydnabod—a diolch am gydnabod—y ffaith, mewn gwirionedd, mai hwn yw'r offeryn iechyd cyhoeddus mwyaf cost-effeithiol sydd gennym ni, mae'n debyg. Dyma beth sy'n arbed arian i ni, felly mae'n bendant yn fuddsoddiad—nid yn unig yma, yn amlwg, ond ar draws y byd. Ac mae'n dda gweld bod hynny'n cynyddu ar draws y byd, a hyd yn oed pethau fel malaria nawr, mae yna enghreifftiau o ble mae hynny'n gwneud cynnydd.

Rwy'n credu mai un o'ch cwestiynau chi oedd am yr uned gyflawni a sut mae honno'n gweithio ac, yn amlwg, mae hyn bellach yn rhan o Weithrediaeth GIG Cymru. Mae hwn yn faes ac yn grŵp y mae gennyf hyder gwirioneddol ynddo. Rwy'n credu eu bod yn cyflawni'n dda iawn, gan ddatblygu dull traws-genedl go iawn, gan sicrhau bod ganddyn nhw'r pwyslais hwnnw, gan sicrhau nad yw'r math o sefyllfa loteri cod post yn rhywbeth sy'n codi. Felly, mae cael y strwythur cyffredinol hwnnw o fewn gweithrediaeth y GIG mewn gwirionedd yn ddefnyddiol iawn. Dw i'n meddwl bod y grŵp penodol yma—wyddoch chi, fe wnaethon nhw ddysgu eu crefft yn ystod y pandemig. Mae'r rhain yn bobl sydd wedi cael eu profi, maen nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud, maen nhw'n deall pethau. Mae yna rannau eraill nad ydw i mor hyderus ynddyn nhw, ond mae hwn yn grŵp dw i'n siŵr eu bod yn gwneud yn dda iawn. Ac, yn amlwg, byddaf yn edrych ymlaen at gyhoeddi adroddiad y grŵp llywodraethu ac atebolrwydd yn fuan iawn.

O ran gweithio gyda Llywodraeth y DU, un o'r pethau a wnawn ni yw gweithio'n agos iawn a chymryd argymhellion gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, a lle bo hynny'n bosibl, oherwydd peth o'r wybodaeth anghywir sydd o'n cwmpas, rydym ni'n ceisio gwneud hynny ar sail pedair gwlad, a chredaf y bydd hynny, gobeithio, yn rhoi mwy o hyder i bobl fanteisio ar y cyfle. Ac, ie, rydym ni'n hyderus bod gennym ni'r gallu i feithrin y capasiti yn gyflym iawn yn y dyfodol, os gwelwn ni fath arall o bandemig. Felly, rydym ni wedi ceisio sicrhau bod y capasiti hwnnw yn bodoli.

Dw i'n poeni'n fawr am y pas, fel y dywedwch chi, ond mae hefyd yn rhan o gylch, felly mae yn ymddangos, rwy'n credu, bob pedair neu bum mlynedd. Felly, mae hynny yn digwydd, ond, yn amlwg, mae hynny'n fwy o reswm i gael pobl, i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys a'u bod yn cael eu brechiadau. Y targed hwnnw o 90 y cant yn cael brechiad MMR erbyn diwedd mis Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud, erbyn tua mis Rhagfyr, ei fod hyd at 89 y cant. Ond y broblem yw ein bod ni'n poeni am degwch. Felly, yr hyn sydd gennych chi mewn rhai ardaloedd, yw hyd at 95 y cant, ac mewn ardaloedd eraill bydd yn llawer is. Felly, mae tegwch i ni yn allweddol iawn, ac yn sicrhau ein bod yn gwneud y gwaith allgymorth hwnnw gyda'r ysgolion hynny a allai fod wedi gweld llai o bobl yn manteisio. Felly, nid yw'n ymwneud â tharo'r 90 y cant yn unig, mae'n ymwneud â sicrhau bod o leiaf 90 y cant ym mhobman, os yn bosibl—mae'n rhaid i hynny fod yn nod i ni, os gallwn ni. Felly, rwy'n gobeithio bod hyn wedi rhoi atebion i chi i'r cwestiynau hynny. Diolch.

Fe wyddom ni, ers datganiad blaenorol yr Ysgrifennydd Cabinet ar y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol y llynedd, fod materion yn ymwneud â chamwybodaeth wedi cyfrannu at betruster bobl o hyd i gael brechiadau, sydd yn ei dro wedi cyfrannu at achosion peryglus a hollol ataliadwy o'r frech goch. Yng Nghymru a Lloegr, roedd 1,603 o achosion o'r frech goch yn 2023, cynnydd o 735 yn 2022, a dim ond 360 y flwyddyn flaenorol. Y llynedd fe wnaethom ni ofyn sut y byddai defnyddio ap yn helpu i frwydro yn erbyn lledaenu gwybodaeth anghywir am frechiadau. Ymatebodd y Gweinidog—yr Ysgrifennydd Cabinet bellach—

'O ran camwybodaeth, dwi yn meddwl bod hwn yn bwnc difrifol. Mae yn effeithio ar bobl, mae rhai pobl yn gwrando ar y dwli yma maen nhw'n ei weld ar-lein yn arbennig. Dyna pam mae'n bwysig bod pobl yn gallu mynd at lefydd a mannau ac at wefannau lle maen nhw'n gallu cael hyder bod y wybodaeth maen nhw'n ei chael yn wybodaeth ffeithiol, gwyddonol maen nhw'n gallu dibynnu arni. Felly, dyna pam dwi'n meddwl bod yna rôl amlwg nid yn unig i'r ap, ond hefyd i'r NHS yn lleol i wneud yn siŵr bod gan bobl hyder. Mae dal pobl sydd â lot o hyder yn yr NHS ac yn y bobl sy'n arwain yr NHS.'

Felly,  fy nghwestiynau yw, o ystyried y swyddogaeth y mae lledaenu gwybodaeth anghywir yn parhau i'w chael wrth hyrwyddo petruster ynghylch cael brechlynnau, a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno bod angen gwneud mwy na darparu gwybodaeth drwy wefan y GIG yn unig? A yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno bod angen brys am ddull trawsadrannol o fynd i'r afael â thwyllwybodaeth a chamwybodaeth, gan gynnwys am frechlynnau, a pha sgyrsiau y mae hi'n eu cael neu a fydd hi'n eu cael gyda'i chyd-Weinidogion ynglŷn â hyn? Ac a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno, heb ddatganoli pwerau dros ddarlledu yn benodol, y bydd hi'n anoddach gwrthsefyll camwybodaeth rhag lledaenu?

Gan symud ymlaen at seilwaith digidol, rwy'n pryderu bod datblygu'r seilwaith digidol yn broses boenus o araf ac mae angen i ni weld mwy o ysgogiad ar y maes hwn. Y llynedd, fe wnaethom ni hefyd ofyn sut y byddai'r seilwaith digidol yn sail i'r fframwaith ac yn helpu i gyflawni'r fframwaith, a sut y byddai hyn yn rhyngweithio â'r systemau cyfrifiadurol lluosog sydd eisoes yn cael eu defnyddio yn y GIG yng Nghymru. Ymatebodd y Gweinidog, ac rwy'n dyfynnu eto:

'rŷn ni'n gwneud lot i drawsnewid systemau digidol yn yr NHS. Byddwn i'n licio gwneud lot, lot yn fwy pe bai mwy o arian gen i. Dwi'n meddwl ei bod hi'n ardal lle byddem ni'n cael gwerth ein harian ni, ond mae yna broblemau, yn amlwg, yn ariannol gennym ni ar hyn o bryd, felly beth rŷn ni yn trio ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y systemau cyfrifiadurol mewn lle, ac mae'n tîm digidol ni yn truelio lot o amser yn sicrhau bod hwn yn y lle iawn.'

Felly, a all yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am, a/neu wybodaeth fwy penodol am ddatblygu systemau TG perthnasol? Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran integreiddio'r rhain â'r systemau presennol, a pha waith a wnaed i wneud y systemau hyn yn symlach ac yn fwy effeithiol? Diolch yn fawr iawn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

17:05

Diolch yn fawr, Mabon. Rydych chi'n llygad eich lle, rwy'n credu bod camwybodaeth yn rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn bryderus iawn amdano ac mae sicrhau y gall pobl gael gafael ar gyngor diogel lle gallant gael sicrwydd yn bwysig. Dyna pam rwy'n credu bod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ran allweddol iawn yma, ac yn amlwg y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu hefyd. Rydych chi'n llygad eich lle bod petruster o ran brechlynnau, yn enwedig mewn perthynas ag MMR—yr hyn a ddigwyddodd yw ein bod ni'n gwybod bod adeg pan gafwyd yr holl wybodaeth anghywir honno ychydig flynyddoedd yn ôl, felly mae carfan o blant rydym ni'n arbennig o bryderus amdanyn nhw, a byddem yn gofyn iddyn nhw ddod ymlaen, neu o leiaf wirio eu cofnodion dim ond i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys, oherwydd nid yw'n rhywbeth yr ydych chi eisiau ei gael, ac rydym ni'n gweld yr achosion cynyddol hyn. Mae gennym ni achosion—. Rydym ni wedi gweld achosion yn Aneurin Bevan, yng Nghaerdydd, a hefyd nawr rydym ni wedi cael un achos yn y gogledd.

Roeddech chi'n holi am waith traws-adrannol. Wel, yn amlwg, rhaglen ysgol yw'r brechiad, felly yn amlwg mae llawer o waith yn digwydd gydag addysg yn barod.

O ran darlledu ac a fyddai awdurdod darlledu canolog a rheoledig yng Nghymru, mewn rhyw ffordd, yn gallu rheoli hyn, dw i'n meddwl, dw i'n credu bod hynny'n eithaf anodd oherwydd bod pobl ifanc, er enghraifft, llawer ohonyn nhw, yn cael eu gwybodaeth o TikTok. Pob lwc os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n mynd i reoli TikTok. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â ble y gallwn ni ddylanwadu.

Dim ond o ran eich cwestiwn ynghylch seilwaith digidol, y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol, nododd uchelgais i ddatblygu'r seilwaith digidol sydd ei angen, a'r holl ddiben oedd bod hynny i fod yn system sy'n gweithio i ymarferwyr a chleifion. Felly, comisiynwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru i adolygu'r holl systemau brechu, i gynnal darganfyddiad technegol, digidol, ac i ddarparu dewisiadau a fyddai'n ein galluogi i wireddu'r uchelgeisiau hyn. Nawr, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw bod y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac maen nhw wedi darparu dewisiadau ar gyfer gweithredu rhaglen o drawsnewid brechiadau digidol. Felly, rydym ni'n ystyried y dewisiadau hyn, ac ar hyn o bryd rwy'n aros am y cyngor ar hynny. Felly, rwy'n credu bod y newidiadau digidol yn cynnig y cyfle hwnnw yr oeddech chi'n sôn amdano—un ffynhonnell o wirionedd, dyna beth fydden ni'n hoffi ei weld—a record frechu gyflawn a chywir. Wn i ddim amdanoch chi, ond os ydych chi byth yn ceisio mynd dramor, mae'n rhaid i chi geisio dod o hyd i'ch cofnod brechu. Mae bob amser yn drafferth. Mae'n rhaid i ni fod yn fodern. Mae'n rhaid i ni gael system ddigidol. Felly, dw i'n meddwl dim mwy o gofnodion brechu papur—dyna lle mae angen i ni gyrraedd. Rydym ni ar y trywydd iawn i symud ymlaen tuag at hynny, ac rydw i ar fin cael rhywfaint o gyngor ar hynny. Diolch yn fawr.

17:10
7. Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024

Eitem 7 sydd nesaf. Y Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yw'r rheoliadau yma. Yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sy'n gwneud y cynnig. Huw Irranca-Davies.

Cynnig NDM8586 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae arnom ni eisiau i'n hanifeiliaid fferm gael bywyd da, ac rydym yn cymryd lles mewn lladd-dai o ddifrif. Bydd  Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024 yn ei gwneud hi'n ofynnol gosod camerâu cylch cyfyng mewn lladd-dai mewn ardaloedd lle mae anifeiliaid byw yn cael eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a'u lladd. Bydd angen i weithredwr y lladd-dy gadw delweddau wedi'u recordio am gyfnod o 90 diwrnod o leiaf, a'u bod ar gael i bersonau awdurdodedig, er enghraifft milfeddygon swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, i weld, copïo neu atafaelu at ddibenion monitro a gwirio safonau lles anifeiliaid.

Felly, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y rheoliadau yn dod i rym mewn dau gam. Yn gyntaf, bydd rheoliadau 1 i 4 yn dod i rym ar 1 Mehefin. Dyma'r gofynion i osod a gweithredu system teledu cylch cyfyng a chadw lluniau a gwybodaeth teledu cylch cyfyng. Yn ail, bydd rheoliadau 5 i 14 yn dod i rym ar 1 Rhagfyr. Dyma'r troseddau a'r pwerau i archwilio, atafaelu a gorfodi'r rheoliadau. Felly, mae hyn yn darparu cyfnod o chwe mis lle bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi gweithredwyr lladd-dai i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau 1 i 4 cyn gorfodi'r rheoliadau. Rydym ni wedi gweithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd i ddatblygu canllawiau i helpu gweithredwyr i gydymffurfio â'r rheoliadau. Mae gweithredwyr lladd-dai wedi bod yn ymwybodol o'n bwriad i fynnu teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ers 2021, pan ysgrifennodd y prif swyddog milfeddygol gyntaf i'w cynghori am ymrwymiad y rhaglen lywodraethu. Yna ysgrifennodd eto yn ddiweddar yn cynghori gweithredwyr bod y rheoliadau wedi'u cyflwyno.

Nawr, gadewch i ni fod yn glir, ni all teledu cylch cyfyng ddisodli goruchwyliaeth uniongyrchol gan reolwyr lladd-dai neu filfeddygon swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ond fe wyddom ni y gall wella effeithlonrwydd monitro a gorfodi. Mae data'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2022/23 yn dangos bod o leiaf 15 y cant o achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn lladd-dai yn cael eu nodi naill ai trwy wylio teledu cylch cyfyng yn fyw neu wedyn, ac mae teledu cylch cyfyng yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd fel tystiolaeth i gefnogi camau gorfodi. Nododd adolygiad o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn Lloegr, lle bu yn orfodol ers 2018, fanteision i les anifeiliaid a sicrwydd safonau lles. Gall recordiadau teledu cylch cyfyng hefyd fod yn offeryn defnyddiol i weithredwyr lladd-dai wrth hyfforddi staff newydd a phresennol. Felly, mae hyn i gyd yn rhoi mwy o hyder i ddefnyddwyr bod safonau lles yn cael eu cyflawni.

Pan ymgynghorodd fy rhagflaenydd, y Gweinidog materion gwledig, ar gynigion, cafwyd dros 16,000 o ymatebion. Cytunodd y mwyafrif llethol y dylid gosod camerâu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy mewn ardaloedd lle mae anifeiliaid byw yn bresennol. Ac i fod yn glir, mae gan y rhan fwyaf o'n lladd-dai ryw fath o deledu cylch cyfyng eisoes ar waith. Mae ein lladd-dai mwy, sy'n prosesu'r rhan fwyaf o anifeiliaid, eisoes yn cadw at brotocol a ddatblygwyd ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a chyrff y diwydiant i alluogi milfeddygon swyddogol i gael mynediad at luniau teledu cylch cyfyng. Bydd y gost i weithredwyr lladd-dai wrth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn amrywio, yn dibynnu ar faint a chynllun pob adeilad, ac mae'r memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol yn rhoi golwg deg a rhesymol ar effaith ddisgwyliedig y rheoliadau, ac rwy'n fodlon bod y buddion yn cyfiawnhau'r costau tebygol. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei adroddiad ar y rheoliadau, yr ydym ni wedi'u nodi. Felly, Llywydd, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau. Diolch yn fawr iawn.

17:15

Fe hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno'r rheoliadau hyn. Heddiw, bydd fy nghyd-Aelodau a minnau yng ngrŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau hyn yr ydych chi wedi'u cyflwyno, gan ein bod yn credu'n gryf bod angen i'r defnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ledled Cymru godi safonau ar draws y diwydiant. Mae lles anifeiliaid yn gonglfaen i'n gwerthoedd yng Nghymru, ac rydym ni'n credu bod y rheoliadau hyn yn gam hanfodol tuag at sicrhau bod anifail yn cael ei drin yn drugarog drwy gydol ei oes. Ar hyn o bryd, mae cynnal lles anifeiliaid mewn lladd-dai yn dibynnu ar arolygu a hunan-adrodd. Er bod y dulliau hyn yn werthfawr, mae ganddyn nhw eu cyfyngiadau. Canfu adroddiad yn 2021 gan yr RSPCA fod dros 22 y cant o bryderon lles yr ymchwiliwyd iddyn nhw yn deillio o ladd-dai, felly mae teledu cylch cyfyng yn cynnig ateb i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried ymddiriedaeth y cyhoedd yn y diwydiant bwyd, ac mae hyn yn dibynnu ar fod yn agored. Mae teledu cylch cyfyng yn gofnod gwrthrychol o drin a lles anifeiliaid, gan feithrin hyder y cyhoedd bod y rheoliadau hyn yn cael eu dilyn, a chodi safonau. Fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, gall pobl awdurdodedig adolygu lluniau, gan ganiatáu iddyn nhw nodi materion posibl ac ymchwilio i bryderon yn fwy effeithlon. Mae astudiaethau gan Brifysgol Bryste yn dangos bod lluniau teledu cylch cyfyng yn gwella'n sylweddol y broses o ganfod achosion o dorri safonau lles anifeiliaid. Mae pobl sy'n gweithio mewn lladd-dai, os ydyn nhw'n gwybod eu bod yn cael eu recordio, mae'n annog y staff hynny i fod yn fwy cyson a chadw at arferion ac i beidio â gwneud unrhyw beth sy'n groes i'r gyfraith.

Rwy'n deall y gallai rhai fod yn bryderus am gost neu gamddefnyddio lluniau. Fodd bynnag, rydw i a'r grŵp Ceidwadol yn credu bod y manteision yn gwrthbwyso'r rhain o gryn dipyn. Mae cost gweithredu teledu cylch cyfyng yn fach iawn o'i gymharu â manteision moesegol ac economaidd gwella lles anifeiliaid. Mae rheoliadau llymach yn sicrhau bod deunydd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion monitro a gorfodi yn unig. Mae asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun ar y rheoliadau hyn yn amlygu, er bod teledu cylch cyfyng eisoes mewn lladd-dai mwy, mae yna lawer ar draws y wlad hebddynt. Mae hyn yn creu sefyllfa annheg ac yn cyfyngu ar oruchwyliaeth. Felly, credwn fod hyn yn rheswm arall pam mae ei angen.

Ond, fel y dywedoch chi, Ysgrifennydd Cabinet, nid yw hyn yn ymwneud â disodli arolygiadau; mae'n ymwneud â chryfhau'r holl system o fonitro lles anifeiliaid ledled Cymru. Rwy'n gwybod y bu yna bryderon gan ladd-dai llai ledled Cymru, ond byddwn i'n dweud wrth y bobl hynny: peidiwch â gweld hyn fel rhwystr. Gwelwch hyn fel help i wella safonau lles anifeiliaid mewn gwirionedd a gwella hyder y cyhoedd yn y bwyd yr ydym ni'n ei gynhyrchu yma ledled Cymru. Mae gennym ni hanes hir a balch yng Nghymru o hyrwyddo lles anifeiliaid, ac mae'r rheoliadau hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i hynny. Trwy weithredu'r rheoliadau hyn, rydym ni'n anfon neges glir na fydd creulondeb tuag at anifeiliaid yn cael ei oddef. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio pob offeryn sydd ar gael i ni i sicrhau lles pob anifail, trwy'r gadwyn fwyd. Felly, rwy'n annog pawb yn y Siambr hon heddiw i roi eich cefnogaeth lawn i'r rheoliadau pwysig hyn, a byddwn yn cefnogi'r Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma.

Yn yr un modd, bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau hyn hefyd, er bod gen i rai pryderon ynghylch y goblygiadau ariannol i'r lladd-dai llai, y bydd hyn yn amlwg yn ddisgwyliedig ganddyn nhw. Mae llawer ohonyn nhw eisoes yn hwylio'n agos iawn at y dibyn, ac maen nhw'n rhan hanfodol o economïau gwledig. Maen nhw'n cynnig llwybr gwerth uwch i'r farchnad ar gyfer bridiau brodorol a phrin, sy'n rhywbeth nad yw'r lladd-dai mwy yn tueddu i'w wneud, neu nad ydyn nhw'n gallu gwneud, efallai, weithiau, neu hyd yn oed yn amharod i wneud hynny, felly mae angen i ni fod yn ofalus yma nad ydym ni'n colli rhywbeth wrth gyflwyno'r rheoliadau hyn. Ac maen nhw hefyd yn cefnogi safonau uwch o les anifeiliaid, gyda llaw, oherwydd mae lladd-dai lleol llai yn helpu, wrth gwrs, i leihau amseroedd teithio i'w lladd, felly does arnom ni ddim eisiau gweld yn anfwriadol bod gennym ni lai o'r lladd-dai llai ac wedi hynny bod yn rhaid i anifeiliaid deithio ymhellach, oherwydd bydd hynny'n amlwg yn cyflwyno elfen wahanol o bryder lles.

Felly, fy nghwestiwn i, i bob diben, y byddwn i'n gofyn i chi fynd i'r afael ag ef efallai wrth ymateb i'r ddadl hon yw: pa fath o fesurau cymorth ariannol fyddech chi'n eu hystyried, o bosibl, fel Llywodraeth, i gefnogi'r lladd-dai llai i gydymffurfio â'r rheoliadau newydd hyn? Oherwydd rwy'n credu mai cyfanswm y gost gyfalaf yw £40,000 ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng. Ni fyddai'n gyfraniad enfawr gan Lywodraeth Cymru, ond, i'r lladd-dai llai byddai'n gwneud gwahaniaeth mawr, rwy'n credu. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU ychydig fisoedd yn ôl wedi cyhoeddi cronfa lladd-dai llai gwerth £4 miliwn. Maen nhw mewn gwirionedd wedi gorfod cynyddu'r uchafswm grant a ganiateir oherwydd bod lladd-dai llai yn ei chael hi'n anodd ac angen mwy o gefnogaeth. Felly, dim ond pendroni ydw i—. Efallai y bu neu na fu cyllid canlyniadol Barnett i hynny, ond, os nad oedd, oes gennych chi unrhyw beth mewn golwg o ran helpu'r lladd-dai llai, o ran yr hyn sy'n gyfraniad pwysig iawn y maen nhw'n ei wneud mewn cymaint o ffyrdd, i weithredu'r rheoliadau hyn yn effeithiol? Diolch.

17:20

Llywydd, yn gynharach yn y flwyddyn, roeddwn i'n rhan o ddirprwyaeth o'r Senedd i Ynysoedd Falkland gydag Aelodau o'r Senedd, lle buom yn siarad am feysydd o gyd-ddiddordeb a bu i lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, gallaf ddweud yn hyderus, ddangos ei wybodaeth am y maes penodol hwn a siarad yn helaeth yn ystod ein cyfnod dramor a bu iddo yn sicr fy ngoleuo ar y pwnc hwn.

Llywydd, os cânt eu pasio heddiw, bydd y rheoliadau hyn yn cyflawni'r camau y gofynnwyd amdanyn nhw gan ddeiseb, P-04-433, 'Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai', a gyflwynwyd gyntaf yn ôl yn 2012. Cyflwynwyd y ddeiseb honno gan Kate Fowler ar ran Animal Aid a derbyniodd dros 1,066 o lofnodion i gefnogi. Yn ôl yn 2020—dw i'n meddwl mai'r Cadeirydd oedd Janet Finch-Saunders bryd hynny—fe ysgrifennodd y pwyllgor adroddiad a gwneud yr argymhelliad canlynol:

'Bod Llywodraeth Cymru ei gwneud yn orfodol i osod a chynnal systemau teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy yng Nghymru.'

Roeddwn yn falch o ddarllen bod Llywodraeth Cymru, yn 2020, wedi derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor, ac rwy'n falch, gyda chefnogaeth y Senedd a chymeradwyaeth y Senedd ar ôl heddiw, y caiff ei dderbyn yn ymarferol.

Llywydd, nid yw datblygiad syniad da o'i genhedlu i bolisi cenedlaethol bob amser yn llinell syth, nid yw bob amser mor syml ag y gallai ymddangos neu efallai y dymunwn iddo fod, ond rwy'n gobeithio y gallwch chi a'r Ysgrifennydd Cabinet wrth ymateb ymuno â mi i longyfarch y deisebydd a phawb a lofnododd y ddeiseb honno dros ddegawd yn ôl nawr. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon, ac a gaf i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth hefyd? Byddaf yn ymdrin â'r cwestiynau sydd wedi codi mewn eiliad. Ond, James, diolch yn fawr iawn i chi am y ffordd rydych chi wedi siarad, gan awgrymu cefnogaeth ar gyfer hyn, ar sail lles anifeiliaid, ond hefyd, fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, o ran hyder defnyddwyr hefyd, a'r ffaith bod angen i ni siarad yn gryf am ein safonau lles anifeiliaid da ac yna cyflawni hynny drwy Gymru benbaladr, ac ailadrodd yn ogystal rywfaint o'r dystiolaeth sy'n dangos bod hyn yn gweithio mewn gwirionedd; mae yn wir yn gweithio.

Diolch i chi hefyd am yr hyn rydych chi'n ei ddweud, bod y ffaith bod y gost yn fach iawn o'i gymharu â'r manteision sy'n cronni o hyn, sy'n dod â mi, Llyr, at eich pwyntiau, ac unwaith eto, diolch i chi am gefnogi hyn hefyd ac am gefnogaeth Plaid Cymru ynghylch hyn. Y peth cyntaf i'w nodi yw bod y gost yn wir, fel y soniodd James, yn weddol isel o ran costau cyffredinol gweithredu hyd yn oed lladd-dy bach, ac mae gen i ladd-dai bach yn fy nhref fy hun yr wyf yn byw ynddi. Ond o ran diddordeb—. Soniais yn gynharach am yr amser paratoi hir a roesom ni iddyn nhw er mwyn caniatáu i bobl baratoi ar gyfer hyn. Ond, o ran y cyllid, yn gyntaf oll, gadewch imi ddweud y byddwn yn parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd a chyda gweithredwyr lladd-dai mewn perthynas gefnogol iawn i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflwyno. Rydym ni eisoes wedi sicrhau bod cyllid ar gael drwy'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd i gefnogi lladd-dai bach a chanolig eu maint i, ymhlith pethau eraill, osod ac uwchraddio eu systemau teledu cylch cyfyng. Nawr, caeodd y cynllun buddsoddi busnesau bwyd yn flaenorol. Gwahoddwyd wyth cais, gyda thri phrosiect wedi'u cwblhau'n llwyddiannus, gyda sawl mil o bunnau o grantiau yn cael eu cefnogi ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng. Yna agorodd y cynllun cyflymu busnesau bwyd ym mis Tachwedd 2022 i ddarparu grantiau cyfalaf i gefnogi buddsoddiad mewn offer gweithgynhyrchu a moderneiddio i gynyddu effeithlonrwydd. Yn ddiddorol, ni chafwyd unrhyw geisiadau o ladd-dai ar gyfer y gronfa hon, ond os daw cyllid ar gael—ac mae hynny yn 'os', mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, o gofio'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd—os daw cyllid ar gael, gall y cynllun hwnnw ailagor.

Ond dim ond i ddweud hefyd bod is-adran fwyd Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth i'r diwydiant y gall lladd-dai bach yng Nghymru ei ddefnyddio i wella cynhyrchiant, gan gynnwys twf busnes, sgiliau, ehangu a chymorth cyllid. Y rheswm pam rwy'n dweud hynny yw, er nad oes gennym ni gynllun penodol yma, ar hyn o bryd, yr ydym ni wedi'i gael o'r blaen, y gellid bod wedi cael mynediad ato ar gyfer gosod teledu cylch cyfyng, mae cynlluniau eraill ar gael y gall lladd-dy bach, gyda rhywfaint o gyngor, o siarad â'r gweithredwyr ar lawr gwlad, gyda chefnogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, fanteisio arnyn nhw ar gyfer eu busnes cyffredinol a allai helpu i liniaru'r costau bychain eraill yma o roi teledu cylch cyfyng ar waith mewn gwirionedd.

Gadewch imi droi, felly, o'r diwedd—. A chyfeiriodd Jack at y ddeiseb yn ôl yn 2012 a gyflwynwyd gan Kate Fowler, gyda'r nifer aruthrol o lofnodwyr, ac rydym ni'n gwbl ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi hyn dros nifer o flynyddoedd. Mae'n ddegawd. Cymerodd hyn amser hir i ddod. Ond bydd gennym ni chwe mis o baratoi cyn i ni gyrraedd amser gorfodi, felly byddwn yn gweithio gyda lladd-dai, ac, fel roedd Llyr yn ei ddweud, y lladd-dai bach a chanolig hynny sydd mor bwysig i wead ein cymunedau gwledig a'n system gynhyrchu bwyd. Byddwn yn gwneud i hyn weithio, byddwn yn ei wneud yn dringar. Ond bu galw enfawr i fwrw ymlaen â hyn a'i roi ar waith a'i wneud yn dda, felly fe wnawn ni hynny.

A gaf i ddweud wrth gloi, Llywydd, bu hon hefyd yn ymgyrch hirhoedlog gan unigolion yng Nghymdeithas Lles Anifeiliaid Maesteg, sy'n dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni, y maen nhw wedi fy ngwahodd i iddo yn ddiweddar? Siaradais cyn y penwythnos hwn ag un o drefnwyr hynny, ac roedd hi wrth ei bodd gyda'r ffaith ein bod ni nawr yn bwrw ymlaen â hyn. Felly, da iawn i bawb sydd wedi ymgyrchu dros hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd y prynhawn yma'n ei gefnogi. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Datganiad gan y Llywydd

Y cyfan sy'n weddill i fi ei wneud yw datgan canlyniad y bleidlais ar gyfer cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Fe gafodd Alun Davies 26 o bleidleisiau, fe gafodd Mike Hedges 27 o bleidleisiau, fe wnaeth un Aelod ymatal eu pleidlais ac wnaeth un Aelod ddifetha eu pleidlais. Fe fwriwyd 55 o bleidleisiau yn gyfan gwbl. Felly, mae Mike Hedges wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a phob hwyl i Mike Hedges yn ei waith.

Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:27.