Y Cyfarfod Llawn

Plenary

07/05/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell. 

Cymorth i Famau Newydd a Menywod Beichiog

1. Pa gymorth sydd ar gael i famau newydd a menywod beichiog yng Nghymru? OQ61074

Diolch am y cwestiwn. 

Mae gan bob mam feichiog yng Nghymru fydwraig benodol i ddarparu cymorth yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod ôl-enedigol. Gyda'i gilydd, dylen nhw ddatblygu pecyn gofal wedi'i unigoli, yn cwmpasu'r fam a'r babi. Bydd atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol yn cael eu gwneud i fynd i'r afael ag unrhyw anghenion corfforol a seicolegol ychwanegol.

Diolch am hynna. 

Prif Weinidog, mae colli babi yn effeithio ar lawer mwy o famau a thadau nag yr ydym ni'n ei sylweddoli. Mae teuluoedd yn colli eu babanod ar wahanol gamau o feichiogrwydd, ac nid yw pawb yn teimlo eu bod nhw'n gallu siarad am eu galar. Os bydd babi yn cael ei golli cyn 24 wythnos, nid oes yn rhaid iddo gael ei gofrestru'n swyddogol hyd yn oed, a gall hynny atal rhieni rhag galaru. Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau cynllun tystysgrif colli babanod yn ddiweddar, ar gyfer rhieni y mae eu babanod yn eu gadael nhw cyn 24 wythnos. Mae'n dystysgrif wirfoddol—does neb yn cael ei orfodi i'w chael—ond mae'n gallu helpu rhieni i ddod i delerau â'u colled, oherwydd mae taer angen cefnogaeth i fenywod a oedd yn famau i fabanod na chafodd eu geni. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, i gynnig tystysgrifau tebyg i'r rhai sydd ar gael dros y ffin, fel atgof i rieni bod eu babanod wedi bodoli ac y'u carwyd?

Rwy'n credu ei fod yn bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei godi am golled gynnar a sut y gallwn ni, wedyn, gefnogi pobl yn well. Rydym ni wedi cael llawer o ddadleuon yn y Siambr hon dros y blynyddoedd am golli babanod, am gydnabod ei fod yn realiti, ac yna beth arall y gallwn ni ei wneud i gefnogi rhieni i allu ymdopi â'u colled. Nid wyf i wedi cael sgwrs benodol am hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, na'r Gweinidog dros y blynyddoedd cynnar, ond rwy'n hapus iawn i wneud hynny, i ddeall yr hyn y gallem ni ei wneud. Os yw'n helpu pobl i allu cydnabod, ac, yna, ceisio symud ymlaen gyda'r golled yn gynnar, yna byddwn yn hapus iawn i ni feddwl o ddifrif am sut y gallem ni wneud hynny mewn ffordd gyson ledled y wlad.

A gaf i ddiolch i Delyth am godi'r mater hwn? Rai blynyddoedd yn ôl, fe wnes i eni babi 24 wythnos oed, ac roedd yn fabi. Ac eto, es i mewn a dod yn ôl heb ddim, ac rwyf i yn teimlo, pan fyddwch chi wedi cario babi am 24 wythnos, ei fod yn amser hir; nid yw'n bell. Ond y newyddion da heddiw, o ganlyniad i ddatblygiadau meddygol, yw bod y siawns i fabanod cynamserol oroesi wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gyda hyn, fodd bynnag, daw pwysau ychwanegol ar y cymarebau staffio newyddenedigol ar gyfer y gofal cofleidiol sydd ei angen ar fabanod cynamserol. Mae gan Loegr dimau cofleidiol ar gyfer teuluoedd sy'n cynnwys therapyddion lleferydd ac iaith, a all, yn bwysig iawn, helpu gyda bwydo ar y fron, bwydo potel ac, yn bwysig, gweithrediad llyncu. Mae pedwar o'n saith bwrdd iechyd yn methu â bodloni safonau Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain ar gyfer darpariaethau therapi lleferydd ac iaith. Mae cyfathrebu cynnar â mamau yn hanfodol, felly mae'r angen am nifer digonol o therapyddion lleferydd ac iaith yn y gweithlu yn hanfodol. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd, Prif Weinidog, i sicrhau bod Cymru yn cadw i fyny â recriwtio'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol iawn hyn, fel bod ein babanod ac, yn wir, eu mamau, yn cael y dechrau gorau mewn bywyd gyda'i gilydd? Diolch.

Mae rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant yn un o'r agweddau allweddol yr wyf i eisiau i'n Llywodraeth ganolbwyntio arnyn nhw. Dyna pam rwyf i wedi ailadrodd y pwyslais ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn, pa un a yw'n fabi cynamserol sy'n cael ei eni ac yn goroesi, a sut mae'n cael ei gefnogi, ai peidio. Ac, a dweud y gwir, rydym ni'n gwybod nad heriau yn unig sydd, ond cyfleoedd gwirioneddol o ran sut rydym ni'n cefnogi rhieni yn well drwy'r cyfnod hwnnw. 

Ceir y pwynt yr ydych chi'n ei wneud am staff arbenigol, ac mae'r ffordd yr ydym ni'n comisiynu hynny yn broses agored lle rydym ni'n gofyn am gyngor gan grwpiau unigol, ond hefyd gan fyrddau iechyd yn ogystal i geisio deall yr hyn y mae angen i ni ei wneud. Ac rwy'n falch eich bod chi wedi cydnabod yr adnoddau ffisegol ychwanegol sydd eu hangen yn aml i gefnogi teuluoedd yn y sefyllfa yr ydych chi wedi ei hamlinellu. Mae'n hanes o lwyddiant meddygol gwirioneddol, ond, a dweud y gwir, mae angen i ni wneud yn siŵr wedyn bod iechyd cymdeithasol ac emosiynol y plentyn hwnnw a'i deulu yn cael ei ystyried. Ac rwy'n credu mai un o'r pethau y gallwn ni wir ei gael yn iawn nid yn unig o safbwynt y staff, ond o ran sut rydym ni'n cefnogi rhieni, oherwydd, mewn gwirionedd, fel rhiant, chi yw'r dylanwad pwysicaf ar fywyd eich plentyn. Ac, weithiau, gall hynny gael ei ystyried yn gyfrifoldeb—ac mae'n gyfrifoldeb wrth gwrs—ond mae hefyd yn gyfle gwirioneddol i gefnogi'r rhiant hwnnw i fod y rhiant gorau y gall fod, i edrych ar yr holl gryfderau y mae'n eu cynnig, ac i weld beth y gall ei wneud i'w blentyn. Ac mae rhywbeth mor syml â siarad â'ch babi neu ganu i'ch babi yn rhan mor enfawr a phwysig o'i ddatblygiad o nifer o safbwyntiau. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni gynorthwyo pobl i'w wneud, a dyna pam, yn dilyn fy amser mewn nifer o swyddi gweinidogol—o fynd i'r afael â thlodi i fod yn Weinidog iechyd, a thu hwnt—yr wyf i'n cymryd o ddifrif yr hyn y gallwn ni ei wneud i fuddsoddi mewn bydwreigiaeth ac mewn ymwelwyr iechyd, i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau ar y daith honno. Diolchaf i'r Aelod am ei chwestiwn a ofynnwyd yn dda a'r pwyntiau yr wyf i eisiau eu cymryd o ddifrif y mae hi wedi eu codi.

13:35

Nid yw magu plant yn dod gyda chyfarwyddiadau, rwy'n cytuno, ond hoffwn ganolbwyntio ar y gefnogaeth yr ydym ni'n ei rhoi i fenywod cyn yr enedigaeth, oherwydd mae'n syfrdanol bod 40 y cant o'r holl enedigaethau bellach yn gorffen gyda thoriadau Cesaraidd gan nad yw menywod yn cael digon o gefnogaeth a gan fod pobl bron yn cael cynnig cymell y geni yn awtomatig ar ôl 39 wythnos, sy'n ffordd a allai fod yn drychinebus o gael rhaeadr o ymyrraeth. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd gwirioneddol sylweddol hwn i enedigaethau Cesaraidd, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU, fel bod pobl yn cael eu cynorthwyo i roi genedigaeth yn y ffordd normal? Yn amlwg, toriad Cesaraidd yw'r peth y mae'n rhaid iddyn nhw ei gael os yw bywyd y babi mewn perygl, ond, mewn ffyrdd eraill, mae angen cynorthwyo menywod i gael genedigaeth normal, sef y dechrau gorau yn y llwybr bywyd hwnnw. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i newid yr ystadegau niweidiol iawn hyn.

Ceir nifer o ffactorau o fewn hynny. Mewn rhai byrddau iechyd yng Nghymru, mae cyfraddau genedigaethau Cesaraidd i fyny i 40 y cant; mewn eraill, dydyn nhw ddim. Pan edrychais ar y ffigurau wrth baratoi ar gyfer y cwestiwn hwn, rwy'n credu mai ein dealltwriaeth ni yw bod 35 y cant o enedigaethau toriad Cesaraidd yng Nghymru. Mae hynny wedi codi, yn sylweddol, dros y degawd diwethaf a mwy. Rwy'n cydnabod mai'r her yma yw sut rydym ni'n adlewyrchu'r realiti bod y newid i nifer y toriadau Cesaraidd yn cael ei ysgogi gan nifer o wahanol ffactorau. Mae rhan ohono'n cael ei ysgogi gan y ffaith bod pobl yn dewis cael teuluoedd yn ddiweddarach mewn bywyd, mae mwy o gymhlethdod yn y ffordd yr ydych chi'n cefnogi pobl trwy feichiogrwydd llwyddiannus, ac mae rhai pobl yn gwneud dewis gweithredol ynghylch toriadau Cesaraidd, ac yna, wrth gwrs, ceir y toriadau Cesaraidd brys y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw hefyd. Mae bod eisiau lleihau toriadau Cesaraidd yn ddiogel yn ymwneud â sut rydych chi'n cynorthwyo pobl i wneud dewisiadau—dewisiadau, yn ddelfrydol, cyn iddyn nhw feichiogi, dewisiadau yn ystod eu beichiogrwydd, ac ar adeg rhoi genedigaeth.

Nawr, mae fy mab ychydig yn hŷn, ond rwy'n cofio'n eglur llawer o'r sgyrsiau a gawsom ni fel rhieni a oedd yn disgwyl babi, ac am y ffaith bod ein barn wedi newid drwy'r cyfnod hwnnw, ond cawsom ein cynorthwyo i wneud dewisiadau gan ein bydwraig ac, yn wir, wedi hynny yn nyddiau cynnar iawn, er yr holl lawenydd sydd gennych chi, mewn gwirionedd—. Nid yw plentyn yn dod gyda llawlyfr. Felly, rydym ni'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i gynorthwyo rhieni. Mae hynny'n rhan o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn y fframwaith mamolaeth a newyddenedigol sy'n cael ei ddatblygu, am sut rydych chi'n cefnogi menywod yn gadarnhaol i wneud dewisiadau, i ddeall effaith iechyd y dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud drostyn nhw eu hunain ac i'w babi, ond i wneud hynny mewn ffordd sydd, eto, yn seiliedig ar gryfderau'r hyn y bydd rhieni yn gallu ac eisiau ei ddarparu ar gyfer eu babi, yn hytrach na cheisio cyfeirio pobl i lawr un llwybr neu'r llall. Rydym ni'n canfod bod hynny mewn gwirionedd yn arwain at ganlyniadau niweidiol, ond dewis cytbwys yw lle'r ydym ni eisiau helpu pobl i'w gyrraedd, ac rwy'n credu y bydd hynny'n dda i famau ac, yn wir, i'w plant.

Prosiect Pont Llannerch

2. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am brosiect pont Llannerch rhwng Trefnant a Thremeirchion? OQ61053

Diolch am y cwestiwn. Rydym ni wedi dyfarnu £750,000 i Gyngor Sir Ddinbych eleni i barhau i weithio tuag at bont newydd sy'n cysylltu cymunedau Trefnant a Thremeirchion.

Diolch yn fawr iawn. Cafodd pont Llannerch ei dinistrio yn ystod storm Christoph yn 2021, a, mwy na thair blynedd yn ddiweddarach, dydyn ni ddim agosach at gael pont newydd, yn anffodus. Mae cymunedau Trefnant a Thremeirchion dal wedi'u datgysylltu, a gyrwyr yn cael eu hanfon ar ddargyfeiriadau maith dim ond i yrru i'r pentref nesaf. Mae hyn yn golygu biliau tanwydd mwy i yrwyr, mwy o lygredd, dylwn ychwanegu, hefyd, a llai o fasnach i fusnesau lleol, gyda'r ffordd sydd bellach ar gau yn briffordd bwysig i yrwyr sy'n gadael yr A55 ac yn teithio tua'r de i Ddinbych. Cyngor Sir Ddinbych sy'n gyfrifol am y ffordd, ond eich Llywodraeth chi sy'n gyfrifol am y cyllid, ac rydym ni wedi gweld amharodrwydd cyson gan Lywodraeth Cymru i gymeradwyo cyllid ar gyfer pont newydd. Nawr, nid wyf yn gofyn i chi adeiladu pont Hafren yma, Prif Weinidog; rwy'n gofyn am bont gefngrwm, wledig, fach sy'n hanfodol i fusnesau a thrigolion. Bydd llawer o drigolion hefyd wedi'u cythruddo gan y ffaith bod Cyngor Sir Ddinbych sy'n cael ei redeg gan Lafur newydd gymryd benthyciad o £10 miliwn i adeiladu cyfleuster archif newydd ar gyfer dogfennau'r cyngor, arian a allai fod wedi cael ei wario yn disodli pont Llannerch, â rhywfaint o newid yn weddill, dylwn ychwanegu. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau i mi y bydd yn adolygu'r cynlluniau ar gyfer pont Llannerch ac yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i ddod o hyd i'r arian i ailgysylltu'r cymunedau hyn o'r diwedd ar ôl tair blynedd? Ac mae'n werth sôn, Prif Weinidog—

13:40

Na, nid yw'n werth sôn nawr. Mae'n 20 eiliad dros yr amser. Felly, rydych chi wedi gofyn eich cwestiwn. Diolch.

Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi dyfarnu dros £1.1 miliwn i Gyngor Sir Ddinbych i helpu tuag at y prosiect i ddeall y dyluniad y mae angen bwrw ymlaen ag ef i ddisodli'r bont. Ac rwy'n cydnabod ei fod yn destun pryder ac anghyfleustra gwirioneddol i gymunedau, a'r tarfu ar drafnidiaeth breifat a chyhoeddus, a thrafnidiaeth ysgol, ac, yn wir, llwybrau teithio llesol rhwng cymunedau. Mae hwn yn brosiect cymhleth. Bydd angen i'r bont newydd fod yn gydnerth yn erbyn stormydd yn y dyfodol—wrth gwrs, fe gwympodd yn dilyn storm flaenorol ag enw —a hefyd nad yw'r gwaith adeiladu yn effeithio ar gyflenwadau dŵr lleol. Fy nealltwriaeth i yw bod y cyngor yn bwriadu cwblhau'r gwaith dylunio manwl erbyn gwanwyn 2025, ac yna bydd gennym ni sefyllfa o ran deall nid yn unig sut mae'r gwaith dylunio yn edrych, ond wedyn y cyllid ar ei gyfer yn y dyfodol. Mae'n rhan o'r rheswm pam mae ein gallu i gynorthwyo cynghorau gyda phrosiectau cyfalaf yn fater mor fawr i ni, a'r ddealltwriaeth gychwynnol oedd y gallai'r prosiect hwn gostio oddeutu £8 miliwn. Erbyn i ni gyrraedd hynny, mae'n bosibl y bydd y costau wedi codi. Felly, mae cost gyfalaf wirioneddol a sylweddol. Ac i fod yn deg ag arweinyddiaeth Cyngor Sir Ddinbych, mae'r mater hwn yn un y maen nhw wedi ei etifeddu, ac ni allen nhw o bosibl ymdrin ag ef drwy'r llwybr yr ydych chi'n ei awgrymu y gellid bod wedi ei ddilyn, gyda phrosiect cyfalaf amgen, y maen nhw'n ymgymryd â chyllid benthyciad ar ei gyfer. Byddwn yn onest gyda'r Siambr ac, yn wir, gyda'r cyngor am ein gallu i'w cynorthwyo ar y prosiect cyfalaf pwysig hwn, unwaith y bydd y gwaith dylunio manwl hwnnw wedi ei wneud.

Mae pont Llannerch, y mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol amdani o dan y rhwydwaith lleol, yn darparu cyswllt hanfodol i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru, drwy'r gronfa ffyrdd cydnerth, wedi darparu dros £1 filiwn hyd yma tuag at ddatblygu cynllun i ddisodli'r bont. Mae'n ein hatgoffa o'r effaith y mae'r newid hinsawdd yn ei chael ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol, gan gynnwys y rhwydwaith lleol, a dweud y gwir, yng Nghymru, ac y bydd angen i ni flaenoriaethu adnewyddu a chynnal a chadw ein priffyrdd presennol i ymateb i'r her honno, yn y dyfodol. Ond, a ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod hyn yn cael ei wneud yn llawer anoddach diolch i gyni cyllidol Torïaidd a'r effaith hirdymor y mae hynny wedi ei chael ar gyllid cyfalaf a refeniw yng Nghymru, i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sydd wedi bod mewn trafferthion mawr dros y 14 mlynedd diwethaf o gyni cyllidol? Diolch.

Diolch am y cwestiwn, ac am yr atgoffâd ymarferol a ffeithiol am y realiti bod ein cyllidebau yn sylweddol llai, o'u cymharu â 14 mlynedd yn ôl, ond hefyd y pwynt pwysig ynghylch y ffaith y byddai'n llawer gwell gennym ni gynnal ein seilwaith trafnidiaeth trwy ei gynnal a'i gadw a'i reoli'n dda. Dyna wnaeth adolygiad Lugg geisio ein helpu ni i'w wneud, i ddeall yr hyn y gallem ni ei wneud i wella ei gydnerthedd. Cyfeiriodd yr Aelod at y newid hinsawdd, ac mae'n fater gwirioneddol i'r ffyrdd a'r seilwaith sydd gennym ni eisoes, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gwrthsefyll newidiadau yn yr hinsawdd nawr ac yn y dyfodol.

Mae gennym ni gronfa ffyrdd cydnerth sy'n helpu i ddarparu cyllid i awdurdodau lleol. Ond rydym ni'n gwybod mai rhan o'n her yw bod gallu'r gronfa honno i ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu yn cael ei niweidio'n sylweddol gan y realiti bod ein cyllidebau cyfalaf wedi cael eu lleihau mor sylweddol. A dweud y gwir, rydym ni wedi gwneud hyd yn oed yn waeth o ran cyllid cyfalaf yn yr ychydig rowndiau cyllideb diwethaf gan Lywodraeth y DU na refeniw, a dyna'r her fawr yr ydym ni'n ei hwynebu. Ac mae hwnnw'n fater ffeithiol na all Ceidwadwyr yn y Siambr hon a'r tu allan ddianc rhagddo. Hoffwn gael bargen well o ran cyfalaf, yn ogystal â refeniw, ar gyfer yr holl bethau y gallem ni eu gwneud i ymateb i'n her newid hinsawdd ac, ar yr un pryd, cynnal y seilwaith hanfodol sy'n cysylltu cymunedau yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.  

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn y wasg heddiw, ceir sôn am iMessage a anfonwyd gennych chi. I'r rhai nad ydyn nhw wedi gweld y neges hon, mae'n dweud:

'Rwy'n dileu'r negeseuon yn y grŵp hwn. Gellir eu dal mewn cais rhyddid gwybodaeth ac rwy'n credu ein bod i gyd yn y lle iawn ar y dewis sy'n cael ei wneud.'

Dyna oedd y neges. Grŵp iMessage gweinidogol oedd hwn. A wnaethoch chi ysgrifennu'r neges honno a'i hanfon?

13:45

Mae'r neges a gyhoeddwyd heddiw yn neges gennyf i heb gyd-destun y drafodaeth. Rwyf i wedi gofyn i'r sgrinlun ar ei ffurf lawn gael ei rannu gyda'r ymchwiliad fel y gellir gweld y cyd-destun. Nodaf fod yr Aelod wedi ysgrifennu at yr ymchwiliad cyhoeddus ar y mater hwn.

A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, os yw'r neges hon yn gywir, a'i bod yn nodi bod awdur y neges yn ceisio osgoi Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, oherwydd mae'n cyfeirio at yr wybodaeth yn y cyd-destun ehangach yn cael ei chynnwys o bosibl o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y byddai'n torri'r gyfraith honno ac unrhyw ymrwymiadau yr oedd wedi bod yn eu gwneud i ymchwiliadau cyhoeddus, neu yn wir i'r Senedd, am y gallu i gael mynediad at negeseuon?

Na, rwy'n credu bod hynny'n gamddarlleniad o ofynion y Ddeddf. Yn fy natganiad tyst i'r ymchwiliad cyhoeddus—rwy'n credu mai paragraff 24 ymlaen ydyw—nodais yn fanwl iawn, yn onest ac yn llawn, sut mae negeseuon wedi cael eu cadw a'u storio i sicrhau bod cofnod cywir o'r holl ddewisiadau a wnaed gennyf i a Gweinidogion eraill wedi cael ei nodi a'i ddarparu i'r ymchwiliad. Mae'r sgrinlun yr ydych chi'n cyfeirio ato yn dod mewn gwirionedd o sgwrs rhwng Gweinidogion sy'n ymwneud â chyfarfod grŵp Llafur ym mis Awst 2020. Nid yw'n ymwneud â phenderfyniadau a nodwyd. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r ffordd yr ydym ni'n disgrifio'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Ond, fel y dywedais, rwyf i wedi nodi'n fanwl yn fy natganiad tyst i'r ymchwiliad, ym mharagraff 24 ymlaen, sut mae'r negeseuon hynny wedi cael eu storio a'r ymdrechion yr wyf i wedi eu gwneud i sicrhau bod rhestr lawn o'r holl negeseuon sydd ar gael yn cael eu darparu i'r ymchwiliad.

Felly, dim ond fel fy mod i'n glir yn fy meddwl, roedd hyn yn cyfeirio at gyfarfod grŵp Llafur, ac mae'r dewisiadau y cyfeirir atyn nhw yn y neges benodol honno yn ymwneud â dewisiadau mewnol o fewn y grŵp Llafur neu'r Blaid Lafur a dydyn nhw ddim yn ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru, er ei fod mewn iMessage gweinidogol—nid grŵp WhatsApp, iMessage—a'ch bod chi, rwy'n meddwl, wedi cadarnhau heddiw mai chi ysgrifennodd y neges sydd wedi cael ei chyhoeddi. A allech chi gadarnhau mai chi wnaeth anfon y neges benodol yr wyf i'n sôn amdani ac, er eich bod chi wedi gofyn am ddealltwriaeth ehangach o'r gyfres o negeseuon cyn ac ar ôl, nad ydych chi'n anghytuno mai chi oedd awdur y neges benodol hon?

Rwy'n eglur iawn mai fi anfonodd y neges yr ydych chi'n cyfeirio ati. Rwyf i hefyd yn eglur iawn bod cyd-destun y sgwrs yn ymwneud yn llwyr â chyfarfod grŵp y Blaid Lafur ac nad yw'n ymwneud â gwneud penderfyniadau yn ymwneud â'r pandemig. Mae'n ymwneud â sylwadau y mae cydweithwyr yn eu gwneud i'w gilydd ac am ei gilydd. Mae'n ymwneud â sicrhau nad ydym ni'n darparu pethau a allai achosi embaras, ond nid y pethau hynny sy'n effeithio ar unrhyw wybodaeth am wneud penderfyniadau yn ystod y pandemig.

Rydym ni'n parhau i ddychwelyd yma at y ffaith ein bod ni eisiau i'n Prif Weinidogion fod yn onest, yn dryloyw ac â chrebwyll da, ac mae'r rhagofynion hynny'n cael eu tanseilio ar hyn o bryd. Yn gyntaf, cafwyd y rhodd o £200,000 gan lygrydd a gafwyd yn euog, nawr mae'n fater o ddileu negeseuon yn ystod y pandemig. Mae ymgyrchwyr teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth COVID yn dweud eu bod nhw'n gandryll. Yn ei dystiolaeth i'r ymchwiliad COVID, dywedodd y Prif Weinidog:

'Roeddwn i'n deall ein bod ni wedi cadw a chynnal yr holl wybodaeth y dylem ni fod wedi ei chadw, ac y byddai  ar gael i'r Ymchwiliad hwn.'

Ond rydym ni'n gwybod bellach ei fod wedi dweud wrth Weinidogion ei fod yn dileu negeseuon gan y gallen nhw gael eu cynnwys o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Efallai y gall y Prif Weinidog ddweud a oedd hynny ar ddyfais Senedd neu ar ddyfais Llywodraeth Cymru. Nid wyf i'n siŵr pa drosedd o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 y mae'n credu y gallai fod yn euog ohoni yma—y drosedd o ystumio neu newid tystiolaeth a gynhyrchwyd neu a ddarparwyd i'r ymchwiliad COVID, neu atal tystiolaeth rhag cael ei chynhyrchu neu ei darparu i'r panel. Ond o ystyried y sefyllfa yn ei chyfanrwydd, a yw'r Prif Weinidog yn deall pam mae pobl yn gofyn heddiw a wnaeth dyngu anudon wrth roi'r dystiolaeth honno o dan lw?

Wel, mae hwnna'n gyhuddiad rhyfeddol i'w wneud, yn absenoldeb cyd-destun neu ffeithiau ynghylch yr hyn a oedd yn digwydd ar y pryd. Mae'r neges unigol yn ymwneud â thrafodaeth o fewn y grŵp Llafur ynglŷn â sut mae pobl yn siarad â'i gilydd a ddim yn siarad â'i gilydd. Yn y bôn, mae'n apêl i bobl ystyried yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud. Fel y byddwch chi'n cofio, cefais brofiad anodd yn ystod rhywfaint ohono, yn ystod y pandemig. Mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â sut rydym ni'n siarad â'n gilydd ac am ein gilydd, nid am yr wybodaeth a ddarparwyd, ac rwy'n gwrthod yn llwyr yr awgrym nad wyf i wedi bod yn onest gyda'r ymchwiliad COVID. Mae'n bwysig i mi fod gan yr ymchwiliad hwnnw gofnod llawn o'r hyn a wnaethom ni a pham. Rwyf i wedi rhoi tystiolaeth yn helaeth ar hyn, yn ysgrifenedig ac yn bersonol, ac rwy'n disgwyl gwneud hynny eto. A byddwn yn gofyn i'r Aelod ailystyried ei gyhuddiad fy mod i wedi tyngu anudon. Mae hynny'n fater difrifol ac nid yn un y credaf y dylai ei wneud ar chwarae bach.

13:50

Mae yn fater difrifol iawn, yn wir. Rydym ni'n hercio o un sgandal i'r nesaf, ac nid yw'n unrhyw ffordd o lywodraethu. A

'po fwyaf y cloddiwch, y lleiaf y gwnewch chi ei ddarganfod'—

dyna oedd amddiffyniad Hefin David o'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Mae pob llwybr i gywiro'r Cofnod yn agored, rwy'n siŵr. Mae'r twll yn parhau i fynd yn ddyfnach. Roedd y rhoddion yn ddigon drwg, ond mae hyn ar lefel newydd yn llwyr. 'Ni wnaed unrhyw benderfyniadau yn ystod pandemig COVID drwy sianeli negeseuon anffurfiol'—dyna a ddywedwyd wrthym ni. Ond beth ydym ni i fod i'w feddwl yma? Negeseuon anffurfiol rhwng Gweinidogion yn cyfeirio at ddewis yn cael ei wneud, yn ceisio osgoi cwestiynau rhyddid gwybodaeth. O ddarllen rhwng y llinellau, tua'r adeg honno oedd y penderfyniadau ynghylch caniatáu i athrawon amcangyfrif graddau. 

Dywedodd Lee Waters yn ei araith huawdl yr wythnos diwethaf mai gwneud y peth iawn yw'r peth anoddaf, ond anaml y byddwch chi'n ei ddifaru yn y pen draw. Rwyf i wedi ysgrifennu at gadeirydd ymchwiliad COVID y DU, yn gofyn i'r Prif Weinidog gael ei alw yn ôl. Maen nhw'n ystyried a ddylid gwneud hynny, ond a wnaiff y Prif Weinidog ei hun wneud y peth iawn a gofyn, ei hun, i gael ei alw yn ôl?

Rwy'n credu eich bod chi'n cymryd sawl cam dros faterion i gyrraedd ateb yr hoffech chi ei gael, yn hytrach na lle mae'r dystiolaeth yn arwain. Rwy'n hollol ddigynnwrf ynghylch y sgrinlun a'i gyd-destun yn cael ei weld gan yr ymchwiliad. Rwyf i eisoes wedi gofyn i'r sgrinlun llawn, heb ei olygu gael ei rannu gyda'r ymchwiliad COVID. Os byddan nhw eisiau fy holi am y peth, ni fyddaf yn cael unrhyw anhawster o gwbl yn ymddangos ger eu bron a chael y sgwrs. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio ar yr hyn a wnaethom a pham, a'r wybodaeth lawn a rannwyd gyda'r ymchwiliad ynghylch pam y gwnaethom ni benderfyniadau yn ystod y cyfnod eithriadol hwnnw. Mae mis Awst 2020 bron i bedair blynedd yn ôl, ond mae'r dewisiadau y bu'n rhaid i ni eu gwneud a'r pwysau a oedd arnom ni yn dal i effeithio arnaf i'n rheolaidd. Rwyf i wedi bod, a byddaf yn parhau i fod, yn hollol onest a thryloyw gyda'r ymchwiliad am yr hyn a wnes i a pham a'r dewisiadau y gwnes i helpu i'w gwneud i geisio cadw ein gwlad yn ddiogel.

Ar y diwrnod hwn o bob diwrnod, 25 mlynedd ers yr etholiadau datganoledig cyntaf, rydym ni eisiau i bobl Cymru fod â ffydd mewn arweinwyr gwleidyddol. Yn anffodus, mae'r Senedd, ar bob mainc, dylwn ddweud, yn colli ffydd yng ngallu'r Prif Weinidog hwn i arwain heb bethau i dynnu'r sylw. Ar ôl saith wythnos diben ei arweinyddiaeth yw goroesi. Ond nid yw pobl yn derbyn y dull 'dim i'w weld yma' o ymdrin â'r rhodd enfawr. Dydyn ni dal ddim yn gwybod a fydd y Blaid Lafur yn cadw unrhyw arian dros ben o hynny. A nawr mae gennym ni'r negeseuon COVID a ddilëwyd ac ymgais i osgoi cais Rhyddid Gwybodaeth. 

Nawr, ar y pumed pen-blwydd ar hugain hwn, gadewch i mi ofyn hyn: a yw'r Prif Weinidog yn credu bod ei weithredoedd o ran y rhodd, o ran y negeseuon a ddilëwyd a phwy a ŵyr beth ddaw nesaf wrth i bobl barhau i gloddio, wedi gwella neu waethygu enw da'r Senedd hon, Llywodraeth Cymru a swyddogaeth y Prif Weinidog?

Rwy'n falch iawn o fod yn Brif Weinidog Cymru. Rwy'n falch iawn o fod yma yn y Senedd hon, wedi fy ethol yn uniongyrchol gan fy etholwyr i'w gwasanaethu nhw ac i wasanaethu fy ngwlad. Rwy'n falch iawn o'r dewisiadau anodd a wnaethom drwy'r pandemig i geisio cadw ein gwlad yn ddiogel. Dywedaf eto: rwyf i wedi darparu'r holl wybodaeth sydd ar gael i mi. Nid wyf i wedi dileu gwybodaeth drwy neges destun na WhatsApp i geisio osgoi craffu. Ac rwy'n gobeithio, pan fydd gan yr Aelod ddarlun llawnach o ddigwyddiadau, y bydd yn tynnu'n ôl y cyhuddiad atgas y mae wedi ei wneud. Nid yw'n fawr o glod i'r Aelod mewn gwirionedd.

O ran fy arweinyddiaeth o'r Llywodraeth, rwy'n canolbwyntio'n llwyr ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, yr hyn y gallem ni, ac rwy'n credu y dylem ni ei wneud yn y blynyddoedd sydd o'n blaenau. Dyna pam mae'r Llywodraeth rwy'n ei harwain yn canolbwyntio ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn; dyna pam y bydd pwyslais o'r newydd ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella canlyniadau addysgol i'n plant a'n pobl ifanc; dyna pam rydym ni'n gweithio ar ffyniant gwyrdd i'r wlad, a ddylai arwain nid yn unig at gyflawni ein rhwymedigaethau hinsawdd, ond mewn gwirionedd sut rydym ni'n creu swyddi da i'w lleoli yma yng Nghymru yn y dyfodol, a'r heriau yr ydym ni'n mynd i'r afael â nhw: yr heriau yr ydym ni'n gwybod sydd gennym ni, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod gennym ni'r gwasanaeth iechyd yr ydym ni'n ei haeddu â staff sy'n cael eu talu'n dda ac mewn gwaith; yr heriau sydd gennym ni o ran cael cynllun ffermio cynaliadwy sy'n bodloni ein rhwymedigaethau hinsawdd ac yn cynorthwyo ffermwyr i ddarparu bwydydd a diodydd cynaliadwy o ansawdd uchel. Dyna'r hyn y bydd fy Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio arno. Bydd yr Aelod yn gwneud ei ddewisiadau ei hun.

13:55
Diogelu Gwleidyddion

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu gwleidyddion yng Nghymru rhag ymosodiadau corfforol a llafar posibl? OQ61073

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae ymddygiad ymosodol yn fygythiad gwirioneddol i'n democratiaeth ac yn annerbyniol. Mae'n rhaid i ni dynnu sylw at bob ymddygiad annerbyniol a sicrhau dim goddefgarwch i fwlio ac aflonyddu ar bob ffurf. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â cham-drin ac i annog mwy o bobl i'n gwleidyddiaeth, i adlewyrchu'r wlad yr ydym ni heddiw yn well.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y byddwch chi'n gwybod, bu sawl enghraifft ddiweddar o wleidyddion yng Nghymru yn dioddef cam-drin llafar gan y cyhoedd, ag awch sy'n cynyddu'n barhaus. Fel y gwelsom ni i gyd ar y newyddion, ymosododd protestwyr ar y Gwir Anrhydeddus Syr Jacob Rees-Mogg wrth iddo fynd i ddigwyddiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a bu'n rhaid ei hebrwng i gerbyd diogelwch gan ddim llai nag wyth o warchodwyr diogelwch. Dioddefodd Natasha Asghar ei hunain fygythiadau tebyg pan aeth i ddigwyddiad arall ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld y fideo o fyfyrwyr yn curo'r drws yn ystod ei haraith.

Er fy mod i wedi cyfeirio at ddwy enghraifft yn ymwneud â gwleidyddion Ceidwadol, dioddefir y cam-drin hwn ar draws y pleidiau ac mae'n effeithio ar bob un ohonom ni. Yn anffodus, gall arwain at ganlyniadau brawychus, fel yr ydym ni wedi ei weld gyda llofruddiaethau trasig Jo Cox a David Amess. Rwyf i wedi siarad yma yn y Siambr yn y gorffennol am sut mae angen i ni fod yn ofalus o'r iaith yr ydym ni'n ei defnyddio, ac er ein bod ni i gyd yn cytuno bod protestio cyfreithlon yn hawl sylfaenol, ni allwn ac ni ddylem fyth dderbyn aflonyddu a bygythiadau. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried y digwyddiadau yr wyf i newydd eu crybwyll, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan wleidyddion gefnogaeth a diogelwch digonol wrth fynychu digwyddiadau ac ymrwymiadau cyhoeddus? Diolch.

Felly, rwy'n credu bod y cwestiwn hwn yn croesi drosodd o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn gyfrifol amdano, a hefyd heriau i'r Senedd a'r Comisiwn fel sefydliad, a'n perthynas, yn wir, â phartneriaid eraill o ran ein diogelwch—wrth gwrs, nid yw plismona wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n werth myfyrio'n ôl ar y ddau achos y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw. Gwn fod Natasha Asghar wedi cael ysgytwad gan y ffordd y dewisodd rhai pobl ymddwyn pan aeth i Brifysgol Caerdydd. Rwy'n deall hynny. Rwyf i wedi bod mewn sefyllfaoedd fy hun lle mae'r sŵn a grëwyd gan bobl a rhai o'r pethau a ddywedir yn ei gwneud hi'n hynod anghyfforddus i chi. Yr her—[Torri ar draws.] Nid wyf i'n ceisio diystyru'r digwyddiad. Yr her, gyda'r sŵn a'r cam-drin sy'n dod gydag ef, yw ei fod yn effeithio ar yr hyn y gallwch chi ei wneud o ran cyflwyno eich safbwynt ar ddyfodol y wlad neu'r gymuned. Dywedodd Jacob Rees-Mogg a dweud y gwir nad oedd ganddo broblem gyda'r hyn a ddigwyddodd ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth gwrs, mae gennym ni aelodau yn y Llywodraeth yn fwy diweddar lle mae hyn wedi digwydd yma. Cafodd Julie James a Huw Irranca-Davies eu dal yn adeilad y Pierhead tra roedd protest weithredol, a allai fod—. Gallai niwed corfforol wedi digwydd pe bai'r ddau Weinidog wedi mynd allan ac wedi cael eu hwynebu gan y dorf. Mark Drakeford, wrth gwrs, mewn coleg addysg bellach—torrwyd clwydi a gwnaed rhywfaint o ddifrod yn flaenorol. Ceir pwynt am brotestio derbyniol a lle mae'n croesi drosodd.

Rwy'n credu y gallwn ni ac y dylem ni gael dadl gadarn ac anghytundeb rhwng pleidiau, am ddyfodol ein cymunedau a'n gwlad. Mae'n gwbl bosibl gwneud hynny heb groesi drosodd i ymddygiad camdriniol. Mae honno'n safon yr wyf i'n disgwyl i bobl yn fy mhlaid ei bodloni. Dyna hoffwn i ei weld yn y wlad ehangach yn y dadleuon yr ydym ni'n eu cael. Mae gen i ofn bod cyfryngau cymdeithasol yn ysgogi gwir annymunoldeb mewn bywyd go iawn o'r safbwynt hwn hefyd, ac mae hynny'n digwydd i wleidyddion ym mhob plaid. Mae'n waeth i fenywod, yn waeth fyth i fenywod du neu frown, ac yn waeth i bobl dduon hefyd. Rydym ni'n gwybod bod grwpiau lleiafrifol eraill yn cael eu targedu mewn ffordd sydd, yn fy marn i, wedi gwaethygu yn hytrach na gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, rwy'n credu bod gan sefydliadau cyfryngau cymdeithasol gyfrifoldeb. Mae gan sefydliadau cyfryngau prif ffrwd gyfrifoldeb yn y ffordd y maen nhw'n adrodd. Ac mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb o ran sut yr ydym ni'n barod i ymddwyn a'r hyn yr ydym ni'n barod i'w hyrwyddo, a natur y ddadl sydd gennym ni. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn gweld bod y ffordd yr wyf i'n ymddwyn fy hun yn gadarn, ond mae'n rhywbeth nad yw'n croesi drosodd i feysydd cam-drin nad wyf i'n credu sy'n rhan dderbyniol o wleidyddiaeth ddemocrataidd.

Mae Senedd Gweriniaeth Iwerddon, yr Oireachtas, wedi bod yn cynnal ymchwiliad i mewn i'r maes yma o ddiogelwch Aelodau etholedig a’r aflonyddu ar-lein ac yn y blaen, ac mae’r tasglu fu wrthi ar fin cyhoeddi eu hadroddiad, ac un o’r prif argymhellion fydd sefydlu uned monitro cyfryngau cymdeithasol yn bwrpasol, yn adnabod achosion unigol o aflonyddu annerbyniol a chyfeirio hynny at yr heddlu a hefyd at rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi cefnogaeth a chyngor i’r Aelodau etholedig dan sylw, fydd ar gyfartaledd—fel rŷch chi'n dweud, Brif Weinidog—yn fwy tebyg o fod yn fenywod, yn aelodau o leiafrifoedd ethnig, pobl LGBTQ+ ac yn y blaen. Oni ddylem ni yng Nghymru efelychu esiampl Iwerddon yn hynny o beth?

14:00

Bydd gen i ddiddordeb mawr yng ngwaith y grŵp mae'r Aelod yn adrodd amdano—yr adroddiad ac unrhyw argymhellion y maen nhw'n eu darparu. Mae'n werth nodi ein bod ni'n gwneud rhywfaint o waith sy'n edrych ar fynd i'r afael â cham-drin mewn gwleidyddiaeth, yn enwedig yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda llywodraeth leol. Fel Aelodau rhanbarthol neu etholaethol, mae gennym ni gysylltiad uniongyrchol â nifer o'n cymunedau. Mae gan gynghorwyr lleol o unrhyw a phob plaid lwybr mwy uniongyrchol fyth, lle mae eu hetholwyr bron bob amser yn byw o fewn pellter eithaf byr i le maen nhw ac y maen nhw'n weladwy, ac rwy'n poeni bod rhai pobl yn cael eu gyrru allan o wleidyddiaeth leol oherwydd cynnydd mewn cam-drin. Mae'r gwaith a gychwynnodd Rebecca Evans yn cael ei barhau gan Julie James fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio. Bydd yn cyfarfod â Sefydliad Jo Cox i archwilio lle ceir mwy y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd, oherwydd rwy'n pryderu'n fawr am y gwaith arolygu a wnaed yn y maes hwn. 

Felly, rwy'n awyddus nad oes syniad bod monopoli ar syniadau da i ymdrin â her cymdeithas gyfan. Byddwn i gyd yn well ein byd os gall ein gwleidyddiaeth fod yn fwy cwrtais yn y ffordd yr ydym ni'n anghytuno â'n gilydd. Mae'n rhan bwysig o ddadl ddemocrataidd ein bod ni'n gallu anghytuno heb fod yn annymunol, ac rwy'n credu bod hynny wedi cael ei golli'n raddol, a fy mhryder i yw na fydd pobl dda, barchus yn cymryd cam ymlaen i fod eisiau cynrychioli eu cymuned gan y byddan nhw'n gweld y pris y mae pobl eraill wedi ei dalu, a bydd hynny'n ein gadael ni i gyd yn dlotach.

Ynni Gwyrdd

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynhyrchu ynni gwyrdd? OQ61066

Gwnaf. Mae gennym ni ymrwymiad i fodloni'r hyn sy'n cyfateb i 100 y cant o'n defnydd blynyddol o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Rydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid ar symleiddio cydsynio, arwain ar gynlluniau ynni a'r grid, a gweithredu i sicrhau bod ein heconomi a'n cymunedau yn elwa ar y cyfleoedd hyn.

Diolch, Prif Weinidog. Roedd penderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod terfynell ynni gwyrdd newydd porthladd Aberdaugleddau yn Noc Penfro fis diwethaf yn siom enfawr. Mae porthladd Aberdaugleddau yn rhan hanfodol o seilwaith y DU, gan ddod ag 20 y cant o ynni'r DU i mewn, ac roedd buddsoddi yn y prosiect gwynt arnofiol ar y môr ym mhorthladd Aberdaugleddau yn gyfle gwych i ddod â swyddi a manteision cymdeithasol i orllewin Cymru a thu hwnt. Rhoddodd Llywodraeth Cymru £1 filiwn ar gael i gefnogi sector newydd gwynt arnofiol ar y môr pan gyflwynodd y porthladd ei gais am gyfran o'r gronfa'r DU gwerth £160 miliwn. Prif Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y dechnoleg hon, er gwaethaf anallu'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan i gefnogi prosiect mor wych?

Wel, cefais fy synnu'n fawr—yn ogystal â'm siomi i'r pwynt o fod yn ddig—gan y ffaith na chafodd porthladd Aberdaugleddau gefnogaeth gan gronfa buddsoddi mewn porthladdoedd y cynllun buddsoddi mewn gweithgynhyrchu gwynt arnofiol ar y môr, a'r her yn hyn yw, os na allwch chi ddarparu rhywfaint o'r buddsoddiad hwnnw mewn porthladdoedd, ni fyddwch chi'n gweld y cyfleoedd datblygu economaidd sy'n dod ochr yn ochr ag ef. Mae'n bosibl darparu cenhedlaeth newydd o lwyfannau arnofiol ar y môr heb weld y rheini'n cael eu hadeiladu a'u darparu yma yng Nghymru. Efallai fod hynny yn newyddion gwych i borthladdoedd yn Ffrainc ac yn yr Iseldiroedd; newyddion ofnadwy i economi Cymru ac economi'r DU. Mae hefyd yn dychwelyd at y sgyrsiau y mae Ysgrifennydd yr economi ac ynni yn eu cael ynghylch dyfodol cynhyrchu dur hefyd, oherwydd ar hyn o bryd byddech chi'n disgwyl y bydd marchnad fawr ar gyfer dur wrth gynhyrchu a manteisio ar y cyfle hwnnw. Dyna pam rydym ni eisiau gweld proffil buddsoddi cydgysylltiedig, yn buddsoddi yn nyfodol dur fel ased sofran, yn buddsoddi yn y cyfleoedd datblygu economaidd o amgylch ein porthladdoedd. Dyna pam rwy'n falch bod gan Lywodraeth Lafur newydd yn y DU addewid eglur eisoes o ran buddsoddiad gwerth £1.6 biliwn mewn porthladdoedd. Mae hynny 10 gwaith yn fwy na chronfa Llywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio y bydd pobl o bob plaid yn parhau i wneud y ddadl dros fuddsoddi yn ein porthladdoedd a'r hyn y gall hynny ei wneud i ddatgloi manteision economaidd y newid i'r ffordd yr ydym ni'n cynhyrchu pŵer sy'n anochel. Byddwn naill ai'n ennill y ras honno ac yn ennill y swyddi, y swyddi da ar sail hirdymor, sy'n dod gyda hi, neu bydd rhannau eraill o'r byd yn elwa ar ein methiant i weithredu ar draws y DU.

14:05

Nid wyf i'n rhannu pesimistiaeth Aelod Llafur eich meinciau cefn, Prif Weinidog, a gwelsom hyn yr wythnos diwethaf pan ymwelais ag ymgynghoriad RWE ar eu prosiect hydrogen gwyrdd newydd, y maen nhw'n bwriadu ei adeiladu ar eu tir ym Mhenfro. Nawr, fel y mae'r enw'n ei awgrymu, maen nhw'n bwriadu cynhyrchu hydrogen gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy o'r grid, cyfle gwych nid yn unig i ddatgarboneiddio diwydiant cyfagos, ond hefyd i ddod â swyddi o ansawdd da i'r porthladd yn sir Benfro hefyd. Rwyf i wedi dweud ers tro bod angen edrych ar ardal clwstwr diwydiannol de Cymru nid yn unig fel clwstwr diwydiannol, ond fel ardal ar gyfer twf economaidd a sgiliau ac addysgol hefyd. Felly, pa ystyriaeth bellach ydych chi a'ch Llywodraeth wedi ei rhoi i ddatblygu dadansoddiad sgiliau ehangach o'r sgiliau sydd eu hangen yn y dyfodol, nid yn unig yn sir Benfro, ond ar hyd ardal clwstwr diwydiannol gyfan de Cymru hefyd? Diolch, Llywydd.

Wel, fe wnaf i ddechrau gyda rhai o'r pwyntiau o gytundeb. Rydym ni'n gweld cyfle gwirioneddol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a'r cyfleoedd economaidd a ddaw yn sgil hynny. Mae hydrogen gwyrdd yn rhan o hynny, ac rydym ni'n falch o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gydag RWE ac eraill, i wireddu hynny. Roedd yn rhan o'r sgyrsiau a gefais fel Gweinidog yr economi pan ymwelais â'r Almaen. Mae'n rhan allweddol o'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud trwy ddod â'r economi ac ynni ynghyd yn fwriadol yn y portffolio a arweinir gan yr Ysgrifennydd Cabinet, Jeremy Miles. Mae hwn yn gyfle mawr i Gymru, ac yn un yr wyf i'n benderfynol y byddwn ni'n manteisio arno.

Yr her, fodd bynnag, yw er y dylem ni, wrth gwrs, fuddsoddi yn sgiliau'r dyfodol, mae angen rhywfaint o sicrwydd arnom ni ynglŷn â hynny, o ran y cynllun ar gyfer yr hyn a all ddigwydd, ac, yn wir, y cynllun ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd gyda chymhwysedd sgiliau, a pheidio â chael cystadleuaeth ymosodol ar bwy sydd mewn gwirionedd yn deall natur y sgiliau sydd eu hangen, ac yna'r cyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli'n amlwg ers chwarter canrif ddim yn cael eu goddiweddyd gan Lywodraeth y DU sy'n elyniaethus i'r hyn yr ydym ni eisiau ei wneud, a'r arian sy'n dod ochr yn ochr â'r pwerau hynny. Ond sicrwydd y buddsoddiad yw pam mae cwestiwn Joyce Watson mor bwysig, ac rwy'n synnu nad yw'r Aelod wedi mynegi rhywfaint o siom am fethiant porthladd Aberdaugleddau i sicrhau buddsoddiad. Mae'n eithriad mawr o'r hyn y bu gan yr Aelod i'w ddweud. Gallai a dylai porthladd Aberdaugleddau fod wedi cael buddsoddiad. A dweud y gwir, mae'r cyfle porthladd rhydd sy'n bodoli o amgylch y môr Celtaidd yn cynnwys dau borthladd: porthladd Aberdaugleddau ac, yn wir, Port Talbot ei hun. Mae peidio â buddsoddi yn y ddau borthladd hynny yn gamgymeriad strategol difrifol, ac, os yw'r Aelod yn anghytuno â mi, dylai gael sgwrs arall gyda rhanddeiliaid yn y maes hwn, fel y gwnes i yn ddiweddar yng Ngholeg Sir Benfro mewn cyfarfod bord gron a gefais, lle roedd siom amlwg ynghylch y methiant i gydnabod yr ased strategol y mae porthladd Aberdaugleddau yn ei gynrychioli a'r cyfle ar gyfer dyfodol ein heconomi. Rwy'n gobeithio y bydd hyd yn oed y Llywodraeth hon yn ailystyried ei safbwynt a pheidio ag aros i Lywodraeth arall sy'n dod i mewn unioni'r hyn y maen nhw wedi ei wneud o'i le. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi achos porthladd Aberdaugleddau ac yn dadlau'r achos hwnnw i'r Llywodraeth bresennol i unioni'r camgymeriad y maen nhw wedi ei wneud trwy fethu â buddsoddi yn y porthladd hwn.

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl Deddf Diogelwch Rwanda (Lloches a Mewnfudo) 2024 ar geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru? OQ61062

Diolch am y cwestiwn. Er nad yw polisi mudo wedi'i ddatganoli, bydd Deddf Diogelwch Rwanda yn cael effaith niweidiol ar bobl sy'n ceisio noddfa yma yng Nghymru. Mae'r Ddeddf yn tanseilio ein polisi cenedl noddfa, bydd yn ysgogi gweithio anghyfreithlon a chamfanteisio, gan arwain heb amheuaeth at fwy o gaethwasiaeth fodern, ac yn atal sgiliau y mae mawr eu hangen rhag cyrraedd ein heconomi.

Diolch am yr ymateb.

'Desperate.' Mae'n air Saesneg sy'n berthnasol, mae gen i ofn, i'r Llywodraeth Geidwadol, oer, dideimlad, amcanus. Maen nhw mewn angen taer i ddod o hyd i bleidleisiau i sicrhau eu bod nhw'n apelio i bobl drwy atal y cychod bach, ac eto mae'r bobl yn y cychod bach hynny yn wirioneddol anobeithiol. Maen nhw'n bobl anobeithiol iawn, y dylem ni fod yn eu diogelu. Nhw yw ein pobl fwyaf agored i niwed; mae llawer o'r rheini yn blant. Ac rydym ni'n clywed straeon trist eisoes am bobl yma yng Nghymru yn cael eu codi a'u rhoi yn y ddalfa. Ac mae pobl eraill yn ofni; rydym ni wedi clywed, yn anffodus, sôn am hunanladdiad, nad yw pobl eisiau wynebu hynny. Mae plant, hyd yn oed, yn cael eu hystyried ar gyfer y symudiad hwn i Rwanda. Mae'n gwbl annerbyniol ac rwy'n siŵr—. Mae'n rhaid i mi ddweud y byddwn i'n gobeithio na fyddai hyd yn oed fy nghyd-Aelodau draw ar feinciau'r Ceidwadwyr eisiau i hyn ddigwydd i'n ffoaduriaid a'n ceiswyr lloches mwyaf agored i niwed yma yng Nghymru. Felly, hoffwn ofyn i chi, Prif Weinidog, beth—[Torri ar draws.] Hoffwn ofyn i chi, Prif Weinidog, pa sgyrsiau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU i ddangos y dull tosturiol a gofalgar—[Torri ar draws.]—i ddangos yr agwedd dosturiol a gofalgar honno tuag at ein pobl fwyaf agored i niwed gan ddefnyddio'r Ddeddf benodol hon a herio Llywodraeth y DU. Diolch yn fawr iawn.

14:10

Diolch am y cwestiwn a'r ffordd ddigynnwrf y'i gofynnwyd, er gwaethaf rhywfaint o'r heclo annifyr, yn fy marn i, o rannau eraill o'r Siambr. O ran cynllun Rwanda, nid yw'n rhywbeth y mae hyd yn oed asesiad Llywodraeth y DU ei hun yn dweud y bydd yn gweithio i ddatrys y broblem. Bydd yn costio llawer o arian; Bydd yn darparu pwynt cyhoeddus iawn o ymraniad ac anghytuno. Rydym ni'n dychwelyd at rai o'r pwyntiau y cyfeiriodd Joel James atyn nhw yn ei gwestiwn ynglŷn â sut yr ydym ni'n tynnu rhywfaint o'r gwres allan o'n gwleidyddiaeth. Rwy'n credu bod hwn yn gynllun sydd â'r bwriad o greu mwy o raniadau, mae gen i ofn. Nid yw canolfannau cadw yn bodoli yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym ni'n ymwybodol bod symudiadau yn digwydd. Mae'r her yn hynny o beth yn mynd i ddau bwynt, rwy'n credu. Y cyntaf yw a ydych chi'n cytuno bod hwn yn gynllun trugarog, i anfon pobl i Rwanda, os gwnaiff yr awyrennau fyth adael, rhan o'r byd nad ydyn nhw erioed wedi bod iddo, gyda'r holl heriau y ceir dealltwriaeth dda ohonyn nhw am Lywodraeth Rwanda a'i gwlad. Yr ail, fodd bynnag, yw a yw hwn yn mynd i fod yn ddull effeithiol, oherwydd, os ydych chi'n gwybod y gallai eich cyfarfod rheolaidd mewn cyfleuster Swyddfa Gartref olygu na fyddwch chi'n gadael yr adeilad hwnnw ac y byddwch chi'n cael eich cludo i ganolfan gadw, bydd pobl a fydd yn gwneud y dewis i guddio—mae'r bobl hynny eisoes yn agored i niwed ac yn llawer mwy tebygol o ddioddef camfanteisio.

Rwy'n credu mai dull trugarog sy'n edrych ar le mae llwybrau diogel, sy'n edrych ar sut rydym ni'n cyflawni ein rhwymedigaethau ac nad yw'n tanseilio'r dull yr ydym ni wedi ei fabwysiadu i fod eisiau bod yn genedl noddfa yw'r dull cywir. Rwy'n obeithiol y bydd darpar Lywodraeth y DU yn diddymu Deddf Rwanda, gan fy mod i'n credu ei bod yn eithriadol o ddrud ac yn anymarferol, a byddwn yn glynu wrth y gwerthoedd sydd gennym ni yma wrth geisio cynorthwyo pobl ac eisiau cael system fewnfudo a lloches effeithiol yma yng Nghymru a'r DU ehangach.

Prif Weinidog, mae cynllun Rwanda Llywodraeth y DU yn bwriadu atal mudo anghyfreithlon, gan roi atalfa ar waith i atal pobl rhag dod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon ac amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed sy'n ffoi rhag erledigaeth gan gangiau troseddol ffiaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches trwy ddyrannu £2.57 miliwn ar gyfer 67 o blant drwy'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol i bobl sy'n gadael gofal. Yng ngoleuni hyn, Prif Weinidog, a allech chi os gwelwch yn dda—[Torri ar draws.]

Rwy'n credu y dylech chi wrando ar eich Prif Weinidog ynghylch parchu pobl.

Yng ngoleuni hyn, a allech chi ymhelaethu os gwelwch yn dda ar y mesurau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i ddiogelu'r plant hynny rhag pob math o gamfanteisio, gan gynnwys y rhai gan gangiau troseddol? Oherwydd yr hyn y gallem ni ei weld o'r cynllun hwn yw ffordd i'r gangiau troseddol hynny gael gafael ar arian a chamfanteisio ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i eisiau ei weld; nid yw'n rhywbeth y mae fy ngrŵp eisiau ei weld. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd y mater hwn o ddifrif, oherwydd mae hyn yn rhywbeth a allai wir ddigwydd i blant agored i niwed.

Mae'r Aelod yn gwneud cysylltiad rhwng ymfudwyr anghyfreithlon a chynllun Rwanda a'r cynllun treialu i bobl sy'n gadael gofal ar incwm sylfaenol cyffredinol, ac rwy'n credu bod yr ymgais i wneud hynny yn wirioneddol warthus—yn wirioneddol warthus. Nid wyf i'n credu y bydd cynllun Rwanda yn effeithiol. Mae hyd yn oed y Swyddfa Gartref yn cydnabod mai dim ond tua 1 y cant o'r bobl sy'n ceisio lloches yn y DU y gallan nhw eu symud trwy gynllun Rwanda. Mae hwnnw'n fater cwbl ar wahân, fodd bynnag, i'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal. Plant sy'n ceisio lloches yw'r rhain, rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein gwlad gyfan. Mae'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol yn ymwneud â sut y gallwch chi gefnogi pobl yn well i wneud dewisiadau, i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n cael eu gadael yn agored i niwed, i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n cael eu pardduo gan leisiau yn ein gwleidyddiaeth nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffeithiau.

A dweud y gwir, mae'r ffaith bod niferoedd sylweddol wedi manteisio ar y cynllun—. Roedd sesiwn graffu'r Prif Weinidog ddefnyddiol ac adeiladol iawn, rwy'n credu, ar bobl sy'n gadael gofal a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, a'r her genedlaethol sydd gennym ni o hyd i wneud yn siŵr bod gan bobl sy'n gadael ein system ofal well dyfodol o ganlyniad iddi. Nid ydym ni'n gwneud digon eto i ddarparu'r dyfodol hwnnw y mae'r plant a'r bobl ifanc hynny yn ei haeddu. Dyna pam rydym ni wedi ymrwymo i raglen ddiwygio a dyna pam mae'r cynllun treialu pobl sy'n gadael gofal yn rhan ohoni. Rwy'n falch iawn ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi dewis gwneud hynny.

Mae hyn yn ymwneud â gwella canlyniadau i'n plant mwyaf agored i niwed, a byddwn yn gofyn i James Evans, yr wyf i'n credu mewn gwirionedd sydd eisiau gweld canlyniadau gwell i bobl agored i niwed sy'n gadael gofal yn ein cymdeithas, i feddwl eto am y cysylltiad a wnaeth ac i fyfyrio ar hynny, a meddwl, pan fydd yn cyfarfod pobl sy'n gadael gofal nesaf, pan fydd yn siarad am y cynllun treialu incwm sylfaenol nesaf, pa un a yw'n barod i edrych ar y rhan well o bwy ydyw ac y mae eisiau ei fod, ac i beidio â gwneud cysylltiad mor warthus eto, ac i feddwl am sut rydym ni'n cynorthwyo'n well y bobl sy'n rhan o'n gwlad i fod yn rhan lwyddiannus o'n dyfodol.

14:15

Hoffwn ddiolch i Jane Dodds am godi'r cwestiwn pwysig yma. Y gwir amdani yw bod dyhead Cymru i fod yn genedl noddfa yn cael ei danseilio'n llwyr gan y ffaith nad oes gennym y grym i'w wireddu'n llawn. Mae Cymru nawr yn rhan o weithredu cynllun sy'n torri cyfraith ryngwladol ac yn tanseilio hawliau dynol. Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn dweud y bydd y cynllun yn arwain at risg uwch o drawma ac ecsploetio pobl sy'n ceisio noddfa.

Mi oeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n dweud y byddai Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn San Steffan yn diddymu'r Ddeddf, ond pa sgyrsiau sy'n digwydd rhwng eich Llywodraeth chi a'r Llywodraeth arfaethedig yna ar allu Cymru i estyn croeso i'n brodyr a'n chwiorydd ni, pan fo nhw'n sôn am greu returns and enforcement unit o 1,000 o swyddogion? Dyna sy'n mynd i fod yn ganolog i'w cynlluniau nhw. Ac yn ôl yr hyn a glywais i yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf, byddan nhw'n sicrhau mwy o hediadau yn hedfan i wledydd eraill.

Brif Weinidog, ai, fel y dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur dros Aberafan yn San Steffan, ar sail diffyg fforddiadwyedd a diffyg ymarferoldeb yn unig y mae Llafur yn gwrthwynebu cynllun Rwanda, neu ydych chi'n credu bod angen creu llwybrau diogel a chyfreithlon i Gymru, a chroeso a chefnogaeth yma i bawb sy'n ceisio noddfa?

Gyda pharch, dydw i ddim yn cytuno â disgrifiad yr Aelod o'r hyn y mae'r Aelod Seneddol dros Aberafan wedi'i ddweud, a'n safbwynt ni o ran nodi bod y cynllun yn ddrud iawn ac yn anymarferol. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol ei fod wedi bod â llawer i'w ddweud am chwalu model economaidd smyglwyr pobl—sut y gallwn ni wneud hynny ac, yn wir, sut y gallwn ni gael llwybrau diogel a chyfreithlon. Oherwydd mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig—nid Llywodraeth Cymru, ond Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig—wedi disgrifio dull presennol Llywodraeth y DU fel un sy'n gyfystyr â gwaharddiad effeithiol ar loches. Nid dyna lle y dylen ni fod, fel cenedl wâr. Rwy'n hyderus y gallwn ni wneud yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gael system loches effeithiol a fydd yn cynnwys asesu a oes rhesymau da dros hawliadau lloches pobl, ac os nad oes, yna mae'n rhaid bod gennych chi'r gallu i ddychwelyd pobl i wahanol wledydd.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi hefyd fod yn dosturiol ac yn barchus o fewn hynny. Rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth newydd ar lefel y DU yn diddymu'r ddeddfwriaeth bresennol yr wyf i'n ei hystyried yn ffiaidd ar lefel bersonol, ond sydd hefyd yn anymarferol ac na fydd yn cyflawni yn erbyn yr honiadau sy'n cael eu gwneud ar ei chyfer. Rwyf eisiau dull polisi rhesymegol a chall ar hyn, ac rwy'n credu mai dyna fyddwn ni'n ei gael ar ôl etholiad cyffredinol nesaf y DU.

Adfywio Canol Trefi

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o adfywio canol trefi yn etholaeth Caerffili? OQ61047

Diolch am y cwestiwn. Ers mis Ionawr 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £36 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi mewn prosiectau i gefnogi adfywio canol tref Caerffili. Mae'r buddsoddiad hwn wedi cael ei ysgogi gan y gwaith o ddatblygu cynllun creu lleoedd gweledigaeth Caerffili 2035, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

14:20

Mae'n dda iawn gweld bod y Prif Weinidog yn gwybod y diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerffili. Rydyn ni wedi gweld arweinyddiaeth y dirprwy arweinydd, y Cynghorydd James Pritchard, yn arbennig, ac rydyn ni wedi gweld digwyddiadau ar draws bwrdeistref Caerffili. Cafodd Bargod ddigwyddiad hynod lwyddiannus y llynedd, ac yn wir, roedd yn ymddangos bod pobl o bob rhan o'r de-ddwyrain yn dod i'w weld. Mae gan ganol ein trefi lawer i'w gynnig o hyd. Mae gennym ni hefyd farchnad Ffos Caerffili, sydd wedi cael ei hagor yn dilyn, rwy'n credu, £2.69 miliwn o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Yn rhyfedd iawn, cafodd ei bychanu gan gynghorwyr Plaid Cymru; wn i ddim pam. Gobeithio y byddan nhw'n newid eu meddwl nawr eu bod nhw wedi gweld ei bod yn llwyddiant mor ysgubol. Mae'n amlwg mai'r bartneriaeth hon rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a busnesau yw'r ffordd ymlaen i ddatblygu'r economi sylfaenol a chysylltiadau trafnidiaeth. A wnaiff ymrwymo y bydd y dull gweithredu sydd wedi digwydd yng Nghaerffili yn digwydd mewn trefi eraill yn fy etholaeth i a ledled Cymru?

Mae'n enghraifft dda iawn, Ffos Caerffili, o'r hyn yr ydyn ni eisiau gwneud mwy ohono; i feddwl am sut y bydd ein gallu ni i adfywio canol trefi yn denu pobl i mewn iddyn nhw mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac mae pobl wir yn ei gwerthfawrogi hefyd. Felly, mae'r gwaith yn nhref Caerffili ei hun yn rhan o'r dull yr wyf i eisiau ei gymryd, nid yn unig mewn trefi eraill yn ei etholaeth, ond ar sail llawer ehangach. Rwy'n gweld yr Aelod dros Flaenau Gwent wrth ei ymyl a all fod eisiau i ddull tebyg gael ei gymryd yn ei etholaeth ef. Rwy'n credu ei bod yn bwysig edrych ar yr hyn sydd wedi gweithio a pham, ac mae'n ymwneud â'r bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a'r Llywodraeth o ran deall eu rôl wrth nodi gweledigaeth strategol a sut y gallwn ni eu cefnogi nhw. Bydd dull mwy rhesymegol o ran ffynonellau ariannu yn ein helpu ni i wneud hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gweld bod llawer o bethau da i'ch denu chi i sir Caerffili a'r dref ei hun. Rwyf hefyd yn falch, o ran hynny, o'r buddsoddiad yr ydyn ni'n ei wneud yn y castell hefyd—magned mawr i dynnu pobl i mewn i'r dref. Er, wrth gwrs, mae rhai pobl yn gadael Caerffili, ond dydyn nhw byth yn anghofio o ble maen nhw wedi dod yn wreiddiol. Mae'n wych gweld rhai o fy etholwyr i yn yr oriel heddiw hefyd.

Perfformiad Trafnidiaeth Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad Trafnidiaeth Cymru? OQ61077

Gwnaf. Mae perfformiad Trafnidiaeth Cymru wedi gwella'n ddramatig yn ystod y misoedd diwethaf. Mae ein buddsoddiad o £800 miliwn mewn trenau newydd ledled Cymru yn golygu bod ein gwasanaethau'n fwy dibynadwy, ac mae canlyniadau perfformiad Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn well na phob gweithredwr rheilffordd arall yng Nghymru yn ystod 2024—ffaith yr wyf yn siŵr y bydd yr Aelod eisiau ei chroesawu.

Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud bod yna ystumio gwych yn y fan honno, os clywais i hynny erioed. Yn amlwg, dydy eich sylwadau ddim yn cyd-fynd â barn ddamniol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Nid fy ngeiriau i yw'r rhai sy'n mynd i ddod allan o fy ngheg, rhai'r pwyllgor ydyn nhw. Mae ei adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru wir yn creu darlun gwahanol iawn, iawn. Mae perfformiad Trafnidiaeth Cymru wedi'i nodweddu gan gyfraddau canslo gwasanaethau uchel a sgoriau boddhad isel gan deithwyr. Dydy paentio'r darlun am fis ddim yn ddigon da, Prif Weinidog. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain, unwaith eto barn y pwyllgor ydyw. Daeth y pwyllgor i'r un casgliad â llawer ar draws y wlad hefyd, sef nad yw perfformiad Trafnidiaeth Cymru yn ddigon da. Mae llawer yn yr adroddiad i gnoi cil arno, ond fe dynnodd sylw hefyd at achosion o etholwyr yn cael eu gadael ar blatfformau gwag, weithiau hyd yn oed yng nghanol y nos, ac wedi'u gadael i ddod o hyd i'w ffordd eu hunain adref. Nid yw'n syndod bod yr adroddiad hefyd yn nodi darpariaeth reilffordd annigonol pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal.

Yng ngoleuni'r hyn yr wyf i newydd ei ddweud, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, fel y mae pethau'n sefyll, nad yw preswylwyr yn cael y gwasanaeth rheilffordd y maen nhw'n ei haeddu? A pha gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd nawr i sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud, a'u gwneud yn ddiffuant? Diolch.

Rwy'n cytuno bod yna ormod o lawer o deithwyr ar wasanaethau rheilffordd yng Nghymru nad ydyn nhw'n cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu. Nid yw pobl sy'n cael trafferth ar wasanaethau Great Western Railway yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu—cyfran llawer uwch o drenau yn cael eu canslo ac, yn wir, yn rhedeg yn hwyr na gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Nid yw teithwyr Avanti West Coast yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu—cyfran llawer, llawer uwch o drenau yn cael eu canslo ac yn rhedeg yn hwyr o gymharu â Trafnidiaeth Cymru.

Rwy'n falch o'r daith tuag at wella sy'n cael ei chadarnhau yn y ffigurau ar gyfer mis Mawrth ac, yn wir, ar gyfer mis Ebrill, sy'n dangos bod Trafnidiaeth Cymru yn mynd i'r cyfeiriad cywir o ran gwella gwasanaethau yng Nghymru, gyda bron i 84 y cant o drenau yn cyrraedd o fewn tair munud i'r amser a drefnwyd. Byddai'n dda gennyf pe byddai'r Aelod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd a pheidio â chwilio am adroddiadau sy'n disgrifio'r gorffennol, yr ydyn ni'n cydnabod yr oedd angen ei wella, mewn cyferbyniad uniongyrchol â'r masnachfreintiau hynny y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt. Mae'n mater o ffaith, nid barn, mai Trafnidiaeth Cymru yw'r fasnachfraint sy'n perfformio orau yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o ddweud hynny.

14:25
Perfformiad Avanti West Coast

8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Avanti West Coast ynghylch eu perfformiad yn y gogledd? OQ61045

Mae gwasanaethau Avanti West Coast yn darparu cysylltiadau hanfodol ar draws y gogledd i ogledd-orllewin Lloegr, canolbarth Lloegr a Llundain. Rwy'n bryderus iawn am eu dibynadwyedd gwael. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ag Avanti yn rheolaidd, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi gofyn am gyfarfod brys gyda'i reolwr gyfarwyddwr.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mae perfformiad gwael trenau Avanti yn y gogledd yn peri pryder mawr, fel y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud. Ym mis Mawrth eleni, cafodd 21 y cant o wasanaethau eu canslo. Rydw i, yr Aelod Seneddol lleol Mark Tami, a defnyddwyr trenau yn y gogledd wedi cael llond bol ar weithredwr sy'n ymddangos fel pe na bai'n gallu datrys pethau. Prif Weinidog, a wnewch chi ddefnyddio eich swydd, yn ogystal â swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, i bwysleisio i Avanti pa mor annerbyniol yw'r sefyllfa hon i drigolion yn y gogledd? Ac a ydych chi'n cytuno bod esiampl Avanti yn tanlinellu ymhellach bwyntiau Llafur y DU bod angen newid ar lefel y DU? Diolch.

Ydw, rwy'n hapus i nodi y byddaf, wrth gwrs, yn cefnogi Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn llawn wrth edrych i weld gwelliant brys ym mherfformiad Avanti West Coast. Mae mwy nag un o bob pump o'i wasanaethau yn cael eu canslo. I'r gwrthwyneb, dim ond 2.4 y cant o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru a gafodd eu canslo yn yr un cyfnod.

Nawr, mae hynny'n ffaith nad oes modd ei hanwybyddu, a bydd yr Aelod a'i etholwyr, rwy'n ofni, yn ddarostyngedig i'r perfformiad gwael iawn hwnnw gan Avanti West Coast. Mae'n ymddangos bod Avanti yn poeni mwy am wella ei wasanaethau i Fanceinion ac i Lerpwl nag ydyw i Landudno, Bangor a Chaergybi, ac mewn gwirionedd prin fod Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn sôn am ochr y fasnachfraint yng Nghymru.

Rwyf eisiau gweld gwelliant gwirioneddol yn cael ei wneud, buddsoddiad gwirioneddol yn cael ei wneud. Rwyf eisiau gweld buddsoddiad gwirioneddol yn cael ei wneud gan Network Rail yn ogystal â'r fasnachfraint ei hun. Rwy'n credu bod newid yn ddymunol yn ogystal ag yn anochel. Rwy'n gobeithio y gall pobl edrych ar y buddsoddiad sylweddol yr ydyn ni wedi'i wneud yn Trafnidiaeth Cymru a chydnabod ei fod yn llwyddiant gwirioneddol erbyn hyn i deithwyr ym mhob rhan o Gymru. Mae'n gofyn am gynllun hirdymor a buddsoddiad hirdymor i gyflawni gwelliant gwirioneddol, fel yr ydyn ni eisoes yn ei weld o ran gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ledled Cymru.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf fydd y cyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Jane Hutt.

Diolch, Llywydd. Yr unig newid i fusnes yr wythnos yma yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn i ni gael dadl ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol y Bil Dioddedfwyr a Charcharorion. Mae busnes drafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busness, sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am iechyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr? Gwyddom fod cyn-filwyr yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth hwn yn fawr, ac yn y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, yr wythnos diwethaf, cawsom yr wybodaeth ddiweddaraf ar y gwasanaeth gan Neil Kitchener sef, wrth gwrs, y clinigydd arweiniol. Un o'r heriau y mae'r gwasanaeth hwnnw yn eu hwynebu, yn ôl pob golwg, yw bod diffyg cymorth mentora cymheiriaid ar gael nawr yng Nghymru, ac mae'n dipyn o loteri cod post o ran a yw'r mentoriaid cymheiriaid hynny wedi'u hymgorffori yn GIG Cymru i Gyn-filwyr. Rwy'n teimlo, ac roedd y grŵp trawsbleidiol yn teimlo, ei bod yn bwysig iawn sicrhau bod y mentoriaid cymheiriaid hynny wedi'u hymgorffori yn y GIG yng Nghymru, ym mhob un bwrdd iechyd. Byddai hynny'n costio tua £0.5 miliwn y flwyddyn. Rwy'n gwybod bod arian yn dynn, ond mae hwn yn fuddsoddiad gwerth chweil oherwydd, wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod bod cyn-filwyr sy'n dioddef o bethau fel anhwylder straen wedi trawma yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus a gallan nhw wneud defnydd sylweddol o wasanaethau cyhoeddus mewn ffyrdd eraill.

Ac yn ail, a gaf i hefyd alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y gost sylweddol o osod pobl â phroblemau iechyd meddwl y tu allan i Gymru? Gwyddom fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dim ond yn ystod tri mis cyntaf eleni, wedi gwario dros £3.5 miliwn yn anfon pobl o'r gogledd i gael gofal mewn rhannau eraill o'r wlad. Cysylltodd etholwr â mi yn ôl ym mis Chwefror, y cafodd aelod o'i deulu wely iechyd meddwl yn Durham am nad oedd capasiti yn y gogledd. Yn amlwg, mae hynny'n annerbyniol. Mae angen i ni sicrhau bod pobl yn cael eu trin mor agos i'w cartref â phosibl. Rwy'n derbyn bod gwasanaethau arbenigol, weithiau, y gallai fod angen i bobl gael mynediad atyn nhw, ond roedd hwn yn wely iechyd meddwl cyffredinol i glaf mewnol, a dylai hwnnw fod wedi bod ar gael yn y gogledd. Rwy'n bryderus iawn nad oes capasiti yn ein GIG, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i allu gofalu am bobl yn y rhanbarth. Felly, a gawn ni ddatganiad ar hynny hefyd? Diolch. 

14:30

Diolch yn fawr, Darren Millar. Mae'r rhain yn ddau gwestiwn pwysig iawn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ond i Weinidogion hefyd. O ran yr wybodaeth ddiweddaraf a roesoch am wasanaethau i gyn-filwyr, rwy'n credu y gallwn ni i gyd fod yn falch iawn o'r gwasanaeth sy'n cael ei gyflwyno—gwnaethoch chi glywed yr adroddiad hwnnw—ac ymrwymiad y bwrdd iechyd iddo, yn aml mewn partneriaeth â llywodraeth leol. Oherwydd rydyn ni'n gwybod bod yna groesi o ran iechyd a lles. Dyna lle, mewn gwirionedd, mae cysylltiad clir â'r cwestiwn nesaf hefyd, oherwydd mae'r gefnogaeth i fentoriaid cymheiriaid yn bwysig. Rydyn ni'n gwybod ei fod ar gael, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i hyn ymwneud â sut mae modd cael y gorau o hyn. Hoffwn sôn—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol—am y nifer o fudiadau gwirfoddol sy'n chwarae eu rhan yn hyn, nid dim ond y Lleng Brydeinig Frenhinol. Yn fy etholaeth i mae Woody's Lodge, er enghraifft, ac mae e' hefyd yn y gogledd. Ond, yn amlwg, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet a Gweinidogion yn ystyried hyn.

Rwy'n credu—ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cydnabod—o ran ein Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, bod iechyd meddwl yn un o'n prif flaenoriaethau. Oes, mae pwysau ar wasanaethau, ond mae'n cael ei gydnabod bod hwn yn fater sy'n cael sylw, yn wir, ar gyfer pob cenhedlaeth, ac i fyrddau iechyd gymryd hyn fel blaenoriaeth. Mae'n bwysig cydnabod mesurau perfformiad iechyd meddwl. Rwy'n edrych ar y ganran ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, ac mae'n bwysig gweld bod ymyriadau therapiwtig yn dechrau digwydd canran yn uwch na misoedd blaenorol o ran nifer y dyddiau y mae'n rhaid aros am hynny. A hefyd, canran y cleifion sy'n cael gofal iechyd meddwl eilaidd ac sydd â chynllun gofal a thriniaeth dilys—o ran y ganran, rydyn ni'n cydnabod bod hynny'n flaenoriaeth. Ond, yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth y bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar yn adrodd arno.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ddyfodol Opera Cenedlaethol Cymru. Mi ddaw hyn yn sgil cyhoeddi llythyr a ysgrifennwyd gan y gantores Elizabeth Atherton, ac a arwyddwyd gan dros 170 o bobl, sy'n honni bod y gostyngiad o 35 y cant yn yr arian gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ac 11.8 y cant gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn ddinistriol i'r genedl. Mae'r llythyr yn gofyn i Lywodraeth Cymru gwrdd â chynrychiolwyr y WNO a'r Ysgrifennydd diwylliant yn Lloegr i drafod sut mae modd cadw'r cytundeb ariannu trawsffiniol a rhoi pecyn ariannol brys i'r ddau sefydliad. A gaf i ofyn am ddatganiad yn ymateb i hyn? Pa gamau mae'r Llywodraeth am eu cymryd i ymateb?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu, Heledd Fychan, ein bod ni i gyd yn cydnabod y pwysau a'r anawsterau. Yn wir, rydyn ni'n gwybod o ble mae'r pwysau a'r anawsterau hynny'n dod, o ran ein setliad ariannol echrydus gan Lywodraeth y DU ar ôl 14 mlynedd o gyni. Rwyf hefyd yn cydnabod y gwaith gwych y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ei wneud. Rwy'n credu bod rhai ohonon ni, efallai, wedi bod i weld rhai o'r perfformiadau ysbrydoledig mwy diweddar, fel Death in Venice, oedd hefyd yn rhywbeth lle'r oedd yr awditoriwm dan ei sang—nid yn unig yma yng Nghymru, ond mewn mannau eraill. Mae hwn yn gwestiwn pwysig ac rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd diwylliant yn cyfarfod â nhw. Oherwydd eu bod nhw'n perfformio y tu allan i Gymru hefyd, yn Lloegr, mae'n bwysig iawn bod cydnabyddiaeth o ble mae cyllid cynghorau celfyddydau—nid yn unig yma, ond yn Lloegr—yn dod.

Trefnydd, cafwyd adroddiadau bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn destun hac sylweddol gan weithredydd twyllodrus, fel y'i gelwir, yn ystod yr wythnosau diwethaf. A allwch chi gadarnhau neu gyhoeddi pa wybodaeth sydd wedi'i pheryglu a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau na fydd rhywbeth fel hyn yn digwydd eto?

Yn ail, cafwyd adroddiadau bod dau garcharor arall wedi marw dros nos yng ngharchar y Parc yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd y dynion yn 19 oed a 73 oed, ac mae hyn yn golygu bod cyfanswm o naw marwolaeth sydyn wedi bod yng ngharchar y Parc yn ystod y tri mis diwethaf. Mae pob un o'r carcharorion, yn dechnegol, yn etholwr i mi, ac mae disgwyl i mi gwrdd â llywodraethwr y carchar yn fuan i drafod y saith marwolaeth flaenorol, ond mae wir yn teimlo bod rhywbeth mawr o'i le. Felly, rwy'n gofyn a all Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, sydd wedi gwrthod yn gyson i wneud sylw ar yr argyfwng a chamu i mewn ar reolaeth G4S. Mae hyn wir yn teimlo fel ei fod yn mynd allan o reolaeth. Diolch.

14:35

Diolch, Sarah Murphy. Diolch am dynnu sylw at y digwyddiad seiberddiogelwch difrifol hwnnw. A dweud y gwir, rwy'n credu mai ar 22 Ebrill y digwyddodd hynny. Felly, i dawelu meddwl yr Aelod a'i chyd-Aelodau ac Aelodau'r Senedd bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n gyflym gyda Chanolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU. Wrth gwrs, ymgysylltiad trawslywodraethol yw hwn, gyda thimau fforensig yn ymchwilio i'r digwyddiad. Mae'r ymchwiliadau hynny wedi'u cwblhau, ac, yn annibynnol, maen nhw wedi cadarnhau nad oes unrhyw dystiolaeth bod gwybodaeth sy'n cael ei chadw ar ein rhwydwaith wedi'i pheryglu. Ond, yn amlwg, mae gwendid byd-eang wedi'i ddatgelu yma. Rydyn ni'n cymryd hyn o ddifrif ac rydyn ni'n adolygu ein rheolaethau seiberddiogelwch i benderfynu a oes angen mesurau amddiffynnol ychwanegol.

O ran y marwolaethau yng ngharchar y Parc, mae'n drist, on'd yw e, i glywed, unwaith eto, am y marwolaethau—trist iawn—yng ngharchar y Parc. Mae'n drasig i'w teuluoedd ac i'r oedolion hynny—maen nhw'n ddynion ifanc, yn yr achos hwn. Wrth gwrs, rydych chi'n cydnabod mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am redeg y carchardai ac nad yw wedi'i ddatganoli i Gymru, ond rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ac yn rhyngwynebu â charchardai mewn meysydd datganoledig fel iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae gennym ni gyfrifoldebau. Hoffwn sicrhau Sarah Murphy bod Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru wedi cyfarfod i drafod y marwolaethau trasig, ac mae cyfres o gamau gweithredu y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflwyno i helpu i liniaru'r risg o niwed yn y dyfodol. Ond, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth lle, yn fy rôl flaenorol, fe wnes i ymweld â charchar y Parc, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ei hun yn cynnal ymweliad o'r fath, i sicrhau bod y rhyngwynebu hynny'n digwydd, ac y gallwn ni hefyd ddwyn y rhai sy'n rhedeg y gwasanaethau hynny fel yr un yng ngharchar y Parc i gyfrif.

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gymorth i fenywod a merched sydd ag awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Gwnaeth adroddiad Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, 'Understanding the Experiences of Autistic and ADHD Women', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, sy'n cynnwys profiadau bywyd menywod niwroamrywiol, ddarganfod, er enghraifft, bod 90 y cant o'r rhai a wnaeth ymateb i'r arolwg wedi mynegi diffyg ymwybyddiaeth o fenywod a merched awtistig mewn lleoliadau gofal iechyd, a bod 75 y cant yn teimlo nad oes digon o gymorth ar gael i unigolion awtistig a'u teuluoedd. Mae'r elusen KIM Inspire, sydd wedi'i lleoli yn y gogledd, hefyd wedi cyhoeddi canfyddiadau ei phrosiect ymchwil chwe mis yn 2023, 'Supporting neurodivergent girls and young women across north-east Wales'. Roedd y rhain yn cynnwys bod symptomau awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd mewn merched a menywod ifanc yn parhau i gael eu hanwybyddu gan wasanaethau statudol, bod rhieni yn cael eu beio'n aml, a bod diffyg cydnabyddiaeth a chymorth priodol yn arwain at lefelau uchel o ofid, hunan-barch isel ac ymddygiadau hunan-niweidio. Mae'r ddau adroddiad eisiau gweld camau gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i wella'r broses o wneud diagnosis i fenywod a merched, i sicrhau bod mwy o gymorth ar gael ar ôl diagnosis, ac i helpu i chwalu'r stigma a'r rhagfarn y mae gormod o fenywod awtistig a menywod ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd yn parhau i'w hwynebu. Rwy'n galw am ddatganiad llafar yn amser Llywodraeth Cymru ar y mater hanfodol bwysig hwn yn unol â hynny.

14:40

Diolch yn fawr. Diolch am dynnu sylw at hyn, a hefyd am gydnabod rôl Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched a'r gwaith ymgyrchu y maen nhw'n ei wneud ar ran menywod a'r sylw sydd wedi'i roi yn yr adroddiad hwn i anghenion menywod awtistig a menywod sydd â diagnosis o anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd a'r anghenion sydd ganddyn nhw fel menywod niwroamrywiol yn ein cymuned. Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn clywed yr adborth hwnnw gan eich elusen yn y gogledd. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn ystyried hyn. Byddaf yn tynnu hyn at ei sylw o ran yr ymateb, sy'n gorfod bod yn ymateb cyson ar draws Cymru. Ond mae'n amlwg, yng nghyd-destun y ffyrdd yr ydyn ni'n cefnogi ac yn ymateb i anghenion pobl niwroamrywiol o bob cenhedlaeth a rhywedd yng Nghymru. 

A gaf i ofyn am ddatganiad ar lawr y Siambr yma, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am gynlluniau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r pwysau anferthol sydd ar adrannau brys yn ein hysbytai ni? Heddiw, rydyn ni wedi clywed fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi datgan rhybudd coch. Dwi newydd ddarllen fod Cwm Taf Bro Morgannwg wedi datgan rhybudd hefyd ynghylch pwysau yn yr adrannau brys yn yr ysbytai yn fanna. Fis yn ôl, fe gyhoeddodd Ysbyty Treforys rybudd du hefyd. Rydyn ni wedi clywed am y rhybuddion yma yn gyson yn ystod y gaeaf ar adegau o bwysau anferthol y gaeaf, ond maen nhw'n dod yn bethau amlycach ar adegau tu allan i'r gaeaf erbyn hyn. Dwi eisiau rhoi ar y record, gyda llaw, fy niolch i i adran frys Glan Clwyd yn dilyn eu gofal am fy mab yn ddiweddar. Maen nhw yn gwneud gwaith rhagorol, ond maen nhw o dan bwysau aruthrol. Felly, a gawn ni ddiweddariad, os gwelwch yn dda, gan yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch pa gamau sy'n cael eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau yma?

Diolch yn fawr, Mabon ap Gwynfor. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod chi wedi gorffen trwy ddiolch i'r bobl hynny sydd ar y rheng flaen o ran darparu'r gofal brys hwnnw. O edrych ar ffigurau mis Mawrth, yn amlwg, mae ein system dan straen enfawr. Mae'r GIG yn ymdrin â thua 2 filiwn o gysylltiadau bob mis. Nid yw dim o hynny'n cynnwys yr holl gysylltiadau drwy 111 neu'r holl gysylltiadau ag aelodau o staff iechyd meddwl, mamolaeth a diagnostig bob wythnos. Ond o ran adrannau brys, mae'n bwysig nodi, ym mis Mawrth 2024, bod 2,962 o bobl wedi mynychu'r adrannau hyn yn ddyddiol ar gyfartaledd, i fyny 74, ond cafodd 67.5 y cant o bobl eu gweld, eu trin a'u rhyddhau o fewn pedair awr, a'r amser canolrif yn yr adran oedd dwy awr a 47 munud. Felly, yn amlwg, rydyn ni'n sicrhau ein bod ni'n monitro hyn, ond mae'n rhaid cydnabod y cynnydd rydym yn ei weld yn y pwysau ar ein hadrannau brys o ran y ffyrdd yr ydym yn ymateb iddo. Ond, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ystyried wrth edrych ar y ffigurau hyn. 

Hoffwn ofyn am ddatganiad ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo pleidleisio mewn etholiadau ledled y DU, yn enwedig ymhlith pobl ifancach yma yng Nghymru. Fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, yr wythnos diwethaf, oedd y tro cyntaf yng Nghymru pan oedd yn rhaid i bleidleiswyr ddangos prawf adnabod er mwyn pleidleisio. Roedd rhestr o bethau y gallai pobl hŷn eu cyflwyno i ddangos pwy oeddent: pàs bws, cerdyn Oyster 60+, Senior SmartPass—pob un yn fath derbyniol o brawf adnabod. Ond fe ddaeth pobl ifancach ataf yn fy etholaeth i ddweud eu bod yn teimlo wedi'u difreinio ac nad oedden nhw'n cael eu hystyried yn flaenoriaeth, oherwydd doedd dim unrhyw fathau penodol o ddogfennau adnabod y gallen nhw eu dangos, fel cerdyn rheilffordd i berson ifanc neu gerdyn adnabod myfyriwr, efallai. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad ynghylch pa syniadau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella a gwneud i bobl ifancach deimlo ein bod ni eisiau eu gweld nhw'n pleidleisio, sy'n rhywbeth yr ydym wedi'i ddangos, wrth gwrs, yn ein deddfwriaeth yma wrth gyflwyno pleidleisiau i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn etholiadau lleol ac etholiadau'r Senedd. 

Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw a'r adborth yr oeddech chi'n ei gael, ac rwy'n siŵr yr oedd llawer ohonon ni ar draws y Siambr yn ei gael, yn enwedig ar y diwrnod pleidleisio. Rwy'n falch bod y Cwnsler Cyffredinol yma i glywed am y mater hwn, gan mai etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ddydd Iau diwethaf oedd y cyntaf yng Nghymru lle'r oedd angen i bleidleiswyr ddangos prawf adnabod. Rydyn ni'n credu, fel y gwnaethon ni ei ddweud fel Llywodraeth Cymru, ac rwy'n credu bod hyn yn cael ei rannu gyda'n cyd-Aelodau ar draws y Siambr—dydyn ni ddim yn gwybod ar yr ochr honno—bod y gofyniad i ddangos prawf adnabod i bleidleisio yn niweidiol i ddemocratiaeth. Mae'r gofyniad i ddangos prawf adnabod i bleidleisio yn niweidiol i ddemocratiaeth. Mae'n creu mwy o rwystrau, mae'n creu dryswch, cymhlethdod, ac o ran y math o brofion adnabod a oedd yn cael eu cyflwyno, roedd pobl yn gofyn drwy'r amser. Dydy e ddim yn cryfhau democratiaeth Cymru; mae'n ei gwneud hi'n anoddach i bobl bleidleisio. Roedd hyn yn hollol groes i'n penderfyniad i estyn y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys, a'n fframwaith clir ar gyfer diwygio etholiadol. A dweud y gwir, mae hyn yn ennill enw da ledled y DU, rwy'n credu, Cwnsler Cyffredinol, o ran ein hagenda o foderneiddio ac annog cyfranogiad. Felly, gadewch i ni edrych ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) sydd gerbron y Senedd. Dyma'r cam nesaf yn ein hymrwymiad i foderneiddio a diwygio etholiadau Cymru, gwella hygyrchedd, sicrhau bod pobl yn gallu ymgysylltu â system etholiadol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac edrych yn benodol, fel y gwn y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y Bil wedi bod yn ei wneud, ar gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i'w hannog i gyfranogi, gan gynnwys trwy grant ymgysylltu democrataidd.

14:45

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch mynediad at wasanaethau meddygon teulu. Fel yr adroddwyd eisoes, mae'r partner meddyg teulu ym Meddygfa Dewi Sant yn fy etholaeth i wedi dychwelyd y contract ar gyfer y feddygfa i'r bwrdd iechyd, ac mae hynny wrth gwrs yn bryder enfawr i gleifion. Yn fy marn i, dylai'r bwrdd iechyd fod wedi cynllunio ar gyfer hyn a dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill fel Solfach, er enghraifft. Felly, mae'n bwysig nawr bod y bwrdd iechyd yn sicrhau bod datrysiad hirdymor ar waith fel bod pobl leol yn gallu cael mynediad at feddyg teulu yn eu cymuned. Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn eu cymunedau lleol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallen ni gael datganiad ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol sy'n dweud wrthyn ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at feddyg teulu yn eu hardal leol.

Diolch am y cwestiwn pwysig hwnnw, Paul Davies. O edrych yn benodol ar rai o'r materion yn eich ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o ran gwasanaethau meddygol cyffredinol, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gweld—. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwy'n gwybod bod y wasg wedi rhoi rhywfaint o sylw i nifer bach o bractisau a symudodd i gau rhai o'r practisau. Ond, ym mis Chwefror, fe lwyddodd y bwrdd iechyd i benodi partneriaeth meddygon teulu newydd i gymryd drosodd y contract i ddarparu'r gwasanaethau gofal sylfaenol hynny i gleifion yn Cross Hands a'r Tymbl. Mae'n rhaid i chi groesawu, ac mae'n ardal ehangach, bartneriaeth Aman Tawe, tîm amlddisgyblaethol profiadol sydd â record dda.

A gaf i fanteisio ar y cyfle, Llywydd, ar yr adeg hon, i ddweud ein bod ni'n dathlu 25 mlynedd o ddatganoli heddiw? Un o'r pethau cyntaf wnaethon ni—ac rwy'n credu efallai y bydd cyd-Aelodau 1999 yn cofio—ac a oedd mewn gwirionedd yn fenter drawsbleidiol, oedd datblygu menter gofal llygaid Cymru, lle'r oeddem wedi gallu sefydlu bod optometryddion yn gallu cyfeirio pobl yn uniongyrchol at ofal eilaidd. Rwy'n gwybod y bydd y cyn Brif Weinidog yn cofio hyn hefyd. Mae wedi bod yn drawsnewidiol. Dyma'r hyn sydd angen i ni ei wneud pan fyddwn ni'n siarad am wasanaethau gofal sylfaenol. Mae angen i ni siarad am atal, mae angen i ni weld rolau'r holl weithwyr iechyd proffesiynol eraill hyn. Mewn gwirionedd, mae yn y contract newydd ar gyfer optometryddion erbyn hyn, fel bod hyn yn llai o bwysau ar ofal sylfaenol. Mae optometryddion ar ein strydoedd mawr yn gallu cyfeirio pobl yn uniongyrchol at ofal eilaidd. Dim ond un enghraifft yw honno a fydd, rwy'n siŵr, yn lleddfu'r pwysau ar wasanaethau gofal sylfaenol mewn ardaloedd gwledig.

Allaf i ofyn i'r Trefnydd am ddatganiad ysgrifenedig neu lafar ar y cynllun cymunedol yn Nhrelái yng Ngorllewin Caerdydd?

Llywydd, mae'n flwyddyn i'r mis hwn ers i ddau ddyn ifanc golli eu bywydau ar ystad Trelái mewn amgylchiadau a achosodd gymaint o bryder i'r gymuned leol. Un o'r pethau positif a ddigwyddodd oedd nawdd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun dan arweiniad y gymuned i wella gwasanaethau, yn enwedig i bobl ifanc ar yr ystad. Erbyn hyn, mae'r cynllun hwnnw yn y camau olaf o gael ei lunio ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi. Rwy'n credu y byddai'n helpu'r boblogaeth leol, Llywydd, pe bai Llywodraeth Cymru yn gallu tynnu ynghyd mewn un datganiad y gefnogaeth sydd wedi cael ei chynnig wrth lunio'r cynllun hwnnw gan Lywodraeth Cymru ac y gallai edrych ymlaen at roi'r syniadau a'r blaenoriaethau hynny sydd wedi cael eu cynhyrchu gan y gymuned ar waith.

14:50

Diolch yn fawr, Mark Drakeford. Mae hi wedi bod yn fraint cyd-gadeirio grŵp cyfeirio gweinidogol cymunedol allanol. Fe wnes i gyd-gadeirio'r grŵp, a gafodd ei sefydlu yn dilyn y digwyddiad trasig y llynedd. Fe wnes i ei gyd-gadeirio gyda Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd. Ond, y peth pwysicaf am gynllun cymunedol Trelái a Chaerau sydd ar ddod yw ei fod wedi cael ei ddatblygu gan y gymuned. Fel y dywedoch, cafodd Gweithredu yng Nghaerau a Threlái ei apwyntio'r llynedd i gydgysylltu'r gwaith o ddatblygu'r cynllun, ac mae wedi gweithio'n agos gyda sefydliadau lleol, y grŵp llywio lleol, gan ymgysylltu'n eang â thrigolion o bob oed. Ac edrychaf ymlaen at fynychu digwyddiad yr wythnos nesaf a chroesawu lansiad y cynllun.

Ond, yr hyn sy'n hanfodol bwysig yn fy marn i—ac yn amlwg, rydych chi, fel Aelod Senedd Gorllewin Caerdydd wedi dylanwadu ar hyn, ac fel y cyn Brif Weinidog—yw bod y cynllun cymunedol wedi'i wreiddio'n ddwfn yn anghenion a dyheadau pobl Trelái a Chaerau. Nid ein cynllun ni yw e; eu cynllun nhw yw e, ac wedi'i ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Ac, wrth gwrs, bydd y gymuned, gyda Chyngor Caerdydd, yn mynd ati i roi'r cynllun ar waith nawr, gyda chefnogaeth amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Ond, rwy'n credu y byddai'n briodol iawn, wedyn, bod datganiad yn cael ei wneud—bod datganiad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wneud ar y cynllun a'r ffordd ymlaen. Diolch.

Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar lygredd yn Afon Gwy. Mae datblygiadau eithaf sylweddol wedi bod yn ystod yr wythnos diwethaf gan grŵp sydd wedi gwneud cais am statws ymdrochi ar gyfer rhan o Afon Gwy, sydd wedi'i wrthod gan Lywodraeth Cymru. Mae cryn dipyn o eironi gan mai'r rheswm ei fod wedi cael ei wrthod yw er mwyn gwarchod bioamrywiaeth a'r ardal rhag gormod, efallai, o bobl, ac eto mae'r dŵr yn dal i fod wedi'i lygru'n sylweddol, ac mae pobl fel minnau'n dal i nofio ynddo. Felly, tybed a oes cyfle i ddod â phobl ynghyd i drafod y materion yn Afon Gwy a'r cais am statws ymdrochi, ac i weld a allwn ni symud ymlaen i wneud y dyfroedd yn lanach nid yn unig i mi ond i ymdrochwyr eraill sy'n mentro i'r afon. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Rwy'n credu eich bod chi'n cyfeirio fwy na thebyg at y rhan o'r Afon Gwy o'r enw 'the Warren', lle, wrth gwrs, fel y dywedoch, mae'n her anodd, on'd yw e, fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ardal gadwraeth arbennig, ac mae'n rhaid i effeithiau nofio, canŵio, cerdded gael eu hasesu, a rhaid i ganiatâd ar eu cyfer gael ei roi gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, fy nealltwriaeth i yw nad yw wedi'i dynodi'n ddŵr ymdrochi yn y tymor ymdrochi hwn, ond bydd yn cael ei hystyried ar gyfer ei dynodi yn y dyfodol. Ond, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig eisiau ymateb i'ch awgrym, eich cynnig y byddai modd dod â phobl ynghyd i ystyried yr anghenion rhyngweithiol hyn yn y rhan arbennig honno o Gymru, yr ydych chi'n ei thrysori ac rydyn ni'n ei thrysori, wrth gwrs, fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ond hefyd safle lle mae nofio, yn enwedig, yn cael ei fwynhau a'i werthfawrogi.

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr amserlenni disgwyliedig ar gyfer ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth sy'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi cael nifer o ddarnau o waith achos yn ddiweddar lle mae'n ymddangos nad yw'r amserlen 20 diwrnod sydd wedi'i nodi mewn deddfwriaeth i ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth gan aelodau o'r cyhoedd wedi cael ei dilyn. Un enghraifft o'r fath yw gan un o'm hetholwyr a gyflwynodd gais rhyddid gwybodaeth bron i ddau fis yn ôl o ran seilwaith ffermydd gwynt, a chamau gweithredu'r Gweinidog ar yr ymgynghoriad â'r cyhoedd. Gofynnodd y cais rhyddid gwybodaeth i rannu'r hyn yr oedd y Gweinidog neu unrhyw un arall o Lywodraeth Cymru wedi'i wneud ers 2020 i ddeall yr hyn sydd gan bobl yn eu meddyliau fel effaith seilwaith ffermydd gwynt sy'n dderbyniol neu'n annerbyniol. A dim ond un enghraifft yw hon lle nad yw'n ymddangos bod ymateb wedi'i roi, ond mae'n rhan o thema ehangach o oedi o ran ceisiadau rhyddid gwybodaeth a all ddechrau cwestiynu'r tryloywder. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad sy'n nodi'r disgwyliadau o ran yr amserlenni hyn y dylem ni ac aelodau'r cyhoedd eu disgwyl.

14:55

Rydyn ni'n gweithredu'n unol ag amserlenni deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth lle rydym yn cael llawer o geisiadau o ran rhyddid gwybodaeth, ond o ran ein hymatebion, maen nhw'n amserol, ac os oes unrhyw beth y gallaf adrodd yn ôl arno ar feysydd penodol, yna mae croeso i chi godi hynny gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dan sylw.

Trefnydd, mae rhagoriaeth yn weithgaredd celfyddydol allweddol sy'n seiliedig ar sgiliau, p'un a yw hynny'n ddawns, cerddoriaeth neu gelf weledol. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gyflwyno datganiad i'r Senedd ar gyflwyno strategaeth ddiwylliannol Cymru a'r amserlen ar gyfer gwerthuso neu adolygu? Ac yn olaf, hoffwn i alw, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar gyfer cerddoriaeth, am ddatganiad llawn i'r lle hwn ynghylch y sefyllfa dyngedfennol sy'n wynebu cyflogwr celfyddydau mwyaf Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, un o'i hallforion gorau, ar ôl i gyllid cenedlaethol gael ei dynnu'n ôl a'r cynllun trosfwaol ar gyfer ei oroesiad.

A gawn ni ddiolch i Rhianon Passmore am hyrwyddo'r celfyddydau—hyrwyddo'r celfyddydau mewn ysgolion, hyrwyddo'r celfyddydau yn y gymuned, hyrwyddo'r celfyddydau gwych yr ydyn ni wedi bod yn eu cydnabod yn gynharach y prynhawn yma hefyd o ran ein hopera, ein cerddorfeydd, a phopeth yr ydych chi wedi ymgysylltu ag ef? Yn sicr, rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yma yn y Siambr. Rwyf eisoes wedi dweud bod cyfarfodydd yn mynd rhagddynt yn y cyfnod arbennig o anodd a heriol hwn, yn enwedig i rai o'r sefydliadau hynny sy'n rhai o hoff sefydliadau Cymru. Felly, diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Rhianon, unwaith eto.  

Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Gweinidog iechyd o ran y chwe rhybudd coch sydd wedi'u datgan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch pwysau ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys? Rwy'n sylweddoli bod pwysau'n ddwys ar draws y Deyrnas Unedig mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ond mae cael dau fwrdd iechyd mawr yn datgan rhybuddion coch ar draws eu holl safleoedd damweiniau ac achosion brys yn eithaf digynsail—o fy nghof personol i, beth bynnag. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r byrddau iechyd hynny i ymdrin â'r pwysau hyn yr ydyn ni fel arfer yn eu cysylltu â misoedd y gaeaf, ond sy'n amlwg yn rhedeg drwy fisoedd yr haf hefyd erbyn hyn, oherwydd, yn amlwg, dydyn ni ddim eisiau bod pobl yn cael eu hatal rhag mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys, ond mae'n iawn bod pobl yn mynd i'r lleoliad cywir i ofyn am yr help sydd ei angen arnyn nhw. Ond, drwy gyhoeddi'r rhybuddion hyn, er eu bod yn rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd y mae'r adrannau damweiniau ac achosion brys yn eu gwasanaethu, dylen nhw ddim atal pobl rhag mynd yno os oes angen cymorth yr adran honno arnyn nhw.

Diolch am ofyn y cwestiynau hynny. Yn amlwg, fe wnes i ymateb i gwestiwn yn gynharach gan Mabon ap Gwynfor, ac fe siaradais bryd hynny am y pwysau cynyddol yr ydych chi wedi'u cydnabod. Nawr, dim ond i ddweud yr hyn yr ydyn ni'n ei ddisgwyl o ran ymateb cleifion mewn adrannau brys, rydyn ni'n disgwyl i bob claf sy'n mynychu adrannau brys yng Nghymru gael ei frysbennu gan glinigydd cyn gynted â phosibl—mae'n debyg bod llawer ohonon ni wedi cael y profiad hwnnw o'r brysbennu cyflym iawn hwnnw sy'n digwydd—i asesu cyflwr y claf, sicrhau ei fod yn cael ei flaenoriaethu, ei drin yn nhrefn ei flaenoriaeth glinigol, er mwyn darparu'r profiad gorau posibl i'r claf i'r graddau y mae hynny'n bosibl. Mae'r brysbennu hwnnw'n hollbwysig o ran yr hyn sy'n digwydd nesaf o ran diagnosis a chymorth.

Ond rydyn ni hefyd yn disgwyl—ac mae hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol—i fyrddau iechyd adnewyddu'r ffocws ar leihau arosiadau hir mewn adrannau, yn enwedig ar gyfer pobl eiddil a phobl hŷn, ac rydyn ni wedi rhoi bron i £3 miliwn i bob bwrdd iechyd i'w helpu i gyflawni eu chwe nod lleol ar gyfer rhaglenni gofal brys a gofal mewn argyfwng.

Diolch, Llywydd. Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Rydyn ni wedi cael gaeaf gwlyb iawn, y mae pawb yn gwybod. Mae llawer o gemau pêl-droed wedi cael eu gohirio neu rhoddwyd y gorau iddyn nhw oherwydd y tywydd. Gwnaeth rhai timau yn Abertawe chwarae pedair gêm gynghrair rhwng dechrau Tachwedd a diwedd Chwefror, sy'n cyfateb i un y mis. Gan nad yw'r tywydd yn y blynyddoedd i ddod yn debygol o fod yn well, pa gynnydd sy'n cael ei wneud wrth osod caeau artiffisial 3G a 4G?

Hoffwn hefyd gael datganiad ar ddatblygiad SA1, sy'n enghraifft ardderchog o ddefnydd cymysg, gan gynnwys tai, wedi'i angori gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Menter ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe ac Asiantaeth Datblygu Cymru ydoedd i ddechrau. Hoffwn i'r datganiad gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddo cyfrifoldeb am ffyrdd a mannau cyhoeddus i Gyngor Abertawe, a'r wybodaeth ddiweddaraf am sicrhau diogelwch Altamar a South Quay.

15:00

Diolch yn fawr, Mike Hedges. Ac, ydy, mae hi wedi bod yn aeaf gwlyb iawn, a'r effaith a gafodd hynny ar gemau pêl-droed ar gaeau—y rhoddwyd y gorau iddyn nhw, fel rydych chi'n dweud, oherwydd y tywydd. Ond dim ond i adrodd, ar gyfer y cofnod, mae tua 350 o gaeau artiffisial yng Nghymru, yn ôl y cyfrif diweddaraf, ac, wrth gwrs, maen nhw'n amrywio yn fawr iawn o ran eu maint, o gaeau 3G llawn i gaeau lawer llai, ac mae'r rhain yn cael eu hariannu o ffynonellau amrywiol: mae gennym ni gyllideb gyfalaf £8 miliwn i Chwaraeon Cymru, a chyllideb addysg ar gyfer buddsoddi mewn cyfleusterau ysgolion, a'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol. A dim ond i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, dros y tair blynedd diwethaf, mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi mewn 28 cae artiffisial, gyda 12 ohonyn nhw'n newydd a 16 wedi eu huwchraddio ledled Cymru. Felly, rwy'n credu, nawr, bod Chwaraeon Cymru yn cynnal archwiliad o bob cae artiffisial yng Nghymru ac yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar fapio pob cae artiffisial. Ond yn Abertawe, mae'r Parc 3G Underhill newydd yn y Mwmbwls—Chwaraeon Cymru, £250,000, drwy'r gronfa cydweithio ar y cae—ond mae gosod wyneb newydd ar y cae tyweirch artiffisial hoci presennol, yng nghanolfan chwaraeon Elba yn Nhregŵyr, yn cael cyllid hefyd.

Mae eich ail gwestiwn chi'n bwysig hefyd, oherwydd mae cynnydd da, fel roeddech chi'n dweud, yn parhau yn SA1: cyfraddau uchel o ddiddordeb ymhlith datblygwyr a meddianwyr. Ond fe allaf i sicrhau'r Aelod bod disgwyl i chwarter Matrics Arloesi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gael ei gwblhau ym mis Mehefin. Mae Tai Arfordirol a thai Pobl yn dechrau adeiladu ar dri chynllun datblygu tai fforddiadwy newydd. Ond y pwynt hanfodol yr ydych chi'n ei godi yw ynglŷn â mabwysiadu. Felly, fe dderbyniwyd tystysgrifau mabwysiadu priffyrdd rhan 1 gan ddinas a sir Abertawe, ac mae ein swyddogion ni'n gweithio gyda'r cyngor i ddatblygu'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gyhoeddi tystysgrifau rhan 2, a fydd yn caniatáu i fabwysiad y ffyrdd fynd rhagddo.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Senedd yn 25

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar y Senedd yn 25 oed. Y Prif Weinidog, felly, i wneud y datganiad yma—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Am y chwarter canrif diwethaf, bu ein cenedl ni ar daith hanesyddol datganoli.

Mae ein gwlad wedi bod ar daith datganoli hanesyddol.

Mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n falch ohono, ond ni allem fyth ei gymryd yn ganiataol. Rhwng 1997 a heddiw, fe welsom ni refferendwm arall a ddaeth â phwerau deddfu i Gymru a chefnogaeth gyhoeddus barhaus i'n Senedd. Ymhell o fod yn siop siarad fel roedd llawer yn ei ofni, mae datganoli wedi cyflwyno gwleidyddiaeth flaengar ac wedi helpu i feithrin Cymru hyderus, fodern ac sy'n edrych tuag allan. Pa ochr bynnag yr oedd pobl arni yn y refferendwm, a beth bynnag fyddo eich barn am bolisïau Llywodraeth Cymru, mae datganoli yn perthyn i'r holl bleidiau yn y Siambr hon a holl bobl Cymru heddiw.

Nid yw'r llwybr i Senedd sy'n deddfu'n llawn wedi bod yn llyfn, ond ar adegau o argyfwng, mae pobl Cymru wedi edrych atom ni yma yn y Siambr hon i arwain a gwasanaethu. Nid yw'r dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud—ac yn parhau i orfod eu gwneud—wedi bod yn hawdd, ond mae datganoli wedi sicrhau eu bod nhw wedi bod yn ddewisiadau a gafodd eu gwreiddio yng ngwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol, undod a thegwch a'i fod yn destun etholiadau rheolaidd i'n cyflogwyr ni, sef pobl Cymru.

Rwy'n gwybod hefyd ein bod ni i gyd yn sefyll ar ysgwyddau'r rhai a ddaeth o'n blaenau ni. Yn Brif Weinidog, rwy'n gwybod am y ddyled sydd gennyf i'r rhai a fu yn y swydd o'm blaen i. Rwyf i bob amser yn gwerthfawrogi'r cyngor o hyd amrywiol a chefnogaeth Alun, Carwyn a Mark, ond fe hoffwn i roi teyrnged arbennig i Rhodri Morgan am arwain ein cenedl yn y degawd hollbwysig cyntaf. Roedd ei arweinyddiaeth feddylgar, dawel ac ystyriol ef yn hanfodol yn y blynyddoedd cynnar hynny. Fe newidiodd ef sut yr oedd pobl yn teimlo am ddatganoli ac am Gymru. Ar lefel bersonol, roedd hi'n golygu llawer iawn i mi fod Rhodri wedi cymryd yr amser i fy ffonio yn syth ar ôl fy newis i yn 2009 ar gyfer sedd De Caerdydd a Phenarth. I'r rhai ohonoch chi nad ydych wedi myfyrio ar hanes gwleidyddiaeth Llafur yng Nghaerdydd, nid yw Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd wedi bod yn ffrindiau mynwesol bob amser. Roedd y ffaith fod Rhodri wedi cymryd yr amser i'm ffonio i'n mynegi rhywbeth am y dyn ei hun: gweithred fechan a oedd yn adlewyrchu ei arddull ef o arwain a'i ymrwymiad i godi eraill ar eu traed a'i optimistiaeth ar gyfer dyfodol datganoli. Mae'r sefydliad hwn mewn cymaint o ddyled iddo ef na ellir mo'i thalu fyth, ac fe wn i fod llawer o bobl, nid yn unig yn y Siambr hon, yn meddwl amdano ef heddiw.

Wrth gwrs, mae rhai yn y Siambr hon heddiw sydd wedi bod yno o'r dechrau ym 1999. Rydych chi, wrth gwrs, wedi gweld datganoli yn aeddfedu ac esblygu yn uniongyrchol, nid yn unig yn y Siambr hon ond yn y Siambr ddadlau flaenorol yr wyf i'n ei chofio yn dda iawn. Yn bersonol, mae'n rhaid i mi ddweud, na chefais i erioed brofiad o Orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol o'i ddechrau i'w ddiwedd, ac ni fu hi'n rhaid i mi sbecian, o'r tu ôl i biler yn yr hen Siambr ddadlau yn Nhŷ Hywel, fel roedd yn rhaid i rai Aelodau ei wneud.

Nid oedd llwyddiant datganoli yng Nghymru yn anochel. Mae hi wedi bod yn broses o dwf a newid, a luniodd y Senedd yn raddol i fod yn gorff fel rydym ni'n ei adnabod heddiw. Fe'i cynhaliwyd hi gan wasanaeth cyhoeddus parhaus gan wleidyddion etholedig ar bob ochr a gwaith caled ein gweision sifil a staff y Comisiwn, yn wir.

Wrth gwrs, fe gawsom ni ein naddu gan yr heriau y gwnaethom eu hwynebu. Fe welsom ni gwymp ariannol 2008 a'r blynyddoedd maith o ddirwasgiad a chynni a ddilynodd hynny. Fe wnaethom ni wynebu Brexit, y pandemig a'r argyfyngau hinsawdd a natur cynyddol y mae'n rhaid i ni barhau i weithio arnyn nhw. Ond dyna, wrth gwrs, yw ystyr llywodraeth: nid ydym ni yma i fynd ar hyd y ffordd hawdd; yn aml nid yw honno ar gael i ni. Rydym ni yma i wneud Cymru yn genedl well yn wyneb pob her a wynebwn ni.

Fe gefais i fy ethol i'r Cynulliad fel gelwid ef ar y pryd am y tro cyntaf yn 2011, ond fe ymunais i â'r daith ddatganoli lawer ynghynt na hynny. Fe wnes i arwain ymgyrch Students Say Yes yn 1997, pan, mae'n rhaid i mi atgoffa fy mab, oeddwn i'n wirioneddol ifanc a phrin oedd fy ngwallt wedi britho. Nid yw ef yn coelio hynny bob amser. Roeddwn i yno yng Ngwesty'r Parc ar y noson honno y daeth canlyniad y refferendwm, pan oedd llawer ohonom ni wedi meddwl ein bod wedi colli cyn i sir Gaerfyrddin ddod drwodd i gyflawni er mwyn y wlad. Mae hi wedi bod yn fraint i mi—

mae hi’n fraint—

—i wasanaethu yn AC, AS erbyn hyn, yn Ddirprwy Weinidog, Gweinidog Cabinet, a Phrif Weinidog.

Ac edrychwch ar yr hyn y gwnaethom ni ei gyflawni gyda'n gilydd yn ystod 25 mlynedd cyntaf datganoli. Mae'r Senedd wedi arwain y ffordd ar gynaliadwyedd. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn un o'r rhai cyntaf yn y byd, fel roedd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ac roeddem ni'n arwain y DU wrth godi tâl am fagiau siopa. Yn arwyddocaol, mae Cymru yn arwain y byd o ran ailgylchu diolch i'r ddeddfwriaeth a luniwyd yma, cyllid ar gyfer gwella gwasanaethau ailgylchu, ac annog mwy o ailgylchu, ac ystod o fesurau eraill, gan gynnwys hyrwyddo economi gylchol. Mae hi'n ffaith bod pobl yng Nghymru erbyn hyn yn disgwyl gweld ailgylchu pan fyddan nhw'n symud i rannau eraill o'r byd, a hyd yn oed dros Glawdd Offa, ac yn synnu yn gyson at y ffaith ein bod ni wedi mynd ymhellach ar y blaen ar ystod o fesurau syml.

Yn y Llywodraeth, rydym ni wedi blaenoriaethu ein plant a'u dyfodol nhw. Rydym ni wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, wedi diddymu'r hawl i beri niwed i blant i'w disgyblu, gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i blant trwy ostwng cyflymderau mewn ardaloedd adeiledig, a gwella diogelwch teithio dysgwyr. Rydym ni wedi sefydlu ac yn cyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru, ac rydym ni wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf i adeiladu ysgolion yng Nghymru ers y 1960au. Erbyn eleni, bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn gallu cael prydau ysgol yn rhad ac am ddim, gan ddileu'r gwarth ynghylch eu hawlio o'r diwedd. Ac mae Dechrau'n Deg, ein cynllun ni, mewn cyferbyniad â gostyngiadau yn Sure Start yn Lloegr, yn parhau i gynyddu; mae'n cynnig cymorth ychwanegol yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig ac yn darparu gofal plant o safon a ariennir yn llawn i fwy o blant dyflwydd oed bob blwyddyn. 

Mae treftadaeth ein diwydiant trwm yn cael ei adlewyrchu yn iechyd ein dinasyddion. Mae datganoli wedi golygu y gallem ni gymryd camau radical i helpu, gan gynnwys presgripsiynau am ddim yn gyffredinol, Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, a deddfwriaeth i sicrhau'r lefelau staffio lleiaf ar gyfer nyrsys—deddfwriaeth a ddatblygwyd gan Aelod o'r meinciau cefn a Gweinidog a oedd wedi ymrwymo i gyflawni newid.

Roedd datganoli yn golygu ein bod wedi gallu cymryd mesurau iechyd cyhoeddus yn ystod y pandemig a gafodd eu teilwra i anghenion pobl Cymru, wrth weithio gyda chenhedloedd eraill y DU ar fesurau eraill, fel y rhaglen frechu. Mae'n achos balchder i bob un ohonom, rwy'n credu, mai rhaglen frechu Cymru oedd y rhaglen gyflymaf ledled y DU. Mae datganoli wedi golygu ein bod ni wedi gallu gwrthsefyll dull grymoedd y farchnad o ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus a ffafriwyd gan Lywodraeth y DU, yn enwedig yn ein GIG ac ym myd addysg.

O ran swyddi, rydym ni wedi buddsoddi gydag uchelgais ac mewn partneriaeth â busnesau. Nawr, mae cryfderau newydd a chyffrous yn rhan gadarn o frand Cymru. O ffrwydrad y diwydiant teledu a ffilm, i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes lled-ddargludyddion ac ynni adnewyddadwy, mae yna gyfleoedd cyffrous yr ydym ni wedi helpu i'w creu, ac fe fyddwn ni'n parhau i'w cefnogi. Ac fe fyddwn ni'n parhau i gefnogi dur Cymru a'r gweithwyr rhagorol sy'n ei wneud. Rwy'n edrych ymlaen at gael trafodaethau gydag undebau a Tata, yma yng Nghymru ac ym Mumbai yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Nid oes cymaint o gyhoeddusrwydd wedi bod i'r ffaith ein bod ni, yn yr oes ddatganoli, wedi gwrthdroi'r bwlch diweithdra rhwng Cymru a chyfartaledd y DU. Roedd Cymru un tro ar gyfradd uwch na'r DU, ond erbyn hyn mae diweithdra yng Nghymru yn llawer mwy tebygol o fod yn is na'r cyfartaledd hwnnw—newid sylweddol diolch i bolisi a buddsoddiad parhaus ar sail penderfyniadau a gafodd eu gwneud yma.

Gan weithio gyda busnesau, rydym ni wedi sefydlu gwasanaeth, cyllid a chyngor pwrpasol yn seiliedig ar anghenion ein heconomi hefyd. Mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn sefydliadau economaidd uchel eu parch sy'n cefnogi twf swyddi a busnesau Cymru. Roedden nhw'n hanfodol hefyd wrth ymateb i'r pandemig, a dim ond oherwydd datganoli y maen nhw'n bodoli.

Rydym ni wedi cymryd camau sylweddol yn y Senedd i hyrwyddo buddiannau pobl Cymru a dod â mwy o gyfiawnder a chydraddoldeb i'n cymunedau. Rydym ni wedi llunio cyfreithiau ynglŷn â thai ar gyfer hyrwyddo cartrefi o ansawdd gwell a thenantiaethau mwy diogel. Cafodd Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 eu llunio ar sail yr effaith y mae gwaith yn ei chael ar lesiant yr unigolyn.

Rydym ni wedi hyrwyddo hanes a threftadaeth loyw Cymru, ein diwylliant ni a'n hiaith. Rydym ni'n genedl sy'n falch o'n dwyieithrwydd; rydym wedi gweld cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ynghyd â gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16-25 oed. Mae ein Senedd ni wedi atgyfodi'r Gymraeg yn iaith fyw i gyfraith a Llywodraeth.

Gan gydnabod ein cyfrifoldebau cyllidol newydd, crëwyd y ddeddfwriaeth dreth gyntaf yng Nghymru am 800 mlynedd gyda'r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Datganoli a wnaeth sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru yn bosibl, sef adran anweinidogol gyntaf Cymru. Maen nhw wedi datblygu dull neilltuol o gasglu a rheoli ein trethi datganoledig sy'n uchel ei barch y tu mewn a'r tu allan i Gymru.

Wrth i ni wneud y pethau hyn i gyd, a chymaint mwy, mae gennym ni ffordd unigryw i Gymru o wleidydda. Yr hyn sy'n wahanol yn y lle hwn, yn amlach na pheidio, yw'r dull o geisio datrys gwahaniaethau gwleidyddol. Rydym ni'n ceisio dod o hyd i gonsensws ac yn barod i gyfaddawdu er budd y bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu nhw, sef dinasyddion Cymru.

Mae 25 mlynedd wedi bod ac, wrth gwrs, rydym ni yma o hyd. Ond y cwestiwn mawr i mi nawr yw beth nesa? Mae adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn alwad i amgyffred breuder datganoli fel y gwyddom ni amdano. Mae hwnnw'n tynnu sylw at y colledion o ran cyfleoedd oherwydd gwneud dim i wella democratiaeth ac ymgysylltiad dinesig yng Nghymru. Mae heriau gwirioneddol iawn o'n blaenau ni, ac ni allwn fyth â bod yn hunanfodlon ynghylch ein gallu i gyflawni mwy er mwyn Cymru. Mae dyfodol gwell i Gymru yn gofyn i ni weithredu a pharhau â thaith datganoli.

Yn ôl ym 1997 nid oeddwn i'n credu y gallwn i ddod yn Brif Weinidog y corff yr ymgyrchais dros ei sefydlu. Nid oes gennyf i unrhyw syniad pwy allai fod yn sefyll yn y lle hwn yn Brif Weinidog ymhen 25 mlynedd, ond fe wn i'n sicr y bydd yna rywun, ac mae hynny oherwydd ymdrechion llawer yn y Siambr hon, ein rhagflaenwyr ni, ac wrth gwrs oherwydd cefnogaeth ddyfnach a chryfach pobl Cymru i'n democratiaeth ni. Mae hynny, yn y pen draw, yn tystiolaethu i lwyddiant datganoli yma yng Nghymru.

Dyna lwyddiant datganoli yng Nghymru.

15:15

Rwy'n diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ef brynhawn heddiw. Mae ei sylwadau ef am Rhodri Morgan, er tegwch, yn fy atgoffa i o'r amser pan oeddwn yma yn Aelod am y tro cyntaf yn 2007, a'r gallu a oedd gan Rhodri Morgan i droi'r ddadl ac ennill cefnogaeth y Siambr, ond gan ddefnyddio'r cyfatebiaethau o fyd chwaraeon yr oedd ef mor enwog amdanyn nhw. Rwy'n cofio un gyfatebiaeth yn dda, nad oedd hi o fyd chwaraeon ond o'r Siambr flaenorol, o sut roedd yn edrych ar Helen Mary gyda'r golofn ar ganol y Siambr, ac nid oedd ef yn siŵr ai gyda 'Helen' neu gyda 'Mary' yr oedd yn siarad, fe gyfeiriodd ef at hynny. Dyna'r seilwaith yr oedd y Cynulliad cyntaf yn ymdrin ag ef yn ôl ym 1999 pan ddaeth i fodolaeth.

A minnau heb fod yn ymhél â gwleidyddiaeth bryd hynny, rwy'n gallu cofio dod i mewn ar fater cefn gwlad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac eistedd yn un o'r ystafelloedd pwyllgor, ac yn y dyddiau hynny roedd pobl yn arfer dod i fyny i weld trafodion y pwyllgor ac roedd cynulleidfa yno i gymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw. Roedd hi'n peri penbleth i mi sut allai Gweinidogion eistedd ar y pwyllgorau hynny, ac yn y pen draw, y ffordd y gellid dod i ddealltwriaeth, ar ôl bod yn rhywun a oedd wedi bod yn gwylio'r ffordd yr oedd San Steffan yn ymgymryd â'i gwleidyddiaeth. Ac rwy'n gwerthfawrogi bod y sefydliad hwn, dros y 25 mlynedd diwethaf, wedi ceisio ymbellhau yn fwriadol o ran y ffordd y mae'n gwneud ei fusnes, ac yn briodol felly, oherwydd mae'n sefydliad ar wahân. Ond, wedi dweud hynny, o 2007, pan ddaeth y newidiadau i rym a daeth y wleidyddiaeth wirioneddol i fodolaeth o'r gwahaniaeth rhwng y Llywodraeth a'r ddeddfwrfa, ac fe  symudodd y ddadl ymlaen o ddifrif ynglŷn â pharhad, fe fyddwn i'n awgrymu, y Senedd hon, oherwydd ein bod ni'n Senedd nawr, gydag, fel rydym ni i gyd yn ei ddeall, awdurdodau deddfwriaethol, â gallu i godi trethi a gweithredol llawn, ac, yn benodol, y ffordd y drafftiodd comisiwn Silk ddwy Ddeddf Gymreig a drosglwyddodd lawer iawn o gyfrifoldebau newydd i'r Senedd mewn gwirionedd a thrwy estyniad, i Lywodraeth Cymru, a'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog bryd hynny yn dod i wneud datganiad ar Ddydd Gŵyl Dewi i fyny'r grisiau ynghylch y trosglwyddiad cyfrifoldeb hwnnw. Yn fy ffordd fechan fy hun, roeddwn i'n falch iawn o fod â rhan weithredol yn hynny, gyda'r trafodaethau gyda holl arweinwyr eraill y pleidiau ar y pryd, wrth ddod i gytundeb. Nid oeddem ni'n gallu dod i gytundeb ar rywfaint o hynny, ond mewn gwirionedd fe drawsnewidiodd allu'r Senedd hon i weithredu er budd pobl Cymru.

Ac rwy'n anelu at rai pobl yn fy mhlaid i fy hunan ac ar adain dde gwleidyddiaeth Cymru pan fyddan nhw'n dadlau y dylid cael gwared ar Senedd Cymru. A yw pobl yn dweud o ddifrif y dylai gwlad, yn yr unfed ganrif ar hugain, mewn Teyrnas Unedig lle mae gennych chi Senedd yn yr Alban, Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon ac etholiadau maer ledled Lloegr—y dylai Cymru ddiddymu ei Senedd hi? Nid wyf i'n cytuno â hynny, ac fe fyddaf i'n dadlau bob amser ag unrhyw un sy'n dweud y dylai Cymru roi ei Senedd heibio a mynd yn ôl at batrwm o Lywodraeth o'r 1950au, y 1960au. Nid dyna'r Gymru gyfoes yr ydym ni'n awyddus i'w gweld. Ond rwy'n anghytuno hefyd â'r llwybr y mae pobl yn ei argymell sef fod hwn yn llwybr anochel tuag at Gymru annibynnol ar y Deyrnas Unedig. Mewn gwirionedd, fe ddylai'r Senedd a'r Llywodraeth ganolbwyntio yn ddi-baid ar y pwerau sydd ganddi a'r ffordd y gall wella bywydau i bobl. Roedd datganiad y Prif Weinidog yn nodedig oherwydd absenoldeb y tri bwystfil mawr sydd yn yr ystafell—yr economi, iechyd ac addysg—yn arbennig pan edrychwch chi ar ddyheadau Llywodraethau Llafur blaenorol a Llywodraethau'r Senedd ynghylch gwella'r safleoedd Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, er enghraifft, sy'n ein meincnodi ni'n rhyngwladol. Nawr, nid oes gan y Llywodraeth bresennol hon unrhyw nodau i anelu atyn nhw. Roedd y ffigurau gwerth ychwanegol gros a bennodd Rhodri Morgan, pan oedd ef yn Brif Weinidog, yn ceisio cyrraedd cyfartaledd y DU dros gyfnod o amser—nid oes nodau ar gyfer hynny erbyn hyn, ac yn anffodus dros y 25 mlynedd nid ydym wedi llwyddo i gau'r bwlch hwnnw. Ac o ran iechyd, yn anffodus, mae gennym ni rai o'r rhestrau aros hwyaf mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, gyda chymaint o bobl ar restr aros—600,000 o bobl—a 752,000 o driniaethau y mae pobl yn disgwyl amdanyn nhw yn GIG Cymru. Ac roeddwn i'n sylwi nad oedd hynny'n cael ei gynnwys yn yr allbwn i'r cyfryngau cymdeithasol gan y Llywodraeth y bore yma.

Mae'r Prif Weinidog yn gywir i dynnu sylw at y mannau hynny, o ran cyfraddau ailgylchu, er enghraifft, y bu'r Llywodraeth yn llwyddiannus, ac o ran ceisio gwneud gwelliannau yng ngwead y Gymru yr ydym ni mor falch ohoni. Ond mae hi'n ffaith, yn anffodus, o ran tlodi—tlodi enbyd, tlodi plant—fod Llywodraeth Cymru wedi methu yn ôl ei nodau hi ei hun, ac mewn gwirionedd wedi diddymu'r nodau hynny i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Ac rwy'n gwybod beth fydd yr ymateb a ddaw yn ei ôl: ar Lywodraeth y DU y mae'r bai am y cwbl. Ond y gwir amdani yw mai chi sydd wedi bod â'r pwerau, yr ysgogiadau a'r gallu i wneud rhai gwelliannau gwirioneddol o ran y problemau dyrys hynny, ac, yn eich Llywodraeth, rydych chi wedi methu â gwneud hynny.

Ond rwy'n obeithiol am y dyfodol, ynglŷn â'r hyn y gall y Senedd hon ei gyflawni yn ystod y 25 mlynedd nesaf. Rwy'n un, fel dywedais i, a oedd wedi ymddieithrio oddi wrth y broses wleidyddol yn ôl ym 1997, ac mewn gwirionedd nid oedd gennyf i lawer o ddiddordeb yn y refferendwm hwnnw nac yn ffurfio Cynulliad Cymru fel gelwid ef. Mae'n rhaid i mi ddweud mai un o eiliadau mwyaf balch fy oes oedd pan gerddais i mewn i'r Siambr hon i dyngu llw o'm teyrngarwch. Nid oeddwn i wedi gweld y llun gwydr 'Calon Cymru' ar ganol y llawr ar y pryd. Ac roedd Claire Clancy, clerc y Senedd, ar yr ochr arall iddo, ac wrth i mi ddod i mewn drwy'r drws hwnnw fe gerddais i'n syth ar ei draws. A phob dydd y byddaf i'n edrych arno rwy'n meddwl tybed a achoswyd rhai o'r craciau hynny yn y mosaig gan globyn o darw Cymreig yn cerdded arno. [Chwerthin.] Nid wyf i'n meddwl mai myfi sy'n gyfrifol; rwy'n credu mai treigl amser a wnaeth hynny. Ond rwy'n gallu cofio wyneb Claire Clancy fan draw, mewn arswyd llwyr.

Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n cloi ar bwynt personol fel hwnnw, ond mae llawer o waith i'w wneud eto a'r gwaith mwyaf yw ennyn diddordeb pobl Cymru yn yr hyn y gallwn ni ei wneud yn y Senedd a'r hyn y gallwch chi ei wneud yn y Llywodraeth, ac os caf i orffen ar hyn, Prif Weinidog, nid yw'r niferoedd sy'n pleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru a seneddol yn bodloni unrhyw un ohonom ni. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n ymgysylltu yn llawn ag etholwyr Cymru fel eu bod nhw'n gwybod mai'r Senedd hon i Gymru yw'r Senedd a all wneud y gwahaniaeth hwnnw, ac rwy'n gobeithio, ni waeth beth fyddo ein gwleidyddiaeth ni, ar feinciau'r cenedlaetholwyr, ar feinciau Llafur neu'r meinciau Ceidwadol, y gallwn ni gytuno ar un peth: y bydd dilysrwydd y Senedd hon yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod os gallwn ddenu cyfran uwch o'r etholwyr i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd.

15:20

Rwy'n diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Efallai fod rhai cwestiynau ynddyn nhw. Yr hyn yr wyf i am geisio ei wneud yw ymdrin â'r pwyntiau lle ceir anghytundeb yn gyntaf, a cheisio gorffen ar bwyntiau lle mae cytundeb.

O ran yr anghytuno, fe soniais i am ystod eang o feysydd, gan gynnwys yr economi, iechyd ac addysg, ac ystod y camau y gwnaethom ni eu cymryd, camau na fyddem ni wedi gallu eu cymryd nhw oni bai am ddatganoli. Mae mwy i'w ddweud eto am y sefyllfa wirioneddol o ran yr  hyn sydd wedi digwydd i'n cyllidebau a chanlyniadau ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol fel iechyd ac addysg. Mae cysylltiad diamheuol ac annatod rhwng ein hadnoddau ni a'r hyn y gallwn ni ei gyflawni, ynghyd â galw cynyddol. Fe glywch chi, er enghraifft, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am ei blaenoriaethau, ac fe allwch chi ddisgwyl clywed manylu di-baid ar ein dull ni o godi safonau a phwysigrwydd allweddol addysg ym mywyd y genedl, yn ogystal â phlentyn neu unigolyn ifanc, ac mae hynny'n mynd law yn llaw â'r pwyslais yr wyf i'n awyddus i'w roi ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd unrhyw blentyn. Felly, fe allwch chi ddisgwyl clywed mwy am hynny yn y dyfodol. Nid ydych chi'n gallu mynd drwy restr yn nhrefn y wyddor o bob maes unigol mewn un datganiad, ac rwy'n credu fy mod i wedi trethu amynedd pawb gyda hyd y datganiad fel mae hi.

O ran yr economi, y sefyllfa ddiamheuol yw nid yn unig y ffaith i mi grybwyll Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru—creadigaethau penodol i Gymru sydd wedi helpu i gefnogi busnesau o bob lliw a llun ar draws ein heconomi—ond mae yna heriau i ni o ran ein perfformiad economaidd. Rydym ni'n dymuno gweld cynnydd pellach o ran cynhyrchiant. Mae hynny'n golygu buddsoddi yn sgiliau'r gweithlu. Rydym ni'n dymuno gweld cynnydd pellach o ran cael pobl i mewn i waith a pheidio â bod yn economaidd anweithgar. Problemau sydd wedi ymwreiddio yn ddwfn yw'r rhain yn aml. Rwy'n credu y gallai rhan o'r daith ar gyfer datganoli yn y dyfodol fod o ran sut y gallwn ni gymryd mwy o reolaeth ar weinyddu budd-daliadau, ar gyfer cydgysylltu yn briodol â'r hyn y gallwn ni ei wneud â'r ffordd y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio ar hyn o bryd. Rwyf i o'r farn y byddai hwnnw'n ddiwygiad a fyddai'n achosi newidiadau ymarferol, gwirioneddol adeiladol er mwyn cefnogi pobl i fyd gwaith yn well, i fod ag urddas ennill incwm, ac, yn hollbwysig, incwm y gall pobl fyw arno.

Mae hynny'n dod â mi at eich pwynt chi ynglŷn â thlodi plant: erbyn hyn, yn fwy nag erioed o'r blaen, gall plant fod yn tyfu i fyny mewn tlodi tra bod oedolyn ar eu haelwyd yn gweithio. Mae hynny oherwydd nad yw ein heconomi ni wedi cadw i fyny ar draws y DU, ac fe welwn ni adroddiad arall eto yn ystod y dyddiau diwethaf ynglŷn â'r ffaith bod economi'r DU yn debygol o fod â'r gyfradd arafaf o dwf o blith unrhyw un o'r cenhedloedd mwyaf datblygedig yn y byd; mae honno'n her aruthrol i ni, yn ogystal ag i weddill y DU—. Ar ben hynny, fe gafodd dewisiadau eu gwneud yn fwriadol ynghylch budd-daliadau i deuluoedd â phlant. Mae pob asesiad annibynnol wedi dangos bod y dewisiadau hynny'n gyrru mwy o blant i dlodi. Nid dadl yw honno; mae honno'n ffaith. Honno yw'r sefyllfa wirioneddol sy'n deillio o'r dewisiadau a wnaeth Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, fe fyddwn i'n anghytuno ynghylch a oedd y rhain yn bethau cymwys i'w gwneud, a oedden nhw'n cyflawni eu diben ai peidio, a beth mewn gwirionedd oedd eu pwrpas nhw yn y pen draw. Mae hynny'n rhan o wleidydda, ac, yn y lle hwn, rydym ni wedi dod i arfer â dadlau ynglŷn â dewisiadau a wneir mewn rhannau eraill o'r DU sy'n effeithio yn uniongyrchol ar ein cyfrifoldeb, yn ogystal ag ar sut yr ydym ni'n ymdrin â hwnnw ein hunain.

Ac mae hynny, os hoffech chi, yn dod â fi yn ôl at, rwy'n gobeithio, ragor o bwyntiau sy'n achosi ychydig o anghytundeb, ond rwy'n gobeithio y bydd yma rywfaint o gytundeb hefyd. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn dweud nad yw ef eisiau gweld rhagor o bwerau ar gyfer y lle hwn. Sylw ganddo ef yw hwnnw, yn fy marn i, ar y ffaith nad yw'n cefnogi'r Llywodraeth bresennol a etholwyd gan bobl Cymru. Mae ganddo berffaith hawl i'r farn honno. Dyna yw hanfod democratiaeth. Rwyf i o'r farn nad yw ein taith ni wedi dod i ben. Fel dywedais i ynglŷn â gweinyddu budd-daliadau, rwy'n credu bod mwy o ffordd i fynd eto. Fe hoffwn i weld mwy o bwerau dros Ystad y Goron. Fe hoffwn i weld cytundeb amgen ynglŷn â dyfodol y rheilffyrdd. Ond mae'n rhaid i hynny ddod gyda chyllid. Nid oes gennyf i ddiddordeb o gwbl mewn trosglwyddo cyfrifoldebau heb adnoddau i wneud hynny, ac fe welsom ni hynny yng nghynllun y dreth gyngor, pryd cafodd budd-daliadau'r dreth gyngor eu datganoli i Gymru gyda thoriad o 10 y cant yn y gyllideb. Dyna'r union beth na ddylai fod yn digwydd gyda datganoli. Rwy'n credu, ynghylch y pwerau yr ydym ni'n eu hymarfer yn y fan hon, y dylai Aelodau allu ein dwyn ni i gyfrif yn briodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld y daith ddatganoli yn adennill rhan o'r tir a gollwyd i ni gyda dychweliad y cyllid a'r pwerau o Ewrop a fyddai'n cael eu hymarfer yn gyson yn y lle hwn ers bron i chwarter canrif hyd nes y gwnaeth Llywodraeth y DU ddewis eu dwyn nhw oddi arnom ni.

O ran y cytundeb, serch hynny, fe fyddwn yn parhau i anghytuno, fel dylem ni—gwahanol bleidiau a gwahanol draddodiadau. Efallai y bydd adegau y byddwn ni'n canfod peth cytundeb, ond, o ran y sefydliad hwn, ni ddylech chi fod â'r ymagwedd os ydych chi'n anghytuno â Llywodraeth y dydd, os nad ydych chi'n hoffi'r ffaith bod Llafur Cymru wedi bod yn rhan o weinyddu'r Llywodraeth drwy gydol y 25 mlynedd hynny, heb fwyafrif un waith, yn gorfod gweithio gyda phobl mewn pleidiau eraill bob amser i basio cyllidebau a deddfwriaeth—. Nid ddylech chi alw am ddiddymu'r sefydliad, nid os ydych chi'n caru democratiaeth. Mae dau refferendwm wedi creu'r lle hwn fel y mae heddiw a mwy na hynny. Ni fyddech chi'n ceisio diddymu Tŷ'r Cyffredin na Thŷ'r Arglwyddi os nad oeddech chi'n cytuno â'r ffordd yr oedd Liz Truss yn rhedeg y wlad. Yr alwad, i'r rhai a oedd yn anghytuno â'r hyn yr oedd hi am ei wneud, neu'r Prif Weinidog presennol, neu'r un o'u blaenau nhw, oedd i gael etholiad, ar gyfer gofyn i'r bobl benderfynu mewn etholiad. Dyna'r wyf i'n ei gredu y dylem ei wneud pan fyddwn ni'n anghytuno: dwyn ein gilydd i gyfrif, nid tanseilio'r sefydliad, ond gadael i'r bobl yr ydym ni'n freintiedig i'w gwasanaethu ddewis rhwng y gwahaniaethau sydd rhyngom.

At hynny, rwyf i'n cytuno â'r Aelod am yr angen i ni wneud mwy o ran pleidleisio. Fe hoffwn i weld llawer mwy o bobl yn gwneud dewisiadau ynghylch pwy sy'n eistedd yn y lle hwn ac, yn arbennig, fel rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cytuno yfory y bydd mwy o bobl gennym ni'n eistedd yn y lle hwn, gan wneud dewisiadau ar ran pobl Cymru. Rwy'n credu y bydd hynny'n grymuso ein democratiaeth ni, fel gwna arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn wir, pan fydd mwy o bobl yn cymryd rhan yn ein hetholiadau. Rwy'n awyddus i ystyried sut yr ydym ni'n gwneud hynny a sut y cawn ni gytundeb ar sut y byddwn ni'n gwneud hynny. Rwy'n gobeithio, ynglŷn â'r diwygiadau y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn eu cyflwyno i'r lle hwn yn y dyfodol, pan fyddwn ni'n edrych ar sut rydym ni'n cofrestru pobl, sut rydym ni'n ei gwneud hi'n haws pleidleisio, y byddwn ni mewn gwirionedd yn dod o hyd i ffordd o wneud hynny. Ein gwaith ni yw perswadio pobl i gefnogi rhyw blaid, ond fe hoffwn i weld mwy o bobl yn cyfranogi, oherwydd fel arall rhywun fydd yn dewis ar eich cyfer chi, a pheidiwch â synnu os bydd hynny'n golygu nad yw'r dewisiadau hynny'n cyfateb â'ch diddordebau chi na'r weledigaeth sydd gennych chi i'r genedl.

Yn olaf, rwyf wir yn croesawu'r hyn oedd gan yr Aelod i'w ddweud am sefydlogrwydd ein Senedd. Yn ei blaid ef fe geir nifer o bobl a gafodd eu hethol i'r lle hwn gyntaf a oedd wedi ymgyrchu yn frwd yn erbyn ei greu ac a oedd yn blaen tu hwnt wrth fynegi'r ffaith eu bod yn dymuno iddo ddiflannu. Rwyf i o'r farn fod hynny wedi bod yn newid adeiladol i'r sefydliad cyfan sef i'r Ceidwadwyr Cymreig ddod i safbwynt gwahanol iawn erbyn hyn. Ystyr hyn yw'r frwydr ddemocrataidd barhaus am gael bod yn y lle hwn neu fod â rhywun arall ynddo, ac mae hynny'n ymwneud â sefydlogrwydd ein Senedd a'n Llywodraeth, a'r sawl y mae'r bobl yn ei ddewis i ymgymryd â'r fraint o arwain a chynrychioli'r genedl.

15:30

Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw. Roeddwn i am ddechrau drwy ddweud bod gan bob un ohonom ni yn fan hyn ein hatgofion am eni'r Cynulliad Cenedlaethol, tan i fi gofio mai dim ond tair oed oedd Luke Fletcher pan agorodd y Senedd yma ei drysau am y tro cyntaf. Ond mae'r ffaith bod rhywun a oedd yn blentyn ifanc iawn—yn fabi bron, bryd hynny—rŵan yn Aelod yn ein Senedd genedlaethol yn dweud cyfrolau, onid ydy, am ba mor bell rydyn ni wedi dod, a gymaint o flynyddoedd sydd wedi pasio, ac yn gwneud i'r Llywydd, dwi'n siŵr, deimlo'n hen iawn yn eistedd yn y fan yna. [Chwerthin.] Ond mae gen i fy atgofion, yn sicr. Mi oeddwn i yma ar y diwrnod cyntaf un yn 1999, nid fel Aelod o'r Senedd—a braint fy mywyd ydy cael bod yma yn Aelod o'n Senedd—ond yma fel newyddiadurwr ac fel gohebydd newyddion oeddwn i. Fel Cymro, mi oeddwn i mor falch ein bod ni wedi cymryd y cam cyntaf hwnnw, ond, yn broffesiynol, mi oedd hi'n gyfnod o gael dalen lân o'n blaenau ni, a dyna oedd gan y sefydliad ei hun hefyd: dalen lân, neu gynfas gwag i adeiladu dyfodol cenedl arno fo.

Llywydd, dydy pethau ddim wastad yn disgyn yn dwt mewn gwleidyddiaeth, ond mae yna rywbeth symbolaidd a phwerus iawn yn y ffaith ein bod ni'n dathlu'r chwarter canrif yn yr un wythnos ag yr ydym ni'n pleidleisio ar gynllun i gryfhau'r Senedd yma ar gyfer y chwarter canrif nesaf a thu hwnt. Felly, ydyn, rydym ni yn dathlu, ond efallai ei bod hi'n fwy cywir i ddweud mai pwyso a mesur ac adlewyrchu ydyn ni ar y chwarter canrif cyntaf yma. Beth wnaeth datganoli ynddo'i hun oedd cynnig llwybr newydd i ni, creu potensial, os liciwch chi, creu cyfleoedd i Gymru wneud pethau'n wahanol, ac i wneud pethau yn well mewn cymaint o ffyrdd. Ac rydyn ni wedi gwneud pethau yn well. Mae llawer wedi'i gyflawni drwy gydweithio, ac mi oedd hynny'n rhan fawr o beth oedd y wleidyddiaeth yma yn ei chynnig i ni. A dwi'n cynnwys pob un yn y Siambr—pob un o'r pleidiau—yn y cydweithio yna mewn gwahanol ffyrdd, a dwi'n croesawu'n fawr y sylwadau gan arweinydd y Ceidwadwyr—sylwadau positif—ynglŷn â dyfodol datganoli a phwysigrwydd cael ein Senedd genedlaethol.

Ond os ydyn ni am greu democratiaeth gryfach, fwy atebol, fwy effeithiol ar gyfer y dyfodol, mae'n rhaid cydnabod y cyfleoedd sydd wedi'u colli hefyd, ac rydyn ni'n eu gweld nhw yn y meysydd hynny rydyn ni'n dal y Llywodraeth Lafur i gyfrif arnyn nhw bob wythnos yma: yr argyfwng yn y gwasanaeth iechyd; diffyg dychymyg economaidd wrth geisio adfywio ein hardaloedd ôl-ddiwydiannol; y cwymp mewn safonau yn ein hysgolion; a'r tlodi plant sydd yn dal mor amlwg i'w weld ym mhob cwr o'n gwlad.

Fe ddylem ni ddathlu, rwy'n credu, y pum mlynedd ar hugain hwn gyda newid gêr, newid o ran y craffu a alluogir gan ddeddfwriaeth ar gyfer diwygio y byddwn ni'n pleidleisio arni yfory, ond newid gêr llywodraethol hefyd. Mae arnom angen Llywodraeth sydd, yn hytrach na bod yn ymateb i argyfyngau, yn symud tuag ar ragor o arloesi yn y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, ar gyfer llunio economi arbennig a chydnerth, lle mae datganoli yn glustog wirioneddol rhag y blaenwyntoedd o San Steffan a thu hwnt, ac ar gyfer cynyddu ein gallu ni yn y sefydliad hwn.

Mae Plaid Cymru wedi mynegi ein gweledigaeth ar gyfer y ffordd ymlaen yn eglur: fe ddylai comisiwn cenedlaethol sefydlog fod â chyfrifoldeb am weithredu ac adeiladu ar waith argymhellion y comisiwn annibynnol diweddar, gan annog cyfranogiad y cyhoedd gymaint â phosibl wrth hyrwyddo prosesau i weithredu newid cyfansoddiadol. Mae gan Lywodraeth Cymru ei hun ddyletswydd i baratoi ac arwain ar brosesau pellach ar gyfer newid cyfansoddiadol, a pheidio â chydymffurfio â chonfensiwn Gordon Brown, nac unrhyw gorff arall yn San Steffan sy'n cael ei ddyfeisio gyda'r bwriad o dawelu'r gwledydd Celtaidd, fe ddylwn ddweud, ond yn hytrach i dorri llwybr arbennig i Gymru. Ac rwy'n annog y Llywodraeth bresennol i wneud felly. 

Bum mlynedd ar hugain ers llunio'r Senedd, mae hi'n cael ei dychmygu o'r newydd nawr. Ac mae'r cyfrifoldeb ar y Prif Weinidog erbyn hyn i sicrhau bod uchelgeisiau ei Lywodraeth ef yn bodloni uchelgeisiau pobl Cymru ar gyfer y chwarter canrif nesaf a thu hwnt. Fel nododd Canolfan Llywodraethiant Cymru'r wythnos hon, mae'r holl ddata sydd ar gael yn dangos symudiad y mwyafrif tuag at ddyhead am ragor o bwerau, ac mae'r gefnogaeth i annibyniaeth wedi cynyddu yn agos hyd at deirgwaith ers 1999.

Rŵan, er bod dealltwriaeth o'r lle yma a'i waith o wedi cynyddu, ac, efo hynny, y gefnogaeth o blaid mwy o bwerau i Gymru, mae'n rhaid gochel rhag meddwl nad oes angen parhau i wrthsefyll y grymoedd hynny a fyddai am weld ein Senedd yn diflannu'n gyfan gwbl. A dwi'n falch o glywed undod yma yn y Siambr ar hynny heddiw. Yn hytrach, gadewch i ni wneud yn siŵr bod y 25 mlynedd nesaf yn canolbwyntio ar brofi gwir werth datganoli, drwy fynd i'r afael â'r heriau hynny—yr heriau economaidd, iechyd, addysg, tlodi plant—ac ar gryfhau ein democratiaeth mewn modd sy'n gweithio dros holl bobl Cymru.

15:35

Nid oeddwn i'n gallu canfod llawer o gwestiynau yn y cyfraniad, ond rwyf i am ymateb i ddau bwynt sy'n werth eu hystyried yn fy marn i. Mae'r cyntaf yn dychwelyd at un o'r pwyntiau gafodd ei wneud gan arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, a hwnnw oedd lle'r oedd anghytundebau ynglŷn â pherfformiad gwasanaethau cyhoeddus a'r economi. Ac fe ddylech chi, wrth gwrs, ddisgwyl i'r rhain fod yn cael eu trafod yn Siambr ein Senedd genedlaethol, ac y gallai anghytundeb fod ynghylch pa mor llwyddiannus y bu'r Llywodraeth gyda'r dulliau gweithredu sydd ar gael i ni, ac a ddylai fod dulliau amgen ar gael i ni ai peidio. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig er hynny i fyfyrio ar y ffaith, yn flaenorol, mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru a dau neu dri Gweinidog a fyddai'n ymgymryd â'r swyddogaethau hynny i gyd. Ac rwy'n credu nad oedd gan y cyfle i ddadlau, trafod a mynegi gwahaniaethau, neu gynigion, yn wir,  ar gyfer dewisiadau amgen, os ydym ni'n cytuno â nhw neu beidio ar du'r Llywodraeth, y gallu i ganolbwyntio yn llwyr, yn wahanol i'r hyn sydd gennym ni nawr. Dyna yw rhan o'r rheswm pam roeddwn i'n falch o ymgyrchu dros ddatganoli pan oeddwn i'n fyfyriwr, ar gyfer dymuno rhagor o gyfle i hynny ddigwydd.

Ac mae hynny'n arwain at yr ail bwynt ynglŷn â—. Rwy'n credu bod datganoli wir wedi rhoi llwyfan gwirioneddol ar gyfer mwy o hyder a sylw i Gymru ar lwyfan llawer ehangach. Yn ei gyfraniad ef, roedd arweinydd Plaid Cymru yn awgrymu y gellid dyfeisio rhywbeth yn natblygiad datganoli i geisio cadw'r cenhedloedd Celtaidd yn dawel. Ystyr datganoli oedd rhoi llwyfan mwy i genhedloedd Celtaidd, ar gyfer bod â hyder yn y ddemocratiaeth yr oeddem ni'n ei llunio, a'r gallu i wneud yn well er mwyn ein pobl a'n gwlad. Dyna pam roeddwn i'n cefnogi datganoli, pam y gwnes i ymgyrchu dros hynny, pam rwy'n falch o fod yma yn y Siambr hon. Ymhell o fod yn cadw cenhedloedd Celtaidd yn dawel, mae datganoli wedi cynnig llwyfan mwy i ni yng Nghymru, yn y DU, a'r byd yn fwy eang.

Rydych chi'n gweld hynny yn y ffordd y mae Cymru yn cael ei gweld a'i thrafod. Bob tro y mae newid yn digwydd yn y Llywodraeth hon nawr, rydych chi'n disgwyl y bydd sylw yn cael ei roi, nid yn unig yng Nghymru, ond mewn rhannau eraill o'r byd hefyd. Mae hwnnw'n gryfder sy'n cael ei gydnabod mewn rhannau eraill o'r byd. Ac ni ddylai hynny fod yn ein synnu ni, oherwydd, mewn gwirionedd, mae cenhedloedd eraill yn y byd, cenedl-wladwriaethau, yn cydnabod rhannu pŵer ar wahanol lefelau. Mewn rhai, mae cyrff cenedlaethol sy'n ymarfer y pŵer hwnnw—mae cenedl Gwlad y Basg yn Sbaen yn wahanol i rannau eraill o Sbaen. Ond maen nhw'n cydnabod bod cyfrifoldebau gwahanol gan wahanol lefelau o lywodraeth. Yn yr Almaen, y taleithiau yn America neu Ganada, fe geir gwahanol lefelau lle mae gwahanol ddewisiadau yn cael eu gwneud.

Rwyf i o'r farn nad yw ein taith ni wedi dod i ben. Rwy'n credu bod gan ddatganoli fwy o ffordd i fynd eto. Ac fe fyddaf i'n falch o barhau i ddadlau dros hynny, ac yn fwy balch o glywed llais Cymru yn dal ati i gryfhau, yng Nghymru, yn y DU, a'r byd yn fwy eang, lle maen nhw'n sylwi arnom eisoes. Ac rwy'n credu bod llawer mwy i ni ei wneud i sicrhau parch, buddsoddiad a phartneriaeth at gyfer ein dyfodol.

Mae hi'n fraint fawr, ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, i allu gwneud datganiad byr iawn ar yr achlysur hynod bwysig hwn. Trwy gydol 25 mlynedd y Senedd, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi bod â chynrychiolaeth yma, ac mae hi'n bwysig ein bod yn sôn am y rhai yr ydym ni wedi eu colli: dau was ffyddlon ac ymroddedig iawn i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, sef Mick Bates ac Aled Roberts. Ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio'r rhain ac yn diolch amdanyn nhw.

Rwyf i wedi cysylltu â Kirsty Williams hefyd, a oedd yn nosbarth 1999, ar gyfer cael rhai o'i syniadau hi am yr hyn y dylwn ei ddweud. Fe ddywedodd hi mai cyfnod o gyffro a gobaith mawr oedd hwnnw, a'i bod hi'n falch o fod yn arweinydd benywaidd cyntaf plaid yn y Senedd, a'i bod hi'n mwynhau cwestiynau'r Prif Weinidog, 'Er hynny, pan fyddai'r esgid ar y droed arall, fe fyddai hi'n dda gennyf i pe byddwn i wedi bod ychydig yn fwy caredig.' Rydym ni'n cofio mai Kirsty yw'r unig Aelod o'r Senedd sydd wedi bod yn llwyddiannus, hyd yn hyn, o ran dwyn Bil Aelod Preifat drwy'r Senedd, sef Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Cyflawniad gwych arall gan y Senedd. Dim ond tair blynedd yr ydw i wedi bod yma, ond rwy'n falch o fod yn rhan o'r Senedd hon, yn rhan o Senedd sydd wedi pasio'r Ddeddf aer glân, y Ddeddf amaethyddol newydd, ac rydym ni ar fin pasio Bil diwygio'r Senedd, a fydd yn chwyldroi ein democratiaeth (er nad cystal ag y gallai).

Rwy'n dymuno gorffen, os caf i, ar nodyn personol iawn. Roedd fy mam—y mae llawer ohonoch chi, efallai, wedi clywed hyn o'r blaen—yn rhan o'r grŵp o randdeiliaid a helpodd i ddatblygu'r Cynulliad, fel y gelwid ef. Nid oedd hi'n wleidydd o gwbl, cynhyrfwraig yn y gymuned oedd hi. A dyna'r hyn, rwy'n credu, y dylem ni fod yn dychwelyd ato: gwrando ar y cynhyrfwyr cymunedol hynny, a sicrhau ein bod yn cynnwys pawb ledled Cymru, o ardaloedd cefn gwlad a threfol, o ogledd, canolbarth neu dde'r wlad hon, beth bynnag fo ein cefndiroedd, beth bynnag fo ein ffydd, beth bynnag fo ein cred. Mae gennym gyfle anhygoel i barhau â gweddnewid Cymru, i'w gwneud yn fwy radical, blaengar, rhyfeddol ac ysbrydoledig, ond mae angen i ni fynd yn ôl at wrando ar aelodau ein cymunedau. Peidiwn ag ymatal gormod dros y 25 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.  

15:40

Wel, diolch yn fawr iawn am y cyfraniad gan Jane Dodds, a diolch, yn wir, i grŵp cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol, yn y dyddiau gynt, am greu sefydliad democrataidd ac am ddeall yr hyn y gallem ni ei wneud gyda dalen lân, sef y pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth. Ac rwy'n credu ein bod ni wedi llunio llawer o bethau yr ydym ni'n gallu dweud eu bod nhw wedi rhagori rhywfaint ar sefydliadau democrataidd eraill yn y DU. Mae pobl yn siarad yn aml am draddodiadau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Mae'n rhaid i mi ddweud, er cymaint gwychder hynny, rwyf i o'r farn nad yw rhai ohonyn nhw'n gwneud unrhyw synnwyr ac ni ddylen nhw fodoli mwyach. Rwy'n gobeithio, yn ystod ein 25 mlynedd cyntaf, nid dim ond wedi gallu dysgu am yr hyn y gallem ni ei wella eto'r ydym ni, ond yn ein 25 mlynedd nesaf, ni fyddwn ni'n galw ar ein traddodiadau ac yn dweud 'Dyma'r ffordd y gwnaethom ni'r pethau hyn erioed', pe byddem ni'n gallu gwneud yn well o ran y ffordd yr ydym ni'n rhedeg ein busnes ac yn gwasanaethu ein cymunedau.

Fe ddylwn i ddweud, roeddwn i'n adnabod Mick Bates pan oedd ef yn ymchwilydd. Roeddwn i'n adnabod Aled Roberts. Fe ddylwn i addef fod y Cwnsler Cyffredinol a minnau, pan gafodd Aled Roberts ei ethol, ein bod ni wedi ceisio dadlau na ddylai ef fod yma. Roedd y Gorchymyn anghymhwyso yn ddadl ddiddorol ar y pryd, ac eto, mewn gwirionedd, pan ddeuthum yn gyfarwydd ag Aled, pan oedd yn Aelod yma, roedd gen i barch mawr ato. Nid oeddwn i'n cytuno ag ef bob amser, ond roeddwn i o'r farn ei fod yn alluog iawn, ac yn rhywun yr oeddech chi nid yn unig yn gallu cynnal sgwrs ag ef, ond, mewn gwirionedd, roeddech chi'n gallu siarad yn gyfrinachol ag ef, gyda hyder na fyddai hynny'n mynd ymhellach, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth i bob un ni ohonom fyfyrio arno o ran y ffordd yr ydym ni'n gwneud ein busnes. Mae angen i ni allu ymddiried yn ein gilydd, a rhannu yn gyfrinachol, a gwneud dewisiadau gwell wedyn. Ac rwy'n gobeithio y byddai hynny hefyd yn rhan o'ch pwynt chi ynglŷn â pheidio â bod yn awyddus i roi gwahanol rannau o'r wlad yn erbyn ei gilydd. Mae llawer gormod o raniadau yn ein byd fel y gwelwn ef, ac rwy'n credu y gallwn ni fod yn esiampl arhosol o sut wedd sydd ar wleidyddiaeth amgen.

Rwy'n awyddus i ni fynd ati i fod yn Llywodraeth sy'n gwrando. Ni fydd pawb yn cytuno â'r holl ddewisiadau a wnawn ni, ond mae hynny'n dod o fod mewn Llywodraeth, sy'n rhywbeth a ddysgodd Kirsty trwy brofiad uniongyrchol, ac roedd hithau'n dweud yr union beth hwn. Rwy'n ei chofio hi'n dweud, 'Rwyf i wir yn dymuno nad oeddwn i wedi bod mor gas wrth bawb arall pan oeddwn i'n eistedd yno.' Ond roeddwn i o'r farn fod Kirsty yn gyd-Weinidog da iawn yn y Llywodraeth, ac rwy'n gobeithio ei bod hi'n cadw yn iawn. Fe ddylwn i nodi gyda gofal, er fy mod i'n falch o sôn am y ddeddfwriaeth staff nyrsio yn fy nghyfraniad agoriadol, y byddaf i'n cael trafferthion sylweddol am weddill fy nyddiau pe byddwn i'n anghofio nodi bod rhywun o'r enw Ann Jones wedi helpu hefyd wrth basio deddfwriaeth ar systemau chwistrellu ar gyfer diogelwch tai. Ac unwaith eto, mae honno'n rhan o'n taith ni: darn bychan o ddeddfwriaeth sydd, yn fy marn i, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. 

Diolch i chi, Prif Weinidog, am y datganiad pwysig hwn heddiw. Wrth i ni edrych yn ôl dros y 25 mlynedd diwethaf, fe ddylai fod yn destun balchder i bob un ohonom fod ein Senedd ni nid yn unig wedi parhau, ond wedi aeddfedu yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid yw hi wedi bod yn daith hawdd bob amser, ond rydym ni i gyd yn ddyledus i'r Aelodau hynny a ddaeth o'n blaenau ni ac a weithiodd mor galed i sefydlu'r Senedd hyderus, sy'n edrych tuag allan yr ydym ni'n eistedd ynddi hi heddiw.

Mae hi'n anrhydedd i mi gadeirio grŵp Llafur Cymru a gallu nodi bod grwpiau Llafur olynol o Gymru wedi ceisio gwneud cyfiawnder â'n hymrwymiadau cynnar i roi llais i Gymru a gweithio yn galed er mwyn Cymru. Boed hynny am mai hi yw'r Senedd gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd a deddfu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol neu am ein system eithrio ni ar gyfer rhoi organau neu am benodi comisiynydd plant cyntaf y DU, mae'r camau y gwnaethom ni eu cymryd yn y Siambr hon wedi arwain y ffordd yn y DU a'r byd yn fwy eang. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, wrth i ni edrych ymlaen at 25 mlynedd nesaf y Senedd, y dylem ni fod â hyder yn y daith honno wrth nodi ein cynlluniau i feithrin dyfodol cadarn i Gymru?

15:45

Diolch. Rwy'n credu, o ystyried y rhestr o'r holl bethau rydyn ni wedi'u gwneud, mae'n bleser myfyrio bod y rheini'n bethau rydyn ni i gyd wedi'u gwneud. Fel y dywedais i, nid yw fy mhlaid i erioed wedi cael mwyafrif. Dydym ni erioed wedi bod mewn sefyllfa, ar ein pen ein hunain, i wneud dewisiadau ar sail unigol; rydyn ni bob amser wedi gorfod gweithio gyda phobl eraill.

Cymerwch, er enghraifft, y ddeddfwriaeth rhoi organau, cyflwyno system optio allan feddal. Dechreuodd pan mai Lesley Griffiths oedd y Gweinidog iechyd. Gwnaed gwaith rhwng pleidiau, ac roedd yn gyfnod heriol, mewn gwirionedd. Roedd gwahanol randdeiliaid yn pryderu am y ddeddfwriaeth—y byddai'n dileu'r rhodd o fywyd yr oedd rhoi organau yn ei gynrychioli. Mewn gwirionedd, buom yn gweithio gyda'n gilydd ar ddwyn perswâd, gweithio ar ddadleuon, ac yna bod â system a allai fod yn ymarferol hefyd. Fe wnes i gadeirio rhywfaint o ddiwedd y pwyllgor pan ddaeth drwodd. Mark Drakeford oedd y Gweinidog iechyd pan gafodd ei basio yn y diwedd. Yna, fel y Gweinidog iechyd, roeddwn i'n goruchwylio'r broses o weithredu'r system honno. Gallwn ni fod yn hyderus, gyda'r ddeddfwriaeth honno, bod bywydau mwy o bobl wedi eu hachub o ganlyniad. Mae hefyd wedi ein helpu gyda'r sgwrs am ddiwedd bywyd rhywun ac am y ffaith eu bod yn dal i allu helpu'r byw mewn ffordd wahanol. Rwyf i yn sicr yn cofio yn fy nhŷ i ei fod wedi arwain at sgwrs am yr hyn yr oeddem ni am ei wneud, i sicrhau ein bod yn gwybod dymuniadau ein gilydd a'u bod yn cael eu cofnodi, ac i gefnogi pobl i wneud y dewis hwnnw.

Mae'n rhan o, fel y dywedodd Vikki Howells, nid yn unig bod y sefydliad hwn wedi goroesi, ond wedi aeddfedu. Mae myfyrdod personol yma, wrth gwrs, oherwydd rwyf i yn 25 adio 25 fy hun, ac rwy'n gwybod, yn eich 25 mlynedd cyntaf o fywyd, eich bod yn caffael llawer iawn o wybodaeth am bwy ydych chi a'r byd o'ch cwmpas. Ond gallaf yn sicr ddweud, wrth edrych yn ôl ar fy safbwynt presennol, fy mod wedi dysgu mwy fyth yn ystod y 25 mlynedd nesaf am y dewisiadau y gallwn i eu gwneud a pham. Rwy'n gobeithio y bydd y lle hwn, mewn 25 mlynedd arall, yn myfyrio nid yn unig ar yr hyn a wnaethom yn ystod ein 25 mlynedd gyntaf ond am y ffaith ein bod wedi gwneud hyd yn oed mwy i wneud Cymru yn lle gwell. Bydd y dadleuon yn fywiog ac ar adegau'n anodd, ond yn dal i gael eu cynnal yma yn ein Senedd genedlaethol, ar gyfer dyfodol y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.

Roeddwn i'n gwybod na ddylwn i fod wedi ateb y cwestiwn hwnnw y bore yma ynglŷn â pha mor hen oeddwn i pan ddigwyddodd etholiadau cyntaf y Senedd. Mae wedi dwyn fy natgeliad mawreddog. [Chwerthin.]

Mae pwynt pwysig wedi cael ei wneud yn y fan yna. I fy nghenhedlaeth i, does dim byd radical am y lle yma—rydyn ni wedi tyfu lan gyda fe. Dydyn ni erioed wedi gwybod byd cyn y Senedd. Trips ysgol i'r Senedd ac nid San Steffan oedd y norm, ac mae hi dal i fod y norm heddiw i nifer o blant yng Nghymru.

Mae'r ffaith mai dyma yw'r achos, y ffaith mai dyma yw'r realiti, yn golygu bod breuddwydion cymaint wedi cael eu gwireddu, i raddau. Byddwn yn talu teyrnged i bawb a ddaeth o'n blaenau, y rhai hynny a ymgyrchodd yn 1979 a 1999 i gael y lle yma. Ond, wrth gwrs, 25 mlynedd yn ddiweddarach, lle ydyn ni? Does dim gwadu bod gennym Senedd sydd wedi'i thanbweru'n aruthrol. Er bod diwygio'r Senedd yn gam tuag at rymuso'r lle hwn, mae angen i ni fynd ymhellach. Rydyn ni wedi cael ein llwyddiannau wedi'u rhestru, rydyn ni wedi gweld y llwyddiannau hynny wedi'u rhestru—byddwn i hefyd yn ychwanegu, gyda llaw, cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg i'r rhestr honno, rhywbeth y gwnes i elwa ohono pan ges i fy magu—ond mae gennym ni broblemau o hyd gyda thlodi, mae gennym ni broblemau gyda'r economi o hyd. Yr addewid i fy nghenhedlaeth i oedd Llywodraeth a fyddai'n cyflawni ar wella pethau. Felly, mae'n rhaid i hynny fod y 25 mlynedd nesaf, on'd yw e, Prif Weinidog? Cyflawni pethau nid yn unig ar gyfer fy nghenhedlaeth i, ond y cenedlaethau wedyn. Felly, ie, wrth gwrs, gadewch i ni ddathlu heddiw, ond hefyd gadewch i ni edrych ymlaen at ble rydyn ni'n mynd o'r fan hon. Wedi'r cyfan, proses ydyw, un y gobeithiaf y bydd yn arwain un diwrnod at Gymru ddewr sy'n gwneud penderfyniadau'n annibynnol.

Diolch am y sylwadau. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn cael fy atgoffa bod grŵp cynyddol o ddinasyddion yn ein gwlad sydd ond erioed wedi gwybod y Senedd yn rhan o'r ffordd y mae dewisiadau'n cael eu gwneud. Rwyf wedi gwneud sylw am hyn o'r blaen: nid oes rhaid i ni ddad-ddysgu'r ffordd y gwnaed pethau o'r blaen, ond dim ond gwybod sut rydym yn gwneud dewisiadau nawr. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n arwain at fwy o ymgysylltiad a mwy o lais a dewis yn yr hyn y mae'r Senedd hon yn ei wneud. Rwy'n credu bod hynny'n gryfder. Rwy'n nodi nad yw'r Cwnsler Cyffredinol yma, ac mae'n debyg bod hynny'n beth da, oherwydd Mick Antoniw oedd llywydd UCM Cymru yn 1979 ac mae yna adegau rwy'n credu sy'n diflasu pobl eraill, pan fydd Mick a minnau'n cyfnewid straeon am yr hyn a ddigwyddodd pan oeddem ni yn lywyddion myfyrwyr. Fi oedd llywydd UCM Cymru yn 1997, pan enillom ni'r refferendwm i greu'r lle yma. Ond dyna'r pwynt am hanes yn symud ymlaen. Ac ar eich pwynt ynghylch cenedlaethau'r dyfodol, mae hynny'n ymwneud â phob un ohonom yn y cenedlaethau yn y dyfodol: pobl sydd wedi gweld creu'r Senedd yn ystod eu hoes fel oedolion, pobl sydd yma ac yn gobeithio ymddeol yng Nghymru, yn dod i ddiwedd eu bywyd gwaith neu sydd eisoes wedi ymddeol ac yn meddwl am yr hyn y bydd y Senedd yn ei wneud ar eu cyfer nhw, ar gyfer eu teuluoedd a'u dyfodol, yn ogystal â'r bobl hynny sydd eto i'w geni yr ydym yn gwneud dewisiadau ar eu cyfer heddiw. 

Rwy'n gwybod y bydd yna feirniadaeth ddilys bob amser, fel y dywedais i, o'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, ond rwy'n credu bod gennym lawer i fod yn falch ohono, nid yn unig yn y ddeddfwriaeth ond yn y dewisiadau y mae Llywodraethau olynol wedi'u gwneud i wneud Cymru yn lle gwell. Ni fyddaf byth yn cymryd cam yn ôl wrth amddiffyn a hyrwyddo'r hyn yr ydym wedi dewis ei wneud. Rwyf am i ni allu gwneud mwy. Yn y Llywodraeth, go brin eich bod byth yn gwneud dewis perffaith, oherwydd allwch chi ddim gwario'r arian a threulio'r amser ar un maes o fywyd yn y Llywodraeth na allwch chi ei wario a'i dreulio yn rhywle arall. Mae bob amser yn ymwneud â'r blaenoriaethau sydd gennym, ond maen nhw'n flaenoriaethau y mae'n rhaid i ni eu dychwelyd at bobl yng Nghymru i adnewyddu ein mandad ac i adnewyddu ymddiriedaeth. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn beth gwerthfawr iawn yr ydym ni wedi llwyddo i'w greu mewn datganoli ac i ddiogelu ar gyfer ein dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld a yw pobl eisiau cymryd y cam hwnnw ar y daith ddatganoli, neu'n wir y pwynt olaf rwy'n deall bod Aelodau Plaid Cymru eisiau ei weld, ac mae honno'n ddadl y bydd pobl yn ei phenderfynu yma yng Nghymru yn y pen draw. 

15:50

Mae'n fraint cael bod yn un o'r pedwar Aelod presennol a oedd yn Aelodau o'r Cynulliad ar y pryd yn ôl yn 1999, gyda chi, wrth gwrs, Llywydd, Jane Hutt a Lynne Neagle. Gallaf dystio yn sicr i gyfyngiadau'r Siambr ddadlau wreiddiol, lle roedd gennym ni bileri yn wir yn y ffordd, ac roedd gennym Aelodau yn ceisio ymyrryd ar Aelodau eraill mewn dadl ond heb gael eu gweld a methu â gweld yr Aelodau eraill hynny. Ac, ie, dim ond rhywfaint o is-ddeddfwriaeth weddol ddiflas y gwnaethon ni ddelio ag ef.

Llywydd, ychydig flynyddoedd ar ôl datganoli, ychydig flynyddoedd ar ôl 1999, roeddwn i yng Nghaeredin, yn teithio i Senedd yr Alban mewn tacsi, a manteisiais ar y cyfle i ofyn i'r gyrrwr tacsi beth oedd ei farn ar ddatganoli hyd at yr adeg honno yn yr Alban. Ar y pryd, roedd y cyfryngau yno yn llawn straeon am gost gynyddol adeilad newydd Senedd yr Alban, felly roeddwn i wir yn disgwyl rhyw fath o baldaruo tebyg i Rab C. Nesbitt, os ydw i'n onest. Ond yr hyn a ddywedodd wrthyf mewn gwirionedd oedd, 'O, mae'n llawer rhy gynnar i mi roi barn ystyriol. Dewch yn ôl a gofynnwch i mi ymhen tua 20 mlynedd', a wnaeth fy synnu ychydig. Ond dyma ni nawr, dros 20 mlynedd ers hynny, ac yma yng Nghymru, os ydym ni'n wynebu'r cwestiwn hwnnw, mae lle sylweddol i wella bob amser, ond gallwn ni ddweud ein bod wedi creu, rydym wedi sefydlu, rydym wedi adeiladu datganoli dros y cyfnod hwnnw o amser, ac rydym bellach yn Senedd, yn Senedd i Gymru. Rwy'n meddwl am yr holl genedlaethau hynny yn yr ymgyrch honno dros senedd i Gymru, a ymgyrchodd mor angerddol a chryf, ac yn myfyrio ar yr hyn y byddent yn ei wneud ohoni, llawer ohonyn nhw nad ydynt gyda ni bellach, i weld pa mor bell yr ydym wedi dod. Ac rydyn ni yma heddiw, yn yr adeilad hwn, yn gallu ymdrin â llawer iawn o gyfrifoldeb yn ein gwlad dros ein pobl ein hunain. Ac mae hynny'n wir yn rhywbeth, onid ydyw?

Rwy'n credu hefyd y dylem sôn am Ron Davies. Mae wastad yn cael ei gyfeirio ato, on'd yw e, fel un o benseiri datganoli, ac yn wir mae e. Roedd Luke yn sôn amdano fel proses, ac rydym bob amser yn cofio'r ymadrodd enwog hwnnw amdano ei fod yn broses, nid yn ddigwyddiad. Yn y goleuni hwnnw, Prif Weinidog, rwy'n credu ein bod yn edrych ymlaen yn awr at drefniadau cyfansoddiadol newydd, efallai, y gallem eu cyrraedd cyn bo hir—bwrw ymlaen â deddfwriaeth diwygio'r Senedd i ategu ein democratiaeth ymhellach, ein democratiaeth werthfawr sy'n dal yn eithaf newydd ac ifanc yma yng Nghymru. Ond hefyd, ar lefel y DU, sut y gallem edrych ar drefniadau cyfansoddiadol newydd, gan gydnabod y realiti datganoledig newydd, yr ydym hefyd wedi cyfeirio ato yma heddiw, ledled y DU. Fel rhan o hynny, mae angen i ni ymwreiddio a datblygu ymhellach ein democratiaeth newydd hyfryd, fendigedig yma yng Nghymru i sicrhau y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn mwynhau ffrwyth y datblygiadau hyn a'r holl waith caled sydd wedi'u cyflawni. Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddech chi eisiau chwarae rhan yn y ddadl honno am y trefniadau cyfansoddiadol newydd hynny y mae gwir eu hangen arnom yn fy marn i, gan gydnabod realiti newydd y DU ddatganoledig.

15:55

Diolch i'r Aelod am ei sylwadau ac rwy'n cydnabod un o'r pedwar gwreiddiol sydd yn dal gyda ni ac sydd wedi siarad yn y ddadl. Rwy'n credu, pan ystyriwch chi ble'r oeddem ni a pha mor agos oedd hi, roedd llawer o bobl nad oedd yn hyderus y byddem ni yma ymhen 25 mlynedd, heb sôn am mewn adeilad newydd, mewn sefydliad y byddwn ni, rwy'n credu, yn pleidleisio dros ei ehangu yfory. Mae hynny ynddo'i hun yn stori lwyddiant. Yr her yw, nid yn unig ein bod wedi dyfnhau a chryfhau ymlyniad pobl yng Nghymru â datganoli, ond lle gwelwn broses gyda phwynt terfyn, y gwahanol ddigwyddiadau ar hyd y ffordd a sut y dylai hynny edrych.

Fel y dywedais i, rwy'n credu bod mwy i'w wneud ar daith datganoli ac rwyf eisoes wedi nodi nifer o feysydd lle rwy'n credu y dylem ni rannu pŵer yn wahanol. Dylem gymryd hyder o'r ffaith bod ganddyn nhw wladwriaethau llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r byd, gyda dealltwriaeth glir o rannu pŵer rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth. Yma ym Mhrydain, mae gennym genhedloedd o fewn y wladwriaeth. Felly, roedd cael datganoli yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn naturiol yn fy marn i. Rwyf wir yn meddwl bod y ddadl ar faeri yn Lloegr yn dda i ni hefyd; rwy'n credu ei bod yn rhesymegol anghydnaws dadlau y gall meiri gael pwerau na all senedd genedlaethol lwyddiannus a llywodraeth genedlaethol eu cael. Rwy'n credu bod hynny'n cryfhau ein llais yn y ddadl y dylem ei gael. 

Ac i mi, rwy'n anghytuno ag Aelodau Plaid Cymru ar ble dylai'r pwynt terfyn fod. Rwy'n meddwl bod datganoli wedi bod yn dda i Gymru a hefyd yn dda i Brydain. Rwy'n credu y bydd gennym system lywodraethu wedi'i moderneiddio a fydd yn cryfhau pwy ydym ni yng Nghymru, yr holl bethau yr ydym ni yn falch ohonynt, a'r nerth yr wyf am i ni barhau i dynnu arno o'r teulu ehangach o genhedloedd sydd gennym. Ac rwy'n credu mai yn y lle hwn y byddwn ni'n parhau i gyflwyno'r achos hwnnw ar gyfer y dyfodol.

Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am rai o'r llwyddiannau pwysig yr ydym wedi'u cael yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ac i mi, ffefryn personol yn sicr yw prydau ysgol am ddim cyffredinol. Ond fe wnaethoch chi a siaradwyr eraill hefyd gyfeirio at feysydd lle gallech chi ddweud ein bod wedi tangyflawni hyd yn hyn. Yn enwedig wrth feddwl am ddyfodol ac iechyd ein democratiaeth, rwy'n credu bod y methiant i gyflawni mwy na 50 y cant o ran y nifer sy'n pleidleisio yn unrhyw un o'r etholiadau ers creu'r sefydliad yn broblem y mae'n rhaid i ni ei datrys, onid ydyw? Oherwydd po hiraf y bydd hynny'n parhau, po fwyaf y bydd yn erydu dilysrwydd ond hefyd effeithiolrwydd y sefydliad hwn.

Un o'r atebion i hyn sydd â'r dystiolaeth orau, rwy'n credu—ac, yn wir, nid fi yw'r unig un, gan y gwnaeth eich rhagflaenydd yr union bwynt hwn y bore yma—pan edrychwn ni o gwmpas y byd, fyddai i Gymru ymuno â'r nifer fawr o wledydd hynny sydd â system yn seiliedig ar y ddyletswydd ddinesig gyffredinol i bleidleisio—pleidleisio gorfodol. Dychmygwch fynd o ddemocratiaeth â chyfranogiad is na 50 y cant i ddemocratiaeth â chyfranogiad o 90 y cant a mwy a'r effaith y byddai hynny'n ei chael. Rydych chi wedi cefnogi hyn o'r blaen. Ai dyna yw eich barn o hyd, Prif Weinidog? Nawr eich bod yn Brif Weinidog, pa gamau ymarferol y gallwn ni eu cymryd wrth droi hyn o syniad, cynnig, yn gynllun gweithredu ymarferol ar gyfer etholiad 2030—arwain dadl yn gyntaf oll, comisiynu'r ymchwil wrthrychol a dechrau'r llwybr tuag at ddod yn ddemocratiaeth fwy cyffredinol?

Diolch i'r Aelod am y sylw a'r cwestiwn. Rwy'n anghytuno â'r ffordd y gwnaeth e lunio'r dechrau. Nid wyf yn credu bod y nifer a bleidleisiodd yma yn tanseilio dilysrwydd y sefydliad. Rwy'n credu os ydych chi'n edrych, er enghraifft, ar awdurdodau lleol, sydd â niferoedd pleidleiswyr isel iawn yn aml, does neb yn dweud na all y cyngor gyflawni ei swyddogaethau wrth wneud dewisiadau eithaf sylweddol ar ran y boblogaeth maen nhw'n ei gwasanaethu. A phan edrychwn ni ar sefydliadau mwy newydd fel maer Llundain, er gwaethaf holl sylw'r cyfryngau ledled y DU i faer Llundain, mewn gwirionedd, roedd y nifer a bleidleisiodd ychydig dros 40 y cant yn yr etholiad diwethaf. Felly, nid wyf yn credu bod gennych gysylltiad uniongyrchol rhwng dilysrwydd a nifer y bobl a bleidleisiodd, ond rwy'n credu y byddai'n cryfhau ein hachos a'r dewisiadau a wnawn pe bai mwy o'n pobl yn gwneud dewis gweithredol mewn etholiad. 

Cyfeiriodd yr Aelod yn garedig at y ffaith fy mod wedi mynd ar gof a chadw yn y gorffennol yn dweud fy mod i, yn bersonol, yn cefnogi pleidleisio gorfodol. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ddinesig y dylai pob un ohonom ei chyflawni, cyn belled ag mai'r cafeat yw y gall unrhyw bleidleisiwr gael blwch lle maen nhw'n dewis pleidleisio dros 'dim o'r ymgeiswyr uchod'. Rwy'n siarad yn bersonol, yn hytrach na fel pennaeth y Llywodraeth—rwy'n gwybod fy mod yn ateb hwn fel y Prif Weinidog—ond mae hynny oherwydd bod gan bobl eraill safbwyntiau gwahanol. Does gennym ni ddim safbwynt penodol o fewn Llywodraeth Cymru. Ond rwyf wedi cwrdd â dirprwyaeth o Blaid Lafur Awstralia yn ddiweddar. Nid wyf yn credu bod Awstraliaid yn teimlo'n llai rhydd, nac yn llai abl i fod â barn ar unrhyw agwedd ar fywyd yn eu gwlad, oherwydd bod ganddynt rwymedigaeth ddinesig ofynnol i bleidleisio mewn etholiadau.

Yr her yw, os ydych chi eisiau eu cyrraedd nhw, sut rydych chi'n newid y diwylliant, ennill dadl nad yw, rywsut, y llywodraeth yn rheoli agweddau ar eich bywyd lle nad oes ganddi hawl i fod yno, a sut rydych chi'n perswadio pobl, 'Rwy'n credu bod yna bobl sy'n werth pleidleisio drostynt', fel unigolion neu fel pleidiau gwleidyddol. Rwy'n credu bod y ffordd tuag at gyrraedd yno, mewn gwirionedd, ynglŷn â'r diwygiadau y byddwn yn eu cymryd o fewn y pwerau sydd gennym, gyda'r ddeddfwriaeth y cyfeiriais ati yn gynharach y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei chyflwyno. Bydd diwygiadau yn hynny ynglŷn â chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Rwy'n credu y bydd hynny'n gryfder sylweddol; bydd yn golygu bod gallu pobl i bleidleisio yno ac yn cael ei ddiogelu. Bydd hefyd, rwy'n credu, yn newid peth o'n dealltwriaeth o boblogaethau mewn gwahanol rannau o'r wlad—yn rhoi mwy o gywirdeb i ni o ran lle mae pobl. Efallai y bydd hyd yn oed yn ein helpu gyda maint yr etholaethau yng Nghymru a thu hwnt. Ac os yw hynny'n llwyddiannus, fel gyda chymaint o'r hyn yr ydym eisoes wedi'i wneud yn ystod 25 mlynedd gyntaf datganoli, rwy'n credu y bydd rhannau eraill o'r DU yn edrych ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud ac yn ein copïo.

Nid creu'r sefydliad yn unig yw'r arbrawf mewn democratiaeth—edrych ar yr arloesedd yr ydym wedi'i dreialu a'i ddangos a all fod yn llwyddiannus. Ac nid yw rhannau eraill o'r DU bob amser yn gwbl glir eu bod yn dilyn model a grëwyd yng Nghymru pan fyddant yn gwneud hynny, ond maen nhw'n aml yn dilyn yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud yma. Rwy'n credu ei bod yn rhan o'r daith honno i feddwl am y cynlluniau treialu sydd gennym ac am sut rydym yn cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio ac ymgysylltu, nid yn unig ar adeg yr etholiad.

Hoffwn ystyried a yw ein pwerau yn caniatáu i ni dreialu pleidleisio gorfodol ai peidio, ac yna, wrth gwrs, y cwestiwn gwleidyddol sy'n dod yn ôl i pam mae gennym y lle hwn: yw pleidleisio gorfodol o fewn 20 blaenoriaeth uchaf unrhyw Lywodraeth Cymru i weithredu ar ac i ddeddfu ar eu cyfer, gyda nifer y Biliau sydd gennym, neu a oes pethau eraill mae llawer mwy o angen i ni dreulio ein cyfalaf gwleidyddol cyfyngedig a'n hamser ar gyflawni?

Mae gennym raglen ddeddfwriaethol enfawr o fewn tymor y Senedd hon. Ni fyddwn yn pasio 20 Deddf unigol y Senedd. Felly, mae meddwl am ble a sut y byddai hyn yn flaenoriaeth yn bwysig i ni, ac ar gyfer y dyfodol, ond rwy'n edrych ymlaen at y diwygiadau yr ydym yn mynd i'w cymryd, rwy'n credu, yn y lle hwn, ac rwy'n gobeithio ar sail drawsbleidiol, i ehangu'r Senedd, newid y ffordd y gall pobl gofrestru ac, o fewn y pwerau sydd gennym ar hyn o bryd, sut y gallant bleidleisio, ac yna mae'n bosibl y byddwn yn dychwelyd at y pwynt ar bleidleisio gorfodol yn y dyfodol.

16:00

Mae 25 mlynedd yn sicr yn rhywbeth i'w nodi, a dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn adlewyrchu ar y polisïau dŷn ni'n credu sydd wedi gwneud gwahaniaeth. I fi, un o'r pethau dwi heb glywed yn cael ei sôn amdano fo eto ydy mynediad am ddim i amgueddfeydd. Cymru oedd y wlad gyntaf ar yr ynysoedd hyn i gyflwyno hynny, wyth mis cyn Lloegr, diolch i Jenny Randerson, ar y pryd, fel y Gweinidog. Mi fuodd o'n llwyddiant ysgubol; o fewn blwyddyn, cynnydd o 88 y cant yn nifer y rhai sydd yn cael mynediad i'n casgliadau cenedlaethol ni, gan fynd o 764,599 i 1.4 miliwn—anhygoel—ac mae'r ffigur yna wedi parhau i gynyddu.

Felly, a gaf i ofyn, Brif Weinidog, am eich adlewyrchiadau chi, efallai, ar y polisi hwn a'i bwysigrwydd o ers 2001? Hefyd, ydych chi'n ymrwymo i barhad y polisi hwn, cyn belled ag y mae yna Lywodraeth Lafur, ac, yn sicr, efo chi fel Prif Weinidog? Hoffwn hefyd—cwestiwn dwi'n ei gael yn aml gan bobl ifanc sy'n dod i'r Senedd hon ydy: pam dŷn ni wastad yn beio San Steffan am bethau ac yn dweud bod gennym ni ddim y pwerau? Pam dŷn ni ddim yn mynnu mwy o bwerau yma i Gymru? Felly, a gaf i hefyd eich adlewyrchiadau chi o ran pa bwerau pellach hoffech chi weld y Senedd hon yn eu cael dros y 25 mlynedd nesaf yma?

16:05

Ar lwybr mynediad am ddim i amgueddfeydd, rwy'n cofio'n dda 1997 a 2001, pan oeddwn i'n wirioneddol ifanc—rwy'n meddwl am Chris Smith, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol y DU bryd hynny, a chyflwyno'r polisi a'r cyllid ar ei gyfer a ddaeth, ac rwy'n falch bod Cymru wedi dewis cymryd y cam hwnnw hefyd. Roedd yn ddewis y gwnaethom ni—dyna un o'r pwyntiau yma. Dim ond oherwydd bod amcan polisi mewn rhan wahanol o'r DU, nid yw'n golygu bod yn rhaid i ni ddilyn. Gwneir y dewis yma gan y Llywodraeth hon a gan yr Aelodau sy'n ein dwyn i gyfrif. Ac rwy'n credu ei fod wedi bod yn bolisi llwyddiannus ar y cyfan. Yr her, serch hynny, rwy'n credu, yw nad yw'n ymwneud yn unig â pha un a ydych chi'n rhoi mynediad i amgueddfeydd am ddim, ond ynghylch a yw mynediad ymarferol yn cael ei wneud ar sail sy'n wirioneddol deg. Rwy'n meddwl nid yn unig am fy etholaeth i, ond cymunedau eraill sy'n agos yma, yn agos at ble mae asedau sylweddol o fewn ein fframwaith amgueddfeydd cenedlaethol, ac a yw pobl yn defnyddio'r mynediad hwnnw mewn gwirionedd; a yw cymunedau na allen nhw fforddio talu am fynediad o'r blaen yn ymarferol yn manteisio ar y cyfle—mae hynny'n gwestiwn ehangach am yr hyn a wnawn. Mae'n ymwneud â thrafnidiaeth, mae hefyd yn ymwneud â'r estyn allan rhagweithiol y mae'r amgueddfeydd cenedlaethol wedi'i wneud yn y gorffennol diweddar. Ond pan gyflwynwyd y polisi gyntaf, rwy'n credu ein bod yn myfyrio nad oeddent yn gwneud cymaint ag y byddem yn disgwyl iddynt ei wneud nawr er mwyn sicrhau bod y drysau'n wirioneddol agored a hygyrch. Mae hynny'n ymwneud â gweithio gydag ysgolion; mae'n ymwneud â'u cenhadaeth i esbonio beth maen nhw'n ei greu a'i gadw ar gyfer y genedl, am ein hanes, ond hefyd am bwy ydym ni heddiw hefyd. Rwy'n credu eu bod wedi bod yn llawer mwy arloesol yn hanner olaf y 25 mlynedd diwethaf nag yn yr hanner cyntaf, ac mae hynny'n ymwneud ag ymarfer dysgu. Oherwydd bod gennych chi sefydliad cenedlaethol yma y ceir craffu arno—mae hynny, rwy'n credu, wedi effeithio'n gadarnhaol ar y ffordd y maen nhw'n gwneud eu gwaith, ac yn syml, nid wyf yn credu y byddai hynny wedi digwydd heb ddatganoli a chreu'r lle hwn. Rwy'n sicr wedi ymrwymo i'r polisi, cyn belled â bod gennym yr adnoddau i barhau i wneud hynny. Mae cost yr ydym yn ei fuddsoddi yn y polisi hwnnw bob blwyddyn, a phob blwyddyn mae ein dewisiadau wedi mynd yn anoddach ac yn galetach dros y 14 mlynedd diwethaf.

Nodaf fod ystod o sêr y byd cerddorol wedi ysgrifennu—wel, yn ehangach, y celfyddydau, nid cerddoriaeth yn unig—yn mynegi pryder am ddyfodol Opera Cenedlaethol Cymru, er enghraifft. Dylwn i ddweud fy mod i'n hoffi opera—dwi'n mwynhau ei gweld, dwi'n gwrando arni pan dwi'n gweithio gartref. Ond rydym wedi gwneud dewisiadau ynghylch sut i gydbwyso ein cyllideb. Ac os ydym am roi mwy o arian i mewn i hynny, neu unrhyw sefydliad arall yn y maes diwylliannol, bydd Lesley Griffiths yn dadlau dros hynny, a bydd hi'n gwybod bod yn rhaid i ni ddod o hyd i'r arian hwnnw o rywle arall. Felly, ein her ni bob amser yw sut rydyn ni'n diogelu'r pwynt am angen ac eisiau. Mae hanfodion yr hyn sydd gennym, ynghyd â'r pethau hynny yr ydym yn credu a fydd yn gwneud bywyd yn werth ei fyw a'r profiad i'w fwynhau yr ydych am i bobl eraill gael mynediad ato a'i rannu hefyd, a dyna'r dewis yr ydym yn ei wneud yn gyson yma yn y Llywodraeth. Rwy'n gobeithio y bydd gennym setliad gwahanol ar bwerau ac arian yn y dyfodol, er mwyn ein galluogi i wneud dewisiadau gwahanol ynghylch ailagor mwy o fynediad a buddsoddi yn ein sefydliadau diwylliannol ac ystod eang o feysydd eraill o fywyd cyhoeddus.

O ran dyfodol datganoli a'r pwerau sydd gennym, rwy'n credu fy mod eisoes wedi nodi nifer o feysydd. Dychweliad y pwerau Ewropeaidd blaenorol yr ydym yn eu harfer yr ydym yn eu defnyddio i ariannu ystod eang o raglenni sgiliau, buddsoddi yn ein sector twristiaeth ac ystod eang o feysydd eraill a thu hwnt—rwyf am i'r rheini ddychwelyd i'r man lle y dylen nhw fod wedi bod erioed, ac am bron i chwarter canrif. Hoffwn weld mwy o bwerau ar Ystad y Goron. Hoffwn weld datganoli gweinyddu budd-daliadau. Mae yna sgwrs lawer ehangach i ni ei chael am sut mae hynny'n edrych. Bydd dadl am ran o hynny mewn etholiad cyffredinol yn y DU. Byddwn yn parhau i drafod hynny yma yn y sefydliad hwn, ac i roi ein barn wahanol i bobl Cymru ym mhob un o etholiadau'r Senedd y credaf y bydd pobl yn cymryd rhan ynddynt, ac rwy'n gobeithio mewn mwy o niferoedd yn y dyfodol.

Diolch, Llywydd. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi rhoi munud i mi yn y datganiad hwn y prynhawn yma. Er nad ydw i mor ifanc â Luke Fletcher, o'n i'n saith ym 1999, felly dwi'n cofio ychydig am y delweddau graenus ar BBC News ac S4C o'r Cynulliad cyntaf—ddim yn hollol mewn du a gwyn. [Chwerthin.] Ddim yn hollol mewn du a gwyn, ond rwy'n cofio'r delweddau hynny, ac roedd yn rhywbeth y cefais fy magu ag ef ac roedd yn ymdeimlad o falchder aruthrol i mi. Diolch i Jack Sargeant, a dweud y gwir—ei fod wedi rhoi dyraniad i mi.

Roedd fy rhieni—fy mam a'm tad—yn yr oriel gyhoeddus ar gyfer agoriad brenhinol y Senedd yn dilyn ein hetholiad, ac roedd ymdeimlad aruthrol o falchder. Wrth ddod i mewn i hyn o'r tu allan mae yna bethau y byddwn i'n eu newid, yn anochel—byddwn i'n cael gwared â'r cyfrifiaduron hyn o'r Siambr hon, byddwn yn newid yr amseroedd rydyn ni'n eistedd yn y Siambr hon. Mae yna bethau y byddwn i'n eu gwneud yn wahanol, ond i'r rhai sy'n beirniadu'r lle hwn oherwydd polisïau'r Llywodraeth, y rhai sy'n beirniadu y Llywodraeth yn gywir, y rhai sy'n ein beirniadu fel gwrthbleidiau, a'r ffordd yr ydym yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif—maen nhw'n ein beirniadu ni'n briodol. Ond peidiwch â beirniadu'r sefydliad. A byddaf yn defnyddio pob anadl yn fy nghorff i amddiffyn yr hawl i Gymru gael Senedd yma yng Nghaerdydd. Rwy'n credu ei bod yn holl bwysig bod gennym gyfle i edrych ar ein gilydd lygad i lygad ar draws y Siambr i ddadlau dros y polisïau hynny a welwn ar gyfer dyfodol Cymru. Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig.

Ond yr hyn fyddwn i'n ei ddweud hefyd, yr unig ffordd y gallwn ni fynd ati i newid, a gweithredu'r newid cywir rydyn ni'n credu ynddo, yw mynd allan a phleidleisio. Felly, byddwn i wir yn annog y beirniaid hynny sy'n beirniadu'r Llywodraeth hon, neu'n ein beirniadu fel gwrthwynebwyr—ewch allan a phleidleisio. Eich hawl ddemocrataidd chi yw mynd allan a phleidleisio, ac mae mor bwysig, a byddwn i'n pledio gyda nhw: peidiwch â beirniadu—pleidleisiwch.

16:10

Wel, does dim llawer i anghytuno ag ef yno. Dylwn i nodi'n dyner wrth yr Aelod ei fod yn swnio'n debyg iawn i'r Aelod dros Flaenau Gwent pan fo'n sôn am rai o'r newidiadau yn y lle hwn. Efallai nad dyna yr hoffai aelodau ei gymdeithas ei glywed pan fydd yn dychwelyd at ei gydweithwyr Ceidwadol yn y gorllewin.

Roeddwn i'n meddwl ei fod ychydig yn llym i siarad am ddelweddau graenog o 1999. [Chwerthin.] Efallai nad oedd teledu diffiniad uchel bryd hynny, ond roedd ar ôl yr oes ddu-a-gwyn, felly roedd lliw modern a phopeth ar y pryd. [Chwerthin.]  

Ond ar eich pwynt chi ynglŷn â dyfodol y sefydliad, ac ymgysylltu â phobl, rwy'n credu ei fod yn gadarnhaol iawn bod y pwynt wedi'i wneud gan bobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Rwyf am i bobl bleidleisio, i gymryd rhan, i ddeall y dewisiadau rydyn ni'n eu gwneud ar eu rhan—i gymryd rhan, gan gynnwys os yw hynny'n golygu anghytuno â mi a chefnogi gwahanol bobl. Po gryfaf yw'r nifer a bleidleisiodd, y cryfaf yw'r democratiaeth, ac rwy'n credu y gallwn ni adeiladu dyfodol lle gallwn ddwyn perswâd ar fwy o bobl i gymryd rhan yn y ffordd y gwneir y penderfyniadau hyn. Pwy bynnag y maen nhw'n dewis eu cefnogi, byddai'n well gen i pe bai pobl yn gwneud dewis ynglŷn â phwy ddylai hynny fod, ac ar hynny o leiaf gallwn ni gytuno. Rwy'n sicr yn croesawu'r cyfraniadau cadarnhaol gan y ddau siaradwr Ceidwadol heddiw am greu'r lle hwn ac am ei ddyfodol. Mae hynny'n gam pendant ymlaen mewn 25 mlynedd, ac yn un y dylai pob un ohonom ei gydnabod a'i ddathlu.

Diolch i'r Prif Weinidog.

Ar y datganiad hwn rwy'n rhoi'r gair olaf i mi fy hun. Bum mlynedd ar hugain yn ôl i heddiw cefais fy ethol i'r Cynulliad cyntaf hwnnw—un o'r pedwar arall sydd ar ôl o'r dosbarth '99 y sonnir amdano yn aml, ac atgoffir y pedwar ohonom yn boenus o'n hoedrannau gan Luke Fletchers a Samuel Kurtzes y byd hwn heddiw. Rwy'n cofio parcio fy nghar ar y diwrnod cyntaf hwnnw, 25 mlynedd yn ôl, ar y darn yma o dir—tir diffaith bryd hynny—sydd bellach yn safle ein Senedd. Rwy'n ei gofio'n dda oherwydd fy mod mor gyffrous fe wnes i yrru fy nghar ar yn ôl i gar Aelod arall. [Chwerthin.] Car Democrat Rhyddfrydol oedd e. Ac ar y maes parcio hwnnw fe wnaethom adeiladu Senedd yr unfed ganrif ar hugain, Senedd fwy modern a hyblyg na'r mwyafrif o Seneddau eraill, gyda chydbwysedd tecach o ddynion a menywod yn wleidyddion na'r mwyafrif o Seneddau. Y Senedd gyntaf yn y byd, yn 2003, i fod yn berffaith gytbwys rhwng y rhywiau. Rydym yn gweithio yn nwy iaith swyddogol Cymru ac, fel pob Senedd, rydym yn cael rhai pethau'n gywir a rhai pethau'n anghywir, a phan fyddwn ni’n cael pethau'n anghywir, dydy pobl Cymru ddim yn cilio rhag dweud hynny wrthym, mewn protest, mewn deiseb ac yn bersonol.  

Ac ers 1999, mae'r gwleidyddion wedi mynd a dod, pob un yn cyfrannu yn ei ffordd ei hun, pob un yn diflannu yn ei dro. Er hynny, nid Senedd y gwleidyddion yw hon, nid Senedd Samuel Kurtz na Delyth Jewell, nid hyd yn oed Senedd Jane Hutt yw hon. Senedd y bobl yw hon. Nid y 60 o bobl sydd yma heddiw na’r 96 o bobl fydd yma yfory. Pobl Cymru biau’r Senedd yma, ac fel pob Senedd yn y byd, mae rhai yn cefnogi’r hyn mae’r Senedd yn ei wneud, rhai yn anwybyddu, rhai yn protestio a rhai yn cyfranogi.

Mae’n dda ein bod ni yma o hyd, ydy, ond consensws gwleidyddol y Siambr yma heddiw yw ein bod ni yma am byth. Mae llai nag awr ers inni gychwyn trafod yr eitem yma ar y pum mlynedd ar hugain diwethaf o fywyd y Senedd yma; mae awr yn fwy na digon i'w neilltuo ar edrych yn ôl. Cael ein hethol a wnaethom ni i edrych ymlaen, a chynllunio i’r dyfodol ydyn ni am y pum mlynedd ar hugain nesaf, a’r ganrif nesaf.

16:15
4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Blaenoriaethau ar gyfer newid hinsawdd a materion gwledig

Felly, without further ado, ymlaen i'r eitem nesaf o fusnes, a datganiad yw hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet ar flaenoriaethau ar gyfer newid hinsawdd a materion gwledig—Huw Irranca-Davies. 

Diolch, Llywydd; diolch yn fawr. Heddiw, rwy'n falch iawn o amlinellu rhai blaenoriaethau allweddol yn fy mhortffolio. Byddaf yn gwneud datganiad llafar pellach ar 14 Mai a fydd yn canolbwyntio ar ddyfodol ffermio yng Nghymru. Byddaf hefyd yn rhoi diweddariadau amserol ar faterion pwysig eraill nad ydynt yn y datganiad heddiw yn y dyfodol. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Mae'r portffolio hwn yn ymwneud â heriau a rennir ac am faterion sy'n bwysig i bobl nawr ac sydd hefyd yn hanfodol i genedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn golygu ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, sicrhau rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol a sicrhau dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth Cymru, i goedwigaeth a physgodfeydd a'r cymunedau gwledig y mae'r sectorau hyn yn eu cefnogi. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn wneud cynnydd ar y materion hyn—ffordd Gymreig o wneud pethau, pryd rydym yn gwrando, rydym yn ystyried tystiolaeth ac yna awn ymlaen fesul cam i chwarae ein rhan. Mae cyfleoedd hefyd i ddatblygu sgiliau, ar gyfer swyddi gwyrdd a chreu dyfodol economaidd gynaliadwy a theg i Gymru.

Nawr, mae yna lawer o feysydd lle mae cytundeb. Rwyf am adeiladu o ble mae gennym gonsensws a gweithio trwy'r heriau mwy cymhleth gyda'n gilydd. Byddwn yn gwneud cynnydd lle mae pawb yn chwarae eu rhan. Enghraifft amlwg yw ein dull o fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae ein hymrwymiad i sero net yn ddiwyro ac rydym yn datblygu dull newydd o addasu i newid hinsawdd. Mae'r ymateb i'r ddau wedi'i ymgorffori ar draws y Cabinet cyfan. Ym mhob sector allyriadau mawr, mae Ysgrifennydd perthnasol y Cabinet yn ysgogi'r camau sydd eu hangen i gyflawni'r gyllideb garbon bresennol ac i bennu'r camau sydd eu hangen i gyflawni cyllideb garbon 3, tuag at sero net erbyn 2050. Ac, yn hollbwysig—yn hollbwysig—cyflawni'r rhain mewn ffordd sy'n deg.

O fewn fy mhortffolio fy hun, mae lleihau allyriadau o'r sector gwastraff wedi gweld cynnydd cryf. Mae hyn yn deillio o weledigaeth glir, buddsoddiad parhaus, ynghyd â fframwaith rheoleiddio cadarn a phartneriaeth gref. Bydd ein rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn sbarduno cynnydd pellach ac yn creu ailgylchu o ansawdd uchel i ategu ein huchelgeisiau economi gylchol. Gyda thair gwlad arall y DU, cyhoeddais gam nesaf y cynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig a chynnydd ar gynllun dychwelyd ernes. Mae'r rhain yn fentrau pwysig i'r economi a'r amgylchedd, sy'n cael eu datblygu mewn partneriaeth. Rwyf wedi ymrwymo i weithio'n gadarnhaol gyda Llywodraethau eraill, fel yr adlewyrchwyd hefyd yn fy nghyhoeddiad diweddar am waharddiadau ar fêps untro a weips gwlyb sy'n cynnwys plastig, ond byddwn yn mynd ymhellach ac yn gyflymach lle y gallwn.

Mae rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn allweddol i wella cydnerthedd ein hecosystemau. Mae'n galonogol bod ein rhaglen gweithredu mawndir genedlaethol wedi adfer 3,000 hectar ers 2020. Mae adfer yr ecosystemau gwerthfawr hyn yn helpu i greu cynefin cyfoethog, storio dŵr a sicrhau storfeydd carbon hanfodol, ac mae'n creu swyddi medrus iawn.

Mae ein rhaglen Rhwydweithiau Natur wedi buddsoddi dros £30 miliwn dros y ddwy flynedd diwethaf, ac mae rownd arall ar y gweill. Mae gan goed rôl hanfodol i'w chwarae wrth gloi carbon o'r atmosffer, cynhyrchu adnoddau pren adnewyddadwy, darparu cynefinoedd a lloches i gnydau a da byw. Wrth gwrs, mae ein huchelgais ar gyfer plannu coed ac atafaelu carbon yn faes lle mae'n hanfodol datblygu amcanion ar y cyd â'r ffermwyr a'r rheolwyr tir.

Rwy'n ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar y targedau llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth. Mae sicrhau bod egwyddorion amgylcheddol yn cael eu hymgorffori yng Nghymru a bod gennym fframwaith clir ar gyfer llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth yn flaenoriaeth allweddol.

Mae gwaith pwysig hefyd i'w wneud wrth weithredu deddfwriaeth yr ydym eisoes wedi'i gwneud—er enghraifft, wrth fynd i'r afael â llygredd aer. Gan weithio ar draws y Llywodraeth, byddaf yn blaenoriaethu gweithredu ein cynllun aer glân a'r Ddeddf aer glân. Rwy'n edrych ymlaen at gadeirio'r uwchgynhadledd ansawdd afonydd nesaf ym mis Gorffennaf. Mae gwella ansawdd dŵr ac ecosystemau dŵr o ddiddordeb hirsefydlog i mi. Ymunais â chadeiryddion Ofwat a Cyfoeth Naturiol Cymru ddechrau mis Mai a gwelais waith ar y gweill i wella Afon Teifi, gan gynnwys gwaith i fynd i'r afael â llygredd mwyngloddiau metel. Ar draws Cymru, rydym bellach wedi buddsoddi £15 miliwn ers 2020, a gyda £5 miliwn arall wedi'i gynllunio ar gyfer 2024-25.

Mae gan ffermio, wrth gwrs, rôl bwysig i'w chwarae wrth wella ansawdd dŵr. Dyluniwyd y rheoliadau llygredd amaethyddol i fynd i'r afael ag achosion o lygredd amaethyddol yng Nghymru, i gyfrannu at ganlyniadau ar gyfer newid hinsawdd, bioamrywiaeth ac iechyd a llesiant pobl. Felly, mae'r adolygiad pedair blynedd o'r rheoliadau bellach ar y gweill. Rwyf eisiau clywed gan ffermwyr a rhanddeiliaid eraill am ymarferoldeb y rheoliadau a sut y gellir eu gwella. Dim ond un enghraifft yw'r rheoliadau hyn o'r ffordd y mae llinynnau'r portffolio hwn yn dod at ei gilydd.

Ffermio yw hanfod cymunedau gwledig Cymru. Rwyf am weld dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru: cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gofalu am ein hamgylchedd a chefnogi ein cymunedau gwledig. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ffermio mewn amodau llawer mwy heriol, yn enwedig oherwydd effeithiau newid hinsawdd. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi cymorth i ffermwyr gyflawni'r amcanion hyn. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn trwy weithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr a'n rhanddeiliaid. Byddaf yn dweud mwy am y camau nesaf ynghylch y cynllun yr wythnos nesaf, yn dilyn dadansoddiad o'r ymgynghoriad.

Roeddwn i eisiau cydnabod y rôl bwysig mae anifeiliaid yn ei chwarae ym mywyd Cymru. Mae sicrhau lles ac iechyd anifeiliaid da yn golygu bod pawb ar ei ennill ac mae'n flaenoriaeth i mi. Mae'n bosibl nad yw'r risgiau o glefydau heintus erioed wedi bod yn fwy, felly bwriad mabwysiadu dull un iechyd yw sicrhau llesiant ac iechyd pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd y maent yn ei rannu. Wrth gwrs, nid yw pob clefyd anifail yn hawdd ei reoli, ac mae twbercwlosis buchol yn her yr ydym i gyd yn ei hwynebu. Byddwn yn dyblu ymdrechion i gael gwared ar y clefyd o fuchesi Cymru, i leddfu'r dioddefaint y mae'n ei achosi i ffermwyr a'u teuluoedd, a'r costau sylweddol a wynebir yn ei sgil.

Mewn cysylltiad â physgodfeydd a dyframaethu, mae ein pwyslais yn parhau i fod ar reoli cynaliadwy, gan ganolbwyntio ar gynlluniau rheoli pysgodfeydd a mesurau rheoli addasol, a'u cyflawni, wedi'u hategu gan wyddoniaeth a thystiolaeth a'u datblygu gyda rhanddeiliaid. Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer y sector yn ystod y misoedd nesaf. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

16:20

Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gopi ymlaen llaw o'ch datganiad y prynhawn yma. Hoffwn eich croesawu i'ch swydd yn ffurfiol; dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi cael y cyfle i wneud hynny hyd yn hyn.

Roedd eich datganiad heddiw yn canolbwyntio llawer ar gydweithredu a chonsensws ac, er bod cydweithredu yn cael ei bwysleisio, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â gwrthdaro buddiannau posibl rhwng rhanddeiliaid yn y sector? Rydych chi a minnau wedi siarad am y gynghrair fawr hon o ddod â phobl at ei gilydd, ond sut mae hynny'n mynd i drosi i weithredoedd pendant a fydd mewn gwirionedd yn bwydo i mewn i'r broses o wneud penderfyniadau, a sut ydych chi'n bwriadu dod â'r bobl hynny at ei gilydd mewn gwirionedd, oherwydd eu bod yn siarad o safbwyntiau cwbl groes i'w gilydd o ran yr hyn y maen nhw'n disgwyl i bolisi'r Llywodraeth fod?

Fe wnaethoch chi hefyd grybwyll, trwy gydol y datganiad, effeithiolrwydd a mesuriad. Fe wnaethoch chi dynnu sylw at gynnydd mewn rhai meysydd, fel y prosiectau adfer mawndir. Ond sut mae llwyddiant y mentrau hynny, ac eraill fel y rhaglen Rhwydweithiau Natur, yn mynd i gael eu mesur yn y tymor hir? Oherwydd gwelir symiau enfawr o arian cyhoeddus yn cael eu buddsoddi ynddynt, felly rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig i ni, fel Senedd yma, ein bod mewn gwirionedd yn gwybod sut rydych chi'n mynd i fesur hynny a beth fydd canlyniadau'r prosiectau hynny.

Fe wnaethoch chi sôn, yn gywir, am y cynllun ffermio cynaliadwy a ffermio yn gyffredinol, a'r holl ddadlau ynghylch hynny ar hyn o bryd, a gwn eich bod i fod i wneud datganiad ehangach ar Wythnos Ffermio'r Byd, sef yr wythnos nesaf, ar y pedwerydd ar ddeg, ynghylch hyn. Fe wnaethoch chi bwysleisio yn y datganiad eich bod eisiau diwydiant ffermio llwyddiannus yng Nghymru, a dyna rydw i eisiau ei weld, dyna rydych chi eisiau ei weld, ac rwy'n siŵr bod pawb o gwmpas y Siambr hon eisiau i hynny ddigwydd, ond dim ond pan fyddwch chi'n cydweithio â ffermwyr y gall hynny ddigwydd a gweithio gyda nhw mewn gwirionedd. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn teimlo bod y Llywodraeth yn gwneud pethau iddyn nhw ac mewn gwirionedd ddim yn eu hannog i newid, felly rwy'n credu, rhywbeth gennych chi, Ysgrifennydd Cabinet—rwy'n credu y bydd croeso i'r byrddau crwn rydych chi wedi'u crybwyll, hefyd, mewn datganiad blaenorol. Ond mae'n rhaid i'r holl fentrau hyn fod â dannedd ac mae'n rhaid i ganlyniadau mesuradwy ddod yn eu sgil, ac nad dim ond siopau siarad y mae'r Llywodraeth yn eu sefydlu ydyn nhw.

TB buchol, yr oeddech chi'n sôn amdano—yr hyn yr hoffwn ei wybod yw: pa gynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud ynglŷn â chaniatáu i wartheg cyflo aros yn fyw ar y fferm os ydyn nhw wedi cael diagnosis o TB? Oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef ac ymhelaethu arno, oherwydd nid wyf yn credu bod unrhyw un yma eisiau gweld gwartheg cyflo yn cael eu saethu ar ffermydd ac yna gwartheg yn boddi yn eu mamau. Nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth yr ydym eisiau ei weld, nid yw'n rhywbeth y mae'r diwydiant yn hoffi ei weld, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i'r Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch i ni.

Fe wnaethoch chi siarad am bysgodfeydd a dyframaethu. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â heriau posibl sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd yn y sector hwn a'i effaith ar y stociau pysgod ar draws dyfroedd Cymru, oherwydd mae pawb, fel y dywedais i, eisiau gweld diwydiant pysgota ffyniannus yma yng Nghymru, ond mae heriau amgylcheddol yn gwneud hynny'n fwy a mwy anodd. Ond mae gennych chi gynlluniau hefyd yr oeddech chi'n eu hamlinellu. Tybed a allwch chi ymhelaethu ar y cynlluniau hynny er mwyn gweld sut mae rhanddeiliaid o'r diwydiant pysgota yn rhan o hynny a sut rydych chi'n monitro cynnydd ac yn addasu'r cynlluniau rheoli pysgodfeydd i'r holl newidiadau sy'n digwydd ar draws y sector hwnnw.

Fe wnaethoch chi symud ymlaen at rywbeth rydw i wedi siarad â chi cryn dipyn amdano yn ddiweddar, am y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle. Ni all neb wadu bod busnesau ledled Cymru eisiau ailgylchu; mae pawb eisiau gwneud hynny. Rwy'n mwynhau ailgylchu; rwyf eisiau sicrhau bod pawb yn ailgylchu. Ond mae'n rhaid ei wneud mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau, a chyflwynwyd y rheoliadau hyn yn rhy gyflym, heb ymgynghori â'r diwydiant. Rwy'n gwybod y byddwch yn dweud mewn ymateb, 'Mae hon wedi bod yn sgwrs dros 25 mlynedd', ond rwyf wedi siarad â gweithredwyr gwastraff ledled Cymru nad ydynt yn gwybod beth i'w wneud. Mae cwmnïau allan yna, tafarndai, lletygarwch, nad ydynt wedi cael y biniau eto i gydymffurfio â'r rheoliadau hyn. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddiddorol gwybod pa waith arall rydych chi'n ei wneud ynghylch hynny, oherwydd nid wyf yn credu mewn gwirionedd ein bod wedi cyrraedd y lle y mae angen i ni fod i alluogi busnesau i wneud yr ailgylchu y mae angen iddynt ei wneud.

Fe wnaethoch chi sôn am ansawdd afonydd, ac, fel y dywedais, mae hynny eto yn fater enfawr sy'n wynebu llawer o bobl, yn enwedig fy etholwyr. Mae'n rhaid fy mod yn cael tua 40 neu 50 o negeseuon e-bost y dydd yn fy mewnflwch ynghylch Afon Gwy ac Afon Wysg, ac rwy'n siŵr bod Aelodau rhanbarthol sy'n ymwneud â fy rhan i o'r byd yn cael y rheini hefyd. Felly, rwyf eisiau gwybod am yr uwchgynhadledd ansawdd afonydd a sut y bydd honno'n mynd i'r afael â rhai o'r problemau a gawsom, oherwydd rydym wedi cael uwchgynhadledd ar ôl uwchgynhadledd ar ôl uwchgynhadledd ond ymddengys nad oes dim yn digwydd, Gweinidog. Rydyn ni wedi sôn am symiau o arian a fydd yn mynd i mewn i'w helpu, ond nid wyf mewn gwirionedd yn gweld beth mae hynny'n ei gyflawni ar lawr gwlad, felly byddai'n ddiddorol iawn clywed gennych chi am beth yw eich cynlluniau o ran sut y gellir addasu hyn. Sut allwn ni wella ansawdd afonydd yma yng Nghymru fel bod gan yr uwchgynhadledd hon rywfaint o ddannedd ac mewn gwirionedd yn dangos sut y gallwn wella ansawdd afonydd yng Nghymru? Ac o ran y parthau perygl nitradau a'r rheoliadau llygredd amaethyddol, sut ydych chi'n mesur y rheini, a sut ydyn ni mewn gwirionedd yn sicrhau eu bod yn gwella ansawdd dŵr ledled Cymru? Oherwydd mae'n iawn i roi'r pethau hyn i mewn, ond, os nad ydyn nhw'n gwneud gwahaniaeth, sut mae'r Llywodraeth yn mynd i addasu a newid y pethau hyn i sicrhau eu bod yn gweithio mewn gwirionedd?

O ran lles anifeiliaid, amlygodd y datganiad fod lles anifeiliaid yn golygu bod pawb ar ei ennill, anifeiliaid a bodau dynol. Rwy'n hoff o anifeiliaid fy hun; mae gen i gŵn a  phob math o anifeiliaid anwes a oedd gennyf dros y blynyddoedd, felly ni welwch neb sy'n caru anifeiliaid yn fwy na fi, ond yr hyn sydd gen i ddiddordeb ynddo yw: a allwch chi ymhelaethu ar unrhyw fentrau neu bolisïau penodol sydd wedi'u cynllunio gan Lywodraeth Cymru i wella safonau lles anifeiliaid yng Nghymru y tu hwnt i'r mesurau presennol sydd ar waith ar hyn o bryd?

Yn olaf—i symud ymlaen, gan fy mod yn trethu amynedd y Dirprwy Lywydd—yn olaf, o ran targedau sero net, rydych chi'n dweud bod cyfresi newydd o gynlluniau ar gyrraedd, ond a allwch chi esbonio sut mae'r rhain yn mynd i fod yn wahanol i strategaethau blaenorol y Llywodraeth? Oherwydd rwy'n credu mai'r unig ffordd y gallwch gyflawni ymrwymiadau sero net a newid hinsawdd yw cydweithio ag eraill. Cydweithio â rheolwyr tir, cydweithio â ffermwyr a'r diwydiant er mwyn dod â phawb ynghyd i gyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth eisiau ei gyflawni, oherwydd, os ydych chi'n gwahanu pawb, does neb yn cyd-dynnu i'r cyfeiriad cywir, felly byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed eich barn ar hynny. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

16:25

Efallai fy mod i wedi colli un neu ddau, ond rwy'n siŵr y bydd James yn dweud wrthyf. Fe wnes i ysgrifennu ychydig i lawr.

Byddaf yn gryno iawn. James, yn gyntaf oll, diolch yn fawr iawn am y croeso i'r swydd hon. Mae'n bortffolio cyffrous, llawer o heriau, ond mewn gwirionedd mae'n gwneud i mi wenu wrth imi godi yn y bore. Mae'n bortffolio gwych, sy'n cwmpasu popeth a wnawn yma.

Un o'r themâu a godwyd gennych yn eich materion oedd sut ydych chi'n ymdrin â gwahaniaethau barn rhanddeiliaid. Wel, rydych chi'n cwrdd â nhw mewn gwirionedd ac yn trafod gyda nhw ac rydych chi'n nodi'r dystiolaeth, ac yna rydych chi'n cydnabod y bydd adegau, James, pan fydd pwynt gwahanol o hyd ar ddiwedd y trafodaethau hynny pryd y bydd rhaid i ni wneud penderfyniad wedyn, ond dyna fy swyddogaeth i yma. Ond fy ymrwymiad yw—. Ac er bod datganiad i ddod yr wythnos nesaf yn benodol ar ffermio, rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd bwrdd crwn dan arweiniad gweinidogion lle gellir cynyddu pethau ar gyfer y penderfyniadau caled hynny. Ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â llawer o wrando, ymgysylltu ac edrych ar y dystiolaeth, ac mae hynny'n cynnwys holl feysydd y portffolio. Roeddech chi'n sôn am safbwyntiau hollol groes i'w gilydd. Nid wyf yn argyhoeddedig bod yna rai. Mae hwnnw'n un arwydd. Mae gennym gytundeb enfawr mewn gwirionedd. Ni allwn barhau i gyfyngu pobl i safbwyntiau gwahanol. Mewn gwirionedd, cyffredinrwydd yr hyn yr ydym yn cytuno arno yw'r peth pwysig. Yna, mae angen gweithio allan sut ydyn ni'n ymdrin â'r meysydd hynny lle mae anghytundeb mewn gwahanol feysydd.

Gadewch imi grybwyll adfer mawn. Mae rhywfaint o waith da iawn eisoes ar lwyddiant y prosiect adfer mawn ar gael yn gyhoeddus, ac rydym yn symud yn gyflym ar hynny yng Nghymru. Rydym yn rhoi llawer o arian i mewn iddo, ond mae'n sicrhau llwyddiant. Byddwn yn awgrymu'n gryf i James ac i unrhyw un, os nad ydych wedi cael y cyfle, ewch allan i ymweld â nhw. Rwyf wedi bod allan yn ystod yr wythnosau diwethaf i ddwy o'r rheiny. Rwy'n bwriadu mynd i fwy ohonynt. Mae'n llwyddiant ysgubol, ac mae'n creu swyddi, fel y soniais yn fy natganiad agoriadol.

Fe wnaethoch chi sôn am TB a lladd ar y fferm. Y grŵp cynghori technegol, y cyfarfûm ag ef pan gawsant eu cyfarfod cyntaf, ychydig wythnosau yn ôl, yn fuan iawn ar ôl imi ddechrau ar fy mhortffolio, un o'r pethau cyntaf y maent yn edrych arno yw lladd ar y fferm. Nid wyf wedi gweld yr adborth o hwnnw hyd yn hyn. Bydd y panel dan arweiniad arbenigwyr yn ei gyfeirio at y bwrdd partneriaeth ac, yn anochel, bydd yn dod ataf i hefyd. Ond rwy'n edrych ymlaen at hynny. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen, James, i ble arall maen nhw'n mynd o ran edrych ar faterion TB yn gyffredinol.

O ran newid hinsawdd a physgodfeydd, a wnaethoch chi grybwyll, yn fyr iawn. Rydym eisoes wedi llunio'r cynigion ynghylch draenogiaid y môr a chregyn y brenin. Mae gennym ni fath gwahanol o bysgodfeydd yng Nghymru o'u cymharu â'r rhai o amgylch gweddill y DU. Rwy'n dweud hynny fel cyn-Weinidog pysgodfeydd y DU. Mae'n hollol wahanol. Ond mae yna gyfleoedd go iawn. Felly, o ran draenogiaid y môr a chregyn y brenin, rydym eisoes wedi cynhyrchu cynllun. I ddod cyn bo hir mae rhai ar gregyn moch, cocos, crancod a chimychiaid ac ati. Ac unwaith eto, roeddwn yn falch o gwrdd â'r rhai sy'n ymwneud â physgodfeydd yn Abertawe a gorllewin Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Ailgylchu yn y gweithle. Wel, y ddadl yma, mewn gwirionedd, yw ei fod wedi dwyn ffrwyth ers 10 mlynedd. Rydym eisoes wedi cyflawni ailgylchu domestig. Ailgylchu yn y gweithle oedd yr un rhesymegol nesaf. Rydym wedi rhoi llawer iawn o gefnogaeth, cyngor, arfer gorau ar waith. Bydd, fe fydd rhai anawsterau ynddo, ond unwaith eto, nid yw Cymru'n ei wneud er ei fwyn ei hun; rydyn ni'n dweud, os ydyn ni o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â sbwriel a hefyd ein bod ni o ddifrif ynghylch bod yn ddi-garbon, dyma beth rydyn ni'n ei wneud. Rydyn ni'n bwrw ymlaen pan fyddwn ni'n barod, rydyn ni'n mynd ychydig ymhellach ac yn gyflymach, ond rydyn ni'n gweithio gyda phobl i'w cefnogi nhw.

Mowredd, rydych chi wedi cynnwys llawer. Uwchgynadleddau ansawdd afonydd, mae'r un nesaf ym mis Gorffennaf. Byddaf yn ei gadeirio. Rwy'n edrych ymlaen ato. A natur yr uwchgynadleddau ansawdd afonydd hynny yw eich bod mewn gwirionedd yn dod â phawb at ei gilydd i ddweud, 'Sut y gallwch chi i gyd gyflawni mwy a chyrraedd yr hyn yr ydym eisiau ei weld, sef bod ag afonydd dihalog?' A dyna'r dull gweithredu y byddwn yn ei fabwysiadu.

Sero net. Rydyn ni wedi dweud, 'Dyma'r degawd o gyflawni, cyrraedd lle mae angen i ni fod erbyn 2025, erbyn 2030.' Mae'r rhain yn gamau mawr, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fwrw ymlaen. Ni allwn gerdded yn ôl oddi wrtho mewn unrhyw sector o gwbl. Dirprwy Lywydd, rydych chi'n edrych yn wirioneddol—.

Rydych hefyd wedi ymdrin ag agweddau ar les anifeiliaid. Dim ond i ddweud ein bod wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar drwyddedu lles anifeiliaid. Mae hyn yn cyd-fynd â'n syniad o ddatblygu model cenedlaethol i wella rheoleiddio lles anifeiliaid. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Mawrth. Cawsom dros 11,000 o ymatebion, ond rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno rhywfaint o newyddion ar hynny, ar gefn hynny pan fyddwn wedi ei ddadansoddi.

Rwy'n credu efallai fy mod i wedi hepgor rhywbeth, ond roedd yna lawer iawn o bethau yr oeddech chi wedi'u crybwyll, James. Fe wnaf drafod gyda chi eto os oes rhywbeth ar goll.

16:30

Diolch am eich datganiad. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y maes pwysig hwn.

Yn gyntaf oll, a fyddech chi’n cytuno bod yn rhaid i ni bwysleisio brys a gosod mas llinellau clir, cadarn o ran pryd bydd y ddeddfwriaeth sydd yn dod mewn yn eich portffolio chi yn dod i mewn? Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld y Bil diogelwch tomennu glo a'r Bil ar lywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth. Ydych chi’n cytuno taw nid materion gweinyddol ydy'r rhain yn unig? Maent hefyd yn offerynnau hanfodol fydd yn ein helpu ni i ddiogelu ein hamgylchedd a sicrhau datblygu cynaliadwy. Felly, rhaid trin eu cyflwyniad fel mater o frys. Felly, sut byddech chi’n sicrhau'r brys hwnnw?

Ar ben hynny, buaswn i’n hoffi deall mwy am y newidiadau strwythurol yn y portffolios gweinidogol. Er bod y Gweinidog Newid Hinsawdd blaenorol wedi goruchwylio sbectrwm eang o gyfrifoldebau, gan gynnwys tai, cynllunio, trafnidiaeth ac ynni, mae ailddosbarthu wedi digwydd yn y cyfrifoldebau. Mae hynny, efallai, yn codi rhai cwestiynau ynglŷn â sut byddwch chi, fel Ysgrifennydd Cabinet newydd, yn canfod eich rôl. Dwi'n cymryd bydd cydweithredu trawsadrannol yn hollbwysig wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd yn effeithiol—pob un o'r meysydd sydd oddi tano fe, felly. Felly, sut byddwch chi yn gweithio gydag adrannau eraill i sicrhau bod cydlynu yn gweithredu mewn ffordd effeithiol?

Rhywbeth rŷn ni wedi cytuno arno yn y gorffennol ydy pa mor hanfodol ydy cael buy-in gan y cyhoedd am yr angen inni gyrraedd net zero. Mae rhai mentrau diweddar—fel rŷn ni wedi clywed yn barod—fel y cynllun ffermio cynaliadwy, wedi profi'n gynhennus ac mae yna densiynau yna. Ac yn fwy cyffredinol, i ffwrdd o'r maes hwnnw, mae rhai actorion, efallai o gyfeiriad San Steffan yn arbennig, yn ceisio cynhyrfu pobl yn erbyn y syniad o net zero, beth bynnag. Sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r tensiynau sy'n bodoli, y rhai sydd yn ddealladwy, er enghraifft, yn y maes ffermio, ond hefyd yr amheuaeth sydd yn fwy cyffredinol gan bobl, i wneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn teimlo bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar y cyd â nhw, yn lle eu bod nhw'n cael eu gorfodi? Achos mae hwnna'n rhywbeth lle, os ydyn ni ddim yn cael buy-in, mae e'n mynd i wneud popeth cymaint yn anoddach. Sut byddwch chi'n gweithio i berswadio'r rhai sydd yn fwy amheus am nid yn unig difrifoldeb y sefyllfa, ond pa mor bosibl ydy hi y gallem ni i gyd wneud gwahaniaeth, fod pwrpas ac urgency i beth sydd yn digwydd a'r cynlluniau sydd yna?

Ac at hynny, gallwn ni ddim anwybyddu'r mater o ddatganoli a rheolaeth dros adnoddau hanfodol. Mae datganoli Ystad y Goron yn llawn i Gymru a phwerau dros grid Cymru yn bwysig i'n galluogi ni i gyrraedd net zero. Yn yr un modd, bydd cael pwerau dros ynni heb derfyn uchaf o 350 MW yn bwysig. Sut byddwch chi'n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros ynni i sicrhau bod y pwerau hyn yn cael eu datganoli?

Felly, rwy'n dymuno'n dda i chi yn y rôl hwn. Mae Cymru a'i phobl—. Maen nhw angen i chi lwyddo, felly mewn pa bynnag ffyrdd y bydd hi'n bosib inni gydweithio yn y maes hollbwysig hwn, byddaf i'n gobeithio y gallem ni wneud, a byddaf i'n croesawu hynny. Diolch yn fawr.

16:35

Diolch yn fawr iawn, Delyth. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda chi yn barod, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi a chyd-Aelodau eraill o amgylch y Siambr wrth i ni symud ymlaen, oherwydd pan fyddaf yn siarad am bartneriaeth, rwy'n golygu hynny, ar draws pawb yn y Siambr hon, gan gynnwys ledled Cymru hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn am frys rhai o'r tasgau sydd o'n blaenau, ac yn enwedig rhai o'r deddfwriaethau yr ydym yn aros yn frwd amdanynt. Nid yw'r Bil diogelwch tomenni glo yn fy mhortffolio i, ond mae'n flaenoriaeth. Bydd fy nghyd-Ysgrifennydd yn cyflwyno hwnnw. Ac yn sicr, y llywodraethu amgylcheddol a'r bioamrywiaeth—ie. Yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, dywedodd y Prif Weinidog ar lawr y Senedd, cymaint y mae'n disgwyl cyflwyno hynny a chyflawni hynny. Bydd yn rhaid i ni, wrth gyflwyno hwnnw, ei gael yn iawn hefyd, ond rwyf wedi fy mhlesio gan faint y gefnogaeth sydd ar gael yn y gymdeithas ddinesig ar gyfer hyn. Un o fanteision bod ychydig y tu ôl i'r lleill wrth gyflwyno yw y gallwn ddysgu o'r diffygion mewn mannau eraill, a gallwn sefydlu Bil sydd wir yn darparu corff llywodraethu amgylcheddol sydd â dannedd go iawn ac effeithiolrwydd gwirioneddol, ond hefyd lle mae'r targedau bioamrywiaeth bellach yn cyd-fynd â thargedau y Cenhedloedd Unedig yr aeth fy rhagflaenydd Julie James, allan i'r COP i edrych arnyn nhw, ac y gallwn ar ôl gadael yr UE, ymgorffori'r egwyddorion amgylcheddol hynny'n gryf iawn. Rydym wedi bod yn gweithio ar hyn ers peth amser, felly rydym yn edrych ymlaen at hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am y newidiadau, yn strwythurol, o fewn y Llywodraeth, ac i lawer o bobl y tu allan, byddan nhw'n meddwl, 'Wel, beth yw hyn i gyd?' ond mae'n hanfodol. Yn flaenorol, roedd gennym y Weinyddiaeth newid hinsawdd fawr honno, a oedd yn iawn yn ei chyfnod, mae'n rhaid i mi ddweud, hefyd, ac roedd yn rhywbeth yr oedd Senedd Ieuenctid y DU yn ei gefnogi'n gryf—gadewch i ni gael Gweinyddiaeth sydd wir yn gwthio hyn yn galed, yn sgil wynebu'r argyfyngau natur a hinsawdd a oedd gennym, ac rydym yn parhau i'w wynebu hefyd. Ond y dull yr ydym wedi'i fabwysiadu nawr yw ein bod yn ymgorffori hynny ym mhob un portffolio. Felly, mae'r cyllidebau carbon yno; p'un a yw'n drafnidiaeth, p'un a yw'n llywodraeth leol, p'un a yw'n dai, bydd angen i bob agwedd gyflawni hyn. A brys hyn yw'r union beth a welwn yn yr ail gyllideb garbon dynn iawn, a'r angen i fynd hyd yn oed ymhellach ac yn galetach ar y drydedd gyllideb garbon.

Ond mae'n dod yn ôl at y pwynt hwn eto. Mae'n ymwneud â gofyn i bawb rannu'r gwaith yn deg—nid un neu'r llall, ond pawb—ac mae hynny'n mynd i fod yn heriol. Felly, rydych chi'n iawn i ofyn, 'Wel sut ydyn ni'n cael y cyhoedd i'n cefnogi ni?' Yn gyntaf oll, mae'n rhaid i ni fod yn onest am yr heriau sydd o'n blaenau a dweud wrth bawb, 'Sut allwn ni wneud hyn gyda'n gilydd?' Mae'n rhaid i ni ddadlau hynny nid yn unig o ran cyfiawnder hinsawdd a'r argyfwng hinsawdd, ond cyfiawnder cymdeithasol mewn gwirionedd hefyd, oherwydd gallwn weld y manteision ar anfanteision: manteision gweithredu, er ei fod weithiau'n gofyn am benderfyniadau anodd, ond anfanteision peidio â gweithredu. Felly, p'un a yw hynny, er enghraifft, yn y ffordd yr ydym yn datblygu dyfodol cynhyrchu amaethyddol yng Nghymru, i wneud yn siŵr bod gan hwnnw fwy o gydnerthedd i wynebu heriau'r dyfodol, yr heriau yr ydym yn eu gweld yn awr, sef tywydd gwlyb yn amlach, yn fwy estynedig a'r effaith a gaiff hynny, neu a ydyn nhw'n bethau fel, er enghraifft, y flwyddyn nesaf, rydym yn deall, yn Lloegr lle mae ganddynt y dreth tirlenwi, mae cynnydd o 20 y cant yn Lloegr. Wel, dyna'n union pam rydyn ni'n ceisio gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud o ran rheoliadau'r gweithle a chynlluniau ailgylchu eraill, er mwyn osgoi'r pwysau hynny sy'n dod ar ein busnesau hefyd. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag edrych ar y pontio teg hwnnw ar gyfer pawb, a dyna pam rydyn ni mor bendant, boed hynny ynghylch dur, a chael pontio teg a dadlau dros ddyfodol gwahanol i hwnnw, neu boed hynny ynghylch ffermio a phopeth rhyngddynt.

Ac yn olaf, roeddech chi'n sôn am ddatganoli pwerau ar ynni ymhellach, ar ystadau'r Goron; agweddau fel hyn, rhai hanfodol ar gyfer y dyfodol. Mae gennym safbwyntiau clir iawn yma, ac rydym yn edrych ymlaen, mae'n rhaid i mi ddweud, at ddadlau'r safbwyntiau hynny yn gydamserol â Llywodraeth y DU yn y dyfodol hefyd, i ddweud mewn gwirionedd mai rhan o'r dull partneriaeth hwn yw aeddfedrwydd Llywodraethau sy'n dweud, 'Dyma'ch pwerau chi. Ewch ymlaen, defnyddiwch nhw. Gwnewch beth fedrwch chi', nid yn unig i godi Cymru, ond mewn gwirionedd i godi'r DU hefyd.

16:40

Mae llawer o siaradwyr ar y datganiad hwn, felly, cadwch at eich amser o un funud, os gwelwch yn dda. Carolyn Thomas.

Ysgrifennydd Cabinet, heb fioamrywiaeth nid oes bwyd, nid oes economi. Mae'r DU yn un o'r gwledydd mwyaf disbydd o ran natur, oherwydd rheoli tir gan mwyaf, ac mae newid hinsawdd yn ei waethygu ymhellach. Yn ddiweddar, fe es i gyflwyniad a oedd yn dangos cae a oedd yn wlyb domen, ac yn anaddas ar gyfer plannu, ond roedd y dyfnder yn sych, felly byddai sychder hefyd yn effeithio arno ymhen ychydig fisoedd. Mae hyn oherwydd rheoli tir dwys. Roedd ymylon y cae yn iawn.

Ysgrifennydd Cabinet, a fyddech chi'n ystyried ailadeiladu cydnerthedd i wrthsefyll newid hinsawdd yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gyda dewis neu gyfres o fuddion newid hinsawdd a natur, megis casglu dŵr glaw o adeiladau ffermydd, cynnal ffosydd dan berchnogaeth glannau'r afon, yn ogystal â chynnal gwrychoedd ac ymylon caeau ar gyfer bioamrywiaeth, ac efallai hyd yn oed edrych ar ffyrdd llai dwys o reoli'r tir hwnnw? Diolch.

Carolyn, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna. A gaf i eich cymeradwyo chi hefyd ar gynnal y stondinau a'r digwyddiad bioamrywiaeth a gawsom yna, gyda'r hyn a ddisgrifiais fel byddin o bobl yno, gan weithio ledled Cymru ar rai o'r materion pwysig hyn? Roedd yn gyffrous iawn eu gweld i gyd yn ymgynnull yno, ac rwy'n dymuno'n dda iddynt wrth fynd yn ôl i'w holl brosiectau lleol a chyflawni yno.

Ond rydych chi'n iawn yn yr hyn rydych chi'n ei ddweud: mae'n rhaid i bopeth rydyn ni'n ei wneud o hyn ymlaen, popeth rydyn ni wedi bod yn ei wneud, gael ei anelu at sicrhau cydnerthedd yn y ffordd yr ydym yn rheoli tir yn ogystal â'n hamaeth. Pan wnaethom ni, o fewn yr ychydig wythnosau diwethaf, gan weithio gyda'r undebau ffermio a gyda'r gadwyn gyflenwi, gynnal uwchgynhadledd dywydd gwlyb eithafol, roedd yn gydnabyddiaeth mai'r hyn a welsom ar ddechrau'r uwchgynhadledd honno oedd rhagamcanion gan y Swyddfa Dywydd yn dangos nad yw hyn yn rhywbeth sy'n digwydd unwaith ac am byth; nid yw'n batrwm pum mlynedd hyd yn oed; mae hwn bellach yn duedd hirdymor. Gyda'r lleithder cynyddol yn yr amgylchedd, rydyn ni'n mynd i gael dilywiau am gyfnodau hir. Bydd rhai blynyddoedd pryd na fyddant yn cyd-fynd â'r patrwm, ond mae'r duedd yn glir iawn, ac yna bydd sychder yn yr haf. Felly, gan greu ym mhopeth a wnawn, p'un a yw'n ddyfodol ffermio cynaliadwy, ynteu'r mentrau adfer natur a bioamrywiaeth ehangach, y cydnerthedd hwnnw o ran rheoli tir ym mhob un peth a wnawn.

Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac unwaith eto, mae'n ymwneud â gweithio gyda phobl allan yna; yr arbenigedd eang sydd gennym, nid yn unig yn y byd academaidd, nid yn unig yn y gymuned ffermio, nid yn unig mewn sefydliadau bywyd gwyllt ac amgylcheddol, ond hefyd llawer o brofiad ymarferol da yn ogystal â data da i ddweud wrthym ym mha ffordd i wneud hyn. Oherwydd os na fyddwn yn llwyddo yn hyn, ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i ni am barhau â busnes fel arfer yn unig. Mae'n rhaid i ni sicrhau cydnerthedd yn y ffordd yr ydym yn rheoli tir yn y dyfodol.

Croeso i'ch swydd newydd. O'r bron i 3,900 o anifeiliaid, planhigion a ffyngau a astudiwyd, mae un o bob chwech mewn perygl o ddiflannu yma yng Nghymru. Rydym wedi datgan argyfwng natur ers amser maith, ac eto nid oes gennym unrhyw darged adfer natur sy'n rhwymo'n gyfreithiol. Dim ond swyddog llywodraethu amgylcheddol dros dro sydd gennym. Gorbwyslais ar blannu coed sy'n peri pryder mawr i'n ffermwyr, ac eto mae metr sgwâr o forwellt yn dal tair gwaith cymaint â choedwig law. Mae gennym Brosiect Morwellt yng Nghymru, ond dylem fod yn buddsoddi mwy i wneud prosiectau o'r fath yn fwy.

Gellid gwneud cynnydd hefyd yn y maes morol trwy wneud mwy mewn cysylltiad â chynllunio morfeydd heli, pysgod cregyn a dod â threillrwydo môr-waelodol i ben. Mae gan Gregyn Gleision Conwy ac Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor enghreifftiau anhygoel o'r hyn maen nhw'n ei wneud, a hoffwn eich gwahodd chi, Gweinidog, i ddod gyda mi i'w gweld nhw yn y cnawd. Dim ond un frawddeg sydd gan y datganiad am bolisi morol, ac yn adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd a gawsom yng nghyfarfod y pwyllgor yr oeddech chi'n bresennol ynddo gyda mi, dywedodd hyd yn oed yr Arglwydd Deben fod gwir angen i ni roi pwysau mawr ar Lywodraeth Cymru o ran polisi morol. Allwn ni ddim anwybyddu llifogydd, chwaith—

16:45

Felly, mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau allweddol: cau'r ffwrneisi chwyth, cau tir amaethyddol o ansawdd uchel i ffermio a chau Ffos-y-fran. Mae ein Prif Weinidog wedi dweud mai trosglwyddo swyddi ac allyriadau Cymru i rannau eraill o'r byd yw'r ffordd iawn i fynd. A fyddech chi'n cytuno â mi, Gweinidog, bod yn rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb am ein dyheadau ein hunain ar gyfer sero net ac na ddylem fod yn dadlwytho ein cyfrifoldebau ar wledydd eraill sydd wedyn yn ein gweld yn mewnforio pethau'n ôl i Gymru? Mae hynny'n gwneud sero net yn destun sbort. Diolch.

Janet, diolch am eich croeso i'm swydd. Ar y pwynt olaf yna'n benodol, ie, yn gyfan gwbl, a dyma pam mae'r UE bellach yn edrych ar gyllidebu carbon. Rydyn ni ychydig ar ei hôl hi yn y DU, ond byddem yn cefnogi Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â hyn, oherwydd rydyn ni o dan ychydig o anfantais economaidd a hinsawdd, drwy beidio â bod yno ar hyn o bryd. Rydyn ni'n mynd i fod ychydig flynyddoedd ar ei hôl hi, ond rydyn ni'n cefnogi symud ymlaen gyda hynny. Ond mae'r pwynt yn hollol gywir: p'un a yw'n mewnforio cynhyrchion bwyd—. Rwyf am geisio osgoi—. Nid fy steil i yw gwneud pwyntiau gwleidyddol mawr, trwm, ond mae rhai o'r cytundebau masnach yr ydym bellach wedi dod drwyddynt yn agor y marchnadoedd i fwyd sy'n cael ei gludo ar draws y byd, heb gael ei gynhyrchu i'r un safonau lles anifeiliaid, heb sôn am safonau amgylcheddol ehangach, sydd gennym yma yng Nghymru. Mae rhywbeth o'i le ynghylch hynny, yn y bôn, felly efallai y gallwn ni geisio cywiro hynny.

Mae'r un peth yn berthnasol, meddaf, er ei fod y tu allan i'm portffolio uniongyrchol sef bod â'r cyfrifoldeb dros gyllidebau sero net a charbon, a mater dur. Dyma pam yr ydym mor bendant wrth ddweud bod arc trydan yn rhan o'r dyfodol, yn hollol, gadewch i ni fuddsoddi yn hynny, ond mae angen gwneud dur sylfaenol arnom hefyd, oherwydd pan gyrhaeddwn y pwynt hwnnw lle rydym mewn gwirionedd yn adeiladu'r llwyfannau arnofiol ar y môr ac rydym yn chwilio am ddur sylfaenol da i wneud hynny, mae angen y cynhyrchu hwnnw yma. Felly, mae eich pwynt wedi'i wneud yn dda: gadewch i ni gadw'r swyddi yma, ond mae angen i hynny fod yn berthnasol ar draws yr holl bolisïau hyn lle rydym yn ymdrin ag allyriadau carbon. Cadwch nhw yma, cadwch yr arbenigedd yma a chadwch y cyfleoedd yma i'r economi a swyddi.

Ysgrifennydd Cabinet, rwy'n siŵr, wrth i chi fyfyrio ar ymatebion ymgynghoriad y cynllun ffermio cynaliadwy, y byddwch yn fwyfwy ymwybodol o sut y mae llawer yn ystyried bod y costau a ysgwyddwyd a'r incwm a ildiwyd yn gymhelliant annigonol i ddenu cyfranogwyr i'r cynllun, yn arbennig, wrth gwrs, pan fyddwch yn gosod hynny yn erbyn y rhestr hir iawn o gamau gweithredu cyffredinol y bydd cyfranogwyr yn gorfod eu cyflawni fel rhan o'r cynllun. Felly, wrth i chi ystyried newidiadau i'r cynllun—ac rwy'n gofyn hyn i chi nawr ac nid yr wythnos nesaf fel y gallwch chi efallai fyfyrio ar hyn cyn yr wythnos nesaf—a ydych chi'n derbyn bod angen i'r Llywodraeth daro cydbwysedd gwell rhwng y camau gweithredu sydd eu hangen a'r cymhellion sy'n cael eu cynnig er mwyn denu digon o gyfranogwyr i'r cynllun? Wrth gwrs, os nad oes neb i gyflawni'r cynllun ffermio cynaliadwy, yna ni fydd y cynllun yn cyflawni ar gyfer neb.

Ie, yn gyfan gwbl, rwy'n derbyn hynny. Mae'n rhaid i ni nid yn unig sicrhau cefnogaeth ffermwyr, oherwydd mae hynny'n awgrymu 'Os gallwn ni becynnu pethau, yna mae pawb gyda ni,' sydd braidd yn nawddoglyd. Ond mae'n ymwneud â gwneud hyn gyda ffermwyr mewn gwirionedd, gan gynhyrchu canlyniadau'r cynllun ffermio cynaliadwy gyda phartneriaid ehangach allan yna hefyd, gan gynnwys y sefydliadau amgylcheddol ac ati, gan gynnwys y byd academaidd—Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor ac eraill sydd yn rhai o'n meysydd arbenigedd—ond yn ei wneud gyda phobl. Oherwydd mae'n rhaid i ni nid yn unig fod â chytundeb, oherwydd ein bod ni'n cyfeirio arian cyhoeddus tuag at bethau sydd o wir werth i'r gymdeithas ehangach—afonydd glân, pridd da, ac ati—os felly, dylem fod yn gwobrwyo hynny, yn sicr, ond mae angen i ni hefyd sicrhau ar gefn y 12,000 o ymatebion rydyn ni wedi'u cael—. Fel y byddaf yn ei wneud yn glir yr wythnos nesaf, byddwn yn synnu pe na bai gennym rai ffrydiau gwaith penodol, rhywfaint o addasiad. A rhan o hynny fydd edrych ar sut yr ydym yn esbonio'n well, sut rydym yn ymgorffori gwerth cymdeithasol o fewn y datblygiad hwn. Oherwydd mae yna ran o'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud, nad yw'n ymwneud â thechnegau gwahanol fesurau ar wahanol gaeau ar wahanol ffermydd yn unig, ond mewn gwirionedd mae'n ymwneud â chynnal y math o ffermio yr ydym yn ei ystyried yn werthfawr am resymau da iawn yma yng Nghymru, oherwydd bod ffermio yn cynnal cymunedau gwledig. Rydyn ni'n cadw pobl ar y ffermydd, maen nhw'n cadw'r cymunedau ffyniannus, y Gymraeg—yr holl faterion hyn. Mae hynny'n ganlyniad, fel dywedodd un o'r ymatebion gan yr undeb ffermio y dydd o'r blaen, sy'n werth llosgi'r gannwyll yn hwyr drosto. Cefais fy meirniadu, gyda llaw, am ddweud imi fwynhau'r ymadrodd Saesneg 'burning the midnight oil'; mae'n debyg, fel y Gweinidog newid hinsawdd, nad wyf i fod i ddefnyddio hwnnw. Rwy'n credu bod pobl yn gwybod beth rwy'n ei olygu. 

16:50

Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad yma heddiw yn nodi rhai o'ch blaenoriaethau allweddol ar gyfer eich portffolio.

Rwyf am ganolbwyntio heddiw ar sut y gallwn gefnogi pobl y mae un o ganlyniadau newid hinsawdd yn effeithio arnynt, sef llifogydd, gan gyfeirio'n benodol at bobl sy'n byw yn Rhes Clydach yn Ynysybwl a'u profiad ofnadwy ychydig dros bedair blynedd yn ôl yn ystod storm Dennis. Ton lanw 6 troedfedd o ddŵr yn rhuthro i mewn i eiddo, gyda thrigolion 19 o gartrefi yn gorfod cael eu hachub mewn cwch o ffenestri llofft, gan achosi difrod sylweddol i gartrefi a difrod tymor hwy i'w llesiant emosiynol. Heb fod yn rhy ddramatig, roedd yn wyrth na fu farw neb mewn gwirionedd.

Mae gennyf ddau gwestiwn. Yn gyffredinol, pa flaenoriaeth barhaus fyddwch chi'n ei rhoi i ddiogelu cartrefi rhag effeithiau llifogydd yng Nghymru, ac yn benodol, a fyddech chi'n dod gyda mi a fy nghyd-Aelod, Heledd Fychan—rydyn ni'n gweithio'n drawsbleidiol ar y mater pwysig hwn—i gwrdd â thrigolion Rhes Clydach, sy'n aros yn bryderus i Cyfoeth Naturiol Cymru lunio achos busnes o ran y ffordd ymlaen ar gyfer eu cartrefi?

Vikki, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna mewn cysylltiad â'r datganiad. Rwy'n credu bod unrhyw un a welodd y lluniau ar y cyfryngau o'r effaith ar bobl Ynysybwl, dro ar ôl tro, nid yn unig yn ystod storm Dennis ond yn rheolaidd—a gallwn weld y patrwm, fel roeddwn i'n ei ddisgrifio'n gynharach: dyma'r math o ddigwyddiad tywydd sydd gennym ni nawr—rydym yn cydymdeimlo'n fawr â nhw. Mae'n anodd dychmygu'r trawma o gael eich cartref wedi'i ddifetha a'r teimlad sydd gennych o risg bersonol, ac ati, oni bai eich bod wedi bod yno yn y sefyllfa honno. Rwy'n gwybod eich bod chi a Heledd wedi bod draw, ac Andrew Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf hefyd. Rwy'n gwybod bod fy rhagflaenydd yn y rôl hon wedi cael sawl sgwrs dros y flwyddyn ddiwethaf gyda chynrychiolwyr a gyda CNC ar yr opsiynau posibl wrth symud ymlaen. Mae'n heriol oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae topograffi'r dyffryn hwnnw a'r atebion peirianyddol yn heriol iawn, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem symud ymlaen yn gyflym.

Fy nheimlad personol yw yr hoffwn i CNC symud y cynllun yn ei flaen fel eu blaenoriaeth. Rwy'n gwybod bod swyddogion CNC yn ymwybodol o hyn ac maent yn gweithio'n gyflym, ochr yn ochr â'r gymuned i ddatblygu opsiynau, ond mae heriau o ran topograffi a'r math o ddatrysiad peirianyddol posibl. Ond rwy'n hapus iawn, iawn i ddod gyda chi a Heledd a phwy bynnag arall i gwrdd â nhw a chlywed ganddyn nhw yn uniongyrchol, oherwydd does dim byd gwell na siarad â phobl y mae hyn wedi dinistrio eu bywydau ac sy'n byw mewn ofn parhaus o ran yr hyn a allai ddod y flwyddyn nesa, y tymor nesaf. Felly, byddwn yn gwneud y trefniadau, Vikki a Heledd, i ddod i gwrdd â chi a chwrdd â thrigolion. Ni allaf gynnig atebion dros nos, nid wyf am godi disgwyliadau fy mod i'n gallu dod i mewn a chlicio fy mysedd a dweud, 'Dyna ni, rydym wedi ei ddatrys', oherwydd mae'n rhaid i CNC weithio trwy'r opsiynau, yn ofalus iawn, ond rwyf eisiau eu gweld yn bwrw ymlaen yn gyflym ar hyn fel y gellir tawelu meddyliau pobl.

Un o flaenoriaethau'r Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, yw'r amgylchedd a sicrhau bod pobl Cymru mor ddiogel â phosibl rhag llygredd aer, ac mae wedi cyfeirio at hynny yn ei ddatganiad heddiw. Yn anffodus, yn fy etholaeth i, mae'r arogleuon afiach sy'n dod o safle tirlenwi Withyhedge yn effeithio'n ddifrifol ar fywydau pobl, ac er gwaethaf pryderon iechyd y cyhoedd ynghylch yr arogleuon hynny, nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn amddiffyn y trigolion hynny. Rwy'n credu y dylid dirymu trwydded y gweithredwr ar unwaith. Wrth i bob dydd fynd heibio, mae'r drewdod hwn yn effeithio ar drigolion lleol ymhellach; mae'r sefyllfa hon bellach yn gwbl annerbyniol.

Yn ôl Awyr Iach Cymru, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn hyrwyddwr aer iach ac mae hyd yn oed yn cael ei ddyfynnu fel un sy'n dweud y bydd lleihau llygredd aer nid yn unig o fudd i'n hiechyd ond hefyd yn lleihau allyriadau sy'n arwain at newid hinsawdd. Ni allwn gytuno mwy, ac felly gofynnaf i'r Ysgrifennydd Cabinet pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ddatrys ar frys i'm hetholwyr sy'n byw o amgylch safle Withyhedge, ac efallai y gallai hefyd ddweud wrthym pa fesurau newydd penodol y mae'n bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r afael â llygredd aer a helpu i ddiogelu'r amgylchedd.

16:55

Paul, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, a diolch hefyd am y sgyrsiau rydyn ni wedi'u cael wrth basio yma yn codi eich pryderon am hyn. Mae angen datrys hyn, heb amheuaeth. Mae angen tawelu meddyliau'r preswylwyr y gellir dod â'r arogleuon hyn i ben ac y cymerir camau. Rwy'n deall pryderon y gymuned leol, ac mae hyn wedi bod yn digwydd ers cryn amser bellach. Mae angen gweithredu'n gyflym i atal yr arogleuon hyn rhag codi o'r safle, ac mae hyn wedi'i bwysleisio i Cyfoeth Naturiol Cymru, felly maen nhw'n ymwybodol iawn hefyd. Maent wedi cynyddu eu presenoldeb ar y safle, fel y gwyddoch; byddant yn parhau i ddiweddaru'r gymuned, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr hyn sy'n digwydd ar eu gwefan wrth i'r gweithgareddau fynd rhagddynt; ac maent wedi cyflwyno hysbysiadau gorfodi i'r gweithredwr tirlenwi, y mae'n ofynnol iddo orchuddio'r holl wastraff agored a chwblhau gwaith peirianyddol tirlenwi i gynnwys a chasglu nwy tirlenwi.

Ond i fod yn glir, Paul, os yw'r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â dyddiad cau terfynol yr hysbysiad, bydd CNC yn bwriadu cymryd y camau gorfodi priodol, yn unol â'u polisi gorfodi ac erlyn, a allai, o bosibl, arwain at erlyniad am dorri rhybudd. Felly, maen nhw'n glir iawn ynglŷn â'r camau sy'n dilyn os nad yw hyn yn cael ei ddatrys. Mae CNC yn ymateb fel blaenoriaeth i ddatrys y mater, a byddwn i'n annog, Paul, yr holl breswylwyr sy'n cysylltu â chi, ac eraill, i barhau i adrodd am unrhyw achosion o arogl i CNC, oherwydd bydd hyn yn helpu i'w hysbysu o effeithiolrwydd y gweithgaredd ar y safle ac, o bosib, gydag unrhyw erlyniad dilynol, os daw i hynny.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb cadarnhaol i Vikki Howells. Yn sicr, fe wnaeth llifogydd ddinistrio cymaint o gymunedau yn 2020, fel yr ydym wedi gweld dro ar ôl tro, ond roedd y risg i fywyd bryd hynny yn sylweddol ac yn parhau i fod felly. Ar y pryd, yn dilyn y llifogydd, cyhoeddodd CNC adroddiad a phwysleisiodd yr angen am sgwrs genedlaethol. Dywedon nhw eu bod 70 swydd yn brin o allu ymdrin â maint y llifogydd hynny. Felly, a gaf i ofyn, efallai, a allech chi ddod â datganiad yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y sefyllfa bresennol—oherwydd, yn amlwg, gyda thywydd eithafol daw mwy o risg eithafol i'n cymunedau—fel ein bod ni'n sicr bod gwaith yn mynd rhagddo?

A gaf i ofyn hefyd am y Ddeddf aer glân? Rwy'n falch o weld yr ymrwymiad hwnnw yn eich datganiad i flaenoriaethu hynny. Mae Chwarel Craig-yr-Hesg yn fy rhanbarth i. Mae trigolion yn bryderus iawn bod ei hoes wedi ei ymestyn, ac maen nhw'n pryderu am effaith y llwch o'r gwaith cloddio yno. A yw hynny'n rhywbeth y gallem ni, os gwelwch yn dda, geisio ei symud ymlaen gyda chi, gyda'r Ddeddf aer glân, i sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn parhau i ddioddef risg yn sgil cloddio?

Diolch yn fawr iawn, Heledd. Pan fyddaf yn dod allan i gwrdd â phreswylwyr gyda chi a Vikki, byddaf yn sicrhau fy mod yn dod â chymaint o wybodaeth ag y gallaf gan CNC ynghylch sut y gallant symud ymlaen yn gyflym, oherwydd, fel y dywedwch chi, nid yn unig yr effaith ar eu cartrefi, ond y teimlad fod eu bywydau mewn perygl. Rwyf wedi gweld hynny o'r blaen pan oeddwn i, yn 2009, yn Weinidog yr amgylchedd yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ac fe wnaethom ymateb i lifogydd 2009 Cumbria, gan ymweld â phobl mewn cartrefi a busnesau a oedd wedi'u difetha'n llwyr yno, a bu colli bywyd yn y sefyllfa honno hefyd. Felly, rwy'n fwy na pharod i geisio dod â chymaint o wybodaeth ag y gallaf, ond nid wyf am godi disgwyliadau y gallaf gyflawni rhywbeth yn sydyn.

O ran Craig-yr-Hesg, mae'r cyfrifoldeb am hynny o fewn portffolio arall, yn bennaf, ond mae materion o ansawdd aer, wrth gwrs, yn amlwg yn berthnasol i'm portffolio i. Byddaf yn hapus i siarad â fy nghyd-Ysgrifennydd Cabinet a thrafod hynny, a sut y gellir monitro materion ansawdd aer yn effeithiol ar lawr gwlad hefyd, fel y gallwn ni, os oes angen, roi sicrwydd i breswylwyr sydd â phryderon dealladwy, ond hefyd eu sicrhau bod y monitro cywir ar y gweill hefyd. Ond rwy'n hapus i siarad â chi ymhellach am hynny hefyd, a beth allwn ni ei wneud.  

Rwy'n croesawu'r ddealltwriaeth mai rheoli ein hadnoddau naturiol yw'r allwedd i wella cydnerthedd ein hecosystemau. Rwyf hefyd yn galonogol iawn bod y rhaglen weithredu mawndiroedd genedlaethol wedi adfer 3,000 hectar ers 2020. Mae adfer yr ecosystemau gwerthfawr hyn yn helpu i greu cynefinoedd cyfoethog, yn storio dŵr, yn sicrhau storau carbon hanfodol ac yn creu swyddi sgiliau uchel. Rwy'n cefnogi dychweliad ysglyfaethwyr apig fel eryrod cynffon wen brodorol, oherwydd heb gynnydd mewn ysglyfaethwyr apig, mae anifeiliaid canol y gadwyn fwyd fel llygod mawr yn cynyddu.

Rwyf hefyd eisiau pwysleisio'r rolau pwysig y mae anifeiliaid yn eu chwarae ym mywyd Cymru, gan sicrhau lles da i anifeiliaid ac iechyd anifeiliaid. Rwy'n falch fod hyn yn flaenoriaeth i'r Gweinidog. Ond mae'r ffaith fy mod i'n gallu prynu cwningen yfory, heb unrhyw hyfforddiant a dim gwybodaeth, rwy'n credu, yn sylfaenol anghywir. A wnaiff y Gweinidog gefnogi darparu cyrsiau hyfforddi byr i bobl sy'n prynu anifeiliaid? Rwy'n credu bod y creulondeb mwyaf i anifeiliaid yn cael ei achosi gan anwybodaeth, nid gan greulondeb.

Yn olaf, ar lygredd afonydd, ni allwn barhau fel hyn. Dim ond dwy enghraifft yn unig yw nitreiddio yn Afon Gwy a charthion amrwd yn Afon Tawe. Er bod nitreiddio yn broses naturiol, mae nitreiddio a wneir gan ddyn yn llawer mwy cyffredin yn y broses gyflym a achosir gan amrywiaeth o fewnbynnau llygrol. Beth yw cynigion y Gweinidog er mwyn gwella ansawdd dŵr afonydd?

17:00

Diolch yn fawr iawn, Mike. Rwy'n credu mai'r wythnos hon y mae gan Alun Davies ddadl ar ailgyflwyno eryrod y môr cynffon wen, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb iddi, ond mae'n rhyfeddol, rhai o'r straeon llwyddiant a gawsom ni. Mae pobl yn edrych o gwmpas nawr ac maen nhw'n gweld barcutiaid coch ym mhobman. Roedd yna adeg pryd nad oeddech yn eu gweld, ond nawr maen nhw'n stori lwyddiant, nid yn unig yma mewn rhannau o Gymru, ond oherwydd y llwyddiant yng Nghymru, rydych chi'n mynd i ganol dinas—Newcastle—ac rydych chi'n eu gweld nhw'n hedfan uwchben ysgol sydd wedi ei henwi ei hun ar ôl y barcud coch. Felly, mae'r hyn y gallwn ei wneud yn seiliedig ar rywogaethau yn ddiddorol iawn, ond nid wyf yn mynd i achub y blaen ar yr hyn rwy'n mynd i ddweud yfory yn y ddadl ar eryrod cynffon wen.

Ond rydych chi'n tynnu sylw at rai o'r llwyddiannau mawr. Mae adfer mawn yn llwyddiannus iawn o ran atafaelu carbon, ond hefyd o ran y bobl ifanc fedrus rwyf wedi eu gweld yn gwneud hyn. Siaradais i â phedwar plentyn ar ben cors fawn yr ucheldir tua thair wythnos yn ôl—yn wlyb domen, gyda llaw; roeddwn i wedi gwlychu hyd at fy nghroen—a'r hyn oedd yn gyffrous oedd y ffordd yr oedden nhw'n disgrifio i mi gyda brwdfrydedd go iawn yr hyn roedden nhw wedi bod yn ei wneud, ac roedden nhw wedi gwneud 39,000 o ymyraethau ar y gors fawn honno i ddal y dŵr yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd rhai ohonynt ar raddfa fach iawn, ond 39,000 o ymyraethau, ac roeddent yn efengylaidd ynghylch yr hyn yr oedd hyn yn ei wneud o ran natur a bioamrywiaeth.

Fe wnaethoch chi godi pwynt diddorol am gyrsiau hyfforddi byr i berchnogion. Mike, rwy'n un sydd wedi dilyn yn unol â'n dull gweithredu yr ydym yn ceisio ei hyrwyddo yng Nghymru drwy ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol, #PausePreventProtect, gan atgoffa darpar brynwyr o'r angen i wneud ymchwil cyn prynu anifail anwes, a hefyd eu hannog i fabwysiadu, yn hytrach na phrynu mewn siopa. Mae gennyf i ddwy gath wedi'u hachub—maen nhw'n hyfryd; ychydig yn rhyfedd, ond maen nhw'n hyfryd, ychydig fel fi. [Chwerthin.] Na, nid y gair hyfryd—ychydig yn od. Rydych chi'n gwybod beth rwy'n ei olygu. [Chwerthin.] Ie, iawn, diolch yn fawr. Ond mae perchnogaeth anifeiliaid anwes gyfrifol yn dechrau cyn i chi gael yr anifail anwes hwnnw. Mae angen i chi wybod, boed yn gwningen, gerbil, crwban, ci, cath, yn union beth yr ydych yn gyfrifol amdano. Nid yw hwn yn gyfrifoldeb bychan. Rydych yn codi mater diddorol am gyrsiau hyfforddiant byr—efallai y gallwn ei drafod ymhellach. Byddwn i'n awyddus i wybod a fyddai hynny'n wirfoddol, a fyddai'n rhywbeth y gallech chi ei annog, a allech chi weithio gyda rhai o'r sefydliadau lles anifeiliaid allan yna i hyrwyddo hynny, oherwydd mae rhai ohonyn nhw'n gwneud gwaith da yn y maes hwn eisoes. 

Ysgrifennydd Cabinet, diolch am eich datganiad. Fe wyddoch fod llawer o waith da yn digwydd ar wastadeddau Gwent, ardal werthfawr iawn ar gyfer natur a bioamrywiaeth—gwaith da gan gymunedau lleol, grwpiau amgylcheddol lleol a'r Bartneriaeth Tirwedd Lefelau Byw. Ac rwy'n cadeirio pwyllgor sy'n gweithio gyda'r holl bartneriaid hynny i edrych ar sut yr ydym yn cael gwell amddiffyniad drwy'r system gynllunio, trwy safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn ogystal â gwella'r tir ymhellach ac adeiladu ar y gwaith da hyd yn hyn.

Ysgrifennydd Cabinet, mae rhan o'r gwaith hwnnw'n ymwneud â gwella a gwneud defnydd da ar gyfer natur o rywfaint o'r tir a oedd yn cael ei roi o'r neilltu ar gyfer ffordd liniaru'r M4 bosibl, ac mae gwaith diddorol yn mynd rhagddo, fel y dywedais i, sut yr ydym yn defnyddio'r tir hwnnw yn well ar gyfer natur. Felly, a ydych chi'n credu y gallech chi ddod draw, Ysgrifennydd Cabinet, gobeithio, i gwrdd â'r partneriaid allweddol sy'n rhan o'r holl waith da hwnnw, ac i weld drosoch eich hun beth sy'n gysylltiedig â hyn?

John, diolch yn fawr iawn am hynna. A gaf i ganmol y gwaith rydych chi'n ei wneud, ond hefyd pawb sy'n ymwneud â'r bartneriaeth lefelau byw? Yn wir, mae'n ysbrydoledig. A'r hyn sydd hefyd yn ysbrydoledig yw gweld sut y gallwch chi adfer ardaloedd a oedd dan fygythiad o'r blaen, a dod â nhw'n ôl i fywyd amgylcheddol ffyniannus go iawn lle rydych chi'n adfer bioamrywiaeth, ar gyfer rhywogaethau, ond hefyd ar gyfer fflora a ffawna ehangach hefyd. Rwyf wedi ymweld o'r blaen fel aelod o'r meinciau cefn. Edrychaf ymlaen at ymweld eto a dod gyda chi, John, i'w weld. Ni allaf ddweud wrthych yn union pryd, ond rwy'n siŵr y bydd fy swyddfa breifat yn gwrando. Un o'r pethau yr wyf wedi ei ddarganfod, fel mae fy rhagflaenydd yn y rôl hon fwy na thebyg yn gwybod hefyd—rwy'n cael tipyn o wahoddiadau nawr i rai o rannau mwyaf dymunol Cymru, felly rwy'n edrych ymlaen at ymuno â chi, gobeithio cyn gynted ag y bo modd.

17:05

Very quickly, yn fyr iawn, hoffwn godi mater dolur rhydd firol buchol, os gwelwch yn dda. Mae'n glefyd ofnadwy i'r anifeiliaid hynny, ac fe wnaed datganiad yn ôl ym mis Ionawr 2023, gan y Gweinidog blaenorol bryd hynny, yn dweud y byddai'n edrych ar gyflwyno deddfwriaeth ac y dylem ni ddisgwyl cyhoeddiad arall. Ond hyd yn hyn, nid wyf wedi gweld yr wybodaeth honno. Allwch chi gadarnhau a ydych chi'n deddfu ynghylch sicrhau y bydd profion yn cael eu cynnal ar gyfer dolur rhydd firol buchol, ac os bydd camau yn cael eu cymryd ynghylch y clefyd ofnadwy hwn, y bydd hynny wedi ei ariannu a'i orfodi hefyd trwy ddeddfwriaeth? 

Dirprwy Lywydd, roedd un cwestiwn yn siŵr o godi yn y sesiwn hon, bedair wythnos ers imi ddechrau fy rôl, a fyddai'n fy llorio, nad oeddwn yn barod ar ei gyfer, a dyna'r un. Ond yr hyn a ddywedaf yw y byddaf yn gwirio gyda fy swyddogion ac yn gweld lle rydym ni arni o ran hynny, os oes ymrwymiad wedi'i wneud. Rwy'n dyfalu y bydd hyn yn ymwneud â rheoliadau eilaidd, felly fe wna i wirio, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod bryd hynny, ac os bydd angen, os hoffai grybwyll y mater eto yn y ddadl yr wythnos nesaf ar ddyfodol ffermio, rwy'n fwy na pharod i ateb ar lawr y Senedd hefyd. 

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio gyda llywodraeth leol i ddarparu mwy o dai fforddiadwy

Eitem 5 heddiw yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: gweithio gyda llywodraeth leol i ddarparu mwy o dai fforddiadwy. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Julie James. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae fy mhortffolio newydd, sef tai, llywodraeth leol a chynllunio yn dwyn ynghyd yr elfennau allweddol sydd eu hangen i gyflawni fy mlaenoriaethau pwysicaf—mynd i'r afael â digartrefedd a'r ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol.

Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn ni gyflawni'r uchelgeisiau yr ydym ni'n eu rhannu, a dyna pam rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag arweinwyr a chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol unwaith eto. Un o'r pethau cyntaf mae arna i eisiau ei wneud yn y portffolio newydd hwn yw ffurfioli'r berthynas strategol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, i gytuno ar ddull ar draws y Llywodraeth hon sy'n ymgorffori ein hawdurdodau lleol fel partneriaid dibynadwy. Bydd y berthynas hon, neu'r ffordd Gymreig hon o weithio, yn sail i gyflawni ein hymrwymiadau, gan gynnwys darparu cartrefi fforddiadwy newydd, ond hefyd llawer o fentrau eraill ar y cyd dros y blynyddoedd nesaf.

Fel y dywedais i o'r blaen, mae ein targed ar gyfer cartrefi cymdeithasol ychwanegol i'w rhentu yn heriol, ac nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Ond drwy weithio'n agosach ac yn fwy effeithiol gyda llywodraeth leol, a thrwy barhau i gryfhau gwytnwch gwasanaethau cynllunio, gallwn fanteisio i'r eithaf ar ein siawns o ddarparu'r cartrefi hynny y mae mawr eu hangen yng Nghymru.

Mae ein cynllun datblygu cenedlaethol, 'Cymru'r Dyfodol', yn nodi y bydd angen tua 110,000 o gartrefi newydd yng Nghymru dros y cyfnod 2019 i 2039. A heb fwy o dai fforddiadwy allwn ni ddim gwireddu'r uchelgais o ddileu digartrefedd a nodir yn ein Papur Gwyn diweddar—uchelgais gyda llywodraeth leol wrth ei chalon.

Mae ein hystadegau diweddaraf yn dangos y darparwyd 685 o unedau tai fforddiadwy gan ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol yn 2022-23, neu 20 y cant, sy'n golygu bod darpariaeth awdurdodau lleol wedi treblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Llywodraeth Leol sydd hefyd â'r brif rôl arwain, gan gydweithio â'r sector tai ehangach i atal digartrefedd.

Fel Llywodraeth, rydym ni wedi dangos ein cefnogaeth i ddarparu cartrefi fforddiadwy drwy ein buddsoddiad mwyaf erioed yn y grant tai cymdeithasol, buddsoddiad ychwanegol a hyblygrwydd drwy'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol, a'r cynnydd mawr ei angen i'r grant cymorth tai. Rydym ni hefyd yn mynd i'r afael â rhwystrau ymarferol i gyflawni, drwy ein gwaith gyda Phlaid Cymru, fel rhan o'r cytundeb cydweithio, ar Unnos, ein gwaith ar raglenni cyflawni llywodraeth leol ac yn gweithio gyda llywodraeth leol i ailddefnyddio eiddo gwag.

Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i'n cartrefi fod yn ddiogel hefyd, ac roeddwn yn falch o gyhoeddi'n ddiweddar, yn unigryw i Gymru, y gwneir gwaith ar bob adeilad preswyl dros 11m, waeth a oes cladin ai peidio. Rwyf hefyd yn deddfu ar gyfer diogelwch yn nhymor y Senedd hon i sefydlu system reoleiddio newydd yng Nghymru, gan greu llinellau atebolrwydd clir a gosod ystod o ddyletswyddau statudol ar y sawl sydd â dyletswyddau perthnasol mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Rwy'n gwybod mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i reoleiddio, gan gysylltu'n agos â'r cyfrifoldebau o ran tai a rheoli adeiladu sydd eisoes yn dod o fewn eu cylch gwaith. Yn amlwg, mae dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â diogelwch a chyflenwad tai yn gwbl sylfaenol.

Ond, Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod hynod heriol, gyda chyllid cyhoeddus dan bwysau aruthrol. Fy nhasg i yw sicrhau bod llywodraeth leol yn y sefyllfa orau i gyflawni ein blaenoriaethau cyffredin a'n hagendâu lleol, ac mae hyn yn cynnwys yr angen i awdurdodau lleol gydweithio'n well mewn rhanbarthau i sicrhau y gallwn ni wneud y gorau o raddfa weithredu trwy wasanaethau mwy. Rwy'n gweld y cydbwyllgorau corfforedig fel y modd y gallwn ni gyflawni hyn drwyddo, ac rwy'n awyddus i ymgysylltu ag arweinyddiaeth y Cydbwyllgorau Corfforedig i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd y maen nhw'n eu darparu, megis trwy gyllidebau cyfun a rhannu staff a sgiliau hanfodol.

Dirprwy Lywydd, un maes lle mae cyni wedi effeithio'n ddifrifol arno yw cyllidebau awdurdodau cynllunio lleol. Mae'r system gynllunio yn hanfodol ar gyfer darparu cartrefi fforddiadwy. Fodd bynnag, mae adrannau cynllunio dan ormod o bwysau ac mae oedi wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn amlwg. Dyma lle gall Cydbwyllgorau Corfforedig wneud gwahaniaeth go iawn, gan ddefnyddio cronfa o adnoddau ac arbenigedd i wella gwytnwch a chreu system gynllunio fwy effeithiol yng Nghymru. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i wella gwasanaethau cynllunio. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi fy mwriad i ymgynghori ar gynnydd mewn ffioedd ceisiadau cynllunio, ac mae mwy y gall ymgeiswyr hefyd ei wneud i wella ansawdd ceisiadau cynllunio, rhywbeth yr wyf wedi gofyn i Gomisiwn Dylunio Cymru gynorthwyo ag ef.

Fodd bynnag, rydym ni'n ffodus bod gennym ni oruchwyliaeth lwyr dros gynlluniau datblygu lleol. Rwy'n credu'n gryf y dylai pob datblygiad fod wedi ei arwain gan gynlluniau ac nid gan ddatblygwyr, gan sicrhau bod cymunedau yn cael dweud eu dweud am yr hyn sy'n digwydd ble a phryd. Am y rheswm yma, rhaid adolygu cynlluniau datblygu lleol mewn modd amserol, ac rwy'n annog ein hawdurdodau lleol i ganlyn arni gyda'r gwaith hwn. Bydd y camau rydym yn eu cymryd i gryfhau gwytnwch gwasanaethau cynllunio yn helpu i gyflymu'r broses hon.

A, Dirprwy Lywydd, rydym ni eisoes yn cefnogi cynghorau a chymdeithasau tai i adeiladu mwy o gartrefi. Mae ein cydweithrediad llwyddiannus gydag awdurdodau lleol i ddatblygu dull newydd o gynnal asesiadau'r farchnad dai leol wedi ailddatgan yr angen am lawer mwy o dai fforddiadwy. Mae gennym ni eisoes nifer o ymyriadau polisi cynllunio ar waith i sicrhau bod tir ar gael ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy. Drwy broses adolygu cynlluniau datblygu lleol, rydym yn annog awdurdodau cynllunio lleol i nodi safleoedd fforddiadwy gyda phwyslais ar dai fforddiadwy lle mae'n rhaid i o leiaf 50 y cant o'r tai fod yn fforddiadwy. Byddaf hefyd yn ymgynghori ar gael gwared ar werth gobaith o gaffaeliadau tir ar gyfer tai fforddiadwy lle mae angen prynu gorfodol.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn bartneriaid cyflawni allweddol ar gyfer rhaglenni tai â blaenoriaeth ehangach, megis ein helpu i ddatblygu ein portffolio tir ar gyfer adeiladu cartrefi fforddiadwy mewn lleoedd fel Slade Lane yn Hwlffordd a Sandy Bay ym Mhorthcawl. Rwy'n cael fy nghalonogi gan y gwaith rhagorol y mae'r arweinyddiaeth wleidyddol newydd yng Nghyngor Sir Fynwy yn ei wneud i sicrhau bod pob dyraniad tai yn eu cynllun datblygu lleol newydd yn cynnwys o leiaf 50 y cant o dai fforddiadwy. Byddaf yn parhau i weithio gyda Chynghor Sir Fynwy a chynghorau eraill sydd eisiau mynd ati yn yr un modd.

A, Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig iawn i mi fy mod yn ymgysylltu'n rheolaidd ac agored ag arweinwyr a chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, a bod fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn cael y cyfle i wneud hynny hefyd. Os ydym ni am wneud cynnydd ar yr heriau cyffredin sy'n ein hwynebu, mae'n hanfodol ein bod yn gallu siarad yn onest ac yn agored, hyd yn oed os bydd y sgyrsiau hynny'n anodd weithiau. Gyda system gynllunio gryfach, fwy gwydn a pherthynas fwy strategol gydag awdurdodau lleol, rwy'n hyderus y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar ein cyfleoedd a darparu mwy o dai fforddiadwy yng Nghymru. Diolch. 

17:10

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd y Ceidwadwyr yn gyfrifol am dai yng Nghymru, yn 1996-97, cafodd 10,088 o anheddau newydd eu dosbarthu, gan gynnwys 2,571 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol. Ym mlwyddyn gyntaf Llywodraeth Lafur Cymru, dim ond 846 o gartrefi cymdeithasol newydd gafodd eu cwblhau. Ugain mlynedd yn ôl, gostyngodd hyn i 433, a 10 mlynedd yn ôl dim ond 683 oedd hi. Mewn gwirionedd, dangosodd ffigyrau swyddogol StatsCymru fod nifer y cartrefi cymdeithasol newydd yng Nghymru wedi gostwng dros 70 y cant yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad, wrth i restrau aros chwyddo. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae'r ffigurau ar gael ar ei chyfer, dim ond 5,785 o anheddau newydd a gyflwynodd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dim ond 1,203 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol, dim ond 47 y cant o'r ffigwr a etifeddwyd gan y Ceidwadwyr. Felly, beth yw asesiad Ysgrifennydd y Cabinet o effaith yr etifeddiaeth honno ar gyflenwad a nifer y tai fforddiadwy yng Nghymru heddiw?

Ymhellach, pan oedd hi'n cyfeirio at weithio gyda llywodraeth leol i ddarparu mwy o dai fforddiadwy, a oedd hi'n cyfeirio at gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn unig neu a oedd hi hefyd yn cyfeirio at renti canolradd, rhentu i brynu, cyd-berchnogaeth a pherchentyaeth cost isel? 

Mae hi bellach yn ddau ddegawd ers i'r sector lansio ymgyrch Cartrefi i Bawb Cymru am y tro cyntaf, gan rybuddio bod Cymru yn wynebu argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd, ond fe gawson nhw eu hanwybyddu. Nododd adolygiad tai 2012 y DU, ac rwy'n dyfynnu:

'Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd lai o flaenoriaeth i dai yn ei chyllidebau cyffredinol',

i'r graddau, erbyn 2009-10, fod ganddi'r lefel gyfrannol isaf o bell ffordd o wariant tai o unrhyw un o bedair gwlad y DU.

Dywedodd adroddiad Holman ac adroddiadau gan y diwydiant adeiladu tai, y Sefydliad Tai Siartredig, Sefydliad Bevan a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr i gyd fod angen rhwng 12,000 a 15,000 o gartrefi ar Gymru y flwyddyn, gan gynnwys 5,000 o gartrefi cymdeithasol. Ers hynny, nododd hyd yn oed mwy o ragolygon cymedrol fod angen hyd at 8,300 o gartrefi newydd y flwyddyn. Fodd bynnag, dim ond 5,720 o gartrefi sydd wedi'u dosbarthu, ar gyfartaledd, yn flynyddol yng Nghymru, rhwng 2010 a Rhagfyr 2023, prin hanner y gyfradd a ddarperir yn Lloegr, ar gyfartaledd blynyddol o ddim ond 940 o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol dros yr un cyfnod. Pam, felly, er gwaethaf yr holl rybuddion ac adroddiadau, y mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i dangyflawni mor ofnadwy, gan waethygu'r argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy a grëwyd ganddyn nhw yng Nghymru yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad?

Gosododd Llywodraeth Cymru darged i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd ar gyfer rhent cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon. Fodd bynnag, dim ond 2,825 o anheddau newydd a gwblhawyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol yn nhair blynedd cyntaf y pum mlynedd hyd at fis Rhagfyr diwethaf. Yn syml, nid oes digon o gartrefi yn cael eu hadeiladu, sy'n golygu nad yw'r cyflenwad yn bodloni'r galw, gan chwyddo prisiau tai, rhenti a rhestrau aros. Yn realistig, felly, sut ydych chi'n mynd i brysuro cyflenwad newydd nawr er mwyn cyrraedd eich targed, pan mai dim ond dwy flynedd sydd ar ôl i chi wneud hyn?

Yn 2022, ar gyfartaledd roedd angen i weithwyr llawn amser yng Nghymru wario dros chwe gwaith eu henillion i brynu cartref. Mae hyn yn cymharu â thair gwaith enillion cyfartalog yn unig yn 1997. Ymhellach, pecynnau cyflog Cymru yw'r isaf yng ngwledydd y DU erbyn hyn. Pa drafodaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet felly wedi'i chael gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn ag effaith polisïau economaidd Llywodraeth Cymru ar fforddiadwyedd tai yng Nghymru?

Roeddech yn cyfeirio at weithio gyda llywodraeth leol i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae 120,450 o anheddau gwag yng Nghymru, gyda 103,000 o'r anheddau hyn yn rhai gwirioneddol di-feddiant, a dim ond tua 15 y cant a nodwyd fel ail gartrefi. Ond, ar 7 y cant, mae gan Gymru gyfran uwch o gartrefi sy'n cael eu hystyried yn wirioneddol wag na phob rhanbarth yn Lloegr ar wahân i Lundain. Rwyf bellach wedi bod yn Aelod yma ers dros ddau ddegawd, ac mae'r mater hwn wedi'i godi dro ar ôl tro trwy gydol y cyfnod hwnnw. Pa mor benodol ydych chi'n mynd i weithio'n wahanol i fynd i'r afael â hyn nawr?

Yn adroddiad gwerthuso cyfnod 1 Llywodraeth Cymru o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a ryddhawyd yr wythnos diwethaf, roedd y canlyniadau a nodwyd gan gyfranogwyr yn cynnwys landlordiaid preifat sy'n dewis gadael y sector—

17:15

—gwaethygu prinder eiddo presennol a chynnydd rhent i denantiaid a llai o eiddo ar gael. Felly, pa sicrwydd, os o gwbl, y gallwch chi ei roi i'r bobl gymerodd ran yn eich gwerthusiad, y byddwch yn ailagor y ddeddfwriaeth ac yn rhoi sylw i'r materion y mae'r sector a minnau wedi eich rhybuddio amdanynt yn ystod proses ddeddfwriaethol y Bil blaenorol?

Ac yn olaf, ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom ni groesawu—

Iawn. Wel, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu mwy o dai fforddiadwy i ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru?

Wel, diolch am y gyfres honno o sylwadau a chwestiynau—rwy'n credu. I ddechrau gyda rhai o'r ystadegau a ddyfynnwyd gennych chi, Mark, a bod yn hollol glir am yr hyn rydym ni'n sôn amdano yma, pan gymerodd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol awenau Llywodraeth y DU yn 2010, fe wnaethon nhw newid diffiniadau tai cost isel a thai fforddiadwy. Fe wnaethon nhw gyflwyno categori newydd o'r enw 'rhent fforddiadwy'. Gall y prisiau hyn gyrraedd 80 y cant o gyfraddau'r farchnad. Roedd hynny'n beth newydd nad oedd yn bodoli o'r blaen, ond mae'n dal i gyfrif fel tai cymdeithasol. Felly, mae llawer o'r tai cymdeithasol yn y dyfyniadau a roesoch chi i mi yn berthnasol ar gyfer tai yn Lloegr. Mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n ymchwilio i hynny, dim ond i fod yn glir iawn, fe ddywedoch chi 700,000 o gartrefi—dyna'r ystadegyn sy'n cael ei ddyfynnu'n aml—roedd 270,000 o'r rheini yn y categori rhent fforddiadwy, felly mae hynny'n llawer drytach na chartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol, ac roedd y gweddill yn bennaf gartrefi cost perchnogaeth is. Ac yna os edrychwch chi ar faint o dai rhent cymdeithasol clasurol sydd wedi'u hadeiladu, mae gennym ni 170,000, ond mae'r rhan fwyaf o'r hen rai wedi cael eu gwerthu neu eu dymchwel. Felly, mae ffigurau'n awgrymu bod 300,000 o'r rheiny wedi cael eu gwerthu neu eu dymchwel. Felly, yr hyn sydd gennych chi dros y ffin yn Lloegr mewn gwirionedd yw colled net o 100,000 o gartrefi rhent cymdeithasol. Y categori rhent fforddiadwy rydych chi'n sôn amdano yw'r categori 80 y cant, felly dim ond i fod yn glir iawn yma yn y Senedd am beth rydyn ni'n sôn amdano.

Yma yn Llywodraeth Cymru, rydym ni'n sôn am gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol. Rwyf wedi bod yn hynod glir ynglŷn â hynny: nid rhyw gategori rhent fforddiadwy yw hwn, tai yn y sector cymdeithasol yw'r rhain, ar rent cymdeithasol. Dyna beth rydym ni'n ceisio ei adeiladu yma yng Nghymru. Rydym ni wedi dyrannu'r cyllid mwyaf erioed i'r grant tai cymdeithasol i gyflawni hyn: £250 miliwn yn 2021-22, a ddyblodd y gyllideb, £300 miliwn yn 2022-23, £300 miliwn yn 2023-24, a £330 miliwn yn 2024-25. Fel y gwyddoch chi, Mark, rydym ni wedi wynebu dewisiadau anodd iawn yn ystod y broses gyllidebol hon; dyma'r gyllideb waethaf y mae Cymru erioed wedi'i chael gan Lywodraeth Geidwadol, a wnaed ar y funud olaf, cyn y Nadolig, gydag ychydig iawn o gynllunio ynghlwm wrthi. Mae'n anodd iawn deall amserlen prosiect adeiladu gyda'r math hwnnw o amserlen, ond, serch hynny, oherwydd ein bod ni wedi gweithio'n galed gyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n hawdurdodau lleol sydd â stoc dai i sefydlogi'r system grantiau, rydym ni wedi llwyddo i gynnal y gyfradd adeiladu.

Rwyf wedi bod yn glir iawn bod yr 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn darged anodd ei gyrraedd, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw, pwysau chwyddiant gwarthus Llywodraeth Liz Truss yr ydym ni wedi'u hwynebu a'r problemau byd-eang yn y gadwyn gyflenwi a waethygwyd gan Brexit. Felly, gadewch i ni fod yn glir iawn am y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Fodd bynnag, rydym ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i'w gyflawni. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol y tu mewn i'r system gynllunio i ddeall pa geisiadau cynllunio sy'n gyfredol, ble mae'r cynlluniau, a phob un un safle unigol yng Nghymru, lle gallwn ni ddweud wrthych chi beth yw statws y cais cynllunio ac a yw'r cartrefi'n debygol o gael eu hadeiladu. Ar hyn o bryd rydym ni'n gweithio ar darged i gyflwyno cartrefi cymdeithasol penodol i'w rhentu gyda 50 y cant ohonyn nhw'n fforddiadwy, ac rwy'n canmol Cyngor Sir Fynwy am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud ynghylch hynny, ochr yn ochr ag eraill. 

Rwyf hefyd eisiau bod yn glir iawn—. Oherwydd roeddwn i'n siomedig iawn pan es i i ymweld â safle yn sir Benfro, y gallai Aelodau fod yn gyfarwydd ag ef, sy'n agos at ddatblygiad newydd y Premier Inn, sef 50 y cant o gartrefi cymdeithasol, ond mae'r cartrefi cymdeithasol hynny y tu ôl i wal yn dynodi ardal dlotach gyda mynedfa ar wahân. Nid dyna beth rydym ni'n ei olygu. Roeddwn i o 'ngho gyda dicter pan welais i hynny, mewn gwirionedd. Yr hyn a olygwn yw bod 50 y cant o gartrefi cymdeithasol wedi'u gwasgaru drwy'r datblygiad cyfan sy'n edrych yn union yr un fath â'r holl dai eraill, ac mae'n gymuned integredig, gynaliadwy. Ac fe all 50 y cant arall fod yn ystod eang o ddeiliadaethau—fe wnaethoch chi sôn am lawer ohonyn nhw, Mark—rhanberchnogaeth cost isel, tai cydweithredol, ymddiriedolaethau tir cymunedol, perchen-feddiannaeth lwyr, llawer iawn o ddaliadau gwahanol. Felly, rydym ni'n glir iawn mai'r hyn rydym ni'n chwilio amdano yw dull o greu lleoedd, gyda thai cynaliadwy wedi'u hadeiladu yn y lle iawn, ar gyfer y bobl iawn, gyda'r polisïau dyrannu cywir. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am beidio â chyfaddawdu ar safonau'r tai hynny. Y tai hynny fydd y safon orau y gallwn ni adeiladu, ac mae hynny'n newid wrth i ni ddysgu mwy am y dechnoleg drwy'r rhaglen dai arloesol a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio.

Felly, rwy'n falch iawn o'r hyn rydym ni wedi'i wneud yma yng Nghymru. Roedd yn rhaid i ni weithio'n galed iawn i wneud hynny. Byddwn yn parhau i weithio'n galed iawn i wneud hynny. Ond rydym ni wedi darparu cartrefi go iawn ar gyfer rhent cymdeithasol ac nid rhyw fath o anghysondeb ystadegol rhyfedd. 

17:20

Yn gyntaf, rhaid imi fynegi siom ynghylch diffyg mentrau neu strategaethau newydd a amlinellir yn y datganiad. Mae'n ymddangos ei bod yn ailadrodd ymrwymiadau presennol heb gynnig unrhyw ddulliau arloesol i fynd i'r afael â'r argyfwng fforddiadwyedd tai dybryd yng Nghymru. Un agwedd hanfodol sy'n gofyn am eglurhad yw sut mae'r Llywodraeth yn diffinio fforddiadwyedd mewn tai. Heb ddiffiniad clir, mae'n heriol asesu effeithiolrwydd polisïau sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r mater hwn. Ar ben hynny, er bod y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2026 yn glodwiw, mae datblygiadau diweddar yn Iwerddon yn amlygu'r potensial i ragori ar dargedau o'r fath. Mae llwyddiant Iwerddon o ran darparu dros 32,000 o gartrefi newydd yn 2023 yn unig, gan ragori ar eu targedau bron i 13 y cant, yn gofyn y cwestiwn a yw ein targed yn ddigon uchelgeisiau.

Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i esbonio pam nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ystod lawn o rymoedd ariannol sydd ar gael iddi i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Gallai mesurau fel benthyca, cyflwyno treth gwerth tir yng Nghymru, manteisio ar gronfeydd pensiwn a throsoli ffrydiau rhentu gryfhau ein hymdrechion i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn sylweddol. Nid ydym ni chwaith wedi clywed am unrhyw gamau i adnabod tir a allai fod ar gael i'w ddatblygu, sy'n hanfodol ar gyfer unrhyw gynllun i gynyddu adeiladu tai yng Nghymru. Y cam cyntaf, wrth gwrs, fyddai map stentaidd o Gymru, gan nodi pwy sy'n berchen ar beth ac ymhle, a sicrhau nad yw'r nwyddau mwyaf gwerthfawr, tir cyhoeddus, yn cael ei werthu. Ar ben hynny, mae Plaid Cymru yn eirioli dros weledigaeth feiddgar, lle mae cyfran fwy o stoc dai Cymru yn dai cyhoeddus, tebyg i'r lefelau a welwyd cyn polisïau Thatcher. Mae'r weledigaeth hon, tua 30 y cant o'r stoc dai, yn cyd-fynd â modelau a welir yn yr Iseldiroedd a llawer o ddinasoedd Ewropeaidd heddiw, lle mae tai cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu dewisiadau tai fforddiadwy. Yn bwysig, mae'r datganiad yn methu â mynd i'r afael â'r agwedd gyfannol ar ddatblygu tai. Mae  adeiladu cymunedau yn golygu mwy na chodi tai yn unig. Mae angen ystyried yn ofalus ffactorau fel anghenion cyflogaeth, addysg a thrafnidiaeth. Rhaid i ni sicrhau bod cartrefi'n cael eu hadeiladu lle mae eu hangen a'u bod yn cyfrannu at gymunedau bywiog a chynaliadwy.

Ni ellir gwadu'r angen dybryd am dai cymdeithasol, gyda dros 12,000 o unigolion mewn llety dros dro ar hyn o bryd, a thangyflenwad cronig o ddewisiadau o ran tai fforddiadwy. Er ein bod yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cartrefi carbon isel ar rent cymdeithasol, mae pryderon yn parhau ynghylch cyflymder a graddfa'r ymdrechion datblygu presennol. Mae'r ffigurau diweddaraf ar angen tai yn tanlinellu brys y sefyllfa, gyda diffyg sylweddol yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy o'i gymharu â'r galw gwirioneddol. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau beiddgar a phendant i fynd i'r afael â'r anghyfartaledd hwn a chyflymu'r ddarpariaeth tai fforddiadwy ledled Cymru.

Felly, i gloi, er bod yr ymrwymiad i ddarparu mwy o dai fforddiadwy yn ganmoladwy, mae'n amlwg bod angen gwneud llawer mwy i ddiwallu anghenion tai cynyddol ein cymunedau. Felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried y pwyntiau a godwyd a chydweithio â'r holl randdeiliaid i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at dai diogel, saff a fforddiadwy. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Diolch, Mabon. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth rydych chi newydd ei ddweud, ac eithrio'r angen am bolisïau newydd. Rwy'n awyddus iawn i beidio â chael, mewn gwirionedd, unrhyw gynlluniau newydd. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod y mentrau a'r strategaethau sydd gennym ni yn cael eu cyflawni ar lawr gwlad. Nid ein dargyfeirio ni at strategaeth arall eto fyth yw'r hyn y mae arna i eisiau ei wneud. Felly, rydym ni wedi canolbwyntio'n benodol, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud hynny, ar gyflawni'r ymrwymiadau sydd gennym ni a rhyddhau potensial Cymru.

Daeth gwên fach i fy wyneb pan glywais am y dreth gwerth tir. Rydym ni wedi bod yn dadlau gyda Llywodraeth y DU am dreth ar dir gwag—mae Mark yn y Siambr—rydw i'n meddwl ers i mi fod yn ifanc, a dweud y gwir. Bu sôn amdano ers cantoedd. Rwyf wir yn gobeithio y bydd gennym ni Lywodraeth sy'n gallu deall beth yw datganoli mewn gwirionedd ac y gallwn ni wneud hynny. Yn y cyfamser, rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion i weithio ar gyfres o ddogfennau yma i Gymru lle gallwn ni, yn ystod pryniant gorfodol, ddiystyru'r hyn a elwir yn 'werth gobaith', a fydd yn gwneud y tir yn fwy hygyrch. Ac rydym ni newydd hyfforddi 850 o gynghorwyr a staff, ledled Cymru, ar dechnegau prynu gorfodol. Felly, rwy'n cytuno â chi, mae angen i ni ddod â mwy o dir gwag—. Nid yn unig ar gyfer adeiladau, dim ond i fod yn glir, ar gyfer tir hefyd, tir addas.

Rwyf hefyd wedi gwneud darn o waith ar draws Cymru, gyda phob un cyngor, yn mynd trwy eu proses cynllun datblygu lleol yn fanwl a phenodol iawn, gan edrych ar bob un safle a ddyrennir ar gyfer tai, gan ofyn iddyn nhw, fel y dywedais i yn ystod y datganiad, adnewyddu eu cynlluniau datblygu lleol lle bo angen, i ail-wneud eu hasesiadau o'r farchnad dai leol, a gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno'r safleoedd sydd yn y cynlluniau datblygu lleol hynny ar gyfer tai ac nid ydynt wedi cael eu dyrannu ar gyfer tai hyd dragwyddoldeb ac, mewn gwirionedd, pan ewch chi i edrych arno, nid yw'n addas mewn gwirionedd.

Mae gennym ni dair cronfa ar gael i ddod â thir i ddefnydd—felly, cronfeydd safleoedd segur, cronfeydd adfer tir ac yn y blaen—i gynorthwyo gyda'r gost o wneud tir halogedig neu dir sydd angen gwaith adfer o ryw fath neu'i gilydd yn addas i'w ddefnyddio. Mae hynny'n wir am gyfran fawr iawn o'r safleoedd tir llwyd yng Nghymru, a dyna lle rydym ni am ganolbwyntio'r tai.

Rwyf hefyd wedi gweithio'n galed iawn fel rhan o'r uwch-gynadleddau ar afonydd, unwaith eto a gadeirwyd yn wreiddiol gan y Prif Weinidog blaenorol, ac rwyf wedi trafod gyda fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies a'r Prif Weinidog newydd, gan barhau â'r broses honno. Drwy wneud hynny, rydym ni wedi rhyddhau miloedd o gartrefi yn y system gynllunio, yn enwedig yn y gogledd-orllewin, mewn gwirionedd, oherwydd y mater ffosffad. Felly, bydd fy nghyd-Aelod, Huw, wedi bod yn siarad am ei flaenoriaethau, ond un ohonyn nhw yw sicrhau y gallwn ni adeiladu'r tai hynny, ond ar yr un pryd heb ddiraddio ein hardaloedd arbennig o afonydd cadwraeth ymhellach ac, mewn gwirionedd, fe hoffem ni eu gwella yn rhan o'r broses. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn ar hynny.

Roeddwn i'n glir iawn wrth ymateb i Mark, pan ddywedwn, 'cartrefi cymdeithasol i'w rhentu', ein bod yn golygu cartrefi cymdeithasol i'w rhentu, nid cartrefi fforddiadwy neu renti fforddiadwy neu unrhyw beth arall. Rydym ni wedi bod yn glir iawn. Roedd ein hymrwymiad maniffesto yn hynod glir. Felly, hoffwn fod yn glir eto. Rydym ni'n golygu cartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol, nid y pethau 80 y cant hyn. Felly, rwy'n gwbl glir ein bod yn gwneud hynny.

O ran y sefyllfa digartrefedd, rydym ni'n cyflwyno Bil yn fuan, mewn gwirionedd, i drawsnewid y system ddigartrefedd yng Nghymru. Mae gennym ni lawer gormod o bobl mewn llety dros dro, ond nid yw pob llety dros dro o ansawdd gwael. Mae tua chwarter y bobl ar y rhestr honno mewn llety ofnadwy. Mae angen i ni gael y bobl hynny allan o'r llety yna cyn gynted â phosibl. Dyna pam mae gennym ni'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol. Mae hynny'n ein galluogi i gael pobl allan o'r math gwaethaf o dai dros dro mor gyflym ag sy'n ddynol bosibl—yn dal ddim i'w cartref parhaol, ond i mewn i gartref llawer iawn gwell, wrth inni adeiladu'r tai cymdeithasol.

Ac rwy'n gweithio gydag 20 o'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a dau o'r cynghorau ledled Cymru i edrych ar y llyfr patrwm, fel yr ydym yn ei alw, mewn gwirionedd. Felly, yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw y gellir adeiladu nifer o gartrefi y gwyddom ni y gellir eu hadeiladu oherwydd eu bod wedi cael eu hadeiladu drwy'r rhaglen dai arloesol, ac rydym ni'n gwybod eu bod yn gweithio ac rydym ni'n gwybod eu bod yn gwneud yr hyn y maen nhw'n dweud y byddant yn ei wneud, i'w cymeradwyo ymlaen llaw. Felly, byddwn yn gallu bod mewn sefyllfa lle bydd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru—landlordiaid sy'n dal stoc cynghorau yng Nghymru—yn gallu cyflwyno caniatâd cynllunio, cyn belled â'u bod yn adeiladu yn unol â'r llyfr patrwm, yn llawer cyflymach nag y gwelsom ni hyd yma.

Felly, rydym ni wedi bod yn gweithio ar ystod o'r pethau y sonioch chi amdanyn nhw yn eich cyfraniad. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn am gyfraniadau Plaid Cymru ar hyd y ffordd, ac rwy'n hapus iawn i barhau â thrafodaethau. Mae croeso i bob syniad. Mae'n rhaid i ni adeiladu'r cartrefi hynny.

17:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd Cabinet, rydych chi wedi sôn yn eich datganiad am ddull newydd, wrth weithio gydag awdurdodau lleol, o asesu'r farchnad dai leol, a bod hynny wedi ailddatgan yr angen am lawer mwy o dai fforddiadwy. Mae'r targed o 20,000 wedi'i seilio, rwy'n credu, ar amcangyfrifon 2019 o angen am dai ychwanegol, tybed, yng ngoleuni'r dull newydd hwn, a allech chi ddweud ychydig mwy am yr hyn y mae hynny'n ei olygu ar gyfer asesiadau. Os ydym ni yn mynd i wella sut rydym ni'n asesu angen am dai yng Nghymru, beth yw'r goblygiadau wedyn i'r targed o 20,000?

Ie, mae hwnnw'n gwestiwn da iawn. Yr hyn yr ydym ni wedi gofyn amdano yw i awdurdodau cynllunio lleol adolygu eu cynlluniau datblygu lleol, yn enwedig y dyraniadau tai ynddyn nhw, ond maen nhw'n cynnal adolygiad llawn. Rydym ni hefyd yn gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru weithio ar lefel cyd-bwyllgor corfforedig ar y trefniadau cynllunio strategol, fel bod gennym ni rywfaint o sicrwydd ynghylch lle mae angen seilwaith. Felly, pan fyddwch chi'n edrych ar ba ddatblygiadau amrywiol sydd angen eu hadeiladu, rydym ni'n gwybod beth yw'r gofyniad ar gyfer hynny o ran ysgolion, meddygon teulu, ffyrdd, ac ati, fel y gallwn ni ddeall yr amlen fforddiadwyedd. Mae llawer o'n cartrefi cymdeithasol yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr y sector preifat, ac mae gennym ni'r ddadl gyson ynglŷn â beth yw canran y cartrefi fforddiadwy ar y datblygiad hwnnw, y tu mewn i'r amlen chwedlonol—. 'Chwedlonol'—dydw i ddim yn golygu 'chwedlonol'. Rwy'n golygu'r amlen fforddiadwyedd dychmygol. Ac wedyn mae'r ddadl ynglŷn â beth sy'n fforddiadwy ac yn y blaen yn broblem fawr iawn i ni. Felly, yn rhannol, mae arnom ni eisiau i asesiadau marchnad dai leol y cynllun datblygu lleol ddweud wrthym ni'n bendant nid yn unig beth yw'r angen ar draws ardal yr awdurdod lleol penodol, ond o ran y safle—yr hyn yr ydym ni'n disgwyl ei weld ar y safleoedd hyn—fel bod gennym ni sefyllfa well i allu dod i gytundeb, felly, er tegwch i'r datblygwyr, eu bod yn deall yr hyn y gofynnir iddyn nhw ei ariannu hefyd, ac y gallan nhw gynllunio yn unol â hynny.

Rydym hefyd wedi gweithio'n galed iawn gyda'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chyda'r awdurdodau sydd â stoc dai i sicrhau bod eu cynlluniau'n gadarn ar lawr gwlad, ac unwaith eto bod ganddyn nhw'r tir ar gael ar gyfer y datblygiad hwnnw. Fe ddylwn i fod wedi dweud—ni allaf gofio ai Mark neu Mabon a grybwyllodd hyn—ein bod wedi gweithio ar fap Cymru gyfan o dir posibl. Lleu, yw ei enw. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar hynny ers peth amser, ac unwaith eto, mae'n ddrwg gennym fod yn sôn am y cyd-Aelod sydd yn union y tu ôl ichi, ond dechreuodd yntau hyn ym mwrdd iechyd Cwm Taf, darn o waith gryn amser maith yn ôl nawr, y buom ni'n ei gyflwyno byth ers hynny, ynghylch mapio argaeledd adeiladau a thir cyhoeddus, a'r hyn y gallwn ni ei wneud gyda nhw er lles ehangach y cyhoedd. Mae hwn yn ddarn o waith sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser.

Lle mae'r asesiad o'r farchnad dai leol yn datgelu'r angen am fwy o dai, yna gellir darparu ar gyfer hynny, a byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol ledled Cymru. Ond mewn gwirionedd yr hyn rydym ni'n ei ddarganfod yw bod gennym ni lawer o safleoedd wedi'u clustnodi ar gyfer tai na chân nhw fwy na thebyg eu gwireddu. Felly, mae a wnelo hyn llawer mwy ynghylch bod yn realistig o ran ble mae'r tai hynny'n debygol gael eu codi, sut mae hi o ran dwysedd a sut y gellir gwireddu hynny ar lawr gwlad, nag yw hi am gynyddu'r niferoedd, mewn gwirionedd. Rydym yn eithaf sicr ein bod yn gwybod beth yw'r rhifau.

17:35

Yn ddiweddar, cwrddais â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn y gogledd. Roedden nhw yn wir yn croesawu'r grant cymorth llety trosiannol yn ogystal â'r cynnydd i'r grant cymorth tai, y gwn i ichi ddod o hyd iddo yn ddiweddarach yn y gyllideb, sy'n wych. Ond fe wnaethon nhw gyfleu pa mor anodd yw hi i fynd drwy'r broses gynllunio. Cymerodd un cais bron i dair blynedd a £250,000. Ac fe ddywedon nhw fod rhai awdurdodau yn y gogledd yn well am ddirprwyo nag eraill. Felly, rwy'n eich croesawu chi'n dweud am ddefnyddio'r cyd-bwyllgorau corfforedig, ond rydw i ychydig yn bryderus amdanyn nhw yn datganoli iddyn nhw o hyd. Felly, fe hoffwn i ofyn sut rydych chi'n gobeithio cyflawni hyn, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol. Fe ddywedon nhw hefyd bod angen cymorth ar gyfer adeiladu, ar gyfer y sector adeiladu. Mae bregusrwydd o ran y gadwyn gyflenwi a'r gweithlu. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio mynd i'r afael â hyn? Diolch.

Ie, diolch yn fawr, Carolyn. Felly, mae amrywiaeth o bethau yn y fan yna. Mae gennym ni fforwm adeiladu, ac mae bellach yn cael ei gadeirio gan fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, ond mae gennym ni is-adran o hynny, sef y fforwm adeiladu tai, ac rydym ni'n cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda'r rheini. Rydym ni wastad yn chwilio am fwy o adeiladwyr sy'n rhedeg busnesau bach a chanolig nad ydynt wedi dod yn rhan o'r fforwm i ymuno. Mae croeso i bawb, felly os ydych chi'n gwybod am unrhyw un nad yw'n dod yn rheolaidd i'r fforwm, yna anogwch nhw i ysgrifennu a gofyn am ymuno. Rydym ni'n annog pawb i ymuno. A'r hyn a wnawn ni yn y fforwm hwnnw yw ein bod yn trafod tueddiadau cynllunio cyffredinol ac rydym ni'n ceisio datrys rhai o'r materion yna. Rydym ni hefyd yn trafod pecynnau cymorth ar gyfer adeiladwyr mewn busnesau bach a chanolig i sicrhau eu bod yn gallu sicrhau bod galw cyson am eu llafur, fel y gallan nhw ddatrys yn briodol eu cadwyn gyflenwi.

Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda nhw ar rywbeth a gyflwynodd fy nghyd-Aelod Jane Hutt, mewn gwirionedd, sef y contract—. Ni allaf gofio beth mae'n cael ei alw, ond yn y bôn cyllidebu contract ydyw, fel bod y contractwyr haen 1 yn rhoi'r arian ar gyfer y contract i'r naill ochr, fel nad oes gennym ni'r broblem o is-gontractwyr yn methu â gallu cael eu harian am gryn amser. Nid yw hynny'n cael ei ddefnyddio mor eang ag yr hoffem ni ledled Cymru, felly byddwn yn pwyso am hynny hefyd, oherwydd rydym ni wedi cael ambell fethiant mawr yn y farchnad busnesau bach a chanolig yn ddiweddar, a chredwn y gallen nhw fod wedi cael cymorth pe baen nhw wedi cael y cynlluniau contract hynny ar waith. Ac roedd hi'n beth amser yn ôl nawr, onid oedd, inni ddatblygu hynny, felly byddwn ni'n gweithio'n galed i wneud hynny.

Ac yna dim ond o ran adnoddau cynllunio, mae adnoddau cynllunio yn bethau prin, ac mae gofyn mawr amdanyn nhw gan ddatblygwyr yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus. Felly, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod gennym ni lwybr gyrfa ar gyfer swyddogion cynllunio yn y sector cyhoeddus, ar draws awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, sy'n ein galluogi i gadw'r sgiliau hynny yn y sector cyhoeddus ac nid iddyn nhw ddiflannu i'r gymuned ddatblygwyr. Ac, i fod yn onest, er mod amhoblogaidd yw hyn, y ffordd orau o wneud hynny yw cael gwasanaeth cynllunio rhanbarthol, fel y gallwch chi gael gwell graddau gyrfa a gwell gwytnwch ac nad yw pobl dan gymaint o bwysau oherwydd y llwyth achosion sydd ganddyn nhw. Byddaf hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y system gynllunio mewn gwirionedd yn codi cost lawn y cais cynllunio. Nid y cynllunwyr yn unig yw hynny, cofiwch, dyna ichi'r holl swyddogion eraill—swyddogion priffyrdd a phawb arall sy'n ymwneud â chais cynllunio. Felly, mae'n ddarn ehangach na hynny.

Ac yna i weithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei ailddefnyddio o fewn y system gynllunio ac nid dim ond ei sugno i mewn i gyllid arall. Dydw i ddim yn dweud hynny'n ysgafn. Rydym ni i gyd yn gwybod y pwysau sydd ar awdurdodau lleol a'r pwysau i wario'r arian hwnnw yn rhywle arall, ond os na allwn ni gael y datblygiad economaidd y soniodd Mabon amdano gyda hyn—dyma un o'r sbardunau economaidd mawr, a dweud y gwir—yna rydyn ni'n mynd i gael trafferth. Ac felly mae angen y cydnerthedd cynllunio hwnnw. Felly, byddaf yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol y sonioch chi amdanyn nhw, Carolyn, ond awdurdodau lleol ledled Cymru, i weld beth allwn ni ei wneud i wneud y system yn fwy cydnerth, cyflymu'r broses a'i gwneud hi'n fwy hygyrch. 

Rwy'n croesawu'r portffolio newydd, sef tai, llywodraeth leol a chynllunio, sy'n dwyn ynghyd yr elfennau allweddol sydd eu hangen i ddarparu tai, gan gynnwys yr ymrwymiad i ddarparu'r 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. Rwy'n falch bod tai a chynllunio, o'r diwedd, o dan yr un portffolio. Ers 26 Mawrth, rydw i wedi dosbarthu 5,000 o daflenni. Roeddwn yn bryderus o weld faint o dai gwag yr oeddwn yn dosbarthu iddyn nhw. Roedd 50 yn amlwg yn wag, a 50 yn edrych yn wag ac â llawer iawn o bost yn y cyntedd. Roedd y rhain mewn ardaloedd lle mae galw am dai, ac yn Abertawe mae rhestr aros hir iawn gan y cyngor. Beth arall y gellid ei wneud i adfer y tai hyn?

Roeddwn i hefyd yn falch y gwneir gwaith adfer ar bob adeilad preswyl dros 11m, waeth a oes cladin ai peidio. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ysgrifenedig am y cynnydd o ran adfer adeiladau â chladin?

Mae gan Gymru lawer llai o dai cydweithredol na gweddill y byd. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth gynyddu cyfran y tai cydweithredol yng Nghymru?

Ac yn olaf, yr unig dro i'r galw am dai gyfateb i'r angen am dai oedd pan oedd tai cyngor sylweddol yn cael eu hadeiladu yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd cyn Thatcher. Mae'n edifar gen i am drosglwyddo'r stoc dai ac rwy'n falch bod tenantiaid Abertawe wedi pleidleisio yn ei erbyn.

Yn olaf, o ran cynllunio, a wnaiff y Gweinidog ystyried caniatáu i gynghorau osod eu ffioedd eu hunain er mwyn adennill costau cynllunio?

17:40

Diolch yn fawr, Mike. Rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn y fan yna. Yr un olaf yna: dydyn ni ddim yn mynd i wneud hynny, ond rydym ni'n mynd i annog awdurdodau lleol i sicrhau eu bod nhw'n adennill eu costau yn llawn, sef yr un peth o'r tu arall, rwy'n credu. Rwy'n cytuno â phopeth rydych chi wedi'i ddweud, mewn gwirionedd.

O ran y tai cydweithredol, mae gennym ni grŵp gorchwyl a gorffen, yr argymhellodd y pwyllgor inni ei sefydlu, felly rydym ni wedi sefydlu hynny, ac rwy'n hapus iawn i ddarparu sesiwn friffio ynghylch ble mae'r grŵp hwnnw wedi cyrraedd. Rydw i fod i wneud, rwy'n credu—rwy'n edrych ar y Trefnydd nawr—ond rwy'n credu fy mod i wneud diweddariad llafar ar y cynnydd diogelwch adeiladu yn fuan iawn. Rwy'n hapus iawn i wneud un ysgrifenedig os nad yw hynny'n wir, ond rwy'n credu fy mod i wneud diweddariad llafar ar hynny. Mae llawer i'w ddweud am y cynnydd ar hynny.

Ac yna, o ran adeiladu cartrefi cymdeithasol torfol a ddigwyddodd ar ôl yr ail ryfel byd, rwy'n cytuno: un o'r rhesymau pam rydym ni'n edrych ar y darn o'r llyfr patrwm yw er mwyn i ni allu rhoi'r hyn a elwir yn statws datblygu a ganiateir i dir a ddyrannwyd yn y cynllun datblygu lleol, sydd â chynllun arbennig sydd i bob pwrpas yn cael ei roi arno ar gyfer dwysedd, ac yna rydyn ni'n dweud, cyn belled â'ch bod chi'n adeiladu rhywbeth oddi ar y llyfr patrwm sydd wedi'i gymeradwyo ymlaen llaw, yna da iawn. Felly, dylai hynny gyflymu'r broses yn eithaf sylweddol ar gyfer cartrefi cymdeithasol.

Rwy'n awyddus iawn, serch hynny—. Un o'r camgymeriadau a wnaed ar ôl y rhyfel oedd bod gennym ni ystadau tai deiliadaeth sengl heb fawr o amwynder arnyn nhw, a, Mike, fel y gwyddoch chi'n dda iawn, cefais fy magu ar un o'r rheini. Felly, mae arnom ni eisiau dysgu gwersi o'r gorffennol. Mae arnom ni eisiau dysgu sut y gwnaethon nhw hynny'n iawn, ond mae arnom ni hefyd eisiau dysgu o rai o'r pethau y gwyddom ni a aeth o'i le wedyn. Felly, mae arnom ni eisiau'r datblygiadau deiliadaeth gymysg hynny, lle mae pobl yn byw mewn cymunedau cynaliadwy gyda'r seilwaith o'u cwmpas sydd ei angen arnyn nhw, fel nad oes gennym ni ddatblygiadau y tu allan i'r dref sy'n ddibynnol ar geir lle na all pobl gael y math hwnnw o ffordd o fyw cynaliadwy mewn gwirionedd.

Diolch yn fawr iawn. O ystyried maint yr argyfwng tai anobeithiol y gwnaethoch chi ei grybwyll, cefais fy synnu o weld mai gweithred gyntaf maer ail-etholedig Manceinion, Andy Burnham, yw atal tai cyngor newydd rhag cael eu gwerthu am elw, ond nid tai sy'n bodoli eisoes. Mae'n ymddangos i mi, o dan yr amgylchiadau hynny, bod angen tai enbyd yn mynd i barhau, oherwydd yn syml, ni fyddwn byth yn dal i fyny â'r golled net hon o 100,000 o anheddau i'w rhentu.

Rwy'n croesawu eich datganiad yn fawr. Roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym am y rôl y mae Comisiwn Dylunio Cymru yn mynd i'w chwarae wrth wella ansawdd ceisiadau cynllunio, oherwydd, yn anffodus, mae ceisiadau cynllunio'r sector preifat yn tueddu i fod yn llawer gwaeth na cheisiadau tai cymdeithasol, ond mae'n rhaid i'r bobl sy'n gorfod byw ynddynt ddioddef y cynllunio gwael hwn ac effeithlonrwydd ynni gwael.

Yn ail, pryd ydych chi'n disgwyl gweld ffrwyth annog awdurdodau cynllunio i nodi safleoedd lle gall o leiaf 50 y cant o gartrefi fod yn fforddiadwy? Oherwydd mae'n ymddangos i mi fod hynny'n ffordd bwysig iawn o ddatrys rhai o'r problemau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Mae llawer iawn wedi ei wneud yn barod, ond mewn lle fel fy un i, mewn etholaeth fel fy un i, lle nad oes llawer iawn o dir ar gael, mae'n anodd iawn darparu ar gyfer mwy o bobl.

Diolch yn fawr, Jenny. Clywais y cyfweliad gydag Andy Burnham a'r erthygl ar Radio 4 y bore yma. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr hawl i brynu, felly rydym ni wedi gofyn am gyfarfod gyda nhw i ddeall eu safbwynt; gallai fod yn fater o bwerau neu'n rhywbeth. Dywedodd ambell beth y soniodd Mark Isherwood amdanyn nhw, ond o'r ffordd arall. Felly, un o'r rhesymau pam mae adeiladu tai yn Lloegr wedi gostwng i'w lefel isaf erioed o ran tai cymdeithasol i'w rhentu yw oherwydd yr hawl i brynu, oherwydd cyn gynted ag y byddwch chi'n eu hadeiladu, maen nhw'n cael eu gwerthu. Fe wnaethon ni atal hynny, ac fe allwch chi weld y twf digamsyniol yn yr adeiladu o'r adeg y rhoesom ni derfyn ar hynny, felly mae achos ac effaith eithaf clir yn digwydd yn hynny o beth. Nid yw hynny oherwydd nad ydym ni am i bobl fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ond oherwydd nad ydym ni am i bobl fod mewn llety dros dro. Mewn byd delfrydol, lle'r oeddem yn adeiladu digon a ble gallech chi gerdded a gofyn am eich cartref cymdeithasol, yna byddai'n wych gwneud hynny, ond nid ydym ni yn y byd delfrydol hwnnw, ac oherwydd y ffordd y cafodd yr hawl honno i brynu ei rhoi ar waith, mae bob amser yn bwysig cofio nad oedd yn ymwneud â democratiaeth lle roedd pobl yn  berchen ar gartref mewn gwirionedd, oherwydd pe bai hynny'n wir, yna byddai awdurdodau lleol wedi cael caniatâd i godi tai yn lle'r hyn yr oedden nhw wedi'i werthu, ond doedden nhw ddim yn cael gwneud hynny. Roedd yn ymwneud yn llwyr â'r newid deiliadaeth, sef yr hyn yr ydym ni wedi'i weld mewn gwirionedd gyda thwf y newid hwnnw mewn deiliadaeth dros y cyfnod hwnnw. Ni allwn gytuno â chi mwy yn hynny o beth. Yn amlwg fe wnaethon ni ei stopio'n gyfan gwbl yma yng Nghymru am yr union reswm hwnnw.

O ran cartrefi gwag, rydym ni wedi bod yn edrych i weld beth allwn ni ei wneud gyda'r rhaglen llety trosiannol i gael llawer o'r cartrefi gwag yn ôl i ddefnydd buddiol fel cartrefi cymdeithasol. Bydd modd addasu rhai ohonyn nhw i fod yn gartrefi cymdeithasol parhaol. Ni fydd modd addasu rhai ohonyn nhw, ond byddant yn llawer gwell fel llety dros dro na rhai o'r llety yr ydym ni wedi'i weld. Ac wedyn, mae bob amser yn beth anodd iawn sy'n hawdd ei ddweud ond yn llawer anoddach i'w gyflawni, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw eu dymchwel nhw bob amser yn ateb chwaith—rydym ni hefyd mewn argyfwng newid hinsawdd ac mae llawer o garbon corfforedig yn rhywfaint o hynny. Felly, mae ceisio dod o hyd i'r union driniaeth gywir ar gyfer pob un o'r eiddo yn un o'r pethau y gwnaethom ni ofyn i Chris Jofeh a'i grŵp ar ddatgarboneiddio tai—rwy'n gwybod eich bod chi'n gyfarwydd â hynny—i edrych arno ar ein rhan. Mae newydd roi map llwybr i ni, felly byddwn yn cyflwyno'r map llwybr hwnnw wrth i ni fynd.

Nid datganiadau bachog mo'r rhain; mae'r rhain yn bethau sydd angen gwaith manwl fesul stryd—beth sydd orau i'r gymuned hon, sut allwn ni ddod â'r tai hyn yn ôl i ddefnydd priodol a sut allwn ni reoleiddio marchnad y sector preifat mewn ffordd sy'n annog landlordiaid da a ddim yn annog rhai drwg, a dyna pam mae'r darn Deddf Rhentu Cartrefi yn bodoli. Felly, mae'n rhaid i chi wneud cyfres o bethau ar draws gwahanol ddeiliadaethau i gyflawni hyn. Nid yw'n ymwneud â chwifio ffon hud.

Mae eich etholaeth yn debyg iawn i fy etholaeth i, onid yw? Mae gennych chi fyfyrwyreiddio, fel rwy'n ei alw—dydw i ddim yn siŵr ydy hynny'n air, ond rydych chi'n gwybod beth rwy'n ei olygu—ac mae angen mynd i'r afael â hynny hefyd. Rwyf wrth fy modd efo'r myfyrwyr—maen nhw'n dod â bywiogrwydd, ieuenctid, cyfoeth a syniadau a phopeth—ond pan fyddan nhw i gyd wedi eu canoli i un lle penodol, maen nhw hefyd yn dod â phroblemau. Felly, unwaith eto, mae gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sefydlu strategaethau dwysedd a'u lledaenu i'r ddinas a'r holl agweddau eraill yn un o'r pethau a fydd hefyd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud â throsiant cartrefi.

17:45
6. Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024

Eitem 6 sydd nesaf, Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig. Lynne Neagle.

Cynnig NDM8565 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ebrill 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n cynnig cymeradwyo Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Ychwanegol o Gymwysterau Cofrestru ac Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024. Prif bwyslais y Gorchymyn yw ymestyn y categorïau o ymarferwyr addysg y mae'n ofynnol iddyn nhw gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Bydd yn dod â dau gategori newydd o ymarferwyr i gwmpas y gofrestr: uwch arweinwyr mewn sefydliadau ôl-16 ac ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned. Yn ogystal, bydd gofyn i staff addysgu ym maes addysg bellach a dysgu oedolion feddu ar gymwysterau penodol neu weithio tuag atyn nhw.

Yng Nghymru, mae arnom ni eisiau i bawb fwynhau profiad addysg diogel a chadarnhaol i sicrhau bod dysgwyr o bob oed yn cyflawni eu potensial. Mae cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn golygu y gall y cyhoedd fod yn dawel eu meddwl bod pobl sy'n gweithio ym myd addysg yn addas i wneud hynny. Mae pobl sy'n cofrestru yn dangos ymrwymiad i gynnal a chodi safonau er budd y dysgwyr sy'n edrych i fyny atynt. Mae cofrestru hefyd yn darparu llwybr i unigolion neu sefydliadau godi pryderon am addasrwydd ymarferwyr unigol i ymarfer a chael ymchwiliad annibynnol i'r pryderon hynny. Mae hyn yn rhoi sicrwydd hanfodol ynghylch diogelu dysgwyr a safonau addysg.

Ym mis Medi 2023, fe wnaethom ni ymgynghori ynghylch sut y byddem yn diweddaru ac yn cryfhau gofynion rheoleiddio'r rhai sy'n gweithio yn y sector ôl-16. Gyda chefnogaeth eang i'r cynigion a'r ddeddfwriaeth ddrafft, bydd y Gorchymyn hwn nawr yn atgyfnerthu proffesiynoldeb y gweithlu addysg ôl-16 mewn modd cadarnhaol. Bydd y Gorchymyn hwn yn sicrhau bod gan fwy o ymarferwyr ym maes addysg bellach a dysgu oedolion hyder y cyhoedd oherwydd y gallan nhw ddangos bod ganddyn nhw'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiad proffesiynol i gyflawni'r dyletswyddau sy'n ofynnol yn eu proffesiwn yn ddiogel ac yn effeithiol. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r Gorchymyn heddiw.

Does dim siaradwyr eraill ar yr eitem hon. Oni bai bod gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw beth arall i'w ddweud, y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024

Eitem 7 yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.

17:50

Cynnig NDM8564 Jane Hutt

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ebrill 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru.

O 30 Ebrill 2024, rhoddwyd cam 2 o fodel gweithredu targed y ffin ar waith. Fe newidiodd hyn y gofyniad o ran mewnforio nwyddau iechydol a ffytoiechydol, gan gynnwys planhigion a chynhyrchion planhigion, i Gymru a Phrydain Fawr yn ehangach. Er mwyn hwyluso cam 2, bydd yr offeryn statudol hwn yn cyflwyno ffioedd ar gyfer gwiriadau dogfennau a gwiriadau adnabod a ffisegol seiliedig ar risg ar blanhigion a chynhyrchion planhigion risg ganolig a gaiff eu mewnforio i Gymru o'r UE, Liechtenstein a'r Swistir. Cyflwynwyd amlder y gwiriadau eu hunain gan offeryn ar wahân o'r enw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Lloegr) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Amlder Gwiriadau) (Diwygio) 2024, a wnaed gan Senedd y DU ar 24 Ebrill 2024.

Fodd bynnag, bydd gwiriadau ym mhorthladdoedd arfordir y gorllewin, gan gynnwys y porthladdoedd hynny yng Nghymru, yn cael eu llacio dros dro o'r gwiriadau a'r ffioedd newydd. Bydd Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 yn cyflwyno'r llacio yma tan 31 Hydref. Mae rheoliad 2(d) o'r rheoliadau yn rhestru'r porthladdoedd perthnasol yng Nghymru sydd wedi'u heithrio dros dro o'r ffioedd a gyflwynwyd gan y rheoliadau, ac mae hyn yn gysylltiedig â'r dyddiad cychwyn ar gyfer swyddi rheoli ffiniau yng Nghymru, yr ydym wedi esbonio'n flaenorol na fydd cyn gwanwyn 2025.

Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys llacio dros dro, sy'n datgymhwyso ffioedd mewn perthynas â gwiriadau ffisegol, adnabod a dogfennau ar gyfer ffrwythau a llysiau risg isel sy'n dod i mewn i Gymru o'r UE, Liechtenstein a'r Swistir. Yn ogystal â mesurau model gweithredu targed y ffin, bydd y rheoliadau'n cywiro gwall i Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 a wnaed yn Atodlen 1 i Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) Rhif 2 2022, lle'r oedd ffioedd lluosog yn cael eu codi am lwythi cymysg, ac nid dyna oedd amcan y polisi. Mae newidiadau tebyg i'r rheoliadau wedi'u gwneud mewn mannau eraill ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn golygu, drwy wneud yr offeryn statudol hwn, y byddwn ni'n sicrhau trefn ffioedd gyson ar gyfer gwiriadau ar blanhigion a chynhyrchion planhigion rhwng Cymru, yr Alban a Lloegr.

Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth o'r fersiwn ddrafft o'r rheoliadau a dynnwyd yn ôl yn flaenorol. Cododd y pwyllgor bryderon ynghylch anghysondebau rhwng ystyr y testunau Cymraeg a Saesneg yn y rheoliadau, yn ogystal â drafftio diffygiol mewn mannau eraill yn y rheoliadau. Credwn ei bod yn bwysig bod y gyfraith yn glir ac yn hygyrch a bod rheoliadau testun Cymraeg yn cael yr un statws â'r testun Saesneg, felly fe dynnais i'r rheoliadau drafft hynny yn ôl ac rwyf wedi gosod y rheoliadau sy'n cael eu trafod heddiw i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau drafft hyn ar 29 Ebrill, ac mae ein hadroddiad ar gael ar yr agenda heddiw. Mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt adrodd ar sail rhagoriaeth. Mae'r pwynt hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod y pwyllgor wedi ystyried fersiwn flaenorol o'r rheoliadau hyn ar 18 Mawrth, ac ar yr adeg honno nodwyd tri gwall technegol yn y rheoliadau hynny. Ac fel y nodwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet, mewn ymateb, fe gytunodd Llywodraeth Cymru i gywiro'r gwallau. Ar 3 Ebrill, tynnwyd y rheoliadau hynny yn ôl yn ffurfiol ac, yn dilyn hynny, fe osodwyd y fersiynau yr ydym yn eu hystyried y prynhawn yma ar 16 Ebrill. Rydym yn croesawu'r ffaith bod y gwallau a nodwyd yn flaenorol wedi'u cywiro erbyn hyn.

Mae un pwynt adrodd unigol ar y rheoliadau hyn hefyd yn tynnu sylw at un mater arall. Ar 15 Mawrth, ysgrifennodd y pwyllgor at y Cwnsler Cyffredinol yn gofyn, lle'r oedd is-ddeddfwriaeth a osodwyd gerbron y Senedd yn cael ei defnyddio i ddiwygio gwallau mewn offerynnau blaenorol, y byddai'n ddefnyddiol pe gellid amlygu'r naratif hwn yn y memorandwm esboniadol cysylltiedig. Rydym yn croesawu'r ffaith, yn unol â'n cais, bod craffu ar y rheoliadau blaenorol wedi cael ei amlygu'n glir yn adran 2 o'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau hyn a gyflwynwyd eto, ochr yn ochr â dolen i adroddiad perthnasol y pwyllgor.

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod fy mhwyllgor yn edrych ar y pwyntiau technegol a'r manylion. Mae pob manylyn yn ddarn o jig-so. Mae'r darnau heddiw yn ymwneud â phenderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddiogelu iechyd anifeiliaid, planhigion a'r cyhoedd. Y jig-so yw model gweithredu masnach traws-ffiniol newydd y DU, sef y system o wiriadau ar sut mae mewnforion sy'n dod i mewn i Brydain Fawr yn cael eu trin. Mae'n debygol y bydd Aelodau'n ymwybodol bod y model rheoli ffiniau newydd hwn yn cael ei gyflwyno fesul cam. Fe ddechreuodd ym mis Ionawr a bydd yn parhau i mewn i 2025, gyda'r disgwyl y bydd rhai gwiriadau yn dechrau yng Nghaergybi, Abergwaun a Doc Penfro ym mis Hydref. Mae cyflwyno gwiriadau ar fewnforion i Brydain Fawr wedi bod yn destun oedi sawl gwaith ers i'r DU adael yr UE. Ym mis Ebrill, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wybod i ni fod rhaglen ddeddfwriaethol y model gweithredu masnach trawsffiniol ar ei hôl hi a bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ansicr o'r ffordd ymlaen.

Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn mynd rhywfaint o'r ffordd i ddangos pwysigrwydd gwaith fy mhwyllgor wrth dynnu sylw at sut mae'r darnau'n cael eu rhoi at ei gilydd. I gloi, mae fy mhwyllgor yn awyddus i fod yn bartner adeiladol o ran gwella'r ddeddfwriaeth y mae'r Senedd hon yn ei phasio ac yn ei chymeradwyo. Rydym yn croesawu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ni i wella'r tryloywder o ran gwneud is-ddeddfwriaeth, ac edrychwn ymlaen at ymgysylltu adeiladol pellach. Diolch.

17:55

Ymateb byr iawn i ddiolch unwaith eto i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac i groesawu Cadeirydd newydd y pwyllgor hefyd. Ond diolch iddyn nhw am eu gwaith craffu, nid yn unig ar y materion technegol, ond hefyd y mater pwysig hwnnw o weithredu, a chyflwyno, yn wir, y BTOM a'r swyddi rheoli ffiniau yng Nghymru. Fel y soniais i, fyddan nhw ddim ar waith cyn gwanwyn 2025, ac mae'r rheoliadau sydd gennym o'n blaenau ni yn adlewyrchu hynny. Felly, rydym wedi ceisio ac mae gennym ni lacio a fydd yn mynd â ni i fyny tuag at y dyddiad hwnnw, pan fyddan nhw'n barod.

Ond mae'n bwysig nodi hefyd, Dirprwy Lywydd, beth fyddai'n digwydd pe na baem yn gwneud y rhain heddiw. Ni fyddai gennym statws cyfartal a chydraddoldeb ar draws Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd. Fe allai wneud y drefn archwilio ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion yng Nghymru yn anhyfyw, gan beryglu bioddiogelwch planhigion o bosibl. Felly, er ein bod ni'n falch iawn o gymryd y rhain yn ôl, tynnu'r rheoliadau a oedd â'r diffygion technegol hynny o'r blaen yn ôl, a'u cyflwyno eto, credwn ei bod yn bwysig iawn gosod y rhain heddiw a chael y Senedd i bleidleisio o'u plaid. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Nesaf yw'r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatâu cynnal dadl ar eitemau 8 a 9 ar y cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NNDM8574 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i NNDM8572 a NNDM8573 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 7 Mai 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Yn ffurfiol.

Y cynnig yw i atal Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 8 a 9 eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad. 

8. & 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion—cynnig 1, a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion—cynnig 2

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynigion—Lesley Griffiths.

Cynnig NNDM8572 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno bod darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef, Cymal 16 ynghylch Cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant pan fo un rhiant yn lladd y llall; ystyried Cymal 17 ynghylch marwolaeth yn deillio o gam-drin domestig a Rhan 3 a'r Atodlen gysylltiedig sy'n ymwneud ag iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig, i'r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn cael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Cynnig NNDM8573 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef, Cymalau 1 i 4, 11, 26 a 27, Dioddefwyr Ymddygiad Troseddol: Cod dioddefwyr; Cymal 15, Canllawiau ar rolau cymorth dioddefwyr penodedig; Cymalau 28-33 a Chymalau 35-39 Dioddefwyr Digwyddiadau Mawr; i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynigion. Mae'r cynigion yn ymwneud â'r Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sydd wedi bod yn gymhleth i'w reoli. Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiadau ynghylch y memoranda caniatâd deddfwriaethol atodol a osodwyd ar gyfer y Bil hwn. Mae'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau yn adlewyrchu'r amgylchedd ansicr y bu'n rhaid i ni ei lywio.

Yn anffodus, mae ansicrwydd wedi bod yn thema barhaus ar draws hynt y Bil hwn. Pan gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2023, cafodd adran newydd ar garcharorion ei chynnwys yn annisgwyl heb i Lywodraeth Cymru gael unrhyw olwg arni ymlaen llaw. Ym mis Rhagfyr, ysgrifennodd Llywodraeth y DU atom gyda chynigion adeiladol ar rai cymalau, yr oeddem yn disgwyl eu gweld yn cael eu hadlewyrchu mewn gwelliannau a drefnwyd ar gyfer mis Ionawr. Ein bwriad wedyn oedd gosod SLCM yn cadarnhau'r hyn yr oeddem yn gobeithio fyddai'n sefyllfa gadarnhaol a therfynol ar y Bil.

Fodd bynnag, cafodd y gwelliannau eu diddymu ac, yn lle hynny, bu'n rhaid i ni aros tan fis Ebrill am gadarnhad o'u dull gweithredu, ac yn dilyn hynny fe wnaethom ni ailystyried ein safbwynt, gan ohirio cynhyrchu ein SLCMs. Mae fy swyddogion wedi gweithio'n galed i osod memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn gyflym ar draws holl broses y Bil hwn. Fodd bynnag, mae hyn wedi bod yn anodd oherwydd hynt cythryblus y Bil a'r ansicrwydd ynghylch safbwynt Llywodraeth y DU.

Fe wnaethom ni osod ein memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol diweddaraf yr wythnos diwethaf yn dilyn gwelliannau Llywodraeth y DU a wnaethpwyd ychydig wythnosau yn ôl, a bu mwy o achosion o drechu'r Llywodraeth a gwelliannau i'r Bil hyd yn oed ers i ni osod yr SLCM hwnnw yr wythnos diwethaf.

O'r herwydd, nid yw'r Senedd hon wedi cael digon o amser i graffu ar Fil sydd â goblygiadau pellgyrhaeddol i Gymru. Rwyf am bwysleisio ein bod ni wedi symud mor gyflym ag y gallem ar bob cam o broses y Bil, yn wyneb materion y tu hwnt i'n rheolaeth. Rydym yn disgwyl gwelliannau sylweddol pellach yn ystod ping-pong. Mae'r berthynas â swyddogion Llywodraeth y DU wedi parhau i fod yn adeiladol, ond mae'r cyd-destun cyffredinol o amgylch y Bil yn parhau i fod yn heriol dros ben. Mae'r daith ddeddfwriaethol gymhleth hefyd yn golygu bod y Bil ei hun yn ddigyswllt. Er bod llawer o'r mentrau yn y Bil i'w croesawu, maen nhw wedi cael eu bwndelu'n gasgliad lletchwith o gynigion sy'n sefyll yn annibynnol ar ei gilydd i raddau helaeth yn hytrach na ffurfio Bil cydlynol.

O ystyried cymhlethdod y Bil, byddaf yn bwrw ymlaen â dau gynnig ar wahân. Mae Cynnig 1 yn ymwneud â chymalau 16, 17 a Rhan 3 a'r Atodlen gysylltiedig, ac rwy'n argymell bod Aelodau'n cefnogi'r cynnig hwn. Mae Cynnig 2 yn ymwneud â chymalau 1 i 4, 11, 15, 26 a 27 yn Rhan 1, a chymalau 28 i 33 a 35 i 39 yn Rhan 2, yr wyf yn argymell y dylai'r Aelodau wrthod rhoi cydsyniad iddo. Mae cael dau gynnig yn sicrhau bod y Senedd yn gallu egluro ei gwrthwynebiad i Lywodraeth y DU ar y materion penodol yn y Bil a bod yn bragmatig hefyd wrth gydnabod addasrwydd darpariaethau anghysylltiedig eraill yn y Bil hwn. Mae hyn yn cynnwys Rhan 3 a'r Atodlen gysylltiedig ynghylch cynllun iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig. Cafwyd y gwelliant hwn yn dilyn ymgyrch a gwelliant llwyddiannus gan y gwrthbleidiau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r achos hwn, sy'n un o argymhellion uniongyrchol yr ymchwiliad gwaed heintiedig. Rydym yn cefnogi ymestyn a chymhwyso'r darpariaethau hyn yng Nghymru. Rydym yn cydnabod y budd a'r pwysigrwydd o ran symud y cymalau hyn ymlaen fel y bydd darpariaethau'n berthnasol ar yr un pryd ledled y DU i sicrhau bod y rhai sydd wedi cael gwaed neu gynhyrchion heintiedig yn cael iawndal. Er bod cynllun cymorth wedi'i sefydlu eisoes yng Nghymru, mae dull pedair gwlad yn cael ei ffafrio o ran gweinyddu iawndal er mwyn sicrhau bod darpariaeth gyfartal. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill i baratoi'r cymalau drafft.

Mae Cynnig 1 hefyd yn cynnwys cymal 16, sy'n cyflwyno mesurau diogelu newydd i blant mewn achosion lle mae un o'u rhieni'n cael ei ladd gan y llall, a chymal 17, sy'n diwygio Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004, sy'n caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo person neu gorff penodedig i sefydlu a chymryd rhan mewn adolygiad o farwolaeth sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig. Mae'r rhain yn gynigion synhwyrol yr ydym yn eu cefnogi.

Mae Cynnig 2 yn cyfeirio at y cymalau yr wyf yn argymell y dylai'r Aelodau wrthod rhoi cydsyniad iddynt. Mae hyn yn cynnwys cynigion i ddod â'r cod dioddefwyr yn gyfraith, mandadu canllawiau ar rolau cymorth i ddioddefwyr, a sefydlu eiriolwr ar gyfer dioddefwyr digwyddiadau mawr. Mae'r holl gynigion hyn yn synhwyrol o safbwynt polisi, er nad yw'r cynnig ar gyfer eiriolwr i ddioddefwyr digwyddiadau mawr yn rhoi'r ymreolaeth lawn sydd ei hangen i ddarparu cyfiawnder i ddioddefwyr trychinebau a'u teuluoedd.

Fodd bynnag, o safbwynt cyfansoddiadol, mae'r cymalau yn annerbyniol. Maen nhw'n dod o fewn cymhwysedd y Senedd, ond fel y'u drafftiwyd byddent yn galluogi Llywodraeth y DU i wneud penderfyniadau unochrol ar faterion pwnc sydd wedi'u datganoli yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno darpariaethau ymgynghori ynghylch y swyddogaethau hyn gyda gwelliannau diweddar, er gwaethaf ein gwrthwynebiad cyson i ddulliau gweithredu o'r fath yn y Bil hwn ac mewn mannau eraill mewn Biliau eraill yn y DU.

Rwy'n croesawu'r agweddau cadarnhaol ar y Bil, yn fwyaf arbennig y cynllun iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig. Fodd bynnag, mae'r methiant i barchu datganoli a gyflwynir drwy rai agweddau ar y Bil hwn yn parhau i fod yn hynod siomedig ac yn ddiangen. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau yn y ddadl hon. Diolch.

18:00

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae fy mhwyllgor wedi adrodd ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol cyntaf a'r ail femoranda cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion. Fodd bynnag, gan mai dim ond yr wythnos diwethaf y cafodd memorandwm rhif 3 ei osod, nid oedd yn bosibl ymgymryd ag unrhyw fath o graffu ystyrlon. Fel y soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet, mae'r Bil yn cynnwys ystod o bwerau dirprwyedig i'w rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol, gan gynnwys pwerau i wneud rheoliadau, y gellir eu harfer mewn meysydd datganoledig, a dyletswyddau i gyhoeddi cod ymarfer a chanllawiau statudol. Fel y dywedais i dim ond pythefnos yn ôl mewn dadl gydsynio arall, mae dirprwyo pwerau ychwanegol i'r Weithrediaeth, yn enwedig un nad yw'n atebol i'r Senedd hon, yn fater sylweddol, ac mae'n bwysig ei fod yn cael ei amlygu yma heddiw.

Byddaf yn awr yn troi at ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r Bil a'r broses cydsyniad deddfwriaethol. Mae cyfathrebu rhynglywodraethol yn angenrheidiol os yw dwy Lywodraeth yn mynd i gydweithio i ddeddfu, sydd wedyn yn arwain at sbarduno'r broses cydsyniad deddfwriaethol yn y Senedd. Fodd bynnag, mae'r pryderon a amlinellwn yn yr ail adroddiad yn amlygu mai'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cwtogi'r cyfnod craffu sydd ar gael i Aelodau'r Senedd y tro hwn, oherwydd ym mhob achos heblaw un, mae memorandwm Rhif 2 yn ymwneud â gwelliannau a gyflwynwyd ddiwedd mis Tachwedd ac mae'n gyfystyr ag oedi o bedwar mis wrth osod memorandwm Rhif 2.

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gorfod nodi pryder ynglŷn â gosod memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn amserol yn flaenorol. Er enghraifft, yn yr ail adroddiad, rydym yn cyfeirio'n ôl at y broses cydsyniad deddfwriaethol a oedd yn ymwneud â Bil Ynni Llywodraeth y DU. Fel pwyllgor, rydym yn derbyn y gall yr wybodaeth y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei chyflwyno mewn memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gael ei heffeithio os na chaiff gwybodaeth rhynglywodraethol ei rhannu'n effeithiol, fel y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfeirio ato. Fodd bynnag, mae oedi o bedwar mis cyn gosod memorandwm Rhif 2 wedi golygu nad yw'r Senedd wedi cael mwy o amser i graffu, pe bai Llywodraeth Cymru wedi gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol yn gynharach, ac mewn perthynas â'r gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod Adroddiad Tŷ'r Cyffredin, ac yna wedi dilyn hynny gyda memorandwm pellach yn ymwneud â gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi.

Gwnaethom ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet roi manylion llawn i esbonio'r oedi wrth osod y memoranda atodol, ac rwyf wir yn gwerthfawrogi bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cynnig mwy o fanylion yn y datganiad agoriadol heddiw, gan sôn am y llwybr cythryblus, ansicrwydd y Bil, a rhesymau pellach dros yr oedi hwnnw. Serch hynny, rwy'n gobeithio y gall yr Ysgrifennydd Cabinet werthfawrogi bod yn rhaid i fy mhwyllgor dynnu sylw at yr effaith y mae hynny wedi'i chael ar waith craffu'r Senedd.

Felly, yn olaf, Dirprwy Lywydd, er nad ydym wedi cael amser i graffu ar femorandwm Rhif 3 yn ystyrlon, rydym yn ymwybodol bod datblygiadau wedi bod i'r safbwyntiau yr hysbyswyd y Senedd amdanynt mewn memoranda blaenorol. Er enghraifft, mae gofyniad newydd yn y fersiwn ddiweddaraf o'r ddarpariaeth sy'n sefydlu'r awdurdod iawndal gwaed heintiedig. Y gofyniad hwnnw yw bod Llywodraeth y DU yn gwneud taliadau dros dro o £100,000 i ystadau pobl a gafodd eu heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig sydd wedi marw.

Hoffwn hefyd dynnu sylw at y ffaith ein bod ni'n deall bod dau welliant ychwanegol i'r Bil a ddylai fod wedi'u rhestru ym memorandwm Rhif 3, ond nid oes safbwynt sefydlog wedi bod gan Lywodraeth y DU ar y cymalau newydd hyn ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys. Hoffem nodi ar yr adeg hon nad yw Rheolau Sefydlog yn gwahaniaethu rhwng gwelliannau y cytunwyd arnynt ac sy'n debygol o aros mewn Bil, a gwelliannau nad ydynt yn rhai'r Llywodraeth a all gael eu dileu neu beidio yn ystod camau diwygio yn y dyfodol, a dylid bod wedi cynnwys darpariaethau.  

Felly, yn olaf, hoffwn nodi hefyd ei bod yn ymddangos nawr bod rhai o'r gwelliannau yn gosod dyletswyddau ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud gwahanol bethau. Byddem yn pwysleisio unwaith eto nad yw'r darpariaethau ymgynghori yr un fath â mecanweithiau cydsyniad ffurfiol, ac felly nid yw hyn yn foddhaol yn ein barn ni.

I gloi, mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad o'r farn y dylai'r datblygiadau newydd hyn fod wedi cael eu harchwilio gan Aelodau'r Senedd, yn anad dim oherwydd bod pŵer newydd i wneud rheoliadau yn cael ei roi i Weinidogion Cymru hefyd. Mae'r ffaith nad yw Aelodau'r Senedd wedi gallu archwilio'r datblygiadau'n drylwyr yn adlewyrchu cyfyngiadau'r broses cydsyniad deddfwriaethol, a Senedd arall yn deddfu ar faterion yr ydym ni'n gyfrifol amdanynt. Diolch. 

18:05

Cyn sôn am gynnwys y cymalau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion sydd angen cydsyniad, hoffwn unwaith eto ddatgan safbwynt Plaid Cymru y dylai penderfyniadau sy'n ymwneud â meysydd datganoledig gael eu cymryd gan y Senedd, yn unol â dymuniad democrataidd pobl Cymru. Roedd Plaid Cymru yn siomedig, os nad yn synnu, o weld bod Llywodraeth Cymru wedi datgan y bu diffyg ymgynghori gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol cyn cyhoeddi’r Bil, er bod y Bil hwn yn cyffwrdd â meysydd cymhwysedd datganoledig.

A dyw hi ddim yn dderbyniol bod cymaint o oedi wedi bod cyn cyflwyno'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol, sydd wedi arwain at lai na phythefnos i’r pwyllgor dwi'n aelod ohono, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ynghyd â gweddill Aelodau'r Senedd, wneud ein gwaith craffu. Ac er yr esboniad rŷm ni wedi cael gan yr Ysgrifennydd Cabinet, mae'n dangos unwaith eto, onid ydy, fod y broses hon yn un gwbl ddiffygiol sy'n tanseilio gwaith ac atebolrwydd y Senedd.

Fe fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid cynnig 1 y Llywodraeth, ac felly o blaid cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant lle mae un rhiant yn lladd y llall, cryfhau adolygiadau o farwolaethau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, ac o blaid cynllun iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig. O ran y sgandal gwaed heintiedig, mae Plaid Cymru yn hynod falch o weld cyfiawnder a chydnabyddiaeth o'r diwedd i ddioddefwyr y sgandal gwaed a'u teuluoedd. Mae'n un o drychinebau mwyaf yn hanes y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, ynghyd ag arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, sy'n gadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar hemoffilia, wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn digolledu dioddefwyr a’u teuluoedd.

Digwyddodd y sgandal, wrth gwrs, cyn datganoli iechyd i Gymru, ac mae'n iawn, felly, fod y cyfrifoldeb o ran grymoedd a chyllid i weithredu cynllun iawndal yn gorwedd gyda Llywodraeth San Steffan. Rŷn ni'n falch, felly, o weld y cam hirddisgwyliedig hwn yn cael ei gymryd, ac yn cefnogi'r cymal yn y Bil sy'n rhoi caniatâd y Senedd i hynny ddigwydd.

O ran troi at rai materion perthnasol i'r Bil hwn yn ehangach, mae dioddefwyr wedi cael eu hanwybyddu’n gyson yn y system gyfiawnder yng Nghymru, ac mae hyn wedi’i waethygu gan y rhaglen enfawr o gau llysoedd yng Nghymru. Mae hyn wedi lleihau gallu dioddefwyr i fynd i'r llys, yn enwedig yn ein hardaloedd mwy gwledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiffygiol. Ymhellach, mae Plaid Cymru yn credu ei bod hi'n bryd inni sefydlu rôl a swydd comisiynydd dioddefwyr i Gymru, i arwain ar greu gwasanaeth cyson ar draws Cymru ac i hyrwyddo llais dioddefwyr yn nhirwedd newidiol deddfwriaeth a datganoli. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer cysylltu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr â’r system gyfiawnder, a’i gwneud yn atebol i bobl Cymru, mewn cydweithrediad â gwasanaethau fel iechyd, sydd eisoes wedi’u datganoli i’r Senedd.

I gloi, mae Plaid Cymru'n cefnogi’n fras nodau’r cymalau hynny yr ydym yn barod i gydsynio iddynt, ond yn gyffredinol yn credu bod yn rhaid gwella’r Bil i sicrhau ei fod yn cael ei gryfhau i gynnwys yr holl ddioddefwyr a gwasanaethau cymorth. Yn gyffredinol, byddem yn cael ein gwasanaethu’n well gyda chomisiynydd dioddefwyr ein hunain a’r gallu, felly, i alinio gwasanaethau’n gywir, gan roi dioddefwyr wrth galon ein system yma. A yw’r Llywodraeth yn rhannu dyhead Plaid Cymru o gael comisiynydd dioddefwyr i Gymru, ac os ydyw, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni hyn?

18:10

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, hoffwn hefyd nodi fy mhryder unwaith eto ynghylch yr oedi cyn i'r LCMs hyn gael eu hanfon ymlaen atom, oherwydd, fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, roedd y rhain yn eistedd ar ddesgiau'r Gweinidogion ym mis Tachwedd a dim ond ym mis Ebrill y cawsom wybod amdanynt, felly mae hyn yn anfoddhaol iawn. Dim ond memoranda 1 a 2 y bu modd i ni eu trafod. Ni chawsom unrhyw olwg ar femorandwm 3 ac, felly, ni allaf ond siarad am femoranda 1 a 2.

Roeddwn i eisiau sôn am un mater sy'n ymwneud â chymal 40, a ychwanegwyd yn ddiweddarach, sy'n ymwneud â'r iawndal i ddioddefwyr gwaed heintiedig. Rwy'n cefnogi'n gryf yr ymgyrch gan Julie Morgan, Diana Johnson AS a llawer o bobl eraill, i sicrhau cyfiawnder i gleifion y rhoddwyd gwaed halogedig o'r Unol Daleithiau iddynt, gan ddefnyddio pobl a oedd yn cael eu talu i roi gwaed, gyda chanlyniadau erchyll iawn i'r holl bobl hyn.

Rwyf am fod yn glir bod Llywodraeth y DU, wrth ofyn i ni weinyddu—yn gyflym, gobeithio—yr iawndal sy'n ddyledus i'r holl bobl hyn yng Nghymru—y bydd yr arian sydd ei angen ar gyfer yr unigolion hynny yn cael ei ariannu gan Drysorlys y DU. Oherwydd rwy'n cadw mewn cof yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r senario tomenni glo, lle mae materion sydd yn amlwg wedi cael eu creu ymhell cyn i'r sefydliad hwn gael ei sefydlu yn cael eu dadlwytho arnom ni, fel sefydliad datganoledig. Felly, rwyf am gael eglurhad go iawn, pan fyddwn ni'n talu iawndal i unigolyn yng Nghaerdydd, y bydd yr unigolyn hwnnw'n cael yr un swm o arian â'r un math o unigolyn ym Mryste, Manceinion, Llundain neu ble bynnag, ac y bydd y costau gweinyddol am orfod ymdrin â mater mor anodd, ar gyflymder, o gofio bod cynifer o'r dioddefwyr hyn eisoes wedi marw, yn mynd i ddod allan o Drysorlys y DU hefyd. Ac rydw i wir eisiau i'r pethau hynny gael eu hegluro. Fel arall, rydyn ni'n berffaith fodlon cyd-fynd â dull y Llywodraeth mewn perthynas â'r gwelliannau hyn.

18:15

Dirprwy Lywydd, dwi'n falch o allu cyfrannu at y ddadl yma, a dwi'n gwneud hynny fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed wedi'i heintio ac fel cynrychiolydd hefyd etholwyr i mi yn Ynys Môn sydd wedi dioddef o'r sgandal gwaed wedi'i heintio.

Mi fyddaf i'n canolbwyntio fy nghyfraniad yn benodol ar Ran 3 y Bil, sef ar sefydlu corff i dalu iawndal i ddioddefwyr y sgandal yma. Y pwynt hanfodol i mi yn fan hyn o ran proses ddeddfu ydy mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig ddylai fod yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb i weithredu. Mae hynny wedi bod yn egwyddor graidd i'r ymgyrch dros iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed wedi'i heintio, achos mae hwn yn sgandal sy'n deillio o ddyddiau cyn datganoli, ac mae'n amlwg mai cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ydy gwneud yn iawn am rywbeth a achoswyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dwi yn falch, o'r diwedd, ar ôl degawdau o ymgyrchu diflino dros gyfiawnder gan ddioddefwyr a'u teuluoedd—llawer o'r dioddefwyr wedi marw erbyn hyn, wrth gwrs—ac ar ôl ymchwiliad annibynnol llawn, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o'r diwedd yn barod i ddarparu iawndal. Dwi'n talu teyrnged i bawb sydd wedi ymgyrchu mor hir. Ond, er ein bod ni'n agos iawn, iawn at y diwedd, ac er fy mod i'n falch bod y Bil yn cynnwys cynlluniau i sefydlu'r corff talu iawndal, allwn ni chwaith ddim anwybyddu'r pryderon go iawn sydd gan ymgyrchwyr am y gwelliannau diweddar a gafodd eu pasio yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae ymgyrchwyr yn dweud bod y gwelliannau hynny'n mynd yn groes i'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau interim gan Syr Brian Langstaff a Syr Robert Francis, ac yn rhoi gormod o bŵer yn ôl i'r Llywodraeth ar ffactorau hollbwysig fel meini prawf cymhwyster, fel y tariffs ac apeliadau, ac yn y blaen. Felly, dwi'n erfyn ar Aelodau Seneddol yn San Steffan o bob lliw i ystyried o ddifrif bwysigrwydd cael y cynllun yma'n iawn, ac i wneud hyn yn gyflym achos allwn ni ddim cael rhagor o oedi.

Dwi'n credu'n gryf iawn y dylai deddfau sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru gael eu gwneud yma yng Nghymru a'u pasio yma yn Senedd Cymru, ond, fel dwi'n dweud, yn yr achos hwn, Senedd San Steffan a Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn gorfod ysgwyddo'r bai am hyn, ond rydyn ni wedi gweld unwaith eto efo'r broses yma, onid do, gymaint o wendidau sydd yna. Mae'n amlwg i bawb—gwendidau'r holl broses ddeddfwriaethol rydyn ni'n edrych arni eto heddiw.

Dirprwy Lywydd, wrth siarad am gynnig 1, rwyf am gofnodi fy niolch a'm meddyliau gyda theulu Jade Ward a ffrindiau Jade Ward a Mark Tami AS, a ymgyrchodd yn ddiflino dros gyflwyno cyfraith Jade yn sgil llofruddiaeth greulon Jade rhyw ddwy flynedd yn ôl bellach. Gorfododd eu hymgyrchu diflino y tro pedol ar bolisi ac mae hynny o fewn cynnig 1 y drafodaeth heddiw, ac edrychaf ymlaen at bleidleisio o blaid a chydsynio â'r cynnig hwnnw.

Dirprwy Lywydd, wrth siarad yn ehangach am y Bil hwn, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod fy mod i wedi codi'n gyson bwysigrwydd gosod dyletswydd gonestrwydd ar swyddogion cyhoeddus, gan sicrhau eu bod yn cydweithio'n rhagweithiol ag ymchwiliadau swyddogol ac yn dweud y gwir mewn ymchwiliadau o'r fath, gan sicrhau bod pobl gyffredin yn gallu cael y cyfiawnder y maen nhw'n ei haeddu'n fawr. Mae'n drueni dweud bod y Bil hwn yn ddiffygiol ac yn methu â darparu'r ddyletswydd statudol honno. Rwy'n ymwybodol o welliant Tŷ'r Arglwyddi sydd wedi mynd drwyddo, ac fe wnaethon nhw bleidleisio ar welliant yn galw am ddyletswydd statudol o onestrwydd, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am farn Llywodraeth Cymru ar ddyletswydd statudol o onestrwydd a phwysigrwydd dyletswydd o'r fath yn ei hymateb. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cwestiynau a'u sylwadau. Yn gyntaf oll, gan droi at Sarah Murphy a Jenny Rathbone fel Cadeiryddion y pwyllgorau priodol, dim ond i ddweud y byddaf yn ymateb yn ffurfiol i'ch dau adroddiad, ond rwy'n deall yn llwyr y pryder ynghylch y ffaith nad oedd digon o amser i'r Senedd ymgymryd â gwaith craffu.

Rwy'n credu bod safbwynt Llywodraeth y DU wedi newid cymaint. Felly, yn amlwg, cafodd fy rhagflaenydd, Jane Hutt, drafodaethau ar ôl i'r LCM gael ei osod ym mis Tachwedd, lle cawsom ein sicrhau, ym mis Rhagfyr, o gyfeiriad penodol y byddem yn mynd iddo. Yn anffodus, fel y dywedais i, cafodd y gwelliannau hynny eu diddymu, a wnaeth ein gadael mewn lle anodd iawn. Rwy'n credu bod angen i ni gael barn ar y Bil hwn. Mae'n Bil pwysig iawn, ac mae'n rhaid i ni gael barn. Felly, rydym wedi gorfod gweithio'n galed iawn, rwy'n credu, ar draws y ddwy Lywodraeth, i geisio cyrraedd man lle gallem ddod â'r LCMs hyn i'r Senedd i'w trafod heddiw. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod fy swyddogion wedi gweithio'n galed iawn i osod yr LCMs, yn gyflym, ar draws proses y Bil, ond mae wedi bod yn anodd iawn, yn enwedig, fel y dywedais i, pan gafodd y gwelliannau hynny eu diddymu ar y funud olaf a chawsom ein gadael i ystyried beth fyddai ein safbwynt ni fel Llywodraeth Cymru. Fe gwrddais i â'r Gweinidog Carchardai, Parôl a Phrawf yr wythnos diwethaf. Mae'n glir iawn ynghylch ein pryderon ac mae wedi fy sicrhau y bydd pethau'n gwella. Ond rydym yn agosáu at ping-pong, ac rwy'n credu y byddwn ni'n dal i weld newidiadau i'r Bil hwn yn mynd drwodd.

18:20

O, mae'n ddrwg gen i. A gaf i gyfeirio at y pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone, Sioned Williams a Rhun ap Iorwerth ynghylch y sgandal gwaed heintiedig? Dim ond i ddweud wrth Jenny Rathbone, o edrych ar drafodaethau parhaus a'r trafodaethau a gafodd fy rhagflaenydd, yn sicr, rydym wedi gweld cydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU ynghylch talu'r iawndal hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi y dylai ddod o Drysorlys y DU. Nid oes gennyf hynny ar ddu a gwyn. Byddaf yn llawer hapusach pan fydd gennyf hynny ar ddu a gwyn, a byddaf yn sicr yn ei rannu ag Aelodau.

Ac o ran pwynt Jack Sargeant, rwy'n credu bod y gwelliant y cyfeiriodd ato yn Nhŷ'r Arglwyddi yn un pwysig iawn. Byddai'n gosod gofyniad cyfreithiol ar sefydliadau i ymgymryd â chraffu cyhoeddus, gan gynnwys ymchwiliadau a chwestau i farwolaethau sy'n gysylltiedig â'r wladwriaeth, mewn modd gonest a thryloyw. Felly, roeddwn i'n falch iawn o weld bod Tŷ'r Arglwyddi wedi pleidleisio drosto. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.

10. Cyfnod Pleidleisio

Iawn. Fe wnawn ni bleidlais lafar i chi eto, iawn. Os felly, allwn ni symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio? A dim ond un bleidlais sydd y prynhawn yma, a hynny ar yr eitem olaf, yr ail gynnig gan y Llywodraeth ar yr LCM. Agorwch y bleidlais. 

Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 8. Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion—cynnig 2: O blaid: 15, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 18:23.