Y Cyfarfod Llawn

Plenary

06/03/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:00 gyda'r Dirprwy Lywydd (David Rees) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sydd gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells. 

Siarter Budd-daliadau Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am siarter budd-daliadau Cymru? OQ60773

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Vikki Howells. Lansiwyd siarter budd-daliadau Cymru, gyda’i hymrwymiadau ar gyfer system fudd-daliadau Gymreig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn dosturiol ac yn hygyrch, ym mis Ionawr. Mae gwaith ar droi’r ymrwymiadau yn gamau gweithredu yn cael ei arwain gan grŵp llywio o arbenigwyr, a fydd yn cyhoeddi eu cynllun gweithredu yn yr haf.

Diolch am y diweddariad, Weinidog. Mae’n hanfodol fod pobl yn cael eu cefnogi mewn ffordd sy’n sicrhau eu bod yn gallu cael pob budd-dal y mae ganddynt hawl iddo, a gwn mai dyma yw eich uchelgais wrth gwrs. Yn fy awdurdod lleol fy hun yn Rhondda Cynon Taf, mae’r gwaith hwnnw wedi cynnwys mynediad digidol at ffurflenni cais, hyfforddiant a threfniadau cyfeirio ar gyfer yr holl staff, defnyddio data’r Adran Gwaith a Phensiynau i gychwyn trefniadau ar gyfer yr hawl i ostyngiad yn y dreth gyngor, rhannu data rhwng gwasanaethau’r cyngor i annog disgyblion i fanteisio ar brydau ysgol am ddim a grantiau hanfodion ysgol, a thaliadau costau byw a thaliadau ynni awtomatig lle bo modd. Felly, a gaf i ofyn, Weinidog, pa waith cydweithredol sy’n mynd rhagddo rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau bod yr enghreifftiau hyn o arferion gorau yn cael eu hailadrodd?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Cydweithio ag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn arbennig, yw'r sylfaen ar gyfer lansio'r siarter hon, y mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo iddi. Ac mae'n ddefnyddiol iawn ac yn ardderchog clywed yr hyn y mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn ei wneud, gan ei fod yn cyflwyno'r enghreifftiau o sut mae awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen â hyn ledled Cymru, yn enwedig sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Roeddwn hefyd yn falch iawn o lansio’r siarter yng Nghanolfan Adnoddau Blaenafon yn Nhorfaen gyda’r Aelod dynodedig, Siân Gwenllian, ac yn wir, cyfarfuom â’r arweinydd, y Cynghorydd Anthony Hunt, a'r llefarydd ar ran CLlLC o ran cyllid. A hefyd, yn fwy diweddar, wrth ymweld â sir Gaerfyrddin a chyfarfod â’r arweinydd, y Cynghorydd Darren Price, a’i holl staff, sy’n gwneud gwaith tebyg iawn hefyd wrth estyn allan yn eu cymunedau—. Felly, mae hyn yn ymwneud â chyngor partneriaeth Cymru, arweinwyr y 22 awdurdod lleol, cydweithio agos, a hefyd grŵp annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Fran Targett, yn edrych ar sut y gallwn roi hyn ar waith yn gyson ledled Cymru.

Wrth eich holi yma o'r blaen ar siarter budd-daliadau Cymru, er bod y sector, fel finnau, wedi bod yn galw ers bron i ddegawd am system fudd-daliadau gydlynol ac integredig yng Nghymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, nodais fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi datganiad i’r wasg yn nodi’n glir, ymhell o fod yn lansiad system budd-daliadau Cymru, mai dim ond cytuno i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gymryd camau tuag at ddatblygu system o'r fath oedd yr awdurdodau lleol wedi'i wneud. Gofynnais i chi felly a oedd gennych amserlen ar gyfer cyflwyno system budd-daliadau Cymru, ac os felly, pa dargedau a fyddai ar waith i fesur cynnydd. Gofynnais i chi hefyd a oedd y 22 awdurdod lleol wedi cytuno i weithredu system budd-daliadau Gymreig ar sail unffurf ledled Cymru er mwyn osgoi loteri cod post, ac yn hollbwysig, sut y byddwch yn monitro gweithrediad ac ymarfer er mwyn sicrhau effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chanlyniadau targedau. Yn eich ateb, fe ddywedoch chi'n unig y bydd y grŵp llywio yn llunio cynllun gweithredu erbyn yr haf. Wel, mae gan bob busnes masnachol neu gymdeithasol hyfyw gynllun busnes gyda thargedau, amserlenni a dyddiadau adolygu. Chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol, felly beth yw targedau, amserlenni a dyddiadau adolygu Llywodraeth Cymru?

Gan eich bod wedi fy holi ar hyn o’r blaen, Mark Isherwood, rwy'n gobeithio eich bod yn cydnabod bod hwn yn gam mawr ymlaen ar weithredu siarter budd-daliadau Cymru, ond mae’n gam cyntaf ar y daith i sicrhau bod gennym system budd-daliadau Cymru sydd, fel y dywedais, yn dosturiol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn galluogi pobl i sicrhau eu hawliau i gymorth ariannol. Mae ymrwymiad penodol yn y siarter i awdurdodau lleol addasu prosesau i ddiwallu anghenion unigol. Rydym wedi clywed am yr hyn y mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn ei wneud. Clywsom hynny yn Nhorfaen, ac yn wir, yn sir Gaerfyrddin hefyd.

Mae’n waith i symleiddio system budd-daliadau Cymru, ac wrth gwrs, mae’n dechrau gyda'r budd-daliadau allweddol hynny sy'n rhoi mynediad at ostyngiadau’r dreth gyngor, prydau ysgol am ddim, a'r grant hanfodion ysgol. Bydd yn adrodd i gyngor partneriaeth Cymru, ac ar y grŵp allanol, sydd eisoes wedi cyfarfod o fewn dyddiau i lansio’r siarter gennym, dan gadeiryddiaeth Fran Targett, gynt o Cyngor ar Bopeth Cymru, fe geir aelodau blaenllaw o lywodraeth leol, yn enwedig pobl ar y rheng flaen. Credaf mai dyna a welsom wrth ymweld ag awdurdodau lleol, mai'r bobl ar y rheng flaen yn yr adran refeniw a budd-daliadau sy'n cyflawni hyn mewn gwirionedd, mewn partneriaeth â'r holl ddarparwyr cyngor hynny fel Cyngor ar Bopeth, i sicrhau y gellir ei gyflawni'n effeithiol.

13:05
Cynllun Gweithredu LHDTC+

2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gyflawni 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru'? OQ60777

Ers cyhoeddi ein cynllun gweithredu LHDTC+, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i roi'r camau gweithredu yn y cynllun ar waith. Ynghyd â hyn, rydym wedi cyhoeddi traciwr cynllun gweithredu LHDTC+, fel y gall pawb fonitro cynnydd. Mae'r traciwr hefyd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau i gefnogi cymunedau LHDTC+ Cymru.

Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog yn garedig iawn â’m hetholwr Sean Donovan a’i fam, Sarah, yr hydref diwethaf i glywed am ei brofiadau fel dyn traws ifanc yng Nghymru. Fe fydd hi'n ymwybodol o stori newyddion y BBC dros y penwythnos a adroddodd hanes Sean a’i ymgyrch am well mynediad at gymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â dysfforia rhywedd fel nad oes yn rhaid iddynt deithio i gael mynediad at wasanaethau yn Lloegr, lle mae gwasanaethau'n dal i fod yn annigonol. Mae cynllun gweithredu LHDTC+ arloesol Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rhywedd yng Nghymru, a fyddai’n helpu i fynd i’r afael â’r diffyg yn y ddarpariaeth. Fodd bynnag, mae darllen yn stori’r BBC fod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi dweud nad oedd unrhyw gynlluniau ar unwaith i ddatblygu gwasanaeth penodol i Gymru yn peri pryder. A yw’r Dirprwy Weinidog yn cytuno felly ei bod yn bryd i’r pwyllgor hwnnw ddechrau gwneud cynlluniau o’r fath, ac a wnaiff hi weithio gyda’i chyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni yn unol â’r cynllun gweithredu a galwadau diweddar gan Gomisiynydd Plant Cymru?

A gaf i ddiolch i Hefin David, nid yn unig am ei ddiddordeb yn y mater hwn, ond am ei ymrwymiad llwyr i hyn a'r gefnogaeth y mae wedi'i rhoi i Sean a'i fam, Sarah, hefyd? Roedd yn fraint cael cyfle i gyfarfod â’r ddau ohonynt beth amser yn ôl bellach, a gwn eich bod wedi anfon llythyr ers hynny, ac mae Sean wedi rhannu rhywfaint o’i brofiadau, yn garedig iawn, gan y credaf fod hynny’n aml yn anodd, ond mae'n hynod bwysig er mwyn sicrhau bod y pethau a wnawn yn y cynllun yn bethau y mae'r gymuned eu heisiau a'u hangen. Mae hi mor bwysig eu bod yn cael eu llywio gan y profiadau bywyd hynny, pa un a yw hynny'n rhywbeth y gallem ei wneud i adeiladu ar ein haddysg gynhwysol mewn ysgolion, y canllawiau trawsrywedd sydd ar y ffordd i ysgolion hefyd i gefnogi pobl ifanc yno, a sut y gallwn rannu'r arferion gorau a welsom yn yr ysgolion yr ymwelais â nhw, sydd â chlybiau da iawn a mannau diogel i bobl ifanc, ac sy'n cefnogi athrawon i gynorthwyo'r bobl ifanc hynny drwy eu profiadau a’u teithiau. Rydym yn falch o'r cynllun. Mae 46 o gamau gweithredu yn y cynllun y cytunwyd arnynt ar draws y Llywodraeth, ac rydym yn gwbl ymrwymedig i wella’r gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan gydnabod y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud ar wasanaeth i oedolion. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Ac ar y pethau y mae Sean wedi'u dweud, maent yn wirioneddol bwysig, a hoffwn weld gwasanaeth yng Nghymru sy’n cefnogi ac sydd wedi'i lywio gan brofiadau pobl mewn ffordd sy’n diwallu anghenion y gymuned yma yng Nghymru. Credaf fod y flwyddyn gyntaf o ddilyn y cynllun gweithredu hwnnw wedi ymwneud â gosod y sylfeini yn eu lle, a nawr, mae angen inni adeiladu ar hynny. Edrychaf ymlaen yn arw at adeiladu ar y gwaith hwnnw o dan Brif Weinidog yn y dyfodol hefyd.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Stonewall Cymru i gynnal eu sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac yn wir, mae'r cynllun gweithredu LHDTC yn cyfeirio at ddata Stonewall drwyddo draw. Ymhellach, gofynnodd sefydliadau fel LGB Alliance Cymru a Merched Cymru am gael bod yn rhan o’r panel arbenigol annibynnol, ond yn anffodus, cawsant eu hanwybyddu. Rydym bellach yn gweld llu o sefydliadau yn torri cysylltiadau â Stonewall oherwydd eu harferion fel elusen. Rydym wedi gweld Coleg Prifysgol Llundain, Ysgol Economeg Llundain, Channel 4, Ofsted a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a llawer mwy, oll yn torri cysylltiadau â Stonewall yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ar wahân i’r gwerth gwael am arian, mae’r rhesymau a roddwyd am y llu o gysylltiadau a dorrwyd yn cynnwys pryderon fod gan Stonewall safbwyntiau radical nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu’r gymuned LHDT yn ei chyfanrwydd, ac maent wedi’u cyhuddo o roi cyngor sy’n camddehongli neu’n mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rwy’n siŵr, Ddirprwy Lywydd, y gall y Dirprwy Weinidog ddeall ei bod yn bwysig ymgynghori ag ystod eang o arbenigwyr a safbwyntiau ar faterion pwysig, ac nad yw penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail barn un sefydliad yn unig. Gallaf eich gweld yn croesi eich breichiau yn eithaf anffurfiol yno.

13:10

Iawn. Yng ngoleuni’r pryderon ynghylch ymddygiad Stonewall, a wnaiff Llywodraeth Cymru ailasesu eu perthynas â nhw, a’u haddasrwydd ar gyfer grantiau cyhoeddus, a sicrhau bod ymgynghoriadau’n cynnwys amrywiaeth ehangach o sefydliadau yn y dyfodol, sy’n cynrychioli safbwyntiau’r gymuned LHDT orau?

Mae'n rhaid imi ddweud, Ddirprwy Lywydd—gallwch glywed yr ymatebion yn y Siambr yma—fy mod yn falch iawn o'r gwaith yr ydym wedi gallu ei wneud, yn y Siambr, yng Nghymru, yn ein Senedd, drwy gydweithio i greu Cymru well ar gyfer pawb yn ein cymuned LHDTC+. Ac rydym yn gwbl glir fod hynny o fewn, a chyda, y gymuned LHDTC+ gyfan, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda sefydliadau cynhwysol fel Stonewall, ac ystod o randdeiliaid, ac yn bwysicach, lleisiau'r gymuned LHDTC+ ei hun, gan fod a wnelo hyn â'r dywediad, 'Dim byd amdanom ni hebom ni'. Mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r dull gweithredu cynhwysol, cyfannol hwnnw, a'n bod yn gweithio gyda'n gilydd i roi'r 46 cam gweithredu hynny yn y cynllun ar waith ac yn gweithio dros Gymru.

Mae’r Aelod yn mwmian arnaf, ond mae’n rhaid imi ddweud, Gareth, fy mod yn siomedig iawn ynglŷn â llwybr eich cwestiynau. Mae'n ergyd rad. Rydych yn chwarae i'r galeri, gan dargedu sefydliadau sydd â hanes hir a balch o gefnogi, ac o ddadlau ac ymgyrchu dros y gymuned LHDTC+.

A gaf i gefnogi’r Gweinidog wrth ymwrthod â thrawsffobia’r Blaid Geidwadol fodern? Rydym wedi siarad o’r blaen, onid ydym, Weinidog, am y posibilrwydd o ymgorffori Cymru ym mynegai a map enfys Cymdeithas Ryngwladol Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Traws a Rhyngryw (ILGA) Ewrop, sy’n graddio gwledydd Ewrop yn ôl eu cefnogaeth i hawliau LHDT+. Dywed ILGA Ewrop wrthyf y bydd yr wybodaeth a gânt am Gymru yn cael ei chynnwys ar y map enfys ar eu gwefan eleni, ond maent yn mynd rhagddynt i ddweud,

'Ni fyddwn ac ni allwn gyhoeddi dadansoddiad rhanbarth wrth ranbarth ar wahân, gan gynnwys ar gyfer Cymru, ond byddai'n gymharol syml, o'r data y gellir ei lawrlwytho ar ein gwefan, creu hyn ar gyfer Cymru.'

O ystyried eu bod yn dweud y bydd yn gymharol syml, a allai Llywodraeth Cymru wneud hynny i Gymru, yn barod ar gyfer 17 Mai, sef y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia, pan fydd y map a’r mynegai'n cael eu cyhoeddi?

A gaf i ddiolch i Adam Price am ei gwestiwn? Gwn fod hwn, fel y dywedwch, yn faes yr ydym eisoes wedi'i drafod yn y Siambr a thu hwnt. Fel y dywedwch, mae rhan allweddol o'r cynllun gweithredu yn ymwneud â sut rydym nid yn unig yn eirioli'n rhyngwladol, ond sut rydym yn dysgu gan wledydd eraill, a hefyd yn dangos ein bod yn mabwysiadu dull gweithredu gwahanol yng Nghymru, ac un yr ydym wedi gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth i’w gyflawni, ac sy'n ddull gwahanol, yn anffodus, i’r hyn a welwn ym mhob rhan o’r byd lle mae ein hawliau mewn perygl o gael eu lleihau—ac yn nes at adref hefyd mewn rhai achosion, yn anffodus. Felly, rydym yn ymrwymo’n llwyr i fynd i'r afael â'r pwynt a godwyd gan Adam Price i weld beth y gallwn ei wneud cyn 17 Mai. Wrth gwrs, efallai nad fy nghyfrifoldeb i fydd hyn erbyn hynny, ond rwy'n gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n gyfrifol yn sicrhau eu bod yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw ac yn parhau i adeiladu ar y gwaith a wnaethom eisoes.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau, ac, yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Altaf Hussain.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, yn anffodus, mae digwyddiadau diweddar ledled y byd yn cael effaith ddramatig ar gydlyniant cymunedol yma yng Nghymru. Er nad oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i orfodi’r ddwy ochr yn y gwrthdaro yn Gaza i atal y lladd erchyll, ar wahân i weddïo am heddwch, gallwn weithredu i atal y lladd yn y dwyrain canol rhag dinistrio cysylltiadau rhyng-ffydd yma gartref. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw digwyddiadau mewn mannau eraill yn effeithio ar oddefgarwch a rhyddid crefyddol yng Nghymru? Sut rydych chi'n gweithio gydag arweinwyr cymunedol a ffydd ledled y wlad i hyrwyddo a diogelu cydlyniant cymunedol?

Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Diolch am y cwestiwn gwirioneddol bwysig hwnnw i ni heddiw. Mae’n gwestiwn yr ydym wedi’i drafod a’i ddadlau yma yn y Siambr, pan ddaethom at ein gilydd i drafod y mater hwn, ac roeddem yn gallu adrodd, fel Llywodraeth Cymru, sut roeddem yn estyn allan. Ac yn sicr, rwyf i fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a'r Gweinidog cyllid, y Gweinidog addysg, yn cyfarfod â’n cymunedau sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y digwyddiadau yn y dwyrain canol. Wrth gwrs, rydym yn cyfarfod â’n cymunedau Mwslimaidd, yn cyfarfod â’n cymunedau Iddewig—yn cyfarfod â nhw ac yn ymweld â’u mannau addoli hefyd, ac yn dysgu beth mae hyn wedi’i olygu iddynt hwy, ond gan gydnabod yr hyn y mae wedi’i olygu iddynt hwy o ran yr effaith a gaiff ar eu bywydau ac yn fyd-eang yn ogystal. A gaf i ddweud bod ein timau cydlyniant cymunedol yn hollbwysig yn hyn, gan weithio gyda'n cyngor rhyng-ffydd, sydd wedi bod yn cyfarfod, a hefyd ein fforwm cymunedau ffydd?

13:15

Diolch, Weinidog. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i fod yn fwy goddefgar o bobl sydd â chredoau gwahanol i ni. Ar yr un pryd, dylem hefyd fod yn rhydd i feirniadu crefyddau. Nid oes gennym unrhyw ddeddfau cabledd yn y wlad hon, ac eto mae'r rhai sy'n beirniadu, yn gywir ddigon, safbwyntiau Islamyddol rhagfarnllyd, yn cael eu galw'n Islamoffobig. Nid oes ond angen inni edrych ar adolygiad Shawcross o raglen Prevent i weld sut mae ymdrechion i osgoi hiliaeth ac Islamoffobia wedi arwain at gynnydd mewn eithafwyr Islamyddol di-drais. Gallwn fod yn feirniadol o’r bobl hyn a’u barn heb fod yn Islamoffobig, yn union fel y gallwn feirniadu gwladwriaeth Israel heb fod yn wrthsemitig.

Serch hynny, dros yr wythnosau diwethaf, ymddengys bod anoddefgarwch wedi bod yn drech, a'r unig enillwyr yw'r eithafwyr, rhai crefyddol a'r rheini ar yr asgell dde eithafol. Nid yw cefnogwyr Hamas sy’n siarad mewn digwyddiadau codi arian i ymgyrch undod Palesteina am hil-laddiad, neu Iddewon tra uniongred sy’n galw am gael gwared ar Arabiaid o’r wlad sanctaidd yn gwneud fawr ddim i leddfu tensiynau. Weinidog, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau nad yw cymunedau Cymru'n ildio i gasineb ac ymraniad, ac y gallwn alw am heddwch, yn heddychlon?

Diolch am eich cwestiwn dilynol. Gadewch imi ddweud yn glir iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu Islamoffobia a gwrthsemitiaeth yn llwyr. Credaf ei bod yn bwysig iawn, mewn gwirionedd, yn y Senedd hon, fod digwyddiad gwirioneddol bwysig wedi'i gynnal, pan oeddem yn cydnabod y diwrnod o weithredu yn erbyn Islamoffobia. Rwy'n gobeithio bod y digwyddiad hwnnw wedi’i gydnabod fel digwyddiad trawsbleidiol hefyd.

Wrth inni gyfarfod â’n cymheiriaid a’n ffrindiau Mwslimaidd, yn enwedig yn y cyngor lles Mwslimiaid, i ddeall yr effaith y mae Islamoffobia yn ei chael ar eu bywydau, a deall, yn yr un modd, effaith gwrthsemitiaeth—. Mae'n rhaid imi ddweud, Altaf, fy mod yn gobeithio y byddech chi, gyda mi, a chymaint o rai eraill yn y Siambr hon, rwy'n gwybod, yn condemnio’r iaith Islamoffobaidd a ddefnyddiwyd gan rai o lefarwyr y Ceidwadwyr. Lee Anderson—nid yw'n aelod mwyach; mae wedi'i ddiarddel. Ond y geiriau hynny a'r ymosodiadau hynny ar Sadiq Khan—rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i gondemnio'r rheini hefyd.

Diolch, Weinidog. Yn anffodus, mae llawer o'r protestiadau wedi bod ymhell o fod yn heddychlon. Nid oes ond angen inni edrych ar yr hyn a wynebodd Jo Stevens AS. Dywedodd ar y penwythnos, yn dilyn yr ymosodiad ar ei swyddfa, ei bod wedi gorfod newid ei hymddygiad pan fydd yn gadael ei thŷ. Daw hyn yn sgil y driniaeth warthus a wynebodd ein cyd-Aelod Natasha Asghar cyn hynny. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Pam y dylai Aelod Seneddol, o unrhyw Senedd, gael eu gorfodi i newid eu hymddygiad o ganlyniad i brotestwyr treisgar? Mae arnaf ofn y gallai hyn gael effaith ddychrynllyd ar ein democratiaeth, os na chaiff ei atal. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda heddluoedd yng Nghymru am y camau y maent yn eu cymryd i amddiffyn ein democratiaeth rhag eithafwyr treisgar? Diolch.

13:20

Yn amlwg, rydym yn condemnio pob ymosodiad ar gynrychiolwyr etholedig, ond rydym hefyd yn cydnabod, ac rwy’n siŵr fod llawer ohonom ar draws y Siambr hon yn cydnabod sefyllfa Natasha Asghar yn arbennig, ond Aelodau etholedig eraill hefyd sy'n wynebu’r math hwnnw o gamdriniaeth, a hefyd, mewn llawer o achosion, a chredaf fod hyn wedi digwydd hyd yn oed i mi, pan fo protestio heddychlon, fod hynny'n rhan o ddemocratiaeth. Rwy'n croesawu protestio heddychlon pan fo gan bobl safbwyntiau a theimladau cryf iawn am sefyllfaoedd y maent ynddynt. Rydym yn condemnio ymosodiadau, ac rwy’n cydnabod yn arbennig y pwyntiau a wnaethoch am ein cynrychiolwyr etholedig. Ond fe fyddwch yn falch o glywed y byddaf, yfory, yn cadeirio cyfarfod y bwrdd partneriaeth plismona, a byddwn yn trafod mater diogelwch seneddol yn benodol, sy'n rhywbeth a drafodwyd yn y Siambr hon a thu hwnt, a diogelwch seneddol ein cynrychiolwyr etholedig. Nawr, mae gwaith yn mynd rhagddo a chyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer diogelwch seneddol ein Haelodau Seneddol, ond rydym yn trafod hyn hefyd mewn perthynas â’n Haelodau o'r Senedd hefyd. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhan o’r ffyrdd y gweithiwn gyda’n cydweithwyr plismona i sicrhau ein bod yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol, ond gan gydnabod pwysigrwydd protestio heddychlon, sy'n rhywbeth yr ydym yn ei gefnogi.

Y penwythnos nesaf, gwn y bydd Stand Up To Racism yn cynnal rali a gorymdaith yng Nghaerdydd, ar hyd strydoedd ein prifddinas. Rwyf bob amser yn falch iawn o ymuno â'r digwyddiadau hynny, gan mai un o'r siantiau pwysicaf y gallwn eu gwneud yn y digwyddiadau hynny yw, 'Mae croeso i ffoaduriaid yma.' Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn i'w wneud am ein cenedl noddfa.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae sbin a gwrth-sbin cyllideb y gwanwyn yn llenwi’r tonfeddi, ond yr hyn na ellir ei wadu yw bod caledi ariannol a lefelau uwch o dlodi wedi dod yn normal newydd yng Nghymru. Fel y mae Sefydliad Bevan wedi'i nodi yn eu hadroddiad cipolwg diweddaraf ar dlodi a gyhoeddwyd heddiw, mae mwy nag un o bob wyth o bobl yng Nghymru weithiau, yn aml neu bob amser yn ei chael hi'n anodd fforddio’r hanfodion. Mae'r ffaith bod caledi ariannol yn gwaethygu yn dangos nad yw’r cymorth y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn effeithiol ar gyfer atal pobl rhag disgyn i dlodi a chael eu caethiwo mewn tlodi.

Mae Plaid Cymru yn cydnabod y cyfyngiadau ariannol ar Lywodraeth Cymru oherwydd y setliad ariannu annheg y mae Cymru yn ei gael gan San Steffan ac effaith ddinistriol polisïau gwarthus Torïaid y DU yn San Steffan, nad ydynt yn malio dim am ein pobl. Ond mae canfyddiadau’r adroddiad yn dangos na fu unrhyw welliannau mawr yn safonau byw pobl ledled Cymru ers eu hadroddiad cipolwg diwethaf ar dlodi ym mis Gorffennaf 2023. Felly, Weinidog, pa werthusiad a wnaed o fesurau gwrthdlodi Llywodraeth Cymru yn ystod tymor y Llywodraeth hon? Pa fesurau pellach a geir yng nghyllideb eleni i roi gwell cymorth i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd? Gyda’r portffolio cyfiawnder cymdeithasol yn wynebu gostyngiad o 7.6 y cant yn ei gyllid, y toriad mwyaf o holl feysydd gwariant Llywodraeth Cymru, a ydych chi'n hyderus y gall Llywodraeth Cymru drechu tlodi yng Nghymru a chefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw yn ddigonol ac o fewn eich cyllideb?

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig, Sioned Williams, sy’n tynnu sylw at yr adroddiad cipolwg ar dlodi yn ystod gaeaf 2024 gan Sefydliad Bevan. Rwy'n falch iawn fod Sefydliad Bevan yn chwarae rhan allweddol yn cyflawni ein siarter budd-daliadau, gan fod yr hawl i fudd-daliadau a gweithredu pwyslais ar incwm yn allweddol er mwyn trechu tlodi, er gwaethaf y ffaith bod hon yn gyllideb mor anodd gyda £1.2 biliwn wedi'i dynnu allan o'n cyllideb gan Lywodraeth y DU. Gorfodwyd 13 blynedd o gyni arnom gan Lywodraeth y DU—dewis gan y Llywodraeth Geidwadol honno, nid oedd yn angenrheidiol, ac rydym yn dal i fyw gyda hynny. Credaf fod yr adroddiad cipolwg yn dangos yn glir iawn beth mae hynny wedi'i olygu i fywydau pobl yng Nghymru.

Ond roedd yn bwysig iawn ein bod yn diogelu, yn y gyllideb, ein cronfa cymorth dewisol, sy'n werth £38.5 miliwn y flwyddyn, gan fod hwnnw'n arian brys mewn sawl ystyr i bobl o ran y taliadau brys, ond hefyd y nwyddau pwysig y mae angen i bobl gael mynediad atynt, yn enwedig pobl o dan bwysau mawr. Nawr, rwyf hefyd yn glir iawn fod yn rhaid inni wneud popeth a allwn i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a thlodi bwyd hefyd. Ar dlodi bwyd, a chefnogi ein sefydliadau bwyd cymunedol ar draws ein holl etholaethau i fynd i’r afael â thlodi bwyd, rwy’n falch iawn, o ganlyniad i’r gyllideb, ein bod yn mynd i allu diogelu ein partneriaethau bwyd, y cydgysylltwyr sy'n gweithio ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau i unigolion ac aelwydydd. A hefyd, mae gennym ein partneriaeth gyda'r Sefydliad Banc Tanwydd, sy'n darparu talebau ar gyfer mesuryddion rhagdalu pobl. Ond mae gennym hefyd y gronfa wres ar gyfer pobl nad ydynt ar y grid, ac fe fyddwch wedi nodi ddoe, neu ddydd Llun, fy mod wedi gallu cyhoeddi datganiad am gyllid sydd wedi mynd i awdurdodau lleol i helpu, yn fwyaf arbennig, pobl sy'n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr ar safleoedd parhaol, ond hefyd, y gronfa wres i’r rhai nad ydynt ar y grid ar y safleoedd hynny gael mynediad at gyllid. Felly, yn gyffredinol, mae angen inni gynorthwyo a chefnogi pobl yn y cyfnod anodd hwn.

13:25

Diolch, Weinidog. Mae llawer o waith da yn mynd rhagddo mewn partneriaeth, ond mae'n amlwg, onid yw, nad yw'r deial yn newid. Gwyddom fod hynny’n rhannol oherwydd ein perthynas â San Steffan, fel y nodwyd gennych, ond mae angen inni hefyd werthuso’n well, yn fy marn i, y mesurau a roddwn ni ar waith. Rydym wedi gweld gwerthusiad diweddar yn cael ei gyhoeddi yn yr Alban, er enghraifft, yn dangos y gwahaniaethau y maent yn eu gwneud gyda’r polisïau sydd ganddynt i ymladd tlodi. A phlant, wrth gwrs, sy'n cael eu niweidio fwyaf gan dlodi, ac mae effaith dorcalonnus ac annerbyniol tlodi ar ein plant wedi'i hamlygu mewn ymchwil newydd gan Sefydliad Bevan ar dlodi plant a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Mae hanner plant Cymru yn poeni a oes gan eu teuluoedd ddigon o arian i dalu'r biliau—hanner plant Cymru; dywedodd 23 y cant eu bod yn poeni'n ddiweddar am fod yn oer; dywedodd 21 y cant fod eu hiechyd meddwl wedi’i effeithio’n negyddol; dywedodd 10 y cant fod eu hiechyd corfforol yn cael ei effeithio gan sefyllfa ariannol eu teulu. Dywedodd mwy nag un o bob pump o rieni a gwarcheidwaid plant o dan 18 nad oedd eu plentyn wedi gallu cael y parti pen-blwydd yr oeddent wedi gobeithio ei gael oherwydd sefyllfa ariannol eu teulu. Mae'n dorcalonnus, onid yw? Ac yn eu hadroddiad diweddar, mae’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi tynnu sylw at y ffaith bod rhestrau aros pediatrig yng Nghymru wedi cynyddu 62 y cant ers 2016, sy'n gynnydd aruthrol, a bod tlodi, wrth gwrs, yn cael effaith anferthol ar iechyd plant. Felly, pa waith y mae’r Llywodraeth yn ei wneud ar draws y Cabinet i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd sy’n amlwg yn effeithio fwyaf ar blant mewn tlodi?

Diolch am eich cwestiwn gwirioneddol bwysig, Sioned Williams, ac mae gennym gyfrifoldeb trawslywodraethol i fynd ati i drechu tlodi, yn enwedig tlodi plant, fel y nodir yn glir yn ein strategaeth tlodi plant. Ac wrth gwrs, mae'r strategaeth honno, a lansiwyd gennyf ychydig wythnosau yn ôl yn unig, wedi ei chefnogi'n drawslywodraethol, ac rydym hefyd yn ymgysylltu, wrth gwrs, â'r rhwydwaith Dileu Tlodi Plant i gael y dystiolaeth honno, gan gynnwys ac ochr yn ochr â Sefydliad Bevan, yn ogystal â’r hyn y mae angen i ni ei wneud i drechu tlodi plant ar y rheng flaen.

Nawr, rydym wedi sôn am ffyrdd y gallwn sicrhau incwm i deuluoedd, oherwydd, wrth gwrs, mae angen arian ym mhocedi pobl, a chredaf fod y talebau Cychwyn Iach yn enghraifft, a'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi gallu sicrhau hyfforddiant gorfodol ar gyfer ymwelwyr iechyd i sicrhau bod gennym dros 77 y cant o bobl bellach yn manteisio ar dalebau Cychwyn Iach. Mewn gwirionedd, mae hyn unwaith eto yn ymwneud â rhoi'r bwyd a'r cymorth cywir i blant yn gynharach yn eu bywydau. Ond rwy'n credu bod cyflwyno rhaglen Dechrau’n Deg hefyd yn bwysig, rhaglen sydd, gyda chydweithrediad Plaid Cymru, yn cyrraedd ein plant a’n teuluoedd mwyaf difreintiedig mor gynnar yn eu bywydau, ac wrth gwrs, cyflwyno prydau ysgol am ddim, a oedd wrth gwrs yn rhan allweddol o’n cytundeb cydweithio, ac yn wir, o’r gyllideb. Felly, credaf ein bod yn gwneud, gyda’n gilydd—. Mae llawer o’r agweddau ar y cytundeb cydweithio yn ein helpu i fwrw ymlaen â hyn, er mwyn estyn cymorth i'r rhai mwyaf agored i niwed.

Ond a gaf i ddweud hefyd—? Nid wyf wedi clywed y newyddion diweddaraf eto, ond mae'r syniad y gallai fod mwy o doriadau i'n gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i gyllideb y gwanwyn heddiw yn ein llenwi ag arswyd yn Llywodraeth Cymru, ac ar draws y rhan hon o’r Siambr hefyd, rwy'n siŵr, gan fod angen inni gael mwy o gyllid ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus er mwyn mynd ati i drechu tlodi plant.

Argyfwng Costau Byw

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn ystod yr argyfwng costau byw? OQ60787

13:30

Diolch, John Griffiths. Mae ein grant cefnogi trydydd sector Cymru yn darparu cyllid craidd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru i ddarparu seilwaith cymorth i grwpiau cymunedol. Ar gyfer 2023-24, rwyf wedi darparu £1.5 miliwn ychwanegol i'r seilwaith cymorth hwn, cynnydd o 20 y cant ar y flwyddyn flaenorol.

Diolch am hynny, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â chanolfan gymunedol Eton Road ym Maendy yn fy etholaeth. Maent wedi gwneud cymaint o waith da dros gymaint o flynyddoedd ac yn parhau i gynnal llawer o sesiynau cynghori a llu o wahanol weithgareddau, Weinidog, fel y byddwch yn gwybod rwy'n siŵr.

Ymhlith y gweithgareddau hynny mae yna brosiect ieuenctid, sy'n cynnwys dros 100 o blant a phum sesiwn yr wythnos. Plant o gymunedau du a lleiafrifol ethnig sy'n mynychu'n bennaf, ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt mewn addysg amser llawn. Ymhlith y cyfleusterau sydd ar gael iddynt, mae yna stiwdio gerddoriaeth y mae llawer ohonynt wedi'i defnyddio i ddysgu chwarae offerynnau ac i gymysgu eu cerddoriaeth eu hunain. Dim ond un enghraifft yw hon o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo yng nghanolfan gymunedol Eton Road, ac mae'r cyfan yn digwydd o fewn hen adeilad mawr, Weinidog. Ac un o'r problemau yw costau cynnal a chadw'r adeilad hwnnw. Tybed a oes unrhyw beth y gallech ei ddweud ynghylch y cymorth sydd ar gael i'r sefydliadau cymunedol hyn, yn enwedig o ran costau cynnal a chadw pan fo'r adeiladau'n eithaf mawr a heb fod yn newydd.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, John. Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Tŷ Cymunedol y llynedd ac yn wir, y llynedd, daeth côr o Tŷ Cymunedol i ddigwyddiad gan y cyngor rhyng-ffydd—côr gwych, côr amlddiwylliannol. Mae cymaint o bethau'n digwydd yn Tŷ Cymunedol, fel canolfan gymunedol amlddiwylliannol ac aml-ffydd, fel rydych chi wedi'i ddweud.

Rwy'n deall, ac rwy'n cofio o fy ymweliad, mai eglwys ydoedd. Mae'n eiddo i Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac mae'r elusen yn defnyddio'r adeilad hwnnw. Rwy'n gobeithio y gallwn eu cynghori i gael mynediad at y rhaglen cyfleusterau cymunedol. Maent yn gallu cael cymorth, wrth gwrs, gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent oherwydd rwy'n gallu gweld bod angen iddynt, gobeithio, gael mynediad i sicrhau bod modd i'r adeilad—. Gellid gwneud gwelliannau, ac o ran cynnal a chadw, buddsoddiadau i arbed costau ac arbed ynni efallai. Felly, mae grantiau o hyd at £300,000 ar gael i helpu sefydliadau'r sector gwirfoddol lleol i wella, ac yn wir i brynu asedau hefyd.

Ond a gaf i longyfarch Tŷ Cymunedol ar ei brosiect ieuenctid, ei stiwdio gerddoriaeth? Mae hyn i gyd yn ymwneud ag ymyrraeth ac atal, grymuso ac ysbrydoli ein pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais, ac mae'r ffaith bod y gymuned yno yn cefnogi pobl ifanc du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn dangos mor gryf yw'r gefnogaeth i'r prosiect hwnnw yn eich etholaeth.

Weinidog, mae'r sectorau gwirfoddol ac elusennol yng Nghymru yn cynnwys cymaint o unigolion gwych, sy'n barod i roi cymaint er mwyn helpu eraill. Un elusen yn arbennig, Weinidog, a gwn fy mod wedi ei chrybwyll yn y Siambr hon o'r blaen—ac nid wyf yn credu y bydd unrhyw un yn blino ar fy nghlywed yn dweud hyn—yw Sparkle, elusen sy'n darparu cymorth amhrisiadwy i gannoedd o blant a phobl ifanc yng Ngwent sydd ag anghenion cymhleth, yn ogystal â'u teuluoedd. Mae angen o leiaf £750,000 y flwyddyn ar yr elusen i gefnogi 935 o blant. Fel rwy'n siŵr y gallwch ddychmygu, mae hwnnw'n swm enfawr o arian i'w godi er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, ond yn anochel, mae'r pandemig a chostau byw wedi cyfyngu ar y gallu i godi arian. Ac eto mae nifer y plant a'r teuluoedd y maent yn eu gweld flwyddyn ar ôl blwyddyn yn dal i gynyddu.

Yn ogystal, Weinidog, mae sefydliadau eraill, fel Sparkle, eisoes yn derbyn cyllid gan eich Llywodraeth, gan gynnwys Gweithredu dros Blant, sy'n derbyn 45 y cant o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Felly, Weinidog, rwy'n gwybod ac yn deall bod arian yn dynn, ond tybed pa gyllid a chymorth a allai fod ar gael i helpu'r sefydliad gwych hwn i ffynnu, gan ei fod heb amheuaeth yn achubiaeth i gynifer o blant a theuluoedd ledled Cymru.

Diolch unwaith eto i Natasha Asghar am dynnu sylw at Sparkle, y mudiad gwirfoddol hollbwysig hwnnw sy'n cefnogi cymaint o blant ledled Gwent. Rwy'n siŵr fy mod wedi tynnu sylw, fel rwyf newydd ei wneud mewn ymateb i John Griffiths, at Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent. A hoffwn ddweud ein bod yn darparu £8.48 miliwn i gefnogi cymorth trydydd sector Cymru, a bydd dros £734,000 yn mynd i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent i gefnogi'r sector gwirfoddol yn y gymuned. Rwyf wedi sôn am y grant cyfleusterau cymunedol, sy'n fwy ar gyfer cyllid cyfalaf, ac rwy'n gwybod bod ganddynt safleoedd a lleoliadau y maent yn eu defnyddio. Ond rwy'n annog Sparkle i gysylltu â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent i gael y newyddion diweddaraf ynghylch mynediad at amrywiaeth o ffynonellau cyllido. Ond wrth gwrs, mae fy nghyllideb wedi cael ei chyfyngu'n fawr eleni o ran cymorth i'r sector gwirfoddol. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig i'r Aelodau gofio bod gennym hefyd gronfa benthyciadau asedau cymunedol, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sy'n cynnig benthyciadau o hyd at £250,000, dros gyfnod o hyd at 25 mlynedd, i sefydliadau'r trydydd sector sy'n ceisio perchnogi tir, adeiladau neu asedau cymunedol. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod amrywiaeth o opsiynau ar gael i Sparkle ar gyfer ceisio cymorth pellach.

13:35
Cap ar Bris Ynni

4. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r effaith y caiff y cap newydd ar bris ynni ar dlodi tanwydd yng Nghymru? OQ60769

Diolch am eich cwestiwn, Carolyn Thomas. Er gwaethaf y gostyngiad yn y cap prisiau, mae costau ynni yn dal i fod bron i ddwbl y lefelau cyn yr argyfwng ynni, a rhagwelir y byddant yn parhau i fod yn uchel am y dyfodol rhagweladwy. Mae angen ailwampio'r farchnad ynni yn llwyr, fel bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg ni waeth lle maent yn byw, a bod buddsoddiad yn cael ei wneud mewn cymunedau lleol.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac am bopeth rydych wedi bod yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ledled Cymru—mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Er bod y cap prisiau ynni cyffredinol wedi gostwng, mae'n warth llwyr fod y taliadau sefydlog, sydd wedi taro'r rhai mewn tlodi tanwydd yn waeth, wedi cael eu gadael i godi. Mae taliadau sefydlog hefyd yn effeithio'n anghymesur ar fy nhrigolion yng ngogledd Cymru, sy'n gorfod talu'r taliadau sefydlog uchaf yn y DU, a byddant yn talu dros £95 yn fwy na thrigolion yn Llundain. Weinidog, a gaf i ofyn pa gynlluniau sydd gennych i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth San Steffan ynghylch yr anghyfiawnder mawr hwn?

Diolch am dynnu sylw at yr anghyfiawnder hwn, yn enwedig i'ch etholwyr yng ngogledd Cymru. Mae dwy broblem gyda thaliadau sefydlog: y loteri cod post o ran y symiau sy'n cael eu codi, a'r ffaith bod costau'n digwydd hyd yn oed pan na fydd pobl wedi defnyddio fawr iawn o drydan os o gwbl. Felly, rydym wedi gofyn sawl gwaith i Weinidogion y DU ddiwygio taliadau sefydlog ar frys. Mae yna ymgynghoriad gan Ofgem. Rwyf wedi cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb, a hefyd gyda Gweinidog y DU dros Ddefnyddwyr Ynni a Fforddiadwyedd, yn ogystal â chadeirydd newydd Ofgem. Ond aelwydydd gogledd Cymru sy'n cael cam mawr, a hwythau'n byw mor agos at ffynonellau trydan adnewyddadwy fforddiadwy hefyd, sy'n cael ei allforio o ogledd Cymru drwy'r grid cenedlaethol, ond eto nhw sy'n wynebu'r taliadau sefydlog uchaf. Byddaf yn cyhoeddi—rwyf wedi cyhoeddi—ein hymateb i alwad Ofgem am fewnbwn ar daliadau sefydlog. Mae angen ateb sy'n deg i aelwydydd incwm isel a defnydd isel ac nad yw'n parhau i roi aelwydydd dan anfantais yng ngogledd Cymru.

Mae ein marchnad ynni wedi methu. Mae wedi siomi defnyddwyr sy'n gorfod talu prisiau afresymol am yr angen sylfaenol i gadw'n ddigon cynnes i fyw. Ac mae'r methiant hwnnw'n ganlyniad anochel preifateiddio. Mae biliau'n codi oherwydd bod yn rhaid cynhyrchu maint elw ffug i dalu cyfranddalwyr, i gadw cyflog swyddogion gweithredol yn uchel, ni waeth beth fo'r gost i'r rhai na allant fforddio cadw'r gwres a'r goleuadau ynghyn. Nawr, bydd cap prisiau newydd Ofgem yn rhoi rhywfaint o gysur i'r teuluoedd hynny. Ni fydd yn gwneud llawer i helpu aelwydydd sy'n dal i gael mesuryddion rhagdalu wedi'u gosod yn orfodol yn eu cartrefi, gyda thraean ohonynt wedi cael eu gorfodi i hunanddatgysylltu dros y flwyddyn ddiwethaf. A gadewch inni beidio â defnyddio iaith ddymunol i guddio'r gwir yma—nid dewis yw hunanddatgysylltu, ond amddifadrwydd dan orfodaeth, amddifadrwydd a gymeradwywyd gan y wladwriaeth. A ydych chi'n cytuno â mi, Weinidog, na all unrhyw gap prisiau newydd wneud iawn am y drwg moesol hwn, ac y bydd pla tlodi tanwydd yn parhau i ddiffeithio ein cymdeithas nes bod y farchnad fethedig hon yn cael ei newid yn sylfaenol, ei hailwladoli a'i rhoi yn ein dwylo ni unwaith eto?

Wel, Delyth Jewell, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn Carolyn Thomas, mae angen ailwampio'r farchnad ynni yn llwyr. Mae'r costau ynni, fel y dywedoch chi, bron ddwywaith y lefelau cyn yr argyfwng ynni. Felly, yn amlwg, mae angen diwygio mawr. O ran y materion sy'n ymwneud â thaliadau sefydlog, er enghraifft, rydym yn teimlo bod angen adolygiad cyfannol o daliadau manwerthu, gan gynnwys diddymu taliadau sefydlog a chyflwyno tariff cymdeithasol. Rydym i gyd wedi bod yn galw am dariff cymdeithasol ac nid oes unrhyw ddatblygiad wedi bod ar hynny, er bod cyn-Ganghellor wedi dweud y byddent yn edrych ar dariff cymdeithasol a/neu dariff meddygol, ac ailgydbwyso costau nwy a thrydan.

Mater o Lywodraeth y DU ac Ofgem yn cymryd cyfrifoldeb yw hyn, ac edrych ar yr adolygiad o drefniadau'r farchnad drydan yn enwedig—bydd hynny'n cael effaith ar gwsmeriaid hefyd, ac effeithiau daearyddol o dan senarios penodol. Ond fel y dywedwch, yr hunanddatgysylltu, a nawr, pan fo gennym yr her hon lle mae Ofgem yn caniatáu i ragor o gyflenwyr ynni osod mesuryddion rhagdalu drwy orfodaeth, sydd, wrth gwrs, yn anghyfiawnder arall. 

13:40
Pobl â nam ar eu Golwg

5. Pa waith y mae tasglu hawliau pobl anabl a fforwm cydraddoldeb i bobl anabl Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o ran sicrhau bod pobl â nam ar eu golwg yn gallu cael gafael ar waith neu brofiad gwaith cyflogedig neu wirfoddol? OQ60775

Diolch yn fawr, Adam Price. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob person â nam ar ei olwg fynediad teg at gyflogaeth a gwaith gwirfoddol. Mae hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl Llywodraeth Cymru yn chwalu'r rhwystrau i gyflogaeth i bob person anabl, ac mae ein tasglu hawliau pobl anabl wedi cynhyrchu argymhellion i wneud gwaith yn brofiad teg i bawb.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o'n gohebiaeth flaenorol fy mod wedi siarad â phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg yn fy etholaeth am eu profiadau bywyd, ac roedd mynediad at waith yn thema gref iawn. Ac o'r profiadau yr oeddent yn eu rhannu, roedd yna thema gyson o bethau yn llithro drwy'r bylchau o ran sicrhau'r mynediad gorau posibl at waith, a nodwyd rhai tensiynau systemig penodol a oedd yn gwneud eu bywydau'n anos, pethau fel, er enghraifft, gallu derbyn cymorth technoleg gynorthwyol ar gyfer gwaith cyflogedig drwy'r cynllun Mynediad i Waith, ond nid ar gyfer profiad gwaith di-dâl neu waith gwirfoddol. Nodwyd rhai problemau hefyd gydag effeithiau derbyn budd-daliadau penodol. Ac mae'r cyfan i'w weld yn system anhygoel o anodd a llafurus i bobl ei llywio. Felly, a fyddai Llywodraeth Cymru yn fodlon gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol, ac yn enwedig pobl â nam ar eu golwg, i ystyried creu pasbort technoleg gynorthwyol i'r rhai â nam ar eu golwg, fel ffordd o sicrhau bod y dechnoleg gynorthwyol honno'n symud gyda'r unigolyn ac yn aros yn eu meddiant ac felly'n gwella eu gallu i chwilio am waith a chael mynediad at waith?

Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Adam Price. Ac mae'n bwysig fod gan y tasglu hawliau pobl anabl ffrwd waith ar blant a phobl ifanc. Wrth gwrs, mae yna hefyd ffrwd waith ar gyflogaeth ac incwm, ond mae ffocws ar blant a phobl ifanc yn golygu ein bod yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i edrych ar eu profiadau ac i ddeall beth y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion hynny. Ac mae'r bobl ifanc yr ydych wedi ymgysylltu â nhw ac wedi tynnu fy sylw atynt yn bwysig. Rwy'n gobeithio y byddant yn ein harwain ac yn ein helpu i ddod o hyd i'r atebion polisi a nodwyd gennych. Ac os ydynt yn llithro drwy'r bylchau, mae'n rhaid inni gydnabod mai dyma'r ymylon garw unwaith eto rhwng cyfrifoldebau datganoledig a heb eu datganoli o ran mynediad at dechnoleg gynorthwyol. Ond byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd y materion hynny a'r dystiolaeth sydd wedi dod gan y plant a'r bobl ifanc sydd â nam ar eu golwg yr ydych chi'n ymgysylltu â nhw, ond byddaf hefyd yn bwydo hyn yn ôl yn uniongyrchol i ffrwd waith plant a phobl ifanc y tasglu hawliau pobl anabl, sy'n gweithio gydag ysgolion, a chyda phlant yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn cyfranogi'n llawn yn y gwaith. 

Tlodi Plant

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o rôl gofal plant hygyrch o safon uchel wrth fynd i'r afael â thlodi plant? OQ60785

Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod darpariaeth gofal plant o ansawdd yn cefnogi datblygiad plant, yn enwedig plant o gefndiroedd difreintiedig. A dyna pam ein bod yn ehangu gwasanaethau gofal plant i bob plentyn dwy oed drwy'r ddarpariaeth o ansawdd, nodwedd o'n rhaglen flaenllaw ar gyfer y blynyddoedd cynnar, Dechrau'n Deg, fel rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.

Diolch am yr ymateb. 

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad yn tanlinellu effaith ddwys tlodi ar fabanod, plant a phobl ifanc. Yn yr adroddiad, roeddent yn pwysleisio sut mae addysg a gofal y blynyddoedd cynnar yn cynnwys addewid o fudd triphlyg, drwy feithrin datblygiad plant cadarnhaol, grymuso menywod a rhieni, a hybu twf economaidd. Yn fwyaf arbennig, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at enghraifft Slofenia, cenedl sydd ar y blaen gyda lleihau tlodi plant. Maent yn canolbwyntio ar ofal plant wedi'i gydgordio, sy'n cynorthwyo teuluoedd yn eu cyfanrwydd yn hytrach na'r plant yn unig. Mae hynny wedi bod yn effeithiol wrth atal tlodi rhag cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall. Mae cydgordio o'r fath yn mynd ar goll yn y bylchau yn ein system gofal plant yma yng Nghymru. Mae yna fylchau yn ein darpariaeth ac angen dybryd i wella'r ffordd y caiff rhaglenni gofal plant eu hintegreiddio â'i gilydd a chyda gwasanaethau hanfodol eraill hefyd. Fel y nodwyd gan randdeiliad yn adroddiad Sefydliad Bevan, y cyfeiriodd Sioned ato, yr hyn sy'n digwydd yma yw bod y plentyn yn dilyn y cyllid, yn hytrach na bod y cyllid yn dilyn y plentyn. Felly, a gaf i ofyn i chi pa ystyriaeth a roddwyd gennych i ddatblygu system gofal plant wedi'i hintegreiddio'n llawn sy'n dod â phob un o'r tri chynllun gofal plant yng Nghymru at ei gilydd? Diolch yn fawr.

13:45

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n falch iawn fod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yma yn y Siambr, yn ogystal â'r Aelod dynodedig Siân Gwenllian, oherwydd rwy'n gwybod mai dyma'n union y maent yn gweithio arno, i sicrhau bod yr integreiddio hwnnw'n digwydd. Felly, i lawer ohonom sydd wedi bod yn gweithio ac yn ymgyrchu, ac yna'n gweinyddu, ac yn hybu newid, gobeithio, mewn perthynas â'r integreiddio hwnnw a'r dull teuluol hwnnw o ran pwysigrwydd gofal plant y blynyddoedd cynnar, rydym yn cydnabod canfyddiadau'r adroddiad hwnnw, ac yn cydnabod y gallwn ddysgu gan wledydd eraill.

Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig gweld bod rhaglen flaenllaw y blynyddoedd cynnar, Dechrau'n Deg, y soniais amdani eisoes heddiw, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a'u teuluoedd yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, ac mae'n helpu rhieni i gydbwyso gwaith. Rwy'n credu bod y ffaith bod y cynnig gofal plant nawr wedi'i ymestyn i'r rhai sydd mewn hyfforddiant ac addysg yn dystiolaeth o'r camau yr ydym eisiau eu cymryd i sicrhau bod yr integreiddio hwnnw'n digwydd. O werthusiad annibynnol, mae Dechrau'n Deg yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau teuluoedd. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig, mae'n dweud yn y gwerthusiad ei fod wedi newid bywydau rhai teuluoedd sydd â llawer o anghenion, ac y gallai canlyniadau i deuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg fod yn gyfartal â chanlyniadau i deuluoedd mewn ardaloedd llai difreintiedig bellach. Mae'r rhaglen yn gwneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd Dechrau'n Deg.

Iaith Casineb a Radicaleiddio

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i fynd i'r afael ag iaith casineb a radicaleiddio yng Nghymru? OQ60762

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid cyfiawnder troseddol i fynd i'r afael ag iaith casineb a radicaleiddio. Mae'r gwaith hwn yn cael ei oruchwylio gan ein bwrdd casineb a thensiynau cymunedol. Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi'r Swyddfa Gyfathrebiadau i ddatblygu safonau clir a chyson ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i ddiogelu pobl rhag niwed ar-lein. 

Diolch, Weinidog, ac rwy'n croesawu'r ateb hwnnw. Mae'r ffordd y cynhaliwn drafodaethau gwleidyddol a chyhoeddus yn bwysig iawn. Mae geiriau'n bwysig, a gall iaith ymfflamychol ddwysáu tensiynau ac arwain weithiau at ganlyniadau angheuol hyd yn oed. Yn aml, gwleidyddion benywaidd sy'n wynebu'r ymosodiadau mwyaf creulon, yn aml gan ryfelwyr bysellfwrdd ac eraill, am fentro gwneud y gwaith y cawsant eu hethol i'w wneud. 

Mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener, a'r thema eleni yw ysbrydoli cynhwysiant. Mae'n gyfle i hyrwyddo cynnydd a nodi ein huchelgais i fynd ymhellach. Rydym wedi gweithio'n galed yma yng Nghymru i greu Senedd fwy cynhwysol, gyda hanes o gynrychiolaeth y gallwn fod yn falch ohono a'r potensial i adeiladu ar hyn gyda diwygio'r Senedd. Ar hyn o bryd mae mwy o fenywod na dynion yn Llywodraeth Cymru. Ac eto, yn rhy aml, ar ormod o achlysuron, mae gwleidyddion benywaidd yn dioddef casineb at fenywod a cham-drin echrydus yn syml oherwydd eu bod mewn swyddi cyhoeddus. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i siarad yn erbyn hyn.

Felly, Ddirprwy Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chasineb at fenywod a iaith casineb sy'n targedu menywod? Ac yn bwysig, beth y gall pawb ohonom ei wneud i herio ac i newid y fath gamdriniaeth yn erbyn menywod ac ysbrydoli cynhwysiant go iawn?

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn pwerus hwnnw ar fater pwysig iawn y credaf ei fod yn effeithio ar bob un ohonom yn y lle hwn? Fe wnaethoch chi ddechrau drwy ddweud bod 'geiriau'n bwysig', ac rwy'n credu ein bod wedi dweud hynny'n aml mewn dadleuon yma, fod yr hyn a ddywedwn yma'n cael effaith y tu allan i'r Siambr hon a'i fod yn gallu effeithio ar lesiant personol unigolyn, ond mae hefyd yn effeithio ac yn annog gweithredoedd mewn mannau eraill hefyd. Ac rydym yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym fel Llywodraeth. Y bore yma, cyfarfûm â Chanolfan Cymorth Casineb Cymru ynghylch y gwaith y maent yn ei wneud ar fod yn wylwyr gweithredol a gweithio gyda'r llwyfannau ar-lein hynny i weld sut y gallant wella'r modd o herio a lleihau rhywfaint o'r gamdriniaeth a rhai o'r ymddygiadau yno. Ac un peth a ddywedant yw ei fod yn dechrau gyda bod yn wyliwr gweithredol, fel y dywedoch chi hefyd, ac mae'n dechrau gyda ni a'r hyn a wnawn a'r hyn a ddywedwn.

Rwyf wedi siarad yn y Siambr o'r blaen, fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi'i wneud, i ddweud bod gwahaniaeth rhwng craffu a herio ac anghytuno a dadlau, ond mae yna newid yn y cydbwysedd pan fydd rhywbeth diniwed yn troi'n rhywbeth ychydig yn fwy sinistr. Ac rwyf wedi siarad yma ynglŷn â sut y cefais fy ngham-drin am fod yn fi fy hun, yn Aelod hoyw agored o'r Senedd, ond hefyd am wneud fy ngwaith hefyd ar y 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru'. Cawsom ddadl, rwy'n credu, pan etholwyd Adam Price, Jeremy Miles a minnau gyntaf i nodi Mis Hanes LHDT, fel yr Aelodau hoyw agored cyntaf yn y lle hwn, ac rwy'n cofio rhai o'r sylwadau ar-lein. A dywedodd rhywun, 'O, pwy sy'n poeni gyda phwy mae hi'n cysgu?' a phethau felly. Wel, mae fy ngwraig yn poeni, ond nid dyna'r pwynt. [Chwerthin.]

Ond o ddifrif, pan lansiwyd y cynllun gweithredu LHDTC+ gennym, fe sbardunodd hynny lwyth o gamdriniaeth ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol, a hefyd at fater a gyfeiriwyd at yr heddlu fel trosedd casineb yn y pen draw. Ac roedd yr unigolyn wedi anfon e-bost nid yn unig ataf i, yn dweud wrthyf fod angen imi gael therapi trosi, ond hefyd at fy ngwraig, a chyd-Aelodau eraill, ac mewn gwirionedd fe ddarganfûm yn ddiweddarach eu bod wedi cysylltu â fy nhad hefyd.

Rwyf wedi'i weld yn fwy diweddar hefyd, yn sgil ymyrraeth ynglŷn â—rwy'n credu fy mod wedi siarad â Sioned am y peth yn gynharach—mai'r broblem gyda'r gwasanaeth tân yw ein bod yn gadael i fenywod ymuno, a bod pobl 'woke' yn tra-arglwyddiaethu. Cafwyd gohebiaeth hyd yn oed i gyd-Aelod gwrywaidd i mi gan gynrychiolydd sefydliad na wnaf ei enwi am na fyddai hynny'n deg yn y lle hwn, a oedd yn dweud wrthynt am gadw'r pwysau arnaf, ac i bob pwrpas yn dweud wrthynt am fy rhoi yn fy lle. Felly, rwy'n credu bod angen inni ddweud heddiw fy mod yn credu nad ar y chwiorydd y mae angen cadw trefn ond ar gymdeithas a'r system. Ac mae'n cysylltu â'r hyn a ddywedoch chi ar y dechrau, Huw, sef bod yr hyn a ddywedwn yn bwysig a bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i godi llais a gwneud rhywbeth.

Ddirprwy Lywydd, os caf, rwyf am droi at bethau mwy cadarnhaol, oherwydd mae'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener, ac mae'n ymwneud ag ysbrydoli cynhwysiant, a'r hyn a ddywedwch mewn gwirionedd, sef ein bod ni'n anelu at fod yn gynhwysol yn y lle hwn a gallwn adeiladu ar hynny drwy ddiwygio'r Senedd. Ac un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud yw ein bod ni'n siarad am y pethau negyddol a'r cam-drin a wynebwn, ond mewn gwirionedd mae'n dal i fod yn fraint enfawr i fod yma, ac rwy'n credu y dylai menywod eraill, menywod ifanc allan yno, goleddu'r uchelgais i fod yn rhan o'r Senedd hon hefyd.

13:50
Mesuryddion Rhagdalu

8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r effaith ar dlodi tanwydd yng Nghymru yn sgil y ffaith bod cyflenwyr ynni unwaith eto’n gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol? OQ60765

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, Jack Sargeant. Rwy'n croesawu adroddiad diweddar y Pwyllgor Deisebau—y Pwyllgor Deisebau yr ydych chi'n ei gadeirio—ar osod mesuryddion rhagdalu dan orfodaeth, ac rwy'n rhannu eich pryderon. Rwy'n croesawu'r camau y mae Ofgem wedi'u cymryd i wneud taliadau'n decach i gwsmeriaid rhagdalu a'u rheolau ar gyfer cwmnïau ynni, ond mae'r risg o hunanddatgysylltu a niwed i lesiant meddyliol aelwydydd incwm isel yn parhau.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw y prynhawn yma, ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i chi am eich ymrwymiad hirsefydlog, Weinidog, i gefnogi trigolion agored i niwed sydd wedi cael eu trin yn wael gan gyflenwyr ynni ers nifer o flynyddoedd. Lywydd, rwyf wedi datgan fy mhryderon am y cod newydd y mae Ofgem wedi'i gyflwyno nifer o weithiau yn y Siambr hon, ac er y sbin y mae Ofgem yn ei roi arno a'r straeon sy'n dweud bod y rheolau newydd hyn yn rheolau newydd llym, y gwir amdani yw nad oes unrhyw beth yn llym na'n gadarn yn eu cylch. Mae'r elusen anabledd, Scope, wedi dweud yn ddiweddar bod bylchau difrifol yn y cod newydd, sy'n golygu y gallai pobl agored i niwed barhau i gael eu gorfodi i gael mesuryddion rhagdalu.

Weinidog, rwy'n ddiolchgar i chi am sôn am adroddiad y Pwyllgor Deisebau yn eich ymateb cynharach. Fe wnaethom gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac i Ofgem. Rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un ohonynt, ac un mewn egwyddor, o adroddiad y pwyllgor, ond mae Ofgem, fisoedd yn ddiweddarach, wedi methu eu dyddiad estynedig eu hunain ar gyfer darparu ymateb i'r pwyllgor. A wnewch chi ddefnyddio eich swydd yn Llywodraeth Cymru i godi'r mater hwn yn uniongyrchol gydag Ofgem? Ac a ydych chi'n cytuno â mi, Weinidog, nad dyma'r ffordd i drin ymchwiliad seneddol? Diolch.

Nid dyma'r ffordd i drin ymchwiliad seneddol, ac mae'n annerbyniol fod Ofgem wedi methu darparu ymateb prydlon i'r pwyllgor, ac rydym wedi pwyso arnynt eto heddiw. Oherwydd rydym angen bod yn hyderus fod Ofgem yn trin y Senedd gyda pharch cyfartal â San Steffan.

Cyfarfûm â chadeirydd newydd Ofgem ar 19 Rhagfyr yng Nghaerdydd, yn eu swyddfa. Cyfarfûm ag ef a chodais y materion penodol sydd, wrth gwrs, yn destun eich adroddiad, a sut roeddem yn mynd i fonitro'r sefyllfa'n agos, er mwyn sicrhau bod y rheolau ynghylch y ffaith bod cyflenwyr ynni sy'n ailgychwyn gosod mesuryddion rhagdalu dan orfodaeth yn cael eu monitro'n ofalus a bod aelwydydd cymwys yn cael eu diogelu. Nawr, o ran y ffaith bod gennym Bwyllgor Deisebau, a'r ffaith eich bod chi, Jack Sargeant, yn ein harwain ar y mater hwn, a'n bod wedi cael yr adroddiad hwnnw, hynny yw, dylai Ofgem fod yn talu mwy o sylw i'r hyn a wnawn yma yng Nghymru.

Ac a gaf i ddweud un peth yn gyflym, Ddirprwy Lywydd? Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, a gwn y bydd cyd-Aelodau yn y Siambr yn ymwybodol oherwydd eu hymgysylltiad â Chymru—. Er enghraifft, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol ddefnyddio casglwyr dyledion achrededig nawr. Clywais hyn ar ryw raglen un diwrnod wrth yrru drwy fy etholaeth, lle'r oeddent yn dweud bod pob awdurdod lleol—mae ychydig yn debyg i'n siarter ni—wedi cofrestru i'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi. Nid yw hynny'n digwydd yn unrhyw le arall. Hefyd, rwyf am gynnal cyfarfod rhwng y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi a chyflenwyr ynni yn fuan, oherwydd rwy'n credu mai dim ond casglwyr dyledion achrededig y dylent fod yn eu defnyddio. Mae Dŵr Cymru eisoes yn defnyddio casglwyr dyledion achrededig. Felly, rydym wedi llwyddo i gael y math hwnnw o bŵer a dylanwad, diolch i Jack Sargeant a'i bwyllgor. Ond rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig fod cyflenwyr ynni yn—. Rydym yn siomedig y gallant ailddechrau gosod mesuryddion rhagdalu dan orfodaeth bellach. Rydym wedi galw am waharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol gan ein bod yn gwybod am yr effaith y mae'n ei chael ar fywydau'r bobl fwyaf agored i niwed.

13:55
2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Y cwestiynau nesaf fydd y cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Colli Pensiynau

1. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael â swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â menywod a anwyd yn y 1950au sydd wedi colli pensiynau yn sgil targedu eu hawliau pensiwn? OQ60779

Diolch am y cwestiwn, ac efallai ei bod hi'n briodol cydnabod, ar ddechrau'r cwestiwn, fod oddeutu 30 o ymgyrchwyr Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth yn yr oriel, sydd wedi cynnal ymgyrch benderfynol dros y blynyddoedd, ac rwy'n siŵr bod croeso mawr iddynt yma.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar sawl achlysur i fynegi pryderon am y menywod a anwyd yn y 1950au y mae eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi cael ei godi heb hysbysiad effeithiol gan Ddeddfau Pensiynau 1995 a 2011. Byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau ac yn parhau i wneud sylwadau priodol.

Diolch am hwnna.

Mae menywod a anwyd yn y 1950au nad ydynt wedi cael pensiwn y wladwriaeth yn dal i aros am gyfiawnder. Awgrymais wrthych y llynedd bod WASPI hefyd yn sefyll am 'Waiting and Still Pleading for Integrity'. Ni ddylent fod yn dal i aros. Mae'n sgandal fod Llywodraeth y DU wedi llusgo ei thraed cyhyd nes bod menywod wedi marw cyn cael yr arian sy'n ddyledus iddynt, ac maent yn haeddu iawndal ariannol. Rwy'n gobeithio y bydd yr ombwdsmon yn argymell dyfarnu taliadau ar y lefel uchaf posibl, ond San Steffan sydd â'r gair olaf, felly hoffwn eich annog i gadw'r pwysau arnynt ar yr adeg dyngedfennol hon. Byddai unrhyw gynnig i dalu swm sy'n llai na'r hyn sy'n ddyledus i'r menywod hyn yn mynd yn erbyn Deddf Cydraddoldeb 2010 a byddai'n mynd yn groes i gyfraith ryngwladol, gan gynnwys y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod.

Felly, pa drafodaethau a gawsoch yn ddiweddar, neu pa drafodaethau y byddwch chi'n ei cael, i fynnu bod y camwedd hwn yn cael ei unioni ac i gywiro'r anghydbwysedd a ganiataodd i bron i 10 miliwn o ddynion hawlio cyfraniadau yswiriant gwladol am ddim o'r 1980au hyd at 2018, tra bod menywod a anwyd yn y 1950au wedi cael eu hatal rhag hawlio unrhyw beth? Mae'n wahaniaethu uniongyrchol, ac yn wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae'r menywod hyn yn haeddu sicrwydd a gobaith y byddant yn cael cyfiawnder o'r diwedd.

A gaf i ganmol yr Aelod am godi'r pwynt hwn yn gyson yn y Siambr hon? Fel y gŵyr yr Aelod, heb fod mor bell yn ôl â hynny, ysgrifennais at yr ombwdsmon yn codi'r pwyntiau penodol hynny, ac yn nodi hefyd pa mor bwysig yw ymdrin â'r mater ar frys. Rydym wedi cael ymateb, ac wrth gwrs, mae'r mater yn dal i gael ei ystyried gan yr ombwdsmon. Byddwn yn parhau i fonitro'r hyn sy'n digwydd ac yn parhau i wneud sylwadau lle bo hynny'n briodol.

Ar yr iawndal y credaf ein bod i gyd yn teimlo'i fod yn ddyledus ac yn gyfiawn, dylid sicrhau dau beth. Yn gyntaf, dylai pob menyw sydd wedi cael eu heffeithio gael iawndal am y golled economaidd benodol y maent wedi'i dioddef. Dylent hefyd gael iawndal am yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar eu bywydau. Rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr yn adnabod rhywun y mae hyn wedi effeithio arnynt ac sy'n poeni amdano, oherwydd mae ei effaith wedi bod mor eang.

A gaf i ddweud un peth arall yn ogystal? Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod taliadau ar ôl marwolaeth yn cael eu gwneud hefyd, oherwydd mae cymaint o bobl wedi marw cyn gweld unrhyw fath o gyfiawnder neu gywiro'r hyn sydd wedi digwydd. Mae'n bwysig fod hynny'n cael ei gydnabod a bod ystadau'r bobl hynny a'u teuluoedd hefyd yn gweld cyfiawnder i'r rhai nad ydynt yma bellach i dderbyn y taliadau hynny.

14:00
Diwygio'r Senedd

2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith diwygio'r Senedd ar bobl yn Sir Ddinbych? OQ60792

Bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn rhoi system rhestr gyfrannol ar waith, gan alluogi'r pleidleisiau a fwrir gan bobl yn sir Ddinbych, a gweddill Cymru, i gael eu hadlewyrchu'n fwy cywir gan yr Aelodau o'r Senedd sy'n cynrychioli'r ardal honno.

Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol. Yr wythnos hon, fe wnaeth Esgob Llanelwy benderfyniad anarferol i leisio ei bryderon difrifol ynghylch diwygio'r Senedd hon a'r canlyniadau i ddemocratiaeth Gymreig o fabwysiadu system rhestr gaeedig. Mae'r Esgob Gregory Cameron wedi disgrifio cynigion y rhestr gaeedig fel,

'newid enfawr mewn grym o ddwylo pobl i ddwylo gwleidyddion.'

Gadewch imi atgoffa'r Cwnsler Cyffredinol fod y rhan fwyaf o genhedloedd yn rhyngwladol sy'n defnyddio system rhestr gaeedig yn gyfundrefnau caeth ac awtocrataidd. Heb os, bydd mabwysiadu system etholiadol rhestr gaeedig lle nad oes gan rywun bŵer i ethol neu gael gwared ag ymgeiswyr penodol yn gam yn ôl i Gymru.

Mae'r dystiolaeth academaidd hefyd o'n plaid gyda llaw, gyda'r Athro Laura McAllister yn galw'r system rhestr gaeedig yn wendid mawr. Gyda hyder mewn sefydliadau cyhoeddus yng ngogledd Cymru ar ei lefel isaf erioed, ni fydd hyn yn helpu. Mae cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi toriadau mewn termau real i bob maes heblaw am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, sydd, yng ngogledd Cymru, yn llusgo ar ôl gweddill y genedl a gweddill y DU yn enwedig. Mae'n anochel fod hyn yn gwneud i bobl gwestiynu pwysigrwydd gwario £120 miliwn ar fwy o wleidyddion pan fyddant yn byw mewn ardal gyda bwrdd iechyd GIG lle nad oes ond 88.6 y cant o gleifion damweiniau ac achosion brys yn cael eu gweld o fewn—

Gallaf, yn sicr. A allai'r Cwnsler Cyffredinol amlinellu pa asesiadau sydd wedi'u gwneud o'r awydd i ehangu'r Senedd yng ngogledd Cymru, yn sir Ddinbych yn benodol, ac a allai'r Cwnsler Cyffredinol amlinellu sut y bydd diwygio'r Senedd yn effeithio ar sir Ddinbych o ran cynrychiolaeth? Diolch.

Mae'r cynigion a gyflwynwyd gennym yn fuddsoddiad mewn democratiaeth. Nodaf nad oedd gan yr Aelod unrhyw bryder o gwbl ynglŷn â gwario £120 miliwn i gyflwyno cardiau adnabod, sydd â'r diben o atal pobl rhag cymryd rhan mewn democratiaeth. Ond o ran manylion safbwynt y Llywodraeth, cyfeiriaf yr Aelod at drawsgrifiad y trafodion ddoe, lle trafodwyd hyn yn llawn a bydd yr Aelod yn ymwybodol o hynny. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.

Diolch. Fis diwethaf, fe wnaethoch chi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyhoeddi adroddiad cynnydd 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' 2024 ar y cyd, gyda rhagair gweinidogol dallbleidiol ei naws, yn anffodus. Mae'r adroddiad yn mynd rhagddo i ddweud,

'Mae ein cenhadaeth i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru yn gofyn am ffocws ar gamau ataliol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol pwysau ar y system gyfiawnder.'

Yna, mae'n nodi rhestr o bolisïau digyswllt Llywodraeth Cymru yr honnir eu bod yn atal pwysau ar y system gyfiawnder yng Nghymru. Yr hyn y mae'n methu sôn amdano yw camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar y system gyfiawnder yng Nghymru, megis dileu cyllid ar gyfer rhaglen yr heddlu ar gyfer ysgolion Cymru, SchoolBeat, sef cydweithrediad gyda'r pedwar heddlu yng Nghymru ar gyfer plant pump i 16 oed. Mae hefyd yn ymateb i adroddiadau o ddigwyddiadau mewn ysgolion ac yn cefnogi ac yn cynghori ysgolion o ran diogelu—yn y bôn ymyrraeth gynnar ac atal.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn dileu ei chyllid cyfatebol ar gyfer y rhaglen hon, a thrwy hynny'n cael gwared ar raglen ymyrraeth gynnar ac atal allweddol a phentyrru costau i wasanaethau statudol, gan gynnwys y rhai y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt, ac felly'n gwrthddweud yn uniongyrchol y genhadaeth a honnwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei hadroddiad cynnydd 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Sut felly rydych chi'n cyfiawnhau torri rhaglen sydd wedi'i chynllunio i atal yn hytrach na gwella ac i arbed arian i'r pwrs cyhoeddus?

14:05

Wrth gwrs, yn ystod y degawd diwethaf, mae gwasanaethau cyfreithiol a'r system gyfiawnder wedi cael eu torri i'r bôn gan y Llywodraeth Geidwadol hon. Mae cymorth cyfreithiol a mynediad at gyngor cyfreithiol wedi'u dinistrio bron yn llwyr i fwyafrif y bobl sydd gymaint o angen y math hwnnw o gyngor. Felly, er enghraifft, rydym wedi gorfod canolbwyntio cyllid ar ein cronfa gynghori sengl er mwyn ceisio gwneud rhywfaint o iawn am y niwed a wnaed. Rydym hefyd wedi gweld goblygiadau polisi Llywodraeth y DU yn y system gyfiawnder drwyddi draw, sydd wedi arwain at gynnydd ym mhoblogaeth y carchardai o 45,000 i bron i 90,000, a'r unig ateb sy'n dod gan Lywodraeth y DU yw buddsoddi £400 miliwn arall i geisio creu lleoedd ychwanegol o fewn y system garchardai.

O ran y system cyfiawnder ieuenctid, mae 90 y cant o'r system cyfiawnder ieuenctid yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Dyna pam mae cymaint o resymeg i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid ac ymyrraeth gynnar i Lywodraeth Cymru. Yr hyn y mae'r papur 'Sicrhau Cyfiawnder' yn ei wneud yw tynnu sylw at nifer o feysydd. Yn gyntaf, mae'n tynnu sylw at yr holl feysydd lle'r ydym yn gwario arian, yn aml mewn perthynas â swyddogaethau nad ydynt wedi'u datganoli, i alluogi'r system gyfiawnder i weithredu ac integreiddio gyda'n swyddogaethau datganoledig a chyda'r system gyfiawnder. Gennym ni y mae llawer o'r rhaglenni hynny'n cael eu hariannu. Ond mae'n rhaid inni flaenoriaethu pa rai y gwnawn fwyaf ohonynt, o ystyried yr effaith y mae polisïau cyni'r DU wedi'i chael ar ein cyllideb, a cholli oddeutu £1.2 biliwn. Serch hynny, rydym yn ariannu rhannau o'r system gyfiawnder nad ydynt wedi'u datganoli i ni, ond rydym yn gwneud hynny oherwydd ei fod yn galluogi'r swyddogaethau datganoledig sydd gennym i weithio'n well, ac mae'n galluogi'r system gyfiawnder i weithredu'n well.

Diolch. Mae'n ymddangos eich bod yn ateb cwestiynau yr wyf wedi'u gofyn o'r blaen, ond nid y cwestiwn a ofynnais heddiw, sy'n ymwneud yn llwyr â mater a ariennir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â'r pedwar heddlu, mater a oedd yn canolbwyntio ar fesur y gall Llywodraeth Cymru ei weithredu ar ymyrryd yn gynnar ac atal, a fyddai hefyd yn arbed arian, ond rydych wedi penderfynu gwneud fel arall.

I symud ymlaen, wrth alw am ddatganoli plismona i Gymru, rydych chi a'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at ddatganoli plismona i Fanceinion fel model i Gymru. Ond pwerau'r comisiynwyr heddlu a throseddu yw'r rheini, ac mae'r rheini eisoes wedi'u datganoli i Gymru. Er eglurder, beth rydych chi'n ei gynnig felly—cadw model presennol y comisiynwyr heddlu a throseddu rhanbarthol, canoli pwerau comisiynwyr heddlu a throseddu mewn unigolyn neu gorff cenedlaethol, neu ailganoli pwerau, yn yr achos hwn mewn adran o fewn Llywodraeth Cymru?

Ar ben hynny, a ydych chi'n cynnig y dylai hyn ymwneud ag un heddlu yng Nghymru yn erbyn argymhellion manwl pwyllgor o Aelodau'r Cynulliad, fel yr oeddem, gan fy nghynnwys i, wedi ei benodi i ystyried hyn yn ystod tymor Senedd blaenorol, pan dderbyniodd yr Ysgrifennydd Cartref Llafur ar y pryd ein hargymhellion a'u gweithredu?

Diolch am y cwestiwn. Mae mater plismona a datganoli, wrth gwrs, yn bolisi Llywodraeth Cymru, ond mae hefyd yn rhywbeth sy'n cael ei gefnogi'n llawn gan y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu etholedig. Felly, nid rhywbeth sy'n codi o Lywodraeth Cymru neu o'r Senedd hon yn unig yw hyn—mae'n rhywbeth sy'n ennyn cefnogaeth lawer ehangach. Yn unol â'r datganiad a gyhoeddwyd gennyf i a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol beth amser yn ôl, yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw ein bod wedi comisiynu tystiolaeth ac adroddiadau arbenigol ar hyn. Fe fydd adroddiad manwl yn edrych ar y materion sy'n ymwneud â datganoli plismona, sut y gallai weithio, beth yw ei fanteision, beth yw'r heriau, a gobeithiwn y bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.

14:10

Wrth gwrs, gwleidyddion yw'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu—dau o'ch plaid chi a dau o Blaid Cymru—felly nid yw'n syndod eu bod yn cefnogi eich cyfeiriad teithio ar hyn o bryd. Nid yw comisiynwyr heddlu a throseddu blaenorol wedi bod yr un mor unedig ar y pwnc. Ond yn anffodus, eto—[Torri ar draws.] Mae'n hollol ffeithiol. Fe gyfarfûm ac fe siaradais â nifer ohonynt dros y blynyddoedd, ac fe wnaethant edrych ar y dystiolaeth wirioneddol yn hytrach na'r dystiolaeth a arweinir gan bolisi sy'n gyrru—

Mae'r cwestiwn olaf yn cyfeirio eto at yr adroddiad cynnydd. Dywedai fod comisiwn Thomas wedi dod i'r casgliad yn 2019 y dylid datganoli'r broses o gynllunio a chyflawni polisi cyfiawnder i Gymru, ac mae'n cyfeirio at benodi Carl Foulkes, cyn-brif gwnstabl gogledd Cymru, i arwain ar waith fydd yn cael ei ddefnyddio i

'lywio gweledigaeth hirdymor o sut beth y gallai gwasanaeth plismona datganoledig yng Nghymru fod.'

Fodd bynnag, nid ydych chi na Llywodraeth Cymru wedi esbonio eto pam mai dim ond un cyfeiriad at droseddu trawsffiniol y mae adroddiad comisiwn Thomas yn ei wneud, er bod tystiolaeth uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol y gogledd-orllewin, sy'n cynnwys gogledd Cymru, i gomisiwn Thomas wedi cael ei anwybyddu i raddau helaeth yn adroddiad y comisiwn. Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae gan Gymru ardal drawsffiniol boblog gyda 90 y cant amcangyfrifedig neu fwy o droseddau yng ngogledd Cymru yn gweithredu o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron ddim ar sail Cymru gyfan. Pam, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo cymaint o amser ac adnoddau i ddatganoli plismona i Gymru pan fo'n torri cyllidebau allweddol mewn mannau eraill, gan gynnwys yr un y cyfeiriais ati'n gynharach, yn enwedig pan fo Llywodraeth Geidwadol y DU ac AS Llafur mwyaf blaenllaw Cymru yn San Steffan, ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, Jo Stevens, wedi gwrthod galwadau newydd dros roi rheolaeth dros blismona a chyfiawnder troseddol oedolion i Lywodraeth Cymru?

Diolch am y cwestiwn. Mae llawer o blaid diwygio ac mae cryn rinwedd i ddiwygio hefyd. Wrth gwrs, mae plismona yn rhan o'r system gyfiawnder, ac mae rhannau o blismona yn integrol, boed yn ddiogelwch cymunedol, yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu'n amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau datganoledig. Roedd comisiwn Thomas cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd, ond nid oedd yn cwmpasu pob maes. Rydych eisoes wedi sôn am Carl Foulkes; Carl Foulkes yw'r swyddog sydd wedi'i gomisiynu i gynhyrchu'r gwaith o ystyried mater datganoli plismona y cyfeiriais ato yn gynharach, felly, fe allwch weld canlyniad y gwaith hwnnw, gobeithio, o fewn ychydig wythnosau.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, roeddech chi a minnau ychydig wythnosau yn ôl yn bresennol yn y Senedd pan gyflwynodd Yvonne Murphy o Democracy Box a'i chyd-grewyr ifanc anhygoel eu hadroddiad terfynol, 'Beyond the Ballot Box', gyda'u hargymhellion ar gyfer trawsnewid ein democratiaeth yma yng Nghymru. Un o'r prif themâu oedd yr angen i ddarparu gwybodaeth ddemocrataidd sylfaenol i'n holl ddinasyddion ar-lein ac all-lein. Mae'r platfform gwybodaeth i bleidleiswyr yr ydych yn ei awgrymu drwy'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn gam bach ond pwysig i'r cyfeiriad cywir, ond o ystyried mai un o themâu'r adroddiad oedd yr angen i wneud hyn yn gyson, nid ar adeg etholiad yn unig, a wnewch chi weithio gyda mi a chydag eraill ar sail drawsbleidiol a chyda Democracy Box i weld sut y gallwn newid y platfform gwybodaeth i bleidleiswyr a'i ehangu i fod y math o syniad cyfannol yr oedd Democracy Box yn ei gyflwyno?

A gaf i ddiolch i chi am y cwestiwn? Mynychais y digwyddiad a gynhaliwyd ganddynt yn y Senedd ac roedd gennyf y fath edmygedd o'r grŵp hwnnw o bobl ifanc gyda'u prif sylw ar sut i ymgysylltu â phobl ifanc eraill a chyfleu pa mor bwysig yw hi i bobl gymryd rhan yn ein strwythurau democrataidd yn ogystal â'u deall. Wrth gwrs, un o'r materion y cyfeiriodd y comisiwn annibynnol diweddar ar ddyfodol Cymru ato oedd yr her i ddemocratiaeth, ac fe ddaeth mater addysg ddinesig i'r amlwg o hynny. Mae addysg ddinesig a gwleidyddol gyda 'g' fach yn rhywbeth yr ydym wedi'i drafod yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Dyma'r cyhoeddiad sydd ganddynt, ac mae'n gyhoeddiad trawiadol iawn, oherwydd mae'n ymwneud â phobl ifanc yn siarad â phobl ifanc eraill ac mae'n rhaglen y gellir ei gweithredu mewn ysgolion.

Ni allaf fynegi pa mor bwysig yw cynaliadwyedd ein systemau democrataidd heb yr hyn sydd, yn fy marn i, yn rhaglen addysg ddinesig lwyddiannus a phwysig iawn fel rhan o'n system addysg. Mae angen i bobl ifanc, o oedran ifanc, ddeall nid yn unig beth yw cyfrifoldebau dinesig, ond sut mae'r system yn gweithio pan fyddant yn dod yn oedolion ac yn mynd allan i'r byd, sut maent yn cymryd rhan ynddi a sut maent yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Roedd gwaith Democracy Box yn bwysig am mai pobl ifanc sy'n dweud: 'Dyma beth sydd angen inni ei wybod. Dyma sut mae angen inni ei wneud. Dyma sut mae angen inni gyfathrebu a sut rydym eisiau i'n gwleidyddion ein cynorthwyo gyda'r gwaith hwnnw.' Felly, rwy'n awyddus iawn i weld datblygiad y gwaith arbennig hwn. Gwn fod y Gweinidog addysg yr un mor awyddus, ac rydym hefyd yn edrych i weld sut y gellir datblygu'r cwricwlwm i hwyluso ac i annog hynny.

14:15

Mae llawer o'r syniadau yn yr adroddiad yn bethau y gallem ni fel Senedd benderfynu eu gwneud, er enghraifft, creu rhwydwaith ffisegol cenedlaethol o hybiau democratiaeth, gan adeiladu ar dempled llwyddiannus iawn Talking Shop. Fel y mae'r adroddiad yn awgrymu, gallem benderfynu addasu ein prosesau yma, y ffyrdd y mae pwyllgorau'n gweithio, y ffordd y mae ein deddfwriaeth yn gweithio, i gynnwys cyfranogiad dinesig mewn llu o wahanol ffyrdd. Ac fel yr awgrymwch, Gwnsler Cyffredinol, mae'r syniadau hyn yn gyson iawn ag argymhelliad 1 y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, onid ydynt—eu pwyslais ar arloesi democrataidd, ar ymgysylltu cymunedol cynhwysol ac addysg ddinesig, fel y nodwch. Felly, o gofio ein bod wedi pleidleisio ddoe dros ddarparu £1 filiwn i barhau gwaith y comisiwn cyfansoddiadol a'i syniadau, a wnewch chi gynnull cyfarfod trawsbleidiol, Gwnsler Cyffredinol, yn cynnwys y bobl ifanc o Democracy Box, a hefyd y drindod o gomisiynau—y Senedd, etholiadol, a ffiniau a democratiaeth leol—er mwyn inni weld sut y gallwn, drwy weithio gyda'n gilydd, weithredu rhywfaint o'r weledigaeth a'r egni gwych a gynhwyswyd yn yr adroddiad hwn?

Diolch am y cwestiwn pellach hwnnw. Rwy'n credu bod thema iechyd democrataidd, lles democrataidd, yn thema sy'n dod i'r amlwg fwyfwy ar draws portffolios. Yn y llyfryn hwn gan Democracy Box, fe wnaeth argraff arnaf eu bod yn dweud:

'Mae democratiaeth yn ymwneud â mwy na dim ond pleidleisio ac etholiadau. Mae’n ymwneud â chael eich dweud bob dydd ac nid ar ddyddiau etholiad yn unig.'

Felly, ar y pwynt a godwch am hybiau democratiaeth a sut y gallai hynny weithio, o ochr y Llywodraeth, a ble mae'r portffolio a'r cyfrifoldeb am hyn, neu ar draws pa bortffolios, credaf fod cydnabyddiaeth gyffredin fod mater ymgysylltiad democrataidd, ac unwaith eto, fel y nodwyd gan y comisiwn annibynnol, yn fwyfwy pwysig. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef. Yn rhai o'r pethau a wnawn, byddwn yn gweithio tuag at hynny—er enghraifft, cofrestru awtomatig o 16 oed ymlaen, lle byddwn yn debygol o weld, yng Nghymru, yr etholfraint fwyaf helaeth a fu gennym erioed. Ond nid oes pwrpas i hynny os nad oes gan bobl hyder i gyfranogi yn hynny, ac mae'r broses honno'n dechrau'n gynharach yn fy marn i. Felly, yn sicr, rwy'n rhoi fy nghefnogaeth bersonol, ac rwy'n siŵr, ar draws y Llywodraeth, fod cefnogaeth i ystyried ac archwilio'r hyn sydd angen ei wneud i gyflawni rhai o'r amcanion yr amlinellwyd rhai ohonynt ym mhapurau Democracy Box.

Deddf Diogelwch Adeiladu 2022

3. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â deddfu adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022, yn sgil y dyfarniad yn achos Triathlon Homes yn erbyn Stratford Village Development Partnership ac eraill? OQ60788

Diolch am y cwestiwn. Yng Nghymru, mae'r cyd-destun yn wahanol i'r un yn Lloegr. Rydym wedi cyhoeddi bod trywydd at waith cyweirio ar gyfer pob adeilad 11 metr neu uwch. Mae'r ymrwymiad hwn yn cwmpasu materion diogelwch tân cladin ac fel arall, ac mae ar gyfer pob lesddeiliad.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, mae lesddeiliaid yng Nghymru yn teimlo eu bod ar ymyl arw ar hyn o bryd. Tra bo lesddeiliaid yn Lloegr yn gallu mynd i gyfraith i orfodi datblygwyr i dalu eu cyfran deg o gostau cyweirio, mae'r rheini yma yng Nghymru yn gorfod llywio haenau o fiwrocratiaeth er mwyn cael canlyniadau tebyg. Mae etholwyr sy'n ymgysylltu â'r cynllun cymorth i lesddeiliaid wedi cwyno am ddiffyg amserlen, problemau cyfathrebu a diffyg atebolrwydd. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud o'r blaen nad yw'r adrannau hyn yn angenrheidiol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am herio datblygwyr yn gyfreithiol, ond oni fyddai'n symlach ac yn fwy effeithlon i'r lesddeiliaid eu hunain feddu ar y pwerau hyn a'u harfer? A wnaiff Llywodraeth Cymru wrando ar y lesddeiliaid sy'n ymgyrchu a deddfu'r adrannau hyn i roi hawl iddynt geisio gorchmynion cyfrannu at waith cyweirio? Diolch.

14:20

Diolch am y cwestiwn, ac mae'n gwestiwn pwysig. Mae'n debyg y dylid cyfeirio rhan ohono at y Gweinidog Newid Hinsawdd, gan mai yn ei phortffolio hi y mae hyn. Ond o ran yr agweddau cyfreithiol arno, un peth y dylid ei ddweud yw ein bod wedi cyhoeddi trywydd at waith cyweirio ar gyfer pob adeilad dros 11 metr mewn uchder. Mae'r ymrwymiad hwn yn cwmpasu materion diogelwch tân cladin ac fel arall, ac mae ar gyfer pob lesddeiliad. Felly, nid oes angen yr un ddeddfwriaeth arnom yng Nghymru, lle mae'r cyd-destun yn wahanol i'r un yn Lloegr, a lle mae gan bob lesddeiliad mewn adeiladau 11 metr ac uwch drywydd i sicrhau bod eu hadeiladau'n cael eu gwneud mor ddiogel â phosibl rhag tân. 

Nawr, hyd y gwn i, yr achos tribiwnlys diweddar yn Lloegr yw'r ail orchymyn cyfrannu cyllid i fynd i'r afael â materion diogelwch tân hyd yma. Fodd bynnag, o ystyried bod gan bob adeilad 11 metr ac uwch drywydd at waith cyweirio yng Nghymru ar gyfer materion diogelwch tân, sy'n cwmpasu diogelwch tân allanol a mewnol, nid oes rhaid i lesddeiliaid ac eraill yng Nghymru fynd ar drywydd tribiwnlys i allu sicrhau bod eu hadeilad mor ddiogel ag y gall fod rhag tân. Rydym wedi bod yn glir nad ydym eisiau cyfyngu rhwymedigaeth i lesddeiliaid yn unig, ac rydym wedi bod yn gadarn na ddylai'r lesddeiliad dalu am waith i unioni materion diogelwch na wnaethant eu hachosi. Rwy'n credu ein bod hefyd wedi dewis peidio ag eithrio lesddeiliaid trwy fabwysiadu'r cysyniad o lesddeiliaid cymwys ac anghymwys, felly rydym yn gwahodd mynegiant o ddiddordeb gan bobl gyfrifol fel y gallwn gefnogi pob lesddeiliad mewn adeilad yr effeithir arno gan ddiogelwch tân. 

Mae 11 o ddatblygwyr mawr y DU sydd ag adeiladau yng Nghymru wedi llofnodi cytundeb Llywodraeth Cymru, sy'n eu hymrwymo i gyweirio diffygion diogelwch tân mewn adeiladau y maent wedi'u datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf. I gefnogi hyn, mae swyddogion yn caffael cynghorwyr cyfreithiol i gefnogi lesddeiliaid lle mae anghydfod yn codi mewn amgylchiadau nad ydynt wedi'u cynnwys yng nghytundeb Llywodraeth Cymru.

Diwygio Tribiwnlysoedd Datganoledig

4. Pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran diwygio tribiwnlysoedd datganoledig? OQ60789

Daeth ein hymgynghoriad Papur Gwyn ar ddiwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig i ben ym mis Hydref 2023 a chyhoeddwyd y crynodeb o'r ymatebion ym mis Ionawr. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai a ymatebodd ac y mae eu cyfraniad yn llunio'r polisi ar gyfer cynigion deddfwriaethol. Rydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Un ddadl o blaid sefydlu tribiwnlys haen gyntaf gyda siambrau lluosog yw'r cyfle i arbed arian, er mwyn caniatáu cronni adnoddau mewn un gronfa y gellir ei dyrannu'n hyblyg wedyn yn unol â'r galw ac a fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd gael mynediad at wasanaethau arbenigol na fyddent yn gallu ei wneud fel arall. Roeddwn yn bryderus wrth weld yn ddiweddar na fydd aelodau o Dribiwnlysoedd Cymru yn cael cynnydd tebyg yn eu cyflog o gymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr. A wnaiff Llywodraeth Cymru warantu y bydd aelodau tribiwnlys haen gyntaf ar y cyd yng Nghymru yn y dyfodol yn cael tâl ar lefelau tebyg i'w cymheiriaid yn Lloegr, neu'r pryder yw y byddwn yn colli pobl i dribiwnlysoedd dros y ffin? Diolch yn fawr.

Diolch am y pwynt. Mae hwn yn fater a drafodwyd rhwng y Prif Weinidog a llywydd y tribiwnlysoedd, a minnau hefyd. Rhoddwyd cryn dipyn o amser a meddwl i'r penderfyniad ynghylch y dyfarniad cyflog i aelodau Tribiwnlysoedd Cymru. Ein penderfyniad oedd dyfarnu 5 y cant o gymharu â'r 7 y cant a ddyfarnwyd gan Lywodraeth y DU i'r rhai sy'n aelodau o dribiwnlysoedd a gadwyd yn ôl, ac mae rhai ohonynt, wrth gwrs, hefyd yn aelodau—. Mae rhai'n aelodau o'n tribiwnlysoedd ni ond hefyd mae rhai'n aelodau o dribiwnlysoedd heb eu datganoli. Felly, gwnaethom ein penderfyniad gan ystyried y sefyllfa ariannol gyffredinol, cyfyngiadau cyllidebol, ond hefyd pwysigrwydd cydnabod gwerth gweithwyr y sector cyhoeddus yn deg. Nid oes unrhyw sector lle mae Gweinidogion Cymru yn brif benderfynwyr ar faterion cyflogau wedi cael mwy na 5 y cant ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24.

Mae bwriad i sefydlu cydraddoldeb o fewn y system tribiwnlysoedd, ac mae diwygio ein tribiwnlysoedd yn rhoi cyfle i wneud hynny gan nad yw mater diwygio a chreu system dribiwnlysoedd haen gyntaf, ac yn wir strwythur apeliadol, yn ymwneud yn unig â'r cyfraddau canran a allai fod yn berthnasol mewn blwyddyn benodol i aelodau tribiwnlys, ond mae'n ymwneud ag edrych ar draws y chwech neu saith siambr a fydd yn bodoli, sut y bydd y rheini'n gweithredu, ond hefyd y telerau ac amodau ehangach, faint o amser a geir ar gyfer paratoi, faint o waith a fydd mewn mathau penodol o dribiwnlysoedd, ac yn y blaen. Felly, fel rhan o'r gwaith o ddiwygio'r tribiwnlysoedd, rwy'n credu bod angen ehangach i edrych ar draws y darlun llawn o'r hyn a ddaw'n system dribiwnlysoedd Gymreig ac edrych ar sut y gellir cyflawni hyn. Mae hynny'n rhywbeth y credaf ei fod yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y ddeddfwriaeth ac yn rhan o'r materion a fydd yn codi o'i chwmpas, ac y bydd angen cael yr ymgysylltiad hwnnw'n eang ac yn wir gydag aelodau o'r farnwriaeth, er mwyn cyflawni rhywbeth sydd o leiaf yr un mor deg â'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd, os nad yn well ac yn fwy priodol?

14:25
Recriwtio a Chadw Ynadon

5. Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i annog y gwaith o recriwtio a chadw ynadon yng Nghymru? OQ60794

Diolch am eich cwestiwn. Ni allai'r system gyfiawnder weithredu heb y nifer fawr o bobl ymroddedig sy'n gwirfoddoli eu hamser a'u harbenigedd fel ynadon i helpu eu cymuned leol. Y Swyddfa Farnwrol sy'n penodi ynadon lleyg, nid Llywodraeth y DU, ac nid oes problem prinder ynadon na recriwtio ynadon yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Yn gyntaf, rwy'n hapus i gydnabod bod y mater yn ymwneud â ffiniau datganoli, gyda phlismona a chyfiawnder heb fod yn gyfrifoldebau datganoledig, a Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi. Ond mae'n destun pryder fod prinder difrifol o ynadon yng Nghymru o hyd, yn groes i'ch sylwadau, sydd, wrth gwrs, yn achosi oedi sylweddol yn y system cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn golygu nad yw dioddefwyr troseddau'n gweld cyfiawnder mewn modd amserol, mae'n golygu bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn amharod i erlyn, gan wybod am y pwysau sydd ar y llysoedd, ac mae'n golygu bod yn rhaid i'r rhai sy'n cael eu herlyn aros yn rhy hir i gael eu diwrnod yn y llys a chael gwrandawiad i'w hamddiffyniad. Mae nifer yr ynadon yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol—gostyngiad o 42 y cant rhwng 2009 a 2019—ac mae disgwyl i lawer mwy ymddeol yn y blynyddoedd i ddod. Gwyddom o arolygon barn y byddai'n well gan y mwyafrif helaeth o Gymry berthynas waith agosach rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar faterion o'r fath. Felly, hoffwn ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn recriwtio a chadw ynadon i hwyluso'r system cyfiawnder troseddol orlwythog. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi ystyried ymestyn oedran ymddeol gorfodol ynadon, sef 70 ar hyn o bryd, fel ateb tymor byr i'r broblem hon? Diolch.

Wel, i ystyried y pwynt olaf hwnnw, nid yw oedran ymddeol gorfodol ynadon, ac yn y blaen, yn fater sydd wedi'i ddatganoli inni, neu'n fater y mae gennym unrhyw reolaeth drosto, ond rwy'n derbyn y pwynt, oherwydd mae hefyd yn un sy'n cael ei godi yn y llysoedd eraill. A gaf i ddweud hefyd fy mod wedi cyfarfod â'r cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus newydd yn ddiweddar? Cyfarfûm hefyd â'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn ddiweddar. Nid yw mater prinder ynadon yn un sydd wedi'i godi ac nid yw'n un rwy'n ymwybodol ohono. Mewn gwirionedd, yr wybodaeth sydd gennyf i yw nad oes problem prinder ynadon. Yn sicr, mae problem gyda phrinder llysoedd ynadon, gan fod hanner ein llysoedd ynadon wedi cael eu cau o dan y Llywodraeth Geidwadol, sydd wedi tanseilio argaeledd cyfiawnder lleol yn aruthrol. 

Y materion sy'n cael eu codi, wrth gwrs, yw argaeledd cyfreithwyr medrus, er enghraifft, i erlyn achosion, sy'n ymwneud yn bennaf â'r cyfraddau cyflog isel sy'n ei gwneud yn aneconomaidd bron i gyfreithwyr gymryd rhan yn y system cyfiawnder troseddol. Mae hynny'n fater a gododd yr Arglwydd Bellamy, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder presennol, a chodais hynny gydag ef o ran y Grŵp Rhyngweinidogol dros Gyfiawnder. Ond mae'n fater sy'n codi o ran cyllid sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. Mae'r mater sy'n codi gyda Llysoedd y Goron, wrth gwrs, yn ymwneud â mwy na'r sgiliau hynny. Efallai eich bod wedi clywed ar Radio 4 y bore yma yr Arglwydd Thomas ac eraill yn trafod yr ôl-groniadau enfawr yn Llysoedd y Goron yn Lloegr. Mae'n rhaid imi ddweud bod y trefniadau yng Nghymru yn gweithio'n llawer gwell nag yn Lloegr—lle nad oes gennym yr ôl-groniadau hynny—ond mae yna broblem ddifrifol iawn yn gyffredinol, ond yn benodol iawn yn Lloegr, gyda'r system cyfiawnder troseddol. Mae'n ymwneud â'r defnydd o adnoddau sydd ar gael ac mae'n deillio o argaeledd adnoddau ac yn y bôn, o danariannu'r system gyfiawnder yn y DU.

14:30
Hawliau i Ddelweddau

7. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch yr hawliau i ddelweddau o berthnasau a fu farw neu a oedd ar fin marw mewn ysbytai yn ystod COVID? OQ60780

Diolch am eich cwestiwn. Dylid gwneud popeth sy'n bosibl i osgoi achosi trallod ychwanegol i deuluoedd ac anwyliaid yr effeithiwyd arnynt gan bandemig COVID. Rwy’n ymwybodol fod ffotograffau wedi'u tynnu mewn ysbytai yn ystod y pandemig gan staff byrddau iechyd lleol, sy’n fater i’r bwrdd iechyd lleol perthnasol.

Diolch. Rwy’n codi’r mater hwn ar ran etholwyr a theuluoedd mewn profedigaeth a gafodd y newyddion torcalonnus fod ffotograffau wedi’u tynnu o’u perthnasau ar ddiwedd eu hoes ac ar ôl iddynt farw yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni ac Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân. Nawr, mae’r etholwyr hyn wedi cael eu cynghori, yn gyfreithiol, nad yw hawliau pobl yn berthnasol ar ôl iddynt farw. Mae hynny'n swnio'n ddideimlad, ond efallai y gallech ddarparu asesiad ynghylch cyfreithlondeb y ffotograffau a dynnwyd o gleifion ar ddiwedd eu hoes yn yr ysbyty. A yw hynny'n fater gwahanol? Oherwydd, ac mae hyn yn destun pryder, os yw'n bosibl cael gafael ar fetadata'r ffotograffau hyn i weld pryd a lle y cawsant eu tynnu, gellir nodi pwy yw'r unigolion hynny, ac mae'r ffotograffau hyn yn dal eiliadau mwyaf erchyll eu bywydau. Ni allent fod wedi cydsynio iddynt gael eu tynnu.

Felly, beth yw eich asesiad, os gwelwch yn dda, o gymhwysedd yr hawl i breifatrwydd o dan erthygl 8 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, sef yr hawl i reoli sut y caiff gwybodaeth am eich bywyd preifat ei rhannu, gan gynnwys ffotograffau sydd wedi’u tynnu’n gyfrinachol?

Wel, mae’r materion ynghylch hawliau i ddelweddau yn berthnasol, fel y dywedwch, i breifatrwydd, i hawliau dynol ac i gyfreithiau diogelu data, ynghyd ag ystyriaeth ehangach o fater cydsyniad wrth gwrs. Felly, mae'n rhaid trin materion o'r fath gyda'r gofal a'r sensitifrwydd mwyaf. Rwy’n ymwybodol fod hwn yn fater a godwyd gan COVID-19 Bereaved Families for Justice a chafodd ei godi yn yr ymchwiliad COVID ar 28 Chwefror 2024, a heb os, bydd hynny’n cael ystyriaeth briodol gan yr ymchwiliad hwnnw.

Deallaf hefyd fod y bwrdd iechyd lleol perthnasol wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r mater, ac unrhyw bryderon a godwyd gan deuluoedd mewn perthynas â’r delweddau hynny, ac maent wedi ystyried y materion ynghylch cydsyniad yn benodol, ac wedi cydnabod pryderon teuluoedd gydag ymateb. Nawr, mae hwn yn fater y mae'n rhaid i'r byrddau iechyd lleol ymdrin ag ef, ond wrth gwrs, mae'n bwysig iawn, mewn meysydd mor sensitif, fod cyfreithlondeb hyn, hawliau dynol a materion ynghylch cydsyniad, yn hollbwysig, ac rwy'n cefnogi'r Aelod o ran yr egwyddorion a godwch mewn perthynas â hyn.

Cyngor Cyfreithiol

9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ba gyngor cyfreithiol sydd ar gael i Weinidogion? OQ60783

Diolch am eich cwestiwn. Mae adran gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i Weinidogion a swyddogion ar draws y Llywodraeth, ond yn ogystal, fel swyddog y gyfraith, rwyf innau hefyd yn rhoi cyngor yn uniongyrchol i Weinidogion, ac fel Cwnsler Cyffredinol, fi sy'n darparu llais cyfreithiol diffiniol y Llywodraeth.

Rwy’n ddiolchgar i chi am hynny, Gwnsler Cyffredinol. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dadlau a thrafod nifer o Orchmynion a chynigion a memoranda cydsyniad deddfwriaethol a ddaw ger bron y lle hwn. Ac rydym wedi gweld cynnydd yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ceisio camfeddiannu'r pwerau a ddylai fod yma. Ond rydym hefyd wedi gweld Gweinidogion yma yn defnyddio San Steffan i ddeddfu, ac yn aml iawn, y rheswm a roddir i bwyllgorau yw am nad oes adnoddau ar gael yma i ddeddfu yma yn Senedd Cymru.

Nawr, fe wnaethom gytuno ar y gyllideb derfynol ddoe, a hoffwn pe gallai’r Cwnsler Cyffredinol roi sicrwydd i mi, ac i'r Aelodau eraill, fod gan bob Gweinidog yr holl gymorth cyfreithiol sydd ei angen arnynt er mwyn llunio rhaglen ddeddfwriaethol i Gymru sy’n mynd drwy’r lle hwn, yn hytrach na chael ei hanfon i Lundain.

14:35

Diolch am eich cwestiwn. Mewn perthynas â memoranda cydsyniad deddfwriaethol, wel, wrth gwrs, mae’r rhain oll yn feysydd lle mae Llywodraeth y DU yn deddfu ac yn dymuno neu’n ystyried deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig, ac felly, o dan gonfensiwn Sewel, mae angen cydsyniad. Fe fyddwch yn ymwybodol o nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol hyn, a memoranda atodol, sydd mewn gwirionedd yn deillio o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU. Byddwn yn dweud nad oes defnydd rhagweithiol sylweddol o Filiau Llywodraeth y DU i ddeddfu. O bryd i’w gilydd, mae amgylchiadau’n codi lle mae Llywodraeth y DU yn mynd i ddeddfu mewn maes, a phe baem ni fel Llywodraeth o’r farn fod rhyw fantais sylweddol i gael y ddeddfwriaeth honno ar waith yng Nghymru, ar yr amod nad yw’n dileu neu’n camfeddiannu’r cyfrifoldebau a'r pwerau datganoledig sydd gennym, efallai y gellir cyfiawnhau hynny, ar y sail y gallai olygu, er mwyn deddfu ar wahân yng Nghymru, ein bod yn deddfu yn ddiweddarach, neu gallai olygu bod yn rhaid inni ddargyfeirio adnoddau o ddeddfwriaeth bwysig arall. Byddai hefyd yn golygu y byddai rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, i bob pwrpas, yn pennu beth ddylai ein rhaglen ddeddfwriaethol fod a beth yw ein blaenoriaethau deddfwriaethol ni. Felly, mae'n un o'r pethau hynny y mae'n rhaid eu cydbwyso. Ac wrth gwrs, mae sawl achlysur, fel y gŵyr yr Aelod, lle caiff cydsyniad deddfwriaethol ei geisio a’i wrthod, neu lle caiff newidiadau eu gwneud i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU er mwyn diogelu'r cyfrifoldebau datganoledig sydd gennym ni. Felly, nid yw’n sefyllfa syml o bell ffordd, mae’n un sy’n newid yn aml, o wythnos i wythnos ac o fis i fis, yn dibynnu ar natur deddfwriaeth Llywodraeth y DU.

Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o’r nifer o achlysuron lle rydym wedi gwrthod caniatâd i ddeddfu, ac mae’r caniatâd hwnnw wedi’i ddiystyru. Felly, credaf fod y rhagosodiad a awgrymwyd, fod Llywodraeth Cymru yn ceisio, yn mynd allan ac yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio am gyfleoedd i Lywodraeth y DU ddeddfu, yn un cwbl anghywir. Y gwir amdani'n aml yw bod yn rhaid inni ymateb, fod yn rhaid inni ymgysylltu, ac rydym yn gwneud popeth a allwn i ddiogelu ein cyfrifoldebau datganoledig a’n safbwynt. Ond o bryd i’w gilydd, ceir deddfwriaeth lle nad ydym mewn sefyllfa i gyflymu, lle byddai dinasyddion Cymru yn dioddef pe na bai’r ddeddfwriaeth honno'n ymddangos. Nawr, credaf mai'r cyfan y gallaf ei ddweud yw nad mater o gyllideb yn unig yw mater adnoddau mewn gwirionedd. Mae’n fater o’r sgiliau manwl tu hwnt sydd eu hangen ar y rhai sy'n gysylltiedig nid yn unig â pholisi, ond â'r gwasanaethau cyfreithiol, a'r drafftio deddfwriaethol. Felly, nid yw'n rhywbeth y gellir ei gynnau a'i ddiffodd yn gyflym. Felly, weithiau, mae’n rhaid gwneud penderfyniadau sy'n blaenoriaethu.

Ymgyrch Cyfiawnder Orgreave

11. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymgyrch cyfiawnder Orgreave a sicrhau cyfiawnder i drigolion Cymru? OQ60772

Diolch am eich cwestiwn, a diolch am godi’r mater hwn. Bu galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau yn Orgreave. Rwy’n dal i fod o’r farn fod newidiadau i’r gyfraith yn hanfodol er mwyn osgoi camweinyddu cyfiawnder o'r fath, a chodais hyn ddiwethaf gyda’r Arglwydd Bellamy yn y Grŵp Cyfiawnder Rhyngweinidogol ym mis Ionawr.

Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Ddeugain mlynedd ers streic y glowyr, mae cyn-lowyr yn dal i fod heb gael cyfiawnder. Dri deg pump o flynyddoedd ers trychineb Hillsborough, mae teuluoedd yn dal i aros am gyfiawnder. Mae mantol cyfiawnder, Lywydd, fel rwyf wedi’i ddweud droeon eisoes yn y Siambr hon, yn pwyso yn erbyn pobl ddosbarth gweithiol, yn erbyn cymunedau dosbarth gweithiol, ac yn drwm o blaid y pwerus a’r sefydliad. Rwy’n ddiolchgar i’r Cwnsler Cyffredinol am y ffordd y mae wedi hyrwyddo’r angen am newid yn y gyfraith o ran yr angen am gyfraith Hillsborough, a'r ffordd y mae hefyd wedi ymladd dros y cyn-lowyr hynny a’u teuluoedd. Gwnsler Cyffredinol, a wnewch chi siarad â swyddogion Llywodraeth Cymru, i barhau'r sgyrsiau gydag ymgyrch Hillsborough Law Now, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am yr hyn y credwch fod angen iddo ddigwydd i gael y gyfraith Hillsborough sydd ei hangen arnom yn amlwg?

14:40

Wel, diolch am eich cwestiwn, ac rydych yn llygad eich lle, mae hi'n 40 mlynedd ers streic y glowyr. Roeddwn yn rhan o hynny fel cyfreithiwr, yn gweithredu ar ran glowyr yn ystod y streic honno. Gwelais lawer o'r pethau a ddigwyddodd yn ystod hynny. Gwelais lawer o'r hyn sy'n amlwg i ni bellach yn gamweinyddu cyfiawnder, ac rwyf hefyd yn gyfarwydd iawn â'r digwyddiadau yn Orgreave. Cynrychiolais nifer o lowyr yn achosion maith terfysg mewn cynulliadau anghyfreithlon Orgreave—achosion lle cafwyd pob glöwr yn ddieuog, ac yna, fe wnaeth y rhan fwyaf o'r glowyr ddwyn achosion sifil llwyddiannus am erlyniad maleisus.

Rwyf wedi cyfarfod ers hynny â’r cyfreithwyr eraill a oedd yn rhan o’r achos, a dau Ysgrifennydd Cartref, i ddadlau'r achos dros gynnal ymchwiliad, a dywedodd comisiwn cwynion annibynnol yr heddlu hefyd nad oedd ganddynt yr adnoddau ar gyfer ymchwiliad, ond fod achos teilwng o blaid ymchwiliad cyhoeddus.

Y rheswm pam fod yr ymchwiliad yn bwysig yw oherwydd pe bai’r gwersi wedi’u dysgu o’r hyn a ddigwyddodd yn Orgreave, gallai digwyddiadau fod wedi bod yn wahanol iawn yn Hillsborough. Rwyf wedi fy nghyffroi gan y ffaith bod yr wrthblaid Lafur wedi addo, gyda Llywodraeth newydd, y byddant yn cynnal ymchwiliad i Orgreave, a chredaf ei bod yn bwysig gwybod am y gadwyn reoli a arweiniodd at y gweithrediadau a ddigwyddodd yn Orgreave—pwy roddodd y gorchmynion, sut y digwyddodd y digwyddiadau hynny, a sut y dygwyd cymaint o achosion ar sail tystiolaeth y canfuwyd wedyn ei bod yn ffug neu'n gyfeiliornus.

Byddaf yn parhau i fonitro hyn. A hithau'n ddeugain mlynedd ers y digwyddiad, pan fyddwch yn clywed ar y cyfryngau am gymaint o gyn-lowyr sydd, yn y bôn, hyd heddiw, yn dal i ddioddef trawma oherwydd y digwyddiadau hynny a’r ymosodiadau arnynt yn Orgreave, a’r hyn a ddigwyddodd wedyn, a allai fod wedi arwain at lawer ohonynt yn cael dedfrydau hir iawn o garchar, rwy'n credu bod yna anghyfiawnder sy'n dal i effeithio ar ein Cymoedd yn ne Cymru, yng ngogledd Cymru, ac yn wir, ar gymunedau mwyngloddio yng ngweddill y DU, ac mae mater o gyfiawnder yno sy'n dal i fod angen ei ddatrys.

Cytundeb Gogledd Iwerddon a Phapur Gorchymyn 'Safeguarding the Union'

12. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith bosibl ar Gymru yn sgil cytundeb Gogledd Iwerddon a phapur gorchymyn 'Safeguarding the Union'? OQ60796

Wel, rydym yn croesawu adferiad Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon fel rhan allweddol o setliad datganoli gweithredol yn y DU. Ond rydym yn dal i aros am esboniad manwl gan Lywodraeth y DU ynglŷn â sawl agwedd ar y papur, er mwyn caniatáu inni asesu’n llawn y goblygiadau ariannol, gweithredol a chyfansoddiadol i Gymru.

Diolch am eich ymateb, Gwnsler Cyffredinol. Rwyf wedi codi yma ar sawl achlysur effaith ariannol bosibl y cytundeb gyda’r pleidiau yng Ngogledd Iwerddon ar strwythur system gyllidol y Deyrnas Unedig. Ac mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl pob golwg, wedi dod i gytundeb nad ydynt bellach yn fodlon ei amddiffyn na'i esbonio'n gyhoeddus, a chredaf ei fod yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ond ymddengys i mi hefyd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi sicrwydd, os mynnwch, i'r gymuned unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon y bydd newidiadau'n cael eu gwneud i reoleiddio'r farchnad, gan ddweud ar yr un pryd na fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i reoleiddio'r farchnad rhwng y Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon. Ni allwch farchogaeth dau geffyl ar yr un pryd. Naill ai rydym yn aros, yn y bôn, yn y farchnad sengl Ewropeaidd, o ran yr amgylchedd rheoleiddiol, a reolir gan Lywodraeth y DU, neu nid ydym yn gwneud hynny ac rydym yn ymwahanu oddi wrth reoliadau'r farchnad sengl. Ar hyn o bryd, ni waeth faint o flynyddoedd sydd yna ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn dal i fod i raddau helaeth o fewn orbit rheoleiddiol yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n croesawu hynny. Ond byddai’n ddefnyddiol i ni fel Senedd ddeall gan Lywodraeth Cymru, os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio ymwahanu oddi wrth amgylchedd rheoleiddiol presennol yr UE, pa effaith y mae hynny’n ei chael arnom ni, ein deddfwriaeth, a pha effaith y mae’n ei chael ar y berthynas rhwng gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon.

Wel, mae’r pwyntiau a godwch yn gwbl gywir. Mae angen inni wybod beth yw’r manylion, oherwydd, yn anochel, gyda’n hagosrwydd at Ogledd Iwerddon, a chyda’r cysylltedd masnach sydd gennym, mae’n bwysig inni ddeall beth yw natur y farchnad honno, beth yw ei hygyrchedd, a beth yw'r goblygiadau masnach a'r goblygiadau economaidd. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cadeirio’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol lle bydd cynrychiolwyr Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn bresennol, ac edrychaf ymlaen at eu croesawu i hwnnw ac at drafod gyda nhw. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud, wrth gwrs, yw ein bod wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddarparu gwybodaeth fanylach. Yn anffodus, rydym yn dal i aros am y manylion hynny er mwyn gallu asesu goblygiadau'r papur gorchymyn yn llawn. Mae’n siomedig, ar fater fel hwn, fod cais yn cael ei wneud, yn cael ei gytuno, ond nid yw’r wybodaeth yn codi neu'n codi mewn modd digon cyflym neu amserol i’n galluogi ni yn y Senedd hon i allu trafod y goblygiadau hynny.

14:45
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Eitem 3, cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, sydd nesaf, a bydd y Llywydd yn eu hateb. Cwestiwn 1, Gareth Davies.

Gwasanaethau Cyfieithu

1. A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad am argaeledd gwasanaethau cyfieithu i ieithoedd heblaw am y Gymraeg a’r Saesneg? OQ60795

Mae Comisiwn y Senedd yn ymrwymedig i gefnogi Senedd gynhwysol. Cyhoeddir deunyddiau’r Comisiwn mewn ieithoedd ar wahân i’r Gymraeg a’r Saesneg fesul achos, gan ystyried natur y prosiect a’r cynulleidfaoedd targed tebygol. Mae’r Comisiwn yn archwilio’r defnydd o wasanaeth cyfieithu dros y ffôn ar gyfer unigolion sydd am gael gwybodaeth gyhoeddus am y Senedd i bobl nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw. Gall Aelodau hawlio costau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd o'u lwfans costau swyddfa a chysylltu ag etholwyr pan fydd y costau hynny'n codi er mwyn galluogi'r Aelod i gyflawni eu dyletswyddau, er enghraifft, mewn perthynas â gwaith achos. Y bwrdd taliadau, wrth gwrs, sy'n pennu lefel y lwfansau yn y penderfyniad.

Diolch am yr ymateb, Llywydd.

Holais ym mis Tachwedd y llynedd ynglŷn â'r posibilrwydd o gael gwasanaethau cyfieithu ar gyfer ieithoedd heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg, a dywedwyd wrthyf fod hyn yn rhywbeth y byddai’r Comisiwn yn ymchwilio iddo. Rwy’n cydnabod mai’r Gymraeg a’r Saesneg yw ein prif ddulliau cyfathrebu wrth gwrs, ac mae gennym wasanaeth cyfieithu rhagorol yma yn y Senedd, ond mae cyfansoddiad demograffig Cymru yn newid, ac mae’n bwysig, fel Aelodau’r Senedd, ein bod yn gallu cyfathrebu â’n hetholwyr pan fyddant yn ceisio iawn.

Mae’r angen am wasanaethau ychwanegol yn un rwyf wedi dod ar ei draws wrth gynorthwyo teulu sydd, yn gwbl briodol, wedi ceisio iawn am farwolaeth anwylyd, mater difrifol y maent yn haeddu gallu cael mynediad at y ffeithiau llawn mewn perthynas ag ef, er ei fod yn cynnwys termau cymhleth a clinigol. Rwy’n siŵr fod hon yn broblem gynyddol i Aelodau eraill hefyd. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod y GIG, Senedd y DU a’r rhan fwyaf o adrannau’r gwasanaeth sifil yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar gyfer ieithoedd heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg, ond nid yw hyn ar gael yn y Senedd ar hyn o bryd.

Mae'n amlwg fod ystyriaethau cost ynghlwm wrth wasanaeth cyfieithu o’r math hwn, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Comisiwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag a ydynt wedi cynnal asesiad o’r angen cynyddol am wasanaeth cyfieithu ehangach, beth fyddai'r trothwy ar gyfer ystyried un, ac a yw'r Comisiwn wedi gwneud ymholiadau ynghylch cost gweithredu gwasanaethau cyfieithu o'r fath ar gyfer ieithoedd heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn atodol. Fel y dywedais yn fy ymateb cychwynnol, mae Aelodau sy'n gwneud unrhyw waith achos, fel rydych chi'n amlwg yn ei wneud, gyda phobl nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, yn gallu defnyddio eu lwfans costau swyddfa at ddibenion cyfieithu. Yn amlwg, mae terfyn o £25,000 yr Aelod ar y lwfans costau swyddfa hwnnw. Byddwn yn gobeithio y byddai'r lwfans costau swyddfa hwnnw'n ddigon i dalu rhai o'r costau y bu'n rhaid i chi eu talu ar ran eich etholwyr. Os nad yw, ac os oes problem yma a phroblem gynyddol fel rydych wedi’i amlinellu, byddai sylwadau i’r bwrdd taliadau yn ddefnyddiol i nodi bod angen ystyried ymestyn y lwfans costau swyddfa at ddibenion darparu ar gyfer y gwaith hwn, pe byddech yn teimlo, a phe bai unrhyw Aelodau eraill yma yn teimlo, fod y lwfans sydd ar waith ar hyn o bryd yn annigonol i ddiwallu anghenion eich etholwyr. Oherwydd yn amlwg, rwy’n cytuno â chi fod angen i rai o’n hetholwyr gyfathrebu â ni fel eu cynrychiolwyr etholedig, ac o bosibl, gydag unrhyw awdurdodau cyhoeddus y maent yn cysylltu â nhw, mewn iaith y maent yn ei deall yn glir. Felly, os yw hwn yn fater nad ydych chi'n credu bod y lwfans costau swyddfa presennol yn darparu'n ddigonol ar ei gyfer, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed eich union brofiad o hynny yn uniongyrchol, ac efallai y gallwn gael y drafodaeth honno y tu allan i'r Siambr hon i weld pa fesurau eraill y mae angen edrych arnynt, ac a yw'r lwfans costau swyddfa hwnnw'n annigonol a bod angen gwneud y sylwadau i'r bwrdd taliadau.

14:50
Gweithwyr sydd â Chyfrifoldebau Gofalu

2. Sut y mae Comisiwn y Senedd yn cefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu? OQ60771

Mae yna gyfran sylweddol o weithwyr y Comisiwn mae gyda nhw gyfrifoldebau gofalu. Mae’r Comisiwn yn deall y gallai’r rhai sydd â’r cyfrifoldebau hyn fod yn wynebu straen ychwanegol wrth geisio cydbwyso eu hymrwymiadau gwaith â’u cyfrifoldebau gofalu. Er mwyn cydnabod hyn, mae’r Comisiwn wedi sefydlu polisi gofalwyr penodol, sydd wedi’i ddatblygu mewn ymgynghoriad ag ochr yr undebau llafur. Mae'n rhoi cyngor ac arweiniad i weithwyr a’u rheolwyr llinell ynghylch pa gymorth sydd ar gael i bawb. Nod y polisi hwn a’r polisïau ategol yw helpu gweithwyr i aros mewn gwaith, cyflawni eu potensial gyrfaol a chyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.

Diolch am eich ymateb. Ar ôl COVID, gyda ffyrdd newydd o weithio a chyfathrebu, rwyf wedi dewis peidio â chael swyddfa sefydlog yng ngogledd Cymru, gan alluogi staff a minnau i weithio’n hyblyg gartref neu mewn hybiau a chaffis ar draws y rhanbarth, gan gyfarfod â phobl mewn lleoliadau amrywiol. Rwy'n croesawu newyddion diweddar y bydd y lwfans gweithio gartref yn parhau ar gyfer gweithwyr. Mae parhau â gweithio hybrid yn y Senedd yma i Aelodau wedi galluogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i barhau i ddod â phrofiadau gwerthfawr i ddadleuon a thrafodaethau. Gan ystyried y dyhead i gyflawni cwotâu rhywedd, menywod yw’r prif ofalwr yn aml iawn o hyd, ond rwy’n ymwybodol fod eithriadau yma, sy’n wych. A ydych yn cytuno â mi, os ydym am gael Senedd amrywiol, y gall gweithio hybrid fod yn alluogydd?

Ydw. Rwy'n cytuno'n llwyr. Credaf ei bod bron yn drueni, onid yw, i ni gael ein harwain ar hyd llwybr gweithio hybrid, gweithio hyblyg, gweithio gartref, peidio â theimlo bod angen ichi gael swyddfa etholaeth ranbarthol yn eich ardal ac y gallwch weithio’n fwy hyblyg o gwmpas hynny—cawsom ein harwain ar hyd y llwybr hwnnw yn bennaf gan COVID, ac roeddem yn symud yn rhy araf, mae’n debyg, fel cymdeithas ac fel Senedd cyn hynny, i gymryd rhai o’r camau hyn a galluogi hyn oll i ddigwydd. Felly, mae hynny'n gadarnhaol, yn sicr. Mae'n beth cadarnhaol i'n holl staff, pob un ohonom ni fel Aelodau, pob un o'n hetholwyr hefyd, sy'n gallu gweithio gartref neu weithio mewn ffordd sy'n caniatáu mwy o hyblygrwydd yn eu bywydau. Fel cymdeithas, mae hynny'n gyfraniad defnyddiol iawn i'n cymdeithas ac i'n heconomi. Ond mae'n rhaid inni gofio bob amser, fel Aelodau etholedig yma, fod gennym etholwyr nad ydynt yn gallu gweithio yn y modd hwnnw oherwydd eu trefniadau gwaith neu’r gwaith y maent yn ei wneud, neu eu hamgylchiadau economaidd mewn gwirionedd, ac fel eu cynrychiolwyr etholedig yma, mae angen inni ymdrechu i sicrhau ein bod yn gofalu amdanynt hwy hefyd a'u bod yn cael byw'r bywydau llawnaf posibl sy’n ymgorffori pob agwedd ar fywyd, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn deuluol.

Cefnogi Senedd Ieuenctid Cymru

3. Sut y mae'r Comisiwn yn cefnogi Senedd Ieuenctid Cymru i ymgysylltu â seneddau ieuenctid eraill? OQ60764

Ers sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru, mae Comisiwn y Senedd wedi hwyluso cyfleoedd i Aelodau o’r Senedd Ieuenctid gwrdd â’u cymheiriaid rhyngwladol, er enghraifft, drwy gymryd rhan yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad. Mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi cwrdd â seneddau ieuenctid y Gymanwlad yn India ac yn Trinidad a Tobago, a byddwn ni'n gwneud cais am leoedd i Aelodau o’r Senedd Ieuenctid fynychu Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad eleni, a fydd yn cael ei chynnal yn Senedd Seland Newydd. 

Rydym yn manteisio ar bob cyfle i arddangos gwaith y Senedd Ieuenctid ar lwyfan y byd, ac rydym wedi ymgysylltu â seneddau ieuenctid eraill, gan gynnwys yn yr Alban, Senedd Ieuenctid Jersey, Cyngor Rhanbarthol Llydaw ac, yn fwy diweddar, Senedd Ieuenctid Seland Newydd, i gyfnewid gwybodaeth, syniadau a chyfleoedd.

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am yr ymateb cadarnhaol iawn i’r cwestiwn a ofynnwyd y prynhawn yma. Yn ystod ymweliad gan ddirprwyaeth o'r Senedd yn ddiweddar ag Ynysoedd Falkland, cyfarfu fy nghyd-Aelodau, Alun Davies, James Evans a Laura Anne Jones a minnau â Senedd Ieuenctid Ynysoedd Falkland. Gwnaeth eu gwaith a'u gweledigaeth ar gyfer Ynysoedd Falkland argraff fawr ar bob un ohonom, ond gwnaeth eu gwaith ym maes iechyd meddwl argraff arbennig arnom, Lywydd. Mae hyn yn cyd-fynd i'r fath raddau â gwaith ein Senedd Ieuenctid ein hunain, ac yn enwedig eu hadroddiad, 'Meddyliau Iau o Bwys'. O ystyried bod blaenoriaethau’r ddwy senedd ieuenctid yn debyg iawn, a wnaiff y Comisiwn geisio dod o hyd i amser ar gyfer sgwrs ar-lein rhwng ein Senedd Ieuenctid a chymheiriaid yn Ynysoedd Falkland i drafod sut y gall y seneddwyr drafod a chydweithio ar faterion o ddiddordeb yn y dyfodol? Diolch.

14:55

Dyna syniad ardderchog, a byddwn yn awyddus i hwyluso hynny. Mae’n galonogol gwybod, mewn dwy senedd ieuenctid o ddwy ardal sydd mor bell oddi wrth ei gilydd yn y byd, fod gan y bobl ifanc ddiddordeb mewn trafod materion iechyd meddwl, eu bod yn faterion sy’n wynebu pobl ifanc ledled y byd, oherwydd rhai amgylchiadau cyffredin yn ymwneud â chyfryngau cymdeithasol a phob math o feysydd eraill o ddiddordeb cyffredin, rwy’n siŵr. Felly, byddwn yn awyddus iawn, gyda chi a'r ddirprwyaeth o Aelodau o'r fan hon a ymwelodd ag Ynysoedd Falkland, i archwilio sut y gallwn roi hynny ar waith rhwng y ddwy senedd ieuenctid. Diolch yn fawr.

4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Mae un cwestiwn amserol heddiw, a fydd yn cael ei ofyn gan Russell George.

Pleidlais ar Weithredu Diwydiannol

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ymgynghorwyr ac arbenigwr, arbenigwr cyswllt, a meddygon arbenigol yng Nghymru yn pleidleisio am ddau ddiwrnod o streic ym mis Ebrill ynghylch cyflogau? TQ1010

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n siomedig fod meddygon ymgynghorol a meddygon arbennig ac arbenigol wedi pleidleisio i streicio, ond rydym yn deall cryfder eu teimladau am y cynnig cyflog o 5 y cant. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ymwybodol ac wedi cynllunio ar gyfer y cyllid o £168 miliwn a gyhoeddwyd heddiw gan Ganghellor Cymru, a rhoddir cyfrif amdano yn ein cynlluniau gwariant. Byddwn yn gweithio gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a GIG Cymru i sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei warchod yn ystod gweithredu diwydiannol.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Diolch hefyd i’r Llywydd am ganiatáu’r cwestiwn amserol hwn heddiw. Yr wythnos hon, mae meddygon ymgynghorol a meddygon arbennig ac arbenigol Cymru wedi pleidleisio gyda mwyafrif llethol o blaid streicio dros gyflogau. Mae hyn yn dilyn dwy rownd o weithredu gan feddygon iau a streic 96 awr yn ddiweddarach y mis hwn wrth gwrs, a hynny am y tro cyntaf erioed. Nawr, daw hyn yn sgil y cynnig cyflog gwaethaf yn y DU, dyma'r drydedd set o streiciau, a bydd hefyd yn ychwanegu pwysau ar yr amseroedd aros sydd gennym yng Nghymru, sydd eisoes yn hwy o gymharu â gweddill y DU. Ac wrth gwrs, rhaid ystyried cost ariannol y streic hefyd.

Nawr, byddai cost y taliad ychwanegol o 1 y cant ar gyfer meddygon ymgynghorol a meddygon arbennig ac arbenigol, fel yr argymhellodd y corff adolygu annibynnol, yn £6.5 miliwn, yn ôl ymateb i gwestiwn ysgrifenedig gennym fel Ceidwadwyr Cymreig. Nawr, Weinidog, rwy'n gwybod y byddwch yn dweud nad oes mwy o arian i'w gael, ond yn ddiweddarach heddiw, byddwn yn treulio cryn dipyn o amser yn siarad am ddiwygio’r Senedd, ac rydym yn gwybod am y gost honno. Gwyddom mai £17.8 miliwn y flwyddyn yw’r gost am y gwleidyddion ychwanegol yr hoffai rhai Aelodau eu gweld. Felly, mae a wnelo hyn â blaenoriaethau, ac mae a wnelo â phenderfyniadau a wneir yma. Felly, a gaf i ofyn i chi, Weinidog, ddychwelyd at y bwrdd negodi gyda chynnig teg i feddygon yng Nghymru er mwyn osgoi tarfu pellach ac i osgoi gwario miliynau o bunnoedd yn rhagor ar ddarpariaeth cyflenwi dros y gweithredu diwydiannol, arian y gellid ei roi fel arall tuag at adfer cyflogau wrth gwrs?

Diolch yn fawr iawn. Mae arnaf ofn fod y cynnydd o 5 y cant ar gyfer 2023-24 ar derfyn eithaf y cyllid sydd ar gael i ni, ac mae’n adlewyrchu’r cytundeb a wnaed gyda’r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Chymdeithas Feddygol Prydain, ac rydym ar gael am sgyrsiau pellach ar unrhyw adeg. Byddwn yn gweithio gyda’r GIG ac undebau a phartneriaid i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu er mwyn achub bywydau a chynnal bywyd yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol, ac y bydd diogelwch cleifion yn cael ei gynnal.

Rwy’n falch o weld cyllid ychwanegol i’r GIG gan y Canghellor heddiw, ond fel y dywedaf, roedd hwnnw’n arian ychwanegol yr oeddem wedi tybio y byddai’n dod i ni ac sydd eisoes wedi’i gynnwys yn ein cynlluniau cyllidebol. Ond ni chredaf fod brolio, fel y gwnaeth heddiw, am y cynnydd o 13 y cant dros dymor y Senedd—pum mlynedd—mor wefreiddiol â hynny, pan gynyddodd gwariant ar iechyd 4 y cant mewn termau real bob blwyddyn o dan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Rhwng 2010 a 2019, gwelsom y wasgfa fwyaf hirfaith yn hanes y GIG, o ran gwariant, a gododd 1.5 y cant ar gyfartaledd. Cyhoeddodd y Sefydliad Iechyd ddata sy’n dangos bod y DU yn gwario 21 y cant yn llai ar iechyd na chyfartaledd canolrifol yr UE, a 39 y cant yn llai na’r Almaen. Rydym wedi dangos yn y gorffennol pan fo gennym arian ar gael, ein bod wedi mynd y tu hwnt i argymhellion y corff adolygu cyflogau.

15:00

Fel y dywedais sawl gwaith yma, nid yw'r GIG yn ddim heb ei lu o staff diwyd ac ymroddedig. Ond paradocs diffiniol a gofidus iawn ein system iechyd dros y degawd diwethaf, wrth i'r pwysau ar y GIG gynyddu'n sylweddol, yw bod y gwerth sy'n cael ei roi ar waith ei weithwyr wedi lleihau.

Ar ôl gweld eu cyflog mewn termau real yn gostwng yn sylweddol ers 2008, nid yw'n syndod fod cymaint o staff y GIG sy'n gweithio'n galed ond sy'n cael eu tanbrisio'n barhaol yng Nghymru wedi anfon neges glir i ddweud mai digon yw digon. Fel y clywsom, meddygon ymgynghorol a meddygon arbenigol yw'r rhai diweddaraf i gyhoeddi eu bod yn mynd ar streic.

O ystyried eu hymroddiad eithriadol i'r proffesiwn, gwn na fyddant wedi gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach. Ond mae cryfder y teimladau wedi'i amlygu gan y ffaith bod 86 y cant o feddygon ymgynghorol, a 94 y cant o feddygon arbennig ac arbenigol, wedi pleidleisio o blaid streic Cymdeithas Feddygol Prydain. Rydym yn cydsefyll â nhw, a hoffwn annog y Llywodraeth i ddod o gwmpas y bwrdd negodi a gwneud cynnig teg cyn gynted â phosibl. Dylai hwn ddangos bwriad fod eich ymrwymiad i'r egwyddor o adfer cyflog yn fwy na dim ond geiriau cynnes ac addewidion amwys.

Mae meddygon yn haeddu'r sicrwydd fod gan y Llywodraeth hon strategaeth glir, wedi'i seilio ar fframiau amser realistig ar gyfer gwireddu'r uchelgais hwn. A allai'r Gweinidog esbonio'r union ffigur sydd ei angen felly i adfer cyflog meddygon y GIG yng Nghymru mewn termau real? Pa mor hir fydd hi nes y gwelir yr arian hwn yn eu pocedi? A pham nad yw darpar Lywodraeth Keir Starmer wedi ymrwymo i ddarparu'r adnoddau i chi gyflawni hyn?

Diolch yn fawr. Rydym yn gwybod mai'r unig reswm y mae'r GIG yn gweithio yw oherwydd ymrwymiad aruthrol y staff sy'n gweithio o'i fewn. Mae gennym fwy o bobl nag erioed yn gweithio i'r GIG yng Nghymru, ffigur sydd bellach yn fwy na 105,000. Rwy'n cytuno nad wyf yn credu bod y meddygon ymgynghorol na'r meddygon arbennig ac arbenigol wedi gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach. Rwy'n deall y rhwystredigaethau.

Rwy'n gobeithio bod y cyhoedd a meddygon ymgynghorol a meddygon arbennig ac arbenigol y GIG wedi deall, ac wedi gweld, sut rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu'r GIG yn ein cyllideb. Rydym wedi bod o gwmpas bwrdd y Cabinet cyfan i ofyn iddynt gynnal y gwasanaeth, sydd mor agos at galonnau pobl. Rydym wedi cynyddu cyllideb y GIG tua 4 y cant yng Nghymru y flwyddyn nesaf, o'i gymharu â'r cynnydd o 1 y cant y gwelsoch wedi'i gynllunio yn Lloegr.

Credaf fod meddygon ymgynghorol a meddygon arbennig ac arbenigol yn fwy ymwybodol nag unrhyw un fod llif cleifion drwy ein hysbytai yn fater arbennig o heriol, ac yn fater nad ydym yn debygol o'i ddatrys oni bai ein bod yn parhau i gefnogi system ofal fregus. Mae'r arian ar gyfer y system ofal honno'n dod o'r un gronfa â'r GIG, ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithwyr gofal, sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth gyllidebol i ni.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig i bawb ddeall ein bod wedi ymrwymo i adfer cyflogau, ond ar hyn o bryd mae hynny'n heriol iawn yn ariannol, fel y gwyddoch. Rydych wedi gweld y llyfrau. Rydych wedi bod yn rhan o broses y gyllideb. Nid yw Plaid Cymru erioed—erioed—wedi cynnwys y GIG yn ei rhestr o flaenoriaethau. Nid oedd yn rhan o gytundeb. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod i gyd yn deall, wrth gwrs, ein bod eisiau gweld y mater wedi ei ddatrys, ac rydym yn parhau i fod yn agored i drafodaethau pellach gyda Chymdeithas Feddygol Prydain.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr ysbrydoliaeth ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda 15,000 o fenywod yn gorymdeithio drwy Efrog Newydd ym 1908, yn galw am oriau gwaith byrrach, cyflogau gwell a'r hawl i bleidleisio. Fe ysgogodd hyn Blaid Sosialaidd America i ddatgan y Diwrnod Cenedlaethol y Menywod cyntaf. Yn Copenhagen, ym 1910, fe wnaeth cynhadledd ryngwladol o fenywod a oedd yn gweithio o 17 gwlad gytuno'n unfrydol fod angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Fe wnaeth Awstria, Denmarc, yr Almaen a'r Swistir achub ar y cyfle, ond dewiswyd 8 Mawrth fel dyddiad i goffáu streic 1917 gan fenywod Rwsiaidd i fynnu bara a heddwch. Arweiniodd eu streic at ymddiorseddiad y Tsar, Rwsia'n ymbil am heddwch a'r Llywodraeth newydd yn rhoi hawl i fenywod bleidleisio—diwrnod gwych i ddathlu brwydr menywod dros gyfiawnder a heddwch.

Ym 1975, cydnabuwyd 8 Mawrth gan bob un o 144 gwlad y Cenhedloedd Unedig, a mabwysiadwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod bedair blynedd yn ddiweddarach. Bob blwyddyn, edrychir ar bob gwlad i weld pa mor dda y maent yn hyrwyddo hawliau menywod a merched, gan gynnwys Cymru. Felly, pa mor dda ydym ni? Ar yr ochr gadarnhaol, mae gennym Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, dyletswydd cydraddoldeb rhywiol y sector cyhoeddus, a'r llynedd, Caerdydd oedd y ddinas gyntaf y tu hwnt i'r Unol Daleithiau i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod.

Ond mae menywod yn parhau i gael 14 y cant yn llai o gyflog na dynion am wneud yr un swydd, felly mae menywod yn gweithio'r hyn sy'n gyfwerth â dau fis o'r flwyddyn am ddim yn ogystal â gwneud cyfran fwy o waith di-dâl gartref. Conglfaen y gwahaniaethu hwn yw rhagdybiaeth fod pob menyw'n dod yn fam ac mai nhw yw'r prif ofalwyr am blant. Bob blwyddyn, mae miloedd o fenywod yn colli eu swyddi am eu bod yn feichiog. Mae hynny'n anghyfreithlon os ydych chi wedi bod mewn swydd ers chwe mis, ond yn anodd iawn ei herio, oni bai eich bod chi'n rhan o undeb—

15:05

Mae gofal plant yn parhau i fod yn ymdrech gyson i gadw cydbwysedd ac mae trais ar sail rhywedd yn epidemig iechyd cyhoeddus. Mae brwydr y menywod dros fara a heddwch yn parhau.

Mae'r wythnos hon yn nodi dau ganmlwyddiant sefydlu Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, yr RNLI. Ers 1824, mae gwirfoddolwyr yr RNLI wedi achub bywydau bron i 13,000 o bobl yng Nghymru, a bron i 150,000 o bobl ledled Prydain ac Iwerddon. Mae fy rhanbarth fy hun, Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn un arfordirol wrth gwrs, a rhwng Porth Tywyn yn y de a Phorth Dinllaen yn y gogledd, mae yna 16 o orsafoedd badau achub yn y rhanbarth.

Bob wythnos, o Ddinbych-y-pysgod i Abergwaun, o Gei Newydd i'r Borth, ac o Aberdyfi i Abersoch, mae cannoedd o wirfoddolwyr yn rhoi eu hamser am ddim i hyfforddi i achub bywydau ar y môr. Pan gânt eu galw, yng nghanol y nos neu yn nyfnder gaeaf hyd yn oed, nid yw'r gwirfoddolwyr byth yn oedi cyn ymateb i alwad, gan roi eu cysur a'u diogelwch eu hunain mewn perygl i achub eraill a dod â nhw yn ôl i'r lan yn ddiogel.

A gaf i ddefnyddio'r cyfle a geir gan y ddau ganmlwyddiant hwn i gofnodi fy niolch, ac rwy'n siŵr ar ran pawb arall yma, am y gwasanaeth a roddwyd gan wirfoddolwyr yr RNLI ddoe a heddiw, a diolch i'r teuluoedd a'r cymunedau sy'n eu cefnogi?

Diolch o galon i chi am eich gwasanaeth cwbl arbennig, yr RNLI.

Heddiw, ar hyd a lled Cymru, mae ein cymunedau'n dod ynghyd i goffáu moment dyngedfennol yn hanes ein cenedl, sef deugain mlynedd ers streic y glowyr ym 1984. Bedwar degawd yn ôl, roedd Cymru'n gartref i rwydwaith o byllau glo a glowyr balch. Roedd Rhondda'n unig, gyda'i threftadaeth lofaol gyfoethog, yn gartref i dros 70 o byllau glo a oedd yn darparu tanwydd i ddiwydiant, ac i galon fy etholaeth hefyd. Dechreuodd y glowyr, asgwrn cefn ein cymunedau, ar daith ddewr ym 1984, gan ddioddef streic hir a barodd am fisoedd.

Rhwygodd effaith y streic hon drwy deuluoedd a chymunedau'r Rhondda a ledled Cymru, gan adael creithiau ar fywydau'r holl deuluoedd a gafodd eu heffeithio ganddi. Mae'r aberth a wnaed yn ystod y cyfnod heriol hwnnw yn annirnadwy, wrth i deuluoedd wynebu ofn a phryder oherwydd caledi economaidd anodd. Roedd hi'n frwydr fawr, ond roedd ysbryd diwyro ein glowyr hefyd yn fawr, a'r gymuned ehangach a oedd yn gefn iddynt, gan eu cefnogi ar eu gorymdeithiau yn ôl i'r gwaith ac yn eu lleisiau, 'Coal, not dole'.

Wrth inni ystyried y cyfnod hwnnw, mae'n rhaid inni fynegi ein diolch diffuant i'r glowyr a safodd yn gadarn yn wyneb adfyd, ac a oedd yn bendant mewn rhyfel yn erbyn Llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher ar y pryd, Llywodraeth y mae ei phenderfyniadau wedi cael effaith barhaol ar ein cymunedau hyd heddiw. Wrth nodi deugain mlynedd ers streic y glowyr gadewch inni gofio'r heriau a wynebwyd, a gadewch inni hefyd ddathlu'r cryfder, y gwytnwch a'r undod a ddaeth i'r amlwg o'r frwydr hon. Gyda'n gilydd, rydym yn talu teyrnged i'r glowyr a siapiodd hanes y wlad hon ac yn cydnabod eu cyfraniad parhaus i Gymru, i Brydain, ac i'r byd.

15:10

Hoffwn dalu teyrnged yma yn y Senedd y prynhawn yma i dîm o arwyr Cymreig sydd bron â chwblhau her anghredadwy a fydd yn codi arian mawr ei angen ar gyfer achos teilwng iawn. Mae grŵp o feicwyr brwdfrydig, dan arweiniad Rob Boyns o Ruthun, yn rhan o'r tîm o Gymru sy'n cymryd rhan yn her Doddie Aid.

Maent bron â chwblhau taith feicio epig o Gaeredin i Rufain—do, fe glywoch chi'n iawn—yr holl ffordd o'r Alban i'r Eidal, gan gysylltu pob stadiwm rygbi'r chwe gwlad ar y daith, gan feicio drwy Ddulyn, Caerdydd, Llundain a Pharis. Nawr, maent wedi bod ar eu beiciau ers wythnos, ac yn agosáu at ddiwedd eu taith; y diweddaraf yw eu bod newydd groesi i mewn i'r Eidal, a bod y llinell derfyn yn Rhufain y penwythnos hwn o fewn golwg bellach. Fel rhan o'u taith, maent wedi aros yn Monaco, lle rhoddodd y Tywysog Albert bêl rygbi iddynt, a bydd Rob a'r bechgyn yn cael y fraint o'i chario ar y cae yn y Stadiwm Olympaidd yn Rhufain, i'w defnyddio yn y gêm chwe gwlad rhwng yr Eidal a'r Alban ddydd Sadwrn.

Nawr, mae'r ymdrech anfarwol hon i gyd er budd Sefydliad My Name'5 Doddie, sy'n codi ymwybyddiaeth ac arian, wrth gwrs, ar gyfer clefyd niwronau motor. Hyd yn hyn, mae'r her gyfan wedi codi ymhell dros £300,000 ar gyfer yr achos anhygoel hwn, a gadewch i bawb ohonom wneud yr hyn a allwn i'w cefnogi a'u helpu i gyrraedd y targed o £400,000. Gallwch gyfrannu at y sefydliad gwych hwn drwy ymweld â thudalen JustGiving a chwilio am 'All Roads Lead to Rome'.

Felly, pob lwc, Rob, a'r holl dîm, a gobeithio bydd y coesau yna yn dal i allu troi'r pedalau yr holl ffordd i Rufain dros achos hynod o deilwng.

Diolch i'r Aelodau. A daw hynny a thrafodion y Cyfarfod Llawn heddiw i ben. Byddwn yn cymryd egwyl o 10 munud cyn cyfarfod y Pwyllgor o'r Senedd Gyfan i drafod Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Caiff y gloch ei chanu pum munud cyn i ni ailgynnull, a byddwn yn annog Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon, os gwelwch yn dda.

Daeth y cyfarfod i ben am 15:13.