Y Cyfarfod Llawn

Plenary

05/03/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:00 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cwestiynau i'r Prif Weinidog sydd gyntaf ar yr agenda, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.

Pwysau ar Ffermwyr

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau y mae ffermwyr Cymru yn eu hwynebu? OQ60800

Llywydd, mae ffermwyr Cymru yn wynebu amrywiaeth o bwysau, gan gynnwys costau cynyddol, rhwystrau ymadael â'r UE, cytundebau masnach gelyniaethus ac effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym ni eisiau dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru ac yn parhau i weithio gydag eraill i'w sicrhau.

Diolch, Prif Weinidog, a, Llywydd, rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau. Rydym ni i gyd wedi gweld y ffordd y mae ein cymunedau gwledig wedi dod at ei gilydd yn wahanol i unrhyw adeg arall y gallaf i ei chofio erioed, gymaint yw'r gofid, y pryder a'r ofn am y dyfodol y mae llawer o ffermwyr yn teimlo eu bod nhw'n ei wynebu. Mae llawer yn teimlo na fyddan nhw'n gallu cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ofyn drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy ac, o'r herwydd, maen nhw'n dechrau ystyried bywyd heb gymorth i ffermydd, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn dewis gadael y diwydiant, yn enwedig ein cymuned ffermio hŷn. Rhoddodd ffermwr yr adborth i mi, yn dilyn sioe deithiol yn sir Fynwy, ei fod, ar ddiwedd y cyfarfod, wedi siarad â swyddog i ofyn beth fyddai'n digwydd pe na bai ffermwyr yn ymuno â'r cynllun a sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei nodau. 'Byddai angen i ni reoleiddio' oedd yr ateb. Prif Weinidog, pe bai ffermwyr yn dewis peidio â chroesawu eich cynllun, a bod eich targedau o dan fygythiad, a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried rheoleiddio wedyn ar gyfer y newid y mae ei eisiau yn y diwydiant?

Wel, Llywydd, rwyf i eisiau i gynifer o ffermwyr â phosibl ymuno â'r cynllun y byddwn ni wedi ei gytuno â nhw. Mae swm mawr iawn o arian ar gael i'r ffermwyr hynny sydd eisiau bod yn rhan o'r cynllun. Wrth gwrs, nid yw tua hanner y ffermwyr yng Nghymru yn rhan o'r cynllun taliad sylfaenol, felly nid yw fel pe bai hyn yn unrhyw beth newydd. Ond yr hyn yr wyf i eisiau ei weld yw rwyf i eisiau gweld ffermwyr yng Nghymru yn hyderus y gall eu dyfodol gael ei gynnal drwy fod yn aelodau o'r cynllun, gyda'r holl fanteision y bydd yn eu cynnig. Dyna'r hyn yr ydym ni'n canolbwyntio arno. Dyna pam y byddwn ni'n edrych ar bob un ymateb yr ydym ni'n ei gael, yn rhan o'r ymarfer ymgynghori, ac yna'n parhau'r sgwrs gyda ffermwyr yng Nghymru i lunio cynllun sy'n gwneud cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn ganolog i'r hyn y maen nhw'n ei wneud, ond sydd hefyd yn darparu'r nwyddau cyhoeddus hynny sy'n gwbl hanfodol i Gymru mewn cyfnod o newid hinsawdd.

Prif Weinidog, rydym ni'n ymwybodol o'r pwysau sy'n wynebu ffermwyr: mwy o fiwrocratiaeth, sefyllfa economaidd sy'n gwaethygu, cytundebau masnach rydd niweidiol, cyfres o addewidion wedi'u torri. Ac rydym ni'n gwybod hynny oherwydd bod hynny yn Farmers Weekly. Dangosodd Farmers Weekly bod bron i 70 y cant o ffermwyr yn wynebu ymateb negyddol Brexit, ac ni waeth sut mae'r Ceidwadwyr yn ei gyflwyno—[Torri ar draws.] Does dim ots—. Wel, rwy'n dyfynnu Farmers Weekly; does dim angen i mi wrando ar y Ceidwadwyr. Ac os nad ydych chi'n credu Farmers Weekly, pam na wnewch chi wrando ar Ian Rickman, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru?

'Cafodd y diwydiant fwy neu lai ei daflu o dan fws'—

ei daflu o dan fws gan Lywodraeth Geidwadol sy'n siarad yn faith ac yn ymddwyn fel nad oes ots ganddi am ddyfodol amaethyddiaeth. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod y pwysau mwyaf sy'n wynebu amaethyddiaeth o ganlyniad i Brexit ac na fyddai neb yn eu iawn bwyll yn gosod rhwystrau masnach gyda'u marchnadoedd mwyaf ac agosaf? Y peth gorau y gallwn ni ei wneud i gefnogi amaethyddiaeth i'r dyfodol yw ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd.

Wel, Llywydd, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, rydych chi bob amser yn gwybod, gyda meinciau'r Ceidwadwyr yma, y gwannaf yw eu dadl, yr uchaf y maen nhw'n gweiddi, ac maen nhw'n gweiddi eto y prynhawn yma. Ac maen nhw'n gweiddi gan nad ydyn nhw eisiau cydnabod y gwir. [Torri ar draws.] Y gwir amdani yw bod y cyngor a roddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru wedi gosod rhwystrau newydd yn llwybr ffermwyr yng Nghymru sy'n gobeithio masnachu gyda'u marchnad agosaf a phwysicaf. Nawr, cyn i Brexit ddigwydd, cyn i gytundeb gael ei daro, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ffermwyr cregyn gleision yn y gogledd. Roedd hwn yn ddiwydiant llwyddiannus—diwydiant a oedd wedi cael ei adeiladu dros 20 mlynedd. Roedd naw deg y cant o'i gynnyrch yn mynd i dde Môr y Canoldir. Nid yw naw deg naw y cant o hynny yn mynd yno mwyach. Does dim pwynt yn arweinydd yr wrthblaid yn dweud wrthyf i ei fod yn dal i fynd yno; mae'n sicr nad yw'n mynd yno. Dydyn nhw ddim yn gallu anfon—[Torri ar draws.]

13:05

Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb—[Torri ar draws.] Na, gadewch i'r Prif Weinidog ymateb, fel arall ni fyddaf yn galw Aelodau pan fyddan nhw'n dewis cael eu galw yn ddiweddarach gan eu bod nhw wedi ceisio torri ar draws yn gynharach yn y trafodion. Felly, gadewch i ni wrando ar y Prif Weinidog yn ei ymateb nawr, os gwelwch yn dda.

Mae gen i ofn bod y ffeithiau a'r ffigurau yn siarad drostyn nhw eu hunain. Nid yw'r diwydiant hwnnw yn gallu anfon ei gynnyrch i dde Môr y Canoldir bellach mewn ffordd y mae'n cyrraedd yn ddiogel ac yn werthadwy. Ac mae hwnnw yn ganlyniad uniongyrchol i'r cytundeb wnaed pan wnaethom ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd cytundeb gwahanol yn bosibl. Hyrwyddwyd cytundeb gwahanol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru a fyddai wedi achub buddiannau economaidd ffermwyr yma yng Nghymru, tra bod y Blaid Geidwadol, wedi'u hannog gan y Ceidwadwyr Cymreig, wedi methu â gwneud yn union hynny.

Prif Weinidog, rwy'n falch o weld bod gwaith wedi dechrau ar adolygiad o reoleiddio llygredd amaethyddol, gan fod y dystiolaeth yn dangos bod wir angen y rheoliadau hynny. Er enghraifft, mae Afon Wysg—y bydd yr Aelod etholaeth dros Fynwy, Peter Fox, wrth gwrs, yn ai hadnabod yn dda iawn—mewn cyflwr gwael iawn, ac mae ffigurau'n dangos mai llygredd amaethyddol sy'n gyfrifol am tua dwy ran o dair o'r cyflwr gwael hwnnw, a daw hyn ar adeg pan fo tri digwyddiad llygredd mawr yn ein hafonydd bob un wythnos. Prif Weinidog, a fydd yr uwchgynhadledd sydd ar fin cael ei chynnal i ystyried y materion hyn, sydd yr wythnos nesaf rwy'n credu, yn edrych ar y cyfraniad y gall pob sector ei wneud at y cynnydd y mae ei angen mor daer?

Diolch i John Griffiths am hynna, Llywydd. Edrychaf ymlaen at gymryd rhan yn yr uwchgynhadledd nesaf, a fydd yn cael ei chynnal ar 18 Mawrth. Mae'r pwynt y mae John Griffiths yn ei wneud yn anochel. Daw chwe deg saith y cant o'r holl lwytho ffosffadau yn afon Wysg, sydd wedi cael effaith mor niweidiol ar y cynefin pwysig iawn hwnnw, o ffynonellau amaethyddol. Ni all unrhyw un ffynhonnell ddatrys problemau ein hafonydd, ond mae'n rhaid i amaethyddiaeth, ochr yn ochr â Dŵr Cymru, ochr yn ochr â'r camau yr ydym ni'n eu cymryd i ymdrin â dŵr ffo trefol, yn sicr chwarae ei rhan. Dyna pam mae'r rheoliadau hynny ar waith. Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau gwaith ar yr adolygiad o'r rheoliadau yn gynnar. Bydd yn penodi cadeirydd annibynnol i arwain y gwaith hwnnw. Mae hynny i gyd yn bwysig iawn. Ond nid yw'r broblem yn diflannu dim ond trwy edrych oddi wrthi, ac yn ein hafonydd, ym mhob un ond un ohonyn nhw, daw'r cyfraniad unigol mwyaf at lygredd yn ein hafonydd, a llygredd ffosffadau yn arbennig, o ffynonellau amaethyddol.

Pobl Ifanc â Phrofiad o fod mewn Gofal

2. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn y datganiad y cytunwyd arno yn yr uwchgynhadledd diwygio radical ym mis Rhagfyr 2022? OQ60778

Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd. Ddydd Sadwrn, roeddwn i'n bresennol yn y drydedd uwchgynhadledd dan arweiniad pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i adrodd iddyn nhw ar ein hagenda ddiwygio radical. Fe wnaethon nhw ddathlu'r cynnydd a wnaed eisoes drwy'r datganiad a gwneud cyfres o gynigion ar gyfer gweithredu pellach.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. 

Mae llawer o hyrwyddwyr yma yn y Siambr ac ar draws ein holl bleidiau gwleidyddol dros blant â phrofiad o fod mewn gofal—James Evans, Sioned Williams, Jayne Bryant, i enwi dim ond rhai, ac, wrth gwrs, y Gweinidog hefyd, a diolch i chi gyd. Ond, Prif Weinidog, os caf i ddweud, un o'r hyrwyddwyr mwyaf yma yn y Siambr yw chi. Rydych chi wir wedi arwain o ran diwallu anghenion ein plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Bythefnos yn ôl, cefais yr anrhydedd o noddi digwyddiad yn y Senedd, yr oedd ganddo, mae'n debyg, y sgarff fwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Rhoddodd cannoedd o bobl o bob rhan o Gymru o'u hamser i wau sgwâr neu ran o'r sgarff honno—roedd bron i 8,000 o sgwariau yn y sgarff honno—ac rwy'n credu ei bod yn dal i dyfu. Mae pob sgwâr yn cynrychioli plentyn neu unigolyn ifanc sy'n mynd drwy'r system ofal yma yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, roeddwn yn falch o glywed am yr anerchiad a wnaethoch chi i'r uwchgynhadledd ar ddiwygio radical dim ond y penwythnos yma, ac rwy'n falch bod y mater hwn yn un yr wyf i'n ymdrin ag ef yn yr hyn a allai fod fy nghwestiwn olaf i chi fel Prif Weinidog, o gofio, fel y gwn i, ei bwysigrwydd i chi. Yr hyn sydd ei angen arnom ni yw newid diwylliant mawr o ran pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar sut y bydd y Llywodraeth yn cyflawni'r newid diwylliant hwnnw ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.

13:10

Wel, diolch i Jane Dodds, wrth gwrs, am y geiriau caredig yna.

Mae'r Aelod yn iawn, Llywydd—mae hyrwyddwyr ar ran plant sy'n derbyn gofal ar draws y Siambr gyfan. Bydd llawer ohonom ni'n cofio'r gwaith a wnaeth David Melding mor gyson yn ystod ei amser ar y meinciau hyn. Ond pe bai Jane Dodds wedi bod yn yr uwchgynhadledd ddydd Sadwrn, rwy'n teimlo'n siŵr y byddai wedi dod i'r un casgliad â mi—mai'r hyrwyddwyr mwyaf oll yw'r bobl ifanc hynny eu hunain. Roedden nhw'n hollol wych yn yr uwchgynhadledd—mor rhugl, mor graff, mor benderfynol o wneud eu cyfraniad at ddyfodol gwahanol iddyn nhw eu hunain, ond hefyd gwahanol fath o wasanaeth i'r bobl ifanc eraill hynny yn y system. Roedden nhw'n gwbl benderfynol y dylem ni gynyddu eu llais yn y gwasanaeth cyfan. 'Gyda ni, nid ar ein rhan,' medden nhw. Dyna y mae angen i'r system fod—'gyda ni, ddim yn gwneud pethau i ni nac ar ein rhan'. A beth oedden nhw ei eisiau? Roedden nhw eisiau'r pethau symlaf. Roedden nhw eisiau sefydlogrwydd, cysondeb, cymorth cynnar, gwasanaethau eiriolaeth i rieni pan fo teuluoedd yn ceisio aros gyda'i gilydd yn hytrach na bod plant yn cael eu cymryd oddi arnyn nhw. Roedden nhw eisiau i ni roi sylw i'r bylchau sydd yno o hyd pan fydd plant yn syrthio rhwng gwasanaethau cymdeithasol, tai, cyfiawnder troseddol, iechyd meddwl, ac, yn anad dim, roedden nhw eisiau i ni fod yn uchelgeisiol ar eu rhan. Doedden nhw ddim eisiau teimlad o, 'O, mae hynna'n ddigon da oherwydd mai plentyn mewn gofal yw'r plentyn yna'; roedden nhw eisiau i bawb a phob gwasanaeth fod yn gwbl uchelgeisiol ar eu rhan. Roedd yn fraint adrodd iddyn nhw ar y camau yr ydym ni wedi eu cymryd, ac roedd yn fwy o fraint fyth clywed yn uniongyrchol ganddyn nhw sut y gallwn ni, gyda'r penderfyniad sydd ganddyn nhw, fwrw ymlaen â'r agenda ddiwygio radical honno y mae'r bobl ifanc hynny ei heisiau ac yn sicr yn ei haeddu.

Diolch, Jane, am godi'r mater hwn, a diolch, Prif Weinidog, am eich dyfalbarhad a'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud. Prif Weinidog, mae'r datganiad yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyflawni'r weledigaeth, gan roi blaenoriaeth iddi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a sicrhau bod pob Gweinidog yn cyflawni'r ymrwymiadau a amlinellir yn y weledigaeth. Rhan allweddol o'r weledigaeth yw na fydd unrhyw blentyn nac unigolyn ifanc yn cael eu cymryd i ofal oni bai fod popeth posibl wedi cael ei wneud. Yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod hyn yn digwydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu cynnydd arall eto yn nifer y plant mewn gofal. Pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i leihau nifer y bobl ifanc sy'n ymuno â'r system ofal yn y lle cyntaf?

Llywydd, a gaf i ddweud pa mor falch wyf i o glywed y cwestiwn yna gan yr Aelod? Flynyddoedd lawer yn ôl, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roeddwn i'n arfer dadlau ar lwyfannau cyhoeddus ein bod ni wedi cymryd gormod o blant oddi wrth eu teuluoedd yma yng Nghymru. Rydym ni'n ei wneud ar gyfradd sy'n llawer uwch nag awdurdodau lleol yn Lloegr, ac mae'r bwlch rhwng Cymru a Lloegr wedi ehangu dros 20 mlynedd. Ond pan fyddwn i'n gwneud y pwyntiau hynny ar lwyfannau cyhoeddus, roeddwn i'n aml yn gwybod nad oedd fy nghynulleidfa wedi'i hargyhoeddi, ac mae'n galonogol iawn clywed yr Aelod, Llywydd, yn ychwanegu ei lais at yr ymgyrch sydd ei hangen arnom ni yng Nghymru i wneud yn siŵr, yn ei eiriau ef, nad oes unrhyw blentyn yn cael ei gymryd i ofal yng Nghymru oni bai fod popeth posibl wedi cael ei wneud i helpu'r teuluoedd hynny aros gyda'i gilydd yn ystod cyfnodau anodd iawn. 

Nawr, rwyf i wedi cydnabod erioed y bydd rhai amgylchiadau anochel lle mae angen i blant gael eu cymryd i ofal awdurdod lleol, a dyna pam mae angen i ni wneud y gorau posibl ar eu rhan pan fydd hynny'n digwydd. Ond dylid cyfeirio ein hymdrechion gwirioneddol at ddad-ddwysáu, at symud mwy o blant yn ôl at eu teuluoedd, mwy o blant sy'n derbyn gofal y tu allan i'w sir yn ôl yn agosach at adref, mwy o blant sy'n derbyn gofal y tu allan i Gymru yn ôl i gyfleusterau y gallwn ni eu creu yng Nghymru, unwaith eto yn agosach at le mae eu teuluoedd yn byw. Rydym ni'n buddsoddi £68 miliwn i greu capasiti mewnol newydd i awdurdodau lleol, gan gynnwys capasiti ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymhleth y mae'n rhaid gofalu amdanyn nhw mewn mannau eraill ar hyn o bryd. Yn y modd hwnnw, gallwn gyflawni'r uchelgais a fynegodd yr Aelod mor eglur: ein bod ni'n gweithio i gadw plant gyda'u teuluoedd lle bynnag y bo'n bosibl, a dim ond pan fydd pob ymdrech wedi cael ei gwneud ac na allwn lwyddo y byddwn yn cymryd plant oddi wrth eu teuluoedd ac i mewn i ofal cyhoeddus.

13:15

Ie, pwysigrwydd ymyrraeth ac eiriolaeth ataliol. Roeddwn i'n aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan wnaethon ni ein hymchwiliad ni i edrych ar y diwygiadau radical oedd eu hangen ar gyfer y system ofal, ac roedd un o'n hargymhellion ni yn ceisio mynd i'r afael â'r rhagfarn strwythurol sy'n cael ei brofi gan famau ifanc yn sgil eu profiad o ofal, sy'n gallu golygu eu bod nhw'n cael eu cyfeirio at wasanaethau amddiffyn plant tra eu bod nhw'n feichiog, weithiau heb esboniad.

Mae NYAS Cymru, gyda grant y Llywodraeth, yn darparu cefnogaeth ddwys i ferched ifanc sydd â phrofiad o ofal drwy Brosiect Undod, ac fe wnaeth y Llywodraeth dderbyn mewn egwyddor argymhelliad ein pwyllgor y dylai model o'r fath fod ar gael fel hawl statudol. Ond mae NYAS Cymru wedi codi pryderon ynglŷn ag ymrwymiad y Llywodraeth i leihau'r gyfradd uchel o blant sydd o dan orchymyn amddiffyn plant awdurdodau lleol sy'n blant i famau â phrofiad o ofal, gan nad oes cyllid hirdymor wedi'i glustnodi i Brosiect Undod. Felly, allwch chi ein sicrhau ni, Brif Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau gyda'r cyllid yma er mwyn parhau'r gwaith rhagorol a hanfodol mae NYAS Cymru a Phrosiect Undod yn ei wneud?

Diolch yn fawr i Sioned Williams y cwestiwn. Does dim cyllid hirdymor gyda ni fel Llywodraeth—dyna'r broblem. Does dim cyllid gyda ni ar ôl y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Ond dwi'n hyderus y bydd y Llywodraeth yn y dyfodol eisiau buddsoddi ym mywydau mamau ifanc. Rŷn ni'n gwybod bod nifer fawr o bobl sydd wedi bod yn y system ofal, pan fyddan nhw'n tyfu lan, yn gweld eu plant nhw'n cael eu cymryd i mewn i'r system hefyd, a dyna pam rŷn ni eisiau buddsoddi yn eu bywydau nhw. O ran y problemau cyllid, rŷn ni i gyd yn ymwybodol o'r problemau rŷn ni'n eu hwynebau ar hyn o bryd. Ond pan ŷn ni yn buddsoddi ym mywydau pobl ifanc yn y sefyllfa mae Sioned Williams yn cyfeirio ati, rŷn ni'n buddsoddi yn ein dyfodol ni i gyd, ac rŷn ni'n osgoi problemau a chostau yn y dyfodol hefyd.

Cefais y fraint o fod yn bresennol yn yr uwchgynhadledd profiad o fod mewn gofal, gyda chi, Prif Weinidog, a Gweinidogion eraill, a hoffwn adleisio geiriau Jane Dodds ynghylch eich ymrwymiad personol i'r bobl ifanc hyn. Drwy'r dydd, fe wnaethom ni wrando ar bobl ifanc a dysgu ganddyn nhw am eu syniadau i ddiwygio'r system ofal yn radical i helpu eraill. Bydd llawer o bwyntiau yn aros gyda mi o ddydd Sadwrn, ond dywedodd un person ifanc, 'Rydych chi'n sôn am berygl dieithriaid ac yna rydych chi'n gofyn i ni fynd i fyw gyda nhw.' Fe wnaeth hynny wir fy nharo i, a phobl eraill yno hefyd, rwy'n siŵr. Er mwyn helpu i wneud pethau'n haws, awgrymodd y bobl ifanc hynny greu tudalen broffil, mewn cydweithrediad gwirioneddol â phobl ifanc, i helpu i ddeall pwy ydyn nhw, ac i'r bobl y maen nhw'n mynd i fyw gyda nhw i wneud yr un peth, yn rhoi manylion fel hoff fwyd, a ffotograffau hefyd.

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi lansio ymchwiliad i blant ar yr ymylon yn ddiweddar, lle byddwn yn edrych ar blant coll ac ymatebion gwasanaethau statudol ledled Cymru. Mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn y soniodd y bobl ifanc amdano ddydd Sadwrn. Fe wnaethon nhw alw am gyfweliadau dychwelyd gorfodol bob tro y mae unigolyn ifanc yn mynd ar goll, fel bod pawb yn cael cyfle i siarad â rhywun annibynnol ynghylch pam eu bod nhw wedi rhedeg i ffwrdd. Gall newidiadau sy'n ymddangos yn fach fel hyn wneud gwahaniaeth mawr iawn. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n parhau i ddod o hyd i ffyrdd i'r rhai sydd â phrofiad bywyd ddylanwadu ar bolisïau ac arferion yn ystyrlon yn y system ofal, ac y dylem ni ddiolch i'r bobl ifanc hynny am y gwaith hynod werthfawr y maen nhw'n ei wneud i helpu i wneud gwahaniaeth sylweddol i bobl ifanc eraill?

13:20

Diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn, am y gwaith y mae hi a'i phwyllgor wedi ei wneud yn y maes hwn, ac am fod yn yr uwchgynhadledd ddydd Sadwrn. Dywedais yn fy ateb gwreiddiol i Jane Dodds bod cymaint o'r syniadau y mae pobl ifanc yn eu cynnig i ni yn syniadau syml, dydyn nhw ddim yn syniadau costus, ond maen nhw'n syniadau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Cefais fy nharo'n sicr gan yr hyn a ddywedodd yr unigolyn ifanc hwnnw am sut mae eu bywyd yn cael ei ferwi i lawr i un dudalen ac nid oes ganddyn nhw unrhyw lais yn yr hyn a ddywedir ar y dudalen honno chwaith. Mae'r dudalen yn cael ei hysgrifennu ar eu rhan gan rywun arall. Pan fyddan nhw'n mynd at ofalwr maeth, nid ydyn nhw'n cael dim yn ôl, a'r hyn a ddywedwyd ganddyn nhw oedd dau beth. Yn gyntaf oll, 'Os fy nhudalen i yw'r dudalen honno, yna dylwn i fod yn rhan o'i hysgrifennu', ac, 'Os yw fy nhudalen yn mynd at rywun arall, yna hoffwn dudalen yn ôl yn gyfnewid fel fy mod i'n gwybod rhywbeth.' Dyma'r pwynt am ddieithriaid hwnnw a wnaethoch chi. Gofynnir i chi fynd i fyw mewn cartref nad ydych chi erioed wedi bod iddo ac ymhlith pobl nad ydych chi erioed wedi eu cyfarfod. Roedd yn ymddangos fel y syniad symlaf y byddai unigolyn ifanc yn gwybod rhywbeth am y lle yr oedd yn mynd iddo, a byddai tudalen syml wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Y math yna o syniad, a'r syniad o gyfweliad gydag unigolyn ifanc sydd wedi rhedeg i ffwrdd pan fydd yn dychwelyd—. Pam na fyddech chi eisiau eistedd i lawr a gofyn i'r unigolyn ifanc hwnnw am yr hyn oedd y tu ôl i'r gweithredoedd a oedd wedi digwydd yn eu bywydau? Dyna pam mae'r sgyrsiau hynny a'r uwchgynhadledd mor werthfawr, gan eich bod chi'n clywed yn uniongyrchol gan y bobl ifanc hynny eu hunain. Rwy'n talu teyrnged iddyn nhw'n llwyr. Fel y dywedais wrth Jane Dodds, does ganddyn nhw ddim hyrwyddwr mwy na nhw eu hunain, ac rydym ni'n ffodus iawn yng Nghymru o fod â phobl ifanc sy'n barod i gamu ymlaen a chwarae'r rhan honno.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, clywsom o'r ymchwiliad COVID eich bod chi'n defnyddio WhatsApp yn rheolaidd. Ar 7 Tachwedd, pan wnes i eich holi ar y mater penodol hwn, fe wnaethoch chi ddweud nad oeddech chi'n ei ddefnyddio, ac yna fe wnaethoch chi egluro ar 8 Tachwedd eich bod chi'n ei ddefnyddio ond nid yn aml iawn. A allwch chi gadarnhau a ydych chi'n defnyddio WhatsApp yn rheolaidd, fel yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymchwiliad COVID yr wythnos diwethaf, yn enwedig yng nghyswllt penderfyniadau polisi a rheolau?

Rwy'n dyst yn yr ymchwiliad COVID. Fe wnaf i ateb eu cwestiynau nhw, pa bynnag bwyntiau y maen nhw'n eu rhoi i mi. Nid wyf i'n mynd i gynnig rhagolwg o'r hyn yr wyf i'n ei ddweud wrth yr ymchwiliad. Fe wnaf i roi'r parch i'r ymchwiliad yr wyf i'n credu y mae'n ei haeddu, ac fe wnaf i roi fy atebion iddyn nhw fel tyst.

Hoffwn ofyn am gyfarwyddyd gan y Llywydd, oherwydd Senedd Cymru yw hon. Mae'r dystiolaeth hon ar gael yn gyhoeddus. Rwyf i'n cael fy anfon yma gan y bobl a bleidleisiodd drosof i, fel yr Aelodau eraill, i ofyn am atebion ar ran pobl Cymru gan y Llywodraeth. Nid wyf i'n ceisio cyflwyno gwybodaeth newydd. Rydych chi wedi rhoi ar y cofnod ar 7 Tachwedd na wnaethoch chi ddefnyddio WhatsApp. Ar 8 Tachwedd, fe wnaethoch chi egluro, trwy ddweud eich bod chi'n defnyddio WhatsApp yn anaml, ac yna, mewn tystiolaeth a gyflwynwyd, i gyd ar gael yn gyhoeddus, eich bod chi'n ei ddefnyddio yn rheolaidd ac yng nghyswllt pennu rheolau a gwybodaeth gefndir. Mae'n gwbl ddilys, onid yw, dod i'r Senedd a cheisio'r eglurhad hwnnw gan bennaeth y Llywodraeth pan fo'r wybodaeth honno eisoes yn y parth cyhoeddus. Ychydig dros ddwy i dair awr yn ddiweddarach y prynhawn yma byddwn yn trafod Bil sydd â'r nod o gynyddu capasiti'r Senedd hon. Ni all fod yn gwestiynau yr ydych chi'n hoffi eu hateb yn unig; fe ddylech chi ateb y cwestiynau sy'n haeddu atebion i roi eglurder i bobl sydd eisiau'r atebion hynny, fel y teuluoedd a ddioddefodd brofedigaeth COVID. Felly, gofynnaf i chi eto, Prif Weinidog: a allwch chi egluro'r pwynt yr wyf i wedi ei wneud i chi?

Fe wnes i egluro fy safbwynt ar 7 Tachwedd. Nid oes gen i ddim i'w ychwanegu at hynny. Mae'r ymchwiliad wedi clywed gan eraill. Os yw'r ymchwiliad yn dymuno gofyn cwestiynau i mi ar y pwyntiau y maen nhw wedi clywed amdanyn nhw, byddaf yn ateb yr ymchwiliad, wrth gwrs, ond dyna lle y bydd yr atebion hynny yn cael eu darparu.

A gaf i ofyn am eich cefnogaeth, Llywydd? Siawns nad yw'r Senedd yn haeddu mwy o barch na hynna. 

Y Prif Weinidog sy'n gyfrifol am gynnwys ei atebion ei hun, ac nid mater i mi yw hynny. Byddwn i'n dweud y bydd yr ymchwiliad yn holi'r Prif Weinidog, a bydd y Prif Weinidog yn ymddangos gerbron yr ymchwiliad yr wythnos nesaf, felly beth am i ni ei adael—am y tro—y bydd y Prif Weinidog o bosibl yn darparu mwy o dystiolaeth ac atebion i'r ymchwiliad? Fe wnawn ni ei adael am y tro gan mai dyna fydd yn digwydd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at y mater hwn yn y dyfodol, unwaith y bydd yr ymchwiliad hwnnw wedi dod â'i sesiwn dystiolaeth i ben gyda'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill.

13:25

Mae'r Prif Weinidog yn gadael ei swydd ymhen pythefnos. Rwyf i wedi ceisio cael atebion ar wybodaeth sydd yn y parth cyhoeddus. Ni allaf gael hynny yma yn Senedd Cymru. Mae hynny'n dditiad damniol o ddemocratiaeth Cymru, byddwn i'n dweud.

Fe wnaf i ofyn cwestiwn arall i chi, os caf, am gynghorwyr arbennig, yr ydych chi'n eu penodi, ond rwy'n credu'n fwy na thebyg y byddaf i'n cael yr un ymateb. Bydd pobl, yn enwedig y teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth COVID, yn gweld yr haerllugrwydd a'r dirmyg yr ydych chi'n ymdrin ag ef yma, Prif Weinidog. Fe'i hamlygwyd mewn sylwadau gan y bargyfreithiwr yn yr ymchwiliad COVID yr wythnos diwethaf bod cynghorwyr arbennig yn mynd o gwmpas yn systematig ac yn dileu gohebiaethau yn amheus. Nid fy ngeiriau i ydyn nhw; dyma'r geiriau a ddefnyddiwyd yn yr ymchwiliad COVID. Aeth ymlaen ymhellach i ddweud bod uwch gynghorwyr, cynghorwyr arbennig, wedi cytuno i glirio mewnflychau WhatsApp bob wythnos. A oeddech chi'n ymwybodol o hynny? Oherwydd chi sy'n penodi'r cynghorwyr arbennig. Ceir cod sy'n amlwg yn rheoli ymddygiad cynghorwyr arbennig, ac yn y pen draw, maen nhw'n atebol i chi. Felly, ar yr egwyddor honno o gyfrifoldeb, a oeddech chi'n ymwybodol o'r gweithgarwch hwnnw yn ystod pandemig COVID ynghylch dileu negeseuon?

Gwnaed y cyhuddiad y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ailadrodd y prynhawn yma gan fargyfreithiwr sy'n gofyn cwestiynau i dystion yn yr ymchwiliad. Dyna pam na wnaf i ymgymryd â'r hyn y mae'n dymuno i mi ymgymryd ag ef y prynhawn yma. Hoffwn—[Torri ar draws.] Llywydd, mae arweinydd yr wrthblaid—. Ni allaf ddweud wrtho y dirmyg yr wyf i'n ei deimlo at rywun sy'n eistedd yna ac yn defnyddio geiriau fel yna wrthyf i. Rwy'n ateb ei gwestiynau yn onest bob un wythnos ac fe wnaf i ateb y cwestiynau yn onest o flaen yr ymchwiliad. Bydd yr unigolyn yr ydych chi wedi ei ddyfynnu yn yr ymchwiliad, yn gallu gwneud pwyntiau i dystion, gan gynnwys tystion sy'n gynghorwyr arbennig. Fe wnaf i barchu'r ymchwiliad; nid yw ef erioed wedi gwneud hynny, ac mae'n parhau i ladd arno yn ei gwestiynau i mi y prynhawn yma.

Er gwybodaeth i'r holl Aelodau, bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bythefnos i heddiw, a fydd wythnos ar ôl yr ymchwiliad, felly rwy'n siŵr y bydd materion efallai y bydd Aelodau yma eisiau dychwelyd atyn nhw ar ôl iddyn nhw fyfyrio ar dystiolaeth y Prif Weinidog i'r ymchwiliad.

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n ddyletswydd arnom ni fel seneddwyr i ddwyn y Llywodraeth a'r Prif Weinidog i gyfrif, ac mae hynny yr un mor wir am fater COVID a'r ymchwiliad COVID ag y mae am unrhyw fater arall. Rwyf innau hefyd eisiau mynd ar drywydd materion sy'n codi o dystiolaeth yr ydym ni eisoes wedi ei chlywed yn yr ymchwiliad COVID, nid yr hyn a allai gael ei ofyn i'r Prif Weinidog pan fydd yn rhoi tystiolaeth.

Rwyf innau hefyd eisiau mynd ar drywydd y mater o negeseuon WhatsApp. Dywedodd y Prif Weinidog i gychwyn nad oedd yn defnyddio WhatsApp, yna roedd yn rhaid iddo gywiro'r cofnod i ddweud ei fod mewn gwirionedd. Rydym ni wedi darganfod bod negeseuon WhatsApp gan y Gweinidog iechyd ar y pryd yn ystod y pandemig wedi cael eu dileu, bod prif gynghorydd arbennig y Prif Weinidog wedi cyfarwyddo Gweinidogion i glirio negeseuon WhatsApp unwaith yr wythnos. Roedd hyn fisoedd, saith mis mewn gwirionedd, ar ôl i e-bost gael ei anfon yn atgoffa staff Llywodraeth Cymru i gadw cofnodion ar gyfer unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.

Y rheswm pam rwy'n gofyn hyn yw bod unrhyw beth sy'n tynnu oddi wrth y cyfrif llawnaf posibl o'r hyn a ddigwyddodd yn y Llywodraeth yn ystod COVID yn golygu nad yw'r Llywodraeth yn bod mor dryloyw ag y gall fod gyda theuluoedd y rhai a gollodd anwyliaid, yn ogystal â gyda ni fel seneddwyr. A wnaiff y Prif Weinidog gyfaddef bod dileu negeseuon, ni waeth pa mor anffurfiol, nid yn unig yn anghywir, ond hefyd yn torri rheolau ei Lywodraeth ei hun?

Mae'r un ateb yn berthnasol i arweinydd Plaid Cymru ag y mae i arweinydd yr wrthblaid. Mae'r ymchwiliad yma i ofyn y cwestiynau hynny. Dyna pam mae yng Nghymru. Nid wyf i'n mynd i gynnig rhagolwg o'r cwestiynau a fydd yn cael eu gofyn i mi fel tyst i'r ymchwiliad.

Nid wyf i'n ceisio rhagweld pa gwestiynau a allai gael eu gofyn i'r Prif Weinidog gan yr ymchwiliad. Fy nghwestiynau i yw'r rhain, yn gwneud fy ngwaith yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn Senedd Cymru. Ac ni fyddai ateb fy nghwestiwn yn rhagfarnu tystiolaeth y Prif Weinidog i'r ymchwiliad mewn unrhyw ffordd. Mae'n amlwg o dystiolaeth prif swyddog meddygol Cymru bod y Llywodraeth yn rhy araf i fynd i'r afael â'r pandemig a oedd yn dod i'r amlwg, ac, wrth iddo esblygu, bod synnwyr o anhrefn. Roedd llywodraethu a phenderfyniadau da yn cael eu llesteirio gan y ffaith nad oedd gan y prif swyddog meddygol gymorth digonol i ganiatáu iddo gadw rheolaeth ar ei lwyth gwaith. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru drafod COVID yn ffurfiol tan fis wedi rhybudd Frank Atherton i'r Prif Weinidog ei fod yn debygol o gyrraedd Cymru. Pan gyrhaeddodd y DU, dywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd yn anghywir wrth y Cabinet nad oedd wedi cyrraedd. 

Gyda budd ôl-ddoethineb, ac yn seiliedig ar yr hyn yr ydym ni eisoes wedi ei glywed yn yr ymchwiliad—nid yr hyn a allai gael ei ofyn i'r Prif Weinidog yr wythnos nesaf—a yw'r Prif Weinidog yn credu bod cyd-Weinidogion yn y Cabinet ar y pryd mewn rheolaeth o'u briffiau, a bod y Llywodraeth yn ei chyfanrwydd yn cadw i fyny â'r sefyllfa a oedd yn dod i'r amlwg?

13:30

Wel, Llywydd, atebais gwestiynau o flaen y Senedd hon gyda rheoleidd-dra rhyfeddol yr holl ffordd trwy brofiad COVID. O 28 Ionawr ymlaen, darparwyd diweddariad wythnosol i Aelodau'r Senedd gan Weinidogion Cymru o'r darlun COVID a oedd yn esblygu mewn mannau eraill yn y byd. Y diwrnod ar ôl cyhoeddi cyfyngiadau symud, roeddwn i'n ateb cwestiynau ar lawr y Senedd. Ni chymerodd y Senedd doriad yn ystod Pasg y flwyddyn honno. Atebais gwestiynau dair gwaith yn ystod toriad yr haf ar lawr y Senedd. Mae'r atebion hynny ar gael ar y cofnod. Unrhyw gwestiynau pellach y mae'r ymchwiliad eisiau eu gofyn i mi, fe wnaf i aros i'r ymchwiliad eu gofyn i mi. Dyna sut rydych chi'n parchu'r broses y mae'r ymchwiliad wedi cael ei sefydlu i ymdrin â hi, a dyna fyddaf i'n ei wneud.

Fe wnaf i wahodd y Prif Weinidog i ystyried y cwestiynau yr wyf i'n eu gofyn heddiw yng ngoleuni bron i bedair blynedd o holi gan y Senedd hon ar faterion yn ymwneud â'r ffordd y gwnaeth y Llywodraeth ymdrin â phandemig COVID. Galwodd fy mhlaid i, o ddyddiau cynnar iawn y pandemig, am ymchwiliad penodol i Gymru, i waith gael ei wneud yn ystod dyddiau cynnar hynny'r pandemig—heb gymryd oddi wrth ymdrechion y Llywodraeth ar y pryd i ymdrin â'r pandemig—i baratoi ar gyfer cael ymchwiliad COVID i Gymru. Mae pob darn o dystiolaeth a gyhoeddwyd, pob tystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod y tair wythnos hon, neu hyd yn hyn yn yr ymchwiliad COVID hwn, yn cryfhau'r ddadl, rwy'n credu, dros yr ymchwiliad COVID penodol i Gymru hwnnw. Ac, wrth gwrs, mae'r hyn yr ydym ni'n ei glywed yn crafu'r wyneb yn unig. Mae hyn i gyd yn dweud wrthyf i fod gwadu ei hymchwiliad ei hun i Gymru—fel yr ydym ni ar y meinciau hyn wedi galw amdano, o ddyddiau cynnar y pandemig—wedi bod yn gamfarn ddifrifol gan y Prif Weinidog a'i Lywodraeth. 

Yng ngoleuni'r hyn yr ydym ni wedi ei weld dros y pedair blynedd diwethaf, a'r gwersi yr ydym ni'n gwybod bod angen i ni eu dysgu, a heb ragfarnu'r hyn a allai gael ei ofyn i'r Prif Weinidog pan fydd yn rhoi tystiolaeth, a wnaiff y Prif Weinidog fyfyrio ar hynny a chytuno, pe bai penderfyniad wedi cael ei wneud yn gynnar yn y pandemig, y byddem ni wedi bod mewn sefyllfa i gynnal ymchwiliad COVID Cymru y mae'r teuluoedd a ddioddefodd brofedigaeth ei angen mor daer?

Wel, rwyf i wedi esbonio sawl gwaith ar lawr y Senedd, Llywydd, pam nad wyf i'n credu y byddai ymchwiliad penodol i Gymru yn rhoi i deuluoedd yng Nghymru yr atebion i'r cwestiynau y maen nhw'n eu gofyn yn gwbl, gwbl briodol, ac yr wyf i'n benderfynol o helpu i ddod o hyd i'r atebion hynny. Ac rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef; rwy'n credu bod pob tyst gerbron yr ymchwiliad yn dangos na allech chi ddeall y camau a gymerwyd yng Nghymru ar wahân i'r penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud mewn mannau eraill. Ac yn syml, ni fyddai ymchwiliad penodol i Gymru yn gallu ymchwilio i'r cysylltiadau hynny. 

Nawr, welwch chi, rwy'n clywed arweinydd Plaid Cymru yn dweud mai dim ond wedi crafu'r wyneb y mae'r ymchwiliad. Dyna pam na wnaf i ymgymryd ag ateb cwestiynau o'r math sydd wedi cael eu gofyn i mi y prynhawn yma, gan fod hynny mor amharchus tuag at broses yr ymchwiliad. Mae'r ymchwiliad—[Torri ar draws.] Dim ond hanner ffordd y mae'r ymchwiliad drwy'r gwaith y bydd yn ei wneud yn uniongyrchol yma yng Nghymru. Mae Aelodau o'r Siambr, rwy'n credu, na fu ganddyn nhw erioed hyder yn yr ymchwiliad i wneud y gwaith yr wyf i'n credu ei fod wedi ei sefydlu i'w wneud. Rwyf i eisiau i'r ymchwiliad hwnnw lwyddo. Rwyf i eisiau i'r ymchwiliad hwnnw ddarparu'r atebion y mae pobl yng Nghymru yn chwilio amdanyn nhw. A byddaf yno i roi tystiolaeth fy hun, i gynorthwyo'r ymchwiliad i wneud hynny.

13:35
Datblygiad Senedd Cymru

3. Beth yw gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer datblygu Senedd Cymru dros y 10 mlynedd nesaf? OQ60761

Llywydd, byddwn i eisiau Senedd sydd, dros y degawd nesaf, yn parhau i fwrw ymlaen ag agenda flaengar 25 mlynedd gyntaf datganoli, sydd bellach yn meddu ar fwy o gapasiti ac aelodaeth sy'n adlewyrchu amrywiaeth y Gymru gyfoes yn llawn.

Rwyf wedi geirio'r cwestiwn hwn yn fwriadol, Prif Weinidog, gan fy mod i'n deall, yn fuan, y byddwch chi'n ymuno â mi ar y meinciau cefn yma, gan gamu yn ôl o sedd y gyrrwr. Fe'i disgrifir yn aml fel taith, y broses ddatganoli hon, ac yn ystod y daith honno rydych chi naill ai wedi bod yn sedd y gyrrwr, fel yn y pum mlynedd diwethaf, neu yn y sedd flaen arall, yn rhoi cyfarwyddiadau—gan gynnwys cyn belled yn ôl â'n diweddar gyfaill, Rhodri Morgan, hefyd, a'i gyfarwyddo ef. Felly, mae wedi'i eirio'n fwriadol fel hyn gan ein bod ni'n mynd i fod yn trafod dros y diwrnod neu ddau nesaf mesurau a fydd, os cânt gymeradwyaeth y Senedd, yn cryfhau gallu'r Senedd hon i graffu ar y Llywodraeth, yn rhoi'r potensial am fwy o amrywiaeth, i wir adlewyrchu'r math o bobl o bob cwr o Gymru, o bob rhan o gymdeithas yng Nghymru, ac o bob cefndir. Ond a fyddai'n cytuno â mi mai busnes anorffenedig y daith ddatganoli hon yw sut yr ydym ni'n mynd y tu hwnt i'r lle hwn, ac yr ydym ni wir yn datganoli grym, mwy, i'r rhanbarthau a'r ardaloedd a'r cymunedau yng Nghymru? Mae'n broses yr ydym ni wedi ei chychwyn, ond a yw'n cytuno â mi y gallem ni fynd llawer ymhellach mewn gwirionedd?

Llywydd, rwy'n ymostwng i brofiad Huw Irranca-Davies o ran cyrff rhanbarthol, yn dilyn y gwaith a wnaeth ac a arweiniodd ar ddatblygu economaidd rhanbarthol ar ôl Brexit. Wrth gwrs, wrth iddo wneud y gwaith hwnnw, roedd y pwerau a oedd yma yn y Senedd hon i lunio datblygiad economaidd rhanbarthol a'r arian a oedd yn mynd gydag ef ill dau yn cael eu cymryd oddi ar Gymru. Mae arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn brysur yn gweiddi arnaf i o'i sedd am onestrwydd. Rwy'n cofio iddo addo i bobl yng Nghymru na fydden nhw un geiniog yn waeth eu byd o ganlyniad i Brexit. Ble'r oedd y gwir yn hynny, Llywydd, tybed, oherwydd cymerwyd yr arian a oedd yma yng Nghymru ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol oddi ar Gymru. Ble'r oedd y gonestrwydd yn ei atebion i gwestiynau yn y meysydd hynny? Na, does ganddo ddim ateb i hynny y prynhawn yma, gallwch fod yn gwbl sicr, Llywydd.

Rwy'n cytuno, wrth gwrs, â'r hyn y mae Huw Irranca-Davies wedi ei ddweud, nad yw gwaith datganoli byth yn dod i ben yng Nghaerdydd, ein bod ni hefyd yn y broses o gynnig mwy o allu gwneud penderfyniadau i haenau eraill o lywodraeth yma yng Nghymru, a bob amser yn y broses honno. Rwy'n cael fy nharo gan faint o'r ddeddfwriaeth sy'n dod gerbron y Senedd hon sy'n ymwneud â chryfhau swyddogaeth llywodraeth leol yma yng Nghymru, o fasnachfreinio dan y Bil bysiau, i'r rhan y byddan nhw'n ei chwarae o ran diogelwch tomenni glo. Ac rwy'n falch iawn, Llywydd, o'r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn nhymor y Senedd hon, llawer ohono gyda Phlaid Cymru, o dan y cytundeb cydweithio, i ymdrin ag ail gartrefi yma yng Nghymru—gweithredoedd, wrth gwrs, sydd bellach yn cael eu copïo gan Lywodraeth Geidwadol yn Lloegr. Mae'r gweithredoedd hynny yn dibynnu arnom ni'n cryfhau pwerau llywodraeth leol yng Nghymru, i ymdrin â'r broblem honno. Ac wrth gwrs, edrychaf ymlaen yn fawr iawn, y tu hwnt i'r amser yr wyf i'n Brif Weinidog, at yr ardoll ymwelwyr yn cael ei phasio drwy'r Senedd hon—mesur arall a fydd yn rhoi pwerau newydd yn nwylo ein hawdurdodau lleol, y byddan nhw'n penderfynu arnyn nhw, pa un a ydyn nhw eisiau eu defnyddio, a sut maen nhw'n mynd ati i wneud hynny.

Felly, rwy'n credu bod gan y Llywodraeth hon record gref eisoes. Bydd yn parhau i gryfhau'r record honno, i wneud yn siŵr ein bod ni'n datganoli grym y tu hwnt i'r Senedd hon, a'i roi yn nwylo rhannau eraill o'n ffabrig democrataidd, lle mae'n well gwneud y penderfyniadau hynny yn agosach at le mae pobl yn byw.

Prif Weinidog, rwyf i eisiau gweld democratiaeth Cymru yn datblygu, a'r Senedd hon yn gweithredu yn y ffordd orau y gall i gynrychioli pobl Cymru. Prif Weinidog, rydych chi'n credu y bydd cynyddu'r Aelodau yn y lle hwn yn cynyddu craffu; gyda pharch, rwy'n anghytuno â chi. Ers bod yn Aelod o'r Senedd hon, rwyf i wedi cael y pleser o eistedd ar ddau bwyllgor—y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a hefyd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Pan wyf i wedi eistedd ar y pwyllgorau hynny, rydym ni wedi cyflwyno rhai argymhellion da iawn yn seiliedig ar dystiolaeth i'r Llywodraeth ynghylch deddfwriaeth, ac ar ffyrdd y gallai'r Llywodraeth wella ei pholisi. Fodd bynnag, dro ar ôl tro, maen nhw naill ai'n cael eu derbyn mewn egwyddor neu'n cael eu gwrthod, sydd mewn gwirionedd yn ddigalon i lawer o Aelodau ar y pwyllgorau hynny sy'n cyflwyno gwaith craffu da i'r Llywodraeth. Rydym ni hefyd wedi gweld Llywodraeth Cymru yn defnyddio San Steffan yn fwy a mwy i ddeddfu mewn meysydd datganoledig pan allai'r Senedd hon graffu a gwneud y ddeddfwriaeth honno mewn gwirionedd. Felly, Prif Weinidog, sut allwch chi fy sicrhau i a phobl eraill allan yna bod cynyddu nifer yr Aelodau wir yn mynd i gynyddu craffu, pan nad yw'n ymddangos bod y Llywodraeth yma ar hyn o bryd eisiau derbyn y craffu sy'n cael ei gyflwyno gan y Senedd a hefyd yn defnyddio Seneddau eraill i ddeddfu pan y gallem ni ei wneud yma? Siawns bod hynny'n gwanhau'r ddadl yr ydych chi'n ei chyflwyno heddiw.

13:40

Wel, Llywydd, o bell ffordd, mae'r rhan helaeth iawn o'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn San Steffan mewn meysydd datganoledig wedi bod yn ddeddfwriaeth a basiwyd yn nannedd gwrthod cydsyniad gan y Senedd hon. Mae nifer yr enghreifftiau o le'r ydym ni wedi defnyddio deddfwriaeth San Steffan at ddibenion Cymru yn fach iawn ac mae wedi bod yn rhan o hanes cyfan datganoli. Mae wedi'i ymgorffori yn y setliad datganoli, os oes Bil yn San Steffan lle mae er budd Cymru ein bod ni'n caniatáu i'r ddeddfwriaeth honno ddigwydd—. Yn achos diwygio lesddaliadau, er enghraifft, ni fyddai'n gwneud synnwyr o gwbl i ni ddeddfu ar ein pennau ein hunain yng Nghymru ar fater sydd mor gysylltiedig â materion trawsffiniol. Felly, ceir rhesymau da pam rydym ni'n defnyddio hynny yn achlysurol iawn. Gwir y mater yw: mae San Steffan o dan y Llywodraeth Geidwadol ers 2019, nid cyn hynny, ond ers 2019, wedi deddfu dro ar ôl tro mewn meysydd datganoledig pan fo'r Senedd hon wedi gwrthod caniatâd i wneud hynny.

Rwy'n anghytuno'n llwyr â'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am graffu. Nid yw craffu yn ymwneud â phwyllgorau'r Senedd yn llunio adroddiadau ac yna bod yn rhaid i'r Llywodraeth eu derbyn nhw yn eu cyfanrwydd. Mae pwyllgorau yn llunio adroddiadau. Mae gan y Llywodraeth hon record dda iawn, iawn o dderbyn y rhan fwyaf o argymhellion, ond bydd adegau pan fydd gan y Llywodraeth wahanol safbwynt. Dyna'n union sut y mae'n rhaid i'r system weithio. Byddai unrhyw beth arall yn negyddiad syml o'r system seneddol sydd gennym ni yma yng Nghymru. Roeddwn i'n falch o glywed yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei frawddeg gyntaf. Rwy'n rhannu ei deimladau yn hynny o beth yn llwyr. Rwy'n credu y bydd Senedd ddiwygiedig â mwy o gapasiti yn gwella craffu ac y bydd y craffu gwell hwnnw—nid yn unig yn arwain at well polisïau, ond bydd yn golygu bod arian, sy'n cael ei wario yng Nghymru, yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Prif Weinidog, mae'r ddau ymgeisydd i'ch olynu chi fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru wedi mynegi eu cefnogaeth yn y gorffennol i'r egwyddor o gyfranogiad gorfodol mewn etholiadau fel dyletswydd ddinesig gyffredinol. Pe bai cynnig yn cael ei wneud i gynnwys hynny ym maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiadau'r Senedd ar gyfer 2026, a yw hynny'n rhywbeth y byddech chi'n ei gefnogi o'r meinciau cefn ac fel aelod cyffredin o'r Blaid Lafur?

Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am fy nhemtio i lawr y llwybr hwnnw [Chwerthin.] Edrychwch, rwyf i wedi dweud ar y cofnod sawl gwaith, dros 40 mlynedd—. Rwy'n credu mewn pleidleisio gorfodol. Mae'n ymddangos i mi, yn ddyletswydd ddinesig sylfaenol. Dylai unrhyw un ohonom ni mewn democratiaeth fod yn barod i gymryd rhan yn y ffurf fwyaf sylfaenol o'r ddemocratiaeth honno. Nid oes yn rhaid i chi bleidleisio dros unrhyw un. Gallwch droi i fyny ac ysgrifennu 'Dim un o'r uchod', gallwch wneud beth bynnag yr hoffwch chi, ond rwyf i wedi credu erioed ei bod yn ddyletswydd syml, ddemocrataidd y dylai pob un ohonom ni ei chyflawni i fod yn rhan o'r ddemocratiaeth yr ydym ni'n ei gwerthfawrogi gymaint yma yng Nghymru. I unrhyw beth gael ei gynnwys mewn maniffesto Llafur—ceir proses faith o'r syniadau hynny yn deillio o'r blaid ei hun, yn cael eu profi mewn gwahanol rannau o'r broses. Pa un a fyddai syniad o'r math hwnnw yn goroesi craffu mewnol y Blaid Lafur, wn i ddim. Ond rwy'n siŵr o hyn: er fy mod i fy hun wedi credu erioed mewn cymryd rhan yn y math hwnnw o ddemocratiaeth, ni allai unrhyw blaid ei gyflwyno ar lawr y Senedd yma heb iddo fod mewn maniffesto ac i'r maniffesto hwnnw gael ei gymeradwyo gan bobl Cymru mewn etholiad Senedd. 

Darpariaeth Gofal Plant

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal plant yng Nghwm Cynon? OQ60802

Diolch i Vikki Howells, Llywydd. Mae ehangu darpariaeth gofal plant wedi bod yn gyflawniad allweddol yn ystod tair blynedd gyntaf tymor y Senedd hon, wedi'i gyflymu drwy'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Gyda chymorth ymroddedig cyngor RhCT, mae cannoedd o deuluoedd newydd bellach yn elwa o ofal plant o ansawdd yn etholaeth yr Aelod.

13:45

Prif Weinidog, mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru wedi bod ar gael ledled Cymru ers 2019 i rieni cymwys plant tair a phedair oed, ac ers hynny mae wedi'i ymestyn i'r rhai mewn hyfforddiant ac addysg, gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau. Gwnaeth y gwerthusiad diweddaraf ddarganfod bod 75 y cant o'r sawl sy'n cael y cynnig yn dweud ei fod yn ei wneud hi'n haws iddyn nhw ymgymryd â gwaith, a nawr mae gofal plant Dechrau'n Deg yn cefnogi mwy o blant dwy oed ledled Cymru. Ond, yr wythnos diwethaf, cyhuddodd Prif Weinidog y DU Lywodraeth Cymru o bocedu cyllid canlyniadol prin o'u cyhoeddiad gofal plant, yn hytrach na chyllido'r ddarpariaeth gofal plant yma yng Nghymru. Felly, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi nad yw Prif Weinidog y DU hwn yn deall datganoli ac na all Llywodraeth y DU gorchymyn sut y mae Cymru'n gwario ei chyllideb?

Wel, Llywydd, roedd Prif Weinidog y DU yn gwneud ei orau, fel y mae ef yn aml yn ei wneud, i dynnu sylw oddi wrth fethiant ei Lywodraeth ei hun. Byddwch chi'n cofio'r ffanffer wrth iddo gyhoeddi y byddai gofal plant ar gael i blant iau yn Lloegr, dim ond i ddarganfod, wrth gwrs, na all e gyflawni'r addewid hwnnw chwaith, ochr yn ochr â rhestr hir o addewidion eraill nad yw e wedi gallu'u cadw. Oherwydd yr hyn y gwnaeth ei ddarganfod oedd bod y dull 'darparu ychydig iawn o gyllid i nifer fawr o bobl' yn Lloegr yn gwingo yn wyneb yr heriau y mae'r sector ei hun yn eu hwynebu.

Yma yng Nghymru, rydyn ni'n darparu rhyddhad ardrethi i'r sector gofal plant; nid ydych chi'n cael hynny yn Lloegr. Rydyn ni'n darparu £70 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i ganiatáu i'r sector dyfu, i wella'r safleoedd, i greu lleoliadau newydd lle y mae modd gofalu am blant. Rydyn ni'n buddsoddi yn y gweithlu i sicrhau eu bod wedi'u hyfforddi a'u cymhwyso'n briodol. Mae gan ein prif gynnig gofal plant, Llywydd, gyfradd o 60 y cant yn manteisio arno erbyn hyn, un o'r cyfraddau uchaf erioed. Mae 36 y cant o holl safleoedd RhCT yn cael eu hystyried yn rhagorol gan yr arolygiaeth yng Nghymru, o'i gymharu â 26 y cant ledled Cymru gyfan.

Yma yng Nghymru, rydyn ni'n benderfynol o weld gofal plant o safon, gofal plant sy'n canolbwyntio ar anghenion y plentyn, sy'n caniatáu i'r plentyn hwnnw dyfu yn yr amgylchiadau gorau posibl. Y newyddion gwych am fuddsoddiad Dechrau'n Deg a gafodd ei wneud ochr yn ochr â Phlaid Cymru yn y cytundeb cydweithio yw bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dweud wrthyn ni fod plant o'r teuluoedd llai cefnog hynny sy'n cael y buddsoddiad hwnnw'n gynnar mewn bywyd, yn mynd ymlaen i fwynhau'r un cyfleoedd â phlant sy'n byw mewn cartrefi mwy breintiedig.

Cefnogi Pobl â Diabetes

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl â diabetes yn Nwyrain De Cymru? OQ60798

Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, Llywydd. Mae camau gweithredu yng Nghymru yn canolbwyntio ar atal diabetes, helpu'r rhai sydd â diabetes i reoli'r cyflwr hwnnw a gwella mynediad at dechnoleg diabetes fel pympiau a monitorau glwcos yn y gwaed. Byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am weithredu'r camau gweithredu hyn, wrth gwrs.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Prif Weinidog. Rwyf i eisiau tynnu'ch sylw at gwmni arloesol yng Nghil-y-coed yn fy rhanbarth i yn y de-ddwyrain sy'n datblygu cynnyrch sydd ar fin trawsnewid bywydau pobl â diabetes. Mae Afon Technology yn datblygu dyfais monitro glwcos yn y gwaed anfewnwthiol gyntaf y byd, a fydd yn dileu poen ac anghysur i ddefnyddwyr. Yn wahanol i ddyfeisiau presennol, bydd Glucowear yn mesur lefelau glwcos yn y gwaed mewn amser real, heb yr angen i fynd drwy'r croen o gwbl, gan ei gwneud hi'n haws rheoli'r cyflwr, gan leihau nifer y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â diabetes, fel trawiad ar y galon, strôc, dallineb, methiant yr arennau ac amdorri breichiau neu goesau.

Cafodd y syniad hwn ei lunio yng Nghymru ac mae'r cwmni eisiau sicrhau bod eu gweithrediad yn aros yng Nghymru, Prif Weinidog. Mae'n hi wir yn stori lwyddiant i Gymru. Felly, hoffwn i wybod, Prif Weinidog, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i Afon Technology wrth i'w cynlluniau cyffrous fynd rhagddyn nhw. Yn ddiau, rydych chi bob amser wedi cefnogi'n frwd unrhyw leoedd, grwpiau a sefydliadau yr wyf i eisoes wedi'u hawgrymu, Prif Weinidog; byddwn i'n fwy na pharod i drafod hyn gyda chi yn nes ymlaen, a gwn i fod eich amser yn y swydd yn dod i ben, ond, os oes gennych chi amser, byddwn i'n eich annog chi'n gryf i ymweld â thîm Afon Technology. Diolch.

Diolch i Natasha Asghar am y cwestiwn atodol hwnnw, Llywydd. Darllenais i'r erthygl yr oedd hi wedi'i phostio ar ei gwefan, sy'n rhoi mwy o fanylion yn ychwanegol at y manylion y mae hi wedi'u rhoi i'r Siambr y prynhawn yma. Mae Afon Technology ar flaen y gad o ran gwaith yn y maes hwn ac mae eu dyfais ddiweddaraf ar y cam treialu. Rydyn ni wir yn croesawu'u gwaith. Ar hyn o bryd, Llywydd, fel y bydd Aelodau'n deall, mae'r GIG yn canolbwyntio ar weithredu'r technolegau aeddfed hynny sydd eisoes â chymeradwyaeth reoleiddiol. Mae syniad Afon Technology ar y llwybr hwnnw. Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn hapus i'w cynorthwyo wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo ac edrychwn ymlaen at y diwrnod, os yw'r dechnoleg yn gallu profi ei hun, pryd y bydd hefyd yn cael ei chymeradwyo gan reoleiddwyr ac yna bydd ar gael i gleifion yma yng Nghymru ac ymhell y tu hwnt.

13:50
Darpariaeth Gwasanaethau Iechyd

6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ60781

Llywydd, fis diwethaf, rhoddodd Llywodraeth Cymru £1.6 miliwn i gefnogi cynlluniau ar gyfer canolfan iechyd a lles Abergwaun, y camau diweddaraf i wella gwasanaethau iechyd yn etholaeth yr Aelod. Bydd y ganolfan yn dod â sefydliadau at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau yn y gymuned, lle, wrth gwrs, y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu gofal iechyd.

Prif Weinidog, un ffordd o wella darpariaeth gwasanaethau iechyd yw sicrhau bod amseroedd ymateb ambiwlansys yn gwella. Nawr, ar ddechrau'r flwyddyn hon, cysylltodd etholwr â mi a ddywedodd wrthyf i fod ei merch-yng-nghyfraith wedi aros dros awr a hanner am ambiwlans ar ôl cael trawiad ar y galon ar Noswyl Nadolig. Yn anffodus, bu farw yn 40 oed, gan adael dau o blant bach, ac mae'r teulu'n gwbl bendant, pe bai'r ambiwlans wedi cyrraedd mewn da bryd, yna byddai hi wedi goroesi. Rwy'n siŵr felly y byddwch chi'n cytuno â mi fod hynny'n hollol warthus, ac mae fy nghalon i'n mynd at y teulu.

Nawr, ysgrifennais at y Gweinidog iechyd ar ran y teulu ym mis Ionawr, ac rwy'n dal i aros am ymateb. Felly, byddwn i'n ddiolchgar os gallech chi ddweud wrthyn ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau brys fel amseroedd ymateb ambiwlansys yn sir Benfro. Ac, yn bwysicach byth, pa wersi sy'n cael eu dysgu o ddigwyddiadau fel hyn fel nad ydyn nhw'n cael eu hailadrodd yn y dyfodol?

Wel, Llywydd, yn gyntaf oll i gytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies am y gofid y bydd y teulu'n ei wynebu, ac, wrth gwrs, mae angen ymchwilio i'r amgylchiadau y mae'n eu hadrodd ac mae angen rhoi atebion i'r teulu. Nid wyf fi i fy hun yn ymwybodol o'r amgylchiadau hynny ac nid wyf i'n credu y gallwn i ddweud unrhyw beth yn fwy uniongyrchol am yr achos penodol y prynhawn yma.

Yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud y pethau yr ydyn ni wedi'u gwneud yn ddiweddar: buddsoddi yn y gwasanaeth ambiwlansys. Mae mwy o bobl yn gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans nag erioed o'r blaen. Rydyn ni'n buddsoddi yn yr offer sydd gan y gwasanaeth, ac rydyn ni'n buddsoddi yn y gwasanaethau ychwanegol hynny sy'n ceisio sicrhau bod ambiwlansys ond yn cael eu defnyddio yn yr amgylchiadau hynny pan mai ambiwlans ei hun yw'r ateb cywir. Felly, bydd e'n gwybod, bod rhywbeth fel 17 y cant o alwadau 999, rwy'n credu, yn cael eu datrys yn llwyddiannus gan glinigwyr dros y ffôn, erbyn hyn, fel nad oes angen i ambiwlansys fynd i alwadau lle nad ambiwlans yw'r ateb cywir. Ac rwy'n credu y bydd y cyfuniad hwnnw o fuddsoddi mewn pobl, mewn offer ac mewn gwasanaethau, yn sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlansys yn parhau ar y broses o wella, ac mae proses o wella y mae angen ei chyflawni. 

Gwaddol Amgylcheddol Cloddio am Lo

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waddol amgylcheddol cloddio am lo yn Nwyrain De Cymru? OQ60766

Diolch yn fawr Delyth Jewell. Llywydd, mae 2,566 o domenni glo nas defnyddir yng Nghymru, a hynny tua 40 y cant o'r holl domenni glo ym Mhrydain Fawr; mae 656 o'r rheiny wedi'u lleoli yn Nwyrain De Cymru. Mae gan ein rhaglen diogelwch tomenni glo, gan gynnwys trefn arolygu a chynnal a chadw a Bil tomenni glo nas defnyddir newydd, ddiogelwch cymunedol wrth ei gwraidd.

Talodd ein Cymoedd bris ofnadwy am y glo a gafodd ei rwygo o'r ddaear o dan ein traed—cyfoeth a gafodd ei gludo o'n cymunedau, gan ein gadael ni â llwch a wnaeth dagu ysgyfaint glowyr a huddygl a baw a adawyd yn llanast ar ein mynyddoedd. Mae'r tomenni glo, y sbwriel sy'n dal i dywyllu ein gorwelion—mae'r tomenni hynny'n atgof parhaol o ddirmyg San Steffan tuag at Gymru, oherwydd, er eu bod yn cynamseru datganoli, mae Llywodraeth y DU yn gwrthod talu tuag at eu clirio, tuag at eu gwneud yn ddiogel, gan atal Aberfan arall rhag digwydd. Prif Weinidog, byddwch chi'n gadael y swydd hon cyn bo hir; a ydych chi'n cytuno bod y tomenni hyn yn etifeddiaeth mwy na chloddio, ond esgeulustod San Steffan y mae'n rhaid ei herio? Mae'r tomenni hynny'n adrodd stori. Maen nhw'n adrodd hanes cenedlaethau o ddifaterwch a dirmyg creulon. A wnewch chi addo yn ystod eich wythnosau olaf yn y rôl hon i wneud popeth o fewn eich gallu i fynnu gan Lywodraeth y DU na ddylai'r gost hon hefyd fod yn un y dylai ein cymunedau ei hysgwyddo ar eu pen eu hunain?

13:55

Wel, Llywydd, mae Delyth Jewell yn llygad ei lle am y stori y mae'r tomenni glo hynny yn ei hadrodd am adnoddau naturiol Cymru'n cael eu hecsbloetio, nid er budd y cymunedau hynny, fel y gwyddom ni, ond er budd pobl ymhell o ble roedd yr adnoddau hynny i'w cael.

Nawr, mewn cyfnod o newid hinsawdd, nid yw'r tomenni sydd ar ôl yn ddiogel ar gyfer y dyfodol mwyach. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi £44 miliwn ein hunain yng nghydnerthedd tomenni glo ledled Cymru. Rydyn ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU am gyfraniad at hynny. Nid ydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ariannu'r cyfan. Yn wir, rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw am £20 miliwn i gyd-fynd â'r £44 miliwn y bydd y Senedd hon yn ei ddarparu, ac mae'r ateb yn dychwelyd na fyddan nhw'n gwneud hynny. Ac yn yr ateb hwnnw, rwy'n credu, Llywydd, eu bod yn torri'n sylfaenol y datganiad polisi ariannu sy'n dweud y dylai rhwymedigaethau a gododd cyn datganoli gael eu bodloni gan Lywodraeth y DU. Roedd y tomenni glo hynny yno ymhell cyn i'r Senedd hon gael ei chreu, ac mae eu cadw mewn cyflwr da yn rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU gymryd diddordeb uniongyrchol ynddo, nid fel y prif ddarparwr, ond fel darparwr ochr yn ochr â'r Senedd. Ac rwy'n credu bod gwrthod gwneud hynny'n dweud rhywbeth mwy na'r mater ei hun. Mae'n dweud rhywbeth wrthych chi am y diystyrwch llwyr sydd gan Lywodraeth bresennol y DU am ei chyfrifoldebau ei hun ac am gyflawni ei chyfrifoldebau i ddangos bod ganddi ddiddordeb ym mhob rhan o undeb y Deyrnas Unedig hwnnw.

Argyfyngau Sifil

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynllunio ar gyfer argyfyngau sifil posibl yng Nghymru yn deillio o ymosodiad seiber yn erbyn y DU gan bŵer tramor? OQ60791

Llywydd, mae cynllun gweithredu seiber Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella seibergadernid a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus fel eu bod yn gallu paratoi ar gyfer ymosodiadau seiber ac aflonyddwch, ymateb iddyn nhw ac adfer ohonyn nhw.

Diolch, Prif Weinidog. Pe bai pandemig COVID-19 wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae hynny i baratoi ar gyfer yr annisgwyl, ac rwy'n credu pe byddem ni wedi gofyn y cwestiynau hynny cyn pandemig COVID, pandemig byd-eang, rwy'n credu y gallai rhywfaint o baratoi gwell, rhywfaint o baratoi byd-eang, fod wedi bod ar waith cyn hynny.

Felly, mae cudd-wybodaeth yn awgrymu nad yw ymosodiadau gan hacwyr o Rwsia - neu o bosibl o China, erioed wedi bod yn uwch nag y maen nhw nawr, ac mae hyn yn peri risg sylweddol, pe bai hynny yn y DU, ar gyfer seilwaith Llywodraeth Cymru; gallai fod y GIG, gallai fod yn Fanc Datblygu Cymru, gallai fod yn unrhyw seilwaith sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru. Felly, a fyddai'r Prif Weinidog yn fodlon cyflwyno amlinelliad i ni o'r paratoadau a'r trafodaethau hynny sydd wedi'u cynnal ac a fydd yn cael eu cynnal er mwyn paratoi ar gyfer digwyddiad o'r fath yr ydyn ni'n gobeithio na fydd yn digwydd?

Wel, Llywydd, ymosodiad seiber, nid wyf i'n credu bod modd ei alw'n annisgwyl, oherwydd mae graddfa ymosodiadau seiber yr ydyn ni'n eu gweld ar seilwaith cyhoeddus ac mewn cwmnïau preifat yn golygu fy mod i'n credu y dylai unrhyw wasanaeth cyhoeddus fod yn paratoi ar ei gyfer, oherwydd gallai hyn wir eich golygu chi.

Nawr, yn nyfnderoedd profiad COVID, clywodd y Cabinet gan gyngor Copeland yn Lloegr, cyngor dosbarth bach. Gwnaethon ni glywed ganddyn nhw yn 2022. Roedden nhw wedi dioddef ymosodiad seiber sylweddol iawn yn 2017, a phum mlynedd yn ddiweddarach, Llywydd, doedden nhw yn dal ddim wedi adfer ohono. Fe wnaeth chwalu pob prif wasanaeth yr oedd y cyngor yn gallu'i ddarparu, gan gynnwys rhai ar gyfer pobl agored iawn i niwed. Roedd yn gyngor gyda chyllideb o dim ond £9 miliwn ac roedd yn cymryd £2 filiwn i adfer o'r ymosodiad. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi cael digon o rybudd bryd hynny am yr angen i wneud mwy yma yng Nghymru.

Dyna pam, er bod seibergadernid yn fater a gedwir yn ôl, nid ein cyfrifoldeb ni ein hunain, rydyn ni wedi sefydlu uned seibergadernid. Mae'n gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ym Mhencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a gyda Swyddfa'r Cabinet, ac mae ein cynllun gweithredu seiber ar gyfer Cymru yn nodi'r camau y mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu cymryd nawr i ddiogelu'u hunain rhag y risg o ymosodiad seibergadernid. rydyn ni'n ffodus iawn yng Nghymru bod gennym ni, yn y de-ddwyrain, gan gynnwys etholaeth yr Aelod ei hun, y clwstwr seiber mwyaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Felly, mae llawer o gwmnïau, cwmnïau rhyngwladol, yn dod i Gymru i ddysgu sut y gallan nhw wneud eu hunain yn fwy cadarn yn erbyn ymosodiadau o'r fath. Mae gennym ni allu ac arbenigedd cynhenid y gallwn ni eu rhoi ar waith yn y maes hwn, ond mae rhybudd Hefin David o ran difrifoldeb y risgiau hyn y mae cymru'n eu hwynebu, a'r angen i ni weithio ar draws sectorau i ddiogelu'n hunain yn eu herbyn, yn amserol iawn yn wir.

14:00
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r datganiad hwnnw i'w wneud gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol heddiw. Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylai cwestiynau i Gomisiwn y Senedd yfory gael eu gostwng i 15 munud. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Gweinidog, a gaf fi alw am yr wybodaeth ddiweddaraf am reoliadau ailgylchu yn y gweithle Llywodraeth Cymru? Rydyn ni i gyd yn gwybod bod newidiadau ar y gweill ar gyfer busnesau yn ystod y misoedd nesaf, ond mae parciau gwyliau ac atyniadau ymwelwyr wedi cysylltu â mi yn fy etholaeth i fy hun yn mynegi pryderon am effaith y rheoliadau ar eu busnesau. Gwyddom ni y bydd y gofynion yn golygu y byddant yn gorfod gwneud rhyw faint o ddidoli gwastraff ar y safle, a bydd y seilwaith ailgylchu presennol y mae llawer ohonyn nhw wedi buddsoddi ynddo yn mynd yn afraid, gyda seilwaith newydd yn gofyn am lawer o fuddsoddi. Ac fel y gwyddom ni i gyd, gyda'r rhai sy'n ymweld ag atyniadau ymwelwyr a pharciau gwyliau, nid yw pob un ohonyn nhw'n gallu monitro popeth sy'n cael ei roi yn eu biniau gwastraff. Mae hynny'n golygu bod llawer ohonyn nhw ar hyn o bryd yn defnyddio contractwyr i ddidoli eu gwastraff ar eu rhan er mwyn iddyn nhw allu cyflawni cyfraddau ailgylchu uchel. Tybed pa ymgysylltu y mae'r diwydiant wedi'i gael â'r Gweinidog, oherwydd rwy'n credu ei fod wedi bod yn gyfyngedig iawn hyd yn hyn, ac a allai fod cyfle i gael rhai esemptiadau neu drefniadau arall ar gyfer y sefydliadau hynny sy'n gwneud eu gorau i ailgylchu, yn ddiffuant iawn, a'u bod wir yn cyflawni cyfraddau ailgylchu uchel iawn, ond dim ond trwy lwybr gwahanol i'r gofyniad hwn, sy'n ymddangos ei fod yn eu gorlwytho, iddyn nhw wahanu eu holl wastraff ar y safle.

Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn yna, Darren Millar. Yn wir, mae'n bwysig iawn bod ailgylchu mewn gweithleoedd yn symud ymlaen, ac mae ymgysylltu helaeth wedi bod. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwybod o'n hetholaethau ein hunain yr ymgysylltu sydd wedi bod yn digwydd. A dyna gam mawr ymlaen fydd hi. Rydyn ni'n cael ein cydnabod eisoes o ran ailgylchu domestig; ni yw'r drydedd wlad orau yn y byd, ac mae hynny'n rhywbeth y llwyddais i'w rannu yn fy ymweliad diweddar ag Iwerddon yr wythnos diwethaf ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. A dweud y gwir, ar 7 Mawrth—mae hwnnw'n ddyddiad pwysig o ran ymgysylltu—mae cyfarfod yn cael ei gynnal â'r diwydiant.

Weinidog, am fisoedd lawer, dwi wedi bod yn gofyn am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ynglŷn â diogelwch y casgliadau cenedlaethol. Rydym ni wedi clywed amryw o rybuddion gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru ynglŷn â diogelwch y casgliadau, nid o gael eu dwyn—maen nhw'n berffaith saff o ran hynny—ond oherwydd stad yr adeiladau; clywed o ran bwcedi yn gorfod cael eu symud a staff yn gorfod mynd i mewn yng nghanol y nos pan fydd hi'n bwrw glaw yn drwm. Yn amlwg, pobl Cymru biau'r casgliadau hyn, ac mae'n bwysig ein bod ni yn sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod ar gael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Wythnos diwethaf, mi wnaeth y Trefnydd gadarnhau y byddai'n gofyn am ddatganiad ysgrifenedig. Gaf i ofyn os ydy hwnnw ar ei ffordd? Oes yna amserlen ar gyfer hynny, oherwydd yr hirach mae hyn yn mynd yn ei flaen, po fwyaf ydy'r pryderon gan staff?

Diolch yn fawr. Ac yn hanfodol bwysig o ran diogelu ein casgliadau. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig wrth i ni symud i'r ddadl derfynol ar y gyllideb y prynhawn yma, o ran y ffordd ymlaen, yn enwedig o ran ffyrdd y gallwn ni gefnogi hyn, bod diogelwch casgliadau cenedlaethol yn hanfodol bwysig. Ac rydyn ni'n darparu cyllideb gyfalaf gynyddol i Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol, wedi'i chynnal yn 2024-25, ac mewn gwirionedd—a bydd hyn yn cael ei gydnabod, yn amlwg, rwy'n siŵr, y prynhawn yma—yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn—yn y cyfnod hynod heriol hwn, rydyn ni'n parhau i gefnogi cyrff hyd braich i uwchraddio eu hystad ac, yn bwysicaf oll ar gyfer eich cwestiwn chi, ddiogelu'r casgliad cenedlaethol.

14:05

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch yr orsaf y mae mawr ei hangen amdani yng nghymuned Caerllion. Yn ddiweddar, es i i gyfarfod cyntaf TRACS, anagram clyfar iawn y maen nhw wedi'i greu, sy'n sefyll am 'Towards Restoring a Caerleon Station', yn neuadd y dref, lle y cafodd mannau cychwyn yr ymgyrch eu trafod. Roedd hyn yn cynnwys yr angen, o fy awgrym i, am greu adroddiad dichonoldeb cryf ac angerddol iawn. Yn sicr, gallwn i weld y manteision enfawr y byddai gorsaf yn eu cynnig i'r gymuned fel cyswllt trafnidiaeth hanfodol, gan gysylltu cymudwyr â'r gwaith, a chynyddu defnydd y drafnidiaeth gyhoeddus drwy wneud llwybrau cyfagos amryfal yn fwy effeithlon a buddiol. Mae gan y cynllun hwn gefnogaeth drawsbleidiol hefyd, gyda Ruth Jones, Aelod Seneddol, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, yn rhoi ei sêl bendith i'r prosiect hefyd.

Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r angen am yr orsaf hon, oherwydd eich bod chi wedi cynnwys y safle yng nghynlluniau metro de Cymru, yn flaenorol, ac rwy'n siŵr y gallwch chi werthfawrogi bod y gymuned wedi dangos llawer o amynedd wrth aros am yr orsaf hon. Gweinidog, rwy'n deall yn iawn fod cyllidebau'n dynn ar hyn o bryd, ond byddwn i'n ddiolchgar iawn os gallen ni gael ymateb gyda'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog ar ddyfodol yr orsaf, a byddai unrhyw gymorth y gallech chi ei roi i'r grŵp prosiect cymunedol hwn, er mwyn gwireddu'r prosiect hwn wir i'w groesawu. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, bydd Natasha Asghar, a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, rwy'n gwybod, yn ymwybodol o'r ymgyrch hon, TRACS, ar gyfer yr orsaf hon yng Nghaerllion, a'r ffaith ei bod eisoes wedi'i chydnabod o ran cynllun metro de Cymru. Felly, yn wir, cyfnod economaidd heriol, ond rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei nodi heddiw o ran cynnydd.

Rwy'n galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, gan y Gweinidogion perthnasol, yn y Siambr hon. Y cyntaf, yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynigion ar gyfer gwell cysylltiadau ar draws y Fenai. Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2023, 'Gwella Gwytnwch Cysylltiadau ar draws Afon Menai', ac ystyriaeth weithredol Cyngor Sir Ynys Môn o hyn yr wythnos diwethaf, daeth y cynghorwyr i'r casgliad nad yw canfyddiadau'r comisiwn yn ddigonol i ddatrys y diffyg gwytnwch y tybir ei fod yn bodoli o ran pontydd presennol Afon Menai. Maen nhw felly'n cynnig bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod ei gasgliadau a'i argymhellion ac yn mabwysiadu safbwynt polisi bod trydedd pont Afon Menai yn hanfodol i ddiogelu dyfodol cymdeithasol ac economaidd tymor canolig a thymor hir Ynys Môn a'r tir mawr, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rwyf i hefyd yn galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei pholisïau twristiaeth. Mae twristiaeth yn dod â'r hyn sy'n cyfateb i un rhan o saith o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru, i lawr o un chweched cyn y pandemig, ac mae'n gyfrifol am 5 y cant o'n gwerth ychwanegol gros. Mae'n cefnogi rhwng 180,000 a 206,000 o swyddi ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw'n hawdd dod o hyd i swyddi eraill. Mae'r diwydiant wedi bod yn ymdrin â thoreth o newidiadau polisi Llywodraeth Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae miloedd o fusnesau bach, sy'n allweddol i'w heconomïau lleol, yn cael eu llethu gan nifer y rheoliadau a'r costau newydd, ac mae cynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth wedi pwysleisio pwysigrwydd deall bod twristiaeth yn ecosystem yn ogystal â diwydiant, ac os ydych chi'n targedu un sector, mae'r effeithiau'n cynyddu y tu hwnt i'r canolbwynt uniongyrchol ac yn effeithio ar fusnesau eraill. Maen nhw'n galw felly ar Lywodraeth Cymru am adolygiad o effeithiau cronnol polisïau sy'n effeithio ar dwristiaeth ar hyn o bryd, gan gynnwys rhyddhad ardrethi busnes, y rheol 182 diwrnod, premiymau treth gyngor, a pholisïau arfaethedig fel trwyddedu statudol, treth twristiaeth, a newidiadau i'r flwyddyn ysgol.

Rwy'n galw am ddau ddatganiad llafar Llywodraeth Cymru yn unol â hynny.

Diolch i chi, Mark Isherwood, a'ch cwestiwn am bontydd Afon Menai, wrth gwrs, rydyn ni wedi ymrwymo i wella gwytnwch pontydd Afon Menai ac yn cytuno â'r farn bod mynediad i'r tir mawr ac oddi yno yn ymwneud â mwy na thrafnidiaeth. Rydyn ni'n deall bod y comisiwn wedi cael trafodaethau gyda gwasanaethau brys y gogledd am effaith tarfu ar bontydd a phontydd yn cau ar eu gallu i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn effeithiol. Ac, wrth gwrs, mae materion sy'n codi o ddamweiniau a digwyddiadau tywydd a sut i liniaru effaith yn faterion allweddol i'r comisiwn wrth wneud ei argymhellion, ac, wrth gwrs, wrth iddyn nhw symud ymlaen, i nodi cyfres o welliannau y byddai modd eu gwneud a'u monitro cyn ystyried trydedd pont. Felly, maen nhw'n caffael, yn fuan, gwaith dichonoldeb manwl ar nifer o'r argymhellion hyn, o ran pontydd Afon Menai.

Mae eich ail bwynt yn bwysig, ac rwy'n credu y gallwn ni fod yn falch o'r Dirprwy Weinidog, yn sicr, o ran bwrw ymlaen â hyn gyda'n gweledigaeth wych ar gyfer twristiaeth, a darparu twristiaeth yng Nghymru, sy'n glir am y cyfleoedd a'r rhagolygon, ond hefyd mae'r ffigurau'n siarad drostyn nhw eu hunain o ran atyniad Cymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel y mae'r Prif Weinidog newydd ei grybwyll, bwysigrwydd yr ardoll ymwelwyr, a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud gwahaniaeth manteisiol o ran twristiaeth yng Nghymru.

14:10

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am adael i mi eistedd i lawr; doeddwn i ddim wir eisiau cwympo.

Gweinidog, hoffwn roi fy nghefnogaeth i Darren Millar wrth iddo ofyn am ddatganiad ar y rheolau ailgylchu gwastraff newydd. Rwyf wedi cael fy llethu gan etholwyr sy'n berchen ar fusnesau, bach a mawr, yn eu dagrau oherwydd y rheolau newydd hyn, a hefyd cynghorau tref a chymuned yn dweud eu bod yn mynd i droi eu trefi yn drefi biniau, gyda 25 bin ar gyfer pob pump sydd ar y stryd ar hyn o bryd. Mae'n mynd i greu sbwriel yn ein trefi; mae'n mynd i greu trafferth i fusnesau gyda'r gost ychwanegol o gael y biniau hyn, felly pe gallem gael datganiad brys gan Lywodraeth Cymru, rwy'n credu y byddai'n mynd rhywfaint o'r ffordd i leddfu rhai o'r ofnau sydd gan y diwydiant, a hefyd sut mae Llywodraeth Cymru am wrthddadlau rhai o'r dadleuon hyn yn y fan yma a'r hyn y maen nhw'n mynd i'w roi ar waith i sicrhau nad yw ein trefi yn mynd i droi'n hafanau biniau. Diolch.

Wel, fel y dywedais i yn gynharach mewn ymateb i'r cwestiwn gan Darren Millar, mae ymgysylltu helaeth wedi bod yn digwydd, ond hefyd bydd cyfarfod ar 7 Mawrth y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei gynnal gyda'r diwydiant.FootnoteLink Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth lle bydd hyn, unwaith eto, yn newid mawr i symud Cymru yn ei blaen, oni fydd, o ran ein hymrwymiad i'n hamgylchedd, a'r hanes sydd gennym ni, yr hanes blaenorol—. Ac rwy'n credu ei fod yn mynd yn ôl i'r pwynt a wnaeth y Prif Weinidog am awdurdodau lleol a llywodraeth leol a'r ffordd y maen nhw'n cydweithio â busnesau yn eu cymunedau i sicrhau bod ailgylchu yn y gweithle yn cael ei groesawu a'i weithredu, ac yn deall y trawsnewid y bydd hynny'n ei olygu, a bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â hynny gyda'r diwydiant yr wythnos hon.

3. Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2024-25

Eitem 3 heddiw yw'r ddadl ar gyfraddau treth incwm Cymru 2024-25. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8501 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2024-25 fel a ganlyn:

a) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;

b) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac

c) y gyfradd Gymreig ar gyfer cyfrifo cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch am y cyfle i agor y ddadl hon ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2024-25. Cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru ym mis Ebrill 2019, ac maent yn berthnasol i'r elfen o incwm nad yw'n gynilion nac yn ddifidend a enillwyd gan drigolion Cymru. Amcangyfrifir y bydd cyfraddau treth incwm Cymru yn codi dros £3 biliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus drwy gyllideb Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y cyfraddau arfaethedig ar gyfer Cymru am y flwyddyn ariannol nesaf yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr. Bydd y penderfyniad ar y gyfradd hon, os cytunir arni, yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â'u cymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae ein dull o bennu cyfraddau treth incwm wedi'i osod yn gadarn o fewn y cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo fel Llywodraeth sy'n gyfrifol yn ariannol. Rydym yn wynebu pwysau parhaus a sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus oherwydd lefelau chwyddiant uchel yn gyson, ac mae pobl yng Nghymru yn cael eu herio bob dydd gan gostau byw. Mae ein sylfaen treth incwm yn gymharol wan, sy'n golygu y byddai unrhyw newid sylweddol i'n hadnoddau trwy godiadau treth incwm yn gofyn am gynnydd i'r gyfradd sylfaenol, hyn i gyd tra bod pobl yn parhau i gael trafferth talu eu biliau. Nid wyf yn credu mai nawr yw'r amser iawn i gynyddu'r baich treth cyffredinol yng Nghymru.

Mae'n bwysig cydnabod bod penderfyniad Llywodraeth y DU i rewi trothwyon treth incwm yn golygu bod mwy o'n henillwyr isaf bellach wedi cael eu llusgo i'r system dreth incwm. Byddai cyfraddau cynyddol nawr yn ychwanegu baich treth ychwanegol ar y rhai sydd leiaf abl i'w fforddio, ac ar adeg pan fo lefel gyffredinol y trethiant ar ei lefel uchaf ers blynyddoedd lawer.

Y cyd-destun yr ydym wedi'i wynebu yn ystod y broses gyllidebol hon yw'r anoddaf yr ydym wedi'i wynebu ers datganoli. Hyd yn oed ar ôl y cyllid ychwanegol yr wyf wedi gallu ei ddyrannu yn y gyllideb derfynol, mae effaith chwyddiant a'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod cynyddu gwariant cyhoeddus yn golygu bod ein setliad werth hyd at £1.2 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei osod yn 2021. Roeddem yn wynebu cyfres o ddewisiadau llwm a phoenus oherwydd nad yw ein setliad cyllido yn ddigonol i ymateb i'r holl bwysau y mae gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, unigolion a'r holl sefydliadau hynny sy'n dibynnu ar gyllid Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu. 

Mae ein cynigion cyllideb ar gyfer 2024-25 wedi'u cynllunio i ddiogelu'r gwasanaethau craidd yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt cyn belled ag y bo modd. Mae gennym gyfrifoldeb i ddarparu cyllideb sydd wedi'i chostio'n llawn ac sy'n cydbwyso anghenion gwariant gyda'r pwysau ariannol y mae pobl yng Nghymru eisoes yn eu hwynebu, ac mae cadw cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer pob band ar 10c yn y bunt yn ein galluogi i wneud hynny. Yn seiliedig ar ragolygon diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, disgwylir i osod CTIC ar 10c ar gyfer pob band godi £3.171 biliwn yn 2024-25. Ynghyd â'r cyllid a dderbyniwyd drwy'r grant bloc, mae cyfraniadau treth incwm Cymru yn rhan hanfodol o'r gyllideb, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig heddiw fel y gallwn barhau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn. Mae'r cynnig hefyd yn sicrhau ein bod yn diogelu ein gwasanaethau craidd ac yn cyflawni ein hymrwymiad rhaglen lywodraethu i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm Cymru.

Wrth edrych ymhellach ymlaen, byddwn yn cael ein harwain gan ein hegwyddorion treth sy'n ein hymrwymo i ddylunio trethi clir a sefydlog sy'n cyflawni ein hagenda flaengar. Dylai'r rhai sydd â'r ysgwyddau ehangaf dalu mwy o gyfran. Mae sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n cyfrifoldebau treth datganoledig hefyd yn golygu gweithio'n agos gyda CThEF ar weinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Fel yr amlygwyd yn adroddiad diweddaraf y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, mae'r prosesau a'r trefniadau llywodraethu cadarn gyda CThEF yn sylfaen gref ar gyfer casglu a gweinyddu Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon, wrth symud ymlaen. Edrychaf ymlaen at y ddadl heddiw.

14:15

Fel yr ydym wedi crybwyll droeon o'r blaen, mae anallu'r Senedd i osod ei fandiau treth ei hun, yn wahanol i'r pwerau y mae Llywodraeth yr Alban yn eu mwynhau, yn golygu, mewn termau ymarferol, fod cyfradd treth incwm Cymru wedi'i chyfyngu'n gynhenid fel ysgogiad cyllidol. Er ein bod yn deall y rhesymeg dros beidio ag addasu cyfraddau treth incwm Cymru am y chweched flwyddyn yn olynol, unwaith eto rydym yn cael ein gorfodi i fyfyrio ar yr hyn a allai fod wedi bod pe bai gennym y pwerau i greu fframwaith treth incwm wedi'i deilwra mewn gwirionedd i natur ein sylfaen dreth. Felly, byddwn yn annog y Llywodraeth i ddyblu ei hymdrechion wrth osod y sylfeini i'r Senedd allu defnyddio'r pwerau hyn cyn gynted â phosibl.

Mae'r Alban wedi dangos y ffordd gyda'u dull blaengar o ymdrin â threth incwm; nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni wneud yr un peth. Ac, wrth gwrs, o ystyried y disgwyliad y bydd toriadau treth yn cyd-fynd â'r gyllideb wanwyn yfory yn y DU, ni fu'r angen i feithrin mwy o hyblygrwydd yn ein fframwaith cyllidol ein hunain erioed yn fwy. Os yw'r trothwy lwfans personol yn parhau i gael ei rewi, yn ôl y disgwyl, mae Sefydliad Resolution wedi amcangyfrif y bydd y toriadau arfaethedig i'r gyfradd sylfaenol yn arwain at drosglwyddo cyfoeth i bob pwrpas oddi wrth unrhyw un sy'n ennill llai na £38,000 y flwyddyn. Fel sy'n safonol ar gyfer y mwyafrif o bolisïau'r Torïaid, byddai hyn yn ymwreiddio anghydraddoldebau incwm sydd eisoes yn hollol amlwg. Mae nifer o economegwyr blaenllaw hefyd wedi rhybuddio y bydd ariannu'r toriadau treth hyn yn anochel yn arwain at achos arall eto o gyni yn economi drafferthus y DU. Fel y gwelsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gall hyn gael effaith ddinistriol ar gyllid cyhoeddus. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar effaith bosibl cyllideb y gwanwyn ar grant bloc Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Diolch yn fawr.

Rwy'n cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â newid y gyfradd dreth incwm o 10c, gan ein cadw yn unol â Lloegr. Mae'r swm o arian y gall pobl ei ennill yng Nghymru cyn iddynt ddechrau talu treth yr un fath ag y mae yng ngweddill y DU. Mae tri band treth: y sylfaenol ar 20 y cant, yr uchaf ar 40 y cant, a'r llall ar 45 y cant. Ynghyd â lwfansau personol, mae'r rhain yn cael eu gosod gan Lywodraeth y DU. Does dim pŵer i newid y bandiau yma, fel y cododd Peredur ac rwy'n gobeithio sôn mwy mewn ychydig eiliadau. Oherwydd bod cyfyngiadau'r band wedi'u rhewi, mae mwy o bobl yn symud i fandiau uwch ac i drethiant wrth i gyflogau gynyddu. Byddai hon yn ddadl wahanol pe bai gennym y pŵer i osod y bandiau—dadl hollol wahanol—a, gobeithio, byddai'r Gweinidog yn cyflwyno cynigion cwbl wahanol. Felly, yr opsiynau yw naill ai cynyddu'r gyfradd ym mhob band, gostwng y gyfradd neu ei chadw'r un peth. Byddai cynyddu'r gyfradd sylfaenol 1c yn dod â rhwng £250 miliwn a £300 miliwn i mewn, sy'n gyfwerth â gorwariant un bwrdd iechyd. Byddai hefyd yn amhoblogaidd iawn gyda'r bobl yn pendroni pam y maen nhw'n talu mwy nag yn Lloegr. Byddai ei ostwng 1c yn lleihau incwm Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gwybod bod cyllidebau wedi'u hymestyn yn barod. Er bod cynyddu'r gyfradd ychwanegol yn arwynebol o 45 y cant i 50 y cant yn ymddangos yn ddeniadol, neu hyd yn oed yn ddeniadol iawn, dim ond 500 o'r trethdalwyr hyn sydd yng Nghymru. Trethdalwyr cyfradd ychwanegol yw'r bobl fwyaf abl i symud i incwm difidend a chofrestru eiddo yn Lloegr fel eu prif gartref. Os yw 11 y cant ohonynt yn gwneud y naill neu'r llall, yna caiff y cynnydd ei ddileu. Dyna 55 o bobl yn gwneud y penderfyniad hwnnw. Dyna pam nad oedd yr Alban, na Llafur na'r SNP, wedi defnyddio eu pŵer i newid cyfraddau hyd at 5 y cant. Beth fyddwn i'n hoffi ei weld yn digwydd? Llywodraeth Cymru yn rheoli bandiau treth, ac incwm difidend wedi'i ddatganoli ac yna'n cael ei drin yr un fath ag incwm arall at ddibenion treth. Dyma'r ffordd orau o osgoi trethi sy'n bodoli. Mae'r Trysorlys a Llywodraeth Cymru yn colli biliynau o bunnoedd gan fod pobl sy'n cael eu talu mewn difidendau yn hytrach na chael eu talu, fel y dylen nhw fod, gydag incwm. Oherwydd bod trethiant difidend yn llawer is, gallwch arbed llawer o arian. Ond, heb y newidiadau hynny, rwy'n cefnogi cadw'r gyfradd yr un fath â Lloegr. Dyma beth fydd yn rhaid i ni ei wneud bob blwyddyn nes bod gennym un neu'r ddau newid hynny.

14:20

Rwy'n ddiolchgar i'r ddau gyd-Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Wrth i ni symud ymhellach i'r tymor Seneddol, yn amlwg, fe fyddwn ni'n parhau i adolygu swyddogaeth hanfodol CTIC fel treth a ddatganolir yn rhannol i Gymru, er hynny, chwedl Mike Hedges, nid ydym wedi ymwahanu oddi wrth y gyfradd y pennir treth dros y ffin. Eto i gyd, mae hwnnw'n ddewis bwriadol a wnawn bob blwyddyn. Ac mae angen i unrhyw newidiadau a wnawn ni i drethi datganoledig gael eu harchwilio a'u hystyried yn ofalus yng nghyd-destun ein gofynion cyffredinol ynglŷn â'r gyllideb.

Mae'r ffordd y caiff treth incwm ei datganoli i Gymru yn lleihau'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r dosbarthiad incwm gwahanol yng Nghymru, o gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae'r ffaith mai dim ond 10c ym mhob band a ddatganolir i Gymru yn golygu na all unrhyw newidiadau i'r cyfraddau treth a wneir gan Lywodraeth y DU greu gwahaniaeth rhwng cyfraddau treth sy'n wynebu trethdalwyr yng Nghymru a'r rhai dros y ffin yn Lloegr, ac nid felly y mae hi yn yr Alban. Mae hi'n werth dwyn i gof, dros y blynyddoedd y bu alldro ar gael, bod CTIC wedi ychwanegu mwy fesul unigolyn at gyllideb Llywodraeth Cymru mewn telerau net nag yr ychwanegodd treth incwm yr Alban at gyllideb Llywodraeth yr Alban dros yr un cyfnod. Fe wn i fod Llywodraeth yr Alban wedi gwneud rhai dewisiadau gwahanol eleni am fod ganddyn nhw fwy o ddewisiadau ar gael iddyn nhw. Ond, fel nododd Mike Hedges, pe byddem ni'n cynyddu treth ar y pen uchaf un yma yng Nghymru, dim ond £5 miliwn ychwanegol fyddai hynny'n ei olygu, ac rydym ni'n ymwybodol iawn o'r effeithiau ymddygiadol a allai fod hefyd.

Ond mae hi'n werth cofio hefyd fod Comisiwn Cyllid yr Alban wedi amcangyfrif y bydd yr effeithiau ymddygiadol yn achosi gostyngiad o £118 miliwn yn yr incwm posibl oherwydd y newidiadau ynglŷn â threth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban. Felly, mae hynny hyd yn oed yn fwy perthnasol i ni lle mae cyfran fwy o'n poblogaeth ni yma'n byw ar hyd y ffin ac yn gallu gwneud y dewisiadau hynny a ddisgrifiodd Mike Hedges hefyd. Felly, rwyf i o'r farn fod honno'n ddadl bwysig a diddorol y dylem ni fod yn ei chael, ond nid wyf i'n credu i'r achos gael ei wneud ar gyfer hynny hyd yn hyn. 

Ac yna, dim ond i gadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yfory, fel gwyddom ni, yn cyflwyno ei chyllideb wanwyn ac rwy'n bwriadu gwneud datganiad cyn gynted â phosibl wedi hynny ar gyfer rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau yn y Senedd hon am y rhagolygon a manylion unrhyw oblygiadau i Gymru hefyd. A dim ond gair i ddweud nad yw hi'n gyfrinach y bydd y Canghellor yn ystyried toriadau treth ac rydym ninnau, ynghyd â phawb arall, yn aros am ganlyniad yr ystyriaethau hynny. Ond a bod yn eglur, os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu newid cyfraddau treth incwm, ni fyddai unrhyw effaith ar yr addasiad grant bloc, ac fe fyddai unrhyw newidiadau y mae'r Canghellor yn eu gwneud yn berthnasol i drethdalwyr yma yng Nghymru. Ond, fel dywedais i, rydym ni'n aros am ganlyniadau'r penderfyniadau hynny yfory, ac fe fyddaf i'n diweddaru'r Senedd cyn gynted â phosibl ar ôl hynny.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

4. Dadl: Cyllideb Derfynol 2024-25

Eitem 4 heddiw yw dadl ar gyllideb derfynol 2024-25, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans. 

Cynnig NDM8499 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r gyllideb flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Prif Weinidog ar 27 Chwefror 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n falch o agor y ddadl ar ein cyllideb derfynol ar gyfer 2024-25, yr olaf yn ein proses dair blynedd o bennu cyllidebau, y gwnaethom ni ei chychwyn yn ôl yn 2020-21. Fel gwnes i amlinellu wrth gyhoeddi ein cyllideb ddrafft, yn ddiamau, hon yw'r gyllideb fwyaf dyrys a gawsom ni eto. Bu'n rhaid i ni wneud y dewisiadau anoddaf, a bu'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y meysydd y dylid eu diogelu yn unol â'r gwasanaethau hynny sydd fwyaf pwysig yng ngolwg pobl Cymru.

Roeddem ni'n gwybod yn ôl yn 2020-21 y byddai trydedd flwyddyn y cyfnod adolygu gwariant ymhell o fod yn hawdd i'w reoli, gyda setliad cibddall gan Lywodraeth y DU yn dechrau o'r safbwynt y byddai'r dyraniad i Gymru yn lleihau trwy'r amser. Felly, fe wnaeth hynny ein gadael ni â dewisiadau cyfyngedig, ond fe wnaethom ni achub ar y cyfle hwn i sicrhau, yma yng Nghymru, y byddem ni'n gwrando ar yr hyn yr oedd pobl yn ei ddweud eu bod nhw'n ei ddymuno: sef rhagor o gefnogaeth i'r GIG, amddiffyn y gwasanaethau y mae llywodraeth leol yn eu darparu, a lleihau'r niferoedd a fyddai'n colli eu swyddi lle bynnag y byddo hynny'n bosibl. Fe wnaethom ni ddarparu ar gyfer hynny yn y gyllideb ddrafft ac rydym ni'n atgyfnerthu hynny yn y gyllideb derfynol.

Fel arfer, ni wnawn ni lawer o newidiadau rhwng unrhyw gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Fe fyddwn ni'n gwneud newidiadau technegol weithiau neu fe fydd yna newidiadau i adlewyrchu'r materion a gododd yn ystod y craffu. Ond y tro hwn, rydym ni'n newid mwy nag arfer, oherwydd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi rhagor o fanylion i ni o'r diwedd am y cyllid canlyniadol y byddwn ni'n ei dderbyn o ganlyniad i benderfyniadau a wnaeth i gynyddu gwariant mewn meysydd datganoledig yn Lloegr yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Gan gynnwys y dyraniadau cyfalaf trafodion ariannol yr oeddwn i wedi bwriadu eu gwneud yn y gyllideb derfynol, mae hyn yn golygu y gallwn ni wneud bron i £190 miliwn o ddyraniadau ychwanegol yn y gyllideb derfynol. Mae hyn yn golygu y gallaf i ddarparu ar gyfer cronfa wrth gefn fechan iawn yn ystod y flwyddyn hefyd a fydd yn rhoi mwy o gyfle i ymateb i faterion brys wrth iddyn nhw godi flwyddyn nesaf.

Wrth wneud dyraniadau newydd yn y gyllideb derfynol, fe wnaethom ni wrando ar y negeseuon allweddol a ddaeth drwodd yn y broses graffu. Mae'r dyraniadau ychwanegol a roddwn ni'n canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae'r pwysau yn fwyaf difrifol neu pan na fyddai gostyngiadau wedi digwydd yn y gyllideb ddrafft pe byddem ni wedi bod yn ymwybodol o'r symiau canlyniadol arfaethedig. Bydd £14.4 miliwn ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i'w helpu i ymateb i bwysau o ran gofal cymdeithasol ac ysgolion. Rydym ni'n gwrthdroi'r toriadau a fu yn y grant gweithlu gofal cymdeithasol a'r grant plant a chymunedau o £10.5 miliwn a £5 miliwn yn y drefn honno. Rwyf i wedi hysbysu'r Senedd am hyn o'r blaen er mwyn i lywodraeth leol fod â sicrwydd yr oedd ei angen ar gyfer cynllunio. Mae'r cyllid ychwanegol hwn i lywodraeth leol yn golygu na fydd unrhyw gyngor yn gweld cynnydd llai na 2.3 y cant yn ei setliad.

Bydd £10 miliwn ychwanegol ar gael i rymuso rhaglenni prentisiaeth a chyflogadwyedd, gan sicrhau ein bod ni'n barod i gefnogi gweithwyr dur pe byddai Tata yn cau'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot. Rwyf i wedi darparu £5 miliwn o refeniw i gefnogi gweithgareddau i atal digartrefedd, a chyfalaf o £5 miliwn ar gyfer y grant tai cymdeithasol. Ceir £40 miliwn o gyllid cyfalaf newydd i gefnogi'r GIG, ac mae'r gyllideb derfynol yn cadarnhau'r pecyn ariannu gwerth £30 miliwn ar gyfer morglawdd Caergybi, a chronfa newydd gwerth £20 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig i ddiogelu eu busnesau i'r dyfodol.

Rydym ni'n gwneud dyraniadau ychwanegol hefyd o ran blaenoriaethau cyffredin y cytundeb cydweithio, gan gynnwys gwaith o ran diwygio cyfansoddiadol a phrosiectau tai. Fe hoffwn i ddiolch i Siân Gwenllian, Aelod dynodedig y cytundeb cydweithio, am y berthynas adeiladol wrth i ni fynd drwy gylch cyllideb anodd. Wrth gwrs, ni fyddai'r gyllideb hon wedi bod yn bosibl heb gyfranogiad a chydweithrediad cyd-Aelodau yn fy mhlaid i fy hun. Fe hoffwn i ddiolch i Jane Dodds hefyd am ein trafodaethau adeiladol a chydnabod mai yn yr ysbryd hwn o gydweithio yr wyf i'n cyflwyno'r cynlluniau yr ydym ni'n pleidleisio arnyn nhw heddiw.

Gan droi at graffu, fe hoffwn i ddiolch i'r Aelodau i gyd am eu hymgysylltiad adeiladol trwy gyfrwng ein proses graffu. Fel gwnes i ymrwymo, fe ymatebodd fy nghydweithwyr yn y Cabinet a minnau'n ffurfiol i argymhellion pob un o adroddiadau pwyllgorau'r Senedd cyn y bleidlais heddiw. Rydym ni'n falch o allu cytuno â'r mwyafrif helaeth o argymhellion ein pwyllgorau. Fel gwnaethom ni gydnabod, mae'r cyd-destun yr ydym ni'n cyflawni'r gyllideb hon ynddo wedi golygu nad ydym ni wedi gallu ymateb i bob un o'r meysydd a nodwyd. Wrth fyfyrio ar y pwyntiau a gododd wrth graffu, mae llawer o'r materion a nodwyd, fel yn y blynyddoedd a fu, yn cysylltu â'r ffaith ein bod ni wedi gweld newidiadau sylweddol i'n cyllideb yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol. Fe gawsom ni ein gadael gyda llai na phedair wythnos i ymgymryd â'n paratoadau cyllidebol, ac fe effeithiodd hynny hefyd ar amserlen craffu'r Senedd hon. Er ein bod ni'n parhau i fod yn gallu llunio dogfennaeth ein cyllideb yn yr amserlen heriol hon, y gwir amdani yw bod hyn yn ei gwneud hi'n anodd i ni gynllunio yn iawn, gyda chanlyniadau dilynol ar sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Rydym ni'n wynebu cyfyngiadau mawr hefyd ar ein gallu i gario arian drosodd neu ei dynnu o gronfeydd wrth gefn, sy'n amharu ar ein gallu i gynllunio ymlaen ac ymateb i amgylchiadau newidiol. At hynny, mae manylion llawn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU wedi dod yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol. Mae hysbysiad hwyr o'r fath wedi golygu ein bod yn cael ein gorfodi i wneud dewisiadau yn ein cyllideb ddrafft y gallem ni fod wedi eu hosgoi pe byddem ni wedi cael yr wybodaeth hon ar yr un pryd ag adrannau Whitehall. Mae rhywbeth sylfaenol o'i le ar drefniant ariannu yn y DU sy'n caniatáu i hyn ddigwydd.

Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer mwy o hyblygrwydd cyllidebol i'n galluogi i reoli ein cyllid yn fwy effeithiol yn unol ag anghenion Cymru. Rwyf i am fanteisio ar y cyfle hwn hefyd, wrth i mi ddechrau dod i ddiwedd fy sylwadau, i ddiolch ar goedd i'n swyddogion yn Llywodraeth Cymru, sydd wedi mynd i'r afael â'r gyllideb hon unwaith eto gyda phroffesiynoldeb, creadigrwydd ac ymrwymiad, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu gwaith sydd o'r radd flaenaf.

Wrth gloi, er gwaethaf yr heriau sy'n ein hwynebu ni, rwy'n hyderus fod y gyllideb hon yn gwneud y mwyaf o'r cyllid sydd ar gael i ni o hyd. Serch hynny, gyda datganiad gwanwyn y DU i ddod yfory, fe allwn ni ddisgwyl newidiadau pellach i'n setliad. Rwy'n hyderus fod y pecyn a nodais i heddiw yn ein galluogi ni i fod mewn sefyllfa dda i ymateb i'r newidiadau hynny.

Ac yn olaf, rwyf i am orffen drwy ailadrodd yr hyn a amlinellais yn y gyllideb ddrafft: sef bod y gyllideb hon yn cynnal ein hymrwymiad i flaenoriaethu pobl a chefnogi'r gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw'n dibynnu arnyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl.

14:30

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch o gyfrannu at y ddadl yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru heddiw. Roedd adroddiad y pwyllgor ar y gyllideb ddrafft yn cynnwys 39 o argymhellion, ac rwy’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw. Wedi dweud hynny, hoffwn ddechrau gan fynegi siom mai ychydig iawn o newidiadau sydd wedi’u gwneud rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol. Gwnaeth ein pwyllgor ni, yn ogystal â nifer eraill, argymhellion cadarn mewn nifer o feysydd strategol allweddol a allai fod wedi cryfhau'r gyllideb sydd gennym ger ein bron heddiw.

Fodd bynnag, cyn i mi fyfyrio ar ymateb y Gweinidog i'n hadroddiad ni, fe hoffwn i fynd i'r afael â rhai pwyntiau cyffredinol. Yn gyntaf, fe hoffwn i fynegi ein cydymdeimlad ni â Llywodraeth Cymru yn ei sefyllfa hi. Fel roedd y Gweinidog yn sôn, testun gofid mawr yw ein bod ni'n pleidleisio ar gyllideb derfynol heddiw, un diwrnod cyn digwyddiad cyllidol mawr yn San Steffan. Rydym ni wedi galw ers tro ar y Trysorlys i drin y Senedd gyda pharch o ran amseriad ei ddigwyddiadau cyllidol, ac mae hi'n amlwg fod y mater hwnnw'n parhau.

Yn ail, mae'r Gweinidog wedi nodi yn ei hymateb y bydd y Gweinidogion portffolio priodol yn ymateb i nifer o'n hargymhellion. Mae hwnnw'n ymddangos fel dull newydd, gan mai'r Gweinidog a fydd yn darparu'r wybodaeth hon fel arfer ar ran cyd-Weinidogion. Fe hoffwn i ofyn felly i'r Gweinidog egluro'r rheswm am hynny, a chadarnhau a fyddwn ni'n cael ymatebion ychwanegol gan Weinidogion unigol ar ben yr hyn a ddarparwyd eisoes.

Yn drydydd, roeddem ni'n sylwi yn ystod ein hystyriaeth ddiweddar o'r ail gyllideb atodol i uchafswm y swm o gyllid gael ei dynnu o gronfa wrth gefn Cymru. Er hynny, mae dyraniadau pellach yn cael eu gwneud o'r gronfa wrth gefn yn y gyllideb derfynol hon, ac roedd hynny'n ein taro ni'n beth rhyfedd o ystyried na allen nhw fod ar gael erbyn hyn. Mae hynny'n ymddangos yn beth anarferol, ac yn rhywbeth y byddwn yn ei archwilio ymhellach gyda'r Gweinidog dros y misoedd nesaf. Ond pe byddai hi'n gallu egluro unrhyw beth heddiw, fe fyddai hynny'n ardderchog.

Rwyf i am droi nawr at ein hargymhellion ni a'n hymatebion penodol iddyn nhw. Fe wnaethom ni alw ar y Gweinidog i roi sicrwydd y bydd y cyfraddau cyllido sydd yn y gyllideb yn ddigonol i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Er ein bod ni'n falch fod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhellion ni ar y pwynt hwn, rydym ni'n dal i bryderu am y diffyg gwybodaeth a ddarperir i fesur gwariant cyffredinol yn ôl y canlyniadau a ddymunir. Yn benodol, rydym ni yn y tywyllwch o hyd o ran y cyfiawnhad sydd i'r penderfyniad i gynyddu cyllid y GIG heb unrhyw gynnydd cymesur ar gyfer gofal cymdeithasol, o ystyried y rhyngddibyniaethau sy'n bod rhyngddyn nhw.

Ar gam y gyllideb ddrafft, nid oedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i wneud dyraniadau cyfalaf trafodion ariannol llawn. Er gwaethaf y sicrwydd na fyddai hynny'n rhoi cynsail—ac er ein bod ni'n deall anawsterau'r amseriad ynghylch cyhoeddiadau cyllidol y DU—rydym ni'n gweld hyn yn rhywbeth siomedig ac yn pwyso unwaith eto am gyhoeddi'r rhain yn gynt ar gyfer gallu craffu arnyn nhw'n gynharach.

O ran ataliad, roedd y pwyllgor yn feirniadol o'r prinder yn y dystiolaeth a ddefnyddiodd Lywodraeth Cymru i arddangos sut mae penderfyniadau byrdymor ynghylch blaenoriaethau yn cael eu cydbwyso ag amcanion strategol hirdymor. Rydym yn falch fod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhellion mewn egwyddor. Er hynny, rydym ni am alw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i asesu effaith dargyfeirio cyllid oddi wrth y gwasanaethau yr ystyrir eu bod o natur ataliol er mwyn cefnogi gwasanaethau rheng flaen.

Fe glywsom ni sawl gwaith yn ystod y broses graffu nad yw'r argyfwng costau byw wedi darfod ac am yr angen i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rydym ni'n annog Llywodraeth Cymru i gadw llygad barcud ar rawd effeithiau ei phenderfyniadau hi a sut y byddan nhw'n cael eu mantoli. Rydym ni'n edrych ymlaen at glywed rhagor ynglŷn â hyn wrth i'r Gweinidog adolygu asesiadau effaith integredig strategol y gyllideb.

Dirprwy Lywydd, hoffwn ddod â fy nghyfraniad i ben drwy edrych ymlaen i'r dyfodol. Mae gwaith craffu yn greiddiol wrth fynd ati i ganfod meysydd allweddol yng nghynlluniau cyllidebol Llywodraeth Cymru lle mae angen gwelliannau. Byddaf yn ysgrifennu at bwyllgorau'r Senedd cyn bo hir—fel yr wyf wedi'i wneud yn y blynyddoedd blaenorol—ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ac i archwilio ffyrdd o wneud y mwyaf o waith craffu cyllidebol drwy gydol y flwyddyn. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am fod yn agored wrth drafod y materion hyn, yn ogystal â'r ddeialog barhaus i wella prosesau cyllidebol y Senedd er mwyn adlewyrchu arferion cyfredol. Rydym yn gobeithio y byddant yn cael eu hymgorffori yn mhrotocol y gyllideb wrth symud ymlaen. Cyn gorffen, hoffwn ddiolch i dîm ymchwil a chlercio y Pwyllgor Cyllid, ac i'm cyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid, am eu gwaith ar y gyllideb. Diolch yn fawr.

14:35

Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i bob un o randdeiliaid ac aelodau'r pwyllgor sydd wedi cyfrannu at y craffu sydd wedi bod ar y gyllideb hon. Drwy graffu effeithiol yn unig y gall llywodraethu da a llunio polisïau effeithiol ddigwydd, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar elfennau o'r gwaith craffu ar y gyllideb, ac wedi rhoi rhai newidiadau ar waith. Rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol a ddarparwyd i'n gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig, yn enwedig felly o ran gwrthdroi'r toriadau i'r gronfa gweithlu gofal cymdeithasol ar gyfer yr awdurdodau lleol, sy'n wynebu pwysau cynyddol ar eu sector nhw, ac y disgwylir iddyn nhw gyflawni llawer mwy gyda llawer llai o arian, gan gydnabod y toriadau enfawr mewn termau real a anelwyd atyn nhw.

Fodd bynnag, nid yw'r gyllideb hon yn mynd i'r afael â llawer o'r materion gwirioneddol y mae teuluoedd a busnesau yn eu hwynebu. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gweld bai trwy'r amser ar bawb arall ond y nhw eu hunain am eu hanes gwael yn dal y wlad yn ôl. Y gwir syml yw nad oes gobaith y bydd ein cenedl ni'n gallu symud ymlaen hyd nes y bydd Llywodraeth yn y fan hon a fydd yn fodlon derbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau'r polisïau sy'n cael eu llunio ganddi. Ystyriwch chi ein GIG yng Nghymru. Ar ôl y gyllideb hon, fe fydd yn parhau i fod dan bwysau cynyddol, nad yw'n barod ar ei gyfer, o ganlyniad uniongyrchol i ddegawdau o danariannu gan Lywodraethau Llafur olynol yn y fan hon.

Fel dywedais i o'r blaen, pe byddai'r arian wedi cael ei wario lle y dylai, ni fyddai ein rhestrau aros wedi bod mor hir, ni fyddai ein byrddau iechyd yn plygu o dan bwysau ariannol sylweddol, ac ni fyddai'n rhaid i bobl fod yn aros ar y rhestrau aros hwyaf yn y DU. Mae'r gyllideb hon yn gyfle a gollwyd i fynd i'r afael â'r materion systemig yn ein system iechyd, a helpu gyda'r pwysau enfawr sydd ar y gweithlu, lle rydym ni'n gweld problemau o ran gwariant gormodol ar staff asiantaeth a diffyg buddsoddiad mewn gofal sylfaenol. Mae angen i ni weld ystyriaeth strategol a hirdymor a all ailadeiladu ac atgyfnerthu ein system gofal iechyd ni yma yng Nghymru.

Mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi colli cyfle hefyd i helpu i newid tynged ein system addysg, sydd, fel gwyddom ni, yn perfformio yn llawer gwaeth nag y dylai fod. Hefyd, mae hi wedi methu â chydnabod pwysigrwydd yr economi, gan ddewis peidio â darparu digon o gymorth ardrethi busnes i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden, a fydd yn arwain at fusnesau yng Nghymru yn talu llawer mwy mewn ardrethi busnes na'u cymheiriaid yn Lloegr. Ar ben hynny, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni plant ifanc yng Nghymru hyd at y cyfraddau a estynnir yn Lloegr, lle bydd rhieni plant mor ifanc â naw mis oed yn dechrau cael gofal plant am ddim, tra bydd yn rhaid i rieni fan hyn aros tan y bydd eu plentyn yn dair oed. Mae hyn er bod y Llywodraeth wedi cael £180 miliwn i gynnig yr un peth yng Nghymru. [Torri ar draws.] Bydd yr anghyfartaledd enfawr hwn i rieni—

A gaf i ofyn i'r Aelodau gynnal eu sgyrsiau y tu allan i'r Siambr, os gwelwch chi'n dda, er mwyn i mi allu clywed yr Aelod yn siarad? 

Bydd yr anghyfartaledd enfawr hwn i rieni yng Nghymru yn rhoi menywod dan anfantais, y mae eu gyrfaoedd nhw'n cael eu dal yn ôl oherwydd diffyg gofal plant fforddiadwy—unwaith eto, yn effeithio ar ein heconomi. Mae hi'n siomedig hefyd fod y toriadau llym i gyllideb materion gwledig yn parhau i fod ar waith, sy'n golygu y bydd cymunedau gwledig ac economi cefn gwlad yn cael eu dal yn eu holau o hyd. Er bod Plaid Cymru yn uchel iawn eu cloch wrth ddannod ei pholisïau cefn gwlad i'r Llywodraeth yr wythnos diwethaf, y gwir plaen yw y bydd Aelodau Plaid Cymru yn pleidleisio'r gyllideb hon drwodd heddiw, a'r toriadau hyn, ac, yn ddiamau, ein cydweithiwr Rhyddfrydol hefyd. [Torri ar draws.] Iawn, siŵr. 

Rwy'n ei chael hi'n ddiddorol, wedi'r cyfan a ddywedwyd ac a wnaethpwyd wythnos diwethaf, ei bod hi'n ymddangos nawr y bydd Ceidwadwyr yng Nghymru yn pleidleisio yn erbyn cyllideb a fydd yn sicrhau taliad sylfaenol llawn i reng flaen ffermwyr Cymru'r flwyddyn nesaf. A ydych chi wir yn codi ar eich traed ac yn dweud wrthym ni y byddwch chi'n gwrthwynebu hynny? Oherwydd fe glywsom ni cyn hyn sut mae hynny'n creu elw ychwanegol o £9 ar fuddsoddiad. Felly, mae hynny'n dwyn £2 biliwn oddi ar economi Cymru i bob pwrpas.

Nage. Plaid Cymru yn ceisio taflu llwch i lygaid pobl yw hynny, i dynnu sylw oddi wrth y ffaith eich bod chi wedi cynnal y Llywodraeth Lafur hon a'i chyllidebau hi am flynyddoedd lawer.

Yn anffodus, nid yw'r gyllideb hon yn mynd i'r afael â blaenoriaethau'r bobl yn iawn. Nid yw'r cynllunio cadarn a strategol ynddi hi sy'n angenrheidiol mewn sawl ffordd yng Nghymru nid yn unig i fynd i'r afael â llesiant y bobl, ond ar gyfer meithrin yr economi, uchelgais ac estyn cyfleoedd i ddinasyddion Cymru. Unwaith eto, rwy'n ofni y bydd Cymru yn gweld blwyddyn arall eto o wneud penderfyniadau difeddwl gan Lywodraeth a fydd yn dal i ganolbwyntio yn obsesiynol ar hoff brosiectau, yn hytrach na blaenoriaethu pobl Cymru. Am yr holl resymau hyn a nodais i, fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r gyllideb. Diolch. 

14:40

Mae'r darlun gerbron yn un llwm ac yn un rhy gyfarwydd o lawer i ni, a orfodwyd arnom ni, i raddau helaeth, wrth gwrs, gan Lywodraeth Geidwadol y DU sy'n cael ei gyrru gan gyni. Mae consensws trawsbleidiol eglur yn y Senedd nad yw'r fframwaith cyllidol presennol ar gyfer Cymru yn addas i'r diben. Yn ystod y flwyddyn hon a fydd ag etholiad cyffredinol ynddi, wrth gwrs, fe fyddai unrhyw beth heblaw am ymrwymiad eglur oddi wrth unrhyw ddarpar Brif Weinidog i fynd i'r afael â hyn yn ymwreiddio rhan pleidiau Llundain ymhellach wrth amddifadu Cymru o'r hyn a fyddai'n gwneud cyfiawnder â ni. Fformiwla o ariannu yw hon sy'n ein gadael ni'n brin flwyddyn ar ôl blwyddyn, sydd wedi nacáu biliynau o bunnoedd i ni mewn symiau canlyniadol i HS2, ac sy'n ein clymu ni'n rhy agos at agendâu amheus, a feiddiwn ni ddweud, yn San Steffan sy'n rhoi'r brêc llaw gwleidyddol ar yr hyn a ddylai fod yn genhadaeth gyffredin i ni, sef meithrin cenedl fwy cyfiawn, fwy uchelgeisiol.

Mae fy nghydymdeimlad yn wirioneddol â Llywodraeth Cymru, ond eto mae hynny wedi ei dymheru hefyd. Mae ceisio rhedeg pethau yn y cyfyngder cyllidol a orfodir arni nid yn unig yn cyfyngu ar yr arian sydd ar gael i Weinidogion, ond ar eu hyblygrwydd i wario. Ond yr hyn na all ei wneud yw rhoi pall ar allu Gweinidogion Llafur i sicrhau ymrwymiad pendant y bydd Cymru yn cael ei hariannu yn deg pe byddai Llywodraeth Lafur yn y DU. Mae'r tawedogrwydd ynglŷn â hynny'n achos rhyfeddod mawr o hyd. Yn ail, nid yw hynny wedi lleihau gallu'r Llywodraeth i gynllunio ymlaen llaw yn well. Ac, yn drydydd, nid yw hynny'n rhyddhau Llywodraeth Cymru oddi wrth ei chyfrifoldeb am y penderfyniadau a wnaeth o ran gwariant a'r blaenoriaethau a bennodd hi ei hun.

Fe hoffwn i ganolbwyntio ar anghynaliadwyedd llwyr cyllideb Cymru fel mae hi. Gyda dros 50 y cant o gyllideb gyfan Cymru wedi ymrwymo i iechyd a gofal, mae cyllid y GIG ar daflwybr hollol anghynaliadwy. Prin y bydd y £425 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen yn crafu'r wyneb wrth fynd i'r afael â materion a wreiddir yn ddwfn a systemig yn ein sector gofal iechyd. Mae symud arian oddi wrth gymaint o raglenni ataliol yn peri pryder hefyd. Yr hyn a wnawn yw dim ond ymwreiddio'r cylch dieflig hwnnw'r ydym ni ynddo. Fe hoffem ni i gyd weld GIG gydag adnoddau cymwys ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ond yn hollbwysig, mae gwariant yn cynyddu heb unrhyw dystiolaeth amlwg fod y canlyniadau yn gwella, ac mae'n rhaid i hynny newid. Mae hi'n gwbl amlwg mai ar Weinidogion Llafur y mae'r bai.

Mae Trafnidiaeth Cymru ar ei ennill yn sylweddol hefyd. Ers mis Hydref, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael tua £235 miliwn o gyllid ychwanegol, sy'n cyfateb i bron i'r cwbl o'r £245 miliwn mewn toriadau refeniw a gafodd eu lledaenu ar draws bron pob maes arall o bolisi arall yn rhan o'r gyllideb hon. Cofiwch fod gan Trafnidiaeth Cymru rai o'r cyfraddau gwaethaf o ran prydlondeb, diddymu gwasanaethau a boddhad cwsmeriaid ymhlith pob un o brif weithredwyr rheilffyrdd yn y DU. Ond er bod gwasanaethau'r rheilffyrdd yn defnyddio symiau enfawr o arian, mae gwasanaethau bysiau yn cael eu hysbyddu o gyllid. Mae hyn yn golygu perygl y bydd y cymunedau niferus yng Nghymru sydd ymhell oddi wrth unrhyw reilffordd yn mynd yn fwy ynysig fyth. [Torri ar draws.] Unwaith eto, mae hyn yn arddangos diffyg ystyriaeth gydgysylltiedig. O'i eisteddle, mae'r Gweinidog trafnidiaeth a fydd yn gadael ei swydd yn fuan yn gofyn, 'Beth fyddech chi'n ei wneud?' Yr hyn y mae angen i ni ei weld a'r hyn nad ydym ni'n ei weld oddi wrth Lywodraeth Cymru o dan Lafur yw meithrin cynaliadwyedd yn y drafnidiaeth, a'r cynllun hwnnw i feithrin cynaliadwyedd sydd ar goll. Fe allwn ni edrych ar y gyllideb, fe allwn ni edrych ar ddatblygu polisi.

Fel o ran iechyd, fe allwn ni weld y diffyg ystyriaeth gydgysylltiedig yn y trawiad mawr i'r gyllideb brentisiaethau hefyd, sy'n ehangu'r bwlch sgiliau hirsefydlog yng ngweithlu Cymru. Mewn gwirionedd, mae'r cynlluniau a amlinellir ar gyfer gwariant yn y gyllideb hon yn addewid o'r un hen stori i economi Cymru: gwastraff potensial, twf marwaidd a dirywiad rheoledig. Mae Plaid Cymru yn gryf o'r farn fod cefnogi ein sector mentrau bach a chanolig yn hanfodol i lunio economi fwy deinamig a llewyrchus yng Nghymru. Mae hi'n achos gofid y bydd y penderfyniad i dorri rhyddhad ardrethi busnes yn pentyrru rhagor o bwysau ar sector sy'n dal i deimlo gwasgfa prisiau ynni uchel ac ôl-effeithiau'r pandemig. 

Mae yna agweddau o fewn y gyllideb sydd i'w croesawu ac sy'n adlewyrchu'r wleidyddiaeth aeddfed a thrawsbleidiol sy'n rhan annatod o ddatganoli. Mae'r gyllideb yn cadarnhau ymrwymiad y cytundeb cydweithio rhwng y meinciau yma a'r Llywodraeth i gyflwyno prydau ysgol am ddim ac i ehangu gofal plant am ddim i blant dwyflwydd oed. Fel y clywson ni gan Llyr Gruffydd, er gwaetha'r rhwystredigaeth eang o fewn y sector amaeth, rhwystredigaeth dŷn ni yn fan hyn yn ei rannu, mae'r sicrwydd sydd wedi dod o warchod y taliad sylfaenol yn gam pwysig, a'r sicrwydd hwnnw yn un mae'r Ceidwadwyr yn ei wrthwynebu wrth bleidleisio yn erbyn y gyllideb heddiw.

Rŵan, mae'n amlwg, i gloi, Dirprwy Lywydd, fod pasio cyllideb a chael Llywodraeth sefydlog yn mynd law yn llaw. Ac mi ydyn ni ar y meinciau yma wedi craffu yn ofalus ar y gyllideb Lafur yma. Drwy'r broses sgrwtini, mae fy nghyd-Aelodau wedi bwrw goleuni ar wahanol elfennau. Mae yna rai o'n galwadau ni wedi arwain at newidiadau, a dwi'n ddiolchgar i'r Llywodraeth am hynny. Ond cyllideb Lafur ydy hon, un i'r Llywodraeth Lafur ei chyfiawnhau a'i gweithredu o fewn y setliad a ddaeth i'w rhan. Ac yn anad dim, mae'n rhaid i heddiw fod yn drobwynt, yn gydnabyddiaeth y byddwn ni nôl yn yr un sefyllfa flwyddyn ar ôl blwyddyn, oni bai y bydd yna newid agwedd gan Lywodraeth Prydain ac ymrwymiad go iawn i gyllid teg i Gymru.

14:45

I gyn ASau a chyn-gynghorwyr, mae'n rhaid bod trin y gyllideb fel dadl gyffredin yn ymddangos yn rhywbeth anghyffredin iawn. Un awr i drafod cyllideb derfynol Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwyf i wedi mynychu cyfarfodydd cyllideb cyngor sydd wedi para llawer mwy na hyn. Nid y gyllideb yw'r brif eitem ar agenda heddiw hyd yn oed, ond mae hi yng nghysgod diwygio'r Senedd. Rwy'n siomedig nad yw'r Ceidwadwyr na Phlaid Cymru wedi llunio cyllideb amgen. Nid oes angen dadansoddi pob llinell yn unigol arnom ni, dim ond penderfyniad ar y blaenoriaethau perthynol. Mae'r gyllideb atodol wedi egluro hynny. Mae'r wrthblaid yn dda iawn am ddod o hyd i feysydd i wario arian arnyn nhw neu ar gyfer lleihau incwm, ond heb fod cystal am ganfod meysydd gwariant refeniw a arbedwyd.

Ar y pwynt hwnnw, a fyddech chi'n derbyn y byddai hi'n haws i ni lunio cyllideb amgen pe byddai'r un wybodaeth gennym ni ag sydd ym meddiant y Llywodraeth? Ar hyn o bryd, nid felly y mae hi.

Na fyddwn, ac rwyf i am egluro pam hynny'n nes ymlaen.

Hyd yn hyn, nid yw'r Ceidwadwyr wedi awgrymu dim ond arbediad o £1 miliwn ar ddiwygio'r Senedd y flwyddyn nesaf. Maen nhw wedi awgrymu gwerthu Maes Awyr Caerdydd hefyd, a fyddai'n codi swm sylweddol o arian pe bai'n cael ei werthu ar gyfer tai. Fe fyddai hi'n amhosibl ei werthu fel maes awyr heb waddol sylweddol a pharhaus. Rydym ni naill am fod â maes awyr yng Nghymru neu dydyn ni ddim. Mae'r Ceidwadwyr am bleidleisio yn erbyn y gyllideb. Beth a fyddai'n digwydd pe na fyddem ni'n cytuno ar gyllideb? Un o ddau beth: fe fyddai'r gyllideb gyfredol yn cael ei chario ymlaen, neu fe fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn pennu'r gyllideb, fel digwyddodd yng Ngogledd Iwerddon eleni pan gyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon gyllideb 2023-24 ar gyfer Gogledd Iwerddon.

O edrych ar y rhagolygon economaidd, fe welwn ni dwf araf yn economi'r DU, rydym ni'n disgwyl gweld chwyddiant yn gostwng ond yn para i fod yn uchel. Mae cwymp chwyddiant yn dibynnu yn llwyr ar brisiau nwyddau. Mae chwyddiant yn cael ei yrru gan brisiau nwyddau—mae unrhyw un sy'n rhoi petrol yn ei gerbyd yn ymwybodol o hynny. Er gwaethaf twf cyflog disgwyliedig mewn termau real yn 2024-25, fe ddisgwylir i incwm aelwydydd, sef incwm i'w wario, ostwng ac un ffactor allweddol yw bod hybu cynilo incwm yn cael ei drechu gan daliadau llog cynyddol. Gofynnwch i unrhyw un sy'n talu morgais pa effaith sydd i hynny.

Mae Cymru yn cael ei thanariannu hyd at oddeutu £1.3 biliwn. Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei thrin yn wahanol. Mae Llywodraeth y DU wedi neilltuo £600 miliwn i setlo hawliad cyflog yn y sector cyhoeddus yn rhan o becyn ariannol gwerth £3.3 biliwn i gefnogi dychweliad datganoli yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn, hyd y gwelaf i, ar wahân i fformiwla Barnett. Yr hyn y mae fformiwla Barnett yn ei nodi yw'r dyraniad lleiaf a ddarperir yn unol â'r fformiwla, ond fe allech chi ddarparu mwy. Nid dyma'r tro cyntaf i Ogledd Iwerddon gael llawer mwy. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei godi gyda phwy bynnag fydd y Prif Weinidog nesaf, efallai, sef mai pennu isafswm y mae fformiwla Barnett. Ni fyddwn ni'n adolygu fformiwla Barnett yn ystod y 12 mis nesaf. Ond dim ond pennu'r lleiafswm a wna, ac fe ellir rhoi mwy dros ben hwnnw. A wnaethpwyd hynny erioed o'r blaen? Do, pan gafodd Cymru gyllid Crossrail.

Fe fyddwn i'n awgrymu rhai meysydd ar gyfer toriadau. Cael ymwared ar gonsortia addysg a defnyddio'r arian a arbedir i ariannu'r pwysau sydd ar gyllidebau'r ysgolion. Rhoi cap ar daliadau fferm sylfaenol, sef polisi Undeb Amaethwyr Cymru. Peidiwch â chefnogi busnesau sy'n sefydlu neu'n ehangu yng Nghymru gan dalu llai na'r cyflog canolrifol. Peidiwch â chefnogi busnesau sydd—os ydyn nhw'n talu llai na'r cyflog canolrifol, maen nhw'n gyrru'r cyflog canolrifol i lawr. A ydym ni wir yn dymuno dod â phobl i mewn yma a fydd yn talu llai i'n pobl ni? Diddymwch Gymorth i Brynu. Fe wyddom ni yn Lloegr fod y cynllun benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu wedi cau i ymgeiswyr newydd, ac fe ddaeth y cynllun i ben yn swyddogol yn gynnar y llynedd. Unig effaith Cymorth i Brynu yw rhoi arian ar ben y galw sydd am dai, sy'n codi prisiau tai. Fe ddywedwyd wrth y Pwyllgor Cyllid fod cymhorthdal Trafnidiaeth Cymru rhwng £13 a £14 fesul teithiwr erbyn hyn. A yw'r Llywodraeth yn bwriadu ei leihau? Faint o arian y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wario ar dacsis pan nad yw'r trenau yn rhedeg? Rwy'n deall oddi wrth rai etholwyr sy'n mynd yn gyfoethog eu bod nhw'n gwario llawer iawn ar ddanfon pobl o Abertawe i Lanwrtyd mewn tacsi. Adolygwch y parthau menter a phenderfynu a ydyn nhw'n cynnig gwerth am arian, a chael ymwared â'r rhai nad ydyn nhw ddim, oherwydd yn fy mhrofiad i o barthau menter yr hyn y maen nhw'n ei wneud mewn gwirionedd yw adleoli pobl o fannau gweddol agos.

I sôn am y pwysau sydd ar y GIG, roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn mynegi bod problem sylfaenol o ran cynhyrchiant dan yr wyneb yn y GIG o hyd. Beth am bennu nodau ar gyfer nifer o lawdriniaethau, e.e. gosod clun newydd, ym mhob bwrdd iechyd, sy'n hawdd eu mesur, yn hytrach nag amseroedd aros, sy'n anodd eu rheoli? Mae nifer y llawdriniaethau yn cael eu rheoli. Rwy'n cefnogi mesurau ataliol, ac yn canmol Cynllun Gwên ac effaith lleihau pydredd dannedd mewn plant, ond mae angen mwy o wariant arnom ni ar ataliad.

Yn olaf, a gaf i bwysleisio pwysigrwydd llywodraeth leol a diwylliant, yn enwedig y Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa Genedlaethol, a'r pwysigrwydd eu bod nhw'n cael eu hariannu yn ddigonol hefyd? Mae gormod o feysydd gennym ni yng Nghymru na ellir eu cyffwrdd, a gormod o feysydd eraill lle mae hi'n rhaid gwneud toriadau. Efallai y bydd angen i ni edrych yn fwy manwl ar y rhai na ellir eu cyffwrdd.

14:50

Fe hoffwn i gyplysu fy nghyfraniad heddiw â mater o gryn bwysigrwydd yn fy etholaeth i, sef y pryder aruthrol a deimlir gan rieni ac arweinwyr ysgolion yn sir Ddinbych oherwydd y toriadau arfaethedig i addysg yn nhermau arian parod, a amlinellir yn y gyllideb hon. Fe dderbyniais i lythyr yr wythnos diwethaf oddi wrth arweinwyr ysgolion ar draws y sir yn rhybuddio ynglŷn â thoriadau enbydus y maen nhw'n cael eu gorfodi i'w gwneud. Fe fydd hynny'n golygu y bydd plant yn sir Ddinbych yn colli eu gofal bugeiliol, cymorth llesiant, cymorth ymddygiad, cymorth iechyd meddwl, cymorth dysgu a mynediad at weithgareddau allgyrsiol. Mae Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid i 90 y cant o ysgolion Cymru wneud toriadau, ac, fel yn y sylw a wnaeth arweinydd Plaid Cymru, ar Lywodraeth Lafur Cymru y mae'r bai yn gwbl amlwg.

Mae cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yn golygu toriad o £56 miliwn mewn termau arian parod i addysg, a gyhoeddir, gyda llaw, ar ôl i ganlyniadau'r Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol ddiweddaraf ddatgelu bod Cymru wedi cael y sgôr waethaf erioed ers i ni ddechrau cymryd rhan yn ôl yn 2006. Serch hynny, roedd prydau ysgol am ddim i bawb yn cadw'r cynnydd o £22.5 miliwn yng nghyllideb 2023-24, sy'n golygu y bydd y trethdalwr yn rhoi cymhorthdal i deuluoedd dosbarth canol a chefnog nad oes angen cymorth arnyn nhw o reidrwydd, tra bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol a rhai o'r plant mwyaf agored i niwed a difreintiedig yn gweld eu cymorth dysgu yn cael ei dynnu yn ei ôl o bosibl. Llywodraeth sy'n blaenoriaethu ideoleg dros y sefyllfa wirioneddol yw hyn i bob golwg, yn anffodus.

Fel cafodd hynny ei ailadrodd sawl gwaith yn y Siambr hon, mae fformiwla Barnett yn darparu swm anghymesur uwch o gyllid ar gyfer iechyd ac addysg yng Nghymru, ond mae'r arian yn mynd i rywle arall, i'r cynlluniau gwagedd sy'n cael eu gyrru gan ideoleg, fel ehangu'r Senedd, yr ydym yn ei drafod yn nes ymlaen heddiw, i ddarparu ar gyfer 36 yn rhagor o wleidyddion heb refferendwm, a fydd yn costio £120 miliwn i'r trethdalwr. [Torri ar draws.] Ie, Mike.

Cynlluniau gwagedd—a fyddech chi'n hoffi rhoi eu cyfanswm nhw i gyd, oherwydd, hyd yn hyn, rydych chi wedi sôn am un, y bydd hwnnw'n costio £1 miliwn y flwyddyn nesaf?

Felly, dros y pum mlynedd nesaf, bydd yn costio £120 miliwn, ac ychwanegwch un arall at y cyfanswm nawr, os hoffech chi, Mike—y polisi 20 mya cyffredinol, sy'n costio £36 miliwn ychwanegol. Felly, os, yn ôl fy rhifyddeg i—nid wyf i'n fathemategydd penigamp—ond mae £120 miliwn ynghyd â £36 miliwn yn cyfateb i tua £156 miliwn. A phe byddai hynny'n cael ei flaenoriaethu yn ein systemau iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a materion sy'n ymwneud â bywydau beunyddiol pobl, yna rwy'n siŵr y byddai hynny'n cael ei dderbyn yn ddiolchgar, yn llawer mwy na chael 36 yn rhagor o wleidyddion yn y lle hwn, sy'n siwtio dibenion ideolegol Llafur ac yn mynd ar drywydd diddiwedd annibyniaeth Plaid Cymru. [Torri ar draws.] Nid sylw croesawgar mohono, gyda llaw.

Fe fyddwn i'n ddiolchgar, wrth i mi ymateb i'r ddadl hon, pe byddai'r Gweinidog yn mynd i'r afael—. Mae hi'n braf iawn i ni gael gweld yr ideoleg wirioneddol sydd wrth wraidd y cwbl, onid yw hi? O'r diwedd, fe gawn ni  rywfaint o wirionedd. Mae hi'n braf iawn gweld hynny weithiau. O ddifrif calon, er hynny, fe fyddwn i'n ddiolchgar iawn, wrth ymateb i'r ddadl hon, pe byddai'r Gweinidog yn ymdrin â phryderon rhieni yn sir Ddinbych, yn enwedig rhieni plant sydd ag anghenion o ran cymorth ychwanegol. Beth mae eich Llywodraeth chi am ei wneud i sicrhau nad yw'r ysgolion hyn yn gorfod gweithredu'r toriadau enbydus a fydd yn rhoi disgyblion Cymru dan fwy fyth o anfantais i'm hetholwyr i yn Nyffryn Clwyd? Diolch i chi.

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog a'i thîm am gysylltu a gweithio gyda mi yn eu hymgysylltiad? Diolch yn fawr iawn i chi. Fe hoffwn i gydnabod a chroesawu'r newidiadau a wnaeth Llywodraeth Cymru i'r gyllideb derfynol hon, yn dilyn dadl eang yn y Siambr hon a'r cyllid ychwanegol a gawsom ni oddi wrth Lywodraeth y DU. Rwy'n cydnabod bod llawer o faterion yn cael eu codi a'u cyflwyno, ac fe hoffwn i ganolbwyntio ar ychydig ohonyn nhw, os yw hynny'n iawn.

Fe hoffwn i groesawu dychweliad y £5 miliwn ar gyfer y grant plant a chymunedau, sy'n ceisio cefnogi'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed. Diolch am adfer hwnnw. Wrth gwrs, mae croeso mawr i unrhyw gyllid ychwanegol sy'n gwella cyfleoedd i blant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Yn ogystal â hynny, rwy'n croesawu'r £5.3 miliwn ar gyfer prentisiaethau, y cyfeiriwyd ato eisoes. Mae gwir angen i ni edrych ar y cyfleoedd i wella a chynyddu ein gwariant ar brentisiaethau, yn enwedig o edrych ar y cyfleoedd i ni gyflogi pobl yn ein diwydiannau gwyrdd. Felly, rwy'n dal ati i annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i feithrin yr economi sero net a arweinir gan sgiliau a fydd yn angenrheidiol ar gyfer ein datblygiad i'r dyfodol.

Mae hi'n amlwg, hyd yn oed gyda'r cynnydd a gyhoeddwyd yng nghyllideb y sector, ein bod ni'n ceisio taenu adnoddau cyfyngedig yn llawer rhy denau. Os caf i ddefnyddio'r gyffelybiaeth hon, mae hynny fel taenu talp bychan o fenyn ar dafell aruthrol fawr o fara—neu dost, efallai, pe byddech chi'n dewis. Hyd yn oed gyda'r arian ychwanegol ar gyfer gofal plant a phrentisiaethau, mae hynny'n dal i fod yn druenus o brin o'r hyn sydd ei wir angen ar gyfer cefnogi ein rhaglenni hanfodol yn llawn.

Gwarth parhaus yw bod cyllid digonol ar gyfer ein gwasanaethau hanfodol yn dibynnu cymaint ar fformiwla hen ffasiwn Barnett, yr ydym ni newydd glywed sôn amdani, ac mae'r cyllid yn cyrraedd llawer yn rhy hwyr yn y flwyddyn ariannol, sy'n llesteirio cynllunio priodol. Gyda chyllideb derfynol y DU yn dod yfory, fe allai penderfyniadau munud olaf a pholisïau annisgwyl Llywodraeth Geidwadol y DU fod â dylanwad eto ar gyllideb Cymru, gan danseilio ein sefydlogrwydd ariannol ni ymhellach.

Mae yna ddau faes, os caf i dynnu sylw atyn nhw—materion yr wyf i o'r farn y gellid bod wedi eu hystyried yn nyraniad y gyllideb. Yn gyntaf, er bod y gyllideb yn parhau i gynnal cyllid craidd ysgolion, nid yw'n llwyddo i ddarparu'r cymorth ariannol ychwanegol y mae ei angen mor daer ar ein hysgolion ledled Cymru, i ymateb i bwysau chwyddiant o £177 miliwn.

Gyda'r rhan fwyaf o ysgolion yn disgwyl gweld diffygion ariannol eleni, fe fydd y methiant o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hwn nid yn unig yn peryglu ansawdd yr addysg y mae ein plant yn ei chael, ond yn anochel fe fydd hynny'n cyfrannu at aelodau staff yn dioddef gorludded, diswyddiadau a phryderon ynglŷn ag iechyd meddwl ein staff addysgu. Rwy'n gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud mwy i atgyfnerthu ein hysgolion, gyda mwy o ymreolaeth ariannol a hyblygrwydd, ac ystyried diwygiadau fel ehangu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grant datblygu disgyblion.

Yr ail faes yw materion gwledig. Er gwaethaf yr effaith anghymesur a gaiff y toriadau hyn ar guriad calon Cymru, rydym ni'n gweld toriad arall i'r gyllideb hon. Fe wyddom ni fod ein ffermwyr a'r gymuned amaethyddol yn dioddef eisoes, o ran eu pryder ynghylch y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig, ond oherwydd y materion eraill o'r gorffennol ac sy'n parhau hefyd, fel TB buchol. Bydd yr anfodlonrwydd sydd yn ein cymunedau ffermio ni'n cynyddu eto oherwydd y gostyngiad o 13 y cant i gyllideb materion gwledig—colled o £62 miliwn o gyllid hanfodol. Rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn agored i drafod y rhain ymhellach, ac ystyried yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi cymunedau cefn gwlad ymhellach, sef curiad calon Cymru ac sy'n cynhyrchu cymaint o ran ein heconomi ni. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. 

14:55

Mae rownd cyllideb 2024-25 wedi cyflwyno'r dewisiadau cyllideb mwyaf cignoeth a dolurus i Gymru yn y chwarter canrif ers dechrau datganoli. Mae'r Torïaid wedi camreoli economi'r DU yn sylfaenol dros y 14 mlynedd diwethaf, gan gynnig mwy na degawd o gyni neu doriadau fel y'u gelwir, y gyllideb 'fechan' drychinebus, yr argyfwng costau byw fel y'i gelwir, y cyfraddau chwyddiant uchaf erioed ac erbyn hyn, dirwasgiad. O, ac fe anghofiais sôn am y ddyled fwyaf ers yr ail ryfel byd.

Mae Llywodraeth Cymru, serch hynny, yn rhoi £190 miliwn o ddyraniadau refeniw a chyfalaf ychwanegol yn ystod cam terfynol y gyllideb. Felly, nac anghofied y Senedd hon fyth fod mwyafrif llethol ein setliad cyllid ni'n dod yn uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth Dorïaidd y DU ar lun y grant bloc. Pan fydd Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau o ran gwario ar faes datganoledig yng Nghymru, mae Cymru yn cael cyllid canlyniadol, neu fe ddylai. Serch hynny, mae hynny wedi bod yn fwyaf diweddar yn gêm funud olaf o rwlét Rwsiaidd. Hyd yn oed ar ôl y cyllid canlyniadol hwyr ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae ein setliad terfynol ni dal i fod o werth hyd at £1.2 biliwn, ac fe ddywed rhai £1.5 biliwn, yn llai mewn termau real yn 2024-25 na'r disgwyl pan gafodd ei bennu gyntaf yn 2021.

Felly, pan fydd pobl yn gofyn i mi, 'Pa wahaniaeth y mae pleidleisio yn ei wneud?', neu 'Beth yw'r gwahaniaethau y mae pleidiau gwleidyddol yn eu gwneud?', mae yna un ateb syml ac eglur: gwahaniaeth aruthrol. Llywodraeth i'r DU sydd nid yn unig yn credu ac yn ariannu twf, ond sy'n credu mewn gwasanaethau cyhoeddus ac sy'n dymuno eu hariannu nhw, ac nid eu difrodi. Ac fe deimlir hynny'n unig yn uniongyrchol ac mewn ffordd radical ledled Cymru. A chyda'n Senedd ddatganoledig ni'n gallu trafod a rheoli gwariant y cyllid ychwanegol hwn, i gyd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnydd o £190 miliwn ar y gyllideb ddrafft i wella cyfanswm ei chyllideb ar gyfer 2024-25, gan ddechrau ym mis Ebrill. Eto i gyd, mae eraill wedi crybwyll y cafodd yr ansicrwydd mawr wrth gynllunio ei waethygu gan fethiant Llywodraeth Dorïaidd y DU i ddarparu gwybodaeth lawn yn amserol i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r cyllid canlyniadol ar yr un pryd ag y cafodd yr adrannau eraill yn Llywodraeth y DU.

Fe gefais fy nghalonogi yn arbennig o weld Llywodraeth Cymru yn darparu'r £5.25 miliwn ychwanegol ar gyfer y rhaglen brentisiaethau, a chyllideb Llywodraeth Cymru 2024-25 yn darparu £450 miliwn ychwanegol i gefnogi'r GIG, ar ben y £425 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gennym ni ym mis Hydref yn ystod y rownd ddiwethaf. Ac mae hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyllid ar gyfer y GIG yng Nghymru fwy na 4 y cant yn 2024-25, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr. Ond hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol hwn, serch hynny, fe fydd 2024-25 yn flwyddyn hynod anodd a heriol i fyrddau iechyd a chynghorau. Ac mae hyn o ganlyniad i dros ddegawd o setliad llwm iawn i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo hefyd i ddiogelu'r setliad llywodraeth leol craidd, sef i ariannu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol, ein casgliadau biniau a gwasanaethau hamdden lleol. Ond a yw hynny'n ddigon? Wrth gwrs, nid yw hynny'n ddigon. Llywydd, nid oes amheuaeth y bydd 2024-25 yn flwyddyn anodd iawn i wasanaethau cyhoeddus, oherwydd nid yw ein setliad cyllido ni'n ddigonol. Roedd ein cyd-Aelod Jane Dodds yn sôn am y bara a'r menyn. Nid yw'r teils ar do'r cartref yr ydym ni eisiau ei gadw'n ddiddos. Yn syml, nid oes digon gennym ni i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

Felly, i gloi, hyd nes y gall pobl Cymru gymryd rhan mewn etholiad cyffredinol—[Torri ar draws.] Rwyf i bron â dod i ben—a phleidleisio dros Lywodraeth Lafur i'r DU, mater i Lywodraeth Lafur Cymru fydd gwneud popeth yn ei gallu a pharhau i wneud felly er mwyn rhoi cymorth i Gymru drwy'r cyfnod hynod bryderus hwn. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r Gweinidog a'm cyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n dymuno cefnogi'r gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n ei chymeradwyo i'r holl gyd-Aelodau yn y Senedd hon. Diolch i chi.

15:00

Mae'n anodd rhoi sylwadau o ran y gyllideb hon heddiw, oherwydd, yn amlwg, mae yna gymaint o bethau i ni bryderu amdanyn nhw. Dŷn ni wedi clywed gan amryw o randdeiliaid eu pryderon nhw. Mi oedd gen i yn fy rhanbarth i yn ddiweddar y chweched o ddigwyddiadau rhwydwaith costau byw, ac, yn amlwg, mi oedd nifer o sefydliadau yna sy'n gweithio mor galed bob dydd i gefnogi pobl yn eu cymunedau nhw yn pryderu'n fawr am ddiwedd nifer o raglenni, megis y prydau ysgol am ddim yn y gwyliau haf. Mae cymaint o bethau y gallen ni fod yn eu cyflawni gyda buddsoddiad.

Mae amryw o'r pwyntiau yma, wrth gwrs, wedi eu gwneud trwy'r pwyllgorau craffu amrywiol ac yn ystod trafodaethau blaenorol, felly'r hyn hoffwn i ganolbwyntio arno heddiw, sydd efallai ddim yn syndod i'r Gweinidog, ydy'r toriadau yn benodol ar y sector diwylliant a'r sector diwylliannol, sydd dwi'n credu yn mynd ar goll yn aml yn y sgwrs hon, oherwydd yn aml maen nhw’n cael eu gweld fel pethau opsiynol, pethau sydd yn neis i’w cael pan fydd gennym ni’r arian. Ond, i ni yng Nghymru, maen nhw yn rhan hanfodol o’n hunaniaeth ni, a dwi’n credu hefyd yn gryf ei fod o’n rhan bwysig o ddatblygiad economi Cymru. Rydych chi’n edrych tuag at yr Alban, rydych chi’n edrych tuag at Iwerddon; maen nhw’n buddsoddi mwy mewn diwylliant, mwy yn eu hamgueddfeydd cenedlaethol. Maen nhw’n gwneud hynny oherwydd eu bod nhw’n gweld y budd economaidd. Maen nhw hefyd yn gweld gwerth diwylliant o ran trio sicrhau rhai o’r pethau maen nhw’n ceisio’u cyflawni, megis o ran iechyd, oherwydd mae yna fuddion mawr. Rydyn ni’n gweld nifer o gynlluniau o ran dementia lle mae casgliadau mewn amgueddfeydd yn gallu bod yn hynod, hynod o bwerus o ran ysgogi’r cysylltiad bach yna. Mae yna gymaint o bethau tu hwnt i beth rydyn ni’n credu sy’n bwysig; nid y gwrthrych mewn cas sydd yn bwysig, ond y ffordd maen nhw’n cael eu defnyddio. Hefyd, os ydych chi’n edrych ar ein chasgliadau cenedlaethol ni—dwi wedi sôn o ran iechyd; mae hefyd o ran gwrth-dlodi, ac mae nifer o brosiectau sydd yn digwydd sydd yn ysgogi pobl ifanc a phlant i feddwl, ‘Dwi’n gallu bod yn cyflawni rhywbeth. Mae yna rywbeth o werth yn fy nghymuned i.’ Oherwydd, yn rhy aml, mae nifer o’r cymunedau rydyn ni’n eu cynrychioli, maen nhw’n clywed pethau negyddol am eu cymunedau nhw, sut oedd pethau’n arfer bod, ond yn meddwl does yna ddim gobaith, ac mae’r cysylltiad efo’r gorffennol hwnnw yn gallu ysgogi gymaint o bobl. Felly, dwi yn pryderu pan ydyn ni’n gweld weithiau hyn ar wahân i gyllidebau megis iechyd ac addysg a gwrth-dlodi.

Mae Dafydd Rhys o’r cyngor celfyddydau wedi gofyn am sgwrs genedlaethol ynglŷn a’r toriadau hyn, ond hefyd beth ydy gweledigaeth Cymru, a dwi’n falch ein bod ni’n gweithio ar strategaeth diwylliant fel rhan o’r cytundeb cydweithio, ond dwi’n credu ei bod hi’n sgwrs ehangach ar draws y Llywodraeth: beth mae’r celfyddydau a diwylliant yn eu golygu i’r Llywodraeth hon? Oherwydd yr hyn rydyn ni wedi ei weld ydy toriad ar ôl toriad, a dwi’n pryderu’n fawr am ddyfodol y casgliadau cenedlaethol. Rydyn hi wedi clywed rhybuddion gan ein sefydliadau cenedlaethol ni, gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac amgueddfa genedlaethol Cymru, fod y casgliadau mewn peryg. Mi gafwyd yr un rhybuddion yn Brasil pan welwyd wedyn y tân a ddinistriodd 92.5 y cant o’r casgliadau cenedlaethol. Allwn ni ddim anwybyddu hyn.

Mae'r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol wedi rhannu llythyr efo fi y prynhawn yma y gwnaethon nhw ei dderbyn gan y Dirprwy Weinidog ar 13 Chwefror sydd yn amlinellu ein bod ni, drwy’r cytundeb cydweithio, wedi gallu ail-bwrpasu refeniw a ddyrannwyd i gyflawni’r strategaeth diwylliant yn 2024-25 i liniaru effeithiau colli swyddi yn Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, a’r sector celfyddydau ehangach.

Mae PCS yn honni bod yr arian hwn er mwyn lliniaru effaith colli swyddi dim ond yn mynd i allu cael ei ddefnyddio i dalu am ddiswyddo staff drwy’r cynllun diswyddo gwirfoddol, ac maen nhw’n honni bod rhaid hawlio’r arian hwn yn ôl-weithredol er mwyn ariannu’r costau sy’n gysylltiedig â’r cynllun diswyddo, a dim ond i helpu i leihau maint gweithlu pob sefydliad y gellir ei ddefnyddio. Fedrwch chi, os gwelwch yn dda, amlinellu beth mae lliniaru effaith colli swyddi yn ei olygu, ac a wnewch gadarnhau na fydd yr arian sydd wedi ei ail-bwrpasu yn cael ei wario ar ddiswyddiadau? Mae angen staff yn ogystal ag adeiladau diogel er mwyn edrych ar ôl y casgliadau, ac mi fyddwn i yn hoffi cael sicrwydd mai nid cael ei ddefnyddio a’i ail-bwrpasu ar gyfer diswyddiadau mae’r arian hwn, tra hefyd yn croesawu, wrth gwrs, y lleihad i’r toriad i’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chadw, ond mae dal toriad yna, ac mae o’n beth pryderus.

15:05

Mae ein sefyllfa gyllidebol yn parhau i fod yn heriol iawn am lu o resymau, ac mae'n ymddangos na fydd yn newid yn y dyfodol agos. Bydd yn rhaid i bob corff cyhoeddus ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio os ydym am dalu sylw i eiriau Syr Paul Williams yn 2013 sef,

'mae angen newid radical er mwyn i wasanaethau cyhoeddus oroesi mewn ffurf hyfyw a chynaliadwy.'

Rydym yn parhau i fod yn bell iawn o argymhellion Y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, ac rwy'n credu bod hynny'n parhau i fod yn her fawr iawn i bob un ohonom.

Rwy'n deall y rhesymau dros flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen ym maes iechyd, llywodraeth leol a chefnogi teuluoedd i oroesi costau byw drwy'r gronfa cymorth dewisol, y gronfa gynghori sengl a'r cynllun treialu incwm sylfaenol hollbwysig ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, yr ydym eisoes wedi'i drafod y prynhawn yma.

Roeddwn i'n falch o glywed Rhun ap Iorwerth yn sôn am bwysigrwydd atal, oherwydd rwyf am dynnu sylw at sylwadau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru nad oes dull gweithredu cyllideb gyfan ar hyn o bryd o ran atal. Yn anffodus, mae tystiolaeth drwy gydol dogfennau'r gyllideb o wariant ataliol yn cael ei leihau, ac nid oes llawer o dystiolaeth o ddadansoddi effaith hirdymor hyn, a fydd â'r potensial i gynyddu'r galw ar wasanaethau yn y dyfodol. Nid ydym yn brin o enghreifftiau bob dydd o oedi datblygiad plant, sy'n amlwg yn arwain at fwy o gost, iechyd cyffredinol y genedl yn dirywio, neu effaith llai o bŵer gwario pobl ar fusnesau bach, fel y sector lletygarwch. Ni all y gwasanaeth iechyd oroesi fel corff sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus ac sydd yn rhoi gofal am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen oni bai y gallwn fod yn fwy effeithiol wrth atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf.

Bob mis, rydym yn gwybod bod 1.5 miliwn o bobl yn cysylltu â gofal sylfaenol. Dyna hanner y boblogaeth gyfan. Ac mae'r Gweinidog iechyd presennol wedi gwneud llawer iawn i wthio mwy o arian i ofal sylfaenol i ddarparu ar gyfer yr holl bobl hynny sydd angen cymorth gofal sylfaenol i fynd i'r afael â'r afiechyd y maent eisoes yn dioddef ohono. Mae angen i ni gael strategaethau i leihau nifer y bobl sy'n cael eu cyfeirio at ofal eilaidd—1.5 miliwn o bobl bob blwyddyn. Dyna hanner y boblogaeth. Rydyn ni wir yn genedl sâl iawn. Felly, rwy'n canmol gwaith ein byrddau iechyd am ddod â rhestrau aros i lawr—eto, nid rhywbeth y mae'r wrthblaid erioed wedi sôn amdano—ac, yn wir, lleihau bil yr asiantaeth nyrsio £65 miliwn drwy recriwtio a chadw mwy o nyrsys ar lyfrau byrddau iechyd eu hunain.

Ond mae heriau enfawr yn parhau o amgylch yr hawliadau cyflog y mae meddygon iau a nawr meddygon ymgynghorol yn gofyn amdanynt i adlewyrchu costau byw cynyddol. Ac nid oes unrhyw beth ond rhwystredigaeth yn fy meddwl ynghylch diffyg tryloywder Trysorlys y DU am fethu â dweud wrth Lywodraeth Cymru mewn unrhyw fath o ffordd amserol pa gyllid canlyniadol y gallwn ei ddisgwyl ar gyfer setliad hawliadau cyflogau'r GIG yn Lloegr. Pa mor anghyfrifol yw hynny? Ni allwn fynd i drafodaethau cyflog nes ein bod yn gwybod pa arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Dyma'r math o heriau yr ydym yn eu hwynebu.

Braf iawn oedd clywed Heledd Fychan yn siarad am y toriadau i'n sefydliadau diwylliannol a'r cysylltiad rhwng diwylliant ac iechyd. Mae angen rhosod ar Gymru yn ogystal â bara er mwyn ennyn cefnogaeth ein cymunedau ar gyfer Cymru gydlynus yn erbyn yr ymosodiadau di-baid ar ein Llywodraeth ddatganoledig, nid yn unig o San Steffan ond hefyd o fuddiannau masnachol dramor. Mae'n rhaid i ni harneisio'r ymdeimlad cynhenid o undod, heddiw o bob diwrnod, ar ben-blwydd streic y glowyr ym 1984, sy'n clymu ein cymunedau at ei gilydd, sy'n cadw ein cydlyniant diwylliannol yn fyw i frwydro yn erbyn y camwybodaeth maleisus sy'n gosod un unigolyn yn erbyn un arall gyda diwylliant 'fi yn gyntaf' a fydd yn sicr yn cael ei adlewyrchu yn y datganiad ariannol gan Ganghellor y DU yfory.

Felly, i fynd yn ôl i'n sefydliadau diwylliannol, mae'r amgueddfa genedlaethol, sydd yn fy etholaeth i, a'r llyfrgell genedlaethol, yn cael dros 10 y cant o doriadau yn y gyllideb, ac rwy'n pryderu am effaith colli swyddi anochel ar hyfywedd cyrff diwylliannol cenedlaethol pwysig. Mae 40 o swyddi yn debygol o fynd yn y llyfrgell genedlaethol, a hyd at 90 yn yr amgueddfeydd cenedlaethol. Mae'r cymorth ariannol ychwanegol hwn yr oedd Heledd Fychan yn sôn amdano wedi bod ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon fel nad yw'r sefydliadau hynny'n wynebu toriadau mewn gwasanaethau a thaliadau diswyddo anochel ar yr un pryd â chyllideb is.

15:10

Ond mae'n cael ei ariannu drwy addasu £2 filiwn o refeniw at ddibenion gwahanol a ddyrannwyd yn wreiddiol i strategaeth ddiwylliannol Cymru. A yw'r strwythurau llywodraethu yn addas i'r diben i lywio'r sefydliadau hynny trwy'r heriau ariannol a sefydliadol presennol ac a ydyn nhw wir yn cynnwys staff yn y penderfyniadau anodd er mwyn eu halinio â'r bartneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus—

15:15

—gyda'i gilydd a sefydliadau fel Cyngor Llyfrau Cymru? Mae'r £1.4 miliwn ychwanegol sydd wedi'i ddyrannu—

—a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i'w groesawu, ond pa mor dda yw'r ffordd y mae'r sefydliadau hyn yn cydweithio, a hwythau'n swnio'n debyg iawn i'w gilydd—

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl gyd-Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl y prynhawn yma. A dim ond i fyfyrio, mewn gwirionedd, fod y gyllideb wedi bod yn ymwneud â mynd i'r afael â'r pryderon hynny y mae pobl yn dweud wrthym sydd bwysicaf iddyn nhw, sef gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd, ond, fel yr ydym wedi clywed drwy gydol y ddadl y prynhawn yma, mae wedi golygu bod rhai dewisiadau anodd iawn wedi'u gwneud ar draws y Llywodraeth i gefnogi'r cyllid ychwanegol yr ydym wedi gallu ei ddarparu ar gyfer y GIG yn benodol. Ac, wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r GIG i ymdopi â'r pwysau parhaus y mae'n eu hwynebu, gan gynnwys y galw anochel mewn codiadau chwyddiant, yn ogystal â rhai pwysau ôl-COVID eraill, y mae'r GIG yn dal i weithio drwyddynt ar hyn o bryd.

Felly, fel y gwyddoch chi, byddwn yn buddsoddi £450 miliwn arall yn y GIG y flwyddyn nesaf, ond mae hynny'n ychwanegol at y £425 miliwn y gwnaethom ei ddarparu ym mis Hydref. Mae hynny'n cyfateb i gynnydd o fwy na 4 y cant yn 2024-25, o'i gymharu â llai nag 1 y cant ar gyfer y GIG yn Lloegr. Ac mae ffigurau'r Trysorlys ei hun, yn eu ffigurau a gyhoeddwyd fwyaf diweddar, yn dangos ein bod, yng Nghymru, wedi gwario 14 y cant yn fwy y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd, ac mae hynny'n dangos—. Mae'n dweud rhywbeth, gan sôn am lefel y galw sydd gennym, ond mae'n dangos lefel yr ymrwymiad hefyd sydd gennym i'r GIG ac i ofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Ond hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol hwnnw, bydd hi, serch hynny, yn flwyddyn heriol i'r GIG, a gwn fod y Gweinidog iechyd wedi bod yn glir iawn fel rhan o broses gynllunio'r GIG—

Ei bod wedi nodi'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae fframwaith cynllunio GIG Cymru ar gyfer 2024-27 yn nodi'r blaenoriaethau am dair blynedd ac yn cydnabod yr angen i sefydlogi sefyllfa ariannol y sefydliadau hynny. Fe gymeraf yr ymyriad.

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Mewn dadleuon blaenorol, nid cymaint heddiw, rydym wedi siarad yn helaeth am y cynnydd yng nghronfa'r GIG—fel y dyfynnwyd gennych yna, y ffigur—ond pan fyddwch chi'n cymharu hynny â faint o fyrddau iechyd sydd yn y coch yng Nghymru, ac mae wedi cael sylw mewn dadleuon blaenorol, fel rydw i wedi dweud, wyddoch chi, ynghylch y ffaith mai mantoli'r gyllideb yw ar y gorau, neu efallai toriad mewn termau real mewn gwirionedd o ran faint yn y coch y mae gwasanaethau'r GIG. Felly, yn amlwg, rydym yn croesawu mwy o gyllid i'r GIG, ond, mewn gwirionedd, sut olwg fydd ar hynny ar reng flaen y gwasanaethau? Ydy nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol yn y sector yn mynd i deimlo hyn, neu ai dim ond—? Wyddoch chi, ai dim ond sylw i wneud i'r Llywodraeth edrych yn dda yw e' yn y bôn?

Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw cydnabod yr angen aruthrol sydd o fewn y GIG, ac mae un o'r rheini'n ymwneud yn arbennig â chyflogau. Dyna un o'r pwysau mwyaf sy'n ein hwynebu yn y GIG, ac un o'r trafferthion sydd gennym yw'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyfarniad cyflog yn ymwneud ag 'Agenda ar gyfer Newid' y GIG yn ôl ym mis Mawrth y llynedd ac nid ydym hyd yn oed yn gwybod ym mis Mawrth eleni a yw'r cyllid hwnnw yn un sylfaenol ar gyfer y flwyddyn nesaf ai peidio. Felly, rydym wedi gwneud rhai rhagdybiaethau yn y gyllideb yr ydym yn pleidleisio arni heddiw, a gobeithio, y bydd gennym rywfaint o eglurder ar hynny yfory. Unwaith eto, mae'n dangos lefel y risg yr ydym yn ei chario o flwyddyn i flwyddyn pan fydd yn rhaid i ni wneud rhagdybiaethau ynghylch symiau sylweddol o gyllid a allai fod yn dod i Lywodraeth Cymru neu beidio. Ond, fel y dywedais i, rydym yn gobeithio cael rhywfaint o eglurder ar hynny yng nghyllideb Llywodraeth y DU yfory.

Rydym hefyd wedi cydnabod bod diogelu gofal cymdeithasol yn beth allweddol ac yn agos at galon pobl ledled Cymru ac yn rhywbeth yr ydym wedi'i flaenoriaethu yn y gyllideb hon, ochr yn ochr â gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen eraill a ddarperir gan lywodraeth leol. Dyna pam yr ydym yn gallu darparu cynnydd o 3.3 y cant i'r gyllideb. Fe gofiwch ein bod wedi bwriadu cael cynnydd o 3.1 y cant, ond, ar ôl gwrando ar gyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru yn benodol, sydd wedi gofyn i ni flaenoriaethu cyllid ar gyfer llywodraeth leol pe bai cyllid ychwanegol ar gael i ni, roeddem yn gallu darparu'r £25 miliwn ychwanegol hwnnw, yn rhannol drwy'r grant gweithlu gofal cymdeithasol, ond yna £14.4 miliwn o hynny i'r grant cynnal refeniw, sy'n golygu y bydd codiad cyffredinol o 3.3 y cant nawr, sy'n sefyllfa well i lywodraeth leol.

Mae'n bwysig iawn cydnabod hefyd ein bod wedi blaenoriaethu addysg ac yn enwedig ysgolion o fewn y gyllideb. Felly, mae'r cynnydd o 3.3 y cant yn cydnabod bod llywodraeth leol yn darparu cefnogaeth i ysgolion yn bennaf, ond rydym wedi diogelu, er enghraifft, ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau. Roeddem wedi bwriadu, mewn gwirionedd, lleihau honno'n raddol eleni, ond roedd y Gweinidog addysg yn glir ynghylch y budd y mae hynny'n ei gynnig i ysgolion, sef un o'r rhesymau pam nad ydym wedi llwyddo i wneud hynny, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. Ac eto, o edrych ar ffigurau'r Trysorlys hynny, rydym yn gwario 17 y cant yn fwy y pen yng Nghymru ar addysg nag y maent yn ei wneud dros y ffin yn Lloegr, gan ddangos eto y flaenoriaeth yr ydym yn ei rhoi i addysg. Felly, nid wyf yn credu bod y cyfraniadau yr ydym wedi'u clywed gan feinciau'r Ceidwadwyr, sy'n awgrymu nad ydym yn blaenoriaethu addysg yn y ffordd y dylem, yn dal dŵr pan fyddwn yn dangos lefel yr amddiffyniad a ddarparwn a'r swm sylweddol o gyllid ychwanegol y pen a ddarparwn yma yng Nghymru.

Ac unwaith eto, rydym wedi ceisio'n gryf iawn i ddiogelu prentisiaethau cyn belled ag y bo modd. Ers dros ddau ddegawd, mae ein rhaglenni prentisiaeth yng Nghymru wedi manteisio ar gyllid yr UE, gan ddarparu diweithdra is, hybu sgiliau, busnesau sy'n tyfu, ond nid oes ceiniog bellach o'r cronfeydd hynny ar gael inni wrth symud ymlaen. Rydym o leiaf £375 miliwn yn waeth ein byd bob blwyddyn o ganlyniad i broses ffyniant bro fel y'i gelwir, ac wrth gwrs mae hynny'n ychwanegol at y ffaith bod ein cyllideb yn werth cymaint llai y flwyddyn nesaf o ganlyniad i chwyddiant. Fodd bynnag, mae buddsoddiad prentisiaeth yn parhau i fod y brif flaenoriaeth gwariant i adran Gweinidog yr economi, gan gydnabod y manteision hirdymor y mae yn ei gynnig i ddysgwyr a'r economi gyfan, yn ogystal â'r pwysau cyllido mawr, neu er gwaethaf y pwysau cyllido mawr a achoswyd pan gollwyd cronfeydd yr UE. Byddwn yn dal i fuddsoddi dros £140 miliwn mewn prentisiaethau o safon y flwyddyn nesaf, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig i'w gydnabod.

Ac yna rwyf hefyd eisiau cydnabod y sylwadau hynny am gefnogi cymunedau gwledig hefyd. Rydym wedi gweithio'n galed iawn i ddiogelu'r cynllun taliadau sylfaenol. Unwaith eto, mae hynny'n flaenoriaeth a rennir gyda Phlaid Cymru, ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i Jane Dodds hefyd. Wrth ddiogelu hynny, rydym wedi gwrando ar ffermwyr ledled Cymru sydd wedi dweud ei bod yn bwysig iawn, pan fyddwn yn wynebu'r dewisiadau anodd hyn ar draws y Llywodraeth, mai'r cynllun talu sylfaenol oedd eu prif flaenoriaeth ac rydym wedi diogelu hynny am y flwyddyn ariannol nesaf hefyd, ac roedd hynny yn wyneb pwysau sylweddol ar draws y Llywodraeth. Mae'n un o'r meysydd cyllid unigol mwyaf y gallem edrych arnynt, felly roedd gallu diogelu hynny, rwy'n credu, yn eithaf rhyfeddol.

Felly, wrth edrych ymlaen at yfory, wrth gwrs, mae pethau'n newid bron yn syth yn yr ystyr y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno ei datganiad y gwanwyn. Beth fyddwn ni'n hoffi ei weld yn hwnnw? Wel, rydym eisiau gweld y Canghellor yn defnyddio unrhyw hyblygrwydd a allai fod ar gael iddo i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i beidio â chreu problemau ar gyfer y dyfodol trwy wneud addewidion a gwneud ymrwymiadau nad ydynt yn realistig. Ni weithiodd cyni y tro cyntaf, ac yn sicr nid oes angen dos arall o hwnnw arnom. Yr hyn sydd ei angen arnom yw buddsoddiad. Ac nid dim ond ni sy'n dweud hynny. Mae Comisiwn Twf Ysgol Economeg Llundain, er enghraifft, a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yr holl sefydliadau hyn yn dweud mai'r ffordd i dyfu'r economi yw buddsoddi mewn seilwaith a buddsoddi mewn sgiliau, a dyna beth rydyn ni'n gofyn i Lywodraeth y DU ei wneud yfory.

Mae ein gofyniadau penodol i Gymru, wrth gwrs, yn ymwneud â rhywbeth yr oedd y Prif Weinidog yn siarad amdano adeg cwestiynnau i'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, ac mae hynny'n ymwneud yn benodol â chyfraniad bach i'n hymdrechion i fynd i'r afael â'r materion etifeddiaeth mewn cysylltiad â'n treftadaeth lofaol. Ac yna, hefyd, chwarae teg ynghylch rheilffyrdd. Gwyddom fod Cymru eisoes wedi colli mwy na £250 miliwn o ganlyniad i gamddosbarthu HS2. Ni all hynny barhau, felly mae angen i ni weld chwarae teg ynghylch rheilffyrdd hefyd. Felly, dyna rai o'r pethau allweddol yr ydym yn gofyn i'r Canghellor fynd i'r afael â nhw yn ei ddatganiad yfory. Ond fel y soniais i yn gynharach heddiw, edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd cyn gynted ag y gallaf ar ôl y datganiad hwnnw.

15:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

5. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2024-25

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar.

Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar setliad llywodraeth leol 2024-25, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8500 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2024-25 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd i'w gymeradwyo, setliad llywodraeth leol 2024-25 ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru. Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i lywodraeth leol, aelodau etholedig a staff ar draws gwasanaethau llywodraeth leol, am y gwaith hanfodol y maent yn ei wneud i gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru. Mae wedi bod yn flynyddoedd o dan bwysau eithriadol i lywodraeth leol, o lifogydd i'r pandemig, i'r argyfwng costau byw parhaus, a gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i ddiolch iddynt am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Wrth baratoi ar gyfer cyllideb Cymru a'r setliad hwn, rydym wedi ymgysylltu'n agos â llywodraeth leol drwyddi draw, ac rwy'n ddiolchgar i lywodraeth leol am y ffordd y cynhaliwyd y trafodaethau hynny.

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru werth hyd at £1.2 biliwn yn llai mewn termau real nag yr oedd pan gafodd ei gosod yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn 2021. Nid yw ein setliad, sy'n dod yn bennaf gan Lywodraeth y DU ar ffurf y grant bloc, yn ddigonol i ymdrin â'r holl bwysau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu o ganlyniad i chwyddiant uchel parhaus a galw cynyddol. Hyd yn oed cyn y cyfnod hwn o chwyddiant uchel, roeddem yn gwybod mai trydedd flwyddyn yr adolygiad gwariant fyddai'r anoddaf.

Wrth i ni ddatblygu cyllideb derfynol 2024-25, rydym wedi blaenoriaethu diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd cyn belled ag y bo modd, cefnogi'r aelwydydd sydd wedi'u taro galetaf, a blaenoriaethu swyddi lle y gallwn. Fel yr wyf eisoes wedi hysbysu'r Senedd, rwyf wedi defnyddio'r dyraniadau cyllid canlyniadol a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gynyddu setliad llywodraeth leol £14.4 miliwn. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y gwasanaethau cyhoeddus craidd hyn ac yn ymateb i alwadau gan arweinwyr awdurdodau lleol ac eraill i flaenoriaethu llywodraeth leol pe bai adnoddau pellach ar gael.

Eleni, rwy'n cynnig setliad i'r Senedd ar gyfer 2024-25 sydd 3.3 y cant yn uwch nag yn y flwyddyn ariannol gyfredol ar sail tebyg â'i debyg. Ac mewn termau arian parod mae cynnydd o £184 miliwn. Yn 2024-25, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn £5.7 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Ni fydd unrhyw awdurdod yn derbyn cynnydd o lai na 2.3 y cant. Yn ogystal, rwyf wedi darparu gwybodaeth ddangosol am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2024-25. Mae'r rhain yn cyfateb i dros £1.3 biliwn ar gyfer refeniw, a bron i £1 biliwn ar gyfer cyfalaf ar gyfer ein blaenoriaethau a rennir gyda llywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys adfer £10 miliwn ar gyfer y grant gweithlu gofal cymdeithasol, gan ymateb i bwyntiau penodol a wnaed gan Aelodau ac awdurdodau lleol. Ni fydd cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol yn 2024-25 yn newid ers y llynedd gan aros ar £200 miliwn, ac mae hyn yn cynnwys £20 miliwn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio. Gofynnaf i'm cyd-Aelodau gefnogi'r cynnig.

15:25

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar James Evans i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor oherwydd tanariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn glaw ar Lywodraeth Cymru, cyn y setliad llywodraeth leol nesaf:

a) i gomisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru;

b) i weithio gydag awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; ac

c) i’w gwneud yn ofynnol bod unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig cynnydd o fwy na 5 y cant yn y dreth gyngor yn cynnal refferendwm lleol ac yn cael canlyniad cadarnhaol yn y bleidlais cyn gweithredu'r codiad arfaethedig.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad heddiw gan gydnabod gwaith cynghorwyr a staff cyngor, ledled Cymru, sy'n gweithio ar gyllidebau ar adeg anodd iawn. Fel cyn-gynghorydd ac aelod o'r cabinet fy hun, rwy'n cofio'r pwysau yn rhy dda y bu'n rhaid i ni ymdrin â nhw wrth bennu cyllidebau, ac nid yw bob amser yn brofiad dymunol iawn, mantoli'r cyfrifon, pan fo llawer o wasanaethau'r cyngor yn gweiddi am fwy a mwy o gyllid. Y tro hwn mae'n teimlo'n arbennig o anodd.

Mae yna gynnydd enfawr yn y dreth gyngor sy'n cael ei gynnig ledled Cymru, ac mae trethdalwyr dan bwysau yn mynd i gael eu taro galetaf yn eu pocedi. Er enghraifft, yn sir Benfro, y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yw 16.31 y cant, sy'n golygu y bydd y dreth gyngor band D ar gyfartaledd yn codi dros £219. Hwn fydd y trydydd cynnydd mwyaf yn y dreth gyngor yng Nghymru ers 1997-98 o ran canran, a'r cynnydd mwyaf yn y dreth gyngor ledled Cymru a Lloegr ers 2012-13. Yng Ngheredigion, mae'r cynnydd yn y dreth gyngor yn 11.1 y cant, yr ail uchaf yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y bydd y lefel sylfaenol ar gyfer eiddo cyfartalog band D yno yn neidio o £1,553.60 i hyd at £1,726.05. Wrth gwrs, mae yna lawer o gynghorau eraill lle mae cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor, ac ar yr un pryd, gwasanaethau'n cael eu cwtogi. Mae pobl yn llythrennol, ar draws Cymru, yn talu mwy am lai.

Nid yw'r cynghorau hyn yn bodoli mewn gwactod. Maent yn dibynnu ar fformiwla ariannu gennych chi. Gweinidog, mae'n eithaf amlwg i'r rhan fwyaf o arsylwyr nad yw fformiwla ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau, y cytunwyd arni gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn addas i'r diben, ac mae gennym senario ar waith lle mae cynghorau gwledig ar eu colled, ac felly hefyd y rhai yn y gogledd. Mae hyn yn creu system o enillwyr a chollwyr yn fwriadol. Rydyn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, eisiau gweld adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu gan nad yw'r status quo yn gweithio; nid yw'n gweithio i'r cynghorau hynny mewn sefyllfaoedd anodd, ac nid yw'n gweithio i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Ac rwy'n gwybod, pan oeddwn i'n eistedd ar CLlLC, ynghyd â fy nghyd-Aelod Peter Fox, fod y Ceidwadwyr Cymreig yno wedi galw ers tro am adolygiadau o'r fformiwla ariannu, dim ond iddynt gael eu hatal dro ar ôl tro gan gynghorwyr Llafur.

Mae yna hefyd lawer o waith y gall Llywodraeth Cymru ei wneud gyda chynghorau ar ddefnydd gwell o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio er mwyn diogelu'r gwasanaethau pwysig a chefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed ar adeg gynyddol anodd. Dywedir yn aml fod cronfeydd wrth gefn yno ar gyfer diwrnod glawog, a byddwn yn awgrymu i'r holl gynghorau hynny sy'n eistedd ar gronfeydd wrth gefn mawr fod hwn yn ddiwrnod glawog erbyn hyn. Ni fydd pobl allan yna yn deall pam nad yw gwell defnydd wedi'i wneud o gronfeydd wrth gefn cyngor. Yn wir, mae yna ddryswch eang ynghylch y broses gyfan o osod cyllideb a'r ffordd y mae pobl yn dioddef cynnydd enfawr yn y dreth gyngor heb i'r cyhoedd gael gwybod. Nid yw hynny'n iawn. Dylid dod â phobl ynghyd yn y broses hon a dylid gofyn am eu caniatâd. Dyna pam yr hoffem weld, ar y meinciau Ceidwadol Cymreig hyn, unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig codiad yn y dreth gyngor o dros 5 y cant yn cynnal refferendwm lleol ar gyfer eu cynnydd treth. Os nad ydyn nhw'n cael cefnogaeth y cyhoedd, yna nid yw cynnydd yn mynd drwodd. Os na fyddan nhw'n mynd drwodd, bydd yn rhaid i'r cynghorau fynd yn ôl a meddwl eto.

Mae'n amlwg yn gyfnod anodd i gynghorau, ond mae mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i wneud pethau'n haws i awdurdodau lleol, a dylid cymryd camau er mwyn lleihau'r angen i'r cynghorau hynny wthio cynnydd yn y dreth gyngor yn uwch ac yn uwch. Mae'r bobl rydym yn eu cynrychioli yn teimlo'n annifyr wrth weld Llywodraeth Cymru yn hidlo symiau mawr o arian ar bolisïau amhoblogaidd, fel mwy o wleidyddion, terfyn cyflymder diofyn o 20 mya, a hyd yn oed prynu Fferm Gilestone yn fy etholaeth i. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrth gynghorau a chynghorwyr nad oes digon o arian i'w cefnogi. Os yw'r Llywodraeth hon yn credu hynny, efallai fod angen iddi fod yn geidwad gwell o ran sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. A'r cyfan y gallaf ei ddweud wrth Aelodau yn y Senedd hon yw, 'Cefnogwch ein gwelliannau heddiw', ac, os oes gan y Dirprwy Weinidog rywbeth i'w ddweud, byddaf yn falch o gymryd ymyriad ganddo. Diolch.

15:30

Nid gor-ddweud yw dweud bod y ddadl hon yn dod ar adeg pan fo argyfwng dirfodol yn ein hawdurdodau lleol. Mae pedair blynedd ar ddeg o gyni a ysgogwyd gan y Torïaid wedi gadael cyllid llywodraeth leol yng Nghymru mewn cyflwr cwbl ddinistriol, gan beryglu gallu awdurdodau lleol i ddarparu hyd yn oed y lefel fwyaf sylfaenol o wasanaethau cyhoeddus. Mae'r posibilrwydd o fethdaliad, sydd eisoes wedi digwydd mewn sawl cyngor yn Lloegr, bellach yn gysgod mawr. Mae arolwg diweddar gan y gymdeithas llywodraeth leol wedi dangos bod bron i un o bob pum awdurdod lleol yn credu ei bod yn debygol neu'n debygol iawn y bydd angen iddynt gyhoeddi hysbysiad adran 114 yn y 24 mis nesaf oherwydd pwysau cyllid.

Rydym yn croesawu'r cynnydd o 3.3 y cant i'r setliad craidd ar gyfer awdurdodau lleol, a fydd yn lleddfu rhai o'r pwysau eithafol y maent yn eu hwynebu. Rydym hefyd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar alwad Plaid Cymru i'r £25 miliwn mewn cyllid canlyniadol a dderbyniwyd fis diwethaf gael ei drosglwyddo i lywodraeth leol. Er ein bod yn parhau o'r farn y byddai'n ddefnydd mwy effeithiol o'r arian pe bai'r cyllid gwaelodol ar gyfer y grant cynnal refeniw yn cael ei godi i 3 y cant, bydd unrhyw adnoddau ychwanegol, ni waeth sut y cânt eu dosbarthu, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Ond yng nghyd-destun chwyddiant ystyfnig o uchel, prisiau ynni uchel ac economi sy'n gwaethygu yn y DU, y gwir amdani yw bod yna bendraw ar y setliad craidd. Mae cynghorau ledled Cymru yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ar doriadau pellach a chynnydd sylweddol i drethi'r cyngor.

Nawr, mae'n amlwg o'u gwelliant bod Aelodau Torïaidd yma yn poeni am yr olaf, ond, fel arfer, maent wedi methu'n llwyr â chydnabod euogrwydd eu cydweithwyr yn San Steffan wrth wthio awdurdodau lleol at y dibyn. Mae'n ymddangos eu bod hefyd o dan gamargraff mai'r ffordd o ddatrys y sefyllfa hon yw i awdurdodau lleol dynnu arian o'r cronfeydd wrth gefn enfawr maent wedi bod yn eu rhoi o'r neilltu fel gwiwerod heb reswm da. O ran yr awgrym o wneud cynnydd o dros 5 y cant i'r dreth gyngor yn amodol ar refferendwm lleol, mae'n werth atgoffa pawb bod Cyngor Sir Fynwy a reolir gan y Torïaid wedi cynyddu ei drethi cyngor yn uwch na'r cyfartaledd ledled Cymru yn 2021. Doedd y Ceidwadwyr hynny yn sir Fynwy ddim yn teimlo'r angen i gyfeirio'r penderfyniad hwnnw at yr etholwyr lleol. Ar ben hynny, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n cael ei redeg ar hyn o bryd gan gyfuniad o aelodau annibynnol, Torïaid a Democratiaid Rhyddfrydol, yn cyflwyno cynnydd o bron i 10 y cant yn y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, eto heb gynnal pleidlais gyhoeddus. Byddwn hefyd yn cwestiynu doethineb gorfodi cynghorau i gynnal refferenda costus sy'n cymryd llawer o amser bob tro y cânt eu gorfodi i wneud penderfyniad anodd ar drethi cyngor. Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o gynghorwyr, o bob perswâd gwleidyddol, yn cytuno â mi pan ddywedaf mai dim ond gwaethygu'r wasgfa ar eu hadnoddau sydd eisoes dan bwysau y byddai hyn. Yn hytrach na dilorni ymdrechion cynghorwyr gweithgar ledled Cymru, neu gynnig gimigau di-fudd, byddai'n well i Aelodau Torïaidd ddefnyddio'u hamser a'u hegni yn rhoi'r bai ar y rhai sy'n gyfrifol. Wrth gwrs, rwy'n siarad am Lywodraeth y DU, y mae ei pholisïau ers 2010 wedi arwain at erydiad termau real o 12 y cant yng ngrym gwario awdurdodau lleol. Byddai hefyd yn fwy buddiol iddynt dynnu sylw at annhegwch sylfaenol trefniadau cyllido presennol San Steffan ar gyfer Cymru, ac rwy'n falch bod hyn wedi'i adlewyrchu yn eu cyfraniad i'r ddadl yr wythnos diwethaf ar hyblygrwydd cyllidebol.

Ac ar y mater hwnnw, mae gan bob Aelod Llafur yma gyfrifoldeb i dynnu sylw at ddiffyg gweithredu a thawelwch arweinydd eu plaid eu hunain yn y DU, oherwydd er bod esgeuluso Cymru ar ran Llywodraeth bresennol y DU wedi hen ennill ei blwyf ers peth amser, mae hefyd yn amlwg nad yw darpar Lywodraeth Keir Starmer yn cynnig dim ond yr un peth. Rwyf wedi clywed Prif Weinidog Cymru yn honni ar sawl achlysur y bydd newid Llywodraeth yn San Steffan yn sicrhau'r buddsoddiad sydd ei angen arnom yng Nghymru i adfer y gwasanaethau cyhoeddus sydd dan warchae. Ar yr wyneb, mae hyn yn ymddangos braidd yn naïf, gan ei fod yn groes i realiti gweledigaeth wirioneddol Starmer ar gyfer bod mewn grym, sy'n seiliedig ar fersiwn wedi'i hail-lunio o gyni ac addewid i beidio â throi'r tapiau gwario ymlaen. Yn fwyaf damniol, er iddo gael llawer o gyfleoedd i wneud hynny, mae Starmer wedi gwrthod yn gyson i ymrwymo i'r model cyllido tecach sydd ei angen ar Gymru. Felly, mae'n siomi ein hawdurdodau lleol, sy'n gweiddi am ddiwedd pendant i'r cyfnod hwn o gyni. Mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd felly, i sefyll dros ein hawdurdodau lleol drwy anfon neges glir i ddwy blaid fawr San Steffan nad yw busnes fel arfer yn ddigon da a mynnu gwell ganddyn nhw i bobl Cymru. Diolch yn fawr.

15:35

Mae'r setliad llywodraeth leol yn ddim ond un rhan o incwm llywodraeth leol, er y brif ran. Cyn canoli ardrethi busnes, roedd awdurdodau lleol yn arfer codi cyfran llawer mwy o'u hincwm yn lleol, a hoffwn weld ardrethi busnes yn dychwelyd i awdurdodau lleol. Mae cynghorau'n cael incwm drwy'r dreth gyngor, ac mae cynghorau hefyd yn cael incwm o ffioedd a thaliadau maen nhw'n eu codi. Nid yw'n bosib cymharu cynghorau o ran y gefnogaeth gawn nhw gan y Llywodraeth. Ym Mlaenau Gwent, mae dros hanner yr eiddo ym mand A. Yn sir Fynwy, mae 500 o eiddo band A. Felly, o ran unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn seiliedig ar fand D, bydd Trefynwy yn codi llawer mwy.

Prif sbardun cymorth Llywodraeth Cymru yn cynyddu yw newid yn y boblogaeth. Bydd cynghorau sydd â chynnydd yn y boblogaeth yn cael cynnydd canrannol uwch na'r rhai sydd â phoblogaeth sy'n gostwng. Rydym yn gweld y ganran fwyaf yn codi yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe a sir Ddinbych, sydd yn ôl pob tebyg wedi symud ei leoliad daearyddol i dde Cymru. Mae ail gartrefi a chartrefi sydd wedi'u cofrestru fel llety gwyliau yn golygu llai o gefnogaeth i rai cynghorau. Mae newid y fformiwla yn hawdd—nid yw ond yn creu enillwyr a chollwyr. Pan oeddwn yn rhan o hyn, symudwyd yr asesiad gwariant safonol priffyrdd o 52 y cant o'r boblogaeth a 48 y cant o hyd y ffordd, i 50 y cant ar gyfer pob un. Mae'n ymddangos yn rhesymol, onid yw? Symudodd hyn gannoedd o filoedd o bunnoedd o Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd i sir Benfro, Gwynedd a Phowys. Gofynnaf unwaith eto i Lywodraeth Cymru ddarparu'r Asesiad o Wariant Safonol manwl a chyfrifiadau cyllid allanol cyfanredol manwl—mae'n rhaid eu bod yn bodoli, er mwyn darparu'r canlyniadau terfynol. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon dangos ei chyfrifiadau? Dywedodd y Ceidwadwyr bod y cynnydd canran yn y gogledd yn annheg a bod y fformiwla yn ffafrio de Cymru. Dangoswch hynny. Yr unig ffordd y cewch chi'r Ceidwadwyr i'w dderbyn yw dangos y cyfrifiadau fel y gallant eu hail-gyfrifo eu hunain.

Fe hoffwn i weld cynghorau'n cael mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Ond beth sydd wedi digwydd yn Lloegr? Rydym ni wedi gweld cynghorau fel Swydd Northampton a Birmingham, i bob pwrpas, yn methdalu, sy'n profi nad yw cynghorau mawr yn imiwn i broblemau ariannol difrifol. Yn wyneb heriau digynsail, rydym ni wedi cael rhybudd bod nifer o awdurdodau lleol yn Lloegr naill ai eisoes wedi cyhoeddi hysbysiadau adran 114, neu'n debygol o wneud hynny, gan gyhoeddi i bob pwrpas nad ydyn nhw'n gallu cyflawni cyllideb gytbwys. Rydym ni wedi gweld rhai o'r cynghorau lleiaf yn Lloegr yn cronni dyledion enfawr trwy brynu archfarchnadoedd, parciau busnes a swyddfeydd, gan glymu dyfodol eu gwasanaethau cyhoeddus i ansicrwydd y farchnad eiddo. Mae cynghorau ar draws Lloegr wedi benthyg symiau enfawr—mewn rhai achosion, sy'n cyfateb i 10 gwaith eu cyllideb flynyddol—i ariannu prynu eiddo tiriog. Hyd yn hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Spelthorne wedi benthyca £1 biliwn, er bod ganddo gyllideb flynyddol net o ddim ond £22 miliwn. Mae hyn yn cyfateb i 46 gwaith ei rym gwario. Mae tri chyngor arall—Woking, Runnymede ac Eastleigh—wedi benthyg mwy na 10 gwaith eu cyllideb flynyddol. Yng Nghymru, nid oes yr un cyngor wedi mynd yn fethdalwr nac wedi mentro ar y farchnad eiddo, yn rhannol o leiaf oherwydd bod cynghorau wedi cael adnoddau gwell yng Nghymru—nid adnoddau digonol ond adnoddau gwell. Ond mae yna fygythiad ariannol difrifol ar hyn o bryd ac mae'r cyllidebau yn dynn. Pan osodir dyletswyddau ychwanegol ar gynghorau gan Lywodraeth Cymru ac na chaiff arian ychwanegol ei ddarparu, yna rhoddir pwysau ar wasanaethau presennol. Mae angen setliad ariannu gwell ar gynghorau Cymru sy'n cydnabod eu swyddogaeth hanfodol a'r gwasanaethau pwysig iawn y maen nhw'n eu darparu. 

Yn rhan o'r rhaglen lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r baich biwrocrataidd ar lywodraeth leol, ac rwy'n credu y caiff hynny ei groesawu gan bob awdurdod lleol. Mae awdurdodau lleol wedi tynnu sylw at reoli grantiau a gweinyddu fel y maes gyda'r cyfle mwyaf i newid. Rwy'n falch bod y gwaith yn mynd rhagddo i leihau nifer y grantiau ar wahân a delir i awdurdodau lleol ac ystyried symud grantiau i'r setliad sydd wedi'i ddadneilltuo. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau gyda'r gwaith hwn eleni. Mae rhoi neu ddyranu arian drwy grantiau yn hynod o ddrud. Rwy'n gwybod ei fod wedi'i wneud oherwydd bod yna Weinidogion sy'n dymuno mân-reoli gweithgarwch y cyngor, neu, yn fwy tebygol, gweision sifil gweinidogol sydd eisiau mân-reoli gweithgarwch cyngor—efallai pobl sydd erioed wedi rhedeg cyngor neu erioed wedi bod yn rhan o redeg cyngor eu hunain, felly ni ellir tanbrisio eu harbenigedd.

Mae angen mwy o arian ar awdurdodau lleol, ond os ydych yn cymharu'r aneddiadau, ac rydym yn parhau i gymharu Cymru a Lloegr, nid oes gennym ni gyngor sydd wedi mynd yn fethdalwr eto, ac nid oes gennym ni gyngor sy'n arna 10 gwaith ei incwm blynyddol ar ôl prynu llawer o archfarchnadoedd a busnesau eraill a blociau swyddfa. Fel y gwelsom ni ledled ein cymunedau ein hunain, mae blociau swyddfa a siopau yn aml mewn sefyllfa lle maen nhw'n wag. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod ein hawdurdodau lleol yn osgoi gwneud hynny. Nid dyma'r setliad gorau. Byddwn wedi rhoi mwy i awdurdodau lleol, ond dyna'r gorau y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w rhoi iddyn nhw.

15:40

Mae gan awdurdodau lleol ran mor bwysig wrth ddarparu gwasanaethau y mae pobl Cymru yn dibynnu arnyn nhw, ac rydym ni i gyd yn diolch iddyn nhw am bopeth a wnânt. Ond nid cefnogi'r Senedd yn unig yw gwir ddatganoli; mae'n ymwneud â chefnogi ein hawdurdodau lleol, sydd ar flaen y gad o ran democratiaeth ac sy'n gweithredu ar lawr gwlad. Mae llawer ohonom ni ar draws y Siambr, fel y clywsom ni, wedi bod yn gynghorwyr lleol ac yn gwybod y cyfrifoldebau sy'n dod gyda'r gwaith, ac rydym ni'n gwybod y dewisiadau anodd y mae'n rhaid eu gwneud pan roddir cyllideb gyfyngedig. Yn anffodus, mae'r gyllideb hon yn cyflwyno toriad enfawr mewn termau real, gan ei gwneud hi'n fwy cyfyngedig eleni o ganlyniad uniongyrchol i'r dewisiadau a'r penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth hon. Rydym yn gweld pwysau cynyddol yn cael ei roi ar awdurdodau lleol, ond gydag adnoddau cyfyngedig yn cael eu trosglwyddo i ymdrin â nhw.

Er fy mod yn falch o weld y £14.4 miliwn o refeniw ychwanegol o gyllid canlyniadol yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol, ac fy mod i hefyd yn falch o ailsefydlu'r gronfa gweithlu gofal cymdeithasol y gofynnwyd amdani gan arweinwyr cynghorau, ni allwn ni ddianc rhag y ffaith y bydd y toriadau mewn termau real sy'n cael eu gorfodi ar awdurdodau lleol yn anochel yn cosbi trigolion ledled Cymru. Pobl Cymru sy'n gorfod talu'r pris am y toriadau mewn termau real, gyda theuluoedd Cymru yn talu cynnydd o 8.28 y cant yn y dreth gyngor ar gyfartaledd ar adeg pan fo cartrefi dan bwysau ariannol aruthrol.

Rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn ei thro—rydym ni wedi'i chlywed yn barod—yn feio Llywodraeth y DU am y toriadau i setliad llywodraeth leol.

Rwy'n gwybod, yn y gorffennol, fod rhai cynghorau, yn hytrach na chodi treth cyngor, wedi torri cyllid addysg yn gynharach, a chyllid arall. Maen nhw wedi cael eu torri'n llwyr i'r asgwrn, sydd wedi golygu nad ydyn nhw wedi gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Rwy'n credu mai dyna beth yw'r achos nawr wedi'r holl gyni yna—maen nhw wedi cael eu torri i'r asgwrn. A ydych chi'n credu mai dyna'r cydbwysedd, mewn gwirionedd, a dyna pam maen nhw'n gorfod codi'r dreth gyngor, oherwydd mae'n gydbwysedd ac na allan nhw dorri'r gwasanaethau hanfodol hynny mwyach?

Iawn, wel, bydd llawer o arweinwyr a llawer o weinyddiaethau mewn cynghorau yn penderfynu sut maen nhw'n llunio eu cyllideb. Bydd rhai yn fwy arloesol ac yn edrych ar greu ffrydiau incwm mewn ffyrdd eraill. Bydd eraill yn cael eu harwain yn glir iawn gan eu swyddogion ac yn gwneud penderfyniadau na fyddai llawer ohonom ni'n cytuno â nhw. Felly, dyna pam y byddwch yn gweld ystod eang o wahanol fathau o doriadau i wasanaethau ar draws gwahanol awdurdodau. Yn sir Fynwy, roeddem ni bob amser yn ceisio peidio â thorri gwasanaethau craidd; byddem yn chwilio am ffyrdd arloesol o gynhyrchu incwm yn lle hynny, ac rwy'n credu y gellid gwneud mwy ar draws pob llywodraeth leol i gyflawni hynny. Rydw i wedi anghofio lle roeddwn i nawr, Dirprwy Lywydd.

Rwy'n gwybod, fel y dywedais i, y bydd y Llywodraeth yn ei thro yn dweud mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am y toriad, ond nid yw'r toriad mewn termau real a roddwyd ar gynghorau yn ddim ond treth lechwraidd ar bobl Cymru. Roedd y Llywodraeth yn gwybod yn iawn y byddai'n rhaid i gynghorau drosglwyddo'u pwysau ar eu preswylwyr trwy dreth gyngor neu wynebu torri gwasanaethau.

Hoffwn droi at fater y fformiwla ariannu, sy'n parhau i fod yn fater dadleuol oherwydd yn syml nid yw'n addas i'r diben mwyach. Byddaf yn parhau i dynnu sylw at hynny pryd bynnag y gallaf, oherwydd mae gennym ni system a fyddai ar hyn o bryd yn caniatáu i rai cynghorau gyrraedd sefyllfa lle maen nhw'n cael trafferth cynnal llawer o wasanaethau, gan dorri'n statudol ac yn ddewisol, tra gallai eraill ymdopi'n gymharol dda gyda chronfeydd wrth gefn cronedig sylweddol.

Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen a byddaf yn ei ddweud eto: mae angen asesiad annibynnol arnom ni, ydym mewn difrif calon, ac adolygiad o'r fformiwla llywodraeth leol i sicrhau bod cynghorau ledled Cymru yn cael bargen deg, ac mae hynny'n cynnwys, fel y dywedodd Mike, asesiad o'r Asesiad o Wariant Safonol a'r dangosyddion niferus sy'n rhan o hynny: 70 a mwy o ddangosyddion, asesiadau sy'n seiliedig ar ddangosyddion, y mae angen edrych ar bob un. Nid ydyn nhw wedi cael eu hystyried ers blynyddoedd lawer.

Rwy'n gwybod mai'r ateb stoc fydd pe bai arweinwyr cynghorau yn gofyn iddo gael ei adolygu, y byddai'r Llywodraeth yn hwyluso. Esgus yw hynny. Fel y gwyddom ni, ychydig o arweinwyr cynghorau fydd yn cytuno iddo, gan y byddai enillwyr a chollwyr yn dilyn adolygiad. Rwyf wedi ceisio gwneud hynny sawl gwaith: dydy tyrcwn ddim yn pleidleisio dros y Nadolig. Ond os ydym ni am weld model cyson o ddarpariaeth gwasanaeth i holl bobl Cymru, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos arweinyddiaeth a sicrhau ei hun bod y fformiwla yn addas i'r diben. Ni ellir ond cyflawni hynny drwy adolygiad annibynnol o'r fformiwla, ac mae hynny y tu allan i'r fforwm ariannu neu'r is-grŵp dosbarthu.

Yr hyn y mae angen i ni ei gofio yw'r ffaith syml bod methu ariannu ein hawdurdodau lleol yn deg ac yn briodol ond yn arwain at deuluoedd ledled Cymru yn talu'r pris. Yn anffodus, mae Gweinidogion Llafur yn anghofio hynny. Mae gan y penderfyniadau hyn ganlyniadau real iawn, wrth i gynghorau gael eu gorfodi i dorri gwasanaethau neu godi treth cyngor, a phobl Cymru fydd yn ysgwyddo'r gost. Diolch.

15:45

Gweinidog, rwyf yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Lafur Cymru i flaenoriaethu diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd cyn belled ag sy'n bosibl yn wyneb pwysau cyllidebol eithafol i Gymru. Mae'r ymrwymiad hwn yn seiliedig ar werthoedd ac yn gyfarwydd â gwaith cynhwysfawr a hanfodol llywodraeth leol.

Mae'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2024-25 yn sicrhau na fydd unrhyw awdurdod yn derbyn llai na chynnydd o 2.3 y cant. Mae fy etholaeth i, Islwyn, yn cael ei llywodraethu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac o dan yr amgylchiadau cyllidebol anodd iawn hyn i Gymru, rwy'n croesawu'r cynnydd o 2.5 y cant y mae awdurdod lleol Islwyn yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Dyfynnwyd arweinydd Llafur Cymru Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, yn annerch siambr y cyngor yn y South Wales Argus yr wythnos diwethaf, lle lambastiodd setliad ariannu Llywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig i Lywodraeth Cymru. Yn wir, galwodd gyllid Llywodraeth Dorïaidd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Rishi Sunak i Gymru yn gwbl annigonol ac yn fargen wael i bobl Cymru, ac mae yn llygad ei le. Enynnodd ei alwadau ar i Gyngor Caerffili gondemnio'r lefelau ariannu presennol gan Lywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig a mynnu bargen deg gefnogaeth unfrydol, peth prin iawn, gan y cyngor i gyd a chan yr holl feinciau. Yn wir, dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerffili, Lindsay Whittle, cyn-Aelod o'r Senedd hon, wrth y cyfarfod:

'Mae yna adegau pan fydd angen i bob plaid wleidyddol yng Nghymru...ymladd y gormes hwn',

ac o ran hynny mae'n gywir hefyd.

Gweinidog, rydych chi'n cydnabod yn briodol y berthynas waith agos rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'n hanfodol—[Torri ar draws.] Wel, dyma beth ddywedon nhw—bod Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, Senedd Cymru, yn gwrando ar gydweithwyr mewn llywodraeth leol ac yn parhau i ddatblygu a meithrin y sgwrs agos honno. Dyna pam rwy'n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn frwd fel rhan o'r rhaglen lywodraethu i leihau'r baich biwrocrataidd ar lywodraeth leol. Gwn fod gwaith ar y gweill i leihau faint o grantiau ar wahân a delir i awdurdodau lleol ac ystyried symud grantiau i'r setliad dadneilltuedig os yw'r cyd-destun ehangach yn gwneud hynny'n briodol.

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi diogelu'r setliad llywodraeth leol craidd sy'n ariannu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, ein casgliadau gwastraff a gwasanaethau hamdden lleol. Ond rydym ni yn gwybod nad yw'n ddigon a bod angen setliad ariannu teg arnom ni ar gyfer Cymru. A faint bynnag rydych chi'n rhannu'r gacen, Peter, mae gen i ofn os nad oes digon o gacen—[Torri ar draws.] Cewch, fe gewch chi.

15:50

Oni ydych chi'n sylweddoli bod llawer o bobl yn yr etholaeth rwy'n ei chynrychioli, Brycheiniog a Maesyfed—pan fyddwch chi'n parhau i siarad am y setliad ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—yn flin iawn gyda'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gwario ei chyllideb, pan ydyn nhw'n gwario £4.25 miliwn ar fferm Gilestone, maen nhw'n gwario arian ar gyfyngiad cyffredinol o 20 milltir yr awr, a mwy o wleidyddion i'r fan yma? Ydych chi ddim yn sylweddoli bod fy etholwyr yn gwylltio'n lân pan fyddwch chi'n dal i feio Llywodraeth y Deyrnas Unedig pan, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod angen i chi edrych ychydig yn agosach at adref o ran rheoli cyllideb yn well?

Os caf i ddim ond ymateb i hynny, rwy'n credu os ydych chi mewn gwirionedd yn edrych ar y symiau o arian rydym ni'n sôn amdanyn nhw, os edrychwn ni ar y biliynau rydym ni wedi'u colli, ac yna os edrychwch chi ar rai o'r materion rydych chi wedi'u cyflwyno i ni ar eich agenda heddiw, fe welwch chi nad yw hynny'n cyfateb i un briwsionyn o'r gacen honno. [Torri ar draws.] Byddaf yn parhau, Dirprwy Lywydd, os caf ganiatâd.

Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn sicrhau y gall yr Aelod dros Islwyn barhau â'i chyfraniad mewn heddwch.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddefnyddio'r cyfle hwn i bwysleisio, unwaith eto, pa mor ymroddedig yw Llywodraeth Lafur Cymru i ariannu llywodraeth leol Cymru o dan yr amgylchiadau mwyaf enbyd, a'i bod yn gwerthfawrogi llywodraeth leol, a'i bod yn deall llywodraeth leol a'i hymrwymiad i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae'n gyfrifol am eu darparu ar gyfer pobl Cymru, nid dim ond gyda ni, ond i ni, gyda'n gilydd, ar y cyd? Diolch.

Dyma ni, felly, ar ôl blynyddoedd o gamreoli cyllidol a phrosiectau gwagedd methedig, rydym ni o'r diwedd wedi cyrraedd yr anochel: rhai o'r toriadau mwyaf yn hanes datganoli i wasanaethau lleol, a'r cynnydd mwyaf i'r dreth gyngor ledled y gogledd.

Ond dydy'r sefyllfa mewn gwirionedd ddim yn ddoniol, er eich bod chi'n chwerthin. Ers 2000, mae'r dreth gyngor yng Nghonwy wedi cynyddu 256 y cant, 20 y cant o hyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig, yr uchaf o unrhyw un yng Nghymru. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn mynd peth ffordd i amlinellu i bleidleiswyr, y rhai a allai fod yn gwylio heddiw—os oes cyfryngau digon da yng Nghymru i ddal sylw—pa mor ddrwg yw pethau i lywodraeth leol o dan—. Mae hyn wedi chwarter canrif o Lafur Cymru. Ac, wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn ddieuog hefyd, yn enwedig felly—ac mae'n rhaid i mi ddweud, Peredur, i'ch cyfraniad chi, wel, roedd yn rhagori ar bob math o gomedi—oherwydd eich bod chi newydd dreulio'r tair blynedd diwethaf yn gweithio ac yn pleidleisio gyda Llafur Cymru naw gwaith allan o 10.

Unwaith eto bu'n rhaid i'r gogledd ymgodymu â realiti llym: blwyddyn arall o dderbyn setliad cyllid is gan y cyngor o'i gymharu â'r rhai yn y de. Conwy sydd wedi derbyn y setliad isaf o ddim ond £3.9 biliwn o 2023-24, gostyngiad mewn termau real, cynnydd o 2 y cant ar 2022-23—[Torri ar draws.] Iawn, gan mai chi ydyw, Mike.

Diolch. Mae hynny'r swm enfawr o 1 y cant yn llai na'r cyfartaledd cenedlaethol o 3 y cant. Fel y dywedais i yma o'r blaen, mae Conwy yn wynebu toriadau enfawr i wasanaethau lleol. Mae addysg yn gweld toriadau o dros 5 y cant eleni. Nid oes unman yng Nghymru lle mae hyn yn gliriach nag yng Nghonwy, gyda llawer o etholwyr a rhieni yn ysgrifennu ataf, gan ddweud bod y toriadau hyn yn annerbyniol ac yn dorcalonnus. Ac nid wyf wedi ymatal yn fy ymateb i'r etholwyr hynny. Buom yn galw ers blynyddoedd i ysgolion gael eu hariannu'n uniongyrchol, gan edrych ar yr ail haen—wyddoch chi, yn y gogledd, GwE yw hwnnw. A dyna ichi'r maint o fiwrocratiaeth a gwastraffu arian y mae fy nghyd-Aelod, James Evans, eisoes wedi'i grybwyll.

Er mwyn ychwanegu halen at y briw, mae Conwy ar fin gweld cynnydd sydd gyda'r uchaf yn y dreth gyngor ledled Cymru, ac, wrth gwrs, Llafur, Plaid Cymru ac annibynnol sydd bellach mewn grym yn y fan yna. Mae'n sgandal. Mae'n rhaid i ni orffen y llwybr troellog hwn drwy fynd i waelod y gasgen. Caiff y gogledd ei adael i wywo, ac rwy'n dweud digon yn ddigon. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog cyllid—mae'n rhaid eich bod yn cael trafodaethau gyda'ch cyd-Aelodau Llafur—os, a dim ond os, yw pobl yn ddigon gwirion i bleidleisio iddyn nhw ffurfio Llywodraeth, heb sylweddoli beth maen nhw wedi'i wneud i Gymru, pa setliad mewn cyllid fyddech chi'n ei ddarparu i Lywodraeth Cymru?

Dywedodd ein harweinydd, Charlie McCoubrey, fod 30 y cant o'r data a ddefnyddir wedi hen ddyddio, ac mae hynny'n ymwneud â'r fformiwla ariannu. Arferwn fod yn Ysgrifennydd Cabinet llywodraeth leol yr wrthblaid, rwy'n credu mai dyna oedd y teitl, yn y dyddiau hynny, a gofynnais am adolygiad fformiwla ariannu yr holl flynyddoedd hynny'n ôl. Dywedwyd wrthyf gan y Gweinidog ar y pryd, 'Chi yw'r unig berson sydd wedi gofyn amdano, does dim arweinydd unrhyw un o'r cynghorau wedi gofyn amdano'. Felly, ysgrifennais at holl arweinwyr y cynghorau ac fe wnaethon nhw ysgrifennu yn ôl ataf gan ddweud yn glir eu bod yn cytuno ag adolygiad fformiwla ariannu. Rwy'n mynd nôl nawr i tua 2014, a dyma ni yn 2024—rydym ni'n dal i ddadlau am y fformiwla ariannu yma. Mae'n bryd ichi edrych ar lefydd fel—

15:55

Na wnaf, mae'n ddrwg gennyf, Rhianon. Gallwn drafod hyn rywbryd arall yr wythnos hon. Ond y pwynt yw, Gweinidog, rydych chi'n mynd i amddiffyn y sefyllfa hon flwyddyn ar ôl blwyddyn, tymor ar ôl tymor. Beth ydych chi mor ofnus ohono wrth gynnal adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol? Ai'r realiti amlwg eich bod yn gwybod bod cynghorau a reolir gan Lafur yn gwneud llawer gwell, a'r awdurdodau lleol hynny sydd â chronfeydd wrth gefn? Mae gennym ni ddemograffeg sydd gyda'r hynaf yng Nghymru yng Nghonwy gyda'r bobl hŷn, ac mae ein gofal cymdeithasol ar ei liniau. Siawns na ddylech chi fod yn bryderus, a phob Gweinidog o amgylch bwrdd y Cabinet yn bryderus, pan nad oes cydraddoldeb gwirioneddol. Mae'n air sy'n aml yn cael ei orddefnyddio yn eich agendâu, ond mae'r gwir gydraddoldeb ar goll mewn awdurdodau lleol fel Conwy, lle mae ein pobl hŷn bellach yn cael eu hesgeuluso'n druenus ac yn cael eu siomi. Diolch yn fawr. 

Yn dilyn cam-weinyddu'r economi gyda 14 mlynedd o gyni Torïaidd, Brexit aflwyddiannus, ffrindgarwch COVID a phwysau chwyddiant cynyddol a achoswyd gan gyllideb fach Liz Truss, mae gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau. Mae awdurdodau lleol yn cael eu torri i'r asgwrn ar draws y Deyrnas Unedig, felly nid oes ganddyn nhw bellach ddigon i ddarparu gwasanaethau hanfodol, ac yn Lloegr maen nhw'n wynebu methdaliad. Dechreuodd George Osborne hyn yn 2010. Aeth Philip Hammond ymlaen yn 2017, gan ddweud wrth gynghorwyr, 'Mae'n rhaid i ni dynhau ein gwregysau mwy'. Doedd dim tyllau ar ôl ar y gwregys yna yn dilyn saith mlynedd o doriadau. Sut mae Jeremy Hunt yn credu y gall barhau i fy synnu. Sut gall siarad am fwy o effeithlonrwydd pan fo cymaint o gynghorau yn wynebu methdaliad yn Lloegr, heb fwy o arbedion effeithlonrwydd i'w gwneud? Buwyd wrthi ers blynyddoedd yn dinistrio gwasanaethau'n llwyr o dan y Llywodraeth Dorïaidd. 

Pan gefais fy ethol yn gynghorydd am y tro cyntaf yn 2008, roeddem yn arfer dweud ei fod yn costio £1 miliwn y dydd i redeg cyngor. Ni yw'r cyflogwr ail fwyaf yn sir y Fflint ar ôl Airbus, gan ddarparu addysg, gofal cymdeithasol, diogelu'r cyhoedd, cynllunio, a channoedd o wasanaethau eraill, sydd wedi rhedeg yn esmwyth ac wedi'u cymryd yn ganiataol tan nawr, pan fyddan nhw'n cau neu'n anodd cael mynediad atyn nhw. Mae cynghorau yn y gogledd wedi gwneud rhwng £90 miliwn a £120 miliwn o arbedion dros y 14 mlynedd diwethaf. Mae swyddogion awdurdodau lleol eisoes yn rhannu cyfleusterau staff cefn swyddfa ac nid oes gan lawer ddigon o staff i ddarparu gwasanaethau hanfodol, gyda swyddi gwag yn cael eu gweld fel arbedion effeithlonrwydd.

Mae'r argyfwng costau byw Torïaidd a COVID wedi gweld pwysau cynyddol o angen mewn gwasanaethau cymdeithasol ac mewn addysg. Dyma'r adeg pan fo ei angen arnyn nhw fwyaf, nid yn ystod COVID yn unig. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysgol Uwchradd y Rhyl ac roedd Cian yn awyddus i ofyn am gyllid addysg ar ôl cael gwybod na all argraffu gwaith celf bellach ar gyfer ei TGAU celf. Yn syml, ni allan nhw fforddio'r pethau sylfaenol. Mae nifer o ysgolion eleni yn gorfod gweithio gyda chyllidebau o ddiffyg, ac yn gorfod gwneud heb ac arbed a chwtogi ar y pethau sylfaenol. Ni allan nhw fforddio'r biliau ynni cynyddol, y staff, y cwricwlwm, a bydd yn rhaid i'r rhain fod yn rhan o gronfeydd wrth gefn y cyngor yn y dyfodol. Mae cynghorau yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn eleni, gan fenthyg gan Peter i dalu Paul am argyfyngau. Rwy'n cofio pan gawsom ni'r eira mawr hwnnw o'r dwyrain, ac fe gawsom ni eira oedd yn 5 troedfedd o uchder mewn mannau—

Rwy'n gwybod sut rydych chi wedi eirioli dros lywodraeth leol ers blynyddoedd lawer y tu allan i'r fan yma, ac rydych chi wedi herio lefel yr arian sy'n mynd i sir y Fflint yn aml. A ydych chi'n cytuno wedyn bod y system yn anghywir, bod y fformiwla yn anghywir, a byddai'n gymaint mwy buddiol i sir y Fflint, fel rydych chi wedi eirioli drosto, ac mae eich arweinwyr wedi argymell, pe bai'n cael ei ystyried? 

Ydw, rwyf wedi gofyn am adolygu'r fformiwla ariannu, ond rwy'n gwybod bod y gacen yn rhy fach. Felly, hyd yn oed os adolygwyd y fformiwla ariannu, byddai pob cyngor—

Nid yw'n ddigon mawr. Rwy'n gwybod fod y cyngor yn sir Ddinbych wedi cael llawer mwy o arian na sir y Fflint—maen nhw'n chwarae ei gilydd yn erbyn ei gilydd. Yn anffodus, dyna beth sy'n digwydd nawr. Mae pobl yn ymladd ymysg ei gilydd, yn y bôn, felly nid yw'n ddefnyddiol mwyach. Dim ond mwy o arian sydd ei angen arnom ni ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Mae digartrefedd ar gynnydd, ac rydym ni wedi clywed ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ein bod ni mewn gwirionedd yn dod yn genhedlaeth o rentwyr, gan na all pobl fforddio morgeisi. Felly, rwy'n croesawu'r £5 miliwn ychwanegol o gyllid i'r grant cymorth tai, a bod y Gweinidog Newid Hinsawdd bellach wedi gallu dyrannu £30 miliwn ychwanegol ar gyfer y grant cymorth tai, gan fynd ag ef i ychydig dros £182 miliwn. Mae'n rhan hanfodol o gyllid sy'n helpu pobl i aros yn eu cartrefi, yn ogystal â darparu cymorth a llety. Mae'r sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, sy'n darparu'r gwasanaeth hwn ar eu gliniau ac yn ei chael hi'n anodd talu'r cyflog byw, felly mae croeso mawr iddo.

Rwy'n falch bod awdurdodau lleol, yn ystod rownd anodd cyllideb 2024-25, sydd wedi cyflwyno'r dewisiadau cyllideb anoddaf i Gymru ers datganoli, wedi cael blaenoriaeth. Ond bydd yn anodd, oherwydd nid yw'r setliad cyllido yn ddigonol i ymateb i'r holl bwysau y maen nhw'n ei wynebu, i unrhyw gynghorau yng Nghymru neu yn Lloegr neu'r Alban. Mae'n rhaid cael newid ac mae angen rhoi diwedd ar gyni gan Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n ymuno â'r galwadau ar i Jeremy Hunt gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd oherwydd yr argyfwng costau byw yng nghyllideb yfory. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:00

Diolch. Byddaf yn dechrau drwy gydnabod nad yw'r setliad yn cyfateb i effaith chwyddiant na'r gofynion cynyddol yr ydym ni'n eu gweld ar awdurdodau lleol, ond mae'n rhaid i ni gofio hefyd bod y setliad hwn yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi bod yn ddyraniadau gwell yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roeddwn yn falch iawn o glywed Aelodau'n siarad am y gwaith y buom ni'n ei wneud i leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. Mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn bwysig iawn ac yn effeithiol iawn eleni o ran symud nifer o grantiau yn eu cyfanrwydd i'r grant cynnal refeniw, ac yna mewn achosion eraill yn cyfuno nifer fwy o grantiau bach yn grant mwy, ond yna'r ymrwymiad hwnnw hefyd i adolygu'r grantiau eraill ar gyfer y dyfodol hefyd. Rydym ni wedi adnabod, efallai, fel cam nesaf y gwaith hwn, bod angen edrych ar ein grantiau cyfalaf i awdurdodau lleol hefyd, i sicrhau bod y ffordd y mae awdurdodau yn gwneud cais am y grantiau hynny yn gymesur, ond yna hefyd bod y gofynion monitro a gwybodaeth sy'n mynd gyda'r grantiau hynny hefyd yn gymesur yn y dyfodol yn ogystal. Felly, bydd y darnau hynny o waith yn bwysig iawn.

Ochr yn ochr â lleihau'r gwaith baich gweinyddol, rydym ni hefyd wedi nodi adroddiadau blynyddol fel maes penodol yr ydym ni'n awyddus i'w archwilio, o ran a yw'n gofynion, unwaith eto, yn gymesur ac yn fodern. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n bwysig. Unwaith eto o edrych ar y gwaith hwnnw o ran lleihau'r baich gweinyddol, rydym ni wedi bod yn edrych yn ofalus ar gytundeb Verity House sydd ganddyn nhw yn yr Alban, a chefais y pleser o gwrdd â Gweinidog Llywodraeth Leol yr Alban yn ddiweddar i siarad am eu profiadau yno. Ac rydym ni'n awyddus i archwilio sut y gallem ni yng Nghymru symud ymlaen i ffurfioli'r berthynas ymddiriedaeth honno sydd gennym ni gyda llywodraeth leol, fel y caiff ei gosod ar y sylfaen gadarn honno a bod gennym ni'r strwythurau yno a fydd yn gallu gwrthsefyll newid personél ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu bod y gwaith hwnnw'n gyffrous iawn.

Ac yna roedd gen i ddiddordeb yn sylwadau Mike Hedges ynghylch ardrethi annomestig hefyd. Dim ond i roi gwybod i gyd-Aelodau ein bod yn gwneud rhywfaint o waith yn edrych ar gadw cyfraddau ar gyfer rhanbarthau dinesig a thwf hefyd, a bod gwaith yn mynd rhagddo mewn partneriaeth â chydweithwyr llywodraeth leol.

Gan droi at y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, bu'n rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd wrth bennu eu cyllidebau a'u treth gyngor dros yr wythnosau diwethaf, ac rydym ni i gyd yn cydnabod effaith cynnydd yn y dreth gyngor ar aelwydydd ledled Cymru, a gwyddom fod awdurdodau lleol a'n cydweithwyr yno yn wynebu dewisiadau anodd iawn wrth iddyn nhw weithio i wneud eu gorau glas dros eu cymunedau lleol. Yr ateb, fodd bynnag, yw peidio â mynd ati i osod capiau mympwyol ar awdurdodau lleol, gan eu gorfodi i dorri gwasanaethau ymhellach, y gwyddom ni oll fydd yn cael yr effaith fwyaf ar y bobl fwyaf agored i niwed. Nid yr ateb chwaith yw penderfynu dros awdurdodau sut y dylen nhw ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn, ymyrryd â'u cynlluniau a pheryglu eu cynaliadwyedd tymor hwy. Ledled Cymru, bydd cynghorau wedi ceisio cydbwyso anghenion gwahanol eu cymunedau, lefel eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ac effaith codiadau treth gyngor, a byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddarparu gwasanaethau effeithlon a chost-effeithiol sy'n darparu gwerth am arian. Rwy'n credu ei bod yn anghywir awgrymu fel arall.

Yr ateb yw i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddewis buddsoddi—

A gaf i ofyn am dawelwch? Mae llawer o sgwrsio, yn enwedig gan yr Aelod a waeddodd 'Clywch, clywch' mae'n debyg ar y pwynt hwnnw hefyd. [Chwerthin.] Os caf i ofyn i'r Gweinidog gael ei chlywed, byddai hynny'n wych. Diolch yn fawr iawn.

16:05

Diolch. Yr ateb yw i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddewis buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ei chyllideb yfory, gan ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol, er mwyn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar eu cymunedau. Ac mae hefyd yn bwysig ein bod ni i gyd yn hyrwyddo'r ystod o gefnogaeth sydd gennym ni ar waith i gefnogi pobl sy'n ei chael hi'n anodd, a'n bod ni'n gweithredu i wella tegwch y dreth gyngor. Mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn darparu cefnogaeth gyson ledled Cymru, ac mae'n golygu bod 211,000 o aelwydydd yn cael cymorth llawn ac yn talu dim treth gyngor o gwbl, ond gwyddom fod llawer mwy yn gymwys ac yn colli allan. 

O ran y fformiwla, mae'r cyllid craidd yr ydym ni'n ei ddarparu i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu trwy fformiwla sefydledig. Fe'i crëwyd a'i ddatblygu mewn cydweithrediad â llywodraeth leol, a chaiff ei gytuno'n flynyddol gyda llywodraeth leol drwy is-grŵp cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru. Does dim agenda wleidyddol i'r fformiwla ac mae'n seiliedig ar ddata. Mae'n cydbwyso angen cymharol a gallu cymharol i godi incwm, fel bod awdurdodau ledled Cymru yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. A chefais fy atgoffa, gan fod cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn siarad yn y ddadl y prynhawn yma, o Rishi Sunak, pan gafodd ei ddal ar gamera yn dweud ei fod am drosglwyddo cyllid o ardaloedd difreintiedig, ac ymddengys fod ar y Ceidwadwyr Cymreig eisiau gwneud yr un peth. Mae rhaglen waith barhaus i gynnal a diweddaru'r fformiwla, gan gynnwys sut mae angen i'r fformiwla ymateb i'n gwaith i wneud y dreth gyngor yn decach, ac i'r polisïau a'r amgylchiadau newidiol eraill. Mae'n ddrwg gennyf, ni welais yr Aelod yn gofyn am ymyriad.

Diolch yn fawr iawn am ganiatáu i mi ymyrryd. A ydych chi'n cydnabod y pryder yn y gogledd lle, unwaith eto, mae pedwar o chwe chyngor y gogledd yn bedwar o'r chwech sy'n derbyn y setliad isaf, gan gynnwys yr ardal sydd â'r llewyrch gwerth ychwanegol gros isaf y pen, a'r ardal sydd â'r boblogaeth fwyaf o bobl hŷn?

Mae'r setliad ei hun yn ganlyniad i newidiadau mewn amddifadedd—mae'n ymwneud â newidiadau yn y boblogaeth, mae'n adlewyrchu teneurwydd poblogaeth, ac mae'r holl bethau hynny'n newid, bob blwyddyn, sy'n golygu bod rhai newidiadau yn y berthynas rhwng cynghorau unigol a'r setliad maen nhw'n ei dderbyn. Nid yw'r fformiwla ariannu ynddo'i hun yn annheg, a chaiff mwy na 70 y cant, rwy'n credu—mae'n debyg ei fod yn 80 y cant nawr—o'r fformiwla honno ei diweddaru'n flynyddol. A'r pwynt roeddwn i'n ceisio ei wneud yn y frawddeg ddiwethaf oedd ein bod ni'n symud i gyfnod nawr o ddiwygio'r dreth gyngor, ac mae hynny ynddo'i hun yn mynd i arwain at rywfaint o fwrlwm i awdurdodau lleol, a bydd yn cael effaith ar eu sylfaen dreth. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn o ran faint o straen y gall y system honno ei gymryd ar un adeg. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n parhau â'r trafodaethau gydag awdurdodau lleol yn hynny o beth hefyd.

Felly, byddaf yn dod i ben, Llywydd, drwy ddweud fy mod yn cymeradwyo'r setliad i'r Senedd. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus ac yn parhau i gefnogi llywodraeth leol ledled Cymru i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.

Diolch. Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Mae yna wrthwynebiad i welliant 1. Felly, fe wnawn ni ohirio hynny tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 2? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 2. Ac felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar welliant 2 hefyd.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Sydd yn dod â ni nawr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais gyntaf. Y bleidlais honno yw'r bleidlais—[Torri ar draws.] 

Iawn. Gwelaf dri Aelod yn dymuno canu'r gloch ar gyfer y bleidlais. Fe ganwn ni'r gloch.

Canwyd y gloch i alw'r Aelodau i’r Siambr. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:09.

Ailymgynullodd y Senedd am 16:14, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

16:10
6. Cyfnod Pleidleisio

Rydym yn barod nawr i ddechrau pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 4. Y gyllideb derfynol 2024-25 yw'r bleidlais honno.Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 13 yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn. 

Eitem 4. Dadl: Cyllideb Derfynol 2024-25: O blaid: 28, Yn erbyn: 15, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 5 fydd nesaf. Setliad llywodraeth leol 2024-25 yw'r pleidleisiau yma. Pleidlais yn gyntaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Dwi'n cau'r bleidlais ac yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1. Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 28 o blaid, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

16:15

Eitem 5. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2024-25. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 sydd nesaf. Pleidlais felly ar welliant 2, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly mae'r gwelliant yna wedi ei wrthod. 

Eitem 5. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2024-25. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 15, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Y bleidlais olaf ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 13 yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo.

Eitem 5. Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2024-25. Cynnig: O blaid: 28, Yn erbyn: 15, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

Sy'n dod â ni at ddiwedd trafodion ein Cyfarfod Llawn ni am heddiw. Fe fyddwn ni'n cymryd egwyl nawr o ryw 10 munud cyn inni gwrdd fel Pwyllgor o'r Senedd Gyfan i drafod Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru. Byddwn ni'n canu'r gloch pum munud cyn i ni ailymgynnull, ac wedyn fe fyddwn ni'n cymryd egwyl yn ystod cyfarfod y pwyllgor, tua 6.30 p.m. hefyd yn ogystal. Felly, fe gymrwn ni'r egwyl nawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 16:17.