Y Cyfarfod Llawn

Plenary

20/02/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, licen i roi gwybod i Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar ddydd Mercher 14 Chwefror. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Russell George. 

Prentisiaethau

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyfleoedd prentisiaethau yn y canolbarth? OQ60687

Llywydd, diolch i Russell George am y cwestiwn yna. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud buddsoddiad sylweddol mewn prentisiaethau ledled Cymru. Mae creu cyfleoedd newydd yn y canolbarth yn dibynnu ar hyrwyddo manteision llwybrau prentisiaeth o ansawdd i gyflogwyr ac i ddysgwyr.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n falch o longyfarch Calum Greatorex, prentis sy'n gweithio yn Carpenter and Paterson Ltd yn y Trallwng, a enillodd wobr prentisiaeth y flwyddyn yn ddiweddar gan Academi Sgiliau Cymru fel prentis lefel 3. Roedd hefyd yn braf cael siarad gyda Leighton Rowlands Jones a Spencer Roberts, sydd hefyd yn brentisiaid yn y cwmni. Mae'r cwmni yn y Trallwng wedi hen sefydlu. Mae'n ymwneud â dyluniad busnes a gweithgynhyrchu cynhyrchion ar gyfer diwydiannau fel cynhyrchu pŵer, ynni adnewyddadwy a niwclear, ac ar hyn o bryd mae'r gweithlu wedi'i gyfansoddi o tua 12 y cant o brentisiaid. Roedd hefyd yn braf cyfarfod â Myrick Training Services, cwmni nid-er-elw sy'n helpu i gynorthwyo busnesau sy'n gysylltiedig â phrentisiaethau, ac sydd hefyd yn cynnig prentisiaethau o lefel 2 hyd at ac yn cynnwys lefel 5. Mae ganddyn nhw bryderon ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru o ran y toriadau arfaethedig i'r gyllideb o ran prentisiaethau. Felly, tybed, Prif Weinidog, a allech chi amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda darparwyr prentisiaethau ynglŷn â'r pryderon hyn, oherwydd rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen i ni gefnogi prentisiaethau yng Nghymru er mwyn cynyddu talent yn y dyfodol hefyd, a llwyddiant, fel yn stori Calum Greatorex.

Wel, diolch i Russell George am hynny, Llywydd, ac, wrth gwrs, rwy'n llongyfarch y bobl ifanc y mae wedi cyfeirio atyn nhw. Mae'n wych clywed am gwmni sydd â 12 y cant o'i weithlu fel prentisiaethau, gan mai nhw, fel y dywedodd, fydd y bobl ifanc a fydd yn dysgu'r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol. A bydd Llywodraeth Cymru yn parhau—byddwn yn gwario dros £400 miliwn ar brentisiaethau dros dymor y Senedd hon, ac, yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn parhau i fuddsoddi £138 miliwn, fel y gwelwch chi yn y gyllideb ddrafft. 

Nawr, wrth gwrs, mae'r Gweinidog a'r Gweinidog cyllid wedi bod yn gwrando'n astud ar y pwyntiau a wnaed gan bwyllgorau, gan gynnwys pwyllgor Russell George, yn ystod y broses graffu, a byddan nhw'n edrych i weld ble mae unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud pan ddaw'r gyllideb derfynol gerbron y Senedd. Ond, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, bu galwadau o bob rhan o'r Senedd am gyllid ychwanegol at amrywiaeth eang o ddibenion, ac mae hynny wedi cynnwys prentisiaethau. Rydym ni'n parhau i fod mewn trafodaethau gyda bob un o'r 10 darparwr—mae bob un o'r 10 darparwr yn weithredol yn y canolbarth. Cynhaliodd swyddogion gyfarfod gyda bob un o'r 10 ohonyn nhw yn gynharach y mis hwn er mwyn cynllunio ymlaen llaw a gwneud y defnydd gorau posibl o'r buddsoddiad sylweddol iawn yn y maes pwysig hwn sydd yno o hyd yng nghynigion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Trais Domestig

2. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais domestig? OQ60714

Llywydd, mae'r camau ymarferol mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddyn nhw i ddelio gyda thrais domestig ar gael yn ein strategaeth genedlaethol. Partneriaid ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus ac arbenigol sy’n cyflawni’r camau yma. Mae gwasanaethau datganoledig, a rhai sydd heb eu datganoli hefyd, wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r agenda yma yng Nghymru.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Mae'r ystadegau o ogledd Cymru yn frawychus. Mae 65 y cant o holl dor-cyfraith ardaloedd y gogledd yn ymwneud â thrais domestig. Mae mwy o achosion o drais domestig a thrais rhywiol yng ngogledd Cymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Gyfunol y tu allan i Lundain. Dyna pam mae gwaith Gorwel mor bwysig. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o Gorwel—rhaglen gan grŵp tai cymdeithasol Cynefin ydy Gorwel, sydd yn cael ei hariannu drwy'r grant cymorth tai, ac yn helpu pobl sy'n dioddef o drais domestig, ymhlith gwaith pwysig arall. Am bob £1 y mae rhaglen Gorwel yn ei derbyn, mae'n cynhyrchu £3.56 o werth cymunedol. Ond os na fydd y Llywodraeth yn cynyddu’r grant cymorth tai, yna bydd y rhaglen yma, a darpariaethau eraill tebyg trwy Gymru, o dan fygythiad, ac mi fyddwn ni'n gweld mwy o achosion o drais domestig, mwy o alw ar wasanaethau heddlu, a mwy o bwysau ar y gwasanaethau iechyd a thai. Wrth ystyried pwysigrwydd hyn, felly, ydy'r Prif Weinidog yn fodlon ymrwymo i sicrhau bod y grant cymorth tai yn derbyn y cynnydd angenrheidiol er mwyn parhau â'r gwaith pwysig y mae'r darparwyr yma yn ei gyflawni?

13:35

Llywydd, diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn yna. Dwi'n ymwybodol o'r gwaith y mae Gorwel yn ei wneud, wrth gwrs. O ran y ffigurau y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt, mae'n beth anodd eu clywed nhw. Ond un o'r rhesymau pam y mae ffigurau fel yna gyda ni yw achos bod asiantaethau fel Gorwel, a phobl eraill, yn codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi hyder i bobl ddod ymlaen ac i riportio pethau i'r heddlu, ac yn y blaen. Fel dywedais i yn yr ymateb i Russell George, ar draws y Siambr mae Aelodau'n gofyn i'r Llywodraeth ffeindio mwy o arian i bethau—a phethau pwysig, wrth gwrs. Ond pan na fydd yr arian sydd gyda ni yn ddigonol i wneud popeth rŷn ni eisiau ei wneud fel Llywodraeth, mae penderfyniadau anodd i'w gwneud. Fel y dywedais i, mae'r Gweinidog cyllid wedi gwrando ar bopeth y mae pwyllgorau'r Senedd wedi dweud trwy'r broses graffu, a bydd y cyllid terfynol yn dod o flaen Aelodau cyn bo hir.

Prif Weinidog, yn anffodus, mae trais domestig yn parhau i fod yn uchel iawn, gyda 7 y cant o fenywod a 3 y cant o ddynion yn dioddef cam-drin domestig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, heb newid i raddau helaeth o'r 12 mis blaenorol. Os ydym ni'n mynd i roi terfyn ar gam-drin a thrais domestig, mae angen i ni addysgu darpar gyflawnwyr troseddau nad trais a cham-drin yw'r ateb byth. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effeithiolrwydd yr ymgyrch Byw Heb Ofn wrth addysgu cenedlaethau'r dyfodol am effaith trais domestig ar ddioddefwyr a chymdeithas yn gyffredinol?

Wel, unwaith eto, Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n tynnu sylw at yr un cyfyng-gyngor a oedd yno yn y cwestiwn gwreiddiol. Diben ein rhaglenni yng Nghymru yw perswadio mwy o bobl i ddod ymlaen a riportio digwyddiadau o drais domestig pan fydd y rhain yn digwydd. Yna gallwch ddarllen llwyddiant perswadio pobl i fod â'r hyder bod gwasanaethau ar gael fel arwydd bod mwy o drais domestig nag oedd mewn cyfnod blaenorol. Rwy'n credu bod dadl gredadwy iawn mai’r mater syml yw ein bod ni'n datgelu mwy o'r hyn a oedd yno eisoes. Ac mae llinell gymorth Byw Heb Ofn, sydd yno 24 awr y dydd, bob diwrnod o'r flwyddyn, yno i roi hyder i bobl sy'n cael eu hunain yn yr amgylchiadau ofnadwy hyn y bydd cymorth ar gael iddyn nhw bob amser. A gellir ystyried bod y ffaith bod mwy o alwadau i'r llinell mewn rhai blynyddoedd fel llwyddiant yr ymdrech honno, yn hytrach nag arwydd bod pethau'n gwaethygu. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus am y ffordd yr ydym ni'n dehongli'r ffigurau hynny.

Lle rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae'r ddau Aelod wedi ei ddweud yw bod y ffigurau hynny yn llawer iawn rhy uchel, a bod llawer iawn i'w wneud o ran addysg, o ran darparu gwasanaethau, i oroeswyr ac i gyflawnwyr trais domestig, i gyrraedd y math o Gymru yr ydym ni eisiau ei bod, lle nad yw pobl yn byw mewn ofn o'r hyn a allai ddigwydd iddyn nhw y tu mewn i'w cartrefi eu hunain.

Rwy'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn rhoi clod i linell gymorth Byw Heb Ofn. Mae'n amserol oherwydd, er ein bod ni wedi clywed heddiw bod trais yn erbyn menywod a merched yn dal i fod yn broblem fawr ar draws cymdeithas gyfan, ym mhob rhan o Gymru ac ym mhob math o leoliad domestig, rydym ni hefyd yn gweld cynnydd mewn trais o gwmpas yr adeg honno o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, gan gynnwys pencampwriaeth rygbi'r chwe gwlad wrth gwrs. Nawr, mae'n rhaid mai rhan o'r ateb i hyn yw cefnogaeth proffil uchel ein sefydliadau rygbi a'n clybiau rygbi, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru, wrth gwrs, ond hefyd clybiau fel y Gweilch gwych, sydd wedi cynnal ymgyrchoedd hyrwyddo ar hyn eu hunain—ac fe gawson nhw ganlyniad gwych dros y penwythnos, gyda llaw, yn erbyn Ulster, yr ydym ni i gyd yn ei gymeradwyo—ond ein holl glybiau rhanbarthol, a'n clybiau lleol hefyd, sydd â chymaint o ran i'w chwarae a chymaint o ddylanwad i'w gael o ran hyrwyddo'r ymgyrch yn erbyn trais a cham-drin domestig. Felly, a wnaiff ef ymuno â mi i alw ar bawb i gefnogi Cymru dros y penwythnos, lle mae ganddyn nhw fynydd i'w ddringo yn Nulyn, er ein bod ni wedi arfer â dringo mynyddoedd, wrth gwrs, yng Nghymru, a galw ar bawb yn y teulu rygbi i godi llais yn erbyn trais a cham-drin domestig?

13:40

Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am hynna. Wrth gwrs, gall y sefydliadau hynny sydd â statws o'r fath yng nghymunedau Cymru ac ym mywyd cyhoeddus Cymru wneud cymaint i annog a pherswadio pobl i weithredu yn y ffyrdd y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno eu gweld. Buom yn trafod Undeb Rygbi Cymru ar lawr y Senedd ddim ond ychydig wythnosau yn ôl, ac rwy'n falch o ganmol y gwaith y mae'r undeb yn ei wneud, ei waith yn hyrwyddo gêm y menywod, ond hefyd yn y ffordd y gall helpu i fynd i'r afael ag agweddau efallai na fyddai wedi cael eu herio yn y gorffennol a heddiw yr ydym ni'n gwybod bod yn rhaid i ni eu hwynebu yn y ffordd uniongyrchol honno.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael gan sefydliadau chwaraeon yn ymgyrch Iawn, yr ymgyrch honno wedi'i hanelu at ddynion ifanc wrth iddyn nhw ddechrau ffurfio perthnasoedd yn eu bywydau eu hunain. Rydym ni wedi cael tua 100 o gyfranogwyr uniongyrchol yn yr ymgyrch—esiamplau, pobl sy'n lleisio eu barn i bobl eraill. Yng ngham cyntaf yr ymgyrch, cyrhaeddwyd tua 400,000 o bobl ifanc yng Nghymru gan y gwahanol ffyrdd y mae'r ymgyrch honno yn ceisio cyfleu'r pwysigrwydd i ddynion ifanc, yn arbennig, o fod â pherthynas barchus ag eraill wedi'i ymwreiddio yn y ffordd y maen nhw eu hunain yn tyfu i fyny. Ac o ran y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud am glybiau rygbi, a sefydliadau chwaraeon eraill hefyd sydd â pharch yn y cymunedau lleol hynny, gallan nhw wneud llawer iawn i helpu.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.  

Diolch, Llywydd, ac rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at fy natganiad o fuddiannau ar y gofrestr. Prif Weinidog, ddoe, yn eich cynhadledd i'r wasg, fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod ffermwyr, ar y cynllun ffermio cynaliadwy, eisiau gallu gwneud beth bynnag maen nhw ei eisiau gyda'r arian a pheidio â chael eu dwyn i gyfrif. Ai dyna'ch dealltwriaeth chi o'r dicter, y rhwystredigaeth a'r pryder dwfn iawn sydd gan ffermwyr ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, oherwydd nid wyf i'n gwybod am unrhyw ffermwr nad yw'n disgwyl cael ei ddwyn i gyfrif am yr arian y mae'n ei dderbyn gan y trethdalwr wrth dderbyn y nwyddau y mae'n eu darparu yn gyfnewid am y camau y mae'n ei gymryd ar ei fferm? Ac, yn wir, mae pob arolwg yn dangos, am bob £1 sy'n cael ei gwario gan y trethdalwr i gefnogi'r diwydiant amaeth, bod rhwng £7 a £9 yn cael ei ddychwelyd er budd y cyhoedd.

Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi ffermwyr a'r economi wledig. Dyna pam rydym ni wedi cynnal y cyfanswm yr ydym ni'n ei gyfrannu at y cynllun taliadau sylfaenol yn llawn yma yng Nghymru—cyferbyniad enfawr â'r ffordd y mae ffermwyr wedi cael eu trin yn Lloegr, wrth gwrs. Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud ddoe, ac yn ei wneud eto heddiw, yw y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i fuddsoddi mewn ffermio, ac mae gan y cyhoedd hawl i weld enillion o'r buddsoddiad hwnnw. Dyna hanfod y cynllun ffermio cynaliadwy. Ar frig uchaf y rhestr mae'r buddsoddiad y byddwn ni'n ei wneud mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ond, ochr yn ochr â hynny, mae pethau eraill, pethau pwysig iawn, y mae ffermwyr yn eu gwneud heddiw yr ydym ni eisiau parhau i'w gwobrwyo am eu gwneud yn y dyfodol—yr holl bethau stiwardiaeth amgylcheddol hynny, sydd, mewn oes o newid hinsawdd, yn fwy arwyddocaol fyth. Felly, mae bargen yma. Dyna'r fargen y mae'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ei chynrychioli. Dyna pam rydym ni wedi cael sgwrs saith mlynedd gyda ffermwyr yng Nghymru ynglŷn â chael y fargen honno'n iawn. Rydym ni yn nyddiau olaf yr ymgynghoriad diweddaraf, ac rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan ynddo, fel y gallwn ni gyrraedd cynllun terfynol sy'n parhau i fuddsoddi yn nyfodol cefn gwlad a'n cymunedau ffermio, ac sy'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau'r enillion o'r buddsoddiad hwnnw y mae gan y cyhoedd hawl i'w ddisgwyl.

13:45

Rwy'n cytuno â chi bod gan y cyhoedd hawl, a dyna pam y defnyddiais y ffigurau pwysig hynny o'r enillion o'r buddsoddiad y mae'r trethdalwr yn ei wneud. Ond fe aethoch chi ymlaen yn y gynhadledd i'r wasg honno i ddweud mai eich dealltwriaeth chi oedd, 'Gwnewch beth bynnag y mae ffermwyr yn meddwl y bydden nhw'n hoffi ei wneud ag ef'—ac 'ef' yw'r arian y mae'r trethdalwr yn ei gyfrannu i gefnogi amaethyddiaeth. Ac mae'n beth anodd iawn ei werthu, gan fod eich dadansoddiad eich hun yn sôn am golli 5,500 o swyddi, gostyngiad o 125,000 o wartheg, 800,000 o ddefaid, a cholled o £200 miliwn mewn gweithgarwch economaidd yn yr economi wledig. Nid fy ffigurau i yw'r rhain; dyna'r ffigurau y mae'r Llywodraeth, yn amlwg, wedi eu cyhoeddi. 

Pan fyddwn ni'n sôn am geisio cael cynllun ffermio cynaliadwy sy'n darparu diogeledd bwyd, ar y mathau hynny o rifau, mae'n amlwg mai ychydig neu ddim pwysoliad sydd ar gyfer diogeledd bwyd. Sut ar y ddaear all ffermwyr fod yn hyderus yn sefyllfa'r Llywodraeth pan fo'r rhifau hynny ynghlwm wrth y briff? A allwch gadarnhau heddiw, Prif Weinidog, bod diogeledd bwyd yn gynhwysyn hanfodol o'r ymgynghoriadau hyn yr ydych chi'n eu cael ar hyn o bryd ac, yn y pen draw, y bydd gan ddiogeledd bwyd yr un pwysoliad â'r enillion amgylcheddol hanfodol yr ydym ni eisiau gweld ffermwyr yn chwarae rhan yn eu sicrhau i gyrraedd sero net erbyn 2050?

Yn gyntaf oll, i ymdrin â'r pwynt a wnaeth yr Aelod am y dadansoddiad ariannol a gyhoeddwyd, o leiaf mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dadansoddiad ariannol. Fe wnaethom ni ddarganfod heddiw bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyhoeddi dadansoddiad ariannol o'i chynigion ar gyfer cymunedau ffermio yn Lloegr, tra ein bod ni wedi cyhoeddi'r ffigurau hynny. Fe wnaethom ni eu cyhoeddi nhw am yr union reswm o gael ymgynghoriad cytbwys, lle gallwn gytuno ar gynigion ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy terfynol a fydd yn lliniaru rhai o'r risgiau hynny a fyddai wedi bod yno fel arall. Nid yn unig y gallaf i gadarnhau wrth arweinydd yr wrthblaid bod ffermio cynaliadwy yn gynhwysyn hanfodol yn y cynllun ffermio cynaliadwy, dyma'r cynhwysyn pwysicaf. Dyna'r peth cyntaf yr ydym ni'n ei ddweud: bod y cynllun ffermio cynaliadwy wedi'i ddylunio i sicrhau cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yma yng Nghymru.

Pan edrychwch chi ar y ffigurau yr wyf i wedi eu rhannu â chi, Prif Weinidog, ac yn enwedig y colledion swyddi hollbwysig a'r colledion allbwn economaidd hynny, mae'n anodd i unrhyw berson rhesymol ddod i'r casgliad y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy, fel y mae wedi'i lunio ar hyn o bryd, yn darparu'r cynnig ffermio cynaliadwy hwnnw gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraethau Cymru yn y dyfodol. Felly, gofynnaf eto i chi gadarnhau bod diogeledd bwyd yn rhan hanfodol o'r cynigion ac y byddwch chi'n gwneud yn siŵr bod diogeledd bwyd yn cael y pwysoliad cyfartal hwnnw â'r enillion amgylcheddol yr ydym ni i gyd, yn y pen draw, eisiau eu gweld, ac y bydd ailfeddwl am y gorchudd coed gorfodol o 10 y cant sy'n un o ofynion y cynigion presennol sydd ar y bwrdd. Oherwydd bydd y ddogfen cynllun ffermio cynaliadwy honno sy'n cael ei chyflwyno yn dibrisio ffermydd, yn arwain at golli swyddi ac yn chwalu'r gallu i ddarparu bwyd sydd ei angen ar y genedl ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod i'n atgoffa arweinydd yr wrthblaid pam ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi: mae oherwydd bod ffermwyr yng Nghymru wedi cymryd ei gyngor ac wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna pam mae hynny—[Torri ar draws.] Wel, dyna ni. Credwch chi fi, rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw oherwydd ein bod ni wedi cymryd rheolaeth yn ôl dros gymorth ffermio yng Nghymru, fel yr oedd yn rhaid i ni ei wneud. Pe bai ffermwyr yng Nghymru yn dal i allu cael mynediad at y cyllid a oedd ar gael drwy'r Undeb Ewropeaidd, bydden nhw mewn sefyllfa wahanol iawn nag y maen nhw ar ôl clywed a dilyn ei gyngor ef. Rwyf i wedi ateb llawer o'i gwestiynau eisoes y prynhawn yma; ni wnaf fynd dros hynny eto.

O ran plannu coed, mae gan gannoedd ar gannoedd ar gannoedd o ffermydd yng Nghymru 10 y cant o'u tir o dan orchudd coed eisoes. Nid oes neb yn cael eu gorfodi i blannu coed yng Nghymru; roeddem ni'n benderfynol o gynnig y cyfle cyntaf i ffermwyr yng Nghymru dyfu'r coed y bydd eu hangen arnom ni, gan y bydd angen miloedd ar filoedd yn fwy o goed arnom ni yng Nghymru mewn cyfnod o newid hinsawdd. Rydym ni wedi ymrwymo i wneud hynny ac rydym ni wedi ymrwymo i gynnig cyfle cyntaf i ffermwyr wneud hynny. Pan nad yw'n bosibl, pan, oherwydd topograffi'r tir neu ystyriaethau eraill, nad yw'n bosibl cyrraedd 10 y cant, mae'r Gweinidog eisoes wedi cyflwyno cynigion fel na fyddai disgwyl i ffermwyr gyrraedd hynny. Pan fo ffermwyr yn gallu, pan fo'n rhesymol disgwyl i ffermwyr wneud cyfraniad at liniaru newid hinsawdd, byddan nhw'n cael eu gwobrwyo am wneud hynny yn y cynllun ffermio cynaliadwy.

13:50

Diolch, Llywydd. Cafwyd cadarnhad yr wythnos diwethaf bod economi'r DU wedi mynd i ddirwasgiad. Ond nid yr economi yn unig sy'n mynd tua'n ôl; mae dirywiad diwydiannau hanfodol yng Nghymru a'r cymunedau y maen nhw'n eu cynnal, boed hynny'n amaeth, yn ddur neu'n lletygarwch, yn cynnwys holl nodweddion dirwasgiad cymdeithasol hefyd. Mae dur yn brwydro am ei fywyd; mae'r tractorau, rydym ni'n gwybod, eisoes ar y ffyrdd; ac mae'r arwydd 'ar gau ar gyfer busnes' diweddaraf yn cael ei godi mewn bwyty arall eto yn etholaeth y Prif Weinidog ei hun. Rwyf wedi sefyll yma yn ddigon hir nawr i wybod y bydd y Prif Weinidog yn neilltuo'r bai i San Steffan: 'Mae'n fater o ddiffyg cyllid'. Ac, wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro nad yw Cymru'n cael ei hariannu'n deg; gallwn gytuno ar hynny yn sicr. Ond a yw'r Blaid Lafur yn cytuno—Plaid Lafur Keir Starmer? A yw ef yn cytuno nad yw Cymru'n cael ei hariannu'n deg? Ac os ydyw, pam nad yw'n dal i addo i unioni hynny, hyd yn oed ar rywbeth mor sylfaenol anghyfiawn â cholli biliynau o bunnoedd o symiau canlyniadol HS2? A pham mae'r Prif Weinidog yn methu â'i berswadio?

Rydym ni'n cael y cwestiwn hwn wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos, lle mae'r Aelod eisiau gofyn cwestiynau i rywun nad yw yn y Senedd ynglŷn â chyfrifoldebau nad ydyn nhw'n cael eu harfer yn y Senedd. Rwyf i wedi dweud wrtho o'r blaen bod lle gallai e ofyn y cwestiynau hynny, ac efallai y byddai'n well ganddo fod yn y fan yna. Gadewch iddo, am eiliad, ofyn cwestiwn i mi am yr hyn yr wyf i'n gyfrifol amdano ac fe wnaf fy ngorau i roi ateb iddo.

Fe wnaf i ailadrodd y cwestiwn. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i berswadio arweinydd y Blaid Lafur i fynd i'r afael â chyllid teg i Gymru? Bydd ASau Plaid Cymru yn falch o ddwyn Keir Starmer i gyfrif os yw Gweinidogion Llafur Cymru yma yn anfodlon gwneud hynny.

Y peth y mae pobl eisiau ei wybod yw bod y Llywodraeth ar eu hochr nhw. Rwy'n meddwl ei bod hi'n eithaf amlwg bod y Ceidwadwyr ar ochr neb ond eu hochr eu hunain, a dyna pam rwy'n llwyr ddisgwyl iddyn nhw gael eu taflu allan o rym eleni. Mae'n llawer iawn rhy hwyr. Ond mae Plaid Cymru yn barod i ddwyn pwy bynnag sydd mewn grym yn San Steffan i gyfrif. Ar ôl cael gwared ar y Torïaid, byddai pobl wedyn yn edrych i weld a yw Llafur ar eu hochr nhw. Wrth gwrs, maen nhw eisoes yn gwneud hynny yng Nghymru, ac mae llawer wedi dod i'r casgliad bod Llafur yn methu yma. Ac mae'n methu mewn meysydd y byddech chi'n disgwyl i Lafur, o'u rhethreg eu hunain, eu blaenoriaethu.

Un o gonglfeini maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinyddiaeth Llafur oedd hyrwyddo cydraddoldeb drwy'r cyflog byw go iawn, ond gallaf ddweud wrtho fod dwy ran o dair o weithwyr sy'n cael eu talu drwy'r grant cymorth tai, er enghraifft, yn dal i gael eu talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol. A yw'r Prif Weinidog yn gresynu hynny, a phryd allwn ni ddisgwyl i hynny gael ei gywiro?

Nid yw dyfynnu'n ddetholus o faniffestos yn ein cael ni'n bell iawn. Rwyf i wedi edrych ar faniffesto Llafur; nid yw'n gwneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at dalu'r cyflog byw gwirioneddol yn y cyd-destun y mae newydd ei ddisgrifio. Yr hyn y mae'n ymrwymo iddo yw talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Dyna oedd yr un ymrwymiad drytaf yn ein maniffesto ac mae arian wedi cael ei ddefnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn i'w gyflawni. Rwy'n falch, bob blwyddyn, bod nifer gynyddol o gyflogwyr cyflog byw gwirioneddol yma yng Nghymru a mwy o bobl yn elwa ohono. Rwy'n gobeithio y bydd y nifer honno yn parhau i dyfu yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd cyfleoedd i bobl yn y maes y mae wedi cyfeirio ato. Er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i chi fod â'r cyllid ar gael. Wythnos ar ôl wythnos, mae'n gofyn i mi ddod o hyd i fwy o arian ar gyfer hyn a mwy o arian ar gyfer y llall, ac rwy'n siŵr ei fod ar fin gofyn i mi ddod o hyd i fwy o arian at ddiben arall eto; yr hyn nad yw byth yn ei wneud yw dweud wrthyf i o ble y byddai'r arian hwnnw'n dod.

Rwy'n synnu'n fawr, mae'n rhaid dweud, nad yw'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn gresynu nad yw'r rhai sy'n gweithio ar brosiectau grant cymorth tai yn cael eu talu'r cyflog byw gwirioneddol. Efallai fy mod i wedi camddeall yr hyn yr oedd Llafur wedi ei addo. Yn sicr, mae posibilrwydd o or-addo yn digwydd, ond gallwn yn sicr weld digon o arwyddion o dangyflawni.

Mae'r Llywodraeth Lafur hon yn methu â bodloni ei dangosyddion perfformiad allweddol ei hun ar lawer o bynciau. Nid yw hynny'n helpu pan fo'r Llywodraeth wedyn yn gosod dangosyddion perfformiad allweddol i eraill eu bodloni sydd nid yn unig yn anodd eu bodloni ond a allai fod yn niweidiol i'w llesiant, a dyna sut mae'r sector amaeth yn teimlo ar hyn o bryd: Llywodraeth Cymru o'r brig i lawr yn dweud wrthyn nhw sut i ffermio tra'u bod yn meddu ar gamddealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i sicrhau amaethyddiaeth gynhyrchiol ac ystyriol o'r amgylchedd, sef yr hyn y mae'r sector yn ymdrechu i'w gyflawni.

Ddoe, clywsom y Prif Weinidog yn dweud wrth ffermwyr ar y naill law y bydd eu llais yn llunio'r cynllun ffermio cynaliadwy ac ar y llaw arall nad nhw sydd i benderfynu sut mae'r cynllun yn gweithio. Pa un a yw'n ddur, pa un a yw'n lletygarwch neu'n fanwerthu neu'n amaethyddiaeth, siawns mai swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw arwain partneriaeth, gan hyrwyddo gweithwyr Cymru, gweithio gyda nhw. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, os ydyn nhw'n mynd i ddangos eu bod nhw ar ochr pobl, bod yn rhaid i'r pwyslais fod ar y gwrando ac nid ar y darlithio?

13:55

Rwyf i wedi clywed tair darlith y prynhawn yma gan yr Aelod yn honni eu bod nhw'n gwestiynau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r dros 3,000 o ffermwyr sydd wedi cymryd rhan yn y 10 digwyddiad ymgynghori yr ydym ni wedi eu cynnal ar y cynigion diweddaraf yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig. Rwy'n gwybod y bydd cannoedd o bobl eraill wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau drwy'r undebau ffermio. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i'r ffordd honno o gyd-gynhyrchu gyda'r sector ffermio mewn ffordd lle mae'r swm mawr iawn o arian yr ydym ni wedi ymrwymo i'w gynnal ar gyfer cynorthwyo'r gymuned amaethyddol yn parhau i fod ar gael iddyn nhw. Mae'r Gweinidog mewn trafodaeth barhaus gyda buddiannau ffermio. Byddaf yn cyfarfod â phobl eraill yr wythnos nesaf at y diben hwn. Y rheswm pam rydym ni'n ei wneud yw oherwydd ein hymrwymiad i'r sector hwnnw ac i ddyfeisio yma yng Nghymru ffordd o wobrwyo ffermwyr am y gwaith y maen nhw'n ei wneud sy'n cael ei gydnabod gan weddill y cyhoedd yng Nghymru fel gwaith sy'n hanfodol ar gyfer ein dyfodol cyfunol.

Safleoedd Gwenwynig

3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau diogelwch safleoedd gwenwynig yn y de-ddwyrain? OQ60715

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â diogelwch ar safleoedd o'r fath yng Nghymru yn cael ei gosod gan y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau statudol i gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau. Mae cymorth pellach ar gael drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Diolch am yr ateb yna.

Yn yr un modd â'r map o domenni glo categori C a D yng Nghymru, mae gan bobl yr hawl hefyd i gael gwybod lleoliad safleoedd gwenwynig hanesyddol. Yn anffodus, mae llawer o safleoedd gwenwynig ledled ein gwlad o ganlyniad i'n treftadaeth ddiwydiannol a chorfforaethau rhyngwladol yn ein defnyddio ni fel man dadlwytho ar gyfer pob math o gemegau annymunol. Efallai fod y corfforaethau hyn wedi hen ddiflannu o'n cymunedau, ond mae etifeddiaeth eu gwaith yn parhau gyda chyrsiau dŵr llygredig. A yw'r Llywodraeth hon wedi ystyried cyhoeddi map o safleoedd gwenwynig ledled Cymru i hysbysu'r cyhoedd yn well am y peryglon a allai fodoli yn eu cymuned, a phryd y byddwn ni hefyd yn cael tasglu sy'n ymroddedig i dynnu'r holl asiantaethau perthnasol sy'n mynd ar drywydd llygryddion at ei gilydd ac ymdrin â'r etifeddiaeth y maen nhw wedi ei gadael ar eu holau?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Mae'n iawn, wrth gwrs, bod tirwedd Cymru wedi'i wasgaru gydag enghreifftiau o etifeddiaeth pethau a ddigwyddodd flynyddoedd maith yn ôl. Y system bresennol yw mai cyfrifoldeb awdurdod lleol yw hyn. Mae ganddyn nhw ddyletswydd sylfaenol yn y maes hwn i nodi tir halogedig yn eu hardal. Ond mae'r gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar y Bil mwyngloddiau segur yn cael ei ddylunio gyda'r posibilrwydd o ymestyn cwmpas y trefniadau y byddwn ni'n eu sefydlu yn y lle cyntaf er mwyn gallu cymryd mathau eraill o etifeddiaeth ddiwydiannol i ystyriaeth yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio, pan ddaw'r Bil gerbron y Senedd, y bydd yr Aelod yn gweld hynny. Er ei fod yn dechrau, fel y dywedodd, gydag etifeddiaeth mwyngloddio yng Nghymru, ceir materion etifeddiaeth eraill y gellid defnyddio'r strwythur a fydd yn cael ei sefydlu i ymateb iddyn nhw yn y dyfodol, a byddai hynny'n caniatáu i ni, er enghraifft, gymryd i ystyriaeth y rhaglen adfer mwyngloddio metel sydd gennym ni yma yng Nghymru, lle ceir diddordeb rhyngwladol yn y ffordd yr ydym ni wedi gallu ymestyn cwmpas ein rhaglen adfer. Felly, ni fydd llwybr cyflym i'r math o gofrestr y mae'r Aelod yn ei hawgrymu, ond mae llwybr posibl a fydd yn dod gerbron y Senedd yn ddiweddarach eleni, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd lle mae'r materion etifeddiaeth hyn yn flaenllaw iawn eisiau cymryd diddordeb agos yn hynt y Bil hwnnw.

14:00

Rwyf innau hefyd yn rhannu pryderon y cyd-Aelod dros Ddwyrain De Cymru ac, er enghraifft, ar y cynnig i adennill tomenni glo Bedwas, sydd wedi bod yn destun llawer o bryder ymhlith etholwyr yn fy rhanbarth i. Er bod Llywodraeth Cymru wedi honni nad yw'r tomenni o reidrwydd yn beryglus, mae risg, wrth gwrs, fel y gwyddoch chi, o ddŵr ffo a allai arwain at ddigwyddiad.

Ond hoffwn wneud y Prif Weinidog yn ymwybodol o chwarel Tŷ Llwyd yn Ynys-ddu ger Caerffili, lle canfuwyd fod cemegau gwenwynig yn y dŵr yn gollwng o'r safle tirlenwi i goetir a ddefnyddir gan blant a cherddwyr cŵn y llynedd. Mae fy etholwyr yn yr ardal yn dal i gredu bod yr ardal wedi'i halogi ac wedi lleisio eu pryderon ynghylch y risg iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â'r safle hwn. Mae'r system ddraenio sydd yno ar hyn o bryd yn annigonol, ac mae hylif halogedig yn dal i fod yn broblem gyffredin. Yn 2011, cytunodd Monsanto i helpu i lanhau'r chwarel, ac eto 13 mlynedd yn ddiweddarach, mae fy etholwyr yn dal i orfod ymdrin â'r canlyniadau hynny. Felly, Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ymdrin â'r mater hwn a glanhau'r chwarel unwaith ac am byth? Diolch.

Wel, Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Dim ond i fod yn eglur, yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol, nad yw'r rheoleiddwyr yn ystyried bod risg i iechyd y cyhoedd yn Nhŷ Llwyd ar hyn o bryd, ond mae'r awdurdod lleol—a wnaeth, gadewch i ni gofio, nodi'r chwarel hon eu hunain fel testun pryder yn ôl yn y 1990au—wedi comisiynu Arcadis i gynnal arfarniad o opsiynau i edrych ar ffyrdd gwell yn y dyfodol y gellir rheoli trwytholch o'r safle. Mewn oes o newid hinsawdd—rydym ni wedi sôn am hynny y prynhawn yma eisoes—mae digwyddiadau tywydd difrifol, gan gynnwys glaw dwys, wedi gwneud yr her ar y safle hwnnw yn fwy sylweddol nag y byddai wedi bod yn y gorffennol. Nawr, rwy'n deall bod yr ymgynghorwyr bellach wedi culhau cwmpas eu gwaith i lawr i bedwar opsiwn ar gyfer rheoli'r safle yn y dyfodol, bod yr adroddiad hwnnw bellach wedi cael ei gyflwyno i'r awdurdod lleol, ond, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, mae rhaglen fonitro yn cael ei chynnal dros y gaeaf hwn i edrych ar ddŵr daear a dŵr wyneb, a fydd yn helpu i fireinio'r opsiynau hynny ymhellach. Nawr, pan fydd yr opsiynau hynny'n cael eu mireinio, rwy'n dychmygu fy hun y bydd yn arwain i'r cyngor fod angen gwneud cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer y ffordd y caiff y safle ei reoli yn y dyfodol. Byddwn yn rhagweld y bydd amodau llym ynghlwm wrth y drwydded honno i wneud yn siŵr y gall trigolion lleol fod yn hyderus nad oes unrhyw drwytholch o'r safle hwnnw a fyddai'n achosi niwed i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd.

Soniwyd am domen Bedwas eisoes, ac mae'n etifeddiaeth o'n treftadaeth lofaol. Ceir cwmni sydd â diddordeb mewn adfer tomen Bedwas heb unrhyw gost i bwrs y wlad, a phan ydych chi'n sôn am fwy na £30 miliwn, mae hwnnw'n gynnig sylweddol i'w ystyried. Yn anffodus, mae rhai o gynghorwyr yr wrthblaid wedi bod yn lledaenu, trwy daflenni, rhai anwireddau uniongyrchol am y prosiect. Rwy'n credu bod angen i ni gadw meddwl agored am yr hyn y bydd y prosiect yn ei olygu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y prosesau priodol yn cael eu dilyn i sicrhau bod y cyhoedd yn cael lleisio eu barn. A wnaiff y Prif Weinidog gefnogi hynny felly a chytuno, i'r math hwn o brosiect adfer gael ei ystyried, bod yn rhaid i ni gadw meddwl agored am ba mor llwyddiannus y gall fod?

Diolch i Hefin David am hynna, Llywydd. Soniodd Laura Anne Jones am domenni Bedwas, ac mae tair tomen lo categori D segur uwchben Bedwas, ac rydym ni'n gwybod hynny, wrth feddwl am y cwestiwn a ofynnwyd i mi yn wreiddiol gan Peredur Owen Griffiths, gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r wybodaeth honno. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod y cwmni sy'n cynnig gwahanol ddyfodol i'r tomenni hynny ar y cam cyn gwneud cais cynllunio ar hyn o bryd. Roeddwn i'n falch iawn o weld bod arddangosfa ym Medwas heddiw ac yng Nghwmfelinfach yfory o'r cynigion y maen nhw'n eu cyflwyno. Yna, bydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno cais cynllunio llawn, ac ar yr adeg honno, os oes pryderon gan drigolion lleol, byddan nhw'n gallu cael eu lleisio a byddan nhw'n gallu cael eu hystyried yn y ffordd drefnus, seiliedig ar reolau honno, y mae'r system gynllunio yn ei chaniatáu, ac yna gellir ymchwilio ac adrodd yn briodol ar rinweddau ac anfanteision, os oes rhai, y cynnig.

14:05
Ffordd Blaenau'r Cymoedd

4. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddeuoli adrannau 5 a 6 ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd? OQ60716

Diolch i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Mae'r gwaith o ddeuoli adrannau 5 a 6 ffordd Blaenau'r Cymoedd dair blynedd i mewn i'w gyfnod adeiladu ar hyn o bryd. Er i'r prosiect gychwyn yn ystod anterth pandemig COVID, cynhaliwyd cynnydd da a disgwylir i'r cwblhad a drefnwyd ac a ragwelir ddigwydd yn ystod haf 2025.

Prif Weinidog, roedd yn bleser ymweld gyda chi a Dawn Bowden i weld y gwaith adeiladu parhaus ar adrannau 5 a 6 ffordd Blaenau'r Cymoedd yr wythnos diwethaf. Rwy'n siŵr, fel fi, yr hoffech chi ddiolch i Future Valleys Construction a'u partneriaid am ein croesawu a rhoi taith addysgiadol iawn i ni. Roedd yn braf clywed am y manteision economaidd, amgylcheddol a chymunedol y mae'r prosiect eisoes yn eu darparu, ond sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod y dulliau hyn yn cael eu hymwreiddio i gyflawni gwelliannau parhaol i Gwm Cynon a'r ardaloedd cyfagos?

Wel, diolch i Vikki Howells am hynny ac am y gwahoddiad a wnaeth ar lawr y Senedd i wneud yr ymweliad hwnnw, y gwnes i ei fwynhau yn fawr, ynghyd â'r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni. Roedd yn dilyn ymweliad cynharach yr oeddwn i wedi ei wneud gydag Alun Davies â gwahanol ran o'r ffordd, a thra roedden ni'n gwneud ein hymweliad, y geiriau y mae'r Aelod dros Flaenau Gwent yn aml yn eu defnyddio ar lawr y Senedd a oedd yn fy meddwl, bod hon yn llawer mwy na ffordd, mae'n gyfres o gyfleoedd economaidd pwysig iawn i bobl sy'n byw yn y rhan hon o Gymru.

Ac mae'r manteision a welsom o'n blaenau yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, yn sicr yn fanteision a fydd yn para i'r dyfodol: y mesurau teithio llesol hynny a fydd yn cael eu cynllunio nawr, y llwybrau beicio a welsom ni, gwahanu cerddwyr oddi wrth draffig, y ffaith y bydd 120,000 o goed yn cael eu plannu yn rhan o'r gwaith ar adrannau 5 a 6. Dywedwyd wrthym ni am yr 8,000 o blanhigion a oedd yn cael eu cyflwyno yn arbennig er mwyn diogelu dyfodol glöyn byw britheg y gors, yn ogystal â phopeth arall a welsom i wneud yn siŵr y bydd bioamrywiaeth a chornchwiglod ac ystlumod a phathewod, a'r holl bethau eraill sydd yno nawr, yn cael eu sicrhau ar gyfer y dyfodol. Ac mae hynny heb yr holl fuddsoddiad a fydd yn para i'r dyfodol: £105 miliwn yn y gadwyn gyflenwi o ganlyniad i'r gwaith ar ffordd Blaenau'r Cymoedd. Bydd y rheini'n gwmnïau a fydd yno i ffynnu i'r dyfodol.

Ac i ddychwelyd at y cwestiwn cyntaf un a ofynnwyd i mi y prynhawn yma, clywsom gan brentisiaid a chyfarfod â nhw, pobl a fydd wedi dysgu eu sgiliau dros y degawd o fuddsoddiad y mae'r Llywodraeth Cymru hon wedi ei wneud yn y ffordd honno, ac fe wnaethom ni gyfarfod a chlywed am bobl a ddechreuodd fel prentisiaid lefel 2 yn y cyfnod cynnar ac sydd bellach yn gyfrifol am rai rhannau pwysig iawn o'r gwaith adeiladu hwn. Felly, rwy'n credu y bydd cyfres gyfan o etifeddiaethau economaidd ac amgylcheddol y bydd y cynllun hwn yn eu darparu ar gyfer y cymunedau hynny ymhell i'r dyfodol.

Prif Weinidog, rydych chi a minnau'n gwybod fy mod i'n gefnogwr enfawr o gael seilwaith trafnidiaeth cryf ledled Cymru. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, nid yw eich Llywodraeth wedi methu â fy synnu. Ar y naill law, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod argyfwng hinsawdd ac yn gwahardd yr holl waith adeiladu ffyrdd mawr yn rhan o'i hagenda gwrth-fodurwyr—[Torri ar draws.]—ac ar y llaw arall, rydym ni'n eich gweld chi, y dirprwy Weinidog twristiaeth a Vikki Howells i gyd yn gwenu ac tynnu ystumiau ym Mlaenau'r Cymoedd ar gyfer lluniau, yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw—

14:10

Allaf i ddim clywed yr Aelod, mae'n ddrwg gen i, ac nid wyf i'n siŵr a all y Prif Weinidog, felly a oes modd clywed yr Aelod mewn ychydig o ddistawrwydd, os gwelwch yn dda?

Diolch o galon. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, rwyf i'n bersonol yn falch dros ben o weld y Llywodraeth gwrth-adeiladu ffyrdd hon yn cydnabod manteision buddsoddi yn y prosiectau seilwaith pwysig iawn hyn o'r diwedd—ydw yn wirioneddol. Fodd bynnag, nid wyf i'n siŵr bod y ffaith bod y cynllun hwn, sy'n ddifrifol dros ei gyllideb ac y tu ôl i'r amserlen yn enfawr, yn rhywbeth i'w ddathlu. Felly, Prif Weinidog, o gofio eich bod chi'n galw ffordd Blaenau'r Cymoedd yn llwyddiant, a all pobl Cymru ddisgwyl bellach gweld y Llywodraeth hon yn dechrau adeiladu seilweithiau ffyrdd pwysig eraill nawr hefyd? Diolch.

Wel, mae'n drueni, Llywydd, bod croeso yr Aelod i'r cynllun wedi'i orchuddio mewn niwl o gamwybodaeth o'r fath. Mae hi'n hollol anghywir ynglŷn ag agwedd y Llywodraeth at adeiladu ffyrdd. Mae hi'n hollol anghywir am adrannau 5 a 6, sy'n cael eu hadeiladu o dan y model buddsoddi cydfuddiannol, lle nad yw'r risgiau o gostau yn mynd yn rhy uchel yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth o gwbl; maen nhw'n llwyr yn nwylo'r cwmni adeiladu, sydd wedi cael ei gontractio i adeiladu'r rhan honno o'r ffordd. Felly, gall fod yn sicr bod ei phryderon yn ddi-sail ac yn y dyfodol bydd yn gallu dathlu llwyddiant y ffordd heb ei amgylchynu â chyfres o ofidion cwbl wallus.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

5. A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith diweddar ar y cynllun ffermio cynaliadwy? OQ60712

Llywydd, cyhoeddwyd asesiad effaith integredig ar 14 Rhagfyr y llynedd, yn rhan o'r ymgynghoriad presennol ar y cynllun ffermio cynaliadwy. Bydd asesiad wedi'i ddiweddaru, ynghyd â thystiolaeth ategol, yn cael ei gyhoeddi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

Diolch am eich ateb, Prif Weinidog, a byddwn yn gobeithio y byddwch chi'n cynnal asesiad effaith wedi'i ddiweddaru cyn gynted â phosibl.

Dros yr wythnos ddiwethaf, rwyf i wedi ymweld â ffermydd, marchnadoedd da byw, cyflenwyr amaethyddol, ac roeddwn i yn rowndiau terfynol drama y Clwb Ffermwyr Ifanc ym Maesyfed. Mae'r holl bobl y siaradais â nhw yn poeni, maen nhw'n ofnus ac maen nhw'n ddig oherwydd yr ansicrwydd ynghylch eu dyfodol. Mae elusennau iechyd meddwl gwledig hefyd yn cael eu boddi gan alwadau gan bobl sydd angen cymorth a chefnogaeth oherwydd y pwysau enfawr sydd arnyn nhw ar hyn o bryd oherwydd angen di-ildio i lenwi ffurflenni, TB a Llywodraeth yma y mae'n ymddangos ei bod yn anwybyddu eu pryderon.

Prif Weinidog, felly gyda'r nifer aruthrol o 5,500 o swyddi wedi'u colli, y golled o £200 miliwn i'r economi a'r gostyngiad enfawr i niferoedd da byw, a amlinellwyd gan asesiad effaith a gomisiynwyd gan y Llywodraeth hon, sut all ffermwyr ymddiried ynoch chi a'r Gweinidog materion gwledig pan fyddech chi'n dweud y byddwch chi'n gwrando ar yr ymgynghoriad, pan fo'n ymddangos i lawer bod y Llywodraeth hon wedi anwybyddu ffermwyr yn ystod y cyfnod cyd-ddylunio ac na wnaeth chwaith gymryd i ystyriaeth y dystiolaeth sy'n amlinellu'r niwed di-ben-draw y byddai'r cynllun hwn yn ei wneud i gefn gwlad Cymru?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gydnabod, pan fydd newid yn digwydd, bod pobl yn gweld hynny'n anodd, ac yng nghefn gwlad Cymru, mae llawer o newidiadau sy'n anochel ar garreg eu drws. Maen nhw yno oherwydd ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda'r diogelwch a'r sicrwydd yr oedd hynny'n ei roi i ffermio yma yng Nghymru. Nid oes modd osgoi, er nad ydym bellach yn aelodau o'r trefniadau a oedd wedi cynnal ffermio yng Nghymru ers cynifer o flynyddoedd, bod yn rhaid i ni nawr roi cynlluniau amgen ar waith. A phan fydd newid yn digwydd, mae pobl yn bryderus ac mae pobl yn poeni ac mae pobl yn wirioneddol ofidus. Rwy'n deall hynny. Dyna pam rydym ni'n parhau i gael y sgyrsiau yr ydym ni'n eu cael.

Yn sicr nid yw'n helpu'r sgyrsiau hynny, yn sicr nid yw'n helpu i fynd i'r afael â'r straen y cyfeiriodd yr Aelod ato, pan fydd yn dod â'i gwestiwn i ben gyda'r math o nonsens codi bwganod a gynigiwyd ganddo. Ac rwy'n gwneud y pwynt hwnnw iddo, oherwydd mae'n aml yn gyfrannwr eithaf synhwyrol at drafodaethau ar lawr y Senedd, ond os ydym ni'n bryderus am bobl a'u dyfodol, yna byddai'n well pe baem ni i gyd yn cynnal y sgyrsiau hynny mewn ffordd fwy pwyllog nag y gwnaeth yn y ffordd y daeth â'i sgwrs i ben, oherwydd yn sicr nid yw'r Llywodraeth hon wedi anwybyddu llais ffermwyr. Rydym ni wedi cael sgwrs saith mlynedd. Rwy'n ddiolchgar iawn—dywedais mewn ateb cynharach, rwy'n ddiolchgar iawn—i'r 12,000 o ymatebion a gawsom i'r ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' cyn belled yn ôl â 2018. Rwy'n ddiolchgar o gael dros 3,000 o ymatebion i ymgynghoriad 2019 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', i'r 2,000 o bobl a gymerodd ran yn yr ymarfer cyd-ddylunio yn y flwyddyn ganlynol; 2018, 2019, 2020, 2021, mae gennym ni Bapur Gwyn ar y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), 2022, 1,600 o gyfraniadau at ail gam y cyd-ddylunio, ac eleni mae mwy na 3,000 o ffermwyr wedi dod i'r ymarferion ymgynghori, y sioeau teithiol, a gynhaliwyd ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n credu eu bod nhw'n haeddu gwell na'i gyfraniad, oherwydd nid yw eu safbwyntiau wedi cael eu hanwybyddu, oherwydd, ar bob cam, bu gwelliannau i'r cynllun, ac rwy'n hyderus y bydd gwelliannau pellach i'r cynllun o ganlyniad i'r ymgynghoriad a'r sgyrsiau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd.

Ond mae'n sgwrs rhwng dau barti. Mae'n sgwrs rhwng ffermwyr, ac mae'n sgwrs rhwng y cyhoedd yng Nghymru sy'n darparu'r arian sy'n mynd i mewn i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ac mewn sgwrs, bydd mwy nag un safbwynt. Dyna pam rydym ni'n cynnal y sgyrsiau mor ofalus a thros gyfnod mor estynedig. Nid yw ar ben a byddwn yn parhau i wrando ac yn parhau i ymateb, ac unwaith eto, rwy'n annog cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan yn y cyfle sydd yno o'u blaenau i ddylanwadu ar ddyfodol y cynllun.

14:15

A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, roi eich hun yn esgidiau rhywun efallai sy'n ceisio gwneud bywoliaeth o fferm deuluol? Rydych chi'n gofyn iddyn nhw, fel Llywodraeth, wneud dewis: i bob pwrpas, i neilltuo 10 y cant o'u tir ar gyfer gorchudd coed, 10 y cant arall efallai ar gyfer cynefinoedd. Bydd hynny'n gwasgu'r hyn sydd eisoes yn hyfywedd ffiniol iawn y busnes hwnnw. Y dewis arall, wrth gwrs, pan fyddwch chi'n rhoi'r dewis hwnnw iddyn nhw, yw nad ydyn nhw'n mynd i mewn i gynllun ac maen nhw'n gwneud heb yr hyn sy'n gyfatebol i daliad sylfaenol, sef yr hyn sydd wedi bod yn cadw llawer o'r busnesau hynny'n hyfyw yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, fy nghwestiwn i chi yw: a ydych chi'n ei ddeall? Ydych chi wir yn deall yr hyn yr ydych chi'n gofyn i'r sector ei wneud? Rwy'n dweud hyn mewn ffordd mor gadarnhaol ag y gallaf i. Ydy hynny'n nonsens sy'n codi bwganod, neu ai dyna'r gwirionedd y mae pobl yn ei wynebu? A yw'n unrhyw syndod bod yna iselder ac anobaith llwyr yn y wlad ar hyn o bryd?  

Nid wyf i'n ystyried y pwynt y gwnaeth yr Aelod fel nonsens sy'n codi bwganod, oherwydd mae'n iawn fod hyn yn mynd i wraidd y cytundeb yr ydyn ni eisiau'i weld yn y dyfodol ar gyfer ffermio yng Nghymru. Dyna pam mae cyfanswm cynllun y taliad sylfaenol wedi'i gynnal yma yng Nghymru ac sydd ar y bwrdd ar gyfer cynllun y dyfodol hwnnw. Nid ydym ni'n gofyn i ffermwyr neilltuo 10 y cant o'u tir. Hoffem ni dalu iddyn nhw wneud hynny. Rydym ni'n cynnig iddyn nhw gael y cyfle cyntaf i dyfu'r coed fydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol. Rwy'n cofio cael fy meirniadu'n hallt, yma ar lawr y Senedd, gan arweinydd Plaid Cymru ar y pryd am fethu tyfu digon o goed yma yng Nghymru i fodloni'r argyfwng hinsawdd. A'r ffordd yr ydyn ni eisiau'i gyflawni yw rhoi ffermwyr ar flaen y ciw, i roi'r cynnig cyntaf iddyn nhw dyfu'r coed y bydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol, ac yna eu gwobrwyo am hynny.

Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, yn y pen draw, mae'n gynllun gwirfoddol. Nid yw tua hanner y ffermydd yng Nghymru heddiw yn rhan o gynllun y taliad sylfaenol, ond, gan ei fod yn gynllun gwirfoddol, rydyn ni eisiau cynllunio'r cynllun hwnnw gyda'n gilydd. Mae hynny'n gynnig hollol ddiffuant gan Lywodraeth Cymru. Fel yr wyf i wedi'i ddweud sawl gwaith y prynhawn yma, rwy'n ddiolchgar iawn i'r miloedd o ffermwyr hynny yng Nghymru sy'n dod i fod yn rhan o'r ymdrech ar y cyd honno.  

Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod angen i'r iaith a naws y mater hwn fod yn barchus ar bob ochr. Nid yw'r lle yr ydyn ni efallai wedi cael ein hunain ynddo, o bosibl, mewn gwirionedd yn helpu unrhyw un ac mae'n effeithio ar iechyd meddwl y rhai sy'n mynd i orfod ymdrin â hyn wrth symud ymlaen. Roeddwn i'n un o 500 o bobl a fynychodd gyfarfod yn Aberhonddu ychydig wythnosau yn ôl lle gwnaethon ni glywed am y 17 gweithred gyffredinol a'r ddau gynllun y mae angen i ffermwyr eu bodloni er mwyn cael y taliad sylfaenol. Cymerodd bron i awr a chwarter i gyflwyno hynny, ac, yn hynny o beth, credwch chi fi, roeddwn i'n arbennig o ddryslyd, ac roeddwn i'n eistedd yn agos at ffermwyr a oedd yn ofidus iawn yn sgil yr hyn y gwnaethon nhw ei glywed. Dywedodd un ffermwr—gyda thristwch yn wir—'Dwi jest eisiau ffermio.'

Rydyn ni'n gwybod bod yr ymgynghoriad yn parhau, ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog materion gwledig—rydw i wedi cael cyfarfod â hi ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi cyfarfod ag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, dim ond yn ddiweddar, oherwydd mae gwir dristwch a gofid ynghylch yr hyn y gall ffermwyr ei weld sy'n mynd i fod yn gyfnod gofidus a llawn straen o'u blaenau. Rwy'n gwybod bod dyddiad cau'r ymgynghoriad dal i ddod, ond tybed, yn eich asesiad effaith parhaus, a fyddech chi'n ystyried yr effaith ar iechyd meddwl ffermwyr nid yn unig yn y cynllun hwn, ond yr holl ofynion eraill hefyd, oherwydd mae angen i'n ffermwyr ni fod yn iach, i allu gweithio ar eu tir ac i gadw ein cymunedau ni—yn enwedig ein cymunedau Cymraeg ni—yn fyw ac yn ffynnu. Diolch yn fawr iawn.

14:20

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ond, pan fydd unrhyw gymuned yn wynebu newid, yna bydd pwysau iechyd meddwl yn rhan o'r hyn y byddai angen i unrhyw Lywodraeth ymateb iddo. Pan oeddwn i yn Tata Steel gyda fy nghyd-Weinidog Gweinidog yr economi ychydig wythnosau yn ôl, cawson ni sgwrs ddifrifol iawn yno gyda'r cwmni am yr effaith ar iechyd meddwl y bydd colli rhwng 2,000 a 3,000 o swyddi mewn cymuned faint Port Talbot yn ei gael yn y gymuned honno. Felly, lle bynnag yr ydyn ni'n gweld newid, rydyn ni'n ymwybodol o'r effaith ehangach honno ar fywydau pobl. Dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn arbennig, i ffermwyr yma yng Nghymru, ac mae gennym ni sefydliadau gwych yng Nghymru, fel Sefydliad DPJ, sy'n gwneud cymaint o les wrth ymateb i bobl sy'n wynebu'r trallod hwnnw.

Yn y dyfyniad y mae'r Aelod wedi'i gynnig i ni, rydych chi'n crynhoi, mewn ffordd, y cyfyng-gyngor sydd yno: mae pobl 'jest eisiau ffermio', ac rwy'n ofni nad felly fydd y dyfodol. Nid yw'r dyfodol yn mynd i ganiatáu i bobl wneud yr hyn y maen nhw eu hunain wedi'i wneud erioed. Mae newid yn gwbl anochel, a dyna'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn cychwyn arno—newid yr ydyn ni eisiau'i wneud mewn ffordd sy'n sicrhau dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru. Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y bydd y newid hwnnw, i rai, yn anodd ac yn boenus, ond drwy feddwl ein bod ni'n datrys y broblem drwy ddweud na fyddwn ni'n newid, y gallwn ni osgoi newid—nid yw hynny'n ateb chwaith. Felly, mae newid yn anochel. Rydyn ni eisiau i'r newid hwn gael ei gyflawni gyda'r sector. Rydyn ni eisiau parhau i fuddsoddi yn ei ddyfodol llwyddiannus, gan gydnabod y bydd honno'n daith anodd i rai pobl sy'n gweld newid, nid yn unig fel rhywbeth sy'n ymylol i'w bywydau, ond mewn rhai ffyrdd mae'n gofyn iddyn nhw feddwl eto am yr holl ffordd y gallan nhw barhau i fyw ar y tir a chael cefnogaeth i wneud hynny.

Prif Weinidog, diolch am eich eglurder ar y mater hwn, ond, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, a allwch chi gadarnhau eto y byddwch chi'n ystyried pob ymateb i'r ymgynghoriad yn feddylgar a gydag ystyriaeth fanwl, ac y bydd yr ymatebion hynny'n helpu i lunio a mireinio rhaglen gymorth derfynol i'r gymuned ffermio, ac na ddylem ddod i gasgliadau ar hyn o bryd ynghylch y ffurf derfynol honno o'r rhaglen?

Mae'n bwysig iawn, Llywydd, fel mae Ken Skates yn ei ddweud, fod pobl yn cydnabod bod hyn yn parhau i fod yn broses iteraidd iawn. Nid wyf i'n credu ei fod yn helpu'r broses pan fydd pobl yn ei disgrifio fel proses lle nad oes unrhyw newid wedi'i wneud, oherwydd mae newidiadau wedi cael eu gwneud ar bob cam yn y broses ymgynghori, yn y broses gyd-ddylunio, ac rwy'n hollol siŵr y bydd newidiadau eraill yn deillio o'r ymgynghoriad presennol. A dylai pobl fuddsoddi yn yr ymgynghoriad gan fod yn hyderus o wybod bod rhywun yn gwrando ar eu barn, bod yna bethau ymarferol sy'n newid o ganlyniad i'r hyn sy'n cael ei ddweud wrthym ni, ac na fydd unrhyw beth yn derfynol yn y cynllun hwn nes bod yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad presennol wedi cael eu darllen, eu hystyried, y bydd asesiad effaith integredig newydd yn cael ei gynnal, ac yna bydd cynigion terfynol yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd.

14:25
Ynni Adnewyddadwy

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ynni adnewyddadwy ym Mhreseli Sir Benfro? OQ60681

Llywydd, mae gan y sector yn etholaeth yr Aelod botensial enfawr i ddiwallu ein hanghenion ynni wrth gadw cyfoeth a gwerth yng Nghymru. Rydyn ni'n symleiddio prosesau cynllunio a chydsynio, yn arwain gwaith strategol ar gynlluniau ynni ac yn gweithio i fanteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer technolegau newydd, gan gynnwys ffermydd gwynt arnofiol ar y môr.

Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nawr, byddwch chi'n ymwybodol o'r rhaglen Fit 4 Offshore Renewables, sy'n cael ei chyflwyno gan Offshore Renewable Energy Catapult, mewn partneriaeth â Floventis Energy, datblygwr Llŷr 1 a 2 yn y môr Celtaidd. Nawr, mae'r rhaglen yn helpu busnesau i wneud cais am waith yn y sector ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, drwy roi'r sgiliau a'r arbenigedd i fusnesau Cymru i sicrhau llwyddiant yn y diwydiant hwn sy'n tyfu'n gyflym. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r rhaglen a'r buddsoddiad y mae Floventis wedi'i wneud yn y gadwyn gyflenwi? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i ddatblygu'r gwaith hwn a chefnogi busnesau Cymru yn y sector ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol? 

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna ac am y gefnogaeth glir a chyson y mae'n ei rhoi i'r sector hwn, a fydd yn gwneud cymaint i helpu pobl yn ei ran o Gymru. Efallai y gwnaf i roi dim ond un enghraifft  o weithred ddiweddar iawn, oherwydd ysgrifennais i ddoe at Brif Weinidog y DU i gefnogi bwriad Llywodraeth y DU i roi'r gallu i Ystad y Goron fenthyg yn erbyn yr asedau sydd ganddi, yn enwedig yng nghanol Llundain. Mae hwn yn ymrwymiad y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud, a ddoe ysgrifennais i at Brif Weinidog y DU i gefnogi hynny, ond i'w annog hefyd i ddod â'r darn bach iawn hwnnw o ddeddfwriaeth gerbron Tŷ'r Cyffredin cyn gynted â phosibl. Oherwydd un o'r pethau y gwnaeth Ystad y Goron bwysleisio i mi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, pan gymerodd y ddau ohonom ni ran yn y digwyddiad cynigwyr arfaethedig yn Abertawe ar 31 Ionawr, oedd pe baen nhw'n gallu benthyg yn erbyn yr asedau hynny, yna bydden nhw'n defnyddio rhywfaint o hynny i fuddsoddi yn y gadwyn gyflenwi yma yng Nghymru, yn yr un ffordd ag y mae Paul Davies wedi disgrifio gweithredoedd Floventis.

Nawr, mae Ystad y Goron yn cydnabod, os ydyn ni eisiau gwneud y defnydd gorau o'r cyfle sydd yno yn y môr Celtaidd, y bydd angen i ni baratoi cadwyn gyflenwi cyn y datblygiad hwnnw, yn barod i allu gwneud y gwaith yr oedden ni eisiau'i wneud yng Nghymru i gadw'r swyddi hynny yma. Rwy'n credu ei bod yn bartner parod yn hynny. Rwy'n credu bod ymrwymiad Llywodraeth y DU i'w galluogi i fenthyg yn un da, a bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn eu cefnogi i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno.

Gofalwyr Di-dâl

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr di-dâl? OQ60717

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi pob gofalwr di-dâl yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u hawliau, fel y mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn eu hamlinellu. Ers mis Ionawr 2022, rydyn ni wedi dyrannu £42 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi gofalwyr di-dâl.

Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn i groesawu'r cyllid ychwanegol hwnnw yn y maes hwn hefyd. Ddoe, cafodd cynulliad gofalwyr Cymru ei gynnal yn Nhŷ Hywel yma yn y Senedd. Wedi'i drefnu gan Ofalwyr Cymru, cafodd y digwyddiad ei fynychu gan ofalwyr di-dâl o bob cwr o'r wlad. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'r gofalwyr di-dâl hynny, a gododd lawer o gwestiynau pwysig drwy gydol y dydd, gan gynnwys ar iechyd, gofal cymdeithasol a chyflogaeth.

Ymunais i â thrafodaeth banel yn canolbwyntio ar sut mae gofalwyr yn cydbwyso cyflogaeth a chyfrifoldebau gofalu. Mae cynnal y cydbwysedd hwn yn anodd iawn i lawer o ofalwyr di-dâl, ac mae'n cael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, yn ogystal â chyllid unigol a theuluol. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr o unrhyw oedran, p'un ai i aros yn y gwaith, dychwelyd i'r gwaith, neu i ddilyn cyfleoedd cyflogaeth newydd a pharhau i ofalu am eu hanwyliaid?

14:30

Wel, Llywydd, rwy'n diolch i Jayne Bryant am hynna, ac am y rhan y chwaraeodd hi yn y digwyddiad ddoe. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog gyda chyfrifoldeb am wasanaethau ar gyfer gofalwyr di-dâl wedi ymdrin ag ef. A'r panel y cymerodd yr Aelod dros Orllewin Casnewydd ran ynddo, Llywydd, roeddwn i'n credu ei fod yn rhan arbennig o bwysig o'r rhaglen. Rydym ni'n siarad am 'ofalwyr di-dâl': maen nhw'n ddi-dâl am y gofal maen nhw'n ei roi, ond yn aml, maen nhw'n gweithio ar yr un pryd. Ac mewn economi sydd â llai o bobl erbyn hyn yn gweithio ynddi na chyn 2016, rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy i alluogi pobl a hoffai fod yn y gweithlu, ond sy'n cael eu hatal gan eu hamgylchiadau domestig rhag gallu gwneud y cyfraniad hwnnw. Ac mae'r canolbwyntio hwnnw ar yr anweithredol yn economaidd, fel y maen nhw, braidd yn ddi-chwaeth, yn cael eu galw, yn flaenoriaeth bwysig iawn i Weinidog yr Economi.

Felly, gallwch chi fod yn sicr, ein bod ni'n chwilio ar draws Llywodraeth Cymru am ffyrdd y gallwn ni ei gwneud yn haws i bobl nad ydyn nhw yn yr economi gynhyrchiol ar hyn o bryd, ond a hoffai fod, i allu gwneud y cyfranogiad hwnnw. Ac mae pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu wir yn rhan o hynny. Bydd yn dibynnu, gwyddom ni, ar gyflogwyr yn cydnabod yr addasiadau y mae angen iddyn nhw eu gwneud yn y gweithle er mwyn gallu denu'r bobl hynny sy'n aml yn fedrus, yn brofiadol, ac sydd â llawer i'w gynnig, ar ôl cael y cyfle i wneud hynny.

Pobl sy'n Dioddef o Feigryn

8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi bobl sy'n dioddef o feigryn? OQ60691

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Cafodd pecyn cymorth Cymru gyfan ei lansio ym mis Mehefin y llynedd, i gefnogi clinigwyr i wneud diagnosis a gofalu am bobl â gwahanol fathau o gur pen, gan gynnwys meigryn. Cafodd y pecyn cymorth ei gynhyrchu ar y cyd gan aelodau'r grŵp gweithredu cyflyrau niwrolegol, gan gynnwys Cynghrair Niwrolegol Cymru.

Y mis diwethaf, cyd-noddais ddigwyddiad ymwybyddiaeth meigryn yma yn y Senedd gyda Jayne Bryant AS a Luke Fletcher AS. Mae meigryn yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar un o bob saith oedolyn, ac un o bob 10 o blant ledled y DU—tua 10 miliwn o bobl, gan gynnwys 450,000 yng Nghymru. Mae meigryn yn parhau i fod yn gyflwr gwanychol, ond mae camddealltwriaeth sylfaenol o'r gwirionedd yn golygu bod meigryn yn aml yn cael ei ddiystyru fel, rwy'n dyfynnu, 'dim ond cur pen'.

Mae'r Ymddiriedolaeth Meigryn wedi argymell camau y mae modd eu cymryd i wella gofal meigryn yng Nghymru, gan ymgorffori nifer yn benodol yn ymwneud â chyfrifoldebau cynllunio ac asesu anghenion byrddau iechyd lleol, gan gynnwys, adolygiadau o anghenion meigryn poblogaethau lleol; sicrhau bod y llwybrau gorau posibl yn cael eu gweithredu; cynyddu'r nifer o arbenigwyr cur pen sydd ar gael; datblygu a chyflwyno hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer meddygon teulu; sicrhau bod yr holl ganllawiau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu diweddaru; cryfhau rôl fferylliaeth o fewn gofal sylfaenol ar gyfer meigryn; ac ymgyrchoedd ac adnoddau ymwybyddiaeth y cyhoedd. 

Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio, os o gwbl, i fynd i'r afael â'r materion hyn a gafodd ei godi yma fis diwethaf ac i ddiwallu anghenion pobl â meigryn yng Nghymru?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac rwy'n llongyfarch yr holl Aelodau ar draws y Siambr a gymerodd ran yn y digwyddiad ymwybyddiaeth meigryn hwnnw. Pwrpas pecyn cymorth Cymru gyfan yw ymateb i nifer o'r awgrymiadau ymarferol y gwnaeth Mark Isherwood eu codi ar ran y rhai sy'n gweithio yn y maes hwn, oherwydd yn ei hanfod, mae'n ymwneud â gwella'r ffordd y gall clinigwyr gofal sylfaenol allu adnabod ac ymateb i bobl sy'n dioddef o'r cyflwr gwanychol y mae meigryn i gynifer o bobl. 

Ar ben arall y sbectrwm, rydyn ni'n cydnabod bod angen cefnogaeth fwy arbenigol i'r bobl hynny y mae eu meigryn yn fath sy'n arbennig o wanychol. Rydym ni'n disgwyl penodi arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn fuan iawn, ac rwy'n gobeithio, fel rhan o'i waith, y bydd yn ystyried sut y gall y ddau ohonom ni gryfhau rheng flaen honno'r gwasanaeth iechyd, lle bydd y rhan fwyaf o bobl yn parhau i gael eu gofal, gan hefyd gryfhau pen arbenigol iawn y sbectrwm gofal i'r bobl hynny y mae eu cyflyrau angen mwy nag y byddai ymateb gofal sylfaenol yn gallu'i roi ar waith.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Y Trefnydd i wneud y datganiad hynny, Lesley Griffiths.

14:35

Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r agenda heddiw. Mae'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar fesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, flwyddyn yn ddiweddarach, wedi cael ei ddwyn ymlaen o'r wythnos nesaf i heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus, os gwelwch yn dda? Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r cyfleusterau cyhoeddus. Mae mynediad at doiledau'n bwysig iawn, yn enwedig i bobl hŷn a phobl a allai fod â rhyw fath o anabledd, ac, yn wir, pobl a allai fod angen eu defnyddio fel ystafell newid neu fel cyfleuster newid babanod. Ond, yn anffodus, y ffaith yw bod dros hanner ein cyfleusterau cyhoeddus wedi cau ers y 2010au, ac, yn anffodus, er ein bod ni wedi cael cyfle i ymdrin â'r mater hwn gyda Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a gafodd ei phasio gennym ni fel Senedd nifer o flynyddoedd yn ôl, nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol o hyd i sicrhau bod ganddyn nhw rwydwaith digonol o gyfleusterau cyhoeddus; mae'n ofynnol iddyn nhw adrodd ar yr hyn sydd ganddyn nhw yn unig.

Felly, a gaf i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd, i sicrhau bod hwn yn fater y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw ato? Ac yn y datganiad hwnnw, a allwn ni gael dealltwriaeth ynghylch a allai Llywodraeth Cymru godi'r mater hwn eto a rhoi rhai rhwymedigaethau statudol ar waith ar awdurdodau lleol, i sicrhau bod safonau mynediad gofynnol? Diolch.

Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, am y rhesymau y gwnaeth ef eu hamlygu. Er ei fod, wrth gwrs, yn fater i awdurdodau lleol lle mae toiledau cyhoeddus yn cael eu gosod, ac yn amlwg yn cael eu hariannu, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y gwaith, yr wyf i'n ymwybodol bod llawer o awdurdodau lleol wedi'i gyflawni, yn parhau, i sicrhau, lle bynnag y bo toiledau cyhoeddus—p'un ai mewn siop neu fwyty—eu bod yn gallu cael eu defnyddio yn absenoldeb toiledau sydd, fel y dywedwch chi, wedi'u cau, yn anffodus, yn bennaf oherwydd pwysau cyllidebol.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, fe fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, ein bod ni i gyd wedi derbyn nifer o e-byst gan aelodau undebau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn mynegi pryderon am y toriadau, ond yn benodol o ran diogelwch y casgliadau cenedlaethol. Mi hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog, yn amlinellu sut y mae hi'n sicrhau diogelwch y casgliadau hyn yn wyneb y toriadau.

Hefyd, oes modd cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd yn ein diweddaru ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a beth sy'n digwydd yn dilyn yr adolygiad? Mae nifer o gynghorau ar hyn o bryd yn ymgynghori ynglŷn â newidiadau i'w darpariaeth teithio i'r ysgol, sy'n achosi pryder i nifer o ddysgwyr a rhieni. Yn amlwg, mae angen eglurder o ran beth sy'n digwydd gyda'r Mesur teithio, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn amlinellu amserlen er mwyn mynd â'r gwaith yma rhagddo.

Diolch. O ran eich cais cyntaf, gwn i fod y Dirprwy Weinidog yn gweithio gyda'r llyfrgell ar hyn o bryd i sicrhau'r hyn y gwnaethoch chi ei nodi, a gwn fod ei swyddogion hefyd yn trafod. Yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyflwyno datganiad ysgrifenedig o ran y Mesur teithio i ddysgwyr.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog newid hinsawdd ynghylch effeithiolrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru a safbwynt Llywodraeth Cymru ar reoli safleoedd tirlenwi yng Nghymru? Mae problem barhaus yn fy etholaeth i ar safle tirlenwi Withyhedge, lle, yn ystod y misoedd diwethaf, mae trigolion wedi gorfod dioddef arogleuon difrifol yn dod ohono. Rwyf i wedi cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ofyn iddyn nhw ymchwilio i'r mater ar frys, ac i gymryd camau gorfodi yn erbyn Resources Management UK Ltd, sy'n berchen ar y safle. Yn anffodus, mae trigolion yn parhau i ddioddef o ganlyniad i'r arogleuon ofnadwy hyn, ac yn ddealladwy, maen nhw'n ddig iawn, yn ofidus ac yn siomedig. O ystyried yr effaith enfawr ar eu bywydau, mae trigolion erbyn hyn yn galw am dynnu trwydded y cwmni hwn yn ôl. Eisoes mae gan y bobl sy'n berchen ar y cwmni ac sy'n gweithredu'r safle fynediad uniongyrchol at Weinidogion y Llywodraeth, ac maen nhw hyd yn oed wedi rhoi arian i un ohonyn nhw. Ac felly, dylai hyn fod ar radar y Llywodraeth yn barod, ac rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o ymyrraeth i gefnogi'r trigolion yr effeithir arnyn nhw gan y broblem ofnadwy hon.

Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod hyn yn gwbl annerbyniol, ac felly, byddwn i'n ddiolchgar pe bai modd cyflwyno datganiad cyn gynted â phosibl, i roi rhywfaint o gefnogaeth i'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt a sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn effeithiol wrth gyflawni ei ddyletswyddau rheoleiddio a gorfodi.

Nid wyf i'n siŵr a ydych chi wedi cael ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond byddwn i'n meddwl mai dyna'r peth pwysicaf ar hyn o bryd. Efallai y gallwch chi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd, a all sicrhau eich bod chi'n cael ymateb ar frys.

14:40

Fe darodd Storm Babet, wrth gwrs, yn ôl ym mis Hydref, a wnaeth adael Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ymhlith eraill, â chostau clirio enfawr—yn achos Conwy, hyd at £1.5 neu £1.4 miliwn. Nawr, er bod y cyngor wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru y byddan nhw'n ceisio cymorth drwy'r cynllun cymorth ariannol brys, neu CCAB, i roi'r acronym iddo, wrth gwrs, mae trothwy o ychydig dros £0.5 miliwn y mae'n rhaid i'r awdurdod ei hun ei dalu i ddechrau. Fodd bynnag, mae'r cyngor—ac nid yw'n unigryw i Gonwy, mae cynghorau eraill yn wynebu'r cyfyng-gyngor hwn hefyd—yn dal i aros am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru, a'r Gweinidog cyllid yn benodol, ynghylch a fyddwch chi'n agor CCAB ar gyfer ceisiadau gan awdurdodau lleol. Os na chaiff ei agor, wrth gwrs, bydd y gost gyfan o £1.4 miliwn yn disgyn ar ysgwyddau cyngor Conwy, gan gynyddu'r gorwariant a ragwelir iddo a gan ychwanegu risg sylweddol i'w gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf a chydnerthedd parhaus y cyngor. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cyllid, gan roi eglurder brys i awdurdodau lleol ynghylch a fydd hi, ac os felly, pryd y bydd hi'n agor CCAB ar gyfer ceisiadau?

Diolch. Wel, mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf iawn o gefnogi'n hawdurdodau lleol, pan fo llifogydd, yn anffodus wedi digwydd. Gwn i fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymwybodol o'r cais. Ar hyn o bryd mae'n ei ystyried, a bydd yn rhoi gwybod i'r awdurdodau lleol unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud yn y dyfodol agos iawn. 

Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, os gwelwch yn dda, ynghylch adeiladu a diogelwch tân, oherwydd bod y dioddefaint i lawer o drigolion mewn adeiladau uchel iawn yn mynd yn ei flaen, yn enwedig yng ngoleuni cyhoeddi uno Redrow a Barratt yn ddiweddar. Mae 12 mis wedi mynd heibio erbyn hyn ers llofnodi contract Llywodraeth Cymru a datblygwyr, ac, yn anffodus, mae taliadau adfer yn boenus o araf. Gall uno o'r maint hwn, gyda £90 miliwn mewn arbedion cost disgwyliedig, gymryd sylw sylweddol y rheolwyr gan oedi ymdrechion adfer ymhellach.

Yn ogystal, o ystyried y mesurau llywodraethu arbennig a gafodd eu rhoi ar waith ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a'r datganiadau gan Lywodraeth Cymru a achosodd pryder am fethiannau'r gwasanaeth i ddysgu gwersi tân Tŵr Grenfell, mae trigolion yn haeddu cadarnhad o'r newydd, cyn gynted â phosibl, bod diogelwch adeiladau yn parhau i gael ei flaenoriaethu drwy'r cyfnod pontio hwn. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod diogelwch tân yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'r trigolion hynny. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Wel, o ran rhwymedigaethau'r datblygwyr, nid oes angen diwygio na llofnodi contract newydd gyda'r datblygwyr o ganlyniad i'r uno y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Roedd y diffiniad o 'gwmni grŵp datblygwyr cyfranogwyr' yn ddigon eang, pan gafodd ei gyflwyno flwyddyn yn ôl, i gipio'r newidiadau a ddaeth yn sgil uno. Ac rwy'n gwybod y bydd swyddogion y Gweinidog Newid Hinsawdd yn parhau i gyfarfod â chynrychiolwyr y datblygwyr o dan sylw yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod unrhyw effeithiau ymarferol.

Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y prynhawn yma ar y driniaeth hydrotherapi sydd ar gael o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r Gweinidog wedi amlinellu o'r blaen y gall y bwrdd iechyd ddefnyddio adnoddau cymunedol lleol, ond rwyf i wedi clywed gan gleifion sydd wedi cael atgyfeiriad bod oedi yn aml a bod diffyg adnoddau cymunedol ar gael, a bod angen ailfuddsoddi ar lawer ohonyn nhw. Mae'r pwll hydrotherapi agosaf ar gyfer fy etholwyr i ym Mangor, a chafodd pwll hydrotherapi Ysbyty Glan Clwyd ei gau yn ôl yn 2014, heb unrhyw gynlluniau, hyd y gwn i, i agor cyfleuster hydrotherapi newydd. Mae defnyddio hydrotherapi yn effeithiol iawn wrth leddfu poen i'r rhai sy'n dioddef o gryd cymalau a llu o gyflyrau orthopedig a chyhyrysgerbydol. Felly, mae hydrotherapi a ffisiotherapi yn effeithiol wrth leihau'r pwysau ar wasanaethau eraill y GIG.

A allai'r Trefnydd amlinellu a yw Llywodraeth Cymru wedi asesu neu, o leiaf, wedi ystyried y posibilrwydd o agor pwll hydrotherapi newydd yn yr adran ffisiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd? A beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i wella'r berthynas rhwng y bwrdd iechyd ac adnoddau cymunedol, er mwyn sicrhau, pan fydd atgyfeiriad yn cael ei wneud, bod y claf yn cael y driniaeth sydd wir ei hangen arno? 

Diolch. Wel, nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw'r mater yr ydych chi'n ei godi. Yn ddiau, mae'n fater i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Felly, byddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu at y cadeirydd.

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? O ran y cyntaf, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar sut mae gorfodi rheoliadau enwau lleoedd safonol Cymru. Yn sgil agor pont newydd dros Ddyfi, mae yna arwyddion newydd wedi cael eu gosod yn cyfeirio at Aberdyfi efo'r hen sillafiad. Mae'r hen sillafiad yma wedi hen ddarfod erbyn hyn ac, yn ôl enwau lleoedd safonol Cymru, Aberdyfi efo'r sillafiad gwreiddiol ydy'r un safonol. Sut, felly, mae'r Llywodraeth wedi gallu rhoi arwydd newydd i fyny sydd yn anghywir? Felly, tybed a allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog am sut mae'n bwriadu sicrhau bod enwau lleol safonol Cymru yn cael eu parchu. 

Yn ail, a gawn ni ddatganiad llafar yn y Siambr yma, os gwelwch yn dda, ar gyhoeddiad y Gweinidog iechyd yr wythnos diwethaf ar addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal proffesiynol? Mae'r datganiad ysgrifenedig yn codi sawl cwestiwn. Mae'n sôn am arian, ydy, ond faint o leoedd myfyrwyr mae hyn yn ei olygu, faint o bobl fydd yn cael eu hariannu, faint o bobl gafodd eu hymgynghori ynghylch y datganiad yma, pwy wnaeth y Gweinidog ymgynghori efo nhw? Felly, mae nifer o gwestiynau'n codi, a byddwn yn ddiolchgar am y cyfle i gael datganiad llafar yn fan hyn er mwyn codi'r cwestiynau yna'n uniongyrchol. Diolch.

14:45

Diolch i chi. O ran eich cais cyntaf, fe fyddwn i'n awgrymu eich bod yn ysgrifennu yn uniongyrchol at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynglŷn â'r pwynt y gwnaethoch chi ei godi am yr arwydd a osodwyd ar gyrion Aberdyfi. 

O ran yr ail gais, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, bob blwyddyn, yn cyhoeddi cyllid ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae hynny'n cael ei wneud yn flynyddol, ac mae'r datganiad ysgrifenedig yn nodi yn eglur yr hyn sy'n ddisgwyliedig, yr hyn a fyddai'n cael ei gyflwyno a'r cyllid, ac rwy'n cymryd y bydd hwnnw'n cael ei gyfrifo wrth i ni fynd drwy'r flwyddyn. Os oes unrhyw beth penodol i'w godi, unwaith eto, mae'r Gweinidog yn ei lle ac mae hi'n gofyn i chi ysgrifennu yn uniongyrchol ati hi. 

Gweinidog Busnes, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg. Ers 2011, mae niferoedd yr athrawon i'r byddar wedi gostwng 20 gan y cant—un o bob pump o'r athrawon. Fe ddisgwylir y bydd un o bob tri athro yn ymddeol yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Os na chymerir camau pellach, ni fydd unrhyw athrawon i'r byddar ar ôl o gwbl yma yng Nghymru. Felly, fe fydd plant byddar yn cael eu hamddifadu o gymorth ac fe fydd gennym ni argyfwng arall gydag addysg y gellid bod wedi ei osgoi. Fe hoffwn i glywed beth mae'r Gweinidog addysg yn ei wneud, ar ffurf datganiad, os gwelwch yn dda, i annog mwy o athrawon i ymgymryd â'r ddwy flynedd ychwanegol o hyfforddiant ar gyfer bod yn athrawon i'r byddar. Fel rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, Gweinidog busnes, fe ddylai pob plentyn, gan gynnwys y rhai sydd â nam ar eu clyw, allu cael addysg o'r un safon ag adddysg pawb arall. Diolch i chi.

Ie, rwy'n cytuno â'ch pwynt olaf chi'n llwyr. Mae'r pwynt yr ydych chi'n ei godi, mewn gwirionedd, yn rhan o'r gwaith o gynllunio'r gweithlu y mae'r sector addysg yma yng Nghymru yn ymgymryd ag ef. 

Pam na wnaethoch chi ofyn hwnnw felly? Pam oeddech chi'n ymgynghori â'ch cyd-Aelod i ofyn iddi hi beth oedd yn digwydd? Gofynnwch eich cwestiwn.

Iawn. Fe hoffwn i godi'r pryder ynglŷn â'r dull y mae Bws Arriva Cymru wedi torri pob cysylltiad â phentref yn fy etholaeth i, sef yn ward Penrhyn. Fe wnaethon nhw hynny heb rybudd, gan adael tua 450 neu 500 o bobl, nawr, yn teimlo eu bod mewn unigedd cymdeithasol llwyr. Pentref yw hwn ar lethr serth iawn o fynydd Nant-y-gamar. A dweud y gwir, rwyf i wedi ysgrifennu at y Gweinidog, ond fe hoffwn i gael datganiad, oherwydd nid yn fy etholaeth i yn unig nac yn yr ardal hon yn unig y mae hyn yn digwydd, ac maen nhw'n llythrennol yn tynnu'r gwasanaeth heb unrhyw ymgynghori ag aelodau etholedig, heb unrhyw ymgynghori â thrigolion na'r teithwyr yr effeithir arnyn nhw. Felly, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n teimlo yn angerddol iawn yn ei gylch.

Diolch i chi. Mater i Arriva yw hwn. Nid mater i'r Dirprwy Weinidog mohono, ac rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at brif weithredwr Arriva.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Dwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y Genedl Noddfa

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ddwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y genedl noddfa. Y Gweinidog, felly, i wneud ei datganiad—Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd y pedwerydd ar hugain o fis Chwefror yn dynodi dwy flynedd ers ymosodiad llawn ar Wcráin gan Putin. Ers hynny, mae mwy na 7,500 o Wcreiniaid wedi cael eu gorfodi i adleoli i Gymru, gyda miliynau yn rhagor wedi cael eu dadleoli ar draws Ewrop. Mae'r wythnos hon yn garreg filltir arw i Wcreiniaid ym mhobman, ond rydym ni'n benderfynol o arddangos ein hundod parhaus. Er bod y rhyfel yn faith, chwedl Arlywydd Zelenskyy yn nyddiau cynnar yr ymosodiad,

'bydd goleuni yn drech na'r tywyllwch'.

14:50

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Yn arwydd o hyn, fe fyddwn ni'n taflu goleuadau ar rai o adeiladau'r Llywodraeth yng Nghaerdydd yr wythnos hon, a nos yfory fe fyddaf i'n siarad mewn digwyddiad a noddir gan Mick Antoniw AS, yma yn y Senedd. Ymweliad nodedig â'r DU gan feddygon rheng flaen o Wcráin yw'r achlysur hwn, sy'n cynnwys rhai a gafodd eu dal yn gaeth yn Rwsia, sy'n teithio o amgylch y DU gydag ambiwlans a gafodd ei fomio. Bydd y digwyddiad ei hun yn taflu goleuni ar anwareidd-dra ymosod ar gyfleusterau meddygol—trosedd rhyfel.

Yn ogystal â hyn, mae Mick Antoniw AS newydd ddychwelyd ar ôl ei ymweliad ef ag Wcráin gyda thîm o wirfoddolwyr, a oedd yno'n trosglwyddo nwyddau angenrheidiol a ddarparwyd gan gymunedau Cymru. Mae ein cefnogaeth i'r Wcreiniaid yn ddiwyro yma yng Nghymru. Ar ymweliad diweddar â phrosiect Safe Haven ym Maesteg, fe welais i bwysigrwydd y croeso sy'n cael ei estyn i Wcreiniaid. Fe gefais fy nghyfareddu gan araith bwerus gan ddisgybl ysgol a oedd yn sôn am hanes y gwrthdaro a'r cyfleoedd a gafodd hi o ran cymorth. Fe hoffwn i ddiolch i'r teuluoedd sydd wedi croesawu gwesteion Wcreinaidd ar eu haelwydydd ledled Cymru.

Ers misoedd rwyf i wedi bod yn ceisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU ar gyfer estyniadau i gyfnodau dilysrwydd fisâu neu hawl i ymgartrefu. Ac roeddwn i'n falch o weld cyhoeddiad ddoe y bydd y rhai sydd â fisâu dan gynlluniau ar gyfer Wcráin yn gallu ymestyn eu hawl i aros yn y DU am 18 mis arall. Nid y cyfnod estyn yr oeddem ni wedi gobeithio amdano yw hwnnw'n union, ac nid oes fyth hawl i ymgartrefu, ond fe wn i y bydd llawer o Wcreiniaid yng Nghymru yn gwerthfawrogi'r sicrwydd o wybod bod modd aros am 18 mis arall eto yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod na fydd gan lawer ohonyn nhw gartrefi i fynd adref iddyn nhw ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac fe fyddwn ni'n dal ati i weithio ar ymagwedd drugarog a fydd yn canoli ar yr unigolyn mewn misoedd a blynyddoedd i ddod.

Mae hi'n amlwg fod llawer o fanylion mân eto ynglŷn â'r trefniadau i ymestyn cyfnodau dilysrwydd y mae angen gweithio drwyddyn nhw a chyfleu'r atebion i Wcreiniaid yn ein cymunedau nhw. Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno llawer o newidiadau i'r rheolau mewnfudo sy'n ymwneud â chynlluniau cyfredol ynghylch Wcráin brynhawn ddoe hefyd, ond mae angen peth amser arnom ni i amgyffred eu heffaith debygol nhw yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n parhau i ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref i sicrhau bod cynlluniau ar gyfer Wcráin yn addas i'r diben a bod y camau y mae angen i Wcreiniaid eu cymryd yn cael eu hamgyffred a'u cefnogi yn llawn.

O ran y rai sydd wedi elwa ar haelioni uwch-noddwr sydd wedi teithio ac wedi manteisio ar ein cynnig o lety cychwynnol, rydym ni'n parhau i wneud cynnydd ardderchog o ran cefnogi pobl i symud i lety tymor hwy ledled Cymru a thu hwnt lle gall Wcreiniaid ddal i ymgartrefu yn ein cymunedau ni. Erbyn hyn mae llai na 90 o unigolion ar ôl yn y tri safle llety cychwynnol i gyd, ac rydym ni'n gweithio yn agos gyda'r awdurdodau lleol i gefnogi'r aelwydydd sydd ar ôl i symud ymlaen, gan gynnwys drwy gyfrwng ein rhaglen gyfalaf llety trosiannol. Rydym ni'n parhau i fod ar y llwybr iawn i fod yn cau ein safleoedd llety cychwynnol yn gyfan gwbl yn ystod 2024. Mae ein dull tîm Cymru ni, gyda'r awdurdodau lleol a phartneriaid y trydydd sector i gyd yn dod at ei gilydd i gefnogi Wcreiniaid i symud ymlaen ledled Cymru, sy'n cael ei hwyluso gan y tasglu symud ymlaen cenedlaethol a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wedi bod yn hanfodol i'r llwyddiant hwn. Erbyn hyn, mae dros 2,000 o westeion wedi cael cymorth i lety tymor hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ein galluogi ni i gau 28 o leoliadau llety cychwynnol. Nid yn unig yr ydym ni wedi gallu cefnogi cannoedd o gartrefi i fod yn aelwydydd llwyddiannus yn ein cymunedau lleol, ond rydym ni wedi lleihau ein cyllideb y gellir ei rhagweld o ran llety cychwynnol yn sylweddol hefyd a hynny mewn cyfnod o bwysau ariannol difrifol.

Er y llwyddiannau hyn, rydym ni wedi gorfod mynd i'r afael â heriau mawr o ran y gefnogaeth i geiswyr lloches yn ystod y misoedd diwethaf. Yn benodol, arweiniodd ymdrech y Swyddfa Gartref i ddileu eu hôl-groniad o hawliadau lloches at gynnydd mawr yn niferoedd y ffoaduriaid digartref yn y cyfnod cyn y Nadolig. O ganlyniad i Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 a Deddf Mudo Anghyfreithlon 2023, mae dau ôl-groniad arall o geisiadau lloches gennym ni ar gyfer rhai sy'n glanio a'r ôl i'r ddwy Ddeddf gael eu pasio, er yr honiadau eu bod nhw wedi datrys y materion hyn.

Ar hyn o bryd rydym ni'n gweld argyfwng o ran y cyngor cyfreithiol mewnfudo sydd ar gael a fydd ag effaith ganlyniadol ar ddigartrefedd, amddifadedd a chamfanteisio yn ein cymunedau ni os na ellir mynd i'r afael â hynny. Rydym ni wedi gofyn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ddefnyddio ei phwerau i sicrhau bod digon o gymorth cyfreithiol ar gael yng Nghymru, ond hyd yn hyn, wedi gwrthod gweithredu y mae hi. Mae'r system cymorth cyfreithiol yn fater a gedwir yn ôl ac rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i gymryd y camau angenrheidiol i atal y sector hwn rhag chwalu. Ond rydym ni'n ystyried camau cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru y gallem ni eu cymryd ac rydym ni'n dal ati i alw ar Lywodraeth y DU i gydnabod effaith peidio â gweithredu.

Gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, rydym ni wedi cyflwyno trefniadau llywodraethu newydd yn ddiweddar i fod yn sail i'n dull tîm Cymru ni. Mae hyn yn cynnwys sefydlu bwrdd goruchwylio strategol cenedl noddfa, yr wyf i'n ei gadeirio gyda llefarydd tai CLlLC. Mae'r aelodau yn cynnwys arweinwyr awdurdodau lleol, cynrychiolwyr o'n gwasanaethau sector cyhoeddus yn fyw eang, partneriaid yn y trydydd sector a chynrychiolwyr o'r Swyddfa Gartref a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Rydym ni wedi sefydlu bwrdd partneriaeth cenedl noddfa hefyd i sicrhau ymgysylltiad ar lefel swyddogol uwch ar draws ein holl bartneriaid. Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r gyfundrefn loches, mae'r bwrdd hwn yn cynnig llwyfan pwysig i geisio gweithio gyda nhw i ddarparu system effeithiol sy'n cefnogi cymunedau lleol a cheiswyr lloches. Fe fyddwn ni'n parhau i'w helpu nhw i gyflawni eu cynllun gwasgaru ceiswyr lloches a thynnu sylw at faterion lle maen nhw'n codi, gan gydnabod ei bod hi'n amlwg mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw sicrhau bod y cynllun i wasgaru yn cael ei weithredu.

Dirprwy Lywydd, mae Cymru yn genedl noddfa. Rydym ni'n falch o gynnig lloches i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel, gwrthdaro a cham-drin yng Nghymru. Fe gawsom ein syfrdanu gan haelioni pobl ledled Cymru a agorodd eu drysau i bobl yn ffoi rhag ymladd ofnadwy yn Wcráin. Ond mae Cymru hefyd wedi croesawu pobl a oedd yn ffoi o Affganistan, Syria a Hong Kong. Mae bod yn genedl noddfa yng Nghymru yn golygu cefnogaeth i bawb sy'n dod i Gymru i fod â rhan lawn yn ein cymunedau a'n heconomi. Mae angen ymfudo ar Gymru i gynnal a chynyddu ein poblogaeth a chefnogi busnesau a'r sector cyhoeddus. Mae ymfudo yn cadw ein cymunedau ni'n fywiog ac yn helpu ein heconomi i ffynnu. Diolch.

14:55

Mae Rwsia yn wlad odidog, ac mae ei phobl yn haeddu cymaint gwell na Vladimir Putin a'i giwed o ffasgiaid. Am y byddwn ni'n nodi dwy flynedd ddydd Sadwrn nesaf ers ymosodiad anghyfreithlon Putin ar Wcráin, a gyda'i ymdrechion anwaraidd ef i roi taw ar bob gwrthwynebiad democrataidd yn ystod y dyddiau diwethaf, mae'n rhaid i ni gofio bod Putin nid yn unig yn droseddwr rhyfel rhyngwladol ac wedi llofruddio lluoedd, ond ei fod ef hefyd yn hen ddyn bach ffiaidd ac yn ormeswr milain.

Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod diolchgarwch enfawr yn ddyledus i bobl Wcráin am amddiffyn y rheng flaen o ran rhyddid y gorllewin ar ddwy lan yr Iwerydd a thu hwnt. Wrth eich holi chi yma ym mis Mehefin y llynedd, roeddwn i'n nodi, wrth ymateb i'ch datganiadau blaenorol chi ynglŷn ag Wcráin a'r genedl noddfa, fy mod i wedi codi mater tai a thai modiwlaidd arfaethedig dro ar ôl tro yn rhan o'r datrysiad, fel sydd yn digwydd dros y dŵr yn Iwerddon. Roeddech chi wedi cyfeirio o'r blaen at yr angen i symud ein gwesteion Wcreinaidd i lety tymor hwy, ac mae rhywfaint o hynny'n cynnwys tai modiwlaidd a ddatblygwyd ledled Cymru. Felly, pa ddyraniad penodol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer ffoaduriaid, os oes un o gwbl?

Roeddwn ni'n nodi hefyd, felly, fod y gronfa £150 miliwn i helpu Wcreiniaid i ganfod cartrefi iddyn nhw eu hunain wedi cael ei chyhoeddi yn ffurfiol gan Lywodraeth y DU, gyda £8 miliwn i Gymru, ac roeddwn i'n gofyn i chi gadarnhau sut y byddai hwnnw'n cael ei ddyrannu ac a fyddai'n cael ei ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru a/neu'r cynghorau i helpu teuluoedd o Wcráin i gael llety rhent preifat a chael gwaith, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Yn eich ymateb chi, roeddech chi'n dweud bod 936 o dai ychwanegol yn cael eu hariannu o'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol 'am ac i'r flwyddyn nesaf'—h.y. eleni—ac mae honno'n ystod o ddatrysiadau o ran llety ledled Cymru, nid tai modiwlaidd yn unig, ond sy'n dwyn tai gwag neu segur i ddefnydd unwaith eto, gan drawsnewid rhai adeiladau, dymchwel eraill a chodi adeiladau newydd hefyd. O ystyried bod bron i 90,000 o aelwydydd yng Nghymru ar restrau aros tai cymdeithasol ar hyn o bryd, faint o dai sydd wedi cael eu hariannu erbyn hyn drwy'r rhaglen gyfalaf llety trosiannol, faint o'r rhain a ddyrannwyd ar gyfer ffoaduriaid Wcreinaidd neu ffoaduriaid eraill, a faint o gartrefi ychwanegol, gan gynnwys adeiladau newydd a thai modiwlaidd newydd, a ddarparwyd i ddiwallu anghenion ffoaduriaid Wcreinaidd a ffoaduriaid eraill yng Nghymru? O ystyried bod y DU wedi cynnig neu ymestyn noddfa i fwy na 238,000 o Wcreiniaid, faint o'r rhain sydd yng Nghymru erbyn hyn, ac a yw Cymru yn ysgwyddo'r baich mewn ffordd deg, pan fo Lloegr yn rhoi cartref i 16 o geiswyr lloches fesul 10,000 o bobl, ond dim ond naw a gartrefir yng Nghymru? Pa gamau a ydych chi am eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, os ydych chi am wneud hynny o gwbl?

Y tro diwethaf i mi ymweld â Chanolfan Byd Gwaith yr Wyddgrug, fel soniais i o'r blaen, fe ddysgais i am y gwaith rhagorol yr oedden nhw'n ei wneud wrth gefnogi Wcreiniaid sy'n awyddus i weithio a gwneud cyfraniad. Yn y cyd-destun hwn, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chyrsiau Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, ESOL, a pha mor hawdd yw trosglwyddo eu cymwysterau i Gymru?

Mae cynllun teithio rhad ac am ddim i ffoaduriaid ar fysiau Cymru, y tocyn croeso, a oedd yn dechrau ar 26 Mawrth 2022 ac a fydd yn parhau tan 31 Mawrth 2024 gyda threfniadau eraill yn cael eu hystyried ar ôl hynny, yn caniatáu i'r rhai sy'n gymwys deithio yn rhad am ddim ar bob gwasanaeth bws lleol ledled Cymru heb unrhyw gyfyngiadau, gan gynnwys y rhai sy'n rhedeg dros y ffin â Lloegr os yw'r daith yn cychwyn ac yn gorffen yng Nghymru, gyda gwaharddiadau yn berthnasol i wasanaethau National Express a Stagecoach Megabus yn unig. Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y cyfnod ar ôl 31 Mawrth? Fe anfonais i e-bost atoch chi dros y penwythnos ar ran etholwyr sy'n rhoi llety i'w hail deulu Wcreinaidd, ac rwy'n diolch i chi am eich ymateb dros dro. Dywedodd gyrrwr bws y gwasanaeth sy'n mynd trwy eu pentref nhw, sy'n cael ei redeg gan Townlynx yn Nhreffynnon, wrthyn nhw ei fod yn fodlon gadael eu gwesteion Wcreinaidd fynd ar y bws y tro hwn, ond na fydden nhw'n cael mynd ar y bws eto. Sut wnaeth Llywodraeth Cymru, felly, gomisiynu'r cynllun teithio rhad ac am ddim ar fysiau i ffoaduriaid a pha gamau a allwch chi neu a wnewch chi eu cymryd mewn amgylchiadau o'r fath?

Fel roeddech chi'n ei nodi, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun estyniad o 18 mis ar gyfer dilysrwydd fisa ar gyfer Wcreiniaid a ddaeth i geisio noddfa yn y DU yn dilyn ymosodiad anghyfreithlon Rwsia, sy'n golygu y byddan nhw'n gallu aros yn y DU nawr tan fis Medi 2026. Fe fydd y rhai sydd yn y DU yn ôl cynllun Cartrefi i Wcráin, y cynllun teuluoedd o Wcráin, neu gynllun estynedig Wcráin yn gymwys i wneud cais am yr estyniad o fewn tri mis olaf y fisa cyfredol. Er bod y cynllun teuluoedd o Wcráin yn cael ei ddiddymu, fe fydd gwladolion Wcráin a fyddai wedi bod yn gymwys yn unol â hyn yn parhau i allu gwneud cais i gynllun Cartrefi i Wcráin, ac fe all teuluoedd sydd wedi ymgartrefu yma barhau i noddi aelod o'r teulu i ddod i'r DU yn ôl Cartrefi i Wcráin. Sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, a pha gamau a gymerwch chi i ddiwallu'r angen mwy eang hwn, ar lefel Llywodraeth Cymru a thrwy ymgysylltu â Llywodraeth y DU fel ei gilydd? Diolch yn fawr.

15:00

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi wrth i chi siarad am anwareidd-dra Putin ac mae hynny, rwy'n credu, yn cael ei adleisio ar draws y Siambr hon, sef y diolchgarwch mawr i gydnabod dewrder, cydnerthedd a chadernid pobl Wcráin am eu parodrwydd diwyro i ymladd a gwrthsefyll ymosodiad Putin ar eu cenedl. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud y datganiad hwnnw gyda'n gilydd heddiw. Rydych chi'n codi cwestiynau pwysig ynglŷn â sut yr ydym ni wedi rhoi cefnogaeth. Ddwy flynedd yn ôl, roeddem ni yma gyda'n gilydd yn gwneud dim ond mynegi ein trueni a'n harswyd oherwydd ymosodiad Putin a chydnabod dewrder y bobl hynny yn Rwsia hefyd sy'n gwrthsefyll Putin erbyn hyn, gan fentro eu bywydau i wneud felly, hyd yn oed. Fe wyddom ni fod yna laweroedd o sifiliaid yn y sefyllfa honno.

Ond beth a wnaethom ni? Mae hi'n hen bryd i ni gydnabod ac ystyried yr hyn sydd wedi digwydd a sut mae Cymru, ac fel rydych chi'n dweud, pobl Cymru a'i sefydliadau, llywodraeth leol, y trydydd sector, eglwysi, mosgiau, a sut mae pawb wedi ymateb. Unwaith eto, rydym ni wedi croesawu dros 7,400 o Wcreiniaid yn unol â chynllun Cartrefi i Wcráin y DU, gan gynnwys bron i 3,300 yn ôl ein llwybr uwch-noddwr ni, ac mae hi'n bwysig bod hynny'n cael ei roi ar gofnod heddiw. Rydym ni wedi helpu dros 2,600 o bobl i symud drwy ein llety cychwynnol, y canolfannau hynny i groesawu, ledled Cymru, ac rwyf i wedi sôn am y ffaith ein bod ni am weithredu tuag at gau'r canolfannau croeso diwethaf yn ystod y flwyddyn eleni. Felly, mae hi'n rhaid i ni ddiolch, unwaith eto, i'n partneriaid allweddol sydd yn ein cefnogi i helpu'r 2,600 o bobl hynny o'r canolfannau croeso, y llety cychwynnol hwnnw, i lety tymor hwy—dull tîm Cymru. Ac rwyf i eisoes wedi cydnabod swyddogaeth, wrth gwrs, pobl Cymru a roddodd o'u calonnau ac agor drysau eu cartrefi, am eu caredigrwydd a'u hymrwymiad lletygar. Rwy'n credu mai mater yw hwn, unwaith eto, o fod yn craffu ar rywfaint o'r manylion yn y cyhoeddiadau.

Fe wnes i gyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU ochr yn ochr â Gweinidog Llywodraeth yr Alban, Dirprwy Weinidog Gogledd Iwerddon a Gweinidog Gogledd Iwerddon. Roedd hi'n hyfryd ein bod ni i gyd yn cael cyfarfod gyda'n gilydd wythnos diwethaf i drafod y cyhoeddiadau hyn a oedd yn cael eu cyflwyno. Ond roeddem ni'n codi cwestiynau ynghylch a fydd y taliadau diolch, er enghraifft, yn parhau—mae'r rhain yn fanylion y mae angen i ni edrych arnyn nhw, oherwydd rydym ni'n awyddus hefyd i gefnogi'r rhai hynny sy'n dal i ddod ymlaen i gynnig llety. A dim ond gair, o ran ein canolfannau croeso ni, roeddwn i'n sôn mai 90 o westeion yn unig sydd gennym ni ar ôl yn y canolfannau croeso oherwydd llwyddiant y gweithgarwch o ran symud pobl ymlaen. Pan oedd y prosiect yn ei anterth, roedd dros 1,900 o westeion mewn mwy na 40 o safleoedd ledled Cymru, ac mae llawer ohonoch wedi bod yn ymweld â'r lleoliadau hynny.

I sôn ychydig am eich cwestiwn ynglŷn â'r llety a ddefnyddir, roedd y rhaglen gyfalaf i ddarparu llety trosiannol, yn y flwyddyn gyntaf, yn rhoi £76.4 miliwn i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer cynnig 936 o gartrefi i bobl. Mae hon yn agored erbyn hyn i geisiadau newydd yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol i ddarparu mwy o gartrefi. Mae hynny'n cynnwys amrywiaeth o brosiectau: fel defnyddio tai gwag unwaith eto, ailfodelu ac altro adeiladau presennol, yr adeiladau modiwlaidd a welwyd gan lawer yn eu hetholaethau nhw eu hunain, a chydnabod hefyd fod y rhain, mewn gwirionedd, yn gartrefi i bobl sydd mewn llety dros dro, gan gynnwys pobl sy'n cael eu hadsefydlu o Syria, Affganistan a Wcráin.

Roeddech chi'n crybwyll cyflogaeth ac ESOL. Mae hi'n allweddol i ni gefnogi ein gwesteion Wcreinaidd i symud i'w llety eu hunain a bod yn annibynnol. Ac, wrth gwrs, mae gwir angen am y sgiliau y mae gwesteion o Wcráin yn eu cynnig i Gymru, a'u hawydd i wella eu Saesneg hefyd, gan lunio'r gwersi o amgylch gwaith ac ymrwymiadau astudio. Roeddwn i'n awyddus i fynegi bod dros 600 o Wcreiniaid yng Nghymru wedi cofrestru gyda STEP Wcráin, sy'n rhaglen ddwys 12 wythnos o ran iaith Saesneg a chyflogaeth ar gyfer Wcreiniaid yn y DU.

O ran y tocyn croeso, rydym ni'n falch ein bod ni wedi gallu darparu'r cynllun tocyn croeso ar gyfer cludiant cyhoeddus am ddim am ddwy flynedd. Mae newidiadau i'r ffordd y mae'r diwydiant bysiau yn cael ei ariannu yn golygu ein bod ni'n ystyried dulliau amgen o ddarparu cymorth yn y dyfodol. Rydym ni'n gwneud y penderfyniadau hyn nawr ac fe fyddwn ni'n egluro'r rhain yn llawn pan fydd y trafodaethau hynny wedi dod i ben. Diolch am gysylltu â mi dros y penwythnos, Mark, i roi gwybod i mi am ddigwyddiad siomedig a gresynus. Mae digwyddiadau fel hyn wedi digwydd wrth i geiswyr lloches naill ai gael eu gwrthod ar gam rhag teithio neu deimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn annheg. Mewn unrhyw achosion fel hyn, fe fyddwn ni'n ymchwilio i'r amgylchiadau ac yn gweithio gyda gweithredwr y gwasanaeth. Cyfrifoldeb y sawl sy'n rhedeg y gwasanaeth yw hwn, ond fe fyddwn ni gwneud ymholiadau i'r gweithredwr sy'n gyfrifol i geisio unioni pethau.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae hi'n bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn a fydd yn digwydd i'r dyfodol gyda chynlluniau Wcráin. Maen nhw'n gynlluniau pwysig, ac rwy'n gobeithio gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Ddoe yn unig y cawsom ni'r manylion. Mae materion i'w hegluro fel bydd y trefniadau sydd ar ddod yn cefnogi llwybrau diogel a chyfreithiol, ac, yn amlwg, rydym ni'n gweithio yn glòs iawn gyda'r Swyddfa Gartref ynglŷn â'r mater hwn. Mae cynllun newydd i ymestyn caniatâd ar gyfer caniatáu i Wcreiniaid yng Nghymru gynllunio ychydig ymhellach i'r dyfodol a thawelu'r pryderon ynghylch eu sefyllfa o fis Mawrth 2025 ymlaen. Ond yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud yw bod rhaid i geisiadau am estyn cyfnod unrhyw fisa fod yn rhwydd, mae'n rhaid iddyn nhw fod â chost resymol, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn syml a heb fod ag angen cyngor cyfreithiol i'w cwblhau. Ni ddylid rhoi pobl ar ymyl y dibyn o ran eu sefyllfa. Felly, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n ceisio ei egluro. Ond, wrth gwrs, mae terfynu'r cynllun teuluoedd o Wcráin, gan fyrhau'r cyfnod o ganiatâd i aros ar gyfer fisâu Cartrefi i Wcráin i 18 mis yn hytrach na 36 mis, yn newidiadau sylweddol, ac yn golygu nad oes cyfleoedd am nawdd cadwyn mwyach. Rydym ni wedi bod yn gofyn am eglurhad ynglŷn â'r materion hyn. A hefyd, o ran ein cynlluniau ein hunain, ein dealltwriaeth ni yw nad yw'r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn atal unrhyw un sydd wedi cael fisa uwch-noddwr rhag teithio i'r DU os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes.

15:05

Diolch am y datganiad, Weinidog.

Rhywbeth ofnadwy yw'r hyn yr ydym ni'n ei nodi heddiw: dwy flynedd ers yr ymosodiad anghyfreithlon ar diroedd Wcráin, bomio eu dinasoedd a phobl yn cael eu gyrru o'u cartrefi mewn arswyd. Rydym ni wedi condemnio gweithredoedd anghyfreithlon ac anwaraidd Putin ac yn gywir felly ac wedi chwarae ein rhan wrth helpu i gefnogi ffoaduriaid rhag yr ymladd hwn i ddod o hyd i noddfa a lloches yng Nghymru. Mae Cymru wedi cael ei chanmol am ei hymateb dyngarol, y cynllun uwch-noddwr, cyfranogiad ein hawdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol fel Urdd Gobaith Cymru, sy'n esiamplau disglair yn nhywyllwch y ddwy flynedd ddiwethaf o ryfel a dadleoli pobl. Fe hoffwn i fynegi diolchgarwch Plaid Cymru ar goedd i bawb yng Nghymru sydd wedi helpu ac sy'n dal ati i helpu ein brodyr a'n chwiorydd Wcreinaidd yn eu hangen mawr.

Mae'n rhaid tynnu sylw at y cyferbyniad mawr rhwng yr ymateb rhyngwladol i'r rhyfel yn Wcráin a'r ymateb i ymosodiad parhaus Llywodraeth Israel ar Gaza yn y cyd-destun hwn, am eich bod chi, Gweinidog, wedi dweud y bydd yn rhaid i Gymru sy'n genedl noddfa gefnogi pawb sydd ag angen am noddfa, sy'n ffoi rhag rhyfel. Felly, a ydych chi'n cytuno na ddylai gwladwriaeth y Deyrnas Unedig, yr ydym ni'n rhan ohoni, fod yn gallu dewis a dethol pwy y bydd hi'n eu cefnogi neu'n cydsefyll â nhw sy'n ddioddefwyr rhyfel ac yn bobl a ddadleolwyd? Oherwydd ym Mhalestina y mae'r argyfwng ffoaduriaid mwyaf hirsefydlog na chafodd ei ddatrys mewn hanes diweddar, ac erbyn hyn y mae hwnnw'n argyfwng nad oes ansoddeiriau digonol i ddisgrifio ei erchyllterau. Fel pobl Wcráin, nid ydyn nhw'n dyheu am ddim ond cael mynd adref i'w tai, i'w hystafelloedd dosbarth, i'w busnesau, y cafodd llawer ohonyn nhw eu dinistrio gan fomiau'r ymosodwyr. Ar y cyfan, nid yw pobl Gaza wedi gallu ffoi o gwbl rhag y bomiau na'r bwledi na'r diraddio, a hyd yn oed pe bydden nhw'n gallu cael eu ffordd allan o'r hyn a alwodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn hunllef ddyngarol, ni fydden nhw wedi cael llwybr penodol ar gyfer mewnfudo cyfreithiol i gyrraedd yma.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth a'r arweinydd yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i adfer cyllid ar gyfer Asiantaeth Rhyddhad a Gwaith y Cenhedloedd Unedig, sydd wedi darparu cefnogaeth hanfodol i filiynau o ffoaduriaid Palesteinaidd, gan alw atal cefnogaeth Lywodraeth y DU yn gamgymeriad moesol a strategol. A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r alwad honno? Pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau cefnogaeth i'r rhai a ddadleolwyd gan y rhyfel yn Gaza ac sy'n wynebu'r trychineb dyngarol hwn? Ac mae hi'n ymddangos nawr fod eich cydweithwyr chi yn y Blaid Lafur yn San Steffan yn dechrau deall o'r diwedd nad yw atal y brwydro dros dro yn ddigonol, a wnewch chi yn y Llywodraeth alw eich hunain am gadoediad ar unwaith, o ystyried eich condemniad cyfiawn o weithredoedd Putin a sefyllfa pobl yn Wcráin?

Mae'r pwerau dros faterion mewnfudo, fel roeddech chi'n dweud, yn fater a gedwir yn ôl, wrth gwrs, ac mae'r gefnogaeth barhaus a ddarperir i bawb sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi a cheisio lloches yng Nghymru yn cael ei chyfyngu gan San Steffan. Felly, er eich bod chi'n amlwg yn ceisio eglurhad, a ydych chi'n cytuno mai gwarth o beth yw bod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan wedi cyhoeddi heb rybudd o gwbl y byddan nhw'n rhwystro Wcreiniaid rhag ymuno ag aelodau o'u teuluoedd yng Nghymru? Beth mae hynny'n ei gyfleu, yn eich barn chi, i'r rhai sydd wedi colli popeth yr ydym ni'n awyddus ac yn teimlo cyfrifoldeb i gynnig noddfa iddyn nhw rhag y rhyfel? A ydych chi'n cytuno y dylid gweld diwedd ar newidiadau polisi fel hyn a sicrhau bod y Llywodraeth yn cyflwyno cynllun byd-eang sy'n rhoi'r un hawliau, gan gynnwys o ran uno teuluoedd, i bawb sydd eu hangen, heb ystyried eu cenedligrwydd?

Mae Plaid Cymru wedi clywed am bryderon sydd gan awdurdodau lleol Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru hefyd ynglŷn â'r cynllunio hirdymor i'r cynllun a fwriadwyd i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Gyda Llywodraeth y DU yn dod â'r taliad cymorth diolch i ben ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ni fydd y rhai sy'n cynnig llety yng Nghymru yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnyn nhw wedyn i barhau â'u gwaith ardderchog yn lletya ffoaduriaid o Wcráin. Roedd y taliadau, wrth gwrs, yn rhoi cymhelliant ariannol hefyd ar gyfer annog pobl i letya. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r perygl hwn y bydd teuluoedd o Wcráin yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i'w llety eu hunain gan wynebu digartrefedd efallai, a fyddai'n ychwanegu at y pwysau aruthrol sydd ar y gwasanaethau tai a digartrefedd eisoes, y mae'r awdurdodau lleol sydd eisoes yn brin ddifrifol o gyllid yn ceisio ymdrin ag ef? A fyddech chi'n disgwyl i'r awdurdodau lleol ymgymryd â'r un dyletswyddau gyda llai o adnoddau, yn enwedig o ystyried y toriad arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer cymorth i ffoaduriaid o Wcráin?

Ac yn olaf, yn adroddiad cynnydd 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' a gyhoeddwyd yn ddiweddar, fe nodwyd bod y gwaith i sicrhau strategaethau atal digartrefedd yn y pedair ardal wasgaru yn ystyried bregusrwydd ffoaduriaid newydd i ddigartrefedd gyda rhybudd ambr. A wnewch chi amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â hynny? Diolch.

15:10

Diolch, Sioned Williams. Ie, fel rydych chi'n dweud, mae'r ddwy flynedd a nodwn ni heddiw yn rhai dychrynllyd iawn. Unwaith eto, rwy'n diolch i chi am gydnabod yr ymateb dyngarol eang a welsom ni yng Nghymru. Mae hi'n dda iawn i ni allu dwyn swyddogaeth yr Urdd i gof unwaith eto wrth sefydlu un o'r canolfannau croeso cyntaf. Ac wrth gwrs, fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r Urdd am y gwaith a wnaethon nhw wrth ymateb i'r ffoi o Affganistan, oddi wrth y Taliban, ac inni weld y fath ymateb ar garreg ein drws, gyda'r Urdd yn agor eu drysau i blant a theuluoedd Affganistan. Ac fe hoffwn i ddweud, ynglŷn â'r pwynt hwnnw, fod Cymru wedi croesawu dros 800 o bobl o Affganistan erbyn hyn ac mae'r gwaith yn parhau i gynyddu'r niferoedd eto. Ac rwy'n credu bod rhaid cydnabod awdurdodau lleol Cymru unwaith eto ac mae'n rhaid eu canmol nhw am y canlyniad anhygoel wrth symud y rhan fwyaf o deuluoedd o Affganistan allan o'r gwestai a gaffaelwyd gan Lywodraeth y DU mewn dull mor llwyddiannus. Ym mis Awst y llynedd, fe wnaethon ni ymweld â—wel, dros gyfnod o bron i ddwy flynedd i gyd—gwestai a gweithio gydag awdurdodau lleol i weithredu'r symudiad anhygoel hwnnw. A chan gydnabod cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg yn arbennig, yn ogystal â phawb arall a gefnogodd y gwaith o'u symud nhw, gan weithio yn ddiflino i leihau nifer y teuluoedd a oedd wedi cael eu gwneud yn ddigartref. Oherwydd, wrth gwrs, roeddem ni'n gweithio gyda'r teuluoedd hynny a ddaeth o Syria a'u cefnogi nhw hefyd.

Wel, ie, mae hi'n amlwg eich bod chi wedi myfyrio ar faterion ehangach ynglŷn â'r ymladd yn y byd, sy'n bwysig i ni o ran ein cysylltiadau a'n dealltwriaeth ryngwladol a'n cyfrifoldebau a'n dinasyddiaeth fyd-eang. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei weld yw hynny o ran—. Y gwir yw, argyfwng dyngarol yw'r un a welwn ni yn Gaza. Mae llawer gormod o sifiliaid, gan gynnwys menywod a phlant, yn colli eu bywydau. Ac mae'n rhaid i ni gael mwy o gymorth i Gaza—ac, yn bwysicaf i gyd, mae'n rhaid i'r gwystlon gael eu dychwelyd yn ddiogel ac mae'n rhaid cefnogi gwladolion Prydeinig. Felly, yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth, y mae—. Unwaith eto, mae hyn yn ein cysylltu nid yn unig â'r genedl noddfa, ond â chydlyniant cymunedol, ac rydym ni wedi sefyll gyda chymunedau Iddewig a Mwslimaidd a chwrdd â nhw ers dechrau'r gwrthdaro, ac rydym ni'n parhau i siarad â chymunedau Mwslimaidd ac Iddewig i weld pa gymorth y gallwn ni ei roi.

Mae hi'n bwysig ein bod ni ag eglurder o ran y materion yr ydych chi'n eu codi ynglŷn â dyfodol cynllun Wcráin. Fe ddywedais i eisoes ein bod ni wedi gwneud nifer o alwadau, fel gwnes i yn y grŵp rhyng-weinidogol wythnos diwethaf. Mae angen i ni sicrhau'r trefniadau arfaethedig fel bydd gan bobl Wcráin, ein cymdogion ni, ein gwesteion ni, yr wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnyn nhw, oherwydd fe fydd hwn yn newid mawr, sef gorffen y cynllun teuluoedd o Wcráin—. Roedd hwnnw'n bwysig iawn, y cynllun teuluoedd, ar ddechrau'r ymosodiad, ond, mewn gwirionedd, mae'r ceisiadau wedi rhedeg eu cwrs ac rydym ni wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref drosglwyddo'r hyn a ddysgwyd o'r cynllun hwnnw i'w cynlluniau eraill i uno teuluoedd unwaith eto. A lleihau'r cyfnod o ganiatâd i aros o dan gynllun Cartrefi i Wcráin—mae hyn yn ymddangos yn rhywbeth sy'n peri pryder, ond fe ddywedwyd wrthym ni y bydd pob deiliad fisa Cartrefi i Wcráin yn gymwys ar gyfer y cynllun i gael estyniad i'w caniatâd. Felly, fe fyddai hyn yn caniatáu 18 mis, a 18 mis arall wedyn. Ac mae hi'n bwysig fod deiliaid fisa yn gallu gwneud cais ar gyfer estyniad yn gynharach i atal anawsterau wrth sicrhau tenantiaethau neu swyddi, sef, wrth gwrs, y ffyrdd y bu cymaint o ymgartrefu ac integreiddio llwyddiannus o ganlyniad i'r gwesteion hyn yn dod atom ni i Gymru.

Fe soniais i am y cynllun uwch-noddwr; rydym ni'n gweithio ar frys i gadarnhau na fydd unrhyw un yn cael ei atal rhag teithio i'r DU os oes fisa uwch-noddwr ganddyn nhw. Ac fe soniais i'n gynharach hefyd am bwysigrwydd y taliadau 'diolch' sydd ar gael i'r rhai sy'n rhoi llety i rai sy'n cael ymestyn cyfnodau eu fisâu ac iddyn nhw fod yn deall sut mae'r prosesau ymgeisio yn gweithio.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar hyn yn y cyd-destun ehangach, ac ar y ffyrdd yr ydym ni'n ceisio ymgysylltu, fel rydym ni'n ceisio ei wneud, â Llywodraeth y DU, gan weithio yn agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol o ran ymgodymu—ac ymgodymu yw e'—gyda'r polisi lloches. Mae gan Lywodraeth y DU strategaeth o ran amgylchedd gelyniaethus. Rydym ni wedi pwyso am ddigon o lwybrau diogel a chyfreithiol i geiswyr lloches hawlio lloches o'r tu allan i'r DU, ac, wrth gwrs, fe fyddai hyn yn diddymu'r angen am deithiau peryglus ac yn amharu ar weithgarwch y rhai sy'n smyglo pobl, ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod penderfyniadau lloches yn cael eu gwneud yn gynt, ond mae'n rhaid iddyn nhw beidio ag arwain at ddigartrefedd ac amddifadedd, a hynny a ddigwyddodd mewn gwirionedd wrth i'r ôl-groniad gael ei leihau. Ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein dull tîm Cymru ni'n gweithio hefyd i ganiatáu ymateb i'r angen pwysicaf sef i groesawu ceiswyr lloches o bob cwr o'r byd. Ond fe wyddom ni fod hyn yn gofyn i ni weithio yn agos gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn ni, gyda'n hawdurdodau lleol, a dyna pam y bydd y bwrdd partneriaeth strategol y soniais i amdano mor bwysig. Mae gennym ni—. Rydym ni wedi bod ar daith bwysig gyda'n gilydd o ran croesawu ffoaduriaid o Syria, Affganistan ac Wcráin nawr. Heddiw, ar y gwesteion hynny o Wcráin yr ydym ni'n canolbwyntio, gan ystyried eu hamgylchiadau nhw, eu bywydau nhw, eu teuluoedd nhw, y teuluoedd sydd ar ôl yno, eu hanwyliaid nhw yn y rhyfel a'r anwyliaid a gollwyd, y cartrefi a gollwyd, gan sicrhau y byddwn ni'n parhau i ddiogelu'r croeso hwnnw yma yng Nghymru.

15:20

Gweinidog, diolch yn fawr iawn i chi am eich datganiad heddiw. Efallai fod dwy flynedd wedi mynd heibio ers ymosodiad rheibus Rwsia ar Wcráin, ond mae'r bygythiad i ddemocratiaeth a'r gwerthoedd yr ydym ni i gyd yn y Siambr hon yn eu trysori yng Nghymru a'r gorllewin hefyd wedi cynyddu yn fawr ac nid wedi lleihau. Wrth i'r Ffindir ymuno â Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd a'r dwyrain canol bron iawn wedi cyrraedd pwynt berwi, rydym ni'n tystio i farwolaeth frawychus y bygythiad mwyaf i Wanwyn Rwsiaidd Putin. Heddiw, fe welsom ni gyfrif X—Twitter gynt—Yulia Navalnaya yn cael ei atal, ddiwrnod yn unig ar ôl iddi hi ddefnyddio'r cyfrwng i barhau ag ymgyrch gydol oes ei gŵr dros etholiadau rhydd a theg a democratiaeth yn Rwsia, ac ni chaiff hynny mo'i ddistewi fyth.

Yn eich datganiad chi, Gweinidog, rydych chi'n iawn i ganmol gwaith ein cyd-Aelod a'n cyfaill, Mick Antoniw, sydd wedi mynegi llawer am yr ymosodiad a'r gwrthdaro yn Wcráin mewn ffordd fyw iawn ar gyfer pobl Cymru, gan ymweld yn rheolaidd ag Wcráin a sôn am y gwirfoddolwyr sy'n cludo nwyddau a gyfrannwyd gan gymunedau yng Nghymru. Serch hynny, mae'r perygl y mae'r gwrthdaro hwn yn ei olygu i ddemocratiaeth a democratiaethau yn ymestyn i'r holl fyd, ac mae'r bylchau gwleidyddol byd-eang yn ehangu wrth i gynghreiriaid y gorllewin a Rwsia ymgyfuno o amgylch y dwyrain canol. Felly, o gofio'r galw cynyddol am sancsiynau pellach yn erbyn Rwsia ac awdurdodaeth gyfyngedig a mandad y Senedd hon ac fel cenedl noddfa, sut, felly, ydych chi'n rhagweld, Gweinidog, y bydd y gefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru i bobl Wcráin yn datblygu drwy 2024? Ac wrth i gynlluniau teuluol y DU ac Wcráin gael eu tynnu yn ôl, pa gamau pellach yr ydych chi'n gobeithio eu gweld oddi wrth Lywodraeth y DU ar gyfer dangos undod o blaid achos rhyddid a democratiaeth?

Diolch yn fawr, Rhianon Passmore. Rwy'n falch eich bod chi hefyd wedi ehangu hyn ar gyfer myfyrio ar y sefyllfa o ran marwolaeth erchyll Alexei Navalny a chydnabod bod Putin yno, Putin sy'n gyfrifol, a chydnabod dewrder aruthrol Yulia Navalnaya hefyd. Fe hoffwn i wneud sylw ar ddarn a gafodd ei ysgrifennu am Alexei dros y penwythnos gan Odessa Rae, pan ddywedodd hi,

'Treuliodd 15 mlynedd olaf ei fywyd yn gweithio drwy gyfrwng ei sefydliad yn y gobaith o ddisodli Putin a'i gyfundrefn awdurdodaidd. Rwy'n gwybod y byddai ef yn gwthio'r genhadaeth honno, a'i neges i Rwsia fyddai peidio â mynd yn rhywbeth o'r gorffennol ond yn rhywbeth sy'n parhau mewn rhyw ffordd—nad ydyn nhw, yng ngeiriau Dylan Thomas, yn mynd yn ddistaw i'r nos.'

Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n myfyrio ar hynny heddiw, wrth i ni ystyried effaith hyn o safbwynt byd-eang a chydnabod mai dyna pam mae'n rhaid i ni gefnogi pobl Wcráin.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ymuno â'n gilydd i gydnabod dewrder pobl Wcráin, sydd wedi bod yn gwrthsefyll ymosodiad Putin ers dwy flynedd erbyn hyn. Fe hoffwn i roi teyrnged i'r arweinyddiaeth a amlygodd y Gweinidog yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ac i arweinyddiaeth Mick Antoniw hefyd, a fu yn Wcráin yn trosglwyddo rhagor o ddeunyddiau, cefnogaeth a chymorth i'r bobl ar y rheng flaen, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd ar draws y Siambr gydnabod y gwaith yr ymgymerodd Mick ag ef yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r ddwy flynedd o drais erchyll yn erbyn Wcráin gan Putin, wrth gwrs—mae hi'n amhosibl peidio â myfyrio hefyd, fel cafodd ei wneud eisoes, ar lofruddiaeth Alexei Navalny yr wythnos diwethaf, a laddwyd gan Putin. Ni allai ef dorri ei ysbryd, ac felly fe'i lladdodd, ac rwy'n credu bod hynny'n arddangos natur y drefn y mae pobl Wcráin yn ymladd yn ei herbyn. Roeddwn i'n siomedig o glywed ddoe bod Llywodraeth y DU wedi cau cynllun fisa teuluoedd o Wcráin heb unrhyw rybudd o gwbl. Fe fyddai hi'n ddefnyddiol, Gweinidog, pe gallai Llywodraeth Cymru siarad â Gweinidogion y DU ar unwaith i sicrhau bod pawb sydd ag angen noddfa yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw yn ddiymdroi neu heb unrhyw oedi. Mae lleihau cyfnod dilysrwydd fisâu o 36 mis i 18 mis yn anodd iawn i rai teuluoedd hefyd, ac rwy'n credu bod angen i ni herio hynny.

Ac, yn olaf, Gweinidog, yn eich trafodaethau chi gyda Llywodraeth y DU, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig hefyd ein bod ni'n cydnabod yr hyn sydd ei angen ar Wcráin ar gyfer parhau â'r frwydr dros ddemocratiaeth. Yr hyn a welsom ni dros yr wythnosau diwethaf yw lluoedd Wcráin yn cael eu gwthio yn eu holau gan rym a nerth lluoedd Rwsia sydd â llawer mwy o arfau a milwyr. Mae angen cefnogaeth cynghreiriaid y gorllewin ar Wcráin, ond mae angen taflegrau hefyd. Mae angen rocedi, mae angen sieliau a ffrwydron eraill ar y wlad ar gyfer trechu ymosodiad Rwsia. Nid yw addewidion gwag gan wleidyddion yn werth dim ar y rheng flaen yn Donetsk a dwyrain Wcráin ar hyn o bryd. Mae angen i ni sicrhau bod yr arfau a'r ffrwydron ganddyn nhw i drechu ymosodiad Rwsia.

15:25

Diolch yn fawr, Alun Davies. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n gwrthsefyll Putin. Fe allwn ni i gyd wrthsefyll Putin—fel gwnawn ni heddiw—ac ymddygiad ymosodol Putin a'i luoedd arfog. A dyna pam mae nodi dewrder a chadernid achos Wcráin mor bwysig heddiw wrth nodi dwy flynedd o ryfel. A dyna pam hefyd y mae'n rhaid i ni sicrhau bod y newidiadau hyn yn gadarn a'u bod yn galluogi Wcreiniaid nid yn unig i breswylio yma, y rhai a oedd yn ffoi rhag yr ymladd, ond er mwyn i eraill allu dod yma hefyd. Ac, wrth gwrs, fe fyddwn i'n ymestyn hynny hyd at ffoaduriaid eraill o rannau eraill o'r byd y gwnaethom ni eu cefnogi nhw, fel y ffoaduriaid o Affganistan a Syria sydd yma.

Fe ddywedais i fy mod i'n gofyn i'r Swyddfa Gartref ddysgu oddi wrth y cynllun teuluoedd o Wcráin a chydnabod yr effaith a gafodd, oherwydd un pwynt rwy'n credu, ac rwy'n credu bod Mark Isherwood wedi codi hwnnw, yw ein bod ni wedi cael y gadwyn o nawdd a oedd yn ceisio uno teuluoedd yma yng Nghymru. Rwyf i wedi codi hynny. Rydym ni'n gofidio am golli'r elfen hon gyda chynllun Cartrefi i Wcráin, oherwydd ei bod yn caniatáu i deuluoedd uno. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU weithio gyda nhw ynglŷn â'r llwybrau amgen ar gyfer cefnogi aduniad teuluoedd. Fe wyddom ni fod teuluoedd yn cael eu gwahanu ac yn parhau i fod ar wahân. Felly, rydym ni'n ceisio edrych ar hynny hefyd.

A hefyd, rwy'n credu bod pwynt, ac fe godais i hwn yn gyson, sef bod rhai Wcreiniaid yn dymuno cael llwybr i ymgartrefu yng Nghymru. Nid oes gan lawer ohonyn nhw gartrefi i ddychwelyd iddyn nhw yn Wcráin. Rydym ni'n parhau i wthio am hynny, ond, yn amlwg, cynnig llwybr i ymgartrefu—mae'n rhaid i ni wneud hyn mewn partneriaeth a gyda dealltwriaeth ein cyfeillion Wcrainaidd a'r Llywodraeth honno. Fe wyddom ni y bydd angen ar Lywodraeth Wcráin i'r rhan fwyaf o'u dinasyddion ddychwelyd i helpu gyda'r ailadeiladu ymhen amser. Mae cynllun estyniad yn gam ymarferol iawn ymlaen. Fe wnaethon ni ofyn am ddwy flynedd—18 mis. Ond sut y caiff hynny ei gyflawni a'i reoli—nawr, yn sicr fe allech chi fy nal i gyfrif, a'r Llywodraeth hon, o ran sut y byddwn ni'n bwrw ymlaen â hyn yn y ffordd yr ydych chi'n ei disgrifio.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu at y datganiad hwn wrth i ni nesáu at ddiwedd yr ail flwyddyn ers yr ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin. Felly, dri diwrnod yn ôl, fe ddychwelais o Kyiv ar ôl bod yn trosglwyddo tri cherbyd a nwyddau ar ran grŵp trawsbleidiol y Senedd i gefnogi Wcráin. Felly, fe hoffwn i ddiolch yn arbennig i Alun Davies am ei waith gyda'r grŵp hwn, a'i gefnogaeth ef gyda darpariaeth y deunyddiau cynorthwyol, yn cynnwys gyrru miloedd o filltiroedd ar draws Ewrop i Pavlohrad yn nwyrain Wcráin. Hyd yn hyn, cyfanswm y gefnogaeth a ddarparwyd yw 15 cerbyd, a nwyddau o werth a amcangyfrifir tua £1 miliwn. Rwy'n cydnabod y gefnogaeth sylweddol hefyd oddi wrth Undeb Cenedlaethol y Glowyr, undebau llafur a changhennau Cymru, cwmnïau fel Alcumus yn Nantgarw a Highadmit yn Nhonysguboriau, a llawer o unigolion a grwpiau sydd wedi cefnogi'r gwaith hwn. Ac rwy'n cydnabod y gefnogaeth hefyd gan gyn-filwyr Cymru a grwpiau o Gymru fel UK for UA, grŵp rhagorol o Gymru sydd wedi bod yn trosglwyddo nwyddau i Wcráin bedwar deg ac wyth—ie, pedwar deg ac wyth—o droeon ar gyfer cynorthwyo eu hymdrechion yno. Yn Kyiv, fe wnaethom ni gyfarfod ag aelodau o undebau'r glowyr, gwirfoddolwyr a milwyr rheng flaen. Roedd penderfyniad hollol yn Wcráin i ennill y rhyfel yn erbyn Rwsia gan nad oes unrhyw ddewis arall. Rhyfel yn erbyn y ffasgiaeth sydd yn Rwsia yw hwn. Mae hwn yn rhyfel y mae'n rhaid i Wcráin a'r byd democrataidd ei ennill. Y dewis arall i bobl Wcráin yw alltudio rhagor o blant gan ychwanegu at y rhif a amcangyfrifir o 80,000 o blant a gipiwyd eisoes, y trais, artaith, a'r dienyddio cyson, alltudio torfol poblogaethau, gan ddisodli iaith, diwylliant a hunaniaeth Wcráin gan y Rwsiaid. Mae hyn yn digwydd eisoes mewn rhannau o Wcráin sydd yn eu meddiant.

Roedd disgwyl y byddai Wcráin yn chwalu o fewn wythnos, ond ni wnaeth hynny. Mae Wcráin wedi ymlid fflyd o longau o'r Môr Du er nad oes ganddi hi ei hunan lynges hyd yn oed. Mae allforion grawn wedi ailddechrau. Mae Rwsia wedi colli tua 380,000 o filwyr, ond nid yw bywydau ei dinasyddion yn golygu llawer iddi, y mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n dod o leiafrifoedd ethnig o fewn y Ffederasiwn Rwsiaidd. Ond fe gafodd gyflenwadau newydd sylweddol o arfau ac offer oddi wrth Ogledd Korea ac Iran. Felly, mae'r rhyfel mewn cyfnod peryglus ar hyn o bryd. Mae prinder taflegrau a ffrwydron pell-ehedol, y parlys o ran y gefnogaeth oddi wrth America, methiant Nato hyd yn hyn i gyflenwi'r gyfradd o ffrwydron a addawyd yn rhoi hyder i Putin ac yn peryglu buddugoliaeth. Mae yna lawer mwy y gall Llywodraeth y DU ei wneud eto ac fe ddylai wneud felly.

Fe fyddai methu â threchu Putin yn ansefydlogi Ewrop gyfan. Mae Moldofa, Georgia, gwledydd y Baltig ac eraill dan fygythiad i gyd. Mae llofruddiaeth Navalny yn Rwsia, llofruddiaethau ar diriogaeth y DU ac mewn rhannau eraill o'r byd, yn mynd yn ôl at dactegau Stalinaidd y gorffennol. Mae'n rhaid i'r byd uno nawr i drechu Putin, ac, i'r rhai sy'n dweud na allwn ni fforddio'r gost, yn fy marn i, ni allwn fforddio peidio. Fe fyddai cost hirdymor peidio yn uchel iawn ar bob dinesydd yn y DU ac Ewrop os na ellir ei rwystro, a hynny am genedlaethau i ddod. Fel pob amser, mae cymunedau Wcráin yng Nghymru sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru fel minnau, yn croesawu ac yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru a gan Lywodraethau'r DU, ac, yn benodol, gan bobl Cymru. Mae'n rhaid i Wcráin gael yr arfau a'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol nawr ar gyfer ennill a dod â'r rhyfel i ben. Ac fel gwnaethom ni ei ddysgu oddi wrth ddigwyddiadau 1938, ni ellir dyhuddo ffasgiaeth. Слава Україні! Героям слава! Перемогам!

15:30
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—Flwyddyn yn ddiweddarach

Eitem 4 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—flwyddyn yn ddiweddarach. A galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad. Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Bydd yr wythnos nesaf yn nodi 12 mis ers i mi osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Heddiw, rwyf am achub ar y cyfle i fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf a rhannu gyda chi sut mae'r bwrdd iechyd, er gwaethaf y pwysau parhaus, yn parhau i gyflawni o ddydd i ddydd mewn ffordd gadarnhaol iawn i'r mwyafrif helaeth o bobl yn y gogledd.

Mae'n werth cofio mai'r bwrdd iechyd yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, gan gyflogi dros 20,000 o bobl, sy'n gwasanaethu poblogaeth o tua 700,000 o bobl, gan gynnal tua 16,000 o gysylltiadau cleifion ar gyfartaledd, dros 2,000 o apwyntiadau cleifion, a thua 450 o driniaethau a gynlluniwyd bob dydd. Felly, rwyf eisiau cydnabod gwaith rhagorol pawb sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd, a diolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw'n ei wneud i sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld a'u trin yn ddiogel, yn dosturiol ac yn amserol.

Rwyf hefyd am dynnu sylw at ychydig o enghreifftiau yn unig o rai o'r datblygiadau arloesol y mae'r bwrdd iechyd wedi'u cyflwyno dros y 12 mis diwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys bod y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud diagnosis o ganser y fron a'r prostad. Roeddwn i hefyd yn falch o helpu i lansio'r gwasanaeth e-bresgripsiynu newydd mewn fferyllfa yn y Rhyl yn ôl ym mis Tachwedd, fel rhan o gyflwyno hynny ledled Cymru gyfan.

Dirprwy Lywydd, mae wedi bod yn flwyddyn heriol i'r bwrdd iechyd, ond rwy'n credu mai'r penderfyniad anodd i'w roi mewn mesurau arbennig oedd yr un cywir. A hynny oherwydd bod y bwrdd hwn bellach mewn sefyllfa lawer gwell i ysgogi newid sylweddol a gwella gwasanaethau iechyd i bobl y gogledd.

Felly, beth ydym ni wedi'i wneud? Yn gyntaf, bu ffocws ar ailadeiladu a sefydlogi'r bwrdd. Erbyn hyn mae cadeirydd parhaol, prif weithredwr ac is-gadeirydd. Bydd y pedwar aelod annibynnol olaf yn cael eu cyhoeddi'n fuan iawn, a bydd hyn yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r ffocws sydd ei angen ar y sefydliad er mwyn gwella. Roeddwn yn falch o weld bod Archwilio Cymru wedi cydnabod gwelliant amlwg o ran sefydlogrwydd y bwrdd yn ei adroddiad dilynol diweddar ar effeithiolrwydd y bwrdd, ac nad yw'r camweithrediad o fewn y bwrdd a ddisgrifiwyd yn ei adroddiad blaenorol bellach yn amlwg.

Fel rhan o'r ymyrraeth mesurau arbennig, cafodd nifer fach o gynghorwyr annibynnol eu contractio i weithio gyda'r bwrdd, ac mae nifer o adolygiadau annibynnol wedi'u comisiynu i feysydd problemus. Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid imi ddweud bod darllen llawer o'r myfyrdodau gan y cynghorwyr, a'r adroddiadau o'r adolygiadau annibynnol, yn brofiad anghyfforddus ac maen nhw wedi amlygu rhai materion difrifol iawn y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â nhw nawr. Er ei bod wedi bod yn galonogol clywed am y gwelliannau y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi'u gweld drwy ei arolygiadau mwy diweddar, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod crwneriaid Ei Fawrhydi a'r ombwdsmon wedi amlygu nifer o themâu cyson, a gobeithiaf fod y bwrdd iechyd bellach wedi datgelu'r holl faterion allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw a bod ganddo strwythurau ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Mae Archwilio Cymru hefyd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi adrodd ar arferion rheoli ariannol a chyfrifyddu gwael. Rwyf wedi trafod y rhain gydag Aelodau'r Senedd ar sawl achlysur, ac rydych chi i gyd yn ymwybodol na allaf wneud sylw pellach gan fod prosesau disgyblu yn dal i fynd rhagddynt. Ond mae adroddiad diweddar Archwilio Cymru yn awgrymu bod y bwrdd yn ymateb i'r materion a nodwyd yn eu harchwiliadau o gyfrifon 2021-22 a 2022-23, yn ogystal â'r rhai a nodwyd yn adolygiad Ernst & Young. Mae'n werth nodi hefyd bod Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar ganfyddiadau adroddiad Ernst & Young.

Fel pob bwrdd iechyd arall yng Nghymru, mae Betsi yn wynebu heriau ariannol sylweddol o ganlyniad i chwyddiant a mesurau cyni. Rydym wrthi'n monitro ymateb y bwrdd iechyd i'r heriau hyn.

Mae hyn i gyd yn allweddol er mwyn newid diwylliant y bwrdd iechyd a'r ffordd y mae e wedi ei drefnu. Ond y cwestiwn pwysig yw: pa wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru? Wel, fe ddylen nhw gael cysur yn y ffaith bod perfformiad yn y bwrdd yn gwella. Mae'r bwrdd iechyd wedi adrodd bod gostyngiad o 65 y cant yn nifer y bobl sy'n aros mwy na thair blynedd i'w triniaeth ddechrau, rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd 2023. Mae nifer y bobl sy'n aros mwy na 52 wythnos am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol hefyd wedi gostwng dros 15 y cant yn yr un cyfnod. Yn ogystal, mae gostyngiad o 33 y cant wedi bod yn nifer y bobl sy'n aros mwy nag wyth wythnos am brawf diagnostig. Dwi'n deall bod pobl yn dal i orfod aros yn rhy hir, ond mae pethau'n symud i'r cyfeiriad iawn.

Ym mis Tachwedd 2022, ychydig fisoedd cyn i'r bwrdd iechyd gael ei roi o dan fesurau arbennig, fe wnes i ymweliad yn ddirybudd ag Ysbyty Abergele. Y diwrnod hwnnw, ar brynhawn dydd Iau, doedd dim gweithgarwch orthopedig yn digwydd. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod gan Betsi un o'r amseroedd aros orthopedig hiraf yng Nghymru. Nawr, fe ges i fy synnu a'm siomi o weld nad oedd y tîm rheoli na'r bwrdd yn gwybod am y diffyg gweithgarwch, gan ddangos eu diffyg gafael ar y sefyllfa. Ond, erbyn heddiw, diolch i lawer o gefnogaeth gan y tîm Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf—GIRFT—Llywodraeth Cymru a'r bwrdd newydd, mae llawer mwy o weithgarwch ar y safle. 

Mae'r amseroedd aros ar gyfer llwybrau orthopedig wedi gwella ar draws y bwrdd iechyd. Ym mis Tachwedd, roedd nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 104 wythnos ar ei lefel isaf ers mis Ebrill 2021. Ac rŷn ni'n disgwyl gweld y cynnydd cadarnhaol yma yn parhau wrth i'r ganolfan orthopedig newydd, sy'n cael ei hadeiladu yn Llandudno, gael ei chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae'r pwysau ar ofal brys ac argyfwng yn parhau. Rhwng mis Chwefror a mis Rhagfyr 2023, fe wnaeth 2,000 yn fwy o bobl fynd i adrannau brys y gogledd bob mis. Mae canolbwyntio ar gael gwared ar achosion o bedair awr o oedi wedi trosglwyddo o ambiwlans yn arwain at rai gwelliannau. Ym mis Rhagfyr 2023, roedd 786 o achosion o oedi yn fwy na phedair awr. Er bod hwn, yn amlwg, yn dal yn rhy uchel, mae e'n ostyngiad o 23 y cant ers y flwyddyn gynt.

Mae llawer o sôn wedi bod am yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth fasgiwlar. Dwi wedi ymweld â'r adran sawl gwaith i fonitro cynnydd, ac roeddwn i'n falch o weld, ym mis Mehefin y llynedd, fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi newid ei statws o wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol i statws is. Mae rhwydwaith clinigol fasgiwlar gweithrediaeth yr NHS hefyd wedi cynnal asesiad annibynnol o'r gwasanaeth yn erbyn y cynllun fasgiwlar, a daeth i'r casgliad ei fod wedi gwella a'i fod bellach yn darparu gwasanaeth llawer mwy diogel. Er mwyn rhoi mwy o sicrwydd, mae asesiad nodyn achos wedi cael ei gomisiynu ar gyfer y gwasanaeth. Mae disgwyl i'r adroddiad terfynol fod yn barod ym mis Mawrth.

Felly, beth nesaf? Mae'r bwrdd iechyd wedi bod o dan fesurau arbennig ers 12 mis, ond mae llawer iawn i'w wneud eto. Llynedd, gwnes i nodi cyfres o amodau cynaliadwyedd ar ei gyfer, sy'n dal yn ddilys ac sydd angen iddo eu bodloni cyn fedrwn ni ystyried newid ei statws i lefel 4. A, dros y misoedd nesaf, byddaf i'n cyhoeddi meini prawf ar gyfer pob maes i fynd gyda'r amodau yma. 

Heb os, mae gan y bwrdd iechyd heriau mawr o'i flaen, ond mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn ei gefnogi i ddatblygu a chreu sefydliad cynaliadwy, sy'n gallu darparu'r gwasanaethau mae pobl yn y gogledd yn eu haeddu. Diolch. 

15:40

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Byddwch yn gwerthfawrogi ei bod yn atgof sobreiddiol iawn o'r sefyllfa enbyd yn y gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Mae'n flwyddyn arall i drigolion y gogledd gyda'u bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, ac, wrth gwrs, mae wedi treulio pob un ond dwy o'r naw mlynedd diwethaf mewn mesurau arbennig yn y gogledd—yr hiraf o unrhyw sefydliad GIG yn y Deyrnas Unedig gyfan; nid yw honno'n anrhydedd yr wyf i, nac unrhyw un, eisiau ei dathlu.

Hoffwn gofnodi diolch fy etholwyr a minnau a gweddill grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i'r staff gweithgar hynny sy'n gweithio'n galed o ddydd i ddydd. Ond ni fyddaf yn diolch i holl weithwyr y bwrdd iechyd, oherwydd gwyddom fod rhai o'r gweithwyr hynny, yn anffodus, yn dal i siomi pobl yn y gogledd. Mae rhai ohonyn nhw'n gyn-swyddogion gweithredol sy'n dal yn y GIG ac ni ddylen nhw fod, i fod yn gwbl onest. Ac, am y rheswm hwnnw, ni fyddaf yn estyn fy niolch, yn wahanol i chi, i bawb yn y bwrdd iechyd yn y gogledd.

Mae yna lawer o bobl, wrth gwrs, sy'n profi oedi sylweddol yn eu triniaeth. Cafwyd papur briffio a ddosbarthwyd i Aelodau'r Senedd o'r gogledd ddoe, gan gadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd, yn dathlu'r ffaith eu bod wedi dileu arosiadau chwe blynedd yn y gogledd am driniaethau. Aros am chwe blynedd, allwch chi gredu? Felly, hyd at yn weddol ddiweddar, roedd pobl yn y gogledd yn dal i aros chwe blynedd am eu triniaeth. Yn yr adroddiad hwnnw hefyd, dywedodd wrthym fod llawer o bobl yn y gogledd o hyd—cannoedd, mewn gwirionedd—yn aros am dros dair blynedd, nid yn unig am driniaeth, ond am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf un. Clywn lawer o sôn am y pwyslais ar ddwy flynedd yn y Siambr hon, ond beth am y pwyslais tair blynedd y mae rhai o fy etholwyr yn gorfod ei wynebu yn y gogledd? Mae'n wirioneddol frawychus. Ac, i fod yn gwbl onest, mae angen i ni gael mynediad mwy rheolaidd at wybodaeth am hyn, neu fel arall ni fydd y materion hyn yn cael eu trin yn briodol. Hoffwn i wybod faint o bobl sy'n aros pum mlynedd, pedair blynedd, tair blynedd, dwy flynedd, blwyddyn, ac ati, oherwydd dyna'r math o dryloywder y mae angen i ni ei weld.

Y peth arall yn yr adroddiad, na wnaethoch chi gyfeirio ato'n llwyr yn eich datganiad chi heddiw, ond y peth arall yn yr wybodaeth a rannwyd gan y bwrdd iechyd ddoe oedd bod 10 adolygiad wedi'u cynnal—10 adolygiad i wasanaethau, gydag argymhellion. Nid ydym wedi gweld yr un ohonyn nhw'n cael ei gyhoeddi. Lle ydyn ni'n mynd i weld beth yw'r adolygiadau hynny? Rydych chi wedi cyfeirio at adolygiadau yn dod o hyd i bob math o erchyllterau y mae angen i bobl fynd i'r afael â nhw heddiw; nid wyf i wedi gweld yr un o'r adolygiadau hyn, ac nid yw unrhyw un arall yn y Siambr hon, nac yn bwysicach fyth, y cyhoedd, sy'n talu am y gwasanaethau hyn ac sydd â hawl i wybod sut mae'r gwasanaethau hynny'n perfformio. Felly, er gwaethaf y cynnydd yr ydych yn hoffi ei adrodd, mae arnaf ofn fy mod yn dal i bryderu'n fawr, a hoffwn weld rhywfaint o dryloywder gan y Llywodraeth hon fel y gallwn fod â hyder yn y system.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod adroddiadau'r crwneriaid a'r ombwdsmon yn codi pryderon yn rheolaidd am driniaeth yn y gogledd. Fe ddywedoch chi, hefyd, fod Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar ganfyddiadau adroddiad Ernst & Young i afreoleidd-dra cyfrifyddu ond gwyddom fod pobl wedi'u gwahardd dros dro o hyd, gwyddom y bu yna ganfyddiadau o gyfrifyddu ffug, gwyddom fod unigolion, gan gynnwys ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a oedd yn cuddio dogfennau ac yn osgoi'r trefniadau llywodraethu priodol o ran gosod contractau. I fod yn gwbl onest, mae'n frawychus nad yw'n ymddangos bod yr un person wedi ei ddiswyddo o ganlyniad i'r methiannau hynny yn y sefydliad. 

Gwnaethoch chi gyfeirio at Landudno. Rwy'n falch iawn o weld bod Llandudno yn mynd i fod yn cael hyb orthopedig. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r gweithgaredd hwnnw ar hyn o bryd, neu gyfran fawr ohono, yn cael ei wneud yn Abergele, yn Ysbyty Abergele, y dywedoch chi eich bod chi wedi ymweld ag ef beth amser yn ôl ac wedi cael sioc o weld nad oedd yr holl welyau wedi'u meddiannu. Cefais innau sioc hefyd ychydig wythnosau yn ôl, pan ymwelais a dim ond un gwely a oedd wedi'i feddiannu yn yr ysbyty hwnnw. Ac fe gafodd fy staff sioc hefyd, y penwythnos hwn, pan aethon nhw i ymweld ag aelod o'u teulu a dim ond dau wely a oedd wedi'u meddiannu yn yr ysbyty cyfan hwnnw. Dydy hynny ddim yn ymddangos fel petaech chi'n defnyddio'r adnoddau'n llawn i gael gwared ar yr arosiadau orthopedig rhy hir hynny yn y ffordd y mae angen i ni wneud. Felly, nid wyf yn derbyn eich hunanfodlonrwydd ar y mater hwnnw.

Fe wnaethoch chi sôn am y problemau rydyn ni'n eu cael mewn gofal brys. Wrth gwrs, rydyn ni'n cael problemau ym maes gofal brys yn y gogledd, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod angen uned mân anafiadau newydd arnom yn Y Rhyl, nad ydych chi wedi trafferthu ei hadeiladu er gwaethaf y ffaith iddi gael ei haddo 10 mlynedd yn ôl. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny hefyd?

Ac yna, yn olaf, os caf i, roedd adroddiad diogelwch cleifion ynghlwm wrth rai papurau bwrdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Adroddwyd yn y cyfryngau heddiw mai un o'r pethau a amlygodd yr adroddiad hwnnw oedd pryder am roi ocsigen i gleifion, gyda staff ddim yn cysylltu'r cyflenwad ocsigen yn gywir a bod canlyniadau trychinebus i rai cleifion. Ac nid dim ond un digwyddiad ynysig oedd hwn, bu rhagor o ddigwyddiadau i gleifion hefyd. A allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw'r pethau hynny'n digwydd? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth oedd y canlyniad go iawn? Beth oedd y canlyniad trychinebus? A yw pobl wedi marw? A yw pobl wedi colli gallu gwybyddol o ganlyniad i'r diffyg ocsigen hwn? Mae angen i ni wybod, ac rwy'n credu bod y cyhoedd yn haeddu gwybod. Yn ogystal â hynny, yr adroddiad hwnnw—

15:45

Na, rydych chi wedi gwneud llawer o gwestiynau ac rydw i wedi bod yn hyblyg iawn. Mae gennym ni fwy o Aelodau i ofyn cwestiynau ac mae gennym lawer i fynd.

Mae o. Mae'r adroddiad hwnnw hefyd yn cyfeirio at archwiliad o wasanaethau wroleg, lle gwnaed chwiliad o swyddfeydd ac fe ddaethon nhw o hyd, ac rwy'n dyfynnu

'100+ o adroddiadau radioleg, atgyfeiriadau mewnol, adroddiadau histoleg a llythyrau canolfannau trydyddol nad ydynt wedi eu hadolygu na'u gweithredu',

dros 300 ohonyn nhw i gyd, gydag atgyfeiriadau yn mynd yn ôl i fis Mawrth 2023 sydd heb gael eu brysbennu. Ac un pwynt olaf yma, ar hyn—

Darren, rydych chi'n ei gwthio'ch lwc. Darren, os gwelwch yn dda, rwy'n credu bod angen i chi ofyn y cwestiwn. 

Rwy'n gwerthfawrogi bod amser yn brin, ond heb os nac oni bai mae gwerth munud o amser er mwyn dwyn y Gweinidog i gyfrif am y methiannau yn y gogledd yn briodol. Dyma'r un—

Darren. Darren. Na, fe wnaf eich stopio chi yn y fan yma. Rydych chi wedi cael chwe munud pryd yr ydych chi wedi cael—

Rydych chi wedi treulio llawer o amser oherwydd eich bod chi eisiau gwneud pwyntiau. Un cwestiwn olaf, os gwelwch yn dda, a rhaid iddo fod yn gwestiwn, neu byddaf yn ei gau.

15:50

Mae yn gwestiwn. Nodwyd hefyd bod ôl-groniad o 1,133 o lythyrau wedi'u harddweud gan glinigwyr nad ydynt wedi'u hanfon. Nawr, a gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pam, pan fo fy etholwyr i, a minnau, ac Aelodau eraill yn y Siambr hon sy'n cynrychioli'r gogledd, wedi gwneud cwynion di-ri am wasanaethau wroleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y caniatawyd i hynny ddigwydd tra bod y sefydliad hwn mewn mesurau arbennig, oherwydd mae'n annerbyniol?

Wel, diolch yn fawr. Fe wnes i ei gwneud hi'n glir iawn fod ffordd bell i fynd o hyd mewn cysylltiad â Betsi, a dim ond ym mlwyddyn 1 ydyn ni, ac mewn gwirionedd mae ffordd eithaf hir wedi ei theithio i'r cyfeiriad iawn, rwy'n credu, ond dydw i ddim yn ymddiheuro ar ran y bwrdd eu bod yn cydnabod bod ffordd bell i fynd.

O ran staffio yn y bwrdd iechyd, yn amlwg mae hyn yn rhywbeth sy'n benderfyniad i'r bwrdd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn hollol glir ynghylch atebolrwydd yn y fan yma, oherwydd mae'n ymddangos bod dryswch, unwaith eto, ynghylch ble mae'r atebolrwydd. Nodais y paramedrau ar gyfer yr hyn y disgwylir iddo gael ei gyflawni, ond yna rwy'n trosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw i'r bwrdd iechyd. Nawr, yn amlwg, pan fyddan nhw o dan fesurau arbennig, mae gennym ni ddull llawer mwy gwyliadwrus o ran yr hyn y mae angen iddyn nhw ei gyflawni, ond cyfrifoldeb y bwrdd iechyd o hyd yw cyflawni ac nid cyfrifoldeb y Gweinidog iechyd yn Llywodraeth Cymru.

Nawr, o ran prosesau disgyblu, yn amlwg ni allaf wneud sylwadau ar rai o'r rhai sy'n dal i fynd rhagddynt, sy'n rhwystredig iawn, ond dyna'r sefyllfa, mae'r prosesau disgyblu mewn cysylltiad â rhai o'r materion ariannol yn dal i fynd rhagddynt, mae arna i ofn, ac mae'n rhaid i ni ddilyn y broses briodol.

O ran perfformiad, rydych chi'n hollol iawn bod ffordd bell i fynd. Y gwir amdani yw fy mod i'n monitro hyn yn hynod ofalus. Rwy'n cael cyfarfodydd bob pythefnos i fonitro rhestrau aros yng Nghymru; rwy'n gwybod yn union faint o bobl sydd ar ba restrau, ym mha fyrddau iechyd, felly rwy'n ei fonitro'n fanwl iawn yn sicr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, mewn gwirionedd, bod y rhestrau aros hynny, y rhestrau aros hiraf, wedi dod i lawr nid dim ond yn Betsi, ond dros Gymru gyfan, wedi dod i lawr, oherwydd y pwyslais llwyr hwnnw yr wyf i a Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar hynny.

O ran adolygiadau, rwy'n credu, yn sicr, bod mwy o dryloywder, ac enghraifft o'r tryloywder yw'r ffaith eich bod wedi sôn am y materion sy'n ymwneud â gweinyddu ocsigen. Mae'r ffaith bod y bwrdd iechyd yn agored am y peth ac yn dryloyw yn newid mawr o gymharu â'r hyn a welsom yn y gorffennol. Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau ei fod yn ymchwilio i un canlyniad trychinebus sy'n gysylltiedig â diffyg llif ocsigen, ond ni allaf roi mwy o fanylion na'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad oherwydd y pryderon cyfrinachedd.

O ran wroleg, mae'r bwrdd iechyd wedi nodi prosesau gweinyddol a olygodd na chafodd gwybodaeth ei rhannu rhwng arbenigeddau a meddygon teulu mewn modd amserol, ac mae gwaith eisoes wedi digwydd i adolygu'r wybodaeth hon i sicrhau ei bod yn dal yn briodol ym mhob achos. Rwy'n deall y cysylltir ag unrhyw gleifion yr effeithiwyd arnynt gan hyn.

O ran y sefyllfa mewn cysylltiad â phwysau, rwy'n teimlo'n rhwystredig hefyd pan welaf welyau sy'n wag, ond, mewn gwirionedd, nid yw bod â llawer o welyau yn llawn drwy'r amser yn wobr. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn glir am y ffaith fy mod i, mewn gwirionedd, yn ddiymddiheuriad ynghylch y ffaith yr hoffwn i weld mwy o ofal yn digwydd yn y gymuned. Y ffaith yw bod gennym ni lawer iawn—llawer iawn—mwy o welyau y pen o'r boblogaeth nag sydd ganddyn nhw yn Lloegr, a hefyd—[Torri ar draws.]

Un funud, Gweinidog. Darren, hoffwn i glywed ymateb y Gweinidog, ac rydych chi'n ceisio siarad drosti yn barhaus, felly gadewch i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiynau niferus a godwyd gennych chi dros yr amser a gawsoch. Gweinidog.

Os edrychwch chi ar yr hyn mae GIRFT yn ei argymell—yr arbenigwyr Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf yn y maes—yr hyn maen nhw'n ei ddweud, mewn gwirionedd, yw y dylen ni fod yn gwneud llawer mwy o lawdriniaeth ar ffurf achosion dydd. Felly, mae'n arwydd o lwyddiant os oes gennych chi lai o gleifion, oherwydd mae'n golygu eu bod yn fwy effeithlon o ran eu llawdriniaeth achosion dydd.

Ac yna, pan ddaw i Ysbyty Brenhinol Alexandra, mae'r bwrdd iechyd wedi penderfynu eu bod yn dymuno adolygu eu cynigion ar gyfer y safle hwn, ac maen nhw'n gwneud hynny mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Rwy'n credu y bydd y cynlluniau'n cynnwys uned mân anafiadau, gwelyau gofal canolradd a gofal integredig, ac rwy'n aros am gynnig newydd y gallaf i ei ystyried.

15:55

Mi fyddaf i mor gryno â phosib. Betsi Cadwaladr ydy fy mwrdd iechyd i, ac mae fy anwyliaid yn ddibynnol ar y gweithlu yno i'w cynnal a'u hadfer mewn cyfnodau o anhwylder. A gadewch inni fod yn glir: mae'r gweithlu yno yn bobl ymroddedig ac yn gwneud gwaith rhagorol mewn amgylchiadau anodd iawn. A dyna pam bod y siom ynghylch methiannau'r bwrdd cymaint yn fwy, oherwydd nid y cleifion yn unig sy’n cael eu gadael i lawr, ond hefyd y gweithlu. Ond mi fyddai’n annheg dweud mai methiant y bwrdd yn unig oedd hyn. Mae o hefyd yn fethiant ar ran y Llywodraeth hon a’r Llywodraethau blaenorol: methiant am fethu ag adnabod y gwendidau ynghynt; methiant am fethu â mynd i’r afael â’r gwendidau pan ddaethon nhw i’r amlwg; a methiant am fethu â gosod rhaglen glir mewn lle i wella'r sefyllfa pan oedd angen.

Mae’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn hapus i feio San Steffan am fethu ag ariannu Cymru yn ddigonol. Mae hyn wrth gwrs yn wir, ond mae’r dystiolaeth yn dangos nad ydy'r Llywodraeth yma yn codi bys er mwyn trio cael gwell setliad ariannol, ac mae’n annhebygol y bydd y Llywodraeth o dan Starmer yn rhoi tegwch ariannol i Gymru. Ond y gwir yn achos bwrdd iechyd y gogledd, fel gyda gwasanaethau iechyd yn eu cyfanrwydd, mewn gwirionedd, ydy fod yna broblem lawer dyfnach yma sydd angen mynd i’r afael â hi. Ac nid problem ariannol ydy honno, ond fel dwi wedi nodi yma sawl gwaith, mae o'n broblem ddiwylliannol.

Mi ydw i'n croesawu, felly, adroddiad diweddar yr ymchwilydd cyffredinol yn dangos bod cynnydd wedi digwydd dros y 12 mis diwethaf ers i’r bwrdd gael ei roi dan fesurau arbennig unwaith eto, ond mae hyn, wrth gwrs, yn adlewyrchu ffolineb penderfyniad y Llywodraeth i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig y tro cyntaf. Ond un wennol na wna wanwyn, ac mae’n amlwg i mi fod y gwendidau strwythurol yma'n parhau; mae’r gagendor yna rhwng y bwrdd a’r gweithlu ar lawr gwlad yn parhau. Mae hyn yn dyddio nôl i'r ailstrwythuro gwreiddiol, ac mae cyfres o brif weithredwyr wedi methu mynd i’r afael â’r gwendid sylfaenol yma.

Ond cyn gwneud unrhyw beth sylfaenol, mae’n rhaid cael bwrdd cyfan mewn lle. Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni pryd y mae disgwyl y bydd pob apwyntiad wedi cael ei wneud ar gyfer y bwrdd. Mae’r ansefydlogrwydd yma sydd wedi bod ar lefel y bwrdd, nid yn unig o ran yr aelodau annibynnol ond y prif swyddogion hefyd, wedi arwain at ddiffyg atebolrwydd a diffyg cymryd cyfrifoldeb. Rydyn ni wedi gweld uwch-aelodau yn cael eu tynnu i mewn i weithio yno heb ddim dealltwriaeth o'r ardal a ddim hyd yn oed yn barod i fwrw gwreiddiau yn yr ardal. Mae’r newid cyson o ran rheolwyr sydd wedi digwydd ym Metsi Cadwaladr—y churn di-baid yma—wedi cyfrannu at yr argraff o ansefydlogrwydd yn y bwrdd ac wedi creu darlun aneglur o ran llinellau atebolrwydd.

Yr hyn sy'n frawychus ydy, hyd y gwn i, nad ydy’r Llywodraeth neu'r Gweinidog wedi gosod unrhyw feini prawf ar gyfer isgyfeirio. Beth ydy’r strategaeth ar gyfer gwella'r sefyllfa, a sut gall y bwrdd wybod eu bod nhw’n mynd i’r cyfeiriad cywir heb y meini prawf yma ar gyfer de-escalation, isgyfeirio? Felly, mi fyddwn i'n ddiolchgar i’r Gweinidog pe gallai osod allan yn glir heddiw beth ydy’r meini prawf ar gyfer de-escalation, isgyfeirio, er mwyn i’r bwrdd fedru gosod strategaeth ar waith. Ymhellach, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i ddatgan pwy fydd yn cyfrannu at y penderfyniad i isgyfeirio, de-escalation, a phwy fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol? Wedi'r cyfan, dydyn ni ddim am fod yn yr un sefyllfa eto ble'r oeddem ni ynghynt, gyda'r Llywodraeth yn tynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig oherwydd anghenion gwleidyddol, a hynny'n groes i gyngor cyrff arbenigol.

Yn olaf, wrth gwrs, mae yna bwysau cyson ar y bwrdd, fel rhestrau aros, natur wledig y rhanbarth, demograffeg ac ati, sydd yn profi i fod yn heriol. Ond hoffwn wybod beth ydy gweledigaeth y Gweinidog am ddarpariaeth gwasanaeth iechyd ar gyfer y gogledd. Beth mae’r Gweinidog yn credu ydy'r heriau ac anghenion pobl yng ngogledd Cymru? Pa waith mae hi wedi ei wneud er mwyn adnabod hyn, ac felly, o adnabod yr heriau yma, gosod y meincnodau mewn lle er mwyn cyflawni'r weledigaeth, fel bod y bwrdd yn gwybod pa gamau mae angen iddyn nhw eu cymryd er mwyn medru gwella'r gwasanaeth? Tybed all y Gweinidog ein goleuo ar hyn. Diolch.

16:00

Diolch yn fawr. Rŷch chi'n eithaf iawn i ganolbwyntio ar y ffaith bod y gweithlu yn Betsi yn hollbwysig, a nhw yn amlwg sydd yna er mwyn sicrhau bod gofal iechyd yn cael ei roi i'r bobl sydd yn byw yn y gogledd. Mae dros 20,000 o bobl yn gweithio i'r bwrdd iechyd, sydd yn ei hun yn golygu ei fod e'n cyffwrdd â bob agwedd ar gymdeithas.

Roedd y bwrdd diwethaf wedi stryglo, dwi'n meddwl, i gael gafael ar y sefyllfa. Dwi'n meddwl bod hynny yn deg i ddweud. Mae'r ffaith bod y bwrdd presennol wedi mynd ar drywydd gwahanol, bod yr awyrgylch wedi newid, bod pobl ddim ag ofn i siarad i fyny—. Dwi'n meddwl bod y broblem ddiwylliannol oedd yna ynghynt—. Mae ffordd bell i fynd o hyd, ond dwi yn meddwl ein bod ni ar y siwrnai gywir. Dwi'n gwybod bod yr arweinyddiaeth, y compassionate leadership, yn hollbwysig, a dwi'n gwybod bod yna bobl yn dod mewn i roi hyfforddiant i arweinwyr y bwrdd yn y maes yna.

Dwi'n gwybod bod Plaid Cymru wastad â diddordeb mewn sôn am ailstrwythuro. Beth dwi eisiau gweld yw ein bod ni'n canolbwyntio ar beth sy'n bwysig i'r bobl ar lawr gwlad, a dwi'n meddwl beth maen nhw eisiau gweld yw perfformiad yn gwella a maen nhw eisiau sicrhau bod pethau'n saff. 

Jest o ran beth sy'n digwydd o ran y bwrdd, mae yna bedwar person, dwi'n deall, i ddod o ran independent members i'r bwrdd. Dwi jest yn aros i'r recommendations ddod i fy mlwch e-bost i. Dwi'n disgwyl hynny yn ystod y dyddiau nesaf, ac felly bydd hynny wedyn, gobeithio, yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa i gael bwrdd cyflawn.

Rwy'n credu ei bod yn werth nodi bod llawer o benodiadau newydd iawn wedi bod ar gyfer swyddi allweddol. Mae gennym ni brif weithredwr newydd, wrth gwrs, ond mae cyfarwyddwr cyllid dros dro newydd hefyd, cyfarwyddwr gweithredol dros dro newydd, pennaeth staff dros dro newydd, cyfarwyddwr gweithredol dros dro newydd ar gyfer iechyd y cyhoedd. Mae newidiadau wedi bod i swyddogaeth ysgrifennydd y bwrdd, a bydd cyfarwyddwr llywodraethu corfforaethol newydd yn dechrau ym mis Ebrill. Mae'n swnio fel bod llawer o'r rheini yn rhai dros dro, ond mae hwn yn gam cyntaf angenrheidiol. Mae angen i ni sefydlogi'r llong, cael pobl yn eu lle. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni fynd trwy broses ffurfiol i sicrhau nawr bod y penodiadau dros dro hynny'n mynd drwy'r broses gywir.

O ran beth yw'r amodau dad-ddwysáu, rydym ni wedi nodi'r amodau cynaliadwyedd, a chyfeiriwyd at hynny yn y datganiad llafar a wnes i yn flaenorol. Mae'r rhain yn cynnwys pethau fel nodi gweledigaeth strategol, perfformiad ac ansawdd integredig, newid diwylliant, strwythurau a chyflawni, bwrdd effeithiol a gweithredol, sefydliad ymatebol, sefydliad sy'n dysgu a gwella, arweinyddiaeth ac ymgysylltu cryfach, rheoli rhaglenni, arweinyddiaeth glinigol, gwasanaethau clinigol cryfach, gwell mynediad, canlyniadau a phrofiad. 

Yr hyn fydd yn digwydd nawr yw fy mod i'n mynd i ategu'r amodau cynaliadwyedd hynny gydag amodau dad-ddwysáu clir yn ystod y misoedd nesaf, ond rydw i eisiau gwneud hynny gyda'r bwrdd fel ein bod ni i gyd yn gytûn ar yr hyn y mae'n angenrheidiol i'w wneud. Ac yna, wrth gwrs, byddwn ni'n mynd i'r dull arferol, sef y dull teirochrog. Bydd AGIC, Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru yn gwneud argymhellion, a byddaf i'n penderfynu pryd yw'r amser cywir i bobl ddod allan. Diolch.  

16:05

Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n flwyddyn ers i'r bwrdd iechyd ddychwelyd i fesurau arbennig, ac yn ddealladwy mae trigolion yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac yn y gogledd, yn dymuno gweld y newid ar lawr gwlad. Pa mor bwysig bynnag yw'r newidiadau ar y brig, ar lefel bwrdd—ac maen nhw'n hanfodol bwysig, fel rydych chi wedi disgrifio—maen nhw'n golygu llai iddyn nhw na pha mor hawdd yw hi i gael apwyntiad meddyg teulu, pa mor hawdd yw hi i gael apwyntiad deintyddol, neu pa mor hir maen nhw a'u hanwyliaid yn aros ar y rhestr am driniaeth. Felly, gyda hynny mewn golwg, beth yw'r wybodaeth ddiweddaraf allwch chi ei rhoi i'r Siambr o ran y cynnydd ar y materion hynny, y materion ar lawr gwlad? A hefyd, a allwch chi ein sicrhau ni eto heddiw bod blaenoriaethau fy etholwyr a minnau yn parhau i fod yn flaenoriaethau i chi a Llywodraeth Cymru? Diolch.

Diolch yn fawr. Rwy'n credu eich bod chi'n hollol gywir—mae'n ddigon gwir fod angen i ni newid y diwylliant ar y brig, mae angen i ni newid y sefydliad, ond beth, mewn gwirionedd, sy'n bwysig i'r cyhoedd? Yr hyn maen nhw eisiau yw mynediad ar amser i wasanaeth sydd ei angen arnynt. Dyna pam rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, o ran meddygfeydd teulu, nid yn unig yn Betsi ond ledled Cymru, mai'r hyn sydd gennym erbyn hyn yw dull newydd o gael mynediad at feddygon teulu—a gadewch i ni beidio ag anghofio bod 90 y cant o bobl yn defnyddio'r GIG trwy ofal sylfaenol a meddygon teulu.

Roedd 91 y cant o feddygfeydd yn y gogledd yn cyflawni 100 y cant o safonau mynediad erbyn 31 Mawrth y llynedd, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gellir ei ganmol. Felly, mae pethau'n gwella. Efallai eich bod wedi sylwi—yn sicr rwyf i wedi sylwi yn fy mag post—bod nifer y cwynion yn gysylltiedig â mynediad at feddygon teulu wedi gostwng yn sylweddol. Mae yna ffordd i fynd o hyd. Mae angen i wyth y cant o feddygfeydd, hyd yn oed yn y gogledd, gydymffurfio â hynny o hyd. Rydym yn ategu buddsoddiad mewn seilwaith digidol ac mae yna fuddsoddiad ychwanegol mewn adnoddau staff ledled Cymru gyfan. Felly, rwy'n gobeithio bod y dagfa honno am 8 y bore wedi mynd.

O ran recriwtio, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar recriwtio meddygon teulu i'r meddygfeydd hynny. Rwy'n falch iawn bod ymgyrch recriwtio yn golygu bod Wrecsam a Sir y Fflint wedi gweld nifer o swyddi'n cael eu cynnig i bum meddyg teulu arweiniol clinigol a 18 meddyg teulu cyflogedig yn ddiweddar. Felly, mae pethau'n gwella yn y fan yna, ac rwy'n meddwl bod hynny'n annog mwy i ddod i Wrecsam a Sir y Fflint. Rwy'n credu y bydd cyflwyno meddygon teulu parhaol ar gyflogau yn darparu'r parhad gofal pwysig hwnnw y mae eich etholwyr yn awyddus i'w weld. 

Rwyf am gofnodi fy mod yn cefnogi pob un gair y mae fy nghyd-Aelod Darren Millar wedi'i ddweud heddiw. Fel Aelodau o'r gogledd, ac i mi fel yr Aelod dros Aberconwy, nid yn unig yr ydym ni'n darllen yr adroddiadau negyddol iawn sydd wedi dod o bethau brawychus; roedd yn rhaid i mi godi'r mater, dim ond yr wythnos o'r blaen am offer sugno budr, a hynny mewn adroddiad o ymhell dros flwyddyn yn ôl. Wrth gwrs, erbyn hyn mae wedi mynd yn ôl i fesurau arbennig. Roedden ni i gyd yn sicr iawn o'r farn, 'A fydd unrhyw beth yn newid?'; mae'n rhaid i mi fod yn onest, rwyf wedi gweld gwahaniaeth o ran ymgysylltu, ond mae ychydig yn rhy ychydig, mewn gwirionedd.

Rwyf am gofnodi fy niolch i'r cadeirydd newydd sydd wedi ei benodi—yn hytrach na dros dro, ef yw'r cadeirydd erbyn hyn—Dyfed Edwards, oherwydd mae wedi bod yn gwbl ardderchog. Pan fyddwn yn cael sefyllfa frys nad ydym yn cael unrhyw ymateb ganddo, mae'n ymateb ac mae'n gweithredu, ac rydym yn cael canlyniadau. Ond ni ddylai fod yn rôl y cadeirydd i orfod gwneud hyn yn awtomatig. Dylai fod mecanwaith sy'n gweithio o fewn y bwrdd.

Mae gen i gleifion nawr sydd wedi bod yn aros am bedair blynedd am lawdriniaeth orthopedig. Dywedodd y prif weithredwr wrtha'i ei hun chwe wythnos yn ôl y byddai achosion AS1 ac AS2 nad ydynt yn rhai cymhleth—pobl nad oes ganddynt broblemau eraill, sydd ond angen y llawdriniaeth orthopedig—yn cael eu trin yn gyflym iawn erbyn hyn yn Abergele, ond nid wyf wedi gweld unrhyw welliant i nifer y cleifion sydd gennyf yn aros.

Felly, os gallech chi wneud sylwadau ar hynny. Ond hoffwn i gofnodi fy niolch i Dyfed Edwards. Diolch.

Diolch yn fawr. Hoffwn i gofnodi fy niolch i Dyfed Edwards hefyd. Rwy'n credu ei fod wedi dangos arweinyddiaeth go iawn yn yr hyn sy'n sefyllfa anodd iawn. Mae e wedi ei gwneud yn glir ei fod yno i wrando ac mae'n ymgysylltu â chymunedau, ac mae gwahaniaeth go iawn, rwy'n credu, yn y ffordd y mae'n cyfathrebu â'r cyhoedd. Felly, hoffwn i ychwanegu fy niolch i Dyfed Edwards, a gweddill y bwrdd hefyd. Rwy'n cyfarfod â Dyfed yn rheolaidd—rwy'n cael cyfarfodydd misol ag ef; fe ges i'r un diweddara' y bore 'ma—dim ond i fonitro cynnydd, i wneud yn siŵr a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu. Oherwydd mae'n rhaid iddo gymryd cyfrifoldeb, mae'n dal i fod wrth y llyw, ond rydw i yno i sefyll wrth ei ochr, os oes angen hynny arno.

Y peth arall, dim ond mewn cysylltiad ag orthopaedeg—rwy'n gwybod eich bod yn falch iawn o weld y datblygiad hwnnw yn Llandudno—yw bod arosiadau orthopedig yn lleihau. Rydym wedi gweld gwelliant yn yr arosiadau dros 36 wythnos, dros 52 wythnos, dros 104 wythnos a dros 156 wythnos, ac ers mis Chwefror, rydym wedi gweld gostyngiad o 15 y cant yn nifer y cleifion allanol sy'n aros dros 52 wythnos am apwyntiad cyntaf. Felly, mae pethau'n gwella. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod hynny, oherwydd mae pobl yn gweithio'n galed iawn, maen nhw'n ceisio troi'r llong hon o gwmpas, ac mae'n bwysig iawn rhoi canmoliaeth pan fo hynny'n briodol.

16:10

Diolch yn fawr, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Gweinidog, fe wnaethoch chi nodi, yn eich datganiad, yr adroddiad gan Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethoch chi gyfeirio ato mewn ymatebion heddiw hefyd. Roedd yn sobreiddiol i'w ddarllen ac mae'n dangos bod llawer i'w wneud o hyd. Er bod yna lefel o welliant, mae yna lawer iawn mwy i'w wneud i roi'r gwasanaeth iechyd y maen nhw'n ei haeddu i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn y gogledd.

Mae'r adroddiad yn sôn am heriau sylfaenol sy'n dal i wynebu'r bwrdd iechyd, ac fe wnaethoch chi gyfeirio at rai o'r rhain yn eich ymateb i Mabon ap Gwynfor eiliad yn ôl. Mae cyfeiriadau at benodiadau parhaol, yr angen am fwrdd cydlynol ac unedig, yr angen i ymdrin â materion personél. Mae hyn, i mi, yn tynnu sylw at faterion sylweddol o fewn y strwythur rheoli nad ydynt wedi'u datrys yn llawn o hyd. Rwy'n derbyn, mae'n cymryd amser, ond mae blwyddyn wedi mynd heibio.

Ymhlith hyn i gyd, yn y darlun ehangach o bethau, mae yna bobl go iawn—cleifion, gweithlu dan bwysau, trigolion yr wyf i wedi fy ethol i'w cynrychioli. Maen nhw wedi bod yn aros am amser hir i'r materion hyn gael eu datrys—nid dim ond y flwyddyn ddiwethaf, ond am flynyddoedd a blynyddoedd cyn hynny. Felly, tybed, Gweinidog, a oes gennych chi ddyddiad mewn golwg o ran pryd rydych chi'n disgwyl bod yn fodlon fod gan fy nhrigolion y lefel gywir o fynediad at ofal iechyd yn fy rhanbarth i?

Diolch yn fawr. Rwy'n credu eich bod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith fod adroddiad Archwilio Cymru yn cydnabod bod heriau o hyd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod hefyd yn cydnabod bod newid sylweddol wedi'i wneud a bod y bwrdd mewn sefyllfa sy'n llawer mwy sefydlog. Daethon nhw i'r casgliad nad yw'r camweithrediad o fewn y bwrdd, a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad blaenorol, bellach yn amlwg, a bod perthnasoedd gwaith ymhlith uwch arweinwyr yn llawer mwy cadarnhaol. Nid yw wedi gwneud unrhyw argymhellion newydd i'r bwrdd iechyd, gan ei fod yn teimlo bod y camau gweithredu sydd eu hangen o hyd eisoes wedi'u cynnwys yn y cynlluniau gwella cyffredinol y mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi'u sefydlu. 

Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi hefyd bod y mwyafrif helaeth o bobl yn y gogledd yn cael gwasanaeth da iawn, a rhaid i ni beidio â cholli golwg ar hynny. Rwyf newydd ddyfynnu i chi yr ystadegau o ran mynediad at feddygon teulu. Mae'r rhain yn ystadegau syfrdanol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, oherwydd mae 90 y cant o bobl yn cael mynediad i'r GIG trwy'r cysylltiadau cychwynnol hynny â meddygon teulu a gofal sylfaenol. Dydw i ddim yn dweud bod popeth yn berffaith—mae'n bell o fod yn berffaith. Mae ffordd bell i fynd. Mae angen enfawr i gynyddu'r gwelliant hwnnw mewn perfformiad, o ran ansawdd a diogelwch, a dyna'r pethau yr wyf wedi gofyn iddyn nhw ganolbwyntio arnyn nhw mewn gwirionedd.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, 12 mis ers i chi roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ôl i fesurau arbennig, ac, yn wir, y newidiadau i strwythur a phersonél y bwrdd.

Fe wnaethoch chi grybwyll yn gryno yn eich datganiad amodau cynaliadwyedd y bydd angen i'r bwrdd iechyd eu bodloni er mwyn cyflawni dad-ddwysáu i lefel 4, na allaf ond tybio ei fod yn symudiad i ffwrdd o fesurau arbennig os gwneir gwelliannau yn y dyfodol. Felly, a allwch chi ddisgrifio, Gweinidog, y meini prawf penodol a chymhwysol y bydd yn rhaid i Betsi Cadwaladr eu harddangos a'u bodloni er mwyn gadael mesurau arbennig yn y pen draw mewn ffordd sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac er budd gorau cleifion a'r 20,000 o bobl y mae'r bwrdd iechyd yn eu cyflogi ledled y gogledd? Ac rwy'n deall, yn amlwg, y cymhlethdodau a'r problemau logistaidd wrth ddod allan o fesurau arbennig, ond heb os nac oni bai dyna yw'r nod a'r uchelgais trosfwaol yma? Mae angen i ni weld amserlen o ddigwyddiadau oherwydd rydyn ni wedi cael digon o'r sgandal a'r argyfyngau parhaus. Mae'n bryd gweithredu, cyflawni a sicrhau canlyniadau diriaethol, ac fel y dywedwch chi yn eich datganiad, Gweinidog, dyna beth mae pobl y gogledd yn ei haeddu.

16:15

Diolch yn fawr. Wel, rwy'n credu fy mod wedi ymdrin â rhywfaint o'r ateb hwnnw mewn ymateb i Mabon, sef rhestru'r amodau cynaliadwyedd yr wyf eisoes wedi'u nodi: gweledigaeth strategol, perfformiad ac ansawdd a newid diwylliant. Felly, roedd rhestr hir y darllenais yn gynharach. Ond yr hyn rwyf hefyd wedi'i ddweud yw fy mod i'n mynd i fod yn ategu'r amod cynaliadwyedd hwnnw gydag amod dad-ddwysáu clir y byddaf yn cytuno arno gyda'r bwrdd iechyd yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Felly, mae hynny'n dod. Nid ydym ni'n barod ar ei gyfer eto, a'r hyn nad wyf yn mynd i'w wneud yw rhoi unrhyw ddyddiad ar hap i chi ar gyfer pryd y bydd y bwrdd yn dod allan o fesurau arbennig. Nid dyna'r dull yr ydym ni'n ei gymryd. Byddan nhw'n dod allan o fesurau arbennig pan fyddan nhw'n barod i ddod allan o fesurau arbennig, nid cyn hynny.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Strategaethau Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol ac Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed

Eitem 5 yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: y strategaethau iechyd meddwl a llesiant meddyliol ac atal hunanladdiad a hunan-niwed. A galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle. 

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n falch iawn o lansio'r strategaeth iechyd meddwl a llesiant, a'n strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio newydd ar gyfer ymgynghori. Nod y strategaethau yw ategu 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a 'Beth am Siarad â Fi 2'. Mae'r strategaethau blaenorol wedi bod yn gatalydd ar gyfer dull trawslywodraethol ac amlasiantaethol o ymdrin ag iechyd meddwl a hunanladdiad ac atal hunan-niweidio. Mae'r dogfennau ymgynghori a gyhoeddwyd heddiw yn nodi ein hymrwymiad i ddatblygu hyn ymhellach, gyda phartneriaid, fel rhan o ddull system gyfan o ddiogelu, gwella a darparu cefnogaeth i iechyd meddwl, a lleihau hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru.

Mae'r strategaethau o ganlyniad i ymgysylltu sylweddol. Mae gwrando ar bobl sydd wedi eu heffeithio gan y materion ym mhob strategaeth wedi bod yn hanfodol. Roedd yr arolwg cyn ymgynghori ei hun yn cynnwys dros 250 o ymatebion. Rydym wedi gweithio gyda chyfres o grwpiau cyfeirio gan gynnwys ein bwrdd partneriaeth iechyd meddwl cenedlaethol, Cynghrair Cymru dros Iechyd Meddwl, ein grŵp gorchwyl a gorffen iechyd meddwl lleiafrifoedd ethnig, ein fforwm defnyddwyr gwasanaeth cenedlaethol a gofalwyr a'n grŵp drafftio atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r grŵp rhanddeiliaid ieuenctid a Senedd Ieuenctid Cymru, ac mae'r adroddiad 'Young Minds Matter' wedi helpu i lunio'r strategaethau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses hon hyd yn hyn. Mae wedi bod yn ddull partneriaeth a chyd-gynhyrchu gwirioneddol.

Yn bwysig, mae'r dogfennau ymgynghori yn canolbwyntio'n glir ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad a chanlyniadau. Roedd ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru, 'Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru' yn ymdrin â'r mater hwn yn fanwl, gan dynnu sylw at y rhai yn y boblogaeth sydd â'r risg fwyaf o anghydraddoldeb iechyd meddwl a sut mae gwahanol grwpiau a chymunedau yn profi'r anghydraddoldeb hwn, a gwnaeth nifer o argymhellion sydd wedi llywio datblygiad y strategaethau. 

Mae'r ddwy strategaeth yn cydnabod rôl hanfodol portffolios gweinidogol eraill i fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl ac i atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda swyddogion ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod meysydd gwaith allweddol yn cael eu hadlewyrchu yn y strategaethau newydd.

Mae'r strategaeth iechyd meddwl a llesiant yn strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i adlewyrchu cyfrifoldebau'r ddau i ddarparu cymorth iechyd meddwl. Rwyf hefyd wedi ymgynnull bwrdd gweinidogol newydd ar y cyd i oruchwylio'r strategaethau, ac mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i fod yn is-gadeirydd. Bydd y bwrdd hwn yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos hon.

Thema allweddol yn ein hymgysylltiad hyd yma yw peidio â meddygoli iechyd meddwl. Mae iechyd meddwl wedi dod yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio ystod eang o amgylchiadau. Rydym am weld newid yn y ffordd yr ydym yn sôn am faterion iechyd meddwl ac yn eu cefnogi i adlewyrchu anghenion unigolion yn well. Mae'r angen cymorth ar y rhan fwyaf o bobl y gallem ni eu diffinio fel rhai sydd â phroblem iechyd meddwl, ond nid oes angen gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol arnynt. I'r rhai y mae angen gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol arnynt, rydym hefyd wedi bod yn glir ynghylch sut rydym yn bwriadu cryfhau'r rhain ymhellach. Mae'r strategaethau'n gam cyntaf i weithio gyda rhanddeiliaid i ailosod yr iaith ynghylch iechyd meddwl a llesiant.

Mae'r ddwy strategaeth ar wahân ond yn rhyng-gysylltiedig. Mae'r dull hwn yn cydnabod nad yw hunanladdiad a hunan-niweidio yn gyflyrau iechyd meddwl y gellir rhoi diagnosis ar eu cyfer ac nad yw llawer o bobl sy'n marw trwy hunanladdiad yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl. Mae yna gamsyniad cyffredinol hefyd bod gan bobl sy'n marw trwy hunanladdiad salwch meddwl, ac mae'n hanfodol ein bod yn herio'r canfyddiad hwn i gael gwared ar y stigma a chefnogi pobl sydd ei angen.

Mae'r ddwy strategaeth ddrafft wedi'u datblygu o amgylch dwy weledigaeth lefel uchel. Nod y strategaeth iechyd meddwl a llesiant yw i bobl yng Nghymru fyw mewn cymunedau sy'n eu hyrwyddo, eu cefnogi ac yn eu grymuso i wella eu hiechyd meddwl a'u lles, a bod yn rhydd rhag stigma a gwahaniaethu. Byddwn yn arddel ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau i sicrhau bod gan bawb yr iechyd meddwl gorau posibl.

Bydd system gysylltiedig o gymorth ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector ac ehangach, lle gall pobl gael mynediad at y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Bydd gofal a chymorth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn dosturiol ac yn canolbwyntio ar adferiad, gyda phwyslais ar wella ansawdd, diogelwch a mynediad. Bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu gan weithlu sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac sydd â'r capasiti, y cymhwysedd a'r hyder i ddiwallu anghenion pobl.

Nod ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio yw i bobl yng Nghymru fyw mewn cymunedau sy'n rhydd o'r ofn a'r stigma sy'n gysylltiedig â hunanladdiad a hunan-niweidio, ac sy'n cael eu grymuso a'u cefnogi i geisio a chynnig cymorth pan fo angen.

Mae'r holl fodelu sydd ar gael yn awgrymu y bydd gofynion iechyd meddwl yn parhau i gynyddu. Heb gefnogaeth barhaus ar draws y Llywodraeth ac amlasiantaeth, fel y nodir yn y strategaethau hyn, mae'r GIG yn debygol o gael ei lethu. Rydym wedi buddsoddi i sicrhau bod cefnogaeth newydd ac ymroddedig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, ac ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio, yng ngweithrediaeth y GIG. Bydd yr adnodd hwn yn hanfodol i ddarparu'r ysgogiad canolog a'r gefnogaeth i wella ansawdd, diogelwch a hygyrchedd gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu gwasanaethau, gan ategu trawsnewid gwasanaethau yn ddiweddar drwy weithredu '111 pwyso 2' ar gyfer iechyd meddwl.

Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y pwysau ariannol digynsail yr ydym yn ei wynebu, a nod y strategaethau yw rhoi cyfeiriad i wasanaethau a phartneriaid i sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu ar sail gwerth, yn hytrach na nodi rhestr o ymrwymiadau cyllido newydd. Ar y sail ein bod yn disgwyl ymgysylltiad sylweddol gan grwpiau tebyg o randdeiliaid, rydym yn cynnig cyfnod ymgynghori o 16 wythnos. Mae hyn yn rhoi cyfle arall i archwilio'r materion y mae pobl yn eu hwynebu yng Nghymru ymhellach, sy'n arwain at iechyd meddwl a llesiant gwael, hunan-niweidio ac, yn yr achosion mwyaf trasig, hunanladdiad. Bydd hyn yn ein helpu i gryfhau ein hymateb trawslywodraethol i'r materion y mae pobl yn eu profi i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant da a sicrhau bod cymorth amserol ar gael i bobl.

Rydym wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn mor hygyrch â phosibl. Mae'r ymgynghoriad ar gael yn llawn ar ein gwefan ochr yn ochr â fersiynau hawdd eu darllen, ac rydym wedi datblygu adnoddau penodol i gefnogi plant a phobl ifanc. Rydym hefyd wedi creu pecynnau ymgysylltu i gefnogi'r rhai sy'n gweithio gyda grwpiau agored i niwed neu bobl â phrofiad bywyd i'w helpu i ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd gan bob un ohonom ddiddordeb yn y maes hwn ac rwy'n annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad. Diolch.

16:25

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad heddiw a'r copi ymlaen llaw o'r hyn rydych newydd ei ddweud.

Mae lleihau cyfraddau hunanladdiad a hunan-niweidio yn ein cymdeithas yn hanfodol. Mae hunanladdiad a hunan-niweidio, yn enwedig hunanladdiad, yn gadael gormod o lawer o deuluoedd a phobl ac anwyliaid ledled Cymru â thwll na ellir byth ei lenwi. A hefyd, mae lleihau hunan-niweidio yn bwysig iawn oherwydd nid ydym am weld effeithiau hirdymor hynny ar bobl, a hefyd, mae pobl yn colli eu bywydau pan fyddan nhw'n hunan-niweidio, hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ddatrys.

Mae'n dda clywed, Dirprwy Weinidog, am y sefydliadau yr ydych chi wedi gweithio gyda nhw, yn enwedig y Senedd Ieuenctid. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn ein bod yn cael barn pobl ifanc pan fyddwn yn creu'r strategaethau hyn, oherwydd mae llawer o bobl ifanc yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael eu cefnogaeth a'u bod yn cyfrannu at y strategaethau hyn. Yn y datganiad, fe wnaethoch chi sôn am gyd-ddylunio a gweithio trawslywodraethol, ac rwy'n gwybod bod hynny'n flaenoriaeth i chi. Mae'r strategaethau hyn, ar draws y Llywodraeth, yn fusnes i bawb, ond mae gen i ddiddordeb mewn sut mae'r strwythurau hyn yn mynd i weithio. Pan fyddwn ni'n cael adborth a mewnbwn yn ôl o'r strategaethau, sut fyddan nhw'n cael eu monitro a pha fecanweithiau rydych chi'n eu rhoi ar waith fel y gellir diweddaru'r Senedd mewn gwirionedd, trwy strwythur y pwyllgor a'r Siambr, i sicrhau bod y strategaethau hyn yn cyflawni'r hyn y maen nhw i fod i'w wneud?

Un o'r grwpiau sydd wir yn fy mhoeni i, ac mae'n cael ei grybwyll, yw dynion ifanc a dynion canol oed. Rydym yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o gymryd eu bywydau eu hunain a byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod pa waith rydych chi'n ei wneud ynghylch y grŵp penodol hwnnw i gael eu hadborth i'r ymgynghoriadau hyn. Oherwydd, mae'n anodd iawn i ddynion ddod ymlaen i siarad am eu profiadau iechyd meddwl, felly rwy'n credu y byddai'n ddiddorol a byddai llawer o bobl yn hoffi gwybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud ynglŷn â hynny. 

Er mwyn i lawer o'r strategaethau hyn weithio, bydd angen cefnogaeth a chyfrifoldeb ar y cyd y byrddau iechyd hefyd. Felly, un peth yr hoffwn ei wybod gennych chi, Dirprwy Weinidog, yw pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'n byrddau iechyd a'r byrddau o amgylch y strategaethau hyn a beth fu eu hymateb a sut maen nhw'n mynd i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn hefyd. Oherwydd fel y gwnaethoch chi sôn ynghylch pwysau ariannol, mae pawb dan bwysau ariannol ar hyn o bryd, felly byddai'n ddiddorol gweld sut y gallan nhw wneud i'r rhain weithio'n ymarferol.

Amcan lefel uwch Rhif 4 oedd cynyddu sgiliau, ymwybyddiaeth a gwybodaeth am hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae'n datgan yno y bydd yn cael ei wneud trwy hyfforddiant ac ymwybyddiaeth, ond rydym ni i gyd yn gwybod, yn anecdotaidd ac o feysydd eraill, pan fydd meddygon a nyrsys yn mynd trwy hyfforddiant mewn arfer cyffredinol, mewn gwirionedd, bod yr elfen iechyd meddwl yn rhan eithaf bach o'u hyfforddiant. Felly, byddai'n ddiddorol gwybod pa sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog addysg a'r Gweinidog iechyd cyffredinol ynghylch hyn a sut y gallwn ni ymgorffori iechyd meddwl yn fwy i'n hyfforddiant fel bod pobl yn fwy ymwybodol ohono.

Mae amcan lefel uwch 6 yn sôn am y cyfryngau ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi am yr iaith a ddefnyddiwn pan fyddwn yn siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio; rhaid gwneud hyn mewn ffordd briodol. Fel y gwyddom i gyd, mae'r cyfryngau yn dal i fod yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, felly mae'n debyg y bu'n rhaid i chi gael sgyrsiau trawslywodraethol ynghylch sut mae'r cyfryngau'n cael eu rheoli a sut mae'r trafodaethau hynny'n cael eu cynnal. Felly, byddai'n ddiddorol gwybod pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU, ond hefyd gyda'r cyfryngau yma yng Nghymru, am sut maen nhw'n trafod iechyd meddwl, sut maen nhw'n siarad am hunanladdiad a sut maen nhw'n siarad am hunan-niweidio.

Fe wnaethoch chi sôn, ar ddechrau eich datganiad, am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac am yr adroddiad 'Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'. Felly, hoffwn ddeall gennych sut y gwnaeth hynny gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn a pha argymhellion a gyflwynwyd ganddyn nhw y byddwch chi'n bwrw ymlaen â nhw fel rhan o'r strategaethau hyn i sicrhau nad yw'r adroddiadau hynny a gawn gan bwyllgorau yn eistedd ar silff. Gall rhai o'r argymhellion y maen nhw'n eu cyflwyno mewn gwirionedd wella bywydau pobl sydd â phrofiad bywyd. Felly, rwy'n credu y byddai hynny'n bwysig iawn hefyd.

Yn olaf, Gweinidog, wrth i'r ymgynghoriad hwn gael ei gyflwyno, fe wnaethoch chi amlinellu y byddwch chi'n ymgysylltu â chymaint o grwpiau â phosibl, ond un peth yr hoffwn i ei wybod mewn gwirionedd yw am y bobl hynny sydd â phrofiad bywyd, oherwydd rwyf i bob amser yn credu, yn yr ymatebion hyn i'r ymgynghoriad, ein bod bob amser yn cael ymatebion gan yr un rhai sy'n ymateb i bopeth gyda'r ymatebion arferol i bron pob ymgynghoriad sy'n cael ei gyflwyno; rydyn ni i gyd wedi eu gweld drwy iechyd—. Rydym yn eu gwerthfawrogi'n fawr, ond rydyn ni, fel arfer, yn cael yr un ymatebion. Ond yn bersonol rwy'n credu mai'r ymatebion profiad bywyd hynny yw'r rhai—. Hyd yn oed yn mynd trwy fy mhroses fy hun nawr, fy Mil hun, yr ydych yn ymwybodol ohono, mae'r bobl hynny sy'n ymateb i chi wir yn achosi ymdeimlad dwys ac mewn gwirionedd, yr hyn yr ydych chi am wrando arno a'i ddeall, a sut y gallwch chi ddatblygu'r rheini yn strategaethau i wneud yn siŵr bod y bobl hynny yn byw bywydau iachach a mwy bodlon—. Felly, rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, gan ei fod yn rhedeg ochr yn ochr ag ymgynghoriad fy Mil fy hun—fe wnai i gynnwys hwnna, ond mae'n debyg nad wyf i fod i, o dan gwestiynau llefarydd, Dirprwy Lywydd, ond byddaf yn ei wneud beth bynnag. Ond hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am eich datganiad ac edrychaf ymlaen at yr ymgynghoriad hwn wrth iddo fwrw ymlaen, a sut y gallwn wella bywydau'r rhai hynny y mae iechyd meddwl yn effeithio arnynt yma yng Nghymru.

16:30

Diolch yn fawr iawn, James, am yr ymateb cadarnhaol iawn hwnnw i'r datganiad, ac a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn, Dirprwy Lywydd, i gofnodi fy niolch i swyddogion Llywodraeth Cymru am eu holl waith ar y ddwy strategaeth hon? Nid yw'n dasg hawdd cyflwyno dwy strategaeth mewn ffordd mor gydgynhyrchiol, wrth wneud yr holl bethau y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud o ddydd i ddydd, ac rwy'n wirioneddol falch ac yn werthfawrogol o'r gwaith y maen nhw wedi'i wneud.

James, fe wnaethoch chi godi llawer o bwyntiau yn y fan yna, a diolch i chi am ddechrau gyda'r strategaeth atal hunanladdiad. Rwy'n awyddus iawn bod honno yn gymaint o ffocws â'n strategaeth iechyd meddwl a llesiant. Maen nhw ar wahân, ond yn rhyng-gysylltiedig. Felly, mae hynny'n bwysig iawn. Rydym wedi ymrwymo i leihau nifer y bobl sy'n marw drwy hunanladdiad. Cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, mae un person sy'n marw drwy hunanladdiad yn un yn ormod. Mae'r cyfraddau wedi bod yn sefydlog i raddau helaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ond rydym am ostwng y cyfraddau hynny ymhellach o lawer, a dyna hanfod y strategaeth newydd hon.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at hunan-niweidio, a dyna pam rydyn ni wedi canolbwyntio ar hunan-niweidio yn y strategaeth, oherwydd rydyn ni'n gwybod bod gan bobl sy'n hunan-niweidio risg llawer yn uwch o fynd ymlaen a chwblhau hunanladdiad. Felly, maen nhw'n grŵp o bobl y mae gwir angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw. Ond rydym wedi arddel ymagwedd fanwl iawn tuag at grwpiau risg uchel yn y strategaeth, felly rydym wedi nodi pa grwpiau sy'n fwy tebygol o hunan-niweidio. Rydyn ni eisiau adeiladu'r sylfaen dystiolaeth ar hunan-niweidio, ac mae hynny'n ddull rydyn ni hefyd wedi'i ddilyn gyda dynion. Rydyn ni wedi arfer dweud bod problem gyda hunanladdiad dynion, ond rydyn ni'n gwybod mai grŵp penodol o ddynion, dynion canol oed, sy'n llawer mwy tebygol o farw drwy hunanladdiad. Felly, mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y strategaeth, a gallaf gadarnhau bod llawer o waith eisoes yn digwydd. Rydyn ni wedi cael gweithdai gyda dynion i wrando arnyn nhw am y materion maen nhw'n eu hwynebu fel y gallwn ni wir gyd-gynhyrchu'r ymateb hwnnw gyda dynion.

Fe wnaethoch chi dynnu sylw at bwysigrwydd bod hon yn strategaeth drawslywodraethol, ac mae hi, yn bendant, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan fy holl gyd-Weinidogion yn y Cabinet. Ond rydych chi'n hollol iawn, unwaith y bydd gennym y strategaethau gorffenedig, mae angen i ni fonitro ac ysgogi'r gweithredu hwnnw. Dyna pam, gyda fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, yr ydym ni wedi sefydlu bwrdd cyflawni a sicrwydd newydd i ysgogi hynny, fel dau Weinidog sy'n cynrychioli iechyd a gofal cymdeithasol, i sicrhau bod gennym ni y mecanwaith lefel uchel hwnnw gan Lywodraeth Cymru i ysgogi'r cyflawniad. Ond yn ogystal â hynny, mae gennym hefyd waith trawslywodraethol gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet. Mae gennym ddau grŵp o swyddogion trawslywodraethol, un yn edrych ar iechyd meddwl a llesiant, a'r llall yn edrych ar atal hunanladdiad. Felly, mae'r gwaith hwnnw wedi'i ymwreiddio drwy'r Llywodraeth mewn gwirionedd, ac mae'n hollol wir y byddwn yn darparu—. Ymrwymais y byddem yn darparu adroddiadau ar gynnydd. Y cynllun yw, pan fyddwn wedi cwblhau'r ymgynghoriad, y byddwn yn cyhoeddi'r strategaethau terfynol, gyda chynlluniau cyflawni yn sail iddynt, ac yna byddwn hefyd yn nodi beth fydd y trefniadau adrodd hynny.

Diolch am eich sylwadau am y byrddau iechyd. Yn amlwg, mae cael cefnogaeth yn hanfodol, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae gweithrediaeth y GIG yn mynd i fod yn cynnal gweithdai penodol gyda'r GIG i gael eu barn ar y strategaethau, felly byddwn yn gallu cymryd eu hadborth yn benodol ar hynny a nodi beth arall y gallwn ni ei wneud yn y maes hwnnw.

Fe sonioch chi, o ran y strategaeth atal hunanladdiad, amcan lefel uchel 4, sef yr un am hyfforddiant. Nawr, rwy'n credu bod atal hunanladdiad yn fusnes i bawb. Rwyf wedi dweud hyn sawl gwaith. Rwyf am ein gweld ni i gyd yn cael ei huwchsgilio o ran cael y sgyrsiau hynny sy'n achub bywydau gyda phobl. Felly, ein dull ni o hyfforddi yw'r math hwnnw o ddull, mewn gwirionedd. Mae gennym wefan newydd gyda phob math o gyfleoedd hyfforddi, ond mae angen i ninnau hefyd, fel y dywedwch chi, ymgorffori hynny yn y GIG, ac mae gennym ein cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol newydd a fydd yn ein helpu gyda hynny, ac yn amlwg rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog iechyd ar hynny.

O ran amcan lefel uchel 6, sydd ar y cyfryngau, mae angen i ni barhau i ganolbwyntio ar y cyfryngau. Rwy'n credu bod gwelliannau wedi bod; mae'r rhan fwyaf o allanfeydd y cyfryngau yn ymwybodol o ganllawiau rhagorol y Samariaid ar adrodd am hunanladdiad, ond nid ydynt i gyd yn ei ddilyn cymaint ag y gallent ei wneud, a byddwn yn parhau â'r ddeialog honno gyda'r cyfryngau yng Nghymru a gyda Llywodraeth y DU hefyd. Ond yr hyn fyddwn i'n ei ddweud yw nad yw'n ymwneud â'r cyfryngau yn unig; mae'n ymwneud â'r iaith rydyn ni i gyd yn ei defnyddio pan fyddwn ni'n siarad am hunanladdiad, a byddwn i'n cyfeirio Aelodau eto at ganllawiau'r Samariaid a gyhoeddwyd ganddynt ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn yr hydref, sy'n ein hannog ni i gyd i ddefnyddio iaith gyfrifol pan fyddwn ni'n siarad am hunanladdiad, oherwydd gallai pobl fregus fod yn gwrando arnom a gallai ddylanwadu ar eu hymddygiad.

O ran adroddiad y pwyllgor 'Cysylltu'r dotiau', yn amlwg roedd hwnnw'n ddarn allweddol iawn, mawr o waith; roedd yn canolbwyntio'n sylweddol ar anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl, ac rwy'n credu, os edrychwch chi ar y strategaeth, y gallwch weld ein bod wedi edrych ar hynny'n fanwl iawn. Rydyn ni wedi cymryd egwyddorion Marmot fel ffordd o fframio'r camau rydyn ni'n eu cymryd ar hynny. Y mathau eraill o feysydd yr ydym wedi'u codi o'u hadroddiad yw'r angen i ganolbwyntio mwy ar salwch meddwl difrifol, oherwydd mae hynny wedi tueddu i fod yn faes lle nad yw hynny wedi diwgydd, efallai; plant a phobl ifanc—maes blaenoriaeth allweddol i ni. Ond rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor, wrth edrych ar y ddogfen ymgynghori, yn gweld bod y gwaith a wnaethant wedi llywio ein hymgynghoriadau.

16:35

Diolch am y datganiad gan y Dirprwy Weinidog. Rwy'n hoffi llawer o'r hyn rwy'n ei glywed. Mae tirwedd gofal iechyd meddwl wedi esblygu'n sylweddol ers cyhoeddi'r strategaeth wreiddiol 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn ôl yn 2012. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld newid hir-ddisgwyliedig mewn agweddau cymdeithasol tuag at iechyd meddwl. Mae stigmas cymdeithasol niweidiol yn cael eu datgymalu'n gynyddol, ac mae'n amlwg bod y sgwrs gyhoeddus ar iechyd meddwl yn fwy parod i dderbyn y sensitifrwydd cysylltiedig. Ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Y llynedd, galwodd Plaid Cymru ar y Llywodraeth i gynnwys pwyslais penodol ar y cyfnod amenedigol yn y strategaeth sydd ar ddod a hoffwn ailadrodd yr alwad hon heddiw. Mae cymaint ag un o bob pedair menyw yn profi problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu yn y flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth eu babi. Mae hyn yn cyfateb i tua 9,000 o famau newydd yng Nghymru bob blwyddyn. Mae tua un o bob 10 partner hefyd yn profi problem iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn ac mae'r gymhareb hon yn sylweddol uwch ar gyfer partneriaid menywod sydd â phroblemau iechyd meddwl eu hunain.

Mae 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn yn allweddol wrth lunio ei les gydol oes. Mae methiant i nodi ac ymateb i faterion iechyd meddwl amenedigol cyn gynted ag y maent yn amlygu eu hunain yn parhau ac yn ymwreiddio problemau iechyd meddwl, yn ogystal â materion corfforol cysylltiedig, trwy gydol bywyd diweddarach i rieni a phlant fel ei gilydd. Os ydym am ddatblygu strategaeth iechyd meddwl wirioneddol gyfannol ac ataliol felly, rhaid iddi fod yn effeithiol ar ddechrau bywyd. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu sicrhau bod pob un o'r saith gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn bodloni yn llawn safonau math 1 cenedlaethol y College Centre for Quality Improvement, yn ogystal â chynyddu llwybrau hyfforddi a datblygu sylweddol ar iechyd meddwl babanod ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae hyn yn fy arwain at fy mhwynt nesaf, sef yr angen i fynd i'r afael â'r rhwystrau penodol y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu o ran cael gafael ar gymorth iechyd meddwl. Pobl ifanc gafodd y dirywiad cyfartalog mwyaf yn eu lles meddyliol o ganlyniad i'r pandemig. Ac eto mae'r amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn anghymesur yn hirach i blant Cymru o'i gymharu ag oedolion. Byddwn yn ddiolchgar iawn, felly, pe gallai'r Dirprwy Weinidog esbonio sut y gall y strategaeth newydd hon gael y Llywodraeth yn ôl ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged o ddarparu o leiaf 80 y cant o blant a phobl ifanc ag atgyfeiriadau iechyd meddwl o fewn 28 diwrnod, nad yw wedi'i fodloni ers peth amser. Mae hyn wrth gwrs yn ymwneud â mater ehangach o anghydraddoldebau wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl, lle mae rhyw, oedran, ethnigrwydd, incwm cartref a lleoliad daearyddol yn aml yn pennu ansawdd gofal. Er enghraifft, roedd menywod yng Nghymru yn arddangos lefelau gwaeth o iechyd meddwl ar ôl dechrau'r pandemig, gan arwain at ehangu'r bwlch mewn lles yr adroddwyd amdano rhwng dynion a menywod. Ar y sail hon, rwy'n pryderu ynghylch goblygiadau'r bwriad i ailflaenoriaethu £15 miliwn o'r gyllideb iechyd meddwl, y mae'r Llywodraeth wedi bod yn barod i gydnabod y bydd yn arwain at fentrau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol yn cael eu cyflawni'n fwy graddol. A wnaiff y Dirprwy Weinidog felly roi rhagor o fanylion am beth fydd hyn yn ei olygu i amserlenni a thargedau perthnasol?

Yn olaf, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn bwriadu parhau â strategaeth ar wahân ar gyfer yr agenda atal hunanladdiad a hunan-niweidio, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r rhesymeg dros wneud hynny. Mae'n drasiedi ac yn arwydd damniol o sut mae ein cymdeithas yn methu'r rhai mwyaf bregus mai hunanladdiad yw prif achos marwolaeth i ddynion dan 50—mae fy nheulu fy hun a gormod o rai eraill yma heddiw yn parhau i alaru a dioddef oherwydd hyn—tra, yma yng Nghymru, mae cyfraddau hunanladdiad ar gyfer dynion a menywod yn parhau i fod yn uchel ac ymhell uwchlaw'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Lloegr.

Un o argymhellion allweddol adroddiad ORS ar ddatblygu'r strategaethau olynol i 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a 'Beth am Siarad â Fi 2?' oedd yr angen i wella dulliau o gasglu data i ddangos llwyddiant neu fel arall, ond problem dro ar ôl tro yng nghyd-destun atal hunanladdiad yw'r ffaith bod oedi cofrestru canolrif ar gyfer adroddiadau crwneriaid ar hunanladdiadau yn sylweddol hirach yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, sydd, yn anochel, yn peryglu gwerth ystadegau cyhoeddedig. Felly, a allai'r Dirprwy Weinidog gadarnhau y bydd y mater penodol hwn yn cael ei ystyried fel rhan o waith y Llywodraeth? Diolch yn fawr iawn.

16:40

Diolch yn fawr iawn, Mabon, am eich sylwadau a'ch ymateb cadarnhaol i'r datganiad, gan dynnu sylw at faterion pwysig iawn. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ar bethau fel stigma, nad ydym wedi ei ddatrys eto, mae gennym fwy o waith y mae angen i ni ei wneud, a dyna pam mae stigma yn gymaint o ran allweddol yn y strategaeth newydd.

Fe wnaethoch chi sôn am iechyd meddwl amenedigol ac iechyd meddwl babanod, ac mae'r ddau ohonyn nhw'n hynod bwysig i mi. Rwy'n angerddol am egwyddorion ymlyniad. Rwyf wedi dweud droeon, os oes bwled arian mewn iechyd meddwl, rwy'n credu mai blynyddoedd cynnar yw hwnnw. Mae'r 1,000 diwrnod cyntaf hwnnw yn gyfle gwych iawn i roi'r dechrau hwnnw i blentyn am weddill ei oes, gan ddysgu am y perthnasoedd diogel hynny. Bydd iechyd meddwl amenedigol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ond rydym wedi tynnu sylw yn benodol at y strategaeth ein bod am ddatblygu cefnogaeth lefel is. Oherwydd, rydyn ni wedi gwneud cynnydd da, mae gennym dimau iechyd meddwl amenedigol ym mhob rhan o Gymru, mae gennym ni'r uned mamau a babanod yn Ysbyty Tonna, mae gennym ni'r un sydd ar y ffordd yn y gogledd, ond yr hyn rwy'n teimlo bod angen i ni wneud mwy arno yw'r gefnogaeth lefel is honno: menywod nad ydynt yn cyrraedd y trothwy clinigol, a thadau hefyd. Es i i gwrdd â grŵp yn etholaeth James Evans, Mums Matter, lle'r oedd y trydydd sector yn cyflwyno rhaglen, i ddod â mamau at ei gilydd, mewn gwirionedd, i siarad am y problemau sydd gan lawer ohonom pan fyddwn ni'n dod yn famau, ac roedd yn anhygoel. Nid oedd yn glinigol. Ac roedd gen i ferched yno yn dweud wrthyf i, 'Mae'r rhaglen hon wedi achub fy mywyd.' Ac rwyf eisiau gweld mwy o'r math yna o fenter i bawb yng Nghymru.

Mae iechyd meddwl babanod wedi'i ymrwymo'n benodol iddo yn y strategaeth. Dim ond dau dîm sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru sy'n darparu cymorth iechyd meddwl babanod, modelau ychydig yn wahanol yn y ddau, ond rwy'n awyddus iawn bod gennym ddarpariaeth ledled Cymru i ategu'r gefnogaeth honno am y 1,000 diwrnod cyntaf.

Fe wnaethoch chi godi'r materion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, a does dim byd yn agosach at fy nghalon na gwasanaethau plant a phobl ifanc. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod newid allweddol yr ydym yn ceisio ei wneud yn y strategaeth hon yn un yr ydym wedi'i wneud i ryw raddau eisoes ar gyfer plant a phobl ifanc, sydd wedi dweud wrthym dro ar ôl tro, 'Peidiwch â meddygoli ein hiechyd meddwl. Peidiwch â meddygoli tyfu i fyny." Gall llawer o bobl ifanc gael cymorth heb ddefnyddio gwasanaethau arbenigol. Dyna pam mae gennym ddull ysgol gyfan, mae gennym ein system NEST / NYTH, ac maent wedi ymrwymo i'r strategaeth. Mae angen i ni wneud mwy o gynnydd ar y mesur ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydyn ni wedi buddsoddi mewn adnoddau pwrpasol yn rhaglen iechyd meddwl gweithrediaeth y GIG—£2.2 miliwn—ac maen nhw'n gweithio gyda byrddau iechyd i ysgogi'r gwelliannau hynny. Mae gan bob bwrdd iechyd lwybrau i adfer eu perfformiad. Ac rydym eisoes wedi gweld cynnydd da mewn CAMHS arbenigol, ac mae angen i ni weld hynny nawr gyda'r mesur.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cyllid, Mabon, ac rwyf wedi bod yn agored iawn gyda'r Senedd mewn pwyllgorau nad oeddem yn gallu cymryd y cam ychwanegol hwnnw o gael y £15 miliwn ychwanegol. Rydym wedi buddsoddi £75 miliwn yn ychwanegol, sydd ar gael eleni, a £50 miliwn y llynedd, ond oherwydd y sefyllfa ariannol anodd iawn ni allem gymryd y cam ychwanegol hwnnw gyda'r £15 miliwn. Ond mae hynny'n fwy na gwneud iawn am y ffaith ein bod wedi blaenoriaethu'r cyllid sydd wedi ei glustnodi i iechyd meddwl sy'n mynd i fyrddau iechyd. Mae hynny wedi gweld cynnydd o £25 miliwn, ac roedd yn rhywbeth i gydbwyso, mewn gwirionedd. Roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig iawn amddiffyn y gwasanaethau rheng flaen hynny, y byddai unrhyw beth a fyddai'n tanseilio'r cyllid hwnnw sydd wedi'i glustnodi yn gwneud mwy o niwed i ymdrechion i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol yn yr hirdymor. Ac rydym wedi cael trafferth gwario rhywfaint o'r buddsoddiad ychwanegol yr ydym wedi'i fuddsoddi mewn iechyd meddwl oherwydd heriau'r gweithlu. Felly, rydym yn gallu rheoli'r gostyngiad hwnnw yn yr MEG canolog, rwy'n credu, trwy danwariant a phroffilio'r gwariant ychydig yn wahanol yn unig, fel bod blaenoriaeth o hyd ar gael ar gyfer buddsoddi mewn iechyd meddwl.

Diolch am eich sylwadau ar hunanladdiad a hunan-niweidio ac am dynnu sylw at y gwaith a wneir gan ORS. Rwy'n hapus iawn i ymrwymo i edrych ar y mater gyda'r crwner. Rwy'n credu bod llawer mwy o waith y gallwn ni ei wneud gyda Crwneriaid yn gyffredinol, oherwydd rwy'n credu y gall fod yn brofiad trawmatig iawn i deuluoedd, a'r peth olaf rydyn ni ei eisiau yw i deuluoedd gael eu hail-drawmateiddio. Ond rydym wedi dod dros y rhwystr hwnnw o'r oedi yng Nghymru, oherwydd mae gennym wyliadwriaeth hunanladdiad amser real ledled Cymru nawr—nid yw hynny'n rhywbeth sydd ganddyn nhw yn Lloegr—a chyhoeddodd ei adroddiad cyntaf ym mis Ionawr eleni. Mae hyn yn ein galluogi i ymateb yn gyflym, mewn gwirionedd. Gallwn nodi unrhyw glystyrau ac ymateb i unrhyw faterion mewn ardaloedd, felly rwy'n falch iawn bod gennym ni hynny ar waith, oherwydd mae gennym y wybodaeth amser real honno nad yw'n dibynnu arnom yn aros am ganlyniad llys crwner. Diolch.

16:45

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad heddiw ar y ddwy strategaeth ac unwaith eto dangos eich ymrwymiad i wella iechyd meddwl ac atal hunanladdiad? Llywydd, siaradais yn ddiweddar iawn am fy ngholled fy hun trwy hunanladdiad, yn enwedig fy nhad a fy ffrind gorau o 20 mlynedd, Jamie Wynne. Rhannais y profiad hwnnw a phrofiad fy mrwydrau personol fy hun gydag iechyd meddwl oherwydd fy mod eisiau helpu eraill. Rwyf wir eisiau helpu eraill. Dydw i ddim eisiau i deulu arall fynd trwy'r hyn aeth fy nheulu i a Jamie drwyddo.

Ond rwyf hefyd yn ymrwymo i gefnogi eraill sydd eisiau helpu—pobl fel Clwb Pêl-droed Tref Cei Connah, clwb pêl-droed llawr gwlad Jamie, sy'n ceisio gwneud yn union hynny, dim ond i helpu eraill. Maen nhw wedi cymryd nifer o gamau, Gweinidog, i annog chwaraewyr a chefnogwyr sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl personol eu hunain i geisio cymorth gan naill ai hyrwyddwr llesiant y clwb, neu drwy elusennau cydnabyddedig a sefydliadau iechyd meddwl y maen nhw wedi cyfeirio atynt. A ydych chi'n cytuno â mi y dylid canmol a rhannu gwaith CPD Tref Cei Connah fel arfer gorau ledled Cymru? Ac efallai fel rhan o'r ymgynghoriad wrth symud ymlaen, a fyddech chi'n rhoi cyfarwyddyd i swyddogion gwrdd â'r clwb i drafod ymhellach sut y gellid efelychu hyn ledled Cymru? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Jack. A gaf dalu teyrnged i'r gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud? Rwy'n cydnabod ei bod hi'n anodd iawn siarad am y profiadau rydych chi wedi bod drwyddyn nhw, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy'n eich clywed chi, ac rydyn ni wedi siarad llawer am stigma, ac mae'n chwalu'r stigma, felly rydw i'n diolch o galon i chi am y gwaith rydych chi'n ei wneud. Rwy'n hapus iawn i gymeradwyo Clwb Pêl-droed Tref Cei Connah. Rwy'n credu ei bod hi'n wych eu bod nhw'n gwneud hyn ac, mewn gwirionedd, rwy'n meddwl bod potensial enfawr gyda chlybiau pêl-droed yn fwy cyffredinol—mae Sefydliad CPD Dinas Caerdydd hefyd yn gwneud gwaith da, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn—oherwydd yr hyn y mae clybiau pêl-droed yn ei roi inni yw ymdeimlad o berthyn, ac rydym yn gwybod bod perthyn yn amddiffynnol ar gyfer iechyd meddwl, a bod peidio â pherthyn yn i'r gwrthwyneb. Felly, mae potensial enfawr yno, ac mae hefyd yn cyd-fynd â'r hyn rydyn ni'n ceisio'i wneud yn y strategaeth, sy'n dweud nad oes angen cymorth meddygol arbenigol ar bawb: mae'n ymwneud â'r cwmni hwnnw, peidio â bod yn ynysig, yr ymdeimlad hwnnw o berthyn. Felly, diolch am dynnu sylw at hynny, ac rwy'n hapus iawn i gwrdd â'r clwb fy hun i wrando ar y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud ac i weld pa wersi y gallwn ni eu dysgu ar gyfer mannau eraill yng Nghymru.

16:50

Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw a chofnodi fy niolch am y gwaith diflino y mae hi'n ei wneud yn y maes hwn. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n ymrwymiad personol ar hyn, a hoffwn gydnabod y gwaith y mae hi wedi'i wneud ac mae'n parhau i'w wneud yn y maes hwn. Mae cymaint i'w groesawu yn hyn heddiw, yn y datganiad, ac roeddwn yn arbennig o falch o glywed y Dirprwy Weinidog heddiw yn dweud nad mater iechyd a gofal cymdeithasol yn unig yw iechyd meddwl da, ac fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar atal hunanladdiad, rhywbeth y dilynais y Dirprwy Weinidog ynddo, rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i gymdeithas a'r Llywodraeth gydweithio i barhau i wella gwasanaethau ac agweddau tuag at iechyd meddwl a lles.

Mae'r strategaethau drafft a lansiwyd heddiw yn gyfle hanfodol i godi ymwybyddiaeth o benderfynyddion cymdeithasol iechyd meddwl gwael a rôl anghydraddoldebau iechyd. Mae tystiolaeth ddata a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod tlodi ac anghydraddoldeb yn parhau i fod yn ffactorau risg allweddol, ac mae mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol hynny yn gofyn am gydweithio traws-sector. Enghraifft ragorol yw partneriaeth reilffordd Samariaid y DU, a fydd yn cael ei hymestyn yn fuan i reilffyrdd craidd y Cymoedd. Gwneir llawer o effaith y fenter hon gan weithwyr rheilffyrdd sydd wedi'u hyfforddi a'u grymuso i weithredu, gan ddangos yr hyn sy'n bosibl trwy gydweithio ar draws sectorau.

Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, gwn fod ysgolion ledled Cymru wedi arloesi dulliau newydd o hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant da mewn pobl ifanc, ac mae atal ac ymyrryd yn gynnar yn allweddol i barhau â'r gwaith o sicrhau bod ein cwricwlwm newydd yn cyflawni dyletswyddau deddfwriaethol i lesiant ac iechyd meddwl. Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Jayne, am eich geiriau caredig ac am eich croeso i'r ddwy strategaeth heddiw, a diolch am y gwaith rydych chi'n ei wneud gyda'r grŵp trawsbleidiol atal hunanladdiad. Mae'n hynod o bwysig. Ac fel rydych chi wedi tynnu sylw ato, mae tlodi ac anghydraddoldeb yn sbardun allweddol nid yn unig o hunanladdiad, ond iechyd meddwl gwael, felly dyna pam mae gennym bwyslais cryf iawn. Mae pennod gyfan wedi'i rhoi i hynny. Mae un o'r datganiadau gweledigaeth ar waith trawslywodraethol, a byddwn yn annog Aelodau i edrych ar y peth oherwydd, mewn gwirionedd, pan welwch y cyfan wedi'i ysgrifennu, mae'n eithaf trawiadol faint o waith trawslywodraethol sydd yna gyda'r holl Weinidogion, nid dim ond fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, ond Vaughan Gething, y Gweinidog trafnidiaeth, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud y gwaith hwnnw.

A diolch i chi am dynnu sylw at fenter rheilffordd y Samariaid, sy'n wych yn fy marn i. Gwyddom fod y rheilffyrdd—. Blaenoriaeth yn ein strategaeth yw lleihau mynediad i ddulliau a lleoliadau, felly mae angen i ni fynd i'r afael â'r pethau sy'n digwydd ar y rheilffyrdd, felly mae croeso mawr i hynny, ac rwy'n falch iawn o glywed y bydd yn dod i dde Cymru.

A diolch am dynnu sylw at waith yr ysgol. Mae'n gwbl hanfodol, ac mae'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda phlant a phobl ifanc wedi llywio'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gydag oedolion. Dywedon nhw wrthym, 'Peidiwch â meddygoli tyfu i fyny', a dyna pam rydyn ni eisiau'r gefnogaeth gyffredinol honno mewn ysgolion, wedi'i seilio ar ein cwricwlwm, i geisio atal y problemau hynny rhag gwaethygu. Diolch.

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwyf innau'n croesawu'n wirioneddol y ddwy strategaeth—yr iechyd meddwl a'r lles, a'r strategaethau atal hunanladdiad a hunan-niweidio—a'r ymgynghoriadau, ac rwy'n ymuno â'r Gweinidog i annog pobl i roi eu meddyliau i hyn ar sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn.

Pan oeddwn i'n ddyn ifanc iawn, amser maith yn ôl, roedden ni'n grŵp tynn iawn o bump ohonon ni oedd bob amser yn mynd i bobman gyda'n gilydd. Roedden ni'n ffyliaid. Doedden ni byth yn ddrwg, ond roedden ni'n ffyliaid, ac wedyn aethon ni ein ffordd ein hunain i'r coleg ac i swyddi ac yn y blaen, a gwnaeth un ohonom ni, un o'n grŵp bach tynn, gymryd ei fywyd ei hun, yn ddirybudd—y mwyaf bywiog, y mwyaf allblyg, y mwyaf talentog ohonom ni i gyd, ac rwy'n aml yn aros ac yn meddwl, 'Beth os?' A dyna pam yr hyn sydd wir yn fy nharo i yn y datganiad heddiw yw lle rydych chi'n dweud,

'Mae'r dull hwn yn cydnabod nad yw hunanladdiad a hunan-niweidio yn gyflyrau iechyd meddwl y gellir rhoi diagnosis iddynt ac nad yw llawer o bobl sy'n marw trwy hunanladdiad yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl. Mae yna gamsyniad cyffredinol hefyd bod gan bobl sy'n marw drwy hunanladdiad salwch iechyd meddwl, ac mae'n hanfodol ein bod yn herio'r canfyddiad hwn i gael gwared ar y stigma a chefnogi pobl sydd ei angen.'

Rwy'n cytuno'n llwyr. A gaf i, ynghyd â Jack, a soniodd am rywfaint o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd mewn grwpiau allan yna, os ydych chi neu'ch swyddogion eisiau dod i ymweld â'r 14 o wirfoddolwyr yn CIC Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Cwm Ogwr, sy'n gweithio gyda grwpiau a sefydliadau lleol—clybiau pêl-droed, clybiau rygbi, grwpiau lleol amrywiol—i godi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl a all eu helpu mewn gwirionedd, a chael y sgyrsiau hynny hefyd. Maen nhw'n trefnu boreau coffi ac yn y blaen. Felly, Gweinidog, os byddwch chi rywbryd eisiau dod i siarad â rhywun yn ein ardal ni, rwy'n siŵr y bydden nhw'n ei groesawu'n fawr.

16:55

Diolch yn fawr iawn, Huw, am eich croeso. Mae'n ddrwg gen i glywed am eich ffrind. Mae hynny'n rhywbeth sy'n effeithio ar bobl am weddill eu hoes, a dyna'r 'beth os?', onid yw e, mewn gwirionedd, ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cofio, yn ogystal â'r ffaith nad yw hunanladdiad yn fater iechyd meddwl—er gall fod yn fater iechyd meddwl, ond nid yw o reidrwydd yn fater iechyd meddwl—mae'n rhaid i ni gofio hefyd nad yw hunanladdiad yn anochel, ac mae yna gyfleoedd i atal, a dyna hanfod y strategaeth newydd hon, chwilio am y cyfleoedd hynny ar gyfer atal ac ymgysylltu â phob un o'r rheini.

Diolch am dynnu sylw at y grŵp yn eich etholaeth, CIC y grŵp ymwybyddiaeth o hunanladdiad. Doeddwn i ddim yn gwybod am hwnnw a byddwn yn hapus iawn i gwrdd â nhw. Dim ond dweud hefyd ein bod wedi datblygu pecynnau ymgysylltu i weithio gyda'r ddwy strategaeth, fel y gall y grwpiau gael y pecynnau a gallant eu defnyddio i ymgynghori â'u haelodau eu hunain. Felly, os oes unrhyw Aelodau yn gwybod am unrhyw grwpiau y maen nhw'n meddwl yr hoffen nhw fod yn rhan o'r ymgynghoriad, pe baech yn anfon e-bost ataf, byddai hynny'n wych, oherwydd rydym yn awyddus i gael yr ymgysylltiad mwyaf. Diolch.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: System a Siarter Budd-daliadau Cymru

Eitem 6 heddiw yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: system a siarter budd-daliadau Cymru. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i wneud datganiad ar lansiad siarter budd-daliadau Cymru ar 22 Ionawr 2024 yng Nghanolfan Adnoddau Blaenafon gydag arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac Aelod dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS. Mae'r siarter yn rhan newydd allweddol o'n system budd-daliadau yng Nghymru.

Mae'r siarter, sydd wedi'i chyd-gynhyrchu ag ystod o randdeiliaid, ac a gymeradwywyd gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, yn nodi egwyddorion lefel uchel ar gyfer system fudd-daliadau dosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, system sy'n seiliedig ar hawl person i gael cymorth ariannol, gan ddileu'r stigma y mae rhai pobl yn ei deimlo pan fyddan nhw'n gofyn am fudd-dal.

Mae system budd-daliadau Cymru pan fo pobl angen adrodd eu stori unwaith yn unig i gael mynediad at eu hawliau wedi bod yn weledigaeth hirdymor. Fydden ni ddim lle'r ydym ni heddiw heb waith caled ac ymroddiad llawer o bobl. Hoffwn ddiolch i John Griffiths AS, ac aelodau'r cyn Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, am eu hadroddiad ardderchog 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well'. Mae Siarter Budd-daliadau Cymru yn seiliedig ar argymhelliad y pwyllgor ar gyfer datblygu ar y cyd gyfres o egwyddorion sy'n sail i gynllunio a chyflawni budd-daliadau Cymru.

Hoffwn ddiolch hefyd i Sefydliad Bevan a'i bartneriaid, gan gynnwys Policy in Practice, am y gyfres o bapurau ymchwil y maen nhw wedi'u cynhyrchu ar system fudd-daliadau Cymru. Mae'r rhain wedi llywio ein dealltwriaeth o sut olwg sydd ar system fudd-daliadau Cymru gydlynol ac integredig ac wedi arwain datblygiad yr ymrwymiadau yn Siarter Budd-daliadau Cymru.

Helpodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolwyr awdurdodau lleol i ddatblygu'r siarter, ac yn dilyn cyfarfod cyngor partneriaeth Cymru fis Tachwedd diwethaf, o dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, cymeradwyodd pob awdurdod lleol y siarter. Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad clir ar y cyd i sefydlu a chryfhau system fudd-daliadau symlach i Gymru, fel sydd wedi'i hymgorffori yn siarter budd-daliadau Cymru, fel y cam pwysig cyntaf ar y daith hon.

Mae grŵp llywio allanol wedi'i sefydlu i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr holl weithgareddau y mae angen eu cwblhau i ddod ag ymrwymiadau'r siarter yn fyw mewn ystyr ymarferol. Ac rwy'n falch fod Fran Targett wedi cytuno i gadeirio'r grŵp llywio allanol. Dewiswyd yr aelodau oherwydd eu harbenigedd wrth ddarparu budd-daliadau yng Nghymru neu wrth gefnogi pobl sy'n wynebu'r anhawster mwyaf wrth hawlio budd-daliadau. Cynhaliodd y grŵp llywio ei gyfarfod agoriadol ar 14 Chwefror a'i nod yw llunio cynllun gweithredu erbyn haf 2024. Bydd y grŵp llywio hefyd yn pennu'r mesurau sy'n briodol i'w defnyddio i asesu cynnydd o'i gymharu â chyrhaeddiad yr wyth canlyniad a nodir yn y siarter, ac adrodd ar gynnydd i gyngor partneriaeth Cymru.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, nad ydym yn dechrau'r rhaglen waith hon o stop. Fel y gwelsom yn ystod pandemig COVID, mae awdurdodau lleol Cymru yn fedrus wrth ddylunio a darparu cynlluniau cymorth ariannol. Yn ôl archwiliad diweddar gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r rhan fwyaf o awdurdodau eisoes yn gwneud cynnydd i grynhoi budd-daliadau Cymru y maent yn gyfrifol amdanynt, gyda rhai yn asesu hawl i dri phrif fudd-dal mewn un cais. Mae awdurdodau lleol bellach yn gweithio gyda'i gilydd i efelychu'r arfer da hwn ledled Cymru.

Rwy'n gwybod bod yr Aelodau wedi croesawu gweithredu siarter budd-daliadau Cymru. Mae'n enghraifft gadarnhaol o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gwahanol randdeiliaid sy'n rhannu'r un nod yn gweithio mewn partneriaeth. Ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau nawr yn cefnogi'r rhaglen waith barhaus a fydd yn troi ymrwymiadau'r siarter yn weithrediadau. Mae'r gwaith i gryfhau system fudd-daliadau Cymru yn mynd rhagddo, o ganlyniad i'n hymrwymiad i gytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, i gefnogi datganoli gweinyddiaeth lles ac archwilio'r seilwaith angenrheidiol sydd ei angen i baratoi ar gyfer hyn ac i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer system fudd-daliadau Cymru.

Trwy weithredu siarter budd-daliadau Cymru, rydym yn gosod conglfeini'r seilwaith ar gyfer system fudd-daliadau dosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddai unrhyw weinyddu pwerau lles yn y dyfodol yn cael ei gyflawni yn unol â nodau'r siarter. Ond mae hwn yn faes cymhleth. Mae'n bwysig ein bod yn deall yr holl oblygiadau o ddatganoli gweinyddu lles. Felly, rydym yn comisiynu ymchwil annibynnol a fydd yn darparu crynodeb sy'n seiliedig ar dystiolaeth o sut y gellid bwrw ymlaen â datganoli gweinyddu lles yng Nghymru, ac i lywio'r gwaith dylunio sefydliadol y byddai ei angen i alluogi trosglwyddo'r pwerau hyn i Gymru. Felly, bydd canfyddiadau'r ymchwil hwn yn helpu i nodi'r camau ymarferol nesaf ar gyfer datganoli gweinyddu lles.

Rydym hefyd yn edrych yn fanwl ar y gwaith sy'n cael ei wneud yn yr Alban, lle mae gweinyddu lles wedi'i ddatganoli. Mae'r Aelod dynodedig a minnau wedi cyfarfod â Social Security Scotland a chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban i ddeall mwy am y profiad yno a sut y gellid cymhwyso unrhyw wersi yma. Fel y nodir yn Amcan 1 y strategaeth tlodi plant, mae gwella mynediad at fudd-daliadau Cymru yn un o'r camau cadarnhaol yr ydym yn eu cymryd i leihau costau a chynyddu incwm teuluoedd i'r eithaf. Ynghyd â'n cefnogaeth barhaus i'r gronfa gynghori sengl, yr ymgyrch hawlio budd-daliadau flaenllaw, 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', a darparu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth am ddim i weithwyr rheng flaen, rydym yn sicrhau bod teuluoedd ledled Cymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi.

Rydym yn haeddiannol falch o'r cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, sy'n cynnwys prydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgolion, y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, a'r lwfans cynhaliaeth addysg. Mae'r taliadau hyn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru. Eleni yn unig, mae 260,912 o aelwydydd yn cael cymorth i dalu eu bil treth gyngor, gyda dros 210,000 o aelwydydd yn talu dim treth gyngor o gwbl.

Bydd system budd-daliadau yng Nghymru pan fydd rhaid i berson adrodd ei stori unwaith yn unig i gael mynediad i'w holl hawliau yn cael effaith gadarnhaol ar gynyddu incwm y cartref a mynd i'r afael â thlodi, a diolchaf i'n partneriaid sydd bellach yn gweithio tuag at weithredu'r system hon.

17:00

Wrth eich holi chi yma dair wythnos yn ôl am siarter budd-daliadau Cymru, nodais, ers bron i ddegawd, fod darparwyr gwasanaethau ac ymchwilwyr ar draws y sector wedi bod yn galw am system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Pan wnaethoch lansio siarter fudd-daliadau Llywodraeth Cymru y mis diwethaf, dywedoch chi wrthym ni ei bod yn bwriadu cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau Cymru, gan alluogi mwy o bobl yng Nghymru i fanteisio ar eu hawl, ac i nodi a dileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag hawlio eu hawliau.

Fodd bynnag, cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddatganiad i'r wasg wedyn yn nodi, ymhell o fod yn lansiad system fudd-daliadau i Gymru, fod awdurdodau lleol dim ond wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu tuag at ddatblygu un. Felly, yn union fel y dywedodd Comisiynydd Plant Cymru yng nghyd-destun eich strategaeth tlodi plant, mae'r diffyg camau gweithredu manwl, amserlenni a thargedau cyflawnadwy unwaith eto yn golygu nad oes unrhyw ffordd o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Oes gennych chi amserlen felly ar gyfer cyflwyno system fudd-daliadau i Gymru, ac, os felly, pa dargedau fydd ar waith i fesur cynnydd?

17:05

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Yn eich ateb, dywedoch chi fod pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cytuno i gefnogi'r siarter. Ydyn nhw wedi cytuno ar ddyddiad erbyn pryd y byddan nhw'n gweithredu system fudd-daliadau i Gymru, ac, os felly, pryd? Hefyd, a ydyn nhw wedi cytuno i weithredu hon yn unffurf ledled Cymru er mwyn osgoi unrhyw loteri cod post? Ac yn hollbwysig, sut y byddwch chi'n monitro gweithredu ac ymarfer i sicrhau effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chanlyniadau targed? Dywedoch chi hefyd y bydd grŵp cyfeirio allanol annibynnol—grŵp llywio nawr—dan gadeiryddiaeth Fran Targett, a fydd yn rhoi'r siarter ar waith. Er eich bod yn datgan heddiw mai nod y grŵp llywio yw llunio cynllun gweithredu erbyn haf 2024, pa gylch gorchwyl, targedau ac amserlenni ydych chi wedi eu pennu ar gyfer y grŵp llywio allanol?

Mae Sefydliad Bevan yn dweud ei fod yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i sefydlu system fudd-daliadau Cymru yn gyffredinol. Sut ydych chi'n ymateb felly i'w datganiad, er bod y trefniadau presennol yn seiliedig ar gydweithio a phartneriaeth, mae cyfranogiad felly yn wirfoddol gyda risg nad yw'r rhai cyrff yn cymryd rhan o gwbl, tra bod eraill yn gwneud eu pethau eu hunain? A sut ydych chi'n ymateb i'w galwadau ar Lywodraeth Cymru, gan gynnwys rhoi sylfaen gadarnach i gymryd rhan drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol alinio eu gwaith o weinyddu'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor â chynlluniau datganoledig eraill y maent yn eu gweinyddu, i nodi map llwybr clir i ddod â grantiau a lwfansau prawf modd eraill i'r system y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol o ddod â saith cynllun gwahanol i mewn i fframwaith cyffredin, ac ad-dalu awdurdodau lleol ac eraill o bosibl maes o law am gostau ychwanegol, gan ddechrau gyda chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, lle disgwylir y bydd y cynnydd mwyaf yn nifer y bobl a fydd yn manteisio ar hwn? Pan ofynnais y cwestiynau hyn i chi dair wythnos yn ôl, roedd eich ateb yn canolbwyntio ar elfennau cyffredinol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallech roi atebion penodol i'r cwestiynau penodol hyn, naill ai heddiw neu'n ysgrifenedig ar ôl i ni ddod i ben.

Dywed siarter budd-daliadau Cymru y bydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid cyflenwi eraill i ddylunio system gynhwysol. Roeddwn yn aelod o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 2019 i fudd-daliadau yng Nghymru ac opsiynau i'w cyflawni'n well. Galwodd tystion, gan gynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru, am integreiddio gwell rhwng canolfannau gwaith a gwasanaethau a ddarperir yn lleol. Fodd bynnag, mae siarter budd-daliadau Cymru dim ond yn cyfeirio at barhau i weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau heb eu datganoli yng Nghymru, heb unrhyw gyfeiriad at rôl gydweithredol ar gyfer swyddfeydd lleol y Ganolfan Byd Gwaith, sydd eisoes wedi'u sefydlu i weinyddu budd-daliadau lles heb eu datganoli a fyddant hefyd, drwy weithio gydag awdurdodau lleol, yn dod yn bwynt cyswllt unigol ar gyfer budd-daliadau datganoledig.

Felly, pa drafodaethau penodol, os o gwbl, a gawsoch gydag Adran Waith a Phensiynau y DU ynghylch y rôl y gall swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith ei chwarae mewn system fudd-daliadau integredig yng Nghymru, gan gydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru? Pan ofynnais hyn i chi dair wythnos yn ôl, dim ond ateb cyffredinol a roddoch ynghylch sut rydych chi'n gweithio, lle gallwch chi, gyda'r Ganolfan Byd Gwaith i sicrhau bod pobl yn manteisio ar fudd-daliadau Llywodraeth Cymru a budd-daliadau Llywodraeth y DU fel credyd pensiwn. Sut fyddwch chi felly'n sicrhau y gweithredir ar alwad gan dystion i ymchwiliad pwyllgor 2019 i swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith weithredu fel un pwynt mynediad, drwy ymgorffori gwasanaeth budd-daliadau Cymru yr awdurdod lleol?

Ac yn olaf, o ystyried eich cyfeiriad at ddatganoli gweinyddu lles a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn yr Alban, pa dystiolaeth sydd gennych chi fod hyn yn debygol o ddigwydd yng Nghymru—ac fe wnes i ei gefnogi yn yr adroddiad hwnnw—a pha ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i gynnwys perthnasol yn ein hadroddiad pwyllgor yn 2019, gan gynnwys y costau annisgwyl a ysgwyddwyd, pan wnaethom ymweld â Chaeredin a chymryd tystiolaeth gan Lywodraeth yr Alban, gan Social Security Scotland, gan bwyllgor perthnasol Senedd yr Alban, a gan bartneriaid trydydd sector yr Alban a oedd wedi cyd-gynhyrchu'r system a gyflwynwyd yn yr Alban? Diolch yn fawr. 

17:10

Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Rwy'n siŵr eich bod yn falch iawn o weld bod y gwaith yr oeddech yn rhan ohono, yn wir, gyda John Griffiths yn cadeirio'r pwyllgor hwnnw, wedi dwyn ffrwyth gyda lansiad siarter budd-daliadau Cymru. Yn amlwg, mae hyn yn ymwneud ag ymrwymo i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. A hefyd, rydym yn gwybod bod pobl yn dal ar eu colled o ran eu hawliau, gan gynnwys y cymorth ariannol yr ydym ni, Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol amdano. Felly, dyna pam yr ydym yn creu system fudd-daliadau Cymru sy'n fwy cydgysylltiedig pryd y mae'n rhaid i berson adrodd ei stori unwaith yn unig i gael mynediad at ei hawliau.

A gaf i ddweud bod hyn wedi'i gyd-gynhyrchu gyda rhanddeiliaid allweddol o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector? Roedd yn wych iawn pan gawsom y digwyddiad lansio hwnnw yn ôl ym mis Ionawr, pan aethom i ganolfan adnoddau Blaenafon ac roedd arweinydd cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt, sydd mewn gwirionedd yn aelod cabinet arweiniol dros gyllid llywodraeth leol Cymru hefyd, yno i gefnogi'r lansiad yn llwyr, a hefyd i ddangos yr hyn y gall cyngor fel Torfaen ei wneud i sicrhau bod gennym y system fudd-daliadau Cymru gydgysylltiedig honno pryd y mae'n rhaid i berson adrodd eu stori unwaith yn unig er mwyn cael mynediad at ei hawliau. Rwy'n credu ei fod yn ddiddorol iawn, oherwydd roedd ganddo ei dîm hefyd, yr hyn a alwodd yn dîm refeniw a budd-daliadau yng nghyngor Torfaen, oherwydd mae wedi dweud wrthym ar sawl achlysur mai hwn yw'r tîm 'ref-budd' ym mhob awdurdod. Bydd cymdeithas y trysoryddion yn ymgysylltu â hyn hefyd—nhw yw'r rhai ar y rheng flaen, sydd mewn gwirionedd yn mynd i gyflawni hyn.

Mae'n bwysig cydnabod bod hwn yn gam mawr ymlaen. Rydych chi wedi gweld siarter budd-daliadau Cymru, rydych chi wedi gweld y ffaith bod pob logo o bob awdurdod yng Nghymru wedi cytuno i gefnogi hon. Mae'n gyflawniad aruthrol, ond wrth gwrs mae'n ymwneud â chyflawni, mae'n ymwneud â gweithredu. Dyna pam yr oedd cyfarfod y cyngor partneriaeth, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, mor bwysig, oherwydd eu bod i gyd yn cymeradwyo siarter budd-daliadau Cymru yn ffurfiol, dan arweiniad y Cynghorydd Anthony Hunt fel arweinydd cyllid llywodraeth leol yng Nghymru. Fe wnaethant gadarnhau eu hymrwymiad ar y cyd i wella mynediad at gymorth ariannol i bobl ledled Cymru. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y lansiad ar 22 Ionawr, ac rwy'n edrych ymlaen, mewn gwirionedd, at ymweliad yfory, gyda'r Aelod dynodedig, â Chyngor Sir Caerfyrddin, i un o'u hybiau, ac aeth y Dirprwy Weinidog i Ynys Môn, ac ymweld â thîm yno. Rwy'n credu yn eich holl etholaethau rwy'n eich annog i fynd i weld sut y maent yn cyflawni siarter budd-daliadau Cymru, oherwydd maen nhw i gyd wedi cytuno i'w chefnogi.

O ran y cwestiwn o weithredu'r siarter a sut y caiff ei mesur, mae wyth canlyniad yr wyf wedi'u rhestru yn y siarter, ac mae'n cynnwys ystod o effeithiau a fwriadwyd: yn bwysicaf oll, yn gyntaf oll, mwy o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau Cymru, gan gynyddu incwm cartrefi i'r eithaf; yn ail, polisi ar sail gwybodaeth Cymru sydd wedi cynnwys partneriaid ac unigolion a rhanddeiliaid eraill yn y datblygiad; yn drydydd, ymwybyddiaeth o hawl budd-daliadau a'r cymorth sydd ar gael; ac yn bedwerydd, ymrwymiadau ynghylch uchafu incwm, budd-daliadau lles, cymunedau sy'n gydnerth yn ariannol, gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel, gostyngiad yn yr angen am gymorth brys fel banciau bwyd, a mesur y nifer sy'n manteisio drwy nifer y bobl a gefnogir gan gynllun budd-daliadau Llywodraeth Cymru.

Sefydlwyd y grŵp llywio allanol hwn i oruchwylio'r gwaith hwn ar symleiddio system fudd-daliadau Cymru ac maent yn datblygu eu mecanwaith adrodd ar gyfer mesur cynnydd o'i gymharu â'r canlyniadau hyn. Rwyf eisoes wedi dweud yn fy natganiad eu bod yn mynd i lunio cynllun gweithredu erbyn yr haf, ac maen nhw hefyd yn edrych ar sut y gallant fesur rhai o'r canlyniadau meddalach hynny ynghylch newid agwedd.

Rwyf am droi at system fudd-daliadau Llywodraeth y DU yn fyr ac yn gyflym, un nad wyf yn credu ei bod yn system fudd-daliadau dosturiol, gydlynol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Y ffaith yw bod system fudd-daliadau Llywodraeth y DU er enghraifft yn parhau i drin pobl heb dosturi nac urddas, gan ddefnyddio mesurau cosbol fel sancsiynau budd-daliadau fel modd o orfodi pobl i mewn i swyddi anaddas. Cymorth personol ar gyfer swydd yw'r ffactor allweddol o ran cael gwared ar rwystrau rhag cyflogaeth, ond mae'r newidiadau i drefn amodoldeb credyd cynhwysol, a gyhoeddwyd y gwanwyn diwethaf, yn golygu y bydd yn rhaid i hawlwyr sy'n ofalwyr arweiniol plant 1 neu 2 oed chwilio am waith neu wynebu cosb, hyd yn oed pan fo un rhiant yn y teulu eisoes yn gweithio. Ond byddwch yn falch o glywed, Mark, fy mod wedi cwrdd â Gweinidog Llywodraeth y DU dros Bobl Anabl, Iechyd a Gwaith. Rydym wedi cael y cyfarfod grŵp rhyng-weinidogol dwyochrog cyntaf, mae gennym gylch gorchwyl, felly mae'n gam cadarnhaol tuag at well cyfathrebu a pherthnasoedd ar lefel weinidogol ar feysydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr lle gallwn sicrhau y bydd y nifer mwyaf yn manteisio ar fudd-daliadau Llywodraeth y DU, yn ogystal â'n rhai ni.

17:15

Diolch am y datganiad, Weinidog. Ers 2021, fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, rwyf wedi cefnogi'r galwadau i greu system fudd-daliadau Gymreig lawer tro yn y Siambr, ac yn 2022 fe gefnogodd y Senedd fy nghynnig a oedd yn galw am osod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd pocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol, a hynny drwy symleiddio'r broses o'u derbyn a sicrhau'r cysondeb hollbwysig yna drwy Gymru.

Mae Plaid Cymru felly'n falch o'r gwaith sy'n digwydd drwy'r cytundeb cydweithio i osod seiliau ar gyfer system fudd-daliadau Gymreig, sy'n cynnwys, wrth gwrs, y siarter newydd, fel y cam cyntaf. Ac mae'n gam cyntaf hirddisgwyledig, ond mae'n rhaid mynd ymhellach os ydym wir am sicrhau'r nod o sicrhau bod y system les yn ffit i bwrpas, yn cyflawni ei phwrpas, sef bod yn rhwyd ddiogelwch effeithiol ar gyfer y degau ar filoedd o aelwydydd sydd yn fwy na'n ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Mae'r cynnydd mewn dyled broblemus a'r cynnydd yn nefnydd cyson o fanciau bwyd yn dangos i ni nad oes gan bobl y modd i gynnal eu hunain bellach, ac mae angen camau bras ar frys os ydym am eu diogelu.

Mae ymrwymiad holl awdurdodau lleol Cymru i egwyddorion y siarter i wella mynediad pobl dros Gymru i gefnogaeth ariannol i'w groesawu, wrth gwrs. Mae egwyddorion y siarter yn sail i greu modd mwy trugarog a dynol o daclo tlodi, ond mae natur anstatudol yr ymrwymiad yn gwanhau y tebygolrwydd y bydd yn cyflawni hynny i'r graddau eithaf posib. Rwyf wedi gofyn sawl tro ond heb gael ateb clir: ydy'r Llywodraeth yn ffyddiog bod yr adnoddau angenrheidiol wedi eu dyrannu i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau nad yw'r cyfyngiadau ar eu cyllidebau, rŷn ni'n clywed cymaint o sôn amdanyn nhw—maen nhw'n argyfyngus—yn mynd i gael effaith ar eu gallu i gyflawni amcanion y siarter?

Ac os ydym o ddifrif am greu system fudd-daliadau Gymreig effeithiol, mae'n rhaid inni edrych tua'r Alban er mwyn gweld beth sy'n cael ei gyflawni. Ac rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi bod yn cynnal cyfarfodydd o ran hyn, achos does dim gwadu bod creu budd-daliadau sy'n ffit i bwrpas, sy'n cael effaith, fel taliad plant yr Alban, wedi bod yn drawsnewidiol o ran taclo tlodi plant, er enghraifft. Mae'n rhaid i'r gwaith ddechrau ar baratoi'r ffordd i ymgorffori mwy o grantiau a budd-daliadau prawf modd eraill, a'r gallu yma i greu taliadau, fel y taliadau plant, i mewn i system Gymreig newydd. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn gosod llwybr ac amserlen glir ar gyfer gwneud y math yma o waith?

Ac o ran y gwaith yma sy'n cael ei wneud i baratoi ar gyfer datganoli grymoedd dros weinyddiaeth y system les, pa wersi yn union sydd eu dysgu o'r hyn sy'n cael ei gyflawni yn yr Alban i daclo tlodi drwy'r system les? Pa waith sy'n cael ei wneud o ran gweld sut byddai rhywbeth fel taliad plant yn cael effaith ar lefelau tlodi plant yng Nghymru? Beth yw'r amserlen ar gyfer y gwaith yma? A phe bai yna newid Llywodraeth yn San Steffan, a fydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r gwaith yma fel modd o wneud achos dros drosglwyddo'r pwerau dros les i Gymru? 

O edrych ar faniffestos yr ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru, mae'n amlwg mai dim ond un sydd wedi datgan ei fod o blaid datganoli pwerau dros weinyddiaeth les. Felly, ydych chi'n cytuno, Weinidog, y byddai'n gam gwag i rwyfo'n ôl ar ymrwymiad datganedig y Llywodraeth yn hyn o beth yn sgil newid Prif Weinidog Cymru?

Mae Plaid Cymru yn erfyn ar y Llywodraeth i weithredu gyda mwy o frys a phenderfyniad i greu system fudd-daliadau Gymreig a fydd yn haeddiannol o gael ei alw yn system ddiogelwch gymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yn byw ar ddibyn peryglus, a gormod eisoes yn cael eu hunain yng ngenau didrugaredd magl tlodi.

17:20

Diolch yn fawr, Sioned Williams. Ac mae hwn yn gynnyrch pwysig iawn o'n cytundeb cydweithio. Ac mae'n dda ei fod wedi rhoi hwb ac wedi gwireddu argymhellion gan bwyllgor blaenorol a oedd yn bwyllgor trawsbleidiol yma yn y Senedd. Ond hefyd, ac yn hollbwysig o ran cyflawni, mae wedi ymgysylltu â phob un o'r 22 awdurdod lleol, a'r bobl sy'n gweithio iddyn nhw ar y rheng flaen, gyda'r gymeradwyaeth hon ar gyfer y siarter. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'n rhan newydd allweddol o system fudd-daliadau Cymru. Yr hyn a ganfuom—Cyngor Partneriaeth Cymru, fel y dywedais i—oedd ymrwymiad ar y cyd i wella'r mynediad hanfodol hwnnw at gymorth ariannol. Maen nhw i gyd yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer system fudd-daliadau Cymru pryd y mae'n rhaid i berson ddweud ei stori unwaith yn unig i gael mynediad at ei hawliau, a dyna pam, ar hyn o bryd—. A chyfarfûm â Victoria Winckler yr wythnos diwethaf o Sefydliad Bevan dim ond i ddiolch iddi hefyd am y rôl maen nhw wedi'i chwarae—Sefydliad Bevan—oherwydd eu hadroddiad pwysig yn cyflwyno'r achos dros system fudd-daliadau Cymru. Mae profiadau pobl wedi cyfrannu hefyd. Ac rwy'n credu mai hwn yw'r cam cyntaf: cael cymeradwyaeth awdurdodau lleol, i gael grŵp cyfeirio clir, annibynnol, allanol gyda llinellau amser ar gyfer cynllun gweithredu dyma yw'r cyfeiriad y mae angen i ni ei ddilyn, yn hytrach na gorfodi awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Rwy'n credu eu bod wedi cymryd mandad eu hunain trwy gymeradwyo'r siarter. Ond, yn amlwg, mae angen i ni weld y canlyniadau yn cael eu cyflawni.

Nid wyf am ailadrodd yr wyth canlyniad a restrir yn y siarter sy'n cwmpasu ystod o effeithiau, ond mae'n ddiddorol nad oedd y grŵp cyfeirio allanol yn gwastraffu unrhyw amser yn cwrdd a hefyd, fel y dywedais i, maen nhw yn datblygu mecanweithiau adrodd. Ac os edrychwch chi ar aelodaeth y grŵp allanol, mae'n cynnwys llawer o staff rheng flaen o lywodraeth leol, Ymddiriedolaeth Trussell, Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, prif swyddog digidol llywodraeth leol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n cynnwys trysorlys Cymru, mae'n cynnwys Anabledd Cymru, Plant yng Nghymru, Cyngor ar Bopeth, Sefydliad Bevan, Cynghrair Henoed Cymru. Maen nhw i gyd yn dweud yr un pethau ag yr ydym ni'n eu dweud, onid ydyn nhw, ynglŷn â chyflawni a datblygu, trwy siarter system fudd-daliadau Cymru?

A hefyd mae ganddyn nhw ffrydiau gwaith ar ddigidol a data, cymhwysedd—cam 1. Nawr mae hwn yn bwynt pwysig, oherwydd wrth drafod hyn gyda Sefydliad Bevan yr wythnos diwethaf, yn amlwg rydym eisiau gweld gwaith cam 1. Mae hynny'n ymwneud â'r tair prif fantais: prydau ysgol am ddim, grant hanfodion yr ysgol—ac, wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu'n llwyr â'r ffyrdd rydyn ni'n ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thlodi trwy grant hanfodion yr ysgol—a'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Ond cam cyntaf yn unig yw hwn, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n glir heddiw—dyma gam 1. Dyma sut rydym yn symud ymlaen ar y gwaith hwn, ac, wrth gwrs, themâu eraill—ffrydiau gwaith eraill ar ymchwil, cyfathrebu strategol, dysgu a datblygu ar gyfer awdurdodau lleol. Felly, dydw i ddim wedi cwrdd â Policy in Practice eto, ond dwi'n meddwl y byddan nhw—. Fel y gwyddoch, rydym wedi cwrdd â nhw ac yn wir gyda'r Aelod dynodedig, a gwn eu bod wedi bod yn ymgysylltu â'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi hefyd. Felly, rwy'n credu y gallwn ni weld bod y camau'n cael eu cymryd i'r cyfeiriad cywir.

Felly, rwyf hefyd eisiau dweud ei bod yn ddefnyddiol gweld nid yn unig y gwaith rwy'n ei ddatblygu gyda Llywodraeth y DU—ac fe wnes i fyfyrio ar hynny—ond i edrych ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Ac mae hyn wir yn ymwneud â rhai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud am botensial ar gyfer taliadau plant, er enghraifft, yng Nghymru—bod comisiwn y cyfansoddiad yn cydnabod y bydd datganoli a mwy o bwerau ar gyfer budd-daliadau lles yn ymarferol dim ond gyda chynnydd sylweddol mewn pwerau treth a benthyca, er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i ymgymryd â'r risgiau a'r rhwymedigaethau cysylltiedig. Ac, yn amlwg, roeddwn i'n awyddus i weld beth fydden nhw'n ei ddweud cyn belled ag yr oedd hyn yn y cwestiwn, a chredaf ei bod yn bwysig myfyrio ar hynny a symud hynny ymlaen, o ran deall beth fyddai hynny'n ei olygu o ran y datganoli mwy sylweddol hwnnw yr ydym ni—. Ond nid oedden nhw eu hunain—roedden nhw'n myfyrio arno, yn hytrach na gwneud argymhellion clir.

A gaf i wneud pwynt arall, ac mae'n ymateb i'r pwynt a wnaed yn gynharach, rwy'n credu, gan Mark Isherwood, am gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor? Rwy'n credu, hefyd, ein bod yn gwella mynediad—yn ogystal â thrwy'r budd-daliadau hyn, rydym yn gwella mynediad at gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor o ganlyniad i'r ymgynghoriad yr haf diwethaf ar roi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu un cynllun cenedlaethol a weinyddir yn lleol gan awdurdodau lleol a galluogi newidiadau yn ystod y flwyddyn. Felly, rydyn ni'n gwneud newidiadau, rydyn ni'n symud ymlaen mewn gwahanol ffyrdd—yn hynny o beth, drwy'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), fel y gallwn ni gael y cynllun cenedlaethol hwnnw a chael y newidiadau hynny yn ystod y flwyddyn, fel bod cyfleoedd mwy hyblyg i ymateb i ofynion sy'n dod i'r amlwg.

Yn hanesyddol, nid yw llawer wedi manteisio ar y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, ac mae nifer yr aelwydydd sy'n derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor yn parhau i ostwng, felly rydym yn ymgynghori ymhellach, mewn gwirionedd, ar y newidiadau sydd eu hangen i gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor er mwyn gwneud y gostyngiadau hynny'n haws. Ond mae gennym y cyfle hwnnw, rwy'n credu, o ganlyniad i'r gwaith yr ydym wedi'i wneud gyda'n gilydd yn y cytundeb cydweithio, y grŵp cyfeirio allanol a chymeradwyaeth 22 o awdurdodau lleol, i yrru hyn ymlaen i gyflawni'r canlyniadau y gwn ein bod yn eu rhannu. 

17:25

Diolch am eich gwaith ar hyn, Gweinidog. Mae'n braf iawn gweld y gwaith a wnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau gyda sefydliadau fel Sefydliad Bevan—mae gweld hwnnw'n dwyn ffrwyth ac yn symud ymlaen drwy Lywodraeth Cymru a'r cytundeb cydweithio yn galonogol iawn yn wir. Mae'n ymwneud â lleihau gwariant a sicrhau'r incwm mwyaf i deuluoedd ac unigolion yng Nghymru, Gweinidog, ac i'r graddau hynny, hoffwn gael eich barn ar werth meini prawf taliadau a chymhwysedd, oherwydd gwyddom fod cynlluniau, er enghraifft, yn ymwneud ag ysgolion wedi cael eu rhewi yn y termau hynny ers nifer o flynyddoedd, ac, yn amlwg, mae hynny wedi ei gwneud hi'n anoddach cynyddu incwm teuluoedd yn y ffordd angenrheidiol. 

O ran yr hyn a ddywedoch chi, Gweinidog, ynglŷn â, efallai, y caiff nifer o gynlluniau budd-daliadau eu cynnwys, ond gan ddechrau gydag ychydig ac yna, efallai, ehangu'r rhif hwnnw, a fyddech chi'n nodi map llwybr clir o ran y broses sy'n gysylltiedig â hynny, oherwydd, unwaith eto, rwy'n credu, bod hynny'n rhan bwysig iawn o'r cydgrynhoi a'r elfennau hawdd eu trin y mae angen i ni eu creu os ydym am weld y siarter yn cael ei gweithredu'n effeithiol ar lawr gwlad, Cyflawni'r budd-daliad yr hoffem ni i gyd ei weld? 

Diolch yn fawr, John Griffiths, ac a gaf i ddiolch i chi am yr arweinyddiaeth a ddangosoch chi fel Cadeirydd y pwyllgor a gyflawnodd y gwaith hwn yn y Senedd ddiwethaf, a'r ffordd y gwnaethoch roi'r dystiolaeth a gafodd ei chymeradwyo'n fawr wedyn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru—yr ymchwil a wnaethom i edrych ymhellach ar y cyfleoedd a'r opsiynau ar gyfer datganoli gweinyddu lles i Gymru?

Rwy'n credu eich bod wedi canolbwyntio ar y pwyntiau allweddol, o ran y gwaith y mae'r grŵp cyfeirio allanol yn ei wneud, gyda chefnogaeth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Felly, mae cymhwysedd yn allweddol. Y graddoli—rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith, ie, ei fod yn gam 1, ond bydd gennym gynllun yn yr haf i ddangos sut mae'r grŵp cyfeirio allanol yn teimlo y gallant ehangu hynny. Bydd ganddyn nhw ddiddordeb mawr yn yr ymateb heddiw i'm datganiad.

Hefyd, dim ond i ddweud, gan edrych yn arbennig tu hwnt i brydau ysgol am ddim, y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a'r grant hanfodion ysgolion, mae'n bwysig bod pobl yn dal i fod—bod hyn, ynddo'i hun, yn gallu sicrhau ein bod ni'n cael yr arian allan sydd wedi bod ar gael. Felly, ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, mae £13.6 miliwn ar gael ar gyfer y grant hanfodion ysgolion, ac mae 87 y cant o'r dyraniad cyllid hwn eisoes wedi'i dalu i deuluoedd cymwys. Mae'n rhaid i ni gael yr arian allan mewn gwirionedd—gallwn ei ddyrannu yn ein cyllidebau—felly rwy'n credu bod ein hymgyrch 'Hawliwch help gyda chostau ysgol' yn hanfodol. Felly, mae'n rhaid i hyn i gyd gysylltu o ran y ffordd yr ydym yn hyrwyddo hyn, gan ein bod yn gwybod bod grant hanfodion yr ysgol yn hanfodol. Ond gadewch i ni hefyd ganolbwyntio ar y lwfans cynhaliaeth addysg. Rwy'n siŵr y byddant yn edrych ar hynny hefyd, gyda'r cynnydd, y cynnydd, i £40 yr wythnos fis Ebrill diwethaf, gan gydnabod y costau ar y myfyrwyr ifanc hynny, yn enwedig y rhai sy'n parhau mewn addysg ôl-16. Ac mae pob un ohonom sy'n adnabod ac yn cwrdd â myfyrwyr ifanc yn y sefyllfa honno yn gwybod pa mor bwysig yw'r LCA. Mae'n cael ei gyflawni mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau, ond rwy'n credu bod hynny'n enghraifft arall o'r ffordd y gallwn symud ymlaen.

Yn olaf rwyf hefyd eisiau sôn am y talebau cychwyn iach. Nid wyf yn credu bod y Gweinidog yma gyda ni, ond 78 y cant yw'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun cychwyn iach yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae'n parhau i dyfu'n gyson, o'i gymharu â 74 y cant yn Lloegr a 61 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Felly, os oes ewyllys i wneud hyn—. Ac mae yno, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod hyfforddiant, y cwrs e-ddysgu gorfodol ar gyfer cychwyn iach i'r rhwydwaith cychwyn iach, gweithwyr iechyd proffesiynol, wedi gwneud gwahaniaeth. Felly, mae dysgu sut y gallwn gyflwyno hyn yn effeithiol yn hanfodol bwysig.

17:30

Rydym eisoes allan o amser ar gyfer y datganiad 30 munud hwn, felly pe baem yn cael cyfraniadau byr gan yr Aelodau a'r Gweinidog, byddai hynny'n fy helpu i alw ychydig mwy o Aelodau. Peredur Owen Griffiths.

Diolch, Llywydd. A diolch am y datganiad y prynhawn yma, Weinidog.

Fel rhan o'n cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau datganoli gweinyddiaeth y system les yng Nghymru. Yn ein barn ni, bydd yn sicrhau bod darparu cymorth lles wedi'i deilwra'n well i'n hanghenion cymdeithasol. Mae manteision datganoli yn y maes hwn hefyd yn amlwg o safbwynt ariannol. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, er enghraifft, wedi rhagweld y byddai Trysorlys Cymru wedi arbed tua £700 miliwn rhwng 2018 a 2024 pe bai gennym drefniant cyllidol ar les tebyg i'r un a drafodwyd rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU. Yn amlwg, gwnaed yr amcanestyniad hwn yn 2019, cyn effaith COVID a'r cyfnod o chwyddiant uchel yr ydym wedi bod yn ei brofi dros y flwyddyn ddiwethaf, felly mae'n ddigon posibl y bydd y ffigur yn uwch nawr. A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw waith i ganfod yr amcangyfrif diweddaraf?

Pe byddem yn edrych ar y £700 miliwn hwnnw, mae hynny oddeutu £116 miliwn y flwyddyn, a fyddai'n ddigon i ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd sy'n derbyn credyd cynhwysol, talu am adfer y grant cymorth tai mewn termau real, gyda digon ar ôl i leddfu'r beichiau sy'n wynebu awdurdodau lleol yn sylweddol. Mae gennyf dri chwestiwn yn gyflym. A gaf i, felly, ofyn pa sgyrsiau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ar y trywydd hwn, ac a ydych chi'n cytuno y dylen nhw ymrwymo'r adnoddau angenrheidiol i ganiatáu i ddatganoli ddigwydd? A ydych wedi ymgysylltu â'ch arweinyddiaeth Lafur yn y DU ar y mater hwn hefyd, ac, os felly, pa warantau ydych chi wedi gallu eu sicrhau i ddarparu hynny fel rhan o'r agenda ar gyfer y Llywodraeth? Ac yn olaf, a ydych chi'n credu y bydd y Llywodraeth Lafur sy'n dod i mewn yn San Steffan yn gallu cyflawni'r diwygiad hwn y mae mawr ei angen ar gyfer Cymru?

Diolch yn fawr. Diolch am y pwyntiau allweddol yna. Mae angen i ni edrych ar hyn yn ehangach, y prif faterion yr ydych wedi'u codi, y fframwaith cyllidol ehangach, ond hefyd edrych ar yr hyn sy'n ymarferol. Nid wyf am ailadrodd eto yr hyn a ddywedais am ganfyddiadau pwyllgor y cyfansoddiad, ond datganoli mwy o bwerau ar gyfer budd-daliadau lles o ran bod angen y cynnydd hwnnw mewn pwerau treth a benthyca—. Felly, rydym yn eithaf pell i ffwrdd o'r sefyllfa honno, ond rydym yn cydnabod yn llwyr y pwyntiau a wnaed heddiw.

Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad pwysig heddiw ar waith i ddarparu siarter a system fudd-daliadau Cymru. Hoffwn ddiolch i chi, eich swyddogion, llywodraeth leol a'r holl randdeiliaid perthnasol am ddod â ni i'r sefyllfa hon.

Dim ond un cwestiwn sydd gennyf i, i fod yn fyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pob aelod o'n cymunedau yn gallu cael gafael ar unrhyw gymorth, gan gynnwys y rhai a allai wynebu heriau o ran iaith neu lythrennedd TGCh. Rwy'n gwerthfawrogi bod gan ein cynghorau a'n sefydliadau partner brofiad eisoes o fynd i'r afael â'r pryderon hyn, ond sut y bydd yr arbenigedd hwn yn cael ei ymgorffori mewn unrhyw systemau'r dyfodol fel nad ydynt yn dod yn rhwystrau anfesuradwy sy'n atal pobl rhag cael gafael ar gymorth?

Diolch yn fawr iawn Vikki Howells. Rydych wedi codi pwynt allweddol, rwy'n credu ein bod wedi mynd i'r afael ag ef yn ein grŵp llywio allanol o gynrychiolwyr llywodraeth leol Cymru, awdurdodau lleol, ond hefyd Anabledd Cymru, Plant yng Nghymru, y Lleiafrifoedd Ethnig a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru, Ymddiriedolaeth Trussell, pawb sy'n gweithio yn y rheng flaen gyda phobl â phrofiad bywyd, i sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn o ran gweithredu. Rwy'n credu y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gweithgorau sy'n cael eu sefydlu a hefyd yn y ffyrdd y gall yr aelodau hynny ryngweithio. Mae'n ymwneud â dysgu a datblygu ar gyfer awdurdodau lleol hefyd, ac maent yn cydnabod bod hyn yn golygu ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gydnabod amrywiaeth Cymru ac anghenion y rhai tlotaf.

Dyma pryd y byddwn hefyd yn dweud bod ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol yn hanfodol, ac rwyf mor falch ein bod wedi deddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol honno, hyd yn oed ar adegau anoddaf y pandemig, oherwydd bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol mewn gwirionedd yn rhoi dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ein holl awdurdodau lleol, i edrych drwy bersbectif anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cael hyn yn iawn ar gyfer y siarter.

17:35

Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad pwysig yma. Wrth ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru o safbwynt rheoleiddio dyletswyddau ieithyddol a materion polisi a gadwyd yn ôl, fe nododd Comisiynydd y Gymraeg fod nawdd cymdeithasol, cynnal plant, pensiynau ac iawndal hefyd yn faterion a gedwir yn ôl. Yn amlwg, rydym ni'n croesawu bod y siarter yn mynd i fod yn gweithredu yn unol â safonau'r Gymraeg ac yn sôn am fynediad at y system mewn Cymraeg clir a hygyrch, ond, yn amlwg, mi fydd yna rai budd-daliadau sydd o dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, gaf i ofyn pa sicrwydd neu drafodaethau rydych chi wedi eu cael o ran sicrhau bod yr holl system yma yn gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg, oherwydd mi fydd hi'n anodd o ran bod pobl yn gwybod pa hawl sydd ganddyn nhw o ran defnyddio'r iaith? Mae bwysig bod hyn ar gael yn y ddwy iaith.

Hefyd, jest o ran mynd â'r gwaith yma rhagddo, mi nododd y comisiynydd dyw hi ddim

'yn ymwybodol o ddata ac ymchwil sy’n edrych yn benodol ar amddifadedd a dibyniaeth ar fudd-daliadau mewn cymunedau lle ceir canrannau uchel o siaradwyr Cymraeg neu ymysg siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol'.

Ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau neu yn edrych o ran sut rydym ni'n edrych ar yr holl system yma a'r elfen o'r Gymraeg yn benodol? Diolch.

Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

Byddwn yn hapus iawn i gwrdd â Chomisiynydd y Gymraeg, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog hefyd yn cydnabod hyn yn y gwaith a'r cyswllt ymgysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn. Ni ddylech orfod ei ddweud, dylai ddigwydd, ond mae angen i ni sicrhau ei fod yn gwneud hynny, ac rwy'n hapus i fwrw ymlaen â hyn.

Hefyd, rwy'n credu bod materion eraill o ran hygyrchedd. Os caf dim ond dweud bod yna ymrwymiadau a wnaed yn y siarter, nid ymrwymiadau ar y Gymraeg yn unig, ond hefyd y dylai'r cyfathrebu am fanteision Cymru fod ar gael mewn fformatau hygyrch, hawdd eu deall, Iaith Arwyddion Prydain ac ieithoedd cymunedol. Felly, fel y dywedais i, mae gan y grŵp cyfeirio allanol weithgor ar gyfathrebu strategol mewn gwirionedd, felly byddaf yn sicrhau bod y cyfan yn cael ei fwydo yn ôl i'r grŵp cyfeirio allanol.

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynllun Gweithredu Technoleg Gymraeg

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf ar y cynllun gweithredu technoleg Gymraeg. A'r Gweinidog, felly, i wneud ei ddatganiad.

Diolch, Llywydd. Yn gynharach heddiw, fe wnes i gyhoeddi adroddiad terfynol ar ein cynllun gweithredu technoleg Cymraeg. Ac rwyf i yma heddiw i ddathlu’r cynnydd sydd wedi’i wneud. Mae’r adroddiad yn edrych nôl ar y pum mlynedd ers i ni gyhoeddi’r cynllun. Mae e hefyd yn marcio diwedd oes y cynllun. Mae mwy yn yr adroddiad nag y gallaf i siarad amdano fe mewn cwta sesiwn fel hon, wrth gwrs, ac mae’r adroddiad yn dod â phopeth ynghyd i chi gael gweld.

Tair thema’r cynllun nôl yn 2018 oedd technoleg lleferydd iaith Gymraeg, cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, a deallusrwydd artiffisial sgyrsiol. Rydyn ni wedi cymryd y dasg o ddifrif. Ers hynny, rŷn ni wedi ariannu, wedi creu ac wedi gweithio ar y pethau sydd eu hangen ar iaith yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Er enghraifft, gyda’n grant ni, mae Trawsgrifiwr Prifysgol Bangor yn troi Cymraeg llafar yn destun ysgrifenedig. Mae hyn yn helpu defnyddwyr iaith Gymraeg sydd ag anghenion penodol. Mae hefyd yn gallu cynhyrchu is-deitlau yn awtomatig ar gyfer fideos a ffeiliau sain Cymraeg.

Erbyn hyn mae gan bobl sy’n defnyddio lleisiau synthetig Cymraeg—am resymau meddygol neu hygyrchedd, er enghraifft—fwy o ddewis o leisiau, rhai benywaidd a gwrywaidd, mewn acenion gwahanol. Mae Cymru yn wlad ddwyieithog, felly hefyd y lleisiau hyn. Maen nhw’n adlewyrchu sut mae siaradwyr yn newid rhwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn sgyrsiau bob dydd.

Mae cyfieithu peirianyddol wedi elwa o'n gwefan BydTermCymru. Yma, rŷn ni’n rhannu cofau cyfieithu yn agored. Gyda chefnogaeth ein grant, mae Prifysgol Bangor wedi datblygu cyfieithu peirianyddol arbenigol, un yr un ar gyfer y maes iechyd a gofal, a deddfwriaeth. Mae’r brifysgol hefyd wedi gweithio gyda’r cwmni y tu ôl i ChatGPT, OpenAI, i wella sut mae eu sgwrsfot mwyaf pwerus, GPT-4, yn prosesu’r Gymraeg. Mae hon yn enghraifft o weithio mewn partneriaeth, ac mae partneriaeth yn ganolog i'n gwaith. Er enghraifft, fel rhan o'n partneriaeth â Microsoft, rŷn ni wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd Microsoft Teams.

Athroniaeth y cynllun oedd creu diwylliant o arloesi agored drwy sicrhau bod adnoddau digidol iaith Gymraeg a data ar gael i bawb, heb gyfyngiadau diangen ar eu defnydd. Mae hyn yn galluogi datblygwyr a siaradwyr Cymraeg i’w defnyddio a’u hailddefnyddio at eu dibenion nhw eu hunain, ac i greu cynnyrch a gwasanaethau newydd sydd o fudd i’n hiaith. Mae hefyd wedi sicrhau bod yr adnoddau rŷn ni wedi’u creu yn gynaliadwy at y dyfodol. Mae ein gweledigaeth ni yn rhoi ein hiaith ni wrth wraidd datblygiadau digidol. Mae’r gwaith rŷn ni wedi’i wneud yn cefnogi’r nod o ddyblu’r nifer ohonom ni sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, ac, wrth gwrs, o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

17:40

Weinidog, diolch i chi am gyflwyno'r datganiad hwn, a rhoi gwybod am y sefyllfa sydd ohoni.

Fel un o gefnogwyr brwd y Gymraeg, ac fel rhywun sydd yn llawn cyffro o ran technolegau newydd, rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw hi i wneud yn siŵr bod technoleg yn chwarae rhan ar hyd taith Cymru i wireddu uchelgais 'Cymraeg 2050'.

Gan symud ymlaen i'r adroddiad hwn, mae bron i saith mlynedd wedi mynd heibio ers lansio'r cynllun gweithredu gan eich rhagflaenydd, sef y Gweinidog iechyd erbyn hyn. Yn ôl yr adroddiad, er bod technoleg ym mhobman, prin yw’r cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg a phan fo defnyddio'r Gymraeg yn opsiwn nid yw bob amser yn un clir. Rwy'n teimlo ein bod ni wedi gwneud cynnydd o bwys ers 2017, ac mae'r datganiad heddiw wedi ategu hynny. Dylai technoleg fod yno i helpu ein defnydd o'r Gymraeg, magu hyder yn y rheini sy'n dysgu neu'n adnewyddu eu sgiliau iaith, a chynnig profiad mwy esmwyth a chyfeillgar i ddefnyddwyr os ydyn nhw eisiau defnyddio technoleg yn y Gymraeg. Mae'r ffaith bod y cynllun gweithredu yn cydnabod bod technoleg yn faes blaenoriaeth o ran sicrhau lle i'r Gymraeg yn ein bywydau yn y dyfodol yn genhadaeth ag iddi nod canmoladwy, ac, yn sgil y datganiad heddiw, rwy'n teimlo bod cynnydd wedi'i wneud.

Mae rôl technoleg wrth gefnogi’r defnydd o ail iaith yn golygu ymgysylltu. Roeddwn yn falch o weld sut mae SaySomethinginWelsh, sef datblygwyr apiau dysgu Cymraeg, wedi creu cwrs byr, rhad ac am ddim, i helpu pobl i ddysgu anthem genedlaethol Cymru mewn pryd ar gyfer gêm y chwe gwlad y penwythnos hwn. Maen nhw'n honni y bydd modd dysgu 'Hen Wlad fy Nhadau' mewn pedair gwers yn unig, gan ddefnyddio'r ap. Y math hwn o arloesi sy’n cofleidio pŵer technoleg, gyda'r awydd i lwyddo i ddatblygu sgiliau newydd a gwneud targedau 'Cymraeg 2050' yn bosibl.

Roedd gan adroddiad 2017 dri maes a bennwyd, fel roeddech chi'n sôn, sef technoleg lleferydd Cymraeg, cyfieithu â chymorth cyfrifiadur a deallusrwydd artiffisial sgyrsiol, ac rwy’n gwybod bod datblygiadau mawr wedi'u gwneud ar draws y tri maes hyn.

Gan ganolbwyntio ar rai o'r manylion penodol yn yr adroddiad, felly, o ran yr hyn fyddai'n cael ei datblygu yn ystod oes y cynllun gweithredu, mae diddordeb gyda fi mewn gwybod sut mae'r cyfleuster bancio llais ar gyfer lleisiau Cymraeg unigolion wedi cael ei ddatblygu, gan ei bod yn hanfodol y gall technoleg gydnabod yr ystod lawn o acenion a thafodieithoedd sydd yn rhan o'n hiaith. Sut ydych chi'n sicrhau bod pob agwedd ar ein hiaith yn cael ei chydnabod gan dechnoleg?

Yn olaf, o ran cynnwys digidol Cymraeg, beth yw'r gefnogaeth sydd gennym ni ar hyn o bryd i wella gwirwyr sillafu, gramadeg a threigladau Cymraeg, gyda'r nod o sicrhau bod mwy o gyfleusterau o'r fath ar gael yn rhad ac am ddim? Ydych chi wedi cael unrhyw gyfarfodydd gyda Microsoft neu Google, er enghraifft, i drafod hyn, yn enwedig o ystyried twf cyflym AI?

Weinidog, fel y dywedais i wrth agor, mae gwireddu targed 'Cymraeg 2050' yn rhywbeth yr wyf am ei weld. Bydd llwyddiant y cynllun gweithredu technoleg Cymraeg, sydd ar y gweill, yn gwneud hynny'n bosibl.

Efallai mai dyma'r cyfle olaf i fi drafod materion y Gymraeg gyda chi yn eich rôl bresennol, felly, dyma fynegi fy niolch ichi am y gwaith rydych chi wedi ei wneud i hyrwyddo'r Gymraeg yn ystod eich cyfnod fel Gweinidog. Diolch, Llywydd.

17:45

Diolch o galon am hynny, a diolch am gwestiynau treiddgar a phwysig, os caf i ddweud. O ran yr hyn wnaeth Sam Kurtz gychwyn ei gyfraniad yn sôn amdano fe, mae wir yn bwysig, onid yw e, ein bod ni'n sicrhau, wrth ein bod ni'n gosod y nod i'n hunain o ddyblu'r defnydd o'r Gymraeg yn ddyddiol, ein bod ni'n sicrhau bod hynny'n rhywbeth sydd yn real yn ein bywydau ni ymhob ffordd, ac mae cyfraniad technoleg i'n bywyd bob dydd ni, wrth gwrs, yn realiti ers cyfnod ac mae'n gynyddol felly, felly mae’n amlwg bod e'n bwysig inni barhau i fod yn berthnasol ac i sicrhau ein bod ni'n esblygu ein strategaeth yng ngoleuni hynny. Felly, mae'r datganiad heddiw yn sôn am, os hoffwch chi, seilwaith, y blociau adeiladu sydd tu cefn i rai o'r cynigion cyhoeddus hynny, ond mae hefyd gwaith arall yn digwydd o ran dysgu'r Gymraeg drwy VR—virtual reality—rhaglen Aberwla ac ati. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i fod yn berthnasol.

Gwnaeth yr Aelod sôn am bwysigrwydd y datganiad a'r strategaeth yn 2017, ac o safbwynt maes iechyd a gofal, pa mor bwysig y mae technoleg yn gallu bod yn y cyd-destun hwnnw, felly, rŷn ni wedi ariannu lleisiau synthetig dwyieithog sydd bellach yn cael eu defnyddio yn y sector iechyd gan therapyddion lleferydd, ac mae'r lleisiau ar waith ym mhrosiect Lleisiwr Prifysgol Bangor, sy'n helpu cleifion i ddefnyddio'u Cymraeg ar ôl triniaeth. Rŷn ni hefyd wedi ariannu 16 llais cyfathrebu estynedig ac amgen ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n dibynnu ar dechnoleg i gyfathrebu, er enghraifft, ac mae'r rhain yn cynnwys lleisiau, fel roedd e'n gofyn, sydd ag acenion gogleddol, deheuol ac ar gyfer bechgyn a merched ifanc ac yn eu harddegau. Felly, amrywiaeth o leisiau i gyfathrebu trwyddyn nhw.

Mae'n bwysig—

Dwi wir yn sori am dorri ar eich traws chi. Sori, fy nghamgymeriad i, roeddwn i'n meddwl eich bod chi wedi gorffen.

Jest i ddweud, mae'r syniad o fancio, bancio iaith, yn bwysig. Mae hynny'n cyfrannu tuag at yr adnodd sydd ar gael i eraill allu datblygu'r hyn rŷn ni'n buddsoddi ynddo fe. Felly, mae datblygiad Mozilla Common Voice, er enghraifft, yn enghraifft o sut rŷn ni'n gallu defnyddio hyn i greu banc o leisiau amrywiol Cymraeg a data wedyn sy'n gallu cael ei ddefnyddio i hyfforddi systemau lleferydd i destun newydd yn y Gymraeg.

Jest i ddweud, mae'r gwaith partneriaeth yn bwysig. Mae perthynas da iawn gennym ni gyda Microsoft ac eraill hefyd, cwmnïau eraill, sydd ddim eto wedi cael eu cyhoeddi, ond rwy'n gobeithio gallu gwneud hynny cyn hir, ac mae'r gwaith gydag OpenAI hefyd yn gyffrous iawn.

Diolch, Weinidog, am y datganiad. Fe wnes i fwynhau darllen yr adroddiad yn fawr iawn a dwi eisiau llongyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm efo'r gwaith arloesol a phwysig iawn yma. Mae o wir yn werth i bobl wybod y cyfoeth o bethau sy'n digwydd, a dwi'n meddwl mai un o'r heriau ydy sut fedrwn ni hybu'r ffaith bod cymaint o'r adnoddau yma ar gael, fel bod cymaint o bobl â phosib yn cael budd ohonyn nhw.

Wedyn, un o'r cwestiynau sydd gen i ydy: pa waith fydd rŵan yn cael ei wneud i gynyddu'r defnydd o'r holl adnoddau yma i sicrhau bod pawb yn gwybod amdanyn nhw? Oherwydd, yn sicr, dwi wedi ffeindio pethau newydd allan wrth ddarllen yr adroddiad, a dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ofnadwy ein bod ni'n sicrhau bod y wybodaeth yna allan yna, oherwydd does yna ddim pwynt cael yr adnoddau yma os nad ydyn nhw ychwaith yn cael y bwriad sydd y tu cefn iddyn nhw, a bod pobl yn eu defnyddio nhw yn eu bywydau bob dydd.

Dwi'n adlewyrchu hefyd mai adroddiad terfynol sydd gennym ni fan hyn. Yn amlwg, mae technoleg yn newid yn gyflym ac yn esblygu drwy'r adeg, felly beth ydy'r camau nesaf? Fydd yna gynllun newydd? Sut fydd y gwaith yma'n mynd rhagddo, oherwydd dechrau'r daith ydy o ar nifer o'r prosiectau hyn, yn amlwg, ac mi fyddan nhw'n esblygu?

Dwi'n adlewyrchu hefyd ei bod hi'n saith mlynedd yn ôl bellach ers i Llyr Gruffydd siarad efo Siri yn y Siambr yma a methu â chael ateb wrth siarad yn Gymraeg, ac yn anffodus dwi'n meddwl pe baech chi'n trio siarad efo Siri yn Gymraeg yr un peth fyddai'n digwydd heddiw. Dydy o ddim yn fy neall i weithiau pan dwi'n trio siarad Saesneg efo fo, oherwydd fy acen i. [Chwerthin.] Ond mae yna waith mawr o ran sicrhau yr holl ystod yma o dechnoleg sydd yn rhan o'n bywydau ni bob dydd. Felly, a gaf i ofyn yn benodol o ran Siri, oes yna unrhyw sgyrsiau wedi bod yn benodol efo Apple, oherwydd dwi'n nodi yn yr adroddiad o ran Alexa a'r camau yna, ond yn amlwg mae Apple yn rhan fawr o fywyd bob dydd, a Siri, felly?

Un o'r pethau eraill, wrth gwrs, o ran—. Mae Samuel Kurtz wedi codi nifer o bethau yna. Dwi'n croesawu yn fawr y bartneriaeth sydd wedi bod o ran Duolingo. Mae hwnna yn ap allweddol, a dwi yn credu, wrth inni fynd ati i adfywio a normaleiddio'r defnydd o'r iaith Gymraeg, mi fydd yn rhaid sicrhau bod yr holl ystod o apiau hefyd ar gael. Rydyn ni wedi sôn o'r blaen efo'r safonau, efo pethau fel y banciau ac ati, ond mae yna gymaint o rwystrau rŵan. Mae'n bywyd ni i gyd bron—bob ffurflen a bob llinell gymorth rŵan—drwy gyfrifiadur yn lle person, felly sut ydyn ni'n mynd i sicrhau, drwy'r safonau hefyd efallai, ein bod ni'n rhoi'r pwyslais yna ar dechnoleg drwy hynny ac yn sicrhau bod cwmnïau oedd yn flaenorol efallai yn frwd o ran y Gymraeg pan oedd person ar gael yn sicrhau ei fod e yr un mor hawdd drwy dechnoleg i allu defnyddio'r Gymraeg mewn ffordd dydd i ddydd, oherwydd mae'n dod yn gynyddol anoddach, yn fy marn i, i ddefnyddio'r Gymraeg? Lle mae gennym ni'r holl fuddsoddiad yma yn mynd i mewn a chymaint i'w ddathlu, fel roeddwn i'n dweud, pam felly ydyn ni'n ei chael hi'n anoddach weithiau i ddefnyddio ein Cymraeg? Felly, gaf i ofyn sut ydyn ni am weithio efo'r sefydliadau hynny sydd yn gynyddol yn trio ein cael ni i ddefnyddio technoleg, i sicrhau bod y gwaith yma'n mynd rhagddo, fel ein bod ni i gyd yn cyrraedd y nod o normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg, ond yn ei gwneud hi'n hawdd hefyd?

17:50

Digon teg. O ran y cwestiynau gan Heledd Fychan—. Adnoddau rŷn ni'n eu creu yn fan hyn, sydd yn ddefnyddiol o ran y gwaith mae datblygwyr technoleg, ar y cyfan, yn gallu ei wneud. Mae yna elfennau ohono fe sy'n wynebu'r cyhoedd, wrth gwrs, ond gyda llawer o'r adnoddau, seilwaith ieithyddol yw e. Rwyf jest eisiau cydnabod—. Rwyf wedi sôn am waith Prifysgol Bangor yn fy natganiad, ond mae Prifysgol De Cymru, Caerdydd, Aberystwyth a Chaerhirfryn hefyd wedi bod ynghlwm yn elfennau o'r gwaith yma, felly mae rhwydwaith sefydlog a brwdfrydig iawn o bobl yn gweithio ar hyn o'r ochr academaidd. Ond hefyd rwyf eisiau cydnabod y gwaith mae ystod eang iawn o wirfoddolwyr yn ei wneud, fel mewn pob maes datblygu technoleg, ac mae'r gwaith hwnnw yn rhan hollol naturiol o'r tirwedd datblygu yma hefyd, felly rwyf eisiau cydnabod y rôl sydd ganddyn nhw yn lledaenu'r neges hefyd.

Un o'r pethau rŷn ni wedi bod yn glir arno o ran egwyddor yn hyn o beth, er mwyn ein bod ni'n gallu hyrwyddo mewn ffordd sydd yn annog datblygiadau eraill arloesol, yw ein bod ni'n trwyddedu am ddim, felly mae'r buddsoddiad rŷn ni'n ei wneud yn creu deunydd rŷn ni wedyn yn trwyddedu am ddim i'r byd, fel bod hynny'n gallu creu arloesi, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n falch iawn ohono fe. Mae'n fuddsoddiad pwysig ond, ar ddiwedd y dydd, darparu hyn yn agored yw'r ffordd orau i sicrhau cynnydd yn y maes.

O ran cynllun newydd, dwi ddim wedi penderfynu eto ai cynllun newydd yw'r penderfyniad iawn. Ar ddiwedd y dydd, fy man cychwyn i yw bod angen i'r gweithgaredd barhau, yn sicr, ac efallai mai blaenoriaethu hynny yn hytrach na llunio cynllun arall yw'r peth gorau, gan fod yr egwyddorion yn glir ddigon yn y cynllun cyntaf a'r perthnasau a'r rhwydwaith o berthnasau wedi'u sefydlu erbyn hyn. Felly, rwy'n creu mai adeiladu ar hynny yw'r peth mwyaf cynhyrchiol, ond rwy'n cadw hynny o dan drosolwg, ac mae adnoddau wedi eu clustnodi ar gyfer caniatáu gwneud hynny yn y dyfodol, felly dyw'r gwaith, yn sicr, ddim yn dod i ben.

Mi wnaeth Heledd Fychan ofyn am Siri. Dŷn ni ddim eto mewn man i allu gwneud hynny. Er mwyn datblygu’r math yna o dechnoleg, mae angen ystod sylweddol iawn o ddata ieithyddol. Mae datblygwyr yn y maes yn disgwyl degau, os nad cannoedd o filoedd o oriau o ddata cyn eu bod nhw'n gallu creu y math yna o dechnoleg, ac ar hyn o bryd mae gennym ni tua 200 awr o ddata perthnasol yn y Gymraeg. Mae hynny'n gwbl arferol i iaith sydd yn llai ei defnydd yn rhyngwladol, felly dyw hynny ddim yn beth annisgwyl, ond mae e’n her. Dyna pam rŷn ni wedi blaenoriaethu’r bancio ieithyddol—ein bod ni'n cynyddu hynny—a bydd hynny, yn y pen draw, yn caniatáu i hynny ddigwydd.

O ran Duolingo, mae hynny yn bwysig. Wrth gwrs, dyw profiad pobl o ddefnyddio Duolingo, ar y cyfan, ddim wedi newid. Ar gyfer bron pob defnyddiwr, mae'r profiad yn union yr un peth, ac maen nhw wedi cytuno i gael trafodaeth gyda ni, yn barhaus. Petasem ni'n penderfynu bod angen datblygu pellach, wel, mae gennym ni ddeialog i ni allu trafod hynny gyda nhw, felly mae hynny'n adeiladol iawn.

O ran yr apiau, rwyf jest eisiau dweud, o ran y defnydd o dechnoleg bob dydd, os hoffwch chi, mae sgwrsfot gan Brifysgol Bangor o'r enw Macsen sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae cyfle i allu datblygu ymhellach o'r math yna o ddatblygiad. Mi wnaethon ni hefyd rhagosod rhyngwyneb Office365 i'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae hynny wedi golygu, dros nos, fod y defnydd hwnnw nawr yn beth hollol naturiol, bod dim angen gwneud y dewis penodol hwnnw. Ac mae'r math yna o beth, dwi'n credu, yn dangos sut gallwn ni wneud cynnydd. Ar ddiwedd y dydd, mae pobl yn cynefino’n gyflym iawn â hynny, os ŷch chi’n gwneud y penderfyniad i'w wneud e. Felly, mae cyfle i ni wneud hynny mewn ffyrdd eraill hefyd.

17:55

Diolch yn fawr, Gweinidog. Dwi'n falch iawn o weld yr adroddiad yma. Dwi'n falch iawn eich bod chi wedi ei gyhoeddi fe, ac yn falch eich bod chi wedi gwneud y datganiad dŷch wedi ei wneud y prynhawn yma. Dwi'n ei groesawu fe yn fawr iawn. Fel Heledd, dwi'n awyddus iawn i ddeall pryd fyddaf i'n gallu siarad ag Alexa a Siri yn y Gymraeg, ac mi licien i wybod os—. Dŷch chi wedi ateb y cwestiwn blaenorol, ond licien i wybod os oes amserlen gennych chi ar gyfer y gwaith datblygu ychwanegol sydd ei angen arnoch chi er mwyn cwblhau'r broses.

Ond hefyd, dwi'n awyddus i ddeall sut bydd AI yn newid y ffordd dŷch chi'n datblygu polisi y Gymraeg, achos mae'n hynod o bwysig ein bod ni'n edrych ar ddatblygiadau yn y dyfodol ar gyfer y Gymraeg a sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ohonyn nhw, a hefyd bod y Gymraeg yn rhan o ddatblygiadau y cwmnïau byd-eang yma dŷn ni wedi bod yn eu trafod, ond hefyd mae’r ffordd dŷn ni'n gwneud hyn yn eithaf pwysig i fi. Dwi'n awyddus iawn ein bod ni'n canolbwyntio ar open-source technology yn lle technolegau sy'n gaeedig, a licien i ddeall beth ydy agwedd y Llywodraeth at hynny.

Ac wedyn, sut mae'r Llywodraeth yn cydweithio â chwmnïau a busnesau mawr i sicrhau bod mwy o apps ar gael yn Gymraeg? Dwi'n defnyddio iPhone, er enghraifft, ac mae'r operating system hynny bron i gyd yn y Gymraeg, so dwi'n defnyddio’r Gymraeg bod dydd drwy hynny. Ond pan dwi'n mynd i mewn i'r apps ar y ffôn, wrth gwrs, dwi'n troi at y Saesneg, felly licien i sicrhau ein bod ni'n gallu cael awyrgylch neu landscape digidol yn y Gymraeg lle rŷn ni'n gallu defnyddio’r Gymraeg drwy’r amser.

Diolch am y cwestiynnau hynny. Wel, o ran y gwaith gydag Alexa, gyda Siri, gydag Android ac ati, yr her nesaf, ac rŷn ni'n gweithio arno hi'n barod, yw creu’r gronfa o gannoedd o filoedd o oriau o ddata. Dyna sydd angen ei wneud nawr, ac mae gennym ni siwrnai eithaf hir cyn ein bod ni wedi cyrraedd y nod hwnnw, jest oherwydd maint y Gymraeg o gymharu â'r ieithoedd rhyngwladol mwyaf eu defnydd. Ond mae'r gwaith yn parhau’n barod i gasglu mwy o ddata, ac mae'r gwaith yna yn bwydo i mewn i adnoddau rŷn ni'n eu hariannu, fel Macsen roeddwn i'n sôn amdano fe jest nawr, sef sgwrsfot Prifysgol Bangor, ond hefyd i adnoddau allanol. Roedd Alun Davies yn gofyn sut ŷn ni'n cydweithio â'r cwmnïau yma. Mae adnoddau allanol, fel cronfa ddata Amazon MASSIVE, sydd yn gronfa ddata gyfochrog o hyd at tua miliwn o ymadroddion, y tu cefn i beth sydd yn bwydo, os hoffwch chi, system Alexa, felly mae gyda ni'r berthynas honno yn barod.

Dwi'n cytuno'n llwyr gydag e bod cyfle mawr fan hyn o safbwynt deallusrwydd artiffisial, AI. Dyna ran o'r rheswm rŷn ni'n ariannu Prifysgol Bangor i adeiladu ar Macsen a gweithio gyda OpenAI nawr i weld sut mae'r sgwrsfot sydd gyda nhw, sef GPT-4, yn gallu prosesu'r Gymraeg. Mae hynny wedyn yn gam mawr ymlaen, dwi'n credu, o ran darpariaeth, ac yn bwysig o ran darpariaeth yng nghyd-destun apiau. Mae fy ffôn symudol i wedi'i osod i'r Gymraeg, ond, fel yn ei brofiad e, pan fyddaf i'n edrych ar ap, dyw hynny ddim yn y Gymraeg, ond rwy'n rhagweld, wrth inni allu tyfu'r cyfle yma o ddefnyddio'r Gymraeg drwy ChatGPT ac ati, fod hynny'n dod yn haws i'w wneud.

A jest i ddweud, yn olaf, rwy'n cytuno'n llwyr gydag e mai'r defnydd agored o drwyddedu yw'r ffordd rŷn ni'n mynd i wneud cynnydd yn fan hyn. Dyna sy'n ddisgwyliedig, dwi'n credu, yn y maes, a hynny sydd yn mynd i sicrhau ein bod ni'n gallu parhau i arloesi.

18:00
8. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Wythnos CaruUndebau

Y datganiad o dan eitem 8 sydd nesaf, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Wythnos CaruUndebau. Y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Hannah Blythyn.

Diolch. Wythnos diwethaf, fe ddathlodd undebau llafur ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig Wythnos CaruUndebau, digwyddiad blynyddol sy'n dangos y gwaith hanfodol mae'r undebau llafur yn ei wneud.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r mudiad undebau llafur yn seiliedig ar ein cred gadarn bod undebau llafur yn sylfaenol i waith teg. Mae'r mudiad undebau llafur wedi siapio pwy ydw i, ac rwy'n falch o fod yn rhan o Lywodraeth sy'n gwerthfawrogi'r cyfraniadau y mae'r mudiad llafur wedi eu gwneud ac yn parhau i'w gwneud i'n bywydau ni i gyd. Rydym ni'n credu mai bod mewn undeb llafur yw'r ffordd orau o ddiogelu hawliau yn y gwaith, gwella cyflogau, telerau ac amodau, a sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei glywed. Rydym ni'n falch o hyrwyddo swyddogaeth undebau llafur a'r gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud i wneud gwaith a gweithleoedd yn decach, yn fwy diogel ac yn fwy sicr.

Bob dydd, mae undebau ledled Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi gweithwyr, pa un a yw'n hyrwyddo cydraddoldeb, yn cynnig cyfleoedd hyfforddi, yn hybu iechyd a diogelwch yn y gweithle, neu'n brwydro dros bontio teg. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith hwn mewn amrywiaeth o ffyrdd, a hoffwn fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at rai o'r rhain heddiw. Yn gyntaf oll, mae cronfa ddysgu undebau Cymru, neu WULF fel yr ydym ni yn ei hadnabod hi, yn rhaglen hirsefydlog sy'n cefnogi addysg oedolion dan arweiniad undebau llafur yn y gweithle. Mae WULF yn ymrwymiad rhaglen lywodraethu â chysylltiadau cryf â'n cynllun cyflogadwyedd a sgiliau a'n huchelgeisiau ar gyfer gwaith teg. Rydym ni wedi cefnogi'r rhaglen flaenllaw hon ers dros 20 mlynedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae hyn wedi cynorthwyo tua 12,000 o weithwyr o bob rhan o Gymru ar eu taith ddysgu. Mae'n enghraifft wych o sut y gall y Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr gydweithio i uwchsgilio'r gweithlu.

Rwyf hefyd yn arbennig o falch o'n prosiect Undebau a'r Byd Gwaith mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru. Datblygwyd hwn mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru, TUC Cymru, undebau llafur ac athrawon. Mae'r prosiect yn cynorthwyo wrth ddarpar profiad cysylltiedig â gwaith a gyrfaoedd, thema drawsbynciol o'r Cwricwlwm i Gymru. Trwy wneud amrywiaeth o adnoddau ar gael ar Hwb—ein porth addysg ar-lein—rydym ni ar y cyd yn cynorthwyo'r genhedlaeth nesaf o weithwyr, cyflogwyr a darpar entrepreneuriaid i fod â gwell dealltwriaeth o hawliau cyflogaeth, swyddogaeth undebau llafur ac effaith llais cyfunol wrth fynd i'r afael â materion yn y gweithle a thu hwnt. Rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r rhaglenni hyn gan eu bod nhw'n hanfodol i'n gweledigaeth gyffredin ar gyfer tegwch a datblygiad yn y gwaith. Mae pawb yn haeddu gwybod sut i arfer eu hawliau a sut i ddefnyddio eu llais ym myd gwaith.

Wrth i waith barhau i esblygu, mae'n rhaid i ninnau hefyd, gan sicrhau bod gennym ni bontio teg wrth i ni ymdrechu i gyflawni ein dyheadau sero net a gwneud defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle. Mae'n rhaid i lais y gweithiwr gael ei glywed a'i gynrychioli drwy gydol yr esblygiad hwnnw. Dyna pam, fel Llywodraeth, yr ydym ni wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o swyddogaeth undebau llafur. Dyna pam nad ydym ni'n gwingo rhag hyrwyddo manteision ymuno ag undeb llafur, a dyna pam rydym ni'n annog cyflogwyr i ddarparu mynediad at undebau llafur, fel bod gan weithwyr y cyfle a'r dewis i gael eu cynrychioli ar y cyd.

Rydym ni'n eglur mai undebau llafur yw llais dilys gweithwyr yn y gweithle, boed hynny yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, ac mai bod yn rhan o undeb llafur yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod anghenion gweithwyr yn cael eu clywed. Dyma sylfaen ein model partneriaeth gymdeithasol. Mae ein dull yng Nghymru yn gwbl groes i'r gweithredoedd a'r rhethreg gwrth-undebau llafur yr ydym ni wedi eu gweld gan Lywodraeth y DU o dan bum Prif Weinidog ers 2010. Tra eu bod nhw wedi deddfu i gyfyngu hawliau gweithwyr ac undebau llafur, rydym ni wedi pasio deddfwriaeth i wneud partneriaeth gymdeithasol yn gyfraith. Pasiwyd ein Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gyfraith ym mis Mai 2023, gan roi sylfaen statudol i bartneriaeth gymdeithasol. Bydd ei dyletswyddau yn dechrau ar 1 Ebrill eleni, ond mae gennym ni dystiolaeth uniongyrchol eisoes o'r effaith gadarnhaol y gall gweithio effeithiol mewn partneriaeth gymdeithasol ei chael ar weithwyr unigol a sectorau ehangach yn yr un modd.

Mae cyflogwyr, undebau llafur a'r Llywodraeth wedi cydweithio'n llwyddiannus drwy'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn y sector ac i sicrhau bod gan ein gweithlu a'n cynorthwywyr personol gofal cymdeithasol cofrestredig yr urddas o ennill cyflog byw. Yn y sector manwerthu, mae gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol wedi gweld sefydlu fforwm manwerthu, cyflwyno cynllun gweithredu manwerthu ac ymrwymiad gan y Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n wynebu'r sector.

Mae cyngor partneriaeth y gweithlu, partneriaeth o'r undebau llafur, cyflogwyr y sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru, yn parhau i ddatblygu cynllun gwaith sy'n cynnwys ystyried materion allweddol fel cydraddoldeb yn y gweithle a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus. Yn fwy diweddar, rydym ni wedi sefydlu fforwm hawliau a chyfrifoldebau'r gweithlu, lle bydd ein model llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn sail i'w nodau o wella dealltwriaeth gyfunol o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle.

Mae undebau llafur wedi chwarae rhan hanfodol ym mhob un o'r grwpiau hyn a byddant yn parhau i wneud hynny, yn enwedig fel aelodau o'r cyngor partneriaeth gymdeithasol, a gyfarfu am y tro cyntaf ar 1 Chwefror. Mae cyfarfod cyntaf hwn y cyngor yn gam mawr ymlaen yn ein hymrwymiad i'r ffordd Gymreig hon o weithio a'i gwneud yn rhan o'n DNA datganoledig.

Bwriad yr ymyriadau a'r rhaglenni yr wyf i wedi tynnu sylw atyn nhw heddiw yw sicrhau gwelliant i fynediad at undebau llafur a'u presenoldeb a'u cwmpas yng Nghymru, y mae pob un ohonyn nhw'n cyfrannu at ein dangosydd cenedlaethol sy'n mesur cyfran y gweithwyr y mae eu cyflog yn cael ei bennu gan fargeinio ar y cyd. Rwy'n falch o fod yn undebwr llafur ac rwy'n falch o hyrwyddo mynediad at undebau llafur ac aelodaeth ohonyn nhw. Ac rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud, ac y gallwn ni ei wneud, drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol blaengar. Diolch.

18:05

Diolch, Dirprwy Lywydd, am eich datganiad heddiw. Efallai y bydd hyn yn eich synnu, ond rwy'n credu y gall undebau llafur fod yn rym cadarnhaol dros amddiffyn hawliau gweithwyr a hyd yn oed i helpu llywodraethau i ddeall rhai o oblygiadau mwy manwl-benodol eu polisïau.

Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am wella mynediad at undebau llafur. Fodd bynnag, rwy'n credu eich bod chi wedi methu â gweld y broblem o'r safbwynt bod mwyafrif y bobl yn y wlad hon o'r farn nad yw undebau llafur yn ymladd yn bennaf dros hawliau gweithwyr a sicrhau gwell amodau gwaith, ond yn hytrach yn ceisio'n bennaf cael dylanwad gwleidyddol gormodol ar brosesau democrataidd y wlad hon, fel yr ydym ni wedi ei weld mor amlwg gydag Unite yn newid ei reolau yn amheus yn y fath fodd fel mai dim ond yr ymgeisydd yr oedden nhw'n ei ffafrio, yr Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth, fyddai'n ymddangos ar y papur pleidleisio. Er mai dim ond 11 o undebau llafur sy'n cefnogi'r Blaid Lafur yn agored fel hyn, mae'n rhaid i ni fod yn ystyriol o'r ffath ei fod yn sicr yn suro tybiaeth y cyhoedd yn erbyn pob undeb llafur, a dangosir hyn yn eglur gan y gostyngiad i nifer y bobl sy'n ymuno ag un, a wnaeth ostwng yn 2022 i'r lefel isaf erioed.

Y ffaith syml, Dirprwy Weinidog, yw nad oes gan undebau llafur, fel prif roddwyr ariannol y Blaid Lafur, gywilydd mewn bygwth yn gyhoeddus cadw cyllid yn ôl os nad yw eu gofynion yn cael eu bodloni ac, o'r herwydd, eu swyddogaeth eu hunain fel pypedfeistri i'r Blaid Lafur, lle gallan nhw reoli breichiau'r llywodraeth o'u plaid yn anuniongyrchol—yn aml, dylwn ychwanegu, yn erbyn lles y wlad. Er y gall Aelodau Llafur yma wfftio'r ffaith hon—ac rwy'n gallu eu clywed nhw, Llywydd—y gwir amdani yw nad yw llawer o bobl a fyddai'n debygol o elwa o fod yn aelod o undeb llafur eisiau bod yn gefnogwyr sefydliadau o'r fath ac felly ddim yn ymuno. Mae erfyn digywilydd Llywodraeth Cymru yn y Siambr hon, Dirprwy Weinidog, i bobl ymuno ag undeb llafur yn ofer, oherwydd y gwir amdani yw nad yw llawer o bobl eisiau bod mor uniongyrchol gysylltiedig â phlaid wleidyddol, na chefnogi ideoleg wleidyddol asgell chwith eithafol undeb llafur. Yn wir, mae rhai llyfrau rheolau undebau, fel rhai Unite ac Unsain, dim ond dwy enghraifft, yn datgan yn eglur na fydd yr undeb yn cefnogi—[Torri ar draws.]—yn datgan yn eglur na fydd yr undeb yn cefnogi unrhyw blaid wleidyddol ac eithrio'r Blaid Lafur, sy'n dangos yn eglur pa mor ragrithiol yw'r undebau hyn. Maen nhw'n honni eu bod nhw eisiau cynwysoldeb ac, fel y nodwyd gennych chi yn eich datganiad heddiw, eisiau sicrhau bod llais pob gweithiwr yn cael ei glywed, ac eto, heb iot o gywilydd, mae rhai undebau yn diystyru unrhyw aelod sy'n meiddio bod â barn wleidyddol wahanol iddyn nhw neu i faniffesto'r Blaid Lafur. Siawns, Dirprwy Weinidog, y dylai aelodau undebau llafur gael eu hannog i ymgysylltu'n llawn â gwahanol bleidiau gwleidyddol ar bob lefel. Ac a ydych chi'n cytuno â mi, Dirprwy Weinidog—[Torri ar draws.]—y byddai hyn o fudd i'r achos cyfunol o helpu i wella'r ddealltwriaeth o'r heriau y mae gweithwyr yn eu hwynebu ar draws yr holl sbectrwm gwleidyddol, yn fwy na dim ond cael un naratif gwleidyddol? Gyda hyn i gyd mewn golwg, Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn y dylai fod gan unrhyw undeb llafur duedd wleidyddol mor agored ei fod yn eithrio pobl nad ydyn nhw'n cefnogi eu hagenda asgell chwith, a'i fod yn niweidio enw da pob undeb llafur, er nad yw llawer wedi'u hymlynu â'r Blaid Lafur?

O safbwynt personol, mae gan lawer o undebau llafur ddealltwriaeth dda o anghenion gweithwyr yn eu diwydiannau, ac mae'n iawn bod gan weithwyr lwyfan i ddwyn cyflogwyr i gyfrif yn gyfunol am amodau gwaith a chyflogau gwael. Yn wir, rwy'n eithriadol o falch o record y Blaid Geidwadol yn y maes hwn. Mae gennym ni draddodiad hir o gefnogi hawliau gweithwyr a gweithio gydag undebau llafur i helpu gweithlu'r Deyrnas Unedig. Nid yn unig y mae ein diwygiadau wedi democrateiddio undebau llafur drwy sicrhau bod pob aelod yn cael pleidlais, rydym ni wedi cyfreithloni undebau llafur yn y gyfraith ac rydym ni wedi gwahardd gweithredu undebau caeedig. Rydym ni hyd yn oed wedi cyflwyno diwygiadau llafur arloesol, fel sicrhau bod gweithwyr a chyflogwyr yn gyfartal gerbron y gyfraith mewn contractau llafur, bod gweithwyr yn cael contractau cyflogaeth a gwyliau â thâl, a bod y gweithwyr hynny ag anableddau yn cael eu diogelu'n llawn ac na ellir byth gwahaniaethu yn eu herbyn ym maes cyflogaeth.

Mae deddfwriaeth ddiweddar Llywodraeth y DU, Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023, yn enghraifft dda arall o sut mae'r Ceidwadwyr wedi arwain y ffordd o ran helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod streic, tra hefyd yn caniatáu i'r gweithwyr sy'n streicio fod yn hyderus nad yw eu gweithredu diwydiannol yn niweidiol i'r cyhoedd, ac yn lleihau'r tebygolrwydd o adwaith yn eu herbyn. Er bod y meinciau Llafur yn gynddeiriog ar y pryd, tybed, Dirprwy Weinidog, os, o fyfyrio, y gallwch chi weld bellach manteision y ddeddfwriaeth hon i undebau llafur ac i'r gweithwyr y maen nhw'n eu cynrychioli.

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, rwy'n sylwi nad ydych chi wedi sôn am undebau ffermwyr. Fodd bynnag, rydych chi'n sôn am Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, sydd â chyngor partneriaeth gymdeithasol, wrth gwrs. Ac eto nid oes unrhyw undebau ffermwyr yn ei gynrychiolaeth undebau llafur, ac nid oes unrhyw aelodau sy'n gyflogeion yn cynrychioli'r diwydiant ffermio chwaith. Dirprwy Weinidog, pam mai dyma'r sefyllfa, a pham nad oes gan y Llywodraeth hon ddiddordeb mewn helpu ffermwyr Cymru? Rwy'n credu, Llywydd, bod Llywodraeth Cymru yn gwenieithio am hawliau gweithwyr ond y bydd yn gwneud ei gorau glas i dawelu unrhyw leisiau sy'n ei gwrthwynebu, a dyna pam mae wedi anwybyddu ffermwyr yn llwyr o'i siop siarad ddethol. Dirprwy Weinidog, a yw hyn oherwydd eich bod chi'n gwybod bod ffermwyr yn paratoi ar gyfer gweithredu diwydiannol mawr yn erbyn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru am ei hanes parhaus ac echrydus o bolisïau sy'n tanseilio cefn gwlad, sy'n parlysu'r diwydiant, neu a yw hyn oherwydd nad ydyn nhw wedi'u hymlynu â'r Blaid Lafur—

18:10

Diolch, Llywydd. Dydyn nhw ddim wedi'u hymlynu â'r Blaid Lafur, felly nid yw'n werth meddwl na sôn amdanyn nhw. Llywydd, yn ysbryd Wythnos CaruUndebau yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i gofio na ddylai undebau ymgymryd â llwgrwobrwyo llywodraethau na'r genedl, ac y dylen nhw geisio fod yn gynhwysol a chroesawu'r amrywiaeth o syniadau gwleidyddol sydd gan weithwyr yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr y byddai hyd yn oed yr undebwyr llafur mwyaf unllygeidiog yn gweld—

Byddai'r undebwyr llafur mwyaf unllygeidiog yn gweld y byddai hyn yn beth cadarnhaol i weithwyr a hawliau gweithwyr yn y pen draw. Diolch.  

Diolch, Llywydd. Peidiwch â phoeni, fe fyddaf i'n llawer mwy cryno yn fy ymateb. Felly, gofynnodd Joel James i mi a allaf i weld—[Torri ar draws.] Nid wyf i'n credu y bydd angen i chi, peidiwch â phoeni.

Gofynnodd Joel James i mi a allaf i weld budd deddfwriaeth gwrth-undebau llafur y Llywodraeth Geidwadol. Na allaf. Ac a wyf i'n cytuno â phwyntiau a safbwynt Joel James ar undebau llafur a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae i gynorthwyo pobl sy'n gweithio? Nac ydw.

Cefais fy magu ar aelwyd lle'r oedd aelodaeth o undeb yn cael ei ystyried yn rhan naturiol o fod mewn gwaith. Roedd fy rhieni ill dau yn aelodau o undebau athrawon, ac roedd eu tadau, glowyr ill dau, yn rhan o'r mudiad undebau llafur a frwydrodd dros degwch, diogelwch ac urddas ym maes glo cwm Rhymni. Cafodd fy hen dad-cu ei roi ar restr ddu am ei ran yn streic 1926 a bu'n rhaid iddo werthu yswiriant o ddrws i ddrws wedyn i wneud bywoliaeth. Cefais fy magu yn y traddodiad hwn, ac felly mae'n debyg fy mod i wedi tybio bod pawb a oedd yn gweithio yn aelod o undeb yn awtomatig, a phan ddechreuais i weithio fy hun, gwelais nad oedd hynny'n wir, yn rhannol oherwydd y ffordd yr oedd undebau wedi cael eu pardduo a'u difenwi gan Thatcheriaid a'r rhai ar asgell dde'r Blaid Lafur a fyddai'n parhau â'i safbwyntiau economaidd neo-ryddfrydol, ac mae hyn wedi gadael ei ôl ar ein gweithleoedd. 

Roeddwn i'n aelod o bwyllgor Undeb Prifysgol a Choleg Prifysgol Abertawe, er eu bod nhw'n gwybod, Joel James, fy mod i'n aelod gweithgar o Blaid Cymru. Roeddwn i'n ffodus o weithio gyda chydweithwyr profiadol ac egwyddorol, fel yr Athro Simon Hoffman a Howard Moss, i helpu i gefnogi fy nghydweithwyr yn y brifysgol yn wyneb gweithredoedd gan reolwyr a oedd yn niweidiol i'w llesiant a'u hawliau cyflogaeth. Ac ers cael fy ethol, rwyf i wedi cefnogi'r camau a gymerwyd gan nifer o undebau yng Nghymru yn erbyn cyflogwyr, preifat a chyhoeddus—y llais cyfunol grymus hwnnw yn tynnu sylw at gontractau ansicr, setliadau cyflog annheg, bygythiadau i bensiynau, amodau gwaith gwael ac, wrth gwrs, diswyddiadau, a'u gwrthwynebu. Rwy'n falch bod fy nghyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi cefnogi'r gweithredoedd hyn, gan sefyll gyda nhw ar linellau piced ac ategu eu galwadau yn y lle hwn.

A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, bod swyddogaeth undebau o sefyll dros weithwyr a mynnu tegwch yn bwysicach nag erioed i bobl Cymru? Mae adroddiad TUC Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, 'Dyfodol Gwaith a Datganoli yng Nghymru', gan yr Athro Jean Jenkins, wedi tynnu sylw at ba waith y mae angen ei wneud i sicrhau bod ein cenedl yn datblygu amgylchedd eglur a phendant ar gyfer gwaith a hawliau gweithwyr Cymru. Mae cyflogau a chynhyrchiant yn is yng Nghymru na bron pobman arall yn y DU, ac mae'r TUC wedi adrodd bod llawer iawn o wahaniaethu yn y farchnad lafur yn parhau yn erbyn gweithwyr du a lleiafrifoedd ethnig, menywod a phobl anabl, gydag un o bob naw o weithwyr yng Nghymru mewn gwaith ansicr. Canfuwyd ganddyn nhw bod hawliau llafur yn cael eu gorfodi'n wan, gyda dim ond £10.50 yn cael ei wario ar orfodi ar gyfer pob gweithiwr, ac mae capasiti ein cyrff arolygu yn y seithfed safle ar hugain o 33 o wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

O ystyried y safbwynt a gyflwynwyd gennych chi yn eich datganiad, a ydych chi'n cytuno mai'r ateb ddylai fod i gefnogi datganoli hawliau cyflogaeth? Beth yw ymateb y Llywodraeth i'r canfyddiadau a'r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad hwn, a pha ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i ddatganoli cyfraith gyflogaeth? Un o'r galwadau penodol oedd i TUC Cymru sefydlu gweithgor i archwilio ymarferoldeb datganoli hawliau cyflogaeth. Beth yw eich safbwyntiau chi ar hyn, a sut fyddwch chi'n cefnogi'r gwaith hwn os byddwch chi?

Nodwyd gennych chi yn eich datganiad eich bod chi'n eglur mai undebau llafur yw llais dilys gweithwyr yn y gweithle, felly hoffwn wybod eich safbwyntiau, Dirprwy Weinidog, ar farn Undeb y Frigâd Dân na chafodd gweithwyr eu hymgynghori ac na wrandawyd arnyn nhw, a bod aelodau wedi cael eu siomi gan benodiad Stuart Millington yn brif swyddog dros dro Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sydd bellach, wrth gwrs, wedi arwain at bleidlais o ddiffyg hyder gan yr undeb. Sut fydd y Llywodraeth yn sicrhau bod llais yr undeb yn cael ei glywed a'i barchu gan y comisiynwyr yr ydych chi wedi eu penodi wrth i'w gwaith pwysig ddechrau? Diolch.

18:15

Fe wnaf i roi sylw i'r pwyntiau olaf a wnaethoch chi yn eich cyfraniad yn gyntaf, cyn dod at y pwyntiau ehangach a wnaethoch chi. Rwy'n amlwg yn ymwybodol o sefyllfa Undeb y Brigadau Tân a'r cynnig a basiwyd ganddyn nhw. Yn amlwg, gwnaed y penodiad gan y pedwar comisiynydd, ac mae'n benodiad dros dro i lenwi'r bwlch hwnnw pan adawodd y pennaeth presennol, a oedd yn golygu bod angen iddyn nhw lenwi'r gofyniad gweithredu hwnnw. Mewn gwirionedd, roedd y swydd dros dro drwy secondiad, felly ar y sail honno, ni fyddai'r broses ymgynghori arferol. Ond rwy'n ymwybodol bod y comisiynwyr wedi cyfarfod ag Undeb y Brigadau Tân a bydd ymgynghori ac ymgysylltu parhaus wrth iddyn nhw fynd ati i recriwtio i'r swydd fwy parhaol. Rwy'n credu eu bod nhw i gyd yn gweld y gwerth, hefyd, nid yn unig o weithio gydag Undeb y Brigadau Tân ond yr undebau eraill o fewn y gwasanaeth tân, sy'n cynrychioli staff gweithredu a staff eraill hefyd.

Dim ond ar hynny, pan ddechreuais i yn y swydd hon, a'm portffolio eclectig iawn—yn ogystal â gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol, mae'n cynnwys gwasanaethau tân ac achub—fe wnes i'n siŵr ein bod ni'n sefydlu dull o ddod â chyflogwyr, cynrychiolwyr yr undebau llafur a chynrychiolwyr y gweithlu yn y sector hwnnw at ei gilydd drwy'r fforwm partneriaeth gymdeithasol tân ac achub. Mae hynny'n cynnwys yr amrywiaeth eang o gyrff sy'n cynrychioli gweithwyr. Ac rwy'n cyfarfod mewn gwirionedd, yn ogystal â chynrychiolwyr o Gymru, yn rheolaidd â'r ysgrifennydd cyffredinol Matt Wrack, hefyd.

Ond roedd rhai o'r pethau yr oeddech chi'n eu dweud ar ddechrau eich cyfraniad wir yn atseinio gyda mi hefyd. Dylwn ddatgan fy mod innau hefyd yn ferch i ddau o athrawon, a ymunodd undeb athrawon ar y diwrnod y cawson nhw eu swydd gyntaf yn athrawon, ac yn sicr iawn fy nhad-cu ar ochr fy mam a ddylanwadodd pwy wyf i heddiw, ac mae'n debyg mai ef oedd y rhagflaenydd i mi fynd i weithio yn y mudiad undebau llafur. Roedd yn gweithio yng ngwaith dur Shotton, ac rwy'n cofio ei sôn am gyfunoliaeth ac undod a'r frwydr a oedd yn eu hwynebu nhw bryd hynny yn y 1980au, a ddinistriodd ein hardal. Mewn gwirionedd, ni aeth fy nhad-cu ar y diwrnod hanesyddol, erchyll hwnnw sy'n dal i fod â'r record o'r nifer unigol fwyaf o ddiswyddiadau torfol mewn un diwrnod; aeth ychydig yn ddiweddarach. Mae wedi marw erbyn hyn, ond mae gen i o hyd yn rhan o'i bethau ei hen gerdyn undeb, sef UCATT bryd hynny, gan ei fod yn saer coed wrth ei waith, ond hefyd llythyr teipysgrif swta iawn a oedd yn dweud rhywbeth fel, 'Diolch am eich degawdau o wasanaeth. Hwyl fawr'. Rwy'n aralleirio, ond dyna oedd y neges. Ond maen nhw'n bethau yr wyf i bob amser wedi eu cadw fel atgof ohono a'r hyn yr oedd yn ei olygu i mi, a'r gwerthoedd a drosglwyddodd i mi hefyd.

Rwy'n credu ei fod yn dod â ni at y pwynt a wnaethoch chi—y gwaith rydym ni'n ei wneud o ran yr Undebau a'r project Byd Gwaith a'r hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi twf mudiad yr undebau llafur, ond hefyd y ddealltwriaeth ohono yng Nghymru. Rwy'n credu nad yw hyn i ni yn unig. Rwy'n credu y gallaf i ddweud hyn fel undebwr llafur, ond mae'r byd gwaith wedi newid, felly mae angen i'r ffordd y mae undebau llafur wedi'u trefnu newid hefyd. Mae gennym ni weithleoedd poblog iawn, ond, mewn gwirionedd, fel y dywedwch chi, mae pobl ar gontractau ansicr, mae pobl yn gweithio mewn gweithluoedd anghyfartal. Felly, mewn gwirionedd, mae gwaith da yn cael ei wneud, ond rwy'n credu bod swyddogaeth i ni hefyd yn y Llywodraeth o ran sut y gallwn ni gefnogi hynny i dyfu a rhoi'r llwyfan iddyn nhw wneud hynny hefyd. A, hefyd, o ran y llais cyfunol grymus, ac rwy'n cytuno mai dyna'r dull gorau o sicrhau tegwch a chydraddoldeb yn y gweithle.

Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at gomisiwn TUC Cymru a 'Dyfodol Gwaith a Datganoli yng Nghymru'. Rwy'n credu, er na chafwyd ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, ei fod yn adroddiad da iawn, sydd wir yn rhoi llwyfan i ni gael trafodaeth ar ei sail. Un o'r pethau y byddem ni'n ei ddweud am ddatganoli hawliau pellach—. Mae'n debyg ei fod y tu hwnt i fy ngradd cyflog ar hyn o bryd i ymrwymo i unrhyw beth fel hynny, ond un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud yw bod yn wir rhaid gwneud hynny mewn partneriaeth gymdeithasol hefyd. Un o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael yn flaenorol gyda phartneriaid undebau llafur yw y gallai gynnig cyfleoedd, ond mae'n creu heriau hefyd, felly mae'n well gweithio drwy'r pethau hynny gyda'i gilydd. Ond mae rhai pethau da iawn eraill yno hefyd, yn yr adroddiad hwnnw, ac mae rhai o'r pethau yn ymwneud â gorfodi yn bethau yr ydym ni wedi dechrau ceisio bwrw ymlaen â nhw drwy ein fforwm hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle. Oherwydd er nad oes gennym ni'r holl ysgogiadau hynny o ran gorfodi yng Nghymru nawr, mewn gwirionedd mae'n cynnig golwg i ni ar sut y gallwn ni wneud mwy gyda'r hyn sydd gennym ni, ond hefyd i wella'r cysylltiadau hynny rhwng asiantaethau ar lefel y DU a'r rhai sydd gennym ni yng Nghymru.

18:20

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n ymwybodol o'r effaith fawr y mae bod yn undebwr llafur wedi ei chael arnoch chi'n bersonol, a hefyd yn fy mywyd gwleidyddol fy hun. Mae Wythnos CaruUndebau yn gyfle pwysig i bob un ohonom ni gydnabod a myfyrio ar y cyfraniad pwysig y mae undebau llafur yn ei wneud at fywyd cyhoeddus a sifil. Cefais fy nharo'n arbennig gan eich datganiad pan wnaethoch chi gyfeirio at yr Undebau a'r prosiect Byd Gwaith mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru. Ers rhy hir, mae agenda wleidyddol y cyfryngau asgell dde a Llywodraeth Dorïaidd asgell dde y Deyrnas Unedig wedi ceisio pardduo undebau llafur a mudiad yr undebau llafur. Dangoswyd hyn gan raglen ddogfen ddiweddar BBC Two ar streic y glowyr, a'i ffilm archif gweithredol. Mae'n dal i fod yn broblem heddiw gan ein cyfryngau asgell dde, fel GB News honedig. Felly, mae'n hanfodol bod cenedlaethau'r dyfodol o fyfyrwyr Cymru yn cael gwell dealltwriaeth o hawliau cyflogaeth, swyddogaeth undebau llafur a swyddogaeth ddwys llais cyfunol yn y gweithle.

Ddydd Sadwrn, gorymdeithiais ar strydoedd canol dinas Casnewydd gyda chydweithwyr Llafur Cymru Gwent, a'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr dur Llanwern. Felly, rydym ni'n gwybod, Dirprwy Weinidog, bod gweithwyr, cymunedau a chymdeithasau gyda'i gilydd yn gryfach. Ac rydym ni hefyd yn gwybod, o'u gadael i niwed dilyffethair cyfalafiaeth, bod pobl yn ddiwerth o'u cymharu â thrachwant elw net, heb fawr o ystyriaeth i hawliau'r rhai sydd ar waelod y triongl hwnnw. Dirprwy Weinidog, sut gellir ehangu'r Undebau a'r rhaglen Byd Gwaith ymhellach fel y gall mwy o blant Cymru gael eu grymuso a'u cyfoethogi gan y rhaglen addysgol gyfranogol hon, sy'n grymuso pawb mewn cymdeithas?

Diolch, Rhianon Passmore, am eich cyfraniad ac am gydnabod y swyddogaeth sydd gan Wythnos CaruUndebau o ran hyrwyddo'r hyn y mae undebau llafur yn ei wneud, nid yn unig yn y gweithle, ond yng Nghymru hefyd. Rwyf i bob amser yn hoffi dweud nad yw undeb llafur ar gyfer Wythnos CaruUndebau yn unig, mae am oes. Ac rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud am brosiect peilot Undebau a'r Byd Gwaith yn bwysig iawn. Cynllun peilot ydyw ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth y byddem ni'n gobeithio ei weld yn cael ei gyflwyno hefyd. Ac os oes gan Aelodau ddiddordeb, mae'n debyg y gallem ni rannu rhai manylion, oherwydd rwyf i wedi cael sgyrsiau mewn mannau eraill a bydd pobl bellach yn meddwl bod rhywun mewn ysgol yn agos atyn nhw a fyddai â diddordeb cymryd rhan a rhedeg rhywbeth. Efallai y gallem ni rannu hynny. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â ni a gallaf wneud yn siŵr bod y manylion hynny gennych chi i'w rhoi i unrhyw ysgolion sydd â diddordeb yn eich ardal. Rydych chi'n sôn am rym protest hefyd, a'r gyfunoliaeth honno, y dod ynghyd hwnnw yn wyneb adfyd, ac yn sicr fe welsom ni hynny ar strydoedd Casnewydd a Phort Talbot dros y penwythnos.

Dirprwy Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb hynod drwyadl i'm cyd-Aelod Ceidwadol Joel James, ond roedd un pwynt na chafodd sylw yn eich ymateb, a'r undebau ffermwyr oedd hwnnw. O gofio'r sefyllfa bresennol yng nghefn gwlad Cymru gyda'r ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy, a gaf i ofyn i chi erfyn ar y ddau ymgeisydd i fod yn Brif Weinidog gyfarfod â'r undebau ffermio cyn gynted â phosibl i ddeall a gwerthfawrogi yn llawn difrifoldeb y sefyllfa sydd o'u blaenau?

Rwy'n credu ei bod hi'n wych bod y ddau Weinidog gyda gweithwyr dur Port Talbot yr wythnos diwethaf. Byddai'n wych—pe bai yna brotest gan ffermwyr yn y cyffiniau rywbryd yn y dyfodol—pe baen nhw'n annerch yr undebau ffermwyr, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y ddau ddarpar Brif Weinidog yn deall yr hyn sy'n digwydd yng nghefn gwlad Cymru ar hyn o bryd. Oherwydd os bydd pethau'n parhau fel y maen nhw, bydd y naill neu'r llall ohonyn nhw'n etifeddu llanast go iawn gyda'r berthynas rhwng y Llywodraeth hon a Chymru wledig ar hyn o bryd.

18:25

A gaf i ddiolch i Sam Kurtz am ei gyfraniad? Roedd hi'n rhyfedd taro arnoch chi mewn Senedd arall ddoe hefyd. Ond ar y pwynt yr ydych chi'n ei wneud, rwy'n credu bod fy nghyd-Aelodau sy'n ymgeiswyr ar gyfer swydd benodol wedi cyfarfod â dirprwyaeth a oedd yno dros y penwythnos, ac rwy'n deall bod gan y ddau ymrwymiad i ddilyn hynny gyda chyfarfodydd hefyd. Rwy'n cynrychioli etholaeth eithaf gwledig, ac efallai na fyddaf i bob amser yn cytuno ar bopeth, ond rwy'n gwneud yn siŵr fy mod i'n cynnal y cyfarfodydd hynny. Ac yn ddiweddar, ddim mor bell yn ôl, yn gynharach y mis hwn, fe wnes i ymweld â fferm ac rwyf i bob amser yn awyddus i wneud mwy. Ond rwy'n mynd i roi sylw i un pwynt. Efallai eich bod chi'n teimlo fy mod i'n bod yn bedantig, ond er bod 'undeb' yn enwau Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, cynrychiolwyr cyflogwyr ydyn nhw yn y bôn yn ôl ein panel cynghori amaethyddol. Dim ond eisiau gwneud y pwynt bach hwnnw oeddwn i.

Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf, rwy'n credu, wedi dangos pwysigrwydd undebau llafur. Ac maen nhw hefyd wedi dangos i ni, wrth gwrs, bod cefnogaeth ehangach ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol i weithwyr sy'n streicio, ac mae hynny er gwaethaf, wrth gwrs, ymdrechion gorau'r Torïaid a'u cyfeillion ar Fleet Street. 

Roeddwn i eisiau manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at weithleoedd heb undebau a'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i gael undebau i'r gweithleoedd hynny. Yr hyn yr wyf i'n ei olygu wrth ddweud y gweithleoedd hynny yw'r mathau hynny o weithleoedd y gallech chi eu canfod yn y sector manwerthu, mewn gofal cymdeithasol, mewn lletygarwch ac yn yr economi gig ehangach. Pan oeddwn i yn y sector lletygarwch, Unite oedd fy undeb llafur, ac rwy'n gwybod bod Unite Hospitality wedi gwneud llawer o waith ac wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn y sector hwnnw. Ond sut all Llywodraeth Cymru helpu i gefnogi'r gwaith hwnnw i gael undebau i weithleoedd nad oes ganddyn nhw rai?

Diolch, Luke Fletcher, am eich cyfraniad ac am wneud y pwynt da am sut rydym ni'n lledaenu mewn gwirionedd y math hwnnw o amddiffyniad a chefnogaeth undeb yn y gweithleoedd hynny sydd yn ôl pob tebyg wedi bod yn anoddach eu cyrraedd yn draddodiadol ar sail eu natur neu efallai o ran sut maen nhw'n gweithredu hefyd. A dylwn ddweud mai yn McDonald's oedd fy swydd gyntaf mewn gwirionedd, nad oedd o reidrwydd yn—[Torri ar draws.] Rwy'n dweud wrthych chi, Hefin, roedd fy nghoginio i mor wael doeddwn i ddim yn cael gweithio yn y gegin, felly roedd yn rhaid i mi gyfarch cwsmeriaid ar y ddesg flaen. Ond, wyddoch chi, fe ddysgodd wersi gwerthfawr i mi am weithio yn y sector hwnnw ac am weithio ym maes manwerthu hefyd. 

Mae un o'r pethau yr ydym ni wedi dechrau ei wneud gyda'n fforwm manwerthu yn rhywbeth, rwy'n credu, y byddwn i'n awyddus i edrych arno i weld, mewn gwirionedd, sut y gallem ni wneud mwy gyda lletygarwch hefyd. Oherwydd mae'n aml yn weithlu iau, pobl o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig, felly rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cyrraedd y rheini. Ac mewn gwirionedd nid yw'n ymwneud ag amddiffyn pobl a'u helpu a'u cefnogi gyda'u hawliau yn y gwaith yn unig; os yw pobl yn mynd i'r swyddi hynny, efallai tra eu bod nhw'n astudio, mae'n fater o ddal y genhedlaeth nesaf honno o undebwyr llafur cyn iddyn nhw fynd ymlaen i'r byd gwaith ehangach hefyd.

Fel y Gweinidog a llawer ohonom ni yma yn y Senedd, rwy'n falch o fod yn undebwr llafur. Mae'n rhaid i ni gofio y brwydrwyd am yr hawliau yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol yn y gweithle heddiw, ac fe'u henillwyd gan ein cydweithwyr yn yr undebau llafur. Ac mae'r frwydr honno'n parhau, Llywydd.

Mae mwy na miliwn o bobl yn y DU ar gontractau dim oriau. Fel y nododd Plaid Llafur y DU yn briodol heddiw, mae pobl sy'n gweithio ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi cael eu siomi'n ddybryd gan fethiant y Torïaid i'w hamddiffyn nhw rhag gwaith ansicr. A gwn nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig naill ai eisiau deall hynny neu'n camddeall y gwirionedd yn fwriadol, ond dyna'r realiti i'm hetholwyr, a dyna'r realiti i'w holl etholwyr hwythau hefyd. 

Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o ddathlu Wythnos CaruUndebau fyddai sicrhau Llywodraeth Lafur y DU a fyddai'n gweithio mewn partneriaeth ag undebau fel fy un i, Unite a Community, ac y gallem ni gyda'n gilydd roi terfyn ar bla contractau dim oriau a chyflawni mewn gwirionedd dros bobl sy'n gweithio?

Diolch i'm cyd-Aelod a'm cymydog etholaethol, Jack Sargeant, am ei gyfraniad. Rwy'n cytuno'n llwyr bod yr hawliau yr ydym ni efallai weithiau'n eu cymryd yn ganiataol heddiw nid yn unig yn rhai y bu galw amdanyn nhw am amser maith ond hefyd yn rhai y brwydrwyd yn galed i'w cael dros ddegawdau a degawdau. Ac ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw deddfwriaeth i wneud yn siŵr bod yr hyn y fyddwn i'n ei alw—. Felly, mae'r fargen newydd i weithwyr yn gynnig rhagorol, ac rwy'n sicr eisiau gweld honno'n cael ei darparu o fewn y 100 diwrnod, fel addewid gan Lywodraeth Lafur nesaf y DU. A phan wyf i wedi bod yn siarad mewn digwyddiadau, yr hyn yr wyf i'n ei weld hefyd yw'r llinell sylfaen honno sy'n sail i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yng Nghymru gyda'n dull partneriaeth gymdeithasol ac sydd wir yn caniatáu iddo ffynnu.

18:30

Un o lwyddiannau ein hundebau llafur dros y 100 mlynedd diwethaf fu'r gallu i sicrhau gwell cyflog, ac mae'r grym cydfargeinio hwn wedi bod yn hanfodol bwysig. Ond yn rhan o'i ymgyrch i ddod yn Brif Weinidog, tynnodd y Prif Weinidog presennol, Mark Drakeford, o'r traddodiad hwn a dweud, fel un o'i ddwsin o gynigion, ac rwy'n dyfynnu, y byddai'n

'Bwrw ymlaen â'r Comisiwn Gwaith Teg a'r camau sydd angen i ni eu cymryd er mwyn gwneud Cymru'n genedl Gwaith Teg—talu'r cyflog byw gwirioneddol ym mhob cwmni sy'n derbyn arian cyhoeddus fel cam cyntaf.'

Wrth gwrs, cyllid y Llywodraeth sy'n talu am weithwyr cymorth digartrefedd rheng flaen drwy'r grant cymorth tai, ond er bod y Prif Weinidog presennol wedi dweud y byddai'n rhaid i bob cwmni sy'n derbyn arian cyhoeddus dalu'r cyflog byw gwirioneddol, y gwir syml amdani yw nad yw'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'r gofynion statudol a roddir ar ddarparwyr yn ddigon, gan arwain at 42 y cant o weithwyr digartrefedd yn cael eu talu llai na'r cyflog byw a thri chwarter yn cael eu talu llai na'r cyflog byw gwirioneddol. Felly, yn ymateb y Dirprwy Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallai ddweud a yw hi'n credu y dylai'r gweithwyr digartrefedd ymuno ag undeb a dal eu llafur yn ôl tan fod y Llywodraeth yn darparu setliad teg. Ac a ddylai'r sector ddefnyddio eu grym cydfargeinio a herio'r Llywodraeth hon am ei methiant i ariannu'r gwasanaethau a'r gweithwyr cymorth digartrefedd hynny sy'n gweithio mor galed yn briodol?

Diolch Mabon ap Gwynfor am y cyfraniad yna ac am gydnabod y rhan y mae cydfargeinio yn ei chwarae mewn gweithleoedd. Yn amlwg, rydym ni eisiau cyrraedd pwynt yng Nghymru lle mae lefelau cydfargeinio yn uwch eto. A dweud y gwir, un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud yw nad oes gan ein staff cymorth gydfargeinio hyd yn oed yn y lle hwn chwaith. Felly, rwy'n credu bod ffyrdd y mae angen i ni gydweithio i sicrhau bod y math hwnnw o egwyddor, y dull hwnnw, yn cael ei weithredu ar draws sectorau ac ar draws sefydliadau.

Eleni, mae'n 40 mlynedd ers streiciau'r glowyr a rwygodd ein cymunedau yn ddarnau. Roedd hyn yn wyneb, yn ôl negeseuon ei phennaeth polisi a ddaeth i'r fei, Margaret Thatcher yn dweud wrth ei Llywodraeth na ddylen nhw fethu unrhyw gyfle i erydu aelodaeth undebau llafur. Ond oherwydd undod a chydsefyll yn ein mudiad undebau gyda'n Plaid Lafur, mae undebau llafur yn dal yn gryf yma yng Nghymru, fel y gwelsom ni ym mhrotestiadau Llanwern a Phort Talbot i achub ein diwydiant dur dros y penwythnos gydag Aelodau o bob rhan o'r Siambr.

Rwy'n eithriadol o falch o fod yn aelod o undeb llafur. Mae'n golygu bod pobl yn gefn i chi, mae'n golygu bod â theulu o'ch cwmpas, mae'n golygu sefyll gyda'ch gilydd dros eich hawliau y brwydrwyd mor galed i'w sicrhau. Mae'n drueni, ond nid yw'n syndod mae'n debyg, bod rhai pobl yn y Siambr hon nad ydyn nhw'n deall hynny. Dydyn nhw'n dal ddim yn deall hynny, maen nhw'n dal i barhau â'r naratif hwn bod yr undebau yn golygu, 'Gwnewch eich gwaith, arhoswch yn eich lôn—rhag eich cywilydd yn trefnu a chymryd rhan mewn democratiaeth a gwleidyddiaeth, a rhag eich cywilydd bod wedi'ch ymlynu â'r Blaid Lafur, plaid y gwnaethoch chi ei sefydlu i sefyll dros hawliau gweithwyr a pheidio â derbyn y sefyllfa fel y mae hi.' Felly, Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol bod Llywodraethau ac undebau llafur yn parhau i weithio gyda'i gilydd dros ein hetholwyr a hawliau gweithwyr? Diolch.

Diolch yn fawr iawn am y cyfraniad angerddol ac ymroddedig yna. Sarah, rwy'n gwybod pa mor ymroddedig ydych chithau fel undebwr llafur hefyd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi bod angen i ni gydweithio â mudiadau undebau llafur, gyda chydweithwyr undebau llafur, i ddatblygu a chefnogi hawliau gweithwyr, nid yn unig yn ein gweithleoedd, ond mewn gwirionedd, rwy'n credu bod undebau llafur o fudd i Gymru hefyd. Rydym ni'n gwybod mai dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y byddwn ni'n cyflawni. Ac mae'n iawn eich bod chi'n myfyrio ar ddeugainmlwyddiant streic y glowyr a fydd yn dod yn fuan iawn. Mae gen i atgofion niwlog iawn—dim ond dweud 'niwlog iawn' wyf i, dydw i ddim mor hen â hynny—ond roedd fy ewythr Tony ar streic yn y Parlwr Du yng ngogledd Cymru a dweud y gwir. Mae fy mam yn hoffi fy mhryfocio, pan aethon ni i ymweld, fe wnes i fwyta rhai o'r bisgedi y talwyd amdanyn nhw o gronfa'r streic. Mae'n rhaid fy mod i wedi cael eu cynnig nhw, oherwydd dim ond rhyw ddwy oed oeddwn i, ond mae hynny'n aros gyda ni, ac mae'n aros gyda theuluoedd ac mae'n aros gyda chymunedau. Ac er efallai ei fod yn gyfnod gwirioneddol ofnadwy, rwy'n credu ei fod hefyd yn eich sbarduno i frwydro ar gyfer y dyfodol, i barhau i weithio ar y cyd yn yr ysbryd hwnnw o undod, y gwerthoedd cyffredin hynny yr ydym ni'n gwybod sy'n gwneud gwahaniaeth i bob un ohonom ni ac i bob un o'n cymunedau.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, fel aelod o undeb llafur gydol fy oes, rwy'n falch o gael y datganiad sy'n nodi Wythnos CaruUndebau yno. Hoffwn siarad yma, yn groes i'r hyn yr ydym ni wedi ei glywed gan rai o'n cyd-Aelodau i'r chwith ond nid i'r chwith gwleidyddol ohonof i amddiffyn undebau ac, yn wir, eu cysylltiadau â'r mudiad llafur a'r Blaid Lafur. Undebau: y bobl a sicrhaodd y penwythnos deuddydd i chi; y cyfyngiadau ar oriau gwaith; yr isafswm cyflog; cydraddoldeb o ran cyflog; absenoldeb rhiant; yr hawl i gael trafodaethau ar gyflogau ac amodau; contractau cyflogaeth sy'n rhwymo mewn cyfraith; a chynnydd i wyliau blynyddol i 28 diwrnod—llawer o'r rheini yn ystod Llywodraethau Llafur, o Barbara Castle i'r Llywodraethau Blair a Brown diwethaf. Eto, ledled y byd—a dyma lle'r wyf i eisiau gofyn a ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog—mae arolwg hawliau byd-eang 2023 y Cydffederasiwn Undebau Llafur Rhyngwladol yn dangos bod tramgwyddo hawliau gweithwyr wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed. Ac rydym ni'n gwybod bod trefnwyr undebau yn cael eu llofruddio bob un dydd am sefyll dros hawliau gweithwyr. A yw hi'n cytuno â mi bod yn rhaid i'r frwydr barhau, yma yn y DU ac yn rhyngwladol, ac yng ngeiriau Joe Hill, y cyfansoddwr caneuon ac aelod o'r Wobblies—Gweithwyr Diwydiannol y Byd: 'Peidiwch â galaru—trefnwch!'?

18:35

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am y cyfraniad terfynol addas iawn yna at y datganiad heddiw? Yn sicr, dwi'n cytuno. Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd—bod undebau llafur, mewn gwirionedd, yn bwysig i gefnogi gweithwyr yma yng Nghymru, ond mae'n gwbl hanfodol, yn rhan o'r gwerthoedd hynny, yn rhan o'r ysbryd hwnnw o gyfunoliaeth, ei fod yn cyrraedd y tu hwnt i'n glannau, ac mae'n golygu undod a chefnogaeth ryngwladol hefyd.

9. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024

Eitem 9 sydd nesaf, y Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024. Y Gweinidog i wneud y cynnig yma—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8486 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Cynigiaf y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024. Mae'r rheoliadau yn arwain at luosydd ardrethi annomestig o 0.562 ar gyfer 2024-25.

Cyhoeddais ar 19 Rhagfyr y byddem ni'n cyfyngu'r cynnydd i'r lluosydd ar gyfer 2024-25 ar gost gylchol o £18 miliwn i gyllideb Cymru—cam sydd o fudd i bob talwr ardrethi yng Nghymru, ac eithrio'r bron i 50 y cant sydd eisoes yn talu dim ardrethi o gwbl. Bydd y lluosydd yn cynyddu 5 y cant yn hytrach na'r cynnydd diofyn o 6.7 y cant yn unol â chwyddiant y mynegai prisiau defnyddwyr. Dyma'r lefel fwyaf posibl o gymorth sydd ar gael gan ddefnyddio'r holl gyllid canlyniadol a dderbyniwyd o gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch lluosydd 2024-25. Ochr yn ochr â'r penderfyniad i gyfyngu'r cynnydd i'r lluosydd, rydym ni'n darparu pecyn hael o ryddhad. Drwy'r rhyddhad hwn, mae bron i hanner yr holl dalwyr ardrethi, gan gynnwys miloedd o fusnesau bach, yn talu dim ardrethi o gwbl. Pan fydd cymorth rhannol yn cael ei gynnwys, bydd talwyr ardrethi mewn mwy nag 80 y cant o eiddo yn elwa o ryddhad yn 2024-25. Mae hynny'n cyfateb i 104,000 eiddo ledled Cymru, neu, i'w roi mewn ffordd arall, bydd llai nag 20 y cant o eiddo yn talu ardrethi llawn.

Rydym ni'n darparu cyfanswm o £384 miliwn o gymorth ardrethi annomestig y flwyddyn nesaf. Bydd pob talwr ardrethi yn elwa o'r pecyn hwn. Mae ein cymorth yn sicrhau cydbwysedd rhwng cynorthwyo busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru, yn enwedig o ystyried y pwysau y maen nhw wedi bod yn eu hwynebu, a'r angen i gynnal llif refeniw sefydlog ar gyfer gwasanaethau lleol, yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Mae'r cymorth hwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei ystyriaeth o'r rheoliadau a gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau heddiw.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno pwerau o'r diwedd i gyflwyno lluosydd hollt drwy'r Bil cyllid llywodraeth leol—rhywbeth yr ydym ni wedi galw amdano ers amser maith. Fodd bynnag, yr hyn sy'n dal i beri pryder yw'r ffaith bod pob busnes yma yng Nghymru yn talu cyfradd uwch na busnesau yn Lloegr a'r Alban ac mae hynny hyd yn oed gyda'r cynnydd o 5 y cant, yn hytrach na'r ffigur Mynegai Prisiau Defnyddwyr o 6.7 y cant. Bydd y newidiadau arfaethedig yn golygu bod busnesau Cymru yn wynebu'r lluosydd uchaf, sef 56.2. Mae'n drueni nad yw opsiwn 3, fel y disgrifir yn y memorandwm esboniadol, i rewi'r lluosydd ar gyfradd y llynedd o 53.5c wedi cael ei ddewis, gan gydnabod pa mor anodd yw pethau i'n busnesau yn dilyn y blynyddoedd diwethaf. Ac i wneud pethau'n waeth, fel y gwyddom ni, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi terfyn ar gymorth i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu yma yng Nghymru, gan sicrhau y bydd tafarndai a bwytai a siopau yn talu bron i ddwbl cyfradd ardrethi busnes eu cymheiriaid yn Lloegr. Felly, yng ngoleuni hyn, Llywydd, ni allwn ni gefnogi'r rheoliadau hyn sy'n cynnal ardrethi busnes mor uchel yma yng Nghymru.

18:40

Er ein bod ni'n croesawu'r penderfyniad i gapio'r cynnydd i'r lluosydd ardrethi annomestig yng Nghymru islaw chwyddiant y mynegai prisiau defnyddwyr, mae angen rhoi hyn yng nghyd-destun y toriad sylweddol i ryddhad busnes o 75 y cant i 40 y cant yn rhan o'r gyllideb sydd ar fin cael ei chynnal. Yn dilyn ergyd sylweddol eisoes o sgil-effeithiau economaidd y pandemig, mae'r bygythiad ynghylch nifer fawr o fusnesau yn cau, yn enwedig yn y sector manwerthu a lletygarwch, yn edrych yn enbyd bellach. Fel yr ydym ni wedi bod yn ei bwysleisio fyth ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, byddem yn annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo busnesau yn llawn yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol mawr. Dylai hyn gynnwys bod ag amser Senedd a phwyllgor digonol i drafod a chraffu ar benderfyniadau pellgyrhaeddol fel hyn yn llawn. Er ein bod ni wedi bod yn trafod sefyllfa gyffredinol y gyllideb dros yr wythnosau diwethaf, mae'n destun gofid bod yr agwedd benodol a hynod arwyddocaol hon ar graffu ar y gyllideb ddrafft wedi cael ei gwasgu oherwydd cyfyngiadau amser.

Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymhelaethu ar y rhesymeg dros bennu'r cynnydd i'r lluosydd ar 5 y cant. Pa hyblygrwydd oedd gan y Llywodraeth yn hyn o beth, ac a oedd unrhyw ystyriaeth o gyfyngu'r cynnydd hyd yn oed ymhellach? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i'r ddau gyd-Aelod am eu cyfraniadau heddiw, ac rwy'n cofio y cawsom ni gyfraniad tebyg gan y Ceidwadwyr yn y ddadl ar y lluosydd y llynedd. Hoffwn fod yn gwbl, gwbl eglur, os na chaiff y cynnig hwn ei basio heddiw, y bydd y lluosydd yn codi yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, a bydd yn 6.7 y cant, yn hytrach na 5 y cant. Felly, byddai unrhyw bleidlais ac eithrio cefnogi'r cynnig heddiw mewn gwirionedd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau dalu mwy yng Nghymru. Eto, cawsom ddadl debyg y llynedd, felly'r dewis i gyd-Aelodau yw cefnogi cynnydd o 5 y cant i'r lluosydd neu gynnydd o 6.7 y cant i'r lluosydd. Dyna'r unig ddau ganlyniad posibl o'r bleidlais yr ydym ni'n ei chael heddiw.

Ac yna i ateb y cwestiwn penodol hwnnw o ran y 5 y cant—5 y cant yw'r ffigur a geir pan fyddwch chi'n defnyddio pob ceiniog o'r cyllid ychwanegol a ddaeth o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU o ran y lluosydd yn Lloegr. Felly, fe wnaethom ni ddefnyddio pob ceiniog o hynny, ac arweiniodd hynny at y 5 y cant.

I fyfyrio ar rai o'r pwyntiau eraill, rwy'n credu fy mod i wedi cyfeirio at y rhan fwyaf ohonyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, ond hoffwn bwysleisio'n benodol eto na fydd 50 y cant o fusnesau yng Nghymru yn talu unrhyw ardrethi o gwbl y flwyddyn nesaf diolch i'r cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu. Mae ein pecyn o gymorth werth mwy na thraean biliwn o bunnoedd i fusnesau mewn cymorth ardrethi, a bydd llai nag un o bob pump yn talu eu rhwymedigaeth lawn mewn gwirionedd, oherwydd bod gennym ni ystod mor eang o gymorth cyffredinol ar gael.

Nawr, wrth gwrs, rydym ni'n deall y pwysau sydd ar fusnesau ar hyn o bryd, ond byddwn ni i gyd yn gyfarwydd iawn â'r dewisiadau anodd iawn y bu'n rhaid i ni eu gwneud ar draws y Llywodraeth wrth bennu'r gyllideb eleni. O ganlyniad, rydym ni wedi blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus—bydd y GIG yng Nghymru yn derbyn cynnydd o 4 y cant. Yn Lloegr mae'n 1 y cant, ac mae hynny'n dangos y gwahanol ddewisiadau yr ydym ni wedi eu gwneud fel Llywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedais, mae'r pecyn cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu yn dal i fod yn gynhwysfawr, ac mae'r dewis y prynhawn yma, Llywydd, rhwng cynnydd o 5 y cant neu gynnydd o 6.7 y cant.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

10. Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024

Eitem 10 sydd nesaf, y Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 yw hwn. A'r Gweinidog cyllid i wneud y cynnig unwaith eto—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8485 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 09 Ionawr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyflwyno Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024. Mae'r grym i Weinidogion Cymru wneud y Gorchymyn yn adran 6 Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac mae'n ofynnol iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Y diben yw ychwanegu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil at y rhestr o gynhyrchwyr ystadegau swyddogol. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd bod ystadegau a gynhyrchir gan y comisiwn yn ddibynadwy, o ansawdd uchel ac o werth cyhoeddus. Bydd y comisiwn yn dod yn gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru. Bydd yn gyfrifol am yr ystadegau swyddogol presennol sy'n trosglwyddo o Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag ystadegau sy'n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Bydd y Gorchymyn yn galluogi'r comisiwn i gyhoeddi ystadegau fel ystadegau swyddogol pan ystyrir eu bod yn ddigon cadarn i wneud hynny. Mae gwaith ar y gweill, gydag ystadegwyr yn trosglwyddo i'r sefydliad, i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gynted â phosibl.

Mae ystadegau swyddogol yn cynnig cipolwg ar ein cymdeithas, yn hysbysu'r broses gwneud penderfyniadau ac yn helpu i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif. Mae'r Gorchymyn hwn yn sicrhau y bydd y comisiwn yn darparu ystadegau o ansawdd uchel y gellir dibynnu arnyn nhw a fydd yn hysbysu ac yn llunio llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Gorchymyn hwn.

18:45

Er yn amlwg croesewir y dull gweithredu, nid yw CCAUC yn gorff ystadegau swyddogol ar hyn o bryd, felly a gaf i ofyn pa ymgynghoriad y mae'r Gweinidog wedi'i gael gyda CCAUC neu brifysgolion i nodi a thrafod effeithiau neu broblemau posibl, gan gynnwys goblygiadau cost y newid hwn?

Rwyf eisiau rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau y bu ymgysylltiad sylweddol gan y prif ystadegydd a'i thîm mewn cysylltiad â'r symudiad i roi'r statws i'r corff newydd o fod yn ddarparwr ystadegau swyddogol, a'r nod, mewn gwirionedd, yw sicrhau bod yr ystadegau hynny'n parhau i fod yn ystadegau cadarn. Yn enwedig yng nghyd-destun y sefyllfa rydyn ni'n cael ein hunain ynddi heddiw, pan fo cymaint o gamwybodaeth, rwy'n credu bod ystadegau cadarn y gall pawb ddibynnu arnynt gan ffynhonnell ag enw da yn bwysig iawn.

A Llywydd, roeddwn i mor awyddus i ateb y cwestiwn rwy'n sylweddoli nad wyf yn gwybod a oes siaradwyr eraill yn y ddadl.

Ac roeddwn i mor awyddus i chi ateb y cwestiwn, doeddwn i ddim yn sylweddoli nad oedd unrhyw siaradwyr heblaw chi i ymateb. Oedd, roedd y ddwy ohonom yn rhy awyddus.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl: Setliad yr Heddlu 2024-25

Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar setliad yr heddlu 2024-25. Y Gweinidog cyllid unwaith eto i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM8482 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2024-25 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2024.

Cynigiwyd y cynnig.

Heddiw, er mwyn cael cymeradwyaeth y Senedd, rwy'n cyflwyno manylion am gyfraniad Llywodraeth Cymru i'r cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2024-25. Mae'r cyllid craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi'u datganoli, mae'r darlun cyllido cyffredinol yn cael ei bennu a'i ysgogi gan benderfyniadau'r Swyddfa Gartref.

Rydym wedi cynnal y dull sefydledig o osod a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Fel yr amlinellwyd yn fy nghyhoeddiad ar 31 Ionawr, cyfanswm y gefnogaeth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2024-25 yw £459.8 miliwn. Er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol sy'n ein hwynebu, mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r swm hwn yn parhau i fod heb newid ar £113.5 miliwn y llynedd a'r cyllid hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2024-25, y bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr i gyd yn derbyn cynnydd mewn cyllid o 2.054 y cant o'i gymharu â 2023-24, ar ôl cynnwys codiad cyflog yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2023-24 a chyn addasu ar gyfer cyllid yr heddlu arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant atodol gwerth cyfanswm o £67.2 miliwn i sicrhau bod pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru yn cyrraedd lefel gwaelodol.

Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sydd wedi'i osod gerbron y Senedd hon. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Fel y clywsom, mae cyllid ar gyfer pedwar heddlu Cymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor, gyda'r Swyddfa Gartref yn gweithredu fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr a chydag elfen Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gysondeb ar draws Cymru a Lloegr.

Ar gyfer 2024-25, cyfanswm y gefnogaeth graidd i heddluoedd yng Nghymru fydd £459.8 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r setliad i Gymru yw £113.47 miliwn, yr un swm ag a roddwyd yn setliad 2023-24. Bydd heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn derbyn hwb ariannol o hyd at £287 miliwn y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth y DU. Bydd y cynnydd yn cynyddu'r cyfanswm cyllid ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr i £17.2 biliwn, ac mae'n golygu y bydd comisiynwyr heddlu a throseddu ar draws y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr yn derbyn cynnydd o hyd at £523 miliwn o grantiau ac incwm praesept y Llywodraeth. Bydd praesept yr heddlu'r dreth gyngor yn codi 4.69 y cant yng Ngogledd Cymru, 6.2 y cant yn Nyfed-Powys, 6.7 y cant yng Ngwent a 8.69 y cant yn Ne Cymru.

Ar fater cysylltiedig, mae Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru, SchoolBeat.Cymru, yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Heddluoedd Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru, sy'n creu rôl swyddogion heddlu ysgol, pwynt cyswllt penodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru. Mae'n cyflwyno cwricwlwm dwyieithog a adolygir yn genedlaethol o wersi a ddatblygwyd gan athrawon ar gyfer plant rhwng 5 ac 16 oed. Maent yn ymgysylltu â phob ysgol, gan gynnwys addysg prif ffrwd, ysgolion annibynnol yng Nghymru, ysgolion sy'n cefnogi anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth amgen, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol, fel polisi cytunedig gan bedwar heddlu Cymru ar gyfer ymateb i adroddiadau o ddigwyddiadau mewn ysgolion a chefnogi a chynghori ysgolion yng nghyd-destun diogelu—yn y bôn, ymyrraeth gynnar ac atal. Fodd bynnag, cadarnhawyd i mi, mewn cwestiynau ysgrifenedig i ddechrau, y bydd Llywodraeth Cymru yn tynnu ei chyllid cyfatebol yn ôl ar gyfer rhaglen ysgolion heddlu Cymru, sy'n cynnwys SchoolBeat, a thrwy hynny yn cael gwared ar raglen ymyrraeth gynnar ac atal allweddol a thrwy hynny ysgwyddo costau ar gyfer gwasanaethau statudol, gan gynnwys y rhai y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Felly, penderfyniad cibddall arall gan Lywodraeth Cymru yw hwn, gan dorri rhaglen sydd wedi'i chynllunio i atal yn hytrach na gwella, gan arbed y pwrs cyhoeddus yn nes ymlaen.

Ym mis Mawrth y llynedd, cyflawnodd Llywodraeth y DU ei haddewid maniffesto a recriwtio 20,951 o swyddogion o gyllid ar gyfer rhaglen gynnydd yr heddlu, gan gynnwys 1,005 o swyddogion heddlu newydd ledled Cymru, yn amrywio o 141 ym Mhowys i 206 yng Ngogledd Cymru a Gwent a 452 yn Ne Cymru. Mae polisi'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn parhau i gynyddu'r cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bob blwyddyn.

Dangosodd ffigurau diweddaraf arolwg trosedd Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023 fod cyfanswm troseddau wedi gostwng 10 y cant, a achoswyd yn bennaf gan ostyngiadau mewn troseddau twyll a difrod troseddol. Mae hyn yn dilyn tuedd hirdymor ar i lawr a chwympiadau diweddar ers dechrau'r pandemig coronafeirws, gyda chyfanswm y troseddau 18 y cant yn is na'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Ac fel y dysgais pan ymwelais ag Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol Gogledd Orllewin Lloegr, amcangyfrifir bod 95 y cant neu fwy o droseddau yng y gogledd yn gweithredu ar draws y ffin, o'r dwyrain i'r gorllewin a bron dim ar sail Cymru gyfan.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru dal heb esbonio pam mai dim ond un cyfeiriad at droseddoldeb trawsffiniol y mae adroddiad comisiwn Thomas yn ei wneud, er gwaethaf y dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt. Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, mae gan Gymru ardal drawsffiniol boblog iawn, gyda bron i hanner y boblogaeth yng Nghymru yn byw o fewn 25 milltir i Loegr, a 90 y cant o fewn 50 milltir.

O ystyried y realiti gweithredol a realiti'r boblogaeth, rhaid i Lywodraeth Cymru esbonio pam y mae'n neilltuo cymaint o amser ac adnoddau i ddatganoli plismona i Gymru pan fydd yn torri cyllidebau allweddol mewn mannau eraill, yn enwedig pan fo Llywodraeth Geidwadol y DU ac AS Llafur mwyaf blaenllaw Cymru yn San Steffan, Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, Jo Stevens, wedi gwrthod galwadau newydd i Lywodraeth Cymru gael rheolaeth dros blismona a chyfiawnder troseddol oedolion. Diolch yn fawr.

18:50

Mae setliad yr heddlu ar gyfer 2024-25 yn golygu bod 14 mlynedd o gyni a ysgogwyd gan y Torïaid wedi peryglu diogelwch ein cymunedau. Oherwydd difrifoldeb y toriadau a osodwyd ar heddluoedd yn ystod gweinyddiaeth Cameron, dim ond nawr rydym yn gweld adferiad yn nifer yr heddlu yng Nghymru i'r un lefel yn fras ag yr oeddent yn 2010. Ac ar adeg pan fo pŵer gwario'r cyllid cyhoeddus mewn cyflwr mor ddinistriol, mae cyfanswm y cynnydd o lai na £10 miliwn ar gyfer grant heddlu Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf, sy'n cynrychioli cynnydd o 2 y cant yn unig o'i gymharu â'r llynedd, yn golygu bod penderfyniadau gwario anodd o'n blaenau i bob un o'n pedwar heddlu.

Er enghraifft, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi amcangyfrif bod cyllideb yr heddlu wedi ei erydu £651 miliwn mewn termau real dros y 12 mlynedd diwethaf. Yn y cyfamser, mae Dyfed-Powys a Gogledd Cymru yn gorfod ystyried arbedion o tua £6 miliwn a £7.5 miliwn yn y drefn honno dros y pum mlynedd nesaf.

Nid yw effaith niweidiol cyni yn weladwy mewn ffigurau ariannol yn unig. Datgelodd arolwg diweddar gan Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr fod 97 y cant o'r ymatebwyr yn dweud bod eu triniaeth gan y Llywodraeth, yn enwedig ar gyllid, wedi niweidio eu morâl, ond efallai na ddylem—

Mae gen i lawer i'w drafod, mae'n ddrwg gennyf, Mark.

Ond efallai na ddylem synnu fod y blaid Dorïaidd, sydd wedi datblygu arfer parhaus yn ystod y blynyddoedd diwethaf o dorri'r rheolau, yn ymddangos nad yw'n gweld gwerth buddsoddi mewn cyfraith a threfn. Canlyniad y tanfuddsoddi cyson hwn gan San Steffan yw ei bod yn ymddangos bod yn rhaid i'r dreth gyngor ysgwyddo cyfran gynyddol fwy o'r costau. Bydd praesept yr heddlu ar gyfer pob llu heddlu yng Nghymru yn cynyddu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, 9 y cant yn achos De Cymru, sy'n golygu bod y praesept bellach yn cyfrif am 47 y cant o'r gyllideb, o'i gymharu â 34 y cant ddegawd yn ôl. Felly, pan fydd yr Aelodau Ceidwadol yma yn cwyno am y cynnydd i'r dreth gyngor, dylen nhw sianelu'r dicter hwnnw tuag at eu cydweithwyr yn Llywodraeth y DU a galw arnynt i ariannu heddluoedd Cymru yn iawn.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb yn y maes hwn hefyd. Er bod y siâr a gafodd gan Lywodraeth y DU yn ddi-os yn un gwael, mae'n wir serch hynny y bydd y penderfyniad i dorri £7.5 miliwn o gyllideb swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a rhewi'r rhaglen recriwtio arfaethedig yn rhoi mwy o bwysau fyth ar adnoddau heddluoedd. A byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro sut mae'r Llywodraeth wedi bod yn ymgysylltu â'r heddluoedd priodol ar oblygiadau'r cynlluniau gwariant cyllideb drafft.

Yn olaf, o bersbectif ehangach, mae'r sefyllfa heriol y mae ein heddluoedd yn canfod eu hunain ynddi yn adlewyrchiad o ba mor wael y mae Cymru yn cael ei siomi gan ddiffyg pwerau datganoledig dros blismona, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r cenhedloedd datganoledig eraill. Yn nhermau ariannol, mae hyn yn cael ei amlygu gan economi ffug modelau gwario i arbed mewn cyd-destun nad yw'n ddatganoledig, sy'n golygu, er gwaethaf y ffaith bod tua thraean o gyfanswm gwariant ar gyfiawnder yng Nghymru yn dod o ffynonellau datganoledig neu lywodraeth leol, ni ddychwelir unrhyw arbedion canlyniadol sy'n deillio o fentrau polisi Cymru i Drysorlys Cymru. Fel yr argymhellwyd gan gomisiwn Silk bron i ddegawd yn ôl, mae'r achos dros unioni'r anghysondeb cyfansoddiadol hwn yn gymhellol ac yn hir-ddisgwyliedig, ac eto mae'n parhau i syrthio ar glustiau byddar ymhlith arweinyddiaeth Llafur y DU, enghraifft arall eto o ddiffyg ymateb cynhenid i anghenion Cymru. Felly, byddwn yn galw ar Aelodau Llafur i ofyn y cwestiwn syml hwn i Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wrthblaid: pam ydych chi'n credu mai'r status quo sy'n methu yw'r peth gorau a gaiff pobl Cymru? Diolch.

18:55

Er bod y setliad yma yn darparu cynnydd cyffredinol i'r cyllid, nid yw hyn yn cael ei ddyranu ar sail anghenion unigol y lluoedd. Ac fel dywedodd Peredur Owen Griffiths, mae'n dod yn dilyn nifer o doriadau ers dros ddegawd. Yn ogystal â'r toriadau i gyllid yr heddlu, mae'r heddlu hefyd wedi gorfod ymdopi â cheisio llenwi'r bwlch mawr sydd wedi cael ei adael yn ein cymunedau ni oherwydd polisïau llymder.

Yn ôl Heddlu De Cymru, maent yn derbyn galwad bob 13 munud am ddigwyddiad sy'n ymwneud â mater iechyd meddwl. O'r digwyddiadau hynny, dim ond 4 y cant o'r galwadau sydd angen ymarfer pwerau'r heddlu—96 y cant, felly, o alwadau, un bob 13 munud, yn ymwneud â materion iechyd meddwl. Yn ogystal, mae pob un ohonom ni wedi clywed am geir heddlu yn cael eu defnyddio, yn hytrach nag ambiwlans, i gludo pobl i'r ysbytai, a hefyd enghreifftiau o bobl â phroblemau iechyd meddwl dwys yn cael eu cadw mewn celloedd heddlu. 

Yn ôl y Swyddfa Gartref, er mwyn sicrhau cynnydd cyfartalog mewn arian ar gyfer gwasanaethau heddlu o 6 y cant, bydd angen i'r holl gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr gynyddu eu praeseptau o leiaf £13—[Anghlywadwy.]—ffigur. Yng Ngogledd Cymru, mae'r praesept yn cynyddu £16; yn Nyfed-Powys, £19; yng Ngwent, £25; ac yn Ne Cymru cynnydd sylweddol o £28—cynnydd o £28 yn nhrethi'r cyngor i bobl de Cymru. Mae'n annheg, oherwydd diffyg cyllid priodol gan Lywodraeth San Steffan, y gofynnir i drigolion lleol, sydd eisoes wedi talu am blismona yn eu trethi, ysgwyddo'r baich unwaith eto, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw.

Mae hefyd yn creu loteri cod post rhyfedd, lle bydd y dreth yng Nghasllwchwr yn cynyddu bron i ddwbl y cynnydd ar draws yr aber yn Llanelli. Er bod y cyfrifiadau cyfredol yn ystyried ychydig o ffactorau economaidd-gymdeithasol, y brif anfantais yw maint y boblogaeth. Pam, felly, ydyn ni'n defnyddio rhagfynegiadau-nid data, rhagfynegiadau, nid data—o 2013, i benderfynu ar ganlyniadau cyllid yn 2024? Mae hyn wedi cael ei amlygu a'i feirniadu gan ffederasiwn yr heddlu ers blynyddoedd, ond mae'n dal i gael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru. Os ydym o ddifrif ynglŷn â datganoli plismona, mae angen i ni ddangos mwy o ofal i'r angen am blismona yma yng Nghymru.

Fel y soniodd Peredur, dywedodd 93 y cant o swyddogion heddlu Cymru nad ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael eu parchu gan Lywodraeth Cymru. Pan ystyriwch nifer y toriadau dros y blynyddoedd i fesurau addysgol, cymunedol ac ataliol yr ymdrinnir â nhw gan yr heddlu, a'r cymhlethdod ychwanegol a grëwyd gan yr ymyl garw, mae'n hawdd deall pam eu bod yn teimlo fel hyn.

Yn hanfodol, mae'r setliad hwn yn methu â darparu gweledigaeth flaengar ar gyfer plismona yng Nghymru. Yn hytrach nag ymrwymo i gynllun ariannu sefydlog a chynaliadwy, gwelwn Weinidogion Cymru yn dibynnu ar setliadau blynyddol nad ydynt yn rhoi unrhyw arwydd o drywydd yn y dyfodol. Mae hyn yn hanfodol os ydym o ddifrif ynglŷn â datganoli pellach. Gobeithio, gyda newid Llywodraeth eleni yn San Steffan, y bydd Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer cyllido plismona datganoledig yn y dyfodol, arwydd o lwybr at blismona datganoledig a chynllun i ddatganoli fformiwlâu cyllido i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gynhyrchu system ariannu decach sy'n gweithio i bawb ledled Cymru. Diolch yn fawr.

19:00

Un o'r pethau a welwyd yn y penawdau yr wythnos diwethaf oedd prosiect neu fenter SchoolBeat.Cymru, ac yn amlwg mae wedi bod yn destun pryder mawr, i'r heddlu, comisiynwyr heddlu a throseddu ac ysgolion, ond hefyd i bobl o fewn y gymuned rwy'n ei chynrychioli, bod hyn yn dod i ben. Yn amlwg, mae'r heddlu wedi penderfynu ei hariannu am weddill y flwyddyn academaidd, ond siomedig oedd darganfod na fu unrhyw ymgynghoriad, dim sgwrs ynghylch diwedd y rhaglen hon. O ran ei heffaith, rwy'n credu bod yr holl dystiolaethau hynny'n siarad drostynt eu hunain. Roedd yn bwerus iawn darllen ar y newyddion, ond hefyd yn y negeseuon e-bost rydw i wedi'u derbyn gan athrawon, yn nodi'r effaith y gallan nhw ei gweld yn sgil y buddsoddiad hwnnw i alluogi'r heddlu i ymgysylltu, a hefyd sut mae hynny'n mynd i'r afael â phroblemau cyn iddyn nhw waethygu ac atal pobl rhag gorfod mynd i lawr y llwybr cyfiawnder ieuenctid hwnnw nad ydym eisiau ymgysylltu ag ef.

Mae cymaint o wahanol faterion yn cael sylw yn y gwersi hynny, o gamddefnyddio sylweddau, diogelu, ymddygiadau, ond hefyd gwrth-hiliaeth; cymaint o faterion y gallant ymgysylltu'n rhagweithiol â nhw ac yn y math hwnnw o amgylchedd sy'n ddiogel ac yn groesawgar. Felly, byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru pa ystyriaethau a roddwyd, yn dilyn y beirniadaethau hynny a'r pryderon ynghylch y toriad hwnnw i'r ffrwd ariannu benodol honno, er mwyn sicrhau nad yw'r gwaith hwnnw'n chwalu o golli'r cyllid hwnnw. Gan y bydd atal, yn y tymor hir, yn gwneud arbedion o ran cyllido cyhoeddus, felly byddwn yn awyddus iawn i wybod a fydd y sgyrsiau hynny'n digwydd nawr, os na ddigwyddon nhw cyn i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a sut y gallwn sicrhau y gall y rhaglenni hynny barhau mewn ysgolion.

Diolch. Fe ddechreuaf, mewn gwirionedd, drwy gydnabod manteision cyllid dangosol i gomisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn ymarferol ac nid yw'n ddefnyddiol, rwy'n gwybod, i gomisiynwyr mewn cysylltiad â chynllunio ariannol tymor canolig, ond gan fod y trefniadau cyllido yn cwmpasu Cymru a Lloegr, nid yw'n bosibl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth heb fanylion am gyllid y Swyddfa Gartref.

I gyfeirio'n gryno at yr adolygiad o'r fformiwla ariannu, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu bwriad i gwblhau'r gwaith hwn cyn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae'r Swyddfa Gartref yn cydnabod bod y fformiwla ariannu heddlu bresennol wedi dyddio ac nad yw bellach yn adlewyrchu'r galw ar blismona yn gywir, ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno fformiwla newydd a fydd, meddai, yn dosbarthu cyllid craidd yn deg ac yn dryloyw i'r 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Felly, mae cam technegol yr adolygiad ar y gweill ar hyn o bryd a bydd hynny'n cyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau ariannu newydd. Mae grŵp uwch sector a grŵp cyfeirio technegol wedi cael eu cynnull gyda chynrychiolaeth o'r sector plismona ac arbenigwyr perthnasol i arwain ar ddatblygu fformiwla newydd. Bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector drwy gydol yr adolygiad, a bydd unrhyw gynigion yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn cyn cael eu gweithredu, ac yn amlwg byddem eisiau i swyddogion Llywodraeth Cymru barhau i aros yn agos at y gwaith hwnnw a pharhau i dderbyn y diweddariadau hynny amdano.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

19:05

Wrth gwrs, rwy'n deall y pryderon sydd wedi'u codi am raglen ysgolion heddlu Cymru. Doedd hynny ddim yn benderfyniad hawdd o bell ffordd, ond rwy'n credu mai enghraifft dda iawn yw e—enghraifft dda iawn y prynhawn yma—o'r dewisiadau anodd rydyn ni wedi gorfod eu gwneud o ran ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wrth flaenoriaethu'r GIG a llywodraeth leol, mae wedi golygu newid ein dull o ymdrin â rhai rhaglenni ar draws y Llywodraeth, ac yn y cyd-destun hwnnw roedd yn rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd hwnnw i dynnu cyllid yn ôl ar gyfer rhaglen ysgolion heddlu Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

Mae'n werth cydnabod bod y dirwedd o amgylch llesiant dysgwyr ar ystod o faterion pwysig wedi newid yn sylweddol ers cyflwyno'r rhaglen honno. Mae llawer o feysydd bellach yn bynciau a fyddai'n cael eu hystyried fel arfer ym maes dysgu iechyd a llesiant, ac roedd pob un o'r rhain yn draddodiadol yn dod o dan raglen ysgolion heddlu Cymru. Ond bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol i archwilio pa ddarpariaeth ac adnoddau presennol neu amgen sydd ar gael i sicrhau bod plant yn cael gwybodaeth berthnasol i'w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a'u cadw'n ddiogel. Ond dim ond pwysleisio eto nad oedd hynny'n benderfyniad a wnaed yn ysgafn, ac yn sicr nid yn un y byddem wedi dymuno ei gymryd pe bai ein sefyllfa ariannol wedi bod yn wahanol.

Ac yna, yn fyr, i fyfyrio ar swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, rydym yn dal i ddarparu dros £15 miliwn o gyllid ar gyfer SCCH, er bod y maes hwn yn un a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Mae'r arian hwn yn cael ei ddarparu yn ychwanegol at yr arian y bydd heddluoedd yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU. Mae'n darparu buddsoddiad ychwanegol mewn cymunedau yng Nghymru nad yw ar gael i heddluoedd yn Lloegr. A hefyd, nid effeithir ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer SCCH trafnidiaeth o'r portffolio newid hinsawdd, ac rwy'n falch ein bod yn gallu parhau i ariannu yn y maes pwysig hwn. Rydym yn darparu £0.5 miliwn o gyllid bob blwyddyn ar gyfer SCCH trafnidiaeth, ac mae'r cyllid hwn yn ariannu rhingyll yr heddlu a chyllid rhannol ar gyfer un arolygydd heddlu.

Er, wrth siarad am flaenoriaethau eto, rydym wedi gwneud y penderfyniad i flaenoriaethu gwariant ar ddiogelwch cymunedol yn y meysydd sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae hynny'n cynnwys cynnal neu gynyddu ein gwariant mewn meysydd fel Canolfan Cymorth Casineb Cymru, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', glasbrint cyfiawnder menywod, a'r rhaglen cydlyniant cymunedol. Mae maint llawn y buddsoddiad hwn wedi'i nodi yn ein cyllideb ddrafft.

Dim ond i ddweud 'diolch' wrth fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd â'r berthynas o ddydd i ddydd â'n cydweithwyr yn yr heddlu, a gwn fod y perthnasoedd hynny'n adeiladol iawn, iawn yn wir.

Ac yna yn olaf, dim ond i gydnabod cyd-destun anodd y penderfyniad sy'n cael ei wneud mewn cysylltiad â gosod y praesept. Yn wahanol i Loegr, rydym wedi cadw'r rhyddid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru wneud eu penderfyniadau eu hunain am gynnydd treth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o rôl y Comisiynwyr, ac mae'n dangos eu hatebolrwydd i'r etholwyr lleol. Mae pob un o'n Comisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi bod yn ymgynghori â'u cymunedau ar lefel y cyllid lleol ar gyfer 2024-25, a gwn y byddant yn ymwybodol iawn o'r pwysau costau byw y mae llawer o aelwydydd yn parhau i'w hwynebu, ac rwy'n disgwyl i Gomisiynwyr weithredu mewn modd rhesymol drwy ymgynghori â thrigolion lleol a'r cynghorau cyfansoddol, a chael cynlluniau cyllideb synhwyrol a chynlluniau ariannol tymor canolig ar waith, a hefyd myfyrio ar benderfyniadau blaenorol y dreth gyngor yn eu hardaloedd hefyd.

Felly, yn olaf, Llywydd, i ddiweddu drwy gydnabod y gwaith pwysig y mae'r heddlu yn ei wneud i'n cymunedau ledled Cymru. Maent yn rhan gwbl allweddol o wasanaeth cyhoeddus integredig, gan weithio gyda byrddau iechyd, cynghorau lleol, a phartneriaid eraill fel rhan o'n dull cydgysylltiedig o ymdrin â diogelwch cymunedol yma yng Nghymru.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

12. Cyfnod Pleidleisio

Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac felly fe wnawn ni symud at y pleidleisiau, os nad oes tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch. Gwnawn ni gynnal y bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais.

Nid oes recordiad ar gael o’r cyfarfod rhwng 19:09 a 19:11. 

Eitem 9. Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024: O blaid: 27, Yn erbyn: 14, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

19:10

Galwaf am bleidlais ar y cynnig ar setliad yr heddlu yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Ac, felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn. 

Eitem 11. Dadl: Setliad yr Heddlu 2024-25: O blaid: 41, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Daeth y cyfarfod i ben am 19:11.