Y Cyfarfod Llawn

Plenary

07/02/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, a'r cwestiynau i Weinidog yr Economi sydd gyntaf. Mae'r cwestiwn gyntaf gan Sarah Murphy.

Cefnogi Pobl Ddi-waith

1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl ddi-waith i ddechrau eu busnes eu hunain? OQ60656

Diolch am y cwestiwn. Mae Busnes Cymru yn helpu pobl ddi-waith i ddechrau eu busnes eu hunain yng Nghymru drwy amrywiaeth o fentrau cymorth busnes. Mae wedi ymrwymo i helpu'r unigolion a'r bobl ifanc sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i oresgyn unrhyw rwystrau i ddechrau busnes newydd.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Yn gynharach eleni—wel, nid yn gynharach eleni—y llynedd, roeddwn wrth fy modd yn gweld y newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ei grant rhwystrau rhag dechrau busnes. Ers 2020, mae'r grant wedi cefnogi dros 1,500 o bobl ddi-waith ledled Cymru ac wedi cael effaith amlwg ar y nifer sy'n gallu manteisio ar y grant, gyda bron i bedwar o bob pump yn dal i fasnachu. Yn ôl Cwmpas, busnesau bach a chanolig yw 99 y cant o fusnesau a 62 y cant o gyflogaeth y sector preifat yng Nghymru, gyda pherchnogaeth deuluol yn gyffredin. Gwyddom fod busnesau bach a chanolig yn cael effaith enfawr ar eu cymunedau, gan eu bod yn aml yn cyflogi o'r ardal gyfagos ac yna'n buddsoddi yn ôl yn yr ardal. Felly, yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, daeth busnesau lleol at ei gilydd i ddarparu teledu cylch cyfyng, llifoleuadau a draeniau ar gyfer Clwb Pêl-droed Corneli. Fodd bynnag, Weinidog, mae'n bwysig ein bod yn ystyried yr heriau sy'n wynebu perchnogion busnesau bach a chanolig. Yn yr un adroddiad, canfu Cwmpas fod un o bob pump perchennog busnes naill ai'n ystyried cau neu gefnu ar eu busnes yn y pum mlynedd nesaf—bom amser real iawn. Felly, o ystyried hyn, Weinidog, pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod rhaglenni fel y grant rhwystrau rhag dechrau busnes yn cael eu cyflwyno ac i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod y lle gorau yn y DU ar gyfer dechrau busnes? Diolch.

Diolch am y cwestiwn ac am gydnabod gwerth busnesau bach a busnesau newydd, nid yn unig o ran swyddi a chyflogaeth, oherwydd gwyddom fod gan yr economi yma yng Nghymru gyfran hyd yn oed yn fwy o fusnesau bach a chanolig, ond hefyd am y cysylltiad lleol a'r buddsoddiad lleol y mae busnesau'n aml yn ei wneud yn eu cymuned, a'r ymdeimlad gwirioneddol o le a gynhyrchir gan y cynnig busnes lleol a bach. 

Rwy'n falch eich bod yn cydnabod, ar fy ffigurau i, fod dros 1,600 o unigolion bellach wedi cael cymorth i ddechrau busnes newydd gyda'r grant rhwystrau rhag dechrau busnes. Agorodd y cyfnod diweddaraf ar 7 Ionawr—felly, i mewn i'r flwyddyn galendr hon—a hyd yma, cafwyd dros 100 o ddatganiadau o ddiddordeb. Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw hefyd at y ffaith bod ganddo hanes da o bobl sy'n dal i fasnachu yn dilyn hynny. 

Yn ogystal â'r grant rhwystrau rhag dechrau busnes, rydym hefyd yn rhedeg Syniadau Mawr Cymru, ac mae hwnnw wedi cefnogi dros 200 o bobl ifanc i archwilio syniadau a hynny ar gyfer yr elfen gwarant i bobl ifanc. Yn y cynnig ehangach, mae eisoes wedi rhoi dros 200 o grantiau i bobl i helpu i ddechrau busnes. Felly, mae gennym ystod o fentrau y byddwn yn parhau i'w hyrwyddo a byddwn yn edrych ar y cyllidebau sydd gennym i helpu pobl i gael syniad, i gael eu hannog ar sut i'w wneud, a darparu cymorth ymarferol, cyn agor a hefyd pan fydd ar agor, ar sut i fod yn fusnes llwyddiannus. Mae hynny'n rhan allweddol o'r hyn sydd angen inni ei wneud—busnesau newydd yn cael eu creu a helpu'r busnesau hynny wedyn i dyfu ac i ehangu, fel y mae llawer ohonynt eisiau ei wneud. Rwy'n meddwl ynglŷn â phryd y daw bach yn ganolig a phryd y daw busnesau canolig yn rhai mawr hefyd.

Roeddwn yn falch o weld bod busnesau newydd yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sy'n newyddion i'w groesawu'n fawr ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r grant rhwystrau rhag dechrau busnes ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd ffyniant busnesau newydd yng Nghymru yn parhau. Gyda'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yr uchaf yn y DU ar 4.8 y cant, mae'r cynllun hwn yn arbennig o bwysig i gael pobl i mewn i waith, i ennill arian ac ysgogi economi Cymru. Yn anffodus, fodd bynnag, mae nifer y cwmnïau sy'n wynebu ansolfedd ar gynnydd yng Nghymru, gyda llawer o fusnesau newydd yn methu o fewn eu tair blynedd gyntaf. Mae'n adeg anodd, yn enwedig yn y sector lletygarwch a manwerthu, ar ôl COVID-19, gydag un o bob chwe siop yng Nghymru yn wag ar hyn o bryd. Gyda'r toriadau arfaethedig i ryddhad ardrethi busnes, toriadau sylweddol i gyllideb Busnes Cymru a gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y fasnach allforio a buddsoddiadau mewnol, mae cadw busnes newydd proffidiol yn weithredol yn mynd i fod yn anos yng Nghymru. Bydd grantiau rhwystrau rhag dechrau busnes yn cael eu gwastraffu os na chefnogir y busnesau a sefydlir drwy ddefnyddio'r grant ar ôl iddynt ddechrau masnachu. Gyda'r toriadau arfaethedig yn y gyllideb ddrafft, bydd angen help ychwanegol ar fusnesau newydd i gynnal eu hunain yn y flwyddyn neu ddwy gyntaf. Felly, a all y Gweinidog amlinellu pa gymorth sydd, neu a fydd yn cael ei gynnig i fusnesau newydd yng Nghymru i'w cael yn weithredol ac i gadw eu pennau uwch y dŵr yn y flwyddyn gyntaf? Diolch.

Wel, fel y gŵyr yr Aelod, mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cael ei lleihau'n sylweddol—mae wedi gostwng £1.3 biliwn mewn termau real dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hynny'n fwy na maint bwrdd iechyd o faint cymedrol yng Nghymru. Mae'n swm enfawr o bŵer gwario, ac ni allwch, ar y naill law, ddathlu'r setliad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael a chwyno wedyn am holl ganlyniadau hynny. Rwy'n falch o glywed barn fwy cadarnhaol ar fusnesau newydd o'i gymharu â'r ymyriad anffodus ddoe yn y ddadl ar y gyllideb gan yr Aelod.

Ar yr heriau i fusnesau sy'n dechrau, y rheswm pam fy mod mor falch o gael y cwestiwn gan Sarah Murphy yw ei fod yn cydnabod yr hyn a wnawn i helpu i hyrwyddo busnesau newydd—felly, y cyngor a'r arweiniad cyn creu busnes, yn ogystal â'r grant dechrau busnes hyd at £2,000 sy'n cael ei ddarparu, ac yn wir, y cynnig o gefnogaeth a mentoriaeth wedi hynny. Ac rydym yn parhau i ddarparu'r cymorth a'r cyngor hwnnw trwy Busnes Cymru i helpu busnesau ar eu taith, i feddwl am yr hyn y gallant ei wneud i oroesi a'r hyn y gallant ei wneud i dyfu. Ac rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am ein gweithgareddau masnach ryngwladol, oherwydd mae wedi bod yn flwyddyn dda i Gymru o ran masnach ryngwladol. Mae hynny oherwydd ymroddiad y staff yn fy adran, oherwydd y rhaglen flaengar, ac mae allforwyr yng Nghymru yn tyfu mewn amgylchiadau anodd iawn mewn gwirionedd. Ond yn anad dim, mae'n dibynnu ar wytnwch ac uchelgais y busnesau hynny a sut y gallwn eu helpu i ddod o hyd i farchnadoedd newydd, eu diogelu a'u cynnal.

13:35
Cefnogi Bwytai

2. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi bwytai yng Nghymru ar ôl i nifer ohonynt gau ers dechrau'r flwyddyn newydd? OQ60653

Mae bwytai yng Nghymru yn elwa o'r holl wasanaethau cymorth sy'n cael eu cynnig gan Busnes Cymru. Maent yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi annomestig a byddant yn cael eu cefnogi yn 2024-25 gan gronfa gyfalaf newydd gwerth £20 miliwn i helpu busnesau lletygarwch, manwerthu a hamdden i ddiogelu eu busnes ar gyfer y dyfodol.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Ers yr argyfwng costau byw, mae Cymru wedi colli rhai o'i bwytai a'i lleoedd bwyta o'r safon uchaf. Mae'n teimlo ar adegau, bob tro yr edrychaf ar Wales Online, ei fod yn cyhoeddi bod bwyty hirsefydlog arall yng Nghaerdydd yn cau. Mae'n amlwg fod busnesau bach yn ei chael hi'n anodd aros ar agor. Prif bryder bwytai yw lefelau ardrethi annomestig y bydd y rhyddhad ar eu cyfer yn cael ei dorri o dan y gyllideb newydd, o 75 y cant i 40 y cant. Yn hytrach na brwydro gydag ardrethi busnes, rwy'n cytuno â Luke Fletcher, a siaradodd yr wythnos diwethaf am gynhyrchu amserlen i symud oddi wrthynt. Yn 2019, lluniodd Pwyllgor y Trysorlys adroddiad a oedd yn cyflwyno dewisiadau amgen yn lle'r model hynafol hwn, megis system hybrid, a fyddai'n fwy hyblyg i newidiadau mewn economi fodern. Rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi y dylai corfforaethau deimlo baich treth, corfforaethau sydd â fawr o ddiddordeb yn y gymuned, yn hytrach na busnesau lleol. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddewisiadau amgen posibl yn lle'r system ardrethi annomestig, os caiff trethiant ei ddatganoli ymhellach i Gymru? Diolch yn fawr.

A gaf i ddiolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn atodol hwnnw, y byddai'n well ei gyfeirio at fy nghyd-Aelod y Gweinidog cyllid, mae rhaid i mi ddweud, gan mai hi sy'n gyfrifol am fesurau ariannol a threthiant? Ond a gaf i gydymdeimlo'n llwyr â'r sefyllfa y mae nifer o fusnesau lleol ynddi? Rydych chi wedi tynnu sylw at gyflwr bwytai lleol, Rhys, ac yn hollol, rwy'n credu ein bod ni'n gweld hynny ledled Cymru. Ar y llaw arall, rydym hefyd yn gweld busnesau'n ffynnu. O'r busnesau sy'n ei chael hi'n anodd, gwn ein bod ni'n gwybod am y broblem—mae'n ymwneud â mwy na'r ardrethi domestig cenedlaethol yn unig oherwydd nid yw'r ardrethi newydd hynny mewn grym eto. Felly, unrhyw fusnesau a welwn yn methu ar hyn o bryd, mae hynny'n digwydd am nifer o ffactorau eraill, y gŵyr pawb ohonom amdanynt—yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, y cadwyni cyflenwi, prisiau bwyd, costau byw'n effeithio ar allu pobl i fynd allan i fwyta neu'n dewis peidio â gwneud hynny. Felly, dyna'r mathau o ffactorau sydd wrth wraidd y methiannau busnes presennol, ac mae'r holl ddulliau o ymdrin â hynny gyda Llywodraeth y DU, ac nid gyda Llywodraeth Cymru. Ond mae hefyd yn galonogol gweld bod nifer o fusnesau newydd yn dechrau, ac rwy'n credu mai'r ateb a roddodd fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, i'r cwestiwn diwethaf, am y gefnogaeth sydd ar gael gan Busnes Cymru i fusnesau newydd, i fusnesau sy'n ceisio ehangu, neu i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd, oedd eu bod yn gallu rhoi'r cyngor perthnasol i'r busnesau hynny. Fe af â'ch pwyntiau am ardrethi annomestig yn ôl at fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, oherwydd, fel y dywedais, mater iddi hi yw hynny, ac nid i mi.FootnoteLink Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud bod system bresennol yr ardrethi annomestig yn gymorth a fu ar waith ers cryn dipyn o amser, ac roedd y lefel bresennol o gymorth yno er mwyn i fusnesau ddod trwy COVID mewn gwirionedd a dim ond mesur dros dro oedd hwnnw i fod o'r cychwyn. Felly, yr hyn a welwn nawr, o ganlyniad i'r gyllideb hon, yw symud tuag at lefel fwy cynaliadwy o gymorth i fusnesau.

13:40

Ddirprwy Weinidog, ar yr un thema, gwyddom fod 63 o dafarndai wedi cau dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae llawer o dafarndai a bwytai a gwestai yn fy etholaeth i rai milltiroedd yn unig o'r ffin â Lloegr ond bydd yn rhaid iddynt dalu dwbl yr ardrethi busnes yn dilyn penderfyniad eich Llywodraeth i beidio â throsglwyddo'r 75 y cant ymlaen. Ac mae hynny'n mynd i'w rhoi dan anfantais sylweddol. Weinidog, a ydych chi'n credu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i gefnogi ein sector lletygarwch ar ffin Cymru? A ydych chi'n poeni am y sefyllfa sy'n datblygu yn y sector?

[Anghlywadwy.]—yn gwbl glir, yr hyn a wnawn yw rhoi uchafswm o gymorth ar waith sy'n fforddiadwy, gan ddefnyddio'r holl gyllid canlyniadol a ddaeth i Gymru o ganlyniad i'r lluosydd a gyhoeddwyd gan ddatganiad y hydref Llywodraeth y DU, sef yr hyn y cyfeiriwch chi ato. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud nad oes cymhariaeth uniongyrchol rhwng yr hyn a wnawn yng Nghymru a'r hyn a wnânt yn Lloegr. Ac mae'n werth dweud hefyd, wrth gwrs, nad yw'r Alban bellach yn darparu unrhyw ryddhad ardrethi busnes o gwbl. Felly, rydym yn dal i roi cryn dipyn o gymorth—gwerth £78 miliwn o gymorth—i fusnesau lleol. Ond dim ond sylfaen dreth un lluosydd sydd gennym ar gyfer Cymru gyfan, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef drwy'r Bil llywodraeth leol a chyllid, fel y gallwn oresgyn y cyfyngiad sydd gennym yn y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer Cymru. 

Ond mae'n werth tynnu sylw eto at y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr. Nid yw fel cymharu tebyg am debyg. Mae ein rhyddhad ardrethi busnesau bach yn cefnogi hyd at ddau eiddo ym mhob awdurdod lleol ar gyfer busnesau yng Nghymru, ac mae hynny'n llawer mwy hael nag yn Lloegr, lle gall busnesau hawlio am un eiddo'n unig. Ac wrth gwrs, mae busnesau bach yma'n gyfran lawer uwch o'r refeniw ardrethi lleol o'i gymharu â Lloegr. Mae cost rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru yn cael ei hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n 10 y cant o gyfanswm y refeniw, o'i gymharu â dim ond 4 y cant yn Lloegr. Felly, rwy'n credu y byddai'n fwy buddiol pe byddem yn siarad ynglŷn â sut y darparwn y cymorth hwn yng Nghymru yn hytrach na chymhariaeth â Lloegr, nad yw ar sail debyg am debyg. 

Mae'r Gweinidog wedi sôn am rai o'r ystod o ffactorau sy'n achosi problemau yn y sector ar hyn o bryd. Tybed a ydych chi'n derbyn, pan fydd pob un o'r rheini'n digwydd ar unwaith, ei fod, yn y bôn, yn argyfwng dirfodol i'r sector? Mae pobl sy'n gweithio yn y sector yn dweud nad ydynt erioed wedi ei weld mor ddrwg â hyn, ac wrth gwrs, mae rhai o'r ffactorau yn benodol i'r sector hwn, o ran y prinder staff sydd wedi sbarduno pwysau cyflog, a'r argyfwng costau byw a gwariant dewisol, a'r ddyled COVID, sy'n broblem arbennig yn y sector hwn. Wrth gwrs, y broblem nawr yw bod llawer o'r busnesau'n masnachu ar golled, ac mae'r penderfyniad i gynyddu'r ardrethi busnes yn dod ar adeg pan fo llawer ohonynt yn pwyso a mesur a ddylent barhau mewn busnes o gwbl. Felly, oni bai bod y polisi'n newid, byddwn yn gweld llu o fusnesau'n methu ym mis Ebrill a mis Mai. Felly, a gaf i eich annog, drwy Weinidog yr Economi, yn eich adran, i godi'r mater hwn eto? A oes achos dros ryddhad trosiannol o leiaf i'r sector hwn yn enwedig, oherwydd mae'n 8 y cant o economi Cymru a bydd yn cael effaith enfawr ym mhob cymuned yng Nghymru?

A gaf i ddiolch i Adam Price am y cwestiwn hwnnw? Ac mae'n hollol gywir, wrth gwrs—mae lletygarwch yn sector allweddol yn ein heconomi ac i'n cymunedau, ac mae'n ei chael hi'n anodd am yr holl resymau y mae wedi'u hamlinellu ac a amlinellwyd gan Rhys ab Owen yn gynharach hefyd. Nid yw'r mwyafrif helaeth o'r rhesymau pam mae'r busnesau hyn yn cael trafferth yn bethau y mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i'w hunioni. Maent yn ysgogiadau i Lywodraeth y DU eu defnyddio a'u cywiro. Nid yw costau byw, chwyddiant, prisiau ynni ac yn y blaen, y prisiau bwyd, problemau'r gadwyn gyflenwi, nid yw'r rhan fwyaf o'r materion hynny'n bethau y mae gennym reolaeth i'w hunioni.

Fel y dywedais mewn ymateb i Peter Fox a Rhys ab Owen, rydym yn rhoi £78 miliwn o gymorth i'r sector. Dyma'r bumed flwyddyn yn olynol i ni gael cryn dipyn o gymorth yn mynd i mewn i'r sector ers dechrau COVID. Mae hynny'n adeiladu ar bron i £1 biliwn o gymorth sydd wedi mynd i mewn i'r sector hwnnw ers 2021, a'r ffordd y mae'r pecyn cymorth ardrethi busnes yn cael ei ddarparu, drwy'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, yw edrych hefyd ar ymgorffori cynllun benthyciad £20 miliwn a fydd yn galluogi busnesau i ddod yn ddiogel ar gyfer y dyfodol. Felly, nid dim ond mesur dros dro i'w cael dros un broblem fach yw hyn; mae'n ymwneud ag edrych ar sut y gallwn ddarparu cynaliadwyedd hirdymor i fusnesau hanfodol yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddoch, mae'n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, a dyma gyfle i fyfyrio ar bwysigrwydd prentisiaethau i economi Cymru. Nawr, ar 27 Chwefror, fe fyddwch yn gwneud datganiad polisi yn y Siambr hon ar brentisiaethau, ac rwy'n mawr obeithio y bydd darparwyr prentisiaethau yn clywed rhywbeth cadarnhaol gennych yn y datganiad hwnnw. Felly, a allwch chi ddweud wrthym heddiw a yw'r datganiad hwnnw'n cynnwys tro pedol ar y toriadau y mae eich Llywodraeth yn eu gwneud ar hyn o bryd i brentisiaethau yn ei chyllideb ddrafft? 

Wel, yn sicr bydd gennyf lawer o bositifrwydd i siarad am brentisiaethau. Mae'r ffaith ein bod yn mynd i weld cynnydd o 10 y cant o leiaf mewn prentisiaethau newydd yn nhymor y Senedd hon, o'i gymharu â thymor diwethaf y Senedd, yn newyddion da; y ffaith ein bod ni yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn edrych ar yr holl werth y mae prentisiaethau'n ei ddarparu—. Roedd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yma yn gynharach, a chafodd nifer ohonoch gyfle i roi cynnig ar y clustffonau realiti rhithwir. Rwy'n credu bod y peiriant wedi torri. Gwelsom yr amrywiaeth o yrfaoedd adeiladu gwahanol, ac mae'n sector sydd â chyflogau uwch na'r cyfartaledd, felly byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn prentisiaethau. Ac fe fyddaf yn onest â phobl am y realiti fod ein dewisiadau'n gyfyngedig.

Mae colli £1.3 biliwn o bŵer gwario yn dod ar ben colli cronfeydd blaenorol yr UE. Yn y flwyddyn a ddaw, rydym yn wynebu ymyl clogwyn gyda cholli cronfeydd blaenorol yr UE. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod o'r pwyllgor y mae'n ei gadeirio, y gwir amdani yw bod yr arian hwnnw wedi mynd. Mae cynllun y cronfeydd hynny a benderfynwyd gan ei gymheiriaid yn Whitehall yn golygu nad yw'r cronfeydd hynny ar gael i'w defnyddio ar raglen brentisiaeth strategol. Ac nid ydym wedi gallu dod o hyd i arian yn ein cyllideb sylweddol is i allu osgoi unrhyw un o'r heriau hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr arian a'r pwerau'n dychwelyd i Gymru, ac rwyf wedi ymrwymo'n bersonol i sicrhau bod mwy o arian yn mynd tuag at brentisiaethau yn y dyfodol.

Wel, dyma ni eto: y darpar Brif Weinidog yn beio pawb arall. Ar hyn o bryd, chi sy'n gyfrifol am brentisiaethau, Weinidog, a rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb am hynny. A gadewch inni fod yn glir, mae'r gyllideb brentisiaethau wedi gostwng 3.65 y cant, sy'n doriad o 24 y cant i werth y contract, ac os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r toriad hwn, bydd effaith enfawr ar bobl ifanc ac ar economi Cymru. Mae eich maniffesto eich hun ar gyfer yr arweinyddiaeth yn cydnabod pwysigrwydd prentisiaethau, ac eto o dan eich adran weinidogol chi y maent yn wynebu toriad.

Nawr, fel y gwyddoch eisoes, mae angen i ddarparwyr prentisiaethau roi blaenoriaeth i gefnogi pobl sydd eisoes wedi cofrestru ar eu cyrsiau, felly bydd y cyfuniad o gyllideb lai a chostau uwch yn disgyn ar ddechreuwyr newydd. Felly, pa drafodaethau uniongyrchol rydych chi'n eu cael gyda darparwyr prentisiaethau ynghylch effaith y toriad presennol i'w darpariaeth? A pha gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei darparu i'w cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn?

Mae nifer o bwyntiau i'w gwneud yno. Yn gyntaf, yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft a gawsom ddoe, nid oedd dadl ynghylch cyfeiriad strategol y gyllideb yn blaenoriaethu iechyd a llywodraeth leol. Mewn gwirionedd, cawsom ddadl ar y gyllideb lle roedd galwadau am roi mwy o arian tuag at bron bob maes a nodwyd gan bob siaradwr penodol. Ni nododd neb o ble y byddai'r arian yn dod, ni nododd neb o ble y byddem yn dod o hyd i £40 miliwn i'w roi i faes gwariant prentisiaethau pe na bai gostyngiad yng ngwerth contract. Os yw ein cyllideb wedi gostwng £1.3 biliwn mewn termau real, fel sy'n wir—nid beio rhywun arall yw hynny ond dweud y gwir—os mai dyna'r gwir a bod yr Aelod yn derbyn hynny, mae hynny'n golygu na allwch chi ddweud eich bod chi'n mynd i wario mwy ym mhob maes fel y gelwir yn rheolaidd am ei wneud.

Ac mae'r Aelod yn gwybod mai'r gwir, nid mater o farn, yw bod yr arian o gronfeydd blaenorol yr UE wedi aros yn Whitehall o ran ei gynllun a'r modd y'i darperir. Mae'n warth fod y Senedd hon a Llywodraeth Cymru wedi gweld y pwerau hynny a'r arian hwnnw'n cael ei dynnu'n ôl oddi wrthym gan ei gymheiriaid ef yn Whitehall, ar ôl mwy nag 20 mlynedd o arfer y pwerau hynny a'u craffu'n iawn yn y Siambr hon a thrwy ein pwyllgorau. Felly, o ran yr hyn y byddaf yn siarad drwyddo gyda darparwyr prentisiaethau ac eraill, byddaf yn ailadrodd gwerth prentisiaethau, byddaf yn ailadrodd fy addewid fy hun i sicrhau, yn y dyfodol, pan fydd yr arian a'r pwerau'n dychwelyd gyda Llywodraeth Lafur y DU, y byddwn yn buddsoddi'r arian hwnnw yn ôl i mewn i brentisiaethau, a byddaf yn cael y drafodaeth honno'n uniongyrchol gyda phenaethiaid addysg bellach pan fyddaf yn eu cyfarfod ddydd Iau yr wythnos hon.

13:50

Mae iaith gwleidyddiaeth yn ymwneud â blaenoriaethau, Weinidog. Chi sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y toriadau hyn yn y gyllideb ac fel y gwyddom i gyd, mae eich Llywodraeth yn gwario arian ar wleidyddion ychwanegol, er enghraifft, pan allech fod yn gwario arian ar brentisiaid. Felly, fe ddylech gnoi cil ar hynny. 

Nawr, mae'r datblygiadau diweddar yn Tata yn atgoffa eto am yr angen am brentisiaethau o ansawdd da. A chyda datblygiad dau borthladd rhydd yng Nghymru, mae'n bwysicach nag erioed fod ffrwd o dalent yn cael ei datblygu i ddiwallu'r anghenion sgiliau a ddaw yn sgil y datblygiadau mawr hyn. Ac fel y dywedais eisoes, ac fel y dywedoch chi, mae'n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, a dylem fod yn dathlu a hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd, a dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid a'r sector preifat i archwilio sut y gallant gefnogi'r gwaith o ddarparu prentisiaethau yng Nghymru yn well. Mae hyn yn digwydd mewn gwledydd eraill yn Ewrop, lle mae prentisiaethau'n cael eu blaenoriaethu a lle ceir parch mwy cydradd ag addysg academaidd i sgiliau a hyfforddiant galwedigaethol.

Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y sector preifat i gymryd mwy o ran yn y gwaith o ddarparu prentisiaethau yng Nghymru? A allwch chi ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau sydd wedi digwydd gyda rhanddeiliaid mewn perthynas â'r ddau borthladd rhydd yng Nghymru ynghylch darparu prentisiaethau yn y cymunedau hynny yn y dyfodol? A pha wersi y mae Llywodraeth Cymru yn eu dysgu o wledydd eraill, fel yr Almaen, er enghraifft, am y ffordd y gellir cefnogi a hyrwyddo prentisiaethau yn well yma yng Nghymru?

Dechreuodd yr Aelod drwy siarad am flaenoriaethau; nid yw'n flaenoriaeth gan Lywodraeth y DU i roi mwy o arian tuag at brentisiaethau. Nid yw'n flaenoriaeth gan Lywodraeth y DU i ariannu Cymru'n briodol ac yn deg, a dyna pam ein bod ni yma yn y Siambr hon gydag £1.3 biliwn yn llai nag y dylem fod wedi'i gael, o'i gymharu â dwy flynedd yn ôl. Dyna'r gostyngiad yn ein pŵer gwario. [Torri ar draws.] Ac nid yw holl synau anifeilaidd y Torïaid yn atal y realiti. Y gwir yw bod £1.3 biliwn yn cyfateb i fwy o arian nag a oedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ei gyfanrwydd i'w wario y llynedd. Dyna faint y gostyngiad y mae eich plaid chi wedi'i roi i Gymru. Felly, mae gennym ddewisiadau anos fyth i'w gwneud o ganlyniad uniongyrchol i doriadau Torïaidd i Gymru. 

Siaradodd wedyn am y sector preifat. Mae gennym berthynas dda iawn â'r sector preifat, ynghylch cyflwyno a chwblhau prentisiaethau. Mae gennym hanes llawer gwell na Lloegr o ddarparu prentisiaethau. Pan edrychwch ar yr hyn a wnawn ar radd-brentisiaethau ac edrych ar yr hyn a wnawn ar rannu prentisiaethau, maent i gyd yn golygu bod y sector preifat yn rhan ganolog o hyn. A'r prentisiaethau safonol sy'n rhedeg trwy golegau addysg bellach hefyd. Mae'n rhan hanfodol o'r hyn y mae prentisiaeth yn ei gynnig fod dysgu'n digwydd mewn lleoliad mewn coleg ac yn wir, fod yna ddysgu yn y gweithle hefyd. Ac rwy'n awyddus iawn i hyrwyddo gwerth go iawn prentisiaeth i bobl yn unigol ac i'n heconomi ehangach—sgiliau nad wyf i a llawer o bobl eraill yn yr ystafell hon yn meddu arnynt, gan nad yw Jack Sargeant yma. Mae gennych set wahanol o sgiliau sydd oll yn werthfawr i'r economi. Mae angen inni fod yn llawer gwell am werthfawrogi'r rheini yn y Siambr hon a'r tu allan pan fydd pobl yn gwneud eu dewisiadau. 

I orffen, rwyf am gyffwrdd â'r Almaen, y soniodd yr Aelod amdani. Roeddwn yn yr Almaen yn ddiweddar ac wrth gwrs, maent wedi cael cyfnod llawer hwy a mwy sefydlog o lywodraeth o fewn y Länder ac ar lefel ffederal, lle nad ydynt wedi gweld amrywio sylweddol rhwng gwahanol fathau o bolisi prentisiaethau. Mae'r buddsoddiad hirdymor parhaus hwnnw'n rhoi sicrwydd i fusnesau, i ddarparwyr ac i unigolion. Ac mewn gwirionedd, mae rhywfaint ohono'n ofyniad. Efallai na fydd yr Aelod yn hoffi'r hyn y maent yn ei wneud mewn nifer o leoedd yn yr Almaen, lle mae'n ofynnol i fusnesau ymuno â fforwm busnes, mae'n ofynnol iddynt dalu ffi am hynny, ac mae hynny'n darparu llawer iawn o sefydlogrwydd yn y lleoliad hwnnw. Rwy'n credu, yng Nghymru, gyda'r pwerau a'r arian, y gallwn ddangos lefel o uchelgais a chyflawniad yn y maes hwn eto, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny gyda Llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol.

13:55

Diolch, Lywydd. Fel y soniodd Paul Davies wrth gwrs, mae'n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, ac i nodi'r achlysur, neithiwr, fe lansiwyd y grŵp trawsbleidiol ar brentisiaethau y mae Huw Irranca-Davies a minnau yn ei gadeirio. Nawr, mae lansio'r grŵp trawsbleidiol hwn yn amserol, o ystyried yr argyfwng a nodwyd yn glir gan Paul Davies. Yr hyn a gafodd ei gyfleu'n glir neithiwr yn y lansiad yw effaith y toriadau arfaethedig hyn; fod y toriadau hyn yn fwy na thocio ar yr ymylon. Roeddech chi'n sôn am roi'r arian yn ôl i mewn pan fydd ar gael, ond byddai'r toriadau fel y maent ar hyn o bryd yn arwain at ddegawd o adferiad er mwyn i'r sector ddychwelyd i ble mae arni heddiw. Toriadau na ellir eu gwrthdroi yn y flwyddyn ariannol nesaf pan fyddant wedi digwydd.

Nodwyd yn lansiad eich maniffesto ar gyfer yr arweinyddiaeth eich bod yn bwriadu cynyddu nifer y prentisiaethau. A yw hynny'n seiliedig ar gynnydd o ble mae'r ffigurau heddiw, ac os felly, o ystyried difrifoldeb y toriadau, sut ydych chi'n bwriadu ei wneud?

Wel, mae angen hirdymor i ailfuddsoddi mewn prentisiaethau yn dilyn yr ymyl clogwyn, yn dilyn lladrata arian blaenorol yr UE a gafodd ei ddwyn oddi wrthym yng Nghymru. Rydym yn wynebu canlyniadau diymwad hynny. Ac rwy'n gwybod nad yw Luke Fletcher eisiau anwybyddu'r gostyngiadau sylweddol a bwriadol y mae'r Torïaid wedi'u gwneud i'n cyllidebau a'r ffordd y mae arian blaenorol yr UE wedi aros yn Whitehall. Mae diffyg unrhyw ddewis strategol ar gyfer y cronfeydd hynny yn ddewis a wnaed yn Whitehall. Roedd yna opsiynau a fyddai wedi caniatáu i wariant ar brentisiaethau barhau. Mae'n ddewis bwriadol i beidio â gadael i hynny ddigwydd.

Nawr, yr hyn sy'n ein hwynebu yw: a allwn ddod o hyd i symiau ychwanegol a sylweddol, o fewn cyfle sy'n lleihau, pan mai iechyd a llywodraeth leol yw'r blaenoriaethau a osodwyd gennym yn y gyllideb? A chawn ein gadael gyda'r dewisiadau sydd gennym. Fodd bynnag, yn y gyllideb ddrafft, mae'n gyfnod gwirioneddol o'i fod yn ddrafft ac yn ymgynghoriad. Ac rwyf wedi dweud yn y pwyllgor ac yn y Siambr hon, os oes cynigion difrifol ynghylch sut i symud arian o gwmpas, fe edrychaf ar y rheini o ddifrif, fel y gwnaiff pob Gweinidog yn y Llywodraeth. Nid yw'r rhain yn ddewisiadau y mae unrhyw un ohonom yn mwynhau eu gwneud, ond mae'n rhaid inni gydbwyso'r gyllideb.

Yr hyn a nodais ar gyfer y dyfodol yw cyfeiriad yr hyn rwy'n awyddus i'w gyflawni yn y dyfodol, adeiladu ar yr hyn a wnawn heddiw, i sicrhau, nid yn unig yn y flwyddyn i ddwy flynedd nesaf, ond yn fwy parhaus, ein bod yn gweld buddsoddiad parhaus a pharhaol mewn prentisiaethau i bobl ac ar gyfer dyfodol yr economi, ac rwy'n hyderus y gallwn wneud hynny.

Wrth gwrs, prin fod hynny'n rhoi unrhyw gysur i'r sector. Hynny yw, roedd yn amlwg iawn y bydd y toriadau'n cael effaith ddinistriol ar hirhoedledd y sector i gyflawni'r uchelgeisiau y mae pawb ohonom eisiau eu gweld yma. Er mwyn gwrthdroi'r toriadau hynny, rydym yn sôn am ddegawd neu fwy. Dyna'r realiti yma.

O ystyried y datganiad polisi a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror—i ddigwydd ar 27 Chwefror—o wrando ar eich atebion i Paul Davies, rwy'n cymryd nad oes unrhyw newyddion da i brentisiaethau yma, heblaw am y cynnydd o 10 y cant a grybwyllwyd gennych mewn ymateb i Paul Davies wrth gwrs. Ond fy nghwestiwn i yw: a yw'r cynnydd hwnnw'n gynaliadwy, o ystyried y toriadau y byddwn yn eu gweld? Os oes gostyngiad ym maint y toriadau, mae angen i'r sector wybod nawr. Mae cynllunio hirdymor yn y sector penodol hwn yn hanfodol bwysig, ac un peth, unwaith eto, a oedd yn amlwg neithiwr yw nad yw cyfathrebu wedi bod cystal ag y dylai fod.

Bydd y sector yn gwrando'n astud ar yr hyn a ddywedir ar 27 Chwefror, a gallaf ddweud wrthych nawr nad ydynt eisiau clywed pa mor dda y maent yn ei wneud ar hyn o bryd; maent am wybod pa mor dda y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i'w helpu i symud ymlaen. Felly, rwy'n erfyn ar y Gweinidog, ar 27 Chwefror, i ddod o hyd i'r arian i wyrdroi'r toriadau, nid yn eu cyfanrwydd efallai, ond o leiaf i gyfarfod â'r sector hanner ffordd. Oherwydd maent wedi clywed digon am ba mor bwysig ydynt fel sector, yr hyn sydd ei angen arnynt nawr yw help.

Ac i wneud hynny, mae angen i chi ddod o hyd i'r arian i'w wneud. Ac unwaith eto, rwy'n mynd yn ôl ac rwy'n dweud, pan fydd £1.3 biliwn yn llai mewn termau real, na allwch guddio hynny nac osgoi hynny. Os oes cynigion difrifol ar sut i symud arian o gwmpas mewn termau real, i nodi lle na fydd yr arian hwnnw'n cael ei wario, fe roddaf ystyriaeth ddifrifol i hynny, fel y gwnaiff pob Gweinidog mewn unrhyw bortffolio.

A dylwn nodi nad wyf yn derbyn ei ddisgrifiad y bydd yna ddegawd o dir coll. Nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw newyddion da, ac yna cyfeiriodd at y ffaith y bydd cynnydd o 10 y cant mewn prentisiaethau newydd. Mewn gwirionedd, mae cynnydd o 10 y cant mewn prentisiaethau newydd yn newyddion da. Yr her yw ein bod am wneud hyd yn oed yn well, a dyna rwy'n edrych ymlaen at ei wneud yn y dyfodol.

Ar y pwynt ynglŷn â chyfathrebu, bu sgyrsiau rheolaidd a gonest rhwng fy swyddogion a'r sector. Rwy'n cydnabod y siom, oherwydd nid oes yr un Gweinidog yn dathlu'r sefyllfa yr ydym ynddi. Ond mae bod mewn Llywodraeth yn galw am lefel o onestrwydd ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud, y cyfle i fynd allan a chyflawni pethau dros eich gwlad, ond hefyd gonestrwydd ynghylch yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud gyda'r adnoddau sydd gennych ar gael i chi. Dyna pam rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i lunio ffordd gydlynol unwaith eto o ddefnyddio cronfeydd blaenorol yr UE gyda'r pwerau a'r adnoddau yma gyda Llywodraeth Cymru lle dylent fod, gyda'r holl swyddogaethau craffu lle dylent fod, o fewn y Senedd hon. Dyna ddyfodol y credaf ei fod yn werth ymladd drosto, ac rwy'n parhau i fod yn ddigywilydd o optimistaidd a chadarnhaol am y dyfodol i brentisiaethau yma yng Nghymru.

14:00
Adfywio Lleoliadau Diwylliannol

3. Pa waith ymgysylltu y mae'r Gweinidog wedi'i wneud gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar adfywio lleoliadau diwylliannol? OQ60643

Diolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn. Er nad wyf wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ymwelais â Neuadd y Gweithwyr Blaengarw ym mis Tachwedd a chlywais yn uniongyrchol am y gwaith sy’n mynd rhagddo i ehangu mynediad at gelfyddydau a diwylliant ar draws y fwrdeistref sirol. Mae’n amlwg yn adnodd gwerthfawr iawn yn y gymuned.

Diolch, Weinidog. Ddydd Sadwrn diwethaf, euthum i weld cynhyrchiad anhygoel Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr o We Will Rock You ym Mhafiliwn y Grand Porthcawl yn etholaeth fy ffrind, Sarah Murphy AS. Ar ôl i’r dorf godi i gymeradwyo'r bobl ifanc ddawnus hynny, cafwyd areithiau emosiynol iawn gyda'r len-alwad olaf, gan fod y llen yn dod i lawr am flwyddyn neu ddwy hefyd ar gyfer gwaith adnewyddu ac ehangu sylweddol ar y lleoliad eiconig hwn, sydd wedi rhoi llwyfan i gymaint o dalent dros y blynyddoedd, gan gynnwys y perfformiad aruthrol gan gorau Eisteddfod y Glowyr a’r canwr, actor ac ymgyrchydd hawliau sifil, Paul Robeson, dros y ffôn o'r ochr draw i'r Iwerydd. Dangosodd rym cerddoriaeth i uno ymgyrchwyr a pherfformwyr o bedwar ban byd yn erbyn y grymoedd tywyll hynny.

Mae gwaith adnewyddu sylweddol gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd rhagddo hefyd yn Neuadd y Dref Maesteg. Mae hwnnw'n lleoliad eiconig arall. Mae wedi rhoi llwyfan i gymaint o gelfyddydau ac adloniant, gan gynnwys cyn-lywodraethwr Califfornia, Arnie Schwarzenegger, mewn cystadleuaeth arddangos cyhyrau, ond hefyd corau lleol a grwpiau cerddorol, a ralïau gwleidyddol enfawr—cyfarfodydd codi arian ar gyfer y frwydr yn erbyn Franco ac i gefnogi streic y glowyr. A wnaiff hi ymrwymo, felly, i barhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i helpu’r lleoliadau hyn i ffynnu a goroesi am genedlaethau i ddod, gan nodi eu bod nid yn unig yn hollbwysig i'n diwylliant a’n hadloniant, ond yn aml yn gyfle i arddangos gwerthoedd blaengar rhyng-genedlaetholdeb ac undod, sy'n rhan annatod o gymunedau de Cymru?

A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn atodol? Mae'n llygad ei le, wrth gwrs. Os ewch i unrhyw le yng Nghymoedd de Cymru, fe welwch y sefydliadau hyn. Mae gennyf rai yn fy etholaeth i a groesawodd Keir Hardie a’r swffragetiaid ac ati. Felly, ble bynnag yr awn, byddwn yn gweld yr adeiladau eiconig a hanesyddol hyn sydd wedi cyfrannu cymaint at ein hanes a’n cymunedau. Rwy'n canmol arweiniad awdurdodau fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy fuddsoddi yn y lleoliadau diwylliannol lleol hynny.

Fe sonioch am Neuadd y Dref Maesteg, a’r swm o arian y mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i ddarparu, y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu, y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi’i ddarparu ar ei chyfer, ochr yn ochr â’r gwaith ailddatblygu sydd ar y ffordd ar y pafiliwn ym Mhorthcawl, ac wrth gwrs, sefydliad y glowyr ym Mlaengarw, yr ymwelais ag ef gyda chi y llynedd. Ynghanol hynny oll, wrth gwrs, mae gennych Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sefydliad anhygoel sy’n gweithio i gyflawni’r math o nodau y ceisiwn eu cyflawni drwy ein cymorth diwylliannol i ddatblygu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i sicrhau bod gennym gymdeithas ddiwylliannol ffyniannus. Nid yw dim o hynny'n hawdd yn y cyd-destun ariannol a wynebwn ar hyn o bryd ac sydd wedi'i nodi'n glir iawn gan Weinidog yr Economi. Ond o fewn y cwmpas sydd gennym, mae cymaint y gallwn ei wneud o hyd, os ydym yn gweithio gyda phartneriaid sy'n barod i weithio gyda ni a sicrhau'r buddion diwylliannol hynny.

14:05

Mae’n dda clywed Huw Irranca-Davies a chithau, Weinidog, yn sôn am Bafiliwn y Grand ym Mhorthcawl. Fel llawer o bobl, mae'n flin gennyf ei weld yn cau yr wythnos hon. Ond y rheswm pam ei fod yn cau, na soniodd yr un ohonoch amdano, yw am ei fod yn elwa o £18 miliwn mewn cyllid ffyniant bro gan Lywodraeth y DU. A dweud y gwir, efallai imi eich clywed yn eich ateb yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o fuddsoddiad ariannol i Bafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, ac nid yw hynny’n wir. Buaswn yn gwerthfawrogi pe gallech wneud hynny'n eglur yn eich ateb nesaf.

Ymhlith pethau eraill, y pafiliwn yw canolbwynt Gŵyl Elvis Porthcawl. Dyma ble y cynhelir prif gystadleuaeth Gŵyl Elvis Porthcawl. Yn amlwg, gan fod Pafiliwn y Grand yn cau eleni, ar ôl siarad â’r trefnwyr, maent yn poeni y bydd y miloedd o bobl sy’n dod i Borthcawl, gyda’r miliynau o bunnoedd a gaiff ei ddenu i’r economi leol, yn cymryd yn ganiataol nad oes cystadleuaeth am nad oes Pafiliwn y Grand i'w chynnal. Yn amlwg, mae'r gystadleuaeth ei hun yn cael ei chynnal mewn lleoliad gwahanol ym Mhorthcawl, ond ni cheir cydnabyddiaeth i hynny ar dudalen Croeso Cymru ar gyfer Gŵyl Elvis Porthcawl. Nid oes unrhyw sôn am hynny o gwbl. Felly, a gaf i ofyn i chi, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi edrych ar hynny ac ar ffyrdd eraill y gallwch hyrwyddo Gŵyl Elvis Porthcawl eleni yn benodol, o ystyried y newid lleoliad?

Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn. Mae'n llygad ei le, wrth gwrs; mae gŵyl Elvis yn eithaf eiconig bellach ym Mhorthcawl, onid yw. Rwy’n mawr obeithio ei bod yn parhau i fod mor llwyddiannus ag y bu erioed, er gwaethaf y ffaith nad yw'r pafiliwn yn mynd i fod ar gael am y flwyddyn neu ddwy nesaf.

A gaf i egluro bod Llywodraeth y DU, yn sicr, yn cefnogi pafiliwn Porthcawl gyda chyllid ffyniant bro? Ond mae cyllid yn cael ei ddarparu hefyd ar gyfer y gwaith adnewyddu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sy'n dod yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs. Felly, mae'n brosiect cyfunol, ac mae'n cael ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Credaf ei bod yn gwbl briodol fod pob cangen o Lywodraeth ac awdurdodau lleol yn gallu gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y lleoliadau eiconig hyn yn ffynnu—nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu.

Rwy’n fwy na pharod i ystyried y cwestiwn a godwyd ganddo yn benodol ar roi cyhoeddusrwydd i ŵyl Elvis ym Mhorthcawl eleni drwy Croeso Cymru a sut y gallwn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn llwyddiannus hyd yn oed gyda’r gostyngiad yn nifer y lleoliadau sydd ganddynt i'w defnyddio eleni.FootnoteLink

Economi De-ddwyrain Cymru

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r economi yn ne-ddwyrain Cymru? OQ60665

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ar draws y brifddinas-ranbarth i gynyddu ffyniant economaidd yr ardal. Mae ein fframwaith economaidd rhanbarthol ar gyfer de-ddwyrain Cymru wedi nodi datblygu nifer o glystyrau twf fel blaenoriaethau, gan gynnwys y sector creadigol, lled-ddargludyddion, y sector seiber, technoleg ariannol a llawer mwy.

Diolch, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd grŵp bancio Lloyds y newyddion siomedig eu bod yn mynd i gau eu swyddfa ym Mharc Tredegar yng Nghasnewydd yn 2026, a symud yr holl staff i Gaerdydd. Deallaf gan Lloyds fod y cynnydd mewn gweithio hybrid ers pandemig COVID wedi golygu nad yw’r swyddfa yng Nghasnewydd wedi’i defnyddio’n ddigonol ers peth amser. Gan fod disgwyl i staff dreulio 40 y cant o’u hamser yn y swyddfa, bob dydd, bydd yn rhaid i 200 o bobl deithio i’r gwaith yng Nghaerdydd yn lle Casnewydd yn y dyfodol. Er fy mod yn falch iawn nad yw’r adleoli'n golygu bod swyddi'n cael eu colli, mae’n ddrwg gennyf weld cwmni’n dewis gadael Casnewydd. Ni fydd yr effaith ar yr economi a llesiant yn cael ei theimlo ar unwaith, ond bydd amseroedd cymudo hwy i lawer o weithwyr yn effeithio ar deuluoedd â phlant mewn ysgolion lleol, yn ogystal â busnesau lleol. Weinidog, beth arall y gellir ei wneud i sicrhau bod pobl yng Nghasnewydd a ledled Cymru yn gallu cael mynediad at swyddi o ansawdd da yn nes at adref?

Diolch am eich cwestiwn. Rwy’n deall pryder yr Aelod ynghylch swyddi'n symud yn hytrach na bod swyddi'n cael eu colli, ond realiti’r ddau beth i swyddi lleol a gwariant lleol a'r hyn y mae hynny’n ei olygu. Mae nifer o fusnesau'n meddwl am ôl troed eu swyddfeydd, faint o angen swyddfeydd o ansawdd uchel sydd arnynt, faint sy’n dal yn ofynnol, a beth mae hynny wedyn yn ei olygu ar gyfer ffyrdd mwy hybrid o weithio. Yn y tymor canolig, rwy'n credu y bydd galw sylweddol o hyd am swyddfeydd o ansawdd uchel yng Nghasnewydd, Caerdydd a thu hwnt. Mae gennyf ddiddordeb, fodd bynnag, mewn deall beth arall y gallwn ei wneud am y mater hwn. Os yw’n ddefnyddiol, rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â’r Aelod er mwyn cynnull cyfarfod gyda’r cyngor a hithau.

O ran Casnewydd fel cyrchfan, credaf fod gan y ddinas nifer o fanteision. Edrychwch ar y ddinas wrth iddi lansio'r pad glanio esmwyth ar gyfer busnesau technoleg sy'n cael ei redeg gan Tramshed, lle rydym wedi ein calonogi'n fawr gan yr hyn sy'n digwydd eisoes. Mae gan y sector creadigol ôl troed yn barod, ac yn wir, mae adnewyddiad ffisegol yn mynd rhagddo yng nghanol y ddinas gyda'r farchnad, lle mae swyddfa'r Aelod, wrth gwrs, ac rwy'n siŵr ei bod yn mwynhau'r bwyd sydd ar gael yno. Ond mae llawer yn mynd rhagddo eisoes i geisio sicrhau bod canol y ddinas yn ffyniannus, a rhesymau da i bobl weld cyfle i fuddsoddi yng Nghasnewydd. Yn wir, fel y byddwn yn parhau i'w drafod, mae swyddi i'w cael ym maes lled-ddargludyddion—nid yn unig gydag ehangu KLA, ond credaf fod mwy i ddod. Mae fy swyddogion a minnau’n awyddus i barhau i weithio gyda’r brifddinas-ranbarth a chyngor Casnewydd i wneud yn union hynny.

14:10

Gofynnodd fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant, gwestiwn diddorol a wnaeth imi feddwl: beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r economi? Ocsimoron braidd, yn fy marn i. Mae’r economi yn ne-ddwyrain Cymru yn cael ei llesteirio’n ddifrifol gan seilwaith trafnidiaeth gwael, ac nid oes modd gwadu hynny. Edrychwch ar yr M4: mae'r brif rydweli i mewn i dde Cymru yn dioddef tagfeydd yn rheolaidd, gyda gweithwyr a nwyddau'n dod i stop—[Torri ar draws.] Gadewch inni ganolbwyntio ar yr M4, gan ein bod yn siarad am dde-ddwyrain Cymru. A pheidiwch â sôn am y difrod y bydd Llafur yn ei wneud i'n heconomi os bydd eich cyd-bleidwyr yn sir Fynwy yn cael eu ffordd ac yn dod â'r tollau ofnadwy ar bont Hafren yn eu holau.

'Nid yw gwneud dim yn opsiwn bellach mewn perthynas â ffordd liniaru’r M4. Mae angen sicrwydd ar fusnesau ar draws De a Gorllewin Cymru na fydd yr M4 yn cael ei gadael fel y mae ar hyn o bryd. Rwy'n benderfynol y byddwn yn gweithredu ac yn bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4.'

Nid fy ngeiriau i, Weinidog; eich rhai chi. Felly, a yw hynny'n golygu, os mai chi fydd y Prif Weinidog nesaf, y byddwch yn rhoi diwedd ar agenda wrth-fusnes y Llywodraeth hon, ac yn adeiladu ffordd liniaru fawr ei hangen yr M4 o'r diwedd, neu a fyddwch chi'n mynd yn ôl ar eich gair ar y mater hwnnw hefyd?

Mae dau beth i'w hateb yno. Gadewch inni ymdrin â'r newyddion ffug am bont Hafren. Nid oes unrhyw gynigion i ailgyflwyno tollau ar bont Hafren—[Torri ar draws.] Gadewch inni ymdrin â’r ffaith nad oes unrhyw gynigion i ailgyflwyno tollau ar bont Hafren. Ar ffordd liniaru’r M4, y gwir amdani yw nad yw'r adnoddau ar gael. Efallai nad yw’r Aelod wedi sylwi, ond mae pwysau gwirioneddol ar gyllidebau cyfalaf yma yn Llywodraeth Cymru, ac yn syml iawn, nid yw’n ddewis credadwy i ddweud bod ffordd liniaru’r M4 yn mynd i ddigwydd.

Pan edrychwn ar yr hyn a wnawn, rydym yn falch iawn o fod yn Llywodraeth sydd o blaid busnes ac o blaid gweithwyr. Edrychwch ar y gwaith a wnawn eisoes ar y cynnydd mewn buddsoddiad sy’n dod i Gymru drwy fuddsoddiad uniongyrchol o dramor. Edrychwch ar y gwaith a wnawn ar gynyddu allforion, gyda'r Llywodraeth hon yn mynd ati'n weithredol i gefnogi busnesau yng Nghymru. Edrychwch ar y gwaith a wnawn ar y clystyrau twf y soniais amdanynt, yn y sector creadigol, lled-ddargludyddion, y sector seiber a thechnoleg ariannol—pob un yn faes lle mae'r Llywodraeth hon yn weithgar ac yn rhagweithiol, pob un yn faes lle bûm yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o sicrhau buddsoddiad newydd.

Os ydych am feddwl am record y Torïaid, ni ellir gwadu'r ffaith bod cynffon hir gan Lywodraeth Liz Truss, gyda’r difrod a wnaed ac y mae ei effaith yn dal i gael ei deimlo heddiw mewn cyfraddau morgeisi uwch—[Torri ar draws.] Nid fy ngeiriau i; geiriau un o'ch cydweithwyr gweinidogol yn Llywodraeth y DU, a ddywedodd hynny neithiwr ar Newsnight. Mae cydnabyddiaeth yn eich plaid eich hun o’r niwed parhaol y mae Liz Truss wedi’i wneud, ac yna daw yn ei hôl eto gan honni ei bod yn mynd i’n hachub ni i gyd. Wel, buaswn yn falch iawn o weld Liz Truss mewn rôl ganolog arall yn y Blaid Geidwadol, gan y bydd yn gwarantu dyfodol llawer gwell a mwyafrif llawer mwy i Lywodraeth Lafur newydd y DU.

Swyddi â Chyflogau Uwch

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu mwy o swyddi â chyflogau uwch yn y canolbarth? OQ60659

Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid rhanbarthol i fuddsoddi mewn sgiliau a chymorth i fusnesau a darparu cymorth ar gyfer prosiectau seilwaith cyfalaf drwy fargen twf canolbarth Cymru. Ein nod yw helpu i wireddu uchelgais a rennir o ddarparu swyddi gwell yn nes at adref.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n ddiolchgar am eich diweddariad mewn perthynas â bargen twf canolbarth Cymru yn gynharach yr wythnos hon, a bûm yn dadlau dros y fargen twf honno. Mae wedi bod yn hir iawn yn dod, ond rwy'n falch ei bod bellach ar waith a bod ganddi gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn sicr, yr hyn rwy'n ei gredu yw nad mwy o swyddi sydd ei angen arnom fel y cyfryw, ond swyddi gwell, swyddi sgiliau uwch, a swyddi sy'n talu'n well. Yn eich llythyr ataf yr wythnos hon ynglŷn â’r fargen twf, Weinidog, fe sonioch fod yn rhaid i’r fargen gael ei hystyried yn gatalydd i sicrhau ac ysgogi cyllid ychwanegol o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y sector preifat. Rwy’n cytuno’n llwyr â hynny. A gaf i ofyn, Weinidog, sut yr ewch chi ati i wneud hynny, sut rydych chi'n ymgysylltu â’r sector preifat i gyflawni hynny?

Mae nifer o enghreifftiau. Rhoddaf un neu ddau o enghreifftiau i chi yn eich etholaeth eich hun. Os meddyliwch chi am Atherton Bikes, un o'r brandiau gorau, os nad y brand gorau, ym maes beicio a beicio oddi ar y ffordd. Nid yn unig eu bod yn rhedeg parc busnes ar gyfer hynny, ond mae gennych gyfleuster aml-lawr hefyd, teulu sydd wedi ennill sawl cwpan y byd yno, ac rydym wedi eu helpu gyda buddsoddiad ar gyfer hynny. Mae’r rhain yn gynhyrchion ym mhen uchaf y farchnad a chynhyrchion sgìl uchel, felly mae’r holl swyddi y maent yn eu darparu yn swyddi sy’n talu’n gymharol dda. Ac unwaith eto, bydd yr Aelod yn gwybod am grŵp Marrill a'u bod wedi prynu adeilad yn Llanfyllin, gan ddiogelu 102 o swyddi, a'r ffaith eu bod yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu—yr un peth gydag YASA hefyd. Felly, gallwch weld bod ymrwymiad gan y Llywodraeth hon, mewn partneriaeth â’r busnesau hynny, i sicrhau bod y buddsoddiad yn darparu mwy o swyddi a swyddi gwell, swyddi sy’n talu’n well, yn enwedig gydag ymchwil a datblygu, ym mhob un o’r tri busnes hynny yn etholaeth yr Aelod. Dyna arwydd o'r hyn a wnawn eisoes, a'r hyn y dymunwn weld mwy ohono wrth i fargen twf canolbarth Cymru gael ei chyflwyno'n llwyddiannus.

14:15

Yn ôl adroddiad chwarterol diweddaraf Dirnad Economi Cymru, yn chwarter 1 y flwyddyn ariannol hon, gwnaed 48 y cant o holl fuddsoddiad Banc Datblygu Cymru mewn cwmnïau yn ne-ddwyrain Cymru, o gymharu â 29 y cant yng nghanolbarth a gorllewin Cymru a 23 y cant yn y gogledd. Nawr, roedd hyn yn gysylltiedig â chreu mwy na 250 o swyddi yn y de-ddwyrain, llai na 150 yng nghanolbarth a gorllewin Cymru a llai na 100 swydd yn y gogledd. Ac mae'r data hwn yn arwydd o duedd hirdymor lle mae buddsoddiad y banc datblygu sy'n gysylltiedig â chreu swyddi wedi tueddu i fod wedi'i ganolbwyntio yn ne-ddwyrain Cymru. Weinidog, a gaf i ofyn i chi, felly, a yw Banc Datblygu Cymru, yn eich barn chi, yn gwneud digon i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a beth arall y gellid ei wneud i sicrhau bod busnesau yn fy rhanbarth yn gwybod am, ac yn gallu cael mynediad at, y mathau o gymorth a chyllid sydd ar gael drwy'r banc?

Wel, rwyf newydd roi enghraifft, mewn ymateb i Russell George, sef grŵp Marrill, sydd wedi cael cymorth gan y banc datblygu, i sicrhau a thyfu eu busnes ymhellach. Felly, mae enghreifftiau, a chredaf fod rhywbeth am amlygrwydd yr hyn y mae Banc Datblygu Cymru eisoes yn ei wneud ac yn ei ddarparu.

Cyfarfûm â bwrdd Banc Datblygu Cymru yn un o’u diwrnodau strategaeth yr wythnos diwethaf, ac unwaith eto, rhan o fy her iddynt, o gofio llwyddiant cymharol y banc ers ei greu, oedd sut maent yn mynd ymhellach i ddeall y meysydd yn yr economi lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf, gyda’r ysgogiadau sydd ganddynt, a sut rydym yn gwneud rhywbeth sy’n ymwneud â chynhyrchu elw ar fuddsoddiad, ond mewn gwirionedd, yn edrych ar y gwahanol rannau o’r wlad—y gwahanol heriau, ond hefyd y gwahanol gyfleoedd. Ac rwy'n falch iawn eu bod yn edrych ar y canolbarth, er enghraifft, nid yn unig ar y busnesau sydd yno'n barod, ond er enghraifft, gyda rhai o'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy, sef un o'r pileri sy'n sail i'r uchelgais ym margen twf canolbarth Cymru. Felly, rwy'n credu y gallwch weld bod hwn yn sefydliad sy’n deall bod ganddo gylch gwaith Cymru gyfan. Mae ei bencadlys yn y gogledd, nid yma yn y de. Mae’n rhywbeth sy’n deall bod cyfle sy’n wahanol mewn gwahanol rannau o’r wlad, ac maent yn deall sut i wireddu'r cyfle hwnnw, neu sicrhau y gellir gwneud yn siŵr fod ffynonellau cyllid gwahanol ar gael.

Rwy'n fwy na pharod i anfon dadansoddiad manylach arall at yr Aelod o’r buddsoddiadau a’r cyfleoedd a gefnogwyd gan y banc datblygu yn y canolbarth a’r gorllewin, gan nad wyf yn credu bod ei gwestiwn wedi rhoi'r holl gylch gwaith i ni, a holl gwmpas yr hyn y mae Banc Datblygu Cymru yn ei wneud i dyfu gweithgarwch economaidd a llesiant yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Y Diwydiant Paneli Pren

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am werth economaidd y diwydiant paneli pren i Gymru? OQ60645

Diolch am eich cwestiwn. Mae’r diwydiant paneli pren yn gwneud cyfraniad economaidd gwerthfawr i’r sector pren yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r ymgysylltiad parhaus â’r diwydiant paneli pren, wrth inni baratoi strategaeth ddiwydiannol gyntaf Llywodraeth Cymru ar bren, i ddatblygu a chynnal diwydiant cynhyrchu a phrosesu pren Cymreig o werth uchel.

Wel, Weinidog, diolch am eich ateb, ac rwy'n siŵr y bydd yn tawelu meddyliau mwy na 600 o bobl sydd wedi'u cyflogi yn ffatri Kronospan yn Ne Clwyd, y mae bron i bob un ohonynt yn aelodau o undeb. Maent yn aelodau o undeb Unite, ac maent yn cyfrannu, ac mae’r busnes yn cyfrannu, ac mae’r sector yn cyfrannu, nid yn unig at dyfu’r economi mewn modd cynaliadwy, ond hefyd at yr economi gylchol ac at ffyniant yn eu cymuned. A wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i’r gweithlu a’r cwmni am y ffordd y maent yn cyfrannu at dwf economaidd yn y maes hwn, ac a wnewch chi ailymrwymo i sicrhau bod y sector paneli pren yn tyfu ac yn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod?

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Cefais gyfle i ymweld, ddwywaith, â’r cyflogwr pwysig hwn, ac mae'n enghraifft nid yn unig o'i effaith fusnes, ond o'i effaith leol a chymunedol hefyd. Felly, rwyf wedi gweld y crysau nawdd, y ffaith ei fod yn helpu i ddarparu man pwysig ar gyfer gweithgarwch hamdden i'r gymuned honno y mae'n ei chefnogi. Ac yn wir, ar ôl cyfarfod â chynullydd Unite yno ar ymweliadau blaenorol, mae'n gyflogwr sy'n gwerthfawrogi ei set dda o gysylltiadau diwydiannol, ac mae hynny wedi ei helpu i fuddsoddi yn ei ffatri i ddatgarboneiddio peth o'r pŵer a'r cyfleoedd prosesu newydd sydd ganddo, a'r buddsoddiad mewn cyfalaf. Felly, mae'n meddwl am ddyfodol ei fusnes.

Nawr, nid oes llawer o hyrwyddwyr ar ran y diwydiant pŵer coed, ond rwy'n siŵr bod Kronospan yn falch eich bod yn un ohonynt, gan ei fod yn enghraifft dda o ddull cylchol ar gyfer ailbrosesu pren Cymreig. Felly, gellir ailbrosesu llawer o bren a fyddai fel arall yn wastraff, a'i droi'n gynhyrchion o ansawdd uchel iawn y mae galw mawr amdanynt, ac sy'n farchnad sy'n tyfu yma yng Nghymru a'r DU yn ehangach. Dyma'r ailbrosesydd paletau pren achrededig mwyaf yn y DU, ac mae cynllun ei gynnyrch yn arloesol, gyda chylcholrwydd ac ailddefnyddio mewn golwg. Felly, mae'n enghraifft dda iawn o fusnes yr ydym yn awyddus i weld mwy ohono, gyda chyflogau da, wedi'i wreiddio yn y gymuned leol, ac maent yn ailfuddsoddi yn eu busnes ar gyfer y dyfodol. Mae hynny’n rhan o’r daith y mae angen i bob un ohonom fod arni i greu economi carbon is, ond un sy’n dal i lwyddo i ddarparu swyddi da yn nes at adref.

14:20
Sgiliau'r Gweithlu

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan weithlu Cymru y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y farchnad swyddi yn y dyfodol? OQ60646

Diolch am eich cwestiwn. Drwy raglenni sgiliau allweddol, megis y prentisiaethau a drafodwyd gennym yn gynharach, cyfrifon dysgu personol a rhaglen sgiliau hyblyg, rydym yn parhau i weithio mewn cydweithrediad â diwydiant, busnes, darparwyr dysgu, undebau llafur a rhanddeiliaid allweddol eraill i gynyddu ein capasiti sgiliau ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi cynllun sgiliau'r sector yn y gwanwyn.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae'r byd gwaith yn newid yn gyflym, fel y mae anghenion cymdeithas yn gyffredinol. Wrth inni addasu i bwysau allanol megis y newid yn yr hinsawdd neu ddemograffeg sy’n newid, mae’n rhaid inni sicrhau nid yn unig fod cenedlaethau’r dyfodol yn barod ar gyfer gofynion marchnad swyddi’r dyfodol, ond bod gan y gweithlu presennol gefnogaeth lawn a chyfleoedd i ailhyfforddi ar unrhyw adeg yn eu gyrfa. Weinidog, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i gael cymaint â phosibl o leoedd hyfforddi ac i sicrhau bod prentisiaethau ar gael i weithwyr o bob oedran, nid pobl sy’n gadael ysgol yn unig?

Rwy’n falch o’r ffaith bod gennym raglen brentisiaethau pob oed yma yng Nghymru, a phan fyddaf yn cyfarfod â phrentisiaid mewn gwahanol fusnesau, rwy’n cyfarfod â gweithwyr iau yn agos at ddechrau eu gyrfa, wrth gwrs, ond rwy’n aml yn cyfarfod â phobl sydd wedi treulio amser mewn gwahanol fusnesau. Felly, wrth gyfarfod â stiwardiaid Unite yn Airbus UK, cyfarfûm â nifer o bobl yn y rhaglen brentisiaeth honno sydd wedi newid gyrfa yn eu 20au hwyr a'u 30au, a'r un peth wrth gyfarfod â gweithwyr yn GE Aviation, er enghraifft, hefyd—pobl sydd wedi dod o'r diwydiant peirianneg ceir ac wedi trosglwyddo i faes awyrofod. Felly, gallwch barhau i weld pobl yn newid gyrfaoedd.

Prentisiaethau yw un o’r llwybrau i wneud hynny. Ceir mathau eraill o ymyriadau sgiliau hefyd. Felly, i rai pobl, bydd ganddynt fusnes mwy a all barhau i fuddsoddi ynddynt wrth barhau i ddilyn prentisiaeth. Mewn busnesau eraill, efallai na fyddant yn gallu darparu’r un lefel o gyflog, felly dyna sut rydym yn sicrhau bod yr ymyriadau sgiliau yn addas i’r diben ar gyfer y sgiliau sydd eu hangen ar y gweithiwr a’r busnes, ond hefyd gan ystyried cyfrifoldebau'r unigolyn hwnnw yn y byd go iawn hefyd. A chredaf ein bod wedi llwyddo i wneud hynny.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig myfyrio ar y ffaith bod dysgu drwy undebau llafur yn rhan o hyn hefyd. Mae’n helpu pobl i gamu ymlaen, gydag anghenion sgiliau sylfaenol weithiau, ond yn sicr, gyda chyfleoedd sgiliau uwch hefyd, gan fod cael llwybrau gwahanol i bobl gael mynediad at yr hyfforddiant a’r dysgu hwnnw'n wirioneddol werthfawr. Rwyf wedi gweld hynny fy hun gyda'r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW) yn Tesco, er enghraifft, lle mae Tesco eu hunain yn croesawu'r ffaith bod modd dysgu drwy undeb llafur USDAW. Mae hyn o fudd i’r gweithiwr unigol y tu allan i’w gwaith, ond maent hefyd yn gweld y budd yn y gweithle hefyd.

Unwaith eto, mae'r rhain yn gyfleoedd hyfforddi a datblygu pob oed yr ydym am weld mwy ohonynt. Mae’r Llywodraeth yn awyddus i chwarae ein rhan: rydym am weld mwy o fusnesau’n parhau i fuddsoddi yn eu hased mwyaf, sef eu pobl, wrth gwrs.

Cyfleoedd Economaidd i Bobl Ifanc

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfleoedd economaidd i bobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60647

Prynhawn da. Diolch am y cwestiwn. 

I bobl ifanc, credaf fod gwneud y dewis i aros mewn cymunedau gwledig yn ymwneud â sicrhau y gall yr economi wledig ffynnu a llwyddo i gynnig gwaith da iddynt yn agos at adref. Mae ein 'Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach' yn nodi ein pedair blaenoriaeth genedlaethol, ac mae un ohonynt yn canolbwyntio ar bobl ifanc.

Diolch yn fawr iawn. Canfu arolwg gan Brifysgol Aberystwyth yn 2022 fod pedwar o bob 10 o bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru yn disgwyl byw y tu allan i Gymru ymhen pum mlynedd. Mae hwnnw'n ystadegyn syfrdanol. Ac ar yr un pryd, gwyddom fod prinder sgiliau yn atal buddsoddiad a thwf yng nghefn gwlad Cymru. Canfu ymchwil gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, er enghraifft, fod 80 y cant o gwmnïau bach wedi'i chael hi'n anodd recriwtio dros y 12 mis diwethaf. Gyda'i gilydd, mae’r ffigurau hyn yn dangos yr anghydweddiad rhwng dyheadau ein pobl ifanc yng nghefn gwlad ac anghenion ein diwydiannau lleol a busnesau bach gwledig.

Un o’r materion a all fod o gymorth mewn perthynas â chadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yw trafnidiaeth, ac mewn tystiolaeth a gyflwynwyd y llynedd i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, galwodd Gyrfa Cymru am well cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ac am archwilio prisiau gostyngol i bobl ifanc er mwyn ei gwneud hi'n bosibl i'r sgiliau hynny gyrraedd y lleoedd iawn. Hoffwn weld trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yng Nghymru i bawb o dan 25 oed. A ydych chi'n cytuno y gallai hyn helpu ein pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru? Diolch yn fawr iawn.

14:25

Credaf fod dau bwynt yma. Y cyntaf yw yr hoffwn weld cynnig trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc. Yr her i ni yw gallu fforddio hynny, ac felly, mewn gwirionedd, mae hwnnw'n ddewis cyllidebol i ni ei wneud, ac ar hyn o bryd, gyda phob ewyllys da ni allwn ddweud ein bod eisiau gwneud hynny. Mae yna ddyhead ar gyfer y dyfodol i wneud teithio ar fysiau yn enwedig yn fwy fforddiadwy i bobl ledled y wlad.

Yr ail bwynt y buaswn yn ei wneud, a chodwyd hyn yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe—rhai o’r heriau sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith bysiau a’n gallu a’n parodrwydd i ailgyflwyno rheoleiddio ar gyfer model masnachfreinio sy’n golygu bod llwybrau gwahanol yn cael eu cynnal yn y ffordd y gwobrwywn ac y trefnwn deithio ar fysiau yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o ddweud bod pob aelod o’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ailreoleiddio bysiau, gan y credwn y bydd gennym rwydwaith mwy sefydlog a fydd yn diogelu’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, a bydd yn ddefnydd gwell o arian cyhoeddus, ac yn rhoi cyfleoedd inni dyfu’r rhwydwaith bysiau yn y dyfodol, a mynd i’r afael â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud am ei fforddiadwyedd i bobl o bob oed, ond yn enwedig y pwynt y mae’n ei wneud ynghylch pobl ifanc.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y cwestiynau nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sam Rowlands. 

Gwerth am Arian

1. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau gwerth am arian wrth gaffael cynhyrchion i'w defnyddio yn y GIG? OQ60638

Disgwylir i awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru, gan gynnwys GIG Cymru, roi sylw i’r egwyddorion a nodir yn natganiad polisi caffael Cymru. Nod y dull gweithredu hwn yw gwneud yn siŵr fod caffael cyhoeddus yng Nghymru yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o ran gwerth cymdeithasol ac economaidd wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau i bobl Cymru.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fe fyddwch yn derbyn, fel rydych newydd ei amlinellu, fod gwerth am arian yn rhywbeth a ddylai fod yn rhedeg drwy bob adran yn y Llywodraeth, a dylai fod yn flaenoriaeth lwyr i bob Gweinidog a swyddog yn Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, mae hyn yn berthnasol i wasanaethau iechyd yng Nghymru hefyd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth Geidwadol y DU, yn gynharach eleni, ar ran pob rhan o’r DU, a’r diwydiant fferyllol wedi ymrwymo i gynllun prisio, mynediad a thwf gwirfoddol newydd ar gyfer meddyginiaethau wedi'u brandio—y VPAG. Mae’r fargen hon, a frocerwyd gan Lywodraeth y DU, yn golygu bod y meddyginiaethau arloesol diweddaraf ar gael i’r GIG yng Nghymru ac y gellir eu defnyddio gyda chleifion, gan sicrhau’r gwerth gorau am arian.

Nawr, yn hanesyddol, mae’r cynlluniau hyn wedi galluogi cannoedd o filiynau o bunnoedd i ddod i Lywodraeth Cymru, a'i dargedu fel arfer at yr adran iechyd. Felly, a allwch chi gadarnhau heddiw y bydd yr arian hwn yn parhau i gael ei gadw ar gyfer iechyd, a lle rydych chi'n disgwyl i’r cronfeydd ychwanegol hyn gael eu targedu?

Diolch yn fawr iawn. Mae’r Aelod yn llygad ei le, ym mis Ionawr, daeth cynllun gwirfoddol newydd, y cynllun prisio, mynediad a thwf gwirfoddol, i rym. Yr hyn y mae'n ei wneud yw gosod cap blynyddol ar uchafswm gwerthiant meddyginiaethau wedi’u brandio ar draws y GIG, a’r hyn sy’n digwydd wedyn yw, os yw gwerthiannau’n mynd uwchlaw’r cap, ceir ad-daliad. Caiff pob ad-daliad ei ddosrannu rhwng pedair gwlad y DU, ac mae hynny’n seiliedig ar y gwariant ar feddyginiaethau ym mhob gwlad. Felly, nid yw'n darparu arian newydd mewn gwirionedd. Mae unrhyw gyllid sy’n deillio o’r cynllun prisio, mynediad a thwf gwirfoddol eisoes wedi’i gynnwys wrth gynllunio’r gyllideb i ddarparu ar gyfer y GIG a phobl Cymru.

Un ffordd o sicrhau gwerth am arian ydy gwneud gwaith ymchwil manwl iawn, trafod efo clinigwyr sy'n mynd i fod yn defnyddio rhyw offer newydd, a gwneud yn siŵr bod y cynnyrch gorau posibl yn cael ei gaffael. A dyna'n union gafodd ei wneud drwy drio dewis system electronic patient record ar gyfer gwasanaethau opthalmoleg. Mi fuddsoddwyd miliynau yn y gwaith hwnnw, a'r casgliad oedd y dylid caffael y system OpenEyes, system sydd yn cael ei ddefnyddio'n eang iawn yn barod, yn cynnwys mewn canolfannau llygaid blaenllaw fel Moorfields. Mae wedi'i gyflwyno yn yr Alban hefyd.

Ond, bum mlynedd yn ddiweddarach, does yna ddim byd wedi digwydd. Fe wnes i gyfarfod opthalmolegwyr yn Ysbyty Singleton, Abertawe, yr wythnos diwethaf. Roedd yna gynrychiolaeth o ar draws de Cymru yno. Fe wnaeth Llyr Gruffydd ddoe godi hyn ar ran opthalmolegwyr yn y gogledd. Maen nhw wir, wir yn erfyn ar y Gweinidog i plîs bwyso'r botwm ar gaffael y system yma. Mi fyddai'n trawsnewid eu gwaith nhw, yn arwain at well gofal llygaid. Ydy'r Gweinidog yn barod i wneud y penderfyniad hwnnw ar frys, o ystyried bod y gwaith wedi cael ei wneud?

14:30

Diolch yn fawr. Rwyf wedi bod yn ymchwilio i'r materion mewn perthynas â'r rhaglen gofal llygaid ddigidol, oherwydd cafodd ei ddwyn i fy sylw hefyd. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod dyraniad cyllid cychwynnol wedi cael ei gymeradwyo, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro oedd yn gyfrifol am gynnal a darparu hwnnw. A'r syniad oedd digideiddio'r broses atgyfeirio o ofal sylfaenol i ofal eilaidd yn ogystal â chyflwyno cofnod cleifion electronig. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, ni wnaeth y rhaglen fynd yn ei blaen fel y cynlluniwyd. Ac felly adroddwyd am rai pryderon wrth ddefnyddio technoleg ar y cychwyn, a chodwyd materion diogelwch clinigol gan y bwrdd iechyd.

Felly, cafodd hynny ei drosglwyddo wedyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ac rwyf wedi gofyn am gyfarfod gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru er mwyn bwrw ymlaen â hyn, oherwydd mae'n rhwystredig, rwy'n gwybod. Felly, rwyf wedi gofyn am gyfarfod, nid yn unig gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ond hefyd gyda'r offthalmolegwyr i sicrhau fy mod yn clywed pob ochr i'r ddadl mewn perthynas â hyn.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau iechyd meddwl cymunedol yng Ngogledd Cymru? OQ60651

Fel rhan o uwchgyfeirio i fesurau arbennig, cytunwyd ar raglen waith gynhwysfawr i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn gallu gwneud y cynnydd parhaus sydd ei angen mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Diolch am yr ateb hwnnw. Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, ddoe, fy mod wedi codi pryderon gyda'r Prif Weinidog am brofiadau gwael cleifion yng nghanolfan iechyd meddwl gymunedol Nant y Glyn ym Mae Colwyn. Nid yw cleifion yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt, ac mae hynny'n golygu bod iechyd meddwl rhai ohonynt yn llawer gwaeth nag y byddai fel arall. Gwn fod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi codi pryderon yn y gorffennol am fynediad cleifion at wasanaethau a ddarperir gan Nant y Glyn a bod arolygiad lle rhoddwyd rhybudd wedi ei gynnal yn ddiweddar.

Fodd bynnag, rwy'n pryderu nad yw'r drefn arolygu yn ddigonol. Nid yw bob amser yn cynnwys profiadau cleifion nac yn estyn allan at gleifion sydd wedi gwneud eu profiadau'n hysbys i gynrychiolwyr etholedig fel fi. Felly, hoffwn erfyn ar Lywodraeth Cymru i annog Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i edrych ar ei fframwaith arolygu i sicrhau bod ymgysylltiad â chynrychiolwyr etholedig a chleifion yn hollbwysig ac yn cael ei ystyried yn un o bileri eu trefn arolygu yn y dyfodol, gan gynnwys ar y profiadau y mae fy etholwyr wedi bod yn eu cael yn Nant y Glyn. 

A gaf i ddiolch i chi am y cwestiwn atodol, Darren? Ac fe wrandawais yn ofalus ar eich trafodaeth gyda'r Prif Weinidog ddoe, a gwn ei fod wedi rhoi sicrwydd i chi, a hoffwn ailadrodd y sicrwydd hwnnw. Rydym yn aros i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gael ei gyhoeddi a byddaf yn sicr yn edrych yn ofalus iawn ar hwnnw.

Fel y gwyddoch, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru fel arolygiaeth, ac fel rwy'n ei ddeall, rwyf hefyd yn ymwybodol eu bod yn ceisio ystyried adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth fel rhan o'r gwaith a wnânt. Ond mewn perthynas â thimau iechyd meddwl cymunedol, fe wnaf ymholiadau ynglŷn ag a ofynnwyd am adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth. A hoffwn ailadrodd sicrwydd y Prif Weinidog y byddaf yn cael yr adroddiad, byddaf yn edrych arno a byddwn yn sicrhau bod popeth y mae angen mynd ar ei drywydd yn cael sylw.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.

14:35

Diolch, Lywydd. Lywydd, mae angen gwasanaeth ambiwlans cryf yng nghefn gwlad canolbarth a gogledd Cymru, yn enwedig mewn argyfwng. Mae'r ffaith nad oes ysbyty cyffredinol dosbarth yn yr ardaloedd hyn yn golygu bod yr angen am wasanaeth ambiwlans awyr yn bwysicach fyth. Nawr, Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod y broses ymgysylltu derfynol bellach wedi dechrau. Mae'r adolygiad yn cael ei arwain gan wasanaeth o fewn GIG Cymru, ond wrth gwrs, chi yw'r Gweinidog iechyd a chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod polisi priodol ar waith, a sicrhau bod cleifion yn cael eu trosglwyddo i gyfleusterau meddygol priodol yn gyflym. Ac rwy'n gwybod, Weinidog, eich bod wedi bod yn rhan o'r broses hon hefyd. Felly, mae gennych allu i ymyrryd, i ddylanwadu ac i benderfynu beth sy'n digwydd. Felly a ydych chi, Weinidog, yn barod i ystyried y pryderon sylweddol sydd wedi cael eu codi gan gymunedau yng ngogledd a chanolbarth Cymru, i sicrhau bod y ddau safle yn y Trallwng a Chaernarfon yn parhau ar agor, fel bod gennym wasanaeth ambiwlans sy'n cyrraedd pob rhan o Gymru ac yn ystyried natur benodol iawn rhai o rannau mwyaf gwledig Cymru?

Diolch yn fawr. Wel, elusen annibynnol yw Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wrth gwrs—mae'n annibynnol ar y Llywodraeth. Ond rydych yn llygad eich lle i dynnu sylw at y ffaith bod yna berthynas â Llywodraeth Cymru, yn yr ystyr bod cysylltiad â natur frys y mater ac mae'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, a chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys wedi bod yn gwbl allweddol yn sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed mewn perthynas ag unrhyw newidiadau arfaethedig. Felly, fel y dywedwch, cafwyd adborth sylweddol eisoes i lywio'r adolygiad yn ystod y cam diwethaf. Yr hyn sydd wedi digwydd nawr, rwy'n credu, o ganlyniad i hynny, yw bod dau opsiwn wedi cael eu cyflwyno, a dyna'r opsiynau sydd bellach yn cael eu cynnig i'r cyhoedd. Gofynnais i gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys i wneud yn siŵr yn benodol ei fod wedi gwrando ar y trafodaethau a gafwyd yn y Siambr hon, er mwyn cael gwir ymdeimlad o'r hyn sy'n destun pryder i bobl yn y Siambr hon.

Diolch yn fawr, Weinidog. Yn gyntaf oll, elusen yw Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, fel y dywedwch, ond cânt eu comisiynu gan GIG Cymru. Ac maent hefyd wedi derbyn canlyniad y broses hon, a byddant yn dilyn canlyniad y broses hon, ac wrth gwrs mae'r GIG yn talu am y parafeddygon a'r offer ar y cerbydau ambiwlans awyr hynny. Felly, mae'n bwysig, Weinidog, mai penderfyniad i Lywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru yw hwn yn y pen draw.

Roeddwn ychydig yn bryderus pan ddywedoch chi fod dau opsiwn wedi eu cyflwyno bellach, oherwydd mae'r comisiynydd wedi dweud wrthyf, ac mae'n dweud hynny yn y ddogfennaeth, fod yna chwe opsiwn wedi'u cyflwyno, a bod dau yn cael eu ffafrio. Mae'r ddau opsiwn a ffefrir fel ei gilydd yn golygu cau canolfannau Caernarfon a'r Trallwng, sy'n gwbl annerbyniol. Ac rwy'n credu, Weinidog, mai'r hyn sy'n rhwystredig yma yw, er eich bod wedi tynnu sylw at y ffaith bod yna broses ymgysylltu wedi bod—mae hynny'n wir, proses sylweddol; mae miloedd o bobl wedi mynychu cyfarfodydd neu wedi ymateb i ymgynghoriadau—dyma'r broblem: a ydych wedi gwrando arnynt? Oherwydd nid yw hynny i'w weld pan welwch ddau opsiwn a ffefrir sy'n golygu cau'r ddwy ganolfan. Ac nid yw mynd o bedair canolfan i dair canolfan ar draws Cymru yn briodol, Weinidog. Rwy'n siomedig ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa hon, ac rwy'n credu ei bod yn bryd i chi ymyrryd nawr, Weinidog.

Ac nid y cyhoedd yn unig sydd â phryderon; mae gan glinigwyr bryderon hefyd. Maent yn dweud eu bod yn ofni y bydd bywydau mewn perygl pe bai'r ddwy ganolfan yn cau. Maent hefyd yn dweud y bydd llawer ohonynt yn gadael y gwasanaeth mewn gwirionedd—bydd y bobl brofiadol hyn yn y Trallwng, yng Nghaernarfon, yn gadael y gwasanaeth. Nawr, rwyf fi a'r cyhoedd wedi clywed dro ar ôl tro nad yw hyn yn ymwneud ag arbed arian. A yw hynny'n dal i fod yn wir? Ac os cafodd achos ei wneud dros ehangu'r gwasanaeth ambiwlans awyr, a ydych chi'n dal i fod wedi ymrwymo i ystyried cynigion o'r fath ac ariannu cynigion o'r fath?

Diolch yn fawr. Wel, rydych chi'n iawn, nid yw'n ymwneud ag arbed arian, ond mae'n ymwneud â sicrhau cymaint o effeithlonrwydd â phosibl, ac rwy'n credu bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth i wneud hynny. Felly, fe wyddoch fod rhai egwyddorion wedi'u nodi: os bydd pobl yn cael y gwasanaeth nawr, byddant yn parhau i'w gael, a bydd mwy o bobl yn cael y gwasanaeth. Felly, dyna'r ddau beth a oedd yn gwbl allweddol wrth lywio unrhyw newidiadau arfaethedig. Rwy'n credu mai un o'r pethau a awgrymwyd yw y gellid cael mwy o geir ar bwyntiau strategol. Mae hwn yn awgrym rwyf wedi'i glywed yn glir iawn yn y dadleuon a gawsom yn y Siambr hon yn y gorffennol. Felly, er enghraifft, os oes gennych chi rywun ym mhen pellaf Pen Llŷn, a bod niwl ac nad yw'r hofrennydd yn gallu cyrraedd yno mewn gwirionedd, nid yr hofrennydd yw'r broblem; mae'n ymwneud â lleoliad strategol y cerbydau. Ac rwy'n credu bod hynny'n sicr yn rhywbeth sydd wedi cael ei gyfleu ac sydd wedi cael ei ddeall, ac rwy'n credu mai dyna pam mae hynny wedi dod yn rhan o'r opsiynau sydd wedi'u cyflwyno.

14:40

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn sicr, rydych chi'n iawn ar un ystyr—ar ddechrau'r broses hon, dywedwyd wrthym y byddai modd cyrraedd 500 yn rhagor o bobl o dan y cynnig gwreiddiol. Mae hynny, fel rwy'n sicr yn ei ddeall erbyn hyn, yn rhywbeth sydd wedi'i wrthod, ond soniodd y Prif Weinidog amdano eto yr wythnos diwethaf. Felly, rwy'n gobeithio, Weinidog, y gallwch chi a'r Prif Weinidog ymyrryd yn y broses hon a chymryd yr awenau yn y broses hon, oherwydd mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth yw'r teimladau ar lawr gwlad, beth yw'r teimladau yng nghanolbarth a gogledd Cymru ac yn y cymunedau hyn. 

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am niwl. Wel, mae gennym rybudd tywydd yn dod i mewn ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru yfory, sy'n sylweddol. Ar hyn o bryd, mae gennym ddwy ganolfan—y Trallwng a Chaernarfon—ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru. Os daw cynigion gerbron i gael un ganolfan ganolog, yna bydd y ganolfan honno—. Os yw honno'n cau oherwydd tywydd garw, ni fydd darpariaeth yn ardal canolbarth a gogledd Cymru o ganolfan yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Felly, ceir mwy o hyblygrwydd drwy gael y ddwy ganolfan, ac mae hynny'n gwneud ac yn ateb y pwynt a wnaethoch am niwl. Niwl, tywydd anffafriol—dyma'n union pam mae angen inni gadw'r ddwy ganolfan yn y Trallwng a Chaernarfon.

Felly, a gaf i ofyn i chi, Weinidog—? O ystyried bod y Prif Weinidog efallai wedi gwneud rhai datganiadau nad wyf yn siŵr eu bod yn gwbl gywir yr wythnos diwethaf, a gaf i ofyn i chi a'r Prif Weinidog gymryd rhan weithredol yn y broses hon, ymyrryd, ac yn y pen draw, eich bod chi, fel y Gweinidog, yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch yr hyn sy'n digwydd i'r canolfannau presennol yn y Trallwng a Chaernarfon, oherwydd mae symud o bedair canolfan i dair yn gwbl annerbyniol i boblogaeth canolbarth a gogledd Cymru?

Wel, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod poblogaethau lleol, unwaith eto, yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Cafwyd ymateb anhygoel i'r ymgynghoriad hyd yn hyn. Rydym yn gwybod cymaint o feddwl sydd gan y boblogaeth o'r gwasanaeth hwn, yn enwedig yn y canolbarth a'r gogledd. Felly, carwn eu hannog i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw, ac yn amlwg, fe wneir penderfyniad ar ôl i ni gael yr argymhelliad terfynol. 

Diolch, Llywydd. Ddaru'r Gweinidog yn ei hateb hi i Russell George rŵan ddweud ei bod hi eisiau gwybod beth ydy barn Aelodau yn y Siambr yma ynghylch yr ambiwlans awyr. Felly, dwi'n ategu'n llwyr yr hyn ddaru Russell George ei ddweud hefyd, ac yn gobeithio y byddwch chi'n dilyn ar rhai o'r cwestiynau yna ac yn cymryd y cyfrifoldeb. 

Ddiwedd y mis hwn, bydd gwrandawiadau ymchwiliad COVID y DU ar gyfer modiwl 2B yn cael eu cynnal yma yng Nghaerdydd. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi gwrthod sefydlu ymchwiliad llawn i'w hymateb ei hun i'r pandemig, mewn cyferbyniad llwyr â Llywodraeth yr Alban. Yn ôl y Prif Weinidog, mae hyn oherwydd mai ymchwiliad y DU yw'r opsiwn gorau ar gyfer craffu ar y penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru. Bron i wyth mis ers i ymchwiliad y DU ddechrau ei drafodion yn ffurfiol felly, mae'n werth myfyrio ar hygrededd yr asesiad hwn. 

Yn gyntaf, clywsom y Farwnes Hallett ei hun yn cydnabod na fyddai cwmpas ymchwiliad y DU yn gallu ymdrin â phob mater yn ymwneud â Chymru. Yna, clywsom y Prif Weinidog a'r cyn Weinidog iechyd yn darparu eu tystiolaethau ar gyfer modiwl 1 dros un diwrnod ym mis Gorffennaf y llynedd, pan gyfaddefodd y cyntaf nad oedd Cymru mor barod ag y gallai fod ar gyfer y pandemig. Rydym hefyd wedi darganfod bod sefydliadau fel Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cael eu hamddifadu o statws cyfranogwyr craidd, gyda'r olaf yn cael gwybod na fyddent yn derbyn yr un lefel o ffocws ag yr oeddent wedi'i feddwl yn wreiddiol. Ac er bod y Llywodraeth hon yn hwyr yn y dydd wedi sefydlu pwyllgor diben arbennig i ymdrin â bylchau yn ymchwiliad y DU, dim ond pedwar cyfarfod a gawsant hyd yma, a hynny bob amser y tu ôl i ddrysau caeedig, gyda grŵp COVID-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn poeni, yn ddigon teg, am allu'r pwyllgor i fynd gam ymhellach na dim ond dyblygu gwaith presennol. 

Felly, Weinidog, a ydych chi'n dal i gredu nad oes angen ymchwiliad llawn i ymateb Cymru i'r pandemig, ac os felly, pam?

Wel, rwy'n credu ei fod yn ddiangen, am y rhesymau sydd wedi'u hailadrodd dro ar ôl tro yn y Siambr hon. Yr hyn a welsom yn yr ymchwiliad yw digon o dystiolaeth i awgrymu, mewn gwirionedd, yn y cysylltiad rhwng y penderfyniadau yn Llundain a'r penderfyniadau a wnaed yma, ein bod wedi cael ein cyfyngu gan rai materion mewn perthynas â'n gallu i ddarparu, er enghraifft, rhywfaint o gyllid cymorth, pe byddem am barhau â chyfyngiadau symud am gyfnod hwy. Felly, roedd rhai meysydd lle roedd hi bron yn amhosibl inni roi camau gwahanol ar waith. Enghraifft arall, wrth gwrs, yw ein gallu i gau'r ffiniau—roedd yn anodd iawn i ni, er enghraifft, atal pobl rhag dod i mewn o wledydd lle roedd llawer iawn o achosion COVID. Felly, mae'r cysylltiad rhyngddynt, rwy'n credu, yn golygu ei bod yn gwneud synnwyr ein bod yn aros am adroddiad yr ymchwiliad. Nawr, wedi dweud hynny, rwy'n gwybod, a'r ddau Gadeirydd, rwy'n credu—y Cyd-gadeiryddion, sy'n eistedd yn y Siambr heddiw, a byddant wedi clywed yr hyn a ddywedoch chi; rwy'n siŵr na fyddant yn cytuno â'r hyn a ddywedoch—yn amlwg, nid ydym wedi dechrau archwilio modiwl 2B eto, a chredaf y bydd cyfle ar ôl hynny i'r pwyllgor wneud mwy o waith craffu, oherwydd erbyn hynny bydd y bylchau ychydig yn fwy amlwg.

14:45

Mae'n siomedig clywed y Gweinidog yn beio Llundain am bopeth. Er mai Boris Johnson a Llundain a oedd ar fai am nifer o bethau, penderfynodd Llywodraeth Cymru gyflwyno'r rheol i wisgo masgiau yn ddiweddarach nag yn Lloegr, er enghraifft, a Llywodraeth Cymru a benderfynodd ryddhau neu ganiatáu i bobl oedrannus fynd yn ôl i gartrefi gofal. Felly, penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl yw'r rheini. Mae gennym arferion gorau yng Nghymru hefyd. Edrychwch ar y cynllun profi ac olrhain yng Ngheredigion, a gafodd ei gyflwyno i rannau eraill o'r DU yn ddiweddarach. Felly, mae gennym bethau y mae angen inni eu dysgu, a gwersi i'w dysgu, yma yng Nghymru. 

Byddai creu ymchwiliad penodol i Gymru nid yn unig yn darparu atebion ac yn cynnig y diweddglo y maent yn eu haeddu i'r miloedd o unigolion sydd mewn profedigaeth ledled Cymru, byddai hefyd yn sicrhau y gall profiadau'r pandemig lywio mesurau parodrwydd a gwytnwch ar gyfer y dyfodol mewn modd effeithiol, fel na fyddwn ni byth eto mewn sefyllfa lle nad ydym mor barod ag y gallem fod. A chan fod effaith newid hinsawdd yn cynyddu tebygolrwydd ac amlder digwyddiadau pandemig yn y dyfodol, nid yw'r broses hon o ôl-weithredu adeiladol erioed wedi bod yn bwysicach.

Un o'r materion allweddol sydd wedi dod i'r amlwg ers i'r set ddiwethaf o gyfyngiadau cyfreithiol gael eu codi yw'r mater gwisgo masgiau ymhlith gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru. Yn dilyn lledaeniad is-amrywiolyn newydd straen Omicron y feirws ym mis Rhagfyr, argymhellodd Sefydliad Iechyd y Byd y dylid ailgyflwyno gwisgo masgiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Er y barnwyd yn y pen draw fod y risg a achosir gan yr amrywiolyn newydd hwn yn isel, roedd yn tynnu sylw at yr angen am wyliadwriaeth a gofal yn y ffordd y rheolwn y dull ôl-bandemig o weithredu ar COVID. 

Rwyf wedi bod yn hael iawn gyda'r amseru ar gyfer eich rhagymadrodd a'ch cwestiynau byr iawn ar y diwedd—

—felly buaswn yn falch pe gallech chi gyrraedd eich cwestiwn byr iawn ar y diwedd os gwelwch yn dda.  

Y cwestiwn byr iawn ar y diwedd, gan werthfawrogi'r amynedd a ddangoswyd, yw: a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i gydymffurfio â chanllawiau iechyd Sefydliad Iechyd y Byd drwy argymell bod yr holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwisgo masgiau FFP2 a FFP3?

Wel, ni wnaf gytuno i hynny oni bai ei bod yn briodol gwneud hynny. Ac yn amlwg, cawn ein harwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n craffu ar y dystiolaeth. Maent wedi edrych ar yr hyn y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi'i argymell, ac fel rydych chi eich hun wedi'i nodi, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn awgrymu mewn gwirionedd fod nifer yr achosion yn isel a bod lefel yr amddiffyniad yn isel pan fo nifer yr achosion yn isel. Felly, mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi ei wthio, wedi ei drafod gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi eu holi yn ei gylch, a phan fydd yn briodol, rwy'n siŵr y byddant yn gwybod pryd i argymell y dylai byrddau iechyd ailgyflwyno hynny. Ond nid dyna'r sefyllfa ar hyn o bryd, ac mewn gwirionedd, mae nifer yr achosion yn gymharol isel ar hyn o bryd.

Cadw Meddygon

3. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gadw meddygon yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru? OQ60663

Mae cadw staff yr un mor bwysig â recriwtio staff newydd. Mae ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu yn nodi nifer o gamau i wella’r lefelau cadw. Mae nifer y meddygon sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan sefydliadau NHS Cymru wedi cynyddu bob blwyddyn am y naw mlynedd diwethaf, ac mae hynny’n cynnwys ymgynghorwyr meddygol.

Diolch am hwnna, Gweinidog. Mae tâl meddygon iau yng Nghymru wedi ei dorri bron i draean mewn termau real ers 2008-09. Erbyn hyn, fel dwi'n gwybod y byddwch chi'n ymwybodol, mae yna berygl gwirioneddol y bydd toriadau cyflog olynol yn gyrru hyd yn oed yn fwy o feddygon i ffwrdd o'r proffesiwn ar adeg pan fydd cleifion eu hangen fwyaf. Dydy meddygon iau ddim yn gofyn am godiad yn eu cyflog; maen nhw'n gofyn am adferiad yn eu cyflogau. Dwi'n ymwybodol o ba mor anodd ydy'r setliad ariannol sydd gennym, ond, eto, mae'n rhaid i gyflogau meddygon fod yn deg ac yn gystadleuol gyda systemau gofal iechyd eraill ledled y byd, neu byddwn ni'n eu colli nhw. Felly, a fyddwch chi, Weinidog, yn dychwelyd at y bwrdd negodi gyda meddygon iau mewn ymdrech i osgoi mwy o streics, achos dydyn nhw chwaith ddim eisiau bod ar streic; maen nhw eisiau bod yn yr ysbytai yn helpu cleifion?

14:50

Diolch yn fawr. Wel, rydym yn sicr yn cydnabod cryfder y teimlad ymhlith meddygon iau, ac er ein bod yn sicr yn awyddus iawn i fynd i’r afael â’u huchelgeisiau i adfer cyflogau, mae arnaf ofn fod y 5 y cant a roddwyd tuag at eu pecynnau cyflog ar ben eithaf yr arian sydd ar gael i ni eleni, ac yn amlwg, mae’r un fath â’r hyn a gynigiwyd i undebau iechyd eraill eleni.

Fe wyddom, ac fe glywoch chi, yn y ddadl ddoe, am gryfder y teimladau mewn meysydd eraill o Lywodraeth a’r holl alwadau arnom fel Llywodraeth. Fe aethom ag arian o rannau eraill o Lywodraeth i gynnal y gwasanaeth iechyd, i’n galluogi i dalu’r 5 y cant. Felly, eisoes, mae wedi bod yn anodd iawn i ni wneud hynny. Rwy’n credu ei bod yn werth nodi hefyd, pan fyddwn yn gallu cynnig mwy, ein bod yn gwneud hynny. Felly y llynedd, fe wnaethom gynnig 4.5 y cant ynghyd ag 1.5 y cant cyfunedig, ac 1.5 y cant anghyfunol, ond yn Lloegr, dim ond 2 y cant a gynigiwyd ganddynt. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig edrych yn fwy hirdymor ar hyn hefyd.

Mae cadw meddygon, gan gynnwys meddygon teulu, yn gwbl hanfodol i wasanaeth iechyd cynaliadwy. Yn ddiweddar, ymwelais â meddygfa yn fy etholaeth. Mae'r contract presennol yn eu llwytho â gwaith papur biwrocrataidd, diffyg elfen ddigolledu a chyllid sy'n gostwng yn sgil costau staffio cynyddol, gan arwain at ddiswyddiadau ac amseroedd aros hwy, ac yn wir, mae'n gwneud i rai meddygon teulu ystyried eu dyfodol a dyfodol eu meddygfeydd.

Mae meddygfa arall yn fy etholaeth bellach wedi rhoi'r gorau i ddarparu pum gwasanaeth allweddol, er eu bod wedi gwario arian ar yr offer a'r hyfforddiant, am nad yw cyllid y contract yn talu costau darparu'r gwasanaethau. Yn syml iawn, ni ellir mynd i'r afael â'r argyfwng cadw staff heb ailedrych ar gontractau meddygon teulu. Weinidog, a ydych chi'n siarad â byrddau iechyd i ystyried materion cytundebol sy'n bygwth meddygon teulu, eu practisau a gofal sylfaenol lleol?

Diolch yn fawr. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi cyhoeddi heddiw ein bod wedi dod i benderfyniad gyda'r gwasanaethau meddygol cyffredinol. Maent wedi cael cynnig 5 y cant hefyd, ond mae hynny, yn amlwg, wedi ei alinio ag ymrwymiadau yr ydym yn eu disgwyl ganddynt. Ond nid ar eu cyfer nhw yn unig y mae; mae ar gyfer eu staff hefyd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio bod hyn yn ymwneud â mwy na phobl; mae'n rhaid inni ystyried y tîm o amgylch y meddyg hefyd. Felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi dod i benderfyniad ar y mater hwnnw.

Pan fydd partneriaid meddygon teulu yn cymryd cyfrifoldeb am redeg meddygfeydd, credaf ei fod yn arwydd o hyder yng nghynaladwyedd y gwasanaeth lleol hwnnw yn y gymuned. A dyna pam rwy'n croesawu'r newyddion fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn trosglwyddo rheolaeth meddygfa Bryntirion ym Margoed i bartneriaid meddygon teulu newydd, er bod rhaid imi ddweud wrth y Gweinidog y byddai'n well gennym pe bai'n cael ei rhedeg yn uniongyrchol o Fargoed, yn hytrach na hyd braich gan gwmni preifat yn Lloegr, er y bydd yn golygu y bydd yna feddygon teulu dan gontract yn y feddygfa. 

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, hwylusodd y bwrdd iechyd y gwaith o adeiladu canolfan iechyd newydd yn fy etholaeth i yn Llanbradach, a agorodd ym mis Awst 2021, ac mae gobaith y bydd safleoedd newydd eraill sy'n darparu gofal sylfaenol yn agor yn fy etholaeth yn y dyfodol. A yw'r Gweinidog yn cytuno, felly, fod angen inni edrych ar yr enghreifftiau da hyn a bod angen inni edrych ar lle mae pethau'n bositif ac yn gwella er mwyn cydnabod bod Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd yn gwneud pethau i dynnu pwysau oddi ar ein hysbytai?

Diolch yn fawr iawn, Hefin. Cefais gyfarfod y bore yma gyda phrif weithredwr Aneurin Bevan, a oedd yn llawn bwrlwm cadarnhaol am y ffaith y bydd pob meddyg teulu yn ei bwrdd iechyd yn gontractwr annibynnol yn y dyfodol. Yn amlwg, mae hynny'n werth eithaf da am arian i'r bwrdd iechyd. Felly, er ein bod ni'n hapus iawn iddynt gael eu cyfarwyddo gan y byrddau iechyd a'u rhedeg gan y byrddau iechyd yn uniongyrchol, os yw pobl yn hapus i ddod i mewn a'u rhedeg drostynt eu hunain yn annibynnol, mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu hefyd. Felly, nid eich ardal chi yn unig ydyw, Hefin. Mae llawer o ardaloedd eraill yn Aneurin Bevan wedi bod yn hynod lwyddiannus yn ddiweddar wrth recriwtio meddygon teulu newydd, ac wedi rhoi hyder i'r cymunedau hynny, gobeithio. 

14:55

Prynhawn da, Weinidog. Hoffwn innau hefyd fynd ar ôl mater meddygon teulu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle maent yn wynebu heriau arbennig o ddifrifol gyda recriwtio a chadw, ond hefyd costau cynyddol, prinder opsiynau gofal cymdeithasol, ac anawsterau wrth drefnu ymweliadau cartref ar draws ardal mor eang. Mae ganddynt anfantais economaidd unigryw, sy'n peryglu eu cynaliadwyedd. Rwyf wedi bod yn siarad â meddygon teulu ledled Powys yn ddiweddar, ac mae'n amlwg nad yw'r trefniadau presennol yn talu eu costau nac yn mynd i'r afael â'u heriau. Mae angen mecanweithiau ac arian arnynt, yn y bôn, i wrthbwyso'r costau cyflawni uwch hyn. Mae'n bosibl mai un syniad fyddai premiwm gwledig i feddygon teulu i alluogi cymunedau gwledig i ddiwallu anghenion gofal sylfaenol eu poblogaethau gwledig. Weinidog, a wnewch chi ystyried premiwm gwledig i feddygon teulu? Diolch yn fawr iawn.

Wel, fe fyddwch chi'n falch o glywed bod gennym ni un eisoes, Jane. Mae gennym system eisoes. Mae'n system gymhelliant wedi'i thargedu, sy'n darparu £20,000 i rai sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu ac sy'n derbyn lleoliadau hyfforddi mewn rhannau penodol o Gymru sy'n her i ni, ac mae hynny'n cynnwys gogledd Cymru—mae tri chynllun hyfforddi ym Mangor, Dyffryn Clwyd a Wrecsam—a Cheredigion, sir Benfro a Phowys. Felly, mae'n debyg ei bod yn werth cydnabod bod y cynllun hwnnw eisoes ar waith ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran recriwtio.

Rydyn ni'n gweld y problemau sydd yn codi yn sgil heriau recriwtio a chadw meddygon teulu yn benodol yn y creisis sydd yna yn Hwb Iechyd Cybi ar hyn o bryd. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol o'r sefyllfa. Dwi'n gwybod bod meddygon wedi ysgrifennu ati hi ac ataf innau yn codi pryderon am arafwch y bwrdd iechyd yn penodi meddygon teulu yn sgil y ffaith bod yna bedair yn gadael ar gyfnod mamolaeth ar yr un pryd a bod yna un meddyg teulu yn gadael. Ac efallai mae argyfwng dros dro ydi o, ond mae o'n dal yn argyfwng. 

Rŵan, mae'r bwrdd iechyd yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n hyderus y bydd popeth yn iawn, ond does yna ddim ateb hyd yma. Dwi'n apelio ar y Gweinidog i helpu i wthio am sicrwydd staffio yn y byr dymor yn Hwb Iechyd Cybi achos mae hi'n boblogaeth sydd wedi bod drwy gyfnod o wasanaeth gofal sylfaenol annigonol am resymau mae'r Gweinidog yn gwybod amdanyn nhw. Ond, ydy hi'n cytuno hefyd fod hyn eto yn arwydd clir o ba mor fregus ac anghynaliadwy ydy'r sefyllfa o ran meddygon teulu ar hyn o bryd?

Dwi'n meddwl y gall pobl baratoi. Dwi'n meddwl y gall byrddau iechyd baratoi, ond dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg i ofyn iddyn nhw baratoi am bedwar o bobl yn mynd ar gyfnod mamolaeth ar yr un pryd. Dwi'n meddwl bod yna limit i faint o baratoi maen nhw'n gallu gwneud. A dyna pam dwi'n falch bod y bwrdd iechyd wedi cymryd hwn o ddifrif. Dwi'n gwybod eu bod nhw wedi cwrdd â chi yn barod i drafod hyn, ac yn sicr dwi'n gwybod eu bod nhw'n cymryd hwn o ddifrif ac yn rhoi mesurau mewn lle.

Camddefnyddio Cyffuriau

4. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod triniaeth iechyd effeithiol ar gael i bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau? OQ60637

Rydym wedi ymrwymo i leihau'r niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn buddsoddi dros £67 miliwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau, ac mae dros £39 miliwn ohono'n mynd i'n byrddau cynllunio ardal i gomisiynu gwasanaethau lleol mewn ymateb i angen.

Diolch. Mae etholwr wedi cysylltu â mi yn dweud ei fod, ers iddo gael presgripsiwn Buvidal, wedi gallu rhoi'r gorau i ddefnyddio heroin ac mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'w fywyd. Cafodd y cyffur oherwydd ei fod e mewn rhaglen benodol ar gyfer troseddwyr. Mae’n debyg bod y rhestr aros ar gyfer y driniaeth yma yn hir, ac mae fy etholwr yn ymwybodol o bobol sydd yn troseddu yn benodol er mwyn medru cael mynediad i Buvidal yn gynt. Mae e'n poeni nad yw'r driniaeth ar gael i fwy o bobl a fyddai’n gallu elwa o’i chael yn yr un modd ag ef. 

Mae’r Athro Bewley-Taylor o’r Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe wedi nodi bod tystiolaeth yn gynyddol awgrymu bod Buvidal yn effeithiol wrth drin defnydd problemus o opioid, yn enwedig ymysg y rhai y mae eu hamgylchiadau’n gwneud ffurfiau traddodiadol o amnewid opioid yn anaddas. Mae’r niwed cymdeithasol ac i unigolion sy'n cael ei achosi yn sgil defnyddio cyffuriau yn gymhleth ac yn eang, a dylai’r Llywodraeth, meddai'r Athro Bewley-Taylor, fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu’r rhai sy’n chwilio am gefnogaeth.

O ystyried, felly, fod Buvidal wedi profi i fod yn effeithiol, ac yn fwy effeithiol na chyrsiau o driniaeth eraill, a wnewch chi esbonio pam nad yw ar gael i bob defnyddiwr cyffuriau opioid sy'n awyddus i wella o'i gaethiwed i gyffuriau? Rwy'n deall bod cyfyngiadau cost i’r fath yma o driniaeth, ond onid oes yna ddadl i ystyried ehangu ei argaeledd fel triniaeth iechyd ataliol effeithiol, wrth ystyried y costau ychwanegol i’r pwrs cyhoeddus o beidio â sicrhau hynny?

15:00

A gaf i ddiolch i Sioned Williams am y cwestiwn hwnnw? Fel y dywedais, rydym wedi blaenoriaethu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Rydym wedi diogelu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny, a hyd yn oed ar gyfer y flwyddyn nesaf, er bod y gyllideb, fel y gwyddoch, wedi bod yn anodd iawn, rydym yn sicrhau cynnydd o £2 filiwn arall yn ein dyraniad i fyrddau cynllunio ardal, o £39 miliwn i £41 miliwn. Rydym wedi bod yn defnyddio Buvidal yng Nghymru ers y pandemig—cafodd ei gyflwyno yn ystod y pandemig—ac ar hyn o bryd, rydym yn buddsoddi £3 miliwn y flwyddyn yn Buvidal. Mae gennym fwy na 1,600 o bobl ar Buvidal, felly, rydym yn arwain y DU i raddau helaeth mewn perthynas â thriniaeth Buvidal.

Rwy'n rhannu brwdfrydedd yr Aelod ynghylch Buvidal. Rydym wedi comisiynu gwerthusiad llawn ohono, ond y dystiolaeth anecdotaidd a gawsom—a gallwch weld hynny ar lafar, fod pobl yn dweud wrth bobl eraill fod Buvidal yn beth da i'w gymryd—yw bod hon yn driniaeth fuddiol iawn. Fe wyddom ei fod yn galluogi pobl i fwrw ymlaen â'u bywydau; nid oes rhaid iddynt fynd yn ôl ac ymlaen i'r fferyllfa, gallant gadw swyddi ac mae'n ymddangos hefyd ei fod yn cynnig eglurder meddwl sy'n galluogi pobl i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sy'n sail i'w defnydd o heroin.

I ryw raddau, rydym wedi dioddef yn sgil ein llwyddiant ein hunain mewn perthynas â Buvidal, ac ar hyn o bryd, mae'r galw am y driniaeth yn fwy na'r hyn y gallwn ei gynnal yn ariannol. Mewn rhai ardaloedd, ond nid pob un, mae yna restrau aros am Buvidal, ond mae'n bwysig nodi y gall y bobl hynny barhau i gael triniaeth therapi amnewidion opioid safonol. Mae pwysau arnom hefyd mewn perthynas â phobl sy'n cael triniaeth drwy leoliad cyfiawnder troseddol yn y gymuned, ac er nad ydym yn comisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau cyfiawnder troseddol, rydym wedi ariannu Buvidal yn y lleoliadau hyn hefyd. 

Felly, rydym yn arwain y ffordd i raddau helaeth o ran Buvidal. Bydd gennym y gwerthusiad i edrych ar y canlyniadau yn ei sgil. Rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion edrych ar y rhestrau aros mewn gwahanol rannau o Gymru, a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn gyda'r amlen ariannol sydd gennym i sicrhau y bydd cymaint o bobl a allai elwa ohono yn gwneud hynny. 

Hoffwn ddatgan buddiant fel un o noddwyr Brynawel Rehab, ac rwy'n ddiolchgar i Sioned am godi'r mater pwysig hwn. Weinidog, mae adsefydlu preswyl yn parhau i fod yn un o'r triniaethau gorau sydd ar gael i'r rhai sy'n dioddef yn sgil camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Fodd bynnag, ni wneir agos digon o ddefnydd o'r math hwn o driniaeth. Rwy'n dal i bryderu bod cyllid haen 4 o dan y rhaglen camddefnyddio sylweddau yn cael ei danwario'n rheolaidd gan awdurdodau lleol. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda chymheiriaid mewn llywodraeth leol ac ar fyrddau rhaglenni am bwysigrwydd atgyfeirio'r cleifion hyn at adsefydlu preswyl?

Diolch yn fawr iawn, Altaf. Rwy'n gwybod am eich ymrwymiad i Frynawel, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o ymweld â'r lle ar ddau achlysur fy hun. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi buddsoddi ym Mrynawel ein hunain, gan gynnwys buddsoddiad cyfalaf sylweddol iawn i'w galluogi i ddatblygu gwelyau dadwenwyno. O ran adsefydlu, mae'n amlwg fod hwnnw'n faes gwaith pwysig iawn, a dyna pam, yng Nghymru, ein bod wedi sefydlu Rehab Cymru, sef ein fframwaith ar gyfer galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau adsefydlu. Mae hynny wedi'i ategu gan gyllid wedi'i glustnodi y gall byrddau cynllunio ardal gael mynediad ato er mwyn galluogi pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Rydym wedi ymrwymo'n fawr i wneud yr hyn a allwn i adeiladu ar y gwasanaethau adsefydlu hynny, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld Brynawel mewn sefyllfa i agor eu gwelyau dadwenwyno.

15:05
Cenhedlaeth Ddi-fwg

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i greu cenhedlaeth ddi-fwg? OQ60641

Diolch. Rydym yn gweithio gyda gwledydd eraill y DU i gymryd camau ar y cyd ar ysmygu a fepio ymhlith ieuenctid ac rydym yn bwriadu deddfu i greu cenhedlaeth ddi-fwg. Bydd hyn yn ei gwneud yn drosedd i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009, gan ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol drwy hynny.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Croesawais eich datganiad ysgrifenedig ar 29 Ionawr, a oedd yn sôn am y camau gweithredu a gymerir ar fêps tafladwy, ac i ymdrin â rhai o'r agweddau ar fepio sydd, efallai, wedi'u hanelu at ddefnyddwyr dan oed. O drafodaethau gydag ysgolion yn fy etholaeth, gwn fod hyn yn un o'u blaenoriaethau nhw hefyd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer ysgolion uwchradd a lleoliadau eraill, ac mae wrthi'n datblygu deunyddiau i gefnogi eu gweithrediad. Felly, a gaf i ofyn pryd ydych chi'n disgwyl y bydd y rhain ar gael, a hefyd sut y byddant yn sicrhau bod teuluoedd hefyd yn ymwybodol o'r negeseuon hyn ynghylch camddefnyddio fêps gan ddefnyddwyr dan oed?

Diolch yn fawr iawn, Vikki. Rwy'n rhannu eich pryderon yn llwyr am y cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc. Fel y nodwyd gennych, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn y maes hwn. Fe wnaethant sefydlu grŵp ymateb i ddigwyddiadau i edrych ar fepio ymhlith pobl ifanc a'r hyn y gellid ei wneud drwy ysgolion, ac fe fyddwch yn ymwybodol eu bod wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion y llynedd, a gafodd dderbyniad da, ac mae athrawon wedi gallu defnyddio'r wybodaeth honno i lywio sgyrsiau pwysig gyda phobl ifanc am beryglon fepio. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gydag addysgwyr ac ar hyn o bryd, maent wrthi'n datblygu pecyn cymorth gydag amrywiaeth o ddeunyddiau ategol ar gyfer ysgolion. Bydd y deunyddiau cymorth yn cyd-fynd â'r cwricwlwm ac rydym yn disgwyl iddynt fod ar gael i ysgolion yn nhymor y gwanwyn yn 2024—felly, eleni.

Ond hefyd, rydych wedi tynnu sylw at bwynt pwysig iawn ynglŷn â sut y gall teuluoedd fynd i'r afael â phroblem pobl ifanc yn fepio, ac rwy'n falch o roi gwybod i chi fod Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn bwriadu datblygu adnodd gwybodaeth ar y we a fydd yn tynnu sylw at rai o'r pryderon sy'n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc yn defnyddio fêps, a bydd yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â sut y gall rhieni gynorthwyo eu plant. Fel y gwyddoch, mae gennym gynlluniau i reoleiddio fêps a'u hatal rhag bod yn hygyrch neu rhag apelio at blant a phobl ifanc, ac er ein bod yn parhau i ddatblygu'r gwaith deddfwriaethol hwn, rwy'n falch iawn ein bod hefyd yn cymryd y camau hyn i sicrhau bod pobl ifanc a'u teuluoedd yn gallu gwneud penderfyniadau synhwyrol, gwybodus ynglŷn â fepio.

Contractau Meddygon Teulu

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gontractau meddygon teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60661

Mae sicrhau dyfodol cynaliadwy i bractis cyffredinol mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth yma. Rŷn ni wedi cymryd camau i wella mynediad at wasanaethau a helpu i recriwtio meddygon teulu, ac fe fyddwn ni’n dal i weithio gyda’r byrddau iechyd a'r proffesiwn meddygon teulu i wreiddio’r newidiadau hyn.

Diolch, Weinidog. Rŷch chi eisoes wedi clywed gan Jane Dodds, wrth gwrs, fod yna bryder enfawr ar draws y rhanbarth dwi a chi'n ei chynrychioli am ddyfodol ein meddygfeydd, a'r anghydfod ynglŷn â chontractau. Mae adroddiad diweddar y BMA yn nodi bod dros 80 o feddygfeydd wedi cau yng Nghymru rhwng 2013 a 2022. Mae'r problemau hyn yn amlwg iawn yn ein cymunedau gwledig, sydd yn wahanol dros ben i beth rŷn ni wedi'i glywed am ardal Aneurin Bevan yn gynharach. Yng ngeiriau adroddiad pwyllgor meddygol lleol Dyfed Powys, ac fe gwrddais i â nhw yn ddiweddar, fel mae'n digwydd, mae hyn yn cael ei ddweud:

'Mae cynaliadwyedd yn parhau i fod yn bryder ac mae'n symptom o'r anhawster wrth recriwtio partneriaid meddygon teulu mewn rhannau o Ddyfed Powys'.

Nawr, fel ateb i gwestiwn Jane Dodds yn gynharach, fe ddywedoch chi fod yna gynllun ar waith yn targedu ardaloedd arbennig, sydd yn cynnwys rhannau o Bowys, ardaloedd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda. Felly, yn wyneb yr argyfwng dwi wedi ei amlinellu fan hyn, allwch chi roi asesiad i ni o ba mor llwyddiannus mae'r cynllun yna wedi bod, ac os oes angen mwy o waith, sut ŷn ni'n mynd ati i recriwtio mwy o feddygon i ardaloedd gwledig?

15:10

Diolch yn fawr. Y peth cyntaf yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod pobl yn teimlo yn gyfforddus yn eu meddygfeydd nhw, ac mae hwnna'n rhan o'r rheswm pam ŷn ni mor falch ein bod ni wedi dod i gytundeb â'r general medical services. Mae £20 miliwn ar y bwrdd, mae hwnna'n fwy nag erioed o'r blaen, ac rŷn ni yn gobeithio bydd hwnna'n helpu. Ond rŷn ni yn deall bod yna gwestiynau ynglŷn â chynaliadwyedd, a dyna pam—a dwi'n meddwl ei fod e'n werth cofio—ein bod ni'n gweld symudiad o, er enghraifft, single-handed practices. Mae pobl eisiau cydweithio yn well, mae e'n fwy sustainable iddyn nhw. Felly, er efallai eich bod chi'n gweld llai o feddygfeydd, beth ŷch chi'n ei weld yw bod grwpiau o feddygon yn dod at ei gilydd. Felly, maen nhw'n dal i gynnal yr un cymunedau, ond maen nhw'n dod at ei gilydd ac maen nhw'n fwy sustainable. Dwi'n meddwl bod hwnna yn bwysig.

Jest o ran recriwtio a'r trainees, maen nhw wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Mae 175 o trainees newydd wedi cael eu recriwtio yn 2022, ac mae hwnna, wrth gwrs, yn wahanol i'r 'Train. Work. Live' campaign ŷn ni'n ei rhedeg hefyd. Felly, mae hi wedi bod yn hynod o lwyddiannus, a dwi'n gwybod eich bod chi wedi bod yn ymwneud â'r GP practice yn Laugharne, ac mae yna ofidion fanna. Dwi'n gwybod bod y meddyg yn fanna wedi gwthio i Gaerfyrddin fod yn rhan o'r cynllun yma i ddenu pobl, achos doedd Caerfyrddin ddim yn rhan o'r project yna, ond mae hi nawr, o ganlyniad i'r lobïo a ddaeth o fanna.

Cefnogaeth ar gyfer Gofal Sylfaenol

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol? OQ60636

Y pedwar gwasanaeth gofal sylfaenol, sef gwasanaethau meddygol cyffredinol, fferylliaeth gymunedol, deintyddiaeth ac optometreg, yw'r gwasanaethau iechyd mwyaf cyfarwydd a'r rhai a ddefnyddir amlaf. Rydym yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd a chyrff proffesiynol ar ddiwygio'r contractau cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau pwysig hyn er mwyn gwella mynediad.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy'n awyddus iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd gofal sylfaenol. Lle mae'n gweithio'n dda, mae'n darparu gwasanaeth gwych. A gaf i ofyn i'r Llywodraeth ddiogelu'r ganran o'r gyllideb iechyd a ddarperir ar gyfer gofal sylfaenol yn yr un modd ag y mae iechyd meddwl yn cael ei ddiogelu? A pha bwerau pellach y gellir eu rhoi i fyrddau iechyd dros bractisau gofal sylfaenol a ariennir gan y byrddau iechyd? Rwyf wedi cael llond bol ar bractis meddyg teulu yn fy etholaeth sy'n perfformio'n wael iawn ac sy'n cynhyrchu dros 25 o gwynion y flwyddyn.

Diolch yn fawr iawn, Mike. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gyrraedd lle mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd lle rydym yn rhoi'r gorau i siarad am arian yn mynd i mewn. Yr hyn y mae gennyf ddiddordeb ynddo yw beth a gynhyrchwn o ganlyniad i'r arian sy'n mynd i mewn; mae'n rhaid iddo ymwneud â beth yw'r canlyniadau o ganlyniad i'r arian hwnnw. Dyna pam mae'r cyllid cyfredol yn gysylltiedig â gwerthoedd contract, ac os bydd hynny'n digwydd, fe fydd yn arian wedi'i glustnodi, i bob pwrpas.

Rwy'n awyddus iawn i weld, fel yn ein dogfen strategol, sef 'Cymru Iachach'—. Rydym am weld newid o ofal eilaidd i'r gymuned, onid ydym? Felly, dyna yw'r cynllun strategol. A dweud y gwir, mae wedi cael ei esgeuluso braidd, nid oherwydd nad ydym yn ei wneud, ond oherwydd ein bod wedi pentyrru llawer o arian i geisio clirio'r ôl-groniad. Felly, oherwydd ein bod wedi gwario neu ein bod yn bwriadu gwario £1 biliwn yn ystod tymor y Senedd hon ar glirio'r ôl-groniad, yn amlwg, mae'n edrych yn anghymesur o ran y gwahaniaethau canrannol. Ond nid yw'n golygu bod llai'n mynd tuag at ofal sylfaenol, dim ond y gallai'r ganran edrych yn llai oherwydd yr angen i glirio'r ôl-groniad.

Ond rwy'n cytuno'n llwyr, Mike, ynghylch yr angen i fynd i'r gofod ataliol hwnnw, i'r gofod cymunedol hwnnw. Mae'n rhywbeth yr wyf yn ei ofyn yn rheolaidd i fyrddau iechyd: 'Dangoswch i mi eich bod ar y daith honno, dangoswch i mi beth rydych chi'n ei wneud.' Ond nid yr arian sy'n bwysig i mi, ond y canlyniadau, ac mae'n rhaid inni ddychwelyd i'r lle hwnnw.

15:15
Gwasanaethau IVF

8. Pa ystyriaeth mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyflwyno gwasanaethau IVF am ddim ar y GIG ledled Cymru? OQ60654

Mae gwasanaethau IVF yr NHS ar gael am ddim yn barod ar draws Cymru. Maen nhw’n cael eu comisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar ran pob un o’r byrddau iechyd. Mae gan gleifion ledled Cymru sy'n bodloni'r meini prawf mynediad hawl i ddau gylch o driniaeth IVF ar yr NHS, ac mae’r gwasanaethau ar gael hyd at ben-blwydd menyw yn 43 oed.

Diolch ichi am eich ateb, Gweinidog, ac am y nifer o lythyron dwi wedi eu derbyn gennych chi ar y pwnc yma. Dwi'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno mai triniaeth IVF a ffrwythlondeb yw un o wyrthiau meddygaeth ein cyfnod ni. Mae'n llenwi gwacter o fewn teuluoedd. A dylwn i ddatgan budd, oherwydd rwyf wedi profi'r llawenydd hwnnw ac yn hynod o ddiolchgar i'r gwasanaeth iechyd am yr hyn maen nhw wedi ei wneud. Ond mae rhai darpar rieni yn talu hyd at £1,600 am y driniaeth. Mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar gyplau lesbiaidd, sydd yn rhy aml yn gorfod talu o'u pocedi eu hunain yn hytrach na derbyn y driniaeth ar y gwasanaeth iechyd. Yn ôl dashboard yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol, dim ond 33 y cant o donor insemination neu driniaethau IVF yng Nghymru a gafodd eu hariannu gan y gwasanaeth iechyd rhwng 2019 a 2021. Derbyniodd 37 y cant o fenywod gyda phartneriaid gwrywaidd eu triniaeth ar y gwasanaeth iechyd, ond mae'n syrthio i 11 y cant i gyplau lesbiadd. A wnaiff y Gweinidog gymryd camau i sicrhau bod triniaethau ffrwythlondeb yn decach i gyplau lesbiaiadd? Diolch yn fawr.

Diolch yn fawr. Dwi eisiau ei gwneud hi'n glir ein bod ni'n blaid sy'n credu'n gryf mewn ecwiti, ac yn arbennig pan fo'n dod i lesbiaid a'r posibilrwydd iddyn nhw gael plant hefyd. Mae yna access criteria ar gyfer y nifer o cycles IVF NHS y mae pobl yn gallu eu cael, ac mae yna eglurder ynglŷn â phwy sy'n gallu cael y rheini. Dwi'n gwybod ein bod ni wedi bod yn ysgrifennu llythyrau at ein gilydd i sicrhau ein bod ni'n deall y sefyllfa. Dwi'n gwybod bod NICE ar hyn o bryd yn edrych unwaith eto ar fertility assessment and treatment. Maen nhw'n disgwyl gweld hynny'n digwydd yn yr hydref, ac mi edrychwn ni eto ar y sefyllfa. Ond mae'r sefyllfa o ran ecwiti yn hollbwysig i ni fel Llywodraeth.

Pwynt o Drefn

Pwynt o drefn nawr yn codi o'r cwestiynau gan un o Gyd-gadeiryddion y pwyllgor COVID, Tom Giffard.

Diolch yn fawr, Lywydd. Roeddwn am wneud pwynt o drefn yn seiliedig ar y sylwadau a wnaed gan Mabon ap Gwynfor yn ei gwestiynau fel llefarydd, lle cyfeiriodd at y pwyllgor, gan ddweud ei fod wedi cyfarfod bedair gwaith, bob amser y tu ôl i ddrysau caeedig. Rwyf wedi edrych ar wefan y Senedd, ac mae'r pwyllgor wedi cyfarfod saith gwaith, ac mae'r tri diwethaf wedi bod yn gyhoeddus, gan gynnwys un fore ddoe. 

Diolch am yr eglurhad hwnnw. Rwy'n siŵr ei fod wedi ei dderbyn gan Mabon ap Gwynfor. 

3. Cwestiynau Amserol

Cwestiynau amserol nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Heledd Fychan i ofyn y cwestiwn.

Myfyrwyr yng Nghymru

1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cynyddu'r cap ffioedd dysgu a thorri grantiau cymorth ôl-raddedig ar y nifer tebygol o fyfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio ym Mhrifysgolion Cymru? TQ981

Mae hwnnw'n fater o bwys i ni. Mae tystiolaeth yn dangos mai costau byw yn hytrach na ffioedd yw'r rhwystredigaeth fwyaf i fynediad at addysg uwch. Dyna pam rydyn ni wedi ffocysu ein hadnoddau ar gynnal costau byw i israddedigion ac ôl-raddedigion sydd gyda'r uchaf ym Mhrydain. 

Diolch, Weinidog. Heb os, mae ein prifysgolion ni mewn sefyllfa argyfyngus. Dro ar ôl tro, rhybuddiodd cyn is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Colin Riordan, bod eu sefyllfa gyllidol yn anghynaliadwy. Mewn erthygl ym Mehefin 2023, roedd yn gyfan gwbl onest eu bod nhw’n gorfod bod yn orddibynnol ar ffioedd myfyrwyr rhyngwladol gan olgyu bod myfyrwyr o Gymru yn colli allan ar lefydd. Dywedodd bod hyn yn 

'strategaeth beryglus, a gellir dadlau ei bod yn anodd ei hamddiffyn mewn termau moesol.'

Mae myfyrwyr dan straen cynyddol hefyd, wedi eu heffeithio, fel y dywedoch chi, gan yr argyfwng costau byw, gyda 35 y cant o fyfyrwyr yn dweud wrth NUS Cymru ym Mehefin 2023 eu bod wedi ystyried gadael eu cyrsiau o’r herwydd. Wrth gwrs, ein cred ni, ym Mhlaid Cymru, yw y dylai addysg fod am ddim, a bod buddsoddi mewn pobl ifanc yn fuddsoddiad nid yn unig yn eu dyfodol nhw, ond hefyd dyfodol ein cenedl.

Ond o dderbyn nad yw hynny'n rhywbeth sy'n bosib yn y sefyllfa gyllidol eleni, gaf i ofyn pam bod hyn yn digwydd mor hwyr yn y dydd pan fo llythyrau gyda chynigion eisoes wedi eu gyrru i fyfyrwyr, ac yng nghanol cylch ffioedd a chynllun mynediad? Pan godwyd y ffioedd yn Lloegr, dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth brifysgolion flwyddyn yn flaenorol, felly roedd gan fyfyrwyr a phrifysgolion ddealltwriaeth glir o'r sefyllfa.

Beth yw eich cyfiawnhad dros gyflwyno hyn mor ddisymwth? Pa sicrwydd allwch chi ei roi fod yr hyn sydd wedi ei gyhoeddi yn gyson gyda chynlluniau ffioedd a mynediad y prifysgolion unigol ac yn ymarferol bosib ei weithredu yn gyfreithlon ym mhob prifysgol yr un pryd? Byddai'n sefyllfa annheg pe bai prifysgolion unigol yng Nghymru yn codi ffioedd gwahanol—annheg i fyfyrwyr ac yn beryglus o ran eu hyfywedd cyllidol. Yn bellach, pan gyhoeddwyd y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, nodwyd ym mharagraff 58 o ran ffioedd dysgu, a dwi'n dyfynnu:

'Os penderfynwn gynyddu costau, caiff cynigion eu cyflwyno at ddibenion ymgynghori.'

Pryd bu'r ymgynghoriad, ac efo pwy? Ac os na fu ymgynghoriad, ai dyma'r ffordd o lywodraethu—dweud un peth a gwneud fel arall?

15:20

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau. I fod yn glir, bydd y cymorth cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig cymwys yn cynyddu 3.7 y cant a bydd y cap ar ffioedd dysgu, sydd wedi'i gyhoeddi, yn cael ei gynyddu i'r un lefel a godir eisoes gan ddarparwyr addysg uwch yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Rydym wedi diogelu ein polisi o ddileu dyled o hyd at £1,500 yn rhannol pan fydd myfyriwr yn dechrau ad-dalu ei fenthyciadau—ac mae hyn yn unigryw i fyfyrwyr Cymru waeth ble maent yn astudio. Ni fydd y newidiadau i'r terfyn ffioedd yn arwain at gynnydd i'r ad-daliad misol y bydd myfyrwyr yn ei wneud. Bydd ad-daliadau'n dal i fod yn ddarostyngedig i'r trothwy enillion.

Mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau pwysig ynglŷn â'r pwysau sydd ar brifysgolion o ran adnoddau—dyna pam mae'r newid hwn wedi cael ei gyflwyno. Mae'r newid yn cael ei gyflwyno o fewn y flwyddyn hon oherwydd y pwysau arbennig sydd ar y gyllideb eleni a'r angen i allu sicrhau cefnogaeth i brifysgolion yn y cyd-destun hwnnw, fel y nodwyd yn y dyfyniad oddi wrth Is-Ganghellor Riordan cyn iddo adael Prifysgol Caerdydd. Rŷn ni wedi bod mewn trafodaethau gyda'r is-gangellorion a rŷn ni wedi trafod hefyd gydag NUS Cymru ynglŷn â'r newidiadau sydd ar y gweill.

A gaf i ddiolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Mae'n bwysig iawn. Rwy'n cydymdeimlo ag iechyd cyffredinol y sector prifysgolion yng Nghymru. Dywedodd Paul Boyle, is-ganghellor Prifysgol Abertawe a chadeirydd Prifysgolion Cymru yn ddiweddar:

'Ar hyn o bryd, nid yw'r incwm ar gyfer cyrsiau ymchwil na chyrsiau addysgu israddedig domestig yn talu am y gost o'u cyflwyno.'

Rhybuddiodd fod yr amgylchedd ariannol i brifysgolion

'yn un o'r rhai mwyaf heriol o fewn cof'.

Yng ngoleuni'r penderfyniad a wnaed, a allech siarad am eich barn chi am iechyd ehangach, os mynnwch, y prifysgolion hynny yng Nghymru, ac a ydynt yn gallu cystadlu ar y llwyfan byd-eang hwnnw, lle gwyddom fod hynny'n bwysig iawn i'n prifysgolion.

Ond yn ail, y penderfyniad hwn, yn amlwg—. Nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu ffioedd cyrsiau ei hun; mae'n bwysig dweud hynny. Mae'r Gweinidog yn amlwg wedi codi uchafswm ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru. Tybed pa waith y mae Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog wedi'i wneud i ddeall pa gyfran o gyrsiau a fydd yn codi'r ffi uchaf newydd hon nawr. 

Mae'r Aelod yn iawn i ddweud mai mater i brifysgolion yw hynny ac mae'n fater iddynt hwy a ydynt yn dewis cynyddu'r terfyn ffioedd o fewn y cap. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, bydd y cap ffioedd dysgu, o'i gynyddu, yr un fath â'r hyn a godir eisoes gan ddarparwyr addysg uwch yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, a bydd myfyrwyr o Gymru sy'n astudio y tu allan i Gymru eisoes yn talu ffioedd ar y cap sydd wedi'i gynyddu.

Mater i brifysgolion yw sut yr ânt ati i godi tâl am eu cyrsiau; nid mater i mi fel y Gweinidog yw hynny. Ac i ateb y pwynt y methais ei ateb i Heledd Fychan, mae amseriad unrhyw newidiadau y mae prifysgolion am eu gwneud yn fater iddynt hwy a bydd gan bob un ohonynt eu trefniadau eu hunain mewn perthynas â hynny. Rydym wedi bod yn agored gyda nhw am amseriad y newid hwn.

Mewn perthynas â'r darlun ehangach, y mae Tom Giffard yn fy ngwahodd i wneud sylwadau arno, mae prifysgolion dan bwysau ariannol; maent dan bwysau ariannol ledled y DU. Rydym mewn trafodaethau parhaus gyda'n holl is-gangellorion yng Nghymru, a chyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru hefyd, i sicrhau ein bod yn ymwybodol o heriau wrth iddynt ddod i'r amlwg. Yn fy nhrafodaethau gydag is-gangellorion prifysgolion, maent wedi croesawu'r newid a gyhoeddais. Nid yw'n newid yr oeddwn yn awyddus i'w wneud, ond mae'n un a fydd yn galluogi mwy o gyllid i fynd i brifysgolion heb newid ad-daliadau misol y myfyrwyr hynny. Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gweld eu benthyciadau ffioedd dysgu yn cael eu dileu cyn iddynt gyrraedd y pwynt lle byddai'r tâl ychwanegol hwn yn cael ei dalu. Felly, mae'n gweithredu i bob pwrpas fel ffordd o ddarparu mwy o incwm i brifysgolion heb effeithio, a siarad yn gyffredinol, ar bocedi'r myfyrwyr eu hunain yn fwy hirdymor.

15:25

Wrth gwrs, rwy'n rhannu llawer o'r pryderon y mae Heledd Fychan wedi eu codi. Rwy'n derbyn y pwynt ynghylch y ffocws ar gostau byw, ond wrth gwrs, roedd llawer o'r grantiau cymorth ôl-raddedig yn ymwneud â'i gwneud yn fwy fforddiadwy i bobl barhau i wneud graddau ôl-raddedig. Wrth gwrs, mae yna effaith seicolegol hefyd o ran ffioedd dysgu. Rwy'n meddwl amdanaf fy hun nawr, wrth edrych ar fy nghyfrif cyllid myfyrwyr a gweld swm o £33,000 sy'n ddyledus gennyf mewn taliadau. Mae hyn, o bosibl, yn mynd i gael effaith hirdymor, onid yw, ar y sylfaen sgiliau sydd gennym yma yng Nghymru. Gwyddom fod bylchau sylweddol mewn sgiliau mewn nifer o sectorau. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod o bersbectif y Llywodraeth a ydynt wedi gwneud asesiad o'r effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar y sylfaen sgiliau honno, a hefyd sut y gallai hyn gyd-fynd, felly, â'r blaenoriaethau economaidd a nodwyd gan y Llywodraeth y llynedd.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn glir ynghylch yr hyn sy'n cael ei newid a'r hyn nad yw'n cael ei newid. Mae'r holl dystiolaeth sydd gennym yn dynodi bod myfyrwyr yn fwy tebygol o wneud y penderfyniad yn seiliedig ar gostau byw a'r goblygiadau o ran costau cynhaliaeth yn hytrach nag ar yr elfen ffioedd dysgu ei hun. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod, yn y trafodaethau a gawn yn y Siambr, yn parhau i annog pobl i addysg uwch ac astudiaethau ôl-raddedig. Cymru yw'r unig wlad yn y DU sy'n cynnig dileu £1,500 i'n myfyrwyr, lle bynnag y buont yn astudio, wrth iddynt ddechrau ad-dalu eu benthyciadau, swm sy'n ddwywaith y swm y caiff y cap ei gynyddu ar gyfer gradd dair blynedd arferol. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n gyd-destun pwysig oherwydd, fel y mae'n dweud, bydd pobl sy'n ystyried mynd ar drywydd addysg uwch am wybod beth yw realiti'r cymorth sydd ar gael. Mae disgwyl i'r cymorth cynhaliaeth yng Nghymru adlewyrchu'r cyflog byw cenedlaethol a bydd yn cynyddu 3.7 y cant, gan ein bod yn cydnabod yn llwyr fod hynny'n fwy tebygol o fod yn rhwystr y mae myfyrwyr yn ei wynebu i addysg uwch.

Mewn perthynas â chymorth ôl-raddedig yn benodol, fel y bydd yn gwybod o drafodaethau blaenorol yn y Siambr—ac rydym wedi cael cyfle i drafod hyn yn y pwyllgor hefyd—mae'r rhain yn ddewisiadau annymunol ynghylch dyraniad adnoddau. Y dewis a wneuthum fel Gweinidog yw blaenoriaethu'r adnoddau sydd gennym ar gael ar y pwynt cynharaf ar y daith addysg, ac mae'r holl dystiolaeth yn dweud wrthym mai dyna'r ffordd fwyaf blaengar o wneud y newid mwyaf yn y mwyaf o fywydau am y cyfnod hiraf. Mae hynny'n golygu, yn anffodus, y bydd myfyrwyr sy'n astudio graddau ôl-raddedig bellach yn cael eu cefnogi gan fenthyciadau yn hytrach na grantiau. Daw'r cynllun bwrsariaeth sydd gennym, ac sydd hefyd wedi'i ailddyrannu, ar ben cymorth ôl-raddedig sydd eisoes ar lefel uwch nag y gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn y DU ei gael. Nid yw'r rhain yn ddewisiadau y mae rhywun am eu gwneud fel Gweinidog, ond rwy'n hollol hyderus mai'r dewisiadau a wnaethom yn y gyllideb hon yw'r dewisiadau mwyaf blaengar sydd ar gael inni yn y cyd-destun hwnnw.

Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog llywodraeth leol, ac i'w ofyn gan Peredur Owen Griffiths.

Cyllid Canlyniadol ar gyfer Awdurdodau Lleol

2. Pa ymgynghoriad y mae'r Gweinidog wedi'i gynnal gydag awdurdodau lleol ledled Cymru cyn i Lywodraeth Cymru ddyrannu cyllid canlyniadol i awdurdodau lleol yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Ionawr 2024? TQ987

Rwyf wedi ymgynghori'n ffurfiol ag awdurdodau lleol ar y setliad dros dro. Ymhlith yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw yr oedd ceisiadau am adfer grant y gweithlu gofal cymdeithasol i £45 miliwn. Roedd ymatebion hefyd yn myfyrio ar bwysau amrywiol a deimlir gan bob awdurdod lleol, gan gynnwys ym maes gofal cymdeithasol ac addysg.

Diolch yn fawr am yr ateb yna.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i gefnogi awdurdodau lleol ymhellach yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol eithafol—rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr. Rwyf hefyd yn croesawu sicrwydd y Gweinidog yn ei datganiad y bydd cyllid ychwanegol ar gael i gynghorau, er mwyn caniatáu iddynt wneud eu penderfyniadau terfynol ar gyfraddau'r dreth gyngor a chyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae angen inni hefyd gadw golwg ar y darlun ehangach: mai prin y bydd yr arian hwn yn crafu'r wyneb o ran dadwneud effaith ddinistriol 14 mlynedd o gyni wedi'i yrru gan y Torïaid, ac y bydd angen i awdurdodau lleol ledled Cymru ddal i wneud penderfyniadau poenus iawn dros yr wythnosau nesaf ynghylch toriadau i wasanaethau cyhoeddus, newidiadau sylweddol i drethi cyngor neu'r ddau beth, mewn sawl achos. 

Rwy'n nodi eich bod wedi codi'r cyllid gwaelodol i 2.3 y cant. Pa mor uchel oeddech chi'n ystyried ei gynyddu cyn penderfynu ar 2.3 y cant? Neu ai dyma'r cynnydd naturiol pan fo'r £14.4 miliwn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio drwy'r grant cynnal refeniw i'r cyllid gwaelodol gwreiddiol o 2 y cant?

Fe wnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad hefyd y bydd codi'r grant cynnal refeniw yn helpu i gefnogi awdurdodau lleol i dalu cost ariannu'r codiad cyflog o 5 y cant i athrawon y cytunwyd arno ym mis Hydref. Ond mae awdurdodau lleol wedi bod yn dadlau'r achos ers peth amser nad yw eu setliad cyllid craidd ar gyfer 2024-25 yn ddigon i dalu am y gost hon. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod Heledd Fychan yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft ddoe, rydym yn annog y Llywodraeth i adfer y model ariannu rheolaidd y cytunwyd arno ar gyfer y dyfarniad cyflog blaenorol i leddfu'r pwysau eithafol sy'n wynebu llywodraeth leol. A wnewch chi ystyried ariannu'r dyfarniad cyflog i athrawon felly, yn rhannol fan lleiaf? Diolch yn fawr.

15:30

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn ac yn arbennig am y croeso y gwn fod Plaid Cymru wedi'i roi i'r cyllid ychwanegol sy'n mynd tuag at wasanaethau cymdeithasol. Wrth wrando ar ymatebion Plaid Cymru mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft, gwn fod gwasanaethau cymdeithasol, a llywodraeth leol yn benodol, yn faes blaenoriaeth a rennir. Ac i gadarnhau hefyd fy mod wedi cael rhai trafodaethau gyda'r Aelod dynodedig ar gyfer y cytundeb cydweithio ar y mater penodol hwn, gan adlewyrchu eto y flaenoriaeth a rannwn i wasanaethau cymdeithasol yn arbennig, ond i lywodraeth leol yn ehangach.

Dylwn gydnabod y pwynt y bydd llywodraeth leol yn gwneud dewisiadau anodd iawn er hynny yn y cyfnod i ddod. Rydym wedi darparu'r setliad gorau posibl o ran cadw ein haddewid am y 3.1 y cant ar gyfer y flwyddyn nesaf a darparu'r £25 miliwn ychwanegol, a ddaeth o ganlyniad i'r cyllid canlyniadol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'n rhaid inni ystyried hefyd fod ychydig o risg ynghlwm wrtho i Lywodraeth Cymru, yn yr ystyr na fydd y ffigur yn cael ei gadarnhau tan ddatganiad y gwanwyn Llywodraeth y DU ar 6 Mawrth. Felly, gallai gael ei wrthbwyso gan doriadau mewn mannau eraill. Gall llywodraeth leol fod yn sicr o'i gael. Roeddem yn awyddus i wneud y cyhoeddiad yn gynnar fel y gallent gynllunio ar ei gyfer yn eu cyllidebau yn y dyfodol ac fel y gallent ymgynghori ar sail yr wybodaeth newydd hon. Felly, roeddem yn teimlo ei bod yn werth inni gymryd y risg y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud hynny.

Ac i gadarnhau'r cwestiwn penodol hwnnw, y cyllid gwaelodol yr oeddem wedi'i osod yn wreiddiol oedd 2 y cant, ac roedd hynny'n golygu darparu—wel, mwy na £1 filiwn ychwanegol i'r grant cynnal refeniw. Ond mae'r effaith nawr o'r £14.4 miliwn ychwanegol i'r grant cynnal refeniw yn golygu na fydd yr un awdurdod yn cael cynnydd o lai na 2.3 y cant. Felly, mae'n gynnydd naturiol—credaf ichi ei ddisgrifio fel y 'cynnydd naturiol' o ganlyniad i'r cyllid ychwanegol hwnnw i'r grant cynnal refeniw.

Rydym yn ymwybodol o'r pwysau allweddol y mae awdurdodau yn ei wynebu. Felly, wrth ysgrifennu at arweinwyr awdurdodau lleol heddiw i'w hysbysu'n ffurfiol ynghylch y cyllid ychwanegol, rwyf wedi nodi bod y cyllid ychwanegol ar gyfer cynnal y pwysau y maent wedi'u nodi ym maes gofal cymdeithasol ac addysg, gan gynnwys tâl athrawon, fel y mae angen lleol yn ei bennu. Ac wrth gwrs, mae hynny'n cefnogi un o'n blaenoriaethau allweddol wrth ddatblygu'r gyllideb i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen craidd cyn belled ag y bo modd.

Felly, rydym yn deall na fydd yn lleddfu'r holl bwysau. Mae'n wir y dylai cyflogau athrawon ddod o'r cyllid gyda'r grant cynnal refeniw. Dywedais ddoe yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft ein bod, mewn blynyddoedd blaenorol, wedi gallu darparu rhywfaint o ddyraniad yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i danwariant a ddaeth i'r amlwg ar draws y Llywodraeth. Nid ydym wedi gallu gwneud hynny y tro hwn, ond rydym yn gobeithio y bydd y cyllid ychwanegol, a gyhoeddwyd yn ffurfiol heddiw, o leiaf yn helpu gyda pheth o'r pwysau hwnnw. 

Yn y ddadl ddoe, cododd Heledd Fychan fater pensiynau a'r cyfraniadau pensiwn wedi'u haddasu ar gyfer profiad blaenorol, ac ni atebais hynny mewn ymateb i'r ddadl bryd hynny, felly fe wnaf ei ateb nawr, a dweud ein bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ariannu hynny'n llawn. Rydym wedi dweud y byddwn yn darparu'r cyllid hwnnw ymlaen i wasanaethau cyhoeddus pan ddaw gan Lywodraeth y DU, ond mae gennym gyfran fwy o weithwyr yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru, felly fe fydd yn costio mwy i ni. Felly, rydym angen i Lywodraeth y DU ariannu hynny'n llawn ac rydym yn parhau i bwyso arnynt i wneud hynny.

15:35

Weinidog, rwy'n sicr yn croesawu eich cyhoeddiad am y £25 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol nesaf. Ac fel y clywsom eisoes, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd i'r setliad llywodraeth leol yn Lloegr, am y £600 miliwn, mae wedi rhyddhau £25 miliwn mewn cyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs mae'n swm sylweddol o arian, ond fel y dywedwch chi ac eraill, nid yw'n swm llawn i ymdrin â llawer o'r pwysau y mae cynghorau'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Galwodd fy nghyd-Aelodau a minnau am basbortio'r arian i gynghorau lleol o'r eiliad y cafodd ei gyhoeddi, ac rwy'n falch o weld bod hyn yn mynd i ddigwydd.

Mae cynghorau Cymru yn wynebu heriau enfawr, fel y mae pawb ohonom wedi cydnabod yma heddiw. Credwn yn gryf na chaiff hyn ei helpu gan yr hyn a welwn fel fformiwla ariannu annheg o Fae Caerdydd yma, gan effeithio'n arbennig ar gynghorau yng ngogledd Cymru ac ardaloedd gwledig, sy'n teimlo brath y gwahaniaethau ariannol hyn. Felly, Weinidog, gyda'r cyllid hwn yn nodi pwysau penodol mewn meysydd penodol mewn awdurdodau lleol, tybed a yw hynny wedi cymell unrhyw feddyliau yn eich meddwl ynghylch y fformiwla ariannu ar hyn o bryd a'i ansawdd, o ran yr hyn y mae'n nodi fel angen mewn cynghorau ledled Cymru.

Diolch am y cwestiwn, ac unwaith eto diolch am y croeso i'r ffaith bod yr arian ychwanegol hwn yn mynd i lywodraeth leol. Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw awdurdod, neu grŵp o awdurdodau, mewn unrhyw ardal ddaearyddol benodol yng Nghymru, nac unrhyw ardal ag iddi nodweddion gwleidyddol neu gymdeithasol, dan anfantais yn sgil y fformiwla ariannu llywodraeth leol fel y mae. Rydym yn diweddaru'r mwyafrif helaeth o ddata o fewn y fformiwla ariannu bob blwyddyn. Rwy'n credu mai'r hyn a welwn eleni yw effaith newid poblogaeth mewn ardaloedd penodol, a daw hynny drwodd yn y fformiwla, ac mae'n effeithio ar y setliadau a ddarparwyd.

A dyna un o'r ystyriaethau, mewn gwirionedd, o ran y ffordd orau i ni fynd ati i ddefnyddio'r cyllid ychwanegol hwn. Mae'r £14.4 miliwn yn mynd drwy'r grant cynnal refeniw yn hytrach na chodi'r cyllid gwaelodol, fel y gwn fod rhai cyd-Aelodau wedi galw amdano. A hynny oherwydd bod y pwysau ym maes gofal cymdeithasol, mewn addysg ac mewn mannau eraill yn bodoli ym mhob awdurdod, ac rwy'n credu bod angen inni gydnabod hynny. Ac wrth gwrs, trwy godi'r cyllid gwaelodol, yn y bôn, rydych chi'n gwneud y bwlch posibl yn fwy yn y blynyddoedd i ddod i'r awdurdodau hynny. Mae'n rhoi peth amser iddynt gynllunio ar gyfer hynny, ond yn y bôn, efallai eich bod yn creu problemau yn y dyfodol i awdurdodau, ac yn cwestiynu holl sail y fformiwla hefyd. Felly, fel y gwyddom i gyd, mae cyllid gwaelodol yno fel arfer i ddiogelu awdurdodau sy'n cael gostyngiad yn eu cyllid, er mwyn sicrhau nad ydynt yn mynd yn is na'r gostyngiad hwnnw. Ond ar yr achlysur hwn, rydym wedi ei ddefnyddio o leiaf i ddiogelu cynnydd i awdurdodau, gan en bod yn credu mai dyma oedd y peth pragmataidd i'w wneud yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, i gydnabod effaith chwyddiant yn y cyfnod diweddar.

Ddoe, gofynnais am basbortio £25 miliwn o arian canlyniadol i gynghorau drwy'r cyllid gwaelodol. Rwy'n gwybod bod yna gynnydd—2.1 y cant, neu gyllid gwaelodol o 2 y cant—ond gyda phwysau chwyddiant mae hwnnw'n dal i fod yn gynnydd negyddol, wel, nid yw'n gynnydd mewn gwirionedd, pan ystyriwch yr holl bwysau hynny, a dyna yw fy mhryder i. Ac yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, fe wnaeth y Cynghorydd Lis Burnett argymell defnyddio'r cyllid gwaelodol, oherwydd mae hi'n credu bod adegau pan fo awdurdodau lleol yn sefyll ar wahân i bawb arall, ac o ran cyllid, mae angen iddynt sicrhau nad ydynt ar lefel islaw'r hyn y gallant ddarparu gwasanaethau yn gynaliadwy arni, a dyna pam y gofynnais hynny. Felly, hoffwn wybod pa broses sydd ar waith i wneud yn siŵr nad ydynt islaw'r lefel y gallant gynnal gwasanaethau arni, oherwydd rwy'n credu bod rhai ar y lefel honno nawr—rwy'n poeni'n fawr am rai yng ngogledd Cymru. Ac ar y cysyniad o gyllideb ddiffyg, rydym yn gwybod y gall byrddau iechyd, ac y gall ysgolion osod cyllideb ddiffyg y mae'n rhaid iddynt ei chario ymlaen o fewn cyllideb yr awdurdod lleol. Felly, pa broses sydd ar waith yno? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i Carolyn Thomas am godi'r materion hyn heddiw. Gwn eu bod yn faterion a godwyd yn y ddadl ddoe, ac yna cawsom sgwrs bellach y tu allan i'r Siambr hefyd, i glywed y pryderon penodol y mae Carolyn yn eu cyflwyno, yn enwedig o ogledd Cymru. Cefais gyfle i siarad â rhai o arweinwyr gogledd Cymru mewn amryw o fforymau yn ddiweddar hefyd, i glywed eu pryderon penodol. Unwaith eto, mae'n ymwneud ag a ddylem fod wedi codi'r cyllid gwaelodol ymhellach ai peidio. Ac rwy'n deall y dadleuon sy'n awgrymu y gallem fod wedi gwneud hynny, ond yn y pen draw, mae awdurdodau ledled Cymru yn gweld y mathau hyn o bwysau, ac mewn gwirionedd, mae'r bwlch, o ran cynnydd rhwng yr isaf a'r uchaf, yn fach iawn beth bynnag; mae'n llai na 3 y cant. Felly, nid ydym yn gweld unrhyw awdurdodau eleni sy'n gweld codiadau sylweddol sy'n amlwg wahanol, os mynnwch, i awdurdodau eraill.

Felly, fel y dywedaf, rydym yn parhau, serch hynny, i ddarparu cymaint o gymorth ag y gallwn i awdurdodau lleol, ac yn sicr, mae wedi dod drwodd yn gryf iawn yn y broses graffu ar y gyllideb a'r ddadl a gawsom ddoe, ac adroddiadau'r pwyllgor ac ati, fod hwn yn faes yr hoffai pobl inni barhau i edrych arno, os oes cyllid ychwanegol yn natganiad y gwanwyn, sydd, wrth gwrs, y diwrnod ar ôl i ni bleidleisio ar ein cyllideb derfynol. Felly, fel y dywedaf, efallai y bydd pethau'n newid eto y flwyddyn nesaf. 

15:40

Mae'r rhan fwyaf o fy nghwestiynau wedi cael eu hateb—[Torri ar draws.] Diolch yn fawr, Lee. Ond rwy'n dal i fod eisiau ailadrodd fy nghroeso i'r arian ychwanegol sy'n mynd i lywodraeth leol. Ni fydd yn crafu wyneb y toriad enfawr mewn termau real yr ydych chi wedi'u trosglwyddo iddynt, nac yn mynd i'r afael â'r diffyg o £260 miliwn sydd ganddynt, na'r broblem sydd ganddynt mewn gofal cymdeithasol.

Rwy'n meddwl y gallaf gymryd bod yr arian i gyd yn mynd i gynghorau. Nid ydych chi'n mynd i gadw peth o'r £25 miliwn hwnnw'n lleol, oherwydd gwyddom nad oes hanes da o drosglwyddo symiau canlyniadol, pan edrychwn ar gymorth ardrethi busnes neu arian gofal plant. Felly, rwy'n credu bod cynghorau'n mynd i gael trafferth go iawn—rydym yn gwybod hynny—a byddant angen yr holl help y gallant ei gael. Felly, rwy'n dawel fy meddwl fod yr arian hwnnw'n mynd iddynt hwy'n uniongyrchol. 

I gadarnhau, bydd ychydig dros £10 miliwn o'r £25 miliwn yn mynd i adfer yn llawn y toriadau a wnaed yn wreiddiol i grant y gweithlu gofal cymdeithasol i helpu i reoli'r sefyllfa gyffredinol ac i ddarparu cyllid ychwanegol i'r GIG, a hefyd i gynnal y 3.1 y cant ar gyfer llywodraeth leol. Ac yna bydd y gweddill yn cael ei ddosbarthu trwy'r grant cynnal refeniw hefyd. 

Wrth gwrs, mae fy marn i'n wahanol ar rai o'r symiau canlyniadol hynny. Yn aml mae'n costio mwy i ni gyflawni'r un pethau yma yng Nghymru. Felly, fe fyddwch chi'n gyfarwydd â'r pecynnau cymorth mawr a ddarparwyd gennym i fusnesau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi costio mwy i ni eu darparu na'r symiau canlyniadol a gawsom, neu, er enghraifft, yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, fe wnaethom ddarparu mwy na'r symiau canlyniadol a gawsom ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol i lywodraeth leol hefyd.

Felly, rwy'n credu bod yna wahanol enghreifftiau, a'r pwynt, mewn gwirionedd, gyda chyllid canlyniadol yw ei fod yn dod i Lywodraeth Cymru, ac rydym ni, wedyn, yn ei ddyrannu yn unol â'n blaenoriaethau. Ac yn ystod y flwyddyn, ein blaenoriaethau yn amlwg yw cefnogi addysg a gofal cymdeithasol, a thrwy hynny ddarparu mwy nag a gawsom mewn cyllid canlyniadol. 

Diolch. Mae croeso mawr i'r arian, ond ni fydd yn mynd yn agos at ateb y costau ychwanegol mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru. Nid wyf yn credu, yn Lloegr, y bydd yn atal hysbysiadau adran 114 ychwanegol, sef y term technegol am awdurdodau lleol yn mynd yn fethdalwyr. Unwaith eto, rwyf am bwysleisio pwysigrwydd llywodraeth leol. A gaf i annog y Gweinidog i ddyrannu unrhyw arian ychwanegol a ddaw i mewn drwy'r fformiwla? Fy nghwestiwn yw: a wnewch chi gyhoeddi'r asesiad o wariant safonol a chyfrifiadau cyllid allanol cyfanredol ar gyfer pob awdurdod, nid dim ond yr ateb terfynol, ond y cyfrifiadau—yn dilyn yr arian ychwanegol hwn—i ateb haeriad y Ceidwadwyr fod y fformiwla ariannu'n annheg? Os nad ydych chi'n dangos eich gwaith, maent yn mynd i barhau i ddweud ei fod yn annheg. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike Hedges am fanteisio ar y cyfle i godi'r pryder penodol hwnnw yn ei gwestiwn y prynhawn yma. Ac yn amlwg fe fyddwn yn parhau i ystyried pa lefelau ychwanegol o wybodaeth y gallwn eu darparu. Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae Mike Hedges wedi bod â diddordeb arbennig ynddo mewn trafodaethau blaenorol ar y gyllideb. Cawsom Bwyllgor Cyllid y bore yma, ac unwaith eto, fe wnaethom archwilio pa wybodaeth arall y gallem ei darparu mewn gwahanol ffurfiau, felly fe wnawn barhau i adolygu hynny. 

4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan bawb a welodd Barry John yn chwarae stori—un foment y gallan nhw gofio lle y gwelon nhw'r arian byw ar y cae, yn cyflawni dim byd llai na gwyrthiau. Roedd pris tocyn i Barc yr Arfau wastad yn fargen pan oedd Barry yn y gêm. I'r crwt o Gefneithin, yr iaith oedd cyfrinach ei bartneriaeth wefreiddiol gyda Gareth Edwards—mewnwr a maswr gorau'r byd yn cydlynu tîm fyddai'n dominyddu degawd, a hynny i gyd drwy'r Gymraeg, 'Twla di hi, dala i hi', fel dywed y dyfyniad enwog.

Hyfryd oedd gweld clipiau o gêm yr Urdd yn y teyrngedau fideo ar-lein, lle cystadlodd 15 Barry John yn erbyn 15 Carwyn James—dau ddyn o'r un pentref a wnaeth newid hanes rygbi Cymru yn llwyr. Ond, yn ddiymwad, Barry oedd y brenin, dyn oedd yn meddu ar y gallu i greu trydan yn yr awyr yn yr hanner eiliad hwnnw cyn i'r bêl gyrraedd ei ddwylo, un o'r chwaraewyr prin hynny lle gallech chi bron clywed y dorf yn cymryd anadl mewn disgwyliad o beth fyddai'n anochel,

'rhengoedd ôl—a chegau—yn lled agored'.

15:45

Mae Wythnos Awyr Dywyll Cymru yn dechrau ddydd Gwener. Mae'n wythnos o ddigwyddiadau a gynhaliwyd bob blwyddyn ers 2021, i roi cyfle i bawb ohonom ddathlu gwarchodfeydd awyr dywyll bendigedig Cymru, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o lygredd golau. Cynhelir digwyddiadau amrywiol ar draws tirweddau gwarchodedig Cymru yr wythnos nesaf, gan gynnwys teithiau cerdded a sesiynau syllu ar y sêr, lle gall pobl ddysgu mwy am y gwaith sy'n cael ei wneud i ddiogelu awyr dywyll Cymru. Mae gan ogledd Cymru, wrth gwrs, rai o'r mannau awyr dywyll gorau yn y DU ar gyfer edrych ar y sêr, ac mae'n hanfodol ein bod i gyd yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle i hyrwyddo popeth sydd ganddynt i'w gynnig. Ac un ffordd o wneud hynny, wrth gwrs, fyddai sefydlu arsyllfa genedlaethol i Gymru yn awyr dywyll bryniau Clwyd, a fydd cyn bo hir yn barc cenedlaethol mwyaf newydd Cymru. Gellid lleoli arsyllfa genedlaethol yno yn agos at Brifysgol Wrecsam, gyda'i chanolfan ragoriaeth, sydd wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil gwych yng Nghanolfan Dechnoleg OpTIC yn Llanelwy. Mae sefydlu arsyllfa genedlaethol yn cynnig potensial nid yn unig ar gyfer ymchwil, ond ar gyfer twristiaeth hefyd, a byddai'n ased mawr ar gyfer dod ag ymwelwyr i'r rhanbarth. Felly, yr wythnos awyr dywyll hon, gadewch i bawb ohonom roi eiliad i syllu i fyny ar awyr wych y nos uwchben, a gadewch inni wneud yr hyn a allwn i fynd i'r afael â llygredd golau ac i ddiogelu a hyrwyddo awyr dywyll Cymru. 

Y pumed o Chwefror oedd Diwrnod Ymchwil Canser y Byd. Hoffwn ddefnyddio'r datganiad hwn i dynnu sylw at lewcemia, canser gwaed dinistriol sy'n hawlio 250 o fywydau y flwyddyn yng Nghymru. Dangosodd data diweddaraf Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sydd â'r gyfradd farwolaethau lewcemia ail uchaf yng Nghymru, gyda lewcemia wedi ei briodoli i 139 o farwolaethau rhwng 2017 a 2021. Cyfarfûm â chynrychiolwyr Leukaemia Care a Leukaemia UK, fel rhan o'u hymgyrch Spot Leukaemia. Mae cysylltiad rhwng diagnosis cynharach a phrognosis gwell, tra bod diagnosis a wneir pan ganfyddir lewcemia mewn gofal argyfwng yn gysylltiedig â chanlyniadau andwyol i gleifion. Mae angen gwell dealltwriaeth o'i symptomau a sut y gwneir diagnosis ohono er mwyn sicrhau diagnosis cynnar sy'n newid bywydau.

Mae data cynhwysfawr am lewcemia a ganfyddir mewn gofal argyfwng a defnydd o'r data hwn fel mesur procsi, yn hanfodol er mwyn deall sut y gwneir diagnosis o lewcemia a beth sydd angen ei newid er mwyn gwneud diagnosis o'r canser dinistriol hwn yn gynharach. Nid yw Cymru'n casglu data'n rheolaidd nac fel mater o drefn ar y llwybr at ddiagnosis ar gyfer unrhyw fath o ganser, gan gynnwys lewcemia, felly mae'n hanfodol fod Cymru'n casglu ac yn sicrhau bod mwy o ddata a data gwell ar gael am ganser, gan gynnwys data a geir am lewcemia a ganfyddir mewn gofal argyfwng. Mae diagnosis cynharach yn hanfodol er mwyn achub a gwella bywydau'r rhai â lewcemia a phob canser arall. Yr un peth a wyddom am ganser yw bod gennych well gobaith o oroesi os ydych yn ei ddal yn gynnar. 

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol'

Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol’, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths. 

Cynnig NDM8477 John Griffiths

Cynnig bod Senedd Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar amrywiaeth ym maes llywodraeth leol. A hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, gan gynnwys y rhai a roddodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a'r cynghorwyr a rannodd eu profiadau personol gyda ni drwy'r grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym. 

Mae tangynrychiolaeth menywod a phobl â nodweddion gwarchodedig mewn gwleidyddiaeth wedi cael ei nodi ers amser maith fel mater y mae angen mynd i'r afael ag ef, ac eto rydym yn parhau mewn sefyllfa lle mae cynnydd wedi parhau'n ystyfnig o araf. Er gwaethaf cydnabyddiaeth gyffredinol y dylai pob sefydliad democrataidd adlewyrchu a chynrychioli'r cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu, ychydig sy'n gwneud hynny mewn gwirionedd. Heddiw fydd yr ail dro yn ystod y blynyddoedd diwethaf imi arwain dadl yn y Senedd ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol, ar ôl cadeirio pwyllgor a gynhaliodd ymchwiliad tebyg yn y bumed Senedd. Rwy'n falch o ddweud bod rhai pethau wedi symud ymlaen ers y ddadl honno yn 2019, ac rwyf am sôn am rai o'r meysydd lle gwnaed cynnydd.

Mae ymrwymo i gynyddu amrywiaeth yn galw am arweinyddiaeth gref, ac mae'r cynnydd a wneir gan rai awdurdodau lleol yn galonogol ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni. Mae ein hadroddiad yn cydnabod lle mae cynnydd wedi digwydd. Fe wnaethom nodi arfer da ac awgrymu ffyrdd o rannu hynny gyda chymheiriaid ledled Cymru. Mae llawer o'n hargymhellion, felly, yn galw am nodi a rhannu arferion da gan bartneriaid llywodraeth leol. Mae'r argymhelliad cyntaf yn ymwneud ag arolwg ymgeiswyr llywodraeth leol. Mae data ymgeiswyr yn hanfodol er mwyn galluogi gwell dealltwriaeth o ba mor gynrychioliadol yw awdurdodau lleol o'u hetholwyr. Fodd bynnag, mae'r gyfradd ymateb yn amrywio'n fawr o un awdurdod i'r llall, ac rydym yn credu bod angen mwy o gysondeb. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydweithio i wella'r gyfradd ymateb drwy gynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r arolwg ymhlith ymgeiswyr a chynghorwyr, a rhannu arfer gorau rhwng awdurdodau lleol. Rwy'n falch fod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn.

Pan siaradais yn y ddadl ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ddoe, dywedais ein bod yn falch fod y Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â'r arolwg. Rydym yn croesawu'r newidiadau yn y Bil hwnnw, ond hoffem weld cwestiynau'n ymwneud â chyfrifoldebau gofalu ymgeiswyr a'u profiad o gamdriniaeth ac aflonyddu ymhlith y cwestiynau craidd. Gwyddom fod camdriniaeth ac aflonyddu yn rhwystr i lawer rhag mynd i fyd gwleidyddiaeth, yn enwedig pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o gamdriniaeth o'r fath yn aml yn anecdotaidd. Credwn y gallai cynnwys cwestiwn yn yr arolwg ddarparu data mwy diffiniol i helpu i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn.

Fe wnaethom groesawu ymrwymiad rhai awdurdodau lleol i gynyddu amrywiaeth o ran rhywedd, megis y cynnydd a wnaed gan Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Bro Morgannwg. Er i'r ddau gyngor fabwysiadu gwahanol ddulliau o weithredu, arweiniodd y rhain at gydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws y cynghorau hynny, ac roedd y ddau'n galw am ymrwymiad ac arweinyddiaeth. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn cydweithio i nodi meysydd o arfer da i wella amrywiaeth, ac i rannu a dysgu o'r profiadau hynny. Rydym yn falch fod hyn wedi cael ei dderbyn hefyd.

Fe roesom groeso arbennig i gynllun peilot y gronfa mynediad i swyddi etholedig yn etholiadau llywodraeth leol 2022, ac rydym yn falch fod ymgeiswyr wedi gallu elwa ohoni. Roedd argaeledd y gronfa yn amlwg yn ddefnyddiol wrth gefnogi ymgeiswyr anabl i gael mynediad at y cymorth ymarferol sydd ei angen i sefyll etholiad. Felly, rydym yn croesawu'r ffaith bod cynlluniau cymorth ariannol wedi eu cynnwys yn y Bil etholiadau. Credwn y bydd codi ymwybyddiaeth o'r gronfa yn hanfodol i sicrhau llwyddiant, ac y dylai'r holl bartneriaid perthnasol gydweithio i hyrwyddo ei hargaeledd a'i manteision. Mae hefyd yn bwysig fod gwersi a ddysgwyd o werthuso'r gronfa yn cael eu datblygu i sicrhau bod digon o gymorth amserol i ymgeiswyr anabl cyn etholiadau yn y dyfodol.

Hoffem weld sut y gellid ehangu cronfa o'r fath er mwyn cefnogi grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol, ac fe wnaethom archwilio hyn ymhellach yn ein gwaith ar y Bil etholiadau. Clywsom awgrym y dylai'r gronfa fod ar gael i ymgeiswyr sydd â chyfrifoldebau gofal di-dâl a chredwn ei bod yn werth bwrw ymlaen â hyn. Credwn y byddai ehangu'r cynllun fel hyn yn dileu rhwystr rhag sefyll mewn etholiad sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod. Felly, argymhellodd ein hadroddiad ar y Bil y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddatblygu a threialu cronfa cymorth ariannol i gynorthwyo gofalwyr di-dâl i sefyll etholiad. 

Ddirprwy Lywydd, ers adroddiad 2019, mae trefniadau ar gyfer rhannu swyddi ymhlith aelodau o weithrediaeth cynghorau wedi'u ffurfioli. Mae hwn yn ddatblygiad i'w groesawu. Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw'r opsiwn wedi'i ddefnyddio gan lawer o awdurdodau. Mae'n amlwg fod angen mwy o ymwybyddiaeth o fanteision a heriau posibl rhannu swyddi. Mae'r canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, sy'n esbonio'r egwyddorion cyffredinol ac yn rhoi cyngor ymarferol ar reoli ei weithrediad, i'w croesawu. Credwn y gellid codi ymwybyddiaeth ymhellach drwy i Lywodraeth Cymru a phartneriaid gydweithio i hyrwyddo rhannu swyddi a'i gwneud yn bosibl rhannu profiadau awdurdodau lleol yn well. Hefyd hoffem weld gwell trefniadau ar gyfer casglu data ar rannu swyddi er mwyn gallu monitro ei effaith yn rheolaidd ar gyfrannu at wella amrywiaeth ar draws awdurdodau. 

Un o'r newidiadau mwyaf ers adroddiad 2019 yw'r newid i gyfarfodydd hybrid, yn rhannol o ganlyniad i'r gofynion i weithio gartref yn 2020, ond roedd y mwyafrif helaeth o'r rhanddeiliaid y clywsom ganddynt yn cefnogi'r gallu i wneud hynny. Mae mynychu cyfarfodydd rhithwir fel opsiwn yn fuddiol iawn i gynghorwyr ac yn ffactor pwysig i rai darpar ymgeiswyr wrth iddynt ystyried a ddylent sefyll etholiad. Er ei fod wedi'i nodi fel budd arbennig i grwpiau penodol, megis pobl anabl neu'r rhai sydd â chyfrifoldebau gwaith neu ofalu, mae cyffredinolrwydd y ddarpariaeth yn golygu y gall pawb elwa.

Hefyd fe wnaethom ystyried y manteision y gall cynlluniau mentora eu cynnig i helpu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i fagu hyder, derbyn hyfforddiant a chysylltu â modelau rôl. Rydym yn cydnabod cyfraniad sylweddol Chwarae Teg dros nifer o flynyddoedd yn datblygu a chynnal cynlluniau mentora a hyfforddi, ac fel pwyllgor roeddem yn drist o glywed fod yr elusen yn cau. Yn sgil cau Chwarae Teg, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru asesu'r capasiti ledled Cymru i gyflwyno cynlluniau mentora, a nodi'n gyflym sut y gellir llenwi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.

Rydym yn croesawu'r darpariaethau yn y Bil etholiadau i hyrwyddo amrywiaeth ymhlith pobl sy'n ymgeisio am swydd etholedig, yn enwedig y rhestr o wasanaethau a allai gael ei darparu. O ystyried y dystiolaeth a glywsom fod cam-drin a bygwth ar-lein yn amlwg yn dal i fod yn rhwystr sylweddol i lawer, sy'n eu hatal rhag sefyll etholiad, rydym yn argymell yn ein hadroddiad ar y Bil y dylid cynnwys hyfforddiant penodol hefyd i gynorthwyo grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ymdopi â chamdriniaeth yn y gwasanaethau a restrir. Gwyddom fod mynd i'r afael â chamdriniaeth ar-lein yn flaenoriaeth i'r Gweinidog, ac rydym yn croesawu'r gwaith a wnaed i ddod â phartneriaid ynghyd i frwydro yn erbyn camdriniaeth mewn gwleidyddiaeth. Mae'n anffodus nad oedd y pwyllgor yn gallu anfon cynrychiolydd i fynychu'r digwyddiad a gynhaliwyd fis diwethaf, y soniodd y Gweinidog wrthym yn ei gylch, ond hoffem gael gwybod am ddigwyddiadau yn y dyfodol a'u canlyniadau.

Ddirprwy Lywydd, gwyddom fod llawer o gynnydd i'w wneud o hyd, er gwaethaf y cynnydd a grybwyllais ers ein hadroddiad blaenorol. Fodd bynnag, er mwyn gwneud y cynnydd yr hoffai pawb ohonom yma ei weld, mae'n amlwg fod angen i ni gael dull partneriaeth ymhlith yr holl chwaraewyr allweddol, a lledaenu'r arfer gorau a rhannu'r profiad y mae llawer o'n hadroddiad yn canolbwyntio arno. Mae'n amcan mor bwysig, o ran canfyddiad ein poblogaeth o gyrff etholedig ac yn wir, o ran y penderfyniadau a wnânt, a pherfformiad yr awdurdodau hynny, eu bod yn denu pobl o bob rhan o'n cymdeithas o ran rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran a mwy, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon ac adroddiad ein pwyllgor yn cyfrannu rhywfaint at gyflawni'r cynnydd pellach hwnnw.

16:00

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd fy mhwyllgor, John Griffiths, am agor y ddadl hon. Rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion yn yr adroddiad hwn. Credaf yn gryf fod angen inni annog amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth, yn lleol neu fel arall, boed o ran rhywedd, hil, cred neu'n economaidd-gymdeithasol, oherwydd mae'n dod â phrofiadau a chefndiroedd unigol pawb at ei gilydd i helpu eu cymunedau gyda'i gilydd.

Yn fy sylwadau heddiw, hoffwn ganolbwyntio'n benodol ar argymhellion 12 a 13, sy'n sôn am ddod â phartneriaid allweddol at ei gilydd i frwydro yn erbyn camdriniaeth yng ngwleidyddiaeth llywodraeth leol, a phwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau cryfach yn erbyn cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol. Heb os, mae'n rhan o'r natur ddynol fod pobl yn ymateb yn gryf yn erbyn Llywodraethau a'u polisïau. Clywsom ddoe yn y Siambr gan rai Aelodau sy'n credu bod polisïau Llywodraeth y DU yn ddrwg, ac eto rydym yn gymdeithas sy'n credu'n sylfaenol mewn rhyddid i fynegi barn ac yn annog hynny. Ond gyda grym mawr daw cyfrifoldeb mawr, a dylem fod yn ymwybodol o sut mae ein gweithredoedd a'n geiriau yn y Siambr hon yn cael eu gweld gan bobl ar y tu allan, ac yn bwysicach, yr ymatebion y mae ein geiriau'n eu hannog. Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, rydym yn gweld niferoedd cynyddol o bobl bellach yn credu bod ganddynt hawl i gam-drin yn eiriol a lleisio bygythiadau difrifol pryd bynnag y byddant yn teimlo fel gwneud hynny, a rhaid i ni, er mwyn dyfodol ein democratiaeth, roi camau ar waith i osod safonau ar gyfer y ffordd yr ymgysylltwn ag eraill a sut y mynegwn ein rhwystredigaethau a'n pryderon tuag at ein gilydd. Bydd yn cael ei adlewyrchu gan y rhai sy'n ein gwylio.

Mae amrywiaeth yn her mewn llywodraeth leol. Ychydig iawn o gymhelliant a geir i godi eich pen uwchben y parapet ac i eirioli ar ran eich cymuned. Mae diffyg parch mawr tuag at wleidyddion. Ychydig iawn o ddiolch a ddangosir, ac rydych chi'n agor eich hun i lawer iawn o gamdriniaeth am geisio gwneud eich cymuned yn lle gwell i fyw. Pwy yn ei iawn bwyll a fyddai'n gwneud y fath beth?

Rwy'n dychmygu bod pawb yma wedi dioddef camdriniaeth ar ryw ffurf neu'i gilydd. Rwy'n gwybod fy mod i, ac fel arfer fe ddaw gan bobl a fyddai fel rheol yn gweld eu hunain yn eithaf rhesymol mewn amgylchiadau arferol. Eto y gwir cas amdani yw bod llawer o'r ymddygiad camdriniol hwn yn cael ei ysgogi gan wleidyddion eu hunain. Rhaid i aelodau o bob plaid wleidyddol ddeall, pan fyddwn yn gwneud sylwadau difrïol a phersonol am wleidyddion eraill, ein bod yn gosod esiampl i'r cyhoedd ei dilyn.

Ac nid yw hon yn broblem newydd ychwaith. Yn 1948, roedd pleidleiswyr Torïaidd, ym marn Aneurin Bevan, yn 'waeth na fermin'. Mae yna lawer o enghreifftiau diweddar hefyd: mae'r ffaith bod Angela Rayner wedi labelu Torïaid fel 'scum' yn dilysu camdriniaeth a leisir gan gefnogwyr Llafur tuag at y Ceidwadwyr ac yn ei dro, yn ei ddilysu gan Geidwadwyr sy'n ei leisio'n ôl—cylch dieflig. Gwyddom fod y sefyllfa'n wael pan fydd esgob hyd yn oed, fel cyn Esgob Tyddewi, a ddylai fod yn cyhoeddi negeseuon yr efengyl o gariad a gofal am ein cymdogion, yn gwbl barod a heb gywilydd i annog casineb tuag at y rhai sydd â safbwyntiau gwleidyddol gwahanol. Gall cam-drin geiriol arwain mor hawdd at gam-drin corfforol, ac yn y pen draw mae'r casineb hwn yn berwi drosodd yn drais a gweithredoedd ffiaidd, fel y gwelsom gyda llofruddiaethau arswydus Jo Cox a David Amess.

Ddirprwy Lywydd, gwn mai tair enghraifft yn unig a nodais, ond nid problem gyda Llafur neu'r chwith yn unig yw hon; mae ymgyrchwyr a gwleidyddion o bob plaid wleidyddol, gan gynnwys fy un i, wedi bod yn euog o hyn ar ryw bwynt, ac mae'n rhaid inni sylweddoli bod yr ymddygiad hwn yn atal pobl rhag sefyll. Er mwyn annog amrywiaeth a mynd i'r afael â chamdriniaeth tuag at wleidyddion, mae angen i ni fod yn ymwybodol o'r iaith a ddefnyddiwn. Mae'n rhaid i ni fod yn feirniadol o Aelodau, ac Aelodau o'n pleidiau ein hunain, pan nad ydynt yn gosod y safonau uchel y dylem eu disgwyl.

Fel y nodwyd yn yr adroddiad, rwy'n gwerthfawrogi'r ymdrechion a wnaed i ddarparu hyfforddiant a deunyddiau i ymdrin ag aflonyddu a chamdriniaeth, ond mae angen inni wneud mwy na dim ond ei dderbyn fel rhan o fywyd cyhoeddus; mae angen inni wneud ymdrech ymwybodol i newid agweddau'r cyhoedd. Dylai'r Senedd fod yn allweddol wrth helpu i ailosod y safonau ar gyfer y ffordd y mae gwleidyddion ar bob lefel yn cael eu trin. Mae'n deg ac yn briodol ein bod yn ymgyrchu, yn craffu ac yn beirniadu polisïau yr ystyriwn eu bod yn negyddol neu'n niweidiol, ond pan fo'n troi'n gamdriniaeth, nid oes neb yn ennill. Diolch.

Gall democratiaeth sy'n adlewyrchu'r bobl y mae'n eu cynrychioli fanteisio ar gyfoeth o brofiad personol, cefndiroedd a chredoau i weithredu polisïau mwy cynhwysol sy'n gwasanaethu ei dinasyddion yn well. Yn anffodus, fodd bynnag, mewn seneddau a chynghorau ar draws y byd, mae'r cynnydd i sicrhau cydraddoldeb yn araf, tra yng Nghymru nodir bod cynrychiolaeth menywod, ar hyn o bryd, yn ddibynnol iawn ar fenter wirfoddol partïon unigol. Ac mae'n siomedig fod rhai pleidiau gwleidyddol wedi bod yn amharod i roi mesurau o'r fath ar waith.

Mae'r Blaid Lafur wedi defnyddio rhestrau byr menywod yn unig ers y 1990au, ac mae wedi arwain at welliant dramatig yng nghydbwysedd y rhywiau yn Senedd y DU a'r Senedd hon. Mae yna ragfarn anymwybodol ac mae angen cwotâu rhywedd o hyd. Mae'n bwysig fod arfer gorau awdurdodau lleol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn cael ei rannu ledled Cymru. Mae'r enghraifft a osodwyd gan Gyngor Sir Fynwy, a dderbyniodd gynnig yn unfrydol i anelu at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn un trawiadol, a hoffwn weld awdurdodau lleol eraill yn dilyn ei arweiniad. 

Mae gan bleidiau gwleidyddol rôl bwysig i'w chwarae hefyd yn cynyddu nifer y cynrychiolwyr etholedig ac ymgeiswyr o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig. Arolygodd Race Council Cymru dros 300 o bobl ar lawr gwlad o leiafrifoedd ethnig, a nododd 94 y cant ohonynt na wnaethant lwyddo ar ôl dangos diddordeb mewn sefyll mewn etholiad.

Dywedais yn y ddadl ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ddoe fy mod yn hynod falch o weld llwyddiant cynllun peilot cronfa mynediad i swyddi etholedig Llywodraeth Cymru i gynorthwyo unigolion anabl i sefyll etholiad. Gweinyddwyd y gronfa hon gan Anabledd Cymru a thalai gostau am bethau fel cymhorthion cynorthwyol, hyfforddiant, teithio, cymorth personol a chymorth cyfathrebu. Roedd adborth gan ymgeiswyr yn hynod gadarnhaol, gydag un ymgeisydd fel defnyddiwr cadair olwyn yn defnyddio'r gronfa i dalu am gynorthwyydd i helpu i ddosbarthu ei thaflenni, sef yr union fath o gymorth ymarferol y mae'r gronfa wedi'i llunio i'w ddarparu, ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r graddau y bydd unigolyn yn teimlo eu bod yn gallu cymryd rhan mewn etholiad.

Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddysgu o'r cynllun peilot hwn, ac i gymryd camau i wella'r cynllun, codi ymwybyddiaeth o'r cynllun ymhlith ymgeiswyr a sicrhau bod y gronfa ar gael yn gynharach yn y broses. Byddai hyn yn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddigon o amser i drefnu'r cymorth sydd ei angen.

Ond hefyd, hoffwn weld y cynllun cymorth ariannol yn cael ei ymestyn i gynnwys pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, gan y gall hyn fod yn rhwystr enfawr i sefyll etholiad ac mae'n effeithio'n anghymesur ar fenywod. Gan nad yw bod yn ofalwr yn nodwedd warchodedig, mae'r heriau ychwanegol sy'n wynebu'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu yn aml yn gudd ac nid ydynt wedi'u cynnwys mewn prosesau monitro cydraddoldebau. Rwyf am weld y newid hwn ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn wrth symud ymlaen. Nodaf mai menywod yn aml iawn yw prif ofalwyr plant o hyd, ac ni fydd angen cymorth am amser hir, dim ond hyd nes bod y plant yn tyfu i fyny ac yn dod yn annibynnol, a byddai o gymorth i lawer mwy o fenywod sydd am fynd i fyd gwleidyddiaeth.

Mae gweithio hybrid wedi hwyluso gweithio mwy hyblyg, gan alluogi'r rhai sydd â blaenoriaethau sy'n gwrthdaro fel cyfrifoldebau gofalu, neu gynghorwyr ag anableddau, i fynychu cyfarfodydd lle na fyddent wedi gallu gwneud hynny fel arall. Rwy'n gwybod bod gwaith ar y gweill i gynorthwyo cynghorau tref a chymuned i gael gallu i weithio'n hybrid hefyd, ac mae hynny i'w groesawu.

Mae camdriniaeth ac aflonyddu ar-lein yn parhau i fod yn rhwystr parhaus i fenywod rhag mynd i fywyd cyhoeddus, a'r pryder am yr effaith y gallai ei chael ar deuluoedd ac yn enwedig plant. Soniwyd am hynny gan arweinydd Ynys Môn hefyd; siaradodd am ei phrofiad o hynny. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael â hyn, ond mae angen ymyrraeth gryfach arnom gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ychydig o ymateb a gafwyd i'r arolwg o ymgeiswyr llywodraeth leol, a gallai annog cynghorau i gasglu gwybodaeth monitro cydraddoldeb gynhwysfawr gyda chefnogaeth cynghorau ddarparu dealltwriaeth fwy cywir o amrywiaeth ar draws llywodraeth leol. Awgrymwyd y gallai'r arolwg ymgeiswyr gael ei gyhoeddi gyda'r pecyn i gynghorwyr newydd a ddosbarthir mewn etholiadau, a'i lenwi a'i ddychwelyd i swyddfeydd y cyngor wrth arwyddo'r datganiad ar ddod yn gynghorydd. Ac roedd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn cefnogi gwneud yr arolwg yn orfodol ac awgrymodd y dylid gwneud hyfforddiant gorfodol a chwblhau'r arolwg cyn derbyn taliad fel cynghorydd. Felly, oni bai eich bod chi'n gwneud hynny, credant na ddylech gael eich taliad, a byddai honno'n neges gref. 

Mae'r cynnydd tuag at sicrhau amrywiaeth mewn llywodraeth leol wedi bod yn araf, ond mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cymryd camau pendant i wella'r sefyllfa. Mae gennym ffordd bell i fynd i drechu rhagfarn anymwybodol mewn gwleidyddiaeth, ac mae gan bob un ohonom yn y Siambr rôl bwysig i'w chwarae yn rhan o'r ateb. Diolch.

16:05

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am yr adroddiad hanfodol bwysig hwn. Nid democratiaeth yw democratiaeth heb amrywiaeth, ac fel gwreiddyn ein hecosystem ddemocrataidd yma yng Nghymru, mae'n hanfodol fod llywodraeth leol yn ganolog mewn ymdrechion i hyrwyddo amrywiaeth yn ein gwleidyddiaeth.

Mae gan y Senedd hon hanes balch o gefnogi amrywiaeth. Wedi'r cyfan, yn 2003 hi oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal o ran y rhywiau. Mae canran y menywod sy'n cael eu hethol i'r Senedd yn parhau ymhell uwchlaw'r cyfartaledd byd-eang. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu y dylem adael y cyfan i ffawd. Fel rhan o'n cytundeb cydweithio, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflwyno cynlluniau i ymgorffori cynrychiolaeth gyfartal o ran y rhywiau yn rhan annatod o raglen ddiwygio'r Senedd. Rydym hefyd yn cydnabod bod yn rhaid i hyn fynd law yn llaw â sylfaen gadarn ar lefel llywodraeth leol, ac mae'n realiti anffodus nad yw'r cynnydd yma wedi bod mor gyflym ag yr hoffem.

Yn yr adroddiad ar y dystiolaeth i'r pwyllgor, amlygodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mai dim ond pedwar o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru oedd wedi penodi arweinwyr benywaidd, ac mai dim ond dau awdurdod oedd â chydbwysedd o ran y rhywiau. Fe wnaeth sefydliadau fel Race Council Cymru fynegi pryderon hefyd ynghylch diffyg cynrychiolaeth pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig mewn llywodraeth leol. Roeddent yn nodi hefyd fod aelodau'r cymunedau hyn sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth leol ar hyn o bryd yn aml yn teimlo eu bod wedi eu hymyleiddio wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau'n gysylltiedig â'r cyngor. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd.

Un o'r metrigau allweddol y gallwn fesur llwyddiant mentrau i hyrwyddo amrywiaeth mewn llywodraeth leol yn eu herbyn yw'r arolwg o ymgeiswyr llywodraeth leol, fel y nododd Carolyn. Fel y nodai'r adroddiad, mae'n anffodus fod nifer yr ymatebwyr i'r arolwg diweddaraf wedi gostwng o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Yn yr ymateb, mae'r Llywodraeth wedi addo rhoi camau ar waith i hyrwyddo pwysigrwydd yr arolwg ac annog mwy o bobl i'w gwblhau. A allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn a rhoi gwybod i ni pa mor hyderus ydych chi y byddwn yn gweld cyfraddau ymateb uwch yn etholiadau'r dyfodol?

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu safbwyntiau diddorol ar rôl y system bleidleisio yng nghyd-destun cynrychiolaeth. Er enghraifft, dywedodd Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru fod system bleidleisio y cyntaf i'r felin a ddefnyddir ar hyn o bryd yn etholiadau lleol Cymru yn parhau'r diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Roedd cydnabyddiaeth eang hefyd i'r manteision y gallai model mwy cyfrannol, fel system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, eu cynnig yn y maes hwn. Fel plaid, rydym wedi mynegi ein cefnogaeth yn gyson i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy fel ein system bleidleisio ddewisol, a byddwn yn parhau i ddadlau dros ei chyflwyno yn etholiadau'r Senedd yn y dyfodol.

Ers pasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru allu bellach i newid i bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn pryd ar gyfer etholiadau lleol 2027. Ond fel y gwelwyd o gyfraniadau ystod o gynghorwyr i'r adroddiad, mae goblygiadau ymarferol gwneud y newid yn sylweddol, yn enwedig ar adeg pan fo cyllid llywodraeth leol dan gymaint o straen.

Mae yna fater yn codi hefyd, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, gyda'r ffaith mai yn ôl disgresiwn y cynghorau unigol yn llwyr y gweithredir y diwygiad hwn. Golyga hyn y bydd yna elfen ddealladwy o betruster ynglŷn â sut yr ânt i'r afael â'r mater, o ystyried y realiti na fydd newid yn digwydd ym mhob rhan o Gymru ar yr un pryd. Pa gymorth a gynigir gennych i awdurdodau lleol sy'n ystyried newid i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn pryd ar gyfer 2027? A pha ystyriaethau a roddwyd gennych i gyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gyffredinol ar gyfer etholiadau lleol Cymru, yn unol â'r Alban a Gogledd Iwerddon?

Yn olaf, rwy'n credu ei bod yn werth myfyrio ar y pethau bach y gallwn ni fel gwleidyddion etholedig eu gwneud i hyrwyddo achos amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth. Mae gan ein geiriau ni fel gwleidyddion rym a dylanwad, ac rwy'n cytuno â rhai o'r sylwadau a wnaeth Joel ar hyn, ac o'r herwydd, mae'n rhaid inni eu defnyddio'n gyfrifol. Mae'n bwynt sy'n berthnasol iawn heddiw yng ngoleuni'r sylwadau gwarthus a dideimlad a wnaed gan Brif Weinidog Prydain yn sesiwn holi'r Prif Weinidog, ac rwy'n gobeithio y gwnaiff yr holl Aelodau alw arno i ymddiheuro am y sylwadau hynny. Felly, rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi fod gennym gyfrifoldeb i fyfyrio'n ofalus ar ein defnydd o iaith, yn enwedig y ffordd y siaradwn am y grwpiau mwyaf difreintiedig a'r rhai y gwahaniaethir yn eu herbyn fwyaf yn ein cymdeithas. Drwy wneud hynny, gallwn helpu i feithrin amgylchedd gwleidyddol mwy cynhwysol. Diolch yn fawr.

16:10

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ganmol y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am adroddiad rhagorol. Mae hwn yn waith defnyddiol iawn, sy'n nodi'r cynnydd a wnaed i sicrhau bod ein cynghorau yn cynrychioli'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae hefyd yn tynnu sylw at rai o'r meysydd lle mae angen gwaith ychwanegol i gyflawni newid trwy gael gwared ar rwystrau.

Cyn imi droi at yr adroddiad ei hun, hoffwn wneud ychydig o sylwadau ar pam mae amrywiaeth mewn llywodraeth leol mor bwysig. Fel y soniwyd, dylai pob haen o'n democratiaeth adlewyrchu'r amrywiaeth yn yr ardaloedd y maent yn eu cynrychioli—mae hynny'n hanfodol ar gyfer ymgysylltu â'r rhai sydd wedi eu hymyleiddio a threchu stereoteipiau. Mae hefyd yn dod â barn a safbwyntiau gwahanol at y bwrdd, gan arwain at benderfyniadau gwell wedi'u seilio ar brofiad bywyd y bobl. Fel y mae sylfaenydd ymgyrch Senedd 50:50 yn ein hatgoffa, mae cynrychiolaeth yn siapio polisi ac mae amrywiaeth yn arwain at wneud penderfyniadau gwell.

Gan droi at yr adroddiad ei hun, mae argymhelliad 2 ynghylch rhannu arfer gorau yn bwysig iawn. O ystyried mater rhywedd, yn fy awdurdod lleol yn Rhondda Cynon Taf, roedd ychydig o dan 47 y cant o'r cynghorwyr a etholwyd yn 2022 yn fenywod. Yn fy etholaeth i, mae'n 56.5 y cant, sy'n wych. Mae'n gynnydd o'r etholiadau yn 2017, pan oedd y ffigurau'n 43 y cant a 52 y cant yn y drefn honno. Ond ar draws Cymru, mae'r newid yn dal i fod yn hynod o araf fel y noda'r Cadeirydd yn ei ragair i'r adroddiad. Mae angen inni edrych ar yr hyn sy'n gweithio a blaenoriaethu'r ymyriadau hynny.

Gyda hynny, rwyf am sôn am argymhelliad 6, sy'n galw am werthusiad o gynllun peilot y gronfa mynediad i swyddi etholedig, fel bod digon o gefnogaeth i ymgeiswyr anabl cyn etholiadau llywodraeth leol. Roedd yn ddiddorol darllen y dystiolaeth gan dystion, gan gynnwys Anabledd Cymru, CLlLC a'r Athro Evans, fod y gronfa hon yn newid pethau'n sylfaenol o ran galluogi pobl ag anableddau i oresgyn rhwystrau fel y gallent fod yn ymgeiswyr. Nodaf hefyd eu sylwadau ynghylch gwelliannau i'r gronfa, yn bennaf oll o ran hyrwyddo ymwybyddiaeth ohoni mewn modd amserol. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, ac edrychaf ymlaen at weld sut mae'r gronfa'n datblygu.

Mae argymhelliad 10 yn ymdrin â'r gefnogaeth i gynghorau tref a chymuned fel eu bod i gyd yn gallu cael mynediad at dechnoleg cyfarfodydd aml-leoliad. Unwaith eto, mae hyn yn hanfodol i ddenu a grymuso ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Efallai fod rhai Aelodau wedi cyfarfod â'm diweddar etholwr, Richard Jones. Roedd Richard yn rhywun yr oeddwn yn falch o'i alw'n ffrind. Cafodd ei eni ag esgyrn brau, ond ni adawodd i hynny ei rwystro, ac ymhlith ei weithgareddau niferus bu'n aelod ac yna'n gadeirydd Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn. Roedd gweithio mewn sawl lleoliad yn hanfodol er mwyn caniatáu iddo gyflawni ei rôl fel cynghorydd, a gwn fod hynny'n wir am lawer o gynghorwyr eraill ar bob haen. 

Yn olaf, hoffwn drafod yn fyr argymhellion 12 a 13, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru am yr wybodaeth ddiweddaraf am waith i fynd i'r afael â chamdriniaeth mewn gwleidyddiaeth a phwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau priodol i fynd i'r afael â cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol. Roeddwn yn falch o fynychu'r digwyddiad yr wythnos diwethaf ar gamdriniaeth mewn gwleidyddiaeth yn fy rôl fel cadeirydd grŵp Llafur y Senedd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol am drefnu diwrnod adeiladol iawn yn fy marn i, gan ddod â rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt ynghyd, yn cynnwys Sefydliad Jo Cox. Clywsom am ymchwil gan gomisiwn y sefydliad ar foesgarwch fod 88 y cant o gynghorwyr lleol a arolygwyd yn 2022 wedi dioddef camdriniaeth a bygythiadau. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Ceir tystiolaeth fod cynghorwyr yn gorfod uwchgyfeirio a rhoi camau unioni ar waith, fel cynnwys yr heddlu neu fesurau diogelwch, oherwydd y bygythiad i aelodau etholedig. Ac mae CLlLC yn dweud bod un o bob pedwar cynghorydd wedi penderfynu peidio â sefyll eto oherwydd camdriniaeth.

Fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol, rwy'n siŵr, y broblem fawr a oedd heb ei datrys ar ddiwedd digwyddiad Llywodraeth Cymru oedd rôl y cyfryngau cymdeithasol. Nid yw'n dderbyniol ei bod hi'n ymddangos nad yw cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn fodlon cymryd camau i atal camdriniaeth ar eu platfformau. Mae angen i Lywodraeth y DU gamu i'r gwagle hwn. Ond fel y clywsom mewn sylwadau a wnaed ar ôl llofruddiaeth erchyll Brianna Ghey, mae Rishi Sunak i'w weld yn fodlon gadael i'r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol mawr fonitro eu hunain. Hefyd, rwyf am ategu sylwadau Peredur Owen Griffiths ar sylwadau Rishi Sunak heddiw. Nid yw hynny'n ddigon da os ydym am sicrhau amrywiaeth mewn llywodraeth leol ac annog mwy o bobl o amrywiaeth ehangach o gefndiroedd i sefyll etholiad. Diolch.

16:15

Diolch. Rwy'n falch o'r cyfle i siarad yn y ddadl hon. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am ei adroddiad, sy'n adeiladu ar yr adroddiad a gyhoeddwyd ganddo yn 2019 ac sy'n cydnabod y cynnydd a wnaed ers yr argymhellion gwreiddiol, ond sydd hefyd yn mynd rhagddo wedyn i ddatblygu'r themâu hynny ymhellach.

Mewn gwlad sydd â phoblogaeth mor amrywiol, mae'n bwysig fod gan bawb ffydd yn y trefniadau democrataidd sy'n darparu'r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt. Mae'n bwysig fod barn pob rhan o gymdeithas yn cael ei chynrychioli yn y drafodaeth a'r ddadl sy'n sail i weithredu democratiaeth yn lleol. Mae'n bwysig fod cymunedau'n gallu uniaethu â'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Heb hyn, gall unigolion o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol deimlo nad yw eu hanghenion yn cael eu deall ac na ddarperir ar eu cyfer, a gall hynny arwain at ynysu cymunedol. 

Mae'n bwysig cydnabod bod pobl yn mynd ar daith wrth ddewis cynnig eu hunain i gynrychioli eraill. Ac ni all y daith honno ddechrau os nad yw pobl yn ymwybodol o beth yw aelod etholedig, beth a wnânt a sut maent yn ei wneud. Am y rheswm hwn, mae'n bwysig ein bod i gyd yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o rôl cynghorwyr a'r gwahaniaeth cadarnhaol y gallant ei wneud yn eu cymunedau.

Pan gaiff diddordeb ei danio, mae angen inni sicrhau ein bod yn dileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cynnig eu hunain fel ymgeiswyr, a chefnogi ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl eu hethol. Mae angen inni sicrhau bod systemau priodol ar waith ar gyfer hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â chefnogaeth emosiynol a mecanweithiau i ddiogelu lles unigolion. Mae'n bwysig cael cydweithrediad trawsbleidiol ar y mater hwn ac edrychaf ymlaen at weithio gyda phawb wrth inni barhau â'n gwaith yn y maes hwn.

Mewn ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad, mae yna feysydd lle mae gwaith eisoes ar y gweill. Rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo rhannu swyddi ar gyfer rolau gweithredol, a'r cam nesaf yw ystyried sut y gallwn ymestyn y dull hwn i gynnwys aelodau anweithredol. Rydym yn annog pobl i rannu mewnwelediad a safbwyntiau gwerthfawr drwy'r arolwg ymgeiswyr ac rwy'n rhannu'r siom a fynegwyd gan Aelodau a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor am lefel yr ymgysylltiad â'r arolwg. Gyda'n partneriaid byddwn yn archwilio sut y gallwn gynyddu cyfranogiad yn y dyfodol, gan rannu syniadau ac adeiladu atebion gyda'n gilydd.

Rydym hefyd wedi clywed am y gwaith i wneud cyfranogiad yn fwy hygyrch drwy'r gwaith a wnawn ar ddatblygiadau digidol a'i gwneud yn haws i bobl fynychu'r cyfarfodydd hynny. Ac unwaith eto, rydym wedi cael adborth da iawn gan lywodraeth leol, ac yn enwedig hefyd gan gynghorau tref a chymuned yn hynny o beth.

Mae'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd. Fe fydd yn adeiladu ar ddulliau presennol sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi cronfa ar waith i gefnogi ymgeiswyr anabl sy'n sefyll etholiad. Bydd hynny'n dysgu'r gwersi o'r cynllun peilot llwyddiannus ar y gronfa mynediad i swyddi etholedig, ac fe fydd yn adeiladu ar y trefniadau hynny.

Bydd yn caniatáu i gamau gael eu rhoi ar waith i gynorthwyo pobl ar draws y sbectrwm ehangach o nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Bydd yn archwilio trefniadau cymorth wedi'u teilwra ar gyfer gwahanol grwpiau, yn dibynnu ar y rhwystrau a wynebant. Bydd hyn yn cynnwys archwilio trefniadau ariannol ac anariannol.

Rwyf am ymateb hefyd i'r sylwadau ar y bleidlais sengl drosglwyddadwy a chadarnhau ein bod wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar y camau y mae angen iddynt eu cymryd pe baent yn penderfynu symud tuag at y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Mae fy swyddogion a minnau'n fwy na pharod i drafod ymhellach gydag awdurdodau lleol a allai fod â diddordeb mewn mynd ar drywydd hynny.

Rydym i gyd yn gwybod am y fraint o gynrychioli ein cymunedau fel Aelodau etholedig. Nid yw'n rôl hawdd ac rwy'n bryderus iawn ynghylch rhai o'r straeon a glywaf gan ein cymheiriaid mewn llywodraeth leol am y ffordd y caiff aelodau etholedig eu trin. Mae'r cam-drin y mae rhai yn ei ddioddef gan y cyhoedd yn warthus, ond rwyf hefyd yn pryderu bod peth o'r cam-drin a brofir yn dod gan aelodau etholedig eraill. Mae iaith ac ymddygiad amhriodol yn annerbyniol lle bynnag y byddant yn digwydd, boed hynny mewn cyfarfodydd, mewn siambrau trafod, mewn digwyddiadau, yn bersonol neu ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'n atal pobl dda rhag cynnig eu hunain pan welant y math hwnnw o ymddygiad, ac mae hefyd yn achosi i bobl dda adael yn gynnar.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â chamdriniaeth mewn gwleidyddiaeth. Roedd yn canolbwyntio ar bob lefel o gynrychiolaeth yma yng Nghymru a mynychodd ystod o unigolion gan gynnwys Aelodau'r Senedd. Archwiliodd yr hyn a wnawn ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r cam-drin hwn a pha gamau pellach y gellir eu cymryd. Bydd canlyniad y digwyddiad yn llywio'r gwaith pellach y byddwn yn ei wneud yn ystod y misoedd nesaf. Fel rhan o'n gwaith parhaus, byddwn yn edrych ar sut y gallwn gydweithio i hyrwyddo gwerth ac amrywiaeth Aelodau etholedig a'u cyfraniad unigryw i gymdeithas. Bydd adroddiad y pwyllgor, a'i argymhellion, yn gwneud cyfraniad pwysig i'r gwaith hwnnw.

16:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon am eu cyfraniadau, gan ddechrau gyda Joel James? Rwy'n cytuno'n fawr â Joel, sydd, wrth gwrs, yn aelod o'r pwyllgor, ynghylch pa mor bwysig yw hi i bob un ohonom feddwl yn hir ac yn galed am yr hyn a ddywedwn a'r ffordd y byddwn yn ymddwyn ein hunain, o ran y cam-drin sy'n gyffredin mewn gwleidyddiaeth. Yn amlwg, soniodd Aelodau eraill a'r Gweinidog am hynny, a soniodd y Gweinidog am gynrychiolwyr etholedig eraill, o ran cam-drin y mae cymheiriaid yn ei brofi, felly mae'n dod o'r tu mewn i gyrff etholedig a thu hwnt iddynt ac mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef yn gyffredinol.

Rwy'n credu, Ddirprwy Lywydd, y gallaf gofio yn fy oes fy hun pan oedd cyflogwyr yn ystyried bod cael cynghorydd yn eu gweithlu yn bluen yn eu het—yn rhywbeth a roddai ddelwedd gadarnhaol iddynt ac a gâi ei barchu gan weddill y gymuned a'i werthfawrogi. Ond nawr, yn anffodus, mae'n ymddangos ein bod wedi symud i oes wrth-wleidyddiaeth am lawer iawn o resymau sy'n gwneud camdriniaeth yn fwy tebygol ac mae fel pe bai'n rhoi'r syniad i bobl fod rhwydd hynt iddynt gam-drin gwleidyddion. Mae'n broblem wirioneddol; buaswn yn dweud bod llawer ohono'n dod drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac yna'n canfod ei ffordd i mewn i'n cymunedau, ac mae'r ddau'n bwydo oddi ar ei gilydd, ond o ble bynnag y daw, rhaid inni feddwl yn hir ac yn galed, ac o'r newydd, rwy'n credu, ynglŷn â sut yr awn i'r afael ag ef. Rwy'n gobeithio y bydd ein hargymhellion yn mynd rywfaint o'r ffordd i helpu hyn.

O ran cael yr amrywiaeth sydd ei angen arnom, braf oedd clywed Carolyn Thomas, a Peredur Owen Griffiths yn wir, yn siarad am gyfrifoldeb pleidiau gwleidyddol. Buaswn i'n dweud, o safbwynt Llafur, fel y dywedodd Carolyn, nad yw wedi bod yn hawdd bwrw ymlaen â pholisïau fel rhestrau byr menywod yn unig a gefeillio ar gyfer y Cynulliad, y Senedd erbyn hyn, ond mae'r polisïau hynny wedi dwyn ffrwyth ac rydym yn gweld y canlyniadau; maent yn gweithio ac mae angen inni ddeall hynny.

Mae gweithio hybrid a thechnoleg newydd yn bwysig iawn, ac mae'n dda clywed y Gweinidog yn siarad am welliannau digidol pellach. Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedodd Vikki Howells am y perfformiad da yn Rhondda Cynon Taf; rydym yn ychwanegu hynny at yr enghreifftiau a roddais yn gynharach, o ran sut y gellir gwneud cynnydd a rhannu arfer gorau.

Pan fyddwn yn edrych ar y materion hyn, Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod yn bwysig iawn, fel y crybwyllodd yr Aelodau, ein bod yn canolbwyntio ar beth yw diben hyn. Mae cael mwy o amrywiaeth a chael ein cyrff etholedig i gynrychioli'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn dda ynddo'i hun, ond mae hefyd yn ymarferol; mae'n ymwneud â phenderfyniadau gwell, fel y clywsom. Os oes gennym fwy o amrywiaeth yn ein cynghorau lleol, yn y Senedd ac yn Nhŷ'r Cyffredin yn wir, fe gawn well ymgysylltiad â'n cymunedau, fe gaiff profiadau ehangach eu dwyn at y bwrdd ac mae hynny'n arwain at benderfyniadau gwell—gwell strategaethau, gwell polisïau a phenderfyniadau gwell—a dyna pam mae'n rhaid inni weithio'n galetach byth i adeiladu ar y cynnydd a wnaethom hyd yma.   

Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyflenwad tai

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflenwad tai. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8479 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu, er bod angen o leiaf 12,000 o gartrefi newydd ar Gymru bob blwyddyn, bod Llywodraeth Cymru wedi adeiladu prin hanner y nifer hwnnw dros y degawd diwethaf.

2. Yn cydnabod ffigurau a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2023 bod 103,000 o anheddau sy'n wirioneddol wag yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu tasglu penodedig o gynllunwyr i fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y cynghorau â'r perfformiad arafaf, a chreu prentis cynllunio ar gyfer pob cyngor;

b) cefnogi datblygwyr bach yng Nghymru i adeiladu cartrefi ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol o ran tai; ac

c) troi eiddo gwag yng Nghymru yn ôl i fod yn gartrefi.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch Ddirprwy Lywydd. Mae hawl dyn i weithio fel y myn, i wario'r hyn y mae'n ei ennill ac i fod yn berchen ar eiddo yn gynyddol anos i bobl ei gyflawni yng Nghymru. Nid yw'n syndod o ystyried mai dim ond 5,785 o anheddau newydd a gwblhawyd yn 2022-23, un o'r niferoedd isaf ers dechrau cadw cofnodion. Byddai'n rhaid i berson sy'n ennill cyflog cyfartalog yng Nghymru wario dros saith gwaith ei enillion blynyddol i brynu cartref am y pris cyfartalog yng Nghymru, sef £212,000. Mae'n amlwg fod fforddiadwyedd yn ddylanwad ar y ffaith bod nifer y tai a werthwyd 35 y cant yn is nag ym mis Ionawr 2019.

I gyd-fynd â chwymp mewn adeiladu tai a phrynu tai, gwelwyd cynnydd cyflym yn y galw yn y farchnad rentu. Yn ôl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, cynyddodd yr angen am eiddo rhent oddeutu 35 y cant yn y tri mis hyd at fis Awst 2023. Fodd bynnag, yn ystod yr un cyfnod, gwelwyd yr un gostyngiad yn nifer yr eiddo rhent a ddaeth i mewn i'r farchnad. Rydym yn gwybod pam, ac rwyf wedi amlinellu i'r Senedd hon o'r blaen y diwygiadau mawr sydd eu hangen gan Lywodraeth Cymru yn y sector rhentu.

Mae digartrefedd wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed yng Nghymru. Ym mis Chwefror 2023 cyrhaeddodd nifer y plant dibynnol o dan 16 oed a gafodd eu rhoi mewn llety dros dro dros 3,000 am y tro cyntaf. Ym mis Mawrth 2023 fe wnaeth cyfanswm yr unigolion a aeth i lety dros dro daro 10,000 am y tro cyntaf. Mae tua 90,000 o aelwydydd ar restr aros am dai cymdeithasol yng Nghymru—8,000 yng Nghaerdydd, 8,500 yn Abertawe a bron i 10,000 yng Nghasnewydd. Mae'r ffigurau hyn yn anghynaladwy. Mae'r gost i iechyd meddwl a lles yn ddifrifol. Mae'r effaith ar fywydau llawer o deuluoedd a phlant yn un o anobaith llwyr. Nawr, wrth siarad â'r trigolion hyn sy'n byw mewn llety dros dro am fisoedd bwy'i gilydd, clywais lawer o negeseuon pwerus, megis: 'Mae dros dro'n teimlo'n barhaol iawn'; 'Mae fy iselder wedi dirywio, ond roedd arnaf ormod o ofn dweud wrth unrhyw un. Roedd angen imi fyw yma, oherwydd roeddwn angen to uwch fy mhen'; 'Bydd fy mhlant bob amser yn cofio'r trawma hwn. Nid yw hwn yn amgylchedd y dylai fy mhlant fyw ynddo'; a 'Weithiau rydych chi'n meddwl, "Pam wyf i'n byw yma? Beth wyf i wedi'i wneud i haeddu hyn?" Mae'n boenus iawn.' Maent yn byw yno oherwydd methiant tri degawd o ddatganoli dan Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru.

Gwariodd awdurdodau lleol o leiaf £60 miliwn ar lety dros dro yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ddoe, nodais wrth y Prif Weinidog sut mae digartrefedd a gwariant ar lety gwael wedi gwaethygu allan o reolaeth o dan ei brif weinidogaeth. Edrychwch ar Toys 'R' Us yng Nghaerdydd—sut y gall unrhyw un ohonoch ganiatáu i Gymry fyw fel hyn? Fel y dywedodd yr annwyl Farwnes Margaret Thatcher 40 mlynedd yn ôl, rwy'n credu mewn perchentyaeth oherwydd fy mod yn credu yng nghyfrifoldeb yr unigolyn, ac rwy'n credu, drwy ein gweithredoedd, y gallwn siapio ein dyfodol.

Mae fforwm polisi'r Ceidwadwyr Cymreig—

16:30

Un o’r pethau eraill a ddigwyddodd o dan brif weinidogaeth y diweddar Farwnes, y Fonesig Thatcher, wrth gwrs, oedd gwerthu tai cyngor heb ddarparu rhai newydd yn eu lle. Sut mae'n gweld hynny bellach, gan fod hynny wedi dinistrio'r stoc o dai rhent fforddiadwy?

Wel, gadewch inni fod yn onest, mae'r tai yn dal yno. Ac yng Nghymru fe fuoch yn gwerthu'r tai heb ailfuddsoddi. Am bob un tŷ a werthir, gallwch adeiladu tri. Siaradwch ag unrhyw ddatblygwr. [Torri ar draws.]

Mae fforwm polisi’r Ceidwadwyr Cymreig—

—a gadeiriais gyda rhanddeiliaid adeiladu tai, y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y sector rhentu preifat ac elusennau o bob rhan o Gymru, wedi cyflwyno nifer o argymhellion cadarn yn seiliedig ar dystiolaeth. O ganlyniad, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun tri phwynt newydd sy'n cynnwys cyflymder, uchelgais a chyfle. Cyflymder: byddem yn creu tasglu gweithredu ar y cyd o gynllunwyr i dargedu’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n perfformio arafaf. Nodwyd dro ar ôl tro mai’r system gynllunio oedd y rhwystr mwyaf rhag adeiladu tai yng Nghymru—nid yw’n syndod pan fo'r amser cyfartalog ar gyfer cymeradwyo caniatâd cynllunio yn 374 diwrnod, gyda Phen-y-bont ar Ogwr, y gwaethaf, yn cymryd 1,800 o ddiwrnodau. Mae ceisiadau carlam ar gyfer datblygu tai fforddiadwy—[Torri ar draws.] Mae angen imi barhau. Mae'r cam gweithredu'n syml. Bydd yn ofynnol i awdurdodau cynllunio flaenoriaethu ceisiadau am dai fforddiadwy a chael gwared ar yr oedi. Byddem yn clustnodi refeniw a gynhyrchir o ffioedd cynllunio i awdurdodau cynllunio lleol. Ystyrir bod y ffi o £460 a delir fesul annedd mewn ffioedd cynllunio yn rhy rhad yng Nghymru. Tynnodd rhanddeiliaid sylw at y ffaith y gellid cynyddu hyn a chlustnodi’r holl ffioedd cynllunio i’w defnyddio gan adrannau cynllunio. Byddem hefyd yn sefydlu cronfa prentisiaid cynllunio ar gyfer pob awdurdod lleol.

Nawr, mynegodd rhanddeiliaid eu pryderon hefyd ynghylch y bylchau sgiliau yng Nghymru. Rhybuddiodd Cyngor Sir y Fflint am oedi ar y cam cynllunio oherwydd prinder staff a llwythi gwaith mawr. Yn 2021, clywodd cynghorwyr Abertawe fod yr awdurdod lleol yn gorfod llogi staff arbenigol i fynd i'r afael â'r prinder. Ac yn ystod y bwrdd polisi, clywsom fod oddeutu 130 o swyddi gwag yn yr adrannau cynllunio yma mewn awdurdodau lleol.

Uchelgais: byddem yn datblygu cynllun cymorth i alluogi mentrau adeiladu bach a chanolig i adeiladu cartrefi, gan eu blaenoriaethu ar yr un pryd i allu adeiladu ar dir cyhoeddus. Y nod yma fyddai mynd i’r afael â’r ffaith bod y diwydiant yn cynnwys datblygwyr mwy o faint yn bennaf, gyda dim ond 12 y cant o gartrefi yn y DU yn cael eu hadeiladu gan fusnesau llai. Yn y 1980au, busnesau bach a chanolig oedd yn adeiladu oddeutu 40 y cant o gartrefi. Dylem helpu ein busnesau bach a chanolig i dyfu, i gyflogi ac i adeiladu yma yng Nghymru.

Byddwn yn cynnal arolygon o holl dir awdurdodau cyhoeddus i bennu addasrwydd ar gyfer tai. Mae gennych yr awdurdod lleol, mae gennych yr awdurdod iechyd, ond mae Llywodraeth Cymru yn berchen ar 437 erw o dir y nodwyd ei fod yn addas ar gyfer tai. Mae angen inni adeiladu arno a nodi tir arall yn y sector cyhoeddus sy’n addas i’w ddatblygu.

Ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y math iawn o eiddo yn cael ei adeiladu. Cafodd ei ddwyn i fy sylw fod angen i Gymru adeiladu tai llai o faint o ran nifer yr ystafelloedd gwely. Yn fwyaf abennig, mae gennym brinder enfawr o gartrefi un ystafell wely. Maint cyfartalog aelwydydd yng Nghymru, yn 2020, oedd 2.26. Mae hyn wedi cynyddu’n raddol ers 1991. Felly, ein cam gweithredu fyddai sicrhau bod cartrefi’n addas i bawb, gyda chanran o bob datblygiad i gynnwys cartrefi un neu ddwy ystafell wely.

Cyfle: gyda 103,000 o anheddau sy'n wirioneddol wag yng Nghymru, synnwyr cyffredin yw bod cyfres o newidiadau’n cael eu gwneud i sicrhau y gellir eu defnyddio unwaith eto. Byddem yn ehangu cynllun Cymorth i Brynu i gynnwys cartrefi ail law a rhai y mae angen eu hadnewyddu, a byddem yn grymuso awdurdodau lleol i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ar gyfer rhent cymdeithasol a rhentu i brynu. Mae'r cynllun lesio yng Nghymru, y cyfeirir ato mor aml yma, yn fethiant llwyr. Dim ond 16 o awdurdodau lleol sydd wedi ymrwymo i'r cynllun, a dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, dim ond 60 o grantiau sydd wedi’u dyfarnu. Mae'n rhaid adolygu telerau'r cytundebau hyn. Mae arnom angen i awdurdodau lleol edrych ar ddefnyddio gorchmynion rheoli eiddo gwag i'w gwneud yn bosibl rheoli eiddo, yn hytrach na’i brynu, gan awdurdod tai lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig. Ac os na fydd hynny’n gweithio, mynd i’r afael â phroblem tai gwag hirdymor drwy ddefnyddio pwerau prynu gorfodol. Gadewch imi fod yn glir: ni fyddai unrhyw oddefgarwch i eiddo dadfeiliedig sy'n wag yn hirdymor yng Nghymru o dan y Ceidwadwyr Cymreig.

Ac yn olaf, byddem yn grymuso perchnogion eiddo i droi mannau masnachol gwag uwchben siopau’r stryd fawr yn gartrefi, a byddem yn defnyddio’r system gynllunio, lle bo angen, i droi unedau manwerthu gwag yn gartrefi. Mae'r stryd fawr ym Mangor yn enghraifft wych lle gallai'r newid polisi hwn gael effaith wych ar nifer yr ymwelwyr a ffyniant. Nid tynnu sylw'n unig at yr argyfwng tai yng Nghymru a wnawn, rydym yn cynnig dewis amgen dilys i’n gwlad, ar ôl 30 mlynedd o fethiant gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru. Drwy gymryd y camau a amlinellwyd gennym heddiw a’r gwaith a wnaethom gyda’r rhanddeiliaid—a gadewch inni fod yn onest, mae’r bobl hyn ar y rheng flaen, felly maent yn gwybod beth rydym yn ei ddweud ac yn cytuno—gallwn siapio’r dyfodol fel y gall pobl Cymru gael eu cartrefi eu hunain. Diolch.

16:35

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod:

a) bron i 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol ar hyn o bryd; a

b) 11,273 o unigolion mewn llety dros dro ym mis Hydref 2023, a bod 3,403 ohonynt yn blant dibynnol o dan 16 oed.

2. Yn gresynu:

a) mai dim ond 5,775 o unedau mae Llywodraeth Cymru wedi eu darparu ers 2021, er gwaethaf y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon; a

b) bod dros 139,000 o gartrefi cymdeithasol ar rent wedi eu colli i'r farchnad agored erbyn i'r Hawl i Brynu gael ei diddymu yng Nghymru yn 2019, gan gyfrannu'n fawr at yr argyfwng tai presennol.

3. Yn credu:

a) mai'r ateb i argyfwng tai Cymru yw cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm canolig ac isel, i'w rhentu ac i'w prynu; a

b) y bydd sicrhau cyfradd llawer uwch o gartrefi mewn perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol hefyd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar fforddiadwyedd yn y farchnad dai ehangach.

4. Yn croesawu'r:

a) ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio i gyhoeddi Papur Gwyn sy'n nodi cynigion i sefydlu system o renti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fwy fforddiadwy; a

b) diwygio radical ar gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol yn gyflym er mwyn cyrraedd neu ragori ar y targed i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector cymdeithasol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n cynnig y gwelliant. Mi ydyn ni'n byw yng nghanol nid yn unig argyfwng tai ond hefyd yr argyfwng costau byw gwaethaf o fewn cof. Er yn ddau argyfwng gwahanol ar yr wyneb, maen nhw hefyd yn gydgysylltiedig. Er gwaethaf y cynnydd sylweddol mewn pris tanwydd, bwyd a chostau eraill, y gwariant mwyaf ym mywydau'r rhan fwyaf o bobl ydy'r gwariant ar gael to uwch eu pen, boed trwy forgais neu rent, ac mae'r cynnydd sydd wedi bod yn y costau yma wedi bod yn anferthol dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae hyn, yn ei dro, yn golygu bod yr argyfwng costau byw yn gwasgu hyd yn oed yn fwy.

Mae degau o filoedd o bobl yn byw mewn cylch dieflig o ansicrwydd tai, yn cael eu gorfodi i symud yn gyson, yn byw mewn tai rhent o ansawdd gwael neu'n gorfod dewis rhwng cael to uwch eu pen neu hanfodion eraill, megis gwres a bwyd. Mae'r ansicrwydd tai yma a thai anaddas hefyd yn cael effaith andwyol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl, sydd yn ei dro yn rhoi straen anferthol ar yr NHS a chyllidebau eraill. 

Mae ein gwelliant ni, felly, yn nodi'r ystadegau moel: y 90,000 o bobl sydd ar y rhestrau aros am dai cymdeithasol, y bron i 12,000 sydd mewn llety dros dro, a dros 3,000 ohonyn nhw yn blant. Dŷn ni'n clywed yn gyson fod y broblem sy'n ein hwynebu yn gymhleth â sawl haen iddi, ac mae hynny'n wir. Ond mae yna un datrysiad sydd, ar yr wyneb, yn syml: mae angen adeiladu tai o dan berchnogaeth gyhoeddus, tai cymdeithasol, a hynny ar raddfa nad ydym wedi ei weld ers yr 1950au.

Deallaf, am wahanol resymau nad oes gennyf amser i’w trafod yma heddiw, fod stigma ynghlwm wrth dai cymdeithasol. Mae angen inni newid hynny. Dylai tai trefol, tai cymdeithasol, tai cyngor a thai cydweithredol fod yn rhywbeth y dylai pawb fod eisiau byw ynddynt, gan gynnig yr ansawdd gorau, mwyaf effeithlon o ran ynni a’r gwasanaethau gorau, gyda’r tai'n ganolbwynt i gymuned ehangach a wasanaethir gan fynediad at iechyd, addysg, hamdden a thrafnidiaeth. Iwtopia, byddai rhai yn ei ddweud—[Torri ar draws.] Ewch amdani, Darren.

16:40

Diolch am dderbyn yr ymyriad. Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am dai cymdeithasol. Rwy’n cytuno na ddylai fod unrhyw stigma o gwbl ynghlwm wrth dai cymdeithasol. Ond onid yw'n ffaith bod y rhan fwyaf o bobl yn dyheu am fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, yn hytrach na rhentu cartref yn barhaol? Ac ar hynny y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion fel Senedd: ceisio helpu pobl i wireddu'r dyhead o fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, hyd yn oed os ydynt yn byw mewn tai cymdeithasol ar hyn o bryd.

Credaf eich bod yn mynd yn groes i rywbeth a ddywedodd eich cyd-Aelod, Janet, yn gynharach, gan fod y farchnad wedi methu yn hynny o beth. Gwyddom nad yw'r farchnad yn adeiladu digon o eiddo un ystafell wely a dwy ystafell wely. Dim ond mewn elw drwy gartrefi uwchraddol pedair neu bum ystafell wely y mae gan y farchnad ddiddordeb. Felly, mae angen inni ymyrryd yn y farchnad honno. Ond fe ddof at eich pwynt mewn munud, yn ystod fy nghyfraniad.

Fel roeddwn yn ei ddweud, byddai rhai'n galw'r hyn a ddisgrifiais yno am dai cymdeithasol a'r ffaith y dylai tai cymdeithasol ddod law yn llaw â mynediad at iechyd, addysg, hamdden a thrafnidiaeth, yn iwtopia. Ond os edrychwch ar Fienna, mae'n realiti, ac mae eraill bellach yn efelychu eu gweledigaeth. A chofiwch, dilynodd Fienna yn ôl traed Lloyd George, ac o’i flaen ef, Robert Owen, yma yng Nghymru, ac arloeswyr eraill. Mae hyn yn rhan o’n hetifeddiaeth, ein traddodiad yng Nghymru, ac weithiau, byddai’n dda inni edrych yn ôl er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen.

Unwaith eto, rwy'n deall y bydd rhai'n wfftio at fy nghyfraniad, ond ystyriwch hyn: gan fod pobl ifanc heddiw yn cael eu gorfodi i glymu eu hunain wrth oes o ad-daliadau morgais, gan lyncu o leiaf traean neu fwy o’u henillion misol, byddant yn talu bron i £600,000, ar brisiau presennol, am dŷ tair ystafell wely erbyn diwedd oes y morgais, gyda’r holl gostau, felly, sy’n gysylltiedig â bod yn berchen ar gartref, gyda’r arian hwnnw’n mynd yn bennaf i gyfranddalwyr cwmnïau bancio mawr dramor. Pe baem yn gallu darparu tŷ trefol o ansawdd uchel, gyda phrin unrhyw gostau ynni a chynnal a chadw, byddai’r un cwpl ifanc hwnnw’n talu llai na £250,000 mewn prisiau cyfredol dros yr un cyfnod, gan arbed dros £300,000, a rhyddhau'r arian hwnnw iddynt naill ai ei gynilo er mwyn prynu eu tŷ preifat eu hunain yn y pen draw, neu ei wario ar bethau eraill—gwyliau, addysg plant, car gwell ac ati—gan wella ansawdd eu bywydau. Mae hynny'n rhywbeth y dylem anelu ato. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ei gyflawni.

Mae cynyddu’r stoc o dai cymdeithasol yng Nghymru, felly, yn ymateb difrifol a strategol i’r argyfwng tai fforddiadwy. Gyda phrisiau tai a rhenti yn codi i’r entrychion y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl, mae tai cymdeithasol yn cynnig achubiaeth i unigolion a theuluoedd sy’n ei chael hi'n anodd sicrhau cartrefi sefydlog am bris rhesymol. Mae tai fforddiadwy yn hawl sylfaenol, nid yn foethusrwydd. Mae tai'n golygu mwy na darparu lle diogel i bobl fyw ynddo yn unig. Mae'n ymwneud ag adeiladu cymunedau, mae'n ymwneud â sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau hanfodol, mae'n ymwneud â gwella ansawdd bywydau pobl a'r cyfraniad y gallant ei wneud wedyn i gymdeithas.

16:45

Mabon, rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi ar gyfer yr ymyriad. Mae angen ichi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.

Dof i ben nawr. Mae trywydd presennol y cynnydd mewn prisiau tai a rhenti yn anghynaliadwy ac yn bygwth gwaethygu anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd. Drwy gryfhau’r sector tai cymdeithasol, rydym yn cyflwyno grym sy'n sefydlogi i’r farchnad, sy'n cadw costau tai cyffredinol yn is ac yn sicrhau nad yw breuddwyd perchentyaeth neu lety rhent sefydlog allan o gyrraedd cyfran sylweddol o’n poblogaeth.

Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws y Deyrnas Unedig.

2. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd a’i buddsoddiad mewn tai.

3. Yn nodi ymrwymiad uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol, carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd â Plaid Cymru, er mwyn cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon, sydd, wrth gwrs, yn effeithio ar gynifer o bobl yng Nghymru.

Mae argyfwng tai Cymru yn fwy amlwg mewn dinasoedd mawr fel Caerdydd, ond mae’r argyfwng yn effeithio ar bawb yn ein cymdeithas. Mae’r argyfwng tai yn golygu bod ein plant yn annhebygol o fod yn berchen ar gartref cyn eu bod yn ddeg ar hugain oed; mae pobl yn cystadlu am nifer llai o dai, ac mae hynny wedi cynyddu costau i lefel aruthrol o uchel mewn sawl ardal. Ymddengys bod prinder tai cymdeithasol ar gyfer y bobl ar yr incwm isaf yn ein cymdeithas, gyda 90,000 o aelwydydd yn aros am dai cymdeithasol yng Nghymru. Felly, mae angen bod o ddifrif ynghylch y mater, ac mae gennym gynllun uchelgeisiol i gael yr argyfwng tai o dan reolaeth.

Nid yw'r ffigurau yng Nghymru yn galonogol. Mae nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yn llai na tharged Llywodraeth Cymru. Y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru gyrraedd yr isafswm gofynnol o dai a adeiladwyd o'r newydd oedd 2016-17. Mae nifer y tai fforddiadwy—cartrefi, mae’n ddrwg gennyf—sy’n cael eu hadeiladu bob blwyddyn yn cynyddu’n llawer rhy araf, o ddim ond 3,603 yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21, a dyma’r nifer uchaf a gofnodwyd. Felly, mae’n amlwg fod safonau wedi llithro, yn anffodus.

Mae angen inni gyflymu cyfraddau adeiladu tai nawr yn fwy nag erioed. Po fwyaf y bydd cyfraddau adeiladu tai yn gostwng, y mwyaf drud ac anfforddiadwy y bydd tai o ganlyniad. Byddai’n rhaid i unigolyn yng Nghymru sy’n ennill y cyflog cyfartalog wario dros saith gwaith eu hincwm blynyddol i brynu cartref am bris cyfartalog yng Nghymru. Ar wahân i adeiladu anheddau newydd, mae adeiladau gwag yn bodoli eisoes yng Nghymru sy'n addas i'w defnyddio—103,000 ohonynt, a bod yn fanwl gywir.

Nid yw adeiladu cartrefi ar safleoedd tir llwyd yn fater sy'n cael ei archwilio'n llawn ychwaith. Mae adeiladu ar safleoedd tir llwyd a throi'r drwg yn dda yn well na throi'r da yn goncrit. Mae angen inni gymryd—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.

A ydych yn cytuno mai’r hyn sydd wedi bod yn digwydd, serch hynny, yw bod datblygwyr yn datblygu safleoedd maes glas yn hytrach na safleoedd tir llwyd am fod hynny'n haws ac yn fwy fforddiadwy? Felly, gallai’r safleoedd tir llwyd fod yn waharddol.

—am eu bod yn safleoedd lle mae adeiladau wedi'u lleoli yn y gorffennol. Felly, yn naturiol, pan fo anheddau wedi bod yno, neu am ba ddefnydd bynnag y defnyddiwyd yr adeiladau blaenorol, mae'n ateb mwy amlwg nag adeiladu ar dir llain las, sy'n amlwg yn ddadleuol ynddo'i hun, gyda bioamrywiaeth a'r holl agweddau eraill hefyd. Felly, credaf fod llawer iawn o broblemau ynghlwm wrth hynny, yn fy marn i.

Mae angen inni fanteisio ar y ffynhonnell doreithiog hon o dir posibl ar gyfer tai. Gallai Llywodraeth Cymru wneud hyn drwy symleiddio caniatâd cynllunio a throi tir sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn dir i'w ddatblygu. Mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar symleiddio’r broses gynllunio yn gyffredinol er mwyn cyflymu’r broses o gymeradwyo caniatâd cynllunio a chael gwared ar rwystrau i ddatblygwyr, yn ogystal â chreu tasglu pwrpasol o gynllunwyr i fynd i’r afael â’r ôl-groniad cynllunio.

Credaf fod angen inni ddechrau meddwl am y sefyllfa tai fel argyfwng. Mae seiliau ein democratiaeth perchnogaeth eiddo yn dechrau dadfeilio, ac mae’r galw yn y marchnadoedd rhentu wedi cynyddu’n aruthrol, gydag eiddo ar y farchnad yn lleihau i'r un graddau.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae angen cynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol er mwyn dod â’r llithriant hwn dan reolaeth fel y bydd gan ein plant, gobeithio, opsiwn i brynu eu cartref fforddiadwy a hardd eu hunain. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyngor a roddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ac yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu brys ar y mater hwn. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau eraill yn y ddadl. Diolch.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi adeiladu unrhyw dai. Datblygwyr preifat, mawr a bach, unigolion, cynghorau a chymdeithasau tai sydd wedi adeiladu tai. Mae’r mathau canlynol o ddeiliadaeth i'w cael: perchen-feddiannaeth, prynu drwy forgais, rhentu’n breifat, tai cymdeithasol drwy gymdeithasau tai a thai cyngor a thai cydweithredol. Gan ddechrau gyda thai cydweithredol, tra bod gan leoedd mor amrywiol ag Efrog Newydd, Sgandinafia a Vancouver lawer iawn o dai cydweithredol, nid yw’r un peth yn wir am Gymru a gweddill Prydain. Bu newidiadau mawr ers datganoli; daeth yr hen stoc o dai cyngor o dan reolaeth Cartrefi Cymoedd Merthyr, ac yn 2016, pleidleisiodd y tenantiaid o blaid creu’r gymdeithas dai gydfuddiannol gyntaf i denantiaid a gweithwyr yng Nghymru.

Eisoes, mae model tai cydweithredol Cymru wedi bod yn datblygu tai. Ymhlith y llwyddiannau mae Neuadd Dol-llys, sydd wedi’i lleoli ger tref farchnad hanesyddol Llanidloes, a Home Farm Village yng Nghaerdydd, lle cwblhawyd 41 o dai rhent cymdeithasol. Gyda chyllid gan Sefydliad Nationwide a Llywodraeth Cymru, mae rhaglen Cwmpas, Cymunedau’n Creu Cartrefi, yn cynnig cymorth cynhwysfawr am ddim wedi’i deilwra i bob cynllun tai. Mae disgwyl i’r prosiect arwain at sector tai cydweithredol ac a arweinir gan y gymuned sy’n ffynnu yng Nghymru, ac mae ei angen yn ddirfawr.

Nid am y tro cyntaf, rwy’n codi pryderon am eiddo gwag. Cafwyd dadleuon ynghylch y nifer. A gaf i ddweud—mae un eiddo gwag yn ormod? Tra bod rhai'n cael eu hadnewyddu ac eraill yn cael eu marchnata, erys y broblem fod anheddau'n cael eu gadael yn wag am flynyddoedd. Mae rhesymau dros hynny, gan gynnwys teuluoedd yn etifeddu eiddo ac yn byw dramor, ac anghydfodau teuluol. Mae llawer o'r eiddo mewn ardaloedd poblogaidd iawn, a byddent yn gwerthu'n hawdd. Mae cartrefi gwag yn adnodd sy’n cael ei wastraffu mewn cyfnod o alw sylweddol am dai. Gallant hefyd fod yn niwsans ac achosi problemau amgylcheddol, lle gall cartrefi gwag ddenu lefelau uwch o droseddu, fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin cyffuriau, gerddi wedi gordyfu, ffensys neu waliau ffiniol ansefydlog, a chyda waliau a rennir, gall lleithder ddod drwyddynt. Rwyf wedi cael cwynion gan etholwyr am bob un o'r materion hynny, mewn perthynas â thŷ gwag. Maent hefyd yn adnodd tai posibl nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd. Gall dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd helpu i fynd i’r afael â materion tai a materion cymdeithasol drwy gynyddu’r cyflenwad mewn ardaloedd lle ceir prinder tai, a rhoi cyfle i gysylltu cartrefi gwag addas ag anghenion tai.

Os bydd pob ymdrech i berswadio perchnogion i ddod â’u heiddo yn ôl i ddefnydd yn methu, a bod eiddo o’r fath yn parhau i fod yn niwsans, neu mewn cyflwr gwael, mae angen i gynghorau ystyried eu pwerau gorfodi. Byddai cyflwyno pwerau prynu gorfodol i gynghorau pan fo tŷ neu fflat wedi bod yn wag ers pedair neu bum mlynedd yn gwella argaeledd tai. Pan fydd pryniant gorfodol wedi'i wneud, gellir gwerthu'r eiddo wedyn i gymdeithas dai, perchen-feddiannydd, neu landlord preifat i ddod â'r adeilad yn ôl i ddefnydd. Y peth allweddol yw dod ag ef yn ôl i ddefnydd. Mae ei berchnogaeth yn llawer llai pwysig.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru fenthyciadau Troi Tai’n Gartrefi sydd ar gael i adnewyddu eiddo gwag a’u gwneud yn addas i fyw ynddynt. Mae’r benthyciadau’n ddi-log, ac mae’r arian ar gael cyn i’r gwaith ddechrau. Gall hyn dalu am waith ar dai neu adeiladau masnachol, gan gynnwys rhannu eiddo'n fflatiau.

Rhwng 1945 a 1959—chwe blynedd o Lywodraeth Lafur ac wyth mlynedd o Lywodraeth Geidwadol—adeiladwyd 120,000 o dai cyngor yng Nghymru. Roedd adeiladu tai cyngor yn cael ei ystyried yn her gan y ddwy blaid wleidyddol, ac erbyn canol y 1970au, roedd cydbwysedd rhwng y galw a'r cyflenwad o dai rhent. Cafodd y cydbwysedd hwn ei chwalu drwy werthu tai cyngor am brisiau gostyngol, a fu bron â rhoi diwedd ar adeiladu tai cyngor, a oedd yn anochel, oherwydd pe gellid gwerthu tai am brisiau gostyngol iawn i bobl a oedd wedi bod yn denantiaid tŷ cyngor am unrhyw gyfnod o amser, roedd hi'n amlwg y byddai pobl yn symud i mewn i'r rhai newydd, yn eu prynu, a byddai gan y cyngor y ddyled ond nid y tŷ.

Gyda miloedd o bobl yn ddigartref neu heb gartref addas, y ffordd orau o ddarparu tai fforddiadwy o safon yw drwy adeiladu tai cyngor. Mae angen i Lywodraeth Cymru osod targed i gynyddu nifer y tai cyngor a adeiladir bob blwyddyn, gan anelu at 5,000 o dai y flwyddyn yn 2030-31. Mae angen inni weithio hefyd gyda’n landlordiaid yn y sector rhentu preifat, y mae llawer ohonynt yn fwy na pharod i weithio gyda Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod eu tai yn cael eu defnyddio. Rwy'n cymeradwyo'r cynllun lle mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu i landlordiaid yn y sector rhentu preifat drosglwyddo eu tai i Lywodraeth Cymru eu rhentu er mwyn iddynt allu gosod y tai hynny ar rent i denantiaid cymdeithasol, ac mae'r landlord preifat yn cael incwm gwarantedig. Mae angen inni gynyddu nifer yr eiddo sydd ar gael i’w rentu ym mhob math o ddeiliadaeth, gan fod pawb yn haeddu cartref addas.

A phwynt personol cyflym: mae fy merch yn gwybod pa mor anodd yw prynu tŷ ar Ynys Môn, gan fod mwy a mwy ohonynt yn cael eu prynu fel ail gartrefi. A phan na all athrawes 25 oed fforddio prynu cartref ar Ynys Môn, mae gennym broblem.

16:50

Hoffwn ddweud ei bod yn bleser cael siarad yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dai heddiw, a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Fel yr amlinellwyd gan fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, wrth agor y ddadl heddiw, mae gennym argyfwng tai amlwg yma yng Nghymru, ac mae’n ddrwg iawn gennyf ddweud, ni all unrhyw un yn y Blaid Lafur chwarae eu hoff gêm nawr a phwyntio’r bys ar San Steffan, gan fod y bai ar Lywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi bod wrth y llyw yma yng Nghymru am y 25 mlynedd diwethaf. Mae ar Gymru angen i 12,000 fan lleiaf o gartrefi newydd gael eu hadeiladu bob blwyddyn. Yn anffodus, o dan y Llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd dros y degawd diwethaf, prin eu bod wedi adeiladu hanner y nifer hwnnw. Mae hyn oll tra bod ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2023 yn dangos bod gennym 103,000 o anheddau sy'n wirioneddol wag yng Nghymru. Mae cynllun tai'r Ceidwadwyr Cymreig, a gafodd sylw yn ein cynnig heddiw, yn cynnwys tri phwynt gweithredu y credwn y byddant yn gwneud llawer i fynd i’r afael â'r argyfwng tai yng Nghymru fel y'i gwelwn yma bob dydd, yn anffodus.

Buaswn yn synnu pe gallai unrhyw Aelod edrych ym myw fy llygad a dweud wrthyf fod gennym ddigon o gynllunwyr yn ein cynghorau ledled Cymru, ac rwy'n amau y gall unrhyw Aelod, yn gwbl onest, ddweud wrthyf fod gennym y genhedlaeth nesaf o gynllunwyr yn barod ac ar dân i gychwyn. Ond mae angen inni wneud rhywbeth mawr, ac mae angen inni ei wneud ar unwaith, oherwydd fel y saif pethau, mae llawer o gynllunwyr profiadol yn ymddeol, yn gadael y diwydiant, neu'n ystyried y rôl yn ormod o straen, ac mae recriwtiaid newydd dan hyfforddiant yn cael eu bachu gan y sector preifat. Felly, yn gyntaf, mae angen inni sefydlu tasglu penodol o gynllunwyr i fynd i’r afael â’r ôl-groniadau cynllunio yng Nghymru, y cynghorau sy’n perfformio arafaf, a chreu prentis cynllunio ar gyfer pob cyngor yma yng Nghymru.

Yn ail, mae'n rhaid inni ddatblygu a chefnogi datblygwyr bach yng Nghymru i adeiladu cartrefi ar dir sy’n eiddo i Lywodraeth Lafur Cymru a chynghorau lleol ac sydd wedi’i brynu o'r pwrs Cymreig, felly dylid canolbwyntio ar ddiwallu'r angen lleol am dai, a hynny'n gwbl onest.

Yn olaf, ac yn drydydd, mae'n rhaid inni droi eiddo gwag Cymru yn ôl yn gartrefi. Ni all fod yn iawn fod dros 100,000 o anheddau gwirioneddol wag yma yng Nghymru. Mae gan Gymru argyfwng tai, ni waeth faint y bydd unrhyw un yn mwmian—. Ewch amdani.

16:55

Pan fyddwch yn sôn am y niferoedd a’r ystadegau sy'n gysylltiedig ag eiddo gwag, rwy'n gobeithio eich bod yn sylweddoli bod canran uchel ohonynt yn ail gartrefi, felly rwy’n cymryd, gan hynny, eich bod yn cytuno â’r camau a gymerwyd gennym gyda Llywodraeth Cymru i ddod â’r tai hynny yn ôl i berchnogaeth pobl leol.

Rwy'n derbyn eich sylw, ond fel y dywedodd fy nghyd-Aelodau pan oeddech yn gwneud eich sylw, mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â chartrefi sy'n wirioneddol wag. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i chi ei ystyried gyda hynny.

Nawr, fel y soniais, mae gan Gymru argyfwng tai, ac mae diffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau tai i deuluoedd a chenedlaethau’r dyfodol yn amlwg i bawb. Pan oeddwn yn ifanc, roedd bod yn berchen ar fy nghartref fy hun yn freuddwyd gennyf, ac mae'n fy nigalonni, yn fy nigalonni'n fawr, y bydd hon yn parhau i fod yn ddim mwy na breuddwyd i gynifer o bobl ledled y wlad, os na fydd pobl yn Senedd Cymru yn torchi eu llewys.

Na, rwy'n brin o amser, ond diolch yn fawr iawn. Dyna pam fy mod yn galw ar bob Aelod i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ac i fynd i’r afael ag argyfwng tai Cymru unwaith ac am byth. Diolch yn fawr iawn.

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae’n fater difrifol iawn, sy’n effeithio ar bobl ledled Cymru. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cael y manylion yn gywir, gan mai dim ond wedyn y gallwn ddefnyddio'r pwerau a'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn llwyddiannus i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i fynd i'r afael â'r broblem hon.

Mae’r ffigur a ddyfynnwyd yn y cynnig yn anwybyddu'n gyfleus iawn yr ail gartrefi, fel y nododd Mabon, ac y nododd y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu bod yn wag am rannau helaeth o’r flwyddyn, ac yn ddiamau, yn gwaethygu’r angen am dai mewn ardaloedd sy’n denu llawer o dwristiaeth. Mae angen inni wybod beth yn union yw’r bwlch yn y stoc dai a nifer y cartrefi sydd eu hangen i gartrefu pobl yn briodol. Felly, gwyddom fod ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amheus, gan eu bod yn ddwyflwydd oed ac yn seiliedig ar gyfrifiad 2021 a gynhaliwyd yn ystod y pandemig. Mae’r rhybudd iechyd hwn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael ei anwybyddu yn gyfleus iawn gan y Torïaid yn eu cynnig.

Ymddengys i mi mai Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n darparu’r data mwyaf dibynadwy, oherwydd fel arall, pam y byddai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn dibynnu ar adroddiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar dreth gyngor anheddau i amcangyfrif faint o dreth gyngor y mae angen iddynt ei chodi i fodloni eu rhwymedigaethau? Felly, y ffigur gwirioneddol o gartrefi gwag yw oddeutu 22,500. Felly, llai na 23,000. Ac rwy’n cytuno â siaradwyr cynharach sy’n dweud ei bod yn warthus, y dylid dod ag eiddo sydd wedi bod yn wag ers dros chwe mis yn ôl i ddefnydd lle bo modd, pan fo cynifer o bobl gymaint o angen cartref parhaol yn hytrach na llety dros dro.

Felly, yn amlwg, mae data Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn galluogi awdurdodau lleol i asesu faint o dreth gyngor atodol y mae angen iddynt ei chodi er mwyn lliniaru cost yr ail gartrefi hyn, yn seiliedig ar yr effaith y maent ei chael ar waethygu'r angen am dai lleol, ond rydym yn gwneud—. Credaf y gall pob un ohonom gytuno bod llai na 23,000 eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis y dylem fod yn ei ddefnyddio i liniaru digartrefedd.

Mae tai fforddiadwy yn brin yn fy etholaeth. Mae fy etholwyr nad ydynt yn ddigon lwcus i fyw mewn tai cymdeithasol yn byw mewn eiddo rhent preifat, a nhw sydd yn y cartrefi mwyaf ansicr. Mae rhai ar drugaredd landlordiaid ac asiantaethau gosod tai nad ydynt yn darparu tai diogel, iach nac effeithlon o ran ynni, ac sy’n bachu blaendaliadau tenantiaid fel mater o drefn ar ddiwedd tenantiaethau.

Yn anffodus, mae myfyrwyr yn ysglyfaeth hawdd i landlordiaid diegwyddor. Yno, cânt eu profiad cyntaf o rentu eu lle eu hunain, ac yn aml, nid oes ganddynt hwy na'u teuluoedd amser nac adnoddau i frwydro yn erbyn y pentwr diddiwedd o fiwrocratiaeth sydd ei angen i fynnu eu blaendaliadau yn ôl. Nid oes gan Rhentu Doeth Cymru ddigon o adnoddau i fynd ar ôl y bobl hyn, er gwaethaf y cynllun blaendal gorfodol.

Mae natur ansefydlog y sector rhentu preifat yn iawn i fyfyrwyr sydd eto i fwrw gwreiddiau. I deuluoedd â phlant, mae'n drychineb, am ei fod yn golygu eu bod yn aml yn gorfod newid ysgol—

17:00

Diolch yn fawr, Jenny. Tybed a allech chi egluro eich sylwadau ar landlordiaid preifat oherwydd, fel unrhyw beth mewn bywyd, mae gennych chi landlordiaid da a landlordiaid gwael, ond mae'n ymddangos eich bod chi'n eu paentio i gyd â'r un brws ac yn gwneud diafoliaid o bobl dda, Jenny.

Nac ydw, ddim o gwbl; nid oeddech yn gwrando. Dywedais 'llawer'; ni ddywedais 'pob un' o gwbl. Rwy'n cytuno'n llwyr fod rhai landlordiaid yn darparu tai fforddiadwy, cynnes yn y sector rhentu preifat, ond yng Nghanol Caerdydd, maent fel nodwydd mewn tas wair, a dweud y gwir; maent yn brin iawn. Ond rwy'n cyfaddef eu bod yn bodoli, ac maent yn bodoli mewn rhannau eraill, yn ddi-os. Yng Nghanol Caerdydd, mae bron yn amhosibl dod o hyd i gartrefi sy'n fforddiadwy i unrhyw un sy'n dibynnu ar y lwfans tai, nad yw'n dechrau talu cost rhentu yng Nghaerdydd.

Rwy'n llongyfarch y Gweinidog ar yr ymdrechion y mae hi'n ei wneud i ddiwygio'r farchnad rentu a sicrhau bod landlordiaid yn gofalu am eu heiddo a'u tenantiaid, ac nad ydynt yn eu defnyddio fel ffordd o wneud llawer o arian yn unig. Rwy'n siomedig mai dim ond 69 o landlordiaid preifat yng Nghaerdydd sydd wedi ymrwymo i gynllun lesio Llywodraeth Cymru, sy'n un ffordd dda iawn o sicrhau bod mwy o gartrefi cymdeithasol ar gael a chartrefi rhent preifat o ansawdd gwell, a fydd yn y pen draw yn dychwelyd i'r bobl sy'n berchen arnynt.

Rwy'n cytuno'n llwyr bod angen mwy o stoc dai, ond mae sut a ble y gwnawn hyn o'r pwys mwyaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig rhannu'r hyn a ddysgwyd o'i rhaglen tai cymdeithasol arloesol, ond mae'r chwe chwmni adeiladu tai mawr yn parhau i fod eisiau eu hadeiladu—

Iawn. Pen draw gallu pobl i dalu. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r cynlluniau datblygu lleol i sicrhau nad ydynt yn ceisio torri'r holl reoliadau cynllunio sydd gennym i osgoi mwy o dagfeydd, mwy o lygredd aer, diffyg cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy'n cefnogi'r cynnig fel y'i diwygiwyd.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn amlwg, rydym wedi clywed am nifer o broblemau a materion yn ymwneud â thai hyd yma heddiw, ond gadewch inni fod yn glir: mae gwreiddiau'r materion hyn yn Llywodraeth Cymru a'r ffaith eu bod yn gwrthod sicrhau bod digon o gartrefi'n cael eu hadeiladu ar gyfer pobl Cymru. Ac yn hytrach na rhoi sylw i'r broblem go iawn drwy fynd i'r afael â'r ôl-groniadau cynllunio, drwy gefnogi datblygwyr bach a throi eiddo gwag yn gartrefi, maent yn penderfynu tincran ar yr ymylon ac ymosod ar eraill, fel y rhai yn y diwydiant twristiaeth, a'u llusgo i mewn i—. Maent yn esgus bod yna argyfwng gyda busnesau hunanarlwyo sy'n gweithio'n galed yn y sector hwnnw i ddenu pobl i Gymru a darparu lle iddynt aros, fel y gallant wario arian a rhoi hwb i'n heconomïau lleol.

Mae data'n dangos yn glir iawn fod y cyflenwad tai yng Nghymru yn parhau i fod yn llawer is na'r lefelau cyflenwi a gyflawnwyd yn ystod y 1990au ac i mewn i ganol y 2000au, a bod nifer y caniatadau cynllunio ar gyfer prosiectau newydd ar duedd tuag i lawr. Ac yn anffodus, nid oes fawr o arwydd y bydd hyn yn newid, er gwaethaf yr hyn sydd gan y Blaid Lafur ar lefel y DU i'w ddweud ar y mater. Roedd yn ddiddorol darllen ymrwymiad gan Blaid Lafur y DU i fynd ati o ddifrif i ddiwygio cynllunio; i adeiladu'r genhedlaeth nesaf o drefi newydd; i ryddhau meiri—pecyn datganoli meiri—gyda phwerau cryfach dros reolaeth gynllunio; a phasbort cynllunio ar gyfer datblygu tir llwyd trefol. Mae llawer o'r pethau hyn yn swnio'n wych, ac os mai dyma yw cynlluniau'r Blaid Lafur mewn gwirionedd, nid oes gennyf syniad pam nad ydynt yn ei wneud yma yng Nghymru, lle maent wedi bod mewn grym ers 25 mlynedd. Mae'n amlwg i mi nad yw Llywodraeth Lafur Caerdydd a'u partneriaid clymblaid ym Mhlaid Cymru o ddifrif o gwbl ynglŷn ag adeiladu cartrefi a darparu dyfodol i bobl Cymru—

17:05

A ydych yn awgrymu y dylem ganiatáu i'r adeiladwyr tai fynd ati i adeiladu cartrefi nad ydynt yn garbon niwtral, y mae'n rhaid i ni eu hôl-osod wedyn? Oherwydd mae hynny'n wastraff arian llwyr, ac mae'n dadlwytho'r broblem ar y bobl sydd dan bwysau ac sy'n ei chael hi'n anodd i'w prynu yn y lle cyntaf.

Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, Jenny, ond gadewch imi eich atgoffa: roeddwn yn dyfynnu o faniffesto'r Blaid Lafur, felly mae'n debyg y dylech chi drafod hynny gyda'ch cymheiriaid yn San Steffan, buaswn i'n awgrymu.

Mae'n ymddangos i mi nad yw Llafur o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r mater yma yng Nghymru. A gadewch inni fod yn glir eto: nid ydym, fel Plaid Geidwadol, heddiw, wedi cyflwyno problemau a materion, rydym wedi cyflwyno cynllun i ymdrin â hyn. Byddwn yn mynd i'r afael â'r ôl-groniadau hynny, byddwn yn cefnogi'r datblygwyr bach hynny, ac mae gennym gynllun i droi eiddo gwag yn gartrefi, a dyna pam rwy'n annog pawb i bleidleisio a chefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig sydd o'n blaenau heddiw.

Rwyf wedi bod yn ymweld â chartrefi newydd a adeiladwyd ar draws gogledd Cymru, a chyda chyllid Llywodraeth Cymru, cartrefi am oes, wedi'u hinswleiddio'n dda, gyda phaneli solar, a dyna beth sydd angen i ni fod yn ei wneud. Nid cartrefi am nawr, ond cartrefi sy'n addas ar gyfer y dyfodol, a hoffwn weld mwy o rai felly'n cael eu hadeiladu yn y sector preifat. Ond hoffwn iddynt gael eu hadeiladu gyda seilwaith ysgolion, iechyd a ffyrdd y gellir eu mabwysiadu gan gynghorau hefyd.

Gan droi'n ôl at gynllunwyr a chael swyddogion cynllunio a draenio ar waith, mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymladd dros yr un swyddogion. Roedd cael eich cyflogi gan y cyngor yn arfer bod yn swydd o fri—roeddech chi'n gwybod ei bod yn swydd am oes fel arfer, gyrfa gyda thelerau ac amodau da—ond nawr maent yn cael trafferth recriwtio, ers i gyni ddechrau brathu. Mae swyddi wedi cael eu colli i'r sector preifat neu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sy'n gallu fforddio eu talu, rhoi adolygiadau blynyddol iddynt, ond mae swyddi gwag bellach yn cael eu cymryd fel arbedion cost.

Mae'r ardoll brentisiaeth wedi cael effaith fawr hefyd. Rwy'n cofio iddi gael ei chyflwyno pan oedd y cyngor yn datblygu prentisiaid yn swyddogion cynllunio a swyddogion technegol. Roedd yr effaith yn sylweddol, gan ychwanegu pwysau o £100,000 pan gafodd ei gyflwyno gyntaf.

Mae'r argyfwng tai wedi'i wreiddio yn y 1980au. Dechreuodd y prinder tai cymdeithasol o dan Thatcher. Fe wnaeth ei Llywodraeth hi ddiddymu cyllid i gynghorau ar gyfer adeiladu tai, a gwelodd y polisi hawl i brynu trychinebus ostyngiad o 45 y cant yn y tai cymdeithasol a oedd ar gael rhwng 1981 a 2014. Ni chafwyd tai newydd yn lle'r rhan fwyaf o'r cartrefi a werthwyd o dan y polisi hwn. Cafodd nifer helaeth o asedau'r wladwriaeth eu gwerthu i'r sector preifat, ac o ganlyniad, fe gostiodd arian i bobl leol—

Fe wyddoch chi fod Margaret Thatcher wedi dod i rym dros 40 mlynedd yn ôl. Rydych chi wedi bod wrth y llyw yng Nghymru ers 25 mlynedd. Beth ydych chi wedi bod yn ei wneud?

O'r gorau. Fe wnaf barhau ac fe wnaf ddweud wrthych. Iawn.

Felly, hoffwn ddweud hefyd nad oedd modd i'r awdurdodau lleol gadw a buddsoddi'r arian a wnaed o werthu tai cyngor. Roedd hi'n 2016 cyn bod awdurdodau lleol yn gallu cadw'r rhent o'r eiddo yr oeddent yn dal i fod yn berchen arno, i ail-fuddsoddi i'w codi i safon ansawdd tai Cymru, ac i ddechrau buddsoddi go iawn mewn adeiladu tai cyngor, oherwydd ni chodwyd y cyfyngiadau ar fenthyca yn 2016.

Yn anffodus, erbyn hynny, roedd toriadau Torïaidd yn sgil polisïau cyni'n brathu. Mae'r cyfraddau llog uchel sydd gennym ar hyn o bryd oherwydd cyllideb Truss wedi effeithio ar fenthyca a chost deunyddiau, ac mae prinder gweithlu oherwydd Brexit, a bydd pob un o'r pethau hyn yn effeithio ar darged Llywodraeth Cymru o adeiladu 20,000 o gartrefi di-garbon i'w gosod ar rent, ac effeithiwyd ar fforddiadwyedd adeiladu tai newydd. Mae'r lwfans tai lleol wedi cael ei rewi gan Lywodraeth y DU ac mae'r gronfa taliadau disgresiwn at gostau tai, sy'n rhoi ychwanegiadau i awdurdodau lleol tuag at daliadau rhent, wedi'i lleihau'n sylweddol. Ac mae'r sefyllfa'n symud yn gyflym ac yn ddifrifol.

Credaf hefyd y gallai'r dreth gyngor gael ei disodli gan dreth gwerth tir, y telir amdani gan berchennog yr eiddo, a byddai hefyd yn helpu i atal datblygwyr rhag bancio tir. Rwyf hefyd yn poeni, fel Gareth, nad oes digon o ddatblygu ar safleoedd tir llwyd. Mae datblygwyr yn dewis safleoedd maes glas, sy'n llawer symlach, yn haws ac yn rhatach i'w datblygu, sy'n bryder enfawr, ond rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ac wedi rhoi polisïau ar waith, fel y gellir datblygu safleoedd tir llwyd yn gyntaf fel blaenoriaeth.

Ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu, Tom. Er enghraifft, y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd £65 miliwn i sicrhau bod gan bawb le i'w alw'n gartref. Mae'n anodd iawn i bobl symud ymlaen o fyw mewn llety gwely a brecwast, ond mae'r gronfa hon yn eu helpu i symud o lety dros dro ac yn cefnogi ystod eang o brosiectau gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i greu capasiti tai ychwanegol mawr ei angen ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid i landlordiaid adnewyddu eiddo gwag i'w defnyddio unwaith eto. Mae cyllid hefyd ar gael i brynu eiddo rhent preifat er mwyn dod â nhw'n ôl i'r sector cyhoeddus. Hen dai cyngor yw'r rheini, fel y gallant ddod yn ôl i'r farchnad rentu.

Er gwaethaf yr uchelgeisiau cadarnhaol sydd gennym yng Nghymru, mae'r system dai dan bwysau sylweddol, ac rwy'n falch o ddweud y bydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymchwiliad i'r cyflenwad tai cymdeithasol cyn bo hir.

17:10

A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon yn wir, drwy nodi'r £3.5 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd tuag at ddiwedd y llynedd ar gyfer safle tir llwyd Heol Ewenni? Mae'n waith adfer enfawr. Mae wedi bod yn wag ers 10 mlynedd ers i'r hen ddiwydiannau arno fynd. Mae ar ben uchaf cwm Llynfi. Ond mae'r dyraniad hwnnw o £3.5 miliwn bellach wedi'i gadarnhau gan brifddinas-ranbarth Caerdydd, rwy'n dweud hynny oherwydd mae llawer o bobl wedi dweud, 'Nid oes unrhyw beth yn dod o brifddinas-ranbarth Caerdydd i'n hardal ni.' Wel, mae'n £3.5 miliwn i baratoi safle tir llwyd ar gyfer dros 200 o gartrefi, a bydd cyfran ohonynt yn gartrefi fforddiadwy hefyd, ynghyd ag uned fenter, cyfleuster parcio a theithio a chyfnewidfa drafnidiaeth wrth ymyl gorsaf Ewenni, ac yn y blaen. Felly, rwy'n canmol prifddinas-ranbarth Caerdydd am gymeradwyo'r cyllid hwnnw, a hefyd gwaith yr awdurdod lleol sydd wedi bod yn gweithio gyda'r datblygwyr y tu ôl i'r llenni, i sicrhau y gall hwnnw fod yn barod pan fydd yr arian wedi'i gyhoeddi. Rwy'n gobeithio, Weinidog, y byddwch yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol a chyda datblygwyr yno i adfer y safle hwnnw cyn gynted â phosibl. 

Mae'r un arall yr hoffwn ei grybwyll yn nwyrain etholaeth Ogwr, sef datblygiad Llanilid. Ac roedd yn wych cael y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf, ac mae'n dangos sut y gallwn adeiladu cymunedau cynaliadwy gyda thai fforddiadwy, a datblygu safleoedd, a'i wneud mewn ffordd gynaliadwy gyda thrafnidiaeth gynaliadwy yn ganolog iddo. Oherwydd pan gynhaliwyd yr adolygiad ffyrdd, roedd yn rhaid i ni aros a meddwl eto am gwblhau—roedd yr arian yno ar ei gyfer—yr hyn a elwid yn ffordd osgoi Llanharan. Nawr, gydag ymgysylltiad y Gweinidog, mae'n rhaid imi ddweud, ond hefyd gydag arweinyddiaeth Andrew Morgan yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gwaith caled gan swyddogion yn Llywodraeth Cymru, a hefyd yn awdurdod Rhondda Cynon Taf, rydym yn ceisio dod o hyd i ffordd o fwrw ymlaen â'r datblygiad hwn, a chysylltu'r cymunedau hynny, nid drwy ffordd osgoi draddodiadol, ond mewn gwirionedd drwy edrych ar seilwaith bysiau priodol, llwybrau beicio priodol fel rhan ohono, efallai gostyngiadau cyflymder ar hyd y darn olaf, ac yn y blaen, ond byddwn yn agor y safle hwnnw ar gyfer datblygu tai hefyd. Mae hynny'n beth mawr, fel y gwelwn ar hyd llawer o goridor yr M4, lle mae pobl eisiau byw oherwydd y mynediad at swyddi a gweithgareddau cymdeithasol ac yn y blaen.

Ond roedd y peth yr oeddwn eisiau canolbwyntio o ddifrif arno heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn rhywbeth nad yw wedi cael ei grybwyll hyd yn hyn. Heb os, ar draws Prydain—nid yn unig yng Nghymru, ond ledled Prydain—rydym yn cael trafferth nid yn unig gyda'r cyflenwad tai, ond hefyd gyda mynediad at dai fforddiadwy i'w rhentu yn ogystal â phrynu—rhentu a phrynu. Weithiau, mae'r trafodaethau hyn yn canolbwyntio ar y naill neu'r llall. Rydym angen y ddau mewn gwirionedd, ac rydym angen i'r ddau fod yn fforddiadwy hefyd. Rydym yn gweld rhenti'n codi i'r entrychion, rydym hefyd yn gweld lesddeiliaid yn cael eu hecsbloetio. Mae cyd-Aelodau ar fy meinciau i ac eraill wedi tynnu sylw at hyn dro ar ôl tro. Ac rydym yn gweld pobl yn cael eu prisio allan o berchentyaeth.

Rwyf eisiau awgrymu ffordd arall, ac ni ddylai fod yn syndod i bobl fy mod yn awgrymu hyn. Mae'n rhywbeth nad ydym wedi'i wneud ar raddfa fawr, sef tai dan arweiniad y gymuned. Mae hynny'n golygu bod deiliadaeth wedi'i gloi i mewn felly mae'n gostwng prisiau mewn gwirionedd, mae'n sefydlu'r ddeiliadaeth honno, boed yn dai i'w prynu neu'n dai rhent, ond mae wedi'i gloi i mewn i ddeiliadaeth gymunedol. Rwy'n credu y dylem fod yn gwneud mwy yng Nghymru wrth symud ymlaen gyda thai dan arweiniad y gymuned. Mae gennym enghreifftiau da yng Nghymru. Mae rhai ohonynt wedi cael trafferth, ond mae rhai wedi llwyddo. Mae angen inni ddod o hyd i ffordd o wneud hyn ar raddfa fwy fel ein bod yn rhoi'r model democrataidd hwn yn y canol—tai dan arweiniad y gymuned, tai cydweithredol, i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, a gwell ymgysylltiad cymunedol hefyd, wrth gynnal eu cartrefi eu hunain, yn ogystal â'u hardal a'u bro. Dyna'r peth pwysig am hyn hefyd. A chostau is—costau is ar gyfer rhentu a chostau is i brynu a gwerthu ymlaen. Felly, hoffem weld mwy yn cael ei wneud yn y sector tai dan arweiniad y gymuned.

Rwy'n Aelod Llafur a Chydweithredol o'r Senedd, fel y mae pobl yn gwybod. Mae rhai o'r awgrymiadau a gyflwynwyd yn cynnwys pethau fel model deiliadaeth tai cydweithredol penodol newydd, a fyddai'n ei annog, a rhagdybiaeth defnydd tir o blaid cwmnïau cydweithredol ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned. Rwy'n gwybod bod diddordeb mawr yma yng Nghymru eisoes am yr hyn y gallwn ei wneud gydag ymddiriedolaethau tir cymunedol. Mewn gwirionedd, yn rhyfedd, fe gododd yn yr hystingau y diwrnod o'r blaen hefyd, i'r ddau sydd yn y ras am arweinyddiaeth Llafur, ac mae'r ddau ohonynt yn aelodau cydweithredol. Gofynnwyd cwestiwn o'r llawr am ymddiriedolaethau tir cymunedol, beth oedd barn pobl am hynny. Felly, mae hynny'n gyfle hefyd. [Torri ar draws.] Wel, mae hon yn ddadl ar dai, a'r hyn rwy'n ei awgrymu yw bod angen inni newid y model tai yn gyfan gwbl, oherwydd mae llawer o'r ddadl heddiw yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud i adeiladu mwy o dai sector preifat. Rydym wedi cyffwrdd ar dai fforddiadwy, ond mae'r diffiniad o 'fforddiadwy' yn ddiddorol iawn. Pan edrychwch ar dai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned, mae'n wirioneddol fforddiadwy. Felly, rwy'n awgrymu ein bod yn tarfu ar y farchnad honno. [Torri ar draws.] Gwnaf, yn sicr.

17:15

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am gloi drwy ddweud bod angen pob math o fodelau o fewn y farchnad dai, ond rwy'n credu y dylem fod yn gwneud mwy—a byddech chi'n disgwyl i mi ddweud hyn—gyda'r model cydweithredol a'r model dan arweiniad y gymuned, oherwydd rwy'n credu y gall hynny darfu ar y farchnad dai a'i gwella, a darparu tai fforddiadwy ar gyfer eu rhentu a'u gwerthu. 

Diolch yn fawr. Gadewch imi ddiolch yn gyntaf i Darren Millar am y cyfle i drafod pwnc mor bwysig heddiw. Rydym yn amlwg yn cytuno ar yr angen i adeiladu mwy o dai, ac rwy'n credu ein bod yn cytuno ar rai o'r rhwystrau o leiaf.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r sector adeiladu tai wedi wynebu tarfu ar y gadwyn gyflenwi, chwyddiant yng nghost deunyddiau a phrinder llafur yn dilyn Brexit, ac wrth gwrs rydym i gyd yn gwybod am yr effaith y mae cynnydd yn y llog ar forgeisi wedi'i chael ar y farchnad hefyd. Rhaid imi nodi bod hyn wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i gyllideb fach Truss-Kwarteng. Mae'r meinciau Ceidwadol yn griddfan, ond mae hwnnw'n gasgliad clir, nid yn unig gennyf fi, ond gan Fanc Lloegr ei hun, sydd wedi dweud bod hynny'n wir. Dyna a achosodd i werth y bunt ostwng i lefelau is nag erioed, ac mae wedi gwneud pethau'n ddrutach i'w prynu, sydd wedi cynyddu chwyddiant ac wedi cynyddu cost benthyca. Felly, ni ellir gwadu bod y Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU wedi achosi argyfwng economaidd sydd wedi gwneud yr her o adeiladu mwy o dai yn anos byth, ac mae angen iddynt gymryd cyfrifoldeb am hynny. Mae angen i Andrew R.T. Davies ac eraill a gefnogodd Liz Truss drwy bopeth dderbyn canlyniadau'r penderfyniadau hynny.

Er hyn oll, rydym wedi bod yn glir ynglŷn â'n cyfrifoldebau ni—

Na wnaf.

Tai cymdeithasol yw ein blaenoriaeth, a dylai fod yn flaenoriaeth y mae pawb ohonom yn ei chefnogi. Rydym wedi gwneud ymrwymiad uchelgeisiol i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon, a chredaf fod yr achos dros fuddsoddi mewn tai cymdeithasol mor gryf ag erioed. Mae'r sylwadau oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ddiddorol—Janet Finch-Saunders yn ceisio dweud bod rhyddid yn dibynnu ar y gallu i fod yn berchen ar eich cartref eich hun. Mae yna ddogma ideolegol yma sy'n mynd yn ffordd yr hyn y mae pobl ei eisiau, sef lle gweddus i fyw. Mae arnaf ofn fod y ddogma hon am y farchnad yn un o'r rhesymau pam ein bod yn wynebu'r trafferthion sydd gennym heddiw.

17:20

Wrth sôn am allu pobl i fyw lle maent yn dymuno byw, rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol, drwy grant datblygu adeiladau Llywodraeth Cymru, fod Cyngor Sir Penfro, yn 2022, wedi prynu 46 o hen dai y Weinyddiaeth Amddiffyn sydd bellach yn mynd i bobl leol mewn angen eithafol, rai ohonynt rhag i bobl fynd yn ddigartref, a byddant yn cael eu hadnewyddu i gyrraedd eu safon ansawdd tai newydd. Ai dyna'r math o feddylfryd ideolegol rydych chi'n ei gefnogi, Weinidog?

Diolch. Mae honno'n enghraifft dda iawn o'r effaith gadarnhaol y mae ein penderfyniadau a'n buddsoddiad wedi'i chael: bron i £1.2 biliwn wedi'i ddyrannu i'r grant tai cymdeithasol dros bedair blynedd gyntaf o dymor y Senedd hon.

Yng nghyd-destun y pwysau economaidd sy'n ein hwynebu, mae cynnal lefelau cyllid y llynedd ac eleni yn dangos ein hymrwymiad angerddol a chadarn i ddarparu mwy o dai cymdeithasol. A nodaf fod y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn dangos cynnydd yn nifer y tai fforddiadwy a ddarperir yng Nghymru—ein ail ffigur uchaf hyd yma yn y flwyddyn 2021-22. Roedd 3,212 o'r rhai a gyflawnwyd yn cyfrif tuag at y targed, gan ddod â chyfanswm yr unedau a ddarparwyd ers 2021 i 5,775. Mae hwnnw'n wahaniaeth pendant a wneir gennym i bobl Cymru.

Mae angen mwy o gartrefi arnom ac mae angen inni eu codi'n gyflymach, ac mae'n bwysig dweud, er bod y grant tai cymdeithasol yn ganolog i hyn, fod yna raglenni a pholisïau eraill sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu tai cymdeithasol. Mae ein rhaglen gyfalaf llety trosiannol, y gronfa tai â gofal a'n rhaglen adfywio yn cefnogi ystod eang o brosiectau i ddiwallu anghenion pobl Cymru. Mae cynllun lesio Cymru, y mae Julie James wedi'i grybwyll sawl gwaith, yn gwella mynediad at dai fforddiadwy mwy hirdymor yn y sector preifat. Mae gennym fenter ymarferol i gynyddu niferoedd tai i'w rhentu. Ac yn hollbwysig, mae ein gwasanaethau atal digartrefedd a'n gwasanaethau cymorth tai yn cefnogi cynghorau i fabwysiadu dull 'neb heb help' a darparu llety dros dro.

Fel rhan o'r cytundeb cydweithio, rydym yn archwilio sut y gellir defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol i ddarparu benthyciadau. Mae bron i £16 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol wedi'i sicrhau dros y flwyddyn hon, a'r flwyddyn nesaf, i gefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu mwy o gartrefi cymdeithasol. Rydym wedi lansio'r rhaglen Cymorth i Aros Cymru, cynllun cymorth morgeisi i berchnogion tai sy'n ei chael hi'n anodd fforddio eu taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref, rhywbeth y gallai'r Ceidwadwyr yn Lloegr ddysgu ohono. A ni yw'r unig wlad yn y DU i barhau â'n rhaglen Cymorth i Brynu, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i brynwyr am y tro cyntaf, ond hefyd busnesau adeiladu tai bach a chanolig yng Nghymru. Rwyf am dynnu sylw siaradwyr y Ceidwadwyr at hynny. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y farchnad gymysg a rôl y busnesau bach a chanolig, ac rydym yn gwneud pethau ymarferol i helpu hynny.

Y peth arall sydd wedi cael ei grybwyll nifer o weithiau yw'r sefyllfa mewn perthynas â chartrefi gwag, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Fel cadeirydd tasglu'r Cymoedd, llwyddais i ehangu dull rhagorol Rhondda Cynon Taf o ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Ym mis Ionawr y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi cynllun cenedlaethol, yn seiliedig ar fodel tasglu'r Cymoedd a Rhondda Cynon Taf, gyda buddsoddiad o hyd at £50 miliwn i ddod â 2,000 eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd. Felly, unwaith eto, mae llawer o siarad oddi ar y meinciau Ceidwadol am yr angen i wneud mwy, ond rydym ni yn gwneud mwy. Unwaith eto, nid yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn Lloegr yn ei wneud i ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Rydym yn darparu grantiau o hyd at £25,000, yn ogystal â chynllun benthyciadau gwerth £43 miliwn, y soniodd Mike Hedges amdano, i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd drwy ddarparu benthyciadau di-log. Mae hynny wedi dod â 1,700 o gartrefi yn ôl i ddefnydd, yn ogystal â 1,800 eiddo masnachol a 395 o unedau canol tref, sydd unwaith eto'n rhoi hwb gwirioneddol i ganol ein trefi. Felly, rydym yn gwneud llawer iawn.

Rydym hefyd yn edrych ar ein perchnogaeth tir ac rydym yn anelu at ddatblygu safleoedd sydd ar yr ystad gyhoeddus gyda 50 y cant o dai cymdeithasol arnynt. Mae'r cynllun tir ar gyfer tai yn cynyddu'r opsiynau cyllido sydd ar gael i landlordiaid cymdeithasol i sicrhau safleoedd tir ar gyfer datblygu tai. Yn wahanol i Loegr, mae gennym gynlluniau datblygu lleol ar gyfer pob rhan o Gymru, sydd gyda'i gilydd yn darparu ar gyfer tua 225,000 o gartrefi. Mae hynny'n dangos gwerth ein dull o weithredu dan arweiniad cynllun ac rydym yn annog awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddiweddaru eu cynlluniau lle nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi nodi cysylltiad cadarnhaol rhwng cael cynllun datblygu lleol a'r cyflenwad tai. Mae hefyd wedi nodi'r rhwystrau sy'n wynebu busnesau bach a chanolig yn y broses gynllunio, ac mae'n tynnu sylw at y ffaith—unwaith eto, dylai'r Ceidwadwyr nodi'r pwynt hwn—fod nifer y cartrefi yng Nghymru sy'n cael caniatâd cynllunio bob blwyddyn wedi bod yn uwch na'r amcangyfrifon o angen ers 2014. Felly, unwaith eto, maent yn gwneud cam â'n cyflawniad go iawn wrth fynd ar drywydd eu pwyntiau ideolegol. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod digon o dir ar gael i ddiwallu anghenion tai ac mae bellach yn cael ei droi'n gomisiynau cynllunio.

Mae mwy y gallwn ei ddweud, Ddirprwy Lywydd, am y camau ymarferol rydym yn eu cymryd, a hefyd, os caf gyfeirio at y pwynt a wnaeth Jenny Rathbone, am yr angen i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd wrth i ni ei wneud. Dyna beth y gall Llywodraeth Lafur weithredol ei gyflawni mewn grym. Mae dogma'r Ceidwadwyr wedi cynhyrchu methiant yn y farchnad sydd wedi arwain at y sefyllfa hon. Mae eu hymlyniad wrth obsesiynau melinau trafod wedi arwain at gwymp yr economi, sydd bellach yn achosi poen gwirioneddol i'r holl dalwyr morgeisi—gan gynnwys Gweinidogion Ceidwadol na allant fforddio aros yn eu swyddi mwyach.

17:25

Diolch. Diolch i Janet Finch-Saunders am agor y ddadl a diolch i'r holl siaradwyr am gyfrannu. Tynnodd Janet sylw at y ffaith bod y nifer isaf o dai newydd wedi'u cwblhau yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion, a chyfeiriodd at y cynnydd cyflym yn y galw am dai rhent wrth i'r nifer yn y farchnad rentu ostwng i raddau tebyg oherwydd diwygiadau Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n cofio cynnig gwelliannau yn y dadleuon deddfwriaethol hynny, a gweld pob un ohonynt—bron i 200—yn cael eu trechu'n ideolegol gan Lywodraeth Cymru. Soniodd am y ffaith bod hyn yn anghynaladwy ac yn creu anobaith a digartrefedd oherwydd methiant chwarter canrif o Lywodraethau Llafur datganoledig, wedi'u cefnogi o bryd i'w gilydd gan Blaid Cymru. Ac yna amlinellodd ddull tair haen y Ceidwadwyr Cymreig o roi hwb i adeiladu tai yng Nghymru yn seiliedig ar gyflymder, uchelgais a chyfle.

Roedd Mabon ap Gwynfor yn gywir pan ddywedodd ein bod yn byw yng nghanol argyfwng tai a'r cynnydd mwyaf mewn costau y mae pobl yn ei wynebu yw rhoi to uwch eu pennau. Dywedodd fod degau o filoedd yn byw mewn ansicrwydd tai, fod angen inni adeiladu cartrefi cymdeithasol ar raddfa fawr, a bod y duedd bresennol o gostau tai a rhent cynyddol yn anghynaladwy.

Tynnodd Gareth Davies sylw at y ffaith bod yr argyfwng tai yn effeithio ar bawb, gyda phobl ifanc yn methu prynu, prinder tai cymdeithasol, costau tai cynyddol a'r ffaith bod nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yn is na thargedau Llywodraeth Cymru ei hun hyd yn oed. A pho fwyaf y mae'r gwaith o adeiladu tai ar ei hôl hi, y mwyaf anfforddiadwy y mae tai'n mynd. Mae angen inni gael mynediad at dir llwyd sy'n eiddo cyhoeddus, meddai, ac edrych ar y sefyllfa dai fel argyfwng.

Tynnodd Mike Hedges sylw at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn adeiladu tai, ond ni soniodd mai eu polisïau, eu cyllid a'u cyfeiriad sy'n pennu lefelau'r cyflenwad tai. Dywedodd fod un eiddo gwag yn un yn ormod—sy'n hollol gywir—fod angen inni sicrhau bod cartrefi gwag addas yn cyfateb i'r angen am dai, ac y dylai cynghorau ddefnyddio pwerau gorfodi tai. Cyfeiriodd at y ffaith bod y gwaith o adeiladu tai cyngor wedi dod i ben bron iawn ond methodd nodi bod y flaenoriaeth i adeiladu tai cyngor—pwynt nad yw Carolyn Thomas yn ymwybodol ohono chwaith, mae'n ymddangos—wedi trosglwyddo i gymdeithasau tai o dan ddeddfwriaeth yn yr 1980au.

Dywedodd Natasha Asghar mai polisïau Llywodraeth Lafur Cymru dros 25 mlynedd sydd ar fai am yr argyfwng tai a'i bod hi'n wirioneddol drist fod y freuddwyd o berchentyaeth y tu hwnt i gymaint o bobl ifanc heddiw.

Honnodd Jenny Rathbone fod ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer yr anheddau gwirioneddol wag a ddyfynnir yn ein cynnig yn amheus oherwydd eu bod wedi dyddio, ac eto mae'r cynnig yn dyfynnu ffigurau o 2023. Dywedodd fod llawer o landlordiaid yn landlordiaid gwael, er bod ymchwil yn dangos nad yw bron i 90 y cant ohonynt yn perthyn i'r categori hwn.

Tynnodd Sam Rowlands sylw at y ffaith mai Llywodraeth Cymru sydd wrth wraidd y broblem a'i methiant i fynd i'r afael â'r broblem—yn hytrach, mae'n tincran ar yr ymylon a gwneud bychod dihangol o eraill, gan gynnwys busnesau hunanarlwyo lleol cyfreithlon.

Dywedodd Carolyn Thomas yn briodol fod angen cartrefi sy'n ddiogel ar gyfer y dyfodol, ac yna dywedodd fod yr argyfwng tai wedi'i wreiddio yn yr 1980au. Wel, gallaf ddweud wrthych fod y rhai ohonom a oedd yn gweithio yn y sector tai yn yr 1980au yn gwybod mai nonsens yw hynny. Ac fel y dywedais mewn perthynas â Mike Hedges, trosglwyddodd y ddeddfwriaeth—[Torri ar draws.] Nid wyf yn credu y bydd gennyf amser; byddwn wrth fy modd yn ildio i chi, ond nid wyf yn credu y bydd gennyf amser. Dywedodd nad oedd awdurdodau lleol yn gallu cadw rhent o eiddo a buddsoddi yn y gwaith o adeiladu tai cyngor tan 2016. Wel, oherwydd bod dyled cynghorau'n effeithio ar ofyniad benthyca sector cyhoeddus, a etifeddwyd gan y Ceidwadwyr ym 1979, nid oedd ganddynt ddewis yn hynny o beth. Ond ni wnaeth Llafur unrhyw beth i fynd i'r afael â hynny yn ystod eu 11 mlynedd mewn grym, er iddynt ganiatáu cadw ar gyfer cynnal a chadw. Fe gymerodd flynyddoedd i Lywodraeth Cymru ganiatáu i gynghorau wneud hynny. Pan ddaeth y Ceidwadwyr i rym yn 2010, fe wnaethant ganiatáu hynny, ac yn Lloegr cafodd ei gyflwyno, ond cymerodd Llywodraeth Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn i ganiatáu i awdurdodau lleol ddechrau symud ymlaen a gweithredu ar hynny.

Tynnodd Huw Irranca-Davies sylw at ddatblygiadau lleol a'r angen i adeiladu mewn ffordd gynaliadwy ar gyfer rhentu a phrynu, a soniodd am dai cydweithredol dan arweiniad y gymuned ac ymddiriedolaethau tir cymunedol. Hoffwn nodi bod Llywodraethau Llafur blaenorol yng Nghymru, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, wedi dilyn y trywydd hwnnw. Cyflwynodd eich cyd-Aelod Huw Lewis bolisïau a phrosiectau mewn perthynas â hynny, felly hoffwn awgrymu eich bod yn ailedrych ar pam na fwriwyd ymlaen â hynny, a pha wersi a ddysgwyd gennych o hynny, fel sylfaen ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.

Cytunodd y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, ynghylch rhai o'r rhwystrau, ond wedyn fe wnaeth y gwleidydd dogmataidd ac ideolegol hwn daflu bai unwaith eto ar ei hoff wleidydd, Liz Truss, a'i phrif weinidogaeth dros dro. Mae'n rhaid imi ei atgoffa bod gwerth y bunt, cost benthyca a marchnadoedd wedi codi'n ôl cyn gynted ag y gwnaeth Rishi Sunak a Jeremy Hunt adfer sefydlogrwydd. Bu'n ddigon digywilydd i ddweud bod tai cymdeithasol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Lafur Cymru, wedi'r difrod a'r toriadau creulon y maent wedi'u hachosi i'r sector dros y 25 mlynedd diwethaf, oherwydd nid oedd argyfwng cyflenwad tai pan ddaeth Llywodraeth Geidwadol y DU i ben ym 1997. Ond dywedodd grwpiau ffocws Llafur wrthynt fod tai yn flaenoriaeth isel, am nad oedd argyfwng— 

17:30

—ac yn sinigaidd, fe wnaethant dorri arian ar gyfer tai cymdeithasol o 1997 ymlaen, gan roi cychwyn ar yr argyfwng cyflenwad tai a oedd i ddilyn. Awgrymaf eich bod i gyd yn edrych ar ffigurau StatsCymru ac yn cymharu'r tai cymdeithasol newydd a ddarparwyd a chyfanswm y tai a ddarparwyd 40 mlynedd yn ôl, 30 mlynedd yn ôl o dan y Ceidwadwyr, hyd yn oed y flwyddyn yr ildiodd y Ceidwadwyr rym, a'r cwymp mewn tai cymdeithasol a thai yn gyffredinol yn y blynyddoedd dilynol, hyd at heddiw. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Y gwasanaeth iechyd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru ar y gwasanaeth iechyd, a galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8478 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi ymdrechion arwrol staff y GIG yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.

2. Yn nodi blwyddyn ers i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru.

3. Yn credu bod:

a) canlyniadau iechyd wedi gwaethygu yn y flwyddyn sydd wedi mynd heibio; a

b) methiant i weithredu ar y blaenoriaethau wedi cyfrannu at fod pob bwrdd iechyd mewn rhyw fath o statws uwchgyfeirio.

4. Yn gresynu:

a) bod nifer y llwybrau cleifion oedd yn aros am driniaeth yn 758,815 ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu â 731,102 ym mis Chwefror 2023;

b) mai 53.5 y cant o gleifion canser ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn y targed 62 diwrnod ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu â 54.3 y cant ym mis Chwefror 2023;

c) mai nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru oedd 1901 yn 2013 a 1429.6 yn 2023; a

d) mai 66.7 y cant o gleifion dreuliodd llai na 4 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis Rhagfyr 2023, o'i gymharu â 71.5 y cant ym mis Chwefror 2023.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) pennu amserlen glir i ddad-ddwysáu trefniadau ymyrryd ym mhob bwrdd iechyd; a

b) datgan argyfwng iechyd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi'n cynnig yn ffurfiol. Dirprwy Lywydd, rŷn ni wedi cyflwyno'r ddadl yma heddiw gydag un pwrpas clir, sef er mwyn trio argyhoeddi'r Llywodraeth fod angen cydnabod y bygythiad dirfodol sydd yn wynebu'r NHS, sydd mor fregus a gwerthfawr i ni, gan ddatgan argyfwng iechyd yng Nghymru.

Efallai y bydd yr Aelodau sydd yn bresennol yn cofio, ar ddechrau'r llynedd, pan oedd y gwasanaeth iechyd yn gwegian o dan bwysau eithafol y gaeaf, inni gyflwyno cynnig tebyg i'r Senedd bryd hynny. Er i'r Llywodraeth bleidleisio yn erbyn y cynnig, fe wnaeth y Gweinidog gyhoeddi yn fuan wedyn set newydd o flaenoriaethau er mwyn gorfodi gwelliannau yn yr NHS yng Nghymru. Ond y caswir ydy, flwyddyn yn ddiweddarach, fod y Llywodraeth wedi methu'n llwyr a mynd i'r afael â'r problemau hynny. Ar draws pob un mesurydd, mae'r rhagolygon ar gyfer darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru wedi gwaethygu.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Ers cyhoeddi'r blaenoriaethau am y tro cyntaf ym mis Chwefror, mae rhestrau aros wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed ym mis Gorffennaf, mis Awst, mis Medi a mis Hydref. Ac er bod y ffigurau diweddaraf yn dangos gostyngiad bach, maent yn dal yn uwch nag ar unrhyw adeg cyn mis Chwefror. Ar hyn o bryd mae 582,000 o unigolion yn aros am driniaeth iechyd yng Nghymru—dyna bron i bumed ran o'n poblogaeth gyfan yn gaeth yn y limbo hwn sy'n ehangu'n barhaus, yn ansicr pryd y cânt driniaeth.

Gadewch inni droi at wasanaethau canser—blaenoriaeth allweddol arall i'r Llywodraeth hon, dywedir wrthym. Fel y gwyddom i gyd, mae diagnosis a thriniaeth gynnar yn ffactor hanfodol wrth bennu cyfraddau goroesi. Gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn rhagweld cynnydd o fwy na 75 y cant mewn achosion o ganser yn fyd-eang erbyn 2050, mae hwn yn fater a fydd o bwys allweddol dros y degawdau nesaf. Ond mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos mai llai na 54 y cant o gleifion canser yng Nghymru ym mis Tachwedd 2023 a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn y 62 diwrnod a argymhellir o'r adeg lle'r amheuir canser gyntaf. Mae hyn nid yn unig yn is na'r 54.3 y cant a gofnodwyd ym mis Chwefror 2023, mae hefyd ymhell islaw targed Llywodraeth Cymru o 75 y cant, nad yw erioed wedi'i gyflawni wrth gwrs.

Wedyn, mae'r ffaith bod ambiwlansys ledled Cymru wedi treulio cyfanswm cyfunol o dros 22,000 o oriau ym mis Rhagfyr wedi parcio y tu allan i ysbyty yn aros i ollwng eu cleifion; y ffaith mai dim ond 66.7 y cant o gleifion a oedd yn aros llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, i lawr o 71.5 y cant ym mis Chwefror; a'r ffaith wedyn fod niferoedd meddygon teulu llawn amser wedi gostwng 21.7 y cant dros y degawd diwethaf. Ond nid oes angen imi sefyll yma ac adrodd y ffigurau hyn, mae maint y problemau'n amlwg, ac mae'r profiad a rannwyd yn ddiweddar gan yr AS Llafur dros Benrhyn Gŵyr o ymdrin ag adrannau damweiniau ac achosion brys yn Hywel Dda, a ddisgrifiwyd ganddi fel 'methiant llwyr y system', yn nodweddiadol yn hyn o beth. Rwy'n siŵr y bydd gan bob Aelod yn y Siambr hon ddigonedd o straeon tebyg, boed hynny gan eu hetholwyr, gan anwyliaid neu'n seiliedig ar eu profiadau personol.

Os caf ddyfynnu Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid Lafur,

'Byddai'n rhaid ichi fod yn byw ar y blaned Mawrth i beidio â gweld bod y GIG mewn argyfwng'.

Felly, pryd mae cangen Cymru o'r Blaid Lafur yn mynd i ddod yn ôl i'r Ddaear ac agor eu llygaid i'r hyn sy'n digwydd yma o dan eu goruchwyliaeth nhw?

Yn union fel y tro diwethaf inni gyflwyno dadl fel hon, rwy'n disgwyl i'r Gweinidog ein cyhuddo o godi bwganod a honni bod terminoleg argyfwng rywsut yn amhriodol neu'n anghywir. Ond nid ydym yn defnyddio'r geiriau hyn yn ysgafn. Rydym yn adleisio'r hyn y mae pobl sy'n gweithio yn y sector gofal iechyd wedi bod yn ei ddweud ers peth amser. Fel y pwysleisiais sawl gwaith o'r blaen, nid yw'r GIG yn ddim heb ei lu o staff ymroddedig. Maent yn parhau i gyflawni'n arwrol bob dydd o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol, ond cânt eu siomi'n wael gan anallu'r Llywodraeth hon i wrando ar eu rhybuddion am broblemau systematig yn y gwasanaeth iechyd ac i'w hwynebu gyda'r difrifoldeb gonest y maent yn ei haeddu.

Dylem gofio hefyd nad yw'r Llywodraeth hon wedi cilio rhag defnyddio iaith o'r fath yn y gorffennol. Wedi'r cyfan, nhw oedd y rhai cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ac maent wedi defnyddio'r naratif argyfwng costau byw yn barod iawn i fframio'r pwysau ariannol di-baid sydd wedi wynebu aelwydydd dros y blynyddoedd diwethaf. Roeddent yn llygad eu lle i wneud hynny yn y ddau achos. Felly, pam na allant wneud yr un peth gydag iechyd? Goblygiadau'r ymwadu hwn yw bod safonau sy'n methu ar raddfa gronig ac anarferol wedi eu normaleiddio, rhywbeth a danlinellir gan y ffaith bod pob bwrdd iechyd mawr o dan ffurf ar ymyrraeth wedi'i thargedu ar hyn o bryd, gyda rhai wedi bod yn y sefyllfa honno ers blynyddoedd lawer. Bythefnos yn ôl, pan ddatgelodd y Gweinidog y fframwaith diwygiedig ar gyfer uwchgyfeirio a mesurau ymyrraeth, dywedodd wrthym y byddai ei lwyddiant yn seiliedig ar

'a yw'r byrddau iechyd yn dod i lawr yr ysgol uwchgyfeirio o ran gwella.'

Ond nid cynllun yw hynny, dim ond ailddatgan y cyrchfan terfynol heb unrhyw synnwyr o gyfeiriad.

Mae pobl Cymru, cleifion a staff fel ei gilydd, yn haeddu Llywodraeth sydd â dealltwriaeth glir o sut i ddod â'r GIG yn ôl o ymyl y dibyn, a'r lle gorau i ddechrau'r broses hon fyddai iddynt gydnabod o'r diwedd yr argyfwng sy'n datblygu o'u blaenau. Heb gywiriadau mawr i'r llwybr felly, bydd ein gwasanaeth iechyd gwerthfawr yn cael ei gondemnio i ddyfodol ansicr iawn. Am y rheswm hwn, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros y cynnig.

17:35

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Rwy'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol welliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) ar ddiwedd mis Tachwedd 2023, mai canran y llwybrau agored a oedd yn aros llai na 104 wythnos oedd 96.7%, sef yr 20fed gwelliant yn olynol a'r uchaf y mae wedi bod ers Awst 2021;

b) yn 2023, bod nifer cyfartalog y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio i’r llwybr lle’r amheuir canser bob mis wedi cynyddu 53% ers 2020;

c) ym mis Tachwedd 2023, bod bron i 14,800 o bobl a atgyfeiriwyd oherwydd amheuaeth o ganser wedi cael gwybod nad oedd canser arnynt, sef yr ail uchaf ar gofnod;

d) bod mwy o feddygon teulu cwbl gymwysedig yn gweithio yng Nghymru ym mis Mehefin 2023 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol – cynnydd o 0.9%; ac

e) bod y data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer mis Rhagfyr 2023 yn dangos lleihad o 51% yn y perfformiad o ran amser ymateb cyfartalog ambiwlansys i alwadau oren, gwelliant o 29% yn y perfformiad o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a gostyngiad o 20% yn nifer y cleifion sy'n treulio dros 12 awr mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn neu eu rhyddhau; o'i gymharu â'r un mis yn 2022.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Ydy, mae e wedi ei gynnig yn ffurfiol. Felly, nesaf rwy'n galw ar Russell George i gynnig gwelliannau 2 a 3. Russell George.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

datblygu a chyflwyno cynllun gweithlu ar gyfer GIG Cymru;

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

gosod targed i ddileu amseroedd aros dwy flynedd erbyn mis Medi 2024 a chreu tasglu i'w gyflawni;

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Fel Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, ac rwy'n sicr yn adleisio'r pwynt cyntaf yn y cynnig sy'n cydnabod ymdrechion arwrol staff y GIG yng Nghymru, sy'n aml yn gweithio yn erbyn cefndir o amgylchiadau heriol, a chydnabod hefyd eu bod yn gwneud hynny, yn fy marn i, o ganlyniad i ddiffyg cynllunio ar ran y Llywodraeth. Ac wrth gwrs, nododd Gweinidog Iechyd Cymru ei blaenoriaethau ar gyfer y GIG bron i flwyddyn yn ôl, ond rydym yn dal i weld y canlyniadau'n gwaethygu wrth gwrs, sy'n rhwystredig. A'r wythnos diwethaf, gwelsom un ddynes yn ei 90au gyda dementia a chanser y fron yn cael ei gadael ar lawr mewn cartref gofal am 24 awr, yn aros mewn poen ac anghysur am ambiwlans. Ond yn anffodus, nid yw ei stori'n unigryw, Lywydd. Ceir adroddiadau rheolaidd ynghylch arosiadau annerbyniol o hir a'r ambiwlansys sy'n ciwio y tu allan i ysbytai.

Yng nghynnig Plaid Cymru, maent yn sôn hefyd am yr argyfwng meddygon teulu, ac mae'n argyfwng. Ac mae'n ffaith bod nifer y cleifion fesul meddyg teulu yng Nghymru wedi codi traean mewn llai na degawd, er mai prin y newidiodd poblogaeth Cymru yn yr amser hwnnw. Ac rwy'n ofni bod y Llywodraeth—yn ehangach na meddygon teulu—wedi methu recriwtio, hyfforddi a chadw talent y GIG yn ddigonol.

Nawr, fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym wedi ychwanegu at y cynnig hwn heddiw, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwelliannau hynny'n cael eu cefnogi, gan ein bod yn credu bod gwir angen cynllun gweithlu ar gyfer y GIG. Ac fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi dadlau a galw am hyn ers tro, ac mae'r argyfwng staffio yn ein GIG mor ddifrifol fel bod angen inni weithredu nawr i atal ein GIG rhag methu'n llwyr. Nid fy ngeiriau i yw'r rheini, daw'r geiriau'n syth gan Gymdeithas Feddygol Prydain. 

Mae ein hail welliant heddiw yn galw ar y Llywodraeth i osod targed i ddileu arosiadau dwy flynedd erbyn mis Medi eleni a chreu tasglu i gyflawni hynny. Mae angen i'r Llywodraeth roi ei holl bwysau y tu ôl iddo er mwyn dileu'r arosiadau dwy flynedd hyn. Buaswn wedi meddwl bod rhaid i hyn fod yn brif ffocws i'r Gweinidog iechyd a'r Llywodraeth, oherwydd mae gennym 25,000 o bobl yn dal i aros dros ddwy flynedd am driniaeth, ac wrth gwrs, fe wyddom fod y rheini, dros y ffin yn Lloegr, ac yn yr Alban, wedi cael eu dileu bron iawn beth amser yn ôl. Ac wrth gwrs, pan fyddwn yn sôn am 25,000 o bobl—. Mae'n anghywir siarad am ystadegau weithiau, oherwydd pobl go iawn yw'r rhain, sy'n aros mewn poen sy'n effeithio ar ansawdd eu bywydau, ac nid yn unig eu bywydau nhw ond bywydau eu teuluoedd hefyd. Maent eisiau mynd yn ôl i'r gwaith, ond ni allant fynd yn ôl i'r gwaith. Maent yn aros am y llawdriniaeth ac mae'n effeithio ar ansawdd ehangach nid yn unig eu hiechyd ond eu lles hefyd. Felly, yn sicr, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw i hynny yn ei sylwadau wrth gloi heddiw. 

Ac rwy'n credu, i mi, fe ddywedaf wrthych beth rwy'n awyddus i'w weld ar gyfer ein GIG yng Nghymru: rwyf am weld GIG Cymru gydag adnoddau llawn, sy'n ddibynadwy unwaith eto, ac sy'n sefydliad o fri, fel y rhagwelodd Aneurin Bevan pan ddaeth â'r gwasanaeth i fodolaeth gyntaf. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ystyried rhai o'n gwelliannau heddiw a gwneud sylwadau arnynt. Diolch, Lywydd. 

17:40

Gadewch imi ddechrau drwy ddweud, yn ystod y misoedd diwethaf ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn wir, fy mod wedi gweld y GIG ar ei orau a'i waethaf. Rwyf wedi gweld y straeon unigol lle bu'n rhaid i mi, fel eraill, gysylltu â'r ysbyty, cysylltu â'r bwrdd iechyd, cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol a dweud, 'A allwch chi helpu?', oherwydd mae'r oedi a welsom wedi bod mor ddifrifol. Ac rwyf wedi cael ymatebion da, mae'n rhaid imi ddweud hefyd, gan Gwm Taf a chan fy awdurdodau lleol wrth wneud hynny. Rwyf wedi ei weld pan fo'r pwysau mwyaf arno, ac wedi clywed rhai o'r straeon a glywsom yn y Senedd, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi ei weld ar ei orau hefyd. Yng ngoleuni popeth a glywant bob dydd ar y cyfryngau cenedlaethol, cyfryngau ledled y DU yn ogystal ag yng Nghymru a'r hyn y maent yn ei glywed yn y Siambr hon, rwyf wedi cael etholwyr yn dweud wrthyf 'Roedd fy nhriniaeth yn wych; roedd fy nhriniaeth yn gyflym;cefais fy ngweld yn gyflym; euthum drwy'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn gyflym; euthum drwy'r gwasanaethau brys yn gyflym; fe ddeuthum allan yn y pen arall, a chefais fy nghludo yn ôl adref gyda gofal.'  Ac weithiau—. Rwy'n credu mai'r hyn yr hoffwn ei ofyn yw ein bod yn gweld y cydbwysedd yn hyn. Oherwydd—. Ac nid yw hyn yn ymwneud â chanmol neu ddifrïo. Mae yna realiti caled y tu ôl i'r heriau y mae'r GIG a gofal yn eu hwynebu, ond mae'n fater o gael y cydbwysedd yn iawn. Oherwydd mae gwyrthiau'n cael eu cyflawni bob dydd.

Rwy'n cael triniaeth fy hun ar hyn o bryd, wedi bod ers blynyddoedd mewn gwirionedd, ond mae'r driniaeth rwy'n ei chael ar hyn o bryd ar gyfer rhywbeth sydd wedi codi—. Yn annisgwyl, fel y mae'n digwydd i lawer o bobl pan fyddant yn troi'n 60 neu beth bynnag. Rwyf wedi cael triniaeth anhygoel. Nid wyf wedi profi'r oedi hir. Ac nid oherwydd, fel y bydd rhywun yn dweud, 'Wel, rydych chi'n Aelod o'r Senedd, mae eich enw'n codi i fyny'r rhestr.' Nid yw hynny'n wir. Mae'r GIG yn fy nhrin i fel unrhyw ddinesydd arall ac mae wedi fy ngweld i ac mae wedi fy ngweld i'n brydlon ac mae'n fy nerbyn i drwy'r system mor gyflym ag y gall, ac rwy'n cael y gwasanaeth gorau, ac rwy'n credu bod angen inni adlewyrchu hynny yn y dadleuon a gawn a'r sgyrsiau a gawn gydag etholwyr. Oherwydd, pan fydd gennyf etholwyr yn dod ataf, nid wyf yn cuddio'r heriau sydd gennym rhagddynt. Maent yn heriau go iawn ac maent yn waeth ar hyn o bryd. Ac nid yn unig oherwydd y pandemig, er i hynny gael effaith fawr, ond oherwydd y disgwyliadau sydd gennym nawr o'r GIG, y triniaethau sydd gennym ar gael, y galwadau ar y GIG. Felly, am bob £1 biliwn ychwanegol a daflwn ato, mae mwy na £1 biliwn yn fwy o alw yn dod arno. Mae'n rhaid inni fod yn realistig am hyn, a chredaf fod y Gweinidog wedi bod yn iawn yn ddiweddar hefyd i ddweud bod hynny'n golygu bod gennym gyfrifoldeb i yrru effeithlonrwydd drwy'r system, i fynnu bod ein rheolwyr GIG, i fynnu bod ein darparwyr gofal cymdeithasol, yn cydweithio'n dda ac yn cyflawni'n effeithlon hefyd. Ac mae disgwyliadau arnaf i hefyd, fel dyn dros 60 oed sydd mewn iechyd cymharol dda, i edrych ar ôl fy iechyd cystal ag y gallaf, fel nad wyf yn rhoi'r baich ar fy ngwraig pan fydd hi'n gweithio yn yr adran damweiniau ac achosion brys, fel nad oes rhaid imi gyrraedd yno, ac fel arfer, mewn gwirionedd, gallaf ofalu amdanaf fy hun a chadw fy hun i fynd cyn hired ag y gallaf.

Nawr, dyna'r galwadau, dyna realiti'r sefyllfa yr ydym yn gweithio gyda hi. Felly, fy apêl syml i bawb yn y sefyllfa hon yw peidio â chuddio rhag y realiti caled sydd yno ar hyn o bryd, ond hefyd i adlewyrchu'r ffaith bod gwyrthiau'n cael eu gwneud bob dydd, ac rwy'n cynnwys yn hynny aelodau fy nheulu sy'n gweithio ar y rheng flaen, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Ond yr hyn rwyf am ofyn amdano i'r Gweinidog heddiw yw diweddariad ar gynnydd, mae'n rhaid imi ddweud, yn enwedig ar y mater y mae Mabon eisoes wedi cyffwrdd ag ef, sef amseroedd aros. Mae llawer o faterion y gallwn edrych arnynt yn y GIG ac o fewn gofal; nid mater GIG yn unig yw amseroedd aros, mae'n fater system gyfan. Ond y ffaith—. Ac nid wyf yn siarad yn unig am y llif drwy adrannau damweiniau ac achosion brys a drwodd i'r ward gywir a thrwy'r driniaeth gywir ac allan, ond am y materion ehangach sy'n gysylltiedig ag amseroedd aros.

Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen, ynghanol y sefyllfa anodd a welwn, ein bod yn gweld gwaith rhagorol yn digwydd yng Nghwm Taf. Felly, yn Ysbyty Tywysoges Cymru, mae gennym waith gwych yn digwydd yno gydag arbenigwyr sy'n gwneud y triniaethau dydd hynny'n gyflym ac yn rhyddhau pobl yn ddiogel, gyda gofal cofleidiol, fel nad oes rhaid iddynt aros yn yr ysbyty. Rydym yn ei weld mewn mannau eraill, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg hefyd. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i yw: sut mae cyflymu hynny fel ei fod yn dod yn norm a'n bod ni'n gwneud hynny nid yn unig pan fyddwn yn wynebu'r heriau sydd gennym nawr, ond bod hynny'n dod yn normal nawr ac yn y dyfodol o fewn y GIG? Pa mor effeithiol y mae'r ymyriadau—nid yn unig yr arian sy'n cael ei roi i'r GIG, ond rhai o'r datblygiadau arloesol mewn gwahanol rannau o Gymru—wedi bod? Gallwn weld bod gostyngiad nawr yn yr amseroedd aros hirdymor, ond mae gennym garfan fawr o bobl o hyd sydd yn yr amseroedd aros nad ydynt mor hir. Wel, a yw'r hyn a wnawn yn ddigonol i newid hynny? Oherwydd, i lawer o fy etholwyr, un o'u prif ddangosyddion yw'r hyn sy'n digwydd ar amseroedd aros. Oherwydd dyna pryd maent angen eu clun neu eu cataract neu beth bynnag arall—mae angen iddynt fynd i mewn yn brydlon, fel bod modd adfer eu hansawdd bywyd.

Ond nid wyf yn credu bod hon yn feirniadaeth o un Llywodraeth neu'r llall. Rwy'n credu bod yn rhaid inni adlewyrchu realiti'r galwadau anhygoel ar y system a sefydlwyd gan Nye Bevan ac eraill yn y dyddiau wedi'r rhyfel nad oedd byth yn disgwyl y byddai'n ymdrin â hyn, ond mae'n ei wynebu nawr. Felly, Weinidog, pa gynnydd rydym yn ei wneud yn araf bach i newid hyn a mynd i'r afael ag ef? Diolch yn fawr iawn.

17:45

Mae Huw Irranca-Davies, wrth gwrs, yn gywir pan ddywed fod gwyrthiau'n cael eu cyflawni'n ddyddiol gan y GIG, ond mae hyn yn erbyn pob disgwyl, oherwydd ni allwn osgoi'r ffaith, i lawer o bobl, ei bod yn argyfwng iechyd. Nid ydynt yn cael y gofal sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu mewn modd amserol. Ac nid gor-ddweud yw hyn, neu, fel y dywedodd Mabon, nid yw'n ddatganiad i fachu penawdau yn ein cynnig. Dyma mae etholwyr yn ei ddweud wrthym, ond hefyd dyma mae gweithwyr y GIG yn ei ddweud wrthym yn uniongyrchol pan fyddwn yn ymuno â nhw ar linellau piced neu wrth ymweld â lleoliadau'r GIG. Rydym i gyd yn gwybod bod gwaith achos sy'n ymwneud ag iechyd yn dorcalonnus, ac yn aml yn ymdrin â theuluoedd sy'n cael eu gadael yn brwydro am atebion ar ôl colli rhywun annwyl yn gynamserol am fyrdd o wahanol resymau. Ond mewn gwaith achos, mae gennym hefyd bobl sy'n gweithio yn y GIG yn dod atom i ddisgrifio pa mor amhosibl yw eu llwyth gwaith a'r amodau y maent yn gweithio oddi tanynt, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd a'u lles eu hunain. Mae gweld gweithwyr y GIG wedi torri yn sicr yn awgrymu bod y GIG ei hun ar fin torri. Dyna pam mae cadw a recriwtio mor anodd. Dyna pam, pan fyddwn yn ymuno â nhw ar linellau piced, fod meddygon iau'n dweud wrthym fod Awstralia'n swnio mor apelgar pan fyddant yn clywed gan eraill sydd wedi gwneud y naid fawr honno.

Ni ddylai'r datganiad ei bod yn argyfwng iechyd leihau mewn unrhyw ffordd y gwaith arwrol, a gwyrthiol a dweud y gwir, sy'n digwydd bob dydd. Mae angen dathlu hynny i gyd. Fel y mae'r Gweinidog iechyd yn ein hatgoffa'n aml, bob mis ceir 2 filiwn o gysylltiadau â'r GIG, ond yr hyn yr hoffwn ei wybod yw: faint o bobl y mae hynny'n ei olygu bob mis? Hynny yw, faint o'r 2 filiwn o gysylltiadau hynny sy'n ymwneud â'r un unigolion? Oherwydd yr hyn y mae cleifion a staff yn ei ddweud wrthyf yw bod pobl yn dirywio wrth aros i gael eu gweld, neu wrth aros am driniaeth—weithiau am flynyddoedd—ac yna, wrth iddynt barhau i waethygu, maent angen cael eu gweld, neu mae angen trafod eu cyflwr ar y ffôn, sawl gwaith yr wythnos gyda meddyg teulu, neu wrth gwrs, maent yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn y pen draw. Mae hyn yn ychwanegu at y straen a deimlir o fewn y GIG, ac mae hefyd yn golygu bod cleifion yn marw heb erioed gael diagnosis, neu'n cael diagnosis mor hwyr fel ei bod yn rhy hwyr iddynt gael triniaeth. Mae hyn nid yn unig yn dorcalonnus i'w teuluoedd, ond hefyd i staff y GIG, meddygon teulu yn aml, sydd wedi gweld y cleifion hyn yn dirywio dros amser heb y driniaeth neu'r gofal sydd ei angen arnynt. Y cyfan y gallant ei gynnig yw meddyginiaethau i reoli poen a pharhau i gynyddu'r dosau hynny.

Mater arall sy'n peri pryder yw'r prinder meddyginiaethau a welsom. Rwy'n gwybod fy mod wedi tynnu sylw'r Gweinidog o'r blaen at waith achos pwysig, gydag enghreifftiau o gleifion a fyddai'n marw heb fynediad at y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt, ond hefyd, er enghraifft, ar hyn o bryd, mae yna brinder cyffur a ddefnyddir i drin anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn fy rhanbarth. Bu'n rhaid i etholwr gysylltu â 14 fferyllfa cyn gallu dod o hyd i'r cyffur. Yn ffodus, llwyddodd i yrru yno, ac roedd rhai tabledi ar gael o hyd pan gyrhaeddodd o Dreorci i Aberdâr, ond byddai wedi gorfod mynd hebddo fel arall, a byddai hynny wedyn wedi effeithio ar ei allu i weithio. Ac mae hyn yn rhywbeth y mae etholwyr eraill wedi'i godi gyda mi, ac yn rhywbeth sy'n cael effaith fawr arnynt, os nad ydynt yn gallu cael gafael ar y presgripsiwn sydd ei angen arnynt. Ar ben hynny, dim ond seiciatryddion, nid meddygon teulu, sy'n cael rhoi'r meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn, yn enwedig gydag ADHD. Mae'n anhygoel o anodd sicrhau apwyntiad gyda seiciatrydd, ac mewn un enghraifft, mae claf heb gael apwyntiad dilynol nac adolygiad o'i feddyginiaeth mewn dwy flynedd a hanner, er gwaethaf sawl cais. Rydym yn gadael pobl yn agored i niwed yn ein cymunedau oherwydd methiant i ddarparu apwyntiadau dilynol mewn modd amserol.

Fel y dywedais ar y dechrau, mae'n argyfwng iechyd. Mae angen inni gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, a phrofiadau a sylwadau staff a chleifion, er mwyn mynd i'r afael â'r GIG. Rwy'n credu yn y GIG. Rwy'n gobeithio bod yr holl Aelodau yma yn credu ynddo hefyd. Rwy'n siŵr eich bod. Ond mae angen inni weithredu mewn ffordd sy'n profi ein bod yn credu yn y GIG. Mae hynny'n golygu credu yn y staff, credu yn yr hyn y mae cleifion yn ei ddweud wrthym, a datgan argyfwng iechyd, yn ogystal â dod o hyd i atebion.

17:50

Ni allaf siarad fel clinigydd yma, oherwydd mae cymaint yn mynd o'i le yn ein GIG. Felly, gadewch imi ddechrau. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Er gwaethaf sicrwydd gan y Prif Weinidog, nid yw ein GIG mewn dwylo diogel. Mae canlyniadau iechyd etholwyr wedi gwaethygu yn y chwarter canrif y bu Llafur yn gyfrifol amdano. Mae'r ddadl hon yn digwydd y prynhawn yma i nodi blwyddyn ers i Lywodraeth Cymru amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y GIG. Y cyfan sydd wedi digwydd yn y 12 mis yn y cyfamser yw mwy o ofid i gleifion a staff meddygol yn y gwasanaethau iechyd. Mae gennych obaith 50:50 y bydd ambiwlans yn cyrraedd ar amser, ac o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau, mae'n ymddangos na allwch fod yn siŵr bob amser y bydd un yn cyrraedd ar yr un diwrnod. Ychydig dros hanner y cleifion canser sy'n dechrau triniaeth ddiffiniol o fewn y targed 62 diwrnod. Hynny yw os llwyddant i weld meddyg teulu er mwyn dechrau'r cloc yn y lle cyntaf. A hynny os gall y meddyg teulu wneud diagnosis ohono a bod ganddynt offer i wneud diagnosis o'r canser hwnnw, ac ni fydd ganddynt offer o'r fath.

Mae un o'r cwynion mwyaf a gawn fel Aelodau o'r Senedd yn ymwneud â mynediad at feddygon teulu. Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd o 93,000 yn niferoedd cleifion gofal sylfaenol, ond ar yr un pryd, rydym wedi colli 84 meddygfa, neu un rhan o bump yn llai o feddygon teulu. Erbyn hyn dim ond tua 7 y cant o gyllid y GIG sy'n mynd at ymarfer cyffredinol—7 y cant yn unig—er mai dyna yw mwyafrif helaeth y cysylltiadau y bydd pobl yn eu cael â'r GIG. Pan heriais y Prif Weinidog ynghylch y gostyngiad yn nifer y meddygon teulu, dywedodd wrthyf

'ar bob un mesur, mae'r niferoedd yn tyfu, nid yn gostwng, ac yn sicr nid ydynt yn cadarnhau unrhyw awgrym bod pobl rywsut yn gadael y gwasanaeth yn eu dwsinau.'

Ond y ffeithiau yw'r ffeithiau. Erbyn hyn dim ond 1,429.6 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn sydd gennym yn gweithio yng Nghymru, gostyngiad enfawr dros y degawd diwethaf.

Heb gynllun clir, mae ymarfer cyffredinol yn wynebu problemau a allai fod yn anorchfygol. Mae ein poblogaeth nid yn unig yn tyfu, ond hefyd yn heneiddio. Os na allwn ddiwallu anghenion iechyd ein poblogaeth bresennol, pa obaith sydd gennym o fynd i'r afael â gofynion y dyfodol? Eisoes, nid yw cleifion yn gallu cael apwyntiad arferol gyda meddyg. Mae angen inni wyrdroi'r gostyngiad yn niferoedd y meddygon teulu os ydym am achub ein meddygfeydd a gwarantu mynediad i gleifion. I wneud hynny, mae angen cynllun clir gan Lywodraeth Cymru, ond y cam cyntaf wrth fynd i'r afael â phroblem yw cyfaddef bod gennych broblem yn y lle cyntaf. Y cyfan y mae'r Prif Weinidog am ei wneud yw gwadu'r ffaith a beio Llywodraeth y DU am bopeth.

Clywsom dro ar ôl tro fod Cymru'n gwario mwy y pen ar iechyd na Lloegr, felly mae'n amlwg nad arian yw'r broblem. Nid Llywodraeth y DU sy'n rhedeg gwasanaeth iechyd Cymru, felly sut yn union y maent hwy i'w beio am ei gyflwr enbyd yng Nghymru? Nid Llywodraeth y DU sydd ar fai—Llywodraeth Cymru sydd ar fai, Llywodraeth Cymru heb gynllun. Un peth yw cael blaenoriaethau, ond mae'r 12 mis diwethaf wedi dangos eu bod yn ddiystyr heb strategaeth briodol ar gyfer y gweithlu. Nid yw ein GIG yn bodoli heb ei staff, ac ni all unrhyw fesur o fiwrocratiaeth gymryd lle'r clinigwyr a ddylai fod wrth y llyw. Diolch yn fawr.

17:55

Dwi jest eisiau ymateb i ddechrau i gyfraniad pwysig Huw Irranca ar y dechrau, a dweud y gwir, ac yn cytuno â llawer iawn o'r hyn roedd e'n ei ddweud. Mae bob un ohonom ni, naill ai ar lefel bersonol, neu'n adnabod rhywun o'r teulu sydd wedi cael triniaeth ardderchog gan y gwasanaeth iechyd, ac rŷn ni'n hynod o ddiolchgar ein bod ni yma, efallai, oherwydd y gofal arbennig yna. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid inni gydnabod y realiti hefyd fod yna heriau mawr iawn, iawn yn wynebu'r gwasanaeth iechyd, ac oni bai ein bod ni'n tynnu sylw at hyn—. Ac mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn ymwybodol iawn o beth yw’r heriau, ond mae'n bwysig efallai ein bod ni'n cael y sgwrs er mwyn symud pethau ymlaen a dod i ddeall beth yw'r ffordd y gallwn ni ddatrys rhai o'r heriau yma.

Dwi jest eisiau sôn yn fyr iawn, os caf i, am sefyllfa bwrdd iechyd Hywel Dda, sef y bwrdd iechyd sydd yn yr ardal lle dwi'n byw ac yn ei gynrychioli. Mae'r problemau sydd yn wynebu'r bwrdd iechyd arbennig yna yn cael eu hamlygu mewn sawl ffordd. Gallwn i fod yn treulio diwrnod cyfan yn sôn am nifer ohonyn nhw. Dwi eisiau canolbwyntio ar dair agwedd yn benodol, sef y gwasanaethau optometrig, y sefyllfa meddygon teulu, a deintyddiaeth. Fel y gwyddoch chi, un o flaenoriaethau'r Llywodraeth nôl ym mis Chwefror llynedd oedd sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael i bobl mewn ffordd hwylus a di-rwystr, ond, ym mwrdd iechyd Hywel Dda, mae'r sefyllfa ym mhob un o'r gwasanaethau arbennig yma wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf.

Gadewch i ni ddechrau gyda gwasanaethau optometrig. Yn ôl yr ystadegau mwyaf diweddar, dim ond 44 y cant o gleifion sy'n dioddef o risg ffactor iechyd R1, sef y lefel risg uchaf o ddallineb, gafodd apwyntiad o fewn yr amser targed roedd Hywel Dda wedi'i osod. Wrth gwrs, y stori oedd bod yna ddiffyg gweithlu, ac, yn wir, mae hyn yn bendifaddau yn broblem achos mae nifer yr optometryddion sy'n gweithio yn Hywel Dda wedi gostwng o 636 i 595 er mis Mehefin 2021, felly mae cael gweithlu yn y maes arbennig yma'n her. Mae'r RNIB yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl yng Nghymru sy'n byw gyda cholled golwg yn dyblu erbyn 2050, felly heb ddiwygio brys yn y sector hwn byddwn yn wynebu

'ton enfawr o ddallineb',

sef geiriau Gwyn Williams, llywydd y Royal College of Opthamologists. 

Ac i droi at wasanaethau ymarferol, mae ymgyrch Save our Surgeries wedi amlygu'r effaith y mae blynyddoedd o danfuddsoddi wedi'i chael ar y sector hwn, sef dirywiad o 21.7 y cant yn lefelau GPs llawn amser. Felly, rŷn ni'n nesáu at sefyllfa ble fydd yna ardaloedd cyfan—ardaloedd gwledig yn arbennig—heb feddygfeydd, yn rhyw fath o ddiffeithwch meddygol ar draws Cymru. Mae prif weithredwr Hywel Dda eisoes wedi cyfaddef y bydd angen i drigolion deithio ymhellach i gael gofal.

Ac ers datganiad y Gweinidog ym mis Chwefror 2023, mae nifer y meddygon teulu sy'n cael eu cyflogi gan Hywel Dda wedi gostwng ymhellach. Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ateb cwestiwn gen i'n gynharach y prynhawn yma am feddygfeydd a'r gwaith o dargedu a recriwtio meddygon mewn ardaloedd gwledig, a chydnabod y cynllun sydd ar waith, ac yn falch bod yna lwyddiant wedi bod, ond mae angen, wrth gwrs, i ni fynd ymhellach i liniaru'r ansicrwydd mae cymunedau gwledig yn ei deimlo ar hyn o bryd. Fel mae Mabon eisoes wedi sôn, y canlyniad amlwg o'r diffyg buddsoddiad mewn gofal cynradd yw cynyddu'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen, gyda'r gost aruthrol sydd yn deillio o hyn.

Felly, i gloi, dwi jest eisiau cyffwrdd yn sydyn iawn gyda deintyddiaeth. Unwaith eto, mae'r broblem yn enwedig o amlwg yn ardal Hywel Dda: dim ond 34 y cant o bobl sydd wedi cofrestru gyda gwasanaethau deintyddol NHS sydd wedi llwyddo i gael triniaeth dros y 24 mis diwethaf, a'r gweithlu NHS sydd wedi crebachu'n sylweddol dros y blynyddoedd yw'r prif reswm am hyn. Felly, yn anffodus, mae'n glir nad yw cynlluniau'r Llywodraeth wedi gwella'r sefyllfa druenus sy'n wynebu'r sector iechyd yn fy rhanbarth i, ond y pwynt dwi am wneud yw bod angen i ni gydweithio er mwyn sicrhau bod yna atebion i'w cael er lles ein pobl ni. Diolch yn fawr.

18:00

Hoffwn ddilyn yr hyn a ddywedodd Cefin Campbell, a dweud y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd yma er mwyn edrych ar atebion a ffyrdd ymlaen. Fel Cefin, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar gymunedau gwledig, sy'n parhau i wynebu heriau sylweddol wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol.

Yn y sesiwn gwestiynau gynharach heddiw gyda'r Gweinidog iechyd, roeddwn yn ddiolchgar am ei hymateb, fel y dywedodd Cefin hefyd, i fy nghwestiwn ynghylch premiwm gwledig i feddygon teulu. Clywais ganddi am gynllun a oedd yn cynnig £20,000 i feddygon teulu yr oedd eu swydd gyntaf fel meddyg teulu mewn ardaloedd targed penodol yn nhri bwrdd iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys. Darganfûm ers hynny fod y cynllun wedi bod yn weithredol ers 2017. Ond er bod y cynllun hwn wedi bod yn weithredol ers saith mlynedd, a dim ond mewn trefi ac ardaloedd penodol o fewn y tri bwrdd iechyd, ceir heriau difrifol o hyd wrth recriwtio meddygon teulu i feddygfeydd gwledig. Felly, mae recriwtio a chadw meddygon teulu yn dal i fod yn broblem sylweddol i'n meddygfeydd gwledig. Byddai premiwm gwledig i feddygon teulu yn helpu gyda recriwtio a chadw. A chan aros gyda'r her o gynnal gweithlu o feddygon teulu, caiff hyn ei wrthbwyso gan y rhai sy'n gadael. Yn gynyddol, mae meddygon teulu yn parhau i ddweud eu bod wedi cael digon. Canfu arolwg y llynedd gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol nad oedd un o bob pedwar yn disgwyl bod yn eu swydd bresennol ymhen pum mlynedd.

Ond nid ar gyfer recriwtio a chadw meddygon teulu yn unig y byddai premiwm gwledig i feddygon teulu'n gweithio; mae yno hefyd ar gyfer recriwtio a chadw'r swyddi eraill a'r gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gwneud ein meddygfeydd gwledig, a meddygfeydd eraill, mor bwysig i'n cymunedau. Gallai premiwm gwledig fod ar gyfer gwasanaethau estynedig y mae meddygon teulu gwledig yn eu darparu sy'n hanfodol i'n hardaloedd ac na ellir eu cyrraedd oherwydd pellter i wasanaethau eilaidd, fel phlebotomi, a byddai premiwm gwledig yn helpu gyda'r heriau trafnidiaeth ychwanegol hynny. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog ailystyried y cysyniad a'r syniad o bremiwm gwledig i feddygon teulu.

Ac fel y dywedodd Cefin, mae gennym ddeintyddion yn rhan o'r her yn ein hardaloedd gwledig. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei chefnogaeth i ehangu gwasanaethau deintyddiaeth y GIG, ond nid yw'n ddigon o hyd. Ceir heriau mewn ardaloedd gwledig ac mewn ardaloedd trefol. Mae prinder deintyddion a gostyngiad parhaus yn y ddarpariaeth o wasanaethau wedi arwain at lawer o gleifion yn teithio milltiroedd i allu cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG. Mae gan ddeintyddiaeth heriau ymddeol tebyg hefyd. O'r 1,389 o bractisau deintyddol sy'n gwneud gwaith y GIG yn 2020-21, roedd mwy na 14 y cant o'r deintyddion hynny'n agosáu at oedran ymddeol, ac mae'r nifer yn codi i 20 y cant mewn ardaloedd gwledig.

Yn olaf, mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn ffynhonnell o gysur a sicrwydd i gymunedau gwledig. Rydym yn gwybod bod mwy o ynysigrwydd ynddo'i hun yn arwain at risgiau iechyd, yn enwedig i breswylwyr hŷn bregus gyda symudedd cyfyngedig a llai o incwm. Mae'r ymgyrch i roi diwedd ar unigrwydd wedi dweud y gall diffyg cysylltiadau cymdeithasol fod yn fwy niweidiol nag anweithgarwch corfforol a gordewdra, ac mae'r risg o farwolaeth gynnar 26 y cant yn uwch.

I orffen, buaswn yn falch pe bai'r Gweinidog yn amlinellu yn ei hymateb beth arall y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ein gwasanaethau iechyd gwledig. Ac unwaith eto, rwy'n adleisio'r hyn y mae Cefin wedi'i ddweud, yn yr ystyr fod angen i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol fel bod ein meddygon teulu yn aros yn ein hardaloedd. Diolch yn fawr iawn.

18:05

Mae'n debyg mai iechyd a Betsi Cadwaladr yw'r pwnc dwi wedi siarad mwyaf amdano fe yn y 12 mlynedd dwi wedi bod fan hyn yn y Siambr, ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhannol oherwydd bod y bwrdd wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig ar fwy nag un achlysur, ac yn fwyaf diweddar nawr, wrth gwrs, flwyddyn yn ôl, sef mis Chwefror diwethaf, pan aeth y bwrdd yn ôl i mewn i fesurau arbennig. A dyw record y bwrdd, wrth gwrs, ddim yn un i ymhyfrydu ynddo fe, dwi'n ofni, ar sawl un o'r ystadegau pwysicaf, pan fyddwn ni'n edrych ar berfformiad. Yn Betsi rŷn ni'n gweld y rhestrau aros mwyaf yng Nghymru, gyda dros 175,000 o bobl yn disgwyl am driniaeth—ffigwr sydd wedi cynyddu ers i'r bwrdd gael ei roi mewn i fesurau arbennig. Yn y flwyddyn ddiwethaf, rŷn ni hefyd wedi gweld amserau disgwyl hirach mewn unedau gofal brys. Rŷn ni wedi gweld gostyngiad o rhwng 4 ac 8 y cant yn nifer y cleifion sydd yn cyrraedd targedau pedwar, wyth a 12 awr yn y gwasanaeth iechyd hefyd.

Ym mis Mawrth y llynedd, roedd gwariant Betsi ar staff asiantaeth yn £72 miliwn. Mae hwnna'n swm anferthol, onid yw e—y mwyaf, wrth gwrs, o unrhyw fwrdd iechyd. Nawr, mae e'n amlygu y broblem rŷm ni i gyd yn gwybod sy'n bodoli, wrth gwrs, sef y broblem staffio hirdymor ddifrifol sydd yna o fewn y gwasanaeth iechyd. Ond, rhwng mis Mawrth a Mehefin y llynedd, sef y pedwar mis cyntaf o fod mewn mesurau arbennig, dim ond dau ddoctor llawn amser ychwanegol oedd wedi ymuno â'r bwrdd. Ac mae nifer y gweithwyr deintyddol wedi gostwng i ddim ond 306 yn y chwe blynedd diwethaf hefyd.

Nawr, mae'r problemau staffio hirdymor yma, wrth gwrs, yn gosod straen anodd ar y staff sydd ar ôl—y rhai rŷm ni'n dibynnu arnyn nhw i redeg y gwasanaeth iechyd sydd gennym ni. Mae yna 500 o swyddi nyrsio gwag ym Metsi Cadwaladr, bwlch sydd nid yn unig, fel roeddwn i'n dweud, yn rhoi straen ar y staff sy'n gorfod llenwi'r bylchau hynny, ond hefyd, jest i'n hatgoffa ni, mae e yn dod â baich ariannol sylweddol yn ei sgil e i'r bwrdd ac, o ganlyniad, i'r trethdalwr. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, angen canolbwyntio yn ddidrugaredd ar recriwtio, ar hyfforddi a chadw staff, rhywbeth dwi'n gwybod mae'r Gweinidog yn ingol ymwybodol ohono fe, achos os na fydd hynny yn digwydd, yna does gen i ddim amheuaeth y gwelwn ni barhad yn y tueddiad yma o ddoctoriaid a nyrsys yn gadael Cymru i chwilio am amodau gweithio gwell.

Yn ogystal â phroblemau staffio a rhestrau aros hir, mae yna heriau eraill wedi codi yn gyson dros y blynyddoedd: materion yn ymwneud â'r gwasanaethau iechyd meddwl ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, gwasanaethau vascular yn fater rŷm ni wedi codi'n gyson fan hyn yn y Siambr. Dwi'n cofio codi problemau C. difficile a hylendid ar wardiau, ac, wrth gwrs, y ffioedd aruthrol o uchel a oedd yn cael eu talu i ymgynghorwyr er mwyn trio cael nhw mas o'r twll maen nhw wedi bod ynddo fe am lawer rhy hir, nifer o'r rhain yn deillio'n uniongyrchol o fethiannau rheolaethol—hynny yw, camreoli gan y bwrdd—a hefyd diffyg trosolwg digonol gan Lywodraeth Cymru.

Yn wreiddiol, fe gafodd y bwrdd ei roi o dan fesurau arbennig yn 2015 a hynny tan fis Tachwedd 2020, pan benderfynodd y Llywodraeth dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig, penderfyniad y mae nifer erbyn hyn yn teimlo oedd yn gynamserol, oherwydd ychydig dros ddwy flynedd wedyn, beth ddigwyddodd? Roedd yn ôl o dan y lefel uchaf o uwchgyfeirio. Felly, ddylem ni ddim synnu bod yr holl amgylchiadau yma wedi arwain at sefyllfa lle mae'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru, er gwaethaf, fel rŷn ni wedi clywed, holl ymdrechion arwrol y gweithwyr yna sydd yn y rheng flaen yn dal y gwasanaethau yna at ei gilydd, yn dal i wneud y penawdau am y rhesymau anghywir yn rhy aml o lawer.

Ond—ac mi fydd y Gweinidog yn falch i glywed bod fi'n dweud 'ond'—er gwaethaf y backstory echrydus yna a'r gefnlen heriol eithriadol sydd yn dal i wynebu'r bwrdd heddiw, dwi eisiau dweud gair positif am y cywair gwahanol sydd yn dechrau cael ei daro gan gadeirydd y bwrdd a phrif weithredwr newydd y bwrdd. Dwi'n siarad o brofiad y misoedd diwethaf fan hyn, oherwydd bydd nifer ohonoch chi'n ymwybodol bod yna ofid wedi bod yn y cyfnod diwethaf ynglŷn â dyfodol y feddygfa leol ym Metws-y-coed, gyda'r meddygon presennol yn rhoi'r cytundeb i fyny cyn bo hir a, gyda hynny, nifer o drigolion lleol yn poeni, wrth gwrs, y byddai'r feddygfa yn cau. Mi fues i yn rhan o drefnu cyfarfod cyhoeddus i geisio sicrhau fod popeth posibl yn cael ei wneud i warchod y feddygfa. Nawr, roeddwn i'n gobeithio y byddai rhywun yn dod o'r bwrdd i wynebu'r cwestiynau gan y gynulleidfa. Beth gawsom ni? Cadeirydd y bwrdd yn dod, prif weithredwr newydd y bwrdd yn dod, pennaeth yr adran berthnasol yn dod i wynebu'r cyhoedd, i ateb y cwestiynau ac i amlinellu eu cynllun. Nawr, dyw hynna ddim yn rhywbeth fyddem ni wedi gweld yn y gorffennol. Chwa o awyr iach, os caf i ddweud, ac atebolrwydd a thryloywder ar waith.

Ond mae yna 'ond' arall yn dod nawr, a fyddwch chi ddim yn licio'r 'ond' yma, efallai. Dwi yn falch o weld y camau positif yna yn digwydd, ond camau cychwynnol a chamau bychan ŷn nhw. Rŷn ni'n gweld dechrau newid diwylliant ar y lefel uchaf yn y bwrdd, ond mae'n mynd i gymryd amser i hwnna raeadru i lawr trwy'r bwrdd iechyd cyfan, a hyd yn oed wedyn, wrth gwrs, does dim sicrwydd y byddan nhw'n gallu datrys y problemau sylweddol iawn wnes i eu rhestru ar y cychwyn sydd yn llethu'r gwasanaeth yn ehangach. Ond, fel mae pethau'n sefyll, mae angen i'r Llywodraeth bennu amserlen glir i ddad-ddwysáu trefniadau ymyrryd ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru, ac fel rhan o hynny ac er gwaethaf yr egin positif rŷn ni'n gweld, mae'n rhaid cydnabod, fel mae'r sefyllfa ehangach ar hyn o bryd, ei bod hi yn argyfwng iechyd.

18:10

Mae dros ddegawd o danariannu yn erbyn angen wedi effeithio ar iechyd ar draws y DU. Mae taer angen llawer mwy o gyllid, nid yn unig oherwydd y pwysau chwyddiant enfawr y mae pawb yn eu hwynebu, fel biliau cyfleustodau, ond mae gennym hefyd boblogaeth salach a hŷn yng Nghymru, ac ar ben hynny mae angen inni ariannu technoleg newydd a meddyginiaethau newydd i helpu ein trigolion. Mae angen inni fuddsoddi yn ein hadeiladau hefyd ac uwchraddio'r ystad yn barhaus, yn union fel y gwnaethom gyda'r rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ond cyfyngedig yw ein cyllid cyfalaf a'n pwerau benthyca yma yng Nghymru.

Rwy'n croesawu'r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ar hyfforddi nyrsys newydd, darparu bwrsariaethau, adeiladu ysgol hyfforddiant meddygol newydd ym Mangor, a cheisio goresgyn y prinder staff y mae Brexit a'r pandemig wedi'i greu, yn cynnwys cymhlethdodau gyda cheisiadau fisa. Ond mae'n rhaid inni gadw staff da. Mae staff wedi gorflino, ac rwy'n clywed bod morâl yn isel ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi ymlâdd. Rwyf hefyd yn poeni am oriau gwaith a chyflogau yn y sector gofal iechyd cymdeithasol, sydd hefyd ar fin torri. Maent yn gysylltiedig—ni allwch roi sylw i un heb y llall.

Felly, Weinidog, hoffwn ofyn pa sgyrsiau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ar ariannu'r sector cyhoeddus yn briodol yn dilyn blynyddoedd o doriadau cyni, ac i sicrhau bod cyllid digonol ar gael yng Nghymru. Rwy'n clywed bod cyllid ar gael yn Lloegr, i roi codiad cyflog i feddygon, ond nid i Gymru, rhywbeth sydd i'w weld yn digwydd cryn dipyn ar hyn o bryd.

Nid wyf am feirniadu'r gwasanaeth iechyd, oherwydd rwy'n awyddus i'w hyrwyddo. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyflogi 19,000 o bobl ac mae angen inni allu eu recriwtio a'u cadw. Un o'r pethau gorau y gallwn eu gwneud yw cynnig oriau gwaith mwy rhesymol, rhannu swyddi a chyflogi cyplau yn y gwasanaeth iechyd, rhywbeth y soniais amdano wrth y Gweinidog o'r blaen. Yn aml iawn mae pobl yn hyfforddi gyda'i gilydd, ac os gallwn gynnig swyddi i'r ddau berson, byddai hynny'n helpu gyda recriwtio.

Nid wyf yn cefnogi'r alwad i ddatgan argyfwng iechyd. Nid wyf eisiau codi ofn ar bobl. Rwyf am sicrhau, os ydynt yn meddwl bod ganddynt broblem iechyd, eu bod yn mynd i'w gael wedi'i archwilio, a'u bod yn gwybod bod angen iddynt wneud hynny. A phob dydd, mae miloedd o bobl yn cael triniaeth, fel y soniodd Huw Irranca-Davies yn gynharach.

Mae mwy yn cael ei wneud yn y gymuned. Mae angen inni ddathlu hynny hefyd, a dathlu'r cynnydd sy'n cael ei wneud. Yn sir y Fflint, ceir dau gyfleuster cymunedol iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd wedi'u cefnogi gan fwy na £14 miliwn o gyllid, cartref gofal preswyl newydd yn y Fflint, ac un arall ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth a chymorth anghenion iechyd meddwl yn yr Wyddgrug. Bydd cartref preswyl Croes Ati yn cael ei ymestyn i gartrefu 56 o bobl hŷn ar safle'r hen ysbyty cymunedol poblogaidd.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymestyn unedau mân anafiadau mewn ysbytai cymunedol, rhywbeth a gafodd groeso mawr yr wythnos o'r blaen. Mae llawer o bobl yn byw'n hirach gyda chanser diolch i archwiliadau rheolaidd a meddyginiaethau newydd sy'n cael eu datblygu, felly mae'n rhaid inni gofio hynny. Mae'r ganolfan newydd yn Llandudno bellach wedi cael sêl bendith a dylai gael ei hadeiladu eleni, a bydd ar gael ar gyfer orthopedeg, pengliniau a chluniau ar gyfer gogledd Cymru gyfan. Ac er ein bod yn clywed yn rheolaidd am yr heriau sy'n wynebu Betsi, mae gwelliannau'n dechrau dangos yn yr amseroedd aros. Rwy'n croesawu'r prif weithredwr a'r cadeirydd newydd, fel y dywedodd Llyr Gruffydd. Er enghraifft, y gwelliannau ers mis Chwefror 2023, bu gostyngiad o 52.4 y cant yn nifer y llwybrau orthopedig dros 104 wythnos i 1,176, ac mae bellach ar ei isaf ers mis Ebrill 2021.

Hoffwn orffen drwy ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Ni fyddai'r GIG yn bodoli heboch chi. Diolch.

18:15

Fe glywon ni i gyd yr hanes truenus yna a gafodd ei adrodd yn y newyddion ddoe am brofiad un o fy etholwyr i, Theresa Jones, menyw 91 oed o Bort Talbot a oedd yn gorwedd mewn poen, a phoen meddwl, ar lawr ei chartref gofal am bron i 24 awr tra’n aros am ambiwlans i gyrraedd. Roedd yn dorcalonnus i'w theulu a'r staff oedd yn ceisio gofalu amdani. Torcalonnus ac annerbyniol. 

Yn anffodus, tra bod yr achos yma yn ymddangos fel un eithriadol, mae'n stori debyg iawn i nifer dwi'n eu clywed yn gyson gan etholwyr, ac yn symptomataidd o ddiffygion yn y gwasanaeth y mae cleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn eu profi. Dyw gweld cyhoeddiad gan y bwrdd iechyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn i bobl beidio â galw 999 os ydynt yn medru, neu beidio mynychu'r adran achosion brys yn Nhreforys yn sgil pwysau acíwt, ddim yn ddigwyddiad anghyffredin mwyach. Pan oeddwn i'n arfer gweld y cyhoeddiad yna, roeddwn i'n arfer ei rannu fe dros y lle i gyd, ond nawr mae fe'n digwydd mor aml dyw pobl ddim yn talu lot o sylw iddo fe. Ac maen nhw hefyd yn sôn bob tro maen nhw'n mynd i'r adran achosion brys am y ciwiau o ambiwlansys sydd yno am oriau y tu fas, ac mae hyn bron i'w ddisgwyl bellach.

Clywais i'r Prif Weinidog yn sôn ddoe nad oes gan y Llywodraeth gyfrifoldeb uniongyrchol dros berfformiad gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru, ond mae'n rhaid i mi ddweud dyw fy etholwyr jest ddim yn deall hynny. Dyw'r agwedd yna ddim yn cael ei gwerthfawrogi, na gan y gweithwyr yn y gwasanaeth ambiwlans eu hunain, sy'n parhau i weithio mor galed i helpu cleifion mewn cyfnod o argyfwng, mewn cyfnod tra'u bod nhw mewn poen ac maen nhw'n ofni, er bod y pwysau sylweddol yma ar eu hadnoddau i fedru cefnogi'r bobl hyn. Achos nid yr un hen gân gan y Llywodraeth y maen nhw'n moyn ei chlywed, bod pethau yn gwella, achos dydyn nhw jest ddim yn profi hynny. Nid dyna yw eu realiti nhw, a'n dyletswydd ni yw adlewyrchu'r hyn rŷn ni'n ei glywed gan ein hetholwyr. Maen nhw am i'r Llywodraeth gydnabod maint yr her sy'n wynebu eu bwrdd iechyd, hynny yw, o ran cleifion ac o ran staff, ac mae'r esiampl o amseroedd aros ambiwlans yn amlygu hyn yn glir, dwi'n meddwl.

Yn ôl ym mis Chwefror 2023, pan gyhoeddwyd blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, roedd 51.8 y cant o alwadau coch ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn derbyn ymateb o fewn yr wyth munud delfrydol. Ond yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae'r ffigwr ymhellach yn 47.2 y cant, ac yn is o lawer, wrth gwrs, na'r targed sydd gan y Llywodraeth o 65 y cant.

Mater arall o bwys difrifol i fae Abertawe yw'r gwasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol, a gafodd eu gosod mewn cyflwr o uwch fonitro cyn y Nadolig ar ôl i bryderon niferus gael eu codi gan deuluoedd ac adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Roedd yr adroddiad yn nodi bod lefelau staffio'r ysbyty wedi bod yn anniogel ers 2019, a thynnwyd sylw at bwysau staffio fel rhai argyfyngus ym mis Mehefin y llynedd mewn cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd. Mae'r bwrdd wedi comisiynu adolygiad annibynnol i'r gwasanaethau o'r herwydd. Fe fues i'n ymweld â'r uned famolaeth a newydd-enedigol yn Ysbyty Singleton yr wythnos diwethaf, gan gwrdd â chleifion a staff, ac rwyf hefyd wedi cwrdd â Sian a Robert Channon, sydd wedi sôn am eu profiadau yn yr ysbyty wrth eni eu mab, Gethin, a gafodd niwed sylweddol i'w ymennydd yn ystod ei enedigaeth.

Mae yna welliannau i'w gweld ar y gweill yn y gwasanaethau mamolaeth a newydd-enedigol, gan gynnwys y ffocws pendant yna ar recriwtio staff. Ond yr hyn sydd yn fy nharo i yn sgil y ddau gyfarfod yma yw'r effaith dorcalonnus ac annerbyniol ar deuluoedd a staff sydd wedi profi effaith andwyol pwysau a straen ar wasanaethau. Ac er fy mod i'n croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn fy rhanbarth yn cael eu monitro'n fwy gofalus, a'r bwrdd iechyd yn mynd i gael ei gefnogi'n well i wneud y gwelliannau, mae yna gwestiynau dilys o hyd gan fy etholwyr a yw'r camau hyn yn mynd i fod yn ddigonol i adfer hyder, achos mae'r hyder yna wedi mynd ar goll.

Fel mae ein cynnig ni'n ei amlygu, does yna ddim cynllun nac amserlen ar gyfer symud i'r pwynt o fusnes fel arfer yn y bwrdd, lle mae popeth yn gweithio mewn ffordd gynaliadwy ac effeithiol. Fel rydym ni wedi gweld eisoes gyda'r strategaeth tlodi plant, heb dargedau clir i fesur cynnydd, y peryg yw y bydd pwysau yma, y diffyg sy'n gallu digwydd wedyn o ran ansawdd gofal, yn cael eu normaleiddio yng Nghymru.

Blwyddyn ers cyhoeddi'r blaenoriaethau, gydag amseroedd aros ambiwlans wedi gwaethygu a'm bwrdd iechyd i bellach mewn trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd ar draws tri maes gwahanol, mae fy etholwyr sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn yn haeddu gwybod, os nad yw blwyddyn yn ddigon hir i fesurau'r Llywodraeth ddwyn ffrwyth, pa mor hir byddwn ni yn aros? Mae angen cynllun brys sy'n cwrdd â'r galw, yn cwrdd â difrifoldeb y sefyllfa. Dyna nod ein cynnig, er mwyn y teuluoedd a'r staff sydd yn dioddef yn sgil y pwysau anghynaliadwy ar wasanaethau, ac rwy'n annog Aelodau i'w gefnogi.

18:20

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw ac i rannu gyda chi sut mae'r GIG, er gwaethaf pwysau parhaus, yn darparu ar gyfer pobl Cymru.

Yn gyntaf, rwyf am gydnabod gwaith rhagorol yr holl staff yn y GIG y mae eu hymrwymiad a'u hymroddiad yn hanfodol mewn cyfnod mor heriol. Mae ein GIG wedi gweld galwadau nad ydym erioed wedi'u gweld o'r blaen, ac er bod cyrraedd targedau perfformiad wedi bod yn anodd iawn, cyflawnwyd lefelau uwch nag erioed o weithgarwch dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac fel chithau, rwy'n cyfarfod bron bob dydd â chleifion sy'n canmol y gwasanaeth a gawsant i'r cymylau, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym yn colli golwg ar hynny. Ond rwyf hefyd yn derbyn bod gormod o achlysuron pan nad yw'r gwasanaeth yn cyflawni fel y dylai, ac rydym wedi clywed rhai enghreifftiau o hynny yr wythnos hon.

Ond nid wyf yn derbyn ei bod yn argyfwng iechyd ac nid wyf yn siŵr iawn beth y gobeithiwn ei gyflawni drwy ddatgan argyfwng iechyd, yn enwedig os nad ydym yn barod i roi'r arian i i ganlyn blaenoriaethau gwleidyddol. Ddoe, cawsom drafodaeth eang iawn ar y gyllideb, ac roedd rhestr gyfan o feysydd eraill lle nad oedd pobl eisiau gweld gwasanaethau'n cael eu torri. Rydym ni fel Llywodraeth wedi blaenoriaethu'r GIG yn wyneb dros £1 biliwn o doriadau mewn termau real. Dyma yw ein blaenoriaeth. Rydym wedi ei osod fel blaenoriaeth, ac nid yw hynny'n wir am bawb arall o reidrwydd.

Nawr, o edrych ar y galw dros y flwyddyn ddiwethaf, mae atgyfeiriadau wedi cynyddu dros 10 y cant. Mae hynny'n fwy na 1.5 miliwn o atgyfeiriadau mewn poblogaeth o 3.1 miliwn o bobl, ac eto mae cyfanswm ein rhestr aros wedi cynyddu llai na 2 y cant. Ar gyfartaledd, bob mis mae bron i 300,000 o bobl—oddeutu maint poblogaeth Caerdydd—yn cael eu gweld fel cleifion allanol. A chafodd dros 31,000 o driniaethau eu cyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf. Y pwyntiau mynediad mwyaf cyffredin i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG yw naill ai gwasanaethau meddygon teulu, GIG 111 neu 999. Ar gyfartaledd, mae tua 1.5 miliwn o gysylltiadau'n digwydd trwy wasanaethau meddygon teulu bob mis. A phan ddywedais hynny wrth gyn brif swyddog gweithredol y GIG yn Lloegr yr wythnos diwethaf, bu bron iddo ddisgyn oddi ar ei gadair. Mae dros 2,500—[Torri ar draws.] Na, os nad oes ots gennych, rwy'n mynd i fwrw yn fy mlaen am ychydig. Efallai y gallaf adael i chi ddod i mewn yn nes ymlaen.

Mae dros 2,500 o bobl yn mynychu adran frys ac oddeutu 1,100 o bobl yn ffonio 999 bob dydd. Rwy'n credu y byddai'r mwyafrif helaeth o'r bobl hyn yn dweud nad oes argyfwng. Mae pobl yn mynd allan o'u ffordd, fel y dywedais, i ddweud wrthyf pa mor wych oedd eu triniaeth, ond fel y dywed Huw, mae'n rhaid i chi gydbwyso'r peth. Mae'n rhaid inni gydbwyso'r holl feirniadaeth gyda'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn y GIG.

Ond y newyddion da yw bod gennym lwybrau amgen nawr a ddatblygwyd yn rhan o'n rhaglenni trawsnewid strategol cenedlaethol i dynnu pwysau oddi ar feddygon teulu. Ym mis Rhagfyr, defnyddiodd dros 41,000 o bobl y gwasanaeth fferylliaeth gymunedol glinigol newydd ar gyfer anhwylderau cyffredin, fel mynediad at y bilsen bore wedyn a phils atal cenhedlu, neu gyflenwadau brys o feddyginiaethau a brechiadau ffliw. Ac mae nifer yr ymgyngoriadau a ddarperir trwy fferyllwyr neu wasanaethau presgripsiynu annibynnol bron â bod wedi dyblu.

Mae dros 300,000 o gleifion newydd wedi cael gofal deintyddol y GIG ers mis Ebrill 2022, ac mae'n ddiddorol gweld bod Llywodraeth y DU yn penderfynu cydnabod bod yna heriau gwirioneddol yn Lloegr. Ond yn wahanol i Loegr, nid ydym yn cyhoeddi pethau, rydym yn eu cyflawni ac yna rydym yn dweud wrth bobl beth a wnaethom.

Ym mis Rhagfyr, roedd y gwasanaeth ambiwlans yn cael dros 1,200 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd ac ymatebodd i'r nifer uchaf a gofnodwyd erioed o alwadau coch o fewn wyth munud. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sy'n anhygoel—. Rhaid ichi ddal i gofio, mewn gwirionedd, fod perfformiad yn well nag y bu erioed o'r blaen. Ymatebwyd i fwy nag erioed o fewn wyth munud, ond oherwydd bod y galw wedi mynd drwy'r to, mae'n anodd iddynt gyrraedd y targedau a osodwyd gennym wrth gwrs.

Daeth dros 2,700 o bobl i'n hadrannau brys bob dydd ym mis Rhagfyr, gyda dros 66 y cant o'r rheini'n cael eu trin a'u rhyddhau mewn pedair awr, gydag amser aros canolrifol o lai na thair awr. Mae'r amser i weld uwch glinigydd mewn adran frys wedi gwella dros 23 munud yn ystod y 12 mis diwethaf. Felly, gallwch weld bod pethau'n gwella. Felly, nid dyna'r amser i ddatgan argyfwng, pan welwch fod pethau'n gwella mewn gwirionedd. Dyna ffordd sicr o ddigalonni staff o fewn y GIG.

Felly, fe allwch ddychmygu, rwy'n credu—. Ym mis Rhagfyr, roedd dros 95,000 o alwadau i GIG 111. A glywoch chi hynny? Cafwyd 95,000 o alwadau mewn mis. Roedd hwnnw'n wasanaeth nad oedd prin yn bodoli tua thair blynedd yn ôl ac nid yw'n cynnwys y gwasanaeth '111 pwyso 2'. Dyna gynnydd, ym mis Rhagfyr yn unig, o 35,000 ar y mis blaenorol. Felly, mae'n hawdd iawn dweud, 'Pam nad ydych chi'n cyrraedd y targed?' Oherwydd bod y galw'n dal i ddod, dyna pam. Mae gennym 16 o ganolfannau gofal sylfaenol brys sy'n cynnig dewis arall go iawn yn lle meddygon teulu ac adrannau brys, ac mae tua 12,000 o bobl yn defnyddio'r canolfannau hyn bob mis. Unwaith eto, nid oeddent yn bodoli ddwy flynedd yn ôl, nid oeddent wedi'u sefydlu. Felly, mae'r holl bethau hyn yn lleddfu pwysau; dychmygwch pe na baem wedi eu rhoi ar waith.

Gofynnwyd i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros, a'r gwir amdani yw y bu cynnydd enfawr yn nifer yr atgyfeiriadau, ar gyfer gofal wedi'i gynllunio ac ar gyfer canser. Mae nifer y bobl sy'n aros dros 104 wythnos yn dal i fod yn rhy uchel, ond mae 50 y cant yn is na'r hyn a oedd flwyddyn yn ôl ac mae wedi gostwng bob mis am yr 20 mis diwethaf. Yr amser aros cyfartalog nawr yw 20 wythnos, o'i gymharu â 29 wythnos ar ei waethaf—felly, eto, gwelliannau drwy'r amser. Roedd Huw yn siarad am Gwm Taf; maent wedi gwella'n fawr ac mae wedi gwneud gwahaniaeth go iawn. Roedd yn anhygoel mynd i wylio llawdriniaeth i osod pen-glin newydd yr wythnos diwethaf, a sgiliau anhygoel y llawfeddygon hynny. Ond mewn gwirionedd, nid yw'n waith cyflym, nid yw'n rhywbeth y gallwch ei wneud mewn ychydig funudau. Rwy'n credu, hefyd, y dylid nodi mae'n debyg fod 1,894 o bobl wedi dechrau triniaeth ddiffiniol ar gyfer canser ym mis Tachwedd a dywedwyd wrth bron i 15,000 o bobl nad oedd ganddynt ganser. Dyna'r ail nifer uchaf erioed. Felly, unwaith eto, ystadegau gwell nag erioed o ran gweithgaredd.

Dwi'n meddwl bod hyn yn dipyn o gamp yn yr hinsawdd sydd ohoni, ond er gwaethaf hyn i gyd, dwi'n ymwybodol iawn bod rhai pobl yn cael eu gadael i lawr gan y gwasanaeth. Dwi'n poeni am y bobl sy'n gorfod aros mewn ambiwlans neu goridor, neu'n methu cael gwely; pobl sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas wrth ddisgwyl am lawdriniaeth clun neu gataract a chleifion sy'n aros i glywed os oes gyda nhw ganser. A fi yw'r cyntaf i gyfaddef nad yw rhestrau aros yn yr NHS ble rŷn ni eisiau iddyn nhw fod, ond dwi yn meddwl bod angen inni gydnabod a gwerthfawrogi'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud ar draws Cymru.

Llywydd, rŷn ni'n benderfynol o ddal ati a gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r NHS. Rŷn ni wedi darparu £425 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn ariannol yma ac fe fydd £450 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf. Mae gyda ni strategaeth 10 mlynedd ar y cyd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n cael ei hategu gan gynllun gweithredu cenedlaethol. Bydd hyn yn arwain at greu cynllun tymor hir ar gyfer y gweithlu. Mae gweithlu'r NHS bellach ar ei lefel uchaf erioed, gyda 110,000 o bobl yn gweithio ynddi. Mae yna gynnydd wedi bod o 32 y cant mewn staff medical a dental; 11 y cant o gynnydd yn y 10 mlynedd diwethaf o nyrsys; 25 y cant o gynnydd o consultants. Mae pobl yn gofyn am GPs—. 

Mae arnaf ofn, Altaf, fod eich ystadegau'n anghywir. Yn 2022, roedd yna 1,808 o feddygon teulu; yn 2021, roedd yna 2,038 ac mae wedi cynyddu 1.6 y cant eto y llynedd. Yng Nghymru, mae gennym 63 o feddygon teulu i bob 100,000 o bobl, o'i gymharu â 57 i bob 100,000 yn Lloegr. 

18:30

Rwy'n mynd i ofyn i'r Gweinidog ddod â'i chyfraniad i ben yma. Rwyf wedi bod yn hael iawn.

Diolch. Y rhwystredigaeth, mewn gwirionedd, yw y gallwn barhau am amser hir iawn, oherwydd—[Torri ar draws.] Rwy'n fwy na hapus i wneud hynny; beiwch y Llywydd. [Chwerthin.] Rwy'n credu bod angen i bobl glywed y newyddion da—fod llawer iawn o welliant wedi bod mewn gwirionedd, ac mae'n rhaid inni ddathlu hynny. A'r ffordd sicr o ddigalonni'r 100,000 o bobl sy'n gweithio yn y GIG yw datgan argyfwng ac nad yw'n gweithio. Nid wyf yn credu y byddai honno'n ffordd adeiladol i ni werthfawrogi'r ymdrechion anhygoel y maent wedi'u gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolch yn fawr.

18:35

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl yma heno. Mae hi wedi bod yn ddadl, ar y cyfan, adeiladol iawn, ac rwyf yn gwerthfawrogi pawb sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr yma. Os caf i gytuno i ddechrau efo'r hyn roedd Huw Irranca-Davies a Carolyn Thomas yn ei ddweud o ran y gwaith arwrol sydd yn cael ei wneud gan y gweithlu, wrth gwrs, mi ydyn ni'n cytuno, a dyna pam ein bod ni wedi ei roi o ar frig y cynnig yma ein bod ni eisiau cydnabod y gwaith arwrol hwnnw, a ddaru Cefin sôn am enghreifftiau o hynny.

Ond, er gwaethaf y gwaith arwrol hwnnw, y gwir amdani ydy fod yr ystadegau yna, beth bynnag oedd y Gweinidog yn ei ddweud, yn siarad drostyn nhw eu hunain. Mi glywson ni Heledd Fychan yn sôn am sut mae'r ystadegau'n dangos ein bod ni, mewn gwirionedd, mewn argyfwng, gydag Altaf wedyn yn mynd ymlaen i sôn am niferoedd y meddygon teulu, a bod yr arian sydd yn mynd iddyn nhw bellach yn 7 y cant yn hytrach na, fel oedd o, 8.7 y cant, a bod gan pobl ddim ond yr hanner cyfle yna—50:50 chance, roedd o'n ei ddweud—i gael ambiwlans yn cyrraedd ar amser. Felly'r ystadegau yna sydd yn dangos bod pethau ddim yn gweithio ar hyn o bryd. A Llyr wedyn yn sôn am yr ystadegau rhestrau aros sydd yna yn Betsi Cadwaladr.

Yr elfen mwyaf clir o hyn i gyd ydy y gweithlu, a dyna pam y byddwn ni yn cytuno ac yn cefnogi gwelliannau y Ceidwadwyr. Roedd un o welliannau'r Ceidwadwyr yn sôn bod yn rhaid cael cynllun gweithlu, a'r cynllun gweithlu yna hefyd yn mynd i fod yn ganolog er mwyn sicrhau ein bod ni'n codi'r lefel yna nôl.

Ceisiodd y Gweinidog adrodd rhai ystadegau, a do, fe wyddom ein bod wedi gweld peth cynnydd, ond y gwir amdani yw nad oes gennym ddigon o nyrsys o hyd. Rydym 2,000 o nyrsys yn brin. Mae'r Gweinidog yn dweud dro ar ôl tro mai'r un ffordd sicr o ddigalonni'r staff yw drwy inni dynnu sylw at y gwendidau o fewn y gwasanaeth iechyd. Na; y ffordd sicr o ddigalonni staff yw drwy beidio ag anrhydeddu'r contractau a addawoch chi iddynt—a rhoi i feddygon teulu, er enghraifft, y tâl y maent yn ei haeddu, y cyflog a addawoch chi iddynt, a sicrhau bod contractau'r nyrsys yn cael eu diwygio fel y gallant gael oriau gwaith mwy hyblyg. Y ffordd o ddigalonni staff yw drwy beidio â rhoi'r hyn y maent ei angen iddynt a'r hyn y maent ei angen i gyflawni eu swyddi hyd eithaf eu gallu.

Mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain. Mae gennym restrau aros hirach, ac mae'r rhestrau aros hynny—. Rwy'n derbyn y ffaith bod y Gweinidog yn dweud bod y gwasanaeth iechyd wedi gweld tua 2 filiwn o gysylltiadau dros y mis diwethaf, rwy'n credu ichi ddweud, ym mis Rhagfyr—

Iawn, mae'n nifer sylweddol, ond yr un bobl yw llawer ohonynt. Oherwydd eu bod ar restr aros hir, oherwydd na allant gael y driniaeth honno, maent yn mynd yn ôl, yn dychwelyd at y meddygon teulu, oherwydd bod eu poen yn fwy, oherwydd bod ganddynt anhwylderau eraill, oherwydd eu bod wedyn yn dioddef o bethau fel iechyd meddwl gwael oherwydd y rhestr aros hir. Felly, mae gennym fwy o gysylltiadau oherwydd ein bod yn yr argyfwng iechyd hwn.

Rwyf ychydig yn rhwystredig fod y Gweinidog wedi dweud nad yw'n deall pam fod angen inni ddatgan argyfwng iechyd. Y Llywodraeth hon oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Pam? Beth oedd pwynt gwneud hynny os nad ydych chi'n credu mewn datgan argyfwng, fod pwrpas gwneud hynny? Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi argyfwng natur. Cafodd y cynnig cyntaf a gyflwynwyd gennym yn y Senedd hon ei gefnogi gan y Llywodraeth, yn datgan argyfwng tai. Mae gennym argyfwng costau byw, argyfwng arall, y mae'r Llywodraeth yn siarad amdano o hyd, yn gwbl briodol. Ond am ryw reswm, mae yna amharodrwydd i gyfaddef bod gennym argyfwng iechyd. Pe bai hynny'n cael ei gyfaddef, byddai gennym ffocws priodol. Byddem yn gallu canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen i'n cael ni allan o'r sefyllfa hon, i nodi'r hyn y mae angen inni ei wneud i isgyfeirio a chydweithio i ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Dyna pam ein bod ni wedi rhoi'r cynnig yma at ei gilydd. Dyma pam ein bod ni eisiau'r datganiad yna, datganiad argyfwng iechyd clir, er mwyn ein bod ni'n medru cael y ffocws yna sydd ei angen er mwyn rhoi'r sylw angenrheidiol, er mwyn inni fedru cydweithio efo'n gilydd a ffeindio datrysiad. Ond heb hynny, yna mae arnaf i ofn fod y Llywodraeth unwaith eto yn cuddio eu pennau yn y tywod ac yn gwadu'r hyn sydd yn glir i bawb i weld, yr hyn sydd yn brofiad i bob un ohonom ni, boed yn uniongyrchol, neu efo'n cyfeilion neu efo'n teuluoedd, sef bod yna argyfwng iechyd yma yng Nghymru. Felly, dwi'n eich annog chi i gyd i gefnogi'r cynnig, a hefyd i gefnogi'r gwelliannau. Diolch yn fawr iawn. 

18:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni adael y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, byddwn ni'n pleidleisio nawr. Y bleidlais gyntaf heno fydd ar eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflenwad tai. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflenwad tai. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Y bleidlais nesaf fydd ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais ar welliant 1, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflenwad tai. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 fydd nesaf—gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflenwad tai. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 37, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8479 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws y Deyrnas Unedig.

2. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd a’i buddsoddiad mewn tai.

3. Yn nodi ymrwymiad uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol, carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd â Plaid Cymru, er mwyn cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflenwad tai. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 37, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Pleidleisiau ar ddadl Plaid Cymru ar y gwasanaeth iechyd sydd nesaf. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Y gwasanaeth iechyd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Gwnaf ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, ac felly, mae'r gwelliant wedi ei drechu o 27 pleidlais i 26. 

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Y gwasanaeth iechyd. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae'r bleidlais nesaf felly ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant. Canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid a 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.  

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Y gwasanaeth iechyd. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 nesaf yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 3 wedi ei gymeradwyo. 

18:45

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Y gwasanaeth iechyd. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 27, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8478 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi ymdrechion arwrol staff y GIG yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.

2. Yn nodi blwyddyn ers i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru.

3. Yn credu bod:

a) canlyniadau iechyd wedi gwaethygu yn y flwyddyn sydd wedi mynd heibio; a

b) methiant i weithredu ar y blaenoriaethau wedi cyfrannu at fod pob bwrdd iechyd mewn rhyw fath o statws uwchgyfeirio.

4. Yn gresynu:

a) bod nifer y llwybrau cleifion oedd yn aros am driniaeth yn 758,815 ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu â 731,102 ym mis Chwefror 2023;

b) mai 53.5 y cant o gleifion canser ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn y targed 62 diwrnod ym mis Tachwedd 2023, o'i gymharu â 54.3 y cant ym mis Chwefror 2023;

c) mai nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru oedd 1901 yn 2013 a 1429.6 yn 2023; a

d) mai 66.7 y cant o gleifion dreuliodd llai na 4 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis Rhagfyr 2023, o'i gymharu â 71.5 y cant ym mis Chwefror 2023.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) pennu amserlen glir i ddad-ddwysáu trefniadau ymyrryd ym mhob bwrdd iechyd; a

b) datgan argyfwng iechyd; a

c) gosod targed i ddileu amseroedd aros dwy flynedd erbyn mis Medi 2024 a chreu tasglu i'w gyflawni.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig wedi'i ddiwygio. Ac felly mae'r cynnig wedi'i drechu.

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Y gwasanaeth iechyd. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

9. Dadl Fer: Mynediad cyflymach at wasanaethau clyw yng Nghymru

Mae yna un eitem arall ar ein hagenda ni ar gyfer y prynhawn yma.

Fe ofynnaf i'r Aelodau adael y Siambr yn dawel, os ydych yn gadael, er mwyn imi alw ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno ei dadl fer. Janet Finch-Saunders.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o roi munud i Natasha Asghar, Mark Isherwood, Joel James, Russell George, Peter Fox a Mike Hedges yn y ddadl hon.

Yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol Clywed Cymunedol, NCHA, mae gan 527,100 o oedolion yng Nghymru ar hyn o bryd, sef 17 y cant o'r boblogaeth, rywfaint o golled clyw a fyddai'n elwa o driniaeth megis gyda chymhorthion clyw. Mae dros 95 y cant o'r rhai sydd â cholled clyw yng Nghymru dros 40 oed a cholled clyw yw pumed prif achos blynyddoedd o fyw gydag anabledd yng Nghymru.

Mae gan Gymru broblem arbennig hefyd gyda phoblogaeth sy'n heneiddio. Mae nifer yr achosion o golled clyw sy'n gysylltiedig ag oedran oddeutu 1 y cant am bob blwyddyn o'ch oed; felly 60 y cant o bobl 60 oed, 80 y cant o bobl 80 oed a 90 y cant o bobl 90 oed ac yn y blaen. Cymru yw'r genedl yn y DU sydd â'r ganran uchaf o'i phoblogaeth yn 65 oed neu'n hŷn, felly mae'n hanfodol fod gennym y gwasanaethau clyw gorau posibl.

Dair blynedd yn ôl, roedd ychydig dros 4,000 o bobl yn aros am apwyntiadau i gael eu cymorth clyw. Ym mis Medi 2023 mae bron i 10,000 bellach yn aros am yr un peth; mae traean o'r rhain yn aros dros 14 wythnos. Felly, gwelwyd cynnydd o 150 y cant yn nifer y rhai sy'n aros. Mae rhestrau aros wedi codi'n gyson ers 2019 ac maent yn parhau i dyfu. Ym mis Tachwedd 2019 nid oedd yr un claf GIG yn aros am fwy na 40 wythnos, ond ym mis Medi 2023, roedd yna 35.

Mae nifer y awdiolegwyr a gyflogir gan fyrddau iechyd yn wahanol ar draws y wlad. Felly, mae gennych dri yn Iechyd Cyhoeddus Cymru; Powys, pump; Hywel Dda, 18; Betsi Cadwaladr, yn fy rhanbarth i, 65. Felly, ar ben y dosbarthiad anghyson o awdiolegwyr, loteri cod post llwyr yw pa mor hir y mae'n rhaid i chi aros am unrhyw gymorth clyw sydd ei angen. Ym mis Tachwedd 2023 nifer yr oedolion a oedd yn aros am fwy na 14 wythnos oedd un claf yn unig ym mae Abertawe, 583 yn Hywel Dda ac unwaith eto, 1,674 o gleifion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Felly, gadewch inni edrych ar yr hyn sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i geisio gwella gwasanaethau awdioleg. Y llynedd, fe ddywedoch chi y bydd cleifion yn cael eu cyfeirio at wasanaeth awdioleg gofal sylfaenol pan fyddai'r llwybr rheoli cwyr clustiau'n weithredol, a byddai'n cael ei gyflawni yno am ddim gan uwch-ymarferwyr awdioleg, gan ryddhau apwyntiadau diangen i gleifion mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.

Rwy'n ymwybodol hefyd fod llwybrau GIG Cymru sydd â safonau clinigol cenedlaethol ar gyfer darparu gwasanaeth gofal clyw yn cael eu gweithredu ar draws pob bwrdd iechyd, gyda chynnydd gwell wedi'i wneud gan fwrdd Betsi a bae Abertawe. Golyga hyn y gall cleifion gael eu hatgyfeirio at wasanaeth awdioleg gofal sylfaenol bellach, lle bydd gofal clyw'n cael ei ddarparu am ddim gan yr uwch-ymarferwyr awdioleg hyn. Felly, mae model Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gael uwch-ymarferwyr awdioleg y GIG i weld cleifion wrth iddynt ymgyflwyno gyntaf gyda phroblemau clyw. Y broblem, serch hynny, yw bod awdioleg gofal sylfaenol yn dal i olygu bod ymarferwyr colled clyw ysbytai yn cael eu lleoli mewn meddygfeydd, ac fel y gallwch ddychmygu, mae angen model arnoch sy'n dileu'r pwysau hwnnw ar feddygon teulu. Mae'r newid yn gwella mynediad lleol, ond nid yw'n ychwanegu capasiti i'r gwasanaeth.

Felly, rwy'n credu y gallech fynd gam ymhellach. Mae gofal clyw Boots a Specsavers wedi dod ataf i nodi y gall byrddau iechyd, trwy weithio gyda chontractwyr gwasanaeth offthalmig sylfaenol, optegwyr ac awdiolegwyr preifat sydd eisoes yn darparu awdioleg gymunedol i oedolion sy'n dewis talu am eu gofal colled clyw, ychwanegu capasiti yn ogystal â gwella mynediad. Byddai risg buddsoddi mewn cydweithwyr a safleoedd ychwanegol yn disgyn yn gyfan gwbl ar y contractwyr sydd eisoes wedi'u lleoli yno, gyda'u bythau clyw, gyda'u hunedau offthalmoleg yno ar y stryd fawr. Felly, profodd y darparwyr annibynnol hyn fod y model darparu gwasanaeth, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr ac Iwerddon, yn ddiogel, a hynny am gyn lleied â thraean o'r gost fesul claf o ddarparu'r gwasanaeth hwn trwy ysbyty. 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth gan wasanaethau awdioleg y GIG, byddai cost uned fesul claf yn gostwng yn sylweddol. Byddai mynediad at gymorth yn gyflymach, sef yr hyn sydd ei angen arnom. A hefyd, pam y byddech chi eisiau gweld pobl sydd angen cymhorthion clyw, batris, a'r holl waith cynnal a chadw hwnnw, yn crwydro ar hyd coridorau ysbytai, mewn perygl o ddal haint, ac yn ychwanegu mwy o bwysau ar yr ysbytai hynny yn wir, pan allent fynd i'r stryd fawr a gweithio gyda'n awdiolegwyr a'n darparwyr offthalmig, a bywiogi ein strydoedd mawr mewn gwirionedd?

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi canfod bod 26 y cant o deuluoedd yn anfodlon gydag amseroedd aros awdioleg bediatrig. Nawr, er fy mod yn deall eu bod yn y broses o gysylltu â phobl i drafod amseroedd aros, mae angen inni weld rhywfaint o weithredu nawr. Mewn gwirionedd, roedd 45 y cant o deuluoedd a oedd yn fodlon gydag amseroedd aros yn dal i rannu o leiaf un pryder am eu plentyn wrth aros am apwyntiad. Maent yn cynnwys oedi cyn darganfod y rhesymau am golled clyw eu plant, a oedd eu plentyn yn gallu deall popeth a ddywedir yn ei leoliad addysg, colli cyfathrebu cymdeithasol gwell gyda ffrindiau a theulu, a deall a fyddai technoleg clyw o fudd i'w plentyn byddar.

Rwy'n siŵr y cytunwch ei bod yn hanfodol nad oes amser yn cael ei golli i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd angen cymorth awdioleg yn ei gael. Felly, mae angen gweithredu trawsadrannol. Er enghraifft, mae angen i iechyd weithio gydag addysg, sydd wedi gweld gostyngiad o 17 y cant yn nifer yr athrawon i bobl fyddar yng Nghymru ers 2011. Nid yw'n syndod, felly, ym mis Rhagfyr, fod Ros Hannam o Gil-y-coed wedi lansio ymgyrch yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn athrawon arbenigol sydd wedi ei helpu hi a'i theulu, sy'n cynnwys dau blentyn byddar. Enghraifft arall o ble nad yw ysgolion yn cefnogi iechyd yn effeithiol yw drwy'r cynlluniau datblygu unigol. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi canfod, er gwaethaf ymrwymiadau'r cod anghenion dysgu ychwanegol i ddarparu cynlluniau datblygu unigol i bob dysgwr sydd â nam ar y synhwyrau yng nghyd-destun y nam hwnnw, fod rhai plant yn dal i gael eu hamddifadu o'r rhain. Ni all hyn fod yn iawn yn 2024. 

Heb gefnogaeth, mae colled clyw yn gwahanu pobl oddi wrth ei gilydd. Gall hyn gynyddu'r risg o ynysu cymdeithasol, dirywiad gwybyddol a phroblemau meddyliol eraill. Ac rwy'n deall y gall arwain at ddementia cynnar a chlefyd Alzheimer mewn gwirionedd. Yn rhy aml, mae pobl fyddar nad ydynt yn gallu clywed yn aml yn teimlo bod rhai'n cyfeirio atynt fel pobl 'dwp', ac mae'n rhaid inni gael gwared ar y stigma hwnnw. Credaf y gallech fod yn darparu gwasanaethau clyw yng Nghymru drwy'r model llawer haws hwn, ar y stryd fawr, gan weithio trwy gontractwyr preifat, am draean o'r gost. Ac felly, Weinidog, hoffwn ofyn i chi roi rhywfaint o ystyriaeth i'r model hwnnw. Diolch. 

18:50

Hoffwn ddiolch i Janet am adael i mi gyfrannu at y ddadl fer heddiw, a diolch iddi am ddod â'r pwnc pwysig hwn i'r Siambr. Cefais y pleser ddoe o noddi digwyddiad yn Senedd Cymru am golled clyw oedolion a mynd i'r afael â'r stigma sydd ynghlwm wrtho. Roedd yn ddigwyddiad diddorol iawn, ac mae'n rhaid imi dalu teyrnged i fy nghyd-Aelodau Russell George, a hefyd Joel James AS am siarad mor agored, yn enwedig am ei brofiad o golled clyw. Fe wnaeth argraff fawr arnaf, Joel, ac o ddifrif, roedd yn golygu llawer i mi.

Mae colled clyw yn broblem enfawr yma yng Nghymru, gyda mwy na 0.5 miliwn o bobl â rhywfaint o golled clyw, ac mae galw enfawr ar ein GIG am ofal clust, gyda bron i 10,000 o bobl yn aros am apwyntiadau i gael cymhorthion clyw ym mis Medi y llynedd. Nawr, mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn comisiynu Specsavers i ddarparu gwasanaethau iechyd arbenigol y llygaid yn y gymuned, ac mae'n rhaid i mi eu cymeradwyo, oherwydd maent wedi dechrau rhywbeth newydd iawn yng Nghasnewydd, a hynny yn eu siop flaenllaw. Rhaid imi ganmol fy rhagflaenydd yn Ne-ddwyrain Cymru hefyd, a oedd, yn ôl pob tebyg, yn gyswllt pwysig rhwng Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Specsavers wrth greu ffordd newydd mor anhygoel o fynd ati, sef, pan fyddwch chi'n cerdded i mewn i siop optegwyr, ar y llawr gwaelod gallwch gael prawf llygaid, gallwch gael eich sbectol, eich lensys cyffwrdd, ond i fyny'r grisiau, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gallwch hefyd fynd i gael triniaethau bach wedi'u gwneud gyda'ch llygaid ac ar eich clustiau yn ogystal. Cefais fy ngwahodd i'r siop arloesol. Carwn awgrymu eich bod chi'n mynd hefyd, Weinidog, os cewch gyfle. Byddwn wrth fy modd yn mynd â chi yno, oherwydd mae'n dangos gwaith cydweithredol gwych, ac yn sicr fe ellir ei wneud. Hoffwn pe bai'n cael ei wneud ym mhobman, yn hytrach na dim ond yng Nghasnewydd.

Hoffwn ofyn i chi heddiw, Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried gweithredu rhywbeth tebyg ar gyfer darparu gwasanaethau clust da hefyd i breswylwyr ledled Cymru. Mae'n amlwg fod angen gwneud mwy yng Nghymru i gefnogi'r rhai sydd â cholled clyw, ac edrychaf ymlaen at glywed y Gweinidog yn amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni hyn. Diolch.

18:55

Ddwy flynedd yn ôl, cefais gyfarfod â Specsavers gyda phrif swyddog gweithredol Cyngor Cymru i Bobl Fyddar i drafod sut y gallai'r diwydiant optegol helpu GIG Cymru i wella mynediad at wasanaethau colled clyw y GIG. Yn gynnar y llynedd, fodd bynnag, nododd ymateb ysgrifenedig a gefais gan y Gweinidog ei bod wedi cytuno i beidio â cheisio cymorth darparwyr preifat ar hyn o bryd, er bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau optometreg gan yr un darparwyr. Fis Mehefin diwethaf, yn ystod ymweliad â Specsavers yn yr Wyddgrug, fe wnaethant ddangos eu gwasanaethau awdioleg colled clyw cymunedol cynhwysfawr, y llwybr awdioleg y maent yn ei ddarparu, a sut maent yn gweithio gyda chleifion awdioleg ac yn gofalu amdanynt bob dydd. Er bod gan ddarparwyr gwasanaethau awdioleg cymunedol gontractau awdioleg y GIG mewn mannau eraill yn y DU, darperir gwasanaethau colled clyw y GIG yng Nghymru o fewn GIG Cymru yn unig, gan orfodi rhai cleifion i fynd yn breifat, ac eraill i ddioddef yn dawel. Byddai Llywodraeth gyfrifol yng Nghymru yn cydnabod mai dim ond cynyddu y bydd y galw am wasanaethau awdioleg. Yn wahanol i mi a gollodd fy nghlyw yn iau, mae llawer yn colli eu clyw wrth iddynt heneiddio, ac er bod y model awdioleg gofal sylfaenol yn gwella hygyrchedd, mae'n methu darparu'r capasiti ychwanegol sydd ei angen.

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Janet am ganiatáu munud o'i hamser i mi ac am gyflwyno dadl mor bwysig, a diolch hefyd i Natasha am ei geiriau caredig. Mae'n debyg fy mod eisiau manteisio ar fy nghyfle i ailadrodd y pwyntiau dilys a gododd Janet yn ei dadl ynghylch mynd i'r afael â cholled clyw yn gyflym. Os edrychwn ar ddatblygiad plant, rydym yn gwybod am ynysigrwydd cymdeithasol, yr effaith ar leferydd ac iaith, a hefyd yr effaith bosibl ar sgiliau cymdeithasol. Ac os edrychwn ar pan fyddwn ni'n dod yn oedolion, a'r amgylchedd gwaith, mae gan 4.4 miliwn yn y Deyrnas Unedig gyfan anawsterau clyw. Mae llawer ohonynt yn teimlo bod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn yn yr amgylchedd gwaith, o ran methu cael dyrchafiad, neu golli awyrgylch swyddfa—y tynnu coes, y sgyrsiau. A hefyd, fel yr amlygodd Janet, mae cysylltiad rhwng nam ar y clyw a dirywiad gwybyddol, ond cyn gynted ag y caiff cymhorthion clyw eu gosod, mae'r ystadegau'n dangos bod dirywiad gwybyddol yn stopio bron ar unwaith. Felly, dyna'r pwyntiau allweddol yr hoffwn eu hailadrodd i'r Gweinidog. Diolch.

Diolch, Janet, am roi munud i mi yn y ddadl hon. Rwy'n llywydd Grŵp Trwm eu Clyw Abertawe. Mae clyw pobl yn dirywio gydag oedran. Gyda cholli clyw sy'n gysylltiedig ag oedran, a elwir hefyd yn presbycwsis—gobeithio imi ddweud hynny'n iawn—mae'r clyw'n gwaethygu'n raddol yn y ddwy glust. Mae'n broblem gyffredin sy'n gysylltiedig â heneiddio. Mae un o bob tri oedolyn dros 65 oed â cholled clyw. Oherwydd y newid graddol yn eu clyw, bydd rhai pobl yn anymwybodol o'r newid i ddechrau—maent yn codi'r sain ar y teledu a'r radio. Mae'r ystod clyw hefyd yn lleihau wrth inni heneiddio, yn ogystal â'ch clustiau mewnol. Oherwydd hyn mae rhai synau na allwn eu clywed wrth inni fynd yn hŷn: mae 17,400 Hz yn amledd na all ond pobl ifanc yn eu harddegau ei glywed; mae 12,000 Hz yn anodd i unrhyw un dros 50 oed ei glywed. Tinitws yw'r term am glywed synau sy'n dod o'r tu mewn i'ch corff, ac mae'n aml yn gysylltiedig â cholled clyw. Caiff gwasanaethau colled clyw i oedolion yng Nghymru eu darparu'n bennaf gan fyrddau iechyd y GIG, yn bennaf fel gwasanaethau mewn ysbytai, er bod 94 y cant o golled clyw mewn oedolion yn gysylltiedig ag oedran, a gellir ei drin yn ddiogel ac yn effeithiol mewn lleoliadau cymunedol. Mae angen inni gefnogi mwy o driniaeth yn y gymuned.

19:00

Roeddwn yn falch iawn o fynychu'r digwyddiad ddoe a gynhaliwyd gan Natasha Asghar, ac efallai fod unrhyw Aelod a oedd yn cerdded trwy'r Oriel ddoe wedi gweld y tu mewn i fy nghlust ar sgrin fawr. Roedd yn ddarlun hyfryd iawn, onid oedd, Janet? Rwy'n credu bod Janet wedi ei weld ac wedi dychryn drwyddi. Ond rwy'n cefnogi rhai o'r sylwadau y mae eraill wedi'u gwneud, yn enwedig Mark Isherwood, ynghylch yr hyn y gall Specsavers a'r sector preifat ei wneud, nid yn unig i gefnogi'r GIG ond i arbed arian i'r GIG mewn gwirionedd. Mae'r achos i'w weld yn eithaf clir i mi, felly rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth y bydd y Gweinidog yn gallu edrych arno.

Ond cyfarfûm ag Auditory Verbal UK heddiw hefyd, ac roeddent yn siarad am yr angen am ddiagnosis ac ymyrraeth gynnar ar nam ar y clyw i bobl iau. Nawr, os yw hynny'n cael ei wneud yn gynnar, a bod modd cael diagnosis yn gynnar, gall hynny hefyd greu arbediad yn ddiweddarach hefyd. Ond roeddent yn sôn am yr angen am 30 o arbenigwyr clywedol-eiriol ledled Cymru. Ar hyn o bryd, roeddent yn dweud nad oes unrhyw arbenigwyr o'r fath yng Nghymru, felly rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog wneud sylw ar hynny hefyd—efallai na all wneud hynny, ond os gall y Gweinidog—. Mae'r Gweinidog yn dynodi na all, felly yn sicr fe anfonaf nodyn ati ar hynny.

Yn olaf, Peter Fox, cyn i'r Gweinidog ymateb. Peter Fox. Dim ond un arall. Dim ond un arall, Weinidog.

Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog. Diolch. Diolch i chi, Janet, am roi peth amser i mi, ac fel Russ, roeddwn i eisiau codi'r mater pwysig yn ymwneud â therapïau i gefnogi babanod a phlant byddar. Yn amlwg, mae hi mor bwysig fod ein dinasyddion ieuengaf yn cael mynediad at yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, gan fod eu bywydau cyfan o'u blaenau, a bydd sut y gwnawn eu cefnogi ar ddechrau eu bywydau yn penderfynu sut y bydd eu bywydau'n datblygu—yn gadarnhaol neu o bosibl, yn negyddol. I'r perwyl hwnnw, hoffwn ddeall a oes ystyriaeth yn cael ei rhoi i gamau i gynyddu mynediad at therapi clywedol a geiriol ar gyfer babanod a phlant byddar, ac os felly, a fydd y cymorth arbenigol hwn yn cael ei gefnogi'n ddigonol gan gyllid y Llywodraeth, i sicrhau bod pob plentyn byddar yn cael cyfle i gael mynediad ato trwy wasanaethau a ariennir yn gyhoeddus?

Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle yn y ddadl fer heddiw i ganolbwyntio ar bwnc pwysig mynediad cyflymach at wasanaethau clyw. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall colli clyw ar unrhyw oedran fod yn ddinistriol ac o ganlyniad, gall adael pobl yn teimlo'n ynysig ac wedi eu gwahanu oddi wrth y byd o'u cwmpas. Mae diagnosis ac ymyrraeth gynnar yn hollbwysig i iechyd a lles yr unigolion hyn.

Nawr, ers 2017, pan lansiwyd 'Fframwaith Gweithredu ar gyfer Cymru, 2017-2020: Fframwaith Gofal a chymorth integredig ar gyfer pobl sy’n F/fyddar neu sy’n byw â cholled clyw', rydym wedi gweithio'n galed i ddod yn arweinydd mewn gofal clyw. Fel y nododd Janet, mae gwasanaethau awdioleg yma yn cael eu darparu'n wahanol i weddill y DU—pwyslais llawer cryfach ar fwy o driniaeth a gofal wedi'i ddarparu mewn gofal sylfaenol a chymunedol, a'i ategu gan yr egwyddorion gofal iechyd darbodus hynny. Nawr, mae hyn yn rhoi pwyslais newydd ar beth fyddai'n gweithio orau i gleifion ac yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r holl adnoddau sydd ar gael ar draws gofal sylfaenol ac mewn ysbytai. A dweud y gwir, mae'r gwledydd datganoledig eraill wedi dilyn ein harweiniad drwy efelychu'r gwaith rydym wedi arloesi ynddo.

Mae rhai pobl wedi gofyn am archwilio gwaith gyda'r sector preifat. Mae'n rhaid imi ddweud wrthych fy mod wedi edrych ar hyn, ac nid oes gennyf wrthwynebiad iddo mewn egwyddor, ond rwy'n awyddus iawn i weld a allwn ei wneud, yn gyntaf oll, drwy'r sector cyhoeddus. Os na allant ei wneud, yn amlwg, gadewch inni edrych ar ddewisiadau amgen. Ond hoffwn roi cyfle teg i hyn, ac mae'r byrddau iechyd wedi cael rhybudd fod yn rhaid iddynt gyflawni'r hyn y gofynnwn iddynt ei gyflawni.

Rwy'n credu bod y ffaith bod pobl yn byw'n hirach yn achos dathlu, ond mae hefyd yn rhoi pwysau o'r newydd ar wasanaethau, ac rydym i gyd yn ymwybodol fod nifer yr achosion o golled clyw yn cynyddu oherwydd bod ein poblogaeth yn heneiddio. Roeddwn wrth fy modd gyda'ch ystadegau: nid oeddwn yn sylweddoli bod gan 90 y cant o bobl 90 oed golled clyw, felly mae'r rheini'n ystadegau hawdd i'w cofio. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid inni fwrw ymlaen â newid trawsnewidiol, gan ein bod yn ymwybodol o'r boblogaeth honno sy'n heneiddio.

Rydym wedi datblygu meini prawf atgyfeirio uniongyrchol a llwybrau at ac o adrannau awdioleg, y glust, y trwyn a'r gwddf, seicoleg glinigol a radioleg, ac asiantaethau, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer asesu ac offer cynorthwyol. Mae cleifion wedi cael eu grymuso i gynyddu eu sgiliau hunanreoli gyda gwell gwybodaeth, gan ddefnyddio gwasanaethau pan fo angen yn unig. Ceir cefnogaeth leol hefyd i ategu gwasanaethau awdioleg; mae enghreifftiau'n cynnwys cydweithio rhwng awdurdodau lleol a'r trydydd sector ar gyfeirio unigolion at gyngor a chymorth.

Nawr, rydym wedi datblygu a gweithredu llwybr a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer darparu batris cymorth clyw a chynnal a chadw parhaus ar gyfer cymorth clyw, yn cynnwys cymorth gwirfoddol gan gymheiriaid. Felly, nid wyf yn meddwl am weld pobl mewn ysbytai'n trwsio batris; holl bwynt hyn yw ein bod yn ei gael i mewn i'r gymuned. Mae gwasanaethau rheoli cwyr clustiau yn cael eu cyflwyno mewn clystyrau gofal sylfaenol, ynghyd â chyngor hunanreoli, rhan bwysig o drin cwyr clustiau sy'n broblemus. Felly, mae hynny'n digwydd mewn clystyrau eisoes. Mae byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Bae Abertawe yn arwain y ffordd, ac yn rhannu arfer gorau. Rwy'n disgwyl y bydd pob bwrdd iechyd yn darparu gwasanaethau rheoli cwyr clustiau. A lle mae gwasanaethau eisoes yn cael eu cyflwyno, maent yn lleihau nifer y cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio at feddygon teulu ac adrannau'r glust, y trwyn a'r gwddf.

Rwy'n credu bod Peter Fox wedi gofyn am blant. Wel, cyflwynwyd sgrinio clyw wrth ddechrau yn yr ysgol hefyd, sy'n helpu i nodi namau clyw yn gynnar, er mwyn galluogi'r plant hyn i gyrraedd eu potensial llawn yn addysgol, yn gymdeithasol ac mewn gwaith. Mae gan fyrddau iechyd drefniadau gweithredu safonol lleol ar gyfer dementia ar waith nawr, ac rydym wedi cynnwys statws clyw fel rhan o'r llwybrau cleifion mewnol ar gyfer pobl â dementia a llwybrau gofal cof i gleifion allanol er mwyn gwneud diagnosis o ddementia. Mae'r holl waith hwn yn seiliedig ar y model gofal sylfaenol, sy'n ymwneud â phobl yn cael mynediad at y gofal cywir, gan y gweithiwr proffesiynol cywir, yn agos at eu cartref.

Nawr, wrth i'r fframwaith clinigol cenedlaethol lywio llwybrau clinigol cenedlaethol, byddwn yn gwneud cynnydd cyflymach wrth ail-gydbwyso gwasanaethau, gan symud i ffwrdd o salwch ac ysbytai tuag at iechyd gwell a gofal yn agosach at adref. Felly, mae gennym lwybr. Y peth allweddol nawr yw bod pawb yn gwybod beth y dylent fod yn ei wneud; os nad ydynt yn ei wneud, yn amlwg bydd yn rhaid inni feddwl am ffordd arall. Ond rwy'n benderfynol nawr: mae gennym gynllun, gadewch inni gadw at y cynllun, ac os nad fyddant yn cyflawni, fe fydd yna helynt. Er y gwelwyd cynnydd da ar roi'r fframwaith gweithredu ar waith, rwy'n credu bod mwy i fyrddau iechyd ei wneud o hyd, ac i gael cynlluniau cymeradwy ar waith er mwyn galluogi mynediad cyflymach at ofal clyw integredig.

19:05

Rwy'n falch o glywed bod gennych gynllun, ac y bydd yna helynt os na chaiff ei gyflawni. Ond beth yw'r amserlen y byddwch chi'n ei rhoi er mwyn profi'r cynllun, i weld a yw'n cael ei gyflawni? Oherwydd mae'n deg dweud, os yw'r cynllun yno, rhowch gyfle iddo, ond ni allwch roi cyfle di-ben-draw iddo.

Na. Buaswn yn siomedig pe na bai hyn yn rhywbeth a welwn wedi'i gyflwyno o fewn blwyddyn. Fe wyddom fod dau fwrdd iechyd yn ei wneud yn barod. Mae pawb yn gwybod beth i'w wneud. Rwy'n credu bod yn rhaid inni roi ychydig o le iddynt fwrw ymlaen ag ef, ond mae'n rhaid cael canlyniadau os nad yw pethau'n gweithio. Ac rwy'n glir iawn nawr fod rhaid inni fod ychydig yn fwy diamwys—pan fydd gennym y llwybrau clinigol hyn, rhaid bod disgwyl i bobl ffocysu'n iawn arnynt.

Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i ofyn am ddiweddariadau ar y cynnydd yn erbyn argymhellion y fframwaith weithredu. Os na fydd cynnydd sylweddol wedi ei wneud, bydd angen ystyried opsiynau cyllido eraill hefyd o fewn dyraniad cyllideb y byrddau iechyd eleni, er mwyn cryfhau'r gwasanaeth awdioleg mewn gofal sylfaenol. Ein cam nesaf yw cynllunio dull gweithredu ar gyfer gwasanaethau awdioleg yn y dyfodol. Ein dull gweithredu yn y dyfodol fydd ar gyfer y 12 mis nesaf—felly, dyna beth roedd rhywun yn gofyn i fi amdano.

Felly, i gloi, dwi'n credu y gallwn ni gytuno ein bod ni'n ymwybodol o'r problemau, a bod amrywiaeth eang o fesurau'n cael eu datblygu i wella mynediad at wasanaethau clyw, ac mae mwy i ddod. Yn ogystal â gwella mynediad i unigolion, fy uchelgais i yw bod y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth positif i'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hefyd. Mae eu hymrwymiad diflino nhw i gefnogi pobl yn eu cymunedau yn wirioneddol wych. Diolch yn fawr.

Diolch i'r Gweinidog, a diolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl ddiddorol yna. Prynhawn da, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:09.