Y Cyfarfod Llawn

Plenary

31/01/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood. 

Deddf Cydraddoldeb 2010

1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei rhoi ar waith er budd pobl anabl yng Nghymru? OQ60590

Diolch am eich cwestiwn. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r corff statudol ar gyfer y DU gyfan sydd â'r rôl o hyrwyddo a gorfodi deddfau gwrth-wahaniaethu a hawliau dynol, gyda ffocws ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sydd heb ei datganoli. Mae’n gweithio’n annibynnol ac yn gweithredu ar draws Cymru, Lloegr, a'r Alban, lle mae pob gweinyddiaeth hefyd yn ddarostyngedig i'r Ddeddf.

Diolch. Adnoddau cyfyngedig iawn sydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i orfodi neu gymryd camau cyfreithiol ar achosion unigol. Ond mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn datgan bod gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fo pobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys anabledd, yn cael eu trin yn llai ffafriol nag eraill.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru wedi rhybuddio bod niferoedd llai o athrawon plant byddar, a phroblemau eraill gyda diwygiadau Llywodraeth Cymru i anghenion dysgu ychwanegol, yn amharu ar ddisgyblion byddar. Codais hyn gyda chi wrth ymateb i’ch datganiad ar 5 Rhagfyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, ond ni chyfeirioch chi at hyn yn eich ymateb.

Pan godais hyn gyda’r Gweinidog addysg, tynnodd sylw at y buddsoddiad, dros y tair blynedd diwethaf, i gefnogi hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer athrawon yn yr awdurdodau lleol ar gyfer dysgwyr ag amhariad ar y synhwyrau. Siaradodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, felly, â’r gwasanaethau ar lawr gwlad, a ddywedodd wrthynt fod hyn yn cael ei ddefnyddio i gadw nifer athrawon plant byddar ar yr un lefel, yn hytrach na’i ehangu, er bod un o bob pump wedi gadael y proffesiwn ers 2011. Dywedwyd wrthynt hefyd fod rhywfaint o'r cyllid wedi'i dargedu i raddau mwy at gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol a staff ysgolion i helpu i godi ymwybyddiaeth o fyddardod yn hytrach nag ymestyn y ddarpariaeth, ac nid yw hynny wedi darparu'r cwmpas i dyfu'r proffesiwn yn llawn na chefnogi plant byddar Cymru.

Felly, pa gamau mesuradwy a argymhellir gennych i fynd i'r afael â hyn, lle nad yw byddardod yn anhawster dysgu, ond lle mae plant byddar yn cael eu hanablu gan yr annhegwch parhaus o ran canlyniadau, a lle mae'r bwlch rhwng plant byddar a'u cyfoedion sy'n gallu clywed mewn perygl o dyfu'n ehangach fyth, yn groes i'r Ddeddf Cydraddoldeb?

Diolch, Mark Isherwood, ac rwy'n cytuno â chi—cydnabyddir gan bawb fod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cael ei danariannu'n ddifrifol, ac nad oes ganddo'r adnoddau i orfodi'r amddiffyniadau a gynigir gan y Ddeddf Cydraddoldeb yn llawn.

Ond yn amlwg, mae gennym ein cyfrifoldebau, ac mae a wnelo hyn â'r Llywodraeth gyfan, fel y byddech yn cydnabod, o ran rôl a chyfrifoldebau Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn enwedig mewn ymateb i'r cwestiynau pwysig a godwyd gennych. Ceir trafodaethau a chraffu parhaus ynghylch anghenion plant byddar mewn addysg ac anghenion dysgu ychwanegol. Felly, byddaf yn sicr o fynd â'r mater yn ôl at ffrwd waith plant a phobl ifanc y tasglu hawliau pobl anabl—mae hyn ar y gweill. Fel y gwyddoch, mae’r tasglu hawliau pobl anabl yr wyf yn ei gyd-gadeirio yn ymateb i adroddiad 'Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, sy'n seiliedig ar ddealltwriaeth o’r model cymdeithasol o anabledd ac wedi ei gydgynhyrchu gyda phobl anabl, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Felly, fe af â'r mater hwn yn ôl at Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ond hefyd at y ffrwd waith honno.

Cynhwysiant Digidol

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ60612

Diolch am eich cwestiwn. Mae mynd i’r afael ag allgáu digidol yn flaenoriaeth o ran cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dinasyddion yn ddigidol hyderus i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â sut maent yn defnyddio ac yn ymwneud â dulliau digidol, ac mae ein gwaith cyflwyno diweddaraf wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr llawn i 1,409 o adeiladau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Diolch, Weinidog, ac rwy’n ddiolchgar am eich ymrwymiad fod cynhwysiant digidol yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gan fod cynhwysiant digidol yn ymwneud â mynediad hyfedr a theg at, a defnydd o, dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu sy’n galluogi cyfranogiad mewn bywyd modern, cymdeithasol ac economaidd—yn y bôn, y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ar gyfer tasgau o ddydd i ddydd. Nawr, mae'r byd digidol yn rhychwantu bron bob diwydiant a chylch gwaith, gan gynnwys meysydd addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, un diwydiant lle mae cynhwysiant digidol yn dod yn bwysicach, ac o dan y radar, o bosibl, yw yn y diwydiant amaethyddol. Nawr, bydd y cynllun ffermio cynaliadwy a chymorth i ffermydd yn y dyfodol yn dibynnu’n fawr ar ffermwyr yn casglu ac yn mewnbynnu data i wefannau, gan gynnwys mapio. Nawr, oedran cyfartalog ffermwr yng Nghymru yw oddeutu 59 mlwydd oed, ond gan wybod nad yw oedran yn rhwystr i ddysgu, pa ymgysylltiad a gawsoch, fel Gweinidog, â’r Gweinidog materion gwledig, ac yn bwysicaf oll, â’r sector ei hun, i sicrhau bod ein ffermwyr yn cael mynediad at hyfforddiant a sgiliau fel y gallant ddefnyddio'r platfformau amaethyddol digidol angenrheidiol yn rhwydd i redeg eu busnes a chynnal eu bywoliaeth? Diolch, Lywydd.

13:35

Diolch am godi’r pwynt gwirioneddol bwysig hwnnw am anghenion ffermwyr o ran cynhwysiant digidol yn y diwydiant amaethyddol, fel y dywedwch, o ran y proffil. O edrych ar yr ystadegau, mae 93 y cant o oedolion yng Nghymru bellach yn defnyddio’r rhyngrwyd, o gymharu â 66 y cant yn unig yn 2010. Ond mae proffil oedran yma, ac mae'n ymwneud â sgiliau, onid yw, ac mae a wnelo â mynediad at sgiliau hefyd. Felly, mae'r 'Strategaeth Ddigidol i Gymru' yn mynd i'r afael â hyn, ac mae hynny'n ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Mae’n nodi'n glir, i bobl na allant, neu sy’n penderfynu peidio â chymryd rhan yn ddigidol, fod rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o gael mynediad atynt, er mwyn cynyddu eu sgiliau. Ac mae'n rhaid imi ddweud, ers mis Gorffennaf 2019, fod ein rhaglen cynhwysiant digidol ym maes iechyd, er enghraifft, wedi cefnogi 18,216 o bobl yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro gyda'r cymhelliant a'r sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn effeithiol. Ac rydym bellach yn datblygu safon byw digidol gofynnol i Gymru. Ond mae'n rhaid i hyn sicrhau ein bod yn estyn allan at fusnesau a diwydiant—y diwydiant amaethyddol. Byddaf yn trafod hyn gyda’r Gweinidog materion gwledig, gan gydnabod wrth gwrs y bydd Cyswllt Ffermio, a phawb sy’n ymwneud â’r cynllun ffermio cynaliadwy a’r gwaith o'i redeg a'i roi ar waith yn ymwybodol o hyn oll. A gwn y gallwn adrodd yn ôl i chi ar y datblygiadau, yn enwedig mewn perthynas â chefnogi'r gymuned ffermio â sgiliau digidol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. Ers blynyddoedd lawer, mae darparwyr gwasanaethau ac ymchwilwyr ar draws y sector wedi bod yn galw am system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch lansio siarter budd-daliadau Llywodraeth Cymru, a dweud wrthym mai ei nod yw cynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau yng Nghymru, gan alluogi mwy o bobl yng Nghymru i fanteisio ar yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, a nodi a chael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobl rhag hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddynt. Fodd bynnag, cyhoeddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddatganiad i’r wasg wedyn, a oedd yn nodi’n glir fod hyn ymhell o fod yn lansiad system fudd-daliadau Cymru, a bod awdurdodau lleol ond wedi cytuno i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cymryd camau tuag at ddatblygu system fudd-daliadau gyson i Gymru. Felly, yn union fel y dywedodd Comisiynydd Plant Cymru yng nghyd-destun eich strategaeth tlodi plant, mae’r diffyg manylion am gamau gweithredu, amserlenni a’r hyn y gellir ei gyflawni unwaith eto'n golygu nad oes unrhyw ffordd o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Wrth eich holi ar y strategaeth tlodi plant yma yr wythnos diwethaf, gofynnais beth yw eich amserlen felly ar gyfer cyflwyno system fudd-daliadau Gymreig, a pha dargedau a fydd ar waith i fesur cynnydd. Ni wnaethoch ateb. A wnewch chi wneud hynny nawr?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn, Mark Isherwood, eich bod wedi tynnu sylw at siarter budd-daliadau Cymru yr oeddwn yn falch iawn o'i lansio ddydd Llun diwethaf. Fe’i lansiais yng nghanolfan adnoddau Blaenafon. A dweud y gwir, roedd yr Aelod dynodedig, Siân Gwenllian, gyda mi, gan fod hyn oll yn rhan o’n gwaith i archwilio datganoli budd-daliadau. Mae'n ymwneud â datblygu system fudd-daliadau Gymreig, ac mae siarter budd-daliadau Cymru yn rhan o hynny. Rwy’n siŵr y byddwch wedi gweld y siarter. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi ymrwymo i hyn. Cyfarfûm â’r cyngor partneriaeth, gyda’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a’r holl arweinwyr, ym mis Tachwedd, ac mae pob un ohonynt wedi ymrwymo iddi ac wedi ei chymeradwyo. Ond fel y dywedwch, mae a wnelo â rhoi'r siarter ar waith, felly bydd gennym grŵp cyfeirio allanol annibynnol, a fydd yn cael ei gadeirio gan Fran Targett, sy'n unigolyn pwysig iawn yn y trydydd sector. Ond mae canlyniadau’r siarter yma yn y ddogfen: cynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar fudd-daliadau Cymreig; helpu i wneud y mwyaf o incwm aelwydydd; cyfrannu at fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru; gwell ymwybyddiaeth o hawl i fudd-daliadau, sy’n allweddol, yn amlwg, i gyflawni’r strategaeth tlodi plant; cyflawni ymrwymiadau ar wneud y mwyaf o incwm a'r nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau lles; gostyngiad yn yr angen am gymorth brys; mesur y nifer sy’n manteisio yn ôl nifer y bobl a gefnogir drwy gynlluniau budd-daliadau Llywodraeth Cymru. Felly, unwaith eto, fe fyddwch yn clywed llawer mwy am hyn pan fyddaf yn gwneud datganiad llafar ar hyn ar 20 Chwefror.

13:40

Diolch. Codwyd hyn gyda ni gyntaf bron i ddegawd yn ôl gan y sector yn y pwyllgor, ac yn y Siambr hon gennyf i ac eraill. Ac nid ydych wedi dweud wrthyf o hyd pa amserlen yr ydych yn gweithio iddi ar gyfer cyflwyno system fudd-daliadau Gymreig, ac a fydd gennych unrhyw dargedau ar waith i fesur cynnydd.

Mae Sefydliad Bevan yn nodi eu bod yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i sefydlu system fudd-daliadau briodol i Gymru. Sut ydych chi'n ymateb, felly, i’w datganiad, er bod y trefniadau presennol yn seiliedig ar gydweithredu a phartneriaeth, a bod cyfranogiad o'r herwydd yn wirfoddol, fod yna risg na fydd rhai cyrff yn cymryd rhan o gwbl, tra bydd eraill yn gwneud fel y mynnant, ac i'w galwadau ar Lywodraeth Cymru—gan gynnwys rhoi sylfaen gadarnach i gyfranogiad drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol alinio'r gwaith o weinyddu cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor â chynlluniau datganoledig eraill y maent yn eu gweinyddu—i nodi llwybr clir ar gyfer cynnwys lwfansau a grantiau eraill sy'n dibynnu ar brawf modd yn y system, y tu hwnt i’r syniad gwreiddiol o gynnwys saith cynllun gwahanol mewn fframwaith cyffredin, ac i ad-dalu costau ychwanegol i awdurdodau lleol ac eraill, o bosibl, maes o law, gan ddechrau gyda chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, lle mae disgwyl y cynnydd mwyaf yn y nifer sy'n manteisio arno?

Wel, gallaf ddweud y byddwch yn clywed llawer mwy am hyn ar 20 Chwefror, ac rwy'n credu, Lywydd, y byddwch am imi beidio â dweud llawer mwy heddiw, gan mai dyna fydd y datganiad llafar.

Ond a gaf i ddweud bod y siarter budd-daliadau Cymru yn seiliedig nid yn unig ar waith Sefydliad Bevan, a gynhyrchodd adroddiad da iawn, 'Making the case for a Welsh Benefits System—people’s experiences', ac rydym wedi gwneud defnydd uniongyrchol o'r adroddiad hwnnw, ond hefyd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—a gadeiriwyd gan John Griffiths, wrth gwrs, ac rwy'n credu eich bod chi'n aelod ohono—a wnaeth y gwaith pwysig hwn a’n harweiniodd i ddatblygu’r siarter. Un o’r pwyntiau allweddol am y siarter, a adlewyrchir yng ngwaith Sefydliad Bevan, yw bod hyn yn ymwneud â datblygu system fudd-daliadau gydlynol i Gymru i fod wrth wraidd system dosturiol a chydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar unigolion, lle mae'n rhaid i unigolyn adrodd eu stori unwaith yn unig i gael mynediad at eu holl hawliau. A dyna a ddywedodd arweinydd cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt—ar ran yr holl arweinwyr—eu bod wedi ymrwymo i system dosturiol a chydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar unigolion, sy'n rhywbeth nad oes gennym, yn fy marn i, yn system nawdd cymdeithasol y DU, sy’n dal i droi at sancsiynau, gan achosi caledi a gofid aruthrol i’r bobl sy’n eu hwynebu.

Ond mae'r siarter hon yn seiliedig ar barch at hawliau dynol sylfaenol a chydraddoldeb. Ac un dull yw cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor—oes, mae arnom angen i lawer mwy o bobl fanteisio ar y cynllun hwnnw—ond hefyd, cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, y grant hanfodion ysgol, y lwfans cynhaliaeth addysg. Dyna'r holl fudd-daliadau y byddwn ni, gyda llywodraeth leol, yn sicrhau y gellir cael mynediad atynt drwy un cais, un cysylltiad, i allu manteisio ar eu hawliau—un stori.

Diolch. Wel, er eich bod wedi methu ymateb i'r pwyntiau o hyd, rwy'n gobeithio y gallwch o leiaf gadarnhau y bydd targedau ac amserlenni, hyd yn oed os bydd yn rhaid ichi aros am eich datganiad cyn y gallwch rannu’r manylion â ni. Ac fel y dywedwch, mae Sefydliad Bevan wedi bod yn codi hyn ers blynyddoedd, yn ogystal â sawl sefydliad arall, ac roedd hyn yn rhan o'r dystiolaeth i'r pwyllgor yn yr ymchwiliad hwnnw y bûm yn rhan ohono.

Mae siarter budd-daliadau Cymru yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a phartneriaid cyflawni eraill, rhanddeiliaid allweddol a phobl sy’n cael budd-daliadau yn gweithio mewn partneriaeth i lunio system gynhwysol. Wrth gasglu tystiolaeth yn 2019 ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', galwodd tystion, gan gynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru, am well integreiddio rhwng canolfannau gwaith a gwasanaethau a ddarperir yn lleol, gan gynnwys rhannu data rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol. Fodd bynnag, nid yw siarter budd-daliadau Cymru ond yn cyfeirio at:

'barhau i weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau...i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau nad ydynt wedi'u datganoli yng Nghymru',

heb unrhyw gyfeiriad at rôl gydweithredol i swyddfeydd lleol y Ganolfan Byd Gwaith, sydd eisoes wedi’u sefydlu i weinyddu budd-daliadau lles nad ydynt wedi’u datganoli, ac a all, drwy weithio gydag awdurdodau lleol, ddod yn un pwynt cyswllt ar gyfer budd-daliadau datganoledig hefyd. Dyma oedd y sector yn galw amdano naw mlynedd, wyth mlynedd, saith mlynedd, chwe blynedd, bum mlynedd, bedair blynedd, dair blynedd, ddwy flynedd, un flwyddyn yn ôl. Felly, pa drafodaethau, os o gwbl, a gawsoch chi gydag Adran Gwaith a Phensiynau’r DU ynghylch y rôl y gall y Ganolfan Byd Gwaith ei chwarae mewn system fudd-daliadau integredig yng Nghymru, gan weithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol ledled Cymru?

13:45

Yn amlwg, credaf fod ymdrechion wedi'u gwneud ers blynyddoedd lawer i greu system fudd-daliadau gydgysylltiedig i Gymru, ond maent wedi tueddu i fod yn fratiog ac yn dameidiog, heb unrhyw arweiniad strategol. Rydym yn ymateb i hyn drwy greu system fudd-daliadau gydlynol i Gymru. Byddai’n dda pe gallech groesawu lansiad siarter budd-daliadau Cymru gan 22 o awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Nid wyf wedi clywed hynny gennych eto. Ac mae'n rhaid imi ddweud, tybed a fyddwch chi'n mynd yn ôl at gyd-aelodau o'ch plaid yn San Steffan, ac yn gwneud sylwadau yn wir. Pan wnaeth y Pwyllgor Materion Cymreig waith pwysig iawn ar yr effaith y mae'r system nawdd cymdeithasol—system nawdd cymdeithasol y DU—yn ei chael ar bobl yng Nghymru—.

Gwyddom fod lefelau'r budd-daliadau’n rhy isel—mae pobl mewn tlodi ledled y DU o ganlyniad i lefelau isel budd-daliadau’r DU. Mae’r annhegwch a’r defnydd annoeth o sancsiynau, sy’n dal i gael eu defnyddio, a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn amlwg yn tanlinellu ac yn cymeradwyo hynny—. Felly, gadewch inni edrych ar yr hyn y ceisiwn ei wneud yng Nghymru. Ond wrth gwrs, rydym yn gweithio, lle gallwn, nid yn unig gyda'r Ganolfan Byd Gwaith—ac mae pob un ohonom yn gweithio gyda'n canolfannau gwaith lleol—i sicrhau bod pobl nid yn unig yn manteisio ar ein budd-daliadau, ond hefyd ar fudd-daliadau pwysig iawn fel credyd pensiwn. A dyna lle rwy’n gweithio’n agos gyda Gweinidog yr Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod y data hwnnw'n cael ei rannu, fel y gall awdurdodau lleol annog dinasyddion i fanteisio ar gredyd pensiwn, budd-dal pwysig nad yw wedi'i ddatganoli.

Diolch, Lywydd. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru newydd gyhoeddi dangosfwrdd eu hadolygiad ar gyfer 2023, sy’n dangos eu bod yn parhau i helpu niferoedd digynsail o bobl mewn argyfwng. Erbyn diwedd y flwyddyn, roeddent wedi cyfeirio 21,000 o bobl at fanciau bwyd neu gymorth elusennol arall am y tro cyntaf, bron i ddwbl y nifer yn 2021. Ac ar ôl blwyddyn arall o'r prisiau ynni uchaf erioed a lefelau llai a llai o gymorth gan y Llywodraeth, y gaeaf hwn, maent wedi helpu mwy o bobl sydd â dyledion ynni nag erioed o'r blaen. Maent yn gweld niferoedd uchel iawn o bobl yn ceisio cymorth gydag ôl-ddyledion y dreth gyngor, dyledion dŵr ac ôl-ddyledion rhent, ac mae lefel y ddyled honno wedi cynyddu.

Un o'r unig argymhellion gan grŵp arbenigol y Llywodraeth ar yr argyfwng costau byw sydd wedi arwain at unrhyw gamau gweithredu yw'r un ar ddod â chymorth ariannol Cymru ynghyd mewn system symlach ac awtomatig y mae pob un ohonom yn dymuno'i gweld ac a fyddai’n helpu i leihau tlodi. Ac fel y clywsom, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch lansio siarter budd-daliadau Cymru, fel cam cyntaf tuag at system fudd-daliadau Gymreig, y mae Plaid Cymru wedi'i chefnogi ers tro ac yr ydym yn gweithio tuag ati drwy'r cytundeb cydweithio. Rhannaf y pryderon nad yw honno ar sail statudol.

Ond mae adroddiad y grŵp arbenigol hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i symleiddio’r ffordd y caiff budd-daliadau Cymreig eu darparu ddod law yn llaw â sicrhau cynnydd yn y trothwyon cymhwysedd a gwerth taliadau, gan nodi bod y trothwyon cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ddisgyblion hŷn, grantiau hanfodion ysgol a'r lwfansau cynhaliaeth addysg wedi’u rhewi ers sawl blwyddyn, a bod yn rhaid i aelwyd wedyn fod yn llawer iawn tlotach i fod yn gymwys ar gyfer y cynlluniau hyn na phedair blynedd yn ôl. Felly, a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen mynd i’r afael â hyn ac adolygu ac alinio’r gwahanol drothwyon cymhwysedd, fel rhan o’r trefniadau gweithredu ar gyfer siarter budd-daliadau Cymru?

Wel, rwy’n ddiolchgar iawn unwaith eto am y gwaith a wnaethom gyda’n gilydd fel rhan o’r cytundeb cydweithio, i sicrhau ein bod yn cyrraedd pwynt lle nid yn unig ein bod wedi lansio siarter budd-daliadau Cymru yr wythnos diwethaf, yn Nhorfaen yn wir, ond hefyd ymwelodd fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ag Ynys Môn, a gweld y gwaith gwych ar y rheng flaen yno. Ac mae'r Aelod dynodedig a minnau hefyd yn mynd tua'r gorllewin i gyfarfod ag awdurdodau eraill er mwyn gweld y ffyrdd y maent yn cyflawni'r siarter a'r hyn y mae'r ymrwymiad hwnnw'n ei olygu mewn gwirionedd.

Nawr, yn amlwg, o ran ein hymateb i'r grŵp arbenigol ar yr argyfwng costau byw, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, rydym yn cymryd camau ar unwaith mewn ymateb i lawer o'r argymhellion—dim ond un ymateb i hynny yw siarter budd-daliadau Cymru. Ond hefyd, credaf fod parhau i gyflwyno prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd, fel rhan o’r cytundeb cydweithio, yn arwydd clir o'r blaenoriaethau. Ond mae hyn, o ran ein cyllideb ddrafft—. Mae’r twll o £1.3 biliwn ynddi, o ganlyniad i setliad erchyll Llywodraeth y DU i ni—. Rydym mewn lle anodd iawn yn ariannol, fel y gwyddoch. Credaf ei bod yn wych iawn ein bod wedi gallu cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg o £30 i £40. Mae hynny'n bwysig iawn i'r bobl ifanc y cyfarfûm â hwy yr wythnos diwethaf yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ar Heol Dumballs, i lawr y ffordd—pobl ifanc sydd bellach yn cael mynediad at gyrsiau lletygarwch, arlwyo a chynnal a chadw adeiladau ac yn gwneud eu harholiadau Safon Uwch, ac sy'n gallu cael mynediad at y lwfans cynhaliaeth addysg. Ond mae cyllid cyfyngedig, o ganlyniad i Lywodraeth y DU a 13 mlynedd o gyni ac £1.3 biliwn allan o’n cyllideb yn golygu bod hyn yn ymwneud â blaenoriaethau. Nawr, rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod wedi gallu diogelu ein cronfa cymorth dewisol, ac mae hynny'n helpu. Rydym wedi diogelu, hefyd, y cyllid a roddwn i'n Sefydliad Banc Tanwydd ac i'n cronfa gynghori sengl, fel y gall pobl fanteisio ar y budd-daliadau hynny.

13:50

Diolch. Tynnodd y grŵp arbenigol sylw hefyd, wrth gwrs, at effaith yr argyfwng costau byw ar bobl hŷn yng Nghymru. Mae oddeutu un o bob pump o bobl hŷn Cymru yn byw mewn tlodi, ac mae’r argyfwng wedi effeithio’n wael ar lawer mwy. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru, gan gynnwys traean o bobl 75 oed a hŷn, wedi’u hallgáu’n ddigidol ac yn wynebu rhwystrau cynyddol wrth geisio cael mynediad at yr wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael. Mae hyn yn peri pryder, wrth gwrs, nid yn unig am ei fod yn effeithio ar fynediad at gymorth a hawliau, ond mae hefyd yn cynyddu costau i bobl hŷn. Gall yswiriant cartref, er enghraifft, gostio hyd at 46 y cant yn fwy pan gaiff ei brynu all-lein. Mae’r profiad a rennir yn yr adroddiad yn cynnig darlun o hollt ddigidol amlwg sy’n gwaethygu effaith yr argyfwng costau byw ar bobl hŷn. Dywed y comisiynydd fod yn rhaid cymryd camau i fynd i’r afael â’r allgáu hwn fel mater o frys, ac mae hynny wedi’i adleisio gan Age Cymru. Yng ngoleuni hyn, mae’n siomedig felly fod gostyngiad o £500,000 yn y gyllideb ddrafft ar gyfer cynhwysiant digidol, o gymharu â’r gyllideb ddangosol ar gyfer 2024-25. Bydd hyn yn golygu lleihau gweithgarwch ar gyfer gwella sgiliau digidol a mynediad. Felly, a allai’r Gweinidog amlinellu pa asesiad a wnaed o’r toriad hwn a’i effaith ar allgáu digidol a thlodi ymhlith pobl hŷn?

Diolch yn fawr iawn. Cwestiwn gwirioneddol bwysig. Mae’n dilyn ymlaen o gwestiwn Mark Isherwood ar y nifer sy’n manteisio ar fudd-daliadau a’r nifer sy’n manteisio ar fudd-daliadau nad ydynt wedi’u datganoli, fel credyd pensiwn, ac mae hwnnw’n faes y mae’r comisiynydd pobl hŷn wedi arwain ymgyrch arno, ymgyrch yr ydym wedi ymgysylltu â hi, i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y budd-dal. A dweud y gwir, cyfarfu â’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ac unwaith eto, buont yn siarad am ffyrdd y gallwn estyn allan at bobl hŷn i'w helpu i fanteisio ar yr ymgyrch honno. Ac ni chredaf y bydd siarter budd-daliadau Cymru, y gwaith o gydgysylltu'r system, y system fudd-daliadau Gymreig yr ydym yn ei datblygu, yn ymwneud yn unig â’n budd-daliadau ni, budd-daliadau yr ydym yn awyddus i'w hymestyn a’u cynyddu pan gawn y gyllideb i wneud hynny wrth gwrs, ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau y gall pobl hawlio credyd pensiwn. Mae’n gwneud gwahaniaeth mor bwysig i fywydau pobl hŷn. Felly, mae gennym is-grŵp—fel rhan o'n hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' a ariennir drwy Advicelink Cymru, mae gennym is-grŵp sydd â'r dasg benodol o gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn.

Gwasanaethau Cyhoeddus i Gyn-filwyr

3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus? OQ60622

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i gyfamod y lluoedd arfog ac i gefnogi milwyr, cyn-filwyr a’u teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys gwaith ein swyddogion cysylltu â'r lluoedd arfog ar lefel leol a thrwy ein cymorth i wasanaethau GIG sy’n benodol ar gyfer cyn-filwyr.

Diolch, Weinidog. Credaf y gall pob un ohonom fod yn falch iawn yma fod gennym, ledled y DU, Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006, a gwyddom fod y Ddeddf aruthrol hon yn ymgorffori llawer o’r egwyddorion a hyrwyddir gan gyfamod y lluoedd arfog, megis gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried statws cyn-bersonél y lluoedd arfog. Mae angen deddfwriaeth o'r fath, am y gwyddom fod cyn-filwyr yn fwy tebygol o nodi cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar dasgau o ddydd i ddydd o gymharu â’r cyhoedd yn gyffredinol, o ganlyniad i’w cyfnod ar wasanaeth gweithredol, a dyma un o lawer o resymau pam fod cyfamod y lluoedd arfog yn nodi y dylai fod gan gyn-filwyr hawl i driniaeth flaenoriaethol ar gyfer cyflyrau sy’n gysylltiedig â’u gwasanaeth.

Fodd bynnag, Weinidog, cysylltodd etholwr â mi gan nodi sut y gallai fod rhai anghysondebau difrifol yn y ffordd y caiff y Ddeddf hon ei rhoi ar waith ar draws cyrff cyhoeddus. Mae'r etholwr wedi wynebu arhosiad o 100 wythnos i gael triniaeth iechyd angenrheidiol ar gyfer anaf a gafodd ar wasanaeth gweithredol. Mae wedi rhoi straen aruthrol arno ef, ei deulu a’i bartner, sy'n gofalu amdano. Felly, Weinidog, yng ngoleuni hyn, sut mae'r Llywodraeth yn monitro nad rhoi canmoliaeth wag i'r cyfamod yn unig y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud, a'u bod yn cyflawni ei ddisgwyliadau?

13:55

Diolch i Peter Fox am ei gwestiwn. Gwn eich bod yn dadlau'n angerddol ac yn ymroddedig yn y maes hwn, yn enwedig oherwydd eich cysylltiadau personol eich hun â chymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Er na allaf wneud sylwadau ar achosion unigol, ond yn fwy cyffredinol ar y cymorth sydd ar gael a'r mecanweithiau sydd ar waith a sut y gallwn sicrhau eu bod yn cael eu dilyn mor effeithiol ac mor effeithlon ag y dylid ei wneud. Felly, rydych yn llygad eich lle i nodi bod gan gyfamod y lluoedd arfog ddwy egwyddor ganolog: ni ddylai’r rhai sydd wedi gwasanaethu wynebu unrhyw anfantais o gymharu â dinasyddion eraill mewn perthynas â'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, a hefyd fod ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig y rheini sydd wedi rhoi fwyaf, megis y rhai a glwyfwyd.

Mae dyletswydd sylw dyladwy'r lluoedd arfog wedi bod yn ofyniad cyfreithiol ers mis Tachwedd 2022, ac mae hynny’n berthnasol yng Nghymru i awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ysgolion, a golyga roi sylw dyledus i gyfamod y lluoedd arfog yn rhan o hynny, ac mae angen i’r sefydliadau roi ystyriaeth briodol i'r cyfrifoldebau a'r aberthau unigryw a wneir gan aelodau'r lluoedd arfog. Rwy’n ymwybodol fod gwaith yn mynd rhagddo ledled Cymru, lle mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn rhoi newidiadau cadarnhaol ar waith, megis y ffordd y maent yn adnabod pobl y lluoedd arfog ar gyfer cael mynediad at wasanaethau i gyn-filwyr ac yn rhai o’u polisïau i wella ymwybyddiaeth o faterion y gall aelodau o'r lluoedd arfog eu hwynebu. Er na allaf ymyrryd mewn achosion unigol, mae'n fater y gallaf fynd ag ef yn ôl, er mwyn sicrhau bod y ddyletswydd sylw dyladwy honno wedi'i hymgorffori mor effeithiol ag y gall fod yn yr holl gyrff sy'n ddarostyngedig iddi nawr.

Mesuryddion Rhagdalu

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith mesuryddion rhagdalu ar dlodi tanwydd? OQ60608

Diolch am eich cwestiwn. Mae llawer o’r 200,000 o ddeiliaid tai yng Nghymru sydd ar fesuryddion rhagdalu ar yr incwm isaf ac mewn perygl o hunanddatgysylltu wrth iddynt frwydro i gael deupen llinyn ynghyd. Rydym yma i helpu gyda chronfeydd brys, cymorth ar weithredu pwyslais ar incwm a mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim.

Diolch, Weinidog. Mae gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol yng nghartrefi pobl sy'n ei chael hi'n anodd cadw'n ddigon cynnes i fyw yn warthus. Mae arnaf ofn fod y ffaith bod Ofgem yn caniatáu i gwmnïau ynni barhau i wneud hyn yn brawf fod gennym reoleiddiwr sy’n gweithio er budd cwmnïau ac nid cwsmeriaid. Y llynedd, fe wnaeth Cyngor ar Bopeth Cymru ymdrin â’r niferoedd uchaf erioed o bobl na allent fforddio ychwanegu credyd at eu mesuryddion rhagdalu, ac a oedd yn cael eu datgysylltu dro ar ôl tro. Gadewch inni beidio â cholli golwg ar y ffaith, pan fyddwn yn sôn am ddatgysylltu unigolyn, fod hynny'n golygu eu taflu i'r bleiddiaid, torri eu cyflenwad gwres, gan greu sefyllfa, yn fwriadol, a allai arwain at eu marwolaeth. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gydag Ofgem, gyda chyflenwyr ynni a Llywodraeth y DU ynghylch sicrhau gwell amddiffyniadau i bobl ar incwm isel fel y gallant fforddio gwresogi eu cartrefi’n ddigonol a chadw’r goleuadau ymlaen? A ydych yn cytuno â mi fod y ffaith bod gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol yn dal i fod yn gyfreithlon yn dangos bod gennym farchnad ynni a rheoleiddiwr sydd wedi methu?

Cytunaf yn llwyr â’r pwyntiau a wnaethoch, Delyth Jewell. Rwyf wedi galw dro ar ôl tro am waharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol. Mae’n dileu gallu aelwydydd i ledaenu cost eu hanghenion ynni dros gyfnod o 12 mis, ac mae wedi arwain, fel y gwyddom, at rai deiliaid tai yn hunanddatgysylltu. Rwy'n credu bod eich cyd-Aelod Sioned Williams wedi cyfeirio'n gynharach at adroddiad Cyngor ar Bopeth. Mae Cyngor ar Bopeth yn awgrymu y bydd cyflenwadau nwy a thrydan mwy na 2 filiwn o bobl yn cael eu datgysylltu y gaeaf hwn am na allant fforddio ychwanegu credyd at eu mesuryddion rhagdalu, ac aeth 800,000 o bobl am fwy na 24 awr heb nwy a thrydan y llynedd am na allent fforddio ychwanegu credyd.

Ond fe gyfarfûm â chadeirydd newydd Ofgem ym mis Rhagfyr, a dywedais yn glir fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Ofgem sicrhau bod y rheolau’n gweithio. Nawr, mae'r rheolau hyn, unwaith eto, gan Ofgem—mae'n rhaid i gyflenwyr ynni ddilyn rheolau newydd cyn y gellir gosod mesurydd rhagdalu yn anwirfoddol. Bwriad y rheolau hynny yw sicrhau, pan fydd cyflenwyr ynni’n gweithredu mewn ffordd deg a chyfrifol, mai dim ond pan fetho popeth arall y byddant yn eu defnyddio, ond rydym eisoes yn clywed bod cyflenwyr ynni yn bwriadu ailddechrau gosod mesuryddion yn orfodol. Gadewch i ni eu henwi. Mae tri chyflenwr, EDF, Octopus a Scottish Power, wedi darparu tystiolaeth, meddent, a sicrwydd eu bod wedi bodloni amodau Ofgem, ond maent yn ailddechrau gosod mesuryddion yn anwirfoddol. Rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am hyn, gan fod angen inni sicrhau ein bod yn cefnogi’r aelwydydd sydd â dyledion ynni, ac rydym yn sicr yn gwneud hynny gyda’n cymorth drwy gynllun talebau’r Sefydliad Banc Tanwydd.

14:00

Mae hwn yn gwestiwn pwysig gan Delyth Jewell y prynhawn yma, yn dilyn ymddygiad eithaf gwarthus gan rai cwmnïau ynni a ddaeth i sylw’r cyhoedd yn 2022 gyda llawer o fesuryddion rhagdalu gorfodol yn cael eu gosod yng nghartrefi pobl, gan eu gadael heb wres ac ynni pan ddôi eu credyd i ben. Mae prisiau ynni'n dal i fod yn stratosfferig, a chyda chefndir yr argyfwng costau byw, ni ddylai'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd orfod dioddef y straen ychwanegol o gael mesuryddion rhagdalu gorfodol wedi'u gosod yn eu cartrefi. Rwy'n croesawu camau gweithredu Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag ymddygiad, yn bennaf, Nwy Prydain, Scottish Power ac Ovo, a oedd yn gyfrifol am 70 y cant o’r mesuryddion gorfodol a osodwyd yn 2022. Roedd camau gweithredu Llywodraeth y DU yn cynnwys cynllun pum pwynt i fynd i’r afael ag ymddygiad gwael gan gyflenwyr ynni, ac yn galw ar gyflenwyr i roi'r gorau i'r arfer o osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, ac ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y premiwm a delir gan y rheini sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu.

Dylem hefyd groesawu cymorth Llywodraeth y DU, megis y grant o £400 ar gyfer biliau ynni, a’r warant pris ynni a chyllid penodol arall ar gyfer aelwydydd incwm isel, sy’n gwneud rhywfaint i liniaru tlodi tanwydd. Rwy'n gyndyn, fodd bynnag, o gondemnio mesuryddion rhagdalu yn gyfan gwbl. Mae gan 200,000 o bobl yng Nghymru fesurydd rhagdalu; i rai o'r bobl hynny, efallai y bydd yn gweithio iddynt hwy a'u hanghenion. Ond hoffwn pe bai’r Gweinidog yn amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y bobl sydd ar yr incwm isaf yn cael lefel o gymorth tuag at eu costau ynni a sicrhau bod cwmnïau ynni yng Nghymru yn cadw at eu hymrwymiad gwirfoddol i god ymddygiad Llywodraeth y DU. Diolch.

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod y sefyllfa hynod o anodd y mae pobl ar fesuryddion rhagdalu ynddi. Mae'n bwysig iawn i aelwydydd sydd mewn dyled ynni gysylltu â'u cyflenwyr ynni, ac rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyflenwyr ynni. Os gallant gysylltu â hwy cyn gynted â phosibl, gallant gytuno ar gynllun ad-dalu fforddiadwy, ac wrth gwrs, byddai hynny'n osgoi mesuryddion rhagdalu anwirfoddol—mesuryddion gorfodol—rhag cael eu gosod.

Ond mae llawer iawn o faterion yn ymwneud â'r rhesymau pam fod pobl yn y sefyllfa hon. Nid oes ond angen imi fynd yn ôl at yr adroddiad yr ydym newydd fod yn sôn amdano gan Cyngor ar Bopeth, gan mai'r gwir amdani yw nad oes gan bobl ddigon o arian i fyw arno, a'r wythnos diwethaf, dywedodd Sefydliad Joseph Rowntree fod 6 miliwn o bobl yn y DU yn byw mewn tlodi ac y byddai’n rhaid i’w hincwm ddyblu er mwyn dod allan o’r caledi hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni i ddweud wrth Lywodraeth y DU fod lefelau credyd cynhwysol yn rhy isel—£35 yr wythnos yn rhy isel i unigolyn sengl, £65 yr wythnos yn rhy isel i gwpl—a chydnabod bod hanner y rheini sydd mewn dyled i'w cyflenwyr ynni yn diffodd y gwres, 3 miliwn yn byw mewn cartrefi lle maent wedi mynd heb brydau bwyd, wedi torri’n ôl ar wariant ar fwyd, neu wedi gwerthu neu bonio eiddo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i arbed arian. Ac rydym wedi gweld y siopau pôn ar y stryd fawr, onid ydym? Ac rydym yn gobeithio y byddant yn troi at ein hundebau credyd, a ariannir gennym, a hefyd at ein Sefydliad Banc Tanwydd. Ac mae'n rhaid imi ddweud, rydym wedi dyrannu bron i £4.5 miliwn ers mis Mehefin 2022 i ariannu cynllun talebau tanwydd a chynllun cronfa wres y Sefydliad Banc Tanwydd. Mae gennym 116 o bartneriaid atgyfeirio, a nifer y talebau tanwydd a roddwyd ers i'r prosiect ddechrau yw 46,189. Ond onid yw'n ofnadwy eu bod bellach yn treialu carthenni trydan i bobl, yn hytrach na gwresogi eu cartrefi? Mae hon yn sefyllfa frawychus, ond mae angen diwygio lefelau budd-daliadau nawdd cymdeithasol y DU yn gyfan gwbl.

Roedd y camau gweithredu gan Lywodraeth y DU y llynedd yn llawer rhy ychydig, yn llawer rhy hwyr, a dweud y gwir, ac nid yw’r amddiffyniadau presennol gan Ofgem yn mynd yn ddigon pell. Lywydd, edrychaf ymlaen at weld Ofgem yn ymateb yn uniongyrchol i’r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Deisebau’r Senedd hon a’r ymchwiliad a gynhaliwyd gennym y llynedd. Ategaf y sylwadau gan Delyth Jewell ac ymateb y Gweinidog, ac rwy’n falch o weld Gareth Davies yn codi’r mater pwysig hwn hefyd. Weinidog, cyfarfu fy nhîm â’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi y bore yma. Gwn eich bod chithau wedi cyfarfod â hwy hefyd. Buont yn trafod yr angen am—. Lle mae angen i gyflenwyr ynni ddefnyddio asiantau gorfodi, mae angen mwy o amddiffyniad i'r cyhoedd. Mae angen mecanwaith cwynion annibynnol a safonau priodol. Gwelodd bob un ohonom yr hyn a ddigwyddodd pan ddefnyddiodd cyflenwyr ynni fel Nwy Prydain gasglwyr dyledion a beilïaid heb eu rheoleiddio pan wnaethant orfodi eu ffordd yn anghyfreithlon i mewn i gartrefi pobl y llynedd. Tybed a wnewch chi ddefnyddio’ch swydd, Weinidog, i alw ar y cyflenwyr a grybwyllwyd gennych heddiw, a phob cyflenwr ynni yn y Deyrnas Unedig, i ymrwymo i ddefnyddio asiantaethau gorfodi sydd wedi’u cofrestru gyda’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi yn unig, rhywbeth y mae awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes wedi'i wneud.

14:05

Diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, ac a gawn ni ddiolch i chi eto am yr adroddiad a gynhyrchodd y Pwyllgor Deisebau—pwyllgor trawsbleidiol—ar y mater hwn, ac am y gwaith a wnaethoch i hyrwyddo’r achos hwn, gyda’r dystiolaeth y gwnaethoch ei chasglu a'i chyflwyno i ni yn rheolaidd? Byddaf yn cyfarfod â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi ymhen ychydig wythnosau i godi'r union faterion hyn. Mae'n ddiddorol, pan fydd y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi—. Mae llawer o'm cyd-Aelodau yma wedi cyfarfod â hwy mewn gwirionedd, ac maent wedi cael digwyddiadau yn y Senedd. Pan ydym wedi ymgysylltu â hwy, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, maent wedi cytuno—. A dweud y gwir, darlledwyd rhaglen am hyn yr wythnos diwethaf, am ymddygiad echrydus beilïaid yn Lloegr tuag at bobl ag ôl-ddyledion y dreth gyngor, ac roeddent yn canmol Cymru, awdurdodau lleol Cymru, am ystyried canllawiau asiantaethau achrededig gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi. Felly, byddaf yn codi hyn i ddarganfod mwy. Gwyddom fod Dŵr Cymru wedi ystyried hyn ar gyfer y gwaith hwnnw.

Ond a gaf fi ddweud, hefyd, fod rhai materion yr hoffwn eu rhannu heddiw—un mater y byddaf yn ei rannu, Lywydd. Rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn y bydd angen i unrhyw gwsmer rhagdalu heb ddyledion sy'n dymuno newid o fesurydd rhagdalu basio gwiriad credyd. Rwyf wedi codi hyn gyda chadeirydd newydd Ofgem. Mae'n rhwystr rhag newid o fesurydd rhagdalu, ac mae'n rhaid diwygio a mynd i'r afael â hyn. Mae'n annheg, mae'n anghyfiawn, ac mae'n dangos, unwaith eto, sut maent yn gwthio cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu yn ddyfnach i mewn i dlodi.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol

5. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i effaith argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol? OQ60594

Diolch yn fawr, Huw Irranca. Mae adroddiad comisiwn y cyfansoddiad yn gwneud asesiad trawsbleidiol cymhellol o’r diffygion yn y setliad datganoli presennol sy’n haeddu ystyriaeth ofalus. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad am yr adroddiad pwysig hwn i’r Senedd ddoe.

Yn wir. Diolch am eich ymateb, Weinidog, a sylwais, yn eu dadansoddiad o hyn, gan gynnwys y gwaith gyda dinasyddion yng Nghymru, yn ogystal ag arbenigwyr, a chan adeiladu ar gomisiwn Thomas, wrth gwrs, nid yn unig eu bod yn cytuno â’r hyn a ddywedwyd eisoes ynghylch datganoli cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf, fel y nodir, yn wir, yn adroddiad Brown, ond maent yn mynd ymhellach, ac yn dweud bod achos cymhellol. Mewn gwirionedd, dim ond dau ddarn o dystiolaeth a welsant yn erbyn yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder troseddol, ac roedd y rheini gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Arglwydd Bellamy. Dyna oedd yr unig ddau. Maent yn dweud hynny, ond nid ydynt yn dweud, 'Ewch amdani fel cath i gythraul ar hyn.' Yr hyn y maent yn ei ddweud yw

'mae system gyfiawnder Cymru a Lloegr yn wynebu heriau mawr, o ran cyllid ac arweinyddiaeth, ac wrth fynd i’r afael â’r rhain bydd Cymru bob amser yn flaenoriaeth gymharol isel i Lywodraeth y DU. Gyda datganoli, byddai cyfle i arloesi ac i ddiwygio, gan adeiladu ar arbenigedd y gweithlu cyfiawnder a rhanddeiliaid cenedlaethol a lleol fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd.'

Ac y

'gellid datganoli heb lawer o darfu, drwy raglen waith wedi’i harwain ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru'.

Felly, dull systematig, wedi'i gynllunio, wedi'i ystyried, o weithio ein ffordd drwy ddatganoli'r materion hyn. A fyddai’n cytuno â’r dadansoddiad hwnnw, ac a fyddai’n ymrwymo, ni waeth beth fo canlyniadau’r etholiad cyffredinol, i wneud y sylwadau hynny i Lywodraeth y DU i weithio ar y cyd ar ddatganoli’r materion hollbwysig hyn ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol?

Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies. Rwy’n cytuno â chi ac yn cydnabod yr argymhelliad allweddol hwnnw ar gyfiawnder a phlismona gan y comisiwn annibynnol. Mae’n mynd â mi yn ôl at ddatganiad ysgrifenedig a luniwyd gennyf i a’r Cwnsler Cyffredinol ar 14 Tachwedd, ac efallai y gallem ei ailgylchredeg a’i rannu. Mae a wnelo â'r gwaith a wnawn i fynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona gan ei fod yn ymrwymiad yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-26. Mae’n dilyn argymhelliad unfrydol y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, comisiwn Thomas, a adroddodd yn 2019, ac roedd datganoli plismona yn benodol yn argymhelliad gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, comisiwn Silk—comisiwn trawsbleidiol, a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU—a adroddodd yn 2014. Fel y dywedasom yn y datganiad hwnnw, ein hamcan yn y pen draw yw mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder a phlismona yn gyfan gwbl. Rydym yn cydnabod y byddai'r dull gweithredu graddol yn well. Felly, dyna ble rydym yn ymateb i ac yn croesawu comisiwn Gordon Brown, fel y gwnaeth y Prif Weinidog ddoe yn gadarnhaol iawn. Ac wrth gwrs, o ran datganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, nid ydym yn dadlau'r achos dros hynny; rydym yn paratoi ar ei gyfer. Rydym yn paratoi ar ei gyfer. Ac rydym yn paratoi ar ei gyfer, yn wir, gyda'n cyd-Aelodau yn y cytundeb cydweithio. Rydym yn ystyried hyn yn gam tuag at ddatganoli cyfiawnder. Ond mae’n bwysig cofnodi unwaith eto ein bod wedi dangos yn y datganiad ysgrifenedig hwnnw ein bod yn gwneud yr ymchwil i baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru hefyd.

14:10

Ateb diddorol iawn yno, o ystyried nad yw Plaid Lafur y DU yn cytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedwyd yno o gwbl ynglŷn â datganoli cyfiawnder a phlismona. Serch hynny, ni allwch hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol heb fynd i'r afael â thlodi plant. Yn gynharach y mis hwn, edrychodd y Centre for Cities ar dlodi plant, a chanfod mai Abertawe yw'r ddinas â’r cynnydd mwyaf mewn tlodi plant yn y Deyrnas Unedig. Os nad oeddech yn meddwl bod hynny’n ddigon damniol o waith Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant, mae’n gwaethygu pan welwch, o holl ddinasoedd y DU, nid yn unig fod Abertawe’n gyntaf, ond mae Casnewydd yn ail a Chaerdydd yn drydydd. A bellach, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn lansio strategaeth tlodi plant heb unrhyw darged nac amserlen i'w dwyn i gyfrif. Ni fydd y siop siarad gyfansoddiadol hon yn gwneud unrhyw beth i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru. Yn hytrach, mae’n costio £1.5 miliwn a mwy—arian y gellid bod wedi’i wario ar wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc yng Nghymru. Felly, pryd y gallwn ddisgwyl camau gweithredu cadarn gan Lywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael â thlodi plant, yn lle gwastraffu arian ar brosiectau porthi balchder fel hyn?

Wel, tybed a fyddech yn cytuno i ddatganoli nawdd cymdeithasol i Gymru. Oherwydd, heb ddatganoli pwerau, y pwerau sy'n cael gwir effaith ar dlodi, ac mae nawdd cymdeithasol yn allweddol i hynny—. Ac mewn gwirionedd, nid y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn unig sy'n dangos bod diwygiadau lles Llywodraeth y DU ers—[Torri ar draws.] A ydych chi'n gwrando? Lywydd? Yn dangos bod diwygiadau lles Llywodraeth y DU—. Ers 2010, rydym wedi dioddef 13 mlynedd o gyni, ond peidiwch ag anghofio bod y diwygiadau lles erchyll hynny ers 2010 a chostau tai cynyddol wedi cael effaith sylweddol iawn ar lefelau tlodi plant ymhlith aelwydydd sy’n gweithio. Ac nid yn unig—. Nid fi sy'n dweud hynny, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud hynny, mae Sefydliad Joseph Rowntree, UNICEF, yn dweud mai’r toriad mewn budd-daliadau lles i blant sy’n dyfnhau ac yn ehangu’r tlodi—nid yng Nghymru'n unig, ac rydym yn mynd i’r afael â hynny gyda’n strategaeth tlodi plant. Felly, oes, mae'n rhaid inni fod yn atebol am yr hyn yr ydym yn gyfrifol amdano, ond ymunwch â ni i gydnabod mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am yr ysgogiadau allweddol hynny.

Tlodi Plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60599

Diolch yn fawr am eich cwestiwn.

Roeddwn wedi cynhyrfu gyda fy ymateb i'r cwestiwn olaf—ymateb difrifol i'r cwestiwn olaf, ac mae hyn yn dilyn ymlaen yn dda iawn o'ch cwestiwn chi, Cefin Campbell. Mae ein strategaeth tlodi plant yn amlinellu ein huchelgais a’n gweledigaeth hirdymor ar gyfer cyflawni ar ran plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru. Rwyf wedi sôn am siarter budd-daliadau Cymru; mae'n cadarnhau'r ymrwymiad ar y cyd i wella mynediad at gymorth ariannol, ac mae wedi'i chymeradwyo gan bob un o'r 22 awdurdod lleol, gan gynnwys yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Diolch yn fawr iawn. Weinidog, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch gyhoeddi eich strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant, a nodais y sylw hwn gyda chryn ddiddordeb:

'Gall cymunedau gwledig wynebu heriau penodol sy'n gysylltiedig â phellter o wasanaethau allweddol, cyfleoedd cyfyngedig am swyddi ac incymau isel, costau byw uwch...argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus, ynysigrwydd cymdeithasol a stoc dai gyfyngedig.'

Nawr, mae honno'n dipyn o restr, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r asesiad hwn ynddo'i hun, ond mae'n rhaid imi gyfaddef bod gweddill y strategaeth yn aneglur ynghylch beth mae hyn yn ei olygu o ran mynd i'r afael â thlodi plant mewn ardaloedd gwledig. Nid yw'r strategaeth, er enghraifft, yn cynnig unrhyw fentrau penodol y gellid eu defnyddio i fynd i'r afael â her bolisi benodol tlodi gwledig. Fel y gwyddom, ac rydym wedi clywed hyn eisoes y prynhawn yma, nid yw’r strategaeth yn cynnwys targedau o gwbl, sy’n wendid sylfaenol yn ein barn ni. Mae'r hen ddihareb na ellir gwella'r hyn na ellir ei fesur yr un mor wir am dlodi plant â pholisïau eraill y Llywodraeth. Felly, a gaf fi ofyn yn benodol i chi, Weinidog, a wnaed unrhyw brawfesur gwledig yn ystod cyfnod datblygu’r strategaeth, ac a wnewch chi ymrwymo i osod targedau i fynd i’r afael â thlodi gwledig?

14:15

Diolch yn fawr, Cefin Campbell. Pwynt pwysig iawn ynglŷn â sut y datblygwyd y strategaeth tlodi plant o ran yr ymgynghoriad, ymgynghoriad a oedd nid yn unig yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, y sector tlodi plant, ond hefyd Cymru Ifanc a’r bobl ifanc y buom yn ymgysylltu â hwy ledled Cymru, gan gynnwys y rheini o gymunedau gwledig, a phobl ifanc â nodweddion gwarchodedig hefyd. Credaf fod pob un o’r amcanion, y pum amcan, yn berthnasol i gymunedau gwledig: lleihau costau, gweithredu pwyslais ar incwm teuluoedd, creu llwybrau allan o dlodi, llesiant plant a theuluoedd. Rydych wedi darllen y strategaeth. Gallwch weld ei bod yn strategaeth sy’n cwmpasu pob agwedd ar fywyd plant a’u llesiant teuluol.

Credaf ei bod yn bwysig, o ran cyflawni’r strategaeth, ein bod yn ystyried hyn yng nghyd-destun yr hyn y gallwn ei wneud â’n pwerau. Mae'n ddogfen wirioneddol drawslywodraethol, fel y gwelwch, o addysg a chyflogaeth i gyfiawnder cymdeithasol yn arwain, ac iechyd a nawdd cymdeithasol. Ar y budd-daliadau lles yr ydym yn gyfrifol amdanynt, oes, yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod gennym niferoedd digonol yn eu hawlio. Ar dargedau, rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol gwybod, fel y gwyddoch, ein bod wedi ymrwymo i lunio fframwaith i fonitro ac adrodd ar ganlyniadau, a dyma sydd ei angen arnom. Beth yw effaith ein gwaith, beth rydym yn gyfrifol amdano? Nid ydym yn gyfrifol am fudd-daliadau, sy'n ysgogiad allweddol, neu bwerau dros y prif drethi.

Rydym yn ymgysylltu ag arbenigedd academaidd annibynnol gan yr Athro Rod Hick o Brifysgol Caerdydd. Gwn y bydd yn dod i gyfarfod â'r pwyllgor, ac mae'n sicr yn mynd i fod yn cyfarfod â grŵp cyfeirio'r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant. Mae'n ystyried dangosyddion cenedlaethol llesiant Cymru, y mae pob un ohonom wedi ymrwymo iddynt—y cerrig milltir hynny yn neddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Wrth gwrs, byddwn yn rhannu pwysigrwydd edrych ar hyn o ddimensiwn gwledig gydag ef. Ond buaswn yn dweud bod gwahaniaeth wrth osod targed ar gyfer darparu gwasanaeth unigol. Mae sicrhau canlyniad, yr effaith, gwneud y newid gwirioneddol hwn, yn dibynnu ar sawl gwasanaeth, ac ystod gyfan o ffactorau economaidd a chymdeithasol, a daw’r effaith fwyaf drwy fudd-daliadau a nawdd cymdeithasol, a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Felly, oes, mae gennym y targedau hynny ar gyfer gwasanaethau a rhaglenni unigol, ac er enghraifft, gwasanaethau cynghori—llu o ddangosyddion—ond mewn gwirionedd, gallwch fonitro grym y gweithgarwch hwnnw, ac effaith y gweithgarwch a welwch yn y strategaeth honno, i weld yr effaith gadarnhaol a gawn, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

Weinidog, yn Lloegr, bydd pob rhiant sy’n gweithio a chanddynt blant dwy oed yn cael 15 awr yr wythnos o ofal plant am ddim o fis Ebrill eleni. Weinidog, a allwch gadarnhau y bydd hyn yn digwydd yng Nghymru, ac os na fydd, pam hynny?

Cawn weld a gaiff hynny ei gyflawni. Gallaf weld bod cwestiynau’n cael eu codi ynglŷn â chapasiti’r gweithlu, gweithlu yr ydym yn ei ailadeiladu, wrth gwrs, o ganlyniad i’n buddsoddiad yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, cyfrifoldeb y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yw hyn, ond mae'n bwysig inni fyfyrio ar yr hyn a wnawn yng Nghymru gyda gofal plant. Hyd yn hyn, ein cynnig gofal plant yw’r mwyaf uchelgeisiol yn y DU, ond credaf fod ein buddsoddiad yn Dechrau’n Deg—a chredaf, unwaith eto, fod hwnnw'n fuddsoddiad pwysig iawn a rannwn yn ein cytundeb cydweithio—yn brawf o’r hyn a wnawn. Er gwaethaf 13 mlynedd o gyni a thorri Cychwyn Cadarn yn Lloegr flynyddoedd yn ôl, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn Dechrau’n Deg.

Ac a gaf i ddweud bod Dechrau'n Deg yn cyrraedd y plant mwyaf difreintiedig, yr union blant a gefnogir gennym drwy ein strategaeth tlodi plant? A dim ond refeniw a chyfalaf yw hynny. Rwy'n gobeithio y byddwch wedi gweld hynny'n cael ei ymestyn yn eich etholaeth chi, Russell, fel y gwn fod y Dirprwy Weinidog a'r Aelod dynodedig, rwy'n credu, wedi gweld effaith ein buddsoddiad yn Dechrau’n Deg yn Wrecsam yr wythnos diwethaf. Ac mae hynny'n darparu gofal plant am ddim, sydd, wrth gwrs, yn ein cytundeb, ac sy'n mynd i gael ei gyflwyno i bob plentyn dwy oed yng Nghymru.

14:20

Prynhawn da, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, buom hefyd yn trafod ein hadroddiad, 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant’, ac yn wir, yr wythnos cynt, pan wnaethom adrodd arno. Ac rwy'n ddiolchgar i chi am eich ymrwymiad i rai o'r argymhellion allweddol. Ond yr un y gwnaethoch ei wrthod yn llwyr, argymhelliad 6, yw’r un yr oeddwn am ganolbwyntio arno, yn enwedig mewn perthynas â chwestiwn Cefin Campbell ynghylch tlodi plant gwledig. Rydym wedi galw, yn argymhelliad 6, am Weinidog penodedig ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc. Eich ymateb yw bod tlodi plant, a thlodi yn wir, yn gyfrifoldeb ar draws yr holl bortffolios gweinidogol. Felly, a gaf i ofyn i chi: i ba lefel y rhagwelwch y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru yn gallu blaenoriaethu tlodi gwledig? Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr. Cefais drafferth gyda'r argymhelliad hwnnw, gan y gallwn ddeall y rhesymeg y tu ôl iddo; gallwn ddeall y dystiolaeth gan fy nghyd-Aelodau, nid yn unig ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ond y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. A dweud y gwir, mae’n fy atgoffa o’r trafodaethau a gawsom ddoe. Mae'n wir, pe bai gennym Senedd ddigon mawr, gyda Llywodraeth a allai ddiwallu’r holl anghenion penodol y gwyddom fod angen mynd i’r afael â hwy, ac rwy’n teimlo ei fod yn achos pwysig arall ar gyfer ein Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), y derbyniwyd ei egwyddorion cyffredinol ddoe, wrth gwrs. Ond mater i’r Prif Weinidog nesaf yw trefniadau portffolio. Carwn ddweud bod y strategaeth tlodi plant wedi'i chyflwyno i'r Cabinet o leiaf ddwywaith. Daeth ar ei ffurf ddrafft, daeth ar ei ffurf derfynol. Roedd yn rhaid i'r Cabinet cyfan ymrwymo iddi. A chredaf fod y pwyntiau a wnaed gennych chi, Jane Dodds, a Cefin Campbell heddiw ynglŷn â'r dimensiwn gwledig yn wirioneddol bwysig, a byddaf yn trafod y rheini gyda’r Gweinidog materion gwledig wrth inni roi’r strategaeth tlodi plant ar waith yn awr.

Ysmygu ymysg Merched Beichiog yn Arfon

7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r cysylltiad rhwng tlodi a'r lefel uchel o ysmygu ymysg merched beichiog yn Arfon? OQ60597

Rydyn ni'n gwybod bod y bobl sy'n byw yn ein cymunedau lleiaf cyfoethog yn fwy tebygol o ysmygu nag yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog. Mae effaith y defnydd o dybaco, yn enwedig yn ystod beichiogrwydd, yn elfen allweddol o'r anghydraddoldebau iechyd dwfn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â nhw.

Diolch am yr ateb yna. Yng Ngwynedd, mae 16.5 y cant o'r boblogaeth yn ysmygu, un o'r canrannau uchaf yng Nghymru. Mae'r ffigwr hwn yn cynnwys mamau beichiog. Ar draws Cymru, mae un o bob 10 o famau beichiog yn ysmygu, gan beryglu eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu babanod, wrth gwrs, ac mae yna dystiolaeth gynyddol ar gael sy'n dangos bod yna gysylltiad rhwng tlodi a lefelau uchel o ysmygu ymhlith mamau beichiog. Ydy'r cynllun peilot sy'n ceisio cefnogi merched beichiog i roi’r gorau i ysmygu, sydd ar waith yn sir Ddinbych yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn cyfarch y cysylltiad rhwng tlodi ac ysmygu ymhlith mamau beichiog? A pha wersi sydd yna i'w dysgu cyn belled o'r peilot pwysig yma?

Diolch am y cwestiwn pellach. Dwi'n cytuno ei fod yn bwysig i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu.

Fe gyfeirioch chi at gynlluniau peilot Betsi Cadwaladr—y cymorth wedi'i dargedu ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu a gynigir i bobl feichiog yng Nghymru. Maent wedi rhoi’r model gwasanaeth ‘Helpa fi i stopio i fy mabi’ ar waith, a deallaf ei fod yn cynnig cymorth arbenigol, pwrpasol a hyblyg i ysmygwyr, a hefyd wedi ystyried y pryderon byw ac amgylcheddol ehangach, o bosibl. Mae’n cynnig cyfle nid yn unig i bobl feichiog, ond i eraill yn y cartref gael cymorth gan eu cynghorydd rhoi’r gorau i ysmygu personol eu hunain bob wythnos, yn ogystal â meddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim gwerth hyd at £250, a chynigir ymweliadau cartref hefyd i helpu i gynyddu mynediad at wasanaethau 'Helpa fi i stopio'.

Gwn ichi ganolbwyntio ar y cynllun peilot mewn ardal benodol, ond yn ardal Arfon, gwn fod dau gynghorydd arbenigol sy’n rhoi cymorth i bobl feichiog ac eraill ar yr aelwyd sy’n ysmygu. Mae gan y cynlluniau cymhelliant gynllun peilot hefyd i dargedu pobl feichiog o ardaloedd llai cefnog, ac ysmygwyr ifanc beichiog sy’n llai tebygol o roi’r gorau iddi. Rwy’n fwy na pharod i gysylltu â’m cyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog iechyd, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y cynllun peilot hwnnw a sut y gellir cyflwyno'r gwersi hynny mewn mannau eraill yn y gymuned, ar draws gogledd Cymru.

14:25
'Y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol? OQ60619

Diolch am eich cwestiwn. Mae ‘Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol’ yn hanfodol ar gyfer cyflawni ein nod o ddod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym wedi ymrwymo i dryloywder a rhannu cynnydd yn erbyn y cynllun yn agored, a chyhoeddwyd ein hadroddiad blynyddol cyntaf ar 1 Rhagfyr 2023.

Weinidog, credaf fod angen inni weld newid sylweddol yng Nghymru ar fynd i’r afael â hiliaeth, ac er mwyn gwneud hynny, mae angen i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus wneud cryn dipyn o gynnydd ar ddeall y materion sy’n ymwneud â hiliaeth a chyflawni ar gyfer ein cymunedau amrywiol, ac mae arnom angen i sefydliadau ddangos esiampl dda. Hoffwn nodi dau y gwn amdanynt yn lleol yn Nwyrain Casnewydd, Weinidog, ac un yw Ysgol Uwchradd Llanwern, sydd wedi’i nodi gan Estyn fel un sy’n gwneud gwaith da iawn mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac mae ganddi bolisïau a gweithgareddau da iawn yn ymwneud ag amrywiaeth yn gyffredinol, a’r llall yw Muslim Doctors Cymru, a wnaeth waith da iawn yn ystod y pandemig wrth estyn allan i gymunedau mewn perthynas â brechu a mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn fwy cyffredinol, ac sydd bellach yn parhau â’r gwaith hwnnw. Yr wythnos o'r blaen, fe wnaethant gynnal sesiwn gyda nifer o weithwyr iechyd proffesiynol mewn mosg yn Nwyrain Casnewydd, gan estyn allan i’r gymuned at bobl na fyddent fel arall, efallai, yn manteisio ar y profion a’r gwasanaethau pwysig hynny fel arall.

Diolch yn fawr, John Griffiths, am dynnu sylw unwaith eto at y ddwy enghraifft hynny o roi 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' ar waith, mewn ysgol ac mewn sefydliad cymunedol yng Nghasnewydd, oherwydd fel y dywedwch, mae angen newid sylweddol arnom gyda'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

O edrych yn gyflym ar iechyd, gan fod pob Gweinidog, pob adran—. Fe welwch yr hyn sy'n cael ei gyflawni o'r adroddiad blynyddol. Yn y sector iechyd, mae gennym safon cydraddoldeb hiliol y gweithlu ar gyfer Cymru, ac mae honno'n mynd i nodi a mesur cynnydd yng ngweithlu'r GIG a gofal cymdeithasol ar gydraddoldeb hiliol ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol. A hefyd, o ran addysg, credaf fod y Gweinidog addysg wedi lansio’r cwricwlwm newydd gorfodol ar gyfer dysgu treftadaeth a hanes gwrth-hiliaeth yng Nghymru yn Ysgol Llanwern, a gwaith arloesol y prosiect dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth. Felly, credaf ei fod bellach yn cael ei ymgorffori mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac, er bod gennym lawer o ffordd i fynd, mae'n digwydd o ganlyniad i’r enghreifftiau hynny.

A gaf i ganmol y gymuned honno unwaith eto am y gwaith yn y mosg, gan fod Muslim Doctors Cymru wedi gwneud llawer iawn o waith yn ystod y pandemig ar godi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â mythau ynglŷn â brechu? Rwy'n credu bod y meddygon Mwslimaidd wedi chwarae rhan fawr yng Nghasnewydd, yn ogystal â gweddill Cymru.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Y cwestiwn cyntaf, Jack Sargeant. 

Sgandal Horizon Swyddfa'r Post

1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o nifer y trigolion yng Nghymru y mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post wedi effeithio arnynt? OQ60616

14:30

Diolch am y cwestiwn. Ni all hyd yn oed Swyddfa'r Post nodi nifer y bobl y mae sgandal Horizon yn effeithio arnynt. Ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, a'r tu hwnt i hynny hyd yn oed, nid yw rhai cyn is-bostfeistri ond yn sylweddoli nawr eu bod o bosibl wedi dioddef un o'r enghreifftiau mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder a methiannau mwyaf eang y system gyfreithiol a welodd y Deyrnas Unedig erioed.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Os gwnaiff y Llywydd adael imi roi diweddariad gan Neil Hudgell o Hudgell Solicitors. Ef yw'r cyfreithiwr sydd wedi cynorthwyo nifer o is-bostfeistri i wrthdroi eu heuogfarnau troseddol yn yr Uchel Lys yn Llundain. Lywydd, mae'n dweud bod bron i 450 o geisiadau newydd am gymorth cyfreithiol wedi'u cyflwyno ers drama ITV. Mae'r rhain yn cynnwys 52 o bobl gydag euogfarnau a channoedd o bosibl sydd heb gael iawndal priodol. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yn ei ateb cyntaf, nid yw Swyddfa'r Post yn gwybod beth yw hyd a lled yr enghraifft hon o gamweinyddu cyfiawnder mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod bod trigolion Cymru wedi'u cynnwys yn y ffigurau a ddyfynnais yn awr gan Hudgell Solicitors, ac rydym yn gwybod ei bod yn debygol y bydd llawer mwy o unigolion a grwpiau nad ydynt wedi camu ymlaen eto. A gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol pa sgyrsiau a gafodd gyda chyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru am bwysigrwydd cefnogi trigolion o Gymru sydd wedi dioddef yn sgil y camweinyddu cyfiawnder enfawr hwn?

A gaf i ddiolch i chi am y cwestiwn a diolch i chi hefyd am barhau i fonitro a chodi'r mater penodol hwn? Mewn sawl ffordd, mae'n ymwneud â mwy na mater Horizon yn unig; mae hefyd yn ymwneud â sut y bu i hyn ddigwydd o fewn ein system gyfreithiol.

Fel yr adroddodd y Prif Weinidog beth amser yn ôl, ysgrifennais at yr Arglwydd Ganghellor yn gyffredinol ar hyn yn ôl ym mis Medi 2021. Tua chwe mis yn ddiweddarach, cefais ateb gan y Gweinidog busnesau bach, Paul Scully—hynny ym mis Chwefror 2022. Gwn fod cwestiynau hefyd wedi mynd, ar sawl achlysur, at y Dirprwy Weinidog hefyd, ac i eraill yn wir. A gaf i ddweud bod hwn yn fater yr ydym i gyd yn ymwybodol ohono? Ac a gaf i ddweud hefyd imi ei godi yr wythnos diwethaf pan oeddwn yn yr Alban yn ail gyfarfod y grŵp rhyngweinidogol ar gyfiawnder, lle cafwyd adroddiadau ar y sefyllfa yn yr Alban yn ogystal ag yn Lloegr gan yr Arglwydd Bellamy, yr is-ysgrifennydd dros gyfiawnder? Mae hynny'n rhywbeth sy'n mynd i barhau.

Rydych chi wedi codi mater dyletswydd gonestrwydd yn y gorffennol yn y cyd-destun hwn, ac mae hynny'n hanfodol yn fy marn i. Mae mater iawndal yn hanfodol hefyd. Nid wyf yn deall pam na all yr ymchwiliad ymdrin â hyn, ond mae'n cael ei hepgor ohono. Mae mater yn codi gyda dirymu'r euogfarnau, ac yn anffodus, rwy'n credu fy mod yn cydnabod bod yn rhaid cael deddfwriaeth i'w dirymu mae'n debyg. Mae'n sefyllfa anodd iawn lle mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddeddfu mewn perthynas â phenderfyniadau'r llysoedd a'r system gyfiawnder, ac mae'n ymyrraeth y mae angen inni fod yn wyliadwrus iawn ohoni. Rwy'n credu mai'r safbwynt y mae'r rhan fwyaf ohonom wedi'i gymryd, a'r rhan fwyaf o swyddogion y gyfraith hefyd, yw bod hon yn sefyllfa mor eithriadol ac anarferol fel bod yn rhaid iddo ddigwydd. Mae mater defnyddio erlyniadau preifat yn codi hefyd, ac rydym wedi gweld materion eraill yn ymwneud â'r gwarantau i weithredu a godwyd gennych o'r blaen.

A gaf i ddweud un peth arall sy'n bwysig hefyd? Rydym bellach yn dod yn ymwybodol o rai dinasyddion yng Nghymru, a phobl o bob cwr o'r DU yn wir, mewn perthynas â'r system cyn Horizon. Roedd yna Mr Lewis o Lyn Ebwy, cyn-archwilydd yn Swyddfa'r Post. Plediodd yn euog i bum cyhuddiad, gan gynnwys dwyn a chyfrifo ffug, a chafodd orchymyn prawf o 12 mis. Gwrthododd unigolyn arall, Mrs Roberts o Wirral, a gadwai'r llyfrau i'w gŵr a oedd yn is-bostfeistr, bledio'n euog am rywbeth y dywedodd nad oedd wedi'i wneud pan ddarganfuwyd colledion o £46,000. Dyma system Capture sydd wedi dod i'r amlwg. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod hynny'n cael sylw hefyd, oherwydd mae hwn yn fath o flwch Pandora sy'n ymddangos fel pe bai'n mynd yn ôl ymhellach ac yn codi pob math o gwestiynau eraill—cwestiynau mwy modern mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial a'r defnydd o dechnoleg.

Ond a gaf i ddweud hefyd fy mod i wedi ysgrifennu at Kevin Hollinrake, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Fenter, Marchnadoedd a Busnesau Bach? Rwyf wedi codi mater yr achos yng Nghymru a system Capture. Rwyf wedi awgrymu bod hwn yn fater sy'n cysylltu'n glir â'r materion y mae'r ymchwiliad yn eu hystyried, ac wedi gofyn am sicrwydd y byddai cylch gwaith yr ymchwiliad hwnnw hefyd yn caniatáu i hyn ddigwydd. Ond mae hwn yn faes arall y mae angen ymchwilio iddo.

14:35
Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar ddatganoli polisi ynni? OQ60602

Diolch. Mae'r setliad datganoli mewn perthynas ag ynni yn gymhleth iawn, ac mae casgliadau ac argymhellion adroddiad y comisiwn annibynnol yn mynnu sylw meddylgar ac ystyriol. Felly, byddwn yn ystyried yr adroddiad yn ystod yr wythnosau nesaf.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb. Allaf i ofyn i chi yn benodol i amlinellu i ni gynlluniau Llywodraeth Cymru i weithredu'r hyn y mae'r comisiwn wedi ei awgrymu ar ddatganoli ynni? I fod yn glir, mae'r comisiwn wedi galw am sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar frys ar sut y gellir diwygio'r setliad datganoli a chreu gwell cysylltiad rhwng Llywodraethau a'i gilydd, i hwyluso ailstrwythuro'r sector ynni. Yn ôl y comisiwn, mae hyn yn angenrheidiol i baratoi ar gyfer arloesi ym myd technoleg, i sicrhau y gall Cymru gyrraedd ei thargedau sero net ac i hwyluso cynhyrchu ynni lleol. Hefyd, dwi'n sylwi bod y comisiwn wedi argymell datganoli Ystad y Goron, ac mae'r comisiwn wedi awgrymu y gallai'r grŵp ymgynghorol hwn ar ynni roi cyngor ar opsiynau ar gyfer cyflawni hyn. Gaf i ofyn felly pryd yn union y gallwn ni ddisgwyl gweld sefydlu'r grŵp ymgynghorol hwn, beth yw'r amserlen, beth fydd ei gylch gorchwyl, a phryd yn benodol y gallwn ni ddisgwyl gweld symud ar ddatganoli Ystad y Goron?

Diolch am y cwestiwn. Rydych yn codi mater pwysig iawn ynglŷn ag ynni, ac yn wir, deddfwriaeth a aeth drwy Senedd y DU mewn perthynas ag ynni, sy'n effeithio ar Gymru, ac wrth gwrs fe fyddwch wedi gweld y memoranda cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â hynny. Mae'n bwysig cydnabod ein bod newydd gael adroddiad y comisiwn; mae angen ei ystyried yn ofalus iawn. Bydd dadl fanwl iawn yn y Senedd ar ddyddiad yn y dyfodol agos. Rwy'n gwybod bod hynny'n cael ei gynllunio, er mwyn rhoi amser i bobl ystyried hynny'n ofalus.

Sylwaf hefyd mai'r hyn y mae'r comisiwn yn ei ddweud am ynni, wrth gwrs, yw eu bod yn cydnabod mai dim ond crafu'r wyneb y maent wedi gallu ei wneud mewn gwirionedd, ond maent yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Maent yn dweud bod cynhyrchu a dosbarthu ynni yn faes lle nad yw'r elfen ddeuol—wedi'i ddatganoli neu heb ei ddatganoli—yn cyd-fynd yn hawdd â realiti ymarferol y ddarpariaeth, a chredaf fod hynny'n rhywbeth yr ydym i gyd yn cytuno ag ef mae'n debyg ar draws pob plaid wleidyddol. Maent hefyd yn dweud bod rhai o'r materion a gedwir yn ôl ar hyn o bryd yn ymddangos yn hen ffasiwn a heb resymeg strategol, megis systemau gwresogi lleol ac effeithlonrwydd ynni. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth nad yw'n ddadleuol yn ôl pob tebyg. Maent hefyd yn dweud bod rôl y rheoleiddiwr mewn perthynas ag ynni yn hanfodol, ond nad oes gennym ni unrhyw rôl ffurfiol yn hynny. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n arbennig o bwysig.

Yr hyn y maent yn ei argymell yw sefydlu adolygiad, fel y dywedwch, o'r cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bodoli, a hefyd mewn perthynas ag Ystad y Goron, sy'n cydgysylltu'n llwyr â hyn. Ac maent yn gofyn am grŵp arbenigol. Wel, rwy'n siŵr fod cyngor arbenigol, cymorth, ac yn y blaen, yn yr holl faes ynni yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried yn ofalus iawn, ac a fydd hefyd yn cael ei ystyried gan y Gweinidog Newid Hinsawdd o ran sut i fwrw ymlaen â hyn. Nid wyf mewn sefyllfa i roi'r atebion penodol hynny i chi, ond mae'r rheini'n amlwg yn rhai a fydd yn cael eu hystyried gan y Gweinidog a chan Lywodraeth Cymru, ac yn sicr yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau yn y dyfodol, sy'n bwysig yn fy marn i.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ddoe wrth y Senedd ar adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ac rwy'n dyfynnu, ei fod am barhau i:

'Gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus, yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol.'

Dywedodd hynny yn ei addewid maniffesto yn 2021. Mae'r adroddiad gan y comisiwn, wrth gwrs, yn gwneud cyfeiriadau lluosog at ffederaliaeth fel opsiwn ar gyfer dyfodol Cymru, ac mae'n siarad yn agored am yr heriau sy'n gysylltiedig â ffederaliaeth, gan nodi mai dim ond 6 y cant o'r bobl yr ymgynghorwyd â hwy oedd yn cefnogi'r farn honno fel opsiwn ar gyfer y dyfodol. Felly, yng ngoleuni'r adroddiad, a yw Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried bod gwthio am ffederaliaeth o fewn y DU yn opsiwn ymarferol?

14:40

Un o'r anawsterau gyda'r termau—boed yn ddatganoli, yn annibyniaeth, neu'n ffederaliaeth—yw ei fod yn agored iawn i ddehongliad difrïol o ran yr hyn a olygant. Yn eithaf aml, pan ddefnyddir termau gwahanol, gwelaf fod pobl yn eithaf aml yn siarad am yr un peth. Felly, fe gawn anhawster yn y dadleuon hyn o ran beth sy'n iaith gyffredin.

Credaf mewn gwirionedd mai'r ffordd orau o gynnal y strwythur cyfansoddiadol hirdymor yw drwy ffurf ar strwythur ffederal. Rhaid i chi ddehongli beth y gallai hynny ei olygu mewn gwirionedd. Mae Gordon Brown, yn ei adroddiad, yn nodi nifer o egwyddorion yn y bôn. Mae'n sôn am sybsidiaredd, hynny yw, y dylid gwneud penderfyniadau mor agos â phosibl at bobl, a dim ond y meysydd lle ceir dibyniaeth gyffredin sy'n destun strwythurau trawslywodraethol a seneddol eang ac yn y blaen. Mae hynny'n fath o ffederaliaeth. Mae'n debyg fod sybsidiaredd yn rhywbeth y byddem i gyd yn cytuno ag ef, ond beth mae'n ei olygu o ran yr hyn y gallai'r strwythur democrataidd hwnnw ei olygu mewn gwirionedd?

Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod yr adroddiad wedi gosod fframwaith ar gyfer trafod yr hyn sydd ei angen arnom—ac rwy'n credu bod gwir angen hynny arnom yng Nghymru, ac yn Lloegr wrth gwrs, lle mae datganoli yn dod yn fwy o beth—sef trafodaeth, mewn gwirionedd, ar sut y bydd y dyfodol hwnnw'n datblygu, sut y dylai'r cysylltiadau hynny ddatblygu, a hefyd, sut y dylid arfer pŵer ledled y DU, yn enwedig o fewn yr amgylchedd byd-eang yr ydym ynddo. Felly, rwy'n credu ei fod yn sail ddilys iawn ar gyfer trafodaeth. 

O ran gosod glasbrint sy'n ateb i bob dim, nid yw'r comisiwn yn gwneud hynny, ond mae'n gosod sylfaen dystiolaethol a fframwaith y gellir cynnal trafodaeth ar ddiwygiadau o'i fewn. 

Diolch am yr ymateb. Wrth gwrs, gallaf ddeall yr atyniad at ffederaliaeth y mae llawer o bobl yn y Siambr hon wedi'i fynegi, a'r hyn a fynegwyd, wrth gwrs, yn adroddiad comisiwn y cyfansoddiad. Ond nid yw'n mynd i'r afael â'r ffaith ei fod yn ymddangos yn awgrym a ffordd ymlaen hynod o amhoblogaidd i ddyfodol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig.

Oherwydd ein bod yn sôn am gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, fel y dywedais ar y dechrau, pan ddechreuodd y comisiwn ar y cyfansoddiad, roedd yn ymddangos braidd yn rhyfedd fod Cymru'n gweithredu ar ei phen ei hun er mwyn ceisio datblygu sgwrs, yng Nghymru, ac ar draws y DU, am ddyfodol y DU. Oherwydd cawsom adroddiad unochrog a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, yn hytrach na rhywbeth a gomisiynwyd gan yr holl genhedloedd a rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig, y teimlaf y byddai wedi bod yn ffordd lawer gwell a mwy priodol ymlaen, yn enwedig o gofio mai un feirniadaeth yn yr adroddiad yw'r diffyg cydweithio rhwng y gwahanol Lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig. 

Felly, a gaf i ofyn hyn i chi? Pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu eu datblygu gyda Llywodraethau datganoledig eraill yn y DU, a chyda Llywodraeth y DU, beth bynnag fydd plaid y Prif Weinidog yn yr etholiad cyffredinol nesaf? Oherwydd ni fyddwn byth yn llwyddo i gyflawni unrhyw gynnydd ar y materion hyn oni bai bod yna sgwrs yn cael ei chynnal ledled y DU. Felly, sut rydych chi'n ceisio dod â phobl at y bwrdd i gael y sgwrs honno?

Diolch i chi. Rwy'n credu eich bod yn codi materion pwysig iawn, ac rwy'n credu eich bod yn eu codi mewn ffordd adeiladol iawn. Rhan bwysig o drafodaeth fel hon yw gofyn sut rydych chi'n gwneud newid mewn gwirionedd. Roedd yna economegydd ac athronydd adnabyddus iawn a ddywedodd ein bod yn gwybod beth y gallem fod eisiau ei newid, ond y cwestiwn yw sut rydych chi'n gwneud i newid ddigwydd mewn gwirionedd. 

Un o'r ffyrdd ymlaen, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth y mae angen iddo ddigwydd—roedd wedi bod ar yr agenda, mae wedi cael ei drafod, mae wedi ei wyntyllu—yw bod angen trafodaeth ar draws y DU, confensiwn ledled y DU. Beth amser yn ôl, pan oeddwn ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fe wnaethom wthio'n galed iawn ac fe wnaethom gasglu tystiolaeth—trwy Bwyllgor y Llywydd, a thrwy'r fforwm rhyngseneddol a oedd yn bodoli—fod angen confensiwn y DU. Ac rwy'n dweud hynny, oherwydd, er enghraifft, pan gynhaliwyd refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, un o'r anawsterau mawr oedd y cwestiwn ynglŷn â beth yw pwrpas y DU.

Daeth at ei gilydd yn hanesyddol drwy gyfres fawr o resymau a digwyddiadau hanesyddol, ond fel yr ydym nawr, a chan ein bod yn endid sydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, y cwestiynau yw, 'Wel, beth yw ein pwrpas? Beth y dylai'r strwythur fod? Beth y dylai'r egwyddorion yr ydym yn seiliedig arnynt fod?' Ac rwy'n credu bod honno'n drafodaeth ddilys iawn y mae angen iddi ddigwydd, ac rwy'n credu ei bod yn drafodaeth a allai gael ei chydnabod ar draws y pleidiau gwleidyddol. Pan gynhaliwyd refferendwm annibyniaeth 2014, rwy'n credu ei bod hi'n anodd iawn dweud mewn gwirionedd, 'Wel, beth yw'r pwrpas? Beth y dylai'r berthynas fod? Beth mae pobl yn mynd i'w gefnogi? Beth yw'r egwyddorion cydraddoldeb?' Yn amlwg, fe wyddom fod llawer ohonynt. Un ohonynt yw—. Mae fformiwla Barnett, er ei holl ddiffygion, yn fecanwaith ailddosbarthu. Mae'n ymwneud ag ailddosbarthu cyfoeth, ac i ryw raddau mae cydraddoldeb ledled y DU, y wladwriaeth les ac agweddau ar hynny a chodi trethi, i'r graddau hynny, yn ymwneud â hynny yn ogystal. Felly, mae'r rhain yn faterion a welwn yn cael eu codi gyda'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol drwy'r fforymau rhynglywodraethol sy'n bodoli.

Ar hyn o bryd, rydym mewn amgylchedd lle nad oes fawr o amharodrwydd i unrhyw symud ddigwydd, ond rwy'n argyhoeddedig y bydd y ddadl honno'n cynyddu os bydd newid llywodraeth yn y dyfodol agos, ar sail adroddiad Gordon Brown. Ar fater Lloegr, oherwydd rydym yn sôn am Gymru a'r Alban, a digwyddiadau pwysig sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon nawr—digwyddiadau pwysig iawn—mae'r un mor bwysig fod y wlad sy'n cynnwys 85 y cant o boblogaeth y DU wedi bod ar y tu allan i'r ddadl honno i raddau helaeth. Ond wrth gwrs, rydych chi wedi'i weld yn tyfu mewn llefydd fel Manceinion, Lerpwl, o ran Llundain, ac mae'n ddilys iawn—beth yw'r ffordd orau o arfer pŵer, sut y gall ddod â ni mor agos â phosibl at bobl, beth ddylai fod yn strwythurau llywodraethol a strwythurau rhynglywodraethol, ac efallai, gan ddod at y pwynt cyntaf un a wneuthum, sut y gallwn ddatblygu iaith gyffredin nad yw'n ddifrïol, nad yw'n gwneud pob math o ragdybiaethau, ond sy'n seiliedig ar bethau yr ydym i gyd yn cytuno arnynt mae'n debyg, sef sut mae gwneud i'n democratiaeth weithio'n well a sut y down â'r broses o wneud penderfyniadau'n agosach at bobl. 

14:45

Wel, yn amlwg, mae yna drafodaethau y mae angen eu cynnal cyn gynted â phosibl, yn enwedig mewn perthynas â rhai o'r argymhellion uniongyrchol yn yr adroddiad, yn enwedig, er enghraifft, ar faterion hyblygrwydd ariannol i Lywodraeth Cymru, sy'n rhywbeth yr ydym wedi mynegi ein cefnogaeth iddo ar bob ochr i'r Siambr hon yn y gorffennol.

A gaf i droi at gyllideb y comisiwn cyfansoddiadol? Yn amlwg, mae cynnal yr ymarfer wedi costio tua £1.5 miliwn i'r trethdalwr hyd at adeg cyhoeddi'r adroddiad. Nid yw hwnnw'n swm dibwys pan ystyriwch gost cyfle buddsoddi'r arian hwnnw, efallai, yn ein gwasanaethau cyhoeddus ar yr adeg benodol hon, o ystyried y trafferthion y mae llawer ohonynt yn eu hwynebu. Ond yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, nodais fod £1 filiwn arall wedi'i ddyrannu i'r comisiwn cyfansoddiadol er ei fod wedi gorffen ei waith. Tybed pam mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £1 filiwn arall i'r comisiwn, o gofio bod ei gwaith wedi dod i ben ac o gofio y bydd hynny o fis Ebrill y flwyddyn nesaf hyd fis Ebrill 2025. Pam mae'r swm hwnnw yn eich cyllideb?

Wel, a gaf i ddweud bod yn rhaid i'r gyllideb ar gyfer y comisiwn, ar ôl rhoi annibyniaeth i'r comisiwn a chylch gwaith eithaf eang o ran sut yr oedd i fynd ati i gyflawni ei waith a'i ymgysylltiad, fod yn un a oedd â darpariaeth i alluogi hynny i ddigwydd mewn gwirionedd? Gan fod yr  adroddiad gyda ni nawr, a bod gennym faint terfynol y gyllideb benodol honno, rwy'n credu bod dadl ddilys iawn nawr o ran—. Yr hyn sy'n bwysig iawn yn y ddadl hon yw nad yw'r gwaith sydd wedi digwydd yn rhywbeth sy'n dod i ben, 'Dyma'r adroddiad', ac yn y blaen; mae'n ddogfen fyw sy'n gweithio ar gyfer dadl, ac wrth gwrs, rhan bwysig ohoni—. Un o'r pethau a ddywedodd adroddiad Gordon Brown oedd ei fod i bob pwrpas yn ildio i'r ffaith bod gennym y comisiwn hwn, ond wedyn, pan oedd wedi gwneud ei argymhelliad, fod yna ddeialog bwysig ac adeiladol iawn.

Felly, mae'n ddigon posibl y bydd yna ymgysylltiad parhaus gydag elfennau o'r comisiwn, ac rwy'n gobeithio hynny, yn sicr, nid o ran ei faint, ond o ran beth fydd y rôl wrth ddatblygu'r ddadl honno, sut y gallai'r ddadl honno ddatblygu gyda'r llywodraeth a ddaw ar ôl etholiad cyffredinol ac yn y blaen. Byddai pa un a oes angen yr £1 filiwn i gyd ai peidio yn fater i'w ystyried yn gyntaf o ran yr hyn y credwn y gallai fod yn ffordd o gyflawni'r argymhellion hynny a rhywfaint o'r gwaith hwnnw a'r ymgysylltiad parhaus. Ac rwy'n credu mai dechrau proses yw hyn mewn gwirionedd. Mae'n darparu sail ar gyfer yr ymgysylltiad hwnnw a'r ddadl honno. Ond mae wedi mynd heibio i'r garreg filltir benodol honno, felly bydd angen adolygu beth yw gweddill y gyllideb honno, beth sydd ei angen a beth y gallai'r union delerau a swyddogaethau fod o ran sut y bwrir ymlaen â hynny. Nid wyf mewn sefyllfa i ddweud nawr, ond credaf fod honno'n ystyriaeth bwysig iawn, ac rwy'n credu bod y cwestiwn a godwyd gennych yn un dilys iawn. Bydd yn ddilys iawn o fewn yr wythnosau sydd i ddod pan gawn y ddadl lawn ar hynny yn y Siambr hon.

14:50

Diolch, Lywydd. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi gweld canlyniadau'r arolwg o Aelodau o'r Senedd ac Aelodau Seneddol gan ITV Wales, sy'n dangos, ymhlith y rhai a ymatebodd, fod 76 y cant wedi dweud eu bod wedi teimlo'n anniogel o ganlyniad i gamdriniaeth y maent wedi'i dioddef, a bod 31 y cant wedi ystyried gadael bywyd cyhoeddus yn gyfan gwbl o ganlyniad i hynny. Y bore yma, roeddwn mewn digwyddiad ar gamdriniaeth yn y byd gwleidyddol a gynhaliwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac roedd hi'n glir, yn seiliedig ar y drafodaeth yno, fod y darlun hwnnw hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Dau o'r syniadau a gynigiwyd er mwyn ymateb i'r sefyllfa ofnadwy hon oedd ein bod yn rhoi swydd i rywun yn ganolog i fonitro lefel y gamdriniaeth a brofir ledled Cymru, fel y gallwn ei meincnodi'n flynyddol, a bod gennym hefyd bwynt canolog i roi cyngor a chefnogaeth i gynrychiolwyr etholedig ar bob lefel, er mwyn iddynt allu ymateb i gamdriniaeth, o ystyried y fframwaith cyfreithiol presennol.

Nid wyf wedi gweld yr arolwg, ond wrth siarad amdano, nid yw'n rhywbeth sy'n peri unrhyw syndod imi, oherwydd rwy'n amau a oes unrhyw Aelod yma, ac ar draws pob plaid, sydd heb brofi cam-drin difrifol. Cefais gryn dipyn ohono yn ddiweddar—unigolion yn dweud wrthyf, ar fater diwygio'r Senedd, mai cell dan glo yw fy lle. Mae'n debyg mai dyna'r ffurf ysgafnach a mwy cymedrol o beth o'r cam-drin sydd wedi digwydd a'r iaith sy'n cael ei dioddef.

Mae yna wahanol agweddau ar hynny. Y peth cyntaf yw eich bod chi'n hollol iawn—rwy'n credu bod llawer iawn o bobl a hoffai wasanaethu mewn swydd gyhoeddus, ar ba lefel bynnag, sydd wedi dewis peidio am nad ydynt eisiau gwneud eu hunain a'u teuluoedd yn agored i'r math o gamdriniaeth a ddaw yn sgil hynny, yn enwedig drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n credu bod cyfryngau cymdeithasol yn her fawr. Fel pob peth, mae iddynt fanteision sylweddol ar gyfer cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth, ond hefyd, yn sicr—ac rydym wedi gweld hyn yn yr amgylchedd gwleidyddol yn rhyngwladol hefyd, nid yn lleol yn unig—maent yn cynnig ffordd o fygwth a brawychu. Mae yna gyfreithiau, wrth gwrs, sy'n darparu ar gyfer troseddoli rhai agweddau ar hynny, ond rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn a ddywedwch—rwy'n credu bod angen cryn feddwl o fewn ein proses ddemocrataidd, mae'n debyg, ynglŷn â sut y gallwn gynnal egwyddorion penodol mewn perthynas â cham-drin ar-lein. Mae deddfwriaeth wedi mynd drwy Senedd y DU, ond wrth gwrs, mae llawer ohoni'n ddarostyngedig i sut mae'r rhai sy'n berchen ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol ac yn eu rheoli yn gweithredu mewn gwirionedd. Ac fe wyddom, hyd yn oed o fewn hynny, fod yna fudd clir i rai, ac rwy'n rhoi hynny mor ddiplomyddol ag y gallaf.

Yn y Bil etholiadau, sy'n cael ei gyflwyno yn y Senedd hon, rydym wedi cryfhau mater dylanwad amhriodol, ac yn y blaen, o'i fewn. Ond rwy'n cytuno, pan fyddwn yn siarad am ein hiechyd democrataidd yn gyffredinol, fod gallu pobl i gymryd rhan a diogelu pobl, a diogelu hawliau sifil pobl hefyd i gymryd rhan ac i siarad yn rhydd o fewn hynny, yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu bod yr hyn a nodwch yn rhywbeth na allaf roi ateb i chi yn ei gylch, heblaw fy mod yn credu ei fod yn fater sylfaenol bwysig ar gyfer y dyfodol y mae'n rhaid inni roi sylw iddo, mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef ac mae'n rhaid inni ymdrin ag ef ar draws pob llywodraeth.

14:55

Mae menywod mewn gwleidyddiaeth yn dioddef cam-drin o'r fath i raddau anghymesur, a 12 mlynedd yn ôl, Bolivia oedd y wlad gyntaf yn y byd i greu trosedd benodol o gam-drin menywod mewn gwleidyddiaeth, ac mae hynny wedi'i efelychu mewn pedair o wledydd America Ladin. Ni allem gyflwyno'r gyfraith honno am fod cyfle cyfartal wedi'i gadw'n ôl, ond gallem gryfhau darpariaethau cyffredinol i atal camdriniaeth mewn gwleidyddiaeth, a fyddai wedyn o fudd i fenywod a grwpiau eraill—lleiafrifoedd ethnig, LGBTQ+ ac eraill—sy'n dioddef cam-drin o'r fath. Er enghraifft, gallem gymryd y drosedd newydd o fygwth cynrychiolwyr etholedig a'i chymhwyso nid yn unig yn ystod cyfnodau etholiad ond yn barhaol neu'n barhaus. Gallem ychwanegu at y drosedd honno drwy beidio â chyfyngu'r gosb i anghymhwyso rhag sefyll mewn etholiadau, ond cael cosb droseddol gyda dirwyon a charchariadau. Gallem gymryd y drosedd hirsefydlog o wneud datganiad ffug am ymddygiad neu gymeriad personol rhywun, ac ymestyn hynny hefyd y tu hwnt i gyfnodau etholiad a'i gymhwyso i ymddygiad gwleidyddol—er enghraifft, honni bod rhywun wedi pleidleisio un ffordd pan na wnaethant hynny mewn gwirionedd. Nid yw hynny'n anghyfreithlon ar hyn o bryd, ac mae'n rhywbeth sy'n ffynhonnell camdriniaeth. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol edrych ar yr holl syniadau hyn, ac edrych hefyd ar draws y byd—mae'r Oireachtas yn Iwerddon ar fin cynhyrchu ei adroddiad ei hun ar gyfranogiad diogel mewn bywyd cyhoeddus—a wnaiff edrych ar yr holl syniadau hyn, rhoi ystyriaeth iddynt ac adrodd yn ôl i'r Senedd os yw'n gweld rhinwedd mewn gweithredu unrhyw un o'r syniadau yma yng Nghymru?

A gaf i ddweud bod y pwynt a godwch yn hanfodol bwysig? Mae'n sicr yn rhywbeth sy'n cysylltu â mater y bûm yn sôn amdano'n barhaus, sef iechyd democrataidd. Rwy'n credu bod angen dadl barhaus ar ein hiechyd democrataidd. Daw rhywfaint o hynny gyda pheth o'r ddeddfwriaeth yr ydym yn ei chyflwyno, ond rwy'n hapus i edrych ar ffyrdd y gellir datblygu hyn o fewn y Senedd ac y gellir edrych arnynt o fewn y Senedd—a yw'n fwyaf priodol ar lefel y Senedd, un o bwyllgorau'r Senedd, ac ati, sydd wedyn yn gofyn am dystiolaeth gan Weinidogion a chyrff eraill, ac yn y blaen, sy'n archwilio hynny. Efallai mai dyna'r ffordd y dechreuwn y broses honno. 

Rhaid imi ddweud, mae pryderon gwirioneddol gennyf ynglŷn â sut y gallem wneud pethau o ran ein cymhwysedd, ac rwy'n credu bod ein cyfyngiadau cymhwysedd ynghylch materion ar-lein a meysydd eraill i gyd yn dechrau dod i'r amlwg ac yn gwneud hwn yn faes anodd iawn. Hefyd, mae hwn yn fater trawslywodraethol i raddau helaeth iawn ac un o'r materion—. Efallai y gallwn edrych ymlaen at weld sut y gellid codi hynny. Rwy'n credu ei fod wedi cael ei godi yn rhai o'r cyfarfodydd rhynglywodraethol mewn ffordd gyffredinol, ac rwy'n hapus i archwilio hynny ac efallai dod yn ôl atoch—rwy'n hapus i ysgrifennu atoch—ynglŷn â ble rydym arni gyda rhai o'r materion hynny, ac efallai archwilio beth allai fod yn ffordd ymlaen gyda hynny. Un o fy nghyfrifoldebau portffolio, wrth gwrs, yw'r cyfansoddiad. Credaf fod hynny'n cynnwys mater iechyd democrataidd o fewn cyfyngiadau ein setliad datganoledig, felly rwy'n barod i edrych ar hynny. 

Ymgyrch Hillsborough Law Now

3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn ag ymgyrch Hillsborough Law Now? OQ60615

A gaf i ddiolch i chi unwaith eto am godi hyn? Rwyf wedi codi amcanion ymgyrch Hillsborough Law Now gyda Llywodraeth y DU ar sawl achlysur, yn fwyaf diweddar yn y Grŵp Cyfiawnder Rhyngweinidogol yr wythnos diwethaf yng nghyd-destun yr achos dros ddyletswydd gonestrwydd statudol.

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb a hefyd am ei ymrwymiad hirsefydlog i frwydro dros gyfiawnder i bobl gyffredin, a diolch iddo unwaith eto am gefnogi cynsail cyfraith Hillsborough a'r ymgyrch i gyflawni hynny. Fel y dywedwch, Gwnsler Cyffredinol, byddai cyfraith Hillsborough yn gosod dyletswydd gonestrwydd gyfreithiol newydd ar awdurdodau cyhoeddus a swyddogion i ddweud y gwir ac i gydweithredu'n rhagweithiol ag ymchwiliadau ac ymholiadau swyddogol. Gyda hynny mewn golwg, a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol pa asesiad y mae wedi'i wneud o sut y bydd cyfraith Hillsborough nid yn unig yn dod â'r patrwm cyfarwydd o gelu a chuddio i ben, ond hefyd yn arbed arian cyhoeddus wrth wneud hynny?

A gaf i ddiolch i chi eto am gadw'r mater hwn ar y radar, oherwydd mae'n un pwysig iawn? Mae'n fater sy'n ymddangos hefyd ym Mil Dioddefwyr a Charcharorion Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, un o'r ffyrdd y mae'r Bil hwnnw'n ceisio mynd i'r afael â rhai o faterion Hillsborough yw drwy greu eiriolwyr annibynnol. Mae materion yn codi mewn perthynas â hynny sy'n achosi pryder, ac rydym wedi eu trafod ar lefel ryngweinidogol, yn enwedig mewn perthynas â'r setliad datganoli. Mae sgyrsiau ar y gweill ynghylch y Bil hwnnw a chydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n credu nad yw'r hyn sydd wedi'i gynnwys o fewn y Bil hwnnw hyd yn oed yn ymdrin â chyfraith Hillsborough mewn gwirionedd a'r materion sy'n cael eu codi yno. Rwy'n credu fy mod wedi dweud pan godwyd hyn yn flaenorol mai un o'r ffyrdd mwyaf syml o ddatrys hyn yw trwy sicrhau bod cymorth cyfreithiol ar gael i ddioddefwyr.

Hoffwn ddweud yn ogystal, er fy mod yn falch iawn o weld canlyniad adolygiad barnwrol Cymdeithas y Gyfraith heddiw o Lywodraeth y DU mewn perthynas â chymorth cyfreithiol, rwyf ond yn mynd i sôn am y rhan hon o'r dyfarniad, oherwydd er ei fod yn ymwneud â chyfraddau cymorth cyfreithiol a'r effaith y mae hynny'n ei chael, rwy'n credu bod hyn yn eithaf sylfaenol o ran yr hyn sy'n digwydd gyda'n system gyfiawnder, sy'n gwegian ac yn y bôn yn dechrau cracio ac yn dod yn destun anfri:

'Nododd y llys fod "corff o dystiolaeth drawiadol a chymhellol" wedi dod i law a oedd yn dangos "fod y system yn dechrau datgymalu'n araf bach". "Oni bai bod chwistrelliadau sylweddol o gyllid yn y dyfodol cymharol agos, nid yw unrhyw ddarogan y bydd y system yn cyrraedd pwynt lle bydd yn chwalu maes o law yn rhy besimistaidd."'

Mae hwnnw'n ddatganiad eithaf damniol gan uwch lys. Fe aethant ymlaen i ddweud bod 1,400 o gyfreithwyr ar ddyletswydd wedi gadael ers 2017, ac

'Rydym eisoes yn gweld nad oes digon o gyfreithwyr i gynrychioli pobl dan amheuaeth mewn gorsafoedd heddlu'..."Bydd yr anghydbwysedd rhwng yr amddiffyniad a'r erlyniad yn parhau i dyfu a bydd ymddiriedaeth y cyhoedd yn y system cyfiawnder troseddol yn parhau i wanhau."'

Mae hynny'n ymwneud â chwestiwn cynharach ynglŷn â Horizon, ond mae hefyd yn ymwneud i'r un graddau â mater Hillsborough a'r mater a godwyd gennyf sawl gwaith ynglŷn â mynediad at gyfiawnder.

15:00

Dwi wedi cytuno i gwestiynau 4, 5 a 6 gael eu grwpio. I ofyn cwestiwn 4, felly, John Griffiths. 

Datganoli Plismona

4. Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar ddatganoli plismona i Gymru? OQ60614

5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli plismona a chyfiawnder? OQ60593

6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau datganoli cyfiawnder a phlismona? OQ60588

Diolch am y cwestiwn. Fel y mae'r Llywydd wedi amlinellu, mae cwestiynau 4, 5 a 6 yn cael eu grwpio.

Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir. Rydym yn parhau i gefnogi datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, fel y mae'r comisiwn cyfansoddiadol wedi'i gefnogi yn ddiweddar. Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad cynnydd ar 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' cyn bo hir gyda rhagor o fanylion. 

Daeth Paul Davies i’r Gadair.

Gwnsler Cyffredinol, nid oes gennym system cyfiawnder troseddol sy'n addas i'r diben yng Nghymru a Lloegr, ac rwy'n credu bod yr achos wedi'i wneud yn dda iawn dros ddatganoli, a gwn y byddech yn cytuno â hynny. Ar hyn o bryd, mae pobl yn cael eu troseddoli'n ddiangen. Mae gennym garchardai gorlawn lle nad yw'n bosibl adsefydlu i'r graddau y dylai hynny ddigwydd. Mae hyn wedyn yn arwain at fwy o aildroseddu nag a fyddai'n digwydd fel arall. Gwyddom fod gan lawer o bobl broblemau iechyd meddwl, dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, sgiliau llythrennedd a rhifedd gwael a lefel wael o sgiliau yn gyffredinol. Mae'n anflaengar ac mae'n wrthgynhyrchiol, ac mae gwir angen dull mwy goleuedig arnom o weithredu cyfiawnder cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd i'n cymunedau fel y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo.

Mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi gwneud yr argymhelliad priodol, felly beth y gallwch ei ddweud wrthym yw eich asesiad o'r parodrwydd yng Nghymru ar gyfer datganoli o'r fath, a beth yw'r camau nesaf mwyaf uniongyrchol sydd angen eu cymryd?

Rwy'n credu mai un o'r anawsterau wrth siarad am ddatganoli plismona yw bod yn rhaid inni ddeall y gydberthynas rhwng plismona, sut mae plismona wedi newid dros y blynyddoedd, y ffordd y mae'n rhyngweithio â throseddu ieuenctid, â chymunedau cymdeithasol, â materion economaidd-gymdeithasol, ac yn y blaen. Mae'r datblygiad hwnnw wedi bod yn wirioneddol bwysig, ac mae datganoli cyfiawnder ieuenctid a datganoli prawf hefyd yn eich arwain i ddweud bod peidio â datganoli plismona hefyd yn afresymegol. Mae plismona wedi'i ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon, fel y mae yn yr Alban wrth gwrs. Mae yna ddatganoli plismona ym Manceinion ac eto yn Llundain. Felly, nid wyf erioed wedi deall y rhesymeg pam mae'r holl swyddogaethau datganoledig sydd gennym yn anghydnaws, neu'n cael eu hystyried yn anghydnaws â datganoli plismona.

Mae gennym bedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru wrth gwrs. Maent yn fater a gadwyd yn ôl. Ond pan fydd y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu etholedig yn dod at ei gilydd ac yn dweud bod angen datganoli plismona, ac yn cydnabod pwysigrwydd y gydberthynas a'r gwaith sy'n digwydd gyda swyddogaethau datganoledig, rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn gwrando ar hynny'n ofalus iawn, os ydych chi o ddifrif eisiau gweld plismona a'r gwaith cyfiawnder yn gweithio'n fwy cyson ac yn fwy effeithiol.

A gaf i ddweud mai'r cam a gymerwyd gennym ar hyn—? Roeddwn yn yr Alban am dridiau yn edrych ar y system tribiwnlysoedd, ond hefyd ar y system cyfiawnder ieuenctid, ac mae datblygiadau diddorol iawn yno, y byddaf yn siarad amdanynt ar achlysur arall o bosibl. Ond mae'r berthynas yno â phlismona, a dealltwriaeth o sut mae plismona'n gweithio, wedi ein harwain at y datganiad ar y cyd y cyfeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ato ychydig yn ôl. Mae'n ymwneud â'r ymchwil sy'n cael ei wneud, ymchwil a gomisiynwyd gennym gyda'r cyn Brif Gwnstabl Carl Foulkes, sy'n arwain adolygiad o blismona, y cyfleoedd o ddatganoli plismona, ymarferoldeb hynny. Oherwydd rwy'n credu mai ein cyfrifoldeb ni yn awr yw gwneud yr achos yn glir iawn drwy ddangos, 'Dyma beth fyddai'n wahanol, dyma beth fyddai'n well.' Wrth gwrs, mae yna faterion rhynglywodraethol yn codi ar draws y DU mewn perthynas ag agweddau arbenigol ar blismona—ni ddylai unrhyw un o'r rheini newid—ond rwy'n credu bod achos cryf iawn yno. Rydym yn gweithio i gyflwyno'r achos hwnnw, a bydd trafodaeth bellach ar hyn pan fydd casgliadau'r gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud ar gael a gallwn eu trafod yn y Senedd. 

15:05

Esboniodd John Griffiths yn huawdl pam mae angen inni weld datganoli cyfiawnder a phlismona nawr. Ddeng niwrnod yn ôl, ar 21 Ionawr, postiodd y Cwnsler Cyffredinol neges ar X yn dweud:

'Nid yw'r rhai sy'n gwrthwynebu datganoli cyfiawnder wedi cyflwyno unrhyw ddadl sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan honni'n unig "onid yw'n wych, onid ydym ni'n fendigedig, mae'r byd yn meddwl ein bod yn ardderchog!" Maent yn twyllo'u hunain!'

Diwedd y dyfyniad. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Cwnsler Cyffredinol yn ei sylwadau. Y diwrnod wedyn, aeth yr AS Llafur uchaf ei statws yng Nghymru, Jo Stevens, ar y BBC a dywedodd na fydd Llywodraeth Lafur newydd yn edrych ar ddatganoli plismona a chyfiawnder. Felly, a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod plaid Lafur Keir Starmer yn twyllo'i hun? 

Wel, a gaf i ddweud yn gyntaf fod y clip cyfryngau cymdeithasol y cyfeiriwch ato yn ymateb i glip a ddaeth gan y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland, cyn Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder? Y rheswm pam y gwneuthum hynny oedd oherwydd mai cywair yr hyn a oedd yn cael ei ddweud oedd, 'Edrychwch ar ein system gyfiawnder. Rydym yn cael ein parchu cymaint ledled y byd. Rydym bron yn gonglfaen i gyfiawnder ac ati. Pwy fyddai eisiau tanseilio hynny o ddifrif a datganoli cyfiawnder, gyda phopeth fel y mae?' A fy ymateb uniongyrchol i hynny yw, 'Na, nid yw hynny'n wir.' Mae ein system gyfiawnder yn destun gwawd ledled y byd bellach. Mae ein system cymorth cyfreithiol yn llawer gwaeth na mewn llawer o wledydd eraill yn y byd. Rydym yn agored i gamweinyddu cyfiawnder eang: llu o achosion unigol, gyda'r materion yr ydym wedi'u trafod, a gwarantau i weithredu, a'r materion a gawsom gyda sgandal Horizon, sy'n mynd ymlaen ac ymlaen. Mae gennym system gyfiawnder gydag ôl-groniadau, ac mae'r system cymorth cyfreithiol yn golygu nad yw'r mwyafrif o'r boblogaeth byth yn cael mynediad at y system gyfiawnder. Mae gennym Lywodraeth nawr sy'n pasio deddfwriaeth anghyfreithlon sy'n siarad am ddeddfu i dorri confensiynau rhyngwladol. Felly, dyna pam y credwn eu bod yn twyllo'u hunain. Mae unrhyw un sy'n dal i gredu'r hen fantra a oedd gennym 20, 30 mlynedd yn ôl am fam y seneddau a'r system gyfiawnder a roesom i'r byd—mae gennym rannau o'r byd sydd bellach yn meddu ar systemau cyfiawnder mwy effeithiol na'r hyn sydd gennym ni.

A gaf i ddweud, ar blismona—? Wel, edrychwch, y peth cyntaf yw bod adroddiad Gordon Brown yn glir iawn mai'r man cychwyn ar gyfer newid oedd cyfiawnder ieuenctid a phrawf. Mae mater plismona yn un y byddwn yn parhau i edrych arno. Byddwn yn parhau i roi tystiolaeth at ei gilydd. Byddwn yn parhau i ymgysylltu ar gyfer newidiadau y credaf eu bod yn anochel. Nid yw'r rhain yn bethau a fydd yn digwydd dros nos, ond rwy'n argyhoeddedig y byddwn yn cyrraedd yno ac y byddwn yn gweld y meysydd hynny'n cael eu datganoli—nid oherwydd ei bod yn frwydr rhwng pa un a yw San Steffan yn ei reoli neu a ydym ni'n ei reoli, ond oherwydd ei fod yn well i bobl Cymru. Mae'n well i'n cymunedau, mae'n ffordd well. Pe bawn i'n meddwl na fyddai'n gweithio ac y byddai'n waeth, buaswn yn dweud, 'Na, gadewch lonydd iddo.' Ond nid wyf yn credu hynny, a po fwyaf y byddaf yn ymwneud â'r system cyfiawnder ieuenctid a'r agweddau cyfiawnder a dedfrydu ac yn y blaen, y mwyaf y sylweddolaf, wrth ystyried y ffordd y mae'r rhain i gyd wedi'u hintegreiddio, a phan fo gennych gymaint o swyddogaethau datganoledig sy'n creu rhan fawr o'r system gyfiawnder, nad yw eu cadw ar wahân yn gwneud synnwyr.

15:10

Dwi'n cytuno gyda phopeth rŷch chi wedi dweud. A hefyd, dŷn ni'n anomaly yn y byd, onid ydyn ni, achos ni, siŵr o fod, yw'r unig wlad, dwi'n meddwl, sydd â deddfwrfa ein hunain, sy'n creu deddfwriaeth, ond sydd heb system o weinyddu ei chyfiawnder ei hunan a'i deddfwriaeth ei hunan. Dŷn ni wedi cael cymaint o adroddiadau nawr sydd wedi awgrymu y dylid datganoli cyfiawnder a phlismona. Pa drafodaethau brys ydych chi naill ai wedi eu cynnal gyda Llywodraeth San Steffan neu sydd yn eich dyddiadur ers cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a phryd dŷch chi'n meddwl y bydd hi'n rhesymol i ddisgwyl i Gymru gael y pwerau hanfodol hyn?

Ac yn olaf, ydych chi'n cytuno gyda fi nad mater ar gyfer anoracs cyfansoddiadol ydy sôn am ddatganoli system cyfiawnder a gweinyddu cyfiawnder? Byddai'r pwerau hynny yn gallu gwella safonau bywyd cymaint o bobl a sicrhau mwy o degwch yn ein gwlad. 

Diolch am eich cwestiwn. Wrth gwrs, pan fyddwch chi'n wynebu etholiad cyffredinol, pan fyddwch chi'n dechrau edrych ar y prif faterion, rwy'n deall eich bod eisiau nodi beth yw'r materion pwysicaf a mwyaf uniongyrchol. Ac wrth gwrs, mae yna faterion blaenoriaethol, ymbarél eang ac yn y blaen. Nid wyf yn credu ei bod yn wir fod cyfiawnder yn rhywbeth nad yw'n hanfodol. Rwy'n credu ei fod yn hanfodol bwysig. Ac mae'n hanfodol bwysig wrth edrych ar ein system gyfiawnder bresennol, sydd yn ystod y 14 mlynedd diwethaf—. Rydym wedi cynyddu poblogaeth ein carchardai o 45,000 i 90,000 ac rydym bellach yn bwriadu buddsoddi £400 miliwn arall i roi mwy fyth o bobl yn y carchar. Rydych chi'n gofyn lle mae'r terfyn? Os nad yw hynny'n arwydd fod y system gyfiawnder yn methu a bod rhywbeth mawr o'i le, mae gwir angen inni fynd yn ôl at y pethau sylfaenol i edrych ar y ffeithiau. 

Rydym yn dechrau codi'r pethau hyn yn y Grŵp Rhyngweinidogol dros Gyfiawnder ac wrth gwrs, byddant yn digwydd trwy drafodaethau eraill. Byddaf yn cadeirio'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn ddiweddarach ym mis Chwefror. Dyma un o'r materion y byddaf yn adrodd arnynt yno. Mae'n drafodaeth y mae angen ei chael, am yr holl resymau a gawsom yn y cyfraniad hir iawn a wneuthum yn gynharach, y gallwn weld y Llywydd yn rhythu arnaf o'i herwydd. [Chwerthin.]

Egwyddor Cydsyniad Deddfwriaethol

7. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ganfyddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru o ran egwyddor cydsyniad deddfwriaethol? OQ60627

Mae egwyddor cydsyniad deddfwriaethol yn ganolog i'r setliadau datganoli ac mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro byd fod angen diwygio confensiwn Sewel. Rydym yn ystyried argymhellion ystyrlon y comisiwn ar hyn.

Mae adroddiad y comisiwn, wrth gwrs, yn pwysleisio'r angen dybryd i ddiwygio confensiwn Sewel a'i roi ar sail statudol, fel nad yw San Steffan bellach yn gallu chwalu ein setliad datganoli a deddfu mewn meysydd datganoledig yn erbyn ewyllys ddatganedig y Senedd hon. Hoffwn ofyn, os gwelwch yn dda, am ychydig mwy o eglurder ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i weithredu'r argymhelliad hwn ac i'r Cwnsler Cyffredinol amlinellu cynllun i gyflawni hyn ar frys. Wrth gwrs, caiff egwyddor cydsyniad pellach ei thrafod yn yr adroddiad a dyma ddyfynnu'n uniongyrchol ohono:

'Dylai’r egwyddor mai undeb wirfoddol o genhedloedd yw’r DU fod yn fan cychwyn i unrhyw ystyriaeth o opsiynau cyfansoddiadol.... Felly, dylai pobl Cymru gael yr hawl i bennu dyfodol cyfansoddiadol eu cenedl.'

A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi felly fod hyn yn golygu y dylid datganoli'r hawl i benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru—yr hawl i gynnal refferendwm ar statws cyfansoddiadol Cymru—i Gymru, ac os felly, a wnaiff amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau hyn?

Wel, a gaf i ddweud, gan gymryd y pwynt olaf hwnnw yn gyntaf, rwy'n credu bod gan unrhyw blaid sy'n cael mandad ar gyfer y diwygiadau hynny a'r newidiadau hynny hawl i'w gweld yn cael eu rhoi gerbron y bobl? Mae hynny bob amser wedi bod yn wir, yn fy marn i. Rwy'n credu mai dyna hefyd yw'r safbwynt y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i gyflwyno, a rhaid bod hynny'n iawn, o ran ein system ddemocrataidd. 

Gan droi at Sewel, rwyf bob amser wedi disgrifio Sewel bron fel yr olew yn injan y car—yr holl elfennau gwahanol sy'n ffurfio'r pedair gwlad, yr olew sy'n eu galluogi oll i gydweithio. Wrth gwrs, mae torri amodau Sewel yn dechrau achosi i'r broses honno fethu, a dyna'r cyfeiriad yr ydym yn anelu tuag ato ar hyn o bryd, gyda'r holl achosion o dorri amodau Sewel sydd wedi digwydd.

Rhaid imi ddweud fy mod wedi fy mhlesio'n fawr gyda'r cyfraniad a wnaeth Gordon Brown yn ei adroddiad. Rwy'n falch iawn o'r cyfeiriadau ato yn adroddiad y comisiwn annibynnol, sy'n cydnabod, rwy'n credu, y pethau y buom yn eu dweud yn gyson ar hyd yr amser—ac nid ni'n unig: mae fforymau rhyngseneddol pob plaid wleidyddol wedi bod yn dweud yr un peth.

A gaf i ddweud hefyd, yn yr un cyfweliad ag y cyfeirioch chi ato, fy mod yn falch iawn ynghylch yr hyn a ddywedodd Jo Stevens am Sewel, pan siaradodd am gryfhau datganoli? Dywedodd, 'Wel, mae'n golygu, er enghraifft, gyda chonfensiwn Sewel, na fyddwch yn gweld gan Lywodraeth Lafur y DU yr hyn a welsom gan Lywodraethau Ceidwadol, lle maent yn chwalu'r setliad datganoli—y Ddeddf marchnad fewnol—gan ddeddfu ar bethau sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a'r Senedd. Fe welwch well cysylltiadau rhynglywodraethol. Fe welwch waith proffesiynol, cydweithio, ymddiriedaeth a pharch—a pharch nid yn unig at y sefyllfa nawr, ond yn y dyfodol.'

Nawr, rwy'n credu bod hwnnw'n ddatganiad pwysig iawn. Rwy'n credu ei fod yn arwain at y ffaith bod angen inni edrych ar sut yr atgyfnerthwn Sewel, yn unol ag argymhellion adroddiad Gordon Brown o bosibl, ond mewn ffyrdd eraill. Dyna yw ei statws. Nawr, wrth gwrs, o'r blaen roedd gennym gonfensiwn Ponsonby ar gytuniadau. Mae'n ddrwg gennyf swnio fel tipyn o 'nerd' cyfreithiol nawr. Ond wrth gwrs, cafodd hwnnw ei droi'n ddeddfwriaeth i sicrhau bod Senedd y DU yn cael cyfle i graffu mewn gwirionedd, ac rwy'n credu bod angen inni anelu yn fwy hirdymor tuag at rywbeth sy'n ei roi ar sail gadarn a chyfansoddiadol draddodadwy.

15:15
Deddf Iechyd Meddwl 1983

8. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith Deddf Iechyd Meddwl 1983 ar gleifion o Gymru sy'n defnyddio gwasanaethau yng ngwledydd eraill y DU? OQ60624

Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Deddf Iechyd Meddwl 1983 yw'r ddeddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud â gofal a thriniaeth iechyd meddwl. Mae gwasanaethau iechyd meddwl o ansawdd uchel i bawb yng Nghymru yn flaenoriaeth. Ein nod yw darparu gofal yn agos at adref lle bynnag y bo'n bosibl a lleihau'r angen am ofal cleifion mewnol trwy fuddsoddiad parhaus a gwasanaethau cymunedol.

Diolch am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Tynnwyd fy sylw at y ffaith ei bod yn arfer eithaf cyffredin i gleifion, a oedd ar un adeg yn cael eu cadw dan orchymyn y Ddeddf Iechyd Meddwl, gael eu trosglwyddo i gyfleuster yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig ar gyfer triniaeth iechyd meddwl glinigol. Mae hyn yn golygu y gallai claf o Ynys Môn, er enghraifft, gael ei drosglwyddo i gyfleuster triniaeth yng Nghernyw, heb unrhyw hawl i ofyn am gael ei drosglwyddo i rywle'n agosach at adref.

Hyd y gwn i, mae mwy o ryddid gan yr Alban ar ôl diwygiadau i'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn 2007, ond mae Cymru a Lloegr yn cael eu trin bron fel un endid. Gall hyn achosi straen a gofid pellach ymhlith cleifion sydd wedi cael eu cadw dan orchymyn a'u trosglwyddo i Loegr, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o bosibl oddi wrth ffrindiau a theulu. Efallai na fydd gan deuluoedd rhai cleifion fodd o deithio'r pellteroedd hyn i weld eu hanwyliaid, ac ni fydd y gofid a achosir o fod mewn amgylchedd estron mor bell i ffwrdd oddi wrth eu teulu'n helpu ymdrechion i wella eu salwch meddwl.

Mae un o fy etholwyr yn y sefyllfa hon, lle cânt eu cadw mewn cyfleuster triniaeth yn Lloegr, ac maent yn dymuno dychwelyd i Gymru. A all y Cwnsler Cyffredinol amlinellu pa gyngor a roddwyd gennych neu y gallech ei roi i'r Gweinidog iechyd ynghylch faint o ddisgresiwn sydd gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl wrth ystyried dewisiadau cleifion sydd wedi cael eu cadw dan orchymyn, pan fyddant yn dewis cael eu rhoi mewn cyfleuster triniaeth o fewn pellter rhesymol i'w cartref ac yng Nghymru? 

A gaf i ddiolch i chi am y cwestiwn atodol hwnnw? A gaf i ddiolch i chi hefyd am yr ymroddiad a'r sylw yr ydych wedi'i roi i iechyd meddwl? Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol fod gennych bleidlais i gyflwyno Bil Senedd sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Rydych chi wedi cael caniatâd i'w gyflwyno. Mae croeso mawr iddo ac rydym yn cydnabod yr ymrwymiad sydd gennych i hynny.

A gaf i ddweud bod angen cyfeirio'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a godwyd gennych at y Gweinidog priodol? Ond gallaf ddweud mai ein nod, fel Llywodraeth Cymru, yw sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal mor agos â phosibl at eu cartrefi a lleihau'r angen am ofal cleifion mewnol drwy barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £26.5 miliwn i fyrddau iechyd drwy welliannau i wasanaethau ac i wella argaeledd y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl. Hefyd, sefydlwyd gwasanaeth '111 pwyso 2' ar gyfer cymorth iechyd meddwl brys ac yn y blaen. Mae'r materion a godwyd gennych yn amlwg yn bwysig. Byddaf yn sicrhau bod y pwyntiau a godwch yn cael eu trosglwyddo i'r Gweinidog priodol ar hynny, gan y credaf ei bod yn briodol ei bod hi'n ymateb yn benodol i hynny.

15:20
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Mae'r cwestiynau heddiw i'w hateb gan y Llywydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan James Evans.

Rôl y Senedd

1. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu haddysgu am rôl y Senedd? OQ60606

Mae ein strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu'n gosod amcanion i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o rôl y Senedd. Y llynedd, gwnaethom ymgysylltu â 22,000 o bobl ifanc mewn sesiynau addysg a digwyddiadau'r Senedd Ieuenctid. Gwnaethom hefyd groesawu dros 150,000 o ymwelwyr i'r Senedd ac ymgysylltu â dros 6,000 o bobl yn ystod ein rhaglen sioeau haf a digwyddiadau. Mae rhan fawr o'n strategaeth cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud ag egluro ein gwaith i'r cyhoedd hefyd.

Diolch, Lywydd. Un peth sy'n fy nharo bob tro rwy'n mynd allan i ganfasio mewn gwirionedd, yw'r ffordd nad yw'r etholwyr yn ymwybodol weithiau o'r hyn y mae'r Senedd yn ei wneud mewn gwirionedd. Mae'n anhygoel faint o ddrysau yr wyf wedi curo arnynt sy'n dal i feddwl bod y gwasanaeth iechyd yn fater a gadwyd yn ôl yn San Steffan. Ond nid yw'n helpu pan fydd gennych bleidiau gwleidyddol—. Roeddwn mewn isetholiad yn fy etholaeth yn ddiweddar lle roedd ganddynt ymgeisydd etholiadol dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb yn y cyngor sut y byddai'n trwsio'r gwasanaeth iechyd a sut y byddai'n gwella economi Cymru. Nid yw'r pethau hyn wedi'u datganoli i gynghorau lleol; rwy'n siarad am faterion cenedlaethol. Felly, hoffwn wybod pa waith y mae'r Comisiwn yn ei wneud i ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol pan fyddant yn lledaenu anwireddau ar garreg y drws, gan fod hynny'n effeithio ar yr hyn y mae ein hetholwyr yn ei ddeall am rôl yr hyn a wnawn yma fel Aelodau o'r Senedd ar ran ein hetholwyr ar faterion sy'n effeithio ar Gymru.

Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt diddorol a heriol iawn yno, sy'n galw am lawer iawn o hunanddisgyblaeth ar ran bob plaid wleidyddol a phob gwleidydd. Faint o Aelodau Seneddol sy'n ysgrifennu at Weinidog yr Economi yma ar faterion sydd wedi'u datganoli i Weinidog yr Economi neu'r Gweinidog iechyd? Ac yn yr un modd, faint o Aelodau'r Senedd sy'n ysgrifennu, o bosibl, at Ysgrifennydd Gwladol, neu hyd yn oed at eu cyngor lleol i drwsio twll yn y ffordd ar stryd yn Llanrwst, neu rywle? Felly, ydw, rwy'n cytuno bod angen inni fod yn blaen, yn onest ac yn glir gyda'r etholwyr ynglŷn â phwy sydd â chyfrifoldeb dros beth, ac yn bendant mae gan bleidiau gwleidyddol ran i'w chwarae yn hynny. Ond rwy'n tybio bod hyn yn dechrau, yn anad dim, ar garreg ein drws ein hunain, a'n bod ni ein hunain yn glir iawn gyda'n hetholwyr, ar faterion sy'n ymwneud â'r system fudd-daliadau, fod angen iddynt siarad â'u Haelod Seneddol ac ar faterion sy'n ymwneud â thyllau yn y ffordd, fod angen iddynt siarad â'u cynghorydd lleol.

Ysgolion Dyffryn Clwyd

2. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i annog ysgolion yn Nyffryn Clwyd i ymweld â'r Senedd? OQ60626

Mae ymweliadau addysgol â'r Senedd ar gael i bob grŵp ysgol a choleg ledled Cymru. Mae archebion ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol ar gael ym mis Mehefin ac yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae ein cymhorthdal teithio yn darparu cymorth ariannol i'r rai sy'n cymryd rhan mewn ymweliadau addysgol sy'n teithio o'r tu allan i radiws o 10 milltir i'r Senedd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Ysgol Tremeirchion, Ysgol Gynradd Esgob Morgan ac Ysgol Uwchradd Dinbych dros y misoedd nesaf i'r Senedd—tair o ysgolion o'ch etholaeth chi.

Diolch am yr ymateb, Llywydd.

Rwy'n croesawu ymgysylltiad Comisiwn y Senedd ag ysgolion ledled Cymru i siarad ag Aelodau a dysgu am waith y Senedd ac i ddysgu, yn wir, am ddatganoli yng Nghymru. Rwy'n falch fod disgyblion Ysgol Gynradd Pant Pastynog ac Ysgol Tremeirchion yn fy etholaeth wedi ymweld â'r Senedd heddiw, sydd wedi bod yn brofiad cofiadwy i'r plant, rwy'n siŵr, er na allwn eu cyfarfod, yn anffodus, gan fy mod yn y Siambr am y rhan fwyaf o'r prynhawn. Mae cryn dipyn o ymgysylltu rhwng ysgolion ac Aelodau'r Senedd yn rhithiol, ond nid yw hynny'n cymharu â'r profiad go iawn wrth gwrs. Mae'n llawer mwy deniadol i ddisgyblion ysgol ymweld â'r Senedd yn bersonol, cael taith o amgylch yr adeilad, gwylio cwestiynau i'r Prif Weinidog, cymryd rhan mewn sesiynau sy'n cael eu cynnal ar gyfer disgyblion ysgol. Mae hyn i gyd yn gadarnhaol ar gyfer dyfodol datganoli, i blant ddysgu a chymryd rhan mewn democratiaeth yng Nghymru.

Yn fy nghyfnod yma yn y Senedd, fodd bynnag, ni fu llawer o ymweliadau ysgol o fy etholaeth. Rwyf wedi clywed gan ysgolion sydd wedi dweud bod trefnu ymweliadau â Senedd y DU yn broses haws, a bod y cyfle i wneud hynny yn cael ei hysbysebu'n well. Wrth gwrs, hoffwn i ddisgyblion Dyffryn Clwyd gymryd rhan lawn yng ngwleidyddiaeth Cymru lawn cymaint â gwleidyddiaeth y DU yn ehangach, ac mae eu cynefindra â'r sefydliad yn hanfodol ar gyfer hynny. Mae ymweliad â San Steffan yn sicr o adael mwy o argraff barhaol ar blant ysgol na galwad Zoom gyda'u Haelod o'r Senedd. Hoffwn ofyn, felly, Lywydd, beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael, fel y cymhorthdal teithio, fod ymweliadau personol â'r Senedd yn cael eu hyrwyddo i ysgolion, ac i bwysleisio pwysigrwydd addysgu disgyblion am sefydliadau democrataidd Cymru. Diolch.

15:25

Wel, yn fy amser i, pan fydd plant ysgol o fy etholaeth i wedi ymweld â'r lle hwn, maent wedi rhyfeddu wrth weld adeilad mor fodern a gwych lle cânt eu cynrychioli ynddo yng Nghymru, ac rwy'n credu bod cyfrifoldeb ar y Comisiwn, oes, i sicrhau bod y gallu i ymweld â'r Senedd yn hysbys i bob ysgol yng Nghymru, a'n bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau hynny, ond hoffwn awgrymu hefyd eich bod chi, fel Aelod lleol yn eich etholaeth, yn sicrhau bod eich ysgolion yn cymryd rhan lawn ac yn ymgysylltu'n llawn ac yn gallu ymweld â'r lle hwn hefyd. Mae llawn cymaint o groeso iddynt yma ag yn unrhyw le arall yng Nghymru, a gobeithio bod ganddynt lawn cymaint o ddiddordeb yn eu Senedd ag yn unrhyw le arall yng Nghymru.

4. Cwestiynau Amserol

Fe symudwn ni ymlaen nawr i eitem 4, sef cwestiynau amserol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Weinidog yr Economi, ac mae Joyce Watson i ofyn y cwestiwn. Joyce Watson.

Fferm Gilestone

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn perthynas â Fferm Gilestone yn dilyn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2024? TQ969

Ers y datganiad ysgrifenedig ar 29 Ionawr 2024, mae fy swyddogion wedi cyfarfod â Chyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg i drafod canfyddiadau'r adroddiad ar gadwraeth gweilch y pysgod. Mae'r cyngor cymuned yn gefnogol i ymgysylltu ar gynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol, cynlluniau y byddwn yn sicrhau eu bod yn parhau i gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n debyg y dylwn ddechrau drwy ddatgan fy niddordeb cofrestredig fel aelod o'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, oherwydd rwyf wrth fy modd ynghylch y gweilch. Fel ymwelydd rheolaidd â phrosiect gweilch Dyfi, rwyf wedi ei wylio'n tyfu'n fusnes bywyd gwyllt sy'n arwain y byd, gan ddenu nifer enfawr o ymwelwyr a diddordeb rhyngwladol, felly mae cyfleoedd economaidd yma sy'n werth eu harchwilio. Mae'r safle ei hun yn parhau i fod yn ased gwerthfawr, a buaswn yn croesawu diweddariad ar y camau nesaf y bwriadwch eu dilyn, yn enwedig helpu pobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd yn lleol. Wrth gwrs, mae gŵyl y Dyn Gwyrdd yn llwyddiant nodedig, yn hysbyseb wych ar gyfer cynnig diwylliannol Cymru, a dylai gael ei hyrwyddo gan bob Aelod o'r Senedd.

Ond ar fater cofrestru buddiannau, ac i fynd ar drywydd pwynt a wneuthum yma y llynedd, nodaf fod arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig bellach wedi cyflwyno 90 o gwestiynau ysgrifenedig ar y mater hwn, llawer mwy nag y mae wedi'u cyflwyno ar faterion fel dur, neu faterion fel gweithgynhyrchu. Roedd rhai o'r cwestiynau hynny'n cynnwys cyfeiriad at fuddiant a gafodd ei ddatgan, ond roedd yna lawer nad oedd yn gwneud hynny. Fe wnaeth ddatgan buddiant hefyd wrth gyflwyno cwestiynau, gan fethu gwneud yr un peth wrth godi'r mater ar lafar dros yr un cyfnod o amser. Felly, rwy'n gobeithio y gall yr Aelod egluro ei fuddiant a pham na lwyddodd i'w ddatgan wrth herio'r Prif Weinidog ar y mater yn y Siambr. A ydych chi'n cytuno, Weinidog, o ystyried budd y cyhoedd a'r ddadl ynghylch Fferm Gilestone, ei bod yn hanfodol sicrhau tryloywder ynghylch yr holl faterion hyn?

Diolch am y cwestiwn. Mae 90 cwestiwn ysgrifenedig yn nifer anhygoel i'w neilltuo i un pwnc. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod yr holl Aelodau'n glir pan fo ganddynt fuddiant, ac os nad ydynt wedi gwneud hynny, eu bod yn datgan hynny ar unwaith. Mae'n fater i'r cadeirydd a'r awdurdodau sy'n gyfrifol am weithdrefnau'r Senedd wrth gwrs, ac nid wyf am ymroi i weithredu fel pe bai'n benderfyniad a wneir gennyf i, ond bydd gan aelodau o'r cyhoedd eu barn eu hunain, rwy'n siŵr, am y mater y mae'r Aelod wedi'i godi.

Rwy'n credu bod tryloywder yn bwysig a thryloywder yw'r hyn y ceisiwn ei wneud mewn perthynas â Fferm Gilestone. Ac rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am ŵyl y Dyn Gwyrdd, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn derbyn y pwynt a wnaeth Joyce Watson. Mae gŵyl y Dyn Gwyrdd yn hysbyseb aruthrol i Gymru. Mae'n frand llwyddiannus iawn. Mae'n gwerthu ei holl docynnau o fewn oriau'n unig. Ac rwy'n dal i fod eisiau gweld busnesau o'r fath yn llwyddo yng nghanolbarth Cymru i ddarparu cyfleoedd economaidd a dyfodol economaidd i bobl ifanc ym Mhowys a'r canolbarth, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw.

Mae'n wych eich bod wedi ein hatgoffa, wrth gwrs, eich bod yn aelod o'r RSPB, a dyma'r tro cyntaf ers dros 200 mlynedd i weilch y pysgod nythu mor bell i'r de yng Nghymru. Pan ddaethom yn ymwybodol o'r mater ar ddiwedd haf 2023, fe wnaethom gymryd camau ar unwaith i geisio comisiynu adroddiad ac mae hynny'n ein harwain at ble rydym nawr. Ond er nad yw arweinydd yr wrthblaid yma, rwy'n siŵr y bydd wedi clywed y pwyntiau a wnaethoch ac y bydd am roi camau ar waith ei hun i ymdrin â'r mater.

15:30

Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am y datganiad a wnaethoch y diwrnod o’r blaen, ond mae’n gas gennyf ddweud bod rhywfaint o, 'Fe ddywedais wrthych mai fel hyn y byddai hi’, am hyn oll. Mae llawer o bobl yn fy nghymuned yn ddig iawn am y sefyllfa yr ydym ynddi.

Mae’n rhaid cwestiynu diwydrwydd dyladwy sylfaenol Llywodraeth Cymru ynghylch y pryniant hwn. Byddai ymarfer bwrdd gwaith sylfaenol ar Fferm Gilestone wedi dweud popeth yr oeddent angen ei wybod wrth swyddogion Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn rhoi'r holl fai arnoch chi, Weinidog, gan eich bod yn cael eich cynghori ar yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud. Ie, chi sy’n gwneud y penderfyniad yn y pen draw, ond byddai archwiliad sylfaenol o’r fferm honno wedi dweud wrthych fod problemau gyda hi o’r dechrau.

Cododd y gymuned bryderon o'r cychwyn am fioamrywiaeth a rhywogaethau ar y safle. Cawsant eu hanwybyddu. Felly, yr hyn yr hoffwn ei wybod gennych, Weinidog, yw: sut rydym yn mynd i fod mewn sefyllfa lle nad yw arian cyhoeddus—£4.25 miliwn o arian cyhoeddus—yn mynd i gael ei wastraffu eto? Rwyf wedi siarad ag asiantau tir lleol sy'n dweud bod y safle’n werth llawer llai bellach na’r hyn a dalodd Llywodraeth Cymru amdano, felly byddai gennyf ddiddordeb yn eich barn ar hynny a beth y credwch yw gwerth y safle bellach.

Fe sonioch chi yn eich datganiad hefyd eich bod yn mynd i ymgysylltu â phartneriaid am ddyfodol y safle. Tybed a allwch egluro i ni heddiw pwy yw’r partneriaid hynny a beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud ag ef, gan yr hoffwn wybod, fel Aelod lleol. Ac os gallwch fy nghadw'n rhan lawn o'r broses wrth symud ymlaen, credaf y byddai'n helpu gyda chyfathrebu â'r gymuned leol, byddai'n helpu gyda chyfathrebu â mi, a gallwn ddod o hyd i ddefnydd i'r fferm sy'n wahanol i'r hyn yr oeddech chi am ei defnyddio ar ei gyfer.

A hoffwn rannu'r pwyntiau hyn: mae gŵyl y Dyn Gwyrdd yn gaffaeliad mawr i Gymru; mae’n ased gwych i Gymru ac mae’n dod â llawer o refeniw i’m hetholaeth, ond buaswn yn cynghori Llywodraeth Cymru yn gryf, cyn ichi roi eich llaw yn eich poced eto i geisio sicrhau safle hirdymor ar gyfer ei dyfodol, y dylech wneud rhywfaint o ddiwydrwydd dyladwy sylfaenol, fel y soniais yn gynharach, fel nad ydych yn gwastraffu mwy o arian trethdalwyr.

Mae sawl pwynt i'w gwneud mewn ymateb. Y cyntaf yw nad oes arian cyhoeddus wedi'i wastraffu. Fe wnaethom gaffael ased am ychydig yn llai na'i werth ar y farchnad. Mae gennym denantiaeth fasnachol—tenantiaeth fasnachol busnes fferm ar y safle. Felly, mae'r safle'n cael ei defnyddio. Ac yn wir, rydym yn edrych ar y dyfodol mwy hirdymor ar gyfer gŵyl y Dyn Gwyrdd, sydd, fel y dywedaf, yn ased diwylliannol ac economaidd gwych i ganolbarth Cymru. Mae arnom angen mwy o fusnesau fel gŵyl y Dyn Gwyrdd, nid llai. A chredaf ei bod yn iawn mai cenhadaeth y Llywodraeth hon, a bargen twf canolbarth Cymru yn wir, yw creu mwy o gyfleoedd economaidd drwy gefnogi busnesau fel gŵyl y Dyn Gwyrdd i dyfu.

Rwy’n derbyn y pwynt a godwyd gan yr Aelod am ddicter, ac mae hynny wedi bod yn un o’m pryderon gwirioneddol ynghylch holl gynnydd y mater hwn. Mae llawer o’r dicter hwnnw wedi troi'n gamdriniaeth mewn ffordd eithaf gwarthus, ac mae’r Aelod ei hun wedi sôn am gamdriniaeth mewn gwleidyddiaeth yn y Siambr hon. Mae rhywfaint o’r dicter hwnnw wedi galluogi camdriniaeth gydag ychydig iawn i’w ddal yn ôl, ar wahân i aelodau ar y cyngor cymuned a rhai pobl yn y Siambr hon yn ceisio bod ar yr ochr iawn i ddadl gadarn ond gweddus. Mae wedi achosi i rai pobl gymryd saib o'u bywydau mewn gwasanaeth cyhoeddus. Ac rwy'n credu y dylai'r Aelod ystyried sut mae'n dymuno cyfathrebu â'i etholwyr ei hun a'r ffordd y mae'n aros ar yr ochr iawn i hyn. Rwyf wedi gweld gohebiaeth gan etholwyr yr Aelod yn honni fy mod wedi gwneud datganiadau nad wyf wedi’u gwneud, sydd wedi dod ganddo ef. Ac rwyf wedi cael sgwrs gydag ef y tu allan i'r Siambr hon. Mater iddo ef yw ei ymddygiad, ond dylai ddeall na fyddaf yn anghofio'r ffordd y mae wedi ymddwyn, ac rwy'n gobeithio am well ganddo yn y dyfodol. [Torri ar draws.]

Ac ar addasrwydd y safle, wrth gwrs, nid oedd gweilch y pysgod yno ym mis Awst. Nid oedd unrhyw broblem ynghylch diffyg diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â'r safle. Mae gan bobl hawl i anghytuno, fel y gwnânt wrth gwrs, ond nid oedd unrhyw arwydd o weilch y pysgod yno. Fel y dywedaf, dyma’r tro cyntaf ers mwy na 200 mlynedd iddynt nythu mor bell â hyn i’r de—mae hynny ynddo’i hun yn llwyddiant. Ac mewn gwirionedd, mae hynny ynddo'i hun hefyd yn rhan o'r broblem ynghylch ystyried gweilch y pysgod yn ased. [Torri ar draws.] Mae'r gymdeithas cadwraeth gweilch y pysgod eu hunain yn meddwl y gallai'r ffaith bod gweilch y pysgod yn nythu yno gynyddu gwerth y tir—[Torri ar draws.]

15:35

Hoffwn glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i’w ddweud ar hyn. Weinidog.

Diolch. Gyda'r potensial ar gyfer ecodwristiaeth a chadwraeth yn fantais bosibl, yn ogystal â'r denantiaeth busnes fferm. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg, gyda Chyngor Sir Powys, sy'n gwbl gefnogol i amcanion gŵyl y Dyn Gwyrdd ac sydd am eu gweld yn parhau ym Mhowys ac yn ehangu ym Mhowys. A byddaf yn trin yr holl Aelodau, gan gynnwys yr Aelod etholaeth, â pharch llawn, ac eto, ar yr un pryd, heb ofni bod yn gadarn lle ceir anghytundeb neu ymddygiad nad wyf yn credu y dylid ei ganiatáu'n ddiwrthwynebiad.

A gaf fi nodi ar y cofnod fy mod innau'n croesawu'r darganfyddiad hanesyddol o weilch y pysgod, sy’n rhywbeth cyffrous ac yn rhywbeth i’w groesawu? Fodd bynnag, nid oes unrhyw amheuaeth fod cwestiynau pwysig yn parhau i gael eu gofyn ynghylch pryniant Fferm Gilestone gan Lywodraeth Cymru. Ac ymhell cyn i unrhyw weilch y pysgod lanio, roedd y fferm hon yn destun dadlau.

Mae dweud bod ganddi hanes cythryblus yn danosodiad. Yn wir, fel y mae James Evans eisoes wedi nodi, byddai unrhyw chwiliad Google syml ar y fferm hon wedi dangos, yn y 15 mlynedd diwethaf cyn iddi gael ei phrynu gan Lywodraeth Cymru, ei bod wedi bod yn destun dadleuon cynllunio, adolygiadau barnwrol, achos yn y llys apêl, ymholiadau cynllunio, gan arwain hyd yn oed at ymddiswyddiadau yn y parc cenedlaethol, a’r perchnogion blaenorol yn cael eu gorfodi i adael y fferm. Gellir dadlau mai ychydig o ffermydd yng Nghymru sydd wedi bod yn destun anghydfodau lleol a chyfreithiol mor ffyrnig a dadleuol. Pe bawn yn prynu fferm yng nghefn gwlad Cymru, o ystyried hanes cymhleth y fferm hon, byddai hynny wedi canu larwm yn fy meddwl i.

Felly, Weinidog, roeddwn am ofyn un cwestiwn i chi, mewn dwy ran. O ystyried natur ddadleuol hanes y fferm hon, pa lefel o ddiwydrwydd dyladwy a gwblhawyd gennych cyn ichi gytuno i wario £4.25 miliwn o arian cyhoeddus? Ac a oedd hyn yn seiliedig ar achos busnes trwyadl?

Felly, cawsom achos busnes amlinellol am y cynigion gan ŵyl y Dyn Gwyrdd. Mae'n unol ag amcanion bargen twf canolbarth Cymru. Edrychais ar y cyfleoedd ar ddiwedd y flwyddyn honno, gyda’r gallu i ddefnyddio cyfalaf ac i weld a allai sicrhau ac ehangu busnes gŵyl y Dyn Gwyrdd ymhellach. Mae Archwilio Cymru wedi bod drwy hyn, ac ni fu unrhyw feirniadaeth o briodoldeb yr ased, nac yn wir o'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru bwerau i gaffael yr eiddo, nac yn wir pan gawsom gyngor annibynnol mwy proffesiynol i arwain y broses brynu, neu'n wir y gwerth a aeth i mewn iddo.

Rwy’n awyddus iawn ein bod yn parhau i gefnogi busnesau, a bydd hynny’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth ymyrryd yn y farchnad, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth gymryd risg ar wahanol adegau. Fel arall, mae gennym ddyfodol ar gyfer y canolbarth nad wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno'i weld. Mae angen inni ddefnyddio’r asedau sydd gan y canolbarth mewn ffordd sy’n wirioneddol gynaliadwy, ar gyfer ein hamgylchedd ac ar gyfer cymunedau, sydd angen gwaith a chyfle i gael mynediad at waith, a dyna pam y byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau fel gŵyl y Dyn Gwyrdd er mwyn sicrhau'r union ddyfodol hwnnw.

Diolch i'r Gweinidog. Fe symudwn ni ymlaen nawr i'r cwestiwn nesaf, sydd i'w ateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac mae Alun Davies i ofyn y cwestiwn. Alun Davies.

Y Cytundeb i Adfer Llywodraeth Ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon

2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o ran y cytundeb i adfer llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon? TQ974

Diolch am eich cwestiwn. A gaf fi ddweud fy mod yn siŵr fod pob un ohonom yn croesawu adfer unrhyw ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon, os yw pob plaid yn cytuno? Ond dim ond newydd ddarparu manylion y cytundeb y mae Llywodraeth y DU. Bydd angen inni sicrhau bod y goblygiadau ariannol, gweithredol a chyfansoddiadol i Gymru yn cael eu cydnabod a'u hystyried yn briodol gan Lywodraeth y DU.

15:40

Credaf y bydd pob un ohonom, ym mhob rhan o’r Siambr, yn croesawu’r cytundeb yr wythnos hon i adfer Llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon. Rwy’n tybio y bydd llawer ohonom yn derbyn bod pobl Gogledd Iwerddon wedi dioddef digon o ganlyniad i’r DUP yn ymgyrchu yn erbyn canlyniadau Brexit y gwnaethant hwy eu hunain ddadlau drosto.

Nid wyf yn disgwyl bod y Cwnsler Cyffredinol wedi cael cyfle i dreulio'r papur gorchymyn a gyhoeddwyd oddeutu dwy awr yn ôl, ond yn y papur hwnnw, 'Safeguarding the Union’, mae Llywodraeth y DU yn amlinellu’r holl ddarpariaethau gwahanol sydd bellach wedi'u cytuno â'r DUP ar gyfer adfer y Llywodraeth ddatganoledig. Roedd pob un ohonom yn gwybod y byddai Brexit yn tanseilio uniondeb ac undeb y Deyrnas Unedig, ac roeddem yn cydnabod ac yn croesawu cytundeb Windsor, a oedd yn gam pwysig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydnabod ei bod wedi camarwain pobl Gogledd Iwerddon, ac wedi gweithredu'n anonest tuag at ein swyddogion cyfatebol yn yr UE. Ac mae cytundeb Windsor wedi galluogi Llywodraeth y DU i symud ymlaen o'r argyfwng y buom ynddo dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond bydd rhywfaint o ganlyniadau sylweddol i Gymru o ganlyniad i'r cytundeb hwn. Rydym eisoes wedi clywed sibrydion am y trefniadau ariannol sy’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer Llywodraeth newydd Gogledd Iwerddon. Gwyddom hefyd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi newid yn unochrog yr egwyddorion ariannu y maent yn gwneud penderfyniadau oddi tanynt i ariannu gwahanol rannau’r Deyrnas Unedig. Cyn y newid hwn, roedd yn hanfodol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi a darparu rhesymeg dryloyw ar gyfer ariannu’r holl weinyddiaethau datganoledig. Maent wedi newid hynny’n ddiweddar er mwyn galluogi eu hunain i wneud taliadau yn ychwanegol at fformiwla Barnett i rannau unigol o’r Deyrnas Unedig. Mae angen inni ddeall beth yw’r fformiwla newydd sy’n seiliedig ar anghenion ar gyfer Gogledd Iwerddon, a sut y bydd yn effeithio ar gyllid parhaus Gogledd Iwerddon, gan fod llawer ohonom yma wedi bod yn dadlau dros fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion ar gyfer ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru hefyd. Ac nid yw'n iawn fod y cyhoedd yng Nghymru yn cael cam unwaith eto gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig nad yw'n malio dim am bobl y wlad hon.

Mae angen inni ddeall hefyd sut y bydd ymwahanu oddi wrth yr UE neu fel arall, mewn nwyddau a darpariaethau’r farchnad sengl, yn cael effaith ar fasnach yn y farchnad Brydeinig, gan y bydd canlyniadau os na cheir unrhyw ymwahanu oddi wrth reolau’r UE ar gyfer Gogledd Iwerddon, os ydym am sicrhau masnach hwylusach rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon, ar gyfer rheolau a rheoliadau ym Mhrydain. Mae angen inni ddeall gweithrediad fframweithiau cyffredin o hyn ymlaen hefyd, gan ein bod wedi cytuno ar gyfres o fframweithiau cyffredin gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth yr Alban. Bydd angen deall hynny hefyd.

Nid wyf am drethu amynedd y Cadeirydd dros dro ymhellach, felly hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru, wrth ateb y cwestiwn hwn, ymrwymo i wneud datganiad, neu gynnal dadl yn ystod amser y Llywodraeth, pan fo’n briodol, fel y gall pob un ohonom gael trafodaeth wybodus a dadl a dealltwriaeth o ganlyniadau’r cytundeb hwn i Gymru.

Rydych yn llygad eich lle. Ar rywbeth y mae'n amlwg fod ganddo ganlyniadau cyfansoddiadol sylweddol i Gymru, mae'n siomedig iawn na fu unrhyw ymgysylltu â ni ar hynny. Mae’n amlwg fod gennym ddiddordebau penodol iawn yn y materion sy’n cael eu trafod. Gwrandewais ar y ddadl ar hyn ar y radio y bore yma, ac wrth gwrs, y manylion sy'n bwysig, ac nid oedd unrhyw un yn gwybod beth fyddai'r manylion mewn gwirionedd.

Ond yn amlwg, mae materion sylweddol yn codi ynghylch y farchnad fewnol. A gaf i ddweud, gan fod Gweinidog yr Economi yma, nad oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn rhoi sylw manwl iawn i hyn? Heb os, fe fydd yn awyddus i edrych ar y goblygiadau sydd gan hyn, goblygiadau hyn i borthladdoedd, goblygiadau hyn i'r economi a’r farchnad fewnol ac yn y blaen.

Ond o ran yr hyn y gallaf ei ddweud ar y sefyllfa gyfansoddiadol, wel, wrth gwrs, mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn rhywbeth sy’n tanseilio’r fframweithiau cyffredin a’r trefniadau sydd ar waith. Mae'n amlwg yn bwysig iawn o safbwynt cyfansoddiadol—yn sicr, ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol—ei bod yn bosibl iawn y bydd cynrychiolwyr etholedig yng Ngogledd Iwerddon yn cymryd rhan unwaith eto yn y strwythur rhynglywodraethol hwnnw. Nodaf hefyd mai un o’r cynigion yw creu cyngor dwyrain-gorllewin y DU, ond gwelaf ei fod yn cael ei ddisgrifio yn nhermau Gogledd Iwerddon a Phrydain. Tybed ble fydd llais Cymru yn hynny, oherwydd yn amlwg, byddai hwnnw’n fater o gryn bwysigrwydd i ni.

Yn amlwg, rwy'n credu y bydd yna faterion ariannol pwysig yn codi. Mae fformiwla Barnett yn rhan o’n strwythur cyfansoddiadol. Rwy'n falch iawn o weld y sôn am sefydlu fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Ers pryd y buom yn dadlau dros fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion i Gymru? Felly, credaf mai'r cyfan y dylwn ei ddweud ar hyn o bryd, ar y pwyntiau penodol a godwyd gennych, yw bod hyn o bwys i Gymru, ei fod o bwys i’r berthynas gyfansoddiadol, y berthynas economaidd. Bydd y manylion yn bwysig iawn, a bydd angen edrych yn ofalus tu hwnt ar yr holl faterion a godwyd gennych, yn gwbl briodol, heddiw.

15:45

Credaf ei bod yn bwysig fod y cwestiwn hwn wedi’i gyflwyno heddiw, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi fy siomi gan iaith y Cwnsler Cyffredinol, ac yn wir, yr Aelod dros Flaenau Gwent wrth gyfeirio ato. Mae hwn yn ddiwrnod da; mae’n ddiwrnod da i ddatganoli, yn enwedig i bobl yng Ngogledd Iwerddon, sydd wedi bod yn crefu am adfer y Llywodraeth ddatganoledig, a Stormont yn wir. Credaf fod angen inni ganmol Syr Jeffrey Donaldson am lunio cytundeb, yn groes i ewyllys llawer o bobl yn ei blaid ei hun ac yn y gymuned unoliaethol, a gwneud y penderfyniad dewr a beiddgar hwnnw er mwyn cael y cytundeb hwn. Ac wrth gwrs, dylem dalu teyrnged hefyd i Rishi Sunak am y gwaith y mae ef yn bersonol wedi'i wneud er mwyn cael y cytundeb wedi'i drefnu. Gwyddom fod fframwaith Windsor wedi arwain at naid enfawr ymlaen. Gwyddom fod yr UE yn cefnogi’r cytundeb hwn hefyd.

Rwyf wedi edrych ar y papur gorchymyn. Fel chithau, Weinidog, nid wyf wedi cael amser i’w ystyried yn fanwl, ond mae’n amlwg iawn, yn y trefniadau newydd hyn, y bydd gan Gymru lais. Fe sonioch chi, Gwnsler Cyffredinol, am y cyngor dwyrain-gorllewin. Mae’n nodi y byddai hwnnw'n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o rannau cyfansoddol a Llywodraethau’r DU. Mae hynny’n iawn ac yn briodol, ac rwy'n gobeithio y bydd Cymru’n chwarae ei rhan lawn. Yr agwedd bwysig arall ar ei waith fydd Intertrade UK, y corff newydd a fydd yn cael ei sefydlu er mwyn diogelu ein marchnad fewnol yn y DU. Ac mae'n rhaid inni beidio ag anghofio na fu erioed unrhyw gwynion yn y Siambr hon am farchnad sengl yr UE, a gorfod rhoi rheolau penodol ar waith ar gyfer ein nwyddau a’n gwasanaethau er mwyn iddynt allu mynd i mewn i farchnad sengl yr UE. Felly, nid wyf yn gweld pam fod dadl mor enfawr yn erbyn y farchnad fewnol yn mynd rhagddi yma heddiw. Rwy’n sylweddoli y bydd goblygiadau i’n porthladdoedd, rwy’n sylweddoli y bydd goblygiadau i fasnach, a dyna pam ei bod yn bwysig sefydlu cyngor dwyrain-gorllewin lle mae llais gan Gymru, a bod busnesau Cymreig allweddol yn rhan o gorff Intertrade UK.

Mae un peth nad oes sôn amdano yn y papur gorchymyn, a chredaf fod hwn yn ddiffyg ynddo y gobeithiaf y gallai'r Cwnsler Cyffredinol ei godi gyda Llywodraeth y DU. Credaf fod angen cynulliad dwyrain-gorllewin i ddwyn y cyngor dwyrain-gorllewin hwnnw i gyfrif. Yn yr un modd ag y mae gennym y cyfarpar hwn gyda'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, sy'n gwneud y gwaith o ddwyn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i gyfrif, mae arnom angen sefydliad a strwythur tebyg i wneud y gwaith hwnnw hefyd. Felly, a gaf i ofyn i chi, Gwnsler Cyffredinol, beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod hynny'n nodwedd o'r trefniadau gweithio newydd, fel y gallwn roi cefnogaeth wirioneddol i'r gwaith a wnaed i ddod â'r datblygiad newydd hwn at y bwrdd heddiw, sydd, fel y dywedaf, yn newyddion da, yn enwedig i Ogledd Iwerddon, ond hefyd i undeb y Deyrnas Unedig?

Diolch am y sylwadau hynny. Mae'n ddrwg gennyf os oeddwn yn swnio fel pe bawn braidd yn galed arno. Credaf ei bod bob amser yn anodd pan fydd cam pwysig iawn yn digwydd, ac yn amlwg, fod iddo oblygiadau, ac na chafwyd yr ymgysylltu hwnnw, ac ymgysylltu a allai fod wedi digwydd, yn amlwg. Ond rydych yn llygad eich lle; mae'n ddiwrnod da iawn.

Rwy’n cofio ymweld â Gogledd Iwerddon ar sawl achlysur yn y 1970au, ac eto, yn fwy diweddar. Mae'r pontio a phwysigrwydd cael y sefydliadau democrataidd hynny yn ôl ar waith yn bwysig. Mae'n bwysig i'r DU gyfan; mae'n bwysig i holl wahanol bobloedd a chenhedloedd y DU. Rydym yn sylwi ar y diffyg gallu i gymryd rhan yn y cysylltiadau rhynglywodraethol sydd gennym, ac yn wir, cwblhad rhai o’r materion sy’n ymwneud â’r fframweithiau cyffredin.

Fe godoch chi'r pwynt, yn gywir ddigon, ynglŷn â llais Cymru, ac wrth gwrs, mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch beth ddylai llais Cymru fod—llais Cymru sy'n amlwg yn gysylltiedig â'r meysydd sydd wedi'u datganoli, felly mae'n rhaid cael strwythur cyfansoddiadol parchus a phriodol i hynny. Ond mae'r rhain oll yn faterion y mae'n amlwg fod angen eu hystyried yn ofalus tu hwnt. Rwyf wedi dechrau edrych ar y papur a gyhoeddwyd ddwy awr yn ôl yn llythrennol. Yn sicr, mae'n cynnwys llawer o amcanion fframwaith, felly, fel y dywedaf, bydd yn ymwneud ag union fanylion hynny.

Edrychaf ymlaen yn fawr, er enghraifft, at bresenoldeb Gogledd Iwerddon yn y Grŵp Rhyngweinidogol nesaf dros Gyfiawnder. Mae gennym gynrychiolwyr cyfreithiol Gogledd Iwerddon yno wrth gwrs, ond nodi ffeithiau a chanlyniadau yw'r unig ffordd y gallant gymryd rhan mewn gwirionedd, gan na allant wneud unrhyw beth o ran y polisïau, y polisïau diwygio, a threfniadau cyffredin ac yn y blaen.

Rydych yn codi pwynt diddorol ynghylch cynulliad dwyrain-gorllewin, ac rwy’n siŵr fod y rheini’n faterion y bydd Gweinidog yr Economi, a Gweinidogion eraill, yn ymchwilio’n fanwl iawn iddynt, ac y byddant yn ystyried yr holl faterion sy'n cael eu codi heddiw.

15:50

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno’r cwestiwn amserol hwn heddiw, fel y gwnaethom ninnau; mae’n bwysig inni gael cyfle i drafod hyn. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod innau hefyd ar ran Plaid Cymru yn croesawu'r newyddion fod Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd wedi cytuno i gytundeb i adfer rhannu grym yng Ngogledd Iwerddon? Hoffwn ddweud, serch hynny, ei bod wedi bod braidd yn anodd dygymod dros y misoedd diwethaf â'r ffaith iddynt wrthod mynediad deuol at farchnadoedd yr UE a’r DU, o ystyried mai dyna’r math o sefyllfa y byddem yn rhoi ein braich dde i fod ynddi yma yng Nghymru.

Serch hynny, edrychaf ymlaen, wrth gwrs, at weld Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon newydd yn cael ei phenodi maes o law, a dylwn ychwanegu hefyd fod penodi Prif Weinidog o Sinn Féin yn cynrychioli newid sylweddol yng ngwleidyddiaeth yr ynysoedd hyn. Mae adfer datganoli yng Ngogledd Iwerddon yn achlysur i’w ddathlu, ac rwy'n dymuno'r gorau i’n cyfaill Michelle O’Neill yn ei swydd.

Ond mae telerau’r cytundeb a arweiniodd at adfer yn codi cwestiynau i ni yng Nghymru, a thra bo angen inni graffu ymhellach ar y cytundeb, mae rhai cwestiynau uniongyrchol yr hoffwn eu gofyn i’r Gweinidog y prynhawn yma. A oes gennym unrhyw syniad ar hyn o bryd ynglŷn â beth y gallai telerau’r cytundeb ei olygu'n ymarferol i weithrediad fframwaith Windsor, a beth fydd y goblygiadau ar gyfer rheoliadau masnach allweddol a gwiriadau nwyddau, y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt wrth gwrs?

Mae’r Gweinidog wedi nodi'n glir ei fod yn cytuno â mi, o ystyried yr effaith bosibl ar feysydd lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli, y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cael mwy o fewnbwn gyda negodi’r cytundeb hwn, gydag ymgysylltu â’r cytundeb. Tybed a oes syniadau ar sut y symudwn ymlaen o hyn er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o hynny.

Ac yn olaf, a yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn amlwg fod y pecyn ariannol o £3 biliwn sy'n sail i'r cytundeb yn cynnig setliad ariannu mwy ffafriol i Ogledd Iwerddon nag sydd gennym yma yng Nghymru? Pryd y cawn wybod pa gyllid canlyniadol a ddaw i Gymru yn sgil y pecyn hwn, a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ymarferol i geisio sicrhau hynny?

Diolch am y pwyntiau hynny. Mae’n debyg mai’r gwir amdani yw y byddwn yn gwybod mwy am y canlyniadau ariannol hynny pan fyddwn yn gwybod mwy am y manylion. Gwn fod rhywfaint o waith eisoes wedi mynd rhagddo. Mae'n amlwg iawn fod rhywfaint o'r swm hwnnw'n ymwneud â dyfarniadau cyflog yn y gorffennol, cyllid canlyniadol a ddarparwyd yn y gorffennol ledled y DU, ond nad oedd modd ei weithredu o fewn Gogledd Iwerddon. Felly, nid yw'n glir ai'r cyfan sy'n digwydd mewn gwirionedd yw bod ôl-groniad yr holl bethau hynny yn cael ei ddarparu gyda'i gilydd er mwyn gwneud iawn am yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Ar Ddeddf y farchnad fewnol wrth gwrs, rydym yn awyddus i wybod sut mae hynny'n gweithio. A dweud y gwir, credaf ein bod am ei gweld yn cael ei dileu, a newid yn ôl i'r fframweithiau cyffredin sydd wedi’u gwthio i'r naill ochr o ganlyniad i’r Ddeddf honno.

O ran beth yw'r goblygiadau i gytundeb Windsor—. Wel, a gaf i ddweud, yn gyntaf, fy mod yn credu eich bod yn llygad eich lle? Yr hyn y mae Gogledd Iwerddon bellach wedi llwyddo i’w negodi yw holl fanteision bod yn yr UE, manteision yr ydym ni wedi’u colli, yn ogystal ag unrhyw fanteision sydd i'w cael mewn perthynas â marchnad fewnol y DU. A dweud y gwir, bron nad ymddengys i mi mai’r hyn sydd wedi digwydd yw bod Brexit wedi’i ddiddymu bron at ddibenion trefniadau Gogledd Iwerddon, ac mae hynny’n amlwg yn newyddion da iawn yn economaidd i Ogledd Iwerddon. Yn amlwg, bydd ystyriaethau y gwn y bydd Gweinidogion eraill yn eu hystyried o ran y materion masnach, trefniadau trawsffiniol, ac yn y blaen, ac rwy’n siŵr y bydd datganiadau gan Weinidog yr Economi, a heb os, gan y Prif Weinidog maes o law ynghylch hyn a’r canlyniadau.

Y tu hwnt i hynny, mae arnaf ofn mai ychydig iawn y gallaf ei ddweud, mae'n debyg. Fel y dywedaf, dogfen fframwaith i raddau helaeth yw'r ddogfen hon, nad ydym ond newydd ei gweld; bydd y manylion yn hollbwysig. Ond mae angen inni ystyried yn ofalus iawn beth yw’r manylion hynny a’u goblygiadau i Gymru. Ond i ailadrodd y man cychwyn efallai, mae hwn yn ddiwrnod da iawn, a dylai pob un ohonom ei groesawu i Ogledd Iwerddon.

15:55
5. Datganiadau 90 Eiliad

Fe symudwn ni ymlaen, nawr, at eitem 5, sef datganiadau 90 eiliad. Jayne Bryant.

Mae hi'n Wythnos Lleoliadau Annibynnol, ac mae Casnewydd yn falch o fod yn gartref i sîn gerddoriaeth annibynnol ffyniannus. Mae Le Pub yn enghraifft o lwyddiant gan ei fod yn dangos sut y gall ymagwedd gydweithredol fynd o nerth i nerth, ac mae’n amser cyffrous i leoliad newydd y Corn Exchange, a arweinir gan fenywod. Ac eto, mae gormod o leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad ledled y DU wedi cau yn y blynyddoedd diwethaf. Byddai mwy o leoliadau wedi cau heb gymorth a chyllid ystyrlon gan sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch o allu cynnal lansiad adroddiad blynyddol yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, eu digwyddiad cyntaf erioed yma yn y Senedd. Mae’r adroddiad yn nodi bod bron i 1.3 miliwn o bobl wedi mynychu digwyddiadau mewn lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru y llynedd, gan gyfrannu dros £24 miliwn i economi Cymru. Mae bandiau, lleoliadau, peirianwyr sain, ffotograffwyr a labeli recordiau oll yn dibynnu ar leoliadau llawr gwlad, a bydd ein cymunedau yn ffynnu os ydym yn cydnabod eu gwerth i gymdeithas. Mae’r wythnos hon yn ein hatgoffa nad yw'n rhy hwyr i weithredu er mwyn sicrhau bod ein lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu.

6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 6, sef cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17 mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Heledd Fychan.

Cynnig NDM8466 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.17(iii), yn cytuno y dylai trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gael eu hystyried gan Bwyllgor o’r Senedd Gyfan.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does dim gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi

Fe symudwn ni ymlaen, felly, at eitem 7, sef cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau cydgrynhoi. Dwi unwaith eto yn galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol. Heledd Fychan. 

Cynnig NDM8472 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26C, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw: a ddylid diwygio'r Rheolau Sefydlog? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG

Symudwn ni ymlaen at eitem 8 ar ein hagenda, sef dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y gwasanaeth iechyd gwladol. Dwi'n galw ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8434 Mabon ap Gwynfor

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf corff rheoleiddio.

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

a) sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir;

b) diffinio beth yw rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac

c) ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol.

Cynigiwyd y cynnig.

Dwi'n cynnig yn ffurfiol. Yr NHS ydy un o lwyddiannau mwyaf y ganrif ddiwethaf o ran gwasanaethau cyhoeddus. Mae sicrhau gwasanaethau meddygol am ddim i bawb wedi gwneud ein bywydau ni i gyd yn well ac yn fwy diogel. Wrth reswm, mae'r NHS yn sefydliad anferth ac yn gofyn am weithwyr sydd â phob math o arbenigedd a galluoedd gwahanol. O lanhawyr i feddygon ymgynghorol, a phopeth arall rhwng y ddau, mae yna amrywiaeth eithriadol o bobl yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd, ac maent yn cael eu dwyn i gyfrif i'r safonau uchaf, fel y dylen nhw. Fodd bynnag, ni ellir dweud yr un peth am y rheolwyr sy'n gwneud y penderfyniadau sy'n gallu cael effaith fawr ar drefniadau gweithredu'r gwasanaeth hwn sy'n achub bywydau o ddydd i ddydd. 

Ers degawdau, rydyn ni wedi gweld ymroddiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol di-ri—meddygon, nyrsys, therapyddion, a llawer iawn o weithwyr eraill—sy'n ymroi'n llwyr i ddiogeli iechyd y cyhoedd. Ac eto, mae eu hymdrechion yn cael eu llesteirio’n aml gan system sydd ddim yn ddigon atebol ar lefel reoli. Mae'n hen bryd inni sicrhau newid dewr ac angenrheidiol, sef sefydlu corff rheoleiddiol i reolwyr yr NHS, yn debyg i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer meddygon neu Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer athrawon.

Mae gwahanol broffesiynau yn gweithredu o fewn fframwaith cyrff rheoleiddio cadarn. Mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr yn sicrhau ymddygiad moesegol a chymhwysedd ymysg cyfreithwyr, gan ddiogeli ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cynnal y safonau ymarfer meddygol uchaf, gan flaenoriaethu diogelwch cleifion a phroffesiynoldeb. Yn yr un modd, mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn hyrwyddo addysg o ansawdd, gan hyrwyddo llesiant myfyrwyr ac athrawon. Mae'r cyrff hyn yn gwella safonau proffesiynol, wedi rhoi hyder i'r cyhoedd ac wedi meithrin diwylliant o ymarfer moesegol o fewn eu meysydd perthnasol. Felly, gallwn weld bod yna ddolen hanfodol yn y gadwyn hon o atebolrwydd heb ei reoleiddio o gwbl, sef y rheolwyr sy'n goruchwylio'r gweithwyr proffesiynol hyn ac yn llywio diwylliant ein sefydliadau gofal iechyd.

Ystyriwch achos bwrdd Betsi Cadwaladr, sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig ddwywaith oherwydd methiannau systemig, neu’r digwyddiadau trasig yng Nghwm Taf, lle na roddwyd sylw i rybuddion am ofal mamolaeth annigonol, gan arwain at farwolaethau y gellid bod wedi’u hosgoi. Nid yw’r rhain yn ddigwyddiadau neilltuol, maent yn ein hatgoffa fod ein system bresennol, heb oruchwyliaeth briodol ar drefniadau rheoli, yn caniatáu i ddiwylliant o dawelwch ac anghosbedigaeth gronni, gan beryglu diogelwch a llesiant cleifion yn y pen draw.

Pam y dylai athrawon, cyfreithwyr a meddygon orfod cydymffurfio â chodau moesegol a phrosesau disgyblu trwyadl, tra bo'r rheini sydd wrth y llyw yn ein system gofal iechyd yn gweithredu mewn gwagle rheoleiddiol? Mae'r ateb yn glir: mae'n annerbyniol. Mae arnom angen system sy’n ennyn hyder cleifion a’r cyhoedd, gan wybod y bydd eu pryderon yn cael eu clywed ac yr eir i'r afael â hwy. Mae arnom angen system sy’n sicrhau atebolrwydd ac sy’n amddiffyn y chwythwyr chwiban sy’n tynnu sylw at gamweddau, gan atal trasiedïau yn y dyfodol.

Dyna pam fy mod yn cynnig sefydlu corff rheoleiddio penodedig tebyg i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol neu Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer rheolwyr y GIG. Ni fyddai’r corff hwn yn fraich gosbol, ond byddai'n amddiffyniad hanfodol i gleifion, staff a’r GIG ei hun. Dychmygwch fframwaith sy'n nodi safonau moesegol clir a chod ymddygiad cadarn ar gyfer holl reolwyr y GIG; sy'n sefydlu system annibynnol, dryloyw ar gyfer ymdrin â chwynion ac ymchwiliadau; sy'n grymuso bwrdd a chanddo gryfder ac annibyniaeth i ddwyn rheolwyr i gyfrif am fethiannau; sy'n darparu prosesau disgyblu teg a chyfiawn er mwyn sicrhau sancsiynau priodol am gamymddwyn; ac sy'n hyrwyddo diwylliant o ddysgu a gwella, gan feithrin datblygiad proffesiynol parhaus.

Nid ymosodiad ar reolwyr unigol mo hwn, ond galwad am GIG cryfach a mwy gwydn. Drwy ddod â rheolwyr o dan yr un safonau trwyadl â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, rydym yn dyrchafu'r system gyfan, yn diogelu cleifion rhag niwed, yn grymuso staff i leisio pryderon ac yn adeiladu diwylliant o hyder a pharch.

Mae arnom angen corff annibynnol ymroddedig sydd â'r dannedd i ddwyn rheolwyr i gyfrif a'r sensitifrwydd i feithrin diwylliant o welliant. Nid yw hyn yn ymwneud â chreu beichiau gweinyddol neu fygu arloesedd, mae'n ymwneud â sicrhau bod pob penderfyniad, pob cam gweithredu yn blaenoriaethu diogelwch a lles cleifion. Mae'n ymwneud ag adeiladu GIG lle mae staff wedi'u grymuso i godi eu llais, lle eir i'r afael â phryderon yn gyflym ac yn effeithiol, a lle mae methiannau'n arwain at atebolrwydd a dysgu. Mae'n ymwneud â chreu gwaddol o atebolrwydd go iawn yn y GIG. Gwaddol sy'n deilwng o'r hyder sydd gennym ynddo. Gwaddol lle mae pob bywyd, pob stori, pob pryder yn cael ei glywed a chamau'n cael eu cymryd i'w unioni. Gwaddol lle mai'r hyn sy'n hollbwysig yw iechyd a lles ein dinasyddion, nid biwrocratiaeth neu fudd personol.

A allwch chi ddychmygu llawfeddyg yn rhoi llawdriniaeth heb oruchwyliaeth? Nyrs yn dosbarthu meddyginiaeth heb ei gwirio neu therapydd yn cynnig triniaeth heb unrhyw graffu? Mae'r senarios hyn y tu hwnt i amgyffred. Ym maes gofal iechyd, mae rheoleiddio proffesiynol trwyadl yn diogelu cleifion a gweithwyr proffesiynol, ac eto, mae dolen hanfodol ar goll o hyd—rheolwyr y GIG. Mae'r unigolion sy'n arwain yr union weithwyr proffesiynol hyn ac sy'n llywio diwylliant ysbytai a chlinigau yn gweithredu mewn gwagle rheoleiddiol i raddau helaeth.

Mae'r anghysondeb hwn yn amlwg ac yn broblemus. Mae meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael eu dwyn i gyfrif, a hynny’n gwbl briodol, yn ôl y safonau uchaf, gan sicrhau y cedwir at godau moesegol a chymwyseddau. Mae hyn yn diogelu cleifion, yn meithrin datblygiad proffesiynol, ac yn adeiladu hyder y cyhoedd. Ond nid oes gan reolwyr y GIG, sydd â dylanwad enfawr dros ddyrannu adnoddau, penderfyniadau staffio a darparu gwasanaethau, fframwaith rheoleiddio tebyg. Nawr yw’r amser i gael trefn reoleiddio deilwng a chadarn i reolwyr y GIG. Gadewch inni ddangos heddiw ein bod yn unedig yn ein hymrwymiad i ddiogelwch cleifion, grymuso staff, a GIG gwirioneddol iach i bawb, ac adeiladu system lle mae pob penderfyniad, pob cam gweithredu, yn adlewyrchu gwerthoedd didwylledd, gonestrwydd, uniondeb, ac yn bwysicaf oll, yr hawl sylfaenol i iechyd ac urddas. Diolch.

16:05

Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol gan Aelod heddiw. Fel eiriolwr gydol oes ar ran ein hannwyl GIG yng Nghymru, ynghyd â’m cyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig ar y meinciau hyn, rydym yn credu’n gryf ym mhotensial di-ben-draw'r GIG, ond nid yw'r potensial ond yn ffynnu pan gaiff ei feithrin gan atebolrwydd, rhagoriaeth ac ymrwymiad ar y cyd i wasanaethu’r bobl sy'n dibynnu fwyaf arno. Dyna pam fy mod i a fy ngrŵp yn cefnogi’r cynnig hwn yn llawn, gan fod hyn wedi’i gynnwys ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, felly mae’n hyfryd gweld bod yr Aelod wedi bod yn darllen ein maniffesto ac yn nodi'r darnau gorau ohono ac yn awyddus i sicrhau ei fod yn dwyn ffrwyth.

I sefydlu corff rheoleiddio penodedig ar gyfer rheolwyr y GIG yng Nghymru—nid ymarfer biwrocrataidd mo hwn, mae'n gam trawsnewidiol tuag at ddyfodol mwy disglair, mwy atebol i'n system gofal iechyd yma yng Nghymru. Am lawer gormod o amser, mae pryderon wedi bod ynglŷn â rheolaeth y GIG, mae penderfyniadau wedi'u gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig, a rhwystredigaeth pobl heb arwain at ddim heblaw tawelwch. Weithiau, ni chaiff cwestiynau ynghylch cymhwysedd mo'u hateb. Nid yw hon yn system sy’n ennyn hyder, ac nid yw ychwaith yn grymuso’r rheini sydd â'r mwyaf i'w golli: cleifion, staff a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig—a gwn, bellach, fod yr Aelod hefyd—yn credu mewn llwybr gwahanol, un sy’n cael ei lywio gan safonau clir, atebolrwydd teg, a hyder newydd, llwybr a grëwyd drwy sefydlu’r corff rheoleiddio penodedig hwnnw a chanddo rym i ddiffinio a chynnal rhagoriaeth broffesiynol, nid drwy ddisgwyliadau niwlog, ond drwy fframwaith cadarn sy’n amlinellu’r hyn y mae bod yn rheolwr GIG yma yng Nghymru yn ei olygu mewn gwirionedd, rhywun sy’n hyrwyddo gofal cleifion, yn meithrin cydweithio ac yn croesawu tryloywder a didwylledd yn y system. Credwn y bydd hefyd yn darparu llwyfan i atebolrwydd, fel y dywedais yn gynharach, nid drwy hunanasesiadau ac nid drwy ystrydebau, ond drwy gorff teg ac annibynnol wedi’i rymuso i ymchwilio i gwynion a chyhoeddi sancsiynau a sicrhau nad oes lle i berfformiad gwael yn ein GIG yma yng Nghymru.

Gallwn ailadeiladu hyder fricsen wrth fricsen, nid drwy ffydd ddall, ond drwy system sy’n grymuso ein cleifion a’n staff i gymryd rhan, i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, ac i wybod bod eu pryderon yn bwysig, yn ogystal â phryderon y chwythwyr chwiban sy’n gweithio yn ein GIG ac sydd am hysbysu pobl am arferion rheoli gwael. Byddai corff annibynnol yn caniatáu i hynny ddigwydd ac yn rhoi hyder i chwythwyr chwiban godi’r pryderon hynny.

Mae a wnelo'r cynnig hwn ag adeiladu diwylliant o welliant, tirlun arweinyddol lle caiff pob penderfyniad ei roi ar waith a'i ddal i'r safonau uchaf. Ond mae a wnelo ag arfogi ein rheolwyr â'r fframwaith sydd ei angen arnynt i ragori, gan wybod bod ganddynt y cymorth a'r atebolrwydd i arwain yn hyderus yn ein byrddau iechyd ac yn ein lleoliadau ysbyty. Efallai y bydd rhai'n dadlau: a yw hyn yn tanseilio hyder yn ein rheolwyr yn y GIG? Ni chredaf ei fod yn gwneud hynny o gwbl. Mae'n ei gryfhau. Mae’n dangos ein bod yn gwerthfawrogi eu rôl, ein bod yn credu yn eu potensial, a’n bod yn buddsoddi yn eu llwyddiant. Drwy sefydlu disgwyliadau clir a darparu system deg ar gyfer adborth ac atebolrwydd, rydym yn grymuso rheolwyr i arwain yn hyderus, gan wybod bod ganddynt y cymorth a’r fframwaith o’u cwmpas i wneud y penderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud.

Rwy'n agos iawn. Nid mater gwleidyddol mo hwn—mae'n fater dynol. Mae a wnelo â sicrhau bod pob claf ym mhob cwr o Gymru yn cael y gofal gorau posibl. Mae a wnelo â sefyll dros ein staff ymroddedig sy'n rhoi eu calonnau a'u heneidiau i'r GIG, ac yn gyfnewid am hynny maent yn haeddu system sy'n eu gwerthfawrogi. Gwn y gall y Gweinidog—. Rwy’n agos iawn at y diwedd, Ddirprwy Lywydd—

16:10

Iawn. Gwn efallai y bydd y Gweinidog yn poeni am gostau, ond rwy’n adnabod fy ngrŵp, ac rwy’n siŵr yr hoffai’r Aelod sy’n gyfrifol am hyn eistedd gyda’r Gweinidog i drafod sut y gallwn ariannu hyn, gan fy mod yn credu o ddifrif y gall hyn wneud gwahaniaeth clir a gwella’r lefelau rheoli yn ein GIG yma yng Nghymru.

Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro.

Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i’r ddadl hon, a diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno’r cynnig. Amcan trosfwaol rheoleiddio proffesiynol yw diogelu'r cyhoedd. Mae’n system statudol, sy’n annibynnol ar y Llywodraeth. Mae'n rhaid i unrhyw fframwaith sy’n cyflwyno trefniadau rheoleiddio statudol newydd ar gyfer gweithwyr y GIG, yn y lle cyntaf ac yn bennaf oll, gefnogi a gwella diogelwch y cyhoedd. Mae'n rhaid iddo ennyn hyder unrhyw un sy'n mynegi pryderon, a'r cyhoedd yn arbennig. Mae sicrhau bod rheoleiddio statudol yn darparu’r dull mwyaf effeithiol a chymesur o ddiogelu’r cyhoedd ymhellach yn ganolog i unrhyw ystyriaeth i reoleiddio proffesiwn newydd. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae’r system reoleiddio bresennol at ei gilydd yn un ar gyfer y DU gyfan. Mae manteision clir i fframwaith ar gyfer y DU, gan ei fod yn sicrhau safonau addysg a phroffesiynol cyson ac yn galluogi symudedd parhaus y gweithlu iechyd proffesiynol rhwng gwledydd y DU.

Nawr, fe wnaeth y digwyddiadau ofnadwy yn ysbyty Iarlles Caer ac euogfarn Lucy Letby daflu goleuni yn gwbl briodol ar lywodraethiant a systemau diogelwch yn ein sefydliadau GIG, ac rydym yn mynd i ystyried argymhellion a chanfyddiadau’r Arglwyddes Ustus Thirlwall yn ofalus iawn pan fyddant ar gael.

Mae rheoleiddio rheolwyr y GIG yn fater sydd eisoes wedi’i godi a’i ystyried yn ddifrifol iawn gan Lywodraeth Cymru. Canfuwyd gennym y byddai rhwystrau ymarferol sylweddol rhag rheoleiddio rheolwyr y GIG yng Nghymru yn unig, ac y byddai sefydlu system ar gyfer Cymru yn unig yn galw am fecanwaith sylweddol a chreu corff rheoleiddio i Gymru ar gost sylweddol. Daw rheolwyr y GIG o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol gwahanol, a byddai angen ystyried materion megis cydbwysedd cyfrifoldeb rhwng y cyflogwr ac unrhyw reoleiddiwr yn ofalus. Mae rhai o reolwyr y GIG eisoes yn destun rheoleiddio proffesiynol, drwy gyrff fel y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Felly, byddai angen i unrhyw system newydd ystyried mater rheoleiddio deuol a cheisio osgoi dyblygu ymdrech a phwrpas. Mae’n bosibl na fyddai unigolyn sy'n cael eu hatal neu eu tynnu oddi ar gofrestr corff rheoleiddio rheolwyr penodol i Gymru yn cael eu hatal rhag gweithio yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai'n well bwrw ymlaen ag unrhyw fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer rheolwyr y GIG ar sail y pedair gwlad, yn gyson â'r trefniadau presennol ar gyfer meddygon, nyrsys, proffesiynau perthynol i iechyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Mae arweinyddiaeth ragorol a thosturiol, sy’n meithrin y diwylliant cywir yn GIG Cymru, yn hollbwysig i sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau i bobl Cymru, ac roedd yn dda iawn cael sgwrs wirioneddol drylwyr am y mater hwn gyda bwrdd Betsi Cadwaladr y bore yma. Mae rheolwyr ac arweinwyr y GIG yn chwarae rhan hanfodol yn creu’r amodau cywir i alluogi eu sefydliadau i ffynnu a darparu’r gwasanaethau mwyaf effeithiol.

Yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, rŷn ni wedi datblygu dull o ddethol a phenodi uwch-arweinwyr sy'n unol ag arferion da. Mae hyn yn sicrhau bod gyda ni brosesau recriwtio agored a thryloyw, a meini prawf dethol cadarn ar gyfer rolau uwch. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau gwiriadau cyn-cyflogi yn llwyddiannus ac mae proses ar gyfer rheoli perfformiad ar ôl penodi. Cyfrifoldeb cyflogwyr yw sicrhau bod mesurau cadarn ar waith o ran y broses benodi. Yn ogystal, mae rheolwyr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn atebol i god ymddygiad sy'n nodi’r safonau craidd mae disgwyl i holl reolwyr y gwasanaeth eu cyrraedd. Rŷn ni'n dal i ganolbwyntio ar ddatblygu diwylliant o arweinyddiaeth ragorol ar draws y gwasanaeth iechyd, a hefyd, fel rhan o strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal, rŷn ni'n datblygu diwylliant o arweinyddiaeth dosturiol ac yn cefnogi talent a chynllunio ar gyfer olyniaeth. Fis Hydref diwethaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi fframwaith 'Codi Llais Heb Ofn' ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n falch iawn o glywed bod y fframwaith hwnnw ynglŷn â chodi eich llais yn nodi’n glir iawn beth yw'r rôl a’r system ar gyfer chwythwyr chwiban yn y GIG.

Mae hwn yn nodi cyfrifoldebau timau gweithredol ac uwch-arweinwyr, gan fynd ati ymhellach i feithrin diwylliant lle mae codi llais yn cael ei gefnogi mewn amgylchedd diogel. Fe fyddai angen ystyried ac adolygu yn ofalus unrhyw gynigion deddfwriaethol ar gyfer Bil gan y Senedd ar reoleiddio rheolwyr yn y gwasanaeth iechyd. Fe fyddai angen inni fod yn glir, o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, nad yw hyn yn dod o dan y mater o reoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol, sydd wedi'i gadw yn ôl. Fel sy'n arferol gyda chynnig deddfwriaethol gan Aelod, bydd y Llywodraeth yn ymatal yn y bleidlais ar y cynnig heddiw. Diolch.

16:15

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Mae'n werth nodi, mae'n siŵr, cyfraniad gwerthfawr Helen Mary Jones, cyn Aelod o'r Senedd yma. Bydd nifer ohonoch chi yn ymwybodol o'r gwaith ddaru hi ei wneud ar y pwnc yma rhai blynyddoedd yn ôl. Dwi hefyd yn ddiolchgar iawn i James Evans am ei gyfraniad ar ran y Ceidwadwyr. 

Rydych yn llygad eich lle ei fod yn rhywbeth y buoch yn ei hyrwyddo, ond mae'n rhywbeth y mae nifer o bobl wedi bod yn ei hyrwyddo. Gwn fod Cymdeithas Feddygol Prydain yn cefnogi’r cynnig hwn hefyd. Mae ganddo gefnogaeth drawsbleidiol, sy’n beth da i’w weld a’i ddeall.

Nawr, cyfeiriodd y Gweinidog at y ffaith bod y trefniadau rheoleiddio proffesiynol ar waith er mwyn diogelu'r cyhoedd; dyna'n union y bwriadwn ei sefydlu yma. Deallaf fod gan y Gweinidog bryderon ynghylch y ffaith ei fod yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, ond efallai y bydd cyfleoedd yng Nghymru, er ei bod yn anodd, i sefydlu corff rheoleiddio. Rwy'n optimist, felly mae gobaith; nid oes unrhyw reswm pam na allwn wneud hyn, felly buaswn yn annog pobl i ystyried hynny, nad yw'n amhosibl, ei fod yn rhywbeth y gallem ei ystyried. Mae problem mewn perthynas â chyllid; nid yw'n mynd i ddigwydd dros nos. Felly, gadewch inni edrych ar egwyddor sefydlu hyn i ddechrau, a dylai'r Aelodau yma ystyried cefnogi hyn mewn egwyddor, o leiaf.

Yn olaf, hoffwn rannu dyfyniad gan Dr Bill Kirkup. Bydd llawer ohonoch yn gwybod am Dr Bill Kirkup. Dywedodd mewn rhaglen nos Lun, ar Panorama:

'Mae diwylliant eang yn y GIG lle mai'r peth iawn i'w wneud os ydych yn cael eich beirniadu yw gweithio gyda'ch gilydd i ddiogelu eich hunain, i reoli eich enw da.'

'Y cam cyntaf er mwyn gwneud hynny, fel arfer, yw gwadu a dargyfeirio bai, ac mae hynny'n cuddio'r problemau.'

Yn anffodus, mae hynny'n wir am lawer gormod o bobl, a chlywsom yn ddiweddar am broblemau ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe gyda'r unedau mamolaeth yno, a theulu Channon yn dweud eu bod yn pryderu bod y gwir wedi'i gelu. Felly, er mwyn osgoi hynny, er mwyn cryfhau a rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt i reolwyr, dyna pam fod angen inni weld corff rheoleiddio'n cael ei sefydlu yma yng Nghymru, fel y gallwn weld gwelliant nid yn unig o ran diwylliant, ond wrth godi safonau a meithrin hyder ymhlith y cleifion. Felly, hoffwn ofyn i bawb ystyried cefnogi’r cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Dadl ar ddeiseb P-06-1359 a deiseb P-06-1362 ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant

Symudwn ni ymlaen, felly, i eitem 9, sef dadl ar ddeiseb P-06-1359 a deiseb P-06-1362 ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant. 

Cynnig NDM8467 Jack Sargeant

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch cymorth ar gyfer costau gofal plant:

a) deiseb P-06-1359 'Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr' a gasglodd 10,820 o lofnodion; a

b) deiseb P-06-1362 'Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024' a gasglodd 407 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon.

A gaf i ddiolch hefyd i aelodau’r Pwyllgor Busnes am ein galluogi i amserlennu’r ddadl hon yn ystod y cyfnod pan fydd Llywodraeth Cymru yn cwblhau ei chyllideb derfynol? Gwelaf fod y Gweinidog cyllid yma gyda ni heddiw. Lywydd, oherwydd, yn eu hanfod, mae’r deisebau yr ydym yn eu trafod heddiw yn ymwneud â’r dewisiadau a wnawn yma yng Nghymru ar ran pobl Cymru ynglŷn â sut y gwariwn eu harian.

Lywydd, rydym yn trafod dwy ddeiseb heddiw sy'n cyffwrdd â dau fater tebyg iawn. Mae deiseb P-06-1359, 'Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr' yn nodi, ac rwy'n dyfynnu:

'Yn Lloegr, o fis Ebrill 24, bydd pob rhiant sy'n gweithio â phlant 2 oed yn cael 15 awr o ofal plant am ddim. O fis Medi 24, bydd hyn yn cael ei estyn i rieni â phlant 9 mis oed a hŷn. O fis Medi 25, bydd nifer yr oriau o ofal plant am ddim yn cynyddu i 30.'

'Mewn cymhariaeth, yng Nghymru, bydd yn cymryd tan fis Medi 25 i ddarparu 12.5 awr o ofal plant am ddim i bob rhiant â phlant 2 oed. A hynny heb gynllun ar waith i rieni â phlant 9 mis oed a hŷn na chynyddu nifer yr oriau i 15 neu 30.'

'Rydym mewn argyfwng costau byw lle y mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i gefnogi rhieni sy'n gweithio ond nid yw’n gwneud hynny.'

Lywydd, cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jade Richards, gyda chyfanswm o 10,820 o lofnodion, ac mae Jade yma yn y Senedd heddiw.

Cyflwynwyd y ddeiseb arall, P-06-1362, 'Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024' gan Madelaine Hallam, gyda 407 o lofnodion, ac rwy'n siŵr, Lywydd, y gallwch weld pam ein bod wedi uno’r ddwy ddeiseb ar gyfer eu trafod heddiw. Ond nid y deisebau hyn yw'r unig gyfraniadau i'r ddadl ynghylch gofal plant yng Nghymru. Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd Oxfam waith a wnaed ar ran y gynghrair Gwneud Gofal yn Deg. Roedd y gwaith hwnnw’n glir: mae’r system bresennol yn gwneud rhai pethau’n dda, ond nid y system bresennol yw'r ateb. Roeddent yn dweud:

'Er bod camau breision wedi’u cymryd o ran darpariaeth gofal plant ac addysg gynnar yng Nghymru, mae’r her barhaus o sicrhau mynediad syml, teg at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel yn parhau i fod yn bryder difrifol.'

Maent yn dweud bod costau gofal plant, 

'yn gorfodi rhieni Cymru i dlodi ac yn eu hatal rhag cael mwy o blant.'

A dyna pam ein bod yma heddiw, Lywydd. Dyna pam hefyd y lansiodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei ymchwiliad dilynol i ofal plant ar ddechrau'r flwyddyn. Yn eu hadroddiad gwreiddiol ddiwedd mis Ionawr 2022, galwodd y pwyllgor am newidiadau i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn darparu ei chynnig gofal plant i rieni sy’n gweithio. Roedd yr adroddiad, 'Gwarchod y dyfodol: y rhwystr gofal plant sy'n wynebu rhieni sy'n gweithio' yn dadansoddi'r system bresennol, fel yr oedd bryd hynny, a daeth i'r casgliad fod rhieni yng Nghymru yn wynebu amrywiaeth o rwystrau rhag cael mynediad at y gofal y mae ganddynt hawl iddo. Rwy'n falch o weld bod y gwaith hwnnw'n cael ei ailystyried i weld pa gynnydd a wnaed a pha rwystrau sy'n parhau i fodoli, a gwelaf Gadeirydd y pwyllgor o'n blaenau heddiw, a gallai roi mwy o fanylion i ni, efallai.

Lywydd, mae hwn yn fater y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau gweithredol arno. Mae'n faes a grybwyllir yn benodol yn y cytundeb partneriaeth sy'n nodi blaenoriaethau'r Llywodraeth hon yng Nghymru, ac mae'r ddogfen honno'n nodi:

'Mae gennym uchelgais cyffredin i ddarparu addysg a gofal o ansawdd da i bob plentyn yng Nghymru yn ystod ei blentyndod cynnar. Bydd adnoddau cyfalaf a refeniw sylweddol yn cael eu neilltuo er mwyn gwireddu’r uchelgais hwn yn ystod cyfnod y cytundeb hwn, gan ganolbwyntio ar blant dwy flwydd oed.'

Ond Lywydd, mae llawer o ddryswch ynglŷn â beth sy'n cael ei gynnig yma yng Nghymru a beth sy'n cael ei gynnig yn Lloegr. Mae angen eglurder ar rieni, ac maent yn ei haeddu. Gall unrhyw un sydd wedi dilyn y ddadl ynglŷn â gofal plant yn Lloegr weld bod amheuaeth a ellir cyflawni datganiadau Llywodraeth y DU, ond mae'n glir hefyd, Lywydd, fod nifer sylweddol o bobl yng Nghymru, pobl a lofnododd y ddwy ddeiseb hyn, yn anfodlon ynghylch y cynnig presennol a’r ffordd y caiff ei roi ar waith yma.

Bydd llawer ohonom ar draws y Siambr yn cael sgyrsiau ag etholwyr sydd angen cymorth yn fawr ac sy’n teimlo’n rhwystredig oherwydd arafwch y newid. Bydd hyn yn cynnwys pobl sy'n byw ar y stryd agosaf i gymdogion sy’n cael cymorth drwy Dechrau’n Deg, ond eto, nid ydynt hwy'n cael unrhyw gymorth o gwbl. A gallai fod yn berffaith debygol a phosibl y gallai rhieni nad ydynt yn cael cymorth fod o dan fwy o bwysau ariannol na'r rheini sy'n byw rownd y gornel. A Lywydd, mae'r deisebwyr wedi dweud wrthyf nad ydynt yn erbyn egwyddor Dechrau'n Deg a'r syniad o Dechrau'n Deg, ond maent yn cwestiynu'r ffordd y caiff ei roi ar waith yn ymarferol.

Ac mae angen i'r Gweinidog ymateb i enghreifftiau fel y rhain, ac eraill, sydd wedi'u codi'n uniongyrchol gan y deisebydd. Rwy'n gobeithio bod y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i’r Gweinidog ddarparu’r eglurder y mae rhieni'n ei haeddu a’i angen, i weld y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ar gyflawni eu haddewid presennol yn y cytundeb partneriaeth a’r camau nesaf ar y daith honno. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd y ddadl yn egluro i rieni beth sydd ar gael iddynt a beth nad yw ar gael, pam fod gan Lywodraeth Cymru y blaenoriaethau sydd ganddi, a’r dewisiadau gwariant yn sgil hynny ac os ydynt yn wahanol i Loegr, pam hynny.

Lywydd, os caf, cwestiwn uniongyrchol gan y deisebydd tua hanner awr yn ôl i’r Gweinidog oedd: 'A gaf i ofyn i chi, Weinidog, ynghylch yr arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael o gyhoeddiad Llywodraeth y DU ac o’r cynnig y maent wedi’i wneud yn Lloegr, ar beth y mae'r arian hwnnw wedi’i wario’n uniongyrchol?' Dyna oedd y cwestiwn gan y deisebydd yr wyf newydd gyfarfod â hwy i fyny'r grisiau.

Lywydd, edrychaf ymlaen at y ddadl hon. Edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog. Mae hwn yn fater o gryn bryder i rieni ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y gallwn roi rhywfaint o eglurder iddynt yn y ddadl hon heddiw. Diolch.

16:25

Hoffwn ddiolch i Gadeirydd fy mhwyllgor, Jack Sargeant, am agor y ddadl ac i’r deisebwyr am godi pwnc deiseb mor bwysig. Fel y gŵyr pob un ohonom, gofal plant yw un o’r pwysau ariannol mwyaf, os nad y mwyaf, ar gyllidebau teuluoedd ac aelwydydd. Mae llawer o deuluoedd yn wynebu'r posibilrwydd na all incwm net un o'r rhieni neu warcheidwaid dalu am gostau gofal plant, ac felly cânt eu gorfodi'n economaidd i roi'r gorau i weithio er mwyn darparu gofal i'r plant. Er bod hyn yn gynaliadwy i rai teuluoedd lle mae un aelod yn ennill cyflog uchel, i lawer o deuluoedd, bydd gan hyn oblygiadau hirdymor, yn enwedig gyda chostau byw fel y maent, a gall hyn wthio teulu i dlodi hirdymor yn hawdd.

Yn ychwanegol at hynny, yn y pen draw rydym yn colli pobl sydd wedi'u hyfforddi ac economaidd weithgar o'r gweithlu, nid yn unig yn y tymor byr, ond o bosibl yn y tymor hwy hefyd. Gall pobl sy’n gadael eu swyddi i ofalu am blant am na allant fforddio ffioedd meithrinfa ei chael hi’n anodd iawn ailymuno â’r gweithlu sawl blwyddyn yn ddiweddarach, ac maent yn wynebu’r posibilrwydd o ddychwelyd i swyddi lefel mynediad oherwydd y bwlch yn eu hanes cyflogaeth. Mae'r pwynt hwn yn bwysig iawn gan ei fod yn effeithio'n anghymesur ar fenywod. Rwy’n cydnabod bod niferoedd cynyddol o dadau’n aros gartref. Fodd bynnag, mae menywod yn dal i ysgwyddo'r rhan fwyaf o ddyletswyddau gofal plant, ac mae hyn yn cael effaith fawr ar eu harian. Nid yn unig eu bod yn fwy dibynnol ar yr unig enillydd, maent hefyd ar eu colled gyda chyfraniadau pensiwn, ac mae hyn yn cael effaith fawr pan fyddant yn ymddeol, yn fwy felly os yw'r cwpl yn ddibriod ac wedi gwahanu; nid yw'r hawliau i hawlio cyfraniadau pensiwn a chyllid arall wedi'u diffinio'n glir.

Mae teuluoedd na allant fforddio gofal plant neu sy'n colli incwm o'r cartref hefyd yn wynebu'r posibilrwydd o orfod dibynnu ar drefniadau gofal plant cymhleth iawn, gan ddefnyddio teulu neu ffrindiau i helpu. Gall hyn fod yn arbennig o anodd yn ystod gwyliau’r ysgol, sydd, o gynnwys pum diwrnod HMS y flwyddyn, bron yn 70 diwrnod o wyliau, mwy na dwywaith yr hawl gyfartalog i wyliau i weithiwr cyffredin ym Mhrydain. Mae ateb y galw hwn heb gymorth gan deulu neu ofal plant drud yn amhosibl, ac i deuluoedd un rhiant, mae’n rhaid ei fod yn bryder a gofid cyson. Mae’n hollbwysig, felly, ein bod yn cynnig y darpariaethau gofal plant gorau posibl.

Rwy’n cefnogi’r ddeiseb hon yn llwyr am ei bod yn amlwg i mi fod sicrhau bod hyd at 30 awr o ofal plant ar gyfer plant o naw mis oed ymlaen ar gael i bob teulu yn mynd i’w helpu’n ddramatig, nid yn unig gyda’u harian, ond hefyd i reoli’r cyfrifoldebau newydd sydd ganddynt bellach. Mae'n mynd i helpu mamau a thadau i aros mewn swyddi, ac i lawer o fenywod, ar ôl eu cyfnod mamolaeth, byddant yn gallu fforddio ailafael yn eu gyrfaoedd a pharhau â'u cyfraniadau pensiwn.

Lywydd Dros Dro, yn y Siambr hon, rydym yn sôn yn aml am genedlaethau’r dyfodol a llesiant, ond beth allai fod yn fwy defnyddiol i iechyd a llesiant teuluoedd na’u helpu i ddiwallu eu hanghenion gofal plant? Mae oddeutu 30 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi, a dyma'r unig wlad yn y DU lle mae cyfraddau tlodi plant ar gynnydd. Synnwyr cyffredin yw helpu teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd i aros mewn gwaith a’u helpu i allu fforddio peidio â bod yn ddibynnol ar gymorth gwladwriaethol. Bydd cynigion Llywodraeth y DU yn sbarduno gwerth £180 miliwn o gyllid canlyniadol yng Nghymru ar gyfer hyn, ac ni welaf unrhyw reswm pam na allwn gynnig yr un system ar gyfer hyd at 30 awr o ofal plant am ddim i blant naw mis oed a hŷn yma. Mae angen inni fod yn genedl sy’n dangos ein bod yn cefnogi teuluoedd ac sy’n ymwybodol o’u hanghenion. Ers gormod o amser, mae gennym system lle mae cael plant mor niweidiol i deuluoedd fel eu bod naill ai’n eu gwthio i dlodi neu i drafferthion ariannol, neu maent yn penderfynu oedi neu beidio â chael plant o gwbl.

Yn olaf, Lywydd dros dro, hoffwn dynnu sylw at un pwynt olaf. Fel y nodais o’r blaen yn y Siambr hon, ymddengys bod gan Lywodraeth Cymru ysfa i wneud pethau’n wahanol i Loegr bob amser, pa un a fyddai’r polisi yn Lloegr yn fwy buddiol i ni ai peidio. Rwy’n cydnabod mai dadl ar gyfer rhyw dro eto yw hon, ond fe ddywedaf hyn: mae Llywodraeth Cymru yn gibddall yn hyn o beth, oherwydd os oes opsiwn ar gael i deulu gael system well yn Lloegr ac i fod filoedd o bunnoedd yn well eu byd, byddant yn symud dros y ffin, a bydd hyn yn parhau'r draen dawn a welwn yng Nghymru. Bydd eu sgiliau a’u profiadau'n cael eu defnyddio yn economi Lloegr yn hytrach nag yn economi Cymru, ac efallai y bydd yr Aelodau yma'n wfftio hyn, ond os ydych chi'n bwriadu cael teulu, gallai'r cynnig gofal plant a gewch yn Lloegr o gymharu â Chymru effeithio ar ble fyddwch chi fel teulu'n penderfynu byw a'i alw'n gartref. Diolch.

16:30

Mae gen i lawer o gydymdeimlad â'r rhai sydd wedi cyflwyno a llofnodi'r deisebau yma, a dwi'n cefnogi bwriad y deisebau yn llwyr, achos buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yw'r cam pwysicaf y gellid ei gymryd o ran sicrhau cydraddoldeb, yn ôl UNICEF. Mae'r angen ar gyfer darpariaeth well o ofal plant fforddiadwy yn alwad mae Plaid Cymru wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd, ac fel rydyn ni wedi clywed, mae adroddiad ar ôl adroddiad wedi dangos pam mae hyn yn allweddol o ran sicrhau bod gan ein plant y dechrau gorau mewn bywyd, ac i helpu teuluoedd i fedru manteisio ar gyfleoedd gwaith.

Roeddwn i'n falch o sefyll ar faniffesto Plaid Cymru, fel ymgeisydd yn yr etholiad Senedd diwethaf, a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd creu gwasanaeth gofal plant cenedlaethol ar gyfer pob plentyn o 12 mis ar gyfer 48 wythnos y flwyddyn, ac rwy'n dal i gredu hynny. Ac ar ôl cael fy ethol, roeddwn i'n falch o gefnogi'r cam yn y cytundeb cydweithio â'r Llywodraeth i ymestyn gofal plant am ddim ar gyfer plant dwyflwydd. Ac o'r herwydd mae Cymru nawr ar y droed blaen o ran ehangu gofal plant, er yr addewidion polisi newydd yn Lloegr sydd heb eto dechrau cael eu gweithredu. Ni fydd y cynnig gofal plant yn Lloegr ar gael i bob plentyn a theulu, a bydd ond yn cwmpasu 38 wythnos o'r flwyddyn, gan adael 14 wythnos heb unrhyw gymorth gofal plant o gwbl. Byddai hyn yn dal i wneud gofal plant yn anfforddiadwy i lawer o deuluoedd, a gallai hefyd danseilio’r sector â’i hangen am sicrwydd y bydd teuluoedd yn defnyddio ei gwasanaethau am y mwyafrif helaeth o’r flwyddyn.

Ond mae Plaid Cymru hefyd wedi ategu'r galwadau ar Lywodraeth Cymru sydd wedi eu cynnwys yn y deisebau, ac a wnaed yn sgil datganiadau'r Canghellor, i sicrhau bod unrhyw gyllid a ddaw i Gymru yn sgil ariannu ehangu gofal plant yn Lloegr yn mynd tuag at yr un nod yng Nghymru. Achos mae hwn yn fater cwbl allweddol o ran taclo'r lefelau cywilyddus o dlodi plant ac anghydraddoldeb sy'n creithio ein cymunedau.

Roeddwn i'n siomedig nad oedd mwy o sylw wedi cael ei roi i bwysigrwydd allweddol ehangu gofal plant yn strategaeth tlodi plant newydd y Llywodraeth. Achos yr hyn a glywon ni, aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gan yr arbenigwyr rhyngwladol a gyflwynodd dystiolaeth i ni oedd bod darpariaeth lawn o ofal plant fforddiadwy yn gwbl greiddiol i daclo tlodi. Dyna pam wnaethon ni fel pwyllgor argymell i'r Llywodraeth y dylid sicrhau darpariaeth gofal plant ddi-dor a fforddiadwy, drwy gyllid canlyniadol Barnett a fyddai ar gael pe bai cynnydd yn y gwariant yn Lloegr. Achos yr hyn ddywedodd ein tystion wrthym ni oedd, pan ofynnir i rieni incwm isel, 'Beth sydd ei angen arnoch chi?', dro ar ôl tro yr ateb yw, 'Gofal plant, gofal plant. Gofal plant hygyrch, gofal plant fforddiadwy.'

Gadewch i ni gofio mai menywod yw’r mwyafrif helaeth o’r rhai sydd wedi’u cloi mas o’r farchnad lafur ac sydd wedi’u cloi mewn i gyflog isel oherwydd bod gofal plant ddim yn fforddiadwy nac yn hygyrch. Dywedwyd wrthym ni gan yr arbenigwyr mai diffyg argaeledd gofal plant di-dor a fforddiadwy yw'r hyn sy'n creu ac yn gwreiddio anghydraddoldeb ac yn rhan o fagl tlodi.

Mae'r adroddiad gan Sefydliad Bevan i ofal plant sydd wedi ei gyhoeddi heddiw yn pwysleisio unwaith eto pam mae angen mwy o fuddsoddiad ar fyrder. Mae'n pwysleisio anfforddiadwyedd gofal plant yng Nghymru ac effaith andwyol hynny o ran anghydraddoldeb a thlodi. Yn ôl yr adroddiad, mae 70 y cant o rieni yng Nghymru y mae eu plentyn ieuengaf dan 10 oed yn dweud bod gofal plant yn anfforddiadwy. Saith deg y cant. Mae hyn yn ategu yr ymchwil a wnaed yn ddiweddar gan Oxfam Cymru a Make Care Fair, oedd wedi canfod bod 92 y cant o rieni yn dweud bod costau gofal plant yn rhy uchel mewn perthynas â'u hincwm, a 70 y cant yn dweud nad oedd ganddyn nhw unrhyw arian sbâr o'u hincwm ar ôl talu am ofal plant. Mae argaeledd cefnogaeth ar yr adeg iawn hefyd yn ffactor bwysig.

Mae'r adroddiad gan Sefydliad Bevan yn tynnu sylw eto at y patrwm cymhleth o gefnogaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd, gyda chymysgedd o gymorth yn dod gan raglenni gwahanol drwy law'r Llywodraeth yn San Steffan a Llywodraeth Cymru, yn ddibynnol ar oedran y plant, lleoliad y teuluoedd a statws gwaith. Mae yna broblem gyda'r ffaith bod ein cynnig gofal plant a'n cynnig Dechrau'n Deg yn ddau gynnig ar wahân. Mae angen un cynnig, cyffredinol, hawdd ei ddeall, hawdd ei gyrchu.

Y peth arall hoffwn ei bwysleisio cyn cloi, yng nghyd-destun y deisebau yma sy'n cael eu trafod, yw'r hyn a ddywed yr adroddiad gan Sefydliad Bevan wrthym ni am y perygl posib i'r setliad datganoli os daw'r newidiadau yn Lloegr i rym. Mae'r deisebau eu hunain yn arwydd o hyn: y cynnydd mewn galwadau i gynnig yr un gefnogaeth yr ochr yma i'r ffin wrth i deuluoedd ddod yn fwy ymwybodol o'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr. Ac mae adroddiad Sefydliad Bevan yn gwneud pwynt pwysig iawn am oblygiadau newidiadau yn Lloegr i gymhwysedd teuluoedd ar gyfer budd-daliadau, a allai arwain at wasgu ar incwm teuluoedd os nad oes diwygio tebyg yn digwydd i'r system gofal yng Nghymru.

Un sylw cyflym cyn cloi, Dirprwy Lywydd dros dro. Dwi eisiau gwneud pwynt cyffredinol ynglŷn â'r angen i ni gael trafodaeth go iawn am lefel y gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen arnom ni. Rwyf o blaid ehangu gofal plant am ddim, ond dyw e ddim am ddim, yw e? Mae'n rhaid i ni gael sgwrs onest am sut y gallwn ni dalu am hyn. Mae'r sgyrsiau angen eu cael am lefel trethiant i gefnogi a chynnal mesurau blaengar sy'n mynd i ddileu tlodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Roedd clywed y darpar Ganghellor Llafur, Rachel Reeves, yn sôn heddiw na fyddai Llafur am adfer y cap ar fonws bancwyr—

16:35

—ar ben yr hyn ddywedodd yn Davos yn ddiweddar am beidio cynyddu trethi ar gyfoeth na chwmnïau mawr, yn warthus o ystyried neges y deisebau hyn. Mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn ein hased mwyaf gwerthfawr, ein plant.

Hoffwn ddechrau drwy ddweud 'diolch yn fawr' wrth fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant, a'r Pwyllgor Deisebau i gyd am roi ystyriaeth ddifrifol i hyn. Diolch hefyd i Jade ac i Madelaine am gyflwyno'r deisebau hyn. Rwyf wedi cael llawer o etholwyr yn gofyn i mi siarad heddiw, oherwydd mae'r hyn a ysgrifennwyd gennych wedi creu cryn argraff arnynt a'r hyn y maent yn ei brofi ar hyn o bryd. Ddirprwy Weinidog, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed am y gymhariaeth a wnaed gyda'r cynnig yng Nghymru ac yn Lloegr ar hyn o bryd.

Rwyf hefyd am wneud y pwynt nad lle menywod neu rieni bob amser yw gorfod codi mater gofal plant, ond mae'n sicr yn rhoi menywod dan fwy o anfantais. Maent yn amcangyfrif bod 1.7 miliwn o fenywod yn gweithio llai o oriau nag yr hoffent ei wneud, a hynny oherwydd nad oes ganddynt fynediad at y gofal plant sydd ei angen arnynt.

Hoffwn nodi hefyd er hynny ein bod wedi gweld cynnig newydd yn cael ei gyflwyno yn Lloegr, ond mae wedi bod yn ddi-drefn a dweud y lleiaf. Ni allwch gyflwyno cynnig fel hwn heb gael seilwaith yn ei le, ac mae hynny'n rhywbeth y deuthum i'w weld yn ein tystiolaeth, fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Mae angen i chi gael y gweithlu yn ei le, a gallwch weld bod hynny wedi methu ar hyn o bryd yn Lloegr.

Buaswn yn cytuno hefyd, i fod yn onest, nad yw'n ddigon da yng Nghymru nac yn Lloegr ar hyn o bryd. Gan y DU y mae'r cynnig gofal plant gwaethaf yn Ewrop gyfan. Mae yna lawer mwy o wledydd yn Ewrop sydd â chynnig mwy cynhwysfawr, rhatach, ar gyfer mwy o oriau, ar gyfer mwy o oedrannau, ac mae'n gweithio o gwmpas pobl sy'n gweithio shifftiau nos, efallai, fel gweithwyr GIG. Os edrychwn ar Ganada, er enghraifft, maent newydd fuddsoddi £30 biliwn i gyflwyno'r cynnig a fydd yn ofal plant fforddiadwy i bawb am $10 y dydd.

Ond hoffwn ddod yn ôl at yr hyn a ddywedodd Sioned Williams: nid yw gofal plant yn rhad, ac ni ddylai fod. Ac rwy'n credu bod angen inni gael sgwrs onest iawn, nid yn unig yng Nghymru, ond yn Lloegr hefyd—fel y dywedoch chi, byddai'n rhaid i symiau canlyniadol Barnett ar gyfer hyn ddod gan Lywodraeth y DU a'r Trysorlys—ynglŷn â ble rydym yn mynd, beth yr anelwn ato gyda'n cynnig gofal plant, a beth rydym yn barod i'w wneud, i'w newid, er mwyn ei ariannu. Bydd yr holl wledydd eraill hynny yn Ewrop yn codi trethi uwch er mwyn gallu ei wneud. Nid yw'n sgwrs annhebyg i'r un a gawn ni am ofal plant. Buaswn yn dadlau y dylid ystyried gofal plant bellach yn seilwaith economaidd hanfodol.

Dylem fod yn gweithio tuag at gynnig gofal plant sy'n hynod fforddiadwy a chyffredinol, o'r adeg pan gaiff babi ei eni hyd nes y bydd yn mynd i'r ysgol. Rwy'n gwybod bod hynny'n amhosibl ar hyn o bryd—rwy'n deall hynny'n llwyr—ond buaswn o leiaf yn hoffi credu mai dyna ble rydym yn anelu tuag ato. Fe gawsom dystiolaeth gan bobl yn Sweden ac roeddent yn dweud, 'Edrychwch, fe wnaethom ddechrau hyn ddau ddegawd yn ôl a dyna pam ein bod lle rydym arni nawr.' Mae'n rhaid inni gael y sgwrs hon a gwneud yr ymrwymiad hwn.

16:40

Diolch, Sarah. Mae'n ymddangos eich bod yn cyfeirio at fod eisiau gwasanaeth gofal plant wedi'i wladoli. A yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn gobeithio amdano?

Nid ei wladoli o reidrwydd. Ond fel y dywedais, hoffwn weld—. Byddai'n rhaid iddo gael ei sybsideiddio'n sylweddol. Nid yw gofal plant yn rhad. Boed yn y sector preifat neu wedi'i wladoli. Mae'n rhaid i'r arian hwnnw ddod o rywle. Felly, na, os edrychwch ar wledydd fel yr Almaen, nid yw wedi'i wladoli, ond mae'n dal i fod yn rhad iawn i deuluoedd. Rwy'n credu bod angen inni gael rhyw syniad i ble rydym yn mynd gyda hyn.

Bydd llawer o bobl yn dweud wrthych, os gofynnwch am farn ar faterion a pholisïau'n ymwneud â gofal plant, mae'n tueddu i fod yn isel iawn ar y rhestr flaenoriaethau, ac rwy'n credu bod hynny'n cael effaith ar yr ymrwymiad a wneir gan bob plaid a gwleidydd. Oherwydd fel arfer, yr hyn sy'n tueddu i ddigwydd yw mai'r unig bobl sy'n ymddangos fel pe baent yn gryf o blaid cynnig gofal plant gwirioneddol wych yw'r bobl sy'n ei ddefnyddio ac yn mynd drwyddo, neu sydd â phobl y maent yn eu hadnabod sydd ei angen. Felly, mae hon hefyd yn drafodaeth gymdeithasol ehangach sy'n rhaid i ni ei chael am—. A Sioned Williams, roeddech chi'n sôn am hyn hefyd, am ba mor dda ydyw i'r plant sy'n ei gael hefyd.

Ond mae'n rhaid inni wynebu'r her. Rwy'n credu bod yr ymgyrchwyr allan yno'n gweiddi'n fwy croch. Rwy'n credu ei fod yn fwy erbyn hyn na'r bobl yr effeithir arnynt gan hyn ac sy'n siarad amdano. Rwy'n credu ei fod yn hanfodol i bwy ydym fel cymdeithas. Fel y dywedais, byddai'n wych clywed y gymhariaeth rhwng Cymru a Lloegr ar hyn o bryd, ond rwy'n gobeithio hefyd, Ddirprwy Weinidog, eich bod yn cytuno â mi y byddwn yn cyrraedd rhywle yn y dyfodol sydd cystal ag sy'n bosibl iddo fod. Diolch.

Dylem ystyried cymorth ar gyfer costau gofal plant nid yn unig fel budd-dal arall gan y wladwriaeth, ond fel rhyddhad ardrethi busnes, mae'n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud, nid yn unig i wneud bywydau pobl yn haws, ond i ysgogi twf—rhywbeth yr ydym wedi methu ei wneud i raddau helaeth ar ôl COVID yma yng Nghymru, gyda'r cynhyrchiant isaf y pen o blith unrhyw wlad yn y DU.

Ond beth y gallwn ei wneud i ysgogi twf? Gallwn roi'r gorau i osod rhwystrau rhwng busnesau a'u cwsmeriaid. Mae rhai o'r rhwystrau hyn yn ariannol ac mae rhai ohonynt yn rhai rheoleiddiol. Mae darparu gofal plant rhad o ansawdd da yn caniatáu i'r ddau riant weithio, gan ysgogi twf. Mae'r dystiolaeth am hyn yn glir iawn. Dylem gydnabod, yn y DU, fod gennym y gofal plant drutaf yn Ewrop, fel y soniodd yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr yn y cyfraniad blaenorol. Effaith hyn yw gorfodi caledi ar rieni. Mae llawer yn methu fforddio gwneud trefniadau gofal ar gyfer eu plant er mwyn iddynt allu gweithio. Pe bai eu costau gofal plant yn rhatach, byddai llai o straen ar rieni, gallai eu plant gael gofal tra byddant yn gweithio a byddai ganddynt fwy o arian i'w wario ar bethau eraill. Ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw anfanteision i hyn.

Mae Llywodraeth y DU yn cymryd camau cadarnhaol tuag at ehangu'r cynllun gofal plant am ddim 30 awr ar gyfer rhieni sy'n gweithio o'r adeg pan fydd eu plentyn yn naw mis oed hyd nes y byddant yn dechrau yn yr ysgol. O fis Ebrill 2024, bydd rhieni plant dwy oed sy'n gweithio yn gallu cael mynediad at 15 awr o gymorth gofal plant. O fis Medi 2024, bydd 15 awr o gymorth gofal plant yn cael ei ymestyn i gynnwys rhieni plant naw mis oed sy'n gweithio. O fis Medi 2025, bydd 30 awr o ofal plant ar gael i rieni cymwys sy'n gweithio ac sydd â phlentyn rhwng naw mis oed ac oedran ysgol. Mae Llywodraeth y DU yn dyblu'r swm y maent yn disgwyl ei wario dros y blynyddoedd nesaf o tua £4 biliwn i oddeutu £8 biliwn bob blwyddyn.

Felly, pan glywaf gyfraniadau'n dweud bod ei gyflwyno wedi bod yn ddi-drefn, rwy'n cael trafferth gweld sut y gall hynny fod pan fo llinell amser glir ac arian ar gael i ariannu'r cynllun hwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer rhieni yn Lloegr. Dyna pam y dywedaf y dylai Cymru fod yn gwneud yr un peth.

Dylai Llywodraeth Cymru wneud yr un ymrwymiad ac afraid dweud bod methu gwneud hynny'n rhoi rhieni Cymru dan anfantais sylweddol. Mae teulu nodweddiadol lle mae'r ddau riant yn ennill cyflog yn gwario tua 30 y cant o'i incwm ar ofal plant, yr uchaf mewn unrhyw wlad ddatblygedig. Mae gofal plant anfforddiadwy hefyd yn drychinebus o ran cydraddoldeb oherwydd ei fod yn gwthio mamau allan o'r gweithlu, fel y nododd Sioned, gan wneud menywod yng Nghymru yn llai cyfartal o ran mynediad at y gweithle na menywod yn Lloegr. Ceir cysylltiad rhwng hynny hefyd â'r draen dawn a nododd Joel yn ei gyfraniad—rhywbeth y mae angen inni roi diwedd arno yma yng Nghymru. Fel y crybwyllais eisoes, mae hyn yn llyffethair mawr ar gynhyrchiant. Yn ystod argyfwng costau byw, dylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo baich un o'r elfennau gwariant mwyaf i aelwydydd Cymru, gan fod yr holl fanteision economaidd mor glir.

Yr ymateb a glywn ar bopeth—ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ei ddweud mewn ymateb i'r ddadl hon—yw nad ydym yn cael digon o arian gan Lywodraeth y DU. Ond mae'r symiau canlyniadol i Gymru a grybwyllwyd yn y ddadl hon yn eithaf clir, ac weithiau, mae'n fater o flaenoriaethau. Fel y dywedais yn gynharach yn fy nghyfraniad, mae'r methiant yn gyllidol. Mae'n deillio o'r ffordd wael y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu arian, gan ddileu buddsoddiad mewn meysydd a fydd, yn y tymor hir, yn talu amdanynt eu hunain ac yn hytrach, yn arllwys arian yn ôl i dyllau du cyllidol a chynlluniau porthi balchder. Nid oes unrhyw fudd economaidd net i'r peilot incwm sylfaenol cyffredinol. Nid oes unrhyw elw economaidd net i 20 mya. Y gwrthwyneb sy'n wir: mae'n golled net o £9 biliwn. Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru yn torri ac yn dadfuddsoddi ym mhob maes buddsoddi sy'n prysuro cynhyrchiant a thwf, fel rhyddhad ardrethi busnes a chymorth ar gyfer costau gofal plant.

I gloi, Lywydd dros dro, rwy'n annog pob Aelod i ystyried y deisebau hyn yn ofalus, a chydnabod beth fydd gwneud ymrwymiadau tebyg i rai Llywodraeth y DU ar ofal plant yn ei olygu i sefyllfa ariannol llawer o deuluoedd, cydraddoldeb menywod a mamau, a'r economi yn gyffredinol yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

16:45

Diolch yn fawr iawn i'r deisebwyr am dynnu ein sylw at y mater pwysig hwn. Mae'n bryder allweddol iawn i lawer ohonom yma yn y Siambr. Fel Sarah Murphy a Sioned Williams, rwyf innau hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, lle rydym wedi ystyried gofal plant, nid yn unig mewn perthynas â gofal plant fel y cyfryw, ond hefyd mewn perthynas â thlodi plant. Roedd yn un o'r argymhellion a gyflwynwyd gennym yn ein hadroddiad diweddar, 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant'.

Mae cael gofal plant fforddiadwy o ansawdd da yn iaith ddewisol y rhieni yn gwbl hanfodol i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae hynny'n amlwg. Mae'n amlwg fod cael gofal plant o ansawdd da yn helpu'r plentyn a'r rhieni. Ac mae hyn fel arfer, fel y clywsom, yn ymwneud â menywod yn ein cymdeithas, ac mae'n ymwneud â'n heconomi.

Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar ofal plant yn yr un modd ag y maent wedi edrych ar fudd-daliadau. Un o'r pethau a glywsom yw pa mor gymhleth yw cael mynediad at y system gofal plant. Pe bai gennym siarter gofal plant yng Nghymru, lle byddai rhieni ond yn dweud eu stori unwaith, ac ar sail hynny'n cael cynnig gofal plant fforddiadwy o ansawdd da a hygyrch yn eu dewis iaith, byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i Gymru.

Mae angen inni sicrhau ein bod yn cau'r bwlch rhwng rhieni a gofalwyr sy'n gallu fforddio gofal plant o ansawdd da a'r rhai na allant wneud hynny. Cawsom adroddiad—Democratiaid Rhyddfrydol Cymru—o'r enw 'Cau'r Bwlch'. Rydym eisiau gweledigaeth feiddgar o ofal plant hyblyg, fforddiadwy, i rieni plant o naw mis oed i oedran ysgol gael mynediad at 1,500 awr y flwyddyn o ofal plant wedi'i ariannu.

Felly, i gloi, Lywydd dros dro, hoffwn glywed gan y Gweinidog ynglŷn ag a ellir bwrw ymlaen â'r pethau hyn, ac a geir ystyriaeth ddifrifol o'r effaith y mae cael gofal plant hygyrch a fforddiadwy o ansawdd uchel yn ei chael ar dlodi plant. Diolch yn fawr iawn. 

Mae angen i'r deisebwyr sylweddoli, o fis Ebrill, y bydd gan rieni sy'n gweithio yn Lloegr hawl i gael 15 awr yr wythnos o ofal plant am ddim, os oes ganddynt blentyn dwy flwydd oed. Nid yw hynny'n golygu y byddant yn cael yr hawl honno, oherwydd nid yw'r ddarpariaeth yno mewn gwirionedd. Hynny yw, mae peth ohono yno, yn amlwg, ond nid yw'r ddarpariaeth i bawb allu cerdded i mewn i ofal plant ar unwaith yno. Felly, rwy'n credu bod angen inni fod yn realistig ynglŷn â chymhlethdodau gofal plant a phwysigrwydd sicrhau ei fod o ansawdd da. Nid ydym eisiau gofal plant gwael i'n plant, ac ni fyddai unrhyw riant yn gadael eu plentyn yn fwriadol gyda rhywun oni bai bod y gofal yn ddigon da i'w plentyn.

Y rhagdybiaeth gan y deisebwyr hefyd yw bod unrhyw deuluoedd sy'n ddifreintiedig neu dan anfantais eisoes yn dod o dan Dechrau'n Deg, ac rwy'n ofni nad yw hynny'n wir. Fel y gŵyr Llywodraeth Cymru, mae hyn yn seiliedig ar yr ardaloedd cynnyrch ehangach o amddifadedd, sydd eu hunain yn farciau ar fapiau yn hytrach na chymunedau go iawn, lle bydd strydoedd cyfan, yn aml, wedi'u rhannu'n ddwy. Ond yn amlwg, oherwydd prinder arian, mae'n rhaid i chi ddechrau o rywle, felly waeth i chi ddechrau gyda'r cymunedau y nodwyd mai nhw yw'r rhai mwyaf difreintiedig. Rwy'n deall mai strategaeth Llywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, yw symud allan o hynny a chynnwys mwy o bobl, fel y bydd y rhan fwyaf o'r bobl dlotaf yn cael y 12.5 awr allweddol o ofal plant yn ddwy oed. Mae'n cymryd amser hir iawn, ac ni fydd hyd yn oed hynny'n cynnwys yr holl blant sy'n dod o deuluoedd tlawd. Felly, mae hon yn stori gymhleth iawn.

Rydym yn gwybod o'r adroddiad a wnaethom yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, nid dim ond yr adroddiad gofal plant a wnaethom y llynedd, ond yr adroddiad ar dlodi plant, 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant' ychydig fisoedd yn ôl—. Rhannodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth gyda ni ynglŷn â pha mor anodd oedd dod o hyd i ffordd at unrhyw fath o hawl i ofal plant os oedd gennych blentyn anabl neu os oeddech chi'n anabl eich hun. Mae hynny'n rhan o'u hymchwiliad, 'A oes gan blant anabl hawliau cyfartal i addysg a gofal plant?' Yr ateb yw, 'Na, dim o gwbl'. Mae'n anodd iawn i unrhyw un ddod o hyd i ble mae'r gofal plant, sut i'w gael a beth fydd yn ei gostio, ond yn achos teuluoedd anabl, mae'n rhaid i'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd gamu i'r adwy a rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i deuluoedd. Os oes ganddynt blentyn anabl, y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd a ddylai wneud yr ymchwil ynglŷn â'r hyn sy'n addas i blentyn ag anabledd penodol, nid y teulu sydd dan bwysau. Felly, rwy'n credu bod gwir angen inni wella ansawdd y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd sydd i fod i fodoli ym mhob awdurdod lleol.

Rydym yn gwybod mai gwaith yw'r llwybr cyflymaf allan o dlodi, ond pan fydd gennych blentyn, oni bai eich bod yn ennill cyflog uwch na'r cyfartaledd, fe fyddwch yn cael anhawster mawr i ddychwelyd i'r gwaith, oni bai bod gennych neiniau a theidiau neu aelodau eraill o'r teulu sy'n byw gerllaw ac sy'n barod i ofalu am eich plentyn am eu bod wrth eu bodd yn gwneud hynny. Ac mae hynny'n wych lle mae'n gweithio, ond yn amlwg, nid yw'n berthnasol i lawer iawn o bobl. Gwyddom mai gofal plant annigonol yw prif achos y bwlch cyflog parhaus rhwng y rhywiau. Hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw fwriad o gael plentyn, bydd menyw yn dal yn destun gwahaniaethu mewn cyfweliadau swyddi, gan y rhagdybir y bydd yn cael plentyn rhyw ddydd ac felly bydd yn rhaid i'r cyflogwr ddiwallu ei hangen i gyflawni ei dyletswyddau fel rhiant. Yn amlwg, mae yna lawer iawn sydd angen ei newid yn y ffordd y mae cymdeithas yn edrych ar blant a'r pethau cadarnhaol sy'n gysylltiedig â dod â'r genhedlaeth nesaf i'r byd. Mae hwn yn fater gwirioneddol gymhleth; mae'n galw am lawer iawn o arian a bydd yn golygu bod angen i Lywodraeth y DU fynnu bod y trethdalwr cyffredin yn gwneud cyfraniad llawer mwy tuag at fagu'r genhedlaeth nesaf ac nad teuluoedd unigol, sy'n cael eu llorio gan gost gofal plant ar hyn o bryd, fydd yn talu.

16:50

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gaf innau hefyd ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith yn cyflwyno hyn? Mae'n ddadl ddeiseb fawr ei hangen, a diolch i'r deisebwyr a'i cyflwynodd. Mae'n fater enfawr i lawer o bobl, ac nid wyf am ailadrodd y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr, rydym wedi clywed digon o hynny heddiw. Ond yn anffodus, mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru heb benderfynu dilyn yr hyn sydd ar gael yn Lloegr yn gosod teuluoedd yma mewn sefyllfa anodd dros ben.

Yn ddiweddar, cefais y pleser, yr wythnos diwethaf, o gyfarfod â mamau anhygoel yn fy etholaeth, gyda'n Haelod Seneddol, i glywed am eu profiadau o geisio cael gofal plant. Roedd llawer o'r menywod hyn yn weithwyr proffesiynol sy'n awyddus i fynd yn ôl i'r gweithlu, ond mae seilio'r cynnig gofal plant ar ardaloedd Dechrau'n Deg wedi dod yn loteri cod post go iawn o ganlyniad, ac mae llawer yn methu ei gael, er efallai y gallai eu cymdogion fod yn ei gael. Felly, cânt eu gadael mewn sefyllfa lle mae'n fwy ymarferol yn ariannol iddynt aros gartref, yn hytrach na thalu am ofal plant. Roedd un yn fydwraig, proffesiwn y mae ei angen arnom yn fawr, ac eto mae hi wedi mynd yn ôl i rôl anghlinigol oherwydd y mynediad annigonol at ofal plant. Roedd eraill yn mynd i golli arian, neu yn colli arian, drwy fynd i'r gwaith. Nid yw hyn yn gynaliadwy.

Ar ochr arall y geiniog, ymwelais â darparwr gofal plant yr wythnos diwethaf a esboniodd nad yw cyllid gan Lywodraeth Cymru prin yn talu'r gost ddyddiol y plentyn yn erbyn cefndir o chwyddiant a chyflogau uwch. Yn wir, mae o leiaf 10 lleoliad lleol arall wedi cysylltu â mi yn ystod y dyddiau diwethaf yn unig yn adleisio'r un sefyllfa. Fodd bynnag, nid tystiolaeth anecdotaidd yn unig a geir, oherwydd mae'n adlewyrchiad o sefyllfa ehangach, gydag arolwg diweddar yn dangos nad oedd 70 y cant o leoliadau yn credu y byddai ganddynt ddyfodol, dyfodol cynaliadwy, hwy na 12 mis, tra bod data gan Oxfam wedi canfod bod bron i 90 y cant o rieni wedi rhestru gofal plant fforddiadwy fel prif flaenoriaeth.

Felly, yng ngoleuni hyn, roedd yn syndod enfawr i mi fod Llywodraeth Cymru wedi ail-flaenoriaethu £11.2 miliwn o gyllid y cynnig gofal plant oherwydd bod nifer llai na'r disgwyl wedi manteisio arno a ninnau'n gweld rhieni a darparwyr yn crefu am fwy o arian i greu gwasanaeth cynaliadwy a gwasanaeth sy'n hygyrch i lawer mwy o bobl. Felly, rwy'n cefnogi'r ddeiseb hon, un sydd ond yn gofyn am gydraddoldeb â'n cymdogion yn Lloegr. Mae'n amlwg fod teuluoedd yng Nghymru yn cael cam, neu y byddant yn cael cam, os na chawn gynnig sy'n cymharu â'r cynnig yn Lloegr. Fe welsom beth y gellir ei wneud a'r hyn sydd ar gael yn Lloegr, gofynnwn ar ran ein teuluoedd niferus yn ein hetholaethau am yr un cyfle yma. Diolch. 

16:55

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, nawr, i gyfrannu i'r ddadl. Julie Morgan.

Diolch. Diolch yn fawr iawn am roi'r cyfle i mi yma heddiw i ymateb i'r ddadl bwysig hon am ofal plant, a diolch i'r Pwyllgor Deisebau am fwrw ymlaen â hyn ac i Jade a Madelaine am gyflwyno'r deisebau, oherwydd mae'n rhoi cyfle inni siarad am fater cwbl allweddol. Rydym i gyd yn cydnabod y gall gofal plant hygyrch o ansawdd uchel fod yn drawsnewidiol i blant, yn enwedig plant y mae eu teuluoedd yn wynebu heriau ychwanegol. Mae gofal plant hefyd yn sicrhau cyfleoedd i rieni weithio, rhywbeth y trafodwyd llawer arno yma heddiw, yn enwedig menywod, gan helpu ein heconomi, mynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldebau. Felly, rwy'n pwysleisio'n gryf iawn pa mor bwysig yw gofal plant i'r Llywodraeth.

Ymrwymodd 'Symud Cymru Ymlaen' i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio. Ar hyn o bryd mae'r cynnig gofal plant i Gymru yn un o'r cynigion gorau yn y DU, oherwydd mae ar gael 48 wythnos y flwyddyn, o'i gymharu â 38 wythnos yn Lloegr, fel y nododd Sioned Williams, rwy'n credu. Mae hefyd yn cefnogi'r rhai sy'n ceisio gwella eu rhagolygon gyrfa. O fis Medi 2022, fe wnaethom ehangu'r cynnig gofal plant i gynnwys pob rhiant mewn addysg a hyfforddiant. Felly, yng Nghymru, mae'n cynnwys rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant hefyd, nid rhieni sy'n gweithio yn unig, a hynny am gyfnod hirach o'r flwyddyn.

Ym mis Rhagfyr 2023, roedd dros 15,900 o blant yn manteisio ar y cynnig gofal plant, ac mae hyn yn cynnwys tua 650 o blant yr oedd eu rhieni mewn addysg neu hyfforddiant, ac yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23, rydym yn amcangyfrif bod tua 1,140 o rieni unigol ychwanegol wedi cael eu cefnogi oherwydd bod y cynnig wedi ei ymestyn i gynnwys rhieni cymwys mewn addysg a hyfforddiant, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam hanfodol, dod â gofal plant i rieni mewn addysg a hyfforddiant. Ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein cynllun cyfathrebu strategol i hyrwyddo ein cynnig gofal plant drwy amrywiaeth o sianeli i sicrhau bod rhieni cymwys yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig.

Ac mewn ymateb i gyfeiriad Jenny Rathbone at blant anabl, rydym yn darparu cymorth penodol i blant anabl drwy'r cynnig gofal plant, ond nid ydym yn credu bod hynny'n ddigon o gymorth mewn gwirionedd, felly rydym yn edrych ar ddarparu mwy o gymorth i blant anabl.

Felly, er i'r Canghellor gyhoeddi yng nghyllideb y gwanwyn y llynedd eu bod yn ehangu gofal plant i rieni sy'n gweithio yn Lloegr, mae'n dod yn fwyfwy amlwg—fel y nododd llawer o bobl heddiw—y bydd yr addewidion hyn, a oedd i ddigwydd o fis Ebrill ymlaen, ymhell islaw'r disgwyliadau, oherwydd mae'n ddigon hawdd dweud eich bod yn mynd i wneud rhywbeth, ond er mwyn ei wneud, rhaid ichi gael y lleoedd, rhaid ichi gael y gweithlu a rhaid ichi weithio ar y cyd gyda'r gweithlu, gyda'r holl randdeiliaid, i baratoi. Ac yng Nghymru mae gennym weithlu gofal plant cryf, medrus ac uchelgeisiol ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i gefnogi'r sector i dyfu. Mae'r cymorth hwn yn ymwneud â galluogi darparwyr i ehangu mewn ffordd sy'n cyflawni eu huchelgeisiau. Rydym i gyd wedi ymrwymo i gynnal a datblygu gweithlu uchel ei barch a medrus iawn ar gyflogau da. Ac nid ydym yn bwriadu cyfaddawdu ar ein cymarebau staffio, nid ydym yn bwriadu gostwng y gofynion cymwysterau, na pheryglu ansawdd y profiad a ddarparwn i blant a'u teuluoedd mewn unrhyw ffordd arall. Unwaith eto, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt a wnaeth Jenny Rathbone yn ei chyfraniad, ein bod eisiau ansawdd uchel, ac felly nid ydym yn bwriadu torri corneli er mwyn cyflawni hynny.

A'r peth pwysig sy'n rhaid imi ei ddweud, er mwyn datblygu, yw bod yn rhaid ichi weithio gyda'r bobl sydd yn y maes, oherwydd mae'n rhaid ichi gael y lleoedd er mwyn ehangu. A dyna pam mae gennym berthynas gref iawn â'r cyrff sy'n darparu gofal plant a pham ein bod yn cyfarfod yn gyson â hwy, a hefyd yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol.

Yn ein rhaglen lywodraethu, ac fel sy'n cael ei atgyfnerthu yn ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno darpariaeth blynyddoedd cynnar ehangach fesul cam i gynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ac mae datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg yn bwysig iawn, ac rydym wedi gweld datblygiadau sylweddol. Ac rydym yn bwrw ymlaen â hyn drwy ein rhaglen Dechrau'n Deg flaenllaw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud, fel y dywedwyd eisoes yma heddiw, Dechrau'n Deg, lle rydym wedi dechrau hynny eisoes, yw lle mae'r angen mwyaf a'r amddifadedd mwyaf, ac rwy'n amddiffyn yn llwyr y ffordd honno o ddatblygu ein darpariaeth gofal plant. Byddwn yn symud tuag allan, fel y gwnawn ar hyn o bryd, tan y byddwn yn y pen draw yn cyrraedd pob plentyn dwy flwydd oed. Ac rwy'n credu'n bendant mai dyna'r peth iawn i'w wneud.

17:00

Roeddwn am ofyn i chi, gyda'r symiau canlyniadol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu derbyn gan Lywodraeth y DU fel rhan o'r broses gyflwyno yn Lloegr, mae'n ymddangos yn eich sylwadau fod yna amharodrwydd parhaus gan Lywodraeth Cymru i ymgorffori'r system arfaethedig ar gyfer Lloegr. Felly, i ble fydd yr arian yn mynd o'r symiau canlyniadol, a ble y caiff ei wario, oherwydd mae swm sylweddol o arian yn dod gan Lywodraeth y DU, felly i ble fydd hwnnw'n mynd, os na chaiff ei wario ar y diben y'i bwriadwyd ar ei gyfer?

Daw unrhyw arian canlyniadol sy'n dod o Loegr yn ganolog i Lywodraeth Cymru, a bydd y Cabinet yn penderfynu i ble mae'r arian hwnnw'n mynd. Ond nid wyf yn gwybod pam fod gennych obsesiwn gyda'r ffaith nad ydym eisiau dilyn Lloegr. Rydym yn datblygu gofal plant yma yng Nghymru mewn ffordd systematig, ac ni welaf unrhyw reswm pam y dylai unrhyw beth sy'n digwydd yn Lloegr newid y ffordd yr ydym yn datblygu, ac mae gennym gynllun ac rydym yn gweithio tuag at y cynllun hwnnw. Beth bynnag, rwy'n falch iawn o ddweud, drwy'r cytundeb cydweithio, ein bod yn gwneud cynnydd da ac yn cyflawni'r ymrwymiadau a wnaethom.

Ac wrth gwrs, gall darpariaeth gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth wneud cyfraniad pwysig at liniaru'r pwysau costau byw y mae teuluoedd yn ei brofi ar hyn o bryd, ac sydd wedi cael sylw yn y ddadl. Mae gofal plant, sy'n elfen bwysig o'r rhaglen Dechrau'n Deg, nid yn unig yn ffordd bwysig o hyrwyddo datblygiad a chyrhaeddiad plant drwy ddarpariaeth o ansawdd uchel, mae'n amlwg y gall fod yn allwedd i gael gwaith. Ac fel y gwyddom i gyd, gwaith yw'r llwybr allan o dlodi, a chredaf fod Joel James a Sarah ill dau wedi sôn am bwysigrwydd menywod yn y sefyllfa honno. 

Felly, rydym yn ehangu Dechrau'n Deg mewn camau. Mae cam 1, sy'n cynnig pob un o'r pedair elfen o Dechrau'n Deg, gan gynnwys lleferydd ac iaith, bellach wedi'i gwblhau. Rydym wedi ymrwymo i roi cymorth i 2,500 o blant drwy ehangu cam 1 y rhaglen Dechrau'n Deg. Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, cynigiwyd darpariaeth Dechrau'n Deg i 3,178 o blant—127 y cant o'r targed yr ymrwymwyd iddo. Ac roedd hyn yn cynnwys 772 o blant a oedd wedi cael cynnig lle gofal plant. 

Dechreuwyd ehangu cam 2 ym mis Ebrill y llynedd, ac mae'r cam hwn yn canolbwyntio'n benodol ar ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant dwy oed. Felly, yn ystod 2023-24 a 2024-25, rydym yn buddsoddi £46 miliwn i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i gefnogi effeithiau cadarnhaol hirdymor ar fywydau plant a theuluoedd ledled Cymru sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Ac rydym yn disgwyl cefnogi mwy na 9,500 ychwanegol o blant dwy oed yn ystod y cam hwn, ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni hyn. Felly, rydym yn darparu mwy o leoedd yma nawr.  Rydych chi'n siarad am yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr yn y dyfodol, lle mae llawer o amheuaeth ynglŷn ag a fydd hynny'n gallu digwydd oherwydd y pwysau ar y gweithlu ac ati, ond rydym ni'n cyflawni hyn nawr. 

Ac mae'n rhaid imi ddweud, yr wythnos diwethaf, gyda Siân Gwenllian, cefais y fraint o ymweld â meithrinfa mewn ardal ehangu yng ngogledd Cymru, a gwelais drosof fy hun pa mor bwysig yw chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar o ansawdd uchel, ac roedd yn gwbl ysbrydoledig. Gwelsom leoliad gofal plant arloesol, sydd wedi mabwysiadu dull Reggio Emilia o weithredu addysg blynyddoedd cynnar. Gan roi plant yn y canol, mae'n rhoi pŵer a photensial iddynt ddatblygu a dysgu o'r amgylchedd, yn yr awyr agored yn bennaf, a thrwy ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd gan International Play Iceland, mae'r lleoliad hefyd wedi ymrwymo i ddatblygiad cadarnhaol plant trwy chwarae. Ac rwy'n credu ei fod yn un o'r ymweliadau mwyaf ysbrydoledig i mi eu cael ers amser maith. Ac mae hynny'n digwydd nawr yng Nghymru, ac mae Dechrau'n Deg yn cael ei ddarparu o'r lleoliad hwn.

Rwy'n gwybod bod y Llywydd yn dynodi bod yn rhaid i mi ddirwyn i ben. 

17:05

I gloi, rwy'n credu mai'r hyn yr oeddwn yn ei ddweud yw'r hyn yr hoffwn orffen gydag ef: fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r ehangu hwn, ehangu o ansawdd uchel, nawr, ac nid wyf yn credu y dylem fod yn meddwl drwy'r amser, 'Sut mae hyn yn cymharu â Lloegr?' Dylem feddwl, 'Sut mae hyn yn digwydd nawr?', a gweithio i weld sut y gallwn ddatblygu ein hunain yn y dyfodol. Diolch.

Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i'r ddadl heddiw a phawb sydd wedi cyfrannu? Lywydd, fe fyddwch yn falch o glywed na fyddaf yn gallu mynd drwyddynt i gyd, ond fe wnaf sylwadau ar Joel James, fy nghyd-aelod o'r pwyllgor, a ddechreuodd drwy gynnig ei gefnogaeth lawn i'r ddeiseb a nodi hefyd mai gofal plant yw'r broblem unigol fwyaf i rieni plant ifanc yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw. Rwy'n credu bod hynny wedi cael ei ategu gan y cyfraniadau i gyd heddiw.

Clywsom lawer gan aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith, a siaradodd eu Cadeirydd hefyd. Trafododd Jane Dodds y cysylltiad rhwng gofal plant a thlodi plant ac roedd eisiau ailffocysu ar y gwerth economaidd, ac rwy'n meddwl bod Gareth Davies wedi sôn am yr un peth. Yr hyn y mae'r ddadl hon wedi'i wneud heddiw, Lywydd, yw rhoi llwyfan clir i'r Gweinidog ac amryw o Weinidogion Llywodraeth Cymru allu deall rhwystredigaethau rhieni yng Nghymru. Ac rwy'n credu inni glywed Sarah Murphy yn awgrymu eich bod chi wedi cael nifer o bobl yn dod atoch, nid rhieni yn unig. Peter Fox, fe sonioch chi am ddarparwyr gofal plant yn dod atoch ynglŷn â'r gwahaniaethau, ac efallai, annhegwch canfyddedig dau gynnig gwahanol: un yn Lloegr, un yng Nghymru. Ac mae hynny yr un fath i minnau, gydag etholaeth yn ardal y ffin, ond hefyd gyda'r cynnig Dechrau'n Deg rownd y gornel ar y stryd.

Rwy'n gwybod bod fy amser yn brin, Lywydd, ond carwn ddweud fy mod am wneud cynnig i'r Gweinidog—. Rwy'n credu mai'r hyn y bydd y deisebwyr yn ei deimlo fis Ebrill—. Ac mae llawer o drafod wedi bod am y cynnig yng Nghymru a Lloegr a’r cyflawni yng Nghymru ac efallai'r diffyg cyflawni yn Lloegr—. Un o anfanteision gwleidyddiaeth yn aml yw nad yw hynny'n cyrraedd y cyhoedd yn gyffredinol. Felly, efallai, fel cynnig i'r Gweinidog, pe gallem gael nodyn ysgrifenedig manwl y gallem ei rannu gyda'r deisebwyr—dros 11,000 sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon—gallem anfon atynt ar hynny, oherwydd rwy'n credu y bydd ganddynt gwestiynau o hyd ac maent yn dal i haeddu eglurder ar hynny. Roedd y deisebydd yn eithaf clir wrthyf—mae'n bwysig eu bod yn cael yr eglurder fel eu bod yn gallu deall beth sy'n digwydd yn eu democratiaeth eu hunain. Felly, os cawn fynd ar drywydd hynny, byddai hynny'n wych.

Rwy'n gwybod bod fy amser yn brin, Lywydd. Rwyf am ddiolch i bawb unwaith eto, ond diolch, yn bwysicach fyth, i'r holl ddeisebwyr a lofnododd. Nid wyf yn meddwl y bydd hyn yn diflannu—rwy'n gwybod y bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn adolygu gofal plant ac rwy'n credu y bydd gan y Pwyllgor Deisebau ddiddordeb brwd yn yr hyn a ddaw yn y pen draw hefyd. Diolch.

17:10

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r deisebau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae hynna wedi'i gymeradwyo.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23'
11. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol'

Felly, eitem 11 sydd nesaf, sef dadl ar adroddiad y pwyllgor diwylliant ar 'Y tu ôl i'r llenni: Gweithlu'r diwydiannau creadigol'. Cadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r ddadl yma—Delyth Jewell.

Cynnig NDM8458 Delyth Jewell

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Diolch am y cyfle i gynnal y ddadl hon heddiw ar adroddiad y pwyllgor, 'Y tu ôl i'r llenni: Gweithlu'r diwydiannau creadigol'. Buaswn i'n hoffi diolch i'r tîm pwyllgor, fel arfer, am eu gwaith sydd mor bwysig i'r pwyllgor.

Mae Cymru wedi sefydlu ei hun fel canolfan flaenllaw ar gyfer y diwydiannau creadigol yn y Deyrnas Unedig. Mae’r sector yn darparu dros 80,000 o swyddi ac oddeutu £4 biliwn yw ei drosiant blynyddol. Mae hyn werth dros 5 y cant o GDP Cymreig. Mae’n wir yn un o bwerdai economi Cymru ac mae’n gyflawniad y dylai pob un ohonom ni ymfalchïo ynddo. Er gwaethaf y ffyniant yn y diwydiant yng Nghymru, mae wedi bod yn amlwg bod y diwydiannau creadigol, serch hynny, yn stori am ddau ddiwydiant creadigol, mewn gwirionedd.

Hoffwn dalu teyrnged yma i'n hymchwilydd Robin Wilkinson, y mae ei flog rhagorol ar y mater hwn yn ei ddisgrifio fel 'stori dau ddiwydiant'. Ac fel y mae'n dweud, mewn sawl ffordd, fe allech ddweud ei bod hi'r adeg orau a'r adeg waethaf ar y sector.

Mae rhan gyntaf y diwydiannau creadigol yn llwyddiant go iawn. Mae’r sector sgrin yng Nghymru, fel dywedodd yr Athro Justin Lewis o Brifysgol Caerdydd,

'mae'n stori lwyddiant enfawr',

gyda Chymru 

'yn cael ei hystyried yn fath o bwerdy byd-eang yn y DU'.

Mae’r sector sgrin yng Nghymru, cyn ac ar ôl pandemig COVID-19, wedi tyfu’n sylweddol. Mae hyn yn darparu digon o gyfleoedd gwaith. Nawr, mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae rhannau eraill o’r diwydiannau creadigol yn ei chael hi’n anodd uffernol. Nid yw’r sectorau celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth wedi adfer yn llawn ers y pandemig.

Eto, dywedodd yr Athro Justin Lewis wrthym, er enghraifft:

'mae'r holl dueddiadau gwaelodol yn y diwydiant cerddoriaeth yn wael.'

Mae wedi cael ei adrodd droeon, Llywydd, fod adferiad yn y sectorau celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth wedi cael ei rwystro gan gostau ynni a chynulleidfaoedd yn dychwelyd yn araf ers y pandemig. Nawr, yn anffodus, mae’r cymorth ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i’r sectorau hyn, er ei fod i’w groesawu, wedi’i amsugno gan lefelau chwyddiant uwch nag erioed.

Yn ein hadroddiad, fe wnaethom nodi nifer o argymhellion, gan gynnwys adeiladu ar yr ymyriadau cadarnhaol hyd yn hyn, fel hwyluswyr llesiant i fynd i'r afael â bwlio ac ymddygiad amhriodol yn y diwydiannau creadigol, dull mwy hirdymor o ariannu a datblygu sgiliau cynllunio, a sicrhau bod data amserol o ansawdd da ar gael i ddeall cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng ngweithlu'r diwydiannau creadigol.

Nawr, rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nifer o'n hargymhellion, gan gynnwys y ffordd y mae'r Llywodraeth yn cydlynu mentrau i sicrhau digon o sgiliau Cymraeg yn y diwydiannau creadigol, gan weithio gydag undebau a chwmnïau cynhyrchu i nodi arferion gorau er mwyn sicrhau y gall gweithwyr weithio mewn amgylcheddau sy'n rhydd o wahaniaethu, rhagfarn a bwlio, a darparu cymorth a ariennir yn fwy hirdymor ar gyfer datblygu sgiliau yn y diwydiannau creadigol. Rydym yn hyderus y bydd y camau hyn yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion a nodwyd gennym yn ein hymchwiliad.

Fodd bynnag, mae angen gweithredu'r argymhellion a gyflwynwyd gyda'i gilydd os ydym am sicrhau y gall y diwydiannau creadigol yng Nghymru dyfu mewn ffordd gynaliadwy sy'n deg i bawb sy'n gweithio ynddynt. Mae'n siomedig, Lywydd, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yn llwyr ein hargymhelliad y dylai'r strategaeth ddiwylliant sydd ar y ffordd nodi cefnogaeth i ddatblygu a chynnal y gweithlu yn y sector celfyddydau a'r sector cerddoriaeth. Mae'r sector celfyddydau a'r sector diwylliant yn crefu am gyfeiriad strategol. Mor bell yn ôl â 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth ddiwylliant newydd i Gymru. Bron i dair blynedd yn ddiweddarach, mae rhai rhannau o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru mewn argyfwng—ac nid wyf yn defnyddio'r gair hwnnw'n ysgafn. Rydym wedi gofyn dro ar ôl tro pryd y bydd y strategaeth honno'n barod. Yr wythnos diwethaf, wrth graffu ar y gyllideb ddrafft, dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu ei geiriau yma:

'roedd ein rhagamcan cychwynnol y byddai hyn yn cymryd tua chwe mis yn hynod optimistaidd. Ac felly dyna oedd y prif reswm am hynny—yr angen i gael hyn yn iawn ac i ymgynghori â'r holl bobl iawn.'

Wrth gwrs bod angen inni wneud hyn yn iawn, ac rydym yn cydnabod hynny. Hefyd, gwrthododd Llywodraeth Cymru ein galwadau am i'r strategaeth ddiwylliant gynnwys darpariaethau ar gyflog ac amodau gwaith teg. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym yn ystod ein sesiwn dystiolaeth:

'O fewn y strategaeth ddiwylliannol buaswn yn disgwyl yn bendant iawn y bydd disgwyliadau'n cael eu gosod yn glir iawn ynglŷn â sut olwg sydd ar sefydliadau diwylliannol yng Nghymru a sut maent yn cyflogi staff, a beth yw eu hamodau gwaith'.

Felly, roeddem yn siomedig fod yr argymhelliad hwnnw wedi'i wrthod. Rydym yn derbyn yr angen i gael y strategaeth hon yn iawn ac i ymgynghori'n briodol, fel y dywedais, ond mae wedi cymryd nifer o flynyddoedd i'w llunio. Yn y cyfnod hwnnw, mae cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio, theatrau, amgueddfeydd ac orielau mewn sefyllfa wael. Dim ond gweld setliadau'r gyllideb ddrafft sydd ei angen i ddeall hynny. Ac ofnwn fod pethau'n mynd i waethygu i nifer o sefydliadau dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, o ystyried yr hinsawdd ariannol. Ac eto nid oes strategaeth na chyfeiriad pholisi o hyd ynglŷn â pha gymorth a fydd ar gael i'r sectorau hyn.

Nawr, roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwrthod ein hargymhelliad i adolygu pa adnodd ychwanegol sydd ei angen ar y sector celfyddydau, y sector diwylliant a'r sector cerddoriaeth i sicrhau setliadau cyflog teg ac amlinellu pa gymorth ychwanegol y gallant ei ddarparu. Clywsom dystiolaeth fod y rhai sy'n gweithio yn y sector sgrin, fel ffilm a theledu, yn gallu ennill cyflogau da. Ond clywsom hefyd fod y sector cerddoriaeth, y sector celfyddydau a'r sector diwylliant yn ei chael hi'n anodd cadw staff oherwydd cyflogau. Dywedodd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wrthym fod ceisio cadw i fyny â chynnydd cyflogau yn y tymor byr yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau droi at gronfeydd wrth gefn neu gyllid a ddyrannwyd ar gyfer datblygu hirdymor. Dywedodd nifer o'r rhai a gyfwelwyd wrthym hefyd fod tâl am waith byw, fel cerddoriaeth fyw neu theatr, yn rhy isel ac yn ansefydlog o'i gymharu â'r sector sgrin. Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym:

'Rydym ni a'n partneriaid yn ymwybodol o'r problemau sy'n ein hwynebu gyda'n gilydd wrth geisio gwella cyflogau, telerau ac amodau a'r heriau penodol o ran gweithwyr llawrydd. Nid ydym yn credu y byddai adolygiad ychwanegol yn ychwanegu gwerth nac yn gwella ein dealltwriaeth o'r problemau, y rhwystrau a'r cyfleoedd.'

Fel y nodais, mae'r sector celfyddydau, y sector diwylliant a'r sector cerddoriaeth mewn sefyllfa wirioneddol anodd. Os na allant recriwtio a chadw staff yn gystadleuol, bydd y blynyddoedd nesaf yn llawer mwy heriol iddynt. Ond nid yw'r cyfan yn anobeithiol, Lywydd. Roedd Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r pwyllgor ynghylch yr angen i roi mesurau ar waith i ddiogelu'r twf yn y diwydiannau creadigol ar gyfer y dyfodol. Galwodd rhanddeiliaid, gan gynnwys S4C ac ITV Cymru, am fwy o hyfforddiant, ac roedd Tom Ware o Brifysgol De Cymru yn dweud mai'r broblem ar hyn o bryd oedd bod y dull o weithredu hyfforddiant yn 'fyrdymor'. Dywedodd Ffilm Cymru wrthym fod angen mwy o 'bobl ar bob lefel', a nododd y cwmni cynhyrchu Bad Wolf fod prinder yn y gweithlu yn golygu eu bod yn cael trafferth cadw i fyny â'r galw. Yn hynny o beth, rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nifer o argymhellion a fydd yn rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod digon o lif o dalent i gadw'r diwydiannau creadigol yn gryf yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys rhoi cynlluniau sgiliau a chyllid ar sail fwy hirdymor, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gwaith sydd ar gael i bobl ifanc yn y diwydiannau creadigol.

Nawr, rwy'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan Aelodau eraill i'w ddweud yn y ddadl hon, ac eto rŷn ni'n ddiolchgar iawn am yr amser i drafod cynnwys ein hymchwiliad yn y Senedd. Diolch.

17:15

A gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell, am ddod â'r adroddiad hwn i lawr y Senedd a holl aelodau'r pwyllgor a'r tîm clercio am eu gwaith caled yn ystod y broses hon?

Mae'r diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi eu ffurfio gan amrywiaeth gyfoethog o unigolion, sefydliadau, cwmnïau ac elusennau. Mae eu gwaith cyfunol yn chwarae rhan hanfodol yn cyfoethogi ein diwylliant, ein treftadaeth a datblygiad Cymru yn y dyfodol, ac yn cyfrannu'n aruthrol at economi Cymru, gan ddod â throsiant blynyddol o £4 biliwn i mewn bob blwyddyn. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiannau creadigol a'r rôl y maent yn ei chwarae yng Nghymru, ac mae eu gwaith yn rhywbeth i'w ddathlu. Ond mae anawsterau yn y sector, yn enwedig ar ôl y pandemig, ac mae'n peri pryder fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio ag ymgorffori yn ei strategaeth ddiwylliant—a chyda llaw, fel y soniodd Delyth Jewell, mae honno ar ei hôl hi—uchelgeisiau ar gyfer datblygiad a chynaliadwyedd y sector celfyddydau a'r sector cerddoriaeth.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod tri o'r 13 argymhelliad, rwy'n croesawu'r ffaith ei bod wedi derbyn, neu dderbyn yn rhannol mewn rhai achosion, y 10 sy'n weddill. Mae'n gadarnhaol gweld ymrwymiadau i sicrhau digon o sgiliau iaith Gymraeg yn y sector a chynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd i bobl iau. Mae'n bwysig fod pobl ifanc sydd am ymuno â'r sector diwydiannau creadigol yn cael cyfle i dorri i mewn i'r gyrfaoedd hyn, gyda'r opsiwn o sgiliau Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd. Mae'n arbennig o bwysig o ystyried canfyddiadau adroddiad y pwyllgor i ddiffyg profiad yn y sector, a achosodd bryder difrifol i'r sector. Dywedodd rhai o'r bobl a gyfwelwyd,

'mae'n teimlo fel pe baem wedi mynd yn ôl ddeng mlynedd'.

Dioddefodd y sector yn aruthrol ar ôl y pandemig yn sgil problemau'n gysylltiedig â'r gweithlu, cyflogau ac amodau gwaith, cynigion gwaith, cyfleoedd i recriwtio ac uwchsgilio, a llawer o bethau eraill. Ac mae hynny'n arbennig o wir am weithwyr llawrydd. Collodd hanner y gweithwyr 80 y cant o'u gwaith yn 2021, a rhoddodd 57 y cant y gorau i fuddsoddi mewn offer newydd.

Mae materion costau byw hefyd wedi taro'r sector yn galed. Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth fod costau wedi codi 300 y cant ar draws eu haelodau, ac mae hyn wedi gadael y sector cerddoriaeth mewn sefyllfa ansicr; dywedodd 56 y cant o sefydliadau eu bod yn bryderus iawn neu'n eithriadol o bryderus am y pwysau a ddaw yn sgil costau cynyddol.

Nododd Llywodraeth Cymru lefelau digynsail o dwf i'r sector, sy'n addawol iawn ar ôl y pandemig, ond mae hynny wedi arwain at brinder staff yn y sector, ac mae'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys. Rhaid i Lywodraeth Cymru, fel y noda'r adroddiad, wneud mwy i gynyddu'r cyfleoedd gwaith a phrofiad i'r rhai yn y sectorau hyn a'r rhai sy'n ystyried dod yn rhan ohonynt. Mae'r prinder i'w deimlo ar draws y sector. Mae Cymru Greadigol, er enghraifft, yn dîm bach, sydd, yng ngeiriau Nia Britton, yn gwneud 'gwaith rhagorol' ar fynd i'r afael â'r materion anodd sy'n wynebu'r sector.

Ond gwaethygir yr anawsterau y mae'r sector yn eu hwynebu oherwydd arafwch y gwaith o ddatblygu strategaeth ddiwylliannol Llywodraeth Cymru. Mae diwydiannau'n wynebu ansicrwydd mewn sawl maes, a thair blynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r strategaeth honno. A gallai'r tair blynedd hynny fod wedi cael eu treulio'n helpu'r sectorau y mae'r Dirprwy Weinidog yn gyfrifol amdanynt. Mae'n peri pryder i mi fod y Dirprwy Weinidog yn gwybod bod yr oedi wrth ddatblygu'r strategaeth:

'Oherwydd faint o waith sydd wedi bod ynghlwm wrthi yn y bôn.'

Eto i gyd, ychydig iawn y mae hi wedi'i wneud, yn fy marn i, i gyflymu'r broses honno. Mae'n destun pryder fod gwaith wedi arafu ar strategaeth Llywodraeth Cymru ac o'r herwydd, fod gwaith wedi arafu ar bryderon ac anghenion y sector hefyd.

Serch hynny, mae yna newyddion cadarnhaol wedi bod, fodd bynnag, gyda Bad Wolf yn dweud eu bod yn fwy prysur nag y buont erioed. Rwyf hefyd yn croesawu rhaglen hybu gemau cyfrifiadurol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo masnachadwyedd cwmnïau sefydledig, ac edrychaf ymlaen at ganfyddiadau'r cynllun peilot hwnnw. Ac mae hefyd yn addawol i'r diwydiant gemau cyfrifiadurol fod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau gydag Esports Cymru ynglŷn â chyfle i gynnal neu ddatblygu digwyddiad e-chwaraeon yma yng Nghymru.

Dylem fod yn falch o'r gwaith a wneir gan y sector a'r prosiectau y maent yn eu cyflawni. Wrth edrych i'r dyfodol felly, dylem ganolbwyntio ar gynnal twf mewn rhai meysydd, sicrhau twf mewn meysydd eraill, ac yn fwyaf arbennig, rwy'n credu, dylem sicrhau ein bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau technolegol yn y sector fel y gallwn fanteisio ar ei botensial a bod ar y blaen. Rhaid i hyfforddiant ac uwchsgilio fod ymhlith y prif bethau a wnawn, a pheidio â bod yn adweithiol, fel y soniodd Delyth Jewell, i anghenion tymor byr, fel y clywsom gan wahanol sectorau. Dyma un o'r ystyriaethau pwysicaf ar gyfer datblygu'r sector yn y dyfodol, ond ni all ddigwydd gyda'r toriadau arfaethedig presennol yn y cyllid i brentisiaethau. Er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddiwydiannau creadigol Cymru, mae angen inni weithio gyda'r bobl yn y sector i gyflawni hyn a sicrhau bod pobl ifanc yn enwedig yn cael cyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd hir a llewyrchus mewn sector ffyniannus. Diolch.

17:20

Gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd am amlinellu gwaith y pwyllgor yn wych ar y dechrau fan hyn? Mi oeddwn i'n ddigon lwcus i fod yn rhan o'r pwyllgor pan oedd y gwaith hwn yn mynd rhagddo, ac mi oedd o’n ymchwiliad oedd nid yn unig diddorol ond pwysig yn fy marn i, oherwydd, wedi’r cyfan, mae'r diwydiannau creadigol a'u twf yn eithriadol o bwysig o ran dyfodol economi Cymru. Wn i ddim faint o ddisgyblion ysgol dwi'n eu cyfarfod ar y funud—gamers, YouTubers, dyma’r math o ddiwydiannau maen nhw'n ysu i fynd iddyn nhw. Rydyn ni'n gweld ar y cyfryngau cymdeithasol bod plant yn ein hysgolion ni yn dysgu am godio, yr holl sgiliau pwysig yma. Dyma ydy'r dyfodol, ac mae o'n rhan annatod o'n dyfodol ni fel cenedl, a dwi'n meddwl mi oedd yna nifer o bethau, fel yr amlinellwyd eisoes, sydd yn gyffrous sy'n digwydd yma, ond hefyd rydym ni yn gweld rhwystrau sydd yn atal y twf yna, yn atal Cymru rhag cymryd mantais o'r holl gyfleoedd yma, sy'n golygu ein bod ni'n colli allan, a hefyd nad ydym ni yn sicrhau bod yr holl bobl a allai fod yn gweithio yn y maes yma yn gallu cael y cyfle i wneud hynny.

Roeddwn i'n falch iawn o weld y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad 2 o ran datblygu'r Gymraeg ar draws y sector creadigol. Mi oedd y dystiolaeth glywsom ni gan S4C yn arbennig o bwysig yn y fan yna, a'r diffyg sydd yna o ran y sgiliau cyfrwng Cymraeg, oherwydd, wedi'r cyfan, rydym ni'n trafod yn aml rhai o'r problemau sydd o ran tlodi gwledig neu'r diffyg swyddi da ledled Cymru—wel, mae yna swyddi da iawn o ran y diwydiannau creadigol, ac mae'r ffaith eich bod chi'n gallu gwneud nifer o'r swyddi yma o unrhyw le yng Nghymru, dydy o ddim yn gorfod bod yma yng Nghaerdydd ac ati, ond gallu bod unrhyw le, yn eithriadol o bwysig.

Un o'r pethau dwi innau yn rhannu pryder amdano ydy'r diffyg gan y Llywodraeth i dderbyn yr argymhellion o ran y strategaeth ddiwylliant. Dwi'n pryderu'n fawr ein bod ni'n gweld y sector yma ar wahân i ddiwylliant, oherwydd mae'r cysylltiad yna yn gyfan gwbl ynghlwm, a dwi'n meddwl, os nad ydy o'n mynd i fod yn strategaeth ddiwylliant, lle mae'r strategaeth yn mynd i fod ar gyfer y sector yma? 

Roeddwn i'n pryderu hefyd, o ran argymhelliad 11 yn cael ei wrthod, a oedd ynglŷn â rôl cyngor y celfyddydau ynglŷn â gwneud asesiad brys o iechyd ariannol lleoliadau celfyddydol, nad ydy'r Llywodraeth yn cymryd unrhyw fath o gyfrifoldeb o ran hynny ac yn dweud ei fod o'n fater i'r cyngor celfyddydau. Wel, mae'r cyngor celfyddydau yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru; mae yna remit letter blynyddol yn mynd i gyngor y celfyddydau, felly mae'r Llywodraeth yn gallu dweud wrth gyngor y celfyddydau yr hyn mae'n ei ddisgwyl er mwyn cefnogi'r gwaith mwy strategol yma, felly dwi ddim yn derbyn yr ymateb hwnnw a byddwn i'n hoffi deall gan y Gweinidog, efallai, pam mae yna wrthwynebiad i hynny, ynghyd, wrth gwrs, â'r ffaith lle bydd y strategaeth ar gyfer y sector hwn.

Mae eisoes wedi bod sôn mi glywsom ni nôl ym mis Hydref, wrth gymryd tystiolaeth, ynglŷn â'r sefyllfa argyfyngus ar lawr gwlad. Dwi'n siŵr bod chithau, nifer o Aelodau, fel finnau, yn derbyn gwaith achos gan nifer o leoliadau sydd yn pryderu'n aruthrol oherwydd y cynnydd sydd wedi bod mewn costau ynni, y diffyg sydd o ran gallu i recriwtio staff ac ati, ac mae hyn yn mynd i fod yn broblem ddybryd, oherwydd, nifer o'r lleoliadau yma, maen nhw'n bwysig iawn o ran ein cymunedau ni, o ran, yn sgil COVID, dod â phobl ynghyd, taclo'r holl unigrwydd sydd o fewn ein cymunedau ni hefyd, ac mae hyn ledled Cymru, heb sôn am yr effaith ar yr economi leol. Felly, dwi'n pryderu nad ydym ni, efallai, yn cysylltu hyn â'r pethau sydd eu hangen o ran datblygu'r economi, cefnogi cymunedau y tu hwnt i'r hyn rydym ni'n ei weld mewn rhai strategaethau neu ymyraethau.

Felly, diolch i bawb wnaeth roi o'u hamser i gyflwyno'r dystiolaeth i ni. Dwi'n siŵr y byddan nhw'n teimlo'n rhwystredig o weld dydy rhai o'r argymhellion yma ddim wedi cael eu derbyn rŵan, a dwi'n meddwl yr hyn y byddwn i'n hoffi'i glywed gan y Dirprwy Weinidog wrth iddi ymateb ydy: beth fydd y gefnogaeth i'r rhai sydd yn wynebu cau lawr ar y funud, neu ddim yn mynd i allu parhau, a sicrhau eu bod nhw'n gallu datblygu busnesau, oherwydd y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni? Ac, fel roeddwn i'n dweud gynnau, lle fydd y strategaeth? Byddwn i'n annog y Llywodraeth i ailystyried datgysylltu'r diwydiannau creadigol o'r strategaeth ddiwylliant. Dwi'n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw ddod ynghlwm, a gan ein bod ni'n gweld bod y strategaeth yna'n dal i fynd rhagddo, gawn ni weld y Llywodraeth efallai yn ailfeddwl yr approach yna ac yn sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn greiddiol i ddyfodol strategaeth ddiwylliannol Cymru?

17:25

Rwy'n cytuno'n gryf â'r pwynt olaf a wnaed gan Heledd Fychan. Rwyf i, fel eraill ar y pwyllgor, yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am dderbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion, ond yn siomedig iawn nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn, ac mewn gwirionedd wedi gwrthod, rwy'n credu, argymhellion 1 a 4 yn enwedig.

Mae'n bwysig ac mae'n amhosibl, yn fy marn i, esgus y gallwn gael strategaeth ddiwylliant nad yw'n cynnwys y bobl sy'n gweithio yn y sector. Ni allwch wneud hynny. Mae diwylliant yn ymwneud â phobl. Mae diwylliant yn ymwneud â phwy ydym ni fel pobl. Dylai strategaeth edrych ar y gwahanol elfennau yn ecosystem gyfan y sector hwnnw, gan ddod â phethau at ei gilydd ac edrych ar sut y gallwn gynyddu gwerth y sector i'r wlad hon, a sicrhau bod y sector yn cael yr effaith orau bosibl ar bob un ohonom. Mae'n anodd iawn credu ei bod yn bosibl cyflawni'r uchelgeisiau hynny heb fod â strategaeth sy'n glir, yn drylwyr, yn ddwfn ac yn uchelgeisiol ar gyfer y gweithlu, ar gyfer y bobl. Ni ellir ei wneud.

Carwn ddweud wrth Lywodraeth Cymru, 'Meddyliwch yn galed am y materion hyn', oherwydd un peth yw dweud—ac mae'n debyg fy mod wedi ei ddweud fy hun ar wahanol adegau—fod gennym strategaeth lefel uchel sy'n mynd i'r afael â rhai o'r prif faterion, ond nid oes gennych strategaeth o gwbl os nad oes gennych bobl i'w chyflawni. Dyna'r realiti. A'r hyn rwyf am ei weld gan y Llywodraeth yw llawer mwy o uchelgais, llawer mwy o amcanion, llawer mwy o atebolrwydd am y pethau hyn. Ac rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth ddiwylliant, pan fyddwn yn ei gweld, yn fwy na llwyth o eiriau a lluniau, wedi'u cynhyrchu'n dda iawn, wedi'u llunio'n dda iawn, a bod ganddi weledigaeth ac uchelgais sy'n anadlu drwy bob tudalen ohoni, ac yn ganolog iddi, mae'n rhaid iddi gael pobl.

Ac yn yr un modd, ar argymhelliad 4, rwy'n deall y setliad datganoli. Gallaf sicrhau Llywodraeth Cymru fod y Senedd yn deall y setliad. A gallaf sicrhau Llywodraeth Cymru fod y pwyllgor yn deall y setliad. Rydym yn gwybod beth sydd wedi'i ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli. Ond rydym hefyd yn deall natur y Llywodraeth, a gall y Llywodraeth weithredu fel catalydd, gall y Llywodraeth greu newid, gall y Llywodraeth fod yn uchelgeisiol, gall y Llywodraeth fod yn egnïol, a gall y Llywodraeth ddod â phobl ynghyd er mwyn cyflawni'r amcanion y credaf fod y Llywodraeth yn eu rhannu â ni. Yn fy marn i, ni ddylai'r Llywodraeth wrthod argymhelliad sy'n ceisio sicrhau bod

'sectorau’r celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth...[yn] sicrhau setliadau cyflog teg ac amlinellu...[c]ymorth ychwanegol.'

Dyna y credaf y dylai'r Llywodraeth yng Nghymru fod yn ei wneud. Oherwydd roedd hwn yn ymchwiliad pwysig iawn, ac fe'i cyflawnwyd yn erbyn cefndir o bethau go sylweddol. Ac roedd yn ymchwiliad eithaf anodd, mewn rhai ffyrdd, i rai cyfranogwyr ac i rai tystion, ac rwy'n credu y dylem ailadrodd y diolch a nododd y Cadeirydd ar ddechrau'r ddadl hon i'r holl dystion a phawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad.

Rwy'n cofio mynychu digwyddiad yng nghanol y ddinas yng Nghaerdydd, lle buom yn siarad ag ystod eang o wahanol bobl a oedd wedi ceisio gwneud eu ffordd yn y diwydiant, a'r hyn a rannent oedd uchelgais gwych ar gyfer Cymru, ar gyfer y sector, ac ar gyfer pwy y gallem i gyd fod. Ac roedd yn fraint treulio amser gyda nhw. Roedd yn bleser treulio amser gyda nhw. Ond yr hyn a ddysgwyd gennym oedd yr holl rwystrau y ceisient eu goresgyn, yr holl rwystrau a oedd wedi eu gosod yn eu ffordd.

A gadewch imi ddweud hyn—ac nid yw'n cael ei ddweud yn aml yn y Siambr hon, ond efallai fod angen ei ddweud yn amlach—rhaid inni ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael â mater dosbarth yng Nghymru. Weithiau mae mater dosbarth yn cael ei anwybyddu ac weithiau, yn y Siambr hon, rydym yn teimlo embaras bron wrth siarad amdano. Ond mae anghydbwysedd dosbarth eang a pharhaus yn y sector hwn o hyd. Mae'r tebygolrwydd y bydd rhywun o gefndir dosbarth gweithiol yn dod o hyd i waith mewn galwedigaeth greadigol wedi aros yr un fath ers gormod o flynyddoedd. O ran y dyfodol, mae'n ddigon posibl y bydd y rhwystrau yn anorchfygol. A'r hyn rwyf am ei weld yw bod pobl o Flaenau Gwent, pobl y cefais fy magu gyda nhw yn Nhredegar, yn cael yr un cyfle i lwyddo yn y diwydiannau creadigol ag eraill a fagwyd mewn mannau eraill. Ac mae'n rhaid mai dyna'r uchelgais. Mae'n rhaid mai dyma fydd yr uchelgais i'r Llywodraeth hon. Rhaid iddo fod yn uchelgais i bob un ohonom. Ac ni chaiff ei gyflawni os nad yw Llywodraeth Cymru yn cynnwys pobl yn y canol ym mhob dim y mae'n ei wneud.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr ymchwiliad hwn yn llwyddo i osod pobl wrth wraidd popeth y dymunwn ei gyflawni, a phopeth y rhagwelwn ei fod yn bosibl yng Nghymru ac ar gyfer y dyfodol. Mae hynny'n golygu strategaeth ddiwylliant. Mae'n golygu bod Llywodraeth weithredol yn buddsoddi mewn pobl i sicrhau y gall pawb ohonom fuddsoddi yn ein dyfodol. Diolch.

17:35

Mae bod yn aelod o'r pwyllgor diwylliant wedi rhoi cyfle i mi ddysgu mwy am lwyddiannau a heriau ein diwydiannau creadigol yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran. Wrth ddathlu 60 mlynedd o Doctor Who yn adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd, dywedodd Russell T. Davies wrthym sut y mynnodd y byddai Doctor Who yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru a sut y gwnaeth perchnogion stiwdios Bad Wolf wneud iddo ddigwydd, i helpu i dyfu economi Cymru—nid Llundain, ond Cymru. Rydym hefyd wedi gweld llwyddiant House of the Dragon HBO, a ffilmiwyd yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, yn cael ei wneud yn bosibl gyda chefnogaeth gan Cymru Greadigol. 

Mae'r diwydiannau creadigol, teledu a ffilm yn tyfu'n gyflym yng Nghymru, fel y nodwyd yn gynharach, diolch i waith caled pawb sy'n rhan ohonynt. Fodd bynnag, mae wedi dod â heriau yn ei sgil. Eglurodd Gabriella Ricci o'r cwmni cynhyrchu Bad Wolf fod prinder gweithlu wedi golygu na allem gadw i fyny â'r gofynion yr oedd ein cynyrchiadau yn eu gweld yn ne Cymru a rhanbarth de-orllewin Cymru. Hoffwn weld gogledd Cymru yn cyrraedd ei botensial fel lle i'r diwydiannau creadigol. Mae'r doniau gennym ac mae'r lleoliadau gennym, ynghyd â chyfleusterau addysgol gwych, a byddwn yn cael digwyddiad cerddoriaeth a ffilm Focus Cymru ym mis Mai, sy'n dod â 20,000 o bobl i Wrecsam. Felly, rwy'n gobeithio bod y seilwaith gennym hefyd.

Cytunodd ein pwyllgor fod angen mwy o fuddsoddiad mewn hyfforddiant a sgiliau. Mae angen inni hefyd sicrhau ein bod yn cadw pobl o fewn y diwydiant, a chlywsom sut mae nifer fawr o weithwyr yn ystyried gadael oherwydd amodau gwaith gwael, sy'n bryder difrifol. Ac fel y clywsom yn gynharach, ein hargymhelliad yw bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag undebau llafur i ddatblygu arferion gorau ar gyfer y diwydiant, gan ddiogelu gweithwyr. 

Gall fod yn anodd dechrau yn y celfyddydau, ac yn ystod ymweliad pwyllgor ag Iwerddon, clywsom am eu treial incwm sylfaenol i artistiaid, sy'n digwydd dros gyfnod o dair blynedd. Gwnaeth 9,000 o bobl gais a dewiswyd 2,000 ar hap i gymryd rhan. O ystyried ansicrwydd y sectorau celfyddydol, diwylliant a cherddoriaeth ar hyn o bryd, oherwydd Brexit, COVID a'r argyfwng costau byw, byddai'r cynllun incwm sylfaenol yn cynnig rhywfaint o sicrwydd a rhwyd ddiogelwch, yn enwedig i'r rhai sy'n dechrau ar eu gyrfaoedd.

Fodd bynnag, mae'n stori o ddau hanner. Mae'r lleoliadau bach llawr gwlad yn cael trafferth gyda phwysau chwyddiant. Nid yw pobl yn dychwelyd ar ôl COVID ac maent yn poeni am ardrethi busnes cynyddol. Clywais drafodaeth ar BBC Radio Wales yr wythnos diwethaf am y ffordd y mae Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cefnogi clybiau bach llawr gwlad, a byddai'n wych pe gallai'r perfformwyr llwyddiannus sy'n perfformio nawr mewn stadia ac a ddechreuodd yn y lleoliadau llawr gwlad hyn, dalu i mewn i gronfa a allai gefnogi lleoliadau bach.    

Yn ddiweddarach, cyfarfûm â chynrychiolwyr yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth yn y Senedd a chlywais fwy am eu cynigion drwy Live Nation i ychwanegu £1 neu £2 at sioeau stadiwm, a allai godi cannoedd o filoedd o bunnoedd i'r lleoliadau bach, a byddai hynny'n helpu i'w cadw ar agor. Nid wyf yn siŵr sut y gellid bwrw ymlaen â'r fenter honno, ond mae'n swnio'n eithaf da i mi. 

Gwyddom fod y diwydiannau creadigol yn werth mwy na 5 y cant o gynnyrch mewnwladol gros ac wedi tyfu gyflymaf ers y pandemig, ac wedi gwella economi Cymru yn gyffredinol. Ond fel y dywedodd Philip King o Iwerddon yng ngŵyl drawsffiniol Lleisiau Eraill,

'Nid oes ffordd o fesur yr amhrisiadwy.'

Sut mae mesur yr ymdeimlad o lesiant y mae cerddoriaeth, celfyddyd a diwylliant yn ei gynnig? Nid wyf am inni danbrisio pwysigrwydd a gwerth y diwydiannau creadigol i Gymru. Diolch.    

Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth nawr i gyfrannu i'r ddadl, Dawn Bowden. 

Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn croesawu cyhoeddiad adroddiad 'Y tu ôl i'r llenni: gweithlu'r diwydiannau creadigol' yn fawr? Yn sicr, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei waith yn y maes pwysig hwn.

Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl ynglŷn â gwerth ein diwydiannau creadigol. Fel y clywsom eisoes gan gyfranwyr eraill, maent yn rhan hanfodol o'n heconomi, yn creu swyddi ac yn cefnogi buddsoddiad ledled Cymru. Maent yn hanfodol i'n hunaniaeth ddiwylliannol. Maent yn cyfrannu at ein tirwedd gymdeithasol ac at frand cenedlaethol cryf sy'n helpu i hyrwyddo Cymru a'i thalent i'r byd. Maent yn hanfodol i gynaliadwyedd a thwf parhaus y Gymraeg, ac yn hyrwyddo ein huchelgeisiau fel y'u nodir yn 'Cymraeg 2050'.

Nawr, ym mis Ionawr 2020, bedair blynedd yn ôl i heddiw mewn gwirionedd, lansiwyd Cymru Greadigol fel asiantaeth fewnol i Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Ers hynny, aeth bron i ddwy flynedd ar ymdrin yn unig bron â'r ymateb i COVID, a chefnogi ein diwydiannau creadigol drwy'r argyfwng digynsail hwnnw. Yna dilynwyd y pandemig yn syth gan yr argyfwng costau ynni a byw, sy'n effeithio ar y sector, unwaith eto, fel y clywsom yn fanwl iawn heddiw. Er gwaethaf hyn, mae Cymru Greadigol wedi parhau i dargedu cefnogaeth i'r sectorau sgrin, digidol, gemau cyfrifiadurol, cerddoriaeth a chyhoeddi, ac mae'n gwneud cynnydd cadarnhaol yn yr hyn sydd wedi bod i bob pwrpas yn ddim ond dwy flynedd o weithredu cymharol normal.

Ond mae'n bwysig nodi, ar draws y diwydiannau creadigol ehangach, ein bod yn cefnogi'r sector ochr yn ochr â phartneriaid allweddol fel Cyngor Celfyddydau Cymru. Ac yn groes i'r hyn a glywsom heddiw, rydym yn datblygu strategaeth ddiwylliant wrth gwrs, ac mae'n ymddangos i mi fod Heledd Fychan wedi anghofio mewn gwirionedd fod y strategaeth ddiwylliant yn rhan o'r cytundeb cydweithio, a'n bod wedi gweithio bob cam o'r ffordd arni gydag Aelodau o Blaid Cymru i gyrraedd lle rydym hyd yn hyn. Fel yr eglurais wrth y pwyllgor, rydym yn llawer pellach ymlaen nag y byddem wedi dymuno bod o ran amseru, oherwydd daeth y panel trosolwg sy'n gweithio gyda ni ar y strategaeth ddiwylliant yn ôl a dweud eu bod yn teimlo bod angen mwy o amser arnynt i wneud meysydd gwaith sylweddol. Rwyf wedi dweud yn glir iawn o'r cychwyn—

17:40

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Weinidog. Roeddech i'ch gweld yn gyffrous i dderbyn fy ymyriad. Roeddech chi'n sôn eich bod chi'n llawer pellach ymlaen gyda'r gwaith o ddatblygu strategaeth ddiwylliannol, yn eich geiriau chi yno. Go brin fod hynny'n wir. Oherwydd fe wnaethoch chi grybwyll i ddechrau na fyddai hyn yn cymryd llawer o amser, ac rydym yn dal i fod heb strategaeth ddiwylliannol dair blynedd wedyn. Rwy'n deall eich bod wedi crybwyll yn y pwyllgor yn ddiweddar ei fod wedi cymryd peth amser, fod y broses wedi cymryd mwy o amser nag a feddylioch chi, ond rydym yn dal i fod heb gael dyddiad pendant ar gyfer pryd y caiff ei chyhoeddi. A allwch chi egluro hynny nawr?

Na, na, mae'n ddrwg gennyf, Tom, rydych chi wedi camddeall yr hyn a ddywedais. Nid ydym wedi cyrraedd mor bell gyda'r strategaeth ddiwylliant ag y buaswn wedi dymuno oherwydd bod y panel trosfwaol sy'n gweithio ar hyn gyda ni wedi dod yn ôl atom sawl gwaith i ddweud bod angen iddynt wneud rhagor o waith. Roedd meysydd, roedd bylchau, lle roedd angen ymgynghori pellach a rhagor o waith gyda rhanddeiliaid. Ond mae pob cam a gymerwyd gennym yn y strategaeth ddiwylliant wedi'i wneud ar y cyd â'n partneriaid cytundeb cydweithio, sydd wedi cytuno ar y ffordd ymlaen, ac esboniwyd hyn i gyd i chi yn y pwyllgor yn ddiweddar. Felly, nid wyf am roi unrhyw amser pellach i hynny yn fy ymateb na fy nghyfraniad heddiw.

Nid yw'n wir dweud ychwaith, wrth gwrs, nad yw'r strategaeth ddiwylliant yn strategaeth pobl. Wrth gwrs ei bod. Y pwynt a wnaed yn fy ymateb yw bod Cymru Greadigol mewn gwirionedd y tu allan i gwmpas y strategaeth ddiwylliant, a chytunwyd ar hynny gyda'n partneriaid cytundeb cydweithio ar y dechrau, felly dylai hynny fod wedi bod yn gwbl ddealladwy.

Mae cydgysylltiad y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau yng Nghymru yn ystyriaeth bwysig yn ein cefnogaeth i'r sector. Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth a lansiwyd yn ddiweddar rhwng Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cydnabod y cydgysylltiad hwn a'r angen am ddull cyfannol o wneud ein gwaith ar y cyd. Mae'r ddogfen yn nodi ein blaenoriaethau cyffredin mewn meysydd fel sgiliau, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn cydnabod pwysigrwydd y gymuned lawrydd i lwyddiant parhaus y sector. Yn wir, y gymuned lawrydd ei hun—. Cymru oedd yr unig ran o'r DU a gytunodd ar addewid llawrydd i weithio gyda'r bobl hynny yn y diwydiant.

Ceir meysydd eraill yn adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion sy'n galw am gamau gweithredu ar draws tri is-sector lle mae ysgogiadau a chyfrifoldebau yn wahanol. Lle mae hyn yn wir, rydym wedi ceisio esbonio'r gwahanol safbwyntiau yn ein hymatebion i'r rheini ar wahân, ac unwaith eto, nid wyf yn bwriadu ailadrodd tystiolaeth sydd eisoes wedi'i darparu ar hynny.

Ond dylem fod yn falch o'n cyflawniadau yn y diwydiannau creadigol. Fel sy'n wir am lawer o bethau yng Nghymru, mae'r sector yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl, fel sy'n cael ei amlygu gan adroddiad y pwyllgor. Mae'r sector sgrin yn arbennig yn un o'n llwyddiannau, a chynhyrchodd drosiant o £459 miliwn yn 2022—cynnydd o 37 y cant ers 2017.

Fodd bynnag, fel y mae'r adroddiad hefyd yn nodi, mae yna heriau'n wynebu'r diwydiannau creadigol, yn enwedig yr amodau economaidd heriol parhaus y mae pob busnes yn eu hwynebu wrth i'r byd barhau i wella o'r pandemig byd-eang ac ymdopi â chostau cynyddol ynni a busnes. Ond os ydym am ddiogelu ein diwydiannau creadigol, ni ellir anwybyddu'r heriau hyn. Mae'n rhaid inni fynd ben ben â hwy, ac mae ein hymateb i adroddiad y pwyllgor yn nodi rhai o'r camau a gymerwn i wneud hyn.

I gydnabod yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant cerddoriaeth ers ei lansio, mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi ychydig o dan £9 miliwn yn y sector, a bydd rownd arall o gyllid sylweddol ar gyfer lleoliadau llawr gwlad yn cael eu cyhoeddi'n fuan. Rydym yn falch nad oes un lleoliad cerddoriaeth yng Nghymru wedi ei golli, yn wahanol i rannau eraill o'r DU. 

Mewn ymateb i'r angen am lwybrau cynhwysol i mewn i waith, mae Cymru Greadigol, ochr yn ochr â'i phartneriaid Gyrfa Cymru, yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr gyfarfod â chyflogwyr o bob sector a rhyngweithio â hwy, gan gynnwys y diwydiannau creadigol. Mae'r cyfleoedd hyn yn caniatáu i gyflogwyr ddarparu mewnwelediad ac ysbrydoliaeth y byd go iawn i ddarpar weithwyr y dyfodol, gan helpu i hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc gyda'u gyrfa yn y dyfodol. Mae cymorth sgiliau wedi'i dargedu ar gael drwy ein cronfa sgiliau creadigol, a welodd 17 prosiect yn ei rownd gyntaf yn cael eu cefnogi ar draws is-sectorau blaenoriaethol, a chyn bo hir byddaf yn gallu adrodd yn ôl ar yr ystod eang o allbynnau a gyflawnwyd o ganlyniad i'r cyllid hwnnw. 

Yn ogystal, mae pob cynhyrchiad sgrin y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi drwy Cymru Greadigol yn gorfod darparu cyfleoedd lefel mynediad ac uwchsgilio er mwyn darparu hyfforddiant hanfodol yn y gwaith ar gyfer y gweithlu sgrin presennol ac yn y dyfodol. Hyd yn hyn, mae wedi cefnogi dros 350 o leoliadau hyfforddiant â thâl, gyda 36 o leoliadau eraill ar y gweill ar gynyrchiadau cyfredol. 

Rydym yn cydnabod, wrth gwrs, fod llawer i'w wneud o hyd i sicrhau ein bod yn gofalu am les y gweithlu creadigol yn iawn, ac rydym yn edrych ar gamau wedi'u targedu mewn ymateb i adroddiad 'Gwaith Da' Canolfan Polisi a Thystiolaeth y Diwydiannau Creadigol i ysgogi ymddygiad cadarnhaol yn y sector. Bydd hyn yn ategu'r camau gweithredu presennol, gan gynnwys, fel y nododd y Cadeirydd, y prosiect hwyluswyr llesiant, a'n ffocws ar waith teg yn y meini prawf asesu cyllid.

Wrth gwrs, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o gyllideb 2024-25 a pha mor heriol ydyw. Ac er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Alun Davies yn ei gyfraniad, rydym ar hyn o bryd yn ystyried y goblygiadau posibl i'n diwydiannau creadigol a'n sectorau diwylliannol, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ein hymateb i'r argymhellion. Ond o ystyried y cyd-destun hwn, mae'n bwysicach fyth ein bod yn parhau i weithio gyda'n partneriaid ac yn parhau i fod yn ystwyth wrth inni ymateb i'r heriau presennol ac yn y dyfodol.

Yn y gorffennol, mae'r sector wedi dangos gwytnwch ac awydd i fod yn agored er mwyn dod o hyd i ffyrdd arloesol o symud ymlaen, ac rwy'n hyderus, os gweithiwn yn gydweithredol gyda'r sector i ymateb i'r heriau parhaus, y gallwn gadw safle Cymru fel lle ar gyfer creadigrwydd, gan droi dychymyg yn ddiwydiant a chyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer twf. Lywydd, a gaf i ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor a chyfranwyr eraill am y ddadl heddiw, ac am eu cefnogaeth barhaus i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru? Diolch yn fawr.

17:45

Diolch, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Cyn inni gloi, hoffwn ymateb i sawl pwynt sydd wedi cael ei godi.

Gwnaeth Tom osod mas gwerth y diwydiannau creadigol. Mae wedi gosod mas rhai o'r problemau sy'n wynebu y gweithwyr freelance yn arbennig ac, o ran y worst of times, costau'n cynyddu 300 y cant ar gyfer rhai yn y sector cerddoriaeth. Ond soniodd hefyd lle mae pethau'n mynd yn dda, the best of times, gyda Bad Wolf, sy'n gwneud cymaint i'n gwneud ni i gyd ymfalchïo ynddo fe. Ond mae prinder staff, fel roedd Tom wedi sôn amdano, yn broblem fawr, a dyna pam bydd angen y strategaeth yma a pham bydd cymaint i'w groesawu pan fydd hi'n dod. 

Diolch i Heledd, a oedd wedi sôn am y twf mewn diwydiannau sydd mor bwysig i'n dyfodol fel cenedl: y gamers, yr YouTubers—y sgiliau fydd mor ddefnyddiol i'n dyfodol ni. Dwi'n teimlo mor hen pan dwi'n sôn am bethau fel yna, fel coding, achos dwi mor ymwybodol fy mod i ddim yn deall sut mae pethau fel yna'n gweithio'n dda. 

Ond, ie, mae'r ffyrdd newydd o weithio—bod pobl yn gallu gwneud pethau o bell—yn cynnig cymaint mwy o gyfleoedd, yn enwedig yn y sector yna, a dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth rili cyffrous. A phwy—. Lle dwi wedi gosod e mas—? O na, dwi wedi ffeindio fe nawr. Maddeuwch i fi, Llywydd. Yn sicr mae angen gweld y sectorau yma'n gweithio fel un, yn unedig, ddim mewn seilos. A diolch i Heledd am ei gwaith eto. Pan oedd hi'n rhan o'r pwyllgor roedd ei phrofiad hi wedi cyfoethogi'n gwaith ni, felly diolch, Heledd, am hynny.

Ategodd Alun bryder olaf Heledd nad yw'r Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad, rhywbeth a ailadroddwyd nifer o weithiau yn y ddadl, ar sicrhau bod y strategaeth ddiwylliannol yn edrych ar y strategaeth ar gyfer y gweithlu diwylliannol. Rwy'n cytuno bod diwylliant yn ymwneud â phobl. Ni all fodoli ar wahân iddynt, ac rwy'n siŵr y byddem i gyd eisiau gweld, yng ngeiriau Alun, y weledigaeth ac uchelgais yn anadlu drwy bob tudalen o'r strategaeth. Rwy'n croesawu angerdd Alun a oedd yn glir yn y ddadl a hoffwn adleisio pwynt Alun fod y rhai a roddodd dystiolaeth i ni wedi ein hysbrydoli. Ar lefel bersonol, rwy'n cytuno â'r pwynt ynglŷn â dosbarth. Mae'n rhwystr enfawr i gyfranogiad yn y celfyddydau. A hoffwn ddiolch eto i bawb a ddaeth i'r sesiwn ym Mhrifysgol De Cymru a phawb sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni. Mae pobl fel nhw yn y canol, ac mae angen iddynt fod.

Cawsom ein hatgoffa gan Carolyn am un o lwyddiannau mawr Bad Wolf a Doctor Who. Mae'n dangos beth sy'n bosibl. Ac rwy'n falch eich bod wedi dyfynnu Gabriella, Carolyn. Mae ei thystiolaeth wedi bod mor ddefnyddiol i ni. Fel y dywedodd, mae'n bwysig fod Cymru gyfan yn elwa, nid Caerdydd yn unig. Mae angen inni weld swyddi'n cael eu creu ar draws y wlad. A diolch, Carolyn, am ddyfynnu'r anfarwol Philip King unwaith eto. Yn wir, nid oes ffordd o fesur gwerth amhrisiadwy y celfyddydau i'n cenedl. Felly, diolch am ddyfynnu ei eiriau eto.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am osod mas pwysigrwydd y diwydiannau hyn. 

Mae cymaint gennym i fod yn falch ohono yng Nghymru. Mae'r sectorau hyn yn darparu budd enfawr i bob un ohonom. Roedd y pryderon a godwyd mewn tystiolaeth hefyd yn ymwneud â chynnal y sectorau hynny, wrth gwrs, a gwn eich bod am weld hynny'n digwydd hefyd.

Ar y strategaeth, hoffwn weld y Llywodraeth yn edrych eto ar gynnwys cyflogau ac amodau yn ehangach fel rhan o'r strategaeth, gan gynnwys y gweithlu celfyddydau, diwylliant a cherddoriaeth. Pe gallai'r gwaith hwnnw fod yn rhan ohono, rwy'n credu y byddai'n ei gyfoethogi'n fawr. Mae'r gwaith ar hwyluswyr llesiant yr oedd y Gweinidog yn sôn amdano tuag at y diwedd yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr ac rydym yn falch o weld beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn. Mae'r dystiolaeth a gawsom gan gynifer am effaith bwlio arnynt a pha mor ynysig y gall pobl deimlo yn y sector hwn oherwydd diffyg swyddogaethau adnoddau dynol yn rhai o'r busnesau bach iawn yn rhywbeth sy'n peri pryder gwirioneddol. Felly, rwy'n credu bod dysgu o enghreifftiau da, a gweld efallai ble y gellir rhannu swyddogaethau adnoddau dynol ar draws gwahanol fusnesau bach, yn rhywbeth a fydd yn helpu, gobeithio, i agor y cyfleoedd gwaith hyn i gymaint o wahanol bobl.

Mae wedi codi nifer o weithiau yn ystod y ddadl yma y ffaith fod rhannau o'r sectorau yma yn gwneud yn dda, yn ffynnu, ond dyw rhannau ddim yn gwneud yn dda. Buaswn i jest eisiau dyfynnu beth ddywedodd Maya Angelou:

'Ni allwch ddihysbyddu creadigrwydd. Po fwyaf a ddefnyddiwch, y mwyaf a fydd gennych.' 

Ac efallai fod hynny'n mynd at wraidd yr angerdd yr oedd Alun yn sôn amdano sydd mor amlwg mewn pobl sy'n gweithio yn y sectorau celfyddydol a chreadigol. Mae ganddynt gymaint i'w roi a po fwyaf a roddant y mwyaf y maent am ei roi. Ond mae'r rhwystrau a roddir yn eu ffordd yn dorcalonnus, oherwydd mae'r holl botensial hwnnw'n cael ei golli.

O ran geiriau Maya Angelou, dyna sut rydyn ni yn ystyried dyfodol y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Gyda'r ymyriadau cywir rydym yn gobeithio y bydd mwy o weithwyr yn cymryd rhan ym mhob sector o’r diwydiannau creadigol—diwydiannau sydd o bwysigrwydd enfawr i'n diwylliant a'n henaid fel cenedl. Bydd hyn yn arwain at ei dwf parhaus yng Nghymru—twf sy’n gynaliadwy ac yn deg i bawb sy’n gweithio ar draws y diwydiannau creadigol.

Felly, mae yna nifer o bethau sydd wedi cael eu dweud y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio nad dyma—. Wel, dŷn ni'n sicr fel pwyllgor nad dyma fydd y diwedd ar y drafodaeth yma; nid dyma fydd diwedd ar fel y byddwn ni'n edrych i helpu'r sectorau. Rwy'n gwybod bydd y Llywodraeth eisiau gwneud yr un peth, felly byddwn ni'n dychwelyd at nifer o'r pynciau yma'n fuan iawn. Ond diolch eto i'r tîm ffantastig sydd gyda ni yn y pwyllgor, diolch i bob un o'r aelodau, a diolch, unwaith eto, i'r bobl sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni, sydd wedi bod mor agored, a diolch iddyn nhw am eu dyfalbarhad trwy gydol the best of times and the worst of times. Diolch.

17:55

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhyddhad ardrethi busnes

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Luke Fletcher. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 12 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ryddhad ardrethi busnes yw hon, a dwi'n galw ar Peter Fox i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8469 Darren Millar

Cefnogwyd gan Joel James

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn torri’r gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-2025.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden er mwyn cefnogi busnesau a diogelu swyddi.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Fe ddechreuaf drwy gyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar. Rwy'n gobeithio y bydd pob un yn y Senedd yn cydnabod pwysigrwydd busnes i Gymru, yn enwedig y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden. Mae'r sector lletygarwch yn unig yn cyflogi 165,000 o bobl yn uniongyrchol yma yng Nghymru ac yn cyfrannu tua £4 biliwn i'r economi. Yn yr un modd, y sector manwerthu yw un o'r cyflogwyr sector preifat mwyaf yng Nghymru, gan gyflogi cyfanswm o 139,000 o bobl, yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru ei hun. Mae angen mwy o gymorth ariannol ar y busnesau hyn, nawr yn fwy nag erioed, yn enwedig ar ôl effaith ddinistriol y pandemig a'r cynnydd parhaus mewn chwyddiant o ganlyniad i'r pwysau byd-eang y mae pawb ohonom wedi'i weld. Lywydd, mae'r sector lletygarwch yn arbennig yn gweiddi am gefnogaeth, gyda ffigurau diweddar yn dangos bod 63 o dafarndai wedi eu gorfodi i gau y llynedd—cyfartaledd o fwy nag un yr wythnos. Ac fe wyddom fod hynny'n ddwywaith y gyfradd a welwn yn Lloegr. Ond fel y dywedais o'r blaen, nid busnesau'n unig yw lleoliadau lletygarwch, maent yn ganolfannau cymdeithasol i lawer o gymunedau, fel y mae ein siopau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cydnabod pwysigrwydd y ffeithiau hyn drwy ddarparu rhyddhad ardrethi annomestig gwerth 75 y cant i fusnesau'r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden—cam a fydd yn cefnogi busnesau ac yn diogelu swyddi. Ac fe wyddom fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn arian i gynnig yr un gefnogaeth yma. Gyda hynny mewn golwg, ni allaf ddirnad pam na fydd Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo'r un cymorth ymlaen—rhoddwyd yr arian iddynt. Do, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o gymorth i fusnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden, ond nid yw'r gefnogaeth honno'n agos at y rhyddhad a ddarperir yn Lloegr. O ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â darparu'r un cymorth yma yng Nghymru, bydd busnesau'n talu bron ddwywaith cymaint o ardrethi busnes na phe baent wedi'u lleoli yn Lloegr.

Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden, gan sicrhau nad yw busnesau Cymru'n cael eu cosbi a'u rhoi dan anfantais. Ers blynyddoedd, mae busnesau yng Nghymru wedi bod dan anfantais oherwydd yr ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, gyda busnesau bach a mawr yn talu'r un gyfradd, sy'n uwch na'r gyfradd y mae busnesau bach yn ei thalu yn Lloegr a'r Alban. Mae hefyd yn ffaith bod cefnogaeth i fusnesau bach yn Lloegr a'r Alban yn fwy hael nag y cawn ein harwain i gredu ei fod yng Nghymru, gyda Lloegr yn cynnig rhyddhad ar eiddo sydd â gwerth ardrethol o £15,000 a'r Alban yn darparu rhyddhad ar eiddo sydd â gwerth ardrethol o £20,000. Lywydd, mae'n amlwg nad yw busnes a'r economi yn flaenoriaeth i Lafur Cymru, yn anffodus. Nid ydynt yn deall pwysigrwydd yr economi i'r wlad wych hon yr ydym yn byw ynddi. Felly, Lywydd, rwy'n gorffen drwy ofyn i chi i gyd gefnogi ein cynnig heddiw. Mae ein busnesau angen ein cefnogaeth.

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Y Gweinidog cyllid i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu’r ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag ydoedd adeg ei gosod yn 2021:

a) yn darparu pecyn o gymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £384 miliwn;

b) yn rhoi cap o 5 y cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac

c) yn darparu rhyddhad o ran ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y pumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn a ddarparwyd ers 2020-21.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Luke Fletcher

Ychwanegwch pwynt newydd ar ôl pwynt (1) ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach at setliad cyllid presennol Trysorlys y DU nad yw'n ystyried anghenion Cymru. 

Gwelliant 3—Luke Fletcher

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud oddi wrth ardrethi annomestig, cyhoeddi amserlen ar gyfer eu gwaith, a sicrhau bod map ffordd ar gyfer pontio allan o ardrethi annomestig yn cael ei ddarparu yn ogystal ag opsiynau ar gyfer system newydd.

Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, sy'n ceisio ychwanegu at y cynnig gwreiddiol. Oherwydd nid oes dianc rhag yr effaith y bydd y gostyngiad hwn i ryddhad ardrethi busnes yn ei chael, yn enwedig ar y sector lletygarwch, sector sydd eisoes yn gweithredu mewn amgylchedd anodd am nifer o resymau.

Os caf siarad am ein gwelliannau, y peth allweddol am ardrethi annomestig yw ein bod yn siarad am system nad yw'n gweithio, a dyna mae gwelliant 3 yn ceisio ei gydnabod. Nid yw ardrethi annomestig wedi symud gyda'r oes, a dyna pam ein bod bellach mewn sefyllfa lle rydym yn talu rhyddhad i fusnesau. Rwyf wedi sôn am yr angen am ddiwygio nifer o weithiau. Mae'r Llywodraeth wedi dweud ei bod yn gweithio ar rywbeth, felly buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu'n bendant heddiw pryd y gallwn ddisgwyl gweld unrhyw beth ar ddiwygio, oherwydd mae'n hen bryd iddo ddigwydd.

Un awgrym yr hoffwn ei wneud, ac y buaswn yn gwerthfawrogi syniadau'r Gweinidog arno, yw i'r Llywodraeth edrych ar y cyfrannau y mae pob sector yn eu talu i mewn i ardrethi annomestig ac asesu a yw rhai yn talu rhy ychydig neu ormod. Er enghraifft, rydym yn siarad llawer am adfywio canol y dref. Mae hynny bob amser yn mynd i fod yn her tra bod y system hon yn bodoli, ond daw her ychwanegol gan ganolfannau siopa ac archfarchnadoedd y tu allan i'r dref, i ddewis dwy enghraifft yn unig. Felly, a ddylem fod yn adolygu'r ardrethi y mae sectorau'n eu talu nawr, fel bod archfarchnadoedd, er enghraifft, yn talu mwy i'r system er mwyn gostwng y swm y byddai sector fel lletygarwch yn ei dalu i mewn i'r system? Ar yr un pryd, buaswn yn dadlau hefyd fod angen inni fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng busnesau brics a morter a'r rhai sy'n gweithredu ar-lein. Felly, buaswn yn croesawu unrhyw sylwadau ar hynny hefyd.

Nawr, wrth gwrs, rydym yn deall ac yn clywed gan Weinidogion sut nad oes arian ar ôl. Felly, a fyddai'r atebion posibl hyn yn rhai y byddai cost weinyddol gychwynnol ynghlwm wrthynt? Byddent, ond byddent yn cael effaith enfawr ar fusnesau bach a chanolig lleol yn ein cymunedau.

18:00

A gaf i ddweud mai ar-lein yw'r perygl gwirioneddol i fanwerthu, ac mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny? Y peth arall yw: beth am rewi rhent? Fel y gwyddoch gystal â minnau, mae rhenti cynyddol parhaus y cwmnïau tafarndai yn gwneud tafarndai yn anhyfyw. Dyna pam fod llawer o'r tafarndai hynny'n cau, Peter Fox—mae'n digwydd oherwydd bod y bobl sy'n berchen arnynt yn eu gwneud yn rhy ddrud i'r bobl sy'n eu rhedeg i'w rhedeg.

Rwy'n credu bod pwynt i'w ystyried yno. Rwyf wedi siarad o'r blaen yn y Siambr, ac rwy'n gwybod y bydd nifer o'r Aelodau yn debygol o rowlio eu llygaid ar hyn nawr, ond pan oeddwn i'n arfer gweithio yn y sector, un o'r pethau y byddem yn sylwi arnynt gyda thafarndai yn enwedig oedd y byddent yn cael eu taro i bob pwrpas gan y bragdai a oedd yn berchen arnynt a hynny oherwydd bod y bragdai hynny mewn dyled. Felly, mae rhywbeth penodol yno sy'n galw am sylw, yn ymwneud â'r dyledion sydd gan fragdai a sut mae hynny'n effeithio ar dafarndai lleol yn benodol. Ond o ran yr awgrymiadau a roddais i chi, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar am eich syniadau ynglŷn â hynny yn eich ymateb.

Nawr, rydym yn gwybod, ac mae ein busnesau'n gwybod, mai Llafur Cymru yng Nghymru sydd â'r ardrethi busnes uchaf yn y DU. Ni chânt eu rhewi ac yn wahanol i Loegr Geidwadol, maent yn codi'n aml. Ochr yn ochr â hyn, mae esgeulustod Llywodraeth Cymru wedi eu gorfodi i edrych yma, acw ac ym mhobman am geiniogau sbâr o ganlyniad i'w gorwariant enfawr eu hunain ar brosiectau porthi balchder, gwaharddiadau 20 mya cyffredinol i enwi un yn unig. Heno, wrth imi sefyll yma, bydd cynghorwyr Ceidwadol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ceisio perswadio'r cyngor i wneud tro pedol ar rai o'r gwaharddiadau 20 mya hyn.

Nawr, er imi bwysleisio ddoe ddiwethaf rôl hanfodol busnesau bach yng Nghymru, yn enwedig gyda thwristiaeth yn cyflogi 12 y cant o'n gweithlu ac yn cyfrannu tua £2.4 biliwn i'n cynnyrch domestig gros, mae Llafur Cymru yn parhau gyda'u penderfyniad i leihau rhyddhad ardrethi busnes bron i hanner. Nawr, daw hyn ar adeg, Weinidog, pan ydych chi a minnau'n gwybod bod nifer o fusnesau lletygarwch eisoes wedi cau ers dechrau'r flwyddyn. Gyda mwy o dafarndai a phethau'n cau—rwy'n meddwl bod fy nghyd-Aelod Peter Fox wedi dweud ei fod yn rhywbeth tebyg i un yr wythnos—mae hynny'n dweud llawer wrthych am economi eich gwlad a lle rydych chi'n methu. Pan fyddwch chi'n dechrau gweld y mathau hyn o fusnesau'n cau, mae'n amlwg fod angen i chi gyflwyno pecyn cymorth, ac nid tynnu'r mat o dan eu traed.

Mae yna fusnesau lleol yn fy rhanbarth i, gydag un perchennog tafarn yn dweud, yn y bôn, fod y gostyngiad llai hwn yn ergyd drom i'r diwydiant ac iddo ef yn arbennig. Mae un arall, 57 Stryd y Bont ym Mrynbuga, wedi dweud hefyd fod Llywodraeth Cymru yn llyffetheirio diwydiant sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Os nad ydynt am wrando arnom ni, onid ydych chi'n credu y byddai'n ddoeth i'r Llywodraeth wrando ar y busnesau yng Nghymru?

Diolch, Laura. Mae'r busnesau eich angen chi nawr yn fwy nag erioed, Weinidog. Gyda chwyddiant cynyddol, costau bwyd a chostau ynni, maent mewn sefyllfa enbyd. Mae ffigyrau brawychus yn dangos bod Cymru, y llynedd, wedi colli 63 o dafarndai. Amcangyfrifir bod tua 770 o swyddi wedi'u colli wrth iddynt gau. Ar adeg pan fo busnesau'n chwilio am gefnogaeth, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o osod pwysau ar letygarwch a thwristiaeth Cymru drwy dorri'r rhyddhad hwn. Maent yn aml yn gofyn i mi, 'Beth arall maent yn disgwyl i ni ei gymryd?' Fel y dywedodd Kate Nicholls, prif weithredwr UKHospitality, rydym

'Eisoes yn gweld cyfradd methiant 10 y cant yn uwch yng Nghymru'

ond gyda chymorth ardrethi busnes yn cael ei dorri i lai na hanner yr hyn ydoedd, ni fydd hynny ond yn cyflymu'r dirywiad. Nid yw hyn yn ddim mwy nag esgeulustod difrifol, cyllideb sy'n draed moch ac yn ddedfryd marwolaeth i lawer o fusnesau. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, yn hytrach na gweithio ar ffyrdd o dorri yswiriant gwladol, rhewi ardrethi busnes, cynnal rhyddhad, mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn brysur yn taflu syniadau am ffyrdd newydd o wneud ein busnesau'n fethdalwyr.

Mae'r lluosydd ardrethi ar gyfer Cymru wedi'i osod ar 56.2c, ac mae hwnnw'n gynnydd hyd yn oed—pan arferem gwyno am y ffigur hwnnw, rydych wedi ei godi 2.7c ychwanegol. Mae hyn yn golygu mai gan Gymru fydd yr ardrethi busnes uchaf o hyd. Cymru yw'r unig wlad i gael lluosydd ardrethi busnes gwastad, lle mae gan wledydd eraill ardrethi gwahanol ar gyfer busnesau bach a mwy. Nid oes tegwch yn eich dull presennol chi fel Llywodraeth Cymru o ymdrin â'n busnesau. Cofiwch, am bob un o'n busnesau, maent fel arfer yn cyflogi pobl eraill. Mae hyn yn annoeth, ac unwaith eto, mae angen i mi a fy ngrŵp eich atgoffa bod y Ceidwadwyr Cymreig ar ochr ein trigolion, a'n perchnogion busnesau yn wir.

18:05

Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn a ddywedodd Luke Fletcher am y lluosydd, a dilynais atebion y Gweinidog cyllid yn agos ychydig wythnosau'n ôl—yr wythnos diwethaf efallai—pan ddywedodd fod cynlluniau i edrych ar y lluosydd. Unwaith mewn blwyddyn yn unig y gallwch ei newid, ac mae angen ystyried y dosbarthiad daearyddol, felly rwy'n edrych ymlaen at glywed ymatebion ar hynny.

Ond mae angen rhywfaint o gyd-destun i'r ddadl hon hefyd, a siaradodd Peter Fox am ansefydlogrwydd byd-eang. Mae'n fwy na hynny, onid yw? Gadewch inni fod yn onest, mae wedi bod yn 14 mlynedd o gyni diddiwedd. Dechreuodd cyni fel dewis gwleidyddol pan oedd chwyddiant yn sero. Nid oedd chwyddiant—

A wnewch chi roi dwy eiliad i mi? Dim ond tair munud sydd gennyf fel y mae. Roedd chwyddiant yn sero a digwyddodd cyni. Gwelsom ychwanegu Brexit at hynny, ac roedd y rhain i gyd yn ddewisiadau gwleidyddol a wnaed gan Drysorlys y DU. Fe adawaf i chi wneud ymyriad.

Diolch. Mae'r Ddeddf gwahanu gwastraff nawr hefyd yn faich arall ar ein busnesau, oherwydd mae'n rhaid iddynt ei wahanu erbyn hyn, ei roi mewn gwahanol gynwysyddion—cost arall eto, a gallwch ddeall pam eu bod yn gofyn. A ydych chi'n cytuno â hynny mewn gwirionedd—eu bod wedi cael y fiwrocratiaeth lethol hon a chostau unwaith eto?

Rwy'n credu y bydd gan awdurdodau lleol gost ond y syniad gyda gwahanu gwastraff yw ei fod yn ei gwneud hi'n haws i ailgylchu ddigwydd yn y man ailgylchu, ac yn y pen draw mae'n lleihau costau i lawr y lein. Ond nid wyf yn credu bod a wnelo hynny â hyn; mae hyn yn ymwneud â'r cyd-destun ehangach. Mae'r Gronfa Ariannol Ryngwladol, yr IMF, er enghraifft, wedi cyhoeddi rhybudd cryf i Jeremy Hunt yn erbyn torri'r trethi hyn ym mis Mawrth. Fe wnaethoch chi sôn am dorri trethi, Janet Finch-Saunders, ond yr hyn y mae'r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi'i ddweud yw bod angen i chi roi hwb i wariant yn lle hynny. Dywedodd llefarydd ar ran yr IMF:

'Bydd diogelu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel ac ymgymryd â buddsoddiadau cyhoeddus hanfodol i hybu twf a chyflawni'r targedau sero net yn golygu bod anghenion gwariant yn uwch dros y tymor canolig nag sy'n cael ei adlewyrchu yng nghynlluniau cyllidebol y llywodraeth ar hyn o bryd.'

Felly, os dilynwch bolisi economaidd sy'n torri trethi gan Drysorlys y DU ar adeg pan fo gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, mae'n mynd i fod yn drychineb, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn diogelu'r GIG, yn diogelu gofal cymdeithasol, a chyllidebau awdurdodau lleol mewn ysgolion; mae'r tri maes hynny'n cael eu diogelu o ganlyniad i hyn, ond dylem hefyd ychwanegu bod y lluosydd yn cael ei gapio ar 5 y cant, a fyddai fel arall yn 6.7 y cant eleni. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu. Mae hynny'n costio £18 miliwn. Fe wnaethoch chi ofyn o ble y daeth y gwahaniaeth i mewn o fformiwla Barnett. Dyna lle mae'r gwahaniaeth yn mynd. Mae'n digwydd, ac mae honno'n ffordd decach o'i wneud.

Rwy'n credu ei bod yn anhygoel o anodd, ac rwy'n credu bod y Gweinidog cyllid yn gwneud dewis dewr iawn i ddiogelu ein GIG. Yr unig ffordd y gallwch gael gwasanaethau cyhoeddus sy'n gweithredu—nid wyf yn golygu gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf neu dda hyd yn oed, ond gwasanaethau cyhoeddus gweithredol—yw os yw'r cyllidebau hynny'n cael eu diogelu. Yn fy etholaeth i, rwyf wedi siarad â busnesau. Maent yn siomedig wrth gwrs, ond maent yn cydnabod mai mesur dros dro oedd hwn bob amser a bod y cap ar y lluosydd yn wahaniaeth cadarnhaol hefyd. Felly, mae dewisiadau anodd yn cael eu gwneud. Rwy'n credu mai dyna yw gwaith y Llywodraeth ac mae'n hawdd iawn beirniadu o feinciau'r wrthblaid.

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i leisio fy mhryderon ar ran busnesau bach, nid yn unig yn Nyffryn Clwyd, ond ledled Cymru. Dylem fod yn glir fod y toriadau i ryddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn gosb i fusnesau bach a chanolig eu maint—siopau teuluol, caffis, tafarndai a bwytai—lle na fydd corfforaethau mawr sydd wedi'u cofrestru dramor yn cael eu heffeithio i raddau helaeth. Mae hyn yn faich ychwanegol ar y mentrau lleiaf yng Nghymru, sef asgwrn cefn economi Cymru. Mentrau bach a chanolig yw 99.3 y cant o holl fusnesau Cymru. Fe wnaf ailadrodd hynny—99.3 y cant.

Clywais yr Aelodau yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft yn gwneud yr honiad fod rhyddhad ardrethi yn rhodd i gynnal busnesau. Mae angen inni atgoffa ein hunain nad rhodd yw rhyddhad ardrethi ond yn hytrach, gostyngiad yn y swm yr ydym eisoes yn ei gymryd gan fusnesau. Mae'r rhain yn fusnesau sydd wedi bod yn cael trafferth trwy COVID ac sydd angen i'r wladwriaeth roi lle iddynt anadlu er mwyn ymadfer i lefelau cynhyrchiant cyn COVID. Mae adroddiad gan PwC yn dangos bod cynhyrchiant yn is y pen yng Nghymru na'r cyfartaledd cenedlaethol ar ôl COVID. Dylai hyn fod yn destun pryder i Lywodraeth Cymru, a ddylai fod yn gwneud popeth i wella economi Cymru. Yn hytrach, maent yn ysbeilio eu cronfeydd wrth gefn ar gynlluniau porthi balchder tra bod y stryd fawr yn parhau i ddirywio. Mae adroddiad PwC 2021 hefyd yn dangos bod cynhyrchiant Cymru yn cael ei chwyddo gan Gaerdydd. Mae'r ffigurau ar gyfer y gogledd yn arbennig o enbyd. Po fwyaf y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i drethdalwyr ei dalu, y lleiaf cynhyrchiol fydd y busnesau hynny, a bydd mwy o fusnesau'n cau eu drysau, fel y gwelsom dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n anochel y bydd refeniw ardrethi busnes yn gostwng. Nid fy marn i yn unig yw hyn; rydym wedi clywed gan arweinwyr busnes sy'n dweud wrthym fod y gostyngiad yn y rhyddhad ardrethi busnes yn rhoi busnesau Cymru dan anfantais sylweddol o gymharu â'u cymheiriaid yn Lloegr, lle mae'r rhyddhad o 75 y cant wedi'i ymestyn am flwyddyn arall.

I orffen, gwelwyd awydd cynyddol i ailwampio ardrethi busnes yn fwy cyffredinol, ac mae'r DU yn eithaf unigryw yn yr ystyr nad oes gan y mwyafrif o wledydd Ewrop ardrethi busnes. Mae'n dreth ar fusnesau bach y stryd fawr, gyda gwerthwyr mawr ar-lein a'r corfforaethau cyfoethocaf heb eu heffeithio. Ond mae honno'n ddadl ar gyfer diwrnod arall, rwy'n credu. Felly, mae bron yn anghredadwy fod Llywodraeth Cymru yn ei hystyried yn briodol torri rhyddhad ardrethi busnes er mwyn adfachu rhywfaint o arian, yn enwedig pan fyddant yn gwario £33 miliwn ar y broses o gyflwyno 20 mya a £25 miliwn ar gynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol nad yw'n mynd i unman.  Dyna pam y byddaf yn pleidleisio o blaid ein cynnig heno. Diolch.

18:10

Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau economaidd parhaus sy'n wynebu trethdalwyr, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni hefyd gydnabod bod pob dinesydd a gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn agored i bwysau tebyg. Mae ardrethi annomestig yn rhan wirioneddol hanfodol o system gyllid llywodraeth leol, gan godi mwy na £1.1 biliwn bob blwyddyn, ac nid yw hwnnw'n gyfraniad dibwys i'r cyllid sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt, ac nid yw ychwaith yn gyfraniad dibwys i gyllideb flynyddol gyffredinol Llywodraeth Cymru. Rwy'n dweud wrth ein cyd-Aelodau eto: os ydym eisiau darparu cymorth ychwanegol mewn un maes, mae'n bwysig iawn ar y cam hwn nawr, wrth inni symud tuag at y gyllideb derfynol, eich bod yn nodi'r meysydd y byddech yn symud cyllid ohonynt. 

Ac fel y gŵyr fy nghyd-Aelodau, mae ein cyllideb ar gyfer 2024-25 wedi'i datblygu yn ystod y sefyllfa ariannol anoddaf i ni ei hwynebu ers datganoli, gyda setliad gan Lywodraeth y DU nad yw'n ddigonol i fynd i'r afael â'r holl bwysau ar ein cyllideb y mae ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau, ac unigolion wrth gwrs, yn eu hwynebu hefyd. Felly, bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn i ailffocysu ein cyllid ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd. 

Ond er y cyd-destun hwn, byddwn yn dal i ddarparu cymorth ardrethi annomestig gwerth £384 miliwn—mwy na thraean o biliwn o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru mewn cymorth ardrethi. Mae hwnnw'n sicr yn fuddsoddiad sylweddol mewn busnesau yng Nghymru. Ers 2018-19, rydym wedi atal neu wedi cyfyngu ar gynnydd yn y lluosydd bob blwyddyn, ac mae hynny wedi arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr yng Nghymru o'i gymharu â'r refeniw y byddem yn ei godi fel arall.

Daw ein penderfyniad i gapio cynnydd y lluosydd ar 5 y cant ar gyfer y flwyddyn nesaf ar gost reolaidd ychwanegol o £18 miliwn i gyllideb Cymru. Dyna £18 miliwn y flwyddyn nesaf a phob blwyddyn ar ôl hynny o ganlyniad i'r gefnogaeth yr ydym yn ei darparu drwy'r cap o 5 y cant.

Rydym hefyd yn buddsoddi £78 miliwn i ddarparu'r bumed flwyddyn olynol o ryddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn 2024-25. A gadewch inni gofio mai cynllun dros dro oedd hwnnw bob amser ac na fyddai busnesau wedi cynnwys unrhyw ryddhad o'r math hwnnw yn eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn adeiladu ar bron i £1 biliwn o gymorth a ddarparwyd i fusnesau ers dechrau'r pandemig. Hefyd, mae cronfa gyfalaf newydd gwerth £20 miliwn yn cael ei datblygu i helpu'r sectorau hyn i ddiogelu eu busnesau ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn gobeithio gallu dweud mwy am y gronfa honno cyn bo hir.

Felly, drwy ein pecyn rhyddhad hael, mae bron i hanner yr holl drethdalwyr yng Nghymru, gan gynnwys miloedd o fusnesau bach, yn elwa o ryddhad ardrethi llawn. Pan gynhwysir cymorth rhannol hefyd, bydd trethdalwyr ar fwy nag 80 y cant o eiddo yn elwa o ryddhad yn 2024-25. Mae hynny'n 104,000 eiddo ledled Cymru, neu o'i roi mewn ffordd arall, bydd ardrethi llawn i'w talu ar lai nag 20 y cant o eiddo.

Wrth edrych ymlaen, rydym ar y trywydd iawn i gyflawni'r rhaglen ddiwygiadau a nodais ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) wedi'i gyflwyno i gyflawni'r ystod o gynigion penodol y gwnaethom ymgynghori arnynt yn 2022. Ac mae'r rheini'n cynnwys ailbrisiadau amlach, y mae busnesau wedi bod yn gofyn i ni amdanynt; gwell llif gwybodaeth rhwng trethdalwyr ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio; adolygu'r pecyn presennol o ryddhad ac esemptiadau; y potensial i amrywio'r lluosydd, oherwydd, fel y clywsom, mae ein gallu i symud yn hynny o beth yn gyfyngedig iawn, felly yn y dyfodol gallai Gweinidogion gyflwyno cynigion lle gallent newid lluosyddion ar gyfer mathau penodol o fusnesau neu mewn ardaloedd penodol yng Nghymru; a gwella cywirdeb y rhestr ardrethi a mynd i'r afael â materion twyll ac osgoi, ac wrth gwrs, rydym wedi bod yn gwneud cryn dipyn o waith dros y blynyddoedd diwethaf ar dwyll ac osgoi ac yn gwneud cynnydd da iawn yn y maes hwnnw hefyd.

Mae'n bwysig cydnabod hefyd fod ein cynlluniau'n cynnwys edrych ymhellach ar dreth leol ar werth tir yn lle ardrethi annomestig. Byddai hynny'n ymgymeriad mawr, a fyddai'n galw am fuddsoddiad sylweddol iawn, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn deall costau, risgiau ac effeithiau hynny. Ac rwyf wedi nodi fy mwriad i lunio cynllun yn nhymor y Senedd hon. Mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddweud a yw hwn yn newid y dylem fynd ar ei drywydd yn fwy hirdymor, a byddai angen iddo fod yn amlwg yn well na'r system sydd gennym ar hyn o bryd, ond rydym yn edrych arno.

Felly, er bod ein hymyriadau'n dangos bod y system ardrethi annomestig yn un offeryn sydd ar gael i gefnogi busnesau, rhaid inni gofio mai pwrpas trethi lleol yw codi refeniw ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol. Rwyf wedi ymrwymo i ddiwygio'r system ac mae'n bwysig cydnabod bod ein pecyn cymorth gwerth £384 miliwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ganlyniad penderfyniadau anodd a ystyriwyd yn ofalus yng nghyd-destun cyllideb gyfyngedig a heriol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros welliant y Llywodraeth.

18:15

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o allu cau'r ddadl hon ar bwnc pwysig iawn a drafodwyd gennym yma y prynhawn yma. Rwy'n credu bod yr holl gyfranwyr wedi cydnabod mai busnesau ffyniannus yw enaid ein cymunedau a dylai cefnogi a galluogi busnesau i dyfu a ffynnu ledled Cymru fod yn flaenoriaeth lwyr i Lywodraeth Cymru. Nawr, yn anffodus, nid ydym yn gweld hynny ar hyn o bryd gan y Llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd, oherwydd, fel y clywsom, byddai torri'r rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant yn peri i ormod o fusnesau fethu ac yn rhoi pwysau difrifol ar lawer o fusnesau eraill.

Nawr, yn ein dadl heno, agorodd Peter Fox drwy amlinellu, yn gywir, y ffigurau sy'n ffurfio'r economi yma yng Nghymru ar y mater penodol hwn, gyda'r sector lletygarwch yn cyflogi 165,000 o bobl ac yn cyfrannu tua £4 biliwn i'r economi. Rwy'n credu bod Peter Fox hefyd wedi tynnu sylw at y sector manwerthu sy'n cyflogi tua 139,000 o bobl. Mae'r rhain yn niferoedd mawr ac yn dangos pa mor bwysig yw'r busnesau hyn i Gymru. Ac wrth gwrs, y tu ôl i bob ystadegyn, fel y crybwyllwyd yma heddiw, mae yna unigolyn, teulu, rhwydwaith sy'n dibynnu ar lwyddiant y busnesau hynny a chreu swyddi, boed yn siop groser deuluol neu'n gadwyn fawr o dafarndai, i gyd yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ac i bobl. Cyflwynodd Luke Fletcher welliannau Plaid Cymru ac roeddwn yn credu iddo wneud cyfraniad synhwyrol ynglŷn â'r adolygiad o ddosbarthiad a phwy sy'n talu'r ardrethi annomestig ac ar ba lefel a sut mae hynny'n edrych ar draws Cymru. Ymatebodd y Gweinidog i'r pwynt hwnnw i ryw raddau. Methodd Luke Fletcher siarad am welliant 2, a soniai am lefel y cyllid gan Lywodraeth y DU, a bydd y meinciau hyn bob amser yn atgoffa'r Aelodau yn y Siambr hon fod Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 am bob £1 a werir ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr. Felly, pan glywn sôn am lefelau annheg o arian, ceir cynnydd o 20 y cant i gydnabod rhai o'r heriau yma yng Nghymru.

Rhannodd Janet Finch-Saunders y ffigurau sy'n dangos bod Cymru wedi colli mwy na thafarn yr wythnos yn 2023. Roeddwn yn meddwl y byddai'n rhaid i rai o'r Aelodau yn y Siambr ddatgan diddordeb yn y ffaith ein bod wedi colli tafarn yr wythnos drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, gyda 63 yn cau eu drysau. Roedd hyn dros ddwbl y gyfradd yn Lloegr, a chollwyd 770 o swyddi yng Nghymru. Mae'r colledion swyddi hyn yn niweidiol i gymunedau, yn enwedig gan fod tafarndai'n chwarae rhan mor bwysig yn ein hardaloedd lleol fel canolfannau cymdeithasol sy'n dod â phobl ynghyd ac maent wedi gwasanaethu cymunedau ers degawdau a chanrifoedd. Gwnaeth Laura Anne Jones ymyriad ar Janet Finch-Saunders i siarad am rai sefydliadau penodol yn ei rhanbarth ei hun, a chredaf eich bod wedi dyfynnu—. Roedd Laura Anne Jones yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn llethu diwydiant sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd. Roedd yn ddyfyniad efallai gan berchennog tafarn yn eich rhanbarth. Ac mae hwnnw'n ddadansoddiad sobreiddiol, yn ddigon eironig, gan y bobl sy'n rhedeg y busnesau hyn yng Nghymru mewn gwirionedd. Nid y rhai sy'n eistedd yn eu tyrau ifori, ond y rhai ar lawr gwlad, sy'n creu swyddi, yn peryglu eu bywoliaeth, yn ceisio gwella profiad pobl yn ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd. Rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando'n ofalus iawn arnynt.

Siaradodd Hefin David ac roedd yn awyddus i dynnu sylw at yr heriau ehangach yn yr economi. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt teg. Mae cynhyrchiant yn parhau i fod yn araf iawn yma ac ar draws y DU. Mynegodd Hefin David rybudd hefyd am doriadau treth, oherwydd yr effaith ehangach bosibl ar wariant gwasanaethau cyhoeddus. Wrth gwrs, mae hynny'n galw am gydbwyso cyson, onid yw, ac mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn i beidio â lladd yr iâr a cholli'r cywion o ran ein busnesau, sy'n darparu cymaint mewn trethiant, i sicrhau ein bod yn cael gwasanaethau cyhoeddus wedi eu darparu yn y ffordd iawn.

Siaradodd Gareth Davies yn ei gyfraniad am rôl busnesau bach a chanolig yn enwedig, sy'n rhan mor bwysig o'n hecosystem yma yng Nghymru. Rwy'n credu mai'r ganran a ddyfynnwyd gennych, Gareth, oedd bod 99.3 y cant o holl fusnesau Cymru yn perthyn i'r categori bach a chanolig, a'r rheini fydd yn teimlo baich trymaf y toriad ardrethi busnes gan Lywodraeth Cymru. Ac fe gyfeiriodd at adroddiad PwC mewn perthynas â chynhyrchiant is, y credaf ei bod yn ddadl y dylem ei chael ar adeg arall yn y Siambr hon yn ôl pob tebyg, ynglŷn â sut y gallwn gynyddu cynhyrchiant yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn cael y gorau o'n heconomi.

Rwy'n ymwybodol o'r amser, Lywydd. Weinidog, fe wnaethoch ddewis ymateb drwy gydnabod y gwahaniaeth y mae talwyr ardrethi annomestig yn ei wneud i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn dda cydnabod y pwynt hwnnw. Ac roeddech am ailadrodd y pwynt a wnaeth Hefin David ynglŷn â chydbwyso trethiant ag ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny, sy'n gydbwysedd heriol o bryd i'w gilydd. Roeddech hefyd yn awyddus, Weinidog, i atgoffa'r Aelodau o'r gefnogaeth sydd eisoes ar gael i'r busnesau hynny. Ond hoffwn ailadrodd y pwynt hwnnw. Mae'n rhaid inni gael y cydbwysedd hwnnw'n gywir, ac ydy, mae trethiant yn rhywbeth a dalwn er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ond mae angen inni weld busnesau'n ffynnu. Mae angen i bobl allu codi yn y bore a bod yn hyderus wrth fynd i'w gweithle, i'w man busnes, y bydd yn llwyddiannus yn y dyfodol iddynt hwy a'u teuluoedd. Ar hyn o bryd, fel Ceidwadwyr, teimlwn fod symud o 75 y cant i 40 y cant o ryddhad yn gam yn rhy bell. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael arian wedi'i drosglwyddo iddi i adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant, ac ar y meinciau hyn, credwn y dylech wneud hynny ar unwaith. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi ein cynnig yma heddiw ac yn pleidleisio o blaid cefnogi busnesau Cymru yn ogystal.

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly gwnawn ni adael y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Darlledu rygbi'r Chwe Gwlad

Eitem 13 sydd nesaf ar ddarlledu rygbi'r chwe gwlad. Tom Giffard i wneud y cynnig yma ar ran y Ceidwadwyr. 

18:25

Cynnig NDM8470 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y sylwadau a waned gan Syr John Whittingdale AS, Gweinidog Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y byddai Llywodraeth y DU yn edrych eto ar y digwyddiadau a rhestrir pe bai Senedd Cymru yn dadlau’n gryf iawn o blaid hynny.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys gemau rygbi’r chwe gwlad yn y categori am ddim at ddibenion darlledu.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Felly, beth fyddwch chi'n ei wneud y penwythnos hwn? Rwy'n gwybod, mae'n gwestiwn ffôl. Mae'n swnio fel ystrydeb, ond bob tro mae tîm Cymru'n chwarae yn y chwe gwlad, mae'n ddigwyddiad cenedlaethol gwirioneddol fawr. Pa un a ydych chi yng Nghaerdydd gyda thocyn i wylio'r gêm gyda chennin Pedr ar eich pen, neu'n ei gwylio gartref gyda phaned o de, mae'n teimlo fel achlysur prin lle mae'r wlad gyfan yn dod i stop. Ac ni allwch roi pris ar yr eiliadau hynny. Rydym yn byw mewn byd lle mae gennym nifer diderfyn o sianeli teledu, detholiad enfawr o bethau y gallwn eu gwylio ar gais, a nifer enfawr o bethau i'n difyrru yn ein bywydau. Mae oes yr un diwylliant, gyda miliynau ohonom yn eistedd mewn un lle ar yr un pryd yn gwylio'r un peth ar ben. Mae hynny'n wir am bopeth heblaw'r digwyddiadau mwyaf prin. Ond mae'n amlwg fod y chwe gwlad yn un o'r rheini. Mae'r eiliadau cymunedol yr ydym yn eu mwynhau gyda'n gilydd fel cenedl, sy'n ein rhwymo gyda'n gilydd fel pobl, yn llythrennol amhrisiadwy. Dyna pam y byddai'n gamgymeriad mawr i rygbi Cymru ac i Gymru roi pencampwriaeth y chwe gwlad y tu ôl i wal dalu. Rwyf wedi clywed rhai yn dweud na fyddai hynny'n cael effaith ar y gamp mewn gwirionedd, ond mae'n amlwg y byddai. Edrychwch ar gamp arall, criced. Mae llawer ohonom yn cofio tîm y Lludw 2005 a enillodd yn erbyn Awstralia. Cyrhaeddodd y bencampwriaeth honno uchafbwynt yn ystod y pedwerydd prawf gydag 8.4 miliwn o wylwyr. Ond ni fanteisiwyd ar y momentwm hwnnw erioed. Rhoddwyd y bencampwriaeth y tu ôl i wal dalu, a dim ond 467,000 o wylwyr yn y DU a ddenwyd i wylio diwrnod olaf y Lludw yn 2009. Er bod rygbi Cymru yn amlwg yn sefydliad, ni allwn fod mor haerllug â meddwl na fyddai rhoi'r bencampwriaeth y tu ôl i wal dalu yn cael effaith debyg.

Rwy'n cytuno'n llwyr â phrif bwyslais yr hyn y mae'n ei ddweud, ond wrth gwrs, fe gafodd y pwyllgor diwylliant lythyr gan Abi Tierney, a ddywedai, 

'Yn syml iawn, gallai goblygiadau ariannol negyddol symud gemau rygbi rhyngwladol ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad i'r rhestr warchodedig gael effaith ddinistriol ar y gêm gyfan yng Nghymru yn y tymor canolig ac yn hirdymor.'

Cawn gyfle i'w holi yfory yn y pwyllgor, ond beth yw eich safbwyntiau cychwynnol chi ar y farn honno?

Rwy'n credu y byddwch yn falch iawn o wybod mai dyna yw fy mrawddeg nesaf. [Chwerthin.] Ac i'r rhai sy'n poeni am yr effaith, fel Hefin David, y bydd cadw'r bencampwriaeth ar deledu am ddim yn ei chael ar gyllid rygbi Cymru, ac mai mynd y tu ôl i wal dalu'n llwyr sydd orau i'r gêm, rwy'n anghytuno'n llwyr. Mewn gwirionedd, mae llawer mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud ar hynny, trwy gefnogi Undeb Rygbi Cymru a'i ranbarthau, yn enwedig trwy aildrafod telerau ei fenthyciad COVID, sydd, fel y clywsom yn ddiweddar, yn llethu'r rhanbarthau yn enwedig. Ond yr unig ffordd y gallwn wneud i'r Llywodraeth Lafur hon gefnogi'r Gweilch yn ariannol yw os dônt o hyd iddynt mewn cae yng nghanolbarth Cymru.

Mae'n werth cofio nad oes gan dros ddwy ran o dair o bobl yn y DU fynediad at sianel chwaraeon premiwm, ac yn draddodiadol menywod a chynulleidfaoedd iau yw'r rhai anoddaf i'w cyrraedd y tu ôl i wal dalu. Felly, mae perygl o eithrio rhai o'r union bobl y mae angen inni eu cyrraedd. Rydym yn gwybod bod cysylltiad clir rhwng gwylio chwaraeon a chael ein hysbrydoli i gymryd rhan ynddynt, felly drwy leihau'r gynulleidfa sy'n gwylio, rydym hefyd yn lleihau'r nifer posibl o bobl a fydd yn eu chwarae. I fynd yn ôl at griced, gostyngodd lefelau cyfranogiad 32 y cant dros y degawd a ddilynodd y symud y tu ôl i'r wal dalu. Ni allwn fentro gwneud hynny i rygbi yng Nghymru.

Er nad yw darlledu yn fater datganoledig, mae chwaraeon wedi'i ddatganoli. Dyna pam y daeth y Gweinidog dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, John Whittingdale, i'r Senedd hon, at y pwyllgor diwylliant, ychydig wythnosau yn ôl, ac fe ddywedodd:

'pe bai Senedd Cymru yn dadlau'n gryf iawn fod angen i ni, er lles chwaraeon yng Nghymru, edrych eto ar y digwyddiadau a restrir, byddem yn edrych arno, yn sicr.'

Felly, yn amlwg, gyd-Aelodau, dyma gyfle i gyflwyno'r achos hwnnw, ac ni allaf feddwl am ddim byd cryfach na bod y Senedd hon, drwy sefyll gyda'n gilydd fel un llais unedig, yn dweud ein bod yn credu y dylid dynodi bod y chwe gwlad yng Nghymru yn ddigwyddiad categori A fel y gwyddom i gyd ei fod, a'i fod yn parhau ar deledu am ddim yng Nghymru.

Nid yw'r eironi yn cael ei golli ar Blaid Cymru, ac rwy'n synnu na soniwyd am hyn, ar drothwy'r ddadl hon a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr yn galw am i ddarlledu'r chwe gwlad barhau ar deledu am ddim, fod pob un o'u cymheiriaid yn San Steffan wedi pleidleisio yn erbyn hynny. Felly, rydym ni'n cefnogi hyn yn llwyr, dyna pam y gwneuthum godi cwestiwn amserol yr wythnos diwethaf, ond sut y gallwn sicrhau bod hyn yn digwydd? A sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod eich cymheiriaid yn San Steffan yn cefnogi'r galwadau hyn hefyd? Oherwydd, fel y dywedoch chi'n gywir, nid oes gennym bŵer i benderfynu hyn yma yng Nghymru, ond pam nad yw ASau Torïaidd yn San Steffan yn sefyll dros Gymru? Mae'n rhagrith os ydych chi'n cyflwyno'r cynnig hwn ac eto nad yw Aelodau Seneddol Cymreig yn pleidleisio i'w gefnogi—[Torri ar draws.] Mae gennych eich safbwyntiau eich hun, ond eich rôl chi yma hefyd yw gweithio gyda chymheiriaid yn San Steffan i sicrhau—. Oherwydd bydd ein Haelodau Seneddol ni bob amser yn sefyll dros Gymru; mae'n drueni na wnaiff eich rhai chi.

Cafodd y dadleuon eu hailadrodd droeon yr wythnos diwethaf ynglŷn â pham mae teledu am ddim yn hanfodol, a chefais fy siomi'n fawr gan lythyr URC, a oedd yn wahanol i ymateb Noel Mooney a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, pan wnaethant hwy daro bargen gydag S4C i sicrhau bod holl gemau Cymru ar gael i'w gweld am ddim. Oherwydd yr elfen arall yma—.

A byddaf i'n troi i'r Gymraeg o ran hyn. Yr elfen arall, wrth gwrs, ydy o ran y Gymraeg. Mae'r ffaith bod ein gemau rhyngwladol ni ar gael ar S4C yn eithriadol o bwysig. Mae'r ffaith bod clybiau rygbi ledled Cymru—bariau ac ati—yn dewis darlledu yn y Gymraeg a bod pobl yn clywed y Gymraeg fel iaith fyw a bod nifer o bobl yn eu cartrefi yn dewis gwylio ar S4C a gwylio gyda'r isdeitlau yn Saesneg yn golygu ein bod ni o ddifrif yn gweld y Gymraeg fel iaith berthnasol i fywyd bob dydd a hefyd fel iaith sy'n perthyn i bawb. Mae yna gymaint o ddysgwyr yn cael budd o wylio chwaraeon hefyd ar S4C.

Mi fyddwn i'n hoffi gwybod, pan fyddwch chi'n holi'r undeb rygbi yfory, pa ystyriaeth maen nhw'n ei rhoi o ran y Gymraeg ac a ydyn nhw'n fodlon rhoi'r un ymroddiad ag y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Oherwydd mi oedd y gymdeithas bêl-droed yn gadarn am bwysigrwydd galluogi'r wal goch a phawb yng Nghymru i ddilyn hynt a helynt y timau cenedlaethol. Mae o hefyd ynglŷn ag ysgogi'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr, ond hefyd pobl i fod yn gwneud pob math o chwaraeon. Mae yna rygbi dan gerdded, pêl-droed dan gerdded ac ati; dydy o ddim jest am chwarae i'ch gwlad, mae o am fod yn rhan o rywbeth. Ac rydym ni wedi gweld, efo cwpan y byd pêl-droed, beth ddigwyddodd o ran y niferoedd yn cynyddu o ran merched ac ati yn mynd ati. Felly, dwi'n llwyr gefnogi hwn, ond mae angen mwy na geiriau gwag. Mae angen gweld gweithredu ar lefel San Steffan a dwi yn annog y Torïaid i sicrhau nad geiriau gwag mo'r rhain; mae gennych chi gydweithwyr yn San Steffan sy'n gallu newid hyn—gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n newid hynny.

18:30

Rwy'n sefyll o'ch blaen chi heddiw nid fel Aelod o'r Senedd, ond fel Cymro balch ac aelod gydol oes o Glwb Rygbi Gwernyfed, a chefnogwr rygbi brwd ers blynyddoedd lawer, drwy'r holl uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau a gawsom yn rygbi Cymru.

Ond heddiw, mae angen inni fynd i'r afael â phenderfyniad sy'n taro at galon ein cenedl, fel cenedl rygbi: gwahardd y chwe gwlad o'r categori teledu am ddim. Yn fachgen ifanc, nid mewn stadia mawreddog y cefais fy nghyflwyno i rygbi ond ar gaeau mwdlyd Ffordd Trefeca yn Nhalgarth, gan wisgo crys gwyrdd, gwyn a du fy nghlwb—yr ysbryd tîm, y ffrindiau a wneuthum yno, yn dysgu pasio oddi ar y ddwy law, er fy mod i'n dal i gael trafferth pasio oddi ar y llaw chwith, a'r gwrthdrawiadau mawr a gawn hefyd, a gall fy asennau cleisiog ers y penwythnos dystio i hynny hefyd. Ond mae'n ehangach na hynny; gwylio rygbi ar y teledu a daniodd yr angerdd. Gallaf gofio gwylio Neil Jenkins, Rob Howley, Stephen Jones a'r brodyr Quinell pan ddechreuais wylio rygbi am y tro cyntaf ac fe wnaeth hynny danio fy angerdd am y gêm. Ond ni allai'r atgofion hyn sydd gennyf fod wedi bodoli pe bai'r gamp wedi'i chyfyngu y tu ôl i wal dalu. Nid ymwneud â mynediad at chwaraeon elitaidd yn unig y mae penderfyniad Llywodraeth y DU, mae'n ymwneud â chyfle—cyfle a gollwyd yn fy marn i. Sut y gallwn ni ysbrydoli'r cenedlaethau nesaf pan fydd yr angerdd sy'n ysbrydoli ein pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon yn cael ei guddio y tu ôl i wal dalu? Rwy'n credu y byddai'n warth llwyr ac yn drueni mawr i'r gêm yng Nghymru. Dychmygwch fachgen ifanc ym Mrycheiniog a Maesyfed neu unrhyw ran o Gymru—neu ferch—dychmygwch eu llygaid pan fo'r sêr y maent am eu gweld a'r breuddwydion sydd ganddynt wedi'u cuddio y tu ôl i label pris. Mae Sky Sports yn costio mwy na £50 y mis i'w wylio, mae Amazon yn costio llawer iawn i'w wylio, ac yn syml, mae llawer o deuluoedd ledled Cymru yn methu fforddio talu hynny. Felly, rwy'n credu mai ein cyfrifoldeb i'r teuluoedd hyn yng Nghymru yw dangos ein chwe gwlad ar deledu am ddim.

Ond gadewch inni beidio ag anghofio'r elfen economaidd yn hyn. Yn 2015, beth amser yn ôl erbyn hyn, aeth 40,000 o unigolion—mae mwy ohonynt wedi heidio i Gaerdydd yn y blynyddoedd ers hynny—. Mae hynny'n chwistrellu swm anhygoel o £2 filiwn i £3 miliwn y dydd i'r economi leol yng Nghaerdydd. Mae llawer o'r tafarndai yn y dref yn ei roi ar deledu am ddim ar y BBC; nid oes gan lawer ohonynt Sky Sports oherwydd ei gost enfawr, fel y dywedais yn gynharach yn yr wythnos. Ond nid oes gan lawer o'n tafarndai a'n clybiau rygbi ledled Cymru Sky Sports, ac maent yn ffynnu pan fydd y gamp hon ar eu setiau teledu.

Rwy'n credu y byddai'n drueni mawr pe bai'r holl lawenydd cyfunol hwnnw a rennir, yr ebychiad yn y tafarndai wrth i'r chwaraewyr ddod o fewn trwch blewyn i sgorio, a'n cyffro pan fyddwn yn ennill gêm o rygbi. Mae'n brin yn yr oes sydd ohoni, ond rydym yn mynd i gael y chwe gwlad yn ôl, gobeithio. Ond a allwch chi ddychmygu penwythnos rygbi'r chwe gwlad yng Nghymru heb y torfeydd, gyda dim byd ond tawelwch a phobl yn gwylio gartref? Nid wyf eisiau gweld hynny, nid wyf yn meddwl bod pobl Cymru eisiau gweld hynny, ac rwy'n meddwl bod Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud camgymeriad mawr yn y llythyr a gyhoeddwyd ganddynt. Mae pobl Cymru eisiau gweld y chwe gwlad ar deledu am ddim, ac rwy'n credu y dylai Undeb Rygbi Cymru ailystyried yr hyn y maent wedi'i ddweud wrthym i gyd heddiw. Diolch.

18:35

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n meddwl bod rygbi wedi chwarae rhan ganolog yng Nghymru ers dros ganrif. Mewn sawl ffordd, roedd yn ein diffinio fel cenedl. Byddai llawer o'r lluniau o Gymru wedi bod yn gysylltiedig â rygbi, ac mae'n rhywbeth yr ydym i gyd yn ei gofio, yn yr un modd ag sydd newydd gael ei ddisgrifio. Rwy'n cofio fy ngêm pum gwlad gyntaf. Roedd honno ym mis Ionawr 1980, pan gefais drafferth i fynd ar y trên o Rymni, a mynd lawr i Gaerdydd—roeddwn i'n llawn cyffro wrth gwrs—ac euthum i mewn i'r teras dwyreiniol i wylio Cymru'n trechu Ffrainc, 18-9; rwy'n cofio'r canlyniad. Roedd yn rhan o bwy ydym fel pobl, yn rhan o bwy ydym fel gwlad, fel cenedl. Rwyf hyd yn oed yn cofio taro i mewn i'r Llywydd yn Nulyn ar fwy nag achlysur, ond gadawaf hynny at adeg arall.

Rhowch bump i mi, ac fe darwn fargen. Mae'r pum gwlad, y chwe gwlad, yn rhan o bwy ydym. Mae'n ein diffinio ni. Rwy'n cofio y byddai pobl na fyddai fel arfer yn gwylio rygbi neu chwaraeon yn gwylio am y byddent eisiau gweld sut oedd Cymru'n gwneud, byddent eisiau gweld sut oedd y tîm yn gwneud—rhan o'n diwylliant ni, o bwy ydym, ac nid wyf yn meddwl y gallwch chi osgoi hynny.

Nawr, y dadleuon, a darllenais y llythyr gan Abi Tierney, ac mae'n llythyr da, gadewch inni beidio â'i ddiystyru—. Ni fuaswn yn ei ddiystyru, oherwydd mae'r dadleuon am y dyfodol yn wahanol i atgofion am y gorffennol. Ond mae rhai pethau'n parhau'n gwbl ganolog: mae Heol y Porth ar ddiwrnod gêm yn wahanol i faes parcio'r gorllewin ar ddiwrnod gêm. Mae'r cefnogwr yng Nghymru yn wahanol, mewn sawl ffordd, i gefnogwyr mewn mannau eraill. Mae cyrhaeddiad rygbi'r undeb yng Nghymru yn wahanol i gyrhaeddiad rygbi'r undeb mewn llefydd eraill, ac mae angen inni gydnabod hynny. Mae angen inni ei gydnabod yn y ffordd yr awn i'r afael â'r pethau hyn.

Roeddwn yn meddwl bod y ddadl a gyflwynwyd gan Tom Giffard wrth agor y ddadl hon, a defnyddio enghraifft criced, yn rhan bwysig iawn o'r ddadl hon, oherwydd mae'n iawn, ac mae Abi yn iawn yn ei llythyr, mae angen i URC gael refeniw o'r gêm, mae angen y refeniw arnynt o hawliau teledu er mwyn ariannu'r gêm gymunedol. Nid wyf yn credu y gallwch chi greu rhaniadau rhwng y tîm cenedlaethol a'r gêm gymunedol yn y ffordd y mae rhai pobl yn ceisio ei wneud. Mae'r gêm gymunedol angen i'r chwe gwlad fod ar gael i bawb ei gwylio am ddim lle bynnag y byddwn, oherwydd y chwe gwlad a'r undeb rygbi rhyngwladol sy'n creu arwyr yfory, modelau rôl heddiw. Pan oeddem yn holi Ieuan Evans y llynedd ynglŷn â materion URC, roeddwn i'n dal i'w weld o'r teras dwyreiniol yn rhedeg tuag atom yn y gêm yn erbyn Lloegr, gan sgorio ychydig cyn hanner amser, golygfeydd anghredadwy yn y stadiwm. Fe wnaethom ni gadw'r Saeson allan drwy'r ail hanner ac ennill y gêm.

Mae atgofion a phwy ydym ni'n cael eu creu gan yr achlysuron hyn. Rydym yn siarad am ddiwylliant—fe wnaethom siarad am ddiwylliant yn gynharach—ond mae diwylliant yn ymwneud â ni a'r diffiniad ohonom. Mae'r chwe gwlad yn rhan o bwy ydym ni; mae'n bwysicach i ni na llawer neu'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau chwaraeon eraill a gaiff eu darlledu gan y prif gwmnïau darlledu chwaraeon. Buaswn yn dadlau bod y chwe gwlad yn bwysicach i Gymru na bron unrhyw un arall o'r achlysuron chwaraeon hynny. Nid lladd arnynt yw hynny, ond ein diffinio ni a'n blaenoriaethau, ac rwy'n gobeithio y bydd URC yfory yn dechrau sgwrs gyda ni a Chymru, ac yn sicrhau na fyddwn yn gwerthu yfory er budd cyllid heddiw.

18:40

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw. Fel y gwyddom i gyd, mae rygbi yn rhan annatod o'n cenedl wych ac yn rhywbeth y mae pawb ohonom yn ymfalchïo ynddo. Pan fydd y stadiwm yn canu a Chymru'n ennill, mae'n codi calon ein cenedl. Mae wedi dod yn ddigwyddiad cenedlaethol, gwylio ein cymdogion yn chwarae rygbi, yn yr hyn y credaf ei bod un o bencampwriaethau gwychaf y byd, sy'n denu pob cornel o'n cymunedau i mewn, gan ddod â theulu a ffrindiau at ei gilydd i wylio ein harwyr Cymreig. Ac yn sicr mae rhai o fy atgofion plentyndod cynharaf yn ymwneud â gwylio ein tîm gartref, yn y dafarn, yn fy nghlwb rygbi lleol ym Mrynbuga, lle roedd fy nhad, fy nhad fy hun, yn chwarae rygbi. Yn allweddol, oherwydd ei fod ar deledu am ddim, mae wedi caniatáu i'r fflam gael ei goleuo yng nghalonnau plant Cymru ar draws ein cenedl, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, fel y dywedwyd, i gydio mewn pêl rygbi. Gallem gyrraedd sefyllfa lle na fydd teuluoedd incwm isel sy'n methu fforddio Sky neu Amazon yn gallu gwylio Cymru'n fyw oherwydd y costau ariannol uchel. Os ydym yn peryglu statws am ddim ein camp genedlaethol, rydym hefyd yn peryglu dyfodol y gamp yng Nghymru. Rydym mewn perygl o ddieithrio'r genhedlaeth nesaf o athletwyr, na fyddant yn dechrau chwarae'r gêm hyd yn oed. Rydym mewn perygl o weld cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc yn colli gweld Cymru'n ennill y chwe gwlad. Rydym mewn perygl o golli rhan o'n gwead cenedlaethol a chyfyngu'r mwynhad o wylio ein tîm cenedlaethol i'r rhai sy'n gallu fforddio talu amdano yn unig. Mae hyn yn rhywbeth na ellir ac na ddylid caniatáu iddo ddigwydd, yn enwedig ar adeg pan fo angen i fwy o bobl nag erioed gael eu hysbrydoli i ddod yn egnïol ac yn fwy heini.

Nid oes ffordd well o gael eich ysbrydoli i gymryd rhan mewn chwaraeon neu i ddod yn iachach na gwylio ein tîm cenedlaethol yn llwyddo ar y llwyfan mawr. Nid y genhedlaeth nesaf yn unig fydd yn methu cael eu hysbrydoli, bydd hyn hefyd yn brifo busnesau ar adeg pan fônt eisoes yn gwegian yn sgil COVID neu ardrethi busnes uwch, fel y clywsom yn y ddadl ddiwethaf. Mae'r chwe gwlad yn rhoi hwb mawr ei angen i fusnesau lleol, yn enwedig y rhai yn y diwydiant lletygarwch. Yn 2015, adroddwyd bod 40,000 o bobl wedi teithio i Gaerdydd i wylio'r gêm yn nhafarndai'r ddinas, gan wario £50 i £75 yr un ar gyfartaledd. Golyga hynny y bydd yr ymwelwyr hyn yn dod â £2 filiwn i £3 miliwn y dydd i mewn. Hunan-niweidio economaidd fyddai caniatáu i'n busnesau gael eu hamddifadu o hyn a chaniatáu'n unig i'r rhai sydd â'r pocedi dyfnaf i ddarlledu'r gemau. Dywedir yn aml fod rygbi'r undeb yn ganolog i ddiwylliant Cymru, gyda Gwyddoniadur Cymru yn datgan bod y gamp yn cael ei gweld gan lawer fel symbol o hunaniaeth Gymreig ac yn fynegiant o'n hymwybyddiaeth genedlaethol.

Yn syml, dylai'r chwe gwlad fod yn gynhwysol, ac am ddim i bawb eu gwylio. Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn rygbi ac mewn chwaraeon yng Nghymru ond ni ddylai hynny fod yn ddibynnol ar guddio y tu ôl i wal dalu. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cefnogi ein cynnig heddiw.

Diolch, Lywydd. Wel, rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno o'r hyn a glywsom y prynhawn yma fod rygbi, yng Nghymru, yn rhan enfawr o'n hunaniaeth ddiwylliannol a chenedlaethol. Mae'n cyrraedd mannau ymhell y tu hwnt i'r gamp ei hun, onid yw? Mae'n rhan o DNA y genedl, ac mae lle arbennig yn ein calonnau i'r chwe gwlad, sy'n dod â'n gwledydd cyfagos at ei gilydd i ymladd am y gamp lawn.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir fod yn rhaid i bencampwriaeth y chwe gwlad ar y teledu barhau i fod am ddim, fel y gall y mwyafrif o boblogaeth Cymru weld y gemau a sawru uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ein tîm cenedlaethol gyda'n gilydd. Ni ddylid bychanu gwerth hyn mewn gwirionedd. Am y chwe wythnos nesaf, bydd pencampwriaeth y chwe gwlad yn arddangos camp rygbi'r undeb a'n chwaraewyr dawnus i'r byd.

A gaf i darfu ar y Dirprwy Weinidog a gofyn a yw'n fodlon derbyn ymyriad gan Hefin David?

Mae'r ddadl, y tybiaf y caiff gefnogaeth unfrydol heddiw, yn ymwneud ag ehangu'r gêm i gymaint o bobl â phosibl. A fyddai hi felly mor feirniadol ag y dylem fod, a hynny'n unfrydol, o ddatganiad John Devereux, y chwaraewr rygbi cod deuol rhyngwladol, a ddywedodd:

'Mae gan bob blydi gêm o bêl-droed dynion a rygbi dynion pe bai'n dod i hynny ar y BBC sylwebydd benywaidd. A oes unrhyw obaith y gallwn gael dewis botwm coch, gyda a heb? Dim ond gofyn dros ambell un o fy ffrindiau gwrywaidd!'

Rwy'n credu bod y sylw hwnnw'n mynd yn gwbl groes i ysbryd y ddadl hon heddiw pan ddylem fod yn ehangu cynulleidfaoedd i bawb ledled Cymru.

Wel, rwyf wedi fy syfrdanu gan hynny, Hefin. Rwy'n credu bod hynny'n warthus, a buaswn yn awgrymu bod John Devereux yn ymuno â'r clwb bychan iawn o sylwebyddion misogynistaidd hwnnw gyda Joey Barton. Hynny yw, o ddifrif, beth sydd o'i le ar ddynion na allant dderbyn bod gan fenywod ddiddordeb mewn chwaraeon hefyd, eu bod yn chwarae chwaraeon, a'r un mor wybodus â hwythau ac yn gallu sylwebu'n effeithiol arno, ni waeth pa ryw neu rywedd sy'n chwarae? Mae proffesiynoldeb y menywod hynny yn y byd chwaraeon yn siarad drosto'i hun. Rwy'n credu mai siarad dros John Devereux y mae John Devereux, onid e?

Felly, os caf fynd yn ôl at ble rydym ni, gyda phencampwriaeth y chwe gwlad yn arddangosiad, fel y nododd Hefin David nawr, o'r lledaeniad a'r cyrhaeddiad a fydd ganddi drwy allu gweld y gemau ar ein setiau teledu neu ein gliniaduron neu ein tabledi, mae'n sicrhau bod y gamp yn cael cymaint â phosibl o sylw yng Nghymru ac yn darparu'r cyfle yr oedd Hefin yn siarad amdano i chwaraewyr gael eu hysbrydoli gan y profiad hwnnw.

Wedi dweud hynny, mae cymhlethdodau ynghlwm wrth deledu am ddim. Yn gyntaf, nid yw rhestriad grŵp A ynddo'i hun yn gwarantu darlledu am ddim, ond mae'n ei alluogi. Ac mae hefyd yn bwysig ein bod yn parchu ac yn cydnabod sefyllfa anodd Undeb Rygbi Cymru, na all wneud y penderfyniad hwn ar ei ben ei hun. Ac o ystyried manteision sicrhau'r sylw mwyaf posibl a manteision ariannol contractau darlledu cyfyngol, dylem dderbyn bod cydbwysedd i'w daro, ac felly, mae'n bwysig fod y Senedd yn cael y ddadl hon a bod Llywodraeth Cymru yn parhau â'i thrafodaeth gydag Undeb Rygbi Cymru i sicrhau bod y cydbwysedd hwnnw'n cael ei daro.

Oherwydd, fel y gŵyr y Senedd, drwy ein rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon, i gefnogi athletwyr ifanc talentog, clybiau llawr gwlad ac i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon. Ac rydym yn gwybod, o ymchwil Chwaraeon Cymru, fod ein buddsoddiad mewn chwaraeon yn sicrhau elw cymdeithasol enfawr ac yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles ein cenedl. Ac nid oes amheuaeth y bydd y chwe gwlad yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ymgymryd â'r gamp am y tro cyntaf, a bydd yn annog eraill i barhau i ddatblygu'r sgiliau hynny, gan obeithio, rhyw ddydd, y byddant yn efelychu'r chwaraewyr a welant ar eu sgriniau.

Wrth gwrs, mae mynediad at hawliau darlledu hefyd yn hynod bwysig i'n darlledwyr. Mae'r gemau hyn yn denu cynulleidfaoedd mawr, gan ddod â phobl at sianeli a sicrhau bod darlledwyr yn gallu rhaglennu cynnwys sy'n parhau i fod yn berthnasol ac i apelio at gynulleidfaoedd. Ac fel y dywedodd Heledd Fychan, lle mae cynnwys ar gael ar S4C, er enghraifft, mae'n cynyddu mynediad at y Gymraeg, mae'n dod â'r Gymraeg i mewn i'n cartrefi, gan gynnwys cartrefi na fyddent fel arfer yn clywed Cymraeg yn cael ei siarad fel arall. Ac fel y nododd Alun Davies yn gwbl briodol, oherwydd ein hymlyniad diwylliannol wrth rygbi'r undeb, rydym yn cydnabod bod y chwe gwlad yn golygu llawer mwy yng Nghymru nag yn y pum gwlad arall. 

Roedd ffigurau yn adroddiad 'Cyfryngau'r Genedl: Cymru 2023' y llynedd yn amlygu cariad Cymru tuag at rygbi, a Chymru oedd yr unig genedl i gael unrhyw gemau rygbi yn ymddangos yn 10 uchaf y ffigurau gwylio chwaraeon. Fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth ateb cwestiwn am hyn ddoe, mae ein hunaniaeth ddiwylliannol yn cael ei hadlewyrchu fwy gan rygbi'r undeb na chan Wimbledon, er enghraifft, neu ras y Derby yn Epsom, sy'n cael eu dangos ar deledu am ddim, wrth gwrs. Ond ni ddylai hyn fod o bwys, gan y dylai'r digwyddiadau a restrir adlewyrchu anghenion y DU gyfan, ac rwy'n falch o weld bod hyn wedi'i gydnabod gan y Pwyllgor Materion Cymreig ac y dylai Llywodraeth y DU ei gydnabod. 

Fel y cawsom ein hatgoffa gan Tom Giffard yn gynharach, yn ei sesiwn dystiolaeth i bwyllgor diwylliant y Senedd y llynedd, dywedodd John Whittingdale AS, y Gweinidog Gwladol dros y Cyfryngau, Twristiaeth a'r Diwydiannau Creadigol, pe bai'r Senedd yn dadlau'n gryf iawn fod angen iddynt edrych ar ddigwyddiadau a restrir eto er budd chwaraeon yng Nghymru, y byddai Llywodraeth y DU yn sicr o wneud hynny. Wel, rydym wedi gwneud hynny, ac rydym wedi dangos cefnogaeth drawsbleidiol i hyn yn ein llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac eto yn y ddadl hon heddiw. 

Ac wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â'r Bil Cyfryngau—uwchraddiad hanfodol i'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer darlledwyr yn y DU—nawr yw'r amser i adolygu a diwygio'r weithdrefn digwyddiadau a restrir er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben i bob un ohonom. Roeddwn yn siomedig felly fod y gwelliannau i hwyluso teledu am ddim ar gyfer y chwe gwlad a sefydlu cronfa dan oruchwyliaeth yr Ysgrifennydd Gwladol, y gellid ei thalu i gyrff llywodraethu a allai brofi niwed ariannol o ganlyniad i restriad o dan grŵp A, wedi cael eu trechu yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe.

Rwy'n credu ei bod yn drueni na allai Tom Giffard ymatal ar fater o gonsensws trawsbleidiol rhag ceisio gwneud sylw gwleidyddol sarhaus am fenthyciad URC, a gafodd ei ateb yn glir iawn gan y Prif Weinidog ddoe—ac yn enwedig gan fod Heledd Fychan eisoes wedi ein hatgoffa mai ASau Torïaidd yn San Steffan ddoe a wrthwynebodd yr union beth y dadleuwn drosto heddiw.

Fodd bynnag, mae'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw wedi gwneud safbwynt y Senedd hon yn glir iawn, ac felly rwy'n dal i obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailystyried ei safbwynt ac yn symud i adolygu'r digwyddiadau grŵp A a restrir i gynnwys pencampwriaeth y chwe gwlad. Diolch yn fawr. 

18:50

Diolch, Llywydd. Mae'n bleser i gloi'r ddadl yma heno. 

Mae'n bleser gennyf fel Cymro balch, chwaraewr rygbi balch—yn o agos—allu cau'r ddadl hon heno. Wrth agor, siaradodd Tom Giffard am y tebygrwydd rhwng criced a rygbi o ran lefelau cyfranogiad pan fydd camp yn symud y tu ôl i wal dalu. Rwy'n cofio'n fyw iawn gwylio'r Lludw 2005 gyda Michael Vaughan, Freddie Flintoff, Kevin Pietersen—pobl rwy'n eu hadnabod nawr oherwydd y gallu i wylio'r gemau prawf hynny ar deledu am ddim. 

A Heledd Fychan, welwch chi, dyma'r broblem weithiau: cawn ein condemnio os gwnawn a chawn ein condemnio os na wnawn ar yr ochr hon i'r Siambr. Pe byddem yn dweud na fyddem yn gwneud unrhyw beth ynglŷn â hyn, byddem yn cael ein llabyddio am beidio â siarad ag un llais dros Gymru. Down allan o blaid rhywbeth sydd o blaid Cymru, gan danlinellu'r 'Cymreig' yn y 'Ceidwadwyr Cymreig', a chawn ein galw'n rhagrithwyr. Fe wnaf dderbyn ymyriad, wrth gwrs.

Y cyfan rwy'n ei ofyn yw eich bod yn sicrhau bod y rhai sydd â'r pwerau yn cyflawni'r hyn y galwch amdano. Beirniadwch yr ASau Torïaidd o Gymru a bleidleisiodd yn erbyn hyn neithiwr. 

Rwy'n credu bod y ffaith ein bod yn cynnal y ddadl hon heno yn gwneud hynny. 

Fel plaid yma yng Nghymru ar yr ochr hon i'r meinciau, rydym yn amlwg yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud rhywbeth yma i ni yng Nghymru, a chredaf y dylai Aelodau Plaid Cymru o'r Senedd gyferbyn â ni heno groesawu hynny. Ond fe wnaeth Heledd godi rhai pwyntiau diddorol iawn am y cysylltiad rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac S4C—

—a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg ynglŷn â darlledu. Mae hwnnw'n hollbwysig. 

Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, a gallai hynny fod yn rhywbeth sydd wedi dechrau o'r ddadl hon y prynhawn yma ac ymchwiliad y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig i hyn: a oes cyfle i ni gael model pwrpasol ar gyfer gemau chwe gwlad Cymru, yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban ar gyfer rownd derfynol Cwpan FA yr Alban—ar deledu am ddim, yn yr Alban yn unig? A yw hwn yn gyfle i ni gychwyn sgwrs? Mae Alun Davies yn ysgwyd ei ben, ond rwy'n credu y gallai hyn fod yn gyfle i ddechrau'r drafodaeth, yn hytrach na dod i gasgliad terfynol yma y prynhawn yma.

Nawr, os ydych chi'n dilyn James Evans ar Instagram, ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom ni yma yn gwneud hynny'n frwd. Os nad ydych chi, rydych chi ar eich colled, oherwydd bob dydd Sadwrn, neu bob dydd Iau, pan gyhoeddir y tîm ar gyfer Gwernyfed, mae'n ei rannu ar ei Instagram, ac mae James Evans yn gwisgo crys Rhif 7 ei dîm cartref—[Torri ar draws.] Clo. Mae wedi symud ymlaen ymhellach; mewn blwyddyn neu ddwy, fe fydd yn y rheng flaen. Ond mae'n iawn eto, a dyma thema'r noson: y cyfranogiad neu'r diffyg cyfranogiad os yw hyn yn symud y tu ôl i wal dalu. A siaradodd James yn eithaf huawdl am gost y tanysgrifiadau. Os oes gennych chi rai gemau'n mynd ar TNT Sports, Sky Sports, Netflix ac Amazon hefyd, mae'n anodd iawn i deuluoedd bwyso a mesur, a cheisio dod â'r holl wasanaethau tanysgrifio o fewn un taliad, fel y gallant wylio Cymru'n chwarae rygbi. 

Alun Davies, mae'n ddrwg gennyf, ond mae'n dangos y gwahaniaeth yn ein hoedran yma, lle roedd eich gêm gyntaf yn yr 1980au. [Chwerthin.] Dim ond oherwydd iddo ef a minnau gael jôc am ein hoedrannau yn y pwyllgor yn gynharach y bore yma y teimlwn yn ddiogel gan wybod na fyddai'n dial yn rhy llym. Ond rydych chi'n hollol iawn fod yr atgofion cynnar hyn o gemau rygbi yn rhan o'n DNA. Dyna'r iaith a ddefnyddiwyd yma eto: 'DNA', 'hunaniaeth', 'rhan o bwy ydym'. Ac yn sicr, mae angen modelau rôl ar y gêm gymunedol. Efallai ei fod wedi dangos fy sgiliau fel chwaraewr rygbi wrth dyfu i fyny nad y chwaraewyr oedd fy modelau rôl, ond y sylwebyddion, yn fwy na dim arall. A soniais am hynny yr wythnos diwethaf wrth sôn am Eddie Butler—y diweddar anfarwol Eddie Butler. Fy hoff frawddeg ganddo yn y chwe gwlad yn 2005 oedd, 'Shave away, Gavin, shave away', pan giciodd Gavin Henson y gic gosb fuddugol yn erbyn Lloegr. Mae'n frawddeg sydd wedi aros gyda mi oherwydd bod y gêm honno ar deledu am ddim. 

Siaradodd Laura Anne Jones, unwaith eto, am allu rygbi i ddod â theulu a ffrindiau ynghyd, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Ac rwy'n ymwybodol fy mod yn profi amynedd y Llywydd, ond mae'n bwnc yr wyf yn hynod angerddol yn ei gylch. Ac nid wyf am dynnu—. Ymyriad Hefin ar y Dirprwy Weinidog, nid wyf am dynnu mwy o sylw at yr enw a grybwyllodd neu a grybwyllwyd gan y Dirprwy Weinidog. Rwyf am dynnu sylw at Sarra Elgan, Gabby Logan, Sonja McLaughlan a Lauren Jenkins, y pedair yn sylwebyddion benywaidd ar anterth eu gyrfa, ar y brig yn y maes sylwebu a chyflwyno, a phob clod iddynt am y gwaith a wnânt.

Felly, i ni, sut y gallaf grynhoi a chloi hyn? Pencampwriaeth y chwe gwlad yw'r digwyddiad chwaraeon blynyddol a rhyngwladol mwyaf—mae'n un o'r mwyaf—ac yma yng Nghymru, mae rygbi'n grefydd; Stadiwm Principality, eglwys. A phan ddaw dydd Sadwrn a dechrau'r chwe gwlad, bydd cynulleidfa o dros 3 miliwn y tu cefn i'r dynion mewn coch. Felly, pob lwc i ddynion Gatland ac rwy'n annog pawb i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heno. Diolch, Lywydd.

18:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna dim gwrthwynebiad. Fydd yna ddim pleidlais. Mae'r cynnig wedi'i dderbyn gan bawb.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

14. Cyfnod Pleidleisio

Fe wnawn ni nawr gyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais. Felly, fe fydd y bleidlais gyntaf ar eitem 8, sef y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y gwasanaeth iechyd yw hwn. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mabon ap Gwynfor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 28, 22 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.

Eitem 8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG: O blaid: 28, Yn erbyn: 0, Ymatal: 22

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r pleidleisiau nesaf ar eitem 12, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ryddhad ardrethi busnes. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Eitem 12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad ardrethi busnes. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 nesaf. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn, gwelliant 2 wedi'i ddad-ddethol.

Eitem 12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad ardrethi busnes. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Felly, y bleidlais nesaf ar welliant 3 yn enw Luke Fletcher. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, gwelliant 3 wedi'i dderbyn.

Eitem 12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad ardrethi busnes. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Luke Fletcher: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM8469 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu’r ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag ydoedd adeg ei gosod yn 2021:

a) yn darparu pecyn o gymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £384 miliwn;

b) yn rhoi cap o 5 y cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac

c) yn darparu rhyddhad o ran ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y pumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn a ddarparwyd ers 2020-21.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud oddi wrth ardrethi annomestig, cyhoeddi amserlen ar gyfer eu gwaith, a sicrhau bod map ffordd ar gyfer pontio allan o ardrethi annomestig yn cael ei ddarparu yn ogystal ag opsiynau ar gyfer system newydd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid saith, neb yn ymatal, 43 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei wrthod.

19:00

Eitem 12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad ardrethi busnes. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 43, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

15. Dadl Fer: Methiant y galon—Mae arloesi yn achub bywydau

Fe fyddwn ni'n symud yn syth i'r ddadl fer.

Os gall yr Aelodau adael yn dawel—. Mae gennym un ddadl i'w chlywed o hyd, ac mae'r ddadl honno i'w chyflwyno gan Sarah Murphy. Sarah Murphy, gallwch ddechrau.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu gwneud y ddadl fer hon heddiw. Pe bawn i wedi gallu ei galw'n 'Mae'r sêr roc cardioleg ym Mhen-y-bont ar Ogwr', byddwn wedi gwneud hynny, ond mae'n debyg na fyddwn wedi llwyddo i ddod â hi heibio i'r Swyddfa Gyflwyno, felly yn lle hynny rwyf wedi dewis 'Methiant y galon' ac edrych ar yr arloesedd sy'n digwydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

I roi ychydig o gefndir, roeddwn yn falch iawn o gael mynd i gyfarfod â'r tîm cardioleg yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg. Dangosodd Dr Wong, y cardiolegydd ymgynghorol, a Rhys Williams, sy'n fferyllydd clinigol arbenigol mewn cardioleg, yr hyn y maent wedi'i greu yno, a chredaf fod llawer yn ei ystyried yn rhywfaint o'r gwaith gorau sy'n digwydd yn Ewrop mewn gwirionedd. Dyna pam fy mod eisiau rhoi sylw iddo heno.

Dim ond ychydig bach o gefndir ar ba mor ddifrifol yw methiant y galon, ac rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth sy'n cyffwrdd â bywydau llawer o bobl yn bersonol neu drwy anwyliaid. Yn ôl archwiliad cenedlaethol o fethiant y galon, amcangyfrifir bod nifer yr achosion o fethiant y galon yn 2 y cant o'r boblogaeth, gydag amcangyfrif bod poblogaeth Cymru yn 3.3 miliwn erbyn Gorffennaf 2024, ac mae hyn yn cyfateb i 66,000 o bobl yn genedlaethol. Mae prognosis methiant difrifol y galon yn waeth na'r mwyafrif o ganserau cyffredin, gydag amcangyfrif y bydd 50 y cant o bobl yn marw o fewn pum mlynedd. A derbyniadau i'r ysbyty oherwydd methiant y galon sydd i gyfrif am oddeutu 2 y cant o gyllideb gyffredinol y GIG.

Mae'r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Methiant y Galon wedi lansio ymgyrch 25in25, gyda'r nod o ostwng y nifer o farwolaethau o ganlyniad i fethiant y galon 25 y cant dros y 25 mlynedd nesaf, drwy ganfod symptomau yn gynharach, gwella iechyd y boblogaeth, a mynediad amserol at therapïau. Roeddwn eisiau tynnu sylw hefyd at y ffaith bod yna erthygl wych ar sut y gallwn roi diwedd ar anghydraddoldeb iechyd menywod yn llyfryn Cymdeithas Fabian Cymru. Fe'i hysgrifennwyd gan Gemma Roberts o Sefydliad Prydeinig y Galon. Dywedodd fod diagnosis menywod hefyd yn arafach a'u bod yn fwy tebygol o gael camddiagnosis, fel bod y canfyddiad nad yw menywod yn wynebu risg o drawiad ar y galon yn gallu effeithio ar i ba raddau y mae menywod â symptomau trawiad ar y galon yn cael diagnosis amserol a chywir.

Mae diagnosis cychwynnol anghywir ar ôl trawiad ar y galon yn creu cynnydd o 70 y cant yn y risg o farwolaeth ar ôl 30 diwrnod. Ac mae ymchwil yn awgrymu bod menywod 50 y cant yn fwy tebygol na dynion o gael diagnosis cychwynnol anghywir ar gyfer trawiad ar y galon. Canfu'r ymchwilwyr a ariennir gan Sefydliad Prydeinig y Galon ym Mhrifysgol Leeds hefyd fod menywod yn cael eu hatgyfeirio am brofion diagnostig yn arafach o lawer na dynion, a chanfu'r astudiaeth fod menywod a gafodd fath o drawiad ar y galon a achosir fel arfer gan rydweli wedi'i rhwystro'n rhannol 34 y cant yn llai tebygol na dynion o gael prawf delweddu angiograffeg coronaidd o fewn 72 awr i gael eu derbyn i'r ysbyty. Fel y byddech wedi gweld, fe wneuthum droi at fy nghyd-Aelod, Alun Davies, gan fy mod yn credu eich bod wedi cael rhywfaint o brofiad gyda hyn, yn anffodus iawn, ac felly hoffwn dderbyn ymyriad gennych chi nawr, i chi allu siarad ychydig bach gyda ni ynglŷn â sut brofiad yw hyn i bobl.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl am gyflwyno'r ddadl hon heno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ac yn hanfodol eich bod wedi gwneud hyn, oherwydd fel un o'r 3 y cant o bobl yng Nghymru sy'n goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, mae fy mhrofiad yn dweud wrthyf fod angen inni gael dull llawer mwy cyfannol o ymdrin ag iechyd y galon, a'r gallu i ganfod problemau'n gynnar, i drin yn gynnar a gweithio gyda phobl i oresgyn y problemau a wynebir ganddynt yn eu bywydau. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, yn talu teyrnged i'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ond y bydd hefyd yn edrych ar raglen cardioleg sy'n fwy cyfannol na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd, gan ddwyn ynghyd yr atal a'r driniaeth, ac, yna, yr adsefydlu, i sicrhau bod gennym ddull sy'n gofalu am bobl sy'n dioddef y pethau hyn yn ystod eu hoes. 

19:05

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Diolch yn fawr iawn, Alun Davies. Daw â mi at y rhan nesaf yr hoffwn ei thrafod, sef triniaeth. Gall therapïau meddygol a gyfeirir gan ganllawiau, a elwir yn bedair colofn triniaeth, helpu i leihau marwolaethau, gwella ansawdd bywyd, a lleihau'r risg o gael eich derbyn i'r ysbyty oherwydd diffyg anadl a hylif yn cronni. A gellir gweld y manteision hyn mor gynnar â 14 diwrnod ar ôl dechrau triniaeth. Mae canlyniadau gwell yn gysylltiedig â dosau uwch, felly mae angen ymweliadau mynych. Mae therapi pedair colofn hefyd yn lleihau'r angen am ymyriadau eraill a allai fod yn gostus, gan gynnwys mewnblannu dyfeisiau cardiaidd, dyfeisiau cymorth fentriglaidd, a thrawsblannu cardiaidd. Fodd bynnag, gall oedi cyn cael y triniaethau hyn arwain at ganlyniadau sylweddol i gleifion, fel y crybwyllwyd uchod. 

Wrth edrych ar fodel Tywysoges Cymru, mae wedi ei arwain gan Dr Aaron Wong ac mae'n ddull amlddisgyblaethol. Mae nyrsys arbenigol methiant y galon yn rhan o'r tîm. Ceir adolygiad o gleifion mewnol ysbytai, darparu addysg i gleifion a gofalwyr, a gwneud y gorau o feddyginiaethau cyn eu rhyddhau, adolygiad o allu cleifion i gerdded pan fyddant yn ffonio'r llinell gymorth methiant y galon, neu reoli eu symptomau, gan osgoi derbyniadau tebygol i'r ysbyty ac ymweliadau ag adrannau brys. Mae tîm amlddisgyblaethol, sy'n gweithio gyda gofal lliniarol, yn darparu cynlluniau gofal ymlaen llaw i gleifion sydd yn 12 mis olaf eu bywyd.

Ac yna daw â mi at yr hyn y credaf ei fod yn eithaf unigryw am y rhaglen hon, sef y cydweithrediad â'r adran fferylliaeth. Cefais ymweliad arall lle cefais fynd o amgylch yr adran fferylliaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Hyd at y pwynt hwnnw, nid wyf yn credu fy mod yn sylweddoli pa mor enfawr ydyw mewn gwirionedd, pa mor enfawr yw'r adran, a faint maent yn ei wneud yno. Ac maent yn gweithio'n aruthrol, ac rwy'n meddwl weithiau, pe bawn i byth yn rhoi'r gorau i fod yn wleidydd, buaswn wrth fy modd yn mynd yn ôl i ailhyfforddi mewn fferylliaeth. Mae'n faes mor ddiddorol, ac rwy'n credu ei fod cymaint yn fwy nag y mae rhai pobl yn sylweddoli, a fferylliaeth sy'n presgripsiynu yn enwedig. Felly, rwy'n credu bod y ffordd y rhoddwn hwb i'r fferyllwyr arbenigol hynny, Weinidog, yn help aruthrol ledled ein GIG. 

Yr hyn y mae fferyllwyr methiant y galon, fel Rhys, yn ei wneud yw darparu optimeiddiad amserol o'r therapïau pedair colofn—optimeiddio ffactorau risg cardiofasgwlaidd, gan gynnwys diabetes, pwysedd gwaed uchel a cholesterol. Ac mae gwaith o wasanaeth methiant y galon Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i gyflwyno ar y llwyfan Ewropeaidd. Felly, unwaith eto, hoffwn ddweud fy mod yn credu mai'r hyn sy'n wych yw y bydd Rhys yn rhedeg ei glinig, lle bydd pobl yn dod i mewn i'w weld, ac yn archwilio eu meddyginiaeth a gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud yn dda iawn, ac yna, mae gennych chi Dr Wong yno a fydd yn dal pobl yn gyflym iawn pan fyddant yn dod i mewn gyda'r problemau hyn. Mae ganddo'r dechnoleg orau i wneud yr asesiadau gymaint yn gyflymach. Maent wedi llwyddo i'w leihau, rwy'n credu, o 12 mis i dri mis yn Ysbyty Tywysoges Cymru. 

Fy nealltwriaeth i, serch hynny, yw bod y math hwn o gynllun peilot wedi cael ei ariannu—fel y mae'r mathau hyn o gynlluniau peilot yn aml—gan y cwmnïau fferyllol, a nawr, maent yn y broses o gyflwyno'r achos busnes i'r bwrdd iechyd, lle caiff ei dderbyn gobeithio. Ond hoffwn weld hyn yn cael ei gyflwyno ym mhobman hefyd. 

Felly, i grynhoi, dyma rai o'r argymhellion y gofynnir amdanynt gan Lywodraeth Cymru: i fethiant y galon ddod yn gyflwr â blaenoriaeth yn genedlaethol, a hefyd, i gyllid ganiatáu i wasanaethau cleifion allanol methiant y galon barhau i drin cleifion allanol yn agosach at eu cartrefi, gan atal derbyniadau i'r ysbyty a lleihau llwyth gwaith clinigwyr gofal sylfaenol—mae'n debyg fod hynny'n cyd-fynd yn llawer agosach â'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud, Alun Davies, y dull cyfannol hwnnw—gwasanaethau lleol estynedig i fferyllfeydd cymunedol allu sgrinio cleifion am gydafiacheddau cyffredin, gan gynnwys pwysedd gwaed uchel, diabetes a cholesterol uchel, a hefyd, hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o fethiant y galon ar lefel genedlaethol, gyda chefnogaeth gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Methiant y Galon, Pumping Marvellous—nid oeddwn wedi clywed am y rheini o'r blaen, ond maent yn swnio'n wych—Sefydliad Prydeinig y Galon, a Cardiomyopathy UK. Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Weinidog. 

Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Eluned Morgan. 

Diolch yn fawr. Diolch yn fawr, Sarah, am gyflwyno'r ddadl hon. Roeddech chi'n sôn am sêr roc cardioleg yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Roeddwn i'n cyfarfod heddiw â sêr roc llawdriniaeth ddydd orthopedig, a gwylio llawdriniaeth waedlyd braidd i osod pen-glin newydd, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod y ffordd y disgrifioch chi'r cardiolegwyr a'u harloesedd yn sicr yn rhywbeth a fyddai'n eu cymhwyso i fod yn sêr roc cardioleg. Felly, diolch yn fawr iawn, a diolch am yr holl ddiddordeb sydd gennych ar ran eich etholwyr. Rwy'n credu bod datblygu gwelliannau ac arloesedd mewn gofal iechyd yn nod yr ydym yn ymdrechu'n gyson i'w gyrraedd, ac rwy'n credu bod hynny'n hanfodol i wella bywydau pobl Cymru.

Gwyddom fod clefydau'r galon yn cael effaith enfawr ar bobl Cymru, ac un o'r pwyntiau rwy'n awyddus iawn i roi sylw iddo heddiw, fel y nodwyd gennych yn y llyfr y darllenoch chi ohono, yw'r ffaith bod cymaint o fenywod yng Nghymru yn dioddef o glefyd y galon. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn amcangyfrif bod o leiaf 100,000 o fenywod yn byw gyda rhyw ffurf ar glefyd y galon yng Nghymru heddiw. Y mwyaf cyffredin o'r rhain yw clefyd coronaidd y galon, gyda thua 45,000 o fenywod yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr, a bydd llawer yn synnu clywed ei fod yn achosi ddwywaith cymaint o farwolaethau â chanser y fron. Byddaf yn fythol ddiolchgar am y cyflwyniad a wnaed ar fy nghyfer gan Sefydliad Prydeinig y Galon, a ddangosodd fod gan fenywod risg 50 y cant yn uwch na dynion o gael y diagnosis cychwynnol anghywir yn dilyn trawiad ar y galon, a dyna oedd un o'r ffactorau allweddol a wnaeth i mi ganolbwyntio o'r newydd ar fenywod ac iechyd yng Nghymru.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad yw problemau iechyd menywod i gyd yn cael eu rhoi mewn categori gynaecolegol. Mae menywod mor aml yn cael eu trin yn wahanol mewn perthynas â materion fel diagnosio clefyd y galon, ac rwy'n credu bod rhaid i hyn newid. Mae gennym ffordd bell i fynd i unioni'r broblem honno, ond rydym o leiaf ar y trywydd iawn nawr gyda phenodi arweinydd clinigol newydd ar gyfer iechyd menywod yn ddiweddar. Ceir sawl math o glefyd y galon, yn cynnwys clefyd coronaidd y galon, sy'n arwain at rwystro cyflenwad gwaed y galon gan sylweddau brasterog. Yn fyd-eang, dyma yw'r clefyd unigol sy'n lladd y nifer mwyaf o fenywod.

Clefyd y galon arall sy'n bwysig yw methiant y galon, lle nad yw'r galon yn ddigon cryf i bwmpio gwaed o amgylch y corff. Mae dros 1 filiwn o bobl yn y DU yn dioddef o fethiant y galon. Mae nifer yr achosion newydd bob blwyddyn bellach yn debyg i'r nifer ar gyfer y pedwar achos mwyaf cyffredin o ganser gyda'i gilydd. Yng Nghymru, mae 38,000 o bobl wedi cael diagnosis o fethiant y galon, gyda miloedd o bobl o bosibl yn byw gydag ef heb wybod eu bod yn byw gydag ef. Mae nifer yr achosion o fethiant y galon yn cynyddu, a rhagwelir y bydd yn codi'n sylweddol, yn rhannol oherwydd ein poblogaeth sy'n heneiddio ac o ganlyniad i gyfraddau goroesi gwell ar gyfer trawiad ar y galon. Rydym i gyd yn falch iawn fod Alun yn dal gyda ni i ddweud ei hanes, ac mae'n llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod y gobaith o oroesi ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn denau iawn. Felly, rydym i gyd yn falch iawn eich bod yn dal i fod gyda ni, Alun. Ar hyn o bryd, mae 80 y cant o'r achosion o fethiant y galon yn cael eu diagnosio yn yr ysbyty ar ôl i gleifion gael eu derbyn gyda symptomau, ac mae adolygiadau o'r grŵp hwn wedi dangos bod gan 40 y cant o'r bobl hyn symptomau yn y misoedd cyn eu derbyn a allai fod wedi sbarduno asesiad cynharach mewn gofal sylfaenol.

Er bod ffocws yn naturiol ar ddatblygiadau technolegol, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cofio'r angen am ddatblygiadau cymdeithasol hefyd. Rwy'n credu bod y ffocws hwnnw ar atal, ar weithio'n gydweithredol ac yn gyson, yn bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth, addysgu, a rhoi negeseuon i'r cyhoedd—mae hynny i gyd yn mynd i helpu pobl i gael a byw bywydau iachach, gan allu adnabod symptomau problemau cardiaidd yn gywir ac yn hyderus ar yr un pryd. I helpu gydag atal, mae rhwydwaith cardiofasgwlaidd Cymru yn gweithio gyda'r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Methiant y Galon ar ei hymgyrch 25in25, ac mae honno'n galw am fenter gwella ansawdd genedlaethol i leihau marwolaethau 25 y cant yn y 25 mlynedd nesaf, a chreu dull yn y gymuned o ganfod methiant y galon yn gynnar. Bae Abertawe yw'r gymuned llwybr cyflym 25in25 cyntaf yn y Deyrnas Unedig gyfan, felly nid Ysbyty Tywysoges Cymru yn unig sy'n gwneud gwaith da yn hyn o beth.

Yn ogystal ag atal, mae diagnosis cynnar, cywir yn allweddol i wella'r canlyniadau i'r rhai sydd â risg o fethiant y galon. Mae'n bwysig fod adolygiadau a diagnosteg yn cael eu cyflawni mewn modd amserol i gefnogi triniaeth effeithiol. Rydym yn gweld arferion da gyda hyn ar draws Cymru, ac yn ddiweddar enillodd Bae Abertawe wobr GIG Cymru am eu llwybr methiant y galon yn Ysbyty Gorseinon, sy'n darparu mynediad cyflym i gleifion yn eu clinig newydd ar gyfer methiant y galon. Mae clinigwyr yng Nghymru wedi bod yn ystyried hefyd sut i wneud y gorau o'r rhyngweithio y maent yn ei wneud â chleifion yn ogystal â'r triniaethau sy'n cael eu darparu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae adolygiadau o driniaeth cyffuriau i'r rhai sy'n profi methiant y galon wedi arwain at dystiolaeth mewn clinigau o fanteision sylweddol, megis lleihau derbyniadau ac arwyddion ein bod yn dechrau gweld—[Anghlywadwy.]

Mae enghreifftiau eraill o arloesi a thriniaeth gefnogol i gleifion yn cynnwys Aneurin Bevan, sy'n datblygu hybiau methiant y galon yn y gymuned, lle mae cleifion yn mynychu gyda theulu a ffrindiau ar gyfer adsefydlu cardiaidd, ac rwy'n credu bod hyn yn cynnig cyfleoedd da iawn ar gyfer cefnogaeth rhwng cymheiriaid ac atgyfeirio at wasanaethau cefnogol, megis cwnsela a grwpiau cymorth i deuluoedd.

Maes pwysig arall i'w ystyried yw gofal diwedd oes i bobl sydd â methiant y galon. Mae'r gwasanaeth gofal diwedd oes ar gyfer methiant y galon ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn un arall sydd wedi ennill gwobrau. Maen nhw'n defnyddio dull lle mae'r cardiolegydd a'r ymgynghorydd gofal lliniarol yn cydweithredu i reoli gofal cleifion sy'n wynebu eu blynyddoedd olaf, a dwi'n deall bod y gwasanaeth yma wedi gweld canlyniadau nodedig iawn i gleifion. Cyn y gwasanaeth yma, byddai cleifion yn aml yn cael eu derbyn ar frys i'r ysbyty o leiaf pump o weithiau ym mlwyddyn olaf eu bywyd, a byddai dros 80 y cant yn marw yn yr ysbyty. Nawr, wedi i'r gwasanaeth yma gael ei sefydlu, mae nifer y derbyniadau heb eu cynllunio yn mlynyddoedd olaf y claf wedi gostwng o bump i ddau, ar gyfartaledd, ac mae hyd yr arhosiad lawer yn llai oherwydd y gofal sydd ar gael gartref. Yn ogystal, erbyn hyn, mae mwy na 80 y cant o'r cleifion yn marw gartref yn unol â'u dewis, ac mae ymateb cleifion a theuluoedd wedi bod yn hynod o bositif. Mae Rhwydwaith Cardiaidd Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd i fabwysiadu'r gwasanaeth diwedd oes yma, ac mae gwaith wedi dechrau yng Nghwm Taf Morgannwg a Hywel Dda.

Mae bae Abertawe wedi datblygu safleoedd cryf ar gyfer methiant y galon, gan gynnwys safle CardioMEMS. Yma, mae technoleg arloesol yn cael ei defnyddio i osod synhwyrydd yn pulmonary artery y claf, sy'n gallu mesur y pwysau. Mae'r dechnoleg yma yn gallu dangos methiant y galon yn datblygu yn y claf, felly mae modd canfod hyn cyn i'r symptomau ddod yn amlwg, er mwyn gallu rhoi triniaeth briodol, gwella ansawdd bywyd cleifion ac atal derbyniadau i'r ysbyty sydd heb eu cynllunio. Mae bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro hefyd yn arwain yr ymchwil sy'n defnyddio dyfais therapi i drin cyflwr o'r enw HFPEF—severe heart failure with preserved ejection fraction. Cyflwr yw hyn lle nad yw cyhyr y galon yn ymlacio'n iawn, sy'n golygu bod llai o waed yn mynd i'r galon a'r cardiac output yn lleihau.

O ran ein hagwedd ehangach at arloesi, mae swyddogion polisi iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn gweithio i ailgyfeirio polisi arloesi gofal iechyd. Cafodd strategaeth arloesi Cymru ei lansio fis Chwefror llynedd. Mae gwaith datblygu dan arweiniad Llywodraeth Cymru wedi bod ar y gweill ers hynny, yn cefnogi'r cynllun cyflawni, sy'n cynnwys adran benodol ar ymrwymiadau ein cenhadaeth iechyd a lles. Mae llawer i'w wneud, ond gallwn ni fod yn sicr bod yr NHS yng Nghymru yn deall pwysigrwydd arloesi a datblygu ym maes cardioleg. Dwi'n falch iawn o glywed yr hyn sy'n digwydd yn ysbyty y Princess of Wales. Rŷn ni am weld clinigwyr yn cael y cyfle i ddarparu offer sy'n achub bywydau, ac i'r cyhoedd gael y wybodaeth angenrheidiol i gefnogi pawb yn eu cymuned.

Felly, diolch eto i Sarah Murphy am gyflwyno'r ddadl bwysig yma, a dwi'n llongyfarch y bobl sydd yn gweithio yn y maes yma, yn arbennig y rheini yn y Princess of Wales Hospital, sy'n cefnogi pobl yng Nghymru. Diolch yn fawr.

19:15

Daeth y cyfarfod i ben am 19:19.