Y Cyfarfod Llawn

Plenary

09/01/2024

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r cyfarfod cyntaf yma o'r flwyddyn 2024. Blwyddyn newydd dda i chi i gyd. 

Gobeithio y cewch chi i gyd flwyddyn newydd dda iach a hapus.

Cyn i ni ddechrau heddiw, dim ond i ddweud mai dim ond un ddelwedd sydd gan y rhai ohonom ni sy'n blant y 1970au yn ein meddyliau heddiw, sef seren rygbi ryngwladol hirwallt, locsynnog Cymru a oedd, â'i sanau o amgylch ei fferau, y cefnwr rygbi ymosodol â'r gallu i ochr-gamu cyntaf erioed, ac a oedd yr un mor eofn yn ei daclau dros yr ystlys i atal ceisiau. Nid oes angen cyfenwau ar rai pobl; maen nhw'n dod yn ffigyrau chwedlonol yn eu hoes eu hunain. Diolch, J.P.R., am yr atgofion. [Cymeradwyaeth.] Pum deg pump o gapiau dros Gymru, wyth cap i'r Llewod, ac, mae'n debyg, ei gamp falchaf, 'Un ar ddeg gêm yn erbyn Lloegr, dim un colled'. [Chwerthin.] Fel Senedd, rwy'n siŵr ein bod ni'n uno yn ein cydymdeimlad â'i deulu a'i ffrindiau, ac â'i gyn gyd-chwaraewyr. Diolch yn fawr iawn, J.P.R. Williams.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Hefin David. 

Darpariaeth Gofal Iechyd Sylfaenol

Diolch, Llywydd. Roedd J.P.R. yn chwedl.

Gobeithio mai dyna'r Gymraeg cywir. 

1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu gofal iechyd sylfaenol? OQ60492

Llywydd, darparwyr annibynnol, drwy gontractau â'r byrddau iechyd lleol ar gyfer y gwasanaethau, sy'n darparu gofal iechyd sylfaenol. Llywodraeth Cymru sy'n gosod y polisi a'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Rhaid gweithredu yn unol gyda'r polisi a'r cyllid hwnnw wrth ddarparu gofal iechyd sylfaenol. 

Diolch, Prif Weinidog. Mae'n werth cofio bod J.P.R. yn llawfeddyg orthopedig, ac felly gwnaeth ei gyfraniad ei hun at ein GIG.

Un peth yr wyf i eisiau ei godi heddiw yw meddygfa Bryntirion ym Margod, sydd wedi bod o dan reolaeth bwrdd iechyd Aneurin Bevan ers tro, gan nad oedden nhw'n gallu recriwtio rheolwyr meddygfa—rheolwyr meddygfa deulu—i'r Cymoedd gogleddol, a Bargod yn arbennig. Mae'r bwrdd iechyd bellach wedi dod o hyd i ateb i hynny drwy hysbysebu a rhoi'r feddygfa i feddygon teulu sydd wedi'u lleoli yn Lloegr, a fydd yn rhedeg y feddygfa, ac, mae'n ymddangos, a fydd yn rhedeg y feddygfa o bell. Er fy mod i'n falch iawn bod y meddygon teulu yn cymryd yr awenau, gan y bydd yn golygu eu bod nhw'n llai tebygol, ym Margod, o weld locymau—byddan nhw'n gweld mwy o staff meddyg teulu llawn amser yno—ar yr un pryd, fel sosialydd, ac o safbwynt Llywodraeth sosialaidd, mae hyn i bob pwrpas yn symud o ofal iechyd a ddarperir gan y sector cyhoeddus i ofal iechyd a ddarperir gan y sector preifat. Gan groesawu y bydd Bargod yn cael ei redeg yn effeithiol, ac yn cael ei redeg er budd cleifion—ac nid oes angen i gleifion wneud unrhyw beth; bydd yn digwydd—a wnaiff ef fyfyrio hefyd ar y ffaith bod angen sylfaenol i ddiwygio'r model sydd gennym ni ar hyn o bryd ym maes gofal sylfaenol?

Diolch i Hefin David am hynna, a, Llywydd, mae'n briodol ein bod ni, heddiw, yn cofio J.P.R. Williams ar y cae rygbi, ond hefyd yn y cyfraniad yr aeth ymlaen i'w wneud yn GIG Cymru am gynifer o flynyddoedd.

Wel, fel yr Aelod, rwy'n croesawu'r ffaith bod bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi gallu dod o hyd i ddarparwyr newydd ar gyfer meddygfa Bryntirion. Nid dyma'r feddygfa gyntaf y bydd y tîm newydd yn ei rhedeg yn ardal Aneurin Bevan, ac rwy'n clywed bod y meddygfeydd sydd eisoes yn cael eu rhedeg fel hyn wedi cael eu croesawu gan gleifion yn y meddygfeydd hynny. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, Llywydd, ein bod ni wedi symud i oes o economi gymysg ym maes gofal iechyd sylfaenol. Mae llawer mwy o feddygon teulu cyflogedig yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan fyrddau iechyd, ond hefyd yn cael eu cyflogi mewn meddygfeydd eu hunain, ac rydym ni'n gwybod, i lawer o'r bobl sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant meddygol ac sydd bellach yn ei adael, bod hwnnw'n fodel sy'n gweddu'n well i'w hanghenion yn y dyfodol na'r hen fodel contractwyr. Ond mae bywyd yn y model contractwyr hefyd, a dyna'r hyn a welwch chi yn y datblygiadau yn Aneurin Bevan. O'i drin yn y ffordd iawn, ceir meddygon teulu sy'n dal i deimlo bod y model contractwyr yn ffordd y gallan nhw ddarparu'r gwasanaethau hynny. Byddan nhw eu hunain yn cyflogi meddygon teulu cyflogedig yn rhan o'r timau newydd y byddan nhw'n eu creu. Felly, mae hwn yn ddarlun sy'n esblygu. Dros amser, rwy'n credu y byddwn ni'n gweld mwy o bobl yn cael eu cyflogi ar y sail gyflogedig honno, naill ai'n uniongyrchol neu drwy feddygfeydd, gyda llai o feddygon teulu eu hunain wedi'u hymrwymo i'r model blaenorol hwnnw. Mae'r model hwnnw ei hun yn cael ei adnewyddu a'i foderneiddio, ac rwy'n credu eich bod chi'n gweld hynny yn natblygiadau Aneurin Bevan hefyd. A bydd dyfodol gofal sylfaenol yn economi fwy cymysg, mwy o staff cyflogedig, mwy o ddibyniaeth ar y tîm gofal sylfaenol ehangach, ac mae bywyd yn y model hwnnw, fel y mae datblygiadau Aneurin Bevan yn ei ddangos.

13:35

Diolch, ym, ym, Llywydd—bu bron i mi anghofio. [Chwerthin.] Mae'n flwyddyn newydd. [Torri ar draws.] Na, dim ond tair wythnos sydd wedi bod. Ni wnaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, oherwydd mae'n debyg y byddaf i'n cael y Llywydd yn gwylltio gyda mi hefyd, Prif Weinidog—ond blwyddyn newydd dda, beth bynnag.

Prif Weinidog, gwrandawais ar eich ateb gyda diddordeb. Rwy'n siŵr y byddech chi wedi gweld y stori ar y BBC y bore yma am feddyg teulu a ddychwelodd ei chontract GIG i agor meddygfa breifat. Darllenais hyn gyda diddordeb. Mae gwybodaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain yn dangos bod nifer y cleifion fesul meddyg teulu cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru wedi cynyddu o 1,676 yn 2013 i 2,210 yn 2022. Felly, o ddarllen hynny, nid yw'n llawer o syndod gweld meddygon teulu yn gadael i fynd i weithio mewn mannau eraill, o ystyried y pwysau cynyddol sydd arnyn nhw. Felly, wrth wrando ar eich ymateb i Hefin David, Prif Weinidog, tybed a allech chi hefyd amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i annog meddygon teulu i barhau i weithio yn GIG Cymru, a cheisio mynd i'r afael â'r ffigur hwnnw y cyfeiriais ato o ran y newid rhwng 2022 a 2013. A beth ydych chi'n ei wneud i gefnogi meddygfeydd sydd mewn safle uchel yn gyson ar fframwaith uwchgyfeirio gofal sylfaenol?

Llywydd, rwy'n credu bod dau gwestiwn tra wahanol yn y fan yna. Wrth gwrs, mae meddygon teulu yn gadael y gwasanaeth iechyd, ond mae meddygon teulu yn ymuno â'r gwasanaeth iechyd hefyd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwelsom gynnydd eto yn nifer y meddygon teulu a gyflogir yn GIG Cymru, fesul pen ac ar sail cyfwerth ag amser llawn, yn union fel y bu cynnydd yn nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant, yn union fel y bu cynnydd yn nifer y staff meddygfa. Felly, mae'r system gofal sylfaenol yng Nghymru o dan bwysau, wrth gwrs; mae gofal sylfaenol o dan bwysau ym mhobman yn y Deyrnas Unedig. Ond, yma yng Nghymru, mae gennym ni nifer gynyddol o staff, mae gennym ni ddull arloesol o gynorthwyo meddygon teulu, trwy ganolfannau gofal sylfaenol brys, drwy'r gwasanaeth '111 pwyso 2', drwy'r £5 miliwn a fuddsoddwyd gan y Gweinidog mewn ymestyn proffesiynau perthynol i feddygaeth wrth i ni gychwyn y gaeaf hwn, oherwydd y tîm gofal sylfaenol ehangach hwnnw yw dyfodol gofal sylfaenol yma yng Nghymru. A'n bwriad yw gweithio gyda'r proffesiwn yn y contract newydd, y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol unedig newydd a ddechreuodd ar 1 Hydref y llynedd, ar y daith honno.

O ran nifer y meddygfeydd sydd ar ben uchaf y system uwchgyfeirio, mae'r niferoedd yn adlewyrchu'r pwysau sydd wedi bod ar y system, ond mae mwy byth o feddygfeydd ar ben isaf uwchgyfeirio nag sydd ger y brig. Rydym ni'n derbyn yr adroddiadau hynny, sy'n hunanasesiadau—nid asesiadau Llywodraeth Cymru ydyn nhw; asesiadau'r meddygfeydd eu hunain ydyn nhw—bob wythnos, ac mae hynny'n caniatáu i Lywodraeth Cymru allu nodi gyda byrddau iechyd lleol y meddygfeydd hynny sydd ar y lefel uwchgyfeirio uchaf yn gyson, ac yna cynnig cymorth ychwanegol iddyn nhw allu ymdrin â'r gofynion y maen nhw'n eu hwynebu.

Wrth i feddygfeydd teulu gau a diffyg argaeledd meddygon teulu ddod yn fwy ac yn fwy cyffredin, rydyn ni'n gweld nifer o gwmnïau meddygol preifat yn dechrau darparu gwasanaeth meddyg teulu ar wahân i'r NHS yn ein cymunedau ni, gyda phobl yn talu rhwng £40 a £70 am apwyntiadau gan nad oes meddyg teulu ar gael i'w gwasanaethu. Yn y meddygfeydd yma, maen nhw'n cael hanner awr, neu ragor, yng nghwmni'r meddyg, maen nhw'n derbyn fast-track referrals, a buddiannau eraill. Canlyniad hyn ydy fod cymdeithas ddwy haen yn dod yn ôl unwaith eto, a hynny o dan Lywodraeth Lafur. Ai dyma ydy gweledigaeth Llafur ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru?

13:40

Wel, wrth gwrs, dwi ddim yn cytuno gyda Mabon ap Gwynfor. Dydy beth mae e'n dweud ddim yn wir am y gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Mae mwy o bobl yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru nag ar unrhyw amser drwy adeg y gwasanaeth iechyd o gwbl. Wrth gwrs, mae rhai pobl yn darparu gwasanaethau preifat. Does dim byd rŷn ni'n gallu gwneud am hynny. Ond bob mis—bob mis—mae 2 filiwn o contacts rhwng pobl yng Nghymru a'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Dyna ble rŷn ni'n canolbwyntio fel Llywodraeth a dyna ble mae pobl sy'n byw yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu. 

Rhannu Gwybodaeth Anghywir Ar-lein

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y bygythiad i ddemocratiaeth Cymru sy'n codi o rannu gwybodaeth anghywir ar-lein? OQ60488

Llywydd, mae camwybodaeth ar-lein yn nodwedd niweidiol iawn ond cyfoes o bob cymdeithas ddemocrataidd. Rydym ni'n gweithio gyda grwpiau yng Nghymru ac ar draws y DU i frwydro yn erbyn y camwybodaeth ei hun, i helpu dinasyddion gwybodus i nodi camwybodaeth ac i ddarparu ffynonellau gwybodaeth wedi'u dilysu y gall unigolion ddibynnu arnyn nhw.

Diolch, Prif Weinidog. Dros y Nadolig, anfonwyd dolen ataf gan etholwr i eitem newyddion ar blatfform yn America a oedd yn honni ei fod yn ddarparwr newyddion, a oedd yn honni bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio merched ysgol 14 oed i ddenu dynion o oedran milwrol o wledydd lle nad oes cyfreithiau treisio, gan gynnwys Affrica a'r dwyrain canol. A fyddech chi'n cytuno bod y math hwn o erthygl newyddion yn gwbl annerbyniol, yn niweidiol i ddemocratiaeth, a, Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod rhai enghreifftiau eraill dros yr wythnosau diwethaf o gamwybodaeth yn cael ei hyrwyddo ar-lein, efallai'n deillio o agosach at adref?

Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol o'r stori y mae Ken Skates yn cyfeirio ati, ac mae'n gwbl anwir ac yn gwbl anghyfrifol i wneud honiadau o'r fath. Dyma grŵp o bobl ifanc o'u gwirfodd eu hunain yn ceisio gwneud yn siŵr y byddai eraill a allai ddod i'w hardal yn teimlo bod croeso iddyn nhw ac yn gwybod y bydden nhw'n cael eu croesawu yn y gymuned honno. Canlyniad y camadrodd hwnnw yw y bu'n rhaid tynnu croeso'r plant hynny i lawr ac y bu'n rhaid gwneud trefniadau diogelwch newydd yn y mannau hynny lle mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn gweithredu. Cafodd unigolion sy'n gweithio i'r cyngor ffoaduriaid eu henwi yn yr adroddiadau hynod anghyfrifol hynny ac amharwyd ar eu bywydau eu hunain o ganlyniad. Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad i'r hyn a ddywedwyd, y camliwiad bwriadol hwnnw gan bobl sy'n honni—ac mae'n honiad ffiaidd—bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn llesiant pobl ifanc, tra, mewn gwirionedd, mae popeth y maen nhw wedi ei wneud wedi gweithredu i roi pobl ifanc mewn mwy o berygl. Ni ddylai unrhyw un sy'n honni eu bod nhw'n pryderu am ddiogelwch ein pobl ifanc fod yn rhannu honiadau ffug amdanyn nhw.

Wel, wrth gwrs, rwy'n cymeradwyo pryderon Ken Skates am y mater penodol hwnnw. Yn ehangach, mae pobl, hen ac ifanc, fwyfwy'n hunanddewis eu newyddion o ffynonellau ar-lein sy'n atgyfnerthu yn hytrach na herio eu tybiaethau eu hunain. O ganlyniad, rwy'n derbyn negeseuon e-bost yn rheolaidd ar lawer o faterion sy'n honni eu bod nhw, ac rwy'n dyfynnu,

'i gyd yn rhan o gynllun cyfrwys gan lywodraethau Big Brother i reoli ein bywydau'.

Dyrannodd Llywodraeth Cymru £1.6 miliwn i ymgyrch gyfathrebu sy'n rhedeg ochr yn ochr â gweithrediad ei pholisi 20 mya diofyn, gan ddefnyddio tystiolaeth ddetholus ac anwybyddu'r holl waith ymchwil a thystiolaeth sy'n herio eu honiadau. Yr wythnos diwethaf, datgelwyd bod Llywodraeth Cymru yn gwario dros £500,000 o arian trethdalwyr ar strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd, gan gynnwys dros £61,000 ar hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol, i loywi ei chymwysterau gwyrdd ei hun, ar adeg pan fo'n gwneud toriadau eang i wasanaethau cyhoeddus ac er gwaethaf canfyddiad y pwyllgor newid hinsawdd nad yw Cymru'n gwneud cynnydd digonol yn y maes hwn. Sut allwch chi gyfiawnhau gweithredoedd o'r fath pan mai'r cwbl y mae eu cynnwys y gellir profi ei fod yn anghywir yn ei wneud yw tanio'r amheuaeth ymhlith y cyhoedd yr ydym ni i gyd yn poeni amdani?  

13:45

Wel, Llywydd, siaradodd yr Aelod am wybodaeth hunanddethol ac yna parhaodd i gynnig yn union hynny i ni. Gadewch i ni gymryd y ddwy enghraifft y mae'n eu cynnig. Cafodd yr honiadau a wnaed, a gyflwynwyd yn nogfennau Llywodraeth Cymru, ynghylch parthau 20 mya eu profi gan Awdurdod Ystadegau'r DU, a ganfu fod yr hyn yr oeddem ni'n ei ddweud yn gywir a gofynnwyd i ni roi hyd yn oed mwy o wybodaeth yn y parth cyhoeddus, a wnaethom wedyn, i ddangos gwirionedd yr hyn yr oeddem ni'n ei ddweud yn yr asesiad hwnnw. Ni chanfu am un eiliad fod yr hyn yr oeddem ni wedi ei ddweud yn anwir; y cwbl y gofynnodd i ni oedd i wneud mwy i helpu pobl i weld gwirionedd yr honiadau yr oeddem ni wedi eu gwneud. 

Ac o ran ei ail enghraifft, onid yw wedi gweld heddiw y newyddion am effaith y newid yn yr hinsawdd dros y 12 mis diwethaf yn unig—blwyddyn lle, ddydd ar ôl dydd, roedd effaith y newid yn yr hinsawdd yn cael ei gweld yn y Deyrnas Unedig? Fe wnaethom ni wario £0.5 miliwn yn ceisio achub y blaned, ac mae'r Blaid Geidwadol eisiau achwyn am y peth. Nid gloywi cymwysterau Llywodraeth Cymru yw bwriad pob swm yn y gyllideb honno; mae'n defnyddio gwybodaeth gan gyflogwyr preifat, mae'n defnyddio gwybodaeth gan gyflogwyr eraill yma yng Nghymru, a'i nod yw dangos ei bod hi'n bosibl, trwy gydweithio, gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r her fwyaf sy'n ein hwynebu ni heddiw ac a fyddai fel arall yn cael ei gadael i'n plant ac i'n hwyrion a'n hwyresau i fynd i'r afael â'r llanast sydd wedi cael ei greu. Sut gall hi fod—sut gall hi fod—bod plaid wleidyddol ddifrifol yn meddwl y gallan nhw wneud pwynt am wario £0.5 miliwn i gyfrannu at hynny fod yn gamddefnydd o arian cyhoeddus? Nid wyf i'n difaru'r un geiniog ohono, ac ni ddylech chithau chwaith.

Mae Llywodraethau datganoledig ar flaen y gad o ran ymdrechion i frwydro yn erbyn bygythiad twyllwybodaeth i'n democratiaeth. Mae talaith De Awstralia a Thiriogaeth Prifddinas Awstralia wedi gwahardd twyllwybodaeth mewn hysbysebu gwleidyddol. Mae taleithiau Michigan a Minnesota wedi gwahardd defnyddio cyfryngau ffugiad dwfn twyllodrus mewn ymgyrchoedd etholiadol. Ac, ar wahanol raddfa, mae'r UE wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd yn dod â'r defnydd o ddata personol i ben o ran microdargedu gwleidyddol. Mae'r grym gennym ni i wneud yr holl bethau hynny a mwy, ac mae gennym ni'r cyfrwng ym Mil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru). Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru roi Cymru ar reng flaen y frwydr hon yn erbyn pandemig gwleidyddol celwyddau a thwyll sy'n bygwth dyfodol democratiaeth ledled y byd?

Wel, Llywydd, diolch i Adam Price am y pwyntiau pwysig yna. Rwy'n sicr eisiau i Gymru fod ar reng flaen yr ymdrech honno, ac mae pethau yr ydym ni eisoes yn eu gwneud yng Nghymru. Ar 1 Tachwedd, sefydlwyd y drefn argraffnodau digidol newydd yma yng Nghymru. Yn y dyfodol, wedi'i oruchwylio gan y Comisiwn Etholiadol, pan fydd pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi gwybodaeth—nid mewn print, lle bu'n rhaid cael argraffnod arni erioed, ond yn ddigidol—bydd yn angenrheidiol yn y dyfodol cael gwybodaeth yno sy'n dangos lle mae'r wybodaeth honno wedi dod. Ar yr un pryd, byddwn yn darparu, fel Llywodraeth, mewn etholiadau yn y dyfodol, blatfform gwybodaeth ar-lein, a fydd yn rhoi gwybodaeth ddibynadwy i bleidleiswyr am yr ymgeiswyr sy'n cyflwyno eu hunain a'r polisïau y mae pleidiau gwleidyddol yn eu harddel. 

Un o'r pethau yr wyf i'n credu y gall democratiaethau ei wneud yw darparu man lle gall pleidleiswyr a dinasyddion fynd i ddod o hyd i wybodaeth sydd wedi'i dilysu ac y gallan nhw ddibynnu arni. Ac rwy'n gobeithio, yng Nghymru, ein bod ni eisoes yn gwneud pethau i symud i'r cyfeiriad hwnnw, ac efallai y bydd mwy o syniadau o rannau eraill o'r byd, fel y mae Adam Price wedi'i amlinellu, y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw a'u mabwysiadu yma hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd, ac a gaf i uniaethu â'r sylwadau i chi eu gwneud ar ddechrau sesiwn y Cyfarfod Llawn am J.P.R. Williams, un o drigolion Bro Morgannwg, a rhywun y cefais y pleser o fwynhau ei gwmni ar sawl achlysur?

Prif Weinidog, ddoe, fe wnaethoch chi gynnal cynhadledd i'r wasg a gyfeiriodd at y ffaith bod y terfyn cyflymder 20 mya y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyflwyno yn mynd i gael ei ystyried ar sail gorfodaeth ysgafn. A dweud y gwir, rwy'n credu mai'r gair a ddefnyddiwyd gennych chi oedd pe baech chi 'wir' wedi drysu na fyddech chi'n cael eich erlyn, ond pe baech chi wedi drysu y byddech chi'n cael eich erlyn. Beth yw'r gwahaniaeth?

13:50

Wel, y gwahaniaeth yw, Llywydd, nad dyna ddywedais i. [Chwerthin.] Dyna'r gwahaniaeth cyntaf. Yr hyn a ddywedais oedd, wrth ateb cwestiwn, y bydd yr awdurdodau gorfodi yng Nghymru yn dilyn yr un polisi o ran parthau 20 mya ag y daethom ni'n gyfarwydd â nhw yn ystod COVID, y byddan nhw'n dechrau drwy ymgysylltu. Pan nad yw pobl wir yn deall bod y gyfraith wedi cael ei thorri, yna byddan nhw'n ymgymryd ag addysg gyda'r bobl hynny, a byddan nhw'n cymryd camau gorfodi dim ond pan fyddan nhw'n siŵr bod angen gwneud hynny i gadw ffyrdd a chymunedau yn ddiogel a lle mae'r dystiolaeth o dorri'r gyfraith yn fwriadol. Felly, yr hyn a ddywedais oedd: pan fydd pobl wir wedi drysu, yna bydd y system yn ceisio ymgysylltu a'u haddysgu. Pan fydd pobl yn honni eu bod wedi drysu ond nad oes unrhyw dystiolaeth mai dryswch sydd wrth wraidd eu hymddygiad, yna ni allan nhw ddisgwyl na fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd.

Wel, mae hynny mor glir â mwd, onid ydyw, Prif Weinidog? Mae gen i'r geiriau y gwnaethoch chi eu defnyddio yma. Dywedoch chi mewn gwirionedd na fyddai'r 'gwir ddryslyd' yn cael eu herlyn na'u dirwyo, ac yna fe aethoch ymlaen i ddweud, 'yn hytrach na dim ond bod yn ddryslyd.' Gallwch chi ddychmygu'r sgyrsiau—. Eich geiriau chi yw'r rheina. Os ydych chi eisiau anghytuno, cysylltwch â'r BBC, gan ei fod yn ddyfyniad uniongyrchol oddi ar eu gwefan.

Nawr, mae'r 20 mya cyffredinol a gyflwynodd eich Llywodraeth wedi bod yn hynod, hynod amhoblogaidd—yn hynod amhoblogaidd. Mae'n ostyngiad cyflymder cenedlaethol—[Torri ar draws.] Mae'n braf gweld y Dirprwy Weinidog yn ôl yma, yn grwgnach o leoliad eisteddog eto. Mae wedi achosi llawer iawn o bryder ar hyd a lled Cymru, a bydd y ffordd y bydd yn cael ei weithredu a'r dirwyon a fydd yn cyrraedd matiau drws pobl yn peryglu bywoliaethau ac yn colli swyddi pobl, heb y dystiolaeth gadarn a fyddai'n dangos cefnogaeth i'r pwyntiau yr ydych chi wedi eu gwneud. Felly, dywedaf wrthych chi eto: pa sgwrs ydych chi wedi ei chael gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu i wahaniaethu rhwng y 'gwir ddryslyd' a'r 'dryslyd', fel na fydd swyddogion yr heddlu a gwasanaethau gorfodi yn y pen draw yn erlyn pobl sydd ar ochr anghywir y gyfraith hon heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain?

Wel, Llywydd, rydym ni wedi cael trafodaeth eisoes y prynhawn yma am gamwybodaeth fwriadol, ac mae arweinydd yr wrthblaid yn parhau i wneud hynny yma y prynhawn yma. Mae'n dweud bod hwn yn waharddiad cyffredinol. Mae'n gwybod yn iawn nad yw'n bolisi cyffredinol. Fel yr wyf i wedi ei ddeall, mae ef ei hun o blaid parthau 20 mya o dan rai amgylchiadau. Rwyf i wedi ei weld â phlacardiau yn mynnu parthau 20 mya y tu allan i ysgolion, y tu allan i ysbytai ac yn y blaen. Nid yw ef hyd yn oed yn credu mewn polisi cyffredinol, ac yn sicr nid dyma bolisi cyffredinol y Llywodraeth hon. Nid oedd erioed, nid yw erioed wedi bod, ac nid yw'n bolisi cyffredinol heddiw. Mae'r ffaith ei fod yn parhau i'w ailadrodd a'i fod yn gwybod nad yw'n wir yn enghraifft dda iawn o'r pwyntiau a wnaeth Ken Skates yn ei gwestiwn am y ffaith bod camwybodaeth yn llawer rhy agos at adref yn y Siambr hon yn ogystal ag yn y byd y tu allan.

Bydd yr heddlu yn gorfodi'r polisi yn y ffordd yr wyf i newydd ei disgrifio, Llywydd. Camau gorfodi yw'r cam olaf, nid cyntaf. Y cam cyntaf yw gwneud yn siŵr bod pobl wedi deall y rheolau, a, phan fydd angen ymestyn dealltwriaeth pobl, yna dyna fydd y system yn ei wneud. Pan fydd pobl yn gyrru'n beryglus, pan fydd pobl yn torri'r gyfraith yn fwriadol ac yn ymwybodol, yna bydd yr heddlu'n cymryd camau gorfodi, a byddwn i'n disgwyl i arweinydd yr wrthblaid gymeradwyo'r safbwynt hwnnw a chefnogi'r heddlu yn eu gweithredoedd.

Mae unrhyw un sy'n gyrru'n beryglus neu'n torri'r gyfraith yn fwriadol yn haeddu cael ei erlyn, ond pan fyddwch chi'n cyflwyno cyfraith wael nad yw'n eglur, fel y gyfraith yr ydych chi wedi ei chyflwyno yma—roedd y trydariad a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog ddoe yn dweud nad y 24 mya fyddai'n rhaid cydymffurfio ag ef fel rheol, sy'n 10 y cant a 2, yw'r trothwy ar gyfer erlyn bellach; mae'n 10 y cant a 4 bellach—ac yna mae'r Prif Weinidog yn sefyll mewn cynhadledd i'r wasg ac yn dweud os ydych chi wir wedi drysu yn hytrach na wedi drysu na fyddwch chi'n cael eich erlyn, pa obaith sydd gan yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron? A dyna'r pwynt yr ydym ni'n ei wneud. Mae hwn yn ddarn gwael o gyfraith, a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth chi, sydd mewn gwirionedd yn fwy dryslyd ac yn fwy peryglus. Ac yn y pen draw, dylid tynnu'r darn hwn o gyfraith yn ôl a sicrhau bod synnwyr cyffredin yn drech. A'ch dau ymgeisydd i fod yn arweinydd, un o'r datganiadau cyntaf a wnaeth y ddau oedd hyrwyddo adolygiad o'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Felly, yn y pen draw, mae'n dangos, hyd yn oed ar eich meinciau eich hun, bod anniddigrwydd ynghylch y darn hwn o ddeddfwriaeth yr ydych chi wedi ei gyflwyno. Felly, pam na wnewch chi ddiddymu'r ddeddfwriaeth hon a symud yn ôl i'r 30 mya yr oedd gennym ni yn y wlad hon cyn 17 Medi?

13:55

Wel, Llywydd, mae cyfres o bwyntiau yn y fan yna, ond siawns mai'r mwyaf arwyddocaol oll, a'r un y dylai fod â chywilydd mawr ohono, yw ei awgrym ei bod hi rywsut yn iawn torri cyfraith dim ond oherwydd eich bod chi'n credu ei bod hi'n gyfraith wael. [Torri ar draws.] O, na. Faint o weithiau ddywedodd ef, 'Mae hon yn gyfraith wael'? A'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud yw annog pobl i gredu, os ydych chi'n credu bod cyfraith yn gyfraith wael, ei bod hi rywsut yn iawn i chi ei thorri. [Torri ar draws.] Wel, dyna'r neges y bydd pobl y tu allan i'r Siambr hon yn ei chymryd, ac rydych chi'n gwybod eich bod chi'n ei wneud wrth i chi ei wneud. [Torri ar draws.] Fe ddywedaf wrthych chi nawr, pan fyddwch chi'n codi ac yn dweud yma bod cyfreithiau da a bod cyfreithiau gwael, rydych chi'n annog pobl i gredu ei bod hi'n iawn iddyn nhw ymddwyn yn wahanol yn dibynnu ar sut y maen nhw eu hunain yn gweld y gyfraith, ac mae honno'n neges hynod, hynod beryglus, ac mae'n neges arbennig o beryglus i rywun sy'n dod yma i wneud y gyfraith. Mae gan bob un person yn y Siambr hon gyfrifoldeb i esbonio i bobl, os ydych chi'n gwneud y gyfraith, mae'n rhaid i chi gynnal y gyfraith, ac mae'r gyfraith yno i'w chynnal. Bydd yn cael ei chynnal, bydd yn cael ei chynnal gyda chydymdeimlad ac yn synhwyrol, ac yn llawer iawn mwy synhwyrol nag y mae ef wedi bod y prynhawn yma.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a gaf innau ddechrau drwy ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb? A gaf innau roi teyrnged i J.P.R. Williams, eicon go iawn o fy mhlentyndod i, un o'm harwyr rygbi cyntaf? Ac rydym ni'n ei gofio fo heddiw, fel rydym ni yn cofio am y newyddiadurwr Vaughan Hughes ac am y gantores Leah Owen—mae 2024 wedi dod â chost drom yn barod, ond mi obeithiwn ni am flwyddyn well o ran iechyd ac o ran heddwch.

Mae'n mynd i fod yn flwyddyn dyngedfennol yn wleidyddol, efo etholiad cyffredinol a ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.

Dechreuodd y flwyddyn gyda'r ymgeiswyr i fod yr arweinydd Llafur nesaf yng Nghymru yn cyflwyno eu gweledigaethau. Pob math o gynlluniau, gan gynnwys un cynllun pum pwynt. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog wedi gwingo o weld hwnnw. Efallai ei bod hi'n iawn i'w ochr ei hun lunio cynlluniau pum pwynt, ond nid i ni fel gwrthbleidiau. Ond waeth faint o bwyntiau sydd yn y cynllun, nid oes unrhyw flaenoriaeth bwysicach nawr, mae'n debyg, na chyllid teg i Gymru. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod hynny, o ystyried y gyllideb y byddwn ni'n ei thrafod yn ddiweddarach.

Un addewid gan y Gweinidog addysg yn ei ymgais i fod yn arweinydd yw gwrthdroi'r toriadau y disgwylir iddyn nhw gael eu gwneud i'w gyllideb ei hun, ond dim ond os bydd yn cael mwy o arian gan Whitehall. Mae'n gwneud fy nadl drosof. Ond, wrth gwrs, ni wnaiff y Torïaid addo mwy o arian i Gymru. Nid oes diddordeb ganddyn nhw. Ac fel y gwelsom gyda symiau canlyniadol HS2, mae Keir Starmer yn gwrthod gwneud yr addewid hwnnw hefyd. Nid yw'r Prif Weinidog wedi gallu cael yr addewid hwnnw ganddo. Beth sy'n gwneud iddo feddwl y bydd y naill neu'r llall o'i ddarpar olynwyr yn gallu gwneud hynny?

Wel, Llywydd, mae diddordeb obsesiynol arweinydd Plaid Cymru yn y Blaid Lafur yn parhau. Rwy'n ddigon hapus i ddechrau'r flwyddyn newydd trwy anfon ffurflen gais ato, ac yna bydd yn gallu cymryd rhan ym materion y blaid y mae'n neilltuo'r rhan fwyaf o'i sylw iddi yma ar lawr y Senedd.

Safbwynt y blaid hon erioed fu bod angen i gyllid teg ddod i Gymru, bod fformiwla Barnett ymhell y tu hwnt i'w ddyddiad effeithiol, ac y byddai cyllid yn seiliedig ar angen yn arwain at wahanol lif o gyllid yma i mewn i Gymru. Dyna bolisi Plaid Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru, a byddwn yn parhau i wneud y dadleuon drosto.

Mae'r Prif Weinidog yn dweud eto—mae wedi ei ddweud o'r blaen—bod gen i obsesiwn rywsut ag arweinyddiaeth y blaid Lafur. Nid yw'n obsesiwn. Cyn y Nadolig, roedd yn dweud nad oedd yn ddim o'm musnes i pwy yw arweinydd nesaf y Blaid Lafur. Hyd y gwn i, yr arweinydd newydd hwnnw fydd ein Prif Weinidog ni. Mae'n fusnes i ni i gyd, a chraffu yw'r enw arno. Efallai ei fod yn dweud y dylid cynnal etholiad ar unwaith felly mae hi'n fusnes i ni i gyd pwy yw Prif Weinidog nesaf Cymru. Ond, o ran disgwyliadau ynghylch cyllid, y cwbl y gallwn ni ei wneud yw dilyn yr hyn a ddywedir wrthym ni neu'r hyn nad yw Llafur a'r Ceidwadwyr ill dau yn ei ddweud wrthym ni; dyna pam rydym ni angen i Blaid Cymru sefyll dros degwch i Gymru.

Nawr, mae'r ddau ymgeisydd—y ddau ymgeisydd—i fod yn arweinydd nesaf Llafur yng Nghymru eisiau blaenoriaethu'r GIG. Prin yw'r rhai a fyddai'n anghytuno â hynny. Mae gan un addewid amwys na fyddai gwariant y pen ar y GIG yng Nghymru yn disgyn islaw Lloegr, sy'n addewid eithaf gwan, os ydym ni'n onest, ac sydd hefyd yn awgrymu mai arian sydd wrth wraidd y cyfan, ond fel y dywedodd cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru yr wythnos diwethaf, rydym ni'n clywed yn barhaus nad oes unrhyw arian, ac eto nid ydym ni'n meddwl yn greadigol am sut rydym ni'n defnyddio'r arian sydd yn y system. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i alw am feddwl gwirioneddol greadigol yn yr ymgyrch hon, sy'n brin hyd yn hyn? A wnaiff ef hefyd alw am onestrwydd am record yr ymgeiswyr mewn Llywodraeth, oherwydd byddech chi'n meddwl nad oedd yr un o'r ddau wedi bod yn Weinidog o'r blaen o'r hyn y maen nhw'n ei ddweud? Ac a yw'n rhannu fy siom nad yw'r naill na'r llall yn addo mynnu cyllid teg i Gymru gan benaethiaid Llafur yn Llundain?

14:00

Wel, Llywydd, rwy'n credu y byddem ni'n fwy agored i wersi yn y Blaid Lafur ynghylch sut rydym ni'n cynnal ein hymgyrchoedd etholiadol ar gyfer arweinyddiaeth os mai plaid a oedd wedi cael etholiad arweinyddiaeth yn y lle cyntaf oedd yn siarad â ni.

Wel, hoffwn i pe nai bai'r Prif Weinidog mor obsesiynol ynglŷn â sut y gwnaethom ni newid ein harweinyddiaeth ym Mhlaid Cymru. [Chwerthin.]

Un cwestiwn olaf, os caf i, eto'n gysylltiedig â rhywfaint o'r hyn yr ydym ni wedi ei glywed yn ymgyrch arweinyddiaeth Llafur, yr wyf i'n credu y gallaf i siarad amdano y prynhawn yma yn y Senedd, Llywydd. Mae'r ddau ymgeisydd wedi addo adolygiad o weithrediad y terfynau 20 mya newydd. Daeth yn dipyn o syndod i mi, o gofio bod Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant yma yn y Senedd bedwar mis yn ôl yn galw am yr adolygiad hwnnw—gwelliant a basiwyd gyda chefnogaeth y Llywodraeth. Nawr, fy safbwynt i yw bod 20 mya yn gweithio'n dda yn y rhan fwyaf o leoedd. Rydym ni wedi cefnogi'r egwyddor. Cafodd ei gyflwyno gan Lafur, ond Aelod Ceidwadol a gynigiodd y syniad i'r Senedd gyntaf. Ond mae rhai mannau lle rwy'n teimlo ei fod yn afresymol, bod anghysondeb, ac mae'n gwneud synnwyr i mi fod adolygiad yn cael ei gynnal. Nawr, a yw'r ddau ymgeisydd i fod yn arweinydd yn dweud, bedwar mis ar ôl i welliant Plaid Cymru gael ei basio, bod dim byd wedi digwydd, neu onid ydyn nhw'n gwybod amdano?

Wel, Llywydd, y rheswm pam wnaeth y Llywodraeth gefnogi gwelliant Plaid Cymru yw mai dyna oedd polisi'r Llywodraeth, oherwydd dywedais y tro cyntaf erioed y gofynnwyd cwestiwn i mi am bolisi 20 mya y byddai newid o'r maint hwn, wrth gwrs, angen cryn amser i ymwreiddio ac y byddai angen ei adolygu i wneud yn siŵr y gellir ei fireinio. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ddweud, bod tystiolaeth o rywfaint o anghysondeb yn y ffordd y mae'r canllawiau wedi cael eu gweithredu gan wahanol awdurdodau lleol, a cheir rhai anghysonderau yn y ffordd y mae'r canllawiau wedi cael eu dehongli, felly polisi'r Llywodraeth a pholisi fy nghyd-Aelodau yw y dylem ni adolygu'r dystiolaeth a datrys unrhyw rai o'r anghysondebau neu'r anghenion hynny i fireinio'r polisi. Dyna yw polisi'r Llywodraeth; dyna pam y cefnogwyd gwelliant Plaid Cymru, a dyna'n union fydd yn digwydd.

Hunanddiffinio Rhywedd

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar safbwynt y Llywodraeth ar hunanddiffinio rhywedd? OQ60478

Llywydd, mae cydnabod rhywedd yn fater a gedwir yn ôl. Mae ein hymrwymiadau o ran cydnabod rhywedd a chefnogi unigolion traws yn parhau i fod fel y'u cyflwynir yn ein cynllun gweithredu LHDTC+, ac fel y'u hamlinellir yn ein rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio.

Prif Weinidog, yn yr haf fe wnaeth Plaid Lafur y DU dro pedol o'r diwedd a chefnu ar ei chefnogaeth i hunanddiffinio, ar ôl sylweddoli'r effaith ddwys y byddai'n ei chael ar hawliau sylfaenol menywod. Mae'n fyd i ffwrdd o'ch safbwynt ar y mater yma yng Nghymru, lle mae'n ymddangos eich bod yn benderfynol o orfodi hunanddiffinio. Wrth gwrs, bydd gan bob un ohonom ni ddiddordeb mawr mewn clywed safbwynt yr ymgeiswyr i fod yn Brif Weinidog ar y mater hwn, ond mae'n amlwg bod rhaniad rhwng y Blaid Lafur yn San Steffan a Llafur Cymru ynghylch a ddylid mynd ar drywydd hunanddiffinio rhywedd. Prif Weinidog, y cwbl yr wyf i eisiau ei wybod yw: pwy sy'n iawn ar y mater, chi neu Keir Starmer?

Wel, Llywydd, cais arall i ymuno â'r Blaid Lafur—yr ail yr ydym ni wedi ei gael y prynhawn yma. Rwyf wedi nodi ein polisi. Mae wedi'i nodi; mae ein polisi fel y'i nodir yn ein cynllun gweithredu LHDTC, sef cydnabod hawliau pobl draws yma yng Nghymru, grŵp o bobl sy'n cael eu gwrthod mwy ac yn cael eu hamddiffyn llai na bron unrhyw grŵp arall, a lle cynyddodd troseddau casineb yn erbyn pobl draws yng Nghymru 11 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nid wyf i'n ymddiheuro o gwbl am wneud yn siŵr bod ein gweithredoedd fel Llywodraeth wedi'u cynllunio i gydnabod hawliau'r bobl hynny, ac i wneud yn siŵr bod yr hawliau hynny yn cael eu parchu.

14:05
Gwella Canlyniadau Addysgol

4. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau addysgol? OQ60477

Llywydd, mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau unfed ganrif ar hugain, Cwricwlwm newydd i Gymru, a phwyslais parhaus ar ansawdd yr addysgu yn yr ystafell ddosbarth ymhlith y mesurau sy'n cael eu cymryd i wella canlyniadau addysgol yng Nghymru.

Prif Weinidog, rydym ni wedi gweld Llywodraeth Lafur Cymru yn torri cyllid ar gyfer addysg yn ei chyllideb ddiweddaraf. Mae hynny er i'r Gweinidog addysg presennol deithio'r wlad, gan ddweud na fyddai'n digwydd o dan ei oruchwyliaeth ef, ond nid cyn iddo bleidleisio drosto heddiw. Ond maen nhw'n dod yn erbyn y cefndir, unwaith eto, lle mae Cymru mewn safle is na Lloegr, is na'r Alban ac is na Gogledd Iwerddon yn safleoedd ddiweddaraf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, ym mhob pwnc a aseswyd. Mae angen i ni weddnewid addysg yng Nghymru.

Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i flaenoriaethu addysg trwy roi 5,000 yn rhagor o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth, cynorthwyo'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, a datblygu rhaglen well ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog. Prif Weinidog, sut y gellir cyfiawnhau bod Llywodraeth Cymru yn torri cyllidebau addysg ac ar yr un pryd yn gwastraffu miliynau ar filiynau ar gynlluniau porthi balchder fel terfynau cyflymder o 20 mya a mwy o wleidyddion?

Wel, Llywydd, edrychaf ymlaen at gynigion y Blaid Geidwadol yn ystod y broses gyllidebol. Byddan nhw'n canfod nad ydyn nhw'n gallu gwario arian ddwywaith; felly ni fydd arian sydd wedi ei wario eisoes ar gael i ariannu eu cynlluniau. Nid yw'r grant cymorth refeniw yng Nghymru, sef y prif gyfrwng a ddefnyddir i gefnogi gwasanaethau addysg, wedi cael ei dorri; bydd yn codi 3.1 y cant eto eleni—ymhell cyn y cymorth i awdurdodau lleol yn Lloegr, gyda llaw. Ac os oes gan unrhyw blaid neu unrhyw Aelod unigol gynllun i wario mwy o arian, mewn cyllideb sy'n werth £1.3 biliwn yn llai na phan gafodd ei phennu yn wreiddiol, yna bydd cyfrifoldeb ar yr unigolyn hwnnw a'r blaid honno i ddweud wrthym ni o ble y bydd y gostyngiadau yn dod i'w gefnogi. Os oes gennych chi gynllun i wario mwy mewn un maes, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth bobl ble mae eich cynllun i wario llai mewn un arall. Ac ni all fod trwy bwyntio at arian sydd eisoes wedi'i wario, oherwydd yn syml, ni fydd hwnnw ar gael i chi.

Prif Weinidog, ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd papur ymchwil byd-eang gan brifysgolion Caergrawnt a Zurich—240,000 o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd—a chanfu nad oes gan danberfformio cymharol myfyrwyr difreintiedig yn yr ysgol lawer i'w wneud â'r ffaith nad yw cymeriad, agwedd na meddylfryd eu cyfoedion cyfoethocach ganddyn nhw. Dywedodd y prif awdur:

'Mae'r syniad y gall plant oresgyn anfantais strwythurol trwy feithrin meddylfryd twf ac etheg gwaith gadarnhaol yn anwybyddu'r cyfyngiadau gwirioneddol y mae llawer o fyfyrwyr difreintiedig yn eu hwynebu, ac yn peryglu eu beio am eu hanffawd eu hunain.'

I'r bobl ifanc yn y sefyllfa barlysol hon, bydd yn eu dilyn i fyd gwaith, a ddangoswyd yn ddiweddar gan wybodaeth gan y Ganolfan Cyflogau Uchel, sydd wedi cyfrifo bod penaethiaid y cwmnïau FTSE 100 wedi gwneud mwy o arian yn 2024 erbyn amser cinio ar 4 Ionawr nag y bydd gweithiwr cyffredin yn y DU yn ei ennill yn ystod y flwyddyn gyfan. Ni allwn sefyll o'r neilltu a chaniatáu i sefyllfa mor annheg barhau i fodoli. Mae'n amlwg nad yw Llywodraeth Dorïaidd y DU eisiau cyfaddef y cysylltiad hwn rhwng eu mesurau cyni cyllidol yn chwalu'r economi a'n gwasanaethau cyhoeddus, a'r effaith y mae hyn wedi ei chael ar ein plant a'n pobl ifanc. Ond a fyddech chi'n cytuno â mi bod yn rhaid i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad fod yn ganolog i'r hyn y mae Llafur Cymru yn ei wneud, i helpu i ryddhau pobl ifanc o'r anfantais strwythurol y gall y tlodi hwn ei greu? Diolch.

Wel, diolch i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr am y cwestiwn ychwanegol yna, Llywydd. Roedd astudiaeth Caergrawnt yn ddiddorol iawn, roeddwn i'n meddwl, oherwydd mae'n dangos, er bod llawer y gallwch chi ei wneud, trwy gymell ac annog ac ati, mai'r rhwystrau sylfaenol sy'n wynebu pobl ifanc mewn unrhyw system yw'r rhai o dlodi ac anghydraddoldeb, ac rydym ni wedi byw trwy gyfnod lle mae anghydraddoldeb wedi gwaethygu o un flwyddyn i'r llall. Y Deyrnas Unedig yw'r wlad fwyaf anghyfartal yng ngorllewin Ewrop gyfan erbyn hyn, ac mae hynny'n golygu bod cyfleoedd bywyd cymaint o bobl ifanc mewn perygl cyn i'w bywyd ddechrau hyd yn oed.

Yma yng Nghymru, rwy'n credu y gallwn ni ddweud yn wirioneddol ein bod ni wedi cymryd y materion hynny o ddifrif. Os edrychwch chi ar y canlyniadau PISA y cyfeiriodd Tom Giffard atyn nhw, mae'r bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru yn is nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig: yn is ar gyfer mathemateg, yn is ar gyfer darllen, yn is ar gyfer gwyddoniaeth. Ac mae hynny'n dangos, rwy'n credu, y ffordd yr ydym ni fel Llywodraeth wedi bod o ddifrif ynglŷn â cheisio gwneud yn siŵr bod y bobl ifanc sydd angen y cymorth fwyaf yn cael y cymorth hwnnw i'r graddau y gallwn ni ei ddarparu yma yng Nghymru.

14:10
Darparu Prentisiaethau

5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector dysgu seiliedig ar waith ynghylch darparu prentisiaethau? OQ60493

Llywydd, fe wnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru gyfarfod â phob un o'r 10 darparwr prentisiaethau yng Nghymru cyn toriad y Nadolig. Byddwn yn parhau i drafod gyda'r sector sut y gellir sicrhau'r gwerth gorau o'r £138 miliwn a fydd yn cael ei fuddsoddi mewn prentisiaethau yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Diolch am yr ateb, Brif Weinidog.

Ac rwy'n cydymdeimlo â'r anhawster y mae'r Llywodraeth yn ei wynebu gyda'r gyllideb hon, ond mae toriad i gyllid prentisiaethau yn fy mhoeni'n fawr. Bydd ei effeithiau yn cael eu teimlo am gryn amser, ac rydym ni'n sôn am ddyfodol cynifer o bobl ifanc yma yng Nghymru. Mae darparwyr prentisiaethau yn codi pryderon, mae colegau addysg bellach yn wynebu ansicrwydd ynghylch eu dyfodol eu hunain fel sefydliadau ar adeg pan fydd eu hangen arnom ni yn fwy nag erioed i wireddu ein huchelgeisiau o ran datblygu economaidd. Nawr, mae'r sector yn dweud wrthyf i nad oes unrhyw eglurder ynghylch yr hyn a fydd yn newid, heblaw am golli cyllid. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi rhywfaint o eglurder ynghylch dyfodol prentisiaethau, ac eithrio bod angen i'r sector addysg bellach wneud mwy gyda llai?

Wel, Llywydd, fel y dywedais, mae ein sgyrsiau gyda'r sector yn parhau. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw hyd yn oed gyda'r gostyngiadau y bu'n rhaid eu gwneud yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf—gostyngiadau, gyda llaw, sydd wedi'u cyfansoddi nid yn unig o'r ffaith bod ein cyllideb yn werth £1.3 biliwn yn llai, ond y golled o £375 miliwn yn flynyddol o gyllid yr UE, oherwydd mae cyllid yr UE yng Nghymru wedi bod yn ganolog i'n gallu i ehangu darpariaeth prentisiaethau. Mae'r cynllun ffyniant bro, y mae Llywodraeth y DU wedi ei ddisodli ag ef, yn gwahardd yn benodol awdurdodau lleol rhag cronni arian at ei gilydd at y mathau hyn o ddibenion Cymru gyfan, ac un o'r atebion i'r broblem yr ydym ni'n cael ein hunain ynddi yn y maes hwn yw'r ateb y mae'r Blaid Lafur ar lefel y DU eisoes wedi ei gymeradwyo, sef o dan Lywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol, y bydd y cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ynghylch cyllid ôl-UE yn dychwelyd yma i Gymru.

Yn y cyfamser, bydd dechreuadau prentisiaethau yn dal i fod ar y lefel a sicrhawyd yn nhymor diwethaf y Senedd, a byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y sectorau hynny lle'r ydym ni'n gwybod bod y cyfleoedd prentisiaeth hynny yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf—adeiladu, gofal, peirianneg ac iechyd—a bydd aliniad rhwng y ffordd yr ydym ni'n gwario ein harian prentisiaeth a'n gwarant i bobl ifanc i wneud yn siŵr bod pobl ifanc sydd angen y dechrau hwnnw yn eu gyrfaoedd yn parhau i'w dderbyn yma yng Nghymru.

Prif Weinidog, yn sir Benfro, rhagwelir y bydd toriad o hyd at 50 y cant o ddechreuadau prentisiaethau newydd yn y flwyddyn gontract o fis Awst 2024, a fydd yn cael effaith fawr ar y sgiliau hyn yn yr ardal leol. Ac rwy'n derbyn yn llwyr y pwysau ar gyllidebau ar draws y Llywodraeth gyfan, ac, wrth gwrs, pwysau ar bob Llywodraeth o ran cyllid. Nawr, fel y gwyddoch, mae fy etholaeth i yn strategol bwysig i Gymru ac anghenion ynni'r DU, a chyda datblygiad porthladd rhydd a datblygiadau ym maes gwynt arnofiol ar y môr, nawr yw'r union amser i fuddsoddi mewn sgiliau a datblygu'r gweithlu, wrth gwrs. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda rhanddeiliaid yn sir Benfro ynghylch y ddarpariaeth o brentisiaethau? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd beth mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddysgu o ddarparu rhaglenni sgiliau mewn porthladdoedd rhydd eraill, a sut y gallai hynny helpu i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r porthladd rhydd Celtaidd?

Llywydd, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, fe wnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru gyfarfod â phob un o'r 10 darparwr prentisiaethau yng Nghymru ychydig cyn toriad y Nadolig, a bydd y sgyrsiau hynny yn parhau. Ac yn sicr fe fyddan nhw wedi cyfarfod â darparwyr yn ardal sir Benfro. Rwy'n cymryd o ddifrif y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Mae cyfleoedd newydd yn y rhan honno o Gymru, a bydd angen sgiliau newydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd yno o ynni adnewyddadwy ar y môr ac o'r môr. Bydd y pwyntiau hynny yn cael eu cymryd o ddifrif yn y trafodaethau hynny. 

Yn y pen draw, mae cyllideb benodedig y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn unol â hi. Mae'r gostyngiad i gyllid prentisiaethau yn llai nag mewn nifer o feysydd eraill y bu'n rhaid i'r Gweinidog ddod o hyd iddyn nhw yn ei gyllideb ei hun. Y mwyaf y gwnaethom ni ei wario erioed mewn blwyddyn ar brentisiaethau yng Nghymru oedd £147 miliwn, ac yn y flwyddyn ariannol nesaf byddwn yn gwario £138 miliwn. Felly, byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r swm sylweddol iawn hwnnw o arian, a bydd hynny'n cynnwys yr hyn y gallwn ni ei wneud i'r bobl ifanc hynny yn sir Benfro sy'n edrych ar y posibiliadau newydd hynny i'r economi yn y rhan honno o Gymru.

14:15

Prif Weinidog, rwyf wedi cael trafodaethau â chynrychiolwyr o ColegauCymru, ac rwy'n siŵr bod Luke wedi hefyd, a hoffwn ddiolch iddo am y ffordd y mae wedi cyflwyno'r cwestiwn hwn, gan fod yn ymwybodol o'r peryglon ariannol gwirioneddol yr ydyn ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd, y mae'r Prif Weinidog wedi'u hamlinellu. Gwnaeth Paul ddweud yr un peth. Ond rydyn ni wedi cwrdd â nhw, ac i ni, yn ein hardal ni, fel Pen-y-bont ar Ogwr, prentisiaethau i raddau helaeth yw'r ffordd i mewn i alwedigaethau medrus sy'n talu'n dda, galwedigaethau gydol oes. Ond ni allwn ni anwybyddu'r cyfyngiadau ariannol sydd ar Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd colli cyllid yr UE ac yn rhannol oherwydd colli rheolaeth dros ariannu prentisiaethau, y dylai fod gennym ni yma yng Nghymru, yn hytrach na chael ei weinyddu o Whitehall.

Ond wrth i ni ddechrau'r cyfnod hwn lle mae cymylau storm gwirioneddol, rwy'n credu, a gaf i ofyn am sicrwydd y bydd ef, a'i Weinidogion, yn gweithio'n galed gyda'r sector colegau, a chyda darparwyr seiliedig ar waith hefyd, i fynd â ni drwy'r storm yma? Oherwydd mae'n rhaid i ni obeithio na all hi fod mor wael â hyn bob amser o ran setliadau cyllidebol, na all hi fod mor wael â hyn bob amser o ran setliadau ar gyfer hyfforddi ein pobl ifanc chwaith. Byddwn ni'n dod drwyddi, ond er mwyn gwneud hynny, mae'r ffordd Gymreig o weithio mewn partneriaeth i ddod drwyddi yn mynd i fod yn fwy hanfodol nag erioed. 

Mae Huw Irranca-Davies yn cyfeirio at broblem sylfaenol yma, sef y ffordd mae'r ardoll brentisiaethau yn gweithredu. Fi oedd y Gweinidog cyllid, Llywydd, ar y diwrnod y cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai Cymru'n cael, os cofiaf yn iawn, £109 miliwn yn ychwanegol ar gyfer prentisiaethau drwy'r ardoll. Dim ond ar ôl i chi darllen y print bach y gwnaethoch chi ddarganfod ein bod ni'n colli £117 miliwn yn y toriadau yr oedden nhw wedi'u gwneud i fathau eraill o gyllid ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru. Felly, doedden ni ddim yn ennill £100 miliwn; roedden ni'n colli arian mewn gwirionedd. Mae yna wendid wrth wraidd y ffordd y caiff hyn ei ariannu, ac nid yw Cymru'n cael ei gwasanaethu'n dda gan y model hwnnw o gwbl.

Rwy'n hapus iawn i roi sicrwydd i'r Aelod, fodd bynnag, mai'r ffordd honno o wneud pethau mewn partneriaeth, gan fod o gwmpas y bwrdd hyd yn oed pan fydd penderfyniadau anodd i'w gwneud, yw'r ffordd y byddwn ni'n llywio ein ffordd drwy'r flwyddyn nesaf, gan ddod â'r darparwyr hynny at ei gilydd, clywed llais pobl ifanc hefyd yn y dewisiadau hynny, a dewisiadau cyflogwyr. Yn y modd hwnnw, byddwn ni'n dod o hyd i lwybr i sicrhau'r gwerth gorau posibl o'r symiau sylweddol iawn o arian a fydd yn dal i gael eu buddsoddi yn y maes hwn.

Diogelwch Cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch cymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60487

Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn. Mae cyllideb refeniw y flwyddyn nesaf gwerth £1.3 biliwn yn llai na’r hyn y dywedodd y Canghellor Sunak oedd ei angen ar Gymru wrth osod y gyllideb honno ym mis Hydref 2021. Mae ein cyllideb ddrafft yn canolbwyntio ar y cyfrifoldebau diogelwch cymunedol datganoledig. Yn syml, mae llai o arian ar gael i lenwi’r bylchau yn y gwasanaethau hynny y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i fod yn gyfrifol amdanyn nhw.

Brif Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn am y rôl flaengar mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae dros y blynyddoedd diwethaf wrth gyllido swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, a hynny'n groes i'r tanfuddsoddi yn yr heddlu sydd wedi digwydd gan y Torïaid yn San Steffan dros y degawd a mwy diwethaf. Does dim dwywaith bod PCSOs yn chwarae rhan bwysig yng nghymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn amlach na pheidio, maen nhw'n gweithredu fel rhyw fath o lygaid a chlustiau pwysig i'n cymunedau lleol. Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth yn gwerthfawrogi'r gwaith y maen nhw'n ei wneud, ac eisoes yn cyllido rhyw 600 ohonyn nhw dros Gymru. 

Fodd bynnag, yn y gyllideb ddrafft, cyhoeddwyd toriad o £7.5 miliwn i gyllideb y PCSOs, ac mae'r gyllideb hefyd yn awgrymu torri cyllid ar gyfer rhaglen ysgolion yr heddlu, sy'n cynnal sgyrsiau pwysig ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau a diogelwch ar-lein. Mae hwn yn wasanaeth sy'n cael ei werthfawrogi yn fawr gan ysgolion, rhieni a disgyblion eu hunain. Felly, gan fod y ddau wasanaeth hyn yn greiddiol i fagu perthynas agos rhwng cymunedau a'r heddlu ac yn gymorth i fynd i'r afael â throseddu, a gaf fi ofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu eu cymryd i liniaru effaith y toriadau hyn ar ddiogelwch cymunedol ac ar drosedd a threfn yn ehangach?

14:20

Diolch yn fawr i Cefin Campbell am y cwestiynau ychwanegol. Wrth gwrs, rŷn ni yn gwerthfawrogi'r gwaith mae PCSOs yn ei wneud yma yng Nghymru. Dyna pam wnaeth y Llywodraeth fuddsoddi mewn PCSOs ar adeg pan oedd y nifer o bobl oedd yn gweithio i'r heddlu wedi mynd i lawr ar ôl toriadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac rŷn ni wedi cefnogi'r rhaglen yn ein hysgolion ni hefyd. Ond rŷn ni wedi dod at y pwynt ble—fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol—mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y cyfrifoldebau sydd wedi cael eu datganoli i'r Senedd. A phan fo llai o arian ar gael, un o'r pethau rŷn ni yn gallu gwneud yw canolbwyntio ar bethau lle mae gennym ni'r arian i wneud pethau. 

Nid yw'n bosibl, Llywydd, pan fo'ch cyllideb wedi'i gwasgu i'r graddau y mae ein hun ni, i barhau i lenwi bylchau mewn gwasanaethau nad yw'r Senedd hon yn gyfrifol amdanyn nhw. Byddwn ni'n parhau i ddarparu dros £15 miliwn i gefnogi swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yma yng Nghymru. Ond mae'r ffaith nad ydyn ni'n gallu parhau i lenwi'r bylchau hynny i'r fath raddau ag yr ydym wedi'i wneud yn y gorffennol wedi ein galluogi ni yn y maes diogelwch cymunedol i barhau i gyllido, heb ostyngiadau, y mesurau hynny yn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol', Canolfan Cymorth Casineb Cymru, y rhaglen cydlyniant cymunedol, y gwaith yr ydyn ni'n ei wneud ar y cyd â'r heddlu o ran camddefnyddio sylweddau, a'r buddsoddiad y byddwn ni'n ei wneud mewn gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Mae'r rheini i gyd yn rhan o'r darlun ehangach hwnnw o gyllid diogelwch cymunedol yng Nghymru. Rydyn ni wedi diogelu'r gwasanaethau yr ydyn ni'n gyfrifol amdanyn nhw'n uniongyrchol ac rydyn ni wedi gorfod—er gwaethaf ein gwerthfawrogiad o'r gwaith hwnnw—tynnu nôl o rywfaint o'r cyllido yr ydyn ni wedi gallu'i wneud mewn gwasanaethau y mae'r cyfrifoldeb a'r cyfrifoldeb cyllido drostyn nhw'n gorwedd rhywle arall. 

Prynhawn da, Prif Weinidog. Roeddwn i hefyd eisiau gwneud sylw dilynol ynghylch mater swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, gan ddeall yn llwyr y cyfyngiadau cyllidebol sydd gan Lywodraeth Cymru, a siarad am gyfrifoldebau'r comisiynwyr heddlu a throseddu a sut y gallen nhw helpu i gynyddu ymgysylltu cymunedol o bosibl o ran mynd i'r afael â throseddu. Fe wnes i hwyluso cyfarfod cymunedol yn Aberystwyth gyda'r cynghorwyr lleol a'r comisiynydd heddlu a throseddu, ac roedd hynny ddwy flynedd yn ôl. Rydyn ni'n dal i aros am welliannau yno. Felly, tybed pa sgyrsiau a pha welliannau ydych chi'n teimlo y byddai modd eu gwneud wrth weithio gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru i helpu gyda'r ymgysylltu cymunedol hwnnw. Diolch yn fawr iawn. 

Blwyddyn newydd dda i Jane Dodds, a diolch am y cwestiwn.

Rydyn ni'n ymgysylltu'n rheolaidd iawn fel Llywodraeth Cymru, yn bennaf drwy'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu. Yn ffurfiol mae hynny'n cael ei wneud drwy fwrdd partneriaeth plismona Cymru yr ydyn ni'n yn ei gadeirio ar y cyd, ond mae hefyd yn digwydd y tu hwnt i'r bwrdd ei hun, gyda llawer o sgyrsiau gyda'r comisiynydd arweiniol—comisiynydd gogledd Cymru fel y mae ar hyn o bryd—a chyda chomisiynwyr eraill ledled Cymru. Ac, wrth gwrs, Llywydd, gydag etholiadau ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu yn digwydd yng Nghymru ym mis Mai, bydd y misoedd nesaf yn gyfle i sgyrsiau uniongyrchol ddigwydd rhwng etholwyr Cymru a'u hymgeiswyr i fod yn gomisiynwyr heddlu a throseddu er mwyn cyflawni rhai o'r pethau y cyfeiriodd Jane Dodds atyn nhw: aliniad agos rhwng uchelgeisiau comisiynwyr heddlu a throseddu a'r anghenion a fynegwyd gan y cymunedau lleol hynny. 

Tlodi yn Nwyrain De Cymru

7. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yn Nwyrain De Cymru? OQ60491

Rydyn ni'n parhau i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni i gefnogi'r rhai sy'n byw mewn tlodi yn Nwyrain De Cymru a ledled Cymru. Mae ein cyllideb ddrafft yn blaenoriaethu cymorth i'r aelwydydd hynny sy'n dioddef fwyaf ac yn gadael arian ym mhoced y rhai sydd ei angen fwyaf.

14:25

Diolch am yr ateb yna.

Dros gyfnod y Nadolig, fe ryddhaodd Ymddiriedolaeth Trussell ffigurau oedd yn dangos mai yng Nghymru y ceir y defnydd mwyaf o fanciau bwyd o blith unrhyw wlad yn y DU; yn wir, pan gaiff y ffigurau eu dadansoddi, fe welwch chi fod Cymru'n defnyddio banciau bwyd yn fwy nag unrhyw ran o Loegr. Mae'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn arbennig o drawiadol. Yn dilyn hyn, cafwyd y newyddion bod EDF, Octopus a Scottish Power wedi cael caniatâd i ailgychwyn gosod mesuryddion rhagdalu anwirfoddol, fel y mae prisiau ynni'n codi. A allwch chi sicrhau y byddwch chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu, yn ystod yr wythnosau olaf yn eich swydd fel Prif Weinidog, i sicrhau nad yw'r toriadau i'r gyllideb na'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn San Steffan yn cael effaith anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas?

Diolch i Peredur Owen Griffiths am hynny, Llywydd. Mae ffigurau Ymddiriedolaeth Trussell yn drawiadol, ac maen nhw'n dangos y pwynt y gwnes i'n gynharach am y gymdeithas anghyfartal iawn yr ydyn ni'n byw ynddi ac effaith yr argyfwng costau byw ar gynifer o deuluoedd yma yng Nghymru. Yn sicr, fe wnawn ni ddwyn y rheoleiddiwr i gyfrif am y penderfyniad y maen nhw wedi'i wneud i ganiatáu i gwmnïau wneud ceisiadau i osod mesuryddion rhagdalu anwirfoddol. Mae'r rheoleiddiwr wedi cyhoeddi cyfres o reolau, sy'n llymach o lawer na'r trefniadau blaenorol; dydyn nhw ddim yn mynd yn ddigon pell, yn ein barn ni, ond maen nhw'n gynnydd sylweddol ar y sefyllfa flaenorol. Mater i'r rheoleiddiwr nawr yw sicrhau bod unrhyw geisiadau sy'n gwneud eu ffordd i'r llysoedd yn gyson â'r rheolau y maen nhw eu hunain wedi'u nodi.

Rydyn ni wedi siarad cryn dipyn am y gyllideb y prynhawn yma, Llywydd, ac un o'r meysydd lle gallwch chi weld yn fwyaf clir y flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i rhoi ar amddiffyn y bobl hynny sydd â'r anghenion mwyaf yw'r union faes y mae'r Aelod wedi'i godi yn ei gwestiwn atodol. Ein buddsoddiad yn y gronfa cymorth dewisol fydd yr uchaf erioed y flwyddyn nesaf; byddwn ni'n parhau i ddod o hyd i £280 miliwn gyda'n gilydd i gefnogi budd-daliadau'r dreth gyngor a £93.5 miliwn i weithredu prydau ysgol am ddim i bawb fel rhan o'r cytundeb cydweithio; does dim gostyngiad yn y swm o arian yn y gyllideb ar gyfer rhaglen gwella gwyliau'r haf; bydd y grant datblygu disgyblion yn aros ar y lefel uwch a welwyd eleni i mewn i'r flwyddyn nesaf hefyd. Mae rhai penderfyniadau anodd iawn yn y gyllideb ddrafft y byddwn ni'n eu trafod yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac rydyn ni wedi clywed am rai o'r meysydd anodd hynny y prynhawn yma, Llywydd. Ond o ran y gwasanaethau hynny sy'n cael yr effaith fwyaf uniongyrchol ar y rhai sydd â'r angen mwyaf, penderfyniad y Cabinet hwn ar y cyd oedd diogelu'r cyllidebau hynny, a gallwch chi weld hynny yn y gyllideb.   

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog nodi ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diwylliant Annibynnol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? OQ60485

Llywydd, mae hwn yn adroddiad beirniadol iawn sy'n amlygu methiannau sylfaenol mewn arweinyddiaeth, llywodraethu a phrosesau gwneud penderfyniadau o fewn y gwasanaeth. Mae'n dangos yr angen am newid diwylliannol a rheolaethol sylfaenol. Bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwneud datganiad llafar yn nodi ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud, roedd darllen adolygiad diwylliant Fenella Morris CB o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn brofiad sobreiddiol iawn. Er gwaethaf y diffygion difrifol a amlygwyd, rhaid i ni gofio nad yw canfyddiadau'r adolygiad yn berthnasol i holl aelodau'r gwasanaeth, a rhaid i ni gydnabod dewrder a phroffesiynoldeb y dynion a'r menywod hynny sy'n rhoi eu hunain mewn perygl i'n cadw ni'n ddiogel. Fodd bynnag, mae'r adolygiad yn alwad brys am weithredu. Cyn datganiad y Dirprwy Weinidog yn ddiweddarach heddiw, hoffwn ofyn i chi, fel Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wthio ymlaen y newid hwnnw mewn diwylliant y mae angen taer amdano.

Diolch i Vikki Howells am hynny, Llywydd. Mae hi'n gwneud pwynt pwysig, pan fydd adroddiad o'r math hwn yn cael ei gyhoeddi, ac mae'n adroddiad brawychus i'w ddarllen, un o'r anawsterau yw ei fod yn taflu cysgod dros yr holl bobl hynny sy'n gwneud gwaith mor dda yn y gwasanaeth bob dydd. Bydd y Dirprwy Weinidog yn nodi cyfres rymus o ymatebion y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'r adroddiad hwn. 

Mae'r gwasanaeth tân ac achub yn eithriad cyfansoddiadol yn yr ystyr nad yw llawer o'i gyfrifoldebau yn cael eu harfer o gwbl yma yn Llywodraeth Cymru. Ond pan fydd gwasanaeth yn methu, mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud, a bydd y Dirprwy Weinidog yn nodi ei syniadau cychwynnol am y camau y gall fod angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn helpu i adfer y gwasanaeth hwnnw, ac i sicrhau bod gwasanaethau tân ac achub o ansawdd uchel ar gael i bobl de Cymru, wedi'u darparu mewn ffordd nad yw'n dangos y methiant mewn diwylliant a chadwyni cyfrifoldeb y mae adroddiad Fenella Morris yn ei ddangos mor fyw. 

14:30
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Mae tri newid i fusnes yr wythnos hon. Cyn bo hir, bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwneud datganiad ar yr adolygiad o diwylliant a gwerthoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Yna bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud datganiad ar y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, ac, yn olaf, bydd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gwneud datganiad ar gofrestru a thrwyddedu statudol llety ymwelwyr. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

Trefnydd, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth? Y cyntaf ar y gwasanaethau bysiau ledled Cymru y mae'r newid yn y terfyn cyflymder diofyn wedi effeithio arnyn nhw. Mae problem yn fy etholaeth i, gan na fydd gwasanaeth 51 Arriva, sy'n croesi cefn gwlad sir Ddinbych, yn stopio ym mhentref Llandegla mwyach, ac mae'n arhosfan sy'n bwysig iawn i'r rhai sy'n ei ddefnyddio; mae'n achubiaeth, mewn gwirionedd, i lawer o bobl. Ac mae'r gwasanaeth hwnnw'n mynd i gael ei leihau, nid yw'n mynd i stopio yna, a'r esboniad y mae bysiau Arriva wedi'i roi i bobl leol yw bod hynny oherwydd y ffaith bod y newid i derfyn cyflymder o 20 mya wedi ychwanegu at hyd y daith y mae angen i'r bws hwnnw ei wneud, ac mae'n golygu nad yw'n gallu stopio wrth bob un o'r arosfannau yr oedd yn gallu eu gwasanaethu o'r blaen. Yn amlwg, mae hynny'n bryder i fy etholwyr. Rwy'n amau ei fod yn digwydd mewn rhannau eraill o Gymru hefyd—mae hynny'n sicr yn wir yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau—ac rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad gan y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth er mwyn iddo allu ymdrin â'r mater penodol hwnnw a'r pryderon lleol. 

Yn ogystal â hynny, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf, os gwelwch yn dda, ar ddarparu ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych? Mae rhai datblygiadau cadarnhaol wedi bod yn ddiweddar, i'r graddau fy mod i'n gwybod bod trafodaethau wedi bod rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac, yn wir, yr awdurdod lleol, Cyngor Sir Ddinbych, a Llywodraeth Cymru, ynglŷn â sicrhau bod y prosiect hwnnw ar y gweill unwaith eto. Mae dros ddegawd wedi mynd heibio ers iddo gael ei addo. Ar y cychwyn, cawson ni wybod, pan gafodd yr addewid hwnnw ei wneud, y byddai'n cael ei gyflawni o fewn tair blynedd, erbyn 2019. Mae hi nawr yn 2024. Rydyn ni newydd ddechrau'r flwyddyn newydd, ac rwy'n credu bod pobl yng ngogledd sir Ddinbych, ac, yn wir, y rhannau eraill o arfordir gogledd Cymru y gallai'r ysbyty hwnnw eu gwasanaethu, yn chwilio am newyddion da. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai modd trefnu cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y mater penodol hwnnw hefyd, os gwelwch yn dda.

Diolch. O ran y cwestiwn cyntaf ynghylch datganiad ar wasanaethau bysiau a'r cynllun 20 mya diofyn, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad oedd y mwyafrif o fysiau yn teithio llawer cyflymach nag 20 mya fwy na thebyg. Ac, yn sicr, yn fy etholaeth i fy hun, lle rwyf i wedi cael pryderon am hynny, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod hynny, efallai, yn cael ei ystyried mewn ffordd nad yw'n gywir, ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn cael trafodaethau gyda Trafnidiaeth Cymru—mae'n flin gen i, gyda gwasanaethau bysiau Arriva, o ran hyn. Rwy'n gwybod bod y trafodaethau hyn yn parhau. Rwy'n sylweddoli bod toriadau yn gorfod cael eu gwneud i rai gwasanaethau bysiau yng Nghymru, ac, fel yr ydych chi'n ei nodi'n deg, maen nhw'n achubiaeth i lawer o'n hetholwyr, ac rwy'n siŵr y bydd y trafodaethau hynny'n parhau. 

O ran eich ail bwynt, unwaith eto, rwy'n gwybod bod trafodaethau pellach wedi bod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a swyddogion y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gofynnaf iddi—. Nid wyf i'n credu ei fod yn briodol ar gyfer datganiad llafar, ond yn sicr, fe wnaf i ofyn iddi hi ysgrifennu atoch chi os oes rhagor o wybodaeth. 

Hoffwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig yn nodi'r canllawiau sy'n cael eu rhoi i gynghorau ar bwysigrwydd asedau cymunedol a chadw'r mannau hynny ar agor. Yng Nghaerffili yn ystod yr wythnos diwethaf, mae pryder wedi bod am benderfyniad i gau'r ganolfan groeso. Ac nid canolfan wybodaeth i dwristiaid yn unig mohoni, yn wir mae'n gaffi poblogaidd iawn, yn ganolbwynt i bobl yn yr ardal. Mae'r safle hefyd yn gartref i oriel sy'n arddangos celf leol, a thoiledau cyhoeddus. Mae'n ased pwysig iawn yn lleol i'r gymuned. Mae ganddi'r olygfa orau o'r castell yn y dref gyfan, fwy na thebyg; mae'n wych ar gyfer denu twristiaid. Ac rwy'n credu bod dryswch wedi bod yn lleol ynglŷn â sut y gallai penderfyniad fel hwn gael ei wneud heb roi gwybod i'r staff. Penderfyniad lleol yw hwn—nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad arno. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol nodi datganiad, sy'n dangos pa ganllawiau a allai gael eu rhoi i gynghorau, efallai pa gymorth a allai gael ei roi i gynghorau, er mwyn helpu i sicrhau bod modd achub hybiau cymunedol fel yr un hwn fel bod gwerth, fel y dywedodd y Caerphilly Observer, yn gallu cael ei briodoli i amwynderau lleol fel hyn sy'n mynd y tu hwnt i unrhyw rif a allai gael ei ychwanegu at daenlen.

14:35

Diolch. Rwy'n eithaf sicr bod canllawiau yn cael eu darparu o ran asedau cymunedol. Byddwch chi'n gwerthfawrogi'r sefyllfa gyllidebol yr ydyn ni i gyd ynddi, ac nid wyf i'n hollol siŵr a oes modd rhoi unrhyw gymorth ariannol o gwbl. Yn sicr, fe wnaf i—. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei sedd a bydd wedi clywed eich cwestiwn. Os oes unrhyw fath arall o gymorth y mae modd i ni ei gynnig, a bod modd diweddaru'r canllawiau hynny, yna yn sicr, byddwn ni'n ei ystyried.

Cafodd y cais hwn ei godi o'r blaen, ond nid wyf i'n ymddiheuro am ei godi eto, oherwydd mae'n fater parhaus. Tybed a gawn ni ddatganiad ar gydlynu'r hyn sy'n cael ei alw'n wastraff bwyd, ond sydd, mewn gwirionedd yn waith casglu, dosbarthu bwyd dros ben—ar y cyd, mewn gwirionedd, gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol—i drafod ac archwilio ffyrdd y gallwn ni gydlynu casgliadau bwyd yn fwy effeithiol o archfarchnadoedd a sefydliadau elusennol fel FareShare i'r pantrïoedd bwyd, y banciau bwyd, Big Bocs Bwyd, ac eraill, ledled fy etholaeth a ledled Cymru. Mae ymdrech mor fawr ar lefel gymunedol a gwirfoddol i sicrhau nad yw bwyd dros ben yn cael ei wastraffu, ond yn hytrach, ei fod yn mynd i fanciau bwyd fel banc bwyd Pen-y-bont ar Ogwr i'w ddosbarthu, gyda thalebau, neu i bantrïoedd bwyd fel Baobab Bach i'w ddosbarthu fel bagiau gwerth da iawn am arian o fwyd wedi'i ostwng mewn pris yn sylweddol, neu'r Noddfa yng Nghaerau, sy'n gwerthu eitemau wedi'u disgowntio, neu bantrïoedd a cheginau cyfunol, fel Graham a'r gwirfoddolwyr yn Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau, sy'n darparu bwyd wedi'i goginio neu gynhwysion fforddiadwy, neu fan lle maen nhw'n paratoi a choginio'r bwyd i bobl. Ond maen nhw i gyd yn wynebu problemau cydlynu casglu, dosbarthu a storio bwyd dros ben. Ar y gwaethaf, gall fod cystadleuaeth ac aneffeithlonrwydd yn y pen draw a gall y bwyd hwnnw gael ei wastraffu. Felly, a gawn ni ddadl neu ddatganiad ar y rhan y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae wrth gynorthwyo'r sefydliadau hyn i gydweithio'n fwy effeithiol, a sicrhau bod yr adnodd cynyddol brin o fwyd dros ben yn mynd i'r rhai sydd ei angen, ac nid i wastraff?

Diolch. Rwy'n credu bod Huw Irranca-Davies yn codi pwynt pwysig iawn. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, rwy'n gweithio ar y cyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol o ran y maes hwn, ond mae'r Gweinidog wir wedi arwain, rwy'n credu, ar ôl cydnabod yr angen am y cydlynu hwnnw a'r arweinyddiaeth honno. Fe wnaeth hi roi arian grant i gyrff cyhoeddus sefydlu partneriaethau bwyd lleol, dan arweiniad cydlynydd bwyd lleol. Fe wnaethoch chi sôn am sawl sefydliad yn eich etholaeth eich hun; rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd wneud hynny. Yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig—rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith sylweddol a gafodd ei wneud yn fy etholaeth i fy hun, o archfarchnadoedd a roddodd fwyd 'dros ben' wedyn—rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud hynny yn hytrach na 'gwastraff' bwyd—i sefydliadau ac i elusennau, i wneud yn siŵr bod y bwyd hwnnw'n cael ei rannu mor eang â phosibl. Mae gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y gallu i ysgogi yn y ffordd yr esboniais i, ac rwy'n credu bod y sefydliadau cymunedol hynny a'r cyrff cyhoeddus hynny mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Mae llu o fentrau sy'n gysylltiedig â bwyd mewn cymunedau ledled Cymru yn gwneud gwaith da, ac nid wyf i'n credu y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ei gydlynu efallai yn y ffordd yr ydych chi wedi'i ddweud. Ond byddwch yn dawel eich meddwl bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wir yn arwain ar y maes hwn, ac rydyn ni'n gweithio gyda sefydliadau cymunedol i ddatblygu'r model partneriaeth lleol hwnnw.

Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd sy'n amlinellu'r disgwyliadau o ran defnyddio safonau gorfodol mewn datblygiadau tai a'u datblygiadau seilwaith cysylltiedig. Yn ddiweddar, treuliais i amser gyda thrigolion yr Orsedd yn Wrecsam, ac rwy'n siŵr yr ydych chi'n eu hadnabod yn dda hefyd, sy'n poeni am ddatblygiad tai yn y dyfodol a fydd yn mynd rhagddo ar gyrion y pentref. Mae eu prif bryderon yn ymwneud â pherygl llifogydd. Ond ar wahân i berygl llifogydd, maen nhw wedi tynnu fy sylw at y ffaith nad oes bwriad i ddilyn y safonau gorfodol, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi, mewn sawl ardal o fewn y datblygiad arfaethedig. Mae'n ymddangos iddyn nhw ac i mi fod cael safonau gorfodol nad ydyn nhw'n orfodol yn wrthddywediad. Felly, byddwn i'n awyddus i glywed gan y Gweinidog Newid Hinsawdd sut mae hi'n gweld safonau gorfodol yn cael eu defnyddio mewn datblygiadau tai a'u seilwaith cysylltiedig, ac a ydyn nhw'n orfodol ai peidio. 

14:40

Wel, rwy'n credu bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymwybodol iawn o'r hyn sy'n orfodol a'r hyn nad yw'n orfodol, ac mae'n fater i awdurdodau lleol, gan weithio gyda datblygwyr, i sicrhau bod y gofynion gorfodol hynny'n cael eu dilyn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r mater penodol y mae'r Aelod newydd ei godi, ond nid wyf i'n credu bod angen datganiad llafar, gan fod y canllawiau hynny, y rheoliadau hynny a'r ddeddfwriaeth honno wedi'u hen sefydlu. 

Prynhawn da, Trefnydd. Tybed a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol o ran rhaglen Bwndel Babi. Roedd yn siomedig iawn gweld bod y gyllideb ddrafft wedi torri, mae'n debyg, £3.5 miliwn o raglen Bwndel Babi, cynllun a gafodd ei dreialu gan Lywodraeth Cymru yn ardal bae Abertawe yn 2020, ac a gafodd ei ystyried yn llwyddiannus iawn. Soniodd y Gweinidog ei bod hi wrth ei bodd gyda'r rhaglen ar y pryd, nôl ym mis Mai, a sut yr oedd yn rhodd i bawb. A nawr mae'n ymddangos y bydd dull mwy penodol o ddarparu'r bwndeli hyn, sy'n hanfodol i bawb ac na ddylen nhw gael eu targedu, ond a ddylai fod ar gael i bawb. Felly, tybed a allwn ni gael datganiad, yn enwedig ar y meini prawf a'r cymhwysedd ar gyfer y bwndeli babanod hyn. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Mae hyn mewn gwirionedd yn rhan o bortffolio'r Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, ac mae hi'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflwyno'r bwndeli babanod i fwy o deuluoedd yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'r gostyngiad yn y gyllideb yn sicr wedi ei gwneud yn ofynnol i ni fyfyrio ar ein dull o gyflawni'r ymrwymiad hwn yn y rhaglen lywodraethu a sicrhau ei fod yn cyrraedd teuluoedd trwy'r argyfwng costau byw parhaus. Ar hyn o bryd mae'r Dirprwy Weinidog yn ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad y flwyddyn nesaf, er mwyn sicrhau bod gan fwy o deuluoedd yng Nghymru y pethau hanfodol i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'w plentyn. Bydd y rhaglen yn parhau i adeiladu ar lwyddiant y peilot, ei werthusiad a bydd ymchwil gwmpasu arall yn cael ei chynnal i sicrhau manteision cadarnhaol i rieni newydd a darpar rieni. Felly, er nad yw cymhwysedd ar gyfer bwndel babi wedi'i gytuno eto, bydd yn rhaid i ni, yn anffodus, symud i ddull gweithredu wedi'i dargedu'n fwy wrth symud ymlaen, er mwyn sicrhau bod y darpar rieni hynny sydd angen cymorth fwyaf yn cael y cymorth hwnnw ar ffurf y bwndel babi. Bydd y gyllideb lai yn golygu na fyddwn ni'n gallu cynnig bwndel i bob rhiant newydd a darpar riant yng Nghymru mwyach. Ond rwy'n credu y bydd targedu'r dull gweithredu hwnnw, gobeithio, yn sicrhau bod y bobl hynny sy'n byw neu'n debygol o fyw mewn perygl o dlodi—bydd yn cynyddu effaith y rhaglen honno i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. 

Trefnydd, rwy'n gofyn i amser gael ei neilltuo i drafod effaith sgandal Horizon Swyddfa'r Post ar drigolion Cymru a'r gwersi sydd i'w dysgu. Cafodd is-bostfeistri eu hanfon i'r carchar ar gam, cawson nhw eu gorfodi i ad-dalu arian nad oedd yn ddyledus ganddyn nhw, cawson nhw eu gwneud yn fethdalwyr. Difethwyd cymaint o fywydau a chollodd cymaint o bobl eu bywoliaeth hefyd, ac eto mae nifer o gwestiynau difrifol i'w hateb o hyd. Efallai y bydd Aelodau'n cofio i mi godi'r mater hwn am y tro cyntaf pan ddewisodd cyn-arweinwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru benodi cyn-weithiwr Swyddfa'r Post Angela van den Bogerd. Diolch byth, fe wnaethon nhw newid eu meddwl. Ond ers hynny rwyf wedi bod yn codi'r mater o ran sut y gallai cyfraith Hillsborough helpu pobl gyffredin i sicrhau cyfiawnder. Er mwyn i bobl gyffredin gael cyfiawnder, Trefnydd, mae angen i unigolion gael eu dwyn i gyfrif. Nawr, yn amlwg, rwy'n croesawu'r ffaith bod Paula Vennells wedi dychwelyd ei CBE y prynhawn yma; ni ddylai hi erioed fod wedi cael un yn y lle cyntaf. Ond nid yw'r ffaith ei bod hi wedi dychwelyd ei CBE yn golygu ei bod hi wedi cael ei dwyn i gyfrif. Nid yw'n golygu bod swyddogion gweithredol Fujitsu wedi cael eu dwyn i gyfrif chwaith. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod y mater difrifol iawn hwn ar sut y gallwn ni sicrhau bod pobl gyffredin yn cael y cyfiawnder a'r gwirionedd y maen nhw'n eu haeddu. 

Diolch. Yn sicr, rwy'n rhannu eich pryderon am yr is-bostfeistri a'r is-bostfeistresi ledled y wlad y mae eu bywydau wedi cael eu difetha'n llwyr gan y sgandal hon. Ac, wrth gwrs, mae drama ddiweddar ITV Mr Bates vs The Post Office wedi rhoi sylw i hyn unwaith eto, rwy'n credu, ac wedi cipio dychymyg pobl, rwy'n credu, ac efallai pobl nad oedden nhw'n ymwybodol o'r sgandal o'r blaen. Yn amlwg, mater heb ei ddatganoli yw hwn, ond rydyn ni'n ymwybodol bod yna bobl yng Nghymru y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw, ac y bydd yn parhau i effeithio arnyn nhw, ac efallai eich bod chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ddoe y dylen ni fod â ffydd yn yr ymchwiliad cyhoeddus sy'n cael ei arwain gan Syr Wyn Williams. Fodd bynnag, yn sicr, rwy'n cytuno bod angen cyflymu'r mater o gael cyfiawnder ac iawndal i'r rhai y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw. Mae'n cymryd llawer gormod o amser.

Rwy'n credu bod yr Aelod wedi bod yn ddiwyd iawn, Llywydd, wrth godi gyda'r Cwnsler Cyffredinol yr angen i swyddogion gael eu dwyn i gyfrif am anghyfiawnderau a wynebir gan deuluoedd sydd wedi dioddef methiannau'r sector cyhoeddus, ac mae'n anodd gweld sut mae modd gwneud hyn heb y ddyletswydd statudol o onestrwydd sydd wedi'i chynnig gan ymgyrch Hillsborough Law Now. Yn amlwg, mater i'r Cwnsler Cyffredinol yw hwn, ac yn sicr, fe wnaf ofyn iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ba drafodaethau y mae wedi'u cael, oherwydd rwy'n credu y byddai'n rhywbeth y byddai'n well ei wneud ar sail y DU.

14:45

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dilyn effaith llifogydd yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? Fel mewn llawer cwr o'r wlad, fe achosodd y glaw parhaus a thrwm, a fu i bob golwg yn cwympo am y rhan fwyaf o hanner olaf mis Rhagfyr ar dir a oedd yn wlyb iawn yn barod, lifogydd enbyd mewn rhannau o'm hetholaeth i, gyda dyfodiad storm Henk. Yn Ninbych-y-pysgod a'r cyffiniau, gan gynnwys Gumfreston, Heywood Lane a'r Clicketts, cyhoeddwyd rhybudd coch ar gyfer Afon Ritec, i ddangos perygl bywyd, gyda'r dŵr ar y ffyrdd yn ddigon dwfn i orchuddio cerbydau gweddol uchel, a hynny'n torri etholwyr i ffwrdd i rai cyfeiriadau. Hefyd, fe welodd y parc gwyliau poblogaidd, Parc Kiln, ei lifogydd uchaf erioed gan dorri'r record ddwywaith o fewn 60 diwrnod.

Y tu draw i'r ffin sirol yn Llansteffan yn ystod yr un cyfnod, cafodd trigolion 21 o dai eu dadleoli pan orlifodd ffrwd Nant Jac ac nid oedd y ceuffosydd yn gallu cynnwys swm y glaw. Fe welais i bwmp Dŵr Cymru Welsh Water fy hunan yn cynorthwyo gyda lleihau llifeiriant y dŵr ym mhentref Llansteffan er mwyn sicrhau nad oedd y rhwydwaith carthffosiaeth yn cael ei orlethu. Rwy'n siŵr y byddai'r Senedd gyfan yn ymuno â mi i roi teyrnged i bob un o'r awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a'r gwasanaethau brys am eu gwaith dros gyfnod anodd y llifogydd. Serch hynny, mae'r llifogydd hyn yn digwydd yn fwy rheolaidd ac maen nhw'n effeithio ar ardaloedd erbyn hyn nad oes sôn wedi bod am lifogydd yno yn rheolaidd o'r blaen. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol a CNC i liniaru llifogydd a helpu gyda'r gwaith cymoni? A pha wersi y mae Llywodraeth Cymru yn eu dysgu o lifogydd mewn ardaloedd nad yw llifogydd fel hyn fel arfer yn effeithio arnyn nhw? Diolch.

Diolch i chi. Bydd, fe fydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad naill ai heddiw neu yfory—datganiad ysgrifenedig. 

Blwyddyn newydd dda. Trefnydd, a gaf i ddatganiad gennych chi, os gwelwch yn dda, yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig ynglŷn â'r gwaharddiad sydd ar gasglu cyllyll môr yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr? A gaf i, unwaith eto, ddiolch i chi ar goedd? Mewn gwirionedd, tua 2018 oedd hi pan ddes i atoch chi i ddweud bod y trigolion yn bryderus iawn oherwydd y cannoedd o bobl a fyddai'n dod i gasglu'r cyllyll môr hyn. Felly, mae'r gwaharddiad wedi bod yn weithredol am bron i bum mlynedd erbyn hyn. Fe ysgrifennais i atoch chi'n ddiweddar; mae'r gwaharddiad wedi cael ei ymestyn eto am 12 mis arall, ond fe wnaethoch chi ysgrifennu ataf i yn 2022 yn nodi na chafodd asesiad o'r gwelyau cyllyll môr yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr ei gwblhau ac y bydd angen methodoleg newydd na chafodd ei datblygu hyd yn hyn i arolygu cyllyll môr rhynglanwol yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr, ac y bydd swyddogion yn parhau i ystyried a gwerthuso dulliau posibl o arolygu dros y flwyddyn i ddod. A wnewch chi egluro a oes unrhyw ddull penodol o arolygu wedi cael ei ddewis eto, a phryd—? Mae trigolion yn gofyn i mi nawr, 'Pa fanteision sydd wedi bod, Janet?' Er i ni fod yn awyddus i gau'r gwelyau hyn, beth yw'r manteision gwirioneddol a fu yn sgil gwneud hynny, ac rydym ni o'r farn eu bod yn llawer? Mae angen arolwg arnom ni, mae angen adolygiad, neu rywbeth tebyg. Mae angen tystiolaeth arnom ni i ddangos ym mha ffyrdd y bu hyn yn effeithiol. Ond, diolch unwaith eto.

Ie, diolch i chi. Fe wnaf i ysgrifennu at yr Aelod gyda gwybodaeth ychwanegol.

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd

Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Hannah Blythyn. 

Diolch, Llywydd. Ym mis Rhagfyr 2022, fe ddarlledodd ITV News eitem yn dadlennu camymddwyn difrifol gan staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Roedd yn cynnwys achos o aflonyddu cydweithiwr yn rhywiol, yn ddifrifol a thros amser maith gan ddiffoddwr tân mewn gorsaf dân yng Nghaerdydd ac achos o ddiffoddwr tân a gafwyd yn euog o drais domestig. Yn y ddau achos, roedd ymateb y rheolwyr yn gwbl annigonol. Ni chafodd y diffoddwr tân ei ddiswyddo na'i atal rhag gweithio ar y pryd, hyd yn oed. Roedd hynny'n ychwanegu at ddioddefaint y dioddefwyr, ac yn awgrymu bod problemau difrifol hefyd o ran diwylliant a gwerthoedd corfforaethol y gwasanaeth.

Yn syth ar ôl adroddiad ITV, fe gwrddais i â chadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ac egluro bod angen iddo gynnal adolygiad annibynnol trylwyr o'r gwasanaeth. Fe gytunodd ef i wneud hynny, a phenodwyd Fenella Morris CB wedi hynny i arwain yr adolygiad hwnnw gan yr Awdurdod Tân ac Achub. Treuliodd Fenella Morris CB y rhan fwyaf o'r flwyddyn y llynedd yn casglu tystiolaeth ac yn cyfweld aelodau presennol a chyn-aelodau o'r staff ac eraill hefyd. Llywydd, fe hoffwn i roi teyrnged i'r unigolion sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ynghylch y bygwth, cam-drin, camymddwyn a'r camreoli a gafodd ei brofi a'i weld ganddyn nhw. Nid peth bychan yw'r dewrder yr oedd hynny'n ei ofyn. Hebddyn nhw, efallai na fyddai un dim wedi dod i'r amlwg ac ni ellid gwneud unrhyw newid nawr—diolch i chi.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi wythnos diwethaf ar 3 Ionawr, ac mewn gair, mae'n ddamniol. Y prif ganfyddiadau yw bod agweddau ac ymddygiadau gwahaniaethol yn bodoli ar bob lefel hyd at a chan gynnwys uwch reolwyr. Fe fyddai hi'n rhy syml i ni ganolbwyntio ar yr achosion penodol a nodwyd yn yr adroddiad, sy'n ddigon brawychus ac erchyll fel mae hi: sylwadau cas at wragedd yn cael eu gwneud fel tynnu coes, delweddau rhywiol o staff mewn lifrai, addurniadau Nadolig homoffobig neu ddiffoddwyr tân yn cael eu gwahardd rhag penlinio i brotestio yn erbyn hiliaeth. Mae'r rhain i gyd, wrth gwrs, yn achosion atgas a gwarthus. Mae'r rhai sy'n gyfrifol amdanyn nhw wedi dwyn anfri ar y gwasanaeth ac wedi tanseilio'r parch mawr a roddir i ddiffoddwyr tân, yn briodol felly. Ond mae'r adroddiad yn canfod problemau sylfaenol difrifol hefyd: mae clwb i'r bechgyn yn bodoli o fewn y gwasanaeth, yn enwedig ymhlith yr uwch reolwyr; mae anfodlonrwydd a digalondid yn eang ymysg y staff, a chredir na fydd unrhyw beth yn newid fyth; credir yn gyffredinol bod trefniadau ar gyfer dyrchafiadau dan reolaeth rhagfarn a ffafriaeth; gweithdrefnau disgyblu yn arwain yn rhy aml at gosbau annigonol neu ddim cosb o gwbl; mae'r polisïau adnoddau dynol allweddol wedi mynd yn hen ffasiwn, yn annigonol neu'n ymwneud mwy â diogelu enw da'r gwasanaeth na hawliau'r unigolion sy'n gweithio ynddo; ac mae'r gweithlu diffodd tân yn parhau i fod yn hynod wrywaidd a gwyn, heb lawer o gynnydd effeithiol o ran mynd i'r afael â hynny. Yn gryno, mae yna lawer o fethiannau rheoli difrifol sy'n bodoli ers amser maith o fewn y gwasanaeth. Mae hi'n ymddangos bod yr arferion, y rheolau a'r prosesau a ddylai fodoli mewn unrhyw sefydliad sy'n cael ei redeg yn effeithiol naill ai'n absennol neu'n aneffeithiol. Mae hi'n ddigon posibl bod hynny wedi cyfrannu at y digwyddiadau o gamymddwyn a nodwyd. Os yw uwch reolwyr yn gweithredu mewn ffordd unbenaethol, os yw dyrchafiad yn dibynnu ar bwy yr ydych chi'n ei adnabod, nid pa mor dda yr ydych chi wrth eich gwaith, ac os yw ymddygiad fel ymladd ar ddyletswydd neu bostio sylwadau atgas a gwahaniaethol ar-lein yn cael ei gosbi gyda rhybudd yn unig, yna nid yw hi o unrhyw syndod bod rhai sy'n cael eu cymell i gamymddwyn o'r farn y gellid dianc heb gosb. Ac, yn anffodus, nid yw hi o unrhyw syndod ychwaith eu bod nhw wedi dianc heb gosb.

Pan gwrddais â chadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ddoe, roedd hi'n amlwg ei fod yn cymryd yr adroddiad o ddifrif a'i argymhellion yn llawn. Ond megis dechrau ar broses faith o ddiwygio a newid diwylliannol yw hyn. Ac rwy'n bell o fod wedi fy argyhoeddi bod yr awdurdod yn abl i ddylunio, goruchwylio a gweithredu'r broses honno ar ei ben ei hun. Er eglurder, nid a yw Llywodraeth Cymru am gyfranogi sydd dan sylw ond ym mha fodd ac i ba raddau. Yn arbennig, fe fydd angen sicrwydd o ran tri chwestiwn penodol. Yn gyntaf, sut y gall newid cynaliadwy ddigwydd pan fo cymaint o'r strwythurau a'r arferion rheoli presennol yn gysylltiedig â methiant? Nid yw ymddeoliad y prif swyddog tân a chael rhywun arall yn agos at fod yn ddigonol i ysgogi ac ymgorffori maint y newid diwylliannol sy'n angenrheidiol; fe fydd angen i mi sicrhau bod nerth, gallu a pharodrwydd i roi'r rhaglen honno o newid ar waith.

Yn ail, mae perygl y gallai'r methiannau a nodwyd effeithio hefyd ar y ddarpariaeth o wasanaethau rheng flaen. Mae unigolion sy'n ymosod, bwlio, aflonyddu ac erlid eu cydweithwyr yn amlwg yn anaddas i gyflawni dyletswyddau sy'n ymwneud â diogelu'r cyhoedd. Mae staff sy'n dioddef oherwydd ymddygiadau neu'n gweld ymddygiadau o'r fath yn digwydd, neu sy'n gweld rhywun yn cael dyrchafiad ar sail cyfeillgarwch ac nid teilyngdod, yn debygol iawn o fod yn ddiffygiol o ran eu hysbryd, rheolaeth ac arweiniad. Ac fe all sefydliad sy'n goddef camymddwyn o'r fath fod yn hunanfodlon ac yn debygol o dderbyn mathau eraill o ymarfer gwael hefyd. Os effeithiwyd ar allu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gyflawni ei swyddogaethau craidd, yna, yn amlwg iawn, fe fyddai hwnnw'n fater difrifol iawn wir, ac fe fydd angen sicrwydd mawr iawn arnaf i yn hynny o beth.

Yn olaf, mae angen i ni ddeall swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub yn hyn i gyd. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â methiannau rheoli ar lefel swyddogion, ac fe fyddai hi'n annheg disgwyl i aelodau'r awdurdod fod yn gwbl ymwybodol o bob manylyn o ymarfer rheoli. Eto i gyd, yr awdurdod yw'r cyflogwr a'r corff statudol. Fe ddylai arddangos arweinyddiaeth eglur a dwyn rheolwyr i gyfrif. Nid wyf i'n argyhoeddedig iddo wneud felly.

Fe fyddaf i'n ystyried sut y gellid cryfhau llywodraethu'r awdurdod i oruchwylio newid cynaliadwy a rhwystro'r methiannau hyn rhag digwydd eto. Fe fyddaf i'n ystyried y materion hyn i gyd ar frys mewn trafodaeth bellach gyda'r awdurdod ac eraill, ac fe fyddwn i'n annog ein gwasanaethau tân ac achub eraill ac, yn wir, y gwasanaethau cyhoeddus eraill i ddarllen a myfyrio ar yr adroddiad fel enghraifft o ba mor wael y gall pethau fynd os caiff materion o ran llywodraethu a rheoli effeithiol eu hesgeuluso. Ond, er eglurder, nid wyf i'n diystyru dim o ran cefnogaeth, cyfarwyddyd neu ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Yn syml, ni allwn dderbyn y lefel hon o wahaniaethu a chamreoli fel hyn mewn sefydliad cyhoeddus sy'n gyfrifol am amddiffyn pobl rhag niwed difrifol. Llywydd, fe fyddaf i'n gwneud datganiad pellach i'r Senedd cyn gynted â phosibl. Diolch.

14:55

A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw? Fel roeddech chi'n sôn yn eich datganiad, mae'r adroddiad yn hanes enbyd i'w ddarllen, ac mae'n siomedig bod gwasanaeth tân ac achub de Cymru, a oedd, hyd yn ddiweddar, wedi bod ag enw mor dda ymhlith y cyhoedd yn fy marn i, wedi cael ei weld yn trin rhai o'i staff mewn ffordd mor warthus. Mae'r adroddiad hwn yn dwyn cywilydd mawr iawn ar y tîm arweinyddiaeth gweithredol i gyd, sydd, yn ôl pob tystiolaeth, wedi bod yn gefnogol i'r diwylliant yn y gwaith, neu, ar y gorau, wedi anwybyddu ymddygiad llawer o aelodau. Adroddwyd yn eang yn y wasg fod Huw Jakeway wedi penderfynu ymddeol o'r gwasanaeth yn dilyn yr adroddiad hwn, ac rwy'n gofyn tybed, Dirprwy Weinidog, pa gamau a ydych chi am eu cymryd nawr i ddal y rhai sy'n gyfrifol am atal camymddwyn o'r fath yn atebol. A ydych chi o'r farn ei bod hi'n iawn iddyn nhw aros yn eu swyddi, gan nad wyf i'n gwybod am unrhyw sefydliad tebyg a fyddai wedi goddef uwch dîm arweinyddiaeth gyda'r fath ddifaterwch ynglŷn â llesiant ei staff?

Gan droi at yr adroddiad ei hun, mae yna ychydig o bwyntiau yr wyf i'n teimlo bod angen mynd i'r afael â nhw. Y cyntaf yw mai dim ond 25 y cant o staff a wnaeth ymateb i'r arolwg annibynnol, ac mae hyn ynddo'i hun yn ganfyddiad y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. A yw'r diffyg ymddiriedaeth mor rhemp yno fel na fyddai 75 y cant o staff wedi dewis mynegi eu barn ar gofnod yn ddienw, hyd yn oed? Rwy'n ei chael hi'n anodd credu, Dirprwy Weinidog, pe bai gan y staff farn hynod gadarnhaol o ran gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru na fydden nhw wedi dod ymlaen i fynegi hynny.

Yn anffodus, mae nifer o gyn-weithwyr yng ngwasanaeth tân ac achub de Cymru wedi bod yn cysylltu â mi ar ôl cael profiad echrydus wrth weithio gyda'r gwasanaeth. Yn benodol, maen nhw'n amlinellu nad yw'r weithdrefn gwyno yn cael ei dilyn yn yr ystyr eu bod yn honni nad yw'r gwasanaeth yn dilyn ei weithdrefnau ei hun yn iawn ac yn esgeuluso ymchwilio i honiadau difrifol o wahaniaethu ac ymddygiadau bwlio. Maen nhw'n nodi hefyd, pan gaiff honiad ei godi yn erbyn uwch staff, nad ymchwilir i'r achos mewn ffordd ddiduedd. Mae'r panel ymchwilio a benodir ar gyfer cam 2 yn cynnwys un cyfarwyddwr a dau bennaeth adran. Mae pob pennaeth adran â chysylltiad personol â'i gilydd, gan ei bod hi'n ymddangos eu bod nhw i gyd yn cymdeithasu gyda'i gilydd. Ar ben hynny, pan fydd y broses fewnol wedi dod i ben, sy'n cynnwys un cyfarfod ac apêl yn unig, nid yw'r gwasanaeth yn caniatáu i staff fynd ar drywydd y mater hwn ymhellach ac maen nhw'n cau'r achos. Dirprwy Weinidog, a ydych chi o'r farn fod y broses hon o ymchwilio yn ddigonol i fodloni dyheadau'r staff o ran llesiant?

Yng ngoleuni'r cyhuddiadau difrifol a gafodd eu gwneud, Dirprwy Weinidog, o nepotistiaeth a diffyg didwylledd a thryloywder, y ffaith fod yna ymatebion niferus gan staff a oedd yn mynegi nad yw rheolwyr fyth neu'n anaml yn gosod esiampl gywir ynglŷn â sut i ymddwyn yn barchus tuag at rai sydd â nodweddion gwarchodedig o ran hil, crefydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol, ac na fyddai bron i hanner yr ymatebwyr—46 y cant—yn argymell y gwasanaeth fel lle i weithio oherwydd ei ddiwylliant, a wnewch chi gofnodi y byddwch yn ymrwymo i ailagor achosion cwynion dros y degawd diwethaf i sicrhau bod gwerthusiad cadarn yn cael ei wneud a bod gweithdrefnau priodol yn cael eu dilyn? Yng ngoleuni'r canfyddiadau hyn, rwy'n credu y dylem ni ddangos parch fel hyn i staff y gorffennol yn ogystal â'r un presennol.

Yn ail, Dirprwy Weinidog, mae hi'n amlwg i mi o'r adroddiad bod methiant llwyr wedi bod yn y broses ddisgyblu, sydd wedi rhoi rhai staff mewn sefyllfa anodd iawn. Mae canlyniadau'r ymchwiliad yn dangos, pan fyddai sylwadau anweddus yn cael eu gwneud, fod y staff yn teimlo'n ddi-rym, oherwydd dim ond dau ddewis a oedd ar gael iddyn nhw: naill ai peidio â chymryd unrhyw gamau o gwbl a byw gyda'r sylwadau a'r chwerthin am eu pennau ar eu traul eu hunain, neu ddechrau, fel y mae'r adroddiad yn tynnu sylw ato, ar broses gwyno glogyrnaidd na fyddai'n arwain at fawr ddim gweithredu, ond yn ogystal â hynny yn effeithio ar agweddau cadarnhaol ar y perthnasoedd gwaith a oedd ganddyn nhw a'u cyfleoedd gyda'u gyrfa, oherwydd fe fydden nhw'n cael eu hystyried yn rhai trafferthus. Mae hi'n amlwg i mi hefyd yn yr adroddiad hwn ei bod rhaid dylunio gweithdrefnau newydd sy'n fwy cynnil ac yn caniatáu cymrodeddu a chymod rhwng staff heb wneud cwynion ffurfiol o reidrwydd. A yw hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n cytuno ag ef, Dirprwy Weinidog?

Ac yn olaf, fe hoffwn i wybod sut yr ydych yn bwriadu ymdrin â'r gwasanaethau tân eraill yng Nghymru, ac a ydych chi o'r farn y dylid cynnal adolygiad annibynnol o ddiwylliant yn y gwasanaethau eraill. Diolch i chi.

15:00

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i Joel James am ei gyfraniad heddiw? Rydych chi'n tynnu sylw at lawer o'r pryderon a godwyd drwy'r adroddiad a'r adolygiad, a'r argymhellion ar gyfer newid diwylliannol, gweithdrefn a systematig ehangach hefyd a nodwyd gan Fenella Morris CB a'r tîm dan sylw, ac, fel rydych chi'n dweud, fe geir 185 o dudalennau sy'n ddychrynllyd ac yn anodd iawn eu darllen. Cefais y cyfle cyntaf i ddarllen yr adroddiad pan gafodd ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, ar 3 Ionawr, ac fe wnes i ei ddarllen unwaith eto ar ôl hynny, ac fe ddarllenais ef eto neithiwr, ac rwy'n credu, bob tro y byddaf i'n ei ddarllen, ei bod hi'n mynd yn galetach eto i wneud hynny, ond fe ddylai hynny fod yn ysgogiad i'r newid y gwyddom ei fod yn angenrheidiol.

Pe byddwn i'n gallu sôn ychydig am nifer—. Rwyf i am geisio ymdrin â chymaint sy'n bosibl o'r pwyntiau y gwnaethoch chi eu codi heddiw, Joel James, ar gyfer datgan bod eich cyfraniad chi'n cyd-fynd i raddau helaeth iawn â'r argymhellion sydd yn yr adolygiad a'r angen i symud ymlaen er mwyn sicrhau bod yr argymhellion hynny—[Anghlywadwy.]

O ran awdurdodau tân ac achub eraill, fel dywedais i yn fy natganiad, er bod yr adolygiad hwn yn trafod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn benodol, fe fyddwn i'n disgwyl i wasanaethau tân ac achub eraill a chyrff cyhoeddus eraill ddarllen a myfyrio ar yr argymhellion hynny. Fe wyddom ni y bu Arolygiaeth Ei Fawrhydi yn y gorffennol—o ran Lloegr, nid yn berthnasol i Gymru—mewn awdurdodau tân ac achub yn Lloegr, a phan gafodd hwnnw ei gyhoeddi, mae'r prif gynghorydd tân yng Nghymru wedi bod yn gohebu â minnau ynghyd â'r awdurdodau tân ac achub yng Nghymru o ran sut y bydden nhw'n bodloni'r safonau a nodir yn yr argymhellion hynny hefyd. Felly, mae hwn yn fater yr ydym ni'n ymwybodol iawn ohono, yn amlwg iawn, ac yn ymdrin ag ef nawr i raddau helaeth iawn.

O ran —. Rydych chi'n sôn am weithwyr presennol a chyn-weithwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dod ymlaen, ac eto, mae rhai wedi cysylltu â mi, fel â llawer o Aelodau yma, yn uniongyrchol neu drwy Aelodau eraill o'r Senedd, ac rwyf i wedi sicrhau bod y bobl hynny yn gallu cymryd rhan yn y broses o'r adolygiad, os ydyw hynny'n bosibl, ac yn llwyr gydnabod y gallai pobl fod yn ofidus ac mae hynny'n ddealladwy oherwydd y driniaeth a gawson nhw yng nghyfnod eu swyddi, sydd, fel roeddech chi'n ei nodi, Joel James, yn cael ei ddatgan yn llawn yn y casgliadau ynglŷn â'r angen am weithredu cadarn, ac fe fyddwn i'n disgwyl i gwynion o'r fath fod yn destun ymchwiliad, unwaith eto yn briodol fel bod yr unigolion dan sylw yn cael y canlyniad teg a chyfiawn y gallen nhw fod wedi eu hamddifadu ohono'n flaenorol.

Mae'n galed darllen yr adroddiad hwn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb di-flewyn-ar-dafod a gawsom ni gan y Llywodraeth heddiw. Mae'r dystiolaeth gan aelodau staff yn dorcalonnus ar adegau, ond maen nhw'n hanfodol wrth dynnu sylw at yr ymddygiadau, arferion a diwylliant annerbyniol sydd wedi cael eu caniatáu hefyd—i gynyddu o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

'Byd y gwŷr yw hwn', meddai un dystiolaeth, ac yn wir mae'r adroddiad yn sôn am ddiwylliant lle nad yw sylwadau gwahaniaethol ar sail rhyw yn cael eu herio, ac awgrymiadau amhriodol yn cael eu gwneud i fenywod, a holi menywod a ydyn nhw'n atebol i wneud eu swyddi, menywod yn cael eu tewi, ac, mewn un enghraifft eithafol, un diffoddwr tân gwrywaidd yn gwrthod siarad â menywod neu hyd yn oed eu cydnabod nhw. Ac mae'r adroddiad yn nodi, yn anffodus, nad yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth.

Mae hi'n amlwg hefyd fod dynion yn dioddef oherwydd y diwylliant hwn hefyd, boed hynny o ganlyniad i hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu'n syml, fel roeddech chi'n dweud, nad yw'r cysylltiadau iawn ganddyn nhw yn y gwasanaeth.

Mae mynd i'r afael â'r diwylliant gwenwynig hwn yn golygu llunio gwasanaeth tecach i bawb: i'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth, i'r cyhoedd sy'n cael eu gwasanaethu ganddo, ac i'r rhai a allai fod yn ystyried dechrau gyrfa yn y gwasanaeth tân ac achub, ac fe hoffai Plaid Cymru egluro nad oes lle i unrhyw ddiwylliant cyffelyb mewn unrhyw ran o'n cymdeithas ni, gan gynnwys ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n rhaid gweithredu'r argymhellion yn yr adroddiad hwn ar fyrder, ac, yn bwysig, hyd at y safon uchaf posibl, oherwydd fe fyddai methu â gwneud hynny yn gwneud dim ond caniatáu i'r ymddygiad annerbyniol hwn barhau, er mawr ddrwg i'r staff a'r cyhoedd fel ei gilydd.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad y dylai pawb fod yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r nod sef bod diwylliant y gwasanaeth yn un cyfoes. Felly, fy nghwestiwn i yw hwn: pa waith a wneir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y dioddefwyr yn cael eu cefnogi yn ddigonol, bod y proffesiwn tân ac achub yn un diogel i'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig allu ymuno ag ef, a bod gan y cyhoedd, yn enwedig menywod a phobl â nodweddion gwarchodedig, ffydd ac ymddiriedaeth yn y gwasanaeth?

O ran eich ymateb ynghylch a fydd adolygiad o wasanaethau tân ac achub eraill ledled Cymru yn cael ei gynnal i ganfod a yw'r math hwn o ddiwylliant neu ymddygiad yn bodoli ynddynt hwythau hefyd, wel, fe wyddom ni fod materion tebyg wedi dod i'r golwg mewn nifer o wasanaethau yn Lloegr, felly a ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, y byddai hi'n ddoeth i ni gynnal adolygiad annibynnol tebyg o ddiwylliant a gwerthoedd ar draws y ddau wasanaeth tân ac achub arall yng Nghymru, a phe byddai hwnnw ar gael ac ar gyfer cysondeb, y gellid ystyried yr un tîm?

Mae staff yn haeddu cael gweithio mewn amgylchedd diogel gan wybod y bydd unrhyw ymddygiad o'r math brawychus a ddisgrifir yn yr adroddiad yn cael ei drin mewn ffordd briodol. Oherwydd yr hyn a welsom ni yw sefyllfa lle nad oedd nifer o achosion yn cael eu hymchwilio yn llawn, unigolion yn gallu osgoi unrhyw atebolrwydd yn rhwydd—naill ai trwy symud i swyddi eraill neu ymddeol gyda phensiynau llawn—roedd achosion o gamymddwyn yn cael eu rhoi o'r neilltu. Roedd yr adolygiad yn feirniadol iawn o'r uwch dîm arweinyddiaeth, ac er i'r prif swyddog tân ddweud y bydd ef yn ymddiswyddo, mae pob aelod arall o'r uwch dîm arweinyddiaeth yn parhau i fod wrth ei waith—a llawer o'r rhain mewn swyddi rheoli yn ystod cyfnod yr adolygiad. Fe welsom ni hefyd y prif swyddog tân yn cael codiad cyflog o £12,000 yn ystod cyfnod yr adolygiad, sy'n codi cwestiynau ynglŷn â'r gwaith craffu a wnaeth aelodau'r awdurdod tân. Felly, a fydd yna adolygiad yn cael ei arwain nawr gan y Llywodraeth o sut y digwyddodd hyn, a—? Oherwydd mae hyn, fel rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, yn warth llwyr ar yr holl ddioddefwyr sydd wedi dod ymlaen yn ystod cyfnod yr adolygiad i godi materion. A phwy fydd yn goruchwylio'r broses o weithredu'r argymhellion? Fe glywsom ni'r Prif Weinidog yn siarad yn gynharach am yr angen am newid rheolaethol, felly a wnewch chi esbonio i ni sut wedd sydd ar hynny?

Fel mae'r adroddiad ei hun yn ei ddatgan, a ydych chi'n cytuno y dylai darpariaeth fod hefyd o ran mynd ar drywydd camau yn erbyn unrhyw swyddogion sydd wedi gadael y gwasanaeth os oes modd profi unrhyw honiadau o gamymddwyn? Oherwydd mae hynny'n sicr yn hanfodol, ar gyfer adfer hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gwasanaeth, ond hefyd, yn bwysig iawn, ar gyfer cyhoeddi neges eglur na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef mewn gweithle. Fe fyddai hynny'n sicrhau atebolrwydd i'r rhai sydd wedi dioddef aflonyddu neu gam-drin. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i sicrhau bod y rhai sydd wedi osgoi unrhyw gamau yn eu herbyn hyd yn hyn yn cael eu dwyn i gyfrif am unrhyw gamymddwyn a brofwyd? Oherwydd heb gamau a heb ganlyniadau fe allai'r math hwn o ddiwylliant gwenwynig barhau yn ein gwasanaethau a'n sefydliadau. Diolch.

15:05

Diolch, Sioned Williams, am eich cyfraniad chi ac am y pwyntiau pwysig iawn a wnaethoch chi yn ystod y cyfraniad yna, yr wyf i'n cytuno â nhw'n llwyr, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl. Fe wnaethoch chi godi nifer o bryderon allweddol a materion allweddol a godwyd yn yr adolygiad hwn ac fe fydd yna angen gweithredu arnyn nhw'n briodol felly, yn gadarn ac mor effeithlon â phosibl.

O ran y gwasanaethau tân ac achub eraill, pe gallwn i gyffwrdd â'r pwynt hwnnw i ddechrau, rwy'n credu i mi ddweud mewn ymateb i Joel James, mewn gwirionedd, yng ngoleuni'r —. A dweud y gwir, yn gyntaf i gyd, fe hoffwn i roi teyrnged unwaith eto i'r bobl a ddaeth ymlaen ac adrodd mewn gwirionedd. Ni ddylai fod raid iddyn nhw fod yn adrodd am bethau o'r fath, mewn gwirionedd, ni ddylai'r diwylliant fod yn un sy'n caniatáu i'r pethau hyn barhau, ond rwy'n ddiolchgar eu bod wedi gwneud hynny i'n galluogi ni i daflu goleuni ar y mater hwn, ac mewn gwirionedd rwy'n gobeithio y byddwn ni'n symud pethau ymlaen ac yn cyflawni'r newid y mae pob un ohonom ni'n dymuno ei weld, ac rydych chi'n iawn o ran dweud bod yr adroddiad yn argymell bod gan bawb ei ran yn hyn o beth, ac fe fydd hon yn ymdrech gyffredinol. Felly, gan ddibynnu—. Fe fydd swyddogaeth i'r Llywodraeth, boed hynny drwy gefnogaeth, cyfarwyddo ac ymyrraeth, ond gan weithio gyda phartneriaid yn CLlLC hefyd ac ar draws bywyd y sector cyhoeddus yn ogystal â hynny, ac rwy'n fwy na hapus, fel dywedais i, i ddiweddaru'r Senedd fel bo hynny'n briodol, ond o ran gweithio gyda'r llefarwyr yma yn y cyfamser hefyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y cynnydd a wnaethom ni gyda'r gwaith.

Yng ngoleuni stori ITV a'r pryderon ehangach ynglŷn â'r diwylliant a godwyd yn ôl ym mis Rhagfyr 2022, ers mis Mawrth 2023, rydym ni wedi bod yn derbyn adroddiadau dienw ynglŷn ag achosion o gamymddwyn difrifol yn rheolaidd o'r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru. Maen nhw'n teimlo bod achosion ledled Cymru yn cael eu trin yn briodol gan reolwyr ar y cyfan. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, er hynny, wedi bod yn tueddu i fychanu effaith ymddygiad o'r fath—er enghraifft, dosbarthu rhybuddion ysgrifenedig yn unig am ymddygiad a ddylai yn ôl pob tebyg fod yn arwain at ddiraddiad neu ddiswyddo—ac fe adlewyrchir hynny'n llawn yng nghanfyddiadau'r adolygiad.

Fel roeddwn i'n cyfeirio, roedd yna—. Roedd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi adroddiad yn seiliedig ar—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ddadlennu gwasanaethau yn Lloegr oherwydd rheolaeth gyffelyb amhriodol ac aneffeithiol. Er nad oedd ei chylch gwaith yn cynnwys gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru ac nid oedd ei hadroddiad ym mis Mawrth 2022 yn seiliedig ar unrhyw dystiolaeth oddi wrth wasanaethau yma, serch hynny, ar sail hwnnw, fe wnaethom ni ofyn i'r tri gwasanaeth weithredu'r argymhellion fel gofyniad sylfaenol, ac rydym ni'n dal ati i'w dal nhw i gyfrif am wneud hyn. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i graffu ar hynny, ond, fel dywedais i, fe fyddaf i'n cyfarfod â phob gwasanaeth tân ac achub ynghylch yr argymhellion yn yr adolygiad hwn a sut y maen nhw'n eu dal i gyfrif, ond mae hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei fonitro yn fanwl ac fe weithir arno ar y cyd. Ac fel dywedais i, nid ydym ni'n diystyru unrhyw beth ar hyn o bryd ac nid yw'n ymwneud â'r cwestiwn a fyddwn ni'n cyfranogi ond pa ffurf fydd ar y cyfranogiad hwnnw a pha mor briodol ac effeithiol y byddwn ni'n cyflawni'r newid ystyrlon hwnnw gyda'n gilydd y mae nid yn unig ein cymunedau yn ei haeddu oddi wrth ein gwasanaethau cyhoeddus ni ond y bobl sy'n gweithio hefyd yn y gwasanaethau cyhoeddus sydd gennym ni.

15:10

Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad yma heddiw. Rwy'n falch o glywed eich bod chi'n cymryd canfyddiadau'r adolygiad annibynnol hwn mor ddifrifol. Roedd yr adroddiad yn gyfan gwbl resynus i'w ddarllen, ac yn amlwg, fel dywedwch chi, mae'n rhaid i ni fod â phroses faith o ddiwygio a newid diwylliannol o'n blaenau ni. Rhan o'r newid hwnnw yw recriwtio a chadw diffoddwyr tân newydd yn y gwasanaeth—diffoddwyr tân newydd sy'n dod o gefndiroedd amrywiol, a all elwa ar y newid diwylliannol hwn a helpu i'w hyrwyddo. Nawr, Dirprwy Weinidog, rwyf i wedi mynegi fy mhryderon yn y Siambr hon o'r blaen ynghylch anhawster recriwtio a chadw diffoddwyr tân ar-alwad neu ddiffoddwr tân wrth gefn o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru. Felly, sut all Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw'r adroddiad hwn yn rhwystr pellach i recriwtio a chadw?

Yn ail, rwy'n nodi ymateb CLlLC i'r adolygiad annibynnol. Yn ei hymateb, roedd CLlLC yn nodi llawer o'r un disgwyliadau ag y gwnaethoch chi eu nodi yn y fan hon, a'i bwriad i graffu ar waith y gwasanaeth a'r awdurdod i fodloni'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad. Felly, Dirprwy Weinidog, pa gapasiti sydd yna i Lywodraeth Cymru weithio ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn hyn o beth, ar gyfer safbwynt cyfunol o'r sector cyhoeddus a sicrhau bod y diwygio yn digwydd yn gyflym ac yn drylwyr?

A gaf i ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiwn hi? Fe wn i fod eich ymrwymiad yn y maes hwn yn un yr ydych chi—yn absenoldeb gair gwell—wedi ymrwymo iddo. Ar y pwynt ynglŷn ag amrywiaeth hefyd, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Mae hwnnw'n rhywbeth a oedd yn amlwg iawn yn yr adroddiad hefyd. Rwy'n cytuno â'r adroddiad o ran y diffyg amrywiaeth yn y gweithlu a oedd yn ychwanegu at y problemau a ddaeth i'r golwg yn yr adroddiad, ac mae hynny'n gwneud meithrin cynhwysiant yn anos ac, yn anffodus, fe all gynyddu'r perygl o fwlio ac aflonyddu ar rai nad ydyn nhw'n cydymffurfio â rhyw stereoteip sy'n bodoli eisoes. Mae'r gweithlu diffodd tân yn parhau i fod yn hynod wrywaidd, hyd yn oed yn fwy felly na sectorau eraill sy'n cael eu rhedeg gan ddynion gan amlaf yn hanesyddol fel yr heddlu a'r lluoedd arfog. Felly, er nad oes datrysiad cyflym i hyn, mae'n rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud nawr o ran sut yr ydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i oresgyn y rhwystrau hynny a chreu amgylchedd sy'n fwy cynhwysol. Fe wn i—. Dros flwyddyn yn ôl, fe gwrddais â rhai recriwtiaid newydd yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac roedd y grŵp hwnnw'n cynnwys 50 y cant o fenywod. Roedd hynny wedi digwydd oherwydd ymdrechion bwriadol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i annog menywod i ymgeisio, gydag ymgyrchoedd recriwtio wedi cael eu hanelu'n benodol gan ddefnyddio esiamplau perthnasol.

Felly, fe ellir gwneud hyn, ond, mewn gwirionedd, pan fydd pobl wedi cael mynediad, rydym ni'n awyddus i sicrhau bod hwnnw'n amgylchedd lle byddan nhw'n teimlo yn ddiogel, yn cael eu cefnogi a'u cynnwys ym mhob agwedd, sy'n dod â mi at y pwyntiau a wnaethoch chi eu codi o'r blaen, Vikki, ynghylch recriwtio a chadw diffoddwyr tân ar alwad yn arbennig felly. Yn yr adroddiad, nid oes tystiolaeth o gysylltiad uniongyrchol â hynny. Rwy'n gwybod bod Fenella Morris CB yn yr adroddiad yn crybwyll nad yw diffoddwyr tân yn teimlo weithiau eu bod nhw'n cael eu parchu yn yr un ffordd â diffoddwyr tân amser llawn, efallai. Ond rwy'n credu bod y broblem o ran recriwtio a chadw diffoddwyr tân ar alwad, fel dywedais i wrthych chi o'r blaen, yn broblem sy'n bodoli ledled y DU ac mae'n debyg ei bod hi'n adlewyrchu newidiadau ehangach i economi cefn gwlad a lleihad yn nifer y digwyddiadau, a allai ei gwneud hi'n galetach cyfiawnhau'r ymrwymiad amser angenrheidiol. Ond rwyf i o'r farn mai'r problemau a nodir yn yr adolygiad, yn bwysig ac yn achos gofid—. Rwy'n credu y gallwn ni gasglu bod hyn wedi peri i rai o'r staff ymadael efallai, ac ni fyddwn i'n synnu dim pe bai hynny'n wir, ac nid wyf i'n credu y byddai unrhyw un ohonom ni'n synnu, ac fe geir pryder, wrth gwrs, y gallai unrhyw enw drwg oherwydd camreoli neu y pethau y mae'r adroddiad hwn yn eu hamlygu rwystro pobl eraill rhag ymuno â'r gwasanaethau. Felly, mae'r adolygiad o ddiwylliant a gweithredu ar yr argymhellion sydd ynddo'n bwysig nid yn unig i'r rhai sydd wedi gweithio yn y gwasanaeth ac sy'n parhau i weithio yn y gwasanaeth, ond mae'n hynod bwysig o ran cynaliadwyedd y gwasanaeth a'i fod yn gallu gwasanaethu cymunedau ledled rhanbarth de Cymru hefyd.

15:15

Mae tebygrwydd yma, wrth gwrs, â'r problemau a ddatgelwyd am Heddlu Gwent, ond yn wahanol i'r heddlu, wrth gwrs, mae'r gwasanaeth hwn wedi ei ddatganoli. Dwi'n croesau’r tôn dŷch chi’n ei gymryd y prynhawn yma, ond buaswn i'n cwestiynu pam oedd yn rhaid dibynnu ar whistleblower dewr i amlygu’r broblem yn lle bod y Llywodraeth, sydd yn goruchwylio y gwasanaeth hwn, yn dod o hyd i'r wybodaeth. Pa newidiadau mewn prosesu fydd angen cael eu gweld i wneud yn siŵr bod rhywbeth fel yna ddim yn gorfod digwydd eto? Ydy'r Llywodraeth yn meddwl bod y penderfyniad i roi codiad cyflog o £12,000 i'r prif swyddog tân yn haeddiannol? Neu ydy hynny'n rhywbeth sydd yn rhyw fath o insult i'r dioddefwyr? Dwi'n ymwybodol bod Undeb y Brigadau Tân wedi tynnu sylw at y ffaith bod yr adolygiad yn feirniadol iawn o'r uwch dîm arweinyddol, ond dim ond un ohonynt sydd wedi dweud y byddan nhw'n camu i lawr. Felly, a fydd adolygiad o'r penderfyniad i roi codiad cyflog, a phwy fydd yn goruchwylio sut y bydd yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu, plis?

Diolch, Delyth Jewell, am eich cyfraniad chi. Rwy'n credu i mi glywed y rhan fwyaf ohono, ond roedd nam ar y sain yn fy nghlust yn ysbeidiol, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi clywed y rhan fwyaf ohono. O ran sut y cawsom wybod am hynny, ac mae'n rhywbeth trist iawn, ac unwaith eto rwy'n rhoi teyrnged fawr ac yn cydnabod dewrder a gwroldeb y bobl sydd wedi dod ymlaen, ond ni ddylai pobl orfod chwythu'r chwiban a chymryd y camau hynny er mwyn i'r camau a'r ymateb angenrheidiol ddigwydd. Fe ddylai hyn fod yn rhywbeth arferol y dylem ni fod yn ei ddisgwyl yn rheolaidd ledled y gymdeithas, ond yn fwy felly, rwy'n credu y dylem ni ddal ein gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif mewn ffordd briodol yn hyn o beth.

Fel arfer, ni fyddai angen rhoi gwybod i'r Llywodraeth am achosion o gamymddwyn unigol, ac fe ellid disgwyl i gyflogwyr ymdrin â materion o'r fath, ond, fel gwelsom ni yn yr adroddiad hynod feirniadol, mae hwnnw'n nodi nid yn unig yr ymddygiadau a'r agweddau annerbyniol hynny, ond y methiannau sylfaenol o ran arweinyddiaeth, llywodraethu a gwneud penderfyniadau gan reolwyr ar bob lefel o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ac er mai gwasanaeth cyhoeddus datganoledig ydyw hwn, nid Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg y gwasanaeth hwnnw'n uniongyrchol ac, fel rheol, fe fyddech chi'n disgwyl i reolwyr y gwasanaeth tân reoli eu staff mewn ffordd deg a phriodol, ac rydym ni'n disgwyl i aelodau'r awdurdod tân ddangos arweiniad a dal rheolwyr i gyfrif. A lle nad yw hynny'n digwydd, mae yna achos i'r Llywodraeth fod â rhan. Fel dywedais i, nid oeddem ni'n gwybod unrhyw beth ar y cam hwn, ac mae pryderon gennyf i ynglŷn â'r gallu a'r parodrwydd i beri i'r sefyllfa hon newid a chyflawni'r newid diwylliannol ystyrlon angenrheidiol heb ymyrraeth a chefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru yn rhan o hynny hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad heddiw, ond mae'n rhaid i mi ddweud, ar ôl gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am flynyddoedd lawer ar ymgyrch y Rhuban Gwyn, rwy'n teimlo yn hynod siomedig ac yn arswydus oherwydd y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw. Mae rhai o'r cwestiynau y mae'n eu codi yn rhai amlwg iawn, ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gwasanaeth yw ystyr hyn, ac mae'r methiannau yn peri siom i lawer o unigolion dibynadwy iawn sy'n gweithio yn y gwasanaeth hwn, a'r amheuaeth sydd ar bawb.

Rwy'n teimlo yn gryf iawn y dylai unrhyw un a gafwyd yn euog o gamymddwyn difrifol, fel yr amlygwyd, trwy gamdriniaeth, fygwth neu aflonyddu, gael ei ddiswyddo ar unwaith, ac mae angen i ni gael gwared ar y bobl hynny o'u swyddi cyn y gallwn ni fynd ati i ddiogelu'r bobl sydd yno. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld llawer gormod o enghreifftiau o hyn yn y sector cyhoeddus, gan yr heddlu, Undeb Rygbi Cymru, y GIG, fel y gallwn nawr ddweud mewn gwirionedd fod y systemau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw i adrodd yn ddiffygiol, nad yw'r gweithdrefnau yn ddigonol. Ac rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd—ac rwy'n gobeithio y byddwch chi, Gweinidog—i roi gwasanaethau cyhoeddus ar rybudd coch nawr y byddwn ni'n edrych ar eu systemau a'u gweithdrefnau sy'n amddiffyn y bobl hynny sy'n dymuno gwneud cwyn, fel eu bod nhw'n teimlo y gallan nhw wneud cwyn mewn ffordd nad yw'n rhoi eu teulu, eu hincwm, na'u safle mewn perygl, ac yn hytrach yn diogelu'r pethau hyn i gyd o fewn y sefydliad, ac nid yr unigolyn.

15:20

Diolch, Joyce Watson. Rydych chi'n gwneud y pwynt ynghylch sut mae adroddiadau ac adolygiadau o'r fath mor anodd a gofidus i'w darllen fel bod hynny wedyn yn taflu cysgod dros y gwasanaeth yn ei gyfanrwydd. Rwy'n clywed eich siom yn y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n eiriolwr angerddol yn y maes cyfan, ynghylch ymgyrch y Rhuban Gwyn, ac rwy'n gwybod y bu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn flaenllaw yn llawer o'r ymgyrchoedd hynny, ac mewn gwirionedd, yn yr adolygiad ei hun mae'n cydnabod hynny, ond mae hefyd yn cydnabod sut y bu yr ymrwymiad hwnnw, efallai, ar lefel gorfforaethol, ond efallai nad yw hynny wedi cyrraedd y brif ffrwd yn holl ddiwylliant y sefydliad ac nad yw hynny wedi'i gyfathrebu'n effeithiol ac yna ei adlewyrchu yng ngweithdrefnau a systemau'r sefydliad cyfan.

Rydych chi'n iawn, mae gormod o lawer o enghreifftiau, ac i fod yn hollol onest rydw i wedi blino sôn am hyn nawr, a dyna pam mae angen i ni weithredu. Y pwynt wnaethoch chi, ie, fy mlaenoriaeth yw cymryd y cymorth a'r camau angenrheidiol sydd eu hangen arnom o ran yr hyn y mae'r adolygiad wedi ei ddatgelu ynghylch Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ond mae hefyd—. Rwyf am weld y newid ehangach hwnnw a chydweithio â'r holl bartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau y gallwn ni wneud yn siŵr, hyd eithaf ein galluoedd, pan fo gennym ni'r ysgogiadau a phan fo gennym ni'r pwerau, i wneud yn siŵr y gall ein gwasanaethau cyhoeddus a'n sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn esiampl o gynwysoldeb a chefnogaeth, mewn gwirionedd, nid yn unig ar gyfer ein gweithluoedd, ond fel y dywedais i, ar gyfer y cymunedau lle maen nhw wedi'u lleoli a lle maen nhw'n gwasanaethu hefyd. 

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y datganiad hwn heddiw am y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yma yng Nghymru. Mae twf sylweddol ac arwyddocaol wedi bod, ac rwy'n falch o'r rôl y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chwarae wrth greu cyfleoedd i Gymru.

Ym mis Tachwedd, fe lansiais 'Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach'. Ein nod yw rhoi Cymru ar lwybr i gyflawni Cymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus. Mae'r diwydiant hwn yn enghraifft wych o sut rydyn ni'n defnyddio polisi diwydiannol gweithredol i leoli Cymru fel partner yn y don o strategaethau diwydiannol newydd sy'n ailddiffinio economïau ledled y byd.

Mae fy null i o wneud hyn yn cyffwrdd â llawer o'r meysydd portffolio ar draws Llywodraeth Cymru yn ogystal â fy mhortffolio fy hun. Rydym yn buddsoddi ar gyfer twf tymor hir, gan ganolbwyntio ar ein cryfderau cymharol i hybu buddsoddiad, darparu cyfleoedd i bobl ifanc, a hyrwyddo gwaith teg.

Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â diwydiant, y byd academaidd ac yn enwedig prifddinas-ranbarth Caerdydd i helpu i dyfu'r sector lled-ddargludyddion ymhellach. Mae ein partneriaeth yn cael ei deall a'i pharchu'n dda gan ddiwydiant ledled y DU ac yn wir gan farchnadoedd byd-eang. Mae ein sector lled-ddargludyddion yn stori lwyddiant sy'n helpu i dynnu sylw at Gymru.

Wrth gwrs, rwy'n gwneud y datganiad hwn yn erbyn cefndir setliad cyllideb anodd sy'n mynnu mwy fyth o ymdeimlad o flaenoriaeth. Mae'n golygu cefnogi'r cynigion hynny sydd wedi'u creu i bara gyda phartneriaethau hirdymor a dulliau creadigol a fydd yn sicrhau enillion ar fuddsoddiad.

Mae lled-ddargludyddion yn dechnoleg hanfodol i gefnogi ein bywydau bob dydd, fel y gwelsom yn wir, unwaith eto, yn ystod y pandemig. Dros nos, daeth byd gwaith yn rhithwir yn bennaf ac yn gwbl ddibynnol ar gyfrifiaduron, rhwydweithiau telathrebu, a'r rhyngrwyd. Yn wir, roedd hyd yn oed yr offer meddygol yn ein hunedau gofal dwys wedi'u tanategu gan dechnoleg lled-ddargludyddion.

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd, y segment y mae'r clwstwr diwydiannol ac academaidd yn ne Cymru yn arbenigo ynddo, ar flaen y gad yn y dechnoleg hon. Wrth gwrs, mae ganddyn nhw alluoedd sy'n mynd ymhell y tu hwnt i sglodion silicon. Maen nhw'n ysgogi datblygiad cerbydau trydan ac awtonomaidd; nhw yw'r dechnoleg y tu ôl i oleuadau LED a chelloedd solar; ac maen nhw'n hanfodol yn rhwydweithiau symudol 5G heddiw a 6G yfory.

Mae'n debyg bod yna ddarn o Gymru ym mhob ffôn symudol yn y byd. Gallai fod y synhwyrydd adnabod wynebau, gyda deunydd a dyfwyd gan IQE yn Llaneirwg, neu oherwydd nwyddau a wnaed gan ddefnyddio offer a adeiladwyd gan KLA yng Nghasnewydd.

Mae clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru wrth wraidd y technolegau a fydd yn helpu pob un ohonom ni i fynd i'r afael â llawer o heriau allweddol cymdeithas, o ddatblygiadau meddygol yn y dyfodol i'r gwaith o reoli pŵer a chynhyrchu ynni a fydd yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau sero net.

Ond nid dim ond yn dda ar gyfer yr heriau sy'n ein hwynebu fel cymdeithas y mae diwydiant lled-ddargludyddion Cymru; mae hefyd yn fusnes da. Mae hwn yn ddiwydiant twf uchel sy'n cael ei arwain gan allforio. Mae clwstwr Cymru yn allforio mwy na 95 y cant o'i gynnyrch, nid yn unig i Ewrop, ond yn fyd-eang. Mae'n cyfrannu bron i £0.5 biliwn mewn allforion bob blwyddyn, ac mae hynny tua 3 y cant o holl allforion gweithgynhyrchu Cymru.

Ac mae hwn yn ddiwydiant ymchwil a datblygu dwys. Mae gan bob cwmni yn y clwstwr adran Ymchwil a Datblygu bwrpasol, ac mae'r berthynas waith agos gyda'n tair prifysgol leol yn fodel i ddiwydiannau eraill ei ddilyn. Mae'r clwstwr wedi bod y tu ôl i lwyddiant Cymru wrth ennill mwy o gyllid Ymchwil a Datblygu o ffynonellau'r DU. Mae hyn wedi ei gydnabod drwy sefydlu canolfan ymchwil gyhoeddus y DU ar gyfer cymwysiadau lled-ddargludyddion, CSA Catapult, sydd wedi'i lleoli yng Nghasnewydd.

Mae'r pwyslais hwn ar ymchwil a datblygu yn cyd-fynd yn dda â'n strategaeth arloesi ein hunain, 'Cymru'n arloesi: creu Cymru gryfach, decach a gwyrddach', a lansiais fis Chwefror diwethaf. Mae'n galw am arloesi i ysgogi twf a chydweithio i greu atebion i heriau cymdeithas ac i ddinasyddion rannu cyfoeth trwy waith teg.

Fe wnes i herio sefydliadau i ddatblygu cynigion Ymchwil a Datblygu mwy a mwy cymhellol i ysgogi mwy o gefnogaeth gan ffynonellau cyllid y DU. Mae'r clwstwr lled-ddargludyddion wedi ymateb i'r her honno. Gan weithredu fel consortiwm, maen nhw wedi sicrhau llawer o grantiau ymchwil cydweithredol. Un o'r rhai mwyaf sylweddol oedd dyfarniad cronfa Strength in Places, gwerth £42 miliwn, gyda chefnogaeth 10 sefydliad yng Nghymru.

Mae ein cenhadaeth economaidd yn galw ar Gymru i edrych tuag allan, dangos ein cryfderau, ennill buddsoddiad a denu talent o bob cwr o'r byd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau y diwydiant lled-ddargludyddion yng Nghaliffornia, Japan, Taiwan a'r Almaen. Mae'r gydnabyddiaeth i glwstwr Cymru wedi bod yn glir ac amlwg ym mhob marchnad.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig, rydym wedi ennill buddsoddiad gan Siemens yn yr Almaen, MaxPower a MicroLink Devices o'r Unol Daleithiau, a Rockley Photonics yn y DU. Rwy'n falch iawn bod ein trafodaethau uniongyrchol gyda Vishay Intertechnology o'r Unol Daleithiau wedi helpu i arwain at eu cytundeb i gaffael Newport Wafer Fab. Ac, wrth gwrs, mae canolfan weithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu newydd KLA yn Ewrop yn datblygu ym mharc Imperial yng Nghasnewydd, buddsoddiad o $100 miliwn, gan greu cyfleuster 200,000 o droedfeddi sgwâr gyda channoedd o swyddi cyflog uchel i'w creu yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn parhau i drafod cyfleoedd buddsoddi gyda sawl cwmni byd-eang arall yr wyf yn disgwyl eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn. 

Mae'r diwydiant llwyddiannus hwn eisoes yn cael effaith sylweddol ar gyfleoedd gwaith a gyrfa i bobl Cymru. Mewn dim ond 10 cwmni o fewn y clwstwr, cynyddodd cyflogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol 9 y cant y llynedd i fwy na 2,600, ac rydym yn gwybod, ar draws y sector ehangach, fod llawer mwy o swyddi yma yng Nghymru. Ac mae'r rhain yn swyddi technegol a pheirianneg o safon uchel, yn ogystal â swyddogaethau'r brif swyddfa sy'n eu cefnogi. Er mwyn parhau i dyfu swyddi da, mae angen i ni sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau cywir, ac rydym eisoes yn cynnig prentisiaethau i raddedigion.

Er enghraifft, mae perthnasoedd sefydledig yn y diwydiant i'w profi a'u cynyddu o fewn prifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Ym Mhrifysgol De Cymru, mae prentisiaeth gradd mewn technolegau lled-ddargludyddion yn cael ei chyflwyno. Mae hyn i gyd yn newyddion gwych i bobl ifanc ac yn tyfu economi Cymru.

Talent y dyfodol yw'r mater mwyaf pwysig i'r diwydiant yn fyd-eang. Bydd cenedl sy'n dangos talent nawr ac yn y dyfodol yn ei phobl yn denu ac yn cadw buddsoddiad pellach, yn ogystal, wrth gwrs, â rhoi'r sgiliau i'w phobl er mwyn iddyn nhw ddatblygu gyrfa, ble bynnag y maen nhw yn ei ddewis yn y byd. Mae hyn yn sail i'm penderfyniad i weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid lleol i ddatblygu parth buddsoddi ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Dewiswyd hwn ar sail ei sector lled-ddargludyddion cyfansawdd potensial uchel. Gallai'r buddsoddiad o £160 miliwn rhwng y ddwy Lywodraeth helpu i gataleiddio'r diwydiant llawn potensial, dwys o ran gwybodaeth, hwn dros y 5 i 10 mlynedd nesaf. Bydd yn cefnogi diwydiant, yn galluogi seilwaith, a'r sgiliau a fydd yn cefnogi ei dwf a'i ffyniant. Rwy'n disgwyl gweld cynigion yn cael eu cyflwyno gan gyd-bwyllgor de-ddwyrain Cymru sy'n cynnwys cynlluniau uchelgeisiol i helpu i dyfu'r sector gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael.

Rwyf hefyd yn disgwyl gweld, yn ystod y misoedd nesaf, eglurder o ran sut y bydd strategaeth lled-ddargludyddion y DU yn cefnogi clwstwr de Cymru. Mae'n rhaid i'r strategaeth lefel uchel hon, a'r cyllid a gyhoeddwyd ochr yn ochr â hi, drosi'n gefnogaeth bendant i helpu i fanteisio ar y potensial diamheuol sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yr ydym wedi'i gefnogi dros y degawd diwethaf hwn yn dangos sawl agwedd ar ein cenhadaeth economaidd a blaenoriaethau economaidd y Llywodraeth hon. Bydd ein dull gweithredu hirdymor yn cefnogi sectorau sy'n cyflawni yn erbyn ein nodau, lle gall cryfderau cydnabyddedig Cymru helpu i greu effaith economaidd. Mae hynny'n golygu, yn syml, mwy o swyddi a swyddi gwell. Rwy'n bwriadu parhau i ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni i gefnogi'r bartneriaeth hon i gyflawni ein huchelgeisiau, i helpu i dyfu'r sector a chreu hyd yn oed mwy o swyddi da ar gyfer y dyfodol. Diolch.

15:30

Diolch am y datganiad y prynhawn yma, Gweinidog. Mae'r sector lled-ddargludyddion yn hynod o bwysig, ac fel un a anwyd ac a fagwyd yng Nghasnewydd, rwy'n falch bod Casnewydd wrth galon y clwstwr y sonioch chi amdano. Fel y dywedoch chi, mae ehangu gweithrediad KLA yng Nghasnewydd—cam a fydd yn creu cannoedd o swyddi newydd—yn newydd i'w groesawu yn sicr, ac edrychaf ymlaen yn fawr at glywed mwy am y cyfleoedd buddsoddi y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl eu gweld yn y flwyddyn i ddod.

Mae arfogi ein pobl ifanc â sgiliau yn gwbl hanfodol o ran y sector sy'n tyfu. Rwy'n gwybod eich bod wedi sôn am brifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn eich datganiad, ond hoffwn wybod yn benodol, Gweinidog, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyd-Aelodau a'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod gan y clwstwr y sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau i dyfu a datblygu'r sector ymhellach.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd strategaeth lled-ddargludyddion cenedlaethol Llywodraeth y DU yn cefnogi sector de Cymru ac yn helpu i sicrhau safle'r DU fel uwchbŵer gwyddoniaeth a thechnoleg byd-eang. Bydd y strategaeth hefyd yn golygu y bydd y Llywodraeth yn buddsoddi hyd at £1 biliwn yn y degawd nesaf, a hyd at £200 miliwn rhwng 2023 a 2025. Dyma rai o'r camau niferus y mae'r DU yn eu cymryd i gefnogi'r sector lled-ddargludyddion a'r diwydiant. Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael yn bersonol gyda Llywodraeth y DU am y strategaeth?

Mae'r newyddion bod Vishay yn cymryd rheolaeth o Newport Wafer Fab i'w croesawu'n fawr, a gobeithio y bydd yn nodi diwedd cyfnod arbennig o ansicr i'w staff. Roeddwn i wrth fy modd yn cwrdd â chymdeithas staff Nexperia Casnewydd cyn y Nadolig, yma yn y Senedd, ac mae'n rhaid imi ddweud llongyfarchiadau mawr i'm cyd-Aelod Jayne Bryant am drefnu digwyddiad mor wych. Mae'n amlwg eu bod yn ystyried buddsoddiad Vishay yn arwydd enfawr o hyder. Felly, hoffwn wybod a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau diweddar gyda Llywodraeth y DU am y mater hwn yn benodol.

Mae'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg wedi sefydlu panel cynghori lled-ddargludyddion, sy'n cynnwys arbenigwyr yn y diwydiant, i helpu i dyfu'r sector. Felly, Gweinidog, pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael, os o gwbl, gyda'r panel ei hun, ac a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sefydlu rhywbeth tebyg yma yng Nghymru? Ddiwedd y llynedd, lansiodd Llywodraeth y DU ei rhaglen ChipStart hefyd, sy'n rhoi cymorth i fusnesau newydd ddatrys problemau cymhleth trwy ddylunio sglodion lled-ddargludyddion gyda chymorth i dyfu. Mae deuddeg cwmni wedi ymuno â'r cynllun, a fydd yn y pen draw yn rhoi'r cymorth technegol a masnachol sydd ei angen arnyn nhw i gael eu cynhyrchion newydd i'r farchnad. Felly, Gweinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu â hynny, i helpu'r sector i dyfu ymhellach yma yng Nghymru?

Hoffwn hefyd wybod pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau newydd wrth symud ymlaen. Mae llawer i fod yn gyffrous amdano, gobeithio, ac rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn hedfan yma, acw ac i bobman ar wahanol deithiau masnach, ond beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu buddsoddiad i Gymru? A thra eich bod ar y teithiau masnach hyn, Gweinidog, hoffwn wybod yn wirioneddol, yn ddiffuant, pa arfer gorau rydych chi wedi'i ddysgu o'r gwledydd hyn hyd yn hyn. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch. Rwy'n falch o ailbwysleisio wrth yr Aelod bod gan y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, CSconnected, a'r rhanbarth ehangach, ddull cydgysylltiedig iawn. Maen nhw'n cydnabod, ar draws yr holl feysydd hynny, y potensial ar gyfer twf pellach yn y sector hwn. Ac un o'r cyfleoedd sydd gennym yw bod y clwstwr yn gymharol unigryw yn y sector cyfansawdd ar hyn o bryd. Yr her, a'r risg, serch hynny, yw na fydd gweddill y byd yn sefyll yn llonydd, a dyna pam mae angen i ni gael mwy o fuddsoddiad i'r sector. Dyna pam rwy'n rhoi blaenoriaeth mor uchel i'n perthynas rhwng y Llywodraeth, y brifddinas-ranbarth, ac, yn wir, y diwydiant ei hun. Dyna pam rydw i wedi cwrdd â nifer o gwmnïau yn y sector yn uniongyrchol, a dyna pam, ar y nifer cyfyngedig o deithiau masnach yr wyf wedi bod arnyn nhw, mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn aml wedi bod yn rhan o'r sgwrs.

Pan edrychwch chi ar y pwyntiau a wnaethoch chi am strategaeth y DU, rwy'n gwerthfawrogi pam eich bod mor gadarnhaol â phosibl ynghylch y strategaeth. Cymerodd amser hir i gyrraedd yno. Mae'n wirionedd syml bod y newid dro ar ôl tro mewn Gweinidogion y DU, o ddechrau dweud y byddai yna strategaeth i'r adeg y cafodd ei chyhoeddi mewn gwirionedd, yn un o'r ffactorau a achosodd broblem a gawsom. Ac os ydych chi'n cael sgwrs onest gyda Gweinidog y DU, mae'n debyg y byddwch chi'n cydnabod y byddai rhywfaint mwy o sefydlogrwydd wedi golygu y byddai'r strategaeth wedi digwydd yn gynharach.

Yr her arall yw'r adnodd o'i chwmpas hefyd. Oherwydd nid yw £1 biliwn dros 10 mlynedd yn swm sylweddol o gyfalaf ychwanegol ar ei ben ei hun mewn sector sydd wir angen adnoddau ond a ddylai hefyd ddangos elw sylweddol iawn. Mae arnaf ofn dweud, ar hyn o bryd, nad oes arian newydd sy'n weladwy i mi o ganlyniad i'r strategaeth yma yng Nghymru. Ac eto, mewn gwirionedd, os yw'r strategaeth am fod yn llwyddiant, i helpu i dyfu'r sector, fel y byddai pobl ar draws y Siambr hon, ac eraill, eisiau ei weld, dydw i ddim yn gweld sut y gallwch chi wneud hynny heb weld buddsoddiad yn dod yma i Gymru, oherwydd ein cryfder sefydledig yn y DU a'n cydnabyddiaeth fyd-eang.

O ran sgwrs gyda Llywodraeth y DU, rwy'n credu ein bod o bosibl mewn lle gwell. Roedd fy sgyrsiau gyda'r Gweinidog blaenorol, Paul Scully, yn siomedig, a phan ddywedodd yn flaenorol, ac aeth allan o'i ffordd i ddweud, nad oedd gan Lywodraeth y DU ddiddordeb mewn creu Taiwan yn ne Cymru, roedd hynny'n anhygoel o ddi-fudd, ac ni chafodd groeso mawr gan y byd academaidd, y diwydiant na'r clwstwr. Rwy'n gobeithio y bydd partneriaeth fwy pwrpasol gyda Llywodraeth y DU. Mae fy mhenderfyniad ynghylch y parth buddsoddi ac annog mai dyma'r maes yr hoffwn ganolbwyntio arno yn ne-ddwyrain Cymru wedi'i gynllunio i'n helpu i gyrraedd yr un lle, lle mae sector twf sy'n cael ei gydnabod a chymorth ymarferol yn cael ei ddarparu iddo. Os a phan fydd mwy na geiriau cynnes yn unig, byddwn yn fwy na pharod i'ch diweddaru chi a'r Siambr ehangach.

Rwy'n falch iawn, er hyn, o'ch clywed yn cydnabod gwaith Jayne Bryant gyda'r gymdeithas staff yn Newport Wafer Fab. Mae'n newyddion da iawn bod Vishay wedi rhoi cynnig i'w brynu. Rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n dwyn ffrwyth. O ran y panel arbenigol ynghylch strategaeth y DU, mae prif weithredwr IQE ar y panel hwnnw, ac mae'n rhannu uchelgeisiau tebyg i Lywodraeth Cymru ynglŷn â bod eisiau gweld strategaeth sy'n helpu i ysgogi buddsoddiad ychwanegol a dull meddwl agored gan Drysorlys y DU yn awr ac yn y dyfodol ynghylch y swm y mae'n barod i'w fuddsoddi i gyflawni hyd yn oed mwy o fuddsoddiad. A byddwn yn parhau i gynnal y perthnasoedd sydd wedi'u sefydlu sydd gennym eisoes. Ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, oherwydd presenoldeb CSconnected, ac yn wir, busnesau a sectorau lled-ddargludyddion ehangach sy'n dibynnu arnynt yng ngweddill Cymru, nid oes angen i ni greu'r un panel hwnnw, oherwydd yn ei hanfod mae hwnnw gennym ni eisoes, sy'n dod â diwydiant, y byd academaidd, ac yn wir ein gwahanol ranbarthau yng Nghymru a Llywodraeth Cymru ynghyd. Mae'n fodel y mae gweddill y byd yn ceisio ei efelychu. Felly, gadewch i ni fanteisio ar ein sefyllfa bresennol, a manteisio'n llawn ar bobl a swyddi yn y dyfodol yma yng Nghymru.

15:35

Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae'r diwydiant lled-ddargludyddion yn rhan hanfodol o'r economi fyd-eang, ac mae'n dda gweld bod de Cymru yn gartref i un o'r clystyrau ar gyfer arloesi hynny y mae'r diwydiant yn dibynnu arnyn nhw. Un elfen o'r datganiad a oedd yn amlygu ei hun i mi, oedd yr hyn y gwnaeth y Gweinidog ei ddweud ynghylch yr angen i barhau i gynyddu swyddi da a sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau cywir. Fel y dywedodd, talent yn y dyfodol yw'r flaenoriaeth i'r diwydiant yn fyd-eang. Felly, sut ydyn ni'n cysoni hyn wedyn â'r hyn yr ydyn ni'n ei weld gyda phrentisiaethau yn y gyllideb ddrafft? Roedd gan y Gweinidog lawer i'w ddweud cyn y Nadolig o ran bod dyfodol pobl ifanc yn flaenoriaeth. Mae'n sôn am ei strategaeth eto heddiw. Ond rydyn ni'n gweld cynnig ar gyfer un o'r toriadau mwyaf i gyllid prentisiaethau ers dechrau datganoli. Mae'r rhai sy'n darparu prentisiaethau wedi bod yn glir ynghylch eu pryder o ran yr hyn y bydd hyn yn ei olygu ar gyfer y dyfodol.

Rydyn ni'n gwybod bod bwlch sgiliau yn bodoli a bod angen mynd i'r afael â hynny ar frys. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn arafu datblygiad economaidd. Mae'r Sefydliad Ffiseg yn dweud hynny wrthym ni mewn adroddiad diweddar ar y sector lled-ddargludyddion, gan dynnu sylw at y ffaith bod dwy ran o dair o arloeswyr ffiseg ledled y DU a phob sector wedi adrodd eu bod yn atal neu'n gohirio gweithgareddau arloesi oherwydd prinder sgiliau. Mae prentisiaethau'n darparu datrysiad hyfyw i'r bwlch sgiliau. Eto, mae'r Sefydliad Ffiseg yn dweud wrthym ni nad oes angen gradd ar fwy na 50 y cant o rolau sy'n gysylltiedig â ffiseg yn y DU, fel yn y diwydiant lled-ddargludyddion. Felly, o ystyried y bygythiad i gyllid prentisiaeth, sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod llwybrau ar gael i bobl ifanc i helpu i bontio'r bwlch sgiliau mewn diwydiannau fel y diwydiant lled-ddargludyddion?

Soniodd y Gweinidog hefyd am ymchwil, datblygu ac arloesi yn ei ddatganiad, ac mae'n hanfodol ar gyfer economi gynhyrchiol a chydnerth, ond mae Cymru yn gyson yn agos at y gwaelod o ran gwariant ymchwil, datblygu ac arloesi yn y DU. Yn ei chyflwyniad diweddar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ymchwil a datblygu, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn pwysleisio bod pob £1 o wariant cyhoeddus ar ymchwil, datblygu ac arloesi yn y pen draw yn ysgogi £2 o wariant gan y sector preifat. Mae Met Caerdydd hefyd yn dweud bod dyraniadau 2023-24 Cymru ym mhob un ond dwy ffrwd ariannu yn is nag argymhellion adolygiad Reid. Fe godais i'r mater hwn â'r Gweinidog bron i flwyddyn yn union yn ôl i heddiw, yn ystod ei ddatganiad ar ddatblygu clystyrau technolegol yma yng Nghymru, ac eto mae'r un mater yn parhau.

Pe bai Cymru'n gallu sicrhau cydraddoldeb mewn cyllid ymchwil, datblygu ac arloesi a bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fuddsoddi ymhellach yn ariannol drwy'r strategaeth arloesi yn ymchwil addysg uwch i gefnogi meysydd gwaith fel y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, byddai cyflymder datblygu'r diwydiant yng Nghymru, ein cystadleurwydd byd-eang a'r manteision i weithwyr Cymru ac economi Cymru yn cynyddu'n fawr. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y £3.2 miliwn o gyllid canlyniadol i'w dderbyn yn dilyn y cynnydd yng nghronfa arloesi prifysgolion Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd? Ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio cyllid o'r arian canlyniadol hwn i wyrdroi ei thoriadau arfaethedig i'w grantiau cymhelliant ôl-raddedig ar gyfer STEM, a fydd yn mynd yn bell i gefnogi ein huchelgeisiau o ran y diwydiant lled-ddargludyddion? 

15:40

Ar y pwynt olaf, fel y mae'r Aelod yn gwybod, unrhyw bryd y mae swm canlyniadol yn cael ei ddarparu, rydyn ni'n ystyried hynny'n ganolog ar draws y Llywodraeth ac yn meddwl am holl weithgareddau'r Llywodraeth. A dweud y gwir, rwy'n credu bod y pwynt ehangach yn dod â ni'n ôl i amrywiaeth y cwestiynau ariannol y gwnaeth ef sôn amdanyn nhw, ac, yn wir, ein strategaeth arloesi. Mae'n bwysicach fyth, oherwydd ein heriau cyllidebol, ein bod ni'n ennill hyd yn oed mwy o arian o ffynonellau'r DU nag yr ydyn ni wedi'i wneud o'r blaen. Mae hynny'n her, nid yn unig o fewn y byd academaidd, ond, mewn gwirionedd, o fewn y sector preifat hefyd, i sicrhau bod y partneriaethau hynny'n hynod effeithiol, a dyna pam mae'r cais Strength in Places yn enghraifft mor dda: 10 sefydliad gwahanol yn dod at ei gilydd i ennill £42 miliwn na fyddai wedi bod yma fel arall.

Rwy'n deall pam y mae'r Aelod yn nodi bod heriau cyllidebol i'r Llywodraeth hon. Pan gododd ef faterion yn ymwneud â chyllid gyda mi flwyddyn yn ôl, roedd ein sefyllfa gyllidebol, mewn gwirionedd, yn well nag y mae hi heddiw. Mae'r sefyllfa gyllidol a realiti lle yr ydym ni wedi gwaethygu, nid gwella. Mae datganiad yr hydref yn gwneud y rownd gyllidebol hon yr ydyn ni ynddi hyd yn oed yn waeth. Ac mae'n mynd yn ôl i'r her y gwnaeth y Prif Weinidog ei nodi, nid yn unig i allu dweud yn onest 'Pe bai gennym ni fwy o arian, gallen ni greu rhagor a gwneud rhagor' a byddai hynny'n rhoi pwrpas cadarnhaol gwirioneddol i Gymru, ond os oes blaenoriaethau ychwanegol yn mynd i fod, mae'n rhaid i ni ddeall sut y bydd yr arian hwnnw'n cael ei symud o gwmpas. Mae Cymru yn parhau i fod â llai o lais dros lai o arian, ac ni fyddaf i yn rhoi rhwydd hynt i'r Torïaid ar hynny ac yn ceisio sicrhau bod yr holl fai am y dewisiadau'r Torïaid hynny yn gorffen yma.

Pan ydych chi'n ystyried prentisiaethau, mae'n arbennig o berthnasol. Mae colli cronfeydd cynt yr UE a dinistrio rhaglenni Cymru gyfan yn fwriadol gan y Torïaid yn golygu nad oes arian ar gael nawr. Dyna pam y mae her y gyllideb mor anodd o ran prentisiaethau eleni. Ac yn fy adran i  fy hun, fe wnaethom ni ddewis bwriadol—fe wnes i'r dewis—i roi gwarchodaeth gymharol i brentisiaethau o'u cymharu â phob man arall. Mae hynny'n dal i olygu heriau eithriadol yng ngweddill yr adran. Nid oes dim o hynny, fodd bynnag, yn golygu ein bod ni'n mynd i weld llai o werth yn yr arian yr ydyn ni'n ei wario. Mae'n bwysicach fyth, fel y gwnes i ei nodi, ein bod ni'n ennill mwy o werth am yr arian hwnnw. 

Fel y dywedodd y Prif Weinidog, byddwn ni'n dal i fuddsoddi mewn prentisiaethau yn ystod y flwyddyn nesaf. Byddwn ni'n dal i fuddsoddi ochr yn ochr â'r sector hwn ymhellach mewn ymchwil a datblygu, ymhellach mewn cyfleoedd gwaith. Ac, mewn gwirionedd, mae'r sector ei hun yn obeithiol ynghylch cynyddu nifer y swyddi sydd ganddo yn ystod y blynyddoedd nesaf. Yr hyn y mae hyn oll yn ei amlygu yw, os ydy ein cyfleoedd agosach a mwy hir dymor yn mynd i gael eu gwireddu, mae angen partneriaeth wahanol arnon ni â Llywodraeth y DU. O ran hynny, mae positifrwydd gwirioneddol ar gyfer y dyfodol, nid dim ond fi yn dweud fel gwleidydd Llafur 'Rwyf i eisiau gweld cyd-weithwyr yn San Steffan yn y Llywodraeth', ond mae'n mynd yn ôl i'r addewid sydd eisoes wedi'i wneud. Bydd cronfeydd i gymryd lle cronfeydd yr UE a rheolaeth drostyn nhw'n dod yn ôl i Gymru, lle dylen nhw fod wedi bod erioed—y cronfeydd hynny a'r pwerau hynny a gafodd eu dwyn oddi arnom ni gan y Torïaid. Mae'n un rheswm da eto i bleidleisio dros Lafur yn etholiad cyffredinol nesaf y DU, na all ddod yn ddigon buan.

15:45

Gweinidog, diolch yn fawr iawn am y datganiad hwn heddiw, sy'n tynnu sylw at natur gadarnhaol iawn y diwydiant lled-ddargludyddion i Gymru, ac yn enwedig i dde-ddwyrain Cymru ac, yn wir, etholwyr fy nghyd-Aelod, Jayne Bryant a minnau ac awdurdodau cyfagos eraill, oherwydd gwyddom fod y diwydiant wir yn darparu swyddi o ansawdd uchel iawn, sy'n cael eu gwobrwyo'n dda. Ac, fel y dywedwch, mae potensial mor fawr ar gyfer twf uchel a'r dwysedd ymchwil a datblygu y gwnaethoch sôn amdano, ac mae natur dan arweiniad allforion y diwydiant i gyd yn gadarnhaol dros ben, rwy'n credu, ar gyfer y dyfodol. 

Nodaf fod y llywydd a phrif weithredwr Vishay, wrth wneud sylwadau ar eu pryniant o Nexperia, wedi tynnu sylw at y clystyrau yn ne Cymru, Gweinidog, a bwriad y cwmni i gydweithio â'r clwstwr ac ymuno â'r rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu'r diwydiant lled-ddargludyddion yn y DU gyfan, ond yn amlwg i ni yn enwedig yn ne Cymru. Felly, tybed a oes unrhyw beth y gallech ei ddweud am bwysigrwydd hynny a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cydweithio hwnnw a'r bartneriaeth allweddol honno. 

A hefyd, fel y gwnaethoch sôn am y posibilrwydd o gael Llywodraeth Lafur yn y DU, gwyddom fod adroddiad Gordon Brown yn eithaf trwm ar gefnogi'r cryfderau economaidd sydd gennym ar hyn o bryd mewn mannau fel Cymru, yr Alban a gogledd Lloegr, Gweinidog, ac yn amlwg mae'r diwydiant lled-ddargludyddion yn rhan allweddol o hynny. Felly, a ydych chi eisoes yn trafod gyda chydweithwyr sut y byddem wedi cychwyn arni gyda'r cydweithrediad hwnnw rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion yn ne-ddwyrain Cymru yn nyddiau cynnar y Llywodraeth Lafur newydd honno yn y DU?

Diolch. O ran Vishay a'r clwstwr, rwy'n falch iawn o ddweud nid yn unig fy mod wedi cyfarfod yn uniongyrchol â chynrychiolwyr y cwmni, bod fy swyddogion wedi cael ymgysylltiad pellach ac, yn wir, gyda'r clwstwr ehangach, ac rydym wedi ymgymryd â nifer o gyflwyniadau gyda rhanddeiliaid a phartneriaid gwahanol. Ac roedd yn un o'r pethau a'u denodd yma: eu bod eisoes wedi gweld clwstwr cysylltiedig ac integredig a oedd yn gweithredu a'u bod eisiau bod yn rhan gadarnhaol ohono. Ac nid eu barn nhw yw efelychu'r holl fusnesau sydd yno nawr, mae ganddynt uchelgais i wneud gwahanol bethau a allai ychwanegu gwerth ychwanegol, ac roeddent yn arbennig o awyddus i gael gweithlu ymroddedig a medrus i weithio gyda nhw. Ac mae'r farn hirdymor honno ar fuddsoddiad yn rhywbeth y mae ei angen arnom ym mhob rhan o'r clwstwr hwn i gydnabod nid yn unig y cyfleoedd yn ystod y 12 i 15 mis nesaf ond mewn gwirionedd i gydnabod mai dyma'r sector twf am sawl blwyddyn i'r dyfodol. Ac, unwaith eto, mae hynny'n sail i'm dewis i edrych ar y clwstwr hwn a'r ddaearyddiaeth hon ar gyfer y parth buddsoddi. 

O ran perthynas â Llywodraeth wahanol y DU yn y dyfodol, rwy'n falch o ddweud fy mod wedi arwain y trafodaethau a gafodd yr ymrwymiad i ddychwelyd y pwerau a'r arian i Gymru pe bai gennym Lywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd gen i rôl fwy arwyddocaol yn y dyfodol yn y trafodaethau hynny. Cawn weld beth sy'n digwydd. Rwy'n credu y gallwch fod yn hyderus, serch hynny, bod y sgyrsiau hynny'n digwydd eisoes, gyda phreswylwyr posibl Rhif 10 a Rhif 11, ond hefyd o amgylch strategaeth ddiwydiannol yn y dyfodol, lle y lled-ddargludyddion a'r clwstwr daearyddol hwn o fewn hynny fel clwstwr sylweddol yn y DU hefyd. Felly, rydym eisoes yn cael y sgyrsiau hynny hefyd, ac mae cydnabyddiaeth bod hyn yn arwyddocaol nid yn unig i Gymru ond i'r DU, ac mae ei arwyddocâd byd-eang yn cael ei gydnabod hefyd. Rwy'n credu, fel y dywedais yn fy natganiad, ei fod yn llwyddiant gwirioneddol i Gymru. Dylem fod yn llawer mwy balch o rywbeth yr ydym yn gwneud llawer iawn ag ef, ac rwy'n credu y bydd mwy i'w ddathlu yn y dyfodol. 

Fe wnaf fy nghyfraniad yn fyr, oherwydd rwyf am dynnu sylw at bwysigrwydd y diwydiant lled-ddargludyddion yn fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru. Mae'n bwysig oherwydd y Newport Wafer Fab. Yn anffodus, mae'r safle hwn wedi dioddef ychydig o flynyddoedd cythryblus. Ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd, roedd y gweithlu'n dechrau edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair pan gafodd ei gaffael gan gwmni technoleg Nexperia o'r Iseldiroedd, is-gwmni o Shanghai Wingtech, yn 2021. Yn dilyn adolygiad gan y Llywodraeth Dorïaidd, gorchmynnwyd Nexperia i werthu 86 y cant o'i chyfran i, ac rwy'n dyfynnu, lliniaru'r risg i ddiogelwch cenedlaethol. Yn anffodus, dilynodd diswyddiadau. Diolch byth, tua diwedd y llynedd, daeth cwmni Americanaidd Vishay i mewn i gaffael y safle, mewn bargen a gofnodwyd yn werth $177 miliwn. Er hynny, mae mwy o fuddsoddiad yn y safle a chynnydd sylweddol yn y gweithlu yn obaith gwirioneddol o ganlyniad. Yr unig faen tramgwydd, unwaith eto, yw Llywodraeth San Steffan, sy'n ymddangos fel pe bai'n llusgo'i thraed o ran cymeradwyo'r trosglwyddiad. Rwyf i a Delyth Jewell wedi annog San Steffan i roi'r gorau i osgoi y mater a chymeradwyo'r cytundeb i roi'r sicrwydd swyddi y mae gweithwyr ar y safle yn dyheu amdano, a chaniatáu i'r buddsoddiad a addawyd i'r safle ddechrau.

Gweinidog, a allwch chi ymhelaethu ar ba drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'ch swyddogion cyfatebol yn San Steffan i sicrhau bod y fargen hon yn digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac a ydych chi hefyd yn rhannu fy rhwystredigaeth bod tynged elfen allweddol o economi Cymru yn cael ei bennu gannoedd o filltiroedd i ffwrdd gan fyrdd o Weinidogion newidiol mewn sefydliad nad yw wedi rhoi anghenion ein gwlad yn gyntaf yn draddodiadol? Diolch.

15:50

Rwy'n credu mai'r pwynt cyntaf ynghylch y berchnogaeth flaenorol oedd fy mod bob amser yn glir na fyddai'r ystyriaethau diogelwch cenedlaethol yn ôl yr hyn yr oeddwn yn ei ddeall byth yn cael eu rhannu â Gweinidogion Cymru. Roedd fy rhwystredigaeth, fel rwyf wedi dweud sawl gwaith yn y Siambr, ac yn wir mewn sgwrs uniongyrchol â Gweinidogion y DU, yn ymwneud â'r amser a gymerodd i'w adolygu. Rwy'n credu nad oedd y ddealltwriaeth p'un a oedd y berchnogaeth ochr Tsieineaidd yn risg neu beidio—nid yw'r man cychwyn yn un anodd, ond roedd yr amser a gymerodd yn rhwystredig iawn, a gwn fod y gweithlu yn teimlo hynny hefyd, fel yn wir gwnaeth y gymdeithas staff yn hollol glir ar sawl achlysur. Gallwn edrych ymlaen gyda rhywfaint mwy o hyder oherwydd mae Vishay wedi rhoi cynnig sydd wedi ei dderbyn, yn ogystal â Llywodraeth y DU sydd angen gwneud dewis, ac mae'r amserlen ar gyfer y dewis hwnnw bron a dod i ben. Felly, mewn gwirionedd, ar y mater hwn, nid ydyn nhw'n llusgo'u traed ar hyn o bryd. Mae hefyd yn ymwneud â hawliau rhagbrynu y sylfaenydd blaenorol hefyd. Felly, mae nifer o ddarnau symudol y mae angen eu datrys.

Rwyf wedi nodi'n glir iawn ar y dechrau pan gyhoeddodd Vishay yr hyn yr oeddent am ei wneud, ac wedi hynny rwyf eisiau i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad prydlon i ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac i sicrhau bod y cyfleoedd sy'n bodoli yn cael eu cymryd mewn gwirionedd. A does dim syndod bod pobl yn siarad am Vishay. Soniodd Natasha Asghar yn gynharach am y digwyddiad wnaeth Jayne Bryant ei gyd-drefnu gyda'r gymdeithas staff. Soniodd John Griffiths am Vishay hefyd. Mae yna amrywiaeth o bobl sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd yn Newport Wafer Fab sydd mewn nifer o etholaethau gwahanol, ac yn wir mae cyfle am fwy dros y tymor canolig os, fel y credwn y byddwn yn ei wneud, y gallwn barhau i gefnogi a thyfu'r sector.  

Diolch, dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad cadarnhaol iawn y prynhawn yma. Mae sector lled-ddargludyddion de Cymru wedi dod â chyfleoedd a channoedd o filiynau o bunnau o fuddsoddiad ar gyfer swyddi medrus iawn, lleol â chyflog da yng Nghasnewydd, yn benodol. Ac mae buddsoddiad diweddar yn y sector wedi cael ei gefnogi gan gefnogaeth gadarn Llywodraeth Cymru. I'r gwrthwyneb, fel yr ydym wedi clywed, mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi creu cyfnod hir o ansicrwydd, yn enwedig yn fy etholaeth, yn Newport Wafer Fab, a chawsom y newyddion da hynny cyn y Nadolig am y buddsoddiad hwnnw gan Vishay, sydd i'w groesawu'n fawr. 

Ond hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei gefnogaeth a'i ymgysylltiad drwy gydol y broses hon, ac yn enwedig dros y misoedd diwethaf, a gwn y byddai'r gymdeithas staff, y cyfarfu â hi yma yn y Senedd, yn falch fy mod wedi cofnodi hynny hefyd, oherwydd mae diogelu dyfodol y gweithlu medrus iawn hwn yn dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn twf a chyfleoedd cynaliadwy hirdymor. 

Rwy'n falch iawn ei fod wedi sôn am KLA yng Nghasnewydd, sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac sy'n ehangu i'm hetholaeth. Unwaith eto, mae'n gam cadarnhaol iawn ymlaen, ac mae hyrwyddo amrywiaeth hefyd yn bwysig ar gyfer twf y sector hwnnw yn y dyfodol. Rhaid i ni weithredu i sicrhau bod mwy o bobl, yn enwedig menywod a merched, yn gweld y sector fel llwybr at yrfa wych. Roedd hyn yn rhywbeth y cefais drafodaeth arno gyda'r uwch reolwyr yn KLA pan gyfarfûm â hwy yn ddiweddar, a gwn eich bod wedi gwneud rhywfaint o waith o gwmpas hynny gyda nhw hefyd. Efallai y gallwch ddweud ychydig mwy am sut y gallwn gynyddu'r amrywiaeth honno o fewn y sector, a hefyd i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos yn gwybod bod hwn yn gyfle gwirioneddol ar gyfer swyddi medrus o ansawdd da yn ein hardal. 

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, yn enwedig y math o sylwadau a ddaw gan y gymdeithas staff. Mae'r gymdeithas staff bob amser wedi creu argraff arnaf pan fyddaf yn cwrdd â nhw, nid oherwydd y ffaith eu bod yn drefnus yn unig, ond bod ganddynt ddealltwriaeth wirioneddol nid yn unig am eu swyddi, ond am y sector ei hun a'r gwahanol ffactorau ynddo. Rwy'n credu mai un o'r pethau yr ydym wedi gallu ei gynnig yn bendant gan Lywodraeth Cymru yw eglurder a sefydlogrwydd yn yr arweinyddiaeth a ddarparwyd gennym yma, a'r ffordd yr ydym wedi gweithio gyda phartneriaid eraill. Ac mae'n werth myfyrio ein bod yn sôn am glwstwr yn ne-ddwyrain Cymru, y mae llawer ohono yn etholaeth yr Aelod, ond mae hwn yn sector sydd â chyrhaeddiad eang iawn ledled Cymru. Os ydych chi'n meddwl am y gwaith y mae Jack Sargeant a Carolyn Thomas yn sôn amdano gyda'r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Prosesu Signalau Digidol ym Mhrifysgol Bangor, ac yn wir y ganolfan ffotoneg ym Mhrifysgol Wrecsam—mae'n ddibynnol ar led-ddargludyddion, ac mae perthynas uniongyrchol gydag ystod o'r bobl yn y clwstwr. Mae hefyd yn uniongyrchol berthnasol i'r sector gweithgynhyrchu uwch.

Felly, mewn gwirionedd, mae hyn yn rhan o beth fydd yn pweru'r dyfodol, ac y dylai'r dyfodol hwnnw gael ei greu gan ddynion a menywod sy'n gweithio gyda'i gilydd. Ar hyn o bryd mae'r sector hwn yn parhau i fod yn un gyda mwyafrif uchel iawn yn ddynion, ac mae'n rhan o'r sgwrs rydyn ni wedi'i chael. Rwy'n credu mai'r pwynt diddorol yw bod KLA eu hunain yn cydnabod bod angen iddynt wneud mwy. Mae'r pencadlys yng Nghaliffornia yn gweld amrywiaeth fel cryfder, nid risg, a phan ymwelais â'r bwrdd yng Nghaliffornia roeddent yn glir ynghylch eu huchelgais i ehangu, ond hefyd cydnabod yr angen i gael yr amrywiaeth hwnnw yn y gweithlu. Maen nhw'n deall, er mwyn cael y staff sydd eu hangen arnyn nhw i helpu i bweru'r dyfodol, mae dim ond recriwtio o hanner y boblogaeth yn ei gwneud hi'n llawer anoddach i'w wneud, ac yn wir mae hwn yn sector lle nad yw'r farn draddodiadol amdano yn cyd-fynd â'r swyddi sy'n bodoli nawr. Mae'n waith glân iawn, mae'n aml yn fedrus iawn, nid yw'n gorfforol anodd yn y ffordd y mae pobl yn gweld gwahanol swyddi ar gyfer dynion a menywod yn draddodiadol. Mae hwn mewn gwirionedd yn sector lle mae llawer o fenywod yn dechrau mynd i mewn iddo, ond mae'n ymwneud â'u cael nhw a'u cadw yn y sector. Dyna pam, pan gyfarfûm â phobl yn yr Almaen, ac yn wir yn y sefydliad lled-ddargludyddion yn y DU a lansiwyd yma yng Nghaerdydd ychydig cyn y Nadolig, roeddent wir yn pwysleisio'r hyn y maen nhw'n ei wneud i edrych ar y dyfodol. Mae ganddyn nhw raglen sy'n edrych ar 30 o dan 30—30 o arweinwyr y dyfodol sydd o dan 30—ac mae dau o enillwyr y rhaglen honno ledled y DU o Gymru yn fenywod ifanc sy'n dangos yr hyn y gallant ei wneud. Dyma fwy o enghreifftiau o fenywod yn llwyddiannus ac yn cael eu cydnabod ac yn gweld gyrfa dda yn y sector, fel rhan o'r hyn sydd ei angen arnom, yn ogystal â gwneud yn glir mai gyrfa i bob un ohonom yw hon, a gyrfa mewn sector a ddylai olygu llawer iawn i Gymru gyfan yn y dyfodol. 

15:55
5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: Cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr

Eitem 5 yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr. A galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi economi ymwelwyr fywiog drwy gydol y flwyddyn ledled Cymru, tra hefyd yn helpu i sicrhau cymunedau ffyniannus mewn economi sy'n newid yn gyflym. Rydym yn cydnabod sut mae'r ddau ganlyniad yn dibynnu ar ei gilydd. Mae hyn yn ffocws allweddol yn ein strategaeth dwristiaeth, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020-2025'. Fodd bynnag, mae'r farchnad gwyliau yn newid yn gyflym. Prin y gellir adnabod y ffordd y mae pobl yn archebu, yn aros ac yn cynnal teithiau ledled y byd o'i gymharu â dechrau'r ganrif hon. Mae twf llwyfannau archebu ar-lein wedi dod â llawer o fanteision, megis llwybrau newydd i'r farchnad a mwy o ddewis. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o bryderon am yr effaith y gall rhai tai dros dro ei chael ar stoc tai mewn cymunedau ac ynghylch cydymffurfiaeth anghyson â gofynion cyfreithiol.

Mae'r dasg o gydbwyso buddiannau economi ymwelwyr llwyddiannus â chymunedau lleol ffyniannus wedi arwain at ddiwygiadau gan lywodraethau ledled y DU, Ewrop a thu hwnt. Un o'r camau rydym yn eu cymryd, drwy ein cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru a'n rhaglen ddeddfwriaethol, yw cyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr. Yr haf diwethaf cyhoeddais ganlyniadau ein hymgynghoriad ar gyfer y cynllun. Ers hynny, rydym wedi parhau i wrando ar ein rhanddeiliaid, gan gynnwys busnesau, cymunedau ac ymwelwyr. Mae'r sgyrsiau hyn wedi ein helpu i ddatblygu ein cynigion.

Rwy'n falch o gyhoeddi mai ein bwriad yw datblygu cynllun lle mae'n rhaid i bob darparwr llety ymwelwyr fodloni gofynion penodol i weithredu. Rydyn ni eisiau dangos i ymwelwyr â Chymru y pwysigrwydd rydyn ni'n ei roi ar eu diogelwch, a'r safonau rydyn ni'n eu disgwyl yn y sector twristiaeth—safonau y bydd llawer yn y sector eisoes yn cydymffurfio â nhw.

Pwrpas y datganiad hwn heddiw yw rhoi diweddariad—nid manylion llawn—o'n taith hyd yma i sefydlu cynllun. Ym mis Gorffennaf fe wnaethom gyhoeddi canfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch sut y gallai cynllun trwyddedu weithio. Ar yr un pryd, gwnaethom gyhoeddi adroddiad o sesiynau ymgysylltu a gynhaliwyd gennym gyda'r sector, i drafod agweddau technegol y cynllun arfaethedig. Yn ogystal, ym mis Medi gwnaethom gynnal arolwg i gasglu dealltwriaeth defnyddwyr i sut y gallai cynllun statudol effeithio ar ganfyddiadau ymwelwyr o'r cynnig llety yng Nghymru. Mae'r adroddiad 'Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr: barn defnyddwyr a phreswylwyr', a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn amlygu materion pwysig na allwn eu hanwybyddu ac y byddwn yn ceisio mynd i'r afael â nhw trwy ein cynigion.

Mae'r adroddiad yn dangos, ymhlith trigolion ledled Cymru, bod tri o bob pump—sef 59 y cant—yn credu bod ganddyn nhw 'rywfaint' neu 'lawer o' dwristiaeth yn eu hardal. O'r trigolion hynny, yr effaith gadarnhaol ganfyddedig fwyaf—69 y cant—oedd i'r economi leol. Ond mae'r cynnydd hwnnw hefyd wedi arwain at rai effeithiau negyddol, megis cynnydd canfyddedig mewn sbwriel neu lygredd, anhawster wrth barcio yn yr ardal neu anhawster i bobl leol allu dod o hyd i dŷ fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu yn eu cymuned. Yn yr un modd, roedd 89 y cant o ymwelwyr â Chymru a arolygwyd o'r farn ei bod yn bwysig bod y llety y maent yn aros ynddo yn gweithredu'n ddiogel. Roedd y gallu i godi pryderon neu gwynion am safonau yn bwysig i 76 y cant o ymwelwyr. Felly, ein bwriad yw cyflwyno deddfwriaeth i'r Senedd cyn diwedd y flwyddyn i sefydlu cynllun cofrestru a chynllun trwyddedu. Ac mae'n fwriad gennym weithredu hyn fesul cam.

Y cam cyntaf fydd cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob darparwr llety. Bydd y gofrestr yn rhoi data a gwybodaeth bwysig i ni nad yw ar gael ar hyn o bryd. Bydd y data a gesglir drwy gofrestru yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i ni am bwy sy'n gweithredu yn y sector, ble maent yn gweithredu, a sut maent yn gweithredu. A bydd hyn yn ein helpu i ddeall y sector yn well a llywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol ar lefel leol a chenedlaethol.

Bydd cofrestr hefyd yn ein cynorthwyo i gyfathrebu ac ymgysylltu'n uniongyrchol â'r sector i rannu arfer gorau ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ofynion presennol amrywiol. Yn ogystal â hyn, bydd yn cefnogi gweithredu ymrwymiad cytundeb cydweithredu arall: cyflwyno ardoll ymwelwyr. Rydym am sicrhau nad ydym yn achosi unrhyw ddyblygu na baich gweinyddol ychwanegol i'r sector. A bydd gennym hyn mewn golwg pan fyddwn yn dylunio'r gwasanaeth ar gyfer yr ardoll ymwelwyr a'r cynllun cofrestru. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod digon o rybudd a chefnogaeth yn cael eu rhoi i ddarparwyr llety ar y broses gofrestru. Ac rydym yn cynnig proses gofrestru syml ar-lein a fydd yn dal manylion sylfaenol llety ymwelwyr.

Unwaith y bydd y cynllun cofrestru wedi'i sefydlu'n llawn, ein bwriad wedyn yw datblygu cynllun a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i lety ymwelwyr gael ei drwyddedu i weithredu. Bydd hyn yn seiliedig ar ofynion diogelwch i ddechrau, cyn symud ymlaen i drwyddedu yn seiliedig ar safonau ansawdd yn ddiweddarach. Yn unol ag ymrwymiad y cytundeb cydweithio, rydym yn bwriadu canolbwyntio ein hymdrechion trwyddedu i ddechrau ar osodiadau tymor byr y gellid eu defnyddio fel llety preswyl. Mae hyn yn cydnabod yr anghyfartaledd presennol mewn rheoleiddio rhwng y sector rhentu preifat a gosodiadau tymor byr a'u perthynas â ffactorau ehangach fel fforddiadwyedd ac argaeledd tai, yn enwedig i'w rhentu, i bobl leol.

Credwn y bydd y dull tri cham hwn yn helpu i wella safonau diogelwch ac ansawdd ac, o ganlyniad, apêl ac enw da llety ymwelwyr. Bydd bod â dull a fydd yn sefydlu llinell sylfaen y mae'n rhaid i bob darparwr ei bodloni mewn perthynas â diogelwch ac ansawdd, cyn gallu gweithredu, yn cyfleu neges gadarnhaol i'n hymwelwyr ac yn helpu i wella hyder defnyddwyr. Y bwriad yw y bydd ffi drwydded yn berthnasol, gyda gofyniad i adnewyddu'r drwydded honno o bryd i'w gilydd.

Bydd y Senedd, wrth gwrs, yn cael cyfle i graffu ar y ddeddfwriaeth a'r costau cysylltiedig pan gyflwynir y Bil sy'n cwmpasu cynllun cofrestru a thrwyddedu. Mae'r diwygiadau arfaethedig yn cynnwys lefel newydd o ddarparu gwasanaethau sy'n cynnwys swyddogaethau ychwanegol a fydd yn gofyn am adnoddau pwrpasol i sefydlu systemau newydd, yn enwedig at ddibenion arolygu nifer fawr o adeiladau llety ymwelwyr ledled Cymru. O ganlyniad, bydd angen i bob cam gweithredu ystyried ystyriaethau cyllidebol ac ymarferol eraill. Mae gwaith pellach yn cael ei wneud i sicrhau bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhoi eglurder i'r Senedd ar y dull o weithredu.

Mae busnesau yn yr economi ymwelwyr wedi dangos gwytnwch aruthrol drwy heriau digynsail yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn cydnabod sut mae ei lwyddiant yn rhan annatod o argraffiadau domestig a rhyngwladol o Gymru. Fel llawer o wledydd eraill, rydym hefyd yn cydnabod bod llwyddiant yr economi ymwelwyr yn dibynnu ar gymunedau cydlynol lle gall gwesteion, lleoedd ac ymwelwyr fod â mwy o hyder mewn marchnad sy'n newid yn gyflym. Mae'r mewnbwn gan y sector, ymwelwyr a chymunedau wedi bod yn amhrisiadwy i'n gwaith hyd yma a byddwn yn parhau â'r ymgysylltiad hwn wrth i ni ddatblygu'r cynllun. Diolch yn fawr.

16:05

A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad? Byddwch yn cofio, pan wnaeth Gweinidog yr economi, a oedd yn gyfrifol am dwristiaeth ar y pryd, ddechrau'r broses o gyflwyno cynllun cofrestru, dywedais nad oeddwn yn credu ei fod yn syniad gwael mewn egwyddor, ynddo'i hun, ac roeddwn yn gobeithio y byddai cynllun o'r fath yn gwneud rhai o'r pethau, er tegwch, yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw heddiw—rhai o'r pethau isafswm sylfaenol hynny, ond hefyd yr hyrwyddo a'r gallu i Lywodraeth Cymru gysylltu â'r busnesau hynny hefyd. 

Ond, er y gellid cyflwyno'r cynllun hwn gyda'r bwriadau gorau, lle rydym wedi ei weld yn cael ei gyflwyno mewn mannau eraill, rydym wedi gweld pa mor hawdd y gall gyflawni'r canlyniadau i'r gwrthwyneb i'r amcanion rydych chi wedi'u nodi heddiw. Felly, pan fo cynllun tebyg—rhaid cyfaddef, ychydig yn wahanol, rwy'n credu, i'r hyn rydych chi'n bwriadu ei gyflwyno, ond fe gyflwynwyd cynllun tebyg—yn yr Alban, er enghraifft, yr hyn y gwelsom ni yn y pen draw oedd amgylchedd cymhleth a beichus i ddarparwyr llety ymwelwyr weithredu ynddo. Yn Ffrainc, roedd cynlluniau trwyddedu yn ei gwneud hi'n afresymol o ddrud gweithredu fel darparwr llety bach, ac yn yr Eidal gostyngodd nifer y busnesau a'r ymwelwyr. Felly, Dirprwy Weinidog, pa wersi rydych chi wedi'u dysgu o enghreifftiau rhyngwladol lle mae'r cynllun cofrestru hwn wedi'i gyflwyno a sut byddwch chi'n osgoi'r peryglon y mae gwledydd eraill wedi'u profi?

Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog wedi gadael y gath allan o'r cwd, a dweud y gwir, yn y datganiad pan gyfeiriodd hi at y cynllun cofrestru fel y cam angenrheidiol cyntaf yn y daith tuag at gyflwyno treth twristiaeth. Os ydw i wedi ei ddweud unwaith, rwyf wedi dweud hynny filiwn o weithiau yn y Siambr hon: mae un o bob saith o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi yn y sector twristiaeth a lletygarwch, ac mae treth ar dwristiaeth yn dreth ar swyddi. Gwyddom hefyd fod rhywle fel Fenis—cyflwynwyd treth dwristiaeth yno i geisio mynd ati i leihau nifer y twristiaid sy'n ymweld â Fenis, felly byddwn yn gobeithio nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r dreth yn y gobaith o ddilyn yr un drefn a chael llai o ymwelwyr yma yng Nghymru. Yn wir, archwiliodd Llywodraeth ranbarthol y Costa del Sol y syniad o gyflwyno treth dwristiaeth, a chanfuon nhw y byddai'n niweidio'r diwydiant twristiaeth yno a phenderfynu yn erbyn ei chyflwyno. Hoffwn pe baem wedi bod â'r un rhagolwg yma.

Yn wir, fe wnaethoch chi sôn dro ar ôl tro yn eich datganiad am sicrhau chwarae teg yn y sector twristiaeth, ond sut fyddwch chi'n sicrhau chwarae teg rhwng y darparwyr twristiaeth hynny yng Nghymru a fydd yn cael eu gorfodi i wneud ymweliadau'n ddrytach trwy ychwanegu treth twristiaeth a'r rhai dros ein ffin ac mewn mannau eraill na fydd yn talu'r dreth?

Mae'r dreth dwristiaeth, wrth gwrs, yn un o lawer, yn anffodus, o fesurau gwrth-dwristiaeth a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Yn hytrach na chefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, fel y mae ein cynllun Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud, mae Llywodraeth Lafur Cymru am ei drethu yn lle hynny. Fe wnaeth llawer yn y sector ddilorni yn gyhoeddus cyflwyno rheol greulon 182 diwrnod Llywodraeth Cymru ar gyfer eiddo gosod gwyliau hunanarlwyo, sydd eisoes yn niweidio'r sector trwy eu gorfodi i dalu trethi uwch. Ond, wrth sôn am y dreth ddadleuol honno o 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo, dim ond 1 y cant o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad a fu cyn cyflwyno'r polisi penodol hwnnw oedd yn cefnogi symud i 182 diwrnod; mewn gwirionedd, cytunodd nifer yn y sector gyda galwadau'r Ceidwadwyr Cymreig i osod y lefel ar 105 diwrnod, ond pwysodd Llywodraeth Cymru ymlaen, anwybyddu'r ymgynghoriad a'i wneud beth bynnag. Fe wnaethoch chi gloi eich datganiad drwy ddweud wrthym fod mewnbwn gan y sector wedi bod yn amhrisiadwy i'r gwaith hyd yn hyn, ond nid oes gan y rhai sy'n ymwneud â'r sector, yn seiliedig ar brofiad blaenorol, lawer o ffydd y bydd rhywun yn gwrando arnynt mewn gwirionedd.

Wrth sôn am ymgynghoriadau, gan edrych ar grynodeb yr ymatebion i ymgynghoriad Gorffennaf ar y cynllun hwn, gwelsom fod 65 y cant o'r cyfranogwyr yn anghytuno â'r cynnig yn llwyr oherwydd pryder dybryd darparwyr llety ymwelwyr; roedd 47 y cant yn anghytuno â'r cynigion cofrestru statudol; roedd 61 y cant yn anghytuno â dadl y Gweinidog y byddai'r cynllun yn sicrhau chwarae teg; nid oedd 63 y cant o'r farn bod y drwydded yn gyfrwng effeithiol ar gyfer cyfathrebu ac roedd 64 y cant yn anghytuno â'r syniad o hyder gwell mewn darparwyr llety ymwelwyr. Felly, Dirprwy Weinidog, sut fyddwch chi'n ymateb i'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud, a sut y byddwch chi'n adfer yr hyder yr ydych chi yn amlwg wedi'i golli gan y rhai yn y sector nad oes ganddyn nhw, ar nifer o agweddau, yr hyder ym mwriadau Llywodraeth Cymru gyda'r sector twristiaeth?

16:10

Ocê. Wel, a gaf i ddiolch i Tom Giffard am y sylwadau hynny ac am eich sylwadau cadarnhaol cychwynnol o ran y datganiad? Byddaf yn delio â rhai o'r pwyntiau rydych chi wedi'u codi yn gyntaf oll. Rydych chi, yn ddealladwy ac yn gwbl briodol, yn codi'r problemau yn rhai o'r cynlluniau yr ydym wedi'u gweld mewn mannau eraill ledled y byd, sef un o'r rhesymau pam rydyn ni wedi bod yn cael y sgyrsiau hynny gyda Llywodraethau eraill i weld sut y gwnaethon nhw gyflwyno eu cynlluniau nhw a sut maen nhw wedi gweithio, a gallu dysgu gan y rheini o ran sicrhau nad yw ein cynllun yn mynd i mewn i'r un mathau hynny o anawsterau. Wrth gwrs, mae cynllun yr Alban yn wahanol iawn i'r cynllun rydyn ni'n ei gynnig yma—cynllun trwyddedu ar gyfer gosodiadau gwyliau tymor byr yn unig oedd hwnnw; yr hyn yr ydym ni yn ei gynnig yma i ddechrau yw cynllun cofrestru ar gyfer pob llety gwyliau fel bod gennym gronfa ddata, fel y dywedais i yn fy natganiad, a fydd yn ein galluogi i gyfathrebu â'r sector. A rhan o hynny yw—. Fe wnaethoch chi sôn am yr ardoll ymwelwyr, ond mae rhan o hynny yn ymwneud â bod â chronfa ddata fel ein bod ni'n gwybod pa lety i ymwelwyr sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl sy'n dod yma. Felly, ie, bydd y ddau ddarn hyn o ddeddfwriaeth yn siarad â'i gilydd, ond dydw i ddim yma yn cyflwyno datganiad i chi am gyflwyno'r cofrestriad ardoll ymwelwyr, ond dim ond i ddweud bod rhyw fath o ryngweithio rhwng y ddau o ran y bydd y data y byddwn yn ei gasglu o'r cynllun cofrestru, wrth gwrs, yn helpu i hysbysu'r ardoll ymwelwyr.

Rydych chi'n codi—doeddwn i ddim yn disgwyl i chi wneud unrhyw beth arall, Tom, heblaw am godi—mater yr ardoll dwristiaeth a'r 182 ac yn y blaen, ond nid fy mhwrpas i heddiw yw delio â'r materion hynny; fy mhwrpas i heddiw yw nodi datganiad am ein deddfwriaeth arfaethedig a fydd yn ymwneud â chyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr. A byddwn yn parhau i gael y sgwrs honno gyda'r sector; rwy'n cyfarfod â nhw yn rheolaidd, fel y mae fy swyddogion. Cwrddais â nhw ychydig cyn y Nadolig ac amlinellais yr hyn yr oeddwn i'n bwriadu ei wneud ynghylch cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol. Mae yna dderbyniad cyffredinol bod angen gwneud rhywbeth am hyn o ran gwybod ble mae ein llety, creu'r gronfa ddata honno. Ac yn sicr mae yna gydnabyddiaeth gan ddefnyddwyr bod angen i ni fod â rhywbeth cadarnhaol o fewn ein cynnig twristiaeth. Roedd hynny'n amlwg o'r arolwg bod hynny'n rhywbeth a welwyd yn gadarnhaol iawn gan ddarpar ymwelwyr â Chymru. Ac mae hyn yn ymwneud â ni'n tyfu'r sector twristiaeth, mae hyn yn golygu ein bod ni'n rhoi hyder i bobl y gallan nhw ddod i Gymru gan wybod y gallan nhw ymweld â llety yng Nghymru fydd yn bodloni safonau penodol.

Fel rhan o hynny, wrth gwrs, mae nod o fewn y ddeddfwriaeth hon i helpu i dynnu'r cydraddoldeb hwnnw rhwng llety gwyliau tymor byr a'r gofynion ar osodiadau preswyl. Ac un o'r pethau yr ydym wedi'i weld yw, oherwydd yr amodau llac iawn ynghylch llety gwyliau tymor byr, y bu tueddiad i landlordiaid symud tuag at y sector hwnnw gan ddefnyddio llety y gellid ei ddefnyddio fel arall ar gyfer llety byw i bobl. Ac rydym yn gwybod popeth am brinder tai. Felly, mae'r rhan yma am sicrhau chwarae teg yn glir iawn; mae'n ymwneud â dweud os ydych chi'n mynd i rentu llety i rywun, p'un ai yn y tymor byr i fwynhau gwyliau neu a yw'n llety i fyw ynddo, dylai'r safonau y dylid eu bodloni fod yn gyfartal. A dyna, yn y bôn, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad yma heddiw. Mae'r pecyn o'n blaenau yn rhan greiddiol o blatfform polisi tai a thwristiaeth Plaid Cymru, ac mi ydym ni, ac, yn wir, y sector, wedi bod yn galw am y system rheoleiddio lletyau tymor byr ac ymwelwyr ers sawl blwyddyn. Felly, fydd o ddim yn dod fel unrhyw syndod i chi ein bod ni'n croesawu'r cyhoeddiad yma heddiw.

Mae sicrhau bod gan bobl y gallu a'r dewis i fyw yn eu cynefin a hyfywedd cymunedau Cymraeg eu hiaith yn egwyddorion sylfaenol. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid sicrhau mynediad at dai fforddiadwy ac o ansawdd da. Mae'r pecyn yma, felly, yn rhan arall o'r jig-so er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng tai a gordwristiaeth a gwneud y sector yn fwy deniadol i ymwelwyr, tra hefyd, fel y nododd y Dirprwy Weinidog rŵan, yn cysoni'r rheolau rhwng y sector breifat a'r sector lletyau gwyliau.

Dwi'n nodi bod y cynllun yn un cenedlaethol, sydd yn bwysig. Yn llawer rhy aml, y gred gyffredin ydy mai problem i gymunedau gwledig ac arfordirol diarffordd ydy'r broblem sy'n cael ei chreu gan ormod o letyau gwyliau tymor byr a chynnydd mewn pris tai. Ond tra bod yr ardaloedd hynny yn sicr yn dioddef, maen nhw hefyd yn broblemau mewn cymunedau trefol a dinesig. Mae effaith y sector llety gwyliau ar argaeledd tai ac ar gynaliadwyedd y sector dwristiaeth yn amlwg, ac mewn nifer o achosion yn drychinebus i bobl leol, yn enwedig y rhai hynny ar incwm isel. Fe ddangosodd ymchwil gan Sefydliad Bevan yn 2022 fod y nifer o dai sy'n cael eu defnyddio fel llety gwyliau tymor byr wedi cynyddu ledled Cymru gan roi pwysau sylweddol ar argaeledd tai i bobl fyw ynddyn nhw. Mae'r diffyg rheoleiddio wedi arwain at sector sydd yn rhemp ac yn dangos y math gwaethaf o gyfalafiaeth ddireolaeth gyda thai yn cael eu trin fel gwartheg i'w godro a'n cymunedau fel chwareli i'w cloddio, yn hytrach na fel sylfeini ar gyfer adeiladu cymunedau gwydn ac iach.

Ond, yn ôl ymchwil y Llywodraeth, effeithiau negyddol mwyaf amlwg y cynnydd yma yn y niferoedd o letyau gwyliau ydy cynnydd mewn sbwriel neu lygredd, problemau parcio, a gallu pobl leol i ddod o hyd i dŷ i'w rentu neu ei brynu yn y gymuned. Mewn mannau o ddwysedd uchel o letyau megis Airbnb, mae'r dystiolaeth yn dangos bod hyn yn cael effaith ar argaeledd eiddo rhent ar gyfer tenantiaid incwm isel hefyd. Mae'r polisïau yma, felly, am fod yn declyn arall i'n helpu i oresgyn y problemau yma.

A gaf i ofyn, felly, sut mae'r Dirprwy Weinidog wedi gweithio ac yn parhau i weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros dai a chynllunio, er mwyn sicrhau bod y dull o ymdrin â'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn mynd i'r afael â'r mater o argaeledd tai? Mae'r ffaith ein bod ni'n gweld y polisïau yma'n cael eu cyflwyno yn ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu rhyngom ni ym Mhlaid Cymru a'r Llywodraeth, ac mae'n dangos aeddfedrwydd gwleidyddol wrth i ddwy blaid gydweithio er mwyn canfod datrysiad i broblem cyffredin. Dwi am ddiolch felly i'r Aelodau dynodedig a'r cynghorwyr arbennig am eu gwaith ar hyn.

Ond hoffwn eglurder am yr amserlen, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog. Tybed a all y Dirprwy Weinidog ddweud pryd yn union fydd y Bil yn cael ei gyflwyno. Yn yr un modd, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog y bydd y cynllun trwyddedu a chofrestru yn cael ei weithredu mewn tri cham gwahanol. Beth ydy'r llinell amser ar gyfer gweithredu'r camau hyn?

Un o'r camau ydy cyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer pob darparwr llety, fel y clywson ni, er mwyn rhoi data a gwybodaeth er mwyn deall y sector yn well a helpu i lywio penderfyniadau polisi yn y dyfodol ar lefel leol a chenedlaethol, ac i ddeall pwy sy'n gweithredu yn y sector, lle maen nhw'n gweithredu a sut maen nhw'n gweithredu. Ond pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth er mwyn casglu data y tu hwnt i'r darparwyr? Er enghraifft, pa ymgynghoriad fydd yna efo'r cymunedau a'r trigolion lleol y tu hwnt i'r darparwyr unigol er mwyn cael darlun mwy cyflawn o effaith gordwristiaeth neu blatfformau penodol ac yn y blaen? Diolch yn fawr iawn.

16:15

Diolch, Mabon, am y sylwadau hynny ac am eich cefnogaeth i'r hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud mewn cydweithrediad â'ch plaid ac fel rhan o'n rhaglen lywodraethu. Mae gennym uchelgais ar y cyd, onid oes, ar sicrhau bod gennym economi dwristiaeth ffyniannus yng Nghymru, ond bod gennym gymunedau ffyniannus sy'n elwa o dwristiaeth hefyd ac nad ydynt mewn gwirionedd yn cael eu gwthio allan gan dwristiaeth. Mae hynny wrth wraidd nid yn unig y ddeddfwriaeth hon, ond y ddwy elfen arall o ddeddfwriaeth yr ydym wedi'u cyflwyno sy'n helpu i gefnogi'r mater ail gartrefi; mae'r dreth gyngor a'r 182 i gyd yn rhan o gynllun ehangach er budd y diwydiant twristiaeth ac i sicrhau bod y diwydiant twristiaeth yn cyfrannu'n effeithiol at ein heconomïau lleol, er mwyn sicrhau bod cymuned ffyniannus y mae pobl am ymweld â hi o hyd. Nid yw pobl eisiau dod i ymweld â threfi di-enaid, felly mae angen i ni fod â'r cydbwysedd hwnnw, ac rwy'n gobeithio mai'r hyn y bydd pobl yn ei weld yw y bydd cyflwyno'r ddeddfwriaeth benodol hon yn ychwanegu at yr holl bethau hynny yr ydych wedi sôn amdanyn nhw.

Rwy'n sicr yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar rai o'r materion hyn, yn enwedig mewn perthynas â sut y bydd y data a gasglwn yn helpu i lywio penderfyniadau cynllunio ar gyfer awdurdodau lleol. Felly, ar hyn o bryd, gan nad oes gennym unrhyw ddata ar lety twristiaeth a pha lety sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer llety tymor byr ac yn y blaen, mae'n anodd iawn i awdurdod lleol wneud penderfyniad pan fyddant yn cael ceisiadau am newid defnydd, er enghraifft, i weld a yw'r newid defnydd hwnnw o lety preswyl i lety gwyliau tymor byr er budd gorau'r gymuned honno mewn gwirionedd. Felly, mae honno'n agwedd bendant iawn ar y ddeddfwriaeth hon, oherwydd bydd yn darparu llwyfan ar gyfer meysydd polisi eraill, felly er nad yw'n ddarn o ddeddfwriaeth gynllunio yn uniongyrchol, byddai'r data y byddem yn gallu ei gasglu ohono yn helpu i lywio meysydd polisi eraill hefyd.

O ran yr amserlen, y bwriad yw y bydd y Bil drafft yn cael ei gyflwyno i'r Senedd erbyn diwedd eleni, ac y bydd y cynllun yn cael ei weithredu erbyn 2026. Ond yr hyn sydd gen i i'w ddweud, Mabon—mae angen i mi fod yn onest iawn am hyn—yw bod hwn yn ymarfer anferth. Nid oes gennym unrhyw syniad faint o lety i ymwelwyr sydd gennym mewn gwirionedd, felly bydd hwn yn ymarfer enfawr, ac mae gennym nod o gyflwyno hyn i gyd erbyn 2026, ond bydd yn rhaid iddo gael ei wneud fesul cam, oherwydd mae'n rhaid i ni gofrestru pawb yn gyntaf. Unwaith y bydd pawb wedi'u cofrestru, yna gallwn ddechrau symud i safon y llety yr ydym ei heisiau, ac yna trydedd agwedd hynny fydd y llety o ansawdd, y safonau ansawdd yr ydym yn bwriadu eu gwneud. A'r hyn yr ydym wedi'i wneud wrth drafod â'r Aelod dynodedig yw cytuno mai'r blaenoriaethu ar gyfer yr ail gam hwnnw fydd y gosodiadau gwyliau tymor byr hynny.

A bydd yr ymgynghoriad yn parhau, gyda'r sector, gyda'r darpar ymwelwyr â Chymru, ac yn bwysicach fyth, gyda'r cymunedau lleol. Mae angen iddo fod y math hwnnw o ddull ar y cyd o ran sut rydym yn gweithredu'r ddeddfwriaeth hon a sut mae hyn o fudd i'r sector twristiaeth a chymunedau pobl sy'n cynnal twristiaeth.

Ac rwy'n credu bod eich pwynt chi ynglŷn â bod hyn yn berthnasol mewn ardaloedd trefol hefyd yn un cwbl berthnasol. Dydw i ddim yn gwybod a wnaethoch chi sylwi, yn ddiweddar iawn, fod yr awdurdodau lleol yn Efrog Newydd wedi penderfynu gwahardd Airbnbs ym Manhattan, oherwydd nad oes llety ar gael i bobl leol fyw ym Manhattan, a gwelais adroddiad neithiwr bod rhentu fflat ym Manhattan ar gyfartaledd bellach yn costio tua $5,500 y mis i chi. Felly, dyna'r math o beth yr ydym am ei osgoi yw prisio pobl allan o'r ardaloedd y maen nhw'n byw ynddynt, ac rydym yn gobeithio'n fawr mai dyna fydd y ddeddfwriaeth hon yn ei wneud.

16:20

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn ar gofrestru llety gwyliau yn statudol i roi sail gyfartal i bob math. Rwyf hefyd yn pryderu am golli cartrefi llety rhent preifat tymor hir—rydyn ni'n eu galw—i lety gwyliau tymor byr. Felly, mae Airbnb yn dweud y dylai unrhyw ateb gael ei weinyddu'n genedlaethol a chyson ar draws awdurdodau lleol i leihau cymhlethdod, a dylai gweithredwyr allu gwneud cais ar-lein a chael penderfyniad ar unwaith ynghylch a allant weithredu gyda ffioedd sy'n adlewyrchu graddfa gweithgaredd dros nos, boed hynny'n ystafell, neu'n lety mwy. Ond mae eraill yn credu mai cynghorau sydd yn y sefyllfa orau, ac i'w gadw'n syml. Felly, rwyf am ofyn a ydych chi'n credu bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau, a pha ystyriaethau rydych chi wedi'u rhoi o ran cyflawni, ac a fyddech chi'n ystyried cynlluniau peilot.

Diolch i chi, Carolyn Thomas, am y sylwadau hynny, ac rydych chi'n llygad eich lle: yn ganolog i'r ddeddfwriaeth hon mae ein pryder am golli llety preswyl i lety gwyliau tymor byr yn benodol.

Yr hyn fyddwn i'n ei ddweud, o ran pwy fydd yn gweinyddu'r cynllun, yw ein bod ni am fod â chynllun cenedlaethol. Rydyn ni eisiau un mynediad i'r cynllun, ar gyfer yr economi ymwelwyr, ar gyfer yr ardoll ymwelwyr, ar gyfer y llety tymor byr, ar gyfer y cofrestriad; ar gyfer hynny i gyd, rydym am i hynny fod yn un mynediad ac yn un cynllun cenedlaethol. Felly, mae cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo i ddatblygu hynny. Yr hyn a ddywedais ar y dechrau wrth gyflwyno'r datganiad hwn heddiw oedd mai dim ond diweddariad yw hwn mewn gwirionedd i roi'r bwriad o'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud ac mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo o hyd ynghylch yr opsiynau o sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni a phwy fydd yn ei gyflawni mewn gwirionedd. Felly, ni wnaed penderfyniad eto ynghylch a ddylai fod yn awdurdodau lleol, a ddylai fod yn gorff cenedlaethol, a ddylem gael rhywun gwahanol yn delio â hyn; rydym hyd yn oed wedi siarad ag Awdurdod Cyllid Cymru am rai o'r agweddau hyn hefyd. Felly, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i ni fynd ymlaen, ond credaf fod y bwriadau allweddol yma wedi'u nodi'n hollol glir, mai dyna yr ydym yn bwriadu ei wneud a bydd y ffordd y caiff hyn ei gyflawni yn cael ei ddarparu unwaith y byddwn wedi cael yr ymgynghoriadau pellach hynny gyda'r sector a'r cymunedau a fyddai'n cael eu heffeithio. Diolch.

16:25

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Yn sicr, yn fy rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, mae cofrestru a thrwyddedu yn fater sydd wedi codi sawl gwaith. Dim ond dau bwynt cyflym, mewn gwirionedd. Y cyntaf yw'r symudiad tuag at gofrestru statudol ac nid cofrestru gwirfoddol. Mae gen i ddiddordeb mewn deall eich rhesymeg y tu ôl i hynny, yn enwedig gan fod Gweinidog yr Economi wedi datgan o'r blaen ei fod yn credu bod y rhan fwyaf o ddarparwyr llety ymwelwyr eisiau gweithredu o fewn y gyfraith, ac mae hefyd wedi ychwanegu ei fod am sicrhau lefel uchel o gydymffurfiad gwirfoddol. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn gwybod pam eich bod chi'n symud nawr i gofrestriad statudol yn hytrach nag un gwirfoddol.

Yn ail, mae gen i rai pryderon ynghylch y syniad, fel rydych chi wedi'i amlinellu yng ngham 3 y broses, y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio bod yn ganolwr p'un a all busnes weithredu ai peidio, nid yn unig yn seiliedig ar sefyllfa ddiogelwch, ond yn seiliedig ar eich dyfarniad o ansawdd, a tybed a allech chi roi blas i ni heddiw o'r hyn y gallai'r ansawdd hwnnw fod yn eich barn chi efallai. Ai meddalwch y matres yw e? Ai swmp y cyllyll a ffyrc efallai neu drwch y carpedi? Hynny yw, beth ydych chi'n barnu sydd yn llety o safon? Mae'n debyg mai'r pwynt yw, i ymwelwyr, y gall ansawdd y llety fod yn oddrychol ac mae'n amrywio o berson i berson yn dibynnu ar y profiad y maen nhw ei eisiau, felly mae gen i rai pryderon sylweddol gyda hyn. A hefyd, yn gysylltiedig â hynny, dydych chi ddim yn dewis gwneud hynny ar gyfer mathau eraill o fusnesau: dydych chi ddim yn mynd i siopau barbwr ac yn gwirio ansawdd y toriadau gwallt sy'n digwydd neu ansawdd y dillad sy'n cael eu gwerthu mewn siop ddillad neu ansawdd ewinedd sy'n cael eu ffeilio mewn bar ewinedd. Tybed pam taw'r diwydiant twristiaeth sy'n cael ei dargedu o ran y syniad hwn o ansawdd a'r hyn yr ydych yn ei weld fel safon o ansawdd. Diolch yn fawr iawn.

Diolch yn fawr, Sam Rowlands, am y cwestiynau hynny. Wel, mae'r trwyddedu statudol, rydyn ni'n symud i gofrestru i ddechrau ac yna i gynllun trwyddedu statudol am y rhesymau a amlinellais yn y datganiad. Rydym eisiau bod â chydymffurfiaeth ac rydym eisiau bod â safon, ac felly'r unig ffordd y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud hynny yw trwy ei drwyddedu, oherwydd bod y trwyddedu mewn gwirionedd yn dod â rhwymedigaeth gyfreithiol i fodloni safonau penodol. Felly, wyddoch chi, mae cymaint o wahanol fathau o lety gyda safonau gwahanol y mae'n rhaid iddyn nhw eu cymhwyso, a bydd yn rhaid i bob math o lety fodloni'r safon berthnasol ar gyfer eu math o lety, a bydd gofyniad cydymffurfio arnynt i wneud hynny, a bydd methu â gwneud hynny yn arwain at rai cosbau. Felly, mae rheswm da dros wneud hynny i sicrhau hyder defnyddwyr mewn unrhyw lety i ymwelwyr y maent yn mynd iddo.

Rwy'n anghytuno â chi, Sam, oherwydd rwy'n credu bod pobl sy'n aros mewn llety ychydig yn wahanol i rywun sy'n mynd i drin eu gwallt. Os ewch chi i drin eich gwallt ac nad ydych chi'n ei hoffi, fyddwch chi ddim yn mynd yno eto, ond o ran llety, mae materion yn ymwneud â diogelwch mewn llety, ac mae hynny'n rhan o'r hyn rydyn ni'n ceisio'i gyflwyno: safonau diogelwch ym mhob math o lety gwyliau neu lety tymor byr sydd ar gael, a bydd hynny'n rhan o'r cofrestriad statudol.

Ac o ran ansawdd, wel, ie, mae'n amlwg bod angen rhywfaint o sgwrs gyda'r sector, gydag ymwelwyr, am yr hyn maen nhw'n chwilio amdano mewn llety. Rydym yn ei ddefnyddio i raddau penodol eisoes drwy Croeso Cymru; mae yna fath o sgôr sêr y mae Croeso Cymru'n ei defnyddio, a bydd yn adeiladu ar y system honno sydd eisoes yn bodoli fwy neu lai. Felly, gallai dyfnder y carped gael un seren neu dair seren i chi, mae'n dibynnu ar yr hyn rydych chi'n chwilio amdano, ond bydd yna ddarpariaeth safonol, sylfaenol benodol y bydd disgwyl i bob math o lety ei ddarparu, ac unrhyw beth sy'n mynd y tu hwnt i'r safonau sylfaenol hynny, yna yn amlwg byddai'r math o sgôr yn cynyddu yn unol â hynny. Felly, yn y bôn mae'n adeiladu ar yr hyn sydd gennym eisoes. Felly, nid wyf yn ei weld fel twristiaeth yn cael ei dargedu, Sam. Rwyf wir yn ei weld fel twristiaeth yn cael ei roi ar sylfaen sy'n rhoi mwy o hyder i ymwelwyr ddefnyddio'r sector ac felly yn annog mwy o bobl i ddod i Gymru fel gwlad y maent yn gwybod y gallant ddod i ymweld â hi gyda hyder.

16:30

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch, Llywydd. Gweinidog, doeddwn i ddim yn pryderu gormod am eich datganiad i ddechrau, ond mae arnaf ofn nawr fy mod i, ac mae'n eithaf dryslyd hefyd. Rwy'n credu y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno'n llwyr bod angen i ni sicrhau bod y llety y mae pobl yn aros ynddo yn ddiogel. Does neb yn dadlau â hynny o gwbl. Does gan neb ddadl chwaith am gael rhyw fath o gynllun sy'n sicrhau bod y llety hwnnw'n ddiogel. Ond rwy'n credu mai'r hyn yr ydych yn methu ei amgyffred fel Llywodraeth yw bod yna wahanol fathau o lety y mae pobl yn hoffi eu mwynhau. Felly, mae safon ac ansawdd y llety mewn pabell yn mynd i fod yn wahanol iawn i safon ac ansawdd gwesty pedair seren ar lan y môr yn Llandudno, er enghraifft. Mae carafán gwyliau yn brofiad hollol wahanol eto, ac efallai y bydd yn dal yn ddiogel, ond yn amlwg nid yw'n mynd i fodloni'r un safonau ansawdd ag y mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu bod yn rhaid i bob llety eu bodloni. Tybed a allwch chi roi sicrwydd i ni na fydd y cynllun rydych chi'n ei gynnig yn cael effaith andwyol ar y diwydiant carafanau gwyliau yn benodol, sy'n bwysig iawn yn fy etholaeth i, ac nad yw'r trefniadau trwyddedu hyn rydych chi'n sôn amdanyn nhw yn mynd i fod yn berthnasol i unigolion a allai fod yn berchen ar garafán gwyliau.

Yn ail, peth arall yr oeddwn i'n siomedig iawn yn ei gylch oedd nad ydych yn sôn am y ffaith y gallai fod grwpiau o lety y dylid eu heithrio o'r trefniadau, nid dim ond y carafanau gwyliau. Un o'r pethau yr wyf wedi'i drafod gyda chi tua dwywaith nawr yw'r llety syml iawn, weithiau, y gallai pobl ar bererindod gael mynediad ato. Dylai'r llety hwnnw gael ei eithrio, rwy'n credu, o'r trefniadau. Wrth gwrs, dylai fod yn ddiogel, ond ni ddylai orfod bodloni'r un math o safonau ansawdd ag y gallai fod angen i lety arall ei fodloni. Roedd cyfeiriadau ato yn yr adborth a roddwyd fel rhan o'r ymarfer ymgynghori, ond nid oedd eich crynodeb ymgynghori yn cyfeirio at lety pererinion o gwbl, a oedd yn fy synnu i raddau. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r lleoedd syml hynny o lety, fel eglwysi ar lwybrau pererinion, y byddan nhw hefyd yn gallu cael eu heithrio rhag rhai o'r hyn a allai fod, o'r hyn rwy'n ei glywed, yn ofynion beichus mewn rhai ffyrdd?

Diolch i Darren Millar am y sylwadau hynny. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir iawn: mae pob llety ymwelwyr yn dod o fewn yr ystod o ran yr hyn yr ydym yn edrych arno. Yn amlwg, ni fyddai llety personol—carafanau personol sydd gan bobl—yn cael eu cynnwys. Mae hwnnw'n ddarn o eiddo sy'n perthyn i unigolyn y maen nhw'n ei ddefnyddio. Os yw'r bobl hynny wedyn eisiau rhentu'r carafanau hynny i rywun arall, yna mae rhai safonau y mae'n rhaid iddyn nhw eu bodloni i'w galluogi i wneud hynny, fel y gall unrhyw un sydd yn ei rhentu fod yn sicr bod y llety yn ddiogel.

Bydd hyn i gyd yn dod i'r amlwg wrth i ni fynd drwy'r ymgynghoriad. Dywedais ar ddechrau'r datganiad nad datganiad llawn a therfynol yw hwn o ble rydym ni a beth rydyn ni'n ei wneud. Mae gennym broses gyfan o ymgynghoriadau eto i fynd drwyddi. Mae manylion y ddeddfwriaeth yn dal i gael eu gweithio drwyddynt, ond y sail sylfaenol yw bod yn rhaid i lety ymwelwyr fodloni safonau diogelwch penodol. Rhaid i bob llety gofrestru. Mae angen cymhwyso rhai safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer unrhyw lety sy'n cael ei rentu allan ar gyfer gosodiadau tymor byr. Yna bydd ail gam, sy'n edrych ar y safonau pellach y byddai eu hangen arnom o ran y cydraddoldeb rhwng tai tymor byr a llety preswyl. Ac yna y drydedd agwedd ohono yw'r safon ansawdd. Byddwn yn edrych ar hynny mewn tri cham. Bydd pob un o'r camau hynny yn destun ymgynghoriad. Felly, rydym yn cyflwyno fframwaith deddfwriaeth a fydd yn ein galluogi i ddatblygu'r ddeddfwriaeth wrth i ni fynd drwyddi.

O ran y llety wedi'i eithrio, rydych wedi ysgrifennu ataf, Darren, am eglwysi a chapeli pererindod, a'r hyn y byddwn yn ei ddweud yw nad ydym wedi gwneud penderfyniad ar hynny eto, ond p'un a ydych yn aros mewn eglwys neu westy, gyda llety, p'un a yw'n gweithredu am un diwrnod y flwyddyn neu 365 diwrnod o'r flwyddyn, mae yna safonau diogelwch y byddem yn eu disgwyl. Ond mae p'un a fydd llety penodol yn cael ei eithrio rhag hyn yn dal i fod yn destun y drafodaeth barhaus y byddwn yn ei chael gyda'r sector.

16:35
6. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2024-25

Yr eitem nesaf fydd y ddadl ar gyllideb ddrafft 2024-25, a dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y datganiad ar y gyllideb. Rebecca Evans.

Diolch. Rwy'n falch o wneud datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a osodwyd ar 19 Rhagfyr. Gadewch i mi fod yn glir: mae Cymru'n wynebu'r sefyllfa ariannol anoddaf ers dechrau datganoli. Wrth wneud y gyllideb ddrafft hon, mae fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet i gyd wedi wynebu cyfres o ddewisiadau llym a phoenus. Mae datganoli yn golygu bod penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, gan gynnwys y penderfyniadau hynny ar wario. Ond hyd yn oed ar ôl datganoli treth, mae'r rhan fwyaf o'n cyllid yn dal i ddod ar ffurf y grant bloc o Lywodraeth y DU, sy'n golygu bod swm yr arian sydd ar gael i ni yn ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau gwariant a wneir gan Weinidogion Llywodraeth y DU.

Dros y 13 mlynedd diwethaf, mae Llywodraethau'r DU wedi rhoi mwy na degawd o gyni i ni, llanast Brexit, a mii-gyllideb drychinebus a fu bron â chwalu'r economi. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau i warchod gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phoblogaeth Cymru rhag effeithiau gwaethaf y polisïau hyn, mae pob un, yn unigol ac ar y cyd, wedi cael effaith sylweddol a pharhaol ar Gymru. Rydym hefyd wedi profi pandemig COVID-19, rhyfeloedd yn Wcráin a'r dwyrain canol, lefelau chwyddiant mwy nag erioed, ac argyfwng costau byw, i gyd wrth i ni barhau i ymateb i'r argyfyngau natur a'r hinsawdd.

Mae'r Canghellor yn honni bod camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU wedi helpu'r economi i droi cornel, ond y gwir amdani yw bod rhagolygon gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod y DU ar y trywydd iawn i fod yn un o'r economïau uwch sy'n perfformio waethaf eleni a'r flwyddyn nesaf, o ran chwyddiant uchel a thwf gwan. Mae rhagolwg newydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn creu darlun o ragolygon economaidd gwael i'r DU gan ddisgwyl dim ond twf di-fflach am bron i ddwy flynedd, chwyddiant yn lleihau'n arafach na'r disgwyl, a diweithdra'n cynyddu. Bydd safonau byw 3.5 y cant yn is y flwyddyn nesaf o'u cymharu â'r cyfnod cyn y pandemig.

Mae rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos y bydd yr economi yn tyfu 0.2 y cant ar gyfartaledd bob chwarter hyd at ddiwedd y flwyddyn nesaf, o'i chymharu â chyfradd twf chwarterol gyfartalog o 0.5 y cant a gyflawnwyd rhwng 1997 a 2010. Ac mae'r data cynnyrch domestig gros diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos dim twf yn chwarter 2, ac yna twf negyddol yn chwarter 3. Er bod targed y Prif Weinidog i haneru chwyddiant wedi'i gyflawni, mae hyn bron yn gyfan gwbl oherwydd cyfuniad o ffactorau byd-eang sy'n gostwng prisiau ynni a bwyd a rhaglen Banc Lloegr o gyfraddau llog cynyddol—rydym wedi cael 14 cynnydd olynol i'r gyfradd sylfaenol.

Yn natganiad yr hydref, yn hytrach nag adfer cyllid i wasanaethau cyhoeddus bregus, nododd y Canghellor rownd newydd o gyni. Dewisodd ddefnyddio ei hyblygrwydd cyllidol i wneud toriadau treth cymharol gymedrol a chanolbwyntio ar brosiectau tymor byr mewn etholaethau ymylol. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi nad yw'r cyllid cyhoeddus wedi gwella'n ystyrlon, mae'r rhagolygon twf wedi gwanhau, a disgwylir i chwyddiant aros yn uwch am gyfnod hirach. Yn dilyn datganiad yr hydref, bydd setliad adnoddau Llywodraeth Cymru yn gostwng 0.1 y cant yn 2024-25 mewn termau real, ac mae ein cyllideb gyfalaf i lawr 6 y cant mewn termau real. Yn gyffredinol, mae hynny'n ostyngiad o 1 y cant mewn termau real o un flwyddyn i'r llall i'n setliad.

Mae ein setliad ar gyfer 2024-25 bellach werth hyd at £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na'r disgwyl ar adeg adolygiad gwariant 2021. Nid yw'r dewisiadau a wnaed gan y Canghellor yn ei ddatganiad yr hydref wedi gwneud ein dewisiadau yn haws. Mae ganddynt effeithiau tymor byr ar y penderfyniadau y gallwn eu gwneud yng Nghymru yn y rownd gyllideb hon, a bydd ganddynt effeithiau tymor hwy ledled y DU wrth i wasanaethau cyhoeddus wynebu toriadau dwfn a niweidiol unwaith eto oherwydd eu bod wedi cael eu hamddifadu o fuddsoddiad go iawn. Unwaith eto, nid yw ein setliad cyllid yn ddigonol i ymateb i'r pwysau eithriadol sy'n wynebu Cymru.

Wrth lunio'r gyllideb ddrafft hon, bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anhygoel o anodd, a nhw yw'r rhai mwyaf amlwg a phoenus ers datganoli. Rydym wedi gweithio dros fisoedd lawer i ail-lunio ein cyllideb yn radical fel y gallwn ganolbwyntio cyllid ar y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl.

Rydym wedi canolbwyntio cyllid er mwyn buddsoddi mwy yn y GIG ac i ddiogelu'r setliad llywodraeth leol craidd, sydd yn ei dro yn ariannu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, a'r gwasanaethau beunyddiol hanfodol eraill yr ydym yn dibynnu arnynt. Rydym wedi ail-lunio ein cyllidebau yn unol â set o egwyddorion arweiniol: amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus craidd, rheng flaen cyn belled ag y bo modd; darparu'r budd mwyaf i aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf; blaenoriaethu swyddi, lle bynnag y bo modd; ac i weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i wynebu'r storm ariannol hon gyda'n gilydd.

Mae'r gyllideb ddrafft yn darparu £450 miliwn ychwanegol i gefnogi'r GIG yn 2024-25. Mae hyn ar ben y £425 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gennym ym mis Hydref 2023-24. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynyddu'r cyllid ar gyfer y GIG yng Nghymru fwy na 4 y cant yn 2024-25 o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.

Rydym yn diogelu'r setliad llywodraeth leol craidd, sydd, gyda'r dreth gyngor, yn ariannu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, casgliadau sbwriel ac ailgylchu a gwasanaethau lleol. Rydym yn darparu'r cynnydd o 3.1 y cant a addawyd gennym y llynedd. Rydym hefyd yn darparu £1.3 miliwn ychwanegol drwy'r grant cynnal refeniw i sicrhau nad oes gan yr un awdurdod gynnydd mewn setliad o lai na 2 y cant. Ond hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol hwn, bydd 2024-25 yn dal i fod yn flwyddyn anodd i fyrddau iechyd a chynghorau.

Mae cyllid sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion wedi cael blaenoriaeth. Roedd disgwyl i'n rhaglen adfer COVID lwyddiannus, Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, gael ei lleihau'n raddol wrth i'r effeithiau ôl-bandemig leihau. Fodd bynnag, gwyddom fod effeithiau'r pandemig yn parhau i fod yn niweidiol i'n dysgwyr ledled Cymru, felly rydym yn diogelu'r cyllid hwn er mwyn parhau i'w cefnogi. Rydym hefyd yn diogelu'r cyllid grant datblygu disgyblion sy'n ariannu ysgolion i gefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel.

Byddwn yn cynnal cymorth wedi'i dargedu ac argyfwng i bobl y mae'r argyfwng costau byw parhaus yn effeithio arnynt, a byddwn yn parhau i wario mwy na £0.5 biliwn i helpu aelwydydd a busnesau i dalu eu biliau treth gyngor ac ardrethi annomestig. Rydym wedi penderfynu capio'r cynnydd i'r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2024-25 i 5 y cant ar gost gylchol bob blwyddyn i gyllideb Cymru o £18 miliwn. Dyma'r lefel uchaf o gymorth fforddiadwy gan ddefnyddio'r holl gyllid canlyniadol a ddaeth i Gymru o benderfyniad Llywodraeth y DU yn ymwneud â'r lluosydd yn Lloegr.

Nid effeithir ar bron i hanner y trethdalwyr, gan gynnwys miloedd o fusnesau bach ledled Cymru, gan gynnydd yn y lluosydd, gan fod ein system hael o ryddhad llawn yn golygu nad ydynt eisoes yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Byddwn hefyd yn buddsoddi £78 miliwn ychwanegol i ddarparu pumed flwyddyn olynol o gefnogaeth i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'u biliau ardrethi annomestig. Bydd trethdalwyr cymwys yn derbyn rhyddhad ardrethi annomestig o 40 y cant drwy gydol 2024-25. Mae hyn yn adeiladu ar bron i £1 biliwn o gymorth a ddarperir trwy gynlluniau rhyddhad manwerthu, hamdden a lletygarwch ers 2020-21. Byddwn hefyd yn cyflwyno cronfa gwerth £20 miliwn i ddiogelu at y dyfodol yn ein cyllideb derfynol. Bydd y gronfa hon ar gael i fusnesau manwerthu a lletygarwch i fuddsoddi mewn mesurau i ddiogelu eu busnes yn y dyfodol, megis buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a gwella digidol i wella eu cynaliadwyedd.

Rydym yn gweithredu i ddiogelu'r meysydd pwysicaf. Mae hyn yn cynnwys diogelu cyllid ar gyfer y rhaglenni sy'n bwysig i'r sector amaeth, cynnal y cynllun talu sylfaenol ar yr un lefel o £238 miliwn ar gyfer 2024. Ond mae angen i ni wneud penderfyniadau anodd pellach, gan gynnwys ailganolbwyntio rhywfaint o wariant i ffwrdd o feysydd sydd heb eu datganoli, y dylai Llywodraeth y DU fod yn eu cyllido. Mae'r rhain yn feysydd lle rydym wedi gallu camu i mewn o'r blaen i lenwi'r bwlch. Rydym yn ailflaenoriaethu £7.5 miliwn o'r gyllideb ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Er y byddwn yn dal i fuddsoddi £15.5 miliwn mewn swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bydd angen i'n partneriaid plismona ail-lunio eu gweithlu. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i leihau'r effeithiau negyddol cyn belled ag y bo modd. Rydym yn ailflaenoriaethu £15.5 miliwn o raglen Wcráin oherwydd y nifer is o newydd-ddyfodiaid ochr yn ochr â llwyddiant ein rhaglen i symud pobl ymlaen o'u llety cychwynnol.

Mae'r pwysau digynsail ar ein cyllideb a chyllidebau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn golygu y bydd angen i ni edrych ar ffynonellau cyllid eraill posibl. Felly, byddwn yn ystyried yn ofalus a oes angen i ni gynyddu'r taliadau presennol ar gyfer rhai gwasanaethau, fel gofal deintyddol y GIG, ffioedd dysgu prifysgol a gofal cartref.

Llywydd, edrychaf ymlaen at ddadl y prynhawn yma a'r ddadl barhaus a fydd yn dilyn, ond cyn i mi orffen fy sylwadau agoriadol, hoffwn ddweud eto fy mod yn ddiolchgar iawn i bob un o fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet am eu hymrwymiad parhaus a'u gwaith caled yn ystod y broses hon. Hoffwn ddiolch hefyd i Siân Gwenllian am ein perthynas waith dda a'i hymgysylltiad parhaus mewn cysylltiad â'r cytundeb cydweithio, sy'n gyfran fach, tua 1 y cant o'n cyllideb gyffredinol. Mae hon yn gyllideb anodd mewn cyfnod eithriadol, ond, yn y pen draw, mae'n gyllideb sy'n anelu buddsoddiad tuag at y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yng Nghymru yn dweud wrthym eu bod yn eu gwerthfawrogi fwyaf.

16:45

Diolch am y datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu y byddai pawb yn cytuno yma bod craffu priodol mor bwysig. Mae democratiaeth yn gryfach pan fo Llywodraeth yn derbyn ac yn gwahodd craffu ac atebolrwydd, yn enwedig ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru yn methu ar gymaint o lefelau. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis rhyddhau ei chyllideb ddrafft yn ystod toriad ac nid yn uniongyrchol i'r Senedd, fel y maent yn ei wneud yn yr Alban neu yn Lloegr. Mae'r dull hwn yn ein rhwystro rhag cael cyfle i herio'n briodol, gan orfodi dull brysiog o graffu, gan adael ychydig o amser i bwyllgorau ac yn rhoi rhyw awr neu ddwy ar y mwyaf o bosib i ninnau yn y Siambr hon i'w trafod. Mae cyflwyno cyllidebau amserol yn hawl sylfaenol y dylai seneddwyr ei disgwyl. Ni allaf ddeall yn wir pam na allai Llywodraeth Cymru fod wedi cyflwyno ei chynigion cyllideb yn gynharach, gyda senarios a allai fod wedi adlewyrchu newidiadau a allai fod wedi cael eu dylanwadu gan ddatganiad yr hydref, hyd yn oed os na ellid cwblhau'r gyllideb ddrafft derfynol ei hun tan 19 Rhagfyr. Ni welsom unrhyw newid meddwl ar ôl datganiad yr hydref.

Felly, gan symud ymlaen, Llywydd. Mae pobl Cymru yn haeddu cael gwasanaethau cyhoeddus dibynadwy o ansawdd uchel, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni. Mae'n 2024, er mwyn y nefoedd. Y pethau hyn yr oeddem yn eu cymryd yn ganiataol ers degawdau, pethau fel gofal iechyd yn cael eu darparu mewn modd amserol pan fo angen neu y gallu i gael pecyn gofal ar gyfer ein hanwyliaid neu'r addysg orau i'n plant. Mae'r rhain a chymaint o ddisgwyliadau mwy sylfaenol wedi cael eu herydu neu eu difrodi o ganlyniad i 25 mlynedd o'r Llywodraeth hon. Mae naratif cyllideb y Llywodraeth yn nodi mai nod y gyllideb hon yw, rwy'n dyfynnu,

'diogelu'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl'.

Byddwn i'n awgrymu bod hyn yn annhebygol iawn gyda'r gyllideb hon, er gwaethaf y cynnydd mewn cyllid i'n GIG.

Fel y gwyddom ni i gyd, derbyniodd Llywodraeth Cymru £1.20 am bob £1 sy'n cael ei gwario, y person, ar iechyd ac addysg yn Lloegr, ond gwyddom nad yw wedi bod yn gwario'r cyfan y dylai fod wedi'i wneud. Yn wir, dim ond cymaint â thua £1.05, cyn y pandemig. Negodwyd yr arian ychwanegol y mae Cymru'n ei dderbyn drwy'r fframwaith cyllidol, y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r angen ychwanegol yma bellach yn cael ei gydnabod drwy addasiad sy'n seiliedig ar anghenion o fewn system Barnett—elfen sy'n seiliedig ar anghenion y gwnaeth y Prif Weinidog wadu ei fodolaeth yn ddiweddar ond mae naratif y gyllideb ei hun yn cadarnhau hynny, ym mharagraff 1.08.

Rydym yn croesawu mwy o arian ar gyfer iechyd. Hen bryd. Fel y dywedais i yma o'r blaen, pe bai'r Llywodraeth wedi bod yn buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd fel y dylai fod wedi'i wneud dros y 10 mlynedd diwethaf, byddai GIG Cymru o leiaf wedi bod yn gydnerth ac yn gryf, ac ni fyddem wedi gweld yr addasiadau cyllideb sydyn yn ystod y flwyddyn a'r cynigion yn gorfod dod ymlaen, fel nawr. Er mwyn ei roi mewn cyd-destun, byddai gwario 5c arall fesul punt ar iechyd wedi rhoi cyfanswm o tua £500 miliwn y flwyddyn. Yn anffodus, mae'r arian hwn wedi cael ei wario mewn mannau eraill ers blynyddoedd lawer.

Fel mae'n sefyll—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am gymryd unrhyw ymyriadau heddiw. Fel y mae, mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn destun rhyw fath o fonitro uwch neu fesurau arbennig ar gyfer cyllid, ac mae disgwyl iddynt wneud arbedion hefyd. Ydy, mae pwysau'n gyffredin ar draws y gwasanaethau iechyd yn y Deyrnas Unedig, ond nid ar y lefelau y maen nhw yma. Y gwir yw, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn poeni am gymaint o bethau eraill am gyfnod rhy hir. Mae'n ffaith bod ein GIG yn ei chael hi'n anodd, oherwydd blynyddoedd o danariannu. Mae ein—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i? 

16:50

Dydw i ddim yn mynd i ildio, na, oherwydd rwy'n ymwybodol o amser.

Mae ein staff gweithgar yn gwneud eu gorau o dan bwysau cynyddol, ond ni all hyn barhau. Mae traean o absenoldebau staff GIG Cymru o ganlyniad uniongyrchol i straen oherwydd llwyth gwaith sy'n cynyddu'n barhaus, ac mae'n rhaid i ni wyrdroi hyn.

Cefais fy synnu hefyd o weld bod toriad ariannol o 8.8 y cant i'r gyllideb iechyd meddwl. Rydym wedi clywed cymaint o weithiau yn y Siambr hon gan Weinidogion am bwysigrwydd iechyd meddwl, felly nid yw hyn yn gwneud synnwyr. Mae'r Llywodraeth yn sôn am wneud y dewisiadau anodd, ond gadewch i ni fod yn glir—mae'r dewisiadau anodd go iawn yn cael eu gwneud ac mae disgwyl iddynt gael eu gwneud gan y cynghorau sir y mae'r setliad llywodraeth leol yn gwneud cam â nhw, ac mae rhai o dan anfantais oherwydd y fformiwla ariannu hen ffasiwn ac annheg. Gadewch i ni fod yn glir—mae cynnydd o 3.1 y cant i lywodraeth leol yn wael. Mae hwn yn doriad termau real enfawr yr ydych chi, y Llywodraeth, yn ei osod ar gynghorau. Nid Llywodraeth y DU sy'n gwneud hynny, neb arall—ond Llywodraeth Cymru a'u dewisiadau, dewisiadau rydych chi wedi penderfynu eu gwneud.

Ac rydyn ni i gyd yn gwybod am y problemau enfawr ym maes gofal cymdeithasol, gwasanaeth hanfodol a ddarperir gan ein cynghorau. Rydym yn gwybod ei fod yn un o'r materion allweddol o ran atal ein gwasanaeth iechyd rhag codi'n ôl ar ei draed, ond ble mae cydnabyddiaeth o'r ffaith honno yn y setliad llywodraeth leol? Ni fydd gweinidogion byth yn datrys problemau'r GIG heb ganolbwyntio'n galed ar ofal cymdeithasol. Ni allwch barhau i drosglwyddo'r pwysau enfawr hwn i gynghorau ymdrin ag ef.

Mae'r dreth gyngor yng Nghymru eisoes wedi cynyddu dros 200 y cant ers 1999, gan wneud iawn am y ffaith nad yw Llywodraethau Llafur olynol wedi ariannu llawer o'n hawdurdodau lleol yn ddigonol. Yn anffodus, pobl weithgar Cymru sy'n gorfod talu'r pris. Rwyf eisoes wedi clywed am gyngor sy'n ystyried cynnydd yn y dreth gyngor eleni o 8.5 y cant. Mae Llafur a Phlaid Cymru, un o bartneriaid allweddol y Llywodraeth, yn ceisio ei chael hi'r ddwy ffordd, gan ddweud yr holl bethau cywir ond eto yn methu â'u cefnogi gyda'r adnoddau sydd eu hangen.

Ac mae'r athroniaeth hon yn ymestyn i lawer yn y gymuned fusnes. Unwaith eto, mae busnesau yng Nghymru yn cael eu taro gan y cyfraddau busnes uchaf ym Mhrydain Fawr. Er bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes ar 75 y cant i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu, mae Gweinidogion Llafur wedi dewis darparu dim ond hanner lefel y cymorth, sef 40 y cant. Mae hyn ar ben ein sector lletygarwch yn gorfod wynebu effaith treth dwristiaeth. Nid yw'n syndod bod ein heconomi a'n busnesau yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd fel y maen nhw.

Mae llawer o fusnesau yng Nghymru yn wynebu argyfwng sgiliau, gyda digon o swyddi ar gael ond maen nhw'n methu dod o hyd i'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Er bod hon yn broblem ar draws y Deyrnas Unedig, mae'n arbennig o gyffredin yma yng Nghymru. Mae Gweinidog Economi Llafur, sy'n awyddus i fod yn Brif Weinidog, eisoes wedi cyfaddef y bydd y Llywodraeth Lafur yn methu eu targed ac yn methu â chyflawni eu haddewidion i greu 125,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'r toriadau yn y sector, yng ngeiriau ColegauCymru, yn 'drychinebus', a bydd 10,000 yn llai o brentisiaid yn dechrau'r flwyddyn nesaf.

Mae'n rhaid i Lafur Cymru gydnabod y ffaith bod yn rhaid i chi gael economi gref i greu twf a chyfoeth, sydd, yn ei dro, yn creu cydnerthedd a chyfle, ac mae sgiliau'n hanfodol er mwyn i hyn ddigwydd. A heb y pwyslais hwnnw ar sgiliau, bydd y Llywodraeth yn parhau i ddinistrio'r cyfle i Gymru gyflawni ei photensial.

O ran addysg, yn hytrach na darparu cyllid tymor hir i sicrhau'r proffesiwn addysgu, rydych wedi torri dros 50 y cant ar ddatblygiad athrawon, ergyd arall eto i'r sector addysg. Yn hytrach na rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn yng Nghymru mewn addysg, rydych wedi dewis torri'r gyllideb ar gyfer y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol 86 y cant.

Ar y trywydd hwn, rydych wedi cynnig dyfodol llwm iawn i bobl Cymru yn wir, un gyda busnesau ond dim gweithwyr, un gydag ysgolion ond heb ddigon o athrawon, ac un gydag ysbytai ond rhy ychydig o feddygon a nyrsys, ac un gyda llai o feddygon a nyrsys, ac un gyda llai o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i helpu i'n cadw'n ddiogel.

Llywydd, yr hyn sy'n glir iawn o'r gyllideb hon yw, er ei fod yn gyfnod anodd yn ariannol, mae'n ymddangos bod arian ar gael bob amser i'r Llywodraeth ariannu ei gwleidyddiaeth, ei chytundeb â Phlaid neu ei hoff brosiectau. Edrychwch ar y polisi 20 mya hynod ddrud ac economaidd niweidiol yng Nghymru, enghraifft wych o roi gwleidyddiaeth o flaen ymarferoldeb, neu'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol anystyriol yr ydym yn deall na fydd yn cael ei ddatblygu, ond bydd yn dal i gael £3 miliwn ychwanegol yn y gyllideb eleni. Mae hynny'n anghredadwy. A gallwn i barhau.

Y ffaith yw nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn blaenoriaethu'r pethau iawn ers blynyddoedd, a bydd yn cymryd amser hir i ddadwneud y problemau y maen nhw wedi'u hachosi. Yr hyn sy'n parhau'n gyson yw obsesiwn Llafur ag osgoi cymryd cyfrifoldeb dros lywodraethu Cymru. Rhywun arall neu rywbeth arall sydd ar fai bob tro. Yr hyn sy'n amlwg yw, os Llafur Cymru yw'r glasbrint ar gyfer y Deyrnas Unedig, fel y dywedodd Keir Starmer unwaith—er ei fod wedi mynd yn dawel iawn ar y pwnc wedyn—wel, Duw a'n helpo. Am flynyddoedd roedd angen Llywodraeth Cymru a oedd yn barod i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r bobl, gan sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'n rhestrau aros ofnadwy o uchel, ein busnesau sydd wedi'u gorlwytho a'n system addysg sy'n dadfeilio. Mae'r ffeithiau'n dangos, Llywydd, nad ydym wedi cael hyn, ac mae pobl Cymru yn talu'r pris.

16:55

Dwi'n croesawu'r ddadl ar y gyllideb ddrafft. Wrth wneud hynny, mae'n rhaid i fi wneud y pwynt fy mod i'n gresynu na chafwyd cyfle am y sgrwtini cychwynnol yma cyn y Nadolig. Mae yna batrwm wedi datblygu, onid oes, dros y blynyddoedd, o adael i graffu amserol ar gynlluniau gwario'r Llywodraeth ddigwydd drwy gyfweliadau teledu Gweinidogion yn hytrach nag ar lawr y Senedd. Yn y dyddiau cyntaf yna ar ôl cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, mae yna ddiddordeb gwirioneddol yn y gyllideb yma. Mae angen, dwi'n meddwl, inni gael y drafodaeth, y sgrwtini cychwynnol hwnnw. Mi lwyddodd yr Alban i'w wneud, a phan fo yna dros £20 biliwn o arian cyhoeddus yn y fantol, dwi'n meddwl bod yn rhaid gwneud yn well na hyn. A dwi yn gobeithio am drefn wahanol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-26 a thu hwnt.

Mae gen i, wrth gwrs, lawer iawn o gydymdeimlad â Gweinidogion gyda'r gyllideb hon wrth iddyn nhw fynd i'r afael â chyllideb wedi'i gwasgu o ganlyniad i Gangellorion Torïaidd di-glem—rwy'n colli cyfrif faint ohonyn nhw—a Llywodraeth Geidwadol y DU sy'n rhoi poblyddiaeth tymor byr o flaen tegwch economaidd i Gymru. Heb os, mae'n wir y gellir priodoli toriadau gwerth cyfanswm o £422 miliwn mewn gwariant o ddydd i ddydd ar draws pob portffolio ar wahân i iechyd a Trafnidiaeth Cymru yn rhannol i fformiwla ariannu hen ffasiwn nad yw'n ystyried anghenion Cymru erbyn 2024. Hefyd, mae trefniadau newydd ar ôl Brexit sy'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU wedi tanseilio gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwariant yn strategol er budd Cymru a'i chymunedau, gan ein gadael £1 biliwn yn waeth ein byd mewn ffrydiau cyllido heb eu disodli dros dair blynedd. Ac yna mae symiau canlyniadol o HS2, ac ychwanegwch Northern Powerhouse Rail at hynny hefyd—arian sydd i fod i ddod i ni, ac o'i fuddsoddi'n iawn y gallai gael effaith drawsnewidiol ar ein seilwaith, y maen nhw'n parhau i wrthod ei roi i ni er gwaethaf cytundeb trawsbleidiol yma yn y Senedd, ac er gwaethaf yr annhegwch amlwg o amddifadu ni o'r cyllid hwnnw, sy'n cael ei roi i'r Alban a Gogledd Iwerddon ac sydd â'r gallu i wneud cymaint o wahaniaeth.

Ydy, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cael cardiau gwael. Ond mae'n rhaid i ni graffu ar y ffordd y mae'n chwarae'r cardiau hynny hefyd. Ac ar yr agenda tegwch, yn anffodus mae naratif Llywodraeth Cymru yn llawn anghysondebau. Y llynedd roeddwn i'n falch o glywed awgrym bod Llywodraeth Cymru yn barod i lansio her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU ar symiau canlyniadol HS2, ac eto mae Gweinidogion wedi methu â pherswadio Keir Starmer, cyd-weithiwr Llafur sy'n debygol o fod yn Brif Weinidog y DU os bydd yr arolygon yn aros fel y maen nhw, o'r anghyfiawnder presennol. Mae cynlluniau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog addysg i wyrdroi'r toriadau i'w gyllideb pe bai'n dod yn arweinydd yn bennaf yn ddibynnol ar Lywodraeth Lafur y DU yn dod i Rif 10 Downing Street, a byddai'n rhaid iddi fod yn Llywodraeth Lafur wahanol iawn i'r un y mae Rachel Reeves yn awgrymu y byddem yn ei gweld, o ystyried ei phenderfyniad, fel y mae'n ymddangos, i gadw at gynlluniau gwariant y Ceidwadwyr a chadw at uniongrededd Jeremy Hunt.

A gadewch i ni fod yn onest: os yw Llafur yng Nghymru yn methu â sicrhau ymrwymiad ystyrlon a pharhaol i gyllid teg gan y Blaid Lafur yn Llundain—Llywodraeth Lafur, os dyna fydd gennym ni yn San Steffan—ni all ag unrhyw hygrededd honni ei bod yn wylo unrhyw beth ond ffug-ddagrau dros y setliad presennol.

Mae'r twll du yn y gyllideb hon, mwy nag unrhyw gyllideb yn oes datganoli, wedi datgelu'n glir y premiwm niweidiol yr ydym yn ei dalu am y polisi yswiriant tybiedig a gynigir gan yr undeb. Ac er ein bod yn gwybod nad oes gan y Ceidwadwyr ddiddordeb mewn sicrhau bod polisi yswiriant yn talu i Gymru, gallwn hefyd weld, yn anffodus, cyn lleied y mae Keir Starmer i'w weld yn poeni am warantu bargen deg i Gymru wrth i'r etholiad cyffredinol hwnnw agosáu. A byddwn yn parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth bresennol ac, o bosibl, yr un sy'n dod i mewn i unioni'r cam hwnnw.

17:00

Rydych chi'n gwneud pwynt diddorol, ac rydych chi'n ei wneud yn gyson. Ond un peth y byddwn i'n gofyn i chi fyfyrio arno, a rhoi eich sylwadau arno, yw hanes blaenorol Llywodraethau Llafur. Oherwydd yr oedd yr un peth yn berthnasol pan ddaeth Gordon Brown i mewn ym 1997 fel y—. Dywedodd dim gwarantau; yn gyntaf oll, mae'n rhaid i ni edrych ar y llyfrau. Y feirniadaeth y gellid ei gwneud, mewn gwirionedd, ar y Llywodraeth Lafur honno yw eu bod wedi gwneud y trosglwyddiad gwirioneddol hwnnw i Gymru a'u trosglwyddo i'r tlotaf mewn cymdeithas yn y dirgel, ond fe wnaethon nhw hynny. Felly, mae yna hanes i edrych arno.  

Ac mae'n bwynt. I raddau nid yw'r llyfrau ar gael i'r Llywodraeth sy'n dod i mewn. Mae'r un peth yn wir yma; nid oes gennym y llyfrau sydd gan Lywodraeth Cymru. Ond o ran annhegwch mor sylfaenol â HS2, dylai darpar Lywodraeth Lafur fod yn ei gwneud hi'n glir iawn bod yn rhaid iddi ddod o hyd i'r arian hwnnw oherwydd ei fod yn annhegwch mor amlwg.

Nawr, mae diffyg brwydr wleidyddol, os mynnwch, yn gefnlen i gyllideb sy'n datgelu methiant meddwl cydgysylltiedig sydd, yn anffodus, yn nodwedd o Lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru. Fel yr adroddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru, mae ei wariant y tu allan i'r gwasanaeth iechyd eleni tua 10 y cant yn is, mewn termau real, nag yr oedd yn 2010. Ie, yn rhannol, oherwydd cyni ond hefyd oherwydd camreolaeth Llafur ar feysydd datganoledig allweddol, gan arwain at gyllideb yn llawn gwrthddywediadau. Yng Nghymru, mae'r Llywodraeth hon yn gwario mwy a mwy ar reoli afiechyd yn hytrach na mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol. Mae'n dal i fethu â mapio sut mae'n dymuno symud, hyd yn oed, i gyfnod lle mae gennym dirwedd iechyd a gofal mwy cytbwys, lle mae atal yn cael ei flaenoriaethu'n wirioneddol. Hyd yn oed os yw hynny'n anodd heddiw, dywedwch wrthym sut y byddwch chi'n cyrraedd y pwynt hwnnw.

Mae'n cwtogi cyfleoedd bywyd ein pobl ifanc drwy dorri'r gyllideb brentisiaethau y mae Luke Fletcher wedi bod yn siarad amdani mor huawdl, er bod pobl ifanc yn faes blaenoriaeth yn y strategaeth economaidd newydd a gyflwynwyd gan yr un sydd â'i lygad ar fod yn Brif Weinidog, Vaughan Gething. Mae'n torri'r gyllideb addysg, er gwaethaf yr heriau sylweddol a amlygwyd gan ganlyniadau PISA diweddar.

Bydd yn tlodi ein sefydliadau diwylliannol ar adeg o hyder cenedlaethol cynyddol. Fel yr ysgrifennodd Andrew Green, cyn-lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr wythnos diwethaf:

'Yng nghanol y llywodraeth mae diffyg dealltwriaeth angheuol a diffyg gweledigaeth ynghylch swyddogaeth diwylliant a'r celfyddydau mewn...sut mae pobl y tu allan i Gymru yn ein gweld ni.'

Ac fel y mae'n nodi, mae'r dull yma yn wahanol iawn i ddull Llywodraeth yr Alban, sy'n cynyddu gwariant ar y celfyddydau a diwylliant er eu bod hefyd yn wynebu pwysau cyllidebol. Mae'r pethau hyn yn bwysig.

Ac mae'n diraddio materion gwledig, sy'n rhy aml yn ôl-ystyriaeth wrth fwrdd y Cabinet, rwy'n ofni, i gefn y ciw cyllido, er bod gwarantau i gynnal y cynllun taliadau sylfaenol ar y lefelau presennol yn ymrwymiad i'w groesawu, ac yn un y pwysodd Plaid Cymru mor galed i'w sicrhau.

Ac, yn wir, maint yr uchelgais a ddangoswyd gan y consesiynau y mae Plaid Cymru wedi'u sicrhau yn y gyllideb hon, er ei bod o gyfran fach o'r gyllideb gyffredinol trwy'r cytundeb cydweithio, ni ddylai'r math hwnnw o uchelgais fod yn eithriad ond yn hytrach yn rheol. Ac fel y dywedais, cyfran fach iawn o'r gyllideb gyfan yw elfennau'r cytundeb cydweithio, ond er mwyn ein plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, er mwyn y rhai sy'n elwa yn sgil hybiau iechyd meddwl, er mwyn y rhai sy'n gallu fforddio cartref yn haws yn eu cymunedau, Er eu mwyn nhw dylem barhau i gyflawni'r hyn yr wyf yn credu'n gryf sy'n flaenoriaethau mewn cymunedau ledled Cymru.

Y tu allan i'r meysydd hynny lle mae gennym dir cyffredin a lle rydym wedi ffurfio cytundeb, rydym yn dod o hyd i stori ragweladwy iawn: blynyddoedd yn mynd heibio a chyllidebau olynol yn cael eu pasio heb unrhyw newid cyfeiriad gwerthfawrogol. Nid oes unrhyw le, efallai, lle mae hyn yn fwy amlwg, fel yr awgrymais yn gynharach, nag ym maes iechyd. Rwy'n cytuno'n llwyr â Helen Whyley, cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, a ddywedodd yr wythnos diwethaf:

'Mae'n ymddangos i mi fel ein bod ni'n parhau i gael y sgwrs. Rydym yn dal i gael gwybod nad oes mwy o arian, ac eto nid ydym yn meddwl yn greadigol am sut rydym yn defnyddio'r arian sydd yn y system. Mae swm yr arian'

dywedodd

'yr ydym ni'n gwario ar staff asiantaeth yn eithaf brawychus.'

A chynllunio gweithlu gwael gan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am neilltuo cannoedd o filiynau o bunnoedd i weithwyr asiantaethau. Oni bai fod hynny'n cael ei ddatrys, ni fyddwn byth yn gallu adeiladu, fel y dywedais, y system iechyd a gofal gytbwys honno.

Mae'r hyn sydd gennym o'n blaenau yn adlewyrchu patrwm sy'n rhy gyfarwydd o lawer: llywodraeth y DU yn anghydnaws ag anghenion Cymru o ran tegwch cyllid a hefyd o ran pwerau. Rwy'n cyflwyno'r achos heddiw i roi'r pwerau i ni allu defnyddio ein trethiant, cwmpas trethiant, mewn ffordd gynnil, na allwn ni ei wneud ar hyn o bryd. Mae gan yr Alban y pwerau hynny; dylem ni fod â nhw. Ond mae gennym ni yma adlewyrchiad o'r Llywodraeth honno yn y DU yn anghydnaws ag anghenion Cymru a Llywodraeth Cymru yn methu â dangos y meddwl cydlynol sydd ei angen i drawsnewid ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus drwy nodi'r cysylltiad rhwng cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd. Ac yn fwyaf pryderus oll, does fawr o arwydd y bydd newid Llywodraeth yn San Steffan yn arwain at gyllid teg i Gymru, sy'n codi'r cwestiwn: pwy fydd Llywodraeth Cymru yn beio bryd hynny? Dyna pam ei bod mor bwysig bod gennym lais Plaid Cymru yn gwthio ac yn gwthio, gan gyflwyno'r achos dros degwch i Gymru, ac rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i feddwl o'r newydd, i fod yn fwy mentrus ac i fyfyrio a yw cynlluniau gwariant heddiw wir yn ateb heriau yfory.

17:05

Does dim syndod bod gan wledydd fel y rhai yn Sgandinafia, sydd â'r trethi uchaf, y gwasanaethau cyhoeddus gorau. Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Trethiant yw ein pris mynediad i gymdeithas wâr. Mae gormod o bobl yn credu y gallwn ni gael gwasanaethau cyhoeddus o'r un ansawdd â rhai Sgandinafia ond gyda chyfradd drethu sy'n debycach i un UDA.

Pan edrychwch chi ar gost addysg breifat a gofal iechyd preifat, mae'n rhoi mewn persbectif y gwerth am arian a gawn o'n system drethu. Nid ar hap neu drwy ffliwc y mae'r gwledydd hynny sydd â'r lefelau treth uchaf hefyd â'r gwasanaethau cyhoeddus gorau a'r rhai sydd â'r lefelau treth isaf yw'r rhai tlotaf. Y rheswm am hyn yw bod angen trethiant i godi'r arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un ohonom ni eu hangen ac yn eu defnyddio. Er bod gan y Ceidwadwyr obsesiwn gyda thorri trethi er budd y cyfoethog yn bennaf, rwy'n pryderu am ostyngiad yn ansawdd gwasanaethau cyhoeddus oherwydd y gostyngiad mewn gwariant cyhoeddus mewn meysydd datganoledig.

Yn 2024-25, fel y dywedodd y Gweinidog yn gynharach, mae ein cyllideb werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real. Mae hynny'n ostyngiad o dros 5 y cant mewn termau real ym mhob maes gwariant. Mae'r gyllideb yn buddsoddi mwy yn y gwasanaeth iechyd gwladol, sydd hefyd yn flaenoriaeth Llywodraeth Cymru, y Senedd a chyhoeddus. Rwy'n pryderu bod cyfran y gyllideb iechyd sy'n cael ei gwario ar ofal sylfaenol yn parhau i leihau, ac rwy'n gofyn, fel rhan o'r setliad cyllidebol, bod y ganran bresennol sy'n cael ei gwario ar ofal sylfaenol yn cael ei diogelu, ond hefyd bod safon yr holl ddarparwyr yn cael ei chodi i safon y gorau. Mae darparwr gofal sylfaenol yn fy etholaeth i pan fo claf yn ffonio ac yn dweud bod angen apwyntiad brys arno, yn dweud wrth y claf, 'Wel, mae angen i chi fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys felly.' Dyna mae adran damweiniau ac achosion brys ei angen: mwy o bobl yn cael eu hanfon yno. Mae angen i fyrddau iechyd fonitro perfformiad gofal sylfaenol. Rwy'n cael fy atgoffa o hyd eu bod yn ddarparwyr preifat, sy'n wir, ond mae angen i'r bwrdd iechyd sicrhau eu bod yn bodloni gofynion y cleifion. Rydyn ni, drwy'r bwrdd iechyd, yn eu talu nhw. Hefyd, pan fo pobl yn methu â chael apwyntiadau gyda gwasanaethau meddygon teulu, maen nhw'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys neu'n aros nes bod eu hiechyd yn dirywio ac yna maen nhw'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys fel achos argyfwng. Mae cleifion yn methu cael apwyntiad i weld eu meddyg teulu. Maen nhw naill ai'n rhy hwyr neu gallan nhw ddim mynd heibio'r derbynnydd. Yr unig le y gallan nhw fynd iddo a bod yn sicr o weld meddyg yw adran damweiniau ac achosion brys—mae adrannau damweiniau ac achosion brys bellach wedi dod yn wasanaeth ymgynghori galw i mewn diofyn. A yw'n syndod bod gennym giwiau hir yn adrannau damweiniau ac achosion brys? Ni ddylai fod yn syndod nad yw adran damweiniau ac achosion brys yn golygu damweiniau ac achosion brys mwyach, ond lle mae'n rhaid i chi fynd iddo os oes unrhyw beth yn bod arnoch. Wrth i fwy fynd i'r adrannau hyn, maen nhw'n cael eu llethu ac yna mae gennych chi ambiwlansys yn ciwio y tu allan.

Pan fyddwn ni'n rhoi mwy o arian i fyrddau iechyd—a dydw i ddim yn credu bod unrhyw un yn mynd i ddadlau yn erbyn hynny eleni—mae angen targedau ar fyrddau iechyd ar gyfer gweithgareddau, fel gosod clun newydd a llawdriniaeth cataract ac ati. Mae angen i ni wybod beth rydyn ni'n ei gael am roi yr arian ychwanegol iddyn nhw. Rydyn ni'n rhoi arian ychwanegol iddyn nhw ac yn gobeithio y bydd popeth yn gweithio'n dda. Mae angen targedau arnom. Rwy'n gwybod nad yw pawb yn hoff o dargedau, ond mae angen targedau arnom. Mae angen i ni ddweud, 'Rydyn ni'n rhoi hyn i chi; dyma beth rydyn ni'n gobeithio ei gyflawni gyda'r arian yma.'

Mae angen i wella iechyd ddod yn flaenoriaeth. Rydym yn gwybod y bydd lleihau smygu, cynyddu ymarfer corff a lleihau gordewdra yn hytrach nag aros i bobl fynd yn sâl ac yna eu trin, yn amlwg, yn gwella iechyd. Rydym hefyd yn gwybod bod tai yn hynod o bwysig o ran iechyd gwael. Mae pobl nad ydynt yn cael digon o faeth, sy'n byw mewn amodau oer a llaith, yn llawer mwy tebygol o fod yn sâl, a phan fyddant mewn oed, mae problem ddifrifol y gallant fynd yn ddifrifol wael ac yn gorfod mynd i'r ysbyty yn y pen draw ac ni ellir eu rhyddhau o'r ysbyty oherwydd nid yw'r tŷ y byddan nhw'n mynd yn ôl iddo yn addas ar eu cyfer. Felly, rydym yn y pen draw mewn sefyllfa y mae rhai pobl yn ei galw'n blocio gwelyau, a phobl eraill yn ei galw'n ffaith bod pobl yn yr ysbyty na ellir eu rhyddhau oherwydd y problemau sydd ganddynt. Os nad yw gofal cymdeithasol yn ddigonol, ni ellir rhyddhau pobl o'r ysbyty, neu, oherwydd gofal cymdeithasol annigonol, fe fyddant yn yr ysbyty yn y pen draw.

Lle gellir gwneud arbedion? Cymerwch y difidend Brexit. Nid oes rhaid gwneud taliadau fferm sylfaenol mwyach; nid ydym bellach yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n awgrymu bod y Llywodraeth yn creu rhaglen dros dair blynedd i gael gwared ar daliadau fferm sylfaenol. Yn hanesyddol, talodd Cymru fwy am wartheg wedi'u heintio â TB na Lloegr. Os yw hynny dal yn wir, gostyngwch wariant fesul anifail i'r un peth â Lloegr.

Rhowch y gorau i ariannu parthau menter. Yn y Senedd ddiwethaf, daeth pwyllgor yr economi, o dan Russell George, i'r casgliad nad oedd cysyniad y parth menter ar y cyfan wedi profi ei hun, er gwaethaf gwariant o £220 miliwn. Peidiwch ag ariannu pethau fel rhoi £4 miliwn i gwmni o Seland Newydd i adeiladu atyniad i dwristiaid. Ni ddylem fod yn defnyddio arian cyhoeddus i adeiladu atyniadau twristaidd. Peidiwch â phrynu tir at ddefnydd gŵyl.

Darparwch grantiau hyfforddi i gwmnïau sy'n adleoli i Gymru, ond peidiwch â rhoi grantiau iddynt. Rydym wedi datblygu math newydd o gyfalafiaeth: cyfalafiaeth gymhorthdal, pryd mae elw yn cael eu chwyddo gan arian cyhoeddus. Cefnogwch addysg. Rydym eisiau i gwmnïau sefyll i fyny a dod yma oherwydd ansawdd y gweithlu. Ond mae'n bwysig iawn bod yr hyn rydyn ni'n ei wneud o fudd i'n heconomi ac o fudd i iechyd ein pobl.

17:10

Fe wnaf gyfeirio'r Aelodau at ddatganiad o fuddiant o ran perchnogaeth tir ac eiddo.

Dyma ni, unwaith eto. Mae hon yn gyllideb ddrafft lle bydd Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn achosi niwed uniongyrchol i wead ein cenedl, yn union fel y cyfyngiadau 20 mya cyffredinol, ac, rwy'n dweud wrthych chi, bydd y gyllideb hon yn cael ei gwrthod gan y pleidleiswyr. Yn bersonol, hoffwn pe bai etholiad wythnos nesaf yma yng Nghymru. [Torri ar draws.]

Iawn. Iawn. Janet Finch-Saunders, a wnewch chi barhau ac a wnaiff Aelodau fod yn dawel, os gwelwch yn dda?

Mae cyllid Amgueddfa Cymru wedi cael ei dorri—£2 filiwn—cyllid Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei dorri o £11.8 miliwn i £11.1 miliwn, Cadw o £9.2 miliwn i £7.4 miliwn. Mae mwy. Cyllid Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi'i dorri o £1.7 miliwn i £1.4 miliwn. Cyllid Chwaraeon Cymru wedi'i dorri o £23 miliwn i £20 miliwn. Mae hyn i gyd er gwaethaf y ffaith ein bod yn eistedd yma yn ystod llawer iawn o gyfarfodydd llawn lle rydych chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Y sefydliadau sy'n darparu achubiaeth a llwyfan i'n diwylliant Cymreig gwirioneddol unigryw dan warchae gan sosialwyr Cymreig a chenedlaetholwyr Cymreig.

Mae'n mynd yn waeth. Mae tir ac amgylchedd Cymru yn cael eu targedu hefyd. Cyllid pysgodfeydd wedi'i dorri o £4.6 miliwn i £3.6 miliwn. Buddsoddi mewn hyrwyddo datblygiad bwyd a diwydiant yng Nghymru i lawr o £7 miliwn i £4.8 miliwn. Cyllideb portffolio'r newid hinsawdd £50 yn llai, hyn ar adeg o argyfwng natur a hinsawdd. Rydych yn torri'r gyllideb ynni glân o £9.7 miliwn i £2.8 miliwn. Dylen ni fod yn defnyddio ein holl ysgogiadau, rydych chi'n dweud wrthym, sydd ar gael i ni—[Torri ar draws.]—er mwyn helpu i ollwng—. Oeddech chi eisiau ymyriad?

Oeddwn. Pam na wnaethoch chi bleidleisio dros y Bil aer glân os ydych chi'n poeni am newid hinsawdd?

Oherwydd dydyn ni ddim eisiau trosglwyddo mwy o daliadau ffordd i'n—[Torri ar draws.] Dylem ni fod yn defnyddio ein holl bwerau ac ysgogiadau sydd ar gael i ni, meddech chi. Rydych chi'n beirniadu ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS—[Torri ar draws.]—am ei—[Torri ar draws.]—am ei ddull pragmatig, ac eto rydych chi'n lleihau arian i'r gyllideb hon, felly byddai'n braf gwybod heddiw a fydd y gyllideb hon nawr yn tanseilio gallu eich Llywodraeth Cymru i gyflawni sero net.

Mae angen mwy o fanylion am y cynnydd cadarnhaol mewn gwariant i CNC, dadansoddiad o'r arian ychwanegol hwnnw. Mae hynny'n gynnydd da iawn i'r gyllideb honno. A fydd yn darparu'r swyddi ychwanegol hynny, fodd bynnag, y dywedwyd wrthym yn ystod ymchwiliad ein pwyllgor bod eu hangen er mwyn i CNC berfformio'n well?

Ers 2006, dim ond 2.2 y cant y flwyddyn yw'r ganran gyfartalog y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar dai. Nid ydych wedi adeiladu'r tai; dydych chi ddim wedi dod ag eiddo gwag yn ôl i'r stoc, a—[Torri ar draws.] Wel, llond llaw. Mae gennym gannoedd o filoedd ac rydych chi wedi dod â llond llaw i mewn. Mae Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn iawn nad yw'r gwariant yn adlewyrchu difrifoldeb yr argyfwng tai. Ar ba bwynt y byddwch chi'n cofio ac yn parchu'r argyfwng tai sydd gennym ni? Un fil ar ddeg, dau gant wyth deg wyth o unigolion mewn llety dros dro a 3,409 o blant. Mae'n hollol warthus ein bod yn gweld teuluoedd yn byw mewn tlodi mewn ystafelloedd gwestai a gwely a brecwast yn 2024. Mae nifer yr unigolion sy'n cysgu allan ar ei uchaf ers 2020.

Mae landlordiaid preifat yn gadael y sector, gan orfodi mwy i mewn i ystafelloedd gwesty amhriodol a chostus. Mae digartrefedd yn cael ei danio gan ddiffyg tai fforddiadwy a'r pwysau ariannol a wynebir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol. Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod eu methiant i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru drwy gynyddu'r llinell gyllideb cymorth ac atal digartrefedd o £46 miliwn i £214 miliwn. Mae'n hollol wallgof, yn yr oes sydd ohoni, eich bod yn barod i daflu arian at gadw pobl mewn ystafelloedd gwesty a llety gwely a brecwast yn hytrach nag adeiladu'r stoc dai, y tai cymdeithasol ar rent, y tai fforddiadwy. Nid yw pobl eisiau byw mewn ystafelloedd gwesty. Maen nhw'n haeddu tŷ fel sydd gennym ni i gyd yma.

Yn y pen draw, fodd bynnag, pobl Cymru sy'n cael eu siomi. Wedi'u siomi gan Lafur Cymru, wedi'u siomi gan Blaid Cymru, ac wedi'u siomi gan eu cytundeb cydweithio ar y cyd. Cynnydd diangen yn y gyllideb ar gyfer prydau ysgol am ddim cyffredinol o £22.5 miliwn. Dylai'r rhai sy'n gallu fforddio talu gael eu grymuso i wneud hynny, a hefyd rwy'n gwybod am ysgolion yn fy etholaeth i nawr, er gwaetha'r ffaith y gallen nhw gael prydau ysgol am ddim, sy'n dal i anfon plant—

17:15

Ni ddywedais i hynny. Dywedais y rhai nad ydynt yn gallu, digon teg, ond mae yna bobl sy'n gallu ei fforddio. Byddwn i'n dychmygu y gall unrhyw un yma y mae eu plant yn mynd i'r ysgol fforddio talu am eu prydau ysgol. [Torri ar draws.]

Fel yr wrthblaid swyddogol yn y Senedd hon, er yn is o ran nifer y pleidleiswyr yma na'ch dwy blaid wleidyddol gyda'i gilydd, rwy'n falch fel Ceidwadwr Cymreig ar y meinciau hyn, a byddwn yn parhau i herio, craffu a gwrthwynebu'r gamreolaeth hon o'r arian a ddarperir gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn gadarn. Byddwn yn sefyll dros fuddiannau ein preswylwyr os na fyddwch chi yn gwneud hynny. Diolch.

Mae'r gyllideb ddrafft hon yn amlygu'n glir realiti anghyfforddus sydd wedi bod yn amlwg ers peth amser. Mae llywodraeth leol yng Nghymru mewn argyfwng dirfodol, gyda chynghorau yn wynebu bwlch ariannu amcangyfrifedig o £354 miliwn drwy'r flwyddyn ariannol nesaf, y rhagwelir y bydd yn cynyddu i £750 miliwn erbyn 2027. Mae'n sicr bod cyllid llywodraeth leol ar lwybr cwbl anghynaliadwy. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal y cynnydd cyfartalog yn y setliad llywodraeth leol ar 3.1 y cant, yn ogystal â chyflwyno'r terfyn isaf i'r grant cynnal refeniw. Ond yng nghyd-destun chwyddiant ystyfnig o uchel a chostau ynni, y realiti trist yw bod cynnal y cynnydd yn y setliad yn gyfystyr â gostyngiad mewn termau real yng ngwariant llywodraeth leol. Hyd yn oed gyda chynnydd sylweddol yn y dreth gyngor i liniaru'r pwysau hyn—efallai cymaint â 10 y cant mewn rhai ardaloedd—byddwn yn dal i fod mewn sefyllfa lle go brin y gall awdurdodau lleol ddarparu hyd yn oed y lefel fwyaf sylfaenol o wasanaethau cyhoeddus.

Mae effaith dros ddegawd o gyni a thanfuddsoddi gan y Torïaid o San Steffan wedi bod—[Torri ar draws.] Rwyf ond newydd ddechrau, mae'n ddrwg gennyf. [Torri ar draws.] Rydym yn cydnabod bod hyn wedi cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i gefnogi llywodraeth leol. Fel y mae Rhun eisoes wedi sôn, yn llythrennol, ni all cynghorau ledled Cymru fforddio'r posibilrwydd y bydd plaid Dorïaidd mewn grym y tu hwnt i 2024. Mae'n hanfodol bod eu dogma trychinebus o gyni yn cael ei roi o'r diwedd ym min sbwriel hanes. Ond fel darpar Lywodraeth o bosib, mae gan y Blaid Lafur gyfrifoldeb hefyd i ddarparu llwybr clir tuag at adfer ein gwasanaethau cyhoeddus sydd dan warchae, ac fel y mae pethau, maent yn amlwg yn siomi ein hawdurdodau lleol.

Nid yw cred barhaus y Prif Weinidog y bydd newid Llywodraeth yn San Steffan yn golygu lwc dda ddramatig i Gymru yn dal dŵr. Ar sawl achlysur, gwrthododd Starmer addo cytundeb ariannu teg i Gymru ac mae'n cefnogi fersiwn wedi'i ailbecynnu o gyni. Yn y cyfamser, bydd bygythiad o doriadau pellach a hyd yn oed methdaliad yn gysgod du dros awdurdodau lleol. Ddiwedd y llynedd, cododd Cyngor Sir Fynwy a reolir gan Lafur rybudd o risg ddifrifol i'w ddyfodol oherwydd pwysau ariannol ac, na, nid nhw yw'r unig rai yn y sefyllfa hon. Byddwn yn ddiolchgar iawn, felly, pe gallai'r Gweinidog gadarnhau a wnaed unrhyw waith gan Lywodraeth Cymru i'r risg tymor byr i ganolig o fethdaliad i awdurdodau lleol Cymru. Pa fesurau wrth gefn sydd ar waith i ymdrin â senario o'r fath?

Er ei bod yn hawdd iawn bod yn negyddol am y rhagolygon sy'n wynebu awdurdodau lleol yn y dyfodol, dylem hefyd fod yn barod i ddysgu o'r cydnerthedd a'r arfer da a ddangoswyd gan awdurdodau lleol, fel Ynys Môn sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru. Fe wnaeth y cyngor hwn, o dan arweinyddiaeth ardderchog Llinos Medi, gamu i'r adwy yn ystod y pandemig ac yn y bôn maen nhw wedi aros yn barod i weithredu mewn argyfwng byth ers hynny oherwydd y pwysau costau byw digynsail. Llywodraeth leol yw sylfaen ein cymdeithas ddinesig ac, o'r herwydd, mae'n hanfodol ei bod yn cael ei gwerthfawrogi yn unol â dyraniad cyllid cyhoeddus.

Hoffwn nawr droi at agwedd arall ar y gyllideb, sef y penderfyniad i leihau rhyddhad ardrethi annomestig i 40 y cant. Mae'n gwbl ddealladwy bod y sector busnes yng Nghymru, sy'n parhau i ddioddef effeithiau andwyol ôl-effeithiau'r pandemig a'r argyfwng costau byw parhaus, wedi derbyn y newyddion gyda chryn anobaith. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith lleihau rhyddhad ardrethi annomestig ar fywiogrwydd ein sector busnes? Sut ydych chi'n sicrhau mai BBaChau domestig yw prif fuddiolwyr cymorth y Llywodraeth? Ac, o safbwynt ehangach, rwyf wedi bod o'r farn ers tro bod y rhyddhad ardrethi annomestig yn erfyn polisi di-awch sy'n arbennig o feichus ar ein BBaChau, asgwrn cefn ein heconomi. A fyddech felly yn ystyried mesur amgen, mwy blaengar nad yw'n pentyrru mwy o bwysau ar fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi'r argyfwng costau byw?

Edrychaf ymlaen at graffu ar y gyllideb yn llawer mwy manwl yn y Pwyllgor Cyllid ac rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn gwneud yr un peth yn eich pwyllgorau priodol i fynd o dan groen y gyllideb hon a phrofi'r penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth hon. Diolch yn fawr.

17:20

Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r Ceidwadwyr wedi rhoi degawd o gyni i ni, llanast Brexit a Liz Truss. Mae trethi y rhai uchaf ers y 1940au, ond mae gwasanaethau cyhoeddus yn brin o arian. Mae unrhyw beth ychwanegol dros y tair blynedd diwethaf wedi disgyn i dwll du pwysau chwyddiant. Nid yw'r setliad yn ddigon i reoli'r pwysau rydyn ni'n eu hwynebu fel poblogaeth hŷn, salach gyda phwysau chwyddiant uwch a phobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn methu ymdopi â'r argyfwng costau byw.

Mae cynghorau mewn sefyllfa enbyd; maen nhw wedi gwneud yr holl arbedion posibl, gan adrefnu ac ailstrwythuro, cynyddu ffioedd a thaliadau, gan gynnwys y dreth gyngor. Efallai y byddant yn crafu trwy'r flwyddyn hon gan fenthyca oddi wrth y naill i dalu’r llall, gan achosi dinistr yn y cymunedau y maent wedi ceisio eu diogelu. Gwn fod rhai yn dibynnu ar newid Llywodraeth y DU gyda diwedd ar gyni ariannol, a allai ddod yn rhy hwyr, gan y gallai etholiad hwyr ddod eleni, ond maen nhw hefyd yn cynllunio hysbysiadau adran 114 a methdaliad os na fydd unrhyw beth yn newid ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ac nid y cynghorau yma yn unig; mae chwe chyngor yn Lloegr wedi ffeilio cais am fethdaliad ac mae o leiaf chwech arall yn ystyried hyn. Datganiad yr hydref dan Jeremy Hunt oedd yr hoelen olaf yn yr arch i gynghorau, gan ddweud bod Llywodraeth y DU eisiau sector cyhoeddus llai, hyd yn oed mwy o gynhyrchiant ac effeithlonrwydd; does dim byd ar ôl i'w roi.

Ailadroddodd Prif Weinidog y DU hyn yn ddiweddar, gan ddweud y bydd budd-daliadau dan fygythiad eto gan ei fod eisiau i bobl wneud i waith dalu, ond mae'r rhan fwyaf o bobl ar fudd-daliadau yn gweithio. Mae llawer o bobl yn dibynnu ar fudd-daliadau a chymorthdaliadau cyhoeddus drwy gydol eu bywydau heb sylweddoli hynny; p'un a yw'n fudd-dal plant, cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor, credyd treth pensiwn, taliadau fferm neu docynnau bws, maen nhw i gyd yn gymorthdaliadau.

Ac er na ddylem fod yn ymladd dros y briwsion, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog edrych ar y fformiwla ariannu eto. Mae bod yn y chwartel gwaelod dros nifer o flynyddoedd yn cael effaith gronnol, ac rwy'n cwestiynu pam y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data presennol ar gyfer pobl iau ond data sydd dros ddegawd oed ar gyfer pobl hŷn, sydd wedyn yn effeithio ar wariant ar gyfer gofal iechyd cymdeithasol. Dylid adnewyddu'r holl ddata a'i ddiweddaru, a gofynnaf i'r Gweinidog a ellid edrych ar hynny.

Roedd y dreth gyngor yn arfer bod yn 24 y cant o'r gyllideb; daeth y gweddill o'r Llywodraeth. Nawr mae'n 30 y cant o'r gyllideb. Mae llai o arian oddi wrth Lywodraeth y DU i Lywodraethau datganoledig mewn termau real yn golygu llai o wasanaethau a threthi cynghorau uwch i gau'r bwlch. Mae cynghorau yn gofyn a fyddai modd dangos ardoll y gwasanaeth tân ar wahân i'r dreth gyngor—byddai'n eu helpu.

Pe bai cyllid wedi cadw i fyny â thwf yn yr economi ers 2010, byddai'r gyllideb ar gyfer Cymru £3.5 biliwn yn uwch. Mae'r swm y gall Llywodraeth Cymru ei wario ar brosiectau cyfalaf fel adeiladau, ffyrdd a band eang yn cael ei gyfyngu gan Lywodraeth y DU, ac felly hefyd benthyca. Nid yw seilwaith band eang a rheilffyrdd wedi'u datganoli, ac nid ydynt wedi'u hariannu'n deg. Ond dro ar ôl tro, mae'n ymddangos bod arian i'w gael lawr cefn y soffa ar gyfer Lloegr, heb unrhyw arian canlyniadol i Gymru. Mae angen mwy o dryloywder. Sylwais fod yr Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi cyllid yn ddiweddar i fwrdeistrefi Llundain er mwyn rhoi wyneb newydd ar ffyrdd gan fanteisio ar ailgyfeirio cyllid HS2, gan ddweud ei fod yn rhan o gynllun trafnidiaeth Network North. Felly, lle mae'r cyllid ar gyfer Cymru a'n rhwydwaith ni? Yng Nghymru, mae angen i ni fod yn onest pan nad oes cyllid ar gyfer ffyrdd. Pan benderfynwyd adolygu adeiladu rhai ffyrdd o dan newid hinsawdd, gan ddweud y bydd y cyllid hwnnw'n mynd i gynnal a chadw rhai sy'n bodoli eisoes a thrafnidiaeth gyhoeddus, dylem fod yn onest a dweud nad oes arian yn dod oddi wrth Lywodraeth y DU.

Mae angen dybryd arnom i gael mwy o arian yn y grant cymorth tai er mwyn atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Mae hynny'n anobeithiol. Mae angen i ni fod yn ymdrin â'r argyfwng hinsawdd a natur—mae hynny'n anobeithiol. Ond ni ddylem fod yn ymladd dros friwsion y gyllideb ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus pan fo'n rhy fach i ddechrau. Dylem fod yn brwydro dros ddod â 15 mlynedd o gyni i ben a rhoi terfyn ar doriadau i wasanaethau cyhoeddus.

17:25

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw—un sy'n eithriadol o bwysig ar sawl lefel, yn enwedig o ystyried amseriad rhyddhau'r gyllideb ddrafft hon, sydd hyd yma wedi caniatáu ar gyfer craffu cyfyngedig yn unig.

Fel y dywedais i yn ystod dadl ychydig cyn y Nadolig, ffermio yw'r edau arian sy'n rhedeg trwy wead hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae amaethyddiaeth Cymru nid yn unig yn rhan hanfodol o'n heconomi, ond mae'n rhan o'n diwylliant cyfoethog, mae'n diogelu ein hiaith a'n harddwch amgylcheddol, ac mae'n cynhyrchu bwyd o'r ansawdd uchaf hefyd. Dyna pam, Llywydd, rwy'n hyderus, ochr yn ochr â'r undebau ffermio, y bydd ffermwyr ledled Cymru wedi rhoi ochenaid o ryddhad y bydd cynllun y taliad sylfaenol yn cael ei gynnal ar £238 miliwn trwy flwyddyn ariannol 2024-25, yn dilyn y galwadau parhaus gennyf i a chyd-Aelodau ar y meinciau hyn.

Mae sicrhau bod ein ffermwyr yn cael y cymorth pwysig hwn, sydd, fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, mor hanfodol i'n cymunedau lleol ledled Cymru, yn golygu bod ein ffermwyr wedi cael rhywfaint o sicrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Fel y gwyddom ni, o'r £238 miliwn a roddwyd i ffermwyr drwy gynllun y taliad sylfaenol yn 2022, cynhyrchwyd allbwn gros o £2.1 biliwn i'r economi ehangach—enillion o 9:1 ar fuddsoddiad cyhoeddus. Mae'n ffigur syfrdanol sy'n tanlinellu pwysigrwydd cefnogi busnesau fferm tuag at arferion ffermio cynaliadwy a sicrhau hyfywedd amaethyddiaeth Cymru yn yr hirdymor.

Ond er gwaethaf y cipolwg hwn ar sicrwydd a diogelwch i'n ffermwyr drwy gynllun y taliad sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru wedi taflu ansicrwydd i gyfeiriad diwydiant amaethyddol Cymru. Mae materion gwledig wedi gweld toriad o £62 miliwn—gostyngiad o tua 13 y cant o'i gymharu â chyllideb derfynol 2023-24—ar adeg pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn hyrwyddo ac yn buddsoddi mewn bwyd a chynnyrch Cymru, yn creu swyddi yn y sector, ac yn cefnogi ffermwyr wrth iddyn nhw gynhyrchu a diogelu.

Llywydd, bydd y toriadau ehangach hyn yn arwain at oblygiadau difrifol i'r diwydiant wrth inni edrych tuag at ddechrau'r cynllun ffermio cynaliadwy ym mis Ionawr 2025, a chynllun Cynefin Cymru, a ddechreuodd yn gynharach y mis hwn. Dywedodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones:

'yn amlwg mae toriad i'r gyllideb Materion Gwledig gyffredinol yn peri pryder ac mae ganddo oblygiadau ar gyfer darparu rhaglenni o fewn portffolio'r Gweinidog',

gydag arlywydd FUW, Ian Rickman, yn ychwanegu:

'Mae'r toriadau a wnaed i gyllid materion gwledig Cymru yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn peri pryder mawr'.

Yr eironi, Llywydd, yw bod y toriadau i'r gyllideb materion gwledig yn peryglu'r union amcanion, yr union amcanion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod i'w hun o ran cefnogi'r diwydiant i gyflawni targedau amgylcheddol. Gofynnir i ffermwyr wneud mwy a mwy a mwy yn barhaus, ac eto maen nhw'n cael llai a llai a llai gan y Llywodraeth Cymru hon. Rydym wedi gweld yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf y protestiadau yn yr Almaen, sy'n digwydd pan fydd Llywodraeth yn gwthio ffermwyr a'r sector ffermio yn rhy bell. Mae Llywodraeth Cymru yn cerdded rhaff dynn o ran ei pherthynas â'r diwydiant ffermio. Crwydrwch, hyd yn oed gan filimedr yn unig, ac rwy'n siŵr y bydd ffermwyr yn dangos eu rhwystredigaeth a'u dicter mewn ffyrdd tebyg. Diolch, Llywydd.

17:30

Dwi eisiau ffocysu ychydig ar drafnidiaeth. Yn y chwe mis rhwng mis Hydref diwethaf ac Ebrill eleni bydd gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn £236 miliwn yn ychwanegol o'r Llywodraeth. Mae hynny'n swm sy'n cyfateb i bron yr holl doriadau cyllid o £245 miliwn sydd wedi’u gwasgaru dros bron i bob maes polisi fel rhan o'r gyllideb hon. Dwi'n berson sy'n cefnogi gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus yn fawr. Buaswn i hefyd yn awyddus i weld Trafnidiaeth Cymru yn cyfiawnhau y lefelau uchel hyn o wariant. Ar bron i bob un metrig o ran perfformiad, ymddengys bod Trafnidiaeth Cymru yn cael ei gwobrwyo am dangyflawni. Maen nhw wedi derbyn y lefelau isaf o fodlonrwydd yn yr arolygon mwyaf diweddar gan Transport Focus. Mae eu trenau nhw ond ar amser 60 y cant o'r amser, mae ganddynt rai o'r cyfraddau canslo mwyaf uchel yn yr ynysoedd hyn, ac mae gorlwytho cerbydau yn broblem barhaus. Wrth gwrs, gwnaethon ni ffeindio mas yn ddiweddar mai dim ond 29 y cant o siwrneiau sy'n digwydd ar drenau newydd, er bod targed o 95 y cant erbyn diwedd 2023. Pan wnaethon ni ofyn i'r Llywodraeth am esboniad ar gyfer yr arian ychwanegol o £125 miliwn ar y pryd oedd wedi cael ei neilltuo ar gyfer TfW ym mis Hydref, dywedodd y Llywodraeth bod hyn i fod i wneud lan am golledion mewn gwerthu tocynnau. Dwi'n deall, a dwi'n meddwl bod pawb yn deall, bod COVID wedi cael effaith syfrdanol—roedd e’n rhywbeth oedd yn anorfod—ond bron i ddwy flynedd ers i ni wneud i ffwrdd â’r gyfres olaf o gyfyngiadau COVID, dydy’r niferoedd o deithwyr dal ddim wedi cyrraedd pwynt lle na fydd angen y gefnogaeth ychwanegol hon gan y Llywodraeth.

Nid yw hon, Llywydd, yn broblem sydd wedi'i hailadrodd yn unffurf ledled y DU. Fel y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi datgelu, mae pedwar prif weithredwr trenau yn y DU sydd eisoes wedi gallu rhagori ar eu niferoedd teithwyr cyn COVID. Rwy'n gofyn hyn oherwydd rwyf am wybod, yn ddiffuant, os gallan nhw wneud hynny, beth yw'r rhwystrau sy'n atal Trafnidiaeth Cymru rhag gwneud yr un peth. Rwy'n credu mai rhan o'r broblem yma yw bod yr amcanestyniadau refeniw o werthiant tocynnau a gawsom yng Nghymru yn seiliedig ar gais KeolisAmey yn 2018. Maen nhw wedi cael eu disgrifio yn naratif Llywodraeth Cymru ei hun ar y gyllideb fel rhai 'uchelgeisiol'. Pan wnaethom gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth am y wybodaeth berthnasol a oedd yn sail i'r amcanestyniadau hyn, dywedwyd wrthym nad yw Llywodraeth Cymru yn cadw'r wybodaeth honno ar hyn o bryd. Mae hynny'n peri cryn dipyn o ofid, o ystyried pa mor ddwys y mae wedi effeithio ar gyflwr ehangach y gyllideb. Byddwn i'n gofyn, er budd tryloywder, a fydd y Llywodraeth yn ymrwymo i gaffael y wybodaeth honno a arweiniodd at yr amcanestyniadau hynny, a chyhoeddi'r wybodaeth honno cyn gynted â phosibl. Byddwn i hefyd yn gofyn a allai'r Llywodraeth esbonio pam roedd y trefniadau cyllido ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn seiliedig ar yr amcanestyniadau uchelgeisiol hyn. A gafodd amcangyfrifon mwy ceidwadol eu darparu fel rhan o gais KeolisAmey yn 2018? Ac os felly, pam y cafodd y rheini eu diystyru?

Wrth gwrs, tra bod y symiau enfawr hyn o arian yn cael eu defnyddio i lenwi tyllau yng nghyllideb rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, mae gwasanaethau bysiau yn cael eu hamddifadu o gyllid. Dros y penwythnos, fe ddysgon ni fod gwasanaeth bws T2 drwy Garndolbenmaen wedi cael ei ddileu ar fyr rybudd. Ddiwedd y llynedd gwelsom gwasanaeth Bwcabus, a oedd yn cysylltu rhai o'r cymunedau mwyaf ynysig, yn ddaearyddol, yn ne-orllewin Cymru yn cael ei gau. Dim ond ychydig enghreifftiau yw'r rhain o batrwm ehangach o erydu gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle nad oes mynediad at y rhwydwaith rheilffyrdd, neu yn wir yng nghymunedau'r Cymoedd, lle mae llawer llai o bobl yn berchen ar gar o gymharu ag yn y dinasoedd. Nid mater o drefol yn erbyn gwledig yw hwn. Mae llawer o gymunedau yn dibynnu ar wasanaethau bysiau i fyw eu bywydau. Pan na fydd bysiau'n rhedeg, mae'n cael effaith ddifrifol ar ansawdd bywyd pobl mewn cymaint o lefydd. Mae'n ymddangos bod yna ddatgysylltiad yma yn null Llywodraeth Cymru o ariannu trafnidiaeth gyhoeddus. Unwaith eto, rwy'n llwyr gefnogi ariannu trafnidiaeth gyhoeddus â'r egwyddor hon, ond er bod y cynnydd mewn cyllid rheilffyrdd wedi'i gyfiawnhau ar sail effaith barhaus y pandemig a'r angen i gynyddu nifer y teithwyr, mae'r ffaith bod y cynllun argyfwng bysiau wedi cael ei dynnu'n ôl yn ddiweddar yn dangos nad yw gweithredwyr bysiau wedi cael yr un penrhyddid. Byddwn i'n rhybuddio, heb weithredu brys i ddatblygu model cyllido teg a thymor hwy ar gyfer gwasanaethau bws, y bydd Cymru yn dod yn fwy datgysylltiedig nag erioed o'r blaen eleni. Byddwn i'n ceisio sicrwydd na fydd hynny'n digwydd. Diolch.

17:35

Gadewch imi ddechrau drwy ddweud cymaint yr wyf i'n croesawu'r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i'r GIG a llywodraeth leol yn y gyllideb ddrafft hon. Rwyf hefyd yn croesawu'r penderfyniad i gynnal y cynllun taliad sylfaenol i ffermwyr, er gwaethaf colli cyllid newydd yn lle cyllid yr UE. Rwyf hefyd yn falch o weld y peilot incwm sylfaenol yn cael ei gefnogi gyda chyllid ychwanegol, gan sicrhau bod ein plant mwyaf agored i niwed sydd â phrofiad o ofal yn cael y cyfleoedd gorau wrth symud ymlaen yn y garfan hon. 

Rwyf am dynnu sylw yn fyr at dri maes o'r gyllideb sy'n peri pryder: materion gwledig, ysgolion a'r cynnig ynghylch cynyddu ffioedd deintyddol o bosibl. Yn gyntaf, mae Cymru wledig yn benodol yn debygol o ddioddef fwyaf yn sgil y toriadau hyn, gyda gostyngiad o fwy na 10 y cant yn y gyllideb materion gwledig mewn termau real a £40 miliwn yn cael ei dynnu allan o gynlluniau buddsoddi gwledig. Mae hyn yn taro ar bwynt pontio mawr i'n cymunedau gwledig, gyda miloedd o ffermwyr yn wynebu ymyl clogwyn gyda thaliadau Glastir yn dod i ben ac ansicrwydd ariannol yn y dyfodol. Ni all y gyllideb ddiweddaraf hon helpu ond achosi braw ac erydu hyder pellach bod cyfraniadau gwledig yn cael eu gwerthfawrogi gan Lywodraeth Cymru.

Yn ail, er bod y gyllideb yn cynnal cyllid craidd ysgolion, nid yw'n lleddfu'r trafferthion ariannol y mae ysgolion yn eu hadrodd ledled Cymru. Rhybuddiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod ysgolion yn wynebu pwysau chwyddiant gwerth cyfanswm o £177 miliwn eleni, a £114 miliwn o bosibl y flwyddyn nesaf. Yn ôl cadeiryddion cymdeithasau llywodraethwyr, mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn disgwyl nodi diffygion ar gyfer blwyddyn 2024-25, gan arwain yn anochel at lai o ansawdd, staff yn gorweithio, llai o gynnal a chadw, ac, yn anffodus, diswyddiadau. Mae angen diwygiadau beiddgar i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn, fel ehangu cymhwysedd y grant datblygu disgyblion, a gyflwynwyd gan ein plaid yn 2013 i ddarparu arian parod uniongyrchol i ysgolion ddiwallu eu blaenoriaethau ac anghenion plant.

Yn olaf, yn y gyllideb ddrafft, mae yna gynnig i godi ffioedd gwasanaeth cyhoeddus fel taliadau deintyddiaeth. Mae miloedd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddeintyddiaeth leol y GIG, ac yn wynebu argyfyngau deintyddol trwy dalu symiau sylweddol, neu deithio pellteroedd hir, neu hyd yn oed geisio triniaeth DIY. Ni allai bron i chwarter y bobl a geisiodd gael apwyntiad deintyddol lleol gan y GIG yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gael un. Dylem fod yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn cynyddu capasiti'r GIG a mynediad fforddiadwy, nid prisio mwy o bobl allan o ofal deintyddol sylfaenol.

Yn olaf, er ein bod i gyd yn deall y cyfaddawdau anodd a wneir fel rhan o'r sefyllfa ariannol heriol, ni allwn ddiystyru sut y bydd hyn yn effeithio ar ddinasyddion cyffredin sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus wrth wynebu'r argyfwng costau byw. Felly, i orffen, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed sylwadau'r Gweinidog ar y pwyntiau uchod—ac rwy'n sylweddoli bod ganddi restr hir iawn o bethau i ymateb iddyn nhw—a hefyd i feddwl am sut rydyn ni'n codi incwm yma yng Nghymru, gan gynnwys y potensial i edrych ar ein pwerau codi trethi ein hunain. Diolch yn fawr iawn.

O fewn y cronfeydd cyfyngedig sydd ar gael ar ôl cymaint o flynyddoedd o gyni gan Lywodraeth y DU, rwy'n credu y dylai pob un ohonom ni yma gydnabod—er, yn amlwg, nid yw pawb yn gwneud—bod hon yn gyllideb eithriadol o anodd i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hi. Ond er bod hynny mor amlwg, Llywydd, hoffwn, serch hynny, dynnu sylw at ychydig o flaenoriaethau o fewn yr anhawster mawr a'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer gwariant Llywodraeth Cymru.

Y cyntaf o'r rhain yw llifogydd, Llywydd, oherwydd, fel yr ydym unwaith eto wedi'i weld yn ddiweddar, mae llifogydd yn risg real iawn i fywyd ac eiddo yma yng Nghymru. Yn fy etholaeth fy hun, rwyf wedi bod yn falch iawn o weld buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, gyda phartneriaid, i wella ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, er enghraifft yn ardal Llyswyry, lle mae rhai mesurau pwysig iawn wedi cael eu rhoi ar waith ar Afon Wysg i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd sy'n gwarchod dros 2,000 o eiddo. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac mae yna enghreifftiau pwysig eraill yn Nwyrain Casnewydd yr ydym yn ddiolchgar iawn amdanyn nhw. Ond serch hynny, mae llifogydd parhaus, ac yn amlwg mae effaith hynny ar deuluoedd yn arbennig yn fawr iawn. Yn ddiweddar, er enghraifft, gwelsom lifogydd dŵr wyneb yn ardaloedd Underwood, Trefesgob a Langstone yng Nghasnewydd, lle nad yw'r draeniad yn ddigonol i ddelio â chyfaint y dŵr wyneb. Yn aml iawn, Llywydd, rydym yn mynd i sefyllfa lle mae asiantaethau gwahanol yn edrych ar eraill i ysgwyddo cyfrifoldeb, ac nid yw bob amser yn glir pwy ddylai wneud beth. Felly, rwy'n credu mai rhan o'r gwaith sydd ei angen ac y mae angen ei ariannu yw dod â phartneriaid at ei gilydd i edrych ar sut mae cymunedau nid yn unig yn cael eu diogelu'n well ond wedi'u paratoi'n well. Rhan o hynny yw cydnabod pwy sy'n gyfrifol, ac rwy'n gobeithio y bydd prosiectau Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud hynny fwyfwy. Wrth gwrs, mae'n ymwneud â gweithio gydag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a rhai o'r prif gwmnïau seilwaith fel y rheilffyrdd i sicrhau ein bod ni'n gweld y dull cyfunol hwnnw a'r dull partneriaeth hwnnw o ymdrin â'r risg. Mae'n ymwneud â gwneud defnydd gwell o arian yn ogystal â sicrhau bod yna ddigon o arian.

Y maes arall yr hoffwn i ganolbwyntio arno yw addysg 14 i 19 oed yng Nghymru, lle credaf y dylai fod cyllid gennym ar gyfer mwy o gyfleoedd ar gyfer partneriaethau rhwng ysgolion a cholegau. Yn aml iawn rwy'n credu ein bod ni'n gweld nad oes digon o ddewis ar gael i flynyddoedd 10 ac 11 o ran addysg alwedigaethol. Yn aml iawn, mae disgwyl iddyn nhw aros mewn ysgolion nad ydynt yn gallu darparu'r mathau o ddewisiadau y maen nhw eu heisiau, yn hytrach na phartneriaethau'n cael eu hariannu'n well i'w galluogi i fynd i'r coleg a chael yr addysg y maen nhw'n dymuno ei chael. Felly, wedyn, mae eu cadw nhw mewn ysgolion yn broblem wirioneddol, ac rydym yn gwybod pa mor anodd yw hi o ran y cyfraddau absenoldeb presennol. Ac os ydyn nhw'n ymddieithrio, yna dydyn nhw ddim yn cadw i fyny â'u haddysg llythrennedd a rhifedd, ac yna pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol ac efallai'n penderfynu mynd i'r coleg, dydyn nhw ddim bob amser yn y meddu ar y sgiliau llythrennedd a rhifedd sydd eu hangen i wneud y cyrsiau maen nhw am eu gwneud. Felly, mae'n broblem wirioneddol, rwy'n credu, o ran addysg, o ran hyfforddiant, o ran sgiliau, ac o ran ein heconomi, ac yn amlwg mae'n cael effaith wirioneddol ar y myfyrwyr hynny, eu teuluoedd a'u cymunedau. Rwy'n gwybod y byddai ColegauCymru yn hoffi gweld mwy o weithredu yn y maes hwn, ac maen nhw wedi nodi rhai cynigion diddorol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â phrentisiaethau i bobl ifanc.

Felly, rwy'n gobeithio, o fewn, fel y dywedaf, yr anhawster mawr iawn sydd gennym, y gallai fod yn bosibl edrych ar y ddau faes hynny a sicrhau ein bod ni'n gallu ariannu'n briodol y meysydd gweithgarwch hynny sy'n peri pryder go iawn yn fy marn i. Diolch yn fawr.

17:40

Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Hoffwn fynegi fy mhryderon ynghylch sut y bydd y gyllideb hon yn effeithio ar bobl a busnesau yn Nyffryn Clwyd. Rwy'n falch fy mod i o'r diwedd yn cael y cyfle i wneud hynny ar ôl toriad y Nadolig. Roeddwn i'n siomedig i glywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn trafod y gyllideb ar BBC Radio Wales ychydig cyn y Nadolig, cyn iddi gael ei chyhoeddi yn y Siambr a chyn i'r Senedd y cafodd hi ei hethol iddi gael cyfle i graffu arni. Rwy'n credu y byddai llawer o Aelodau wedi bod yn hapus i drafod y gyllideb ar ddiwedd y Cyfarfod Llawn naill ai ddydd Mawrth 12 Rhagfyr neu ddydd Mercher 13 Rhagfyr.

Ond gan roi hynny o'r neilltu, rwy'n pryderu am yr effaith y bydd y gyllideb hon yn ei chael ar fusnesau bach a chanolig, sy'n ffurfio 99.3 y cant o'r holl fentrau yng Nghymru. Mae cynhyrchiant yng Nghymru wedi bod yn isel ers COVID-19, ac yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol ar ôl COVID fesul pen. Nododd adroddiad gan PwC yn 2021 mai'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd â chynhyrchiant is na Chymru yw gogledd-ddwyrain Lloegr. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod cynhyrchiant yn cael ei ysgogi gan Gaerdydd. Mae'r ffigyrau yn y gogledd yn fwy enbyd, yn anffodus. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud yr hyn y maen nhw'n gallu i roi lle i fusnesau anadlu ac adfer i lefelau cyn COVID, ond o ganlyniad i'r gyllideb hon, bydd twf busnesau bach yn cael ei rwystro a bydd y cwymp mewn cynhyrchiant ond yn gwaethygu, yn anffodus. 

Mae'r gyllideb hon yn enghraifft wych o Lywodraeth Cymru yn gweithredu fel awduron eu trallod eu hunain: yn rhwystro twf economaidd gyda thoriadau o ran cyllido rhyddhad ardrethi busnes, llwytho pobl â mwy o drethi ac yna cwyno nad oes digon o arian i fynd o gwmpas. Dim ond parhau i ostwng y bydd refeniw treth os na fyddwn ni'n cael pobl yn ôl i'r gwaith, a thynnu'r iau o fusnesau bach a chanolig. Ni ddylid byth torri unrhyw faes o wariant y Llywodraeth sy'n helpu i adfywio'r economi ac sy'n cael mwy o bobl i mewn i waith, oherwydd heb hyn ni fydd gennym yr arian i ariannu unrhyw beth arall.

Ac eto, rydym wedi gweld gostyngiad mewn rhyddhad ardrethi busnes i 40 y cant, sy'n sylweddol is na'r 75 y cant sy'n cael ei chynnig gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Mae hyn yn rhoi Cymru dan anfantais enfawr, a bydd busnesau bach a chanolig yn arbennig o ddigalon o weld cyllid yn cael ei dynnu allan ar gyfer rhyddhad ardrethi tra'n parhau i fuddsoddi miliynau mewn cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol, mentrau cydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau dynol, a llawer o feysydd eraill nad ydynt yn hanfodol, gan gynnwys cyllid hefyd ar gyfer prosiectau hoff fel cyfyngiadau 20 mya cyffredinol a 36 yn fwy o wleidyddion yn y lle hwn. 

Mae pobl yn fy etholaeth i eisiau cael mynediad at gyflogaeth o ansawdd uchel mewn busnes ffyniannus sy'n gallu fforddio talu cyflog da iddyn nhw. Byddai'n well gan bobl yn Nyffryn Clwyd fod mewn sefyllfa lle gallan nhw ehangu'r rhestr o eithriadau 20 mya i lefel synnwyr cyffredin, a chael Aelod o'r Senedd a etholwyd yn uniongyrchol y tu hwnt i 2026, yn hytrach nag achosi mwy o ddryswch etholiadol a gorgynrychiolaeth ar draul pobl gyffredin sy'n gweithio sydd ag Aelod Seneddol, AS ac, mewn rhai wardiau, bum cynghorydd etholedig eisoes yn gwasanaethu eu hardal am gost sylweddol i'r trethdalwr ar lefel gyfunol. [Torri ar draws.] Na, na, rydym wedi cael dadl hir.

Ac fel troednodyn i'r cyfyngiadau 20 mya cyffredinol—[Torri ar draws.]—os hoffech chi wrando, wrth gwrs— 

17:45

—oedd y newyddion y prynhawn yma yn y wasg leol yn fy etholaeth i fod gwasanaeth X51, gwasanaeth bws Arriva o'r Rhyl i Ddinbych ac yna, yn wir, o Ddinbych i'r Rhyl, wedi cael ei ddileu gan fysiau Arriva Cymru oherwydd y polisi 20 mya. Nid fy ngeiriau i ydyn nhw, ond geiriau bysiau Arriva Cymru sydd wedi torri'r gwasanaethau, ar gais fy etholwyr i raddau helaeth, ac mae nifer fawr o bobl oedrannus yn fy etholaeth sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn yn ddyddiol. Ac mae hyn, yn anffodus, yn ganlyniad i bolisi cyffredinol gwallgof y Llywodraeth hon. 

Yr unig ran o'r gyllideb hon a fydd yn cael ei chroesawu yn Nyffryn Clwyd yw mwy o gyllid ar gyfer trafnidiaeth, ond bydd yn rhaid aros i weld sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu. Gallaf ond gobeithio y bydd rhywfaint o'r gwariant ychwanegol hwn yn cael ei weld yn y gogledd, ond efallai fy mod i ychydig yn rhy uchelgeisiol o ystyried record y Llywodraeth hon. 

I gloi, Llywydd, nid oes gan Ddyffryn Clwyd fawr ddim i'w ddathlu gyda'r gyllideb hon, a gallaf ond gobeithio y bydd economi Cymru yn parhau i wella er gwaethaf y rhwystrau sy'n cael eu gosod o'i blaen yn barhaus gan y Llywodraeth hon. 

Wel, efallai pe na bai Llywodraeth y DU wedi gwario hyd at £9 biliwn ar gyfarpar diogelu personol diwerth, efallai y byddai rhywfaint mwy o arian i Gymru, ond ta waeth—. Mae Llywodraeth Cymru wedi fframio'r gyllideb hon yn glir fel un sy'n gosod y gwasanaeth iechyd ar flaen y gad o ran cynlluniau gwariant sydd ar ddod. Ond fel mae fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, eisoes wedi'i nodi, pan fyddwch chi'n crafu'r wyneb, rydych chi'n sylweddoli'n fuan nad buddsoddiad ychwanegol yw'r arian sy'n cael ei ailgyfeirio at iechyd o feysydd polisi eraill, ond ateb annigonol byrdymor ar gyfer bylchau cyllidebol sydd wedi cael eu gadael i lusgo ymlaen dros nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, dylai'r £425 miliwn sydd wedi'i ymrwymo i iechyd gael ei gyd-destunoli yn erbyn y ffaith bod diffyg cyllideb cyfunol prif fyrddau iechyd Cymru wedi chwyddo i dros £150 miliwn, yn groes i'r dyletswyddau statudol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth hon.

Mae'r diffyg cronnus ar gyfer pob bwrdd iechyd unigol dros y cyfnod adrodd tair blynedd diwethaf yn aruthrol. Mae angen strategaeth glir arnom ar gyfer gwneud y GIG yn fwy costeffeithiol ar lefel bwrdd, ac er budd dysgu gwersi, rhaid i Lywodraeth Cymru egluro'n agored ac yn onest pam y gadawyd i ddiffygion byrddau iechyd dyfu am gyhyd, hyd yn oed cyn dechrau'r pandemig.

Yna mae'r gwariant uchaf erioed o £325 miliwn ar staff asiantaeth, y gwariwyd bron i £225 miliwn ohono i lenwi bylchau presennol mewn gweithlu sydd wedi'i orweithio a'i danbrisio'n barhaol. Nid yw demograffeg gweithlu presennol y sector iechyd yn rhoi llawer o gysur yn hyn o beth, chwaith. Er enghraifft, mae gennym boblogaeth o ymarferwyr cyffredinol sy'n heneiddio sy'n gofyn am 200 o feddygon teulu ychwanegol y flwyddyn i wrthbwyso'r duedd hon, nod nad yw erioed wedi'i gyflawni gan Lywodraeth Cymru. Mae disgwyl y bydd diffyg o 41 y cant mewn staff oncoleg yng Nghymru o fewn y pedair blynedd nesaf hefyd, yr uchaf o bell ffordd o holl wledydd y DU. Mae'r ffaith bod arian yn cael ei symud o gynifer o raglenni ataliol i wasanaethau rheng flaen hefyd yn frawychus. Bydd yn creu cylch dieflig lle y bydd mwy a mwy o adnoddau'n cael eu sugno i mewn i'r rheng flaen, gan atal ffyrdd llawer mwy costeffeithiol o atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf.

Byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gadarnhau a yw'r Llywodraeth wedi cynnal asesiad risg o oblygiadau'r gostyngiadau hyn i raglenni ataliol fel ymgyrchoedd gwrth-ordewdra a gwrth-ysmygu a'r canlyniadau tymor canolig i hirdymor o ran y galw am wasanaethau rheng flaen. Yn y cyfamser, hyd yn oed gyda'r swm cyfunol o £875 miliwn y bydd gwasanaethau rheng flaen yn ei gael o fewn chwe mis o ganlyniad i'r gyllideb hon a'r ymarfer ailgyllidebu ym mis Hydref, nid oes llawer o arwyddion bod y symiau enfawr hyn yn sicrhau gwelliannau diriaethol yn ansawdd y gofal. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod rhestrau aros cyfunol yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 191,447 o bobl, ym mis Hydref. Mae hynny'n gyfystyr â thros 6 y cant o'n poblogaeth gyfan sy'n aros am driniaeth ar hyn o bryd. O ystyried hyn yn ei gyfanrwydd, felly, mae'n anodd dod i unrhyw gasgliad arall na bod strwythurau cyllido ar gyfer iechyd, sydd eisoes yn defnyddio 50 y cant o gyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru, ar daflwybr cwbl anghynaliadwy, a'n bod ni'n prysur agosáu at bwynt di-droi'n-ôl.

Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru gynllun clir i osod cyllid iechyd yng Nghymru ar sail gynaliadwy, neu a fyddwn ni'n mynd yn sownd mewn troell negyddol lle y bydd cyfrannau mwy a mwy o gyllideb Cymru yn cael eu taflu at atebion byrdymor, annigonol?

Ac wrth feddwl am fesurau ataliol, nid oes unrhyw ymyrraeth bwysicach y gall y Llywodraeth hon ei wneud i helpu i fynd i'r afael â nifer o broblemau iechyd na gwella'r sefyllfa dai yn sylweddol. Mae tai yn fater iechyd cyhoeddus a dylai gael ei drin felly. Mae yna atebion hirdymor a allai, yn syml, olygu adeiladu mwy o dai sy'n eiddo i'r cyngor ar raddfa nad ydym wedi'i gweld ers y cyfnod wedi'r rhyfel, ond ni welaf unrhyw beth yn y gyllideb hon sy'n dangos unrhyw uchelgais yn hyn o beth. Ond yn y tymor byr agos, mae yna frys i weld y grant cymorth tai yn cynyddu. Does bosibl bod y Gweinidog a'i chyd-Aelodau yn y Llywodraeth yn sylweddoli effaith hyn. Mae gwasanaethau cymorth digartrefedd a gwasanaethau cam-drin domestig yn cael eu tynnu'n ôl, gyda mwy o risg o ddigartrefedd a hyd yn oed dynladdiad. Mae'r gwasanaethau hyn, yn llythrennol, yn achubiaeth i lawer o bobl—pobl nad ydynt efallai'n sylweddoli eu bod yn agored i niwed, ond sy'n cael eu taflu i droell greulon yn sydyn heb fod unrhyw fai arnyn nhw. Erbyn hyn, mae'r grant cymorth tai £24 miliwn yn llai heddiw mewn termau real na'r hyn ydoedd 15 mlynedd yn ôl. Bydd ariannu'r grant cymorth digartrefedd yn iawn yn arbed arian i'n gwasanaeth iechyd, gwasanaeth yr heddlu a nifer o wasanaethau allweddol eraill. Dyma'r mesur ataliol pwysicaf un, ac rwy'n eich annog yn y modd cryfaf posibl: a wnewch chi edrych ar y cyllid hwn eto? Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

17:50

Nid yw byth yn hawdd gwneud penderfyniadau cyllidebol a gosod blaenoriaethau, ond ymddengys mai dyma'r rhai anoddaf a mwyaf poenus o bosibl ym mhob un o'r blynyddoedd ers datganoli. Ond nid mater datganoli yn unig mohono—i'r gwrthwyneb. Os edrychwn ni ar draws y ffin ar awdurdodau lleol yn Lloegr, fe welwn ni, mor bell yn ôl â mis Hydref/Tachwedd diwethaf, fod chwech eisoes wedi datgan hysbysiadau A114, gan ddatgan eu bod yn fethdalwyr i bob pwrpas. Ac mae arweinwyr llywodraeth leol yn Lloegr yn awgrymu y bydd cynifer ag un o bob pump yn gwneud yr un fath dros y 12 mis nesaf. Yn ôl ym mis Tachwedd, roedd y 42 o systemau gofal integredig yn Lloegr, ymddiriedolaethau darparwyr y GIG a byrddau gofal lleol yn adrodd diffygion o £1 biliwn. Mae rhywbeth yn digwydd ledled Cymru a Lloegr a rhannau eraill o'r DU, ac mae'n bwysig codi'r mater hwn oherwydd mae'n aml yn cael ei wfftio. Mae yna linyn bogail rhwng y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan a'r hyn sy'n digwydd yma. Dyna sut mae hyn yn gweithio.

Mae'r rhan fwyaf o'n cyllid yn parhau i ddod yn uniongyrchol o Lywodraeth y DU fel grant bloc. Ni allwn ni anwybyddu'r ffaith pe bai ein cyllideb, fel y nodwyd gan Carolyn eiliad yn ôl, wedi cadw i fyny â thwf yr economi ers 2010 y byddem ni wedi cael £3 biliwn ychwanegol i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus a chymorth i bobl a busnesau yng Nghymru yn y flwyddyn i ddod. Yn hytrach, rydym ni'n wynebu gostyngiad o £1.3 biliwn mewn termau real—fel mae Mike wedi dweud, bron i 5 y cant ar draws pob maes cyllidebol, pe baech chi'n cyfrifo felly, ers i'n cyllideb gael ei gosod yn 2021. Ac rydym ni i fod yn ddiolchgar am gynnydd bach o £165 miliwn y llynedd.

Dyma ddegawd a mwy o gyni, gyda'r briwsion achlysurol yn cael eu taflu tuag atom ni. Cyllideb ddrafft 2024-25 yw'r gyllideb fwyaf llwm a phoenus o ran pennu blaenoriaethau i Gymru yn holl gyfnod datganoli. Nid oes gennym ni setliad ariannu digonol ar gyfer Cymru. Nid yw'n adlewyrchu'r pwysau eithafol ar wasanaethau a achosir gan alw cynyddol, fel yr ydym ni wedi clywed, chwyddiant uchel cyson oherwydd camreoli economaidd, yn ogystal â ffactorau eraill—cynnydd i gyflogau y sector cyhoeddus heb ei ariannu y dywedir wrth Gymru bod angen bwrw ymlaen ag ef a dod o hyd i'r arian ar ei gyfer, a biliau ynni uwch ac ati. Un pwynt tri biliwn o bunnau yn llai sydd gennym ni mewn termau real i'w canfod heddiw.

Felly, yn y sefyllfa honno, mae'n rhaid i mi ddweud, mai'r penderfyniad i gyflwyno £450 miliwn yn ychwanegol i gefnogi'r GIG yn y flwyddyn i ddod yw'r un cywir. Ac mae hyn ar ben y £425 miliwn ychwanegol a oedd ar gael yn y rownd flaenorol o bennu'r gyllideb. Rhoi'r cyllid cynyddol hwnnw i'r GIG yng Nghymru, sef cynnydd o fwy na 4 y cant yn 2024-25 o'i gymharu, gyda llaw, â llai nag 1 y cant, rwy'n deall, yn Lloegr—dyma'r penderfyniad cywir. Mae'n dal i fod yn anodd, yn aruthrol o anodd, i'n darparwyr iechyd, ond dyma'r penderfyniad cywir.

A hefyd y penderfyniad cywir i amddiffyn y setliad llywodraeth leol craidd. Bydd hi'n ofnadwy o anodd i bob awdurdod lleol yng Nghymru, fel y mae yn Lloegr. Mae 'na edefyn cyffredin yma. Dyna'r llinyn bogail hwnnw. Rydym yn cael ein tangyllido ac rydym ni wedi cael ein tanariannu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2010, ond bydd hynny'n cael effaith. Bydd diogelu'r setliad llywodraeth leol craidd hwnnw yn helpu i ddiogelu'r cyllid ar gyfer ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol, casglu biniau—. Pan fydd pobl yn dweud wrthym ni, 'Beth mae awdurdodau lleol yn ei wneud?', dyma'r pethau anweledig maen nhw'n ei wneud. Rwyf wedi clywed pobl yn dweud wrthyf, 'Wel, does gen i ddim plant yn yr ysgol, felly pam ddylwn i dalu am hynny?' 'Wel, y plant hynny fydd maes o law yn gweithio, ac yn gwneud y swyddi ac yn talu'r trethi sydd mewn gwirionedd yn eich cadw chi ar eich pensiwn ac ati.' 'Wel, dydw i ddim yn dibynnu ar y gwasanaethau cymdeithasol.' 'Wel, un diwrnod fe fyddwch chi.' Dyna'r peth, ac mae amddiffyn y rheini yn hanfodol bwysig, fel y mae pethau fel y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal hefyd. Ac rwy'n falch iawn o weld y caiff y gwariant ei gynnal ar bethau fel gwasanaethau cynghori a'r cronfeydd cymorth dewisol. Mae'r rhain yn feysydd hanfodol o gymorth brys, a'r nefoedd a ŵyr, gyda'r argyfwng sydd gennym ni ar hyn o bryd o ran costau byw mae angen y gefnogaeth honno arnom ni yma yng Nghymru, ac mae hwnnw'n faes da i flaenoriaethu cyllid arno hefyd.

Hoffwn gloi, Llywydd, drwy ddweud: mae hyn yng nghyd-destun economaidd ehangach y DU. Er gwaetha'r ffaith y byddai'r Ceidwadwyr yn hoffi i ni anwybyddu a dweud 'Wel, mae hyn i gyd yn ymwneud â Llywodraeth Cymru', mae'r llinyn bogail hwnnw yn gryf iawn ac felly hefyd y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gosod trywydd economaidd y DU. A beth ydym ni wedi'i weld? Rydym ni wedi gweld nawr y bydd safonau byw 3.5 y cant yn is yn 2024-25 na chyn y pandemig. Rydym ni bellach yn wynebu, fel yr adroddwyd yn helaeth yn ei gylch, y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau yn y 1950au. Bellach rhagwelir y bydd baich treth y DU, er gwaethaf yr hyn yr oedd Rishi Sunak yn ei ddweud yr wythnos hon, yn cynyddu i'r graddau yr oedd ar ôl y rhyfel. [Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf, gofynnais dair gwaith i ymyrryd ar gyd-Aelodau Ceidwadol a thair gwaith cefais fy ngwrthod. Rwy'n ad-dalu'r cwrteisi nawr. [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod, Janet, mae'n debyg mai chi fydd yr unig un.

Felly, mae gennym ni bellach faich treth yn y DU fel yr oedd ar ôl y rhyfel, gyda miliynau o bobl yn cael eu llusgo i mewn i hynny. Mae twf economaidd wedi diffygio dros 13 mlynedd llywodraeth Geidwadol y DU, ac mae degawd a mwy o gyni a'r llanast a wnaed o Brexit wedi gadael gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU ar eu gliniau. Dyna lle yr ydym ni. Felly, mae'r Ceidwadwyr wedi chwalu ein heconomi. Maen nhw wedi gwneud eu gorau glas i chwalu ein gwasanaethau cyhoeddus, er gwaethaf ymdrechion y rhai sy'n gweithio yn y maes hwnnw, dros 14 mlynedd. Wrth i ni aros am Lywodraeth well yn San Steffan—mae'n rhaid i mi ddweud, Llywodraeth Lafur—i atgyweirio difrod y blynyddoedd Ceidwadol gwastraffus hyn, gofynnaf i'n Gweinidog weithio gyda'n partneriaid a gyda chymunedau ledled Cymru i wneud ein gorau glas i sefyll yn erbyn difrod Llywodraethau Ceidwadol San Steffan.

18:00

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n dda cael y cyfle i siarad yn y ddadl hon, ond, unwaith eto, caf fy hun yn siarad mewn dadl arall ar y gyllideb yn gorfod siarad am doriadau i addysg Cymru. Mae'n anodd credu pan fo'r sector yn gweiddi am gymorth ac mae addysg plant yn y fantol. Eleni, rydym ni'n gweld gostyngiad o £56 miliwn mewn termau ariannol. Mewn termau real, mae hyn yn ostyngiad o £140 miliwn. Gadewch i ni weld beth mae Llafur yn ei ystyried y mae modd gwneud hebddo. Mae datblygiad a chymorth athrawon wedi gweld toriad sylweddol i'w gyllideb, gyda gostyngiad o £24.25 miliwn, gan fynd o £54 miliwn i £29.9 miliwn, ar adeg pan fo prinder pryderus o athrawon ac angen i sicrhau ein bod yn uwchsgilio athrawon i ymateb i'r cynnydd sydyn yn nifer y dysgwyr ADY sydd ag anghenion mwy cymhleth mewn addysg brif ffrwd. Ar adeg pan welwn ni fwlch cyrhaeddiad sy'n ehangu, mae mynd i'r afael â rhwystrau i gyrhaeddiad hefyd wedi gweld toriad sylweddol o dros £100 miliwn, gan ostwng o £142.5 miliwn i gael dyraniad o fymryn llai na £14 miliwn. Mae dyraniad cyllideb adnoddau anghenion dysgu ychwanegol wedi'i dorri 86 y cant, gan fynd o £25.5 miliwn i £3.5 miliwn. Do, rydych chi wedi dweud eich bod wedi anfon peth yn uniongyrchol i ysgolion, y bûm i'n pwyso amdano ers dwy flynedd bellach, ond ai dyna fydd ei angen? A fydd yn ddigon mewn gwirionedd i lenwi'r bwlch enfawr yng nghyllidebau ein hysgolion i ateb y galw cynyddol o ran niferoedd ADY? Rwy'n amau'n fawr. Ac o ran y Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn hynod o bell o'u targed o gyrraedd eu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac eto, mae'r Gymraeg mewn addysg wedi cael ei thorri o £20.7 miliwn i £16.9 miliwn. Rydym ni'n cefnogi adeiladu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg i gynnig dewis i deuluoedd, ond does gennych chi ddim digon o athrawon medrus yn y pynciau craidd i allu cyflwyno'r pynciau craidd hynny yn Gymraeg. Heb os nac oni bai dyma lle dylech chi fod yn gwario'ch arian.

Pa bynnag ffordd rydych chi'n edrych ar y gyllideb hon, mae'n amlwg bod y Llywodraeth hon yn ystyried addysg fel rhywbeth y mae modd ei hepgor. Mae ysgolion yn wynebu'r posibilrwydd llwm o doriadau o flwyddyn i flwyddyn i'w cyllidebau, ond eto, beth a welwn ni gan y Llywodraeth hon? Mwy o wleidyddion, cyfyngiadau cyflymder 20 mya, modd dewis eich rhywedd eich hun a threth dwristiaeth. Ac i ychwanegu halen at y briw, fe wnaethoch chi anfon miliynau o bunnau yn ôl i Lywodraeth y DU yn hytrach na'i wario ar flaenoriaethau'r bobl. Mae cyllidebau ysgolion dan gymaint o bwysau ac nid oes ganddyn nhw'r arian ar gyfer athrawon arbenigol, nac ar gyfer hyfforddiant i ymdrin â'r argyfwng sydd ganddyn nhw ar eu dwylo na'r materion y maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Cefnogi'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas—siawns nad yw hynny'n rhywbeth a ddylai fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Lafur hon. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth hon yn dewis blaenoriaethu eu hoff brosiectau yn lle hynny. Gall Llywodraeth y DU fforddio ariannu addysg—ei lefelau uchaf erioed—ac eto, yng Nghymru, bob blwyddyn, rydym yn gweld y gyllideb addysg yn cael ei thorri, ac mae ein rhaglen ar gyfer canlyniadau rhyngwladol asesu myfyrwyr yn warthus.

Mae'r Llywodraeth wedi dod yn fedrus iawn wrth gyhoeddi canllawiau newydd a phentyrru gwaith ychwanegol ar ysgolion heb yr arian ychwanegol ategol. Rydych chi'n gofyn i'n hysgolion wneud mwy, ond rydych chi'n rhoi llai iddyn nhw. Y cwbl sydd wedi deillio o hyn yw staff wedi eu gorweithio ac ysgolion sydd wedi gorfod cwtogi ar gynorthwywyr addysgu hanfodol a staff cymorth yn ddi-baid. Fel rwyf wedi dweud o'r blaen wrth y Gweinidog Addysg, dywedodd Matthew Gilbert, pennaeth Ysgol Gynradd Ynys y Barri, fod y pwysau ariannol ar ysgolion yn frawychus. Dywedodd:

'Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysg ac nid wyf erioed wedi profi anawsterau o'r fath gyda chyllid.'

A wrandawyd ar y geiriau hyn? Yn amlwg ddim. Dywedodd Dr Martin Price, cadeirydd cymdeithas llywodraethwyr ysgolion Bro Morgannwg:

'Mae gan gyfran sylweddol o ysgolion yng Nghymru goffrau gweigion neu, i bob pwrpas, yn nhermau sector preifat, maen nhw'n fethdalwyr.'

Ond dydych chi ddim yn gwrando. Dydych chi ddim yn gwrando fel Llywodraeth. Mae'r gyllideb hon rydych chi wedi'i llunio yn methu ym mhob agwedd, ac eto mae gennym ni Weinidog addysg sy'n ceisio dod yn Brif Weinidog ar gefn y methiannau hyn mewn addysg yng Nghymru, gan roi ein plant a'n pobl ifanc dan anfantais o gymharu â gweddill y DU, gyda chanlyniadau PISA brawychus, sy'n ganlyniad uniongyrchol i chi yn rhoi arian yn y mannau anghywir a'i dorri lle mae ei angen fwyaf. Mae'r gyllideb hon rydych chi wedi'i llunio yn warthus.

Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog addysg ei addewidion ar gyfer yr etholiad arweinyddiaeth, y mae'n rhaid i mi gyfaddef iddyn nhw fy synnu, Janet. Addawodd fuddsoddi mewn addysg, ac eto cafodd flynyddoedd i wneud hyn. Y cyfan yr ydym ni wedi'i weld yw toriadau i'w bortffolio. Mae'n amlwg o fy sgyrsiau ledled Cymru nad yw ysgolion yn hapus, nid yw eich undebau yn hapus. Mae'r Llywodraeth hon a'u cymrodyr Plaid wedi siomi cenhedlaeth o ddysgwyr, ac eto mae'r Gweinidog addysg hwn yn sefyll yna ac yn ailadrodd yr un llinellau yn ôl i mi wythnos ar ôl wythnos heb fawr ddim gweithredu yn y meysydd allweddol sydd eu hangen ar draws ein sector addysg sy'n gweiddi am help dim ond i gyflawni'r pethau sylfaenol mewn addysg. Nawr, yn lle gwrando a helpu'r sector, rydych chi wedi torri'r gyllideb addysg unwaith eto. Mae'n warthus.

18:05

Jest ychydig sylwadau gen i ar y gyllideb wledig. Yn amlwg, dwi, fel eraill, eisiau croesawu'r ffaith bod y taliad sylfaenol yn cael ei amddiffyn. Mae'r £238 miliwn yna yn rhoi rhywfaint o sicrwydd a sefydlogrwydd i'r sector, ond wrth gwrs mae'n rhaid inni gofio ar yr un pryd fod costau fferm wedi cynyddu 40 y cant yn y blynyddoedd diwethaf, felly mae gwerth real y taliad uniongyrchol yna yn llai ac mae e'n dod ar adeg pan fo'r Llywodraeth yn gofyn i'r sector gyflawni mwy—mwy o ran sicrhau diogelwch bwyd, mwy o ran taclo newid hinsawdd, mwy o ran adfer natur, sydd yn bethau ŷn ni i gyd, wrth gwrs, yn eu cefnogi. Ond mae gwneud mwy gyda llai yn anghynaliadwy yn y tymor hir.

Nawr, yn y flwyddyn ariannol nesaf, mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn gweld blwyddyn o newid mawr, newid digynsail i'r sector amaeth yng Nghymru, yn symud o hen gyfundrefn y polisi amaeth cyffredinol i gyfundrefn newydd y cynllun ffermio cynaliadwy. Mae e'n newid unwaith mewn cenhedlaeth, y newid mwyaf ers hanner canrif yn sicr o safbwynt y gefnogaeth i'r sector, a dwi yn poeni bod y toriad ehangach i'r gyllideb materion gwledig yn mynd i danseilio yr ecosystem gefnogol yna i'r sector wrth symud a throsglwyddo o un gyfundrefn i'r llall. Mae yna gwestiwn yn mynd i fod ynglŷn â'r gwasanaethau cynghori, knowledge transfer, Cyswllt Ffermio, y cynlluniau grant bespoke fuasai ar gael i gynorthwyo'r trawsnewidiad yna yn y sector. Felly, mae'r amseru, dwi'n meddwl, yn dod â risg gydag e, a dwi yn gresynu ychydig nad yw'r Llywodraeth efallai wedi gwneud mwy i amddiffyn ychydig mwy ar y gyllideb ehangach yna oherwydd y ffaith bod y newid yn digwydd nawr. Efallai mewn blynyddoedd, pan fyddai pethau wedi setlo, byddai bach yn fwy o sgôp i edrych ar gyfyngu ar y gyllideb. Felly, mi fyddwn i unwaith eto yn pledio gyda'r Llywodraeth a'r ddau Weinidog i eistedd i lawr ac i edrych oes yna bosibilrwydd sicrhau yn y cyfnod cyfnewidiol, ansefydlog, heriol yma fod modd uchafu'r gefnogaeth sydd yna ar gael i'r sector.

Rydych chi wedi cydnabod hynny o safbwynt y taliad uniongyrchol, ond dwi yn teimlo bod eisiau gwneud mwy o safbwynt sicrhau bod y gefnogaeth o gwmpas y sector wrth drosglwyddo o un gyfundrefn i'r llall. Ac ydy, mae'n gwbl gyfiawn pwyntio bys at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri ei gair ar ariannu'r sector yng Nghymru. Mae hynny wedi siomi ac wedi gwylltio'r sector, fel ag y mae e wedi siomi a gwylltio nifer ohonon ni fan hyn yn y Siambr.

Ond, hefyd, cefais i'n siomi cyn y Nadolig. Roeddwn i'n gofyn cwestiwn i'r Gweinidog materion gwledig ynglŷn â'r £20 miliwn oedd wedi ei glustnodi ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd i gwrdd â'r gofynion ychwanegol o gwmpas rheoliadau ansawdd dŵr. Rwy'n croesawu'r ffigwr yna'n fawr iawn, wrth gwrs; mi oeddwn i'n rhan o sicrhau bod y ffigwr yna'n bodoli. Mi ofynnais i os oedd hi'n hyderus y byddai hwnna yn cael ei wario i gefnogi'r sector i gwrdd â'r safonau, a'r ateb gefais i oedd, 'Wel, yr hyn wnes i ddweud oedd "fyny at" £20 miliwn.' Gallai hynny olygu £1 filiwn, gallai hynny olygu £2 filiwn.

A'r pwynt dwi'n dod ato fe yn y cyfraniad, mewn gwirionedd, yw os yw'r Llywodraeth yn dweud £20 miliwn, ac yn dyrannu £20 miliwn at rywbeth, yna dwi yn meddwl ei bod hi'n rhesymol ein bod ni fel Aelodau yn disgwyl bod y ffigurau yna'n ystyrlon a bod yna fwriad a phob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y gyllideb yna'n cael ei gwario yn y modd. Ac felly, ple i chi fel Gweinidog cyllid, mewn gwirionedd, yw hwn i sicrhau, pan fyddwch chi'n dyrannu ffigurau, eu bod nhw'n ffigurau ystyrlon a'u bod nhw'n rhai rŷn ni fel Aelodau o'r Senedd yn gallu disgwyl yn rhesymol i'r Llywodraeth wneud pob ymdrech i'w cyflawni.

I gloi, hoffwn fyfyrio ar rai o'r pethau a ddywedodd y Gweinidog yn ei datganiad. Dyfynnodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, gan nodi, o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU, nad yw'r cyllid cyhoeddus wedi gwella i raddau ystyrlon, bod y rhagolygon twf wedi gwanhau a disgwylir i chwyddiant aros yn uwch am gyfnod hirach. Rydym ni wedi clywed nifer o Aelodau Llafur yn codi a dweud wrthym ni sut mae'r Torïaid wedi chwalu'r economi. Wel, byddwn yn ei hatgoffa hefyd bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae cynlluniau cyllidol Jeremy Hunt a Rachel Reeves yn ymddangos yn hynod o debyg. Does dim llawer o wahaniaeth rhyngddyn nhw.'

Felly, ni fyddai newid Llywodraeth y DU, er cymaint y cyfeiriwyd at hynny yn y ddadl hon, o reidrwydd yn golygu unrhyw newid i'n rhagolygon cyllidol yma yng Nghymru. Efallai mai'r hyn yw hi, i aralleirio'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yw Llafur, Tori, yr un hen stori.

18:10

Rhaid imi ddweud, rwyf am ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy gydymdeimlo â'r Gweinidog. Agorodd y ddadl hon drwy esbonio'r anawsterau sy'n wynebu'r Llywodraeth a'r wlad o ran yr adnoddau sydd ar gael i ni, ac mae hi wedi gorfod treulio'r ddwy awr ddiwethaf yn gwrando ar Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn gwario arian nad yw'n bodoli, ac mae hynny'n dweud cyfrolau am sut rydym ni'n trafod, ac weithiau, a dweud y gwir, ynglŷn â difrifoldeb y gwrthbleidiau sy'n craffu ar y Llywodraeth, bod gennym ni ddadleuon o'r math hwn, oherwydd nid yw hyn yn ddim llai nag argyfwng ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, ac mae angen i ni fod o ddifrif ynglŷn â hynny, ac mae angen i ni fod o ddifrif ynglŷn â'r penderfyniadau a wnawn ni wrth fynd i'r afael â'r argyfwng ariannol sy'n wynebu'r wlad gyfan. Byddech chi'n disgwyl i wrthblaid o ddifrif—gwrthblaid o ddifrif—ddeall y sefyllfa sy'n wynebu'r wlad, a dywedaf wrth lefarydd cyllid y Ceidwadwyr nad craffu difrifol yw darllen araith a ysgrifennwyd cyn i'r ddadl ddechrau, ond mae'n ymwneud ag archwilio dewisiadau amgen i'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig. A'r hyn nad ydym ni wedi'i glywed trwy gydol y ddadl hon y prynhawn yma yw dewis arall difrifol i'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig. Ac rydym ni'n wynebu'r sefyllfa hon nid oherwydd rhyw fath o weithred ddwyfol na allai neb ohonom ni ei rhagweld, nad oedd yr un ohonom ni'n gwybod amdani, yr ydym ni i gyd yn ymdrin â hi; rydym ni'n ymdrin â chanlyniadau penderfyniadau a wnaed gan un o Lywodraethau mwyaf anllythrennog economaidd y DU mewn hanes. [Torri ar draws.] Rydym ni'n ymdrin â, gadewch i mi ddweud wrthych chi nawr, gadewch i mi ddweud wrthych chi—[Torri ar draws.] Rwyf wedi gwrando ar y Ceidwadwyr yn rhy hir, Llywydd. Maen nhw'n treulio bob prynhawn Mercher yn gwario arian sydd ddim yn bodoli, ac yna, o ran eu dadleuon nhw, yr hyn maen nhw'n ei wneud yw mynnu toriadau treth—mwy o wariant, trethi is. 'Go figure', fel y byddai'r Americanwyr yn dweud wrthym ni. Allwch chi goelio'r peth?

A'r hyn yr ydym ni'n ymdrin ag ef mewn gwirionedd, Llywydd, yw canlyniadau creu economi dwyllodrus yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n talu mwy o drethi nid oherwydd ein bod yn cael gwell buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus, nid oherwydd ein bod yn talu'r cyflogau haeddiannol i weision cyhoeddus, ond oherwydd bod gennym ni Brexit aflwyddiannus sy'n lleihau twf economaidd, oherwydd bu gennym ni bolisi economaidd diffygiol, oherwydd ein bod ni wedi methu â rheoli economi fawr yn iawn ers dros ddegawd, ac, o ganlyniad i hynny, mae gennym wasanaethau cyhoeddus sydd wedi torri, sy'n crefu am arian, sy'n cael ei dalu er mwyn talu am anallu ariannol y Llywodraeth Geidwadol. [Torri ar draws.] Fe wnaf i dderbyn ymyriad os yw'r Aelod yn gwybod mwy na mi, ond, a dweud y gwir, na—gadewch i ni roi cynnig arni.

Cofiwch pan adawodd Llafur y llywodraeth yn 2010, roedd yna lythyr yn y Trysorlys yn dweud does dim mwy o arian, ac roedd hynny'n ganlyniad i 13 mlynedd o Lywodraeth Lafur yn San Steffan.

Mae gen i'r fantais dros yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd achos mae gen i gof hirach nag ef, ac rwy'n cofio Rab Butler yn dweud rhywbeth gwahanol ar achlysur gwahanol. Rwyf hefyd yn cofio arweinydd Ceidwadol a fynychodd ddadleuon yn y lle hwn o'r enw—. Nick Bourne. Nick Bourne. [Chwerthin.] Rwy'n ei gofio fe—ydw. Eisteddodd yn y Siambr a gwrando ar y dadleuon, a chyfrannodd hefyd at y dadleuon hynny. A gadewch i mi ddweud wrthych chi, pan oedd Nick Bourne yn arwain y Ceidwadwyr, yr hyn oedd gennych chi oedd gwrthblaid o ddifrif, ac roedd gennych chi ddewisiadau amgen o ddifrif yn cael eu cynnig. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cawsom yr argyfwng ariannol mwyaf y mae economi'r gorllewin wedi'i wynebu ers yr ail ryfel byd. A'r hyn ddigwyddodd yn y fan yna oedd bod y Llywodraeth Lafur ar y pryd wedi gweithredu. Ac rwy'n cofio gwaith Gordon Brown yn Gleneagles ynghylch y G20, yn achub economi'r gorllewin. A'r hyn a wnaeth hynny oedd sicrhau bod gennym ni economi yn 2010 a 2011 i'r Ceidwadwyr ei lindagu.

Ond gadewch i ni ddweud dim ond hyn—ac ni wnaf drethu'r Llywydd yn rhy hir y prynhawn yma—ni allwch chi dalu am godiadau treth dim ond i dalu am anweithgarwch economaidd. Costiodd cyllideb Truss £30 biliwn i'r Deyrnas Unedig—£30 biliwn. Ac rydym ni'n gwrando ar y Torïaid yn dweud bod arnyn nhw eisiau gwario mwy o arian ar wasanaethau cyhoeddus. Oni bai inni weld yr anallu ariannol hwnnw, yna byddai'r arian wedi bod ar gael. [Torri ar draws.] O, nawr mae gennym ni ymyriad arall.

18:15

Rydych chi'n siarad am anallu ariannol; oes gennych chi unrhyw un o'ch etholwyr yn byw mewn ystafelloedd gwesty, mewn llety gwely a brecwast? Ac os oes gennych chi, a ydych chi'n credu bod hynny'n ddefnydd da o arian cyhoeddus? Dydw i ddim. Rwy'n credu y dylid adeiladu cartrefi ar gyfer y rheini.

Wrth gwrs nad yw hynny'n ddefnydd da o arian cyhoeddus, ond nid yw'n wych i bobl chwaith. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau—[Torri ar draws.] Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw buddsoddi mewn pobl. A wyddoch chi, pan wy'n edrych o gwmpas Cymru a phan edrychaf o gwmpas y Deyrnas Unedig—? Gadewch imi ddweud hyn wrthych chi: treuliais yr wythnos diwethaf yn gyrru trwy dir mawr Ewrop, a phan ddychwelaf i'r Deyrnas Unedig, yr hyn a welaf yw lle sy'n dirywio, gwlad dlawd, lle mae ein mannau cyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus a lleoedd cyhoeddus yn dirywio, lle mae anghydraddoldeb a thlodi bellach yn diffinio'r hyn yw hi i fyw yn y Deyrnas Unedig. A'r hyn rwy'n gobeithio y gallwn ni ei wneud drwy'r ddadl hon—[Torri ar draws.] —drwy'r ddadl hon y prynhawn yma—drwy'r ddadl hon y prynhawn yma—yw gosod y sail ar gyfer ffordd wahanol o reoli cyllid y Deyrnas Unedig.

Mae angen i ni gael fformiwla seiliedig ar anghenion—[Torri ar draws.]—fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion i ailddosbarthu cyllid ledled y Deyrnas Unedig. Mae arnom ni angen swyddfa gyllideb annibynnol i'r Deyrnas Unedig i atal Llywodraethau'r DU rhag rhoi bargen wael i Gymru. Ond mae angen i ni hefyd—ac rwyf am orffen gyda'r sylw yma, Llywydd—siarad am dreth. Nid oes gennym ni'r pwerau ar gael i Lywodraeth Cymru sydd eu hangen i reoli cyfraddau treth yn iawn, ond mae angen i ni hefyd gael sgwrs onest am dreth, oherwydd, os ydym ni am weld y gwasanaethau cyhoeddus yr hoffem ni i gyd eu gweld, os ydym ni am dalu cyflogau haeddiannol i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus, os ydym ni am fuddsoddi yn ein gwlad, os ydym ni am fuddsoddi yn ein pobl, os ydym ni am fuddsoddi yn ein cymunedau, yna mae angen i ni dalu'r trethi a fydd yn talu am y buddsoddiad hwnnw. Ni allwch chi leihau trethi a disgwyl gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel. Ni allwch chi leihau trethi a pharhau i wario arian bob tro y byddwch yn gwneud araith. Ni allwch chi leihau trethi a disgwyl cymdeithas wâr. 

Byddwn yn awgrymu, ac rwy'n credu yn y Siambr hon y byddem ni yn cytuno ar hyn, y dylid cyfeirio adnoddau ariannol a ymddiriedir i ni tuag at yr anghenion mwyaf dybryd i bobl Cymru. Byddwn yn awgrymu mai un o'r anghenion hynny, ac un o'r meysydd mwyaf dybryd, yw cefnogi cyflwr ein GIG yng Nghymru, ac yn enwedig yr amseroedd aros hir a gweld yr amseroedd aros hynny'n lleihau. Mae hynny'n flaenoriaeth y byddwn i'n ei hawgrymu i bobl Cymru.

Nawr, rydym ni wedi gweld rhywfaint o ddiogelwch yn y gyllideb ddrafft ar gyfer iechyd, yr oeddwn yn falch o'i weld, ond byddwn yn awgrymu ein bod yn dal i fyny. Rydym ni'n dal i fyny nid yn unig yn dilyn y pandemig, ond rydym ni'n dal i fyny ar ôl dros ddegawd o danariannu GIG Cymru. Ac rydym ni wedi gweld y Llywodraeth yma'n gwneud y penderfyniadau hynny i dorri cyllideb y GIG, nid unwaith ond dwywaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pan fo Llywodraethau eraill ledled y DU wedi diogelu'r gyllideb iechyd mewn termau real.

Nawr, rwyf wedi gwrando ar gyfraniadau eraill. Roeddwn i'n credu bod Mike Hedges yn siarad llawer o synnwyr pan oedd yn sôn am atal. Rwy'n credu bod y Gweinidog yn siarad llawer o synnwyr wrth sôn am yr angen am atal hefyd. Credaf nad oes llawer o ddadleuon yn digwydd heb i'r Gweinidog grybwyll y flaenoriaeth sydd ei hangen i raglenni atal er mwyn lleihau pobl sy'n ymgyflwyno i'r GIG yn y lle cyntaf. Rwy'n cytuno â hynny; maen nhw hefyd yn bwyntiau rwy'n eu gwneud. Felly, roeddwn i'n bryderus pan ddarllenais yn y gyllideb ddrafft y bydd cyfeirio cyllid o rai gwasanaethau atal posibl; rwyf eisoes wedi cael nifer o sefydliadau trydydd parti yn cysylltu â mi gyda'r pryder hwnnw. Felly, byddwn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn ailystyried o ran eu pwyslais ar dynnu cyllid oddi wrth wasanaethau atal.

Nawr, a gaf i siarad am y gweithlu hefyd? Mae eraill wedi sôn am hyn. Mae'r gweithlu dan straen gwirioneddol yn GIG Cymru; ac mae hynny o ganlyniad i, yn rhannol, fethu recriwtio a chadw gweithwyr gofal iechyd. Felly, fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddibynnu ar staff asiantaeth a locwm i lenwi bylchau yn GIG Cymru. Cafodd £155 miliwn ei wario ar nyrsio a bydwragedd asiantaeth yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf; fe fyddai'n llawer gwell gwario'r arian ar staff parhaol yn ein GIG yng Nghymru. Ac wrth gwrs, rwy'n clywed pobl eraill—clywais gyfraniad Alun Davies—yn sôn fod yna ben-draw i adnoddau, ond dylem ni fod wedi cael cynllun gweithlu yn ei le flynyddoedd yn ôl, a phe bai hynny wedi digwydd, byddem ni mewn sefyllfa lawer cryfach a gwell nawr. Ac fe ddylem ni gael cynllun gweithlu digonol ar waith nawr i sicrhau na chawn ni yr un dadleuon ag yr ydym yn eu cael nawr ymhen pum mlynedd.

Mae'r sylw olaf a wnaf yn ymwneud â thechnoleg gwybodaeth a thechnoleg ac arloesedd, maes pwysig iawn o ran newid y ffordd yr ydym ni'n gweithredu ac yn gweithio yn ein GIG yng Nghymru. Nawr, byddwn yn awgrymu bod y dechnoleg gwybodaeth mewn elfennau o'n GIG yng Nghymru yn hen ddihenydd. Mae gennym ni systemau gweithredu hen ffasiwn, mae gennym ni systemau nad ydynt yn siarad â'i gilydd, dim ond hanner y meddygon teulu sydd wedi'u cysylltu ag ap GIG Cymru, rydym ni'n dal i brynu peiriannau ffacs. Ac e-bresgripsiynu, do, fe wnaethon ni rywfaint o gynnydd tuag at ddiwedd y llynedd, ond rydym ni flynyddoedd ar ôl—flynyddoedd ar ôl—rhannau eraill o'r DU, ac mae'r potensial a'r arbedion yno rydym ni'n gwybod yn arwyddocaol gan fod y rheini'n cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r DU. Ac rwy'n dweud hyn oherwydd bod y Gweinidog cyllid, yn y Pwyllgor Cyllid ychydig cyn y Nadolig, wedi sôn am ryddhau cyllid o arloesi ac ymchwil drwy ailgyfeirio rhywfaint o gyllid ar gyfer strategaeth ddigidol Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, mae hynny'n fy mhryderu—toriad o £0.5 miliwn i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Nawr, fe wyddom ni gan arweinwyr y GIG yn Lloegr bod pob £1 y mae'r GIG yn ei fuddsoddi mewn technoleg yn cynhyrchu rhwng £3.50 a £4 mewn arbedion. Felly, mae gwir angen ymrwymiad a buddsoddiad parhaus mewn technoleg yn y GIG, byddwn i'n awgrymu, fel bod gan weithlu'r GIG yr offer a'r systemau sydd ar gael iddyn nhw allu gweithio, ond hefyd—ac yn bwysig—cael hynny ar waith er mwyn gwneud arbedion, i brif ffrydio hynny. Felly, dyma rai meysydd yr wyf yn gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn eu hystyried yng nghasgliad ei dadl heddiw.

18:20

Rydym ni'n byw trwy gyfnod o gyni eithafol, nad oes yr un ohonom ni erioed wedi'i weld erioed o'r blaen yn ystod ein hoes, ac mae cost ddynol ddofn i bob diferyn o inc coch a welwn ni ar dudalennau'r gyllideb ddrafft hon. Mae gwariant termau real, gwariant cyhoeddus yng Nghymru y pen, wedi tyfu 3 y cant yn unig dros y 14 mlynedd diwethaf. Dyna'r gyfradd arafaf erioed o dwf yn hanes modern Cymru. A phan fyddwch chi'n ystyried yn ogystal y ffaith bod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio, sy'n hŷn o lawer nawr, 14 mlynedd yn ddiweddarach, gyda'r holl angen sydd ynghlwm â hynny, yna, wyddoch chi, am y tro cyntaf mewn cof byw, nid ydym ni bellach yn symud ymlaen fel cymdeithas, rydym ni'n mynd yn ôl. A dyna pam mae popeth, o ganol ein trefi i drafnidiaeth gyhoeddus i'r GIG, yn teimlo'n fregus, yn wag, wedi'i dorri. Mae llywodraeth leol yn wynebu methdaliad. Mae adrannau damweiniau ac achosion brys yn wynebu argyfwng beunyddiol. Mae'r rhai sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus wedi blino'n lân ac mae'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw ar y dibyn. Mae pobl heb gartref yn ofni marw, ac mae'r rhai sydd eisoes yn anobeithiol yn cael eu gyrru i anobaith dyfnach. Y lleisiau mwyaf anobeithiol oll yw'r rhai y byddem ni fel arfer yn troi atyn nhw am gysur.

Ddiwedd y llynedd, cwrddais i, ynghyd ag aelodau eraill o'r Senedd, â chynrychiolwyr y pwyllgor meddygol lleol, meddygon teulu, yn rhanbarth Hywel Dda. Fe wnaethon nhw rannu straeon dirdynnol o orfod gofalu am gleifion difrifol wael yn ystod y nos nad oedd unrhyw ambiwlans yn dod ar eu cyfer. Fe ddywedon nhw wrthyf eu bod nhw'n teimlo bod rhaid i chi fod yn agos at farwolaeth nawr i fod yn flaenoriaeth frys. Ni fydden nhw eu hunain yn argymell i'w hanwyliaid ffonio 999 pe baen nhw'n sydyn yn cael eu taro'n wael. Roedd darparu gofal y tu allan i oriau yn torri eu hysbryd, yn torri eu calonnau, ond felly hefyd cynnal eu meddygfeydd yn ystod y dydd. Nid oedd rhai bellach yn cynhesu eu meddygfeydd oherwydd nad oedden nhw'n gallu fforddio gwneud hynny. Roedden nhw wrthi'n gyson yn ysgrifennu tystlythyrau ar gyfer staff meddygol ifanc sy'n ymfudo dramor. Ac nid oedden nhw'n credu y byddai'r GIG fel yr adwaenom ni yn goroesi cenhedlaeth arall. Nawr, efallai nad ydych chi'n rhannu'r dadansoddiad hwnnw, ond rwy'n credu y dylem ni gytuno bod hwn yn gyfnod o argyfwng, ar erchwyn y dibyn, lle mae ein gwasanaethau cyhoeddus, ein cymdeithas, hyd yn oed ein democratiaeth, yn chwalu. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gonestrwydd poenus yn y papurau y mae'r Llywodraeth wedi'u cyhoeddi ochr yn ochr â'i chyllideb ddrafft. Mae'r asesiad effaith strategol yn sôn am y £15 miliwn a gymerir o gyllid iechyd meddwl, a fydd yn golygu y bydd gwaith ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl ymhlith y cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael ei arafu. Mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd cyllid newydd ar gyfer diagnosis dementia yn debygol o effeithio ar fenywod, lleiafrifoedd ethnig a'r tlawd yn bennaf oll. Y toriadau mewn iechyd ataliol y cyfeiriodd Mabon ap Gwynfor atynt a'r gyllideb cyfalaf tai—dyma'r gwrthwyneb llwyr i'r pethau y dylem ni fod yn eu gwneud yn ystod argyfwng costau byw, pan mai'r tlawd a'r bregus sy'n ysgwyddo'r baich mwyaf.

Nawr, wrth gwrs, mae'r penderfyniadau hyn—y cynigion hyn, dylwn ddweud—yn ganlyniad anuniongyrchol penderfyniadau a wnaed yn San Steffan na fyddai'r mwyafrif ohonom ni yma yn eu gwneud. Cyfeiriodd Huw Irranca at y llinyn bogail; mae'n llinyn bogail y byddwn i'n ei dorri. Ond y penderfyniad sy'n rhaid i ni ei wneud yma—sy'n rhaid i ni ei wneud—yw'r hyn rydym ni'n ei wneud yma nawr gyda'r pwerau sydd gennym ni. Ac mae gennym ni rai dewisiadau. Gallem benderfynu cyd-fynd â chyfraddau treth incwm uwch ac ychwanegol yr Alban yn hytrach na rhai San Steffan. Dair blynedd yn ôl, byddai hynny wedi codi dim ond £26 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn. Ond, y flwyddyn nesaf, pe baem ni'n cyfateb i'r ddwy gyfradd Albanaidd, byddai'n codi £95 miliwn y flwyddyn—bron i bedair gwaith cymaint. Ychwanegwch y £2 filiwn y byddai rhoi terfyn ar ryddhad elusennol ar gyfer ysbytai preifat ac ysgolion yn ei ddarparu. Byddai gosod atodiad iechyd cyhoeddus ar gyfraddau busnes archfarchnadoedd mawr sy'n gwerthu alcohol a thybaco, fel y gwnaeth Llywodraeth yr Alban ddegawd yn ôl, yn codi £23 miliwn arall, gan fynd â chyfanswm y refeniw ychwanegol i £120 miliwn—dim digon i ddatrys ein holl broblemau; byddai ond ychydig dros £0.5 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru, wedi'r cyfan. Ond nid yw'r ffaith na allwn ni wneud popeth yn golygu na allwn ni wneud unrhyw beth i leihau poen pobl sy'n edrych arnom ni i ddangos yr arweinyddiaeth foesol sydd mor anffodus ar goll yn San Steffan.

18:25

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl gyd-Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, rwy'n credu bod y mwyafrif helaeth ohonyn nhw wedi cydnabod y sefyllfa yr ydym ni ynddi ac yn parchu, mae'n debyg, y dewisiadau anodd y mae'n rhaid i'r Llywodraeth hon eu gwneud.

Hoffwn ddechrau drwy fynd i'r afael â'r sylw ynghylch pam wnaethom ni gyhoeddi'r gyllideb ddrafft cyn egwyl y Nadolig. Wel, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei datganiad hydref ar 22 Tachwedd, a dyna'r tro cyntaf i ni wybod beth yw ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Dyma'r tro cyntaf i ni glywed pa benderfyniadau y gallent eu gwneud mewn cysylltiad â threthi, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ein cyllideb yng Nghymru. Felly, mae hynny'n ein gadael ni, wedyn, gyda dim ond tair wythnos a hanner i ymgymryd â'r gwaith i gynhyrchu'r gyllideb, ac ni allaf bwysleisio digon faint o waith sy'n gorfod digwydd yn y tair wythnos a hanner yna. 

Rydym yn gwneud ein penderfyniadau ein hunain ynghylch cyfraddau treth incwm Cymru a threthi eraill sydd wedi'u datganoli i ni, er enghraifft, ac yna mae'n rhaid i ni gytuno, fel Cabinet, ein dyraniadau prif grŵp gwariant diwygiedig ar gyfer yr holl gyd-Aelodau. Ac yna bydd yn rhaid i bob cyd-Aelod adael a gwneud y gwaith manwl iawn hwnnw, gan lunio eu cyllidebau llinell wrth linell eu hunain, ac, wrth gwrs, ymgymryd â'r asesiadau effaith hynny, fel eu bod yn gwybod y penderfyniadau, a'u bod yn deall y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud a'u heffeithiau ar bobl â nodweddion gwarchodedig amrywiol. Mae hynny i gyd yn cymryd amser. Mae'r holl waith y mae angen i ni ei wneud i gynhyrchu'r dogfennau naratif yn cymryd amser. Ac yna rydym ni'n darparu ystod helaeth iawn o ddogfennau ochr yn ochr â'r gyllideb, gan gynnwys adroddiad y prif economegydd. Os caf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Jonathan Price am ei waith; dyna oedd ei adroddiad olaf fel prif economegydd cyn iddo ymddeol. Ond yna rydym ni hefyd yn cynnal yr asesiad effaith ddosbarthiadol, y cynllun gwella cyllideb, ein hadroddiadau treth, ein hasesiad effaith integredig strategol—mae'n rhaid cynhyrchu'r holl waith hwnnw, ac mae'n rhaid ei gynhyrchu i ansawdd uchel. Mae'n rhaid ei gynhyrchu, yn gwbl briodol, wrth gwrs, yn ddwyieithog. A thair wythnos a hanner, rwy'n credu, yw'r amser byrraf heb amheuaeth ar gyfer gwneud y gwaith hwnnw heb beryglu cywirdeb, a heb beryglu ansawdd y gwaith hwnnw.

Wrth gwrs, fe allem ni fod wedi aros tan heddiw, neu'r wythnos gyntaf yn ôl yn y tymor, i gyhoeddi'r gyllideb ddrafft, ond nid wyf yn credu y byddai hynny wedi cael ei groesawu gan y Pwyllgor Cyllid, na'r Pwyllgor Busnes, oherwydd byddai'n cwtogi ymhellach fyth yr amser sydd gan y Senedd i graffu ar y gyllideb. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ben-draw i'r adeg lle gallwn ni drafod ein cyllideb derfynol, oherwydd mae ein cydweithwyr yn llywodraeth leol yn dibynnu arnom ni i ddeall eu setliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Nid wyf yn credu y byddai'r ddadl honno, pan fyddem yn trafod senarios posibl ar gyfer cyllidebau, yn ddefnyddiol, naill ai i gyd-Aelodau yn y Senedd neu i'n partneriaid mewn llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd.

Byddaf yn dweud bod Rhif 10 yn gwybod, ac yn ystyried yn llawn, dywedir wrthyf i, yr effeithiau ar y Llywodraethau datganoledig pan fyddant yn pennu eu dyddiadau ar gyfer eu digwyddiadau cyllidol. Rwy'n gwybod bod ganddyn nhw restr o ystyriaethau ac ar y rhestr honno mae'r ffaith y bydd yn rhaid i Lywodraethau datganoledig bennu eu cyllidebau. Felly, maen nhw'n gwybod hyn, ond nid ydyn nhw'n poeni, ac nid yw'n cael effaith ar eu penderfyniadau. Ac rydych chi'n gweld hynny, wrth gwrs, oherwydd mae gennym ni ddatganiad y gwanwyn yr union ddiwrnod ar ôl i ni bleidleisio ar ein cyllideb derfynol. Felly, bydd newidiadau, rwy'n credu, i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf o ganlyniad i hynny.

Ond, wrth gwrs, mae gennym ni gymaint o gyfle i graffu. Mae gennym ni ein dadl a gawn ni bob blwyddyn ym mis Gorffennaf. Mae gennym ni ddadl heddiw, dadl arall ym mis Chwefror, y ddadl ar y gyllideb derfynol unwaith eto ar y gorwel. Felly, mae cyfle enfawr i graffu, ac rydym ni'n wirioneddol werthfawrogi'r cyfle hwnnw i egluro ein cynlluniau i gyd-Aelodau a gallu craffu yn y modd hwnnw.

Rwyf am ddweud fy mod i wedi mwynhau cyfraniad Alun Davies yn enwedig heddiw, wrth iddo siarad am ddewisiadau amgen posibl, oherwydd mae wedi bod yn fwy na degawd ers i'r Ceidwadwyr Cymreig gael y dewrder i gyflwyno cyllideb amgen. Nid ydym ni wedi clywed hynny eto. Addawyd hynny i ni ychydig flynyddoedd yn ôl. Felly, nid yw'n bosibl, mewn gwirionedd, craffu ar beth allai eu cynlluniau fod.

Felly, mae sawl peth yr wyf yn gwybod yr hoffwn i eu trafod, ac fe hoffwn i ddim ond gwneud yn siŵr fy mod yn rhoi sylw i'r eitemau yn yr amser sydd ar gael. Yr hyn yr hoffwn i ei wneud, mewn gwirionedd, yw canolbwyntio ar y meysydd mwy strategol, a meysydd lle credaf y byddem ni i gyd yn elwa o gael rhywfaint o eglurder, ac yna gadael trafodaethau manylach i bwyllgorau pwnc.

Trafodwyd camwybodaeth gennym ni yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog. Felly, fe glywsom ni lawer o gamwybodaeth, rwy'n credu, gan feinciau'r Ceidwadwyr, naill ai hynny neu eu bod yn syml o dan gamargraff. A dechreuaf gyda chyllid ysgolion, oherwydd, fel y gwyddom ni, mae ysgolion yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan awdurdodau lleol yma yng Nghymru, a dyna un o'r rhesymau y gwnaethom ni'r penderfyniad hwnnw i flaenoriaethu llywodraeth leol a sicrhau bod cyllid ar gyfer ysgolion yn rhan o'r ystyriaeth honno. Roeddem yn gallu cadw ein haddewid i lywodraeth leol y byddan nhw'n gweld cynnydd o 3.1 canran i'r gyllideb y flwyddyn nesaf, ond mae hynny wedi arwain at drafodaethau anodd a phenderfyniadau anodd ar draws y Llywodraeth hefyd.

Pan ofynnon ni i lywodraeth leol ynghylch lleihau'r baich gweinyddol arnyn nhw, un o'r pethau y dywedon nhw yr hoffen nhw inni edrych arno mewn difrif oedd y ffordd rydym ni'n gweinyddu grantiau. Ac, ym myd addysg, fe wnaethom ni ymgodymu'n arbennig â hynny a gallu cwtogi nifer fawr o grantiau bellach i lawr i bedair elfen grant, sef safonau ysgolion, tegwch, diwygio a 'Cymraeg 2050'. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod pob cyd-Aelod yn deall hynny ac yn gweld a darllen y ddogfennaeth gyllidebol drwy'r lens honno, oherwydd rydym ni wedi clywed honiadau heddiw ein bod yn torri'r gyllideb ADY. Nid ydym ni'n gwneud unrhyw beth o'r fath. Yr hyn a welwch chi yw bod y gyllideb ADY bellach mewn rhan wahanol o'r gyllideb o ganlyniad i ddod â'r grantiau hynny ynghyd, sydd wedyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i lywodraeth leol ymgymryd â'r gwaith y mae angen iddyn nhw ei wneud, rhywbeth y dywedon nhw yr oedden nhw eisiau gennym ni. Mae'n rhywbeth yr oeddem ni'n hapus i'w roi o'r sefyllfa honno o berthynas ddibynadwy. Felly, rwy'n credu mai dyna un enghraifft. Ac eto, ein rhaglen adfer COVID lwyddiannus—recriwtio, adfer a chodi safonau—roedd hynny i fod i gael ei lleihau'n raddol y flwyddyn nesaf yn y gyllideb. Ond, mewn gwirionedd, rydym ni wedi gwneud penderfyniad gwahanol i ddiogelu'r cyllid hwnnw, gan gydnabod pa mor bwysig ydyw, a gan y gwyddom ni ein bod yn dal i weld effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc.

Ac eto, ym maes iechyd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod nad oes gostyngiad yn ein darpariaeth rheng flaen ar gyfer iechyd meddwl. Rydym ni wedi clywed am y ffaith nad ydym ni wedi gallu codi'r gyllideb £15 miliwn fel yr oeddem ni wedi'i fwriadu, ond nid yw'n doriad yn y gyllideb honno. Rydym ni'n parhau i neilltuo cyllid iechyd meddwl y GIG, ac mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys £800 miliwn ar gyfer hynny. Mae'n parhau i fod y rhan fwyaf o'r gyllideb iechyd, sy'n cael ei neilltuo i gefnogi pobl. Bydd y gyllideb hefyd yn cael cynnydd i adlewyrchu'r pwysau chwyddiant a'r gofynion, sy'n cyfateb i dros £25 miliwn. Bydd y strategaeth iechyd meddwl ddrafft yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir. Bydd hon yn cynnwys mwy o wybodaeth.

Roedd llawer o ddiddordeb mewn ardrethi annomestig y prynhawn yma, felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn adlewyrchu pam mae cyfraddau annomestig yn bwysig. Maen nhw'n darparu gwerth £2 biliwn o gymorth i wasanaethau llywodraeth leol—yn union y mathau o wasanaethau rydym ni wedi siarad amdanyn nhw fel rhai sy'n bwysig y prynhawn yma. Yr hyn y byddwn ni yn ei wneud y flwyddyn nesaf yw darparu pecyn cymorth gwerth mwy na thrydedd ran o £1 biliwn i gefnogi busnesau gyda'r cyfraddau hynny, ac fe wyddom ni fod llawer o fusnesau eisoes wedi'u diogelu rhag talu unrhyw ardrethi annomestig trwy ein system hael iawn o gefnogaeth. Mae tua hanner yn talu dim byd o gwbl. Mewn gwirionedd, dim ond tua un o bob pum busnes fydd yn wynebu cyfraddau annomestig llawn o ganlyniad i'r dewisiadau rydym ni wedi'u gwneud, a bydd y ffaith ein bod ni wedi cyfyngu'r lluosydd yn helpu pob busnes yng Nghymru, ar wahân i'r rheini, wrth gwrs, nad ydynt yn talu dim o gwbl yn barod. Mae capio'r cynnydd yn y lluosydd i 5 y cant o'i gymharu â chynnydd Llywodraeth y DU o 6.7 y cant yn lleihau'r gwahaniaeth rhwng y lluosydd yng Nghymru a Lloegr ac wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio mai un ffactor yn unig yw o'r hyn sy'n pennu bil trethdalwr, ac ni ddylid ei ystyried ar ei ben ei hun. Ffactor arall, wrth gwrs, yw gwerth ardrethol yr eiddo, ac mae ein sylfaen dreth, sydd â gwerth ardrethol cyfartalog o tua £19,000, yn wahanol iawn i'r un yn Lloegr, sydd â chyfartaledd llawer uwch o £34,000, ac mae hynny'n arwain at ran fawr o'r gwahaniaeth a welwch chi rhwng atebolrwydd cyfartalog talwyr ardrethi yng Nghymru a Lloegr ac, wrth gwrs, yna rydych chi'n wedyn yn cymhwyso'r rhyddhad i hynny.

Diddordeb mewn pwerau codi trethi y prynhawn yma. Fe benderfynom ni beidio ag ystyried codi cyfraddau treth incwm Cymru eleni oherwydd y ffaith bod pobl yn dal i dalu trethi sy'n fwy nag unrhyw adeg ers yr ail ryfel byd, o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n dal i fod yn yr argyfwng costau byw. Rydym ni wedi clywed, fodd bynnag, enghreifftiau o ffyrdd y gellid newid y cyfraddau treth i godi arian ychwanegol. Fe wyddom ni fod diddordeb mewn edrych ar y ffordd y mae ein pwerau i godi trethi yn gweithio yma yng Nghymru. Maen nhw'n wahanol i'r rhai sy'n bodoli yn yr Alban, ac rydym ni yn rhoi llawer o ystyriaeth i'r gwahanol ffyrdd y gallech chi fynd ati i godi cyfraddau treth incwm Cymru, gan gofio, wrth gwrs, ei bod hi'n dreth gymharol newydd, sy'n dal yn ymsefydlu. Ond, mewn gwirionedd, rydym ni wedi gweld enillion net gwirioneddol i ni yma yng Nghymru o ganlyniad i ddatganoli treth incwm. Yn 2020-21 a 2021-22, roedd cyfanswm enillion net o £134 miliwn i Lywodraeth Cymru, neu £43 y pen, a chredaf fod hynny'n dangos bod y system sydd gennym ni yn gweithio i ni yng Nghymru. Pe baem ni'n ymgymryd â model gwahanol, gallai olygu y byddai'n rhaid i ni ysgwyddo mwy o risg hefyd. Felly, rwy'n credu, mae dadleuon i'w cael, yn sicr, ond, yn amlwg, mae angen peth ystyriaeth o ran manteision y system sydd gennym ni eisoes.

Soniwyd ein bod yn edrych ar ffyrdd eraill posibl o godi arian. Byddai gofal cartref yn un o'r meysydd hynny y mae llywodraeth leol wedi gofyn i ni edrych arnyn nhw yn benodol, felly rydym ni wedi dweud y byddwn yn edrych ar hynny. Mae'n bwysig cofio y byddai'r arian hwnnw'n mynd i awdurdodau lleol, gan ein bod yn cydnabod y pwyntiau a wnaed gan gyd-Aelodau bod awdurdodau lleol o dan lawer iawn o bwysau eu hunain. Ond, unwaith eto, yn y cyd-destun hwnnw, mae'n bwysig cofio bod tua thraean o bobl yn talu dim; mae rhai pobl, traean, yn talu hyd at yr uchafswm; a bydd tua thraean yn talu'r uchafswm.

Mae'r rhyddhad ardrethi elusennol i ysgolion ac ysbytai, unwaith eto, yn fater pwysig, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni'n bwriadu gofyn i'r Senedd roi pwerau i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ef yn y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), y bydd y Senedd yn, neu y mae hi eisoes yn craffu arno.

Gallaf weld, Llywydd, fod fy amser ar ben, ond fel y dywedais i, mae llawer o gyfleoedd ar gyfer trafodaethau manwl yn sesiynau'r pwyllgor, a fydd yn mynd rhagddynt nawr. 

18:40

Daeth y cyfarfod i ben am 18:41.