Y Cyfarfod Llawn

Plenary

06/12/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn heddiw. Y cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol sydd gyntaf ar yr agenda. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Ariannu Gwasanaethau Hamdden

1. Pa ystyriaeth roddodd y Gweinidog i'r angen i ariannu gwasanaethau hamdden wrth benderfynu ar gyllidebau awdurdodau lleol Dwyrain De Cymru? OQ60369

Wrth wneud ein penderfyniadau ar y gyllideb ar gyfer 2023-24, ystyriais yr holl wasanaethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu ar gyfer eu cymunedau ledled Cymru. Derbyniodd cynghorau yn Nwyrain De Cymru godiad cyfunol o 7.4 y cant. Mae hyn yn llawer gwell na’r disgwyl, ond mae'n dal i fod wedi golygu penderfyniadau anodd i gynghorau.

Diolch. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o’r strategaeth hamdden bresennol sydd ar waith yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili—y cyngor yn cynnig lleihau nifer y cyfleusterau hamdden, fel canolfan hamdden Pontllan-fraith a chae hoci Rhisga. Mae grŵp ymgyrchu gweithgar yn yr ardal yn galw am ‘achub ein canolfan hamdden’, ac mae canolfannau hamdden yn darparu budd i gymunedau sy’n mynd y tu hwnt i'r ariannol.

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y Senedd wedi nodi bod Archwilio Cymru wedi dweud yn gyffredinol fod ansawdd llywodraethu awdurdodau lleol a gwasanaethau hamdden yn darparu buddion iechyd a llesiant a buddion cymdeithasol i gymunedau. Mae Chwaraeon Cymru wedi dweud, am bob £1 a werir ar chwaraeon, fod yna elw cymdeithasol o £2.88. Ac mae Community Leisure UK Cymru yn dadlau bod ymddiriedolaethau hamdden yn creu £101 o werth cymdeithasol am bob unigolyn sy'n defnyddio eu cyfleusterau a'u gwasanaethau, wedi'i fesur drwy arbedion i'r GIG, ymhlith pethau eraill. Nawr, rwy’n cytuno â’r pwyllgor y dylai fod pwyslais ar werth cymdeithasol pan fydd awdurdodau lleol yn penderfynu ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau hamdden, a gwasanaethau llyfrgell wrh gwrs. A ydych chi'n cytuno â nhw, Weinidog?

Nid oes unrhyw amheuaeth fod gwasanaethau hamdden, gan gynnwys llyfrgelloedd a chanolfannau chwaraeon a gwasanaethau hamdden lleol eraill, yn amlwg, yn cael effaith gymdeithasol enfawr ac yn hynod fuddiol. Wedi dweud hynny, rydym yn deall y pwysau enfawr sydd ar lywodraeth leol ar hyn o bryd o ganlyniad i effaith barhaus cyni ac effaith y lefelau chwyddiant presennol ar yr hyn y gallant ei ddarparu.

Credaf ei bod yn bwysig fod gan awdurdodau lleol ymreolaeth o ran y gwasanaethau hamdden y maent yn eu darparu, ond ar yr un pryd, mae gwir angen iddynt fod yn ymwybodol o anghenion eu cymunedau, ac wrth iddynt ddechrau ystyried eu cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn nesaf, i ymgynghori'n briodol â chymunedau ac ystyried y safbwyntiau hynny'n ofalus.

Ni chredaf ei bod yn briodol i’r Llywodraeth fod yn gwneud y penderfyniadau hynny ar wasanaethau a ddarperir yn lleol—mae’n rhan bwysig o ddemocratiaeth leol, a chredaf mai'r cyrff a etholir yn ddemocrataidd sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau ynghylch beth i’w ddarparu’n lleol. Ond wedi dweud hynny, rwy’n llwyr gydnabod y pwysau aruthrol sydd ar y sector.

Mae'n amlwg o'r gyllideb nad yw'r Llywodraeth hon yn rhoi fawr o sylw i gyfleusterau hamdden a chyfleusterau chwaraeon yng Nghymru. Mae clybiau chwaraeon bach yn ei chael hi'n anodd gwneud gwaith cynnal a chadw ar hyn o bryd yn ogystal â’r costau ynni sydd eisoes wedi’u nodi y gaeaf hwn. Pan fyddwch yn cyfuno hyn, wrth gwrs, â'r canolfannau hamdden sy'n ei chael hi'n anodd ac yn wynebu cau ledled Cymru, ymddengys bod angen cyllid brys gan y Llywodraeth hon ar gyfer gwasanaethau hamdden ledled Cymru sydd wedi cael eu hanwybyddu a'u tanbrisio ac sy'n cael eu hymestyn i'r eithaf. Ac maent yn darparu gwasanaeth gwerthfawr, fel y nodwyd gan yr Aelod arall dros Ddwyrain De Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru, o bryd i’w gilydd, wedi gwrthod galwadau am gyllid wedi’i dargedu ar gyfer lleoliadau a sefydliadau sy’n wynebu cau, ond sydd â dyfodol cynaliadwy y tu hwnt i argyfwng uniongyrchol. Serch hynny, ni welwn unrhyw weithredu. Felly, a wnaiff y Llywodraeth gynyddu cyllid i awdurdodau lleol i helpu i gynnal y gwasanaethau hollbwysig hyn, Weinidog?

Credaf fod yn rhaid inni fod yn realistig ynglŷn â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn gostwng mewn termau real y flwyddyn nesaf, ac yn amlwg, mae hynny'n mynd i gael effaith ar gyllidebau awdurdodau lleol hefyd. Pe bai cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu yn natganiad yr hydref, rwy’n siŵr y byddem mewn sefyllfa i allu darparu cyllid ychwanegol i bob math o rannau o’r sector cyhoeddus sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd ac i ystyried y codiad hwnnw yn ein cyllideb. Ond erys y ffaith na ddarparwyd cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i ddatganiad yr hydref. Felly, rydym yn wynebu cyllideb hynod o anodd a chredaf fod galwadau am gyllid ychwanegol ar gyfer pob math o bethau teilwng iawn yn afrealistig ar hyn o bryd. Yr hyn y mae angen inni feddwl amdano, o ran y gyllideb nesaf hon, yw sut rydym yn ail-lunio’r gyllideb honno i fynd i'r afael â'r pwysau mwyaf difrifol, yn enwedig y pwysau a welwn mewn rhannau o’r sector cyhoeddus. Felly, credaf fod galwadau am gyllid ychwanegol ar hyn o bryd yn afrealistig.

Pwysau Costau Byw

2. Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i helpu trigolion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru i reoli pwysau costau byw? OQ60383

13:35

Rydym wedi darparu cyllid i awdurdodau lleol gan y gwyddom fod ein cynghorau’n darparu llawer o wasanaethau sy’n hanfodol i lawer o bobl yn ein cymdeithas. Rydym wedi darparu dros £3 biliwn o gymorth i’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw, gan gynnwys cymorth a sianelir drwy awdurdodau lleol.

Diolch yn fawr iawn. Wel, fel rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, mae pobl ledled Cymru yn wynebu gaeaf caled oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus. Ac yn y cyd-destun hwn, mae rôl allweddol i lywodraeth leol i gadarnhau bod pawb sy'n cael y cymorth y mae hawl gyda nhw iddo fe. Ac yn ôl adroddiad gan Policy in Practice ym mis Ebrill 2023, mae tua £19 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys budd-daliadau allweddol i bobl oed gweithio, ac i bobl hŷn, yn ogystal â phethau fel tariffau cymdeithasol ar gyfer help gyda band eang, dŵr, trwyddedau teledu am ddim, ac yn y blaen, ac, yn fwy lleol, wrth gwrs, help gyda chymorth treth cyngor. Yn ddiweddar, fe ges i gyfle i ymweld â'r Hwb yng Nghaerfyrddin—un o'r nifer o hybiau sydd wedi cael eu sefydlu gan Gyngor Sir Gâr—ac mae yna gyngor a chymorth yn fanna i helpu pobl i gael y budd-daliadau y mae gyda nhw hawl iddyn nhw. Fe glywais i dystiolaeth am rai yn cael degau o filoedd o bunnoedd nad oedden nhw'n gwybod bod ganddyn nhw'r hawl i gael. Felly, ydy'r Gweinidog yn cytuno â mi bod hyn y fodel i'w efelychu a'i ehangu, ac, os felly, sut gellid cefnogi awdurdodau lleol ar draws Cymru i wneud mwy o hyn?

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Mae'n ffaith bod yna gymaint o bobl ledled Cymru nad ydynt yn hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddynt. Dyna pam fod y gwaith a wnawn drwy ein hymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' mor hanfodol bwysig i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael. Gwn fod y comisiynydd pobl hŷn, y cyfeirioch chi ati, wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith ar gredydau pensiwn. Gwyddom fod £200 miliwn yn cael ei golli gan bobl ledled Cymru am nad ydynt yn hawlio credyd pensiwn, ac wrth gwrs, os ydych yn gallu hawlio credyd pensiwn, gallwch gael trwydded deledu am ddim os ydych dros 75, ac ystod gyfan o gymorth arall hefyd, megis gostyngiad yn y dreth gyngor. Felly, mae'n bwysig iawn fod pob un ohonom yn mynd ati i hyrwyddo'r math o gymorth sydd ar gael i'n cymunedau, ac yn annog pobl i ystyried yr hyn sy'n ddyledus iddynt.

Felly, mae 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' yn bwysig iawn. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei arwain gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac yn ddiweddar, cafodd hi a minnau gyfarfod gyda llywodraeth leol, lle buom yn trafod siarter budd-daliadau Cymru, sydd, unwaith eto, yn ymwneud â gweithio gydag awdurdodau lleol i fod yn rhagweithiol iawn wrth nodi pobl y credwn y gallent fod yn gymwys i gael cymorth nad ydynt yn ei hawlio ar hyn o bryd. Felly, mae hwnnw’n waith pwysig sy’n mynd rhagddo gydag awdurdodau lleol ar hyn o bryd, ond lle ceir enghreifftiau o arferion gorau, mae gwir angen inni edrych arnynt. Un peth y mae angen inni ei ystyried, er enghraifft, yw cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor. A byddai angen i bobl sydd ar gredyd cynhwysol ar hyn o bryd, yn y rhan fwyaf o achosion, wneud cais ychwanegol ar gyfer hynny; efallai eu bod wedi meddwl y byddai wedi cael ei ddarparu'n awtomatig, fel a ddigwyddai yn y gorffennol. Felly, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i geisio dod o hyd i ffordd symlach i bobl sydd ar gredyd cynhwysol gael cymorth drwy gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, os ydynt yn gymwys i'w gael. Felly, mae llawer o waith yn mynd rhagddo yn y maes hwn, ond credaf fod unrhyw beth y gall pob un ohonom ei wneud yn unigol i hyrwyddo hyn yn ein cymunedau yn bwysig.

Weinidog, gan na ddisgwylir i gynlluniau ailfandio’r dreth gyngor effeithio ar filiau’r dreth gyngor tan 2025, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi pennu cynnydd o 6.8 y cant ar gyfer eiddo band D yn y flwyddyn ariannol hon, gyda chynnydd tebyg yn debygol y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn rhoi baich sylweddol ar fy etholwyr, yn enwedig y rheini ar incwm is na’r cyfartaledd, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi â’r pwysau costau byw presennol. Mae gan lawer o gynghorau, gan gynnwys sir Gaerfyrddin, gronfeydd sylweddol wrth gefn. Mae'r ffigur diweddaraf yn dangos bod gan sir Gaerfyrddin £215 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn. Felly, pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i annog cynghorau fel sir Gaerfyrddin i ddefnyddio rhywfaint o’r cronfeydd wrth gefn hyn i leihau baich y dreth gyngor i'w trigolion, gan ganiatáu iddynt gadw mwy o’u henillion? Diolch.

Wel, dylwn fod yn glir mai 2025 yw'r dyddiad cynharaf y gallai'r cynlluniau i ddiwygio'r dreth gyngor ddod i rym. Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd, ac mae rhan o hynny’n cynnwys cyflymder y diwygio, a allai ddigwydd yn 2028, neu ar ddyddiad arall. Felly, roeddwn am egluro hynny. Mae awdurdodau lleol eisoes yn defnyddio symiau sylweddol o'u cronfeydd wrth gefn eleni, ac rwy’n siŵr eu bod yn bwriadu gwneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd, i sicrhau eu bod yn cadw codiadau yn y dreth gyngor mor fach â phosibl i’w cymunedau, a chydnabuwyd hynny yn y gwaith diweddar a wnaed gan uned dadansoddi cyllid Cymru, a oedd yn cydnabod yn benodol y rôl bwysig yr oedd defnyddio cronfeydd wrth gefn wedi’i chwarae i awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol hon.

Yn y pen draw, mae'n ymwneud â'r diffyg cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi colli llawer iawn o gyllid o ganlyniad i gyni, ac o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Pe bai mwy o arian ar gael i awdurdodau lleol, wrth gwrs, byddai’n golygu na fyddai'n rhaid iddynt wneud codiadau mor fawr yn y dreth gyngor. Ond yn y pen draw, mae ganddynt wasanaethau statudol i'w darparu. Rydym eisoes wedi cael trafodaeth am wasanaethau pwysig eraill, megis gwasanaethau hamdden, y mae’n rhaid iddynt eu hystyried hefyd. Ac mae'r rheini'n costio arian. Felly, os nad oes cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU, yn anffodus, mae'n rhaid iddynt edrych ar y dreth gyngor, sef un arall o'u dulliau pwysig o godi arian.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch amlinellu eich asesiad o allu awdurdodau lleol yng Nghymru i fantoli cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf?

Felly, fel y nodais yn fy sylwadau blaenorol, mae pethau’n edrych yn anodd iawn i awdurdodau lleol, ond wedi dweud hynny, rwy’n hyderus y bydd awdurdodau lleol yn mantoli cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Iawn. Rwy’n falch o glywed eich bod yn hyderus o hynny, ond rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o lythyr a anfonwyd atoch yn ddiweddar gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn amlinellu ei bryderon difrifol ynghylch mantoli'r gyllideb y flwyddyn nesaf, gan adleisio llythyr tebyg a anfonwyd atoch gan arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â defnyddio’r gair ‘methdaliad’ am ddyfodol ei gyngor i fyny yn sir Ddinbych, mewn llythyr a anfonodd at gynghorwyr yn ddiweddar hefyd.

Yn y llythyr a anfonwyd atoch yn ddiweddar, mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn tynnu sylw at y ffaith bod awdurdodau cyfagos yn cael oddeutu 10 neu 15 y cant yn rhagor o gyllid y pen nag a gânt yng Nghonwy, gan gyfeirio, yn ôl pob golwg, at y ffaith bod poblogaeth hŷn fel pe baent yn cael eu cosbi drwy'r fformiwla gyllido. Gwn eich bod wedi cyfeirio yn y gorffennol at edrych ar adolygu’r fformiwla gyllido ar yr adeg iawn, ac mae elfennau o’r fformiwla gyllido yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. A allwch wneud ymrwymiad heddiw y bydd rhywfaint o’r adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, fel y gall arweinwyr yr awdurdodau lleol hynny fod yn hyderus fod eu fformiwla gyllido yn deg iddynt yn y flwyddyn ariannol nesaf?

Wel, mae’r fformiwla gyllido'n cael ei hadolygu’n gyson drwy waith is-grŵp dosbarthu Cyngor Partneriaeth Cymru, sy’n gweithio ochr yn ochr â’r is-grŵp cyllid, i bob pwrpas i bennu a diweddaru ffigurau sy'n ymwneud â’r fformiwla gyllido. Nid wyf yn cynnig adolygiad cyflawn o'r fformiwla gyllido, oherwydd pan fydd yn digwydd yn Lloegr mae'n cymryd blynyddoedd i'w gynnal. Ac mae'n rhaid inni gofio hefyd, fel rydym eisoes wedi'i drafod y prynhawn yma, ein bod yn edrych tuag at gyfnod o ddiwygio'r dreth gyngor, a chredaf fod angen inni fod yn ymwybodol y bydd hynny'n cael effaith ar awdurdodau lleol wrth gwrs. Ac un peth y byddai’n rhaid i ni ei ystyried fyddai cymorth pontio i awdurdodau lleol os a phan fydd y gwaith o ddiwygio’r dreth gyngor yn mynd rhagddo, ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad. Ac yn amlwg, bydd hynny’n arwain at lawer iawn o newid hefyd. Felly, rwy'n credu mai hyn a hyn o darfu y gall y system ymdopi ag ef ar un adeg. Felly, ni chredaf fod adolygiad cyflawn o'r fformiwla gyllido yn addas ar hyn o bryd, ac yn sicr, nid yw'n rhywbeth y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn galw amdano.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae’n anarferol, fodd bynnag, fod gan gynghorau cyfagos lefelau cyllid mor wahanol, yn seiliedig ar yr hyn sydd, yn ôl pob golwg, yn ysgogi hynny fwyaf, sef oedran y boblogaeth. [Torri ar draws.] Diolch am eich ymyriad diddorol. Ond mae darlun real iawn yma o gynghorau, o bosibl, yn mynd i'r wal yng Nghymru, ac mae arweinwyr cynghorau yn eich rhybuddio am hynny. Fe ddywedoch chi yn eich ymateb cyntaf eich bod yn hyderus y bydd cynghorau'n gallu mantoli'r gyllideb. Nid ymddengys eu bod yn rhannu’r un hyder o gwbl mewn gwirionedd, ac maent yn siarad yn agored am fethu mantoli cyllidebau, ac yn siarad yn agored am hysbysiadau adran 114. Felly, a ydych chi'n credu eich bod yn barod ar gyfer hynny, oherwydd, yn eich ymateb cyntaf, nid oeddech yn swnio fel pe baech, gan ichi ddweud eich bod yn hyderus y bydd y pethau hyn yn iawn? A ydych chi'n credu eich bod yn barod am y realiti y mae arweinwyr y cynghorau hyn yn ei hwynebu ar hyn o bryd?

Credaf fod arweinwyr y cynghorau eu hunain yn cydnabod nad yw hysbysiad adran 114 ynddo’i hun yn helpu’r sefyllfa o gwbl. Credaf y bydd arweinwyr y cynghorau'n gweithio'n galed iawn i fantoli eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Byddant yn meddwl am yr holl ddulliau gweithredu sydd ar gael iddynt—y cyllid drwy'r grant cynnal refeniw, y dreth gyngor, a dulliau eraill o godi arian yn lleol.

Ond mae hyn yn arddangos pa mor fain yw hi ar wasanaethau cyhoeddus ledled y DU, ac mae'n ymateb uniongyrchol i fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Pe bai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi tyfu yn unol â’r economi ers 2010, byddai gennym £3 biliwn yn rhagor i’w ddyrannu y flwyddyn nesaf. Dychmygwch y math o gyllideb y gallem fod yn ei chyflwyno, yn ei dadlau ac yn craffu arni yn y Senedd, pe bai gennym £3 biliwn yn rhagor i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a’n cyfrifoldebau eraill yng Nghymru. Felly, os yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn poeni am gyllid llywodraeth leol ac yn poeni am wasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol, mae angen iddynt ddadlau'r achos drostynt wrth Lywodraeth y DU, sydd â’r dulliau gweithredu yn y pen draw i ddarparu’r buddsoddiad sydd ei angen.

13:45

Diolch, Lywydd. Bydd arweinwyr cynghorau ledled Cymru wedi dychryn wrth glywed geiriau eich arweinydd, Keir Starmer, yn yr wythnos ddiwethaf ynglŷn â pheidio ag agor y tapiau gwariant pe bai'n ennill yr etholiad nesaf yn San Steffan. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi amlinellu y rhagwelir y bydd y bwlch cyllido ar gyfer llywodraeth leol yn £354 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ac y gallai godi i £740 miliwn erbyn 2027-28. Ar bob metrig, mae cyllid llywodraeth leol ar drywydd anghynaladwy. Ar ôl cael eu gorfodi eisoes i dorri gwasanaethau i’r asgwrn dros y 13 mlynedd diwethaf o gyni, mae llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru bellach mewn perygl dirfodol, ac wrth gwrs, mae’r darlun yn cael ei ailadrodd ledled y DU. Yr wythnos diwethaf, Nottingham oedd y diweddaraf ar restr gynyddol o awdurdodau lleol sydd wedi gorfod datgan methdaliad. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r bygythiad hwn i Gymru? Pa gymorth sy'n cael ei gynnig i gynghorau i atal y posibilrwydd o wynebu methdaliad? Ac a yw’r Gweinidog yn cytuno â’i harweinydd Llafur yn y DU mai cyfyngu ar wariant cyhoeddus yw’r ffordd o wneud hyn?

Cefais gyfle yr wythnos hon i siarad â Rachel Reeves a Keir Starmer am rai o’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol a rhai o’r pethau y byddant yn eu cynnig i bobl y Deyrnas Unedig. Ac un o'r pethau y maent eisoes wedi sôn amdanynt yn gyhoeddus yw mynd i'r afael â statws byw tu allan i'r wlad, mynd i'r afael â statws elusennol ysgolion yn Lloegr, a gallai'r ddau beth hynny arwain at gyllid canlyniadol i ni yma yng Nghymru. A dim ond dau beth yw'r rheini, fisoedd cyn etholiad cyffredinol, y maent yn awgrymu y gellid ymdrin â nhw pe bai'r Llywodraeth yn newid, a fyddai'n arwain at gyllid ychwanegol i ni. Felly, credaf y byddem yn amlwg mewn cysylltiad agos â thîm Llafur cyn yr etholiad, a chawsom gyfle, mewn gwirionedd, i nodi’n glir iawn y pwysau sydd ar Lywodraeth Cymru o ran ein cyllideb, ond hefyd, soniais yn glir iawn wrthynt am y pwysau ar lywodraeth leol hefyd.

Felly, credaf fod gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi bod yn wirioneddol bwysig. Mae’n nodi’r pwysau y mae llywodraeth leol yn ei wynebu. Ni ddywedodd unrhyw beth wrthym nad wyf wedi’i glywed yn uniongyrchol gan lywodraeth leol drwy gyfarfodydd yr is-grŵp cyllid a fy nghyfarfodydd eraill gyda llywodraeth leol hefyd. Felly, ydy, mae hwn yn gyfnod anodd iawn i lywodraeth leol. Un peth y credaf sy’n wahanol yng Nghymru, ac sydd gennym o’n plaid, yw’r ffordd rydym yn gweithio mewn partneriaeth. Ac ni chredaf y gallwch roi pris ar y math hwnnw o waith ar y cyd a llawn parch tuag at lywodraeth leol, a bydd yn sicr yn rhywbeth y credaf y bydd yn ein cynnal drwy'r cyfnod anodd o'n blaenau.

Diolch am yr ateb yna.  

Roedd yn ddiddorol iawn. Y penwythnos diwethaf, rhwng canu clodydd ymdeimlad o bwrpas Margaret Thatcher, y mae ei hetifeddiaeth ddinistriol yn dal i gael ei theimlo’n fawr gan gymunedau ar draws fy etholaeth, amlinellodd eich arweinydd Llafur yn y DU ei weledigaeth ar gyfer gwariant cyhoeddus mewn Llywodraeth, a rannodd gyda chi yn y cyfarfod, efallai, gweledigaeth sydd yn ei hanfod yn gyni 2.0. Drwy addo peidio ag agor y tapiau gwariant a pharhau ar lwybr cyni, er gwaethaf ei ganlyniadau dinistriol dros y 13 mlynedd diwethaf, mae Keir Starmer yn condemnio ein gwasanaethau cyhoeddus i ddyfodol ansicr iawn, ac mae’r goblygiadau i Gymru yn arbennig o enbyd.

Fel rwyf wedi sôn droeon yn y Siambr hon, rydym eisoes ar ein colled o ganlyniad i fodel ariannu Barnett nad yw’n rhoi cyfrif llawn am ein hanghenion cymdeithasol, tra bo cynhadledd dreth ddiweddar Llywodraeth Cymru yn nodi faint o bwysau a fydd yn cael ei roi ar gyllid Cymru dros y blynyddoedd nesaf, yn rhannol o ganlyniad i danfuddsoddi gan San Steffan. Mae’n fy arwain i feddwl tybed a oes gan arweinydd Llafur y DU unrhyw ddealltwriaeth wirioneddol o’r heriau presennol sy’n wynebu pobl Cymru a’n gwasanaethau cyhoeddus os yw’n credu mai dos arall o gyni sydd ei hangen. Peidiwch â derbyn fy ngair i; dyma a ddywedwyd gan bennaeth economeg y New Economics Foundation, melin drafod asgell chwith, a ddywedodd, yn dilyn araith Starmer:

'Mae Starmer yn twyllo'i hun os yw'n credu y gall gynnal y safonau byw presennol, heb sôn am eu gwella, heb ragor o wariant a buddsoddiad gan y llywodraeth.'

A gaf fi ofyn i chi, felly, am eich asesiad o sut y bydd bwriad Llafur yn y DU i gyfyngu ar wariant cyhoeddus yn effeithio ar gyflwr cyllid datganoledig yng Nghymru ar ôl yr etholiad cyffredinol? Ac a ydych yn rhannu cred y Prif Weinidog y bydd y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn darparu’r buddsoddiad sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac os felly, sut rydych chi'n cysoni hyn â’r realiti nad yw Keir Starmer yn ymrwymo i wrthdroi cyni mewn unrhyw ffordd ystyrlon?

13:50

Wel, Lywydd, nid wyf yn bwriadu ymladd etholiad cyffredinol nad yw hyd yn oed wedi’i alw mewn cwestiynau cyllid yn y Senedd hon, ond yr hyn a ddywedaf yw bod yn rhaid inni fod yn ymwybodol o’r hyn y byddai Llywodraeth Lafur newydd—os cawn un—yn ei etifeddu. Byddai’n etifeddu effeithiau methiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â'r chwalfa a wnaeth Liz Truss o'r economi. Hynny yw, rydym yn dal i wynebu hynny, ac nid gwasanaethau cyhoeddus yn unig sy'n dal i wynebu hynny; mae unigolion yn wynebu hynny yng nghyllidebau eu cartref, a’r anawsterau y maent yn eu hwynebu wrth dalu eu morgeisi. Mae pob un ohonom yn gweld hynny yn ein gwaith achos, ac ni chredaf y gall unrhyw un wadu hynny. Yr hyn a welwch, rwy’n siŵr, fydd newid llwyr ym mlaenoriaethau Llywodraeth Lafur. Bydd gwasanaethau cyhoeddus yn flaenoriaeth, bydd pobl sy’n ddibynnol ar y gwasanaethau cyhoeddus hynny'n flaenoriaeth, bydd swyddi’n flaenoriaeth, ni fydd y bobl gyfoethocaf yn flaenoriaeth, ac fe fyddwch yn gweld hynny’n wahanol iawn, rwy'n credu, a bydd hynny oll yn cael ei nodi yn yr etholiad cyffredinol.

Ailbrisio Eiddo

3. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r amserlen ar gyfer cwblhau gwaith ailbrisio eiddo at ddibenion y dreth gyngor? OQ60370

Lansiais ymgynghoriad cam 2 ar dreth gyngor decach ar 14 Tachwedd. Rwy'n ceisio barn pobl ar raddfa a chyflymder diwygio. Mae’r ymgynghoriad yn nodi'n glir mai’r dyddiad cynharaf y gallai diwygio ddod i rym fyddai mis Ebrill 2025, a byddaf yn cyhoeddi’r ffordd ymlaen maes o law.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Pan gynhaliodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf ailbrisiad yn ôl yn 2004 yma yng Nghymru, rhoddwyd mesurau pontio sylweddol ar waith ar gyfer eiddo a oedd yn symud ymhell i fyny’r bandiau yn ystod y broses ailbrisio honno. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, ni waeth beth yw ein barn ni am y broses ailbrisio, neu’n wir, beth y gallai canlyniad y broses honno fod, fod yn rhaid rhoi’r mesurau pontio hyn ar waith y tro hwn i sicrhau nad yw pobl yn symud ddau, dri, bedwar band i fyny o ganlyniad i ailbrisiad eich Llywodraeth, ac yn enwedig lle gallent fod yn unigolion o oedran pensiwn neu’n byw ar eu pen eu hunain, ac yn y pen draw, gallai’r naid honno yn y galw gan yr awdurdod lleol fod mor fawr fel y byddai y tu hwnt i'w gallu i aros yn yr eiddo y maent wedi byw ynddo drwy gydol eu hoes?

Rwy'n credu fy mod wedi bod yn gwbl glir ers lansio’r gwaith hwn y byddwn yn amlwg yn ystyried trefniadau pontio ar gyfer pobl y mae diwygio’r dreth gyngor yn effeithio arnynt o ran biliau’n codi. Ni allwn ddweud sut olwg fydd ar y trefniadau pontio hynny eto, gan nad ydym wedi cael canlyniad yr ymgynghoriad, ac nid ydym wedi modelu sut olwg fyddai ar y canlyniad hwnnw. Rydym wedi modelu ychydig o wahanol ddulliau o weithredu, a allai fod yn ddulliau i’w rhoi ar waith, yn y ddogfen ymgynghori. Byddai pob un o’r dulliau hynny'n arwain at filiau treth gyngor mwy o aelwydydd yn gostwng yn hytrach na chodi, ond rydym hefyd wedi dweud yn glir iawn yn yr ymgynghoriad, ac yn wir, yn y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gennym, na fydd y gostyngiad person sengl yn cael ei ddileu.

Model Buddsoddi Cydfuddiannol

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnydd Llywodraeth Cymru o'r model buddsoddi cydfuddiannol? OQ60355

Defnyddir y model buddsoddi cydfuddiannol i gyflwyno buddsoddiad cyfalaf pan fydd yr holl ffynonellau cyllido eraill wedi'u defnyddio. Fe’i defnyddiwyd i ariannu'r gwaith o ddeuoli rhannau 5 a 6 o’r A465, yn ogystal â phrosiectau adeiladu ysgolion yn sir y Fflint a Rhondda Cynon Taf.

Diolch, Weinidog. Mae’r ffaith bod gennyf bryderon ynghylch y model buddsoddi cydfuddiannol yn dra hysbys. Gellir ei ddisgrifio orau fel menter cyllid preifat heb wasanaethau porthorol parhaus. Bydd unrhyw fudd cymunedol yn cael ei brisio i mewn i'r contract, ac, os yw contract yn mynd i fethu, mae datodiad a gwneud cais i gael eu talu am waith a wnaed yn parhau i fod yn opsiwn i'r contractwr. Hefyd, mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cael effaith ar gyllidebau refeniw ar gyfer y blynyddoedd i ddod. A wnaiff y Llywodraeth ystyried gohirio contractau hyd nes y gellir eu hariannu drwy'r opsiwn rhatach o ddefnyddio dyraniad cyfalaf neu fenthyca gan y Llywodraeth?

13:55

Rwy’n ddiolchgar i Mike Hedges am ei gwestiwn, ac yn awgrymu’n barchus fod gennym farn wahanol ynglŷn â'r model buddsoddi cydfuddiannol. Ac mae'n debyg mai'r ateb uniongyrchol i'r cwestiwn ynglŷn ag a fyddwn yn gohirio prosiectau hyd nes y gallwn eu hariannu drwy gyfalaf traddodiadol, mae arnaf ofn mai 'na fyddwn' yw'r ateb i hynny. Mae ein cyllideb gyfalaf yn gostwng 6 y cant mewn termau real y flwyddyn nesaf, ac mae ein cyllideb gyfalaf dan bwysau aruthrol fel y saif pethau ar hyn o bryd. Yn wahanol i gaffael traddodiadol, mae buddion cymunedol wedi’u prisio, a gellir cosbi methiant i ddarparu'r rheini. Fodd bynnag, yn ymarferol, drwy brosiect y model buddsoddi cydfuddiannol, rydym yn gweld contractwyr yn sicrhau manteision cymunedol rhagorol, ac rwy'n bwriadu ymhelaethu arnynt pan fyddaf yn cyhoeddi adroddiad nesaf y model buddsoddi cydfuddiannol yn y gwanwyn.

Felly, credaf mai’r cwestiwn yw: a ydym am i’r prosiectau hyn fynd rhagddynt? Felly, nid oes unrhyw ffordd y gallem fod wedi gwneud y lefel o waith sydd gennym ar yr A465 ar hyn o bryd heb y model buddsoddi cydfuddiannol; byddai hynny wedi cymryd llawer mwy o amser i ni. Ac rydym wedi dechrau adeiladu ysgolion yn sir y Fflint a Rhondda Cynon Taf nawr, ac mae gennym lif uchelgeisiol o ysgolion a cholegau ledled Cymru i ddarparu £0.5 biliwn o fuddsoddiad mawr ei angen mewn seilwaith addysgol. Felly, ni fuaswn yn dymuno gwneud i blant a phobl ifanc aros am yr amgylcheddau dysgu gwell hynny hyd nes bod gennym y cyfalaf traddodiadol ar gael i ni.

Weinidog, er bod y model buddsoddi cydfuddiannol yn gyfrwng pwysig i ysgogi datblygiad seilwaith heb ddisbyddu cyllidebau cyfalaf, mae’n rhaid iddo fod yn fforddiadwy gan y bydd ei brosiectau’n cael eu hariannu drwy refeniw. A gwyddom y bydd y tri phrif faes hynny sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd o dan y model buddsoddi cydfuddiannol yn cyfateb i oddeutu £1.3 biliwn, sydd fwy na thebyg yn mynd i gostio oddeutu £18 miliwn y flwyddyn i'w gwasanaethu, dros 30 mlynedd, pan fydd y prosiectau hynny wedi'u cwblhau. Mae’r A465 o Ddowlais i Hirwaun oddeutu £590 miliwn. Gwyddom fod hynny dros 30 mlynedd. Mae oddeutu £38 miliwn y flwyddyn, a rhagwelir y bydd y gost yn y tymor hir yn nes at £1.2 biliwn ar ddiwedd y 30 mlynedd. Ac mae'n debyg mai'r hyn yr hoffwn ei ddeall mewn gwirionedd, Weinidog, yw'r taliadau gwasanaeth blynyddol hynny: sut y cânt eu monitro? A ydynt yn yn fynegrifol? Sut maent yn rhoi cyfrif am chwyddiant, wrth symud ymlaen, gan ei bod yn anodd iawn gweld sut y gellid rhagamcanu’r ffigurau hynny 30 mlynedd ymlaen llaw i gyrraedd y costau fel y maent nawr? Felly, edrychaf ymlaen at weld eich cynllun wedi’i ddiweddaru yn y dyfodol agos, ond efallai y gallech ystyried y cwestiynau hynny.

Iawn. Pan fydd ased wedi'i chwblhau ac yn weithredol, mae'r sector cyhoeddus yn talu'r taliadau gwasanaeth blynyddol y cyfeirioch chi atynt, a chaiff hwnnw ei dalu i gwmni'r prosiect. Ac mae wedi'i fodelu i ddarparu ar gyfer cost cynllunio, adeiladu, cyllid, cynnal a chadw a chylch bywyd y prosiect. Ac mae hynny'n sefydlog drwy'r broses gaffael. Mae’n cynnwys costau llawn, a hefyd yn cynnwys y gost o drosglwyddo risg sylweddol oddi wrth y sector cyhoeddus. Ond fel y dywedoch chi, byddaf yn rhoi diweddariad llawn mewn adroddiad yn y flwyddyn newydd.

Treth Tir Gwag

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran datganoli pwerau mewn perthynas â threth tir gwag? OQ60358

Chwe blynedd yn ôl, fe wnaethom ddechrau'r broses o ddatganoli pwerau newydd ar gyfer treth ar dir gwag, ac nid ydym wedi gallu sicrhau’r pwerau hyn o hyd. Mae’n amlwg nad yw’r broses yn addas i’r diben.

Mae hyn yn peri rhwystredigaeth, oherwydd, fel y gŵyr y Gweinidog, pan wnaethom brofi archwaeth y cyhoedd yn anffurfiol gydag arolwg ar y cyfryngau cymdeithasol chwe blynedd yn ôl, dyma’r dreth, dyma’r ardoll fwyaf poblogaidd gyda phawb, gan fod pob un ohonom yn teimlo'n rhwystredig gyda pharseli o dir gwag sy’n ymddangos yn y cynllun datblygu lleol, neu lle maent wedi cael caniatâd cynllunio, ond maent yn parhau'n wag wrth i ddatblygwyr geisio cronni cyfoeth drwy’r cynnydd yng ngwerth eiddo’r tir hwnnw yn hytrach na’i ddatblygu. Yn y cyfamser, mae angen inni adeiladu mwy o dai fforddiadwy; yn y cyfamser, mae angen y gwaith datblygu arnom er mwyn darparu swyddi hefyd. Felly, tybed pa gymorth y gallwn ei roi fel cynrychiolwyr ar yr holl feinciau hyn i wneud y sylwadau hynny i Lywodraeth y DU yn San Steffan i ddweud, 'Datganolwch y pwerau hyn i ni fel y gallwn fwrw ymlaen â'r gwaith.'

Yn hollol, a chredaf, mewn gwirionedd, fod rôl sylweddol i’r Senedd ac i Aelodau’r Senedd bwysleisio i Lywodraeth y DU mai mater i’r Senedd, mewn gwirionedd, yw sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio unrhyw bwerau a ddarperir iddi. Rydym yn credu bod gan Lywodraeth y DU fuddiant dilys o ran p'un a yw’r pwerau’n addas ar gyfer datganoli, ond mewn gwirionedd, mater i Aelodau'r Senedd yn sicr yw’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda’r pwerau hynny. A chredaf mai dyna fu'r rhwystr gyda hyn, yn yr ystyr ein bod wedi darparu llawer iawn o wybodaeth i Lywodraeth y DU, ond mae Llywodraeth y DU yn dal i fod yn awyddus i wybod rhagor o fanylion ynghylch sut y gallai'r dreth weithio, a mater i’r Senedd hon yw hynny, nid i Lywodraeth y DU. Ac rydych chi'n gweld y cyferbyniad oherwydd yn y cyfamser, mae'r Alban wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU drwy'r broses y cytunwyd arni—yr un broses ag y gwnaethom ninnau ei dilyn—i sicrhau trethi newydd gyda'r bwriad o gyflwyno ardoll diogelwch adeiladau. A'r gwahaniaeth yno yw bod yr hyn y mae'r Alban am ei wneud yn adlewyrchu'r hyn y mae Llywodraeth y DU am ei wneud. Felly, os yw Llywodraeth y DU yn iawn gyda’r polisi a’i weithrediad, ymddengys ei bod yn fodlon datganoli’r dreth, ac nid dyna’r ffordd y dylai fod, gan fod hynny'n amharchu’r Senedd a’i rôl yn fy marn i.

Felly, cyfarfûm ag Ysgrifennydd Ariannol diweddaraf y Trysorlys dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ac unwaith eto, maent yn gofyn am ragor o wybodaeth. Felly, y tro hwn, mae pryder ynghylch yr hyn y gallai hyn ei olygu i drethi yn Lloegr a'r hyn y gallai ei olygu i dai yn Lloegr ac ati. Wel, mewn gwirionedd, nid yw'n golygu unrhyw beth i drethi yn Lloegr gan mai un o'r rhesymau pam y gwnaethom ddewis hyn oedd am ei bod yn dreth mor fach, gul a phenodol, ac ni fyddai'n arwain at oblygiadau y tu hwnt i'n ffiniau. Felly, os na all weithio ar rywbeth mor benodol, sut y gall weithio ar gyfer uchelgeisiau eraill a allai fod gan bobl eraill?

14:00

Weinidog, yn hytrach na phwyso am fwy o bwerau eto a chreu mwy fyth o drethi, oni ddylech chi, Weinidog, fod yn gweithio i gymell adeiladwyr tai, yn hytrach na'i gwneud hi'n anoddach gwneud busnes yng Nghymru? Mae dau arbenigwr cenedlaethol yn y diwydiant eisoes wedi mynegi pryderon am ganlyniadau anfwriadol treth ar dir gwag, a allai rwystro yn hytrach na helpu datblygwyr newydd. Mae'n annerbyniol fod Llywodraeth Cymru yn gofyn i Senedd Cymru gytuno â datganoli treth ar dir gwag yn y dyfodol heb amlinellu argymhellion manwl ynglŷn â sut beth fyddai treth o'r fath, sut y byddai'n gweithio a pha effaith y byddai'n ei chael ar y diwydiant tai ac adeiladu. Rydym mewn argyfwng tai: mae 100,000 o gartrefi yng Nghymru yn hollol wag—mwy nag un o bob 10 cartref mewn rhai ardaloedd. Weinidog, oni ddylech chi ganolbwyntio ar ddod â'r cartrefi hynny yn ôl i ddefnydd yn hytrach na cheisio cosbi datblygwyr?

Wel, nid yw treth ar dir gwag yn cosbi datblygwyr; yr holl bwynt yw y dylai datblygwyr fod yn datblygu'r tir, felly nid oes unrhyw gosbi. Bwriad y dreth hon fyddai cyflwyno'r datblygiadau hynny ar dir sy'n aml yn falltod ar gymunedau, a hefyd, wyddoch chi, cyflwyno'r holl fuddion y clywsom amdanynt ar ffurf swyddi ac yn y blaen. Mae fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Newid Hinsawdd yn amlwg yn gweithio'n galed iawn ar gartrefi gwag, ar gynyddu adeiladu tai ac yn enwedig gweithio ar yr agenda i gyflwyno tai cymdeithasol di-garbon yma yng Nghymru. Ond mewn gwirionedd, mae'r holl gwestiynau pwysig a ofynnwyd o ran sut beth fyddai'r dreth, sut y byddai'n gweithio'n ymarferol—cwestiynau i'w craffu yn y Senedd yw'r rheini. Ac rwy'n edrych ymlaen at y pwynt lle mae'r Senedd, ar ryw adeg yn y dyfodol, yn gallu craffu ar y cwestiynau hynny, oherwydd dyna lle mae angen craffu ar y cwestiynau, yn hytrach nag mewn cyfarfodydd â Gweinidogion Llywodraeth y DU.

Amddiffyn rhag Llifogydd

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cyllid i amddiffyn cymunedau yn Alun a Glannau Dyfrdwy rhag llifogydd? OQ60377

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £75 miliwn fel rhan o'n rhaglen llifogydd ar gyfer 2023-24, gyda £5.25 miliwn o gyllid refeniw ar gael i awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £12 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni gwaith adeiladu, y gall awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau ar ei gyfer.

Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb, ac fe fydd hi'n gwybod fy mod wedi codi mater llifogydd diweddar cymunedau yn Alun a Glannau Dyfrdwy ar sawl achlysur yn y Senedd. Rwyf wedi mynychu cyfarfodydd cyhoeddus yn Sandycroft a Brychdyn, ac ar ôl bod mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, gyda llywodraeth leol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, rwy'n awyddus i weld y gwaith yn dechrau. Rwy'n ymwybodol fod sgyrsiau eisoes wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor Sir y Fflint ynghylch y ceisiadau cyllid posibl a fydd yn cael eu llywio gan ganlyniadau'r ymchwiliadau adran 19 sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Mae hyn yn bwysig, Weinidog; mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn. Mae'n rhaid i brosiectau fod yn seiliedig ar dystiolaeth i fod yn effeithiol. Fodd bynnag, mae'r trigolion yn amlwg yn awyddus i gael sicrwydd. A gaf fi ofyn pa sicrwydd y gallwch ei roi, mewn perthynas â cheisiadau am gyllid, fod cartrefi yr effeithir arnynt yn wael yn sir y Fflint yn flaenoriaeth go iawn?

14:05

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwy'n ofni na fuaswn i'n bersonol yn rhan o'r cynigion cyllido hynny, yn yr ystyr y byddai'n rhywbeth y mae'r adran newid hinsawdd yn ymdrin ag ef. Felly, nid wyf wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw un o'r trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint, ond rwy'n deall gan y Gweinidog Newid Hinsawdd fod Cyngor Sir y Fflint wedi nodi nifer o gynlluniau posibl, a fydd yn cael eu gwerthuso a'u blaenoriaethu ochr yn ochr â cheisiadau gan yr awdurdodau rheoli risg yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at gael y ceisiadau hynny.

Wrth eich holi yma fis diwethaf ar yr un mater, cyfeiriais at ddatganiad gan un o swyddogion Cyngor Sir y Fflint yng nghyfarfod cyhoeddus llifogydd Brychdyn 11 diwrnod ynghynt, y byddent yn cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru am waith a nodwyd gan yr ymchwiliad llifogydd adran 19 yr oeddent bellach yn ei lansio gydag asiantaethau eraill ar ôl i eiddo ym Mrychdyn a Bretton ddioddef llifogydd unwaith eto. O ystyried yr adnoddau sydd gennych ar gael, gofynnais pa obaith oedd yna fod cynigion o'r fath—o'u drafftio a'u llunio'n iawn, ac o ddarparu tystiolaeth briodol ar eu cyfer—yn llwyddiannus. Fe ateboch chi, fel y gwnaethoch chi nawr, y byddai hynny'n fwy o gwestiwn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mewn gohebiaeth ddilynol, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthyf fod ei swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â swyddogion perygl llifogydd yng Nghyngor Sir y Fflint, ar gyfer darparu cyngor ac arweiniad ar gyflwyniadau ar gyfer cyllid Llywodraeth Cymru ac y byddant yn ystyried unrhyw achosion busnes a gyflwynir gan yr awdurdod lleol. Wel, o ystyried eich cyfrifoldeb cyffredinol am y gyllideb, pa drafodaeth ddilynol a gawsoch chi felly gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ers fy nghwestiwn fis diwethaf, ynghylch darparu cyllid o fewn ei chyllideb i ddiwallu'r anghenion hyn?

Cefais fy hysbysu gan swyddogion y Gweinidog cyn y cwestiynau heddiw mewn perthynas â'r llifogydd yn sir y Fflint a'r ceisiadau a ddisgwylir. Ond i fod yn glir iawn, mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd yw hwn. Bydd unrhyw gyllid yn dod drwy ei chyllideb hi a thrwy'r cynlluniau y mae hi wedi'u sefydlu, y gall awdurdodau rheoli risg gael mynediad atynt, awdurdodau rheoli risg fel awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gyfrifol am gyflawni cynlluniau lliniaru llifogydd yng Nghymru. Mater i'r Gweinidog portffolio ydyw, mae arnaf ofn. Ni fyddai'n rhywbeth y byddai gennyf rôl i wneud penderfyniadau yn ei gylch, oherwydd mater i'r adran newid hinsawdd ydyw.

Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi llywodraeth leol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus? OQ60376

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, gan gynnwys llywodraeth leol, cyn belled ag y bo modd yn ein penderfyniadau cyllidebol sydd ar y ffordd. Er bod y rhagolygon yn heriol, rwy'n croesawu ein ffordd bragmatig o gydweithio â llywodraeth leol i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu o fewn y cyllid sydd ar gael.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Clywodd pawb ohonom y newyddion am Gyngor Dinas Nottingham yn cyhoeddi hysbysiad methdaliad adran 114 yr wythnos diwethaf, gyda 26 o awdurdodau lleol eraill yn Lloegr mewn perygl o gyhoeddi hysbysiadau tebyg dros y flwyddyn nesaf. Gallai datganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref fod wedi gwella pethau, ond nid oedd yn cynnwys un geiniog ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus allweddol fel addysg neu ofal cymdeithasol. Ar y llaw arall, mae gan Lywodraeth Cymru hanes gwych o gefnogi cynghorau Cymru, ond mae llywodraeth leol yma yn teimlo'r pwysau. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i flaenoriaethu cymorth i'r sector a'r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein cymunedau i gyd yn dibynnu arnynt?

Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol i ddeall y pwysau sylweddol y maent yn ei wynebu, ond rydym hefyd yn buddsoddi yn ein cymorth perfformiad hefyd. Fe fyddwch yn cofio bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi rhoi trefn berfformio newydd dan arweiniad y sector ar waith i ysgogi gwelliant mewn awdurdodau lleol ledled Cymru, ac mewn llawer o achosion gall hynny geisio ysgogi rhai arbedion effeithlonrwydd, er mor galed yw hynny, mewn llywodraeth leol hefyd. Er mwyn cefnogi hynny, rwyf wedi cytuno ar gyllid o £800,000 ar gyfer rhaglen wella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ddarparu ar gyfer dysgu ar y cyd a gwella corfforaethol ar draws y cynghorau. Felly, mae honno'n ffynhonnell ariannu sydd ar gael lle mae yna ddysgu i'w gael, a hefyd annog awdurdodau, wrth gwrs, i weithio ar y cyd ar faterion a heriau cyffredin.

Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru mewn perthynas â'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)? OQ60353

Rwyf wedi trafod y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn rheolaidd gydag awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae'r materion a drafodir yn y Bil yn tynnu ar waith ymchwil helaeth ac wedi bod yn destun ymgynghoriadau y mae awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru wedi cymryd rhan ynddynt.

14:10

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae cryn bryder ymhlith y cyfryngau ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig i hysbysiadau cyhoeddus. Mae'r Bil yn ceisio dileu'r gofyniad i gynghorau gyhoeddi newidiadau yng nghyfraddau'r dreth gyngor mewn hysbysiad cyhoeddus mewn papur newydd, a'u cyhoeddi ar-lein yn lle hynny. Mae hysbysiadau cyhoeddus yn darparu refeniw hanfodol i bapurau newydd, sydd, yn eu tro, yn eu galluogi i ddarparu sylw o ansawdd uwch i straeon lleol a chenedlaethol. Gyda lefelau uchel o allgáu digidol yng Nghymru, mae'n anochel fod papurau newydd yn chwarae rhan ganolog wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion. Dywedodd Gavin Thompson, golygydd y South Wales Argus yn fy rhanbarth wrthyf, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae dileu'r angen i gyhoeddi newidiadau i'r dreth gyngor mewn papurau newydd lleol yn ddechrau ar ddirywiad a allai arwain at ganlyniadau difrifol a pharhaol ar gyfer y ddarpariaeth o newyddion lleol ledled Cymru.'

Ychwanegodd:

'Nid nawr yw'r adeg i bentyrru rhagor o broblemau ar ein diwydiant.'

Felly, Weinidog, a fyddwn yn cael gwared ar y rhan hon o'r Bil ac yn hytrach, yn adfer cefnogaeth eich Llywodraeth i newyddion lleol yn y dyfodol?

Wel, mae adran 20 o'r Bil, fel y dywedwch, yn dileu'r gofyniad statudol i awdurdodau bilio gyhoeddi hysbysiadau treth gyngor mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn eu hardal. Mae'n cael ei ddisodli gan ofyniad i gyhoeddi hysbysiadau yn electronig ar eu gwefan, ac rwy'n credu bod hynny'n bod yn realistig ynglŷn â'r ffordd y mae pobl yn derbyn ac yn defnyddio gwybodaeth y dyddiau hyn. Ond mae'r Bil hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod yr wybodaeth yn hygyrch i bobl heb fynediad at wefan, felly gallai hynny olygu rhoi gwybodaeth mewn mannau cyhoeddus yn yr ardal leol—llyfrgelloedd, swyddfeydd cyngor—neu ei chyhoeddi yn eu cylchlythyrau eu hunain. Ac mae awdurdodau lleol hefyd yn darparu gwybodaeth am y dreth gyngor fel rhan o'u bil blynyddol i ddinasyddion hefyd. Felly, bydd ffyrdd eraill i bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol gael mynediad at yr wybodaeth honno. Ond wedi dweud hynny, rydym ar fin dechrau'r broses ymgysylltu a chraffu drwy'r Senedd ar hyn o bryd, felly rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhywbeth y craffir arno'n fanwl iawn yn y pwyllgor. Ond fel y dywedais, mae'n ymwneud â bod yn realistig ynglŷn â sut mae pobl yn cyrchu gwybodaeth, ond gan roi mesurau ar waith hefyd ar gyfer y rhai sydd wedi'u hallgáu.

Gwasanaethau Awdurdodau Lleol

9. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda llywodraeth leol i hyrwyddo arfer da ar draws awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau? OQ60392

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi sefydlu trefn berfformio newydd dan arweiniad y sector i ysgogi gwelliant mewn awdurdodau lleol ledled Cymru. I gefnogi ei gweithrediad, rwyf wedi cytuno ar £800,000 o gyllid ar gyfer rhaglen gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu ar gyfer dysgu ar y cyd a gwella corfforaethol ar draws y cynghorau.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n credu ein bod yn gwybod, o edrych ar ein 22 awdurdod lleol, fod yna gryn amrywiaeth yn y modd y darparir gwasanaethau o hyd. Er gwaethaf amgylchiadau lleol, daearyddiaeth a demograffeg, rwy'n credu bod gwerthuso yn dangos bod gan awdurdodau lleol eu meysydd cryf wrth gwrs, ond hefyd meysydd o wendid cymharol o ran effeithiolrwydd darparu gwasanaethau. Weinidog, rydym yn byw mewn cyfnod lle mae'r angen yn fwyfwy dybryd i ddarparu'n fwy effeithiol gydag adnoddau cyfyngedig, a gwyddom fod cyllidebau awdurdodau lleol o dan bwysau cynyddol. Felly, gyda'r cyllid a nodwyd gennych, Weinidog, a fyddech chi nawr yn disgwyl gweld mwy o arloesi a datblygu yn ein hawdurdodau lleol, o ran nodi a lledaenu'r arferion da hynny?

Rwy'n credu mai ar adegau anodd y gwelwn beth o'r arloesedd hwnnw'n dod i'r amlwg amlaf. Ac un o'r pethau rwy'n ei wneud ar hyn o bryd yw trefnu digwyddiad ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a gwneud hynny mewn partneriaeth â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, oherwydd wrth imi fynd o gwmpas Cymru yn ymweld ag awdurdodau lleol ac yn ymweld â byrddau gwasanaethau cyhoeddus, rwyf wedi bod yn gweld enghreifftiau cwbl wych o arloesedd a ffyrdd gwahanol o wneud pethau, a ffyrdd mwy effeithiol o wneud pethau, ond weithiau fe wyddom nad yw arferion da yn teithio'n dda iawn. Felly, un o'r pethau y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a minnau yn gweithio arnynt yw digwyddiad ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus—yn gynnar yn y flwyddyn newydd rwy'n credu—lle gallwn ddechrau rhoi sylw go iawn i rywfaint o'r arloesedd a'r arferion da hynny.

Maes arall lle gallwch weld hynny'n digwydd hefyd yw drwy waith Ystadau Cymru. Felly, roeddwn yn falch iawn o gyflwyno gwobrau blynyddol Ystadau Cymru yr wythnos diwethaf ac unwaith eto, roedd hynny'n ymwneud â nodi meysydd o arferion da iawn lle mae'r sector cyhoeddus yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol i sicrhau eu bod yn darparu gwell gwasanaethau i bobl. Felly, rwy'n credu ein bod yn gweld arloesedd gwych yn digwydd ledled Cymru, ond yn hollol, mae angen inni gorlannu hynny a dod o hyd i ffordd o'i wneud yn norm, os mynnwch.

14:15
Ariannu Llywodraeth Leol

10. Pa effaith y mae datganiad yr hydref Llywodraeth y DU wedi'i chael ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu llywodraeth leol? OQ60361

Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eisoes yn gwneud penderfyniadau anodd iawn ac mae awdurdodau lleol yn adrodd am heriau difrifol. Methodd Llywodraeth y DU gydnabod y pwysau hwn yn natganiad yr hydref. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, gan gynnwys llywodraeth leol, yn ein penderfyniadau cyllidebol sydd ar y ffordd cyn belled ag y bo modd.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Rwy'n gwybod eich bod wedi cyffwrdd ar lawer o hyn y prynhawn yma gyda chwestiynau fy nghyd-Aelodau eraill, ond roedd yn ddiddorol iawn darllen yr adborth gan yr awdurdodau lleol yn Lloegr, a ddywedodd hefyd nad oedd dim byd o gwbl yn natganiad yr hydref i'w helpu, a hynny gyda phethau—. Ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, dim byd, tai dros dro, dim byd. Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y tri pheth y mae'n rhaid iddynt wario'r rhan fwyaf o'u cyllideb arnynt yw digartrefedd, amddiffyn plant mewn gwasanaethau cymdeithasol ac yna cludiant o'r cartref i'r ysgol, mater a godais o'r blaen. Mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid iddynt eu darparu. Felly, methodd datganiad yr hydref ddiogelu unrhyw un o'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt, ac mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dweud:

'Mae cynlluniau y tu hwnt i 2025 yn galw am doriadau i rai meysydd "heb eu diogelu" (fel llywodraeth leol, neu garchardai) ac yn galw am doriadau mawr i lefel buddsoddiad cyhoeddus.'

Felly, mae'n edrych yn eithaf llwm ar gyfer y dyfodol. Felly, roeddwn i'n meddwl, os ydych chi'n cael unrhyw sgyrsiau, a ydynt yn talu unrhyw sylw i'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn Llywodraeth Cymru pan fyddwch chi'n galw am y pethau hyn—nid yn unig i Lywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, ond i awdurdodau lleol ledled y DU.

Credaf fod y neges honno'n bwysig iawn, nad yw'r heriau yr ydym yn eu teimlo yng Nghymru yn unigryw i ni yma yng Nghymru, ond mae awdurdodau lleol dros y ffin yn Lloegr wedi bod yn pwysleisio'r union heriau hyn i Lywodraeth y DU. Ac mewn gwirionedd, ychydig wythnosau'n ôl yn unig, bydd cyd-Aelodau wedi gweld bod Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ymarfer tebyg yn ystod y flwyddyn i'r hyn y buom yn sôn amdano yn y Senedd o'r blaen. Fe fyddwch yn cofio y bu'n rhaid inni ailflaenoriaethu tua £900 miliwn, neu nodi cyllid ar gyfer y £900 miliwn, i gau'r bwlch yn ein cyllideb eleni o ganlyniad i chwyddiant. Wel, fe wnaeth yr Alban rywfaint o'r gwaith hwnnw y llynedd, felly fe wnaethant ailflaenoriaethu tua £600 miliwn, rwy'n credu, o'u cyllideb y llynedd, ac yna maent wedi gwneud ymarfer arall yn gwneud yr un peth eto eleni. Felly, mae'n bendant yn bwysau sy'n cael ei deimlo ledled y DU, a gallwch weld, yn amlwg, yr effaith yn Lloegr yn sgil methiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn llywodraeth leol, ac mae'r sefyllfa'n fwy difrifol yn Lloegr, ond nid yw'n lleihau'r heriau sydd gennym yma.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Yr eitem nesaf, felly, bydd y cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Natasha Asghar. 

Cynllun Ffermio Cynaliadwy

1. Sut fydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cefnogi cynefinoedd yng Nghymru? OQ60378

Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cynnwys gofyniad i o leiaf 10 y cant o dir ar ffermydd yn y cynllun gael ei reoli fel cynefin er budd bioamrywiaeth yn rhan o'r broses barhaus o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Edrychaf ymlaen at lansio'r cynllun ffermio cynaliadwy yn ddiweddarach y mis hwn.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. A gaf fi dalu teyrnged yn gyflym i Buglife Cymru, a lansiodd eu mapiau ardaloedd infertebratau pwysig mewn digwyddiad gwych yma heddiw yn y Pierhead y prynhawn yma? Weinidog, rwy'n gofyn y cwestiwn hwn gan wisgo fy het hyrwyddwr gwybed Mai, rôl rwy'n falch iawn o'i chael. Mae'n bwysig i wybed Mai fod cynefinoedd eu hafonydd yn lân ac yn iach, ac yn cael eu rheoli'n sensitif ar gyfer bywyd gwyllt. Mae sefydliadau anllywodraethol wedi dweud wrthyf, er eu bod yn falch fod cynllun dros dro wedi'i sefydlu rhwng diwedd Glastir a dechrau'r cynllun ffermio cynaliadwy, fod ganddynt bryderon amrywiol am y cyfraddau talu gostyngedig a'r awgrym fod hyn yn golygu bod natur yn werth llai, yn enwedig pan gefnogir y cynllun ffermio cynaliadwy i sicrhau bod mwy o becynnau ffermio yn cyd-fynd ag adferiad natur, gan sicrhau hefyd fod busnesau'n hyfyw. Bydd cynlluniau fel hyn yn hanfodol i'n rhywogaethau sydd mewn perygl, ond eto nid oes data cynefin wedi'i ryddhau. Felly, Weinidog, hoffwn wybod a yw Cynefin Cymru wedi dod â mwy o gynefinoedd i mewn i gymorth rheoli nag a gâi ei ddarparu gan Glastir efallai, a faint o gynefinoedd sydd wedi gadael y cynllun. Hefyd, hoffwn wybod a fydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi yn y dyfodol. Diolch.

Diolch. Ni allaf ateb y cwestiynau hynny eto gan mai dim ond ar 10 Tachwedd y caeodd y cyfnod ymgeisio ar gyfer cynllun Cynefin Cymru. Rydym yn gwneud yr holl wiriadau gweinyddol ar hyn o bryd, ac yna bydd contractau'n cael eu dyfarnu.

Cefnogi Ffermwyr

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ60366

Rydym wedi talu mwy na £30 miliwn o ragdaliadau cynllun y taliad sylfaenol 2023 i dros 96 y cant o hawlwyr yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro ers 12 Hydref. Gall ffermwyr wneud cais i gynlluniau grant eraill hefyd wrth iddynt ddod ar gael. Yn ogystal, mae Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth hanfodol i helpu busnesau fferm i wella a thyfu.

14:20

Diolch, Weinidog, ac mae'n ddiddorol eich bod yn sôn am 'grantiau eraill pan fyddant ar gael', oherwydd mae 14 mis wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi, gyda chryn ffanffer, y byddai hyd at £20 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i gefnogi ffermwyr i gydymffurfio â'r rheoliadau adnoddau dŵr, sy'n gyfarwydd i lawer fel parthau perygl nitradau. Cafodd y cyhoeddiad groeso yn y diwydiant amaethyddol. Fodd bynnag, er bod 14 mis wedi mynd heibio, nid oes yr un geiniog o'r cyllid hwn a addawyd wedi'i wireddu, sy'n peri cryn dipyn o siom ac ansicrwydd i'r diwydiant. Mae asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun yn amcangyfrif bod y costau ymlaen llaw o gydymffurfio â'r rheoliadau yn £360 miliwn, ffigur sydd bellach yn debygol o fod wedi cynyddu oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant.

Mae'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn addo cymorth posibl heb weithredu pendant wedi creu ymdeimlad o rwystredigaeth a diffyg ymddiriedaeth ymhlith ffermwyr. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau'r trefniadau cyllido ac yn cyflawni ei haddewidion i'r diwydiant amaethyddol. Gyda gofynion storio newydd yn cael eu cyflwyno fis Awst nesaf, a ffermwyr yn wynebu amseroedd cychwyn sylweddol oherwydd cyfyngiadau cynllunio ac amgylcheddol, a allwch chi gadarnhau ble mae'r cyllid hwn a phryd y caiff ei ryddhau?

Gallaf, yn sicr. Rwyf wedi sicrhau bod cyllid ar gael yn gyson dros nifer o flynyddoedd i wella rheoli maethynnau ar ffermydd. Yn 2022 fe wnaethom gynnig cyllideb gyfunol o £18 miliwn ar gyfer dau gynllun a oedd yn cefnogi buddsoddiadau seilwaith ar y fferm; ni ddefnyddiwyd dros 50 y cant o'r gyllideb a gynigiwyd yn 2022. Y bwriad yw agor cyfnod ymgeisio arall ar gyfer y cynllun gorchuddio iardiau, a byddwn hefyd yn ystyried rhagor o gyfnodau ymgeisio ar gyfer 2024, pan fydd y gyllideb wedi'i chadarnhau.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, gydag ychydig dros dair wythnos hyd nes bod cynllun Cynefin Cymru yn dechrau, rydym yn dal heb unrhyw wybodaeth bendant ynghylch cyfanswm cyllideb y cynllun. Mae'r diffyg tryloywder hwn yn peri pryder mawr, yn enwedig o ystyried bod dyddiad lansio'r cynllun yn agosáu'n gyflym. Mae dros 3,200 o ffermwyr wedi mynegi diddordeb yn y cynllun, gyda thua 50 y cant o'r rheini heb gymryd rhan yn Glastir o'r blaen. Mae hyn yn awgrymu na fydd tua 1,500 o ffermwyr Glastir yng Nghymru yn cael cymorth ariannol ar gyfer mentrau amgylcheddol mwyach. Mewn llythyr diweddar, fe ddywedoch chi fod lefel o gymorth yn cael ei chynnal i ddeiliaid contractau Glastir presennol ar gyfer 2024. Fodd bynnag, mae'r honiad hwn yn gwrthddweud yn uniongyrchol y ffaith nad yw 50 y cant o ddeiliaid contractau Glastir wedi datgan diddordeb yng nghynllun Cynefin Cymru.

Rydych chi hefyd wedi sôn am gefnogaeth benodol i ffermwyr organig ond ni ddarparwyd manylion pellach. O ystyried bod y cynllun ar fin dechrau a'r diffyg eglurder ynghylch ei gyllido, a ydych chi'n credu ei bod yn dderbyniol fod ffermwyr Cymru yn dal i fod yn y tywyllwch ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael, a hefyd, a yw gweithrediad y cynllun hwn yn ennyn hyder y diwydiant amaethyddol yn y cynllun ffermio cynaliadwy?

Os gallaf fynd at eich cwestiwn ynghylch ffermio organig yn gyntaf, ymrwymais i ddarparu potiau bach o gyllid ar gyfer ffermio organig. Pan fydd cyllideb ddrafft 2024 wedi'i gosod, byddaf yn gallu cyflwyno ffigurau bryd hynny.

Ar gynllun Cynefin Cymru, fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud, yn fy ateb cynharach i'ch cyd-Aelod Natasha Asghar, fy mod yn falch iawn, yn gyntaf oll, ynghylch nifer y ceisiadau—rwy'n credu ei bod yn galonogol iawn ein bod wedi cael cynifer—ac rydym yn gwneud y gwiriadau gweinyddol, a bydd contractau'n cael eu dyfarnu yn y dyfodol agos iawn.

Diolch. Mae 3,200 o ddatganiadau o ddiddordeb yn golygu yn union hynny—datganiadau o ddiddordeb. Nid yw hynny'n gwarantu y bydd 3,200 yn derbyn y contractau a gyflwynir iddynt, yn enwedig os yw'r gyllideb ar gyfer cynllun Cynefin Cymru wedi'i gosod yn eithriadol o isel.

Weinidog, yr wythnos diwethaf yn y ffair aeaf, cefais fy nharo gan y pryderon a fynegwyd gan yr undebau ffermio a rhanddeiliaid ynghylch y sefyllfa ariannol bresennol sy'n wynebu sector amaethyddol Cymru. Cafodd y pryderon hyn eu chwyddo ymhellach mewn llythyr ar y cyd a gyhoeddwyd ddoe gan sefydliadau ffermio a'r amgylchedd, yn annog y Prif Weinidog i ddiogelu cyllideb materion gwledig 2024-25. Llongyfarchiadau ar ddod â'r lobïau ffermio a'r amgylchedd at ei gilydd yn erbyn Llywodraeth Cymru unwaith eto.

Mae gan Lywodraeth Cymru y £337 miliwn ar gael i gadw cynllun y taliad sylfaenol y flwyddyn nesaf—cynllun y taliad sylfaenol 2024—ar ei lefel bresennol. Gyda'r cyllid hwn yn ei le, ni allwch bwyntio bys at San Steffan, ac os caiff y £337 miliwn ei dorri, penderfyniad Llywodraeth Cymru fydd hynny. Am bob £1 a fuddsoddir yng nghynllun y taliad sylfaenol, mae £9 yn dychwelyd i'r economi ehangach, gan ddangos gwerth sylweddol y rhaglen hon. Fodd bynnag, mae'r llythyr ar y cyd yn rhybuddio y byddai toriadau pellach yn y gyllideb 

'yn bygwth ac yn tanseilio'n ddifrifol ein cymunedau gwledig a'n gallu i gyflawni ein dyhead cyffredin i fod yn arweinwyr byd-eang ar gynhyrchu bwyd mewn modd sy'n ystyriol o ran yr hinsawdd a natur.'

A ydych chi'n rhannu'r pryderon hyn, ac a wnewch chi ymrwymo i ddiogelu cyllideb cynllun y taliad sylfaenol 2024?

14:25

Wel, fe fyddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud na allwn ddiogelu unrhyw gyllideb yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n deall yn iawn ei fod yn gyfnod o ansicrwydd mawr i'r sector amaethyddol, yn union fel unrhyw sector arall. Mae pawb yn wynebu heriau chwyddiant sylweddol. Mae gan bob un ohonom gyllidebau o dan bwysau, ac rwy'n credu inni fod yn glir iawn fel Llywodraeth pa mor heriol yw ein sefyllfa ariannol. Mae hynny'n golygu ein bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn wrth inni gwblhau'r gyllideb ddrafft cyn ei gosod ar 19 Rhagfyr.

Carwn adleisio'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog: rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ffermwyr a'n cymunedau gwledig yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi blaenoriaethu cyllideb cynllun y taliad sylfaenol eleni mewn ffordd na ddigwyddodd yn Lloegr. Cafwyd toriad ar ôl toriad yn Lloegr. Felly, mae pob gwlad yn y DU yn wynebu'r heriau sylweddol hyn, ond hoffwn eich atgoffa bod Cymru wedi colli o leiaf £243 miliwn o gyllid yn lle cyllid yr UE oherwydd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU.

Rydych yn cyfeirio at doriadau i gynllun y taliad sylfaenol yn Lloegr; mae hwnnw'n arian sydd heb ei golli, mae'n arian sy'n cael ei drosglwyddo i gynlluniau eraill sydd eisoes ar waith yn Lloegr, nad ydynt yn weithredol yma yng Nghymru eto. Felly, nid yw hwnnw'n arian a gollwyd—mae'n arian sy'n gwneud ei ffordd i ffermwyr Lloegr lle nad yw arian, o bosibl, yn gwneud ei ffordd i ffermwyr Cymru y flwyddyn nesaf.

Ond rwy'n optimistaidd. Rwy'n edrych am y pethau cadarnhaol, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o ganfyddiadau ymchwil gwych ac arloesol YouGov, a gomisiynwyd gan NFU Cymru, ynglŷn â sut mae ffermwyr a chyllid ffermydd yn cael eu gweld gan y cyhoedd yng Nghymru. Canfu un o'r ystadegau mwyaf arwyddocaol a thrawiadol fod 82 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru yn dweud eu bod yn cytuno â bod Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol i ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd. Nawr, pan ddywedodd y Prif Weinidog y llynedd fod angen iddo gyfiawnhau i yrwyr tacsi Bangladeshaidd pam ei fod yn cefnogi ffermwyr, nid wyf yn credu ei fod yn deall yn iawn y gofid a achosodd y sylw i gymuned amaethyddol Cymru, na'r ffaith bod y gwaith ymchwil annibynnol hwn yn dangos mor bendant fod mwyafrif y bobl yn cytuno'n llwyr â chefnogi ein ffermwyr i barhau i gynhyrchu bwyd ecogyfeillgar o ansawdd uchel.

Ond pam fod ein sector ffermio yma yng Nghymru bob amser yn gorfod brwydro am y briwsion o fwrdd Llywodraeth Cymru? Dim ond 2 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru ydyw fel y mae. Ni allwch ymrwymo i ddiogelu cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael £125 miliwn. Nid oes unrhyw gyllideb wedi'i chyhoeddi ar gyfer cynllun Cynefin Cymru, ac eto mae £33 miliwn ar gyfer terfynau cyflymder newydd, ac rydym yn gwybod, diolch i'r cytundeb cydweithio, y bydd unrhyw doriadau i faterion gwledig yn y gyllideb hon yn pasio diolch i Blaid Cymru, sy'n cynnal y Llywodraeth Lafur hon drwy ymatal ar y gyllideb. Felly, o ystyried yr amgylchiadau hyn, Weinidog, a ydych chi wir yn credu bod gan ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru hyder yn y Llywodraeth hon i gyflawni ei hymrwymiadau i'r sector amaethyddol?

Ydw. Rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y ffermwyr sy'n dweud wrthyf eu bod yn falch iawn eu bod yng Nghymru ac nid yn Lloegr. Mae angen i'r Aelod fod ychydig yn fwy amyneddgar, am wythnos neu ddwy eto, cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod, er mwyn cael yr atebion i lawer o'i gwestiynau.

Fe allaf ddweud nad wyf yn synnu at ganlyniadau arolwg yr NFU. Rwy'n deall yn iawn fod pobl yn cefnogi ein ffermwyr. Mae angen i bob un ohonom fwyta, ac rydym yn dibynnu ar ein ffermwyr i ddarparu'r bwyd hwnnw. 

Weinidog, rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y bobl sydd wedi diolch i Blaid Cymru am o leiaf geisio dylanwadu'n gadarnhaol ar bolisi'r Llywodraeth lle mae'n methu o ran materion gwledig, a pheidio â chnewian ar y cyrion a chreu'r ffigurau o ddim byd. 

Weinidog, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd yr wythnos diwethaf nad oes achos arbennig i'w wneud dros ffermio mewn perthynas â chyllideb Llywodraeth Cymru. A ydych chi'n cytuno?

Wel, yn anffodus, oherwydd y sefyllfa ariannol ddifrifol a'r sefyllfa ariannol enbyd iawn a wynebwn, rydym i gyd wedi gorfod gwneud penderfyniadau nad aeth yr un ohonom i mewn i wleidyddiaeth i'w gwneud. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Cabinet yn blaenoriaethu tri maes: ein gwasanaethau cyhoeddus, helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw a'r economi. Felly, fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud sawl gwaith mai fi yw'r llais o amgylch bwrdd y Cabinet i sicrhau ein bod yn cael ein cyfran deg, ond mae'r rhain yn amseroedd heriol iawn. Fel y dywedais, rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais wrth Sam Kurtz: mae angen i'r Aelodau fod yn amyneddgar am wythnos neu ddwy eto.

Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod Llywodraeth Cymru yn gofyn mwy gan y sector nag erioed o'r blaen o ran cynnal cynhyrchiant bwyd, o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd, o ran mynd i'r afael â'r argyfwng natur a llu o nwyddau cyhoeddus eraill y disgwyliwch i'r sector eu cyflawni. Ond os yw'r gyllideb yn cael ei lleihau wrth gwrs, a'ch bod yn dal i ofyn am fwy, mae hwnnw'n llwybr anghynaladwy ac mae'n rhaid i rywbeth roi. Felly, o dan yr amgylchiadau hynny, os yw'r gyllideb yn cael ei thorri, a fyddech chi'n gostwng eich uchelgais—a fyddech chi'n disgwyl llai o ganlyniadau, er enghraifft, o'r cynllun ffermio cynaliadwy i gyd-fynd ag unrhyw doriad yn y gyllideb? Pa agwedd ar eich cyllideb ydych chi'n arbennig o awyddus i'w gwarchod?

14:30

Wel, unwaith eto, rydych chi'n damcaniaethu, ac mae angen i bawb ohonom fod yn amyneddgar nes bod y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch am yr argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym i gyd yn gorfod gwneud mwy—pob un ohonom—i addasu i'r ddau argyfwng hynny a'u lliniaru. Ond mae ffermwyr eisoes yn gwneud llawer o'r hyn y gofynnwn iddynt ei wneud. Felly, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy—fe wnaethoch chi sôn am hwnnw'n benodol. Ac ar y camau gweithredu a fydd yn rhan o haen gyffredinol, bydd llawer o ffermwyr eisoes yn eu cyflawni, a byddwn yn eu helpu i ddangos ac egluro sut maent yn eu gwneud. Felly, er fy mod yn derbyn ein bod ni i gyd yn gorfod gwneud mwy, nid wyf yn credu ei fod yn fater o ofyn i ffermwyr unigol wneud mwy, oherwydd mae'n debygol eu bod yn ei wneud eisoes.

Diweddariad i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991

3. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i benderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ddiweddaru Deddf Cŵn Peryglus 1991? OQ60394

Diolch. Er fy mod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i weithredu o'r diwedd, mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw newidiadau'n digwydd a fydd yn niweidiol i'r cyhoedd yng Nghymru a'r rhai sy'n darparu cymorth, yn enwedig ein canolfannau achub a thimau gorfodi awdurdodau lleol. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'u swyddogion cyfatebol yn DEFRA.

Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i ychwanegu cŵn bully XL at y Ddeddf Cŵn Peryglus wedi cael ei groesawu'n eang gan deuluoedd dau unigolyn yn fy etholaeth a gafodd eu lladd mewn ymosodiadau gan gŵn yn 2021 a 2022. Fodd bynnag, mewn stori newyddion yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd merch Shirley Patrick, a fu farw, nad oedd hi'n credu bod y mesur hwn yn mynd yn ddigon pell ac y dylid ychwanegu bridiau eraill a allai fod yn beryglus. Yn ogystal, mynegwyd pryderon gan uwch filfeddyg y gallai'r gwaharddiad achosi'r canlyniad anfwriadol o wneud cŵn bully XL yn fwy ymosodol gan y byddant yn cael cadw dan do heb ddigon o ymarfer corff a chymdeithasu. Yn y cyfamser, mae elusennau lles anifeiliaid wedi mynegi pryder y bydd bridwyr anghyfrifol yn dal i geisio dod o hyd i ffyrdd o amgylch y gwaharddiad sydd i ddod ac efallai'n symud ymlaen at fridio math gwahanol o gi sydd â statws ymosodol. Felly, gyda hyn i gyd yn digwydd, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o fewn ei phwerau datganoledig i geisio tawelu'r pryderon hyn, er enghraifft, drwy ddiweddaru rheoliadau bridio i Gymru a gweithio gyda'r cyngor a gawsom gan filfeddygon?

Diolch. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod camau'n cael eu cymryd o'r diwedd gan Lywodraeth y DU, fel y dywedais, rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn nad oeddem yn rhan o'r trafodaethau hynny ychydig cyn cyhoeddiad y Prif Weinidog. Cyfarfûm ag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA y diwrnod cynt, pan nad oedd hi, ar y pryd, yn ymwybodol ohono ychwaith. Ac i mi, roedd yna bob amser rybudd iechyd, os hoffech chi, fod angen inni fod yn hynod ofalus nad oedd canlyniadau anfwriadol. Rwy'n clywed yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud, ac yn amlwg, gall unrhyw frîd o gi fod yn beryglus, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn ystyried hynny pan fyddwn yn ymdrin â chŵn. Mae'r gwaharddiad ar gŵn bully XL wedi digwydd oherwydd y nifer anghymesur o ymosodiadau a welsom gyda'r brîd hwnnw o gi. Mewn ymateb i'ch cwestiwn olaf, ynghylch y pwerau sydd gennym fel Llywodraeth Cymru, oherwydd mae'n amlwg fod gennym lawer o ysgogiadau, fe fyddwch yn ymwybodol o'r uwchgynhadledd a gynhaliais yn ddiweddar. Ac rwyf newydd ddarparu datganiad ysgrifenedig heddiw ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn, gan weithio gyda'n partneriaid, gyda'r heddlu, gydag awdurdodau lleol, gyda'r trydydd sector, i sicrhau ein bod yn defnyddio pob pŵer sydd gennym ac i bwyso'n galed iawn am berchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Unwaith eto, ar ddiwedd yr wythnos hon, rwy'n credu, byddaf yn cyflwyno'r ymgynghoriad nesaf ynghylch deddfwriaeth yn y maes hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Yn gyntaf, a gaf fi adleisio'r sylwadau a wnaed gan yr Aelod dros Gaerffili ac am y newyddion torcalonnus am y marwolaethau yng Nghaerffili yn dilyn digwyddiadau gyda chŵn bully XL? Cafodd Jack Lis a Shirley Patrick ill dau eu lladd gan gŵn bully XL, a gwelsom nifer o ymosodiadau ym mhob man—gellir priodoli chwech i 10 o ymosodiadau cŵn yn y DU i'r brîd bully XL. Rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy, fel rydych chi newydd ddweud, i wrthsefyll bridwyr cŵn anghyfrifol, ac rwy'n gobeithio y bydd deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn chwarae rhan yn hynny. Ond, Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y diweddariad hwn i'r Ddeddf yn cael ei orfodi'n briodol i liniaru peryglon amlwg y brîd bully XL a bridwyr anghyfrifol? Ac rwy'n cydnabod eich bod newydd sôn eich bod wedi cynnal uwchgynhadledd a gweithdy ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn. A allech chi amlinellu pa argymhellion o'r rheini a fabwysiadwyd i helpu gyda phryderon pobl? Diolch.

14:35

Diolch. Felly, soniais yn fy ateb cynharach fod fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda swyddogion DEFRA ar ddiweddaru'r Ddeddf Cŵn Peryglus cyn i'r gwaharddiad ddod i rym. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Roeddwn wedi gobeithio cael sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd yn DEFRA ddydd Llun diwethaf, yng nghyfarfod ein grŵp rhyngweinidogol, ond yn anffodus, fe ganslodd ef y cyfarfod hwnnw. Os caf droi'n ôl at yr uwchgynhadledd a gynhaliais ar berchenogaeth gyfrifol ym mis Hydref, rwyf newydd gyhoeddi datganiad ysgrifenedig, rwy'n gobeithio—yn yr awr ddiwethaf, rwy'n credu. Ni fuaswn yn dweud bod unrhyw un o'r camau gweithredu wedi cael eu mabwysiadu; rwy'n credu mai'r hyn a wnaethom oedd gwneud nifer fawr o argymhellion a chamau i'w gweithredu. Roeddem yn ffodus iawn fod mam Jack Lis wedi dod i'n hannerch yn ystod yr uwchgynhadledd, ac roedd hynny, fel y gallwch ddychmygu, yn hynod bwerus ac yn rhoi llawer o bethau i ni feddwl amdanynt ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud, gan weithio mewn partneriaeth. Rydym yn parhau i adolygu hyn yn gyson. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu atal y peryglon a achosir gan berchenogaeth anghyfrifol ar gŵn, a dyna pam ein bod bob amser yn hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. Mae DEFRA hefyd wedi sefydlu gweithgor perchnogaeth gyfrifol ar gŵn yn ddiweddar, i nodi unrhyw fesurau ychwanegol sydd gennym i allu lleihau ymosodiadau gan gŵn a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol. Unwaith eto, mae fy swyddogion yn gysylltiedig â'r gwaith hwnnw.

Perchnogion Cŵn Cyfrifol

4. A wnaiff y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei hymdrechion i annog perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol? OQ60363

Diolch. Ym mis Hydref, cynhaliais uwchgynhadledd i hyrwyddo a gwella perchenogaeth gyfrifol ar gŵn a gweithredu ar gŵn peryglus, gan ddod ag ystod eang o bartneriaid at ei gilydd i drafod gwaith pellach. Byddaf yn nodi canfyddiadau allweddol o'r uwchgynhadledd a'n camau nesaf mewn datganiad ysgrifenedig, sydd wedi'i gyhoeddi heddiw.

Diolch. Diolch am y datganiad a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach. Hoffwn ddeall beth yn union fydd y camau allweddol a fydd yn deillio o hwnnw. Mae'n wych cael uwchgynhadledd, ac mae'n dda nodi y byddwch yn cael uwchgynhadledd arall yn y flwyddyn newydd—mae'n ymwneud â beth fydd etholwyr yn rhanbarth y de-ddwyrain a thu hwnt yn ei weld fel newid amlwg yn yr hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd cŵn bully XL yn cael eu hychwanegu at y rhestr, ac mae hynny'n digwydd. Roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i ganlyniadau anfwriadol gyda hynny. A fydd bridiau eraill yn dod yn fwy amlwg fel cŵn troffi o bosibl a'r math hwnnw o beth, a hefyd, canlyniadau anfwriadol o fod cŵn yn cyrraedd llochesi, a'r math hwnnw o beth? Felly, efallai y gallech amlinellu prif ganlyniadau'r uwchgynhadledd a'r hyn y byddwn yn gallu ei weld yn y dyfodol. Diolch.

Diolch. Mewn perthynas â'r uwchgynhadledd, rwy'n siŵr nad ydych wedi cael amser i edrych ar y datganiad ysgrifenedig yn fanwl, ond mae yna restr o argymhellion. Un o'r pethau a drafodwyd gennym yn yr uwchgynhadledd, ac sy'n sicr wedi cael ei gyflwyno fel argymhelliad, yw'r ffordd y mae heddluoedd yn blaenoriaethu ac yn adrodd am ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â chŵn. Felly, unwaith eto, heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at yr holl brif gwnstabliaid. Rwyf hefyd yn ysgrifennu at awdurdodau lleol oherwydd mae ganddyn nhw bwerau gorfodi hefyd. Rwy'n credu bod angen gwneud mwy o waith mewn perthynas â'r rheoliadau bridio cŵn, a byddwn yn edrych ar sut y gallwn ddiweddaru'r rheini. Rwy'n credu ein bod angen rhyw fath o ddull ffurfiol o gofnodi ymosodiadau gan gŵn ac aflonyddu ar dda byw. Mae hwnnw'n bryder sylweddol, yn sicr ymhlith ein sector amaethyddol. Felly, mae sawl argymhelliad wedi'u cyflwyno, a byddwn yn edrych ar ba gamau y gallwn eu cymryd yn y dyfodol agos. Nid wyf yn siŵr a fyddaf yn cynnal uwchgynhadledd yn y flwyddyn newydd, ond yn sicr fe fyddwn yn ailymgynnull, oherwydd cafwyd cymaint o wybodaeth dda o'r uwchgynhadledd honno, ac mae angen inni fanteisio ar hynny.

Ynghylch y canlyniadau anfwriadol, credaf fod y pwynt a wnewch am fridiau eraill yn bwysig iawn, a'r hyn y mae fy swyddogion wedi'i wneud yw gweithio gyda'u swyddogion cyfatebol yn DEFRA i weld ai hwn yw'r cam cyntaf, ac a fydd cam arall yn ddiweddarach, ar gŵn bully XL, pan ddaw'r gwaharddiad i rym ym mis Chwefror. Rwy'n credu, hefyd, eich bod chi'n gwneud pwynt da ynghylch cŵn sydd wedi'u gadael. Nid ydym eisiau gweld cŵn yn cael eu gadael, nid ydym eisiau gweld—. Fel y gwyddoch, mae ein canolfannau achub trydydd sector eisoes dan bwysau aruthrol. Felly, mae'n ymwneud â gweithio gyda DEFRA i weld pa waith asesu a monitro a wnaethant. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyllid y maent yn ei gyflwyno, ond nid ydynt yn symiau enfawr o arian. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n parhau, fel y dywedaf, rhwng ein swyddogion. Fel y dywedaf, yn anffodus, ni chawsom rybudd fod y cyhoeddiad yn mynd i gael ei wneud. Rwyf wedi ysgrifennu at lawer o Weinidogion dros nifer o flynyddoedd i geisio cael rhywbeth wedi'i wneud, gan mai'r timau troseddau gwledig, yn enwedig, a'r cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, oedd yn dweud nad yw'r ddeddfwriaeth—y Ddeddf Cŵn Peryglus—yn addas i'r diben, ac nid wyf yn credu y bydd yr un cam hwn yn unig yn ei gwneud yn addas i'r diben. Rwy'n credu bod angen inni fonitro a rhoi ystyriaeth barhaus i hyn.

14:40

Yn Iwerddon, er mwyn bod yn berchen ar gi, mae'n rhaid i chi gael trwydded ci. Gall preswylwyr brynu trwydded flynyddol am €20 neu drwydded oes am €140 ar gyfer eu ci. Yng Ngogledd Iwerddon, mae perchnogion cŵn yn talu £12.50 am drwydded drwy awdurdodau lleol, ac yn Calgary yn nhalaith Alberta yng Nghanada, mae yna system gofrestru ar-lein hyd yn oed ar gyfer cŵn a chathod. Cafodd ychydig dros 8,000 o gŵn strae eu casglu yng Nghymru y llynedd. Gallai trwyddedu cŵn helpu gyda hynny, a gallai olygu y gellir aduno cŵn strae â'u perchnogion yn haws, a byddai'n mynd i'r afael â llawer o'r problemau rydym yn eu codi'n rheolaidd yma yn y Siambr hon. Yn ogystal, byddai hon yn ffrwd refeniw newydd a allai helpu timau gorfodi sydd dan bwysau yn ein hawdurdodau lleol. Nawr, rydych chi wedi sôn yn ddiweddar mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn, ond o ganlyniad i'ch ymateb, ysgrifennodd rhywun ataf a dweud, 'Edrychwch ar fodel Iwerddon, Janet.' Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i edrych ar efelychu gofynion trwyddedu cŵn mewn gwledydd eraill, fel y rhai y cyfeiriais atynt, drwy ddefnyddio awdurdodau lleol i hwyluso hyn? Diolch.

Nid wyf yn siŵr a wyf wedi eich camddeall, ond nid wyf erioed wedi dweud mai mater i Lywodraeth y DU yw trwyddedu cŵn; ni sydd â'r pwerau mewn perthynas â thrwyddedu cŵn, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar hyn. I mi, os yw rhywun yn talu cannoedd o bunnoedd am gi, gallant dalu am drwydded ci. Fodd bynnag, rwyf am droi'n ôl at ganlyniadau anfwriadol. Felly, os oes gennych bensiynwr, dyweder, sydd â chi— mae'n gwmnïaeth wych, mae'n helpu gydag unigedd, ac yn y blaen—efallai na fyddant yn gallu fforddio trwydded ci, felly rwy'n credu bod angen inni edrych arno'n drwyadl. Ond mae'n sicr yn rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy swyddogion edrych arno, oherwydd rwy'n credu bod angen i chi gyrraedd y pen draw—beth ydym ni'n ceisio ei gyflawni fan hyn? A'r hyn rydym ei eisiau yw i bawb fod yn gyfrifol. Mae'n rhaid hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn. A fyddai trwydded cŵn yn helpu i gyflawni hynny? Mae gennyf farn bersonol, ond rwy'n credu bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar y dystiolaeth i weld a fyddai hynny'n ganlyniad da.

Gwella Ffyrdd yn Nwyfor Meirionnydd

5. Pa ystyriaeth mae pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru wedi ei rhoi i wella ffyrdd yn Nwyfor Meirionnydd? OQ60359

Yng nghyfarfod is-bwyllgor Cabinet gogledd Cymru ym mis Hydref, cafodd Gweinidogion gyflwyniad gan gomisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru, cyn iddynt gyhoeddi eu hadroddiad terfynol yr wythnos nesaf. Mae'r pwyllgor yn awyddus i gael trafodaethau pellach gyda'r comisiwn pan fydd ei adolygiad terfynol yn cael ei gyhoeddi.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb. Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol bod y bont dros afon Dyfi ar fin agor. Ond, ym mis Ionawr, bydd yr A487 a'r A493 ger Pontarddyfi ar gau am bron i fis, o 15 Ionawr ymlaen, yn ôl beth dwi'n deall. Mae pobl yr ardal, yn arbennig ardal Pennal a Bro Dysynni, yn pryderu'n arw fod y ffyrdd yna yn mynd i fod ar gau am fis. Mi fydd yn effeithio'n andwyol ar eu gallu nhw i fynd i'r ysbyty yn Aberystwyth, er enghraifft, ar allu gweithwyr i fynd drosodd i Fachynlleth a gogledd Ceredigion, a'r rhai hynny sy'n ddisgyblion a myfyrwyr sydd eisiau teithio dros y bont hefyd. Ac maen nhw'n pryderu'n arw am y gallu i ambiwlansys ddod os oes yna achos hefyd yn ochrau Pennal. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei roi, neu pa bwysau fedrwch chi fel Llywodraeth ei roi, er mwyn sicrhau nad yw'r ffordd ar gau yr holl amser yna? Tybed a yw hi'n bosib sicrhau bod y gweithlu sy'n gweithio ar y ffordd yn gweithio yn ystod y nos, er mwyn sicrhau bod y ffordd ar agor, neu ddod i ryw ddatrysiad arall fel nad oes rhaid cau'r ffordd yn llwyr dros gyfnod o fis o 15 Ionawr?

Diolch. Wel, rydym yn ymwybodol o'r pryderon ynghylch cau'r A493. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r contractwr, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid i sicrhau bod yr holl opsiynau lliniaru yn cael eu hystyried i leihau unrhyw darfu. Yn benodol, rwy'n gwybod bod swyddog cyswllt y cyhoedd y contractwyr wrthi'n ymgynghori â'r gwasanaethau brys, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a chanolfannau iechyd lleol i gasglu eu safbwyntiau. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, a bydd yr adborth a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio gan swyddogion a thîm y prosiect i sicrhau bod cynigion lliniaru priodol ar waith pan fydd y ffordd ar gau. 

Weinidog, hoffwn pe gallech roi syniad i mi pa ystyriaeth y mae pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru yn ei rhoi i gysylltiadau i ac o ganolbarth Cymru. Ond hefyd rwy'n cefnogi cwestiwn Mabon ap Gwynfor heddiw. Rwy'n llwyr gymeradwyo popeth a ddywedodd Mabon, oherwydd rwy'n gwybod fy hun, pan fydd Pont ar Ddyfi ar gau oherwydd problemau tywydd yn y gaeaf, gall hynny arwain at ddargyfeirio enfawr—dargyfeiriad o 30 milltir—sy'n achosi pryderon i'r rhai sy'n gweithio ar y naill ochr neu'r llall i'r bont a'r gwasanaethau brys hefyd. Hoffwn pe gallech roi unrhyw fanylion pellach ynglŷn â phryd fydd y bont newydd dros afon Dyfi yn agor. O'r hyn rwy'n ei ddeall, o'r diweddariad diwethaf a gefais gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, fe fydd yn agor ddiwedd mis Ionawr, ddechrau mis Chwefror, ond mae unrhyw beth mwy penodol na hynny—. Rwy'n credu mai'r pwynt yr oedd Mabon ap Gwynfor yn ei wneud yw bod yna gyfnod lle bydd y ffordd ar gau, yn amlwg, ond yn aml nid oes angen iddi fod ar gau am y cyfnod llawn bob amser, ac rwy'n credu y byddai trigolion ar ddwy ochr y ffin yn gwerthfawrogi gwybodaeth ychydig yn fanylach ynglŷn â pha mor hir y gallai'r ffordd fod ar gau. 

14:45

Yr wybodaeth a gefais gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'i maes polisi hi yw hwn, yw diwedd mis Ionawr, ddechrau mis Chwefror. Felly, mae arnaf ofn na allaf roi unrhyw wybodaeth bellach i chi.

Prosiect Gwaredu Scab

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynnydd y prosiect Gwaredu Scab yng Nghymru? OQ60385

Mae prosiect Gwaredu Scab wedi gwneud cynnydd sylweddol ers ei lansio ym mis Mai, gyda dros 0.5 miliwn o ddefaid wedi cael eu trin mewn ffermydd ledled Cymru. Priodolir llwyddiant y rhaglen i'r cydweithrediad rhwng Gwaredu Scab, milfeddygon, undebau a'r gymuned ffermio. Byddwn yn rhannu adroddiad blynyddol Gwaredu Scab yn y gwanwyn.

Rwy'n ddiolchgar am yr ateb hynny, ac mae'n dda i glywed am y cynnydd sydd wedi bod. Ond mae rhai adroddiadau dwi wedi'u derbyn yn peri rhywfaint o bryder. Rwyf wedi clywed gan ffermwyr lleol, er enghraifft, fod y gwasanaeth yn anodd i gysylltu â fe, bod ffermwyr, ar brydiau, yn gorfod aros am wythnosau cyn cael galwad yn ôl, dim ond i glywed wedyn bod y cyllid wedi dod i ben. Ac rwyf wedi clywed am esiamplau eraill yn lleol o ffermwyr sydd wedi cael traean o'u defaid wedi cael eu dipio, ond wrth holi wedyn am weddill y praidd, maen nhw'n cael yr ateb bod yn rhaid aros tan fis Ebrill. A dyw hynny ddim yn ddelfrydol mewn cynllun sydd â'r nod, wrth gwrs, o waredu'r scab yn gyfan oll. Wedyn, rŷn ni'n clywed am ffermwyr newydd yn cael eu hychwanegu i'r rhaglen. A ydy'r Gweinidog yn gallu gwneud ymholiadau gyda'r holl bartnerniaid i wirio, hynny yw, ai diffyg adnoddau yw e, neu a ydy'r adnoddau yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn cwrdd â'r nod byddai pawb yn cytuno ag e?

Gallaf. Yn sicr. Rwy'n gwybod bod nifer fawr iawn o ffermwyr wedi manteisio ar y cynllun a bu'n rhaid i'r tîm gael saib rhag derbyn ymholiadau newydd. Roeddem yn ymdrin ag achosion a oedd eisoes ar y gweill, ond bu'n rhaid inni gael saib bach. Ond rwy'n gwybod bod y gwaith hwnnw wedi ailddechrau'n gyflym iawn. Rwy'n credu ei fod yn gynllun poblogaidd iawn. Rwy'n cofio pan gefais y portffolio am y tro cyntaf—. Rydych chi'n aml yn fy nghlywed i'n dweud na all Llywodraeth wneud pethau ar ei phen ei hun, wel, nid wyf yn credu y gallai'r diwydiant defaid, sy'n gyfrifol am gael gwared ar y clafr, ei wneud ar ei ben ei hun ychwaith. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod wedi gallu cyflwyno'r cynllun hwn, ac mae'r tîm Gwaredu Scab yn llwyddiannus iawn. Rhaglen dair blynedd yw hi a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddileu'r clafr o Gymru, ac rwy'n credu ei bod yn enghraifft wych o gydweithio. Ond rwyf am edrych yn benodol ar y pwynt a godwyd gennych. 

Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi siarad â chi am hyn ymhell cyn i mi ddod yma, ynglŷn â pha mor ddinistriol yw'r clafr i'n ffermwyr ledled Cymru. Rydym wedi clywed gennych heddiw pa mor dynn yw cyllidebau Llywodraeth Cymru, ond gwn eich bod yn ymwybodol iawn o sut yn union y gall y clafr, os caiff ei ddileu, wella lles anifeiliaid, a gwella prisiau wrth giât y fferm hefyd. Felly, byddai'n ddiddorol cael gwybod gennych chi heddiw a fydd prosiectau fel hyn yn cael eu blaenoriaethu wrth osod y gyllideb nesaf. Oherwydd os ydym yn blaenoriaethu'r cyllidebau hyn, mae'n gwella lles anifeiliaid ac mae hefyd yn helpu i wella'r canlyniadau i'n ffermwyr ledled Cymru. 

Diolch. Dechreuodd y prosiect ym mis Mai 2023. Mae'n gontract tair blynedd, ac mae'r cyllid ar gael ar ei gyfer. 

Troi Gwastraff Anifeiliaid yn Wrtaith

7. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr i droi gwastraff anifeiliaid yn wrtaith? OQ60379

Mae troi tail da byw yn gynnyrch y gellir ei gludo'n hawdd ac yn economaidd yn her sylweddol. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesedd i wella cylcholrwydd maethynnau, ac mae wedi darparu cymorth ariannol sylweddol i Goleg Sir Gâr, er enghraifft, ar gyfer datblygu technoleg o'r fath drwy ProsiectSlyri.

14:50

Diolch. Mae hynny'n ddiddorol iawn, oherwydd gwyddom fod dros 60 y cant o rwydwaith carthffosiaeth Dŵr Cymru yn wastraff cyfun, felly mae'n cynnwys dŵr glaw, carthion domestig a gwastraff diwydiannol, gan gynnwys carthion ffermydd. Felly, pan fydd yn rhaid rhyddhau'r holl garthion amrwd i'r moroedd er mwyn osgoi llifogydd yng nghartrefi pobl, fe wyddom ei fod yn cynnwys pethau nad yw pobl eu heisiau yn eu dŵr. Felly, os oes unrhyw ffordd y gallwn ddargyfeirio carthion i'w ddefnyddio i faethu'r tir yn hytrach na thaflu ffosfforws arno, mae honno'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

Ac rwyf wedi cael sgyrsiau gyda ffermwyr blaengar sy'n ystyried hyn o ddifrif fel ffordd o leihau eu hallyriadau carbon. Ac mae yna arian i'w wneud o faw bob amser. Ac o ystyried nad yw defaid a gwartheg yn bwyta—nid ydynt yn bwyta cig—felly, wyddoch chi, mae'r rhain yn faetholion da iawn, pe baem ond yn gallu deall sut i'w defnyddio'n effeithlon. Felly, buaswn yn awyddus iawn i glywed mwy am y gwaith y mae Coleg Sir Gâr yn ei wneud, oherwydd mae'n ymddangos i mi y dylid rhannu'r wybodaeth hon gyda phob ffermwr i sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o'r budd y gallent ei wneud o gynhyrchion eu gwastraff anifeiliaid. 

Yn bendant. Rwy'n eich annog i ymweld â Choleg Sir Gâr i weld y gwaith y maent yn ei wneud. Fel y gwyddoch, mae'r rheoliadau rheoli llygredd amaethyddol yn rhywbeth rwy'n gweithio arno gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio, a chafodd Cefin Campbell a minnau ymweliad cadarnhaol iawn â'r coleg, tua 18 mis yn ôl erbyn hyn, mae'n debyg. Ac nid oeddwn wedi bod ers 18 mis cyn hynny, ac roeddwn yn hynod falch o weld y gwaith, y cynnydd a wnaed, ac rwy'n siŵr, pe bawn i'n mynd eto, y byddai cynnydd pellach wedi'i wneud.

Mae gennym Bartneriaeth Maetholion Fferm Tywi. Mae hwnnw'n waith clyfar arbenigol ar y cyd rhwng y coleg a phartneriaid amrywiol y diwydiant, ac maent yn edrych ar ffyrdd o leihau llygredd, colli maetholion ac ailgylchrediad maetholion ar y fferm. Ac ar wahân i hynny, ymgeisiodd y coleg am arian cynyddu gwaith ymchwil. Dyfarnwyd £62,000 iddynt ac maent wedi prynu offer dadansoddi nwy i'w galluogi i fonitro a mesur allyriadau nwy sylfaenol perthnasol o ffynonellau amaethyddol. Felly, mae cryn dipyn o waith yn digwydd mewn perthynas â hyn.

Gwahardd Rasio Milgwn

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wahardd rasio milgwn yng Nghymru? OQ60384

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau nad yw lles milgwn rasio yng Nghymru yn cael ei beryglu. Ddiwedd yr wythnos hon, byddaf yn lansio ein hymgynghoriad ar reoleiddio lles anifeiliaid. Bydd hwn yn casglu tystiolaeth ar fanteision ac effeithiau deddfu a gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.

Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r rhai ohonom sydd wedi ymrwymo i wahardd rasio milgwn yng Nghymru eisiau i'r ymgynghoriad gael ei gynnal a'i gwblhau cyn gynted â phosibl. Yn anffodus, gyda thrwyddedu stadiwm milgwn Valley, caniatawyd i ddioddefaint cŵn rasio barhau. Mae cŵn yn aml yn mynd i drafferthion yn Valley ac mae gwrthdrawiadau'n digwydd yn aml. Yn wir, mewn rhai rasys, yng nghanlyniadau Bwrdd Milgwn Prydain ei hun, cofnodir bod cynifer â phump o'r chwe chi wedi mynd benben â'i gilydd. Yn ôl ystadegau diweddaraf Bwrdd Milgwn Prydain, mae mwy na 5,000 o filgwn yn gadael y diwydiant trwyddedig bob blwyddyn, a bydd llawer ohonynt, yn anochel, yn dioddef o drawma corfforol a/neu feddyliol hirdymor. Elusennau a'r sector achub sy'n cael eu gadael i ymdrin â'r broblem, gyda mwy na dwy ran o dair o filgwn y rhoddwyd y gorau i'w rasio yn cael eu trosglwyddo i sefydliadau o'r fath ar ddiwedd eu gyrfa ar hyn o bryd, yn ôl Bwrdd Milgwn Prydain. Weinidog, gyda'r mwyafrif o ganolfannau anifeiliaid yng Nghymru yn llawn ar hyn o bryd, pwy fydd yn gorfod ymdrin â'r problemau sy'n deillio o ganiatáu i'r gamp greulon hon barhau yng Nghymru?

Wel, nid oes rhaid i'r Aelod aros llawer mwy am yr ymgynghoriad. Byddaf yn ei lansio ddydd Gwener, ac mae rheoleiddio lles anifeiliaid yn ymrwymiad cwbl allweddol yn ein cynllun lles anifeiliaid. Ac rwy'n credu bod yr ymgynghoriad sydd gennym ar y gweill yn gam cadarnhaol iawn tuag at ddiwygio trwyddedu ar gyfer sefydliadau, arddangosfeydd, gweithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid, ac mae hynny'n cynnwys milgwn rasio. Rwy'n falch iawn o allu rhoi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad yma, a hoffwn i'r holl Aelodau wneud hynny. Bydd yr ymgynghoriad yn para 12 wythnos, a bydd yn casglu tystiolaeth ar ystod eang o faterion. Ond un peth rwy'n awyddus iawn i edrych arno yw bywyd milgi—felly, o'i enedigaeth, os yw'n rasio, hyd nes y rhoddir gorau i'w rasio. Mae'n bwysig iawn fod gennym yr holl dystiolaeth.

Felly, bydd yr ymgynghoriad yn lansio ddydd Gwener, ac rwy'n cydnabod ei fod yn fater cymhleth ac emosiynol iawn. Efallai y bydd trwyddedu tynnach yn arwain at welliannau lles, ond ni fyddai'n atal rasio cŵn, felly ceir ystod eang o gwestiynau. Ar y llaw arall, gall gwaharddiad graddol atal rasio rheoledig, a gallai hynny wedyn arwain at gynnydd mewn digwyddiadau anghyfreithlon. Felly, mae'n bwysig iawn fod pobl yn cyflwyno eu safbwyntiau i'r ymgynghoriad fel y gallwn gasglu'r dystiolaeth honno.

14:55
Cynllun Lles Anifeiliaid

9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i gyflawni'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru? OQ60368

Diolch. Rydym yn gwneud cynnydd da i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid, gyda'n prosiectau trwyddedu a gorfodi yn sbarduno newid sylweddol. Fel rwyf newydd ei ddweud, ddiwedd yr wythnos, byddaf yn lansio ein hymgynghoriad ar reoleiddio lles anifeiliaid. Bydd ein hymrwymiad i fynnu teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn dod i rym y flwyddyn nesaf.

Diolch yn fawr, Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau a ddaeth i'r digwyddiad poblogaidd a noddais ar gyfer y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon yr wythnos o'r blaen. Mae nifer y bobl a fynychodd yn amlygu pa mor ofnadwy yw dioddefaint ffesantod a phetris coesgoch pan fyddant yn cael eu bridio i'w lladd yn y diwydiant saethu adar hela. Mae'r cynllun lles anifeiliaid yn cynnwys ymrwymiad i'w groesawu i gyfyngu ar y defnydd o gewyll, gan gynnwys ar gyfer adar hela. Felly, a allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith hwn? 

Diolch. Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 yn nodi amodau manwl iawn ar gyfer cadw anifeiliaid sy'n cael eu ffermio. Ni fydd unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth lles na'n cod ymarfer ar gyfer lles adar hela a fegir at ddibenion chwaraeon heb ymgynghori â'n rhanddeiliaid. Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl darparu amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad hwnnw nac unrhyw newidiadau y gellid eu cyflwyno. Ni ddylid ystyried bod defnyddio arferion neu ddyfeisiau rheoli nad ydynt yn caniatáu i adar fynegi eu hystod o ymddygiadau normal yn llawn yn rhai arferol, a dylai ceidwaid weithio tuag at systemau rheoli nad ydynt yn galw am ddyfeisiau o'r fath.

Cyllid ar gyfer Amaethyddiaeth

10. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru o'i gymharu â chyllid blaenorol yr UE? OQ60380

Drwy'r rhaglen datblygu gwledig, cawsom setliad ariannu saith mlynedd, gan ganiatáu cymorth a chynlluniau hirdymor ar gyfer ystod o flaenoriaethau yn ein cymunedau gwledig. Cawsom ein gadael £243 miliwn yn waeth ein byd gan Lywodraeth y DU na phe byddem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, heb sicrwydd cyllideb hirdymor.

Diolch, Weinidog. Fel rydych newydd ei grybwyll, fis diwethaf, siaradodd Gweinidog yr Economi am annigonolrwydd y cyllid newydd yn lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Os cofiaf yn iawn, holl bwynt Brexit oedd y byddai'n ein rhyddhau o fiwrocratiaeth Brwsel. Byddai ein heconomi'n tyfu ac felly byddai ein cyllideb yn fwy. Fodd bynnag, fel y dywedodd Gweinidog yr Economi, nid yw'r gronfa ffyniant gyffredin yn rhyddhaol o gwbl. Mae'n fach; mae'n anhyblyg; ac mae'n gul iawn ei chwmpas. 

Fel y soniwyd eisoes, ychydig iawn sydd wedi'i ryddhau am gynllun Cynefin Cymru, sydd i gychwyn y flwyddyn nesaf—dim cyllideb hyd yn oed—gan adael dros 3,000 o ffermydd sydd eisoes wedi gwneud cais am y cynllun yn y tywyllwch. Pryd fydd y Gweinidog yn cyhoeddi faint sydd wedi'i ddyrannu i'r cynllun?

Lleihau Llygredd Amaethyddol mewn Dyfrffyrdd

11. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr i leihau llygredd amaethyddol mewn dyfrffyrdd? OQ60364

Mae cefnogi ffermwyr i leihau llygredd yn thema allweddol sy'n rhedeg drwy ein holl raglenni cymorth amaethyddol. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo gwybodaeth drwy Cyswllt Ffermio, cynlluniau grant pwrpasol a chynllun Cynefin Cymru, wrth inni drosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol, a rheolau trawsgydymffurfio sy'n sail i'r themâu sylfaenol.

Roeddwn i eisiau codi cwestiwn ar hyd yr un llinellau â'r Aelod sydd bellach wedi gadael y Siambr ar ôl gofyn ei gwestiwn. Y cwestiwn roeddwn i eisiau ei holi oedd ynglŷn â'r £20 miliwn yma sydd wedi'i glustnodi i gynorthwyo ffermwyr i ddarparu seilwaith ar gyfer cwrdd â'r rheoliadau yma. Mi wnaethoch chi fethu gynnau â rhoi sicrwydd eich bod chi'n hyderus y bydd yr £20 miliwn yna wedi'i wario o fewn yr amser cyn i unrhyw reoliadau ddod i rym, a fydd yn golygu, wrth gwrs, na fyddech chi, am wn i, yn cynnig pres ar gyfer cwrdd â'r rheoliadau sy'n bodoli. A allwch chi gadarnhau, felly, eich bod chi'n hyderus y bydd yr £20 miliwn yna wedi cael ei wario cyn dechrau mis Awst?

15:00

Rwy'n credu y gwelwch mai 'hyd at £20 miliwn' a ddywedais ac rwy'n hyderus y bydd hyd at £20 miliwn wedi'i wario.

Cefnogi'r Diwydiant Amaethyddol yn Sir Benfro

12. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant amaethyddol yn Sir Benfro dros y deuddeg mis nesaf? OQ60360

Ers 12 Hydref, rydym wedi gwneud gwerth £12 miliwn o ragdaliadau cynllun y taliad sylfaenol 2023 i ffermwyr yn sir Benfro. Mae hynny'n golygu dros 98 y cant o'r hawlwyr. Bydd taliadau llawn a thaliadau olaf yn dechrau o 15 Rhagfyr. Yn ogystal, mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth a chyngor hanfodol i fusnesau amaethyddol yn sir Benfro.

Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw. Nawr, un ffordd o gefnogi'r diwydiant amaethyddol, wrth gwrs, yw buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol. Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i longyfarch clwb ffermwyr ifanc Abergwaun, sydd wedi cael ei gydnabod am ei waith yn cefnogi'r gymuned wledig leol yng ngwobrau cyflawnwyr Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc yn ddiweddar. Canmolodd y beirniaid apêl ailgylchu ac ailddefnyddio esgidiau chwaraeon CFfI Abergwaun, a ddatblygwyd mewn ymateb i gyfraddau tlodi plant uchel yn sir Benfro. Rhoddasant 43 pâr o esgidiau i ysgolion cynradd lleol a'u clwb rygbi, gan ganiatáu i deuluoedd gymryd rhan mewn chwaraeon lleol. Felly, a wnewch chi ymuno â mi, Weinidog, i longyfarch CFfI Abergwaun ar eu gwobr, a dweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi clybiau ffermwyr ifanc yn sir Benfro fel y gallant barhau i chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau yn y dyfodol?

Yn sicr. Rwy'n anfon fy llongyfarchiadau i glwb ffermwyr ifanc Abergwaun. Rwyf bob amser wedi cael fy mhlesio'n fawr gan y gwaith gwych y mae clybiau ffermwyr ifanc ledled Cymru yn ei wneud yn eu cymunedau lleol. Nid oeddwn wedi clywed am y gwaith hwn, ond os gallai'r Aelod ysgrifennu ataf, hoffwn ysgrifennu atynt i glywed ychydig yn rhagor amdano. Diolch.

3. Cwestiynau Amserol
Cau Pontins ym Mhrestatyn

1. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith cau Pontins ym Mhrestatyn ar yr economi leol a thwristiaeth yn Sir Ddinbych? TQ930

Diolch am y cwestiwn. Gwyddom y bydd hyn yn newyddion siomedig i'r staff a'r rheolwyr ym Mhrestatyn a'r cymunedau cyfagos. Rydym yn barod i gefnogi unrhyw weithwyr sydd wedi'u heffeithio gan golli swydd a byddwn yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych a phartneriaid allweddol eraill i wneud hynny.

Diolch yn fawr iawn am eich ymateb y prynhawn yma, Weinidog. Cawsom ein syfrdanu a'n tristáu o glywed ddydd Iau diwethaf am gau Pontins ym Mhrestatyn. Wrth gwrs, roedd yn gartref i'r 'bluecoats', y ffilm Holiday on the Buses ym 1973 a phencampwriaethau snwcer y DU yn y blynyddoedd a fu, ynghyd â llawer o ddigwyddiadau eraill. Mewn gwirionedd, dyma'r unig Pontins y tu allan i Loegr a'r unig un yng Nghymru, felly, gallwch synhwyro'r tristwch sy'n cael ei deimlo yn y gymuned leol yn Nyffryn Clwyd. Ond rhaid cyfaddef, roedd wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chwmni Britannia Hotels yn ei gamreoli, i bob pwrpas, ers caffael y safle yn ôl yn 2011. Maent yn fy anwybyddu i, yr AS lleol, Dr James Davies, a chynghorwyr lleol mewn llythyrau a gohebiaeth yn gofyn iddynt ddarparu manylion am gau'r safle a'r cynlluniau ar gyfer dyfodol y safle, i'r pwynt lle daeth rhai staff i wybod ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn colli eu swyddi, sy'n warthus yn fy marn i—yn hollol warthus.

Mae gan Britannia enw drwg ers blynyddoedd lawer ar draws eu portffolio, a dim ond edrych ar Tripadvisor a Google am unrhyw un o'u parciau neu westai sy'n rhaid i chi ei wneud i weld drosoch eich hun nad ydynt fawr o gwmni gwyliau. Maent wedi achosi dioddefaint tragwyddol i fy etholwyr ac i dwristiaid yng ngogledd Cymru wrth i hyd at 200 o swyddi gael eu colli a rhoi tolc yng ngwead twristiaeth Dyffryn Clwyd o ran denu pobl o Loegr a rhannau eraill o'r DU i fwynhau'r gorau o'r hyn sydd gan Brestatyn i'w gynnig. Rwy'n siŵr y byddai Fred Pontin a Billy Butlin yn troi yn eu beddau pe baent yn gallu gweld cyflwr y lle nawr. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu ei asesiad cynhwysfawr o'r sefyllfa enbyd hon y mae pobl Prestatyn ynddi ar hyn o bryd, a'i ymateb iddi, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynnal gogledd sir Ddinbych fel cyrchfan gwyliau deniadol ac atal y dirywiad sy'n digwydd ar ein harfordir lleol yng ngogledd Cymru? Diolch.

Diolch. Rwy'n rhannu siom enbyd yr Aelod am ymddygiad y cwmni a'r ffordd y gwnaethant y cyhoeddiad. Nid dyna beth ddylai ddigwydd. Gwyddom fod cryn dipyn o gyflogaeth, yn ogystal â chyflogaeth dymhorol ychwanegol ar y safle. Rydym yn edrych i weld a oes undeb llafur cydnabyddedig ar y safle. Mae hynny bron bob amser yn ei gwneud hi'n haws ymdrin ag ochr y cwmni ac ochr yr undebau llafur, ac mae materion yn codi yn ymwneud â dyfarniadau diogelu y mae angen i bobl gael cyngor arnynt. Byddwn yn parhau i ymgysylltu, fel y gwnaethom mewn achosion blaenorol o ddiweithdra, ac yn wir, mae yna Aelodau o blaid yr Aelod ei hun sydd wedi ymgysylltu â mi yn y ffordd honno, yn agored ac yn adeiladol, am yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi staff yn uniongyrchol, ynghyd â'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith a'u rheolwyr lleol yn aml yn dda am ymateb i ddigwyddiadau a gweithio'n uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ar geisio darparu'r math gorau o gymorth sydd ar gael. Rwyf wedi cael yr un neges o siom llwyr gan arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Jason McLellan. Rwy'n gobeithio ceisio cael sgwrs gydag ef i ddeall yr hyn y gallem ei wneud gyda'n gilydd mewn ffordd deirochrog gyda'r cyngor, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn wir, braich Llywodraeth Cymru hefyd. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael ei hysbysu'n uniongyrchol, os oes unrhyw gyfarfod, yn yr un ffordd yn union ag y gweithiais o'r blaen, fe weithiaf gydag Aelodau mewn gwahanol bleidiau i weld beth y gallwn ei wneud.

Ond ynglŷn â'ch cwestiwn ehangach, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn arfordir gogledd Cymru. Rydym eisoes wedi darparu £1.75 miliwn ar gyfer datblygu eiddo i gefnogi ailddatblygu hen safle Kwik Save ym Mhrestatyn. Mae gennym gynlluniau pellach ar hyd yr arfordir yn y Rhyl hefyd, a'r gwaith a wnawn ochr yn ochr â'r cyngor ar hynny. Felly, rydym yn gweld dyfodol cadarnhaol i dwristiaeth gogledd Cymru, gan gynnwys yn etholaeth yr Aelod, ac rydym am barhau i fuddsoddi ynddi ac i weithio ochr yn ochr â phartneriaid dibynadwy sydd yma ar gyfer y tymor hir i fuddsoddi yn ein cymunedau a'r hyn sydd gan ogledd Cymru i'w gynnig.

15:05

Wrth gwrs, mae ein meddyliau yn syth gyda'r aelodau o staff sydd wedi cael eu diswyddo heb unrhyw rybudd ac sydd bellach yn wynebu cyfnod hynod ansicr dros y Nadolig. Gyda hynny, credaf fod yr achos hwn yn pwysleisio'n glir pa mor bwysig yw cryfhau amddiffyniadau cyfreithiol i weithwyr a hyrwyddo undeboli o fewn y gweithlu. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog a yw'n credu bod Pontins wedi torri eu cyfrifoldebau statudol mewn perthynas â diswyddiadau drwy gyhoeddi cau safle Prestatyn heb rybudd priodol a heb ymgynghori ymlaen llaw gyda'r gweithwyr.

Ond mae Britannia Hotels, wrth gwrs, yn gwmni a wnaeth £33 miliwn o elw y llynedd, a'r prawf litmws i mi nawr yw a ydynt yn barod i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned sydd wedi eu gwasanaethu mor dda ers blynyddoedd lawer. Rwy'n meddwl tybed a yw'r Llywodraeth yn ymwybodol a yw'r cwmni'n hapus i gyfrannu'n ariannol tuag at y gwaith o ddod o hyd i ddefnydd amgen ar gyfer y safle. Yn amlwg, mae angen cynnig cyflogaeth drwy gydol y flwyddyn i bobl yn ardal Prestatyn, ond os gwelwn nad yw hynny'n bosibl, mae'n ôl troed mawr. Felly, rwy'n meddwl tybed a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried dyrannu'r tir hwnnw, neu edrych ar opsiynau ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol. Mae gennym 1,788 o bobl yn sir Ddinbych ar y rhestr aros am dŷ. Felly, rwy'n meddwl tybed a allem fod ychydig yn greadigol yn y ffordd yr edrychwn arno. Oes, mae angen inni edrych ar gyflogaeth a cheisio efelychu cyfleoedd i bobl leol yno, ond mae'n bosibl fod yna ofynion eraill y gallai'r ôl troed sylweddol hwn eu diwallu.

Fe geisiaf ymdrin â'r pwyntiau fel y daethant. Ar ddyletswyddau cyfreithiol, mae yna ddyletswyddau cyfreithiol yn gysylltiedig ag ymgynghori cyn diswyddo, ac mae yna amgylchiadau penodol lle nad oes dyletswydd i ymgynghori. Rydych yn tynnu sylw at gryfder y cwmni o ran yr elw gweithredu a wnaeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r bar fel arfer yn un eithaf sylweddol i ddod drosto o ran bod hwn yn ddigwyddiad annisgwyl ac na ellid ei ragweld, ac mae'n osgoi'r ddyletswydd gyfreithiol glir i ymgynghori ymlaen llaw.

Mae yna her yno, os nad oes undeb cydnabyddedig ar y safle, ynglŷn â phwy sy'n cynrychioli ac yn trefnu'r bobl a allai fod â hawl fel arall i ddyfarniad diogelu. Mae hynny'n beth ymarferol y bydd angen inni ei drafod gyda'r cyngor a'r gwasanaethau cynghori lleol hefyd. Mae'n her ynglŷn â'r ffordd y mae cyfraith cyflogaeth wedi newid, fod angen i chi dalu nawr i wneud hawliadau, a bydd hynny'n atal llawer o bobl rhag gwneud hynny.

Ond i droi at eich pwynt ynghylch y newidiadau posibl yn y gyfraith, wel, mae hwnnw'n fater a gedwir yn ôl. Ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2019, roeddent yn honni y byddent yn newid y gyfraith mewn ffordd gadarnhaol. Rydym yn disgwyl Bil cyflogaeth nad yw wedi ei wireddu. Rwy'n hyderus, yn etholiad cyffredinol nesaf y DU, y bydd addewid maniffesto gan fy mhlaid wleidyddol fy hun i wneud newidiadau yn y byd gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at weld a fydd pobl eraill yn barod i ailymrwymo i'r hyn y dywedasant y byddent yn ei wneud yn y gorffennol, ai peidio. Ond ni fydd hynny'n helpu'r bobl yn Pontins nawr, ac mae gennym gyfnod o amser cyn y gellir gwneud unrhyw newid o'r fath.

Ar eich pwynt ynglŷn ag a fyddai Britannia yn cyfrannu, mae fy swyddogion, fel y byddech yn ei ddisgwyl, wedi bod mewn cysylltiad â Britannia, ac rwy'n edrych ymlaen at gael ymateb o ryw fath i ddeall eu hagwedd. Ni fyddwn yn dymuno rhoi gobaith ffug y bydd Britannia yn cyfrannu'n sylweddol, ond rydym yn sicr yn ceisio gofyn cwestiynau am yr hyn y maent yn barod i'w wneud. Nid yw'n ymddangos bod dyletswydd gyfreithiol arnynt i wneud hynny.

Ac ar eich pwynt ynglŷn â defnydd tir: nid y Llywodraeth sy'n rheoli'r tir, ac o ran dyrannu'r tir hwnnw, mater i'r awdurdod lleol yw hynny, ac mae hefyd yn atgyfnerthu'r pwynt ledled gogledd Cymru a thu hwnt o gael cynllun datblygu lleol cyfredol i roi rhyw fath o syniad i chi sut y gellir rheoli defnydd tir. I awdurdodau nad oes ganddynt gynllun datblygu lleol, mae perygl y gallwch weld bod tir yr hoffech ei weld yn cael ei ddefnyddio ar gyfer budd economaidd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cwbl wahanol. Rydym yn cynnal sgwrs gyda'r cyngor, wrth gwrs, ynglŷn ag a ydynt am weld y safle hwn yn cael ei gynnal fel ased twristiaeth posibl, neu a ydynt am ei weld yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd arall, ond mae hynny'n rhan o'r sgwrs y byddem am ei chael gyda'r awdurdod lleol.

15:10
4. Datganiadau 90 Eiliad

Roedd Glenys Kinnock, a fu farw ddydd Sul, yn wleidydd Llafur Cymru uchel ei pharch y cafodd ei bywyd ei nodweddu gan ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, cred yng ngrym addysg i drawsnewid bywydau plant a phenderfyniad i godi llais dros y tlotaf.

Ganwyd Glenys Parry ym 1944, ac ni anghofiodd y gwerthoedd a ffurfiodd ei magwraeth fel merch i signalwr rheilffordd yng Nghaergybi. Daeth Glenys allan o gysgod ei gŵr annwyl, Neil, i ddod yn ymladdwr gwleidyddol cryf yn ei hawl ei hun. Roedd ei chyfnod fel Aelod o Senedd Ewrop yn cynrychioli Cymru rhwng 1994 a 2009 yn dangos ei hymrwymiad i wledydd sy'n datblygu, pan ddaeth yn llywydd pwyllgor Affrica, y Caribï, a'r Môr Tawel. Yn ddiweddarach, fel y Gweinidog dros Ewrop yn Nhŷ'r Arglwyddi, parhaodd Glenys i chwarae rhan allweddol yn meithrin cysylltiadau rhyngwladol.

Roedd hi'n fodel rôl i fenywod: yn glyfar, yn ddi-lol, yn steilus ac yn wirioneddol ddoniol. Dywedodd wrthyf am yr amser pan oedd yn dychwelyd ar awyren o Frwsel pan ddywedodd y stiwardes awyr wrthi pa mor falch oeddent fod y criw oll yn fenywod, yn cynnwys y peilot. 'O, mae hynny'n rhyfeddol', meddai. 'A gaf i ddod i mewn i'r "cocpit" i ddweud "helo"?' 'O, Mrs Kinnock', atebodd, 'nid ydym yn ei alw'n "cocpit" mwyach.' [Chwerthin.]

Roedd yn biler o gryfder i Neil, ac roedd yntau'n graig iddi hi yn ystod ei brwydr gyda chlefyd Alzheimer, a wynebodd gyda'r un gras, dewrder ac urddas a ddiffiniai ei holl fywyd. Roedd teulu'n flaenllaw ac yn ganolog yn eu bywydau, ac roedd wrth ei bodd yn cael ei hadnabod fel 'Naini' gan ei hwyrion. O Fôn i Islwyn, o Frwsel i Affrica, bydd colled fawr ar ei hôl.

Cwsg mewn hedd, fy ffrind annwyl.

Mae'n 225 o flynyddoedd ers agor camlas Abertawe: ddydd Gwener, mynychais lansiad llyfr i goffáu'r pen-blwydd yn 225 oed. Ar hyn o bryd, nid yw ond yn bosibl teithio ar 5 milltir yn unig o gamlas Abertawe, o Glydach i Bontardawe, ac o Bontardawe i Ynysmeudwy. Mae Cymdeithas Camlas Abertawe yn gweithio'n galed i adfer y gamlas, gyda chymorth llawer o wirfoddolwyr. Gyda sawl un o gyd-Aelodau yn y Senedd, mynychais ailagoriad rhan o ddarn Clydach yn ddiweddar. Mae'r gamlas bellach yn llwybr poblogaidd ac mae'r llwybr halio yn rhan o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol.

Ni fydd y gamlas byth yn cael ei hailagor yn llawn. Mae'r rhan a redai y tu ôl i dŷ fy nhad-cu a fy mam-gu ym Mhlas-marl yn rhan o'r A4067 erbyn hyn. Adeiladwyd y gamlas ddiwydiannol hon i wasanaethu glofeydd, gweithfeydd haearn a gweithfeydd copr yng nghwm Tawe, ac agorwyd rhan gyntaf y gamlas o Abertawe i Odre'r-graig ym 1796, a chwblhawyd hyd y gamlas gyfan o 16.5 milltir erbyn mis Hydref 1798. Roedd y gwaith peirianneg sifil yn cynnwys 36 loc a phum dyfrbont i gario'r gamlas ar draws llednentydd mawr afon Tawe. Pan gafodd ei hadeiladu, yr Arglwydd North oedd Prif Weinidog Prydain a John Adams yr hynaf oedd Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Yn olaf, rwy'n falch o weld y gwaith adfer yn cael ei wneud, a diolch i'r nifer fawr o wirfoddolwyr sydd wedi cymryd rhan, ac mae rhai o'r bobl hyn wedi bod yn gwirfoddoli ers degawdau ac wedi gweithio'n galed iawn i geisio adfer y gamlas hon yn rhannol. Rhaid inni beidio â cholli ein treftadaeth ddiwydiannol ac mae arnom ddyled i'r rhai sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod modd ei hailddefnyddio.

Yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn yn dathlu 120 o flynyddoedd ers geni Jethro Gough. Ganed Jethro yn Woodland Street, Aberpennar, ac astudiodd yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru. Roedd yn fyfyriwr o'r radd flaenaf, gan ragori mewn nifer o feysydd clinigol, ac ennill sawl gwobr o fri. Yna, dechreuodd ar yrfa academaidd a dreuliwyd i raddau helaeth yng Nghaerdydd, gan ddod yn athro patholeg ar ôl yr ail ryfel byd. O ddiwedd y 1930au, dechreuodd Jethro ymddiddori fwyfwy mewn astudio salwch yr ysgyfaint, a niwmoconiosis glowyr yn enwedig. Tan hynny, derbynnid yn gyffredinol mai silica, y ceid hyd iddo o dan y ddaear, oedd achos y clefyd creulon hwn ymhlith gweithwyr yn y diwydiant glo. Astudiodd Gough amodau gwaith naddwyr glo yn nociau de Cymru, nad oeddent byth yn mynd o dan y ddaear. O hynny, daeth i'r casgliad mai llwch glo oedd yn achosi niwmoconiosis, darganfyddiad arloesol a enillodd enw da yn rhyngwladol i Gough. Yn bwysig, y gwaith hwn oedd sail deddfwriaeth iawndal gweithwyr yma ym Mhrydain ac o gwmpas y byd.

Roedd Jethro yn un o sylfaenwyr Coleg Brenhinol y Patholegwyr, ac roedd yn weithgar yn y gwaith o gynllunio ar gyfer ysbyty newydd Ysbyty Athrofaol Cymru. Ymddeolodd ym 1969 a bu farw 10 mlynedd yn ddiweddarach. Dylai'r gair olaf ynglŷn â Jethro ddod gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr, a gydnabu ac a ganmolodd ei gyfraniad i les glowyr ledled y byd.

15:15

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 10 Rhagfyr, byddem yn cofio’r diwrnod pan fabwysiadwyd datganiad y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol 75 mlynedd yn ddiweddarach. Erys hawliau dynol ar gyfer pob person yn ein byd yr un mor bwysig heddiw ag yr oedden nhw bryd hwnnw. Dinasyddion yr un byd ydyn ni oll, wedi’r cyfan. Ers arwyddo’r datganiad hwnnw degawdau yn ôl, cyflwynwyd cyfreithiau yn y meysydd hawliau gweithwyr, yr amgylchedd, mynegiant gwleidyddol a hawliau lleiafrifoedd. Seren arweiniol—lodestar—ydy’r datganiad hwnnw, sydd wedi paratoi’r ffordd am hawliau dros gartrefi, cyflog teg, iechyd, dim ots pa ryw ydych chi, pa liw yw eich croen, pa grefydd sydd gennych chi, pwy rydych chi’n ei garu neu ei charu.

Dydd Iau hwn, bydd y Ganolfan Gymraeg dros Faterion Rhyngwladol yn cynnal digwyddiad yn y Deml Heddwch i nodi ac i ddathlu’r penblwydd arbennig hwn. Bydd siaradwyr, perfformiadau a thrafodaethau am bwysigrwydd hawliau dynol yng Nghymru heddiw ac yfory. Rwy’n siŵr bydd pawb yn y Senedd eisiau ymuno gyda mi i ddymuno pob lwc iddyn nhw yn eu gwaith a’u dathliadau.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canser y pancreas

Eitem 5 yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), canser y pancreas. Galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8385 Mark Isherwood, Mike Hedges, Jenny Rathbone, James Evans, Jane Dodds

Cefnogwyd gan Delyth Jewell, Joel James

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas;

b) bod y cyfraddau goroesi yng Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o Ewrop a'r byd;

c) bod canser y pancreas yn anodd ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser gyda phrosesau araf a phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch;

d) ar ôl canfod y canser, mae pobl yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael y wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith, a heb help i reoli symptomau; ac

e) ar ôl cael diagnosis, dim ond 3 o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf o bob math o ganser, a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis.

2. Yn deall bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys.

3. Yn cefnogi ymdrechion Pancreatic Cancer UK i sicrhau bod llwybr o'r fath yn cael ei weithredu.

4. Yn canmol yr holl elusennau a sefydliadau ymgyrchu a'u cefnogwyr ymroddedig am eu hymdrechion diflino i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, ac yn dymuno pob llwyddiant i bawb sy'n ymwneud â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas yn eu hymdrechion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Wel, rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a ddrafftiwyd gydag elusen Pancreatic Cancer UK. Mae'n bleser gennyf ddweud bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig yma, ac mae'n cynnig bod y Senedd yn nodi bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas, fod y cyfraddau goroesi yng Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o'i gymharu â llawer o weddill Ewrop a'r byd, fod canser y pancreas yn anodd ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser, gyda phrosesau araf a phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch, fod pobl, ar ôl canfod y canser, yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael yr wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith a heb help i reoli symptomau, ac ar ôl cael diagnosis, dim ond tri o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf o bob math o ganser a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis. Mae'r cynnig hefyd yn awgrymu bod y Senedd yn deall bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys. 

Canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf marwol, sy'n effeithio ar 500 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a 10,000 o bobl y flwyddyn ledled y DU. Mae tri o bob pump o'r rhain yn cael diagnosis ar gam hwyr. Yn anffodus, bydd dros eu hanner yn marw o fewn tri mis i gael diagnosis, a dim ond 6 y cant yng Nghymru fydd yn goroesi am fwy na phum mlynedd. Mewn cymhariaeth, mae'r tebygolrwydd o oroesi canserau eraill y tu hwnt i bum mlynedd yng Nghymru yn 50 y cant. Mae'r ystadegau hyn yn frawychus ac yn gywilyddus a phrin eu bod wedi newid mewn 50 mlynedd. Fodd bynnag, gyda thriniaeth a gofal cyflym a theg, a buddsoddiad clyfar i wneud iddo ddigwydd, byddai gan fwy o bobl obaith o oroesi.

Mae Cymru wedi bod yn llusgo ar ei hôl hi ac erbyn hyn, mae'n 31ain allan o 33 o wledydd gyda data cymharol ar y gyfradd o bobl sy'n goroesi canser y pancreas am bum mlynedd. Er bod canlyniadau ar gyfer canserau eraill wedi gwella, mae pethau wedi aros yr un fath i bobl â chanser y pancreas. Mae'r bwlch goroesi rhwng canser y pancreas a chanserau eraill wedi dyblu yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Nid yw saith o bob 10 o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn cael unrhyw driniaeth, naill ai oherwydd bod eu canser yn cael ei ganfod yn rhy hwyr neu oherwydd bod eu hatgyfeiriadau'n cymryd gormod o amser i driniaeth fod yn effeithiol.

Mae Pancreatic Cancer UK ei hun yn elusen ledled y DU sy'n darparu gwasanaethau cymorth, yn ariannu ymchwil ac yn ymgyrchu am well triniaeth, gofal a chymorth i bobl â chanser y pancreas. Yn ddiweddar, maent wedi lansio eu hymgyrch 'Don't Write Me Off', gan alw am lwybr triniaeth a gofal cyflymach a thecach wedi'i ariannu'n llawn i bobl â chanser y pancreas. Wedi'i ddatblygu ochr yn ochr â grŵp o arbenigwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl â phrofiad o'r clefyd, byddai'r llwybr hwn yn gwella triniaeth a chyfraddau goroesi ac yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl yr effeithir arnynt gan ganser y pancreas. Maent yn dweud y gallai mwy na 250 o bobl ledled Cymru fyw bywydau hirach a gwell dros y pum mlynedd nesaf pe bai'r llwybr hwn yn cael ei weithredu nawr. Mae angen diagnosis cynharach a chyflymach; nid oes gan bobl sydd â chanser y pancreas amser i aros. Heb unrhyw sgrinio na phrofion penodol, a symptomau annelwig a gaiff eu camgymryd am gyflyrau llai difrifol yn aml, daw diagnosis o ganser y pancreas yn rhy hwyr o lawer i ormod o bobl. Dyfyniad ganddyn nhw oedd hwnnw.

Mae cydweithrediaeth GIG Cymru wedi datblygu llwybr delfrydol cenedlaethol ar gyfer canser y pancreas—mae'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyfeirio at hyn—ond rydym yn dal i aros i Lywodraeth Cymru ariannu a gweithredu hyn yn llawn. Felly, mae Pancreatic Cancer UK yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu llwybr delfrydol cenedlaethol Cymru ar gyfer achosion lle'r amheuir canser y pancreas neu lle cafodd canser y pancreas ei gadarnhau, sy'n sicrhau safon triniaeth 21 diwrnod o'r diagnosis o ganser y pancreas i'r driniaeth gyntaf, ac i ddarparu cyllid hirdymor i fyrddau iechyd fel y gallant weithredu a chynnal y llwybr ar gyfer canser y pancreas i helpu i sicrhau diagnosis cynharach a chyflymach i gleifion. Fel y maent yn dweud, mae gormod o bobl â chanser y pancreas nad ydynt yn cael y cymorth a'r gofal sydd ei angen arnynt mor daer—cânt eu gadael i ymladd y system ac mae'r gofal a gânt yn dibynnu gormod ar ble maent yn byw a ble maent yn cael eu triniaeth.

Un enghraifft yw presgripsiynau ar gyfer therapi amnewid ensymau pancreatig, PERT, sef tabledi syml sydd ar gael yn gyflym o fferyllfeydd sy'n amnewid ensymau, felly, hyd yn oed pan fydd y pancreas yn stopio gweithio, gellir treulio bwyd o hyd. Mae'n lleihau symptomau gwanychol ac yn helpu i adeiladu cryfder ar gyfer triniaeth, ond nid yw mwy na thraean o gleifion yng Nghymru yn eu cael, ac eto y canllawiau yw y dylent gael eu presgripsiynu i bob claf er mwyn gwella ansawdd eu bywyd. Mae angen inni wybod pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r rhinweddau o weithredu'r llwybr delfrydol cenedlaethol ar gyfer canser y pancreas, pa asesiad a wnaeth o gyfraddau goroesi canser y pancreas yng Nghymru mewn perthynas â gwledydd eraill yn y DU a gwledydd eraill tebyg, a pha gamau y mae wedi'u cymryd i'w gwella, pa asesiad y mae wedi'i wneud o rinweddau cynnal archwiliad o'r gweithlu canser y pancreas yng Nghymru, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu swyddi canser y pancreas arbenigol ym mhob bwrdd iechyd nawr neu yn y dyfodol. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu swyddi canser y pancreas arbenigol ym mhob bwrdd iechyd fel y gall pawb dderbyn cyngor, gofal a chymorth gan arbenigwr proffesiynol dynodedig o'r pwynt y ceir diagnosis.

Mae cynllunio ac ariannu gweithlu effeithiol yn hanfodol oherwydd bod angen cymorth cofleidiol a thriniaeth gyflym o ansawdd uchel ar bobl â chanser y pancreas o'r eiliad y maent yn cysylltu â'u meddyg teulu ymlaen. Gwyddom fod prinder ar draws bron bob rôl sy'n gysylltiedig â chanser, o ochr y gwely i'r labordy, ac y bydd y DU yn brin o 4,000 o nyrsys canser erbyn y flwyddyn 2030. Mae hi bellach yn ddwy flynedd ers i Cymorth Canser Macmillan rybuddio bod Cymru yn wynebu argyfwng nyrsio canser a allai adael niferoedd cynyddol o gleifion heb y gofal a'r cymorth meddygol cywir, ac mae angen i nifer y nyrsys canser arbenigol yng Nghymru gynyddu 80 y cant i gefnogi'r 230,000 o bobl y rhagwelir y byddant yn byw gyda chanser yng Nghymru erbyn diwedd y degawd hwn. Fodd bynnag, ceir pryder fod diffyg dealltwriaeth o hyd yn y Llywodraeth o ble mae'r bylchau hyn yn y gweithlu ar hyn o bryd a sut maent yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl â'r canser cyffredin mwyaf marwol. Rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle hwn i gynnal archwiliad cynhwysfawr o'r gweithlu canser y pancreas, nodi bylchau a gweithredu ar frys i'w llenwi. Yna, rhaid iddynt ddefnyddio gwersi o'r archwiliad i ddyrannu cyllid cynaliadwy i sicrhau y gellir gweithredu'r llwybr gofal delfrydol ac achub bywydau.

Mae buddsoddiad mewn cyllid ymchwil o'r radd flaenaf ar gyfer canser y pancreas hefyd wedi bod yn rhy isel ers gormod o amser ledled y DU. Hyd yn oed 10 mlynedd yn ôl, dim ond £5 miliwn oedd yn mynd tuag at ymchwil ar gyfer canser y pancreas bob blwyddyn, o'i gymharu â dros £30 miliwn ar gyfer lewcemia. Mae angen buddsoddiad o £35 miliwn bob blwyddyn ar draws y DU gyfan, gan gynnwys Cymru, i gyflawni gwelliannau hanfodol i drawsnewid cyfraddau goroesi canser y pancreas. Rydym yn gwybod bod y dull hwn o weithredu'n gweithio, oherwydd mae cyllid ar gyfer ymchwil i lewcemia, sydd â chyfradd achosion debyg iawn i ganser y pancreas, wedi dyblu, bron iawn, ers y flwyddyn 2000, a chyda hynny, cafwyd gostyngiad o 16 y cant yn nifer y marwolaethau. Efallai mai canser y pancreas fydd y clefyd nesaf i elwa o gyfraddau goroesi gwell drwy gynyddu cyllid ymchwil.

Hyd yn hyn, mae Pancreatic Cancer UK wedi buddsoddi dros £12 miliwn mewn ymchwil i ganser y pancreas, ac wrth symud ymlaen, maent wedi ymrwymo i ariannu mwy fyth o ymchwil i ganser y pancreas bob blwyddyn. Mae Cymru eisoes yn gartref i waith ymchwil cyffrous ac arloesol ar gyfer canser y pancreas. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, maent wedi ariannu gwerth dros £0.25 miliwn o ymchwil gan Dr Beatriz Salvador Barbero, sy'n ymchwilio i'r newidiadau biolegol sy'n digwydd yn natblygiad cynnar canser y pancreas. Gallai deall beth sy'n achosi i ganser y pancreas ddechrau a datblygu ein helpu i wella'r broses o ganfod y clefyd yn gynnar ac agor llwybrau triniaeth newydd i rwystro'r prosesau hyn, gan gynyddu'r gobaith o oroesi.

Mae'r data sydd ar gael ar ofal canser yng Nghymru yn llawer mwy cyfyngedig na data gwledydd eraill y DU. Er enghraifft, mae'r unig ddata sydd ar gael ar amddifadedd cymdeithasol yn ymwneud â chyfraddau marwolaeth. Mae llawer o'r bwlch data'n ymwneud ag edrych ar ganlyniadau a llwybrau triniaeth a gofal, nid yn unig o ran amddifadedd, ond o ran ethnigrwydd, anabledd a hunaniaeth LHDTCRh+ hefyd. Heb y data hwn, mae'n anodd nodi effeithiau anghydraddoldebau iechyd a gweld yn glir lle mae pobl yn cael profiadau gwahanol o ofal mewn perthynas â'u cefndir. Mae Pancreatic Cancer UK yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data ar yr un lefel â Lloegr, lle gellir cynnal anonymeiddio. Maent hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i fynd hyd yn oed ymhellach, gan ddarparu data ar ethnigrwydd, anabledd a hunaniaeth LHDTCRh+, er mwyn deall effeithiau'r nodweddion hyn ar brofiadau o ofal canser yng Nghymru. Gallai gosod bar uwch ar gyfer data ynghylch profiadau o ofal canser nid yn unig wneud Cymru'n arweinydd yn y DU ar gyfer deall a gweithredu ar anghydraddoldebau iechyd mewn gofal canser, a chydnabod hefyd fod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys. Diolch yn fawr.

15:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd; diolch hefyd i Mark Isherwood, a wnaeth fy ngwahodd i gefnogi'r ddadl hon. Hoffwn ddiolch hefyd i Pancreatic Cancer UK am y gwaith y maent wedi'i wneud ochr yn ochr ag arbenigwyr canser y pancreas i ddatblygu consensws ar sut mae gofal da'n edrych i bobl â chanser y pancreas. Rwy'n cefnogi'r llwybr gofal delfrydol sydd wedi'i ddatblygu, sy'n nodi beth ddylai ddigwydd o ran diagnosis, triniaeth a gofal.

Mae canser y pancreas yn un o'r canserau hynny sy'n anodd eu canfod. Nid yw'n unigryw yn hyn o beth; mae canserau anodd eu canfod eraill yn cynnwys canser yr arennau, canser yr ofari, tiwmorau'r ymennydd a chanser yr afu. Oherwydd bod ei leoliad wedi'i amgylchynu a'i guddio gan organau mewnol, mae'n golygu bod tiwmorau ar y pancreas yn amhosibl eu gweld neu eu teimlo yn ystod archwiliad meddygol arferol. Yr hyn sy'n gwneud diagnosis hyd yn oed yn fwy anodd yw'r ffaith bod canser y pancreas, yn ei gamau cynnar, yn glefyd tawel fel y'i gelwir ac nid yw'n achosi unrhyw symptomau. Mae angen i'r rhai sy'n dioddef o ganser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal. Mae angen trin pobl sydd â chanser y pancreas ar unwaith. Mae hanner y bobl y nodwyd bod ganddynt ganser y pancreas yn marw o fewn tri mis i gael diagnosis, oherwydd bod diagnosis fel arfer yn digwydd ar gam 4. Mae arnom angen swyddi canser y pancreas arbenigol ym mhob bwrdd iechyd, fel bod pawb yn cael cyngor, gofal a chymorth gan arbenigwyr ymroddedig o ddiwrnod y diagnosis.

Un o'r problemau gyda chanser y pancreas yw y gallai'r symptomau-clefyd melyn, llygaid melyn, croen yn cosi, newidiadau i ysgarthion ac wrin, problemau treulio, colli pwysau, poen yn yr abdomen neu'r cefn, clotiau gwaed yn y coesau neu'r ysgyfaint neu gael diabetes yn sydyn—fod yn arwyddion o lawer o gyflyrau eraill. Mewn gwirionedd, rwy'n siŵr y gall y rhan fwyaf o bobl yn yr ystafell hon heddiw uniaethu â chael un ohonynt ar unrhyw adeg. Ni ddylid cymryd llygaid melyn, croen yn cosi, poen parhaus yn y stumog a cholli pwysau yn ysgafn, gan mai'r symptomau hyn yw'r rhai mwyaf tebygol o ddynodi bod canser y pancreas yn bresennol.

Yn aml, nid yw achos canser y pancreas yn hysbys, ac mae gan berson sydd â risg gymedrol o ganser y pancreas risg o oddeutu 1 y cant o ddatblygu'r clefyd, ond i bobl mewn teuluoedd sydd â risg uchel o gael canser y pancreas, gall profion mwy newydd ar gyfer canfod canser y pancreas yn gynnar helpu. Y ddau brawf mwyaf cyffredin a ddefnyddir yw archwiliad uwchsain endosgopig a delweddu atseiniol magnetig. Mae canser y pancreas yn fath prin o ganser sydd fel arfer yn dechrau yn leinin y dwythellau i'r pancreas. Anaml y bydd unrhyw arwyddion cynnar a phan fyddant yn ymddangos, mae'r canser fel arfer wedi datblygu, yn aml i gam 4. Mae hyn oherwydd bod y pancreas yn ddwfn y tu mewn i'r corff ac ni sylwir ar diwmorau cynnar. 

Gall ysmygu, diabetes, llid y pancreas cronig, hanes teuluol o ganser y pancreas a rhai syndromau genetig gynyddu eich risg o gael canser y pancreas. Mae yna arwyddion, y soniais amdanynt yn gynharach, a allai ddynodi canser y pancreas, ond gallent nodi amrywiaeth eang o bethau eraill, a dyna un o'r problemau meddygol mawr: byddai gennym bob meddygfa'n llawn o bobl gydag un o'r cyflyrau hynny'n dod draw ac yn dweud, 'Dyma beth rwy'n dioddef ohono, a yw'n ganser y pancreas?'. Rwy'n credu mewn 99 y cant o achosion, nid dyna ydyw. Yn anffodus, mewn 1 y cant, dyna ydyw.

Mae poen parhaus yn yr abdomen yn digwydd am fod y pancreas wedi'i leoli yn eich abdomen y tu ôl i'ch stumog. Mae'r claf yn profi poen mud yn y stumog gyda phwysau cynyddol ar yr organau. Yn ddiweddarach, gall droi'n fwy poenus a pharhaus. Ystyrir mai dyma'r symptom mwyaf cyffredin o ganser y pancreas, ond ar gyfer diagnosis o ganser y pancreas, fel pob canser arall, mae angen prawf gwaed arnom. Mae gwir angen ymchwil yn y maes. Er y gall profion gwaed ddynodi presenoldeb posibl y clefyd, ni allant arwain at ddiagnosis pendant o ganser y pancreas. Mae angen profion ychwanegol i gadarnhau'r diagnosis.

Ni cheir sgrinio ar gyfer canser y pancreas, yn wahanol, er enghraifft, i ganser y coluddyn—prawf a wneuthum yn ddiweddar, ac i bawb arall yn yr ystafell hon, pan gyrhaeddwch eich pen-blwydd yn drigain oed, croeso i sgrinio canser y coluddyn—canser ceg y groth a chanser y fron. Oherwydd hyn, fel arfer gwelir cleifion â chanserau datblygedig iawn, gyda chlefyd sy'n datblygu'n gyflym a phrognosis gwael. Nid oes rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser y pancreas oherwydd ei fod mor anghyffredin, felly, byddai llawer o bobl yn cael profion diangen, ac nid yw'r buddion yn gorbwyso'r costau. Ond efallai y bydd pobl sydd â risg uwch o ganser y pancreas yn gallu cael profion i chwilio am arwyddion o ganser y pancreas.

Fel y gŵyr y Gweinidog, rwy'n cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar glefydau prin. Mae yna lawer iawn o glefydau prin, gan gynnwys rhai canserau. Mae angen dybryd am brawf gwaed i nodi canser y pancreas a chanserau eraill, a dull trin y cytunir arno i sicrhau'r canlyniad gorau posibl. Nawr, nid yw'r Gweinidog yn mynd i allu cynhyrchu prawf gwaed, ond dylem gefnogi prifysgolion a'u hymchwil academaidd i weithio ar gynhyrchu'r profion gwaed hyn. Nid oes gan ddigon o bobl y cyflwr iddo fod yn fasnachol hyfyw i'r cwmnïau mawr a'r diwydiant fferyllol fynd ati i'w wneud. Mae angen inni gefnogi'r prifysgolion sy'n gwneud yr ymchwil, cael prawf gwaed, a phe bai gennym brawf gwaed ar gyfer pob canser, byddai'n fyd llawer gwell.

15:30

Mae canser y pancreas yn amddifadu pobl o'u hanwyliaid. Mae'n eu dwyn oddi arnynt. Mae’n debygol y bydd 500 o bobl yn cael diagnosis o ganser y pancreas bob blwyddyn yng Nghymru, ond bydd 300 ohonynt yn cael diagnosis ar gam hwyr. Nid yw cam hwyr yn newyddion da ar gyfer canser y pancreas: mae'n ffyrnig, mae'n ymledol. Bydd dros hanner y bobl hynny'n cael eu lladd gan y clefyd creulon hwn lai na thri mis ar ôl eu diagnosis. Dyna pa mor wael yw'r sefyllfa: mae 300 o bobl bob blwyddyn yn cael gwybod y newyddion gwaethaf yn eu bywydau, ac o fewn tri mis, maent wedi mynd.

Dyna a ddigwyddodd i fy mam-gu. Roedd wedi bod yn sâl dros y Nadolig. Nid oedd wedi bod yn teimlo'n iawn. Roedd wedi bod yn cwyno am boenau yn ei stumog, ond nid oedd am boeni'r meddyg. Rwy'n cofio ar Ddydd Nadolig ei bod wedi dod draw i’n tŷ ni yn gwisgo siôl dros ei phen. Nid oeddwn erioed wedi'i gweld yn gwisgo siôl yn y ffordd honno. Roedd yn edrych mor fregus. O fewn wythnosau, wel, llai na hynny, dyddiau, gwaethygodd ei chyflwr yn ofnadwy. Aeth i'r ysbyty, ac roedd mewn cymaint o boen; roedd ei bysedd wedi chwyddo mor ddrwg, roedd yn rhaid iddynt dorri'r fodrwy briodas oddi ar ei bys. Roedd hi'n marw, a'r cyfan y gallent ei wneud oedd rheoli'r boen. Nid wyf am i unrhyw un orfod mynd drwy'r hyn yr aeth hi drwyddo, yr hyn yr aeth fy mam drwyddo wrth ei cholli yn y fath fodd.

Ond nid yw'r stori honno'n anarferol, mae'n ofnadwy o gyffredin gyda chanser y pancreas. Dim ond 6 y cant o gleifion sydd â’r clefyd hwn yng Nghymru fydd yn goroesi mwy na phum mlynedd; mae hynny'n golygu nad yw 94 y cant yn gwneud hynny. Ac mae'r ystadegau hyn a ddyfynnais wedi aros yr un fath, fwy neu lai—fel y clywsom—ers 50 mlynedd. Prin ein bod wedi gwella dioddefaint pobl. Byddai mam-gu a fyddai wedi marw yn 1973 wedi wynebu ods tebyg i'w hwyres a fyddai'n cael diagnosis o'r un clefyd heddiw. Rydym ar ei hôl hi o gymharu â'r rhan fwyaf o’r byd gyda chyfraddau goroesi. Mae Cymru yn safle 31 o blith 33 o wledydd; nid yw'n dabl cynghrair y dylem fod yn methu ynddo.

Y slogan y mae Pancreatic Cancer UK wedi’i ddewis ar gyfer eu hymgyrch eleni—fel y clywsom—yw 'Don’t Write Me Off', gan gydnabod, gyda’r geiriau hynny, y ffaith nad yw 70 y cant o gleifion canser y pancreas yn y DU yn cael unrhyw driniaeth, naill ai am fod eu hatgyfeiriadau’n cymryd gormod o amser neu am fod eu diagnosis wedi dod mor greulon o hwyr. Mae Pancreatic Cancer UK wedi anfon tystiolaeth dynes o’r enw Fern ataf, sy’n byw yn fy rhanbarth, ac a gollodd ei mam i’r afiechyd erchyll hwn. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu ei geiriau,

'Roedd fy mam Veronica yn unigolyn iach 46 oed, heb unrhyw hanes o unrhyw broblemau meddygol. Oddeutu mis Rhagfyr 2010, dechreuodd gael poenau yn ei stumog. Aeth hyn ymlaen am dri mis. Ymwelodd â'r meddyg teulu, a awgrymodd y gallai fod yn broblem gyda choden y bustl. Dechreuodd golli ei harchwaeth a chollodd lawer o bwysau, felly aeth yn ôl at y meddyg. Fe wnaeth ddweud y byddai'n ei hatgyfeirio. Erbyn mis Awst 2011, roedd hi'n dal yn sâl, ac ar ôl cwympo a mynd i’n hysbyty lleol, fe wnaethant ddechrau gwneud profion. Erbyn hyn, roedd ganddi niwmonia. Fe wnaethant sgan CT, a chadarnhawyd ein hofnau gwaethaf: roedd ganddi ganser y pancreas cam 4. I ddechrau, roeddent yn credu y gallent wneud biopsi, ond roedd mam yn rhy wan. Arhosodd yn Ysbyty St Joseph's ym Malpas, Casnewydd, lle cafodd y gofal gorau posibl. Priododd ar 25 Medi, a bu farw'n dawel ar 26 Medi, yn ddim ond 47 oed.'

Ni ddylai neb farw'n 47 oed. Rwy'n erfyn ar y Llywodraeth i weithredu llwybr delfrydol cenedlaethol ar gyfer achosion a amheuir neu a gadarnhawyd o ganser y pancreas, a fyddai'n sicrhau y byddai'r driniaeth gyntaf yn cael ei darparu o fewn 21 diwrnod i rywun yn cael diagnosis; os ceir mwy o oedi, rydych yn dechrau colli pobl yn echrydus o gyflym. Mae arnom angen cyllid i gynnal y llwybr hwnnw, ac i'w roi i fyrddau iechyd, ac i brifysgolion, i ymchwilio iddo, i sicrhau bod prawf gwaed ar gael. Rwy’n cytuno y byddai hynny'n rhoi cymaint o obaith, i allu cael rhywbeth fel hynny. Ac mae arnom angen hyfforddiant a mwy o gymorth i feddygon teulu, i'w helpu i sylwi ar symptomau—y symptomau sydd mor greulon o anodd eu nodi. Ond pan fydd pobl yn cael diagnosis, dylent fod yn cael presgripsiynau, fel y clywsom, fel PERT, therapi amnewid ensymau pancreatig, tabled y gallwch ei chymryd i amnewid ensymau, i sicrhau, pan fydd y pancreas yn rhoi'r gorau i weithio, y gallwch barhau i dreulio bwyd—tabledi syml fel hynny, ond a all wella ansawdd bywyd pobl yn sylweddol. Ac mae angen inni fuddsoddi llawer mwy mewn ymchwil, i wella cyfraddau canfod achosion yn gynnar, i ehangu sgrinio, i achub bywydau mwy o bobl. Dyna mae'n ei olygu: llai o bobl yn marw. Ni ddylai canser y pancreas fod yn dwyn cymaint o fywydau, ni ddylai diagnosis fod mor angheuol. Rwy'n erfyn ar y Llywodraeth i wella hyn, er mwyn yr holl bobl hynny y gellid achub eu bywydau.

15:35

Rwy’n falch o gyd-gyflwyno’r ddadl hon heddiw, gyda fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood. Mae canser y pancreas yn glefyd sinistr. Mae wedi hawlio gormod o fywydau gormod o bobl, gan adael bwlch parhaol mewn teuluoedd ledled Cymru. Mae canser y pancreas yn glefyd arswydus, sy'n enwog am ei natur ymosodol ac am y diagnosis ar gam hwyr a wneir ohono'n aml. Yng Nghymru, mae nifer yr achosion o ganser y pancreas wedi bod ar gynnydd, gan ei wneud yr unfed canser ar ddeg mwyaf cyffredin yn y wlad. Mae'n effeithio ar 500 o bobl y flwyddyn yng Nghymru—dyna 500 o famau, 500 o dadau, brodyr a chwiorydd a ffrindiau pobl ledled ein gwlad.

Mae’r gyfradd farwolaethau sy’n gysylltiedig â chanser y pancreas yn peri gofid arbennig, sy’n golygu mai dyma’r pumed achos mwyaf cyffredin o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser yma yng Nghymru. Mae’r ffaith bod tri o bob pump o bobl yn cael diagnosis ar gam hwyr yn peri pryder arbennig, gan fod canfod yn gynnar yn hanfodol ar gyfer triniaethau a chanlyniadau gwell. Mae diagnosis ar gam hwyr yn aml yn cyfyngu ar yr opsiynau triniaeth sydd ar gael, ac yn cyfrannu at y cyfraddau goroesi isel sy'n gysylltiedig â'r math hwn o ganser. Mae datblygiad cyflym y clefyd yn amlwg yn yr ystadegau: bydd dros hanner yr unigolion sydd wedi cael diagnosis yn marw o'r canser o fewn misoedd. Mae'r dirywiad cyflym hwn yn pwysleisio ymhellach pa mor bwysig yw canfod ac ymyrryd yn gynnar. Mae'n tanlinellu'r angen hanfodol am welliannau mewn ymchwil ac ymyriadau meddygol, a chynlluniau iechyd y cyhoedd sydd â'r nod o wella canlyniadau unigolion yr effeithir arnynt gan y clefyd hwn. Yn ychwanegol at hynny, mae'r tebygolrwydd o oroesi canserau am fwy na phum mlynedd fel arfer yn 50 y cant, ond ar gyfer canser y pancreas yma yng Nghymru, nid yw ond yn 6 y cant—mewn cyferbyniad llwyr â chanlyniadau i bobl sy'n dioddef o ganserau eraill ledled Cymru.

Er mwyn mynd i’r afael â chanser y pancreas, fel rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ei nodi, mae angen dull gweithredu amlhaenog. Mae’n galw am godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, cynnydd mewn cyllid ymchwil, ac ymdrechion i ddatblygu dulliau sgrinio mwy effeithiol, ac mae’r prawf gwaed y mae Mike ac eraill wedi sôn amdano yn wirioneddol bwysig. Ac mae ymdrechion cydweithredol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a sicrhau bod ein meddygon teulu â gwell ymwybyddiaeth o'r clefyd, a'u bod yn barod i atgyfeirio pobl, yn bwysig iawn. A dyna pam fod angen inni sicrhau bod ein hymchwilwyr a'n prifysgolion yn cael yr holl arfau sydd eu hangen arnynt i wneud ymchwil ar y clefyd hwn.

Fel y dywedodd Mark Isherwood, mae'n frawychus nad yw saith o bob 10 o bobl yn y DU sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn cael unrhyw driniaeth. Priodolir y diffyg ymyrraeth naill i ganfod y canser ar gam hwyr, neu oherwydd bod atgyfeiriadau'n mynd yn ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen yn ddiddiwedd, ac mae'r ddau beth yn cyfrannu at aneffeithiolrwydd triniaethau. Fel y dywedais, bydd hanner y bobl sy'n cael diagnosis o'r clefyd yn marw ohono o fewn misoedd. Mae hyn yn pwysleisio canlyniad angheuol oedi cyn canfod a thrin. A dyma pam fod hyn yn tanlinellu’r angen dybryd am welliannau yn ein system gofal iechyd, er mwyn sicrhau ymyriadau amserol ac effeithiol sydd yn y pen draw yn gwella’r canlyniadau i bobl sy’n brwydro yn erbyn y math hwn o ganser.

Credaf fod atal bob amser yn well na gwella. Dyna pam fod ymgyrchoedd ymwybyddiaeth yn hanfodol i addysgu'r cyhoedd am y ffactorau risg sy'n gysylltiedig â'r afiechyd. Mae ffactorau'n ymwneud â ffordd o fyw, fel ysmygu a gordewdra, wedi'u cysylltu â risg uwch o ganser y pancreas, gan wneud atal ac ymyrraeth gynnar yn rhan allweddol o'n brwydr gyfunol. A dyna pam fy mod yn falch iawn fod y Llywodraeth yn gwneud yr hyn a allant i edrych ar ysmygu a’r strategaethau gordewdra sydd ar y gweill, gan y bydd hynny'n cael effaith ar ganlyniadau iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru.

Felly, maes arall sy'n wirioneddol bwysig yn fy marn i yw'r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i bobl sy'n dioddef o ganser yma ledled Cymru. Ac fel arfer, nid gweithwyr iechyd meddwl hyfforddedig sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd; mae trydydd sector yno hefyd a all ddarparu cymorth a chefnogaeth i bobl, ond nid yn unig i’r unigolyn sy’n dioddef o ganser y pancreas, ond hefyd i aelodau o’r teulu sy’n cefnogi’r unigolyn dan sylw. Gall fod yn gyfnod anodd tu hwnt i unrhyw un sy’n helpu rhywun drwy’r clefyd hwn, a hoffwn annog unrhyw un sydd allan yno'n gwrando ar y ddadl hon i geisio’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl yma ledled Cymru.

Felly, fel rwyf wedi'i ddweud—. Rwyf am ddod i ben nawr, Ddirprwy Lywydd, drwy ddweud y buaswn yn annog y Llywodraeth i wneud popeth yn eu gallu i fynd i’r afael â chanser y pancreas. Gwn fod cyllidebau tynn eithriadol gan y Llywodraeth, ond mae'n rhaid inni wneud yr hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod clefydau fel hyn yn cael eu hatal yma yng Nghymru ac nad ydynt yn cipio gormod o fywydau yma yng Nghymru.

15:40

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ddweud rhai geiriau yn y ddadl hon. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Aelod sydd wedi gwneud y cynnig heddiw, a'r rhai sydd wedi cefnogi ei gyflwyno yn y Siambr. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi ar ôl i’r cynnig hwn gael ei gyflwyno yn y Senedd. Maent wedi gofyn imi godi materion sy'n bwysig iddynt. Mae llawer o’r materion hynny wedi cael eu trafod gan fy nghyd-Aelodau y prynhawn yma, yn enwedig yr angen am gyllid i roi'r llwybr cydweithredol a ddatblygwyd gan gydweithrediaeth GIG Cymru ar waith. A buaswn yn ddiolchgar, yn yr ymateb gan y Gweinidog, pe bai’n mynd i’r afael â’r mater penodol hwnnw pan ddaw’r amser. Maent hefyd wedi codi gyda mi yr angen, pan fydd y llwybr hwnnw'n cael ei roi ar waith, i sicrhau bod eich taith ar y llwybr hwnnw yn union yr un fath ledled y wlad ni waeth ble yng Nghymru rydych chi'n byw.

Ddirprwy Lywydd, roedd llawer o’r trigolion a gysylltodd â mi yn ddewr iawn i rannu eu profiadau eu hunain a’u taith eu hunain gyda’r canser hwn. Nid oes gennyf ddigon o amser y prynhawn yma i roi sylw i bob un ohonynt, ond roeddwn am ddefnyddio un dyfyniad a e-bostiwyd ataf gan etholwr, ac rwy’n dyfynnu’n uniongyrchol o’r e-bost hwnnw:

'Mae hwn yn ganser angheuol sy'n datblygu'n ffyrnig, ac mae diagnosis ar gam hwyr yn golygu ei bod yn rhy hwyr, gyda disgwyliad oes yn wythnosau, nid blynyddoedd. Dylai fod llwybr ar gyfer canser y pancreas o'r adeg lle'r amheuir canser ac atgyfeiriad hyd at ddiagnosis mewn 14 diwrnod, a llai na hynny yn ddelfrydol.'

Ddirprwy Lywydd, cytunaf yn llwyr â’r etholwr hwnnw a ysgrifennodd ataf i rannu eu profiad. A chytunaf yn llwyr â’r etholwyr eraill sydd wedi cysylltu hefyd, a dyna pam y byddaf yn cefnogi’r cynnig heddiw yn y bleidlais yn nes ymlaen.

15:45

Hoffwn innau ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno’r ddadl hon. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cynnal y dadleuon hyn i ystyried, ond hefyd yn y gobaith y gallai rhai pobl godi ymwybyddiaeth o'r symptomau—efallai y bydd rhai o'r symptomau y buom yn eu codi heddiw yn swnio'n gyfarwydd. Mae goroeswyr—dau oroeswr—canser y pancreas yn ymuno â ni yn yr oriel heddiw, ond hefyd, yn anffodus, pobl sydd wedi colli perthnasau oherwydd y canser creulon hwn, ac fel y clywsom, mae'n gwbl ddinistriol. Ac yn anffodus, fel y rhannwyd gyda mi a Delyth yn gynharach, mae rhai hefyd wedi colli sawl aelod o'r teulu. Mae mor greulon. Diolch am roi amser i fod yma heddiw, ond hefyd am rannu eich straeon personol gyda ni, a hefyd am yr holl ymgyrchu a wnewch i godi ymwybyddiaeth ac i geisio sicrhau bod arian ar gael ar gyfer ymchwil, a hefyd fod mwy o bobl yn ymwybodol ac yn gallu cael diagnosis yn gynharach, a hefyd, wedyn, gobeithio, gallwn newid yr ystadegau hynny. Clywsom yn bwerus iawn gan Delyth Jewell cyn lleied y mae pethau wedi newid mewn 50 mlynedd, a pham fod hynny'n groes i'r duedd, gyda straeon canser eraill. Felly, diolch am fod yma. Ac mae'n ddrwg gennyf fod yn rhaid ichi ymgyrchu cymaint, ond mae'n sicr yn gwneud gwahaniaeth.

Nid wyf wedi cael fy effeithio'n bersonol. Roeddwn yn credu ichi siarad yn bwerus iawn, Delyth, a diolch am rannu hynny. Ond fel Jack, cefais fy synnu cymaint o etholwyr a ysgrifennodd ataf ac a fynegodd eu straeon personol hefyd. Credaf ei fod hefyd yn ymwneud â pha mor gyflym y mae'r clefyd creulon hwn yn datblygu—. Mae'n un o'r pethau sy'n gadael teuluoedd mewn sioc, a hefyd y trallod o ran eu perthnasau—. Dyna un o'r pethau a oedd yn amlwg i mi, yn ogystal â'r ffaith bod pobl yn ymgyflwyno, efallai, mewn adrannau damweiniau ac achosion brys mewn poen difrifol. A gwyddom faint o bwysau sydd ar ein hystafelloedd damweiniau ac achosion brys, ond mae'n dangos yr anobaith y mae pobl yn ei deimlo, eu bod mewn cymaint o boen fel mai dyna'n anffodus yw'r llwybr at ddiagnosis yn aml.

Fel yr Aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru, roeddwn yn falch o ddarllen yn y papur briffio a ddarparwyd gan Pancreatic Cancer UK am rywfaint o’r gwaith ymchwil cyffrous ac arloesol sy’n digwydd yng Nghaerdydd. Maent wedi ariannu Dr Beatriz Salvador Barbero, ac mae'n ymchwilio i'r newidiadau biolegol sy'n digwydd yn natblygiad cynnar canser y pancreas. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn ymchwil, ac mae'r holl godi arian a phopeth sy'n digwydd yn wych o ran y cynnydd hwnnw, ond yn anffodus, hyd nes y gallwn sicrhau bod llwybrau ac ati ar waith, hyd nes y gallwn godi ymwybyddiaeth, a hyd nes y buddsoddir hyd yn oed ymhellach mewn ymchwil, bydd y canlyniadau llwm hynny'n parhau.

Felly, rwy’n falch o allu cefnogi’r cynnig heddiw, ond hefyd, hoffwn gydymdeimlo â’r holl deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid. Hoffwn fynegi fy undod hefyd â’r holl oroeswyr, oherwydd efallai fod y canser wedi’i drechu, ond o ran yr effaith ar eich bywyd fel goroeswr, mae hynny’n rhywbeth sy’n aros gyda chi. Rwyf wedi fy ysbrydoli gan yr ymgyrchu sy'n digwydd, ac wedi fy ysbrydoli gan bawb sydd wedi troi eu poen yn weithgarwch ac wedi bod yn ddigon dewr i rannu eu straeon torcalonnus gyda ni. Dyna pam na allwn ddiystyru unrhyw un, a dyna pam fy mod yn falch ein bod yn parhau i ddadlau, ond hefyd i wthio am y newidiadau sydd eu hangen.

15:50

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod Mark am gyflwyno pwnc mor bwysig i’w drafod, a diolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiflino i helpu i godi ymwybyddiaeth o ganserau prin fel canser y pancreas, ac ymgyrchu i wella canlyniadau i ddioddefwyr. Hoffwn ddiolch yn bersonol hefyd i fy nghyd-Aelod, Delyth, am godi ei phrofiadau personol ei hun o’r clefyd ofnadwy hwn, ac mae'n dangos yn glir i ni yn y Siambr beth yw ei effaith.

Yn syfrdanol, Ddirprwy Lywydd, mae 43 y cant o'r bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn eu cael mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac erbyn yr adeg honno, yn anffodus, mae'n aml yn rhy hwyr i allu ei drin. Mae ymchwil hefyd yn dweud wrthym y bydd cleifion yn ymweld â'u meddyg teulu bedair gwaith ar gyfartaledd cyn cael diagnosis, ac yn anhygoel, cafwyd un achos pan ymwelodd un claf yn y DU â'i feddyg teulu 23 o weithiau cyn cael diagnosis.

Fel rydym wedi clywed eisoes, gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cael diagnosis ar gam 4, pan fydd y clefyd wedi metastaseiddio, mae'r prognosis cyffredinol yn wael. Fodd bynnag, os caiff ei ddal yn gynnar iawn, mae'n bosibl gwella'r canser. Canfuwyd bod hyd at 10 y cant o gleifion sy'n cael diagnosis cynnar yn rhydd o ganser ar ôl triniaeth. Felly, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu nod y ddadl hon i dynnu sylw at y ffaith bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys. Mae cleifion y canfyddir eu tiwmorau cyn iddynt fetastaseiddio, neu ddatblygu yn eu lleoliad, yn dueddol o fod â chyfraddau goroesi hirach ar gyfartaledd, gan y gellir cael gwared â'u tiwmorau drwy lawdriniaeth fel arfer, ac felly gall unrhyw oedi gael effaith fawr ar eu canlyniad cyffredinol.

Yn drasig, mae llawer o gleifion sy’n cael diagnosis o ganser y pancreas yn colli eu bywydau o fewn ychydig wythnosau neu fisoedd, ac mae’n dorcalonnus clywed eu straeon, yn enwedig pan fyddant yn tynnu sylw at faint o amser a gymerodd i gael eu diagnosis. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn rannu stori Claire Stevens a oedd yn byw yn fy rhanbarth i, ac rwy’n ddiolchgar i’w merch, Nina, am ganiatáu imi wneud hynny. Aeth Claire at ei meddyg teulu â phoen cefn, diffyg archwaeth bwyd ac wedi colli pwysau, ac er iddi gael sgan uwchsain na ddaeth o hyd i unrhyw beth, dim ond ar ôl iddi gael mynediad at ofal meddygol preifat y llwyddodd i gael diagnosis o ganser y pancreas. Yn anffodus, roedd y pedwar mis rhwng yr amser yr aeth at ei meddyg teulu am y tro cyntaf a chael diagnosis yn golygu nad oedd modd trin y canser erbyn hynny am ei fod wedi asio â’i phrif rydweli, a chollodd Claire, a oedd ond yn 56, ei bywyd 10 mis ar ôl ei diagnosis. Yn anffodus, mae stori Claire, fel y clywsom, yn eithaf cyffredin i’r rheini sy’n dioddef o ganser y pancreas, ac fel llawer o bobl eraill, credaf y gallai ei chanlyniad fod wedi bod yn wahanol pe byddai wedi gallu cael mynediad at y sgan CTC yn gynnar. A hoffwn ychwanegu fy llais at y lleill yma a'r elusennau allan yno sy'n galw am wella llwybrau diagnosis, gyda phwyslais arbennig ar gyflymder, oherwydd po gynharaf y bydd cleifion yn cael triniaeth, y gorau yw eu canlyniadau hirdymor.

Mae ymchwil feddygol yn gwella drwy’r amser, fel y gwelais fy hun yn ddiweddar ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae ymchwilwyr fel Dr Beatriz Salvador Barbero, fel y mae fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon eisoes wedi nodi, yn gwneud gwaith arloesol. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod treialon clinigol ar y gweill ar hyn o bryd ar frechlyn canser y pancreas a all helpu i drin canser y pancreas cam 4. Mae'r brechlyn hwn yn cynnwys cell canser y pancreas anweithredol sydd wedi'i haddasu yn y fath fodd fel nad yw'n gallu tyfu, ac mae'n rhyddhau moleciwlau penodol sy'n annog celloedd imiwnyddol y corff ei hun i ladd y celloedd canser. Gall therapi brechlyn o’r math hwn wella’r gallu i drin y clefyd metastatig, gan fod y celloedd brechlyn yn gallu hela’r holl ganser yn y corff, ac rwy'n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa cyn bo hir lle gallwn gael mynediad at therapïau fel hyn yn ein hysbytai.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn dynnu sylw at waith rhagorol Pancreatic Cancer UK a'u hymgyrchoedd ymwybyddiaeth sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yng Nghymru drwy'r proffesiynau gofal iechyd a thrwy'r rheini sydd yn y sefyllfa orau i wneud diagnosis. Y gwir yw, bydd canlyniadau dioddefwr canser y pancreas yn dibynnu ar dri pheth: y gallu i nodi symptomau, megis poen yng nghanol y cefn, poen yn rhan uchaf yr abdomen, newid mewn arferion ysgarthu, neu golli pwysau heb esboniad; gallu meddygon teulu i atgyfeirio'r claf yn gyflym a'u rhoi ar y llwybr cywir; ac yn olaf, cyflymder y diagnosis. Gallwn wneud cymaint yn rhagor yn yr holl feysydd hyn, a gallwn wella’n sylweddol y gobaith o oroesi canser y pancreas, gan fod hyn yr un peth ar gyfer llawer o ganserau eraill. Felly, rwy’n annog pawb yma i gefnogi’r cynnig sydd ger bron y Senedd yn y ddadl hon. Diolch.

15:55

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno'r mater hwn ar lawr y Senedd. Yn fwyaf arbennig, hoffwn ddiolch i’r Aelodau am rannu’r enghreifftiau o’r dioddefaint ofnadwy y mae cymaint wedi mynd drwyddo gyda’r cyflwr ofnadwy hwn. Gwyddom fod yn rhaid inni wneud yn well i roi gobaith i bobl sy’n cael y diagnosis ofnadwy hwn.

Hoffwn ymuno â holl Aelodau’r Senedd i gydnabod bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas. Mae’n bwysig, fel y mae cymaint o bobl wedi sôn, ein bod yn trafod y cyflwr hwn sy’n effeithio ar oddeutu 550 o bobl y flwyddyn yma yng Nghymru. Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn canolbwyntio ar ganser y pancreas oherwydd, yn wahanol i lawer o ganserau, mae canlyniadau canser y pancreas, fel y mae llawer wedi nodi, yn parhau i fod yn wael, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Nawr, dyma realiti trist canser nad yw'n tueddu i ddod i'r amlwg nes ei fod ar ei gamau olaf a phan fydd opsiynau triniaeth yn fwy cyfyngedig. Mae Pancreatic Cancer UK yn nodi bod oddeutu hanner y bobl yn marw o fewn tri mis i gael diagnosis. I lawer o bobl â chanser y pancreas, diben yr opsiynau triniaeth sydd ar gael fydd cynnal ansawdd eu bywydau cyhyd â phosibl. Nawr, mae hwn yn ofal hanfodol sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o bobl sy'n wynebu'r newyddion gwaethaf posibl, ond rwy'n cydnabod nad dyma ble fyddai unrhyw un ohonom yn dymuno bod.

Yn y cynnig heddiw, mae Pancreatic Cancer UK yn galw am roi llwybr cenedlaethol ar gyfer canser y pancreas ar waith, ac rwy’n falch o ddweud, yma yng Nghymru, ein bod wedi gallu cyflwyno llwybr carlam ar gyfer canser y pancreas. Mae’r llwybr carlam yn helpu byrddau iechyd i uno gwahanol dimau clinigol mewn gwahanol leoliadau a sefydliadau clinigol. Mae'n ddisgrifiad o daith claf, fel y gall pob bwrdd iechyd gynllunio gwasanaethau cyson, fel bod pob tîm clinigol yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt, ac fel bod pob claf yn cael gofal cyson. Mae’r llwybr cenedlaethol yn cynnwys gofyniad i gleifion fynd yn syth i gael prawf, gan osgoi’r angen am apwyntiad claf allanol yn gyntaf. Mae hyn yn rhywbeth y galwodd Pancreatic Cancer UK amdano yn eu hadroddiad diweddar.

Rydym hefyd wedi rhoi camau ar waith mewn meysydd eraill y mae Pancreatic Cancer UK wedi galw amdanynt. Rydym wedi cynyddu capasiti llawdriniaethau yn ein canolfan lawfeddygol arbenigol yn Abertawe, ac rydym wedi buddsoddi yn y system gwybodaeth canser newydd fel bod cofnodion clinigol yn weladwy ar draws pob lleoliad a sefydliad, i gydgysylltu gofal cleifion rhwng timau clinigol. Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i ddarparu canolfannau diagnostig cyflym ar gyfer ei phoblogaeth gyfan. Ledled Cymru, os yw meddyg teulu yn amau bod gan rywun ganser, ond bod eu symptomau’n annelwig ac nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer atgyfeiriadau canser, gallant gael mynediad cyflym at wasanaeth diagnostig un stop. Ar gyfer canser y pancreas yn benodol, fel y mae llawer o Aelodau wedi pwysleisio, fe wyddom y gall symptomau fod yn annelwig ac yn hawdd eu methu, sy’n aml yn cyfrannu at ddiagnosis hwyr, gan olygu bod opsiynau triniaeth yn gyfyngedig. Am y rheswm hwnnw, mae mynediad at ganolfannau diagnostig cyflym yn gam pwysig iawn i geisio sicrhau, pan fo ansicrwydd, fod gan feddygon teulu opsiwn atgyfeirio ychwanegol i ddiystyru neu gadarnhau canser.

Rydym yn adeiladu ein gweithlu canser, ar ôl buddsoddi mewn mwy o leoedd hyfforddi bob blwyddyn am y tair blynedd diwethaf mewn oncoleg. Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd i wella mynediad at therapi amnewid ensymau pancreatig—PERT—drwy newid y llyfrau fformiwlâu a gweithio gyda gofal sylfaenol i ddarparu canllawiau a chymorth ar bresgripsiynu, ac rwyf wedi cymeradwyo archwiliad clinigol o ofal canser y pancreas, sy’n adrodd ein data yn gyhoeddus ac yn cymharu canolfannau ledled Cymru a Lloegr fel y gallwn ysgogi camau gwella ansawdd a gwella canlyniadau.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rŷn ni hefyd yn rhoi hyfforddiant a chymorth i wneud penderfyniadau i bob practis meddyg teulu yng Nghymru ar adnabod symptomau ac atgyfeirio ar gyfer canser. Bydd y rhain ar gael ar bob cyfrifiadur desg. Byddwn ni'n gwella gofal i gleifion trwy fuddsoddi mewn gofal sylfaenol, gofal diagnostig a gofal arbenigol. Esgusodwch fi. Caiff y rhain eu cydlynu a'u cefnogi gan y—. Sori. Caiff y rhain eu cydlynu a'u cefnogi—

16:00

Cymrwch eiliad, Gweinidog. Mae Janet Finch-Saunders wedi mynd i moyn rhagor o ddŵr ichi.

Diolch. Diolch yn fawr. Byddwn ni'n gwella gofal i gleifion drwy fuddsoddi mewn gofal sylfaenol, gofal diagnostig a gofal arbenigol. Caiff y rhain eu cydlynu a'u cefnogi gan ein dull llwybr delfrydol cenedlaethol a'u goruchwylio'n genedlaethol gan ddefnyddio data o ansawdd uchel.

Hoffwn i orffen drwy ddiolch i Aelodau am gynnal dadl ar bwnc mor bwysig heddiw. Dwi'n meddwl bydd yn well i fi adael e a stopio fanna, mae arnaf ofn, ond diolch yn fawr ichi, a dwi yn cydnabod, a dwi eisiau cydnabod y gwaith rŷch chi wedi'i wneud.

Hoffwn ddiolch i chi am eich gwaith yn enwedig wrth dynnu ein sylw at y mater pwysig hwn. Rydym yn gwybod bod mwy o waith i'w wneud, ond rydym yn gwbl benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r clefyd ofnadwy hwn.

Lywydd, a fyddai ots gennych imi roi ychydig funudau—dim ond munud—i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am adroddiad penodol a glywsom, fod car wedi gyrru drwy fynedfa flaen Ysbyty Maelor Wrecsam? Ni chofnodwyd unrhyw anafiadau, ac ymddengys nad oes unrhyw ddifrod i ddiogelwch strwythurol yr adeilad. Rwyf wedi gofyn i'r bwrdd iechyd roi gwybod i mi am y datblygiadau, a hoffwn ddiolch i'r staff am eu hymateb uniongyrchol yn Betsi. Diolch yn fawr.

Diolch, Weinidog, a diolch i chi am eich ymdrechion i gwblhau eich ymateb i'r ddadl a'r datganiad terfynol hwnnw hefyd. Mark Isherwood nawr i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr iawn, bawb, am gyfrannu. Fe geisiaf wneud cyfiawnder â'r cyfraniadau hynny yn yr amser cyfyngedig sydd ar ôl.

Fe wnaeth Mike Hedges, a siaradodd, ymhlith pethau eraill, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar glefydau prin, y pwynt fod tiwmorau'r pancreas yn amhosibl eu gweld na'u teimlo yn ystod archwiliad meddygol arferol a dyna pam fod angen trin pobl â chanser y pancreas ar unwaith. Cyfeiriodd at y ddau brawf mwyaf cyffredin ar gyfer canser y pancreas, sydd â fawr iawn o arwyddion cynnar ac yn aml, gwneir diagnosis ohono'n hwyr. Mae'r arwyddion sy'n dynodi bod canser y pancreas yn bresennol, meddai, yn gallu bod yn arwydd o nifer o gyflyrau eraill hefyd. Mae angen profion gwaed arnom ac mae taer angen ymchwil i'r maes, meddai, a nododd na cheir sgrinio ar gyfer canser y pancreas, yn wahanol i lawer o ganserau eraill, ac mae angen dull triniaeth cytunedig arnom ar gyfer canlyniadau llawfeddygol gorau.

Dywedodd Delyth Jewell fod canser y pancreas yn amddifadu pobl o'u hanwyliaid. Mae'n ymosodol, mae'n greulon ac mae'n ymledol. Fe wnaeth rannu stori bersonol—a diolch am hyn—am golli rhywun annwyl, a dywedodd,

'y cyfan y gallent ei wneud oedd rheoli'r boen',

ac am rywun arall a fu farw yn ddim ond 47 oed, rwy'n credu ichi ddweud, ac erfyniodd ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r llwybr delfrydol cenedlaethol ar gyfer pawb y gellid achub eu bywydau.

Cyfeiriodd James Evans at ganser y pancreas fel clefyd sinistr, arswydus ac ymosodol, yr unfed canser ar ddeg mwyaf cyffredin yng Nghymru a'r pumed achos mwyaf cyffredin o farwolaethau canser yng Nghymru. Dywedodd fod ei ganfod yn gynnar yn hanfodol ar gyfer gwella triniaeth a chanlyniadau. Fe gyferbynnodd y gyfradd oroesi o 6 y cant ar ôl pum mlynedd â chanlyniadau i bobl â chanserau eraill yng Nghymru. Dywedodd fod atal yn well na gwella a nododd fod ysmygu a gordewdra yn gysylltiedig â risgiau cynyddol o ganser y pancreas. Soniodd am bwysigrwydd cymorth iechyd meddwl i bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas a'u teuluoedd a'u hanwyliaid, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i bobl â chanser y pancreas.

Cyfeiriodd Jack Sargeant at yr angen am gyllido a gweithredu llwybr delfrydol cenedlaethol GIG Cymru ar gyfer canser y pancreas, a rhannodd rai straeon gan etholwyr a oedd wedi cysylltu ag ef. Tynnodd Heledd Fychan sylw—ac rwy'n ychwanegu fy nghroeso—at y ffaith bod dau oroeswr wedi ymuno â ni yn yr oriel yn ogystal â pherthnasau sydd wedi colli anwyliaid i ganser y pancreas. Dywedodd fod angen inni gynyddu ymwybyddiaeth yn ogystal ag arian, gan gynnwys ymchwil, lle nad oes fawr o newid wedi digwydd dros 50 mlynedd, a diolchodd i bawb ohonom, unwaith eto, am roi sylw i'r mater pwysig hwn. Pwysleisiodd pa mor gyflym mae'r afiechyd yn datblygu ac effaith hynny ar gleifion a'u hanwyliaid, ac estynnodd ei chydymdeimlad â'r holl deuluoedd sydd wedi dioddef colled, ac i bawb sy'n ei oroesi, a daeth i ben drwy ddweud, yn gwbl briodol, na allwn ddiystyru neb.

Cyfeiriodd Joel James at 43 y cant o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas mewn adrannau damweiniau ac argyfwng, yn aml yn rhy hwyr i gael triniaeth, gyda nifer yn ymweld sawl gwaith cyn y ceir diagnosis, er y gall pobl oroesi o gael diagnosis cynnar. Rhannodd stori Claire Stevens, na chafodd ddiagnosis nes iddi gael gofal meddygol preifat, ond roedd yn rhy hwyr i'w hachub. Mae angen inni allu adnabod symptomau, meddai, gan gynnwys poen canol y cefn a newid mewn arferion ysgarthu, a gallwn wneud cymaint mwy yn yr holl feysydd hyn.

Dywedodd y Gweinidog, wrth gloi, fod yn rhaid inni wneud yn well i roi gobaith i bobl sy'n cael y diagnosis ofnadwy hwn. Dywedodd nad ydym lle byddai unrhyw un eisiau i ni fod. Cyfeiriodd at y llwybr delfrydol cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer canser y pancreas, ond fel y mae'r elusen wedi dweud, mae angen i hyn gael ei weithredu a'i gyllido'n cynaliadwy. Nid oes amser i chi ymateb i hynny nawr, ond byddai'n wych pe gallech ddynodi—. Nid ydych yn edrych yn dda iawn; mae'n ddrwg gennyf. Dywedodd ei bod wedi cyflwyno archwiliad clinigol, a chyfeiriais at alwad yr elusen am hyn yn fy araith, ond oherwydd hynny mae angen i hyn gynnwys edrych ar y gweithlu canser y pancreas, nodi bylchau a gweithredu ar frys i'w llenwi, sef yr hyn y galwodd yr elusen amdano.

Felly, unwaith eto, rwyf am ddod i ben lle dechreuais drwy bwysleisio bod angen i bobl sydd â chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys, ac mae angen gweithredu hynny nawr. Diolch yn fawr.

16:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Ac felly fe wnawn ni bleidleisio ar y mater yn ystod y cyfnod pleidleisio ar ddiwedd y cyfarfod. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths.

Yr eitem nesaf fydd dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd, a dwi'n galw ar Natasha Asghar i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8437 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod rôl cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg wrth gefnogi economi Cymru.

2. Yn gresynu na fu strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd ers 2008.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd sy'n cynnwys:

a) canolfannau llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru;

b) rhwydwaith helaeth o bwyntiau gwefru ac ail-lenwi ar gyfer coetsys a cherbydau nwyddau trwm trydan neu hydrogen; ac

c) newidiadau i'r system gynllunio yng Nghymru i sicrhau y gellir darparu seilwaith cludo llwythi ar y ffyrdd mor effeithlon â phosibl.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf wneud y cynnig hwn a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae cludo nwyddau ar y ffyrdd yn gwbl hanfodol mewn cymaint o ffyrdd, yn enwedig i'n bywydau o ddydd i ddydd a'n heconomi hefyd. Felly, mae'n hanfodol fod y sector hwn yn cael y gefnogaeth y mae'n ei haeddu. Heb gludo nwyddau ar y ffyrdd, ni fyddai bwyd yn cyrraedd silffoedd ein harchfarchnadoedd, byddai ein gorsafoedd petrol yn sych, byddai ysbytai heb gyflenwadau meddygol a byddai siopau yn sicr yn wag. Gyda 19 y cant o'r holl gynnyrch bwyd ac amaeth yn cael eu cludo gan gerbydau cludo llwythi ar y ffyrdd yn y DU, mae'n swydd hynod o bwysig.

Yng Nghymru, mae 5,000 o fusnesau cludo ar y ffyrdd yn cyflogi tua 92,000 o bobl, gyda'r sector cludo llwythi yn cyfrannu tua £2.5 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Ac eto o ystyried bod hwn yn ddiwydiant mor hanfodol, gyda gyrwyr yn gwneud gwaith mor wych, nid yw'r sector yn cael y driniaeth y maent yn ei haeddu, ac yn sicr mae'n rhaid i hynny newid. Edrychwch ar dir mawr Ewrop, a'u hagwedd tuag at eu gyrwyr. Mae'n hollol wahanol o'i gymharu â'r hyn sydd gennym yn y DU, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y cyfleusterau y maent yn eu cynnig i'w gyrwyr. Mae Ffrainc a Sbaen yn enwedig yn hollol anhygoel yn cynnig parcio saff a diogel i yrwyr, ond yma yng Nghymru nid oes gennym ganolfannau llesiant saff a diogel i'n gyrwyr, a chyda throseddau cludo llwythi ar gynnydd, mae'n bryder gwirioneddol. Gan Gymru y mae un o'r lefelau uchaf o droseddau cludo llwythi sy'n gysylltiedig â cherbydau nwyddau trwm yn y Deyrnas Unedig gyfan. Nid yn unig y mae'n costio tua £428 miliwn i'r Deyrnas Unedig, ond mae hefyd yn rhoi ein gyrwyr ymroddedig mewn perygl difrifol.

Mae angen inni weld rhywfaint o fuddsoddi mewn cyfleusterau yma yng Nghymru nid yn unig am resymau diogelwch, ond am resymau hylendid hefyd. Rwy'n cofio un o'r cyfarfodydd cyntaf a gefais gyda'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd ar ôl cael fy ethol, sefydliad gwych sy'n cynrychioli mwy na 8,500 o gwmnïau, a dywedwyd wrthyf fod y gyrwyr yn cael eu gorfodi i ysgarthu mewn bagiau plastig oherwydd diffyg cyfleusterau. Nawr, rwy'n defnyddio terminoleg gywir, gan fy mod yma yn Senedd Cymru, ond gallaf eich sicrhau nad oedd y derminoleg a ddefnyddiwyd gyda mi mor ddymunol â hynny. Nawr mae hynny'n annerbyniol, yn 2023, ac yn rhywbeth na ddylai neb mewn unrhyw broffesiwn orfod ei ddioddef. Yn anffodus, nid oes unrhyw beth wedi newid. Ac oherwydd bod gyrwyr yn cael eu gorfodi i wneud pethau fel hynny, mae llawer o bobl, yn enwedig menywod, yn cael eu cymell i beidio â mynd i mewn i'r diwydiant hwn.

Rhwystr arall sy'n wynebu nid yn unig gyrwyr cerbydau cludo llwythi ar y ffyrdd ond llawer o drigolion, busnesau a thwristiaid eraill yw prosiect terfyn cyflymder 20 mya hurt Llafur. Nawr, mae siwrneiau'n cymryd mwy o amser i'w cwblhau o ganlyniad i'r cynllun 20 mya cyffredinol, y gwyddom eisoes y bydd yn achosi ergyd o £9 biliwn i economi Cymru. Mae'r amseroedd teithio hirach hefyd yn golygu bod gyrwyr yn taro'r terfyn cyfreithiol y gallant ei yrru bob dydd, gan eu rhoi mewn mwy o berygl eto. Dyma reswm arall pam mae angen inni weld polisi 20mya gwerth £33 miliwn Llafur yn cael ei ddileu a'i ddisodli gan fesurau wedi'u targedu y tu allan i fannau lle ceir llawer o gerddwyr, megis ysgolion, ysbytai, addoldai ac ati. 

Yn rhyfedd ddigon, serch hynny, mae'r diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd yn dibynnu ar ffyrdd, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei esgeuluso ers llawer gormod o amser. Mae tagfeydd yn falltod ar lawer o ffyrdd Cymru bob dydd, gan achosi oedi diangen unwaith eto i yrwyr. Dyna pam mae angen inni weld Gweinidogion Llafur yma yn dileu eu gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd a dechrau buddsoddi yn ein ffyrdd eto. Mae angen inni weld prosiectau seilwaith mawr eu hangen fel ffordd liniaru'r M4, ffordd osgoi Cas-gwent a thrydedd groesfan Menai wedi'u cyflawni. Yn syml, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i'w hagenda gwrth-yrwyr, gwrth-fusnes, gwrth-dwf am byth. Mae angen gwneud mwy i gefnogi'r diwydiant ac mae'n amlwg y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu.

Yn wahanol i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn cydnabod pwysigrwydd gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Cyn bo hir, bydd gyrwyr lorïau yn elwa ar well cyfleusterau ar ochr y ffordd a mannau gorffwys mwy diogel yn Lloegr, diolch i fuddsoddiad o hyd at £100 miliwn. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi gweithredwyr i wneud gwelliannau fel gwell diogelwch, cawodydd, cyfleusterau bwyta, yn ogystal â mwy o leoedd parcio i lorïau. Mae angen inni weld mwy o fuddsoddi yn y diwydiant. Mae angen inni weld camau i fynd i'r afael â phrinder gyrwyr yn y sector. Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar ddiogelwch gyrwyr, ac mae angen inni roi'r gorau i gymryd gyrwyr a'r diwydiant yn ganiataol.

Fel y mae'r cynnig heddiw'n nodi, mae angen inni weld strategaeth benodol ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd gan Lywodraeth Cymru ac rwy'n fwy na pharod i gydweithio â'r Gweinidog neu'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gyflawni hyn a'i wireddu. Mae'n hanfodol fod y strategaeth yn cynnwys canolfannau llesiant saff a diogel, rhwydwaith helaeth o bwyntiau gwefru ac ail-lenwi, a newidiadau i'r system gynllunio i sicrhau y gellir darparu seilwaith mor effeithlon â phosibl ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd.

Y prynhawn yma mae gennym gyfle gwirioneddol a diffuant i ddangos i'r diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd fod Senedd Cymru yn ei gefnogi ac yn gwerthfawrogi'r gwaith gwych y mae'n ei wneud. Ond mae angen inni weld Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithredu'n gadarn i gefnogi ei geiriau cynnes. Ac rwy'n mawr obeithio y bydd pob Aelod yma heddiw yn cefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr iawn.

16:10

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig a dwi'n galw ar Luke Fletcher, yn gyntaf, i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Luke Fletcher. 

Gwelliant 1—Heledd Fychan

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu effaith niweidiol Brexit ar y sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg yng Nghymru, gyda chyfeintiau llwythi Cymru 27 y cant yn is na lefelau 2019 o hyd.

Yn credu y byddai ailymuno â Marchnad Sengl Ewrop yn rhoi hwb hanfodol i fasnach llwythi ym mhorthladdoedd Cymru megis Caergybi, a'r sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg ar draws Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Heledd Fychan. Ac rwy'n falch fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno, ac wrth feddwl am y ddadl hon a pharatoi ar ei chyfer, cofiais am un o'r ymchwiliadau cyntaf roeddwn yn rhan ohono, yn fuan ar ôl cael fy ethol, gyda Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Nid oedd yn rhywbeth y gwneuthum feddwl yn benodol amdano cyn cael fy ethol, mae'n rhaid imi fod yn onest, ond rwy'n meddwl y byddai llawer ar y pwyllgor—pawb ar y pwyllgor mewn gwirionedd—yn dweud bod y dystiolaeth a gawsom yn ein hymchwiliad yn agoriad llygad i lawer ohonom.

Ac un o'r pethau mwyaf a welsom yn ein hymchwiliad oedd profiad gyrwyr. Nawr, yn y lle cyntaf, dywedodd yr holl yrwyr a wnaeth fwydo i mewn i'n hymchwiliad nad oedd digon o leoedd saff i barcio ac nad oedd y cyfleusterau a oedd ar gael iddynt yn addas i'r diben. Yn ogystal â hynny, rhoddwyd tystiolaeth i ni gan un gyrrwr yn benodol, a oedd wedi dioddef lladrad 10 gwaith ac yn ei dderbyn fel rhan o'r swydd. Mae gyrwyr yn haeddu llawer gwell na hynny, oherwydd fe wyddom fod llawer o'r economi'n dibynnu ar yrwyr cyflenwi i gludo a dosbarthu nwyddau. Rydym yn sôn, yn llythrennol, am beiriant yr economi yma.

Nawr, rwy'n gwybod y bydd rhai yn amharod i glywed yr ychydig bwyntiau nesaf, ond nid wyf yn credu y gallwn siarad am y diwydiant cludo llwythi ar y ffyrdd heddiw heb o leiaf gydnabod effaith Brexit, a dyna'r rheswm dros ein gwelliannau. Dyma'r eliffant yn yr ystafell ac mae'n parhau i fod yn faen melin trwm ar fasnach. Nawr, mae dadansoddiad diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o effaith y cytundeb masnach a chydweithredu ôl-Brexit wedi dangos bod y DU wedi dod yn economi lai dwys o ran masnach, a rhagwelir y bydd ei hallforion a'i mewnforion 15 y cant yn is yn y tymor hir o ganlyniad i fod y tu allan i'r undeb tollau a'r farchnad sengl. Ac fel y soniais yr wythnos diwethaf, mae'r ffaith bod cyfran Cymru o'r fasnach allforio gyda'r UE yn uwch na chyfartaledd y DU yn golygu y bydd y tueddiadau ar i lawr yn effeithio'n anghymesur ar gadwyni cyflenwi Cymru. O safbwynt cludo llwythi ar y ffyrdd yn enwedig, dangosir yr effaith hon gan y ffaith bod cyfanswm cyfunol mewnforion ac allforion nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd rhwng Cymru a'r UE 27 y cant yn is yn 2022 o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig.

Ac mae hyn oherwydd bod masnach, boed ar y môr, yn yr awyr neu ar y ffordd, yn dilyn llwybr y gwrthwynebiad lleiaf, ac mae'n anochel fod yr ystod o feichiau biwrocrataidd newydd y bu'n rhaid i allforwyr a mewnforwyr fel ei gilydd frwydro â nhw wedi gosod rhwystrau ar lif masnach. Lle gwelid porthladdoedd Cymru ar un adeg fel cyswllt hanfodol yn y bont dir fel y'i gelwir i dir mawr Ewrop, maent bellach yn cael eu hosgoi'n gynyddol gan gludwyr llwythi ar y ffyrdd sy'n dewis croesi'n uniongyrchol o Weriniaeth Iwerddon i Ffrainc. Mae hyn, yn ei dro, yn creu llusgiad mawr ar ffyniant masnachol ein porthladdoedd, sydd, nad anghofiwn, yn hybiau economaidd hanfodol i rai o rannau mwyaf difreintiedig Cymru.

Felly, dylem ystyried yma hefyd beth yw'r effaith y mae trefniadau newydd ar ôl Brexit wedi'i chael ar recriwtio gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Dangosodd adroddiad y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd yn 2021 ar brinder gyrwyr mai Brexit oedd y prif reswm dros y diffyg yn ôl 58 y cant o'r rhai a arolygwyd, yn enwedig o safbwynt y sector BBaCh. Er bod rhaid cyfaddef bod yna broblemau systemig yn y gweithlu cerbydau nwyddau trwm cyn Brexit, ni ellir gwadu bod y cyfyngiadau newydd ar y gallu i ddenu a chadw llafur yr UE wedi gwaethygu pethau. Wedi'r cyfan, amcangyfrifir bod o leiaf 15,000 o ddinasyddion yr UE a weithiai fel gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn y DU wedi gadael y proffesiwn ers Brexit.

16:15

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Os mai Brexit yw'r broblem gyda'r prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, pam mae gan Wlad Pwyl 150,000 o swyddi gwag ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm? Pam mae gan Ffrainc 40,000 o swyddi gwag? Mae chwiliad cyflym ar Google yn dangos hyn, felly mae'n amlwg na allwch chi feio Brexit ar ei ben ei hun am y swyddi gwag. Does bosibl nad y problemau y gwnaethom dynnu sylw atynt yn ein cynnig ni yw rhai o'r problemau allweddol y mae angen i'r Llywodraeth yma fynd i'r afael â nhw i'w wneud yn amgylchedd gwell i yrwyr cerbydau nwyddau trwm weithio ynddo a theimlo'n ddiogel ynddo. 

Nid fi'n unig sy'n dweud hyn. Cydnabu Llywodraeth y DU ei hun fod yna brinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a'r cysylltiad â Brexit pan lansiodd y cynllun fisa dros dro yn hydref 2021, i dargedu gyrwyr cerbydau nwyddau trwm o'r UE yn benodol. Felly, nid fi'n unig sy'n dweud hynny. Hoffwn nodi hefyd fod y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd wedi dweud nad oes digon o yrwyr domestig medrus i lenwi'r swyddi gwag hyn. 

Felly, rwyf am orffen, Lywydd, trwy ddweud bod croeso mawr i'r cynnig hwn. Ond rwy'n credu bod angen inni gydnabod effaith Brexit ar y sector wrth geisio datrys y problemau y mae'r cynnig gwreiddiol yn ceisio mynd i'r afael â nhw.

Gwelliant 2—Lesley Griffiths

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi bod Llwybr Newydd yn amlinellu’r ffordd ymlaen ar gyfer cludo llwythi a logisteg ac yn cefnogi datblygiad cynllun ar gyfer cludo llwythi a logisteg.

Yn cefnogi’r gwaith hwn, a fydd yn golygu ffordd aml-ddull o gydweithio gyda diwydiant i hyrwyddo:

a) gwelliannau i’r cyfleusterau llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru;

b) camau i sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n gysylltiedig â cherbydau nwyddau trwm a choetsys trydan a hydrogen, gan adlewyrchu ansicrwydd o fewn y diwydiant ynghylch y datblygiadau hyn; ac

c) gwaith i fabwysiadu dull cenedlaethol a strategol o wella’r seilwaith ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd ledled Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch yn fawr. Caiff 88 y cant o'r holl nwyddau eu cludo ar y tir a'u symud yn uniongyrchol ar y ffyrdd, gan gynnwys 98 y cant o'r holl gynhyrchion bwyd, amaeth a nwyddau traul. Mae'r ddadl hon heddiw yn hanfodol bwysig, a da iawn, Natasha, am ei chyflwyno mor dda.

Mewn gwirionedd, mae gan y sector cludo llwythi ar y ffyrdd yng Nghymru 5,000 o fusnesau cofrestredig sy'n cyflogi 92,000 o bobl, gan weld cynnydd o 87 y cant yn nifer y rhai a gyflogwyd rhwng 2012 a 2021. Symudwyd 107 miliwn tunnell o nwyddau gan gerbydau nwyddau trwm yn 2022, a chyfrannodd y sector £1.765 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros at economi Cymru yn 2021. Felly, mae'r neges yn glir yn fy meddwl i. Mae'r sector eisoes yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi ein cenedl, ac mae ganddo botensial i wneud mwy eto. Yn y pen draw, yr hyn sydd ei angen, fel y dywedodd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, yw i Lywodraeth Cymru gefnogi ehangu'r sector logisteg yn barhaus i gefnogi ehangu ein heconomi yng Nghymru.

Mae'n gwbl annerbyniol na fu gan y sector strategaeth benodol ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd ers 2008. Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 yn amlinellu sut mae am annog newid dull teithio o'r ffordd i'r rheilffordd, ond nid yw'n rhoi unrhyw fanylion ynglŷn â sut y bydd yn cyrraedd ei thargedau. Yn ddiweddar, roeddwn yn Crewe, a gwelais gerbydau llawn o gynwysyddion llongau—roedd yn enfawr, yn hir iawn, ac roedd gormod i mi eu cyfri—ar eu ffordd i Iwerddon. Roedd yn olygfa eithaf anarferol. Mewn gwirionedd, nid yw'r strategaeth drafnidiaeth ond yn cyfeirio at gerbydau nwyddau trwm un waith, a dim ond disgrifiad yw hwnnw:

'Cerbydau nwyddau trwm

'Term...am gerbydau dros 3.5 tunnell—mae cerbydau masnachol ysgafn yn ysgafnach na hyn.'

Nawr, fel y dywedais eisoes, dylem ddefnyddio llawer mwy ar ein rheilffyrdd ar gyfer symud llawer o'r llwythi hyn o gwmpas. Nid yw'n syndod, felly, fod troseddau cludo llwythi yn broblem fawr, pan ystyriwch mai dim ond 168 o leoedd parcio diogel sydd ar gael ar gyfer cerbydau nwyddau trwm ledled Cymru gyfan a bod 20,000 o gerbydau nwyddau trwm cofrestredig—sef 119 o gerbydau nwyddau trwm ar gyfer pob man parcio diogel. Nid yw'n dderbyniol. Nid yw'n ddigon da. Mae gan Gymru ei holl bwerau datganoledig, mae angen inni gryfhau ein heconomi nawr trwy edrych ar hyn.

Mae angen strategaeth sy'n nodi gweledigaeth ar gyfer y sector a'i dwf yng Nghymru. Mae angen inni ddod o hyd i ganolfannau llesiant saff a diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru, a rhwydwaith helaeth o bwyntiau gwefru ac ail-lenwi ar gyfer cerbydau nwyddau trwm a choetsys trydan neu hydrogen, a newidiadau i'r system gynllunio yng Nghymru i sicrhau y gellir darparu seilwaith cludo llwythi ar y ffyrdd mor effeithlon â phosibl. Er enghraifft, mae'n hanfodol diweddaru'r broses gynllunio fel ei bod yn ofynnol i gyfleusterau warws a datblygiadau eraill sy'n disgwyl cyflenwadau rheolaidd ddarparu cyfleusterau o ansawdd uchel i yrwyr. Yn yr un modd, mae angen inni roi cynlluniau ar waith ar unwaith i fynd i'r afael â'r ffaith frawychus mai dim ond un pwynt gwefru cyflym cyhoeddus penodol ar gyfer cerbydau nwyddau trwm trydan sydd i'w gael yn y DU gyfan. Ac mae'n rhaid imi ddweud, gyda'r agenda cerbydau trydan newydd hon, mae'n ffaith nawr, gan fod adeiladu ffyrdd wedi stopio yma yng Nghymru, fod yna bobl â cherbydau trydan—mae'r cerbydau hyn gryn dipyn yn drymach—ac ni fydd ein ffyrdd yn gallu ymdopi cyn bo hir â maint y llwythi a thrafnidiaeth y bydd ein cludwyr nwyddau am eu defnyddio.

Mae Hynamics a Menter Môn wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda'r nod o gyflymu datblygiad hyb hydrogen Caergybi, a gefnogir gan addewid Prif Weinidog y DU o £4.8 miliwn—arian sy'n dod yma i Gymru. A gallai ein hymrwymiad—wel, ei ymrwymiad ef—yn natganiad yr hydref i greu parth buddsoddi gwerth £160 miliwn yng ngogledd-ddwyrain Cymru helpu i wella cludo nwyddau hyd yn oed ymhellach.

Y gwir amdani yw y dylai'r sector dyfu, a gobeithio y bydd yn tyfu eto, felly mae angen mynd i'r afael â'r mater hwn nawr. Mae'n dibynnu arnoch chi, Weinidog yr Economi. Mae'n rhaid i chi roi camau ar waith i gefnogi ein gyrwyr cerbydau nwyddau trwm amhrisiadwy. Dylech fod yn gweithio gyda'n Dirprwy Weinidog trafnidiaeth ar faint o'r llwythi hyn y gellir eu symud o'r ffordd i'r rheilffordd, ac fe ddylech wneud hyn ac wrth ei wneud, byddwch yn cryfhau economi Cymru hefyd. Diolch.

16:20

Heddiw, rydym yma i drafod agwedd hanfodol ar asgwrn cefn economaidd Cymru: ein trafnidiaeth cludo llwythi ar y ffyrdd, ond rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad yn bennaf ar gludo nwyddau ar y ffyrdd heddiw. Mae'r diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd yn golygu mwy na dim ond cario nwyddau, mae'n achubiaeth sy'n cysylltu cymunedau, yn tanio busnesau ac yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywyd bob dydd. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Michael Gough, etholwr i mi o Landrindod, sy'n gadeirydd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd yng Nghymru. 

Gadewch inni edrych ar rai o'r ffeithiau a'r ffigurau cymhellol sy'n amlinellu arwyddocâd cludo nwyddau ar y ffyrdd yma yng Nghymru. Yn ôl data diweddar gan Lywodraeth Cymru, mae'r sector cludo llwythi ar y ffyrdd yn cyfrannu, fel y dywedodd Natasha Asghar, £2.5 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae'n ffigur enfawr. Un elfen allweddol i'w hystyried yw'r gyflogaeth a gynhyrchir gan y diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd yma yng Nghymru. Mae 5,000 o fusnesau trafnidiaeth cofrestredig yn cyflogi 92,000 o bobl ledled y wlad—miloedd o weithwyr proffesiynol medrus yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod nwyddau'n cael eu cyflenwi'n effeithlon ac ar amser. O yrwyr lorïau i reolwyr logisteg, mae'r diwydiant yn darparu llu o gyfleoedd gwaith, gan gyfrannu at fywoliaeth a sefydlogrwydd economaidd llawer o gymunedau.

Mae'r sector cludo nwyddau ar y ffyrdd yn rhan annatod o'r gadwyn gyflenwi, sy'n hwyluso symud deunyddiau crai a chynhyrchion gorffenedig. Mae 89 y cant o'r holl nwyddau a gludir ar y tir yn cael eu symud yn uniongyrchol ar y ffordd, gan gynnwys 98 y cant o'r holl gynhyrchion bwyd, amaeth a nwyddau traul. Boed yn darparu cynhyrchion amaethyddol o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol neu gludo nwyddau a weithgynhyrchir i hybiau allforio, cludo nwyddau ar y ffyrdd yw'r echel sy'n cadw ein heconomi i symud.

Gadewch inni beidio ag anghofio effaith amgylcheddol cludo nwyddau ar y ffyrdd. Mae arferion cynaliadwy wedi dod yn fwy o ffocws yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'r diwydiant yn cymryd camau breision i leihau ei ôl troed carbon. Mae mabwysiadu technolegau glanach sy'n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon, ynghyd â chynllunio llwybrau strategol, yn dangos ymrwymiad y sector cludo nwyddau ar y ffyrdd i'r cyfrifoldebau amgylcheddol y maent am chwarae rhan allweddol ynddynt. 

Fodd bynnag, mae'n hanfodol cydnabod yr heriau y mae'r diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd yn eu hwynebu. Mae'r prinder gyrwyr yn parhau i fod yn bryder sylweddol. Mae'r rhan fwyaf o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yng Nghymru yn y grŵp oedran 50 i 60 oed. Heb gyfleusterau diogel o ansawdd uchel hefyd, bydd y diwydiant yn ei chael hi'n anodd denu gyrwyr newydd. Yr elfen y mae angen mynd i'r afael â hi yw'r angen am ganolfannau llesiant mwy saff a diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru. Rydym yn wynebu problemau dybryd gyda'r lefelau uwch o droseddau cludo llwythi'n gysylltiedig â cherbydau nwyddau trwm, gyda'r lefelau sydd i'w gweld yma yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn y DU. Mae hyn nid yn unig yn dreth economaidd sylweddol ar y wlad, sef £428 miliwn amcangyfrifedig, fel yr amlinellodd Natasha Asghar, mae'n golygu colli refeniw treth hefyd. Ond mae hefyd yn gwneud gyrwyr yn agored i fwy o berygl o ymosodiadau.

Mae'n ofnadwy mai dim ond 168 o leoedd parcio diogel sydd wedi'u dynodi ar gyfer cerbydau nwyddau trwm ar draws Cymru gyfan, gwahaniaeth enbyd o ystyried bod 20,000 o gerbydau nwyddau trwm cofrestredig yn y wlad. Mae'n gymhareb syfrdanol o 119 o gerbydau nwyddau trwm i bob man parcio sydd ar gael. O ganlyniad, mae'r prinder mannau parcio diogel yn gwneud ein gyrwyr yn fwy agored byth i ladrad gan gyfrannu at y troseddau cludo llwythi cynyddol yma yng Nghymru.

Un canlyniad anfwriadol y mae'r rheoliadau 20 mya diofyn a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn ei gael ar ein cerbydau nwyddau trwm a'n coetsys yw nad ydynt wedi'u creu ar gyfer gweithredu ar eu mwyaf effeithlon ar gyflymder is na 30 mya. Mae gweithredu o dan y trothwy hwn yn creu cymhlethdodau ym mecaneg ffisegol newid gêr a gwasgu'r sbardun, gan arwain at gynhyrchu mwy o drorym i gynnal symudiad. Yn anffodus, mae hyn nid yn unig yn ymestyn amseroedd teithio, ond mae hefyd yn cyfrannu at allyriadau diangen yn cael eu rhyddhau i'r atmosffer. Er mwyn cael cydbwysedd rhwng diogelwch ar y ffyrdd ac effeithlonrwydd gweithredol cerbydau cludo llwythi, argymhellir dull mwy cynnil o weithredu terfynau cyflymder, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llai o bobl yn cerdded. Drwy wneud hynny, gallwn liniaru'r canlyniadau anfwriadol i yrwyr cludo llwythi ar y ffyrdd er mwyn sicrhau'r perfformiad gorau posibl a mynd i'r afael â phryderon amgylcheddol yn ymwneud ag allyriadau.

I gloi, Lywydd, nid mater o gael lorïau ar y ffordd yw cludo nwyddau ar y ffyrdd yng Nghymru; mae'n ymwneud â chysylltedd, mae'n ymwneud â thwf economaidd a bywoliaeth llawer o bobl sy'n byw ym mhob cwr o Gymru. Wrth inni lywio'r we gymhleth o logisteg, gadewch inni gydnabod y rôl hanfodol y mae cludo nwyddau ar y ffyrdd yn ei chwarae yn y gwaith o lunio presennol a dyfodol Cymru. Hoffwn annog holl Aelodau'r Senedd i gefnogi ein cynnig heno.

16:25

Fel y nodwyd, mae cludo llwythi ar y ffyrdd yn gwbl hanfodol er mwyn cynnal a datblygu potensial economaidd busnesau a chymunedau ledled Cymru. Os na all busnesau symud cynhyrchion a nwyddau o gwmpas y wlad, maent yn gyfyngedig iawn, onid ydynt, yn eu gallu i ehangu a ffynnu. Ac felly, mae'n synnwyr cyffredin, mae seilwaith da yn cymell mewnfuddsoddiad i Gymru. Mae'n drueni mawr nad oes mwy o Aelodau o feinciau'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yma heddiw i gymryd rhan yn y ddadl hon, a chydnabod ei fod mor hanfodol i'n dyfodol economaidd yng Nghymru. Gwyddom fod y brêc llaw wedi'i godi ar brosiectau adeiladu ffyrdd, gan ddileu 44 o'r 59 o brosiectau adeiladu ffyrdd arfaethedig, sydd ac a fydd yn parhau i ddal economi Cymru yn ôl ac a fydd yn atal twf busnes—dull cwbl ddisynnwyr o weithredu datblygu economaidd. A'r problemau gydag 20 mya—wel, nid af i mewn i'r rheini, maent wedi'u nodi yma'n helaeth eisoes.

Ond fel y dywedodd Janet yn gynharach, mae'n destun pryder mawr i mi mai'r tro diwethaf inni gael strategaeth ar gyfer cludo llwythi yn benodol ar y ffyrdd oedd yn 2008. Mae 15 mlynedd ers hynny. Mae hyn yn dangos diffyg cynllunio ymlaen llaw. Er bod strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, 'Llwybr Newydd', yn rhoi trosolwg o'r amrywiol bynciau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth ac yn cydnabod mater cludo llwythi, nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae'n methu darparu ffyrdd penodol y bydd cludo llwythi'n cael ei gefnogi a'i ddatblygu, gan droi yn lle hynny at ystrydebau niwlog iawn. Ceir sôn am ddatblygu cynlluniau cyflawni, neu gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol wedi eu hysgogi gan gyd-bwyllgorau corfforedig, ond pryd y cawn ni a'r diwydiant weld y cynlluniau hyn? Mae'r cynllun yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisiau rhwydwaith cynhwysfawr, ymatebol a gwydn ar gyfer dosbarthu llwythi a logisteg, ond nid yw'n dweud sut y byddwn yn cyrraedd y sefyllfa honno. Unwaith eto, fel y deuthum i'w ddisgwyl, mae yna ddull amwys, un heb dargedau, canlyniadau penodol nac atebolrwydd, pethau sylfaenol i oruchwylio cyfeiriad a darpariaeth yn y dyfodol. Sut y gallwn ni ddisgwyl i'n diwydiant cludo llwythi ffynnu os yw Llywodraeth Cymru wedi methu sicrhau bod seilwaith digonol wedi'i ystyried yn drwyadl i'w gefnogi?

Rhaid i strategaeth cludo llwythi yn y dyfodol gael ei diogelu'n briodol a'i gwneud yn addas ar gyfer gweddill yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt, gan sicrhau bod gennym ddigon o bwyntiau gwefru cerbydau trydan capasiti uchel i sicrhau y gall busnesau fuddsoddi mewn cerbydau trydan, a phwyntiau gwefru'n barod i alluogi'r newid i fwy a mwy o gludo llwythi trwm mewn cerbydau trydan neu hydrogen. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod gan Gymru y gyfradd isaf o bwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y Deyrnas Unedig, gan lusgo ymhell ar ôl yr Alban, sy'n wledig iawn ei natur i raddau helaeth, ymhell o ddinasoedd mawr.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Siambr yn ymuno â mi i gefnogi ein diwydiant cludo llwythi, gan alw ar Lywodraeth Cymru i'w drin fel y sbardun economaidd mawr ag ydyw, a datblygu strategaeth gyfoes ac addas.

16:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl ac am y cyfraniadau a wnaed hyd yn hyn. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad am y sector cludo llwythi a logisteg yng Nghymru.

Os oedd angen erioed, fe wnaeth y pandemig amlygu pwysigrwydd y sector cludo llwythi a logisteg i bob cadwyn gyflenwi o ran sicrhau bod nwyddau hanfodol yn cyrraedd lle mae angen iddynt fynd. Roedd hwnnw'n bwynt a amlygwyd yn y rhan fwyaf o'r cyfraniadau. Mae'r heriau hyn a'r rhai rydym yn eu hwynebu nawr gyda chwyddiant, costau cynyddol ynni, tanwydd a llafur wedi amlygu'r rôl y mae'r diwydiant cludo llwythi a logisteg yn ei chwarae yn cefnogi economi Cymru yn fwy nag erioed. Rydym yn cydnabod ein bod yn wynebu heriau pellach a bod mwy o waith i ni ei wneud.

Yn union fel nad yw cludo llwythi a logisteg yn cydnabod unrhyw rwystrau, rydym ni felly'n cydnabod bod angen inni edrych y tu hwnt i gludo llwythi ar y ffordd yn unig. Dyna pam ein bod yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i sicrhau dull cenedlaethol o weithredu. Ers 2020, rydym wedi gwrando ar bryderon y diwydiant ac wedi dysgu am y risgiau a'r heriau sy'n eu hwynebu. Rydym wedi trafod sut y gallai cydweithredu rhwng y diwydiant a Llywodraeth Cymru arwain at atebion ymarferol. Byddaf yn parhau i gefnogi'r sector i gynnal llif nwyddau i mewn i'r wlad, allan o'r wlad ac ar draws y wlad, ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed am y tarfu ar y bont dir, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar y sector.

Mae'r ffordd gyffredinol ymlaen ar gyfer cludo llwythi a logisteg wedi'i nodi yn fanwl yn 'Llwybr Newydd', lle gwnaethom ymrwymo i gyhoeddi cynllun cludo llwythi a logisteg ar gyfer Cymru. Bydd y cynllun hwn yn cynnwys llwybr gweithredu ar gyfer cefnogi datgarboneiddio'r sector, ac rwy'n falch o weld bod rhai partneriaid yn y sector eisoes yn gwneud cynnydd yn hynny o beth; cefnogi arloesedd gweithredol megis rhannu cyfleoedd ar gyfer cludo llwythi, a manteisio ar fwy o ficrosymudedd, dronau a datblygiadau technolegol eraill; sut rydym yn annog mwy o lwythi i gael eu cludo ar y rheilffyrdd, ac unwaith eto, pwynt a wnaed gan gyfranwyr eraill; a chynllun ar gyfer dyfodol cadwyn gyflenwi Cymru gyda hybiau logisteg, arloesedd a datrysiadau rhannu trafnidiaeth. Rydym yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o ddata ynghylch cludo llwythi a logisteg yn gyffredinol—yn enwedig o ystyried y tarfu ar batrymau masnach yn ystod y blynyddoedd diwethaf—a datblygu ein hymateb polisi i'r twf sylweddol mewn dosbarthu milltir olaf a dosbarthu cyflym, a deall y ffordd orau o reoli hyn ochr yn ochr â'n huchelgeisiau i leihau tagfeydd a mynd i'r afael â datgarboneiddio. Ac yn olaf, pwynt a wnaed eto gan nifer o bobl, sut y gallwn gefnogi sgiliau a chadw swyddi o fewn y sector cludo llwythi a logisteg. Bydd y cynllun yn mynd i'r afael â phryderon y sector cludo nwyddau ar y ffyrdd, mewn perthynas â darparu cilfannau addas, cyfleusterau parcio, mannau gorffwys a llesiant addas ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac unwaith eto, ni fydd unrhyw un yn synnu bod Aelodau ar draws y Siambr wedi gwneud y pwyntiau hynny'n amlwg.

Ar wahân i hynny, rydym wedi cytuno i flaenoriaethu'r gwaith o fapio arosfannau lorïau yn y cynllun cludo llwythi a logisteg. Bydd hyn yn ein galluogi i benderfynu lle mae'r bylchau ar gyfer cyfleusterau gyrwyr fel y gellir targedu unrhyw ymyrraeth yn yr ardaloedd sydd ei hangen fwyaf yn gyntaf. Bydd y cynllun yn amlinellu'n glir yr hyn y gellir a'r hyn na ellir ei gyflawni, gan ystyried cyfyngiadau ar gyllideb ac adnoddau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. 

Rydym bellach yn datblygu dull gweithredu i sicrhau bod y sector yn barod i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir. Bydd ein cynllun cludo llwythi a logisteg yn mabwysiadu ffordd aml-ddull o gefnogi'r sector, ac rydym eisiau iddo gael ei wneud mewn cydweithrediad â'r diwydiant. Yn ogystal, mewn maes lle mae llawer o'r ysgogiadau ar gyfer gweithredu wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU, rydym eisiau gweithio gyda'n gilydd i sicrhau gwelliannau i gludo llwythi a logisteg yma yng Nghymru. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'i swyddogion wedi parhau i drafod beth a allai fod yn bosibl i'r diwydiant drwy gydol y flwyddyn, a byddwn yn ymgysylltu'n ystyrlon â'r sector cyn inni gyhoeddi ein cynllun, ac yna byddwn yn parhau i wrando ac ymgysylltu ar ôl i'r cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi i sicrhau ein bod yn parhau i fabwysiadu ymagwedd bragmatig ac ymarferol. Gall hynny, wrth gwrs, olygu newidiadau pellach wrth inni wrando a gweithio gyda'n gilydd. 

Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod gyrfa mewn logisteg yn opsiwn deniadol i fwy o ddisgyblion sy'n gadael ysgol i helpu i ddarparu'r genhedlaeth nesaf o yrwyr cerbydau nwyddau trwm o Gymru. Rydym i gyd yn cydnabod bod angen inni ddenu mwy o bobl i'r diwydiant, i hybu cyfraddau cadw ac ehangu cyfleoedd hyfforddi. Nawr, roedd yr adolygiad ffyrdd a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror eleni yn argymell ymgysylltiad mwy gweithredol â'r diwydiant cludo llwythi, yn enwedig ar gyfer nodi problemau. Ac yn y Llywodraeth, rydym yn cydnabod pryderon y sector cludo nwyddau ar y ffyrdd mewn perthynas â darparu cilfannau addas, cyfleusterau parcio a mannau gorffwys ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Felly, byddwn yn parhau i edrych ar atebion credadwy i sicrhau bod gyrwyr lorïau a choetsys yn teimlo'n saff ac yn ddiogel wrth wneud eu gwaith bob dydd fel rhan o'n hymgysylltiad ar y cynllun. 

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyflymder a rhagweladwyedd yn y system gynllunio a chydsynio ar gyfer seilwaith cludo llwythi ar y ffyrdd. Mae gofyn cael caniatâd cynllunio ar gyfer cyfleusterau ar ochr y ffordd i yrwyr a safleoedd sy'n addas ar gyfer aros dros nos. Ac mae hwn yn faes y byddwn yn parhau i edrych arno i geisio deall yr hyn y gallwn ei wneud i'w cefnogi ymhellach. 

Yn olaf, mae rhywfaint o ansicrwydd yn y diwydiant ynghylch datgarboneiddio fflydoedd a sut i fabwysiadu cerbydau trydan a hydrogen yn effeithiol. Mae yna botensial ar gyfer cyfleoedd economaidd i Gymru yn y maes hwn hefyd. Bydd ein gwaith gyda'r diwydiant yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen, lle mae ei angen a sut yr awn i'r afael â'r rhwystrau i niferoedd. Edrychaf ymlaen at weithio'n adeiladol, nid yn unig gyda chyd-Aelodau yn y Llywodraeth ond ar draws y Siambr wrth inni ddatblygu'r cynllun a pharhau i gymryd camau ymarferol i gefnogi'r sector hwn. Diolch yn fawr. 

16:35

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd at y ddadl heddiw, ond rwyf am ddweud fy mod ychydig yn siomedig, Ddirprwy Lywydd, na ddewisodd yr un o Aelodau meinciau cefn y Blaid Lafur gymryd rhan yn y ddadl hon, a dim ond un cyfrannwr o Blaid Cymru. Gan fy mod yn credu ei bod yn ddadl yr ydym i gyd yn credu ynddi—rwy'n credu ein bod ni i gyd yn credu yn y diwydiant cludo llwythi—rwy'n siomedig na chlywsom ni fwy o gyfraniadau o bob plaid, oherwydd byddai mwy o groeso wedi bod i hynny. 

Rydym yn gwybod, o glywed gan Natasha Asghar ac eraill, fod y diwydiant cludo llwythi yn rhan annatod o'n heconomi. Rydym wedi clywed hynny gan bawb, bron iawn, felly nid wyf am adrodd yr ystadegau, ond credaf fod y cyfraniad o £2.5 biliwn i'r economi yn allweddol ac yn hollbwysig i'w gofio. Ac mae'n dod yn ôl, fel y clywsom gan James Evans ac eraill, at fwyd ar silffoedd yr archfarchnadoedd, cyflenwadau meddygol i'r rhai sydd eu hangen a llythyrau a pharseli i gartrefi a busnesau—maent i gyd yn ddibynnol ar gael diwydiant cludo llwythi sy'n gweithio fel y dylai yma yng Nghymru.

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Lorïau 2022, aeth Altaf Hussain a minnau i ymweld ag un cwmni o'r fath ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac un o'r pethau a arhosodd gyda mi o'r ymweliad hwnnw, yn gyntaf oll, oedd bod angen dringo cryn dipyn, onid oes, i gyrraedd caban lori, ond fe wnaeth Altaf a minnau lwyddo i'w wneud, ac mae gennym lun gwych yn rhywle o'r ddau ohonom yn eistedd mewn caban. Ond yn ail, gan droi'n ôl at yr economi, roeddent yn dweud wrthym, ac mae hyn wedi aros gyda mi, fod yna gydberthynas uniongyrchol rhwng iechyd y diwydiant cludo llwythi ac iechyd yr economi ehangach yma yng Nghymru. Felly, mae cael hynny'n iawn yn sbardun economaidd cwbl hanfodol, rwy'n credu, i ffyniant economaidd yma yng Nghymru.

Clywsom gan James Evans, Janet Finch-Saunders ac eraill am arosfannau a chredaf fod hon yn thema allweddol a ddaeth i'r amlwg yn y ddadl. Soniodd James Evans am y diffyg mannau parcio diogel, a soniodd Luke Fletcher ac eraill fod gyrwyr lorïau yn enwedig yn agored i droseddau cludo llwythi—ac rydym yn gwybod bod gan Gymru un o'r lefelau uchaf o droseddau cludo llwythi, yn anffodus, gyda cherbydau nwyddau trwm yn y Deyrnas Unedig—a bydd y diffyg mannau parcio diogel y soniodd James Evans amdanynt yn rheswm allweddol pam fod hynny'n digwydd, oherwydd nid moethusrwydd yw hynny i yrwyr lorïau, mae'n angen go iawn, yn ofyniad cyfreithiol arnynt i stopio yn y ffyrdd hynny mewn man diogel. Nid wyf yn credu y dylem ddod i arfer â throseddau cludo llwythi yn digwydd ar ein ffyrdd ac yn ein mannau aros ledled Cymru.

Yn anffodus, rwy'n credu bod cyfraniad Luke Fletcher wedi canolbwyntio llawer ar Brexit, ac er i Andrew R.T. Davies ein hatgoffa bod llawer o'r problemau a welwn yn y diwydiant yn digwydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd, mae'n ymddangos nad yw Plaid Cymru byth yn colli cyfle i ladd ar Brexit yn y wlad hon. Maent yn galw eu hunain yn 'blaid Cymru' drosodd a throsodd, ond bob tro y mae Cymru'n mynegi barn ar rywbeth nad ydynt yn ei hoffi, maent yn ddigon parod i'w hanwybyddu.

Clywsom hefyd gan Natasha Asghar am rai o'r problemau trafnidiaeth ehangach, ac mae'n hawdd anghofio bod y rhain yn cael effaith ar y diwydiant cludo llwythi a chludo nwyddau ar y ffordd yn ogystal ag ar gymudwyr a phobl sy'n byw eu bywydau bob dydd. Felly, rwy'n credu bod y cyfyngiad 20 mya a welwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cael effaith wirioneddol, ac rwyf wedi clywed, ac rwy'n siŵr fod pob Aelod wedi clywed, am gwmnïau sy'n ystyried—. Casnewydd yn arbennig, a gyrru ar yr M4 drwy Gasnewydd a'r diffyg ffordd liniaru—problem fawr i hyfywedd eu busnesau, ac mae honno'n broblem hefyd.

Clywsom gan y Gweinidog i orffen, a soniodd am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—y strategaeth drafnidiaeth ar gyfer 2021. Ac roeddwn eisiau darllen beth mae'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd yn ei feddwl o strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru: 'Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021 yn amlinellu sut mae'n awyddus i annog newid dulliau teithio o'r ffordd i'r rheilffordd, ond nid yw'n rhoi digon o fanylion ynglŷn â sut y bydd yn cyrraedd ei thargedau. Mae'r strategaeth yn methu amlinellu sut y bydd yn cefnogi'r sector cludo llwythi a logisteg presennol, sy'n dibynnu'n fawr ar gludo ar y ffyrdd, a sut y bydd yn darparu'r seilwaith sydd ei angen i ddarparu ar gyfer materion sy'n codi heddiw.' Dyna'r asesiad gan y diwydiant am agwedd Llywodraeth Cymru, ac rwy'n credu bod Peter Fox wedi taro'r hoelen ar ei phen pan ddywedodd ei bod yn strategaeth annelwig heb dargedau. Hoffwn atgoffa'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd ein bod wedi hen arfer â hynny gan y Llywodraeth hon yng Nghymru.

Ac yn olaf, clywsom gan Janet Finch-Saunders ac eraill nad oes strategaeth benodol ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd wedi bodoli ers 2008. Dyna mae ein cynnig ni heddiw yn gobeithio ei unioni, oherwydd—. Rwyf am ddirwyn i ben gyda dyfyniad gan rywun o'r enw Ieuan Wyn Jones, a ddywedodd:

'Mae system drafnidiaeth o'r radd flaenaf yn elfen hanfodol o sicrhau ffyniant economaidd, ond hefyd ar gyfer sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd.'

Felly, os ydym am sicrhau'r ffyniant economaidd, y cyfiawnder cymdeithasol a chynaliadwyedd, mae angen inni gyflawni strategaeth trafnidiaeth ffyrdd sy'n darparu'r holl bethau hynny. Mae'n hawdd iawn gwneud galwadau ynglŷn â ble hoffech chi wario arian, ond rwy'n credu ei bod yn anodd iawn weithiau rhoi'r seilwaith sy'n ei ddarparu ar waith. A chyn imi orffen, Lywydd, rwyf am gloi gyda chwestiwn: i ble'r aeth y Blaid Cymru honno?

16:40

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi tanwydd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 a 4 yn enw Darren Millar.

Eitem 7 heddiw yw dadl Plaid Cymru: tlodi tanwydd. A galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8435 Heledd Fychan

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod yr argyfwng costau byw presennol yn dangos pa mor fregus yw cymunedau yng Nghymru i gost ynni.

2. Yn gresynu bod amcangyfrif o hyd at 98 y cant o aelwydydd incwm isel yng Nghymru mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar fyrder i gefnogi aelwydydd incwm isel i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni y gaeaf hwn; a

b) gosod targedau interim yn ei Chynllun Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 i fesur cynnydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol i gefnogi'r rhai mewn angen gyda'u biliau ynni y gaeaf hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Cynigiaf y cynnig. Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n meddwl bod pawb yn y Siambr hon yn gytûn na ddylai neb yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain fod mewn sefyllfa lle mae cadw eu cartref yn dwym yn rhywbeth anfforddiadwy, ond dyma'r realiti ar gyfer bron i hanner aelwydydd Cymru yn ôl amcangyfrifon diweddaraf Llywodraeth Cymru—sydd bellach yn sicr o fod yn dangyfrifiad—mae hynny'n cyfateb i 614,000 o aelwydydd. Ac i'r rheini sydd ar incwm isel, mae hyn yn wir i bron i gant y cant ohonyn nhw. Amcangyfrifwyd bod 98 y cant o holl aelwydydd incwm is Cymru mewn tlodi tanwydd, gyda hyd at 41 y cant o’r rhain mewn tlodi tanwydd difrifol. Mae hynny'n cyfateb i 97,000 o aelwydydd. Ac roedd tlodi tanwydd yn broblem yng Nghymru ymhell cyn yr argyfwng ynni a'r argyfwng costau byw presennol. Mae'r argyfyngau diweddar hyn, fel dywed ein cynnig, wedi dangos pa mor ddiamddiffyn yw cymunedau yng Nghymru i gost ynni. Mae wedi gwaethygu eu sefyllfa, nid ei achosi.

Felly, dyna'r ystadegau brawychus, cywilyddus sydd angen i bawb ohonom gadw ym mlaen ein meddyliau, a'r hyn y mae'r niferoedd yma yn golygu—fod tlodi tanwydd yn broblem sy'n cyffwrdd â bron i hanner y boblogaeth a bod atal tlodi tanwydd yn gorfod bod yn flaenoriaeth felly i unrhyw Lywodraeth sydd am ofalu ar ôl lles ac iechyd ei phobl. Mae'n gwbl annerbyniol bod cymaint o deuluoedd yn cael eu hamddifadu o'u hawl dynol i fyw mewn cartref twym a diogel.

Nod ein cynnig ni felly yw tynnu sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa ar gyfer miloedd ar filoedd o aelwydydd sy'n wynebu gaeaf anodd arall, anos hyd yn oed na gaeaf y llynedd, gan fod y gefnogaeth ariannol oedd ar gael gan Lywodraethau San Steffan a Chymru i'w helpu i ymdopi gyda'r misoedd oer yma wedi hen ddiflannu; a hefyd i nodi yr hyn sydd angen ei wneud ar frys i sicrhau na fydd yna aeaf arall fel hwn, achos dyna'r addewid gawsom ni gan Lywodraeth Cymru—dro ar ôl tro, mewn ymateb i ymchwiliadau pwyllgor, i gwestiynau, mewn dadleuon yn y Siambr ac mewn cyfweliadau—y byddai eu prif ddull o fynd i'r afael â thlodi tanwydd, y rhaglen Cartref Clyd, yn weithredol erbyn y gaeaf hwn.

Adleisiwyd pwysigrwydd sicrhau hyn gan y grŵp arbenigol ar yr argyfwng costau byw. Mae'r ffaith nad yw hynny'n digwydd, ac yn wir y bydd flwyddyn gyfan yn hwyr—os yw'r hyn glywon ni gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yn gywir, mai ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf y bydd y rhaglen newydd, fwy effeithiol, yn dechrau helpu'r cartrefi tlotaf, lleiaf ynni effeithlon i ostwng eu biliau—yn fater difrifol. Gan fod yna oedi ar ôl oedi wedi bod i'r amserlen eisoes, hoffwn gael sicrwydd pendant—gwarant bendant, Weinidog—na fydd yna lithro ymhellach ar hyn. Pa mor sicr ydych chi, Weinidog, y bydd y rhaglen yn mynd yn fyw ym mis Ebrill? Hoffwn eich bod yn rhoi ateb pendant iawn ar hyn, os gwelwch yn dda.

Ac wrth i anghenion dybryd gymaint o bobl Cymru unwaith eto gael eu hanwybyddu yn llwyr gan Lywodraeth San Steffan, a allai fod wedi cyhoeddi'r ymgynghoriad a addawyd ar gyflwyno tariff cymdeithasol yn natganiad hydref y Canghellor, y cyfan a all y cannoedd o filoedd o bobl yma ei wneud yw gobeithio na fydd eu hiechyd yn dioddef yn ddifrifol yn sgil yr oerni a'r tamprwydd, na fyddan nhw a'u teuluoedd yn un o'r 623 o bobl sy'n marw yn sgil tlodi tanwydd bob blwyddyn yng Nghymru—yn marw.

Ac i ychwanegu at eu gofid, maent bellach wedi cael gwybod gan Ofgem y bydd y cap nesaf ar brisiau yn cynyddu £100 ym mis Ionawr. O fis nesaf, felly, y cap pris fydd bron i £2,000 y flwyddyn ar gyfartaledd, ac mae NEA Cymru yn amcangyfrif y bydd cwsmeriaid yng Nghymru ar gyfartaledd yn talu hyd yn oed yn fwy, yn benodol oherwydd ansawdd gwael y tai yma a phris ynni uwch.

Nod cynllun Llywodraeth Cymru 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035' yw sicrhau bod nifer yr aelwydydd yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn gostwng i 5 y cant erbyn 2035. Mae'r ffigurau y tynnais sylw atynt yn dangos ein bod yn bell iawn o gyrraedd y nod hwnnw. Croesawyd y strategaeth yn gryf gan Blaid Cymru, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cael cynllun o'r fath ar waith i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Fodd bynnag, un o'n prif bryderon, unwaith eto, oedd diffyg cerrig milltir a thargedau interim i fesur cynnydd a wnaed tuag at weithredu'r nodau a nodir yn y cynllun.

Nodwyd yr angen am dargedau interim yn ôl ym mis Ebrill 2020 hefyd, pan ysgrifennodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd eu hadroddiad ar dlodi tanwydd yng Nghymru. Yn yr un modd, pan adroddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr wyf yn aelod ohono, ar dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd y llynedd, fe wnaethom ninnau hefyd gynnwys argymhelliad ar yr angen am dargedau interim. Ymhlith y 10 cam blaenoriaeth ar gyfer dwy flynedd gyntaf y cynllun, roedd yr angen i ddatblygu rhaglen Cartrefi Clyd newydd, a fydd ar waith erbyn mis Mawrth 2023. Mae Sefydliad Bevan a NEA Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd yr oedi parhaus wedi cael effaith sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau.

A gadewch inni gofio bod gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth statudol i osod y targedau interim hyn, ond er gwaethaf y galwadau niferus gan Blaid Cymru, pwyllgorau'r Senedd a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, ni osodwyd unrhyw darged interim. Maent yn hanfodol er mwyn adolygu effeithiolrwydd y strategaeth a mapio'r cynnydd tuag at darged 2035. Felly, unwaith eto, Weinidog, rydym yn gofyn ichi gefnogi'r angen i osod targedau interim yn y cynllun trechu tlodi tanwydd. Heb y cerrig milltir interim hyn, rydym yn annhebygol o sbarduno'r camau parhaus sydd eu hangen i fynd i'r afael â'n hargyfwng tlodi tanwydd.

Mae'r alwad derfynol yn ein cynnig yn gysylltiedig â chamau gweithredu y dylai Llywodraeth y DU eu cymryd i amddiffyn teuluoedd Cymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sydd mewn perygl o syrthio i dlodi tanwydd. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi adrodd eu bod wedi gweld mwy o bobl na allent fforddio ychwanegu at eu mesuryddion rhagdalu yn 2022 nag yn ystod y 10 mlynedd cynt gyda'i gilydd. Ac mae nifer y bobl sy'n troi atynt am gyngor ar ddyledion ynni yn dal i fod ar ei lefel uchaf erioed, a'r mis Hydref hwn oedd y mis uchaf erioed—cynnydd o 40 y cant o'i gymharu â mis Hydref y llynedd.

Tariff cymdeithasol ar ynni yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol y gall Llywodraeth y DU ddarparu cefnogaeth, drwy gynnig diogelwch pris i bob aelwyd sy'n ei chael hi'n anodd fforddio eu biliau ynni. Drwy ostwng cyfraddau unedau, taliadau sefydlog, neu ddarparu ad-daliadau biliau, gallai tariff cymdeithasol ddarparu sicrwydd hirdymor a rhyddhad mawr ei angen i'r rhai sy'n wynebu biliau sydd dros 50 y cant yn uwch na'r lefel cyn yr argyfwng. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru a'r holl Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi'r alwad hon drwy bleidleisio o blaid ein cynnig. Fel y mae'r llythyr gan National Energy Action, sydd wedi'i lofnodi gan 95 o sefydliadau, i Rishi Sunak yn galw am dariff cymdeithasol yn ei ddatgan,

'gallwn ddisgwyl y bydd miliynau o bobl mewn aelwydydd incwm isel a bregus yn dioddef cartrefi oer, yn dogni ynni, ac yn cael trafferth coginio pryd o fwyd poeth am flynyddoedd lawer eto. Wrth i deuluoedd syrthio ar ei hôl hi gyda'u biliau, byddant yn wynebu'r ergyd ddwbl o gostau uchel a cheisio llusgo'u hunain allan o ddyled ynni. Mae hon yn broblem hirdymor sy'n galw am rwyd ddiogelwch gynaliadwy i'r bobl hyn.'

Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn pleidleisio o blaid ein cynnig heddiw, oherwydd mae'r gaeaf eisoes wedi cyrraedd. Gofynnodd y bardd Shelley:

'Os daw'r gaeaf, a all y gwanwyn fod ymhell ar ei ôl?'

Wel, mae'r gaeaf, er nad yw ond newydd ddechrau, wedi bod yn rhy hir i ormod o bobl yn barod, ac nid oes unrhyw arwydd o'r gwanwyn. Lywydd, mae arnom gyfrifoldeb i bron i hanner y bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd, y bobl a gynrychiolwn yma, i weithredu gyda mwy o frys i sicrhau nad yw'r gaeaf hwn yn llawn o ofn a pherygl i iechyd pobl, ac i ddangos bod y gwanwyn yn dod.

16:50

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd cyn gaeaf 2023 er gwaethaf sicrwydd y byddai'n gwneud hynny.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:

gweithredu'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys i gefnogi aelwydydd incwm isel, pobl hŷn a phobl sy'n byw gyda salwch angheuol i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni y gaeaf hwn.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

cyflwyno cerrig milltir interim i'r Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035.

Gwelliant 4—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r gwaith parhaus gan Ofgem a Llywodraeth y DU i gefnogi aelwydydd sy'n wynebu heriau costau byw ac i ddiogelu defnyddwyr.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3 a 4.

Diolch. Byddwn yn falch o gefnogi'r cynnig hwn, ac unig fwriad ein gwelliannau yw ei gryfhau. Er bod nifer yr aelwydydd sydd mewn dyled wedi gostwng, mae lefelau uwch o ddyledion bellach wedi'u crynhoi mewn llai o aelwydydd. Yn ogystal â galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys, mae ein gwelliant cyntaf yn ychwanegu cyfeiriad penodol at bobl hŷn a phobl sy'n byw gyda salwch angheuol. Canfu adroddiad Gofal a Thrwsio, 'Older People in Wales: Poverty in Winter' y bydd eu cleient cyffredin yn gwario, ar gyfartaledd, 19 y cant o'u hincwm ar gyfleustodau y gaeaf hwn, yn cynnwys 15 y cant ar nwy a thrydan, gan roi'r bobl hŷn hyn mewn tlodi tanwydd. Ymhellach, maent yn tynnu sylw at y pryder fod pobl yng ngogledd Cymru a Glannau Mersi yn talu £82 ychwanegol mewn taliadau sefydlog bob blwyddyn o gymharu â Llundain. Mae Marie Curie yn galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu pobl sydd â 12 mis neu lai i fyw at feini prawf cymhwysedd cyflyrau iechyd yn ei rhaglen Cartrefi Clyd.

Mae ein hail welliant yn ceisio cryfhau galwad y cynnig ar Lywodraeth Cymru i osod targedau interim yn eu cynllun 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035', drwy alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cerrig milltir interim i'r cynllun. Fel mae National Energy Action Cymru a Sefydliad Bevan yn ei nodi, er y bydd targedau tlodi tanwydd interim sy'n seiliedig ar effeithlonrwydd ynni cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd yn darparu cyfleoedd hanfodol i adolygu cynnydd tuag at 2035, nid yw'r targedau newydd yn bodloni rhwymedigaethau statudol Llywodraeth Cymru i bennu amcanion interim i'w cyflawni a dyddiadau targed ar gyfer eu cyflawni—statudol. Fel y dywed Cyngor ar Bopeth Cymru, byddai targedau interim yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn atebol am gynnydd.

Mae ein gwelliant 3 yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd cyn gaeaf 2023 er gwaethaf sicrwydd y byddai'n gwneud hynny. Yn ôl Llywodraeth Cymru, y rhaglen Cartrefi Clyd yw ei phrif fecanwaith i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Bydd y cynllun newydd yn seiliedig ar alw ac yn cynorthwyo'r rhai sydd leiaf abl i dalu. Er gwaethaf y geiriau o sicrwydd, fodd bynnag, ni weithredodd Llywodraeth Cymru y rhaglen cyn gaeaf 2023. Yn wir, er bod strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn datgan y byddent yn:

'ymgynghori ar drefniadau diwygiedig ar gyfer cyflwyno mesurau i drechu tlodi tanwydd y tu hwnt i fis Mawrth 2023'

rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2021, ni lansiwyd yr ymgynghoriad tan fis Rhagfyr 2021. Mae'r strategaeth hefyd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hymateb ac yn gweithredu eu canfyddiadau, gan ddechrau ym mis Ebrill 2023, ond ni wnaethant hyd yn oed ymateb tan fis Mehefin 2023. Rwyf wedi cael gwybod dro ar ôl tro gan wahanol Weinidogion yn y Siambr hon y bydd y rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn cael ei gweithredu cyn y gaeaf hwn, ond cyfaddefodd y Prif Weinidog o'r diwedd yr wythnos diwethaf eu bod bellach yn anelu at ddiwedd y flwyddyn ariannol, sef 5 Ebrill y flwyddyn nesaf, ar ôl i'r gaeaf ddod i ben.

Mae ein gwelliant olaf yn nodi'r gwaith parhaus gan Ofgem a Llywodraeth y DU i gefnogi aelwydydd sy'n wynebu heriau costau byw, ac i ddiogelu defnyddwyr. Mae dadansoddiad gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod maint gros pecyn cymorth ynni Llywodraeth y DU o'i gymharu â chynnyrch domestig gros yn un o'r rhai uchaf yn Ewrop. Roedd datganiad yr hydref y Canghellor fis diwethaf yn nodi bod gwarant pris ynni a chynllun cymorth biliau ynni Llywodraeth y DU wedi talu am bron i hanner bil ynni'r teulu cyffredin rhwng mis Hydref 2022 a mis Mehefin 2023, yn ogystal ag uwchraddio budd-daliadau a'r gefnogaeth i aelwydydd agored i niwed, a oedd yn cynnwys taliadau costau byw newydd yn 2023-24 ac estyniad o £1 biliwn i'r gronfa gymorth i aelwydydd.

Mae cap prisiau Ofgem yn gosod terfyn ar yr hyn y gall cyflenwyr ei godi ar aelwydydd fesul uned o ynni. Fel y dywedodd Ofgem wrthym yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yr wythnos diwethaf, mae'r cynnydd i'r cap prisiau—nad oes croeso iddo, wrth gwrs—o 1 Ionawr 2024 yn digwydd oherwydd y cynnydd yng nghost ryngwladol ynni, a achosir gan ddigwyddiadau ar lefel fyd-eang. Er bod lansiad eu cod ymarfer ar osod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol wedi'i groesawu, mae adroddiad y Pwyllgor Deisebau yr wythnos diwethaf, 'Gaeaf Cynhesach', yn iawn i alw ar Ofgem i fonitro effaith y cod, gan ganolbwyntio'n benodol ar y rhai ar y terfynau oedran uchaf ac isaf.

Yn olaf—ac mae'n rhaid i mi ei ddweud—dylai'r bobl wirion sy'n dal ati i feio'r argyfwng costau byw ar San Steffan nodi bod adroddiad blynyddol y Gronfa Ariannol Ryngwladol ar gyfer 2023 yn dweud hyn:

'Mae cyfuniad o siociau hinsawdd a'r pandemig wedi amharu ar gynhyrchu a dosbarthu bwyd ac ynni, gan gynyddu costau'—

16:55

'i bobl o gwmpas y byd.'

Rwyf am orffen y dyfyniad ac yna fe wnaf dderbyn ymyriad.

'Cafodd sefyllfa a oedd eisoes yn anodd ei gwaethygu gan ymosodiad Rwsia ar Wcráin.'

Iawn, fe wnaf—

Na, Mark. Mae eich amser ar ben. Rydych chi wedi mynd heibio i'ch amser, felly a wnewch chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda?

Iawn. Fel y dywedodd Action Aid fis diwethaf, 

'Mae'r argyfwng economaidd byd-eang'—

argyfwng economaidd byd-eang—

'yn effeithio arnom i gyd y gaeaf hwn'.

Diolch yn fawr.

Yng nghanol anerchiad agoriadol gwych Sioned Williams, fe soniodd am un ystadegyn brawychus wnaeth fy nharo i, sef bod tua 300 o bobl yn marw o achos oerfel yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hynny'n gwbl, gwbl frawychus ac yn sen arnom ni. Yn wir, mae tua 30 y cant o'r marwolaethau ychwanegol gaeafol yn cael eu cysylltu â byw mewn cartrefi oer. Yn syml, felly, mae tai oer yn lladd, ac mae'r rhai hynny sy'n gorfod byw mewn cartrefi oer yn gorfod dioddef a goddef hynny. Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod tymheredd oer yn y cartref yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwaeth, gyda byw mewn tymheredd o dan 18 gradd Celsius yn cael effaith andwyol ar iechyd pobl, gan fod yn gysylltiedig â phroblemau'r galon, yr ysgyfaint, cwsg, perfformiad corfforol ac iechyd yn gyffredinol. Mae'r effaith yn arbennig o wael ar bobl oedrannus. Mae tri chwarter y marwolaethau ychwanegol ymhlith pobl dros 75 mlwydd oed.

Mae hyrwyddwr tai pobl hŷn yng Nghymru, Gofal a Thrwsio, wedi nodi, hyd yn oed gyda chefnogaeth y Llywodraeth, y bydd y cleient Gofal a Thrwsio cyffredin yn gwario 19 y cant o'u hincwm ar gyfleustodau yn ystod y gaeaf hwn. Mae data'n awgrymu, yn ystod gaeaf 2022-23, fod cleientiaid a gysylltodd â gwasanaeth tlodi tanwydd a chyngor ynni Gofal a Thrwsio yn gwario 25 y cant o'u hincwm ar gyfleustodau ar gyfartaledd. Mae'r sefyllfa'n eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi a bwyta. Er bod y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn achubiaeth i'w chroesawu, mae'r sefyllfa bresennol yn gwbl anghynaladwy. Datgelodd adroddiad gan Gofal a Thrwsio Cymru fod 96 y cant o aelwydydd sy'n defnyddio gwasanaeth cyngor ynni Gofal a Thrwsio wedi eu nodi fel rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Er bod cynnydd wedi bod yng mhensiwn y wladwriaeth yn unol â chwyddiant, mae dinasyddion hŷn yn dal i wynebu costau uwch am gyfleustodau. Mae hyn yn rhoi straen ychwanegol ar aelwydydd sydd eisoes yn agored i niwed, gan godi pryderon am gynnydd mewn dyledion a'r ymdrech i fforddio pethau angenrheidiol.

Mae’r argyfwng tai wedi rhoi pwysau aruthrol ar aelwydydd, yn enwedig y rhai sydd ar incwm isel, sydd, yn amlach na pheidio, yn gorfod talu premiwm tlodi am eu hynni. Mae aelwydydd incwm isel yn fwy tebygol, felly, o fod ar fesurydd rhagdalu neu'n methu â fforddio cymryd y camau angenrheidiol i wneud gwelliannau er mwyn arbed ynni. Mae’n amlwg bod angen datrysiadau hirdymor er mwyn cadw’r gwres ymlaen ac er mwyn bod yn iach ac yn ddiogel yn y cartref ac atal clefydau sydd yn gysylltiedig ag oerfel a’r ymweliadau ysbyty a ddaw yn sgil hyn.

Mae angen datrysiadau cynaliadwy sydd yn mynd i’r afael â gwraidd y tlodi ynni sydd yn ein cymunedau. Nid mater i’r gaeaf yma yn unig ydy hyn ond mater ar gyfer yr hirdymor sydd angen datrysiad parhaol. Diolch.

17:00

Felly, rydym yn wynebu gaeaf yr ydym bob amser wedi tybio y byddai'n un gwaeth na’r llynedd hyd yn oed. Beth allwn ni ei wneud, er enghraifft, i annog landlordiaid preifat, nad ydynt wedi eu caethiwo gan forgeisi, i wneud y peth iawn a gwneud eu heiddo'n fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, gan mai dyna ble mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n dioddef fwyaf o fethu gallu gwresogi eu cartrefi yn byw. Beth fyddai canlyniadau codi gofynion effeithlonrwydd ynni y sector rhentu preifat i'r un safon ag a ddisgwyliwn gan y sector tai cymdeithasol? Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl dai cymdeithasol fod yn C neu’n uwch, a dylem ddisgwyl yr un peth gan y sector rhentu preifat yn fy marn i. Clywaf yr wrth-ddadl gan Julie James y gallai hynny arwain at ecsodus o landlordiaid preifat, ond sut y gwyddom hynny, ac a ydym wedi profi hynny mewn gwirionedd? Os nad ydych am fod yn rhan o'r sector rhentu preifat, gallwch ei adael, ac fe wnaiff rhywun arall gymryd eich lle, naill ai landlord preifat arall neu rywun a fydd yn prynu'r eiddo hwnnw i fyw ynddo. Mae'n rhaid iddi fod yn fraint ac yn gyfrifoldeb i gael eiddo i’w osod, ac yn anffodus, mae gormod o landlordiaid yn ei hystyried yn ffordd hawdd o wneud pentwr o arian.

Credaf mai rhan o'r broblem yma yw bod cymaint o ddryswch o gynlluniau fel bod pobl wedi drysu'n llwyr ynghylch yr hyn y gallent fod yn gymwys ar ei gyfer ac a ydynt yn mynd i gael eu twyllo. Mae’n wirioneddol siomedig fod rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn dal i rygnu ymlaen, gyda’r hen raglen Cartrefi Clyd yn cael ei gweinyddu gan Nyth. Ond mae'n dal yn wir fod yna ormod lawer o bobl nad ydynt hyd yn oed yn gwybod y gallant wneud galwad am ddim i Nyth a chael cyngor annibynnol, a chael cymorth ariannol hefyd o bosibl, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Felly, gwn fod gan Lywodraeth Cymru bolisi o 'hawlio'r hyn sy’n ddyledus i chi', ond nid ydym wedi cyrraedd yr holl bobl sydd angen gwybod amdano o bell ffordd.

Beth am y cynlluniau eraill y dysgais amdanynt, ar hap, y diwrnod o’r blaen? ECO4 ac ECO Flex—mae’r ddau yn gynlluniau gan Lywodraeth y DU, lle mae’r Torïaid yn awyddus iawn i ddweud wrthym eu bod yn gwneud llawer ac y gallem fod yn manteisio arnynt. Mae'n debyg eich bod yn gymwys i gael ECO Flex os yw incwm yr aelwyd yn llai na £30,000, yn cynnwys costau'r cartref, a'ch bod yn derbyn budd-dal plant. Fodd bynnag, ar ôl edrych ar y manylion ar-lein, gallaf ddweud wrthych eu bod yn gwbl ddryslyd. Os ydych yn berson sengl gyda phlentyn o dan bedair oed, mae'n rhaid bod gennych incwm o £18,300 neu lai; os ydych yn gwpl, mae'n £25,500. Os ydych yn sengl â phlentyn oedran ysgol gynradd, mae'n £19,200, neu i gwpl, mae'n £26,500. A chyda phlentyn oedran ysgol uwchradd, mae'n £22,100, neu i gwpl, mae'n £29,300. A ydych yn gallu dal i fyny? Nid oes unrhyw ryfedd fod pobl yn gwbl ddryslyd. Ac yna, os edrychwch ymhellach ar yr hyn sydd ar y wefan a argymhellir gan—pwy ydynt?—. Beth bynnag, o ran y cwestiynau cyffredin i gwsmeriaid domestig a landlordiaid—dyma Ofgem gyda’r cynllun Cartrefi Clyd—ni allwch gael cyllid ECO os ydych am ei gyfuno â’r gostyngiad Cartrefi Clyd, y cynllun uwchraddio boeleri, y gronfa datgarboneiddio tai cymdeithasol neu’r grant uwchraddio cartrefi—beth bynnag yw'r rheini. Mater i'r cwmnïau ynni yw penderfynu pa raglenni ôl-osod y maent yn dewis eu hariannu. Nid yw'n gynllun grant, felly mae faint y gellir gofyn i chi ei dalu yn dibynnu ar haelioni'r cwmni ynni. Dyna pam fod pobl mor ofnus—am eu bod yn meddwl, 'Os cytunaf i hyn, beth yw'r bil a gaf?' ac rydym yn sôn, wrth gwrs, am bobl sydd eisoes yn benthyca ar delerau prynu nawr a thalu wedyn i gadw rhywfaint o gynhesrwydd yn eu tŷ.

Ddoe, roedd Nwy Prydain yma, a chlywsom am elusen y maent wedi’i sefydlu nawr i’ch helpu i gael arian parod i dalu eich dyledion ynni. Mae'n swnio fel syniad gwych, ond faint o bobl sy'n gwybod am hynny ac sy'n cael trafferth gyda dyledion nad ydynt byth yn mynd i allu eu talu, am eu bod yn mynd i fwy a mwy o ddyled bob mis? Credaf fod hyn yn ddryslyd iawn, a dyna un o'r rhesymau pam fod cyn lleied o hawlio'n digwydd, am fod y broses yn fwriadol wedi'i gwneud yn rhy anodd i bobl ddeall yn iawn beth sy'n digwydd.

17:05

Prynwch ganhwyllau a fflachlampau, oherwydd mae'n bosibl fod dyddiau tywyll ar y ffordd—dyna oedd y neges ddoe gan Ddirprwy Brif Weinidog y DU, Oliver Dowden. Nid oedd yn sôn am dlodi tanwydd, ond am gynlluniau pandemig a thrychinebau naturiol. Ond i lawer o bobl, mae tlodi tanwydd yn drychineb economaidd sy’n cael effaith sylweddol ar ein hiechyd. Ddirprwy Lywydd, gallent ddal i orfod dibynnu ar ganhwyllau a fflachlampau y gaeaf hwn am na allant fforddio gwresogi neu oleuo eu cartrefi.

Nawr, mae cyd-destun hyn oll yn bwysig. Mae preifateiddio'r farchnad ynni wedi methu. Syniad chwerthinllyd oedd y syniad y dylid marchnata’r un nwy neu drydan sy’n mynd drwy wifrau a phibellau ac i mewn i’n cartrefi gyda lefel newydd ffug o elw'n cael ei chreu ar gyfer cwmnïau nad ydynt byth yn ymdrin â'r cynnyrch. Nid ydynt yn ychwanegu unrhyw beth ato; maent yn ei werthu ymlaen am gyfradd afresymol i ddinasyddion sydd, i raddau mwy a mwy, yn methu talu. Ni ddylid byth ystyried cadw'n gynnes, cadw'r goleuadau ymlaen yn foethusrwydd. Mae’n anghenraid sylfaenol, ac mae ein cymdeithas yn methu yn ei dyletswydd foesol i ddiogelu pobl rhag niwed. Mae ysbryd diwahoddiad Thatcher eisoes wedi cael ei alw yr wythnos hon, a'r gaeaf hwn, mae bwgan ei pholisi yn aflonyddu ar gartrefi pob unigolyn na all fforddio cadw’r goleuadau a’r gwres ymlaen. Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef mewn cartref oer.

Mae’n hen bryd ailwladoli’r farchnad honno, ond mae’r oes wedi newid, wrth gwrs. Mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn ffynonellau ynni nad ydynt yn ein rhwymo i danwydd ffosil, nad ydynt yn gadael ein dinasyddion yn agored i fod yn oer, i fod heb wres a golau ar yr adeg dywyll ac oer hon o'r flwyddyn, ond y ffynonellau ynni adnewyddadwy y mae Cymru’n gyfoethog ynddynt—ein dŵr, ein tir, y gwynt sy'n chwythu o gwmpas ein glannau. Ddoe, cefais y pleser o groesawu Ynni Cymunedol Cymru i adeilad y Pierhead ar gyfer lansiad eu hadroddiad ar gyflwr y sector, 2023. Ac mae gan sefydliadau ynni cymunedol ran hanfodol i’w chwarae yma. Mae’r sector ynni cymunedol yn parhau i ddarparu ystod eang o fuddiannau sy'n amrywio o gynhyrchu trydan, datblygu rhwydweithiau gwres, darparu mentrau trafnidiaeth carbon isel, ac yn hollbwysig, mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Maent yn heriau, yn enwedig yr angen i uwchraddio a democrateiddio ein grid, ond mae’r rhain yn heriau y mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i'r afael â nhw. Oherwydd hyd nes y gwelwn y newid hwnnw, fel sydd wedi’i ddweud mor glir yn y ddadl hon eisoes, bydd pobl yn teimlo’n gaeth yn eu cartrefi y gaeaf hwn, yn methu dod o hyd i gynhesrwydd y tu mewn na’r tu allan.

Gwyddom fod miloedd o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol. Mae'n rhaid iddynt wario 20 y cant o’u hincwm er mwyn cynnal cynhesrwydd boddhaol. Nid yw hynny'n gynaliadwy. Ac fel y mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi’i ddweud, mae’n rhaid i oresgyn y lefelau ystyfnig o uchel hyn o dlodi tanwydd yn ein gwlad gael lle canolog yn amcanion datgarboneiddio a chyfiawnder cymdeithasol Cymru. Mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hyn, ac mae’n rhaid ei ystyried yn rhan sylfaenol o adferiad gwyrdd a chyfiawn. Nid yw mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol yn ddau bwnc ar wahân; maent wedi'u cydblethu'n sylfaenol. Ac mae'r argyfwng hinsawdd yn cael effaith ddifrifol ar fywydau dinasyddion bob dydd.

Mae stoc dai Cymru ymhlith yr hynaf a'r lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop. Nid oes unrhyw un yn diystyru’r her y mae hynny’n ei golygu i ni, ond unwaith eto, mae’n her y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hi, y mae’n rhaid iddi ei goresgyn. Mae'n rhaid sicrhau bod cyllid a chymhellion ar gael i dai preifat, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn chwarae ei rhan yn y gwaith o ddatblygu marchnad Cymru, gan fuddsoddi mewn sgiliau, cadwyni cyflenwi, a thechnoleg. A dywed arbenigwyr wrthym fod yn rhaid inni weld 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd yn cael eu hadeiladu erbyn diwedd tymor y Senedd hon, targed nad yw'r Llywodraeth ar y trywydd iawn i'w gyflawni, yn anffodus.

Yn y cyfamser, mae rhaglen Cartrefi Clyd wedi'i gohirio eto. Nawr, mae heriau yma, Ddirprwy Lywydd, rhai sylweddol. Rydym yn siarad ar ddechrau gaeaf hir ac anodd. Mae miloedd o aelwydydd yn ofni cael eu biliau gwresogi, neu'n byw mewn oerfel a lleithder a thywyllwch am eu bod yn gwybod na fyddant yn gallu fforddio beth bynnag fydd yn yr amlen pan fydd yn cyrraedd drwy'r blwch llythyrau. Mewn cymdeithas wâr, ni allwn ganiatáu i hynny barhau.

17:10

Mae hwn yn argyfwng yn ein marchnad ynni sydd wedi bod yn datblygu ers peth amser bellach. Mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi rhybuddio am y storm berffaith, storm o broblemau hirdymor a thymor byr yn dod ynghyd i greu’r hyn sydd, a dweud y gwir, yn llanast. Mae ein marchnadoedd ynni a’r pwerau a roddwyd i’r rheoleiddiwr, Ofgem, wedi’u gwyro mor ynfyd o blaid cyflenwyr y marchnadoedd ynni. Rydym yn diogelu eu proffidioldeb nhw y tu hwnt i bopeth arall.

A phan ddatgelwyd y sgandal mesuryddion rhagdalu gan newyddiadurwyr fel Dean Kirby a Paul Morgan-Bentley o The Times, lle cafodd cyflenwyr ynni eu dal ar gamera’n torri i mewn i gartrefi pobl, bu’n rhaid ceisio cytundeb gwirfoddol i roi moratoriwm ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol yn eiddo rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed. A pham oedd angen ceisio’r cytundeb gwirfoddol hwnnw? Wel, roedd ei angen am nad oedd gan Weinidogion Llywodraeth y DU na’r rheoleiddiwr, Ofgem, bŵer i atal y cyflenwyr ynni hyn rhag torri i mewn i gartrefi pobl. Mewn gwirionedd, nid yw'r pwerau hynny ganddynt o hyd—y gaeaf hwn, nid yw'r pwerau hynny ganddynt o hyd. Mae cod ymddygiad bellach wedi'i gytuno. Credaf ei fod yn un sy’n mynd yn groes i synnwyr cyffredin, Ddirprwy Lywydd. Nid yw’n gwneud unrhyw beth i ddiogelu llawer o bobl agored i niwed yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig.

A gadewch imi roi enghraifft i chi o drigolion â chyflyrau fel dementia yn dal i fod mewn perygl o gael eu gorfodi i newid i fesuryddion rhagdalu. Nawr, gadewch inni feddwl pa mor amhriodol yw hynny—cleifion dementia yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig, yn cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu. Ddirprwy Lywydd, rwy’n ddiolchgar i gadeirydd y grŵp tlodi tanwydd, Mark Isherwood, am godi ymchwiliad y Pwyllgor Deisebau. Mae'n waith yr oeddwn yn falch o'i arwain gyda chyd-Aelodau o bob plaid, ac rwy'n falch o'i gefnogaeth i'n hargymhellion. Byddwn yn cael dadl yn y flwyddyn newydd, ac edrychaf ymlaen at gefnogaeth ac ymateb y Gweinidog i’r argymhellion.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar iddo am ei gadeiryddiaeth ar y grŵp tlodi tanwydd. Dyma’r grŵp a fynychais yr wythnos diwethaf gyda Sioned Williams, lle roeddent yn dweud, wrth drafod gyda chynrychiolwyr Ofgem, er mai nod y cod ymarfer yw diogelu pobl, mater i'r casglwyr dyledion o hyd yw penderfynu a yw rhywun yn agored i niwed ai peidio, a ellid newid eu mesurydd ai peidio. Mae hynny’n warthus, Ddirprwy Lywydd. Casglwyr dyledion, cyflenwyr ynni, unwaith eto'n marcio eu gwaith cartref eu hunain. Gwelsom y llynedd beth ddigwyddodd gyda hynny. Dyna pam rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno cynnig deddfwriaethol gan Aelod yr wythnos nesaf ar reoleiddio casglwyr dyledion yng Nghymru.

Ddirprwy Lywydd, rydym yn gweld, ac rydym wedi clywed eto heddiw am y nifer uchaf erioed o drigolion mewn tlodi tanwydd. Rydym yn gweld y cymorth yn cael ei dynnu'n ôl. Nid ydym yn gor-ddweud pan ddywedwn nad yw hyn yn ymwneud â gwresogi neu fwyta mwyach. Mae'n fater o fyw a marw y gaeaf hwn. Ac yn y cyd-destun hwnnw, Ddirprwy Lywydd, y mae cyflenwyr fel Nwy Prydain, fel Scottish Power, a gyhoeddodd elw mwy nag erioed y llynedd, yn dal i gael codi taliadau sefydlog enfawr—taliadau sefydlog i ddiogelu'r elw hwnnw sy'n fwy nag erioed.

Rydym wedi clywed eto y prynhawn yma mai trigolion yng ngogledd Cymru sy’n talu’r taliadau sefydlog uchaf yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'n ddrwg gennyf ddweud, ond tawelwch a geir gan Lywodraeth San Steffan, a addawodd godi'r gwastad ar ein rhan. Gadewch inni fod yn onest yma. Gadewch inni fyw mewn realiti, Ddirprwy Lywydd. Mae trigolion yng Nghei Connah a Bwcle yn fy etholaeth yn talu taliadau sefydlog uwch na biliwnyddion Rwsiaidd yn Knightsbridge a Mayfair.

Ddirprwy Lywydd, mae’n amlwg fod angen diwygio mawr ar ein marchnad ynni—diwygio sy’n mynd ymhell y tu hwnt i rai o’r materion rwyf wedi’u crybwyll heddiw. Ond gallem ddechrau drwy gael gwared ar daliadau sefydlog. Gallem ddechrau drwy flaenoriaethu'r hawl i gartref cynnes dros yr hawl i wneud elw afresymol. A gallem ddechrau, Ddirprwy Lywydd, fel y mae'r cynnig hwn yn ei nodi—ac un y byddaf yn ei gefnogi heb ei ddiwygio y prynhawn yma—drwy gyflwyno tariff cymdeithasol. Diolch.

17:15

Dwi eisiau dechrau fy nghyfraniad i'r ddadl y prynhawn yma drwy ddweud bod y tymor seneddol hwn wedi bod yn un anodd iawn i unrhyw un sy'n cynrychioli, neu'n byw mewn, ardal wledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru—neu, a dweud y gwir, mewn unrhyw gymuned wledig ar draws Cymru.

Rŷch chi wedi fy nghlywed yn sôn yn y Senedd yma sawl gwaith am enghreifftiau fel dod â'r gwasanaeth Bwcabus i ben; cau banciau, swyddfeydd post, busnesau a chyfleusterau cyhoeddus ar draws y rhanbarth gyfan; a dirywiad parhaus mewn gwasanaethau iechyd—meddygfeydd yn cau, a phrinder deintyddion NHS. Darlun yw hwn o ddadfeiliad cefn gwlad. A hyn i gyd yng nghyd-destun argyfwng costau byw parhaus, sy'n effeithio ar bawb ledled Cymru, ond sy'n cael effaith benodol ar ein cymunedau gwledig. Yn ôl Sefydliad Bevan, mae'r argyfwng costau byw wedi taro aelwydydd gwledig galetaf, gyda'r hyn y mae'r sefydliad wedi'i alw'n wasgfa driphlyg—hynny yw, costau uchel, incwm isel a chymorth diffygiol gan Lywodraethau gwahanol.

Rŷm ni'n gwybod bod pobl mewn cymunedau gwledig yn gwario, ar gyfartaledd, £27 yn fwy ar drafnidiaeth yr wythnos, a £4 yn fwy ar fwyd yr wythnos, na phobl mewn ardaloedd trefol. Mae pobl yng nghefn gwlad yn llawer mwy tebygol o fod yn hunan-gyflogedig, ac mae incwm canolrifol pobl sy'n hunan-gyflogedig yn ddwy ran o dair yn llai na'r hyn ar gyfer gweithwyr cyflogedig. Mae bod yn hunan-gyflogedig yn ei gwneud yn fwy anodd i gael mynediad at fudd-daliadau allweddol, gan gynnwys cymorth gyda chostau ynni.

A beth bynnag, dyw'r cymorth gyda chostau ynni ddim yn darparu digon o gefnogaeth i aelwydydd gwledig. Mae cartrefi gwledig yn fwy tebygol o fod off-grid ac yn defnyddio olew neu LPG ar gyfer eu gwres. Mae hyn yn cynnwys 39 y cant o dai yn sir Gâr, 55 y cant o dai ym Mhowys, a 74 y cant o dai yng Ngheredigion. Mae'r tanwydd hwn yn ddrutach, does dim cap arno fe, ac mae costau ynni yn uchel ac yn cael eu gwaethygu hefyd gan union natur tai gwledig, sy'n aml yn hen dai, yn dai cerrig heb eu hinswleiddio cystal, ac yn llai ynni effeithlon na thai trefol.

Wrth inni ddod at aeaf hir, oer, rydym yn gwneud hynny gyda chymaint o aelwydydd gwledig eisoes ar ben eu tennyn. Yn rhy aml, mae hyn wedi'i guddio o’r golwg, gyda llawer o’r ffyrdd yr awn ati i asesu a mesur tlodi yn methu ei nodi mewn ardaloedd gwledig llai poblog. Yng nghefn gwlad Cymru, mae amddifadedd cronig yn aml yn bodoli ochr yn ochr â chyfoeth mawr. Yn aml, nid oes cynlluniau cymorth allweddol fel banciau bwyd neu danwydd ar gael, a lle maent ar gael, gall diwylliant o hunanddibyniaeth a stigma canfyddedig ynghylch eu defnyddio atal aelwydydd incwm isel rhag hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Am yr holl resymau hyn a mwy, rwyf wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu strategaeth wedi’i thargedu i fynd i’r afael â thlodi gwledig—un sy’n cydnabod bod achosion a natur tlodi gwledig a threfol yn wahanol, a bod angen atebion gwahanol arnynt. Ategaf yr alwad honno yma eto heddiw.

Ymunaf â fy nghyd-bleidwyr, fel y clywsom eisoes gan Sioned Williams, ac Aelodau trawsbleidiol eraill, i alw heddiw ar Lywodraeth Cymru i roi ei rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar waith ar fyrder, a hoffwn ychwanegu bod yn rhaid i’r rhaglen hon fod yn un sy'n addas ar gyfer cefn gwlad i sicrhau ei bod yn darparu’r mathau o gymorth penodol wedi’i dargedu sydd ei angen ar aelwydydd gwledig nad ydynt ar y grid. Yn yr un modd, dylai targedau interim o dan gynllun 'Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035' gynnwys targedau penodol a mesuradwy ar gyfer lleihau tlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig.

Mae ein cymunedau gwledig yn wynebu argyfwng gwirioneddol ar hyn o bryd, ac mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddelio ag ef gyda'r brys y mae'n ei haeddu. Allwn ni ddim gadael i unrhyw berson ddioddef yn andwyol neu hyd yn oed farw'r gaeaf hwn oherwydd tlodi tanwydd. Mae hwn yn rhywbeth y gallwn ni ei osgoi, yn wir, dylwn ni ei osgoi, fel mater o flaenoriaeth.

17:20

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod tlodi tanwydd yng Nghymru, a diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig. Mae’r argyfwng costau byw wedi cael effaith ddinistriol ar gyllidebau aelwydydd ledled Cymru, ac mae aelwydydd agored i niwed ac incwm isel yn wynebu gaeaf arbennig o anodd. Ac er bod setliad ariannol Llywodraeth Cymru yn hynod heriol, rydym yn benderfynol o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a chefnogi’r bobl fwyaf anghenus hyd eithaf ein gallu o fewn ein pwerau a’n cyfrifoldebau.

Yr wythnos diwethaf, bûm yn trafod y mater hwn gyda grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dlodi tanwydd, a gadeiriwyd gan Mark Isherwood, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd, ac roedd rhai o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr yno fel rhan o’r digwyddiad hwnnw. Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch yn gyhoeddus i’r holl asiantaethau ac elusennau sy’n gweithio ochr yn ochr â ni i gefnogi pobl drwy’r cyfnod anodd hwn. Mae effaith y pandemig a’r argyfwng costau byw parhaus wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sydd angen cymorth ariannol. Mae'r galw am y gronfa cymorth dewisol wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, fe wnaethom gefnogi bron i 109,000 o unigolion gyda dros £15.6 miliwn mewn grantiau rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni, ac roedd dros £8 miliwn o’r cymorth hwn yn daliadau arian parod, gan roi cymorth hanfodol i unigolion sy’n fregus yn ariannol a’u teuluoedd ar gyfer costau byw sylfaenol, fel bwyd ac ynni.

Ers mis Mehefin 2022, rydym wedi dyrannu bron i £4.5 miliwn o gyllid i alluogi’r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun talebau tanwydd cenedlaethol ar gyfer aelwydydd cymwys yng Nghymru, a chynllun y gronfa wres ar gyfer aelwydydd nad ydynt ar y grid—sy’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig, fel rydym newydd glywed. Hyd yn hyn, mae’r ymyriadau hyn wedi cefnogi dros 83,000 o bobl—cynllun y Sefydliad Banc Tanwydd—yn cynnwys mwy na 35,000 o blant. Rydym wedi darparu cyllid pellach i sicrhau bod y Sefydliad Banc Tanwydd yn parhau â'u cymorth drwy gydol y gaeaf sydd i ddod.

Gwneud y gorau o incwm yw’r cam pwysicaf un i liniaru tlodi tanwydd, ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl Cymru yn hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi. Mae ein hymgyrch hawlio budd-daliadau yn sicrhau canlyniadau, a hyd yma, mae wedi helpu bron i 16,000 o bobl i hawlio dros £6.3 miliwn. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ar gyfer 'Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi', ein hymgyrch, y cynghorwyr hynny sy'n helpu miloedd o bobl, roedd bron i 6,000 o'r materion y bu'r cynghorwyr yn ymdrin â nhw yn ymwneud â phroblemau gyda dyledion. Mae 'Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi' wedi helpu pobl i hawlio dros £11 miliwn mewn incwm ychwanegol.

Mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth hefyd wedi chwarae rhan bwysig. Arweiniodd gwiriadau hawl i fudd-daliadau o dan y gwasanaeth yn 2022-23 at gynnydd posibl cyfartalog o £2,457 i aelwydydd yn y budd-daliadau a gâi eu hawlio, gan sicrhau cynnydd o bron i £1 filiwn yn y swm o fudd-daliadau a gâi eu hawlio y llynedd. Felly, gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, bydd ein hymgyrch hawlio budd-daliadau genedlaethol ddiweddaraf yn cyfeirio pobl at Advicelink Cymru, ac mae’n dda gallu rhannu hyn a’i gofnodi heddiw yn y ddadl hon, a'u hannog i wirio eu cymhwysedd am ragor o gymorth ariannol.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol Nyth ar gyfer 2022-23, a nododd fod bron i 22,000 o aelwydydd wedi cael cyngor a'u cyfeirio at gymorth pellach, ynghyd â bron i 4,500 o aelwydydd a gafodd fesurau arbed ynni yn eu cartrefi yn rhad ac am ddim. Amcangyfrifir bod y gwelliannau hyn wedi arbed £422 ar gyfartaledd i aelwydydd ar eu biliau ynni blynyddol.

Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig imi ddatgan heddiw ein bod wedi ymestyn y contract ar gyfer ein cynllun Cartrefi Clyd Nyth hyd at ddiwedd mis Mawrth 2024, wrth i swyddogion gaffael y cynllun olynol, sy'n golygu y bydd cymorth gan Nyth yn parhau drwy'r gaeaf hwn. Ein nod yw cyhoeddi'r llythyrau bwriad i roi cyn bo hir, er mwyn sicrhau cyfnod pontio didrafferth i'r gwasanaeth Cartrefi Clyd newydd. Wrth lunio'r cynllun newydd, rydym wedi gwrando ar randdeiliaid, gan gynnwys yn y Senedd. Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun newydd wedi’u gwella i gynnwys pob aelwyd incwm isel, yn hytrach na’r rheini sydd ar fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd yn unig.

17:25

A gaf fi gymryd o'r hyn rydych chi newydd ei ddweud eich bod yn rhoi sicrwydd y bydd iteriad newydd y rhaglen Cartrefi Clyd yn weithredol erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf?

Rwy’n rhoi’r sicrwydd hwnnw i chi y bydd Nyth yn parhau tan fis Mawrth 2024, ac—

Nid dyna rwy'n ei ofyn. Nid yw Nyth yr un peth ag iteriad newydd y rhaglen Cartrefi Clyd.

Na, rwy'n dweud—. Nid oeddwn wedi gorffen yr hyn roeddwn yn ei ddweud. Mae Nyth yn mynd â ni ymlaen i gydblethu â’r cynllun Cartrefi Clyd newydd sy’n cael ei gaffael ac a fydd yn dod i fodolaeth, cyfnod pontio didrafferth i’r gwasanaeth newydd. Dywedais fis Mawrth 2024; yn amlwg, mis Ebrill 2024 yw hynny. Dim toriad yn y parhad rhwng un a’r llall, felly rwy'n gobeithio y bydd hynny’n rhoi’r sicrwydd rydych chi ei angen heddiw.

Ond credaf ei bod yn bwysig, ac mae Aelodau wedi codi’r mater ynghylch mesurau cymorth effeithlonrwydd ynni eraill yn ychwanegol at y rhaglen Cartrefi Clyd newydd. Buom yn trafod hyn, oni fuom, yn y grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf. Er enghraifft, archwilio cymorth ychwanegol, ac mae wedi cael ei grybwyll, cynllun rhwymedigaeth cwmnïau ynni Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau bod cynllun ECO Flex ar gael ledled Cymru.

Felly, rwy’n disgwyl cyhoeddi diweddariad i’r strategaeth tlodi tanwydd cyn bo hir, gan fyfyrio ar y cynnydd yn erbyn y 10 cam a nodwyd yn 2021, a nodi’r rhai yr ystyriwn eu bod wedi’u cwblhau, y rhai sydd ar y gweill, a’r rhai sy’n newydd i’r cynllun ers ein diweddariad diwethaf. Gan weithio’n agos gyda’n panel cynghori ar dlodi tanwydd, yn cynnwys edrych ar y targedau interim ystyrlon hynny sy’n mesur cynnydd mewn meysydd o fewn—

Rydych wedi sôn am lawer o’r pethau da y mae’r Llywodraeth yn eu gwneud, ond buaswn ar fai yn peidio â sôn am y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, sy’n gwneud llawer o waith da yn y gymuned, gan roi cymorth i bobl mewn tlodi tanwydd. Ond yn ardal Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, yn enwedig Tanygrisiau, maent yn dioddef o’r lefelau uchaf o dlodi tanwydd yng Nghymru gyfan, yn wir, yn y DU gyfan. Ychydig uwchben Tanygrisiau, mae gennych Engie, cwmni o Ffrainc sy'n cynhyrchu ynni o storfa bwmpio â chapasiti o 360 MW, ac i lawr y ffordd ym Maentwrog, mae Magnox yn cynhyrchu 60 MW hefyd. Mae’r holl ynni hwn yn cael ei gynhyrchu yn y cymunedau hyn, ond mae’r cyfan ohono’n mynd oddi yno, ac nid oes unrhyw fuddion yn dod i’r cymunedau hyn, tra bo'r cymunedau yng nghysgod y cwmnïau cynhyrchu ynni hyn yn dioddef lefelau uchel o dlodi tanwydd. Onid ydych yn cytuno y dylai’r cymunedau hyn elwa o'r cwmnïau, ac y dylai’r cwmnïau fod yn atebol i’r cymunedau a rhoi rhywbeth yn ôl iddynt?

Rwy'n cytuno'n llwyr. Byddaf yn cyfarfod â chyflenwyr ynni yn fuan iawn, a byddaf yn gwneud yr union bwyntiau hynny. Ond hoffwn—rydym yn dod at ddiwedd fy amser, gobeithio y gwnewch chi roi rhywfaint o le i mi—

Ni fyddaf yn derbyn rhagor o ymyriadau. Rwyf am ddweud bod llawer o'r ysgogiadau a all wneud y gwahaniaeth mwyaf i lefelau tlodi a chostau ynni mewn mannau eraill. Maent i'w cael gan Lywodraeth y DU, maent i'w cael gan y cwmnïau ynni, maent i'w cael gan y rheoleiddiwr, Ofgem. Mae mor bwysig fod y cynnig hwn, cynnig yr ydym yn ei gefnogi, yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol i ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed. Rydym wedi galw am hynny, ac mewn gwirionedd, fe wnaeth y Canghellor ymrwymiad yn natganiad yr hydref yn 2022, dros flwyddyn yn ôl, y byddai’n datblygu dull newydd o ddiogelu defnyddwyr, gan gynnwys yr opsiwn o gael tariff cymdeithasol i fod yn weithredol o fis Ebrill 2024 ymlaen. Ond rydym yn wynebu'r gaeaf heriol hwn, ac nid ydym wedi gweld unrhyw beth pellach; nid oedd unrhyw beth ynglŷn â hyn yn natganiad y Canghellor. Ac rwyf wedi codi hyn gyda’r Gweinidog, a galw am ailddefnyddio tanwariant y cynllun cymorth ynni, er enghraifft, gan na ddefnyddiwyd yr holl danwariant i ddarparu cynllun cymorth wedi’i dargedu y gaeaf hwn.

Felly, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am eu sylw i’r materion sy'n codi mewn perthynas â’r cwmnïau ynni. Mae'n rhaid iddynt ddilyn y rheolau newydd ynghylch gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol, a oedd yn gymaint o sgandal y gaeaf diwethaf. Felly, diolch am eich papur, a’ch adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau. Edrychaf ymlaen at y ddadl yn y flwyddyn newydd.

Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn cefnogi aelwydydd agored i niwed drwy'r gaeaf hwn. Dangosodd y grŵp trawsbleidiol fod pob un ohonom yn dymuno cyflawni’r un canlyniad, sef gwella bywydau ein haelwydydd mwyaf agored i niwed. Felly, fel y dywedais, rwy'n cefnogi'r cynnig gwreiddiol heb ei ddiwygio; ni fyddwn yn cefnogi’r gwelliannau. Rwy’n gobeithio ac yn hyderus, os yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi’r cynnig hwn hefyd, y byddant yn galw ar Lywodraeth y DU i gadw at eu haddewid o dariff cymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd y gaeaf hwn. Diolch yn fawr.

17:30

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl hon heddiw? Ystadegau brawychus gan Sioned ar y dechrau, a dwi'n meddwl i Mabon, Delyth, Jack ac eraill adlewyrchu ar y sefyllfa wirioneddol frawychus y mae pobl yn ei hwynebu—y ffaith ein bod ni yn derbyn bod pobl yn mynd i farw yn eu tai, ein bod ni'n gallu jest dweud yr ystadegyn yna. Mae’r rhain yn bobl dŷn ni’n eu cynrychioli, a dwi'n meddwl ein bod ni—. Weithiau, mae pethau wedi mynd mor ddyrys yma yng Nghymru ein bod ni'n normaleiddio pa mor echrydus ydy'r sefyllfa ar lawr gwlad: y ffaith ein bod ni wedi normaleiddio banciau bwyd; a hyn rŵan, ein bod ni'n normaleiddio’r angen am fanciau tanwydd. Pryd dŷn ni’n mynd i ddweud, ‘Digon yw digon’ a'n bod ni'n mynd i flaenoriaethu pobl? A dwi yn pryderu yn fawr. Dwi'n gwybod y cyfyngiadau sydd ar y Llywodraeth hon—wrth gwrs ein bod ni'n deall hynny—mae yna bethau mae’n rhaid i Lywodraeth San Steffan fod yn eu gwneud, wrth gwrs bod yna, ond mae hyn wedi bod yn cael ei ddweud dro ar ôl tro, a gwaethygu mae pethau i'r bobl dŷn ni yn eu cynrychioli. Mi soniodd Jack un peth, ac mi wnaf i droi i'r Saesneg.

Fe sonioch chi am ddim gwresogi na bwyta, byw neu farw, a chredaf ei bod yn bwysig iawn inni fyfyrio ar hynny. Nid yw’n fater o ddewisiadau. Mae pobl wedi colli'r dewis hwnnw bellach, ac rydym yn rhoi mwy o werth ar elw nag ar bobl, ac yn hytrach na mynd i’r afael â’r hyn y mae angen mynd i’r afael ag ef, a gwneud byw yn fforddiadwy i bobl, yn hytrach na rhoi’r gost honno—. Felly, rwy'n ystyried yr holl sylwadau hynny, ond fe ddylai ein sobreiddio, ac nid sylwadau neu ddyfyniadau bachog yn unig; mae angen inni flaenoriaethu pobl.

Rydym yn falch o’r gwaith a wnaed drwy'r cytundeb cydweithio i liniaru rhywfaint o’r pwysau y mae pobl yn ei wynebu, ond fel y mae’r ddadl hon wedi'i ddangos, mae mwy y gall ac y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi pobl mewn angen.

Rwy'n cymryd, o’ch ymateb i Sioned Williams, Weinidog, fod mis Ebrill yn ymrwymiad cadarn. Yn amlwg, byddem wedi hoffi gweld hynny ar waith yn barod. Drwy wneud hyn nawr a pheidio ag oedi tan fis Ebrill, gallai llawer mwy o aelwydydd ar y lefelau mwyaf difrifol o dlodi tanwydd fod yn elwa ar rai o fanteision y rhaglen y gaeaf hwn, felly rydym yn siomedig nad yw wedi’i rhoi ar waith yn barod. Dyna pam fod y ffocws yma heddiw. Yn ogystal â hyn, mae’r galwadau i osod targedau interim yn y cynllun trechu tlodi tanwydd er mwyn mesur cynnydd yn allweddol i hyn oll, er mwyn sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni targed y cynllun ei hun.

Yn olaf, mae ein cynnig yn galw, fel y gwnaethoch chi, Weinidog, ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol i gefnogi pobl mewn angen gyda’u biliau ynni y gaeaf hwn. Mae angen inni uno i sicrhau bod hynny’n digwydd, a sicrhau, pan fydd etholiad San Steffan yn digwydd, fod pwy bynnag sy’n arwain y Llywodraeth honno’n blaenoriaethu pobl. Mae’r angen am yr ymgynghoriad hwn yn rhywbeth sydd wedi’i gefnogi gan y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, felly mae gwir angen inni weld cynnydd a gweithredu.

Credaf ei bod yn hollbwysig inni feddwl am y teuluoedd sy’n eistedd mewn cartrefi oer y mis Rhagfyr hwn, yn gwneud y penderfyniadau amhosibl ynglŷn â sut fydd hi y Nadolig hwn neu’r gaeaf hwn. Nid oes gan bobl unrhyw arian dros ben. Rydym yn gweld awdurdodau lleol nawr yn gorfod ystyried codi tâl am bethau sy'n helpu pobl yn fawr. Yn fy rhanbarth i, efallai nad yw £1 y dydd am glwb brecwast yn yr ysgol yn ymddangos yn llawer am yr elfen ofal, ond i lawer o bobl, nid yw hynny’n fforddiadwy, na chadw’r cartref yn gynnes.

Felly, yn lle’r rhaglenni Cartrefi Clyd a addawyd iddynt neu’r ymgynghoriad ar dariff cymdeithasol, bydd pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sydd wedi methu cyflawni addewidion. Maent yn haeddu gwell na hynny gennym ni fel cynrychiolwyr. Nid moethusrwydd yw cartref cynnes a diogel, fel y dywedwyd. Mae'n hawl ddynol sylfaenol. Dyma'r lleiaf y gall pobl ei ddisgwyl. Rwy’n mawr obeithio y gallwn gefnogi’r cynnig hwn yn unfrydol heddiw a bod yn achubiaeth i gynifer o aelwydydd ledled Cymru sy’n mynnu gweld gweithredu, nid geiriau’n unig.

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cyfnod Pleidleisio

A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r cloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Ocê. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 5.

Iawn, mae’r bleidlais gyntaf, Janet, ar eitem 5.

Mae'n iawn. Fe siaradaf yn Saesneg. Mae’r bleidlais gyntaf ar eitem 5, sef y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Mae un Aelod ar ôl i bleidleisio. Diolch. Cau'r bleidlais. O blaid 36, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

Eitem 5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Canser y pancreas: O blaid: 36, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Bydd y bleidlais nesaf ar eitem 6. Dyna ddadl y Ceidwadwyr. Cymeraf bleidlais gyntaf ar y cynnig heb ei ddiwygio, ac os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio wedyn ar y gwelliannau fel y’u cyflwynwyd i’r cynnig. Agor y bleidlais. Un Aelod ar-lein—[Anghlywadwy.] O blaid 13, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

17:40

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

A phleidleisiwn yn awr ar y gwelliannau. A ydych chi am geisio rhoi cyfle i Sarah ddod yn ôl i mewn? [Anghlywadwy.] Iawn, fe wnawn ni gadw llygad arno ar hyn o bryd. Rydym am sicrhau bod pawb yn cael cyfle, oherwydd efallai fod problem dechnegol. Fe agorwn y bleidlais nawr ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 10, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal: 23 o blaid, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Mae’n rhaid imi ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, ac felly mae’r bleidlais bellach yn 23 o blaid, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 23, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol a Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Ac o ystyried bod y cynnig wedi’i wrthod a gwelliannau 1 a 2 wedi’u gwrthod, nid oes dim wedi’i dderbyn, a daw hynny â’r pleidleisio i ben am heddiw.

9. Dadl Fer: Cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus: Pam y dylai pobl ifanc gael teithio am ddim

Symudwn ni nawr i'r ddadl fer.

A wnaiff y rheini sy'n gadael wneud hynny'n dawel os gwelwch yn dda, fel y gallwn barhau â'n busnes am y diwrnod?

A galwaf ar Heledd Fychan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch o gael y cyfle i arwain ar y ddadl fer hon heddiw, yn amlinellu pam y dylai pobl ifanc gael teithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus. Byddaf yn rhoi munud o fy amser i Sioned Williams a Luke Fletcher, a dwi’n ddiolchgar iawn i'r Aelodau sydd yn aros ar gyfer y drafodaeth.

Dwi’n mawr obeithio bod holl Aelodau’r Senedd hon wedi bod yn dilyn gwaith gwych y Senedd Ieuenctid, a’r drafodaeth fu yn ddiweddar yn y Siambr ynghylch adroddiad eu Pwyllgor Hinsawdd a’r Amgylchedd, 'Ffyrdd Gwyrdd'. Os ydych chi heb gael copi eto, ewch i lyfrgell y Senedd a mynnu copi. Mae o wir yn adroddiad gwerth chweil. Mae o hefyd yn adroddiad pwysig, a hoffwn ddiolch i aelodau’r pwyllgor—Ffion, Jake, Harrison, Dylan, Hermione, Elena, Owain, Stella, Kasia, Finley a Sonia—am arwain ar y gwaith. Er eu bod nhw wedi derbyn ateb gweinidogol i'w hargymhellion yn barod, credaf ei fod o'n bwysig ein bod ninnau, fel Aelodau o’r Senedd, hefyd yn ystyried yn llawn argymhellion a wneir ganddynt, gan sicrhau bod y gwaith maen nhw’n ei wneud yn dylanwadu ar, ac yn llywio, ein gwaith ni. Mae angen i'r ddwy Senedd fod yn cydweithio'n agosach, a hoffwn ein gweld ni'n rhoi argymhellion sydd wedi eu gwneud gan bobl ifanc sy’n effeithio ar bobl ifanc ar waith. A dyna pam heddiw rydw i eisiau defnyddio fy amser i ddatgan fy nghefnogaeth i un o alwadau canolog eu hadroddiad, sef y dylid cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl o dan 25 oed.

Dwi'n siŵr y caf fi ymateb tebyg gan y Gweinidog heddiw i'r un a dderbyniodd y Senedd Ieuenctid: 'Dydy'r arian ddim ar gael i wneud hyn.' Wrth gwrs, mi ydym ni i gyd yn llwyr ymwybodol o'r heriau aruthrol mae'r Llywodraeth yn eu hwynebu yn y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf. Dwi'n gobeithio hefyd ein bod ni i gyd yn cydnabod nad ydyn ni'n derbyn yr arian sy'n ddyledus i ni gan San Steffan. Ond yr hyn dwi yn gobeithio y gellid ei gyflawni o'r ddadl fer hon heddiw ydy cytundeb y dylai hwn fod yn argymhelliad sydd angen cael ei roi ar waith, ac y dylem felly, yn drawsbleidiol, edrych ar ffyrdd o wneud hyn yn bosib o fewn y blynyddoedd i ddod. Ar yr un pryd, dylem hefyd fod yn hyrwyddo'n well y cynlluniau sydd eisoes ar gael i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy apelgar a fforddiadwy i bobl ifanc. Wedi'r cyfan, mae hyn hefyd yn cyd-fynd â gwaith grŵp arbenigol Cymru ar yr argyfwng costau byw, wnaeth ddweud, fel rhan o'u 29 o argymhellion, y dylid gweithredu ar y ddau argymhelliad canlynol, sef bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn treialu teithiau bws am ddim i bobl ifanc drwy gyflwyno teithio am ddim i bobl dan 16 oed yn 2024-25 am gyfnod prawf, ac, yn ail, fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cymryd rhan mewn marchnata mwy gweithredol ar gyfer MyTravelPass i bobl ifanc 16 i 24 mlwydd oed nawr, cyn cyflwyno teithiau bws am ddim i bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed yn 2025-26.

Nid yw’n syndod felly fod pobl ifanc, yn ystod fy nghyfnod fel Aelod o’r Senedd, wedi codi materion yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus gyda mi yn gyson. Bydd llawer ohonoch wedi fy nghlywed yn cyfeirio at Ruben Kelman, a oedd, tan yn ddiweddar, yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a byddai'n tynnu fy sylw’n rheolaidd at sut roedd cost bysiau yn effeithio ar bresenoldeb yn Ysgol Uwchradd Llanisien. Cyflwynodd dystiolaeth i Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru gan ddisgyblion, rhieni ac athrawon am y mater. 

'Yn frawychus, nododd 39 y cant o'r rhieni bod eu plentyn wedi gorfod colli'r ysgol oherwydd nad oeddent yn medru fforddio cost y bws. Roedd y mwyafrif o'r disgyblion hyn yn byw jest o dan y trothwy o 3 milltir, sef y trothwy ar gyfer trafnidiaeth am ddim. Nodwyd fod un disgybl yn barod wedi colli naw diwrnod eleni ac wedi colli 15 y flwyddyn flaenorol oherwydd bod ei theulu methu fforddio cost y bws. Dyma oedd geiriau un rhiant:

'"Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi dadansoddi pa filiau y gallaf ohirio eu talu, fel y gall fy merch fynychu'r ysgol. Mae'n ddigon i'ch digalonni. Helpwch ni rieni os gwelwch yn dda."'

Nid dyma’r tro cyntaf imi ddarllen y dyfyniad hwnnw yn y Siambr hon, ac er y cydnabuwyd bod yna broblem, cafodd Ruben, er gwaethaf ei holl sylwadau ar y mater, ei annog i aros am ganlyniad yr adolygiad teithio gan ddysgwyr. Fel y gŵyr pob un ohonom, fel rhan o’r adolygiad teithio gan ddysgwyr, codwyd pryderon ynghylch y polisi radiws 3 a 2 filltir, diffyg cerbydau penodedig sy'n darparu cludiant i'r ysgol ar gyfer dysgwyr ôl-16, a materion yn ymwneud â meini prawf cymhwysedd. Ac fel y nodais yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf, er bod llawer o awdurdodau lleol yn cynnig trafnidiaeth am ddim o dan y trothwy, rydym yn gweld y gallai hyn newid. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, yn argymell newidiadau i’r pellter cymwys ar gyfer cludiant am ddim i'r ysgol yn unol â’r mesur dysgwyr presennol o 3 milltir ar gyfer ysgolion uwchradd a 2 filltir ar gyfer ysgolion cynradd. Gallai’r cynnig hwn olygu na fydd oddeutu 2,700 o ddisgyblion yn Rhondda Cynon Taf yn unig yn gymwys mwyach i gael cludiant am ddim i’r ysgol.

Mewn cyfnod sydd eisoes yn heriol yn ariannol i lawer o deuluoedd, mae’n ddealladwy y bydd y cyhoeddiad hwn yn peri pryder. Mae nifer o’r rhai y byddai'r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt pe bai’n cael ei roi ar waith eisoes wedi cysylltu â mi, ac maent yn ofni na fyddant yn gallu fforddio anfon eu plant i’r ysgol ac yn poeni nad yw'r llwybrau teithio llesol sydd ar gael, os ydynt ar gael, yn addas nac yn ddiogel. Rydym yn sôn am y Cymoedd yma, lle nad yw 2 filltir i fyny ac i lawr rhiw yr un peth, ac nid yw gallu beicio i’r ysgol yn opsiwn. Ni allaf ddweud ei bod yn ddiogel i fy mhlentyn fy hun fynd i’r ysgol, sydd lai na milltir i ffwrdd, ar ei ben ei hun, gan nad oes llwybrau teithio diogel, ac mae hyn yn wir am gymaint o rieni.

Efallai y byddai’n werth ein hatgoffa hefyd o ymchwiliad 2022 i drafnidiaeth bysiau a rheilffyrdd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â thlodi trafnidiaeth yng Nghymru a darparu cymorthdaliadau ar gyfer prisiau siwrneiau a chymorth ariannol arall.

Er bod prinder bysiau, amserlenni llai neu wasanaethau annibynadwy hefyd yn faterion y mae llawer o bobl ifanc wedi’u crybwyll, y rhwystr mwyaf yw'r gost, ac fel y nodais, ategir hyn gan adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru, a ganfu fod fforddiadwyedd yn un o’r rhwystrau mwyaf rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd tystiolaeth gan y comisiynydd plant hefyd yn dangos bod cludiant am ddim yn un o'r 5 prif alwad gan bobl ifanc, gyda’r nifer uchaf a oedd eisiau hyn yn y grŵp oedran 12 i 18 oed.

Yn ogystal ag effeithio ar bresenoldeb mewn ysgolion a cholegau, mae'r gost hefyd yn atal llawer o bobl ifanc rhag gallu cael mynediad at wasanaethau hanfodol, cyfleoedd gwaith neu gymdeithasu gyda ffrindiau, rhywbeth sydd mor bwysig ar ôl COVID ac ar gyfer eu llesiant a’u hiechyd meddwl. Ac er fy mod yn croesawu’r cynnydd diweddar yn y lwfans cynhaliaeth addysg o £30 i £40, a’r ffaith ei fod wedi’i gadw yma yng Nghymru, mae pobl ifanc yn dal i wario swm sylweddol o’u lwfans cynhaliaeth addysg, hyd at £20, ar deithio, gan effeithio ar eu gallu i dalu am eitemau hanfodol eraill, gan gynnwys gwerslyfrau.

Er bod cynlluniau’n bodoli’n barod fel FyNgherdynTeithio 16-21, teithiau trên am ddim ar adegau tawel i rai dan 16 oed, a chardiau rheilffordd myfyrwyr sy’n rhoi gostyngiadau ac yn annog pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae ymchwil a gyflawnwyd gan Senedd Ieuenctid Cymru yn dangos bod ymwybyddiaeth o'r cynlluniau hyn yn gyfyngedig. Drwy ehangu a hyrwyddo’r cynlluniau hyn, gallwn wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn hyfyw a fforddiadwy i’n pobl ifanc.

Gan edrych y tu hwnt i Gymru, mae nifer o gynlluniau eisoes yn darparu teithio am ddim neu am bris gostyngol i bobl ifanc mewn gwledydd cyfagos, megis yr hyn y mae Transport for London yn ei gynnig ar gyfer teithio am ddim ar fysiau a thramiau i bawb o dan 16 oed, teithio am ddim ar wasanaethau trafnidiaeth Transport for London i rai dan 11 oed, a theithio am bris gostyngol i fyfyrwyr dros 18 oed. Y llynedd, cyflwynodd yr Alban hefyd deithiau bws am ddim i rai rhwng pump a 21 oed, ac mae oddeutu dwy ran o dair o ddefnyddwyr cymwys wedi eu defnyddio, ac mae defnyddwyr ychwanegol wedi galluogi rhai cwmnïau bysiau i gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau, sydd o fudd i bawb. Mewn rhai dinasoedd yn Lloegr, fel Manceinion, mae gwasanaethau bws penodol am ddim i bob oed, gan gynnwys pobl ifanc. Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno cap o £2 ar brisiau tocynnau bysiau yn Lloegr. Felly, mae llawer o bethau y gellir eu rhoi ar waith. Mae gwledydd fel Malta, Lwcsembwrg, a rhai dinasoedd yn Ffrainc yn darparu polisïau tocynnau am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus i bob grŵp oedran. Yn yr Almaen, mae tocynnau am brisiau gostyngol a chardiau rheilffordd ar gael i bobl ifanc, tra bo Rwmania yn cynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i fyfyrwyr o dan oedran prifysgol a gostyngiad o 90 y cant ar brisiau tocynnau i fyfyrwyr o dan 30 oed.

Er bod strategaeth drafnidiaeth Cymru, 'Llwybr Newydd', yn anelu at wneud trafnidiaeth gynaliadwy yn fwy fforddiadwy a hygyrch, nid yw'n cynnwys darpariaethau ar hyn o bryd ar gyfer cefnogi costau teithio i blant a phobl ifanc. Mae hyn yn siomedig, ac rwy'n ymuno â Barnados Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried effaith sylweddol teithio drud ar bobl ifanc a’u teuluoedd.

Un elfen nad ydw i wedi crybwyll hyd yma, wrth gwrs, ydy beth fyddai effaith cyflwyno polisi o'r fath ar y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol. Wedi'r cyfan, dengys tystiolaeth byddai hyn yn normaleiddio'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus am weddill bywydau'r bobl ifanc hyn, gan hefyd fod yn rhan bwysig o'n hymateb i'r argyfwng newid hinsawdd.

Fel y dywedais yn gynharach, nid pwrpas y ddadl heddiw yw perswadio'r Senedd o rinweddau'r polisi hwn, ond yn hytrach hybu trafodaeth draws bleidiol o ran sut y gallwn wneud hyn yn bosib. Ac felly, i gloi fy nghyfraniad, hoffwn ofyn i'r Gweinidog os gellid cynnwys yn ei hymateb, felly—. Yr hyn yr hoffem wybod ydy: ydy'r Llywodraeth yn cytuno â'r egwyddor o gyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc o dan 25 oed? Beth ydy'r diweddaraf o ran yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, a beth ydy'r camau fydd yn deillio o hynny? Ac os na ellid eto cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, beth mae’r Llywodraeth am ei wneud i hyrwyddo'n well yr hyn sydd ar gael a'i ehangu er mwyn cynyddu’r niferoedd sydd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Dylid blaenoriaethu lleihau’r baich ariannol ar bobl ifanc, annog a chefnogi teithio cynaliadwy, a sicrhau nad yw costau trafnidiaeth yn rhwystro unrhyw un rhag gallu cael mynediad at addysg, cyflogaeth neu wasanaethau hanfodol. Felly, gadewch inni ymrwymo heddiw i gydweithio, ar draws y pleidiau, i ddod o hyd i ffyrdd o wneud hyn yn bosibl, fel y gallwn ddangos i bobl ifanc Cymru ein bod yn gwrando ar eu safbwyntiau fel Senedd ac yn rhoi mesurau ar waith i gael gwared ar gymaint â phosibl o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol.

17:55

Hoffwn i ddiolch yn fawr i Heledd Fychan am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Senedd. Mae fy nhudalen Facebook i yn llawn o negeseuon gan rieni sy'n poeni am y ffaith nad ydyn nhw'n gallu fforddio trafnidiaeth i'w plant.

Yn ddiweddar, cysylltodd trigolion o ardal Fairyland yng Nghastell-nedd â mi, i ddweud eu bod wedi colli eu bws ysgol ers dechrau'r flwyddyn academaidd hon. Er nad yw'r pellter rhwng Fairyland ac Ysgol Gyfun Cefn Saeson yn fawr iawn, mae'n serth iawn, i fyny allt Cimla. Mae hyn yn golygu, i lawer, fod y bws yn gwbl angenrheidiol. Mae disgyblion bellach yn gorfod cerdded i ganol tref Castell-nedd o Fairyland i ddal un o’r bysiau gwasanaeth eraill, ond maent yn mynd yn orlawn, nid ydynt bob amser yn llwyddo i fynd arnynt, ac mae rhai disgyblion wedi gorfod aros hanner awr arall am fws, sy'n golygu eu bod yn cyrraedd yr ysgol yn hwyr. Cyrhaeddodd un plentyn yn hwyr i arholiad. Mae trafodaethau ar y gweill i ganiatáu i ddisgyblion brynu seddi ar fws a fyddai'n eu codi o Fairyland eto, ond mae'n £5 y dydd am bob disgybl. Mae hynny'n £25 yr wythnos am bob disgybl.

Felly, fe wnaethom siarad ddoe am bwysigrwydd presenoldeb yn yr ysgol mewn perthynas â chyrhaeddiad a'r effaith y gall costau cynyddol ei chael ar allu pobl ifanc i fynd i'r ysgol a dod adref. Felly, yn sicr, byddai darparu cludiant am ddim yn annog presenoldeb yn yr ysgol, yn rhoi rhyddhad i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, ond fel y dywedoch chi, byddai hefyd yn cynyddu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar adeg pan fo gwir angen hynny.

Diolch i Heledd Fychan am roi munud o amser i mi yn y ddadl hon. Roeddwn am sôn am ddau bwynt penodol, sef presenoldeb yn yr ysgol a'r lwfans cynhaliaeth addysg, sydd wedi'u cysylltu'n greulon iawn mewn gwirionedd, yn yr ystyr y bydd myfyriwr yn colli eu taliad lwfans cynhaliaeth addysg os yw'n colli ysgol.

Drwy gydol yr ymgyrch i gynyddu ac ehangu'r lwfans cynhaliaeth addysg, cynhaliais baneli mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Clywsom yn uniongyrchol gan fyfyrwyr mai trafnidiaeth oedd un o’r costau mwyaf a wynebent i'w taliad lwfans cynhaliaeth addysg, ond tynnodd nifer ohonynt sylw at yr union bwynt hwnnw, sef eu bod yn colli taliad y lwfans cynhaliaeth addysg hefyd, yn ogystal â cholli addysg, pan nad oeddent yn gallu fforddio dod i’r ysgol. Mewn rhai achosion, roeddent yn colli eu prydau ysgol am ddim hefyd. Felly, credaf fod hyn yn ymwneud nid yn unig ag addysg ond hefyd â gallu myfyrwyr i fyw eu bywydau, oherwydd yn amlwg, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn talu am fwyd, mae'n talu am drafnidiaeth, mae'n talu am y gwerslyfrau, ond os ydych yn gwneud cwrs mwy corfforol, fel adeiladu, mae hefyd yn talu am lawer o'r offer a'r dillad gwaith ar gyfer hynny, ond hefyd, yn bwysicach fyth, mae'n talu am elfennau o fywyd cymdeithasol sy'n cael eu colli. Felly, hoffwn yn fawr gael eglurhad gan y Gweinidog ynglŷn ag a yw Llywodraeth Cymru wedi meddwl, o leiaf, am ehangu trafnidiaeth am ddim i gynnwys pobl sydd ar y lwfans cynhaliaeth addysg a chinio ysgol am ddim.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr, Heledd Fychan.

Mae'n bwysig iawn, y ddadl hon heddiw, oherwydd, fel rydych wedi'i amlinellu'n glir iawn, mae llawer o fanteision i gynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ac fel y nodir yn 'Llwybr Newydd', ein strategaeth drafnidiaeth, rydym am greu amgylchedd lle mae trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn hygyrch, yn fforddiadwy ac yn integredig, ac mae plant a phobl ifanc yn allweddol i gyflawni’r uchelgeisiau hynny.

Mae eich dadl yn arbennig o amserol, gan ei fod yn fater y cafodd y Dirprwy Weinidog a’r Gweinidog Newid Hinsawdd eu holi yn ei gylch yn eu cyfarfodydd rheolaidd diweddar â Chomisiynydd Plant Cymru, er enghraifft, sydd wedi galw am deithio am ddim i bobl ifanc dan 18 oed yn ei dau adroddiad blynyddol diwethaf, ac mae'n gam gweithredu allweddol yn ei strategaeth flaengar. Rydym yn ymwybodol o gefnogaeth pobl Cymru i bolisi o'r fath. Yn fwyaf diweddar, ac fel y dywedoch chi, gellir dadlau bod yr alwad fwyaf cymhellol wedi dod gan bobl ifanc eu hunain drwy Senedd Ieuenctid Cymru. Wrth gwrs, rydych chi wedi tynnu sylw at eu hadroddiad, 'Ffyrdd Gwyrdd', ar deithio cynaliadwy, a gyhoeddwyd ganddynt ddiwedd mis Hydref ac a ysbrydolodd ddadl yn y Siambr ar 25 Tachwedd, sy'n mynegi eu barn yn glir ar fanteision cyflwyno trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc o dan 25 oed. Felly, ni allwn ac nid ydym yn anwybyddu’r galwadau hyn, sy’n dangos mor glir fod galluogi mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, boed hynny drwy wella fforddiadwyedd, hygyrchedd neu ddibynadwyedd, yn rhywbeth sy’n rhoi egni a chymhelliant ac yn ennyn diddordeb pobl, ond yn enwedig pobl ifanc, a dylem annog unrhyw beth y gallwn ei wneud i harneisio a dysgu o'r brwdfrydedd hwn. Ond yn anffodus, nid yw’r model darparu presennol a’r angen i ddefnyddio ein hadnoddau cyfyngedig i ddiogelu cymaint o wasanaethau bysiau â phosibl yn rhoi’r arfau na’r adnoddau sydd eu hangen arnom i allu gwneud unrhyw newidiadau ar unwaith. Ond rydym yn obeithiol y gallai ein cynlluniau ar ddiwygio bysiau a buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau rheilffordd gynnig rhywfaint o le i wella yn y dyfodol.

O fewn y model gweithredu bysiau dadreoleiddiedig presennol, yr unig ffordd y gallwn gynnig teithio am bris gostyngol neu am ddim yw negodi trefniadau ad-dalu gyda gweithredwyr, ac mae hynny'n gostus. Ac fel y gwelwyd gyda'r cynnig teithio am ddim i rai dan 22 oed yn yr Alban, gall hyn arwain at gostau cynyddol wrth i fwy o bobl ddewis teithio, ac yn amlwg nid oes gennym arian i gefnogi hyn ar hyn o bryd. Ond bydd y Bil bysiau y byddwn yn ei gyflwyno i'r Senedd yn y flwyddyn newydd, yn deddfu ar gyfer rhwydwaith bysiau wedi'i fasnachfreinio, a bydd y model hwn yn rhoi cyfle inni ystyried system symlach, fforddiadwy ac unedig i bawb sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ac mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar fasnachfraint, gallai'r fathemateg fod yn wahanol. Ni fyddai ein costau ond yn cynyddu'n sylweddol pe bai angen gwasanaethau ychwanegol, a byddai refeniw sy'n mynd ar deithiau ychwanegol yn niwtral o ran cost. Felly, yr unig gostau fyddai refeniw a gollir o deithiau a fyddai wedi cael eu gwneud beth bynnag heb deithio am ddim. Felly, dros amser, gellid gwrthbwyso hyn drwy adeiladu arferion teithio ac annog pobl i barhau i ddefnyddio'r bws pan na fyddant yn gymwys i deithio am ddim mwyach, fel sydd wedi'i amlinellu heddiw.

Rydym yn realistig, serch hynny, ac rydym yn derbyn nad yw hyn yn golygu bod masnachfreinio'n ateb perffaith. Rydym wedi gweld eleni pa mor heriol yw economeg cynnal gwasanaethau bysiau. Heb gyllid ychwanegol, torri gwasanaethau yw'r unig ffordd o wneud iawn am unrhyw golled refeniw, hyd yn oed colled tymor byr, gan danseilio pwrpas teithio gostyngol yn y lle cyntaf. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at hyn—fe fydd yn bwnc trafod, yn amlwg, wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd y flwyddyn nesaf. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig deall y rhwystrau a'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r farchnad ddadreoleiddiedig bresennol. Rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol o hyn beth bynnag, ond mae'n bwysig deall hynny, yn amlwg—mae'n bwysig i bawb ohonom ddeall hynny—wrth ystyried y mathau hyn o ymyriadau.

Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi ac Aelodau'r Senedd ein bod yn parhau i archwilio amrywiaeth o opsiynau i sicrhau bod teithio ar fysiau a rheilffyrdd yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb yn ein cymunedau, gan gynnwys pobl ifanc, drwy symleiddio'r system docynnau a phrisiau tocynnau. Rydym eisoes wedi gwneud gwaith cynllunio cynhwysfawr ar opsiynau i ddarparu prisiau teithio tecach i deithwyr yng Nghymru, yn cynnwys y posibilrwydd o gyflwyno tocyn gwell i bobl ifanc. Mae'r rhain yn ddewisiadau anodd ynghylch y ffordd y defnyddiwn ein hadnoddau cyfyngedig, ac rydych chi wedi cydnabod hynny. Ac rydym wedi gorfod blaenoriaethu ein cyllid bysiau i ddiogelu gwasanaethau bysiau hanfodol, gan helpu i gadw prisiau mor isel â phosibl i annog teithwyr i ddefnyddio bysiau unwaith eto. Ac os caf gofnodi, erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, byddwn wedi darparu dros £200 miliwn i'r diwydiant bysiau ers dechrau'r pandemig, ac mae'r cyllid hwn i bob pwrpas wedi achub y diwydiant bysiau rhag chwalu yng Nghymru. Ond mae'n golygu nad ydym wedi gallu symud ymlaen mor gyflym ag y byddem wedi'i hoffi ar ein hymrwymiadau prisiau tecach. Ac os a phan fydd y sefyllfa gyllido'n gwella, rydym yn awyddus i ddatblygu'r gwaith hwn a byddwn yn parhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu unrhyw ymyrraeth yn y dyfodol.

Mae yna gamau tymor byr y gellir ac y byddwn yn eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac roedd hynny'n un o'ch cwestiynau yn y ddadl hon. Diolch i Senedd Ieuenctid Cymru, rydym yn gwybod bod angen ymgysylltu mwy â phobl ifanc i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gostyngiadau sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd i ddefnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Cawsom ein synnu'n fawr gan ganfyddiadau eu harolwg nad oedd dros 75 y cant o'r ymatebwyr yn ymwybodol o gynllun Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig hyd at draean o ostyngiad i bobl ifanc 16 i 21 oed pan fyddant yn teithio ar y bws. Felly, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i fwrw ymlaen â gwaith i gynnal ymgyrch wedi'i thargedu, ac i ddatblygu adnoddau perthnasol a hygyrch, i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'r holl fuddion teithio sydd ar gael iddynt ar fysiau a threnau. Os nad yw pobl yn gwybod am gynllun Fy Ngherdyn Teithio, rydym yn bryderus efallai nad ydynt yn ymwybodol o'r cynlluniau eraill sydd ar gael ar gyfer teithio am ddim ac am brisiau gostyngol, fel y cynllun sy'n galluogi plant dan 11 oed i deithio am ddim ar wasanaethau rheilffyrdd a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru, a'r cynllun sy'n galluogi pobl dan 16 oed i deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar adegau tawel pan fyddant yng nghwmni oedolyn sydd wedi talu am docyn. Yn ogystal, mae'r cerdyn rheilffordd 16-17, sydd ar gael i'w ddefnyddio ar bob gwasanaeth rheilffordd ledled Cymru a Lloegr, yn cynnig gostyngiad o 50 y cant ar y rhan fwyaf o docynnau trên bob dydd o'r flwyddyn, heb unrhyw gyfyngiadau amser nac unrhyw isafswm pris tocyn, am gost flynyddol o £30. Mae nifer o docynnau bws am bris gostyngol yn cael eu cynnig gan wahanol weithredwyr bysiau hefyd, ac fe fyddwch yn ymwybodol ohonynt, ond nid yw pobl ifanc, na'u teuluoedd, yn ymwybodol ohonynt bob amser.

18:05

A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Rydych chi'n siarad am yr holl bethau hynny, ac yn amlwg, byddai hynny'n fframio'r ffordd y mae'n wasanaeth sy'n seiliedig ar alw. Wrth inni siarad am gyllidebau, clywsom lawer o sôn nad yw'r galw yno, ond nid ydynt yn cael gwybod. Felly, a yw'n destun pryder nad yw pobl yn ymwybodol o'r pethau hyn, ac y gallai hynny gamystumio rhai o'r dewisiadau cyllidebol rydych chi'n eu gwneud pan ddywedwch nad yw'r galw yno, ond nid yw pobl yn ymwybodol ohono?

Gallaf eich sicrhau nad yw hynny'n wir o gwbl. Fel y dywedais, rydym yn awyddus iawn i ddatblygu'r opsiynau hyn i raddau llawer mwy, y cynigion i bobl ifanc. A dweud y gwir, roeddwn am symud ymlaen i ddweud bod y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog yn gweithio ar hyn. Mewn ffordd, yr hyn roeddwn i'n ei ddweud oedd ein bod ni'n synnu at y diffyg ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc a nodwyd yn yr adroddiad gan Senedd Ieuenctid Cymru. Rwyf wedi ailadrodd y cynigion hynny er mwyn inni ddefnyddio'r cyfle—mae wedi'i gofnodi o'ch dadl chi—i geisio lledaenu'r neges, ac mewn gwirionedd, fel y dywedais, mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud gwaith ar hyn. Felly, mae angen inni hyrwyddo'r hyn sydd gennym, onid oes? Ac mae'n rhaid inni weithio ar sut y gallwn symud ymlaen. Cyn gynted ag y byddwn yn rheoleiddio, gyda'r system fasnachfreinio, bydd yn gwneud pethau'n haws, er bod gennym heriau cyllidebol, ac yn amlwg, nid wyf am ailadrodd ein bod wedi gorfod rhoi'r arian sydd gennym i achub ein gwasanaethau bysiau yng Nghymru, sy'n helpu pobl o bob oedran wrth gwrs.

Felly, ar un ystyr, roeddwn am fynd ymlaen i ddweud, drwy ddarparu'r wybodaeth hon am yr hyn sydd ar gael, a deall y safbwyntiau a'r adroddiad gan Senedd Ieuenctid Cymru, rydym eisiau sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ymwybodol o'r holl ostyngiadau hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn hyrwyddo'r rhain yn ein hetholaethau ledled Cymru. Ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gydweithio â phlant a phobl ifanc i ddatblygu unrhyw ymyriadau a chynlluniau yn y dyfodol. Rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru barhau i gyflymu'r broses o sefydlu grŵp cynghori plant a phobl ifanc, ac yn amlwg, bydd hyn i gyd yn bwydo i mewn i hynny, ac mae hwnnw'n fforwm i archwilio cyfleoedd gyda phlant a phobl ifanc i'w hannog nhw a chenedlaethau'r dyfodol i deithio'n llesol a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a hefyd i edrych ar ffyrdd priodol o symud ymlaen gyda mwy o gynigion i bobl ifanc. 

Nawr, hoffwn roi eiliad, os oes gennyf amser, i ganolbwyntio ar faterion teithio gan ddysgwyr, oherwydd, yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fod yna adolygiad mewnol o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru). Dyna'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cludiant i'r ysgol, ac mae'r adolygiad hwnnw'n digwydd eleni. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cael adroddiad ac argymhellion yr adolygiad. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyfarfod â'r Gweinidog addysg yr wythnos nesaf i drafod y camau arfaethedig nesaf, ac maent yn gobeithio darparu datganiad ysgrifenedig i'r Senedd yn y flwyddyn newydd. 

Rwy'n credu bod  cyfan a ddywedwyd gennym heddiw, a'r hyn rwyf wedi'i ddweud mewn ymateb i'ch dadl, ynghylch y newidiadau deddfwriaethol rydym yn eu cynllunio mewn perthynas â diwygio'r gwasanaethau bysiau yn cryfhau cefnogaeth i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc drwy'r grŵp cynghori hwnnw gyda Trafnidiaeth Cymru a'r sefyllfa ariannol a orfodir arnom ar hyn o bryd. Unwaith eto, nid oes unrhyw gynlluniau i weithredu ar unwaith i newid y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) presennol, ond rydym yn disgwyl y bydd ymgynghori helaeth i ddiweddaru'r dogfennau canllawiau statudol i fynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd gan randdeiliaid, plant, pobl ifanc a chi drwy holl waith yr adolygiad. Ac mae'r adolygiad wedi nodi arferion rhagorol sy'n digwydd ledled Cymru, a hoffem sicrhau bod y rhain yn cael eu lledaenu a'u hailadrodd, i geisio gwneud y defnydd gorau posibl o lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer disgyblion ysgol a cholegau.

Felly, rwyf am orffen drwy ddiolch i chi unwaith eto, Heledd, am gyflwyno'r mater pwysig hwn yn y Senedd, a hoffwn roi sicrwydd i chi ac Aelodau eraill fod eich cyfraniad, eich dadl, yn bwysig iawn i ni o ran ein polisïau. Rydym yn ceisio gwneud y gorau o'n hadnoddau i sicrhau bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt i leihau costau trafnidiaeth gyhoeddus. Diolch, Luke, am y sylwadau ynglŷn â'r lwfans cynhaliaeth addysg, y gwn eich wedi bod yn ei hyrwyddo ac sydd wedi cael ei ehangu, ond rwy'n credu eich bod wedi gwneud cyfraniad pwysig. Rydym yn gobeithio y bydd ein gweledigaeth fwy hirdymor ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn cael ei gwireddu er budd plant, pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru. Diolch yn fawr.

18:10

Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.