Y Cyfarfod Llawn
Plenary
29/11/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Luke Fletcher.
1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i’r argymhellion yn adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, 'Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050'? OQ60341
Diolch i’r comisiwn am eu gwaith ac rwy'n croesawu'r adroddiad. Mae’r argymhellion yn adeiladu ar y camau rydym eisoes yn eu cymryd i gyflawni ein gweledigaeth i Gymru ddiwallu ein holl anghenion trydan drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Byddaf yn ymateb yn ffurfiol i’r adroddiad yn y flwyddyn newydd.
Diolch am yr ateb, Weinidog.
Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos pa mor anwadal y gall ein systemau cyflenwi ynni fod a pha mor agored i niwed yw ein cymunedau i’r cynnydd mawr yn y prisiau. Dylid archwilio unrhyw fodd o ynysu ein hunain rhag hynny. Nawr, roedd yn dda gweld yr adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd y sector ynni cymunedol yn y broses o ddatgarboneiddio ein system ynni. Ond mae hefyd yn amlygu llawer o’r rhwystrau y mae’r sector ynni cymunedol yn eu hwynebu, megis diffyg maes polisi cydlynol yn ogystal ag ôl-groniad yn y grid a chostau. Ceir rhwystr pwysig arall i fasnachu ynni lleol, sydd â’r potensial i ddarparu sefydlogrwydd ynni hirdymor i’n cymunedau. Felly, hoffwn ofyn i’r Gweinidog a oes unrhyw waith wedi’i wneud ar asesu’r rhwystrau i fasnach leol, ac os nad oes, a yw hyn ar radar y Llywodraeth?
Ie, diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Yr ateb yw 'do'. Rydym wedi bod yn gweithio, wrth gwrs, fel rhan o’r cytundeb cydweithio, ar Ynni Cymru, sef cwmni sy’n mynd i gael ei gyfeirio tuag at y sector ynni cymunedol yng Nghymru. Er nad yw'r cwmni wedi'i ffurfio'n llawn eto, mae ar waith yn yr ystyr fod ganddo fwrdd cysgodol a rhywfaint o weithwyr. Ac un o'r nifer o bethau rydym yn cytuno i’w gwneud yw edrych ar yr union bwynt a wnewch, ochr yn ochr â nifer o’r rhwystrau eraill yng Nghymru.
Nid yw ôl-groniad y grid yn ôl-groniad ansylweddol, ond rydym yn edrych—fel y gwyddoch, rwy’n credu, gan fod gennych rai yn eich ardal—ar systemau dolen gaeedig, er enghraifft, a lle gall y prosiectau hynny gynhyrchu mwy na digon o ynni, rydym yn sicr yn edrych i weld beth y gellir ei wneud o ran masnach. Hefyd, mae gwahanol atebion storio ar gyfer hynny a gwahanol fecanweithiau. Felly, rydym yn ei ystyried yn rhan o waith parhaus Ynni Cymru, a byddwn yn gweithio gyda nhw i wneud hynny.
Yn fwy hirdymor, rwy'n siomedig iawn yn wir nad yw'r Canghellor wedi capio pris ynni yn natganiad yr hydref. Mae’n gwbl amlwg fod teuluoedd yn mynd i barhau i'w chael hi'n anodd eleni. A'r broblem sylfaenol yno, wrth gwrs, yw bod y farchnad ynni wedi torri, fel y gwyddoch, ac felly, yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw mecanwaith gwahanol ar gyfer codi tâl am ynni adnewyddadwy, gan ei bod yn gwbl warthus fod popeth yn seiliedig ar bris ymylol nwy er bod gennym ddigon o ynni adnewyddadwy eisoes. Pe baem yn gallu newid yr un peth hwnnw'n unig, byddem yn trawsnewid ein cymunedau a'u holl ofynion ynni. Felly, byddwn yn parhau i lobïo am hynny, ochr yn ochr â’n gwaith gyda’r grid a chyda’r cwmni.
Rwy’n ddiolchgar i Luke Fletcher am gyflwyno’r cwestiwn hwn. Ar ôl edrych ar yr adroddiad a’r crynodeb o’r argymhellion—yr angen am arweinyddiaeth a dull strategol, grid sy’n addas ar gyfer Cymru'r dyfodol, yr amgylchedd adeiledig, buddion a pherchnogaeth gymunedol—mae llawer yn yr adroddiad hwn y buaswn yn cytuno ag ef. A chan nodi, Weinidog, eich ymateb cyntaf i Luke yn eich ymateb i hyn yn y flwyddyn newydd, ar gynllunio'n unig, os caf, a gaf fi eich holi ynglŷn â chrynodeb yr ymateb?
'Erbyn 2025, lle mae gan geisiadau cynllunio ynni adnewyddadwy… amserlen statudol, orfodol, dylai penderfyniadau fod yn gadarnhaol yn ddiofyn os yw’r amserlen yn mynd heibio heb unrhyw ymateb'.
Hefyd,
'Erbyn 2025, dylid creu adnodd cynllunio cyfunol ar gyfer ynni er mwyn rhannu arbenigedd a sgiliau technegol ar gyfer mynegi polisïau cynllunio, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ystyried ceisiadau cynllunio.'
Nid wyf yn dymuno achub y blaen ar eich ymateb ar gyfer y flwyddyn newydd, ond a gaf fi eich barn ar y materion hynny mewn perthynas â chynllunio, gan y gwyddom fod cynllunio yn rhwystr go iawn i ddatgloi'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth ynni adnewyddadwy? Diolch, Lywydd.
Iawn, wel, yn sicr, byddaf yn ymateb yn ffurfiol ym mis Ionawr, ond ar hyn o bryd, mae’r polisi cynllunio cenedlaethol yn cefnogi egwyddor datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel o bob technoleg. Mae’n dechnoleg niwtral, yn gwbl fwriadol, ac mae hefyd yn cefnogi technolegau adnewyddadwy o bob maint hefyd. Felly, nid oes rhwystr i hynny yno.
Ceir cyfres gynhwysfawr o ganllawiau ochr yn ochr â ‘Polisi Cynllunio Cymru’ i gyflawni ein nodau ynni. Ac yna, yn 'Cymru’r Dyfodol’, mae gennym y polisi cenedlaethol ar ddatblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel. Mae gennym gyfres o bolisïau—yn enwedig polisïau 16, 17, 18—sy’n nodi ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer rhwydweithiau gwresogi ardal, er enghraifft, ar gyfer cyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr a hefyd ardaloedd sydd wedi’u rhag-asesu ar gyfer datblygiadau ynni gwynt mawr.
Mae gennym hefyd ragdybiaeth o blaid adbweru yn yr ardaloedd hynny, yn amodol ar y meini prawf a nodir ym mholisi 18, y byddwch yn ymwybodol ohonynt, yn ymwneud â gosod llinellau tanddaearol lle bo modd, ac ati. Ac yna, mewn hawliau datblygu a ganiateir, rydym eisoes yn caniatáu datblygu llawer iawn o dechnolegau ynni carbon isel ac adnewyddadwy heb fod angen cyflwyno unrhyw fath o gais cynllunio. Ceir rhai cyfyngiadau mewn ardaloedd penodol, ni fyddwch yn synnu—felly, ardaloedd cadwraeth, neu ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, er enghraifft. Ond yn fras, mae hawliau datblygu a ganiateir eisoes ar waith. Rydym wrthi'n adolygu’r canllawiau ar bympiau gwres ffynhonnell aer, gan fod gennym ganllawiau ar waith ar hyn o bryd sy’n eu hatal rhag bod o fewn 3m i eiddo cyfagos. Y rheswm am hynny yw bod rhai o'r modelau hŷn yn swnllyd iawn, ac rydym am sicrhau y gall pobl osod y rhai nad ydynt yn swnllyd. Ond fel y mae'r comisiwn seilwaith wedi nodi, mae mwy y gellir ei wneud bob amser, mae mwy o dechnoleg yn dod i'r amlwg, ac yn y blaen, felly byddaf yn ymateb yn gadarnhaol i'w hawgrymiadau.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ag asiantaethau allanol wrth weithredu'r cynllun adfer natur? OQ60312
Diolch am eich cwestiwn, Mark. Mae fy swyddogion yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, a’r undebau ffermio drwy grŵp gweithredu’r cynllun gweithredu adfer natur. Rydym yn cydweithio â CNC ar y rhaglen rhwydweithiau natur ac yn ariannu’r partneriaethau natur lleol i roi'r cynllun gweithredu adfer natur ar waith ar lefel leol.
Diolch. Mae’r adroddiad ar yr adolygiad o fanteision bioamrywiaeth ac ecosystemau ehangach adfer y gylfinir a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y cyfeirioch chi ato, yn dangos y byddai adfer y gylfinir o fudd i oddeutu 70 o rywogaethau, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, gan ategu ein dealltwriaeth o’r gylfinir fel rhywogaeth ddangosol. Drwy ddiffiniad, mae hyn hefyd yn golygu, pe baem yn eu colli, y gallai hyd at 70 o rywogaethau eraill gael eu colli neu eu niweidio hefyd. Yn eich ymateb ysgrifenedig ataf ar 7 Gorffennaf ynghylch pryderon am goedwigo, seilwaith ynni adnewyddadwy a chadwraeth y gylfinir, fe wnaethoch chi groesawu fy mhryder ynghylch cadwraeth ac adfer gylfinirod sy'n nythu yng Nghymru, a chyfeirio at ddyletswyddau trwyddedu amgylcheddol cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Fodd bynnag, cysylltodd etholwyr sy’n gweithio gyda Gylfinir Cymru â mi yn ddiweddar, gan nodi,
'Drwy gais rhyddid gwybodaeth, rydym yn gyfarwydd â llawer o ohebiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch safle fferm wynt arfaethedig Gaerwen, i’r de-orllewin o Gorwen. Nid ydynt yn sôn am y gylfinir yn unman. Mae hyn wedi'i ganoli ar Lyn Mynyllod, lle rydym wedi gweld gylfinirod a chornchwiglod'.
Heb gamau gweithredu brys ar faterion fel hyn, a’r gyfres o ysglyfaethwyr sy’n aros i fwyta cywion gylfinirod, bydd y gylfinir wedi diflannu fel poblogaeth nythu yng Nghymru ymhen degawd. Felly, pa gamau rydych chi'n cynnig eu cymryd ar unwaith, gan gydweithio ag aelodau Gylfinir Cymru—ac mae llawer o'r sefydliadau y sonioch chi amdanynt yn aelodau o Gylfinir Cymru—i atal hyn?
Ni allaf wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio unigol, Mark, ond os hoffech ysgrifennu ataf fel arall ynglŷn â chais penodol, rwy’n amlwg yn fwy na pharod i edrych ar hynny. Ar Gylfinir Cymru yn benodol, rydym yn amlwg yn ymgysylltu â nhw, fel y gwyddoch. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried cyfres o geisiadau am gyllid ganddynt, i ariannu dull cydweithredol. Gwyddoch fy mod yn awyddus iawn i wneud hyn. Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd y gallwn ddarparu cyfleoedd i alluogi'r gylfinir i ffynnu. Rydym yn glir iawn fod unrhyw gynigion plannu coed yn parchu’r gylfinir a rhywogaethau eraill sy’n nythu ar y ddaear ac sydd angen tirweddau agored. Ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, rydym yn edrych i weld sut y gallwn sicrhau bod y cynlluniau ffermio cynaliadwy, a chynlluniau eraill, yn ddigon hyblyg, i wneud yn siŵr ein bod yn plannu ein coed, ond gyda'r goeden gywir yn y lle cywir, fel y dywedwn bob amser. Ac wrth gwrs, mae llawer o’r glaswelltiroedd agored sy’n cynnal y gylfinir hefyd yn cynnal llawer iawn o rywogaethau eraill, ac yn ddalfeydd carbon naturiol ynddynt eu hunain, fel y gwyddoch, o’r dolydd a’r glaswelltiroedd, a hefyd rhai o fawnogydd yr ucheldir, ac yn y blaen. Ni allaf wneud sylw ar y cais cynllunio unigol, ond os hoffech ysgrifennu ataf yn ei gylch, rwy’n fwy na pharod i ymchwilio iddo.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Nawr, gŵyr pob un ohonom fod yna argyfwng tai difrifol yng Nghymru. Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn, fe wyddom hefyd fod yn rhaid adeiladu mwy o gartrefi, a hynny’n fuan. Nawr, ni ellir cyflawni hyn, wrth gwrs, heb fod system gynllunio effeithiol ar waith. Weinidog, rwyf wedi cynnal sawl cyfarfod ar draws y sector adeiladu tai dros yr haf, ac rwyf wedi clywed cymaint o bryderon ynghylch y ffordd y mae oedi yn y broses ceisiadau cynllunio bellach yn rhwystro eu gallu i fwrw ymlaen â chynlluniau tai. Nododd pob un ohonynt oedi—oedi difrifol—cyn cael caniatâd cynllunio, a fyddai'n caniatáu i’r cartrefi mawr eu hangen hyn gael eu hadeiladu. Roeddent hefyd yn tynnu sylw at yr adrannau cynllunio sydd dan ormod o bwysau. Ym mhob cornel, ym mhob awdurdod lleol, mae adrannau cynllunio dan ormod o bwysau. At ei gilydd, mae 135 o swyddi gwag yn ein hadrannau cynllunio, mae swyddi gwag yn ein hadrannau cyfreithiol, ac fel y nodwyd ddoe ddiwethaf, nid oes gennym ddigon o swyddogion rheolaeth adeiladu yng Nghymru. Gwelsom effaith uniongyrchol hyn yn yr haf, pan gyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ddatganiad yn rhybuddio am oedi yn y broses gynllunio oherwydd prinder staff difrifol. Rhybuddiodd prif swyddog cynllunio Wrecsam fod pob swyddog yn ymdrin â llwythi achosion mawr iawn. Rydym yn mynd i fethu—. Mae'r Llywodraeth yn mynd i fethu darparu nifer y cartrefi newydd sydd eu hangen yng Nghymru os nad ydych yn dadflocio’r broses gynllunio. Gyda chyflwyno’r Bil seilwaith, a mwy o bwyslais ar gynllunio yng Nghymru, pa gamau y gallwch eu cymryd i gynorthwyo ein hadrannau cynllunio i recriwtio swyddogion cynllunio?
Wel, Janet, ble i ddechrau gyda chi, mewn difrif? Rydych wedi gorfodi 10 mlynedd o gyni ar awdurdodau lleol, ac yn y gyllideb ddiwethaf, nid oedd unrhyw beth o gwbl iddynt. Nid oes unrhyw bwynt ichi ysgwyd eich pen arnaf; rwy'n eich cofio'n dweud mai’r hyn yr oedd angen inni ei wneud oedd cael gwared ar swyddi swyddfa gefn. Wel, dyma'r swyddi rydych chi nawr yn cwyno nad ydynt yno. Ni allwch ei chael hi bob ffordd. Os ydych yn cael gwared â swyddi rheng flaen mewn awdurdodau lleol oherwydd cyni, yr hyn a gewch yw dim cyfreithwyr, dim cynllunwyr, dim swyddogion rheolaeth adeiladu, a dyna rydym yn ei weld. Felly, ni allwch gymryd y broblem ar ddiwedd y cylch ac yna gweiddi arnaf nad yw'n digwydd.
Rydym yn gwneud nifer fawr o bethau ledled Cymru i geisio unioni’r rhaglen gyni lawdrwm sydd wedi taro ein hawdurdodau lleol. Mae bron yn amhosibl iddynt ehangu o ystyried eu trafferthion ariannol presennol. Felly, yr hyn a wnawn, yn union fel y dywedwch, yw gweithio ar drefniadau rhanbarthol, na allaf eich cofio'n eu cefnogi, i geisio cael y trefniadau rhanbarthol hynny ar waith, fel bod gennym well strwythur gyrfaoedd. Mewn gwirionedd, rydym yn gweithio gyda'n fforwm adeiladu a chyda'n datblygwyr i sicrhau nad ydynt yn eu potsio cyn gynted ag y byddant wedi hyfforddi ac wedi cymhwyso am bum mlynedd, sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru ers peth amser. Ac fel y dywedais yn fy natganiad ddoe, rydym yn ariannu rhaglenni hyfforddi penodol ar gyfer rhai o'r proffesiynau anoddaf eu recriwtio. Ond nid oes unrhyw amheuaeth mai'r rhaglen gyni, a orfodwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU, sydd wedi achosi'r broblem hon.
Er eglurhad, nid fi sy'n gweiddi arnoch chi; mewn gwirionedd, chi sy'n gweiddi arnaf fi—
Nid wyf yn gweiddi o gwbl.
—mewn ymateb i mi yn craffu arnoch.
Fe benderfynaf fi a yw pobl yn gweiddi yn y Siambr hon, felly parhewch â'r cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Iawn. Ac er eglurhad ar bwynt arall, fodd bynnag, yr unig dro rwyf fi erioed wedi gofyn am swyddi swyddfa gefn, roeddwn yn gofyn am gyflogres ranbarthol i ogledd Cymru. Nid wyf erioed wedi gofyn am ostyngiad yn nifer ein swyddogion cynllunio, swyddogion cyfreithiol, mawr eu hangen. Roedd angen dweud hynny.
Nawr, mae rhai datblygwyr tai, yn yr ymgysylltiad a gefais gyda nhw, wedi dweud y byddent yn fodlon gweithio gyda Llywodraeth Cymru, neu awdurdodau lleol unigol, i helpu i ariannu'r swyddi hyn, naill ai drwy roi ymgynghorydd cynllunio mewn adran awdurdod lleol, neu eu cael yn gweithio yno, ond yn gweithio gyda'r awdurdod lleol. Ac maent yn credu y byddai hyn yn helpu i leihau llwyth gwaith ein hawdurdodau cynllunio lleol, gan ei gwneud hi'n bosibl prosesu ceisiadau yn gyflymach. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig, gwariodd awdurdodau lleol bron i £1 filiwn ar ymgynghorwyr cynllunio. Felly, mae rhanddeiliaid wedi dweud yn glir wrthyf y gallai awdurdodau cynllunio leihau’r baich drwy weithio ar sail fwy rhanbarthol hefyd. Mae'n debyg y gallech ddechrau clustnodi refeniw a gynhyrchir o ffioedd cynllunio. O edrych arnynt, a ydynt yn ddigon uchel i allu recriwtio’r staff sydd eu hangen i gael y swyddogion awdurdodau cynllunio lleol hyn? Un peth sydd wedi cael ei godi gyda mi, Weinidog—
Mae'n ddrwg gennyf am dorri ar draws. Rwyf wedi bod yn hael iawn gyda'r cwestiwn cyntaf, a oedd bron yn ddwy funud. Mae hwn bellach yn funud a hanner. Felly, os gallwch ofyn eich cwestiwn.
Hoffent pe baech yn adolygu'r broses o wneud cais cyn cynllunio. Maent yn credu ei bod yn lletchwith ac yn llesteirio'r broses ymgeisio ei hun. Felly, a wnewch chi ystyried gweithio gyda’n diwydiant adeiladu tai a swyddogion cynllunio ledled Cymru i adolygu sut y gellir gwella perfformiad awdurdodau cynllunio lleol?
Wel, rydym eisoes yn gwneud hynny, Janet. Mae gennym fforwm adeiladu y gwahoddir pob adeiladwr BBaCh iddo. Os gwyddoch am unrhyw adeiladwyr tai nad ydynt yn mynychu'r fforwm hwnnw, dywedwch wrthyf pwy ydynt; rydym yn gwahodd pob un ohonynt. Rydym yn gwneud hynny’n rheolaidd iawn. Mae gennym fforwm adeiladu trosfwaol, ac yna ffrydiau gwaith penodol ar gyfer adeiladu tai, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys cynllunio a nifer o feysydd eraill, wrth gwrs, fel ffosffadau ac yn y blaen. Mae gennym yr uwchgynhadledd ffosffadau ddiwedd yr wythnos hon. Rydym yn gwneud llawer o waith yn barod. Ond os ydych yn ymwybodol o unrhyw adeiladwyr tai sy'n teimlo nad ydynt wedi'u cynnwys yn y fforwm hwnnw, rhowch wybod i mi pwy ydynt.
Mae hynny'n gadarnhaol iawn, mewn gwirionedd, oherwydd efallai'n wir mai'r adeiladwyr tai rydym wedi cyfarfod â nhw yw'r rhai nad ydynt yn mynychu eich fforwm, ac os nad ydynt, pam? Felly, fe af yn ôl atynt ar hynny.
Nawr, yr amser cyfartalog ar gyfer cymeradwyo caniatâd cynllunio yw 374 diwrnod; ymhell dros flwyddyn. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl yn cymryd hyd at bum mlynedd. Mae datblygwyr yn dweud wrthyf ei bod yn cymryd tair blynedd iddynt, ar gyfartaledd, o’r cais cynllunio i osod y fricsen gyntaf. Mae cymdeithasau tai ac etholwyr yn dweud yn glir wrthyf: mae angen mwy o dai rhent cymdeithasol ac mae angen tai gwirioneddol fforddiadwy arnom. Er ein bod yng nghanol yr argyfwng cynllunio a thai, a wnewch chi archwilio opsiynau i roi ceisiadau ar gyfer y cartrefi rhent cymdeithasol a’r tai fforddiadwy mawr eu hangen hyn yma yng Nghymru ar lwybr carlam?
Mae tri pheth ynghlwm wrth hynny. Yn gyntaf, yn amlwg, mae angen yr adeiladu masnachol arnom—ni allaf gredu ein bod yn gwneud pethau yn y drefn hon, a dweud y gwir. Mae angen i’r sector masnachol adeiladu, gan fod arnom angen y 106 o dai sy’n dod allan o hynny, felly yn amlwg, mae angen i bob un o’r ceisiadau cynllunio hynny gael eu cymeradwyo. Rydym yn archwilio ffyrdd o sicrhau bod rhai o’r ceisiadau lle mae 50 y cant ohonynt yn dai cymdeithasol yn mynd rhagddynt. Mae gennyf yr uwchgynhadledd ffosffadau yfory, mewn gwirionedd—bore yfory—felly rydym yn edrych i weld a oes gennym bethau penodol iawn y gallwn eu gwneud i ryddhau rhywfaint o'r miloedd o gartrefi sy'n sownd y tu ôl i ffosffadau. Rydym wedi bod yn llwyddiannus i fyny yng ngogledd Cymru ar un neu ddau o'r safleoedd. Rydym yn gobeithio gallu ymestyn hynny ymhellach i'r de. Mae gennym—ni allaf gofio faint yn union—ond mae oddeutu 1,500 o gartrefi wedi'u datgloi yn y gogledd yn ddiweddar o ganlyniad i rywfaint o'r pethau yr ydym wedi gallu eu gwneud. Felly, rwy'n gobeithio, ar ôl yr uwchgynhadledd yfory, y byddwn yn gallu gwneud mwy o gynnydd gyda hynny.
Rydym yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud gyda datblygwyr sydd â thir i sicrhau bod y ceisiadau sydd ganddynt yn rhai gwirioneddol, gan fod gan gryn dipyn ohonynt dir sydd wedi’i nodi yn y cynllun datblygu lleol ar gyfer tai, ond nid oes cais cynllunio wedi'i wneud ganddynt mewn gwirionedd. Felly, yr hyn a wnawn yw edrych, ar hyn o bryd, ar y rhai sydd wedi gwneud cais cynllunio, ond wedyn mae angen inni weithio gyda'r bobl sy'n berchen ar y tir sydd wedi'i nodi ar gyfer tai yn y CDLl i ddeall pam nad ydynt wedi cyflwyno cais cynllunio. Gallai hynny fod oherwydd eu bod yn credu bod y broblem ffosffad yno ac nid ydynt am wneud yr ymdrech ymlaen llaw, ond efallai y bydd amrywiaeth o feysydd eraill. Felly, rydym yn mynd ati yn benodol iawn i dargedu safleoedd yn y CDLlau ledled Cymru sydd wedi’u clustnodi ar gyfer tai, i edrych i weld a allwn weithio gyda’r deiliaid tir i ddeall beth yw’r rhwystr.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae cynllun tlodi tanwydd y Llywodraeth yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgynghori ar sut i adeiladu a chryfhau rhaglen Cartrefi Clyd erbyn diwedd 2021, i gyhoeddi’r canfyddiadau yng ngwanwyn 2022 ac i fwrw ymlaen â'r rhaglen newydd o 2023 ymlaen. Dywedodd y Prif Weinidog ym mis Mawrth, yn ystod gwaith craffu’r pwyllgor, er y bu disgwyl i’r rhaglen newydd fod ar waith erbyn diwedd eleni, ei bod wedi'i gohirio. Mae rhaglen Nyth wedi'i hymestyn i fis Mawrth 2024, felly rwy'n cymryd y bydd rhaglen Cartrefi Clyd yn dechrau ym mis Ebrill neu yn y flwyddyn ariannol newydd. Os yw hynny’n wir, bydd hynny’n gadael miloedd o aelwydydd yn oer drwy gydol y gaeaf, mewn tlodi tanwydd neu’n cael eu gwthio ymhellach i ddyled oherwydd effeithlonrwydd ynni isel a chostau gwresogi. Weinidog, rwy'n gwybod na fyddwch yn hapus ynglŷn â’r ffaith bod hynny’n digwydd, ond drwy ohirio, mae'n condemnio pobl i’r oerfel, onid yw, gydag effeithiau trychinebus ar iechyd a lles pobl, cyllidebau cartrefi a'r amgylchedd. Felly, a allwch ddweud wrthym, os gwelwch yn dda, pryd yn union y gallwn ddisgwyl i'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd gael ei chyflwyno? Ac a allwch ddweud wrthym pam ei bod yn cael ei gohirio tan y gwanwyn, os gwelwch yn dda?
Mae wedi'i rhoi allan ar dendr ar hyn o bryd mewn gwirionedd, ac mae'n dibynnu pwy sy'n ennill y tendr hwnnw. Os yw'r sawl sy'n ei ennill yn gallu cychwyn ar unwaith, byddwn yn dechrau ar unwaith; os oes angen amser i baratoi ar y sawl sy'n ei ennill, bydd yn rhaid inni ystyried hynny. Bydd hynny’n rhan o’r broses dendro. Rydym wedi ymestyn Nyth i fis Mawrth fel mesur rhagofalus; nid yw o reidrwydd yn golygu na fydd yn dod i rym. Felly, pe bai’r tendrwr llwyddiannus yn gallu dechrau y dydd Llun canlynol, byddem yn fwy na pharod iddynt wneud hynny. Mae'n ymwneud â'u paratoi a'u galluogi i wneud hynny. Felly, dyna sy'n achosi'r oedi. Roedd yr oedi gwreiddiol yn ymwneud â chael trefn ar rai o’r rheolau caffael aneglur nawr ein bod wedi gadael yr UE. Felly, cymerodd fwy o amser nag y byddem wedi'i hoffi inni osod y tendr, ac yna rydych mewn proses ddiwrthdro o ran yr amserlen. Felly, ni allaf wneud dim am hynny ar hyn o bryd.
Rydym wedi sicrhau bod rhaglen Nyth yno, er mwyn sicrhau bod rhywbeth ar waith, ond rwy'n cytuno, byddai'n llawer gwell gennyf pe bai wedi dechrau ymlaen llaw. Felly, gyda lwc, bydd rhywun a all ei wneud yn llawer cynt na mis Mawrth, ac rydym wedi dweud yn glir iawn yn y broses dendro ein bod am i hynny ddigwydd.
Diolch. Mae Brexit yn amlwg yn taflu cysgod hir dros gymaint o agweddau ar ein bywydau. Yn amlwg, mae'r rhaglen wedi'i llesteirio gan oedi—a gwn eich bod yn cyfaddef hynny—ac mae yna ganlyniadau, fel yr amlinellwyd eisoes. Nawr, nid ydym yn diystyru maint yr her fod stoc dai Cymru ymhlith yr hynaf a'r lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop. Gwn y bydd yn cymryd llawer o ymdrech ac adnoddau i godi safon ein tai fel y gall pawb fyw mewn cartref cynnes ac effeithlon o ran ynni. Nawr, o edrych ar yr amserlen bosibl ar gyfer gwella'r stoc dai i'r safon honno, ceir pryderon na fydd y rhaglen yn cael ei chyflawni ar y raddfa angenrheidiol nac ar y cyflymder angenrheidiol i sicrhau'r newid hwnnw. Ceir pryder fod hyn wedi digwydd oherwydd diffyg brys ar ran Llywodraeth Cymru i gyflawni lefel foddhaol o effeithlonrwydd ynni yn y stoc dai honno. Beth fyddai eich ymateb i hynny, os gwelwch yn dda? A faint o gartrefi yr hoffai'r Llywodraeth i raglen Cartrefi Clyd eu targedu erbyn diwedd tymor y Senedd hon, os gwelwch yn dda?
Mae hyn yn ymwneud â cheisio dod o hyd i ateb da, sy'n rhoi rhagor o gynhesrwydd i bobl dros dro ac yn datgarboneiddio ac yn sicrhau gwell effeithlonrwydd ynni yn y tymor hir. Felly, mewn gwirionedd, mae'n llwybr eithaf anodd ei gerdded. Felly, yr hyn rydym wedi'i benderfynu—ac rwyf wedi adrodd ar hyn mewn Seneddau blaenorol—yr hyn rydym wedi ceisio ei wneud yw sicrhau cydbwysedd rhwng, er enghraifft, atgyweirio a gwneud boeler nwy presennol yn fwy effeithlon a gosod system wedi'i datgarboneiddio yn ei le, sy'n aml yn golygu mwy o waith yn y tŷ. Felly, mae hynny'n bosibl o dan raglen Cartrefi Clyd—os mai dyna sydd ei angen ar eich tŷ, dyna fydd eich tŷ yn gallu ei gael. O dan Nyth, nid felly yr oedd hi; nid oeddem yn canolbwyntio ar y tŷ cyfan, roedd gennym ryw fath o raglen 'Beth yw eich ffynhonnell wres? Gadewch inni ei huwchraddio.'
Rydym wedi bod yn awyddus iawn hefyd i symud yr un hon ymlaen i gymdogaethau hefyd, felly os oes gennych gymdogaeth lle mae—. Gan ein bod wedi bod yn cynnal ein harchwiliadau ynni ardal leol, os oes gennym gymdogaeth lle mae'n amlwg fod angen uwchraddio stryd, ond bod dau berson ar y stryd honno nad ydynt yn gymwys ar gyfer y rhaglen am wahanol resymau, ni fydd hynny'n eu gwahardd rhag gwneud y gwaith. Byddai hynny wedi atal y gwaith yn y gorffennol. Felly, gallwn wneud rhaglenni llawer mwy effeithlon ar draws ardal, er enghraifft, ar deras cyfan, lle rydych yn gwneud yr holl waith inswleiddio ar yr un pryd. Ni fyddem wedi gallu gwneud hynny o’r blaen, felly rydym yn awyddus iawn i weithio ar hynny. Byddai hynny, felly, yn ddatgarboneiddio llawn. Ac fe fyddwch yn gwybod nad hon yw'r unig raglen sy'n gwneud hynny hefyd: rydym yn gweithredu'r rhaglen ôl-osod ac rydym newydd gyhoeddi safon ansawdd tai newydd Cymru, ac mae hynny'n mynd i orsgilio eu gweithlu yn fwriadol fel y gallwn roi systemau ar waith ar gyfer perchen-feddianwyr.
Rwyf wrth fy modd fod y lwfans tai lleol wedi codi yn ôl i 30 y cant. Hynny yw, byddai'n well pe bai'n 50 y cant, ond 30 y cant, gadewch inni beidio â throi ein trwynau ar hynny, gan fod hynny'n golygu y bydd gennym lawer mwy o eiddo yn y sector rhentu preifat yn dod i mewn i gynlluniau lesddaliad Cymru, gan fod hynny'n golygu ein bod yn cael y rheini am bump i 15 mlynedd—mae 15 mlynedd yn well, yn amlwg, ond pump yw'r isafswm—ac yna rydym yn sicrhau bod y cartrefi hynny'n cyrraedd y safon. Felly, mae'n ffordd o ddatgarboneiddio a chynyddu effeithlonrwydd y sector rhentu preifat, sydd y tu allan i raglen Cartrefi Clyd, gan na fyddai'r landlordiaid hynny yn gymwys ar gyfer hynny.FootnoteLink Felly, mae gennym nifer o gynlluniau eraill sy'n cydblethu â'i gilydd i geisio cyrraedd y bobl fwyaf agored i niwed. Cyfarfûm â Marie Curie ar y grisiau y tu allan, mewn gwirionedd, a derbyniais ddeiseb ganddynt. Rydym wedi cytuno y bydd fy swyddogion yn gweithio gyda nhw i sicrhau y gallwn gael cymaint ag y gallwn o'r bobl y maent yn ymwybodol ohonynt i mewn i'r rhaglen hefyd.
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gymorth i bobl yn Arfon sydd wedi eu heffeithio yn negyddol gan y cynllun Arbed? OQ60333
Diolch, Siân. Mae fy swyddogion wedi ymchwilio i’r opsiynau sydd ar gael i drigolion Arfon ac rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod arall gyda chi i drafod y sefyllfa a ffordd bosibl ymlaen.
Dwi ddim yn siŵr iawn faint o gyfarfodydd sydd angen cael eu cynnal ynglŷn â'r mater yma. Fel dŷch chi'n gwybod, dwi wedi bod yn sôn am hyn ac mae perchnogion tai yn Arfon wedi bod yn mynd ar ôl hyn ers blynyddoedd bellach, ac mae yna dal bobl sydd ddim yn cael cymorth gan y cwmni a wnaeth osod yr insiwleiddiad, na thrwy'r warant gafodd ei roi iddyn nhw pan wnaed y gwaith.
Mae yna un arall o'r cwmnïau gosod yma, rŵan, wedi mynd i drafferthion—cwmni oedd yn rhan o gynllun Arbed yn Arfon—ac mae gennym ni, rŵan, grŵp pellach o bobl efo nunlle i droi. Trigolion ydy'r rhain sy'n gorfod byw efo insiwleiddiad wal allanol diffygiol, a phob math o broblemau wedi codi yn sgil hynny, a dim modd i dalu am waith atgyweirio eu hunain a nunlle i droi am gymorth. Gaeaf arall o bryder, felly. A'r rhain yn bobl sydd wedi rhoi'u ffydd mewn cynllun effeithlonrwydd ynni, sy'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth, ac wedi cael eu siomi.
Felly, iawn, cawn ni gyfarfod eto, ond beth yn benodol fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud rŵan i helpu'r bobl yma? Ac i fynd yn ôl at y pwynt roedd Delyth Jewell yn ei godi yn gynharach ynglŷn â chynlluniau newydd sydd ar droed, sut dŷch chi'n disgwyl i bobl Arfon ymddiried yn y cynlluniau newydd yma os nad ydyn nhw yn cael help rŵan i ymdopi efo problemau sydd wedi codi efo'r hen gynlluniau?
Diolch, Siân. Rwy'n deall eich rhwystredigaeth gyda hyn. Felly, fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn gweithio gyda chi ar hyn ers peth amser bellach. Yn ôl yn 2021, cysylltwyd â phob cartref yng nghynllun Arfon i’w cynorthwyo gyda'r ddogfennaeth, gan gynnwys y gwarantau y dylent eu cadw a gweithredu arnynt, a darparwyd copi o’r dogfennau gennym i bawb a ymatebodd yn gofyn amdanynt. Lle roedd modd, rwy'n gobeithio eu bod wedi gallu mynd ar drywydd iawndal drwy’r cynlluniau gwarant a oedd ar waith. Rwyf hefyd yn derbyn, serch hynny, Siân, fod rhai o’r cwmnïau wedi mynd i'r wal ac eraill mewn trafferthion, felly rwy’n fwy na pharod i weithio gyda chi ar eiddo penodol iawn lle mae hynny wedi digwydd.
Gadewch inni gael cyfarfod i drafod y manylion, ond fy nealltwriaeth i yw bod y nodweddion inswleiddio thermol wedi gweithio, ond mae ei olwg, y gorffeniad allanol, yn wael, ac rydym yn derbyn ei fod yn wael. Os ydych yn ymwybodol fod yr insiwleiddio thermol wedi methu, mae hynny'n fater gwahanol, gan fod hynny’n agor rhai llwybrau iawndal cyfreithiol eraill ar ein cyfer. Felly, rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod penodol iawn gyda chi ynglŷn â'r unigolion, gan fy mod yn credu bod hon yn sefyllfa lle nad yw un ateb addas i bawb yn mynd i weithio i ni, felly gadewch inni wneud hynny. Rwy'n deall eich rhwystredigaeth, ond credaf ei bod yn werth gwneud yr ymdrech olaf honno.
Rwy’n ddiolchgar i Siân Gwenllian am godi’r pryder hwn ar ran ei thrigolion, a fy nhrigolion innau fel Aelod rhanbarthol. Fe sonioch chi am 2021 yn eich ymateb i Siân Gwenllian, Weinidog, a gwyddom hefyd mai yn 2021 y nododd Archwilio Cymru bryderon difrifol am raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, a galw am iddi fod yn wyrddach, yn gliriach a chael ei rheoli’n dynnach—yr un rhaglen y cyfeiriodd Delyth Jewell ati yn ei chwestiwn yn gynharach. Gwyddom bellach nad yw llawer o'r rhaglen waith yn mynd i fod yn weithredol tan ar ôl y gaeaf eleni, felly mae'n amlwg fod pryderon ynghylch cyflwyno'r rhaglen honno. Felly, tybed, er lles y trigolion hynny yn Arfon, ac er lles trigolion ledled Cymru sy'n gobeithio cael cymorth drwy'r rhaglen waith hon, pa wersi a ddysgwyd o gynllun Arbed y gobeithiwch eu hunioni ar gyfer rhaglenni'r dyfodol?
Diolch, Sam. Rydym yn sicr wedi dysgu’r gwersi o’r cynlluniau hyn, a chawsom broblemau mewn mannau eraill hefyd—cafodd fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies nifer o broblemau yng Nghaerau a mannau eraill yn ei etholaeth hefyd. Felly, ers hynny, mae wedi cyflwyno mesurau annibynnol ar gyfer sicrwydd ansawdd a rheoli perfformiad isgontractwyr i’r rhaglen Cartrefi Clyd, felly cânt eu gwirio’n annibynnol a’u cefnogi am yr union reswm pam fod gennym y broblem hon, a Siân, rwy'n ymddiheuro, ni wneuthum ateb y rhan honno o'ch cwestiwn. Ond rydym yn mynd i weithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym lwybr at iawndal am unrhyw beth sy'n mynd o'i le yn y rhaglen newydd, gan ddysgu o'r gwersi hyn.
Ceir problemau penodol er bod y gweithrediad sylfaenol yn gweithio, felly mae'r darn thermol wedi gweithio, ond yr olwg allanol—mae wedi difetha golwg eich cartref, sy'n peri cryn ofid i bobl. Mae gennym well iawndal os nad yw'r darn thermol wedi gweithio nag sydd gennym os yw'r broblem yn un gosmetig yn unig. Nid wyf am fychanu hynny, mae'r elfen gosmetig yn sicr yn bwysig, ond mae gennym lwybr iawndal cyfreithiol gwahanol os nad yw'r peth ei hun wedi gweithio. Rwy'n credu mai peth o'r drafferth a gawsom yn Arfon yw bod y darn thermol wedi gweithio, ond mae'r gorffeniad yn wael iawn. Mae honno'n broblem gyfreithiol ychydig yn wahanol ac ychydig yn anos ei datrys. Ond rwy'n fwy na pharod i weithio gyda chi i geisio cael atebion unigol i hynny.
4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru), a gynhaliwyd yn 2021? OQ60328
Diolch, Heledd. Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wrthi’n cynnal trafodaethau â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg am ganfyddiadau’r adolygiad diweddar a gynhaliwyd ar Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a’r camau nesaf posibl. Bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi pan ddaw'r trafodaethau hyn i ben. Ac er nad yw'n rhan o'r ateb ffurfiol, Lywydd, hoffwn ddweud, gan nad yw'r Dirprwy Weinidog yma ar hyn o bryd, fod gennyf gyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mercher, 13 Rhagfyr gyda'r Gweinidog addysg fy hun i fynd i'r afael â'r mater gydag ef.
Diolch, Weinidog. Yn sicr, mae'n galonogol clywed bod rhywbeth ar y gweill, oherwydd ers dros flwyddyn bellach, rydym wedi bod yn clywed y bydd y camau nesaf yn cael eu rhannu gyda ni. Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi rhannu gyda Luke Fletcher yn ôl ar 19 Hydref 2022 y byddai’r camau nesaf yn cael eu rhannu, felly rydym ar bigau'r drain. Yn y cyfamser, mae awdurdodau fel Rhondda Cynon Taf yn ystyried gwneud newidiadau gwirioneddol. Maent wedi bod yn mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau, ond oherwydd heriau ariannol, maent bellach yn ystyried y pethau statudol nawr. Bydd hyn yn amlwg yn cael effaith enfawr, ac mae'r anghysondeb hwnnw o ran profiad yn rhywbeth sy'n peri pryder, yn enwedig pan fo'n rhwystr i blant rhag cyrraedd yr ysgol ar hyn o bryd.
Tybed a allwch nodi pa gymorth fydd ar gael i sicrhau y gallai unrhyw newidiadau y mae awdurdodau lleol yn cynnig eu cyflwyno a allai fod yn groes i'r hyn yr hoffech iddo ddigwydd, o ystyried yr adolygiad—. Sut rydym yn mynd i gefnogi i sicrhau nad oes unrhyw ddisgybl yn methu cyrraedd yr ysgol? Oherwydd mewn llawer o’r Cymoedd a gynrychiolwn, dair milltir i fyny ac i lawr allt, nid oes llwybrau diogel. Nid yw'n fater o ddewis defnyddio llwybr teithio llesol, eu hunig ddewis yw bws, ac yn anffodus, mae hynny'n mynd i fod yn rhwystr pellach wrth i awdurdodau lleol geisio codi tâl ar fwy byth o ddisgyblion i ddefnyddio'r bws hwnnw.
Diolch yn fawr, Heledd. Rydych chi'n iawn; mae gennym ni arferion rhagorol ledled Cymru ond mae'n amrywio'n fawr, yn dibynnu ar eich topograffi a lleoliad eich ysgolion a'ch cymunedau a'r cyfan oll. Felly, rydym wedi cytuno, fel rwy'n deall—nid fy maes i yw hwn, felly rwy'n ei godi, ond—rydym wedi cytuno, fel rwy'n deall, fod angen diwygio ac adolygu'r Mesur dysgwyr. Rydym yn edrych i weld beth yn union fydd hynny'n ei olygu a sut mae'n cyd-fynd â'n diwygiadau ehangach i fysiau. Felly, rwy'n bwriadu cael cyfarfod gyda'r Gweinidog i fynd drwy'r holl faterion sy'n codi a gweld faint ohonynt y gellir edrych arnynt yn y tymor byrrach a faint ohonynt sy'n ddibynnol ar ddeddfwriaeth yn y dyfodol ac yn y blaen. Rwy'n ofni nad wyf mewn sefyllfa i'ch ateb ar hyn o bryd, ond cyn gynted ag y byddaf wedi cael y cyfarfod hwnnw, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi a chael trafodaeth yn ei gylch.
Diolch.
5. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi'r sector hydrogen yng Nghymru? OQ60335
Diolch yn fawr, Janet. Mae'r argyfwng hinsawdd yn mynnu ein bod yn defnyddio'r holl arfau sydd ar gael i ni i gyflymu cynnydd tuag at system ynni sero net. Gan weithio gyda phartneriaid rhanbarthol, rydym yn ystyried opsiynau i gefnogi cyflymu a defnyddio seilwaith hydrogen ledled Cymru, gan weithio ar draws sectorau gan gynnwys trafnidiaeth, cynhyrchu pŵer a hybiau treialu hydrogen.
Diolch. Er gwaethaf ymdrechion rhagorol HyCymru, Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru, mae'n deg tynnu sylw at y ffaith bod datblygiad yr economi hydrogen yng Nghymru yn llusgo ar ôl gwledydd eraill. Mae gan Norwy fferi sy'n cael ei bweru gan hydrogen. Rydym wedi gofyn am gynllun tebyg rhwng Cymru ac Iwerddon; nid oes unrhyw beth wedi digwydd hyd yma. Y flwyddyn nesaf, bydd gan yr Alban gymdogaeth nwy hydrogen. Unwaith eto, rydym wedi gofyn sut y gall prosiectau tebyg fynd rhagddynt yma yng Nghymru, a nawr mae'r UDA wedi cyhoeddi—mawredd—$7 biliwn o gyllid i'r Unol Daleithiau sefydlu chwech i 10 hyb hydrogen glân rhanbarthol ledled America, lle mae cefnogaeth ar gael ar gyfer cynhyrchu, prosesu, cyflenwi, storio a defnydd terfynol o hydrogen. A wnewch chi ddilyn arweiniad yr Unol Daleithiau? A gadewch inni fod yn anturus drwy wneud Cymru'n un hyb hydrogen mawr. Diolch.
Wel, fe ddechreuoch chi mor dda, Janet, ond fel arfer, rydych chi'n teimlo'r angen i ladd arnom. Felly, gadewch imi ddweud wrthych beth rydym yn ei wneud mewn gwirionedd, ac efallai y gallech chi roi ychydig o glod i hynny. Ac mae croeso mawr i chi ddod i Abertawe a mynd ar y bws hydrogen y maent yn ei redeg yno, er enghraifft. [Torri ar draws.] Yn union. Felly, rydym wedi dyfarnu gwerth mwy na £2.6 miliwn o gyllid a chymorth arall i brosiectau ledled Cymru drwy gynllun ymchwil busnesau bach hybrid y fenter byw'n glyfar dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cefnogodd 23 o astudiaethau dichonoldeb mewn ymchwil a datblygu a phedwar prosiect arddangos a phrototeipio ar gyfer defnyddio hydrogen ledled Cymru yn y cyfnod hwn. Mae'r prosiectau arddangos hybrid wedi bod yn arbennig o arwyddocaol wrth hyrwyddo'r defnydd o hydrogen yn ein fflydoedd cyhoeddus. Roedd prosiectau'r cynllun ymchwil busnesau bach hybrid hefyd yn cefnogi tri phrosiect dichonoldeb hydrogen yn uniongyrchol yng ngogledd Cymru, y prosiect momentwm hybrid a weithredir gan Baileys and Partners yn Nhal-y-bont yng Ngwynedd, a gyflwynodd astudiaeth ddichonoldeb fanwl ar gyfer cynllun technegol a chost datblygu hyb hydrogen gwyrdd a chyfleoedd y farchnad i gwsmeriaid ar gyfer tanwydd hydrogen mewn ardaloedd gwledig. Drwy'r prosiect hybrid FerMontation, rydym wedi cefnogi Menter Môn ar Ynys Môn i wneud astudiaeth ddichonoldeb ar y defnydd o hydrogen mewn eplesu manwl wrth gynhyrchu bwyd, ac mae gennym nifer o brosiectau cynllun ymchwil busnesau bach hybrid Cymru gyfan gyda ffocws cryf ar ogledd Cymru. Nododd adroddiadau dichonoldeb a phrototeipio trenau hydrogen hybrid Cymru fod Arup gyda mewnbwn Trafnidiaeth Cymru wedi nodi bod sawl rheilffordd yng ngogledd Cymru yn addas iawn ar gyfer treialu trenau hydrogen, gan gynnwys rheilffordd Calon Cymru, rheilffordd Cambrian, a rheilffyrdd Arfordir Gogledd Cymru, a Dyffryn Conwy. Ac mae Cyngor Sir y Fflint wedi comisiynu prosiect i fireinio'r cysyniad o hyb hydrogen, gyda chefnogaeth gan fargen twf gogledd Cymru ac arian Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw ar GwerthwchiGymru gan Uchelgais Gogledd Cymru i ymgysylltu â phartneriaid masnachol posibl, ac maent wedi dechrau ar y broses o benodi partner masnachol gyda phroses ddethol gystadleuol yno. Daeth yr Her Ariannu Hydrogen i ben ar 11 Medi 2023, gyda thri chais a fydd nawr yn mynd drwy'r broses arfarnu drwyadl.
Hefyd, fe wnaethom gyhoeddi llwybr hydrogen Cymru ym mis Rhagfyr 2020, ac mae gennym ffocws cryf yn cael ei arwain gan nodau. Rydych chi'n ymwybodol iawn, rwy'n gwybod, o brosiect HyNet yng ngogledd Cymru, gyda chyfleoedd i ddal carbon ar gyfer gogledd Cymru ac ar gyfer hydrogen. Ac rydym yn cynnal cyfarfodydd misol rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a thîm prosiect HyNet i edrych ar hynny.
Felly, Lywydd, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, ymhell o fod dim byd yn digwydd, fod yna lawer iawn yn digwydd. Efallai y carai'r Aelod ganmol, yn hytrach na lladd ar hynny.
6. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd i drigolion Sir Ddinbych? OQ60317
Diolch yn fawr am y cwestiwn, Gareth. Rydym wedi darparu dros £75 miliwn ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, 2023-24, gyda refeniw o £5.25 miliwn a £12 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i bob awdurdod llifogydd lleol blaenllaw, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Cafodd Gogledd Cymru ei daro gan storm Babet ddiwedd mis Hydref, ond effeithiodd ar sir Ddinbych yn enwedig, lle cafodd y gwasanaethau tân eu galw i fynychu saith achos o lifogydd a gorfodwyd 11 ysgol gynradd ac uwchradd i gau, ac achoswyd difrod helaeth i gartrefi a busnesau. Rydym yn gweld cynnydd yn amlder digwyddiadau tywydd eithafol, ac mae cynnydd yn nifrifoldeb y difrod a achosir. Nid dyma'r tro cyntaf yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i sir Ddinbych gael ei tharo gan lifogydd. Nid yw'r gwersi wedi'u dysgu o'r gorffennol, felly, fis wedi'r llifogydd hyn, hoffwn i Lywodraeth Cymru amlinellu pa gynlluniau y maent wedi dechrau eu rhoi ar waith, fel y soniais wrthych yn ddiweddar mewn cwestiwn amserol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu lliniaru effaith stormydd yn sir Ddinbych o'r blaen. Serch hynny, yn ddiweddar, rydym wedi clywed adborth cadarnhaol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gwaith draenio o gwmpas y rhaeadr yn Nyserth, sy'n gam i'r cyfeiriad cywir. Yn ddiweddar, cyfarfûm â pherchnogion y New Inn yn Nyserth, sydd newydd ailagor ar ôl atgyweirio difrod llifogydd ar gost fawr. Mae angen inni roi sicrwydd i drigolion a pherchnogion busnesau mewn trefi a phentrefi fel Dyserth a Llanelwy nad yw hyn yn mynd i ddigwydd eto.
Mae'r baich ariannol ar fy etholwyr yn sylweddol, mae'r trawma'n para'n hir, ac nid yw'r addysg a gollwyd trwy gau ysgolion wedi cael ei hadfer. Mae hyn yn rhwystredig, yn enwedig pan fo modd atal y difrod. Felly, a allai'r Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i weithio gydag CNC ac awdurdodau lleol i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei wneud, a'i wneud yn amlach, gan roi rhywfaint o sicrwydd i fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd? Diolch.
Diolch yn fawr, Gareth. Rwyf am ddweud fy mod yn gwbl ymwybodol o ba mor ddinistriol y gall effeithiau llifogydd fod ar gartrefi a bywoliaeth pobl, a bywydau hyd yn oed, felly rwyf am estyn fy nghydymdeimlad â phawb a effeithiwyd gan y stormydd. Yn anffodus, mae hwn yn batrwm sy'n cynyddu o ran ei amlder drwy'r amser. Mae newid hinsawdd gyda ni. Nid yw'n rhywbeth sydd—. Mae'n broblem ddirfodol nawr, nid problem y bydd rhaid inni fynd i'r afael â hi yn y dyfodol, ac mae angen inni roi mesurau llym ar waith i wneud rhywbeth am newid hinsawdd, gan gynnwys addasu. Felly, y llynedd, fe wnaethom gytuno ar gyllideb gyfalaf tair blynedd, cyfanswm o £102 miliwn, i gynllunio ein buddsoddiad yn well dros nifer o flynyddoedd ac i gefnogi ein cymunedau sydd mewn perygl. Rydym yn darparu £34 miliwn o gyllid cyfalaf i'n hawdurdodau rheoli risg y flwyddyn ariannol hon fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn rheoli perygl llifogydd ac arfordirol.
Mae CNC yn rheoli amddiffynfeydd rhag llifogydd er mwyn lleihau'r risg i dros 73,000 eiddo ledled Cymru. Felly, er enghraifft, fe wnaeth cynllun Llanelwy, a gwblhawyd yn 2018, ac a gostiodd £6 miliwn, berfformio'n dda iawn yn y stormydd diweddar ac atal llifogydd i 293 o gartrefi a 121 o fusnesau. Rwy'n defnyddio hynny fel enghraifft o'r ffaith bod y cynlluniau'n gweithio. Felly, mae angen rhoi sicrwydd i bobl, pan fydd y cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith, eu bod yn gweithio. Rydym wedi darparu dros £900,000 i Gyngor Sir Ddinbych fwrw ymlaen â saith cynllun i leihau'r perygl o lifogydd i gymunedau, ac rydym yn buddsoddi dros £102 miliwn yn sir Ddinbych i ddatblygu tri chynllun yn nwyrain y Rhyl, canol y Rhyl a Phrestatyn.
Rydym hefyd yn gweithio gyda sir Ddinbych ar ddatblygiad gwerth £1.5 miliwn ar gyfer pum cynllun rheoli llifogydd yn naturiol yn sir Ddinbych. Mae cynllun grant gwaith graddfa fach ar gael hefyd, gyda phroses ymgeisio symlach, i ariannu awdurdodau lleol i wneud gwaith a chynnal a chadw ar raddfa fach iawn. Maent yn darparu hyd at £200,000 ac maent ar gyfer gwaith i leihau'r perygl o lifogydd i gartrefi unigol. Felly, mae'n ddigon posibl y bydd eich etholwyr am fynd at sir Ddinbych i weld sut mae hynny'n mynd—ac rydym wedi cymeradwyo dau gynllun a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ddinbych eleni, gwerth cyfanswm o £195,000. Felly, wyddoch chi, mae pethau ar y gweill i wneud hyn; mae arnaf ofn, serch hynny, y bydd amlder cynyddol y stormydd hyn yn golygu bod llawer mwy o bobl yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd, ond rwy'n eich annog i helpu eich etholwyr i ymgysylltu â sir Ddinbych i sicrhau eu bod yn ystyried y rheini pan fyddant yn cynllunio eu prosiectau.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i deithio ar drenau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OQ60315
Diolch, Jack. Mae gwella gwasanaethau ar reilffordd Wrecsam-Bidston wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru eleni. O fis Rhagfyr ymlaen, bydd teithwyr yn gweld trenau dosbarth 197 newydd sbon ar y rheilffordd, ochr yn ochr â'r trenau dosbarth 230, gydag amserlen newydd fwy cadarn yn darparu gwasanaethau ychwanegol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am amlinellu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yno, a bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod wedi codi mater rheilffordd Wrecsam-Bidston ar sawl achlysur yma yn y Senedd. Yr wythnos diwethaf cyfarfûm unwaith eto â thrigolion sy'n dibynnu ar reilffordd Wrecsam-Bidston. Maent yn rhwystredig oherwydd canslo trenau, maent yn rhwystredig ynghylch y gwasanaethau bysiau yn lle trenau, yn enwedig ar adegau cymudo brig i gyrraedd y gwaith ac i gyrraedd yn ôl o'r gwaith yn enwedig. Rwy'n ymwybodol o gyhoeddiad Trafnidiaeth Cymru fod yr amlder yn cynyddu i 45 munud ar y rheilffordd, ac wrth gwrs, rwy'n croesawu hyn, ond rwy'n gofyn i chi ymyrryd ymhellach bellach eto, Weinidog, i wthio Trafnidiaeth Cymru i wella dibynadwyedd y rheilffordd ymhellach, i ddod â'r defnydd o wasanaethau bysiau yn lle trenau a'r angen amdanynt i ben, ac yn bwysig, i gyfathrebu'n uniongyrchol â thrigolion Alun a Glannau Dyfrdwy ynghylch y gwaith o gyflawni a'r cynnydd ar y gwelliannau mawr eu hangen hyn.
Diolch, Jack. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod teithwyr wedi cael profiad gwael iawn yn defnyddio'r gwasanaethau rheilffyrdd, ac yn wir y gwasanaethau bysiau yn lle trenau, ar reilffordd Wrecsam-Bidston. Rwy'n credu y byddem yn cyfaddef hynny; mae'n ddrwg gennym am yr holl drafferthion sydd wedi digwydd yno. Rydym wedi ymgysylltu'n agos â chynrychiolwyr lleol—chi eich hun, wrth gwrs; rydych chi wedi ei godi nifer o weithiau—a grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd i ddeall yr heriau y maent wedi'u hwynebu. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithredu cynllun gwella pum pwynt sy'n cael ei ddarparu gan reolwr dynodedig ar gyfer y rheilffordd, sydd bellach, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i berfformiad y gwasanaeth. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n gwybod pwy yw'r rheolwr dynodedig, ond os nad ydych, rwy'n hapus iawn i'ch rhoi mewn cysylltiad â nhw, a dyna'r llwybr uniongyrchol at gyfathrebu i breswylwyr. Rwy'n falch iawn fod gennym y rheolwr dynodedig yno i sicrhau bod y gwelliannau'n digwydd. Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy, a dyna pam mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu amserlen newydd ar y rheilffordd o fis Rhagfyr eleni—felly, o'r diwrnod ar ôl yfory, rwy'n credu. Maent yn hyderus y bydd hyn yn darparu gwasanaeth mwy dibynadwy ac aml i bob teithiwr, gan gynnwys yn benodol iawn y rhai sy'n dibynnu ar y rheilffordd i deithio i'r gwaith ac oddi yno. Rwy'n siŵr, Jack, y byddwch chi'n gallu fy nghadw i mewn cysylltiad â'r gwelliannau yno a rhoi gwybod i mi a ydynt yn gweithio'n dda iawn neu heb fod yn gweithio cystal ag yr hoffem.
8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith seilwaith y grid ar drigolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60321
Diolch am y cwestiwn, Cefin.
Rydym yn disgwyl i gwmnïau sy'n cynnig grid newydd ddilyn polisi cynllunio y dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear lle bo hynny'n bosibl a lliniaru eu heffaith pan nad yw'n bosibl eu gosod yn danddaearol. Mae angen ateb strategol arnom i ddiweddaru ein seilwaith grid i roi mynediad dibynadwy i bobl at wres glân, trafnidiaeth a swyddi da.
Diolch am y sicrwydd ynghylch gosod llinellau tanddaearol, ond yn natganiad yr hydref yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynlluniau i gyflymu prosesau cynllunio ar gyfer peilonau newydd, yn ogystal ag i'r bobl sy'n byw agosaf at beilonau newydd ac is-orsafoedd trydan, gan gynnig hyd at £10,000 oddi ar eu biliau ynni dros 10 mlynedd. Nid ydym eto wedi gweld unrhyw fanylion go iawn am y cynlluniau hyn, ac ni fydd gostyngiadau arfaethedig mewn tariffau yn y dyfodol yn rhoi llawer o gysur i aelwydydd sy'n wynebu codiad o 5 y cant pellach yn y cap ar brisiau ynni y gaeaf hwn. Yn wir, ychydig iawn a gynigiai'r digwyddiad cyllidol hwn i aelwydydd Cymru sy'n dioddef yn wyneb argyfwng costau byw parhaus, ac fe gollodd Llywodraeth y DU gyfle i dderbyn galwadau Plaid Cymru am dariff ynni cymdeithasol newydd. Felly, fe wyddom fod yna nifer o rannau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru lle mae cynigion ar gyfer peilonau newydd yn parhau i gael eu datblygu ac yn cael eu herio, felly a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau'r cyhoeddiadau hyn i Gymru? Ac yng ngoleuni cynlluniau Llywodraeth y DU ynghylch y newidiadau i'r prosesau cynllunio, sut y byddwch yn gweithio i sicrhau ymgynghoriad cymunedol ystyrlon ar gynigion, gan gynnwys yr opsiynau ar gyfer gosod llinellau tanddaearol, a sut y byddwch yn ceisio sicrhau buddion cymunedol pendant, cynaliadwy a pharhaol o'r datblygiadau hyn?
Diolch, Cefin. Felly, mae tipyn o gymhlethdod yno. Nid ydym yn gwybod llawer mwy am hyn na chithau. Rydym yn gwybod beth oedd yn natganiad yr hydref. Ond mae gennyf grŵp rhyng-weinidogol wedi'i gynllunio gyda'r Gweinidog, felly rwy'n cynllunio cyfres o gwestiynau ynglŷn â sut yn union y maent yn argymell y dylai hynny weithio. Ein dealltwriaeth ni, er nad yw'n ddealltwriaeth gadarn, yw mai dim ond ar gyfer datblygiadau newydd y mae'r arian, nad yw'n llawer o gysur os oes gennych gynllun peilot o'r math hwnnw eisoes, ac nid wyf yn deall y rhesymeg dros hynny. Nid yw ychwaith yn llawer iawn o arian pan ystyriwch ei fod wedi ei wasgaru dros gyfnod hir, ac fel rydych chi wedi dweud, nid yw'n gwneud iawn am y farchnad ynni hurt yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Felly, mae yna nifer o ddiffygion y gallwch eu gweld ar unwaith. Mae arnaf ofn nad wyf yn gwybod llawer mwy am beth oedd y bwriad. Gallaf weld o adroddiadau newyddion ledled Lloegr nad yw wedi cael derbyniad da iawn yn Lloegr ychwaith. Rwy'n credu bod pobl yn ei ystyried yn llwgrwobr tila braidd am gael rhywbeth nad ydynt ei eisiau. Felly, nid dyna yw ein ffordd ni o weithredu.
Ein dull ni o weithredu yw sicrhau bod ein cymunedau'n wybodus ac yn deall beth sy'n digwydd, ein bod yn gosod llinellau o dan y ddaear lle mae hynny'n bosibl; lle nad yw'n bosibl, ein bod yn lliniaru. Rydym yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol i ddarganfod ffyrdd y gallwn edrych ymlaen llaw ar lwybrau trosglwyddo ledled Cymru. Nid oes llawer ohonynt. Felly, byddwn yn gallu darganfod ble maent oherwydd bod gennym lawer iawn o dirwedd warchodedig, mae gennym fawnogydd, mae gennym—. Mae yna lawer o bethau lle nad ydych chi am i'r llinellau trosglwyddo fynd. Nid oes cymaint â hynny o lwybrau, felly gallwn weithio'n iawn gyda'r cymunedau i ddeall yr effeithiau, ble mae modd inni eu gosod yn danddaearol, a sut mae hynny'n edrych.
Mae'r ceisiadau sy'n bodoli ar hyn o bryd yn ystod o geisiadau, gyda rhai ohonynt yn dod i mewn i broses gynllunio Cymru, ond bydd rhai ohonynt yn mynd yn rhan o broses gynllunio'r DU. Felly, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrhau bod ein polisïau cynllunio yn cael eu gweithredu lle mae'n broses Llywodraeth y DU, oherwydd mae'r lefel yn uwch na lle rydym ni arni, ac yna ar gyfer gwynt ar y tir, rydym yn ceisio sicrhau bod y grid ei hun yn gweithio gyda ni.
Yn ddiweddar, euthum i gynhadledd datblygwyr ynni adnewyddadwy yng Nghasnewydd, lle buom yn trafod safon aur ar gyfer buddion cymunedol y gallai pawb eu cyflwyno, lle gallem gynorthwyo cymunedau i ddeall beth sy'n bosibl. Mae llawer o'r buddion cymunedol sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd yn werth chweil, ond lle gallem gael cymunedau at ei gilydd, er enghraifft, i helpu gydag ôl-osod ac effeithlonrwydd ynni a mesurau eraill nad yw cymunedau yn gofyn amdanynt yn aml ar hyn o bryd, oherwydd bod angen help arnynt i roi'r darnau hynny at ei gilydd. Ac yna, gan weithio gyda chi fel rhan o'r cytundeb cydweithio, gobeithiwn y bydd Ynni Cymru a'r galluogwyr yr ydym wedi'u rhoi ar waith yn gallu helpu cymunedau i wneud eu gorau wrth ofyn sut bethau fyddai'r cynlluniau budd cymunedol hynny. Felly, mae nifer o bethau i'w gwneud, a Lywydd, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd pan fyddaf wedi cyfarfod â'r Gweinidog, os bydd gennyf fwy o wybodaeth.
Yn olaf, Jane Dodds.
Diolch yn fawr, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Os caf fynd ar ôl pwynt Cefin. Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae gennym nifer o ddatblygiadau, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, o gwmnïau i ehangu'r grid, sydd wrth gwrs mewn egwyddor yn rhywbeth rydym i gyd yn derbyn bod angen ei wneud. Fodd bynnag, mae goblygiadau sylweddol o ran ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau. Roeddwn eisiau dilyn y cysyniad yr ydych newydd siarad amdano gyda buddion cymunedol. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwybod am Octopus Energy, ond mae Octopus wedi'u lleoli ledled y DU ac yng Nghaerffili a Gorllewin Swydd Efrog, rwy'n deall bod un tyrbin gwynt yno ar gyfer y gymuned mewn gwirionedd, sy'n caniatáu iddynt ymgysylltu a chofrestru ar gyfer y clwb cefnogwr ynni. Ac os ydynt yn gwneud hynny, mae ganddynt ap ar eu ffôn sy'n dweud wrthynt pryd mae'r gwynt yn chwythu, ac felly gallant gael gostyngiad o 50 y cant oddi ar eu biliau ynni. Mae hynny, i mi, yn fudd cymunedol anhygoel, ac roeddwn i'n meddwl tybed beth oedd eich barn chi ynglŷn â bwrw ymlaen â hynny, ac i ni gynnwys hynny yn y cymysgedd o fuddion cymunedol. Mae hwnnw'n arian uniongyrchol i bobl ar gyfer eu biliau ynni. Diolch yn fawr iawn.
Yn hollol, Jane. Mae gennym ddiddordeb mawr mewn cael ychydig bach o berchnogaeth gymunedol yn rhai o'r prosiectau ynni mwy o faint. Rwyf wedi siarad yn helaeth â llawer o'r datblygwyr ynglŷn â phan fyddant yn adeiladu prosiectau, gan gynnwys prosiectau gwynt arnofiol mae'n rhaid i mi ddweud, i weld a fyddent yn cael eu paratoi fel rhan o gydweithrediad â datblygwr ynni gwladol yng Nghymru i adeiladu un neu ddau o dyrbinau yn benodol ar gyfer perchnogaeth gymunedol. Gallai Llywodraeth Cymru ddadrisgio hynny a throsglwyddo'r berchnogaeth wedyn i gymunedau dros gyfnod llawer hwy, oherwydd ni fydd unrhyw un yn gallu fforddio ei wneud yn uniongyrchol, ond gallem ni ddadrisgio hynny i gymunedau. Ac rydych chi'n hollol iawn—yn llygad eich lle. Mae hynny'n caniatáu iddynt gael mynediad at yr ynni ei hun ac nid y pecyn buddion sy'n mynd gydag ef yn unig.
Yn fwy hirdymor, hoffwn weld Llywodraeth yn diwygio'r system ynni, fel nad oes gennych y nonsens hurt o ran beth sy'n fudd cymunedol a'r hyn nad yw'n fudd. Hefyd mae'r ffaith bod buddion cymunedol ar hyn o bryd yn mynd i gymunedau sy'n cynnal cynhyrchiant ynni, ond nid trosglwyddiad ynni, ac mae'r trosglwyddiad mewn gwirionedd yn fwy dadleuol mewn llawer o achosion na'r cynhyrchiant ei hun. Felly, roeddwn yn falch o weld Llywodraeth y DU o leiaf yn derbyn y cysyniad o gymunedau trosglwyddo, ond maent wedi mynd ati mewn ffordd nad wyf yn credu ei bod yn arbennig o effeithiol, ac ni fydd yn cael y gefnogaeth yr hoffem ei gweld ychwaith. Ond rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwthio'r math o fodel perchnogaeth gymunedol y soniwch chi amdano, ac y mae gennym un neu ddau o fodelau ohono ledled Cymru.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Y cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ran addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ60322
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth a strategaeth glir i gefnogi dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru. Mae cynllun strategol 'Dyfodol Byd-eang: Cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru 2022 i 2025', a gafodd ei lansio fis Tachwedd diwethaf, yn amlinellu sut y byddwn ni'n gwella ein darpariaeth ac yn hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â fi, ar draws y rhanbarth a dweud y gwir, yn nodi eu pryderon ynghylch darpariaeth addysgu ieithoedd tramor modern. Fe glywes i yn ddiweddar iawn gan fyfyriwr, yn Aberystwyth yn digwydd bod, oedd am barhau â’i astudiaethau mewn Almaeneg i lefel A, ond fe wrthodwyd y cyfle iddo fe achos doedd dim darpariaeth e-ddysgu mwyach ar gael. Ac rŷn ni wedi gweld, ar draws y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli, gostyngiad yn y ddarpariaeth ieithoedd modern yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, a'r niferoedd o fyfyrwyr sydd yn astudio. Yng Ngheredigion ar hyn o bryd, heblaw mewn un ysgol, Ffrangeg yw’r unig iaith dramor sy'n cael ei chynnig ar gyfer TGAU—a TGAU yn unig, nid lefel A. Mae hyn yn batrwm cyffredinol ar draws y rhanbarth. Felly, gaf i ofyn, er mor bwysig yw dysgu ieithoedd i'n heconomi fyd-eang ni, a’n heconomi ni yng Nghymru, a fyddech chi'n gallu sicrhau bod gennych chi strategaeth i fynd i'r afael â hyn? A pha mor bryderus ŷch chi ynglŷn â’r sefyllfa bresennol?
Mae hynny'n gwestiwn teilwng iawn. Rwy'n bryderus iawn am y sefyllfa, ac mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod gostyngiad wedi bod, a gostyngiad sylweddol mewn rhai ieithoedd tramor modern. Mae'r her sy'n wynebu dysgu’r Almaeneg yn un penodol, ac rwy'n cael llythyrau’n aml wrth Aelodau ac wrth y cyhoedd ynglŷn â’r pryder o ran Almaeneg yn benodol.
O ran beth rŷn ni'n mynd i'w wneud fel Llywodraeth, neu beth rŷn ni eisoes yn ei wneud, mae gennym ni fwy nag un rhaglen i geisio cynyddu’r diddordeb mewn ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion ni. Felly, yn y cyfnod cynradd, wrth gwrs, ac yn mynd nawr drwy’r cyfnod uwchradd hefyd, mae'r elfen honno o gyflwyno iaith ryngwladol yn gynnar yn addysg ein plant ni, rwy'n credu, yn un bwysig iawn. Mi es i'n ôl i fy ysgol gynradd fy hunan ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf a chlywed dosbarth yn canu caneuon yn y Sbaeneg. Fydden i ddim wedi gweld hynny'n digwydd yn fy nghyfnod i yn yr ysgol. Ond rwy'n derbyn mai rhywbeth fydd yn cael canlyniadau yn y tymor hir yw hynny.
Mae gennym ni hefyd raglen mentora drwy law Prifysgol Caerdydd sydd yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i ysgolion uwchradd: myfyrwyr yn mynd yn ôl i'r ysgolion rheini i fentora o ran ieithoedd modern. A hefyd mae gennym ni raglen drwy’r Brifysgol Agored sydd yn dysgu athrawon sut i ddysgu ieithoedd modern ac, ynghyd â hynny, rhyw fuddsoddiad o dros £2.5 miliwn i gynyddu argaeledd a diddordeb mewn cymryd ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU.
Mae'r her yn un sylweddol. Dyw e ddim yn un sydd yn unig yma yng Nghymru, er dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn unrhyw gysur. Bydden i'n annog ysgolion—ac, ar ddiwedd y dydd, ysgolion sy'n gwneud y penderfyniadau o ran y mix o ieithoedd sydd yn cael eu dysgu yn eu hysgolion nhw—bydden i yn annog ysgolion i ymwneud â'r rhaglen Dyfodol Byd-eang a'r partneriaid sydd yno i ddarparu cefnogaeth i ysgolion am sut i newid y sefyllfa yma.
2. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau presenoldeb da gan ddisgyblion yn ysgolion Sir Ddinbych? OQ60325
Rydym wedi darparu buddsoddiad sylweddol ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, gyda chyfanswm y cyllid eleni yn £6.5 miliwn. Mae hyn yn ychwanegol at y £2.5 miliwn a ddarparwyd i'r gwasanaeth lles addysg eleni, i ddarparu capasiti ychwanegol mawr ei angen.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Rydym wedi clywed yn ddiweddar fod Ysgol Uwchradd y Rhyl yn fy etholaeth i wedi cael ei rhoi mewn sefyllfa lle maent wedi gorfod cyflwyno diwrnodau byrrach er mwyn annog disgyblion yn ôl i'r ysgol. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod yr ateb hwn ymhell o fod yn ddelfrydol i'r ysgol a'r myfyrwyr fel ei gilydd. Rwy'n croesawu'r grŵp y mae'r Gweinidog yn ei sefydlu er mwyn mynd i'r afael ag absenoldeb ysgol, ond fel y gwyddom, mae'n argyfwng cenedlaethol o ran lefelau presenoldeb mewn ysgolion ac mae angen gwneud llawer mwy o waith gan Lywodraeth Cymru i unioni hyn.
Cafodd y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd o ganlyniad i bandemig COVID-19 ôl-effeithiau pellgyrhaeddol i'r economi, iechyd meddwl, ac iechyd yn ehangach, ond cafodd addysg ei tharo'n arbennig o galed. Yn anffodus, nid oes digon wedi'i wneud i ailgyflwyno disgyblion yn ôl i'r ystafell ddosbarth yn llwyddiannus a sicrhau bod unrhyw ddysgu a gollwyd yn cael ei adfer. Mae'n amlwg fod canlyniadau dysgu gartref yn dal i gael eu teimlo, gyda'r disgyblion yn methu ymgynefino ag ysgol, a'r sefydliadau, fel Ysgol Uwchradd y Rhyl, yn ei chael hi'n anodd cael disgyblion yn ôl i mewn i'r ystafell ddosbarth. Mae athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill wedi mynegi sut mae diffyg addysgu wyneb yn wyneb wedi effeithio nid yn unig ar sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion, ond hefyd ar eu sgiliau cymdeithasol.
Felly, Weinidog, sut ydych chi'n bwriadu gweithio gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i gynyddu presenoldeb ysgol yn gyflym heb droi at fesurau llym fel byrhau'r diwrnod ysgol, ac rwy'n siŵr y gall y ddau ohonom gytuno bod hynny'n niweidiol iawn i addysg plentyn? Diolch.
Wel, rwy'n cytuno â'r pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud mewn perthynas ag effaith COVID ar safonau llythrennedd, rhifedd a chyrhaeddiad yn gyffredinol yn ein hysgolion; mae wedi cael effaith niweidiol iawn. Ar y pryd, roeddem yn glir iawn fel Llywodraeth fod pob penderfyniad a wnaem mewn perthynas ag ysgolion yn ystod y pandemig yn cael ei wneud ar sail cydbwyso niwed: y risg o haint ar y naill law, ond y risg amlwg o effaith peidio â bod yn yr ysgol neu ddysgu o bell ar y llaw arall. Rwy'n credu bod cwestiwn yr Aelod yn dangos pam fod y dull hwnnw mor bwysig, yn ogystal â'n hymrwymiad mai ysgolion fyddai'r pethau olaf i'w cau a'r pethau cyntaf i'w hagor.
Ar ei bwynt ynghylch presenoldeb yn gyffredinol, bydd yn gwybod o fy ateb cynharach ar sefydlu'r tasglu cenedlaethol, gyda phrofiad nid yn unig o fyd addysg ond gan y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, yr heddlu, rhieni ac academyddion sydd â diddordeb yn hyn a phrofiad penodol ohono, mai'r hyn y byddwn yn ceisio ei wneud yw nodi'r arferion gorau sydd eisoes yn digwydd yn y system—ac mae llawer ohonynt—a sicrhau bod pob ysgol yn cael budd o hynny, fel y gallant bwyso ar hynny, ei addasu, adeiladu arno, a'i gael i weithio ar gyfer eu hardaloedd eu hunain.
Ar y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd y Rhyl yn benodol, gadewch imi fod yn glir fod y sefyllfa ychydig yn wahanol yno, rwy'n credu, i'r ffordd y cafodd ei disgrifio gan yr Aelod. Nid byrhau'r diwrnod ysgol yn gyffredinol ydyw; mae'n gadael i rai plant ddechrau'r ysgol ychydig yn hwyrach yn y dydd i osgoi cyfnod cofrestru prysur ar sail dros dro, i annog pobl ifanc a allai fod wedi ei chael hi'n anodd mynychu i ddod yn ôl i'r ysgol. Rwy'n gwybod y bydd yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi cynnig ar unrhyw gamau sy'n ymarferol i sicrhau bod pobl ifanc yn ôl yn yr ysgol, a dyna'r math o beth y mae Ysgol Uwchradd y Rhyl, fel rwy'n ei ddeall, yn ceisio ei wneud.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar gwelsom lywodraethwyr ysgolion yn cyflwyno deiseb a lofnodwyd gan 7,000 o bobl ac yn rhoi tystiolaeth yn codi pryderon difrifol am y sefyllfa ariannol 'frawychus' sy'n wynebu ysgolion yng Nghymru, gyda rhybuddion bod rhai ysgolion yn gweithredu 'o'r llaw i'r genau'. Ers 2010, mae ysgolion wedi derbyn cynnydd o 1.1 y cant o gyllid mewn termau real, sy'n cyfateb i gynnydd o 0.7 y cant y disgybl. Mae'n amlwg nad yw hyn yn foddhaol, a'i fod yn niweidiol i addysg yng Nghymru. Mae Dr Martin Price, cadeirydd cymdeithas llywodraethwyr ysgolion Bro Morgannwg, wedi dweud
'mae cyfran sylweddol o ysgolion yng Nghymru yn gweithredu heb unrhyw arian neu, yn nhermau'r sector preifat, yn fethdalwyr i bob pwrpas',
ac
'nid oes digon o arian yn mynd i mewn i lawer o ysgolion, os nad y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru, i allu cyflawni eu gofynion cyfreithiol mewn perthynas ag addysg'.
Rydych chi'n dweud eich bod chi'n poeni am addysg ein plant yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio eich bod, Weinidog, ond yn sicr nid ydych chi'n rhoi eich arian ar eich gair. Yn amlwg, nid oes digon o arian yn cyrraedd lle mae ei wir angen. Weinidog, a yw hon yn record rydych chi'n falch ohoni, ac os nad ydyw, pam eich bod chi wedi torri'r gyllideb addysg eleni eto, a phryd y bydd y Llywodraeth hon yn teimlo'r angen i ariannu ysgolion yn iawn?
Wel, rwy'n gobeithio na fydd yr Aelod eisiau dweud unrhyw beth sy'n camliwio'r hyn a wnaethom eleni, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw cyllidebau ysgolion wedi'u torri eleni. Fel y bydd hi'n gwybod o'n trafodaethau blaenorol mewn perthynas â hyn, mae'r gostyngiadau yn ystod y flwyddyn y bu'n rhaid inni eu gwneud eleni wedi bod ar sail rhaglenni a arweinir gan alw, lle nad yw'r galw wedi bod mor uchel ag y darparwyd ar ei gyfer yn ein cyllideb. Felly, nid yw cyllidebau rheng flaen i ysgolion wedi cael eu heffeithio yn y ffordd y credaf fod ei chwestiwn yn awgrymu.
Mae hi'n iawn i ddweud bod cyllidebau ysgolion mewn llawer o ysgolion dan bwysau, fel y mae cyllidebau awdurdodau lleol, fel y mae cyllideb Llywodraeth Cymru. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, fel Llywodraeth rydym wedi gallu darparu symiau sylweddol o gyllid ychwanegol i gynghorau lleol, sydd, wrth gwrs, yn uniongyrchol gyfrifol am ariannu ysgolion. Fodd bynnag, mae effaith chwyddiant a'r argyfwng costau byw, wrth gwrs, wedi erydu gwerth y cynnydd hwnnw, ac mae lefel y galw, ar gyllidebau llywodraeth leol a'n cyllideb ni yn wir, wedi cynyddu. Felly, dyna'r cyd-destun y gweithredwn ynddo ar hyn o bryd.
Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod cymaint o gyllid â phosibl yn cyrraedd y rheng flaen mewn ysgolion. Fe fuom gyda'n gilydd mewn cyfarfod pwyllgor y bore yma lle amlinellais y symiau sylweddol iawn yr ydym yn eu buddsoddi ar gyfer y diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol, sy'n dod o fy nghyllideb i, ond hefyd ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a llawer o gynlluniau eraill. Ac mae hyn yn ychwanegol at y grant cynnal refeniw sy'n ariannu ysgolion yn uniongyrchol.
Weinidog, rydych chi'n dal i grybwyll potiau bach o arian a ddarparqyd gennych. Y realiti ar lawr gwlad yw bod ysgolion yn ei chael hi'n anodd, a beth bynnag y dywedwch eich bod yn ei wneud, mae'n amlwg nad yw'n gweithio. Efallai mai'r rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth Lafur hon wedi tanariannu addysg yng Nghymru flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddegawd ar ôl degawd, ond yn Lloegr mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer addysg flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Rwyf eisoes wedi dyfynnu'r Pwyllgor Deisebau, ond nid dyna'r cyfan a ddywedwyd, Weinidog. Yn ôl Matthew Gilbert, pennaeth Ysgol Gynradd Ynys y Barri, mae'r pwysau ariannol yn 'frawychus'. Dywedodd:
'Rwyf wedi gweithio ym myd addysg ers dros 20 mlynedd ac nid wyf erioed wedi profi anawsterau o'r fath gyda chyllid.'
Mynegodd bryderon am gydraddoldeb, gan ddweud ei bod hi'n anodd darparu cefnogaeth un i un o ystyried y niferoedd cynyddol o ddisgyblion ag anghenion cymhleth, fel y nodwyd y bore yma, a chyllid cyfyngedig. Dywedodd:
'mae'n rhaid inni osod cyllidebau diffyg. Fel arall, ni fyddwn yn gallu rhoi cymorth un i un i'r plant hynny'.
Aeth rhagddo i ddweud:
'rydym eisiau cael gwared ag amddifadedd, er mwyn galluogi plant i ddarllen ac ysgrifennu ac rydym eisiau cael gwared ar y bwlch tlodi hwnnw.... Ond fel y mae pethau, mae'r sefyllfa o ran y diffyg yn enbyd.... Cawn ein gorfodi i fyw o'r llaw i'r genau, ac mae'r cypyrddau'n wag.'
Ac i rwbio halen yn y briw, Weinidog, aeth Mr Gilbert ymlaen i ddweud bod ei ysgolion—ac rwy'n ymwybodol bod ysgolion eraill yr un fath—yn aml yn gorfod mynd ar drywydd grantiau cymunedol bach, a ddylai fod yn foethusrwydd nid yn anghenraid, i gynnal cyllidebau ysgolion lle nad oes arian ar ôl er mwyn cyflawni'r pethau sylfaenol yn unig.
Yn dilyn hynny, hoffwn ddarllen un dyfyniad bach arall i chi mewn perthynas â'r gyllideb addysg yr ydych wedi'i thorri, Weinidog:
'Rydym wedi gwneud dewisiadau, ac rwy'n dweud wrthych pa ddewisiadau rydym wedi'u gwneud. Rwy'n falch ohonyn nhw.'
Chi a ddywedodd hynny, Weinidog, yn gynharach eleni, gan honni eich bod yn falch o fod wedi gwneud toriadau mewn termau real i addysg. Rydych yn methu derbyn bai yn gyson ac yn methu derbyn atebolrwydd am fethiannau clir ac amlwg eich adran. Weinidog, a ydych chi'n derbyn disgrifiad Mr Gilbert o addysg yng Nghymru a phawb arall rwy'n siarad â nhw, neu a yw'n fai rhywun arall, fel arfer?
Yn sicr, nid wyf yn derbyn eich disgrifiad o'r mater. Mae'r sefyllfa rydym yn gweithio ynddi drwy Lywodraeth Cymru yn un lle rydym yn profi canlyniadau uniongyrchol—. Ac mae hi'n fy ngwahodd i gymharu'r sefyllfa yng Nghymru a Lloegr ac fe fydd hi'n canfod, yn sicr, os yw'n edrych ar gyllid addysg, fod y darlun y mae hi'n ei beintio'n gwbl gamarweiniol ac anghywir. Y sefyllfa, os yw hi am gymharu, yw bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei heffeithio gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, sy'n gweithredu economi o drethi uchel, chwyddiant uchel, twf isel, buddsoddiad isel a chyfradd llog uchel. Dyna sy'n digwydd, ac mae'n amhosibl osgoi canlyniadau hynny yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Yr unig ffordd o sicrhau'r newid sylweddol yr ydym eisiau ei weld ledled y DU o ran buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus yw drwy ethol Llywodraeth Lafur.
Rwy'n dechrau arfer â chlywed yr agwedd 'Nid fy mai i' gan y Gweinidog. Unwaith eto, rydym wedi cael llwyth arall o eiriau gwag, rhywbeth rydych yn dod i arbenigo ynddo.
Mynegwyd pryderon gan David Blackwell, pennaeth Ysgol Uwchradd Gatholig Syr Richard Gwyn yn y Barri, a soniodd am argyfwng recriwtio a chadw enfawr:
'rydym yn gweld ansawdd yr ymgeiswyr ynghyd â nifer yr ymgeiswyr yn dirywio'n ddramatig.'
Aeth rhagddo i ddweud
'mae llai o bobl yn gweithio yn fy ysgol pan fo'r anghenion yn fwy nag a welais erioed yn y 23 i 24 mlynedd y bûm yn gweithio mewn ysgolion.'
Ac i goroni'r cyfan, mae oedran darllen cyfartalog plentyn sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd ddwy flynedd yn is na'r hyn ydoedd bum mlynedd yn ôl. Weinidog, mae hwn yn gondemniad enbyd o'ch cyfnod yn y swydd. Nid yw ysgolion yn hapus, nid yw eich undebau yn hapus, nid yw athrawon yn hapus, nid yw llywodraethwyr ysgolion yn hapus ac nid yw rhieni a phlant yn hapus. Rydych wedi siomi cenhedlaeth o ddysgwyr, ac eto rydych chi'n dal i sefyll yno ac yn ailadrodd yr un llinellau wrthyf, wythnos ar ôl wythnos. Faint o weithwyr proffesiynol sydd angen i mi eu dyfynnu cyn y byddwch yn rhoi camau brys ar waith? Nid oes angen adolygiad arall ar ysgolion, Weinidog, fel yr addawoch chi ddoe; maent angen cymorth ariannol digonol nawr, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa. Weinidog, pryd y gall ysgolion ddisgwyl gweld rhywfaint o oleuni ym mhen draw'r twnnel llwm iawn hwn? Ac a ydych yn derbyn yr effaith niweidiol y mae Llafur Cymru wedi'i chael ar fyd addysg drwy dorri'r gyllideb nid unwaith ond ddwywaith yn ystod eich cyfnod yn y swydd?
Nid wyf yn gwybod sawl gwaith y mae angen i mi ddweud hyn, ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt sy'n gwbl ddi-sail. Mae nifer y pwyntiau y mae'n eu gwneud nad ydynt yn seiliedig ar realiti yn cyrraedd lefel newydd, hyd yn oed iddi hi. Yr hyn y gwnaf ei dderbyn yw bod yna benaethiaid ledled Cymru, ac mae hi wedi dyfynnu llawer ohonynt yno, sy'n gweithio'n galed o ddydd i ddydd, gydag athrawon a chynorthwywyr addysgu, i gyflawni dros ein pobl ifanc mewn amgylchiadau sy'n gynyddol heriol. Ac rwy'n siŵr y byddai eisiau ymuno â mi ac eraill yn y Siambr i ddiolch iddynt am y gwaith caled y maent yn ei wneud.
Lleafarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd yr adroddiad ystadegol ar batrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd, gan ddefnyddio data ar lefel genedlaethol, asesiadau personol, ynghyd â'ch datganiad ysgrifenedig cysylltiedig. Heb os, roedd y canlyniadau hyn, ar y cyfan, yn siomedig ac yn bryderus, yn arbennig o ran bod cyrhaeddiad cyfartalog disgyblion mewn rhifedd yng Nghymru yn bedwar mis yn is nag yn 2018-19, ac, o ran darllen yn Saesneg, pedwar mis yn is nag yn 2018-19. Roedd y dirywiad mwyaf gyda darllen yn y Gymraeg, a ddangosodd ostyngiad o 11 mis mewn cyrhaeddiad cyfartalog, o'i gymharu â 2018-19. Gaf i ofyn yn benodol, felly, Weinidog, pa waith sy'n mynd rhagddo i ddeall pam ein bod ni'n gweld gwahaniaeth mor fawr rhwng y canlyniadau yn y Saesneg a'r Gymraeg—dwi'n derbyn bod peth o'r atebion, efallai, o ran COVID—ond yn benodol hefyd o ran cefnogi cynnydd y dysgwyr hyn, a rhoi sicrwydd i rieni fel nad ydym yn eu colli o addysg Gymraeg, sydd efallai'n bryderus o weld cymaint o wahaniaeth rhwng y Gymraeg a'r Saesneg?
Ydy, mae hi'n bryderus, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cyhoeddi'r ffigurau yma ac yn gallu cael y math o drafodaeth rŷn ni'n ei chael heddiw, ac i wneud hynny mewn ffordd dryloyw. Felly, mae hynny dwi'n credu yn gam ymlaen. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod gwahaniaeth yn y ffigurau rhwng y ddau. Mae rhai o'r effeithiau yn rhai cyffredin, yn sgil COVID, ac rŷn ni hefyd yn gwybod, ar gyfer dysgwyr o aelwydydd lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad, bod yr effaith ar eu gafael ar y Gymraeg o beidio â bod yn yr ysgol yn debygol o fod yn fwy andwyol oherwydd hynny. Felly, dyna'r rhagdybiaeth, os hoffwch chi. Ond mae gwaith yn mynd rhagddo nawr, yn sgil cyhoeddi'r ffigurau hynny, i edrych o dan y data, i weld pa wersi y gallwn ni eu dysgu o hynny. Fel y bydd yr Aelod yn ei wybod, dwi wedi datgan heddiw ddiweddariad i'n cynllun darllen a llythrennedd ni, a hefyd cynllun newydd ar gyfer rhifedd. Mae her yn y ddau faes, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod beth sydd wedi digwydd yn sgil COVID ac yn ymateb i hynny'n rhagweithiol.
Diolch. Un o'r pryderon, efallai, ydy pa negeseuon sy'n mynd i'r rhieni, er mwyn rhoi'r sicrwydd iddyn nhw na fydd eu plant nhw'n dioddef drwy barhau o fewn y cyfrwng Cymraeg.
Os caf i droi wedyn at adroddiad arall a ddaeth allan yn ddiweddar, sef yr un gan Gomisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag addysg ôl-orfodol a'r Gymraeg, mi fyddwch chi'n gweld bod yna wahaniaethau mawr rhwng y rheini sydd ôl-16 mewn ysgol a'r rheini mewn coleg, ac mae hynny er gwaethaf gwaith gwych y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hyn o beth. Felly, gaf i ofyn yn benodol, o weld bod yna gymaint o wahaniaeth, a bod yna rai cynghorau sir hefyd wedi newid i fodel o fod yn annog cau chweched dosbarth a symud fwy i fodel o gael y dysgwyr mewn coleg, ac o weld yr effaith y mae hyn yn ei gael wedyn o ran y nifer sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ôl-16, pa gamau pellach sy'n cael eu cymryd a chefnogaeth i'r coleg Cymraeg fynd ymhellach efo'r gwaith hwn?
Mae hwnna'n gwestiwn pwysig iawn, ac mae hi wir yn bwysig, dwi'n credu, i sicrhau nid jest bod cynnig hafal, os hoffwch chi, rhwng y chweched dosbarth a choleg ôl-16, ond hefyd o ran ffyniant y Gymraeg yn yr economi leol. Mae lot o bobl yn mynd i'r coleg addysg bellach, efallai, a fydd yn gweithio yn yr economi leol, ac mae sicrhau bod cyfleoedd gyda nhw i ddysgu yn y Gymraeg a bod yn weithwyr drwy gyfrwng y Gymraeg—. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n llwyddo i wneud hynny.
Mae gwaith da yn digwydd mewn colegau ar draws Cymru. Roeddwn i yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn siarad â choleg Llandrillo Menai—mae pethau arloesol y maen nhw wedi bod yn eu gwneud, a dweud y gwir, i annog pobl ifanc i gymryd cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu coleg nhw, ac mae cyfleoedd i ni ddysgu, dwi'n credu, o'r arfer da sydd yn digwydd, a sicrhau bod hynny'n cael ei ledaenu ar draws ein colegau ni i gyd.
Beth byddwn i yn dweud yw fy mod i'n gweld bod pobl yn derbyn bod hyn yn her a bod angen gwella'r ddarpariaeth. Mae heriau o ran y gweithlu, ac rŷn ni'n ceisio mynd i'r afael â hynny yn ein cynllun recriwtio cyfrwng Cymraeg dros y ddegawd nesaf. Mae'r gwaith mae'r coleg Cymraeg yn ei wneud yn bwysig, ac mae'r gyllideb wedi cynyddu iddyn nhw allu ehangu'r ddarpariaeth, ac mae nhw wedi gwneud hynny mewn ffordd sydd yn galonogol iawn. Mae mwy, wrth gwrs, i'w wneud.
Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod bod un o'r cyfleoedd pwysig ar y gorwel yn dod i law yn y flwyddyn newydd, hynny yw gyda sefydlu'r comisiwn newydd, a rôl benodol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fel dwi nawr wedi dynodi, i roi cyngor penodol i'r comisiwn am hyn—sut allwn ni gael cydweithio gwell rhwng ysgolion, chweched dosbarth a'r colegau addysg bellach, fel ein bod ni'n gallu cynyddu'r ddarpariaeth honno, a'i wneud yn fwy cyson ac yn fwy hafal ym mhob rhan o Gymru.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn addysgu dysgwyr am hanes lleol? OQ60326
9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo addysgu hanes lleol mewn ysgolion cynradd? OQ60314
Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiwn 3 a chwestiwn 9 gael eu grwpio.
Dylai pawb ddysgu am hanes eu hardal leol a'n gwlad ac ymgysylltu'n feirniadol â'r hanes hwnnw. Dyna pam, yn y Cwricwlwm i Gymru, y mae'n orfodol i ysgolion ddysgu hanes eu hardal leol a Chymru.
Rwy'n falch iawn o glywed bod y gofyniad hwnnw yn y cwricwlwm newydd. Un agwedd ar hanes lleol sy'n aml yn cael ei hanwybyddu, a rhywbeth a oedd yn destun trafodaeth mewn cyfarfod diweddar o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid, yw ein hanes milwrol lleol. Rwy'n derbyn bod llawer o ddehongliadau o hynny, ond gall arwyr lleol yn ein cymunedau, a'u straeon, helpu i ennyn brwdfrydedd ein pobl ifanc ac ennyn eu diddordeb mewn hanes mewn ffordd na all unrhyw beth arall ei wneud.
Hyd yn oed fel oedolyn, rwy'n mwynhau ymweld â mynwentydd lleol, edrych ar gerrig beddi lleol, ac ymweld â chofebion lleol. Cefais fy nharo yr wythnos hon pan glywais am William Donaghy o Dowyn ger Abergele. Gwelodd frwydro yng ngogledd Affrica ac yn yr Eidal yn ystod yr ail ryfel byd, a dyfarnwyd medal ymddygiad rhagorol iddo am ei wasanaeth a'i arweiniad pan gafodd ei anafu'n ddifrifol yn ystod glaniadau Salerno yn yr Eidal, ar ôl gwasanaethu yng ngogledd Affrica gyda'r Desert Rats.
Felly, mae yna bobl leol hynod ddiddorol, ac rwy'n credu bod hon yn ffordd effeithiol iawn o ennyn diddordeb ein pobl ifanc mewn hanes yn gyffredinol a thrysorau hanes ar garreg eu drws. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i hyrwyddo ymgysylltiad â'n hanes milwrol yn ein cymunedau, yn enwedig gyda'r holl enwau hynny, yr holl gofebion hynny, a'r enwau ar y cofebion ledled y wlad?
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Rwy'n credu y gall y disgrifiad y mae wedi'i roi fod yn rhan bwysig o'r ymdeimlad o gynefin, sy'n un o gysyniadau sylfaenol y cwricwlwm—yr ymdeimlad o berthyn i'r hanes, ond hefyd i ddeall y byd drwy brofiadau ffigurau, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad milwrol, yn ein cymunedau lleol. Yn fy etholaeth i, ychydig wythnosau yn ôl—fe fynychodd y Prif Weinidog hefyd—cynhaliwyd gwasanaeth i goffáu milwr a oedd wedi cael ei saethu am encilio ac a oedd wedi cael maddeuant yn sgil hynny. Ac roeddwn yn falch iawn o weld llawer o bobl ifanc yno i nodi'r achlysur hefyd.
Rwy'n credu bod yr enghraifft y mae'n ei rhoi yn un o sawl ffordd y bydd ysgolion eisiau myfyrio ar ffigurau lleol, o hanes ac o'r cyfnod presennol. Mae'n ymwneud â hanes, ond mae'n ymwneud â mwy na hynny, onid yw? Mae'n ymwneud â chyd-destunau lleol yn ehangach—daearyddiaeth, crefydd, gwerthoedd ac yn y blaen—a chredaf fod hynny'n rhan o gyfoeth ein cwricwlwm. Bydd athrawon yn ei etholaeth ef, fel yn fy etholaeth i, ac mewn mannau eraill, rwy'n siŵr, yn chwilio am y cyfleoedd hynny i allu cyfoethogi dysgu ein pobl ifanc.
Jack Sargeant.
Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi am grwpio fy nghwestiwn i, cwestiwn 9, â chwestiwn 3, ac rwy'n cefnogi sylwadau Darren Millar ynghylch addysgu hanes milwrol lleol, fel rhywun sydd hefyd yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid. Wedi'r cyfan, mae hanes lleol yn ennyn diddordeb plant mewn ffordd nad oes fawr ddim arall yn ei wneud. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysgol Tŷ Ffynnon yn Shotton a gwelais y gwaith y mae disgyblion wedi'i wneud fel rhan o brosiect hanes lleol yno. Mae'r plant hyn yn byw mewn cymuned sy'n llawn o hanes diwydiant. Fe wnaethant greu llinell amser—llinell amser leol a llinell amser genedlaethol. Roedd yn mynd o Owain Glyndŵr, i Nye Bevan ac effaith y GIG, i waith dur Shotton, ar garreg ein drws. Roedd rhan fodern y llinell amser yn cynnwys creu'r Senedd hon. Roedd hefyd yn cynnwys adeiladu Ysgol Tŷ Ffynnon ei hun, ysgol newydd o'r radd flaenaf, a ariannwyd gan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llafur Cymru. Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y disgyblion a'r staff yn Ysgol Tŷ Ffynnon am eu gwaith, ac a wnewch chi annog ysgolion eraill drwy ein gwlad i wneud yr un peth i ddysgu mwy am eu hanes lleol?
Gwnaf, yn sicr. Diolch i Jack Sargeant am dynnu sylw at y gwaith gwych y mae ysgol gynradd Tŷ Ffynnon yn ei wneud. Mae'n ein hatgoffa, onid yw, fod ein hanes yng Nghymru yn cynnwys tywysogion a radicaliaid hefyd, ac rydym eisiau i'n pobl ifanc ddysgu am gyfoeth a llawnder yr hanes hwnnw. Rwy'n credu hefyd ei bod yn wych clywed sut maent yn defnyddio cyllid cymunedau dysgu cynaliadwy, i ddefnyddio gofod yr ysgol at y diben hwn. Rwy'n credu mai un o'r heriau sydd gennym mewn ysgolion ar hyn o bryd yw sut y gallwn ail-ymgysylltu â rhai o'n dysgwyr a allai fod yn teimlo'n bryderus, a allai fod yn teimlo'n ansicr ynglŷn â bod yn ôl yn yr ysgol. A'r un peth y credaf y gallwn i gyd gytuno arno mae'n debyg yw bod yr ymdeimlad o berthyn, fod gennych gymuned a hanes rydych chi'n perthyn iddynt, yn rhan bwysig iawn o fod ar y daith honno, a chredaf fod y math o esiampl y mae wedi'i rhoi heddiw yn adlewyrchiad pwerus iawn o hynny.
Rwy'n cytuno'n gryf fod pobl ifanc yn ein hysgolion yn ymgysylltu'n gadarn iawn â'u hanes lleol, y gallant ei weld o'u cwmpas, ac mae'n offeryn dysgu ac addysgu da iawn. A fyddech chi'n cytuno â mi, Weinidog, ei bod hi hefyd yn bwysig, wrth gyflwyno'r hanes lleol hwn yn ein hysgolion, fod ysgolion yn cysylltu â sefydliadau allanol fel y cymdeithasau hanes lleol? Yn lleol yma yng Ngwent, mae gweithgor o Archifau Gwent yn gallu darparu deunyddiau ac adnoddau, ac yng Nghasnewydd, mae yna grŵp bywiog iawn sy'n bwrw ymlaen â'n dathliadau o hanes rhyfeddol y Siartwyr. Rwy'n credu y gall y grwpiau allanol hyn ychwanegu rhywbeth at addysgu hanes lleol.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Yn y trafodaethau a gaf o bryd i'w gilydd gyda'r trydydd sector mewn perthynas â'u cyfraniad i'n cwricwlwm ysgolion, un o'r trafodaethau a gawn yw sut y gallwn hwyluso'r cysylltiadau rhwng ysgolion ac athrawon sy'n brysur yn llunio ac yn gweithio ar gwricwla ysgolion a gwaith cyrff allanol yn ein cymunedau. A dweud y gwir, os ydym yn dilyn egwyddorion y cwricwlwm ac yn caniatáu'r elfen o gydgynllunio, rwy'n credu bod cyfle sylweddol iawn i ysgolion, sydd mewn proses gyson o greadigrwydd, ail-greu ac ailgynllunio mewn perthynas â'r cwricwlwm, ac rwy'n siŵr y byddai ysgolion yn gwerthfawrogi cael y ffynhonnell allanol honno o ysbrydoliaeth a phartner i gefnogi'r gwaith hwnnw.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i weithio gyda chyflogwyr fel bod dysgwyr yn cael gwybod mwy am gyfleoedd posibl ym myd gwaith yn y dyfodol? OQ60334
Mae meithrin cysylltiadau cryf a llwyddiannus rhwng cyflogwyr, colegau ac ysgolion i gefnogi dysgwyr gyda'u camau nesaf yn hanfodol i wella eu rhagolygon swydd ac i'w helpu i ddeall y gwerthoedd sydd gan gyflogwyr lleol, ac mae gennym nifer o gynlluniau yng Nghymru i gefnogi hyn. A diolch i'r Aelod am y gwaith y mae wedi'i wneud ar nodi sut y gallwn adeiladu ar hyn.
Ac yn y gwaith y mae'n cyfeirio ato, dywedais
'Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod sefydliadau addysg bellach, cyflogwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill yn cael mynediad priodol at ddysgwyr drwy gydol eu gyrfa ysgol,'
o'r ysgol gynradd ymlaen, ond 'yn enwedig pan yn 11-16 oed.' Mae'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu a'r Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi cynhyrchu adroddiad newydd yn ddiweddar sy'n adleisio hynny, lle maent yn dweud, mewn perthynas â'r agenda bolisi, y dylai Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil adeiladu ar hynny, gyda'i
'themâu ar bontio i fyd gwaith ac ymrwymiad i ddysgu sy'n gysylltiedig â gwaith, ochr yn ochr â strategaeth ehangach i baratoi twf mewn busnesau bach a chanolig i agor cyfleoedd newydd.'
Wrth gwrs, mae busnesau bach yn ei chael hi'n anodd iawn ymgysylltu â'r amgylchedd addysg, ac efallai eu bod yn ei chael hi'n anos na chwmnïau mwy o faint. Felly, sut mae'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gwneud cynnydd ar yr argymhellion hynny, a beth arall y gellir ei wneud i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn?
Wel, er mwyn adleisio'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, cefais gyfle i siarad yn lansiad yr adroddiad y mae'n cyfeirio ato, ac mae'n adroddiad y dylai'r Aelodau ei ddarllen yn sicr. Roeddwn yn credu bod ynddo rai argymhellion buddiol iawn a rhai syniadau y gallem i gyd fyfyrio arnynt. Rwy'n credu bod yna rai pethau ymarferol a wnaethom fel Llywodraeth, yn dilyn yr adroddiad a roddodd Hefin David ei hun i ni. Felly, yn dilyn cynllun peilot y prosiect profiad gwaith wedi'i deilwra y llynedd, rydym wedi cynyddu'r cyllid i Gyrfa Cymru i gefnogi dysgwyr ym mlwyddyn 10 a blwyddyn 11 sydd wedi cael trafferth i ail-ymgysylltu â'u haddysg ar ôl y pandemig. Rydym hefyd wedi comisiynu gwaith ar gyfres o ganllawiau lleoliad gwaith ar gyfer cyflogwyr ac ysgolion, i gefnogi'r math o gysylltiadau yr oedd Hefin David yn cyfeirio atynt yn ei gwestiwn. Ac rydym hefyd wedi comisiynu adolygiad o ymwneud athrawon a chyflogwyr ar lefel ysgol uwchradd i geisio deall beth sy'n digwydd ar hyn o bryd, gyda'r lleoliadau hynny, rhwng athrawon a lleoliadau cyflogaeth a cheisio treialu modelau cyflawni posibl ar gyfer y dyfodol. Mae dau gynllun peilot yn mynd rhagddynt yn Abertawe ac Ynys Môn ar hyn o bryd. A phan ddarllenais yr adolygiad o'r ymwneud rhwng athrawon a chyflogwr, ynghyd â lleoliadau gyda rhai o'r cyflogwyr mwy o faint, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, cefais fy nghalonogi o weld fod yna enghreifftiau o weithio gyda chyflogwyr llai hefyd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, mewn economi fel ein heconomi ni, lle mae mentrau bach a chanolig yn chwarae rhan mor fawr, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud y cysylltiadau rhwng y lleoliadau gwaith y gallant eu darparu ac ysgolion hefyd, ar lefel gynradd ac uwchradd.
Weinidog, mae cysylltu plant ysgol â chyflogwyr posibl yn y dyfodol yn gwbl allweddol, ac mae'n rhywbeth y bûm yn gweithio'n galed i'w gyflawni ledled de-ddwyrain Cymru. Gan wisgo fy het dechnoleg am ryw bum eiliad, roeddwn i'n ddigon ffodus i ymweld â chanolfan Sony yn ne Cymru yn ddiweddar i ddathlu 50 mlynedd o fusnes Japaneaidd yng Nghymru. Tra oeddwn yno, cefais wybod mwy am raglenni addysgol y cwmni, sy'n ceisio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ac arddangos llwybrau gyrfa. Ers 2012, Weinidog, rydym wedi croesawu mwy na 25,000 o ddisgyblion i'w canolfan dechnoleg yn y DU, i ddechrau eu taith yn y diwydiant. Mae'r rhaglenni'n rhoi cyfle i ddisgyblion brofi amgylchedd gweithgynhyrchu a dysgu sgiliau penodol, gan gynnwys codio. Mae'n gynllun gwirioneddol ryfeddol, Weinidog, ac roeddwn yn arbennig o falch o ddarganfod rhaglen addysgol Sony i geisio denu mwy o ferched i feysydd STEM, ac mae honno'n rhaglen sy'n ffynnu. Weinidog, rwyf wedi bod yn lledaenu'r neges am y sesiynau rhad ac am ddim hyn gydag ysgolion ledled Dwyrain De Cymru, ond dylai disgyblion ledled Cymru gael mynediad at y math hwn o beth hefyd. Felly, Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i ganmol cynllun Sony ac ymrwymo i helpu i godi ymwybyddiaeth ohono mewn ysgolion ym mhob cwr o Gymru?
Mae'r cynllun hwnnw'n swnio fel datblygiad diddorol iawn, a hoffwn ddarganfod mwy amdano. Felly, hoffwn pe gall rannu peth o'r wybodaeth honno gyda mi.
5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn lliniaru cost y diwrnod ysgol i deuluoedd ar draws gogledd Cymru? OQ60343
Ymhlith pethau eraill, mae ein grant hanfodion ysgol wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i lawer o deuluoedd incwm is ledled Cymru, gan helpu i leihau'r pryder ynghylch prynu gwisg a chyfarpar ysgol, er enghraifft. Mae cyllid o £2.5 miliwn wedi'i ddarparu i deuluoedd yn y gogledd yn 2023-24.
Dyw teuluoedd, wrth gwrs, sy'n byw mwy na 2 filltir o ysgol gynradd neu fwy na 3 milltir o ysgol uwchradd ddim yn cael mynediad i drafnidiaeth ysgol. Nawr, mae hynny yn gadael rhai o'r teuluoedd tlotaf, efallai, sydd heb gar ond sydd efallai yn byw bron i 2 neu bron i 3 milltir i ffwrdd o'r ysgol, yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae hynny'n dod â chost. Felly, y sefyllfa sydd gennym ni yw bod y llai abl i fforddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gorfod talu am hynny er mwyn cael eu plant i'r ysgol. Nawr, yn ôl Arriva Bus, mae tocyn tymor i blentyn yn £125, sydd yn gost enfawr, wrth gwrs, os ŷch chi'n byw ar y dibyn ariannol yna, a hynny ar gyfer bob plentyn, bob tymor. Ydych chi'n meddwl bod hynny'n deg, Gweinidog? Ac os nad ŷch chi, a ydych chi'n barod i ystyried edrych ar hynny?
Wel, mae'r Aelod yn gwybod bod gwaith eisoes yn digwydd i edrych ar y trefniadau ar gyfer trafnidiaeth i'r ysgol. Mae adolygiad wedi digwydd o'r Mesur eisoes, ac rwy'n cyfarfod â'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn y dyddiau nesaf i drafod canlyniadau'r adolygiad hynny. Beth fydd yn heriol yw mynd i'r afael â rhai o'r newidiadau sy'n golygu newid y gyfraith, ond mae cyfle gyda ni i edrych ar ystod o bethau y gallem ni wneud yng nghyd-destun canllawiau statudol, er enghraifft, i gryfhau'r disgwyliadau ac i ddysgu o rai o'r arferion da sy'n digwydd mewn rhai mannau yng Nghymru. Felly, byddwn ni'n gallu gwneud datganiad maes o law ynglŷn â chanlyniadau'r drafodaeth honno.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Unwaith eto, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, gwelwn y bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru bellach yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Y gost i drethdalwyr am hyn yw £40 miliwn yn 2022-23, £70 miliwn yn 2023-24, a £90 miliwn yn 2024-25. Nawr, nid oes amheuaeth y bydd teuluoedd incwm is yn elwa o'r cynllun hwn. Fodd bynnag, mae yna rieni nad ydynt ei angen sy'n gallu fforddio cyfrannu, ac maent eisiau cyfrannu. Ar adeg pan fo cyrff llywodraethu ysgolion yn gorfod chwilio am arbedion, nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl nad yw rhieni cefnog sy'n gallu fforddio talu am eu plant yn cael gwneud hynny. Nawr, rwy'n cyfarfod ac yn siarad gyda fy mhenaethiaid yn rheolaidd. Nid ydynt yn gwybod a allant fforddio staff o flwyddyn i flwyddyn, ac mewn gwirionedd, mae rhai'n gorfod diswyddo staff. Felly, ar ryw gam, Weinidog, a wnewch chi edrych ar y polisi prydau am ddim i bawb gyda'r nod o sefydlu a ellir ei ddiwygio, fel bod y rhai sy'n gallu fforddio talu yn gwneud hynny? Ac yn bwysicach fyth, a wnewch chi edrych i weld ai dyna'r defnydd gorau a mwyaf darbodus o arian trethdalwyr?
Wel, gadewch i mi roi sicrwydd i'r Aelod fy mod i eisoes wedi edrych ar y cynllun, ac rwy'n credu ei fod yn gynllun sy'n darparu ar gyfer teuluoedd ledled Cymru, ac mae'n bosibl y bydd llawer ohonynt nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond maent yn dal i'w chael hi'n anodd iawn, a bydd llawer o'r rheini yn ei hetholaeth hi.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn Islwyn? OQ60342
Mae cyfraddau presenoldeb ar draws pob ysgol yng Nghymru yn parhau i fod yn bryder. Dyna pam fy mod wedi sefydlu'r tasglu presenoldeb i osod blaenoriaethau a nodi camau pellach pendant i ysgogi gwelliannau mewn presenoldeb ac ail-ymgysylltu â'n dysgwyr.
Diolch yn fawr, Weinidog. Cawsoch eich cofnodi'n dweud mai mynd i'r afael ag absenoldeb mewn ysgolion yw eich prif flaenoriaeth, ac fel rydych wedi ei gydnabod, mae data addysgol yn awgrymu bod lefelau absenoldeb yn uwch na chyn i'r pandemig byd-eang daro Cymru a'r DU. Felly, rwy'n croesawu'r penderfyniad dewr i ailddiffinio'r term 'cyson' i gynnwys disgyblion sy'n colli 10 y cant o'r ysgol o'i gymharu ag 20 y cant, ac i fynd i'r afael â'r problemau yn llawer cynharach. Mae llawer o drafod wedi bod mewn perthynas â diwygio'r flwyddyn ysgol, costau gwisg ysgol wedi'u brandio ac urddas mislif—gwir gost ysgol. Ond gwyddom fod costau byw, yn ddi-os, yn cael yr effaith fwyaf ar ein plant tlotaf, ac o bosibl yn effeithio ar bresenoldeb ein disgyblion mwyaf agored i niwed. Weinidog, pa wybodaeth newydd allwch chi ei rhoi i ni heddiw ar sefydlu'r tasglu presenoldeb cenedlaethol arloesol, ac a gaf fi eich annog i barhau i gyfarwyddo eich swyddogion i ganolbwyntio eu holl egni ar y flaenoriaeth genedlaethol allweddol hon?
Rwy'n hapus iawn i ddweud wrth yr Aelod fod cyfarfod cyntaf y tasglu presenoldeb cenedlaethol yn cael ei gynnal ddydd Llun nesaf, a bydd hwnnw'n gyfle ac yn gydnabyddiaeth, rwy'n credu, fod yr ystod o bartneriaid o amgylch y bwrdd hwnnw—mae gan bob un ohonynt, mewn gwahanol ffyrdd, eu perthynas eu hunain â theuluoedd, gyda phlant nad ydynt yn yr ysgol—yn gallu dysgu o'r arferion sydd gan y lleill, ac mae'r ffordd amlasiantaethol honno o weithio yn bwysig iawn yn fy marn i. Ond yr hyn y byddaf eisiau ei glywed gan y tasglu yw dealltwriaeth ddofn o rai o'r rhesymau mwy cymhleth pam nad yw pobl ifanc yn dod i'r ysgol, oherwydd mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers COVID, fel y soniodd yn ei chwestiwn, a hynny am amrywiaeth o resymau cymhleth.
Ond mewn gwirionedd, rwyf eisiau i'r ffocws fod ar weithredu fel y gallwn ddeall yr hyn sydd eisoes yn gweithio'n dda mewn ysgolion yng Nghymru, a sut y gallwn ledaenu'r arferion gorau hynny, ac yn hollbwysig, beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod hon yn flaenoriaeth genedlaethol i bob un ohonom. Er yr holl bethau da a wnawn mewn ysgolion, yr holl ddiwygiadau a gyflwynwn i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob unigolyn ifanc yng Nghymru, os nad yw pobl ifanc yn yr ysgol, ni allant fanteisio ar y rheini. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â hyn.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn bodloni anghenion cyfathrebu disgyblion anabl? OQ60313
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu drwy ein diwygiadau addysg fel bod pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion cyfathrebu, yn gallu cael mynediad at addysg sy'n eu galluogi i gyflawni eu potensial. Ar gyfer disgyblion anabl ag anghenion dysgu ychwanegol, mae'r system ADY yn helpu i sicrhau bod eu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei chynllunio a'i diogelu'n briodol.
Diolch. Wrth eich holi chi yma ym mis Mai, gofynnais i chi ymateb i rybuddion y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar fod yna argyfwng addysgol ar y gorwel i blant byddar yng Nghymru. Yn eich ymateb, fe ddywedoch chi y byddech yn rhoi ystyriaeth bellach i'w hadroddiad i weld beth arall y gallech ei wneud. Yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar faterion pobl fyddar ym mis Hydref, soniodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar am yr annigonolrwydd dychrynllyd mewn cymorth addysg arbenigol i blant byddar. Mae Cymru'n wynebu argyfwng recriwtio a chadw athrawon disgyblion byddar, gydag un o bob pump wedi gadael y proffesiwn ers 2011 a disgwylir y bydd un o bob tri arall yn ymddeol dros y degawd nesaf—mater y mae deiseb Seneddol, sy'n casglu llofnodion ar hyn o bryd, yn ei amlygu. Mae'r cod ADY, y cyfeirioch chi ato, yn nodi bod plant a phobl ifanc byddar, ynghyd â'r rhai sy'n ddall neu sydd ag amhariad ar eu golwg,
'yn fwy tebygol o fod ag ADY yn rhinwedd y ffaith bod y nam yn debygol o'u hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau addysgol neu hyfforddi ac mae'n debygol o alw am DDdY.'
Sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan aelodau'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, felly, a'r ddeiseb hon, nad yw'n wir ar lawr gwlad, oherwydd y gostyngiad yn niferoedd yr athrawon sy'n dysgu disgyblion byddar ochr yn ochr â'r materion eraill sy'n codi wrth gyflwyno'r diwygiadau ADY?
Rydym yn parhau i adolygu’r materion hyn yn barhaus, ac rydym wedi buddsoddi dros dair blynedd academaidd i gefnogi hyfforddiant ôl-raddedig i athrawon sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol ar gyfer dysgwyr ag amhariad ar y synhwyrau, sy’n cynnwys athrawon plant byddar. Mae athrawon plant byddar ac arbenigwyr eraill yn amlwg yn rhan hanfodol o’r gweithlu addysg ac yn hollbwysig wrth gyflawni’r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol. Maent yn darparu ystod o gymorth a chyngor proffesiynol i’r gweithlu yn fwy cyffredinol, a dyna pam ein bod wedi darparu’r buddsoddiad, i gynyddu’r capasiti hwnnw. Ond mae’r Ddeddf ei hun yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i awdurdodau lleol adolygu eu trefniadau ar gyfer disgyblion ag ADY ac ystyried gallu eu gweithlu a pha gymysgedd sgiliau sydd ei angen arnynt yn y gweithlu hwnnw yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i adolygu hyn ac i wneud pa ddarpariaeth bynnag y teimlwn fod ei hangen yn y dyfodol.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Heledd Fychan.
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o addysgu ieithoedd modern mewn ysgolion? OQ60331
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth a strategaeth glir i gefnogi dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru. Mae cynllun strategol 'Dyfodol Byd-eang' tan 2025, a lansiwyd fis Tachwedd diwethaf, yn amlinellu sut y byddwn ni'n mynd ati i wella darpariaeth a hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru.
Diolch, Weinidog, a dwi'n meddwl bod y ffaith bod Cefin Campbell a minnau wedi rhoi cwestiynau ar hyn yn dangos bod hyn yn bryderus, yn enwedig o weld y ffigyrau o ran Almaeneg—58 oedd wedi cymryd lefel A ynddo fo, a oedd yr isaf o ran y Deyrnas Unedig. Dwi'n derbyn y pwynt dŷch chi'n ei wneud o ran y Brifysgol Agored a'r gwaith pwysig yna, ac roeddwn wedi clywed ganddyn nhw fod 150 o athrawon wedi elwa o'r rhaglen honno. Ond yn amlwg, un o'r pryderon hefyd ydy bod y Cyngor Prydeinig, o ran edrych ar y trends, yn dweud mai ond un ymhob 14 o ysgolion cynradd sydd efo'r gallu i fynd ati o ran dysgu ieithoedd modern ar y funud.
Felly, gaf i ofyn—oherwydd, yn amlwg, nid dim ond gwlad ddwyieithog ydy Cymru, ond un amlieithog—ydych chi'n meddwl bod mwy y gallem ni fod yn ei wneud, hefyd, o ran annog disgyblion sydd efo gallu ieithoedd modern i chwarae rhan flaenllaw yn rhannu'r iaith? Achos mae'n bwysig eithriadol, a ninnau ddim yn yr Undeb Ewropeaidd bellach, ein bod ni efo'r gallu i fod yn datblygu sgiliau yn yr ieithoedd yma, a sicrhau bod pawb, o ba bynnag ysgol maen nhw, yn cael y cyfle i ddysgu ieithoedd amgen i Gymraeg a Saesneg.
Dwi'n cytuno gyda beth mae'r Aelod yn ei ddweud. Mae hi'n iawn i ddweud efallai fod yna her benodol yn y cynradd. Felly, mae rhaglen y Brifysgol Agored wedi ffocysu yn benodol ar greu capasiti mewn ysgolion cynradd, a dyna yw pwrpas y rhaglen honno. O ran y gwaith mae myfyrwyr yn gallu ei wneud, byddaf i eisiau gweld beth yw canlyniadau'r gwaith peilot o ran mentora rhwng myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac ysgolion uwchradd, yn yr achos hynny, i weld a allem ni ledaenu hynny, achos byddai hynny, rwy'n credu, yn ffordd o greu synnwyr o bwysigrwydd dysgu ieithoedd tramor modern.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt teilwng fod y ffaith ein bod ni tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn golygu bod angen i ni gadw'r ffocws ar hyn. Un o'r pethau sydd wedi dod fel canlyniad i Taith, rwy'n credu, ydy—. Roeddwn i mewn cyfarfod yn ddiweddar yn clywed gan ddisgyblion mewn ysgol gyfun yn y de am eu profiad nhw o fod yn cydweithio gydag ysgolion mewn rhannau eraill o Ewrop. Mae hynny, rwy'n credu, yn rhan bwysig o'r cyd-destun ehangach o'n hatgoffa ni pam mae e'n bwysig ein bod ni'n dysgu ieithoedd tramor modern.
Diolch i'r Gweinidog.
Nid oes unrhyw gwestiynau amserol wedi'u derbyn heddiw.
Felly, symudaf ymlaen at eitem 4, y datganiadau 90 eiliad. Ac yn gyntaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Pontyclun Bosom Pals yn dathlu eu pymthegfed pen-blwydd, yn dathlu 15 mlynedd o gefnogaeth barhaus i bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser y fron a chefnogaeth i'w teuluoedd a'u gofalwyr hefyd. Mae’r grŵp cymorth canser y fron, sy’n gwasanaethu Pont-y-clun a’r ardaloedd cyfagos, o Bontypridd i Bencoed, yn rhan mor bwysig o gymaint o fywydau. Ac fel un o ymddiriedolwyr y grŵp, rwy'n falch o barhau fy nghefnogaeth iddynt a thynnu sylw at y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud. Gall fod yn unig ar adegau, cyn ac ar ôl triniaeth, i'r claf ac i'r teulu. Gall iechyd meddwl ddirywio hefyd, a dyna pam ei bod mor bwysig fod grwpiau fel Bosom Pals yn bodoli er mwyn rhoi dihangfa o fywyd bob dydd, dihangfa rhag pryderon ynghylch diagnosis, triniaeth a gwellhad hefyd.
Maent yn cyfarfod unwaith y mis. Maent yn cynnig seibiant mawr ei angen, hoe fach i gleifion, i’w teuluoedd ac i’r gofalwyr, i dreulio amser gyda’i gilydd a chyda’r gymuned ehangach. Amser i fwynhau rhai o’r nifer o ddigwyddiadau y maent yn eu trefnu: digwyddiadau codi arian gyda dawnsio, ciniawau arbennig, te prynhawn, sesiynau maldodi, hyd yn oed cinio Nadolig, a diwrnodau allan hefyd, ac maent o fewn galwad ffôn.
Mae Sue Hadlow, llysgennad Pontyclun Bosom Pals, yn ffigur allweddol wrth wneud i hyn oll weithio. Pan fydd gennych bobl dda wrth y llyw, gall pethau da ddigwydd. A diolch hefyd i Wayne o'r Boar's Head, sy'n rhoi lle i'r menywod gyfarfod. Heb bobl fel y rhain, ni fyddai llawer ohonynt yn cael cyfle i sgwrsio a chwerthin gydag eraill. Ac o fis Ionawr ymlaen, maent yn cynnig cymorth pellach i'r gymuned, gan ymestyn eu cyfarfodydd misol arferol o gyfarfodydd cymorth canser y fron rheolaidd i ddarparu canolfannau clyd hefyd.
Felly, ar bwynt olaf, Ddirprwy Lywydd, yng ngeiriau Sue: 'Weithiau yn ystod y driniaeth, mae angen cwtsh, gwên neu sgwrs arnoch. Rydym yn rhoi hyn oll, a mwy gobeithio, gan obeithio y bydd hyn yn eich helpu drwy'r dyddiau tywyllaf hynny.' Diolch yn fawr iawn.
Ar un adeg, roedd Cwmdâr wedi'i amgylchynu gan bedwar pwll glo. Nid oedd hyn yn syndod, efallai—roedd galw mawr am y glo ager a gâi ei gloddio yn yr ardal, ac a ddefnyddid ar gyfer llongau, trenau a gweithfeydd pŵer. Erbyn 1971, ar ôl canrif o gloddio, dim ond Bwllfa Dare oedd yn dal i weithredu, a phenderfynwyd adfer y tir. Dros y ddwy flynedd nesaf, cafwyd trawsnewidiad aruthrol—cliriwyd tomenni glo a slag, dargyfeiriwyd cwrs afon Dâr, crëwyd llynnoedd artiffisial.
Ym 1973, ar ôl cwblhau'r gwaith, agorodd Parc Gwledig Cwm Dâr i'r cyhoedd. Y parc hwn oedd y parc cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gael ei greu o dir a arferai gael ei ddefnyddio gan ddiwydiant. Mae'n cynnwys oddeutu 500 erw o goetir pori a rhostir mynydd a chymoedd rhewlifol mwyaf deheuol Prydain. Yn baradwys i rai sy'n caru natur, mae'r parc yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid. Mae hefyd yn cynnwys pethau sy'n ein hatgoffa'n gryf am orffennol diwydiannol yr ardal.
Mae’r cyfleusterau y mae’r parc yn eu cynnig wedi’u gwella dros y blynyddoedd, a’r ychwanegiad diweddar yw’r parc beicio teuluol cyntaf yn y DU, sy'n denu dros 0.25 miliwn o bobl o bob man i ymweld â’r parc bob blwyddyn ac i fwynhau un o’r enghreifftiau gorau o adfer tir mewn amgylchedd sborion glo ym Mhrydain. Ddydd Sul, bydd parti Nadoligaidd yn cael ei gynnal i ddathlu hanner canmlwyddiant Parc Gwledig Cwm Dâr, ac edrychaf ymlaen at ymuno â'r gymuned yn y dathliadau hyn.
Dydd Gwener, 1 Rhagfyr yw Diwrnod AIDS y Byd 2023. Neithiwr, noddais dderbyniad yn y Senedd ar gyfer Diwrnod AIDS y Byd i godi ymwybyddiaeth o nodau 2030 i roi diwedd ar ddiagnosis o HIV a'r stigma sy'n gysylltiedig â HIV, ac i nodi cyflawniadau Fast Track Cymru.
Diolch i sefydliadau a gweithwyr proffesiynol fel Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru a Fast Track, rydym wedi dod yn bell o’r feirniadaeth, yr ynysigrwydd, ac yn rhy aml o lawer, y ddedfryd o farwolaeth yn y 1980au, a heddiw, mae triniaeth effeithiol yn golygu bod gan bobl sy'n byw gyda’r clefyd ddisgwyliad oes arferol, ac na allant ei drosglwyddo i eraill.
Yn gynharach eleni, lansiwyd 'Cynllun Gweithredu HIV i Gymru 2023 i 2026' gan Lywodraeth Cymru i herio, addysgu a newid gwybodaeth ac agweddau'r cyhoedd, fel ein bod yn gweld llai o feirniadaeth ac ynysigrwydd, er mwyn sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn dechrau meddwl am eu hiechyd rhywiol, fel ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael profion am HIV ac yn dileu'r stigma sy'n gysylltiedig â HIV ac AIDS yn llwyr, ac fel bod pobl yn teimlo'n hyderus ac yn ddiogel i gael triniaeth ac i fyw bywyd normal. Bydd y gwaith sydd ei angen i gyrraedd targedau cynllun gweithredu HIV Llywodraeth Cymru yn galw am barhau gwaith partneriaeth ac ymrwymiad i'r cyllid angenrheidiol. Yn aml mewn gwleidyddiaeth, gall ymgyrchoedd, uchelgeisiau a gwneud newid gwirioneddol—gall deimlo fel gwaith caled, brwydr anodd, yn aml heb lawer i’w ddangos dros hynny. Ond yng Nghymru, mae gennym gynllun eisoes, ac mae gennym yr ymroddiad diwyro eisoes; y cyfan sydd ei angen arnom yw’r cyllid. Mae hwn yn gyfle unigryw i newid bywydau, ac yn bersonol, rwy'n llawn cyffro. Hoffwn ddiolch i bawb yn Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru a Fast Track Cymru, ac edrychaf ymlaen at flwyddyn arall o weithredu.
Diolch, bawb.
Eitem 5 yw'r datganiad gan Sam Rowlands—cyflwyno Bil arfaethedig Aelod: Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru). Galwaf ar Sam Rowlands i wneud y datganiad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle hwn i gyflwyno Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) i’r Senedd yma y prynhawn yma. A wnaiff Cymru arwain y ffordd? Dyna gwestiwn a ofynnwyd i mi ar y cyfryngau cymdeithasol am y Bil hwn. A wnaiff Cymru arwain y ffordd a sicrhau bod holl blant ysgol Cymru yn gallu cael profiadau addysg awyr agored breswyl o ansawdd uchel? A wnaiff Cymru arwain y ffordd a rhoi gwell canlyniadau addysgol a phrofiadau sy’n newid bywydau i’r plant hynny? A wnaiff Cymru arwain y ffordd drwy basio Bil addysg awyr agored breswyl sy’n darparu ateb ymarferol i annog gwell canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol wrth wella addysg ac ymwybyddiaeth o'r amgylchedd? Credaf fod y rhain yn gwestiynau i bob un ohonom yn y lle hwn y prynhawn yma.
Mae’n teimlo fel amser maith yn ôl pan roddodd y Senedd ganiatâd imi fwrw ymlaen â’r Bil hwn ym mis Hydref 2022, a hyd yn oed yn hirach yn ôl, ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, pan enillais bleidlais yr Aelodau. Mae’r daith wedi bod yn gromlin ddysg wirioneddol i mi, nid yn unig yng ngwaith y Senedd hon y tu ôl i’r llenni ond drwy gyfarfod a gweithio gydag ystod eang o unigolion a grwpiau sydd wedi ymrwymo i addysg awyr agored ac sy’n gwneud y gorau oll dros blant Cymru a thu hwnt. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cefnogi a chyfrannu at y broses hon hyd yma.
Felly, yn gyntaf y prynhawn yma, hoffwn amlinellu beth yn union yw addysg awyr agored breswyl. Profiadau yw'r rhain sy'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sy'n digwydd mewn lleoliad preswyl lle mae'r cyfranogwyr oddi cartref gyda'i gilydd. Mae’r gweithgareddau’n aml yn heriol ac anturus, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol, ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol a datblygu’r cymwyseddau sydd wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru—unigolion iach, hyderus sy’n gyfranwyr creadigol; dysgwyr uchelgeisiol a galluog; a dinasyddion moesegol wybodus.
Mae gan Gymru dreftadaeth gyfoethog o addysg awyr agored. Bydd llawer o Aelodau yma, yn ddiau, wedi cael profiad o gwrs preswyl addysg awyr agored yn rhan o’u plentyndod; efallai yng Nglan-llyn yng ngogledd Cymru neu'r Storey Arms, os aethoch i'r ysgol yn nes at Gaerdydd, neu efallai Tregoyd House yr ochr draw i Fronllys. I rai ohonoch, efallai mai'r amser hwn oedd eich profiad cyntaf o weithgareddau awyr agored sydd wedi troi'n ddiddordeb gydol oes o bosibl. I lawer o’n pobl ifanc, yn enwedig yn ein cymunedau tlotach, efallai mai hwn hefyd fydd eu cyfle cyntaf i gael y profiadau anhygoel hyn. Mae'r amseroedd hyn yn wych i’r bobl sy’n cymryd rhan, gyda’r holl fanteision y gwyddom amdanynt, ond fe wyddom hefyd fod y sector gweithgareddau awyr agored yn gatalydd economaidd yng Nghymru, sy’n werth oddeutu £1.5 biliwn ar hyn o bryd. Felly, mae datblygu diddordeb yn yr awyr agored yn hybu ffordd iach o fyw, gyda’i holl fanteision i’n gwasanaeth iechyd yn y dyfodol, ac mae hefyd yn gosod sylfaen ar gyfer gwella lles economaidd.
Ond mewn gwirionedd mae’r Bil hwn yn canolbwyntio ar y cyfleoedd i’n pobl ifanc, ac mae llawer iawn o dystiolaeth yn dangos bod cyrsiau preswyl addysg awyr agored yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer datblygiad personol a chymdeithasol plant a phobl ifanc. Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos yn glir y manteision a all ddeillio o addysg awyr agored, gan ddangos bod cyrsiau preswyl addysg awyr agored yn rhan allweddol o daith addysg unigolyn ifanc. Mae'r buddion yn ymestyn y tu hwnt i'r unigolyn mewn lleoliad ysgol, gan gael effaith hirdymor bosibl ar ddysgu gydol oes, iechyd, cyflogaeth, yr economi a'r amgylchedd. Mae manylion y dystiolaeth hon wedi’u nodi’n glir yn y memorandwm esboniadol sy’n dod gyda’r Bil, ac sydd ar gael i chi heddiw.
Felly, rwy’n dyfalu mai’r cwestiwn yw: pam fod angen Bil? Yn fy marn i, mae dau reswm sylfaenol pam fod Bil yn angenrheidiol a pham y byddai o fudd i blant ysgol ledled Cymru. Y cyntaf yw i sefydlu cwrs o addysg awyr agored breswyl fel hawl yn y cwricwlwm, yn hytrach na chyfoethogiad yn unig. Mae hyn, i mi, yn cydnabod ac yn cadarnhau bod cwrs addysg awyr agored breswyl yn agwedd allweddol ar addysg statudol yng Nghymru. Felly, byddai’r Bil yn galluogi pob disgybl mewn ysgolion a gynhelir i gael profiad o’r addysg awyr agored breswyl honno. Byddai dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cwrs o addysg awyr agored breswyl yn cael ei ddarparu unwaith i bob disgybl mewn ysgolion a gynhelir, yn rhad ac am ddim iddynt. Byddai plant a phobl ifanc yn cael eu hannog, ond nid eu gorfodi, i gymryd rhan yn y profiad hwnnw.
Yr ail reswm pam y credaf fod y Bil yn angenrheidiol yw er mwyn i bob plentyn ac unigolyn ifanc mewn ysgolion a gynhelir gael cyfle i gymryd rhan yn rhad ac am ddim mewn cwrs addysg awyr agored breswyl drwy ddarparu’r modd ariannol iddynt wneud hynny. Bydd hyn yn mynd i'r afael â sefyllfa lle gallai amgylchiadau economaidd teulu olygu bod plant a phobl ifanc yn colli cyfle, naill ai am nad oedd eu hysgol wedi trefnu cwrs addysg awyr agored breswyl, neu fod eu hysgol yn gwneud hynny, ond na allant gymryd rhan oherwydd cyfyngiadau ariannol.
A gadewch imi ddweud yn glir: gall y profiadau hyn newid bywydau cymaint o blant. Pam y dylid amddifadu plentyn o gefndir tlotach o’r cyfle addysgol a’r garreg filltir bwysig hon y gall cymaint o blant o gefndiroedd cyfoethocach gael mynediad hawdd ati? Gwyddom fod fforddiadwyedd a chyfyngiadau ariannol yn rhwystrau sylweddol i rai pobl rhag manteisio ar y cyfle i gael profiad awyr agored preswyl. Yn syml, bydd y Bil yn sicrhau na chaiff unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc eu hatal rhag cael addysg awyr agored breswyl unwaith yn eu bywyd ysgol am na all eu teulu ei fforddio.
Ar y pwynt hwn, credaf ei bod yn bwysig cydnabod yr effaith y mae peidio â mynd ar gwrs preswyl yn ei chael hefyd. Mae’n ymwneud â mwy na’r manteision a gaiff y rhai sy’n mynychu, sy’n sylweddol, mae'n ymwneud hefyd â'r bwlch y mae hyn yn ei greu i’r rhai nad ydynt yn mynychu. I’r plant a’r bobl ifanc hynny na all eu teuluoedd fforddio talu i'w plant fynychu, gwyddom fod colli’r cyfle i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol yn arwain at lefelau hunan-barch a hyder is, sy’n niweidio llesiant. Ac yn anffodus, ar hyn o bryd, mae mynediad at y buddion hyn yn anghyfartal. Ceir anghysondebau ac amrywio rhwng ysgolion o ran trefnu cwrs addysg awyr agored breswyl ar gyfer eu disgyblion. Gwyddom fod dysgwyr mewn oddeutu traean yr ysgolion cynradd a rhwng traean a hanner yr ysgolion uwchradd yn cael eu hamddifadu o'r cyfle ar hyn o bryd, gan nad yw’r profiadau hyn yn cael eu cynnig. A lle caiff cyrsiau preswyl eu cynnig, mae’r lefelau amrywiol o gymorth ariannol sydd ar gael gan ysgolion ac awdurdodau lleol yn golygu'n aml nad yw rhieni ar incwm isel yn gallu talu’r cyfraniad ariannol sy’n angenrheidiol i’w plant gymryd rhan, ac felly maent yn colli cyfle i gael profiadau addysgol allweddol sydd â photensial i drawsnewid eu bywydau ifanc. Mewn oddeutu traean o’r ysgolion sy’n trefnu sesiynau preswyl addysg awyr agored, gwyddom fod llai na 75 y cant o ddisgyblion yn cymryd rhan, a chyfyngiadau ariannol yw’r prif reswm.
I fy nghyd-Aelodau yn y Llywodraeth, bydd y Bil hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae’n cefnogi’r strategaeth arloesi ac yn cyfrannu at y nodau llesiant sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a chorfforol, mynediad teg, y Gymraeg a’r amgylchedd. Wrth wneud hynny, bydd y Bil yn rhoi Cymru ar flaen y gad gydag addysg awyr agored yn y DU, gan fanteisio ar ein tirwedd gyfoethog, ein diwylliant a’n cyfleoedd economaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi tegwch a llesiant yn gyson fel egwyddorion sylfaenol mewn addysg yng Nghymru. Bydd y Bil hwn yn sicrhau bod agweddau ar y ddwy elfen wedi’u gwreiddio yn ein system addysg, ac nad ydynt yn ddarostyngedig i'r pwysau sylweddol ar gyllidebau awdurdodau lleol na chostau dyraniadau ar gyfer blaenoriaethau polisi eraill sy’n cystadlu â’i gilydd. Mae cefnogaeth gref ac eang i’r cynigion y tu ôl i’r Bil hwn. Mae’r ymgynghoriad wedi dangos, bron yn unfrydol, pa mor bwysig yw addysg awyr agored i bobl, ac mae’r mwyafrif helaeth o blaid y cyfle i gymryd rhan mewn addysg awyr agored breswyl. Yn anffodus, mae llawer gormod o blant nad ydynt wedi cael y cyfle, gyda'r ymrwymiad ariannol sydd ei angen y tu hwnt i gyrraedd teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.
Felly, ar ddechrau hyn, Aelodau, gofynnais gwestiwn: a wnaiff Cymru arwain y ffordd? Credaf y gallwn arwain y ffordd. Gadewch inni sicrhau bod y cyfle gwych hwn ar gael i'n holl bobl ifanc. Gadewch inni arwain y ffordd yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn atgoffa’r Aelodau, os gwelwch yn dda, mai datganiad yw hwn, nid dadl. Mae'n ddatganiad gan Aelod sy'n cyflwyno Bil, fel y byddai Aelod o'r Llywodraeth sy'n gyfrifol am Fil hefyd yn ei wneud, felly cawn gwestiynau i'r Aelod. Weinidog.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy gydnabod y cyfraniad y gall addysg awyr agored breswyl ei wneud i ddatblygiad a llesiant ein pobl ifanc? Mae gennyf atgofion melys iawn o hynny fel plentyn, ac rwyf wedi gweld yn uniongyrchol yn fy rôl bresennol yr effaith gadarnhaol a gaiff. Mae dysgu yn yr awyr agored a phrofi’r hyn sydd gan yr awyr agored i’w gynnig yn ehangu gorwelion, yn cyfoethogi dysgu pobl ifanc, yn eu helpu i gadw’n iach yn gorfforol ac yn gallu cefnogi eu lles meddyliol ac emosiynol hefyd. Gwyddom fod yr amgylchedd y mae plentyn yn dysgu ynddo yn hollbwysig. Mae hynny’n wir boed eu bod yn dair oed neu’n 16 oed. Dyna pam fod dysgu yn yr awyr agored yn bwysig, a pham fod y cwricwlwm yn disgwyl i ysgolion feddwl sut mae’n cefnogi dysgu.
Er mwyn helpu dysgwyr i ddod yn unigolion iach a hyderus a meithrin perthynas gadarnhaol gydol oes gydag amgylcheddau awyr agored, mae angen cyfleoedd parhaus ar ddysgwyr i ddysgu, chwarae ac archwilio yn yr awyr agored drwy bob cam o addysg orfodol. Mae’n llawer mwy nag un profiad, a dyna mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ei ddisgwyl.
Mae’r Llywodraeth hon wedi, a bydd yn parhau, i bwysleisio rôl dysgu awyr agored ar draws y cwricwlwm mewn meysydd sy’n cynnwys iechyd a llesiant, gwyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau a’r celfyddydau mynegiannol, ac i werthfawrogi’r ymrwymiad a’r cyfraniad y mae’r sector addysg awyr agored breswyl yn ei wneud i addysg yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2021, fe wnaethom sefydlu cronfa bwrpasol gwerth £2 filiwn i gefnogi’r sector yn ystod y pandemig, pan oedd rheoliadau cadw pellter cymdeithasol yn golygu nad oedd y rhan fwyaf yn gallu gweithredu. Roedd sefydlu’r gronfa yn cydnabod bod y sector bob amser wedi bod yn rhan werthfawr o’r profiad addysgol i blant a phobl ifanc, a’i bod yn bwysig fod y sector yn gallu parhau i fod yn hyfyw ac yn gallu gweithredu’n llwyddiannus unwaith eto pan fyddai'r pandemig drosodd. Mae mwy y gellid ei wneud, wrth gwrs, a hoffwn ddweud yn glir fod fy nghynnig i’r Aelod, a wnaed yn gynharach eleni, i weithio gyda mi ac eraill ar ffyrdd o gryfhau, cefnogi a pharhau i ddatblygu’r cyfraniad y mae addysg awyr agored breswyl yn ei wneud i addysg yng Nghymru ac i ddatblygiad ein plant a’n pobl ifanc, yn dal i sefyll.
Fodd bynnag, mae’n rhaid datblygu’r cymorth hwn o fewn cyfyngiadau’r amgylchiadau ariannol gwirioneddol y mae'n rhaid inni wneud penderfyniadau ynddynt ar hyn o bryd ynghylch cyllid ar gyfer addysg ac ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn wrth y Senedd a’r cyhoedd dros y misoedd diwethaf fod sefyllfa’r gyllideb ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau aruthrol. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i ddatganiad cyllideb yr hydref Canghellor y DU, dywedodd y Gweinidog cyllid fod cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 bellach £3 biliwn yn is nag y byddai wedi bod pe bai wedi tyfu'n unol â’r economi ers 2010. Mae’r Gweinidog cyllid wrthi’n paratoi’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25, y bwriadwn ei chyhoeddi ar 19 Rhagfyr.
Gadewch inni gydnabod nawr, fodd bynnag, ein bod ni, fel y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud eisoes, yn wynebu pwysau ariannol sylweddol. Dyma’r sefyllfa ariannol anoddaf a wynebwyd gennym ers datganoli. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod y cyfuniad gwenwynig o chwyddiant uwch nag erioed a phrisiau ynni uchel eisoes wedi ein harwain i edrych ar ostyngiadau yn ystod y flwyddyn yn y gyllideb. Fel y soniais yn gynharach, rydym wedi gweithio'n galed yn fy mhortffolio i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen drwy wneud gostyngiadau mewn cyllid refeniw o danwariant mewn grantiau a chyllidebau seiliedig ar alw. Ond ar ôl mwy na degawd o gyni, gwyddom fod cyllid yn hynod o brin.
Mae’r memorandwm esboniadol yn amcangyfrif y byddai cost ychwanegol i’r trethdalwr o hyd at £19.7 miliwn y flwyddyn. Rydych wedi clywed yr hyn a ddywedais am werth addysg awyr agored a'r hyn a ddywedais am fod yn awyddus i wneud mwy, ond mae Bil sy'n creu angen am gost o £20 miliwn i ysgolion a chynghorau—. Mae arnaf ofn nad wyf yn fodlon torri cyllidebau rheng flaen ysgolion i ariannu'r ddeddfwriaeth honno. Nid datganiad cyffredinol o gefnogaeth i addysg awyr agored yw'r Bil hwn. Byddai pob un ohonom yn pleidleisio drosto’n unfrydol pe bai hynny’n wir. Mae’r Bil yn gosod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ddarparu ac ariannu’r holl ddarpariaeth addysg awyr agored breswyl, beth bynnag y bo a beth bynnag y bo’r gost. Nid yw hynny'n fforddiadwy.
Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi mai:
'Y cynnig oedd sefydlu Bil i roi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl ifanc sy’n cael addysg a gynhelir yn cael y cyfle i brofi addysg awyr agored breswyl, am o leiaf wythnos, ar ryw adeg yn ystod eu blynyddoedd ysgol',
ond nid yw’r Bil yn gosod y rhwymedigaeth i ddarparu hynny ar awdurdodau lleol, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol, ond yn hytrach, mae'n ei gosod yn uniongyrchol ar Weinidogion Cymru, gan ei gwneud yn ofynnol, ar yr un pryd, iddyn nhw ariannu’r ddarpariaeth o addysg awyr agored breswyl, wedi'i gael gan eraill, yn ôl pob tebyg—nid yw'n glir. Mae’r memorandwm esboniadol yn nodi:
'Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu hannog—ond nid yn cael eu gorfodi—i gymryd rhan',
ond yn anffodus, wrth ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud hyn yn rhan orfodol o’r cwricwlwm, mae’n ei wneud yn orfodol. Nid yw honno’n set synhwyrol o ddarpariaethau deddfwriaethol.
Mae angen i chi ddirwyn i ben, Weinidog.
Felly, er fy mod yn cymeradwyo bwriadau Bil yr Aelod, ac yn rhannu ei ymrwymiad, hoffwn ofyn iddo egluro i’r Senedd pa wasanaethau y byddai’n cynnig eu torri er mwyn talu am ei gynigion. Mae llawer o’r gwasanaethau hynny o fudd uniongyrchol i’r dysgwyr y mae wedi dweud eu bod yn canolbwyntio arnynt yn y Bil hwn. Mae fy ngwahoddiad iddo'n dal i sefyll: gadewch inni ddod o hyd i ffordd arall o weithio drwy ein cwricwlwm newydd i adael i’n pobl ifanc brofi manteision a llawenydd dysgu yn yr awyr agored.
Cawsoch gwestiwn ar y diwedd, felly—.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog, am eich ymateb i fy natganiad yma y prynhawn yma. Ac rwy’n sicr yn rhannu eich cydnabyddiaeth fod addysg awyr agored yn fwy nag un profiad yn unig. Ond credaf, fel y byddech chi'n cydnabod, fod cryn dipyn o dystiolaeth yn dangos bod y profiad unigol hwnnw’n mynd ymhell fel rhan o’r daith addysg awyr agored honno, sy'n aml, i lawer o blant—ac i lawer o bobl yn yr ystafell hon, rwy’n tybio—yn foment gofiadwy ar y daith addysg awyr agored, gan adeiladu ar gryn dipyn o ddysgu drwy'r amser hwnnw gyda'i gilydd. Ac rwy’n sicr yn cydnabod y cymorth a roddodd y Llywodraeth i’r sector addysg awyr agored yn ystod cyfnod COVID hefyd, fel y gwnaethoch chi nodi. Rwy'n sicr yn ddiolchgar am eich cynnig parhaus i ymgysylltu ynghylch mater ehangach addysg awyr agored, yn enwedig yr agwedd breswyl ar hynny. Rwy’n sicr yn parhau i fod yn agored o fy ochr innau hefyd i’r sgyrsiau hynny.
Ar y gyllideb, mae’n her deg. Mae Bil ger ein bron heddiw sy'n costio arian, fel y mae Llywodraeth Cymru yn aml yn rhoi Biliau ger bron yr Aelodau yma sydd â chostau sylweddol ynghlwm wrthynt, ac mae'n debyg fod popeth a wnawn yn y lle hwn, ac rydym yn clywed hyn yn aml gan y Prif Weinidog, yn ymwneud â blaenoriaethau. Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb o oddeutu £22 biliwn i'w gwario bob blwyddyn. Fel y nododd y Gweinidog, rhan fach iawn o hynny yw cost y Bil penodol hwn: cyllideb o £22,000 miliwn ac rwy’n gofyn am lai nag £20 miliwn ohoni i roi rhywbeth ar waith a allai newid bywydau cymaint o bobl.
Felly, tybiaf ei fod yn ymwneud â blaenoriaethau yn y lle cyntaf, o ran y cyllid hwnnw, a'r ail ran o hynny, mae'n debyg, yw her i bob un ohonom yn y lle hwn o bryd i'w gilydd: mae'n ymwneud â meddwl y tu hwnt i'r uniongyrchol, ac am yr agenda ataliol. Mae'n her i bob Llywodraeth, rwy'n credu, gyda chylchoedd etholiadol hefyd: sut mae meddwl y tu hwnt i'r amser sydd o'n blaenau a'r blynyddoedd sydd o'n blaenau? Mae llawer iawn o dystiolaeth yn dangos yr effaith hirdymor y mae faint o amser a gaiff pobl ifanc yn yr awyr agored yn ei chael ar eu hiechyd; yn wir, mae ymchwil ddiweddar a gyflwynwyd drwy Gymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain yn dangos cysylltiadau arwyddocaol rhwng iechyd pobl hŷn, lefelau gweithgarwch a’r profiadau a gawsant yn bobl ifanc wrth gymryd rhan mewn addysg awyr agored.
Gwyddom fod yna her o’n blaenau o ran ein hiechyd fel poblogaeth, a gwyddom fod gennym bethau fel deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol, sy’n ceisio lleihau risgiau i genedlaethau’r dyfodol. Rwy'n tybio bod angen inni ystyried cenedlaethau heddiw a'u dyfodol nhw hefyd, pa risgiau sydd angen inni eu lleihau ar eu cyfer, a chredaf y byddai'r profiadau hyn yn mynd ymhell i wneud hynny, ac yn sicr, yn cael effaith fawr ar gyllidebau Llywodraethau Cymru yn y dyfodol.
Yn gyntaf, llongyfarchiadau i Sam Rowlands, fy nghyd-Aelod sy’n cynrychioli Gogledd Cymru, ar gyflwyno Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) heddiw. Mae'n bleser siarad ar y darlleniad cyntaf hwn, ac rwy'n cefnogi ei Fil yn llwyr. Gwn faint o amser ac ymdrech y mae wedi’u rhoi iddo—ymweliadau, cyfarfodydd a sgyrsiau di-rif gyda gweithwyr proffesiynol yn y sector hwn—felly, diolch iddo am hynny. Rwy’n edmygu nod y Bil hwn, sef galluogi pob disgybl o ysgolion a gynhelir i gael profiad o addysg awyr agored breswyl yn rhad ac am ddim am o leiaf bedwar diwrnod neu bum noson yn ystod eu gyrfa ysgol. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae cyrsiau addysg awyr agored breswyl yn cynnig ystod eang o fuddion sy’n effeithio ar ddatblygiad personol a chymdeithasol disgyblion. Rydym wedi gweld pa mor fuddiol a phwysig yw hynny, yn amlwg, yn ystod y pandemig ac ar ôl y pandemig ym mywyd addysgol plentyn.
Mae’r buddion yn ymestyn y tu hwnt i’r unigolyn mewn lleoliad ysgol ac yn cael effaith hirdymor bosibl ar ddysgu gydol oes, iechyd, cyflogaeth a chanlyniadau economaidd, a’r amgylchedd, fel yr amlinellwyd gennych. Felly, roeddwn yn siomedig o glywed ymateb y Gweinidog nawr. Ac rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno â mi fod y cyfan yn fater o flaenoriaethau, onid yw? Buaswn yn dweud y byddai’r math hwn o Fil yn arwain at fwy o fudd ariannol na 36 o wleidyddion ychwanegol yn y lle hwn.
Felly, hoffwn ofyn i chi ymhelaethu ar sut y credwch y byddai hyn yn helpu'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas, ac yn amlwg, yn mynd ymhell i helpu i fynd i'r afael â'r nifer cynyddol o broblemau iechyd meddwl yn ein hysgolion ar hyn o bryd.
Mae'n bwysig nid yn unig i helpu teuluoedd yn ariannol i sicrhau cyfle cyfartal o fewn addysg, sy'n rhywbeth y byddai’r Bil hwn yn ei ddarparu; fel y gŵyr fy nghyd-Aelod, mae gan y Bil botensial hefyd i fynd ymhell i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau yn benodol. Fel y dywed y memorandwm esboniadol,
'Ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY, gellir dadlau bod y manteision hyn hyd yn oed yn fwy dwys'—
y manteision y gallai’r Bil hwn eu darparu—
'ac yn gallu newid bywydau. Mae Ymddiriedolaeth Bendrigg, darparwr arbenigol ar gyfer pobl anabl a difreintiedig o bob rhan o’r DU, yn datgan bod cyrsiau preswyl o ansawdd uchel yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ag anableddau gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol y mae ei angen yn fawr arnynt gan nad yw 86% o deuluoedd â phlant anabl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.'
Ac mae hwn yn ddarlun rwy'n ei adnabod o ymweld ag ysgolion ledled Cymru a siarad â rhieni â phlant ag anableddau difrifol, sy’n dueddol o golli cyfle i fwynhau gweithgareddau a theithiau ysgol am amrywiaeth o resymau.
Felly, mae gwir angen darpariaeth addysg awyr agored wirioneddol gynhwysol, gyda chyfleoedd gwirioneddol i brofi risg dan reolaeth, er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau ein gwlad brydferth. Drwy wneud cwrs addysg awyr agored breswyl yn hawl o fewn y cwricwlwm, bydd pob plentyn ag ADY neu anabledd yn cael cyfle i fanteisio ar y buddion, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau. A gallai hyn newid bywydau llawer o blant ledled Cymru, ac yn aml, mae'n darparu cyfle teg i lawer o ddisgyblion ac yn dod â disgyblion at ei gilydd.
Yn olaf, hoffwn—. Hoffwn ofyn i’r Aelod—. Mae’n ddrwg gennyf, pa grwpiau y mae’r Aelod wedi ymgysylltu â nhw yn ystod y broses hon—y rhai ag ADY ac anableddau—ac wedi siarad â nhw? Hoffwn glywed beth roedden nhw'n ei ddweud pan gyflwynoch chi eich syniad am y Bil iddynt.
Yn olaf, hoffwn wneud sylw ar sut rwyf innau hefyd yn credu y gallai hyn fod yn wirioneddol drawsnewidiol i addysg yng Nghymru. Mae’n amlwg, fel y dengys yr ymchwil, y byddai’r Bil hwn yn arwain at ganlyniadau gwirioneddol gadarnhaol yn ymwneud â hyder, cyfathrebu, gwytnwch, sgiliau cymdeithasol ac annibyniaeth. Rwy’n cofio'r hwyl a gefais ar fy nheithiau addysg awyr agored fy hun i Forest Coal Pit yn Nhal-y-bont, a phrofiadau a oedd yn dod â phob plentyn o bob cefndir a phob lliw yn agosach at ei gilydd. Ac yn aml, dyma'r tro cyntaf i blant gael profiad o fod oddi wrth eu rhieni hefyd. Ac rydych yn llygad eich lle fod y manteision yn parhau ar ôl y profiad ysgol hwnnw, gan fy mod yn dal i fwynhau'r profiadau hynny nawr, wedi'u sbarduno gan y sbarc a daniodd yn ôl yn fy nyddiau ysgol, a gwn fod hwnnw'n gariad rwyf wedi ei drosglwyddo i fy mhlant fy hun.
Ni all hyn ond argoeli’n dda ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth hefyd, gan fynd i’r afael â bwlio a heriau y bydd dysgwyr yn eu hwynebu yn ddiweddarach mewn bywyd. Bydd y Bil yn rhoi'r hwb gwirioneddol sydd ei angen ar ddysgwyr ar ôl effeithiau niweidiol y pandemig a chau ysgolion. Wrth imi ymweld ag ysgolion ledled Cymru, gwelaf fod disgyblion bob amser yn mwynhau gweithgareddau awyr agored yn fawr ac yn cymryd rhan ynddynt ac yn eu croesawu, a hoffwn ofyn iddo beth oedd rhai o ymatebion y bobl ifanc hynny pan soniodd wrthynt am y Bil. Ac wrth gwrs, hoffwn ddweud, i gloi, fy mod yn annog pawb yn y Siambr i gefnogi Bil Sam Rowlands heddiw. Bydd y gost, Weinidog, yn talu amdani’i hun drwy atal, wrth gwrs, sy’n well na gwella. Ac rwy'n dymuno pob lwc i chi, Sam, ac yn rhoi fy nghefnogaeth lawn i chi.
Wel, diolch yn fawr iawn am y cyfraniad hwnnw hefyd, Laura Anne Jones, ac yn sicr am gydnabod manteision y Bil, yn enwedig yn yr ystafell ddosbarth. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddarn diddorol gan Sefydliad Paul Hamlyn, a wnaeth ymchwil dros gyfnod o saith mlynedd yn ddiweddar, gan gynnwys 60 o ysgolion a oedd yn ymgorffori ffurfiau ar gyrsiau preswyl. Ac i gefnogi'r hyn a ddywedodd Laura Anne Jones yno, fe welsant fod cyrsiau preswyl blaengar wedi'u cynllunio'n dda wedi cael effaith gadarnhaol ar sawl ffactor, gan gynnwys perthnasoedd, gwytnwch, hunanhyder a llesiant, diddordeb mewn dysgu—a oedd yn rhan ddiddorol o safbwynt profiad yr ystafell ddosbarth—cyflawniad, gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth a hefyd addysgeg athrawon.
Ac mae ochr yr athro yn rhan ddiddorol o ran manteision yn yr ystafell ddosbarth, fel rydych chi'n cydnabod. Oherwydd unwaith eto, mae ymchwil yn nodi'n glir fod y profiadau hyn, lle mae athrawon yn mynd i ffwrdd yn aml gyda'r disgyblion y maent yn treulio amser gyda nhw, a threulio amser mewn amgylchedd gwahanol, mae ymchwil yn dangos mwy o wybodaeth am fyfyrwyr, eu diddordebau a'u dyheadau, sy'n trosglwyddo'n ôl i'r ystafell ddosbarth, a gwell perthynas â myfyrwyr, sy'n hyrwyddo ymgysylltiad yn yr ystafell ddosbarth. Ac yn ddiweddar mae Laura Anne Jones ei hun wedi tynnu sylw at rai o'r problemau y mae rhai athrawon yn eu profi ar ffurf ymddygiad amhriodol, ac ymddygiad gwael, yn ein hysgolion. Ac mae'r mathau hyn o brofiadau'n helpu i feithrin y perthnasoedd cadarnhaol hynny rhwng athrawon a disgyblion.
Ar y pwyntiau a godwyd gennych ynglŷn â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, rwy'n falch fod y ddyletswydd yno, ar wyneb y Bil, yn sicrhau bod yn rhaid darparu
'bod addysg breswyl yn yr awyr agored yn addas ar gyfer oedran, gallu, a dawn disgybl ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol'.
Oherwydd fel y nodwyd gennych yn briodol, mae llawer gormod o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hamddifadu o'r profiadau hyn. Ac yn wir, o'r 37 ysgol arbennig sydd gennym yng Nghymru, y llynedd, dim ond naw o'r ysgolion hynny a drefnodd unrhyw un o'r profiadau hyn mewn gwirionedd, er bod darpariaeth arbenigol iawn ar gael i gefnogi disgyblion ar yr adegau hynny.
Ar ymgysylltu, fel y byddech yn disgwyl, bu llawer iawn o ymgysylltu â phob math o sefydliadau dros y 18 mis diwethaf. Cynhaliais ymgynghoriad yn ôl ym mis Ionawr eleni, ar syniad y Bil yn fras. Cynhaliais ymgynghoriad gyda phlant a phobl ifanc hefyd cyn yr haf, ac ymgynghoriad ffurfiol dros gyfnod yr haf hefyd. O ran ymateb pobl ifanc i hyn, fel y byddech yn disgwyl, maent yn hynod o gadarnhaol am y profiadau hyn, ac yn sicr byddent am weld y rhain ar gael yn fwy eang iddyn nhw a'u ffrindiau ysgol yn y dyfodol.
Ac yn ddiddorol—nid o'r ymgysylltu a wneuthum, ond drwy'r ymchwil—pan ofynnwyd i ddisgyblion am eu pryderon ynghylch yr ysgol, y tri uchaf yn gyson gan ddisgyblion, o ran pryderon ysgol, oedd yr anallu i fynd ar dripiau ysgol neu deithiau preswyl ysgol eu hunain. Felly, iddyn nhw fel pobl ifanc, yn yr ystafell ddosbarth ar y pryd, os na all eu teulu fforddio cael y profiadau hyn, maent yn gwbl ymwybodol o'r effaith y mae'n ei chael arnyn nhw. Ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn hoffi gweld y pryder hwnnw'n cael ei ddileu.
Dwi'n falch o'r cyfle i siarad ar hyn heddiw, ac, o ran y nod, rydym ni fel plaid yn gefnogol.
Rhaid imi wneud pwynt serch hynny ynghylch cyffredinolrwydd—rhywbeth rwy'n ei gefnogi—fel y soniodd eich cyd-Aelod Janet Finch-Saunders yn gynharach am y darpariaethau prydau ysgol am ddim, ac y dylai pobl sy'n gallu fforddio talu allu ei fforddio. Wel, mewn gwirionedd, rydym yn talu am bethau fel prydau ysgol am ddim drwy ein trethi. Rwy'n cefnogi hyn, ond mae angen inni gael cysondeb oddi ar y meinciau hynny ynghylch yr hyn y mae cyffredinolrwydd yn ei olygu a pham ei bod yn bwysig nad oes pris ynghlwm wrth y mathau hyn o brofiadau, a bod pawb yn gallu eu cael. Felly, hoffwn ofyn i chi nodi wrth ymateb pam ein bod yn dewis a dethol cyffredinolrwydd, oherwydd mae hyn fater o egwyddor.
Ac yn yr un modd, nid wyf yn gwybod faint o weithiau mae'r meinciau Ceidwadol wedi gwario'r arian ychwanegol ar fwy o wleidyddion. Nid dyna'r pwynt yma. A dyna pam rwy'n cefnogi'r hyn rydych chi'n ei gynnig yma, o ran sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal, a dylai hynny fod yn berthnasol—[Torri ar draws.]
Hoffwn wrando ar y cwestiynau sy'n dod gan yr Aelod, a pheidio â gwrando ar sgyrsiau ar draws y Siambr rhwng dau Aelod ar y meinciau cefn—wel, arweinydd yr wrthblaid ac Aelod ar feinciau cefn y Llywodraeth. Heledd. Mae'n ddrwg gennyf.
Diolch yn fawr iawn. Heb os, mae yna heriau ariannol gan y Llywodraeth hon, a dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni edrych, os nad ydy'r Llywodraeth efo'r cyllid ar y funud, sut ydyn ni'n sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn cael profiadau bythgofiadwy fel hyn. Ac mae gen i rai cwestiynau penodol felly o ran plant ag anableddau. Dwi'n falch iawn eich bod chi wedi eu cynnwys yn hyn. Ond rydyn ni'n gweld efo'r pwyllgor plant a phobl ifanc ar y funud y rhwystrau lu sydd o ran hynny, a dwi jest eisiau cael mwy o eglurder ynglŷn â sut y byddech yn mynd i'r afael â phryderon, a sut byddai eich Bil chi'n gweithio mewn ffordd ymarferol i sicrhau mynediad teg i bawb, a chyfleoedd i bawb, oherwydd, hefyd, mae'r math o adnoddau sydd eu hangen i gefnogi pob dysgwr yn amrywio'n fawr.
Byddwch chi hefyd yn cofio, dwi'n siŵr, yn fy nghyfraniad blaenorol pan oeddem ni'n trafod hyn, y gwnes i gyfeirio at yr iaith Gymraeg, a sut bod hwn yn gyfle, felly, i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a datblygiad iaith. A gaf ofyn yn benodol, felly, o ran plant o ysgolion Saesneg yn gallu profi addysg awyr agored drwy gyfrwng y Gymraeg? Rydyn ni'n gwybod eisoes bod nifer o blant o ysgolion Saesneg yn mwynhau yng Nglan-llyn a Llangrannog, ac mai hynna yn aml yw'r unig brofiad, neu'r profiad cyntaf mae plant yn ei gael o ddefnyddio'r iaith y tu hwnt i'r dosbarth. Felly, a gaf i ofyn sut drafodaethau ydych chi wedi eu cael o ran hynny? Ac rydych chi'n sôn yng nghynnwys y Bil y bydd y cynigion ddim yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith, nag ar addysg Gymraeg na dysgwyr Cymraeg. Wel, byddwn i'n gobeithio y byddai o'n effeithio, ond mewn ffordd gadarnhaol. Felly, os caf i holi chi ynglŷn â hynny.
Ac, yn olaf, dwi'n ymwybodol bod yna rai pryderon wedi'u codi o ran y goblygiadau staffio os bydd y Bil yn dod yn statudol. Rydyn ni'n gwybod bod yna argyfwng o ran staffio yn ein hysgolion ni. Felly, sut bydd eich Bil chi'n mynd i'r afael â'r angen i nifer ddigonol o staff ysgol fynd gyda'r disgyblion ar y teithiau hyn? Oherwydd, yn aml iawn, mae athrawon yn gwneud hyn am eu bod nhw eisiau cefnogi plant i gael y math yma o brofiadau, ond mae'n gallu rhoi straen ychwanegol arnyn nhw. Mae'n bwysig iawn bod plant yn cael y cyfleon yma, ond dwi yn meddwl na fedrwn ni ddiystyru ychwaith yr effaith ar y gweithlu.
Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau a'r sylwadau yno, Heledd. Rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth eang i egwyddorion y Bil hwn yma heddiw, yn sicr. Ar y pwynt cyntaf ynghylch cyffredinolrwydd, mae'n debyg ei fod yn fater o gyffredinolrwydd addysg, a syniad y Bil yw ei fewnosod o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Felly, mae cyffredinolrwydd addysg yn parhau drwy'r cwricwlwm. Ac felly, fel y dywedais yn fy ymateb i'r Gweinidog yn gynharach, mae'n ymwneud â'r flaenoriaeth i'r math hwn o addysg o fewn y Cwricwlwm i Gymru, a'i bwysigrwydd, a'i fudd, a'i effaith o fewn addysg yn ehangach.
O ran mynediad teg i bawb, yn enwedig i'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, tynnodd Laura Anne Jones sylw'n gynharach at y bwlch sydd yno ar hyn o bryd, a phwysleisiodd yn gywir ddigon fod 86 y cant o deuluoedd â phlant anabl yn mynd heb weithgareddau hamdden, felly, unwaith eto, os caf ailadrodd pwysigrwydd hyn i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae un o fanteision y Bil yn ymwneud â chanfyddiad o risg a pherygl corfforol, gan fod oddeutu 71 y cant o blant ag anableddau heb ganfyddiad o risg a pherygl corfforol. Felly, mae cyfle diddorol iawn yma yn y Bil hwn, a'r profiadau y byddai pobl yn eu cael, i adeiladu ar y canfyddiad o risg a pherygl corfforol—addysg fwy cyflawn i'r unigolion hynny.
Felly, o ran mynediad a chostau, mae hynny o fewn amcangyfrifon o gostau y Bil yma heddiw. Ni wnaed y costau heb blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn golwg. Fe'u hystyrir yn y costau sydd o'ch blaenau yma heddiw.
Ar yr iaith Gymraeg, rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n credu bod y profiadau hyn yn gwneud mwy na dim ond diogelu; maent yn hyrwyddo'r Gymraeg yn sylweddol mewn gwirionedd. Roeddwn yn nigwyddiad yr Urdd y prynhawn yma, lle cafwyd yr asesiad o effaith economaidd yr Urdd a'u gwaith, a amlygodd unwaith eto fod y profiadau y bydd plant yn eu cael drwy ganolfannau'r Urdd yn enwedig yn sicr yn hybu'r Gymraeg. A cheir llawer o dystiolaeth—nid wyf am ddyfynnu'r cyfan yma heddiw—ond ceir tystiolaeth a ddarperir gan Gomisiynydd y Gymraeg yn enwedig sy'n dangos bod dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, mewn profiadau yn yr awyr agored, yn dod â'r Gymraeg yn fyw i bobl, a dysgu'r iaith yn fyw i bobl. Ac i roi sicrwydd i chi, eto ar wyneb y Bil, mae'r canllawiau i'r Gweinidog eu dilyn yn dangos bod rhaid darparu'r profiad hwn—. Mae'n ddrwg gennyf. Rhaid i'r canllawiau
'ddarparu y caiff addysg awyr agored breswyl ei darparu yn Gymraeg, cyn belled â'i bod ar gael, pan fo ysgol yn gwneud cais am hynny'.
Felly, os caf roi'r sicrwydd hwnnw: yn achos yr ysgolion a fyddai'n gofyn am hynny, boed yn ysgol cyfrwng Saesneg neu'n ysgol cyfrwng Cymraeg, os ydynt eisiau'r profiad yn Gymraeg, rhaid i'r ddarpariaeth honno fod ar gael iddynt.
Rwy'n credu bod yna her ynghylch capasiti yn y sector ar hyn o bryd mewn perthynas â darpariaeth Gymraeg. Mae yna waith da iawn yn cael ei wneud gan y Bartneriaeth Awyr Agored yn enwedig, ar hyfforddi pobl sy'n arbenigwyr addysg awyr agored yn y Gymraeg fel rhan o'u hyfforddiant. A byddai angen adeiladu'r capasiti hwnnw gan nad oes digon o siaradwyr Cymraeg i'w cael mewn canolfannau addysg awyr agored sy'n darparu'r gwaith hwn.
Ac yna ar effaith staffio ar ysgolion, unwaith eto, mae adran gostau'r Bil yn ystyried hynny. Yn dibynnu ar ba adeg y bydd plant yn ymgymryd â'r profiad, yn amlach na pheidio, mae'n digwydd ym mlwyddyn 5 neu flwyddyn 6 i lawer o blant, ac yn amlach na pheidio mae'r athrawon yn mynd gyda'u dosbarthiadau ar y profiadau hynny. Yn gyffredinol, mae dosbarth cyfan sy'n mynd gydag athro yn golygu nad oes lle yn ôl yn yr ysgol i orfod ei lenwi. Ond mae'r Bil a'r memorandwm esboniadol wedi ystyried y gallai fod adegau pan nad yw hynny'n bosibl ac mae hynny o fewn y costau yma hefyd.
Yr hyn nad ydym yn dadlau yn ei gylch yma yw'r rhinwedd o gael mwy o addysg awyr agored gan gynnwys addysg breswyl. Gallwn i gyd gytuno ar hynny. Y peth yw: sut y gellir talu amdano? O ble y daw'r £20 miliwn? Yn amlwg, y pwyllgor plant a phobl ifanc sy'n gallu craffu ar y gyllideb maes o law, yn gynnar y flwyddyn nesaf, i weld a allant wasgu £20 miliwn o'r gyllideb addysg. Ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog, wyddoch chi—. Pe gallem ddod o hyd iddo, byddem yn ei wneud. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sydd ar ôl i ni yw: sut mae rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod mwy o bobl ifanc sydd heb unrhyw arian yn cael addysg awyr agored, gan gynnwys addysg breswyl?
Rwy'n synnu mai dim ond naw o'r 32 o ysgolion arbennig sy'n trefnu tripiau i ffwrdd, oherwydd dylai hynny fod yn brif flaenoriaeth, ac mae digon o sefydliadau gwirfoddol sy'n arbenigo ar y math hwn o beth. Mae'r rhai y gwn i amdanynt yn Ardal y Llynnoedd, yng ngogledd Cymru ac yn Wirral, ond rhaid bod rhai yn ne Cymru hefyd. Pam nad ydynt yn ymateb i'ch ymgynghoriad?
Ar hyn o bryd, lle mae gan ysgolion ddarpariaeth awyr agored weddus, fel sydd gan rai o fy ysgolion, dylem fod yn eu hannog i wneud mwy o ddefnydd ohono, gan fod y dysgu'n llawer mwy cynhwysol ac ymlaciol hefyd. Ond rwyf am wybod sut y gallwn ysgogi mwy o sefydliadau gwirfoddol i gynnig y cyfleoedd hyn, i fynd i wersylla er enghraifft, oherwydd ni fydd llawer o deuluoedd yn mynd â'u plant i wersylla, sef y ffordd rataf o gael gwyliau, am nad ydynt yn gwybod sut i osod pabell. Felly, sut y gallem roi addysg i bobl ifanc ar sut i wneud hynny, fel y gallant fynd â'u plant nhw i ffwrdd wedyn?
Diolch, Jenny.
Diolch am y pwyntiau hynny, Jenny Rathbone. Unwaith eto, rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth fras i egwyddorion y Bil. Yn sicr, rwy'n cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â chyllido hyn. Yn gyntaf oll, ynglŷn â'ch pwynt nad yw ysgolion arbennig yn manteisio ar y cyfle hwn i'r graddau y byddem am iddynt ei wneud efallai, roeddwn innau hefyd yn synnu at hynny. Nid wyf yn hollol glir pam nad yw pawb yn gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae'n ddiddorol nodi mai dim ond 67 y cant o ysgolion cynradd a drefnodd y teithiau hyn y llynedd. Felly, mae bylchau mewn addysg prif ffrwd hefyd. Drwy'r ymgynghoriad, un o'r prif ffactorau oedd cyfyngiadau ariannol, ond hefyd efallai, camddealltwriaeth o risg gan rai o'n hysgolion a'n hathrawon, ac o ymwneud â gweithgareddau sy'n seiliedig ar risg, fel bod allan yn yr awyr agored. Felly, mae peth gwaith i'w wneud ar hynny.
Ar eich pwynt ehangach ynglŷn â sut yr awn ati i ysgogi mudiadau gwirfoddol, fe wyddom fod yna sefydliadau gwych allan yno. Rydym yn meddwl am sefydliadau fel y Sgowtiaid a'r Geidiaid, darparwyr addysg awyr agored a phob math o sefydliadau gwych eraill sy'n ymwneud â phobl ifanc yn yr awyr agored. Rwy'n credu bod yna elfen o rieni efallai'n llai parod i annog plant i fynd allan i'r awyr agored. Nid wyf yn siŵr sut mae newid hynny drwy ddeddfwriaeth neu drwy'r Senedd yma. Nid wyf yn siŵr weithiau nad ydym wedi creu diwylliant o ofn diangen o weld plant allan yn yr awyr agored. Pan fyddaf yn mynd â fy mhlant i lawr i fy mharc lleol, rwy'n aml yn synnu cyn lleied o blant eraill sydd allan yno. I lawer o rieni, rwy'n credu ei bod yn haws aros gartref o bosibl a bod y tu ôl i sgrin. Felly, yr holl bwynt o ddod â hyn i mewn i ddeddfwriaeth yw sicrhau'r profiadau hynny ac i'r bobl ifanc hynny gael cyfle sydd, efallai, yn rhoi hyder iddynt gael y profiadau hynny eu hunain yn y dyfodol ac ymgysylltu â rhai o'r sefydliadau gwirfoddol yn fwy rheolaidd. Mae yna anghysondeb enfawr ar draws Cymru ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod angen inni weld mwy o gysondeb mewn perthynas â hynny.
A gaf fi ddiolch i Sam Rowlands am ei ddatganiad ac am gyflwyno ei Fil arfaethedig i ni heddiw? Yng Nghymru, ac yn y DU, mae gennym rai o'r canlyniadau iechyd gwaethaf o'i gymharu â'n cymdogion Ewropeaidd, a hynny am sawl rheswm: rydym yn bwyta'n llai iach, rydym yn bwyta gormod o fwyd wedi'i brosesu, ac rydym yn byw bywydau afiach o ran ein gweithgareddau a diffyg cerdded a beicio. Ac i mi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau sy'n annog beicio, cerdded a mesurau eraill i annog newid ffordd o fyw, ac mae hyn o bosibl yn llwybr arall hefyd. Ond a allwch chi siarad am ba dystiolaeth sydd gennych chi y byddwn ni'n gweld Cymru iachach—boed hynny 10, 15 neu 20 mlynedd o nawr—oherwydd hynny'n benodol? Ac efallai hefyd y gallwch ddweud wrthym pa ymchwil a wnaethoch ynglŷn â gwledydd eraill ledled Ewrop a'r byd sydd wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon neu ddeddfwriaeth debyg gan arwain at y newid cadarnhaol hwn.
Rydych chi wedi cael eich herio'n briodol ar y gost gan y Gweinidog, Jenny Rathbone ac eraill, ond pa dystiolaeth sydd gennych y bydd hyn yn arwain at bobl yn y dyfodol—unwaith eto, 20 mlynedd o nawr—yn bod yn llai tebygol o orfod mynd i leoliadau iechyd o ganlyniad i'r ffyrdd o fyw iachach hynny? Pan fyddwch chi'n annog newid ffordd o fyw mewn person iau, mae popeth yn dweud wrthym fod hynny'n debygol o barhau pan fyddant yn oedolion, ond pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi hynny?
Diolch i Russell George am dynnu sylw at rai o fanteision iechyd y Bil hwn. Fel y dywedoch chi, fe wyddom fod yna broblem gynyddol yng Nghymru, ac yn ehangach yn y byd gorllewinol, gyda phethau fel diabetes. Gwyddom fod gan oddeutu 200,000 o bobl yng Nghymru ddiabetes ar hyn o bryd, ac amcangyfrifir bod y gost i'r GIG yng Nghymru oddeutu £500 miliwn y flwyddyn ar gyfer hynny'n unig. Ac rydym yn gwybod y gall gweithgarwch corfforol leihau'r risg o ddatblygu diabetes math 2, gyda modd o atal tua 50 y cant o'r achosion hynny. Felly, mae'n debyg mai'r cwestiwn yw sut mae atal hynny a sut mae helpu i arbed £500 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Gall ddigwydd drwy bethau fel: cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch awyr agored. Dyfynnais yn gynharach y cysylltiad arwyddocaol rhwng iechyd pobl hŷn, lefelau gweithgarwch a'r profiad y mae pobl ifanc yn ei gael wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored.
Ar y dystiolaeth sy'n sail i hyn, mae yna ymchwil, unwaith eto, sy'n cyfeirio at yr elw cymdeithasol ar fuddsoddiad. Mae'r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad yn ymwneud â gwella lles meddyliol a chorfforol, hunanhyder, annibyniaeth—yr holl bethau da hynny. Dangosodd y Bartneriaeth Awyr Agored elw cymdeithasol ar fuddsoddiad, am bob £1 a fuddsoddir, o £7.12 mewn perthynas â'r agenda atal. Mae yna ymchwil hefyd yn dangos, lle caiff dysgu yn yr awyr agored ei ymgorffori yn yr ysgol, fod elw o £4.32 ar fuddsoddiad am bob £1 mewn lleoliad ysgol. Felly, mae llawer o waith da allan yno sy'n dangos, os gallwch chi fuddsoddi i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y profiadau hyn yn ifanc, y byddant yn parhau i gael hynny yn y dyfodol, ac felly fe fydd yn talu amdano'i hun yn y tymor hir iawn. A dyna'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud i'r Gweinidog yn gynharach: ein bod yn ei chael hi'n anodd iawn gwneud penderfyniadau heddiw a fydd o fudd i bobl yn y tymor hir iawn.
Mae yna waith ymchwil arall hefyd, o'r enw gwerthusiad economaidd a chymdeithasol o'r sector gweithgareddau awyr agored, sy'n awgrymu, os ydych chi'n cael cynnydd o 10 y cant mewn ymwneud yn yr awyr agored, y bydd hynny'n creu gwerth o oddeutu £187 miliwn ar draws iechyd meddwl a chorfforol, lles meddyliol, cyfalaf cymdeithasol a datblygiad unigol. Felly, mae symiau sylweddol o arian y gellir eu harbed yn y gwasanaeth iechyd drwy gael pobl ifanc i gymryd rhan yn hyn. Ar eich pwynt ynghylch gwledydd eraill, mae yna wledydd eraill sydd o ddifrif ynglŷn â hyn. Mae Singapore, yn arbennig, wedi ei gynnwys yn eu cwricwlwm. Bydd plant yn Singapore yn cael tri phrofiad preswyl yn rhan o'u cwricwlwm yno. Hefyd, rwy'n ymwybodol fod gan Slofenia brofiadau preswyl yn rhan o'u cwricwlwm. Rwyf wedi cyfarfod â chymheiriaid o Singapore a Slofenia yn ogystal â chlywed sut y gwnaethant ei weithredu a'r buddion a brofwyd ganddynt.
Mae'r Aelod yn gwneud achos da, cryf a phwerus iawn dros ei ddeddfwriaeth. Mewn sawl ffordd, rwy'n credu bod cytundeb ar draws y Siambr gyfan mai dyma'r profiadau yr ydym am i bobl ifanc eu cael, profiadau a fydd yn cyfoethogi eu plentyndod ac yn cyfoethogi eu dysgu. Roeddwn i'n lwcus iawn yn Nhredegar i gael athro, Peter Jones, PJ, a oedd yn gwneud mwy na siarad gyda ni am hanes Tredegar, Blaenau'r Cymoedd a Bannau Brycheiniog, a gwnaeth i ni fyw y profiadau hynny. Nid dim ond ein dysgu ni am feddygon Myddfai a wnaeth, fe aeth â ni i Lyn y Fan Fawr ac yna fe'n gorfododd i ddringo Fan Brycheiniog, Fan Hir a hyd yn oed Picws Du. Nid oeddem wedi cerdded digon y diwrnod hwnnw. Ac roedd yn benderfynol nad dim ond dysgu'r gwersi hyn yn unig a wnaem, ond ein bod wrth ein bodd gyda'r profiad o ddysgu. Rwy'n credu ei fod yn beth cwbl hanfodol, ac rwy'n canmol yr Aelod yn fawr am ei uchelgais yn y maes hwn.
Lle rwy'n anghytuno â'r ddeddfwriaeth yw nad wyf yn credu mai dyma sut y dylem fod yn gwneud cwricwlwm. Bydd yr Aelodau a oedd yma yn y Senedd ddiwethaf yn cofio'r cyfyng-gyngor personol go iawn a wynebais pan oedd Suzy Davies yn pwyso am addysgu adfywio cardio-pwlmonaidd yn rhan o'r cwricwlwm. Cefais sgyrsiau anodd iawn gyda Kirsty Williams yn y cyfnod hwnnw. Mae gennyf ymrwymiad personol i hynny, fel y bydd pobl yn ei ddeall ac yn ei werthfawrogi, ond ni allwch greu cwricwlwm cynhwysfawr, cyfannol drwy ddefnyddio darnau tameidiog o ddeddfwriaeth. Mae angen adolygu, sydd wedi'i amlinellu gan Weinidogion addysg olynol ac sy'n cael ei gyflawni gan y Gweinidog presennol. Yr hyn y byddwn yn ei awgrymu i'r Aelod yw ei fod yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y profiadau hyn, a gyfoethogodd fy mywyd i, ac y credaf y byddant yn cyfoethogi bywydau plant y mae pob un ohonom yn eu cynrychioli ym mhob rhan wahanol o'r wlad.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol am addysg awyr agored breswyl ac addysg awyr agored yn ehangach. Rwy'n credu bod addysg drwy brofiad yn bwysig iawn o safbwynt dysgu, ond hefyd o safbwynt cynefin i ni yma yng Nghymru—yr hyn y mae'n ei olygu inni fod allan yn yr awyr agored a'r gwahaniaeth y mae hynny'n ei wneud i'n dealltwriaeth o fod yn Gymry a'n hanes a'n diwylliant drwy hynny hefyd. O ran sut y dylid ffurfio deddfwriaeth o amgylch y cwricwlwm, rwy'n derbyn yr her y mae'r Aelod yn ei chyflwyno, ond rwyf am ddadlau'n ôl ychydig hefyd os ydym yn awgrymu na ellir addasu'r cwricwlwm ac na ellir ei newid pan gyflwynir syniadau da. Rwy'n credu y dylem fod yn agored i ddweud, ydy, fod y cwricwlwm ar waith, ond nid yw'n golygu ei fod ar waith fel y mae am byth, a dylid gwneud addasiadau iddo pan gaiff syniadau da eu cyflwyno. Rwy'n derbyn na ddylid gwneud addasiadau o'r fath wythnos ar ôl wythnos—byddai'n drychineb pe bai ein staff ysgol yn gorfod ymdopi â hynny—ond pan fydd yna syniadau da, pan all pethau yn sicr wneud gwahaniaeth mawr i'n disgyblion, rwy'n credu y dylid o leiaf ystyried yr addasiadau hynny.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch am gyflwyno'r Bil hwn heddiw, Sam. Rwy'n credu ei fod yn un o'r darnau hynny o ddeddfwriaeth, yn un o'r Biliau hynny, y bydd rhywun yn edrych arno ac yn meddwl, 'Wel, pam nad yw hyn yn rhywbeth sydd wedi digwydd eisoes?'. Rwy'n credu ei fod yn un o'r syniadau pwysig hynny. Mae Aelodau ar draws y Siambr heddiw wedi sôn am eu profiadau personol eu hunain o ddysgu yn yr awyr agored. Rwy'n cofio mynd i Lan-llyn, ac roeddwn wrth fy modd yn eich clywed yn sôn amdano yn eich datganiad chi hefyd. Dyna'r tro cyntaf i mi fod yng ngogledd Cymru ac mae'n un o'r pethau hynny sy'n gadael cerdyn post ar y meddwl o ardal, o ran o'r wlad, a gwahoddiad, os mynnwch, i ddychwelyd. Ond mae hefyd yn eich galluogi i ddeall mwy am ddiwylliant y wlad rydych yn byw ynddi yn ehangach. Felly, tybed, o'ch safbwynt chi, beth y credwch chi y gallai'r prif fuddion twristiaeth fod, ond hefyd, budd diwylliannol addysg awyr agored a phobl ifanc yn archwilio'r tir y maent yn byw ynddo, am y tro cyntaf efallai.
Diolch yn fawr am hynny, Tom Giffard. Rydych chi'n hollol gywir, a chyfeiriais ato yn fy ymateb i Alun Davies eiliad yn ôl, ynglŷn â disgyblion yn ymgysylltu â'u cynefin. Mae'n rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. A dweud y gwir, mae bod allan mewn parc cenedlaethol, neu heb fod mor ddramatig â hynny efallai ond mae bod allan yn ein cefn gwlad hardd, yn creu ymdeimlad o gynefin a'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn Gymry—ein treftadaeth, ein diwylliant, ein hiaith—oherwydd mae tirweddau hardd yn gwneud hynny i chi, yn enwedig yma yng Nghymru. Felly—roedd yn rhan o fy ymateb i Heledd Fychan yn gynharach—rwy'n credu bod yna gyfle gyda Bil fel hwn, nid yn unig i dderbyn y status quo yn ein cariad tuag at ein hiaith, ein diwylliant a'n treftadaeth, ond i wella pob un o'r pethau hynny.
Ar yr effaith economaidd, rydym yn gwybod, fel y dywedais yn gynharach, fod y sector yn werth tua £1.5 biliwn y flwyddyn i Gymru. Mae'n helpu i gynnal degau o filoedd o swyddi, ac mewn gwirionedd, gweithgareddau awyr agored sydd i gyfrif am oddeutu 21 y cant o'r swyddi twristiaeth yng Nghymru. Felly, os oes ffordd gynaliadwy o gefnogi plant a chael y profiadau hyn, rwy'n awgrymu bod hynny'n beth da i sefydlogrwydd y rhan hon o'r economi a'r swyddi hynny'n gyffredinol.
Mae gan y Bil nodau canmoladwy. Rwy'n credu'n gryf ym manteision addysg awyr agored, ac yn croesawu ysgolion coedwig yn ein darpariaethau. Fodd bynnag, rwy'n teimlo ei bod yn anonest cyflwyno Bil o'r fath pan fo eich plaid wedi treulio bron i 14 mlynedd yn torri cyllid i wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg, ar drywydd cyni. Mae datganiad yr hydref y Canghellor wedi rhoi ergyd o £20 biliwn i wasanaethau cyhoeddus wrth i chwyddiant barhau i gynyddu, ac rydych chi eich hun, fel cyn-arweinydd cyngor yng ngogledd Cymru, wedi llywodraethu dros doriadau i ysgolion yng Nghonwy. Roedd cynghorau'n arfer ariannu canolfannau addysg awyr agored fel Glan-llyn. Pan gafodd y Bil ei gynnig, roedd arweinwyr addysg awdurdodau lleol yn syfrdan, a bellach, mae'n rhaid rhoi amser pwyllgor gwerthfawr i hyn pan nad oes digon o gyllid i ddarparu anghenion addysg ac iechyd sylfaenol. Felly, Sam, a gaf fi ofyn, pa sylwadau a gyflwynwyd gennych i'ch cyd-bleidwyr yn San Steffan i ofyn am y cyllid addysg canlyniadol sydd ei angen arnom yng Nghymru i wneud Biliau fel eich un chi yn bosibl? Diolch.
Diolch am hynny, Carolyn. Mae'n ddrwg gennyf eich bod chi'n meddwl bod amser pwyllgor wedi cael ei wastraffu yn edrych ar Fil Aelod preifat. Fel Aelodau nad ydynt yn y Llywodraeth, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ddiolchgar i bwyllgorau am eu gwaith ar hyn, ac rwy'n credu ei fod yn amser gwerthfawr iawn, mewn gwirionedd, pan fo pwyllgorau'n edrych ar Filiau Aelodau, oherwydd nid ydym yn cael cyfle bob dydd i gyflwyno deddfwriaeth, fel y caiff y Llywodraeth. Mae'n rhan bwysig iawn o'r Senedd hon mewn gwirionedd—Aelodau'n cael cyfle i gyflwyno deddfwriaeth.
O ran gweithio gyda chyd-bleidwyr ar draws y Deyrnas Unedig, rwy'n falch iawn fod un o fy nghyd-bleidwyr, cyd-Geidwadwr, Aelod o Senedd yr Alban, Liz Smith, wedi cyflwyno Bil Aelod preifat tebyg iawn yno. Mae'n braf clywed bod gan Tim Farron AS, un o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, Fil Aelod tebyg iawn, sydd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn San Steffan hefyd. Felly, mae cryn dipyn o gefnogaeth i Fil fel hwn ar draws y Deyrnas Unedig, ond gadewch inni beidio ag anghofio, er gwaethaf y synau a glywn o bryd i'w gilydd, mae hwn yn faes cymhwysedd datganoledig, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am addysg yma yng Nghymru, a dyna pam y cyflwynir y Bil hwn yma yn Senedd Cymru.
Diolch, Sam, am gyflwyno'r agwedd hynod bragmatig hon tuag at addysg a chyfrwng i sbarduno newid cymdeithasol. Rwy'n credu'n gryf mewn addysg awyr agored. Fel cyn-arweinydd sir Fynwy, fe wnaethom gadw ein sector addysg awyr agored, tra bod ein cyd-Aelodau Llafur mewn awdurdodau cyfagos wedi tynnu buddsoddiad yn ôl. Fe wnaethom ni ddal ati a'i barhau, oherwydd roeddem yn gweld pa mor bwysig ydoedd. Diolch am gyflwyno hyn. Mae corff sylweddol o dystiolaeth sy'n dangos pwysigrwydd hyn. Rydym wedi clywed yr ateb stoc gan y Gweinidog heddiw: 'O ble y daw'r arian?' Roeddwn yn teimlo'r un peth yn eich lle chi pan wnaethom drafod fy Mil bwyd, ac mae yna reswm bob amser pam na all rhywbeth ddigwydd yn y lle hwn, yn hytrach na pham y gall ddigwydd. Mae yna ddiffyg uchelgais llwyr yn y lle hwn, ac mae'n bwysig fod pobl fel chi yn cyflwyno deddfwriaeth fel hon, oherwydd mae rhywun bob amser yn dod o hyd i reswm pam na all rhywbeth ddigwydd yma. Rydych chi'n llygad eich lle, mae hwn yn faes datganoledig, ac os yw'r Llywodraeth o ddifrif eisiau gwneud gwahaniaeth, gallent edrych ar symud ymlaen, neu o leiaf eich helpu i archwilio faint mwy y gallem ei wneud yn y maes hwn. Felly, fy nghwestiwn i, Lywydd, yw hwn: gyda hyn mewn golwg, pa arbedion hirdymor y gellir eu canfod yn y Bil, o ran arian cyhoeddus a manteision ehangach i'r economi?
Diolch am eich cyfraniad, Peter Fox. Rwy'n sicr yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed, yn eich cyfnod chi, i gynnal y canolfannau yn sir Fynwy, ac roeddwn yn falch hefyd, yng Nghonwy, fod—. Conwy, sir Fynwy a Chaerdydd, rwy'n credu, yw'r unig gynghorau yng Nghymru sydd wedi cynnal eu canolfannau addysg awyr agored—sy'n bwysig iawn yn wir.
O ran y gefnogaeth a'r manteision ariannol, rwyf eisoes wedi tynnu sylw at nifer o astudiaethau sy'n dangos gwerth dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth o safbwynt elw cymdeithasol ar fuddsoddiad. Rydym hefyd yn gwybod mai i iechyd corfforol a meddyliol y ceir y newid mwyaf arwyddocaol yn sgil y profiadau hyn. Gwyddom fod problemau iechyd meddwl yn mynd â bron i £1 biliwn o gyfanswm gwariant GIG Cymru, ac fel y clywsom yn gynharach, os gwelwn gynnydd o 10 y cant yn nifer y bobl sy'n ymgysylltu â'r awyr agored, gallem weld arbediad o bron i £200 miliwn o ganlyniad i bobl yn bod yn fwy egnïol yn gorfforol, gan arwain at ganlyniadau iechyd corfforol gwell, at ganlyniadau iechyd meddwl gwell—mae gwell ymgysylltiad â'r awyr agored yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
A gaf fi ddweud faint rwy'n cefnogi'r Bil hwn? Rwy'n credu ei bod yn warth, a dweud y gwir, fod pobl yn defnyddio'r ffaith y bydd angen buddsoddiad mewn addysg awyr agored i beidio â chaniatáu i'r Bil hwn fynd yn ei flaen. Rydym i gyd yn gwybod y bydd agenda Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Senedd yn costio mwy i'r trethdalwr na'r mathau o symiau y mae angen eu buddsoddi'n flynyddol yn y Bil addysg awyr agored, os ydym am gyflawni hyn. Ac rydym yn gwybod bod y rhain yn benderfyniadau hirdymor ar gyfer dyfodol gwell, onid ydynt, oherwydd yn y pen draw, bydd £19 miliwn a fuddsoddir yn flynyddol nawr yn arbed swm enfawr o arian yn y dyfodol i wella iechyd y genedl oherwydd yr enillion iechyd cyhoeddus hynny, fel y dywedodd Russell George yn gwbl gywir.
Ond yr un peth roeddwn eisiau gofyn i chi yn ei gylch, Sam, yw ein bod yn gwybod bod potensial yma am fudd net enfawr i economi Cymru. Iawn, rydych chi wedi sôn am y buddsoddiad a'r elw ar fuddsoddiad sy'n bosibl, ond os ydym yn darparu'r mathau hyn o gyfleoedd i'n pobl ifanc yma yng Nghymru, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl y bydd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gwneud yr un peth. Ac wrth gwrs, rydym yn gwybod bod gennym lawer iawn o gyfleoedd addysg awyr agored ardderchog yma yng Nghymru a bydd pobl wedyn yn gallu manteisio arnynt ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Felly, pa waith a wnaed hyd yma ar edrych ar fanteision economaidd eich Bil i Gymru, yn enwedig o ystyried y gallai'r sector addysg awyr agored elwa'n helaeth iawn pe bai eich Bil yn mynd rhagddo?
Wel, diolch i chi unwaith eto, Darren, am eich cefnogaeth gyffredinol i hyn a hefyd am gydnabod yr effaith economaidd y gallai'r Bil hwn ei chael, a'r gwahaniaeth economaidd y mae canolfannau addysg a gweithgareddau awyr agored yn ei wneud i'r economi ar hyn o bryd. Fel y dywedais yn gynharach, mae'r sector gweithgareddau awyr agored yn cyfrannu tua £1.6 biliwn i'n heconomi yma yng Nghymru. Drwy gynyddu capasiti yn y sector, byddwn yn anochel yn ei weld yn gwella'n sylweddol.
Roedd yn astudiaeth ddiddorol eto, o bob cwr o'r byd, a gweld sut mae'r pethau hyn yn datblygu. Yn Nenmarc, pan wnaethant fabwysiadu profiadau preswyl ac ymgysylltiad gwell â'r awyr agored yno, mae'n dangos bod lefel gyfatebol—mae'n ffigur enfawr yma—ond lefel sy'n cyfateb i wahaniaeth o £840 miliwn i ostwng costau iechyd a chymdeithasol yn y lle cyntaf. Felly, o ran y pwrs cyhoeddus, fel sydd wedi'i ddangos dro ar ôl tro, mae yna wahaniaeth sylweddol i'r pwrs cyhoeddus.
Ar yr economi, rydych chi'n hollol gywir y byddem yn gweld y sector yn ffynnu hyd yn oed ymhellach, creu mwy o swyddi, a byddem yn arwain y ffordd. Fel y dywedais, mae yna Filiau tebyg yn mynd drwy Seneddau'r Alban a San Steffan ar hyn o bryd. Buaswn yn falch pe byddem ni yma yng Nghymru yn arwain y ffordd ar hyn, ac yn dangos sut y gellir ei wneud.
Diolch i Sam Rowlands am y datganiad yna.
Yr eitem nesaf fydd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: 'Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Archwilio hen berthynas mewn oes newydd'. Cadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r ddadl, felly—Delyth Jewell.
Cynnig NDM8417 Delyth Jewell
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ‘Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: Archwilio hen berthynas mewn oes newydd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae’n bleser gen i agor y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Heddiw byddwn ni'n trafod ein hadroddiad ar gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, fel mae'r Llywydd wedi dweud—adroddiad sy'n dilyn ymchwiliad dwfn y gwnaethom ni ei ymgymryd fel pwyllgor. Hoffwn ddiolch i dîm y pwyllgor am eu cymorth, i aelodau'r pwyllgor a phob person wnaeth roi tystiolaeth i ni.
Mae ein dwy genedl, Cymru ac Iwerddon, wedi'u plethu'n agos. O'r chwedlau a rennir mae yna berthynas sydd wedi datblygu rhwng ein tiroedd, ac mae'r berthynas honno wedi gwrthsefyll prawf amser. Rwy'n falch o ddweud bod y berthynas honno'n fyw ac yn iach. Fis diwethaf, fe wnaeth aelodau'r pwyllgor ymweld â gŵyl gerddoriaeth Lleisiau Eraill yn Aberteifi, gŵyl sy'n dathlu'r pethau sydd ar fin cael eu creu, a'r pethau sydd ar fin diflannu. Mae bod yn ddarfodedig, ar y ffin neu ar ymyl pethau, yn diriogaeth gyfarwydd i'n dwy wlad; bod ar flaen y gad o ran creadigrwydd, wedi ein lleoli fel yr ydym ar gyrion pellaf Ewrop, neu fel yr ymddangosai i'n hynafiaid Celtaidd, ar ymylon y byd hysbys. Mae ein llenyddiaethau'n dilyn traddodiadau sy'n mawrygu pethau a gollwyd; tiroedd coll Cantre'r Gwaelod, a gysylltai ein hynysoedd ers cyn cof, llwch Branwen, Bendigeidfran—y straeon hynny a rennir sy'n torri ar lannau ein hynysoedd. Yng ngeiriau R.S. Thomas, rydym yn bobloedd sydd wedi ein 'magu ar chwedlau'.
Ond yr hyn a oedd mor hanfodol i'w weld yn ystod yr ymchwiliad hwn oedd sut mae'r grynofa eang honno o ddŵr sy'n gwahanu ein gwledydd hefyd yn ofod lle mae arloesedd ar droed, gan gysylltu ein hymdrechion cyffredin i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, i archwilio sut y gallai'r môr Celtaidd ein harwain at ddyfodol gwyrddach. Gallem ni, fel pwyllgor, weld y pethau sydd ar fin cael eu creu, nid yn unig mewn celfyddyd, ond mewn technoleg a busnes hefyd, ac i ddyfynnu geiriau Phillip King:
'Lle mae diwylliant yn arwain, mae masnach yn dilyn'.
Ac yn wir, drwy gydol ein hymchwiliad, gwelsom yn uniongyrchol pa mor bellgyrhaeddol yw'r cysylltiadau cryf sy'n ein cysylltu drwy hanes, iaith, diwylliant, celf, cerddoriaeth, arloesedd, ymchwil, addysg a masnach. Gallwn ni fel pwyllgor dystio i'r cysylltiadau hynny a chryfder y berthynas barhaus honno.
Aelodau, mae Prif Gonswl Iwerddon yng Nghymru, Denise McQuade, yn ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus heddiw. Rydym yn croesawu Denise i'r Senedd, fel y cawsom ein croesawu i'r Oireachtas ym mis Ebrill eleni. Hoffwn fanteisio ar y cyfle nawr i ddiolch i bawb a gyfarfuom yn Nulyn yn ystod ein hymweliad. Roedd y croeso a gawsom yn gwbl gydnaws â'r cysylltiadau cryf rhwng ein dwy genedl.
Ni all cytundebau rhyngwladol dwyochrog rhwng ein harweinwyr gwleidyddol ond cryfhau'r sylfeini hynafol sy'n sail i'n hanes cyffredin. Rydym yn croesawu'r cyd-ddatganiad a'r cynllun gweithredu ar y cyd a gwblhawyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon.
Lywydd, rydym ni fel pwyllgor yn rhannu'r ewyllys da, yr angerdd a'r brwdfrydedd helaeth y mae cymaint o bartneriaid yn ei deimlo ynglŷn â chydweithio ar draws Môr Iwerddon.
Rwyf am droi nawr at argymhellion yr adroddiad ac ymateb y Prif Weinidog. Fe wnaeth y pwyllgor argymhellion a luniwyd i wella amlygrwydd a thryloywder gwybodaeth i'n cynorthwyo ni a'r Senedd ehangach, yn ogystal â rhanddeiliaid a'r cyhoedd, i ddeall ymagwedd Llywodraeth Cymru yn well o ran ei pherthynas ag Iwerddon.
Nawr, derbyniwyd rhai o'r argymhellion hyn gan y Prif Weinidog, ac rydym yn croesawu'r cynlluniau y mae'n eu hamlinellu, gan gynnwys archwilio tudalen we bwrpasol ar gyfer cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ac ailddechrau adroddiadau ar Horizon Ewrop.
Nawr, eglurodd y Prif Weinidog, fodd bynnag, ei fod yn credu bod trefniadau adrodd cyfredol yn cynhyrchu digon o wybodaeth am gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ac ni all Llywodraeth Cymru ymrwymo i adrodd ychwanegol oherwydd 'cyfyngiadau difrifol ar adnoddau'. Lywydd, credwn fod Llywodraeth Cymru yn gwneud anghymwynas â'i hun yma drwy beidio â manteisio ar ei dull strategol o ymdrin â'i chysylltiadau ag Iwerddon a chyfathrebu'r gwaith hwn yn llawnach, drwy beidio â thaflu goleuni ar y gwaith cadarnhaol a buddiol sy'n digwydd. Rydym yn parhau i bryderu y bydd hyn yn parhau i fod yn rhwystr i'n dealltwriaeth lawn o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru.
Ond yn union fel y mae ein perthynas yn bwysicach nag erioed, mae'r heriau hefyd wedi dwysáu wrth gwrs. Mae Brexit wedi achosi newidiadau ac mae cwestiynau'n parhau ynglŷn â sut y bydd y gwaith ar y cyd rhwng y ddwy wlad yn cael ei ariannu yn y blynyddoedd i ddod. Dywedodd staff yng Ngholeg Prifysgol Dulyn wrthym, er bod cyllid yr UE ar gyfer rhai prosiectau wedi dod i ben, nid yw'r cyfleoedd wedi dod i ben. Rydym yn adleisio pryderon llawer o dystion, gan gynnwys y Prif Weinidog, a siaradodd am symiau cyllid llawer llai yn absenoldeb cyllid yr UE. Nawr, rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon yn trafod mecanwaith ar y cyd ar gyfer cymorth a bod Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu Iwerddon mewn penderfyniadau cyllido. Serch hynny, mae ymateb y Prif Weinidog yn nodi bod swm llawn cronfa gwerth £150,000 Cymru Ystwyth wedi'i ymrwymo yn y flwyddyn ariannol hon ac y byddai ymrwymiadau yn y flwyddyn ariannol nesaf yn golygu bod angen ailflaenoriaethu cyllidebau eraill. Dyna pam y galwodd y pwyllgor ar y ddwy Lywodraeth i ymrwymo cyllid sy'n gymesur â'u huchelgais, er mwyn darparu sicrwydd i randdeiliaid ac i sicrhau bod costau cyfleoedd yn cael eu lleihau.
Nawr, fe fyddwn ni fel pwyllgor yn parhau i gadw llygad barcud ar y mater hwn yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb sydd i ddod, er mwyn sicrhau nad yw'r gwaith rhagorol rydym wedi dysgu amdano yn cael ei danseilio. Rydym yn croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi derbyn dau argymhelliad pwysig: ystyried canfyddiadau'r adroddiad a'u cymhwyso i gytundebau rhyngwladol dwyochrog â phartneriaid blaenoriaethol yn y dyfodol, a chymhwyso tystiolaeth yr ymchwiliad i lywio penderfyniadau ar gam nesaf y cydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon y tu hwnt i 2025. Nawr, yn hyn o beth, mae'r Prif Weinidog yn dweud mai rôl y Llywodraeth yw sicrhau bod yna gyfleoedd ymgysylltu i'r Senedd a'i phwyllgorau, ac rydym yn gofyn i'r Prif Weinidog nodi'r rhain os gwelwch yn dda.
Lywydd, rwy'n credu y bydd y dull hwn yn ychwanegu at rôl bwysig Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru i'r byd ac mae hefyd yn dangos gwerth gwaith craffu ar gysylltiadau rhyngwladol y pwyllgor. Byddwn yn monitro'n ofalus i weld a yw'r ymrwymiadau hyn yn cael eu gwireddu.
Ond rwy'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan Aelodau eraill i'w ddweud yn ein dadl y prynhawn yma, a dwi'n gobeithio'n wir taw dechrau ar ddyfnhau y berthynas rhwng ein gwledydd, rhwng ein cenhedloedd, y bydd hwn yn ei wneud. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i'n tîm pwyllgor am baratoi'r adroddiad a fy nghyd-aelodau pwyllgor, yn ogystal â Delyth Jewell, sy'n cadeirio'r pwyllgor mor ddeheuig, rhaid i mi ddweud?
Roedd hwn yn ymchwiliad diddorol iawn i lawer ohonom am nifer o resymau gwahanol, ac yn amlwg, ei uchafbwynt oedd y daith i Ddulyn. Roedd gweld Alun Davies yn y sedd ganol o dair ar hediad Ryanair yn eithaf difyr. Rwy'n credu ei fod wedi cael amser gwych. Ond wedi i ni gyrraedd yno, cawsom glywed am yr hanes cyffredin rhwng Cymru ac Iwerddon sydd mor gyfarwydd i ni ag y mae iddyn nhw. Nid yw'n berthynas unochrog; rwy'n credu ei bod yn berthynas sy'n cael ei gwerthfawrogi ac sy'n cael ei meithrin ar y ddwy ochr i fôr Iwerddon. Ond credaf mai'r modd yr adeiladwn y berthynas honno ar gyfer y dyfodol yw craidd yr adroddiad a'r hyn y buom yn edrych arno dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Gallem edrych arno o safbwynt economeg bur—Iwerddon yw un o'n marchnadoedd allforio mwyaf, ac mae rheswm ariannol amlwg dros barhau â'r berthynas honno. Ond rwy'n credu bod y berthynas rhwng ein dwy genedl yn llawer dyfnach ac yn llawer pwysicach na hynny hefyd. Dyna pam rwy'n credu bod teitl yr adroddiad mor bwysig. Mae'n hen berthynas mewn oes newydd, a chredaf fod honno'n ffordd gwbl hanfodol ac yn ffordd bwysig o ddisgrifio'r berthynas honno hefyd.
Soniodd Delyth, yn ei sylwadau agoriadol, am y gair B—Brexit—a chredaf ein bod wedi clywed dwy ochr y ddadl, os mynnwch, mewn perthynas â Brexit. Yn amlwg, gydag unrhyw newid mewn statws rhyngwladol, bydd yna broblemau bach y bydd angen i chi weithio drwyddynt. Ond clywsom hefyd am y cyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno drwy Brexit, ac achosion lle nad yw sefydliadau ar y ddwy ochr i fôr Iwerddon wedi caniatáu i'r heriau hynny eu rhwystro. Felly, mae hynny'n fy arwain yn dwt at brosiect INTERREG fel enghraifft, prosiect y clywsom lawer amdano yn ystod ein hymchwiliad. Mae'n cefnogi cydweithio ar draws ffiniau, drwy gyllid prosiect, a'i nod yw mynd i'r afael â heriau cyffredin a dod o hyd i atebion cyffredin. Ac ni allwn fod yn ddibynnol bob amser ar arian sy'n agored i newid, ac roedd hynny'n eithaf pwysig, rwy'n credu, ac i'w weld yn glir.
Clywsom hefyd gan y Prif Weinidog yn ei dystiolaeth fod €100 miliwn yn y fframwaith ariannol amlflwydd diwethaf wedi cael ei wario, a bod hwnnw i gyd wedi mynd ar ôl Brexit. Ac er bod y ffigur hwnnw'n wir, mae hefyd yn wir fod Llywodraeth y DU wedi creu cronfa gyfatebol i raglenni Horizon cynnar, wedi sicrhau lle'r DU yn y rhaglen, ac rydym yn gwybod pa mor hanfodol oedd hynny, wedi darparu gwarantau cyllid i ymgeiswyr am wobrau Horizon Ewrop, ac arweiniodd hynny felly at gyfleoedd i'r DU arwain gwaith byd-eang yn datblygu technolegau newydd, prosiectau ymchwil, yn ogystal ag arwain consortia yn rhaglen nesaf Horizon Ewrop. Mae'r buddion a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU wedi sicrhau buddion i'r Deyrnas Unedig gyfan, ac nid yw Cymru'n wahanol, ac fe'i gwelir hefyd yn y bartneriaeth rhwng Cymru ac Iwerddon. Ond mae'r adroddiad yn codi cwestiynau ac yn awgrymu nad yw'r buddion hynny bob amser yn cael eu dwyn at ei gilydd gan Lywodraeth Cymru—rwy'n credu i Delyth gyffwrdd â hyn—ac rwy'n dyfynnu, mae yna ddiffyg
'metrigau allweddol, monitro ac adrodd rheolaidd'.
Os ydym o ddifrif am ddeall, os ydym o ddifrif am roi gwerth i berthynas sydd mor ddwfn ac mor agos â'r berthynas rhwng ein dwy wlad, mae'n bwysig fod y gwerth hwnnw yn llythrennol hygyrch a bod pobl yn gallu gweld a deall hynny.
Er inni ddod o hyd i ddigon o agweddau cadarnhaol yng ngwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, gwelsom hefyd nad yw'n glir sut mae'r strategaethau a'r cynlluniau lluosog hynny mewn perthynas ag Iwerddon wedi'u cydlynu â'i gilydd. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella eu cyfathrebu a'u monitro, ond hefyd yn cynnwys gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU, er enghraifft, ar sicrhau cyllid a darparu cyfleoedd ar gyfer gwaith ymchwil ac arloesi a wneir drwy gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon a llwyddiant Cymru yn rhyngwladol.
Nid wyf yn credu y gellir cyfleu perthynas mor ddwfn â'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon mewn un ddadl pwyllgor neu mewn un cyfraniad pum munud gennyf fi, ond mae'n rhaid i'r berthynas honno fod yn seiliedig ar fwy na'r hanes cyffredin rhwng ein dwy genedl yn y dyfodol. Dylai hynny fod yn sbardun, rwy'n teimlo, ar gyfer perthynas agosach wrth symud ymlaen, perthynas nad yw'n seiliedig ar y gorffennol yn unig, perthynas nad yw'n seiliedig ar edrych yn ôl, ond yn hytrach ar y cyfleoedd cyffrous sydd gan Gymru ac Iwerddon gyda'i gilydd ar gyfer y dyfodol, nid yn unig ar draws môr Iwerddon yn ddaearyddol, ond y cysylltiadau diwylliannol rhyngom hefyd.
Felly, rwy'n cefnogi'r adroddiad yn llwyr ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried yr argymhellion. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i'r Cadeirydd, y pwyllgor a'r clercod? Mi oeddwn i'n falch iawn o fod yn rhan o'r pwyllgor ac yn rhan o'r ymchwiliad hwn, a fel rhywun sydd efo cysylltiad personol agos iawn efo Iwerddon, roedd y pwyllgor wedi cael llond bol arnaf i'n dweud wrth pobl, 'I used to live in Ireland', tra oeddem ni ar yr ymchwiliad. Mi oeddwn i'n falch iawn, iawn o weld bod y cysylltiadau wedi cryfhau o fy nghyfnod i, pan oeddwn i yna am gyfnod o naw mlynedd. Dwi'n meddwl beth oedd yn glir oedd bod y croeso yn anhygoel, y fáilte. Mi oedd y croeso yn gynnes dros ben, ac yn sicr, o ran y camau sydd wedi cael eu cymryd, dwi'n falch bod Eluned Morgan yma, oherwydd, pan oeddech chi'n Weinidog efo cyfrifoldeb dros faterion rhyngwladol, mi oedd hwnnw'n shifft aruthrol. A dwi'n meddwl bod gwaddol y gwaith hwnnw yn dal i barhau hefyd, sydd wedi ei amlygu wedyn yn y cysylltiadau agos rhwng y ddwy Lywodraeth.
Un o'r pethau oedd yn ein taro ni wrth gyfarfod Aelodau eraill o'r Dáil ac ati, oedd bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth, efallai, tu hwnt i lefelau o'r Llywodraeth, a mi oedd o'n braf ein bod ni wedi gallu, efallai, trafod sut byddai rhai o bwyllgorau'r Senedd hon yn gallu cydweithio efo pwyllgorau craffu. Ac mi fyddwn i'n croesawu, efallai, os byddem ni'n gallu edrych, efo'r Llywodraeth, ar sut rydym ni'n gallu parhau i gryfhau'r berthynas yna. Yn amlwg, mae BIPA yn rhan o hynny. Mi oeddech chi'n dweud yn eich ymateb i'r pwyllgor eich bod chi'n methu ymateb o ran yr argymhelliad hwnnw fel Llywodraeth, ond dwi yn credu ein bod ni angen cael sgwrs ynglŷn â sut rydym ni'n cysylltu fel Senedd efo Iwerddon tu hwnt i'r Llywodraeth, ac mi fyddwn i'n croesawu os byddem ni'n gallu mynd â hynny yn bellach yn sgil yr adroddiad hwn.
Rydym ni wedi clywed gymaint yn y Siambr hon, wrth gwrs, ynglŷn ag effaith diwedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Mae'n rhaid imi ddweud, doedd yna ddim—. Sut ydw i'n dweud hyn mewn ffordd ddiplomataidd? Mi oedd yna lot fawr o benbleth gan bobl dros Brexit a dal i gwestiynu pam ddigwyddodd Brexit, a gweld yr holl bethau sydd wedi mynd yn fwy heriol yn sgil hynny, ond maen nhw'n ei dderbyn ac yn awyddus i weld sut mae'r berthynas yna yn parhau. Dwi'n deall, wrth gwrs, y cyfyngiadau ariannol presennol ar y Llywodraeth, ond hefyd dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych tu hwnt i'ch cyllideb chi fel Llywodraeth. Yn amlwg, mae nifer o'n cyrff diwylliannol ni, er enghraifft, wedi bod yn buddsoddi o fewn y berthynas hon, a dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych hefyd ar faint o arian ychwanegol sy'n mynd i gynnal y cysylltiad rhwng Iwerddon a Chymru ar y funud, tu hwnt i'r hyn sydd gennych chi fel Llywodraeth i Lywodraeth, ac edrych ar beth fydd goblygiadau'r sefyllfa heriol ariannol hon o ran gallu mynd â'r gwaith hwn yn bellach. Dwi'n meddwl hefyd efallai fod yn rhaid inni edrych ar strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, oherwydd, yn amlwg, mae'r berthynas efo Iwerddon a Brwsel yn benodol, y ddwy swyddfa honno, yn eithriadol, eithriadol o bwysig. Mae'n rhaid imi ddweud, roeddwn i'n falch iawn eich bod chi wedi cael mynd fel rhan o'r ymweliad i swyddfa Gymru yn Iwerddon, a dwi'n gwybod bod yna waith aruthrol yn cael ei wneud gan griw bach iawn. Yn ddelfrydol, wrth gwrs, byddwn i'n gobeithio bod yna fwy o staff ac adnodd, ond dwi'n gwybod dyw hynny ddim yn bosibl ar y funud. Ond dwi'n meddwl bod yna botensial aruthrol, ac efallai ei bod hi'n amser inni edrych ar flaenoriaethu.
Rwy'n arbennig o awyddus i weld a oes mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru fynychu prifysgolion Iwerddon, ac fel arall, a gweld adnoddau'n cael eu buddsoddi mewn ysgolion a gwasanaethau gyrfa i hyrwyddo'r opsiwn hwn. Yn aml, mae ein myfyrwyr yn cael eu hannog i fynd i Loegr ar hyn o bryd, ond yn yr un modd, mae gan y cysylltiadau ag Iwerddon lawer iawn o botensial, ac nid wyf yn credu ein bod bob amser yn meddwl am adeiladu'r cysylltiadau hynny, a phan fyddwn yn meddwl am yr holl feysydd lle ceir cydweithio rhwng y ddwy Lywodraeth, rwy'n credu bod yna le inni adeiladu'r cysylltiadau hynny a sicrhau bod mwy y gallem edrych arno hefyd o ran y comisiwn annibynnol ar y dyfodol cyfansoddiadol. Yn amlwg, mae honno'n ddadl ac yn sgwrs fyw yn Iwerddon ac rwy'n credu efallai y byddai mwy o ddeialog yn ddefnyddiol yn hynny o beth.
Gwnes i gyfeirio yn gynharach at BIPA. Yn sicr, mae yna werth mawr i hyn. Un o'r pethau, wrth gwrs—. Mae yna un bwlch gennym ni ar y funud, lle dydyn ni ddim yn cyrraedd nifer yr Aelodau rydym ni'n gallu, a byddwn i'n gwerthfawrogi fe pe byddem ni'n edrych ar hynny ar frys. A gaf i ofyn, felly, i'r Llywodraeth, ac i ni i gyd—? Mae gennych chi heddiw gefnogaeth drawsbleidiol tuag at y berthynas hon, ac rydym ni'n awyddus i gefnogi a helpu. Felly, gawn ni edrych ar ddefnyddio adroddiad fel hwn fel sail i edrych ar fyrder o'r newydd ar sut rydyn ni'n gallu adeiladu ar hyn, a ddim yn gadael i'r heriau a'r cyfyngiadau ariannol effeithio ar rywbeth sydd yn gallu bod yn gyffrous, a chyda photensial aruthrol?
A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei sylwadau agoriadol, ac am ein hatgoffa ni i gyd o'n cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol cyffredin? Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon, ac rwy'n gwneud hynny fel aelod arweiniol dirprwyaeth y Senedd i'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig. Roeddwn yn falch o ddarllen yr adroddiad gan y pwyllgor, ac yn arbennig ei gydnabyddiaeth o rôl y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn hwyluso'r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon y tu allan i'n Llywodraethau. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig wedi'i ymgorffori yng nghytundeb Dydd Gwener y Groglith, ac mae ei gyfarfodydd llawn yn gyfle mor werthfawr i bob seneddwr ledled Prydain ac Iwerddon rwydweithio â'i gilydd, meithrin perthnasoedd newydd a thrafod materion o ddiddordeb cyfoes sy'n bwysig i'r ddwy ochr, er ei bod yn bwysig cofio bod y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn bodoli cyn cytundeb Dydd Gwener y Groglith fel y Corff Rhyngseneddol Prydeinig-Gwyddelig, a bod Aelodau'r Senedd wedi ymuno ag ef yn 2001, ynghyd ag Aelodau o ddeddfwrfeydd eraill ar draws y DU. Rydym wedi bod yn mynychu'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig byth ers hynny. Mae llawer o'r Aelodau a fu'n gynrychiolwyr wedi meithrin perthynas gref â'u cyd-Aelodau o Ogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
Nawr, mae pwyllgorau'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn gwneud gwaith pwysig a phwrpasol, ac mae ein cynrychiolwyr ar y pwyllgorau hynny'n sicrhau bod llais Cymru a'n profiadau yn cael eu clywed fel rhan o'r ymchwiliadau hynny. Rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau'n sicrhau bod gwaith y pwyllgorau hynny'n dod i sylw pwyllgorau perthnasol yma yn y Senedd, megis y gwaith ar sut y caiff ieithoedd cenedlaethol eu cefnogi ar draws y gwledydd. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr yn y ffordd roeddem yn ymdrin â'r Gymraeg yma yng Nghymru, yn enwedig am eu bod yn ystyried bod yr iaith Wyddeleg yn bwysig.
Fel dirprwyaeth, nid oes llawer o amser wedi bod ers i mi, Darren Millar, Sarah Murphy a Heledd Fychan ddychwelyd o'r cyfarfod llawn diwethaf yn Kildare, ar ddiwedd mis Hydref. Roedd y sesiwn honno'n trafod materion cyfredol gyda'r ddwy Lywodraeth, a mynychodd Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU hefyd. Roedd llysgennad y DU i Iwerddon yn bresennol, yn ogystal â Gweinidog ynni Llywodraeth Iwerddon, a oedd yn sôn am y cynigion ynni gwyrdd sy'n wynebu pawb ar draws y môr Celtaidd—materion pwysig i ni yma yng Nghymru.
Nawr, mae'r cyfarfod llawn hefyd yn cael diweddariadau gan bob un o bwyllgorau'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, ac mae nifer y pwyllgorau wedi cael ei grybwyll yn eich adroddiad. Ond rwyf am roi enghraifft i chi o rai o'r pynciau y maent yn eu trafod nawr: twristiaeth yn ein cymunedau, sy'n cynnwys effaith ail gartrefi ar ein cymunedau a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar dwristiaeth. Mae ynni gwynt ac ynni gwyrdd yn cael eu trafod gan bwyllgor arall. Ac mae cydweithrediad yr UE ar ddiogelwch ac amddiffyn yn cael ei drafod mewn pwyllgor arall. Mae'r rhain yn faterion pwysig i ni i gyd, a chawn gyfle i ddweud ein dweud yn y rheini.
Ac rwy'n falch fod yr holl Aelodau sy'n cynrychioli'r Senedd wedi manteisio ar y cyfle i gyfrannu'n llawn yn y trafodaethau hynny, gan roi Cymru, a'n Senedd, yn gadarn ar y llwyfan rhyngwladol a rhyngseneddol hwn. Ym mis Medi, cynhaliodd y pwyllgor llywio ei gyfarfod yma yn y Senedd, a chofnododd cyd-gadeiryddion y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, Karen Bradley AS a Brendan Smith TD, mai eu hymgysylltiad â phwyllgor diwylliant y Senedd yw'r union fath o weithgarwch y maent eisiau i'r Cynulliad ymdrechu i'w gyflawni. Felly, roeddent yn diolch yn fawr iawn i chi am hynny ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a wnaethoch.
Rwy'n gwybod eu bod yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd i gyfrannu at ein pwyllgor. Nawr, rwy'n adleisio'r safbwyntiau hynny oherwydd pryd bynnag y byddaf yn mynychu'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, maent eisiau i ni barhau i wneud yr un peth. Maent eisiau mwy o hynny. Ac mewn gwirionedd, maent eisiau cael mwy o drafod ar y gwaith y mae'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn ei wneud, oherwydd weithiau nid ydym yn siarad ddigon am y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn y math hwnnw o gorff.
Nawr, hoffwn ychwanegu, ar y pwynt hwn, ac rwy'n troi'n ôl at y pumed Senedd yma, ond pan oeddwn i'n cadeirio'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, fe wnaethom elwa'n fawr o'r berthynas â'n swyddogion cyfatebol yn Iwerddon a swyddogion Llywodraeth Iwerddon, yn enwedig y rhai ym Mrwsel, pan wnaethom gyflawni ein gwaith ar effeithiau Brexit ar Gymru. Hoffwn gofnodi fy niolch nawr i bawb y gwnaethom ryngweithio â nhw, yn enwedig Prif Gonswl Iwerddon, Denise McQuade, sydd yma, a'i rhagflaenydd Denise Hanrahan. Ac a all hi hefyd fynegi ein diolch i'r staff yng nghomisiwn y cyfraniadau diplomyddol Gwyddelig ym Mrwsel, oherwydd roeddent yn aruthrol? Ac felly hefyd Mairead McGuinness, sy'n ASE Gwyddelig, a wnaeth waith aruthrol i ni pan aethom ni draw yno hefyd. Felly, dangosodd perthynas o'r fath pa mor bwysig yw bod yn rhan o hyn.
Ond os caf ddychwelyd at y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig. Sylwais fod eich adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith eu bod yn trafod y gallai fod mwy o bwyllgorau. Diweddariad: mae'n debyg y bydd llai o bwyllgorau, ond bydd ganddynt gylchoedd gwaith gwahanol. Felly, efallai y byddwn eisiau cymryd mwy o ran yn y cylchoedd gwaith hynny a chyfranogi yn hynny i drafod ein gwaith ymhellach. Ac rydym yn fwy na pharod i siarad â'r pwyllgor am y rôl honno a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd, fel dirprwyaeth o'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, a chyda'r pwyllgor ar y mathau hynny o berthnasoedd. A byddwn yn ystyried eich argymhellion yn ofalus iawn.
Felly, Lywydd, rwyf innau hefyd yn ymwybodol o fy amser. [Chwerthin.] Mae adroddiad y pwyllgor yn amserol wrth i bwyllgor llywio'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig ystyried cyfarwyddiadau strategol y cynulliad, gan gynnwys ffyrdd y pwyllgorau o weithredu, a bydd cynrychiolwyr y Senedd yn y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn cyfleu cynnwys yr adroddiad i'n cyd-Aelodau yn y cynulliad, ac os gwelwch yn dda, rhowch gyfle i ni barhau i godi materion y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yma yn y Senedd.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu ar yr adroddiad hwn heddiw. Fel rhywun sydd â chysylltiadau cryf mewn swydd flaenorol, ar ôl gweithio ar y llongau fferi sy'n croesi môr Iwerddon yn ôl ac ymlaen rhwng sir Benfro a Rosslare, o oedran ifanc gwelais y cysylltiadau diwylliannol hynny, gwelais y cysylltiadau economaidd hynny sydd wedi rhoi Iwerddon a Chymru yn y berthynas unigryw a rannwn yma. Ac ar ôl edrych drwy'r adroddiad, sydd gennyf yma gyda mi, rwy'n cytuno'n llwyr â chasgliad 1 a 2 ar fframwaith Windsor, a gyda Horizon, rwy'n credu bod angen—. Ydw, rwy'n cymeradwyo'r tîm yn San Steffan am ddod â hynny i ben a sicrhau ein bod yn aelodau o Horizon—rwy'n credu bod hynny'n anhygoel o dda.
Ond yr hyn rwy'n symud tuag ato yma, ar ôl clywed Aelod penodol yn mwmian o'r meinciau cefn yn ôl ei arfer, rhywbeth rwy'n mwynhau ei archwilio'n fwy a rhywbeth, o fod wedi gweithio gydag Aelodau Gweriniaeth Iwerddon, ar ôl bod neu ddirprwyo dros Darren Millar mewn digwyddiad gan y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn San Steffan, a chlywed sut mae'r Gwyddelod yn tueddu i weld y pethau hyn yn gadarnhaol iawn trwy lens economaidd, yw 'Ble mae'r budd economaidd yma, sut y gallwn ledaenu ffyniant drwy lens economaidd?' Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w ganmol. Ac fe wnaeth hynny fy nenu at bwynt 92 yn yr adroddiad, sef brawddeg sy'n dweud,
'Datgelodd tystiolaeth a ddaeth i law fod y ffocws lleiaf posibl yn cael ei roi ar y cysylltiadau economaidd a masnach o ran ymagwedd Llywodraeth Cymru at gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.'
Nawr, gan ddeall y cylch gwaith sydd gan eich pwyllgor yn hyn, Delyth, credaf y gallai fod rhan i mi ei chwarae ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i fynd at fy Nghadeirydd a dweud, 'Mae hwn yn gyfle, o bosibl, inni archwilio ymhellach sut y gallwn ni fel pwyllgor, gyda'r cylch gwaith hwnnw, weld lle mae Llywodraeth Cymru'—fel y dywedodd Heledd, mae yna gytundeb trawsbleidiol ar yr angen am gysylltiadau cryf ag Iwerddon—'sut y gall ein pwyllgor edrych ar rôl Llywodraeth Cymru yn adeiladu cysylltiadau economaidd cryf â Gweriniaeth Iwerddon.' Oherwydd fel y dywedoch chi'n gywir wrth agor, Delyth, lle mae diwylliant yn arwain, mae masnach yn dilyn. Felly, gadewch inni danlinellu'r fasnach honno, gweld o ble y gall y buddion economaidd hynny ddod.
Ac rwy'n meddwl am y cyfleoedd y soniodd Dai Rees amdanynt gyda'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig hefyd. Mewn un cyfarfod yn unig a fynychwyd gennyf, roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â chynrychiolwyr o Fianna Fáil, Fine Gael, y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd a Sinn Féin, a chredaf fod hwnnw'n gyfle anhygoel sydd gennym, fel Senedd ac fel Aelodau o'r Senedd hon. Ar y pryd, chwe mis yn unig oedd wedi bod ers imi gael fy ethol a gallais gyfarfod â chynrychiolwyr a allai rannu eu profiadau gyda mi a rhai o'r cyfleoedd a welent ar draws y môr Celtaidd.
Daw hynny â mi at fy mhwynt olaf, a manteision economaidd hyn—y môr Celtaidd ei hun a'r cyfleoedd gydag ynni adnewyddadwy. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i fel parot yn ailadrodd y cyfleoedd a ddaw ym maes ynni adnewyddadwy, yn enwedig gwynt alltraeth arnofiol yn y môr Celtaidd. Un o'r themâu a glywaf bob amser pan fyddaf yn cyfarfod â busnesau, cynrychiolwyr a rhanddeiliaid am y cyfleoedd hynny yw na all unrhyw borthladd wneud popeth ar eu pen eu hunain, felly, fel cynigydd porthladd rhydd Celtaidd Port Talbot a phorthladd Aberdaugleddau, gan gynnwys Doc Penfro, a'r cyfleoedd a ddaw yno, ond hefyd y porthladdoedd yn Iwerddon, bydd angen iddynt fod yn rhan o'r trafodaethau ynghylch y porthladd rhydd Celtaidd, neu ddatblygiadau Celtaidd ym maes ynni adnewyddadwy. Dyna edefyn arall rwy'n gobeithio, efallai, y gall y Prif Weinidog gyffwrdd ag ef yn ei ymateb, a rhywbeth y credaf y gallaf fynd ag ef yn ôl at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, gan gydweithio o bosibl gyda'r pwyllgor newid hinsawdd, a'r cyfleoedd sy'n codi yno, oherwydd credaf fod cyfle go iawn i edrych nid yn unig yn ddiwylliannol ar beth yw ein cysylltiadau ag Iwerddon, ond sut y gallwn weld, yn economaidd, sut y gallwn ddarparu'n well ar gyfer pobl yma yng Nghymru, ond hefyd sut y gallwn gefnogi'r rheini ar draws y Môr Celtaidd hefyd. Diolch, Lywydd.
A gaf fi ddweud fy mod wedi mwynhau'r ymchwiliad hwn yn fawr? Fe wneuthum fwynhau'r cyfle i siarad, i ddadlau ac i drafod un o'r cysylltiadau hynaf sydd gennym. Mae'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon, rhwng y Cymry a'r Gwyddelod, yn berthynas sy'n mynd y tu hwnt i Lywodraethau. Rydym yn adnabod ein gilydd; fel pobl, rydym yn adnabod ein gilydd. Ar ein hymweliad â Dulyn, ni wnaethom roi'r gorau i siarad am dridiau. Rhannwn yr etifeddiaeth Geltaidd gyffredin honno. Rydym yn rhannu diwylliant a hanes; rydym yn rhannu hanes a diwylliant.
Pan feddyliaf am hanes ein perthynas ag Iwerddon, rydym yn meddwl yn ôl yn hawdd at ddiwedd Rhufain; rydym yn meddwl yn ôl yn hawdd at Sant Illtud yn sefydlu mynachlog i addysgu'r rhai a ddeuai'n seintiau, wrth gwrs, ac un o'r rhai addysgwyd yn Llanilltud Fawr oedd Padrig, wrth gwrs, a deithiodd wedyn i Iwerddon ac mae'r hanes yn ysgrifennu ei hun. Cafodd ein hanesion eu geni gyda'i gilydd. Cafodd ein gwledydd, ein cenhedloedd, eu geni gyda'i gilydd. Yr hyn a oedd yn ddiddorol iawn i mi am yr ymchwiliad hwn a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yw ein bod yn ailddyfeisio hanes newydd eto, perthynas newydd, ond un nad yw wedi'i gwreiddio yng ngwaith Llywodraethau a llofnodion gwleidyddion, ond un sydd wedi'i gwreiddio ym mhrofiad byw go iawn pobl—pobl sy'n adnabod ei gilydd ac sydd wedi adnabod ei gilydd ers canrifoedd a milenia, pobl sy'n adnabod ei gilydd yn reddfol. Rydym yn cydnabod diwylliant Iwerddon yn y ffordd y maent yn cydnabod ein diwylliant ni. Nid yw fy Nghymraeg bob amser ar ei gorau ac mae fy Ngwyddeleg hyd yn oed yn waeth, ond rydym yn cydnabod pwysigrwydd y ddwy. Rydym yn deall ystyr iaith i ni, yn ein heneidiau ac yn ein calonnau—rydym yn cydnabod hynny.
Mae'r adroddiad hwn, mewn sawl ffordd, yn gadarnhad o waith Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ailddyfeisio'r berthynas hon, ac rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru am y gwaith, y weledigaeth a'r uchelgais yma. Ond wrth gwrs, rydym hefyd yn ddiolchgar i'r Taoiseach ac i Lywodraeth Iwerddon am rannu'r uchelgais hwnnw, am rannu'r weledigaeth ac am fod eisiau buddsoddi yn y weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae ein pobl wedi bod yn bont fyw sy'n mynd y tu hwnt i waith ein Llywodraethau, ac mae'r bont fyw honno'n cael ei hadnewyddu. Gwnaeth y sgyrsiau a arweiniodd Heledd am ei phrofiad fel myfyriwr yno argraff fawr arnaf, gan adfywio'r bont fyw rhwng ein gwledydd unwaith eto.
Ond yr hyn rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud yw ailddyfeisio hyn gyda phwrpas. Mae'r Prif Weinidog wedi amlinellu ei flaenoriaethau o ran addysg; ynni; môr Iwerddon, fel yr amlinellodd Sam Kurtz; a'r economi. Ond fel eraill, gwnaeth Phil King argraff fawr arnaf hefyd, pan ddywedodd,
'Lle mae diwylliant yn arwain, mae masnach yn dilyn'.
Weithiau, mae'n anodd iawn pwyntio at weithred gan Lywodraeth a dangos bod hynny wedi arwain at fuddsoddiad neu elw penodol i fusnes neu fenter benodol, neu beth bynnag. Mae'n anodd iawn dangos hynny, ond nid yw'n anodd dangos yr ewyllys da a gynhyrchir pan fydd pobl yn cael cyfle i dorri bara gyda'i gilydd neu i greu cerddoriaeth gyda'i gilydd. Bydd y cysylltiadau hynny wedyn yn arwain at fusnes, byddant yn arwain at fasnach, ond byddant hefyd yn arwain at rywbeth sy'n fwy na hynny: at ddiben a rennir, uchelgais ar y cyd, cydweledigaeth.
Nid sgyrsiau rhwng dwy Lywodraeth oedd y cyfarfodydd a'r sgyrsiau a gefais mewn llywodraeth gyda Llywodraeth Iwerddon am INTERREG; mewn sawl ffordd, roeddent yn sgyrsiau am ddwy ffrind, am ddarn o ddŵr sy'n ein huno ac nad yw'n ein rhannu. Caiff niwed Brexit ei ddangos nid yn unig wrth dorri strwythurau a thorri cysylltiadau blaenorol, ond mae'n ymgais, wrth gwrs, i dorri pobl a dyna pam na fydd Brexit byth yn llwyddo, oherwydd mae'r cysylltiadau hynny'n rhy glymedig ac yn rhy gryf i gael eu torri gan wleidyddion, ond fe ellir eu meithrin.
Brif Weinidog, yn eich ateb i'r ddadl hon, hoffwn ddweud wrthych am ganolbwyntio ar y bont fyw honno; canolbwyntio ar adfywio'r hanes a'r berthynas honno. Mae ein dwy wlad wedi ein hysbrydoli dros y canrifoedd. Rydym wedi dilyn gwahanol lwybrau ar wahanol adegau, ond nid ydym erioed wedi rhoi'r gorau i fod â diddordeb yn ein gilydd. Nid ydym erioed wedi rhoi'r gorau i ddysgu gan ein gilydd. Nid ydym erioed wedi rhoi'r gorau i helpu ein gilydd a darparu ar gyfer twf gyda'n gilydd.
Y sgwrs a gofiaf yw'r sgwrs a gefais gydag Éamon Ó Cuív, ŵyr de Valera, wrth gwrs. Buom yn siarad am ei uchelgais i adfywio'r iaith Wyddeleg. Siaradodd ynglŷn â'r modd y mae'n cynnal cymorthfeydd yn Galway trwy gyfrwng yr Wyddeleg, sut mae'n rhedeg ei swyddfa drwy gyfrwng yr Wyddeleg, ac mae hynny'n fy atgoffa o'r gwaith yr oeddwn eisiau ei ddechrau yma yng Nghymru, am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yn y wlad hon. Mae ein huchelgeisiau yr un peth. Maent yn cael eu mynegi mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol wledydd, gan ddefnyddio gwahanol ieithoedd, ond mae'r weledigaeth ganolog yn union yr un fath.
Felly, wrth drafod yr adroddiad heddiw, rwy'n gobeithio y byddwn yn sicr yn derbyn canfyddiadau'r adroddiad, ond gadewch inni wneud mwy na hynny hefyd. Gadewch inni ailbweru ein huchelgeisiau ac adnewyddu ein dull o ymdrin â hyn er mwyn sicrhau bod ein dwy wlad yn rhannu mwy na hanes yn unig, ond eu bod yn rhannu dyfodol. Diolch.
Y Prif Weinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl.
Llywydd, diolch yn fawr. A diolch yn fawr i'r pwyllgor am yr adroddiad ac i aelodau'r pwyllgor hefyd sydd wedi cyfrannu at y ddadl mor ddiddorol yma'r prynhawn yma, ac am bopeth sydd wedi mynd i mewn i'r gwaith mae'r pwyllgor wedi'i wneud, sydd y tu ôl i'r adroddiad. Mae'n bleser, wrth gwrs, i groesawu Denise McQuade, y Cwnsler Cyffredinol, yma i'r Senedd y prynhawn yma, ac i ddweud gair mawr o ddiolch iddi hi am bopeth y mae hi'n ei wneud i helpu i gadw'r berthynas rhyngom ni a'r Iwerddon, sydd mor bwysig i ni.
Lywydd, dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, wrth agor y ddadl, nad oes pherthynas fwy hirsefydlog yn bodoli na'r un rhwng Cymru ac Iwerddon, ac mae llawer o Aelodau wedi dewis eu henghreifftiau eu hunain o hynny yn y ddadl y prynhawn yma.
Yn garedig iawn, fe anfonodd Darren Millar neges ataf cyn y ddadl i egluro pam na allai fod yma. Roeddwn wedi bod yn edrych ymlaen at drafod gydag ef yr ymdeimlad enfawr o ryfeddod y cofiaf ei brofi mewn mynwent eglwys yn sir Benfro, heneb sydd â'r iaith Ogam wedi'i hysgrifennu arni—iaith Wyddelig, wrth gwrs, a siaredid yn y bedwaredd ganrif, ac nad yw ond i'w chanfod yn Iwerddon ac yma yng Nghymru wedyn, yn sir Benfro yn bennaf. A mynd i mewn i fynwent gyffredin ac yna, yn sydyn, dod o hyd iddi yno a meddwl, 'Mae'r garreg hon wedi bod yma ers bron i 2,000 o flynyddoedd', ac mae hynny, fel y dywedodd Alun Davies, yn deimlad o berthynas sy'n llawer mwy na Llywodraethau; mae'n bont fyw sy'n mynd yn ôl ymhell i'n hanesion ein hunain.
Crëwyd y cyd-ddatganiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon ar foment benodol. Yr hyn sy'n allweddol iddo oedd Brexit a'n hymdrechion i liniaru'r niwed y mae Brexit wedi'i wneud i bobl yma yng Nghymru, ond hefyd i bobl yn Iwerddon. Cyfeiriodd Tom Giffard at Brexit fel pe bai'n gyfle yn y berthynas honno, ond rwy'n ofni bod y gwir yn wahanol iawn. Nid yw pobl ar ynys Iwerddon, a Llywodraethau yn Iwerddon hefyd, yn anghofio bod y Prif Weinidog ar y pryd wedi dweud na châi ffin ei chreu ym môr Iwerddon ar unrhyw gyfrif, wythnosau'n unig cyn iddo gytuno i hynny. Mae'r niwed a wnaed wedi bod yn real iawn, a'n cyd-ddatganiad yw ein hymdrech i liniaru'r niwed a chreu posibiliadau newydd. Dyna uchelgais a rennir gan Lywodraeth Iwerddon, a symbol o'r uchelgais hwnnw yw ei phenderfyniad i ailagor swyddfa conswl Gwyddelig yma yng Nghaerdydd.
Nid hanes hir a dwfn yn unig sy'n creu'r ymdeimlad o hanes, ond hanes datganoli hefyd. Roeddwn yn ddiolchgar i Heledd Fychan am yr hyn a ddywedodd am y gwaith a wnaeth Eluned Morgan pan oedd ganddi'r portffolio cysylltiadau rhyngwladol i helpu i sefydlu'r hyn a ddathlwn heddiw. Ond rwy'n cofio cyfarfod â Bertie Ahern yn Sain Ffagan yn 2001 pan ddaeth draw i fynychu'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd yno, yn union fel rwy'n cofio cyfarfod ag Ian Paisley i fyny yma ar y pumed llawr yn Nhŷ Hywel, pan ddaeth i gyfarfod â'r Prif Weinidog ar y pryd Rhodri Morgan ac i hel atgofion am ei gyfnod yn y Barri lle cafodd ei hyfforddiant yn y sefydliad y Beibl proffwydol, neu sefydliad â'r math hwnnw o enw yn sicr. Roeddent yn hel atgofion gyda'i gilydd am yr amser a dreuliodd yng Nghymru.
Credaf ein bod mewn cyfnod arbennig o gyfoethog yn y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon, gyda'r holl ewyllys da y cyfeiriodd Delyth Jewell ato. Mae'n berthynas gynnes, nid yn unig o ran y cynnydd a wnaed ar draws yr ystod o weithgareddau a nodir yn y cyd-ddatganiad, ond hefyd o ran yr amser a'r egni a fuddsoddir gan Weinidogion Llywodraeth Iwerddon wrth fwrw ymlaen â'r cyfan. Fel y dywedodd Alun Davies, rydym yn adnabod rhywbeth yn ein gilydd. Pan fyddwn yn cyfarfod, mae yna ymdeimlad greddfol o siarad â phobl sy'n rhannu rhywbeth yn ein gorffennol a phenderfyniad i ddefnyddio'r ymdeimlad hwnnw o galon ac enaid i barhau i adfywio'r berthynas ar gyfer y dyfodol.
Eleni, Lywydd, fe fyddaf i a Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â'n cymheiriaid Gwyddelig wyneb yn wyneb ym mis Awst, mis Medi, mis Hydref a mis Tachwedd, ac mae cynlluniau i wneud hynny eto yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn Nulyn yng Nghyngor Prydain-Iwerddon. Cyfarfûm â'r Taoiseach, y Tanaiste, y Gweinidog cyllid ac eraill. Yn yr amser cyn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, siaradais hefyd ag arweinwyr pedair plaid Gogledd Iwerddon, felly arweinwyr y DUP, Sinn Féin, Plaid Unoliaethol Ulster a'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a Llafur, a gwneuthum hynny oherwydd bod diddordeb Cymreig cryf mewn perthynas gadarnhaol ag ynys Iwerddon gyfan, ac oherwydd fy mod yn arbennig o awyddus i dynnu sylw at yr agwedd honno o'n cyswllt yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ei hun. Rwyf am roi sicrwydd i David Rees, pryd bynnag y caiff y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig ei drafod yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, fod llais Cymru yn un o'r lleisiau yn y cyngor sydd o blaid perthynas agosach rhwng gwaith y cyngor a gwaith y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, i alinio ein hagenda gyda'i gilydd yn fwy pwerus. Mae hwnnw'n safbwynt y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi'n gyson.
Lywydd, fel y dywedais, y cyfle diweddaraf yn unig oedd y cyngor mewn cyfres o gyfleoedd pwysig i gyfarfod. Roeddem yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Prydain ac Iwerddon ym mis Medi, mae'n dda iawn gwybod bod y pwyllgor hefyd wedi ymweld â gŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi ym mis Hydref, achlysur gwych lle mae'n edrych yn debyg fod nifer fawr o Aelodau'r Senedd wedi gallu bod yno, ond yn fwyaf arbennig, cyfnewidiad blynyddol y Gweinidogion, sy'n rhan o'r cyd-ddatganiad, ac a gynhaliwyd y tro hwn yng ngogledd Cymru gan ganolbwyntio ar themâu ynni adnewyddadwy, datblygu sgiliau ac addysg ddwyieithog. Yn sicr, rwyf am ddweud wrth Sam Kurtz mai agwedd economaidd hynny i gyd oedd ar wyneb ein trafodaethau, a'r angen i greu cynghrair rhwng porthladdoedd Cymru, Iwerddon, a Llydaw hefyd. Mae triongl euraidd yma o ran ynni adnewyddadwy yn y dyfodol. Nid oes unman yn gallu cyflawni'r holl bethau a fydd yn angenrheidiol, ond bydd porthladdoedd sy'n gweithio gyda'i gilydd yn gallu gwneud hynny ar ran pob un ohonom.
Mae'r datganiad yn ymdrin â chwe maes gwahanol, ond mae hefyd yn caniatáu inni archwilio materion newydd ac ychwanegol pan ddeuant yn amlwg. Felly, fe wnaethom drafod—a'i drafod yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn wir—y gwaith a wnawn yng Nghymru ynghylch posibiliadau incwm sylfaenol cyffredinol i ofalwyr, oherwydd yn Iwerddon, mae ganddynt incwm sylfaenol cyffredinol i artistiaid, ac fe wnaethom ymrwymo i fynd ati i rannu'r profiadau hynny a dysgu ganddynt gyda'n gilydd. Ac fe wnaethom ni drafod ein rhaglen Taith a ffyrdd y gallwn ni, fel y mae eraill wedi'i ddweud, gryfhau'r berthynas rhwng ein pobl ifanc yn y dyfodol hefyd.
Lywydd, rwy'n troi'n fyr nawr at yr argymhellion eu hunain. Cyfeiriai llawer o argymhellion yn yr adroddiad at ddarparu mwy o amlygrwydd a gwelededd i'r gwaith a wnawn, ac roeddem yn falch iawn o dderbyn yr argymhellion hynny. Cyfeiriai rhai at ddarparu adroddiadau blynyddol, ac er fy mod yn awyddus iawn i adrodd ar yr hyn a wnawn ac i ddod â'r cyfan at ei gilydd mewn un adnodd, nid wyf fi'n bersonol yn cael fy nenu at ymrwymiad i adroddiadau blynyddol, oherwydd credaf ei bod yn well adrodd pan fo rhywbeth i'w ddweud, ac rwy'n falch iawn o ddweud fy mod yn gobeithio gallu cynhyrchu adroddiad ar gyfer Aelodau'r pwyllgor yn fuan iawn nawr ar y secondiad diaspora y byddwch wedi'i archwilio tra oeddech yn Nulyn. Roeddwn yn falch o dderbyn yr argymhellion ynghylch cyfranogiad y rhai o fewn cymdeithas sifil a chydag arbenigedd a all gyfrannu at y berthynas.
Un nodyn bach o rybudd, Lywydd: mae cyd-ddatganiad yn gytundeb rhwng dwy Lywodraeth. Nid yw rhai o'r argymhellion sydd wedi'u hanelu at Lywodraeth Cymru yn bethau y gall Llywodraeth Cymru yn unig eu gwneud. Byddent yn galw am gytundeb Llywodraeth Iwerddon, ac mewn un achos, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ei hun. Gallwn hyrwyddo'r dadleuon hynny; ni allwn warantu y byddant yn cael eu derbyn.
Yn olaf, os caf edrych ymlaen ac ar yr argymhellion yn yr adroddiad sy'n gwneud hynny. Roeddwn yn falch iawn o weld y gymeradwyaeth gadarnhaol i raglen Horizon yn yr adroddiad. Rwy'n edrych ymlaen at gysylltiadau newydd rhwng Cymru ac Iwerddon yn hynny o beth. Rwy'n sicr yn gobeithio dod o hyd i ffyrdd o gynnwys Aelodau'r Senedd mewn gwaith ar y cyd y tu hwnt i 2025 ac fe wnaethom ddechrau trafod hynny pan oeddem yng ngogledd Cymru yn y cyfarfod diwethaf rhwng Gweinidogion. Ac ar gyllid yn yr oes ôl-Brexit, y mecanwaith ar y cyd, y rheswm dros fy nghyfarfod â'r Gweinidog Cyllid, Paschal Donohoe, yn Nulyn yr wythnos diwethaf oedd i ddod o hyd i ffyrdd o fwrw ymlaen ymhellach â hynny.
Yn hyn oll, rwy'n hapus iawn y prynhawn yma, Lywydd, i ymrwymo i fynd â'r syniadau hynny ymhellach, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor, ac edrychaf ymlaen yn fawr at barhau i gydweithio ar yr hyn sy'n un o'r pethau gwirioneddol ddisglair yng ngwaith cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru.
Delyth Jewell nawr i ymateb fel Cadeirydd.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Mae wedi bod yn ddadl eithriadol o dda, dwi'n meddwl.
Nododd Tom ar y dechrau y gallwn edrych ar y berthynas hon rhwng y ddwy genedl o safbwynt economeg yn unig, ond fel roeddech chi'n dweud, Tom, mae'r berthynas gymaint yn ddyfnach na hynny. Nododd Tom rai o'r heriau cyffredin, gan gynnwys cyllid ar ôl Brexit, a'r angen i fynd i'r afael â'r heriau hyn gyda'n gilydd. Ni ellir cyfleu perthynas mor ddwfn â hon—fel y dywedoch chi, Tom—mewn un ddadl. Ni ellir ei chyfleu mewn un sgwrs fel hon neu un ymchwiliad, ond dylem edrych tuag at berthynas sydd nid yn unig wedi'i gwreiddio yn ein gorffennol, ond yn ein dyfodol hefyd.
Diolch yn fawr iawn i ti, Tom, am hwnna.
Mae gan Heledd hanes personol gydag Iwerddon. Na, doedden ni ddim wedi cael llond bol ohonot ti'n sôn am hynna; roedden ni wedi elwa o dy agosrwydd at Ddulyn. Soniodd Heledd am y sgil-effaith bositif roedd Eluned Morgan wedi ei chael ar y gwaith rhyngwladol, a dwi'n cytuno gyda hynny; mae hi mor bwysig bod ein proffil ni yn ryngwladol yn cadw yn uchel, fel dŷn ni wedi clywed am gymaint o bethau da sydd yn digwydd, achos maen nhw mor bwysig.
Roedd penbleth ynghylch Brexit. Pan oedden ni yn Nulyn, roedd hi'n amlwg bod Ffrainc yn gwthio ei hunain i Iwerddon fel 'your closest European partner'. Pa mor sobering oedd hwnna i'w glywed. Criw bach sydd yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Nulyn, a buasai'n dda gweld lot mwy o bobl yna, dwi'n cytuno.
O ran BIPA, mae yna fwlch yna, a buasai'n dda i hwnna gael ei lenwi ar frys. Ond i symud ymlaen at BIPA, diolch, Dai, am siarad am eich gwaith.
Mae gan y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig rôl bwysig iawn. Fel y dywedwch, mae'n un o'r pethau a ddeilliodd o gytundeb Dydd Gwener y Groglith. Mae aelodau'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig yn ein Senedd yn chwarae rhan weithredol, rwy'n gwybod, ac yn arwain o Gymru y sgyrsiau am hawliau iaith. Roedd hynny'n rhywbeth a wnaeth ein taro ni fel pwyllgor pan aethom i Ddulyn, fod cymaint o ffyrdd roedd ein ffrindiau Gwyddelig eisiau dysgu oddi wrthym ni ynglŷn â sut rydym wedi llwyddo i gadw'r Gymraeg nid yn unig yn fyw ond i ffynnu. Ac roedd hynny'n cael ei ystyried fel fflam o obaith iddyn nhw, felly nid wyf yn synnu bod hynny'n codi yng nghyfarfodydd y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig hefyd. Mae angen inni gynyddu a meithrin mwy o gysylltiadau rhwng ein Seneddau, rwy'n cytuno â chi, yn sicr.
Diolch am eich geiriau, Sam. Croesawyd y newyddion am Horizon yn wir. Yr hyn a ddaeth allan, unwaith eto, o'n cyfarfodydd yn Nulyn oedd bod yr ansicrwydd a fu yno nes bod hynny wedi ei ddatrys wedi bod yn anodd iawn, ond mae croeso mawr nawr i'r ffaith bod hynny wedi cael ei ddatrys. Ac fe wnaethoch chi siarad am yr economi a'r cysylltiadau masnach, sydd mor bwysig. Rwy'n credu y byddai croeso mawr i weld pwyllgorau eraill yn gweithio gyda'i gilydd ar y materion hyn, a byddem yn awyddus fel y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i allu cydlynu rhywfaint o hynny efallai. Ond mae hynny'n rhywbeth a allai fod yn beth cadarnhaol iawn i'n Senedd yn fy marn i. Ac fel y dywedoch chi, Sam, mae'r môr Celtaidd yn adnodd agos iawn, oherwydd mae ar ein glannau. Rwy'n meddwl am linell Heaney,
'Credwch fod traeth arall yn gyraeddadwy o'r fan hon.'
Dyna drosiad ar gyfer cymaint o'r pethau y soniwn amdanynt, mewn gwirionedd.
Mae Alun yn iawn, mae ein pobol yn adnabod ei gilydd. Ni wnaethom roi'r gorau i siarad drwy'r tridiau y buom yn Nulyn, mae hynny'n wir. Aeth Alun â ni yn ôl at ddyddiau'r seintiau, at Illtyd, at Macsen Wledig, sut y ganed ein gwledydd gyda'i gilydd. Fel y dywedodd Alun, rydym yn ailddyfeisio perthynas newydd sydd nid yn unig wedi'i hysgrifennu yn llofnodion gwleidyddion ond yng nghalonnau ein pobloedd. Y man lle mae'r holl ysgolion yn dechrau, y galon, yng ngeiriau Yeats. Fe wnaeth yr ymchwiliad hwn ganiatáu i mi ddyfynnu cymaint o fy hoff feirdd Gwyddelig, Lywydd. Mae Iwerddon yn wlad sy'n gweld gwerth ei beirdd, ac roedd hynny'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd tuag at bwrpas, rwy'n cytuno.
Diolch i'r Prif Weinidog. Gaf i ategu eich diolch i Denise McQuade? Mae'r gwaith sy'n mynd ymlaen yn rhagorol. Mae mor bwysig.
Siaradodd y Prif Weinidog am yr ymdeimlad o ryfeddod a gawn wrth ddod o hyd i arteffactau, y cerrig hynny. Rwy'n mynd i'w wneud am y tro olaf. Fe ddywedodd Yeats:
'Mae'r garreg yng nghanol hyn oll'.
Mae'r pethau hynny'n bwysig, ac mae yna ddyfyniad Yeats ar gyfer pob achlysur, ac rwy'n falch iawn o'u rhannu.
Roedd y dystiolaeth a gawsom yn gweld Brexit fel rhwystr gwirioneddol; nid oedd yn ei ystyried yn gyfle. Roedd y dystiolaeth a gawsom gan bartneriaid yn Nulyn ar Brexit bron yn un o boen, o golled. Soniodd y Prif Weinidog am bwysigrwydd hanfodol proffil rhyngwladol Cymru. Mae mor bwysig ein bod yn parhau i feithrin y cysylltiadau hyn, er y gwahanol heriau. Mae'r proffil sydd gennym yn rhyngwladol fel Cymru yn rhagddyddio'r amser pan oedd gennym Weinidog cysylltiadau rhyngwladol wrth gwrs. Roedd yn hynod ddiddorol clywed am fyfyrdodau'r Prif Weinidog ei hun ar Bertie Ahern ac eraill. Mae'n destun llawenydd fod cymaint yn dal i ddigwydd, ac rwy'n credu bod yr ymchwiliad hwn wedi atgyfnerthu i gynifer ohonom pa mor hanfodol bwysig yw gwaith cysylltiadau rhyngwladol.
Fe adleisiodd y Prif Weinidog beth o'r hyn a ddywedodd Alun, fod yna ymdeimlad greddfol o agosrwydd a pherthynas rhwng pobloedd Cymru ac Iwerddon, ac mae'r fforymau dwyochrog yn bwysig i gryfhau'r cysylltiadau hynny. Ni fu erioed fwy o angen am lais Cymru yn y fforymau hyn, yn y sgyrsiau gwahanol hyn, ac mae'n hanfodol. Ac wrth gwrs, edrychwn ymlaen at weld yr adroddiad a grybwyllodd y Prif Weinidog am y secondiad diaspora a thuag at weld mwy o Aelodau'r Senedd yn cymryd rhan mewn sgyrsiau ac yn y berthynas y tu hwnt i 2025 wrth gwrs.
Lywydd, hoffwn ddiolch ar ran y pwyllgor i gyd-gadeiryddion y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig, Karen Bradley AS a Brendan Smith TD, a siaradodd pan roesant dystiolaeth i ni gyda chymaint o frwdfrydedd dros gysylltiadau rhwng Prydain ac Iwerddon ac am gysylltiadau rhyng-seneddol. A diolch i'n dirprwyaeth ni i'r Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig wrth gwrs—y rhai sydd wedi siarad heddiw a'r rhai sydd yn y Senedd hefyd. Rydym yn gwerthfawrogi eich ymgysylltiad â'r ymchwiliad hwn yn fawr.
Mae'r dystiolaeth a gawsom yn ystod yr ymchwiliad wedi dangos i ni fod gan ein pwyllgor rôl bwysig i'w chwarae yn gwella cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cyntaf o gyfraniadau'r pwyllgor hwn, gobeithio, i wella'r cysylltiadau hynny. Nawr, Lywydd, mae Cymru ac Iwerddon yn gymdogion mewn mwy na daearyddiaeth yn unig; mae hynny wedi bod mor glir, hyd yn oed yn y ddadl fer hon y prynhawn yma. Bydd gwarchod ein perthynas yn hanfodol bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Mae her i bob un ohonom beidio â chymryd y cysylltiadau hyn yn ganiataol. Bydd yn ddyletswydd arnom ni—y llywodraethau, y seneddau, sefydliadau cenedlaethol ein gwledydd—i ymdrechu am fwy fyth o gysylltiadau ar yr adeg dyngedfennol hon yn yr hanes a rannwn.
Wrth gloi'r ddadl, Llywydd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r bennod bwysig yma yn hanes Cymru-Iwerddon, ac yn wir yn hanes a statws Cymru fel gwlad ryngwladol.
Rydym yn ymwybodol o heriau'r gorffennol a'r presennol, felly gadewch inni edrych tuag at ddyfodol o fwy fyth o gydweithredu, lle bydd heddwch yn ffynnu ac yng ngeiriau fy annwyl Heaney, daw amser pan fydd ein gobeithion a'n hanesion yn odli.
Diolch yn fawr am y ddadl yna. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r adroddiad yna wedi'i nodi.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar weithrediad mesurau interim diogelu'r amgylchedd 2022-23. Cadeirydd y pwyllgor sy'n gwneud y cynnig—Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM8418 Llyr Gruffydd
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar weithrediad mesurau interim diogelu'r amgylchedd 2022-23, a osodwyd ar 21 Medi 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Allaf i ddim addo dyfynnu cymaint o farddoniaeth, dwi'n ofni, ag y clywon ni yn yr anerchiad diwethaf, a dwi ddim chwaith yn mynd i drio, jest i'ch rhybuddio chi nawr. Ond diolch i chi am y cyfle i agor y ddadl yma.
Hwn, wrth gwrs, yw ail adroddiad y pwyllgor ar weithredu mesurau interim Cymru ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Fe gafodd yr adroddiad, fel y byddech chi'n disgwyl, ei lywio gan dystiolaeth y derbynion ni gan asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru—wrth gwrs, mynd i lygad y ffynnon yn y cyd-destun hynny—ond hefyd gynrychiolwyr o Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd yn Lloegr, wrth gwrs, ac Environmental Standards Scotland, academyddion a chyrff anllywodraethol amgylcheddol. Ac rŷn ni'n ddiolchgar iddyn nhw gyd am eu hymdrechion parhaus i ymgysylltu gyda gwaith y pwyllgor yn y maes polisi pwysig hwn.
Nawr, yn ein hadroddiad cyntaf ni ar hyn, fe wnaethon ni ddim cuddio ein hamheuon ynghylch y mesurau interim, ac yn ein hadroddiad diweddaraf, mi fyddwch chi'n gweld bod yr amheuon hynny yn parhau. Rŷn ni wedi gwneud saith argymhelliad, ac mae chwech ohonyn nhw i Lywodraeth Cymru, mae pedwar argymhelliad wedi’u derbyn yn llawn a dau wedi’u derbyn mewn egwyddor.
Yn ein hadroddiad cyntaf ni—ac fe gafodd hwnnw ei gyhoeddi, gyda llaw, ym mis Medi llynedd—fe wnaethon ni argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad brys o gapasiti ac adnoddau o fewn gwasanaeth yr asesydd interim; mi dderbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwnnw. Ac yn ein hadroddiad diweddaraf, fe wnaethon ni argymell bod y Gweinidog yn adrodd yn ôl inni ar ganfyddiadau’r adolygiad. Er tegwch i’r Gweinidog, roedd hi eisoes wedi ysgrifennu aton ni, gan amlinellu’r canfyddiadau nôl ym mis Mehefin, ond ni chafodd y llythyr hwnnw ei nodi yn sgil camgymeriad gweinyddol, felly rŷn ni'n cydnabod hynny ac yn ymddiheuro am hynny. Ond mae'n amlwg o'r canfyddiadau fod Llywodraeth Cymru wedi tanamcangyfrif anghenion adnoddau gwasanaeth yr asesydd interim o'r cychwyn cyntaf.
Rŷn ni'n falch, felly, i weld bod y Gweinidog, o ganlyniad i'r adolygiad, wedi cynyddu cyllideb yr asesydd interim. Bydd rhywfaint o’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio i ariannu dirprwy asesydd, a hynny er mwyn cynyddu capasiti a gwydnwch o fewn y gwasanaeth. Nawr, mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol, ond mae'n drueni ei fod e wedi dod mor hwyr yn y dydd. Yn ogystal, cafodd y swydd ond ei hysbysebu ar ddiwedd mis Hydref, oddeutu pum mis ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud i greu'r rôl, felly, Weinidog, efallai byddech chi'n gallu sôn wrthon ni efallai am y rhesymau dros yr oedi hynny wrth i chi ymateb i'r ddadl.
Nawr, mi fydd penodiad yr asesydd interim presennol yn dod i ben ym mis Chwefror 2024, a hynny ar ôl cael ei ymestyn eisoes am gyfnod o 12 mis. Rŷn ni eto, felly, mewn sefyllfa lle’r rŷn ni'n galw am eglurder o ran beth fydd yn digwydd ar ôl hynny. Dyw'r Gweinidog ddim wedi gallu rhoi ateb i ni, sy’n awgrymu diffyg rhagwelediad difrifol, sy’n peri pryder a dweud y lleiaf. Felly, Weinidog, eto, a allwch chi egluro, efallai, pam eich bod chi wedi ei gadael hi mor hwyr i geisio estyniad i benodiad presennol yr asesydd interim? Ac yn bwysicach fyth, pa sicrwydd allwch chi ei roi inni heddiw y bydd asesydd interim a dirprwy asesydd yn eu lle ym mis Mawrth, ac y byddan nhw'n parhau yn y rolau hynny hyd nes, wrth gwrs, y bydd corff parhaol yn cael ei sefydlu?
Nawr, gan aros gyda'r mater o sefydlu corff parhaol, roedd y dystiolaeth a gawson ni gan Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd ac Environmental Standards Scotland ddim ond wedi ein hatgoffa ni, a dweud y gwir, o'r hyn y mae Cymru'n ei golli allan arno fe. Ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr hon, mi fuon ni'n trafod ansawdd dŵr, ac yn benodol y nifer parhaus ac annerbyniol o ollyngiadau carthion, sy'n bygwth afonydd a dyfroedd arfordirol yma a thros y ffin. Nawr, yn Lloegr, wrth gwrs, mae Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd wedi cynnal ymchwiliad diweddar i ddulliau Asiantaeth yr Amgylchedd, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac Ofwat o fynd i'r afael â gollyngiadau. Mae gan y corff amrywiaeth o fecanweithiau gorfodi ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth, gan gynnwys, wrth gwrs, gymryd camau yn y llysoedd, os bydd yn canfod bod y gyfraith wedi'i thorri. Ond ble mae'r corff yng Nghymru i gynnal ymchwiliad cyfatebol? Yn syml iawn, does yna ddim corff o'r fath yn bodoli. Maddeuwch imi am chwarae ar eiriau, ond yn syml iawn yng Nghymru, rŷn ni'n troedio dŵr.
O ran ansawdd aer, mae Environmental Standards Scotland wedi ymchwilio i'r broses o gydymffurfio â therfynau cyfreithiol ynghylch lefelau nitrogen deuocsid. Mae Llywodraeth yr Alban bellach yn destun gofyniad cyfreithiol i gyhoeddi cynllun gwella manwl. Wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod bod achosion o fynd y tu hwnt i werthoedd terfyn nitrogen deuocsid yn broblem barhaus mewn rhai rhannau o Gymru. Dim ond ddoe fe wnaeth y Senedd basio Deddf newydd ar ansawdd aer, gan gydnabod yr angen, wrth gwrs, i wneud mwy i fynd i'r afael â llygryddion aer niweidiol. Ond ble mae'r corff yng Nghymru i ddal traed Llywodraeth Cymru i'r tân ynghylch achosion o fynd y tu hwnt i lefelau o lygredd aer? Unwaith eto, nid oes corff o’r fath yn bodoli.
Mae'n bwysig egluro'r pwyntiau canlynol yma o ran rôl yr asesydd interim. Dyw ystyried cwynion ynghylch gweithrediad cyfraith amgylcheddol ddim yr un peth ag ymchwilio i achosion posibl o dorri'r gyfraith honno, a dyw argymell bod y Gweinidog yn cymryd camau gweithredu ddim yr un peth â gosod gofyniad bod camau yn cael eu cymryd. Mae'r asesydd interim yn gynghorydd i Lywodraeth Cymru, i bob pwrpas—dim byd mwy a dim byd llai.
Mae pum mlynedd wedi pasio ers i Lywodraeth Cymru yn y bumed Senedd addo sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol newydd. Mi fydd hi'n fethiant anfaddeuol ar ran Llywodraeth Cymru os nad yw'r corff newydd yn gwbl weithredol cyn diwedd ei chyfnod mewn grym. Yn ein hadroddiad, rŷn ni wedi argymell camau gweithredu a fydd yn sicrhau bod y corff yn cael ei wireddu cyn y Senedd nesaf.
Fe gawson ni ein siomi o gael ymateb sy'n dangos y fath ddiffyg ymrwymiad. Hynny yw, dyw'r Gweinidog ddim yn fodlon ymrwymo i ddarparu ymateb amserol i'r Papur Gwyn. Dyw hi ddim yn fodlon ymrwymo i sefydlu corff interim. Dyw hi ddim yn fodlon ymrwymo i sicrhau bod y corff newydd yn gwbl weithredol erbyn diwedd y Senedd hon. Ble mae'r uchelgais, felly? Ble mae'r ymdeimlad yna o frys? Ac i rwbio halen yn y briw, mae'r Papur Gwyn a gafodd ei addo erbyn diwedd y flwyddyn hon eisoes wedi gweld yr amserlen honno yn llithro. Dyw hynny ddim yn argoeli'n dda.
Erbyn inni gyflwyno ein hadroddiad nesaf ar fesurau interim ynghylch diogelu'r amgylchedd, rŷn ni'n disgwyl gweld cynnydd amlwg tuag at ddatblygu corff llywodraethu amgylcheddol newydd: corff sydd â swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi, corff sy'n cynnal hawliau dinasyddion o ran cael mynediad at gyfiawnder amgylcheddol—pethau, dwi'n ofni, sydd ar goll o'r mesurau interim presennol.
Dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau pawb i'r ddadl, a diolch ichi, Lywydd, am gael y cyfle i agor y ddadl.
Wel, hoffwn ddiolch i Dr Llewelyn Jones a'i thîm am eu gwaith ar broses interim mewn llywodraethu amgylcheddol, ond gadewch inni fod yn onest, swydd dros dro yw hi, ac er bod y bwriad yn dda, nid yw'n mynd yn ddigon pell o gwbl i fynd i'r afael â diffyg llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru. Mae'r adroddiad blynyddol ar gyfer 2022-23 yn egluro mai dim ond chwe chyflwyniad a dderbyniodd asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru yn ystod y cyfnod adrodd, ac ymatebwyd iddynt oll o fewn 20 diwrnod i'w cael. Fel y dywedodd y Cadeirydd, pan ydym wedi codi pryderon am lywodraethu amgylcheddol yng Nghymru, neu am dorri amodau, dywedir wrthym nad oes ganddi unrhyw bwerau o'r fath i fynd i'r afael â hynny. Felly, roedd nifer y cyflwyniadau a dderbyniwyd yn 2022-23 yn sylweddol is na'r 21 a dderbyniwyd yn y flwyddyn flaenorol.
Felly, ystyrir bod hyn yn rhesymol, ond tybed a yw diffyg ymwybyddiaeth y cyhoedd yn cyfrannu at nifer isel yr achosion, a diffyg yn ei gallu hi i fynd i'r afael â llywodraethu amgylcheddol. Wrth gwrs, mae ychydig o gamau cadarnhaol wedi'u cymryd yn 2022-23, ond rwy'n cytuno â Dr Llewelyn Jones pan ddywedodd wrthym ei bod yn awyddus i flaenoriaethu gwario mwy o arian ar roi cyhoeddusrwydd i rôl asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd. Pan fyddwn wedi mynd drwy broses y tystion, cymryd datganiadau a phethau, mae'n amlwg fod llawer o'r arian hwn a llawer o'u hadnoddau a'u hamser wedi mynd ar geisio ymgysylltu â rhanddeiliaid, ond nid yw hynny yr un peth â chael llywodraethu amgylcheddol.
Mae lle i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gynorthwyo'r gwaith hwn, wrth ystyried bod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymryd tri mis yn hytrach na'r chwe wythnos a gytunwyd i ymateb i'r adroddiad ar Fil cyfraith yr UE a ddargedwir. Felly, hoffwn gael sicrwydd gan y Gweinidog na fydd unrhyw oedi tebyg wrth ymateb i Dr Llewelyn Jones eto.
Wedyn, mae'r cwestiwn 'felly beth?' Pan wnaethom ni ofyn sut oedd y corff hwn yn monitro effaith ei waith ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar ganlyniadau amgylcheddol, cawsom wybod, ac rwy'n dyfynnu,
'mae'n rhywbeth anodd iawn i'w fesur, o ran beth yw'r effaith wedi bod.'
Mae hon yn swydd a ariennir gan drethdalwyr, yn benodol i geisio cynnal safbwynt interim ar lywodraethu amgylcheddol, ac maent yn dweud,
'mae'n rhywbeth anodd iawn i'w fesur, o ran beth yw'r effaith wedi bod.'
Felly, os nad yw Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu ar argymhellion yr asesydd interim, ac nad oes strwythur go iawn ar gyfer monitro effaith eu gwaith, mae'n anochel y bydd cwestiynau'n cael eu codi am ei effaith a'i ddiben. Felly, mae'n rhesymol awgrymu, fel yn argymhelliad 2, fod gwaith yn cael ei wneud ar sefydlu ffordd well o fonitro effaith asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru ar Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, mae'n ymddangos bod angen i Lywodraeth Cymru weithio'n llawer mwy rhagweithiol i gefnogi'r asesydd. Mae eu sylwadau, adroddiad cyntaf y pwyllgor, yn cwestiynu a oedd ganddynt ddigon o adnoddau i gyflawni eu rôl a'u cyfrifoldebau'n effeithiol. Argymhellwyd gennym fod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad brys o'r adnoddau sydd ar gael iddynt, a derbyniodd y Gweinidog yr argymhelliad ac ymrwymodd i adrodd i'r pwyllgor ar ei ganfyddiadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Erbyn i adroddiad, sydd bellach dan ystyriaeth, gael ei gyhoeddi, roedd y pwyllgor yn dal i fod heb dderbyn yr wybodaeth hon.
Rwy'n pryderu nawr y gallai'r Gweinidog oedi cyn gweithredu ar yr alwad yn argymhelliad 1 i ddirprwy gael ei benodi. Ond rwy'n cwestiynu'r angen am rôl dirprwy a dweud y gwir, oherwydd unwaith eto, os yw'r asesydd, yn ôl eu cyfaddefiad eu hunain, yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd, prin y gwelaf sut y byddai dirprwy yn gallu rhoi mwy o sicrwydd fod llywodraethu amgylcheddol yn digwydd.
Mae yna thema'n rhedeg drwy lywodraethu amgylcheddol yng Nghymru: oedi. Pa dystiolaeth well o hynny na bodolaeth y swyddfa hon? Mae pobl a sefydliadau wedi mynegi pryderon tebyg wrthyf. Ysgrifennodd dros 300 o sefydliadau lythyr agored at y Prif Weinidog yn galw arno i gyflwyno Bil sy'n natur bositif, ac i gynnwys sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol. Ar 23 Mehefin cyflwynwyd llythyrau a negeseuon i Lywodraeth Cymru gan fwy na 2,000 o aelodau o'r cyhoedd a 350 o sefydliadau. Gwrandawais a chyflwynais welliant i Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a fyddai wedi galluogi creu swyddfa ar gyfer diogelu ansawdd aer, ond pleidleisiodd y mwyafrif, ar wahân i'r bleidlais fwrw, yn erbyn hefyd. Mae hynny'n gywilyddus, wrth ystyried nad yw asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru, gyda'i rôl gyfyng ei diffiniad, a'i adnoddau cyfyngedig, yn cymharu â'r cyrff llywodraethu amgylcheddol mewn mannau eraill yn y DU. Mewn gwirionedd, mae'r ymateb i argymhelliad 4 yn amlygu methiant pellach gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae'r Gweinidog wedi datgelu bod trafodaethau'n parhau rhwng yr asesydd a'i swyddogion ynghylch y swydd y tu hwnt i fis Chwefror 2024.
Rwyf am ddod i ben drwy dynnu sylw at yr hyn y credaf sydd wrth wraidd y broblem. Nid wyf yn amau am funud nad yw'r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld swyddfa briodol yn cael ei sefydlu. Ond fe fyddaf yn onest, rwy'n credu bod y portffolio penodol hwn—. Mae yna lawer iawn o gyfrifoldeb ar ysgwyddau'r Gweinidog mewn perthynas â newid hinsawdd, y portffolio llawn. Wythnos ar ôl wythnos, rwy'n gweld y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud y rhan fwyaf o waith y Cabinet ar hyn o bryd oherwydd bod cymaint o agweddau ar ei phortffolio. Felly, rwy'n dod i'r casgliad fod angen i'r Prif Weinidog edrych ar sut y gall yntau hefyd gefnogi'r Gweinidog wrth symud ymlaen efallai, a'i helpu i allu ariannu'r broses lywodraethu amgylcheddol sydd ei hangen arnom yma yng Nghymru. Diolch.
Hoffwn i ddiolch i dîm y pwyllgor a'n Cadeirydd am eu gwaith. Hoffwn i hefyd ddweud, o'r cychwyn cyntaf, diolch i'n hasesydd dros dro. Mae cryn feirniadaeth o'r sefyllfa yn ein hadroddiad, dwi'n gwybod, ond nid beirniadaeth ohoni hi na'i gwaith ydy hynny, a byddai pob aelod o'r pwyllgor, dwi'n gwybod, yn cytuno â hynny.
Mae geiriau fel 'mesur dros dro' a 'llywodraethiant' yn gallu swnio'n dechnegol, sych, ond mae hwn yn bwnc o bwys eithriadol. Gosodwyd y mesurau dros dro hyn mewn ymgais i bontio'r cyfnod ôl-Brexit a'r cyfnod pan ragwelwyd y byddem yn ffurfio ein corff Cymreig ein hunain. Ond, hyd yma, mae'r dros dro wedi troi'n fwyfwy parhaol, ac mae'r diffyg symud yn niweidio'n hamgylchedd a'n cymunedau.
Rŷn ni fel pwyllgor wedi nodi ein pryderon am ddiffyg adnoddau'r asesydd, ac awgrymon ni adolygiad brys. Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i gymryd camau ar hyn, gan gynnwys apwyntio dirprwy asesydd, cefnogaeth ysgrifenyddol, a chyllid ychwanegol. Mae'r rhain i'w croesawu, ond dydy’r ymrwymiadau hyn ddim yn ddigonol. Rhaid troi’r mesurau dros dro yn rhai parhaol. Tan i ni gael mesurau parhaol, wrth gwrs, mae’n rhaid cryfhau’r fframwaith presennol sydd gennym.
Dwyseir taerineb, neu urgency, yr angen i gryfhau’r mesurau hyn gan ddyfalbarhad y sector amgylcheddol wrth fynnu Mesur llywodraethiant amgylcheddol. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod ar flaen y gad gyda hyn. Datganwyd argyfwng natur gan y Senedd hon yn 2021. Bu ymrwymiad bryd hynny i ddatblygu system llywodraethiant parhaol; bu cydnabyddiaeth bod hyn yn fater brys.
Ond erys Cymru'r unig wlad yn yr ynysoedd hyn heb gorff i oruchwylio ac i orfodi cydymffurfio â thargedau amgylcheddol. Mae gan bob un o’r gwledydd eraill yn yr ynysoedd hyn gorff o’r fath—cyrff parhaol.
Mae nifer helaeth o grwpiau wedi sôn am ddiffygion y broses bresennol i ni fel pwyllgor. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor yn cynrychioli darlun llwm: mae’r diffyg adnoddau’n atal gweithrediad effeithiol, sy’n gadael ein hamgylchedd yn fregus, yn agored i niwed.
Anffodus tu hwnt ydy’r oedi. Mae toriadau cyfraith wedi digwydd heb gosb, o garthion yn cael eu rhyddhau i mewn i afonydd i arllwysiadau gwenwynig. Nid datrysiad sydd gennym ar hyn o bryd, ond inbox ar gyfer cwynion. Gorfodir dinasyddion i droi at adolygiadau barnwrol costus er mwyn ceisio gweld bod cyfiawnder amgylcheddol yn digwydd. Annigonol ydy’r sefyllfa bresennol. Rŷn ni ar ein colled yn fawr ers colli’r amddiffyniadau a gawsom o’r Undeb Ewropeaidd. Hir ydy cysgod Brexit.
Ein dyletswydd ni yw sicrhau bod ein bywyd gwyllt a’n hamgylchedd yn goroesi ar gyfer cenedlaethau i ddod. Rwy’n poeni’n fawr fod oedi ar y mater hwn yn peryglu llesiant mwy na’r byd natur yn unig. Rhaid gweithredu, a rhaid gweithredu ar frys.
Fel y mae Delyth Jewell newydd ddweud, mae bron i dair blynedd ers inni orffen y trefniadau trosiannol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn y cyfnod hwnnw, nid ydym wedi cael corff diogelu'r amgylchedd priodol. Felly, mae'n siomedig iawn. Mae Lloegr a'r Alban wedi gallu cael trefn ar bethau, ac mae gennym ddau gorff effeithiol a gweithredol. Ond rwy'n credu nad yw hyn yn ymwneud â mynd ar drywydd faint o arian sydd wedi'i wario ar y corff interim. Mae'r hyn y maent wedi bod yn ei wneud gyda'r swm bach o arian sydd ganddynt, a dim ond tri aelod o staff—wyddoch chi, maent wedi gwneud gwaith da iawn wrth wneud eu hunain yn hysbys i'r cyhoedd, a mynd i'r afael â sawl mater. Ond fel y gwnaethant ddweud wrthym, eu swyddogaeth yw gweithrediad cyfraith amgylcheddol, nid toriadau i'r gyfraith honno. Ac o gofio bod gennym gymaint o enghreifftiau da o dorri cyfraith amgylcheddol, mae hynny'n rhwystredig i Dr Nerys Llewelyn Jones, yn ogystal â bod yn destun cywilydd i'r gweddill ohonom. Oherwydd ni fydd yn syndod i chi glywed mai un o'r pedwar pwnc y maent wedi derbyn pryderon yn eu cylch yw ansawdd dŵr. Ni allant wneud unrhyw beth am lygru ein hafonydd a'n harfordir a nifer y gollyngiadau anghyfreithlon o garthion amrwd. Rydym yn cael ein gadael ar drugaredd Dŵr Cymru i wneud y peth iawn, a Severn Trent, oherwydd yn syml iawn, nid oes gennym unrhyw un sy'n mynd i'w herlyn yn y llysoedd—na Llywodraeth Cymru yn wir, pe baem yn ystyried ei bod hi'n tramgwyddo.
Rwy'n credu mai un o'r pethau a ddysgwyd gan gadeirydd Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd—fe wnaethon ni gymryd tystiolaeth gan Glenys Stacey—. Roeddwn i'n meddwl mai un pwynt pwysig iawn oedd na fydd Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd yn dibynnu ar ddirwyon i orfodi'r gyfraith, oherwydd, pan feddyliwch am y peth, y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw creu economi gylchol. Rydych chi'n dirwyo'r cwmni dŵr ac maen nhw'n trosglwyddo'r dirwyon ymlaen i'r cwsmer gyda'u biliau, a'r cyfan sy'n digwydd yw bod llai o arian ar gael i ddatrys y problemau y mae pawb ohonom yn gyfarwydd â nhw mewn gwirionedd. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r agwedd honno. Nid wyf yn credu bod dirwyo cwmnïau, oni chaiff yr unigolion eu hunain eu dirwyo, yn gwneud unrhyw beth. Ond ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw un o'r pwerau sydd gan Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd, er enghraifft, i fynd â DEFRA i'r llys oherwydd ei fethiant i gydymffurfio â chyfraith amgylcheddol. Os na fyddant yn ymateb yn briodol o fewn y mis nesaf, byddant yn dod ger bron y llys, ac mae hynny'n destun embaras i'r Llywodraeth, a dyna fydd yn eu gorfodi i newid.
O ystyried arwyddocâd totemig dŵr a rheolaeth ar yr adnodd naturiol mwyaf gwerthfawr hwn, mae'n peri pryder, yn rhwystredig ac a dweud y gwir, yn embaras nad oes gennym y pwerau sydd eu hangen ar Gymru i fynd i'r afael â'r broblem enfawr hon, ac mae gwir angen inni weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar frys. Mae'n rhaid inni gael y corff amgylcheddol sydd ei angen arnom er mwyn peidio â mynd rownd mewn cylchoedd ar y pwnc hwn a methu mynd i'r afael ag ef yn iawn.
Mae wedi bod yn waith diddorol, ac os awn yn ôl dros yr 50 mlynedd diwethaf—. Y cwestiwn yw: pam mae angen rhywun arnom i wneud y gwaith hwn? Felly, os awn yn ôl i'r 50 mlynedd diwethaf, mae'r dirywiad yn ein rhywogaethau a'n cynefinoedd brodorol sydd mewn cyflwr gwael, a 17 y cant o'n rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu—felly, rwy'n credu bod hynny'n dweud wrthym pam mae angen rhywun arnom i'w oruchwylio. Mae'n fy nhristáu i ddweud mai Cymru yw un o'r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf yn y byd, felly mae'n amlwg fod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â hynny, ac rydym yn gwybod bod y Llywodraeth wedi gwneud llawer o addewidion i'r cyfeiriad hwnnw. Ond mae'n rhaid inni gael targedau bioamrywiaeth sy'n rhwymo'n gyfreithiol i wella a diogelu ein holl gynefinoedd, o ecosystemau'r môr ac afonydd i'r coedwigoedd, ac mae angen y rheini arnom cyn gynted ag y gallwn. Gwn fod y Prif Weinidog wedi ailddatgan bwriad y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon a fydd yn sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru ac a fydd yn cyflwyno dyletswydd statudol mewn targedau i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth, ac y bydd y Papur Gwyn ar lywodraethu amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth yn dod i fodolaeth ym mis Ionawr 2024.
Rydym yn hynod ymwybodol o newid hinsawdd a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar yr holl fioamrywiaeth. Ond fel Jenny, rwy'n poeni'n arbennig am ddŵr, ac mae hyfywedd pob un ohonom yn dibynnu ar gael dŵr o ansawdd da. Mae'n rhaid inni gael corff sy'n gallu goruchwylio nid yn unig y carthion yn ein hafonydd ond hefyd y nitradau sy'n bodoli yn ein hafonydd, ac i edrych ar, archwilio a helpu i adrodd ar yr hyn sy'n achosi'r rheini, beth yw'r pethau y mae angen inni roi sylw iddynt wedyn. Oherwydd bydd hynny'n rhan o'r corff llywodraethu hwn. Ar ôl i chi dynnu sylw ato, mae'n rhaid i rywun edrych ar beth ydyw.
Rydym mewn sefyllfa lle na allwn aros mwyach i weithredu targedau bioamrywiaeth. Ni all natur aros. Ni fydd yn aros inni ddod at y bwrdd i benderfynu gwneud rhywbeth am y peth. Nid wyf yn dweud na fu unrhyw weithredu gan y Llywodraeth, ond tra byddwn yn anghytuno ynghylch defnyddio'r ffon yn unig a dim moron, a chael ychydig bach o'r ddau, heb gorff â dannedd, rwy'n credu efallai na fydd pethau'n newid. Mae'n rhaid i bethau newid, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb, Weinidog.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
A galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei waith ac am yr adroddiad ar weithrediad y trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim. Rwy'n falch o gadarnhau, fel y mae'r Cadeirydd eisoes wedi nodi, ein bod wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad naill ai mewn egwyddor neu'n llawn, a hoffwn innau hefyd ddiolch i Dr Llewelyn Jones am y gwaith eang ac effeithiol y mae'n parhau i'w wneud fel asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru. Yma yng Nghymru, rwy'n credu ein bod ni'n ffodus iawn i gael pobl fel Nerys yn gweithio ar ein rhan.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu a gwella'r amgylchedd yng Nghymru er budd cenedlaethau'r dyfodol yn glir iawn. Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a gydnabyddir yn rhyngwladol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod sylfaen gref ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym yn parhau i gryfhau ein hymrwymiad ymhellach, ar ôl cyflwyno Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn ddiweddar, a phasio Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Er hynny, Ddirprwy Lywydd, ni allaf helpu ond gwneud sylw fod llefarydd y Ceidwadwyr, a oedd fel pe bai'n ein beirniadu am beidio â mynd yn ddigon cyflym, wedi pleidleisio yn ei erbyn ddoe, felly mae'n rhoi ei hun mewn sefyllfa eithaf rhyfedd wrth ofyn inni fynd yn gyflymach ac ymhellach.
Mae rôl yr asesydd interim yn goruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol yng Nghymru yn rhan bwysig o gyflawni ein dyheadau amgylcheddol uchelgeisiol. Cyhoeddodd Dr Llewelyn Jones ei hadroddiad ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ym mis Chwefror. Amlygodd y pryderon sylweddol iawn a oedd ganddi ynghylch cyfeiriad cyffredinol y Bil. Rhoddodd ei dadansoddiad cadarn o effaith bosibl y Bil ar gyfraith amgylcheddol yng Nghymru fewnwelediad defnyddiol iawn i ni. Yn gyffredinol, cytunai'r Llywodraeth â'r materion a'r pryderon a amlygwyd ganddi. Roedd yn caniatáu inni godi'r rheini yn y gwahanol grwpiau rhyngweinidogol a fynychwn, ac yn wir, fe gafodd rywfaint o effaith ar siâp y Bil wrth iddo fynd yn ei flaen.
Roedd yr adroddiad yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol a llywiodd ein gwaith ar y Bil ymhellach, gwaith a oedd yn gymhleth eithriadol, gan ei fod yn destun nifer fawr o welliannau parhaus ac yn y blaen. Mae'n parhau i lywio ein hymagwedd at y Ddeddf, fel y mae nawr, a'r diwygiadau sy'n deillio ohoni. Mae'r asesydd interim hefyd yn darparu mecanwaith i'r cyhoedd godi cyflwyniadau am weithrediad cyfraith amgylcheddol. Hyd yn hyn, mae hi wedi derbyn 33 o gyflwyniadau ar amrywiaeth eang o bynciau. Ar ôl cyhoeddi galwadau am dystiolaeth, rwy'n ymwybodol fod adroddiadau ar ddeddfwriaeth goedwigaeth, gwrychoedd, safleoedd gwarchodedig a sancsiynau sifil yn datblygu'n dda, ac mae hi hefyd yn parhau i ddilyn datblygiadau'n ymwneud ag ansawdd dŵr.
Rwy'n falch o nodi ymateb prydlon Dr Llewelyn Jones i argymhellion blaenorol y pwyllgor. Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf ag ymwybyddiaeth y cyhoedd a thryloywder rôl asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru ac o ganlyniad, mae hi wedi cyflwyno cyfarfodydd chwarterol gyda rhanddeiliaid ac wedi cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar ei gwaith. Mae hi hefyd wedi estyn allan at gyrff cynghori cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'i gwasanaeth. Mae adroddiad diweddaraf y pwyllgor yn argymell bod yr asesydd interim yn sefydlu proses i fonitro effaith argymhellion ei hadroddiad, ac er mai mater iddi hi yw hyn, byddaf yn ei drafod yn ein cyfarfod rheolaidd nesaf i weld sut y gallwn ei helpu i ddatblygu hynny. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bwrw ymlaen â'n hymateb i argymhellion y pwyllgor.
Fel sydd wedi'i gydnabod, fe wnaethom roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor yn ôl ym mis Mehefin am yr adolygiad o angen asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru am adnoddau ychwanegol, ac fe nodais y byddem yn cynyddu'r adnoddau a ddyrannir i'r asesydd interim. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn deall pwynt llefarydd y Ceidwadwyr ar hyn. Mae'n ymddangos yn amlwg i mi mai'r hyn yr oedd hi'n ei ddweud oedd bod angen staff ychwanegol arni, felly rwy'n falch o adrodd bod staff ymroddedig wedi'u penodi i ddarparu cymorth ysgrifenyddiaeth i'r asesydd interim, a bod cyllid ychwanegol hefyd wedi'i ddyrannu fel y gellir comisiynu cymorth arbenigol a chyfreithiol ychwanegol yn ôl yr angen. Yn ogystal, mae'r broses o benodi dirprwy newydd i'r asesydd interim er mwyn darparu cymorth uniongyrchol pellach ar gyfer y gwaith pwysig hwn eisoes wedi dechrau. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am y swydd yw 7 Rhagfyr 2023.
Wedyn, gan droi at y trefniadau parhaol, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn ôl ym mis Mehefin, ac fel rhan o hyn fe wnaeth ailddatgan bwriad y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru a chyflwyno dyletswydd a thargedau statudol i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth.
Hoffwn ddweud ar y pwynt hwn—. Wel, mae'r gwaith hwn yn digwydd mewn cydweithrediad â Siân Gwenllian a Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio. Ond hoffwn ailadrodd hyn i'r Senedd, oherwydd nid wyf am i unrhyw un feddwl, am nad oes gennym y corff yn ei le, nad ydym yn gwneud y pethau y dylem eu gwneud, ac y disgwyliwn i'r corff eu gwneud. Felly, rydym yn awyddus iawn i gyflwyno targedau natur sy'n rhwymo'n gyfreithiol ac sy'n canolbwyntio ar gyflawni'r canlyniadau amgylcheddol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur sydd eisoes wedi'i ddatgan gennym, yn ogystal â chyflawni cyfraniad Cymru at fframwaith bioamrywiaeth byd-eang Montreal sydd ar y ffordd, fframwaith y cytunwyd arno yn COP15 y llynedd.
Lawer tro ar lawr y Senedd hon, rwyf wedi dweud ein bod am weld sut olwg fydd ar y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang cyn i ni roi ein targedau ein hunain ar waith, ac rydym bellach mewn sefyllfa i wneud hynny. Byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn yn nodi ymgyngoriadau penodol ar dargedau'r fframwaith bioamrywiaeth yn y flwyddyn newydd, ym mis Ionawr. Mae'r amserlen ar gyfer y Bil, fel y bydd pob Aelod o'r Senedd yn gallu gweld os ewch yn ôl o'r dyddiad cyflwyno a nodir gennym, yn dynn iawn, felly mae'n rhaid inni gael y Papur Gwyn allan ar amser neu ni fyddwn yn gallu cadw at yr amserlen. Rwyf fi lawn mor awyddus â phob un o Aelodau eraill y Senedd i sicrhau ein bod yn cadw at yr amserlen fel y gallwn gael y Bil i fod yn Ddeddf, ac inni allu rhoi'r swyddfa newydd ar waith cyn diwedd tymor y Senedd.
Y rheswm na allaf ddweud yn benodol, fel y gofynnodd y Cadeirydd i mi ei wneud, yw oherwydd ei fod yn ddibynnol i raddau ar ba bryd y daw'r ymatebion i'r Papur Gwyn yn ôl, pa mor gyflym y gallwn eu cynnwys mewn drafft, a thrafodaethau'r pwyllgor wedyn. Felly, nid yw'n golygu nad wyf wedi ymrwymo iddo; ni allaf ddweud y bydd yn bendant ar y dyddiad penodol hwn, dyna'i gyd. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau ei fod yn digwydd a'i fod yn mynd i ffurf gysgodol cyn gynted ag y bydd y Bil ar gam y gallwn weld sut y dylai'r ffurf gysgodol honno edrych, a'n bod yn barod i fynd. Felly, roeddwn eisiau bod yn wirioneddol glir mai dyna'r rheswm nad ydym yn dweud yn benodol—. Nid nad ydym yn ei wneud, dim ond na allaf ddweud y bydd ar 20 Mehefin, neu beth bynnag. Felly, rydym yn bendant eisiau gwneud hynny.
Rydym yn gweithio ar draws y DU i ddatblygu fframwaith monitro cadarn, gan gynnwys cyfres o ddangosyddion. Ac fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn cynharach gan Mark Isherwood heddiw, bydd ein strategaeth adfer natur a'n cynllun gweithredu yn cael eu hadnewyddu ochr yn ochr â hyn i sicrhau ein bod yn cyflawni'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang, ac yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein targedau natur gyda'n gilydd. Bydd yr Aelodau'n cofio bod gennym grŵp craidd archwiliad dwfn bioamrywiaeth yn dal i weithredu, a byddwn yn gweithio gyda nhw i weithredu'r argymhellion i gyrraedd y targed i ddiogelu a rheoli'n effeithiol y 30 y cant o'r tir, dŵr croyw a'r môr erbyn 2030, sef y prif darged yr ydym yn edrych arno.
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Weinidog, os gwelwch yn dda.
Mae'n ddrwg gennyf. Mae gennyf un peth olaf roeddwn i eisiau ei ddweud, gan fod Aelodau wedi gofyn yn benodol i mi sôn amdano.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau nad oes bwlch rhwng y trefniadau interim a'r corff parhaol. Rydym yn cael trafodaethau parhaus gyda'r asesydd interim, a byddaf yn hysbysu'r pwyllgor maes o law pan ddônt allan. Rydym yn gwbl glir fod angen i swyddfa'r asesydd interim ymaddasu i'r fframwaith newydd sydd ar y ffordd, ond rydym yn ddibynnol ar y Bil a bod yr awgrymiadau y bydd yn eu cynnig yn ddigon datblygedig inni fod yn glir sut olwg fydd ar hwnnw cyn y gallwn ddweud yn bendant sut beth fydd y swyddfa. Mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu'n adeiladol â chymheiriaid yn y swyddfeydd eraill i sicrhau ein bod yn efelychu'r gorau a chefnu ar y gwaethaf o'r hyn sydd wedi digwydd yn y ddwy swyddfa hynny. Diolch.
A galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth? Dwi ddim yn mynd i ailadrodd pob pwynt, ond dwi yn meddwl ei bod hi'n werth tynnu sylw at ambell i bwynt jest i danlinellu rhai o'r prif negeseuon.
Mae yna rwystredigaeth ynglŷn ag, efallai, lefel yr ymwybyddiaeth o waith yr asesydd ymhlith y boblogaeth ehangach. Mae rhywun yn cydnabod y pwynt a wnaethpwyd gan Janet ynglŷn â hynny, ond wrth gwrs byddwn i'n ategu'r pwynt a wnaethpwyd gan y Gweinidog: mae yna gynnydd adnoddau yn digwydd, ac felly bydd y rolau, fel y dirprwy ac yn y blaen, byddai rhywun yn tybio, yn cyfrannu at gyflawni mwy o'r hyn rŷn ni i gyd eisiau ei weld yn digwydd.
Diolch i Delyth am ein hatgoffa ni, wrth gwrs, mai pontio o'r cyfnod ôl Brexit yw hyn. Fyddai dim o hyn yn digwydd oni bai am Brexit, ond mae Brexit wedi digwydd, dyna'r realiti, ac felly mae'n rhaid ymateb i hynny. Mae rhywun yn teimlo rhwystredigaeth gyfiawn ei bod hi wedi cymryd cyhyd i ni hyd yn oed gyrraedd lle ŷn ni. Ond dyna fe, rŷn ni'n cael negeseuon gan y Gweinidog sydd, gobeithio, yn ein cysuro ni yn hynny o beth.
Diolch i Jenny hefyd am ddweud hi fel ag y mae hi, fel mae Jenny'n gwneud yn aml iawn, 'Frustrating, embarrassing—'. Mae yn rhwystredig pan fyddwn ni'n gweld Lloegr a'r Alban wedi creu cyrff i gyflawni'r rolau yma ac rŷn ni yng Nghymru yn dal i fod mewn sefyllfa interim.
A Joyce, fel mae Joyce yn gyson yn gwneud, yn ein hatgoffa ni beth yw lefel yr argyfwng bioamrywiaeth sy'n ein wynebu ni. A dyw llusgo'n traed, er efallai nad yw hynny yn digwydd yn fwriadol, dyw e ddim yn dderbyniol ac mae e'n gadael yr amgylchedd yng Nghymru mewn sefyllfa o risg mwy dwys o ganlyniad i hynny. A'r angen, wrth gwrs, i gael corff â dannedd hefyd. Os ydyn ni'n cael targedau statudol, yna mae'n rhaid sicrhau bod yna gorff â grymoedd a dannedd er mwyn gallu gweithredu hynny.
Dwi'n diolch i'r Gweinidog am yr ymateb mae wedi'i roi i'r ddadl honno, a'i bod hi wedi derbyn yn gadarnhaol yr argymhellion. Rŷn ni'n dôn gron, dwi'n ofni, fel pwyllgor. Mae'r Gweinidog yn gwybod, bron iawn, cyn i fi godi ar fy nhraed y pwyntiau dwi'n mynd i'w gwneud, a fydd hynny ddim yn newid oherwydd, wrth gwrs, rŷn ni i gyd yn rhwystredig. A dwi'n ymwybodol bod y Gweinidog ei hun yn teimlo hynny hefyd. Felly, mi fydd y dôn gron yn parhau nes i ni weld y Papur Gwyn, a'r ymatebion, a'r Bil, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Dyna yw'n rôl ni fel pwyllgor.
Felly diolch i bawb am eu cyfraniad at y ddadl. Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb, a dwi innau hefyd, fel mae nifer wedi cyfeirio, eisiau diolch i Nerys Llewelyn Jones, yr asesydd interim, am ei gwaith. Dyw hi ddim ond yn gweithredu oddi fewn i'r fframwaith ac oddi fewn i'r cyfrifoldebau sydd ganddi, ac er bod cymaint ohonom ni eisiau gweld hynny'n cael ei gryfhau, yn amlwg, fel mae'r Gweinidog yn dweud, mae yna dipyn o waith i'w wneud cyn bod hynny'n gallu digwydd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 8 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fusnesau bach, a galwaf ar Paul Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8420 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr 2023.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu’r economi leol.
3. Yn croesawu’r toriadau gan Ganghellor y Trysorlys i gyfraniadau yswiriant gwladol, a fydd o fudd i bobl hunangyflogedig o fis Ebrill 2024 ymlaen.
4. Yn annog cymunedau i siopa’n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio pob ysgogiad sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well; a
b) parhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau i bolisïau caffael ar draws y sector cyhoeddus.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o wneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar.
Dydd Sadwrn nesaf yw Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, sy'n ein hatgoffa'n flynyddol o bwysigrwydd ein busnesau bach ac sy'n gyfle i ailddatgan ein hymrwymiad iddynt a'r rôl werthfawr y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau. Wrth gwrs, nod pennaf Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yw annog mwy a mwy o bobl i siopa'n lleol, ac felly rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn manteisio ar y cyfle i ddathlu, i hyrwyddo, ac yn bwysicach fyth, i siopa'n lleol y penwythnos hwn. Nawr, er bod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ymgyrch bwysig, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ei chefnogi, y gwir amdani yw bod busnesau bach ledled Cymru angen ein cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn, a hynny am mai nhw yw asgwrn cefn economi Cymru.
Mae mynegai busnesau bach Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dweud wrthym fod mynediad at gyllid a sgiliau, costau gweithredu uwch, diffyg twf refeniw a phroblemau recriwtio oll yn effeithio ar hyder busnesau, sy'n parhau i fod yn negyddol am y chweched chwarter yn olynol. Mewn gwirionedd, cododd nifer net y busnesau bach a nododd gynnydd yn eu costau gweithredu i 83.5 y cant, gan bwysleisio'r straen ariannol parhaus y mae busnesau bach yn ei brofi o ganlyniad i bwysau eang ar gostau. Ac felly mae'n hanfodol fod pob Llywodraeth yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddynt i gefnogi busnesau bach ledled y wlad yn well.
Yn ogystal, mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi bod yn galw am weithredu asesiad effaith busnesau bach yng Nghymru, o gofio mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb asesiad o'r fath ar waith, ac wrth ymateb i'r ddadl heddiw, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb yn gadarnhaol i'r galwadau hyn.
Mae'r cynnig heddiw yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud drwy greu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu economïau lleol. Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru ei hun, mae busnesau bach yng Nghymru yn cyflogi dros 0.5 miliwn o bobl. Maent yn darparu swyddi ar ein strydoedd mawr lleol ac yng nghanol ein trefi. Ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cofio bod y busnesau hyn yn fwy na mentrau bach yn unig. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â chymunedau at ei gilydd.
Mae busnesau bach fel bwytai teuluol, siopau dillad bach ar y stryd fawr, a'r adeiladwr lleol i lawr y ffordd i gyd yn rhan o wead ein cymunedau. Ac wrth gwrs, mae digon ohonynt yn sir Benfro ac felly os oes unrhyw Aelodau heb feddwl am archebu eu twrci Nadolig eisoes, gallaf argymell cigydd gwych yn sicr, neu os ydych chi'n chwilio am anrhegion Nadolig unigryw, mae digon o fusnesau bach yn fy etholaeth y buaswn yn fwy na pharod i'w hargymell.
Pan oeddwn i'n rheolwr banc yn cefnogi busnesau bach yng ngorllewin Cymru bron i 20 mlynedd yn ôl erbyn hyn, roeddent yn dweud yn glir mai ardrethi busnes oedd un o'r heriau mwyaf a wynebent. Nawr, yn y trafodaethau rheolaidd a gaf gyda busnesau bach yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach, maent i gyd yn parhau i dynnu sylw at ardrethi busnes fel un o'r prif heriau y maent yn dal i'w hwynebu, gan ddangos bod hwn yn fater nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael ag ef yn iawn.
Er gwaethaf galwadau cyson am ddiwygio'r system dros y blynyddoedd, gwyddom fod busnesau Cymru yn dal i dalu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain. Bydd yr Aelodau a fynychodd sesiwn friffio busnes chwarterol Ffederasiwn y Busnesau Bach yr wythnos diwethaf wedi clywed galwadau gan y sector ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei chynllun cymorth busnes yn y gyllideb ddrafft sydd ar y ffordd a diwygio'r system ardrethi busnes. Galwent ar Lywodraeth Cymru i rewi'r lluosydd ardrethi busnesau bach ac ymestyn y rhyddhad ardrethi o 75 y cant i fusnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden, gan adlewyrchu'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn natganiad yr hydref.
Yn wir, mae'r ffaith bod rhai busnesau'n dibynnu ar fesurau rhyddhad ardrethi yn dangos bod problemau gwirioneddol gyda'r holl system ardrethi busnes, felly mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ddiwygio'r system ardrethi busnes ac yn cyflwyno newidiadau hirdymor mawr eu hangen. Felly, wrth ymateb i'r ddadl, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Gweinidog cyllid am y cynlluniau i foderneiddio a newid y system ardrethi busnes ar gyfer y dyfodol, o gofio na wnaeth y Gweinidog ymateb i'r cwestiwn a ofynnais iddo ddoe ar hyn.
Ar yr ochr hon i'r Siambr fe wnaethom groesawu datganiad yr hydref rhagorol gan Ganghellor y Trysorlys yr wythnos diwethaf, datganiad a oedd yn amlinellu sawl mesur cadarnhaol i gefnogi busnesau ledled y DU. Fel y dywed ein cynnig, bydd toriadau i gyfraniadau yswiriant gwladol o fudd i'r hunangyflogedig o fis Ebrill 2024. Roedd datganiad y Canghellor hefyd yn cynnwys gwaharddiad ar daliadau hwyr, sy'n cael effaith enfawr ar fusnesau bach, ac roedd hefyd yn gwneud gosod cyfalaf fel traul yn llawn yn barhaol, gan ganiatáu i fusnesau ddileu cost gwariant cyfalaf penodol yn erbyn eu helw trethadwy, a lleihau eu biliau treth cyffredinol drwy hynny. Mae'r rhain yn fesurau cadarnhaol a fydd yn helpu busnesau bach ledled y DU.
Felly, wrth inni edrych tuag at gyllideb Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd, yn ddigon dealladwy, ceir galwadau ar y Gweinidog i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddo i gefnogi busnesau hefyd. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau sylweddol i gefnogi busnesau mewn meysydd fel sgiliau, er enghraifft, a dangosodd yr adroddiad diweddar ar y cyd rhwng y Ffederasiwn Busnesau Bach a'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, er bod gan lawer o fusnesau bach uchelgeisiau ar gyfer twf, fod prinder sgiliau yn eu dal yn ôl. Mae'r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion a fyddai'n cefnogi busnesau bach yng Nghymru yn sylweddol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried hynny o ddifrif yn yr adroddiad ac yn gweithredu'r argymhellion hynny.
Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dweud wrthym, pe bai'r DU yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng sgiliau ac anghenion economaidd a'i godi i arferion gorau gwledydd datblygedig, gallai ennill 5 y cant mewn twf cynhyrchiant, felly dyma faes lle gallai Llywodraeth Cymru gael effaith sylweddol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn achub ar y cyfle heddiw i nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phroblem sgiliau a pha fesurau newydd sy'n cael eu hystyried er mwyn cefnogi busnesau bach yn well.
Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu busnesau bach yng Nghymru, mae rhywfaint o optimistiaeth wrth i chwyddiant barhau i ostwng. Wrth i fusnesau geisio sefydlogi a thyfu yn ystod y misoedd nesaf, bydd y sefydlogi hwnnw, a'i gyflymder, yn dibynnu ar benderfyniadau Llywodraethau yma, ac yn San Steffan yn wir. Mae llawer o fusnesau bach yn edrych ar ffyrdd o weithredu mewn ffordd wyrddach, fwy cynaliadwy, a dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi hynny drwy sicrhau bod adnoddau a chyngor ar gael i'w helpu i wneud hynny. Mae'r addewid twf gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, a dylid croesawu camau fel hyn a'u hyrwyddo'n well, fel y gall mwy a mwy o fusnesau fod yn rhan o'r symudiad hwnnw.
Mae pwynt olaf un ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau i bolisi caffael ar draws y sector cyhoeddus. Mae'n rhaid cael chwarae teg i fusnesau bach gystadlu am gontractau sector cyhoeddus, ac yn bersonol credaf y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu dull lleol yn gyntaf o gyrchu nwyddau a gwasanaethau. Rwy'n derbyn nad yw caffael yn rhan o frîff y Gweinidog, ac felly, unwaith eto, gofynnaf iddo gysylltu â'i gyd-Aelod y Gweinidog cyllid a chwilio am ffyrdd a all helpu i sicrhau nad oes rhaid i fusnesau bach yng Nghymru wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gystadlu am gontractau.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi fanteisio ar y cyfle eto i hyrwyddo Dydd Sadwrn y Busnesau Bach y penwythnos nesaf? Mae'n gyfle gwych i bawb ohonom ddangos ein cefnogaeth i fusnesau bach yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ar sut y gallwn ddangos ein cefnogaeth i fusnesau bach ledled Cymru. Ac a gaf fi annog y Gweinidog i edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi busnesau bach yn well yng nghyllideb nesaf Cymru fel y gallant barhau i ffynnu ar gyfer y dyfodol? Mae busnesau bach eisiau cael eu cynrychioli'n well yn agenda strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi, ac felly, wrth symud ymlaen, rwy'n gobeithio y gwelwn fwy o ffocws ar fusnesau bach yng nghenhadaeth economaidd y Llywodraeth. Ar y nodyn hwnnw, Ddirprwy Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Weinidog yr Economi i gynnig yn ffurfiol welliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y ffaith bod y Cangellorion dros y blynyddoedd diwethaf wedi camreoli’r economi gan achosi niwed y byddai wedi bod yn bosibl ei osgoi i fusnesau bach sydd bellach yn wynebu costau ynni a chostau morgais uwch o’u cymharu â busnesau o’r un maint mewn economïau tebyg.
Gwelliant 3—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu:
a) y cymorth y mae busnesau bach ac entrepreneuriaid wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy wasanaethau a mentrau fel Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes; a
b) dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r economi bob dydd a’r cynnydd a wnaed er mwyn helpu mwy o fusnesau bach i ennill mwy o gontractau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Luke Fletcher i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu na fydd y toriad arfaethedig i Yswiriant Gwladol yn gwneud fawr ddim i leddfu effaith llusgiad cyllidol ar weithwyr Cymru yn y sector busnesau bach.
Yn gresynu ymhellach fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi israddio ei rhagolygon twf am y ddwy flynedd nesaf, a fydd yn atal ffyniant ein sector busnesau bach a chanolig.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan Heledd Fychan. Mae hi'r adeg honno o'r flwyddyn eto, Ddirprwy Lywydd, yn arwydd fod y Nadolig yn dod. Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr, oherwydd, fel y clywsom eisoes, mae busnesau bach yn rhan hanfodol o'n heconomi, sy'n cynnwys 63 y cant o gyfanswm cyflogaeth Cymru ac yn cynhyrchu trosiant blynyddol cyfunol o tua £50 biliwn. Er fy mod yn deall yr ysbryd y caiff y cynnig hwn ei gyflwyno ynddo, mae yna bwynt sy'n galw am ychydig o realiti.
Rwy'n gwybod bod y Torïaid yn hoffi galw eu hunain yn blaid busnes, ond rwy'n credu bod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dymchwel y ddelwedd honno'n llwyr. Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi gorfod ymdopi â pheth anghymhwyster economaidd, a dweud y lleiaf, ar ran Llywodraeth y DU. Mae pwynt 3 yn sôn am ddatganiad yr hydref; rydym wedi cael llawer o glod i'r toriadau i yswiriant cenedlaethol, ond y realiti yw na fydd yn cael fawr o ddylanwad ar effaith llusgiad cyllidol ar sylfaen dreth Cymru. Dyma un o'r rhesymau pam y datgelir cyn bo hir pa mor wag oedd datganiad yr hydref—nid gan wrthbleidiau, ond drwy ddyfarniad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a israddiodd ei hamcanestyniadau twf ar gyfer y blynyddoedd nesaf o feincnod a oedd eisoes yn isel, gan ddweud efallai na fydd chwyddiant yn gostwng i lefel argymelledig Banc Lloegr o 2 y cant tan 2025. Twf isel, chwyddiant uchel ystyfnig o barhaus—dyma'r amodau a grëwyd gan San Steffan ar gyfer BBaCh Cymru. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod hyn.
Mae llawer y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yma yng Nghymru hefyd. Rydym yn gwybod bod sector busnes Cymru wedi dioddef canol coll ers amser maith. Mewn geiriau eraill, mae ein busnesau bach domestig wedi cael trafferth tyfu y tu hwnt i'r lefel microfenter. Rhan fawr o'r broblem yw'r cyfyngiadau ar gyllid a chynllunio olyniaeth sydd ar gael i gwmnïau domestig, sy'n golygu bod ein busnesau bach a chanolig yn tueddu i gael eu caffael neu eu gwerthu i gwmnïau sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru cyn y gallant symud ymlaen at gam nesaf eu datblygiad. Mae hyn yn hollol wahanol i gwmnïau Mittelstand yr Almaen y mae eu llwyddiant a'u gallu i ymgysylltu'n rhyngwladol yn deillio'n rhannol o barhad hirdymor eu modelau perchnogaeth a'u gwreiddiau lleol. Nid yw gweinyddiaethau Llafur olynol yng Nghymru wedi gallu diffinio rôl gydlynol i'r wladwriaeth yng nghyd-destun cefnogi ac arwain gweithgaredd BBaCh.
Siaradodd y Gweinidog ddoe am ddull wedi'i arwain gan genhadaeth o weithredu'r economi, gan fenthyg o syniadau Mariana Mazzucato ar yr economi genhadol a'r wladwriaeth entrepreneuraidd efallai, ond mae'n anodd rhagweld sut y gellir cyflawni hyn yn ymarferol heb i'r strwythurau cywir fod ar waith. Mae'r cyfyngiadau ar arloesi hefyd yn symptom o ddiffyg buddsoddi ehangach mewn ymchwil a datblygu ar y lefel facro-economaidd, sydd, yng Nghymru, fel y nodais ddoe, yn sylweddol is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chyfartaledd y DU ar hyn o bryd. Unwaith eto, mae cyferbyniad clir yma â'r Mittelstand Almaenig, lle mae cwmnïau domestig yn elwa'n fawr o rwydweithiau arloesi sefydledig yn seiliedig ar le gyda sefydliadau academaidd a llywodraeth ranbarthol. Wedyn, ceir problem gyson y bwlch sgiliau yn ein gweithlu. Fel y mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi datgelu yn ddiweddar, roedd bron i 80 y cant o gwmnïau bach yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd recriwtio yn ystod y 12 mis diwethaf o ganlyniad uniongyrchol i brinder sgiliau yn y gweithlu, a waethygwyd gan ddiffyg cefnogaeth sefydliadol a chydlyniant strategol ar ran Llywodraeth Cymru.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen ar nodyn cadarnhaol, oherwydd mae'r ddadl hon, fel y dywedais yn gynharach, yn rhoi cyfle inni ddathlu'r busnesau yn ein cymunedau. Bydd unrhyw un ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dweud wrthych fod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd i'r dref gyda chau'r farchnad oherwydd concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth. Nawr yn fwy nag erioed, mae'n bwysig cefnogi busnesau lleol, ac felly hoffwn annog pawb i ymweld â'r safle dros dro yng nghanolfan siopa'r Rhiw yn yr hen Officers Club. Mae Cookmate, Sandra's Jewellers, Tilly's Rawsome Pet Food, Wheelys a Pen-y-Bont Pets eisoes wedi ymsefydlu yno, gyda Memorable Moments Vintage Toys, Candy Corner, Nips and Tucks a The Kind Human Club i ddilyn. Gyferbyn ag Officers Club, fe welwch gigyddion teuluol Peter Woods & Sons, sy'n gwneud llawer mwy na chig yn unig; gallwch brynu siytni rysáit y teulu yno, ynghyd â bwydydd deli eraill. Mae Bakestones hefyd wedi dod o hyd i adeilad newydd rownd y gornel o fy swyddfa. Rwy'n cyfaddef nad wyf wedi bod yn y siop newydd eto, ond rwy'n poeni am fagu pwysau. Wrth gwrs, gallwch ddod o hyd i'r holl fasnachwyr ar farchnad rithwir Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Speccies, The Fruit Fayre, Fone Excellence, The Craft Cwtch a Marlogs Barbers.
Mae ein strydoedd mawr yn ei chael hi'n anodd, yn enwedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae busnesau bach a chanolig yn allweddol i'w hatgyfodiad. Gallwn newid y sefyllfa, ond mae hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol i ni fynd allan, cefnogi busnesau lleol, nid yn unig y dydd Sadwrn hwn, ond drwy gydol y flwyddyn.
Mae'n siŵr y byddaf yn adleisio llawer o'r hyn y mae Paul Davies eisoes wedi'i ddweud. Fel y gwyddom i gyd, busnesau bach yw calon ein heconomi a'n cymunedau ledled Cymru. Fel y clywsom, mae gennym bron i 0.25 miliwn o fentrau ledled Cymru yn cyflogi dros 0.5 miliwn o bobl, y mwyafrif llethol ohonynt yn cael eu cyflogi mewn BBaChau. Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi ein bod yn cefnogi'r busnesau bach hynny. Hebddynt, mae canol ein trefi'n marw, mae ein pentrefi'n mynd yn ddifywyd, a thrwy wneud hynny, byddwn nid yn unig yn cefnogi'r perchennog, rydym yn cefnogi'r ecosystem economaidd leol gyfan.
Dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, fel y bydd pob un ohonoch wedi'i wneud, rwyf wedi cael y fraint o ymweld â llawer o fusnesau bach a chanolig gwych yn fy etholaeth fy hun. Cânt eu rhedeg gan bobl weithgar, arloesol ac ysbrydoledig, sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau o safon ac yn cyflogi llawer o bobl. Mae eu busnesau'n hanfodol i'n heconomi ac yn chwarae rhan allweddol yn y gymuned.
Yn anffodus, fodd bynnag, busnesau bach Cymru sy'n talu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, sy'n anghywir, ac yn eu rhoi dan anfantais. Er fy mod yn falch y bydd y Bil cyllido llywodraeth leol yn galluogi Gweinidogion Cymru i allu lleihau lefelau ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach o'i gymharu â busnesau mwy o faint, nid yw'n dileu'r ffaith bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn talu ardrethi uwch na'u cymheiriaid dros y ffin, sy'n anghywir. Mae angen mwy o degwch arnom yng Nghymru, i sicrhau nad yw busnesau bach dan anfantais nac yn wynebu'r un ardrethi annomestig â busnesau mwy o faint.
Gan ganolbwyntio'n fyr ar y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, Ddirprwy Lywydd, yn rhan o ddatganiad yr hydref yr wythnos diwethaf, fel y clywsom, cyhoeddodd y Canghellor ei fod yn parhau'r toriad o 75 y cant i ardrethi busnes busnesau yn y sector yn Lloegr, sy'n gam cadarnhaol iawn, i gydnabod pa mor anodd yw pethau iddynt. Gofynnais a fyddai'n cael ei barhau yn y cwestiynau amserol yr wythnos diwethaf, ond ni chefais ateb. Mae busnesau lleol eisoes wedi cysylltu â mi i ofyn a fydd hyn yr un fath i Gymru. Rwy'n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn yr un trywydd ac yn sicrhau bod yr un cymorth yn cael ei gynnig i fusnesau yng Nghymru, yn enwedig o ystyried bod llawer o'r busnesau hyn yn teimlo'u bod wedi cael sawl ergyd, fel y gwyddom, a hefyd yn wynebu'r arswyd o dreth dwristiaeth bosibl yma yng Nghymru.
Unwaith eto, fel y clywsom, roedd yn braf gweld y Canghellor hefyd yn cyhoeddi'r toriadau i yswiriant gwladol dosbarth 2, neu'n hytrach, byddant yn cael eu dileu, a thoriad i yswiriant cenedlaethol dosbarth 4 o 9 y cant i 8 y cant. Mae angen inni weld Llywodraeth Cymru yn dangos y math hwn o uchelgais a chefnogaeth i fusnesau bach, nid mwy o drethi na rheoleiddio sy'n mygu twf.
Yn yr un modd, mae angen inni weld cynghorau lleol yn gwneud mwy. Roeddwn i'n teimlo'n rhwystredig iawn yr wythnos hon fod cyngor newydd sir Fynwy, cyngor Llafur, wedi penderfynu tynnu'r parcio am ddim yn ôl yn sir Fynwy ar gyfer y Nadolig, rhywbeth y gwneuthum ei sefydlu flynyddoedd yn ôl i annog cefnogaeth i fusnesau. Maent wedi tynnu hynny yn ôl nawr. Er ei bod yn bwysig ein bod yn nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, mae'n rhaid inni gofio bod 364 diwrnod arall yn y flwyddyn pan fo busnesau bach a chanolig angen ein cefnogaeth. Bydd sicrhau ein bod yn siopa'n lleol gymaint â phosibl yn helpu ein heconomi leol ac yn cefnogi ein cymunedau. O'n cigydd lleol, siop fara leol, siop goffi, bwyty, siop ddillad, siop lysiau i siop y gornel, pan fyddwn yn cefnogi busnesau bach a chanolig lleol, rydym yn buddsoddi yn ein cymuned gyfan. Ddirprwy Lywydd, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig.
Rwy'n credu mai un peth y byddwn i gyd yn cytuno arno yw bod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn wrthwenwyn go iawn i Cyber Monday a Black Friday, yr holl bethau hyn nad oeddwn erioed wedi clywed amdanynt ychydig flynyddoedd yn ôl ac sydd wedi dod i ddominyddu'r gofod manwerthu, a fy mewnflwch yn sicr. Mae'n tynnu oddi wrth y profiad go iawn o gefnogi a mwynhau busnesau lleol, ac rwy'n gobeithio y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn fwy na diwrnod, ond yn ymagwedd a ffordd o fyw. Mae angen iddo ddweud rhywbeth wrthym am ein gwerthoedd a sut rydym yn byw, a sut mae Llywodraethau'n gwneud penderfyniadau.
Roedd gennyf ddiddordeb yn y sylwadau agoriadol yn y ddadl hon gan lefarydd y Ceidwadwyr, oherwydd soniodd sut y dylai'r Llywodraeth, a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud, gael eu llywio gan ymagwedd athronyddol, ac rwy'n cytuno ag ef ar hynny. Yn yr ystyr honno, o safbwynt fy etholaeth i, rydym yn croesawu'r penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu gwneud, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yw buddsoddi yn yr amgylchedd busnes. Mae hyn yn bwysig iawn i fusnesau bach ym Mlaenau Gwent a busnesau bach sydd eisiau tyfu ym Mlaenau Gwent. Mae buddsoddi ym mhobl Blaenau Gwent, buddsoddi mewn sgiliau, fel y gall pobl recriwtio a gall pobl sicrhau bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt er mwyn tyfu a llwyddo, buddsoddi yn y seilwaith, sicrhau bod gennym gysylltedd â'r farchnad, yn gwbl hanfodol.
Bydd y trenau cyntaf i Gasnewydd yn rhedeg fis nesaf o Lyn Ebwy, gan fuddsoddi yn y rheilffyrdd, a chysylltu Blaenau Gwent â marchnadoedd, buddsoddi yn y ffyrdd, i gysylltu Blaenau Gwent â marchnadoedd ymhellach i ffwrdd—yn union y math o fuddsoddiad y mae angen inni ei weld gan y Llywodraeth. A sybsideiddio ardrethi busnes: clywsom lawer oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr y prynhawn yma am ardrethi busnes. Wel, rwy'n siarad â pherchnogion busnes ym Mlaenau Gwent ac wrth gwrs mae eu hardrethi busnes yn cael eu sybsideiddio ac maent yn gwybod hynny ac maent yn cydnabod hynny, ac maent yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddyn nhw ac yn eu dyfodol.
Cymharwch hynny—ac mae hyn yn mynd yn ôl i'r hyn a ddywedodd y Ceidwadwyr ar ddechrau'r ddadl am werthoedd ac am benderfyniadau'r Llywodraeth yn cael eu dylanwadu gan y gwerthoedd hynny—edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd yn natganiad yr hydref yr wythnos diwethaf. Y cyflog cyfartalog i unigolyn oedran gweithio yn Llundain oedd £316 y pen. Yn ne Lloegr, roedd yn £290 y pen. Yng Nghymru, roedd yn £211. Dywedodd Llywodraeth y DU wrthym am eu gwerthoedd yn natganiad yr hydref, ac fe wnaethant ddweud wrthym beth sy'n bwysig iddyn nhw. A'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw yw cefnogi'r economi yn Llundain, cefnogi'r economi yn ne-ddwyrain Lloegr ac nid cefnogi pobl, cymunedau ac economi Cymru. Roedd hynny'n glir iawn yr wythnos diwethaf.
Ond rydym ninnau hefyd yn gwybod am werthoedd, onid ydym? [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad, gyda llaw. Dyma ni.
Diolch am y croeso. A fyddech chi'n derbyn, serch hynny, fod ardrethi busnes yn cael eu rheoli a'u datganoli yma yng Nghymru, a bod gan Weinidog yr economi a Llywodraeth Cymru yn y lle hwn reolaeth lwyr ar hynny ac y gallent roi'r adfywiad sydd ei angen ar y busnesau i fuddsoddi a thyfu mewn lleoedd fel Glyn Ebwy a Blaenau Gwent?
Nid wyf yn siŵr beth sydd gan hynny i'w wneud â datganiad yr hydref, ond dyna ni; roeddwn i'n bod yn garedig.
Pe baech yn siarad â busnesau lleol, yn sicr busnesau yn fy etholaeth i, fe welech fod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud hynny. Byddai'n syniad i chi wneud ychydig o waith cartref. Ond rydym hefyd yn gwybod, i fynd yn ôl at werthoedd, am bob £100 mewn toriadau treth a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf, fod £46 yn mynd i'r 20 y cant cyfoethocaf yn y DU. Felly, am bob £100 sy'n cael ei wario ar doriadau treth, mae £46 yn mynd i'r 20 y cant cyfoethocaf. Dim ond 3 y cant sy'n mynd i'r tlotaf. Mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych am werthoedd. Ond hefyd fe wyddom fod y degawd diwethaf wedi bod yn drychinebus i fusnesau bach. Fe wyddom fod Senedd y DU yn dod i ben—[Torri ar draws.] Gadewch imi orffen fy mrawddeg. Mae Senedd y DU yn dod i ben y flwyddyn nesaf—. Ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at hynny, onid ydym? Mae hyd yn oed y bobl hyn yn edrych ymlaen at beidio â gorfod amddiffyn y Llywodraeth Dorïaidd mwyach. Gwyddom y bydd diwedd y Senedd honno'n gweld yr unig Senedd ers dechrau cadw cofnodion lle mae safonau byw yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng. Rwy'n ildio.
Oni fyddech yn cydnabod bod y bobl rydych chi'n eu targedu nawr yn darparu llawer o gyflogaeth a llawer o swyddi gan dalu symiau mawr iawn o dreth ar yr un pryd i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus?
Dyna ni.
Oni allwch chi gydnabod hynny?
Ddirprwy Lywydd, fe welsom yr amddiffyniad yno, oni wnaethom? Fe welsom yr amddiffyniad yno—£46 ym mhob £100 yn mynd i'r 20 y cant cyfoethocaf, nid drwy ddamwain ond drwy bolisi, drwy gynllun. Nid yw 80 y cant o'r bobl o unrhyw bwys i'r Ceidwadwyr, a dyna beth a glywsom.
Felly, byddwn yn gweld Senedd o safonau byw is. Dyna beth a welwn ar hyn o bryd, dyna'r Llywodraeth Geidwadol, a dyna yw eu hymrwymiad i fusnesau bach.
Rwy'n teimlo bod angen imi ddod â phethau yn ôl i Gymru, oherwydd dyna lle rydym, dyna lle rydym yn ei gynrychioli a dyna yw'r Senedd rydym yn eistedd ac yn sefyll ynddi. Felly, gadewch imi ddechrau drwy ddweud mai busnesau bach, heb amheuaeth, yw asgwrn cefn economi Cymru. Maent yn lleoedd lle mae cysylltiadau arbennig yn cael eu hadeiladu, ac maent hefyd yn cefnogi ein cymunedau ac yn darparu swyddi hanfodol i bobl leol, yn union fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders nawr. Mewn gwirionedd, mae mwy na 250,000 o fusnesau yng Nghymru yn cyflogi tua 1.1 miliwn o bobl. Ni ellir ac ni ddylid byth anwybyddu pwysigrwydd busnesau bach.
Wrth gwrs, rwy'n mynd i swnio ychydig yn rhagfarnllyd a dweud bod fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru yn gartref i fusnesau gwych. O'r Old Nags Head yn Nhrefynwy i siop pysgod a sglodion Twinz yn Nyffryn, i siop barbwr Sammy yng Nghasnewydd i S&S Stores yn y Cymoedd, nid oes unrhyw beth y gallaf ei ddweud fy mod yn caru ei wneud yn fwy na mynd allan a chyfarfod â busnesau, cyfarfod â'u perchnogion a dod i wybod popeth am eu meddyliau yn ogystal â'u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Rwyf am ddefnyddio'r ddadl heddiw, serch hynny, i dalu teyrnged i un perchennog busnes bach penodol yng Nghasnewydd, ac mae'n rhaid imi ddweud ei bod wedi fy ysbrydoli'n fawr. Fe wireddodd Tegan Godden ei breuddwyd o agor ei siop fara ei hun. Tra oedd hi'n dal yn y coleg, fe wnaeth y ferch 20 oed gynllunio a chyflwyno achos busnes i'r elusen Barnardo's a chafodd £10,000 i agor Bonkers Bakes. Ers hynny, mae busnes yr entrepreneur ifanc wedi mynd o nerth i nerth, a hoffwn annog unrhyw un sydd â dant melys i ymweld â Tegan. Credwch fi, ni chewch eich siomi.
Busnes bach arall yr hoffwn dynnu sylw ato yw un Helen Pembridge, sy'n berchen ar y Bridal Lounge ym Mhont-y-pŵl. Sefydlodd Helen a'i gŵr y busnes gyda chynllun busnes wedi'i lunio'n dda wrth i'r DU gefnu ar COVID. Penderfynodd fentro ac roedd ei busnes mor llwyddiannus nes bod angen iddi symud i siop fwy o faint. Mae'r holl ffrogiau ac ategolion yn y Bridal Lounge yn cael eu creu gan ddylunwyr yn y DU, sydd nid yn unig yn cefnogi ein heconomi, mae'n golygu y bydd priodferched weithiau'n gweld eu ffrogiau hardd o fewn 48 awr. Gwnaeth brwdfrydedd, arbenigedd ac ysbryd entrepreneuraidd Helen argraff fawr arnaf. Mae hi'n ysbrydoliaeth i lawer o entrepreneuriaid benywaidd allan yno sy'n meddwl yn onest efallai na fyddant yn gallu ei gyflawni, ond mae hi'n brawf go iawn o'r realiti hwnnw.
Nid yw Tegan a Helen ar eu pen eu hunain. Ceir digonedd o fusnesau bach unigryw a llwyddiannus ar draws de-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, daw'n amlwg o gyfarfod â pherchnogion busnesau bach ei bod yn dod yn fenter fwy heriol, a dyna pam mae angen inni weld bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi ein busnesau bach yn y dyfodol.
Yr wythnos diwethaf, gwelsom gamau beiddgar gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn natganiad yr hydref. Nododd y Canghellor gyfres o fesurau gyda'r nod o gefnogi ein busnesau. O ganlyniad i doriadau treth, bydd pobl hunangyflogedig sy'n ennill £28,000 y flwyddyn £350 yn well eu byd. Ac nid yn unig hynny, cyhoeddodd y Canghellor ostyngiad o 75 y cant i ardrethi busnes yn Lloegr, ond ar yr ochr hon i'r ffin, lle rydym i gyd yn sefyll yma i'w gynrychioli, mae ein busnesau'n wynebu ardrethi busnes uwch nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle gwirioneddol yma i fod yn ffrind i fusnesau bach, ac mae'n hanfodol ein bod yn gweld Gweinidogion yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i'w cefnogi. Dau fesur a fyddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr yw lleihau ardrethi busnes neu ddarparu rhyddhad ardrethi. Rydym yn aml yn clywed Gweinidogion Llafur yn pwysleisio pwysigrwydd busnesau bach. Wel, nawr mae'n bryd inni eu gweld yn gweithredu ar eu geiriau.
Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn annog pawb i fynd i mewn i'w cymunedau a siopa'n lleol, fel y dywedodd llawer o fy nghyd-Aelodau ac fel y byddant yn parhau i'w ddweud, nid yn unig y penwythnos sy'n dod, ond trwy gydol y flwyddyn hefyd. Gyda'r Nadolig ar y gorwel, ni fu amser gwell i ymweld â'ch busnes bach lleol. Ni wyddoch pa drysor bach lleol y gallech fod yn ei ddarganfod a'i brynu ym mhob cornel wahanol o Gymru. Diolch yn fawr iawn.
Dyma fi'n sefyll yn fy siwmper Nadolig yn edrych ymlaen at y Nadolig. Ac rydym wedi clywed pawb yn siarad am gefnogi busnesau bach, nid yn unig yn eu hetholaethau neu eu rhanbarth eu hunain, gobeithio, ond ledled Cymru ac ar draws y DU. Gadewch inni fod yn gadarnhaol am ein busnesau bach. Mae'n bwysig iawn, oherwydd maent yn gwneud gwaith anhygoel. Felly, yn fy nghyfraniad byr, rwyf eisiau gwneud tri pheth. Mae arnaf ofn mai edrych yn ôl yw un, ond mae'r ddau arall yn ymwneud ag edrych ymlaen, gobeithio, ar gyfer busnesau bach.
I mi, mae'n gwbl eironig fod y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno dadl ar fusnesau bach pan wnaethoch chi bleidleisio i ddod â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd. [Torri ar draws.] Gadewch inni fynd drwy beth yw'r sefyllfa—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn derbyn—. Na. Gadewch inni fynd drwy beth—[Torri ar draws.]
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gadewch inni fynd drwy'r sefyllfa yn fyr iawn, ar sut mae hyn yn effeithio ar fusnesau bach. Mae wedi datod yn llwyr y mynediad dilyffethair i'r UE yr oedd llawer iawn o fusnesau bach Cymru yn dibynnu arno. Mae data diweddar gan Siambr Fasnach Prydain yn cynnig darlun sobreiddiol, y gobeithiaf y gwnewch chi wrando arno, o'r realiti ôl-Brexit hwn, gyda hanner yr holl fusnesau bach a chanolig sy'n allforio heb weld unrhyw dwf yn eu gwerthiant tramor o gwbl, tra bod eu chwarter yn dweud bod allforion yn gostwng mewn gwirionedd. Mae rheoliadau a biwrocratiaeth Brexit wedi peri i rai perchnogion busnes o Gymru, fel Daniel Lambert, sy'n rhedeg cwmni gwin Cymreig poblogaidd, symud eu gweithrediadau o Gaerdydd i dir mawr Ewrop. Amcangyfrifodd Lambert fod y gwaith papur ychwanegol a'r tâp coch sy'n deillio o Brexit wedi costio rhwng £100,000 a £150,000 mewn refeniw coll i'w fusnes. Mae ffermwyr Cymru—busnesau bach ydyn nhw hefyd—wedi cael eu taro'n galed drwy golli cymorthdaliadau a'r farchnad Ewropeaidd. Cytundebau masnach gyda—[Torri ar draws.] Na, nid wyf yn derbyn unrhyw ymyriad—[Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf. Diolch. Mae cytundebau masnach gydag Awstralia a Seland Newydd bellach yn gorfodi ffermydd teuluol i gystadlu yn erbyn cystadleuwyr ar ben arall y byd er mwyn cynnal eu bywoliaeth. Ymhell o'r addewid o ryddhau ffyniant i fusnesau bach yng Nghymru, mae Brexit wedi golygu cyfleoedd sy'n crebachu yn hytrach na gorwelion sy'n ymestyn. Felly, nid wyf wedi derbyn ymyriadau oherwydd rwy'n edrych ymlaen at glywed ymateb eich llefarydd i'r ddadl hon, pan fydd hynny'n digwydd, ynglŷn â sut y gallwch egluro i fusnesau bach pam y gwnaethoch chi bleidleisio dros adael yr UE.
Gadewch imi symud ymlaen. Diolch yn fawr—[Torri ar draws.] Rwy'n croesawu'r sylw—
Hoffwn pe bai'r meinciau ar ochr yr wrthblaid yn bod yn ddistaw i ganiatáu i'r Aelod wneud ei chyfraniad mewn tawelwch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Buaswn yn falch iawn hefyd o glywed sylw gan y Gweinidog yn ei ymateb am yr hyn y mae'n ei feddwl am y sefyllfa o ran mynediad i'r farchnad sengl. Mae arnaf ofn, Lafur, nad yw eich safbwynt chi ychwaith yn glir i mi ar hyn. Rwy'n gwybod efallai fod gan lawer ohonoch safbwynt fel unigolion, ond rwy'n ofni nad yw eich arweinwyr yn San Steffan yn ymrwymedig i'r farchnad sengl. Felly, edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog, yn ogystal â meinciau'r Ceidwadwyr, ynghylch effaith Brexit a gadael yr UE ar ein busnesau bach.
A gaf fi wneud sylw ar ddau faes arall, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Lywydd? Mae un yn ymwneud â'r hyn a ddywedwyd eisoes, mewn perthynas â sgiliau, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy gan y Gweinidog ynglŷn â sut y gallwn ddarparu'r sgiliau a'r personél i'n busnesau bach. Clywsom o adroddiad diweddar gan Ffederasiwn y Busnesau Bach eu bod yn gwerthfawrogi'r cysyniad a ddarparwyd gan Gyrfa Cymru, sef y rôl baru effeithiol rhwng y rhai a oedd yn chwilio am bobl â sgiliau a'r rhai oedd yn meddu ar y sgiliau hynny. Felly, buaswn yn croesawu eich ymateb, Weinidog, ac ar yr ystyriaeth y gallwn ei rhoi i rôl bontio o'r fath.
Yn olaf, ar ardrethi busnes—ac unwaith eto, fe glywsom lawer am hyn oddi ar y meinciau i gyd—mae'r system ardrethi busnes yn anflaengar, heb amheuaeth. Rydym yn trethu buddsoddiad cyfalaf mewn adeiladau ac offer yn hytrach na threthu elw. Mae anfodlonrwydd wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed gyda'r dreth benodol hon, sy'n disgyn galetaf ar sectorau allweddol sy'n gweithio i hyrwyddo blaenoriaethau cenedlaethol, fel ynni adnewyddadwy. Er bod angen diwygio ar raddfa lawn a system fodern, mae gennym gyfle i gael rhywbeth yn y tymor byr nawr, ac mewn gwirionedd—ac yma, rwy'n cytuno â'r Ceidwadwyr Cymreig—Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb yma am ardrethi busnes i'n busnesau bach. A'r hyn sydd ei angen arnynt yw clywed bod y rhyddhad yn mynd i gael ei ymestyn. Bydd hynny'n rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd iddynt. Felly, yn olaf, y cwestiwn i'r Gweinidog yw: pa ystyriaeth y byddech chi'n ei rhoi i ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i'r flwyddyn ariannol nesaf? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Busnesau bach sy'n diffinio tirwedd economaidd a diwylliannol fy etholaeth i sef Brycheiniog a Sir Faesyfed. Wrth inni deithio drwy strydoedd hardd a bryniau tonnog fy etholaeth, daw'n amlwg fod y busnesau hyn yn gwneud mwy na chyfrannu at ein heconomi leol yn unig; nhw yw'r sylfaen a'r enaid i adnabod ein hunain fel cymuned.
Gadewch imi ddechrau drwy roi ychydig o ffeithiau a ffigurau sy'n tanlinellu arwyddocâd economaidd y busnesau bach yn fy etholaeth. Yn ôl y data diweddaraf, busnesau bach a chanolig sy'n ffurfio sylfaen i'r gweithlu lleol. Maent yn darparu 62.9 y cant o holl gyflogaeth menter. Roedd hynny yn 2022. Rwy'n dangos pa mor bwysig yw busnesau bach i fy nghymuned. O ran niferoedd pur, mae gan Frycheiniog a Sir Faesyfed amrywiaeth enfawr o fusnesau bach, o'r siopau teuluol ym mhob un o'n strydoedd mawr lleol, y cwmnïau rhyngwladol mawr fel dŵr Radnor Hills, a busnesau newydd arloesol hefyd. Mae entrepreneuriaeth yn ffynnu ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o Bowys, gyda fy nghyd-Aelod etholaeth Russell George, a gwobrau Busnes y Flwyddyn Powys, ac mae hynny'n tynnu sylw at y gorau sydd gan fusnesau bach i'w gynnig ledled Powys. Rwy'n gwybod bod Russell a minnau'n mwynhau'r digwyddiad hwnnw'n fawr pan gaiff ei gynnal, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw'r sector hwnnw i ni yma yn ein rhan ni o'r byd.
Mae'n hanfodol cydnabod yr effaith lluosydd y mae'r busnesau hyn yn ei chael ar ein heconomi leol. Am bob punt a werir mewn busnes lleol, mae cyfran enfawr ohoni'n cylchredeg o fewn y gymuned, gan gefnogi busnesau, cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau ehangach. Mae'r we ryng-gysylltiedig hon o weithgarwch economaidd yn meithrin economi hunangynhaliol sy'n hanfodol ar gyfer ffyniant cyffredinol Brycheiniog a Sir Faesyfed a'r rhanbarth cyfan. Er gwaethaf eu cyfraniad economaidd, mae busnesau bach yn fy etholaeth yn wynebu cyfres o heriau unigryw. Mae mynediad cyfyngedig at adnoddau cyllid, cystadleuaeth cwmnïau ar-lein mwy o faint, polisi ehangach y Llywodraeth, a dynameg esblygol ymddygiad defnyddwyr oll yn rhwystrau sy'n galw am atebion strategol i'w goresgyn. Ond drwy gydnabod bod yna broblem, gallwn fynd i'r afael â'r heriau hyn, a chyda'n gilydd gallwn greu amgylchedd lle mae busnesau bach nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn cefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig. Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yw ymgyrch busnesau bach fwyaf llwyddiannus y DU, ac mae'n tynnu sylw miliynau o siopwyr bob blwyddyn. Yn 2022 yn unig, cyfrannodd defnyddwyr £774 miliwn amcangyfrifedig i fusnesau bach ar draws y gwledydd ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach. Daw hyn ar adeg pan fo busnesau bach yn dibynnu cymaint ar gyfnod y Nadolig, gydag 86 y cant o berchnogion busnesau bach yn nodi bod cyfnod yr ŵyl yn sbardun refeniw hanfodol i'w busnes am y flwyddyn gyfan. Mae'n hanfodol fod y wlad yn cefnogi ein busnesau bach, nid yn unig ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, ond hefyd yn y dyddiau sy'n dilyn ac yn y misoedd sy'n dilyn, oherwydd mae'n hanfodol eu cefnogi'n llawn, gan eu bod yn cyfrannu'n sylweddol at gyfoeth ein cymunedau, ein bywydau bob dydd, a'n heconomi.
Un agwedd nodedig sy'n gosod ein busnesau bach ar wahân yw eu hymrwymiad, fel y nododd Paul Davies, i gynaliadwyedd ac ymgysylltiad â'r gymuned. Mae llawer o'r busnesau hyn yn cymryd rhan weithredol mewn digwyddiadau lleol. Maent yn noddi mentrau cymunedol ac yn hyrwyddo achosion amgylcheddol. Mae eu rôl yn ymestyn ymhell y tu hwnt i endidau economaidd. Nhw yw stiwardiaid ein treftadaeth ddiwylliannol a chatalydd ar gyfer newid cadarnhaol.
Fel defnyddwyr cyfrifol ac aelodau o'r gymuned, mae gennym bŵer i lunio tynged ein busnesau bach. Mae dewis cefnogi busnesau lleol yn fuddsoddiad yn nyfodol ein cymuned. Mae'n sicrhau bod cymeriad unigryw Cymru yn cael ei ddiogelu a bod breuddwydion a dyheadau ein cymdogion yn cael mynegiant drwy eu hymdrechion entrepreneuraidd. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, nid cyfranwyr i'r economi yn unig yw'r busnesau bach yn fy etholaeth i ac ar draws Cymru; nhw yw curiad calon ein cymunedau. Wrth inni wneud ein ffordd drwy dirwedd gymhleth newidiadau economaidd byd-eang a pholisi Llywodraeth, gadewch inni gofio bod cryfder ein hymdrechion yn nwylo'r rhai sy'n mentro breuddwydio, yn mentro arloesi, a chyfrannu at ffyniant cyffredinol. Drwy hyrwyddo ein busnesau bach, rydym yn diogelu hanfod holl genedlaethau'r dyfodol, a dyfodol ein strydoedd mawr hefyd.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon ac yn amlwg hoffwn ymuno â'r rhai sy'n dathlu, hyrwyddo ac edrych ymlaen at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach. Rwy'n credu y byddai pawb yn sicr yn cytuno bod busnesau bach yn dioddef ac yn cael trafferth yn ystod yr argyfwng costau byw hir hwn lawn cymaint â defnyddwyr, felly mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi ein cyflogwyr bach gymaint â phosibl. Ac mae gennym lawer i fod yn ddiolchgar amdano ynddynt. Yn fy mhentref fy hun, Rhiwabon, pan gaeodd swyddfa'r post ei siop, siop ddisgownt Rhiwabon a gamodd i mewn a chynnig darparu gwasanaethau. A gerllaw yn Llangollen, busnesau bach sy'n cynnig cynnyrch unigryw a gwasanaeth ardderchog sy'n gwneud y dref yn lle mor wych i ymwelwyr, ac yn un o'r lleoliadau gorau i ymwelwyr yn y Deyrnas Unedig.
Weinidog, hoffwn ganolbwyntio ar ddwy fenter bwysig y bu Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt yn ddiweddar, ac maent yn unigryw hefyd yn y Deyrnas Unedig—Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru. Heb y rhain, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl y byddai Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd cefnogi busnesau bach yn gyflym ac yn effeithiol gyda'r pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig COVID. Weinidog, hoffwn yn fawr gael eich sylwadau ar effaith fuddiol y banc datblygu a Busnes Cymru, nid yn unig yn ystod y pandemig COVID, ond ers hynny a chynt hefyd. Ac mae eich cenhadaeth economaidd yn addo sicrhau bod datblygiad economaidd yn sensitif i'n cymunedau a bod gwella sgiliau yn cael lle canolog yn ymdrechion Llywodraeth Cymru.
Felly, wrth inni edrych tuag at 2024, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn dathlu gwerth busnesau bach, sy'n llawer mwy i'n cymunedau na'r buddion economaidd diriaethol a mesuradwy yn unig. Maent yn rhoi cymeriad i gymunedau, maent yn rhoi bywyd a chydlyniant cymdeithasol iddynt, ac mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n ddi-baid i'w cefnogi. Ddydd Sadwrn gall pawb ohonom ddangos ein cefnogaeth. Diolch.
Galwaf yn awr ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau amrywiol i'r ddadl, a dechrau drwy gytuno mai busnesau bach yn wir yw asgwrn cefn economi Cymru a'n cymunedau. Maent yn rhoi ymdeimlad o le i gymunedau mewn cymaint o ffyrdd, ac mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi busnesau bach i sefydlu, i fod yn wydn mewn hinsawdd economaidd gymhleth a heriol, a'u helpu i nodi cyfleoedd i dyfu a ffynnu. Fel eraill, ac rwy'n siŵr eu bod i gyd yn sylwadau dilys, rwy'n cefnogi busnesau bach yn fy etholaeth yn rheolaidd gyda fy nghwsmeriaeth fy hun. Ni wnaf restru pawb o'r rheini—fe allem fod yma'n hir—ond rwy'n siŵr ei bod yn wir fod Aelodau ymhob plaid yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae busnesau bach yn ei wneud. Dyna pam rwy'n parhau i fod yn hapus, fel y mae'r Llywodraeth gyfan, i barhau i gefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach a mentrau eraill sy'n tynnu sylw at lwyddiant busnesau bach ac yn annog ein hetholwyr i siopa'n lleol a chefnogi eu busnesau bach lleol.
Dros y mis diwethaf rydym wedi bod yn cynnal ymgyrch farchnata bwrpasol i geisio annog busnesau eu hunain i fanteisio ar y cymorth uniongyrchol sydd ar gael drwy Busnes Cymru. Ddoe, pan lansiais y genhadaeth economaidd, nodais bedair blaenoriaeth, ac rwy'n credu y bydd pob un o'r rhain yn cael effaith ar fusnesau bach. Maent wedi'u cynllunio i helpu i gefnogi twf economaidd ac maent yn mabwysiadu dull seiliedig ar yr unigolyn a lle. Un o'r blaenoriaethau allweddol, wrth gwrs, yw'r economi bob dydd—blaenoriaeth allweddol yn ein strategaeth economaidd. Wrth wynebu'r pandemig COVID, chwyddiant cynyddol, costau ynni a chyfraddau llog, mae'n briodol fod ein ffocws wedi bod ar sut y gallwn helpu busnesau drwy gyfnodau anodd, a buddsoddi cymaint â phosibl i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau gan sicrhau bod cymorth cyflym ar gael i'r rhai sy'n wynebu diswyddiadau i helpu i gael sgiliau newydd a chyflogaeth newydd.
Er yr hinsawdd economaidd heriol iawn, rwyf am inni nodi ffordd glir ymlaen i helpu i ganolbwyntio ar yr economi llesiant a sicrhau bod pobl a lle yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a wnawn, oherwydd ni ddylai'r ffocws ar le a gwneud cymunedau'n gryfach ac yn fwy gwydn a helpu pobl i gael mynediad at waith teg fod yn ddadleuol, ond dyna mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo iddo. Felly, yfory, byddaf yn cynnal uwchgynhadledd economaidd gyda dros 150 o fusnesau a rhanddeiliaid, i ddeall eu persbectif ar gyfleoedd ar gyfer twf, i ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach, ac i ddeall yr heriau real y maent yn eu hwynebu. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu entrepreneuriaeth ragweithiol a gwasanaeth cymorth busnes i fentrau bach a chanolig. Mae'n werth ystyried, gyda buddsoddiad yr UE ers 2016, fod hynny wedi helpu Busnes Cymru i helpu i ddechrau dros 7,000 o fentrau newydd, a chefnogi creu 33,000 o swyddi newydd. Roedd Ken Skates yn iawn i dynnu sylw at yr effaith a gafodd Busnes Cymru yn y pandemig, gan ein galluogi i gyrraedd busnesau'n gyflym, ac mae'n wir mai gennym ni oedd y cymorth mwyaf hael i fusnesau bach a'r hunangyflogedig ledled y DU, ac rwy'n falch fod ein Llywodraeth wedi gwneud hynny.
Gan inni grybwyll cronfeydd blaenorol yr UE, rwy'n cydnabod y realiti fod masnach yn anos gyda'r UE, fel y nododd Jane Dodds. Ond rydym yn parhau i gefnogi ein busnesau bach gyda'n cynllun gweithredu allforio sy'n darparu cymorth ymarferol a chyngor, ac mae'n cael ei werthfawrogi'n rheolaidd gan fusnesau bach a chanolig i'w helpu i gadw eu lle mewn marchnadoedd eraill ac i ddod o hyd i farchnadoedd newydd hefyd lle bo hynny'n bosibl.
Ein her, serch hynny, yw bod diwedd buddsoddiad yr UE, a thorri'r addewid Ceidwadol na fyddai Cymru'n colli'r un geiniog, wedi costio £1.1 biliwn i ni; nid oes cuddio rhag hynny. Er hynny, darparodd Llywodraeth Cymru adnoddau ychwanegol i barhau â'n hymrwymiad i ficrofusnesau a busnesau bach. Er gwaethaf y brad hwnnw, rydym yn parhau i fuddsoddi £21 miliwn bob blwyddyn i ddarparu gwasanaethau Busnes Cymru. Daw ar gost wirioneddol i gyllidebau eraill am nad yw'r arian ar gael. Mae'n werth ystyried, wrth gwrs, fod Ffederasiwn y Busnesau Bach yn rheolaidd yn galw am ymyrraeth debyg i Busnes Cymru yn Lloegr. Mae yna rywbeth bob amser am ganmoliaeth pobl eraill sydd eisiau efelychu'r hyn rydych chi'n ei wneud.
Rydym wedi adnewyddu strwythur Busnes Cymru i helpu i adeiladu ein heconomi a chefnogi ein hegwyddorion gwaith teg ac i helpu busnesau bach a chanolig i bontio i ddatgarboneiddio a dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi twf busnes. Mae'r cymorth hwnnw'n helpu i adeiladu gwytnwch ac mae hefyd yn helpu i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ein busnesau bach.
Hefyd, gan fod caffael wedi'i grybwyll, rydym yn cefnogi busnesau, gan gynnwys drwy borth GwerthwchiGymru, â chyngor tendro a chyfleoedd i fusnesau bach ennill contractau newydd gyda chaffael.
Nawr, rydym hefyd—ac rwy'n falch ein bod yn gwneud hyn—yn darparu cefnogaeth i entrepreneuriaid newydd ddechrau mewn busnes—pobl o bob oed, ond yn fwyaf arbennig, ffocws go iawn ar entrepreneuriaid iau gyda'r warant i bobl ifanc. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn yn buddsoddi i ymestyn y grant rhwystrau i ddechrau busnes, a'r gwaith allgymorth i gefnogi 250 yn rhagor o bobl ddi-waith i ddatblygu eu huchelgais i ddechrau busnes o fewn y flwyddyn ariannol hon, a bydd y gronfa honno'n ailagor yn ffurfiol yn y flwyddyn newydd.
Rwyf am ymateb hefyd i'r pwynt a wnaed fod y Gweinidog cyllid, ar ddyfodol ardrethi busnes, wrth gwrs—. Rydym yn trafod ac yn mynd drwy'r broses anodd o allu gosod cyllideb ddrafft, ond yr wythnos diwethaf, ar ddiwygio, nododd y Gweinidog cyllid y Bil ar gyfer diwygio ardrethi busnes yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld yr Aelodau ar draws y Siambr nid yn unig yn gofyn beth rydym yn ei wneud, ond yn cymryd rhan yn y gwaith ar y Bil hwnnw wrth iddo fynd drwy'r Senedd.
Nawr, mae angen i mi ymdrin â rhai o'r pwyntiau a wnaed gan Paul Davies a siaradwyr eraill, gan gynnwys y cyn ymgeisydd am swydd maer Llundain, ynghylch datganiad yr hydref. Cododd datganiad yr hydref y baich treth—yn ddiamheuol, fe gododd y baich treth, a phryd bynnag y bydd y Ceidwadwyr yn ceisio codi ar eu traed ac esgus ei fod yn newyddion gwych i bobl, newyddion gwych i fusnesau, nid yw'n cyd-fynd â realiti. Cadarnhaodd dewisiadau'r Canghellor hefyd y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn lleihau £1.3 biliwn mewn termau real o'i gymharu â dechrau'r adolygiad o wariant diwethaf. Er mwyn rhoi syniad i chi o faint hynny, mae'n dair gwaith maint y gyllideb gyfan ar gyfer yr economi y mae gennyf gyfrifoldeb amdani. Dyna beth rydym wedi'i golli mewn termau real, a bydd hynny'n arwain at ganlyniadau. Mae pawb, wrth gwrs, yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn sgiliau, ac eto nid oedd datganiad yr hydref yn darparu unrhyw fuddsoddiad ychwanegol i Gymru ar gyfer sgiliau. Mewn gwirionedd, fel rydym yn ei drafod yn rheolaidd, mae'r dirwedd sgiliau'n fwy dryslyd oherwydd ymyriadau polisi Llywodraeth y DU a chawn ein heffeithio gan frad llwyr a thorri'r addewid maniffesto ynghylch cronfeydd newydd yn lle rhai'r UE y gwnaethom eu defnyddio'n rheolaidd i fuddsoddi mewn sgiliau ac mewn pobl, fel y nododd Alun Davies.
Yr effaith mewn termau real yw y bydd y baich treth yn uwch nag y bu ers dechrau cadw cofnodion; am y tro cyntaf erioed, bydd safonau byw'n disgyn yn ystod y Senedd hon—dyna ganlyniad uniongyrchol y dewisiadau a wnaed; mae rhagolygon twf wedi eu lleihau; a bydd adnoddau gwasanaethau cyhoeddus yn crebachu ymhellach ym mhob rhan o'r DU oherwydd dewisiadau uniongyrchol y Canghellor, ar adeg pan fo mwy o alw—[Torri ar draws.]—a mwy o effaith ar wasanaethau cyhoeddus. Iawn, fe wnaf.
Mae'r Gweinidog yn dod at ddiwedd ei amser.
Os yw'n fyr.
A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod y baich treth ar ei uchaf ers yr ail ryfel byd nid er mwyn talu am fuddsoddi mewn rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus ond er mwyn talu am fethiannau economaidd cyni a Brexit?
Rwy'n ofni bod yr Aelod yn iawn: ni ellir gwadu hynny. Nid chafodd yr hyblygrwydd a oedd gan y Canghellor mo'i ddefnyddio i fuddsoddi mewn cefnogi'r economi neu'n wir, i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus; fe'i defnyddiwyd mewn ffordd rannol, a dyna yw pris methiant economaidd.
Nid wyf yn cytuno bod datganiad yr hydref yn newyddion da i fusnesau bach. Mewn cyferbyniad, mae Banc Datblygu Cymru yn newyddion da i fusnesau bach, gydag, er enghraifft, £32.5 miliwn yn y gronfa fenthyciadau i ficrofusnesau i gefnogi busnesau bach ledled y wlad. Rwy'n credu bod angen gonestrwydd arnom ynglŷn â ble rydym arni ar draws y DU a'r hyn y gallwn ei wneud ac y byddwn yn ei wneud yma yng Nghymru i barhau i gefnogi busnesau bach.
Felly, fel eraill, rwy'n eich annog i gyd i siopa'n lleol ddydd Sadwrn, a thrwy gydol y flwyddyn, i gefnogi ein busnesau bach i dyfu ac i ffynnu ac i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud, pe bai gennym bersbectif gwahanol ar lefel y DU ar sut i gefnogi'r economi'n well ar gyfer ein busnesau bach a chanolig.
Galwaf ar Samuel Kurtz i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser i gloi'r ddadl heddiw.
Mae'n bleser cael cloi'r ddadl heddiw. Mae busnesau bach, fel y nodwyd drwy gydol y ddadl heddiw, yn gonglfaen, yn sylfaen i'n heconomi yma yng Nghymru. Busnesau bach yw curiad calon y cymunedau Cymreig, a soniodd Luke Fletcher a James Evans mai busnesau bach a chanolig sydd i gyfrif am oddeutu 63 y cant o gyflogaeth menter yng Nghymru. Yn yr un flwyddyn, sef 2022, dyna oedd 99.3 y cant o gyfanswm y gweithgareddau menter yng Nghymru.
Mae'n syfrdanol, mewn gwirionedd, wrth sefyll yma, ein bod yn cael cyfle i drafod pethau fel busnesau bach a'u pwysigrwydd. Nododd Paul Davies pam fod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach mor bwysig wrth agor y ddadl. Rydym yn siopa'n lleol y penwythnos hwn, ydym, ond mae angen inni siopa'n lleol y penwythnos hwn a phob penwythnos drwy gydol y flwyddyn i gefnogi ein busnesau bach. Rwy'n canmol Paul Davies am y gwaith y mae'n ei wneud gyda Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn y sesiynau briffio amser brecwast hynny, gan roi cipolwg gwych i ni fel Aelodau ar yr hyder busnes sy'n weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Soniodd Luke Fletcher yn ei gyfraniad am gyllid olyniaeth a'r pontio rhwng busnes bach i'w wneud yn fusnes mawr neu ganolig i fawr, a nododd enghraifft Mittelstand yr Almaen, a dylid edrych ar enghreifftiau da, lle bynnag y gallent fod yn y byd. Mae bob amser yn siomedig, pan ddaw enghraifft dda oddi ar y meinciau glas hyn, fod y Llywodraeth yn gwgu arnynt am mai o'r fan hon y deuant. Ond mae'n ddiddorol hefyd—soniodd Luke am y micro a'r macro; mae micro a macro yma gyda Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, a phwysigrwydd bach y penwythnos hwn, ond pwysigrwydd ehangach cefnogi ein busnesau lleol a'r hyn y maent yn ei gynnig.
A daw hynny â ni at bwynt Peter Fox: mae'r busnesau bach hynny'n gweithredu yng nghanol ein trefi, maent yn gweithredu yn ein pentrefi, ac maent yn cefnogi nid yn unig y perchennog pan fyddwn ni'n siopa yno, a theulu'r perchennog, maent yn cefnogi'r ecosystem economaidd ehangach hefyd. A'r busnesau hynny sy'n cael eu rhedeg gan unigolion gwych, bywiog sy'n cymryd risg, sy'n barod i geisio gwneud llwyddiant o'u hunain drwy ddweud, 'Fe wnaf ddechrau busnes ar fy liwt fy hun', a phob clod iddynt. Aeth Peter Fox ymlaen hefyd i sôn am yr anfantais y bydd busnesau yn sir Fynwy yn ei hwynebu yn y cyfnod o dair wythnos cyn y Nadolig, gyda'r penderfyniad gan eu cyngor yn sir Fynwy sy'n cael ei redeg gan Lafur i roi'r gorau i'r parcio am ddim a sefydlwyd gan arweinydd blaenorol.
Dechreuodd Alun Davies mor dda, fel y mae'n arfer ei wneud—dechreuodd mor dda, gan sôn am siom Cyber Monday a Black Friday, a sut mae hynny wedi ein hamddifadu o rai o'r cyfleoedd i siopa'n lleol. Ond wedyn, fel arfer, dirywiodd i bwyntio bys a sgorio pwyntiau. Ac mae'n sôn am werthoedd, wel, dim ond gwerthoedd Ceidwadol—dim ond gwerthoedd Ceidwadol—sy'n mynd i gefnogi busnesau lleol yma yng Nghymru.
Natasha Asghar—ac roeddwn i'n meddwl mai'r hyn oedd yn siarad cyfrolau yng nghyfraniad Natasha Asghar oedd ei chyfeiriad at Tegan Godden, dynes 20 oed sy'n sefydlu ei siop fara—Bonkers Bakes—drwy gymorth benthyciad o £10,000 gan Barnardo's. Dyna rywun sy'n cymryd risg. Dyna rywun sy'n fodlon dweud, 'Rwyf eisiau bod yn berchennog busnes; rwyf eisiau dechrau busnes a gwneud llwyddiant ohonof fy hun.' A dyna'r uchelgais y credaf ei fod yn gwbl allweddol i sicrhau bod busnesau'n llwyddiannus yma yng Nghymru. A brawddeg arall a ddefnyddiodd Natasha oedd 'ffrind i fusnesau bach'. Wel, mae arnaf ofn nad oes ffrindiau i fusnesau bach yn y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Jane Dodds, diolch am eich cyfraniad. Roedd eich trafodaeth ar sgiliau'n ddefnyddiol iawn. Rydych chi a minnau wedi rhannu trafodaethau bwrdd crwn ar sgiliau, sydd wedi bod yn hynod bwysig i ddysgu amdanynt. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud, ar Brexit—
O'r gorau. Rydym wedi cael digon nawr, Sam. [Chwerthin.]
Peidiwch â gwrando ar y meinciau cefn ar yr ochr Lafur; parhewch â'ch cyfraniad. Ond hefyd, pe bai eich cyd-Aelodau'n gallu bod yn ddistaw, fe allwn eich clywed.
Wel, rwyf wedi dysgu gan yr Aelod dros Flaenau Gwent fy mod yn mynd i barhau cyhyd ag y dymunaf.
Ond nid Brexit ydoedd—. Ni a bleidleisiodd dros Brexit, dyna oedd y penderfyniad democrataidd mwyaf a wnaed gan bobl y Deyrnas Unedig. A siarad am gytundebau masnach—yn hollol, mae cytundebau masnach yn dod â phethau cadarnhaol a negyddol yn eu sgil. Nid yw Seland Newydd wedi gwneud eu cwota o ran mewnforio cig oen Seland Newydd. Bellach mae gennym farchnadoedd allforio newydd yn America ar gyfer porc, cig eidion a chig oen—cyfleoedd sy'n hynod o bwysig.
Soniodd James Evans, unwaith eto, am y sylfaen a'r enaid y mae ein busnesau bach yn eu cynnig i'n cymunedau, ac rwy'n siŵr fod gwobrau busnes y flwyddyn Powys yn cael eu hailadrodd ledled Cymru gyfan yn ein holl awdurdodau lleol. Cyflwynodd Ken Skates ddau bwynt mewn perthynas â Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru ac oes, mae yna bethau cadarnhaol y mae'r ddau'n eu cynnig i'r dirwedd fusnes yma yng Nghymru. Yn wir, mae ein pwyllgor wedi gwneud llawer o waith yn edrych ar hyn ac rwy'n cymeradwyo'r Cadeirydd, Paul Davies, ar yr ymchwiliadau y mae wedi'u harwain, i edrych ar Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwyf eisiau dweud bod busnesau bach, lle bynnag y bônt, ym mhob cornel o Gymru—. Efallai y gwnaf gyfeirio at rai o fusnesau fy etholwyr, y gwneuthum gyfarfod â nhw yn y ffair aeaf ddechrau'r wythnos: Carmarthen Ham, busnes ham wedi'i halltu arobryn, sydd â statws dynodiad daearyddol gwarchodedig; mae gennym hefyd On the Rocks Pembrokeshire, cymysgeddau coctel gan fusnes bach teuluol; a Barti Rum a Barti Cream gan Pembrokeshire Beach Food Company. Nid bod gennyf ddant melys na hoff ddiod feddwol, ond gallaf argymell y rheini i gyd a'r cynhyrchwyr hynny'n fawr. Ac yn olaf, os ydych chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy pefriog ar Ddydd Nadolig, rwy'n argymell Velfrey Vineyard yn fawr, cwmni sydd newydd gael eu statws dynodiad daearyddol gwarchodedig wedi'i gymeradwyo hefyd. Felly, y cyfan y gallaf ei wneud wrth gloi'r ddadl y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd, yw annog yr holl Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Ocê. Pleidleisiwn yn awr ar eitem 8—[Torri ar draws.]
Ie, Janet? A ydych chi wedi mewngofnodi? O'r gorau.
Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig.
Barod, Janet?
Ydw. Mae'n ddrwg gennyf. [Chwerthin.]
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Lynne, cyn i mi symud ymlaen, fe gymerwn bleidleisiau llafar gennych chi ar gyfer y gweddill. A yw hynny’n iawn?
Rwy'n credu efallai ei fod yn iawn. Fe roddaf gynnig arno nawr.
O'r gorau. Fe gadwn ni lygad arno.
Reit. Galw am bleidlais ar welliant 1 nesaf, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 27, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn hefyd.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8420 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr 2023.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu’r economi leol.
3. Yn gresynu at y ffaith bod y Cangellorion dros y blynyddoedd diwethaf wedi camreoli’r economi gan achosi niwed y byddai wedi bod yn bosibl ei osgoi i fusnesau bach sydd bellach yn wynebu costau ynni a chostau morgais uwch o’u cymharu â busnesau o’r un maint mewn economïau tebyg.
4. Yn annog cymunedau i siopa’n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu.
5. Yn croesawu:
a) y cymorth y mae busnesau bach ac entrepreneuriaid wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy wasanaethau a mentrau fel Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes; a
b) dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r economi bob dydd a’r cynnydd a wnaed er mwyn helpu mwy o fusnesau bach i ennill mwy o gontractau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n arfer fy mhleidlais—against—fwrw yn erbyn y cynnig. Felly, o blaid 25, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei wrthod.
Eitem 8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Busnesau bach. Cynnig wedi ei ddiwygio: O blaid: 25, Yn erbyn: 25, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Daw hynny â ni at ddiwedd y pleidleisio am heddiw. Os ydych chi'n gadael, gwnewch hynny'n dawel os gwelwch yn dda.
Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar James Evans i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n mynd i siarad am bwysigrwydd rygbi llawr gwlad yma yng Nghymru, ac rwy'n bwriadu rhoi munud o fy amser i Sam Kurtz, Tom Giffard a Luke Fletcher. Mae'n wych gallu plymio at galon ac enaid rygbi Cymru heddiw, yn enwedig ar lefel llawr gwlad, y sylfaen y mae'r gamp wedi ffynnu arni ers cenedlaethau. Mae Cymru, gwlad ag iddi hanes rygbi cyfoethog, wedi dangos ei brwdfrydedd dros y gêm yn gyson, ac mae hynny'n fwyaf amlwg ar lawr gwlad.
Cefais gyfle i chwarae rygbi o oedran ifanc iawn i fy nghlwb fy hun, sef Clwb Rygbi Gwernyfed, ac rwy'n dal i fod yn falch o wisgo'r crys ar y rhan fwyaf Sadyrnau. Mae'r rhan fwyaf ohonoch wedi gweld fy llygad ddu dros y pythefnos diwethaf, sy'n tystio i'r ffaith fy mod yn dal i chwarae. Ond rwyf hefyd bellach wedi gwisgo crys tîm rygbi'r Senedd ychydig yn fwy diweddar, ac roeddwn yn falch iawn o chwarae dros ein Senedd yma yng Nghymru, a gallaf ddweud nad ydym wedi colli i'r hen elyn Lloegr ers amser maith iawn. Hir oes i hynny barhau yn y chwe gwlad y flwyddyn nesaf.
Felly, gadewch imi ddechrau drwy gydnabod yr effaith enfawr y mae rygbi llawr gwlad wedi'i chael ar ddatblygiad y gamp yma. Rydym yn ffodus iawn yma fod gennym glybiau, ysgolion a chymunedau dirifedi sy'n meithrin cariad at y gêm o oedran cynnar iawn. Y cynlluniau llawr gwlad hyn yw anadl einioes rygbi Cymru, gan adeiladu talent, meithrin gwerthoedd a darparu ymdeimlad o berthyn sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r cae rygbi. Yn bersonol, cyfarfûm â fy ffrindiau gorau ar y cae rygbi, ac rwy'n mwynhau dal i fyny gyda nhw wrth hyfforddi ac ar ddydd Sadwrn ar ôl y gêm dros beint, a dadansoddi'r gêm gyfan.
O'r data diweddaraf sydd ar gael, mae rhwng 250 a 300 o glybiau rygbi wedi'u gwasgaru ar hyd a lled Cymru—
Enwch nhw.
Y clybiau hyn—. Gallwn enwi un neu ddau ohonynt oherwydd fy mod i wedi chwarae yn y rhan fwyaf o lefydd, Jack. [Chwerthin.] Mae'r clybiau hyn yn bair i ddoniau ifanc, lle mae ethos gwaith caled, disgyblaeth a chyfeillgarwch yn cael ei annog. Y lefel llawr gwlad yw lle mae breuddwydion o wisgo'r crys coch eiconig yn cael eu cynnau gyntaf, gan greu llif sydd wedi cyflenwi'r tîm cenedlaethol yn gyson â rhai o'i sêr mwyaf disglair—o fy etholaeth fy hun, chwaraewyr fel Mark Jones a Dan Lydiate, a chapten presennol Cymru, Jac Morgan, a arferai chwarae i Glwb Rygbi Cwmtwrch hefyd, yn fy etholaeth i.
Ond gadewch inni droi ein sylw at y niferoedd sy'n tanlinellu arwyddocâd rygbi llawr gwlad yma yng Nghymru. Mae cyfranogiad ieuenctid yn y gamp wedi gweld cynnydd cyson dros y blynyddoedd, gyda dros 50,000 o chwaraewyr ifanc cofrestredig yng Nghymru. Mae'r cynnydd mewn cyfranogiad yn dyst i ymdrechion diflino hyfforddwyr, gwirfoddolwyr a rhieni sy'n buddsoddi eu hamser a'u hegni i feithrin y genhedlaeth nesaf o sêr rygbi Cymru. Un elfen o rygbi llawr gwlad sy'n bwysig iawn i mi yw manteision iechyd meddwl a chorfforol chwarae rygbi. Rwy'n gwybod o fy mhrofiad personol fy hun fod fy iechyd meddwl yn cael hwb drwy chwarae i fy nghlwb lleol. Mae'n creu ymdeimlad o berthyn, fel y dywedaf, o gyfeillgarwch, ac mae iddo fanteision iechyd corfforol hefyd. Canfu arolwg fod oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol dair neu bedair gwaith yr wythnos yn nodi bod eu hiechyd cyffredinol yn well, eu bod yn teimlo'n llai unig, fod eu boddhad bywyd yn uwch ac yn gyffredinol roeddent yn llawer hapusach. Felly, mae chwaraeon a hamdden yn chwarae rhan enfawr yn ein hiechyd a'n lles cyffredinol.
Cafwyd nifer o fentrau sydd wedi cael eu gwthio gan rygbi dros y blynyddoedd i godi ymwybyddiaeth o rai cyflyrau iechyd. Gallaf gofio'r ymgyrch 'Archwiliwch eich peli', a roddai sylw i ganser y ceilliau, a hefyd Doddie Weir, a roddodd sylw i glefyd motor niwron, ond roeddwn hefyd yn edrych ar y posibilrwydd yn fy etholaeth i o ddefnyddio clybiau rygbi mewn ardaloedd gwledig i gynnal profion iechyd rhywiol, oherwydd yn ein hardaloedd gwledig, fe wyddom nad yw profion iechyd rhywiol yn digwydd, felly, pe gallem annog hynny, er mwyn lleihau nifer y clefydau iechyd rhywiol, byddai'n gadarnhaol, a dyna pam y gallwn ddefnyddio ein clybiau rygbi fel canolfannau i wneud y pethau hyn.
Y tu hwnt i niferoedd y chwaraewyr, mae rygbi llawr gwlad yn chwarae rhan ganolog yn hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth o fewn y gamp. Mae rygbi'n aml yn cael ei galw'n 'gêm i bob lliw a llun', ac mae'n ffynnu ar lawr gwlad am ei fod yn croesawu pob unigolyn o wahanol gefndiroedd, gan feithrin ymdeimlad o undod a phwrpas a rennir. Mae cynlluniau fel timau cymysg o ran rhywedd a rhaglenni allgymorth mewn cymunedau sydd heb eu gwasanaethu'n ddigonol wedi ehangu cwmpas rygbi Cymru, gan ei gwneud yn gamp sy'n adlewyrchu amrywiaeth y genedl.
Rwy'n gwybod, pan ddechreuais chwarae, mai camp i ddynion oedd rygbi'n bennaf, gyda phrin unrhyw fenywod yn chwarae o gwbl. Nawr, mae gan lawer o glybiau rygbi ledled Cymru dimau menywod, ond mae gennym dimau LHDT-gynhwysol hefyd ac mae gennym dimau ar gyfer pobl sydd ag anabledd, felly mae rygbi mewn gwirionedd yn gamp i bawb. Mae'n hanfodol cydnabod yr effaith economaidd y mae rygbi llawr gwlad yn ei chael hefyd; mae busnesau lleol, sy'n cael eu sbarduno gan y diwylliant rygbi hwnnw, yn ffynnu a daw cymunedau at ei gilydd bob wythnos i gefnogi eu clybiau. Felly, mae tafarndai lleol yn elwa, mae cyflenwyr offer chwaraeon lleol yn elwa, ac mae effaith ganlyniadol rygbi llawr gwlad yn cyrraedd ymhell y tu hwnt i'r llinell ystlys, gan gyfrannu at fywiogrwydd economaidd cyffredinol cymunedau Cymru.
Fodd bynnag, wrth ddathlu llwyddiant rygbi llawr gwlad, mae hefyd yn hanfodol cydnabod yr heriau y mae'r clybiau hyn yn eu hwynebu. Gall adnoddau cyfyngedig, yn ariannol ac o ran seilwaith hefyd, a hefyd y prinder chwaraewyr profiadol sydd gennym nawr ledled Cymru, greu rhwystrau i dwf y gamp ar lawr gwlad, ac mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn galw am ymdrech ar y cyd gan selogion y byd rygbi, cyrff rheoli a noddwyr i sicrhau bod sylfeini rygbi Cymru yn parhau'n gadarn ac yn wydn.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae rygbi llawr gwlad yng Nghymru yn ymwneud â mwy na'r gêm ei hun yn unig. Mae'n ymwneud ag adeiladu cymeriad, meithrin cymuned a choleddu breuddwydion. Mae'n ymwneud â dysgu gwerthoedd sy'n mynd y tu hwnt i'r cae rygbi a pharatoi unigolion ifanc ar gyfer yr heriau y byddant yn eu hwynebu mewn bywyd. Wrth inni gymeradwyo buddugoliaethau ein tîm cenedlaethol ar y llwyfan mawr, gadewch inni beidio ag anghofio bod pob cais, pob sgrym a phob tacl yn dechrau ar lawr gwlad. Felly, hir y parhaed rygbi llawr gwlad yma yng Nghymru.
Diolch, James, am roi munud o'ch amser i mi. Rwyf wedi siarad o'r blaen am staff y stafell gefn, yr hyfforddwyr, y rhieni, y cefnogwyr sy'n cadw clybiau llawr gwlad yn fyw, ond rwyf am dreulio fy munud yn canolbwyntio ar y noddwyr, y busnesau lleol sy'n aml yn addurno'r crysau gan ganiatáu i bobl ifanc chwarae chwaraeon llawr gwlad, ac os caf dalu teyrnged i un gŵr bonheddig, Ty Francis, etholwr i mi, ac un o Gymry Efrog Newydd, sydd wedi mynd allan o'u ffordd i sicrhau bod llawer o glybiau ar draws Cymru, clybiau llawr gwlad, yn cael eu noddi gan Gymry Efrog Newydd: Pembroke Ladies yn fy etholaeth i, i nodi un enghraifft; y South Pembs Sharks, enghraifft arall. Ac fel y nododd James yn ei gyfraniad hefyd, mae rygbi ar gyfer pawb a phob gallu ac mae tîm gallu cymysg Pembrokeshire Vikings yn un o'r timau hynny sy'n gwneud gwaith cwbl anhygoel, gan ddod â'r abl a'r anabl at ei gilydd mewn tîm rygbi ar gae rygbi. Ac ychydig wythnosau'n ôl yn unig, roeddent yn ddigon ffodus, yn ddigon lwcus, i fynd ar y cae yn Stadiwm Principality ac ennill, felly llongyfarchiadau mawr iddyn nhw. A diolch i Ty Francis, Cymry Efrog Newydd, a phawb sy'n noddi chwaraeon ar lawr gwlad yma yng Nghymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch i chi, James, am ddod â'r ddadl bwysig hon i lawr y Senedd heddiw. Roeddwn eisiau gwneud sylw penodol am rygbi menywod a merched, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd wedi ffrwydro yn ei boblogrwydd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac fe chwythodd yr ystadegau hyn fy meddwl yn llwyr, mae'n rhaid i mi ddweud: yn 2015, roedd 170 o fenywod a merched yn cymryd rhan mewn rygbi; erbyn 2018, roedd y ffigur yn 10,000. Felly, mae'n dangos y ffrwydrad mawr o ddiddordeb mewn rygbi merched. Bydd llawer o hynny'n cael ei yrru gan bencampwriaeth chwe gwlad y menywod, er enghraifft—a gwyliwyd y bencampwriaeth eleni gan fwy nag erioed ohonom.
Ond rwy'n falch fod y ddadl hon yn canolbwyntio ar y gêm gymunedol, oherwydd mae'n caniatáu i mi gyfeirio'n benodol at Porthcawl SheGulls yn fy rhan i o'r byd, y mae fy mhartner, Abigail, newydd ddechrau chwarae drostynt hefyd. Er ei fod yn ymwneud â chyfarfod â phobl newydd, cadw'n heini a'r cyfeillgarwch y clywsom amdano, gadewch inni beidio ag anghofio fod yna gyflawniad chwaraeon yn y fantol yma hefyd, ac rydym yn anghofio hynny weithiau. A dyna pam rwy'n arbennig o falch o ddilyn yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Samuel Kurtz, yn y ddadl hon oherwydd roedd yna gêm ar frig cynghrair gorllewin Cymru yn gynharach y mis hwn, lle cafodd Penfro eu curo gan Borthcawl 30-10 i gyrraedd brig cynghrair gorllewin Cymru. Felly, llongyfarchiadau mawr i Borthcawl, a bydd croeso mawr i lawer mwy o fuddugoliaethau dros bob tîm yn ardal Samuel Kurtz. [Chwerthin.]
Diolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl fer hon. Roeddwn yn chwarae rygbi yn ôl yn yr ysgol i ddau dîm, Clwb Rygbi Tondu a Chlwb Rygbi Pencoed, a Phencoed yn amlwg wedi cynhyrchu llu o chwaraewyr rhyngwladol, a Sam Costelow a Tommy Reffell yn fwyaf diweddar. Yn amlwg, ni chefais fy newis. Gall James Evans a Sam Kurtz ddweud wrthych pam ar ôl gweld fy mherfformiad ar y cae ar ran tîm rygbi'r Senedd.
Ond un o'r pethau rwy'n awyddus i'w crybwyll yw nad oes llawer o glybiau rygbi ledled Cymru yn berchen ar y caeau mewn gwirionedd, nac adeiladau'r clybiau eu hunain mewn rhai achosion. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod sut y gallai Llywodraeth Cymru helpu clybiau o'r fath i ddiogelu eu dyfodol, nid yn unig o ran yr eiddo, ond hefyd gyda'u dyfodol ariannol, o ystyried y trafferthion y mae llawer ohonynt yn eu hwynebu ar hyn o bryd gyda'r argyfwng costau byw.
Rwy'n cael fy nhemtio i enwi ychydig o dimau yn fy etholaeth fy hun, ond fe adawaf i'r Dirprwy Weinidog ymateb i'r ddadl. [Chwerthin.]
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am enwi Clwb Rygbi Merthyr gan fy mod ar fy nhraed, diolch.
Diolch, James, am y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Mae rygbi llawr gwlad, ynghyd â'r holl chwaraeon cymunedol llawr gwlad wrth gwrs, yn rhan annatod o fywyd cymunedol i lawer o drefi a phentrefi ledled Cymru. Ac fel rydych eisoes wedi nodi, mae llawer o glybiau wedi'u lleoli wrth galon yr ardaloedd y maent yn eu cynrychioli, gan gynnig canolbwynt sy'n darparu buddion ehangach i'r cymunedau sy'n mynd ychydig y tu hwnt i fwynhad o chwaraeon, fel y nodwyd gennych yn gwbl briodol—y manteision o wella eu hiechyd a'u lles meddyliol a chorfforol. Ond mae buddsoddiad yn rhan bwysig o rygbi llawr gwlad ac mae Luke Fletcher wedi tynnu sylw at hynny. Felly, hoffwn siarad yn fyr am beth o'r gefnogaeth a fu ar gael mewn rygbi llawr gwlad ac sy'n parhau i fod ar gael.
Rwy'n siŵr y bydd o ddiddordeb mawr i James glywed bod chwaraeon cymunedol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn 2022-23, gan gynnwys clybiau rygbi Llanfair-ym-Muallt a Thref-y-clawdd, wedi elwa o dros £112,000 o gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Ac mae honno'n rhan o raglen buddsoddi cyfalaf Chwaraeon Cymru, sy'n werth £8 miliwn y flwyddyn, ac mae hynny'n cynnwys grŵp cydweithredu ar gaeau artiffisial, lle mae rygbi'n chwarae rhan ganolog wrth nodi prosiectau cymunedol priodol ar gyfer buddsoddi.
Mae'r manteision o fod yn rhan o rygbi llawr gwlad yn lluosog wrth gwrs, boed drwy chwarae, hyfforddi, gwirfoddoli, gwylio neu ddim ond gweithio yn y clwb hyd yn oed. Gall ddarparu balchder lleol ac ymdeimlad o le a chreu cysylltiadau cryf sy'n pontio'r cenedlaethau, heb sôn am y manteision iechyd corfforol a meddyliol hirdymor y cyfeiriwyd atynt eisoes.
Ac mae'n dda gweld bod llawer o glybiau'n ehangu apêl rygbi i groestoriad ehangach o'r gymdeithas, fel y nododd Tom Giffard. Y gêm sy'n tyfu gyflymaf ymhlith menywod a merched ar hyn o bryd yw rygbi. Ond yn dilyn cyhoeddi'r arolwg allanol diweddar i wreig-gasineb, hiliaeth a homoffobia yn Undeb Rygbi Cymru (URC), mae'n amlwg fod llawer iawn o waith i'w wneud yn y maes hwn o hyd. A byddwn yn gweithio gydag URC i gynorthwyo, ym mha bynnag ffordd y gallwn, i sicrhau'r newidiadau sydd eu hangen i gyflawni'r math o amrywiaeth a nododd James yn ei gyfraniad.
Wrth gwrs, mae fersiynau amgen o rygbi wedi eu sefydlu, fel rygbi cerdded, rygbi cyffwrdd a saith bob ochr, ac mae hynny'n caniatáu i ragor eto o bobl gymryd rhan. Ac i gefnogi clybiau i adeiladu ar hyn, mae URC wedi sefydlu eu rhaglen Dysgu URC, sy'n helpu i annog, cynnwys, hyrwyddo a chefnogi clybiau ym mhob agwedd ar rygbi cymunedol, gan greu awyrgylch cadarnhaol a fydd o fudd i glybiau a'r cymunedau yn gyffredinol. Ac yn sicr, rwy'n dymuno pob llwyddiant i URC wrth iddynt gyflwyno'r platfform newydd cyffrous hwnnw.
Mae clybiau llawr gwlad hefyd yn llefydd y mae pobl yn troi atynt yn rheolaidd wrth gwrs, ac yn dibynnu arnynt ar gyfer achlysuron a digwyddiadau cymdeithasol, ac fel y gwelsom y gaeaf diwethaf, yn llefydd i gadw'n gynnes i lawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd cadw eu cartrefi ar dymheredd iach. A llynedd, mewn ymateb i'r prisiau ynni uchaf erioed, chwyddiant uchel a'r argyfwng costau byw, sefydlodd Llywodraeth Cymru rwydwaith o ganolfannau clyd, wedi'u cynnal gan £1 filiwn o gyllid am amser cyfyngedig. Agorodd llawer o glybiau rygbi lleol eu drysau yn rhan o'r cynllun hwn ac mewn rhai achosion byddent yn cynnig ystod eang o gymorth ohonynt eu hunain. Ac roedd hynny'n amrywio o ddarparu bwyd a diod cynnes i fod yn rhywle i gymdeithasu ag eraill a oedd yn yr un sefyllfa, gan leddfu'r unigrwydd a all ddod weithiau o fod yn gaeth gartref. Ac yn hynny o beth, rwy'n ystyried bod cael lles rygbi cymunedol yn rhan uniongyrchol o fy mhortffolio yn gyfrifoldeb mawr, a dyna pam rwy'n gwerthfawrogi'r gwahoddiadau rheolaidd niferus rwy'n eu cael i fynd i glybiau chwaraeon llawr gwlad ledled Cymru sy'n fy ngalluogi i weld yn uniongyrchol y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud, gan ddod â manteision cymunedol enfawr i bawb sy'n gysylltiedig.
Crybwyllodd James yr heriau sy'n wynebu rygbi llawr gwlad, fel y gwnaeth Luke Fletcher—yn enwedig effaith y costau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw. Mae hwn yn fater brys i lawer o glybiau rygbi llawr gwlad wrth iddynt gael eu taro gan gynnydd sylweddol yn eu costau ynni o ddydd i ddydd. Ac er na fyddai Chwaraeon Cymru fel arfer yn ariannu costau ynni, yn gynharach eleni, fe wnaethant weithredu'r grant arbedion ynni, a oedd yn caniatáu i glybiau gael mynediad at hyd at £25,000 ar gyfer gwaith uwchraddio fel gosod paneli solar. Mae'r cyllid hwnnw bellach wedi dod i ben, ond rwy'n obeithiol y bydd yn ailagor eto yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae clybiau'n wynebu'r bygythiad cysylltiedig wrth i'w haelodau dorri'n ôl ar eu gwariant eu hunain, gan leihau'r llif refeniw hanfodol pan fo fwyaf o'i angen. Dangosodd ymchwil ddiweddar gan Chwaraeon Cymru fod dau o bob pump ymatebydd—40 y cant—yn cytuno bod yr argyfwng costau byw'n cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn egnïol.
Felly, mewn ymateb i hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £0.5 miliwn ychwanegol y flwyddyn i Chwaraeon Cymru am y ddwy flynedd rhwng 2022 a 2024 i gefnogi cyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau partner eraill cenedlaethol, i'w ddefnyddio gan eu haelodau a'u clybiau. Mae Chwaraeon Cymru wedi ychwanegu at y buddsoddiad hwn, gan gynyddu cyfanswm y gronfa sydd ar gael i £1.5 miliwn. Ac mae partneriaid wedi defnyddio hwn yn arloesol i helpu i leddfu pwysau ariannol ar aelodau a chysylltiadau, gan sicrhau y gallant barhau i fwynhau cymryd rhan yn y chwaraeon y maent yn eu caru.
Ond er bod Gweinidogion a swyddogion yn cyfathrebu'n rheolaidd â'r sector, mae'r bygythiad y bydd clybiau llawr gwlad yn mynd i'r wal yn bryder sylweddol, felly rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos. Ac o ystyried cefndir yr argyfwng costau byw, mae'n werth nodi bod cyllid Chwaraeon Cymru yn targedu amddifadedd ac anghydraddoldebau ehangach. Yn ogystal â hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon, maent yn amlwg wedi cyflawni yn erbyn yr agenda honno, a bydd buddsoddiad yn y dyfodol yn caniatáu i hyn barhau i adeiladu mwy o gadernid a chydweithio ar draws eu ffrydiau cyllido.
Mae URC hefyd wedi cydnabod y rhan y gallant ei chwarae yn helpu i leddfu pwysau ariannol a sicrhau chwarae teg er mwyn gwella cyfranogiad. Mae eu cynllun Fit, Fed and Fun llwyddiannus wedi bod ar waith ers dwy flynedd bellach, ac mae wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n manteisio arno. Eleni gwelwyd ychydig dros 14,000 yn mynychu'r sesiynau, gyda'r cynllun yn darparu 12,000 o brydau bwyd, yn ogystal â 18,000 darn o ffrwyth. Rhoddwyd yr holl fwyd dros ben i fanciau bwyd, llochesi menywod a phecynnau bwyd i blant fynd â nhw adref gyda nhw. Yn ogystal, er mwyn galluogi plant heb git i gymryd rhan, cafodd 1,000 o barau o esgidiau Gilbert eu darparu yn rhan o'r rhaglen.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, nod y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud nawr ac yn y dyfodol yw cefnogi rygbi llawr gwlad mewn cyfnod anodd a'u helpu i barhau yn yr amseroedd gwell. Diolch.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog, a diolch, pawb. Daw hynny â busnes heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:55.