Y Cyfarfod Llawn
Plenary
22/11/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn gyntaf gan Samuel Kurtz.
1. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datblygiad sgiliau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ60278
Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn gweithio ar y cyd â diwydiant, busnesau, darparwyr dysgu a rhanddeiliaid allweddol i gynyddu ein capasiti sgiliau ledled Cymru. Bydd hyn yn ein helpu i dyfu gweithlu medrus ac amrywiol i ddiwallu anghenion ein heconomi yn y dyfodol ac edrychaf ymlaen at wneud hynny ar draws sir Gaerfyrddin a sir Benfro.
Diolch, Weinidog. Efallai eich bod wedi clywed ddoe yn fy nghwestiwn i’r Prif Weinidog imi gymryd rhan mewn trafodaeth bord gron yn ddiweddar yng ngorsaf bŵer RWE ym Mhenfro yn fy etholaeth, lle bu'r diwydiant a rhanddeiliaid yn nodi eu dymuniadau mewn perthynas â gwneud y mwyaf o’r cyfle yn y sector ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio Clwstwr Diwydiannol De Cymru, sy'n ymestyn o Went i sir Benfro. Fe fyddwch yn ymwybodol o weledigaeth Clwstwr Diwydiannol De Cymru a’r cyfleoedd, na, yr angen i ddatgarboneiddio ein diwydiannau, ein cyflogwyr mawr yn ne Cymru. Fodd bynnag, Weinidog, yr hyn a bwysleisiwyd yn y drafodaeth bord gron oedd yr angen i ddiogelu sgiliau at y dyfodol, ac os ydym am wneud y mwyaf o fanteision y prosiectau yn y môr Celtaidd ac ar draws y de, mae gwir angen inni weithio gyda’n colegau a'n sectorau hyfforddi i baratoi ar gyfer y gweithlu medrus y bydd ei angen arnom yn y dyfodol. Felly, a fyddech yn cytuno â mi ei bod yn bryd edrych ar Glwstwr Diwydiannol De Cymru, nid yn unig fel clwstwr diwydiannol, ond fel cyfle ar gyfer canolfan ragoriaeth sgiliau, sy'n ymestyn ar draws coridor de Cymru, i gefnogi’r sgiliau y bydd eu hangen yn y dyfodol yn y sectorau hyn? Diolch, Lywydd.
Iawn. Rydym yn parhau i gael sgyrsiau adeiladol iawn gydag RWE a’r clwstwr ehangach. Dyna pam y gwnaethom greu Diwydiant Sero Net Cymru—i’n helpu i wneud cynnydd ar y daith tuag at ddatgarboneiddio mewn ffordd sy’n sicrhau pontio teg yn ein barn ni. Oherwydd mae yna gyfleoedd ar gyfer swyddi yn y dyfodol yn ogystal â’r tarfu y bydd y cyfnod pontio yn ei greu. Cyfarfûm ag RWE pan oeddwn yn yr Almaen yr wythnos diwethaf, a chawsom sgwrs am ystod o’u cynlluniau, gan ganolbwyntio, yn amlwg, ar yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud yn sir Benfro a’i effaith ehangach hefyd. Yr her fydd sut y llwyddwn i gael gwahanol ganghennau o Lywodraeth yma, llywodraeth leol a rhanbarthau ardal bargen ddinesig bae Abertawe, ac nid yn unig yr awdurdodau lleol unigol, ond hefyd i sicrhau bod gennym amgylchedd cefnogol gyda Llywodraeth y DU i fanteisio ar yr holl gyfleoedd hynny. Mae’n faes arall lle credaf y gall ymagwedd bragmatig ysgogi cyfleoedd sylweddol i Gymru a’r hyn y gallwn ei wneud.
A dylwn nodi, gan fod yr Aelod wedi gofyn cwestiynau am sgiliau yn y dyfodol yn yr ardal hon, nid yn unig ein bod yn y lle iawn gyda'n polisi a'r hyn y dymunwn ei wneud, ond wrth gwrs, mae Coleg Sir Benfro yn rhan allweddol o hynny. Ac mae’n werth nodi, o ran sgiliau, yn y gystadleuaeth sy'n bodoli o ran sgiliau, fod Cymru’n parhau i wneud yn well na’r disgwyl. Enillwyd pum medal gan fyfyrwyr yng Ngholeg Sir Benfro yng nghystadleuaeth sgiliau sylfaenol y DU yn ddiweddar. Felly, mae'n dangos bod y dalent yno; mae angen inni sicrhau bod y llwybrau yno i’r bobl hynny gael swyddi ag iddynt dyfodol hirdymor ac a fydd o fudd i bob un ohonom.
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith hawliau datblygu a ganiateir ar y sector twristiaeth? OQ60273
A gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn? Rwy’n ymgysylltu’n rheolaidd â rhanddeiliaid yr economi ymwelwyr mewn perthynas â thwristiaeth a materion ehangach, gan gynnwys hawliau datblygu a ganiateir.
Diolch. Fel y gwyddoch chi a minnau, twristiaeth yw asgwrn cefn ein heconomi, nid yn unig yn y gogledd, ond ledled Cymru, ond yn y gogledd, mae’n cynhyrchu £1.8 biliwn yn flynyddol. Yn ôl y baromedr twristiaeth diweddaraf, dim ond yn y sector atyniadau y mae lefelau ymwelwyr wedi codi. Mae pob sector arall yn nodi niferoedd is, at ei gilydd, yn enwedig darparwyr gweithgareddau, lle mae 62 y cant yn nodi niferoedd is, a 48 y cant o feysydd carafanau a gwersylla yn nodi niferoedd is. Nawr, mae rhai tirfeddianwyr wedi bod yn defnyddio ac yn arfer eu hawliau datblygu a ganiateir i redeg y safleoedd dros dro hynny ar gyfer pebyll, carafanau, faniau gwersylla a chartrefi modur am hyd at 28 diwrnod y flwyddyn, heb fod angen gwneud cais cynllunio ychwanegol. Ond mae nifer fawr o'r rheini wedi dweud wrthyf eu bod am weld rheolau tebycach i Loegr, lle gallwch wneud yr un fenter yn union am 60 diwrnod. Felly, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi tirfeddianwyr a’r sector twristiaeth drwy ymestyn yr hawliau datblygu a ganiateir o 28 diwrnod i 60. A wnewch chi roi'r un peth ar waith yma yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, diolch am eich cwestiwn atodol, Janet. Ac rydych yn llygad eich lle, roedd ymestyn y terfyn amser ar gyfer defnyddio tir dros dro ar gyfer meysydd gwersylla yn rhan o'r mesurau mewn perthynas â phandemig COVID-19. Roedd gennym gyfyngiadau ar deithio tramor, felly roeddem yn ceisio helpu’r diwydiant twristiaeth a phobl yr oedd angen gwyliau arnynt drwy ganiatáu datblygu a ganiateir ar safleoedd gwersylla. Felly, rydym bellach yn ystyried effeithiau hirdymor hawliau datblygu estynedig ar gyfer meysydd gwersylla dros dro, ac mewn gwirionedd, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar hyn. Mae’r ymgynghoriad hwnnw bellach ar ben, ac nid oes penderfyniad wedi’i wneud ar y cynigion hynny eto. Ac roedd yr ymgynghoriad hwnnw'n gofyn a ddylem ymestyn o'r cyfnod 28 diwrnod presennol, rhywbeth y gwnaethom ddychwelyd ato, fel y dywedwch, yn gwbl gywir, ac ni wnaeth Lloegr. Ond yn y cyfamser, wrth inni ystyried hynny, mae’n deg dweud y gall tirfeddianwyr wneud cais am ganiatâd cynllunio o hyd. Felly, os ydynt ar safle, a bod ganddynt eu datblygiad a ganiateir am hyd at 28 diwrnod, os hoffent ymestyn hynny, gallant wneud cais am ganiatâd cynllunio yn y ffordd arferol. Ac yna, wrth gwrs, bydd yr awdurdod lleol yn edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â chynllunio, fel y byddent yn ei wneud fel arfer, o ran agosrwydd at drigolion a thraffig ac ati. Ond fe wyddom, a chredaf ei bod yn bwysig dweud hyn, drwy’r broses ymgynghori, ein bod wedi nodi pryderon gan drigolion lleol, yn ogystal â’r manteision i’r diwydiant twristiaeth. Mae'n rhaid ichi sicrhau'r cydbwysedd hwnnw—
Yn sicr, oes.
Mae’n rhaid ichi sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng yr hyn sy’n iawn ar gyfer twristiaeth a’r hyn sy’n iawn ar gyfer trigolion lleol. A chlywsom bryderon gan drigolion sy'n byw'n agos at feysydd gwersylla dros dro ac sydd wedi cwyno am sŵn a tharfu. Ac yn amlwg, mae gennym broblemau o ran traffig meysydd gwersylla yn defnyddio lonydd cul, ac yn y blaen. Felly, mae'n ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd, ond byddwn yn gwrando ar yr holl ddadleuon a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad, a byddwn yn eu hystyried yn ofalus yng ngoleuni ein polisïau cynllunio a thwristiaeth. Dylwn ddweud, yn amlwg, mai cyfrifoldeb y Gweinidog Newid Hinsawdd yw materion yn ymwneud â datblygu a ganiateir wrth gwrs, a gwn fod ganddi gryn ddiddordeb yn y mater hwn, ac rwy'n siŵr y bydd ganddi ddiddordeb mewn clywed y safbwyntiau a fynegwyd ar hyn heddiw, yn ogystal â'r rheini o'r ymgynghoriad ffurfiol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Tom Giffard.
Diolch yn fawr. Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o benderfyniad dadleuol diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru i ddadariannu National Theatre Wales, sydd wedi achosi llawer iawn o bryder i’r bobl yn y diwydiant. Mae’r penderfyniad, o bosibl, yn peryglu hyfywedd ariannol y theatr genedlaethol yn y dyfodol, a dyfodol theatr Saesneg yng Nghymru yn fwy cyffredinol. Yr hyn sydd hefyd yn nodedig yw nad yw asesiad effaith CCC yn cynnwys unrhyw ffigurau. Fodd bynnag, ar ôl gwneud y penderfyniad, dywedodd cyngor y celfyddydau y byddent yn cynnal adolygiad o theatr Saesneg yng Nghymru. Ond a ydych yn rhannu fy mhryder, Ddirprwy Weinidog, fod penderfynu cynnal adolygiad o’r fath ar ôl gwneud penderfyniad i ddadariannu sefydliad, sy’n cyrraedd degau o filoedd o bobl bob blwyddyn drwy theatr Saesneg ei hiaith, yn rhoi’r drol o flaen y ceffyl?
A gaf fi ddiolch i Tom Giffard am ei gwestiwn? Fel y gwyddoch, mae holl gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn cael ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, ac maent yn gweithredu ar egwyddor hyd braich. Ac o dan yr egwyddor honno, penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r adolygiad buddsoddi, sef yr hyn y soniwch amdano, ac sydd wedi arwain at y penderfyniad ar National Theatre Wales. Nawr, yr hyn rwy'n falch o'i weld yw bod eu hadolygiad cyntaf wedi'r pandemig bellach wedi'i gwblhau, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd penderfyniadau cyngor y celfyddydau yn cefnogi ac o fudd i gymunedau Cymru. Mater i Gyngor Celfyddydau Cymru, fel y dywedais, yw canlyniadau’r adolygiad buddsoddi, ac rwy’n cydnabod eu bod wedi bod drwy broses drylwyr iawn, a’u bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn yn ôl y gofyn wrth fynd drwy'r broses honno. Wrth gwrs, mae proses apelio annibynnol ar y gweill ar hyn o bryd, ac felly ni fyddai'n briodol imi wneud sylwadau pellach tra bo proses apelio annibynnol yn mynd rhagddi. Ond rwy'n croesawu cyhoeddiad Cyngor Celfyddydau Cymru a’u hymrwymiad i ymgymryd ag ymyriadau strategol ar draws nifer o ddisgyblaethau dros y flwyddyn nesaf.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, rwy’n deall eich bod newydd gyfeirio’n eithaf clir at egwyddor hyd braich y rôl, yr wyf yn ei deall ac yn ei pharchu, ond nid wyf yn siŵr a all Llywodraeth Cymru olchi ei dwylo o’r penderfyniad hwnnw’n llwyr. Yn y pen draw, arian trethdalwyr yw hwn, ac fel Dirprwy Weinidog y celfyddydau yn Llywodraeth Cymru, mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod yr arian hwnnw’n cael ei wario’n effeithiol, yn effeithlon, yn ogystal â diogelu iechyd ehangach sector y celfyddydau yng Nghymru. Ond yn ychwanegol at hynny, efallai nad penderfyniad i'r cyngor celfyddydau yw'r penderfyniad i ddadariannu'r theatr genedlaethol o gwbl, ac efallai ei fod yn dod yn ôl at Lywodraeth Cymru, ac felly, yn gyfrifoldeb i chi, Ddirprwy Weinidog. A chyfeiriaf at gytundeb 'Cymru’n Un’ yn 2007, a oedd yn addo
'sefydlu Theatr Genedlaethol Saesneg ei hiaith',
er mwyn ehangu
'cyfle…er mwyn sicrhau nad yw incwm isel yn rhwystro pobl rhag cymryd rhan.'
Nid wyf wedi gweld cyhoeddiad dilynol gennych chi, nac unrhyw un o'ch rhagflaenwyr, i awgrymu nad dyna yw polisi'r Llywodraeth mwyach. Felly, a wnewch chi gadarnhau p'un a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r gorau i’w haddewid yn 2007 i sefydlu theatr Saesneg ei hiaith yng Nghymru?
Na, ddim o gwbl, ond ni allaf ddewis a dethol fel Gweinidog y celfyddydau. Ni allaf ddewis a dethol lle mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyflawni ei gyfrifoldebau fel corff hyd braich. Mae union natur corff hyd braich yn golygu mai dyna'n union y maent yn ei wneud. Maent yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain, ac maent yn dosbarthu eu cyllid yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodwyd gennym yn ein llythyr cylch gwaith atynt, fel nad ydynt yn gweithredu'n gwbl groes i'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl fel Llywodraeth Cymru. Ond yn sicr, mater i Gyngor Celfyddydau Cymru yw’r ffordd y caiff eu cyllid ei ddosbarthu, a’r ffordd y maent wedi cynnal eu hadolygiad buddsoddi, gan mai dyna yw ystyr yr egwyddor hyd braich.
Diolch. Roedd Llywodraeth Lafur Cymru yn awyddus iawn i dderbyn y clod yn 2007 pan gafodd hyn ei sefydlu—fel y dywedaf, roedd ei sefydlu'n rhan o gytundeb 'Cymru’n Un’. Ond nawr ei fod wedi cael ei ddadariannu, mae'r Gweinidog yn golchi ei dwylo ohono. Mae'r theatr genedlaethol yma wedi’i dadariannu’n llwyr. Os mai eu cyfrifoldeb nhw yw popeth, fel y dywedwch, ac nad yw cyrff cyhoeddus yn ddim i'w wneud â chi, bydd pobl yn meddwl beth yn union yw pwynt cael Dirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y celfyddydau. Nid yw’n syndod, felly, fod hyd yn oed eich partneriaid cydweithio eich hun wedi troi arnoch yr wythnos ddiwethaf hon, gyda Heledd Fychan yn dweud, yn rhyfeddol, nad oes hyrwyddwr dros y celfyddydau yn Llywodraeth Cymru. Yn wir, mewn ymyriad prin yr wythnos hon ar raglen Politics Wales, dywedodd cyfarwyddwr artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow, fod sector y celfyddydau yng Nghymru 'mewn argyfwng', ond ar yr un rhaglen, roeddent yn dweud nad oedd y Dirprwy Weinidog ar gael i roi sylwadau. Onid yw’n dweud y cyfan am flaenoriaethau’r Dirprwy Weinidog, un y gwyddom ei bod yn mwynhau teithiau tramor, gan wneud cyfanswm o 175 o deithiau domestig mewn car gweinidogol mewn un flwyddyn—y mwyaf o blith yr holl Ddirprwy Weinidogion—a hedfan ar draws y byd yn dilyn timau chwaraeon, gan gynnwys taith gwerth £30,000 i Seland Newydd, ond eto, pan fo’r celfyddydau mewn argyfwng yng Nghymru, nid yw’r Dirprwy Weinidog ar gael i roi sylwadau, ac nid oes golwg ohonoch. Mae eich rôl yn ymwneud â llawer mwy na dim ond cyfleoedd i dynnu lluniau a thorri rhubanau; mae'n ymwneud â bod yn hyrwyddwr ar ran y diwydiant. Felly, pryd ydych chi am fynd i'r afael â'r sefyllfa, derbyn y cyfrifoldeb a bwrw ymlaen â'r gwaith?
Nid wyf hyd yn oed yn siŵr fod yr ymosodiad hwnnw'n haeddu ymateb, Lywydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Cyn cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, cafodd y sector addysg bellach ei friffio gan y Llywodraeth i ddisgwyl gostyngiad o 3 y cant mewn cyllid prentisiaethau y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, cysylltodd llawer yn y sector â mi i fynegi eu syndod wrth ganfod bod y gostyngiad, mewn gwirionedd, yn 24.5 y cant. Nawr, un o'r rhesymau a grybwyllwyd i gyfiawnhau'r gostyngiad oedd bod cyllid prentisiaethau'n seiliedig ar alw, ac nad oedd y galw yno. Unwaith eto, mae cymheiriaid yn y sector addysg bellach wedi cysylltu â mi i ddweud nad yw hynny'n wir. Felly, er eglurder, pwy sy'n gywir, a phwy sy'n anghywir?
Nid yw'r dewisiadau ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru wedi'u pennu'n derfynol. Rydym yn parhau i gael sgyrsiau gonest ar draws pob sector am y sefyllfa gyllidebol hynod anodd sy’n ein hwynebu—cyfuniad o dwf isel, chwyddiant uchel a’r realiti fod ein cyllidebau yn werth llawer llai na phan gynhaliwyd yr adolygiad o wariant. Ac ni ellir gwadu'r ffaith y bydd yn rhaid i bob Gweinidog wneud dewisiadau anhygoel o anodd.
Mae hyn hefyd, wrth gwrs, wedi’i waethygu am ein bod wedi colli cronfeydd blaenorol yr UE. A dim ond hyn a hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i lenwi pob un o'r bylchau sydd wedi'u creu. Edrychaf ymlaen at gael sgyrsiau adeiladol pellach gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth, a’r sectorau ehangach, am realiti ein holl ddewisiadau. Rwy'n cydnabod y bydd pryder ym mhob sector pan fydd yn rhaid inni wneud dewisiadau. Ac mae'n ddigon teg fod yr Aelodau'n dymuno craffu a gofyn cwestiynau ynghylch hynny, wrth gwrs. Os yw pobl am gynnig dewisiadau eraill, bydd hynny’n golygu symud arian o un rhan o’r Llywodraeth i’r llall, gyda’r anawsterau ychwanegol y byddai hynny’n eu hachosi.
Rwy'n derbyn, wrth gwrs, nad yw'r gyllideb yn derfynol, ond credaf fod sawl peth yma sy'n eithaf brawychus. I gychwyn, o ystyried maint yr her sy’n ein hwynebu gyda'r bwlch sgiliau, pam na fanteisiodd llawer mwy o bobl ar y gronfa yn y lle cyntaf? Ar y cyfiawnhad drosti, dywedodd y Llywodraeth ym mhroses y gyllideb fod y nifer sy'n manteisio arni, ac felly, y galw, yn isel, ond mae ei ffigurau ei hun i'w gweld yn awgrymu bod y nifer sy’n manteisio arni'n cynyddu. Ac yn y ffigurau ar gyfer ail chwarter 2022 a 2023, roedd cynnydd o 25 y cant yn nifer y rhai a gychwynnodd brentisiaethau lefel 3. Nawr, os bydd y data a gaiff ei ryddhau yfory yn dangos cynnydd, ble mae hynny’n gadael y Llywodraeth a cholegau?
Ac yn ail, er gwaethaf sesiwn friffio Llywodraeth Cymru i'r sector, mae'n amlwg fod y Llywodraeth wedi methu cyfleu'r hyn a oedd yn dod yn y gyllideb hon i'r sector. Gwnaed gwaith modelu ar y ffigurau a ddarparwyd gan y Llywodraeth. Ni wnaeth hynny ond achosi pryder o fewn y sector addysg bellach. Nawr, wrth gwrs, rydym yn clywed dro ar ôl tro gan golegau eu bod yn ansicr ynghylch beth yn union y mae’r Llywodraeth yn ei ddisgwyl ganddynt o ran darparu cyrsiau a fydd yn mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau a chyfrannu at y broses o bontio i economi werdd. Felly, a yw hon yn enghraifft arall o’r Llywodraeth yn methu cyfathrebu â’r sector a bod yn glir ynghylch ei strategaeth?
Mae angen imi ddweud yn glir: nid wyf am gael fy nenu i wneud sylwadau ar wybodaeth a ddatgelwyd yn answyddogol. Nid wyf wedi gweld yr hyn y cyfeiria'r Aelod ato. Ond mae'n bwysig ein bod yn gallu cael sgyrsiau gonest gyda rhanddeiliaid wrth inni fynd drwy broses gyllidebol. Y dewis arall yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr holl ddewisiadau heb unrhyw ymgysylltu, gan beri syndod pan gyhoeddir y gyllideb, ac mae angen inni ddeall a gweithio drwy effaith wirioneddol unrhyw ddewisiadau a wnawn yn ogystal â'n cyfrifoldeb anosgoadwy i osod cyllideb wedi'i mantoli. Mae'n rhaid i’r Llywodraeth wneud hynny a bydd yn gwneud hynny pan fydd y Gweinidog cyllid yn gosod y gyllideb honno ar ran y Llywodraeth gyfan.
Felly, mae yna ddewisiadau anodd iawn. Rwyf wedi nodi o'r blaen, wedi inni fynd drwy'r dewisiadau cyllidebol yn ystod y flwyddyn y bu'n rhaid i ni eu gwneud, nad oedd digon o niferoedd ar y pryd. A nodais yma ac yn y pwyllgor craffu, rwy'n credu, pe na baem yn y sefyllfa gyllidebol rydym ynddi, buaswn yn gwneud mwy o ymdrech i fod eisiau i fwy o bobl fanteisio ar y cyfleoedd hynny am sgiliau a phrentisiaethau. Rwy'n gwneud yr hyn sy’n gyfrifol, fel Gweinidog unigol ac fel rhan o’r Llywodraeth gyfan, i sicrhau ein bod yn mantoli’r gyllideb yn ogystal â chynnal y blaenoriaethau sydd gennym.
Ac felly, mewn gwirionedd, bydd y dewisiadau a wnawn gyda'r adnoddau sydd gennym ar ôl yn bwysicach fyth. Ac felly, fy ymrwymiad yw parhau i fuddsoddi yn y dyfodol, hyd yn oed os nad ydym yn gallu gwneud popeth y byddem wedi dymuno'i wneud ar ddechrau tymor y Senedd hon pan ddywedodd rhai pobl, gadewch inni atgoffa ein hunain, fod cynnig Llafur Cymru yn annigonol ac nad oedd yn ddigon uchelgeisiol o ran gwariant, ac eto, rydym mewn sefyllfa bellach lle mae’r dewisiadau gwariant hynny hyd yn oed yn fwy heriol. Felly, yn syml iawn, nid yw'r cynigion mwy hael a wnaed gan bleidiau eraill yn gyflawnadwy.
Byddwn yn parhau i gael sgyrsiau gyda’r sector. Byddwn yn siarad ynglŷn â sut a pham fod hyn yn cael ei drafod heddiw. Ond yn bwysicach fyth, byddwn yn siarad ynglŷn â sut a pham fod angen inni allu cael cyllideb, a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn rhannau o'n heconomi a'r sgiliau ar gyfer y dyfodol a all helpu go iawn i greu'r Gymru fodern, decach, wyrddach a chryfach yr hoffai pob un ohonom ei gweld.
3. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i geiswyr gwaith nad ydynt yn gallu cael mynediad at Gynllun Ailgychwyn Llywodraeth y DU gan nad ydynt wedi bod yn ddi-waith ers naw mis neu fwy? OQ60290
Diolch am y cwestiwn.
Ynghyd â'r Ganolfan Byd Gwaith, mae gan Lywodraeth Cymru ystod o fesurau ar waith i helpu pobl ddi-waith i gael swyddi. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy a gyflwynir gan gymheiriaid llywodraeth leol. Gall y ddwy raglen gefnogi pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am lai na naw mis.
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb. Yn amlwg, pan lansiwyd y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau newydd gennych y llynedd, rhan allweddol o’r cynllun hwnnw oedd yr ymrwymiad i gyflwyno ReAct+. Ac un o'r pethau sydd wedi peri syndod, felly, yw bod £5.3 miliwn wedi'i dorri o'r gyllideb ar gyfer ReAct+ eleni. Felly, a gaf fi ofyn pa asesiad a wnaethoch o'r effaith y gallai hynny ei chael ar allu pobl ifanc i gael mynediad at ReAct+, fel nad ydynt yn ddibynnol ar gynllun diffygiol Ailgychwyn Llywodraeth y DU? Oherwydd rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi mai'r rheswm pam eich bod wedi cyflwyno ReAct+ yw am nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr fod yn rhaid i bobl fod yn ddi-waith am naw mis cyn y gallant gael cymorth.
Felly, mae ReAct+ yn cwmpasu ystod o feysydd. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi ceiswyr gwaith, pobl ddi-waith a phobl sydd naill ai mewn perygl o gael eu diswyddo neu sydd wedi cael eu diswyddo'n ddiweddar. Ar gyfer ceiswyr gwaith a phobl ddi-waith, mae'r targed ar gyfer pobl rhwng 16 a 24 oed, felly mae’n cynorthwyo pobl drwy geisio darparu atebion mwy pwrpasol. Rydym wedi cael sgwrs gyda’r Aelod dros y Rhondda am y gwaith y mae ReAct+ wedi gallu ei wneud yn dilyn cau grŵp UK Windows & Doors.
Mae ReAct+, serch hynny, yn gyllideb seiliedig ar alw, a rhan o’r rheswm pam y bu lle ychwanegol yn y gyllideb honno i helpu i ymdopi â’r pwysau yn ystod y flwyddyn yw am nad ydym wedi cael y galw ar y gyllideb seiliedig ar alw o ran y nifer o bobl yr oeddem yn disgwyl y byddai'n rhaid inni eu helpu ar ddechrau'r flwyddyn. Nawr, mae hynny ynddo'i hun yn newyddion da. Y perygl a’r risg, wrth gwrs, yw, os ydym yn cael digwyddiadau diweithdra sylweddol drwy weddill y flwyddyn ariannol hon, mae rhywfaint o arian y gyllideb seiliedig ar alw honno wedi'i wario ar sicrhau ein bod yn gallu mantoli ein cyfrifon o fewn y flwyddyn hon, a chynllunio ymlaen ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy'n dal i feddwl ein bod mewn sefyllfa lle, os yw pobl mewn perygl o golli eu swyddi, neu os oes angen cymorth ychwanegol arnynt drwy ReAct+, gallwn barhau i helpu'r bobl hynny, lle bynnag y bônt yng Nghymru, o fewn y flwyddyn hon.
Daw’r her mewn perthynas â chyflwr yr economi wrth inni symud ymlaen, ac yn natganiad yr hydref heddiw, nad wyf wedi'i glywed yn ei gyfanrwydd, ond mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi israddio asesiadau twf ledled y DU, felly bydd hynny’n golygu bod yr economi’n debygol o aros yn wastad, ac y bydd rhai busnesau'n tyfu ac eraill yn methu. Felly, rydym yn dal i fod mewn cyfnod anodd a heriol iawn, ac i fynd yn ôl at y cwestiynau a ofynnwyd gan Luke Fletcher eto, bydd yn rhaid inni barhau i fyw'n ddarbodus a mantoli'r cyfrifon, ond bydd y blaenoriaethau a ddewiswn wedyn hyd yn oed yn bwysicach gan fod rhai pethau na fydd y Llywodraeth yn gallu eu gwneud wrth symud ymlaen. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ein cymorth yn unol â’n cynllun cyflogadwyedd i helpu pobl lle ceir bylchau yn narpariaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Yn anffodus, Weinidog, mae rhagfarn ar sail oedran yn dal i fod yn gyffredin iawn mewn cyflogaeth, gyda chyflogwyr yn aml yn anwybyddu'r rheini sydd â phrofiad sylweddol gan ffafrio pobl iau o lawer. Mae’r sefyllfa hon yn cael ei gwaethygu gan y ffaith bod pobl dros 50 oed yn fwy tebygol o fod â chyfrifoldebau gofalu, gyda 12 y cant o ddynion ac 16 y cant o fenywod 55 i 64 oed yn darparu gofal anffurfiol sy’n cyfyngu ymhellach ar eu gallu i weithio. Mewn ymateb i hyn, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi buddsoddiad o £22 miliwn mewn mesurau newydd i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl dros 50 oed, ac roeddwn yn falch iawn o weld y bydd y cymorth ychwanegol hwn hefyd yn arwain at greu hyrwyddwyr 50+ newydd a fydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr i annog a hyrwyddo manteision cyflogi gweithwyr hŷn. Bydd hyn oll yn plethu â'r MOT canol oes y mae Llywodraeth y DU hefyd wedi'i gyhoeddi. Gyda hyn mewn golwg, sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y defnydd gorau o’r cyfle hwn ac yn gweithio gyda'r byd busnes i sicrhau bod ceiswyr gwaith sydd dros 50 oed yn gwbl ymwybodol o’r ystod o swyddi a chyfleoedd sydd ar gael iddynt? Diolch.
Rwy’n cydnabod y gall fod yn fwy heriol mewn gwahanol rannau o’r farchnad lafur os ydych yn berson ifanc sy’n chwilio am waith, ac y gall fod i'r gwrthwyneb mewn rhannau eraill o’r farchnad lafur, lle gall fod yn fwy anodd os ydych yn weithiwr hŷn sy’n chwilio am waith. Dylwn ddweud nad wyf yn y categori dros 50 oed eto, er nad wyf yn rhy bell ohono.
O ran cynllun y cymorth gan Lywodraeth y DU, ar y naill law, mae’n gadarnhaol gweld cydnabyddiaeth o’r angen i ganolbwyntio cymorth ar bobl dros 50 oed ond sydd â llawer o’u bywyd gwaith yn dal o’u blaenau, ac mae hynny'n gadarnhaol. A dweud y gwir, mae'n amlwg fod perthynas dda iawn rhwng ein swyddogion a'r ffordd y caiff y Ganolfan Byd Gwaith ei rheoli'n lleol. Gwn nad yw Peter Fox yn y Siambr, ond pan fuom yn trafod materion yn ei etholaeth ef yn ddiweddar, neu ym Mlaenau Gwent, neu'n wir, yn y Rhondda neu Ynys Môn, fe welsom berthynas leol adeiladol iawn.
Rydym yn parhau i anghytuno â’r Llywodraeth ynglŷn â chynllun peth o’r cymorth hwnnw, gan fod rhywfaint o’r cymorth yn orfodol. Er enghraifft, os caiff rhywun eu hatgyfeirio at gynllun Ailgychwyn, mae’n orfodol iddynt gymryd rhan, a byddant yn cael eu cosbi os nad ydynt yn gwneud hynny. Ac er fy mod yn deall y rhesymau gwleidyddol pam fod pobl yn sôn am amodoldeb a'i gwneud yn ofynnol i bobl wneud pethau, ychydig iawn o dystiolaeth sydd yna fod hynny'n arwain at fudd net o ran sicrhau cyfleoedd gwaith go iawn i bobl sy'n addas ar eu cyfer nhw a'u sgiliau. Rydym yn parhau i fod o'r farn ei bod yn well cydnabod bod y rhan fwyaf o bobl sy'n ddi-waith yn awyddus iawn i ddychwelyd i’r byd gwaith, i ddeall sut y gallwn fynd i’r afael â’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, boed yn sgiliau, teithio neu ofal plant, i'w helpu i gael swyddi mewn amgylchedd mwy cefnogol yn hytrach na chosbol. Lle gallwn weithio gyda Llywodraeth y DU, byddwn yn parhau i wneud hynny.
4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi busnesau bach dros y deuddeg mis nesaf? OQ60267
Diolch. Rwy'n croesawu'r Aelod i’r Siambr. Mae busnesau bach yn rhan hanfodol o economi Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i’w cefnogi i ddechrau, tyfu a ffynnu gyda chymorth penodol sydd ar gael drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru a Banc Datblygu Cymru. Edrychaf ymlaen at gydnabod rôl busnesau bach yng Nghymru gydag Aelodau o bob plaid, rwy'n gobeithio, ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 2 Rhagfyr.
Rhag ofn nad ydych wedi sylwi, Weinidog, rwy’n mynychu'r Siambr hon yn rheolaidd iawn.
Ydych, yn wir.
Nawr, y bore yma, Weinidog, cefais y fraint o noddi sesiwn briffio brecwast i fusnesau bach Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, a thynnwyd sylw'r Aelodau at sawl mater mewn perthynas â'r heriau sy’n wynebu busnesau bach.
Un o’r materion a godwyd oedd sgiliau, ac fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad newydd y Ffederasiwn Busnesau Bach, sy’n dangos bod cyflogwyr bach yn llai tebygol o ofyn am gyngor ar sgiliau neu heriau recriwtio, ac mai cysylltiadau cyfyngedig ac anffurfiol sydd gan lawer o fusnesau â sefydliadau addysgol yn aml, sy'n arwain at fusnesau bach yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar sail ad hoc a thameidiog. Nawr, mae'r adroddiad yn galw am alinio gwell rhwng busnesau a darparwyr sgiliau. Felly, a allwch ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adeiladu gwell cysylltiadau rhwng darparwyr addysg a busnesau bach er mwyn creu mwy o gyfleoedd i fusnesau bach, a'u gweithwyr yn wir?
Diolch am eich cwestiwn ychwanegol, ac rwy’n cydnabod cyfraniadau rheolaidd yr Aelod yn y Siambr. O ddifrif. Ar y pwynt y mae'n ei godi, rydym wedi edrych yn ddiweddar ar fuddsoddi mewn biwroau cyflogaeth—fe'u gelwir yn bethau gwahanol mewn colegau gwahanol—lle gwneir cysylltiadau bwriadol rhwng busnesau lleol a myfyrwyr y colegau hynny. Felly, rydym yn edrych wedyn ar sicrhau bod y sgiliau cywir yno a'u bod yn berthnasol i fyd gwaith. Mae hynny hefyd yn dilyn y gwaith a wnawn gyda Gyrfa Cymru yn ogystal.
Rhan o'n her yw lle mae gan fusnesau bach allu i feddwl am yr hyn y gallant ei wneud i fuddsoddi yn sgiliau eu gweithlu eu hunain, ac edrych ar ble y caiff y cyngor sgiliau hwnnw ei leoli a'i ddarparu. Gall unrhyw fusnes sy’n chwilio am gyngor fynd at Busnes Cymru fel siop un stop i’w helpu i lywio drwy’r system. Yn hytrach na dweud, 'Mae 100 o ddewisiadau, dewiswch yr un iawn', gall gwasanaeth Busnes Cymru a chyngor Busnes Cymru helpu pobl i gyrraedd y pwynt iawn.
Mae pob un ohonom yn cydnabod bod buddsoddi yn nyfodol eich gweithlu yn un o’r rhesymau pam fod economïau neu sectorau eraill mwy cynhyrchiol yn fwy llwyddiannus. Felly, mae a wnelo hyn â newid diwylliannol, yn ogystal â dealltwriaeth o sut y gellir darparu cymorth a chyngor ymarferol. Felly, os oes unrhyw fusnes bach yn edrych ar hyn, rwy'n gobeithio y byddant yn manteisio ar y cynnig o gymorth sydd ar gael drwy Busnes Cymru, gan gynnwys cysylltiadau y gallant eu cael â darparwyr addysg bellach lleol ac eraill. Ac edrychaf ymlaen at siarad mwy am fusnesau bach dros yr wythnos nesaf, pan fyddaf yn lansio ein cenhadaeth economaidd ar ei newydd wedd, a fydd, wrth gwrs, yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â sgiliau, a busnesau bach yn wir.
Fel y gŵyr y Gweinidog, daethpwyd o hyd i goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth yn nho marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr, gan olygu y bu’n rhaid iddi gau ar unwaith, ac mae hynny wedi cael effaith aruthrol ar lawer o’r busnesau bach yno. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio gyda’r masnachwyr a’r Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Cenedlaethol i gefnogi masnachwyr y farchnad a’u helpu i barhau i fasnachu cyn gynted â phosibl.
Rwy'n falch o ddweud bod siop fara Bakestones—y cacenni cri gorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr—[Torri ar draws.] Mae'n wir. Maent wedi symud i uned newydd, ac maent yn hapus iawn. Mae setliadau ariannol wedi'u cynnig i'r holl fasnachwyr nawr ac mae 90 y cant bellach wedi cael eu derbyn. Ac mae’r cyngor hefyd wedi rhentu uned yng nghanolfan siopa gyfagos y Rhiw ac yn ei pharatoi fel y gall oddeutu naw o fasnachwyr weithredu oddi yno, a bod yn gwbl weithredol erbyn diwedd yr wythnos.
Mae'r cyngor hefyd wedi penodi WSP i ddarparu'r lefel nesaf o arolygon a'r camau nesaf, ac mae'n ddrwg gennyf ddweud ei bod yn debygol y bydd rhaglen lawn i osod to newydd yn cael ei hargymell. Felly, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r baich annisgwyl ac annerbyniol hwn, yn enwedig ar adeg pan fo cyllidebau cynghorau dan bwysau a'r galw am wasanaethau ar gynnydd? Diolch.
Cefais gyfarfod adeiladol iawn ar 23 Hydref gydag arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a’i swyddogion. Ac roedd yn gyfarfod ar y cyd â'ch swyddfa chithau, gan fod y ddau ohonoch wedi gofyn am gyfarfod ar yr un pryd, felly bu modd inni nodi'r hyn a wnawn bryd hynny. Ac rwy'n falch o gadarnhau'n gyhoeddus ein bod yn bwriadu parhau i weithio gyda'r cyngor. Credaf eu bod wedi bod yn wirioneddol rhagweithiol o ran ceisio sicrhau y gall busnesau oroesi, a'r rhyddhad ychwanegol a ddarparwyd ganddynt. Cael rhywle cyfagos, fel nad ydych yn tarfu ar batrymau siopwyr, ond wedyn, deall dyfodol yr adeilad. Ac felly, os argymhellir gosod to newydd, mae cwestiynau gwirioneddol ynghylch yr hyn y mae rhydd-ddeiliad yr adeilad yn barod i'w wneud, yr hyn y mae'r cyngor yn barod i'w wneud, gyda chynllun ymarferol wedyn ar gyfer sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu cymorth.
Oherwydd rwy'n cydnabod bod hyn yn rhan o'r cydbwysedd ynghylch yr hyn sy'n gwneud canol tref yn llwyddiannus. Sut ydych chi'n sicrhau digon o ymwelwyr, gydag siopau'n gweithredu yn rhan o hynny, gydag adeiladau preswyl yn rhan o hynny, i sicrhau bod gennych fywyd yng nghanol y dref sy'n dal i ddenu pobl? A bydd hynny'n arbennig o bwysig i fasnachwyr y farchnad. Gallaf weld un o'r Aelodau dros Gasnewydd o'ch blaen, ac mewn gwirionedd, gall gwaith llwyddiannus ar ailddatblygu marchnad ychwanegu at fywyd canol trefi a dinasoedd. Felly, mae cyfleoedd i'w cael gyda'r hyn y mae masnachwyr marchnadoedd yn ei ddarparu. Ac edrychaf ymlaen at barhau â’r sgwrs adeiladol a chadarnhaol honno, rwy'n gobeithio, gydag arweinwyr cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn wir, gyda chi fel yr Aelod etholaeth.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiad Llywodraeth Cymru â bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd? OQ60270
Iawn, ac rwy'n croesawu'r Aelod i'r Siambr y prynhawn yma. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru—
Mae angen i mi nodi mai fy lle i yw croesawu'r Aelodau i'r Siambr. Mae llawer o Aelodau yma yn ymwelwyr cyson ac nid oes angen eu croesawu bob tro y byddant yn y—.
Yn wir, mae'n wych gweld yr Aelod yn y Siambr y prynhawn yma. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn sail i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd a'n blaenoriaethau cyffredin gyda llywodraeth leol yn y rhanbarth; un enghraifft yw ein buddsoddiad ym metro de Cymru. Byddwn yn parhau i archwilio cyfleoedd i gydfuddsoddi yn ein dyfodol economaidd.
Nid oes gennyf bleidlais yn y ras am arweinyddiaeth Llafur sydd ar y gorwel, Weinidog—[Chwerthin.]—ond mae'n braf eich gweld chi yma heddiw, oherwydd ni wneuthum eich gweld chi ddoe. Weinidog, yn ddiweddar ymwelais â gorsaf bŵer Aberddawan, neu'r hen orsaf bŵer yn Aberddawan, sydd, yn amlwg, newydd gael ei chaffael gan fargen ddinesig Caerdydd yn ddiweddar. Nid oedd hyn yn rhan o'r achos busnes a gyflwynwyd gan y tîm ceisiadau i sicrhau'r fargen ddinesig y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd ag awdurdodau lleol, yn ei noddi. Mae'r uchelgais ar gyfer y safle yn wych, ac roedd yn dda gweld hynny, ond mae angen defnyddio'r uchelgais hwnnw a sicrhau ei fod yn neidio oddi ar y sgrin a'r sleidiau a ddangosir yn y cyflwyniad iddo gael ei wireddu. O ystyried y buddsoddiad sylweddol y bydd ei angen i wneud defnydd buddiol o'r safle hwnnw unwaith eto, pa asesiad rydych chi, ynghyd â'ch swyddogion, wedi'i wneud, y bydd yr uchelgais sydd gan y fargen ddinesig ar gyfer y safle hwnnw'n dod yn realiti?
Rwy'n credu mai rhan o'r rheswm pam fod y rhanbarth wedi penderfynu buddsoddi yn Aberddawan yw oherwydd ei fod yn fet, nid yn unig ar y tymor uniongyrchol, ond ar y dyfodol hefyd, oherwydd arwyddocâd y cysylltiadau pŵer sy'n bodoli yno a'r cyfleoedd ar gyfer defnyddio ynni ar y safle ac o amgylch y safle. Felly, mae yna gyfle datblygu sylweddol. Yr hyn y mae angen inni ei weld yw faint o fuddsoddiad a ddaw i mewn. Bydd rhywfaint o hynny'n cynnwys dewisiadau Llywodraeth y DU, pa liw bynnag yw Llywodraeth bresennol y DU neu pa liw bynnag fydd hi yn y dyfodol. Bydd hefyd yn cynnwys ymgysylltu â'r sector preifat ynglŷn â sut i ddatblygu yno, a'r dewisiadau parhaus ynghylch nid yn unig cynhyrchu ynni ond trosglwyddo ynni wedyn hefyd.
Credaf ei bod yn ddealladwy pam fod arweinwyr o wahanol liwiau wedi cytuno mai dyma'r dewis cywir i'w wneud. Wrth gwrs, pan oedd y rhanbarth yn siarad am hyn, roedd eich cyd-Aelod grŵp Peter Fox yn dal i fod yn rhan o'r rhanbarth, pan wnaethant ddechrau siarad ynglŷn ag a oeddent am wneud hyn. Felly, rwyf i a Llywodraeth y DU yn wir, oherwydd ein bod yn cydariannu'r fargen ddinesig, yn edrych ar yr hyn y maent yn debygol o'i wneud, yn ogystal â'r prosiectau eraill o fewn y fargen ddinesig, ac rydym yn sicrhau bod y buddsoddiadau eraill sydd bellach yn dechrau cael eu gwneud ar gyflymder cynyddol yn cyflawni yn erbyn amcanion cynhyrchu enillion ychwanegol i'r economi gyda swyddi ychwanegol yn hirdymor. Felly, byddwn yn parhau i asesu'r pryniant yn ogystal â'r cynlluniau o gwmpas hynny, ynghylch yr hyn a allai fod yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol ein heconomi.
Jenny Rathbone. Peidiwch â theimlo rheidrwydd oherwydd fy mod wedi galw eich enw—nid oes rhaid i chi fanteisio ar y cyfle.
Ymddiheuriadau.
Symudaf ymlaen at gwestiwn 6, Jayne Bryant.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar glybiau chwaraeon ar lawr gwlad? OQ60289
Diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn hwnnw. Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith ar y sector chwaraeon. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol ychwanegol drwy Chwaraeon Cymru i'n cyrff llywodraethu cenedlaethol i gynorthwyo gyda'u hymyriadau pwrpasol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, bûm mewn cysylltiad â chlwb rygbi lleol yn fy etholaeth, clwb sydd newydd gael eu taro gan gynnydd enfawr yn eu biliau ynni. Maent wedi dweud wrthyf y bydd eu biliau ynni yn codi o £900 y mis i £1,750 y mis. Mewn cymhariaeth, mae'r clwb hwn wedi dweud y bydd y biliau ynni wedi cynyddu o £5,000 yn 2022 i ychydig dros £19,000 yn 2024. Mae hyn yn gynnydd syfrdanol, ac mae'n wahaniaeth anhygoel. Fel clwb chwaraeon llai ar lawr gwlad, nid oes ganddynt adnoddau i ddod o hyd i'r gwahaniaeth, ac maent wedi dweud wrthyf y gallai'r cynnydd hwn yn y prisiau olygu y byddai'n rhaid i'r clwb gau erbyn mis Awst 2024, a fyddai'n drueni mawr, oherwydd mae gan y clwb hwn ddyfodol disglair.
Ddirprwy Weinidog, rydym i gyd yn gwybod am yr effaith gadarnhaol y mae clybiau lleol yn ei chael yn ein cymunedau. Pa sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch tariffau prisiau ynni, a beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i gefnogi clybiau drwy'r cyfnod anodd iawn hwn i sicrhau eu bod yn parhau i fodoli?
A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am y cwestiwn atodol hwnnw, ac mewn gwirionedd, a gaf fi gofnodi fy nghydnabyddiaeth o'r anawsterau difrifol y mae cynnydd yn y costau ynni yn parhau i'w hachosi ar draws sectorau chwaraeon ac ar draws ein heconomi gyfan? Mae'n peri pryder arbennig i'n clybiau chwaraeon ar lawr gwlad nad oes ganddynt fynediad at y math o arian y maent ei angen, fel rydych chi wedi'i nodi'n glir iawn yn eich cwestiwn. Unwaith eto, nid wyf eisiau i hwn fod yn ateb parod, ond rwy'n credu bod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am y pethau hyn. Fel y gwyddom ac fel sydd wedi cael ei ddweud sawl gwaith, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y prif ysgogiadau polisi mewn perthynas â phrisiau ynni pan ddaw'n fater o ymateb i faterion fel hynny. Ac mae gwir angen iddynt ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddynt i gymryd camau brys pellach i dargedu bylchau mewn cymorth, yn enwedig ar gyfer hybu sefydliadau a busnesau fel clybiau chwaraeon ar lawr gwlad, am yr holl resymau rydych wedi'u nodi.
Mae Gweinidogion Cymru, gan gynnwys Gweinidog yr Economi, a swyddogion wedi cyflwyno nifer o sylwadau i Weinidogion Llywodraeth y DU ynghylch effaith costau ynni uchel ar fusnesau, ar y cyhoedd ac ar y trydydd sector. Nid wyf wedi cael cyfle i ddal i fyny â'r gyllideb eto, ond rwy'n gobeithio y bydd y Canghellor yn defnyddio datganiad yr hydref heddiw i helpu i leddfu llawer o'r pwysau ar aelwydydd a busnesau. Er nad ydym yn gallu cefnogi gyda chostau ynni, mae cymorth ar gael gennym i helpu gyda mesurau arbed ynni. Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol ac arweiniad i sefydliadau cymunedol a sector cyhoeddus i'w helpu i fod yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, ac mae hynny i gyd yn rhan o'n rhaglen ddatgarboneiddio hefyd. Rydym yn darparu benthyciadau di-log i sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Cymru drwy'r rhaglen gyllido i helpu gyda'r mesurau effeithlonrwydd ynni hynny. Rydym hefyd wedi dadlau dros fwy o gymhellion i fusnesau fuddsoddi mewn mesurau effeithlon o ran ynni, ac i'r perwyl hwnnw, rydym yn cefnogi cynllun benthyciadau busnes gwyrdd Banc Datblygu Cymru.
I droi'n ôl at chwaraeon, credaf ei bod yn bwysig cofnodi'r ffaith bod Chwaraeon Cymru wedi gwneud y cam anarferol eleni i gefnogi costau ynni drwy eu grant arbed ynni i gydnabod yr anawsterau y mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yn eu profi, ac mae hynny wedi caniatáu i glybiau gael mynediad at hyd at £25,000 ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni fel gosod paneli solar, ac yn y blaen. Mae'r cyllid hwnnw ar gyfer eleni wedi dod i ben, ond rwy'n obeithiol y bydd yn ailagor eto yn y flwyddyn ariannol nesaf. Wrth gwrs, yn ogystal, ceir cronfa Cymru Actif a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd yno i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn yn cael newyddion da gan y Canghellor heddiw, a phan fydd gennym bersbectif gwell ar ein sefyllfa ariannol ein hunain mewn ymateb i hynny i gyd, byddwn mewn sefyllfa well i siarad yn fwy hirdymor am y math o gymorth y gallwn ei gael, o fewn ein cymhwysedd datganoledig, i fwy o sefydliadau ar lawr gwlad.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithwyr ar ôl cau ffatrïoedd UK Windows & Doors Group yn Rhondda? OQ60262
Diolch am y cwestiwn.
Ers i mi glywed y newyddion trychinebus am UK Windows & Doors, mae fy swyddogion a minnau wedi bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i bawb dan sylw. Mae hyn yn cynnwys yr awdurdod lleol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Ganolfan Byd Gwaith, Busnes Cymru ac eraill, ac yn wir, yr ymgysylltiad a gawsom gyda'r ddau Aelod etholaethol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y gweithwyr yn gallu cael yr ystod lawn o gymorth sydd ar gael iddynt i geisio dod o hyd i waith arall.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae colli swyddi bob amser yn arwain at ofn a phryder, yn enwedig ar yr achlysur hwn, gyda nifer fawr o weithwyr yn cael eu heffeithio a hynny heb lawer o rybudd. Yn ffodus, mae cynllun ReAct+ Llywodraeth Cymru a'r diwrnod cynghori a gynhaliwyd gan bartneriaid yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chyflogwyr lleol wedi lleihau'r ofn a'r pryder hwnnw, gyda dros 250 o swyddi gwag wedi'u llenwi. O sgyrsiau gyda gweithwyr a Teneo, fy nealltwriaeth i yw bod diswyddiadau'n cael eu derbyn heb unrhyw oedi. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog a yw wedi derbyn unrhyw wybodaeth bellach am y gronfa les a addawyd i weithwyr ac a oes unrhyw ddiweddariad pellach ynghylch dyfodol y safleoedd ledled y Rhondda.
Diolch am y ddau gwestiwn. Ar y gronfa waddol, fel y gwyddoch, mae'n rhywbeth rydym wedi'i drafod gyda gweinyddwyr. Mae rhai wedi gofyn, a fy nealltwriaeth i yw bod y cyfranddalwyr wedi gofyn i'r gweinyddwyr ystyried dosbarthu cronfa waddol. Hyd yn hyn, nid ydym mewn sefyllfa i ddeall a fydd gweinyddwyr yn gwneud hynny, neu i ddeall eu parodrwydd i wneud hynny, oherwydd mae angen iddynt gwblhau'r broses weinyddol i ddeall a oes asedau i'w dosbarthu.
Mae hynny'n fy arwain yn ôl at eich ail bwynt am y safleoedd. Yn anffodus, nid yw'r gweinyddwyr wedi derbyn cais i brynu un neu fwy o'r safleoedd fel busnes gweithredol. Mae hynny'n golygu eu bod felly yn edrych ar werthu cyfarpar a pheiriannau, ac mae hefyd yn golygu eu bod yn edrych ar ddyfodol y safleoedd. Rydym yn credu bod y rhain yn safleoedd a ddylai gael eu defnyddio ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Maent wedi'u nodi yn y cynllun datblygu at y diben hwnnw, ac rydym yn credu bod yna gyfleoedd i fusnesau newydd ddod i'r safleoedd hynny. Felly, mae gennym ddiddordeb o hyd mewn gweithio gyda'r cyngor, ac yn wir, gyda'r rheini sydd bellach â chyfrifoldeb dros weithio i werthu'r safleoedd hynny i ddeall beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Byddai'n dibynnu wedyn a oes asedau i'w dosbarthu mewn cronfa waddol hefyd.
Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda'r cyngor, oherwydd cafodd y ffair swyddi a gynhaliwyd ei harwain gan y cyngor, a mynychodd dros 300 o gyn weithwyr UK Windows & Doors. Roedd dros 250 o swyddi gwag ar gael gan amrywiaeth o gyflogwyr. Felly, rydym yn edrych eto i weld a oes cyfle arall naill ai i gael digwyddiad unigol sylweddol i geisio cysylltu pobl nad ydynt wedi cael gwaith arall, neu a yw dulliau mwy gwasgarol o ledaenu gwybodaeth yn y gymuned yn ffordd well ymlaen mewn gwirionedd. Ond byddwn yn parhau i fod â diddordeb yn y safleoedd hynny a'r hyn y mae'n ei olygu i weithwyr presennol a darpar weithwyr yn y Rhondda.
Mae cwestiwn 8 [OQ60295] wedi ei dynnu nôl.
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch y gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r rhai sydd â stondin ym marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr? OQ60301
Diolch. Cyfarfûm ag arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Aelod etholaethol dros Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl ar 23 Hydref i ddeall beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r cyngor ar y mater hwn. Mae fy swyddogion hefyd wedi bod yn ymgysylltu â'r cyngor a'r masnachwyr ers cau'r safle i gynnig cyngor a chymorth pellach.
Diolch am yr ateb, Weinidog. Rwyf wedi bod yn siarad â stondinwyr nawr ers y cyhoeddiad cychwynnol am y penderfyniad i gau'r safle ddau fis yn ôl, ac mae'r ymateb i lefel y gefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gymysg iawn. Mae rhai, wrth gwrs, yn ddiolchgar iawn; mae eraill yn teimlo eu bod yn cael eu gadael i ddod o hyd i'w ffordd eu hunain. Rydym wedi clywed sôn am Bakestones heddiw; wel, dywedodd Anne, perchennog Bakestones, iddi gael ei gadael ar ei phen ei hun. Dywedodd deiliad stondin arall, a oedd eisiau aros yn ddienw, 'Rwy'n teimlo fy mod wedi cael cam ac wedi fy ngwthio o'r neilltu. Nid ydynt yn poeni amdanom ni. Dyma oedd ein bywoliaeth, ein busnes—wedi mynd mewn munudau'. Felly, mewn ymateb i stondinwyr, ac wrth gwrs, gan nodi eich ymateb i Sarah Murphy, beth yn union yw ymyrraeth y Llywodraeth yn hyn? Oherwydd nid oedd hynny'n glir o ymateb y Gweinidog, a sgyrsiau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y gorffennol, a fydd, yn y pen draw, angen cymorth ariannol i ymdrin â hyn.
Rhan o'r broblem yma, a bod yn onest, oherwydd bod y cyngor yn cael cyngor sy'n golygu bod angen iddynt gau'r adeilad, yw bod hynny'n creu digwyddiad ar unwaith i fusnesau. Ni fydd gan bob un ohonynt yswiriant i'w talu'n ddigonol am eu colledion. Felly rydych chi'n cael eich gadael mewn sefyllfa lle gall y cyngor naill ai ddweud, 'Nid oes gennym gyfrifoldeb, dim ond landlord ydym ni yn y sefyllfa hon', ac yna rydych chi'n gwybod y bydd busnesau a swyddi'n mynd. Mae'r cyngor wedi dewis peidio â gwneud hynny, ac maent wedi bod yn rhagweithiol wrth chwilio am safleoedd amgen, ac yn wir, maent wedi darparu rhyddhad ardrethi ac wedi llogi oergelloedd a rhewgelloedd masnachol, er enghraifft. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud wedyn, ac rydym wedi gwneud hyn, yw sicrhau bod cyngor busnes ar gael i bob un o'r busnesau unigol sydd dan yr amgylchiadau hynny i ddeall bod yna gefnogaeth ychwanegol, ac mae'r rheini, yn ddealladwy, yn sgyrsiau at ofynion unigol. Wrth i'r cyngor edrych ar y sefyllfa bresennol gyda'r safle presennol ar gyfer y farchnad sydd ar gau, byddwn yn deall mwy ynglŷn â faint y byddai'n ei gostio i atgyweirio'r adeilad hwnnw, neu a yw hynny'n opsiwn mewn gwirionedd, ac yna gallem gael sgwrs fwy hirdymor am ba gymorth ychwanegol y gallem neu na allem ei ddarparu.
Fodd bynnag, rydym yn gweithio mewn amgylchedd lle mae'r rhyddhad sydd gennym ar gael yn cael eu darparu gan y cyngor. Rydym yn gweithio mewn amgylchedd lle mae cymorth a chyngor busnes yn cael eu darparu, gan gynnwys cyngor ar gymorth grant neu gymorth buddsoddi mewn sgiliau, o bosibl. Yna, bydd angen inni ddeall a oes mwy y gallwn ei wneud gyda'r cyngor, pan nad oes arian ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn chwilio am gartref, fel y dynodwyd gennych yn eich cwestiwn cynharach. Mae yna bwysau gwirioneddol ar ein cyllidebau. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda'r cyngor i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n hawdd i'r perchnogion busnes hynny a'r swyddi sydd ynghlwm wrthynt i geisio sicrhau ein bod yn darparu ateb mor unedig â phosibl, sy'n sicrhau bod cael mynediad at unrhyw gymorth mor hawdd â phosibl, a chydnabod, fel y dywedais yn gynharach, y gall amgylchedd stondinau marchnad ffyniannus fod yn agwedd gadarnhaol iawn ar sut olwg y gallai a sut olwg y dylai fod ar ganol tref ffyniannus. Felly, byddwn yn parhau i gael trafodaethau gyda'r cyngor ac yna byddwn yn gwneud penderfyniadau yn sgil hynny.
10. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfraniad cwmnïau o Japan i economi Cymru dros y 50 mlynedd diwethaf? OQ60266
Diolch am y cwestiwn.
Mae gan Gymru berthynas gref â Japan, gyda llawer o gysylltiadau economaidd a diwylliannol arwyddocaol. Mae'r berthynas yn bwysig i Gymru ar bob lefel—economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Japan yw ein marchnad fuddsoddi uchaf ond un—miloedd o swyddi yng Nghymru sy'n ddibynnol ar gwmnïau sydd â'u pencadlys yn Japan, wedi'u lleoli yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, yn etholaeth yr Aelod.
Yn wir. Ac os caf dynnu sylw'r Gweinidog at ei ymweliad diweddar, lle'r oedd cwmnïau Japaneaidd o bob rhan o Gymru—pob rhan o Gymru: canolbarth, gorllewin, gogledd a de—wedi ymgasglu nid yn unig i weld y gwaith sy'n digwydd yn Sony ond i rwydweithio gyda'i gilydd hefyd, ac mae meithrin perthynas a chynnal cysylltiadau rhwng Japan a Chymru yn hollbwysig.
Felly, yr hyn rwyf eisiau ei ofyn i chi yw: sut rydym ni'n adeiladu ar hynny dros y 50 mlynedd nesaf? Oherwydd mae mewnfuddsoddiad da o'r math hwnnw, sy'n seilio ei weithgynhyrchu a'i gynllunio a'i gynhyrchu a'i ymchwil a'i arloesedd yma yng Nghymru, yn rhan o'r allwedd i'n dyfodol economaidd, ochr yn ochr â busnesau brodorol sy'n tyfu, oherwydd mae gan y buddsoddwyr hyn gadwyn gyflenwi sy'n gweithio gyda nhw hefyd. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru ein helpu i adeiladu ar y cysylltiadau hynny a'u gwneud yn gryfach byth dros y degawd nesaf a'r 50 mlynedd nesaf?
Diolch am y cwestiwn ac rwy'n cofio'r digwyddiad diweddar yn dda, gyda 14 o gwmnïau Japaneaidd gwahanol ac roedd llysgennad Japan draw ar gyfer y digwyddiad hefyd, ac felly mae'n garreg filltir gadarnhaol iawn, sy'n gydnabod y gwahaniaeth y mae buddsoddiad Japaneaidd wedi'i wneud, ac mae'n dangos bod mewnfuddsoddiad yn rhan o'n gorffennol economaidd a'n dyfodol hefyd, ac nid oes rhaid i chi ddewis rhwng naill ai'r economi sylfaenol a'r economi bob dydd, neu chwilio am fewnfuddsoddiad. Ac mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn iawn, gan feddwl am arwyddocâd y gadwyn gyflenwi. Felly, byddwn yn parhau i fuddsoddi egni ac ymdrech amser real yn y berthynas â chwmnïau o Japan sydd yma heddiw a'r rhai a allai fod yma yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Japan a rhai o'r cysylltiadau sydd gennym yn Oita, er enghraifft, o fewn maes penodol lle ceir cysylltiadau diwylliannol ac addysgol go iawn hefyd.
Ac mae'n werth tynnu sylw at y buddsoddiad parhaus y mae rhai o'r cwmnïau hynny yn ei wneud: Sony, y buom yn siarad amdano yn etholaeth yr Aelod; cyhoeddodd Panasonic fuddsoddiad sylweddol yn ddiweddar yn y ffordd y maent yn datgarboneiddio eu cynhyrchiant yn eu cyfleusterau hefyd. Felly, mae yna lawer o feysydd lle mae buddsoddiad Japaneaidd yn rhan o'r stori yr ydym eisiau ei hadrodd. Mae'n bendant yn rhan o'r dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen at chwarae fy rhan i i sicrhau ei fod yn un llwyddiannus.
Rwy'n ddiolchgar i Huw Irranca-Davies am godi'r cwestiwn hwnnw y prynhawn yma. Weinidog, fe sonioch chi am ogledd Cymru, lle mae gan gwmnïau o Japan lefel o fuddsoddiad yno, ac fe fyddwch yn gwbl ymwybodol o arwyddocâd gweithgynhyrchu uwch, yn enwedig yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru. Ac rwy'n siŵr eich bod yn falch o glywed cyhoeddiad y Canghellor heddiw am barth buddsoddi ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru yn Wrecsam a sir y Fflint, ac rwy'n ddiolchgar am eich cefnogaeth chi i hynny hefyd.
Gyda'r parth penodol hwnnw mewn golwg, rwy'n awyddus i ddeall a oes unrhyw sgyrsiau cynnar yn digwydd gyda chwmnïau Japaneaidd efallai, neu unrhyw gwmnïau eraill o bob cwr o'r byd i fuddsoddi yn y rhan honno o'r byd, fel y gallwn weld y swyddi hynny yr ydym mor awyddus i'w gweld.
Wel, clywais ran o ddatganiad yr hydref a chlywais y Canghellor yn cyfeirio at ail barth buddsoddi sy'n canolbwyntio ar Wrecsam a sir y Fflint. Rwy'n credu bod cytundeb wedi bod mewn perthynas â pharth buddsoddi'r de-ddwyrain hefyd, yn dilyn sgwrs gyda'r Gweinidog ffyniant bro, ac yn dilyn y cyhoeddiad a wneuthum i'r Siambr yr wythnos diwethaf. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n newyddion cadarnhaol.
Pan edrychwn ar weithgynhyrchu uwch yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae yna ystod o chwaraewyr, gan gynnwys busnesau o Japan—mae Toyota yn enghraifft amlwg iawn. Ac mae gennym berthynas dda gyda Toyota, ac Unite fel yr undeb cydnabyddedig ar y safle hwnnw. Rydym wedi helpu gyda buddsoddiad ar y safle hwnnw i sicrhau rhagor o swyddi, ac yn wir i ddatgarboneiddio eu cynhyrchiant. Rydym yn edrych ymlaen at wneud mwy gyda nhw, oherwydd mae gan Toyota ddiddordeb mewn mwy na gweithgynhyrchu ceir yn unig, wrth gwrs; maent yn edrych ar danwydd amgen, maent yn edrych ar drydan, maent hefyd yn edrych ar y potensial ar gyfer celloedd tanwydd o hydrogen. Mae llawer mwy inni ei wneud gyda nhw a chwmnïau eraill hefyd. Ac yn wir, mae'n bosibl y bydd Toyota—gan gyfeirio'n ôl at y cwestiwn cyntaf efallai—yn cynnal digwyddiad rhwydweithio ar gyfer cwmnïau Japaneaidd yn y dyfodol, felly edrychaf ymlaen at barhau perthynas adeiladol a chadarnhaol iawn gyda nhw ac yn wir gyda busnesau ehangach yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Diolch i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog.
Yr eitem nesaf fydd y cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Y cwestiwn cyntaf gan Peter Fox.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau deintyddol? OQ60298
Rwyf wedi cydnabod nad yw mynediad at ddeintyddiaeth yn y sefyllfa yr hoffem iddo fod. Mae'r newidiadau a wnawn yn golygu bod deintyddiaeth y GIG yn dod yn fwy hygyrch i'r rhai sydd wedi cael trafferth wrth geisio mynediad yn y gorffennol. Mae dros 250,000 o gleifion newydd wedi cael triniaeth ers mis Ebrill 2022.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Dro ar ôl tro, mae'r Aelodau'n codi pryderon am wasanaethau deintyddol, ac yn aml rydych yn ailadrodd bod eich contractau newydd yn cynyddu nifer y cleifion sy'n manteisio ar wasanaeth y GIG am y tro cyntaf. Fodd bynnag, nid yw hynny'n fuddiol i wasanaethau deintyddol na'r cyhoedd yng Nghymru, ac mae'n ystumio'r realiti am wasanaeth sydd ar ei liniau. Mae practis yn fy etholaeth wedi estyn allan yn ddiweddar i dynnu sylw at y ffaith eu bod, o ganlyniad i'r contract newydd, yn cael eu gorfodi i sefyllfa lle na all miloedd o gleifion presennol gael eu hystyried hyd yn oed ar gyfer apwyntiadau ailalw. Oherwydd hyn, mae'r practis bellach yn wynebu adfachiad o £155,000. Nid eithriad i'r rheol yw hyn, dyma'r rheol, oherwydd diffyg ystyriaeth hirdymor. Ymhellach, mae deintyddion bellach yn talu am eu ffioedd labordy yn bersonol, ond ar gyfer gwaith labordy cymhleth, fel dannedd gosod, nid yw cydnabyddiaeth ariannol y GIG yn talu'r gost hon, sy'n golygu bod y deintydd ar ei golled. Nid yw'n syndod, felly, fod practisau'n gorfod gwneud mwy o waith preifat er mwyn parhau i ddarparu'r gwaith GIG y gallant ei wneud. Weinidog, pa fesurau a roddir ar waith gennych i fynd i'r afael ag amseroedd aros am apwyntiadau ailalw yn benodol?
Diolch yn fawr. Wel, nid wyf am wneud sylwadau penodol ar yr achos penodol hwnnw, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw ein bod wedi datblygu contractau yn fwriadol iawn ar gyfer gwasanaethau deintyddol lle rydym yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol, ond hefyd ar agweddau ataliol deintyddiaeth, ac ar ganolbwyntio ar bobl sydd wedi cael anhawster i gael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn y gorffennol. Nawr, yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw ei bod yn debygol y bydd effaith ar y rhai sy'n aros i gael eu hailalw. Ond fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, yn yr ystyr honno, credaf ei bod yn bwysig cydnabod ein bod yn dilyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar hyn, ac mae'r canllawiau hynny'n awgrymu, os oes gennych ddannedd iach, nad oes angen apwyntiad ailalw arnoch bob chwe mis. Mewn gwirionedd, gallwch fynd hyd at ddwy flynedd heb gael apwyntiad ailalw. Dyna mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn ei ddweud, ac rydych yn gofyn inni ddilyn eu canllawiau nhw y rhan fwyaf o'r amser, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael ein harwain gan glinigwyr yn hyn o beth. Rydym yn cydnabod mai dim ond swm penodol o arian sydd ar gael ac mae'n rhaid inni ei dargedu, a dyna pam ein bod yn gweithredu yn y ffordd benodol honno.
Mewn perthynas ag adfachu yn gyffredinol, rwy'n credu ei bod yn werth dweud bod y sefyllfa a'r cytundeb sydd gennym gyda deintyddion yn wahanol iawn o'i gymharu â meddygon teulu er enghraifft. Y sefyllfa yw ein bod yn talu deintyddion ymlaen llaw o dan y contract hwn. Nid yw hynny'n digwydd yn unrhyw le arall. Felly, yn amlwg, os na allant fodloni'r contract y maent wedi cytuno iddo, credaf y byddech chi yn arbennig, sydd eisiau i ni fod yn stiwardiaid cyfrifol ar arian cyhoeddus, eisiau i ni ddeall, os nad ydynt yn darparu'r gwasanaeth y gwnaethant gytuno i'w ddarparu, fod gennym ni fel Llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn cael yr arian hwnnw'n ôl.
Fis diwethaf, mi ddywedodd deintyddfa Hayden Dental yng Nghaerfyrddin eu bod nhw yn dod â'u gwasanaeth gwasanaeth iechyd genedlaethol i ben ddiwedd y flwyddyn. Mae hynny yn dilyn datblygiadau tebyg iawn i'r gorllewin yn Hendy-gwyn ar Daf, i'r dwyrain yn Llandeilo, i'r de yn Cross Hands ac ati. Ydy'r Gweinidog yn derbyn bod y ffaith bod yr holl ddeintyddion yma wedi stopio eu gwasanaeth gwasanaeth iechyd genedlaethol yn golygu nawr ein bod ni'n ei wneud e'n fwy anodd byth i ddenu rhywun i dendro ar gyfer cytundeb newydd oherwydd y prinder darpariaeth? A oes gennych chi'r data nawr? Roeddech chi wedi sôn y byddech chi'n gobeithio cael cofrestr ganolog ar lefel cenedlaethol—a oes gyda chi'r data yna sydd yn gallu edrych ar ganlyniadau'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad? Ac os ydyw e'n cadarnhau'r hyn y mae deintyddion a defnyddwyr y gwasanaeth yn ddweud yn lleol, bod yna creisis, fyddwch chi'n fodlon cwrdd ag aelodau etholedig a'r bwrdd iechyd yn y rhanbarth er mwyn dod â datrysiad gerbron?
Wel, dwi'n derbyn bod rhai ardaloedd o Gymru wedi rhoi mwy o gytundebau nôl nag ardaloedd eraill—mae Hywel Dda yn un o'r ardaloedd hynny, lle mae saith cytundeb wedi cael eu rhoi nôl. Ond beth sy'n digwydd wedyn, wrth gwrs, yw ein bod ni'n mynd mas, nôl allan, i ail-gontractio'r rheini. A beth dwi'n falch i gyhoeddi yw bod pedwar cytundeb eisoes wedi mynd mas a bod diddordeb ar gyfer Cross Hands, Llandeilo, de Ceredigion a gogledd sir Benfro. Felly, mae'r broses hynny o gael contractwyr newydd eisoes yn digwydd ac mae yna ddiddordeb. A beth sydd wedi digwydd yw bod yna tri chytundeb arall erbyn hyn wedi cael eu rhoi nôl—Caerfyrddin, Hendy-gwyn a Hwlffordd—ac maen nhw yn mynd i stopio rhoi'r gwasanaeth erbyn diwedd y flwyddyn. Ond beth rŷn ni wedi dweud yw bod y rhestr ganolog yna—mae'n rhaid i hwnna fod mewn lle erbyn diwedd y flwyddyn. Dŷn ni ddim wedi cyrraedd diwedd y flwyddyn eto, felly gobeithio y byddwn ni'n gallu edrych ar y manylion hynny erbyn diwedd y flwyddyn. Ac, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni hefyd yn rhoi £5,000 yn ychwanegol i geisio cael pobl i hyfforddi yn yr ardaloedd cefn gwlad hynny.
Weinidog, o ran practis deintyddol Bridges yng Nghil-y-coed, cyfarfûm â'r partneriaid yno yr wythnos hon ac maent yn teimlo'n gryf iawn fod eu hymrwymiad hirsefydlog fel practis i ddarpariaeth GIG yn cael ei beryglu gan gontract gwasanaethau deintyddol newydd y GIG, ac nad ydynt yn teimlo eu bod yn gallu darparu'r hyn y maent yn ei ystyried yn safon briodol o ofal i gleifion presennol y GIG gan fodloni'r gofynion ar gyfer cleifion newydd ar yr un pryd, a'r hyn y mae disgwyl iddynt ei wneud ar gyfer y cleifion newydd hynny. Maent yn credu bod y farn hon yn gyffredin iawn ymhlith deintyddion y GIG, nid yn unig yn eu hardal nhw, ond ledled Cymru, ac maent yn credu nad yw contract gwasanaethau deintyddol newydd y GIG yn gweithio yn ôl y disgwyl ac y byddwn yn gweld lefel ostyngol o ddarpariaeth GIG o ganlyniad. Felly, mae'n ymddangos bod yna nifer o bobl o bob rhan o Gymru, Weinidog, sy'n bryderus iawn am y math o ddarpariaeth GIG yr ydym yn debygol o'i weld wrth symud ymlaen, os na chaiff y contract newydd hwnnw ei asesu'n ofalus, a'i addasu o bosibl.
Diolch yn fawr iawn, John. Ac fel y dywedais, nid wyf am siarad am unrhyw ddeintyddfa benodol, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod mewn trafodaethau pellach nawr ynghylch iteriad nesaf y contract. Wyddoch chi, nid wyf yn credu ein bod ni am ymddiheuro am y ffaith ein bod ni eisiau canolbwyntio ar achosion brys ac ar achosion lle mae pobl wedi'i chael hi'n anodd iawn cael mynediad at ddeintyddiaeth ers amser maith, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw, er bod cryn dipyn o sŵn o gwmpas hyn, mae 80 y cant o werthoedd contractau deintyddol yn gweithredu o dan drefniant amrywio sy'n cynnwys y gofyniad i weld cleifion newydd ar gyfer gofal rheolaidd a gofal brys. Felly, mae pobl yn ymrwymo i'r contractau hyn. Mae tipyn o sŵn yn y system, wrth gwrs, oherwydd mae'n golygu newid, a phan fyddwch yn blaenoriaethu un grŵp, yna, yn amlwg, bydd grŵp arall yn llai o flaenoriaeth. Ond wyddoch chi, fe wnaethom hyn gyda'n llygaid ar agor, rydym yn dilyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar hyn, a'r hyn a wnawn yw newid model sydd wedi bod yno ers amser maith. Felly, rwy'n deall y rhwystredigaethau, ond fel y dywedaf, rydym yn parhau â'r trafodaethau hynny gyda phobl, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig deall efallai fod pobl yn cael eu hailalw'n rhy aml a hynny'n ddiangen.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n byw gyda COVID hir? OQ60286
Mae cymorth i bobl sy’n byw gyda COVID hir yn dal i fod yn flaenoriaeth. Hyd yma, rŷn ni wedi buddsoddi £18.3 miliwn mewn datblygu ac ehangu gwasanaethau Adferiad sy’n cael eu hariannu ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
Diolch, Weinidog, am eich ateb.
Roeddwn yn credu—. Wel, credir mai'r hyn sy'n achosi COVID hir yw'r ffaith bod gwaed yn gor-geulo gan greu clotiau micro yn y pibellau gwaed bach sy'n golygu nad oes digon o ocsigen yn cyrraedd organau'r corff. Un ffordd o drin cleifion yw drwy ddefnyddio heparin i gyflawni triniaeth o'r enw afferesis lipoprotein allgorfforol, a gaiff ei hadnabod wrth yr acronym haws HELP, ac sydd, fel dialysis, yn tynnu sylweddau o'r gwaed. Mae clinigau yng Nghyprus a'r Almaen yn defnyddio peiriannau o'r fath i drin COVID hir ac mae peiriant HELP i'w gael yn Ysbyty Llandochau, sy'n cael ei ddefnyddio i drin cleifion â cholesterol uchel etifeddol yn yr uned lipidau a sefydlwyd gan fy etholwr, Dr Stephanie Matthews, tua 30 mlynedd yn ôl. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ymchwilio i ddichonoldeb ehangu mynediad at beiriant o'r fath a chefnogi galwadau am astudiaethau rheoli mwy i'r driniaeth hon, a allai gefnogi cleifion â COVID hir ledled Cymru? Diolch, Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. Y gwir amdani yw ein bod yn dal i ddysgu am COVID hir a beth sy'n ei achosi. Felly, mae yna lawer iawn o wahanol resymau ac mae'r ffordd y mae pobl yn dioddef yn wahanol iawn. Felly, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn addasu yn unol ag anghenion y claf unigol a dyna pam ein bod wedi dilyn llwybr gwahanol yma yng Nghymru, lle mae gennym glinigau amlbroffesiynol, amlsgiliau lle gellir anfon pobl i gael y gefnogaeth fwyaf priodol iddyn nhw. Ac rwy'n siŵr y byddai hynny'n cynnwys enghreifftiau fel yr un a roesoch chi yn Llandochau. Y ffaith amdani yw ein bod wedi sicrhau cynnydd o £8 miliwn i'r arian a neilltuwyd gennym ar gyfer cefnogi COVID hir. Bydd yn rhaid i unrhyw beth y bydd yn rhaid ei wneud gael ei wneud yng nghyd-destun yr £8 miliwn hwnnw, ac yn amlwg, byddwn yn gadael i glinigwyr benderfynu sut y dylid ei gydbwyso.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ym mis Tachwedd y llynedd, nododd ITV Wales dystiolaeth ynghylch nifer o fethiannau sylweddol mewn gofal yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cyn y rhaglen ddogfen gan ITV, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Robert a Sian Channon, a chwythodd y chwiban gyntaf ar fethiannau difrifol yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain, fod adolygiad o ddigwyddiadau difrifol a chwynion wedi digwydd y llynedd. Cafodd y teulu ddau ymateb rhyddid gwybodaeth wedyn gan Uned Gyflawni GIG Cymru, a gadarnhaodd nad oedd adolygiad wedi digwydd. A nawr mae'r teulu, a minnau hefyd, yn gweld e-byst mewnol rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n cadarnhau na chafodd unrhyw adolygiad ei gynnal erioed; y cyfan a ddigwyddodd oedd bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gyngor gan swyddogion. Mae Mr Channon yn yr oriel heddiw hefyd. Felly, Weinidog, pam y gwnaeth Llywodraeth Cymru gamarwain y teuluoedd hyn? Pam na chafodd yr adolygiad hwn ei gomisiynu na'i gynnal erioed a pham y dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi'i gwblhau pan nad oedd adolygiad wedi'i gynnal yn y lle cyntaf?
Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw ein bod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i unrhyw faterion sy'n ymwneud â methiannau gwasanaethau mamolaeth. Dyna pam ein bod wedi edrych yn benodol ar yr hyn y gallem ei ddysgu o rai o'r heriau a welsom ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym wedi edrych ar y gwersi hynny, rydym wedi cael grwpiau o arbenigwyr yn mynd i mewn i geisio ein helpu gyda'r ffordd yr ydym yn tynhau systemau. Mae yna heriau'n gysylltiedig â mamolaeth, gyda rhai ohonynt yn ymwneud â meysydd staffio, ac rydym yn ystyried, er enghraifft, cynnwys a chyflwyno mecanweithiau lle mae pobl yn cael eu derbyn a'u cefnogi ar ddau bwynt yn ystod y flwyddyn mewn prifysgolion, yn hytrach na dim ond un. Oherwydd yr hyn sy'n digwydd yw, tuag at ddiwedd y flwyddyn, nad oes gennym ddigon o bobl ar y wardiau am fod rhai pobl yn ymddeol a beth bynnag. Felly, mae angen cael pobl i mewn ddwywaith y flwyddyn ar gyfer y wardiau mamolaeth hynny. Felly, fy nealltwriaeth i yw bod rhai o'r problemau gydag Abertawe yn ymwneud yn benodol â chael staff digonol, ond yn amlwg, mater i'r bwrdd iechyd yw hwn.
Wel, Weinidog, rwy'n ddiolchgar am eich ateb, ac roedd llawer yn yr ateb a oedd yn ddefnyddiol, ond ni wnaethoch ateb unrhyw un o'r cwestiynau a ofynnais i chi. A'r broblem yma yw bod hyn yn ymwneud â mwy na'r bwrdd iechyd yn unig, oherwydd roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhan o'r broses hon. Dyna mae canlyniadau'r ymatebion i'r cais rhyddid gwybodaeth yn ei ddangos. A'r pryder yma yw bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth deulu Channon, a theuluoedd eraill a gohebwyr ITV Wales, fod adolygiad wedi digwydd a'i fod wedi ei gwblhau, pan nad oedd hynny'n wir o gwbl. A dyna sy'n cael ei godi heddiw, a gobeithio y byddwch chi'n ei ateb yn dilyn fy nghwestiwn nesaf.
Ond yr hyn mae'r dystiolaeth yn ei ddangos yw, er gwaethaf pryderon difrifol—. Roedd gan uwch swyddogion Llywodraeth Cymru bryderon ym mis Tachwedd y llynedd, ond ni roddwyd unrhyw gamau priodol ar waith. Ac ymhellach, rwyf wedi darllen canlyniad cais rhyddid gwybodaeth gan Archwilio Cymru, lle maen nhw, drwy asesiad risg archwilio ym mis Chwefror eleni, yn nodi problemau difrifol gyda gwasanaethau mamolaeth yn Abertawe. Mae'r un ymateb i gais rhyddid gwybodaeth yn dangos Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru—yn dangos bod adborth staff o'u harolygiad dirybudd ym mis Medi ymhlith y gwaethaf a welsant erioed, sydd, wrth gwrs, yn berthnasol i'r pwyntiau a wnaethoch yn eich ateb cyntaf i mi. Carwn awgrymu bod y ddau beth yn codi pryderon difrifol ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru wedi ymdrin â'r problemau yn y gwasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud o'r blaen na cheir unrhyw bryderon, yn seiliedig ar adroddiad, adroddiad na chafodd erioed mo'i gyflawni. Felly, Weinidog, dyma fy nghwestiwn: a ydych chi'n credu bod gwasanaethau mamolaeth Bae Abertawe yn ddiogel ar hyn o bryd? A pham nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw beth hyd yma i uwchgyfeirio ymyrraeth yn y gwasanaeth hwn?
Wel, gallaf eich sicrhau bod fy swyddogion yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa yn Abertawe. Rydym yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa gyda'r hyn sydd wedi digwydd yn yr amgylchiadau hyn hefyd. Dyna pam ein bod yn talu llawer o sylw i'r hyn y mae angen inni ei wneud i wella yn enwedig y broblem staffio yn Abertawe, fel gydag adrannau mamolaeth eraill ledled Cymru. Felly, mae fy swyddogion mewn cysylltiad â'r bwrdd iechyd yn enwedig ynglŷn â sut y gallwn wella canlyniadau mamolaeth yn Abertawe. Os ydych chi'n cael unrhyw beth mewn perthynas â materion mamolaeth yn anghywir, fe wyddom y gall y canlyniadau fod yn drychinebus, a dyna pam ei bod yn gwneud synnwyr llwyr inni ganolbwyntio yn yr un modd ag y gwnaethom yng Nghwm Taf Morgannwg, dysgu'r gwersi hynny a'u lledaenu ledled Cymru. A gallaf eich sicrhau ein bod wedi rhoi arian ychwanegol sylweddol i mewn i geisio codi'r safonau, nid yn unig yng Nghwm Taf Morgannwg ond hefyd yn Abertawe ac ar draws gweddill Cymru.
Mae tua 300 o ddigwyddiadau—300 o ddigwyddiadau—dan ymchwiliad ym Mae Abertawe yn unig ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae yna bryderon diogelwch difrifol. Mae'n amlwg fod ymateb Llywodraeth Cymru i'r methiannau lluosog hyn sydd i'w gweld yn y bwrdd iechyd wedi bod yn gwbl annigonol. Mae'n ymddangos bod oedi wedi bod, mae yna lusgo traed wedi bod a methiant i ymchwilio'n iawn. Ac rwy'n derbyn eich bod wedi sôn am weithio gyda'r bwrdd iechyd, ond carwn awgrymu hefyd fod angen i chi ymchwilio i'ch adran eich hun i ddarganfod pam—rydym yn dal i fod heb gael atebion i fy nghwestiynau gwreiddiol—y cyflwynwyd camwybodaeth i'r teuluoedd ac i'r cyfryngau yn hyn o beth. A hoffwn ddweud, yn bwysicaf oll, fod hyn yn ymwneud â'i gael yn iawn nawr. Cafwyd camgymeriadau yn y gorffennol, mae angen ymchwilio iddynt, ond mae angen inni sicrhau nad yw'r mathau hyn o bethau'n digwydd eto. Felly, Weinidog, gyda'r holl dystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno, a chyda'r trallod a wynebodd y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt, a wnewch chi ymrwymo heddiw i ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau mamolaeth ym mwrdd iechyd Bae Abertawe, ac a wnewch chi ymddiheuro i deulu Channon a theuluoedd eraill sydd wedi cael eu heffeithio a'u camarwain?
Rydym yn dirprwyo cyfrifoldeb mewn perthynas ag iechyd i fyrddau iechyd, felly eu cyfrifoldeb nhw yw cyflawni a sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n ddiogel. Ac yn amlwg, y ffaith amdani yw bod gennym gyfrifoldeb wedyn fel Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr eu bod nhw—[Torri ar draws.]—eu bod nhw'n cyrraedd y safonau a ddisgwylir ganddynt. A dyna pam mae gennym bethau fel Gweithrediaeth GIG Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at y mathau o safonau ac ymrwymiadau yr ydym eisiau iddynt gadw atynt.
Llefarydd Plaid Cymru, Sioned Williams.
Diolch, Lywydd. Un o'r prosiectau yr edrychodd ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i wasanaethau i blant â phrofiad o ofal arnynt oedd y prosiect Babi a Fi, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Barnardo's Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd. Mae'r prosiect arloesol hwn yn darparu cefnogaeth ddwys cyn- ac ôl-enedigol i deuluoedd lle mae risg y gallai'r babi gael ei dderbyn i ofal adeg ei eni, gan ddod â chymorth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a rhianta ynghyd mewn un model cyfannol sydd wedi sicrhau canlyniadau rhagorol.
Un o'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor oedd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau mynediad cyffredinol ledled y wlad i wasanaethau ataliol ymyrraeth gynnar llwyddiannus ar ffiniau gofal, fel Babi a Fi Barnardo's. Fe wnaethoch chi dderbyn yr argymhelliad hwn yn rhannol, Ddirprwy Weinidog, gan dderbyn a chydnabod y gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud gan wasanaethau ar ffiniau gofal, fel Babi a Fi Barnardo's, a'r budd y mae'r rhaglenni hyn yn ei gynnig i rieni newydd, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal. Fe ddywedoch chi y byddech yn adolygu'r gwerthusiad o brosiectau fel Babi a Fi wrth benderfynu ar y camau nesaf a'u cyflwyno yn y dyfodol.
Felly, gan fod Babi a Fi eisoes wedi bod drwy werthusiad llawn, a'ch bod wedi ymrwymo i leihau nifer y babanod a phlant ifanc sy'n mynd i mewn i'r system ofal, a wnewch chi nodi pa adolygiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru o Babi a Fi a phryd y gwneir penderfyniad ynghylch ymrwymo i'w gyflwyno?
Diolch am eich cwestiwn, Sioned Williams. Ac rwyf am gofnodi fy nghydnabyddiaeth o'r cyfraniad hynod bwysig y mae Babi a Fi yn ei wneud i gadw plant ifanc a babanod allan o ofal. Rwy'n hynod gefnogol ohono, ac ymwelais â'r prosiect yng Nghasnewydd a'i weld ar waith. Felly, rwy'n gwybod ei fod yn effeithiol iawn. Ac rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod sefydliadau'r trydydd sector a llywodraeth leol yn dod at ei gilydd—a'r byrddau iechyd—i roi ymyrraeth gyfannol ac effeithiol. Rwy'n llwyr o blaid gweld partneriaethau'n gweithio fel hynny, ac rwy'n credu bod y model yn wych.
Rydym yn parhau i ymgysylltu â'r trydydd sector ac awdurdodau lleol i gefnogi prosiectau newydd ac arloesol a threialu ffyrdd o gydweithio. Ac ar wasanaethau ffiniau gofal, ers 2017-18, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £9 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol i awdurdodau lleol, sydd bellach yn y grant cynnal refeniw. Roedd £5 miliwn ohono yn benodol ar gyfer sefydlu neu ymestyn gwasanaethau ffiniau gofal presennol ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru. Felly, mae'r ddarpariaeth honno eisoes yn y grant cynnal refeniw. Ond ynglŷn ag adolygiad, a sut y gallwn symud ymlaen, yn amlwg, rydym mewn sefyllfa ariannol anodd iawn, fel y gwyddoch, felly mae hynny'n lliwio ein holl ystyriaethau ar y cam hwn. Ond mae hwn yn sicr yn fater sy'n codi, ac mae'n fater pwysig iawn, a dyma'r mathau o brosiectau yr ydym yn awyddus i'w datblygu.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae'n bryderus clywed hynny, oherwydd, yn amlwg, gwasanaethau a rhaglenni ataliol fel hyn sy'n gweithio yw hanfod buddsoddi i arbed, onid e, yn enwedig pan fyddwn yn meddwl am y gost o blant yn mynd i mewn i'r system ofal, mewn termau dynol yn ogystal ag ariannol.
Mater arall a godwyd gan ymchwiliad yr un pwyllgor oedd pryderon ynglŷn â phan fo plant sy'n derbyn gofal yn cael eu lleoli y tu hwnt i ardal awdurdod lleol eu cartref. Wrth roi plentyn mewn gofal, dylid gwneud pob ymdrech, wrth gwrs, i sicrhau bod y lleoliad yn ardal cartref y plentyn i sicrhau parhad addysg, gwasanaethau a rhwydweithiau cymdeithasol ac ati. Ond wrth gwrs, mewn rhai achosion, mae er lles gorau'r plentyn i gael ei leoli y tu allan i'w ardal awdurdod lleol. Yn eu cyflwyniad i ymchwiliad y pwyllgor, tynnodd Cymdeithas y Plant sylw at y ffaith nad yw rheoliadau ar gyfer lleoli plant mewn ardal awdurdod lleol arall yn cael eu dilyn yn gyson ledled Cymru, a bod arferion rhannu gwybodaeth, yn enwedig, rhwng awdurdodau lleol yn amrywio ac yn anghyson. Dyma'r mathau o brotocolau a gwybodaeth y mae angen eu rhannu i sicrhau bod gwybodaeth bwysig am y plant hynny'n cael ei rhannu, fel y gellir eu cefnogi'n briodol. Ac wrth gwrs, heb fod hynny'n digwydd, gall gynyddu'r risg o leoliadau aflwyddiannus a phlant yn cael eu hamddifadu o'r cymorth cywir os ydynt yn wynebu risgiau. Codwyd hyn saith mlynedd yn ôl yn adroddiad y comisiynydd plant 'Y Gofal Cywir', ac mae adroddiad etifeddiaeth 2021 grŵp cynghori'r Gweinidog ar blant sy'n derbyn gofal yn nodi bod datblygu canllawiau ymarfer ar leoliadau y tu allan i'r ardal a thrawsffiniol yn flaenoriaeth, er nad yw'r canllawiau ymarfer hyn wedi'u cyhoeddi hyd yma.
Felly, fel rhan o'i chynlluniau i ddiwygio gofal cymdeithasol plant, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwybodaeth bwysig yn cael ei rhannu'n fwy cyson rhwng awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol eraill pan fydd angen lleoli plant sy'n derbyn gofal mewn ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol? A ydych chi'n rhagweld gwaith ar y mater hwn yn arwain at ganllawiau ymarfer, fel y nodwyd gan grŵp cynghori'r Gweinidog, neu a gaiff ei ddatblygu ar ryw ffurf arall?
Rydym yn gefnogol i weld plant yn cael eu lleoli mor agos i'w cartref â phosibl, a rhan o gynllun trawsnewid gwasanaethau plant y Llywodraeth, yn gyntaf oll, yw cael llai o blant yn dod i mewn i'r system ofal. Dyna ein prif nod, heblaw pan fo'n gwbl hanfodol iddynt gael eu derbyn am resymau diogelwch wrth gwrs. Ond rydym yn teimlo y dylai plant gael eu lleoli ger eu cartref am yr holl resymau a nodwyd gennych—i fod yn agos at rieni, i fod yn agos at addysg a chadw eu ffrindiau—a dyna mae plant wedi'i ddweud wrthym; dyma maen nhw ei eisiau. Felly, rydym yn gobeithio y byddwn yn symud tuag at sefyllfa lle bydd hyn yn digwydd yn llawer llai aml, ond mae'n anochel y bydd yn digwydd weithiau. Ac ar y canllawiau ymarfer, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysau'r gaeaf o fewn GIG Cymru? OQ60271
Rydym yn rhagweld gaeaf heriol iawn i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol allweddol. Mae byrddau iechyd a phartneriaid wedi datblygu cynlluniau integredig i sicrhau bod gwasanaethau'n gadarn, cyn belled ag y bo modd, ac i liniaru'r risgiau cydamserol yn sgil newid yn y galw dros fisoedd y gaeaf.
Diolch, Weinidog. Bythefnos yn ôl, fe roesoch chi ddatganiad mewn ymateb i gwestiwn amserol ynghylch y pwysau yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol Cymru, lle cafodd 'digwyddiad du', rwy'n credu iddo gael ei alw, sef y polisi uwchgyfeirio dwys y mae byrddau iechyd yn ei roi ar waith pan fydd adrannau damweiniau ac achosion brys dan bwysau— . A ydych chi mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch pa welliannau, pa adnoddau ychwanegol sydd wedi'u rhoi ar waith fel bod unrhyw newidiadau pellach o'r fath yn statws yr adran damweiniau ac achosion brys, wrth inni barhau i mewn i fisoedd y gaeaf, yn gallu darparu ar gyfer cynnydd yn nifer y cleifion sy'n dod i'r adran honno? Hon yw'r adran damweiniau ac achosion brys fwyaf yng Nghymru gyfan, ond nid yw hynny'n golygu ei bod yn rhydd rhag pwysau'r gaeaf, ac yn amlwg mae'r staff a'r cleifion yn awyddus iawn i beidio â gweld yr amodau a wynebwyd bythefnos yn ôl yn dod yn thema gyffredin dros fisoedd y gaeaf.
Diolch yn fawr. Wel, gwyddom mai'r prif achos yno oedd problem oedi wrth drosglwyddo gofal a chronni dros y penwythnos, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam na allai pobl symud drwy'r system. Nid yw'n broblem newydd, ond mae'n broblem a fydd, yn amlwg, yn dod yn fwy difrifol efallai wrth i fwy o bobl wynebu problemau anadlu, yn enwedig, yn ystod y gaeaf. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn bryderus iawn yn ei gylch—y cynnydd bob amser, pan fo'r tywydd yn oeri, mewn problemau anadlu. Felly, mae llawer o waith yn cael ei wneud ar oedi wrth drosglwyddo gofal. Un o'r meysydd allweddol yw oedi wrth wneud asesiadau. Felly, un o'r pethau y mae Caerdydd yn ei wneud, ochr yn ochr â byrddau iechyd eraill ledled Cymru, yw cyflwyno system aseswyr dibynadwy, fel bod ganddynt system lle gall pobl o'r bwrdd iechyd wneud yr asesiad hefyd yn lle'r cyngor, yn hytrach nag aros i rywun o'r cyngor ddod i asesu, ac mae hynny wedi gwella'r sefyllfa dros y misoedd diwethaf. Ond mae gennym fwy i'w wneud yn y gofod hwnnw, rwy'n credu, i wneud yn siŵr ein bod yn gweld pobl yn symud drwy'r system yn gyflymach, fel y gallwn eu cael allan mor gyflym ag y gallwn a'u cefnogi yn y gymuned.
Y peth arall y bydd Caerdydd yn manteisio arno yw'r ffaith ein bod bellach wedi rhoi arian Ymhellach yn Gyflymach yn y system. Dyna oddeutu £8.5 miliwn ychwanegol y gaeaf hwn i gynyddu'r gefnogaeth yn y gymuned i nyrsio cymunedol. Ac mae hynny'n golygu y bydd hi'n haws anfon pobl adref a gwybod y bydd y gefnogaeth honno yno. Ond hyd yn oed yn bwysicach, rydym eisiau rhoi'r gefnogaeth honno i mewn cyn iddynt ddod i'r ysbyty, fel nad ydynt yn dod i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Dyna lle mae pobl eisiau bod.
Wel, dŷn ni i gyd yn cofio'r pwysau aruthrol oedd ar ein gwasanaethau iechyd y flwyddyn ddiwethaf. Yn ddiweddar, fe glywson ni Judith Paget, prif weithredwr NHS Cymru, yn dweud ei bod hi'n disgwyl y bydd pwysau gaeafol eleni yn debyg i'r hyn a brofwyd y flwyddyn ddiwethaf. Mae angen, felly, dangos parodrwydd clir i ddysgu gwersi. Ond, wrth beidio â chyhoeddi ffigurau breach exemptions yn eich ystadegau amseroedd aros, mae'r Llywodraeth wedi dangos amharodrwydd llwyr i wrando a dysgu o beth mae'r RCN a gweithwyr yn y gwasanaethau iechyd wedi bod yn dweud ers amser maith. Yn wir, yn gynharach heddiw, fe ddywedoch chi yn eich ymateb i Peter Fox ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn—. Beth ddywedoch chi?
—'ei bod yn bwysig ein bod ni yn cael ein harwain gan glinigwyr'—
—ac yn gwrando ar glinigwyr. Dyna oedd eich geiriau chi. Mae'r un yn wir yn yr achos yma. Ydych chi felly'n cydnabod fod y diffyg tryloywder yma yn amharu ar allu gwasanaethau iechyd i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y gaeaf, ac ei fod o bellach yn amser inni gael gwared ar breach exemptions?
Diolch yn fawr. Mae gennym raglen o'r enw 'Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng', ac mae honno'n cael ei arwain gan glinigwyr. Rydym yn gofyn iddynt beth yw'r blaenoriaethau. Maent wedi bod yn ein helpu i adeiladu'r rhaglen honno dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi rhoi cryn dipyn o arian tuag at hynny, yn dilyn cyngor clinigwyr—felly, £25 miliwn eleni a £25 miliwn y llynedd. Golyga hynny fod gennym fwy o ganolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod eleni o'i gymharu â'r llynedd. Mae gennym 24 ar draws Cymru bellach. Nid oedd yr un o'r rhain yn bodoli ddwy flynedd yn ôl. Mae gennym ganolfannau gofal sylfaenol brys. Unwaith eto, mae gennym 30 y cant yn fwy o weithgaredd yn digwydd eleni o'i gymharu â'r llynedd. Ar sut yr ydym yn cyfrif pobl mewn adrannau brys, rydym yn trafod gyda'r coleg brenhinol ynghylch sut y dylai hynny ddigwydd a'r hyn a ddylai ddigwydd. Fel y dywedais o'r blaen, roeddem eisoes wedi dechrau trafodaeth ar sut y dylai datganiad ansawdd ar gyfer adrannau brys edrych, ac mae rhan o hynny'n golygu edrych ar sut y dylem gyfrif. Ond gadewch inni fod yn hollol glir, os ydym yn cyfrif mewn ffordd wahanol, ni fyddwn yn gallu cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Weinidog, un o'r ffyrdd y gallwn leihau pwysau'r gaeaf ar ein GIG yw sicrhau bod y bobl fwyaf agored i salwch anadlol yn cael eu brechu. Mae'n orchest ryfeddol fod mwy na 1.2 miliwn o frechiadau wedi'u darparu hyd yma yng Nghymru y tymor hwn, ac rwyf am dalu teyrnged i bawb sy'n gysylltiedig â chyflawni hyn. Ond rwy'n pryderu bod oedolion iau mewn grwpiau risg clinigol wedi bod yn arafach i ddod i gael eu brechu. Weinidog, pa ymyriadau sy'n cael eu gwneud i annog pobl gymwys i ddod i gael eu brechu, i ddiogelu eu hiechyd ac i atal pwysau ar wasanaethau eraill y GIG y gaeaf hwn?
Diolch yn fawr iawn, Vikki, ac rydych chi'n hollol iawn—rhan o'n paratoadau ar gyfer y gaeaf hwn yw sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gael eu brechu. Rwy'n falch iawn o weld bod dros 80 y cant o bobl yn ein cartrefi gofal wedi cael eu brechu. Rydym wedi cael ymateb da iawn gan bobl dros 75 oed, ond fel y nodwyd gennych, eithaf siomedig yw'r ymateb gan bobl sydd mewn categori risg clinigol. Mae hynny'n destun pryder mawr, oherwydd yn amlwg, nhw yw'r rhai mwyaf tebygol o ddefnyddio gwasanaethau'r GIG dros y gaeaf os oes ganddynt broblemau anadlu. Felly, hoffwn eu hannog i ddod. Rydym yn gwneud llawer iawn o waith gyda'n byrddau iechyd i geisio cyrraedd y bobl hynny. Y grŵp arall o bobl nad ydynt yn manteisio ar y cyfleoedd mewn gwirionedd, a hoffem iddynt wneud hynny, yw gweithwyr y GIG a staff gofal. Nid ydynt lle dylent fod o bell ffordd, ac apeliwn arnynt i fanteisio ar y cyfle, gan mai dyma un o'r ffyrdd gorau y gallwn ddiogelu ein hunain y gaeaf hwn. Fe fyddwn yn rhoi cymorth ar waith. Rydym yn sicrhau bod y brechlynnau hyn ar gael. Mae pawb ohonoch yn gwybod am y pwysau ariannol sydd arnom. Ond mae'n rhaid i bobl ddod gyda ni ar y daith hon, ac mae'n rhaid i bobl helpu eu hunain ar y daith hefyd. Gallwn ei gynnig, ond mae angen i bobl gamu drwy'r drws a'n helpu ni.
Weinidog, ddydd Gwener diwethaf cefais wahoddiad i gyfarfod â'r tîm fferyllol yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym mwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg gan Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, a hoffwn ddweud 'diolch' enfawr i'r tîm cyfan. Maent yn hollol anhygoel, yn ymroddedig, yn arbenigwyr, yn fedrus. Mae tua 70 aelod o staff yn gweithio'n barhaus i gael y feddyginiaeth allan i'r holl wardiau a'r holl gleifion, a hefyd i'w paratoi ar gyfer eu rhyddhau. Felly, ym mhob ysbyty, maent yn rhan mor hanfodol o sicrhau nad yw pwysau'r gaeaf yn gorlethu'r holl wasanaethau. Mae'r tîm bob amser yn arloesi, gan edrych ar ffyrdd o wella eu gwasanaeth. Un o'r pethau y gwnaethant eu codi gyda mi oedd, ar hyn o bryd, os yw rhywun yn cael 40mg o gyffur ar bresgripsiwn ond nad oes ganddynt dabledi 40mg a dim ond tabledi 20mg, ni allant roi dau becyn 20mg iddynt. Mae'n rhaid iddynt fynd yn ôl, fel arfer at eu meddyg teulu a mynd drwy'r holl broses bresgripsiynu eto, sy'n amlwg yn cymryd amser, ac i'w gweld yn hurt, a bod yn onest. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a fu unrhyw gyfathrebu â Llywodraeth y DU i'w hannog i ddiwygio'r Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol er mwyn i fferyllwyr allu gwneud mân addasiadau nad ydynt yn galw am newid therapiwtig, fel y gellir dosbarthu presgripsiynau heb fod angen ailgysylltu â'r sawl sy'n presgripsiynu. Diolch.
Diolch yn fawr. Wel, fel y gwyddoch, daw'r rhan fwyaf o'r meddyginiaethau yr ydym yn eu caffael drwy Lywodraeth y DU, ond mae gennym raglen drawsnewid meddyginiaethau digidol a gyflawnir gennym, ac nid ar gyfer gofal sylfaenol yn unig, y byddwn yn siarad amdani yn ddiweddarach y prynhawn yma, ond mewn gofal eilaidd hefyd. Roeddwn yn falch iawn o weld y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud mewn gofal eilaidd ar sicrhau bod cronfa wybodaeth ganolog yn bodoli, yn rhannol, ar gyfer pob presgripsiwn, fel y bydd pawb yn gallu gwybod pwy sydd wedi cael beth. Felly, mae cynnydd gwirioneddol i'w weld yn y maes hwnnw. Os oes unrhyw beth penodol, os gallwch ysgrifennu ataf ar hynny, fe edrychaf i weld a allwn fynd ar ei drywydd oherwydd mae'n swnio fel newid bach, ond mae unrhyw newid bach gan y Llywodraeth ganolog fel arfer yn cymryd cryn dipyn o amser. Ond gadewch inni weld, os gallwch ysgrifennu ataf ynglŷn â hynny.
Mae cwestiwn 4 [OQ60267] wedi'i dynnu'n ôl. Cwestiwn 5, Alun Davies.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn agosach at gartrefi pobl? OQ60292
'Cymru Iachach' yw ein strategaeth barhaus ar gyfer ailgydbwyso’r system iechyd a gofal a symud i ffwrdd oddi wrth ofal a thriniaethau sy’n cael eu darparu yn yr ysbyty tuag at wasanaethau atal a gwasanaethau yn y gymuned. Mae’r rhaglenni cenedlaethol ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, gofal a gynlluniwyd a gofal sylfaenol a’r gronfa integreiddio rhanbarthol yn dal i gefnogi trefniadau ar gyfer cynllunio a chyflenwi’n lleol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny. Dywedodd Aneurin Bevan, wrth gwrs, mai grym unrhyw bolisi yw'r effaith y mae'n ei chael ar yr unigolyn ar y stryd. Drwy gydol fy amser yma, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn llawn wrth iddo ddatblygu'r cynllun Dyfodol Clinigol, a rhan sylfaenol o hynny, wrth gwrs, oedd darparu gwasanaethau ychwanegol yn agosach at adref.
Mae dau o fy etholwyr, y ddau'n bobl oedrannus, angen trwyth diferu rheolaidd i reoli eu cyflwr. Darparwyd y driniaeth hon yn Ysbyty Nevill Hall, a olygai daith fer mewn bws neu gar i'r Fenni o'r etholaeth. Bellach, mae'r driniaeth wedi'i throsglwyddo i Ysbyty Brenhinol Gwent. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r systemau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n angenrheidiol i etholwyr ym Mlaenau Gwent gael mynediad at y gwasanaethau hyn, ac o ganlyniad, mae etholwyr oedrannus yn cael eu rhoi dan lawer iawn o straen a phryder er mwyn cael triniaeth y mae ganddynt hawl sylfaenol iddi. Os ydym yn darparu ac yn newid cyfluniad gwasanaethau, mae'n bwysig ein bod yn darparu modd i bobl allu cael mynediad at y gwasanaethau hynny. Mae Llywodraethau olynol yng Nghymru a Gweinidogion iechyd olynol wedi dod yma ac wedi cefnogi Dyfodol Clinigol; rwy'n ei gefnogi fy hun. Ond rhan o hynny oedd darparu gwasanaethau yn agosach at adref, peidio â mynd â gwasanaethau ymhellach i ffwrdd a'i gwneud yn anos cael mynediad atynt. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu'n agosach at adref, fel y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei addo i fy etholwyr?
Wel, fe ddywedaf wrthych chi sut: drwy gynyddu nifer yr oriau y gall nyrsys cymunedol eu darparu. Felly, nid oes unrhyw reswm pam na ellir darparu rhai trwythiadau yng nghartref rhywun, ac oni fyddai honno'n sefyllfa ddelfrydol? Rwy'n credu ei bod yn bwysig, lle gallwn, ein bod yn darparu'r cymorth hwnnw yng nghartref rhywun. Rwy'n cydnabod yn llwyr os oes angen i bobl fynd i wasanaeth canolog, fod yn rhaid inni feddwl o ddifrif am drafnidiaeth, a gallaf eich sicrhau, fel cynrychiolydd gwledig, ei fod yn rhywbeth rwy'n ymwybodol iawn ohono. Os ydym yn mynd i ganoli gwasanaethau ar gyfer cymorth mwy arbenigol, sy'n mynd i ddigwydd, efallai y bydd yn rhaid i bobl deithio ymhellach am y byddant yn cael canlyniadau clinigol gwell, oherwydd byddwn yn gallu cael mwy o staff yn y lleoedd hynny a bydd wedi'i gydgyfeirio'n well. Pan fydd salwch ymhlith y staff hynny, bydd yna bobl eraill i wneud y gwaith. Mae'n gwneud synnwyr i ni gydgyfeirio, os gallwn, mewn rhai ardaloedd pan fydd angen gwasanaethau arbenigol arnom. Ond rwy'n credu ei fod yn gyfuniad o feddwl sut rydym am wneud trafnidiaeth yn well. Mae llawer o wasanaethau'n cael eu darparu. Rwy'n gwybod bod llawer o systemau gwirfoddol ar waith sy'n helpu pobl i fynd i ysbytai lleol. Defnyddiodd fy modryb hynny bythefnos yn ôl i fynd o Dyddewi i Abertawe. Felly, mae'n bosibl, ond mae'r system drafnidiaeth wirfoddol hefyd yn bodoli ym Mlaenau Gwent ac yn bodoli yn Aneurin Bevan, a hoffwn awgrymu efallai y gallwn ddod o hyd i wybodaeth i chi ynglŷn â sut y gall eich etholwyr gysylltu â'r system drafnidiaeth wirfoddol honno.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd therapïau modiwlaidd ar gyfer cleifion ffibrosis systig yng Nghymru yn y dyfodol? OQ60276
Mae triniaethau ffeibrosis systig Kaftrio, Symkevi, Orkambi a Kalydeco i gyd ar gael fel mater o drefn yng Nghymru, ar gyfer yr holl bethau y maent yn drwyddedig i'w gwneud. Mae hyn yn unol â'r cytundebau mynediad masnachol yr ymrwymwyd iddynt rhwng Llywodraeth Cymru a'r gwneuthurwr, Vertex Pharmaceuticals, yn 2020.
Diolch am yr ymateb hwnnw, ac rwy'n gwybod bod trafodaeth ar y mater hwn ddoe yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Ond yn amlwg, mae hwn yn fater o ddiddordeb i'r cannoedd o gleifion ffeibrosis systig sydd yma yng Nghymru, a'u hanwyliaid, gyda llawer ohonynt yn rhoi sylw brwd i'r ymgynghoriad parhaus gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar argaeledd y cyffuriau hyn yn y dyfodol.
Nawr, rwy'n derbyn y bydd y cleifion sydd eisoes yn cael y meddyginiaethau hyn yn parhau i'w cael yn y dyfodol, ac maent yn mwynhau effeithiolrwydd y cyffuriau hyn sydd wedi'i brofi'n glinigol am hyd oes a fydd, gobeithio, yn llawer hirach. Ond yn amlwg, mae yna bobl sy'n pryderu. Maent am gael sicrwydd, pe bai penderfyniad negyddol gan NICE, ac na fyddai cytundeb rhwng y gwneuthurwr, Vertex, a'r GIG i sicrhau bod y cynhyrchion hyn ar gael yn y dyfodol, fod yna gyfleoedd i'r rhai a allai elwa ohonynt barhau i allu eu cael yma yng Nghymru.
Felly, a allwch ddweud wrthym yr un peth na wnaeth y Prif Weinidog ei ddweud ddoe yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, sef a fydd y meddyginiaethau hyn ar gael o hyd drwy lwybr y ceisiadau cyllido cleifion unigol i gael mynediad at feddyginiaethau yma yng Nghymru, fel sydd wedi digwydd i rai eraill na chawsant eu cymeradwyo gan NICE yn y gorffennol?
Wel, diolch yn fawr iawn, ac roedd trafodaeth eithaf cynhwysfawr ynghylch hyn ddoe, yn amlwg, yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Rwy'n gobeithio bod yr ymyriad a wnaeth y Prif Weinidog ddoe wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r bobl sydd eisoes yn cael y meddyginiaethau hyn. Felly, os ydych yn cael y meddyginiaethau hyn ar hyn o bryd, ni fyddwch yn eu colli.
Yn amlwg, rwy'n deall pryder y bobl nad ydynt efallai wedi cyrraedd yno eto neu sydd â phlant iau. Fel y nododd y Prif Weinidog ddoe, nid yw'n anarferol i asesiad negyddol gan NICE ddigwydd ar ddechrau arfarniad meddyginiaethau, felly mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â phroses negodi. Ond o ran beth fydd yn digwydd pe bai NICE yn dweud 'na', wel, yn gyffredinol, nid yw Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru yn arfarnu meddyginiaethau lle mae arfarniad gan NICE wedi'i drefnu eisoes. Felly, rôl y grŵp yn bennaf yw arfarnu meddyginiaethau na fyddai'n cael eu hystyried gan NICE fel arall. Felly, mae'n debyg y byddwn yn mynd gyda beth bynnag yw argymhelliad NICE.
Mae cwestiwn 7 [OQ60282] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 8, Huw Irranca-Davies.
8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bwysigrwydd sefydliadau cymorth canser y fron yn ne Cymru a gaiff eu rhedeg gan wirfoddolwyr? OQ60263
Mae grwpiau cymorth canser y fron yn y trydydd sector a grwpiau cymorth canser y fron sy'n cael eu gweithredu gan wirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi menywod sy'n cael triniaeth neu sy'n gwella o driniaeth ar gyfer canser y fron. Rwy'n disgwyl i wasanaethau canser gyfeirio pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser y fron at y grwpiau cymorth lleol hyn.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn ddiweddar, mynychodd llu o bobl, gan gynnwys llawer o Aelodau yn y Siambr hon, agoriad swyddogol Canolfan y Fron Snowdrop. Alex Davies-Jones AS a dorrodd y tâp, ond roedd llu o bobl yno. Buddsoddiad gwerth £2 filiwn ydyw sy'n cyfuno siop un stop o'r radd flaenaf nid yn unig ar gyfer triniaeth a diagnosis, ond gofal hefyd, drwy bob cam o'r daith trin canser, a therapïau cyflenwol. Ond yn ogystal â'r buddsoddiad o £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd yno, roedd yna ennyd hefyd, wrth gwrs, i gofio Clare Smart, sylfaenydd elusen Giving to Pink, a'r £300,000 o arian elusennol a godwyd ganddynt ar gyfer y ganolfan. Hefyd, roedd cynrychiolwyr o Pontyclun Bosom Pals, grŵp rwy'n gwybod amdano ers amser maith, sy'n gwneud cymaint mewn rhwydwaith o bobl i ddod â'r rhai sydd hefyd ar y daith ganser ynghyd.
Felly, yn ogystal â'r buddsoddiad a wnawn a'r gwelliannau mewn triniaeth, diagnosis, gofal, ac ati, a fyddai'n cytuno â mi fod y grwpiau cymorth hyn yn rhan annatod o gael taith foddhaol drwy driniaeth ganser, ac i ddarparu rhwydwaith o bobl sydd wedi bod drwyddi eu hunain, a all drafod hyn gyda'i gilydd a helpu ei gilydd drwy hyn?
Diolch yn fawr iawn, Huw, a diolch am eich holl waith ar y mater hwn. Rwy'n gwybod eich bod yn eiriolwr dros yr achos hwn, a diolch ichi am dynnu ein sylw ato unwaith eto. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â Chanolfan y Fron Snowdrop, felly rwy'n falch o glywed ei bod yn swnio fel pe bai'n wasanaeth effeithlon a rhagorol iawn ac eisoes yn destun adroddiadau disglair iawn. Felly, mae'n dda cael hynny yng nghalon y gymuned honno.
Rwy'n cytuno â chi. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol cael y cymorth hwnnw o'ch cwmpas os ydych chi'n mynd drwy rywbeth mor drawmatig â hyn. Mae yna bobl nad ydynt eisiau hynny, ond mae llawer o bobl sy'n byw mewn ofn. Os gallwch siarad â rhywun arall sydd wedi mynd drwyddo, sy'n mynd drwyddo, rwy'n credu ei fod yn rhoi llawer iawn o hyder i rywun ei bod hi'n bosibl goresgyn yr hyn sydd yn ôl pob tebyg yn un o'r digwyddiadau mwyaf trawmatig yn eich bywyd. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi ac yn diolch i Giving to Pink—ac am waddol ryfeddol mae Clare wedi ei gadael—a hefyd i Pontyclun Bosom Pals. Ac rwy'n gwybod bod yna lawer iawn o sefydliadau eraill tebyg o amgylch Cymru gyfan. Gwyddom faint o fenywod sy'n dioddef o ganser y fron. Mae'n nifer enfawr ac mae yna gymuned o bobl sydd â hynny'n gyffredin ac sy'n gallu rhannu'r profiad hwnnw, a chredaf fod y rhwydweithiau trydydd sector hynny'n llwyfannau ardderchog i bobl allu rhannu'r profiadau hynny.
9. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i leihau amseroedd ymateb ambiwlansys yng Ngorllewin De Cymru? OQ60291
Rydym wedi rhoi amrywiaeth o gamau ar waith, yn cynnwys dyrannu £3 miliwn ychwanegol ar gyfer staff ychwanegol, buddsoddi mewn technoleg newydd a sefydlu cynlluniau gwella ar y cyd y byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Rydym wedi bod yn glir gyda byrddau iechyd yng Ngorllewin De Cymru ynghylch ein disgwyliad am wella perfformiad trosglwyddo ambiwlansys i ryddhau capasiti ambiwlansys.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Tua 18 mis yn ôl, efallai y byddwch yn cofio imi godi mater yr uned ymatebwyr cyntaf a leolir yn Reynoldston ar benrhyn Gŵyr. Cododd y gymuned £65,000 ar gyfer cerbyd ymatebwr cyntaf a allai ymateb i alwadau brys a chael gwirfoddolwyr hyfforddedig i'r lleoliad cyn y gallai ambiwlans gyrraedd o bell. Ond fe grybwyllais bryd hynny fod pobl leol yn mynd yn rhwystredig iawn nad oeddent yn cael galwadau 999 i'r uned ymatebwyr cyntaf. Weithiau, byddai digwyddiadau lle byddai ambiwlansys yn cymryd oriau i ddod o filltiroedd i ffwrdd i gyrraedd digwyddiad ddwy funud i lawr y ffordd o Reynoldston.
Rwy'n derbyn nad yw uned ymatebwyr cyntaf sy'n cael ei staffio gan wirfoddolwyr yn briodol ar gyfer pob galwad, ond rwy'n deall hefyd y gallai rhai o'r galwadau hyn fod wedi gwneud defnydd o'r gofal brys ymateb cyntaf ar y rheng flaen i gyrraedd yno'n llawer cyflymach nag y byddai ambiwlans efallai wedi gallu ei wneud o rywle pellach i ffwrdd. Felly, roedd hon yn broblem 18 mis yn ôl pan godais ef; mae'n dal i fod yn broblem heddiw. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Weinidog, i ystyried y broblem hon a deall pam nad yw'r uned ymateb cyntaf yn Reynoldston yn cael y galwadau 999 hynny yn y lle cyntaf?
Diolch yn fawr. Rwy'n gwybod nad yw hwn yn fater sy'n berthnasol i Reynoldston yn unig. Felly, cyfarfûm â phobl yn y gwasanaeth tân, a oedd ychydig yn rhwystredig nad oeddent yn cael eu defnyddio ychwaith. Felly, rwyf wedi codi'r mater gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae ganddynt swm penodol o arian y mae'n rhaid iddynt ei ddefnyddio. Mae ganddynt rywfaint o adnoddau y mae'n rhaid iddynt eu defnyddio, ac felly, mae'n amlwg ei fod yn gwneud synnwyr, lle bo modd, i ddefnyddio opsiynau amgen. Mae'r sefyllfa gyda tân ychydig yn wahanol, yn yr ystyr fy mod yn credu eu bod yn cael eu talu. Os ydych chi'n siarad am wirfoddolwyr, mae'n her wahanol iawn. Felly, os caniatewch i mi, fe ystyriaf hynny a gweld a oes unrhyw reswm pam nad oes mwy o ddefnydd ar hynny, oherwydd rwy'n cydnabod ei fod yn eithaf pell o adran frys.
10. Pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud er mwyn datblygu system gofal teg i Gymru? OQ60294
Rhoddodd grŵp arbenigol gamau argymelledig inni tuag at wasanaeth gofal cenedlaethol, gan adeiladu ar greu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a sefydlu swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal a chymorth. Rydym wedi sefydlu fforwm gwaith teg ac wedi gweithredu'r cyflog byw gwirioneddol i'r gweithlu gofal cymdeithasol.
Diolch, Weinidog. Mae pobl sy'n ofalwyr yn aml yn cael eu rhoi dan straen aruthrol, a dyna pam mae seibiant mor bwysig. Ond yn fy ardal i, nid yw gwasanaethau dydd i oedolion ag anawsterau dysgu ac anghenion gofalu difrifol wedi dychwelyd i'r hyn a oedd ar gael cyn y pandemig, yn sicr nid yng Nghaerffili. Ac mae hyn yn golygu nad yw'r oedolion hynny'n cael y cymorth yr arferent ei gael, ond mae hefyd yn golygu nad yw eu gofalwyr yn cael seibiant, ac mae'r gofalwyr hyn yn aml yn rhieni hŷn, ac weithiau'n oedrannus, ac maent yn ei chael hi'n anodd iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r siarter ar gyfer gofalwyr di-dâl, sy'n nodi hawliau cyfreithiol gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi sy'n ofni nad yw eu hawdurdod lleol yn rhoi sylw dyledus i anghenion unigolion o ran y modd y maent yn dehongli'r siarter honno. A allech ddweud wrthyf, os gwelwch yn dda, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyhoeddi canllawiau cryfach i gynghorau i sicrhau bod gofalwyr di-dâl a'u plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyd?
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Delyth Jewell, a gwn eich bod wedi bod yn bryderus iawn am eich etholwyr, y credaf inni eu trafod o'r blaen, ac rwy'n deall pa mor anodd yw hi iddynt gyda'r anawsterau y maent yn eu cael wrth ofalu am eu hanwyliaid. Ac rwy'n derbyn bod gofalwyr wedi bod dan straen, ac yn sicr, roedd y pandemig yn gyfnod anodd iawn i ofalwyr, ac mae hi'n iawn i ddweud nad yw gwasanaethau, gwasanaethau dydd, wedi dychwelyd ym mhob ardal i'r ffordd y dylent fod. Rydym wedi comisiynu'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar hyn, ac maent wedi paratoi adroddiad y byddwn yn gweithredu arno pan fyddwn wedi ei astudio, oherwydd credwn ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth a allwn dros ofalwyr. Wrth gwrs, fe sonioch chi am bwysigrwydd seibiant, a pha mor anodd yw hi i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu o'r fath gael seibiant.
Ac wrth gwrs, mae'n Wythnos Gofalwyr, ac mae'n Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr yfory, felly mae'n adeg bwysig iawn i dynnu sylw at hawliau gofalwyr di-dâl, ac rwyf wedi bod yn cyfarfod â gofalwyr di-dâl drwy'r wythnos, ac mae cael seibiant yn un o'r prif bethau y maent wedi'i ddweud wrthyf. Felly, rwy'n falch ein bod wedi gallu cychwyn cynlluniau er mwyn i ofalwyr di-dâl gael seibiant, ond yn sicr bydd yn rhaid inni edrych ar yr hyn y mae adroddiad y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei ddweud, a gweld sut y gweithredwn ar ôl hynny.
Ac yn olaf, cwestiwn 11, Paul Davies.
11. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cleifion canser ym Mhreseli Sir Benfro? OQ60268
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda byrddau iechyd i ddiwallu anghenion pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio gweithwyr allweddol i ddatblygu gofal canser sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Lansiwyd pecynnau cymorth a llyfrau newydd fis diwethaf i gefnogi teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan ganser ar draws gorllewin Cymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais ag Adam's Bucketful of Hope yn Hwlffordd, canolfan sy'n ymroddedig i gefnogi cleifion canser ar hyd eu taith. Maent yn cynnig amrywiaeth o wahanol wasanaethau therapiwtig, fel tylino ac adweitheg, yn ogystal â chymorth cwnsela traddodiadol i gleifion. Rwy'n siŵr y byddwch yn derbyn bod canolfannau fel Adam's Bucketful of Hope yn cael effaith mor gadarnhaol ar bobl sy'n byw gyda chanser, ac rwy'n gwybod o brofiad personol pa mor bwysig yw cael y cymorth cywir hwnnw. Felly, mae'n hanfodol eu bod yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaethau mawr eu hangen hyn am flynyddoedd lawer. Felly, a allwch ddweud wrthym pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i ganolfannau fel hyn, fel y gallant barhau i gefnogi cleifion canser ym Mhreseli Sir Benfro?
Diolch yn fawr. Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw sicrhau ein bod yn darparu'r driniaeth canser ei hun. Dyna'n prif gyfrifoldeb yma, ac rwy'n falch iawn o weld ein bod wedi cyhoeddi £86 miliwn ar gyfer cyfleusterau diagnostig a thriniaeth canser newydd. Felly, mae'n rhaid i hynny fod yn ffocws allweddol i ni, yn enwedig yn yr amseroedd hyn pan fo cyllid yn dynn iawn. Felly, mae'n anos inni helpu i gefnogi'r sefydliadau hynny. Wrth gwrs, mae yna lawer o sefydliadau fel Adam's Bucketful of Hope, ac yn amlwg, rydym yn cydnabod eu bod yn chwarae rhan amhrisiadwy ar daith canser pobl, ond mae llawer o sefydliadau eraill yn y gofod hwnnw, ac yn gyffredinol, mae hyn yn rhywbeth lle mae pobl yn codi arian yn lleol ac maent yn codi arian fel sefydliad elusennol, yn hytrach na fel rhywbeth sy'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth.
Diolch i'r Gweinidog. Yr eitem nesaf fyddai'r cwestiwn amserol, ond mae'r unig gwestiwn amserol sydd wedi cael ei dderbyn heddiw'n cael ei gymryd fel eitem cyn y cyfnod pleidleisio.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Mis Tachwedd yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac 16 Tachwedd oedd Diwrnod Byd-eang Canser y Pancreas, i roi cyfle inni fyfyrio ar bawb y mae'r clefyd dinistriol hwn wedi effeithio ar eu bywydau. Gall canser y pancreas effeithio ar yr hen a'r ifanc fel ei gilydd, gyda mwy na 10,500 o bobl yn cael diagnosis yn y DU. Ac nid yw hanner y rhai sy'n cael diagnosis yn goroesi y tu hwnt i dri mis, sy'n ganran syfrdanol.
Nid yw'r gyfradd sy'n goroesi am flwyddyn ond yn 26 y cant, gyda'r gyfradd sy'n goroesi am bum mlynedd ychydig o dan 6 y cant yng Nghymru, tra bod pobl ddeg gwaith yn fwy tebygol o oroesi pob canser cyffredin arall. Mae'r rhain yn ystadegau llwm, ac er bod technoleg a thriniaethau wedi gwella'n sylweddol yn ystod y 45 mlynedd diwethaf, mae'r ystadegau hyn wedi aros yr un fath i raddau helaeth ar gyfer canser y pancreas, gyda dim ond ychydig o welliant o fewn yr un cyfnod. A thu ôl i bob ystadegyn, mae yna unigolyn a'u hanwyliaid.
Mae Dawn Clayton o Gasnewydd yn gyn-nyrs ac wedi goroesi canser y pancreas a gafodd naw mlynedd yn ôl. Roedd Dawn yn ffodus i gael diagnosis cynnar ac mae wedi defnyddio ei phrofiad i ddylanwadu ac ymgyrchu dros driniaeth decach a chyflymach. Mae gwaith Dawn gyda Pancreatic Cancer UK yn anhygoel. Penderfynodd godi ymwybyddiaeth drwy gerdded o'r Almaen i'r Eidal ar draws yr Alpau i ddangos bod pobl â chanser y pancreas, os caiff ei drin yn gyflym, yn gallu byw bywyd llawn ac ystyrlon er gwaethaf diagnosis creulon. Rwy'n gobeithio heddiw yn y Senedd y gallwn i gyd wrando ar, ac yn fwyaf arbennig, dysgu o brofiad, egni a chymhelliant Dawn drwy ymuno i drawsnewid y dyfodol i bawb yr effeithiwyd arnynt gan ganser y pancreas.
Ar 13 Tachwedd 1923, ganed Alfred Thomas Sherwood yn North View Terrace, Aberaman. Dangosodd Alf, fel y câi ei adnabod, angerdd a sgìl mewn chwaraeon o oedran ifanc. Cynrychiolodd Gymru ar lefel ieuenctid mewn pêl-droed a chriced, cyn arwyddo yn 16 oed gyda'i dîm lleol, Aberaman Athletic, y mae ei gae chwarae yn agos i'w fan geni.
Roedd Alf yn un o'r 'Bevin boys' yn ystod yr ail ryfel byd ac arwyddodd gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ym 1942. Arhosodd gyda'r tîm am 14 mlynedd, gan chwarae iddynt dros 350 o weithiau a bod yn gapten pan adenillodd y clwb eu lle yn yr adran gyntaf. Hefyd, fe chwaraeodd dros 40 o weithiau i Gymru, a bu'n gapten yn ystod y fuddugoliaeth 2-1 enwog dros Loegr ym 1955.
Ym 1956, ymunodd Alf â Chlwb Pêl-droed Casnewydd, gan chwarae i'r tîm hwnnw dros 200 o weithiau. Ym 1961, daeth yn chwaraewr-reolwr Clwb Pêl-droed y Barri. Ac ym 1963, ymddeolodd Alf o bêl-droed, gan weithio fel swyddog diogelwch i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol. Bu farw Alf ym 1990 a chafodd ei gynnwys yn oriel anfarwolion chwaraeon Cymru yn 2006. Gellir dadlau ei fod yn cael ei gofio heddiw fel hoff fab Aberaman, fel pêl-droediwr medrus a enillodd y teitl 'brenin y taclau llithro' ac fel y gwrthwynebydd anoddaf i'r pêl-droediwr Stanley Matthews chwarae yn ei erbyn erioed, yn ôl Matthews ei hun. Pen-blwydd hapus yn 100 oed, Alf.
Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol fod y Senedd hon yn treulio ennyd i gofio bywyd David Rowe-Beddoe, a fu farw yr wythnos diwethaf. Bydd llawer ohonom wedi cyfarfod â David Rowe-Beddoe nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Cafodd yrfa ym myd busnes, a arweiniodd at gael ei benodi'n gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru ym mis Gorffennaf 1993. Mae'n adnabyddus am y cyfraniad a wnaeth i economi Cymru ac i ddatblygu polisi economaidd yng Nghymru.
Yn ei deyrnged iddo, disgrifiwyd David Rowe-Beddoe gan Geraint Talfan Davies fel grym. A dyna ydoedd, yn sicr. Roedd yn rym ym myd busnes, roedd yn rym yn y celfyddydau, ac roedd yn rym yn ein bywyd cenedlaethol. Ychydig iawn o bobl sy'n gallu honni eu bod wedi llunio'r Gymru a welwn heddiw. Ond mae David Rowe-Beddoe yn sicr yn un ohonynt.
Efallai ei fod yn cael ei gysylltu fwyaf â hanes cynnar Canolfan Mileniwm Cymru, a gwasanaethodd gyda rhagoriaeth fel cadeirydd o fis Mawrth 2001 hyd at fis Mai 2010. Ef hefyd oedd llywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roedd ei fam, wrth gwrs, yn gantores opera adnabyddus. Ac arhosodd y math hwnnw o ymdeimlad o'r theatr gydag ef drwy gydol ei oes. Dyna oedd yn ei yrru tuag at yr hyn yr oedd am ei gyflawni.
I lawer ohonom a gafodd y pleser o fwynhau ei gwmni, roedd yn ffigwr ysbrydoledig. Fe ysbrydolodd newid yng Nghymru; ysbrydolodd uchelgais yng Nghymru; roedd ganddo weledigaeth ar gyfer Cymru, ac roedd hynny'n rhywbeth y gallai ei wireddu ar ein cyfer i gyd. Mae colli David Rowe-Beddoe yn golled i'n bywyd cenedlaethol. Rwy'n gobeithio y byddwn i gyd yn rhoi ennyd i gofio ei gyfraniad i Gymru a'i weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru.
Diolch yn fawr am y deyrnged yna.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar ddeiseb i gyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd Mynegbost yr A477, a dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Jack Sargeant.
Cynnig NDM8408 Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb P-06-1356 'Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd "Mynegbost" yr A477' a gasglodd 10,310 o lofnodion.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ar ran Pwyllgor Deisebau'r Senedd, a gaf fi ddiolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw, yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd? Mae cyffordd Mynegbost Nash yn gyfarwydd i'r rheini ohonom sy'n mynychu'r Siambr hon. Mae'r gyffordd wedi bod yn destun nifer o gwestiynau gan Samuel Kurtz a'i ragflaenydd, Angela Burns, yn y Siambr. Lywydd, mae'r Aelod Seneddol lleol Simon Hart hefyd wedi ymgyrchu ar y mater ers nifer o flynyddoedd, ochr yn ochr â chynghorwyr tref a chymuned lleol a thrigolion pryderus.
Ond er budd y rhai nad ydynt yn gyfarwydd â hi, mae'n gyffordd lle mae'r A4075, sy'n rhedeg i'r dwyrain o Benfro, yn cyfarfod â'r A477, y gefnffordd rhwng dwyrain a gorllewin sy'n rhedeg o Ddoc Penfro i Sanclêr. Crëwyd y ddeiseb gan Elliot Morrison. Casglodd dros 10,300 o lofnodion. Daw dros 80 y cant o'r llofnodion hynny o ddwy etholaeth sir Benfro; mae'n dangos cryfder y teimlad yn y sir honno'n glir.
Lywydd, mae'r ddeiseb yn nodi:
'Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd "Mynegbost" yr A477. Ar ddydd Sadwrn 13 Mai 2023, collodd Ashley Thomas Rogers ei fywyd yn drychinebus ar gyffordd "Mynegbost" yr A477 wrth deithio i gyfeiriad Penfro. Ei farwolaeth ef yw’r drydedd farwolaeth ar y rhan honno o'r ffordd mewn 12 mlynedd. Ar ben hynny, mae nifer ddi-rif o ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd ar y rhan honno a adwaenir yn lleol fel "man gwael" ar gyfer damweiniau traffig ar y ffordd. Digon yw digon. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y peth iawn a blaenoriaethu bywydau pobl dros bwysau cyllidebu dibwys.'
Lywydd, dylwn gofnodi bod meddyliau a gweddïau'r Senedd hon gyda theulu a ffrindiau Ashley Rogers a phawb sydd wedi colli eu bywydau ar y darn hwn o ffordd. Ar ddechrau'r toriad hanner tymor, teithiais i'r ardal i weld y sefyllfa gyda fy llygaid fy hun. Yn ystod yr ymweliad hwnnw, gwelais sawl damwain y bu ond y dim iddynt ddigwydd ar y gyffordd a gwelais yn uniongyrchol berygl y sefyllfa bresennol. Ar ôl ei weld gyda fy llygaid fy hun, nid y syndod yw bod digwyddiadau angheuol wedi bod ar y gyffordd hon—y syndod yw nad ydynt yn digwydd drwy'r amser.
Ers lansio'r ddeiseb hon, mae'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd goleuadau traffig yn cael eu gosod ar y gyffordd. Mae hynny'n newyddion i'w groesawu, wrth gwrs. Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r cyhoeddiad hwn; nawr, maent yn awyddus i ddeall pryd fydd y goleuadau traffig yn cael eu gosod, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn ei chyfraniad wrth ymateb.
Er y bydd gosod goleuadau traffig yn welliant mawr o ran diogelwch ar y ffordd, byddai ymgyrchwyr wedi ffafrio gweld cylchfan, ac maent yn dal i ffafrio hynny. Yn wir, mae deiseb newydd yn galw am gylchfan ar y gyffordd eisoes wedi cael dros 300 o lofnodion ers iddi gael ei hagor fis diwethaf. Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon maes o law mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Nawr, rwy'n deall y byddai goleuadau traffig yn ateb cyflymach—yn ateb tymor byr i wella diogelwch ar y ffordd. Ond hoffwn pe bai'r Gweinidog, unwaith eto, yn defnyddio ei hymateb i'r ddadl hon i ymrwymo i adolygu effeithiolrwydd y goleuadau traffig arfaethedig a'r angen am welliannau pellach yn y dyfodol, gan gynnwys yr opsiwn o gylchfan. Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau gan Aelodau yn y Siambr y prynhawn yma, ac ymateb y Gweinidog wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw ar y ddeiseb yn galw am gyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd Mynegbost yr A477 yn fy etholaeth, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro—amserol, o gofio ein bod yn nodi Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yr wythnos hon. Fel yr Aelod lleol, nid dyma'r tro cyntaf imi siarad am y gyffordd beryglus hon yn y Siambr. Fodd bynnag, rwy'n obeithiol y gallai fod y tro olaf y trafodir yr angen am welliannau diogelwch ar gyffordd Mynegbost Nash yn y Siambr, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli na ellid anwybyddu'r galwadau am welliannau mwyach.
Ddydd Sadwrn 13 Mai eleni, roedd Ashley Thomas Rogers yn rhan o wrthdrawiad traffig ffordd ar gyffordd Mynegbost Nash. Yn anffodus, bu farw'r dyn 29 oed o Gilgeti yn y fan a'r lle, gan adael dyweddi, mab a theulu yn eu trallod. Ysgydwodd ei farwolaeth ein cymuned ac mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda ffrindiau a theulu Ashley. Eto, yn anffodus, nid hon oedd y farwolaeth gyntaf ar y gyffordd hon. Er cof am Ashley ac i sicrhau nad yw trasiedi fel hon byth yn digwydd eto ar y gyffordd hon, sefydlodd ei ffrind Elliott Morrison y ddeiseb gan ddweud, 'Digon yw digon'. Cododd fy rhagflaenydd, Angela Burns, fater Mynegbost Nash sawl gwaith yn y Siambr ac roedd yn eiriolwr cryf dros wneud gwelliannau. Mae Simon Hart AS hefyd wedi ymgyrchu dros newidiadau i'r gyffordd hon ers dros ddegawd. Rhaid diolch hefyd i'r cynghorydd sir lleol, Tessa Hodgson, am ei chefnogaeth i welliannau mawr eu hangen; i Yvette Weblin-Grimsley, a ymgyrchodd yn ddiflino, gan helpu'r ddeiseb i gyrraedd 10,000 o lofnodion; ac i'r cynghorwyr sir, tref a chymuned di-rif eraill a'r etholwyr yn ehangach, a fu'n lobïo, yn ymgyrchu ac yn deisebu ar y mater ac sydd wedi ysgrifennu ataf i rannu eu pryderon. Diolch i bawb sydd wedi ymgyrchu dros welliannau.
A gaf fi ddiolch hefyd i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant, am ymweld â'r safle, cyfarfod â thrigolion pryderus a gweld drosto'i hun y nifer o ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd ar y gyffordd hon yn ddyddiol? Mae parodrwydd Jack i wrando a'i gadeiryddiaeth o'r pwyllgor i'w canmol, ac rwy'n diolch iddo unwaith eto. Ymunais â Jack yn ystod ei ymweliad â'r gyffordd—dim ond un o'r ymweliadau dirifedi rwyf innau wedi'u gwneud â Mynegbost Nash. Ar bob achlysur, rwyf wedi gweld cerbydau'n cymryd risgiau wrth droi ar gefnffordd yr A477 o'r A4075 o Benfro, a lorïau sy'n mynd tua'r gorllewin yn gorfod brecio'n galed wrth iddynt ddod ar hyd y pant yn y ffordd i'r dwyrain o'r gyffordd, neu geir nad ydynt yn sylwi ar gerbydau sy'n dynodi eu bod yn gadael y brif ffordd. Mae'r A477 yn ffordd brysur iawn, gyda thraffig y fferi a thraffig cludo nwyddau, traffig y burfa a diwydiant trwm, cludwyr tanciau o faes tanio Castellmartin a'r cymudwyr arferol hefyd. Dyma un o'r prif lwybrau i mewn ac allan o'r sir. Mae wedi bod yn amlwg ers nifer o flynyddoedd fod angen gwneud rhywbeth—unrhyw beth—ar y gyffordd i wella ei diogelwch a'i defnyddioldeb.
Rhaid imi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei gadarnhad, ar 11 Hydref, y bydd arwyddion traffig yn cael eu gosod erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn i'w groesawu. Fodd bynnag, hoffwn pe gallai'r Gweinidog gadarnhau beth yn union fydd yr arwyddion traffig hyn. Mae yna ddryswch yn lleol. Ai goleuadau traffig ydynt, neu arwyddion lleihau cyflymder sy'n fflachio? Bydd cadarnhad ynglŷn â'r hyn fydd yr arwyddion traffig yn ddefnyddiol iawn. Hefyd, yn ei ymateb i mi ar 11 Hydref, cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at gais am gylchfan a bod hyn yn parhau—rwy'n dyfynnu—'yn opsiwn hirdymor'. O ystyried bod cylchfannau'n bodoli ar hyd yr A477 yn Carew Cheriton, yng Nghilgeti ac mewn mannau eraill, mae'n ymddangos bod hwn yn ddewis naturiol. Hoffwn pe gallai'r Gweinidog gadarnhau yn ei hymateb y bydd gwaith ymchwiliol, yn sgil gosod goleuadau traffig, yn edrych ar y posibilrwydd o adeiladu cylchfan ar y gyffordd.
Mae'r ddeiseb wedi dangos cryfder teimlad y cyhoedd yn yr ardal—mae dros ddwy ran o dair o'r rhai a'i llofnododd yn drigolion Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae'r ddadl yn lleol wedi bod yn rhwystredig wrth i alwadau am welliannau i ddiogelwch syrthio ar glustiau byddar ers degawd. Mae'r ddadl honno bellach wedi troi at oleuadau traffig neu gylchfan. Rwy'n llawer hapusach ein bod yn trafod beth yw'r datrysiad yn hytrach nag ymbil am unrhyw ddatrysiad, oherwydd mae teitl gwreiddiol y ddeiseb yn galw am gyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr.
Ers ei chreu, mae'r gyffordd hon wedi bod yn beryglus. Mae gormod o fywydau wedi eu colli, gormod o fywydau wedi cael eu newid am byth, gormod o ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd wedi gadael pobl yn nerfus, gan beri iddynt osgoi'r gyffordd yn gyfan gwbl hyd yn oed. Rwyf am orffen drwy ddiolch, unwaith eto, i bawb a roddodd amser i lofnodi'r ddeiseb hon, i bawb sydd wedi ymgyrchu'n ddi-baid am welliannau i ddiogelwch. Rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi clywed ein galwadau heddiw. Diolch, Lywydd.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu i’r ddadl hon, a dwi eisiau diolch i’r Pwyllgor Deisebau yn ogystal â’r gymuned leol, wrth gwrs, am hyrwyddo’r ddeiseb hon. Mae’r nifer sylweddol sydd wedi arwyddo yn destament i’r gofid mawr sydd yn yr ardal am y gyffordd beryglus hon, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n cymryd y cyfle i gofio am yr holl fywydau sydd wedi cael eu colli yn y lleoliad hwnnw a'r bywydau sydd wedi cael eu trawsnewid hefyd oherwydd damweiniau difrifol. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu gyda fi dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yn nodi'r pryderon sydd gyda nhw. Ac mae nifer, gan gynnwys rhai oedrannus, yn gwrthod erbyn hyn defnyddio’r gyffordd o gwbl oherwydd y perygl.
Dwi wedi codi’r mater gyda’r Dirprwy Weinidog yn barod ac yn croesawu’r sylw bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymateb i’r pryderon ac fel rŷn ni wedi clywed yn barod, mae yna fwriad i osod goleuadau traffig yn y man yna, sydd yn gam i'r cyfeiriad cywir.
Rwy'n croesawu galwadau’r ddeiseb yn enwedig i gyflwyno mesurau diogelwch ar y gyffordd benodol hon yn Nash. Ac fel y soniais, mae goleuadau traffig yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond rwy'n credu y dylem gefnogi galwadau'r gymuned am ystyriaeth i adeiladu cylchfan yn y fan honno, fel sydd eisoes i'w weld mewn llawer o leoliadau ar hyd yr A477 a'r A40. Hoffwn hefyd annog y Llywodraeth i ystyried camau mwy priodol i godi ymwybyddiaeth o feicwyr modur, sydd hefyd yn teithio ar y rhan brysur hon o’r gefnffordd.
Fel y mae llawer wedi sôn eisoes, mae’n Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, a hoffwn bwysleisio’r angen i Lywodraeth Cymru edrych ar gyffordd Nash fel rhan o becyn ehangach o fesurau i fynd i’r afael â diogelwch ar gefnffyrdd a chyffyrdd ar draws de-orllewin Cymru.
Rhai ffeithiau: yn sir Benfro a sir Gaerfyrddin gerllaw, mae nifer y bywydau sy’n cael eu colli neu eu trawsnewid o ganlyniad i ddamweiniau ar y ffyrdd yn parhau i fod yn frawychus o uchel. Y llynedd yn unig, ar draws sir Benfro, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 231 o ddamweiniau, gyda 99 o bobl naill ai wedi'u lladd neu eu hanafu’n ddifrifol. Fel y soniodd Sam Kurtz yn gynharach, mae’r A477 a’r A40 gerllaw yn rhydwelïau trafnidiaeth hanfodol i deithwyr a nwyddau i ac o Iwerddon, clwstwr ynni Aberdaugleddau, peiriannau milwrol, yn ogystal â’r ymchwydd enfawr yn nifer yr ymwelwyr yn ystod cyfnod y gwyliau. Felly, gyda’r cynnydd hwn mewn gweithgarwch, mae’n anochel fod damweiniau’n dilyn, a dim ond oddeutu hanner awr o Nash, ar yr A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr, digwyddodd 359 o ddamweiniau rhwng 2010 a 2019, gan arwain eto at farwolaethau ac anafiadau sydd wedi trawsnewid bywydau.
Nawr, gwn fod yr adolygiad ffyrdd, a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, wedi ystyried newid y terfyn cyflymder fel un opsiwn ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem, ond mae angen inni edrych ar atebion mwy pellgyrhaeddol, does bosibl, o ystyried y perygl a achosir gan y cyffyrdd hyn.
Mae effeithlonrwydd a diogelwch y cefnffyrdd hyn o bwys creiddiol i gymunedau ac economi’r de-orllewin, a gydag ymgynghori yn parhau am ysbyty newydd o bosibl yng ngorllewin sir Gaerfyrddin, yn ogystal â’r cyhoeddiad diweddar am borthladd rhydd yn sir Benfro, mae hi’n hanfodol bod gan y gymuned leol a busnesau hyder y bydd yr isadeiledd hyn mor ddiogel â phosibl.
Rwyf felly’n croesawu’r ddeiseb hon, ac yn llwyr gefnogol i'r hyn sy'n cael ei alw amdano. Ac ar ran Plaid Cymru, hoffwn i annog y Llywodraeth i ystyried y gofynion hyn, yn ogystal â’r problemau parhaus ar gefnffyrdd de-orllewin Cymru yn gyffredinol. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r holl ddeisebwyr sydd wedi gweithio mor galed yma, a fy nghyd-Aelodau, sydd hefyd wedi gweithio'n galed, i geisio sicrhau newid ar ran o'r ffordd sy'n enwog, yn anffodus, am fod yn fan gwael cydnabyddedig. Fel y rheini a'i dywedodd o'm blaen, mae bywydau wedi'u colli, a bywydau wedi'u newid yn drasig. Mae arnom angen eglurder ar rai pethau. Beth yw'r arwyddion traffig? Ai goleuadau traffig ydynt, fel y dywedodd Sam Kurtz, neu ai goleuadau croesi ydynt? Ac felly, wrth gwrs, fel yr addawyd, mae angen adolygu effeithiolrwydd yr ateb hwnnw. Ond mae'n rhaid cael ateb, ac mae'n rhaid iddo ddod yn go gyflym.
Wrth gwrs, mae twristiaeth yn ychwanegu at y perygl; fel eraill yma, rwy'n byw yn sir Benfro. Ac yn rhy aml o lawer, mae pobl yn newid cyfeiriad ar y funud olaf—rwy'n ei weld drwy'r amser. Ac fel rhywun lleol, rwy'n caniatáu ar gyfer hynny, gan fy mod yn gwybod, bron iawn, lle gallai pobl newid eu meddyliau. Os nad ydynt yn adnabod y ffyrdd, twristiaid, ac mae hon yn ffordd eithaf cyflym, nid yw’r ffaith, felly, eu bod yn gwneud penderfyniad gwahanol, weithiau ar y funud olaf, ond yn ychwanegu at berygl y mathau hyn o gyffyrdd. Ac wrth gwrs, mae pob un ohonom yn gwybod, yn ystod yr haf, fod poblogaeth sir Benfro yn dyblu, felly mae hynny hefyd yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd pethau’n mynd o chwith.
Fel y crybwyllwyd, mae’n ffordd sy’n arwain at y porthladdoedd. A chyda datblygiad porthladd yn uchel iawn ar yr agenda ar hyn o bryd, gan arwain at fwy o gerbydau nwyddau trwm, mwy o draffig fferi posibl hefyd, mae gwir angen sicrhau bod hyn yn iawn. Ac rwy'n cefnogi'r holl alwadau i wneud yn union hynny. Cytunaf hefyd fod yn rhaid inni wrando ar y gymuned, ynghylch yr hyn yr hoffent ei weld. A'r hyn sydd ei angen arnynt, yr hyn y mae pawb am ei weld i ddechrau, yw rhywbeth yn cael ei wneud—rhywbeth i arafu traffig, i stopio traffig, ond i wneud hyn yn fwy diogel, ac yna, symud yn go gyflym at adolygiad o effeithiolrwydd cylchfan, efallai. Fel y dywedwch, mae sawl cylchfan yn gwasanaethu llawer iawn o gyrchfannau gwyliau ar hyd y ffordd honno; rwy'n gwybod am fy mod wedi bod yn mynd i lawer ohonynt yn rheolaidd.
Felly, rwy'n cymeradwyo'r bobl sydd wedi gweithio'n galed i gyrraedd y pwynt hwn, ac rwy'n eu cefnogi yn yr hyn y maent wedi'i wneud.
Rwy’n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Hoffwn ychwanegu fy llais at y rheini sydd wedi ymgyrchu’n ddiflino dros fesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd Mynegbost yr A477, a diolch i’r Pwyllgor Deisebau am eu gwaith ar y mater pwysig hwn, ac yn wir, i drefnydd y ddeiseb, ac i bawb sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon.
Nawr, mae siaradwyr blaenorol eisoes wedi cyfeirio at yr amgylchiadau trist iawn a arweiniodd at y ddeiseb hon, a gwn fod pob Aelod yn rhannu uchelgais gwirioneddol i sicrhau bod y rhan hon o'r ffordd yn cael ei gwneud yn fwy diogel i bawb. Bydd rhai ohonoch hefyd wedi gweld fideo'r Grŵp Gweithredu Beiciau Modur, sydd hefyd yn dangos pa mor beryglus yw'r gyffordd. Mae'r fideo'n dangos cerbydau'n tynnu allan o'r gyffordd ac yn aros ar draws y gerbytffordd ei hun, sydd wedyn yn gorfodi'r traffig sy'n dod i mewn i arafu neu stopio, ac roedd hefyd yn dangos ciwiau hir o draffig yn aros ar lôn ddynesu'r A4075 a cheir yn y man aros canolog. Felly, mae'n hanfodol fod ateb parhaol yn cael ei ganfod i wneud y gyffordd mor ddiogel â phosibl.
Nawr, mae’r mater wedi ennyn llawer iawn o gefnogaeth gan bobl ledled sir Benfro. Fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, mae llawer o’r bobl a lofnododd y ddeiseb hon yn dod o fy etholaeth i, yn ogystal â fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, sy'n dangos pwysigrwydd y mater i bobl sy’n byw ar draws y sir. Ac mae geiriad y ddeiseb ei hun yn glir iawn—'Digon yw digon.' Mae’r gyffordd yn parhau i fod yn berygl i fodurwyr hyd nes y rhoddir mesurau diogelwch parhaol ar waith, ac ni allaf orbwysleisio hynny. Dim ond drwy osod mesurau diogelwch mwy parhaol, hirdymor ar gyffordd Mynegbost y gallwn geisio atal y marwolaethau hyn rhag digwydd yn y dyfodol.
Nawr, nid wyf yn amau bod Llywodraeth Cymru yn rhannu'r un nod â'r deisebwyr ynghylch gwneud y ffordd hon mor ddiogel â phosibl, a gwn yn yr ohebiaeth y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i hanfon at y Pwyllgor Deisebau ei fod wedi egluro rhai o'r camau gweithredu y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd. Fel y dywedwyd eisoes, mae arwyddion, marciau ffordd a mân newidiadau posibl i gynllun y gyffordd er mwyn gwella gwelededd wedi'u rhoi ar waith yn y tymor byr, yn ogystal â chyflwyno gwaharddiadau ar wneud troeon pedol ar y gyffordd. Yn wir, bydd cyfyngu ar droeon pedol ar y ffordd, yn enwedig, heb os yn helpu i leihau’r tebygolrwydd o wrthdrawiadau a tharfu ar draffig.
Er bod y rhain oll yn welliannau i’w croesawu’n fawr a fydd, gobeithio, yn mynd rywfaint o’r ffordd at wella’r sefyllfa, rwy’n rhannu barn y deisebydd, a barn pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, y byddai cylchfan yn ateb llawer mwy effeithiol a fyddai’n sicr yn gwneud y ffordd yn fwy diogel i fodurwyr yn barhaol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru o leiaf ymgysylltu â’r gymuned leol i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i’r cymunedau sy’n defnyddio’r rhan hon o'r ffordd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â’r gymuned leol ac yn cyflwyno mesur diogelwch mwy parhaol yn y dyfodol.
Mae’r Dirprwy Weinidog wedi nodi y bydd Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru yn asesu addasrwydd a gofynion gorfodi cyfyngiad cyflymder ar y rhan hon o'r ffordd, ac yn darparu achos busnes ar gyfer cyflwyno arwyddion traffig. Felly, efallai y gall y Gweinidog, wrth ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma, roi amserlenni i ni o ran pryd y bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo.
Felly, i gloi, Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r deisebwyr am eu gwaith caled yn codi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig hwn ac am ddod â'r mater i sylw'r Senedd? Ac a gaf fi hefyd ddiolch i'r pwyllgor am eu hystyriaeth o'r ddeiseb hon, a'u hymdrechion i ddeall y sefyllfa'n well a helpu i ddod o hyd i ffyrdd o wneud y gyffordd yn fwy diogel i fodurwyr yn y dyfodol? Diolch.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i gyfrannu—Julie James.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy gydymdeimlo â theulu Ashley Rogers, ac yn wir, â theuluoedd pawb arall yr effeithiwyd arnynt gan farwolaethau a damweiniau traffig ar y gyffordd hon. Gwn o brofiad personol pa mor ofnadwy yw colli rhywun yn y ffordd honno, a hoffwn gydymdeimlo'n llwyr â nhw.
Rwyf wedi gwrando’n ofalus iawn ar bryderon yr Aelodau heddiw, ac rwyf wedi gwrando’n ofalus iawn ar fynegiant Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau o bryderon aelodau’r cyhoedd hefyd. Hoffwn ddweud, yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yn arbennig, fod Llywodraeth Cymru, bob amser o ddifrif ynghylch diogelwch ar y ffyrdd ar draws ein rhwydwaith cyfan.
Lywydd, mae’r Aelodau wedi sôn heddiw am nifer o bethau sydd eisoes yn digwydd, ond rwyf am eu hailadrodd. Ar y gyffordd hon, rydym eisoes wedi gosod marciau ffordd newydd, sy'n nodi 'Araf' neu 'Slow'. Rydym wedi codi arwyddion ymgyrch ddiogelwch ffyrdd yr heddlu, ac rydym wedi dechrau ar welliannau i arwyddion y gyffordd. Rydym wedi hysbysu rhanddeiliaid lleol ein bod yn gweithredu terfyn cyflymder 40 mya newydd dros dro, a gorchymyn dim troeon pedol ar y gyffordd hon, cyn dechrau proses y gorchymyn parhaol.
Ar yr amserlen ar gyfer gosod yr arwyddion traffig, a grybwyllwyd gan nifer o Aelodau, rydym yn bwriadu dechrau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Bydd angen gosod ceblau cyn dechrau'r prif waith sifil. Mae hyn yn ddibynnol ar rywfaint o ymgysylltiad trydydd parti â'r Grid Cenedlaethol a rhai materion perchnogaeth tir, ond rydym yn benderfynol o'u gosod yn y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn cyflawni opsiynau cynllunio manwl ar gyfer trefniadau rheoli'r arwyddion traffig, er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried diogelwch, wrth gwrs, ond hefyd i geisio lleihau tagfeydd a lleihau carbon wrth gyflwyno'r arwyddion traffig. Rydym hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer diogelu at y dyfodol mewn perthynas â theithio llesol ar y gyffordd.
Fe wnaethom osod system deledu cylch cyfyng yno, fel y gwn fod yr Aelodau'n gwybod, a gwelsom nifer o bethau ein hunain. Yn ystod yr amser y bu'r system deledu cylch cyfyng yno, er enghraifft, gwelsom achosion o gerbydau mawr yn rhwystro gwelededd, cerbydau’n defnyddio’r gyffordd ar gyfer troeon pedol, cerbydau’n pasio'r gyffordd ac yna’n ceisio troi i’r dde oddi ar yr A4075 ond yn stopio ar y lôn tua'r gorllewin ar yr A477, fel y nododd Joyce; gwn ei bod wedi gweld hynny'n digwydd ei hun. Byddwn yn bwrw ymlaen â'r gorchmynion traffig parhaol ar yr un pryd, ond dylai Aelodau fod yn ymwybodol fod gorchmynion traffig parhaol yn cymryd oddeutu naw i 12 mis. Felly, rydym yn rhoi'r gorchmynion traffig dros dro ar waith ar unwaith er mwyn sicrhau bod y gyffordd yn cael ei gwneud mor ddiogel â phosibl ar unwaith.
Byddwn yn ystyried cylchfan wrth gwrs, ond bydd hynny’n amodol ar ganlyniad yr adolygiad o’r mesurau sydd eisoes wedi’u rhoi ar waith. Byddai cylchfan yn cymryd cryn dipyn o amser i’w chwblhau—o leiaf tair blynedd—hyd yn oed pe bai’r holl dir o fewn ffiniau ein priffyrdd, ac yn anffodus, deallaf nad yw hynny'n wir ar gyfer y gyffordd benodol hon, a gall hynny gymryd ychydig yn hirach. Felly, rydym am gael atebion llai a chyflymach, yn hytrach nag opsiynau peirianneg ar raddfa fawr, am yr holl resymau amrywiol a nodais ac y bydd yr Aelodau’n ymwybodol ohonynt. Ond nid wyf yn diystyru cylchfan. Fe fyddwn eisiau monitro'r hyn sy'n digwydd gyda'r gwelliannau newydd a roddir ar waith wrth gwrs. Mae cylchfan yn parhau i fod yn opsiwn hirdymor. Ond ni allaf bwysleisio digon nad yw hynny'n ateb cyflym. Bydd yn rhaid inni wneud cryn dipyn o waith o ran perchnogaeth ac ati hefyd. Felly, byddwn yn monitro hynny. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n ein helpu i wneud hynny hefyd.
Ac rwy’n mawr obeithio y bydd hyn yn gwneud y gyffordd yn fwy diogel, ac na fydd gennym unrhyw deuluoedd eraill yn y sefyllfa y mae teulu Ashley Rogers druan wedi’u rhoi ynddi. Gwn y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn enwedig yn awyddus i sicrhau na fydd unrhyw deulu yn mynd drwy hyn eto. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr hyn a amlinellais heddiw, Lywydd, yn tawelu meddyliau’r Aelodau ac y gallwn fwrw ymlaen â hyn gyda’n gilydd. Diolch.
Cadeirydd y pwyllgor, Jack Sargeant, i ymateb.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau a’r Gweinidog am eu cyfraniadau, ac am ymateb y Gweinidog y prynhawn yma. Clywsom gan yr Aelod lleol, Sam Kurtz, ei gymydog etholaethol, Paul Davies, a’r ddau Aelod rhanbarthol a gymerodd ran yn y ddadl heddiw, a gwn fod eraill yn gwrando ac yn awyddus i gymryd rhan hefyd, ond clywsom gan Joyce Watson a Cefin Campbell y prynhawn yma. A chredaf mai’r neges gan yr Aelodau a gyfrannodd oedd cefnogaeth i’r ddeiseb, ond hefyd, cefnogaeth i’r gymuned ehangach i ddod o hyd i ateb cymunedol, a gwrando ar y gymuned a beth yw eu gofynion.
Fe glywsom, oni wnaethom, Lywydd, fod rhai aelodau o’r gymuned leol yn ofni defnyddio’r gyffordd yn ei chyflwr presennol, oherwydd y peryglon a welsom. Dywedodd y Gweinidog, yn ei hymateb, fod y system deledu cylch cyfyng a roddodd Llywodraeth Cymru ar waith—gallech weld cerbydau mawr yn blocio ffyrdd, gallech weld pobl yn gwneud troeon pedol. Soniodd Joyce Watson am ei phrofiadau ei hun o weld hynny, yn enwedig ym misoedd yr haf, pan fydd twristiaeth ar gynnydd. Yn sicr, gallaf ddweud mai dyna oedd y sefyllfa pan ymwelais â’r ardal gyda Sam Kurtz fis diwethaf. Gwelsom hynny ar sawl achlysur—y peryglon dyddiol. Yn y cyfnod byr y bûm yno—credaf fy mod yno am lai nag awr, Lywydd—bu sawl achlysur y gallem gofio lle digwyddodd sefyllfaoedd amrywiol.
Yn ei hymateb, nododd y Gweinidog y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith. Roeddwn yn falch o glywed gan y Gweinidog nad yw Llywodraeth Cymru wedi diystyru’r opsiwn tymor hwy o gylchfan, ond wrth gwrs, nododd rai o’r problemau a fyddai'n wynebu'r gymuned a’r Llywodraeth gyda’r sefyllfa honno. Bydd monitro’r gwelliannau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn hollbwysig wrth gwrs. Ac rwy’n annog y Gweinidog i wneud dau beth: rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r gymuned leol—. Rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor, wrth gwrs, yn awyddus i geisio cymryd rhan yn hynny hefyd. Ond rwyf hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i wneud yr hyn a allant i sicrhau bod y mesurau diogelwch hynny a gyhoeddwyd ac yr ymrwymwyd iddynt yn y flwyddyn ariannol hon—lle mae yna rai problemau gyda’r trydydd partïon, i wneud yr hyn a allant â’r ysgogiadau sydd ganddynt i sicrhau y cânt eu cyflwyno ar fyrder, fel ein bod yn cyrraedd pwynt lle caiff y sefyllfa ei hadolygu, lle nad ydym yn cael marwolaeth arall ar y rhan honno o'r ffordd, ac yn cael yr holl ganlyniadau a ragwelir gan yr Aelodau a’r Gweinidog heddiw, gyda siwrneiau mwy diogel i bawb sy'n dod i mewn ac allan o Benfro a Doc Penfro.
Lywydd, hoffwn gloi drwy ddiolch i Elliot Morrison, yn enwedig, am ddeisebu’r Senedd â’r ddeiseb hon. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau lleol a’r ymgyrchwyr a gynorthwyodd. Soniodd Sam Kurtz am ddwy yn benodol, y cynghorydd lleol Tessa ac Yvette y cyfarfûm â hi ar y diwrnod, a weithiodd yn ddiflino i gael y 10,000 a mwy o lofnodion. Ond yn bwysicach fyth, Lywydd, a hithau'n Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, hoffwn gloi, fel y dywedais wrth agor, ac fel y mae’r Aelodau a’r Gweinidog wedi'i ailadrodd, drwy ddweud bod y Senedd hon yn cydymdeimlo'n fawr iawn gyda’r rheini sydd wedi colli anwyliaid ar y rhan hon o ffordd a rhannau eraill o ffyrdd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
Diolch i'r Cadeirydd. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, does yna ddim gwrthwynebiad. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliantcanlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Eitem 5 yw'r eitem nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw hon ar dechnoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial yn y gwasanaeth iechyd. Mae Russell George yn gwneud y cynnig. Russell George.
Cynnig NDM8410 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau iechyd ledled y DU.
2. Yn croesawu'r Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd 2023.
3. Yn gresynu:
a) nad yw pob meddygfa yn defnyddio ap GIG Cymru;
b) nad yw e-bresgripsiynu wedi'i gyflwyno'n llawn yn GIG Cymru; a
c) bod y seilwaith technolegol sy'n sail i GIG Cymru yn creu rhwystrau i ymarfer clinigol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a ganlyn:
a) cyflwyno ap y GIG ac e-bresgripsiynu ar frys ar draws GIG Cymru gyfan;
b) cyflymu'r broses o integreiddio technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gyfer GIG Cymru; a
c) dechrau ar y broses o gael gwared ar dechnolegau'r GIG sydd wedi dyddio.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig heddiw yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae technoleg yn chwyldroi darpariaeth gofal iechyd ledled y byd. Mae datrysiadau technolegol arloesol, o ddeallusrwydd artiffisial, realiti rhithwir, peiriannau argraffu 3D, roboteg a meddygaeth fanwl a biobeirianneg yn cael eu datblygu a'u defnyddio mewn lleoliadau iechyd i sicrhau datblygiadau mewn triniaethau, cynorthwyo prosesau gwneud penderfyniadau clinigol, grymuso cleifion a gwneud gofal iechyd yn fwy hygyrch ac effeithlon. Ledled y DU, mae ein systemau iechyd yn mabwysiadu dulliau technolegol arloesol i ganfod a nodi mathau o ganser, hyfforddi myfyrwyr a chlinigwyr i reoli amrywiaeth o sefyllfaoedd clinigol, monitro cleifion gartref yn hytrach nag yn yr ysbyty, ac awtomeiddio tasgau gweinyddol i wella effeithlonrwydd, olrhain lleoliad offer symudol o amgylch yr ysbyty—roedd hynny'n newydd i mi, hefyd; roeddwn yn credu bod hynny'n syfrdanol hefyd—i atal offer rhag mynd ar goll o amgylch yr ysbyty, wrth gwrs, ac mae'n helpu i wella effeithlonrwydd ysbytai.
Nawr, mae Joe Harrison, arweinydd digidol GIG Lloegr, wedi datgan yn ddiweddar fod pob £1 a werir ar dechnoleg yn cynhyrchu rhwng £3.50 a £4 mewn arbedion. Ond mae'r un mor bwysig nad ydym yn colli arnom ein hunain, a bod diogelwch yn flaenoriaeth, sef yr hyn y mae ail bwynt ein cynnig yn cyfeirio ato. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r uwchgynhadledd ar ddeallusrwydd artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd yn y DU gan Brif Weinidog y DU ym Mharc Bletchley yn gynharach y mis hwn. Yn ystod yr uwchgynhadledd honno, cytunodd y Llywodraeth ar uchelgais a rennir i fuddsoddi yng nghapasiti’r sector cyhoeddus ar gyfer profi deallusrwydd artiffisial a chyflawni ymchwil i ddiogelwch deallusrwydd artiffisial, ac roedd hynny i’w groesawu.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Felly, yma yng Nghymru, rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd, ond mae'n araf; yn sicr, nid yw mor gyflym ag yr hoffwn iddo fod, sy’n dod â mi at bwyntiau 3 a 4 yn ein cynnig heddiw. Roedd yn dda iawn, roedd yn wych gweld, yr e-bresgripsiynau cyntaf yng Nghymru yn cael eu rhoi yr wythnos o'r blaen yn y Rhyl. Roedd hynny'n newyddion da iawn, a deallaf y byddant yn dechrau cael eu cyflwyno ledled Cymru o fis Ionawr y flwyddyn nesaf. Dylem ddathlu’r cyflawniad hwnnw, ond gan gydnabod ei fod yn llawer rhy araf. Mae'n rhywbeth yr wyf i a fy nghyd-Aelodau wedi bod yn galw amdano ers peth amser, a chredaf y dylai fod wedi digwydd yn llawer iawn cynt.
Cyhoeddodd GIG Lloegr ei e-bresgripsiwn cyntaf yn 2005, ac roedd wedi cyflwyno e-bresgripsiynu i dros 90 y cant o fferyllfeydd a phractisau meddygon teulu erbyn 2018. Felly, wrth gwrs, mae e-bresgripsiynu yn cael gwared ar yr angen i glinigwyr lofnodi presgripsiynau â llaw, ac yn eu galluogi i ddefnyddio llofnodion electronig yn lle hynny. Yn 2023, hyd yn hyn eleni, mae 90 y cant o bresgripsiynau yn GIG Lloegr wedi’u darparu’n electronig—90 y cant. Nid yw hynny’n wir yng Nghymru wrth gwrs.
Amcangyfrifwyd bod e-bresgripsiynu'n arbed 2.7 miliwn o oriau o amser practisau meddygon teulu yn Lloegr, am ei fod yn cael gwared ar yr angen i glinigwyr lofnodi presgripsiynau ac yn awtomeiddio presgripsiynau rheolaidd. Onid yw hynny'n syfrdanol? Mae 2.7 miliwn o oriau o amser practisau meddygon teulu yn Lloegr wedi eu harbed. Ac os ydych yn credu—. Pe baem wedi cael yr un cynnydd yng Nghymru ag yn Lloegr, meddyliwch am yr amser y gallai meddygon teulu fod wedi’i dreulio ar weld cleifion yn hytrach na chyflawni prosesau gweinyddol diangen.
Felly, mae ein pwynt ynglŷn ag ap y GIG—. Ac rwy’n cydnabod bod meddygfeydd teulu bellach yn ei ddefnyddio ledled Cymru, mae oddeutu 50 y cant o bractisau meddygon teulu wedi ymrwymo i’r gwasanaeth hyd yma, rwy’n credu, ond mae angen inni weld mwy o frys gyda hynny hefyd, gan y bydd ap y GIG yn caniatáu i gleifion gael mynediad at ystod o wasanaethau’r GIG ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw, gan gynnwys archebu presgripsiynau rheolaidd, rheoli apwyntiadau gyda gwasanaethau arbenigol a gweld eu cofnodion meddyg teulu, sydd hefyd yn bwysig. Bydd hyn yn helpu i leihau gwaith papur ac aros mewn ciwiau ffôn fel y mae llawer o bobl yn gorfod ei wneud mor aml yn y bore i siarad â’u meddyg teulu, a bydd yr amser y bydd hynny'n ei ryddhau yn sylweddol.
Ac yn olaf, mae ein pwynt 4 yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys. Oes, mae cynnydd yn cael ei wneud, ac rwy'n derbyn bod cynnydd yn cael ei wneud, ond mae angen inni weld mwy o frys wrth gyflwyno ap y GIG ac e-bresgripsiynu ledled Cymru am y rhesymau rwyf eisoes wedi'u nodi.
Hefyd, hoffwn weld mwy o gyflymder gydag integreiddio technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gyfer GIG Cymru. Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr wedi dweud, ar adeg pan fo gwasanaethau diagnostig a chanser o dan bwysau, gyda diffyg o 30 y cant yn niferoedd radiolegwyr a diffyg o 18 y cant yn niferoedd oncolegwyr clinigol, ei bod yn hollbwysig ein bod yn croesawu arloesedd a allai hybu capasiti. Fe wnaethant hefyd arolygu eu haelodau ac roedd y canlyniadau'n eithaf syfrdanol: mae 90 y cant o'u haelodau'n credu y bydd deallusrwydd artiffisial yn cynyddu eu heffeithlonrwydd. Wel, os oes nifer anhygoel o uchel o bobl, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr iechyd proffesiynol medrus iawn, yn dweud y bydd yn cynyddu eu heffeithlonrwydd, mae angen inni wneud rhywfaint o gynnydd.
Mae deallusrwydd artiffisial a thechnoleg newydd yn y GIG yn darparu cyfleoedd gwych i wella, ond mae'n rhaid inni feddwl hefyd am gael gwared ar dechnolegau'r GIG sydd wedi dyddio hefyd. Efallai’n wir eich bod yn cofio'r ymosodiad seiber ar system 111 GIG Cymru y llynedd, a achosodd i feddalwedd fethu gan atal GIG 111 rhag gwneud atgyfeiriadau i wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, ac ym mis Ionawr eleni, dywedodd y Gweinidog sy’n ymateb i'r ddadl heddiw y byddai'n cael gwared ar beiriannau ffacs 'cyn bo hir'. Gwn fod llawer o bobl ifanc—. Os oes unrhyw bobl ifanc yn gwrando ar hyn, byddant yn gwglo, 'Beth yw peiriant ffacs?' [Chwerthin.] Ond mae gwir angen inni weld diwedd ar beiriannau ffacs. Ac mewn gwirionedd, yng Nghymru, prynwyd peiriant ffacs newydd ar gyfer ysbyty'r Faenor hyd yn oed, ysbyty a agorwyd ym mis Tachwedd 2020.
Felly, wrth gloi fy nghyfraniad i agor y ddadl hon, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi a safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, sy’n cydnabod bod mabwysiadu technolegau digidol newydd yn dibynnu ar gael seilwaith technolegol cyfredol yn sail iddynt, ac rwy'n gobeithio bod y Gweinidog, fel fi a’r Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymrwymo i fuddsoddi yn seilwaith technolegol a digidol GIG Cymru a chael gwared ar dechnolegau eiconig—. Nid eiconig. Beth yw'r gair rwy'n chwilio amdano? 'Aconic'—yn y gorffennol?
Cynhanesyddol.
Cynhanesyddol. [Chwerthin.] Diolch, Andrew.
—technolegau cynhanesyddol a mabwysiadu technolegau arloesol i greu GIG Cymru a chanddo enw da am fod yn ddibynadwy, ac sydd ag adnoddau priodol. Ac adnoddau: rydym angen GIG Cymru gydag adnoddau llawn. Rwyf am weld GIG o fri, sydd ag enw da ledled y DU ac enw da ledled y byd, ac rwyf am weld—ac rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn cytuno yn y Siambr hon—GIG dibynadwy, gan mai dyna mae pobl Cymru yn ei haeddu. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod gweithio’n digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar Llywodraeth y DU ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol.
Yn nodi pwysigrwydd datblygiad parhaus gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel.
Yn croesawu:
a) bod dros 200 o bractisau meddygon teulu bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru;
b) mai’r bwriad yw ei gyflwyno ym mhob practis erbyn diwedd mis Mawrth 2024;
c) bod gwasanaeth presgripsiynau integredig yn dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei lansio; a
d) gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Ffurfiol.
Mae Dwyrain Casnewydd yn gymuned amrywiol iawn, yn enwedig mewn lleoedd fel Llyswyry a Maendy, lle mae canran uchel o aelwydydd ethnig leiafrifol. A chawsom brofiad diddorol gyda'r cymunedau hynny wrth geisio cynyddu'r nifer a oedd yn manteisio ar y brechlyn a mynediad cyffredinol at ofal iechyd yn ystod y pandemig, ac mae hynny wedi arwain at waddol parhaus wedi hynny.
Yn ystod y pandemig, ffurfiwyd Muslim Doctors Cymru, a oedd yn ddatblygiad defnyddiol iawn ar gyfer mynd i’r afael â’r nifer cymharol isel o bobl a oedd yn manteisio ar frechiadau—y brechiadau holl bwysig—yn ystod y pandemig ofnadwy hwnnw. Ac roedd llawer o'r mentrau a gyflwynwyd gan Muslim Doctors Cymru yn seiliedig ar y defnydd o dechnoleg newydd. Roeddent yn dda iawn am ddefnyddio gweminarau a'r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu ag unigolion a grwpiau nad oedd y Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, i egluro beth oedd yn digwydd gyda darpariaeth iechyd yn ystod y pandemig, i gefnogi a chynorthwyo, i fynd i'r afael â chamdybiaethau, a mynd i’r afael yn gyffredinol â’r angen iechyd ar yr adeg hollbwysig honno. Roeddent yn ymwybodol o’r ffaith nad oedd rhai pobl hŷn, yn enwedig mewn rhai o’r cymunedau ethnig leiafrifol, yn llythrennog yn y Saesneg nac yn eu hieithoedd eu hunain, fel petai, ac felly gwerth cyfyngedig oedd i unrhyw beth ysgrifenedig. A dyna lle roedd cynhyrchu fideos a defnyddio fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol iawn i gyrraedd y rhieni na fyddent wedi cael eu cyrraedd yn y ffyrdd mwy derbyniol ac arferol.
Hefyd, diolch byth, bu modd inni drefnu’r hyn a oedd yn gyfarfod cyhoeddus rhithwir defnyddiol iawn yn fy marn i gyda’r gymuned ethnig leiafrifol yn Nwyrain Casnewydd, gyda’r Gweinidog iechyd ar y pryd, gyda’r bwrdd iechyd, gydag arweinwyr mosgiau, Muslim Doctors Cymru wrth gwrs, a nifer o bobl eraill i gyfleu'r negeseuon allweddol hyn. Roedd y cyfarfod hwnnw’n llwyddiant ysgubol yn y termau hynny, ac arweiniodd hefyd at grwpiau amrywiol yn cadw cysylltiadau, grwpiau a gyfarfu yn ystod y cyfarfod rhithwir hwnnw, ac ers hynny, cafwyd llawer o weminarau a mentrau ymgyrchu ar amrywiaeth o faterion iechyd, gan gynnwys canser, iechyd meddwl a rhoi organau. Felly, fel gyda'r pandemig yn gyffredinol, roedd yn gyfnod mor ofnadwy, ond o leiaf mae rhai mentrau diddorol a defnyddiol wedi dod ohono ac wedi parhau a datblygu.
Sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i weithio gyda grwpiau fel Muslim Doctors Cymru, sy'n croesawu rhai o'r technolegau modern hyn i helpu i wella canlyniadau iechyd yng Nghymru? Pa gyllid sydd ar gael, er enghraifft, a allai alluogi’r grwpiau hyn i ddatblygu a chryfhau eu gwaith ymhellach? Ac ar gyfer cymunedau lle nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn ieithoedd cyntaf iddynt, pa fesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda GIG Cymru, ar gyfer unigolion sydd am ddefnyddio ap y GIG? Mae’r datblygiadau modern hyn, y datblygiadau newydd hyn, yn ddefnyddiol iawn, ac o bosibl, gallent fod yn fwy defnyddiol nag y maent ar hyn o bryd, os gallwn fynd i'r afael â rhai o’r ffyrdd o sicrhau bod mwy o bobl yn cael mynediad atynt, a'u bod yn fuddiol ar raddfa ehangach. Ac mae materion pwysig yn codi o ran hynny gyda'n cymunedau mwy amrywiol yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud ar y materion hynny. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon yma heddiw. Ac mae'n amlwg fod aneffeithlonrwydd mawr o fewn y GIG yng Nghymru, ac mae yna gyfle i ddefnyddio technoleg yn well i helpu i fynd i'r afael â pheth o'r aneffeithlonrwydd hwnnw. Ac yn anffodus, rydym bellach 25 mlynedd i mewn i Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru, ac rydym ymhell ar ei hôl hi o ran defnyddio technoleg arloesol, o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, neu weddill y byd datblygedig yn sicr.
Mae yna rai pethau gwirioneddol sylfaenol nad ydynt yn digwydd yma yng Nghymru. Rydym eisoes wedi clywed nad yw e-bresgripsiynu wedi'i gyflwyno'n llawn. A dweud y gwir, mae'n destun peth embaras ein bod yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd. Mae'n dda clywed am rai o'r pethau sy'n dechrau digwydd nawr, ond mae'n 2023 ac roedd yn ddiddorol clywed cyfraniad John Griffiths, yn sôn am beth o'r dechnoleg fodern a'r opsiynau modern sydd ar gael. Wyddoch chi, nid yw apiau mor fodern â hynny. Nid wyf yn gwybod faint o flynyddoedd sydd, dau ddegawd erbyn hyn mae'n debyg, ac rydym yn sôn am y defnydd o bethau fel apiau. Ond mae gwell technoleg yn y gwasanaeth iechyd o fudd i bawb yn sicr, i'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a phobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny o ddydd i ddydd; ac wrth gwrs, bydd moderneiddio'r systemau hyn yn arwain at well atebolrwydd, gwell perfformiad a chanlyniadau gwell i bawb.
Rydym eisoes wedi clywed gan gyd-Aelodau y prynhawn yma, rydym wedi ymdrin ag amryw o'r meysydd sydd yn ein cynnig heddiw, ond hoffwn adeiladu ar hynny a siarad am reoli data—rwy'n gwybod y bydd gan y Gweinidog ddiddordeb yn hyn. Mae'n faes sy'n llawn o anawsterau ac weithiau mae'n anodd deall sut i ymdrin â hynny yn y ffordd orau. Mae'n bwysig diogelu data, ond er mwyn ysgogi arloesedd, mae angen cael trafodaethau synhwyrol ynghylch rhannu data a llywodraethu gwybodaeth, a ddefnyddir i helpu sefydliadau i wella eu cynnig ac felly i wella canlyniadau i'r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
Hoffwn annog yr holl Aelodau, os cewch gyfle, i ddarllen adroddiad rhagorol ag iddo deitl bachog; 'Information governance as a socio-technical process in the development of trustworthy healthcare AI'. Roedd yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar waith gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, ac roedd gan dîm y prosiect a ysgrifennodd yr adroddiad bryderon am allu rhanddeiliaid yng Nghymru i wneud y defnydd gorau o ddeallusrwydd artiffisial wrth ddarparu ar gyfer cleifion. Un o gasgliadau'r awduron oedd y byddai sefydliadau cyfranogol, gan gynnwys y gwasanaeth ambiwlans, ac rwy'n dyfynnu hyn nawr,
'yn elwa o fwy o barodrwydd sefydliadol i ymdrin â manylion prosesau llywodraethu gwybodaeth ar gyfer deallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd',
a bod problemau mawr gyda'r rhai y maent yn eu disgrifio fel rhanddeiliaid nad ydynt eisiau ymrwymo i benderfyniadau rhwymol am drefniadau rhannu data oherwydd diffyg cyngor ffurfiol.
Nawr, mae'r cyfan yn swnio ychydig yn gymhleth ac mae'r cyfan yn swnio ychydig yn 'geekaidd', ond os na allwn gael rhannu data'n iawn, ni allwn wneud y pethau yr ydym yn awyddus i'w gwneud, felly bydd gennyf ddiddordeb mewn clywed gan y Gweinidog a Llywodraeth Cymru beth maent yn ei wneud i ddatblygu strwythur llywodraethu gwybodaeth mewn ffordd glir, systematig a theg a fydd yn y pen draw o fudd i gleifion ledled Cymru yn hirdymor.
Mae hyn i gyd yn ymwneud â phwynt 3(c) o'n cynnig heddiw, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd cael y seilwaith yn iawn. Rydym yn aml yn meddwl am seilwaith ffisegol neu seilwaith meddalwedd efallai, ond mae cael seilwaith llywodraethu, yn enwedig ynghylch rhannu data a gwybodaeth, yr un mor bwysig, fel y gallwn wneud y gorau o ddatblygiadau technolegol yn y lle cyntaf.
Hefyd, mae yna fwy—a hoffwn siarad am y pwynt hwn—y gellir ei wneud gydag arloesedd gan unigolion, ac i'r perwyl hwn hoffwn argymell y dylai'r Gweinidog fabwysiadu cynllun fel cymrodoriaethau digidol Topol. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog wedi clywed am hyn. Mae wedi'i gynllunio'n benodol i roi amser, cefnogaeth a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol i arwain trawsnewid ac arloesedd iechyd digidol yn eu sefydliadau. Ar hyn o bryd, mae'r gymrodoriaeth ar agor i rai staff clinigol yn GIG Lloegr yn unig, ond mae'n gweithio drwy fod cyflogwr pob cymrodor yn derbyn swm wedi'i neilltuo o arian i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiect sy'n llwyddo i sbarduno newid digidol yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ac fel y mae cyfraniadau yn y ddadl hon hyd yma wedi dangos, mae'n ymddangos ein bod yn brin o arloesedd o'r strwythur o'r brig i lawr sydd ar waith ar hyn o bryd, ac yn fy mhrofiad i, mae rhai o'r syniadau gorau yn aml yn gweithio orau drwy ddull o'r gwaelod i fyny. Felly, byddai cynlluniau fel Topol yn ei gwneud hi'n bosibl cyflwyno arloesedd gan y rhai sy'n gwybod orau; y rhai ar y wardiau, yn y meddygfeydd, allan yn ein cymunedau. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa ystyriaeth a roddwyd i gyflwyno rhywbeth tebyg yma yng Nghymru, a chan weithio gyda chymheiriaid yn San Steffan i wneud yn siŵr y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd ar draws y Deyrnas Unedig.
Rwy'n mynd i roi'r gorau iddi nawr, Ddirprwy Lywydd. Felly, gadewch inni ystyried, yn gyntaf oll, fod gennym lawer o ddal i fyny i'w wneud yma yng Nghymru, yn enwedig gydag arloesi technolegol, ond rwy'n credu y gallwn gyrraedd yno os manteisiwn ar y cyfle a phenderfynu symud yn gyflym, cael y llywodraethu'n iawn ynghylch rhannu gwybodaeth, a sefydlu system sy'n gwneud dull o weithredu o'r gwaelod i fyny yn bosibl ar gyfer cynhyrchu syniadau. Rwy'n galw ar holl Aelodau'r Senedd i gefnogi ein cynnig a chefnogi ein gwasanaeth iechyd gwladol. Diolch yn fawr iawn.
Un o'r agweddau mwyaf rhyfeddol ar ein GIG yw ei allu i esblygu gyda'r oes heb gyfaddawdu ar ei egwyddor sylfaenol fel sefydliad cyhoeddus sy'n rhad ac am ddim lle caiff ei ddefnyddio. Ond nid yw hyn wedi digwydd ar hap. Mae wedi bod yn ganlyniad cynllunio gofalus a chydweithio effeithiol. Felly, bydd cadw'r cydbwysedd hwn rhwng sicrhau parhad sylfaenol cymeriad y GIG a chroesawu newid a dulliau cyflawni cadarnhaol yn hanfodol wrth inni fynd i mewn i oes newydd o ddigideiddio cynyddol a datblygiad technolegau deallusrwydd artiffisial.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir ers peth amser y dylai gwella seilwaith digidol y GIG fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yn wir, dyma un o argymhellion allweddol ein cynllun gweithredu ar gyfer y GIG, yn sgil ymgysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a ddatgelodd orddibyniaeth ar dechnolegau sydd wedi dyddio fel peiriannau ffacs, fel y clywsom yn gynharach, a diffyg data cyson ar swyddi gwag yn y gweithlu.
Maes sy'n peri pryder arbennig yw perfformiad a hygyrchedd systemau data penodol i Gymru, sydd wedi dod yn thema ailadroddus mewn sawl agwedd ar lywodraethiant yng Nghymru. Bydd unrhyw un sy'n gweithio ar bolisi cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd yn gyfarwydd iawn â'r rhwystredigaeth o fethu cael gafael ar ddata dibynadwy a chyfredol o ffynonellau fel StatsCymru, a gall y diffyg tryloywder yn y maes hwn arwain at oblygiadau niweidiol iawn wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Er enghraifft, yn ddiweddar, clywsom y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn annog Llywodraeth Cymru i gynnwys ffigurau eithriadau rhag torri targedau yn y data a gyhoeddwyd ar gyfer amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae eu habsenoldeb yn rhoi camargraff o wir faint y galw am wasanaethau rheng flaen, ac felly'n rhwystro gallu staff i gynllunio'n effeithiol. Nid yw hon yn alwad newydd. Cafodd ei hamlygu fel problem ers ymhell dros flwyddyn. Un o chwe chenhadaeth strategaeth ddigidol a data newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yw darparu gwasanaethau digidol o ansawdd uchel wedi'u llunio o amgylch anghenion y dinesydd, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau. Felly, yn hytrach nag awgrymu bod y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn fwriadol yn camddeall y polisi eithriadau, byddai'n well i Lywodraeth Cymru wireddu geiriau eu strategaeth ddata eu hunain ac ymrwymo, fan lleiaf, i gynnwys ffigurau eithriadau yn y data damweiniau ac achosion brys a gyhoeddwyd.
Nid mater o faint yn unig yw cyflwyno technolegau newydd yn effeithiol. Dylid ei deilwra'n ansoddol hefyd i anghenion penodol darparwyr gofal iechyd yng Nghymru. Er enghraifft, yn achos e-bresgripsiynau, mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi pwysleisio, er bod newid i'r model hwn yn ddymunol mewn egwyddor, fod yn rhaid i'w weithrediad ymarferol fod yn effro i ganlyniad anfwriadol presgripsiynau'n symud dros y ffin i Loegr. Mae'r contract fferylliaeth gymunedol yn Lloegr yn ei gwneud hi'n bosbl sefydlu fferyllfeydd sy'n gwerthu o bell, a dyna yw oddeutu 6 y cant o bresgripsiynau yn Lloegr. Pe bai cyfran debyg o bresgripsiynau yng Nghymru yn symud dros y ffin, byddai hyfywedd llawer o fferyllfeydd cymunedol mewn perygl difrifol. Er bod Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi cydnabod gwerth gwerthu o bell yn drawsffiniol mewn rhai sefyllfaoedd, yn enwedig i rai cleifion sy'n byw ar y ffin a phobl ar wyliau yn Lloegr o Gymru, ni ddylai ddod ar draul gwasanaethau sefydledig yn y gymuned sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd gyda'r bygythiad o gau ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi. Daw hyn yn ôl i'r pwynt a wneuthum ar ddechrau'r ddadl, am gyfuno parhad â newid, a byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae'r risg benodol hon yn cael sylw yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer e-bresgripsiynau.
Yn olaf, rhaid inni beidio ag anwybyddu pwysigrwydd rheoleiddio a llywodraethu cadarn yn y maes hwn. Holodd fy nghyd-Aelod Luke Fletcher mewn cwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar ynglŷn â dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r mater hwn, ac er ein bod yn cytuno'n llwyr fod angen i'r modd y bydd sefydliadau cyhoeddus yn mabwysiadu deallusrwydd artiffisial fod yn gyfrifol, yn foesegol ac yn deg, rydym yn siomedig nad yw'n ymddangos bod gan y Llywodraeth strategaeth benodol ar gyfer rheoli'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y gymdeithas yng Nghymru.
Mae angen inni sicrhau hefyd fod chwilio am atebion technolegol yn blaenoriaethu'r adnoddau sydd gennym yma yng Nghymru yn barod, yn hytrach na throi at drefniadau contract allanol sy'n pasio heibio i fusnesau Cymru ac nad ydynt yn ysgogi gweithgarwch yn ein heconomi ein hunain. Er enghraifft, gallai'r ganolfan arloesi seiber a lansiwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd fod yn bartner cyflawni allweddol ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn hwyluso rhwydweithiau cydweithredol i'r perwyl hwn. Dylai'r uchelgais i greu parth buddsoddi sy'n canolbwyntio ar dechnoleg yng ngogledd-ddwyrain Cymru gael ei weld yn yr un golau hefyd.
GIG sydd wedi'i gyfarparu'n dda i ymdrin â heriau technolegol y byd modern, ond sy'n parhau i weithredu fel y gwnaeth ers tri chwarter canrif, fel sefydliad cyhoeddus sy'n rhad ac am ddim lle caiff ei ddefnyddio, dyna yw ein gweledigaeth drosfwaol ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd pob plaid yn y Senedd yn ei rhannu.
Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr Cymreig a Russell George am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw ar wella technoleg yn ein GIG yng Nghymru—technoleg sydd, wrth gwrs, yn chwyldroi ein gwasanaethau. Mae ein cefnogaeth i'r GIG yn ddiwyro. Rydym i gyd eisiau gweld y gwasanaethau gorau posibl i'n hetholwyr a dyfodol lle byddwn yn defnyddio'r technolegau newydd hyn yn y ffordd fwyaf diogel sy'n bosibl. Drwy groesawu technolegau newydd, deallusrwydd artiffisial ac arloesedd yng Nghymru, gallwn geisio mynd i'r afael â rhestrau aros erchyll Llafur. Pa fuddsoddiad y gallwn ei weld a fydd yn cyflymu'r broses o ddod â'n GIG yng Nghymru i mewn i'r unfed ganrif ar hugain? Mae'n rhywbeth rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog yn ei hymateb.
Mae llawer o ddatblygiadau technolegol cyffrous yn digwydd ym maes iechyd ar hyn o bryd, felly mae'n iawn fod Cymru'n cael ei darn hithau o'r gacen. Nid yn unig hynny, ond fel Gweinidog iechyd ein gwrthblaid, rwy'n gobeithio ein gweld yn arwain y ffordd yn y datblygiadau arloesol hyn. Dylem ymfalchïo bod cwmnïau o Gymru'n rhagori ym maes technoleg iechyd. Mae cwmnïau fel Afon Technology yn fy rhanbarth i wedi arloesi yn ddiweddar gyda synwyryddion glwcos newydd a fydd yn cynorthwyo i reoli diabetes, sy'n newyddion da o dde-ddwyrain Cymru. Serch hynny, mae trigolion ar draws fy rhanbarth yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau drwy ap y GIG. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ein meddygon teulu wedi'u cofrestru gydag ap y GIG, gan y gall hyn arwain at arbedion effeithlonrwydd.
Yr wythnos diwethaf yn unig y lansiwyd presgripsiynau electronig yng Nghymru, ac ar hyn o bryd, yn sir Ddinbych yn unig y maent ar gael. Mae hyn yn rhywbeth sydd o'r pwys mwyaf pan fyddaf yn siarad â fferyllfeydd yn fy rhanbarth; maent yn pwysleisio bod yn rhaid inni ddatrys hyn. Byddai'n helpu i gyflymu'r broses o ddarparu presgripsiynau ac yn arbed amser ac arian yn y broses, fel y nodwyd eisoes. Hoffwn i'r Gweinidog ddweud yn ei hymateb pa mor hir y bydd yn rhaid i fy etholwyr aros am y gwelliant hanfodol hwn. Mae'n gas gennyf ein gweld yn llusgo mor bell ar ôl Lloegr, fel sydd wedi cael ei grybwyll eisoes.
Y mis hwn, gwelsom Lywodraeth y DU yn cyflwyno'r uwchgynhadledd ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial. Rwy'n credu'n wirioneddol y gall potensial deallusrwydd artiffisial orbwyso'r agweddau negyddol os ydym yn sicrhau ei fod yn ddiogel wrth gwrs. Dylem i gyd hyrwyddo rôl technoleg a'r hyn y mae'n ei wneud, a'r rôl y gall ei chwarae yn darparu gwasanaethau'r GIG yng Nghymru, ac anelu at arwain yn y maes hwn, fel y dywedais, gan ein bod wedi gweld y gall buddsoddi yn hyn arwain at arbedion go iawn nid yn unig mewn arian, ond mewn amser hefyd. Eto i gyd, yn anffodus nid yw hyn yn wir yng Nghymru dan arweiniad Llafur, ac rydym yn gweld gwendidau ar draws y maes.
Mae Llywodraeth y DU wedi tynnu sylw at yr ehangu cyflym yn y defnydd o dechnoleg, gan gynnwys monitro o bell. Mae wardiau rhithwir yn hybu effeithlonrwydd, gan ryddhau gofod ysbyty, amser clinigwyr, a chwalu'r ôl-groniadau COVID. Rhaid i'r Llywodraeth hon flaenoriaethu platfform digidol un stop i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cysylltu, fod modd gwneud apwyntiadau, ac y gellir gweld cofnodion. Hyd yn oed yn yr Alban, rydym yn gweld y bydd cwmnïau sy'n tyfu'n gyflym yn gallu treialu cynhyrchion iechyd newydd mewn lleoliadau clinigol yn dilyn cysylltu rhwng y rhaglen Techscaler a'r GIG. Mae cyfranogwyr y rhaglen hon, sy'n darparu arbenigedd a chymorth i fusnesau newydd sydd â photensial twf uchel, yn cael cynnig mynediad at dreialon rhanbarthol y GIG.
Mae'n amlwg fod Cymru ar ei hôl hi, ac rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i gyflwyno atebion cadarnhaol yn y maes hwn. Rydym am weld cleifion a staff y GIG yn elwa o'n technolegau diweddaraf, felly rwy'n annog pawb i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Diolch am gyflwyno'r ddadl hon. Fel y gwyddoch, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn craffu ar y rhaglen e-bresgripsiynu drwy lens cyfiawnder data a chyfiawnder cymdeithasol eleni, a thrwy Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rydym wedi casglu tystiolaeth hefyd gan dîm Iechyd a Gofal Digidol Cymru nifer o weithiau, felly mae'n wych ein bod yn cael y ddadl hon i dynnu hyn oll at ei gilydd heddiw.
Rwy'n credu bod tîm Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gwerthfawrogi cael seibiant rhag fy nghael i'n eu holi'n dwll o'r ochr arall i fwrdd y pwyllgor ddoe pan noddais eu digwyddiad gyda Sefydliad Bevan i edrych ar iechyd a gofal digidol yng Nghymru. Fe fyddaf yn onest gyda chi, ar ddechrau'r cyfarfod, roeddwn i'n ddi-flewyn-ar-dafod iawn—ddim fel fi—wrth ddweud nad oeddwn yn teimlo'n gyfforddus yn cofrestru ar gyfer ap newydd GIG Cymru heb gael mwy o eglurder, tryloywder ac atebolrwydd ynghylch sut y byddai ein data iechyd yn cael ei gasglu, ei storio a'i rannu. Rwy'n falch o ddweud, erbyn y diwedd, fy mod yn teimlo'n llawer mwy hyderus, eu bod wedi ateb fy holl gwestiynau, ac rwy'n bwriadu ei lawrlwytho er mwyn imi allu cael fy mhresgripsiwn rheolaidd cyn gynted â phosibl.
Hoffwn ddweud fy mod yn credu bod gan y trawsnewid digidol a data hwn botensial i achub bywydau. Nododd adroddiad crwner yn ddiweddar ar gyfer claf ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a fu farw oherwydd bod eu cofnodion wedi'u colli—. Dywedodd y crwner yn yr adroddiad ar atal marwolaethau yn y dyfodol:
'Mae atgyfeiriadau o'r fath yn parhau i fod yn rhai a wneir ar bapur ac nid oes unrhyw arwydd hyd yma pryd y bydd y rhain yn gwbl electronig. Rwy'n ymwybodol fod y strategaeth genedlaethol hon yn dal i fynd rhagddi ond mae'r amser y mae'n ei gymryd yn peryglu bywydau cleifion.'
Felly, o ddifrif, ni allwn ni, ac nid wyf fi, yn tanamcangyfrif pa mor sensitif o ran amser yw hyn, ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r teulu hwnnw.
Ond rwyf hefyd am ddweud mai dyna pam fy mod yn falch fod Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach yn cyflwyno pedair rhan i gyd ar unwaith, ac nid ydynt yn eu gwneud un ar ôl y llall. Rydym yn cael ap GIG Cymru; y gwasanaeth presgripsiynau electronig gofal sylfaenol newydd—rwy'n credu, Weinidog, eich bod wedi ei ddefnyddio am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf; yr adnodd data cenedlaethol, i ddadansoddi a chynllunio gwasanaethau iechyd a gofal; ac yn olaf, y cofnod iechyd unigol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hwnnw, a chredaf y bydd yn helpu i achub bywydau. Bydd gan oddeutu 35,000 o bobl fynediad ato, gyda mwy a mwy yn ychwanegu at hynny, oherwydd bydd parafeddygon yn dod yn bresgripsiynwyr, bydd gennym fwy o bresgripsiynwyr fferyllol. Ac fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn gofyn hefyd am i gleifion allu gweld pwy sy'n cael gweld eu cofnodion meddygol, o safbwynt diogelwch. Ac fe holais hefyd am y seiberddiogelwch, y gwnaethant dawelu fy meddwl yn ei gylch.
Serch hynny, o'r holl dystiolaeth a gasglwyd gennym, rwyf am nodi fy mod yn falch nad ydym wedi rhuthro gyda hyn yng Nghymru, er ein bod bellach yn mynd i mewn iddo o ddifrif a bod pedwar peth yn dod ar unwaith. Roedd tystiolaeth a glywsom gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ei gwneud hi'n glir iawn fod llanast wedi'i wneud o hyn yn Lloegr ddwywaith. Y tro cyntaf pan gafodd ei gyflwyno, clywodd y cyhoedd amdano drwy'r cyfryngau. Nid oeddent yn teimlo'n hyderus, roedd lefel enfawr o ddrwgdybiaeth, a dewisodd llawer ohonynt optio allan; roedd yn fethiant llwyr. Yna, yn ail, mae problemau enfawr wedi bod rhwng clinigwyr a meddygon teulu gyda'i gyflwyno. Nid ydynt yn credu bod NHSX, fel y'i gelwir yn Lloegr, wedi ymgysylltu'n ddigonol, i ddeall nad yw pob meddyg teulu—. Meddygon teulu yw'r rheolwyr data—mae hwnnw'n gyfrifoldeb enfawr. Maent yn cadw llawer iawn o wybodaeth ac nid oeddent am gael eu gorfodi i'w gyflwyno cyn eu bod yn barod a chyn iddynt fynd drwy gofnodion meddygol pobl a golygu'r hyn yr oedd angen ei olygu.
Hefyd, fe wneuthum leisio pryderon a godwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â hyn ar ein cyfer ni yma yng Nghymru, ond cefais sicrwydd na fydd ein holl gofnodion meddygol ar gael i ni. Bydd yna restr, gan gynnwys meddyginiaethau, alergeddau a chodau ar gyfer cyflyrau fel diabetes neu'r rhai sydd angen gofal arennol, ond nid gwybodaeth bersonol fanwl am iechyd rhywiol neu iechyd meddwl, er enghraifft, sy'n dal i fod â stigma enfawr yn eu cylch yn ein cymdeithas. Ac rwy'n gobeithio y bydd y ddeialog ystyrlon honno'n parhau gyda meddygon teulu a meddygon o ran gallu codio pob un o'r cyflyrau hynny.
Dyna pam fy mod yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru heddiw, oherwydd mae'r ffaith bod dros 200 o feddygfeydd bellach yn defnyddio ap GIG Cymru yn gadarnhaol iawn, ac mae'r bwriad iddo fod ar waith ym mhob practis erbyn diwedd mis Mawrth 2024 yn realistig, o ystyried cymaint y mae angen i feddygon teulu addasu. Rwyf hefyd yn cytuno â'r pwynt lle dywedwn fod yn rhaid gwneud technolegau newydd, fel deallusrwydd artiffisial, mewn ffordd sy'n helpu i sicrhau ei fod yn cael ei fabwysiadu'n gyfrifol, yn foesegol, yn deg a diogel. Mae'n rhaid ei wneud gyda ni; ni ellir ei wneud i ni. Ni fydd pobl yn ei gefnogi fel arall. Rwyf am allu rhoi fy nghaniatâd i fy nata gael ei ddefnyddio. Rwyf am wybod pan wneir penderfyniad gan ddefnyddio fy nata a fydd yn effeithio arnaf fi neu eraill, ac rwyf am allu ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg, os wyf am wneud hynny.
Ac yn olaf, gofynnais ynghylch y modd y bydd yr adnodd data cenedlaethol yn cael ei gyflwyno drwy Google, ond yn anffodus, Google, Amazon neu Microsoft yw hi ar hyn o bryd. Dyna'r byd yr ydym yn byw ynddo. Ac yna, yn amlwg, darllenais yn y newyddion ddoe fod Llywodraeth y DU newydd werthu ei holl gleifion yn Lloegr i Palantir. Mae'r grŵp dadansoddi data o'r Unol Daleithiau newydd sicrhau contract gwerth £330 miliwn. Mae gennych chi feddygon ac ASau yn lleisio pryderon ynglŷn â moeseg hyn, a phrin y cafwyd unrhyw graffu ar y cytundeb hwnnw. Felly, unwaith eto, rwyf am bwysleisio efallai ein bod ar ei hôl hi gyda'r e-bresgripsiynu, ond rydym bron yno, ac rwy'n falch iawn nad wyf yn glaf yn Lloegr ar hyn o bryd. Maent yn poeni'n wirioneddol am yr hyn a fydd yn digwydd i'w data o dan y Llywodraeth Dorïaidd hon yn y DU.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl heddiw ac i ddangos y cynnydd parhaus sy'n cael ei wneud ar ddarparu gwelliannau digidol a thechnoleg iechyd a gofal cymdeithasol mewn cyfnod mor heriol. Rwy'n cytuno â llawer o'r teimlad y tu ôl i'r prif gynnig. Mae'n amlwg iawn fod gwelliannau digidol a thechnolegol yn cynnig cyfle allweddol inni drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol. Nodwyd hyn yn glir iawn yn ein strategaeth, 'Cymru Iachach', a gallaf eich sicrhau fy mod yn treulio cryn dipyn o fy amser yn gyrru'r agenda bwysig hon.
Mae rôl digidol a thechnoleg yn gwella gwasanaethau yn amlochrog ac yn hynod werthfawr, wrth ddarparu gofal mwy diogel a gwasanaeth iechyd mwy effeithlon, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled Cymru a chefnogi ein gweithlu gwerthfawr. Rydym yn parhau i wneud cynnydd mewn sawl maes allweddol. Fel y nododd llawer ohonoch yr wythnos diwethaf, fe ymwelais â Chanolfan Feddygol Lakeside yn y Rhyl a fferyllfa Ffordd Wellington, lle gwelais yn uniongyrchol y budd a gyflawnir gan y gwasanaeth presgripsiynau electronig. A'r hyn y mae llawer ohonoch wedi'i nodi eto yw ei fod yn caniatáu i feddygon teulu anfon presgripsiynau'n ddiogel ar-lein at ddewis y claf o fferyllfa gymunedol, heb fod angen ffurflen bapur. Rydym yn credu y byddwn yn arbed tua 40 miliwn o ddarnau o bapur ac amser sylweddol i feddygon teulu o ganlyniad i hyn. Rydych chi'n iawn; mae wedi cymryd gormod o amser i gyrraedd yma, ond rydym yno, ac yn amlwg byddwn yn ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan o'r flwyddyn newydd ymlaen.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
Wrth gwrs.
A gaf fi ddweud fy mod wedi lawrlwytho ap y GIG ar fy ffôn cyn gynted ag y gwnaethoch chi gyhoeddi'r ffaith ei fod wedi'i lansio ychydig fisoedd yn ôl, yn ôl ym mis Mehefin? Ac mae'n rhaid imi ganmol fy mhractis fy hun, canolfan feddygol Bae Cinmel, oherwydd ar y pryd, nid oedd y gwasanaethau ar gael i gleifion ar y dechrau, ond maent ar gael bellach ac yn hollol wych. Mae ymarferoldeb yr ap yn ardderchog. Yn amlwg, nid yw pob un o'r modiwlau yn weithredol o'i fewn eto, ond credaf fod ganddo botensial enfawr i wneud llawer o wahaniaeth i bobl sy'n gallu defnyddio technoleg. Wrth gwrs, mae rhwystr oedran gyda thechnoleg, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn mynd i'r afael â hynny. Ac wrth gwrs, mae nifer o'r rhai sy'n gwneud llawer o ddefnydd o wasanaethau'r GIG yn bobl hŷn, felly mae mwy o reswm byth dros sicrhau eu bod wedi'u haddysgu'n dda. A gaf fi ofyn beth sy'n cael ei wneud i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio technoleg o'r fath yn y dyfodol?
Un o fanteision arbennig y gwasanaeth presgripsiynu electronig yw nad oes angen unrhyw beth arnoch chi mewn gwirionedd. Nid oes angen i chi gario darn o bapur hyd yn oed. Nid oes rhaid i chi gofio dim o hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae presgripsiynu electronig yn golygu na fydd ots os oes ganddynt Alzheimer's a'u bod yn anghofio eu presgripsiwn, oherwydd bydd y cyfan yno yn awtomatig, a byddant yn mynd at eu fferyllydd lleol a bydd y cyfan yn cael ei wneud drostynt. Felly, o ran yr elfen presgripsiynu electronig ohono, rwy'n credu y bydd o fudd i'r boblogaeth oedrannus.
Yn amlwg, o ran apiau, rydym mewn lle gwahanol, ac nid oes neb yn awgrymu na fydd yna systemau amgen ar waith. Ond yn amlwg, mae nifer helaeth o bobl yn mynd i elwa o ddefnyddio hyn, ac nid ydym yn mynd i wadu'r cyfle iddynt oherwydd bod yna rai pobl na fyddant yn gallu ei ddefnyddio. Felly, nid ydym yn diffodd unrhyw beth yn yr ystyr honno. Bydd eu cyfleoedd i gael presgripsiynau rheolaidd a'r holl bethau hynny yno yn y ffordd arferol.
Aeth y gwasanaeth yr euthum i ymweld ag ef yn fyw ar 7 Tachwedd, a chredaf mai dyma'r cam mawr cyntaf yn y gwaith o ddigido'r broses bresgripsiwn ar draws pob lleoliad iechyd yng Nghymru, gan ei gwneud yn fwy effeithlon i glinigwyr a chleifion hefyd. Ac rwy'n credu ei fod yn dangos sut y gall GIG Cymru weithio'n dda gyda chwmnïau sector preifat, cydweithwyr yn GIG Lloegr a chleifion i weithredu gwasanaethau digidol sy'n darparu ar gyfer pobl Cymru.
Caiff y gwasanaeth newydd ei gyflwyno o fis Ionawr ymlaen, ac mae'n rhan o ymrwymiad ehangach i gyflwyno meddyginiaethau digidol ac e-bresgripsiynu ym mhob ysbyty a lleoliad gofal sylfaenol yng Nghymru. Yn bwysicaf oll, bydd e-bresgripsiynu yn lleihau camgymeriadau gyda meddyginiaeth ac yn gwella diogelwch darparu gofal. Mae'n gryn syndod pa mor aml y mae'n rhaid i bobl fynd i'r ysbyty oherwydd llanast gyda phresgripsiynu a phobl wedi cael rhyw fath o feddyginiaeth sy'n gwrthweithio un arall. Bydd hynny i gyd yn cael ei ddatrys ar system nawr, ac felly ni fyddwch yn gallu pesgripsiynu pethau oherwydd bydd y cyfan yn cael ei ddigido. Felly, mae yna elfen ddiogelwch yma hefyd y credaf na ddylem ei hanghofio.
Rwyf hefyd yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi fod ap GIG Cymru bellach wedi pasio carreg filltir fawr ac wedi cael ei fabwysiadu gan dros 200 o feddygfeydd. Erbyn diwedd mis Mawrth 2024, bydd yr ap ar gael ar draws pob meddygfa. Bydd cleifion yn gallu gofyn am bresgripsiynau rheolaidd gan eu meddygon teulu. Byddant yn gallu enwebu eu dewis o fferyllfa gymunedol eu hunain a chael hysbysiadau yn dweud pryd fydd presgripsiwn yn barod. Credaf fod effaith rhaglenni fel ap GIG Cymru a phresgripsiynu electronig yn hanfodol i foderneiddio ein gwasanaeth iechyd, gan roi mynediad haws a mwy cyfleus i ddinasyddion at eu gwybodaeth iechyd a'u gwasanaethau hanfodol a rhyddhau amser clinigwyr i helpu mwy o gleifion i gael eu trin yn gyflymach.
Nawr, mae'r rhaglenni hyn yn dystiolaeth uniongyrchol o lwyddiant arloesedd digidol yn GIG Cymru sy'n mynd i'r afael â phroblemau mewn ffordd strategol gydgysylltiedig gan sicrhau gweithrediad diogel a moesegol. Nawr, rwy'n cydnabod bod gennym ffordd bell i fynd; nid yw'n mynd yn ddigon cyflym. Rydym yn gwneud ymdrechion enfawr ar hyn. Ond nid wyf eisiau mynd yn rhy gyflym a gwneud llanast ohono. Oherwydd os collwch chi hyder y bobl sy'n defnyddio'r system, rwy'n credu y bydd hi'n anodd iawn ei gael yn ôl, ac fe wyddom, er enghraifft, yn Lloegr, yn 2013, fod y GIG wedi cefnu ar system. Costiodd £10 biliwn iddynt, y methiant technoleg gwybodaeth mwyaf a welwyd erioed. Nawr, mae hyn yn bwysig. Nid wyf eisiau i hynny ddigwydd yng Nghymru. Byddai'n well gennyf ei brofi. Dyna a wnaethom gyda'r ap. Rydym wedi mynd ati'n araf, rydym wedi ei brofi ac rydym wedi gwneud mân addasiadau iddo, rydym wedi ei newid, rydym wedi ei brofi eto, ac rwy'n meddwl yn bendant mai dyna'r ffordd i fynd. Ac yn bwysig iawn, rydym yn gwneud gwaith cynllunio ar yr hyn y gall yr ap ei wneud gyda'r bobl sy'n defnyddio'r ap, ac rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig. Felly, er ein bod yn parhau i wneud cynnydd pwysig, nid yw hynny'n golygu fy mod yn hunanfodlon neu fod y gwaith wedi'i gwblhau. Mae llawer mwy i'w wneud i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i bobl Cymru.
Nawr, mae hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r egwyddorion a'r bwriadau a amlinellir yn ein strategaeth ddigidol a data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a gyhoeddais yn yr haf. Rwy'n meddwl bod rhywun wedi gofyn am y sefyllfa gyda chanser, a sut rydym yn gwneud canser a thechnoleg gwybodaeth. Wel, mae gennym y rhaglen gwybodeg canser—mae honno wedi cael £7 miliwn. Soniodd rhywun arall am y ffaith ein bod yn dal i ddefnyddio ffacsys yng Nghymru. Wel, efallai eich bod wedi clywed canghellor yr wrthblaid heddiw yn cyfeirio at y ffaith bod 600 o beiriannau ffacs yn dal i gael eu defnyddio yn Lloegr. Mae angen i bawb ohonom gael gwared ar ein peiriannau ffacs. Fe wyddom hynny ac rydym yn ei wneud. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn ddibynnol ar arian—arian sy'n dynn iawn, ac rwy'n ofni nad yw'r gyllideb heddiw wedi rhoi unrhyw gysur i ni fod unrhyw arian ychwanegol yn dod ychwaith.
Nawr, mae ein strategaeth yn nodi ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal wedi'i foderneiddio. Ar ben blwydd gwasanaeth iechyd a aned yng Nghymru yn 75 oed, rydym yn parhau i'w ddatblygu i fod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n bwysig fod yn rhaid inni gyflawni'r newidiadau hynny, y datblygiadau arloesol hynny, yn barhaus. Ac rwyf wedi clywed yn glir iawn yr angen i estyn allan at leiafrifoedd ethnig gan John, ac wrth gwrs, rydym yn rhoi llawer o gefnogaeth iaith i bobl sy'n ei chael hi'n anodd gyda'r Saesneg.
Rŷn ni'n gwybod po fwyaf o wybodaeth sydd gan gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol, y gorau a gwell y mae'r penderfyniadau, y diagnosis a'r canlyniadau iechyd yn debygol o fod. Mae cofnod gofal nyrsio Cymru wedi cael ei gyflwyno yn llwyddiannus i 80 y cant o'r holl wardiau cleifion mewnol i oedolion, a'r bwriad yw y bydd y gweddill yn ei ddefnyddio erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae hyn wedi caniatáu i staff gofnodi, rhannu a gweld gwybodaeth am gleifion yn electronig ar draws wardiau ysbytai ac ardaloedd byrddau iechyd. Mae wedi safoni'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu am oedolion mewn ysbytai, gan ddileu amrywiadau ar draws y byrddau.
Awgrymodd rhywun y dylem adael i fil o flodau flodeuo, a chaniatáu i bobl fod yn arloesol. Nawr, rhan o'n problem, mewn gwirionedd, yw ein bod wedi gadael i lawer o bobl fod yn arloesol, ac mae hynny'n beth da, ond ar ryw bwynt rydym angen i'r systemau hyn siarad â'i gilydd. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod yr arloesedd hefyd yn dod at ei gilydd mewn un system ar gyfer Cymru gyfan. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn glir iawn fod angen ei wneud yn y dyfodol.
Fe wnes i weld y manteision gyda fy llygaid fy hun ar ymweliad ag Ysbyty Castell Nedd Port Talbot yn y mis diwethaf, ac roedd e'n dda i weld y Dirprwy Lywydd yna hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud cynnydd ar hyrwyddo dull diogel a moesegol o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial. Rydym wedi sefydlu grŵp ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys rhanddeiliaid ac arbenigwyr mewn technoleg deallusrwydd artiffisial a chyflawni clinigol, ac mae gan y grŵp hwn gylch gwaith i nodi, datblygu a hyrwyddo'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn amgylchedd rheoleiddio diogel a moesegol. Felly, clywais yr hyn a ddywedodd llawer ohonoch am yr angen am bwyll wrth reoleiddio mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial.
Weinidog, rwyf wedi rhoi llawer o hyblygrwydd i chi oherwydd yr ymyriad, ond mae angen i chi ddod i ben nawr.
Diolch yn fawr iawn. Yn olaf, hoffwn ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig, mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial, ein bod yn gweithio ar draws Llywodraethau'r DU ac roedd yn drueni na chawsom wahoddiad ffurfiol i'r uwchgynhadledd ar ddeallusrwydd artiffisial a gynhaliwyd yn ddiweddar. Diolch yn fawr.
A galwaf ar Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac rwyf am ddechrau fy sylwadau heddiw drwy ddiolch i chi am ymweld â'r Rhyl yn fy etholaeth ddydd Gwener i weld e-bresgripsiynau yn cael eu cyflwyno ym meddygfa Lakeside a Fferyllfa Ffordd Wellington. Wrth sôn am wahoddiadau, fy unig ofid, fodd bynnag, yw na chefais innau wahoddiad i ymuno â chi yn y cyflwyniad, gan y byddwn wedi ei groesawu â breichiau agored. Rwy'n adnabod Dr Farhan Mohideen a Barbara McEvoy yn dda iawn yn fy etholaeth a byddai wedi bod yn bleser ymuno â nhw, ond rwy'n crwydro oddi ar y testun.
Ond mae'r nifer sy'n manteisio ar dechnoleg ddigidol wedi cael effaith ddofn ar y gwasanaeth iechyd gwladol ac mae'n caniatáu i glinigwyr wneud eu gwaith yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn effeithlon. Mae pandemig COVID-19 wedi cynyddu'r cyflymder y mae'r GIG wedi mabwysiadu atebion technolegol modern ledled y DU i raddau helaeth. Daeth y defnydd o apwyntiadau rhithwir yn gyffredin a mabwysiadwyd y defnydd o dechnoleg megis ap COVID-19 y GIG gan y mwyafrif. Daeth y rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd ag ymgorffori technoleg ddigidol ym maes gofal iechyd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy araf yn mabwysiadu technoleg a fydd yn helpu i dynnu'r baich oddi ar wasanaeth iechyd sydd dan ormod o bwysau, a lleihau amseroedd aros.
Yn gyffredinol, hoffai 53 y cant o bobl ddefnyddio'r rhyngrwyd yn aml ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd yn y dyfodol—1.3 gwaith yn uwch na'r rhai a fyddai wedi gwneud hynny ers dechrau'r pandemig. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd cyflwyno ap y GIG, sydd wedi bod yn annerbyniol o araf ac nad yw'n cael ei ddefnyddio o hyd mewn 48.2 y cant o feddygfeydd. Bum mlynedd ar ôl i ap y GIG gael ei ryddhau gyntaf yn Lloegr, mae'n frawychus mai dim ond newydd basio'r marc hanner ffordd y mae'r broses gyflwyno yng Nghymru.
Ar ôl ymweld â'r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd dros yr haf, gwelais yn uniongyrchol sut mae technoleg sydd wedi dyddio yn rhwystro gweithrediad ysbytai yng Nghymru fel Ysbyty Glan Clwyd. Dywedodd staff wrthyf fod angen system rheoli gwelyau yn lle system y dangosfwrdd, sy'n adnewyddu'n gyson, ond nid yw'r dechnoleg yno, yn bennaf oherwydd y gost. Mae'r diffyg buddsoddiad mewn technoleg ddigidol fodern yn dod yn rhwystr i ymarfer clinigol. Mae adroddiadau o beiriannau ffacs yn cael eu defnyddio hefyd yn ogystal ag offer amrywiol nad ydynt yn addas ar gyfer gwasanaeth iechyd yn yr unfed ganrif ar hugain.
Ar ôl yr uwchgynhadledd ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial, a gadeiriwyd gan ein Prif Weinidog, Rishi Sunak, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod peryglon posibl deallusrwydd artiffisial a phwysigrwydd cyfrifoldeb y llywodraeth i liniaru effeithiau niweidiol deallusrwydd artiffisial. Mae'r buddion yn ddiderfyn a dylid cadw Cymru ar flaen y gad er mwyn iddi fod yn arloeswr mewn technoleg deallusrwydd artiffisial. Mae deallusrwydd artiffisial eisoes yn cael ei ddefnyddio yn y GIG ledled y DU i ddadansoddi sganiau'r ymennydd a darllen canlyniadau pelydr-x. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau nad yw buddion posibl deallusrwydd artiffisial yn cael eu gwastraffu. Mae gennym bobl ar restrau aros ers dwy flynedd yn y GIG yng Nghymru, 27,041 o bobl, o'i gymharu â dim ond 227 yn Lloegr, ffaith y cyfeiriwyd ati yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog wrth iddo dynnu sylw at y ffaith bod Lloegr bron â dileu eu harosiadau dwy flynedd ers COVID, tra'i fod yn dal i fod yn fater difrifol yma yng Nghymru, yn anffodus.
Rydych yn dweud ein bod ni wedi gwastraffu'r cyfleoedd, ond onid ydych chi'n cydnabod bod GIG Lloegr wedi gwastraffu cyfleoedd blaenorol drwy ruthro i wneud hyn a pheidio â mynd â'r cyhoedd gyda nhw? A phan lansiwyd y platfform data ymarfer cyffredinol ar gyfer cynllunio ac ymchwilio yn 2021, bu'n rhaid ei ohirio ar ôl i dros filiwn o bobl optio allan, gan ddweud nad oeddent yn fodlon i'w data gael ei ddefnyddio at ddibenion masnachol ac nad oeddent yn gwybod sut y byddai'n cael ei ddefnyddio. Felly, a wnewch chi o leiaf gydnabod hynny, yn enwedig yng nghyd-destun dyfarnu'r contract ganddynt ddoe—i Palantir?
Rwy'n cydnabod yr anawsterau wrth ddarparu technoleg wrth gwrs, yn enwedig gan fod technoleg yn bwnc sy'n newid yn gyson, sy'n datblygu'n gyson, ond nid wyf yn credu, ar yr un pryd, y dylai hynny ladd uchelgais. Mae'n rhaid inni feddwl am y dyfodol, mae'n rhaid inni feddwl am yfory, mae'n rhaid inni feddwl am y dechnoleg a ddaw y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn, a sut y gellir ymgorffori systemau'r GIG a'r systemau iechyd sydd ar waith o fewn y rheini i gynrychioli cymdeithas fodern. Felly, lle bu problemau yn y gorffennol, credaf na ddylai hynny ladd yr uchelgais o gael system sy'n dilyn technoleg fodern ac sy'n cynrychioli anghenion pobl mewn cymdeithas fodern yn y ffordd orau.
Mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu'r offer sydd eu hangen ar ein staff GIG i wneud eu gwaith a chael technoleg a meddalwedd newydd yn lle'r hyn sydd wedi dyddio, fel y nodwyd sawl gwaith yn ystod y ddadl. Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflymu'n sylweddol y broses o gyflwyno e-bresgripsiynau ac ap y GIG, proses sydd ar ei hôl hi o gymharu â'r modd y cafodd ei chyflwyno yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr dan arweiniad y Ceidwadwyr. Mae hyn yn dal ein GIG yn ôl ac yn cosbi pobl Cymru. Mae'r esgusodion cyllidebol dros y methiannau hyn yn ddiflas bellach, ac mae'r dystiolaeth yn cyfeirio'n ddieithriad at fethiannau yn y modd y caiff y gwasanaeth iechyd ei weithredu a'r penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio sut mae gwariant cynyddol ar dechnolegau digidol a deallusrwydd artiffisial yn arwain at ganlyniadau iechyd gwell ac yn gwneud synnwyr ariannol hefyd. Meddylfryd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwariant iechyd yw 'gwario swllt er ennill ceiniog'. Nid cost yn unig yw technoleg ddigidol fodern, mae'n fuddsoddiad. Am bob £1 y mae gwasanaeth iechyd y DU yn ei wario ar dechnoleg, mae rhwng £3.50 a £4 yn cael ei gynhyrchu mewn arbedion, fel y nododd Russell George yn ei sylwadau agoriadol. Am yr holl resymau hynny, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig heno.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar y sector rhentu preifat, a galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8409 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y pwysau costau byw parhaus sy'n wynebu rhentwyr;
b) y cynnydd rhent cyfartalog blynyddol yng Nghymru o 13.9 y cant yn 2021-22;
c) y cynnydd rhent cyfartalog pellach yng Nghymru o 6.5 y cant yn 2022-23, gyda Shelter Cymru yn nodi enghreifftiau o renti'n codi 100 y cant;
d) mai rhenti myfyrwyr yw 60 y cant o becyn cynhaliaeth cyfartalog y DU, gyda 32 y cant o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn methu â thalu eu rhenti.
2. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru gael ei roi mewn perygl o fod yn ddigartref o ganlyniad i chwyddiant uchel a diffyg stoc tai fforddiadwy.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i wneud yr hyn a ganlyn yn y sector preifat:
a) rhewi rhenti;
b) cyflwyno mesurau i wahardd troi allan y gaeaf hwn.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a dwi'n cyflwyno'r cynnig yn ffurfiol. Yn ôl ym mis Mehefin 2021, pasiwyd cynnig yn y Senedd hon a oedd yn datgan bod yna argyfwng tai. Dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae pethau wedi gwaethygu, gyda’r argyfwng costau byw a achoswyd gan gamreolaeth syfrdanol o wael y Ceidwadwyr o’r economi yn gwneud yr argyfwng tai hyd yn oed yn waeth.
A gadewch i ni fod yn glir, tra bod yna gynnydd sylweddol wedi bod yn ein costau byw, gyda phrisiau tanwydd, bwyd a nwyddau yn cynyddu yn sylweddol, dydy hyn yn ddim o gymharu â’r cynnydd anferthol sydd wedi bod yn y gost o gael to uwch ein pennau. Y gost o fyw mewn tŷ, boed yn rhent neu'n forgais, ydy’r gost uchaf yr ydym yn ei hwynebu, a’r cynnydd yma sydd yn niweidio pobl fwyaf.
Ond er y ffaith amlwg a ddiymwad yma, mae’n fy synnu yn feunyddiol fod Aelodau blaenllaw o’r pleidiau eraill yma byth a beunydd yn galw am leihau trethi cyngor neu am leihau trethi incwm, oll yn bodoli er mwyn cynnal gwasanaethau rheng-flaen hanfodol, ond yn gwaredu pan fo rhywun yn sôn am leihau costau tai, sydd yn trosglwyddo arian i gyfrifon preifat, nid er lles cyhoeddus.
Gadewch i ni fod yn glir, bwriad y cynnig yma ydy i warchod y bobl fwyaf bregus ac sydd â’r risg fwyaf uniongyrchol o wynebu digartrefedd. A’r gwir trist ydy bod y niferoedd o bobl sydd yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref wedi cynyddu yn aruthrol. Mae bron i 2,000 o bobl yn cael eu rhoi i mewn i lety dros dro y mis yng Nghymru bellach. Erbyn hyn, mae bron i 12,000 o bobl mewn llety dros dro, gyda chwarter ohonynt yn blant. A gadewch i ni atgoffa ein hun, nid gwyliau mo llety dros dro. Does yna ddim ceginau i baratoi bwyd, dim ystafelloedd tawel i wneud gwaith cartref ynddynt neu ddianc iddynt, a does dim rhyddid i fynd a dod.
Rwy’n nodi bod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant, ac mae’r gwelliant yn datgan sawl peth da yr ydym yn awyddus ac yn hapus i gytuno â nhw. Un o’r camau y mae’r Llywodraeth wedi ei gyflwyno trwy’r cydweithrediad gyda ni ym Mhlaid Cymru ydy'r cymorth i ddeiliaid morgeisi, a bydd hwn yn sicr yn arbed pobl rhag mynd yn ddigartref.
Tra bod y Papurau Gwyrdd a Gwyn ar dai i’w croesawu fel cam i ddatrysiad hirdymor, mae angen cymorth rŵan hyn ar bobl. Mae'r potiau ariannol yn mynd i redeg yn sych ac mae'r Llywodraeth yn edrych am ragor o doriadau, felly, does dim achubiaeth ar gael drwy unrhyw ffynhonnell ariannol.
Mae'r Llywodraeth yma hefyd yn cwyno, yn gyfiawn, am fethiant y Llywodraeth yn San Steffan i gynyddu'r lwfans tai lleol, gan sôn am bris y Ceidwadwyr yn Llundain, a'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn Llundain yn ei wneud a'u methiant nhw yn hynny o beth. Ond dwi yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan y Canghellor ynghylch yr LHA, fod yna ychydig o gynnydd yn mynd i fod yn y budd-daliadau er mwyn sicrhau bod pobl yn medru cyrraedd hyd at 30 y cant o'r tai rhataf. Mae o'n gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae o'n gwbl, gwbl annigonol. Mae'r Llywodraeth yma hefyd yn dweud y bydden nhw'n hoffi cynyddu'r housing support grant, sydd yn sicrhau cymorth i bobl sydd yn wynebu digartrefedd, ond yn cwyno byth a beunydd eu bod nhw'n methu â gwneud hynny am nad oes ganddyn nhw'r arian.
Felly, yn ariannol, fe ddywed y Llywodraeth yma nad oes dim y gallan nhw ei wneud i helpu rhentwyr preifat yng Nghymru ac mai bai'r Torïaid ydy’r cyfan. Ond mae yna gamau y gall y Llywodraeth yma eu cymryd er mwyn helpu rhentwyr yng Nghymru. Fe allan nhw rewi rhenti ac atal taflu pobl allan fel ateb tymor byr. Mae hynny'n rhywbeth y gallan nhw ei wneud heddiw, ac a fyddai'n cael yn union yr un effaith, os nad yn fwy, â'r holl gymorthdaliadau ariannol y soniais amdanynt ynghynt.
Rŵan, dwi'n nodi bod y Ceidwadwyr yn galw am gamau i atal landlordiaid rhag gadael y farchnad. Mae o'n werth nodi bod y nifer o dai sydd yn cael eu rhentu yn breifat yng Nghymru wedi dyblu fel canran o'r stoc dai dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nôl yn 1979, roedd 30 y cant o'r stoc dai yng Nghymru yn stoc dai cyhoeddus, ond, wrth gwrs, fe ddaeth Thatcher a chyflwyno ei hawl a'i chynlluniau prynu i osod—buy to let. Bellach, mae'r canran o stoc dai cyhoeddus wedi haneri i tua 15 y cant o'n stoc. Ugain mlynedd yn ôl, roedd ychydig dros 7 y cant o’r farchnad dai yma yn dai rhent preifat. Erbyn heddiw, mae hwnna'n agosach i 15 y cant—bron yr un faint â’r stoc dai cyhoeddus. Nid cyd-ddigwyddiad yw hyn, ond gweithred bwrpasol yn dyddio yn ôl i bolisïau ideolegol cul a gyflwynwyd gan Thatcher 40 mlynedd yn ôl ac sydd wedi arwain at yr argyfyngau yma. Nid hawl i brynu sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru, ond hawl llawer mwy sylfaenol: yr hawl i gael to uwch ein pennau, yr hawl i fyw gydag urddas.
Rŵan, nid pob landlord sydd wedi bod yn codi eu rhent—mae'n bwysig nodi hynny. Yn wir, mi fydd nifer fawr o landlordiaid Cymru yn bobl gydwybodol sydd yn poeni am les eu tenantiaid, a heb gynyddu eu rhenti. Yn hynny o beth, does gan y bobl yma ddim i’w boeni amdano, oherwydd eu bod nhw'n landlordiaid cydwybodol. Ond mae rhai yn cynyddu eu rhent, a hynny'n aruthrol. Yn wir, mae Shelter wedi dangos tystiolaeth efo rhai landlordiaid yn cynyddu eu rhent 100 y cant—yn dyblu eu rhent—ac mae angen cymryd camau i atal hyn a mynd i'r afael â hyn yn benodol. Mae rhai landlordiaid yn gosod eu tai allan trwy asiantau gosod. Mae hyn yn fwy problematig. Dywed rhai eu bod nhw'n codi rhenti er mwyn cysoni'r rhent gyda'r cyfartaledd lleol. Rŵan, mae hon yn ddadl nad ydw i'n gallu ei derbyn. Yr hyn mae'r ddadl yma'n ei ddweud, sef yr angen i godi rhent er mwyn ei gysoni e, ydy eu bod nhw am gynyddu rhent er mwyn ei gynyddu o, yn syml, nid er mwyn chwyddiant, nid oherwydd sgil gwariant ychwanegol, ond oherwydd, yn syml, eu bod nhw eisiau cynyddu'r rhent. Ac yn amlach na pheidio, yr asiantaeth gosod, sydd, weithiau, gyda channoedd o eiddo o dan eu rheolaeth, sydd yn gosod y cyfartaledd rhent lleol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac mi ddylai fod rheolau llawer llymach ar asiantaethau gosod er mwyn eu hatal rhag rheoli'r farchnad dai a rhoi monopoli, i bob pwrpas, iddyn nhw, mewn unrhyw un ardal yn lleol.
Un ddadl yr ydym ni wedi ei chlywed droeon ydy fod gan landlordiaid forgais y maen nhw’n gorfod ei dalu, a bod eu costau hwythau wedi cynyddu. Wrth gwrs, mae gen i fwy o gydymdeimlad i’r ddadl yma. Ond mae tystiolaeth yn dangos fod dros ddwy draean o landlordiaid sydd heb forgais wedi bod yn cynyddu eu rhenti. Mae angen gweledigaeth hirdymor a chlir arnom ni er mwyn mynd i'r afael â’r argyfwng tai. Mae angen adeiladu tai o dan berchnogaeth gyhoeddus ar raddfa anferthol, a gwneud hynny mewn partneriaeth gydag arianwyr newydd, fel maen nhw'n ei wneud yn yr Iseldiroedd ar dir cyhoeddus. Mae angen edrych ar raglenni megis cynllun cost rental y Swistir ac Iwerddon, a phrynu tai yn ôl o dan berchnogaeth cyhoeddus, fel mae Cyngor Gwynedd yn ei wneud.
Ond mae pobl yn edrych atom ni yma am ddatrysiad tymor byr i'r argyfwng y maen nhw yn ei wynebu heddiw. Dyna pam ein bod ni'n galw ar i’r Llywodraeth ddefnyddio'r grymoedd sydd ganddyn nhw er mwyn gwneud beth allan nhw rŵan hyn, a rhewi rhenti ac atal troi pobl allan dros y gaeaf yma. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pwysau parhaus o ran costau byw y mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu.
2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd sefydlu system o renti teg a hefyd ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel.
3. Yn croesawu’r camau pendant, uchelgeisiol a radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
4. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil budd-daliadau annigonol sy’n gysylltiedig â thai;
5. Yn cydnabod mai’r dull unigol mwyaf ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yw cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i godi’r cyfraddau er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Sam Rowlands i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cymryd camau brys i droi’r miloedd o eiddo gwag yng Nghymru yn gartrefi unwaith eto;
b) ystyried cyfleoedd gyda’r sector i atal landlordiaid rhag gadael y farchnad rentu yng Nghymru;
c) gweithio gyda landlordiaid a deiliaid contractau i atal troi pobl allan dros fisoedd y gaeaf;
d) cyflwyno cynllun gweithredu i adeiladu 12,000 o dai bob blwyddyn; ac
e) gwneud datganiad ar yr adolygiad o Rhentu Doeth Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 2 yn enw Darren Millar, fy nghyd-Aelod. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw; rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan ynddi. Mae'r pwyntiau y gofynnwyd i ni eu nodi yn y cynnig gwreiddiol yn sicr yn rhan o'r ystod eang o dystiolaeth a welwn yma yng Nghymru o argyfwng tai. Rydym eisoes wedi clywed sut mae digartrefedd wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed yng Nghymru. Yn ddiweddar iawn, ym mis Gorffennaf 2023, roedd dros 170 o unigolion yn cysgu allan ar ein strydoedd yma yng Nghymru. Ym mis Chwefror eleni, cyrhaeddodd nifer y plant dibynnol o dan 16 oed a gafodd eu rhoi mewn llety dros dro dros 3,000 am y tro cyntaf. Rydym hefyd yn cydnabod mai dim ond 4,500 o anheddau newydd a gychwynnwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae'r ffigur hwnnw wedi gostwng 19 y cant ers y flwyddyn flaenorol, ac mae'n llai na hanner y 12,000 y mae Llywodraeth Cymru yn honni sydd angen eu hadeiladu bob blwyddyn. Gwyddom hefyd fod tua 100,000 o gartrefi Cymru yn wag ar hyn o bryd; mae hynny'n cynnwys degau o filoedd o gartrefi gwag yn hirdymor. Mae'r ystadegau hyn i gyd yn frawychus, ond nid ydynt yn syndod, oherwydd rydym wedi bod yn y Siambr hon, yn ystod y cwta ddwy flynedd a hanner y bûm yn y Senedd hon, yn ailadrodd ystadegau tebyg dro ar ôl tro. Nid yw'n ymddangos ein bod yn gwneud llawer iawn o gynnydd ar geisio mynd i'r afael â'r peth.
Yn anffodus, ni fydd y cynigion a glywais gan Blaid Cymru hyd yma na'r cynnig ysgrifenedig gan y Blaid Lafur yn mynd i'r afael â'r argyfwng ychwaith yn fy marn i. Hyd yn hyn, rydym wedi clywed galwad am rewi rhenti, ac mae Llafur Cymru yn croesawu ymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn sy'n nodi cynigion ar y potensial i sefydlu system o renti teg, ond mae'n ymddangos bod y dystiolaeth yn glir nad yw rhewi rhenti neu gapiau rhent yn gweithio. Rydym wedi gweld beth sydd wedi digwydd yn yr Alban, er enghraifft. Mae polisi Llywodraeth yr Alban yn beio landlordiaid yn anghywir am yr argyfwng costau byw, a honnodd Ffederasiwn Eiddo'r Alban fod Llywodraeth yr Alban, yn eu geiriau nhw, wedi 'pigo' ar landlordiaid mewn perthynas â'r argyfwng costau byw, er bod llu o broblemau eraill yn digwydd yn y DU a ledled y byd.
Yn ystod y mis diwethaf, fe wyddom fod Caeredin wedi datgan argyfwng tai yn ffurfiol, sy'n arwydd clir nad yw polisïau rheoli rhenti Plaid Genedlaethol yr Alban yn gweithio. Yn ôl arolwg gan Gymdeithas Landlordiaid yr Alban, ers cyflwyno rheoli rhenti, mae 17 y cant o landlordiaid wedi gwerthu neu yn ystyried gwerthu eu heiddo rhent. Nawr, efallai y bydd rhai pobl ar draws y meinciau yn y Siambr hon yn croesawu'r ffaith bod landlordiaid yn gwerthu eu heiddo, ond nid yw hynny'n gwneud unrhyw les i'r bobl sydd angen eiddo rhent.
Yn ôl Zoopla, mae'r camau a gyflwynwyd yn ddiweddar i rewi rhenti yn yr Alban wedi arwain at gynnydd sy'n fwy nag unrhyw le arall yn y DU mewn rhenti i'r gogledd o'r ffin ar gyfer tai sy'n cael eu rhentu o'r newydd. Pe bai tueddiadau rhent yng Nghymru yn dilyn yr Alban, mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl yn amcangyfrif y byddai tenantiaid Cymru yn talu 16 y cant yn fwy mewn rhent bob mis o fewn degawd. Felly, mae'n amlwg i mi nad dyna'r ateb cywir ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng yr ydym i gyd yn ei wynebu.
Gofynnodd Plaid Cymru hefyd am fesur i wahardd troi allan y gaeaf hwn, ac mae'n ymddangos bod mwy o dystiolaeth nad yw hynny i'w weld yn gweithio. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfnod hysbysu heb fai o chwe mis ar gyfer tenantiaethau presennol sy'n cynnwys contractau meddiannaeth o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 o 1 Mehefin 2023 ymlaen, a gwyddom fod landlordiaid bellach yn bryderus ynghylch pwy y byddant yn gosod eu heiddo iddynt. Mae 75 y cant o landlordiaid yng Nghymru yn dweud y byddant yn fwy detholus, a bydd hyn yn cael effaith niweidiol, o bosibl, ar y tenantiaid mwyaf agored i niwed, a allai ei chael hi'n anos byth nawr i ddod o hyd i le i fyw.
Canfu astudiaeth gan Assist Inventories o filoedd o landlordiaid fod 45 y cant o landlordiaid yn bwriadu symud i ffwrdd o denantiaethau hirdymor, gyda 41 y cant arall yn dweud y byddent yn ystyried symud i ffwrdd o denantiaethau hirdymor. Nid yw hyn yn dda i'r tenantiaid yr ydym eisiau eu cefnogi, ac rwyf fi a fy nghyd-Aelodau yn y Blaid Geidwadol wedi ymgynghori'n helaeth â'r sector rhentu preifat ac yn gwybod bod llawer yn gadael oherwydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac yn enwedig y gofyniad hysbysu o chwe mis. Y gwir amdani yw bod chwe mis fel arfer yn ymestyn i oddeutu 12 mis, oherwydd bod rhai deiliaid contractau y gofynnir iddynt adael yn cael eu hannog gan elusennau ac awdurdodau lleol i herio hysbysiadau yn y llys, a gall hyn olygu blwyddyn gyfan heb unrhyw rent i'r landlordiaid hynny. Nawr, nid yw bob amser yn hawdd teimlo trueni dros landlordiaid oherwydd y ffordd y cânt eu portreadu fel dihirod yn llawer rhy aml, sy'n anghywir yn fy marn i. Mae'r mwyafrif llethol o landlordiaid yn bobl dda sy'n ceisio cefnogi eu tenantiaid yn y ffordd orau bosibl, ac mae colli gwerth 12 mis o rent nid yn unig yn ddrwg i'r landlord, mae'n waeth byth i'r tenantiaid y maent yn ceisio'u cefnogi.
Felly, gwyddom nad yw'r polisïau sy'n cael eu hargymell yma heddiw yn gweithio. Ni ddylem bortreadu landlordiaid preifat fel dihirod; dylem fod yn gweithio'n adeiladol gyda'r sector i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cefnogi'n briodol. Rydym yn gwybod bod Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl eisiau cydweithredu; rydym yn gwybod bod y sector eisiau cydweithredu.
Felly, yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd—
Mae eich amser wedi dirwyn i ben.
Yn fyr iawn, rwyf am amlinellu rhai o'r pethau y dylem eu gwneud. Dylem ddyrannu tir sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus ar gyfer datblygu tai, dylem symleiddio'r broses ar gyfer ceisiadau tai fforddiadwy, a dylem fod yn mynd i'r afael yn gyflym—gwn fod rhywfaint o waith ar hyn, ond—mynd i'r afael yn gyflym â'r rheoliadau ffosffad sy'n achosi'r fath drafferth.
Felly, mae digon o bethau y gallwn fwrw ymlaen â nhw i sicrhau bod mwy o dai'n dod ar gael, ac y bydd cydweithrediad cadarnhaol gyda'r sector—
Sam, mae angen i chi ddirwyn i ben nawr.
—yn sicrhau ein bod yn gweld Rhentu Doeth Cymru yn cael ei ddiwygio, fod Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn cael ei hadolygu a chael gwared ar fygythiad capiau rhent. Nid yw'r dull presennol yn gweithio ac mae angen inni weithio gyda'r sector, nid yn ei erbyn. Diolch am eich amynedd.
Wel, rydym ni wedi clywed llais y landlordiaid yn y Siambr, felly beth am i ni glywed llais y bobl sydd wir yn dioddef y gaeaf hwn, achos mae'r galwadau yn ein cynnig heddiw yn un rhan o'r gweithrediad sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy’n wynebu gaeaf caled, ac nid y landlordiaid sy’n wynebu’r gaeaf caled hwnnw. Mae’n aeaf sydd hyd yn oed yn fwy caled na’r llynedd, gan fod llawer o’r cymorth a oedd ar gael gan y Llywodraeth wedi diflannu, unrhyw gynilion wedi eu defnyddio eisoes, a dros y ddwy flynedd diwethaf mae cost ynni wedi codi 49 y cant, prisiau bwyd wedi codi 28 y cant, a rhent wedi cynyddu yn fwy cyflym yng Nghymru nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Gyfunol. Yn eu webinar diweddar nhw ar gostau tai, dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan fod eu hymchwil yn dangos bod cost uchel rhent yn gwthio pobl i mewn i dlodi. Mae’n ffaith: 19 y cant o bobl Cymru sy’n byw mewn tlodi, heb gymryd i ystyriaeth costau tai; os ŷch chi’n cynnwys costau tai wrth fesur lefelau tlodi yng Nghymru, mae’n cynyddu i 21 y cant. Mae hwnna'n rhyw 50,000 o bobl.
Yn ychwanegol, pan fo pobl yn wynebu’r fath argyfwng a chaledi, mae’n hanfodol gweithredu mesurau fyddai’n lleddfu’r pwysau. Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys y gaeaf hwn. Bydd peidio â gwneud hynny yn arwain at ddyfnhau’r niwed sy’n cael ei achosi gan dlodi, niwed sydd ddim jest yn rhywbeth sy’n mynd i ddigwydd dros y gaeaf hwn, ond yn mynd i ddilyn ac effeithio ar bobl drwy eu bywydau, â holl oblygiadau hynny i’w lles nhw ac i les cymdeithas. Yn sgil y cyswllt amlwg felly rhwng yr argyfwng tai a’r argyfwng costau byw, fyddai torri’r cyswllt hwnnw drwy rewi rhenti yn gam synhwyrol ac effeithiol, a rhaid cofio bod yr argyfwng ddwbl yma yn effeithio hefyd ar rai grwpiau o bobl yn benodol. Mae’r rhai sy’n rhentu tai, yn ôl Sefydliad Bevan, yn fwy tebygol o fod yn dioddef caledi ariannol, gyda bron hanner ohonyn nhw yn benthyca arian gan o leiaf un ffynhonnell yn barod ac yn mynd heb neu’n torri lawr ar fwyd er mwyn ceisio fforddio’r rhent—yr hanfodion, maen nhw'n torri lawr ar yr hanfodion. Ac rŷn ni i gyd yn gwybod beth sydd yn y fantol pan fo pobl yn ei chael hi'n anodd i fforddio’u rhent: mae pobl yn colli'r to uwch eu pennau. Gallwn ni ddim caniatáu hyn ym misoedd oer y gaeaf.
Mae cost peidio â gweithredu ym maes tai drwy rewi rhenti ac i atal troi mas yn un uchel—ie, mewn termau dynol, wrth gwrs, ac, ie, hefyd o ran y gost i’r pwrs cyhoeddus o ran gofal iechyd a lles, er enghraifft. Yn eu hadroddiad diweddar ar effaith yr argyfwng costau byw, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 94 y cant o'r 2,000 o bobl y gwnaethon nhw eu holi yn dweud bod eu costau byw nhw wedi cynyddu. Doedd 23 y cant ddim yn credu y bydden nhw'n gallu ymdopi â hynny, a 44 y cant yn dweud bod costau byw cynyddol yn cael effaith uniongyrchol negyddol ar eu hiechyd meddwl, ac 19 y cant yn dweud ei fod yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol. Ac, wrth gwrs, mae'n creu yr effeithiau hirdymor yna hefyd.
Mae Rebecca Hill, cyfarwyddwr rhaglen polisi iechyd cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi dweud bod yr argyfwng costau byw yn cynyddu anghydraddoldebau ac felly yn peryglu iechyd pobl ar bob cam o'u bywyd. Ac mae sawl adroddiad yn dangos mai aelwydydd â phlant sydd ymhlith y rhai sy'n wynebu'r pwysau mwyaf. Roedd 32 y cant o'r rhai a ymatebodd i arolwg blynyddol Plant yng Nghymru yn teimlo bod tai yn un o'r pum mater oedd yn cael yr effaith fwyaf arnynt—32 y cant eleni, o'i gymharu â dim ond 2 y cant yn 2022. Rŷn ni'n gweld y cynnydd yna o ran sut mae hwn yn poeni pobl yn adlewyrchu'r argyfwng costau byw a'r argyfwng tai ddwbl yna. Mae'r adroddiad yn dyfynnu un person ifanc sy'n sôn am yr ofn parhaus o gael eu cicio mas gan landlordiaid. Ofn parhaus.
Yn ôl ffigyrau Sefydliad Bevan, mae 14 y cant o boblogaeth Cymru—14 y cant o boblogaeth Cymru—yn poeni am golli eu cartrefi. Mae'r cynnydd mewn costau rhent yn effeithio'n anghymesur ar bobl ar incwm is, pobl anabl, a phobl sydd â phlant ar yr aelwyd. Mae rhewi rhenti yn fodd o atal rhaniadau economaidd-gymdeithasol, felly, o fewn ein cymunedau rhag dyfnhau.
I ormod o bobl yng Nghymru, pris cadw to uwch eu pennau yw caledi ariannol. Mae ein galwadau i atal troi mas a rhewi rhentu yn un rhan o'r modd y gallwn ni helpu eu harbed rhag hynny, eu harbed rhag tywyllwch a phryder misoedd y gaeaf, drwy weithredu polisi a fydd yn arbed yr oerni rhag eu brathu, yn eu harbed rhag effaith drychinebus rhent anfforddiadwy a rhag hunllef digartrefedd, yn arbed costau afiechyd a digartrefedd i'r Llywodraeth, ac, yn bwysicach, yn arbed urddas a lles rhai degau o filoedd o'n dinasyddion. Rwy'n eich annog, er eu mwyn, i gefnogi ein cynnig.
Yr unig newyddion da y sylwais arno hyd yn hyn yn natganiad yr hydref yw bod y lwfans tai lleol, sydd wedi’i rewi ers 2020, bellach yn mynd i gael ei adfer i 30 y cant o renti tai’r sector preifat lleol, sef y cyfartaledd. Oherwydd mae rhewi’r lwfans tai lleol mewn cyfnod o chwyddiant aruthrol wedi arwain at ganlyniadau dinistriol i unrhyw weithwyr ar gyflogau isel nad ydynt yn ddigon ffodus i fod yn byw mewn tai rhent cymdeithasol.
Dylem fod yn ddiolchgar i Sefydliad Bevan, a wnaeth rywfaint o siopa cudd gyda hysbysebion rhentu a gyhoeddwyd dros bythefnos ym mis Chwefror. Canfuwyd mai dim ond 32 eiddo a hysbysebwyd ledled Cymru oedd ar gael ar y gyfradd dai leol. Mae hynny'n dweud wrthych pa mor anfforddiadwy yw unrhyw beth yn y sector preifat bellach. Felly, dim ond 1.2 y cant o'r farchnad oedd hynny, swm cwbl druenus, ac nid oedd gan 16 o awdurdodau lleol unrhyw eiddo o gwbl ar gael ar y gyfradd dai leol.
Un o'r lleoedd gwaethaf ar gyfer y broblem hon yw Caerdydd, am resymau nad oes angen i ni eu dadansoddi. Yn rhannol oherwydd pwysau pobl yn dod i mewn i Gaerdydd ac economi sy’n ffynnu, mae’r prinder tai fforddiadwy yn enfawr—yn hollol enfawr. Felly, os edrychwn ar y bwlch sy'n bodoli yng Nghaerdydd, roedd 14 eiddo un ystafell wely ar gael y gallai rhywun ar y lwfans tai lleol fod wedi’u fforddio. Ac mae'r broblem yn gwaethygu os ewch o eiddo dwy ystafell wely i eiddo tair ystafell wely i eiddo pedair ystafell wely. Roedd y teuluoedd mwyaf yn gorfod dod o hyd i £252 o weddill eu hincwm, o gredyd cynhwysol neu fudd-daliadau eraill y gallent fod yn eu derbyn. Ac yn amlwg, roedd hynny'n golygu cynnydd enfawr yn y galw am fanciau bwyd, gan fod yn rhaid gwario'r arian y maent i fod i'w wario ar fwydo eu teuluoedd a'u cadw'n gynnes ar gadw to uwch eu pennau. Meddyliwch am y peth. Ac yn amlwg, canlyniadau methu cynnal y cydbwysedd hwn yw bod niferoedd mawr o bobl yn mynd i ôl-ddyledion rhent, ac yn cael eu taflu allan o'u cartrefi yn y pen draw heb unrhyw ddewisiadau eraill. Ac mae hyn wedyn yn gyfrifoldeb ar yr awdurdodau lleol gan fod yn rhaid iddynt gartrefu pobl mewn teuluoedd a phobl eraill sy'n agored i niwed, ond nid yw hyn yn cael ei ariannu o gwbl, ac mae canlyniadau hynny'n ddifrifol iawn i bob awdurdod lleol.
Soniodd Sam Rowlands am y rhwystrau sy'n wynebu unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i eiddo i'w rentu; hynny yw, y 75 y cant hyn o landlordiaid sy'n mynd i fod yn fwy detholus ynglŷn â phwy maent yn gosod eu heiddo iddynt, felly maent am i bobl gael gwarantwyr, maent am gael gwiriadau credyd, gwiriadau isafswm incwm, a gofynion i rentwyr fod yn weithwyr proffesiynol. Ac yng Nghaerdydd o leiaf, mae blaendaliadau sy’n cyfateb i fwy nag un mis o rent ar gael drwy wasanaeth tai Caerdydd i sicrhau bod pobl yn cael eu cartrefu’n iawn, ond dychmygwch pa mor frawychus y byddai pe bai gennych blentyn a'ch bod yn wynebu cael eich troi allan o’ch tŷ sector preifat ac yn cael eich gorfodi i fynd i lety i'r digartref, a phopeth a ddaw gyda hynny. Mae hyn yn gwbl ddinistriol.
Yn amlwg, mae cartrefi gwag yn un o'r pethau yr ydym yn ceisio gwneud ein gorau i wneud rhywbeth yn eu cylch. Mae yna swm enfawr o arian ar gael i alluogi pobl i ganiatáu i Lywodraeth Cymru ddod â’r eiddo yn ôl i ddefnydd, sicrhau ei fod o safon weddus a’i roi ar les i bobl ar y rhestr aros am dai am o leiaf saith mlynedd. Felly, mae'r arian hwnnw ar gael i unrhyw un sydd ag eiddo gwag nad ydynt yn gwybod beth i'w wneud ag ef, neu nad ydynt yn dymuno bwrw ymlaen â'i osod ar rent os nad ydynt yn dymuno gwerthu. Ni chredaf ei bod yn broblem os yw 17 y cant o landlordiaid yn yr Alban wedi gwerthu oherwydd ei fod wedi ei brynu gan landlord preifat arall neu gan deulu sydd angen cartref. Y naill ffordd neu'r llall, mae hynny'n beth da cyhyd â bod yr eiddo heb ei adael yn wag at ddibenion hap-berchnogaeth. Yr hyn nad ydym am ei weld yw pobl yn symud—.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i dderbyn ymyriad.
Diolch. Rydych newydd wneud y pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud, sef nad yw llawer o bobl ar y meinciau hyn yn gweld problem gydag 17 y cant o landlordiaid yn ceisio gwerthu eu heiddo oherwydd nad ydych o bosibl yn gwerthfawrogi'r rôl sydd gan landlordiaid i'w chwarae yn cefnogi tenantiaid.
Buaswn yn cytuno â chi fod rhai landlordiaid, llawer o landlordiaid, yn landlordiaid da sy'n dymuno gwneud eu gorau dros eu tenantiaid, ond mae dweud bod hynny'n wir am y mwyafrif llethol ohonynt, mae arnaf ofn nad dyna fy mhrofiad i yn fy etholaeth i. Mae gennyf nifer o broblemau gyda phobl yn cael eu trin yn warthus, a landlordiaid sy'n osgoi cosbau am beidio â chydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru.
Felly, mae’n debyg mai fy mhwynt olaf yw: hoffwn wybod pa ddiwygiadau yr hoffech eu gwneud i Rhentu Doeth Cymru, gan fy mod innau'n awyddus i roi mwy o bwerau iddynt, fel y gallant ymyrryd a rhoi clo ar yr eiddo nad ydynt yn ddiogel ac nad ydynt yn cydymffurfio, ac rwy’n ofni mai’r hyn y mae Sam Rowlands a meinciau’r Ceidwadwyr am ei weld yw rhywbeth sy'n rhoi hyd yn oed mwy o bobl mewn perygl. Felly, mae hon yn broblem wirioneddol ddifrifol, ac rwy'n falch iawn ein bod yn mynd i gael ymchwiliad i sut rydym yn mynd i reoli rhenti teg.
Mae fy nghyfraniad heddiw yn mynd i ganolbwyntio ar fyfyrwyr. Fel y gwelwch yn y cynnig, mae ymrwymiad penodol yno ac mae’n bwysig inni dynnu sylw ato, oherwydd yn aml, maent yn mynd ar goll yn y ddeialog hon. A gellid maddau i chi, wrth gerdded o amgylch Caerdydd a gweld bloc llety myfyrwyr moethus gyda'r holl gyfleusterau crand, am feddwl bod myfyrwyr yn byw mewn moethusrwydd yma yng Nghaerdydd, ond mae'r realiti'n wahanol iawn. Fe'i hystyrir yn rhywbeth cyffredin neu'n ddefod newid byd fod yn rhaid ichi ddioddef llety is-safonol sy'n aml yn llaith, a hefyd, mae fermin, llygod mawr, yn gwbl gyffredin.
Mae'n rhaid inni gofio, i'r bobl ifanc hyn sy'n aml yn y math hwn o lety, yn enwedig pan fyddwch yn sôn am lawer o bobl o bosibl wedi'u gwasgu i mewn i un tŷ, efallai mai dyma'r tro cyntaf iddynt fyw'n annibynnol; gall fod mai dyma yw eu cyfnod cyntaf oddi cartref; ac weithiau, i fyfyrwyr rhyngwladol, gall fod mai dyma yw eu cyfnod cyntaf mewn gwlad newydd, gydag iaith newydd, a gall hynny wneud iddynt deimlo'n ynysig iawn, ac rydych ynghlwm wrth y contractau hyn neu'n eu llofnodi heb wybod beth yw eich hawliau. Gwn fod Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi gwneud llawer o waith ar godi ymwybyddiaeth, ond yn anffodus, nid oes llawer o bethau wedi newid mewn perthynas â llety myfyrwyr ers fy amser i'n ymgyrchu 20 mlynedd yn ôl—nid wyf yn hoffi cyfaddef hynny—pan fuom yn ymgyrchu dros hawliau myfyrwyr. Mae'n debyg—. Wel, pan edrychwch ar yr ystadegau, ymddengys bod y sefyllfa'n gwaethygu yn hytrach na gwella.
Ac ar wahân i ffioedd dysgu, llety yw un o'r costau mwyaf i fyfyrwyr yn eu cyfnod yn y brifysgol, os ydych yn ystyried bod rhenti wedi cynyddu i hyd at 60 y cant o becyn cynhaliaeth cyfartalog y DU, ac mae hefyd yn bwysig nodi nad yw llawer o fyfyrwyr yn derbyn hyd yn oed y lefel hon o gyllid. Er enghraifft, mae myfyrwyr graddau Meistr a Doethuriaeth ar draws y DU yn aml yn cael llawer llai o gymorth cynhaliaeth i dalu eu costau byw, ac yn aml, nid yw myfyrwyr addysg bellach neu fyfyrwyr rhyngwladol yn cael unrhyw beth o gwbl. Ac yn ychwanegol at hynny, gyda rhenti, biliau ynni, a chostau tai eraill yn codi'n gyflymach nag erioed, a benthyciadau a grantiau myfyrwyr yn aros yn yr unfan, mae myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd, gyda bron i chwarter myfyrwyr Cymru yn dweud nad oeddent wedi gallu dod o hyd i lety addas, fforddiadwy ym mlwyddyn academaidd 2022-23.
Rydym yn aml wedi dyfynnu ffigurau o'r astudiaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a Shelter Cymru, o ddwy flynedd yn ôl bellach, a ddangosai fod myfyrwyr yn adrodd am leithder neu lwydni ac am broblemau gyda llygod mawr a fermin. Roedd eu rhybuddion yno ar y BBC, ITV, popeth, ond nid yw'n ymddangos bod dim o hyn wedi newid, oherwydd os edrychwch ar ffigurau diweddaraf Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr o 2023, nid oedd 32 y cant o fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru yn gallu talu eu rhent; nid oedd 36 y cant o fyfyrwyr yn gallu talu eu biliau; bu 8 y cant o fyfyrwyr Cymru yn ddigartref yn ystod y 12 mis diwethaf; ac roedd 96 y cant o fyfyrwyr yn torri'n ôl ar wariant, gyda bron i draean â £50 y mis yn unig ar ôl i fyw arno ar ôl talu rhenti a biliau. Mae prisiau llety myfyrwyr wedi cynyddu 61 y cant yn y degawd diwethaf.
Mae effaith hyn mor niweidiol i les corfforol a meddyliol y myfyrwyr hynny, yn ogystal â'u cyflawniadau academaidd wrth gwrs. Nododd bron i hanner y myfyrwyr a’r dysgwyr fod eu hiechyd meddwl yn waeth eleni na'r llynedd, gyda chostau byw a phryderon am arian yn brif achosion dros hynny. Mae bron i dri o bob pum myfyriwr yn dweud bod costau byw yn cael effaith gymedrol i fawr ar eu hiechyd meddwl. Mae 32 y cant o fyfyrwyr wedi ystyried gadael eu cwrs, ac mae llawer wedi gwneud hynny, ac o'r 32 y cant, credaf ei bod yn dweud y cyfan eu bod yn fwyaf tebygol o fod yn fyfyrwyr â phrofiad o fod mewn gofal. O ran yr effaith hirdymor y mae hyn wedyn yn ei chael ar y myfyrwyr hynny, mae llawer ohonynt ar gyrsiau lle na allant gael gwaith hefyd, oherwydd eu horiau hir—rwy'n meddwl yn arbennig am rai o'n myfyrwyr nyrsio. Mae taer angen llawer o'r rolau allweddol hyn, ac eto, maent yn y brifysgol ac yn methu dal i fyny â'u hastudiaethau neu gyflawni hyd eithaf eu gallu, am na allant fforddio rhywbeth mor syml â chartref cynnes a diogel sy'n caniatáu iddynt allu astudio.
Ni allwn ganiatáu i'n myfyrwyr gael eu hanwybyddu am aeaf arall. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud mwy na dim ond siarad am y pethau hyn dro ar ôl tro. Nid wyf am fod yn ymladd dros fyfyrwyr ymhen 20 mlynedd arall. Maent yn cael eu hecsbloetio. Mae angen inni sicrhau eu bod yn cael llety sy’n addas i’w helpu fan lleiaf, mewn amgylchedd a ddylai fod yn eu meithrin a’u datblygu ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na'u hesgeuluso ac yn gwneud cam â nhw, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Mae cost rhentu yn y rhan fwyaf o’r sector rhentu preifat yn syfrdanol, heb unrhyw reolaeth ar y codiadau sylweddol mewn rhenti. Mae tai'r sector cyhoeddus yn cael eu hadolygu'n flynyddol a'u rheoli'n sensitif. Clywsom yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai sut mae tŷ tair ystafell wely yn Abertawe’n costio £1,000 i’w rentu, ond nid yw'r lwfans tai lleol ond yn ddigon i dalu £500 o hynny, ac ni wn o ble y disgwylir i bobl ddod o hyd i’r arian pan fydd yr holl filiau wedi mynd drwy'r to yn yr argyfwng costau byw. Ac mae'r dreth ystafell wely yn dal i fod yn fater ychwanegol.
Ar droi allan heb fai, mae Cymru’n amddiffyn tenantiaid yn well nag yn Lloegr, lle cyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Hydref fod gwaharddiad ar droi allan heb fai wedi’i ohirio am gyfnod amhenodol tan ar ôl i’r system llysoedd gael ei diwygio, a fydd yn cymryd blynyddoedd. Yng Nghymru, mae'n rhaid rhoi hysbysiad o chwe mis bellach, ac ni ellir rhoi un tan chwe mis ar ôl ichi symud i mewn. Mae hyn hefyd yn cynnig amddiffyniad i bobl sy'n byw mewn tai amlfeddiannaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd ar renti teg a rheoli rhenti yn unol â’r cytundeb cydweithio, a bydd tystiolaeth o’r ymarfer hwnnw’n cefnogi datblygiad Papur Gwyn y flwyddyn nesaf, a fydd, fel rhan o’r rhaglen lywodraethu, yn cyflwyno cynigion ar y potensial i sefydlu system o renti teg a ffyrdd o wneud cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel.
Hoffwn godi mater ynghylch tai amlfeddiannaeth: a yw’r rheoliadau cynllunio’n ddigon cryf fel bod gan denantiaid ddigon o le i fyw a digon o fannau amwynder y tu allan? Clywais am eiddo a droswyd yn llety ar gyfer 14 o denantiaid lle nad oedd fawr ddim mannau cyffredin, a dim gardd, a chredaf fod angen edrych ar hynny wrth symud ymlaen.
Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yn gwybod ei bod yn gwneud synnwyr masnachol i gadw cartrefi mewn cyflwr gweddol dda, er y bydd llawer yn ceisio cadw costau mor isel â phosibl ac yn torri corneli. Fodd bynnag, mae'n wahanol i fyfyrwyr ledled y DU. Nid yw'n ymddangos bod landlordiaid yn dangos yr un gofal am fod y tenantiaid yn newid bob blwyddyn, ac mae myfyrwyr yn fodlon derbyn llety salach oherwydd diffyg argaeledd ac anobaith. Mae prifysgolion yn derbyn gormod o fyfyrwyr ar gyrsiau heb sicrhau bod digon o lety ar eu cyfer. Cynigiwyd llety myfyrwyr am £850 y mis i berthynas i mi. Mae ffioedd cyrsiau'n codi i £17,000 y flwyddyn o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, mae'r cwrs hwnnw'n costio £34,000 y flwyddyn. Pan fo grantiau'n £14,000 neu'n £19,000 y flwyddyn, rydych £10,000 yn brin fel myfyriwr. Mae myfyrwyr bellach yn gadael cyrsiau. Rwyf hefyd wedi clywed straeon am fyfyrwyr yn wynebu toeau sy'n gollwng, lleithder, gwenwyn carbon monocsid a charthion agored. Ac fe geisiodd y myfyriwr a gafodd gynnig lety myfyrwyr am £850 ddod o hyd i rywle preifat i'w rentu, ond roedd yn anfforddiadwy.
Mae llawer o landlordiaid y sector preifat hefyd yn troi at gynnig llety Airbnb gan y gallant gael mwy o arian ac nid ydynt yn cael eu rheoleiddio. Felly, mae angen i hynny ddigwydd cyn gynted â phosibl, y rheoleiddio. Credaf hefyd fod prinder eiddo sy’n croesawu anifeiliaid anwes yn y sector rhentu, a llety dros dro sy’n croesawu anifeiliaid anwes, yn gwaethygu’r argyfwng tai yng Nghymru, ac mae canolfannau achub anifeiliaid anwes yn llawn. Mae prosiectau gan y Dogs Trust wedi dangos mai un rhwystr allweddol i allu cael mynediad at lety dros dro a dod o hyd i dai symud ymlaen addas yw prinder opsiynau sy’n croesawu anifeiliaid anwes. Mae'r rhwystr yn cynyddu'r nifer presennol o bobl sy'n byw mewn llety dros dro.
Mae prosiect Rhyddid yn wasanaeth pwysig arall y mae’r Dogs Trust yn ei ddarparu, gan gefnogi pobl sy’n ffoi rhag cam-drin domestig. Mae cysylltiad cryf rhwng cam-drin anifeiliaid anwes a cham-drin pobl yng nghyd-destun cam-drin domestig, gyda chyflawnwyr yn aml yn defnyddio'r berthynas glós rhwng anifeiliaid anwes a'r dioddefwr drwy fygwth niweidio'r anifail neu ei gam-drin yn gorfforol er mwyn dychryn a rheoli eu partner. Fel arfer, nid yw teuluoedd ac unigolion sy'n ffoi rhag cam-drin domestig yn gallu mynd â'u hanifeiliaid anwes gyda nhw i loches, felly mewn llawer o achosion, maent yn amharod i adael eu cartref tan eu bod yn gwybod bod rhywle diogel ar gyfer eu hanifeiliaid anwes. Gall cŵn gael effaith enfawr ar ansawdd bywyd unigolyn, a darparu cwmnïaeth, ymdeimlad o bwrpas a chariad, a rheswm i fyw mewn rhai achosion. Hoffwn weld mwy o amddiffyniad i denantiaid sy’n berchen ar anifeiliaid anwes yng Nghymru.
Yn olaf, mewn perthynas â gwelliant y Ceidwadwyr i adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn, mae arnom angen buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi hyn. Yn dilyn dros ddegawd o gyni, mae angen inni gynyddu adnoddau ym maes cynllunio, draenio, priffyrdd, cyllid trafnidiaeth gyhoeddus, darpariaeth cyfleusterau iechyd ac addysg. Ceir canfyddiad fod y dreth gyngor yn talu am hyn oll, ond dim ond 30 y cant o wasanaethau'r cyngor y mae'n talu amdanynt, heb sôn am weddill y gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen. Mae angen mwy o dai cymdeithasol fforddiadwy arnom, ac mae angen mwy o gartrefi fforddiadwy—dyna rydym yn sôn amdano: cartrefi—gydag amwynderau cyhoeddus o'u cwmpas. Diolch.
Mae fy rhanbarth etholaethol yn cwmpasu chwe sir wahanol, gyda phoblogaeth gyfunol o bron i 650,000 o bobl. O fewn yr ardal hon, ni ddaeth Sefydliad Bevan o hyd i unrhyw eiddo rhent ym mis Chwefror 2023 y byddai'r lwfans tai lleol yn ddigon i dalu'r rhent yn llawn. Mae’n gondemniad cwbl ddamniol o raddfa ein hargyfwng tai nad oes tai fforddiadwy ar rent yn bodoli o gwbl i rai pobl yng nghymunedau mwyaf difreintiedig ein gwlad.
Yn ogystal, mae’r wasgfa ar denantiaid presennol yn ddi-baid. Dangosodd arolwg diweddar gan elusen tai Shelter fod oddeutu saith o bob 10 landlord heb forgeisi wedi cynyddu rhenti ar gytundebau rhentu newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er nad yw codiadau mewn cyfraddau llog wedi effeithio arnynt. Mae Zoopla hefyd wedi amcangyfrif bod fforddiadwyedd rhent yn y DU ar ei waethaf ers degawd, a bod y cynnydd mewn rhenti wedi bod yn fwy na chynnydd cyflogau. I ni fel gwleidyddion, mae hyn yn tanlinellu'r ffaith bod aros ar y trywydd presennol o ran y polisi tai yn gwbl annerbyniol. Mae arnom angen dewisiadau radical a gwahanol i’r status quo cyn i fwy byth o bobl gael eu gwthio allan o’r sector tai yn gyfan gwbl.
Dylid crybwyll enghraifft y cap ar renti yn yr Alban, a hoffwn fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd ers cyflwyno’r polisi hwnnw yn 2022. Fel y dywedodd llefarydd tai Plaid Werdd yr Alban yn ddiweddar, mae’r polisi wedi bod yn allweddol i roi sefydlogrwydd a diogelwch i bobl yn ystod yr argyfwng costau byw, gan arbed cannoedd o bunnoedd i unigolion. Yn ychwanegol at hynny, pwysleisiodd, yn gywir ddigon, y ffaith bod gweithredu rheolaethau o’r math hwn yn sicrhau bod yr Alban yn cyd-fynd â normau Ewropeaidd, lle mae polisïau cadarn i reoleiddio’r sector rhentu preifat wedi bod ar waith ers peth amser, gan arwain at lawer llai o anwadalrwydd o gymharu â’r hyn a welwn ar draws y DU. Yn hyn o beth, mae’r SNP yn iawn i ystyried y polisi fel carreg gamu, gan eu bod yn bwriadu cyflwyno Bil tai newydd y flwyddyn nesaf, i reoli rhenti yn hirdymor a chryfhau hawliau tenantiaid. Nid yw hyn i ddweud bod y polisi wedi bod yn berffaith. Mae'r undeb tenantiaid ar gyfer yr Alban gyfan, Living Rent, wedi tynnu sylw at fylchau yn y system sy'n aml yn rhoi darpar denantiaid dan anfantais.
Pe baem yn cyflwyno cynllun yma yng Nghymru felly, byddai angen inni sicrhau bod tenantiaid presennol a darpar denantiaid yn elwa i'r un graddau. Ni chredaf fod unrhyw un yn cymryd arnynt fod y polisi rhewi rhenti yn ateb i bob dim, ac yn ei hanfod, mae’n fesur tymor byr i broblem sy’n galw am ateb mwy cynhwysfawr y mae’n rhaid iddo gynnwys, fel y mae Mabon eisoes wedi’i awgrymu, cynnydd sylweddol yn y stoc dai. Ond o leiaf, gall roi sicrwydd mawr ei angen i bobl ar adeg o’r flwyddyn a all fod yn gyfnod ansicr iawn yn aml.
Mae tai diogel a fforddiadwy yn un o anghenion sylfaenol bywyd. Fel y saif pethau, mae’n foethusrwydd sydd allan o gyrraedd i lawer gormod o bobl yn ein cymdeithas. Ond yma yng Nghymru, gallwn osod esiampl well. Gallwn ddangos bod gennym y blaenoriaethau cywir a bod ein dosbarth gwleidyddol o ddifrif yn buddsoddi i gefnogi’r bobl sydd â’r angen mwyaf, yn hytrach na rhoi hwb i'r rheini sydd eisoes yn gefnog. Am y rheswm hwn, rwy'n annog Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl ac am y cyfle i drafod y pwnc pwysig hwn yr ydym eisoes yn gweithio’n agos iawn arno gyda Phlaid Cymru fel rhan o’r cytundeb cydweithio.
Rydym mewn argyfwng costau byw wrth gwrs, a chaiff ei deimlo yn y sector rhentu preifat yn gryfach nag unman. Mae tenantiaid wedi wynebu cynnydd digynsail mewn rhenti y gwyddom ei fod, ynghyd â chynnydd yn holl filiau eraill y cartref, yn achosi trafferthion ariannol i lawer. Fodd bynnag, nid wyf yn cefnogi rhewi rhenti dros nos, ac rwyf wedi dweud hyn yn glir iawn ar nifer fawr o achlysuron. Mae gennym raglen waith glir eisoes i fynd i'r afael â'r mater. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gynhyrchu Papur Gwyn ar gynigion ynghylch hawl i dai digonol, gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd i bobl ar incwm isel. Yn ddiweddar, buom yn ymgynghori ar Bapur Gwyrdd a oedd yn holi, ymhlith pethau eraill, am yr effeithiau y byddai rheoli rhenti'n eu cael ar y farchnad rentu yng Nghymru. Mae’r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i reoli rhenti yn y ffordd fwyaf eithafol drwy rewi'r holl renti yn llwyr. Byddai’n gwbl anghyfrifol rhewi rhenti heb ddealltwriaeth glir o’r effaith y gallai hyn ei chael ar y sector.
Byddai rhewi rhenti'n cymylu’r gwaith pwysig a wnawn ar hyn o bryd, fel rhan o’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, i geisio mapio’r sector rhentu yng Nghymru, wrth inni sefydlu pa effeithiau y byddai gwahanol fodelau rheoli rhenti'n eu cael ar y sector. Rwyf wedi dweud yn glir iawn na fyddaf yn cyflwyno cynigion yn y Papur Gwyn sydd ar y ffordd heb sylfaen dystiolaeth gadarn, a byddai camu’n ôl ar hyn yn codi amheuon ynghylch dilysrwydd y gwaith a wnaed eisoes. A fyddai landlordiaid ac asiantaethau'n fodlon cymryd rhan a rhannu tystiolaeth am eu busnesau pe baent yn credu nad yw’r Llywodraeth hon yn fodlon gwrando, ac y bydd yn symud ymlaen i wahardd pob cynnydd mewn rhent, heb unrhyw dystiolaeth neu ddealltwriaeth lawn o'r canlyniadau? Dylem ddysgu o'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg. Edrychodd gwaith Sefydliad Bevan ar eiddo sy’n cael ei hysbysebu fel eiddo sydd ar gael i’w rentu, ond nid o reidrwydd yr eiddo sydd wedi’i osod, ac sy’n parhau i gael ei osod ar gyfraddau'r lwfans tai lleol. Felly, mae angen inni fod yn ofalus, gan nad yw hyn yn gwbl gynrychioliadol o farchnad y sector rhentu preifat.
Yn yr Alban, lle cafodd rhenti eu rhewi'n llwyr, wedi'i ddilyn gan gap o 3 y cant yn y rhan fwyaf o achosion ers mis Ebrill 2023, nid yw hyn wedi arwain at ostyngiad cyfatebol mewn prisiau rhenti yn yr Alban, gydag adroddiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod rhenti yn yr Alban wedi cynyddu 6.2 y cant yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2023, sy’n uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y DU dros yr un cyfnod. Mae hyn er gwaethaf y ffaith eu bod wedi rhewi rhenti a chyflwyno cap ar renti yn y cyfnod hwnnw. Nid yw'n ateb i bob dim fel y mae rhai'n hoff o feddwl ei fod. Gallai gosod mesur rheoli rhenti dros dro heb dystiolaeth gadarn ledled Cymru arwain at ganlyniadau anfwriadol sylweddol, gan gynnwys mwy o landlordiaid yn gadael y farchnad a chynyddu’r risg o ddigartrefedd. Ni fyddai ychwaith yn atal eiddo rhent newydd rhag cael ei farchnata am brisiau uwch, dim ond atal landlordiaid rhag cynyddu rhenti ar gyfer eiddo y mae tenantiaid yn byw ynddo'n barod, rhenti nad ydynt wedi cynyddu'n sylweddol hyd yma.
Nid wyf ychwaith yn fodlon cefnogi galwad am rewi achosion o droi allan y gaeaf hwn. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau'n cofio bod Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi cyflwyno isafswm o chwe mis ar gyfnodau rhybudd ar gyfer troi allan heb fai, sy’n golygu na allai unrhyw un sy'n cael hysbysiad troi allan heddiw gael eu troi allan tan yn hwyr ym mis Mai ar y cynharaf, sydd ymhell ar ôl cyfnod y gaeaf.
Gan droi at lety myfyrwyr, caiff hyn ei ddiogelu gan reoliadau ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi yng Nghymru, a gall myfyrwyr anfon cwynion at yr awdurdod lleol. Er gwybodaeth, mae trwyddedu'n orfodol ar gyfer pob tŷ amlfeddiannaeth sydd â thri llawr neu fwy ac sy'n cael ei feddiannu gan bump neu fwy o bobl sy'n ffurfio dwy aelwyd neu fwy. Os oes angen trwydded statudol ar dŷ amlfeddiannaeth, mae angen bodloni safonau gofodol er mwyn cael y drwydded honno. Felly, mae gennym nifer o fesurau ar waith i amddiffyn pobl mewn gwahanol fathau o lety ledled Cymru.
Credaf fod rhewi rhenti'n fesur aneffeithiol i gefnogi unrhyw un yn ystod y gaeaf, ond gall hefyd arwain at broblemau mwy hirdymor. Gallai gorfodi ôl-ddyledion rhent i gronni yn ystod moratoriwm arwain at sail orfodol ar gyfer meddiannu, a niweidio gallu aelwyd i ddod o hyd i gartref newydd pan gaiff y moratoriwm hwnnw ei godi. Felly, hoffwn ddweud yn glir iawn wrth yr Aelodau nad wyf yn credu mai'r rhain yw'r atebion ar gyfer mynd i'r afael â fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat. Yr ysgogiad mwyaf effeithiol a allai helpu i leddfu a mynd i’r afael â fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yw codi’r lwfans tai lleol. Y cyfraddau hyn sy’n pennu faint o fudd-dal tai y mae rhywun yn ei gael, ac mae’r ffaith eu bod wedi’u rhewi ers bron i bedair blynedd tra bo rhenti wedi cynyddu’n golygu bod y bwlch rhwng incwm a rhent yn anfforddiadwy i lawer gormod o bobl.
Rwy'n falch iawn heddiw—
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Buaswn yn dychmygu ei fod yn ymwneud â'r ffaith bod y Canghellor wedi gwneud yr hyn yr wyf newydd ei ofyn, felly a gaf fi orffen y frawddeg hon ac yna fe adawaf i—? Ni allaf weld pwy, mae'n ddrwg gennyf.
Mae'n dod gan Heledd Fychan.
Gadewch imi orffen y paragraff hwn ac yna fe dderbyniaf ei hymyriad.
Rwy'n falch iawn heddiw fod y Canghellor, o'r diwedd, wedi gwrando ar ein galwadau ni a'r sector tai ehangach i godi cyfradd y lwfans tai lleol, er mai dim ond i'r degfed ganradd ar hugain y gwnaeth hynny ar gyfer 2023. Ond am y pedair blynedd diwethaf, mae tenantiaid incwm isel wedi gorfod ymdrin â’r bwlch cynyddol rhwng budd-daliadau a rhenti, ac mae’n anffodus fod ei gyhoeddiad yn sicrhau na fydd yr arian cynyddol hwn ym mhocedi tenantiaid incwm isel tan fis Ebrill nesaf, sy’n cynnig fawr iawn o gysur dros y gaeaf.
Hoffwn sôn am y pwynt ynglŷn â myfyrwyr. Rydych yn dweud bod y rheoliadau ar waith i’w hamddiffyn. Pam, felly, fod cymaint o broblemau'n parhau a llety mor is-safonol, a myfyrwyr yn byw gyda lleithder a chartrefi nad ydynt yn addas i'r diben, os yw'r holl reoliadau ar waith? Beth sydd ddim yn gweithio neu'n atal hynny rhag digwydd?
Heledd, rwy'n credu mae'n debyg mai'r rheswm yw nad yw myfyrwyr yno'n hir iawn ac nid ydynt yn cwyno wrth yr awdurdodau lleol. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau myfyrwyr o bob rhan o Gymru ar sawl achlysur i drafod sut y gallwch sicrhau bod gan sefydliadau wybodaeth am hawliau. Rwy’n fwy na pharod i gyfarfod yn rheolaidd iawn bob blwyddyn, oherwydd yn amlwg, mae carfan newydd o fyfyrwyr yn cychwyn. Ceir llawer o fyfyrwyr nad ydynt yn dod o Gymru wrth gwrs—maent yn dod o Loegr, lle nad oes amddiffyniadau tebyg ar waith. Felly, mae'n bwysig ceisio cyfleu'r wybodaeth iddynt. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynglŷn â sut y gallwn wneud hynny'n fwy effeithiol, rwy'n fwy na pharod i weithio gyda chi i wneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, gadewch imi droi at rai enghreifftiau o sut mae cyfraddau presennol y lwfans tai lleol yn effeithio ar denantiaid, gan edrych ar brisiau rhenti o fis Chwefror. Felly, os cymerwch y cyfraddau lwfans tai lleol ar gyfer eiddo un ystafell wely yn Nhorfaen a chymharu hynny â’r eiddo un ystafell wely rhataf sydd ar gael yn yr ardal, byddech yn gweld bwlch o bron i £4,500 rhwng rhent unigolyn a’u hincwm budd-dal tai dros gyfnod o flwyddyn. Roedd y bwlch mwyaf rhwng rhenti a chyfraddau'r lwfans tai lleol yn Ynys Môn, lle byddai teulu sydd angen eiddo pedair ystafell wely yn wynebu bwlch o £851 y mis, neu ychydig dros £10,000 y flwyddyn, rhwng incwm a rhent. Ni allai unrhyw aelwyd ar incwm isel ymdopi â diffyg o'r fath.
Yn olaf, credaf ei bod yn bwysig mynd i’r afael â’r ystadegau a ddyfynnwyd yn y cynnig gwreiddiol. Ac er ei bod yn angenrheidiol cydnabod y pwysau ar lawer o aelwydydd o ganlyniad i brisiau rhent cynyddol, mae'n rhaid inni fod yn ofalus ynghylch y data a ddefnyddiwn i ddangos graddau'r broblem. Ni chododd rhenti 13.9 y cant yng Nghymru yn 2021-22. Daw'r ffigur hwn o adroddiad chwarterol gan Rightmove. Fel y bydd pob un ohonoch yn gwybod, porth eiddo yw Rightmove sy'n hysbysebu tenantiaethau newydd. Y ffigur o 13.9 y cant yw’r cynnydd yn y prisiau gofyn ar gyfer tenantiaethau newydd yn 2021-22 o gymharu â 2020-21, a oedd wrth gwrs yn flwyddyn pan nad oedd ond ychydig iawn o bobl yn gallu symud cartref o gwbl oherwydd y pandemig byd-eang. Mae mynegai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol o brisiau tai rhent preifat yn dangos mai 1.6 y cant oedd y codiad cyfartalog blynyddol mewn rhenti preifat yng Nghymru yn 2021-22 mewn gwirionedd, a 4.4 y cant yn 2022-23. Mae hynny'n ystyried y farchnad rentu gyfan, nid eiddo rhent newydd yn unig.
Fel y cyfryw, mae’r gwelliannau arfaethedig a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths yn dod â chywirdeb i’r cynnig, yn adlewyrchu’r gwaith sydd ar y gweill fel rhan o’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, ac yn cyfeirio’r alwad am weithredu at Lywodraeth y DU, sydd wedi gwrando heddiw o’r diwedd ac o leiaf wedi cynyddu'r lwfans tai lleol i 30 y cant, er y byddai 50 y cant wedi bod yn llawer gwell, i helpu i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng rhenti ac incwm i helpu bywydau rhai o’r bobl leiaf cefnog yng Nghymru. Diolch.
A galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb am gyfrannu at y ddadl bwysig yma heddiw. Dwi ddim am ailadrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes, ond i nodi'r pwyntiau pwysig mae fy nghyd-Aelodau yma ar feinciau Plaid Cymru wedi'u gwneud. Roedd Sioned Williams, wrth gwrs, yn sôn am yr effaith ar y bobl fwyaf difreintiedig; Heledd Fychan yn sôn am yr effaith ar fyfyrwyr yn ein prifysgolion; a Peredur Owen Griffiths yn sôn yn benodol am lwyddiannau'r Alban pan fo'n dod i'r polisi yma.
A daw hynny â mi at gyfraniad Sam—mae Sam yn amlwg yn amheus iawn ynghylch dilysrwydd yr hyn yr ydym yn ei gynnig ac a all fod yn effeithiol ai peidio. Roeddech chi'n sôn am yr Alban, Sam, ac fe ddywedoch chi nad oedd yn bolisi llwyddiannus yn yr Alban, ond rwy’n credu bod Peredur wedi dweud yn glir ei fod wedi bod yn bolisi llwyddiannus. Nid yn unig fod ei iteriad cyntaf yn llwyddiannus, roedd mor llwyddiannus fe wnaethant ei ymestyn am chwe mis arall oherwydd ei effaith gadarnhaol. Nawr, nodaf ichi ddweud bod rhenti wedi cynyddu'n sylweddol yn yr Alban, ond dewis y landlordiaid yw codi'r rhenti hynny. Felly, er mwyn atal y lefelau hynny o gynnydd, fe wnaeth rhewi rhenti weithio am y cyfnod yr oedd yn weithredol. Sylwaf fod Sam hefyd wedi crybwyll rhywfaint o ddata a rhywfaint o wybodaeth gan sefydliadau sy’n cynrychioli landlordiaid, ac mae’n debyg ei bod yn werth nodi nad yw’n syndod y bydd sefydliadau sy’n cynrychioli landlordiaid yn dangos data neu’n dadlau yn erbyn rhewi rhenti a rheoli rhenti. Ac felly ni allwn ond cymryd ychydig o'r hyn a ddywedir am hynny gyda phinsiad o halen.
Sylwaf fod yna bryderon fod landlordiaid yn gadael y sector. Sylwch i mi grybwyll yn fy sylwadau agoriadol fod nifer yr eiddo rhenti preifat wedi dyblu dros yr 20 mlynedd diwethaf, felly mae’n bosibl dadlau mai dim ond cywiro ei hun y mae’r farchnad. Ond hefyd, mae landlordiaid yn gadael er mwyn—wel, yn aml iawn—mynd ymlaen at blatfformau llety gwyliau tymor byr fel Airbnb. Nawr, rydym yn ceisio rheoli'r elfennau hynny hefyd drwy ein cytundeb cydweithio, ond unwaith eto, y Ceidwadwyr sy'n dadlau yn erbyn rheoli'r farchnad honno, felly ni allwch ei chael y ddwy ffordd. Os ydym eisiau i landlordiaid aros yn y sector preifat, mae angen inni wneud rhywbeth am y sector llety gwyliau tymor byr hefyd, fel nad yw hwnnw’n gynnig gwell i’r buddsoddwyr hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn wir.
Oni allwch chi weld bod hynny'n enghraifft o sefyllfa lle ceir ymdrechion rhy frwd i geisio rheoli marchnad, ac yn sydyn mae yna linyn arall sydd angen ei dynnu yn rhywle arall? Fel yr enghraifft rydych chi newydd ei rhoi ynghylch landlordiaid yn gadael y farchnad rhentu preifat oherwydd yr hyn y maent yn eu hystyried yn gyfyngiadau sy'n cael eu gosod arnynt i ddarparu gwasanaeth da i'w tenantiaid. Mae problem wedyn yn codi gyda mwy o bobl yn symud i bethau fel Airbnb, ac rydych chi'n meddwl beth fydd y peth nesaf. Felly, gan fod y Llywodraeth fel arfer yn hoffi rheoli'r pethau hyn, mae'n creu mwy o broblemau yn hytrach na'u datrys mewn gwirionedd.
Na, nid wyf yn derbyn yr hyn rydych chi wedi'i ddweud yn llwyr, oherwydd nid yw landlordiaid yn gadael oherwydd rheoleiddio yn y sector rhentu preifat, maent yn gadael oherwydd eu bod yn gweld bod mwy o elw i'w wneud yn y sector llety gwyliau. Felly, yn yr achos hwnnw, mae gennym unigolion sy'n edrych ar eu helw eu hunain yn hytrach nag anghenion tenantiaid, anghenion pobl.
Nawr, pan gawsom y cyfraniadau gan rai o'r Aelodau Llafur, rwy'n cydymdeimlo ac rwy'n cytuno'n fawr â'r hyn ddywedodd Jenny a Carolyn. Roeddech chi'n sôn cryn dipyn am lwfans tai lleol, ac oes, yn bendant, mae angen inni groesawu'r ffaith ein bod wedi gweld cynnydd—a soniodd y Gweinidog am hyn heddiw—newid mewn lwfans tai lleol, er nad yw'n ddigon. Ond byddwch yn ymwybodol o'r hyn y mae hyn yn ei olygu os gwelwch yn dda. Mae'r lwfans tai lleol, fel llawer o'r grantiau yn y sector hwn, yn ymwneud â throsglwyddo cyfoeth cyhoeddus i bocedi unigolion preifat. Nawr, ni allwn barhau yn y ffordd honno. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio cyfoeth cyhoeddus i adeiladu tai trefol fel y gall pobl fyw ynddynt a'i fod yn nwylo ein cymunedau a'r corff cyhoeddus yma yng Nghymru.
Roeddech chi'n sôn, Jenny, eich bod chi'n edrych ymlaen at y Papur Gwyrdd a soniodd y Gweinidog am hyn hefyd. Yn bendant, mae hwn yn gyfle cyffrous. Mae'n rhywbeth rydym wedi galw amdano ers amser maith, ond ni fydd y Papur Gwyrdd hwnnw'n cael ei gyflwyno am ychydig fisoedd eto, heb sôn am y Papur Gwyn, a fydd yn cael ei gyflwyno, yn ôl pob tebyg, ar ddiwedd tymor y Senedd hon, felly ni fyddwn yn gweld unrhyw beth am ychydig flynyddoedd eto. Mae angen i rywbeth ddigwydd heddiw, nawr, a dyna pam ein bod yn galw am rewi rhenti ac am waharddiad ar droi allan.
Sori, Jenny. Ie.
Rwy'n derbyn bod angen rhywbeth nawr, a bod angen mwy o dai trefol arnom ond o ble rydym ni'n mynd i gael yr arian? Mae Cyngor Caerdydd yn gwneud pethau pwysig fel adeiladu tai dros dro lle mae ganddynt dir sbâr, oherwydd maent yn gwybod bod nifer y bobl ddigartref a fydd yn glanio ar garreg eu drws yn tyfu'n gyflymach ac yn gyflymach. A fyddech chi'n cytuno bod angen i awdurdodau lleol eraill ddilyn yr arweiniad hwnnw ac adeiladu tai dros dro fel nad yw pobl yn cael eu gadael ar y stryd, sef yr hyn sy'n mynd i ddigwydd fel arall.
Yn hollol, rwy'n cytuno, ac rwyf wedi gwneud yr alwad honno fy hun yma, a bydd premiwm y dreth gyngor yn dod â mwy o arian i mewn i awdurdodau lleol er mwyn iddynt fuddsoddi mewn tai. Rydym yn gweld hynny gydag Ynys Môn a Gwynedd. Rwy'n credu bod Casnewydd bellach yn sôn am gynyddu premiwm y dreth cyngor fel eu bod yn gallu buddsoddi mewn tai hefyd.
Felly, mae yna gamau y gellir eu cymryd. Roeddech chi'n gofyn sut y byddwn ni'n talu am hyn. Os ewch chi i'r orsaf drenau yng Nghaerdydd ac edrych tuag at yr hen fragdy, gallwch weld arwydd mawr yno yn dweud 'Legal & General' ac mae'r datblygiad tai hwnnw'n cael ei ariannu drwy'r cronfeydd pensiwn hynny. Mae yna ffyrdd y gallwn ddenu arian newydd er mwyn adeiladu tai, ond mae angen inni fod yn arloesol ac mae angen inni ddechrau'r sgyrsiau hynny nawr fel y gallwn ddechrau'r broses o adeiladu tai newydd.
Ac yn olaf, y mater ynglŷn â chaniatáu i bobl aros yn eu tai ac atal pobl rhag cael eu troi allan dros y gaeaf—gadewch inni beidio â bod ofn y polisi hwn. Mae'r polisi hwn yn cael ei ddefnyddio ledled y byd, ac fe gafodd ei gyflwyno gan Ffrainc ym 1954. Ac mewn gwirionedd, mae'n bolisi sy'n cael ei gynnig a'i hyrwyddo gan y Cenhedloedd Unedig.
Ac rwyf am ddirwyn i ben gyda hyn, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar cefais gyfle i gael sgwrs gyda'r rapporteur arbennig ar dai i'r Cenhedloedd Unedig, Leilani Farha. Mae hi'n berson gwych, ond fe ysgrifennodd yr egwyddorion a'r canllawiau sylfaenol ar droi allan a dadleoli ar sail datblygu. Ac yn y ddogfen honno, mae polisi 49 yn nodi'n glir:
'Ni ddylid troi allan mewn tywydd garw, yn ystod y nos, yn ystod gwyliau neu wyliau crefyddol, cyn etholiadau neu yn ystod neu ychydig cyn arholiadau'r ysgol.'
Felly, os ydym am fod yn gywir a dilyn arweiniad y Cenhedloedd Unedig, os ydym am ddilyn enghreifftiau ledled y byd o ran sut i ganiatáu i bobl fyw gydag urddas, gadewch inni gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Rydym yn galw am fesur dros dro, tymor byr, ond mae'n gwbl angenrheidiol er mwyn achub pobl ac atal pobl rhag mynd yn ddigartref dros y gaeaf hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohirir y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn ymlaen yn awr at y cwestiwn amserol a galwaf ar Peter Fox i ofyn y cwestiwn.
1. Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y bydd datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn ei chael ar Gymru? TQ922
Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn nodi ein hasesiad cychwynnol o oblygiadau datganiad yr hydref Llywodraeth y DU i Gymru. Mae'r Canghellor wedi methu cydnabod y pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus a darparu'r buddsoddiad hanfodol sydd ei angen arnynt, sy'n golygu y bydd penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Roedd y Prif Weinidog yn siarad llawer am flaenoriaethu ddoe, ac rwy'n cytuno bod angen gwneud dewisiadau anodd. Fodd bynnag, ers 25 mlynedd, mae Llafur wedi dal Cymru yn ôl, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, yn enwedig ein GIG, o ganlyniad uniongyrchol i flaenoriaethu'r pethau anghywir. Ar ôl edrych ar eich datganiad ysgrifenedig ar ddatganiad yr hydref, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru, yn debyg iawn i ganghellor Llafur yr wrthblaid, yn hapus i anwybyddu record Llafur gyda llawer o bethau, gan gynnwys y GIG yma.
Diolch i'r penderfyniadau a wnaed heddiw, bydd teuluoedd gweithgar yng Nghymru yn cael toriad treth enfawr drwy doriadau i yswiriant gwladol, ochr yn ochr â'r codiadau cyflog uchaf erioed diolch i'r cynnydd yn y cyflog byw o 9.8 y cant i £11.44 yr awr, sef cynnydd uwch nag erioed o tua £1,800 neu fwy i dros 140,000 o bobl ledled Cymru. Diolch i gyhoeddiad diweddar y Llywodraeth Geidwadol, ynghyd â'r cyhoeddiad heddiw, yn ogystal â symiau canlyniadol cysylltiedig o £305 miliwn a fformiwla gyllido sy'n darparu o leiaf 20 y cant yn fwy o gyllid y pen nag yn Lloegr, gallwn weld yn glir fod Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru—[Torri ar draws.] O, mae'n ddrwg gennyf.
Ni allaf glywed yr Aelod yn siarad ac ni all y Gweinidog glywed yr Aelod yn siarad, felly buaswn yn ddiolchgar pe bai pob Aelod ar draws y Siambr yn caniatáu i'r Aelod siarad heb ymyrraeth.
Pa mor bell y llwyddais i gyrraedd?
Nid oes angen ichi ddechrau eto.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn dweud bod y cynnydd i'r cyflog byw o 9.8 y cant, i £11.44 yr awr, yn gynnydd uwch nag erioed o tua £1,800 neu fwy i dros 140,000 o bobl ledled Cymru. Diolch i gyhoeddiad diweddar y Llywodraeth Geidwadol, ynghyd â'r cyhoeddiad heddiw, yn ogystal â symiau canlyniadol cysylltiedig o £305 miliwn a fformiwla gyllido sy'n darparu o leiaf 20 y cant yn fwy o gyllid y pen nag yn Lloegr, gallwn weld yn glir fod Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru, yn wahanol i Lafur Cymru yma.
Rwyf hefyd yn falch o weld y bydd credyd cynhwysol a budd-daliadau gwaith eraill hefyd yn gweld hwb o 6.7 y cant ym mis Ebrill, cynnydd mewn termau real, sy'n sicrhau bod pobl agored i niwed yng Nghymru yn cael y cymorth y maent ei angen. Bydd pensiynau'r wladwriaeth hefyd yn cynyddu 8.5 y cant ym mis Ebrill, yr ail gynnydd mwyaf erioed mewn arian parod. Weinidog, yn eich datganiad, rydych yn dweud nad oes unrhyw gymorth wedi'i dargedu ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed, ond mae'r pecyn cymorth hwn yn helpu cymaint o bobl a'r rhai sy'n agored i niwed ledled Cymru.
Bydd Llywodraeth Geidwadol y DU hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu dau barth buddsoddi yng Nghymru—un yn y gogledd ac un yn y de—gan fuddsoddi dros £320—[Torri ar draws.]. Mae'n newyddion da; ni allwch ddweud hyn i gyd mewn un funud—
I bob ochr: hoffwn glywed y cwestiwn.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydym hefyd yn gwybod y bydd ardrethi busnes yn cael eu torri yn Lloegr ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch, ac rwy'n gobeithio y bydd yr un peth yn digwydd yng Nghymru er mwyn helpu i ddileu'r rhwystrau sydd ar waith yma sy'n atal busnesau a buddsoddiad rhag symud ymlaen yma.
Gyda hyn oll mewn golwg, a ydych chi, Weinidog, yn cytuno â mi fod datganiad yr hydref yn gadarnhaol, gan gydnabod ei fod yn rhoi hwb i gyflogau a chynnydd i bensiynwyr, yn ogystal â'r rhai sydd ar gredyd cynhwysol, ac y bydd yn cefnogi pobl a busnesau ledled Cymru? Yn sicr, mae hyn yn newyddion da.
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwrando ar ddatganiad gwahanol i'r un yr oeddwn i'n gwrando arno'n ofalus iawn y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn amlwg heddiw nad yw Llywodraeth y DU yn poeni o gwbl am wasanaethau cyhoeddus. Ni chlywsom unrhyw sôn o gwbl am y pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus; rydym wedi siarad amdano'n ddiddiwedd yn y Siambr hon. Rwy'n credu y bydd penderfyniadau anodd iawn o'n blaenau, i ni, o ran gwasanaethau cyhoeddus—
Feinciau cefn y Blaid Geidwadol, byddwch yn dawel er mwyn imi allu clywed yr ateb gan y Gweinidog. Ni allaf glywed yr ateb, felly tawelwch, os gwelwch yn dda—gadewch i'r Gweinidog siarad.
Mae dewisiadau anodd i ni ac i lywodraeth leol, o ran gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd dewisiadau anodd iawn i aelwydydd. Nid oedd y newyddion heddiw yn newyddion da i deuluoedd. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi nodi heddiw y rhagwelir y bydd safonau byw 3.5 y cant yn is yn 2024-25 na'r hyn oeddent cyn y pandemig, ac roeddent yn dweud mai dyma'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers dechrau cadw cofnodion. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dweud, er gwaethaf y gostyngiadau i drethi a gyhoeddwyd heddiw yn natganiad yr hydref, fod cyfanswm y refeniw trethi fel cyfran o gynnyrch domestig gros yn parhau i fod ar y trywydd i gyrraedd ei lefel uchaf ers y 1940au. Ac mae'r Aelodau Ceidwadol yma yn falch o'r record Geidwadol.
Pan wnaed cyhoeddiad y Canghellor mewn perthynas â chyfraniadau yswiriant gwladol, wrth gwrs, mae hynny'n darparu rhyddhad cyfyngedig iawn, ond mewn gwirionedd, ni fydd llawer yn ei weld oherwydd effaith llusgiad cyllidol o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r lwfans personol a rhewi hwnnw. Felly, nid yw'r hyn a welsom heddiw yn ddigon o ran yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd a'r hyn sydd ei angen ar unigolion. Ac rwy'n credu y byddai'n werth i'r Aelodau Ceidwadol yma ystyried y gefnogaeth y maent yn ei rhoi i'r hyn a fu'n ddatganiad ofnadwy i deuluoedd, ond hefyd i wasanaethau cyhoeddus.
Rwy'n credu imi wrando ar y datganiad y gwrandawodd y Gweinidog arno, yn hytrach na'r un y gwrandawodd Peter arno, oherwydd nid oedd datganiad yr hydref heddiw yn cynnig dim i Gymru: dim i helpu'r 45 y cant o aelwydydd Cymru sydd mewn tlodi tanwydd, dim i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau, dim i helpu gwasanaethau cyhoeddus, a dim i fynd i'r afael â'r heriau economaidd sy'n ein hwynebu, dim ond ymgyrchu etholiadol anobeithiol a gwneud bychod dihangol o bobl agored i niwed.
Cyn datganiad yr hydref, dadleuodd Plaid Cymru dros gymorth wedi'i dargedu i helpu teuluoedd gyda chostau ynni y gaeaf hwn, a thariff ynni cymdeithasol i helpu i wneud y system yn decach yn hirdymor. Byddwn yn parhau i fynnu fformiwla gyllido decach i Gymru, trosglwyddo biliynau sy'n ddyledus mewn cronfeydd seilwaith rheilffyrdd a sicrhau llif yr arian i goffrau Cymru drwy ddatganoli Ystad y Goron. Mae'r rhain yn gamau hanfodol sydd eu hangen i adeiladu dyfodol tecach a mwy uchelgeisiol i Gymru. A ydych yn cytuno y bydd Cymru'n parhau i gael cam hyd nes y cawn ymrwymiad clir a diamwys gan Lywodraeth y DU i adolygu fformiwla Barnett ar sail angen yn briodol a darparu'r pwerau angenrheidiol i Gymru allu gwireddu ei photensial economaidd enfawr o'r diwedd?
A allwch chi hefyd esbonio eich ymateb cychwynnol i ddatganiad yr hydref mewn perthynas â'r tri phwynt canlynol? Beth fydd effaith y llusgiad cyllidol ar drethdalwyr yng Nghymru? Sut y bydd y datganiad yn effeithio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau rheng flaen a'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gyda llywodraeth leol yn wynebu diffyg o £411 miliwn yn y gyllideb y flwyddyn nesaf? A sut y bydd y datganiad hwn yn effeithio ar eich gallu i dalu am yr holl bethau y dymunwch eu cyflawni ar gyfer pobl Cymru, gyda fawr iawn o gefnogaeth yn cael ei chynnig o ben draw'r M4?
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am godi'r pwyntiau hynny, ac am y pryder amlwg sydd i bobl sy'n ei chael hi'n anodd. Felly, rydym wedi gwneud sylwadau cryf i Lywodraeth y DU am y ffaith nad yw'r argyfwng ynni drosodd; disgwylir i brisiau ynni godi eto ym mis Ionawr, ac mae chwyddiant yn dal ymhell uwchlaw targed Banc Lloegr o 2 y cant. Rwyf innau, gyda chyd-Aelodau, wedi bod yn dadlau'r achos yn gryf iawn ac ers amser hir dros gynyddu'r lwfans tai lleol. Rydym yn falch fod hwnnw wedi cael sylw i ryw raddau heddiw, ond wrth gwrs, nid yw'r mesur hwnnw'n dod i rym tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly nid yw'n cynnig cysur o gwbl i bobl dros y gaeaf.
Rwy'n bryderus iawn hefyd am ddull gweithredu Llywodraeth y DU mewn perthynas â chefnogi, fel y byddent yn ei roi, pobl sy'n anabl ac yn ddi-waith yn hirdymor yn ôl i'r gwaith. Rwy'n credu bod y bygythiad o gael gwared ar y cymorth sydd ar gael i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed, nad ydynt yn gallu gweithio am ystod eang o resymau, yn peri pryder mawr. Ac wrth gwrs, yn y pen draw, byddwn yn gweld y bobl hyn yn ein gwasanaethau cyhoeddus, gan roi mwy o bwysau ar y gwasanaethau hynny, yn hytrach na'u cefnogi i mewn i waith a'u cefnogi gyda pha bynnag anabledd sydd ganddynt neu'r ffordd y maent eto i ymgysylltu â'r farchnad gyflogaeth. Felly, rwy'n credu bod hyn i gyd yn peri pryder gwirioneddol.
O ran cyllideb Llywodraeth Cymru, byddwn yn derbyn £305 miliwn ychwanegol ar draws 2023-24 a 2024-25. Felly, mae'n cynnwys £133 miliwn mewn refeniw eleni. Ni all Llywodraeth y DU ddweud ar gyfer beth y mae hwnnw. Felly, fe wnaethom gynnwys hwnnw yn ein cynlluniau o ran ei fod yn gyllid canlyniadol ar gyfer y dyfarniadau cyflog a gyhoeddwyd yn Lloegr, oherwydd nid ydynt wedi gwadu mai dyna yw ei bwrpas, ond maent yn gwrthod cadarnhau. Felly, rydym bellach mewn sefyllfa lle rydym yn ceisio rheoli pwysau yn ystod y flwyddyn eleni, gan ystyried yr holl ddewisiadau a phenderfyniadau anodd yr ydym wedi siarad amdanynt yn y Siambr hon, ac mae'n bosibl y down at yr amcangyfrifon atodol ym mis Chwefror a darganfod nad oedd angen inni wneud hynny wedi'r cyfan, dyma £140 miliwn arall. Felly, rwy'n credu bod hynny'n peri pryder mawr, y ffaith na allant hyd yn oed ddarparu'r wybodaeth y dylent allu ei darparu ar hyn o bryd.
Y flwyddyn nesaf, mae'r holl gyllid, bron, yn ymwneud â'r mesurau ardrethi annomestig newydd y mae Llywodraeth y DU wedi'u cyhoeddi heddiw. Yn amlwg, gan fod gennym ein cyllideb ni nawr ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio'n gyflym i gyhoeddi ein cyllideb ar 19 Rhagfyr, a dyna pryd y gallwn rannu ein cynlluniau i gefnogi busnesau ac eraill yn y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, ni fyddwn yn gallu dweud unrhyw beth pellach ar gymorth busnes tan y pwynt hwnnw.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch. Rwyf newydd ddarllen y dadansoddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, sy'n dweud, am bob £100 y mae Llywodraeth y DU yn ei wario ar doriadau trethi personol, y bydd £46 o fudd i un rhan o bump o'r aelwydydd cyfoethocaf a dim ond £3 fydd yn mynd i'r teuluoedd lleiaf cefnog. A fyddech chi'n cytuno bod hyn yn parhau'r anghydraddoldeb mawr sydd eisoes yn bodoli yn y gymdeithas rydym yn byw ynddi, gyda Llundain a'r de-ddwyrain yn cael y budd mwyaf, a wyddoch chi beth, y gogledd-ddwyrain, Swydd Efrog a Humber a Chymru sy'n cael y budd lleiaf o ran ychwanegu at eu pecynnau cyflog?
Rwy'n cydnabod ac yn cytuno'n llwyr â'r dadansoddiad hwnnw. Ond wrth gwrs, mae'r Torïaid yn gwneud yr hyn y mae'r Torïaid yn ei wneud—maent yn gofalu am y rhai mwyaf cyfoethog yn y gymdeithas, maent yn gofalu am eu buddiannau cyffredin, nid oes ganddynt unrhyw diddordeb o gwbl mewn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed a'r bobl sydd angen eu cefnogaeth, fel y gwelsom heddiw yn y cyhoeddiadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud mewn perthynas â phobl anabl a sut mae'n debygol o dynnu cymorth yn ôl ar gyfer llawer o'r rheini.
Diolch i'r Gweindog.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 5, dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial yn y GIG. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 23, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial yn y GIG. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 35, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio.
Cynnig NDM8410 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau iechyd ledled y DU.
2. Yn croesawu'r Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd 2023.
3. Yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod gweithio’n digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar Llywodraeth y DU ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol.
4. Yn nodi pwysigrwydd datblygiad parhaus gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel.
5. Yn croesawu:
a) bod dros 200 o bractisau meddygon teulu bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru;
b) mai’r bwriad yw ei gyflwyno ym mhob practis erbyn diwedd mis Mawrth 2024;
c) bod gwasanaeth presgripsiynau integredig yn dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei lansio; a
d) gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
Eitem 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial yn y GIG. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Nesaf, galwaf am bleidlais ar y cynnig ar eitem 6, dadl Plaid Cymru, a galwaf am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 11, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi’i dderbyn.
Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 35, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cynnig NDM8409 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pwysau parhaus o ran costau byw y mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu.
2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd sefydlu system o renti teg a hefyd ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel.
3. Yn croesawu’r camau pendant, uchelgeisiol a radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
4. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil budd-daliadau annigonol sy’n gysylltiedig â thai;
5. Yn cydnabod mai’r dull unigol mwyaf ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yw cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i godi’r cyfraddau er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.
Eitem 6. Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 35, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
A dyna gwblhau ein pleidleisio am heddiw. Os ydych chi'n gadael, gwnewch hynny'n dawel os gwelwch yn dda.
Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Sam Kurtz i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Samuel.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer hon heno, ac rwy'n falch iawn o roi munud o fy amser i Carolyn Thomas a Huw Irranca-Davies.
Fel y dywedais yn aml yn y Siambr hon, rwy'n cefnogi datganoli, ac nid yw hynny'n golygu bod pwerau'n stopio yma ym Mae Caerdydd; gadewch inni weld pwerau priodol yn cael eu trosglwyddo i awdurdodau a sefydliadau lleol. Y bobl sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan benderfyniadau sydd â'r ddealltwriaeth orau o'r effaith y bydd y penderfyniadau hyn yn ei chael ar eu cymunedau, ac yn fyr, credaf y gallai hynny fod yn wir o ran lles anifeiliaid. Gallai datganoli pwerau allweddol dethol i'r RSPCA, elusen lles anifeiliaid fwyaf a hynaf y byd, ddarparu gwell lles anifeiliaid yma yng Nghymru. Fel arweinwyr y byd ym maes lles anifeiliaid, a chyda 2024 yn nodi eu daucanmlwyddiant, nod allweddol yr RSPCA yw ysbrydoli byd lle mae pob anifail yn cael ei drin â charedigrwydd a pharch, ac er mwyn gwireddu hyn, mae eu harolygwyr yn gweithredu ar lawr gwlad, gan weithio ar flaen y gad gyda'r mantra hwn. Mae swyddogion achub anifeiliaid yr elusen wedi ymateb i fwy na 4,900 o achosion yn ymwneud yn benodol â chreulondeb ac esgeuluso anifeiliaid rhwng mis Hydref 2022 a mis Hydref eleni, yn ogystal â derbyn dros 1 filiwn o alwadau ffôn, ar gyfartaledd, i'w llinell gymorth ar greulondeb ledled Cymru a Lloegr o un flwyddyn i'r llall.
Mae arolygwyr yr RSPCA yn ymgymryd â'r dyletswyddau hanfodol hyn heb unrhyw bwerau statudol, oherwydd, yn ddiarwybod i lawer, nid oes ganddynt yr un pwerau wedi'u dynodi iddynt ag arolygwyr awdurdodau lleol o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Er enghraifft, ni allant fynd i adeiladau allanol heb warant gan yr heddlu, ymafael mewn anifeiliaid yn awtomatig a'u symud o sefyllfa sy'n effeithio'n negyddol ar eu lles, na rhoi hysbysiadau gwella a lles statudol o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid, fel y gall arolygwyr awdurdodau lleol. Er bod yr RSPCA yn gallu ymateb i gwynion am greulondeb i anifeiliaid sy'n cael eu cyflwyno iddynt gan y cyhoedd, ni allant symud anifeiliaid mewn trallod heb ganiatâd y perchnogion neu warant gan yr heddlu. Mae'r ddibyniaeth bresennol hon ar wasanaethau cyhoeddus statudol, fel yr heddlu ac awdurdodau lleol, yn rhoi pwysau ychwanegol ar eu hadnoddau sydd eisoes dan bwysau, a hefyd yn gadael anifeiliaid sydd angen cael eu hachub mewn limbo, ac mewn amgylchiadau creulon o bosibl am gyfnod hwy.
Yn yr haf, cefais gyfle i ymuno â Keith Hogben, arolygydd yr RSPCA sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i, allan ar batrôl. Cefais ddiwrnod gwych gydag ef ar draws sir Gaerfyrddin a sir Benfro, ac roedd yn gyfle gwych iawn i gael cipolwg ar ei waith hanfodol, gan ddangos y realiti ymarferol y gallai'r newidiadau cadarnhaol hyn ei chynnig i arolygwyr ac i anifeiliaid ledled Cymru. Diolch yn ddiffuant i Keith am ei amser, ei garedigrwydd a'i amynedd gyda mi ar y diwrnod, ac rwy'n annog pob Aelod i ymuno â'u harolygydd lleol am ddiwrnod. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol, Ddirprwy Lywydd, fod swyddogion yr RSPCA wedi galw o'r blaen am ddatganoli pwerau statudol yng Nghymru yn 2019 pan gafodd Llywodraeth Cymru adroddiad yn cyflwyno'r achos dros gamau o'r fath. Byddai darparu'r pwerau hyn nid yn unig yn lleihau'r pwysau ar lawer o'n hawdurdodau lleol, fel yr amlinellwyd yn flaenorol, ond byddai'n ein halinio ni yng Nghymru â chwaer-sefydliadau eraill ar draws ynysoedd Prydain, megis Cymdeithas yr Alban er Atal Creulondeb i Anifeiliaid, a Chymdeithas Iwerddon er Atal Creulondeb i Anifeiliaid.
Deddf Lles Anifeiliaid 2006 sy'n darparu'r sail gyfreithiol i dros 95 y cant o euogfarnau creulondeb anifeiliaid a sicrhawyd gan yr RSPCA yng Nghymru a Lloegr, ac o dan y ddeddfwriaeth hon gellid darparu'r pwerau gorfodi hyn sydd eu hangen ar arolygwyr. O drafodaethau gyda chynrychiolwyr yr elusen, er eu bod yn awyddus i gael y pwerau statudol hyn, mae'n amlwg eu bod hefyd yn deall pwysigrwydd a manteision gweithio ochr yn ochr â'n hawdurdodau i gyflawni eu gwaith. Dyna pam, Ddirprwy Lywydd, fod yr RSPCA wedi galw am gyfyngu'r pwerau hyn i'r meysydd canlynol: adran 10 o Ddeddf Lles Anifeiliaid, a fyddai'n caniatáu i arolygwyr gyflwyno hysbysiadau gwella; adran 18, a fyddai'n caniatáu pwerau i arolygwyr mewn perthynas â thrallod anifeiliaid; adran 19, a fyddai'n caniatáu pŵer mynediad at ddiben cyflawni adran 18; ac adran 23, i ganiatáu mynediad a chwilio o dan warant mewn cysylltiad â throseddau creulondeb i anifeiliaid. Byddai dyletswyddau ychwanegol, fel gwiriadau trwyddedau statudol a chofrestru adeiladau fferm yn aros gydag awdurdodau lleol, gan fod y rhain yn ymwneud â swyddogaethau statudol. Ac yn ail, ni fyddai pwerau i ymchwilio i droseddau sy'n ymwneud â rhywogaethau o fywyd gwyllt nad ydynt o dan reolaeth ddynol yn cael eu ceisio chwaith, gan nad yw'r rhain yn dod o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Os caf bwysleisio'r pryderon rwyf wedi'u codi yn y gorffennol am yr awdurdodau lleol sydd eisoes dan bwysau, mae disgwyl i lwyth gwaith 22 awdurdod lleol Cymru mewn perthynas â dyletswyddau lles anifeiliaid gynyddu yn y dyfodol agos, gyda disgwyl i Lywodraeth Cymru gynnal ymgynghoriad ar reoleiddio mwy o weithgareddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid cyn diwedd eleni. Gallai ffurfioli rôl yr RSPCA yn y swyddogaeth hon ganiatáu mwy o amser i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar drwyddedu llochesau anifeiliaid, canolfannau achub ac ailgartrefu, ac arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid, yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad hwn.
Yn ogystal, Ddirprwy Lywydd, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol hefyd ar hyn o bryd i gasglu cŵn strae. Mae hyn yn arbennig o bwysig i'w nodi wrth ystyried y gwaharddiad ar gŵn bully XL Americanaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n debygol o arwain at gynnydd yn nifer y cŵn strae yn ystod y misoedd nesaf. Bydd yr effaith y bydd y cynnydd hwn yn ei chael ar awdurdodau lleol yn ddigynsail, gan fy mod yn nodi mai dyma'r tro cyntaf i frid newydd gael ei ychwanegu at y Ddeddf Cŵn Peryglus ers ei sefydlu ym 1991—drwy gyd-ddigwyddiad, y flwyddyn y cefais fy ngeni. Felly, mae'n bwysicach nag erioed ein bod o ddifrif yn ystyried derbyn cymorth a chyngor gan y sefydliad profiadol ac achrededig hwn ar ffurf pwerau statudol i alluogi'r RSPCA i weithio gyda'n hawdurdodau lleol ac ochr yn ochr â nhw i gadw ein hanifeiliaid yn ddiogel. Roeddwn eisiau ychwanegu mewn cysylltiad â'r sylwadau hyn, Ddirprwy Lywydd, gyda chynnydd mewn pwerau, daw'r angen absoliwt i gynyddu atebolrwydd. Byddai camau o'r fath yn galluogi'r RSPCA i fod yn fwy parod ac yn fwy atebol er mwyn dod â gwaith gorfodi pob asiantaeth yn agosach at ei gilydd yn ogystal â llacio'r baich biwrocrataidd hanesyddol a osodir ar gyrff cyhoeddus.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwy'n deall y byddai trosglwyddo pwerau statudol i'r RSPCA yn galw am ystyriaeth ofalus a dull cydgysylltiedig o weithredu. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn 2019, yn archwilio'r posibilrwydd o benodi arolygwyr yn ffurfiol o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid, yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch sut y gellid gorfodi'r newidiadau hyn a sut y gellid sicrhau bod y newid mor ddi-dor â phosibl. Gwn fod y Gweinidog wedi mynegi ei chefnogaeth gymharol ond gofalus o'r blaen, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, i bwerau arolygu i'r RSPCA yn y Siambr hon, gan bwysleisio pwysigrwydd ymarferol eu hymdrin â materion anifeiliaid, yn fwyaf diweddar gan ailadrodd y gefnogaeth hon mewn ymateb i gwestiwn a ofynnais yn y Siambr yn ôl ym mis Gorffennaf. Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth hon, ac rwy'n mawr obeithio y gallwn gydweithio â'r RSPCA wrth inni geisio symud ymlaen â'r cynnig hwn yn 2024.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'r ddadl hon yn digwydd ar adeg bwysig mewn perthynas â lles anifeiliaid yng Nghymru. Gyda phwysau ariannol a chyfyngiadau cyllidebol yn effeithio ar berchnogion anifeiliaid a gwasanaethau cyhoeddus, mae'r RSPCA mor awyddus ag erioed i gefnogi'r rhain gymaint â phosibl yn ystod y cyfnod heriol hwn a thu hwnt. Rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gytuno mai diogelu ein hanifeiliaid annwyl yw blaenoriaeth y cynnig hwn, ac y gallwn, ac y dylem, lle bo'n bosibl, ddefnyddio'r holl adnoddau er mwyn cyrraedd ein targedau a chyrraedd cynifer o anifeiliaid sydd mewn angen ag y gallwn. Gellir cyflawni hyn drwy barhau i asesu'r adroddiad a roddwyd i Lywodraeth Cymru yn 2019 a'r trafodaethau a'r cytundeb dilynol ynglŷn â pha gamau ychwanegol sydd eu hangen i gyflawni'r statws newydd hwn. Diolch yn fawr.
Diolch am roi hyn ar yr agenda, Sam. Mae gan yr RSPCA waith anodd i'w wneud. Yng ngogledd Cymru yn unig, cawsant 1,800 o alwadau yn ystod y 12 mis diwethaf, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli pa mor fawr yw'r ardal y mae'r arolygwyr yn gyfrifol amdani. Ar adegau, dim ond un arolygydd sydd ar gael. Mae pob galwad lle mae angen gweithredu weithiau’n ras i ddiogelu'r anifeiliaid hynny, a byddai cael pwerau syml iawn nid yn unig yn golygu bod anifeiliaid yn cael cymorth yn gynt, ond byddai hefyd yn gwella effeithlonrwydd a gallu’r RSPCA i helpu mwy o anifeiliaid. Mae'n rhaid inni edrych hefyd ar yr arbediad cost i Heddlu Gogledd Cymru ac awdurdodau lleol, sy’n gorfod cynorthwyo arolygwyr yr RSPCA i ddefnyddio unrhyw rai o’r pwerau hyn. Mae'n rhaid ystyried yr arbedion cost ac amser a wneir ganddyn nhw hefyd. Mae newid i roi pwerau i’r RSPCA gyflwyno hysbysiadau ar gyfer anifail mewn trallod, gan gynnwys pŵer mynediad a'r pŵer i chwilio o dan warant, yn bwerau y mae’r cyhoedd yn credu eu bod gan yr RSPCA eisoes, ac yn disgwyl eu bod ganddynt, i ddiogelu anifeiliaid, ac rwy'n cefnogi hyn yn llwyr.
Rwyf innau'n cefnogi Sam yn llwyr, a chredaf iddo wneud cyfraniad gwych a chynhwysfawr a aeth drwy’r newidiadau sydd eu hangen, yn ogystal â'r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn cyd-fynd â rhannau cyfansoddol eraill y DU. Felly, yn ystod fy 20 mlynedd fel cynrychiolydd etholedig, yn ffodus, llond llaw o achlysuron yn unig a fu lle mae’r RSPCA wedi cael trafferth mynd i mewn i eiddo neu safle i archwilio lles anifeiliaid heb fynd drwy’r rhwystrau ychwanegol o ddod â’r heddlu neu swyddogion gorfodi eraill gyda nhw. Ond mae gwneud hynny wedi bod yn faich, a byddai hyn yn symleiddio'r broses yn fawr. Felly, fy nghwestiwn i chi, Weinidog, i gefnogi Sam, yw hwn: sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn? A yw'n fater o ddod o hyd i gyfle deddfwriaethol? A yw'n fater o wneud rhagor o waith ar ôl adroddiad 2019? Os ydych am weithio gyda’r meinciau cefn, pa obaith y gallwch ei roi i ni y gallwn ddod o hyd i ffordd o fwrw ymlaen â hyn gyda’n gilydd? Diolch yn fawr.
A galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i ymateb i’r ddadl—Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Sam Kurtz am gyflwyno’r ddadl heddiw. Fel cefnogwr lles anifeiliaid brwd ar hyd fy oes, rwy’n condemnio unrhyw achos a phob achos o gam-drin anifeiliaid ac yn hyrwyddo pob ymdrech i frwydro yn erbyn esgeulustod a chamdriniaeth. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn ffocws i nifer o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau safonau lles uchel, a fy uchelgais yw i bob anifail yng Nghymru gael ansawdd bywyd da.
Ni ddylid goddef cam-drin anifeiliaid byth, ac rwy'n cymeradwyo'r RSPCA am eu hymdrechion diflino i ddiogelu anifeiliaid. Dros y blynyddoedd diwethaf, yn anffodus, rydym wedi gweld storm berffaith o gynnydd mewn perchnogaeth ar anifeiliaid anwes, yn enwedig yn ystod COVID, ynghyd ag argyfwng costau byw, sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer yr anifeiliaid anwes sy'n cael eu gadael a chefnu ar anifeiliaid anwes. Rwy’n ddiolchgar i grwpiau lles anifeiliaid ein trydydd sector am eu cefnogaeth barhaus i berchnogion anifeiliaid anwes Cymru, ac rwy'n ymwybodol o’r pwysau y mae’r sector yn ei wynebu. Gwn fod y rhan fwyaf ohonom yn poeni am les ein hanifeiliaid, ond ni allwn anwybyddu’r achosion lle mae pethau’n mynd o chwith. Fel yr adroddwyd yn ddiweddar gan yr RSPCA yn lansiad eu hymgyrch Nadolig, mae lefelau esgeuluso a gadael anifeiliaid ar eu huchaf ers tair blynedd yn y Deyrnas Unedig.
Er fy mod yn cefnogi’r gwaharddiad diweddar ar gŵn bully XL a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, rwy’n cydnabod y gallai hefyd greu pwysau ychwanegol, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â’u swyddogion cyfatebol yn DEFRA i liniaru effeithiau negyddol. Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn ei gwneud yn drosedd i achosi dioddefaint diangen i anifail neu fethu diwallu ei anghenion lles, gan gynnwys y pum rhyddid. Mae'r Ddeddf wedi bod yn allweddol mewn nifer o droseddau amlwg yn ddiweddar. Rwy’n hyderus y bydd ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol yn hyrwyddo diwygio cadarnhaol yn y maes hwn ac yn gwella bywydau anifeiliaid fferm, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill a gedwir ledled Cymru. Mae’r cynllun yn ymestyn dros bum mlynedd, ond fy ngobaith yw y bydd ei ddylanwad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hynny ac o fudd i genedlaethau’r dyfodol. Bydd cynnydd yn cael ei gyflawni drwy ymrwymiadau megis cryfhau trefniadau gorfodi awdurdodau lleol a chyflwyno gofynion trwyddedu lles anifeiliaid ar gyfer sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd, y mae llawer ohonynt heb eu rheoleiddio ar hyn o bryd. Mae'r diwygiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith fel mater o flaenoriaeth, ac rwy'n falch o'r cynnydd a wnaed eisoes.
Fel y nododd Sam, dywedais yn y Cyfarfod Llawn ym mis Gorffennaf eleni fy mod yn cydnabod y gallai fod manteision ymarferol i roi pwerau ychwanegol i’r RSPCA. Pan wyf wedi bod gyda nhw ar ymweliadau, rwyf wedi gweld â fy llygaid fy hun y rhwystredigaethau a wynebir, ac rwy'n rhagweld y byddai pwerau o'r fath o gymorth mewn achosion lle mae'r RSPCA yn gweithredu fel ymatebwyr cyntaf. Rwy'n cytuno mewn egwyddor y gallai pwerau o’r fath fod o fudd, ac rwy'n bwriadu ailedrych ar y dull gweithredu hwn pan fydd ein cynlluniau presennol, sydd eisoes yn uchelgeisiol, wedi’u cyflawni. Deallaf fod ein swyddogion cyfatebol yn Lloegr yn rhannu’r un farn, gan nodi goblygiadau sylweddol o ran adnoddau a’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â newid deddfwriaeth sylfaenol a sefydlu trosolwg gan y Llywodraeth. Rydym yn wynebu’r un heriau yma yng Nghymru. Pe bawn yn rhoi blaenoriaeth i’r ffrwd waith hon, nad yw’n rhan o’n rhaglen lywodraethu na’n cynllun lles anifeiliaid, byddai’n dod ar draul ein hymrwymiadau sydd eisoes yn uchelgeisiol, ac yn rhwystro’r cynnydd cadarnhaol sy’n cael ei wneud ar flaenoriaethau y cytunwyd arnynt ers tro drwy ddargyfeirio adnoddau i rywle arall. Felly, er y gallai ein dulliau amrywio o bryd i’w gilydd, credaf fod pob un ohonom yn rhannu uchelgeisiau ar gyfer lles anifeiliaid, ac rwy’n parhau'n falch o’n perthynas waith agos, oherwydd hebddi, ni fyddai ein nodau’n cael eu cyflawni’n hawdd. Felly, wrth gwrs, rwy’n gadael y drws ar agor ar gyfer trafod yn y dyfodol, ac rwy’n gobeithio, yn y cyfamser, y gallwn barhau i sianelu ymdrechion tuag at y weledigaeth a rennir gennym ar gyfer lles anifeiliaid. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog a diolch i Sam Kurtz. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:11.