Y Cyfarfod Llawn

Plenary

21/11/2023

Cynnwys

Contents

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio’r Flwyddyn Ysgol
5. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023
7. Dadl: Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Grŵp 1: Gofyniad i osod targedau ansawdd aer (Gwelliannau 37, 73, 1, 74, 75, 76, 3, 4, 38, 5, 6, 39, 7, 8, 40, 9, 10, 41, 11, 12, 42, 13, 14, 43, 77, 78, 44, 45, 15, 16, 17, 18, 46, 19, 20, 47, 21, 22, 49, 23, 24, 51, 25, 26, 52, 27, 28, 53, 30, 31, 55, 33, 34, 56, 35, 36, 58, 79)
Grŵp 2: Adrodd, adolygu a monitro mewn perthynas â thargedau ansawdd aer (Gwelliannau 48, 50, 54, 29, 32, 57, 59)
Grŵp 3: Hybu ymwybyddiaeth o lygredd aer (Gwelliant 2)
Grŵp 4: Hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno (Gwelliannau 86, 87)
Grŵp 5: Gofyniad i ymgynghori ar strategaethau ansawdd aer a seinweddau cenedlaethol (Gwelliannau 83, 84)
Grŵp 6: Cynlluniau gweithredu mewn perthynas ag ardaloedd rheoli ansawdd aer (Gwelliannau 60, 61)
Grŵp 7: Rheoleiddio mwg a thanwydd mewn ardaloedd rheoli mwg (Gwelliannau 62, 71, 81, 82)
Grŵp 8: Cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd (Gwelliannau 63, 80, 64, 72, 68)
Grŵp 9: Trosedd segura llonydd: cosb benodedig (Gwelliannau 65, 69)
Grŵp 10: Swyddfa Diogelu Ansawdd Aer (Gwelliant 66)
Grŵp 11: Diffiniad o seinweddau (Gwelliannau 67, 70)
Grŵp 12: Strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau (Gwelliant 85)

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Prynhawn da, a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn o'r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams. 

Cefnogaeth i Deuluoedd Incwm Isel

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant o deuluoedd incwm isel dros y gaeaf? OQ60303

Diolch, Llywydd, am y cwestiwn. Mae teuluoedd ar draws Cymru yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers dechrau cadw cofnod. Dyna'r cyd-destun llwm lle mae ymdrechion Llywodraeth Cymru yn parhau i leddfu'r pwysau ariannol, hybu incwm pobl, a gadael arian ym mhocedi teuluoedd, yn enwedig y rhai sydd â phlant.

Diolch, Brif Weinidog. Mae'r cyd-destun yn llwm, ac mae cyrff sy'n cefnogi plant mewn tlodi yn dweud bod y gaeaf hwn yn mynd i fod yn fwy caled na'r llynedd i deuluoedd mewn tlodi, yn sgil yr argyfwng costau byw, a bod cymaint o ffyrdd o gefnogaeth erbyn hyn wedi diflannu. Ond mae'r Llywodraeth wedi dileu'r cynllun i ddarparu bwyd i blant mewn tlodi yn ystod gwyliau ysgol, gan nad oedd wedi ei gyllidebu, ond wedi ei ariannu yn gyntaf gan gyllid ychwanegol a ddaeth yn sgil COVID, ac yna gan danwariant o gyllideb prydau bwyd am ddim mewn ysgolion cynradd, sy'n rhan, wrth gwrs, o'r cytundeb gyda Phlaid Cymru. 

Ym mis Gorffennaf, dywedoch chi nad oedd unrhyw danwariant o'r fath ar ôl ar gyfer gwyliau'r haf, ond yna canfuwyd dros £11 miliwn yn y lein wariant a'i dorri o'r gyllideb addysg. Yn y datganiad sydd newydd ei gyhoeddi i gyfiawnhau peidio â pharhau â chynllun o'r fath, dywed y Llywodraeth mai cost yw'r rheswm pennaf, sy'n adleisio agwedd at dlodi, yn anffodus, a glywn gan Geidwadwyr fel arfer. Mae'n awgrymu efallai na fyddai rhai teuluoedd yn gwario'r arian ar y pethau iawn. Mae hynny, os caf ddweud, yn warthus. 

Dywed y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant eu bod yn gweld, bob dydd, effaith diffyg maeth ar iechyd a lles plant. Ac i lawer o deuluoedd, mae prydau ysgol yn achubiaeth, yn enwedig yn ystod—

—misoedd tywyll a drud y gaeaf. Os nad yw'n medru fforddio cynnal y cynllun yn barhaus, a fyddai'r Llywodraeth yn fodlon ystyried cyflwyno cynllun argyfwng y gaeaf hwn i sicrhau bod plant mewn tlodi, o leiaf, yn cael sicrwydd o fwyd dros bythefnos gwyliau'r Nadolig?

Wel, Llywydd, mae'r gaeaf yn mynd i fod yn anodd i deuluoedd gyda phlant, wrth gwrs. Mae hwnna'n wir. Ond mae'n anodd i bob un o'r gwasanaethau cyhoeddus hefyd, achos does dim digon o arian gyda ni i wneud popeth rŷn ni eisiau gwneud. Ac, ar ddiwedd y dydd, mae dewisiadau i gael eu gwneud, ac mae'r Llywodraeth wedi gwneud nifer o'r dewisiadau gyda Phlaid Cymru. Dyna pam rŷn ni'n buddsoddi mewn prydau am ddim yn ein hysgolion. A dyna pam rŷn ni'n dal i roi arian i helpu gyda'r brecwast am ddim yn yr ysgol hefyd. Dyna pam rŷn ni'n rhoi arian bob blwyddyn nawr i deuluoedd i helpu gyda'r costau ysgol. 

So, ar ddiwedd y dydd, Llywydd, pan does dim digon o arian gyda ni i wneud popeth y gallem ni wneud, ac y gallem ni wneud pe byddai'r arian gyda ni, penderfyniadau anodd ydyn nhw, ond blaenoriaethu pethau yw beth rŷn ni'n gwneud fel Llywodraeth i drio gwarchod y teuluoedd mwyaf bregus yng Nghymru, a'i wneud e mewn ffordd sy'n effeithiol yn eu bywydau nhw. 

Fel y gwyddom ni, mae teuluoedd ag aelod neu aelodau anabl yn fwy tebygol o fod ag incwm is na fel arall, a dyna pam mae'r cymorth uniongyrchol a ddarperir gan y trydydd sector yng Nghymru mor hanfodol. Yn ddiweddar, mae Cerebral Palsy Cymru wedi ysgrifennu at yr holl aelodau yn y fan yma, yn eu hannog i ysgrifennu at eich Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi eu cais am gyllid ar gyfer eu rhaglen ymyrraeth gynnar, fel nad oes rhaid iddyn nhw droi ymaith unrhyw fabi neu deulu yng Nghymru a all elwa ar eu gwasanaeth sy'n newid bywydau. Dim ond 20 y cant o'u cyllid sy'n dod gan gyrff statudol drwy ymyriadau arbenigol byrddau iechyd lleol, ac nid yw eu cyllid wedi cynyddu ers 2009. 

Mae Family Fund yn cefnogi teuluoedd incwm isel sy'n magu plentyn neu berson ifanc anabl neu ddifrifol wael, ac rwy'n cynnal digwyddiad yn y Senedd yfory i nodi hanner canfed pen-blwydd. Mae'r gwaith hanfodol a ddarperir gan elusennau fel y rhain yn haeddu cefnogaeth nid yn unig oherwydd y gwasanaethau hanfodol y maen nhw'n eu darparu, ond hefyd oherwydd eu bod yn tynnu pwysau o ran adnoddau oddi ar y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, h.y. cyllidebu clyfar. Sut ydych chi'n ymateb i'r gwahoddiad a estynnwyd atoch gan Cerebral Palsy Cymru i ymweld â'u canolfan arbenigol yng Nghaerdydd i weld eu gwaith unigryw gyda phlant a theuluoedd ledled Cymru, ac i'r gwahoddiad i ymweld â digwyddiad hanner canfed pen-blwydd y Family Fund yn y Senedd yfory?

13:35

Llywydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl bod y ddau sefydliad y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw yn gwneud gwaith rhagorol ac yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau dinasyddion Cymru. Y sefyllfa y bydd Llywodraeth Cymru ynddi yw nad oes arian i wneud yr holl bethau yr hoffem ni eu gwneud. Mae mor syml â hynny. Ac mae'n rhaid i Aelodau sy'n codi, ar draws y Siambr, yn gofyn am fwy o arian ar gyfer hwn a mwy o arian ar gyfer y llall, a pham na allwn ni ariannu rhywbeth arall, mae gennyf i ofn, wynebu'r realiti bod ein cyllideb yn gostwng bob blwyddyn. Mae wedi mynd i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn termau real o ganlyniad i'r polisïau cyni a ddilynir gan Lywodraeth y DU. Ac rydym wedi cyrraedd pwynt lle bydd yn rhaid gwneud dewisiadau anodd iawn. Blaenoriaethau y byddwn ni'n eu pennu—efallai y bydd eraill yn eu pennu'n wahanol—. Pan fyddwch chi'n pennu blaenoriaethau, gadewch i mi egluro i'r Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr hyn: ar gyfer popeth rydych chi eisiau ei wneud, mae'n rhaid i chi allu dweud beth na fyddech chi'n ei wneud. Dyna mae blaenoriaethu yn ei olygu, ac edrychaf ymlaen at weld Aelodau'r Blaid Geidwadol yn sefyll i fyny ac esbonio'r pethau hynny y bydden nhw yn rhoi'r gorau i'w hariannu, yn ogystal â'r holl bethau niferus hynny y maen nhw'n dweud y bydden nhw'n hoffi eu hariannu.

Prif Weinidog, hoffwn fynd â'r pwnc hwn yn ôl at y pethau sylfaenol. Rwy'n arswydo at y distawrwydd gan Lywodraeth y DU ynghylch a fydd budd-daliadau'n cael eu codi yn unol â'r chwyddiant rhemp y mae wedi'i greu. Mae hyn yn arbennig o wir pan fyddwn ni'n cyferbynnu'r distawrwydd hwn â'u hystyriaeth proffil uchel a lleisiol o leihau treth etifeddiaeth, pan fyddwn yn gwybod bod cysylltiad rhwng budd-daliadau annigonol, gan gynnwys budd-daliadau mewn gwaith fel credyd cynhwysol, a thlodi teulu a phlant. Prif Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith methu â gwneud hyn ar blant o deuluoedd incwm isel yng Nghymru?

Llywydd, gwyddom fod cannoedd o filoedd o blant ledled y Deyrnas Unedig a fydd mewn tlodi o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. Dyna mae Llywodraeth y DU ei hun yn ei ddweud. Nid rhywbeth yr wyf i'n ei wneud i fyny yw hynny—mae eu ffigyrau nhw eu hunain yn dangos y bydd cannoedd o filoedd yn rhagor o blant mewn tlodi o ganlyniad i'r penderfyniadau y maen nhw wedi eu gwneud yn barod. Ac rydych chi'n gwybod pan fydd y Torïaid yn anobeithiol, Llywydd, oherwydd maen nhw'n troi fel erioed ar aelodau gwannaf ein cymdeithas. A'r pethau cywilyddus rydyn ni wedi gorfod eu darllen dros y penwythnos ynglŷn â thargedu hawlwyr budd-daliadau, gan ddweud bod pobl sydd â chyflyrau iechyd ac anabledd—. Tybed a yw Mark Isherwood yn gwrando; na, dydw i ddim yn credu ei fod e. Mae Gweinidog ei Lywodraeth yn dweud y byddan nhw'n lleihau budd-dal pobl ag anableddau, sy'n dibynnu ar y budd-dal hwnnw am eu cynhaliaeth wythnosol. Gofynnir cwestiwn i mi gan Aelodau Ceidwadol am yr hyn y gallwn ni ei wneud i bobl ag anableddau, ac rwy'n egluro bod yn rhaid gosod y pethau y gallwn eu gwneud yng nghyd-destun toriadau pellach—toriadau pellach—y mae ei Lywodraeth ef yn bwriadu eu gwneud ar gyfer pobl ag anableddau. Ac mae hynny'n cyferbynnu'n uniongyrchol iawn, onid ydyw, gyda newyddion bod y Blaid Geidwadol yn ystyried toriadau i dreth etifeddiaeth. Pedwar y cant—y 4 y cant cyfoethocaf—o bobl yn y wlad gyfan i weld eu hincwm yn cynyddu, tra bod pobl sy'n ymdopi ar yr incymau lleiaf oll yn gorfod poeni bod yr incymau hynny'n cael eu herydu hyd yn oed ymhellach.

Cynlluniau Rhwydwaith Bysiau

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses ar gyfer llunio cynlluniau rhwydwaith bysiau diwygiedig y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol eu gwneud ar sail ranbarthol? OQ60274

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Gofynnwyd i awdurdodau lleol gynllunio rhwydwaith a blaenoriaethu llwybrau sy'n gwasanaethu anghenion eu dinasyddion orau. Maen nhw'n cael eu cefnogi yn y gwaith hwnnw gan Trafnidiaeth Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru.

Diolch. Wel, yn gyntaf, nid yw'n digwydd, a, (b), nid ydyn nhw'n cael eu cefnogi, oherwydd gallaf i ddweud wrthych chi. Y brif ganolfan boblogaeth ar gyfer cefn gwlad Conwy yw tref farchnad Llanrwst. Mae'n rhaid i bedwar deg pedwar y cant o'r preswylwyr deithio mwy na 2 km i'r gwaith. Yn sicr, gallan nhw ddim dibynnu ar unrhyw wasanaeth bws. Mae'r un olaf gyda'r nos am 6.50 p.m., ac mae'n wasanaeth mor achlysurol na all gweithwyr gyrraedd y gwaith, ac mae perchnogion busnes mewn anobaith oherwydd prinder staff o ganlyniad i hyn. Nawr, ar 12 Medi, ysgrifennodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog, ataf yn datgan ei fod wedi gofyn i TrC weithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol ar sail ranbarthol i gynhyrchu cynlluniau rhwydwaith bysiau diwygiedig. Nid yw'n digwydd. Mae hefyd wedi dweud bod y gwaith cynllunio sydd ar y gweill ar gyfer y gogledd yn cynnwys archwiliad gofalus o lwybrau allweddol yn nyffryn Conwy. Er gwaethaf ysgrifennu at TrC ac awdurdodau lleol, nid oes unrhyw wybodaeth o gwbl wedi bod ar gael. Fe wnaethon nhw anwybyddu'r cwestiwn pan ofynnom ni am y cynlluniau hynny. Felly, a allwch chi, Prif Weinidog, fynd yn ôl i ddarganfod drosom ni yr Aelodau, amserlenni a manylion ynghylch pryd y bydd y cynlluniau hyn ar gyfer y rhwydwaith bysiau diwygiedig yn Nyffryn Conwy ar gael i ni i gyd mewn gwirionedd, nid yn unig i'w gweld, ond hefyd i ymgynghori arnyn nhw fel Aelodau etholedig? Diolch.

13:40

Wel, Llywydd, nid wyf yn credu y dylid cymryd y ffaith nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau fel tystiolaeth nad yw'r gwaith yn mynd rhagddo, oherwydd mae'r gwaith yn mynd rhagddo. Mae wedi bod yn mynd rhagddo ar yr ôl troed rhanbarthol hwnnw. Bydd awdurdodau lleol, gan weithio gydag eraill, yn nodi rhwydwaith craidd o wasanaethau strategol—gwasanaethau, er enghraifft, sy'n gwasanaethu safleoedd cyflogaeth allweddol, cyfleusterau gofal iechyd, lleoliadau addysg a hyfforddiant. Efallai nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau ac efallai nad yw ar gael eto i'w gyfleu i'r Aelodau, ond ni ddylid cymryd hynny fel tystiolaeth nad yw'r gwaith yn mynd rhagddo.

Mae'r cynllun Fflecsi Bwcabus wedi dod i ben, ddiwedd mis diwethaf, yng Ngheredigion a sir Gaerfyrddin. Yn sgil hynny, mae yna gais wedi dod i'r bysys eu hunain gael eu dychwelyd i Drafnidiaeth Cymru. Ydy'r Llywodraeth yn fodlon rhoi addewid y gellir cadw'r bysys yna'n lleol tra bod yna ymgais yn dal i fynd ymlaen i geisio ffeindio ffordd amgen i ailddechrau'r gwasanaeth? Ac, yn y cyswllt hynny, mae trafnidiaeth gyhoeddus wledig yn flaenoriaeth gyda'r Llywodraeth o ran polisi trafnidiaeth. A fyddech chi'n fodlon edrych yn ffres, yn greadigol, pe bai yna adnoddau ychwanegol yn dod yn sgil unrhyw benderfyniad cyllidol yn San Steffan, yn anuniongyrchol trwy gynlluniau fel yr SPF, fel eich bod chi'n fodlon edrych yn greadigol i weld a oes ffordd ymlaen ar y cyd gyda'r awdurdodau yn lleol?

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Adam Price am y pwynt yna. Dwi'n ymwybodol o'r ffaith bod y bysys ar gael ar hyn o bryd yn sir Gâr ar ôl y gwasanaeth Bwcabus, a beth dwi'n ei ddeall yw bod y Llywodraeth yn fodlon i sir Gâr gadw'r bysys—mae pump ohonyn nhw ar hyn o bryd—am y chwe mis nesaf i ddechrau, i gael mwy o drafodaethau gyda Trafnidiaeth Cymru ac i weld a oes rhywbeth mwy hyblyg y gallwn ni feddwl amdano neu a oes syniadau newydd ar gael. Felly, dwi'n hapus i gadarnhau hwnna heddiw.

Prif Weinidog, rwy'n bryderus iawn y bydd gan y rhwydwaith craidd arfaethedig ddigon o gyllid, wrth fwrw ymlaen, ar ôl dros ddegawd o gyni. Ac mae wedi bod mor siomedig—rydych chi'n clywed am £100 biliwn syfrdanol o wastraff Torïaidd. Gallai'r arian hwnnw fod wedi mynd ar wasanaethau cyhoeddus. Felly, mae hynny wir yn fy mhryderu. Ond, Prif Weinidog, mae gwybodaeth awdurdod lleol a gyrwyr a theithwyr yn gwbl hanfodol wrth greu rhwydweithiau bysiau cynaliadwy. Felly, wrth i ni gynllunio'r rheini, wrth fwrw ymlaen, a gyda hyn mewn golwg, a allech chi amlinellu pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei weld i gwmnïau bysiau trefol sy'n eiddo i awdurdodau lleol o dan rwydwaith bysiau diwygiedig, a fydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn, gan sicrhau bod gennym yr wybodaeth leol honno? Ac os gallwn ni gael y cyllid gwasanaeth cyhoeddus hwnnw yn ôl i Gymru, byddai hynny'n wych. Diolch.

Wel, diolch i Carolyn Thomas am hynna, Llywydd. Ac, wrth gwrs, mae'r Aelod yn iawn i gyfeirio at y ffaith, pan oedd gwasanaethau bws yn cael eu hamlygu i rymoedd y farchnad a'u preifateiddio, bod Llywodraeth y cyfnod wedi cyflwyno gwaharddiad ar ragor o fysiau sy'n eiddo i'r awdurdod lleol. Mae gennym ddau wasanaeth bws trefol yng Nghymru o hyd. Roeddwn i'n falch iawn o gyfarfod â phrif weithredwr newydd Bws Caerdydd yn ddiweddar a chlywed am y cynlluniau sydd ganddyn nhw ar gyfer datblygu eu gwasanaeth. Mae'n fodel da iawn oherwydd nid yw'n cynnwys dosbarthu elw preifat. Mae unrhyw arian sy'n cael ei wneud yn cael ei fuddsoddi i wella ansawdd y gwasanaeth. A dyna pam y bydd ein Bil bysiau arfaethedig yn dileu'r gwaharddiad ar greu cwmnïau bysiau sy'n eiddo i'r awdurdod lleol yma yng Nghymru fel rhan o'n penderfyniad i roi gwasanaethau bysiau'r dyfodol ar sail lle mai budd y cyhoedd yw'r hyn sy'n ysgogi penderfyniadau a wneir.

13:45
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch yn fawr, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf cyflwynodd y Llywodraeth ddatganiad am ei strategaeth dileu TB. Yn anffodus, gofynnodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru gwestiwn am hyfywedd ffermydd o ran parhau os ydyn nhw'n dioddef o TB yn barhaus. Mae hwnnw'n gwestiwn nad yw'n deilwng i'w roi ar lawr y Senedd oherwydd, yn y pen draw, mae pob fferm da byw yn y wlad hon wedi gwneud popeth y mae'r Llywodraeth wedi'i ofyn ohonynt drwy fodloni'r safonau bioddiogelwch, mynd i brofion blynyddol, profi cyn symud a chydymffurfio cystal ag y gallant gyda phob mesur y mae'r Llywodraeth wedi'i roi ar waith. Ni wnaeth y Gweinidog, pan atebodd y cwestiwn hwnnw, nodi a oedd y Llywodraeth yn mynd ati i ystyried mesurau o'r fath ar gyfer ffermydd sy'n dioddef o TB yn barhaus. A allwch chi gadarnhau heddiw, Prif Weinidog, nad polisi Llywodraeth Cymru fydd atal ffermydd da byw sydd, heb unrhyw fai arnyn nhw, yn cael eu hunain dan fygythiad cynyddol oherwydd TB buchol rhag bod â da byw ar eu ffermydd? 

Llywydd, rwy'n hapus iawn i gadarnhau nad oes polisi Llywodraeth Cymru o'r math hwnnw. 

Mae hynny'n braf iawn clywed, Prif Weinidog, ond a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod yn anffodus i'r cynnig hwnnw gael ei gyflwyno? Oherwydd petai rhywun yn cael ei gyhuddo, oherwydd lliw ei groen neu ei grefydd, ac yn gorfod symud o gymuned, byddai hynny'n gwbl annerbyniol. Ac oherwydd bod rhywun yn canfod eu hun mewn sefyllfa ffermio gyda TB buchol parhaus heb unrhyw fai arno fe—ac rydyn ni'n gwybod y difrod y mae TB buchol yn ei wneud i lesiant emosiynol a meddyliol teuluoedd ffermio—mae hynny'n gynnig annerbyniol i'w gyflwyno. A ydych chi'n credu bod y cynnig hwnnw'n anghywir ac, yn y pen draw, a ddylai'r Aelod ailystyried y cynnig hwnnw a roddodd ar lawr y Senedd yn y datganiad ar gyfer TB buchol yr wythnos diwethaf? 

Llywydd, yn gyntaf oll, gadewch i mi gydnabod yr effaith emosiynol ac iechyd meddwl ar ffermwyr pan, ar ôl blynyddoedd lawer o fuddsoddiad, mewn llawer o achosion, wrth ddatblygu buchesi, maen nhw'n canfod bod TB yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gymryd camau mor sylweddol. A dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cymaint o filiynau a miliynau o bunnau, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i geisio sicrhau, pan fydd ffermwyr yn wynebu'r anffawd honno, fod rhwyd ddiogelwch yno a ddarperir gan y wladwriaeth i'w cynorthwyo drwy'r profiad ofnadwy hwnnw.

Llywydd, ar lawr y Senedd, gall Aelodau ofyn cwestiynau a mynegi barn. Yn aml, rydyn ni yn y pen draw yn gwneud hynny mewn ffordd gryno oherwydd natur y ddadl yn y fan yma. Rwyf wedi darllen ers hynny bod Joyce Watson wedi egluro, pe bai hi wedi cael cyfle i fynegi ei barn yn llawnach, nad oedd byth yn fwriad ganddi awgrymu y byddai pobl yn cael eu gorfodi oddi ar y tir. Roedd yn fwy o fater o fynegi pryder am lesiant pobl sydd, dro ar ôl tro yn yr ardaloedd hyn lle ceir problemau, yn canfod bod y clefyd, ar ôl cymryd camau i geisio dileu TB, yn dod yn ôl, a'r effaith andwyol iawn y mae'n rhaid bod hynny yn ei chael ar y teuluoedd hynny.

Yn sir Benfro yn arbennig, fel y bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwybod, mae gennym bellach brosiect newydd, prosiect sy'n cynnwys 15 fferm, chwe milfeddyg, ffordd newydd o geisio sicrhau, lle mae'r clefyd â'r gafael cryfaf, fod yna fathau newydd o weithredu cydweithredol y gallwn eu cymryd gyda'n gilydd yn ein huchelgais a rennir, sef dileu TB buchol yng Nghymru. 

Ac rydym yn rhannu'r uchelgais hwnnw ynghylch dileu TB buchol, ac rwy'n cymeradwyo gwaith y Gweinidog a'i swyddogion i wneud hynny, ond, pan welwch sylwadau o'r fath, a daeth y sylwadau i ben gyda'r geiriau

'mae angen iddyn nhw ddod o hyd i fusnes arall',

beth all pobl feddwl a deall oddi wrth sylwadau o'r fath, pan fyddan nhw'n eu clywed, o'r gefnogaeth y gallent ei derbyn yn y frwydr unedig hon i ddileu TB buchol? Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedoch chi, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr bod eraill y tu allan i'r lle hwn wedi clywed yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud. Bydd pobl yn dod i'w casgliadau.

Ond pe bawn i'n gallu gofyn ar bwynt arall am y rheoliadau ynghylch TB buchol, mae fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz wedi tynnu sylw at y rheoliad yn benodol o ran gwartheg cyflo sy'n tynnu at ddiwedd eu beichiogrwydd, ac yn y pen draw yn cael eu difa heb fod hynny yn y ffordd fwyaf trugarog—a dyna'r ffordd fwyaf cwrtais y gallaf ei rhoi. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae'r rheoliadau'n caniatáu mabwysiadu dull mwy sensitif. Mae'r dull sensitif hwnnw yn cael ei fabwysiadu ar sail iechyd anifeiliaid yn ogystal â lles a llesiant meddyliol pobl. A gaf i erfyn arnoch i dderbyn bod y newid hwnnw o ran rheoleiddio yma yng Nghymru—oherwydd mae wedi profi i fod yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac ni allaf weld sut yr ydym ni'n wahanol iawn yma yng Nghymru—i ganiatáu i'r newid hwnnw ddigwydd a fyddai'n gwneud cymaint o fudd i les pobl a lles anifeiliaid?

13:50

Diolch i arweinydd yr wrthblaid am dynnu sylw at hynny. Mae'n fater hynod sensitif ac mae'n rhaid ei bod yn gwbl ofnadwy i ffermwyr sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa honno. Mae'r Gweinidog wedi gofyn i'r grŵp cynghori technegol newydd yr ydym yn ei sefydlu—ac mae hysbysebion allan a phobl yn cael eu recriwtio iddo—i roi cyngor uniongyrchol iddi ar yr union fater hwnnw. Os oes tystiolaeth o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig o sut y gellir mynd i'r afael â'r gyfres honno o amgylchiadau mewn ffordd drugarog ac sy'n ystyried y gost ddynol o orfod lladd anifeiliaid cyflo ar y fferm, yna wrth gwrs bydd y Gweinidog yn barod iawn i dderbyn y cyngor hwnnw. 

Diolch, Llywydd. Fis diwethaf, cyflwynodd Plaid Cymru gyfres o welliannau i Fil caffael y GIG, gwelliannau gyda'r nod o amddiffyn ein GIG rhag preifateiddio graddol. Nawr, dros y penwythnos, dywedodd Ysgrifennydd iechyd y Blaid Lafur, Wes Streeting, y byddai, ac rwy'n dyfynnu,

'yn dal y drws yn llydan agored'

i entrepreneuriaid y sector preifat yn y GIG. Dywedodd fod GIG Lloegr o dan y Torïaid wedi dechrau symud i'r cyfeiriad cywir drwy ddod â mwy o gwmnïau preifat i mewn, ond roedd eisiau gweld Llywodraeth Lafur, ac rwy'n dyfynnu eto,

'yn rhoi ein troed ar y sbardun'.

A yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai dod â'r sector preifat i mewn yw'r allwedd i wella'r GIG?

Tybed a oes angen i mi atgoffa arweinydd Plaid Cymru bod iechyd wedi bod yn fater datganoledig yng Nghymru ers 1999. Ni sy'n gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru ar gyfer gwasanaeth iechyd Cymru a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Nid yw'r hyn sy'n cael ei ddweud yn San Steffan—lle rwy'n gwybod y byddai'n well ganddo fod—na'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan yn berthnasol i'r penderfyniadau y byddwn ni'n eu gwneud yma. 

Diolch yn fawr iawn am yr ateb. Mae'n gymaint o drueni, yn y cyd-destun hwnnw, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein gwelliannau i Fil caffael y GIG, a fyddai wedi amddiffyn y GIG yng Nghymru rhag preifateiddio graddol. Ond fe wnawn ni symud ymlaen o hynny.

Mae angen arloesi, mewn gwirionedd, yn y GIG—yn sicr. Ond nid oes angen i hynny olygu preifateiddio, a'r awgrym clir gan Wes Streeting yw bod Llafur yn cefnogi mwy o ddarparu gwasanaethau'r GIG gan y sector preifat.

Nawr, mae angen buddsoddiad arnom hefyd, yn y GIG. Rwy'n ofni y bydd datganiad yr hydref yfory yn ymgais eithaf gofidus i sicrhau penawdau yn ymwneud â threthi a fydd yn gwneud buddsoddiad mewn pobl ac mewn gwasanaethau cyhoeddus hyd yn oed yn anoddach. Y dewis arall? Wel, mae Paul Johnson o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud bod Llafur ond yn addo yr hyn y mae'n ei alw'n gynnydd bach iawn iawn o £1 biliwn o gyllid iechyd i'r DU gyfan os ydyn nhw'n dod i rym. Mae hynny'n cyfateb i rywbeth fel £16 y pen i Gymru os oes symiau canlyniadol. Hanner can miliwn o bunnau—ydy'r Prif Weinidog yn credu bod £50 miliwn yn ddigon i ddod â GIG Cymru yn ôl o'r dibyn?

Llywydd, mae'n ymddangos i mi ein bod yn ailadrodd y gêm hon bob wythnos, lle mae arweinydd Plaid Cymru eisiau gofyn cwestiynau i mi gan ddyfalu am Lywodraeth nad yw wedi'i hethol, ac nid wyf am dderbyn hynny ganddo. Bydd fy ymdrechion i, ac ymdrechion fy nghyd-Aelodau yma, yn cael eu cyfeirio at sicrhau ein bod yn cael y Llywodraeth Lafur honno, ac yna byddwn yn cael y buddsoddiad sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ni fydd unrhyw Lywodraeth sy'n dod i mewn, yn wyneb canlyniad Liz Truss yn chwalu ein heconomi, yn gallu llenwi pob twll ym mhob gwasanaeth sydd wedi'i greu dros y 13 blynedd diwethaf. Ond fe ddywedaf hyn wrtho: os bydd cyfle i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, fe ddaw gyda'r Llywodraeth Lafur honno, a dyna fyddwn ni'n gweithio yma i'w gyflawni.

Rwy'n ysu am gael gwared ar y Llywodraeth Dorïaidd, ond byddaf yn ailadrodd bob wythnos yn y fan yma cyn lleied y mae Llafur yn ei gynnig i Gymru wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf. Ddoe, cwrddais â meddygon teulu ac arweinwyr gofal sylfaenol ar Ynys Môn. Fe wnes i'r un peth yn Rhuthun yn ddiweddar gyda Llyr Gruffydd. Mae'n amlwg bod pwysau ar gyllidebau gofal sylfaenol, gan ddod â nhw ymhell islaw'r lefelau hanesyddol o gyfran o gyllid y GIG yr oedden nhw'n arfer eu cael, mae hynny'n golygu adnoddau annigonol, mae'n golygu llwyth gwaith anghynaliadwy, mae'n golygu gweithlu o dan bwysau. Nawr mae gofal sylfaenol wrth wraidd mesurau ataliol. Er enghraifft, pe bai meddygfeydd Ynys Môn yn cael adnodd cymedrol i reoli clefyd cronig yr arennau, ac os trwy wneud hynny y gallen nhw atal dwsin o bobl rhag gorfod cael dialysis yn nes ymlaen, yna byddai'n talu amdano'i hun.

Ffordd dda o roi sicrwydd i ofal sylfaenol y gallai pethau wella fyddai cyfaddef rhai camgymeriadau a wnaed yn y gorffennol. Felly, a yw'r Prif Weinidog, fel cyn-Weinidog iechyd ei hun, yn cytuno â mi nawr bod y model cyllido presennol, tanariannu gofal sylfaenol fel cyfran o gyllid y GIG, wedi bod yn gamgymeriad?

13:55

Wel, fe wnaf roi pethau'n gadarnhaol iddo, oherwydd nid wyf yn rhannu ei farn gyson negyddol o'r byd. Fe wnaf ei roi yn gadarnhaol iddo fod Llywodraethau olynol Cymru wedi gwneud ymdrechion i symud cyllid allan o ofal eilaidd ac i ofal sylfaenol. A gallaf ddweud wrthych chi, o'r holl ymdrechion hynny, ei fod yn llawer, llawer anoddach i'w wneud nag ydyw ei droi yn slogan. Oherwydd y duedd gynhenid yn y gwasanaeth iechyd yw tynnu arian i mewn i ysbytai a thynnu arian i mewn i'r pethau sy'n denu penawdau yn gyson pryd bynnag y bydd unrhyw beth yn mynd o'i le. Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn gofal sylfaenol ochr yn ochr â hynny i gyd: arian y llynedd yn negodiadau'r pwyllgor meddygon teulu i ystyried y safonau mynediad newydd yr ydym wedi'u gweithredu eleni ac rydyn ni eisoes yn gwneud gwahaniaeth sylweddol; yr arian ychwanegol yr ydym wedi'i roi yn y contract fferyllfeydd. Mae enghraifft dda iawn o ble mae gwasanaethau'n lleddfu pwysau ar ein meddygfeydd gan fod pobl yn gallu defnyddio'r cynllun mân anhwylderau—miloedd ar filoedd o ymgynghoriadau newydd mewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru eleni—a bydd y contract newydd y byddwn yn ei drafod gyda'n optometryddion yn cael yr un effaith.

Polisi Llywodraeth Cymru yw symud gweithgarwch i ofal sylfaenol, i waith ataliol, ond—gallaf ddweud hyn wrthych chi—bwriad y polisi a'r gallu i'w weithredu, o na bai mor hawdd ag y mae Plaid Cymru yn credu y mae.

Swyddi ym Mharc Bryn Cegin, Bangor

3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am yr ymdrechion i ddenu swyddi i Barc Bryn Cegin ar gyrion Bangor? OQ60307

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian, Llywydd, am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn trafod gyda datblygwyr sector preifat ac Uchelgais Gogledd Cymru i ddatblygu cynigion ar gyfer Parc Bryn Cegin. Mae diddordeb yn y safle wedi cynyddu ac mae disgwyl y bydd rhagor o ddefnydd o'r plotiau sydd ar gael. 

Mae datblygu'r parc yma'n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a rydych chi'n gwybod fy mod i wedi bod yn holi yn fan hyn ers 2016 beth sy'n digwydd yna, a dwi ddim yn mynd i ymddiheuro am fynd yn ôl at y pwnc eto. Mae peth cynnydd wedi digwydd yn ddiweddar, fel rydych chi'n amlinellu, ond mae hynny ar ôl bron i 20 mlynedd o ddim cynnydd o gwbl yna. A bron i 30 mlynedd ers i'r addewidion mawr am greu swyddi gael eu gwneud, does yna ddim yr un swydd—dim un—ym Mharc Bryn Cegin hyd heddiw. Felly, a wnewch chi, os gwelwch yn dda, roi blaenoriaeth i greu swyddi yn y fan hon? Dyma ydy'r peth lleiaf fedraf i ofyn i chi, fel cynrychiolydd pobl yr ardal, i wneud, i roi blaenoriaeth i'r mater yma. 

Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn ychwanegol, ac, wrth gwrs, dwi'n deall pam ei bod hi fel yr Aelod lleol yn tynnu sylw unwaith eto at Barc Bryn Cegin. Mae'r newyddion yn dda, yn well. Mae wedi bod yn amser hir yn dod, ond mae yn dod nawr. Mae tri o'r naw plot wedi cael eu gwerthu'n barod, mae tri arall lle mae pobl wedi gwneud cais i'w prynu, a gyda'r tri sydd ar ôl, rŷn ni'n cydweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru i fuddsoddi mewn plot newydd i gael cyfleusterau newydd sydd yn mynd, os rŷn ni'n llwyddo, i greu 70 o swyddi newydd yn y parc. So, dwi'n hapus i ddweud wrth yr Aelod heddiw ein bod ni yn gweithio'n galed fel Llywodraeth. Rŷn ni wedi cael mwy o lwyddiant dros y flwyddyn ddiwethaf ac rŷn ni'n awyddus nawr i adeiladu ar hynny i dynnu mwy o swyddi i mewn i Fangor ac i'r ardal.

14:00

Diolch i chi, Prif Weinidog, am yr ymateb yna, ac mae'n dda clywed bod rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud ar y safle. Rwy'n credu bod angen rhoi clod i Siân Gwenllian am godi'r mater hwn yn barhaus yma yn y Siambr dro ar ôl tro; rwy'n credu mai dyma'r pedwerydd tro i mi gael cwestiwn atodol i un o'r cwestiynau tebyg hyn yma yn y Siambr.

Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am rôl Uchelgais Gogledd Cymru yn y gwaith yno, ac, wrth gwrs, mae bellach wedi'i sefydlu fel cyd-bwyllgor corfforedig, gyda'r gallu i ddal asedau a chyflogi pobl yn hynny o beth. Tybed pa ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i Barc Bryn Cegin yn cael ei drosglwyddo i'r cyd-bwyllgor corfforedig yn y gogledd i'w reoli yn y dyfodol, a pharciau tebyg iddo yn y gogledd, fel y gall corff mwy lleol, rhanbarthol, fel Uchelgais Gogledd Cymru, ei reoli yn agosach.

Wel, Llywydd, diolch i Sam Rowlands am hynny. Rwy'n cael fy nghalonogi gan y cynnydd a wnaed drwy Uchelgais Gogledd Cymru wrth greu'r cyd-bwyllgor corfforedig, a dyna pam roeddwn i'n gallu, yn fy ateb i Siân Gwenllian, dynnu sylw at y prosiect yr ydym yn ei wneud ar y cyd ag Uchelgais Gogledd Cymru yn un o'r tri llain sy'n weddill i greu cyfleusterau newydd yno y credwn bydd yn dod â diddordeb o'r newydd gan y sector preifat o ran manteisio ar y cyfleusterau hynny.

Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru â meddwl agored am y ffordd y gallai'r parc gael ei reoli yn yr hirdymor. Nid wyf am drosglwyddo unrhyw beth i sefydliad arall nes ein bod yn hyderus ei fod mewn lle llwyddiannus. Fyddwn i ddim am ei drosglwyddo fel problem i unrhyw un arall, ond, o ystyried bod cynnydd, o ran defnyddio Parc Bryn Cegin ei hun, ond hefyd o ran aeddfedrwydd y trefniadau ar draws gogledd Cymru, yna fyddwn ni â meddwl agored am y ffordd orau o ryddhau posibiliadau'r dyfodol.

Gofal Sylfaenol

4. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o gadernid y sector gofal sylfaenol yng Nghymru? OQ60305

Cyflawnir cydnerthedd trwy arallgyfeirio'r gweithlu, gwneud y defnydd gorau posibl o'r holl staff â chymwysterau clinigol, a chydweithio ac integreiddio cryf rhwng pob agwedd ar ofal sylfaenol, gan ddefnyddio model clwstwr carlam er mwyn gwneud hynny.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nid yw'n cymryd athrylith i ddod i'r casgliad bod gofal sylfaenol ymhell o fod yn gydnerth. Rwyf i, fel y rhan fwyaf o'r Aelodau, wedi cael fy llethu gan lythyrau gan feddygon teulu yn mynegi siom ynghylch y dadansoddiad yn y trafodaethau ynghylch y contract gwasanaethau meddyg teulu. Mae llawer yn nodi eu bod yn ystyried gadael y maes meddyg teulu. Meddygon teulu yw asgwrn cefn ein GIG, ac eto maen nhw wedi cael eu tangyllido, eu tanwerthfawrogi a'u gorweithio ers degawdau.

Nawr, gydag ôl-groniadau mewn gofal eilaidd yn rhoi pwysau ychwanegol ar ofal sylfaenol, rydyn ni mewn argyfwng. Mae meddygon teulu yn gadael y proffesiwn yn eu dwsinau wrth i lwyth gwaith a thanariannu effeithio arnyn nhw. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd o 93,000 mewn cleifion, ond ar yr un pryd wedi colli 84 o feddygfeydd a dros un rhan o bump yn llai o feddygon teulu. Bellach, dim ond tua 7 y cant o gyllid y GIG yw meddygon teulu. Prif Weinidog, a wnewch chi addewid i achub ein meddygfeydd? A wnewch chi ymrwymo i gynllun gweithlu wedi'i ariannu'n llawn sy'n cadw meddygon teulu presennol, ac ar yr un pryd yn hyfforddi digon o feddygon teulu newydd i ateb y galw? Diolch.

Wel, Llywydd, gadewch i mi roi ychydig o ffeithiau ar y cofnod yn y fan yma. Mae gennym system lle, yn sicr, fis ar ôl mis, rydym yn asesu cyflwr y pwysau yn ein gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 86 y cant o feddygfeydd teulu yn adrodd y lefel isaf o ddwysáu. Felly, er ei bod yn hollol wir fod y system dan bwysau aruthrol o ran galw a niferoedd—rwy'n derbyn hynny'n llwyr—mae'r syniad ei fod rywsut mewn argyfwng yn gorliwio'r sefyllfa ac, rwy'n credu, yn tanbwysleisio cydnerthedd y system ei hun.

Y rheswm nad oes trafodaethau ar hyn o bryd yw oherwydd bod Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru wedi oedi trafodaethau cytundebau, nid oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn eu hoedi; fe wnaeth Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru oedi'r trafodaethau hynny. Roedd pum cyfarfod eisoes wedi bod gyda'r pwyllgor, ac mae'n rhaid i mi ddweud eto y prynhawn yma, ac iddyn nhw, ein bod ni ar derfyn y cyllid sydd ar gael i ni yn yr hyn sydd wedi'i roi ar y bwrdd eisoes yn y trafodaethau hynny.

Ac mae'r Aelod yn dweud wrthyf fod meddygon teulu yn gadael y gwasanaeth yn eu dwsinau. Gadewch i mi ddyfynnu iddo y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar y mater hwn. Yn ystod y 12 mis diwethaf, er gwaethaf yr holl anawsterau ariannol sy'n ein hwynebu, roedd twf o 4 y cant yn nifer y meddygon teulu yng Nghymru—nid yn gadael yn eu dwsinau; twf o 4 y cant o ran niferoedd—a thwf o 1 y cant cyfwerth ag amser llawn hefyd. Ymhlith meddygon teulu dan hyfforddiant, mae'r niferoedd a rhai cyfwerth ag amser llawn i fyny 3.2 y cant, ac ymhlith staff practis gofal sylfaenol ehangach, mae'r niferoedd i fyny 2.9 y cant a chyfwerth ag amser llawn i fyny 2.8 y cant. Felly, ar bob un mesur, mae'r niferoedd yn tyfu, nid yn gostwng, ac yn sicr nid ydynt yn cadarnhau unrhyw awgrym bod pobl rywsut yn gadael y gwasanaeth yn eu dwsinau.

14:05

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw a'r diweddariad llawn ar ble rydyn ni gyda'r contract Pwyllgor Meddygon Teulu, ond hefyd ar recriwtio a chadw meddygon teulu.

Rwyf am fynd ag ef yn ôl, os caf, i ymweliad gan y ddau ohonom ni yn gynharach yn yr haf at Jonathan i fyny yn fferyllfa Caerau. Mae Jonathan Jones, mae'n debyg ei bod yn deg dweud, yn un o'r arloeswyr, mewn gwirionedd, fferyllfa a arweinir gan bresgripsiynau, yn rhoi diagnosis ar gyfer mân afiechydon a phethau nad ydynt yn ddifrifol. Oherwydd ei fod yn gwneud hynny ac yn ei wneud ar y cyd â'r meddygfeydd ledled yr ardal, ynghyd â gweithio gyda fferyllwyr eraill, ond yn gweithio gyda meddygon teulu eraill, mae'n helpu i leihau rhywfaint o'r pwysau ar yr union feddygfeydd hynny—maen nhw'n gweithio gyda nhw. Felly, a fyddai'n cytuno â mi mai ar y math hwnnw o waith, ar draws y sector gofal sylfaenol, ar draws meddygaeth ataliol, y mae angen i ni ganolbwyntio hefyd? Nid siop un stop yw hon, nid un ateb mohono; mae angen i'r holl chwaraewyr weithio gyda'i gilydd i roi'r driniaeth a'r diagnosis gorau posibl i bobl yn ein cymunedau.

Diolch i Huw Irranca-Davies am hynny, Llywydd, a dyna'n union roeddwn i'n ei olygu yn fy ateb gwreiddiol pan ddywedais i, er mwyn cadarnhau cydnerthedd y sector gofal sylfaenol yng Nghymru, bod yn rhaid i ni ddefnyddio talentau'r holl bobl hynny sy'n gweithio yn y gwahanol ganghennau o ofal sylfaenol. Roedd yn ymweliad cofiadwy a wnaethom gyda'n gilydd. Dyma fferyllfa a oedd, ddim mor bell yn ôl, yn ei chael hi'n anodd darparu gwasanaethau i'w chymuned leol, ond nawr, gyda rhagnodwr annibynnol mewn fferyllfa gymunedol, mae'n gwbl ffyniannus. Fe welsoch chi a fi bobl yn dod trwy'r drws, yn gallu cael cyngor ac yn gallu cael gafael ar bresgripsiynau hefyd pan oedd eu hangen nhw, ac yn gwneud hynny mewn trefniant agos gyda'r feddygfa leol hefyd.

Llywydd, yn 2017-18, nid oedd unrhyw wasanaethau rhagnodi fferyllfa gymunedol yng Nghymru—dim o gwbl. Eleni, rydym yn disgwyl y bydd tua 77,000 o ymgynghoriadau o'r math hwnnw ac mae hynny yn gynnydd o 46,000 y llynedd. Felly, mae hwn yn nifer sy'n tyfu'n gyflym, mae o ganlyniad i ddiwygio contractau, mae o ganlyniad i fuddsoddiad ac mae o ganlyniad i'r camau yr ydyn ni'n eu cymryd i sicrhau bod y lleoliadau ymarferol sy'n angenrheidiol i'n fferyllwyr ddod yn ragnodwyr annibynnol yn haws yn y sector. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn gamp ryfeddol yma yng Nghymru ar adeg pan fo fferyllfeydd cymunedol dros ein ffin yn Lloegr wedi bod yn cau; mae'r niferoedd sydd wedi cau yn fwy a mwy am bob un o'r pum mlynedd diwethaf, a lle mae'r cau mewn cymunedau difreintiedig o'r math y gwnaethom ni ymweld ag ef wedi bod ddwywaith lefel y cau mewn cymunedau mwy cefnog.

Ynni Adnewyddadwy

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r broses o drosglwyddo i ynni adnewyddadwy? OQ60287

Llywydd, erbyn 2035, rydym am i 100 y cant o'n defnydd trydan blynyddol ddod o ffynonellau adnewyddadwy tra hefyd yn cadw cyfoeth a gwerth yng Nghymru. Rydym yn symleiddio prosesau cynllunio a chydsynio, gan weithio i sicrhau grid ynni effeithiol a chydweithredu ag eraill i wneud y mwyaf o botensial technolegau newydd.

14:10

Diolch, Prif Weinidog. Yn ddiweddar, ymunodd Jane Dodds a minnau â thrafodaeth bord gron yng ngorsaf bŵer RWE yn fy etholaeth i gyda datblygwyr, rhanddeiliaid a chyrff allweddol y diwydiant i drafod y cyfleoedd yn y Môr Celtaidd, ym mhorthladd Penfro ac o fewn ardal clwstwr diwydiannol y de. Un o'r pethau allweddol a gafwyd o'r drafodaeth honno oedd yr angen am gapasiti'r grid ar gyfer prosiectau adnewyddadwy yn y Môr Celtaidd a blaenoriaethu prosiectau, fel nad yw ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn cael eu dal yn yr un ciw â, dyweder, gosodiadau ffotofoltäig solar domestig. Gyda'r prosiect Uwchraddio Grid Mawr wedi'i gyhoeddi yn gynharach eleni, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyfrannu barn ac anghenion Cymru, a datblygiadau posibl Cymru, i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau bod gennym grid i ganiatáu i'n prosiectau fod yn llwyddiannus?

Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw, ac am y diddordeb cyson y mae'n ei gymryd yn y mater hwn a'r cyfleoedd enfawr y gwn y mae e'n credu—ac rwy'n rhannu'r gred honno—sydd yno i drigolion Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Roeddwn i yn RWE fy hun yn gynharach yn yr haf, ac mae'n rhaglen hynod uchelgeisiol sydd ganddyn nhw ym maes hydrogen. Ac, fel y dywedodd Sam Kurtz, Llywydd, mae'r grid yn gwbl sylfaenol i hyn.

Ysgrifennais at y Prif Weinidog ar 12 Hydref. Ac anaml iawn y byddaf yn ysgrifennu at y Prif Weinidog, oherwydd rwy'n credu y dylai llythyr gan Brif Weinidog Cymru fod yn ddigon prin i gael effaith. Ac yn y llythyr hwnnw fe godais, ochr yn ochr â nifer o faterion eraill sy'n berthnasol i sir Benfro, yr angen am seilwaith allweddol yn y grid, a gofyn i Lywodraeth y DU gydnabod nad yw'r seilwaith grid presennol ar draws y Môr Celtaidd yn addas i'r diben, yn gofyn am atebion arloesol ar y môr ac oddi arno, ac i sicrhau bod buddsoddiad rhagweladwy yn dod yn y ffordd y gall y grid weithredu yn y dyfodol. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, patrwm y buddsoddiad grid fu nad ydyn nhw wedi gallu buddsoddi, heblaw lle mae galw wedi'i ddangos eisoes. Mae angen i ni allu rhagweld y galw oherwydd yr holl drydan yr ydym am ei weld yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy o amgylch ein harfordir. Rwy'n edrych ymlaen at ateb gan y Prif Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd un, ac yna, byddwn yn gallu gweithio gyda'n gilydd.

Bydd yr Aelod yn gwybod ein bod wedi cyhoeddi adroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru' ym mis Gorffennaf eleni, a nododd y Gweinidog Newid Hinsawdd ein camau nesaf ni yma yn y Senedd dim ond wythnos yn ôl. Mae mwy y gallwn ni ei wneud, ond dim ond gyda'n gilydd y gallwn ni ei wneud, a dyna pam rwy'n gobeithio y bydd gennym Lywodraeth y DU sydd yr un mor ymrwymedig i sicrhau bod y buddsoddiad sy'n angenrheidiol, os ydym am fanteisio ar y cyfleoedd enfawr sydd yno i Gymru, bod y buddsoddiad hwnnw'n dod yn rhwydd. 

Prynhawn da, Prif Weinidog. Fel y dywed Sam Kurtz, aethom i'r ford gron hon, ac mae'n eithaf ysbrydoledig, y cynlluniau sydd ganddyn nhw ar gyfer ynni adnewyddadwy yn yr ardal benodol honno, sy'n amlwg yn cynnwys Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd. Felly, dim ond canolbwyntio ar un o'r elfennau allweddol eraill, swyddi a sgiliau, cafodd ei bwysleisio i ni faint o bobl sydd eu hangen arnyn nhw mewn gwirionedd ym Mhenfro er mwyn datblygu'r cynlluniau uchelgeisiol sydd ganddyn nhw. Felly, ar gyfer gwynt alltraeth arnofiol, rwy'n gwybod eich bod wedi ei gefnogi ac rydych yn parhau i'w gefnogi, ar gyfer pob 1 GW o ynni a gynhyrchir yn y cam cyntaf mae angen 10,000 o swyddi newydd arnyn nhw, a bydd hynny'n mynd ymlaen yn amlwg dros 20 mlynedd. Felly, gallwch chi ddychmygu'r potensial i greu swyddi newydd sydd eu hangen yn y rhanbarth hwnnw, ond mae eu hangen arnyn nhw yn eithaf cyflym, gan mai dim ond 12 mlynedd i ffwrdd yw 2035. Felly, tybed a fyddech chi'n ystyried cyflymu'r cynllun sgiliau gweithredu sero-net, er mwyn sicrhau y gallan nhw sicrhau'r bobl a'r swyddi sydd eu hangen arnyn nhw yn yr ardal honno. Diolch yn fawr iawn. 

Wel, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn, Llywydd.

Edrychwch, rwy'n gobeithio y bydd yr holl swyddi hynny'n cael eu gwireddu'n llwyr. Byddan nhw'n swyddi mewn rhannau o Gymru lle mae wedi bod yn anodd dod o hyd i gyfleoedd economaidd newydd weithiau, a byddan nhw'n swyddi fydd yn caniatáu i bobl ifanc sydd eisiau aros a gwneud eu dyfodol yn y rhannau hynny o Gymru—byddan nhw'n gallu gweld y dyfodol hwnnw o'u blaenau. Mae un cam cyn y gallwn fod yn hyderus am hynny, sef bod yn rhaid i fuddsoddwyr yn nyfodol ynni adnewyddadwy Cymru fod â'r hyder bod gobaith hirdymor iddyn nhw hefyd. Ar hyn o bryd, nid ydym yn y sefyllfa honno. Mae gennym orwel pedair blynedd o Ystad y Goron, ac nid yw hynny'n ddigon. Os ydych chi'n siarad â'r datblygwyr mawr iawn, sydd â symiau mawr iawn o arian y maen nhw'n bwriadu eu buddsoddi yng Nghymru, maen nhw'n dweud eu bod ond yn gallu defnyddio'r lefel honno o fuddsoddiad os ydyn nhw'n gwybod bod 20 mlynedd o'u blaenau lle y bydd y prydlesi hynny, y posibiliadau newydd hynny yno iddyn nhw. Os nad ydyn nhw'n gweld hynny o'u blaenau, yna nid yw'r swyddi hynny'n mynd i gael eu gwireddu, fydd y swyddi ddim yn dod.

Mae hynny'n golygu ei bod weithiau'n anodd argyhoeddi pobl ifanc yn y rhan honno o Gymru i gymryd y naid honno o ffydd, a phan fydd ganddyn nhw ddewisiadau o'u blaenau am yrfaoedd y gallen nhw eu dilyn, dylen nhw ddewis dilyn y cyrsiau yng ngholeg Penfro, er enghraifft, a fydd yn creu'r sgiliau sydd eu hangen arnom ar gyfer gwynt alltraeth arnofiol yn y dyfodol. Pam fyddech chi'n gwneud hynny fel person ifanc pe na byddech chi'n hyderus y bydd y ddwy flynedd y byddwch chi'n eu treulio yn arwain at swydd yn y diwydiant hwnnw? Pan oeddwn i yng Ngholeg Sir Benfro ddim mor bell yn ôl, Llywydd, roeddwn i'n siarad â phobl sy'n rhedeg y cyrsiau newydd hyn. Roedden nhw'n esbonio sut y bydden nhw'n mynd allan i ysgolion, maen nhw'n ceisio cwrdd â phobl ifanc pan fyddan nhw'n 14 oed, maen nhw'n gwneud ymdrech arbennig i siarad â menywod ifanc, ac maen nhw'n eu hannog nhw gyda'r hyn a allai fod yn bosibl iddyn nhw yn ystod eu hoes. Yna mae'r bobl ifanc hynny'n mynd adref, maen nhw'n siarad â'u rhieni, ac maen nhw'n dweud, 'Rwy'n mynd i fynd ar gwrs a fydd yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnaf i fod yn rhan o ddyfodol ynni adnewyddadwy Cymru.' Mae eu rhieni yn dweud wrthyn nhw, 'Wel, dydw i ddim wedi clywed llawer am hynny. Rwy'n gwybod beth mae athro yn ei wneud, ac rwy'n gwybod beth mae rhywun sy'n gweithio i'r cyngor yn ei wneud.' Mae'n rhaid i ni greu'r hyder ymhlith y bobl ifanc hynny a'u teuluoedd, os byddwch chi'n dewis ennill y sgiliau y bydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o'r diwydiant hwn, bydd y diwydiant a'r swyddi hynny'n cael eu gwireddu.

Dyna pam rwy'n dweud y byddwn ni'n gwneud mwy. Rydym eisoes yn buddsoddi yn sir Benfro, yn arbennig, i sicrhau bod sgiliau yno. Rydym yn gweithio gyda Blue Gem Wind, Floventis Energy ac eraill i sicrhau bod llais cyflogwyr yn cael ei glywed yn y ffordd y mae'r cyrsiau hynny'n cael eu cynllunio. Ond nes bod llwybr, nid yn unig am yr ychydig flynyddoedd nesaf ond ymhell i'r dyfodol, bydd y buddsoddiad sydd ei angen arnom yn cael ei atal, ac ni fydd y swyddi yr ydym ni am hyfforddi pobl ar eu cyfer yn dod yn y niferoedd y byddem yn dymuno eu gweld ac a oedd yn cael eu trafod yn y ford gron.

14:15

Prif Weinidog, bydd y newid i ynni adnewyddadwy yn chwarae rhan enfawr yn ein dyfodol carbon niwtral, fel y bydd gwaith i wneud y sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o fy ymgyrch o ddadfuddsoddi yn y sector cyhoeddus i'w gyflawni erbyn y dyddiad 2030 hefyd, dyddiad sy'n unol â gwyddor hinsawdd ac sy'n cydnabod yr angen i weithredu nawr. Ym mis Rhagfyr, mae gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyfarfod ag arweinwyr a'i harweinwyr pensiwn; mae'r cyfarfod yn ymwneud â chael consensws ynghylch buddsoddiadau pensiwn, yr angen i gyflawni erbyn y dyddiad targed hwnnw o 2030 a'r angen i symud i ffwrdd oddi wrth danwydd ffosil a buddsoddi mewn sectorau eraill, fel marchnad gynyddol y sector ynni adnewyddadwy. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch partneriaid mewn llywodraeth leol a CLlLC am gymryd y camau hyn a'u hannog i ddod i gonsensws ynghylch y dyddiad 2030?

Diolch i Jack Sargeant am hyn, a diolch i Jack am yr holl waith y mae ef wedi'i wneud i dynnu sylw at y mater hwn ac am y cyfarfodydd rydw i wedi gallu'u cael gydag ef a gyda chwaraewyr eraill yn y maes hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog awdurdodau pensiwn llywodraeth leol i ddatgarboneiddio eu buddsoddiadau pensiwn, ac mae'n dda gwybod y bydd y gweithdy hwnnw'n digwydd ddechrau mis Rhagfyr, gweithdy pensiynau a datgarboneiddio. Ond y pwynt rwy'n credu yr hoffwn i ei bwysleisio, ac sy'n clymu dwy ran y cwestiwn hwn gyda'i gilydd, yw mae angen i gronfeydd pensiwn ddatgarboneiddio, ond mae angen iddyn nhw hefyd fod ag uchelgeisiau cadarnhaol i fuddsoddi yn y pethau hynny a fydd yn gwneud gwahaniaeth i ddyfodol pob un ohonom. Rwy'n credu y bydd yr Aelodau wedi clywed rhai pethau yn y newyddion heddiw am ffyrdd newydd o annog cronfeydd pensiwn i fuddsoddi'r symiau enfawr sydd ar gael iddyn nhw i greu swyddi'r dyfodol. Wrth i gronfeydd pensiwn ddatgarboneiddio ar y naill law, oni fyddai'n wych pe baen nhw hefyd yn rhan o'r buddsoddiad y bydd ei angen arnom yn y mathau newydd hynny o ynni adnewyddadwy a fydd yn cynnal swyddi yng Nghymru, ac ar yr un pryd yn chwarae ein rhan wrth ateb her enfawr ein hoes, newid hinsawdd?

14:20
Therapïau Modiwlaidd ar gyfer Cleifion Ffibrosis Systig

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd therapïau modiwlaidd ar gyfer cleifion ffibrosis systig yng Nghymru yn y dyfodol? OQ60275

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn yna. Mae'r triniaethau ffibrosis systig Kaftrio, Symkevi, Orkambi a Kalydeco i gyd ar gael fel mater o drefn yng Nghymru heddiw, yn unol â'r cytundeb mynediad masnachol a gytunwyd gyda'r gwneuthurwr yn 2020. Ar hyn o bryd, mae defnydd yn y dyfodol yn ddarostyngedig i ymgynghoriad yn cael ei gynnal gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.

Diolch am yr ateb hwnnw, Prif Weinidog. Mae camau bras wedi'u cymryd mewn triniaethau ffibrosis systig yn ystod y degawdau diwethaf. Rydyn ni wedi gweld disgwyliad oes yn neidio o fod yn y tridegau i fod yn y pumdegau. Diolch i'r therapïau modiwlaidd sydd ar gael i gleifion ar hyn o bryd, mae gan lawer o gleifion ffibrosis systig ddisgwyliad oes sydd bron â bod yn normal erbyn hyn. Ond fel y dywedoch, mae rhai canllawiau drafft gan NICE nawr o ran nifer o therapïau modiwlaidd ac mae posibilrwydd na fyddan nhw ar gael yn y dyfodol oherwydd cost sylweddol y meddyginiaethau penodol hyn.

Rwy'n gwerthfawrogi, ac mae pawb yn y Senedd hon yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cydbwyso'r pwrs cyhoeddus yn erbyn y buddion y gallai pobl eu cael, ond mae'r rhain yn therapïau sy'n gweddnewid pethau sydd ar gael i gannoedd o gleifion yng Nghymru, ac efallai na fyddan nhw ar gael yn y dyfodol. Os bydd NICE yn penderfynu peidio ag argymell y triniaethau hyn, pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i barhau i gael trefniant masnachol â gwneuthurwyr rhai o'r therapïau modiwlaidd hyn? A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y llwybr cais cyllid cleifion unigol dal ar gael o bosibl i fanteisio ar y meddyginiaethau hyn?

Yn gyntaf oll, rwy'n deall yn llwyr y pryder y mae'r ymgynghoriad wedi'i achosi i gynifer o deuluoedd. Rwyf eisiau ei gwneud yn gwbl glir i bobl y bydd unrhyw un sy'n manteisio ar y cyffuriau hyn ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny, gan gynnwys y plant iau hynny rhwng dwy a saith oed sydd wedi bod yn gymwys ar gyfer y cyffuriau yn ddiweddar.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod bod NICE yn aml mewn trafodaethau â chwmni fferyllol, ac rwy'n credu mai dyma rydych chi'n ei weld yn digwydd ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae'r pris sydd ei angen ar y cwmni yn un y mae NICE yn dweud na allai ei argymell. Felly, rhan o'r hyn y bydd angen digwydd fydd trafodaeth â'r cwmni i ddod â'r pris o fewn yr ystod fforddiadwy honno. Rwy'n credu eich bod chi'n gweld y trafodaethau hynny y tu ôl i'r hyn yr ydyn ni'n ei weld yn digwydd heddiw. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Vertex Pharmaceuticals yn dod i drefniant a fyddai'n caniatáu i'r cyffur fod ar gael nid yn unig yng Nghymru ond ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Dyna'r canlyniad cywir i gleifion, ac rwy'n credu mai dyna, fwy na thebyg, yw'r canlyniad cywir i'r cwmni hefyd, oherwydd maen nhw'n cael eu talu llawer iawn nawr am sicrhau bod y cyffuriau hynny ar gael.

Yn y pen draw, rydyn ni'n dibynnu ar gyngor NICE: annibynnol, arbenigol, diduedd. Rydyn ni'n ei gymryd pan ydyn ni'n hoffi'r cyngor, ac mae'n rhaid i ni ei gymryd pan nad ydyn ni'n hoffi'r cyngor, oherwydd fel arall, mae'r system wedi torri. Ac mae hynny wastad wedi bod yn wir ym maes iechyd; nid yn unig gyda NICE ond gyda sefydliadau fel y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Rydyn ni wedi cael llawer o gwestiynau ar y llawr fan hyn ynghylch a fydden ni'n gallu cefnogi brechlyn ar gyfer y cyflwr hwn, ac yn y blaen. Rydyn ni'n cymryd cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Os ydyn nhw'n dweud ein bod ni'n gwneud hynny, rydyn ni'n ei wneud. A byddai'r un peth yn wir am NICE. Fy ngobaith, o ganlyniad i'r ymgynghoriad a'r trafodaethau sy'n digwydd, yw y byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle bydd y cyffuriau hyn, sy'n achub bywydau yn y ffordd y disgrifiodd yr Aelod, yn parhau i fod ar gael yma yng Nghymru.

Mae llawer o fy etholwyr yn parhau i gysylltu â mi—gan gynnwys y teulu Perkins a'u merch Delilah, ac rydw i hefyd yn cyfarfod â theulu arall ddydd Gwener yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr—oherwydd bod ganddyn nhw blant â ffibrosis systig, ac fel rydyn ni wedi dweud, gall y therapïau hyn roi 50 mlynedd ychwanegol i bobl sydd â'r cyflwr hwn sy'n cyfyngu ar fywyd—fel bywyd go iawn. Mae'r therapïau hyn mor effeithiol fel y gwnaeth yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd gyhoeddi bod Kaftrio yn cael ei chymeradwyo ar gyfer plant cymwys rhwng dwy a phum mlwydd oed yr wythnos diwethaf. Fel y dywedoch, Prif Weinidog, daeth pwyllgor NICE i'r casgliad bod gan therapïau modiwlaidd, gan gynnwys yr holl rai yr ydyn ni wedi siarad amdanyn nhw, fuddion pwysig i bobl â ffibrosis systig, ond ni ellir ystyried eu bod yn cynnig digon o werth am arian am y pris presennol iddyn nhw gael eu hargymell i'w defnyddio fel mater o drefn ar y GIG. Mae hyn yn swnio'n eithriadol o oeraidd a dideimlad, rwy'n credu, i lawer o deuluoedd allan yno a'u plant. Byddwn i hefyd yn gobeithio, felly, fod y gwneuthurwr yn gweithio gyda NICE i gynnig pris sy'n cyflwyno gwell gwerth, oherwydd mae'n ddrud iawn, yr hyn y maen nhw'n ceisio'i godi. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i annog pob un o'n hetholwyr i roi adborth i'r ymgynghoriad fel y gallan nhw ddweud eu dweud—drostyn nhw eu hunain a'u plant—a gobeithio y gall trafodaeth gynnig y dewis gorau i bawb? Diolch.

14:25

Diolch yn fawr, Sarah Murphy. Yn sicr rwy'n cytuno bod angen i lais y claf gael ei glywed yn glir iawn yn yr ymgynghoriad ac mae angen i'r straeon unigol hynny gael eu rhoi i NICE ac i'r gwneuthurwr hefyd. Mae'n waith pwysig iawn yr ydyn ni'n gofyn i NICE ei wneud wrth ddod i'r cyfrifiad hwnnw. Pe na baem ni'n gofyn iddyn nhw wneud hynny, byddai cwmnïau'n gallu gosod eu pris eu hunain, a gallwch chi ddychmygu beth fyddai hynny'n ei olygu. Felly, er mor oeraidd y mae'n swnio mai mater o drafod a chael pris y gall y GIG ei fforddio yw hwn, mae'n drafodaeth gwbl angenrheidiol. Rwy'n gobeithio y bydd y teuluoedd hynny sydd wedi bod yn poeni am yr ymgynghoriad ac sy'n gwybod y gwahaniaeth y mae'r cyffuriau hyn yn ei wneud ym mywydau eu plant yn cyfrannu at yr ymgynghoriad, ac yn cyfrannu nid yn unig at NICE ond hefyd at y cwmni ei hun, fel bod modd cytuno ar bris sy'n caniatáu i'r da y mae'r cyffuriau hyn yn sicr yn ei wneud ym mywydau pobl barhau.

Diolch, Llywydd; rwy'n ddiolchgar i chi. Prif Weinidog, cysylltodd etholwr â mi am y cyffuriau newydd sy'n cael eu cyflwyno i helpu plant â ffibrosis systig. Mae Bertie bach, un o fy etholwyr, yn agosáu at ei ben-blwydd yn ddwy oed erbyn hyn. Yn dair wythnos oed, cafodd ddiagnosis o ffibrosis systig, ond yr unig obaith a gafodd y rhieni bryd hynny oedd y byddai'r triniaethau newydd hyn yn ymestyn ei fywyd ac ansawdd ei ofal. Felly, Prif Weinidog, yn dilyn yr ymgynghoriad, a allwch chi amlinellu i'r Siambr heddiw pa drafodaethau anffurfiol yr ydych chi wedi'u cael fel Llywodraeth gyda NICE a'r hyn yr ydych chi wedi'i roi yn yr ymgynghoriad hwn i sicrhau nad oes unrhyw blant yng Nghymru yn cael eu gadael heb y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac i sicrhau y gallwn ni ymestyn bywydau ein pobl ifanc yng Nghymru? Oherwydd rwy'n credu mai dyna yr ydyn ni yma i'w wneud yn y bôn—i wella bywydau ein pobl ifanc yma yng Nghymru.

Rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud. Ni fyddwn ni'n cael sgyrsiau anffurfiol â NICE; nid wyf i'n credu y byddai hynny'n iawn nac yn gywir. Yn sicr, fe wnewn ni gynrychioli barn cleifion GIG Cymru a chleifion Cymru yn yr ymarfer ymgynghori, a bydd hynny'n adlewyrchu llawer o'r safbwyntiau sydd wedi'u mynegi o amgylch y Siambr y prynhawn yma.

Y Post Brenhinol

7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn monitro'r Post Brenhinol yng Nghymru yn effeithiol? OQ60308

Fel mater a gedwir yn ôl, mae monitro gwasanaethau post a'r Post Brenhinol yn nwylo Llywodraeth y DU. Mae'r Post Brenhinol wedi methu â chyflawni ei rwymedigaethau i bobl yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf ac mae Llywodraeth Cymru yn codi hyn ar bob cyfle.

Diolch. Prif Weinidog, mae'r Post Brenhinol yn parhau i chwarae rhan bwysig ym mywydau cymunedau ledled Cymru, ond mae ei weithlu ar lawr gwlad yn cael ei orweithio, mae wedi blino'n gorfforol ac mae o dan lawer iawn o straen. Ac eto, mae'r Post Brenhinol sydd wedi'i breifateiddio wedi cael dirwy o £5.6 miliwn gan Ofcom am fethu â chyrraedd ei dargedau dosbarthu dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth. Yn 2023, mae rowndiau post yn gorfforol amhosibl i'w gyflogeion sy'n gweithio'n galed. Mae'r gweithlu'n wynebu rowndiau o 13 milltir, yn cael cyfarwyddyd i gymryd rowndiau ychwanegol, yn cael cyfarwyddyd i adael llythyrau ac yn cael cyfarwyddyd i ganolbwyntio ar ddanfoniadau mwy gwerthfawr fel y rhai sy'n cael eu tracio neu barseli. Felly, nid yw'n syndod bod morâl mor isel ag y gall fod. Ac ym mis Medi, cododd y Post Brenhinol y pris am lyfr o stampiau dosbarth cyntaf i £10, a dyna'r ail gynnydd mewn chwe mis. Mae'r cynnydd hwn ym mhris llyfr eleni yn unig yn gynnydd o fwy na phedair gwaith cyfradd chwyddiant—ergyd arall i bobl Cymru sy'n defnyddio'r Post Brenhinol. Ond tra bod yr holl boen ychwanegol hon yn cael ei hachosi, mae International Distribution Services, perchennog y Post Brenhinol, wedi talu £447 miliwn mewn difidendau i'w gyfranddalwyr ers mis Mawrth 2021. Prif Weinidog, cafodd y Post Brenhinol ei werthu yn ddadleuol gan Lywodraeth glymblaid y DU dan arweiniad y Torïaid David Cameron, a phan werthwyd llestri arian y teulu cadwyd rhwymedigaeth gyffredinol y gwasanaeth, ond mae'n gyfrifoldeb y mae'r Post Brenhinol eisiau gwaredu ei hun ohono nawr. Felly, Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu perfformiad y Post Brenhinol wedi'i breifateiddio ar gyfer pobl Cymru? Pa gamau y gall eu cymryd i sicrhau bod y Post Brenhinol yn cyflawni ei ymrwymiadau cyfreithlon? Ac, yn ail—

14:30

Na, nid 'yn ail' ar 1 munud a 45. Byddwn ni'n cymryd y cyntaf o'r rheini, Prif Weinidog. 

Wel, Llywydd, rwy'n cofio'n dda yr addewidion a gafodd eu gwneud ar adeg y preifateiddio—sut yr oedd hyn yn mynd i fod yn ateb delfrydol arall eto, pe baech chi ond yn ei drosglwyddo i rywun arall, byddai'r gwasanaeth yn cael ei redeg yn well, byddai'n cael ei redeg yn fwy effeithiol, byddai'n darparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid. Wel, nid oes dim o hynny wedi troi allan i fod yn wir o gwbl. Yn y ffordd y mae Rhianon Passmore wedi'i nodi, mae defnyddwyr y gwasanaeth yn cael gwasanaeth gwaeth nawr o ganlyniad i breifateiddio, ac mae'r bobl sy'n gweithio i'r gwasanaeth, yn sicr, wedi dioddef baich y methiannau hynny. 

Nawr, rydyn ni'n manteisio ar y cyfleoedd hynny sy'n dod i'r amlwg i godi'r materion hyn. Gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau gyfarfod â'r rheoleiddiwr yn ddiweddar, ochr yn ochr â rheoleiddwyr eraill, gan ofyn iddyn nhw beth maen nhw'n ei wneud i ddiogelu'r cwsmeriaid mwyaf difreintiedig—pobl na allan nhw fforddio'r cyfraddau cynnydd hynny i brynu stamp syml. Y tu hwnt i'n cyfrifoldebau, wrth gwrs, rydyn ni'n dibynnu ar ein cydweithwyr yn San Steffan i gyflawni eu cyfrifoldebau craffu, ac rwy'n edrych ymlaen, Llywydd—rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd pobl yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu gan Weinidogion Llafur yn San Steffan, lle byddwn ni'n gallu gwneud gwaith gwell o sicrhau bod y Post Brenhinol yn darparu'r gwasanaeth yng Nghymru y mae gan bobl yng Nghymru yr hawl i'w gael. 

Cysylltiadau Trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru

8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ60300

Llywydd, gan weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni'n parhau i ddatblygu system metro ar gyfer Bae Abertawe i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel, hygyrch a fforddiadwy i'r rhanbarth. Bydd y gwaith hwn yn llywio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, y disgwylir iddyn nhw gael eu cyflwyno erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Tybed a allwch chi gofio nôl i 23 Mawrth 2001. Ac os yw'n helpu, roedd Bill Clinton newydd adael y Tŷ Gwyn a 'Pure and Simple' gan Hear'Say oedd ar frig y siartiau—cân wych, byddwn i'n ei hargymell—ac roedd Tom Giffard ifanc yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn ddeg oed. Hwn hefyd oedd y diwrnod y cynhaliodd Sue Essex, y Gweinidog Llywodraeth Lafur Cymru ar y pryd, seremoni torri tywarchen i ddechrau'r gwaith ar orsaf reilffordd newydd sbon Bracla. Ond dydy'r 22 mlynedd a hanner ers hynny ddim wedi adlewyrchu teitl y gân, gan nad yw'r orsaf wedi'i hadeiladu ac mae'r tir dal yn ddiffaith. Ac er iddi gael ei chynnwys yn y cynllun metro cychwynnol, nid yw adroddiad gwerthuso interim cam 2 metro de Cymru yn sôn am orsaf Bracla chwaith, ac yn lle hynny mae wedi'i gwthio i gyfnod yn y dyfodol heb ddyddiad. 

Felly, Prif Weinidog, rwy'n credu bod pobl ym Mracla eisiau eglurder. Os nad yw'r orsaf yn mynd yn ei blaen, oni fyddai'n well dweud hynny nawr, ac yna byddai modd defnyddio'r tir ar gyfer rhywbeth arall, yn hytrach na bod ansicrwydd am chwarter canrif arall? Felly, sut ydych chi'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a metro de Cymru i gynnig yr eglurder hwnnw i bobl ym Mracla?

Fe wnaf i sicrhau bod y Gweinidog yn ysgrifennu at yr Aelod gyda'r eglurder y mae'n ei geisio. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad yna—Lesley Griffiths. 

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. 

A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â'r ffiasgo parhaus sy'n digwydd ym Mynwent y Crynwyr? Cafodd yr orsaf drenau hon—hwb trafnidiaeth hanfodol i lawer yn yr ardal—ei chau ym mis Ebrill er mwyn caniatáu i waith uwchraddio gael ei wneud. Cawsom ni wybod y byddai Mynwent y Crynwyr yn cael ei hagor ym mis Hydref, ac eto dyma ni ym mis Tachwedd ac mae hi'n bendant ar gau. Yn ddiweddar, cafodd ei ddatgelu mai ar Trafnidiaeth Cymru mai bai'r am y saga druenus hon, a byddai'n ymddangos, Gweinidog, fod Trafnidiaeth Cymru wedi goruchwylio cyfres o gamau cynllunio gwag sydd wedi arwain at oedi hir cyn i'r orsaf gael ei hailagor. 

Dywedodd llefarydd yng nghyngor Merthyr, petai Trafnidiaeth Cymru wedi dilyn y drefn gynllunio, byddai wedi bod modd osgoi hyn. Gweinidog, mae cymudwyr wir yn talu'r pris o ganlyniad i'r llanast o sefyllfa hon, gyda llawer o drigolion ar ben eu tennyn. Mae'r Llywodraeth hon yn ymosod ar fodurwyr yn barhaus, gan ddweud wrthyn nhw am fynd allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac eto mae hi bron yn amhosibl pan fydd camgymeriadau fel hyn yn datblygu. Mae'n mynd y tu hwnt i bob rheswm, ac mae'n ddealladwy bod trigolion yn teimlo'n rhwystredig a'u bod wedi'u hesgeuluso.

Mae dechrau 2024 wedi cael ei roi fel y dyddiad ailagor disgwyliedig, ond sut allwn ni gael unrhyw ffydd yn hynny, o gofio bod dyddiadau ailagor blaenorol wedi mynd a dod a Mynwent y Crynwyr yn dal i fod ar gau? Felly, byddai datganiad gan y Dirprwy Weinidog yn amlinellu sut ar y ddaear mae hyn wedi digwydd a'r hyn sydd wedi'i ddysgu o'r sefyllfa yn cael ei werthfawrogi'n fawr, oherwydd nid ydyn ni eisiau gweld hyn yn digwydd eto. Diolch, Gweinidog.

14:35

Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf i wedi dod yn fwyfwy pryderus o weld syrcas hunllefus, hynod ddystopaidd Plaid Geidwadol y DU yn datod mewn amser real. Ac er fy mod i'n falch o weld y posibilrwydd o gael Llywodraeth Lafur yn y DU, mae posibilrwydd real iawn o hyd y bydd tacteg ennill ar unrhyw gost hyd at hynny. Yn bennaf ymhlith y rhain, Gweinidog, yw awydd Llywodraeth y DU i roi mynediad uniongyrchol i'r heddlu nid yn unig at luniau dashcam preifat, ond hefyd cronfa ddata pasbortau a'r cronfeydd data system mewnfudo a lloches, gan droi anwyliaid yn erbyn ei gilydd o bosibl, mewn modd Orwelaidd brawychus. Ar hyn o bryd, mae cronfa ddata genedlaethol yr heddlu wedi'i chyfyngu i unigolion sydd wedi cael eu harestio. Felly, Gweinidog, a fyddech chi'n gallu cadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau i sicrhau bod wal dân yn ei lle, i amddiffyn y rhai sydd heb wneud unrhyw beth o'i le, ac, yn ogystal, a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU am fwy o heddweision ar ein strydoedd ac yn ein cymunedau, yn lle bod yn rhan o gynllun Brawd Mawr? Diolch.

Diolch. Wel, fel yr ydych chi'n amlwg yn ymwybodol iawn, nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ac mae'n gyfrifoldeb ar y Swyddfa Gartref. Ond, yn amlwg, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cael llawer o sgyrsiau gyda'n harweinwyr plismona yma yng Nghymru, oherwydd mae rhyngwyneb agos iawn gyda diogelwch cymunedol, er enghraifft, ac mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn arwain ar y sgyrsiau hynny. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw bod yn rhaid i'r cyhoedd fod â ffydd a hyder yng ngweithredoedd yr heddlu a bod â ffydd ynddyn nhw, yn enwedig, rwy'n credu, o ran eglurder ynghylch yr hyn y caiff eu data ei ddefnyddio ar ei gyfer. Ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y cafodd ei drafod ym mwrdd partneriaeth plismona Cymru yn ddiweddar—rwy'n meddwl yn ôl ym mis Medi. Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol sy'n cadeirio'r bwrdd hwnnw, ynghyd â'r Prif Weinidog. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Gwyddom ni fod nifer y swyddogion heddlu sy'n cael eu hariannu gan y Swyddfa Gartref yn dal i fod yn is nag yr oedd yn ôl yn 2010.

Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar ddisgwyliadau dyrannu tai awdurdodau lleol. Rwyf i wedi clywed pryderon gan drigolion Gwynedd, yn fy rhanbarth i yn y gogledd, ynghylch y gofrestr tai cymdeithasol, ac maen nhw wedi rhannu gyda mi, pan fydd eu hamgylchiadau'n newid o fewn y tŷ y maen nhw ynddo, neu os ydyn nhw'n symud o fewn y sector llety rhent preifat, eu bod nhw'n dod oddi ar y gofrestr tai cymdeithasol yn awtomatig, ac yna mae'n rhaid i'r person hwnnw ailymgeisio, mynd i waelod y rhestr, ac mae'r broses gyfan yn dechrau drosodd a throsodd. Mae gen i breswylydd yn arbennig sydd wedi gorfod symud nifer o weithiau mewn llety rhent preifat, yn bennaf am resymau y tu hwnt i'w reolaeth, ac yn daer angen mynd i lety cymdeithasol, ond mae'r ffordd y mae'r broses dyrannu tai yn gweithio yn golygu ei fod ar waelod y rhestr bob tro, ac mae'n ymddangos yn annheg. Felly, byddwn i'n ddiolchgar i dderbyn datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran dyrannu tai awdurdodau lleol. Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Wel, mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn rhoi canllawiau i'n holl awdurdodau lleol o ran y ffordd y maen nhw'n dyrannu. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn—ni all dim byd fod yn fwy digalon na gwneud cais ac yna mynd yn ôl i waelod y rhestr, nac yn wir ailymgeisio. Gwnaf i ofyn i'r Gweinidog Newid Hinsawdd a oes unrhyw gynlluniau i ddiweddaru'r canllawiau hynny.

Rwyf i eisiau codi mater sy'n peri pryder dwys yn ymwneud â chynnydd brawychus yn nifer y negeseuon e-bost Islamoffobig a thoseddau casineb sydd wedi llenwi mewnflwch mosg canolog Abertawe yn ddiweddar. Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar sut maen nhw'n gweithio gyda'r heddlu i gefnogi rhai hynny o'r ffydd Fwslimaidd yng Nghymru.

Yr ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano yw'r wybodaeth ddiweddaraf ar daliadau sefydlog ynni. A all Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda'r rheoleiddiwr ynglŷn â thaliadau sefydlog ynni? Mae taliadau sefydlog yn cosbi y rhai hynny sy'n gallu fforddio eu talu leiaf. Fel lleiafswm, ni ddylai unrhyw daliadau sefydlog gael eu gwneud ar ddiwrnodau pan nad yw unrhyw ynni'n cael ei ddefnyddio. Mae pobl na allan nhw fforddio defnyddio ynni, pan fyddan nhw o'r diwedd yn rhoi taleb £10 i mewn, yn darganfod bod cyfran fawr ohono wedi mynd i dalu am eu tâl sefydlog, cyn iddyn nhw ddefnyddio unrhyw ynni o gwbl. Mae hyn, yn fy marn i, er ei fod yn gyfreithiol, yn greulon ac yn ddiangen. Diolch.

Diolch. Wel, mae hi'n Fis Ymwybyddiaeth o Islamoffobia y mis hwn, ac mae'n bwysig iawn na ddylai herio Islamoffobia gael ei adael i Fwslimiaid yn unig. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pob un ohonom ni'n herio ac yn dileu casineb a rhagfarn yn ei holl ffurfiau. Ac rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb yn y maes hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad ag arweinwyr plismona yn rheolaidd yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn enwedig, lle'r ydyn ni, yn anffodus, wedi gweld cynnydd mewn troseddau casineb, ac rydyn ni wedi pwysleisio ei bod yn bwysig i bobl ledled Cymru deimlo'n ddiogel, beth bynnag yw eu ffydd neu eu hunaniaeth ethnig, ac ni ddylai unrhyw un—neb—orfod goddef casineb na rhagfarn. Ac rwy'n annog pawb i riportio pob achos o gasineb. 

Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn ynglŷn â thaliadau sefydlog ynni, rwy'n credu bod dau fater o ran taliadau sefydlog. Mae'n amlwg bod gennym ni'r loteri cod post ynghylch y symiau sy'n cael eu codi, a'r ffaith bod costau'n cael eu cymhwyso, fel y dywedoch chi, hyd yn oed fo pobl wedi defnyddio ychydig iawn neu, hyd yn oed, ddim trydan nac ynni y diwrnod hwnnw. Fel Gweinidogion, rydyn ni wedi galw'n rheolaidd am ddiwygio taliadau sefydlog ar frys gan Weinidogion y DU. Gwnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ailadrodd hyn gyda Gweinidog y DU dros Ddefnyddwyr Ynni a Fforddiadwyedd yn gynharach y mis hwn, a byddwn ni hefyd yn ailadrodd ein galwad ni mewn ymateb ffurfiol i adolygiad Ofgem i daliadau sefydlog, y gwnaeth Ofgem ei gyhoeddi, rwy'n credu, ganol mis Tachwedd. 

14:40

Prynhawn da, Gweinidog. Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Mae un ohonyn nhw gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar fater costau cyweirio diogelwch adeiladau, sydd ar hyn o bryd, ac sy'n parhau i gael eu trosglwyddo i breswylwyr mewn eiddo sydd â diffygion tân a diogelwch eraill. Mae nifer cynyddol o etholwyr gofidus a phobl eraill wedi cysylltu â mi sy'n wynebu costau anfforddiadwy am waith diogelwch hanfodol ar eu hadeiladau. Ac fel mae'r Gweinidog wedi'i ddweud eisoes, dylai'r costau hyn gael eu talu'n briodol gan ddatblygwyr. Felly, tybed a oes modd cael datganiad gan y Gweinidog, os gwelwch yn dda. 

Ac mae'r ail ddatganiad am ariannu'r celfyddydau. Mae sefydliadau yn fy rhanbarth i fel yr Hafren, Opera Canolbarth Cymru ac Impelo wedi colli eu cyllid yn llwyr. Mae cyllid Canolfan Gelfyddydau Wyeside, sy'n lleoliad eiconig sy'n gwasanaethu pobl Powys yn Llanfair-ym-Muallt ers degawdau, wedi cael ei dorri i ddim ond 20 y cant. Ac, yn anffodus, os na fydd yn cael unrhyw gyllid erbyn 2024, gallai'r llenni ddisgyn am byth. Er fy mod i'n deall bod y cyllid yn cael ei ddyrannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sy'n annibynnol, tybed a oes modd ystyried unrhyw gyllid dros dro i'w helpu tan y daw canlyniad apêl. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Diolch. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno datganiad ar ddiogelwch adeiladau yr wythnos nesaf yn y Siambr. 

O ran eich cwestiynau ynghylch cyllid celfyddydol, mae Llywodraeth Cymru, fel y nodwch chi, yn ariannu'r celfyddydau yn bennaf drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sy'n gweithredu yn unol ag egwyddor hyd braich. Gwnaethoch chi sôn am dri sefydliad penodol yn eich ardal chi, ac rwy'n ymwybodol o Opera Canolbarth Cymru a Hafren. Rwy'n credu y byddai'n bwysig, os nad ydyn nhw'n cytuno â'r canlyniad, eu bod yn cael cyfle i ymgysylltu â'r broses apêl. Yn anffodus, fe wnaeth honno gau, felly gobeithio y gwnaethon nhw hynny, os mai dyna oedd y sefyllfa. Ac o ran Canolfan Gelfyddydau Wyeside, fel y dywedwch chi, maen nhw wedi bod yn llwyddiannus. Nid ydyn nhw wedi derbyn y swm llawn, ac yn anffodus ni chafodd llawer o sefydliadau llwyddiannus, gyda'r sefyllfa ariannol bresennol, ddyraniad dangosol am y symiau llawn y gwnaethon nhw ofyn amdanyn nhw drwy'r adolygiad buddsoddi. Yn amlwg, mater i Gyngor Celfyddydau Cymru yw canlyniadau'r adolygiad hwnnw.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar yr adolygiad o ddatrysiadau trafnidiaeth yn Nwyrain De Cymru? Gyda chyflwyno'r polisi 20 mya yn cynyddu'r tagfeydd sydd eisoes yn anoresgynnol yng Nghas-gwent ar un o'r ffyrdd â'r tagfeydd mwyaf yng Nghymru, mae fy etholwyr wedi bod yn cysylltu'n daer, gan fynegi eu hanobaith am ffordd osgoi Cas-gwent. Nawr, fe wnes i ei godi gyda'r Prif Weinidog yn y fan yma tua 18 mis yn ôl, ac eglurodd na fyddai unrhyw gamau yn cael eu cymryd nes bod Cyngor Sir Fynwy wedi ymgynghori ar eu datrysiadau posibl. Heddiw, nid oes unrhyw ddiweddariad ar hyn o hyd. Ond dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthyf i wedyn y byddai Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gweithdai rhanddeiliaid i ymdrin â materion teithio ar ddiwedd y flwyddyn. Rydyn ni erbyn hyn 40 diwrnod i ffwrdd o ddiwedd y flwyddyn, ac mae'r sefyllfa yng Nghas-gwent a llawer o ardaloedd eraill yn Nwyrain De Cymru yn gwaethygu. Mae angen gobaith ac eglurder ar etholwyr cyn gynted â phosibl, ac felly'r cais am y datganiad hwn. Diolch yn fawr, Trefnydd.

14:45

Diolch. Gwnaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gweithdai rhanddeiliaid.

Tybed, Gweinidog, a fyddai modd i ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar bolisi o drin profiad o ofal fel nodwedd warchodedig. Gall awdurdodau lleol, er enghraifft, basio cynigion i fabwysiadu'r polisi hwnnw, ac yna gallai profiad o ofal gael ei drin fel nodwedd warchodedig o ran asesiadau effaith cydraddoldeb. Felly, mae'n bolisi a all fod â manteision ymarferol, ac mae wedi cael ei fabwysiadu, er enghraifft, gan rai awdurdodau lleol yn Lloegr. Rydyn ni'n ymwybodol bod profiad o ofal â llawer o ganlyniadau oes, yn anffodus, Gweinidog—o ran iechyd a lles, o ran incwm, o ran y tebygolrwydd o wynebu digartrefedd, a nifer o agweddau pwysig eraill ar fywyd. Felly, tybed a fedrwn ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar y materion pwysig hyn.

Diolch. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn pennu nodweddion gwarchodedig, ac, yn amlwg, mae hynny'n fater a gedwir yn ôl. Mae y tu hwnt i'n cymhwysedd ni, ond rydyn ni i gyd yn ymwybodol bod safbwyntiau gwahanol a chanlyniadau anfwriadol posibl ynghylch y mater o bennu nodwedd warchodedig. Fel Llywodraeth, rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i siarad â phobl ifanc am y mater hwn, i lunio ein meddylfryd polisi, wrth fwrw ymlaen. Rwy'n deall yn iawn y stigma y gall pobl ifanc â phrofiad o ofal ei deimlo yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar blant a phobl ifanc. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wir yn gwneud hynny ac yn parhau i gwrdd â llawer ohonyn nhw er mwyn helpu i ffurfio ei syniadau am bolisïau. Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cofrestru fel rhiant corfforaethol, a byddwn ni'n parhau i weithio i gefnogi ystyried anghenion plant â phrofiad o ofal pan fyddwn ni'n ystyried datblygu'r polisi hwnnw ar draws y Llywodraeth.

A gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y prynhawn yma ynglŷn ag ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych yn Y Rhyl, neu ddiffyg ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych ar gyfer fy etholwyr yn Y Rhyl, Prestatyn, Rhuddlan, Dyserth ac ardaloedd eraill, yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y dref? Rwy'n gwybod, mewn atebion blaenorol, eich bod chi a'r Gweinidog iechyd wedi dweud eich bod chi'n aros i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyflwyno achos busnes, ond rwy'n credu nad yw hyn yn wir, yn anffodus, Trefnydd, gan fod yr achos busnes wedi'i gyflwyno ymhell yn ôl ym mis Tachwedd 2020 gyda chymeradwyaeth gan y bwrdd, ac mae wedi bod ar eich desg chi am dros dair blynedd. Mae gennyf i gopi ohono, sy'n cadarnhau'r dyddiad y cafodd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, tra bod fy etholwyr i'n dioddef yn ddyddiol gyda gwasanaeth damweiniau ac achosion brys sy'n cael trafferthion yn Ysbyty Glan Clwyd, gydag amseroedd aros hir, gan nad oes gennym ni uned mân anafiadau yn sir Ddinbych, gyda phobl leol yn gorfod teithio allan o'r sir i Dreffynnon neu Landudno i gael mynediad i uned mân anafiadau ar gyfer pobl sydd wedi'u hanafu ond sy'n gallu cerdded. Fel y gwyddoch chi, mae ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych gydag uned mân anafiadau wedi ei addo ers dros ddegawd, heb unrhyw gynnydd gan Lywodraeth Cymru yn y 10 mlynedd hyn, gan adael pobl sir Ddinbych yn cael trafferth dod o hyd i ofal iechyd amserol. A gyda lefel mor uchel o bobl oedrannus, mae'ch methiant ar y mater hwn wir yn effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn manylu ar ba gynnydd sydd wedi'i wneud ar hyn ers i mi ei godi gyda chi ddiwethaf, ac, os nad oes cynnydd, a wnewch chi gyfaddef eich bod chi a'r Blaid Lafur wedi methu pobl Dyffryn Clwyd?

Wel, nid oes rhaid i mi wneud hynny, oherwydd mae cynnydd wedi bod, ac rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gareth Davies. Roedd cyfarfod ar 17 Hydref gyda chynrychiolwyr o awdurdodau lleol Llywodraeth Cymru, Conwy, sir Ddinbych a sir y Fflint, ac mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno i adolygu'r model ar gyfer ysbyty gogledd sir Ddinbych, gyda phwyslais ar uned mân anafiadau, gwelyau gofal canolradd a gofal integredig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ar gefnogaeth i ffermwyr arallgyfeirio eu busnesau. Yn ystod datganiad yr wythnos diwethaf ar dwbercwlosis buchol, ceisiais archwilio materion sy'n ymwneud â heintio dro ar ôl tro. Mae'n bwysig bod Aelodau'n siarad yn rhydd—y gwir drwy ddadl, ac yn y blaen—ond rhaid i ni wneud hynny mewn modd cyfrifol bob amser. Yn yr achos hwn, roeddwn i'n drwsgl ac ni wnes i fynegi fy hun yn dda iawn, ac mae'n ddrwg gennyf i am unrhyw ofid a gafodd ei achosi. Dylwn i fod wedi bod yn gliriach fy mod i'n siarad am ffermydd sydd wedi eu heffeithio yn barhaus gan TB a phwysau parhaus y system bresennol. Rwy'n gwybod bod y cylch o orfod profi, difa, yna dechrau unwaith eto yn achosi straen enfawr. Yn yr achosion hynny, rwy'n credu dylai fod sgwrs ynglŷn â sut y mae modd datrys y sefyllfa honno, neu o leiaf ei gwella, a dylai arallgyfeirio fod yn rhan o hynny. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermwyr sy'n chwilio am help i wneud hynny. Diolch.

14:50

Diolch i chi. Wel, rwy'n siŵr y bydd croeso mawr i'ch geiriau chi yn y sector amaethyddol. O ran arallgyfeirio, rydym ni wedi cefnogi ein ffermwyr i allu arallgyfeirio drwy ystod eang o gynlluniau. Ar hyn o bryd, mae'r ail ffenestr ar agor gennyf i gyda'r cynllun arallgyfeirio amaethyddol. Rwy'n credu y bydd honno'n cau ar ganol mis Ionawr, ac fe roddais i gyllideb ddangosol o tua £1 miliwn o'r neilltu ar gyfer y ffenestr honno. Felly, fe all unrhyw ffermwr wneud cais am hwnnw. Ond, fel dywedais i, rydym ni wedi gweithio yn agos iawn gyda'r sector, a chael ein tywys ynglŷn â'r ffordd y byddent yn hoffi arallgyfeirio. Felly, pan ddes i mewn i'r swydd gyntaf mae'n debyg, roedd yna ymdrech fawr, rwy'n cofio, ynghylch glampio ac unrhyw gefnogaeth y gallem ni ei rhoi, ac yna gydag ynni adnewyddadwy, ac mae'r canolbwyntio yn parhau ar ynni adnewyddadwy. Fe fyddwch yn ymwybodol, yn ystod pasio Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn gynharach eleni, fe gyflwynodd Jane Dodds welliant ynghylch arallgyfeirio o ran ynni adnewyddadwy. Rwy'n credu, ar hyn o bryd, mai un maes o weithgaredd y mae ffermwyr yn awyddus iawn i'w ystyried yw garddwriaeth. Felly, unwaith eto, rydym ni wedi bod â chynlluniau, ac fe fyddwn ni'n parhau i gyflwyno cynlluniau, fel y cynllun datblygu garddwriaeth, wrth symud ymlaen.

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

Eitem 3 yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Rebecca Evans.

Ddoe, fe osodwyd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) a'r memorandwm esboniadol gerbron y Senedd. Fe fydd y Bil hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflawni pecyn mawr o ddiwygiadau i'r systemau trethiant lleol yng Nghymru, gan fynd i'r afael â llawer o gyfyngiadau'r trefniadau presennol a nodwyd wedi ymchwil helaeth a phrofiad o fod yn gweithredu'r systemau presennol am dros ugain mlynedd. Fe fydd rhai o ddarpariaethau'r Bil yn cyflawni gwelliannau penodol yn y byrdymor hyd y tymor canolig, tra bydd eraill yn galluogi Llywodraeth Cymru i addasu'r system yn well wrth i amgylchiadau a blaenoriaethau newid. Ein profiad ni, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fu sylweddoli'r angen i'r systemau hyn fod yn fwy ystwyth er mwyn ymateb i gyd-destunau newidiol ar gyfer cartrefi a busnesau.

O ran ardrethi annomestig mae'r Bil yn darparu ar gyfer ystod o ddiwygiadau, a fu'n destun ymgynghoriad y llynedd. Mae'r rhain yn cynnwys gwelliant sylfaenol i'r system, ar ffurf ailbrisiadau pob tair blynedd. Mae hon yn agwedd greiddiol ar ein hagenda ni i ddiwygio ardrethi annomestig gan sicrhau y bydd prisiadau yn cael eu diweddaru yn fwy aml i adlewyrchu amodau mwy cyfredol yn y farchnad. Fe fydd hi'n bosibl hefyd, yn y dyfodol, i'r flwyddyn neu'r cylch ailbrisio gael ei addasu gan reoliadau. Ar gyfer sicrhau bod ailbrisiadau mwy aml yn gynaliadwy yn y tymor hwy, mae'r Bil yn darparu ar gyfer newidiadau i'r ffordd y mae talwyr ardrethi yn darparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Yn y dyfodol, fe fydd trethdalwyr yn gwirio'r wybodaeth a gedwir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn flynyddol ac yn adrodd am unrhyw newidiadau wrth iddyn nhw ddigwydd trwy'r flwyddyn. Fe fydd hyn yn helpu Asiantaeth y Swyddfa Brisio i gadw cofnodion cywir a lleihau cyfran y dystiolaeth ychwanegol a gesglir gan drethdalwyr cyn pob ailbrisiad. Fe fyddwn ni'n dechrau'r gofynion newydd hyn pan fydd gwasanaeth ar-lein eglur a syml ar gael i drethdalwyr ei ddefnyddio, gyda chefnogaeth canllawiau, oddi wrth Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Fe fydd darparu gwybodaeth yn y modd hwn yn cefnogi cynnal a chadw rhestrau sgorio cywir yn barhaus. Fe fydd y nod hwn hefyd yn cael ei ategu gan ymestyniad y weithdrefn hysbysiadau cwblhau ar gyfer adeiladau newydd a ddarperir gan y Bil. Yn y dyfodol, fe fydd hysbysiadau cwblhau yn cael eu cyflwyno hefyd ar adeiladau a dynnwyd oddi ar y rhestr ardrethu dros dro wrth i newidiadau gael eu gwneud. Fe fydd hyn yn cau bwlch yn y weithdrefn. Mae gwybodaeth amserol o fudd i bob rhanddeiliad gan sicrhau bod biliau yn gywir ac yn sicrhau mwy o degwch.

Mae'r sylfaen dreth ardrethi annomestig yn unigryw i Gymru. Mae ein diwygiadau ni'n ceisio sicrhau y bydd y dulliau angenrheidiol gennym ni i addasu'r system yn y dyfodol wrth i amgylchiadau a blaenoriaethau newid. Mae'r Bil yn darparu pwerau deddfu i gynnig ac amrywio rhyddhadau ac esemptiadau a'u tynnu nhw'n ôl, a rhagnodi lluosyddion gwahaniaethol. Mae'r graddau yr ydym ni'n gallu addasu'r paramedrau hyn o'r system mewn modd ymatebol yn anghyson iawn ar hyn o bryd. O ran gallu'r awdurdodau lleol i ddyfarnu rhyddhad, mae'r Bil yn diddymu cyfyngiad o ran amseru nad yw'n cyd-fynd â'u gallu nhw i ymarfer disgresiwn yn eang fel arall.

Yn olaf o ran ardrethi annomestig, mae'r Bil yn cyflawni yn ôl dau ymrwymiad sefydledig yn ymwneud ag osgoi trethi. Fe fydd amodau cymhwysedd mwy cadarn yn mynd i'r afael â chamfanteisio at ddibenion osgoi rhyddhad elusennol ar gyfer eiddo gwag gan sicrhau ei fod yn dal i fod ar gael ar gyfer achosion sy'n ddilys. Mae technegau ar gyfer osgoi trethi yn esblygu trwy'r amser, ac nid yw ardrethi annomestig yn eithriad. Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ynghylch gwrthweithio manteision sy'n tarddu o drefniadau osgoi ardrethu annomestig sy'n artiffisial. Fe fydd ymddygiadau penodol i osgoi trethi yn cael eu diffinio mewn rheoliadau, a fydd yn ein galluogi ni i ymateb yn well yn y dyfodol. Gyda'i gilydd, mae'r darpariaethau hyn yn gyfystyr ag adnewyddu a moderneiddio'r fframwaith ar gyfer ardrethi annomestig.

O ran y dreth gyngor, mae Cymru'n parhau i arwain y ffordd ar ddiwygio. Yn gynharach y mis hwn, fe wnes i lansio ymgynghoriad cam 2 ynglŷn â chael mwy o degwch yn y system. Ni fyddwn yn cilio rhag ymrafael yn y materion a gyflwynir gan dreth atchweliadol a hen ffasiwn, ac mae'r nod hwn yn cael ei rannu yn y Senedd hon drwy'r cytundeb cydweithio. Yn yr ymgynghoriad cam 2, fe nodais i dri dull posibl o ran gwedd system ddiwygiedig yn ôl ailbrisiad. Gan edrych ymlaen, fe fydd y Bil yn rhoi ailbrisiadau mwy cyson ar sail statudol. Fe fydd hyn yn atgyfnerthu uniondeb y sylfaen dreth yn rheolaidd, gan sicrhau y bydd aelwydydd yn talu'r swm cywir o'r dreth gyngor. Rwy'n eglur ynglŷn â'r angen i ni osgoi ystumiadau a all ddigwydd pan gaiff ailbrisiadau  eu gohirio dros nifer o flynyddoedd. Ar ôl ymgynghori, rwyf i o'r farn y dylid cynnal ailbrisiadau bob pum mlynedd, ac mae'r Bil yn adlewyrchu hyn. Mae'r Bil yn nodi y bydd y cylch hwnnw'n dechrau yn 2030. Serch hynny, efallai y bydd angen i'r dyddiad hwn newid ar daith y Bil wrth i ni dderbyn a deall yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gyhoeddais i'r wythnos diwethaf ar raddfa a chyflymder diwygio'r dreth gyngor. Yn rhan o bob ailbrisiad, fe fyddwn ni'n gallu adolygu'r bandiau a chyfraddau'r dreth i sicrhau y bydd y system yn parhau i fod yn deg. Fe fydd gennym ni allu hefyd i fyrhau neu ymestyn y cylchoedd pe byddai angen. Fe fydd y Bil yn rhoi pwerau o ran rheoleiddio hefyd a fydd yn galluogi newidiadau i'r labelu a fydd ar unrhyw strwythur band a ddatblygir yn y dyfodol yn rhan o ymarfer ailbrisio, a diwygio'r dyddiad ar gyfer cyhoeddi rhestr ddrafft.

Mae sicrhau treth gyngor gadarn a theg yn un o'r camau mwyaf buddiol y gall y Llywodraeth hon a llywodraethau'r dyfodol eu cymryd at fod â mwy o degwch yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd manteision yr hyn yr wyf i'n ei roi gerbron heddiw ag effaith gadarnhaol ym mhocedi llawer o aelwydydd dros y blynyddoedd i ddod. Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â disgowntiau a diystyriadau treth gyngor yn ysgogiadau pwysig ar gyfer sicrhau bod rhai aelwydydd yn cael eu cefnogi, a chyfrannu at nodau economaidd-gymdeithasol ehangach, fel mynd i'r afael â thlodi. Mae'r Bil yn rhoi cyfle i newid y ddeddfwriaeth gyfyngol iawn sy'n berthnasol yn y maes hwn ac mae'n cefnogi ymdrechion i wneud y system yn decach, gan leihau cymhlethdod a sicrhau mwy o gyd-fynd â'n nodau eraill ni. Fe fydd yna ddarpariaethau o fewn y Bil hwn i ganiatáu rhagor o hyblygrwydd i nodi, llunio a gweithredu newidiadau i ddisgowntiau a diystyriadau treth gyngor yn y dyfodol, ac ymateb i anghenion sy'n newid. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur y bydd y disgownt presennol i un oedolyn ar gyfer y dreth gyngor yn parhau fel mae, ac mae hynny'n cael ei gadarnhau yn y Bil. Ein bwriad ni hefyd yw y bydd hwnnw'n parhau ar gyfradd o 25 y cant. Mae ymgynghoriad cam 2 y dreth gyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein hadolygiad ni o'r fframwaith ar gyfer disgowntiau, diystyriadau ac esemptiadau ac am ein hadolygiad o gynllun lleihau'r dreth gyngor. Rwyf i wedi bod yn eglur y bydd yn rhaid i'r trefniadau fod yn addas i'r diben a bod trefniadau cadarn ar waith i helpu aelwydydd incwm isel.

Rwy'n edrych ymlaen at y gwaith craffu ar y Bil gan Aelodau ac at glywed barn rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Diolch.

14:55

Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn i'r Siambr hon y prynhawn yma. Yn sicr, mae cyllid llywodraeth leol yn hynod bwysig, ac rydym ni'n gweld hynny nawr yn dod i'r amlwg gyda chynghorau, wrth ddod at y broses o bennu cyllidebau ar hyn o bryd. Rwy'n sicr yn gwerthfawrogi'r cymhlethdod yn hyn o beth a'r ymdrech a wneir i gynnal a chefnogi cynghorau a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu i'n trigolion.

O ran y Bil, wrth gwrs, mae yna ffordd bell i fynd eto ar y daith hon, ac rwy'n croesawu'r cyfle i graffu arno wrth iddo wneud ei ffordd drwy'r Senedd. Fe fyddaf i'n gwneud hyn, wrth gwrs, yn rhinwedd fy aelodaeth o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ond hefyd yn rhinwedd fy swyddogaeth i yn y Siambr hon yn Weinidog llywodraeth leol yr wrthblaid, ac, wrth gwrs, mae yna lawer o wahanol adrannau i fyfyrio arnyn nhw yn y Bil hwn. Rwy'n teimlo yn reddfol fod elfennau o'r Bil i'w croesawu, gan gynnwys yr awydd i wneud gwaith Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fwy tryloyw i drethdalwyr yma yng Nghymru, o ran yr wybodaeth a gedwir, a'r dyhead am system sy'n fwy effeithlon hefyd ar gyfer cau'r bylchau yn y weithdrefn, rwy'n credu i chi ddisgrifio hynny. Rwy'n siŵr y byddai trethdalwyr yn croesawu hynny.

O ran y darlleniad cychwynnol o'r memorandwm esboniadol a'r datganiad yn y fan hon heddiw, mae gennyf i rai pryderon hefyd. Fe hoffwn i ddechrau drwy ganolbwyntio ar y ddarpariaeth ar gyfer y dreth gyngor o fewn y Bil. Mae honno'n nodi y byddai'r Bil yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i Weinidogion Cymru lunio a gwneud newidiadau i ddisgowntiau a chategorïau diystyriadau. Rwy'n pryderu y gallai hynny dywys Cymru tuag at drethi uwch drwy'r drws cefn, gan gynyddu'r baich unwaith eto ar y gweithwyr yma. Ac nid wyf i'n deall yn iawn ychwaith pa gyfran o'r pŵer i wneud penderfyniadau yn y maes hwn a fyddai'n cael ei ddwyn oddi ar gynghorwyr etholedig lleol, oherwydd mae hi'n ymddangos fel pe bai mwy o bŵer am fynd i Weinidogion Cymru ac oddi wrth gynghorwyr lleol. Felly, efallai y byddai rhywfaint o eglurhad ynglŷn â hynny i'w groesawu. O ran disgowntiau a diystyriadau, Gweinidog, fe wyddoch chi y gall y rhain fod yn waredigaeth i rai, ac rwy'n falch unwaith eto eich bod chi wedi cadarnhau heddiw y bydd y disgownt o 25 y cant ar gyfer un oedolyn yn parhau. Ond wrth gwrs, fe geir disgowntiau eraill o ran y dreth gyngor y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw, ac efallai y byddwn i'n hoffi clywed mwy oddi wrthych chi heddiw ynglŷn â sefyllfa derfynol y rhain, o ganlyniad i'r Bil hwn. A fydd rhai pobl yn dioddef oherwydd y byddan nhw'n colli rhai o'r disgowntiau hyn?

Gan fynd yn ôl at y pwynt ehangach hwnnw o ran democratiaeth leol, mae gennyf i rai pryderon y gallai'r Bil hwn wanio swyddogaeth cynghorwyr a etholwyd yn lleol. Mae hi'n ymddangos fel pe bai nifer o bwerau y mae Gweinidogion yn gobeithio ymgymryd â nhw, fel y ddyletswydd i fod â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor unigol cenedlaethol. Fe fyddwn i wedi credu y—. Fy ethos cyffredinol i yw mai'r rhai sy'n casglu'r dreth i bob golwg a ddylai fod yn gyfrifol am bennu'r dreth honno hefyd, ac rwy'n siŵr, Gweinidog, y byddech chi'n dymuno gweld democratiaeth leol yn ffynnu ac nid yn gwanio. Felly, fe hoffwn i gael gwybod beth fyddwch chi'n ei wneud efallai i ddiogelu pwerau cynghorau lleol. Ac yn ogystal â hynny, o ran swyddogaeth cyd-bwyllgorau corfforedig ynglŷn â strwythurau rhanbarthol hefyd, nid wyf wedi gweld unrhyw beth penodol yn y fan hon sy'n rhoi unrhyw swyddogaeth iddyn nhw o ran trethiant, ac fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i gael gwybod beth yw eich ystyriaethau chi ynglŷn â hynny hefyd.

O ran ailbrisio ardrethi annomestig a amlinellwyd gennych chi yn eich datganiad—symudiad at wneud hynny bob tair blynedd dros ben yr uchelgais o bump ar hyn o bryd—fe wyddom ni hefyd fod busnesau yn hoffi sicrwydd a sefydlogrwydd o ran buddsoddiadau a chynllunio ar eu cyfer nhw, felly faint tybed y bydd y newid cyflymach hwn o ran ailbrisio, yn effeithio arnyn nhw, o ran sicrwydd. Mae hi'n ddiddorol hefyd, onid yw hi, ar gyfer y dreth gyngor, ei bod hi'n ymddangos eich bod chi'n ddigon bodlon i ailbrisio ddigwydd bob pum mlynedd, ond, ar gyfer yr ardrethi annomestig rydych chi am wneud hynny bob tair blynedd. A wnewch chi amlinellu tybed pam rydych chi o'r farn y dylai'r gwahaniaeth hwnnw fod rhwng y ddwy set o ystyriaethau, gan ystyried eu bod nhw'n debyg iawn i'w gilydd, sef treth ar eiddo yn y bôn. Felly, mae'r newid a'r ansicrwydd hwnnw, yn fy marn i, yn achosi peryglon i fusnesau, ac, ar dudalen 10 o'r memorandwm esboniadol, fe geir rhestr o fanteision niferus y system ardrethi annomestig bresennol, gan gynnwys ei hirhoedledd amlwg, ei chymesuredd, ei gallu i addasu ar gyfer estyn cefnogaeth i'r rhai sy'n llai abl i fodloni eu rhwymedigaethau o ran atebolrwydd. Felly, rwy'n credu mai fy neges gyffredinol yn hyn o beth, Gweinidog, yw eich bod chi wedi amlinellu nifer o bethau cadarnhaol ynglŷn â'r system bresennol, felly rwy'n annog rhywfaint o bwyll o ran gormod o newid, oherwydd rydym ni'n dymuno i fusnesau fod yn sicr ynglŷn â'r dyfodol sydd o'u blaenau nhw.

O ran cyfle a gollwyd o bosibl, fe hoffwn i gael gwybod, efallai, a gawsoch chi unrhyw drafodaethau neu syniadau ynghylch swyddogaeth yr ardoll yn y gwasanaeth tân ac achub. Felly, ar hyn o bryd, fel gwyddoch chi, mae'r gwasanaeth tân ac achub yn codi ardoll ar gynghorau lleol, tra bod yr heddlu'n rhoi praesept uniongyrchol i bobl. Felly, tybed a yw hwnnw'n gyfle a gollwyd, efallai, i wasanaethau tân ac achub roi praesept am eu cyllid nhw, yn hytrach nag ardoll i gynghorau. Ac fe hoffwn i glywed a fyddai hwnnw, efallai, yn rhywbeth yr oeddech chi'n ystyried ei gynnwys yn y Bil, ac os felly, pam y cafodd y syniad hwnnw ei wrthod, ar gyfer bod â mwy o dryloywder efallai ynghylch y ffordd y mae'r gwasanaethau tân ac achub yn cael eu hariannu. Rwy'n ymwybodol o'r amser, Dirprwy Lywydd, felly rwyf i am atal fy nghwestiynau eraill am y tro. Diolch yn fawr iawn.

15:00

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiynau yna—llawer iawn o sylwedd i fynd drwyddo, ac fe wn i y bydd llawer mwy o gyfleoedd i ni dreiddio i fanylder hyn drwy broses graffu'r pwyllgor. Ond dim ond i sicrhau cyd-Aelodau mai penllanw llawer iawn o waith dros nifer o flynyddoedd yw hwn. Felly, mae'n debyg y bydd cyd-Aelodau yn cofio pan wnaethom ni gyhoeddi'r ddogfen 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau', yn 2021, ac roedd honno'n edrych yn ôl ar yr ymchwil i gyd a wnaethom ni ers 2017. Ac rwy'n credu mai'r neges amlwg yn hynny o beth oedd ynglŷn â'r angen i ddiwygio'r system er mwyn ei diweddaru. Mae hynny oherwydd bod trethiant lleol mor ganolog a phwysig i'n bywydau ni bob dydd. Mae llywodraeth leol yn gwario dros £10 biliwn bob blwyddyn ar ddarparu gwasanaethau, ac mae tua 30 y cant o hwnnw'n cael ei godi trwy drethi lleol, felly mae hi'n bwysig fod y system sydd gennym ni'n gyfredol ac yn gadarn.

O ran diben y Bil, felly—ac nid wyf i'n dymuno cyd-doddi'r drafodaeth a gawsom ni ar ymgynghoriad cam 2 ar ddiwygio'r dreth gyngor yr wythnos diwethaf gyda'r gwaith a wnawn ni nawr, na'r adolygiadau sydd gennym ni o'r disgowntiau a'r esemptiadau ac ati—y nod, mewn gwirionedd, yw sicrhau bod y systemau treth gyngor ac ardrethi annomestig yn fwy adlewyrchol o gyflwr y farchnad, ac mae'n gwneud hynny drwy ailbrisiadau mwy rheolaidd, er mwyn i'r fframweithiau ar gyfer y dreth gyngor ac ardrethi annomestig fod yn fwy ymatebol i flaenoriaethau sy'n newid—felly, fe welsom ni oherwydd y pandemig sut y bu'n rhaid i ni weithredu yn gyflym iawn i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn—a bod y newidiadau wedi cael eu teilwra i anghenion Cymru hefyd. Felly, rwyf i o'r farn fod y pethau hyn yn bwysig iawn.

O ran y darpariaethau gydag ardrethi annomestig, fe gyfeiriodd Sam Rowlands at gyd-bwyllgorau corfforedig, ac rwy'n credu ei fod ef yn cyfeirio at y posibilrwydd o ddargadw ardrethi yn hynny o beth. Mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni, yn amlwg, yn ei ystyried yn y gwaith sy'n mynd rhagddo o ran porthladdoedd rhydd a'r  gwaith hefyd, o bosibl, ynglŷn â pharthau buddsoddi hefyd. Mae'n rhaid i ni weithio trwy baramedrau hynny, ond ni fyddai hynny'n berthnasol i'r Bil hwn, ond dim ond ar gyfer sicrhau cyd-Aelodau bod hynny'n rhan o'r ystyriaeth wrth i ni symud ymlaen gyda'r rhain ac agendâu datblygu economaidd pwysig eraill.

O ystyried yr ailbrisiadau ac yn enwedig y flwyddyn ailbrisio, rydym ni wedi gwrando ar alwadau gan randdeiliaid yn y gymuned fusnes o ofynnodd am yr ailbrisiadau mwy cyson hyn, ac fe groesawyd y cylch tair blynedd gan y sector busnes. Mae'n darparu cydbwysedd rhwng sicrwydd â sicrhau bod sylfaen y dreth yn gyfredol ac yn amserol hefyd, ac y bydd yna rywfaint o ragweladwyedd a sicrwydd o ran pryd y gallai cyfraddau newid, fel na fydd hynny'n digwydd yn rhy aml, gan gydnabod hefyd bod sefyllfaoedd economaidd sy'n newid y mae'n rhaid i ni ymateb iddyn nhw, yn ogystal â hynny. Felly, rwy'n credu mai dyna'r gwahaniaeth, mewn gwirionedd, rhwng pum mlynedd gyda'r dreth gyngor ac awydd busnesau i allu diweddaru ychydig mwy ar eu sefyllfaoedd nhw, os mynnwch chi, a gwneud hynny'n fwy rheolaidd.

Fe wn i fod cryn ddiddordeb yn y dyddiad prisio rhagflaenol ac rydym ni'n archwilio i hynny gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio, oherwydd y bwlch hwnnw rhwng y dyddiad prisio rhagflaenol a'r dyddiad y daw'r ailbrisio i rym. Felly, rydym ni'n archwilio a ellid bod â newid yn y tymor hwy, ac fe fyddai hwnnw'n fwy sylfaenol, yn y system, ac fe ellid ystyried hynny, ond, unwaith eto, nid yw hynny'n rhan o'r Bil—rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried i'r dyfodol yw hwnnw.

O ran cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, yr hyn y mae'r Bil hwn yn ei wneud yw ei gwneud hi'n ddyletswydd ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn y dyfodol, gan ein bod ni'n gwybod pa mor bwysig yw cefnogi aelwydydd. Nid yw'n dileu'r swyddogaethau pwysig sydd gan awdurdodau lleol o ran cyflawni'r cynllun hwnnw, ac nid yw'n dileu'r disgresiwn sydd ganddyn nhw'n lleol yn yr ardal honno ychwaith. Yr hyn y mae'n ei wneud ydy rhoi sicrwydd i bobl y bydd y cynllun hwnnw yno ar eu cyfer nhw pe byddai ei angen arnyn nhw yn y dyfodol.

O ran y disgowntiau ac ati, fe fydd y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i alluogi gweithredu newid yn gyflymach ac yn fwy ymatebol dros amser, a gallai Gweinidogion Cymru bennu amodau amrywiol ar gyfer disgowntiau statudol neu ychwanegu categorïau newydd o ddisgowntiau, gan gynnwys cyfraddau newydd, er enghraifft, yn y dyfodol. Unwaith eto, fe fyddai hynny'n ein galluogi ni i ymateb i wahanol sefyllfaoedd. Rydym ni wedi gweithredu i gefnogi pobl sy'n dod o Wcráin, er enghraifft, ond roedd hynny'n gofyn am gryn dipyn o waith gennym ni, y gellid ei wneud yn llawer cyflymach ac mewn ffordd fwy hyblyg i'r dyfodol. Felly, dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain.

Rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi nodi nad oes cynlluniau yn y ddeddfwriaeth i leihau disgownt person sengl. Fe gefais i fy siomi gan ymateb y Ceidwadwyr Cymreig i'r ddeddfwriaeth a oedd yn awgrymu ein bod ni'n disodli'r 'dreth ar weddwon'. Wel, nid ydym ni'n disodli'r dreth ar weddwon oherwydd nid oes treth o'r fath yn y lle cyntaf. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig mewn gwirionedd yn gwneud y stori wrth fynd ymlaen. Felly, naill ai bod pwy bynnag sydd y tu ôl i hyn heb ddarllen y Bil, neu heb ddeall y Bil, neu ei fod yn camarwain pobl yn fwriadol, oherwydd dyna'r unig ffyrdd posibl i chi egluro hyn. Felly, mae hi'n wir fod y person sengl am barhau. Wrth gwrs, nid dim ond ar gyfer pobl sy'n weddwon, mae hynny ar gyfer rhieni sengl a phobl eraill sy'n byw ar eu pennau eu hunain hefyd. Felly, nid yw hynny am orffen o gwbl, na'r gyfradd a bennir iddo ychwaith. Felly, y cyfan yr wyf i'n ei ofyn amdano yw ychydig o chwarae teg. Mae'r rhain yn bethau cymhleth. Maen nhw'n bwysig iawn i bobl; maen nhw'n wirioneddol bwysig i fusnesau. Felly, gadewch i ni fod yn ddidwyll pan fyddwn ni'n siarad amdano â phobl a busnesau. 

15:10

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Fel y cyfeiriwyd at hynny eisoes, mae'r Bil hwn yn cwmpasu ystod eang o fesurau a fydd, gyda'i gilydd, yn gyfystyr â'r diwygiad mwyaf radical a blaengar o gyllid llywodraeth leol yn oes datganoli. Canolbwynt y Bil, wrth gwrs, yw'r pŵer i alluogi newidiadau hir-ddisgwyliedig i'r dreth gyngor yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi bod yn eglur ers peth amser bod y dreth gyngor yn ei chyflwr presennol yn atchweliadol ac wedi dyddio. Mae hi'n system hen ffasiwn sy'n effeithio yn anghymesur ar aelwydydd tlotach. Rwyf i wedi ymgyrchu ers amser maith ar y mater hwn yn fy rhanbarth i am flynyddoedd lawer, ac felly rwy'n falch iawn, diolch i'n cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru, y byddwn ni'n cyflawni'r diwygiad pwysig hwn.

Rwy'n falch iawn hefyd fod adroddiad annibynnol y Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi dod i'r casgliad pendant a diamwys mai syniad da yw hwn sy'n dangos bod Cymru yn arwain y ffordd o ran diwygio'r dreth gyngor, o gymharu â gweddill y DU. Fe ellir gwella syniadau da bob amser, wrth gwrs, ac un mater a ddyfynnir yn adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn hyn o beth oedd cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, y CGDG. Fel mynegodd fy nghyd-Aelod Sioned Williams yr wythnos diwethaf, mae ymchwil diweddar gan Gyngor ar Bopeth yn dangos mai ôl-ddyledion treth gyngor yw'r mater mwyaf cyffredin o ran dyled sy'n wynebu pobl Cymru, a rhan o'r broblem yw nad yw'r meini prawf cymhwyster presennol ar gyfer y CGDG yn cefnogi pobl ar incwm isel i fodloni eu hatebolrwydd o ran y dreth gyngor bob amser. A wnewch chi, felly, gadarnhau y bydd y Bil yn cael ei ddefnyddio i archwilio ffyrdd o wella'r CGDG i sicrhau nad yw pobl sydd ag angen cymorth yn mynd drwy'r rhwyd?

Rydym ni o'r farn hefyd y dylid ystyried y mesurau hyn yn fan cychwyn ar gyfer cynnydd o ran diwygio cyllid llywodraeth leol yn y tymor hwy, rhywbeth y mae'r adroddiad yn cytuno yn llwyr ag ef, ac mae'r sefyllfa a ragwelir o ran cyllid llywodraeth leol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn tanlinellu'r achos eglur ac argyfyngus dros ddull radical. Hyd yn oed gan ystyried y cynnydd disgwyliedig o £169 miliwn yng nghyllid llywodraeth leol y flwyddyn nesaf, mae hi'n debygol y bydd llywodraethau lleol yn wynebu bwlch cyllido o £354 miliwn yn 2024-25, ac fe allai hwnnw ehangu i £744 miliwn erbyn 2027-28, sefyllfa y mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn ei nodweddu yn un na ellir ei chynnal. Yn syml, ni allwn ni fforddio sefyll yn llonydd nac osgoi dodi datrysiadau beiddgar gerbron fel bydd cyllid llywodraeth leol yn cael ei roi ar sail gynaliadwy.

Uchelgais i'r hirdymor, felly, yw disodli'r dreth gyngor yn y pen draw gan dreth gwerth tir, a fyddai'n mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at wyrdroi'r annhegwch cymdeithasol dychrynllyd ym Mhrydain lle mae 70 y cant o dir yn eiddo i lai nag 1 y cant o'r boblogaeth. Fe fyddai'n annog defnydd llawer mwy effeithlon hefyd o dir na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Yn rhan o'r broses o gasglu tystiolaeth ar gyfer y Bil hwn, fe ymchwiliodd Prifysgol Bangor i ymarferoldeb treth gwerth tir yng Nghymru, ac roedd y canfyddiadau yn dangos y byddai cyfradd genedlaethol unffurf o 1.41 y cant i'r dreth gwerth tir ar dir preswyl yn ddigonol i godi'r un refeniw ag a godir ar hyn o bryd gan y dreth gyngor. Ond, fel amlygodd yr astudiaeth, y prif rwystr i gyflwyno treth o'r fath yw'r diffyg systemau data effeithiol ar hyn o bryd, sy'n thema sy'n cael ei hailadrodd ar draws sawl agwedd ar lywodraethu yng Nghymru. A gaf i, felly, ofyn i'r Gweinidog pa waith a wnaeth Llywodraeth Cymru ers cyhoeddiad yr astudiaeth i fynd i'r afael â'r mater hwn? A beth yw'r camau ymarferol i ddarparu'r sylfaen hon ar gyfer cyflwyno treth gwerth tir yng Nghymru yn y pen draw?

Mantais arall sydd i dreth gwerth tir yw y byddai'n dod â refeniw i mewn yn syth i Drysorlys Cymru o'r swm helaeth o dir sy'n eiddo i Ystad y Goron, yn wahanol i'r sefyllfa bresennol, lle mae unrhyw elw o'r asedau hyn yn cael eu neilltuo i Drysorlys y DU. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai cyflwyno treth gwerth tir ar eiddo Ystad y Goron yn rhoi hwb mawr y mae ei angen ar Drysorlys Cymru, gan ganiatáu i lawer mwy o hyblygrwydd fod yng ngwariant cyhoeddus Cymru?

Un o fanteision pellach treth gwerth tir leol yw y gallai ddisodli ardrethi annomestig hefyd a chyflawni drwy hynny un o amcanion allweddol fframwaith polisi treth Llywodraeth Cymru i symleiddio dyluniad treth. Fe wyddom ni fod ardreth annomestig yn ei ffurf bresennol yn erfyn polisi di-awch, ac er bod y bwriad i ddeddfu ar gyfer ailbrisiadau amlach yn gam i'r cyfeiriad cywir yn ddiamau, yn ogystal â pharhad y cynlluniau rhyddhad i sectorau penodol, mae'r cynsail sylfaenol hwn o drethu eiddo rhentadwy sylfaenol yn hytrach na pherchnogion y tir yn arbennig o feichus ar fusnesau bach a chanolig. Mae Plaid Cymru o'r farn gadarn fod ysgogi twf yn ein sector busnesau bach a chanolig domestig yn hanfodol er mwyn adfywio economi farwaidd Cymru yn raddol. A yw'r Gweinidog yn cytuno y byddai disodli ardrethi annomestig gyda threth gwerth tir yn hwyluso hyn?

Yn olaf, mae'r Bil wedi codi un maes sy'n peri pryder. Tra oeddwn i'n ei ddarllen yn gynnar—

15:15

Fe fyddaf i'n gyflym iawn. Mae cymal 20 yn sôn am ddefnyddio cyhoeddusrwydd digidol yn unig ar gyfer newidiadau i'r dreth gyngor. A allech chi ailystyried geiriad hwnnw er mwyn gwneud yn siŵr y bydd yn cael ei gyhoeddi mewn papurau newydd hefyd? Diolch.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiynau yna, ac am gydnabod y cysylltiad pwysig â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud drwy'r cytundeb cydweithio o ran gwneud y dreth gyngor yn decach. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod dynodedig am yr holl waith a wnaeth ef i gefnogi hynny, oherwydd fe fu hi'n ymdrech wirioneddol gydweithredol. Felly, fe ddylwn i ddiolch iddo ef ar goedd. Ac ydw, yn bendant, rwy'n agored i ffyrdd y gallwn ni wella'r ddeddfwriaeth ymhellach. Wrth gwrs, dyna pam rwy'n edrych ymlaen gymaint at ddechrau'r broses graffu, a phan fyddwn ni'n cyflwyno hyn eto i gael dadl lawnach yn y Senedd, ond wedyn hefyd fe fydd y camau pwyllgor pwysig hynny'n dysgu llawer iawn i ni. Nage, wrth gwrs, rydym ni'n wirioneddol agored i awgrymiadau gan gyd-Aelodau ynghylch sut y gallwn ni rymuso'r Bil.

O ran y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, yr hyn y mae'n ei wneud yw ei gwneud hi'n ddyletswydd i Weinidogion Cymru lunio un cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor cenedlaethol drwy gyfrwng rheoliadau, gyda'r gallu i wneud newidiadau i'r cynllun hwnnw yn ystod blwyddyn. Yn amlwg, fe gafodd y cynllun sydd gennym ni ar hyn o bryd ei gyflwyno yn 2013, ac mae'n rhoi £244 miliwn o gymorth y flwyddyn i awdurdodau lleol ar gyfer cefnogi pobl mewn ystod eang o sefyllfaoedd—pensiynwyr, aelwydydd o oedran gweithio, derbynwyr credyd cynhwysol, ac ati. Felly, yn amlwg, mae'n gwneud cyfraniad mawr at fynd i'r afael â thlodi ac at ddiogelu pobl sydd mewn trafferthion ariannol, yn enwedig o ganlyniad i newidiadau i'r system les na chafodd ei datganoli.

Mae'r cynigion ar gyfer y cynllun hwn wedi bod yn hynod o bwysig yn ystod yr argyfwng costau byw, a'r newidiadau yr ydym ni'n eu hawgrymu a fyddai ein galluogi ni i wneud newidiadau yng nghwrs blwyddyn, ac fe fyddai hynny yn ei dro yn ein helpu ni i ymateb i'r gofynion a allai ddod i'r golwg yn ystod y flwyddyn, fel yr enghraifft a roddais i'n gynharach. Rydym ni'n gwneud darn o waith hefyd, ar wahân, sy'n edrych yn benodol ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, gan ystyried felly effaith credyd cynhwysol arno, er enghraifft, ac ystyried unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i weld pobl yn ymuno â'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Fe wyddom ni nad yw nifer o bobl sy'n gymwys ar ei gyfer yn ei gael, ac mae hynny'n rhannol am na chafodd pobl eu cofrestru yn awtomatig ar ei gyfer, nid yw pobl yn cael gwybod amdano yn awtomatig. Fe allai'r pethau syml hyn y gallem ni eu gwneud olygu gwahaniaeth enfawr o ran sicrhau y bydd pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, rydym ni'n edrych ar hynny i gyd yn rhan o'n gwaith ni ar y rhaglen i ddiwygio'r dreth gyngor yn fwy eang.

Ac yna o ran y gostyngiadau ac ati, fe fydd y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i alluogi gweithredu newidiadau yn gyflymach ac mewn ffordd fwy cyfrifol dros amser. Unwaith eto, mae hynny oherwydd bod y system gyfredol o ran ardrethi annomestig a'r dreth gyngor yn rhagddyddio datganoli. Felly, mae hi'n hen, nid yw hi wedi dal i fyny â newidiadau, ac yn amlwg, bu rhaid i ni ddychwelyd, rwy'n credu, 13 o droeon at Lywodraeth y DU er mwyn iddyn nhw ddeddfu ar ein rhan ni i weithredu newidiadau, felly mae angen i ni allu gwneud y newidiadau hynny yn y fan hon, ac i'r Senedd hon allu craffu ar y newidiadau hynny. Felly, rwy'n credu y bydd y pethau hyn yn bwysig iawn hefyd.

Ac yna'r pwynt ynglŷn â chyfathrebu electronig, fe wn i y bydd hynny'n rhan o'r gwaith craffu yn y Senedd. Mae'r Bil ar hyn o bryd yn disodli'r gofyniad presennol yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i gyhoeddi manylion sy'n ymwneud â'r dreth gyngor mewn papurau newydd, fel soniodd yr Aelod, gyda gofyniad i roi hysbysiad o daliadau treth gyngor ar wefan yr awdurdod lleol a rhoi trefniadau amgen addas ar waith i sicrhau bod gwybodaeth o'r fath yn hygyrch i ddinasyddion sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio gwasanaethau ar-lein. Ond rwy'n siŵr y byddwn ni'n manylu rhywfaint ar y materion hynny maes o law.

Ac yna at brif bwnc y cyfraniad, mewn gwirionedd, sef yr un yn ymwneud â modelau amgen o gymharu â'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig drwy'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Fe wn i fod gan yr Aelod ddiddordeb arbennig yn y dreth gwerth tir ac, ers amser maith, mae'r trethi lleol presennol wedi darparu rhyw gymaint o sefydlogrwydd fel hyn ar gyfer trethiant, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem ni fyth fod yn ystyried modelau eraill hefyd. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i archwilio'r posibiliadau ar gyfer treth gwerth tir leol ac mae hynny'n adeiladu ar yr asesiad technegol manwl a wnaeth Prifysgol Bangor i ni yn nhymor diwethaf y Senedd, ar gyfer helpu wrth ystyried dyfodol trethiant lleol. Dros y blynyddoedd nesaf, fe fyddwn ni'n bwrw ymlaen â chanfyddiadau'r adroddiad hwnnw, gan fanteisio ar ystod eang o arbenigedd i ddatblygu'r ddealltwriaeth eglur honno o sut wedd fyddai ar newid mor arwyddocaol i Gymru a sut y gallai hynny weithio yn ymarferol. Ac yna fe fydd y dadansoddiad hwnnw'n cynnwys map ffordd posibl ar gyfer ei weithredu. Ac rwy'n credu, fel roedd y cyfraniad yn ei gydnabod, efallai yn y lle cyntaf y byddai'n fwy—fe hoffwn i ddweud 'syml', ond nid dyna'r gair mewn gwirionedd—yn gymharol syml ei gymhwyso i ardrethi annomestig yn hytrach na'r dreth gyngor. Ond mae'n ddarn o waith sy'n mynd rhagddo ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â'r diwygiadau uniongyrchol.

15:20

Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Mae'r cyfoethogion yn casáu ardrethi annomestig oherwydd eu bod nhw'n anodd eu lleihau, yn wahanol i'r dreth gorfforaeth, sy'n hawdd iawn ei lleihau. Er enghraifft, fe dalodd Amazon £6.3 miliwn o dreth gorfforaeth yn y DU y llynedd, er bod eu hincwm o werthiant yn £13 biliwn.

Rwy'n croesawu gwelliant sylfaenol i'r system o ran y prisiadau pob tair blynedd. Rwy'n cytuno â phwysigrwydd diweddaru prisiadau yn fwy aml ar gyfer adlewyrchu cyflwr cyfnewidiol y farchnad. Pam na allwn ni symud tuag at ailbrisiadau blynyddol? Rwy'n croesawu hefyd y byddai ymddygiadau penodol ar gyfer osgoi yn cael eu diffinio mewn rheoliadau.

Roedd Sam Rowlands yn sôn am ardoll y gwasanaeth tân, ac rwy'n cytuno ag ef. Ac fe ddylai pob ardoll gael ei dangos y tu allan i'r dreth gyngor fel y gwneir gydag ardoll yr heddlu, gan nad oes gan y cyngor unrhyw reolaeth dros yr arian a godwyd arnyn nhw?

O ran treth gwerth tir, cwestiwn syml, mewn gwirionedd: sut fyddai honno'n effeithio ar dai cymdeithasol mewn ardaloedd gyda gwerthoedd uchel iawn, fel yn eich etholaeth chi eich hun, Gweinidog?

Rwy'n ddiolchgar i Mike Hedges am y cwestiynau yna, a dim ond gair o ran mater yr ardollau a godwyd â mi gan arweinwyr yr awdurdodau lleol hefyd y tu draw i'r trafodaethau ynghylch diwygio'r dreth gyngor, ac mae hwnnw'n rhywbeth yr hoffwn i ymchwilio ymhellach iddo gyda swyddogion yn dilyn y trafodaethau a gefais i. Ond nid oes gennym ni unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd yn hynny o beth ac, fel gŵyr cyd-Aelodau, ni chaiff hynny ei adlewyrchu yn y Bil.

Rwy'n credu bod y gwaith o ran atal osgoi trethi yn y Bil, serch hynny, yn bwysig iawn oherwydd nid yw osgoi yn anghyfreithlon o ran atebolrwydd ardrethi annomestig, ond yn amlwg, rydym ni'n awyddus i leihau'r cyfleoedd i osgoi talu am mai ymddygiad ydyw sy'n creu trefniadau artiffisial i ennill manteision o ran y dreth ac sy'n costio rhwng £10 miliwn ac £20 miliwn y flwyddyn o golled mewn refeniw. Felly, arian yw hwnnw a ddylai fynd at wasanaethau lleol y mae rhai'n osgoi ei dalu.

Mae un o'r pethau y mae'r Bil yn ceisio ei wneud ynghylch rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw beth o'r fath yn bodoli ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Felly, mae hi'n bwysig ein bod ni'n symud ymlaen gyda hynny a chydnabod bod mwyafrif helaeth y trethdalwyr yn gwneud ymdrech i dalu'r hyn sy'n ddyledus hefyd, ac mae hi'n bwysig ein bod yn edrych ar y lleiafrif hwnnw sy'n benderfynol o gamfanteisio neu gamddefnyddio'r system, er mwyn sicrhau sefyllfa sy'n deg. Mae ymrwymiad hirsefydlog gennym ni i fynd i'r afael ag osgoi ardrethi annomestig ac fe welsom ni gynnydd sylweddol eisoes wrth gyflawni ystod o fesurau dros y blynyddoedd diwethaf. Ond yr hyn a welwn ni yn y Bil yw'r hyblygrwydd, mewn gwirionedd, i ymateb i osgoi talu trethi gan fod technegau yn esblygu trwy'r amser ac mae angen i ni fod mor chwim â'r rhai sy'n benderfynol o gam-drin y system. Felly, rwy'n falch iawn fod y mesurau hynny o fewn y Bil ac rwy'n edrych ymlaen at graffu ymhellach arnyn nhw.

Ac yna, ar y dreth gwerth tir, yn sicr fe fydd angen i'r pwynt penodol a godwyd fod yn rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried wrth i ni wneud y darn o waith hirdymor ynglŷn â threthiant gwerth tir.

Arferai'r dreth gyngor dalu am ddarpariaeth 24 y cant o wasanaethau, cyn 2010 a chyllideb Cameron a dorrodd gyllid gwasanaethau cyhoeddus; mae'n talu am 30 y cant nawr. Fe wn i fod cynghorwyr yn arswydo rhag mynd drwy'r broses flynyddol o bennu'r dreth gyngor.

Mae'r wybodaeth anghywir a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r dreth gyngor yn fy ngofidio i. Fe hoffwn i chi gadarnhau y bydd proses ymgynghori briodol. Rydych chi wedi dweud heddiw y bydd y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn dal yn ei le—y disgownt person sengl. A wnewch chi roi gwybod i mi beth yw'r amserlen? Nid yw hyn yn ymwneud â chodi rhagor o arian i goffrau Lywodraeth Cymru; mae'n ymwneud â chodi arian i gynghorau a bod â system decach. Mae angen i bob un ohonom ni sicrhau bod yr wybodaeth gywir yn cael ei rhoi, yn hytrach na chodi bwganod.

Fe hoffwn i'n fawr iawn glywed y gallai'r diwygiadau yn y dyfodol gynnwys treth gwerth tir, y soniodd Peredur amdani; rwy'n credu y byddai hynny'n ardderchog. Rwy'n gwybod y bydd angen bod â system fapio ar waith er mwyn i hynny ddigwydd. Felly, yn syml, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â bod â'r ffeithiau cywir ar goedd ac amserlen, os gwelwch chi'n dda. Diolch i chi.

15:25

Rwy'n ddiolchgar dros ben i Carolyn Thomas am godi hynna'r prynhawn yma. Rwyf wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn â chyfradd y gamwybodaeth a gyhoeddwyd ynglŷn â'n cynigion ni ar gyfer diwygio'r dreth gyngor. Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â'r peth oherwydd er y gallai hynny roi mantais fyrdymor arbennig i blaid arbennig gyda'r pleidleiswyr, yr hyn a wna mewn gwirionedd yw pryderu'r pleidleiswyr hynny'n wirioneddol. Fe gefais i ohebiaeth oddi wrth bobl sy'n poeni'n ofnadwy erbyn hyn—pobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn gyda'u biliau nhw—y byddan nhw'n colli eu disgownt person sengl. Nid oes unrhyw wirionedd yn hynny, ond yn anffodus mae pobl wedi cael eu camarwain, ac erbyn hyn maen nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael eu camarwain ynglŷn â'r peth.

Rwy'n clywed yr Aelod y tu ôl i mi'n dweud, 'Fe wyddom ni i gyd pwy fydd ar eu hennill a phwy fydd ar eu colled, onid ydym ni?' Wel, fe wyddom ni, oherwydd y rhai a fydd ar eu hennill fydd eich etholwyr chi a rhai finnau sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd; y bobl sydd angen y cymorth mwyaf a fydd y bobl i elwa fwyaf ar hyn. Rwy'n annog pawb i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad.

Rydym ni hefyd wedi clywed bwganod yn cael eu codi ynglŷn â chynnydd yn y dreth gyngor yn gyffredinol. Unwaith eto, nid oes y ffasiwn beth yma. Nid oes unrhyw fwriad yma i godi mwy o dreth cyngor yn gyffredinol. Nid yw hyn yn ymwneud â chodi'r un geiniog yn rhagor; mae'n ymwneud â chodi'r hyn a godwn ni mewn ffordd decach, ac rwy'n credu y dylai hwnnw fod yn rhywbeth y byddai pob cyd-Aelod yn gallu ei gefnogi.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Dau gwestiwn sydd gennyf i. Yn gyntaf, rwy'n falch o glywed am y newidiadau arfaethedig i'r ffordd y mae talwyr ardrethi yn gwirio ac yn cyflwyno gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Rwy'n gwybod o fy ngwaith achos i fod rhai busnesau wedi cael trafferth o ran yr orfodaeth i gyflwyno llawer iawn o dystiolaeth mewn cyfnod cymharol fyr. O ran rheoli'r hyn a ddisgwylir oddi wrth y talwyr ardrethi, a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau ynghylch y math o wybodaeth y bydd angen ei chyflwyno a pha fath o asesiadau a fydd yn cael eu cynnwys mewn unrhyw system newydd, er mwyn i ni fod yn siŵr ei bod hi'n eu helpu nhw ac yn cefnogi'r busnesau bach sydd wrth hanfod ein strydoedd mawr?

Yn ail, fe allai unrhyw system ailbrisio, wrth gwrs, olygu y bydd rhai ar eu hennill ac eraill ar eu colled. Efallai na fydd y bobl sydd ar eu colled yn gallu cael gafael ar yr adnoddau, yn y byrdymor, i unioni unrhyw ddiffyg, ac mae hynny o ran ardrethi busnes a'r dreth gyngor fel ei gilydd. Gan fod hyblygrwydd yn allweddol i gynigion Llywodraeth Cymru, pa fath o fecanweithiau a gaiff eu rhoi ar waith fel bydd unrhyw newid yn cael ei reoli ac y gellir ymdrin ag ef mewn ffordd dosturiol?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau yna. Mae'n bwysig bod yr wybodaeth ddiweddaraf a chyfredol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ynglŷn â thai eiddo, oherwydd fe all hynny, yn amlwg, wella uniondeb y rhestr ardrethu. Felly, bydd gwelliannau i'r llif, yn amlwg, o fantais i dalwyr ardrethi ac awdurdodau lleol, yn ogystal ag i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ei hun, mewn gwirionedd, gan y bydd hynny'n cynorthwyo eu gwaith nhw. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei fwriadu yw y bydd talwyr ardrethi yn cael gafael ar wasanaeth ar-lein, a fydd yn cael ei ddarparu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a bydd hwnnw'n eu harwain nhw drwy'r camau angenrheidiol i gydymffurfio â'r gofyniad yn y Bil i adrodd am newidiadau i'r wybodaeth am eu heiddo. Yna, trwy hunan-ddatganiad, fe fydd hynny'n cael ei ddiweddaru yn flynyddol, a dim ond sôn am ymweliad cyflym â'r wefan yr ydym ni mewn gwirionedd. Ond ni fyddwn ni'n gweithredu unrhyw un o'r gofynion hyn nes ein bod ni'n gwbl fodlon y bydd gan dalwyr ardrethi ffordd rwydd iawn a di-dor o ddarparu'r wybodaeth honno, er mwyn gwneud yr hyn yr ydym ni'n ei ddisgwyl oddi wrthyn nhw. Efallai y bydd hynny, mewn gwirionedd, yn digwydd ar ddechrau'r rhestr ardrethu nesaf.

O ran rhyddhad trosiannol, wel, rydym ni newydd gynnal ailbrisiad llwyddiannus iawn o'r rhestr ardrethi annomestig, ac fe ddarparwyd cymorth trosiannol i'r busnesau hynny a oedd yn gweld cynnydd yn eu biliau dros ganran benodol. Yn y dyfodol, pan fyddwn ni'n symud at yr ailbrisiad amlach hwnnw, ni ddylem weld cymaint o gorddi yn y rhestr, oherwydd fe fydd hi'n seiliedig ar wybodaeth sy'n llawer mwy cyfredol a diweddar. Ac mae'r un peth yn wir am y dreth gyngor. Pan fydd yna ailbrisiad, y bwriad yw ystyried a oes angen cymorth trosiannol ar yr aelwydydd hynny sy'n gweld cynnydd yn eu biliau nhw, ac ystyried hefyd pa drefniadau trosiannol a ellid bod eu hangen ar awdurdodau lleol a allai weld newidiadau ar sail eu sylfaen drethu leol nhw hefyd.

15:30
4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio’r Flwyddyn Ysgol

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn fy natganiad llafar cyntaf i'r Siambr hon fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, fe ddywedais yn glir y byddai pob un o fy mhenderfyniadau i yn cael eu harwain gan anghenion a lles dysgwyr, ac yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau addysgol. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni fod yn agored i ffyrdd newydd o weithio, a pheidio ag ofni gwneud newidiadau.

Mae un agwedd sylfaenol yn ein system addysg sydd heb newid mewn ymhell dros ganrif, un sydd â'r potensial i wella safonau addysgol a rhoi gwell cefnogaeth i staff a dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, sef y ffordd rŷn ni'n strwythuro tymhorau a gwyliau ysgol. Mae'r calendr ysgol presennol wedi bod ar waith ers dros 150 o flynyddoedd. Bryd hynny, dim ond nes cyrraedd 12 oed roedd yn orfodol mynd i'r ysgol. Doedd dim arholiadau, ac roedd dyddiadau'r tymor ysgol wedi'u pennu gan yr angen i'r plant gyfrannu at yr economi yn ystod yr haf. Rydyn ni'n byw mewn cyfnod gwahanol iawn heddiw.

Trwy ein rhaglen lywodraethu a'n cytundeb cydweithio, rydyn ni am sicrhau calendr tecach, sydd wedi'i gynllunio i gefnogi cynnydd dysgwyr, i wella lles dysgwyr a staff, ac i gyd-fynd yn well gyda phatrymau bywyd a gwaith modern. Wrth ddechrau ar y gwaith hwn, rydyn ni wedi ystyried tystiolaeth ryngwladol a lleol. Rydyn ni wedi trafod opsiynau a'u heffeithiau posib yn uniongyrchol gyda phawb sy’n ymwneud â’r system bresennol—y rhai sy’n ei chynllunio, yn gweithio ynddi, neu’n ei defnyddio.

Rydyn ni'n gwybod y gall patrwm calendr presennol yr ysgol gael effaith niweidiol ar bresenoldeb myfyrwyr ac achosi iddyn nhw fynd gam yn ôl o ran dysgu. Gall anghysondeb yn hyd y tymhorau effeithio ar les dysgwyr a staff, ac mae'n annhebygol mai dyma'r amodau gorau ar gyfer rheoli llwyth gwaith neu ddysgu yn effeithiol. Yn ogystal â hyn, gall blinder gynyddu yn ystod tymhorau hirach, a gall fod yn heriol mynd dros holl gynnwys y cwricwlwm mewn hanner tymor byr iawn.

Dirprwy Lywydd, fis diwethaf, cyhoeddais dystiolaeth bellach yn ymwneud â sut mae dysgwyr, staff a theuluoedd yn edrych ar y calendr ysgol. Mae hyn yn dangos nad yw'r strwythur presennol mor effeithiol ag y gallai fod, ac y gallai seibiannau sydd wedi'u dosbarthu'n fwy cyfartal a thymhorau mwy cyfartal fod yn well o ran cefnogi dysgu, gwella lles a lleihau blinder ymhlith dysgwyr a staff. 

Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hyn, fel bod safonau uchel a dyheadau yn cael eu cyflawni ar gyfer pob dysgwr. Ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol yw'r dysgwyr y mae'r calendr presennol yn effeithio arnyn nhw fwyaf, lle mae colli dysgu a tharfu ar drefn arferol yn heriau dwys. Yn yr un modd, nid pawb sy'n ystyried chwe wythnos o haf yn wyliau. Mae llawer o rieni'n ystyried bod egwyl o chwe wythnos yn yr haf yn rhy hir, lle gall diflastod, llai o weithgaredd corfforol a risg o ynysu gael effaith sylweddol ar les dysgwyr. Gall rhieni sy'n gweithio ei chael hi'n anodd cymryd y chwe wythnos lawn i ffwrdd, a gall dod o hyd i ofal plant a'i ariannu fod yn her.

Mae ein staff ysgol ymroddedig hefyd yn haeddu strwythur sy'n eu galluogi i addysgu a chefnogi dysgwyr, ochr yn ochr â'r cyfle i orffwys ac ymadfer yn iawn. O ystyried hyn oll, credaf mai nawr yw'r amser iawn i gyflwyno calendr ysgol blaengar, sydd wedi'i gynllunio'n fwriadol i hyrwyddo rhythm mwy sefydlog ar gyfer dysgu parhaus drwy gydol y flwyddyn, calendr ysgol sy'n cydnabod pwysigrwydd lles i ddysgwyr a'r gweithlu addysg fel ei gilydd ac sy'n gweithio i leihau blinder trwy gynnig seibiannau ar yr adeg iawn, calendr ysgol sy'n cydnabod y ffordd yr ydym yn byw, y ffordd yr ydym yn gweithio, a'r ffordd yr ydym yn dysgu heddiw, ac yn ymateb i'r datblygiadau hyn.

Y llynedd, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn nodi'r bwriad i gyflwyno ymgynghoriad ar strwythur y calendr ysgol. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dechrau heddiw. Mae gan galendr presennol yr ysgol dymhorau anghyson, gyda thymor hirach yn yr hydref a thymhorau byrrach yn y gwanwyn a'r haf. Nid yw hyn yn fwriadol. Mae hyd y tymor wedi cael ei bennu gan wyliau cyhoeddus fel y Nadolig a'r Pasg. Gan nad yw'r Pasg yn disgyn ar ddyddiad penodol bob blwyddyn, mae hyn yn golygu bod hyd y tymor yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Gall tymhorau sy'n amrywio'n sylweddol o ran hyd gael effeithiau negyddol, gan fod athrawon a dysgwyr yn wynebu anghysondeb o un flwyddyn i'r llall, tra bod tymhorau sy'n debyg o ran hyd yn cynnig blociau cyson, sy'n rhoi amser teg i archwilio pynciau.

Mae'r dysgu sy'n cael ei golli dros wyliau'r haf yn effeithio ar lawer o ddysgwyr, a gellid lleddfu hyn rhywfaint drwy ailddosbarthu rhan o wyliau'r haf i amseroedd eraill. Felly, ein cynnig cyntaf yw ymestyn egwyl hanner tymor mis Hydref i gynnig mwy o gyfle i ddysgwyr ac athrawon ymlacio yn ystod y tymor hiraf. Byddai gwneud hyn hefyd yn lleihau'r amser a dreulir yn yr ysgol yn ystod tymor yr hydref, er mwyn sicrhau ei fod yn fwy cyson â thymhorau'r gwanwyn a'r haf, a byddai hefyd yn lleihau egwyl yr haf o wythnos, i helpu i leddfu'r dysgu sy'n cael ei golli.

Gan fod hyd hanner tymor y gwanwyn yn gallu amrywio yn dibynnu ar ble mae'r Pasg yn disgyn, ein hail gynnig yw toriad yn y gwanwyn sydd â'r potensial i gael ei ddatgysylltu o'r Pasg, pe bai angen, i reoleiddio hyd hanner tymor yn y gwanwyn. Ein nod yw cyflwyno'r newidiadau arfaethedig hyn o ddechrau blwyddyn ysgol 2025. Yn dilyn hyn, ac yn amodol ar adborth, byddwn yn gofyn am farn gychwynnol ar welliannau pellach, gan gynnwys ymestyn toriad mis Mai, a gwyliau haf pedair wythnos, i gydraddoli hyd tymor y gwanwyn. Byddwn yn edrych i archwilio'r rhain dros y blynyddoedd nesaf, gan ddilyn yr un amserlen â chyflwyno ein cymwysterau gwneud-i-Gymru. Mae mwy o fanylion ar hyn yn y ddogfen ymgynghori ei hun.

I fod yn glir, pan fyddwn yn ystyried gwelliannau i'r calendr ysgol, ni fydd unrhyw newid i gyfanswm nifer y diwrnodau addysgu nac i gyfanswm nifer y gwyliau ysgol, ac ni fydd gwyliau'r haf yn cael ei leihau i lai na phedair wythnos. Rydym yn cydnabod y bydd newidiadau i'r calendr ysgol yn bellgyrhaeddol. Mae'n bwysig felly bod cynifer o unigolion, grwpiau a sefydliadau â phosibl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Byddwn yn siarad yn uniongyrchol ag ystod eang o randdeiliaid drwy'r ymgynghoriad, gan gynnwys dysgwyr, eu teuluoedd a'r sector addysg, yn ogystal â thwristiaeth, gofal plant, grwpiau ffydd a chred, ac eraill sydd â safbwyntiau pwysig i'w rhannu. Datblygwyd y cynigion hyn gyda staff a dysgwyr ysgolion mewn golwg, ac maen nhw'n gyfle, Dirprwy Lywydd, i sicrhau bod ein dysgwyr mwyaf difreintiedig yn arbennig yn cael y cyfleoedd dysgu gorau a'r cyfleoedd gorau mewn bywyd.

15:35

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Gweinidog, ydych chi mor gyfforddus yn eich swigen ym Mae Caerdydd fel nad oes gennych chi unrhyw syniad erbyn hyn ynglŷn â blaenoriaethau brys y sector addysg ar lawr gwlad yng Nghymru? Fel y gwyddoch chi'n iawn, mae addysg yng Nghymru yn wynebu myrdd o heriau dwys ar hyn o bryd, ond, yn rhyfeddol, dyma ffocws eich ymdrechion.

Does dim ond rhaid i chi gamu trwy ddrws unrhyw ysgol yng Nghymru i sylweddoli bod cyllidebau ysgolion dan gymaint o bwysau ac nad yw plant yn cael eu cefnogi yn y ffordd y mae gwir angen iddyn nhw fod. Mae ysgolion yn ei chael hi'n anodd iawn, gyda'r cynnydd yn nifer y plant ag ADY, i ofalu amdanyn nhw, a gyda'r gallu i ddelio ag anghenion dysgu mwy difrifol, sy'n cyflwyno eu hunain mewn ffyrdd dwys yn ein haddysg brif ffrwd erbyn hyn. Rydych chi wedi methu â chyflwyno cynllun cenedlaethol i helpu pobl ifanc ag iechyd meddwl yn ein hysgolion. Mae'r Llywodraeth wedi methu recriwtio athrawon newydd a chadw'r rhai sydd gennym. Rydych chi'n methu â delio â lefelau cyrhaeddiad sy'n peri pryder, ac, ar ben hynny, mae canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn gyfartal â rhai'r gwladwriaethau Baltig.

Mae'n gwbl anhygoel eich bod chi'n dewis nawr i flaenoriaethu newid y flwyddyn ysgol. Mae hyn yn dangos cyn lleied rydych chi'n ei ddeall am y realiti sy'n wynebu athrawon ac ysgolion o ddydd i ddydd. Dim ond yr wythnos diwethaf, clywsom gan lywodraethwyr ysgolion a oedd yn codi pryderon difrifol am y sefyllfa ariannol frawychus sy'n wynebu ysgolion ledled Cymru. Nid nawr yw'r amser i boeni am eich etifeddiaeth na'ch ymgyrch arwain, pan yw ein sector addysg yn ymbil am gymorth brys. Gweinidog, pam ydych chi'n teimlo mai nawr yw'r amser iawn i gyflwyno'r newid hwn, yn enwedig pan nad oes neb o'r sector—na rhieni—yn galw am hyn? Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach mai mater o flaenoriaethau yw'r cyfan. Wel, mae'n amlwg bod eich blaenoriaethau chi i gyd yn anghywir. 

Fe wnaethoch chi a Llywodraeth Cymru gomisiynu Beaufort Research i gynnal ymarfer ymchwil ac ymgysylltu i agweddau tuag at ddiwygio'r flwyddyn ysgol yng Nghymru. Dywedodd y mwyafrif o'r ymatebwyr eu bod yn eithaf bodlon â'r sefyllfa bresennol. Fodd bynnag, roedden nhw'n pryderu am unrhyw newidiadau a'r effaith y bydden nhw'n ei gael, yr effeithiau ar y gyfres arholiadau a sut y gallai dysgwyr yng Nghymru wynebu anfantais oherwydd hynny, a'r ffaith hefyd na fyddai aliniad â'r rhan fwyaf o Loegr, yr ydym yn rhannu ffiniau mandyllog â nhw. 

Heddiw, rydym wedi gweld eich undebau eich hun, fel yr Undeb Addysg Cenedlaethol, yn mynegi eu siom ynoch chi, Gweinidog, am fwrw ymlaen â hyn pan ei bod yn amlwg bod blaenoriaethau mwy brys, ac mae Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru wedi diystyru'r cynllun ar gyfer gwyliau haf pedair wythnos fel gweithred o ffolineb. Yn dilyn hyn, Gweinidog, fy nghwestiwn i chi yw: a allwch chi ein sicrhau ni yn y Siambr hon y bydd y Llywodraeth hon yn gwrando ar unrhyw ymatebion neu'n gweithredu ar unrhyw ymatebion o ymgynghoriad, gan nad dyna wnaethoch chi gyda'r terfynau 20 mya?

Nid wyf hyd yn oed wedi crybwyll pryderon am y sector twristiaeth eto, gyda'r sector yn pryderu y bydd lleihau'r gwyliau haf yn cael effaith ddifrifol ar y diwydiant yng Nghymru a sgil-effaith negyddol ar economi ehangach Cymru. Gweinidog, yn yr adroddiad a luniwyd gan Beaufort Research a gomisiynwyd gennych, dywedodd un pennaeth twristiaeth fod gwyliau haf pedair wythnos, ac rwy'n dyfynnu, 'yn fy nychryn i'n llwyr' ac y byddai'n 'hunllef enfawr'. Roedd un arall yn rhagweld y byddai Cymru yn colli tua 75 y cant o atyniadau twristiaeth pe bai'r gwyliau chwe wythnos presennol yn cael ei dorri o bythefnos. Gweinidog, nid yw'r sector twristiaeth yn hapus, nid yw eich undebau eich hun yn hapus, nid yw athrawon yn hapus, ac nid yw rhieni a dysgwyr, o'ch ymchwil eich hun, yn hapus. Nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth wirioneddol y bydd newid y flwyddyn ysgol yn cael effaith gadarnhaol o gwbl. Felly beth, Gweinidog, ydych chi'n ei wybod nad yw'r gweddill ohonom ni'n ei wybod?

15:40

Wel, ble ddylwn i ddechrau? Roeddwn i mewn ysgol yn rhanbarth yr Aelod ddoe, a chefais gyfle i drafod y cynigion gyda'r cyngor ysgol, o bob blwyddyn yn yr ysgol. Yn wir, hoffwn eu canmol am drafodaeth llawer mwy meddylgar, cytbwys a dilys na'r hyn a gafwyd gan yr Aelod yn ei chwestiwn hi.

Mae'n nodi nifer o bwyntiau yn ei chwestiwn nad oes ganddyn nhw sail mewn gwirionedd na realiti. Mae hi'n sôn am y diffyg tystiolaeth—[Torri ar draws.] Mae hi'n sôn am y diffyg tystiolaeth, ac rwy'n hapus i dynnu ei sylw at—[Torri ar draws.] Wel, os hoffai wrando, fe wnaf y pwynt iddi ein bod ni, ym mis Mehefin, wedi cyhoeddi ymchwil ar effeithiau newidiadau i'r flwyddyn ysgol, adolygiad o dystiolaeth. Ym mis Mehefin, gwnaethom gyhoeddi darn o waith gan Beaufort Research, yn archwilio diwygio'r flwyddyn ysgol. Ym mis Hydref eleni, gwnaethom gyhoeddi ymchwil yn archwilio canfyddiadau a phrofiadau o'r calendr ysgol, yn ogystal â dogfen o ymchwil ansoddol ac adolygiad wedi'i ddiweddaru o'r dystiolaeth. Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant eu barn ar ddiwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol yng Nghymru. Mae cyfoeth o dystiolaeth yn deillio o'n profiad yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd hi'n gwybod bod Bromley yn Llundain sydd o dan reolaeth y Ceidwadwyr, Swydd Northampton sydd o dan reolaeth y Ceidwadwyr a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer ar ein ffin â Lloegr i gyd yn awdurdodau sydd wedi mabwysiadu'r dull o weithredu yr ydym yn ei hyrwyddo yn yr ymgynghoriad, oherwydd rwy'n credu eu bod nhw'n rhannu ein barn—[Torri ar draws.]  

Mae'r Aelod dros Ddwyrain De Cymru wedi cael cyfle i roi ei chyfraniad. Dylai hi nawr ganiatáu i'r Gweinidog ymateb i'r cyfraniad hwnnw. 

Mae hi'n nodi pryderon y sector twristiaeth, ac rwy'n dyfynnu yma gan un o'n busnesau twristiaeth blaenllaw: 'Po fwyaf y gallwn ni ledaenu cydbwysedd archebion gwyliau drwy gydol y flwyddyn ac i ffwrdd oddi wrth yr adeg brysuraf yn yr haf, gorau oll. Rydym yn cynrychioli llawer o'r bythynnod gwyliau gorau yng Nghymru, a gallwn ni eu llenwi 10 gwaith drosodd ym mis Awst, ond gallai annog archebion yn y gwanwyn a'r hydref fod o gymorth mawr'.

Ond y dyfyniad gorau, rwy'n credu, sydd, yn fy marn i, yn crynhoi cydbwysedd y ddadl yma, yw, os caf i, Dirprwy Lywydd: mae'r trefniant presennol

'wedi bod ar waith ers degawdau...ac fe'i cynlluniwyd ar adeg i ddiwallu anghenion y rhai hynny, fel aelodau fy nheulu fy hun, a oedd yn gweithio ar y fferm bryd hynny. Ond mae pethau wedi newid, newid a newid eto ers hynny, ac mae'r byd cyfoes yn symud yn gyflym...ac rwyf i yn credu bod angen i'r ffordd yr ydym yn addysgu a’r ffordd y mae wedi ei strwythuro addasu gydag anghenion a dymuniadau newidiol teuluoedd, athrawon, plant ac, wrth gwrs, cymdeithas yn gyffredinol, oherwydd yr effaith ehangach y byddai'r newid hwn yn ei chael arnyn nhw.'

Llywydd, dyma eiriau Laura Anne Jones mewn ymateb i fy natganiad ar ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol, ac rwy'n cytuno â hi a wyddwn i ddim nawr a yw hi'n cytuno â hi ei hun.

15:45

Dwi'n falch, Gweinidog, ein bod ni'n cael datganiad heddiw a chyfle i drafod. Mae'n bwysig bod datganiadau llafar yn digwydd ar y diwrnod maen nhw'n cael eu cyhoeddi. Fel dŷn ni wedi gweld, mae yna gryn ddiddordeb wedi bod yn barod ac ymateb, a gobeithio bydd y trafod a'r diddordeb hwn yn parhau drwy gyfnod yr ymgynghoriad.

Yn amlwg, o ran Plaid Cymru, dŷn ni'n croesawu dechrau trafodaeth ar greu system decach ac mae'n bwysig pwysleisio ar y dechrau nad oes yna unrhyw leihad yn nifer y diwrnodau o wyliau, dim ond cynnig i fyrhau'r cyfnod hir i ffwrdd o'r ysgol dros yr haf, tra'n ychwanegu at wyliau ar adegau eraill o'r flwyddyn i gael strwythur o flociau mwy cyson. Dydy hyn ddim yn beth newydd o ran beth mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo. Pan oedd Nerys Evans yn y rôl yma, fel llefarydd Plaid Cymru ar addysg, mi wnaeth hi gynnig diwygio yn Ionawr 2011. Doedd Leighton Andrews ddim mor agored i'r opsiynau ag yr ydych chi, rŵan, Weinidog, a dwi'n meddwl nad oes yna byth amser da i ddechrau trafodaethau o'r fath, ond dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ein bod ni'n parhau i adolygu a'n bod ni yn cymryd pob cyfle posib i fynd â thrafodaethau fel hyn rhagddynt.

Wedi'r cyfan, fe fyddech chi'n gallu dweud mai ceidwadaeth fyddai gwrthod hyd yn oed ystyried newid i system sydd yn deillio nôl i'r ganrif cyn ddiwethaf, fel dŷch chi'n sôn. Ac mae'r ymrwymiad i edrych ar ddiwygiadau radical yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Ond ydych chi'n rhannu rhywfaint ar fy rhwystredigaeth, serch hynny, Weinidog, ein bod ni'n ymgynghori ar gynnig eithaf cyfyngedig a bod diffyg adnoddau, efallai, yn sicr o ran y diwrnod ysgol, yn golygu na allwn ni fod, ar y pwynt yma, yn codi ein golygon yn ehangach? Wedi'r cyfan, rydym yn barod ymhlith y gwledydd gyda'r lleiaf o wyliau haf yn y byd, felly oni fyddai wedi bod yn fanteisiol gallu edrych ar opsiynau gwirioneddol radical megis ehangu'r gefnogaeth sydd ar gael yn ystod gwyliau ysgol a sut mae strwythur ysgolion yn gweithio, yn debycach i'r hyn, wrth gwrs, sy'n digwydd mewn gwledydd Sgandinafaidd ac Ewropeaidd, ac nid cyfyngu'r ymgynghoriad i rywbeth sydd, ar bapur, ddim i'w weld mor radical â hynny? Nodaf fod bocs 15 o'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i bobl dynnu sylw at unrhyw faterion cysylltiedig. Fyddwch chi, felly, yn croesawu ac yn annog syniadau uchelgeisiol, yn ychwanegol at yr hyn sydd yn y ddogfen ymgynghori, ynghylch sut allai'r cynnig penodol yma gyd-fynd efo newidiadau blaengar eraill posib, fel yr wythnos waith bedwar diwrnod dŷn ni'n sôn amdani'n gyson yn y Siambr hon?

Dwi'n cytuno'n llwyr o ran rhoi'r pwyslais ar y dysgwyr yn ganolog, ac, fel dŷch chi wedi cyfeirio ati, mae yna beth tystiolaeth i ddangos bod y cynnig yma am fod o fudd i lawer o blant a phobl ifanc o ran llesiant, lliniaru effaith anfantais a chefnogi cynnydd addysgol. Yr ymateb cychwynnol y bore yma gan rai o'r undebau addysg yw nad ydyn nhw wedi'u hargyhoeddi hyd yma ar resymeg a sail dystiolaethol yr achos sydd wedi'i roi gerbron. Gaf i ofyn, felly, pa drafodaethau y byddwch chi'n eu cael gyda'r undebau llafur yn ystod y cyfnod ymgynghori i sicrhau bod y dystiolaeth ganddyn nhw a'n bod ni'n rhannu, felly—? Dŷch chi wedi cyfeirio at rai dogfennau, ond dwi'n meddwl bod yna rai cwestiynau eraill o ran y gwahanol opsiynau a pham, felly, mai'r opsiwn penodol yma dŷch chi'n ymgynghori arno fo. Eto, fel y crybwyllwyd yn barod o ran yr ymateb cychwynnol, mae rhai lleisiau o'n cymuned amaethyddol wedi cwestiynu beth fyddai effaith dechrau'r gwyliau haf ddiwedd fis Gorffennaf yn 2026 ar y sioe fawr a'i bod hi'n bwysig i blant a phobl ifanc o deuluoedd fferm ac fel arall i gael manteisio ar brofiadau fel mynd i'r Sioe Frenhinol o hyd.

Ond yn ehangach, fel y soniwyd gan Laura Anne Jones, yn y portffolio addysg, mae yna lawer iawn o heriau, o broblemau recriwtio athrawon newydd a'r baich gwaith i raddfeydd uchel o absenoldeb ymhlith disgyblion, cynnydd mawr mewn problemau iechyd meddwl a chefnogaeth i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o wahanol gefndiroedd yn parhau yn ystyfnig o fawr ac mae cost y diwrnod ysgol yn creu problemau yn yr argyfwng costau byw presennol. Felly, fedrwch chi gadarnhau na fyddwch chi'n cyfyngu eich radicaliaeth i’r meysydd rydw i wedi eu henwi, ac y byddwch yn dod â chynlluniau yr un mor gadarn a chyflym i wireddu ein huchelgais dros holl bobl ifanc ac athrawon Cymru? Oherwydd sut mae disgwyl i ddysgwyr fanteisio ar newidiadau o ran y flwyddyn ysgol os nad ydyn nhw hyd yn oed yn yr ysgol, neu’n derbyn y gefnogaeth yn yr ysgol sydd ei hangen arnynt neu fynediad at fwyd yn y gwyliau ysgol, beth bynnag fo hyd y gwyliau hynny?

Fe glywsoch chi'n gynharach Sioned Williams yn gofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog ynglŷn â bwydo plant yng ngwyliau'r ysgol. Fy un pryder am bythefnos yn y mis Hydref yna ydy o ran y diffyg cefnogaeth yn y gwyliau o ran pryd cynnes o fwyd am bythefnos lle mae'r tywydd yn gallu bod cymaint oerach a'r costau ychwanegol o ran cynhesu tai yn y pythefnos penodol hwnnw. Felly, gaf i ofyn pa asesiad sydd wedi ei wneud a sut dŷn ni am sicrhau bod y newidiadau hyn ddim yn mynd i olygu bod y plant dŷn ni'n trio eu cefnogi hefo'r cynlluniau hyn yn dioddef oherwydd effeithiau tlodi fel arall?

15:50

Jest fel bod dim unrhyw gamddealltwriaeth, mae hon yn ddogfen sydd wedi ei chytuno ar y cyd gyda Phlaid Cymru, felly mae'r cwestiynau mae'r Aelod yn gofyn amdanyn nhw yn bethau sydd wedi eu hystyried eisoes gan ei phlaid hi wrth gytuno'r ddogfen hon linell wrth linell gyda ni, gan gynnwys rhai o'r heriau mae'r Aelod yn eu codi yn ei chwestiwn a gan gynnwys yr impact ar y Sioe Frenhinol ac ati. Felly, mater o flaenoriaethu yw hyn, yntefe? Rŷn ni'n cychwyn o'r sail mai addysg plentyn yw'r peth pwysicaf sydd wrth wraidd y diwygiadau rŷn ni'n eu cynnig fan hyn. Mae goblygiadau eraill yn codi yn sgil hynny ac mae'n rhaid gwrando ar hynny yn sgil yr ymgynghoriad, ond fel mae'r Aelod yn dweud, y peth pwysig yw ein bod ni'n sicrhau cyfleoedd addysgiadol i'n pobl ifainc, felly dyna pam rŷn ni wedi ei strwythuro fe yn y ffordd rŷn ni wedi gwneud. Rŷn ni'n credu, fel mae'ch plaid chi'n cytuno, mai dyma'r ffordd orau i fynd i'r afael gyda hynny.

O ran uchelgais bellach, wrth gwrs, mae dau gam yn yr ymgynghoriad, fel mae'r Aelod yn gwybod. Y cam cyntaf: pum wythnos o haf a phythefnos o doriad yn yr hydref, ac wedyn cam pellach o bedair wythnos ac wythnos yn y gwanwyn yn ychwanegol. Felly, mae uchelgais yn rhan gynhenid o'r cynigion yma, ond does dim angen anogaeth wrth Blaid Cymru arnaf i i fod yn radical yn yr hyn rwy'n ei wneud i gefnogi plant yn ein hysgolion ni. Ond dwi'n diolch ichi am y gefnogaeth.

Mae gyda ni raglen eang, fel rŷch chi'n gwybod, o'r hyn rŷn ni'n ceisio ein gorau i'w wneud i warchod buddiannau ein plant a'n pobl ifanc, mewn cyfnod sydd yn heriol iawn ar hyn o bryd, ac mae gyda ni ystod o bethau rŷn ni'n eu gwneud, fel soniodd y Prif Weinidog yn ei ymateb yn gynt, i fynd i'r afael gyda phwysau costau byw ar deuluoedd a sicrhau bod cyn lleied â phosib o rwystredigaethau yn y ffordd rŷn ni'n sicrhau bod plant yn mynd i'r ysgol. Rwy'n credu, ac rwy'n sicr bod yr Aelod yn cytuno, fod y cynlluniau sydd yn y rhaglen hon, yn y ddogfen ymgynghori hon, yn mynd i'n helpu ni i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu dod i'r ysgol yn barod i fod yno yn dysgu, wedi cael gorffwys, wedi cael cyfle i allu ailgydio a chael recharge i'r batri, fel petai, ac yn barod i ddysgu. Wrth gwrs, ar ddiwedd y dydd, dyna'r peth pwysig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae ein pwyllgor wedi ymrwymo i roi sylw manwl arbennig i farn plant a'u teuluoedd, nad yw pobl mewn swyddi pwerus bob amser yn gwrando arnyn nhw—plant a theuluoedd sydd â chymaint i'w ddweud, ond nad yw eu lleisiau, yn rhy aml o lawer, yn cael eu clywed. Wrth wrando ar eich datganiad heddiw a myfyrio ar waith Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r flwyddyn ysgol, canfyddiadau'r ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a'n gwaith parhaus sy'n edrych ar p'un a oes gan blant anabl fynediad cyfartal at addysg a gofal plant, mae'n ymddangos bod strwythur y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol yn cael mwy o effaith ar rai o'r grwpiau hynny o ddysgwyr nag eraill: dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a disgyblion o aelwydydd incwm isel, y gall eu gwybodaeth a'u sgiliau atchwelyd yn fwy na'u cyfoedion yn ystod gwyliau hir yr haf, dysgwyr niwroamrywiol a allai deimlo bod tymhorau hir yr hydref neu'r gwanwyn yn arbennig o flinderus, fel rydych chi wedi sôn yn eich datganiad heddiw, neu ddysgwyr sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol, a allai deimlo'n fwy pryderus ynghylch dychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau ysgol chwe wythnos o hyd.

Gwyddom o'r gwaith y mae ein pwyllgor wedi'i wneud fod y plant hyn a'u teuluoedd yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu gwthio i'r cyrion ac nad yw eu profiad a'u barn yn cael yr ystyriaeth y maen nhw'n ei haeddu. Felly, Gweinidog, rwy'n falch iawn bod yr ymchwil i brofiadau o'r calendr ysgol presennol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys ymgysylltu â dysgwyr ADY a'r rhai o ystod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol.  A allwch chi sicrhau'r Senedd y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol i geisio barn y dysgwyr hynny sy'n wynebu'r rhwystrau anoddaf yn eu haddysg fel rhan o'i phroses ymgynghori ffurfiol, yn enwedig o gofio bod newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn debygol o gael effaith anghymesur ar les, presenoldeb a chyrhaeddiad y dysgwyr hynny? Ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, Gweinidog, mai ein cyfrifoldeb ni fel pobl mewn swyddi pwerus yw sicrhau ein bod ni'n gofyn y cwestiynau cywir i'r bobl gywir yn y ffordd gywir i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i rannu eu barn. Ac a wnaiff y Gweinidog hefyd ein sicrhau mai un o brif amcanion polisi unrhyw ddiwygiadau fydd gwella lles a chyrhaeddiad dysgwyr? Yn ddealladwy, mae llawer o ddadleuon ynghylch diwygio'r flwyddyn ysgol yn canolbwyntio ar ofal plant neu faterion economaidd eraill. Heb os, mae'r rhain yn faterion pwysig, ond rwy'n annog y Gweinidog i sicrhau bod plant eu hunain a'u lles a'u cyrhaeddiad wrth wraidd gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Diolch.

15:55

Diolch i Jayne Bryant am y sylwadau a'r cwestiynau meddylgar hynny, ac rwy'n cytuno â hi: mae'n bwysig ein bod ni'n clywed llais y dysgwyr hynny a'u teuluoedd sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio. Rydym wedi darparu, ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori yr ydym yn ei chyhoeddi heddiw, fersiwn hawdd ei deall o'r ymgynghoriad, os mynnwch chi, yr ydym yn gobeithio ac rydym yn hyderus y bydd yn galluogi cynulleidfa ehangach ar gyfer y cynigion ac felly, yn y ffordd y mae'n ei ddweud yn wirioneddol bwysig, i wneud yn siŵr bod pob llais yn cael ei glywed yn hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd ysgolion—. Yn ysgol uwchradd Caerllion, yr oeddwn i yno ddoe, yn etholaeth yr Aelod, cefais fy nharo, fel y dywedais i yn gynharach, gan natur y drafodaeth yr oedd yr ysgol wedi'i chychwyn â chyngor yr ysgol ac rwy'n gobeithio y bydd ysgolion yn manteisio ar y fersiwn hawdd ei deall honno o'r ymgynghoriad, i annog trafodaeth yn yr ysgol.

Gwyddom hefyd fod y gwaith y mae Parentkind wedi'i wneud drwy gynnal arolwg o rieni yn awgrymu, ar sail arolwg o ychydig o dan 7,000 o rieni, fod cefnogaeth gref o blaid dosbarthu gwyliau ysgol yn fwy cyfartal, ac mai'r rhieni hynny oedd yn teimlo eu bod yn ei chael hi'n fwyaf anodd yn ariannol oedd y rhai a oedd fwyaf tebygol o gefnogi'r diwygiadau, gyda thua 72 y cant o rieni yn y categori hwnnw yn cefnogi dosbarthu gwyliau ysgol mewn ffordd wahanol.

Felly, credaf fod hynny'n arwydd clir iawn o bwysigrwydd archwilio'r diwygiadau hyn, ac nid oes angen i mi betruso o gwbl wrth roi ymrwymiad i'r Aelod fod lles a chyrhaeddiad ein pobl ifanc wrth wraidd hyn. Rydym am sicrhau bod pobl ifanc yn yr ysgol, yn gallu manteisio'n llawn ar bopeth rydym yn ei wneud i wella llythrennedd, rhifedd, cynyddu safonau a gwella cyrhaeddiad, ac er mwyn bod yn y sefyllfa honno, mae angen i chi deimlo eich bod wedi ymlacio ac adfer a'ch bod yn barod i ddysgu. Felly, rwy'n credu y bydd y diwygiadau hyn yn cael yr effaith honno.

Yn y drafodaeth a gawsom ddoe, dywedodd un o'r dysgwyr wrthyf ei fod yn teimlo, ar ddechrau tymor yr hydref, y gallai gymryd wythnos, pythefnos, tair wythnos neu fwy weithiau, i ddal i fyny ar y dysgu a gollwyd dros fisoedd yr haf, felly mae hynny'n amser nad yw ar gael i ddatblygu dysgu pobl ifanc yn y sefyllfa honno. Felly, rwy'n credu bod hon yn gyfres amserol o ddiwygiadau, a byddwn i'n annog pobl i gyfrannu ac ymateb i'r ymgynghoriad fel y gallwn ni ystyried pob llais a phob barn.

Yn union fel y dywedoch chi wrth Jayne Bryant nawr, dydw i erioed wedi cwrdd ag athro nad yw'n dweud nad yw hi'n heriol iawn, iawn ddechrau mis Medi i gael plant i setlo nôl i'r ffyrdd o ddysgu, gwrando ac ymateb oherwydd y dysgu hynny sydd wedi cael ei golli, a hefyd, i rai pobl ifanc, ni fydd wedi bod yr adeg fwyaf llawen o'u bywyd. Felly, mae gen i ddiddordeb mawr yn hyn, a diolch yn fawr iawn i chi am ymrwymo i wneud yr hyn y dywedoch chi y byddech chi'n ei wneud ar ddechrau eich tymor yn y swydd.

Un o'r pethau rydych chi'n ei ddweud yw bod rhieni sy'n gweithio yn ei chael hi'n anodd cymryd chwe wythnos i ffwrdd, ac, wrth gwrs, p'un a fyddwn ni'n ailddosbarthu'r rhain mewn ffordd wahanol, bydd hynny'n dal i fod yn wir, felly tybed pam nad ydym, er enghraifft, yn annog ysgolion i fynd â disgyblion ar deithiau ysgol yn ystod y gwyliau, yn hytrach nag yn ystod y tymor ysgol. Mae'n foment bwysig iawn i ganiatáu i blant fondio â'i gilydd a dysgu ychydig mwy o annibyniaeth, y plant ysgol gynradd hŷn hynny. Ond rwy'n credu bod ffyrdd gwahanol o edrych ar hyn, ac, yn amlwg, pan fydd gennym fwy o arian yn y system, dylem fod yn gallu gwella'r ddarpariaeth sydd ar gael i bobl ifanc yn ystod y gwyliau. O ran tymor y gwanwyn—

16:00

—eich bod chi eisiau diystyru pryd fydd y Pasg yn disgyn o ran tymor y gwanwyn, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi wedi ystyried caniatáu i wyliau crefyddol eraill fod—. Rydych chi'n gwybod, bydd pobl yn dal i fod eisiau cymryd Dydd Gwener y Groglith a Dydd Llun y Pasg i ffwrdd os ydyn nhw—. A byddan nhw'n gallu gwneud hynny, os ydyn nhw'n dilyn y grefydd benodol honno, ond beth am Eid, Hanukkah a Diwali? Oni allai fod rhyw ffordd y gallem ganiatáu i ddisgyblion gymryd eu gwyliau crefyddol i ffwrdd, fel y bo'n berthnasol, os yw'r rheini'n bethau y maen nhw'n eu gwneud?

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau hynny. Felly, rwy'n cytuno â hi, mewn gwirionedd, rydych chi'n gwybod, y dylem edrych yn greadigol ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn ystod gwyliau'r ysgol. Wrth gwrs, mae gennym ni ddarpariaeth bwyd a hwyl a'r rhaglen gwella gwyliau'r haf a Gwaith Chwarae yn barod, ac, rwy'n credu y bydd y polisi ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, wrth i hwnnw ddatblygu ac aeddfedu, yn cynnig cyfleoedd yn y ffordd honno, ac rwy'n credu y bydd hynny'n dod yn fwyfwy pwysig yn y dyfodol—sut y gallwn ni ymestyn rhai o'r trefniadau hynny i'r gwyliau fel bod yna—. Rydych chi'n gwybod, mae hyd yn oed gwyliau pum wythnos i rai pobl ifanc yn golygu eu bod yn colli dysgu, a gall cael pwyntiau cyswllt â'r ysgol neu gymuned yr ysgol fod yn bwysig iawn. Ac, yn ei hetholaeth hi ac yn fy un i, byddwn ni wedi bod i ysgolion yn ystod gwyliau'r haf ac wedi gweld effeithiau gallu bod yn yr ysgol gyda'u cyfoedion—mae chwarae ychydig o chwaraeon, dysgu ychydig am faeth, yn bwysig iawn i lawer o ddysgwyr. Felly, rwy'n credu bod mwy, rwy'n siŵr, yr hoffem ei wneud yn y maes hwnnw. Mae ein rhaglen wedi ehangu mewn gwirionedd, fel y bydd hi'n gwybod, dros y blynyddoedd diwethaf, a, phe bai gennym yr adnoddau i wneud hynny, rwy'n siŵr y byddem am wneud mwy o hynny yn y dyfodol.

Y pwynt am y newidiadau adeg y Pasg yw hyn, mewn gwirionedd: mae'n ymwneud â chaniatáu datgysylltu'r Pasg o amseru'r gwyliau hanner tymor a diwedd tymor. Fel mae'n digwydd, dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, nid yw hynny'n bryder ymarferol, ond y mater mewn gwirionedd yw sut y gallwch chi sicrhau bod y tymhorau yn fwy cyson, a thrwy gysylltu, fel y gwnawn ni nawr, â'r pwynt penodol pan fydd y Pasg yn digwydd disgyn, mae hynny yn ei gwneud hi'n amhosibl cyflawni hynny. Ond, wrth gwrs, i dawelu meddyliau pobl, nid yw hyn yn gyfystyr â dweud y byddai gwyliau'r banc o gwmpas y Pasg yn newid; yn amlwg, fydden nhw ddim yn newid. A'r pwynt y mae hi'n ei wneud am grefyddau eraill—wrth gwrs, mae'n bosib i rieni wneud cais i blant beidio â bod yn yr ysgol ar achlysuron arbennig fel hynny, ac rwy'n gwybod bod llawer o benaethiaid yn arfer y disgresiwn hwnnw mewn ffordd sy'n cefnogi'r dewisiadau hynny.

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n croesawu eich cyhoeddiad am yr ymgynghoriad hwn, o ystyried y ffaith bod y calendr academaidd presennol wedi bod yn weithredol ers 1873, pan oedd y Frenhines Fictoria ar yr orsedd ac roedd Gladstone yn ei dymor cyntaf fel Prif Weinidog. Nid yw ond yn iawn ac yn gyfrifol i ni ailasesu a yw'n addas at y diben heddiw. Nodaf fod y tri undeb athrawon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu sylfaen dystiolaeth i gefnogi unrhyw newidiadau i'r flwyddyn ysgol. Gweinidog, roedd colli dysgu yn sicr yn gysyniad a oedd yn sail i fy nhystysgrif ôl-raddedig mewn addysg nôl ym 1999, ond mae'n ymddangos ei fod yn dal i fod yn gysyniad a drafodir yn helaeth, er gwaethaf y ffaith y byddai llawer o fy nghydweithwyr sy'n addysgu plant ag anghenion dysgu ychwanegol a phlant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn sicr yn dweud ei fod yn wir. Felly, a ydych chi'n hyderus y gallwch chi ddarparu tystiolaeth drylwyr i gefnogi bodolaeth colli dysgu ac i ddangos y gall gwasgaru gwyliau yn fwy cyfartal drwy gydol y flwyddyn academaidd wella canlyniadau addysgu a dysgu?

A byddwch chi'n gwybod, Gweinidog, fy mod i wedi bod yn gefnogwr mawr o'r rhaglen gwella gwyliau'r haf, fel y'i gelwir erbyn hyn, felly pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i'r effaith y bydd unrhyw newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn ei chael ar hyn? Os yw nifer yr wythnosau y bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros yr haf yn cael ei lleihau, a ellid ei chyflwyno yn ystod gwyliau ysgol eraill i gefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnodau hyn?

Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau hynny ac rwy'n nodi bod ganddi fwy o arbenigedd o ran y profiad o fod yn athrawes a sut mae'n teimlo, mae'n rhaid, wrth ddod i ddiwedd tymor yr hydref hwn. Gallaf weld wrth y wên ar ei hwyneb bod ganddi atgofion melys o hynny. Ond rwy'n meddwl, o ran y cwestiwn o golli dysgu a'r effaith ar athrawon ac ar y llwyth gwaith yn ystod y tymor yma, rwy'n credu—. Dyma'r sgwrs roeddwn i'n ei chael yn yr ysgol y soniais amdani ddoe, ond dydw i ddim yn mynd i unrhyw ysgol ar yr adeg hon yng nghalendr yr ysgol heb gael y math yna o sgwrs gyda rhieni, ac rwy'n siŵr y byddai'r rhan fwyaf o athrawon yn cydnabod ac yn rhannu'r profiad hwnnw. Mae yna gorff o dystiolaeth, yr ydym wedi'i gyhoeddi'n barod, yr ydym wedi'i roi ar gael, sy'n mynd i'r afael â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi, ond mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, fel rhan o'r ymgynghoriad, y dylai pobl, os oes ganddyn nhw ddiddordeb, edrych ar y dystiolaeth honno a'i hystyried, ac efallai y bydd pobl yn anghytuno, wrth gwrs—dyna natur ymgynghoriad. Ond mae gennym brofiad o rannau eraill o'r DU, ardaloedd awdurdodau lleol yn Lloegr ac yn yr Alban, ond hefyd yn rhyngwladol, ac nid yw'n fater o dorri a gludo yn unig. Nid wyf yn credu mewn gwirionedd y gallwch chi nodi arferion a'u trosglwyddo i system yn ddiymatal. Mae gennym ni i gyd systemau addysg gwahanol. Maen nhw'n wahanol am resymau da. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig edrych ar y dystiolaeth ac ystyried beth mae newidiadau mewn rhannau eraill o'r byd a rhannau eraill o'r DU wedi dangos i ni, ac mae hynny yn sicr yn cefnogi'r farn y gall newid siâp y flwyddyn ysgol helpu gyda'r dysgu hynny sy'n cael ei golli, ac rwy'n credu bod hynny'n amcan pwysig iawn.

16:05

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gwrando ar ganlyniadau'r ymgynghoriad hefyd, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed yr ymatebion hynny. Dau beth rydw i eisiau eglurhad yn eu cylch: rwyf wedi mynd trwy'r ymgynghoriad fy hun, ac nid wyf yn credu bod yr iaith yn gwbl glir yn yr ymgynghoriad, lle mae'n dweud, 'Ein hail gynnig yw gwyliau'r gwanwyn sydd â'r potensial i gael ei ddatgysylltu oddi wrth y Pasg pe bai angen.' Rwy'n deall, nawr, ar ôl gwrando ar y Gweinidog, beth yn union mae hynny'n ei olygu, ond mae'n cymryd sawl tro i ddeall yn union beth mae'r geiriau hynny'n ei olygu. Felly, rwy'n credu y gallem gael mwy o eglurder yn y fan honno yn y dogfennau ymgynghori eu hunain. A'r peth arall yw, er mwyn cyrraedd yr ymgynghoriad ar-lein, fe gymerodd hi o leiaf bedwar neu bum clic i mi fynd ato, a hynny cyn hyd yn oed cynnal chwiliad Google. Nid yw'n ymgynghoriad hawdd dod o hyd iddo. Nawr, rydw i'n mynd i fod yn ei bostio ar fy nghyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n annog Aelodau eraill i wneud yr un peth, ond a all y Llywodraeth ddarparu dolen glir i hynny, a hefyd fynd i'r afael â'r mater a godais hefyd?

Diolch i Hefin David am hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Fel y soniais i sawl gwaith yn fy natganiad yn gynharach, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n clywed barn a safbwyntiau amrywiaeth o bobl, pawb sy'n cael eu heffeithio—felly, dysgwyr eu hunain, yn bwysicaf oll, rhieni, y gweithlu addysg—ond, y tu hwnt i hynny, mae'n gyfres o newidiadau arfaethedig sydd â goblygiadau i gymdeithas a'r economi yn ehangach, felly rwy'n awyddus iawn i glywed ac i ystyried yr ystod o safbwyntiau y gobeithiaf yn fawr y byddwn ni'n dysgu ohonyn nhw. Byddaf yn mynd ar drywydd dau bwynt a wnaeth yn benodol, un ynghylch gwneud yn siŵr ei bod mor hawdd â phosibl dod o hyd i'r ddogfen ar-lein. Ac mewn perthynas â'r pwynt eglurder ynghylch datgysylltu'r Pasg, mae fersiwn hawdd ei deall o'r ddogfen ymgynghori hefyd. Rwy'n mawr obeithio bod honno'n haws ei deall nag efallai peth o'r testun yn y ddogfen ymgynghori ei hun ar y pwynt hwn.

Diolch i'r Gweinidog.

Cyn i ni symud ymlaen, mae Laura Anne Jones yn dymuno gwneud pwynt o drefn. 

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn wneud pwynt o drefn a sicrhau'r Siambr bod y dyfyniad a ddarllenodd y Gweinidog yn garedig ar ddiwedd ei gyfraniad, yn ei ateb i mi, yn ymwneud â'r diwrnod ysgol, nid y flwyddyn ysgol. Felly, y dyfyniad cywir yw e' ond y pwnc anghywir, Gweinidog. Diolch.

5. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023

Eitem 5, Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023. Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM8407 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023. Bydd y rheoliadau hyn yn sicrhau na fydd llety gwely a brecwast a gwesty sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol drwy ddarparwr trydydd parti at ddibenion darparu llety digartrefedd yn arwain at gontract meddiannaeth o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Dirprwy Lywydd, rwy'n hynod falch o'n hymateb yma yng Nghymru i drasiedi digartrefedd a'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan ein gwasanaethau digartrefedd rheng flaen, dan arweiniad awdurdodau lleol a gyda chefnogaeth y trydydd sector. Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi gwneud mwy na chynnal uchelgais i wneud achosion o ddigartrefedd yn brin, yn fyr ac yn ddi-ail-adrodd; rydym wedi'i chyflymu. Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw'r dull hwn heb ei heriau. Mae'r niferoedd mewn llety dros dro yn parhau i gynyddu wrth i effaith y pandemig gael ei gwaethygu gan y cynnydd mewn costau byw. Dyna'r rheswm pam yr wyf wedi gosod y rheoliadau newydd heddiw. Mae hyn mewn ymateb i'r gofynion a roddir ar awdurdodau lleol ar hyn o bryd a'r angen i fod yn bragmatig yn wyneb yr her hon a chefnogi awdurdodau lleol i wneud y mwyaf o'r stoc sydd ar gael iddyn nhw'n lleol yn y tymor byr a'i chynnal. Diolch.  

16:10

Byddwn i'n gofyn i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Byddaf nawr yn galw am seibiant byr cyn i ni fynd i mewn i Gam 3 i sicrhau bod pawb ar gael yn yr ystafell. Pum munud, os gwelwch yn dda. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:11. 

16:20

Ailymgynullodd y Senedd am 16:21, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

7. Dadl: Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Grŵp 1: Gofyniad i osod targedau ansawdd aer (Gwelliannau 37, 73, 1, 74, 75, 76, 3, 4, 38, 5, 6, 39, 7, 8, 40, 9, 10, 41, 11, 12, 42, 13, 14, 43, 77, 78, 44, 45, 15, 16, 17, 18, 46, 19, 20, 47, 21, 22, 49, 23, 24, 51, 25, 26, 52, 27, 28, 53, 30, 31, 55, 33, 34, 56, 35, 36, 58, 79)

Dyma Gyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Grŵp 1 yw'r grŵp cyntaf o welliannau, ac mae'r rhain yn ymwneud â'r gofyniad i osod targedau ansawdd aer. Gwelliant 37 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno'r prif welliant. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 37 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Felly, hoffwn gofnodi fy niolch i Mostyn Jones, fy ymchwilydd; Molly Skates, ein hymchwilydd grŵp; a hefyd Daniel a'r Dirprwy Weinidog Lee Waters AS am eu gwaith ar y ddeddfwriaeth bwysig hon ac am ystyried a chefnogi rhai gwelliannau yr ydym wedi'u cyflwyno. Felly, diolch unwaith eto, Llywydd.

Byddaf yn siarad ynghylch pob gwelliant yn y grŵp, ond rwyf am ddechrau trwy wneud sylw pwysig. Roedd maniffesto ein Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, yn cynnwys y cynnig i

'Datblygu Deddf Aer Glân newydd i sicrhau bod ein plant yn gallu mynd i'r ysgol, bod yn egnïol a chwarae y tu allan yn ddiogel heb ofni problemau anadlol, fel asthma, oherwydd lefelau llygredd yn rhai o'n trefi a'n dinasoedd.'

Mae consensws trawsbleidiol ynghylch yr angen am ddeddfwriaeth ar aer glân, ond y blaid fwyaf yn y Senedd hon sydd wedi gohirio datblygu'r Bil, gan gymryd rhyw bum mlynedd ers yr ymrwymiad yn 2018 i gyrraedd y pwynt hwn.

Wrth ystyried yr amcangyfrifir bod baich aer gwael yn y DU yn cyfateb i rhwng 29,000 a 43,000 o farwolaethau'r flwyddyn, a bod Awyr Iach Cymru wedi canfod mai llygredd aer yw'r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd, yn ail yn unig i ysmygu yng Nghymru, dylai'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru fod wedi deddfu'n gynt. Er bod Doctor Who yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 yn anffodus ni allwn fynd yn ôl mewn amser, felly mae'n rhaid i ni nawr wneud y gorau o'r broses ddeddfwriaethol sydd o'n blaenau.

Mae fy ngwelliant 37 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau hirdymor mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy'n ymwneud ag ansawdd aer yng Nghymru. Os na fyddwch yn cefnogi'r gwelliant hwn, bydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys y geiriau 'Caiff Gweinidogion', a fyddai'n rhoi'r dewis i Lywodraeth Cymru beidio â gosod targedau tymor hir. Mae'r gwelliant hwn yn adeiladu ar y dystiolaeth gan Asthma and Lung UK Cymru, sydd hefyd wedi mynegi eu siom ynghylch y defnydd o'r geiriau 'Caiff Gweinidogion' yn hytrach na 'Rhaid i Weinidogion'.

Mae gwelliant 38 yn gosod llygryddion sylweddol ar wyneb y Bil o dan adran newydd. Mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod o leiaf un targed mewn cysylltiad â'r holl lygryddion a restrir yn y ddarpariaeth. Mae'r ddarpariaeth hefyd yn rhoi'r pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i ychwanegu at y rhestr o lygryddion, ac mae'r gwelliant hwn yn debyg iawn i welliant 3 gan ein cyd-Aelod Delyth, ond mae gwahaniaeth cyfreithiol pwysig. Mae fy ngwelliant i yn cynnwys darpariaeth ychwanegol: pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru ddiwygio'r rhestr o lygryddion y mae'n rhaid gosod targedau ar eu cyfer. Fel y mae, rwyf wedi cynnwys PM10, osôn ar lefel y ddaear, nitrogen deuocsid, carbon monocsid a sylffwr deuocsid fel llygryddion sylweddol. Ond credaf ei bod yn hanfodol ar gyfer llywodraethu da fod gan Weinidogion Cymru y gallu i ychwanegu at y rhestr honno.

Mae gweddill y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i yn yr adran hon yn dechnegol, felly ni wnaf fanylu ar y rheini. Fodd bynnag, hoffwn wneud ychydig o sylwadau mewn cysylltiad â rhai o'r gwelliannau eraill yn y grŵp.

Rydym yn falch iawn o gefnogi gwelliant 1, gan ein cyd-Aelod Rhys ab Owen, gan ei fod yn cynnig helpu i egluro'r gyfraith. Byddaf hefyd yn cefnogi gwelliant 4, gan Delyth Jewell, sy'n gosod nitrogen deuocsid ar wyneb y Bil mewn adran newydd. Mae nitrogen deuocsid yn achosi llid y llwybrau anadlu, yn cynyddu tueddiad i gael heintiau anadlol ac alergenau. Ar hyn o bryd, mae'r gyfraith ar lygredd nitrogen deuocsid yng Nghymru yn dweud na all crynodiadau cyfartalog blynyddol fod yn fwy na 40 μg fesul metr ciwbig o aer. Yn 2017, cafodd Llywodraeth Cymru ei dwyn i'r llys gan ClientEarth, oherwydd aethpwyd dros y terfynau hyn yng Nghaerdydd, Caerffili, Hafodyrynys a chefnffyrdd. Mae asesiad cydymffurfio diweddaraf Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar aer yn 2021 yn dangos bod parth de Cymru yn dal i fethu â bodloni gwerthrif terfyn blynyddol nitrogen deuocsid. Yn wyneb methiant, mae'n briodol bod nitrogen deuocsid yn cael ei roi ar wyneb y Bil.

Yn olaf, fe wnaf wneud sylwadau ar welliant 73, sy'n gosod Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i wneud rheoliadau i osod targed hirdymor ar gyfer un o'r llygryddion a restrir, sy'n cynnwys amonia. Rwy'n gwrthwynebu cynnwys amonia. Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru eisoes wedi datgan yn glir eu parodrwydd i weithio gyda'r Llywodraeth, a phartneriaid, i gyrraedd allyriadau amonia cynaliadwy. Pe baech yn pleidleisio eto o blaid y gwelliant heddiw, byddwch yn gwneud hynny heb ddeall effeithiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ehangach y gyfraith hon ar gefn gwlad Cymru. Diolch, Llywydd.

16:25

Rwyf am siarad am welliannau 3, 4 a 15 yn y grŵp hwn. Mae llawer iawn yn y gwelliannau y mae Janet wedi'u gosod yr ydym yn cytuno â nhw, a'r gwelliant y mae Rhys wedi'i osod, a rhai o ddiwygiadau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn hefyd. Nawr, o ran llawer o'r hyn y byddaf yn siarad amdano heddiw, rwy'n ddyledus i gyngor Awyr Iach Cymru, Joseph Carter, Haf Elgar ac eraill, am eu hymgyrchu ymroddedig ynghylch aer glân. Mae'r ffaith bod y ddeddfwriaeth hon ger ein bron heddiw yn ganlyniad i'w gwaith sylweddol nhw. A hoffwn ddiolch hefyd i Tomos Rowley yng ngrŵp y Blaid am ei waith ar y ddeddfwriaeth hon.

Nawr, fe fyddwn i'n dweud ar y dechrau, Llywydd, cymaint rydw i wedi croesawu'r dull a fabwysiadwyd gan y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2 y ddeddfwriaeth hon. Yn ei absenoldeb heddiw, hoffwn gofnodi bod ei barodrwydd i weithio gydag Aelodau o bob plaid, i ddod o hyd i dir cyffredin ac i wrando, wedi ei groesawu'n fawr. Gwn fod y Gweinidog hefyd yn pryderu llawer am y materion hyn, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n agored ac yn deg yn y modd y mae'n ymateb i'r dadleuon hyn. Nawr, efallai y bydd rhai meysydd lle bydd y Llywodraeth a ninnau dal yn anghytuno, ond mae'r agwedd gyffredinol y maen nhw wedi'i mabwysiadu yn un i'w chroesawu.

Mae'r gwelliant presennol hwn, gwelliant 3, yn cynrychioli un o'r meysydd lle mae pellter bach rhyngom o hyd, er fy mod yn gobeithio nad yw'n anorchfygol. Er mwyn rhoi rhywfaint o gyd-destun, yng Nghyfnod 2 fe wnaeth y Dirprwy Weinidog ailddatgan ei fod yn petruso cyn cefnogi gwelliannau a fyddai'n gofyn am osod targedau ychwanegol ar gyfer llygryddion penodol cyn ymgynghori ac ymgysylltu ag arbenigwyr. Nawr, nid ydym ni ym Mhlaid Cymru yn gwbl argyhoeddedig ynghylch y ddadl hon, a dyna pam yr ydym wedi ei hailgyflwyno. Mae Sefydliad Iechyd y Byd eisoes wedi gwneud y gwaith ac wedi nodi llygryddion penodol sy'n niweidiol i iechyd pobl.

Diben y Bil, wrth gwrs, yw rhoi'r pwerau i Weinidogion ac awdurdodau lleol i leihau presenoldeb y sylweddau niweidiol hyn dros amser. Wedi'r cyfan, nid Bil yw hwn gyda'r unig ddiben o fynd i'r afael â PM2.5. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y bydd angen cyflwyno targedau ar gyfer y llygryddion penodol yr ydym wedi'u trafod, gan eu bod wedi cyfarwyddo swyddogion i gynnal asesiadau effaith a dadansoddiad ar ystod o lygryddion y tu hwnt i PM2.5, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Nawr, ein dealltwriaeth ni yw bod y gwaith ar y llygryddion hyn yn cael ei wneud ar yr un pryd fel darn ehangach o waith, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn derbyn dadansoddiad fesul tipyn, yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, ar bob llygrydd. Nawr, credwn y byddai hynny'n helpu ein dadl y dylai pob llygrydd gynnwys targedau o fewn y Bil, ochr yn ochr â llinell amser, gan y bydd Llywodraeth Cymru yn meddu ar y manylion hyn ar gyfer holl lygryddion eraill Sefydliad Iechyd y Byd yn weddol fuan.

O ran yr egwyddor o gyflwyno gwelliannau cyn ymgynghori, mae'r Bil amgylchedd eisoes yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau i fynd i'r afael â PM2.5 ar ddiwedd cyfnod o dair blynedd ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar reoliadau ar gyfer lleihau PM2.5. Felly, nid ydym yn credu ei bod yn afresymol i'r dull hwn gael ei ymestyn i lygryddion eraill sy'n niweidiol i iechyd pobl, fel y nodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Credwn fod cyflwyno llinellau amser ar gyfer llygryddion penodol o fewn y Bil yn bwysicach na'r terfynau amser eu hunain. Mae pryderon yn y sector iechyd cyhoeddus y gallai'r broses o osod targedau lusgo ymlaen, gan y bu achosion pan fo Gweinidogion neu Lywodraeth Cymru wedi dewis peidio â gosod rheoliadau penodol fel y rhagwelwyd mewn deddfwriaeth sylfaenol o'r blaen.

Yn olaf, er mwyn cael eglurder ynghylch y gwelliant hwn, mae'r gwelliant hwn yn cipio llygryddion gyda rheoliadau'n cael eu gosod erbyn dyddiad penodedig yn y ddeddfwriaeth. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn derbyn hyn, byddem yn annog y Senedd i bleidleisio o blaid ein gwelliant 4, sy'n canolbwyntio ar gyflwyno targed ar gyfer nitrogen deuocsid, fel y mae Janet eisoes wedi cyfeirio ato, erbyn dyddiad penodol, gan ddefnyddio'r un dull hwnnw ag a ddefnyddwyd eisoes ar gyfer PM2.5.

Fe drof yn fyr at welliant 4. Rwy'n credu bod hwn yn hanfodol ar gyfer diogelu iechyd pobl yng Nghymru, gan fod llygryddion nitrogen deuocsid yn peri risgiau sylweddol i ni, yn anadlol ac yn gardiofasgwlaidd. Felly, byddai cyflwyno targed penodol ar gyfer nitrogen deuocsid yn ffordd gyflym o ymateb i'r risgiau hynny. Mae hwn yn welliant sydd, unwaith eto—gwelliant 4—yn arbennig o hanfodol i boblogaethau agored i niwed fel plant, yr henoed a phobl â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes y mae llygredd aer yn effeithio'n anghymesur arnynt. Felly, byddai hyn yn hybu cyfiawnder amgylcheddol ac yn sicrhau bod amddiffyniad cyfartal i bob cymuned yn cael ei hybu, ni waeth beth yw statws economaidd-gymdeithasol pobl.

At hynny, byddai lleihau nitrogen deuocsid yn cyd-fynd â'n nodau amgylcheddol ehangach. Nid yw nitrogen deuocsid yn niweidiol i iechyd pobl yn unig; mae'n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd. Mae'n nwy tŷ gwydr cryf. Felly, byddwn yn annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwnnw er mwyn gwella ansawdd aer, lleihau costau gofal iechyd a sicrhau dyfodol iachach i'n planed.

Ac yn olaf ar y grŵp hwn, Llywydd, gwelliant 15. Roedd hwn yn fater a drafodwyd yng Nghyfnod 2, rwy'n credu, sef nad yw'r broses adolygu pum mlynedd o fewn y Bil fel y'i drafftiwyd yn darparu digon o gyfleoedd i graffu ar hynt gwaith Llywodraeth Cymru. Gyda Bil diwygio'r Senedd yn debygol iawn o gael ei basio, gallai'r broses adolygu pum mlynedd hon olygu y byddai achosion pryd nad oedd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ansawdd aer mewn cysylltiad â'u targedau drwy gydol tymor cyfan y Senedd. Nid yw hynny'n bendant, wrth gwrs—byddwn yn croesawu barn y Gweinidog ar y pwynt hwnnw—ond byddwn hefyd yn gwerthfawrogi eglurder ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar yr holl lygryddion. Er enghraifft, gall cyhoeddi lefelau PM2.5 ddod ar wahân i lygryddion eraill, o ystyried yr amserlenni a bennir yn y ddeddfwriaeth.

Byddwn yn ddiolchgar i dderbyn mwy o eglurder ynghylch bwriadau Llywodraeth Cymru ynghylch adrodd, a phan ddaw'r gwelliant hwn i'r cylch adolygu, ein dewis fyddai cyhoeddi'r cylch adolygu bob pedair blynedd. A byddwn yn dweud eto pa mor hanfodol fyddai cael y gwaith craffu hwn o leiaf unwaith bob tymor y Senedd. Diolch, Llywydd. 

16:30

Hoffwn i symud gwelliant 1 ar ansawdd aer dan do. Dwi'n ddiolchgar iawn am gymorth oddi wrth academyddion ym mhrifysgolion Caerdydd a Chaergrawnt, a'r grŵp trawsbleidiol ar garbon monocsid yn San Steffan. Dwi hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth yr elusen Asthma and Lung UK, a hefyd y mynegiant heno o gefnogaeth oddi wrth Janet a Delyth. 

Rŷm ni'n treulio rhwng 80 y cant a 90 y cant o'n bywydau dan do, felly drwy hynny mae rhesymeg yn mynnu er mwyn byw bywydau iach, rhaid bod yr aer dan do o ansawdd uchel. Yn anffodus, y gwrthwyneb sy'n wir yn ôl y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. 

Gall crynodiad llygryddion fod hyd at bedair gwaith yn uwch dan do nag yw yn yr awyr agored, ac mae bron pob achos o ddod i gysylltiad â chyfansoddion organig anweddol ehedol yn digwydd dan do oherwydd, er enghraifft, mwg tybaco a thoddyddion. Wrth i ni wynebu'r gaeaf unwaith eto, bydd carbon monocsid yn dod yn fwy o broblem, wrth i bobl ddibynnu ar wresogyddion hylosgi i gynhesu eu cartrefi. Yn hollbwysig, mae hyn yn effeithio'n anghymesur ar y tlotaf yn ein cymdeithas. Mae'r rhai sy'n dibynnu ar wresogyddion yn hytrach na gwres canolog mewn mwy o berygl o gael eu gwenwyno gan garbon monocsid. Mae'n frawychus, yn y DU yn 2023, bod 35 y cant o aelwydydd incwm isel ac agored i niwed dros ben trothwy Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer lefelau carbon monocsid. Tri deg pump y cant. Yn frawychus, mae rhesymeg yn awgrymu bod y ffigur hwn yn debygol o godi wrth i'r argyfwng costau byw barhau i frathu. Hyd yn oed gyda chrynodiadau isel iawn, gall dod i gysylltiad â llygryddion dan do greu canlyniadau erchyll a thrasig. O ran menywod beichiog, mae astudiaethau wedi cysylltu llygredd aer dan do â phwysau geni isel ac, yn drasig, gyda marw-enedigaeth.

Rwy'n credu bod y gwelliant hwn yn bwysig. Dylid cysylltu problemau llygredd aer â'r ddeddfwriaeth hon. Yn amlwg, bydd gwella ansawdd yr aer yn yr awyr agored yn anochel, gydag awyru priodol, yn gwella'r aer dan do. Mae'n iawn i fonitro a gwella ansawdd aer yn yr awyr agored, ond os ydych chi'n treulio dros 80 y cant o'ch amser mewn swyddfa, ysgol, ysbyty neu gartref sydd wedi'i awyru'n wael, yna ofer yw'r rhan fwyaf o'r cynnydd hwnnw. Wrth gwrs, mae hefyd yn debygol y bydd rhai unigolion agored i niwed mewn cartrefi gofal ac ysbytai dan do am bron i 100 y cant o'r amser.

Mae'r gwelliant hwn yn addasu'r diffiniad o ansawdd aer yn adran 1 i'w gwneud yn ofynnol yn benodol bod ansawdd aer dan do wedi'i gynnwys. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, dim ond 7 y cant o wledydd ledled y byd sydd wedi mabwysiadu safonau ansawdd aer dan do cyfreithiol penodol. Felly, heno rydyn ni'n cael dewis. Os pleidleisir yn erbyn y gwelliant hwn, bydd gennym Fil sy'n ymdrin â llai na hanner y problemau, ond os byddwn yn pleidleisio o'i blaid heno, byddwn yn sicrhau bod Cymru wir yn arwain y ffordd yn rhyngwladol o ran ansawdd aer. Bydd hon yn Ddeddf Senedd a fydd yn destun cenfigen i'r byd.

Mae eglurder yn hanfodol ar gyfer deddfwriaeth dda. Mae'n bwysig sicrhau bod unigolion, llywodraethau a sefydliadau yn atebol am safon yr aer mewn adeiladau cyhoeddus, mewn adeiladau sy'n cynnwys y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae'n wir fod llawer o awdurdodau lleol yn cynnwys ansawdd aer dan do yn eu strategaethau ansawdd aer, ond mae hyn yn cael ei rwystro gan eu diffyg sylfaen statudol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud ei bod yn barod i ddilyn tueddiadau sy'n dod i'r amlwg mewn ymchwil wyddonol o ran monitro a lliniaru llygredd aer yn yr awyr agored. Dylai hyn hefyd fod yn wir am lygredd aer dan do. Mae ymchwil yn dangos bod 10 y cant i 30 y cant o'r baich iechyd yn sgil gronynnau yn deillio o ansawdd aer dan do, ac mae degau o filoedd o achosion bob blwyddyn o salwch difrifol o ganlyniad i bobl yn dod i gysylltiad â charbon monocsid.

Felly, byddwn yn eich gwahodd chi i gyd yn y Senedd i ymuno â mi i sicrhau yr ymdrinnir â llygredd yn llwyr, nid fel ffenomen awyr agored yn unig. Mae'n bryd i ni lenwi'r ddeddfwriaeth hon gyda chwa o awyr iach, a rhoi cyfrif am bob rhan o broblem llygredd. Diolch yn fawr.

16:35

Diolch, Llywydd. Ers cyflwyno'r Bil hwn, rwyf wedi croesawu ein huchelgais gyffredin i fynd cyn belled ag y bo modd i wella ansawdd aer er budd iechyd y cyhoedd ac ar gyfer yr amgylchedd naturiol. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau ataliol nawr i sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yng Nghyfnod 2, gwnaethom gyflwyno gwelliant sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol ar yr ystyriaeth y maent wedi'i rhoi i osod targed ansawdd aer tymor hir adran 1 ar gyfer y llygryddion a enwir yn adran 9 o'r Bil. Mae'n darparu dull pwerus a thryloyw er mwyn i'r Senedd ddwyn Gweinidogion i gyfrif ynghylch arfer eu pwerau o dan adran 1.

Rydym wedi gwrando ar adborth gan Aelodau a rhanddeiliaid drwy gydol y broses graffu, ac o ganlyniad rydym yn awyddus i fynd ymhellach. Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd welliant 73 a diwygiadau cysylltiedig, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan adran 1 i osod targedau ansawdd aer tymor hir ar gyfer un o'r llygryddion canlynol o fewn chwe blynedd i'r Cydsyniad Brenhinol: carbon monocsid, nitrogen deuocsid, PM10, sylffwr deuocsid, osôn ar lefel y ddaear neu amonia. Mae'r rhestr yn adlewyrchu'r rhestr yn adran 9 sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i adrodd yn flynyddol ar ystyried gosod targedau tymor hir. Mae'r gwelliant yn cryfhau adran 1. Mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer un llygrydd gan gynnal pŵer eang Gweinidogion i ddeddfu i osod ystod ehangach o dargedau ansawdd aer pan fo angen gwneud hynny. Mae'r gwelliant hwn, ochr yn ochr â'r ddyletswydd adrodd newydd y cytunwyd arni yng Nghyfnod 2, yn dangos yn glir ein hymrwymiad parhaus i gyflawni ein huchelgais o ran aer glanach ymhellach a dwyn Gweinidogion presennol a'r dyfodol i gyfrif.

Rwy'n cydnabod bod Aelodau'r Senedd wedi derbyn gohebiaeth ddiweddar gan Awyr Iach Cymru yn galw am ragor o ymrwymiadau targed ansawdd aer, yn enwedig mewn cysylltiad â nitrogen deuocsid. Ac rwyf hefyd yn nodi bod gwelliant 4 Delyth Jewell wedi ei fframio mewn cyd-destun tebyg. Rwy'n cydnabod yr ethos y tu ôl i'r galwadau hyn am welliannau i'r Bil. Fodd bynnag, hoffwn ailadrodd er bod gennym ddealltwriaeth glir o'r rheidrwydd iechyd ac amgylcheddol i osod targedau ansawdd aer yn y dyfodol, nid oes gennym y gyfres lawn o dystiolaeth sy'n angenrheidiol eto i lywio opsiynau targed sy'n benodol i lygredd.

Rydym wedi rhannu ein rhaglen waith yn agored gyda'r Senedd, gan dynnu sylw at y broses gymhleth sydd ar y gweill. Rydym wedi penderfynu peidio ag enwi llygrydd yn ein gwelliant i alluogi hyblygrwydd i ganolbwyntio gweithredu mewn ffordd a fydd yn cyflawni'r canlyniadau gorau. Mae ein gwelliant yn nodi bod yn rhaid i ni wneud rheoliadau o fewn chwe blynedd ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol. Rwyf am eich sicrhau bod chwe blynedd yn ddyddiad cau absoliwt, nid yn darged. Mae cyfnod o chwe blynedd yn seiliedig ar ystyriaeth o'r gwaith sydd ei angen i gyflawni polisi targed ansawdd aer, ochr yn ochr â dyletswyddau cyfochrog o dan y Bil ac ymrwymiadau yn ein strategaeth ansawdd aer genedlaethol.

Llywydd, cyn i mi symud ymlaen i ystyried y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, hoffwn dynnu sylw at y ffaith y bydd camau a gymerir i leihau PM2.5 nid yn unig o fudd i iechyd y cyhoedd, ond y byddant yn debygol o weld manteision ychwanegol i gymdeithas. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gostyngiadau mewn allyriadau eraill sy'n llygru aer fel nitrogen deuocsid ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae nifer o welliannau sy'n ceisio newid y darpariaethau gosod targedau yn y Bil, sy'n pwysleisio pwysigrwydd y maes hwn a'r diddordeb ynddo. Mae gwelliannau wedi eu cyflwyno gan Delyth Jewell AS ar ran Plaid Cymru a Janet Finch-Saunders AS ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig. Mae yna ddiwygiadau sy'n gorgyffwrdd a diwygiadau y mae'n ymddangos eu bod wedi'u cyflwyno fel dewisiadau amgen. Felly, mae angen dadbwytho'r gwelliannau yn y grŵp hwn i asesu a rhoi sylwadau llawn ar yr hyn sy'n cael ei gynnig.

Mae Janet Finch-Saunders a Delyth Jewell wedi cyflwyno gwelliannau sy'n debyg iawn eu natur, serch hynny ceir awgrymiadau bach cynnil. Felly, rwy'n argymell i'r Senedd ein bod yn ystyried y rhain yn ofalus i sicrhau bod beth bynnag y cytunir arno yn rhoi deddfwriaeth glir ac ymarferol i ni. Mae risgiau clir i eglurder deddfwriaeth pe bai'r Senedd yn pasio gwelliannau sy'n ceisio gwneud pethau tebyg iawn.

Gan droi'n gyntaf at welliant 37 y Ceidwadwyr Cymreig, mae hyn yn ceisio troi pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n gosod targedau ansawdd aer tymor hir yn adran 1 o'r Bil yn ddyletswydd. Mae'n ymddangos bod yn rhaid darllen gwelliant 45 gyda gwelliant 37 a'u heffaith ar y cyd yw ei gwneud yn ofynnol i reoliadau a wneir o dan adran 1 gael eu gwneud o fewn tair blynedd i'r Cydsyniad Brenhinol. Yn gyntaf, fel y nodwyd yn flaenorol gan y Dirprwy Weinidog yn ystod Cyfnod 2, mae newid y disgresiwn yn adran 1 yn ddyletswydd heb enwi'r llygryddion y mae'r ddyletswydd yn berthnasol iddynt yn rhy amwys. Ac yn ail, am resymau y byddaf yn mynd ymlaen i'w hesbonio, nid oes angen gwelliant o'r fath.

Mae gwelliant 38 y Ceidwadwyr Cymreig yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n gosod targed ar gyfer pob un o lygryddion canllaw ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd. Mae hefyd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ychwanegu at y rhestr o lygryddion. Mae gwelliant 3 Plaid Cymru yn cael effaith debyg iawn, heblaw nad yw'n cynnwys y pŵer i wneud rheoliadau sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu at y rhestr o lygryddion.

Rwy'n credu mai bwriad y Ceidwadwyr Cymreig gyda'u gwelliant 44 yw y dylid gwneud rheoliadau o'r fath o fewn tair blynedd i'r Cydsyniad Brenhinol. Yn yr un modd, rwy'n credu mai bwriad Plaid Cymru gyda'u gwelliant 15 yw i'r rheoliadau sy'n ofynnol gan welliant 3 gael eu gwneud o fewn pedair blynedd i'r Cydsyniad Brenhinol. Fodd bynnag, rwy'n ofni bod cymhwyso'r ffrâm amser yn aneglur yn y ddau achos.

Gan gymryd gwelliant Plaid Cymru 15 yn gyntaf, yn ôl ein dehongliad ni fyddai'r ddyletswydd i osod rheoliadau o fewn pedair blynedd yn cael ei bodloni cyn belled â bod Gweinidogion Cymru wedi gosod un set o reoliadau sy'n cynnwys un targed ansawdd aer llygrydd penodol o fewn pedair blynedd i'r Cydsyniad Brenhinol. Byddai Gweinidogion Cymru yn dal i fod o dan ddyletswydd i wneud rheoliadau sy'n gosod targedau ar gyfer llygryddion sy'n weddill, ond mae'r amserlen ar gyfer hyn yn ansicr.

Gan gymryd gwelliant 44 y Ceidwadwyr Cymreig, mae'r defnydd o'r gair 'neu' yn hytrach nag 'a' yn y gwelliant hwn yn golygu y gellir dehongli y bydd y ddyletswydd i osod rheoliadau o fewn tair blynedd i Gydsyniad Brenhinol yn cael ei bodloni naill ai drwy osod rheoliadau sy'n gosod targed PM2.5 neu reoliadau sy'n gosod targed ar gyfer un o'r llygryddion a restrir yng ngwelliant 38. Unwaith eto, mae hyn yn gadael y ffrâm amser ar gyfer cydymffurfio â'r ddyletswydd yn ngwelliant 38 yn ansicr. Llywydd, yn amlwg nid yw hyn yn foddhaol.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi gosod gwelliant ychwanegol—gwelliant 4—sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targed ar gyfer nitrogen deuocsid. Mae gwelliant 16 yn ei gwneud yn ofynnol i osod rheoliadau o'r fath o fewn pedair blynedd i'r Cydsyniad Brenhinol. Nid oes yr un o'r gwelliannau hyn, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru na'r Ceidwadwyr, yn cynnwys darpariaeth sy'n atal dirymu'r targedau y maent yn gofyn i Weinidogion Cymru eu gosod. Mae hwn yn amryfusedd sylweddol, sydd, yn fy marn i, yn tanseilio holl bwrpas y darpariaethau. Mewn cyferbyniad, mae gwelliant 77 ein Llywodraeth yn darparu amddiffyniad o'r fath ar gyfer dyletswydd newydd arfaethedig y Llywodraeth. Mae hyn yn adlewyrchu'r ddarpariaeth bresennol yn y Bil sy'n atal dirymu targed ansawdd aer PM2.5.

Mewn cysylltiad â gwelliannau 3 a 38, nid yw'n ymarferol gosod rheoliadau targed ar gyfer pob un o lygryddion ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd o fewn tair neu bedair blynedd i Gydsyniad Brenhinol. Yn ogystal, fel y trafodwyd yn flaenorol, nid oes gennym dystiolaeth eto i ddangos pa dargedau ychwanegol sydd eu hangen. Dyna pam nad ydym wedi nodi yn ein gwelliant pa lygrydd y mae angen iddo fod yn destun rheoliadau'r targed o fewn y cyfnod o chwe blynedd. Bydd y Senedd yn chwarae rhan allweddol wrth ystyried llygryddion priodol.

Fel y cydnabuwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, mae angen i brosesau gosod safonau ansawdd aer fod â'r bwriad i gyflawni'r crynodiadau isaf posibl yng nghyd-destun cyfyngiadau, galluoedd a blaenoriaethau iechyd cyhoeddus cenedlaethol a lleol. Mae'n bwysig ein bod gyda'n gilydd yn gwneud penderfyniadau gwybodus ar weithredu i wella ansawdd aer. Er fy mod yn parchu ethos y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn, yr wyf newydd eu hamlinellu, byddwn yn gofyn i'r Senedd gefnogi gwelliannau 73 i 79 a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn unig. Maent yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng uchelgais a chyraeddadwyedd.

Yn ogystal â'r diwygiadau i ymestyn y dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau gosod targedau, mae un gwelliant arall yn y grŵp hwn, ac rwyf am droi ato nesaf. Fy nealltwriaeth o effaith gwelliant 1 yw ei fod yn troi adran 1 o'r Bil yn bŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n gosod targedau hirdymor ar gyfer ansawdd aer dan do neu yn yr awyr agored. Rwy'n deall bwriad yr Aelod wrth ddod ag ansawdd aer dan do i gwmpas y Bil. Fodd bynnag, Llywydd, nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto. Mae angen buddsoddi llawer mwy o ymchwil i ansawdd aer dan do cyn y gallwn wneud darpariaeth ddeddfwriaethol. Felly, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn ac rwy'n gofyn i'r Senedd beidio â'i basio. Diolch.

16:45

Hoffwn ddiolch i Delyth Jewell a Rhys ab Owen, ac rwy'n credu bod y tri ohonom ni wedi gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn. Rydym eisiau i'r Bil hwn fynd trwyddo, ond credwn fod yn rhaid iddo wneud yn union yr hyn yr ydym eisiau iddo ei wneud. Mae mor bell ar ei hôl hi; nawr yw'r amser i wneud y Bil hwn yn rhywbeth y gallwn i gyd fod yn falch ohono. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 37? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly cawn ni bleidlais ar welliant 37. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 37 wedi'i wrthod.

Gwelliant 37: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 73 (Lee Waters).

Yn ffurfiol.

Os gwrthodir gwelliant 73, bydd gwelliannau 74, 77 a 78 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 73? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly cawn ni bleidlais ar welliant 73. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal a 15 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 73 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 73: O blaid: 37, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 1 (Rhys ab Owen).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly byddwn ni'n pleidleisio ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.

16:50

Gwelliant 1: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 74 (Lee Waters).

Yn ffurfiol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 74? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 74. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal ac 14 yn erbyn. Mae gwelliant 74 wedi'i basio.

Gwelliant 74: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 75 (Lee Waters).

Ydy, mae wedi'i gynnig.

A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 75? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 75. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal ac 14 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 75 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 75: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 76 (Lee Waters).

Ydy. Felly, a ddylid derbyn gwelliant 76? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Cawn ni bleidlais ar welliant 76. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal ac 14 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 76 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 76: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 3 (Delyth Jewell).

Mae'n cael ei symud gan Delyth Jewell. Os gwrthodir gwelliant 3, bydd gwelliannau 5, 7, 9, 11, 13, 19, 21, 23, 25, 27, 30, 33 a 35 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly cawn ni bleidlais ar welliant 3. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal a 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi'i wrthod.

Gwelliant 3: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliannau 5, 7, 9, 11, 13, 19, 21, 23, 25, 27, 30, 33 a 35.

Cynigiwyd gwelliant 4 (Delyth Jewell).

Ydy. Os na dderbynnir gwelliant 4, bydd gwelliannau 6, 8, 10, 12, 14, 20, 22, 24, 26, 28, 31, 34 a 36 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly mi fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 4. Canlyniad y bleidlais, felly, yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 4 wedi'i wrthod.

Gwelliant 4: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliannau 6, 8, 10, 12, 14, 20, 22, 24, 26, 28, 31, 34 a 36.

Gwelliant 38 yw'r gwelliant nesaf. 

Janet Finch-Saunders, a yw'n cael ei gynnig?

Cynigiwyd gwelliant 38 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. Os gwrthodir gwelliant 38, bydd gwelliannau 39, 40, 41, 42, 43, 44, 47, 49, 51, 52, 53, 55, 56 a 58 yn methu.

Roedd hi'n debyg i fart Llanybydder yma gynnau [Chwerthin.]

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 38? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly cawn ni bleidlais ar welliant 38. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal a 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 38 wedi'i wrthod.

Gwelliant 38: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliannau 39, 40, 41, 42, 43, 44, 47, 49, 51, 52, 53, 55, 56 a 58.

Sy'n mynd â ni at welliant 77. 

A yw'n cael ei gynnig yn ffurfiol—gwelliant 77—Gweinidog?

16:55

Cynigiwyd gwelliant 77 (Lee Waters).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 77? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 77. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 77 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 77: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 78 (Lee Waters).

Yn ffurfiol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 78? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, agor y bleidlais ar welliant 78. [Anghlywadwy.]—37, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 78 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 78: O blaid: 37, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 45 sydd nesaf. Ydy e'n cael ei symud gan Janet Finch-Saunders?

Pedwar deg pump.

Cynigiwyd gwelliant 45 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 45? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 45. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 45 wedi ei wrthod.

Gwelliant 45: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 15 (Delyth Jewell).

Ydy. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 15? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni gael pleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 15. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 15 wedi ei wrthod.

Gwelliant 15: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 16 (Delyth Jewell).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 16? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 16. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.] Mi ddefnyddiaf i fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 16. Felly, canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 16 yn cael ei wrthod. 

Gwelliant 16: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 17 (Delyth Jewell).

Mae'n cael ei symud gan Delyth Jewell. Oes gwrthwynebiad i welliant 17? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, cawn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 17. Cau'r bleidlais. O blaid 12, 14 yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 17 wedi ei wrthod.

Gwelliant 17: O blaid: 12, Yn erbyn: 26, Ymatal: 14

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 18 (Delyth Jewell).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 18? [Gwrthwynebiad.] Mae yna wrthwynebiad. Cawn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 18. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Felly, defnyddiaf i fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 18. Felly, mae yna 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae'r gwelliant felly yn cwympo.

17:00

Gwelliant 18: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 46 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 46? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Mi gawn ni bleidlais ar welliant 46. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 46 wedi ei wrthod.

Gwelliant 46: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Adrodd, adolygu a monitro mewn perthynas â thargedau ansawdd aer (Gwelliannau 48, 50, 54, 29, 32, 57, 59)

Grŵp 2 yw'r grŵp o welliannau sy'n ymwneud ag adrodd, adolygu a monitro mewn perthynas â thargedau ansawdd aer. Gwelliant 48 yw’r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno'r gwelliant yma a'r gwelliannau eraill. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 48 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Os yw'r Senedd hon am drin ansawdd aer o ddifrif, mae angen iddi osod targedau heriol a rhai sy'n gorfodi peiriannau'r Llywodraeth i symud yn gyflymach, ac mae gwelliant 48 yn gwneud yn union hynny. Yng Nghyfnod 2, cyflwynais welliant sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar pam nad yw targed wedi'i gyrraedd o fewn chwe mis ar ôl i'r datganiad gael ei osod. Ar ffurf bresennol y Bil, mae hyn yn 12 mis. Rwy'n dal heb gael fy argyhoeddi bod angen blwyddyn ar Lywodraeth Cymru i esbonio pam nad yw targed penodol a osodwyd wedi'i gyrraedd. Os oes yna fethiant o'r fath, mae Cymru angen gweithredu ar frys, nid gweithredu araf. Fel y dywedodd Awyr Iach Cymru:

'Gyda bron i 2,000 o fywydau yn cael eu torri'n fyr bob blwyddyn oherwydd llygredd aer, rydym yn poeni bod 12 mis i gyhoeddi adroddiad yn nodi beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gywiro gormodedd o lygredd aer yn rhy hir. Hoffem weld hwn yn cael ei leihau i 6 mis, os nad ymhellach.'

Mae gwelliant 50 yn mewnosod darpariaeth, pan fo adolygiad yn cael ei gynnal mewn cysylltiad â tharged hirdymor, rhaid i'r adolygiad gynnwys o leiaf un targed interim sydd i'w gyflawni cyn yr adolygiad nesaf, sydd ar hyn o bryd yn bum mlynedd. Rwyf wedi argymell hyn gan fy mod yn credu y bydd o fudd wrth fonitro cynnydd. Felly, er mwyn sicrhau bod adolygiadau a monitro mor effeithiol â phosibl, mae angen i ni fod yn glir pa wybodaeth sydd ei hangen arnom. Byddai gwelliant 54 yn ei gwneud yn ofynnol i'r datganiadau a gyhoeddwyd ar ôl adolygiad nodi'r costau a ysgwyddwyd mewn cysylltiad â'r targed ac i ddarparu asesiad o effaith economaidd y targed ar yr economi leol a chenedlaethol. Rwyf wedi bod yn falch o gydweithio â'r Dirprwy Weinidog a'i dîm ar welliant 57, ac mae hwnnw'n ceisio ychwanegu ymdeimlad o frys at yr amserlen y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gadw ati ar gyfer cyhoeddi data a gafwyd o dan adran 7.

Mae gwelliant 59 yn dileu amonia o'r rhestr o lygryddion y mae'n rhaid eu hystyried o fewn adroddiad a wnaed o dan adran 9. Rwyf eisoes wedi egluro fy safbwyntiau ar gynnwys amonia yn y ddeddfwriaeth ac y dylem fod yn cydweithredu mwy â'r sector amaethyddol, yn hytrach na chyflwyno mwy o ddeddfwriaeth a fydd yn debygol o gael effaith negyddol arnynt. Os nad ydych chi'n ymddiried ynof i, gwrandewch ar Gareth Wyn Jones, sydd wedi cefnogi'n gyhoeddus ein gwaith craffu ar gynnwys amonia yn y Bil hwn. Rwy'n eich annog chi i gyd i gefnogi ein ffermwyr trwy gefnogi'r gwelliant hwn.

Byddaf hefyd yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn gan Delyth Jewell, sy'n lleihau fframiau amser o bump i ddwy flynedd. Fel yr eglurais ar y dechrau, os yw'r Senedd hon o ddifrif ynglŷn â'r ddeddfwriaeth hon, os yw'r Senedd hon yn dymuno trin ansawdd aer o ddifrif, mae angen iddi osod y targedau heriol hynny sy'n gorfodi peiriannau'r Llywodraeth hon i symud yn gyflymach. Byddai gwelliannau 29 a 32 yn gwneud hynny. Diolch.

Diolch, Llywydd. Rwyf am droi yn gyntaf at welliant 48 a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, sy'n cael yr effaith o leihau amser sydd gan Weinidogion Cymru i adrodd ar ddiffyg cydymffurfio â'r targed o 12 mis i chwech. Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad nad yw targed wedi'i gyrraedd, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y 12 mis, egluro pam nad yw'r targed wedi'i gyrraedd a'r camau y byddant yn eu cymryd i gyrraedd y safon. Er ein bod yn llwyr werthfawrogi y byddai'r pwyllgor yn hoffi gweld gwybodaeth am beidio â chydymffurfio cyn gynted â phosibl, ni fyddai chwe mis yn caniatáu digon o amser i sefydlu dealltwriaeth briodol a datblygu a gweithredu camau lliniaru. Mae terfyn o 12 mis yn rhoi amser priodol i gael hyn yn iawn ac osgoi canlyniadau niweidiol. Felly, gofynnaf i'r Senedd wrthsefyll y gwelliant hwn.

Nesaf, mae gwelliant 50, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, yn ychwanegu gofyniad i gynnwys o leiaf un targed interim wrth gynnal adolygiad o darged hirdymor o dan adran 6(1). Mae cynnal adolygiad o dargedau yn rhoi gwiriad i ni eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben. Wrth bennu ac adolygu targedau o dan y fframwaith, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru geisio cyngor gan arbenigwyr perthnasol a rhoi sylw i wybodaeth wyddonol. Byddai disgwyl i'r angen am unrhyw darged dros dro, ei ffurf a phryd y byddai'n gymwys fod yn rhan o'r cyngor cychwynnol a pharhaus hwn. Mae gan Weinidogion Cymru eisoes bwerau presennol i wneud targedau interim pan fo'n briodol gwneud hynny, fel y gwnawn ni ar gyfer unrhyw darged ansawdd aer tymor byr. Byddwch yn cydnabod y bydd angen ystod o gamau gweithredu ar draws gwahanol sectorau i gyflawni targedau tymor hir, gyda phob un angen ymgysylltiad ac ymgynghori. Efallai na fydd gosod targedau crynodiadau interim tymor byrrach bob amser yn ddangosydd effeithiol o gynnydd tuag at darged hirdymor pan nad yw'r dirwedd bolisi wedi'i phennu a'i bod yn destun newidiadau deddfwriaethol neu dechnolegol. Mae'n bwysig bod cynnydd tuag at y targedau yn cael ei asesu'n rheolaidd fel y gellir addasu polisïau a chamau, gan ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf. Bydd adolygu'r camau sy'n cael eu cymryd yn rhan bwysig o sicrhau bod targedau tymor hir yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus, sydd eisoes yn cael eu cyflawni gan y strategaeth ansawdd aer genedlaethol. Hefyd, nid yw'r gwelliant fel y'i drafftiwyd yn gweithio, gan nad yw'r adolygiad ei hun yn ddogfen, felly ni all gynnwys unrhyw beth. Gofynnaf felly i'r Senedd wrthsefyll y gwelliant hwn.

Nesaf, mae gwelliant 54, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, yn ychwanegu gofyniad newydd i Weinidogion Cymru gynnwys gwybodaeth am y costau a ysgwyddir ac effaith economaidd targed ar yr economi leol a chenedlaethol yn y datganiad y mae'n rhaid iddynt ei gyhoeddi ar ôl adolygiad o dargedau o dan adran 6. Mae adolygiadau yn yr adran hon wedi'u cynllunio i brofi a yw targed yn parhau i fod yn addas i'r diben a byddai ei gyflawni yn arwain at y manteision net a ddisgwylir pan osodwyd y targed. Byddai disgwyl i adolygiad ystyried bod targed yn parhau i fod yn gyflawniadwy ac y byddai ei gyflawni yn gydlynol â pholisi ehangach y Llywodraeth ac yn osgoi canlyniadau niweidiol neu gostau anghymesur. Os yw'r dystiolaeth a'r cyngor cyffredinol yn parhau i fod yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers yr adeg y gosodwyd targed, byddai disgwyl i'r targed barhau'n addas i'r diben. Fodd bynnag, bydd mesurau i wella ansawdd aer yn cael eu cynnwys yn y strategaeth ansawdd aer genedlaethol ac yn cael eu hadrodd bob blwyddyn. Hefyd, bydd costau a buddion disgwyliedig cyffredinol targed yn cael eu hadlewyrchu mewn asesiadau effaith gorfodol, gan gynnwys yr asesiad effaith rheoleiddiol, ac ymgynghorir arnynt cyn cyflwyno targed. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi yn ôl yr angen. Gofynnaf felly i'r Senedd wrthsefyll y gwelliant hwn hefyd.

Nesaf, bydd gwelliannau 29 a 32, a gyflwynwyd gan Delyth Jewell, yn lleihau'r cyfnod ar gyfer cwblhau'r adolygiad cyntaf a'r adolygiadau dilynol o dargedau o dan adran 6 o bob pum mlynedd i bob dwy flynedd o'r adeg y gosodwyd y targed cyntaf. Mae adolygiadau yn yr adran hon wedi'u cynllunio i brofi a yw targed yn parhau i fod yn addas i'r diben a byddai ei gyflawni yn arwain at y manteision net a ddisgwylir pan osodwyd y targed. Os yw'r dystiolaeth a'r cyngor cyffredinol yn parhau i fod yn ddigyfnewid i raddau helaeth ers yr adeg y gosodwyd targed, byddai disgwyl i'r targed barhau'n addas i'r diben. Mae cyfnod o bum mlynedd yn rhoi digon o amser i gasglu data, tystiolaeth i'w syntheseiddio a chyngor arbenigol annibynnol i'w geisio gan Weinidogion yn unol â thelerau'r Senedd. Mae lleihau'r amser ar gyfer yr adolygiad cyntaf o dargedau a osodwyd o bum mlynedd i ddwy yn ddiangen, gan ei bod yn annhebygol iawn bod cyngor arbenigol annibynnol a gwybodaeth wyddonol am lygredd aer wedi newid o fewn 24 mis i osod y targed. Mae angen i'r pwyslais cynnar fod ar ddatblygu a gweithredu mesurau—. Mae'n ddrwg gennyf, Delyth.

17:05

Mae'n ddrwg gennyf. Maddeuwch i mi am dorri ar eich traws yng nghanol brawddeg. Gweinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r hyn rydych chi'n ei ddweud sef efallai na fydd dwy flynedd yn ffrâm amser ddelfrydol oherwydd hynny. A ellid rhoi mwy o ystyriaeth i'r broblem hon, os byddwn yn symud tuag at gylchoedd pedair blynedd y Senedd, efallai y bydd gennym sefyllfaoedd yn codi lle nad oes unrhyw bwynt mesur cynnydd hyd yn oed unwaith yn nhymor y Senedd, os gwelwch yn dda?

Iawn. Felly, mae'r pum mlynedd yn absoliwt, onid ydyw? Nid oes dim i'ch atal rhag dod ag ef ymlaen. Ac oherwydd bod gennym adolygiad blynyddol bob tro, yn yr adolygiad blynyddol, gallem ystyried hynny. Felly, mae dull i wneud hynny; rwy'n credu bod hwnna'n bwynt teg. Ond byddwn i, mewn gwirionedd, fy hun, yn ymarferol, yn disgwyl y bydd rhai targedau'n haws ac yn gyflymach i'w hadolygu a bydd eraill yn llawer mwy cymhleth, ac felly fe welwch batrwm amrywiol o adolygiadau, nid adolygiad safonol unwaith bob tymor y Senedd. Dyna beth rydyn ni'n disgwyl iddo fod.

Felly, fel roeddwn i'n dweud, mae angen canolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu mesurau i gyflawni'r targedau, yn hytrach nag adolygu a newid y targedau mor fuan ar ôl iddynt gael eu gosod. Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd wrthsefyll y gwelliant hwn hefyd.

Y gwelliant nesaf yw 57, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, sy'n ychwanegu gofyniad i gyhoeddi data a gafwyd i fonitro cynnydd tuag at gyflawni'r targedau a osodwyd o dan adrannau 1 neu 2 cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol o dan adran 7(2). Yn ystod Cyfnod 2, ymrwymais i weithio gyda'r Aelod i gyflwyno ateb ymarferol. Ers hynny rwyf wedi ystyried hyn ymhellach ac nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiadau i welliant yr Aelod. Felly, gofynnaf i'r Senedd roi eu cefnogaeth i'r argymhelliad hwn.

Mae'r gwelliant nesaf, 59, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, yn dileu'r cyfeiriad at amonia o adran 9(2), felly nid oes angen i'r adroddiad ar yr ystyriaeth a roddir i osod targedau hirdymor o dan adran 1 fynd i'r afael ag amonia mwyach. Mae diogelu materion iechyd yr amgylchedd cyhoeddus ac ehangach yn amcanion polisi pwysig, ac mae cynnwys amonia yn y rhestr yn adlewyrchu hyn, oherwydd ei effaith ar y ddau. Gofynnaf felly i'r Senedd wrthsefyll y gwelliant hwn hefyd. Diolch, Llywydd.

17:10

Iawn. Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am fân drugareddau, ond hoffwn ddiolch yn arbennig i'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog am weithio gyda ni ar rai agweddau ar yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflwyno heno. Credaf fod hwn yn ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth. Rydym wedi aros cyhyd amdani, felly efallai y gallwch ddeall y ffaith ein bod eisiau ei gwneud yn dryloyw a'i bod yn cael ei monitro fel y dylai fod. Hynny yw, yn rhy aml, rwyf wedi gweld deddfwriaeth yn mynd drwy'r lle hwn a'r gosod targedau a'r monitro—. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013—mae mwy o waith a monitro targedau ar hynny sydd angen eu gwneud. Felly, wrth i hon gael ei chyflwyno, roeddwn i'n teimlo ei bod yn bwysig iawn, felly byddwn i'n gofyn i'r holl Aelodau gefnogi ein gwelliannau.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 48? A oes unrhyw wrthwynebiad i 48? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly fe gawn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 48. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 48 wedi ei wrthod.

Gwelliant 48: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 50 (Janet Finch-Saunders).

'Ydy' oedd hwnna.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 50? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly fe gymerwn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 50. Cau'r bleidlais. O blaid 14, 11 yn ymatal, a 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 50 wedi ei wrthod.

Gwelliant 50: O blaid: 14, Yn erbyn: 27, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant nesaf fydd 54.

A yw'n cael ei gynnig? Gwelliant 54, Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 54 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 54? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 54. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 54 wedi ei wrthod.

Gwelliant 54: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 29 (Delyth Jewell).

Mae'n cael ei symud. Oes gwrthwynebiad i welliant 29? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais. Ac agor y bleidlais ar welliant 29. Fe wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 29, ac felly canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 29 yn cael ei wrthod.

17:15

Gwelliant 29: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 32 (Delyth Jewell).

Ydy. A ddylid derbyn gwelliant 32? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly cymerwn ni bleidlais ar welliant 32. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly mi wnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, ac felly mae gwelliant 32 yn cael ei wrthod gyda 26 pleidlais o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn.

Gwelliant 32: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant nesaf i bleidleisio arno fydd gwelliant 57.

A yw'n cael ei gynnig, Janet-Finch Saunders?

Cynigiwyd gwelliant 57 (Janet Finch-Saunders).

Gwelliant 57.

Oes gwrthwynebiad i welliant 57? Nac oes. Ac felly mae gwelliant 57 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 59 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 59? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]

Dawns fyrhoedlog oedd honna, Janet Finch-Saunders. [Chwerthin.] Mae yna wrthwynebiad.

Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 59. Agor y bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal a 27 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 59 wedi'i wrthod.

Gwelliant 59: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 79 sydd nesaf, yn enw'r Gweinidog. Ydy e'n cael ei symud?

Yn ffurfiol, gan Julie James?

Cynigiwyd gwelliant 79 (Lee Waters).

Ydy. A oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 79? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly cawn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 79. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal ac 14 yn erbyn, felly mae gwelliant 79 wedi'i dderbyn.

Gwelliant 79: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 3: Hybu ymwybyddiaeth o lygredd aer (Gwelliant 2)

Felly grŵp 3 o welliannau fydd nesaf. Mae'r rhain yn ymwneud â hybu ymwybyddiaeth o lygredd aer. Gwelliant 2 yw'r unig welliant yn y grŵp yma, a Rhys ab Owen i gyflwyno'r gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 2 (Rhys ab Owen).

Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn i gyflwyno gwelliant rhif 2. Pwrpas y gwelliant yma yw sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o beryglon ansawdd aer gwael a sut i ddelio â hynny.  

Er nad yw'r pwnc, fel y mae'r Gweinidog yn cyfeirio ato, yn cael ei ymchwilio'n ddigonol o'i gymharu â nwyon tŷ gwydr ac, fel y cyfeiriodd gwelliant Delyth Jewell, nitrogen deuocsid, mae'n amlwg bod mantais i gynyddu ymwybyddiaeth o'r dulliau mesur ac atebion. Yng nghynhadledd Sefydliad Iechyd y Byd gyntaf erioed ar ansawdd aer dan do eleni, roedd y pwyslais ar ddiffyg ymwybyddiaeth y cyhoedd yn gyffredinol. Mae'r diffyg ymwybyddiaeth yn gwneud synnwyr, onid ydyw, gan fod aer, wedi'r cyfan, yn anweledig. Mae'n llawer haws mesur cost eich biliau ynni na'r effaith ar iechyd oherwydd ansawdd aer gwael.

Ar hyn o bryd mae gwaith ymchwil yn cael ei gynhyrchu gan Imperial College yn Llundain i alluogi myfyrwyr mewn dros 2,000 o ysgolion ledled y DU i fonitro ansawdd aer eu hysgol. Rwy'n siŵr y byddai pob rhiant a phob Aelod eisiau gwybod a yw ansawdd aer mewn ysgolion, yn enwedig mewn ysgolion plant, o ansawdd gwael. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw sicrhau bod ein plant yn cael eu haddysgu mewn amgylchedd diogel ac iach.

Gall unigolion ymdrin â'r rhan fwyaf o lygryddion dan do. Er enghraifft, nid oes angen system awyru ar raddfa ddiwydiannol arnoch i brofi manteision agor ffenestr. Mae digon o ymchwil ddiweddar ar y ffordd orau o wella ansawdd aer dan do. Er enghraifft, awyru ystafelloedd yn iawn, cael planhigion dan do, a newid o ffwrn nwy i ffwrn drydan. Mae angen i ni a'r cyhoedd wybod sut.

Mae yna awydd i gladdu ein pennau yn y tywod a gwneud y peth hawdd, i gymryd arnom nad yw'r broblem yno neu nad oes digon o wybodaeth am y broblem. Mae arweinwyr gwleidyddol yn y gorffennol wedi gwneud hynny o ran yr argyfwng hinsawdd, tomenni glo anniogel, ac fel mae'r ymchwiliad yn dangos nawr, o ran COVID-19. Gadewch i ni heddiw beidio â chladdu ein pennau yn y tywod. Heddiw, gadewch i ni weithredu; gadewch i ni godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn, a helpu i greu dyfodol mwy disglair, glanach ac iachach i Gymru gyfan. Diolch yn fawr.

17:20

Diolch, Llywydd. Mae'r ddyletswydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth yn y Bil yn eang yn fwriadol, oherwydd mae'n ein galluogi i weithredu ar ystod o faterion ansawdd aer, gan gynnwys materion newydd a allai ddod i'r amlwg. Yn wir, mae llygredd aer dan do yn fater pwysig, a achosir gan amrywiaeth eang o ffynonellau a gweithgareddau, ac mae'n berthnasol i amrywiaeth eang o leoliadau, sy'n golygu ei bod yn gymhleth ei fonitro a'i reoli. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r ddyletswydd hyrwyddo ymwybyddiaeth trwy ddatblygu cynllun cyflawni gyda rhanddeiliaid. Bydd hwn yn ein galluogi i ddylunio a gweithredu ar ystod o faterion yn effeithiol, wedi'u llywio gan dystiolaeth. Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant penodol hwn oherwydd ei fod yn culhau dyletswydd fwriadol eang. Fodd bynnag, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu cynllun cyflawni ymwybyddiaeth sy'n cynnwys gweithredu ar lygredd aer dan do, ac rwy'n hapus iawn i weithio gyda'r Aelod pan fyddwn yn gwneud hynny.

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siomedig yn naturiol na fydd y Llywodraeth yn cefnogi hwn. Mae hwn yn welliant hawdd i'w gyflawni, ac mae codi ymwybyddiaeth yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud drwy'r amser, er enghraifft, fel y mae'n ei wneud ar gyfer hawliau'r plentyn. Mae COVID-19 eisoes wedi codi ymwybyddiaeth o ansawdd aer a chlefydau dan do a achosir ganddo yng Nghymru; mae rhan o'r gwaith eisoes wedi'i wneud. Mae hwn yn fater go iawn. Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd, yn y gynhadledd eleni, fod cost llygredd aer dan do yn yr Undeb Ewropeaidd yn debyg i gost cynnyrch domestig gros Cyprus. Felly, mae hwn yn fater go iawn, gyda chostau go iawn. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? Oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 2. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, felly gwnaf i ddefnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn. Mae gwelliant 2, felly—. Canlyniad y bleidlais yw bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 2, felly, wedi cwympo.

Gwelliant 2: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 4: Hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno (Gwelliannau 86, 87)

Grŵp 4 fydd y grŵp nesaf o welliannau. Mae'r grŵp yma'n ymwneud â hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno. Gwelliant 86 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Huw Irranca-Davies i gynnig y prif welliant yma.

Cynigiwyd gwelliant 86 (Huw Irranca-Davies).

Diolch, Llywydd. Os yw'n iawn, fe geisiaf gynnig gwelliant 86, a siarad am 86 ac 87, sy'n gysylltiedig.

Mae gan deithio llesol rôl glir i'w chwarae wrth wella ansawdd aer yn ogystal â bod yn dda ynddo'i hun mewn sawl ffordd. Ychydig dros 10 mlynedd yn ôl, pasiodd y Senedd hon Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn unfrydol. Roedd yn gyfnod pwysig mewn deddfwriaeth. Gwnaeth yr Aelodau hynny gan gredu mai un o gyflawniadau allweddol y Ddeddf fyddai hyrwyddo teithio llesol yn systematig fel y ffordd naturiol ac arferol o gyflawni teithiau byrrach, ac eto nid yw hyn wedi digwydd. Pe bai hyn wedi digwydd, byddem nawr yn gweld poblogaeth iachach, allyriadau carbon is, ac yn wir aer glanach.

Yn anffodus, fel y dangosodd y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, y mae'n fraint gennyf i ei gadeirio, yn ei adolygiad diweddar o'r Ddeddf, mae dyletswydd y Ddeddf i hyrwyddo teithio llesol yn llawer rhy gyfyngedig. Yn hytrach na bod yn ddyletswydd gyffredinol, dim ond pan fydd y mapiau teithio llesol yn cael eu llunio y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol hyrwyddo teithio llesol, unwaith bob tair blynedd, a phan fydd y rhwydwaith yn cael ei wella. Yn hollbwysig, yn y ddau achos yna nid yw'r ddyletswydd yn cael ei chefnogi gan ganllawiau statudol. Felly, dyna pam yr ydym wedi cyflwyno'r gwelliant hwn, 86, a'r gwelliant cysylltiedig, 87, o'r diwedd i roi darpariaethau ar waith yr oedd Aelodau yn credu eu bod wedi eu cael 10 mlynedd yn ôl.

Ac, Llywydd, rwy'n defnyddio'r term 'ni' yn fwriadol wrth gyflwyno'r gwelliant hwn—y gwelliannau hyn—oherwydd ei fod yn gynnyrch ymdrech gyfunol. Menter y grŵp trawsbleidiol oedd hi, sydd ag Aelodau o bob plaid yn y Siambr hon, ac mae hefyd wedi cael ei datblygu mewn cydweithrediad ag aelodau'r pwyllgor newid hinsawdd, yr amgylchedd a seilwaith, a hefyd Llywodraeth Cymru, ac sydd â chefnogaeth Awyr Iach Cymru. Mae wir wedi bod yn ymdrech gyfunol. Ac rwyf hefyd yn crybwyll mewn negeseuon, gyda llaw, y gŵr sy'n symud mynyddoedd ar ei ben ei hun, sef Chris Roberts sydd â'r enw urddasol, yr ysgrifenyddiaeth. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor—Jenny Rathbone, Janet Finch-Saunders, Delyth Jewell a Joyce Watson—a gefnogodd y cynnig gan y Gweinidog Lee Waters, mewn dadl adeiladol iawn yng Nghyfnod 2, i gydweithio ar welliannau, a dyna beth rydyn ni wedi'i wneud wrth gyflwyno'r rhain.

Yr hyn yr ydym i gyd eisiau i'r gwelliannau ei wneud yw normaleiddio teithio llesol trwy ei wneud yn ddewis haws a mwy hygyrch. Fel gwlad, rydym ni, i raddau helaeth, wedi colli'r arfer o gerdded i leoedd. Mae hyn yn arbennig o wir am ein plant, nad ydynt yn gynyddol yn cael cyfle i gerdded y daith ddyddiol i'r ysgol. Mae map meddwl llawer o bobl o'u cymuned bellach yn fap ffordd, nid map cerdded. Er mwyn gwneud mwy o bobl yn ymwybodol bod cerdded neu feicio yn aml yn haws ac yn gyflymach, yn ogystal â'r opsiwn iachach a gwyrddach ar gyfer teithiau byr o amgylch y dref, mae angen i ni gynyddu'r wybodaeth sydd ar gael i bobl yn sylweddol, pan fyddant yn dewis sut i deithio.

Nawr, mae hyn angen, mae'n rhaid i mi ddweud, fesurau eithaf rhad a syml, megis arwyddion sy'n benodol ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gan ddweud wrthynt beth yw'r llwybr gorau i gyrchfannau allweddol a pha mor hir y bydd yn cymryd i gyrraedd yno. Mae angen yr holl ddeunydd arnom sy'n hysbysu pobl sut i gyrraedd gwasanaethau cyhoeddus, i roi gwybod iddynt sut i deithio'n llesol ac nid lle mae'r maes parcio agosaf yn unig. Mesurau syml yw'r rhain, ond mesurau sy'n rhy brin o lawer yn ein trefi a'n dinasoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau breision i gynyddu buddsoddiad mewn seilwaith teithio llesol, does dim amheuaeth am hynny; rydym wedi gweld hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond, yn anffodus, yn aml mae cyn lleied o anogaeth yn cael ei roi i bobl leol i ddefnyddio'r llwybrau newydd hynny sydd wedi'u hadeiladu, neu hyd yn oed arwyddion yn dweud wrthyn nhw i ble mae'r llwybrau newydd yn mynd. Bydd y gwelliant hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer arweiniad a fydd yn sicrhau bod gwybodaeth yn mynd law yn llaw â seilwaith.

Ar lefel uwch, dylai gwelliant 86 helpu i sicrhau bod anghenion teithwyr sy'n arfer teithio lleol yn cael eu hystyried yn briodol pan fydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cyhoeddi canllawiau sy'n dylanwadu ar sut mae pobl yn teithio. Mae hyn yn bwysig, oherwydd, yn anffodus, er gwaethaf y Ddeddf Teithio Llesol, cafwyd enghreifftiau difrifol o ganllawiau sy'n gwneud cerdded a beicio'n anoddach. Ond rydym yn credu mai effaith fwyaf y gwelliant fydd: os gallwn ddylanwadu'n effeithiol ar sut mae'r 300,000 o bobl sy'n gweithio yn ein sector cyhoeddus yn teithio i'r gwaith, bydd newid y dull teithio hyd yn oed ychydig iawn yn arwain at aer glanach, llai o dagfeydd, carbon is a gweithlu iachach.

Felly, gan droi at fecanwaith y gwelliant, byddem wedi hoffi newid, Gweinidog, eiriad dyletswydd i hyrwyddo yn y Ddeddf wreiddiol, ond mae hynny wedi profi'n dechnegol anodd yn ein trafodaethau. Felly, yr hyn yr ydym wedi cytuno â Llywodraeth Cymru yw y byddwn yn cynnwys dyletswydd newydd yn y Ddeddf Teithio Llesol sy'n darparu ar gyfer hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau neu gyfyngu ar lygredd aer, ac mae'n ymddangos bod hynny'n gweithio. Rydym wedi ei wneud gyda'r wybodaeth sicr ein bod yn dal i ddarparu, yn ein meddwl, ddyletswydd gyffredinol i'w hyrwyddo, oherwydd mae ansawdd aer yn fater a fydd gyda ni bob amser ac ym mhobman, i ryw raddau neu'i gilydd. Felly, bydd dyletswydd i hyrwyddo teithio llesol at ddibenion ansawdd aer, i bob pwrpas, byddem yn dweud, yn ddyletswydd i hyrwyddo teithio llesol pryd bynnag y bo hynny'n bosibl a phryd bynnag y bo angen. Bydd manylion sut a phryd y caiff ei hyrwyddo yn cael eu nodi yn y canllawiau statudol y mae'r gwelliant yn eu rhoi ar waith. Felly, bydd ansawdd a chwmpas y canllawiau hyn yn pennu effeithiolrwydd y gwelliant hwn, ac felly bydd yn benderfynydd allweddol yn llwyddiant Cymru wrth ddod yn genedl o deithio llesol.

Rwy'n ffyddiog y bydd y Gweinidog eisiau parhau â'r dull cydgynhyrchiol gwirioneddol ragorol a ddefnyddir wrth lunio'r gwelliant hwn a bydd yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol yn rhan o'r gwaith drafftio'r canllawiau newydd. Mae llawer wedi digwydd gyda'r canllawiau dylunio seilwaith gwreiddiol ar gyfer y Ddeddf Teithio Llesol. Mae'r gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi mewn datganiad sut y bydd yn cyflawni ei dyletswyddau newydd ac i adrodd bob tair blynedd ar y camau y mae wedi'u cymryd. Mae dyletswydd debyg ar awdurdodau lleol a gofyniad cyfatebol i adrodd. Wrth gwrs, mae'r sector cyhoeddus datganoledig yn fwy na Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, felly rydym yn falch o fod wedi gallu cytuno ar ddarpariaeth lle gellir ymestyn y ddyletswydd a'r canllawiau i gyrff cyhoeddus eraill, yn dilyn ymgynghoriad a thrwy Orchymyn a gymeradwywyd gan y Senedd hon.

Mae'r gwaith ar y gwelliant hwn hefyd wedi cyfiawnhau honiad y grŵp trawsbleidiol bod angen diwygio'r Ddeddf teithio llesol ei hun yn fwy cyffredinol. Ar y pryd, seithfed ddeddf Cymru yn unig oedd Deddf 2013 ers—gan wirio nodiadau—1450. Cafodd ei basio ar adeg pan oedd gennym brofiad cyfyngedig o ddeddfwriaeth o'r math hwn a llawer llai o bwerau ym maes trafnidiaeth nag sydd gennym nawr. Y gyfraith oedd y gyntaf o'i math. Roedd yn arbrofol, arloesol ac, o ganlyniad, yn ddiffygiol. Nid ôl-ddoethineb yw hyn. Roedd y ffaith y gellid bod hyn yn wir yn cael ei dderbyn ar yr adeg yr aeth y Bil drwy'r Siambr, a chynhwyswyd cymal yn gofyn am adolygiad o weithrediad y Ddeddf. Nododd yr adolygiad a gynhaliwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol sawl mater yn ddiweddar, gan gynnwys sylw cyfyngedig i'r canllawiau dylunio, problemau technegol gyda diffiniadau a mwy, ac rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y diffygion hyn ac yn derbyn yr angen, nawr, i ailedrych ar y ddeddfwriaeth.

Mae gwelliant 87, Llywydd, yn ddyfais weithdrefnol yr ydym wedi cytuno arni â Llywodraeth Cymru i ganiatáu i'r darpariaethau mwyaf posibl gael eu diwygio'n raddol. Er mwyn i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol, mae'n rhaid i'r canllawiau fod ar waith yn gyntaf, a bydd cael y canllawiau i'r safon sy'n ofynnol yn cymryd peth amser. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y bydd Gweinidogion yn rhoi ymrwymiad clir y bydd y gwelliant yn dechrau cael effaith o fewn cyfnod mor fyr â phosibl. 

Ac yn olaf, hoffwn fynegi fy niolch i staff y pwyllgor sydd wedi cynorthwyo i ddatblygu'r gwelliant hwn. Er mwyn i'r Senedd hon chwarae ei rôl lawn yn y broses ddeddfu, mae'n hanfodol bod meinciau cefn yn gallu cael yr un mynediad at gyngor technegol a chyfreithiol arbenigol â'r Llywodraeth. Mae'r gefnogaeth a gawsom wrth gyflwyno hyn wedi bod heb ei ail. Ac yn olaf, ni allaf orffen, Llywydd, heb ddiolch nid yn unig i'r Gweinidog am ei chefnogaeth, ond i'r Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2 mewn gwirionedd. Gweinidog yw hwn sydd wir yn ymgysylltu'n adeiladol â'r pwyllgor, gyda'r grŵp trawsbleidiol a chydag eraill. Roedd eisiau cymryd Bil da a'i wella, a dyna'r ffordd y dylem wneud y gyfraith yn bendant.

Llywydd, mae'r gwelliannau yn deillio o broses gynhyrchiol iawn o graffu a chydweithio trawsbleidiol ac yn cynnwys Aelodau, y Llywodraeth a'r trydydd sector mewn ymdrech i wella gweithrediad cyfraith flaenllaw a basiwyd gan y Senedd hon. Mae'n rhoi mwy o hwyliau ar y fanerlong honno i'n cyflymu ni ymhellach ar y llwybr at deithio llesol ac i ansawdd aer glanach. Diolch yn fawr. 

17:30

Byddwn yn cefnogi'r gwelliannau yn enw Huw Irranca-Davies heddiw. Mae'n iawn fod teithio llesol yn cael ei hyrwyddo fel ffordd o leihau neu gyfyngu ar lygredd aer. Er bod gennym y Ddeddf Teithio Llesol, rydym wedi gweld nad yw'r Bil ar ei ben ei hun wedi gwneud digon. Dim ond 6 y cant o bobl sy'n beicio unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol, ac ychydig dros hanner sy'n cerdded. Mae hynny er gwaethaf 10 mlynedd o'r Ddeddf hon.

Mae'r angen am fomentwm yn glir wrth ystyried y dystiolaeth gan Cycling UK, sydd wedi amlygu, er enghraifft, bod gwireddu'r newid trawsnewidiol a addawyd gan y Ddeddf Teithio Llesol yn 2013 wedi dioddef o ddiffyg adnoddau a chyllid, fel y dangosir gan y grŵp trawsbleidiol ar adolygiad y Ddeddf Teithio Llesol o'r Ddeddf ym mis Gorffennaf 2022, fel mae Huw Irranca-Davies wedi sôn. Mae Cycling UK wedi rhybuddio, os byddwn yn parhau ar yr un llwybr, na fydd Cymru'n manteisio i'r eithaf ar botensial cerdded a beicio i fynd i'r afael â llygredd aer o bell ffordd. Rwy'n gobeithio y bydd y gwelliannau hyn sy'n cael eu hystyried yn cael eu derbyn ac y byddant yn mynd rhywfaint o'r ffordd i fynd i'r afael â'r risg honno. Diolch, Huw, a diolch, Llywydd.

Hoffwn i ddangos ein cefnogaeth i hwn hefyd. Gwn fod y gwelliannau hyn yn ffrwyth llawer iawn o waith y tu ôl i'r llenni. Roedd yna foment yng Nghyfnod 2 pryd yr oeddem yn ceisio meddwl beth oedd y fersiwn bositif o anghytundeb llwyr er mwyn ei ddisgrifio. Roedd bron yn saib, ac rwy'n credu bod hwnnw'n beth positif iawn. Hoffwn hefyd ddweud pa mor galonogol oedd hi fod rhai o'r Aelodau Llafur yn gosod gwelliannau yng Nghyfnod 2 ac yn awr yng Nghyfnod 3 hefyd. Rwy'n credu ein bod wedi gwella deddfwriaeth o ganlyniad. A byddwn i, unwaith eto, yn diolch i Huw am estyn allan at yr Aelodau i wirio ein bod ni'n cyd-fynd ar hyn.

Rwy'n credu bod y gwelliannau hyn yn sylweddol. Drwy hyrwyddo cerdded a beicio, gobeithiaf y bydd hyn yn ysgogi newid a fydd nid yn unig yn gwella ansawdd aer ond a fydd yn helpu i wella ein hiechyd ac a fydd yn gwneud y boblogaeth yn iachach. Yn fwy na hynny, byddem yn gobeithio lleihau allyriadau carbon, gan gyfrannu at ymdrechion i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, fel yr ydym eisoes wedi'i glywed, ar lefel leol o ran mynd i'r afael â phryderon ansawdd aer a mynd i'r afael â'r her fyd-eang o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Gobeithio y bydd yn meithrin diwylliant o weithgarwch corfforol—mae cymaint o wahanol ddimensiynau. Rwy'n credu bod y gwaith sydd wedi mynd i mewn i hyn y tu ôl i'r llenni, fel y mae Huw wedi'i nodi, sy'n cynnwys sawl actor yn hyn, i'w groesawu'n fawr.

Ac yn olaf, Llywydd, rwy'n credu bod gan y gwelliant y potensial i wella cynllunio trefol a chreu mannau sy'n addas i gerddwyr—felly, unwaith eto, nid yn unig gwella ansawdd aer ond helpu, gobeithio, i greu mannau sy'n fwy trigiadwy, sy'n iachach i gymunedau, sy'n hapusach i gymunedau. Gall y pwyslais ar deithio llesol hefyd fynd i'r afael â materion tagfeydd traffig, gan leihau ôl troed amgylcheddol cyffredinol systemau trafnidiaeth. 

So, dwi yn croesawu'r gwelliannau yma. Diolch, Huw. 

17:35

Diolch, Llywydd. Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi gallu cydweithio â Huw ac Aelodau eraill ar y gwelliannau hyn, a gallaf gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn eu cefnogi. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaed gan Huw a'r grŵp trawsbleidiol, ac i'r Dirprwy Weinidog, a wnaeth lawer o'r gwaith ar y gwelliannau hyn y tu ôl i'r llenni. Rwy'n hapus iawn i roi rhagor o fanylion ar gofnod ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu'r darpariaethau newydd.

Yn gyntaf, Llywydd, rwyf eisiau egluro, gan fod gwella ansawdd aer yn her hirdymor, na fydd y gwelliannau hyn yn cyfyngu ar y ffyrdd eang y bydd disgwyl i'r sector cyhoeddus yng Nghymru hyrwyddo teithio llesol. Er mai'r ddyletswydd yw hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o leihau neu gyfyngu ar lygredd aer, nid yw hyn yn golygu y dylai fod yn berthnasol yn yr ardaloedd mwyaf llygredig yn unig. Fel y dywedodd Huw, mae yna lawer o ffyrdd y bydd hyrwyddo teithio llesol yn gwella ansawdd aer mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd ac ardaloedd, a bydd y canllawiau statudol yn gwneud hyn yn glir. Yn ogystal, bydd awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru yn cadw eu pwerau a'u dyletswyddau presennol i hyrwyddo teithio llesol yn ehangach.

Yn ail, gallaf adrodd i'r Aelodau ein bod wedi penderfynu diwygio'r dyddiad cau i awdurdodau lleol gyflwyno iteriadau nesaf eu mapiau rhwydwaith teithio llesol. Bydd hwn hefyd, yn rhinwedd y gwelliannau hyn, yn ddyddiad cau ar gyfer eu hadroddiadau cyntaf ar y ddyletswydd hyrwyddo newydd, a'r dyddiad cau hwnnw yw 1 Rhagfyr 2026. Ac yn drydydd, gallaf gadarnhau y bydd y datganiad a gyhoeddir gennym y flwyddyn nesaf hefyd yn ymdrin â sut rydym yn bwriadu sicrhau bod cyrff cyhoeddus eraill yn hyrwyddo teithio llesol, yn unol â'r pŵer newydd yn y gwelliannau. A Llywydd, yn bedwerydd ac yn olaf, rwy'n ymrwymo y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad trylwyr o'r Ddeddf teithio llesol o fewn pum mlynedd, a bydd yn defnyddio'r adolygiad hwnnw i fynd i'r afael â diffygion y ddeddfwriaeth honno.

Mae gwelliant 87 yn sicrhau bod yr adrannau newydd a fewnosodir yn y Ddeddf Teithio Llesol yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn Gorchymyn a wneir gan offeryn statudol. Rydyn ni'n cefnogi'r dull hwn oherwydd mae'n caniatáu i ni wneud yn siŵr bod dilyniant rhesymegol o ddigwyddiadau—er enghraifft, nad yw'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol yn dod i rym nes bod canllawiau ar gael i'w helpu i gyflawni'r ddyletswydd honno. Rwy'n gwerthfawrogi, serch hynny, fod hyn yn gadael yr amserlen ar gyfer gweithredu'r darpariaethau hyn yn weddol ben agored. Llywydd, felly, rwy'n hapus i roi fy ymrwymiad ar gof a chadw heddiw y byddwn yn cyhoeddi ein datganiad erbyn diwedd 2024 o'r camau y bwriadwn eu cymryd i hyrwyddo teithio llesol, y byddwn yn cyhoeddi ein canllawiau i awdurdodau lleol, a byddwn yn dod â'r adrannau newydd hyn o'r Ddeddf teithio llesol i rym. Diolch.  

Diolch, Llywydd. Gweinidog, rwy'n ddiolchgar iawn yn wir am y sicrwydd yr ydych wedi'i roi nawr ar gofnod, yn anad dim y bydd y gwelliant yn dod i rym erbyn diwedd 2024. Mae'n galonogol iawn clywed bod y Llywodraeth hefyd yn mynd i fod yn rhagweithiol wrth ymestyn y dyletswyddau yn y gwelliant ar draws y sector cyhoeddus datganoledig. Felly, fel Aelod o'r Senedd ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, ynghyd ag aelodau o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, edrychwn ymlaen at chwarae rhan gadarnhaol yn y diwygiad a addawyd o'r Ddeddf, ac wrth i bethau lifo o'r gwelliant hwn. Diolch yn fawr iawn i chi a hefyd i'r Dirprwy Weinidog hefyd. 

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 86. A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, does dim gwrthwynebiad, felly mae gwelliant 86 wedi ei dderbyn. 

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 5: Gofyniad i ymgynghori ar strategaethau ansawdd aer a seinweddau cenedlaethol (Gwelliannau 83, 84)

Grŵp 5 fydd nesaf, felly, y grŵp yma yn ymwneud â gofyniad i ymgynghori ar strategaethau ansawdd aer a seinweddau cenedlaethol. Gwelliant 83 yw'r prif welliant, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gyflwyno gwelliant 83 a'r gwelliannau eraill. 

Cynigiwyd gwelliant 83 (Delyth Jewell).

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 83 ac 84. Rwy'n ddiolchgar i dîm y Llywodraeth am weithio gyda mi i ddrafftio'r gwelliant hwn ac am barodrwydd y Dirprwy Weinidog i gydweithio ar y mater hwn. Mae'r diwygiad yn ychwanegu Trafnidiaeth Cymru at y rhestr o ymgyngoreion statudol ar gyfer adolygiadau o'r strategaeth ansawdd aer genedlaethol yn adran 80(10) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Pe baent yn cael eu pasio, byddai'r gwelliannau hyn yn golygu y byddai angen ymgynghori â Trafnidiaeth Cymru ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru, pob awdurdod lleol yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phob bwrdd iechyd lleol wrth adolygu'r strategaeth, i gydnabod effaith y sector trafnidiaeth ar lygredd aer ac iechyd y cyhoedd, ac wrth gwrs rôl ganolog Trafnidiaeth Cymru wrth leihau llygredd aer. Rwy'n gobeithio y bydd y gwelliant yn gwella atebolrwydd, tryloywder a sicrhau penderfyniadau da. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael ei gefnogi. Diolch.

17:40

Fel y clywsom ni, mae'r gwelliannau'n ychwanegu Trafnidiaeth Cymru fel ymgynghorai penodol. Rwy'n ystyried cynnwys y cyhoedd yn ddigon eang i ganiatáu i unrhyw un yng Nghymru ymateb, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru. Trwy enwi Trafnidiaeth Cymru yn unig, fodd bynnag, mae nam sylfaenol. Mae darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus eraill yng Nghymru, ac mae'n rhesymol gennyf i gwestiynu pam nad ymgynghorwyd â nhw. Mae gennym yrwyr tacsis a lorïau. Mewn gwirionedd, gallai'r Road Haulage Association, corff masnach sy'n cynrychioli dros 8,500 o gludwyr ledled y Deyrnas Unedig, fod wedi cael ei enwi fel ymgynghorai hefyd. Fodd bynnag, y ffordd fwyaf syml o ymdrin â'r mater yw cadw'r adran benodol hon yn eang, a dim ond derbyn y gall unrhyw un ymateb o dan y categori 'y cyhoedd'. Ar hwn, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn. Diolch.

Diolch, Llywydd. Yn ystod trafodion Cyfnod 2 roedd y Dirprwy Weinidog, Lee Waters AS, yn hapus mewn egwyddor i ychwanegu Trafnidiaeth Cymru at y rhestr o ymgyngoreion statudol wrth adolygu'r strategaeth ansawdd aer genedlaethol. Fodd bynnag, nododd y byddai'n rhaid i ni ymgynghori â nhw yn gyntaf. Ers hynny, rydym wedi gweithio gyda Delyth Jewell AS ar y mater hwn ac wedi cadarnhau bod Trafnidiaeth Cymru yn fodlon bod yn ymgynghorai statudol ar gyfer y strategaeth ansawdd aer genedlaethol, a'r un modd ar gyfer y strategaeth genedlaethol ar seinweddau, er mwyn sicrhau cysondeb. Ein dull ni yng Nghyfnod 2 oedd sicrhau bod yr ymgynghoriad yn gyson rhwng y ddwy strategaeth, felly rwy'n falch iawn bod Delyth wedi cynnig gwelliannau tebyg i'r strategaeth ansawdd aer genedlaethol a'r strategaeth genedlaethol ar seinweddau i barhau â'r dull hwn, a byddwn yn argymell bod y Senedd yn cefnogi'r gwelliannau. Diolch. 

Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr i'r ddwy ohonoch. Er mwyn mynd i'r afael â phwyntiau Janet, y prif reswm pam mae'r diwygiadau'n enwi Trafnidiaeth Cymru yn benodol, rwy'n credu, yw oherwydd maint y dylanwad y byddent yn ei gael. Nid yw hynny i fod yn gynhwysfawr, ac rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt teg y gallai fod grwpiau eraill y gellid eu henwi yn hyn hefyd. Rwy'n credu bod achos cryf iawn i'w wneud o hyd dros gynnwys Trafnidiaeth Cymru, ond fel y dywedais, nid oes angen eithrio grwpiau eraill, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd eraill yn ei gefnogi. Diolch yn fawr. 

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 83. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly fe gawn ni bleidlais ar welliant 83. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 83 yn pasio, felly.

Gwelliant 83: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Grŵp 6: Cynlluniau gweithredu mewn perthynas ag ardaloedd rheoli ansawdd aer (Gwelliannau 60, 61)

Grŵp 6 sydd nesaf. Cynlluniau gweithredu mewn perthynas ag ardaloedd rheoli ansawdd aer yw'r grŵp yma o welliannau, a gwelliant 60 yw'r prif welliant. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno'r gwelliant yma. 

Cynigiwyd gwelliant 60 (Janet Finch-Saunders).

Diolch. Mae fy ngwelliant 60 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, pan fyddant mewn ardal rheoli ansawdd aer, gyhoeddi cynllun gweithredu o fewn 12 mis. Byddai gwelliant 61 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi eu penderfyniad mewn cysylltiad â chynllun gweithredu awdurdod lleol o fewn tri mis i dderbyn y cynllun hwnnw. Yn fyr, yr hyn rydw i wedi'i wneud—ein grŵp—yw ychwanegu fframiau amser. Fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, byddai'r rhain yn helpu i sicrhau bod aer glân yn parhau i fod yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Yn ogystal, byddent yn helpu i ddarparu cysondeb ledled Cymru gan hefyd gynyddu'r tebygolrwydd y bydd pob un o'r 22 awdurdod lleol yn symud ymlaen gyda chynlluniau rheoli yn yr un modd amserol. Diolch. 

Diolch, Llywydd. Mae'r amserlenni ar gyfer cynlluniau gweithredu wedi'u nodi ar hyn o bryd mewn canllawiau statudol. Byddai'r gwelliant hwn yn lleihau'r amserlenni presennol a'u symud i ddeddfwriaeth. Mae'r amserlenni presennol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno cynllun drafft o fewn 18 mis i ddatgan ardal rheoli ansawdd aer. Rhaid iddynt hefyd fabwysiadu'r cynllun terfynol o fewn 24 mis.

Mae'r amserlen hon eisoes yn heriol. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ddatblygu'r cynllun, comisiynu tystiolaeth arbenigol a modelu lle bo angen, a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Caiff y cynllun ei gyflwyno i'w werthuso gan gontractwyr annibynnol a Llywodraeth Cymru, pryd maent yn gwneud newidiadau gofynnol cyn ei gyhoeddi. Gall gwasgu'r broses hon i 12 mis roi baich sylweddol ar awdurdodau lleol a risgiau sy'n effeithio ar ansawdd ac effeithiolrwydd y cynlluniau. Gan fod y Bil yn cyflwyno gofyniad newydd i gynnwys dyddiadau cydymffurfio a ragwelir, mae'n bwysig bod y cynlluniau gweithredu hyn o ansawdd uchel ac yn amlinellu llwybrau effeithiol clir i aer glanach. Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn oherwydd gallwn adolygu'r amserlenni wrth i ni ddiweddaru ac ymgynghori ar ganllawiau rheoli ansawdd aer lleol newydd, yr ydym eisoes wedi ymrwymo i'w wneud. Bydd hyn yn sicrhau y gall awdurdodau lleol gymryd rhan lawn.

Ac o ran gwelliant 61, er ein bod eisoes yn gweithio i'r amserlenni a gynigir, nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn chwaith. Fel y soniais i, mae'r Bil yn cyflwyno gofyniad newydd i awdurdodau lleol gynnwys dyddiadau cydymffurfio rhagamcanol ar gyfer yr ardal rheoli ansawdd aer mewn cynlluniau gweithredu, a chytuno ar y dyddiad hwn gyda Gweinidogion Cymru. Ein bwriad ar gyfer y broses hon yw sicrhau bod y camau a ddewisir yn effeithiol a galluogi Gweinidogion Cymru i nodi unrhyw ddulliau a allai gefnogi'r awdurdod i wella ansawdd aer. Nid ydym yn disgwyl y bydd hon yn broses hir, ond gallai fod materion arbennig o anodd sy'n gofyn am fwy o amser.

Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant ond rwy'n gwerthfawrogi'r bwriad y tu ôl iddo. Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi cynnig gweithio gyda Janet Finch-Saunders AS yng Nghyfnod 2, wrth i ni ddatblygu'r canllawiau statudol rheoli ansawdd aer lleol, i sicrhau bod y materion a godir yn cael eu hystyried.

Rwy'n gwybod bod Janet eisiau ei godi yma eto heddiw. Ond rwy'n hapus i ystyried gweithio gyda chi, Janet, i gynnwys y newid i'r perwyl hwn yn y canllawiau statudol wedi'u diweddaru. Diolch.

17:45

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 60. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, gwnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 60. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, 11 yn ymatal, 26 yn erbyn. Gwelliant 60 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 60: O blaid: 15, Yn erbyn: 26, Ymatal: 11

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 61 (Janet Finch-Saunders).

Oes gwrthwynebiad i welliant 61? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Fe gawn ni bleidlais, felly. Agor y bleidlais ar welliant 61. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 61 wedi cael ei wrthod. 

Gwelliant 61: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 7: Rheoleiddio mwg a thanwydd mewn ardaloedd rheoli mwg (Gwelliannau 62, 71, 81, 82)

Grŵp 7 fydd nesaf a'r grŵp yma'n ymwneud â rheoleiddio mwg a thanwydd mewn ardaloedd rheoli mwg. Gwelliant 62 yw'r prif welliant, a Janet Finch-Saunders i siarad ac i gyflwyno'r gwelliant yma. Janet Finch-Saunders. 

Cynigiwyd gwelliant 62 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Byddai gwelliant 62 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu rhestr o leoedd tân wedi'u hesemptio. Mae cael rhestr wedi ei chyflwyno drwy reoliadau a'i thrafod yma yn y Senedd yn ein helpu i graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae'n rhoi cyfle i ni gynrychioli'r diwydiant a thrafod eu barn gyda nhw. Er enghraifft, mae Cynghrair y Diwydiant Stôf yn barod iawn i weithio'n agos ar hyn. Mae tystiolaeth yn dangos bod stofiau sy'n llosgi coed sych ac sy'n cydymffurfio ag ecoddylunio—a rhaid i mi ddatgan buddiant oherwydd bod gennyf losgyddion coed—yn creu llai o allyriadau PM2.5 nag y mae ysmygu sigaréts. Felly, rwy'n gobeithio nad ydym yn mynd i lawr llwybr o wahardd pethau heb ddeall yn iawn eu heffaith ar allyriadau. Dyna pam y gwnaethom gyflwyno'r gwelliant hwn i sicrhau ein bod yn gwrando ar yr arbenigwyr a gallwn ganiatáu i'w lleisiau gael eu clywed yn hytrach nag ein bod dim ond ymddangos fel pe baem yn gwrando.

Rwyf wedi bod yn falch o gydweithio â Llywodraeth Cymru ar welliant 81. Mae Atodlen 5 i Ddeddf Aer Glân 1993 yn gwneud darpariaeth drosiannol ac arbedion wrth ddirymu neu amrywio gorchymyn rheoli mwg a wnaed cyn 13 Tachwedd 1980. Diben y diwygiad yw ychwanegu dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i adlewyrchu'r diwygiad hwn a wnaed i Atodlen 1, paragraff 12 o Atodlen 5 i Ddeddf Aer Glân 1993, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad ar ôl gwneud gorchymyn yn dirymu neu amrywio gorchymyn rheoli mwg a wnaed cyn 13 Tachwedd 1980. Effaith y gwelliant hwn fyddai gosod dyletswydd ar awdurdod lleol yng Nghymru i gyhoeddi'r hysbysiad hwn ar ei wefan.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog a'i dîm am eu cydweithrediad ar welliant 82—Atodlen 1 i Ddeddf Aer Glân 1993—gan ddarparu'r gofynion hysbysiad cyn y gall awdurdod lleol alw gorchymyn rheoli mwg i rym. Pwrpas y diwygiad hwn yw ychwanegu paragraff newydd at Atodlen 1 i Ddeddf 1993 i greu dyletswydd newydd a fydd yn berthnasol i awdurdodau lleol yng Nghymru cyn gwneud gorchymyn rheoli mwg. Mae paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Aer Glân 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol hwnnw gyhoeddi hysbysiad cyn gwneud gorchymyn rheoli mwg, gan nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i'r hysbysiad hwnnw ei gynnwys. Effaith y gwelliant yw rhoi'r ddyletswydd ychwanegol hon ar awdurdod lleol yng Nghymru i gyhoeddi'r hysbysiad hwnnw ar ei wefan, os oes ganddo un. Diolch i Lywodraeth Cymru am ei chydweithrediad cadarnhaol ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn pleidleisio o blaid y gwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch, Llywydd.

17:50

Hoffwn gofnodi fy holl ddiolch i'r rhai sydd wedi dod â hyn gerbron ein Senedd heddiw, yn enwedig i Joe Carter a'r rhai yn Awyr Iach Cymru, sydd wedi gweithio mor galed i gael hwn i le mae ef heddiw. Dyma'r unig dro i mi siarad, oherwydd roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn cofnodi cefnogaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i'r Ddeddf hon.

Gwyddom fod llygredd aer yn fygythiad anweledig i'r mannau cymunedol rydym yn eu coleddu a'r bobl sydd fwyaf annwyl i ni. Gall amlygiad hirdymor i allyriadau achosi problemau cardiofasgwlaidd ac anadlol, a chynyddu risgiau canser. Ni allwn aros yn oddefol tra bod bywydau pobl yn cael eu byrhau gan aer halogedig. Dyna pam rwy'n cefnogi'r Bil hwn, a fydd o'r diwedd yn ysgogi atebion i'r argyfwng yr ydym yn ei wynebu.

Ar yr un pryd, rhaid i ni hefyd sicrhau bod effaith y ddeddfwriaeth hon yn cael ei theimlo'n deg ar draws Cymru gyfan, ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd. Rwy'n cynrychioli cymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru lle mae aer glân yr un mor bwysig yn lleol ag ydyw yn y dinasoedd mawr. Am y rheswm hwn rwy'n siarad am welliannau 81 ac 82, ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod y rhai sydd â lle tân yn cael gwybod am yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gydymffurfio â'r gorchmynion rheoli mwg newydd.

O fewn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, mae canran uchel o aelwydydd nad ydynt wedi'u cysylltu â'r grid nwy. Er mai'r ffigur cyfartalog yng Nghymru yw tua 19 y cant o gartrefi, o fewn sir Gaerfyrddin mae'r nifer hwnnw'n 39 y cant, mae Powys yn 55 y cant ac yng Ngheredigion mae 74 y cant o eiddo domestig oddi ar y grid. Er bod llawer o aelwydydd gwledig yn dibynnu ar danwydd fel olew neu nwy petrolewm hylifedig fel prif danwydd ar gyfer gwresogi, mae'r ffynonellau hyn yn llawer mwy costus na ffynonellau ynni rhwydweithiol. Mae prisiau wedi chwyddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda phris cyfartalog olew gwresogi wedi mwy na dyblu ers mis Hydref 2020.

Rydym i gyd yn ymwybodol o'r bygythiad difrifol a achosir gan losgi tanwydd solet yn y cartref. Mae stofiau sy'n llosgi coed yn rhyddhau deunydd gronynnol mân gwenwynig a all dreiddio'n ddwfn i'r ysgyfaint, gan gynyddu risgiau salwch cardiofasgwlaidd ac anadlol hefyd. Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd, yn 2019, roedd amlygiad i'r gronynnau gwenwynig bach hyn yn y DU wedi'i gysylltu â dros 33,000 o farwolaethau cynnar. Mae'r ffigurau wir yn frawychus. Yn ôl data Llywodraeth y DU y llynedd, mae llosgi coed gartref bellach yn cynhyrchu mwy o lygredd gronynnol mân na chyfanswm traffig ffyrdd ledled y DU. Dangosodd data gan Gynghrair Diwydiant Stôf fod gwerthiant stofiau'r DU wedi codi 40 y cant rhwng 2021 a 2022.

Fodd bynnag, i'r rhai sy'n byw yn ein hardaloedd gwledig oddi ar y grid, mae llosgyddion coed tanwydd solet yn cynrychioli math sylweddol ratach o ynni. Mae angen i'r darpariaethau fod yn benodol iawn ac yn sensitif i'r ardal leol, gan fod yn ymwybodol o'r ffaith na all llawer o bobl fforddio gwresogi eu hunain mewn unrhyw ffordd arall. Felly, mae angen fframiau amser realistig a chefnogaeth sylweddol arnom i helpu pobl i drosglwyddo eu cartrefi oddi ar y grid i offer a thanwydd cymeradwy. Bydd gwelliannau 81 ac 82 yn caniatáu i drigolion lleol gael mwy o amser a mwy o eglurder er mwyn addasu'n briodol i'r gorchmynion rheoli mwg newydd. Mae angen cyfathrebu ystyriol a chymorth tosturiol ar hyn. Fel arall rydym mewn perygl o ynysu aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd ymhellach. Mae deddfwriaeth dim ond yn effeithiol os gall pobl gydymffurfio yn ymarferol. Felly, hoffwn ofyn am sicrwydd gan y Gweinidog, ar ran y bobl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sy'n dibynnu ar losgyddion coed allan o angenrheidrwydd, y bydd digon o eglurder, amser a chefnogaeth i bobl gael gwybod gan eu cynghorau lleol am unrhyw ofynion a newidiadau. Diolch yn fawr iawn.

17:55

Diolch, Llywydd. Rwyf wedi ystyried y ddau welliant cyntaf a gynigiwyd gan Janet Finch-Saunders AS. Gwelliant 62 a gwelliant canlyniadol 71 yw'r rhain. Byddai gwelliant 62 yn arwain at ddychwelyd i gymeradwyo lleoedd tân esempt trwy reoliadau yn hytrach na phroses gymeradwyo ar-lein. Mae'r Bil yn cynnal y dull a sefydlwyd gan Ddeddf Dadreoleiddio 2015 a Deddf yr Amgylchedd 2021. Gwnaeth y Deddfau hyn ddiwygiadau i Ddeddf Aer Glân 1993 i symud i ffwrdd o fynnu bod offerynnau statudol yn rhagnodi lleoedd tân esempt. Bydd y Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r cynhyrchion hyn drwy system ar-lein, fel sy'n wir ar hyn o bryd ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r broses feichus o gymeradwyo trwy offeryn statudol ar gyfer pob cynnyrch a ddygir i'r farchnad yn hen ffasiwn ac yn ddiangen ac rydym wrthi'n sefydlu'r system ar-lein hon. Yn seiliedig ar hynny, rwy'n gwrthwynebu'r gwelliant hwn.

Symudaf ymlaen yn awr at welliannau 81 ac 82. Llywydd, rwy'n hapus iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda Janet Finch-Saunders AS ar welliant 81, gan wella fersiwn gynharach a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2. Mae'r gwelliant hwn yn ychwanegu at y gofynion presennol o ran hysbysiadau yn Neddf Aer Glân 1993. Deallaf ei bod yn debygol y byddai awdurdod lleol yn cyhoeddi gorchmynion rheoli mwg ar ei wefan heb fod angen i'r ddarpariaeth hon fod ar wyneb y ddeddfwriaeth, ond wedi dweud hynny, rwy'n fwy na pharod i gefnogi'r gwelliant gan ei fod yn ddull synhwyrol o wella ymwybyddiaeth y cyhoedd. Rwy'n mawr obeithio y bydd etholwyr Jane Dodds yn gallu manteisio ar hynny a'r system gymeradwyo ar-lein.

Gan symud ymlaen i welliant 82, mae llawer o'r gorchmynion rheoli mwg yng Nghymru yn rhagddyddio 13 Tachwedd 1980, ac maent yn dal i fod mewn grym, ond heb eu gorfodi'n weithredol. Mae'r gwelliant ychwanegol hwn yn angenrheidiol rhag ofn y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn dymuno dirymu neu amrywio unrhyw un o'r gorchmynion rheoli mwg a wnaed cyn y dyddiad hwn. Mae gwelliant 82 yn angenrheidiol, ochr yn ochr â gwelliant 81, er mwyn rhoi effaith iddo ac mae ganddo fy nghefnogaeth hefyd. Diolch.

Diolch, Llywydd, a diolch i'r Gweinidog. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, rwy'n credu bod deddfwriaeth yn well ar gyfer cynnwys gwaith yr ydym wedi'i lunio o ran gwelliannau, ac mae rhywfaint o ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud yn well gyda dull trawsbleidiol. Hoffwn ddiolch i chi am eich cyfraniad huawdl a rhagorol iawn, Jane Dodds. Mae fy ngrŵp a minnau yn diolch yn fawr iawn i chi am gefnogi'r gwelliannau hynny. Diolch, Gweinidog. Diolch yn fawr, bawb.

Os gwrthodir gwelliant 62, bydd gwelliant 71 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 62? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly cawn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 62. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal a 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 62 wedi'i wrthod ac mae gwelliant 71 yn methu.

Gwelliant 62: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 71.

Cynigiwyd gwelliant 81 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 81? Na, does dim gwrthwynebiad, felly mae gwelliant 81 wedi'i dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 82 (Janet Finch-Saunders).

A oes gwrthwynebiad i welliant 82? Nac oes, felly mae gwelliant 82 hefyd wedi'i gymeradwyo.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 8: Cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd (Gwelliannau 63, 80, 64, 72, 68)

Grŵp 8 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â chynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd. Gwelliant 63 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. 

Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 63 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Roeddem ni'n gwneud mor dda yn y fan yna. [Chwerthin.] Mae'r holl welliannau yn fy enw i o dan yr adran hon yn ymwneud â'r un pwynt o egwyddor: Nid wyf i, ni fel grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, yn credu y dylid ehangu pwerau Gweinidogion Cymri i godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd. Mae deiseb Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i gynllunio pellach ar godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru eisoes wedi denu bron i 7,000 o lofnodion. Canfu arolwg cyhoeddus y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith fod 92 y cant o'r ymatebwyr yn anghytuno y dylai fod gan Weinidogion Cymru bwerau ehangach i gyflwyno cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd. Credwn y bu rhyfel ar fodurwyr yn ddiweddar, nad oes gan lawer ohonyn nhw lawer o ddewis ond defnyddio eu car a gyrru. Ni yw'r cyntaf i gyfaddef bod angen i ni leihau ein dibyniaeth ar geir ac mae angen i ni gerdded yn fwy, mae angen i ni feicio yn fwy, ac mae angen i ni allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle y gallwn ni. Ond, mewn rhai achosion, nid yw hynny'n opsiwn, a cheir yw'r unig opsiwn. Mae cymaint o bobl yn cymudo o ardaloedd lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wael, ac mae hynny oherwydd methiant eich Llywodraeth chi i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn ddigonol. A dweud y gwir, ar adeg pan yw gwasanaethau bysiau yn cael eu cwtogi, gan ynysu cymunedau, gyda'r pwerau ychwanegol hyn sydd â'r potensial i godi tâl ar bobl sy'n mynd i'r gwaith, pobl yn mynd i ofalu am bobl, a llawer o bobl eraill yn defnyddio eu ceir—efallai'n mynd â phlant i'r ysgol lle mae'n rhaid iddyn nhw—mae yna wedyn yr effaith negyddol bosib ar ein ffyrdd lleol. Gallai cyflwyno cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd arwain at fwy o bobl yn defnyddio ffyrdd a reolir gan awdurdodau lleol, gan waethygu tagfeydd mewn cymunedau sy'n anodd eu llywio weithiau. Mae rhoi cosb i bobl am yrru pan nad oes opsiwn amgen dichonadwy yn afresymol ac yn anghyfiawn. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno â ni heddiw ac, o'r herwydd, yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch.

18:00

Diolch, Llywydd. Gofynnir i aelodau bleidleisio ar welliannau a fydd yn dileu darpariaethau cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd o'r Bil. Ni wnaeth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gefnogi gwelliannau tebyg yng Nghyfnod 2, a phleidleisiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i'w gwrthod.

Gan droi'n gyntaf at welliant 63, mae'r gwelliant hwn yn ceisio dileu yn gyfan gwbl adran 21 o'r Bil, sy'n ehangu'r amgylchiadau y gellir gwneud cynllun codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd. Mae'r diwygiadau i Ddeddf Trafnidiaeth 2000, a grëwyd gan adran 21, yn darparu y gellir gwneud cynllun codi tâl at ddibenion lleihau neu gyfyngu ar lygredd aer yng nghyffiniau'r ffordd. Rwy'n deall pryderon am gynlluniau a fydd yn gosod taliadau ychwanegol ar fodurwyr. Bydd Aelodau'r Senedd, rwy'n siŵr, yn gyfarwydd â'r math o wrthwynebiadau cyhoeddus a fynegir am barthau aer glân mewn rhai dinasoedd yn Lloegr ac, wrth gwrs, ym mharth allyriadau isel iawn Llundain, sydd wedi'i ehangu. Nid yw'r cynlluniau hyn yn fesurau cosbol a gyflwynwyd i wneud bywydau modurwyr yn anoddach, ac mae'n rhaid i mi ddweud, Janet, rwy'n gresynu at eich iaith. Mae gennym arswyd rhyfel yn mynd rhagddo ar ein sgriniau teledu bob nos. Mae defnyddio'r iaith honno ar gyfer rhywbeth sydd i fod i wella ansawdd aer, rwyf wir yn credu y dylech ailystyried hynny.

Mae'r cynlluniau hyn wedi'u cyflwyno fel anghenraid i wneud gwelliant sylweddol i ansawdd aer a chydymffurfio â lefelau nitrogen deuocsid statudol. Yng Nghymru, rydym hefyd wedi cael anawsterau wrth gydymffurfio â therfynau statudol ochr yn ochr â rhai o'n ffyrdd. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud cynnydd da wrth fynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno mesurau lliniaru heb godi tâl. Mae'n rhaid i ni dderbyn y gallai problemau llygredd aer parhaus fod angen ymyriadau mwy sylweddol. Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno taliadau ar ddefnyddwyr cefnffyrdd. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi bod yn glir ynglŷn â hyn. Ond, fel y mae e wedi ei nodi yn flaenorol, mae parthau aer glân wedi'u rhestru yn ein cynllun ansawdd aer fel mesurau rhagofalus a ddargedwir y gellid eu cyflwyno ar ffyrdd penodol os nad yw mesurau eraill yn ddigon i gyflawni ein rhwymedigaethau. Mae'n parhau i fod yn wir ein bod yn cymryd camau perthnasol a phriodol i leihau llygredd aer er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau, ond, heb y pwerau yn adran 21 o'r Bil, ni fyddem yn gallu rhoi effaith lawn i'n hymrwymiadau cynllun ansawdd aer pe bai achos cymhellol yn cael ei wneud yn y dyfodol ar gyfer cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd i fynd i'r afael ag allyriadau gormodol o gerbydau. Am y rhesymau hyn, nid wyf yn cefnogi gwelliant 63, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders.

Mae gwelliant 80 yn fân welliant technegol sy'n egluro y ceir cyflwyno cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd ar gyfer y naill neu'r llall o'r tri diben a ddisgrifir yn adran 21. Rwy'n gofyn i'r Senedd bleidleisio o blaid y gwelliant hanfodol hwn.

Mae gwelliannau 64 a 72, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, yn bwriadu dileu adran 22 ac Atodlen 2, sy'n ymdrin â chymhwyso enillion net sy'n deillio o gynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd, a wneir at y diben o leihau neu gyfyngu ar lygredd aer. Ar y cyd â gwelliant 63, byddai'r gwelliannau hyn yn dileu'r holl ddarpariaethau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd o'r Bil.

Byddai gwelliant 68, a gyflwynwyd hefyd gan Janet Finch-Saunders, yn cwblhau dileu'r holl gyfeiriadau at gynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd o'r Bil drwy ddileu cyfeiriad at y darpariaethau perthnasol i'r darpariaethau cychwyn yn adran 29.

Llywydd, ni allaf felly gefnogi gwelliannau 64, 72 a 68, y mae pob un ohonyn nhw'n ganlyniadol i welliant 63.

18:05

Diolch, Llywydd. Fi yw'r cyntaf bob amser i wrando a chydnabod os ydw i wedi dweud neu wneud unrhyw beth na ddylwn i fod wedi'i wneud, ac mae'n rhaid i mi ddweud, wrth edrych yn ôl ar fy nghyfraniad, nad 'rhyfel ar fodurwyr', yw'r geiriau gorau, ar yr adeg benodol hon, yn ôl pob tebyg. Felly, hoffwn ddweud bod ymgyrch wedi bod o dargedu ein modurwyr ledled Cymru. Diolch.

Os derbynnir gwelliant 63, bydd gwelliant 80 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 63? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly mi gawn ni bleidlais ar welliant 63. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 63 wedi ei wrthod.

Gwelliant 63: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Felly, gwelliant 80 fydd nesaf. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 80?

A yw'n cael ei gynnig yn ffurfiol, yn gyntaf? Ydy. Diolch.

Cynigiwyd gwelliant 80 (Lee Waters).

A oes gwrthwynebiad i welliant 80? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, mi gawn ni bleidlais ar welliant 80. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 80 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 80: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 64 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. Ydy e'n cael ei wrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydy, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 64. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 64 wedi ei wrthod.

Gwelliant 64: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 72 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, mi wnawn ni gymryd pleidlais ar welliant 72. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 72 yn cael ei wrthod.

Gwelliant 72: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 9: Trosedd segura llonydd: cosb benodedig (Gwelliannau 65, 69)

Grŵp 9 yw’r grŵp nesaf o welliannau, ac mae rhain yn ymwneud â’r gosb am y drosedd o segura llonydd. Gwelliant 65 yw’r prif welliant.

Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 65.

Cynigiwyd gwelliant 65 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Felly, fel y mae'r Llywydd wedi sôn, mae gwelliannau 65 a 69 yn gwrthdroi'r newidiadau a wnaed gan y Bil i hysbysiadau cosb benodedig a gyflwynir mewn perthynas â throseddau segura llonydd. Nid wyf yn amau y gall dirwyon am segura godi ofn ar bobl i roi'r gorau i ymgymryd â gweithgareddau o'r fath, ond mae problem fawr. Fel y mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi tynnu sylw ato, mae heriau o ran gorfodi a gweithredu. Efallai y bydd angen adnoddau er mwyn i awdurdodau lleol feithrin y gallu i orfodi cydymffurfiaeth eang. Fodd bynnag, yn y pen draw, yn hytrach na mesurau gwrthsegura, yr hyn sydd ei angen arnom yw camau i leihau dibyniaeth ar gerbydau personol a hybu teithio llesol. Gyda'r gwelliannau yn enw Huw Irranca-Davies, rydym bellach ar y trywydd iawn gyda'r olaf, ond ychydig iawn y mae'r Bil hwn yn ei wneud i fynd i'r afael â llygredd aer trwy ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gymryd camau cadarnhaol mewn perthynas â cherbydau personol. Bydd mesurau gwrthsegura yn anodd iawn i'w gweithredu. Dim ond mater o ddewis olaf y dylai fod ar ôl mynd ar drywydd pob opsiwn arall ar gyfer gwella ansawdd aer. Felly, rwy'n eich annog i gefnogi'r gwelliannau yn fy enw i. Ac mae angen i ni ei gwneud hi'n glir iawn ar y meinciau hyn nad ydym yn cefnogi unrhyw daliadau pellach i'n modurwyr, sydd, eu hunain, yn wynebu cyfnod anodd iawn ar hyn o bryd. Diolch. 

18:10

Diolch, Llywydd. Byddai gwelliant 65, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, yn tanseilio ein dull o gryfhau gweithredu ar injan yn segura yn ddiangen drwy gael gwared ar y pŵer i bennu ystod gosb mewn rheoliadau. Mae'r achos dros gymryd camau mwy cadarn ar y drosedd hon yn glir: mae injan yn segura yn niweidiol i'n hiechyd ac yn syml iawn yn ffynhonnell ddiangen o lygredd aer. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a minnau ein dau yn benderfynol o gymryd camau cryfach i fynd i'r afael â'r arfer hwn. Mae injan yn segura yn ddiangen yn broblem benodol mewn rhai lleoliadau, fel ysgolion ac ysbytai, o ran amlder achosion o segura ac o ran amlygiad anghymesur i grwpiau sy'n arbennig o sensitif i effeithiau llygredd aer. Mae'n rhaid i mi ddweud, roeddwn i mewn ymgyrch effeithiol iawn ar hyn mewn ysgol yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, Ysgol Gynradd Ystumllwynarth, lle gwnaeth y plant sefyll gyda'u baneri wrth y goleuadau yn y fan honno a gofyn i fodurwyr ddiffodd eu hinjan wrth iddyn nhw aros wrth y goleuadau. Roedd yr effaith ar y llygredd aer yn y fan yna yn gwbl ryfeddol, a dylai unrhyw un nad yw'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig edrych ar yr ystadegau hynny.

Roedd yr ymatebwyr i'n hymgynghoriad Papur Gwyn, a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr ac Ebrill 2021, yn cydnabod hyn. O'r rhai a atebodd y cwestiwn a oedden nhw'n cytuno â'n cynigion i fynd i'r afael ag achosion o segura parhaus, dwys, roedd bron i 80 y cant yn gefnogol. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn cydnabod bod gweithredu llymach yn allweddol i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Ni allaf gefnogi gwelliant 65 gan y byddai'n gadael y fframwaith cosb bresennol heb ei newid, y gwyddom ei fod yn methu â darparu digon o rwystrau. Datgelodd ein hymgynghoriad Papur Gwyn gefnogaeth gref i wella gallu gorfodi ac i gynyddu lefel y gosb benodedig. Rwy'n gwybod, Delyth, eich bod chi wedi gweithio gyda ni ar hyn a bod eich gwaith wedi arwain at gynnig diwygiadau i'r memorandwm esboniadol, sy'n cynnwys eglurhad, er y byddai awdurdodau lleol yn cadw hyblygrwydd i bennu symiau cosb i fynd i'r afael ag amgylchiadau penodol, bydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn sicrhau'r cysondeb ledled Cymru yr ydych yn ei geisio.

Diolch. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi bod yn barod i weithio'n drawsbleidiol ar y mater hwn, ac rwy'n credu bod yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud am ble mae plant ysgol wedi bod yn dal baneri yn gofyn i yrwyr ddiffodd injan eu car pan fyddan nhw'n aros wrth y goleuadau, mae hynny'n bwerus iawn, oherwydd rwy'n credu, mor aml, mai'r bobl sy'n mynd i gael eu heffeithio fwyaf gan faterion fel hyn yw'r rhai nad oes ganddyn nhw leisiau yn ein penderfyniadau. Felly, os gallwn ni gadw hynny mewn cof, rwy'n credu bod hynny'n beth pwerus iawn. Diolch.

Rwy'n gwerthfawrogi'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud am hen ddiesel myglyd sydd wedi aros y tu allan i ddrws ffrynt yr ysgol a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar iechyd pobl, ond, yn amlwg, gyda'r newid i gerbydau trydan, a allwch chi ein sicrhau ni na fydd unrhyw un mewn cerbyd trydan yn cael ei gosbi am segura mewn cerbyd trydan, ydyn nhw, oherwydd nid oes ganddyn nhw unrhyw allyriadau yn yr un modd ag y gallai fod gan hen ddiesel myglyd neu injan betrol gwael?

Na, ac, yn wir, nid yw peiriant trydan yn segura, mewn gwirionedd, felly nid yw'n codi. Rwyf eisiau tawelu meddyliau y meinciau gyferbyn fan hyn nad ydym yn ceisio cosbi pobl am wneud hyn; rydyn ni'n ceisio newid ymddygiad. Felly, bydd y canllawiau yn ei gwneud hi'n amlwg iawn mai dim ond toriadau eithriadol, o bobl sydd wedi cael eu rhybuddio ac sy'n dal i fod yn eistedd gyda'u car tanwydd ffosil yn segura mewn man lle maen nhw wedi cael eu rhybuddio dro ar ôl tro bod hyn yn achosi problemau llygredd aer—. Mae gen i ofn, yn aml, y rhieni sy'n gollwng plant yn yr union ysgol dan sylw—[Torri ar draws.] Wel, dim ond ateb yr ymyriad diwethaf ydw i, felly os wnewch chi ganiatáu i mi gyrraedd diwedd yr ateb hwnnw, efallai y gallaf wneud un arall.

Felly, byddwn ni'n ei gwneud yn glir iawn mewn canllawiau nad yw hyn yn ymwneud â chodi arian na chosbi pobl; mae'n ymwneud â newid ymddygiad, ac felly byddem ni'n meddwl y byddai hyn yn cael ei ddefnyddio'n brin iawn, a bydd y canllawiau yr oeddem yn gweithio arnyn nhw, y cyfeiriodd Delyth atyn nhw, yn gwneud hynny'n glir iawn.

Diolch yn fawr, Gweinidog. A fyddech chi'n derbyn y realiti, er hynny, bod gan y rhan fwyaf o geir a wnaed ar ôl tua 2005 injan stopio-dechrau arnyn nhw? Felly, rydych chi'n ei roi mewn niwtral, gadael y clytsh fynd, a bydd injan y car yn stopio beth bynnag heb orfod mynd ati i ddiffodd yr injan, fel yr ydych chi'n honni sy'n wir.

Yn wir. Rydych chi'n gwneud y pwynt i mi; nid yw'r person hwnnw'n segura ac, felly, yn amlwg, ni fyddan nhw'n cael dirwy. Mae hyn wedi'i anelu at bobl sydd naill ai wedi diffodd y nodwedd honno yn eu car, y gallwch chi ei wneud, neu sy'n gyrru cerbyd lle nad yw hynny'n rhan ohono. Bron yn sicr, ni fydd y darpariaethau hyn yn angenrheidiol ymhen degawd, ond maen nhw'n angenrheidiol nawr, ac os ewch i sefyll yn rhai o'r lleoliadau bregus hyn gallwch chi weld eu bod yn angenrheidiol.

Llywydd, nid wyf yn cefnogi gwelliant 69, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, sy'n ceisio dileu cyfeiriad at yr adrannau cychwyn a fyddai'n gweithredu'r drefn hon, ac sy'n ganlyniadol i welliant 65. Felly, bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu'r gwelliannau hyn. Diolch.

18:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 65? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Cawn ni bleidlais felly ar welliant 65. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae'r gwelliant wedi ei wrthod.

Gwelliant 65: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 10: Swyddfa Diogelu Ansawdd Aer (Gwelliant 66)

Grŵp 10 fydd nesaf, o welliannau sy'n ymwneud â'r swyddfa diogelu ansawdd aer. Gwelliant 66 yw'r unig welliant yn y grŵp yma. 

Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant.

Cynigiwyd gwelliant 66 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Mae'r gwelliant hwn yn galw ar Weinidogion Cymru i gyflwyno swyddfa ar gyfer diogelu ansawdd aer, yn ogystal ag offeryn statudol sy'n cyflwyno darpariaethau pellach ar y corff o fewn 12 mis i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol. Fel y gwnaethom ni yng Nghyfnod 2, roeddwn i am dynnu sylw at ba mor siomedig yw hi fod Llywodraeth Cymru wedi addo ers oesoedd i gyflwyno corff a llywodraethu diogelu'r amgylchedd, ac eto nid ydych wedi gwneud hynny eto. Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu'n ddiweddar at ein pwyllgor newid hinsawdd, gan dynnu sylw at y ffaith bod y rhaglen ddeddfwriaethol ar 27 Mehefin wedi ailddatgan bwriad y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru a chyflwyno dyletswydd a thargedau statudol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Fodd bynnag, fel yr ydym wedi profi gyda'r gwelliant hwn, does dim rheswm o gwbl pam na allem ddeddfu nawr. Yn wir, fel y mae, bydd y Bil hwn yn ychwanegu at y fframwaith deddfwriaethol sy'n effeithio ar yr amgylchedd, ond eto nid oes gennym y corff llywodraethu amgylcheddol ffurfiol ar waith a fyddai'n goruchwylio'r holl ddeddfwriaeth hon. Rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn, a thrwy wneud hynny, byddwch chi eisiau llywodraethu amgylcheddol cryfach heddiw, fel yr ydym ninnau. Diolch.

Diolch, Llywydd. Fel y nodwyd yng Nghyfnod 2, mae'n bwysig sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol ar waith mewn perthynas â materion amgylcheddol. Mae'r trefniadau hynny wrth gwrs yn angenrheidiol oherwydd ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd yn darparu'r trefniadau hynny yn flaenorol—ffaith y mae'r Aelod gyferbyn, yn gyfleus, yn ei anghofio ar sawl achlysur.

Effaith y gwelliant hwn yw ychwanegu adran newydd sy'n sefydlu corff corfforaethol newydd o'r enw y swyddfa diogelu ansawdd aer. Byddai is-adran 2 o'r gwelliant yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o fewn 12 mis i'r Cydsyniad Brenhinol, gan nodi darpariaethau pellach am y corff. Fel y bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol, cyhoeddwyd y Bil targedau llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth yn natganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog ym mis Mehefin 2023. Mae disgwyl iddo gael ei gyflwyno yn ystod tymor hwn y Senedd. Rydym yn disgwyl i'r Bil hwn sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol newydd i Gymru'n ffurfiol, er na fydd unrhyw benderfyniadau ffurfiol yn cael eu gwneud ar hyn o bryd, Llywydd, ac ni fydd nes y bydd y Senedd hon yn cael cyfle i edrych ar y Bil hwnnw. Ar hyn o bryd rydym wrthi'n cwmpasu cyfrifoldebau ar gyfer y corff llywodraethu amgylcheddol arfaethedig i Gymru. Un o nodau allweddol y sefydliad hwn fydd nodi lle y gellir cymryd camau i wella gweithrediad cyfraith amgylcheddol i wella canlyniadau amgylcheddol. Yn unol â'n safbwynt yng Nghyfnod 2, rwy'n argymell nad yw'r Senedd yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fodd bynnag, Llywydd, hoffwn bwysleisio ein bod yn croesawu barn yr Aelodau ar sut yr hoffent ystyried diogelu ansawdd aer fel rhan o'r corff newydd hwn. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 66? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gawn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 66. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly mae gwelliant 66 wedi ei wrthod.

Gwelliant 66: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 11: Diffiniad o seinweddau (Gwelliannau 67, 70)

Grŵp 11 fydd nesaf, y grŵp yma yn ymwneud â'r diffiniad o seinweddau. Gwelliant 67 yw'r prif welliant.

Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 67.

18:20

Cynigiwyd gwelliant 67 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 67 yn mewnosod diffiniad o seinweddau ar wyneb y Bil. Mae'r diffiniad wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru o'r blaen, a dyma'r diffiniad swyddogol a ddefnyddir gan y Sefydliad Rhyngwladol er Safoni. Os na fyddwch yn cefnogi'r gwelliant hwn, ni fydd diffiniad gwirioneddol o seinweddau ar y Bil, a gallai hyn achosi cryn amwysedd. Mae gwelliant 70 yn dechnegol. Diolch.

Diolch, Llywydd. Gan droi at welliannau 67 a 70 a gynigiwyd gan Janet Finch-Saunders, mae'r gwelliannau hyn yn mewnosod adran newydd sy'n diffinio seinweddau ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio'r diffiniad hwn trwy reoliadau. Bydden nhw hefyd yn dod â'r adran newydd i rym ddeufis ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Nid yw'r diffiniad sy'n cael ei gynnig yn cyd-fynd â'r diffiniad yn y safonau rhyngwladol a Phrydeinig presennol na dogfennau polisi Llywodraeth Cymru. Mae'n hepgor y gair 'cyd-destun', sy'n elfen hanfodol o unrhyw asesiad seinwedd. Ar ben hynny, rydym yn gwrthwynebu mewn egwyddor rhoi ar wyneb y Bil ddiffiniad a gymerwyd o safonau technegol sy'n destun adolygiad cyfnodol a diweddariad ailadroddol mewn maes pwnc sy'n esblygu'n barhaus. Yn ogystal â hyn, byddai'r gwelliant yn gofyn am ddiffiniadau o dermau eraill a ddiffinnir mewn safonau a allai hefyd newid dros amser. Rydym wedi rhoi'r diffiniad safonol cyfredol o seinwedd ym memorandwm esboniadol y Bil, fel yr argymhellwyd gan y Sefydliad Acwsteg yn eu tystiolaeth i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ym mis Mai 2023. Am y rhesymau hyn, nid ydym yn cefnogi'r ddau welliant hyn. Diolch.

Os gwrthodir gwelliant 67, bydd gwelliant 70 yn methu hefyd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 67? Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly pleidlais ac agor y bleidlais honno ar welliant 67. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 67 wedi ei wrthod.

Gwelliant 67: O blaid: 25, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Methodd gwelliant 70.

Grŵp 12: Strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau (Gwelliant 85)

Strategaeth genedlaethol ynghylch seinweddau yw'r grŵp nesaf o welliannau, grŵp 12. Gwelliant 85 yw'r unig welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Jenny Rathbone i gyflwyno gwelliant 85. Jenny Rathbone.

Cynigiwyd gwelliant 85 (Jenny Rathbone).

Diolch yn fawr, Llywydd. Rydym newydd drafod pwysigrwydd bod â dull pwyllog ar gyfer stofiau llosgi coed, er ein bod yn gwybod eu bod yn cynnwys gronynnau sylweddol. Felly, rwyf am sicrhau, yn ystod hynt y Bil hwn, ein bod yn mynd i'r afael â rhai o ganlyniadau gwyrgam yr hyn yr wyf yn eu hystyried yn rheoliadau sydd wedi dyddio, a dyna pam rwyf wedi cyflwyno'r gwelliant hwn, bod yn rhaid i'r strategaeth wneud darpariaeth ar gyfer rheoli sŵn o bympiau gwres ffynhonnell aer, sydd wir yn ddewis arall defnyddiol i dechnolegau eraill, yn enwedig mewn amgylchedd trefol.

Mae cynllun gweithredu sŵn a seinwedd Llywodraeth Cymru 2018 i 2023 yn ystyried sŵn yn llygredd sy'n effeithio ar iechyd pobl, gyda chostau cymdeithasol ac economaidd, i'w reoli, a sain dda i'w wella. Mae hyn i gyd yn ardderchog. Fodd bynnag, mae Awdurdod Cynllunio Cyngor Caerdydd yn defnyddio'r cynllun gweithredu sŵn a seinwedd pum mlwydd oed hwn yn ei ddull o ymdrin â cheisiadau am bympiau gwres ffynhonnell aer fel pe baent yn ddatblygiad sy'n cynhyrchu sŵn. Ar ôl dadansoddi arolwg asesu sŵn proffesiynol diweddar i gefnogi cais cynllunio gan rywun yn fy etholaeth i am bwmp gwres ffynhonnell aer i gefn eiddo teras, rwy'n argyhoeddedig nad yw'r ffordd y mae gosodiad arfaethedig pwmp gwres ffynhonnell aer yn cael ei drin wedi cadw i fyny â'r gwelliannau yn nyluniad a gweithrediad tawel pympiau gwres ffynhonnell aer modern. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i bobl sy'n byw mewn amgylcheddau trefol lle nad oes ganddyn nhw y dewisiadau amgen o ran ynni adnewyddadwy fel pwmp gwres o'r ddaear, oherwydd yn syml, nid oes ganddyn nhw'r tir ar gael, neu mae ganddyn nhw do sy'n wynebu'r gogledd, felly ni allant osod solar, neu nad yw economeg gwneud hynny yn ei gyfiawnhau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i fy etholwyr i. Mae rhannau helaeth o Ganol Caerdydd yn cynnwys tai teras. Mae pobl sy'n byw yn y tai teras hyn, ym mron pob achos, yn llai na 3m i ffwrdd o'r anheddau cyfagos, ac felly ystyrir bod gosod pwmp gwres ffynhonnell aer yn torri'r cynllun gweithredu sŵn a seinwedd.  Yn Lloegr, dylid nodi bod gosod pwmp gwres ffynhonnell aer yn ddatblygiad a ganiateir o fewn 1m i annedd arall, ac rwy'n credu bod hynny'n fwy cydnaws â'r ffordd y mae pympiau gwres ffynhonnell aer wedi gwella yn sylweddol.

Ar ôl darllen canlyniad yr arolwg, a gostiodd £1,000 i'r ymgeisydd, rwy'n credu bod rhesymau cryf dros adolygu'r rheoliadau yn unol â'n huchelgeisiau newid hinsawdd a sero net. Roedd yr ymgynghorydd sŵn a dirgryniad arbenigol o'r farn bod lefelau desibel pwmp gwres ffynhonnell aer modern yn llai na'r sŵn cefndir o draffig, cerddoriaeth, cŵn yn cyfarth, a'r holl synau eraill y mae unrhyw un sy'n byw yng nghanol dinas yn eu hystyried yn ddi-nod. Rwyf am bwysleisio mai dyma oedd yr achos hefyd yn ystod y nos, yn ogystal ag yn ystod y dydd, trwy osod yr offer i'w fodd lleihau sŵn o 40 y cant o 11 p.m. i 7 a.m., sef yr adeg pan na fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio eu hynni—ni fydden nhw'n cynhyrchu'r angen am ynni yn ystod yr adegau hynny beth bynnag.

Nid wyf yn bwriadu pwyso'r gwelliant hwn i'r bleidlais, oherwydd nid wyf wedi cael cyfle i siarad â'r Dirprwy Weinidog amdano, ond hoffwn glywed gan y Gweinidog sut y gellir diwygio'r rheoliadau yn y memorandwm esboniadol neu rywle arall i adlewyrchu'r gwelliannau mewn technoleg pwmp gwres ffynhonnell aer, a'i gwneud yn llai beichus i'r rhai hynny sydd am fabwysiadu y dechnoleg ratach, glanach a thawelach hon i gynhesu eu cartref. 

Ar hyn o bryd, rwy'n deall yn iawn ei fod yn weithgaredd lleiafrifol, ond, wrth i gost nwy barhau i gynyddu, bydd mwy o bobl eisiau ystyried y dechnoleg arfaethedig hon yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac ni ddylem eu cosbi'n ddiangen am wneud y peth iawn, cyn belled â bod yr ymgeisydd yn gallu dangos nad yw'r ddyfais y maen nhw'n bwriadu ei gosod yn ychwanegu at sŵn cefndir arferol, a oedd yn wir yn achos fy etholwr.

18:25

Dim ond rhywfaint o eglurhad, rwy'n credu, mewn gwirionedd, oherwydd roeddem yn mynd i fod yn cefnogi eich gwelliant, ond wn i ddim—a yw'n welliant, pan ddywedoch chi, 'Nid wyf eisiau pwyso iddo fynd i'r bleidlais'? Mae adroddiad newydd gan Apex Acoustics a Sustainable Acoustics ac ANV Measurement Systems wedi canfod bod y rhan fwyaf o bympiau gwres ffynhonnell aer yn rhy uchel ar gyfer eiddo mewn ardaloedd adeiledig, gan y byddai murmur cyson yr unedau awyr agored yn torri terfynau sŵn a bennwyd ar gyfer y rhai sy'n dymuno gosod un heb ganiatâd cynllunio a gyda grant gan y Llywodraeth. Mae'r canfyddiadau'n ffurfio rhan o adolygiad swyddogol gan y Llywodraeth gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, DEFRA, i'r broblem sŵn bosibl a gyflwynir gan furmur pympiau gwres ffynhonnell aer lluosog mewn ardaloedd preswyl, a'r math y sonioch chi amdanyn nhw, Jenny—y tai teras hynny, y mae llawer ohonyn nhw yn eich etholaeth chi ac mewn ardaloedd eraill ledled Cymru. O ystyried yr uchod, rwy'n credu ei bod yn rhesymol cynnwys eich gwelliant, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer rheoli sŵn o bympiau gwres ffynhonnell aer. Felly, ie, byddwn yn cefnogi hynny, os bydd yn mynd drwodd. 

Diolch, Llywydd. Gan droi at welliant 85, a gynigiwyd gan Jenny Rathbone AS, mae hyn yn diwygio adran 24 y Bil, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth genedlaethol ar seinweddau. Byddai'r gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw strategaeth o'r fath a wneir o dan adran 24 wneud darpariaeth ar gyfer rheoli sŵn o bympiau gwres ffynhonnell aer.

Mae sŵn pwmp gwres wedi cael ei drafod llawer yn y cyfryngau yn ddiweddar, ac rydym yn benderfynol o gael ein polisi yn iawn ar y pwnc hwn. Rydym wedi comisiynu adolygiad o'r dystiolaeth ddiweddaraf mewn perthynas â phympiau gwres ffynhonnell aer, a byddwn ni'n cyhoeddi canlyniad yr ymchwil hwn maes o law. Mae rheoli sŵn o bympiau gwres ffynhonnell aer wedi'i gynnwys yn ein cynllun sŵn a seinwedd drafft, yr ydym yn bwriadu iddo fod yn strategaeth genedlaethol ar seinweddau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, mae'r Bil yn gosod gofynion ar gyfer strategaethau seinwedd cenedlaethol holl Lywodraethau Cymru yn y dyfodol, a bydd angen i'r Llywodraethau hynny yn y dyfodol ganolbwyntio eu sylw ar y materion sŵn sydd â'r blaenoriaethau uchaf mewn pum, 10 a 15 mlynedd o nawr. Wrth i dechnoleg wella, efallai na fydd sŵn pwmp gwres yn gymaint o bryder yn y dyfodol, ac mae'n ddigon posibl y bydd materion sŵn eraill na allwn eu rhagweld yn dod i'r amlwg. Nid ydym o'r farn ei bod yn briodol neilltuo unrhyw fath penodol o sŵn ar wyneb y Bil dim ond oherwydd ei fod yn fater o ddiddordeb cyfredol i ni, ac felly byddem yn gwrthsefyll y gwelliant, pe bai'n cael ei gynnig.

Rwyf am ddweud, er hynny, Jenny, fel rwy'n gwybod eich bod chi a fi wedi trafod y mater gyda'r caniatâd cynllunio ar gyfer hyn: ar hyn o bryd, mae gennym sefyllfa lle mae gennym hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer o fewn 3m i'r tŷ drws nesaf, ond nid yn agosach na hynny. Gellir gosod amod ar y pwynt a wnaethoch chi am y modd y mae'r pympiau gwres ffynhonnell aer yn rhedeg arno, os rhoddir caniatâd cynllunio. Os byddwch yn ei roi mewn hawliau datblygu a ganiateir, nid oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud os yw'r person yn dewis peidio â gwneud hynny, ac felly mae'r sŵn yn sylweddol uwch. Hefyd, rydych chi'n hollol iawn, mae modelau tawel iawn ar gael, ond mae digon o fodelau ail-law o gwmpas nad ydyn nhw'n dawel iawn. Felly, mae angen i ni sicrhau bod gennym bob agwedd ar yr hawl hon cyn i ni newid yr hawliau datblygu a ganiateir, a fyddai wedyn yn dileu rhai o'r materion rydych chi'n sôn amdanyn nhw.

Yn y cyfamser, credwn ei bod yn iawn gofyn am ganiatâd cynllunio. Byddwn yn edrych ar ein cynllun seinwedd i wneud yn siŵr, pan fydd cyngor sy'n edrych ar ganiatâd cynllunio yn ystyried pwmp gwres ffynhonnell aer, fod gan y cynllun seinwedd y maen nhw'n cyfeirio ato yr holl wybodaeth fwyaf modern amdano am bympiau gwres ffynhonnell aer a sut i gynnwys amodau, fel y gellir eu cynorthwyo. Ac rwy'n cytuno â chi, wrth iddo ddod yn llawer mwy cyffredin, y bydd y tebygolrwydd y bydd y modelau hŷn yn cael eu defnyddio yn lleihau, a byddwn yn gallu ymateb yn unol â hynny. Ond nid wyf yn credu mai dyma'r ffordd gywir o gyflawni'r hyn rydych chi'n ceisio'i wneud, sy'n ganmoladwy iawn ac rwy'n cytuno ag ef; nid wyf yn credu mai dyma'r fethodoleg iawn ar ei gyfer. Diolch.

18:30

Diolch i chi, Gweinidog, am eich ymateb, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi comisiynu ymchwil ychwanegol ar y mater hwn, oherwydd rwy'n credu bod angen i ni ei ddiweddaru, gan ei fod bellach yn bum mlynedd ers y cynllun diwethaf. Rwy'n cytuno â chi bod angen caniatâd am y tro, fel nad oes gennym ni beiriannau swnllyd amheus ac ail-law yn cael eu gosod. Ond lle gall yr ymgeisydd ddangos eu bod yn gosod peiriant newydd, yn unol â'r lefelau desibel llawer is, yna ni ddylai fod angen gofyn iddyn nhw hefyd gael arolwg sŵn, sydd, fel y dywedais i, yn costio £1,000, sy'n llawer o arian, dim ond i fynd drwy'r hyn sydd eisoes yn arferol i'r rhai sydd eisoes wedi eu gosod, oherwydd efallai fod eraill wedi cael eu hatal rhag gwneud y peth iawn. Felly, ni fyddaf yn pwyso'r gwelliant hwn.

Nid yw Jenny Rathbone yn dymuno pleidlais ar welliant 85. A oes unrhyw Aelod arall yn dymuno cael pleidlais arno?

Byddwn yn cael pleidlais arno.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 85? [Gwrthwynebiad.]

Mae'n cael ei wrthwynebu.

Felly, cawn ni bleidlais ar welliant 85. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, un yn ymatal, 26 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 85 wedi ei wrthod.

Gwelliant 85: O blaid: 25, Yn erbyn: 26, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Y gwelliant nesaf yw gwelliant 84, yn enw Delyth Jewell. A ydy e'n cael ei symud?

Cynigiwyd gwelliant 84 (Delyth Jewell).

Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 84?

Dim gwrthwynebiad i—? [Gwrthwynebiad.]

Mae yna wrthwynebiad i welliant 84. Agor y bleidlais ar welliant 84. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Mae gwelliant 84 wedi ei dderbyn.

Gwelliant 84: O blaid: 38, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 87 (Huw Irranca-Davies).

Ydy, mae e. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 87? Dim gwrthwynebiad i welliant 87, felly mae gwelliant 87 wedi ei dderbyn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynigiwyd gwelliant 68 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, cawn ni bleidlais. Agor y bleidlais ar welliant 68. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 68 wedi ei wrthod.

Gwelliant 68: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 69 (Janet Finch-Saunders).

Ydy. Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais ar welliant 69. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 69 wedi ei wrthod.

18:35

Gwelliant 69: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

A dyna ni, dyna ddiwedd ar y pleidleisio. Rydym wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth Cyfnod 3 o Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a dwi'n datgan bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn. A dyna ddiwedd ar Gyfnod 3 y Bil yma. Diolch yn fawr.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:35.