Y Cyfarfod Llawn

Plenary

08/11/2023

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Prynhawn da a chroeso i'r cyfarfod y prynhawn yma o'r Senedd. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.

Gwariant Cyhoeddus y DU

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU cyn datganiad yr hydref y Canghellor i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael cyfran deg o wariant cyhoeddus y DU? OQ60204

Yn dilyn trafodaethau yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid ym mis Medi, rwyf wedi ysgrifennu at y Canghellor ac wedi cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer Cymru yn natganiad yr hydref. Mae’n hanfodol fod cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ac i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnynt.

Diolch. Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych wedi'i ddweud. Dylai Cymru allu disgwyl cyllid teg ar gyfer ei gwasanaethau cyhoeddus ei hun, ond hefyd ar gyfer ei seilwaith ei hun, a buaswn yn ddiolchgar pe gallech nodi, yn ychwanegol at yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu at Lywodraeth y DU, y rhaglen waith yr ydych yn disgwyl y bydd eich Llywodraeth yn ei chwblhau i sicrhau’r cyllid teg hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol fod fy nghymheiriaid o Blaid Cymru yn San Steffan wedi amlinellu’r angen am Fil ariannu teg i Gymru yn eu Haraith y Brenin amgen. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed a ydych chi'n meddwl y byddai hynny’n angenrheidiol.

Mae’n rhaid asesu’r ffyrdd y mae Cymru wedi cael ei thanariannu'n anghyfiawn, fel gwrthod cyllid sy'n deillio o brosiectau fel HS2, lle mae’n amlwg nad yw fformiwla Barnett wedi gweithio i ni. Mae’n rhaid inni newid y ffordd y caiff Cymru ei hariannu cyhyd ag y byddwn yn parhau i fod yn rhan o'r genedl anghyfartal hon, ac mae hynny’n golygu galwadau cryf ar Lywodraeth y DU. Mae’n golygu camau gweithredu ganddynt, gan y dylai Cymru gael ei hariannu ar sail angen, nid poblogaeth. Felly, a fyddech yn cefnogi’r angen am y Bil hwnnw? Ac a ydych yn cytuno, ni waeth pa liw yw'r Llywodraeth nesaf yn San Steffan, fod dyletswydd arnynt i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru? A sut y credwch y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd y gofynion hynny i'r graddau mwyaf posibl, os gwelwch yn dda?

Diolch yn fawr am eich cwestiynau. Rwy’n siŵr fod gennym lawer o dir cyffredin ar y mater hwn o ran sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg. Mae trefniadau ariannu presennol y DU, a nodir yn y datganiad polisi cyllido, yn cael eu gosod gan Lywodraeth y DU, a hynny heb fawr o ymgynghori ystyrlon â’r Llywodraethau datganoledig, ac yn sicr, ni chytunir arnynt ar y cyd.

Yn 'Diwygio ein Hundeb’ yn 2021 fe wnaethom nodi'r angen am ddull newydd sy'n seiliedig ar egwyddorion o gyllido a gweithredu rhwydweithiau cyllidol y DU, wedi’i ymgorffori mewn cytundeb cyllidol newydd, wedi’i oruchwylio a’i weithredu gan gorff a fyddai’n annibynnol ar Lywodraeth y DU. Fel mater o egwyddor, credwn y dylai dyraniad adnoddau ar draws y DU fod yn seiliedig ar angen cymharol i alluogi pob rhan o’r undeb i ddarparu lefel gyfatebol o wasanaeth cyhoeddus, gan ystyried anghenion cymharol y boblogaeth, a byddai hynny’n cynnwys creu system gyllido newydd sy'n seiliedig ar reolau yn lle fformiwla Barnett, fel rhan o'r broses o greu trefniant cyllidol newydd y cytunir arno ar y cyd gan y pedair gwlad. Felly, rwy’n siŵr fod digon o dir cyffredin rhyngom.

Wrth gwrs, yr hyn rydym wedi'i weld dros y 24 awr ddiwethaf yn Araith gyntaf y Brenin gan Brif Weinidog Ceidwadol y DU, Rishi Sunak, yw arweinyddiaeth feiddgar wrth fynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r DU gyfan yn 2023. A'r cyfan y gall Keir Starmer, y Blaid Lafur yng Nghymru a Phlaid Cymru ei wneud yw parhau i feirniadu o'r cyrion tra bo'r Ceidwadwyr yn cyflawni ac yn bwrw ymlaen â'r gwaith. Ac am bob £1 a werir yn Lloegr, mae Cymru'n cael £1.20. Felly, mae’n syfrdanol gweld Llafur Cymru unwaith eto yn torri’r gyllideb iechyd ac yn gorfodi byrddau iechyd i wneud penderfyniadau anodd pan fyddant eisoes o dan bwysau, ar ôl bron i 25 mlynedd o Lafur yn dinistrio ein GIG. Felly, pa drafodaethau pellach a gwaith cydweithredol y bydd y Gweinidog yn ei wneud gyda Rhif 10, y Trysorlys, Swyddfa Cymru ac adrannau perthnasol eraill o Lywodraeth y DU, i wella rhagolygon Cymru mewn meysydd datganoledig fel y gallwn wella bywydau pobl Cymru yn hytrach na pharhau gyda'r status quo presennol o fethiant a thaflu bai?

Mae gennyf lai yn gyffredin â chyfraniad yr Aelod hwn y prynhawn yma. A hoffwn gywiro'r cofnod, gan y credaf fod y Ceidwadwyr Cymreig ar fai yn camarwain y cyhoedd yng Nghymru wythnos ar ôl wythnos. Nid yw’n wir ein bod wedi torri cyllideb Cymru; buom yn eistedd yma tua wythnos yn ôl yn unig, a chyhoeddais £425 miliwn arall i GIG Cymru o ganlyniad i'r pwysau difrifol y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu yng Nghymru. Bydd y Llywodraeth hon yng Nghymru bob amser yn gweithio i ddiogelu GIG Cymru a gwasanaethau cyhoeddus.

Nawr, os yw Llywodraeth y DU am wneud rhywbeth defnyddiol, mae ganddi gyfle ar yr ail ar hugain o’r mis hwn. Mae ganddi ddigwyddiad cyllidol; mae ganddi ddatganiad yr hydref—cyfle i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Ond nid wyf yn obeithiol. Mae Llywodraeth y DU wedi cael dwsinau o ddigwyddiadau cyllidol dros y 13 mlynedd diwethaf, ac ym mhob un o’r rheini, gallai fod wedi achub ar y cyfle i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n bryd unioni hynny a dechrau buddsoddi fel ein bod yn gallu darparu’r cyllid y mae ei angen yn daer ar y GIG.

13:35
Y Dreth Gyngor

2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y diwygiadau arfaethedig i'r dreth gyngor a fydd yn cael eu cyflwyno yn 2025? OQ60201

Byddaf yn gwneud datganiad i’r Senedd yr wythnos nesaf, ar 14 Tachwedd, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith pwysig i wneud y dreth gyngor yn decach.

Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch o weld y bydd datganiad yr wythnos nesaf. Fel y gwyddoch yn iawn, mae prisiad bron i bob eiddo yng Nghymru yn seiliedig ar brisiau 2003—mae hynny ymhell cyn argyfwng ariannol 2008, Brexit, COVID-19, a hyd yn oed flynyddoedd lawer cyn i’r lle hwn gael ei alw’n ‘Senedd’. Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma unwaith eto am y pwysau enfawr ar gyrff cyhoeddus, ac ers 2010, mae awdurdodau lleol wedi'i chael hi’n anodd iawn oherwydd cyni San Steffan, a nawr, mae’r cyfraddau llog uchel wedi gwaethygu’r argyfwng hwn. Yn ôl dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, erbyn 2027, gallwn ddisgwyl bwlch ariannu o £744 miliwn i awdurdodau lleol, sy’n siŵr o effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae eu hadroddiad yn awgrymu mai un ateb i hyn yw cynnydd o 5 y cant yn y dreth gyngor. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo felly i ddiwygio bandiau'r dreth gyngor cyn gynted â phosibl, i gynorthwyo awdurdodau lleol sy’n ei chael hi’n anodd? Diolch yn fawr.

Fe ddechreuaf drwy ddweud a chydnabod y ffaith ein bod yn gweithio ar brisiadau 2003 ar gyfer eiddo ar hyn o bryd. Ni all hynny fod yn iawn, gweithio ar system sy'n 20 mlwydd oed. Ond wedi dweud hynny, yn Lloegr a'r Alban, maent yn gweithio ar brisiadau sy'n seiliedig ar brisiau 1991, felly rydym wedi dod gam ymhellach, ond credaf mai nawr yw'r amser i ddechrau gwneud cynnydd gwirioneddol o ran gwneud y dreth gyngor yn decach. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i bwysleisio’r pwynt nad nod cyffredinol yr ymarfer yw codi'r un geiniog yn fwy. Gwn fod llawer o bobl yn pryderu gan fod gwerth eu heiddo, fel y mae’r Aelod yn ei nodi, wedi cynyddu dros yr 20 mlynedd diwethaf. Maent yn pryderu bod hynny'n golygu y byddai'r dreth gyngor y byddai disgwyl iddynt ei thalu hefyd yn cynyddu. Nid yw hynny'n wir o reidrwydd—yr hyn sy'n bwysig yw gwerth eich eiddo o gymharu â phob eiddo arall yng Nghymru. Felly, credaf ei bod yn bwysig nodi hynny, a bod yn glir gyda phawb yn y termau hynny.

Un o'r pethau yr ydym yn edrych arnynt, wrth gwrs, ochr yn ochr â'r ailbrisiad newydd, yw ailgynllunio'r bandiau, a'r bwriad yn y ddogfen ymgynghori, y byddaf yn ei lansio'r wythnos nesaf, yw dweud ychydig yn rhagor am sut y gallem fynd ati i ailgynllunio'r bandiau hynny. Rwy'n awyddus iawn i glywed barn yr Aelod, a phob Aelod arall yn y Siambr sydd â diddordeb, am y dulliau gweithredu posibl y byddwn yn eu dangos yr wythnos nesaf. I gyd-fynd â hynny, cawn adroddiad craff iawn gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ac mae hwnnw'n rhoi rhagor o fanylion am y cynigion hynny, gan nodi’r cynnydd posibl i’r dreth gyngor mewn bandiau penodol, neu ostyngiadau mewn bandiau eraill. Mae'n rhoi lliw i'r opsiynau y byddwn yn edrych arnynt, ac mae hefyd yn nodi peth o'r effaith ddosbarthiadol mewn termau daearyddol. Felly, gwn y bydd gan bob un o fy nghyd-Aelodau gryn ddiddordeb yn hynny.

Os caf, hoffwn ddweud 'helo' i ddechrau wrth fy hen ysgol gyfun, Bryn Celynnog, sydd yn yr oriel gyhoeddus ar hyn o bryd. Cyfarfûm â nhw yn gynharach, a hoffwn ddweud 'helo' eto.

Weinidog, hoffwn wybod a fydd eich diwygiadau arfaethedig yn edrych ar y symiau enfawr o arian sy'n segur ar hyn o bryd yng nghyfrifon banc awdurdodau lleol. Fel y gwyddoch, Weinidog, mae gan y tri chyngor yn fy rhanbarth i, Canol De Cymru, bron i £0.5 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn cyfunol y gellir eu defnyddio, ac eto maent o hyd yn honni eu bod yn brin o arian ac yn codi cyfraddau'r dreth gyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn. Weinidog, ni allaf weld sut y mae hyn yn deg ar deuluoedd gweithgar sydd o dan bwysau yn fy rhanbarth. Felly, gyda hyn mewn golwg, pa ymrwymiadau y byddwch yn eu gwneud i ymchwilio i'r agwedd hon ar gyllid awdurdodau lleol wrth edrych ar ddiwygio'r dreth gyngor? Diolch.

Nid wyf yn mynd i gyfuno mater cronfeydd wrth gefn llywodraeth leol â mater diwygio’r dreth gyngor. Credaf y byddai hynny’n beth peryglus i’w wneud, gan y credaf ei bod yn bwysig cadw’r ddau beth ar wahân. Mewn sawl ffordd, mae cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn adlewyrchiad o’r penderfyniadau a wneir gan gynghorau dros nifer o flynyddoedd, a chredaf fod parchu’r ymreolaeth leol honno’n wirioneddol bwysig. Ond mae angen i ni hefyd ystyried cronfeydd wrth gefn mewn perthynas â’r gyllideb gyffredinol ar gyfer llywodraeth leol. Felly, ar lefel Cymru gyfan, ni fyddai lefel y cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu heb eu dyrannu ond yn ddigon i dalu am 10 diwrnod o gostau cynnal llywodraeth leol. Felly, credaf fod angen inni gadw hynny mewn persbectif. Nid yw lefelau cronfeydd wrth gefn yn cael eu hystyried wrth bennu cyllid yn Lloegr ychwaith, ac mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod cronfeydd wrth gefn yn Lloegr wedi cynyddu 50 y cant dros y ddwy flynedd diwethaf. A chredaf fod hynny'n adlewyrchiad o'r ychydig flynyddoedd anarferol yr ydym wedi'u cael.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Llefarydd y Ceidwadwyr nawr i ofyn cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau. Peter Fox. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, dechreuaf drwy adeiladu, efallai, ar y cwestiwn cyntaf a gawsoch heddiw, a sgwrs yma rhwng Rhun ap Iorwerth a’r Prif Weinidog ddoe. Yn 2016, gwyddom fod y Prif Weinidog presennol, y Gweinidog cyllid ar y pryd, wedi llofnodi’r fframwaith cyllidol diwygiedig i Gymru, a oedd yn cynnwys argymhelliad adolygiad Holtham i gynnwys elfen sy'n seiliedig ar anghenion yn fformiwla Barnett ar gyfer setliadau Llywodraeth Cymru o 2018 ymlaen. Fel y clywsom, mae’r fformiwla wedi arwain at Gymru’n cael oddeutu £1.20 am bob £1 a werir ar iechyd ac addysg yn Lloegr, ond mae’r ffactor hwn sy’n seiliedig ar anghenion—rydym yn clywed o hyd nad oes ffactor sy’n seiliedig ar anghenion—yn cydnabod y ffaith y bernir bod mwy o angen cyllid a gwasanaethau cyhoeddus ar bobl Cymru. Mae pob un ohonom yn cytuno. Gyda hyn mewn golwg, a ydych chi, Weinidog, yn cytuno â’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog pan oedd yn eich rôl chi, sef:

'Rydw i’n falch ein bod ni wedi gallu dod i gytundeb am fframwaith cyllidol newydd sy’n rhoi sylfaen tymor hir a sefydlog i’n cyllid ni. Dyma gytundeb sy’n deg i Gymru ac i weddill y DU'?

Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, a chredaf mai un o’r pethau pwysig i’w cydnabod yw bod y cytundeb hwnnw wedi’i wneud yn ôl yn 2016. Ond nid yw’r fframwaith a’r datganiad polisi cyllido wedi esblygu i ateb yr heriau hynny ac i gydnabod yr holl newidiadau sydd wedi digwydd ers y dyddiad hwnnw. A dywedaf hynny oherwydd, pan edrychwch ar gronfa wrth gefn Cymru, er enghraifft, cafodd ei gosod ar £350 miliwn yn ôl yn 2016. Pe bai wedi tyfu yn unol â chwyddiant, byddai wedi cynyddu 17 y cant eleni, a byddai hynny’n rhoi llawer mwy o hyblygrwydd inni reoli ein cyllideb.

A buaswn yn dweud yr un peth hefyd am fenthyca. Felly, nid yw'r arfau sydd gennym wedi tyfu yn unol â chwyddiant a chyda'r newidiadau a welsom. Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth yr Alban newydd gynnal adolygiad o'i chytundeb cyllidol gyda Llywodraeth y DU, ac mae wedi cytuno—mae Llywodraeth y DU wedi cytuno—fod yr Alban bellach yn gallu benthyca yn unol â chwyddiant. Mae'n gallu cynyddu ei chronfa wrth gefn yn unol â chwyddiant. Mae’r rheini’n bethau syml y dylai Llywodraeth y DU eu rhoi i ninnau hefyd, a byddem yn croesawu cefnogaeth drawsbleidiol i’r arfau syml, pragmatig hynny'n fawr.

Wel, diolch am hynny, Weinidog. Mae'n syndod, mewn gwirionedd, fod y Llywodraeth bryd hynny yn gwneud y blaenasesiad hwnnw, gan feddwl bod digon wrth symud ymlaen, ac yn amlwg, bellach, ymddengys bod angen inni adolygu hynny eto, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhywbeth y byddwch yn bwrw ymlaen ag ef, felly, os yw hynny'n wir.

Ond Weinidog, rwyf wedi codi fy mhryderon dro ar ôl tro ynghylch methiant Llywodraethau Cymru olynol i ariannu ein GIG yn llawn yma yng Nghymru yn ôl ei angen. I mi, mae'n rhyfedd, felly, y cydnabyddir bod sylfaen anghenion uwch ar gyfer cyllid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, ond nid yw blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu hyn. Pe baech wedi gwario hyd yn oed ffracsiwn yn fwy o’r cyllid a ddarperir i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar asesiad sy'n seiliedig ar anghenion, byddai gennym wasanaeth iechyd llawer mwy cydnerth, na fyddai’n wynebu diffyg o £800 miliwn, er eich bod wedi lleihau'r diffyg hwnnw oddeutu £425 miliwn. Wrth symud ymlaen, wrth ichi gynllunio eich cyllideb nesaf, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gynyddu gwariant yn raddol i adlewyrchu anghenion pobl Cymru?

Buaswn yn awyddus iawn i Lywodraeth Geidwadol y DU ateb y cwestiwn hwnnw drwy gynyddu’r cyllid i Gymru yn natganiad yr hydref ar yr ail ar hugain o’r mis hwn, oherwydd, yn y pen draw, dim ond swm cyfyngedig o arian sydd ar gael i ni allu diwallu’r holl anghenion hynny. Ac rydym wedi gweld, yn y gwasanaeth iechyd, fod y galw'n cynyddu'n barhaus. Rydym yn gweld effaith chwyddiant yng ngwasanaeth y GIG, yn enwedig ar gyflogau. Rydym wedi cael llawer o drafodaethau yn y Siambr hon ynghylch pa mor bwysig yw parchu gweithwyr ein sector cyhoeddus, a sicrhau hefyd eu bod yn cael setliadau cyflog teilwng. Ond mae'n rhaid inni dalu am hynny oll nawr. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r cyllid sy'n mynd i'r GIG yn mynd ar gyflogau, felly mae hyd yn oed cynnydd o 1 y cant yn achosi pwysau enfawr, ac rydym yn amlwg wedi gweld codiadau llawer uwch na hynny. Felly, nawr yw’r adeg inni ganolbwyntio ar sut yr awn ati i dalu am hynny. Dyna un o'r rhesymau pam y gwnaethom y gwaith trawslywodraethol i ailddyrannu cyllid i'r GIG—£425 miliwn ychwanegol. Mae’r galw yn y GIG yn cynyddu’n barhaus. Ni chredaf ei bod yn deg gwneud cymhariaeth uniongyrchol ar draws y ffin â Lloegr, yn rhannol am ein bod yn mesur pethau'n wahanol yma yng Nghymru ac mae gennym ddull llawer mwy cydgysylltiedig ac integredig—lle bo modd—o weithredu iechyd a gofal cymdeithasol.

13:45

Wel, diolch am hynny. Ond yn amlwg, roedd yr elfennau o'r fformiwla a oedd yn seiliedig ar anghenion yn galluogi arian—mwy o arian—i gael ei fuddsoddi yn y meysydd hynny, sydd bellach yn ddiffygiol, a daw'r cyfan—. Mae llywodraethu yn golygu gwneud dewisiadau a blaenoriaethu, ac yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon dod o hyd i arian i dalu am rai pethau ar draul eraill.

Mae'n rhaid imi sôn am y pryderon ynghylch cost parthau 20 mya ac nad yw'n ddewis y bobl. Dywedodd 460,000 o bobl hynny wrthych. Boed eich bod yn cytuno â’r polisi ai peidio, erys y ffaith y bydd gan y polisi hwn ôl-effeithiau ariannol dwys a hirdymor. Mae llawer o gynghorau, bellach—gwyddom eu bod eisoes yn gwneud hyn—yn bwriadu dadwneud y terfyn cyflymder diofyn hwn ar lawer o rannau o'u ffyrdd, ond bydd hyn yn costio miliynau o bunnoedd. Felly, gyda hyn mewn golwg, Weinidog, a chan gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r cynghorau yn y sefyllfaoedd hyn, pwy fydd yn talu'r bil ar gyfer newid ffyrdd 20 mya penodol yn ôl i 30 mya? Ai'r awdurdodau lleol? Ac os felly, pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gynghorau i wneud y newidiadau hyn?

Wel, y peth y buaswn yn cytuno â chi yn ei gylch yw y bydd effeithiau ariannol hirdymor, a byddwn yn gweld yr effeithiau hynny yn y £93 miliwn y flwyddyn y bydd y GIG yn ei arbed yn ymdrin â chanlyniadau ofnadwy damweiniau ceir. Felly, byddwn yn parhau i weld manteision y polisi hwn: £93 miliwn yn mynd yn ôl i'r GIG bob blwyddyn o ganlyniad. Ac rydym newydd glywed y cwestiynau cychwynnol gan lefarydd yr wrthblaid—pob un yn ymwneud ag arian yn mynd yn ôl i mewn i'r GIG. Wel, dyma bolisi sy'n rhoi arian yn ôl i'r GIG.

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau heddiw gyda’r diweddariad diweddar ar ailaddasiadau cyllidebol y Llywodraeth. Cawsom ein hysbysu i ddechrau am y bwlch o £900 miliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn ôl ym mis Awst, a bod y mater hwnnw wedi’i drafod mewn cyfarfod Cabinet ar ddechrau’r mis hwnnw. Roedd y datganiad a oedd yn mynd gyda hynny yn nodi hefyd y byddai'r Cabinet yn gweithio drwy gydol yr haf i liniaru'r pwysau cyllidebol hwn. O ystyried maint honedig y diffyg, buaswn wedi tybio y byddai hyn wedi golygu trafodaethau rheolaidd ar y mater ym mhob un o gyfarfodydd dilynol y Cabinet.

Roedd yn dipyn o syndod, felly, fel y cadarnhawyd gan gais rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar, na chafodd mater pwysau cyllidebol ei drafod eto tan gyfarfod y Cabinet ar 11 Medi, ac yna ar 18 Medi. O ystyried natur ddigynsail yr her ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru, yn ogystal â goblygiadau trawsbynciol addasiadau cyllidebol canol-blwyddyn i bob portffolio, buaswn wedi disgwyl rhywfaint o ymdrech i drefnu penderfyniadau Cabinet mwy rheolaidd yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ogystal, ni fu unrhyw drafodaethau Cabinet pellach ar y mater rhwng 18 Medi a chyhoeddiad y Senedd ar 17 Hydref, sy’n rhoi’r argraff nad oedd yn flaenoriaeth go iawn ar agenda’r Cabinet yn ystod mis cyntaf y tymor newydd ychwaith.

Roedd hyn mewn cyferbyniad llwyr â’r brys a’r panig yn y sector cyhoeddus, lle cododd uwch staff pryderus y posibilrwydd gwirioneddol o doriadau yn ystod y flwyddyn gyda mi ar ôl i’r cyhoeddiad gael ei wneud i’r wasg. A allech gadarnhau, felly, sawl gwaith y cyfarfu’r Cabinet rhwng 1 Awst a 17 Hydref, a pham mai dim ond ar dri achlysur gwahanol y trafodwyd mater pwysau cyllidebol?

Credaf ichi ateb y cwestiwn hwnnw yn eich cwestiwn, yn yr ystyr ichi gyfeirio at y Cabinet yn gwneud penderfyniadau a’r Cabinet yn trafod gyda’r bwriad o wneud penderfyniadau. Wel, dyna ddiben y Cabinet. Mae cymaint o gyfarfodydd eraill yn cael eu cynnal y tu allan i'r cyfarfodydd Cabinet hynny. Rwy’n cael cyfarfodydd dwyochrog yn rheolaidd gyda fy nghyd-Aelodau, ac yn arbennig felly gyda’r rhai sydd â’r meysydd gwariant mwyaf. Felly, rwy’n cyfarfod yn rheolaidd iawn â’r Gweinidog iechyd, er enghraifft, y Gweinidog Newid Hinsawdd, i drafod y pwysau a’r cyfleoedd ac ati o fewn eu portffolios penodol.

Rwyf hefyd wedi dweud yn gwbl glir wrth bawb ein bod yn gwybod, hyd yn oed wrth fynd i mewn i’r flwyddyn ariannol hon, fod pethau’n mynd i fod yn anodd o ran rheoli a mantoli’r gyllideb oherwydd effaith chwyddiant, a chefais drafodaethau cynnar â swyddogion. Rydym wedi bod yn monitro’r sefyllfa'n ofalus iawn wrth inni fynd drwy’r flwyddyn ariannol, ac yna, fe wnaethom benderfynu mai dyma'r adeg pan fo angen inni gymryd camau gweithredol ar y cyd. Ond nid yw'r ffaith nad ydym yn trafod y pethau hynny mewn cyfarfod Cabinet yn golygu nad oes llawer iawn o waith yn mynd rhagddo y tu allan i'r cyfarfodydd hynny. A dyna ddiben y cyfarfodydd Cabinet hynny, trafod a phenderfynu, tra bo'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar bortffolios unigol yn mynd drwy eu holl gyllidebau, yn chwilio am feysydd lle gallant ryddhau cyllid, yn ddelfrydol yn y lle cyntaf am eu bod yn dod o hyd i danwariant, ond fel arall, y weithred syml o ailflaenoriaethu, mae'r holl waith hwnnw'n ddwys iawn. Mae'n mynd rhagddo. Bydd Gweinidogion unigol yn cyfarfod ac yn cael trafodaethau manwl gyda'u swyddogion hefyd. Felly, nid wyf am roi'r argraff i'r gwaith hwn gael ei gwblhau mewn ychydig sgyrsiau; roedd yn waith enfawr, a oedd yn cynnwys llawer o bobl a thros gyfnod hir o amser.

13:50

Diolch am yr ateb yna ac am roi syniad i ni o beth sy'n digwydd. 

Hoffwn archwilio mewn mwy o fanylder amseriad y cyhoeddiad, a wnaed ychydig cyn yr Eisteddfod eleni. Roedd hynny lai na deufis ar ôl cyhoeddi’r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2023-24. Rwy’n ei chael hi'n anodd deall beth a newidiodd rhwng y gyllideb atodol gyntaf a’r cyhoeddiad hwnnw ar ddechrau mis Awst. Mae'n destun pryder fod y Llywodraeth wedi aros tan hynny, ac efallai nad oeddent wedi disgwyl twll du mor fawr yn y gyllideb. Mae'r camgyfrifiad hwnnw'n codi rhai cwestiynau am yr wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd am y gyllideb. Gyda hynny mewn golwg, a allwch ddatgan yn ddiamod na fydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru a’r GIG, cyfanswm o £550 miliwn, sy'n ffigur sylweddol, yn cael ei gynnwys yng nghyllideb sylfaenol y flwyddyn nesaf o ganlyniad i gamgyfrifiadau? Ac os yw’n mynd i fod yn rhywbeth rheolaidd, a fydd yn achosi rhagor o broblemau cyllidebol a phroblemau cyfrifyddu i’r Llywodraeth?

Ac o edrych ar y sefyllfa net yn y ddogfennaeth, mae'n dweud eich bod wedi dod o hyd i £409 miliwn ychwanegol. Felly, os oedd bwlch o £900 miliwn a'ch bod wedi gallu dod o hyd i £409 miliwn ychwanegol i'w roi i'r GIG ac i Trafnidiaeth Cymru, a yw hynny'n golygu bod bwlch o £1.3 biliwn bellach?

Diolch am eich cwestiynau. Dim ond i gadarnhau—credaf ichi awgrymu nad oeddem wedi disgwyl hyn, ond nid yw hynny'n wir o gwbl; roeddem wedi gweld hyn yn dod drwy'r ffaith bod pwysau difrifol ar y gyllideb cyn i ni hyd yn oed ddechrau'r flwyddyn ariannol hon. Felly, credaf ei bod yn bwysig cydnabod hynny. A chydnabod hefyd pa mor gynnar yn y flwyddyn ariannol y gwnaethom ddechrau cymryd camau gweithredu, gan ein bod yn cydnabod nad oedd maint yr her yn rhywbeth y gallem ymdrin ag ef drwy ein prosesau arferol ar gyfer rheoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn. Roeddem yn gwybod bod yn rhaid inni gymryd rhai camau cadarnhaol i fynd i’r afael â'r mater. A dyna'r gwaith, felly, yr oeddem yn bwriadu ei wneud dros yr haf ac yr ydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr yn ei gylch.

Mae’n bwysig cydnabod hefyd mai ciplun yw hwnnw. Felly, mae'n giplun o ble roeddem arni o fewn y flwyddyn ariannol, ond roeddem yn gwybod, gan fod y newidiadau mor sylweddol, mai'r peth iawn i’w wneud oedd dod â hynny gerbron y Senedd, ac edrychaf ymlaen hefyd at ddod gerbron y pwyllgor craffu mewn perthynas â hynny hefyd. Ond rwy'n credu'n wirioneddol inni weithredu'n dryloyw ac yn gynnar, a gwn fod hon yn broblem sy'n effeithio ar Lywodraethau eraill yn y DU, ac y byddant yn ymdrin â hi yn eu ffyrdd eu hunain hefyd. Ond credaf fod y tryloywder yr ydym wedi'i gyflwyno i hyn a'r ffordd yr ydym wedi gweithredu'n gynnar o fantais i ni mewn gwirionedd.

Cyd-bwyllgorau Corfforedig

3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynnydd yng ngwaith cyd-bwyllgorau corfforedig mewn llywodraeth leol? OQ60195

Rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar i bartneriaid yn yr awdurdodau lleol am eu gwaith a’u cynnydd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio’n agos gyda chyd-bwyllgorau corfforedig i gefnogi eu gweithrediad parhaus, mewn perthynas â’u dyletswyddau cynllunio statudol a'u pŵer llesiant economaidd.

Diolch, Weinidog. Credaf fod dwy flynedd a hanner wedi bod bellach ers sefydlu'r cyd-bwyllgorau corfforedig, ac yn amlwg, lle maent yn gweithio gyda’i gilydd, awdurdodau lleol o fewn y cyd-bwyllgorau corfforedig, os yw pethau’n gweithio fel y dylent, byddant yn ychwanegu gwerth at ba faes gweithgarwch bynnag sy'n berthnasol i'r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw. A thybed, Weinidog, beth yw eich asesiad o ba mor dda y mae cyd-bwyllgor corfforedig de-ddwyrain Cymru yn gweithio mewn perthynas â materion datblygu economaidd, ac i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyd-bwyllgorau corfforedig a'r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw ar roi'r polisi a'r strategaeth economaidd honno ar waith yn effeithiol. A yw'n ychwanegu gwerth mewn gwirionedd ar draws yr ardal?

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Mae fy rôl i mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig yn ymwneud â sefydlu a llywodraethu cyd-bwyllgorau corfforedig, ond wrth gwrs, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelodau sydd â'r diddordebau portffolio hynny. Cyfarfu'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Gweinidog yr Economi, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a minnau â chadeiryddion y cyd-bwyllgorau corfforedig yn gynharach eleni i drafod eu swyddogaethau cynllunio, economaidd a thrafnidiaeth.

Yn ddiweddar, gwn fod Gweinidog yr Economi wedi nodi'r cynnydd a wnaed er mwyn cael datblygiad economaidd cryfach ledled Cymru. Wrth wneud hynny, soniodd am gefnogaeth i'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Dywedodd ei fod yn croesawu ymarfer codi a symud cyd-bwyllgor corfforedig de-ddwyrain Cymru i ddod â threfniadau llywodraethu bargen twf prifddinas-ranbarth Caerdydd ochr yn ochr â'r cynlluniau strategol eraill ar gyfer y rhanbarth, ac mae hynny i'w weld yn beth synhwyrol iawn i’w wneud.

Gwn iddo siarad hefyd yn y Siambr ddoe am waith Llywodraeth Cymru ar barthau buddsoddi. Unwaith eto, credaf fod hwnnw’n faes lle roedd yn cydnabod gwaith da'r cyd-bwyllgorau corfforedig a chyfleoedd yno i reoli’r mathau hynny o ryngddibyniaethau rhwng rhaglenni buddsoddi economaidd a sicrhau bod y parthau buddsoddi hynny’n cyflawni ar gyfer y cymunedau hynny. Felly, credaf ei bod yn ddyddiau cynnar iawn o hyd, ond rwy'n credu y gallwn fod yn falch o’r cynnydd.

13:55

Weinidog, mae’r cyd-bwyllgorau corfforedig yn cefnogi ac yn annog mwy o gydweithio rhwng awdurdodau lleol. Hyd yn hyn, prin yw’r dystiolaeth o hynny, yn enwedig o ran hyrwyddo llesiant economaidd eu hardal. Ar draws fy rhanbarth, sydd wedi’i rannu ar draws dau gyd-bwyllgor corfforedig, ychydig iawn o gynnydd a wnaed. Weinidog, a oes arnom angen yr ymglymiad ychwanegol hwn gan lywodraeth leol, nad yw’n gwneud fawr mwy na dyblygu swyddogaethau a gwanhau atebolrwydd democrataidd?

Wel, buaswn yn anghytuno ei fod yn dyblygu swyddogaethau. Yn hytrach, mae'n rhoi'r swyddogaethau hynny mewn strwythur a fframwaith lle mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu defnyddio orau. Credaf ei bod yn bwysig rhoi’r gallu i awdurdodau lleol weithio ar draws ffiniau’r awdurdodau lleol hynny er budd eu cymunedau. Mae'n ymddangos yn amlwg i mi fod defnydd tir a thrafnidiaeth a datblygu economaidd yn dair swyddogaeth wirioneddol bwysig lle maent, efallai, yn cael eu cyflawni orau ar yr ôl troed mwy rhanbarthol hwnnw er mwyn caniatáu i awdurdodau gydweithio a datblygu'r weledigaeth honno a rennir ar gyfer y dyfodol.

Credaf fod y sylwadau a grybwyllais mewn perthynas â’r cwestiwn a ofynnwyd gan John Griffiths, pan siaradais am yr hyn y mae Gweinidog yr Economi wedi bod yn ei ddweud yn ddiweddar, yn dangos bod gwerth gwirioneddol i gyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’n dal i fod yn ddyddiau cynnar iawn, mewn gwirionedd—mae'n rhaid imi bwysleisio hynny. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, mae’n rhaid imi ddweud, i sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu trin ar yr un statws TAW ag awdurdodau lleol, er enghraifft. Roedd hynny’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth, ac mae wedi gwneud hynny. Felly, unwaith eto, credaf fod hynny’n rhoi mwy o hyder i gyd-bwyllgorau corfforedig nawr i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Datganoli Pellach i Awdurdodau Lleol a Chyrff Rhanbarthol

5. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer datganoli pellach o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol a chyrff rhanbarthol? OQ60185

Mae Llywodraeth Cymru yn credu yn egwyddor sybsidiaredd, y dylid dyrannu cyfrifoldebau’r Llywodraeth i’r lefel fwyaf lleol y gellir eu cyflawni’n effeithiol ac yn effeithlon. Bydd y Gweinidogion portffolio perthnasol bob amser, felly, yn ystyried unrhyw gynigion gan lywodraeth leol ar gyfer datganoli pwerau i gyd-bwyllgorau corfforedig neu i awdurdodau lleol.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy'n sicr yn cytuno â chi mai gorau po agosaf yw pŵer at y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau hynny. Yn ddiddorol, ddoe, roeddwn mewn digwyddiad yn sôn am asedau cymunedol a’r potensial, efallai, i gynghorau tref a chymuned gymryd mwy o ran yn y broses o gaffael rhai o’r asedau cymunedol hynny. Gwn fod hynny’n rhywbeth y byddech chi'n debygol o’i gefnogi hefyd.

Hoffwn sôn am bwynt a wnaethoch mewn ymateb i John Griffiths yn gynharach am y cyd-bwyllgorau corfforedig, a’r cyhoeddiad ddoe gan Weinidog yr Economi ar y ddau barth buddsoddi a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Fel y dywedoch chi, ymddengys mai’r farn bresennol yw mai’r cyd-bwyllgorau corfforedig fyddai’r fforwm mwyaf tebygol i’r llywodraethu hwnnw allu digwydd ynddo.

Efallai nad yw bob amser yn gwneud synnwyr i’r parthau buddsoddi hynny gael eu llywodraethu o fewn y cyd-bwyllgorau corfforedig. Yn fwyaf arbennig, ar hyn o bryd, mewn cyd-bwyllgorau corfforedig, arweinwyr yr awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am yr hawliau pleidleisio yno. Mae cyfranogiad busnes yn weddol gyfyngedig. Felly, tybed a fyddech yn agored i edrych ar drefniadau llywodraethu â ffocws amgen ar gyfer parthau buddsoddi, efallai yn unol â'r strwythurau porthladdoedd rhydd sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru hefyd, i sicrhau y ceir ffocws gwirioneddol o'r ochr fusnes hefyd ar gyfer y parthau buddsoddi hynny, fel ein bod yn gweld y canlyniadau gorau posibl. A yw hynny'n rhywbeth y byddech yn agored i'w drafod?

14:00

Credaf fod hwnnw'n gwestiwn i fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, a fydd yn gwneud y dewisiadau hynny, ond rwy'n fwy na pharod i gyflwyno'r achos hwnnw ar eich rhan yn y trafodaethau y byddaf yn eu cael gydag ef.

Dylwn sôn hefyd am y gwaith y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei wneud gyda Llywodraeth Cymru, a hefyd gyda'r rhanbarthau a'r partneriaid cyflawni, i helpu i wella'r gwaith o lywodraethu datblygiad rhanbarthol a buddsoddiad cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys drwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd y gwaith hwnnw'n cael ei gefnogi gan gynlluniau gweithredu i helpu cyd-bwyllgorau corfforedig ac awdurdodau lleol i gyflawni eu nodau, felly credaf y bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud i gefnogi a chryfhau'r llywodraethu yn y cyrff hynny yn bwysig iawn, ac rwy'n credu y bydd y gwaith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn addysgiadol iawn o ran sut i sicrhau'r llywodraethu gorau i gyrff wrth symud ymlaen.

Cymorth Ariannol i Lywodraeth Leol

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch cymorth ariannol i lywodraeth leol? OQ60180

Rwy'n trafod cefnogaeth i lywodraeth leol gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet yn rheolaidd, yn fwyaf diweddar fel rhan o'r gwaith o ailflaenoriaethu'r gyllideb yn ystod y flwyddyn ac fel rhan o'r gwaith ar gyllideb Cymru ar gyfer 2024-25.

Mae'n dda clywed hynny. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog barhau â'r sgwrs honno, oherwydd nid oes amheuaeth na all yr un ohonom yn y Siambr hon anwybyddu'r ffaith bod y 10, 12, 13 mlynedd diwethaf wedi dihysbyddu agweddau ar lywodraeth leol. Ac mae'n ymwneud â mwy na thyllau yn y ffyrdd a'r llwybrau neu'r buddsoddiadau canol y dref; mae'n ymwneud â gwasanaethau hanfodol fel gwasanaethau plant, gwasanaethau cymdeithasol, y gallu i fuddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid ac mewn cymunedau sydd dan anfantais go iawn. Felly, a gaf fi ofyn am sicrwydd ganddi, wrth inni wynebu cylch cyllideb arall a phenderfyniadau anodd iawn, y bydd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid llywodraeth leol ledled Cymru gyfan, ym mhob rhan o Gymru, yn ceisio sicrhau bod buddsoddiad yn mynd i'r gwasanaethau hynny hyd yn oed mewn cyfnod anodd? Yn aml, dyna'r gwasanaethau nad oes llawer o bobl yn eu gweld, ond dyna'r gwasanaethau sy'n dal ein cymunedau at ei gilydd, felly byddai unrhyw beth y gall y Gweinidog ei wneud, ar y cyd â chyd-Aelodau yn y Cabinet, i barhau'r buddsoddiad hwnnw yn cael ei groesawu'n fawr ac yn achubiaeth i bobl yn fy nghymunedau.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Yn amlwg, mae diogelu gwasanaethau cyhoeddus bob amser wrth wraidd popeth y ceisiwn ei wneud, ac yn arbennig felly drwy ein dewisiadau cyllidebol. Fodd bynnag, credaf fod ffyrdd eraill y gallwn helpu awdurdodau lleol hefyd, ac un o'r rheini yw drwy leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. Pan wnaethom waith yn gofyn i drysoryddion ac eraill beth y teimlent oedd y prif feichiau, roedd yr holl ymatebion yn ymwneud â grantiau, wrth gwrs, ac efallai'r ffaith bod angen gormod o wybodaeth o bosibl wrth fonitro grantiau—yn ormodol felly, roeddent yn teimlo, o ran rhai grantiau. Ac yna fe welsant gyfleoedd i gyfuno grantiau eraill. Efallai fod nifer o grantiau yn ymdrin â'r un mater—mynd i'r afael â thlodi, dyweder, er enghraifft—felly byddent yn gofyn i ni wedyn, 'A oes yna ffyrdd y gallwch uno rhai o'r grantiau hynny?' Felly, mae hwn yn waith rydym wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar. Y bwriad, yn y gyllideb ddrafft, yw darparu manylion am y grantiau hynny fel y byddem yn ei wneud fel arfer, oherwydd rwyf eisiau bod yn dryloyw gyda llywodraeth leol, ond yna yn y gyllideb derfynol, drwy is-grŵp cyllid y cyngor partneriaeth gobeithio, y bwriad yw ceisio dod i drefniant lle gallwn roi rhai o'r grantiau unigol hynny yn y grant cynnal refeniw, neu, mewn achosion eraill, uno rhai grantiau i greu grant mwy. Felly, er nad yw hynny'n golygu mwy o arian i awdurdodau lleol, bydd yn sicr yn caniatáu iddynt ystyried ffyrdd o fod yn fwy effeithlon gyda'r arian sydd ganddynt.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—dan arweiniad y Blaid Lafur—yn parhau i gynyddu'r dreth gyngor, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Maent yn dweud mai diffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru yw eu rheswm dros wneud hynny. Ond roeddwn eisiau canolbwyntio'n benodol ar ein cynghorau tref a chymuned, oherwydd yn aml, nhw yw'r rhan gudd, os mynnwch, o fil y dreth gyngor a gyflwynir bob blwyddyn. Roeddwn eisiau tynnu sylw at Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr sy'n cael ei arwain yn annibynnol ac sy'n codi £106.20 y flwyddyn, yr uchaf, neu un o'r rhai uchaf, yng Nghymru. Yn y cyfamser, nid yw cyngor cymuned cyfagos Bracla ond yn codi £42. Ac rwyf am ddatgan diddordeb mewn perthynas â'r datganiad diwethaf hwnnw, Lywydd, oherwydd roeddwn yn arfer arwain Cyngor Cymuned Bracla. Roeddem yn rhewi'r dreth gyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn. O'ch asesiad chi, Weinidog, ac o weithio gyda llywodraeth leol, a ydych chi'n credu ei bod hi'n deg fod cynghorau, ac yn enwedig cynghorau tref a chymuned, yn parhau i dalu am ddiffygion yn eu cyllidebau drwy eu trosglwyddo i dalwyr y dreth gyngor?

Mae honno'n ffordd ryfedd iawn o edrych ar sut rydym yn ariannu llywodraeth leol yma yng Nghymru. Rydym yn ariannu llywodraeth leol yma yng Nghymru drwy'r grant cynnal refeniw a thrwy grantiau penodol, ac yna mae awdurdodau lleol hefyd yn codi treth gyngor. Mae'n rhan o'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn atebol i'w cymunedau lleol. Mae hynny'n digwydd drwy'r dreth gyngor, ac mae'n cysylltu pobl â'u gwasanaethau lleol, a byddwn yn siarad mwy am hynny yr wythnos nesaf pan fyddwn yn sôn am wneud y dreth gyngor yn decach. Rwyf am ddweud mai mater i'r awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned yw penderfynu faint o dreth gyngor i'w chodi. Ni fydd Llywodraeth Cymru ond yn camu i mewn os credwn fod y cynnydd yn amlwg yn ormodol. Rwy'n credu bod gosod y dreth gyngor yn lleol yn rhan bwysig o ddemocratiaeth leol, ac ni fyddem ond yn ystyried arfer pwerau mewn amgylchiadau mwy eithafol.

14:05
Llifogydd

7. Pa ddyraniadau ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu gwneud i'r portffolio newid hinsawdd i gynorthwyo awdurdodau lleol i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd? OQ60188

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi £75 miliwn fel rhan o'n rhaglen llifogydd ar gyfer 2023-24, gyda £5.25 miliwn o gyllid refeniw ar gael i awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £12 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni gwaith adeiladu, y gall awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau ar ei gyfer.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Bydd y Gweinidog yn gwybod bod cymunedau yn Alun a Glannau Dyfrdwy wedi dioddef llifogydd yn ystod storm Babet ychydig wythnosau yn ôl. Dyma'r ail dro i rai perchnogion tai gael eu heffeithio yn ystod y tair blynedd diwethaf. Rwy'n deall o'r hyn rydych newydd ei ddweud, Weinidog, fod cymorth Llywodraeth Cymru ar gael ac yn cael ei ddyrannu drwy geisiadau cyllido gan awdurdodau lleol fel yr awdurdod rheoli risg. Mae hyn yn golygu bod gan gynghorwyr lleol rôl allweddol yn dadlau dros geisiadau am gyllid. A wnewch chi ddefnyddio'ch swyddfa i weithio gyda Chyngor Sir y Fflint i sicrhau bod y cymorth mwyaf posibl yn cael ei geisio a'i ddarparu?

Buaswn bob amser yn annog awdurdodau lleol i wneud cais am unrhyw un o'n cynlluniau llifogydd os ydynt yn credu y byddai o fudd i'w cymunedau. Ac yna, wrth gwrs, mae gennym y cynllun cymorth ariannol brys, sydd ar gael i awdurdodau lleol pe baent yn profi argyfwng sydd y tu hwnt i'r hyn y byddai disgwyl iddynt ymateb iddo fel arfer. Felly, unwaith eto, hoffwn atgoffa cyd-Aelodau o hynny.

Ac yna, ar gyfer aelwydydd unigol, wrth gwrs, mae gennym ein cronfa cymorth dewisol o hyd. Felly, efallai fod pobl yn gymwys i gael taliad cymorth mewn argyfwng i helpu i dalu costau hanfodol os ydynt wedi cael eu heffeithio gan ddigwyddiad fel llifogydd  ac os ydynt yn profi caledi ariannol difrifol.

Er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cymorth i helpu cymunedau yn Lloegr i adfer yn dilyn storm Babet, sy'n cynnwys hyd at £500 ar gyfer aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd ar gyfer costau uniongyrchol a hyd at £5,000 i wneud eu cartrefi'n fwy gwydn, gyda chyllid o'r cyllidebau presennol, y derbyniodd Llywodraeth Cymru gyllid canlyniadol ohono ar y pryd hefyd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi unrhyw gyllid ychwanegol i Gymru. Ac fel y gwyddoch, Weinidog, mae gwahaniaeth rhwng cyllidebau adrannol ac arian newydd o'r Trysorlys.

Wrth ymateb yng nghyfarfod cyhoeddus llifogydd Brychdyn, lle roedd Jack Sargeant hefyd yn bresennol, 11 diwrnod yn ôl, dywedodd swyddog o Gyngor Sir y Fflint y byddent yn cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun lliniaru llifogydd yn yr Wyddgrug yn dilyn astudiaeth yn 2017 a gwaith modiwlaidd dilynol ar hyn o fewn y cyngor, ac ar gyfer gwaith a nodwyd gan ymchwiliad llifogydd adran 19 y maent bellach yn ei lansio gydag asiantaethau eraill ar ôl i eiddo ym Mrychdyn a Bretton ddioddef llifogydd eto. Unwaith eto, addawodd Jack a minnau godi hyn gyda chi. Felly, o ystyried yr adnoddau sydd gennych ar gael, pa obaith sydd gan geisiadau o'r fath o lwyddo, os cânt eu drafftio a'u paratoi'n briodol, a bod tystiolaeth briodol i gyd-fynd â nhw?

Credaf fod hwnnw'n gwestiwn mwy priodol i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â'r cyllid ar gyfer llifogydd yn ei phortffolio. Ond gallaf ddweud ein bod yn darparu £34 miliwn o gyllid cyfalaf i'n hawdurdodau rheoli risg yn ystod y flwyddyn ariannol hon fel rhan o'n hymrwymiad i gynnal buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Ac fel rhan o'n setliad aml-flwyddyn yn 2021, fe wnaethom gytuno ar gyllideb gyfalaf tair blynedd, cyfanswm o £102 miliwn, ac mae hynny'n ein galluogi i gynllunio ein buddsoddiad yn well ar draws y tair blynedd ariannol hynny i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl. Ond mae'n debyg na ddylwn wneud sylw ar rinweddau cynlluniau unigol oherwydd rwy'n gwybod y byddant yn mynd drwy'r broses ymgeisio briodol.

Gwasanaeth Fflecsi Bwcabus

8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i gadw rhaglenni fel gwasanaeth Fflecsi Bwcabus? OQ60199

Cyflwynwyd gwasanaeth Fflecsi Bwcabus fel menter a ariannwyd gan Ewrop. Yn anffodus, gan nad yw Llywodraeth y DU wedi cynnal ei hymrwymiad i sicrhau arian yn lle'r cyllid hwn, a chan fod cyllidebau'n parhau i fod dan bwysau, ni fyddwn yn gallu cefnogi nifer o fentrau a gâi eu cefnogi'n flaenorol drwy gyllid yr UE.

14:10

Fel y byddwch yn ymwybodol, Weinidog, mae sefyllfa Fflecsi Bwcabus wedi codi yn y Siambr yma gan sawl Aelod—gan Cefin Campbell yn fwyaf diweddar—a'r ymateb dŷn ni wedi'i gael gan y Dirprwy Weinidog hyd yma yw ei fod e'n cydnabod pa mor bwysig yw'r gwasanaeth, ei fod e am ei gadw fe, ond nad oes gyda fe'r arian i wneud ar hyn o bryd. Dywedodd e efallai mai un opsiwn byddai i awdurdodau lleol i ddod o hyd i'r cyllid. Yn gwisgo'ch het arall, Weinidog, wrth gwrs, mi fyddwch chi'n gwybod pa mor heriol yw'r sefyllfa gyllidol gyda llywodraeth leol ar hyn o bryd. Hynny yw, dim ond yr wythnos yma roedd Cyngor Sir Gaerfyrddin yn dweud bod gyda nhw £120 miliwn yn llai mewn termau real o gymharu gyda 10 mlynedd yn ôl. Oni ddylid, efallai, cydnabod mai cyfrifoldeb cenedlaethol yw hyn oherwydd pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus ac ymlyniad y Llywodraeth i fuddsoddi mewn trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig? Pe bai yna gynnig yn dod yn sgil y trafodaethau sy'n mynd ymlaen rhwng y Dirprwy Weinidog, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol a'r awdurdodau lleol, a fyddai'r Gweinidog yn fodlon ailedrych ar y sefyllfa i weld os gallwn ni ffeindio datrysiad?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Nid wyf eisiau camarwain cyd-Aelodau i feddwl bod yna unrhyw gyllid ar gael yn ganolog o fewn Llywodraeth Cymru nawr i allu darparu cyllid ar gyfer pethau newydd—rwy'n derbyn bod hyn yn ymwneud â pharhad menter—nad ydym yn bwriadu eu hariannu ar hyn o bryd. Rwy'n dweud hynny oherwydd ein bod eisoes wedi siarad am y bwlch sydd gennym yng nghyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i chwyddiant, a'r gwaith eithriadol y bu'n rhaid i ni ei wneud i geisio darparu cyllid ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau rheilffyrdd ac yna hefyd i'r GIG. Hyd yn oed gyda'r holl waith a ddisgrifiais yn flaenorol, mae yna risgiau o hyd. Felly, nid ydym yn gwybod eto faint o gyllid ychwanegol y byddwn yn ei gael gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyflogau'r GIG. Fe wnaethom rai rhagamcanion yn y gwaith a wnaethom i geisio cau'r bwlch o £900 miliwn, ond mae'n parhau i fod yn risg. Rwy'n credu bod risg hefyd ynghlwm wrth allu byrddau iechyd i gyflawni'r hyn yr ydym wedi gofyn iddynt ei gyflawni; rydym wedi gofyn iddynt wneud pethau anodd iawn yn ariannol, er gwaethaf y cyllid cyffredinol ychwanegol sy'n mynd i'r GIG. Ac wrth gwrs, mae'r risg yn parhau o ran a fydd Llywodraeth y DU yn cytuno i'r newid cyfalaf i refeniw ai peidio. Felly, rwy'n credu y byddai'n anghyfrifol i mi geisio cytuno i gyllid ychwanegol, ni waeth pa mor deilwng yw'r achos, o ystyried y sefyllfa ariannol gyffredinol a'r cyfle, mae'n debyg, i gael gwybod mwy yn natganiad yr hydref. Felly, gallwn edrych ar y sefyllfa eto os bydd yna newyddion yn hwnnw. Ond yn anffodus, bydd hi'n fis Chwefror cyn inni gael ein cyfanswm terfynol ar gyfer cyllideb y flwyddyn ariannol hon, ac rwy'n credu bod hynny'n eithaf hwyr i ddechrau gwneud dyraniadau bryd hynny. 

Rwy'n ddiolchgar i Adam Price am gyflwyno'r cwestiwn hwn. Gan ehangu'r thema ar wasanaethau bysiau rhywfaint, rwyf wedi cael nifer o etholwyr yn cysylltu â mi gyda phryderon ynghylch gwasanaethau bysiau i'w plant gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg mewn lleoliad ac ysgol o'u dewis. Felly, a gaf fi ofyn pa sgyrsiau rydych chi'n eu cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i sicrhau bod digon o ddarpariaeth i blant ysgol allu cael mynediad at wasanaethau bws i gyrraedd yr ysgol y maent eisiau ei chyrraedd? Diolch, Lywydd.

Credaf fod hwnnw'n fater i'r Gweinidog addysg a'r Gweinidog trafnidiaeth ei drafod; nhw sy'n gyfrifol am y cyllidebau mewn perthynas â'r trafodaethau penodol hyn. Wrth gwrs, rwy'n cael cyfarfodydd unigol gyda fy holl gyd-Aelodau, ac maent yn codi ystod eang o bryderon o fewn eu portffolios yn y cyfarfodydd hynny, ond rwy'n credu, er mwyn gwneud cyfiawnder â'r cwestiwn, mae'n debyg y dylid ei ofyn i un o fy nghyd-Weinidogion.

Y Sector Gofal Plant

9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i'r sector gofal plant? OQ60207

Fe wnaethom ddarparu cynnydd o £100 miliwn i gefnogi rhaglenni cyfalaf a refeniw sy'n cefnogi gofal plant a Dechrau'n Deg ar gyfer y cyfnod cyllidebol presennol o dair blynedd. Rwy'n parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n gyfrifol am ofal plant, fel rhan o'r broses barhaus o bennu cyllideb.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb.

Diolch yn fawr iawn am yr ymateb. Mae'n wych clywed bod y trafodaethau hynny mewn perthynas â'r bwlch cyllido yn mynd rhagddynt, oherwydd, ar £5 yr awr yn unig, Cymru sydd â'r gyfradd isaf yr awr o gyllid ar gyfer gofal plant i blant tair i bedair oed o bedair gwlad y DU. Gyda'r gorbenion yn codi'n gyflymach na chwyddiant ehangach, mae'r codiad cymedrol a gyhoeddwyd y llynedd eisoes wedi profi'n annigonol. Yn ôl yr un arolwg, mae disgwyl i 88 y cant o feithrinfeydd naill ai fantoli'r cyfrifon neu wneud colled eleni. Yn ein hadroddiad gofal plant, 'Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio', a ryddhawyd gennym yn gynharach eleni—ac rydym yn hapus iawn i anfon copi wedi'i lofnodi atoch, wrth gwrs—roeddem yn anelu at wneud yn union hynny, drwy alw am godi'r gyfradd yr awr i £7 yr awr, gydag adolygiadau bob dwy flynedd i olrhain yn erbyn chwyddiant a chymarebau staffio. Mae'r bwlch cyllido, fel y mae, yn rhoi straen ar y busnesau bach hyn, a busnesau bach ydynt, sef sylfaen ein system gofal plant. Felly, a gaf fi ofyn i chi beth arall y gallwch chi ei wneud i fynd i'r afael â'r bwlch cyllido hwnnw o fewn y paratoadau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod? Diolch yn fawr iawn.

14:15

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n awyddus iawn i gael copi o'r adroddiad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, i'w astudio'n fwy gofalus. Rydych yn sôn am y cynnydd i £5, a oedd yn gynnydd, rwy'n credu, o 11 y cant ar y pryd, ac rydym wedi ymrwymo i adolygu'r gyfradd bob tair blynedd fan lleiaf. Rwy'n derbyn ei bod yn dal i fod yn ddyddiau cynnar arnom yn y cyfnod hwn o dair blynedd. Fodd bynnag, rydym wedi rhoi nifer o gamau eraill ar waith i geisio cefnogi'r sector lle gallwn, felly, er enghraifft, i geisio lleihau costau gorbenion, drwy ymestyn rhyddhad ardrethi busnes 100 y cant i safleoedd gofal plant cofrestredig. Mae'r rhyddhad ardrethi bellach wedi'i ymestyn hyd at fis Mawrth 2025, a bydd hynny'n arbed £9.7 miliwn mewn costau gorbenion i ddarparwyr gofal plant cofrestredig yng Nghymru. Felly, rwy'n credu bod honno'n ffordd greadigol y gallwn gefnogi'r sector. Ond rwy'n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch fod y pwnc hwn wedi'i godi'r prynhawn yma, gan fy mod yn siarad amdano'n aml ac yn erbyn uchelgais Llywodraeth Cymru i ddileu darpariaeth gofal plant preifat ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, yn nhymor y Senedd hon, mewn fendeta ideolegol yn erbyn sector sy'n ffurfio 88 y cant o'r ddarpariaeth gofal plant ledled y wlad. A pheth arall sydd wedi peri siom yn y polisi hwn yw diffyg ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r sector ar sut mae'n bwriadu cyflawni ei chynllun, gan arwain at bryder ymhlith arweinwyr y sector a phobl sydd wedi gwneud buddsoddiad personol sylweddol i'r busnesau hyn dros flynyddoedd a degawdau lawer. Felly, pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ariannol bosibl y mesur hwn o ran y cynnydd sydd ei angen mewn arian cyhoeddus i ariannu'r polisi hwn, ac o ystyried y pwysau ariannol presennol, a pha drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau y byddai'r cyllid ar gael i wladoli gofal plant sy'n derbyn gofal? Ac os na ellir ei fforddio, a wnewch chi ddileu'r polisi hwn a gadael i'r busnesau preifat fwrw ymlaen â'r gwaith?

Wel, rwy'n gwybod bod hwn yn faes lle mae'r Aelod yn arddel safbwynt gwahanol iawn ar ddarpariaeth gofal i'r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru, o'i gymharu â Llywodraeth Cymru. Mae arnaf ofn fy mod yn credu unwaith eto y byddai'n fwy priodol gofyn y cwestiwn hwn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n arwain ar y gwaith hwn, a bydd ganddi wybodaeth lawer mwy manwl na minnau am yr asesiadau effaith y mae hi wedi'u cyflawni, oherwydd dyna yw ei rôl yn yr ystyr mai hi sy'n gyfrifol am y polisi. Rwy'n credu ei bod hi'n anodd i mi ateb y cwestiwn hwnnw pan nad wyf yn gyfrifol amdano.

Diolch i'r Gweinidog.

A gaf fi ei llongyfarch ar ateb yr holl gwestiynau a gyflwynwyd a'r holl gwestiynau atodol a gyflwynwyd heddiw? Llwyddiant 100 y cant.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Eitem 2: cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Cwestiwn 1, Huw Irranca-Davies.

Llygredd Dŵr

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch lleihau effeithiau amaethyddiaeth ar lygredd dŵr? OQ60181

Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i fynd i'r afael â llygredd dŵr sy'n effeithio ar yr amgylchedd ledled Cymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth i leddfu'r pwysau ar ddalgylchoedd afon ardaloedd cadwraeth arbennig i ddiogelu'r cynefinoedd pwysig hyn a chefnogi'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy.

Diolch yn fawr, Weinidog. Ar 10 Hydref 2023, fe wnaethoch chi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig, 'Rheoli maethynnau—Rheoli taenu tail da byw yn gynaliadwy'. Mae'n deg dweud—. Hynny yw, rwyf wedi darllen drwy'r datganiad hwnnw, ac rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth nawr nid yn unig gan ffermwyr sydd wedi ymrwymo i leihau da byw, ond hefyd gan sefydliadau amgylcheddol yn dweud—rwy'n ceisio dweud hyn mewn ffordd ddiplomataidd—eu bod yn bryderus mai'r hyn rydym wedi'i wneud yw gohirio pethau unwaith eto. Ac rydym hyd yn oed wedi gwanhau'r dull o fynd i'r afael â mater sy'n amlwg yn un y mae'n rhaid i ni ymdrin ag ef, ochr yn ochr â gollwng carthion, ochr yn ochr â llawer o ffynonellau llygredd afonydd eraill, ond mae angen inni fynd i'r afael â hyn.

Weinidog—rydych yn datgan yn y datganiad hwnnw y byddwch yn parhau i groesawu cynigion i gyflawni'r canlyniadau a geisiwn ar unrhyw adeg. Felly, a gaf fi ofyn yn garedig i chi, i'r rhai sy'n bryderus ynglŷn ag oedi a gwanhau rhai o'r mesurau hyn—sef yr hyn a gynigir o ganlyniad i drafodaethau'r cytundeb cydweithio, nid oes gennyf amheuaeth, ac rydym eisiau gweld ffermio ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, wrth gwrs, ond mae angen inni sicrhau dyfodol cynaliadwy i'n hafonydd hefyd—sut mae'r sefydliadau hynny'n ceisio dylanwadu ar y cynigion hyn nawr, a pha mor hirhoedlog yw'r cynigion hyn? A ellir eu cryfhau? A ellir eu cryfhau drwy weithio gyda ffermwyr ac eraill fel y gallwn achub yr afonydd y mae pawb ohonom yn eu caru? 

14:20

Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rydym wedi bod yn ymgynghori, ac mae'r datganiad ysgrifenedig y cyfeiriwch ato, a'r dull rheoli maetholion ar lefel uwch a gyhoeddwyd ynddo, yn gyson ag argymhellion amodau'r drwydded y gwnaethom ymgynghori arnynt. Felly, yn amlwg, gallai unrhyw un—unrhyw randdeiliad, unrhyw bartner, unrhyw sefydliad anllywodraethol amgylcheddol—fod wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Rydym eisiau lleihau'n fawr y risgiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â lefelau uwch o dail yn cael ei wasgaru ar ein tir, ac fel y dywedwch, rwy'n gweithio mewn partneriaeth agos â Cefin Campbell fel rhan o'r cytundeb cydweithio mewn perthynas â hyn. 

Rwy'n credu bod yr egwyddorion y gwnaethom ymgynghori arnynt wedi cael eu cefnogi i raddau helaeth iawn gan y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad, ac roedd hynny'n cynnwys mwyafrif y cynrychiolwyr o'r sector amgylcheddol. Cymerais sylw o'r adborth a gawsom drwy'r ymgynghoriad a gwella'r rheolaethau amgylcheddol, lle bo hynny'n briodol. Bydd yn ofynnol i ffermydd sy'n defnyddio lefelau uwch o dail da byw hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru o'r bwriad i wneud hynny, a chyflwyno tystiolaeth ategol i arddangos angen cnydau am faetholion yn y tail. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddull llawer mwy pragmatig. Mae'n sicrhau bod adnoddau'n cael eu neilltuo i orfodi'r rheoliadau, yn hytrach na gorfod edrych ar ddarparu trwyddedau.

Felly, yn fy marn i, rwy'n credu y bydd hynny'n helpu'r sefyllfa, ond rydych chi'n hollol iawn—mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld a oes yna gynigion amgen. Cafodd rhai eu cyflwyno i swyddogion, ac maent wedi gweithio drwy'r rheini, ond rydym yn agored i unrhyw syniadau, oherwydd, fel y dywedwch, y canlyniad yr ydym ei eisiau yw ansawdd dŵr gwell; dyna mae pawb ohonom ei eisiau. Felly, rwy'n awyddus iawn i barhau â'r sgwrs hon. 

Rydym i gyd eisiau ansawdd dŵr gwell. Fodd bynnag—ac mae'n ganlyniad i'r cytundeb cydweithio hwn—mae'n siomedig fod Aelod o'r un blaid â'n Llywodraeth yn codi amheuon am weithredoedd ein ffermwyr, sy'n wynebu cyfnod anodd iawn ar hyn o bryd. Nawr, mae rhai o fy ffermwyr wedi lleisio pryderon wrthyf ynglŷn ag amlder y cyfnodau gwaharddedig ar gyfer—yr hyn rwy'n ei alw'n wasgaru tail. Felly, o 1 Awst 2024, gwaherddir gwasgaru slyri yn ystod y cyfnodau canlynol: ar bridd tywodlyd neu fas, glaswelltir, 1 Medi i 31 Rhagfyr; tir âr, 1 Awst i 31 Rhagfyr; a phriddoedd eraill, glaswelltir, 15 Hydref i 15 Ionawr; a thir âr, 1 Hydref i 31 Ionawr—mae cryn dipyn o hynny y tu hwnt i'r flwyddyn galendr. Nawr, rydym i gyd yn gwybod, o ganlyniad i newid hinsawdd, fod dyddiadau mympwyol fel hyn, ar gyfer yr hyn sy'n waith pwysig i'n ffermwyr, yn anymarferol ac nid ydynt yn seiliedig ar unrhyw wyddoniaeth. Felly, Weinidog, ni allwn wahaniaethu rhwng tymhorau nawr gyda newid hinsawdd. A wnewch chi edrych eto ar ofynion y cyfnodau gwaharddedig hyn neu, yn well byth, a allech chi fabwysiadu dull mwy cytbwys a gweithio gyda'n ffermwyr yn well er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer gwasgaru tail? Diolch.

Fel y crybwyllodd Huw Irranca-Davies, nid oes un maes penodol sy'n achosi llygredd i'n dyfroedd. Rwy'n credu eich bod chi'n awgrymu ein bod ni'n pigo ar ffermwyr. Rwyf am ddweud bod ychydig o dan dri achos o lygredd amaethyddol yn cael eu cadarnhau bob wythnos—bob wythnos. Tri yr wythnos. Nid yw hynny wedi gwella dros ddegawd. Felly, rwy'n cydnabod yn llwyr fod llygredd dŵr yn dod o lawer o wahanol ffynonellau, a dyna—. Rwy'n credu bod y cwestiwn gwreiddiol wedi gofyn i mi pa drafodaethau rwy'n eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd oherwydd, yn amlwg, mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd. Felly, fel y dywedwch, mae'n rhan o'r cytundeb cydweithio, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Aelod dynodedig yn y maes hwn. Rydym wedi edrych yn ofalus iawn ar gyfnodau gwaharddedig, a dyma'r rheoliadau sydd wedi'u cyflwyno nawr. 

Lles Anifeiliaid Anwes
14:25

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi'u nodi yn 'Ein Cynllun Lles Anifeiliaid i Gymru'. Rydym yn gweithio i lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos cyn diwedd y flwyddyn i gyflawni ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nawr, yr wythnos diwethaf darparodd Llywodraeth y DU ddiweddariad ynghylch gwahardd cŵn bully XL Americanaidd ledled Cymru a Lloegr, gan gadarnhau y bydd yn anghyfreithlon bod yn berchen ar gi o'r brîd hwn oni bai bod ganddynt eithriadau y maent wedi gwneud cais amdanynt ac y maent yn eu dilyn o 1 Chwefror 2024 ymlaen. Daw hyn yn dilyn llawer o ymosodiadau ffiaidd a marwolaethau yn gysylltiedig â'r brid hwn. O ystyried creulondeb yr ymosodiadau hyn, credaf fod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU yn briodol ac yn angenrheidiol i ddiogelu'r cyhoedd ac anifeiliaid eraill. Er mwyn cael caniatâd i gadw ci bully XL, mae'r rhestr o eithriadau yn dweud bod yn rhaid iddynt gael microsglodyn a safnffrwyn a bod yn rhaid iddynt gael eu niwtro. Bydd hyn yn eu galluogi i fyw gweddill eu bywydau. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd llawer o berchnogion yn dewis cefnu ar eu cŵn yn hytrach na chydymffurfio â'r gyfraith newydd hon. Felly, Weinidog, pa adnoddau ychwanegol sy'n cael eu darparu i sicrhau, pan fydd y gyfraith newydd yn dod i rym, ei bod yn cael ei gorfodi yma yng Nghymru, ac os gwelwn y cynnydd tebygol mewn perchnogion yn cefnu ar eu cŵn, fod awdurdodau lleol ac elusennau fel yr RSPCA yn cael eu cefnogi'n briodol gan Lywodraeth Cymru. Diolch, Lywydd. 

Dylwn dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn fater a gedwir yn ôl, ac efallai eich bod wedi gweld y cyhoeddiad a wnaed gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf, eu bod yn cynnig £200—rwy'n credu mai'r gair y maent yn ei ddefnyddio yw 'iawndal'; nid wyf yn arbennig o hoff o'r gair hwnnw mewn perthynas â hyn—tuag at y gost o gael ci wedi'i ewthaneiddio. Nid oes unrhyw gyllid i ddod, hyd y gwn, mewn perthynas â gorfodi. Er fy mod i'n croesawu'r cyhoeddiad hwn—fel y gwyddoch, mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn lobïo drosto ers amser maith—oherwydd fel y dywedwch, rydym wedi gweld ymosodiadau creulon iawn ac angheuol weithiau yn gysylltiedig â chŵn bully XL, roeddwn yn poeni bod y cyhoeddiad wedi dod—. Cyfarfûm ag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA, ar y dydd Mercher, rwy'n credu, o'r wythnos y daeth y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ar y dydd Gwener, yn ôl ym mis Medi. Mae'n bwysig iawn fod ein swyddogion yn cydweithio'n agos ar hyn, oherwydd yn amlwg, fel y dywedwch, bydd yn cael effaith enfawr ar Gymru. Mae gennyf gyfarfod wedi'i nodi yn y dyddiadur—ddechrau'r mis nesaf rwy'n credu—gyda Richard Benyon i drafod hyn, oherwydd rwy'n poeni am ganlyniadau anfwriadol, ac rydych newydd grybwyll rhai. Mae yna rai eraill hefyd. Beth am gŵn bach? Beth am y geist bridio sy'n cario rhai bach ar hyn o bryd? Nid wyf yn siŵr ei fod wedi cael ei ystyried yn y ffordd y dylai fod wedi cael ei ystyried, ac rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y cyfan wedi digwydd yn frysiog iawn.

Felly, er fy mod yn ei groesawu, rwy'n poeni am ganlyniadau anfwriadol. Mae'r prif swyddog milfeddygol a'r swyddogion eraill yn ei swyddfa yn ceisio mynychu cymaint o gyfarfodydd ag y cawn ein gwahodd iddynt i drafod hyn ymhellach, ond byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau ar y mater pwysig hwn.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau gan lefaryddion y pleidiau nawr. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.

Diolch yn fawr, Llywydd. Roeddwn i'n meddwl y byddai rhywun yn dod i mewn â supplement ar y cwestiwn ynglŷn â chŵn. 

Weinidog, nid yw fy nadansoddiad o gynllun Cynefin Cymru, y cynllun a ddaeth yn lle Glastir, wedi newid ers i mi holi'r Prif Weinidog yn ei gylch ychydig wythnosau yn ôl. Mae wedi bod yn draed moch. Yn sicr, dyna oedd fy nghasgliad innau hefyd o gynhadledd NFU Cymru yr wythnos diwethaf. Mae hyn wedi cael ei ategu ymhellach gan y ffaith eich bod, mewn ateb ysgrifenedig, wedi cadarnhau na wnaed unrhyw waith modelu economaidd i lywio datblygiad y cynllun—sy'n eithaf gwael, mewn gwirionedd, os gofynnwch i mi. Ond yr hyn a achosodd bryder mawr i mi oedd y cyfeiriad a gafwyd yn yr un cwestiwn ysgrifenedig at yr ymgysylltiad ymddangosiadol a gafodd eich swyddogion â rhanddeiliaid yn ystod y broses o ddatblygu'r cynllun hwn, rhywbeth y mae rhanddeiliaid yn ei wadu'n ffyrnig. Felly, Weinidog, a allwch chi gadarnhau pa ymgysylltiad a gawsoch chi neu eich tîm gyda'r undebau ffermio, nid ar ôl, ond yn ystod y broses o ddatblygu cynllun Cynefin Cymru?

Rwy'n anghytuno'n llwyr â chi ei fod yn draed moch. Roedd hwn yn rhywbeth yr oedd yr undebau ffermio, yn enwedig NFU Cymru, eisiau i mi ei gyflwyno, ac rwy'n cofio cael sgwrs gychwynnol lle roeddem i gyd yn cydnabod—a phawb yn y Siambr hon yn cydnabod—y byddai Glastir yn dod i ben ar 31 Rhagfyr eleni. Nid wyf wedi'i ddiddymu, nid wyf wedi'i ddileu: daeth Glastir i ben, gadewch inni fod yn realistig iawn yma, oherwydd ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, a daeth y cyllid hwnnw i ben. Os oedd pobl eisiau cyllideb ragweladwy o saith mlynedd, dylent fod wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, oherwydd dyna oedd gennym pan oeddem yn yr UE ac roeddem yn cael y cyllid hwnnw flwyddyn ar ôl blwyddyn, a gallwn ei gario ymlaen, a gallwn ei ymestyn. Mae hwnnw wedi mynd—mae'r hyblygrwydd hwnnw wedi mynd. 

Felly, y rheswm pam na chafwyd dadansoddiad economaidd oedd oherwydd ein bod wedi ei wneud yn gyflym iawn, oherwydd gofynnwyd i mi ei wneud yn gyflym iawn. Cafodd y syniad ar gyfer cynllun Cynefin Cymru—nid wyf yn credu mai dyna oedd yr enw arno—ei gyflwyno mewn trafodaethau gydag NFU Cymru. Felly, credaf fod swyddogion wedi ymgysylltu'n aml dros doriad gwyliau'r haf. Yn sicr, cefais drafodaethau gyda'r undebau ffermio dros yr haf yn ystod tymor y sioeau amaethyddol ac fe wnaeth y sgyrsiau hynny barhau i mewn i'r tymor hwn. Mae'r cyfnod ymgeisio'n cau ddydd Gwener. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn dweud ein bod ni bellach wedi cael dros 1,600—rwy'n credu mai 1,600 ydyw—o geisiadau. Yr hyn sy'n galonogol i mi yw bod 40 y cant o'r ceisiadau hynny gan ffermwyr nad oeddent yn rhan o Glastir. Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi clywed llawer o bobl yn dweud, 'Nid ydym wedi gallu ymuno â Glastir'. Gall pawb geisio ymuno â'r cynllun hwn ac fel y dywedaf, rydym wedi cael dros 1,600 o geisiadau.

14:30

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fe sonioch chi na ellid bod wedi cario Glastir drosodd. O fewn eich pwerau, gallech fod wedi parhau â Glastir . Rydym wedi gweld hynny yn yr Alban; rydym wedi gweld hynny yn Lloegr. Gallai’r cyllid hwnnw ar ôl gadael yr UE—iawn, efallai nad yw ar gael gan yr UE, ond gallai'r cynllun ei hun fod wedi’i gario drosodd yn hawdd, efallai ar gyfradd ariannu o 50 y cant, 60 y cant, 70 y cant. Ac mae hynny'n rhywbeth yr oedd yr undebau yn galw amdano mewn gwirionedd.

Fe sonioch chi fod 1,600 o ffermwyr wedi arwyddo. Ceir 3,000 o gontractau Glastir yng Nghymru; ceir 17,000 o ffermydd cofrestredig yng Nghymru—mae 1,600 o ymgeiswyr yn feirniadaeth ddamniol o statws y cynllun Cynefin Cymru ar hyn o bryd. Ac rwy'n credu mai’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd, Weinidog, oedd bod eich swyddogion wedi cyflwyno’r cynllun fel fait accompli i randdeiliaid, ar ôl iddynt beidio â gweithio’n weithredol gyda nhw i lunio rhywbeth a fyddai wedi osgoi rhai o’r camgymeriadau hynod amlwg a welsom, megis y gwallau mapio. A gwn fod yr undebau ffermio yn rhannu’r farn hon.

Ond Weinidog, mae’r nifer isel o ffermwyr sydd wedi ymuno â'r cynllun yn fy ngwneud yn bryderus iawn, yn gyntaf, oherwydd y diffyg cefnogaeth a fydd yna i amaethyddiaeth yng Nghymru gyrraedd targedau amaeth-amgylcheddol, ond hefyd y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r diffyg diddordeb canfyddedig hwn a’r niferoedd isel i dorri’r gyllideb amaethyddol ymhellach yn y dyfodol. A chan ein bod eto i weld beth fydd y gyllideb derfynol ar gyfer cynllun Cynefin Cymru, a allwch gadarnhau heddiw y byddwch yn dyrannu o leiaf yr un faint o gyllid i gynllun Cynefin Cymru ag a ddyrannwyd i'r cynlluniau Glastir a'i rhagflaenodd?

Rwy’n anghytuno’n llwyr â’ch asesiad o’r hyn a ddigwyddodd. Rwyf wedi dweud wrthych beth ddigwyddodd. Os nad ydych yn dewis fy nghredu, eich dewis chi yw hynny. Ond rwy'n dweud wrthych beth ddigwyddodd. Ni allaf gadarnhau’r gyllideb eto—rydych chi'n ymwybodol o'r gyllideb a'r anawsterau ariannol sydd gennym fel Llywodraeth—ni fyddaf yn gallu gwneud hynny hyd nes y bydd y trafodaethau gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet wedi dod i ben.

Mae'r sefyllfa y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ffermwyr ynddi yn ddigalon iawn. Hynny yw, os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd eu targedau eu hunain ar gyfer hinsawdd, natur ac adfer bioamrywiaeth, mae angen iddynt gefnogi ffermwyr yn unol â hynny er mwyn eu cyflawni. Yr eironi yw, drwy beidio â chefnogi ffermwyr, bydd Llywodraeth Cymru yn methu cyrraedd y targedau y mae wedi’u gosod iddi’i hun. Ac mae a wnelo â mwy na'r manteision amgylcheddol o gefnogi ffermwyr; mae a wnelo â chefnogi cynhyrchwyr bwyd o’r safon uchaf yma yn y Deyrnas Unedig a’r manteision economaidd ehangach sy’n dod o ddiwydiant amaethyddol ffyniannus. Mae pob £1 sy’n cael ei gwario ar amaethyddiaeth yng Nghymru yn werth £9 i’r gymuned ehangach, ac rwy’n herio unrhyw un i ddod o hyd i elw gwell a hynny ar fuddsoddiad cyhoeddus.

Felly, Weinidog, nid ydych wedi gallu ymrwymo i sicrhau bod cynllun Cynefin Cymru yn cael yr un cyllid â’r cynlluniau Glastir a’i rhagflaenai, ond a allwch chi roi rhywfaint o sicrwydd o leiaf i’r diwydiant drwy gadarnhau heddiw a fydd cyllideb cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer y flwyddyn nesaf, 2024, yn cael ei chynnal ar y lefelau presennol?

Wel, gadewch inni edrych ar eich canfyddiad o ddiffyg cefnogaeth i ffermwyr. Rwyf wedi diogelu cynllun y taliad sylfaenol. Beth a wnaethant yn Llywodraeth y DU? [Torri ar draws.] Beth a wnaethant yn Llywodraeth y DU? Maent wedi torri cynllun y taliad sylfaenol—[Torri ar draws.] Maent wedi torri 55 y cant oddi ar gynllun y taliad sylfaenol yn Lloegr.

Nawr, roeddech yng nghynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ddydd Iau diwethaf lle clywsoch ffermwyr yn dweud pa mor falch oeddent eu bod yng Nghymru, nid yn Lloegr, felly, beth am inni feddwl am hynny. Beth am y cynlluniau niferus yr addawodd Llywodraeth y DU eu hagor i ffermwyr a gafodd eu rhoi o’r neilltu yn dawel bach. Felly, nid wyf yn cydnabod y diffyg cefnogaeth canfyddedig hwn i ffermwyr o gwbl.

Rwyf wedi diogelu cynllun y taliad sylfaenol. Rwy'n gwybod—[Torri ar draws.] Pan fydd trafodaethau wedi dod i ben—[Torri ar draws.] Fe atebaf y cwestiwn os gadewch imi wneud hynny, yn hytrach na gweiddi mwy o gwestiynau arnaf. Mae cynllun y taliad sylfaenol y flwyddyn nesaf yn amlwg yn amodol ar gyllideb y flwyddyn nesaf, ac rwy’n gwneud popeth yn fy ngallu i wneud yn siŵr ein bod yn gallu diogelu cynllun y taliad sylfaenol, oherwydd rwy’n credu mai dyna’r ffordd orau o gefnogi ffermwyr, oherwydd mae ffermwyr yn dweud wrthyf mai dyna lle maent yn edrych am y sefydlogrwydd a’r sicrwydd y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod yn onest, wedi eu hamddifadu ohonynt.

Diolch, Lywydd. Weinidog, rydych wedi dadlau yn erbyn y disgrifiad cynharach o gynllun Cynefin Cymru fel un sy’n draed moch, felly, gadewch inni fod yn garedig: mae’n rhaid ichi gyfaddef ei fod braidd yn ddryslyd, gawn ni ddweud, yn sicr o ran rhai o'r problemau gyda mapio; cafwyd pryderon ynghylch lefelau cyllid, a hynny i gyd. Ac a dweud y gwir, mae traed moch un person yn rhywbeth nad yw'n draed moch i rywun arall—nid yw hynny'n gweithio i mi, a dweud y gwir. O'i gyfrifo’n gryno o'r niferoedd o geisiadau a ddyfynnwyd gennych—y 1,600, a 40 y cant o'r tu allan i Glastir—mae hynny’n golygu, rwy’n credu, mai dim ond tua chwarter y rhai sydd yn Glastir ar hyn o bryd sydd wedi gwneud cais i fod yn y cynllun Cynefin Cymru. Nawr, fe wyddom y bydd yr incwm posibl o hynny 45 y cant yn is, ond mewn gwirionedd mae'n golygu nad yw tri chwarter y rhai sydd ar hyn o bryd yn Glastir yn gwneud cais i gynllun Cynefin Cymru. Beth mae hynny'n ei ddweud wrthych chi am gynllun Cynefin Cymru, a pha effaith fydd hynny'n ei chael ar y degawdau o fuddsoddi mewn gwaith amaeth-amgylcheddol sydd wedi digwydd yn flaenorol, sy’n amlwg yn cael ei golli nawr?

14:35

Wel, rwy’n meddwl bod dwy ffordd o edrych arno. Yr hyn y mae'n rhaid ichi ei gofio yw bod ffermwyr yn ymwybodol iawn fod eu contractau Glastir, y gwnaethant eu harwyddo pryd bynnag y gwnaethant ymuno—felly, saith mlynedd yn ôl, fe wnaethom eu cario dros ychydig flynyddoedd, felly efallai eu bod wedi eu cael ers wyth mlynedd, efallai eu bod wedi eu cael ers 11 mlynedd—roeddent yn gwybod bod y contract hwnnw'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Felly, mae’n bosibl fod hynny i gyd yn rhan o'u cynllun busnes. Felly, credaf mai dyna un ffordd o edrych arno. Rwy'n falch iawn fod 1,600—. Rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywedwch am y feirniadaeth am fapio. Gallem fod wedi oedi, ond roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn parhau er mwyn inni allu agor y cyfnodau ymgeisio ac edrych ar hynny ddechrau mis Ionawr, fel nad oes gennym fwlch rhwng gorffen Glastir a chynllun Cynefin Cymru yn dechrau ym mis Ionawr, oherwydd fe fyddwch yn ymwybodol iawn o Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, dyna oedd un o'u hargymhellion i ni.

Y cwestiwn yn fy meddwl i yw: ble mae hyn yn ein gadael ni nawr o ran y cynllun ffermio cynaliadwy? Oherwydd mae’r FUW wedi dweud wrthym eu bod yn amcangyfrif bod 70 y cant o’r ffurflenni cynllun Cynefin Cymru y maent wedi’u dadansoddi yn cynnwys gwallau difrifol o ran mapio cynefinoedd, ac mae yna broblemau capasiti difrifol, rwy’n credu—a gallwch fy nghywiro os wyf yn anghywir—o ran gallu prosesu'r contractau hynny, o ran cywiro rhai o'r gwallau a'r diffygion a ganfuwyd. Felly gallwch ddweud wrthyf ai capasiti neu anghymhwysedd sydd wedi ein harwain at ble rydym ni arni mewn perthynas â llawer o hyn. Ond beth mae hynny’n ei ddweud wrthym, neu sut mae hynny’n rhoi hyder inni ar gyfer y dyfodol? Oherwydd mae’r cynllun ffermio cynaliadwy, wrth gwrs, 12 mis i ffwrdd o fod, neu o fod angen bod yn barod yn weithredol. Felly a gaf fi ofyn pa mor hyderus ydych chi na fyddwn ni'n wynebu dryswch tebyg, neu draed moch, yn dibynnu ar ba ffordd rydych chi am edrych arno, gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy? Pa gapasiti ychwanegol, os o gwbl, a fydd gennych, oherwydd yn amlwg mae maint hwnnw’n mynd i fod gryn dipyn yn fwy sylweddol na’r hyn rydych chi’n cael trafferth gydag ef ar hyn o bryd? A phryd yn union y gwelwn yr ymgynghoriad nesaf hirddisgwyliedig, sydd i’w lansio cyn diwedd y flwyddyn hon, rwy’n credu?

Felly, mewn perthynas ag ail ran eich cwestiwn, rwy’n gobeithio y byddwn yn lansio'r ymgynghoriad terfynol ganol mis Rhagfyr—yn sicr cyn inni ddod at doriad y Nadolig. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod, yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig, ynghylch gwneud yn siŵr fod y ddogfen ymgynghori—unwaith eto, gan siarad â Cefin Campbell, fel yr Aelod dynodedig. Rwy'n meddwl, mewn rhai ffyrdd, fod angen inni ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd gyda Cynefin Cymru, a’r mapio, fel y dywedwch—nid wyf yn credu mai anghymhwysedd ydyw. Pan soniwch am gapasiti, yn amlwg, gallwn i gyd gael mwy o gapasiti, oni allwn, byddem i gyd yn croesawu mwy o gapasiti, ond rwyf wedi cael sicrwydd nad yw hynny'n broblem. Ond credaf fod angen inni ddysgu gwersi, oherwydd, fel y dywedwch, mae’r cynllun ffermio cynaliadwy yn mynd i fod gymaint yn fwy, a chredaf mai dyna fydd swyddogion yn ei wneud.

Cefnogi Ffermwyr

3. Sut fydd cynllun Cynefin Cymru yn cefnogi ffermwyr yn Sir Drefaldwyn? OQ60193

Diolch. Mae cynllun Cynefin Cymru ar gael i bob ffermwr cymwys wneud cais amdano. Bydd taliadau'r cynllun yn eu cefnogi i gynnal a gwarchod cynefinoedd allweddol sydd eisoes yn cael eu rheoli, yn ogystal ag ardaloedd newydd o gynefin lled-naturiol nad oeddent yn cael eu rheoli'n weithredol o'r blaen. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb i wneud cais erbyn 10 Tachwedd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Cyfarfûm â swyddogion a swyddogion FUW yr wythnos diwethaf, a thynnwyd fy sylw at y rhwystredigaeth a’r pryderon ynghylch cynllun Cynefin Cymru. Yn ogystal â rhai o’r pwyntiau eraill a godwyd heddiw, codwyd materion ynghylch gwallau mapio, cyfraddau talu is, ac ymyl y dibyn, fel y’i galwant, i gynhyrchwyr organig, gan ei gwneud yn anodd i ffermwyr ddefnyddio’r cynllun hwn. Nawr, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthyf, mae’r rhai yn Glastir yn wynebu toriadau yn eu taliadau o rhwng 65 a 90 y cant os byddant yn penderfynu gwneud cais i’r cynllun, fel y mae’n rhaid ei wneud erbyn 10 Tachwedd, fel rydych chi newydd ei nodi. Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ffermwyr yn sir Drefaldwyn yn cael cynnig cymorth effeithiol i barhau â’u gwaith amgylcheddol a’u harferion ffermio cynaliadwy cyn lansio’r cynllun ffermio cynaliadwy?

14:40

Diolch. Wel, nid wyf yn meddwl y gallaf ddweud mwy am y materion mapio; rwy'n meddwl imi ateb Sam Kurtz a Llyr Huws Gruffydd mewn perthynas â hynny, ac ar y gyllideb hefyd. Rwy’n meddwl bod y pwynt a godwch am ffermio organig yn un teg, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych i weld beth y gallwn ei wneud yn benodol ar gyfer ffermio organig. Rwy'n ceisio nodi cronfa ar wahân o arian, os mynnwch, i ffermwyr organig yn benodol wneud cais amdani, ac rwy'n obeithiol iawn y bydd hynny'n digwydd, oherwydd rwyf wedi gallu dod o hyd i rywfaint o gyllid ar gyfer hynny.

Rwy'n meddwl ei bod yn deg dweud—ac mae ein hundebau ffermio'n cydnabod hyn—ein bod i gyd yn gwybod bod Glastir yn dod i ben eleni. Nid wyf wedi cadw hynny’n gyfrinach. Ni fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn unman nad oedd Glastir yn dod i ben. Ni allem ei ymestyn; nid oedd gennym y cyllid Ewropeaidd. Ac fel y dywedaf, os oedd pobl am aros yn Glastir, dylent fod wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Prynhawn da, Weinidog. Mae arnaf ofn mai Cynefin Cymru yw’r thema y prynhawn yma, oherwydd roeddwn am fynd ar drywydd y cwestiwn a ofynnwyd gan Russell George. Mae llawer ohonom sy’n byw mewn ardaloedd gwledig wedi cael cyfle i glywed gan ffermwyr. Rwyf wedi cyfarfod â chryn dipyn ohonynt; maent wedi gofyn am gyfarfod. Cyfarfûm ag un ffermwraig a’i merch, ac roedd hi yn ei dagrau, oherwydd nid yw hi na’i merch yn siŵr sut y gallant gadw’r staff a’r gymuned y maent yn byw ynddi, o ystyried eu bod yn colli cymaint o gyllid. Rhaid imi ddweud bod y ffermwraig honno wedi dweud wrthyf sut y gwnaeth hi bleidleisio yn refferendwm yr UE, sef o blaid aros, a pha mor rhwystredig y teimlai fod colli cyllid yr UE yn golygu ei bod yn mynd i gael ei heffeithio’n sylweddol.

Rydych chi wedi ateb llawer o gwestiynau ar hyn, ac rwyf wedi bod yn rhoi llinell drwy lawer o fy nghwestiynau i chi wrth inni fynd yn ein blaenau y prynhawn yma. Ond yr un peth a godais o'r blaen yw mai fy nealltwriaeth i yw na allwch newid y mynegiant o ddiddordeb y mae ffermwyr wedi'i wneud. Mae'n gynllun cymhleth iawn. Mae'n ddogfen hirfaith iawn, ac yn ogystal â'r straen y mae ffermwyr yn ei deimlo, mae ymrwymo wedyn i'r hyn y deallant y gallai fod yn gynllun parhaol nawr ar gyfer y dyfodol yn straen sylweddol arnynt. Felly, tybed: a oes unrhyw hyblygrwydd? A oes unrhyw beth, yn sicr yn drawsbleidiol, y gallem fod yn meddwl amdano, gan weithio gyda chi, o fewn y cyfyngiadau, i helpu'r ffermwyr hynny, y mae rhai ohonynt yn teimlo o ddifrif eu bod yn mynd i golli eu busnes ac yn mynd i orfod diswyddo cryn dipyn o bobl? Diolch yn fawr iawn.

Diolch. Nid wyf yn bychanu'r problemau. Mae pawb yn wynebu anawsterau ariannol—pob Llywodraeth, pob unigolyn, pob busnes. Yn amlwg, mae pawb yn cael eu heffeithio ganddo. Ac mae arnaf ofn, wrth ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd, mai dyma'r byd newydd yr ydym yn byw ynddo, ac rwyf wedi bod yn ceisio sicrhau bod pawb yn fy mhortffolio, yr holl randdeiliaid, yn llwyr gydnabod yr anawsterau y mae pawb ohonom yn eu hwynebu. Ond dyma'r byd newydd ac mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen ag ef. Felly, mae'n ddrwg iawn gennyf; ni allaf ond dychmygu—. Ac rwyf wedi cael ffermwyr yn dweud yr un peth wrthyf 'Rydym yn cydnabod yn awr'—pa un a wnaethant bleidleisio dros adael neu dros aros, maent yn cydnabod yn llwyr mai dyma'r byd newydd yr ydym yn byw ynddo.

Fel y credaf imi eich ateb yn flaenorol, nid oes unrhyw hyblygrwydd. Mae hwn yn gynllun yr ydym wedi gorfod ei gyflwyno'n gyflym iawn. Ceisiwyd ei wneud mor syml â phosibl, ond pan ddaw’n fater o ddyrannu arian cyhoeddus, fe wyddoch eich hun ei fod yn faes cymhleth iawn; mae’n rhaid ichi wneud yn siŵr fod pob manylyn yn cael sylw. Ond po symlaf—. Un o’r pethau a ddywedodd ffermwyr wrthyf oedd eu bod am adael yr Undeb Ewropeaidd—nid pob un ohonynt, yn amlwg—pan gawsom y bleidlais yn ôl ym mis Mehefin 2016, oherwydd y fiwrocratiaeth. Felly, rwy’n credu o ddifrif ei bod yn hollbwysig ein bod ni fel Llywodraeth yn gwneud bywyd yn symlach o ran llenwi ffurflenni, ac ati. Ond mae arnaf ofn—. Gobeithio bod hwn yn gynllun a fydd yn helpu i gau’r bwlch hwnnw, ac rwy’n gobeithio y bydd y ffermwraig a’i merch y cyfeirioch chi atynt yn gwneud cais i fod yn y cynllun hwn.

14:45
Cynllun Glastir

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diwedd y cynllun Glastir ar ffermwyr sy'n derbyn arian ohono? OQ60203

Diolch. Nid oes asesiad wedi'i wneud ar effaith diwedd Glastir ar ffermwyr sy'n derbyn cyllid ohono, oherwydd llofnododd cyfranogwyr Glastir gontract gyda Llywodraeth Cymru gyda dyddiad gorffen sy'n cyd-fynd â diwedd y rhaglen datblygu gwledig, ac rydym yn cadw at y telerau contract hynny. 

Diolch i chi, Weinidog, ac rydych chi wedi ateb llawer o gwestiynau eisoes ar hyn heddiw, ac rwyf am drafod yr un thema â fy nghyd-Aelod, Russell George. Weinidog, ysgrifennais atoch ym mis Medi ynghylch un ffermwr organig. Nid wyf wedi derbyn ateb eto, ond rwy'n siŵr ei fod ar ei ffordd. Ond rwyf wedi bod mewn cysylltiad ag etholwr arall nawr, sy'n ffermio'n organig, gan ymdrechu i gyflawni popeth yr oeddech ei eisiau ar gyfer system ffermio gynaliadwy, ac mae wedi bod yn benderfynol o wneud hynny ac mae wedi gwneud gwaith gwych. Nawr mae'n teimlo bod hynny dan fygythiad yn llwyr. Mae wedi'i dorri ganddo. Mae'n teimlo bod y gefnogaeth ariannol y mae Cynefin Cymru yn ei gynnig iddo'n sarhad llwyr. Bydd ei fferm yn derbyn tua £700 o'r cynllun Cynefin ac mae'n rhaid i chi fynd drwy'r felin i gael hynny. Cyn hyn, gyda Glastir a Glastir Organig, byddai'n derbyn £16,000, felly byddai'n cael ei dalu tua £69 yr hectar. Sut gall y ffermwr hwn fforddio parhau fel cynhyrchydd organig a chadw ei weithiwr? Weinidog, rwy'n falch o glywed y bydd rhyw fath o gyllid ar gael o bosibl i ffermwyr organig wneud cais amdano, ond yr hyn a ddywedodd y ffermwr wrthyf yw ei bod yn cymryd o leiaf ddwy flynedd i droi pethau o gwmpas. Ac er bod diwedd i'r contract, derbyniwyd ei fod yn cael ei gario ymlaen, ac nad oes digon o rybudd—. Mae'r dyn hwn yn deall ei bethau ac mae'n teimlo ei fod wedi cael cam. Felly, Weinidog, o ystyried eich ymrwymiadau amgylcheddol, pa gyngor y gallwch ei gynnig i ffermwr organig yng Nghymru sy'n wynebu ymyl dibyn, yn enwedig pan fo'i gymdogion yn Lloegr yn dal i gael cymorth organig a bod yn rhaid iddo gystadlu yn eu herbyn?

Rwy'n anghytuno na chawsant ddigon o rybudd. Fel y dywedais, roedd hwn yn gontract y bydd pob ffermwr wedi'i arwyddo gyda Llywodraeth Cymru a'r dyddiad gorffen oedd 31 Rhagfyr eleni. Felly, rwy'n anghytuno'n llwyr â chi na roddwyd digon o rybudd. Bydd rhywfaint o gyllid penodol ar gyfer ffermwyr organig. Rwy'n cydnabod yn llwyr yr achos a gyflwynwyd ganddynt i mi, ac rwyf wedi gallu neilltuo pot bach o arian, a gobeithio y bydd hyn yn helpu. Ond fel rwy'n dweud, cafodd yr asesiad—roeddech yn gofyn pa asesiad a wnaed o ddiwedd Glastir—ei wneud ar y dechrau pan wnaethom arwyddo'r contractau hynny gyda ffermwyr ac roeddent i gyd yn gwybod, yn anffodus, pryd y byddent yn dod i ben. Hoffwn pe bai gennyf yr un swm o arian ag a oedd gennym pan oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd, ond nid yw hynny'n wir.

Dwi'n derbyn llawer o gyswllt gan ffermwyr yn Ynys Môn sydd mor bryderus ynglŷn â'r cynllun newydd fel eu bod nhw'n ystyried peidio gwneud cais o gwbl. Felly, beth ydy neges y Gweinidog iddyn nhw i'w perswadio nhw fod yna fodd o arbed y cynllun yma? Ond dyma fy mhrif gwestiwn i: dŷn ni'n clywed gan y Gweinidog eto heddiw y neges yma fod ffermwyr yn gwybod bod Glastir yn dod i ben, a dŷn ni hefyd yn clywed y Llywodraeth yn dweud eu bod nhw wedi gorfod cyflwyno'r newid yma ar frys. Wel, siawns fod gan y Llywodraeth hefyd ddigon o flaen rybudd i fod wedi gallu rhoi cynllun gwell mewn lle. All y Llywodraeth ddim ei chael hi'r ddwy ffordd. 

Nid yw'n fater o'i chael hi y ddwy ffordd. Pe bai gennyf yr un gyllideb, gallwn fod wedi ei wneud. Bu'n rhaid imi neilltuo'r gyllideb honno o rywle arall. Nid oes unrhyw gyllid. Nid oes unrhyw arian domestig oherwydd ni roddodd Llywodraeth y DU yr un faint o arian i ni. Fe gofiwch 'yr un geiniog yn llai'—[Torri ar draws.]—yr un geiniog yn llai. Na, nid dyna oedd eich cwestiwn. Yr un geiniog yn llai. Rwy'n dweud wrthych, ac rydych chi'n gwybod, na wnaeth Llywodraeth y DU roi'r swm o gyllid y byddem wedi'i gael pe byddem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rwy'n derbyn beth—. Dywedais fod yn rhaid inni wneud y cynllun yn gyflym dros yr haf; nid oedd raid inni wneud cynllun o gwbl. Gofynnwyd i mi wneud cynllun ac fe wnaethom gynllun—[Torri ar draws.] Wel, ni wneuthum hynny oherwydd rwyf wedi blaenoriaethu cynllun y taliad sylfaenol. Hoffwn pe bawn i wedi gallu parhau gyda Glastir gyda'r swm o gyllid—. A phe bai Llywodraeth y DU wedi rhoi'r cyllid i ni fel y gwnaethant ei addo, gallwn fod wedi'i wneud. Felly, dyma'r broblem. Fe'i gwnaethom yn gyflym oherwydd gofynnwyd inni wneud rhywbeth er mwyn peidio â chael bwlch rhwng Glastir a dechrau'r cynllun ffermio cynaliadwy. Hoffwn yn fawr pe gallwn gael yr un arian i barhau, ond ni allaf, ac nid wyf yn gwybod pam nad oes neb yn cydnabod yn y Siambr hon ar feinciau'r wrthblaid mai felly y mae. Pe byddem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, byddem wedi cael yr arian hwnnw: arian rhagweladwy, bob blwyddyn, cyllideb saith mlynedd—bob blwyddyn. Ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ei gydnabod ar yr ochr hon, ond nid ydynt yn ei gydnabod draw ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig.

Rwyf wedi gorfod dod o hyd i'r cyllid hwnnw, a'r hyn sy'n rhaid i bawb ohonom ei sylweddoli yw bod rhagweladwyedd y gyllideb wedi mynd. A bydd unrhyw gyllid domestig sy'n dod drwodd nawr i'r sector amaethyddol yn digwydd ar sail flynyddol. Rydym yn dibynnu'n llwyr, onid ydym, ar fod Llywodraeth y DU yn rhoi'r cyllid i ni. Maent wedi gwneud cam â ni yn y blynyddoedd cyntaf. Pwy sydd i ddweud beth fydd y cyllid y flwyddyn nesaf? Mae'n rhaid imi gyfrifo fy nghyllideb ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol ar yr hyn y tybiaf y byddaf yn ei gael. Nid wyf yn gwybod eto beth a gaf, a dyna pam rwy'n cael y sgyrsiau hynny. Ond dyna'r realiti. Dyma'r byd newydd, a gorau po gyntaf y bydd pobl yn dirnad hynny.

14:50
Atal Llifogydd

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cefnogi cynghorau yng ngogledd Cymru i atal llifogydd? OQ60189

Diolch. Rwy'n siarad yn rheolaidd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd am ystod o faterion, gan gynnwys effeithiau stormydd diweddar ledled Cymru a'r cymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol i leihau effaith llifogydd.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'r sgyrsiau y mae'n eu cael gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn fod cartrefi yn Sandycroft, Mancot a Brychdyn yn fy etholaeth i wedi dioddef llifogydd dair blynedd yn ôl, ac yn dilyn hynny, cytunwyd ar gyfres o gamau gan amrywiol asiantaethau gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys yr awdurdod lleol fel yr awdurdod rheoli risg, a chan gynnwys Dŵr Cymru, a chytunwyd arnynt i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i ddiogelu'r cymunedau hyn. Ond fis diwethaf, yn anffodus, unwaith eto, yn ystod storm Babet, cafodd y cymunedau hyn lifogydd am yr eildro mewn tair blynedd. Yn y cyfarfod cyhoeddus a ddilynodd storm Babet, mynegodd trigolion eu rhwystredigaeth nad oedd y gwaith y cytunwyd arno'n flaenorol gan yr asiantaethau amrywiol hyn wedi'i gwblhau'n llawn yn yr amser angenrheidiol. Weinidog, a wnewch chi, neu a wnaiff Llywodraeth Cymru—os nad eich portffolio chi ydyw, ond y Gweinidog Newid Hinsawdd efallai—gysylltu â'r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys CNC, a mynegi'r angen i'r gwaith hwn gael ei wneud cyn gynted â phosibl?

Diolch. Rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog mewn cysylltiad rheolaidd ag awdurdodau rheoli risg i ddarparu cyngor ac arweiniad ar y broses ymgeisio, er enghraifft, ar gyfer cyllid Llywodraeth Cymru. Mater i bob awdurdod rheoli risg yw cyflwyno cynlluniau arfaethedig ar gyfer y cyllid hwnnw. Fel y gwyddoch, darparodd y Gweinidog Newid Hinsawdd gyllid sylweddol ac fe wnaeth ddyblu'r cyllid refeniw, bron iawn, ar gyfer pob awdurdod lleol i £225,000 yr un, a gwn ei bod yn cynnal y swm hwnnw eto. Mae'n ofidus iawn pan fyddwch chi wedi dioddef llifogydd a gallaf ddychmygu pa mor ofidus yw hynny pan fyddwch chi'n dioddef llifogydd am yr eildro mewn tair blynedd. 

Effeithiwyd ar fflatiau llawr gwaelod yn yr Wyddgrug gan storm Babet, tua'r seithfed llifogydd mewn saith mlynedd, gyda'r mwyaf diweddar yn 2021. Ac eto, argymhellodd astudiaeth cynllun lliniaru llifogydd yn 2017 yn yr Wyddgrug, a gomisiynwyd gan Gyngor Sir y Fflint, y dylid cyflwyno'r adroddiad i Lywodraeth Cymru i gael cadarnhad bod £5.5 miliwn o gyllid ar gael. Pan godais hyn yng nghyfarfod cyhoeddus llifogydd Brychdyn 11 diwrnod yn ôl, dywedodd un o swyddogion y cyngor eu bod wedi rhannu hyn yn fodiwlau yr oeddent yn gweithio arnynt, cyn cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru. Ar ôl i mi fynd ar drywydd problemau llifogydd ym Mrychdyn ar ran trigolion yr effeithiwyd arnynt yn 2021, bu'n rhaid i mi aros 19 mis am ymateb llawn gan Gyngor Sir y Fflint.  Ond roedd hynny'n cynnwys, ac rwy'n dyfynnu,

'Lle bo'n bosibl, bydd y Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i drigolion oedrannus a bregus, ac i fannau y gwyddys eu bod yn agored i berygl llifogydd.'

Fodd bynnag, ar ôl storm Babet, cysylltwyd â mi gan ac ar ran trigolion oedrannus a bregus sy'n byw mewn mannau y gwyddys eu bod yn agored i berygl llifogydd nad oeddent wedi gallu mynd drwodd at y cyngor na chael gafael ar adnoddau, gan gynnwys bagiau tywod, ar ôl dioddef llifogydd eto. Yn y cyfarfod cyhoeddus, dywedodd swyddog o'r cyngor eu bod bellach yn gweithio gydag asiantaethau eraill i ddatblygu adroddiad ymchwiliad llifogydd adran 19 cyn cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru. Felly, yn dilyn fy nghwestiwn i'r Gweinidog cyllid yn gynharach, pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch pa mor amserol a chyflym y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i geisiadau o'r fath, a bod cyllid digonol ar eu cyfer?

Wel, nid wyf wedi cael trafodaeth benodol gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pwyntiau a godwyd gennych, ond byddaf yn sicr yn tynnu sylw'r Gweinidog Newid Hinsawdd at eich cwestiwn ac yn gofyn iddi ysgrifennu atoch. Rwy'n credu bod hynny'n well yn ôl pob tebyg na fy mod i'n rhoi'r ateb sydd o fy mlaen i chi. Rwy'n credu eich bod yn gofyn cwestiwn penodol iawn, felly fe ofynnaf iddi ysgrifennu atoch.FootnoteLink

14:55
Y Sector Amaethyddol

6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd y toriadau arfaethedig i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ei chael ar y sector amaethyddol? OQ60186

Rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i gyllideb cynllun y taliad sylfaenol gwerth £238 miliwn, sy'n cefnogi dros 16,200 o ffermwyr yng Nghymru. Mae cyllid a ailflaenoriaethwyd o gyllidebau materion gwledig yn ymwneud â rhagolygon wedi'u diweddaru, gan arwain at fawr iawn o oblygiadau i ddarparu cynlluniau sefydledig presennol, a dim effaith i unrhyw fuddiolwr lle mae cytundeb eisoes ar waith.

Diolch am yr ymateb cychwynnol hwnnw, Weinidog. Y prynhawn yma, rydym eisoes wedi clywed am nifer o bryderon am doriadau cyllidebol yn fwy cyffredinol. Fe sonioch chi am y toriad yn y gyllideb materion gwledig yno, sy'n mynd i fod yn doriad o £37.5 miliwn, ac mae yna ffermwyr mewn cymunedau gwledig sy'n poeni am y toriad hwn o £37.5 miliwn. Yn naturiol, mae'n creu perygl o effaith negyddol ar gysylltiadau o fewn cymunedau ac yn rhoi pwysau ar ffermydd a ffermwyr. Ac fel y byddech chi'n cydnabod, yn sicr, maent yn gwneud llawer iawn o waith da nid yn unig yn bwydo ein cenedl, ond hefyd ar reoli tua 80 y cant o arwynebedd tir Cymru. Roedd gennyf rai cwestiynau eraill, ond o ystyried cyd-destun rhai o'r cwestiynau sydd eisoes wedi'u gofyn heddiw a'r darlun cyffredinol o gyllid rydych chi'n ymdrin ag ef, a chan ddeall yn llwyr rai o'r penderfyniadau anodd y mae'r Llywodraeth yn gorfod eu gwneud gyda gwahanol fathau o bwysau'n cystadlu, a ydych chi'n gyfforddus ei bod hi'n ymddangos bod penderfyniadau cyllido Llywodraeth Cymru yn effeithio'n anghymesur ar ein cymunedau gwledig a'n ffermwyr? 

Wel, nid wyf yn credu bod hynny'n wir. A wyf fi eisiau gwneud toriadau yn fy nghyllideb fy hun yn ystod y flwyddyn? Nac ydw, yn bendant. A oes unrhyw un o fy nghyd-Weinidogion eisiau gwneud toriadau yn eu cyllidebau nhw yn ystod y flwyddyn? Nac ydynt, yn bendant. Ond rwy'n credu bod y Prif Weinidog a fy nghyd-Weinidogion i gyd wedi bod yn agored iawn am y sefyllfa ariannol ddifrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu. Nid Llywodraeth Cymru yn unig sy'n ei hwynebu; bydd Llywodraeth y DU yn gwneud yr un penderfyniadau a bydd Llywodraeth yr Alban yn gwneud yr un penderfyniadau hefyd. Rwy'n credu mai dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf i ni ei chael ers datganoli nôl yn 1999.

Felly, yn bendant, nid wyf yn awyddus i wneud toriadau i fy nghyllideb—wrth gwrs nad wyf fi. Dim ond drwy ailflaenoriaethu cyllid y gallais ei wneud, drwy edrych ar ein cyllid cyfalaf, a chlywsoch y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn dweud yn ei chwestiynau nad ydym yn gwybod o hyd a yw hynny'n bosibl eto; Trysorlys y DU sydd i benderfynu ar hynny. Ond dyma'r ffordd yr oedd yn rhaid imi edrych, i wneud yn siŵr nad ffermwyr yn unig, gan fod gennyf bysgotwyr yn fy mhortffolio—. Rydych chi'n gwybod y gall clefyd anifeiliaid ddod i'r amlwg yn gyflym iawn, ac mae'n rhaid imi bob amser sicrhau bod cyllid ar gyfer hynny. Mae gennyf fwyd a diod yn fy mhortffolio, ac rydym wedi gweld y llwyddiant a gawsom yno ac mae angen cefnogi hynny hefyd. Felly, nid ffermwyr yn unig mohono; mae'n cynnwys pob rhan o fy mhortffolio. O ble y buaswn yn mynd â'r arian hwnnw? Roedd yn rhaid imi ddod o hyd iddo. Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd fel Gweinidogion, pob un ohonom, i ddod o hyd i ostyngiadau yn ystod y flwyddyn. Mae'n anodd tu hwnt. Nid wyf erioed wedi gorfod gwneud toriadau yn fy nghyllideb yn ystod y flwyddyn yn y ffordd y bu'n rhaid imi ei wneud eleni.

Diogelu Pysgodfeydd Mewndirol ac Arfordirol

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddiogelu pysgodfeydd mewndirol ac arfordirol? OQ60198

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i weithredu cynllun gweithredu i adfer stociau eogiaid a sewin. Gan adeiladu ar fesurau rheoli addasol a gyflwynwyd yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar raglen uchelgeisiol o gynlluniau rheoli pysgodfeydd, a bwriadwn gyhoeddi'r cyntaf cyn y Nadolig.

Diolch yn fawr, Weinidog. Wrth gwrs, y camau gorau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd fyddai atal carthion heb eu trin rhag mynd i mewn i'n dyfrffyrdd. Mae'r ffaith bod Dŵr Cymru wedi gallu rhyddhau carthion yn barhaus i afonydd fel Tywi ac Ogwr yn ddigon drwg, ond pan allant wneud hynny heb eu cosbi, heb unrhyw orfodaeth gan Lywodraeth Cymru, pa fath o neges y mae hynny'n ei chyfleu? Weinidog, pa sicrwydd a roddwch nawr i'r bobl sy'n pysgota afonydd a thraethau fy rhanbarth eich bod yn gwneud popeth yn eich gallu i atal gollyngiadau a diogelu ein pysgodfeydd?

Wel, mae'r mater hwn yn dod o fewn portffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Nid wyf yn meddwl y bydd hi'n gadael iddynt beidio â chael eu cosbi; rydym i gyd yn adnabod y Gweinidog Newid Hinsawdd ac nid wyf yn credu y bydd hynny'n digwydd. Byddaf yn parhau i gael trafodaethau. Clywsoch yn fy ateb cynharach i Huw Irranca-Davies fod llygredd ein dyfroedd yn fater trawslywodraethol. Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn trin pob ffynhonnell llygredd.

15:00
Gwahardd Cŵn Bully XL Americanaidd

8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith gwaharddiad Llywodraeth y DU o gŵn Bully XL Americanaidd ar y sector achub anifeiliaid yng Nghymru? OQ60200

Nid yw'r manylion llawn ynglŷn â sut y bydd y gwaharddiad yn cael ei weithredu gan Lywodraeth y DU wedi'u cwblhau eto. Rwy'n ymwybodol y bydd effaith ar ganolfannau achub, a bydd fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r trydydd sector yng Nghymru i leihau effaith unrhyw ganlyniadau anfwriadol o'r ddeddfwriaeth hon.

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae llochesau achub anifeiliaid, awdurdodau lleol a heddluoedd o dan bwysau ariannol cynyddol. Fel y gwyddoch hefyd, ddydd Mawrth diwethaf, cyhoeddwyd bod y pwysau hyn yn mynd i waethygu eto gyda gwaharddiad cŵn bully XL erbyn diwedd eleni. Mae'n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gasglu cŵn crwydr, a chyda'r gwaharddiad hwn yn dod i rym, mae'n debyg y gallwn ddisgwyl gweld rhagor o gŵn XL wedi'u gadael yn crwydro ein strydoedd. Mae llawer o lochesau cŵn eisoes yn llawn, ychydig iawn o le sydd ganddynt i ehangu, i gael cytiau mwy i ddarparu ar gyfer maint y brîd hwn. Mae'n debyg fod hyn yn golygu y gallai fod yn ofynnol i lawer o awdurdodau lleol ewthaneiddio'r cŵn hyn. A yw'r Gweinidog yn gwybod a fydd naill ai Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru yn darparu adnoddau ychwanegol i lochesau achub anifeiliaid ac awdurdodau lleol i sicrhau y gallant barhau â'u dyletswyddau a'u cefnogi wrth gyflwyno'r gwaharddiad hwn? Diolch yn fawr.

Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cynharach i Sam Kurtz fy mod yn bryderus iawn am ganlyniadau anfwriadol y ddeddfwriaeth hon, a'r peth olaf yr ydym ei eisiau yw cŵn bully XL yn crwydro'r strydoedd oherwydd eu bod wedi cael eu gadael. Felly, mae'n bwysig iawn fod Llywodraeth y DU yn gweithio ar fanylion y gwaharddiad hwn. Fel y dywedais, rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr, ond byddwn wedi hoffi ychydig mwy o gyswllt rhyngof fi a Gweinidogion. Yn amlwg, cafodd Gweinidogion DEFRA eu synnu hefyd, rwy'n credu. Mae'n fater sydd wedi'i gadw'n ôl yn gyfan gwbl, a byddant yn cyflwyno'r gost gymorth neu iawndal o £200. Rwy'n credu bod angen inni gael sgyrsiau pellach ynglŷn ag a fyddant yn rhoi rhagor o gyllid fel bod modd gorfodi hyn, oherwydd bod unrhyw ddarn newydd o ddeddfwriaeth—pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno darn o ddeddfwriaeth, rydych yn edrych ar y costau gorfodi.

Efallai eich bod yn ymwybodol, rwy'n gwybod bod llawer o gyd-Aelodau wedi mynychu ac yn ymwybodol iawn hefyd, fy mod wedi cael uwchgynhadledd ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn ychydig wythnosau'n ôl, ac o siarad gyda'r heddlu a oedd yn bresennol yn yr uwchgynhadledd, a siarad gyda'n cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, mae'r rhain yn bryderon gwirioneddol wrth symud ymlaen. Felly, mae gennyf gyfarfod â Richard Benyon, sef y Gweinidog yn DEFRA mewn perthynas â'r mater hwn, fis nesaf, lle byddaf yn mynd ar drywydd y pwyntiau hyn. Maent yn cyflwyno offerynnau statudol; rwy'n credu eu bod yn cyflwyno tri offeryn statudol, a bydd pob un yn nodi llawer mwy o fanylion am y gwaharddiad, ond y manylion sy'n bwysig bob amser, onid e, ac mae gwir angen inni eu gweld.

Deddf Hela 2004

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am roi Deddf Hela 2004 ar waith yng Nghymru? OQ60208

Nid oes gan Lywodraeth Cymru gymhwysedd deddfwriaethol dros Ddeddf Hela 2004; mae'n fater sydd heb ei ddatganoli ac yn fater i Lywodraeth y DU. Byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi cryfhau'r Ddeddf yn gryf er mwyn mynd i'r afael â'i diffygion hysbys a'i galluogi i lwyddo i atal hela diangen a chreulon.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae bron i 20 mlynedd ers i Lywodraeth Lafur y DU wahardd hela llwynogod, ond mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod rhai helfeydd yn osgoi'r gyfraith y tu ôl i len fwg o hela llwybrau. Oherwydd y man gwan hwn, mae'r prif uwch-arolygydd Matt Longman, arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar hela llwynogod, wedi dweud:

'Nid yw'r Ddeddf Hela yn gweithio'n effeithiol ac mae hela anghyfreithlon yn arfer cyffredin o hyd.'

Mae gan Gymru a Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, hanes balch a blaengar ar les anifeiliaid, ac mae hela llwybrau wedi cael ei wahardd ar dir sy'n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru ers dwy flynedd. Ond a ydych chi'n cytuno, Weinidog, y dylid gwahardd pob math o erlid anifeiliaid yn enw chwaraeon, ac a wnewch chi felly annog Gweinidogion y DU i gryfhau Deddf 2004 i roi diwedd ar hela gyda helgwn yng Nghymru am byth?

Buaswn yn sicr yn annog Llywodraeth y DU i'w chryfhau. Mae diffygion y Ddeddf Hela yn aml yn cael eu dwyn i fy sylw, ac rwy'n siŵr fod Joyce Watson yn ymwybodol fod Bil Hela gyda Chŵn (Yr Alban) wedi ei basio ym mis Ionawr 2023, a daeth yn Ddeddf, rwy'n credu, ddeufis yn ddiweddarach. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gysylltu â swyddogion yr Alban i drafod y broses a ddilynwyd.

Hoffwn pe bai gennyf bwerau i gryfhau'r Ddeddf. Rwy'n mynd yn ôl at sgyrsiau a gefais yn yr uwchgynhadledd ar berchnogaeth gyfrifol ar gŵn, lle buom yn siarad am y nifer gormodol o ymosodiadau ar dda byw a gawsom, ac mae hynny bob amser yn arwain at drafod hela hefyd; mae'n ddilyniant naturiol. Ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yn yr ystafell nad oedd yn credu bod angen cryfhau'r Ddeddf. Felly, byddaf yn parhau i siarad â Gweinidogion DEFRA—rwy'n credu mai Michael Gove oedd y Gweinidog cyntaf imi godi hyn gydag ef—oherwydd bod ganddynt bwerau i'w wneud; hoffwn pe bai gennyf bwerau o'r fath.

15:05

Diolch i'r Gweinidog.

Hoffwn pe gallai'r Gweinidog materion gwledig yn 2009 fod wedi rhagweld y sesiwn hon pan gyflwynwyd Glastir ganddi bron i 15 mlynedd yn ôl, a phan gafodd amser eithaf caled yn y Siambr hon, a'r gwrthwynebiad i'w ddiwedd 15 mlynedd yn ddiweddarach yn y fath fodd yn y sesiwn hon.

3. Cwestiynau Amserol

Felly, y cwestiynau amserol nawr. Russell George sydd â'r cwestiwn cyntaf, i'w ateb gan y Gweinidog iechyd.

Ysbyty Athrofaol Cymru

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran Ysbyty Athrofaol Cymru yn cyhoeddi rhybudd du ynghylch galw andwyol sylweddol a pharhaus ar wasanaethau? TQ902

Gwnaf. Ddoe, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gyhoeddi 'digwyddiad parhad busnes'. Sbardunwyd hyn gan gynnydd yn y galw gan gleifion ag anghenion cymhleth a heriau gyda llif cleifion. Fe gynhaliais ymweliad dirybudd â'r safle neithiwr, a gwelais yn uniongyrchol fod y sefydliad yn rheoli'r sefyllfa'n dda a byddant yn isgyfeirio pan fyddant yn barod.

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac wrth gwrs mae hyn, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, yn sefyllfa bryderus iawn, oherwydd nid ydym ynghanol y gaeaf eto ac efallai y byddem wedi disgwyl i hyn ddigwydd yn ddiweddarach yn y tymor, felly, mae'r pryder hwnnw'n bodoli, wrth gwrs. Ac mae'n ymddangos y bydd staff nawr yn cael eu dargyfeirio oddi wrth lawdriniaethau wedi'u cynllunio i gefnogi'r sefyllfa bresennol. Felly, Weinidog, tybed a allech chi amlinellu'r hyn y mae hynny'n ei olygu'n ymarferol. Ac wrth gwrs, rydym yn ymwybodol o'r problemau ehangach yma: mae gennym un o bob pedwar llwybr cleifion eisoes ar restr aros y GIG, felly, sut y bydd hynny'n cael ei effeithio?

Ond hefyd, Weinidog, mae'r bwrdd iechyd wedi dweud ei hun bod arosiadau hir cleifion yn yr ysbyty yn cyfrannu at y galw niweidiol ar wasanaethau yn yr ysbyty. Felly, mae'n amlwg fod angen i'r sefyllfa honno ddod dan reolaeth. Roeddwn yn falch o glywed eich bod wedi gwneud yr ymweliad dirybudd hwnnw â'r bwrdd iechyd. Ond Weinidog, a wnewch chi nodi'n benodol yr hyn y mae'n ei olygu ar gyfer y sefyllfa hon? Beth mae rhybudd du yn ei olygu mewn gwirionedd? Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r bwrdd iechyd? Pa ofynion sydd ar sefydliadau eraill, naill ai'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru neu'r bwrdd iechyd, ac er enghraifft, a fyddwch chi neu'r bwrdd iechyd yn gofyn i'r fyddin gynorthwyo mewn rhyw ffordd, neu a fydd sefydliadau eraill yn cael eu galw i mewn i helpu gyda'r sefyllfa hon?

Diolch yn fawr. Wel, roeddwn yn falch iawn o weld neithiwr fod y sefyllfa'n gymharol dawel, ond mewn gwirionedd, dim ond tua 80 o gleifion oedd yno, a oedd yn wahanol i'r tua 160 a oedd yn aros yn yr adran achosion brys y noson flaenorol. Roedd y sefyllfa'n eithaf tawel; dim ond dau ambiwlans oedd yno. Dim ond un oedd newydd ddod i mewn, felly, sefyllfa wahanol iawn i'r hyn a oedd ganddynt y diwrnod cynt, rwy'n meddwl.

Maent yn amlwg yn dilyn fframwaith uwchgyfeirio. Mae hynny'n cael ei wneud am reswm: mae'n cael ei wneud er mwyn sicrhau nad ydych yn cyrraedd man lle mae'r system yn methu. Felly, rydych yn sicrhau eich bod yn tynnu pobl i mewn a'u dargyfeirio o waith arall yr oeddent yn ei wneud. Felly, mae'r bwrdd iechyd yn amlwg yn ystyried nifer o elfennau. Nid ydynt wedi isgyfeirio o hyd ac ni fyddant yn isgyfeirio nes eu bod yn hyderus na fyddant yn dychwelyd i sefyllfa uwchgyfeirio ar ôl hynny.

Felly, y mathau o gwestiynau y maent yn eu gofyn yw: a yw'r lefelau rhyddhau o'r ysbyty a ragwelir yn caniatáu iddynt atal yr amseroedd aros hir yn yr uned frys, ac i leihau'r niferoedd yn yr uned frys? A allant gynnal digon o allu arbenigol i dderbyn cleifion fel cleifion strôc a chleifion fasgwlaidd? A oes ganddynt gynllun penwythnos clir a chadarn? Felly, nid yw'n anarferol cael mwy o bwysau ar ddydd Llun, felly maent am wneud yn siŵr nad yw hyn yn ailadrodd y dydd Llun canlynol. Felly, maent am wneud yn siŵr fod popeth yn gadarn iawn, fel nad ydych yn dychwelyd yn syth at hynny. Ac a ydynt wedi rhoi digon o newidiadau ar waith i sicrhau nad yw dychwelyd i fusnes fel arfer yn arwain at yr un canlyniad? Felly, dyna'r mathau o bethau y maent yn eu hystyried cyn iddynt ddod allan o'r sefyllfa parhad busnes, ac nid oes unrhyw gynllun o gwbl i gynnwys y fyddin.

15:10

Ddiwedd mis Rhagfyr y llynedd, gwelsom y sefyllfa ddigynsail lle roedd pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru ar y lefel uchaf o uwchgyfeirio. Nid wyf yn gor-ddweud wrth ddweud bod ein gwasanaeth iechyd wedi wynebu argyfwng dirfodol bryd hynny, ac nid yw wedi gwella'n llawn o hynny eto. Fel y cyfryw, dylai'r datganiad o rybudd du yn Ysbyty Athrofaol Cymru—y digwyddiad cyntaf o'r fath y gaeaf hwn—weithredu fel rhybudd clir i'r Llywodraeth o'r heriau anochel a dwys sydd o'n blaenau yn y misoedd nesaf. Ddoe, clywsom Judith Paget, prif weithredwr GIG Cymru, yn rhagweld y gallai pwysau'r gaeaf gyrraedd lefelau tebyg i'r rhai a brofwyd y llynedd. Mae Rowena Christmas, cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru, wedi adleisio hyn drwy fynegi ei hofnau am aeaf caled iawn i'n GIG.

Rydym wedi gwybod ers peth amser am raddfa a chymhlethdod anghenion iechyd penodol Cymru—ein poblogaeth sy'n heneiddio, lefel uchel o gyfraddau salwch hirdymor a'r bylchau yn y gweithlu. Mae pobl Cymru yn disgwyl ac yn haeddu ymateb gan y Llywodraeth sy'n rhagweithiol i liniaru'r heriau hyn ac sy'n dangos ymwybyddiaeth o'r angen i ddysgu o gamgymeriadau blaenorol i leddfu'r straen aruthrol sy'n cael eu gosod ar wasanaethau rheng flaen. Ar y sail hon, buaswn yn ddiolchgar, felly, pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno canolfannau gofal sylfaenol brys a gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod ledled Cymru. Faint sydd wedi'u sefydlu hyd yma a beth yw'r disgwyl o ran y nifer a fydd yn weithredol erbyn diwedd eleni?

Mae mater arian yn codi hefyd. Rydym wedi dysgu heddiw, fel rhan o ymarfer ail-gyllidebu Llywodraeth Cymru, fod gofyn i fyrddau iechyd wneud toriadau pellach o £64 miliwn i'r lefelau gwariant presennol. Fel y mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn barod i gydnabod, gallai hyn gael effaith ganlyniadol ar argaeledd gwelyau ychwanegol mewn ysbytai, a oedd yn ffactor a gyfrannodd at ddatgan y rhybudd du yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddoe. Felly, beth yw asesiad y Gweinidog o effaith yr ymarfer ail-gyllidebu ar gapasiti gwasanaethau rheng flaen i reoli llwythi gwaith dros fisoedd y gaeaf?

Diolch yn fawr. Wel, yr hyn a wyddom yw bod pwysau enfawr ar y GIG, ac rydym yn disgwyl i'r pwysau fod yn fawr eto y gaeaf hwn. Roedd yna adeg, am wythnos ym mis Rhagfyr y llynedd, lle roedd meddygon teulu a meddygfeydd yn gweld 400,000 o bobl mewn wythnos; felly, mae'r pwysau'n ddwys. Gadewch inni beidio ag anghofio bod mesurau enfawr a sylweddol eisoes wedi'u rhoi ar waith i geisio dargyfeirio pobl oddi wrth adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, mae'r gwasanaeth 111, er enghraifft, wedi dargyfeirio 75,000 o alwyr yn uniongyrchol oddi wrth adrannau damweiniau ac achosion brys; mae tua 15 y cant o'r rheini'n cael eu hanfon i adrannau damweiniau ac achosion brys, felly, mae hwnnw'n nifer enfawr sy'n cael eu dargyfeirio. Gwyddom nad yw tua 15 y cant o ambiwlansys bellach yn cludo pobl i'r ysbyty, ond maent yn eu trin ac maent yn eu trin yn eu cartrefi.

Gwyddom fod y canolfannau gofal sylfaenol brys hynny hefyd yn gwneud gwahaniaeth. Gwyddom fod gweithgarwch wedi cynyddu 9 y cant ers y llynedd, felly, rwy'n credu bod hynny'n arwyddocaol. Mae 10,000 o bobl y mis yn cael eu gweld yn y canolfannau gofal sylfaenol brys hynny. Mae un, o leiaf, ar gyfer pob ardal. Rwy'n meddwl ei fod yn fodel gwahanol yn yr ardaloedd gwledig, serch hynny, gan nad ydynt o reidrwydd yn briodol yn yr un ffordd mewn ardaloedd gwledig, felly mae ganddynt fath gwahanol o system, ond nid ydynt o reidrwydd—. Nid ydynt yn cael eu galw'n ganolfannau gofal sylfaenol brys.

O ran y canolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod, bellach mae gan 16 ysbyty ganolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod. Mae 24 ohonynt i gyd ar draws Cymru—sef dwy yn rhagor ers mis Ebrill y llynedd—ac mae dwy arall yn agor ym mis Tachwedd eleni. A'r newyddion gwych yw bod yr hyn a welwn—. Un o'r pethau y dywedasom yn benodol ein bod am eu gweld y gaeaf hwn oedd ymestyn oriau agor. Rwy'n falch o ddweud, nawr, fod y canolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod ar agor am 91 awr yn ychwanegol ers mis Ebrill 2023.

Dyma rai o'r cwestiynau yr oeddwn yn eu gofyn iddynt yn yr adran frys yn y Mynydd Bychan ddoe: pa wahaniaeth y mae'r canolfannau gofal argyfwng yr un diwrnod yn ei wneud? Pa wahaniaeth y mae'r adran frys yn ei wneud? Pa wahaniaeth y mae 111 yn ei wneud? Roeddent i gyd yn unfrydol eu bod yn gwneud gwahaniaeth, a'u bod yn cydnabod bod pobl yn cael eu dargyfeirio. Ond mae llawer o bobl sâl yn ein cymunedau o hyd. Gwyddom fod firysau anadlol yn cynyddu yn ystod y gaeaf, ac mae'n rhaid inni ystyried hynny.  

15:15

Weinidog, rwy'n falch iawn eich bod wedi mynd i ysbyty Cymru ddoe yng Nghaerdydd. Rwy'n siŵr fod hynny wedi'i werthfawrogi'n fawr gan yr holl staff ymroddedig. Mae'n frawychus, mae'n rhaid imi ddweud, fod ysbyty'r Mynydd Bychan yn cael y trafferthion mawr hyn, o gofio eu bod wedi gwneud gwaith gwych ar beidio â chadw ambiwlansys yn aros yn y gorffennol. Hefyd, mae llif cleifion, yn y gorffennol, wedi cael ei gynorthwyo gan fyddin binc o weithwyr gofal cymdeithasol, yn yr adran frys ac ar y wardiau. Felly, a ydych chi'n gallu taflu unrhyw olau pellach ar pam mae llif cleifion wedi arafu i'r fath raddau yn sydyn?

Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol gywir. Rwy'n credu bod y Mynydd Bychan wedi bod yn esiampl o weithgarwch adran argyfwng. O bryd i'w gilydd, maent wedi bod yn gostwng yn is na'r targed pedair awr o ran nifer y bobl sy'n cael eu gweld o fewn y targed hwnnw. Felly, maent wedi bod yn wirioneddol drawiadol. Rydym wedi bod yn anfon pobl yno, ond yn amlwg mae rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'r llif y penwythnos penodol hwn.

Mae'n rhywbeth y bydd rhaid i ysbytai feddwl amdano, rwy'n credu, cydnabod y llif allan o ysbytai dros y penwythnos, oherwydd nid yw awdurdodau lleol yno i gefnogi'r llif hwnnw allan o ysbytai—fod angen cydnabod yr angen i geisio cael rhagor o bobl allan ar ddechrau'r penwythnos, gan wybod ei bod hi'n mynd i fod yn anodd cynnal y sefyllfa tan ddydd Sul.

Rwy'n credu y bydd rhai gwersi i Gaerdydd eu dysgu o ganlyniad i hyn. Yn sicr, gallaf ddweud wrthych fod y bwrdd gweithredol wedi penderfynu aros yn y sefyllfa parhad busnes am weddill heddiw a heno. Felly, hoffwn annog y cyhoedd i beidio â defnyddio'r adran frys yng Nghaerdydd oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. 

Diolch i'r Gweinidog. Yr eitem nesaf fydd y cwestiwn amserol gan Heledd Fychan, i'w ateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Dros y Ffôn yn y Gymraeg HSBC

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chyhoeddiad HSBC y byddant yn dod a’u gwasanaeth cwsmeriaid dros y ffôn yn y Gymraeg i ben? TQ906

Mae hyn yn siomedig iawn. Mae cynyddu defnydd o’r Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth glir imi, ac rwy’n gwybod i’r Aelod hefyd, o’r cychwyn cyntaf. Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac rwy’n deall y bydd y comisiynydd yn ysgrifennu at HSBC heddiw er mwyn gweld beth ellir ei wneud am y sefyllfa.

Diolch yn fawr iawn, ac rwy’n gwerthfawrogi ein bod ni’n unedig ar hyn. Yn amlwg, mi oedd o’n siomedig dros ben derbyn e-bost y bore yma, yn uniaith Saesneg, gan HSBC, a oedd yn dweud hefyd:

'Rydym wedi cadarnhau bod pob cwsmer yn gallu bancio yn Saesneg'.

O ystyried eu gwefan nhw, sydd yn dweud y canlynol—

'Yn HSBC rydym yn ymroddedig i fywyd, diwylliant a phobl Cymru a'n nod yw croesawu'r iaith Gymraeg yn ein holl ganghennau yng Nghymru, a thrwy wneud hynny darparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid'—

rydw i'n meddwl bod y llythyr yn dangos, yn gyfan gwbl groes, nad oes yna ddealltwriaeth gan HBSC o ran beth ydy cynnig gwasanaeth dwyieithog, a beth ydy hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yma yng Nghymru. Felly, rydw i'n gobeithio y gallwn ni hefyd, fel Aelodau o'r Senedd, fod yn unedig o ran ysgrifennu at a siarad gydag HSBC er mwyn sicrhau bod barn pawb rŷn ni'n eu cynrychioli yn gadarn o ran hynny.

Mi fyddwch chi’n ymwybodol, dwi’n siŵr, Weinidog, o’r adroddiad a wnaeth comisiynydd blaenorol y Gymraeg yn 2015, o ran yr adolygiad statudol o wasanaethau Cymraeg banciau’r stryd fawr yng Nghymru. Er nad ydyn nhw o dan y safonau, yn amlwg, mae nifer o sgyrsiau wedi bod ar hyd y blynyddoedd gyda’r sector hwn o ran pwysigrwydd y Gymraeg.

Un o’r pethau roedd y comisiynydd yn ei ddweud yn ôl yn 2015 oedd bod y newidiadau hyn sydd yn digwydd o fewn y sector—. Yn amlwg, wrth gau mwy o ganghennau, a chyda mwy o bobl yn defnyddio apiau ac ati i gysylltu, bydd llai o gyfleoedd yn bodoli i gwsmeriaid ddefnyddio’r iaith Gymraeg wrth iddynt ddelio â banciau, ac mae yna nifer o argymhellion yn yr adroddiad hwnnw er mwyn cynyddu'r defnydd digidol o'r Gymraeg, ond hefyd sicrhau eu bod nhw hefyd yn hyrwyddo'r gwasanaethau hyn.

Dwi'n meddwl mae'n bwysig nodi hefyd, yn ddifyr, fod y mwyafrif o gwynion a dderbyniwyd ynglŷn â gwasanaethau ffôn Cymraeg i wneud efo HSBC nôl yn 2015, felly mae yna gwestiynau i'w gofyn o ran sut gwnaethon nhw ymateb i hynny. Ond yn benodol, felly, gaf i ofyn, oes yna unrhyw drafodaethau wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector bancio yn sgil yr argymhellion hynny? Ac a gaf i ofyn, felly, ydych chi'n credu bod yna achos clir erbyn hyn i ymestyn dyletswyddau statudol ar yr iaith Gymraeg i fusnesau preifat megis banciau?

15:20

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pellach hynny. Mae hi'n gwybod nad oes modd gosod safonau'r Gymraeg ar fanciau—dydyn nhw ddim wedi cael eu rhestru ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fel sector. Mae hi hefyd yn gwybod bod rhaglen waith wedi'i chytuno gyda Phlaid Cymru ynglŷn ag ymestyn trefn y safonau yn gyffredinol.

Beth fyddwn i'n dweud yw nad yw hyn ddim yn ddigon da o ran y banc. Mae datblygiadau yn digwydd ynglŷn â sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu. Mae hynny yn rhywbeth sydd yn digwydd fel rhan o newidiadau economaidd a chymdeithasol. Ond, fel mae'n digwydd, mae datblygiadau digidol yn cynnig mwy o gyfleoedd i allu darparu'r math o wasanaeth sydd yn bwrpasol ar gyfer unigolion. Mae hynny'n gyfle, a dweud y gwir, nid yn fygythiad, a byddwn i'n disgwyl gweld busnesau o bob math yn edrych yn greadigol ar sut gallen nhw ddefnyddio'r datblygiadau hynny i gefnogi dewisiadau bancio pobl yn y cyd-destun hwn.

Dwi'n synnu, fel mae'n digwydd, bod y niferoedd sy'n defnyddio'r llinell ffôn Gymraeg mor isel â mae'r llythyr yn datgan. Gwnes i gael yr un llythyr y bore yma yn rhinwedd fy swydd fel Aelod o'r Senedd hon, nid fel Gweinidog, ac roeddwn i'n synnu i weld bod y rhifau mor isel. Tybed a ydy hynny'n dweud rhywbeth wrthym ni ynglŷn â sut mae'r gwasanaeth yn cael ei hybu a'i gynnig. Ydy hi yr un mor hawdd i gael y gwasanaeth yn y Gymraeg ag yw hi yn y Saesneg?

Felly, mae gofyn i fod yn greadigol yn y cyd-destun hwn. Dyw e ddim yn costio mwy i gyflogi rhywun sy'n siarad Cymraeg a Saesneg nag yw hi i gyflogi rhywun sy'n siarad Saesneg. Mae'r llythyr hefyd yn dweud bod hanner y banciau, hanner y canghennau yng Nghymru, yn cyflogi siaradwyr Cymraeg. Oes modd edrych yn greadigol ar y cyfraniad gallen nhw ei wneud? Felly, mae lot o bethau, a byddwn i'n gobeithio byddai cwmni gyda'r math o gapasiti a'r gallu a'r adnoddau yn edrych yn greadigol ar y ffordd gallen nhw newid y penderfyniad hwn ac edrych yn greadigol eto ar sut gallen nhw ddiwallu anghenion cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg.

Diolch ichi, Lywydd, am ganiatáu’r cwestiwn amserol hwn. Weinidog, rwy'n siomedig iawn gyda'r cyhoeddiad heddiw y bydd HSBC yn rhoi'r gorau i gynnig llinell gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg ym mis Ionawr, gan ddarparu gwasanaeth galw yn ôl yn unig. Mae cau banciau wedi gadael tyllau yn ein strydoedd mawr ac wedi cyflwyno nifer o heriau i rai cwsmeriaid, yn enwedig yr henoed, y rhai yng nghefn gwlad Cymru, ac yn awr, mae'n ymddangos, i'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg. I fanc oedd unwaith yn disgrifio'i hun fel 'Banc lleol y byd'—'The world's local bank'—ac sy'n cynnig gwasanaethau mewn ystod o ieithoedd gwahanol o gwmpas y byd, gallai'r penderfyniad i dargedu'r Gymraeg ar gyfer toriadau gael ei ystyried yn ansensitif. Gallai'r cynnig o wasanaeth galw yn ôl, a allai gymryd hyd at dri diwrnod ar ôl yr alwad gychwynnol, gael ei weld fel dim mwy na token gesture.

Pa bwerau sydd gennych chi fel Llywodraeth Cymru, efallai drwy Gomisiynydd y Gymraeg, i sicrhau bod HSBC yn parhau i gynnig gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n dymuno bancio drwy'r Gymraeg sy'n gyfartal â'r rhai sy'n dewis bancio drwy gyfrwng y Saesneg? A hefyd, a oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r penderfyniad hwn, ac os felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda HSBC i ofyn iddynt newid eu meddyliau? Diolch, Dirprwy Lywydd.

Cefais i'r llythyr y bore yma. Fe gafodd bawb arall y llythyr ar yr un pryd y ces i hwnnw, felly dyna'r hysbysiad gyntaf i fi gael o'r penderfyniad gan HSBC. Mae cyrff eraill wedi—. Rŷm ni wedi cael trafodaeth yn ddiweddar yn y Siambr ynglŷn â Duolingo, onid ydym ni? Maen nhw, fel mae'n digwydd, wedi cynnig cyfarfod yn sgil y llythyr rydw i wedi'i ddanfon i weld beth mwy gallwn ni ei wneud ar y cyd er mwyn ceisio edrych ar y penderfyniad hwnnw eto. Byddaf i'n hapus i roi adroddiad i'r Senedd maes o law, wedi i'r cyfarfod hwnnw ddigwydd. Ond rŷm ni eisiau gweld cynifer o gyfleoedd inni ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o'm bywydau. Mae'n rhaid cofio bod lot ohonom ni yn ei chael hi'n haws i ddefnyddio'r Gymraeg yng nghyd-destun rhywbeth mor bwysig â chyllid ein cartrefi ni, felly mae cyfrifoldeb penodol i ddarparu gwasanaethau yn y cyd-destun hwnnw. Dyw gosod safonau ar y banciau ddim yn dod o fewn Mesur y Gymraeg, ond mae Comisiynydd y Gymraeg â pherthynas gyda'r sector yn y maes hwn, ac felly bydd hi'n ysgrifennu at y banc.

15:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Weinidog, rwy'n hynod siomedig ynghylch y penderfyniad hwn gan HSBC. Mae'n un y mae'n rhaid iddynt ei wrthdroi ar unwaith. Yn eu cyhoeddiad yn eu llythyr at Aelodau'r Senedd heddiw, maent wedi methu deall pwysigrwydd y Gymraeg i bobl Cymru. Mae'r Gymraeg yn iaith fyw. Dyma'r dewis a ffafrir gan lawer wrth ddefnyddio gwasanaethau bancio. Weinidog, a ydych yn cytuno bod hon yn enghraifft arall o fanciau'r stryd fawr yn gwneud cam â chymunedau, ac y dylai fod yn alwad iddynt ddeffro? A'n neges i'r sector bancio yw ein bod yn disgwyl rhagor o wasanaeth yn Gymraeg, gan gynnwys gwasanaethau wyneb yn wyneb, ar-lein a dros y ffôn. Ac a ydych yn cytuno â mi ymhellach, Weinidog, fod hyn yn cryfhau'r achos dros fanc cymunedol cwbl ddwyieithog i Gymru?

Yn sicr, rwy'n cytuno â'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod am bwysigrwydd banc cymunedol i Gymru i allu darparu anghenion cwsmeriaid yn y ddwy iaith yng Nghymru—yn wir, mewn nifer fawr o ieithoedd yng Nghymru, fel y mae'n digwydd. Rwy'n cytuno bod y llythyr yn siomedig. Rwy'n credu bod her, onid oes, i fanciau feddwl yn ddychmygus ynglŷn â sut y gallant gymhwyso mewn cyd-destun cenedlaethol o fewn y DU yr hyn y maent, yn haeddiannol, mor falch o'i gyflawni'n rhyngwladol—y gallu i gwsmeriaid ledled y byd gael gwasanaethau mewn iaith o'u dewis. Mae hynny'n berthnasol yn yr un modd yn y DU, yng Nghymru, fel y mae yn unrhyw un o'r nifer o wledydd lle mae'r banciau hyn yn gweithredu'n llwyddiannus iawn ac yn falch iawn o'r gwaith y maent yn ei wneud yno. Rwy'n credu mai'r her yw i'r banc edrych eto ar sut y gall ddefnyddio'r gweithlu Cymraeg presennol sydd ganddo, pa feddwl sydd wedi'i roi i'r cyfraniad y gellid ei wneud yn y cyd-destun hwnnw. Os yw'n wir i ddweud, fel y mae'r llythyr yn nodi, eu bod yn cael 22 galwad y dydd, ni fyddai rhywun wedi meddwl bod y gofyniad i roi adnoddau tuag at hynny mor feichus fel y byddai y tu hwnt i'w gallu i feddwl yn greadigol am hyn.

Mi wna i ddatgan budd fel cwsmer i HSBC ac un sydd yn defnyddio y llinell Gymraeg. Yn fy etholaeth i, fel ar draws Cymru, mae banciau, yn cynnwys HSBC, wedi troi eu cefn ar eu cymunedau o ran presenoldeb corfforol. Ond dim ots, meddai’r banciau, mae posib bancio ar-lein neu ar y ffôn. Yn digwydd bod, mae fy nghangen i yn dal ar agor. Dros y blynyddoedd dwi wastad wedi bancio yno yn Gymraeg, ac mae hynny'n bwysig iawn i fi. Dwi ddim yn gallu bancio ar-lein yn Gymraeg. Dwi wedi gofyn i HSBC pam ddim. Yr awgrym ydy eu bod nhw'n gweithio ar hyn. Ond mi ydw i, tan rŵan, wedi bod yn gallu bancio ar y ffôn yn Gymraeg. Does yna ddim digon ohonom ni'n gwneud hynny, meddai HSBC. I ymateb i'r sylw wnaeth y Gweinidog, nac ydy, dydy o ddim mor hawdd. Mae yna rif ar fy ngherdyn banc sut i gysylltu efo HSBC. Nid y rhif Cymraeg ydy hwnnw, ond y rhif Saesneg. Felly, mae angen gweithio ar hynny. Ond mae'r gwasanaeth yn dod i ben yn y ffordd yma:

'Rydym wedi cadarnhau bod pob cwsmer yn gallu bancio yn Saesneg'.

(1) dydy o ddim yn wir—mae yna lawer o bobl sy'n llawer mwy cyfforddus yn bancio yn y Gymraeg; a (2) os mai dyna’r agwedd, pam trafferthu gwneud unrhyw beth yn y Gymraeg os ydyn ni i gyd yn gallu siarad Saesneg? Ac mae hyn yn dod gan fanc sydd â thraddodiad cryf iawn o gefnogaeth i'r Gymraeg. Y Midland, dwi'n meddwl, rhagflaenydd i HSBC, oedd yr hysbysebwr cyntaf un ar S4C, ac Emrys Evans, tu ôl i'w ddesg, yn dweud, ‘Mae Banc y Midland wedi gwneud ei orau dros Gymru dros y blynyddoedd’, os dwi'n cofio yn iawn. Dwi'n eithaf siŵr y byddai Emrys Evans yn siomedig iawn efo’r penderfyniad yma heddiw. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod hyn yn gam sydd yn mynd yn groes i'r neges mae'r banciau am inni ei chlywed, sef, pan ydyn nhw'n cau canghennau, eu bod nhw yn parhau i wasanaethu cymunedau mewn ffyrdd amgen?

Rwyf yn cytuno gyda hynny. Mae hefyd yn mynd yn groes i'r nod sydd gennym ni fel Llywodraeth ac sy'n cael ei rannu’n helaeth ar draws y Senedd hon bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, a dylai fod gan bobl y cyfle i ddefnyddio’u hiaith wrth wneud rhywbeth mor bersonol â bancio.

Fel Rhun ap Iorwerth, dwi'n gwstomer i HSBC, a dwi'n siomedig gyda'r llythyr a gawson ni y bore yma—fel roedd y comisiynydd o flaen y pwyllgor, fel mae'n digwydd, yn ateb cwestiynau ar hyn i gyd. Dwi'n meddwl bod angen ymateb mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod yn ystod y sesiwn yma, y brif ffordd o fancio ar hyn o bryd yw drwy apps ac ar-lein a dwi'n credu bod rhaid inni godi'r pwyslais i sicrhau bod yna ddwyieithrwydd yn yr apps dŷn ni yn eu defnyddio. Dwi'n credu bod hynny'n bwysicach mewn ffordd na'r llinell teleffon. 

Ac yn ail, mae'n rhaid inni gael trafodaeth ymhlith ein gilydd fel Cymry Cymraeg i ddefnyddio mwy o’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd. Achos un o’r issues dŷn ni'n gweld, a byddwch yn deall hyn, Gweinidog, yw bod sefydliadau’n creu gwasanaeth Cymraeg, ond dyw e ddim yn cael ei ddefnyddio. Ac mae hynny wedi digwydd dro ar ôl tro ar ôl tro, oherwydd, fel Cymry, ambell waith rŷn ni'n dewis defnyddio'r Saesneg, ac ambell waith rŷn ni'n teimlo'n fwy cyfforddus yn defnyddio'r Saesneg, ac ambell waith dŷn ni ddim yn gwybod bod y Gymraeg ar gael. Ac felly dwi'n credu bod angen inni feddwl amboutu hynny hefyd a sicrhau bod y dechnoleg rŷn ni'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gael yn y Gymraeg, a does dim ots gyda apps, teleffonau, beth bynnag ydyn nhw, pa iaith rŷn ni'n ei defnyddio, wrth gwrs, a dyna le mae'r dyfodol, dwi'n meddwl.

15:30

Wel, rwy'n cytuno gyda'r Aelod ar hynny ac mae ei ymrwymiad ef i dechnoleg yn y Gymraeg yn rhywbeth sydd yn hysbys ac yn glir, ac rwy’n rhannu hynny. Rŷn ni'n sôn yn aml, onid ydyn ni, mai defnydd, defnydd, defnydd yw'r ffordd rŷn ni'n mynd i sicrhau ffyniant i'n hiaith ni, ac mae’n rhaid edrych ar hynny yn y ffyrdd mwyaf eang. Ac mae’r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud yn iawn yn hynny o beth. Mae angen inni, efallai, nid jest ddefnyddio ein Cymraeg mwy yn ein cymunedau, ond gwneud penderfyniad pwrpasol—pob un ohonon ni sy'n medru—i ddewis gwasanaethau yn y Gymraeg, fel ein bod ni'n dangos bod y math o alw sydd yn sicr yn wir ar lawr gwlad—ein bod hynny'n digwydd yn y gwasanaethau yma hefyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, dwi hefyd yn bancio efo'r HSBC, a ddaru fi a fy nheulu fynd at y Midland bryd hynny oherwydd eu bod nhw'n darparu gwasanaethau Cymraeg ac oherwydd eu bod nhw'n gefnogol i'r Gymraeg. Felly, dwi wedi cael fy siomi’n aruthrol efo'r cyhoeddiad yma ar lefel bersonol. Ond fel y gallwch chi ddychmygu, Weinidog, yn Nwyfor Meirionydd, mae yna gymunedau Cymraeg eu hiaith efo pobl sydd eisiau bancio ac eisiau byw eu bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dŷn ni wedi clywed am fanciau yn cau drosodd a drosodd, efo'r HSBC yn dod aton ni ac yn dweud, 'Wel, peidiwch â phoeni, mi gewch chi'r ddarpariaeth yma ar y ffôn, mi gewch chi'r ddarpariaeth drwy amryfal ffyrdd eraill.' A rŵan, mae'r unig ddarpariaeth sydd ganddyn nhw trwy gyfrwng y Gymraeg, sef y gwasanaeth ffôn, yn cael ei gau, felly maen nhw'n gadael ein cymunedau ni i lawr unwaith eto.

Dwi, fel mae’n digwydd, yn un o'r rheini sy’n bancio efo ap hefyd. Does yna ddim gwasanaeth Cymraeg yn fanna, felly buaswn i'n gofyn yn daer i chi gael sgyrsiau efo'r banc er mwyn rhoi pwysau arnyn nhw er mwyn darparu’r gwasanaethau yma trwy gyfrwng y Gymraeg a chynnal y ddarpariaeth ffôn, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn, oedrannus sydd yn llawer iawn mwy cyfforddus trwy gyfrwng y Gymraeg ac sydd angen y gwasanaeth yma.

Ond ymhellach i hyn, onid ydy o'n dangos bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn wreiddiol, sydd yn cynnwys gwasanaethau cyhoeddus, yn annigonol a bod Mesur y Gymraeg (Cymru) yn 2011, felly, ddim yn ddigon cryf a bod rhaid inni addasu’r Deddfau yma er mwyn cynnwys gwasanaethau angenrheidiol ond preifat, fel bancio, a sicrhau bod banciau’n cael eu cynnwys mewn Deddfau er mwyn eu gorfodi nhw i ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog?

Wel, mae rheoleiddio yn un o'r ffyrdd, onid yw e? Mae gyda ni raglen ar y cyd i ymestyn safonau yn barod. Dylwn i ddatgan fy mod i ddim yn bancio gyda HSBC, mae'n rhaid i mi ddweud. [Chwerthin.] Mae pawb yn datgan eu sefyllfa bancio, so jest i fod yn glir.

Byddwn i hefyd yn dweud, a dwi'n credu mai beth sydd ynghlwm yng nghwestiwn yr Aelod yw hyn: mae newidiadau’n digwydd yn ein cymunedau ni ac mae rhai o’r rheini yn newidiadau sydd yn andwyol i berthynas pobl gyda’u stryd fawr a chyda’u cymunedau ac ati, ond mae hefyd yna ddealltwriaeth eang bod newidiadau ar un lefel yn anorfod. Ond er mwyn ein bod ni'n cynnal y ffydd yn yr ymrwymiadau y mae cyrff a chwmnïau yn eu gwneud yn sgil y rheini, mae'n rhaid sicrhau bod yr addewidion sy'n cael ei gwneud o ran darparu gwasanaeth yn rhai sy'n cael eu cadw, a hefyd, wrth fynd drwy'r broses hynny, fod y cwmnïau yma'n chwilio am ffyrdd creadigol, amgen i allu parhau i ddiwallu’r anghenion sydd mor amlwg, ac i wneud hynny trwy ddefnyddio technoleg a ffyrdd eraill. Felly, rwyf yn gobeithio y gall y banc edrych eto ar y penderfyniad. A byddaf yn siarad ymhellach gyda'r comisiynydd maes o law ynglŷn â hynny.

15:35
4. Datganiadau 90 Eiliad

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae Malcolm Eager, sy'n cael ei adnabod fel Mac, newydd ymddeol ar ôl 34 mlynedd fel glanhawr stryd. Ym 1989, ymunodd â chyngor bwrdeistref Brycheiniog a ddaeth yn rhan o Gyngor Sir Powys wedyn. Roedd dyletswyddau Mac yn amrywio—byddai’n torri gwair, yn golchi’r farchnad wartheg, yn gosod ac yn clirio ar ôl y farchnad, yn gwagio ein biniau, yn graeanu ein palmentydd ac yn glanhau ein strydoedd. Bob bore, byddai'n codi am 5 a.m., ac yn gweithio un penwythnos bob mis, pan oedd yn gweithio. Y Nadolig hwn, yn dilyn ei ymddeoliad, fydd y Nadolig cyntaf iddo beidio â bod wrth ei waith. Byddai gŵyl lenyddol y Gelli yn creu heriau ychwanegol. Mae wedi gweithio pob gŵyl, ac oriau ychwanegol, i wagio'r biniau a sicrhau bod tref y Gelli yn edrych ar ei gorau.

Mae Mac wedi ymfalchïo yn ei waith, ac eisiau sicrhau bod y strydoedd yn lân ac yn ddiogel—a gwneud yn siŵr, er enghraifft, fod poteli wedi torri yn cael eu clirio cyn gynted â phosibl. Mae wedi cael ei hyfforddi mewn cymorth cyntaf, a oedd yn golygu ei fod, yn gynnar un bore, wedi gallu achub bywyd dyn a oedd wedi llewygu drwy adfywio cardio-pwlmonaidd. Mae Mac wedi ennill gwobr dinesydd y flwyddyn, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr tu hwnt i'r galw, ac yn 2013, ef a drodd oleuadau Nadolig y Gelli ymlaen. Ddwy flynedd yn ôl, mynychodd y gwasanaeth carolau Nadolig brenhinol yn Abaty Westminster. Heddiw, mae’n bleser gennyf gofnodi fy niolch i Mac yn Senedd Cymru am ei wasanaeth cyhoeddus, ar ôl 34 mlynedd fel glanhawr stryd. Diolch, Mac. Diolch yn fawr iawn.

Mae'r wythnos hon yn Wythnos Cyflog Byw. Drwy dalu'r cyflog byw gwirioneddol, mae cyflogwyr yn gwneud safiad gwirfoddol i sicrhau bod eu gweithwyr yn gallu ennill swm sy'n ddigon i fyw arno. Cyfrifir bellach ei fod yn £12 yr awr, ar gyfer 2023-24, i fyny o £10.90 ar gyfer y flwyddyn flaenorol, yn seiliedig ar gostau byw cynyddol. Cyhoeddwyd y cyfraddau ar 24 Hydref, ac mae gan gyflogwyr chwe mis, tan 1 Mai y flwyddyn nesaf, i’w rhoi ar waith. Yma yng Nghymru, mae hyn wedi golygu y bydd dros 22,000 o bobl yn cael codiad cyflog, gan 561 o gyflogwyr achrededig, gan gynnwys 327 o gwmnïau yn y sector preifat, 49 yn y sector cyhoeddus, a 185 yn y trydydd sector. Yn ogystal â'r ffaith mai dyma'r peth moesol i’w wneud, ceir corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos manteision dod yn gyflogwr cyflog byw i fusnes. Yn 2018, canfu dadansoddiad gan Sefydliad Smith gynnydd dilynol mewn cyflogau, cynhyrchiant a gwariant, gan roi hwb economaidd. Pan fydd gweithwyr yn ennill digon i fyw, mae ganddynt fwy o incwm i'w wario yn yr economi leol. Rwy’n falch, yn Nwyrain Casnewydd, fod nifer o gyflogwyr o bob maint sy’n talu’r cyflog byw yn wirfoddol i’w staff, gan gynnwys cynghorau Casnewydd a sir Fynwy, Shine Catering Systems, ac Alliance Marketing Agency, i enwi rhai yn unig sy’n mynd y tu hwnt i’r galw i gefnogi eu gweithlu.

Nepell o Afon Dulas, mewn hen chwarel yn eithafion gorllewinol mwynder Maldwyn, mae yna ganolfan fach o fri rhyngwladol mawr. Rwy’n sôn, wrth gwrs, am y Ganolfan y Dechnoleg Amgen—CAT—sydd yn dathlu hanner canrif ers ei sefydlu y mis hwn. Rwy’n cofio ymweld â’r safle ddegawdau nôl, pan oeddwn yn blentyn, gan weld â'm llygaid fy hunan y syniadau rhyfedd, anghyfarwydd yno gan ryw griw gwalltog, amgen o actifyddion eco—pobl ddrwgdybus yn fy meddwl i ar y pryd, ac, â bod yn onest, i nifer yn y gymuned leol hefyd yn nyffryn Dyfi.

Ond ychydig y gwyddwn i bryd hynny pa mor flaengar ac arloesol y byddai’r syniadau hyn am yr amgylchedd, cynaliadwyedd ac egni adnewyddadwy. A thros y degawdau, mor braf yw gweld bod y ganolfan, ei syniadau, a’i gwaith wedi mynd o nerth i nerth, gan ennill ei phlwyf i ddatblygu’n gonglfaen blaengar, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws Prydain a’r byd, o blaid sicrhau dyfodol gwyrddach.

Heddiw, wrth i’r argyfwng hinsawdd ddwysáu, a’r angen gwirioneddol i ddatgarboneiddio gyflymu, mae gwaith y ganolfan yn bwysicach nag erioed, gan ddatblygu i ddarparu ystod eang o hyfforddiant a chyrsiau blaengar. Mae’r ganolfan hefyd yn gyflogwr pwysig iawn ac adnodd twristiaeth o bwys i’r canolbarth, gan groesawu degau ar filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Felly, yn syml iawn, llongyfarchiadau gwresog i’r ganolfan ar gyrraedd y garreg filltir hon, a phob dymuniad da iddi yn y dyfodol.

15:40
5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE'

Eitem 5 yw'r ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE'. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Paul Davies. 

Cynnig NDM8396 Paul Davies

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ‘Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE’, a osodwyd ar 12 Medi 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i. Ddirprwy Lywydd, mae archwilio sut mae cyllid datblygu rhanbarthol yn cael ei ddarparu wedi inni adael yr UE wedi bod yn flaenoriaeth bwysig i'n pwyllgor. Mae ein hadroddiad yn dilyn ymlaen o waith gan y Pwyllgor Cyllid i edrych ar faint o gyllid sy’n dod i Gymru o dan y gronfa ffyniant gyffredin, a rhaglenni cymorth eraill y mae Llywodraeth y DU wedi’u cyflwyno fel rhan o’i hagenda ffyniant bro.

Nawr, fe wnaethom 24 o argymhellion, ac er bod nifer o’r rhain wedi’u cyfeirio at Lywodraeth Cymru am ymateb, roedd pob un o’r 24 wedi’u cyfeirio at Lywodraeth y DU hefyd, o ystyried bod cyllid ar ôl gadael yr UE bellach yn cael ei ddarparu i Gymru o lefel y DU. Roeddem wedi gwahodd un o Weinidogion y DU i roi tystiolaeth lafar i’n hymchwiliad, ac er na ddigwyddodd hyn, cawsom dystiolaeth ysgrifenedig gan y cyn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros ffyniant bro, Dehenna Davison AS. Gall yr Aelodau weld bod y ddwy Lywodraeth wedi ymateb i’n hadroddiad, ac rwy'n falch fod Gweinidog yr Economi wedi derbyn yr argymhellion a gyfeiriwyd at Lywodraeth Cymru, a nodaf ei fod yn cefnogi ein canfyddiadau.

Mae pob un ohonom yn gyfarwydd â’r dadleuon yn y Siambr hon, a thu hwnt, ynglŷn ag a yw’r arian y mae Cymru’n ei gael drwy’r gronfa ffyniant gyffredin yn cyfateb i’r hyn y byddem wedi’i gael pe baem yn dal yn yr UE. Fel y Pwyllgor Cyllid o'n blaenau, nid oeddem yn gallu rhoi ateb llawn i'r cwestiwn dadleuol hwn y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn anghytuno yn ei gylch. Clywsom ystod eang o safbwyntiau ar y mater. Yng ngeiriau’r Athro Steve Fothergill, arbenigwr mewn adfywio economaidd a roddodd dystiolaeth i ni:

'Mae'n sefyllfa od iawn i fod ynddi, i ddweud bod y ddwy ochr yn gywir yn hyn o beth, ond mae'n wir, gan eu bod yn edrych ar bethau go wahanol. Mae un yn edrych ar wariant gwirioneddol mewn blynyddoedd ariannol, ac yn yr ystyr honno, mae Llywodraeth y DU yn gywir; mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ymrwymiadau ariannol, sy'n fesur gwahanol, ac mae Vaughan Gething yn gywir yn hynny o beth.'

Ein hargymhelliad cyntaf oedd y dylai'r ddwy Lywodraeth geisio cytuno ar safbwynt cyffredin o ran amseriad y cyflwyno a maint y cyllid cyn i unrhyw gylchoedd ariannu pellach gael eu cyhoeddi. Mae ymateb Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y telerau ar gyfer unrhyw iteriad o gronfa ffyniant gyffredin y DU yn y dyfodol yn cael eu harwain gan ddatblygiad adolygiad o wariant nesaf Llywodraeth y DU, a bod yr ymarfer gwerthuso ar gyfer y cylch presennol, a phrofiadau a safbwyntiau partneriaid lleol yng Nghymru, yn cael eu hystyried. Mae’r ymateb hefyd yn dweud y bydd Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar benderfyniadau yn y dyfodol.

Nid edrych ar y swm o arian yn unig a wnaeth ein hymchwiliad, fe wnaethom archwilio hefyd sut mae'r arian yn cael ei ddarparu. Roeddem yn awyddus i wybod beth sydd wedi gweithio'n dda a beth nad yw wedi gweithio'n dda, a sut y gallwn fod yn sicr y bydd cylchoedd ariannu rhanbarthol yn cael eu rhoi ar waith yn effeithlon ac yn effeithiol yn y dyfodol. Nodwyd rhai problemau cychwynnol gennym gyda'r cylchoedd ariannu cyntaf hyn, a rhai gwersi pwysig i'w dysgu ar gyfer cylchoedd y dyfodol.

Nawr, un o’r themâu allweddol a ddaeth i’r amlwg i ni o’r dystiolaeth oedd yr angen i wneud penderfyniadau gwariant ar y lefel gywir. Roedd awdurdodau lleol Cymru yn falch o'r cyfle i benderfynu ar flaenoriaethau'n lleol ac i gael rheolaeth dros gyflawni. Fodd bynnag, mae amserlenni tynn ar gyfer datblygu cynlluniau buddsoddi, oedi cyn cymeradwyo’r rhain a’r amserlen fer ar gyfer gwario arian wedi amharu ar eu gallu i gynllunio a chyflwyno prosiectau a fydd yn trawsnewid eu hardaloedd.

Fodd bynnag, clywsom dystiolaeth gref hefyd gan y Sefydliad Materion Cymreig, Prifysgolion Cymru, Cwmpas ac eraill fod lle i fwy o gydweithio i wario arian yn fwy strategol. Clywsom am yr anawsterau a wynebir gan sefydliadau sy’n gweithredu ar draws mwy nag un ardal awdurdod lleol wrth wneud cais am gyllid. Er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng yr heriau gwahanol hyn, fe wnaethom argymell bod y ddwy Lywodraeth yn adolygu pa elfennau o’r gronfa ffyniant gyffredin y dylid eu darparu ar lefel leol, ranbarthol neu Gymru gyfan. Mewn ymateb, mae Llywodraeth y DU wedi tynnu sylw at ei strategaeth werthuso fel arf ar gyfer hyn, ac at ymreolaeth awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau ar hyn.

Clywsom bryderon eang am ddiffyg cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn y gwaith o gynllunio a gweithredu’r cronfeydd, a’r effeithiau y mae hyn wedi’u cael ar gyflawni. Roedd y pryderon yn canolbwyntio’n benodol ar ddyblygu, er enghraifft, gyda rhaglen Lluosi, ac mewn meysydd polisi fel cymorth i fusnesau a sgiliau. Fe wnaethom argymell bod Llywodraeth y DU yn edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i gynllunio a darparu cylchoedd ariannu yn y dyfodol i helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac mae ymateb Llywodraeth y DU yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses honno. Ceir enghreifftiau da o gydweithio rhwng y ddwy Lywodraeth, megis bargeinion dinesig a thwf a phorthladdoedd rhydd. Dyna ddylai'r man cychwyn fod ar gyfer penderfynu ar drefniadau yn y dyfodol.

Fe wnaethom nifer o argymhellion yn ymwneud â phwysigrwydd gallu cynllunio ar sail ranbarthol, er mwyn caniatáu gweithio mewn partneriaeth, atal dyblygu a gwneud i’r arian weithio’n galed i fynd i’r afael â’r heriau allweddol. Mae pwysigrwydd ymgynghori priodol â Llywodraeth Cymru a rhwng partneriaid yn rhywbeth y mae ein hadroddiad yn ei nodi. Clywsom bryderon ynghylch awdurdodau lleol yn blaenoriaethu eu prosiectau eu hunain mewn rhai rhannau o Gymru, a gallu sefydliadau eraill i ymgysylltu’n effeithiol â’r broses o wneud cais am gyllid. Rydym am fod yn siŵr fod gan bob sefydliad gyfle teg i gael mynediad at gyllid yn y dyfodol.

Roedd recriwtio a chadw staff mewn sefydliadau llai, oherwydd y cyfnodau ariannu cul, yn bryder mawr. A mynegodd y sector addysg uwch ac undebau llafur bryderon dybryd hefyd ynghylch llenwi'r bwlch mewn cyllid ar ôl i raglen cronfa gymdeithasol Ewrop ddod i ben, gan nodi'r nifer sylweddol o swyddi a'r arbenigedd a fyddai'n cael eu colli. Roedd tystiolaeth Gweinidog y DU yn tynnu sylw at yr angen i’r sector addysg uwch addasu i dirwedd ariannu newydd, ond roedd yr Aelodau’n rhannu’r pryderon ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi, ac fe wnaethom argymell bod y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd, ac yn wir, gyda’r sector, i fynd i’r afael â phryderon ac i ddiogelu ymchwil ac arloesi yma yng Nghymru. Mae ymatebion y ddwy Lywodraeth ar y pwynt olaf hwn yn gadarnhaol ar y cyfan, gan gyfeirio at y memoranda cyd-ddealltwriaeth rhwng Innovate UK a Llywodraeth Cymru. Bydd y pwyllgor hefyd yn edrych yn fanylach ar gymorth ar gyfer ymchwil a datblygu yn ein cyfarfod ffurfiol nesaf.

Er bod llawer o’r dystiolaeth yn canolbwyntio ar y gronfa ffyniant gyffredin, cafodd y gronfa ffyniant bro sylw gennym hefyd. Fe wnaethom argymell ei bod yn ymbellhau oddi wrth ddull cystadleuol aneffeithlon o wneud ceisiadau, ac os bydd y gronfa’n parhau, y dylid dyrannu cyllid yn y dyfodol i’r ardaloedd lle mae fwyaf o angen codi'r gwastad.

Mae’n bwysig fod pob lefel o Lywodraeth yn cydweithio i gyfrannu at economi lwyddiannus yng Nghymru. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym hefyd yn galw am sicrwydd ynglŷn ag a fydd y rhaglenni hyn yn parhau y tu hwnt i 2025, ac am eglurder ynghylch faint o gyllid a fydd ar gael. Felly gyda hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ymchwiliad y pwyllgor, a diolch hefyd i'r tîm a gefnogodd yr Aelodau. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd. Diolch.

15:45

Dechreuaf drwy ddiolch, wrth gwrs, i Paul Davies, a gadeiriodd ein hymchwiliad, gan lwyddo i gadw trefn ar bob un ohonom pan fyddem yn gwyro oddi ar y trywydd, ac wrth gwrs, diolch i'r clercod am roi hyn at ei gilydd, a phawb a roddodd dystiolaeth.

Credaf fod yr adroddiad yn tynnu sylw at yr anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch faint o arian sydd ar gael i Gymru drwy gyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE. A chredaf fod y dystiolaeth a gawsom yn ddiddorol, a dweud y lleiaf, yn enwedig gan yr Athro Steve Fothergill, a ddywedodd wrth y pwyllgor, fel rydym eisoes wedi clywed, fod y ddwy Lywodraeth yn gywir yn eu safbwyntiau, gan eu bod yn sôn am wahanol bethau ac yn mesur mewn gwahanol ffyrdd. Ond sut bynnag yr edrychwch chi arno, rwy'n credu ei bod yn amlwg y bydd Cymru ar ei cholled wedi i gyllid strwythurol yr UE ddod i ben.

Hyd yn oed os cymerwn fod yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud yn gywir a derbyn eu gair y bydd gwariant blynyddol drwy’r gronfa ffyniant gyffredin, yn y pen draw, yn cyfateb i gyllid cyfartalog blynyddol yr UE yng Nghymru, un o fanteision allweddol cyllid strwythurol yr UE oedd ei fframweithiau aml-flwyddyn, a oedd yn caniatáu ar gyfer cynllunio a chyllidebu mwy hirdymor. Nawr, fel y saif pethau, nid yw cyllid y gronfa ffyniant gyffredin yn gweithredu yn yr un ffordd. Nid yw’n caniatáu ar gyfer llunio prosiectau mewn modd hirdymor na strategol, ac roedd Prifysgolion Cymru yn cytuno, gan ddweud bod y grantiau sydd ar gael yn rhy fach gydag amserlen rhy dynn i ganiatáu ar gyfer datblygu cynigion ystyrlon, strategol a chydgysylltiedig. Felly, i mi, mae hwn yn bwynt allweddol yn ein canfyddiadau ac yn hollbwysig. Sut y gallwn wneud y defnydd gorau o'r cyllid a fwriedir, ar ei lefel sylfaenol, ar gyfer datblygu economaidd, os ydym yn gweithredu'r cyllid hwnnw ar sail flynyddol? Nid yw'n gwneud synnwyr. A'r gwir amdani yw ein bod eisoes yn gweld effaith diwedd cyllid strwythurol yr UE; mae'n golygu, er enghraifft, diwedd gwasanaethau Fflecsi Bwcabus yng Ngheredigion, sir Gaerfyrddin a sir Benfro, a oedd yn arfer derbyn cyllid datblygu gwledig. Nawr, mae llywodraethu a strwythuro yn fater hollbwysig gyda chronfeydd datblygu ar ôl gadael yr UE. Mae’r broses o gyflwyno’r cynlluniau wedi bod yn ysbeidiol ac wedi wynebu cyfnodau o oedi, gyda sgil-effeithiau dilynol ar amserlenni prosiectau, ac wrth gwrs, mae’r diffyg rôl i Lywodraeth Cymru mewn penderfyniadau ariannu wedi golygu nad oes capasiti ar gyfer dulliau cydgysylltiedig ar lefel ranbarthol, neu hyd yn oed ar lefel Cymru gyfan. Mae dull cystadleuol yn hytrach nag un sy'n gwbl seiliedig ar anghenion o ymdrin â cheisiadau am gyllid wedi arwain at oriau'n cael eu gwastraffu yn llenwi ceisiadau sy'n cael eu gwrthod, dyblygu prosiectau a gwerth gwael am arian, ac yn hollbwysig, mae'r ffordd y mae’r gronfa ffyniant gyffredin a’r gronfa ffyniant bro wedi diystyru’r setliad datganoli yng Nghymru yn gwbl warthus. Mae’n fynegiant ar ei ffurf buraf o’r agwedd benuchel tuag at yr undeb a fabwysiadwyd gan Lywodraethau ar ôl Brexit, ac sydd, yn ôl arolygon barn diweddar, wedi gwneud yr undeb, os rhywbeth, yn llai diogel.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd—ac mae hyn ar gyfer y Gweinidog—dywedwyd wrthym y byddai Llywodraeth Lafur y DU o dan arweiniad Keir Starmer yn rhoi'r pŵer i wneud penderfyniadau ariannu o dan y gronfa ffyniant gyffredin yn ôl i Gymru. Felly, o'i ystyried ar ei olwg, mae hyn i'w groesawu. Ond beth mae'n ei olygu yn ymarferol? Beth fyddai Llywodraeth Lafur Cymru yn ei wneud yn wahanol o ran darparu cyllid ôl-UE? Credaf fod hwn yn gwestiwn arbennig o bwysig, o ystyried methiant Llywodraethau Llafur Cymru, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, i ddefnyddio cronfeydd strwythurol yr UE i sbarduno trawsnewidiad economaidd yng Nghymru. Felly, a yw'r Gweinidog yn cydnabod bod effaith hirdymor cronfeydd strwythurol yr UE yng Nghymru wedi bod yn gyfyngedig, a beth y byddai'n ei wneud i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o unrhyw gamgymeriadau, os a phan fyddai'n cymryd cyfrifoldeb am ddarparu cyllid datblygu rhanbarthol, a sut y byddai’n ceisio sicrhau nad yw’r math o orgyrraedd gan Lywodraeth y DU sydd wedi diffinio’r gronfa ffyniant gyffredin a’r gronfa ffyniant bro hyd yn hyn yn cael ei ailadrodd? Diolch.

15:50

Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cefnogi’r ymchwiliad hwn, a phawb a roddodd o’u hamser i roi tystiolaeth mor werthfawr i ni. Fel Aelodau eraill, gwn fod hwn yn waith defnyddiol iawn, a phan fyddwn yn ystyried rhai o’r symiau dan sylw, mae hefyd yn faes hollbwysig i ni ei ystyried, i sicrhau y gwneir y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyllid hwn, i hybu ein heconomi, creu swyddi, a gwella ffyniant Cymru, ac yn enwedig, wrth gwrs, i wneud hyn mewn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd, fel rhai o’r rheini rwy'n eu cynrychioli yng Nghwm Cynon.

Beth a ddywedodd ein hymchwiliad wrthym? Wel, roedd llawer o'n canfyddiadau yn dra hysbys, ond eto, yng ngoleuni eu natur feirniadol, mae'n iawn eu bod yn cael eu datgan a'u harchwilio eto. Er enghraifft, nododd yr ymchwiliad y dylai’r defnydd o’r cyllid hwn gael ei lunio a’i arwain gan Lywodraeth Cymru, a ddylai fod â rôl allweddol yn y gwaith o'i lywodraethu a'i ddyrannu. Dyma, wedi’r cyfan, yw'r Llywodraeth ddatganoledig sy’n atebol i ni yma yn Senedd Cymru. Mae'n iawn fod unrhyw fodel cyflawni yn y dyfodol yn clywed ac yn parchu'r llais hwn a'n blaenoriaethau. Os yw’r setliad datganoli i’w barchu, ni ddylai penderfyniadau ynghylch sut y caiff y cyllid rhanbarthol hwn ei ddyrannu yng Nghymru gael eu gwneud gan Aelodau Seneddol o Surrey a Swydd Efrog yn unig, yn enwedig pan ydym wedi gweld y fath newid cyson o ran Gweinidogion yn San Steffan: pedwar Ysgrifennydd Gwladol gwahanol dros ffyniant bro ers mis Medi 2021, wedi'u cefnogi gan bedwar is-Weinidog gwahanol dros ffyniant bro dros yr un cyfnod, sy'n rhoi disgwyliad oes cyfartalog o ychydig dros chwe mis yn y swydd.

Yn siomedig, roedd hefyd yn amlwg nad oedd cyllid a oedd wedi’i ddyrannu bob amser wedi’i ddefnyddio yn y ffordd a fyddai’n sicrhau’r effaith fwyaf neu yn y ffordd a fyddai wedi sicrhau’r canlyniadau mwyaf buddiol. Yn wir, weithiau, roedd yn amlwg fod ein cymunedau mwyaf difreintiedig, a oedd angen y gwariant hwn fwyaf, ac a ddylai fod wedi elwa'n fawr o’i ddyraniad, i'w gweld yn ôl-ystyriaethau yn aml yn y broses ddyrannu, neu hyd yn oed wedi’u hanwybyddu'n gyfan gwbl.

Dywedodd tystion wrthym am awdurdodau lleol na ddyfarnwyd unrhyw gyllid iddynt o dan y gronfa ffyniant bro. Mae hynny'n gywilyddus. Yn rhannol, roedd hynny oherwydd trefniadau ariannu brysiog nad oedd ganddynt bob amser y tryloywder y dylem allu ei ddisgwyl, ac mae'n destun pryder fod prinder gwybodaeth hefyd yn rhywbeth sy'n effeithio ar ein dealltwriaeth o sut y bydd cynlluniau ariannu yn y dyfodol yn gweithio. Yn wir, roedd hwn yn bwynt arall a oedd yn amlwg yn ein hymchwiliad. Roedd rhywfaint o’r dystiolaeth gan y rhanddeiliaid ynghylch pa mor hygyrch oedd y broses ariannu iddynt yn fy syfrdanu, yn enwedig o ran diwallu angen. Ar raddfa o 1 i 5, gyda 5 yn dynodi hygyrch iawn ac 1 yn dynodi anhygyrch iawn, ychydig dros 2 oedd y sgôr cyfartalog. Nawr, mae hynny'n amlwg yn broblem, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.

Hoffwn sôn yn gryno am ymateb Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau y DU i’n hadroddiad. Mae arnaf ofn fod eu hateb yn arwynebol iawn yn fy marn i. Yn wir, mae’n siomedig nad yw Llywodraeth y DU wedi ymateb yn ddigonol i’r pryderon a godwyd gan y pwyllgor. Mae’r ymateb gan yr adran i’n hadroddiad yn cynnig rhai geiriau cynnes am eu hawydd ymddangosiadol i ymgysylltu â sefydliadau datganoledig, ac eto, nid ydynt wedi ymgysylltu’n briodol â’n gwaith craffu ar y mater hwn, yn union fel y maent wedi methu’n barhaus, dro ar ôl tro, ag ymgysylltu’n briodol â Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cyferbynnu’n llwyr â Llywodraeth Cymru, a diolch iddynt am eu hateb. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad sydd wedi’i gynnwys yn eu hymateb i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau newid cadarnhaol i’n cymunedau, a diolch iddynt hefyd am y ffordd gydymdeimladol y gwnaethant wrando ar ein hargymhellion. Wedi'r cyfan, mae a wnelo â sicrhau'r gorau i'r bobl a gynrychiolwn. Diolch.

15:55

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Breseli Sir Benfro, am gadeirio'r ymchwiliad yn rhagorol, a phawb a roddodd dystiolaeth.

Yn ystod yr ymchwiliad, cawsom dystiolaeth dda iawn, a ddarparwyd mewn modd cytbwys, a helpodd i nodi, mewn ffordd glir a dealladwy, y llwybr ymlaen ar gyfer cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE. Mewn cylchoedd blaenorol o gyllid yr UE, roedd Cymru'n cael mwy o gronfeydd strwythurol yr UE y pen nag unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU, gyda bron i chwarter mentrau bach a chanolig Cymru yn cael cymorth drwy ffrydiau cyllid yr UE. Mae’r arian hwn wedi’i wario ar ddarparu hyfforddiant sgiliau, datblygu cymorth i fusnesau, ac ymchwil a datblygu, sydd oll, yn ôl ymchwil y Ffederasiwn Busnesau Bach, yn cael effaith gadarnhaol net ar fusnesau Cymru a’r ardal leol. Mae arian a ddyrannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd yn ystod ein cyfnod o aelodaeth wedi bod o fudd i Gymru. Ond gan dynnu ein sbectol binc, mae'n rhaid inni beidio ag esgus bod popeth yn arfer bod yn wych gyda chyllid yr UE, neu ei fod bob amser yn darparu gwerth am arian.

Mae Llywodraeth Cymru, yn eu hymateb i’r adroddiad, wedi llwyddo i dargedu eu dicter at Lywodraeth y DU, gan honni bod cynlluniau fel y gronfa ffyniant gyffredin a’r gronfa ffyniant bro wedi tanseilio datganoli ac wedi arwain at fygythiad i dwf a chreu swyddi yng Nghymru. Mae hyn, yn gyfleus ddigon, yn anwybyddu’r problemau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd gyda chyflwyno a rheoli cynlluniau cymorth amaethyddol ôl-UE, sydd, er eu bod yn cael eu llunio a’u gweithredu yng Nghymru, i bob golwg, wedi uno’r gymuned amaethyddol a'r lobi amgylcheddol yn eu herbyn. Mae’n werth cyfeirio at sylwadau’r Athro Steve Fothergill, economegydd o Brifysgol Sheffield Hallam, a ddywedodd, mewn tystiolaeth i ni ym mis Mehefin, a dyfynnaf, gan barhau’r dyfyniad gan Gadeirydd y pwyllgor:

'Erbyn ichi gyrraedd y flwyddyn ariannol nesaf, mae'r swm y mae Llywodraeth y DU yn ei roi yn y gronfa ffyniant gyffredin yn cyfateb, fwy neu lai, i werth cronfeydd yr UE yn flaenorol, gydag addasiad bach ar gyfer chwyddiant.'

Gwn fod y Gweinidog yn dadlau yn erbyn hyn, ac mae’n dibynnu ar wahanol ffyrdd o gyfrifo’r cyllid, fel y clywsom, ac a yw cyllid etifeddol wedi’i gynnwys ai peidio, ond gan fy mod yn optimydd naturiol, byddai’n well gennyf barhau i fod yn obeithiol fod asesiad yr Athro Fothergill yn gywir, a bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn ofalus wrth ddyfynnu ffigurau dadleuol.

Yn yr un sesiwn dystiolaeth, soniwyd am danwariant o £0.5 biliwn mewn cyllid strwythurol a oedd mewn perygl o gael ei ad-dalu. Roedd y Gweinidog a’i swyddog yn dadlau na fyddai hyn yn digwydd pan glywyd y dystiolaeth, a byddai’n ddiddorol clywed gan y Gweinidog os yw hyn wedi’i gadarnhau neu wedi’i gwblhau. Roedd Llywodraeth Cymru yn ofalus i ddewis pa argymhellion y byddent yn ymateb iddynt yn ein hadroddiad, gan gadw'n dawel ar argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU yn unig, a chynnal thema drwy gydol eu hymateb y dylent gael rhan fwy, ac ar adegau, rhan lawn, yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch ble a sut y caiff arian ei wario. Er fy mod yn teimlo bod diffygion yn null gweithredu Llywodraeth San Steffan, mae’n peri rhwystredigaeth i mi fod Llywodraeth Cymru yn credu mai nhw, a dim ond nhw, sy’n gallu gwasanaethu buddiannau gorau pobl Cymru. Rwy’n ddatganolwr, yn Gymro balch ac yn unoliaethwr, ac ni welaf unrhyw broblem gyda Llywodraeth y DU yn gwario arian trethdalwyr y DU ym mhedair rhan gyfansoddol y Deyrnas Unedig.

Amlygodd yr ymchwiliad, yn enwedig yn argymhellion 3, 5 a 7, sut y dylai ymgysylltu wella rhwng Llywodraeth Cymru a’r DU er mwyn darparu rhaglenni ariannu’n fwy effeithiol. Soniwyd am broblemau a achoswyd am nad oedd gan rai awdurdodau lleol arbenigedd i wneud cais effeithiol a chyflawni ar brosiectau cyllid mawr. Mae ymateb Llywodraeth y DU i’r adroddiad yn amlinellu sut y disgwylid y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda grwpiau partneriaeth lleol i gyflawni prosiectau, ac nid yw’n glir fod hyn yn digwydd bob amser. Mae gennym ddwy enghraifft wych, fel y dywedodd y Cadeirydd, lle mae dull cydweithredol ar raddfa fawr rhwng y ddwy Lywodraeth ac awdurdodau lleol wedi bod yn effeithiol o ran sicrhau dau borthladd rhydd yng Nghymru, yn ogystal â'r bargeinion dinesig, lle mae nifer o awdurdodau lleol wedi dod ynghyd i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Roeddwn yn falch o weld y gydnabyddiaeth yn yr ymateb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd gwersi a ddysgwyd o’r cylchoedd cychwynnol o gynlluniau ariannu yn cael eu rhoi ar waith mewn cylchoedd ariannu pellach. Mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi’i ddyrannu mewn ffordd debyg ers cymaint o flynyddoedd yn ystod aelodaeth y DU o’r UE fel ei bod ond yn naturiol, pan fydd strwythurau a darparwyr cyllid yn newid, y bydd problemau cychwynnol yn codi. Mae’n bwysig inni wrando ar yr adborth a gwella wrth inni symud ymlaen, a theimlaf fod yr ymchwiliad hwn wedi helpu i nodi llwybrau i wneud hynny’n bosibl.

Fel Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli etholaeth wledig, teimlwn y dylwn gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy dynnu sylw at farn y Ffederasiwn Busnesau Bach mai

'un o'r pethau mwyaf cadarnhaol sy'n dod o'r cyllid ôl-Brexit presennol yw ei fod yn agored i fwy o Awdurdodau Lleol na Chronfeydd Strwythurol yr UE, sy'n golygu bellach fod gan awdurdodau a oedd wedi'u heithrio o'r blaen gan feini prawf Amcan Un neu Arian Cydgyfeirio fynediad at gyllid posibl.'

Bydd hyn yn agor cyfleoedd newydd i ardaloedd o'r Gymru wledig a oedd wedi’u heithrio o gyllid blaenorol, a rhaid bod hyn yn beth da. Rwy’n parhau i fod yn obeithiol y bydd cyllid newydd yn lle cronfeydd strwythurol yr UE yn cyflawni ar ran Cymru. A oedd cronfeydd strwythurol yr UE yn berffaith? Nac oeddent. A yw'r iteriad cyntaf o gyllid ôl-UE wedi bod yn berffaith? Nac ydyw, ond credaf yn gryf y bydd ymchwiliad ein pwyllgor yn helpu i wella gweithio cydweithredol, yn annog dysgu o gamgymeriadau blaenorol, a hefyd yn gwella'r gwerth am yr arian a gawn o gyllid. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

16:00

Hoffwn ddechrau drwy longyfarch y pwyllgor ar yr adroddiad hwn, ond hefyd drwy longyfarch y Cadeirydd ar y modd y mae wedi arwain y pwyllgor. Rwy'n credu bod yr Aelod dros y Preseli, yr wyf wedi ei adnabod ers blynyddoedd lawer, wedi bod yn Gadeirydd ac yn arweinydd pwyllgor trawiadol iawn bob amser, ac rwy'n credu y dylem gydnabod ei rôl arweiniol ar draws y Siambr. Ac mae'n adroddiad amserol iawn wrth gwrs, oherwydd fe'i cyhoeddwyd ym mis Medi, wythnosau'n unig cyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ganslo'r ail ran o brosiect HS2. Nawr, mae llawer ohonom yn credu bod codi'r gwastad a holl agenda codi'r gwastad wedi marw ymhell cyn hynny, ond hyd yn oed os oedd o bosibl ar beiriant cynnal bywyd, yn sicr cafodd ei gladdu gan y penderfyniad ynglŷn ag HS2. Ac rwy'n credu y byddai'n werth inni adolygu ein syniadau ar lawer o'r materion polisi rhanbarthol hyn yng ngoleuni hynny. 

Mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn cymryd rhan mewn dadleuon ar hyn oherwydd rwy'n credu bod yna syniad wedi bod bob amser fod cyllid yr UE—y cronfeydd strwythurol, y cronfeydd cydlyniant—yn rhyw fath o ateb hollgynhwysol i'n holl wendidau economaidd—y byddai'r cyllid a gawsom drwy ffynonellau'r UE rywsut yn trawsnewid economi Cymru mewn mater o fisoedd neu flynyddoedd. Rwy'n cofio'r cyn Brif Weinidog, 20 mlynedd yn ôl nawr, Rhodri Morgan, yn siarad yn huawdl iawn bob amser, ond weithiau, yn anffodus, byddai ei eiriau'n cael eu cofio'n rhy llythrennol. Dywedodd ei fod yn gyfle unwaith mewn oes. Rwy'n credu mai yn ôl yn 2000 oedd hynny. Rhoddwyd trefniadau ariannu'r UE ar waith a chrëwyd rhanbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd er mwyn creu cyfle i sicrhau cyllid Ewropeaidd drwy'r mecanweithiau arbennig hyn. Nid oedd neb erioed yn credu y gallech newid economi Cymru mewn cyfnod o saith mlynedd, ail-lunio canrif o ddirywiad. Nid oedd neb yn credu hynny, ond rywsut mewn dadl gyhoeddus roedd pobl yn credu bod hynny'n mynd i fod yn bosibl. Ac yna, gan gredu'r prosbectws ffug hwn, rydym wedi cael dadansoddiad ar ôl dadansoddiad yn esbonio pam nad yw'r prosbectws ffug hwn, nad oedd byth yn mynd i lwyddo, wedi llwyddo, a rhoddodd yr Aelod dros dde sir Benfro enghraifft i ni o'r meddwl cymysglyd hwnnw yn gynharach. 

O ran lle rydym arni, rwy'n credu bod angen inni feddwl yn galed sut mae polisi rhanbarthol yn gweithio. Y rhan sylfaenol o bolisi rhanbarthol Ewropeaidd a pholisi rhanbarthol y DU bob amser oedd ychwanegedd, nad yw'r cyllid hwn yn cael ei ddarparu ar gyfer gwneud yr hyn yr oedd Llywodraethau eisoes yn mynd i'w wneud ac y dylent ei wneud, sef darparu gwasanaethau cyhoeddus a'r cyfan oll, ond ychwanegedd, darparu cyllid ychwanegol i wneud prosiectau ychwanegol a fyddai'n buddsoddi mewn prosiectau creu cyfoeth ychwanegol, boed hynny'n seilwaith neu'n fuddsoddiad mewn pobl, neu bethau eraill. Yr hyn nad ydym erioed wedi'i wneud yw dysgu'r gwersi o hynny'n effeithiol, oherwydd mae adroddiad y pwyllgor yn dweud bod problemau cychwynnol gyda'r gronfa ffyniant gyffredin, a bod ymateb Llywodraeth y DU yn dweud y dylid dysgu gwersi. Mae gwersi wedi'u dysgu, a dyma rwy'n ei gael mor rhyfeddol am y ddadl a gawn heddiw, fel pe na baem wedi dysgu unrhyw wersi dros y blynyddoedd. A dyma'r drasiedi go iawn y mae Llywodraeth y DU wedi'i gwneud o ran ei dull o weithredu polisi.

Cyhoeddwyd adroddiadau ddegawd yn ôl ynglŷn ag Amcan 1 a'r methiannau a'r gwersi a ddysgwyd o Amcan 1, ei bod yn rhaglen dameidiog, fod prosiectau'n rhy fach, dan arweiniad llywodraeth leol, yn methu gweithio gyda'i gilydd, a bod angen prosiectau mwy hirdymor a mwy o faint arnom dros ranbarth mwy o faint. Cafodd yr holl wersi hyn eu dysgu. Anwybyddodd Llywodraeth y DU y gwersi mewn ysfa ideolegol ffyrnig i eithrio pobl rhag bod yn rhan o bolisïau rhanbarthol. Roeddem i gyd yn gwybod hyn. Cyhoeddwyd adroddiadau, a'u cyflwyno. Rwyf wedi'u trafod o'r blaen. Roeddem yn gwybod hyn i gyd, ac eto fe gafodd ei anwybyddu. Ac felly nid problemau cychwynnol yw'r rhain, maent yn gamgymeriadau sylfaenol ym mheirianneg y prosiectau hyn.

Felly, beth a wnawn? Credaf fod angen inni wneud nifer o wahanol bethau, a chyfeiriwyd at un ohonynt gan y Prif Weinidog ddoe. Mae angen inni symud y tu hwnt. Mae adroddiad y pwyllgor yn gosod sylfaen dda ar gyfer bwrw ymlaen â hyn. Mae angen strwythur cyllido aml-flynyddol arnom sy'n darparu cyllid dros gyfnod o amser i gyflawni amcanion penodol. Mae angen cyllideb arnom—a dyma a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Gwnaeth y pwynt fod fformiwla Barnett wedi dyddio, fod ei hamser ar ben ac y dylid ei rhoi yn y llyfrau hanes. Mae hynny'n hollol wir. Mae angen strwythur ariannu sy'n deg, sy'n seiliedig ar angen ac sy'n darparu ar gyfer pobl mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig.

Hefyd, mae angen inni gefnu ar y cymhlethdod a'r dryswch. Mae'r adroddiad yn cynnwys prosiect Lluosi, ac mae'n disgrifio'n dda iawn sut mae hwnnw wedi creu cymhlethdod a dryswch, a heb ei ddatrys. Ond yn fwy na dim, mae angen llywodraethiant, a rhannau o'r Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'i gilydd. Ni allwn gael Llywodraeth drahaus yn Llundain sy'n dweud wrth weddill y Deyrnas Unedig beth mae codi'r gwastad yn ei olygu a sut olwg sydd ar y prosiect ôl-UE. Mae angen parch, ac rwy'n ddigon hen i gofio David Cameron—fe gawsom sgyrsiau amdano ar y pryd—

16:05

Ac rwy'n gobeithio mai'r hyn y byddwn ni'n gallu ei wneud gyda Llywodraeth Lafur newydd yw cael perthynas barchus ar draws yr ynysoedd hyn, gan ddarparu adnoddau a chyllid i'r mannau lle mae eu hangen, wedi'u rheoli'n gyfunol er lles pawb. Diolch.

Hoffwn innau hefyd ddiolch i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am adroddiad rhagorol. Roedd Cymru yn fuddiolwr net o gyllid yr UE, amcangyfrif o £79 y pen. Wrth gwrs, nid oedd pob budd yn ariannol. Roedd yna symud dilyffethair a llai o fiwrocratiaeth hefyd. Rwy'n falch fod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi argymell mwy o gyfranogiad i Lywodraeth Cymru ac wedi nodi bod rhanddeiliaid yn credu bod absenoldeb cydgysylltiad Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r gronfa ffyniant gyffredin wedi arwain at effaith negyddol.

Mae swyddogion awdurdodau lleol y siaradais â nhw wedi dweud ei fod fel mynd yn ôl flynyddoedd i ddechrau cyllid Ewropeaidd a dechrau o'r dechrau eto, fel y soniodd fy nghyd-Aelod, Alun Davies. Mae'r gronfa ffyniant gyffredin wedi arwain at broblemau gyda chynllunio a chyflawni prosiectau oherwydd yr amserlenni byr a bennwyd gan Lywodraeth y DU a phryderon ynghylch dyblygu ymdrechion gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae addysg uwch yn poeni am golli cynlluniau fel cynllun TRAC, a ddarperir ar draws ffiniau awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru. Mae prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol eraill yng Nghymru wedi cael eu heffeithio'n fawr. Clywsom yn ddiweddar am ddiwedd Chwarae Teg a bysiau cymunedol, fel y soniodd Luke yn gynharach. Mae prifysgolion yn awgrymu bod tua 1,000 o swyddi mewn perygl. Mae awdurdodau lleol arweiniol yn derbyn yr arian, ond wedyn mae gan bob awdurdod lleol ei flaenoriaethau a'i gynlluniau cyflawni ei hun, ac mae'n cael ei rannu ymhlith ei gilydd, felly nid yw'n gweithio'n dda iawn. Mae sector cyfan ar ei cholled.

O ran y gronfa ffyniant bro, beirniadwyd y dull ymgeisio cystadleuol fel un aneffeithlon nad yw'n targedu'r ardaloedd sydd fwyaf o angen cymorth. Cafodd dau gais blaenoriaeth uchel eu gwrthod yn Wrecsam a sir y Fflint. Dywedwyd wrthynt eu bod yn rhagorol, ond roedd y cyllid yn gyfyngedig ac yn gystadleuol iawn. Roedd wedi cymryd llawer o adnoddau gwerthfawr a chydweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, ond cawsant eu gwrthod ddwywaith. 

Rwy'n aelod o'r pwyllgor diwylliant, sy'n cynnwys cysylltiadau rhyngwladol, ac rydym wedi bod yn gwneud ymchwiliadau i effeithiau ôl-Brexit—ac mae gennym y Cadeirydd, Delyth, yn eistedd yma hefyd—ar gysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru, a hefyd ar artistiaid sy'n teithio ledled Cymru, y DU ac Ewrop. Mae mwy o rwystrau masnach rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit ac ar yr un pryd, mae rhaglenni ariannu'r UE wedi dod i ben, ac eithrio Horizon, gan achosi problemau. Mae tystion wedi dweud wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol—teitl hir—nad yw cronfeydd newydd yn cynnwys dimensiwn rhyngwladol sy'n cefnogi cydweithio, ac mae'r symiau'n llawer llai, ac felly ond yn caniatáu ar gyfer cydweithredu trawsffiniol a rhyngwladol ar raddfa fach. Nid yw'r DU bellach yn rhan o gyllid INTERREG yr UE, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod hynny'n fygythiad sylweddol i gynaliadwyedd llawer o rwydweithiau. Mae angen mynd i'r afael â'r rhain i gyd fel nad yw Cymru'n cael ei gadael ar ôl, ac er mwyn i gysylltiadau a rhaglenni pwysig barhau. Mae angen cyllid hirdymor teg arnom, gan gynnwys pob lefel o lywodraeth mewn partneriaeth. Diolch. 

16:10

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith a'u hadroddiad ar gyllid ar ôl gadael yr UE yng Nghymru ac wrth gwrs, i'n partneriaid ledled Cymru a roddodd dystiolaeth i gefnogi'r ymchwiliad.

Rydym yn derbyn argymhellion yr adroddiad sydd wedi'u hanelu at Lywodraeth Cymru ac yn rhannu pryderon y pwyllgor am ddull Llywodraeth y DU o ariannu ar ôl gadael yr UE yng Nghymru. Yn anffodus, mae llawer o argymhellion a chydnabyddiaethau'r adroddiad yn adleisio pwyntiau y buom yn eu gwneud ers sawl blwyddyn ynghylch canlyniadau penderfyniadau dryslyd ac annerbyniol a wnaed gan Lywodraeth y DU.

Rwy'n falch fod y pwyllgor wedi dod i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi bod yn rhan o ddatblygu a darparu'r cyllid hwn. Mae datblygu economaidd rhanbarthol a rhifedd oedolion yn feysydd sy'n amlwg wedi'u datganoli. Mae mynediad bwriadol ac annerbyniol Llywodraeth y DU i'r gofod hwn, heb gyfranogiad Llywodraeth Cymru na'r Senedd hon, wedi creu tirwedd ariannu dameidiog ac ychwanegol, yn ogystal â llu o broblemau eraill y clywsom amdanynt yn y ddadl hon ac yn yr adroddiad ac mae arnaf ofn y byddant yn creu niwed parhaol i sectorau pwysig o'n heconomi.

Yn wir, byddai llawer o'r problemau a amlygwyd yn yr adroddiad wedi cael eu hosgoi pe bai Llywodraeth y DU wedi parchu'r gwaith a wnaed yng Nghymru ac wedi caniatáu inni reoli cyllid newydd llawn yn lle cyllid yr UE drwy'r fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol gyda chraffu gan y Senedd etholedig hon. Datblygwyd y fframwaith hwnnw mewn consensws gyda'n partneriaid a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd at yr union ddiben o ddarparu cyllid ar ôl gadael yr UE a chafodd ei gefnogi gan ymgynghoriad cyhoeddus. 

Rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor y dylid cynnal adolygiad i weld a ddylai'r gronfa ffyniant gyffredin fod wedi'i darparu'n rhanbarthol ac yn genedlaethol yn ogystal ag yn lleol. Er bod y gronfa ffyniant gyffredin wedi cefnogi rhai mentrau lleol cadarnhaol, nid oes amheuaeth fod dulliau datblygu economaidd rhanbarthol wedi profi cam yn ôl oherwydd cynllun y gronfa. 

Oherwydd oedi ar sawl achlysur gan Lywodraeth y DU, ac amserlenni annichonadwy a dyraniadau ar sail flynyddol, mae awdurdodau lleol wedi bod dan bwysau o'r cychwyn cyntaf. Bu'n rhaid iddynt baratoi cynlluniau buddsoddi'n gyflym gyda rowndiau ariannu'n agor ar wahanol adegau, gyda threfniadau, meini prawf asesu ac amserlenni penderfynu gwahanol, ac oedi sylweddol yn aml wedyn, fel y dywedais, cyn cael penderfyniad gan Lywodraeth y DU. Ac yn hyn o beth, mae Alun Davies a Carolyn Thomas yn llygad eu lle. Mae'r holl wersi a ddysgwyd o rowndiau cyllido strwythurol blaenorol yr UE wedi'u lluchio o'r neilltu gyda'r gronfa ffyniant gyffredin. Mae hyn wedi gwneud prosiectau ar gyfer Cymru gyfan, prosiectau rhanbarthol neu brosiectau drawsffiniol bron yn amhosibl, ac nid camgymeriad yw hynny, mae'n ddewis bwriadol gan Lywodraeth y DU. 

O ganlyniad, mae'r effaith economaidd ehangach a gynigir gan brosiectau ar raddfa fwy wedi'i cholli, ac fel y bydd Cadeirydd y pwyllgor hwn yn gwybod, mae hynny'n rhan o argymhelliad a wnaeth mewn Senedd flaenorol, y dylem gael prosiectau aml-flynyddol ar raddfa fwy er mwyn cael mwy o elw. Mae'r pwyllgor hefyd yn codi'r perygl o ddyblygu fel maes sy'n galw am waith parhaus. Mae Llywodraeth Cymru a swyddogion llywodraeth leol eisoes wedi treulio cryn dipyn o amser yn barod yn helpu i osgoi dyblygu cyn belled ag y bo modd, ond mae cynllun y gronfa'n gwneud hynny'n anos nag y dylai fod.

Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn dod i'r casgliad fod angen cyllid pontio ar gyfer sectorau sy'n wynebu dibyn ariannol oherwydd na allant gael mynediad at y gronfa ar raddfa fawr. Mae prifysgolion, colegau, busnesau a'r trydydd sector ledled Cymru wedi cael eu gorfodi i leihau gwasanaethau, cau prosiectau hanfodol ym maes ymchwil a datblygu a sgiliau, ac mae swyddi wedi'u colli. 

Mae Lluosi yn enghraifft arall eto lle mae Llywodraeth y DU wedi mynd ar gyfeiliorn. Mae'n gweithredu mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda darpariaeth dysgu cymunedol i oedolion sydd eisoes ar gael yng Nghymru. Drwy orfodi polisi annealladwy arall heb ei feddwl drwodd yn iawn ar Gymru, mae Llywodraeth y DU yn gwastraffu arian cyhoeddus ac yn tanseilio'r hyn sy'n gweithio'n dda. Yn anffodus, dyma effaith real yn ein cymunedau o'r dull y mae Llywodraeth y DU wedi'i ddewis, er gwaethaf yr holl rybuddion—rhybuddion nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan bwyllgorau trawsbleidiol yma ac yn San Steffan, yn ogystal â sylwebyddion annibynnol. Mae'n bwysig cofio bod Llywodraeth y DU wedi addo y byddai cyllid newydd ar gael i'r holl sefydliadau a oedd yn elwa o hen gronfeydd yr UE. Roedd hwnnw'n addewid arall na chafodd ei gadw, yn union fel ei haddewid i sicrhau bod Cymru'n cael yr un lefel o gyllid yn union ag a gâi o'r UE.

Ar y mater y cyfeiriwyd ato heddiw, cyfeiriaf yr Aelodau eto at y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog cyllid ym mis Mai y llynedd. Mae'r datganiad hwnnw'n rhoi dadansoddiad llawn o'r golled o £1.1 biliwn o gyllid i Gymru. Nid oedd yr addewid maniffesto erioed yn dweud y byddem yn gwrthbwyso arian sydd heb ei wario hyd yma o rownd flaenorol o gronfeydd yr UE; roedd ar gyfer sicrhau yr un faint yn union o gyllid ag a gaem o'r UE. Mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn llai, yn llai hyblyg ac yn gulach ei chwmpas na hen gronfeydd yr UE y mae'n honni ei bod yn cymryd eu lle. Mae wedi cael ei waethygu gan oedi a gweithredu annhrefnus, gydag awdurdodau lleol wedi eu gadael mewn sefyllfa amhosibl. Ychydig sy'n wybyddus am rownd derfynol y gronfa ffyniant bro gystadleuol, ond gydag 20 y cant o'r gronfa'n weddill a bod yn rhaid cwblhau'r holl brosiectau cyfalaf erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, mae'r potensial ar gyfer yr hyn sydd ar ôl yn fach iawn. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio i adnewyddu'r fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol gyda'n partneriaid, a bydd ein prosiect presennol gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar weithio rhanbarthol yn cael ei gwblhau y flwyddyn nesaf. Bydd y gwaith hwn yn cryfhau datblygu a buddsoddi rhanbarthol yn y blynyddoedd i ddod.

Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am gydnabod methiannau Llywodraeth y DU ac rwyf am ddychwelyd at ymateb Llywodraeth y DU—digon o eiriau cynnes, fel y dywedodd Vikki Howells, ac rydym wedi eu clywed o'r blaen. Yn ymarferol, fodd bynnag, mae Llywodraeth bresennol y DU wedi bod yn weithredwr gelyniaethus nad yw erioed wedi ymgysylltu'n ystyrlon ar gronfeydd ôl-UE ac mae bob amser wedi ceisio lleihau rôl y Llywodraeth a'r Senedd hon. Rwyf am wneud y pwynt hwn yn glir: dylai unrhyw berson sy'n honni ei fod yn ddatganolwr gydnabod mandad y Senedd hon a Llywodraeth Cymru. Mae dau refferendwm a sawl etholiad yn rhoi mandad i ni. Mae gan unrhyw Lywodraeth y DU sy'n anghytuno â'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd hawl i anghytuno; yr hyn nad oes ganddynt hawl i'w wneud yw dwyn pwerau datganoledig ac arian oddi wrthym. Edrychaf ymlaen at weld y cyfrifoldeb yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru dros graffu ac atebolrwydd priodol yn y Senedd hon, a chredaf y bydd hynny'n digwydd gyda Llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth yn y DU wthio'i ffordd i mewn i feysydd datganoledig heb gydsyniad na phartneriaeth ddilys. Rwy'n ailadrodd ein safbwynt yn Llywodraeth Cymru: rhaid dychwelyd pwerau cyllido a gwneud penderfyniadau dros fuddsoddiad rhanbarthol i Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon i weithio gyda'n partneriaid i greu'r Gymru gryfach, decach a gwyrddach y credaf fod pawb ohonom yn ei haeddu.

16:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl hon y prynhawn yma? Rydym wedi clywed cyfraniadau diddorol iawn gan yr Aelodau, a chan y Gweinidog heddiw yn wir.

Siaradodd Luke Fletcher, yn gyntaf oll, yn hollol briodol am flaengynllunio a pha mor bwysig yw cael llawer mwy o sicrwydd o ran cynllunio ac am y ffordd nad yw cynllunio ariannol ar sail flynyddol yn ddigon da, am fod hynny'n creu ansicrwydd ariannol.

Nododd cyfraniad Vikki Howells bwysigrwydd cyfranogiad Llywodraeth Cymru wrth ddarparu'r cronfeydd hyn yn y dyfodol. Fe'i gwnaeth yn glir nad yw'n ddigon da fod ymdrin â'r cronfeydd hyn yn cael ei adael i ASau y DU.

Cawsom ein cyfeirio'n ôl gan Sam Kurtz at y modd y câi cyllid ei ddarparu'n flaenorol o dan gynlluniau'r UE ac aeth rhagddo i ddweud y dylid cael ymgysylltiad llawer gwell rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Ailadroddodd eto y gall y ddwy Lywodraeth weithio'n dda gyda'i gilydd, oherwydd rydym wedi gweld hynny gyda bargeinion dinesig a thwf, a phorthladdoedd rhydd yn wir.

Deuwn at Alun Davies. Diolch iddo am ei eiriau caredig iawn, ond rwyf bob amser yn nerfus pan fydd yn fy llongyfarch, gan nad wyf yn siŵr a wyf yn gwneud fy ngwaith yn iawn. Aeth Alun ymlaen i siarad am ddull Llywodraeth y DU o weithredu polisi ac unwaith eto, sut rydym yn trafod gwersi a ddysgwyd pan ddylai'r gwersi hyn fod eisoes wedi'u dysgu o ran y modd y darparwn y cronfeydd hyn.

Soniodd Carolyn Thomas hefyd am argymhelliad y pwyllgor ynghylch cynnwys Llywodraeth Cymru wrth ddarparu'r cronfeydd hyn yn y dyfodol. Aeth rhagddi hefyd i siarad am gyllid hirdymor a theg a'r modd y mae hynny mor bwysig i gynaliadwyedd prosiectau yn y dyfodol.

A gaf fi hefyd ddiolch i'r Gweinidog am dderbyn argymhellion y pwyllgor sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru? Nododd yn glir y prynhawn yma beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru, ac unwaith eto, adleisiodd y dylid bod wedi dysgu gwersi wrth ddarparu'r cronfeydd hyn.

I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, siaradodd yr Aelodau am gynllunio a gweithredu cyllid, ac mae adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn glir ein bod yn credu y dylid cynnal adolygiad i archwilio gwahanol elfennau'r gronfa ffyniant gyffredin ac i edrych ar ba rai y dylid eu darparu ar lefel leol, ranbarthol neu Gymru gyfan yn seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio orau. Rydym yn unedig yn ein hawydd i sicrhau bod cyllid ffyniant cyffredin a ffyniant bro yn y dyfodol yn sbarduno twf economaidd a ffyniant ledled Cymru.

Rwyf wedi clywed barn yr Aelodau am Lywodraeth Cymru yn cael ei chau allan rhag darparu'r cronfeydd hyn, ac mae adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn gwbl glir y dylai Llywodraeth y DU ystyried sut y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo gyda darparu a chynllunio'r cylch cyllido nesaf. Drwy weithio mewn partneriaeth, gallwn sicrhau yn well fod arian yn y dyfodol yn cael ei wario mor effeithlon ac effeithiol ag y bo modd. Mae gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru rolau pwysig i'w chwarae, ac mae adroddiad y pwyllgor yn galw am berthynas adeiladol yn y dyfodol.

Fel y dywedwyd eisoes, mae angen inni hefyd ddysgu gwersi'r gorffennol ac osgoi ailadrodd camgymeriadau. Mae'r Aelodau wedi sôn am ddyblygu, ac mae sefydliadau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru hefyd wedi tynnu sylw at y broblem hon, gan ddadlau efallai nad dyma'r gwerth gorau am arian na'r ffordd fwyaf effeithlon o ddarparu prosiectau mewn rhai achosion.

Rydym hefyd wedi clywed am y modd y mae awdurdodau lleol yn gweinyddu'r gronfa ffyniant gyffredin. Drwy gydol yr ymchwiliad, dywedodd sefydliadau wrthym eu bod yn credu bod awdurdodau lleol yn blaenoriaethu eu prosiectau eu hunain cyn i eraill gael cyfle i gael mynediad at arian. Unwaith eto, mae'r pwyllgor wedi argymell y dylid cymryd camau i sicrhau bod pob sefydliad yn cael cyfle i elwa o'r cyllid hwn.

Yn olaf, mae'r Aelodau wedi tynnu sylw at gyllid yn y dyfodol ar ôl 2025. Rhoddodd y pwyllgor ystyriaeth i symleiddio'r cyllid yn y dyfodol a thynnu popeth at ei gilydd mewn uwch gronfa, neu gadw'r gronfa ffyniant gyffredin ar wahân i ffrydiau cyllido eraill. Mae ein hadroddiad yn ei gwneud yn glir, at ei gilydd, ac yn absenoldeb dadleuon cryf i'r gwrthwyneb, fod y pwyllgor o'r farn y byddai cronfa ffyniant gyffredin ar wahân ond wedi'i diwygio yn ddull gwell o weithredu. Yn wir, mae argymhelliad 23 yn datgan

'Dylai Llywodraeth y DU barhau i weithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin ar wahân, ond wedi’i diwygio, ar ôl i’r gronfa bresennol ddod i ben ym mis Mawrth 2025.'

Mae argymhelliad 24 yn galw ar Lywodraeth y DU i

'egluro beth yw ei bwriad o ran y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar ôl 2025 cyn gynted â phosibl.'

Felly, Ddirprwy Lywydd wrth orffen, a gaf fi ddiolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Mae cyfraniadau'r Aelodau, fel erioed, wedi bod yn graff iawn, ac rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran y pwyllgor cyfan pan ddywedaf fod hwn wedi bod yn ymchwiliad arbennig o ddiddorol. Mae'r Gweinidog hefyd wedi bod yn glir ynghylch yr hyn y mae am ei weld wrth symud ymlaen, ac mae'n iawn i ddweud y gallai cyfranogiad Llywodraeth Cymru helpu i osgoi dyblygu gwasanaethau, atebolrwydd aneglur a gwerth gwael am arian. Felly, wrth symud ymlaen, bydd y pwyllgor yn cadw llygad barcud ar y modd y darperir cyllid datblygu rhanbarthol, gyda'r nod o graffu ar unrhyw ddatblygiadau newydd wrth iddynt ddigwydd. Diolch yn fawr iawn.

16:20

Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ansawdd dŵr

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Eitem 6 sydd nesaf, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ansawdd dŵr. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8397 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod carthion a gaiff eu gollwng i ddyfroedd Cymru yn cyfrif am 25 y cant o'r holl ollyngiadau ledled Cymru a Lloegr;

b) mai yng Nghymru y mae chwech o'r 20 afon mwyaf llygredig yn y DU ledled Cymru a Lloegr; ac

c) mai gan bobl yng Nghymru y mae'r biliau dŵr ail uchaf allan o'r 11 cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr.

2. Yn gresynu nad yw Adroddiad Gorlifiadau Stormydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd saith mis yn hwyr, yn cynnwys unrhyw argymhellion.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gosod targedau ar Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n eu rhwymo mewn cyfraith i wella gorlifiadau;

b) cynyddu gorfodaeth a sicrhau bod dirwyon yn cael eu defnyddio i wella afonydd ac adfer cynefinoedd; ac

c) mynd i'r afael â phibellau carthion heb drwyddedau a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pa arwydd gwell o'n hangerdd cyfunol dros ein hamgylchedd na'r diddordeb a ddangoswyd gan y Senedd hon, ei Haelodau, a'n gwlad, mewn llygredd dŵr? Ar hyn o bryd, ceir anfodlonrwydd gwirioneddol ymhlith y cyhoedd ynghylch ansawdd dŵr yng Nghymru, ac nid yw hynny'n syndod. Meddyliwch, yn ystod y pythefnos diwethaf, mae'r penawdau wedi cynnwys,

'Rhybudd i bobl i beidio â mynd i mewn i'r môr ar 16 o draethau Cymru'

gan WalesOnline,

'Pennaeth Dŵr Cymru yn amddiffyn y cwmni dros ollyngiadau carthion i afon Teifi—

yn y Western Telegraph

a

'Dŵr Cymru'n cyfaddef eu bod wedi gollwng carthion yn anghyfreithlon ers blynyddoedd'

gan y BBC. 

Roedd dros 83,000 o ollyngiadau yng Nghymru yn 2022, sef gwerth 592,569 awr o ollyngiadau. Roedd nifer y gollyngiadau carthion yng Nghymru yn 25 y cant o'r holl ollyngiadau ar draws Cymru a Lloegr, ond dim ond tua 5.5 y cant o'r boblogaeth sydd gennym. Ac mae rhai o afonydd mwyaf llygredig y DU yma yng Nghymru, sef afon Teifi, afon Wysg, afon Gwy, afon Tywi, afon Menai ac afon Taf. Nid yw hyn yn ddigon da pan fo cwsmeriaid dŵr yng Nghymru yn wynebu biliau uchel. Cwsmeriaid Dŵr Cymru sydd â'r bil cyfartalog ail uchaf yng Nghymru a Lloegr ar £499 y flwyddyn, gyda'r bil cyfartalog ledled Cymru a Lloegr yn £448.

Fodd bynnag, mae lle i rywfaint o optimistiaeth. Mae cynnydd arfaethedig Dŵr Cymru erbyn 2030 yn is na phris cyfartalog y sector mewn gwirionedd, a rhagwelir mai hwn fydd y seithfed cynnydd uchaf wrth fynd ymlaen. Mae cwmni dŵr mwyaf Cymru wedi cyflwyno ei gynllun busnes arfaethedig ar gyfer 2025 i 2030 i Ofwat, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd y cynllun yn arwain at raglen fuddsoddi fwyaf erioed y cwmni, gwerth £3.5 biliwn dros y pum mlynedd, a bydd hynny'n gynnydd o 68 y cant ar y buddsoddiad rhwng 2020 a 2025. Mae Dŵr Cymru yn ymrwymo i fuddsoddi bron i £1.9 biliwn yn yr amgylchedd rhwng 2025 a 2030. Mae hynny 84 y cant yn fwy na rhwng 2020 a 25. Bydd hyn yn cynnwys lleihau gollyngiadau ffosfforws yn sylweddol o drin dŵr gwastraff i afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig, a dechrau ar raglen aml-AMP i atal ei rwydwaith o 2,300 o orlifoedd storm rhag achosi niwed ecolegol i afonydd yn ardal ei weithrediad.

Nawr, mae hyn yn swnio'n gadarnhaol iawn. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn wir mai nod y cwmni dŵr ei hun yw lleihau cyfanswm yr achosion o lygredd 24 y cant yn unig erbyn 2030. Ac i bob un ohonom sydd yma, pan fyddwn yn herio'r mathau hyn o ddigwyddiadau llygredd, rydym eisiau'r gostyngiad uchaf posibl yn nifer yr achosion o lygredd. Mae Dŵr Cymru wedi honni y byddai cael gorlifoedd storm i lawr i 10 neu 20 gollyngiad y flwyddyn yn costio rhwng £9 biliwn a £14 biliwn. Felly, pan fydd angen cymaint mwy o fuddsoddiad, mae gennyf bryderon gwirioneddol am y taliadau bonws a delir i'r sefydliad hwn. Felly, ar ran ein grŵp, rwy'n falch o gefnogi'r gwelliannau gan Blaid Cymru.

Canfuwyd bod nifer o weithfeydd trin dŵr gwastraff o dan Dŵr Cymru wedi bod yn gweithredu'n groes i'w trwyddedau ers blynyddoedd, ac mae'n codi cwestiynau, unwaith eto, am ein gweithdrefnau gorfodi, gwaith CNC a gwaith Llywodraeth Cymru yn dwyn y bobl hyn i gyfrif. Nawr, rwy'n deall safbwynt y Gweinidog ar hyn, yn yr ystyr os ydych chi'n parhau i roi mesurau gorfodi drud ar waith, gallai'r costau cosbi gael eu gwario ar amddiffyn y mesurau gorfodi hyn wedyn, a'r dirwyon sy'n dilyn, ond mewn gwirionedd mae pawb ohonom eisiau gweld yr arian hwnnw'n cael ei ailfuddsoddi yn y cwmni fel y gallant wneud yr hyn yr ydym am iddynt ei wneud, sef gwario ar y seilwaith a'r gwaith cynnal a chadw i sicrhau nad ydym yn gweld niferoedd brawychus o ddigwyddiadau llygredd.

Mewn adroddiad, dadansoddwyd perfformiad 11 o weithfeydd trin carthion yng Nghymru rhwng 2018 a 2023. O'r gweithfeydd hyn, canfu fod 10 wedi bod yn rhyddhau carthion heb eu trin yn groes i'w trwyddedau. Yn Llanrwst, yn fy etholaeth fy hun, roedd 82 achos o dorri amodau trwyddedau, gan arwain at 168 miliwn litr o ollyngiadau. Yn Rhuthun, roedd yna 105, a arweiniodd at 182 miliwn litr o ollyngiadau. Mae torri amodau trwyddedau yn rheolaidd wedi dod yn norm bellach ac mae'n gwbl annerbyniol. Mae angen inni ddiwygio ein gweithdrefnau gorfodi yn llwyr.

Pan fyddwn yn gweld sylw rheolaidd yn y wasg i ansawdd dŵr ac yn clywed pryderon gan etholwyr, yr un yw’r nod yn y pen draw: i lygredd ddod i ben. Credaf fod Llywodraeth Cymru yn tanseilio’r broses honno ar hyn o bryd. Felly, yn gyntaf, fel yr wyf wedi'i ddweud sawl tro o'r blaen, mae gorfodi'n aneffeithiol, felly byddai'n dda gweld ffordd well ymlaen pan fydd y digwyddiadau hyn yn digwydd, lle mae ffordd y gall Llywodraeth Cymru weithio gydag CNC a'r cwmni dŵr i sicrhau eich bod yn cael rhwymedigaethau ar eu rhan y bydd hyn yn dod i ben. A buaswn yn awyddus i wybod beth yn union a'i hachosodd. Mewn un achos, adroddwyd am lygredd yn fy etholaeth i, ac roedd pobl yn dweud wrthyf fod cannoedd o bysgod marw mewn afon benodol. Beth bynnag, euthum at y cwmni dwr. Soniais wrthynt am hyn, ac fe wnaethant ddweud, 'Ie, rydym wedi hunangyfeirio at CNC.' Cysylltais ag CNC ar y pryd, ac nid oeddwn yn argyhoeddedig iawn—wel, nid yw’n cymryd llawer i beidio ag argyhoeddi rhywun pan na chewch ymateb. Felly, euthum atynt, a chefais sioc. Roedd mater weips gwlyb plastig allan o ddwylo Dŵr Cymru. Roeddent wedi dod â system y gwaith trin dŵr gwastraff i stop yn llwyr yn yr agwedd benodol hon, a dyna a achosodd iddo gronni ac achosi llygredd, gan ladd cannoedd ar gannoedd o bysgod. Felly, unwaith eto, dylem ni, yn ein hymddygiad ein hunain fel pobl, fod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw ein dyfroedd yn cael eu llygru. Ofer cwyno am y digwyddiadau llygredd hyn ac yna fflysio weips gwlyb plastig i lawr y toiled—er bod ein Gweinidog wedi bod yn rhagweithiol iawn. Mae angen i bob un ohonom weld deunyddiau eraill yn lle plastig mewn weips gwlyb nawr.

Yn Lloegr, os bydd rheoliad trwyddedu amgylcheddol yn cael ei dorri, gall Asiantaeth yr Amgylchedd dderbyn ymgymeriad gorfodi. Felly, ymgymeriad yw hwnnw—ymrwymiad i fynd i'r afael â'r ymddygiad a achosodd y toriad, i'w unioni ac i'w adfer yn ôl i normalrwydd. Fodd bynnag, yng Nghymru, nid yw hynny’n opsiwn sydd ar gael i CNC ar hyn o bryd, ac nid oes llawer o gyfle i Dŵr Cymru gynnig ymgymeriadau amgylcheddol. Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i alluogi CNC i ganiatáu i gwmnïau fel Dŵr Cymru dderbyn ymgymeriad gorfodi fel eu bod yn gwella’r amgylchedd sy’n lleol i’r niwed. Ar hyn o bryd, er ei bod yn frawychus mai dim ond 1 y cant o’r achosion o dorri amodau trwyddedau yr ymchwiliwyd iddynt yn ystod y pum mlynedd diwethaf—nid oeddwn yn gwybod hyn, ond mae’r arian y maent wedi’i dalu wedi mynd i Drysorlys y DU. Felly, mae angen inni edrych eto ar sut mae hynny'n gweithio o ran gorfodi, oherwydd pa gymhelliant sydd yno os na chaniateir i'r arian hwnnw gael ei roi'n ôl yn y system i sicrhau nad oes achosion o lygredd yn digwydd.

Cam arall sydd ei angen i helpu i atal llygredd yw gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer cwmnïau dŵr. Ar gyfer Lloegr, mae cynllun lleihau gollyngiadau gorlifoedd storm Llywodraeth y DU yn amlinellu, erbyn 2035, y bydd yn rhaid i gwmnïau dŵr wella'r holl orlifoedd storm sy'n gollwng i mewn i ddŵr ymdrochi dynodedig neu gerllaw, a gwella 75 y cant o orlifoedd sy'n gollwng i safleoedd natur blaenoriaeth uchel. Ac erbyn 2050, y targed yw ymestyn hynny i bob gorlif storm sy'n weddill. Credaf y dylem ddilyn yr esiampl honno, ac mae angen inni osod targedau cyfreithiol rwymol ar Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i wella ein gorlifoedd.

Rydym ni wedi gwastraffu saith mis o amser gwerthfawr—a phan ddywedaf 'ni', nid wyf yn golygu 'ni' mewn gwirionedd, rwy'n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu saith mis o amser gwerthfawr yn cyhoeddi adroddiad hwyr iawn yn y dydd ar orlifoedd storm. Ac yn syfrdanol, nid yw'n cynnwys unrhyw argymhellion, sy’n rhyfeddol ar adeg pan fo pobl yn fwy ymwybodol o ddigwyddiadau llygredd ac yn eu codi gyda ni fel Aelodau o’r Senedd. Mae ganddo gostiadau defnyddiol fodd bynnag, ar opsiynau posibl ar gyfer rheoli gorlifoedd storm, ond mae yna gamgymeriad pwysig. Nid yw'r adroddiad yn mynd i'r afael â'r defnydd o bibellau didrwydded, na hyd yn oed yn cydnabod eu bod yn cael eu defnyddio. Yn 2022, cafwyd 3,299 o achosion o ollwng o bibellau didrwydded, ac mae hynny wedi cynyddu 43 y cant ers 2020. Diolch byth, fodd bynnag, mae Dŵr Cymru bellach yn gweithio gydag CNC i gytuno ar drwyddedau ar gyfer y 147 o orlifoedd storm didrwydded—ac adeiladwyd y rhain, wrth gwrs, cyn preifateiddio.

Yn olaf, gallem helpu i atal llygredd drwy sicrhau ein bod yn coladu’r data cywir. Nid yw monitorau hyd digwyddiadau ond yn cyfrif pa mor aml y mae gorlifoedd storm yn cael eu defnyddio, nid y cyfaint na'r effaith amgylcheddol; mae'r olaf o'r rhain yn allweddol. A dylai’r Senedd hon helpu i gyfleu i'r cyhoedd nad yw gweithgarwch gorlifoedd storm o reidrwydd yn ddigwyddiad llygredd. Unwaith eto, nodaf fy mhrofiad fy hun yn fy etholaeth i; yn ddiweddar, gwelodd pobl ddŵr ewynnog i lawr ym Mhen Morfa yn Llandudno, ac yn syth bin, roedd yn ddigwyddiad llygredd. Archwiliwyd ac ymchwiliwyd i'r mater, a chanfuwyd nad oedd yn ddigwyddiad llygredd wedi'r cyfan. Felly, mae angen inni weld newid i adrodd ar effaith amgylcheddol wirioneddol gollyngiadau a chyfeirio adnoddau sylweddol tuag at wella'r digwyddiadau amgylcheddol gwaethaf.

Mae angen i'r newid gael ei arwain ar y brig gan y Llywodraeth hon. Mae’n siarad cyfrolau fod gwelliant Llafur Cymru yn datgan:

'y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio’i phwerau i sicrhau bod holl gwmnïau dŵr Cymru’n gostwng o flwyddyn i flwyddyn nifer yr achosion o lygru'.

I mi, mae'r defnydd o’r gair ‘bydd’ yn gyfaddefiad nad ydych yn defnyddio eich pwerau’n effeithiol ar hyn o bryd. Felly, mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, ac ychwanegiadau gan Blaid Cymru, yn cynnig ymagwedd newydd at wella ansawdd dŵr yng Nghymru.

Mae arnom angen arweiniad cryf a chadarn ar y mater hwn. Mae arnom angen i chi, fel Llywodraeth, fod yn gweithio’n agosach o lawer gydag CNC a Dŵr Cymru, ac rwy'n annog y Senedd i gefnogi’r cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, yn ogystal â'r gwelliant gan Heledd Fychan. Diolch.

16:35

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi’r cynnydd arwyddocaol yn nifer yr afonydd sydd wedi sicrhau statws ecolegol da yng Nghymru ers 1999.

2. Yn nodi’r fframwaith cyfreithiol llym y mae cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr yn gweithio ynddo.

3. Yn gwrthwynebu polisi Llywodraeth y DU i godi’r gofynion o ran niwtraleiddio maethynnau a fyddai’n rhoi ein hafonydd bregus mewn mwy o risg.

4. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi rhagor o wahanu dŵr wyneb er mwyn lleihau’r pwysau ar systemau dŵr gwastraff trwy brysuro’r defnydd o systemau rheoli llifogydd yn naturiol a systemau draenio cynaliadwy.

b) y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio’i phwerau i sicrhau bod holl gwmnïau dŵr Cymru’n gostwng o flwyddyn i flwyddyn nifer yr achosion o lygru, gan weithio at y nod o sero, ond yn y tymor byr, eu bod yn rhoi stop ar bob achos o lygru difrifol.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2—Heledd Fychan

Ychwanegu fel is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 3:

sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i'w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol;

rhoi mecanweithiau ar waith i atal taliadau bonws i staff gweithredol pe bai Dŵr Cymru yn methu â chyflawni ei gyfrifoldebau o ran ansawdd dŵr;

cyflymu'r gwaith o weithredu fframweithiau llywodraethu amgylcheddol cadarn yng Nghymru i sicrhau bod achosion o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol yn cael sylw cyn gynted â phosibl.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i gyflwyno'r gwelliant ac annog Aelodau i gefnogi'r gwelliant hefyd. Mae'r gwelliant yn galw am ddigon o adnoddau i fod ar gael i alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol. Mae'n galw am roi mecanweithiau ar waith i atal taliadau bonws i staff gweithredol os ydy Dŵr Cymru yn methu â chyflawni eu cyfrifoldebau o ran ansawdd dŵr, ac, yn olaf, yn galw am gyflymu'r gwaith o weithredu fframweithiau llywodraethu amgylcheddol cadarn yng Nghymru i sicrhau bod achosion o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol yn cael sylw cyn gynted ag sy'n bosib.

Mae pryderon wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynghylch adnoddau cyfyngedig Cyfoeth Naturiol Cymru a'u gallu i gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol, yn enwedig mewn perthynas â'r mater o ollyngiadau carthion anghyfreithlon gan gwmnïau dŵr. Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am oruchwylio beth sy'n digwydd o ran rheoliadau amgylcheddol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â gollwng carthion ac ansawdd dŵr. Pan fo cwmnïau dŵr yn gollwng carthion yn anghyfreithlon, maen nhw'n mynd yn groes i'r cyfreithiau hyn, ac mae disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru gymryd camau cyfreithiol i'w dal yn atebol. Gall y diffyg adnoddau a chapasiti y tu mewn i'r corff yna arwain at oedi neu gamau gorfodi sy'n cael eu cyflwyno sydd yn annigonol.

I symud ymlaen at ail bwynt ein gwelliant, y llynedd, adroddwyd bod Dŵr Cymru wedi dosbarthu taliadau bonws sy'n gysylltiedig â pherfformiad o bron i saith ffigwr i dri phrif weithredwr dros y ddwy flynedd diwethaf, er gwaethaf y ffaith fod y cwmni wedi pwmpio carthion amrwd i ddyfrffyrdd Cymru filoedd ar filoedd o weithiau. Nawr, rwy'n croesawu'r newyddion heddiw fod Ofwat wedi cyhoeddi asesiad ynglŷn â sut oedd tâl ar sail perfformiad a roddwyd i weithredwyr cwmnïau dŵr yn cyd-fynd â'u dyletswyddau i gwsmeriaid a'r amgylchedd. Ond o ystyried maint y toriadau amgylcheddol—toriadau cyfraith fan hyn—a chostau cynyddol gwelliannau seilwaith dŵr, pa un a ydym ni'n sôn am weithfeydd trin dŵr neu gael gwared ar orlifoedd storm, mae angen gofyn a yw hi'n briodol i swyddogion gweithredol dderbyn taliadau bonws o dan amgylchiadau fel hyn?

Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi, gwaetha'r modd, ar y pwynt hwn—fel roeddem wedi'i wneud ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â Chyfoeth Naturiol Cymru—fod Dŵr Cymru yn llawn dop o aelodau staff sydd yn ymroddedig, sydd yn weithgar, sy'n angerddol o blaid gwella'r safonau hyn. Rhaid ei bod hi mor anodd i aelodau staff unigol glywed rhai o'r pethau hyn weithiau yn cael eu dweud. Buaswn i eisiau dweud ein bod ni yn gweld eich ymroddiad i’ch gwaith. Mae yn cael ei werthfawrogi, felly diolch iddyn nhw am hynny.

Yr hyn sy’n glir, wrth gwrs, yw bod angen i welliannau seilwaith gael eu gweithredu, a bydd y rhain yn gostus. Mae angen inni sicrhau nad yw’r baich yn disgyn ar gwsmeriaid, sy’n ei ffeindio hi’n anodd talu eu biliau yn barod. Mae pobl yng Nghymru eisoes yn wynebu costau cynyddol, ac mae creu biliau uwch yn ystod argyfwng costau byw yn anodd ei gyfiawnhau. Dŷn ni’n credu y dylai’r llygrwr dalu i lanhau ein dŵr.

Mae’r sefyllfa o ran ansawdd dŵr a thoriadau amgylcheddol yn nodi’n glir fod angen cyflwyno mesurau llywodraethu amgylcheddol cadarn. Mae Plaid Cymru wedi hen wthio am sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol yma yng Nghymru, ar ôl arwain dadl ar y mater yn y Senedd yn 2021, a sicrhau ymrwymiad i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol drwy ein cytundeb cydweithredol â Llywodraeth Cymru, wrth gwrs. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo, ac mae’n hanfodol ein bod ni’n llenwi’r bwlch llywodraethu hwn cyn diwedd tymor y Senedd.

Hoffwn atgoffa’r Senedd mai Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd nad yw wedi sefydlu trefniadau llywodraethau amgylcheddol parhaol, statudol yn dilyn Brexit. Mae’r trefniadau interim anstatudol yn amlwg yn annigonol. Mae’r pwyllgor newid hinsawdd wedi edrych ar hyn yn fanwl. Yn y pen draw, mae hyn yn golygu bod bwlch peryglus o ran sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau.

Rwy’n cytuno gyda’r pwyllgor newid hinsawdd y byddai gohirio pellach yn fethiant anfaddeuol i’r Llywodraeth, ac rwy’n falch bod Plaid Cymru wedi cyflymu’r gwaith hwn. Buaswn i’n hoffi clywed diweddariad gan y Gweinidog am hyn, efalla, pan fydd hi’n ymateb.

Ddoe, roeddwn i’n hapus iawn—. Rwy’n ymwybodol o amser, felly mi wnaf i ddweud hyn yn gyflym, Dirprwy Lywydd. Dŷn ni wedi clywed yr wythnos hon gan Goed Cymru am bwysigrwydd coed i’n safonau dŵr. Buaswn i’n hoffi clywed barn y Gweinidog, efallai, am hynny wrth iddi ymateb, ond dwi'n gwybod fy mod i wedi rhedeg allan o amser, felly fe wnaf i gloi nawr. Diolch yn fawr.      

16:40

Darllenais yr adroddiad hwn a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gyda chryn ddiddordeb, gan ei fod yn cynnwys ffigurau eithaf brawychus. Credaf fod sawl mater o dan sylw yma. Mae Janet yn iawn, wrth gwrs, fod gennym ni, y defnyddwyr dŵr a charthffosiaeth, ddyletswydd i beidio â thaflu weips gwlyb, dodwyr tamponau a phob math o bethau eraill i lawr y toiled. Mae cost gwneud y peth anghywir yn enfawr. Felly, gan gyfeirio at yr hyn y mae Delyth yn ei ddweud—mai'r llygrwr a ddylai dalu—yn amlwg, mae'n eithaf anodd nodi pwy sydd wedi achosi'r domen fraster.

O ran mynd yn ôl at yr hyn yr oedd Janet yn ei ddweud, nid cyfrifoldeb ymgynghorwyr yw llunio argymhellion. Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw derbyn yr argymhellion a'r dadansoddiad gan yr ymgynghorwyr a phenderfynu beth i'w wneud. Credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn cael yr adroddiad eithaf technegol hwn ger ein bron heddiw—nid i edrych ar y manylion, gan y gallwn edrych ar hynny yn y pwyllgor newid hinsawdd yfory, ond mae'r ffigurau'n eithaf brawychus. Un o’r pethau a oedd yn eithaf brawychus i mi oedd y ffaith bod Dŵr Cymru wedi gorfod cymryd cyfrifoldeb dros bentwr o asedau yn 2011, heb unrhyw syniad beth yn union oeddent, beth oedd eu cyflwr, a oeddent ar fin methu, a oeddent yn gyfreithlon neu'n anghyfreithlon. Byddai’n dda cael gwybod gan y Gweinidog a ddarparwyd unrhyw arian gyda throsglwyddo'r asedau hyn. [Torri ar draws.] O, naddo, mae'n debyg. Dyna syndod. Felly, gallwch weld lefel yr her sydd yno i Dŵr Cymru. Yn ychwanegol at drosglwyddo'r asedau hyn, mae gennych yr holl bobl sy'n codi estyniadau newydd gydag ystafelloedd ymolchi y maent wedyn yn penderfynu peidio â'u hychwanegu at y system garthffosiaeth, ac yna maent yn llygru'r dyfroedd yn uniongyrchol. Mae'n hynod o gymhleth. Ond mae'r arian—. O’r naw opsiwn, dim ond opsiwn H, yr opsiwn drytaf ond dau, a fyddai’n sicrhau ein bod yn bodloni'r safon a sefydlwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr. Unrhyw beth llai, ac rydym yn amlwg yn cyfaddawdu ar y sail na allwn ychwanegu gormod at filiau defnyddwyr. Felly, byddai’r opsiwn rhataf ond tri yn costio rhwng £7 biliwn a £12 biliwn. Mae’r rhain yn ffigurau enfawr pan feddyliwch am gyfanswm y refeniw blynyddol y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymdrin ag ef, a’r gyllideb gyfalaf, sydd y nesaf peth i ddim. Felly, byddai hynny, ynddo’i hun, yn cynyddu biliau rhwng £215 a £390 y flwyddyn pe bai’n gyfrif Dŵr Cymru, neu lai os ydych gyda’r darparwr dŵr arall.

Dengys yr arfarniad cost a budd nad yw'r buddion byth yn fwy na'r costau. Felly, credaf fod y dilema'n enfawr. Rwy’n awyddus iawn i glywed beth sydd gan y Gweinidog i’w ddweud ynglŷn â’r hyn y dylem ei wneud am hyn. Ond mae'r syniad y gallwn chwifio baner a dweud, 'Wel, mae'n rhaid inni godi ein dŵr i'r safon y mae pawb yn ei ddisgwyl'—mae'n llawer mwy cymhleth na hynny. Ac o ble y cawn yr arian hwn? Pwy sy'n mynd i dalu amdano? Ar ba bwynt y mae carthffosydd yn chwalu, fel y cofiaf yn digwydd pan oeddwn yn gweithio ym Manceinion? Gwn fod un a allai ddigwydd yn fy etholaeth i, gan y gwelaf yr holl arwyddion rhybudd o ran ffyrdd sy'n pantio. Felly, credaf fod hon yn broblem enfawr ac yn un y mae angen inni ei thrafod yn ofalus iawn a gweld beth sy’n mynd i fod yn bosibl, o ystyried ein hadnoddau cyfyngedig.

16:45

Mae ansawdd dŵr yn sir Benfro yn parhau i fod yn un o’r materion a godir amlaf gan fy etholwyr, ac mae adroddiadau diweddar fod cwmnïau dŵr wedi mynd ati'n fwriadol i ollwng carthion yn anghyfreithlon i’n ffynonellau dŵr ers blynyddoedd wedi gwylltio a chynhyrfu llawer o bobl, sy'n ddealladwy. Hoffwn ddweud yn gwbl glir fod mynediad at ddŵr glân o ansawdd da yn hawl ddynol sylfaenol, a dylid gwneud popeth a allwn i sicrhau y gall pob un ohonom gael mynediad at ddŵr o ansawdd da.

Nawr, yn achos sir Benfro, comisiynodd Afonydd Cymru, sy’n cynrychioli’r Ymddiriedolaeth Afonydd yng Nghymru, yr Athro Peter Hammond i adolygu data ar ollyngiadau o weithfeydd cyfagos Aberteifi, ynghyd â nifer o weithfeydd trin dŵr gwastraff eraill yng Nghymru. Canfu adroddiad yr Athro Hammond niferoedd uchel iawn o ollyngiadau ar safle Aberteifi, a dangosodd ollyngiadau a oedd yn digwydd yn aml cyn i lefelau llif fodloni'r meini prawf ar gyfer gollyngiad storm. Nawr, fy nealltwriaeth i yw mai’r rheswm am hyn yw bod dŵr môr o’r aber yn mynd i mewn i’r gweithfeydd ac yn amharu ar y broses drin, ac felly, er mwyn osgoi difrod pellach, mae dŵr gwastraff yn cael ei ddargyfeirio’n rheolaidd i arllwys drwy orlifoedd storm. Mae ymchwiliadau bellach ar y gweill a hysbysiadau gorfodi wedi’u cyhoeddi, ond ni fydd hynny’n gwneud fawr ddim i roi sicrwydd i fy etholwyr fod y mater yn cael y sylw priodol. Mae angen gweithredu'n llymach, ac mae angen gwneud hynny'n gyflym.

Y gwir amdani yw mai ychydig iawn a fydd yn newid heb fuddsoddiad sylweddol a gwaith uwchraddio i'r seilwaith presennol, ac rwyf wedi clywed Llywodraeth Cymru yn sôn am yr angen am werth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, ac nid wyf yn anghytuno bod angen inni weld mwy o fuddsoddiad, ond mae'n rhaid inni gofio bod angen i gwmnïau dŵr wneud buddsoddiad pellach mewn seilwaith hefyd. Felly, yn lle taflu'r bai ar Lywodraeth y DU yn unig, dylai’r Gweinidog wneud mwy i sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw’n digwydd. Yn wir, wrth ymateb i’r ddadl hon, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym pa sylwadau a wnaed i Lywodraeth y DU ar y mater penodol hwn. Ac o ran Cyfoeth Naturiol Cymru, nid yw'n ddigon da cyhoeddi hysbysiadau gorfodi yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn disgwyl i reoleiddwyr gymryd y camau priodol pan geir tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio. Ceir tystiolaeth fod hyn wedi bod yn digwydd yn fwriadol ers blynyddoedd. Yn amlwg, nid yw hysbysiadau gorfodi wedi bod yn gosb ddigonol i lygrwyr dŵr, ac fel y dywedais yn gynharach, mae angen gweithredu'n llymach, ac mae angen gwneud hynny'n gyflym.

Nawr, er tegwch i Dŵr Cymru, nid ydynt yn herio dadansoddiad yr Athro Hammond, ac maent wedi derbyn bod angen gwneud newidiadau sylweddol. Pan gafodd y cwmni ei israddio am yr ail flwyddyn yn olynol ym mis Gorffennaf, ar ôl cynnydd mewn achosion o lygredd, dywedasant, yn gywir ddigon, nad yw eu perfformiad ar y lefel y maent am iddo fod, a gwn o fy ymweliadau i â safleoedd Dŵr Cymru eu bod yn gwneud buddsoddiadau i wella gwasanaethau. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn wir fod cwmnïau dŵr yn parhau i ollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon, ac nid yw hynny’n dderbyniol. Mae'r effeithiau ar ansawdd dŵr annigonol yn enfawr. Gall effeithio ar ein hiechyd, gall effeithio ar ein hamgylchedd, a gall effeithio ar ein bywyd gwyllt hefyd. Mae gwaith trin Aberteifi yn gollwng i mewn i afon Teifi, sy'n gartref i eogiaid, llysywod pendoll a dyfrgwn. Yn wir, mae afon Teifi i fod yn cael ei gwarchod fel ardal cadwraeth arbennig, ac wedi'i lleoli yno mae un o boblogaethau mwyaf Ewrop o ddolffiniaid trwyn potel. Dywed yr Athro Hammond wrthym mai dim ond mewn dau le yng Nghymru a’r Alban y ceir dolffiniaid yn rheolaidd, ac eto, mae cwmnïau dŵr yn gollwng yn anghyfreithlon yn un o’u hychydig gynefinoedd ym Mhrydain.

Felly, sut rydym yn symud ymlaen? Bydd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig i lygredd dŵr, ac ysgrifennodd y pwyllgor hwnnw at y Gweinidog gan amlinellu sawl maes sy’n peri pryder. Roedd y pwyntiau hynny'n cynnwys cywirdeb offer monitro ac felly dibynadwyedd data. Tynnodd sylw hefyd at y nifer isel o erlyniadau yng Nghymru i orfodi rheoliadau ansawdd dŵr, a’r diffyg awydd  ymddangosiadol gan reoleiddwyr am bwerau gorfodi a sancsiynau cryfach. Ac roedd y pwyllgor trawsbleidiol yn teimlo bod diffyg cynllun clir ac amserol i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, gan gynnwys y lefel enfawr o garthion sy'n cael eu gollwng. Mae’r pwyllgor yn iawn, yn union fel Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, a fu hefyd yn ymchwilio i ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion, ac sydd wedi galw am fwy o weithredu. Ac eto, mae llawer o bobl sy'n byw yn sir Benfro, ac ymhellach i ffwrdd, yn teimlo nad yw hyn wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae angen cymryd camau brys i atal faint o garthion a ollyngir yn ogystal ag amlder y gorlifoedd. Ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos rhywfaint o arweiniad ar y mater hwn drwy wneud mwy i ddwyn cwmnïau dŵr, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn wir, i gyfrif. Diolch.

16:50

Rwyf bob amser wedi dadlau o blaid model Glas Cymru o berchnogaeth nid-er-elw ar gyfer Dŵr Cymru. Roedd yn enghraifft o arloesi sefydliadol Cymreig, a ddaeth yn astudiaeth achos gan Ysgol Fusnes Harvard ar un adeg. Mewn egwyddor, dylai cael yr hybrid hwn o gwmni preifat heb gyfranddalwyr fod wedi golygu ein bod ni yng Nghymru wedi ein hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf preifateiddio dŵr yn Lloegr. Ni chredaf y gallwn ddod i’r casgliad hwnnw mwyach.

Ers dwy flynedd yn olynol nawr mae Ofwat wedi dweud bod Dŵr Cymru yn un o’r cwmnïau dŵr sy’n perfformio waethaf yng Nghymru a Lloegr—‘ar ei hôl hi’, yn eu termau nhw, sy’n methu ar ran defnyddwyr a’r amgylchedd. Yma yng Nghymru, mae CNC wedi israddio Dŵr Cymru ddwywaith mewn dwy flynedd, o’r sgôr uchaf o bedair seren i ddwy seren yn unig nawr. Rhesymau CNC yw llygredd cynyddol a thangofnodi'r llygredd hwnnw, gan fod y monopolïau preifateiddiedig hyn—gan mai dyna ydynt, yng Nghymru a Lloegr—yn delio mewn dyfroedd tywyll, yn llythrennol ac yn drosiadol. Dyna pam fod cyd-achos yn cael ei ddwyn ar hyn o bryd yn erbyn cwmnïau dŵr yn Lloegr, am y tro, am dangofnodi llygredd ar draul yr amgylchedd a defnyddwyr dŵr. Ac rydym wedi clywed cyfeiriad at waith Peter Hammond, sy'n ganolog i hyn, a'i arbenigedd mewn data mawr ac mewn deallusrwydd artiffisial, sydd wedi helpu i ddatgelu llygredd heb ei gofnodi yma yng Nghymru, gan weithio gydag Afonydd Cymru, a gorfodi Dŵr Cymru eu hunain i gyfaddef eu bod wedi bod yn gollwng carthion yn anghyfreithlon mewn dwsinau o ganolfannau trin dŵr gwastraff ers blynyddoedd.

Nawr, oherwydd y toriadau hyn, mae Dŵr Cymru bellach yn destun ymchwiliadau gan CNC ac asesydd interim diogelu’r amgylchedd Cymru ar yr un pryd ag y mae Ofwat yn ymchwilio iddynt oherwydd gollyngiadau a chamgyfrifiadau o ddefnydd y pen, yn ogystal ag ymchwiliad gan Asiantaeth yr Amgylchedd am fethiannau mewn canolfannau trin dŵr gwastraff yn Lloegr. Mae Surfers Against Sewage wedi tynnu sylw at y ffaith mai Dŵr Cymru a oedd â’r nifer uchaf a’r hyd mwyaf o amser o ollyngiadau carthion o blith holl gwmnïau dŵr y DU yn 2021. Mae pump o’r 10 etholaeth waethaf yn y DU o ran llygredd carthion mewn dyfrffyrdd yng Nghymru. Fy etholaeth i, sef Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yw’r gwaethaf oll, gyda charthion amrwd wedi eu gollwng i'n cyrsiau dŵr am fwy na 60,000 o oriau. Mae canolfan trin dŵr gwastraff Carmel yn gollwng gwastraff heb ei drin i afon Marlas ychydig o dan bedair gwaith a hanner yr wythnos, ar gyfartaledd, drwy gydol y flwyddyn. Os ydych chi wir am fynd i fanylder mawr, mae’r bibell sy’n gollwng y lefel fwyaf o garthion ym Mhrydain yng Nghymru, ac yn gollwng carthion am yr hyn sy’n cyfateb i 325 diwrnod y flwyddyn yn afon Ogwr ym Mhont-y-rhyl. Mae'r bibell waethaf ond un yng Nghymru hefyd, wedi'i lleoli dair milltir i ffwrdd yn unig.

O ystyried popeth yr wyf newydd ei ddweud, sut y gellid cyfiawnhau bod prif weithredwr Dŵr Cymru wedi cael cyfanswm o £675,000 y flwyddyn ddiwethaf fel tâl cydnabyddiaeth, pan fo prif weithredwr Northern Ireland Water, sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd, yn ennill llai na thraean hynny? Awgrymaf i chi nad yw hwn yn gwmni sy'n cael ei redeg er budd pobl Cymru, yn ôl ei siarter; mae'n cael ei redeg, i raddau mwy a mwy, er budd ei dîm rheoli. Mae CNC wedi galw am newid sylweddol ym mherfformiad y cwmni; dywed Afonydd Cymru eu bod yn credu ei bod yn bryd cynnal adolygiad llawn o reoleiddiad a gweithrediad y diwydiant dŵr yng Nghymru. Rwy'n cytuno, a buaswn yn mynd ymhellach. Mae gan y Senedd hon bŵer i roi dŵr Cymru mewn perchnogaeth gyhoeddus. Heb unrhyw gyfranddalwyr i’w digolledu, ni fyddai’n costio dim i’r cyhoedd, ac o'r diwedd byddai gennym gwmni dŵr yma yng Nghymru a fyddai'n uniongyrchol atebol i bobl Cymru, sef y warant eithaf, does bosibl, y bydd ansawdd ein dŵr a’n hamgylchedd yn cael y warchodaeth y maent yn ei haeddu.

16:55

Hoffwn ddechrau drwy dynnu sylw at y ffaith bod glendid dŵr yng Nghymru yn gyfrifoldeb uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Gwn fod hynny'n amlwg yma, ond i lawer o bobl y tu hwnt i'r fan hon, nid ydynt bob amser yn gweld hynny, ac mae'n siomedig gweld cyflwr presennol dŵr yng Nghymru o ganlyniad i anallu Llafur i amddiffyn ein dyfrffyrdd yn effeithiol. Mae Llywodraeth Cymru yn honni ei bod yn poeni am faterion amgylcheddol, ond nid yw bob amser yn teimlo felly. Ydy, mae Llywodraeth Cymru, o’r diwedd, wedi cyhoeddi’r adroddiad ar orlifoedd storm—ydy, mae saith mis yn hwyr, ond mae yma—ond nid yw'r adroddiad hwn, serch hynny, yn darparu argymhellion neu dargedau, ac nid yw ond yn archwilio gwahanol bolisïau sy’n ymwneud â rheoli gorlifoedd storm yng Nghymru. Mae’n rhaid inni aros yn awr i’r tasglu ystyried yr adroddiad a nodi camau gweithredu, gan arwain at oedi pellach cyn mynd i’r afael â llygredd dŵr yng Nghymru.

Fel y gŵyr llawer ar draws y Siambr, mae gan fy etholaeth hardd fy hun, sef Mynwy, rai o’r golygfeydd mwyaf prydferth yng Nghymru, gyda chefn gwlad hardd sy'n llawn bioamrywiaeth ac sydd wedi’i fendithio â dwy o’r afonydd mwyaf rhyfeddol, afon Gwy ac afon Wysg. Fodd bynnag, mae diffyg rheoleiddio ar ran y Llywodraeth hon yn gwneud tro gwael iawn â'r dyfrffyrdd hyn. Yn anffodus, allan o'r 20 o afonydd mwyaf llygredig yn y DU, mae afon Wysg yn rhif 12, ac afon Gwy yn rhif 14. Nid yw hyn yn dderbyniol, ac mae'n rhaid gwneud mwy i fynd i'r afael â phob ffynhonnell llygredd. Gwyddom fod 28 y cant o’r llygredd yn dod o garthffosiaeth. Mae’r ymgyrch i achub yr afon wedi darganfod bod lefelau E. coli yn afon Wysg bron i 300 gwaith yn uwch na’r safon ofynnol ar gyfer dŵr ymdrochi, ar ôl cymryd samplau o elifiant a ollyngwyd o weithfeydd trin carthion Brynbuga ac Aberhonddu.

Er fy mod yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol gan Dŵr Cymru yn y gweithfeydd trin hyn, mae'n drueni mawr nad oedd y blaengynllunio hwnnw wedi digwydd yn gynharach ac wedi'i ragweld a'r gwaith wedi'i wneud yn llawer cynt. Mae hefyd yn peri cryn bryder fod CNC yn gosod y safonau ar gyfer trin carthion drwy ddosbarthu trwyddedau, ond nid oes ganddynt unrhyw ofyniad i gael gwared ar y bacteria niweidiol hyn. Canfu’r grŵp hefyd fod niferoedd eogiaid rhwng 1988 a 2022 wedi gostwng yn aruthrol o ganlyniad i’r llygredd hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn codi pryderon, yn gwbl briodol, yn ymwneud â'r argyfwng hinsawdd. Fodd bynnag, mae eu methiant i gydnabod argyfwng bioamrywiaeth ac ecolegol yn niweidiol iawn. Wrth gwrs, mae newid hinsawdd yn cael effeithiau dinistriol, ond felly hefyd ein bioamrywiaeth sy’n edwino yma yng Nghymru. Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb gorff gwarchod amgylcheddol, sydd wedi arwain at ollwng carthion yn anghyfreithlon ers blynyddoedd. Mae angen sefydlu'r corff gwarchod hwnnw. Mae'n eironig hefyd fod llawer o ASau Llafur yn ddig oherwydd dull y Ceidwadwyr o fynd i’r afael â gorlifoedd storm, ac eto, ychydig iawn sydd ganddynt i’w ddweud am gyflwr dŵr yng Nghymru, lle mae’n gyfrifoldeb llwyr i Lywodraeth Lafur Cymru. I wneud pethau’n waeth, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno na chyhoeddi ei bwriad i greu deddfwriaeth i fynd i’r afael â’r gofyniad i leihau gollyngiadau o orlifoedd storm.

Ddirprwy Lywydd, mae Cymru yn genedl hardd, yn enwedig ein hafonydd a'n llynnoedd. Maent yn asedau hollbwysig mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Dyma pam fod yn rhaid inni weld mwy o gamau’n cael eu cymryd i’w hamddiffyn. Felly, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i gefnogi’r cynnig yma heddiw.

17:00

Ar ôl bod yn un o grŵp bach iawn o Aelodau'r Senedd, gyda chefnogaeth pysgotwyr ac amgylcheddwyr, sy'n poeni am lygredd afonydd, mae'n braf cael dadl ar y pwnc heddiw.

Mae dŵr yn arbennig o agored i lygredd. Caiff dŵr ei adnabod fel toddydd cyffredinol, oherwydd gall hydoddi mwy o sylweddau nag unrhyw hylif arall. Dyma pam mae dŵr mor hawdd ei lygru: mae carthffosiaeth, sylweddau gwenwynig o ffermydd, trefi a ffatrïoedd yn hydoddi'n rhwydd mewn dŵr, gan achosi llygredd dŵr. Ar draws y byd, amaethyddiaeth yw prif achos dirywiad dŵr. Mae data o'r Unol Daleithiau yn dangos mai llygredd amaethyddol yw prif ffynhonnell halogiad afonydd a nentydd, yr ail brif ffynhonnell mewn gwlyptiroedd, a'r drydedd brif ffynhonnell mewn llynnoedd. Mae hefyd yn cyfrannu'n fawr at halogi aberoedd a dŵr daear. Bob tro mae'n bwrw glaw, mae gwrtaith, plaladdwyr, gwastraff anifeiliaid o ffermydd a gwaith da byw yn golchi maetholion a phathogenau, fel bacteria a firysau, i'n dyfrffyrdd.

Yr adroddiad y sonioch chi amdano nawr ynglŷn ag America, a yw hwnnw'n edrych yn benodol ar amaethyddiaeth yn gyffredinol neu amaethyddiaeth yn America yn unig? Oherwydd mae'n bwysig nodi'r gwahaniaeth yn y safonau rhwng amaethyddiaeth ddomestig yma yng Nghymru ac amaethyddiaeth America.

Mae'n edrych ar amaethyddiaeth America, a buaswn yn hapus, y tu hwnt i'r cyfarfod hwn, i'r Aelod egluro i mi sut yr ydym yn ymdrin wahanol â charthion a gwastraff anifeiliaid yn cael eu golchi i mewn a nitradau'n cael eu golchi i mewn.

Llygredd maetholion a achosir gan nitrogen gormodol a ffosfforws mewn dŵr yw'r bygythiad mwyaf i ansawdd dŵr ledled y byd a gall achosi gordyfiant algâu, algâu gwyrddlas gwenwynig sy'n niweidiol i bobl a bywyd gwyllt, sydd yn y pen draw yn lladd popeth yn yr afon, ac rydym i gyd wedi gweld hynny.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, câi gwastraff ei arllwys i afonydd, gan ladd popeth yn y dŵr. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, dechreuwyd glanhau afonydd, ond rydym bellach yn dychwelyd at lygru afonydd eto. Rwyf wedi codi pryderon yn rheolaidd ynghylch carthion amrwd a llygryddion eraill yn afon Tawe Abertawe a gofynnais beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phroblemau llygredd sy'n effeithio ar ddyfrffyrdd Cymru, gyda charthion heb eu trin yn gollwng i afonydd fel afon Tawe gan waith trin Trebanos, llygredd ffosfforws yn arwain at ewtroffigedd yn afon Gwy, a microblastigau yn cyrraedd y dŵr ym mhobman. Yna rydym yn yfed y dŵr hwn ar ôl i waith trin dŵr ddigwydd. Mae llygredd afonydd yn broblem ar draws Cymru, ond rwy'n sôn am afon Tawe'n unig, sydd o fewn 50 llath i ble rwy'n byw. Mae gennym ollyngiadau carthion amrwd, llygredd amaethyddol a microblastigau. Mae dŵr storm yn cymysgu â charthion yng ngwaith trin Trebanos; yna caiff ei ollwng i'r afon ac yna i'r môr.

Mae Ofwat a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud yn glir fod y defnydd presennol o ollyngiadau gorlifoedd storm yn annerbyniol a bod angen iddo newid. Mae pobl yn poeni bod gorlifoedd yn gweithredu'n rhy aml. Dywed CNC eu bod yn cymryd camau i sicrhau bod rheoleiddio gorlifoedd yn ymateb i anghenion yr amgylchedd a'r cyhoedd. Buaswn i'n dweud y dylent fod wedi gwneud hynny amser maith yn ôl. Maent yn dweud eu bod yn parhau i herio cwmnïau dŵr i wella eu perfformiad ar draws yr holl asedau, er mwyn sicrhau bod gorlifoedd yn cael eu rheoli'n iawn. Maent wedi dweud y byddant yn cyhoeddi trwyddedau newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dŵr gyflwyno data cydymffurfiaeth llif blynyddol, er mwyn gwella rheoliadau cydymffurfiaeth llif yn sylweddol. Mae CNC hefyd yn dweud eu bod yn goruchwylio rhaglen fuddsoddi £20 miliwn gan y cwmnïau dŵr i leihau effaith gorlifoedd storm ymhellach, gan flaenoriaethu'r gollyngiadau mwyaf. Rwy'n ofni nad wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth o unrhyw beth da'n digwydd mewn gwirionedd. Mae pethau yr un fath nawr ag oeddent bum mlynedd a 10 mlynedd yn ôl.

Mae pethau y credaf y gallent helpu i atal gorlifoedd storm rhag mynd i mewn i'r system garthffosiaeth yn cynnwys plannu coed a llwyni, gan ei gwneud yn amod cynllunio ar ddatblygiadau newydd na chaniateir gorchuddion anhydraidd, a bod â mwy o reolaeth dros y defnydd o wrtaith. Mae ffosfforws a nitradau'n chwarae rhan yn ewtroffigedd afonydd, er mai'r prif faetholyn cyfyngol mewn systemau afonydd dŵr croyw yw ffosfforws fel arfer.

Mae'r bywyd gwyllt yn afon Gwy yn gwaethygu'n eithriadol o gyflym. Mae'r boblogaeth eogiaid yn afon Gwy mewn cyflwr difrifol, gyda dalfeydd genweirio 94 y cant yn is na'u lefel uchaf ym 1967. Amcangyfrifir bod lefelau crafang-y-frân, sy'n bwysig iawn i fywyd afonydd, wedi lleihau 90 y cant. Mae infertebratau afon bellach yn absennol mewn sawl man. Y prif lygrydd sy'n achosi pryder yw ffosfad, gyda thua 73 y cant yn dod o faetholion sy'n gollwng o dail da byw i mewn i'r afon, a thua 22 y cant o weithfeydd trin carthion. Mae angen glanhau ein hafonydd, ond mae angen inni ddod o hyd i'r llygryddion. Yr unig ffordd o atal pobl rhag llygru yw pan fydd yn dechrau eu taro yn y boced. Rhaid gwneud hyn ar gyfer Dŵr Cymru, ond hefyd ar gyfer ffermwyr ac unrhyw bobl eraill sy'n llygru ein hafonydd.

Yn olaf, rwy'n cytuno ag Adam Price—a hoffwn pe bawn i wedi siarad o'i flaen—mae angen perchnogaeth gyhoeddus ar ddŵr. Roedd yn arfer bod yn eiddo i'r cyhoedd; mewn gwirionedd, arferai gael ei redeg gan awdurdodau lleol yn eithriadol o dda. Mae angen inni ddod ag ef yn ôl i ddwylo cyhoeddus, yn hytrach na'r ffordd y caiff ei redeg nawr.

17:05

Rwy'n byw yn y Gelli Gandryll. Rwy'n byw ar un o'r afonydd mwyaf llygredig yng Nghymru. Rwy'n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle mae'r tair afon fwyaf llygredig. Maent yn y drefn ganlynol: yr afon Wysg, afon Gwy a'r afon Tawe. Cyn hanner tymor yn y Siambr, gofynnais gwestiwn amserol brys i'r Gweinidog ynghylch y datgeliadau echrydus y soniwyd amdanynt yma heddiw—y ffordd y mae Dŵr Cymru yn dympio carthion heb eu trin yn anghyfreithlon yn afon Teifi. Gelwais am adolygiad llawn o Dŵr Cymru i ddatgelu gwir faint y methiannau hyn oherwydd bod llawer nad ydym yn ei wybod. Mae'n ymddangos o'r hyn a glywn y prynhawn yma fod cytundeb trawsbleidiol i adolygiad o Dŵr Cymru. Nid ydynt yn perfformio ar y lefel y mae angen iddynt ei wneud.

Serch hynny, clywsom honiadau mynych gan Dŵr Cymru eu bod yn gwella, ac mewn perthynas â'r gollyngiad yn afon Teifi, rwy'n siŵr fod llawer ohonom wedi cael e-bost i ddweud wrthym fod y dŵr ymdrochi yn Nhraeth Poppit yn dal i fodloni ansawdd 'rhagorol' Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ymdrochi. Ond mae hyn yn camliwio'r gwir unwaith eto, sef bod ein seilwaith dŵr yn parhau i fod yn annigonol er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro. A ydym yn barod i dderbyn diwydiant dŵr sy'n parhau, ers 2016, i fod y llygrwr unigol sy'n achosi'r nifer mwyaf o ddigwyddiadau llygredd yng Nghymru?

Ni ellir gorbwysleisio maint yr her y mae gorlifoedd storm yn ei achosi i'n dŵr. Ers 2016, mae nifer y gorlifoedd storm a gofnodwyd gan fonitorau hyd digwyddiadau wedi cynyddu bron bedair gwaith i dros 2,000 o orlifoedd a gofnodwyd yn 2020. Yn yr un modd, mae nifer y gollyngiadau wedi saethu i'r entrychion i dros 105,000 yn 2020, sy'n gynnydd saith gwaith drosodd. Mae gwir angen inni roi camau brys ar waith i atal y mater rhag mynd allan o reolaeth yn llwyr.

Gadewch inni roi'r gorau i feio ein gilydd. Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am ddod â'r ddadl hon yma heddiw, ac rwy'n credu bod angen i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd yma. Mae ein dŵr yn rhy werthfawr i ni gymryd ochrau. Mae angen inni ddod o hyd i dir cyffredin i symud ymlaen ar ein pryder am ddŵr. Y gair allweddol yw 'brys'. Ni all ein dyfrffyrdd a'n hecosystemau gwerthfawr fforddio aros blynyddoedd a blynyddoedd i gwmnïau drwsio gweithfeydd trin diffygiol a dod ag arferion llygru i ben, pan fyddant yn gwneud hynny ar draul biliau cynyddol i ddefnyddwyr hefyd. Rydym yn talu am eu diffyg gofal llwyr am ein dŵr.

I orffen, rwyf am ailddatgan fy ngalwad unwaith eto am adolygiad llawn o Dŵr Cymru ar unwaith, dim taliadau bonws i swyddogion gweithredol hyd nes y gwelir gwelliant, a rheoliadau llymach gyda chosbau llymach am ddympio anghyfreithlon. Heb weithredu ar raddfa fawr ac yn gyflym, mae iechyd ein dyfrffyrdd yn y fantol. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog am yr hyn y gallwn ei wneud am Dŵr Cymru. Rwy'n sylweddoli ein bod wedi clywed o'r blaen mai ychydig iawn y gellir ei wneud, ond nawr yw'r amser, ac rydym wedi clywed gan Adam Price beth y gallwn ei wneud. Ni all ein hafonydd, ein moroedd, ein nentydd aros mwy. Ni all ein pysgod, ein bioamrywiaeth aros mwy. Ni all y Cymry aros mwy, ac rwy'n gobeithio na all y Senedd hon aros mwy ychwaith. Diolch yn fawr iawn.

17:10

Fel y mae rhai ohonoch eisoes yn gwybod yn y Siambr hon, cefais fy enwi'n hyrwyddwr rhywogaethau y Senedd dros forwellt yn ddiweddar, ac felly hoffwn dynnu sylw at yr effaith negyddol y mae gorlifoedd storm sy'n rhyddhau carthion heb eu trin i'n hafonydd yn ystod glaw trwm yn ei chael ar ein cynefinoedd morol. Yn anffodus, ni all morwellt wrthsefyll a goroesi'r ansawdd dŵr gwael y mae'n agored iddo yn ystod y gorlifoedd hyn, ac mae'n cael effaith ar welyau morwellt, ac ar fioamrywiaeth forol a'r poblogaethau pysgod sy'n defnyddio gwelyau morwellt fel ardaloedd magu. Tra bo cwmnïau dŵr yng Nghymru yn llygru afonydd ac ardaloedd arfordirol â charthion heb eu trin, y gwir plaen yw na fyddwn byth yn adfywio gwelyau morwellt ac rydym yn mynd i barhau i golli ein bioamrywiaeth forol fawr ei hangen.

Fel rwyf fi a llawer o rai eraill wedi dweud yn y Siambr o'r blaen, nodwyd bod gan ecosystemau carbon glas fel morwellt botensial enfawr i storio carbon ac maent yn arddangos cyfraddau claddu carbon hyd at 30 gwaith yn uwch na choedwigoedd. Gallant helpu i liniaru erydiad y môr hyd yn oed. Ac eto, os bydd y cyfraddau rhyddhau carthion yn parhau, bydd unrhyw botensial y gellir ei gyflawni yn cael ei golli, a bydd yn gwneud awydd blaenoriaethol Llywodraeth Cymru i ddiogelu a gwella ein gwelyau morwellt yn gyff gwawd.

Agwedd arall sy'n peri pryder mawr i mi yw safonau bacteriolegol ein dŵr ar gyfer pysgod cregyn. Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio dyblu'r nifer o bysgod cregyn a gynhyrchir yng Nghymru, ac mae gennym botensial i greu pysgodfeydd ar gyfer cregyn bylchog, wystrys, clustiau môr, berdys a gwella cynnyrch a galw'r farchnad yn sylweddol, ond eto rydym yn caniatáu i gwmnïau dŵr lygru ein dyfrffyrdd yn barhaus.

Mae data 'Gorlifiadau Stormydd Cymru: adroddiad' yn dangos bod yna 2,142 o orlifoedd storm yng Nghymru, ac roedd nifer cyfartalog y gollyngiadau carthion o'r rhain bron yn 41 y flwyddyn yn 2021 a 2022, sy'n golygu bod dros 87,000 o ddigwyddiadau gorlif y flwyddyn. Mae'n peri syndod mawr i mi fod cwmnïau dŵr yng Nghymru wedi cael parhau â'r arfer hwn ac nad ydynt wedi cael eu gorfodi i fuddsoddi yn y maes ac atal y mecanwaith gorlifo hwn rhag cael ei ddefnyddio i'r graddau y mae'n cael ei ddefnyddio. Efallai nad yw'r Aelodau'n ymwybodol, ond yn 2022 cafodd Dŵr Cymru 77,000 o ollyngiadau carthion sylweddol, a rhyddhaodd garthion i mewn i'n dyfrffyrdd am bron i 600,000 awr, sy'n cyfateb i fwy na 68 o allfeydd carthion yn gweithredu drwy'r dydd, bob dydd. Roedd hyn i lawr o'r flwyddyn flaenorol yn 2021, pan gofnodwyd 94,000 o ollyngiadau carthion gyda'r gollyngiadau yn para am fwy na 785,000 o oriau. Yn 2020 cofnodwyd 106,000 o ollyngiadau carthion, gydag 872,976 awr o ollyngiadau.

Y gwir amdani yw bod Dŵr Cymru'n casglu'r biliau dŵr a charthffosiaeth ail uchaf yn y Deyrnas Unedig, ac am y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2022, roedd ganddo £515 miliwn mewn arian parod a chredyd heb ei godi o £200 miliwn, ond eto nid yw'n buddsoddi'n ddigonol i leihau'r nifer eithriadol o ddigwyddiadau llygredd yn ein dyfrffyrdd. Ni waeth beth y bo'r esboniadau ynghylch achosion y digwyddiadau llygredd hyn, mae'n rhaid inni ystyried nad yw'n fater o os bydd, ond pryd y ceir digwyddiadau iechyd cyhoeddus mawr yn sgil dympio carthion. Nid ein bioamrywiaeth forol a'n cyflenwad bwyd yn unig sy'n dioddef oherwydd hyn, ond fel y gwelsom yn y cyfryngau, pobl sydd am nofio ac ymdrochi yng Nghymru sydd hefyd yn wynebu'r risg o ddod i gysylltiad â gwastraff dynol a'r problemau a allai godi yn sgil hynny.

Y realiti yma yw y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwthio Ofwat yn galetach i gwmnïau dŵr yng Nghymru gyflawni ymrwymiadau eu hadolygiad prisiau yn 2019. Nodwyd bod Dŵr Cymru ar ei hôl hi ac yn tangyflawni o ran tarfu ar gyflenwad, ansawdd dŵr a chydymffurfiaeth gwaith trin, ac er eu bod yn bodloni'r gofynion perfformiad cyfartalog, mae Hafren hefyd yn tangyflawni o ran tarfu ar gyflenwad, dymchweliadau carthffosydd mewnol a chydymffurfiaeth gwaith trin. Rydym wedi ymddiried yn y cwmnïau hyn i ofalu am un o'n trysorau cenedlaethol pwysicaf a mwyaf gwerthfawr, ac maent yn cyfrannu'n fawr at iechyd a llesiant Cymru, ond eto, o ystyried maint biliau dŵr aelwydydd, sydd ymhell dros £1,000 y flwyddyn ar eiddo cyfartalog band D, mae rhywun yn dechrau cwestiynu a ydym yn cael gwerth am arian gan ein cwmnïau dŵr ai peidio. O'r herwydd, hoffwn annog pawb yma i gefnogi ein cynnig, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru hefyd i bwyso am dargedau mwy ymestynnol a llym yn adolygiad prisiau 2024. Diolch.

17:15

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r ddadl heddiw. Yn wir, ceir set bwysig o heriau gyda gorlifoedd storm, ond yn anffodus nid yw'r cynnig yn cydnabod na ellir eu gwahanu oddi wrth faterion ehangach yn ymwneud â rheoli dŵr gwastraff a dŵr wyneb. Nid yw cynnig yr wrthblaid yn adlewyrchu natur yr heriau sy'n ein hwynebu'n iawn, na'r arfau sy'n barod at ein defnydd i fynd i'r afael â nhw. Pe byddem yn dilyn y dull a gynigiwyd yn y cynnig, ni fyddai cyflwr ecolegol cyrff dŵr Cymru yn gwella. Ddirprwy Lywydd, hoffwn sicrhau'r Senedd fod ffordd well yn bosibl.

Mae rhai o'r camau sydd eu hangen yn galw am rywfaint o newid, ac mae pobl yn ei chael hi'n anodd newid. Nid yw trafodaethau gyda sectorau fel adeiladu tai ac amaethyddiaeth am yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i wella ansawdd dŵr yn sgyrsiau hawdd. Y mesur diogelwch pwysicaf mewn gwirionedd yw gosod fframwaith rheoleiddio cadarn ac yn hollbwysig, cytuno ar y camau blaenoriaeth ar draws pob sector a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf uniongyrchol, rhywbeth sydd eisoes ar y gweill fel rhan o broses yr uwchgynhadledd y mae'r Aelodau'n gyfarwydd iawn â hi. 

Mewn modd dadreoleiddiol nodweddiadol, mae Ceidwadwyr y DU wrth gwrs yn cynnig y byddant yn lleddfu effaith llygredd dŵr trwy gael gwared ar y rheolau niwtraliaeth, gan ganiatáu lefelau uwch o lygredd mewn ardaloedd lle mae problemau difrifol eisoes yn bodoli. Ddirprwy Lywydd, mae angen inni leddfu'r effeithiau ar y system gynllunio sydd wedi digwydd oherwydd problemau llygredd, ond hoffwn alw ar Aelodau'r Senedd i gytuno â ni mai'r ffordd i ymdrin â hynny yw mynd i'r afael â'r llygredd, nid diystyru'r rheoliadau. 

Roedd y seilwaith dŵr y mae gorlifoedd storm yn rhan ohono yn gamp ryfeddol ym maes peirianneg fodern gynnar ac achubodd fywydau dirifedi trwy atal clefydau trosglwyddadwy. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, er ei fod wedi parhau'n effeithiol iawn am ddiogelu iechyd pobl, nid yw'r seilwaith wedi dal i fyny â'r pwysau cynyddol a roddir arno. Nawr mae newid hinsawdd yn cynyddu'r pwysau i lefelau nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Rydym i gyd yn gwybod bod yna ardaloedd ar orllewin ynysoedd Prydain yn profi lefelau uchel o law. Yn wir, mae faint o law sydd yng Nghymru yn helpu gydag ansawdd dŵr. Mae'n rhan o'r rheswm pam fod mwy na 40 y cant o grynofeydd dŵr yng Nghymru mewn statws ecolegol da, gyda dim ond 16 y cant mewn statws ecolegol da yn Lloegr. Ond mae hefyd yn golygu bod angen gorlifoedd storm yn amlach i atal carthion rhag cronni'n ôl i gartrefi a strydoedd pobl.

Gallaf sicrhau'r Aelodau, fel y dengys statws ecolegol crynofeydd dŵr, nad afonydd Cymru yw'r rhai mwyaf llygredig yn syml oherwydd y defnydd o orlifoedd storm. Pe byddem yn gwario cyllideb gyfan Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â gorlifoedd storm, ni fyddai unrhyw afon yng Nghymru yn cael ei gwella i'r graddau y byddai'n cyflawni statws ecolegol da. Mewn gwirionedd, mae mathau eraill o bwysau llawer cryfach ar ein seilwaith dŵr, ac mae llawer o gamau y gallwn eu cymryd i atal llygredd ymhell cyn iddo gyrraedd y garthffos.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am gywiro rhai o'r pethau camarweiniol sydd wedi codi heddiw gyda rhai ffeithiau sylfaenol. Defnydd tir gwledig yw prif gyfrannwr ffosffadau mewn chwech o'r naw afon ACA, gan gynnwys pedair o'r pum afon ACA sy'n methu. Gwaith trin dŵr gwastraff yw prif gyfrannwr y llwyth ffosfforws mewn un afon ACA sy'n methu, sef afon Teifi. Yno, mae'n cyfrannu 66 y cant o'r llwyth ffosfforws o'i gymharu â 30 y cant a ddaw o ddefnydd tir gwledig a 3 y cant a ddaw o orlifoedd carthffosiaeth cyfun. 

Yr afon Wysg sydd â'r lefel uchaf o ollyngiad ffosfforws i'r dalgylch ar sail ddyddiol, a hynny o gryn dipyn. Rydych chi yno, Peter. Caiff 180 kg o ffosfforws ei ollwng iddi bob dydd, ac yna afon Dyfrdwy ac afon Gwy. Y prif gyfrannwr ym mhob un o'r afonydd hyn yw defnydd tir gwledig—nid dŵr gwastraff, ond defnydd tir gwledig. Mae'r canlyniadau'n dangos bod y gyfran fwyaf o'r ffosfforws yn tarddu o'r sector defnydd tir gwledig. Mae'n cyfrannu 62 y cant o'r llwyth ffosfforws ar draws yr holl afonydd ACA. Canfuwyd mai effaith gyfyngedig sydd gan orlifoedd carthffosiaeth cyfun ar lwyth ffosfforws, sef 4 y cant yn unig ar draws yr holl afonydd ACA. 

Nid wyf yn dadlau o gwbl na ddylem fynd i'r afael â gorlifoedd carthffosiaeth cyfun—wrth gwrs y dylem. Ond mae'n bwysig iawn deall hierarchaeth problemau sy'n arwain at broblemau yn yr afon, a defnydd tir gwledig yw'r uchaf o bell ffordd o'r rheini. Ond Ddirprwy Lywydd, mae yna lawer o gamau gweithredu yr ydym yn eu cymryd ac y gallwn eu cymryd yn y tymor byr. Mae'r rhain yn cynnwys hyrwyddo defnydd effeithlon o ddŵr gan fusnesau ac aelwydydd er mwyn atal dŵr storm rhag mynd i systemau carthffosiaeth yn y lle cyntaf. Efallai ei fod yn swnio fel peth bach, ond byddai casgen ddŵr ar bob tŷ yng Nghymru yn cael gwared ar bwysau enfawr oddi ar systemau gorlifoedd storm. 

Mae mynd i'r afael â chysylltiadau toredig a thanciau septig preifat heb eu cynnal yn dda, fel y nododd Mike Hedges, yn bendant yn un o'r pethau y gallem ei wneud. Mae gwneud systemau draenio cynaliadwy yn ofynnol ar gyfer datblygiadau newydd, rhywbeth y cawsom y rhagwelediad i'w roi ar waith yng Nghymru ac na chafodd ei groesawu gan bawb ar y meinciau gyferbyn, yn rhan fawr o'r broses o wneud hyn, a bydd eu hôl-osod nawr, fel rhan o adfywio trefol, yn un o'r prif bethau y gallwn ei wneud. Ac wrth gwrs, gwella cyflwr cynefinoedd drwy gamau gweithredu wedi'u targedu ar safleoedd natur unigol. Ond y set bwysicaf o gamau gweithredu, fel y bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud lawer gwaith, fydd ymdrin â phrif achos unigol llygredd, sef defnydd tir amaethyddol. Mae tystiolaeth annibynnol a gomisiynwyd gan CNC yn dangos mai dyma'r prif gyfrannwr ffosffadau gormodol mewn chwech o'r naw dalgylch afon ACA—mae'n werth dweud hynny eto, Lywydd.

Rwy'n gobeithio y daw'r gefnogaeth gref i wella ansawdd dŵr yng Nghymru a glywsom gan y gwrthbleidiau heddiw ag ymrwymiad yn ei sgil i weithio gyda ni i dynhau'r rheolau ymhellach er mwyn lleihau llygredd amaethyddol. Bydd angen buddsoddiad sylweddol iawn ar yr ateb hirdymor i ymdrin â gorlifoedd storm hanesyddol. Mae cynnig y Ceidwadwyr yn galw yn lle hynny am ddirwyon a fframwaith cyfreithiol newydd. Gallaf sicrhau'r Aelodau fod y fframwaith yn bodoli ac mae'n bosibl gosod y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi i gwmnïau dŵr eisoes drwy'r broses adolygu prisiau. Felly, gellir cyfeirio buddsoddiad eisoes yn y ffordd honno.

Dylwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro bod yr adroddiad gorlifoedd storm a nodwyd yn y cynnig gwreiddiol yn dystiolaeth bwysig, ond ni ddylai fod yn syndod o gwbl nad yw'r adroddiad yn cynnwys argymhellion, gan nad yw'r adroddiad yn adroddiad sy'n sefyll ar ei ben ei hun; mae'n rhan o sylfaen dystiolaeth ehangach sy'n llywio'r broses reoleiddio. Mae CNC, fel y rheoleiddiwr, wedi dweud wrth y cwmnïau dŵr yn eu hadolygiadau perfformiad fod yn rhaid iddynt osod nod i leihau digwyddiadau llygredd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan anelu at sero, ac atal pob achos o lygredd difrifol yn y tymor byr. Mae hwnnw'n amcan llawer cryfach na'r rhai a ddarperir gan gynnig yr wrthblaid, a chredaf y dylai'r Senedd gyfan gefnogi'r disgwyliad y mae CNC wedi'i nodi. Hoffwn annog pob Aelod i ddilyn y broses adolygu prisiau yn agos. Lywydd, rwyf wedi argymell sawl gwaith y dylai pwyllgorau ofyn i Dŵr Cymru drafod y broses adolygu prisiau gyda nhw ac rwyf am ailadrodd yr alwad honno heddiw. Mae angen i Aelodau'r Senedd chwarae eu rhan yn craffu ar y cynigion y mae'r cwmnïau dŵr yn eu cyflwyno.

Mae'r broses reoleiddio economaidd ar gyfer cwmnïau dŵr yn galw am gydbwyso mwy o fuddsoddiad â chynnydd ym miliau cwsmeriaid. Felly, o fewn y fframwaith presennol, mae unrhyw alwad am fuddsoddiad ychwanegol yn arwain yn uniongyrchol at filiau uwch. Er y gallai ariannu buddsoddiad o drethiant cyffredinol fel nad yw'r rhai ar yr incwm lleiaf yn gwneud y cyfraniad mwyaf fod yn system decach—a buaswn i'n dweud y byddai—byddai'n dal i fod angen talu amdano. Nid wyf wedi clywed un gair gan yr wrthblaid, fel arfer, ynglŷn â sut y credant y gellid talu amdano, yn enwedig o ystyried bod Ceidwadwyr y DU wedi gwneud niwed sylweddol i'r economi, ac i'n cyllid cyhoeddus yn wir.

Dros amser, bydd y buddsoddiad a gynlluniwyd gan gwmnïau dŵr yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ond rydym yn rhoi llawer mwy o gamau ar waith i sicrhau gwell ansawdd dŵr yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, cyflwynais y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle, a fydd yn gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i'r garthffos. Yn gynharach eleni, cadarnhawyd bod cyfraddau plannu coed ar eu huchaf yng Nghymru ers bron i 40 mlynedd. Mae'r cynllun adfer natur newydd ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol yn mynd i'r afael yn benodol â chyflwr ecosystemau ymyl y ffordd y mae dŵr ffo yn effeithio arnynt. Mae'r Ddeddf amaeth newydd, a basiwyd gan y Senedd yn gynharach eleni, yn ei gwneud yn ofynnol i gymorth fferm ystyried ansawdd dŵr yn uniongyrchol. Y mis diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi'r buddsoddiadau diweddaraf mewn mesurau rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur, gan nodi cynnydd cryf iawn ar brif ffrydio dulliau gwyrdd ar draws pob dalgylch afon mawr yng Nghymru.

Er y gallai'r rhain ymddangos i'r lleygwr fel casgliad o bolisïau heb gysylltiad cadarn rhynngddynt, mae pob un ohonynt yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd dŵr drwy wella gallu'r system ddŵr i ymdopi. Maent i gyd yn caniatáu i symudiad dŵr gael ei arafu a llygryddion posibl i gael eu gwanhau neu eu dileu i leihau niwed amgylcheddol. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y cynnydd mwyaf posibl, maent yn helpu i ddangos pam ein bod yn canolbwyntio ar y system ddŵr yn gyfannol, nid ar un elfen yn unig. Y ffocws cyfannol hwnnw sydd wedi helpu i gyflawni'r gwelliannau a welsom i ansawdd dŵr, gyda chynnydd o wyth y cant yn y gyfran o grynofeydd dŵr sy'n bodloni statws ecolegol da yng Nghymru ers y set gyntaf o fesuriadau tebyg yn 2009.

Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n dawel eu meddwl fod llawer y gall ac y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i barhau i wella ansawdd dŵr. Gall y gwelliannau yr ydym eisoes wedi'u gweld ers datganoli barhau i ledaenu heb fod angen dilyn y llwybr dadreoleiddio a hyrwyddir gan y Ceidwadwyr, neu'r angen i ddibynnu ar symiau o arian nad ydynt yn bodoli mewn gwirionedd. Mae dull y Llywodraeth hon o weithredu yn seiliedig ar ddod â phobl ynghyd, nid ar feio eraill, ar ddilyn y wyddoniaeth, yn hytrach na mynd ar drywydd cynhennau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar ffocws hirdymor ar y camau sydd eu hangen ar draws pob sector nad ydynt bob amser yn gyfforddus neu'n boblogaidd gan bawb, ond sydd eu hangen ac a fydd yn gwbl angenrheidiol. Diolch.

17:20

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gallu cau'r ddadl hon heno. Rwy'n credu mai'r hyn a gesglais o glywed y ddadl a cheisio crynhoi hyn yw bod y ffigurau'n eithaf llwm. Rhannwyd nifer o eitemau, ond yr hyn a'm trawodd fwyaf yw bod pobl yng Nghymru yn wynebu rhai o'r biliau dŵr uchaf yn y DU tra'n gweld chwarter yr holl ollyngiadau ar draws Cymru a Lloegr yn digwydd yma yng Nghymru. Mae'r Aelodau yn eu cyfraniadau wedi bod yn bryderus ynglŷn â'r anghyfartalwch hwn.

Nododd Janet Finch-Saunders mewn agoriad trylwyr i'r ddadl y problemau enfawr gyda diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. Cyfeiriodd nifer o bobl at adroddiad gorlifoedd storm Llywodraeth Cymru. Mynegwyd pryderon nad oedd yn cynnwys unrhyw argymhellion, tra bod y Gweinidog a Jenny Rathbone wedi ceisio egluro pam. Ond tynnodd Jenny Rathbone sylw hefyd at yr wybodaeth syfrdanol yn yr adroddiad hwn a'r her y mae'n ei chyflwyno'n glir.

Clywsom gan Paul Davies, a rannodd y sefyllfa y mae ei drigolion yn ei hwynebu ym Mhreseli Sir Benfro, a galwodd am gamau llymach yn erbyn llygryddion dŵr gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n amlwg nad yw cyhoeddi hysbysiadau gorfodi yn ddigon ynddo'i hun, yn enwedig a ninnau'n gwybod bod Dŵr Cymru wedi cyfaddef gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon mewn dwsinau o weithfeydd trin dros nifer o flynyddoedd. Clywsom hefyd gan Delyth Jewell ar y pwynt ynglŷn â rôl Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fe wnaeth Delyth Jewell ein hatgoffa hefyd o bwysigrwydd buddsoddiad cyfalaf yn ogystal â'r fframwaith llywodraethu amgylcheddol cadarn y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi hefyd.

Clywsom gan Adam Price a Jane Dodds, a rannodd eu pryderon ynglŷn â pherfformiad Dŵr Cymru a'r ymchwiliadau lluosog sydd ar y gweill gan asiantaethau amrywiol, ynghyd â'r gwobrau ariannol enfawr sy'n cael eu talu i'r rhai sydd ar y lefelau rheoli uchaf.

Cawsom ein hatgoffa gan Peter Fox ynghylch cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru am ansawdd dŵr yma yng Nghymru ac esboniodd yr effaith y mae gollyngiadau carthion a dŵr aflan yn ei chael ar fioamrywiaeth yn ein dyfroedd. Nododd ymgyrch Achub Afon Wysg, a ddangosodd y gostyngiad sylweddol yn nifer yr eogiaid, pysgodyn yr oedd Mike Hedges yn bryderus yn ei gylch hefyd, lle rhannodd fod y niferoedd yn afon Gwy wedi gostwng 94 y cant. Tynnodd Mike Hedges sylw hefyd at ei bryder am effaith ffermio ac amaethyddiaeth ar ein hafonydd ac ansawdd dŵr, pryder yr oedd eraill yn y Siambr yn ei rhannu hefyd.

Clywsom tuag at y diwedd gan Joel James, a rannodd ei angerdd am forwellt, fel hyrwyddwr rhywogaethau yr Aelodau dros forwellt, a'r modd y mae ansawdd gwael ar fioamrywiaeth yn effeithio nid yn unig ar bysgod y môr a'r pysgod yn yr afonydd, ond ar bethau fel morwellt hefyd, sy'n arbennig o agored i ansawdd dŵr gwael.

Weinidog, yn eich ymateb, fe geisioch chi ein sicrhau ynghylch y ffordd well, yn eich barn chi, o ymdrin â materion ansawdd dŵr fel y nodir yn y gwelliant gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaethoch chi alw arnom i gydweithio i ddod o hyd i atebion, gan lwyddo ar yr un pryd i feirniadu'r gwrthbleidiau am yr atebion a gyflwynwyd gennym ni yma heddiw.

Felly, o gofio y dylai pawb yn y lle hwn fod yn ymrwymedig i ddyfrffyrdd iach, galwaf ar bawb i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr iawn.

17:25

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebu.] Oes, mae yna wrthwynebiad ac felly gwnawn ni bleidleisio ar y cynnig yna yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Gwrthdaro yn Israel a Gaza

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enwau Darren Millar, Alun Davies a Hefin David.

Eitem 7 fydd nesaf, dadl Plaid Cymru ar y gwrthdaro yn Israel a Gaza, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig yma.

Cynnig NDM8391 Rhun ap Iorwerth

Cefnogwyd gan Adam Price, Carolyn Thomas, Cefin Campbell, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Jane Dodds, John Griffiths, Luke Fletcher, Llyr Gruffydd, Mabon ap Gwynfor, Peredur Owen Griffiths, Rhys ab Owen, Siân Gwenllian, Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn condemnio'r ymosodiadau brawychus a gyflawnwyd gan Hamas yn erbyn dinasyddion Israel ac yn galw am ryddhau gwystlon ar unwaith.

2. Yn nodi bod gan Israel ddyletswydd i sicrhau gwarchodaeth, diogelwch a lles ei dinasyddion a phoblogaeth feddianedig Palesteina.

3. Yn condemnio ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza, sydd wedi arwain at farwolaeth miloedd o bobl Palesteinaidd ddiniwed ac yn cytuno ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig na ellir cyfiawnhau cosbi pobl Palestina ar y cyd.

4. Yn galw ar y gymuned ryngwladol i:

a) uno i geisio sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â'r dioddefaint dynol i ben a chaniatáu i sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen;

b) dwyn pwysau ar Lywodraeth Israel i roi terfyn ar y gwarchae ar Gaza sy'n mynd yn groes i gyfraith ryngwladol a hawliau dynol sylfaenol pobl Palesteina; ac

c) gwneud popeth o fewn ei allu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon i Lain Gaza a galluogi llwybr diogel allan o'r rhanbarth.

5. Yn sefyll mewn undod â'r cymunedau Israelaidd a Phalestinaidd yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro.

6. Yn annog y Senedd i gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn mynd ar drywydd heddwch parhaol yn y rhanbarth.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwyf am ddechrau, os caf, gyda rhai geiriau personol, rhai myfyrdodau personol ar yr hyn yr ydym wedi'i weld dros y mis diwethaf. Rydym wedi gwylio gydag arswyd. Rwy'n galaru am farwolaeth pawb a fu farw yn yr ymosodiadau erchyll gan Hamas ar 7 Hydref. Rwy'n galaru am y miloedd lawer sydd wedi marw yn Gaza ers hynny, y miloedd o blant. Fel rhiant, ni allaf ddirnad ei raddfa. Prin y gallaf ddychmygu gofid teuluoedd y gwystlon a gymerwyd yn erbyn eu hewyllys, ac a ddelir yn garcharorion mewn ofn.

Rwy'n teimlo'r angen i siarad heddiw fel aelod o'r ddynoliaeth. Rydym oll yn ddynol. Mae poen colled yn cael ei deimlo'n gyfartal gan fam Israelaidd a mam Balesteinaidd. Heddiw, rydym yn siarad dros heddwch i'r holl famau, tadau, brodyr, chwiorydd, meibion a merched. Rydym yn siarad heddiw ar drywydd undod. Rydym yn gwrthwynebu ymraniadau. Rydym yn sefyll yn erbyn y rhai sy'n ceisio annog ymraniadau. I'r rhai sy'n ceisio ysgogi teimladau gwrth-Iddewig neu wrth-Fwslimaidd, dywedwn, 'Stopiwch nawr'. Yn wir, mae cynrychiolwyr Iddewig a Mwslimaidd yma yng Nghymru wedi dweud wrthyf yn ystod y dyddiau diwethaf sut mae cefnogi ei gilydd yn golygu cymaint iddynt. Dyma'r Gymru a geisiwn, yn seiliedig ar gytgord, cymuned o gymunedau.

Ond yn union fel y mae'n rhaid i unrhyw beth sy'n bygwth y cytgord yma yng Nghymru stopio, mae'n rhaid i'r lladd yn y gwrthdaro ofnadwy hwn ddod i ben hefyd. Rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom gytuno ar hynny. Mae’n rhaid i bob un o gynigion y Senedd gael cynigydd, ond fy nymuniad diffuant yw y gall pob un ohonom berchenogi ysbryd a hanfod yr hyn sydd o'n blaenau heddiw. Rydym ar ein gorau fel seneddwyr pan fyddwn yn siarad â llais unedig, ac yn anffodus, i ormod lawer o bobl heddiw, rydym hefyd yn llais i’r di-lais. Yn yr ysbryd hwnnw y gwnaethom geisio cefnogaeth drawsbleidiol i’r cynnig, ac a gaf fi ddiolch o galon i bawb sydd wedi llofnodi’r cynnig, wedi datgan eu cefnogaeth iddo, neu a fydd yn cael eu perswadio i wneud hynny?

Ni fydd fy amser cyfyngedig yn caniatáu imi wneud cyfiawnder â chronoleg gymhleth y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina, ac ni fydd ychwaith yn caniatáu imi ddisgrifio cyd-destun manwl gwrthdaro sy’n dyddio yn ôl ymhell cyn 7 Hydref, ond gadewch imi nodi eto yr hyn y mae pob un ohonom wedi ymateb iddo gydag undod llwyr: mae'n rhaid i bob un ohonom gondemnio, ac rydym wedi condemnio, yn y termau cryfaf yr ymosodiadau arswydus, annirnadwy gan Hamas a'r bywydau diniwed a gollwyd mewn amgylchiadau ofnadwy, yr ofn llwyr a deimlid gan Israeliaid, a chipio gwystlon. Pan ymosododd Hamas ar yr ŵyl gerddoriaeth yn ne Israel, gan ddod â bywyd i ben wrth iddo ddechrau, soniodd un unigolyn a oroesodd sut y gweddïodd am gael marw'n gyflym. Clywais yn uniongyrchol fy hun y bore yma am brofiad un teulu Israelaidd: diymadferthwch llwyr. Mae’n siŵr y gall pob un ohonom gydymdeimlo a deall dicter Israel y diwrnod hwnnw. Mae’r cynnig heddiw, sy’n condemnio'r ymosodiadau brawychus ac yn galw am ryddhau gwystlon ar unwaith, yn nodi’n glir fod gan Israel ddyletswydd i sicrhau diogelwch a lles ei dinasyddion. Ond yn y rhyfel a ddilynodd ar ôl 7 Hydref, roedd yr ymateb a ddilynodd—er mor anochel y byddai y ceid ymateb, felly hefyd mae'n rhaid bod dyletswydd i fod yn gymesur. Mae cyfraith ryngwladol yn glir ar hynny. Ni all fod cyfiawnhad byth dros gosbi poblogaeth gyfan.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn nodi bod nifer y marwolaethau ar hyn o bryd yn fwy na 10,000 o ganlyniad i’r bomio di-baid—10,000 o bobl, sy’n gadael gwragedd a gwŷr gweddw, rhieni’n galaru, plant amddifad ar goll; mae 4,500 o'r meirw yn blant. Ac er ein bod yn edrych o bell, mae'n bwysig cofio bod teuluoedd yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio'n uniongyrchol. Nid yw'r galar wedi'i gyfyngu i Israel nac i Gaza. Mae Aymen Aladham yn ymgynghorydd technoleg gwybodaeth a pheiriannydd o Abertawe. Mewn tri chyrch awyr ar Gaza, collodd 18 aelod o'i deulu. Yn y crch awyr cyntaf, lladdwyd pedwar o'i neiaint. Naw niwrnod yn ddiweddarach, lladdwyd ei ewythr a'i deulu estynedig. Yr wythnos diwethaf, lladdwyd ei gefnder a'i deulu gan gyrchoedd awyr Israel.

Mae arnom ddyled i bawb sydd wedi colli eu bywydau, Israeliaid a Phalesteiniaid, i godi llais dros heddwch parhaol. A’r awydd hwnnw sydd wrth wraidd cynnig Plaid Cymru: galwad glir a diamwys am gadoediad—y ddwy ochr—diwedd parhaol ar unwaith i’r trais, ac ymdrech fyd-eang i leddfu’r dioddefaint dyngarol. Ac er y byddai unrhyw saib yn yr ymladd i'w groesawu er mwyn i gymorth a chyflenwadau hanfodol allu cyrraedd y rhai mewn angen, mae'n rhaid i unrhyw saib ddigwydd gyda'r bwriad o ddod yn barhaol—dyna pam mai cadoediad yw'r alwad. Mae Plaid Cymru yn credu bod galw am saib, ataliad, yn awgrymu derbyn ei bod yn anochel y bydd rhagor o fywydau sifil yn cael eu colli yn y pen draw.

Nawr, fel y mae Oxfam yn dadlau, byddai unrhyw beth llai na chadoediad yn rhoi asiantaethau dyngarol a sifiliaid mewn mwy o berygl. Mae asiantaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Palesteiniaid yn nodi bod mwy na 70 o'u staff wedi colli eu bywydau. Ni all fod unrhyw gymorth heb weithwyr cymorth. Yn yr un modd, ni ellir cludo unrhyw gyflenwadau ar draws gwlad lle mae bomiau a thaflegrau'n parhau i ddisgyn ar ffyrdd sydd eisoes yn adfeilion. Nid yw'r seilwaith yn Gaza yn dymchwel—mae wedi dymchwel. Dywedodd un o swyddogion y Cenhedloedd Unedig mewn gwersyll yn ninas ddeheuol Khan Younis wrth gyfryngau’r DU nos Lun,

'Mae’n sefyllfa ofnadwy. Nid oes lle hyd yn oed i gysgu ar y llawr. Mae un toiled ar gyfer 700 neu 800 o bobl. Dim bara, dim stofiau ar gyfer coginio. Rydym yn yfed dŵr o'r systemau dyfrhau'.

Onid yw'r trychineb dyngarol hwn yn fethiant dynoliaeth? Onid oes gennym gyfrifoldeb i bob dyn, gwraig a phlentyn i siarad ag un llais a dweud bod pob dioddefaint o'r fath yn annerbyniol? Ac os nad heddiw yw'r diwrnod i alw ar bawb sy'n rhan o'r gwrthdaro i ddilyn llwybr heddwch, yna pryd?

Roedd ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref yn anghyfiawn ac yn annynol—yn annisgrifiadwy. Ond mae cosbi poblogaeth gyfan Palesteina hefyd yn anghyfiawn ac yn annynol—mae 1.4 miliwn o bobl wedi'u dadleoli o'u cartrefi; 2.2 miliwn o bobl yn aros mewn angen enbyd am gymorth wrth i ddŵr fynd yn fwy prin a thoriadau pŵer ddod yn fwy cyffredin; mae 4,500 o blant wedi marw.

Rwyf am gloi gyda thystiolaeth ddirdynnol gan Natalie Elghazzawi, sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae Natalie wedi dewis defnyddio ffugenw am ei bod yn ofni dial yn erbyn ei theulu.

'Dywedais wrth fy chwaer am ysgrifennu enwau ei phlant ar ei breichiau am na all ei phlant siarad',

meddai.

'Os byddant yn eu bomio a bod fy chwaer a'i gŵr yn cael eu lladd, ni fydd y plant yn gallu dweud wrth unrhyw un pwy ydynt.'

Mae'r ddadl heddiw yn ymwneud â rhoi llais i’r di-lais. Mae'n ymwneud â dweud wrth y byd ei bod yn bryd achub plant Gaza. Mae eisiau heddwch ar Israeliaid cyffredin hefyd, ac rydym yn galaru gyda hwythau yn ogystal.

Nawr, er y bydd rhai yn amau cryfder galwad Senedd unigol am gadoediad, rydym yn cyflwyno'r cynnig hwn mewn gobaith—gobaith gwirioneddol—fel ein cyfraniad at yr hyn a welwn fel ymdrech ryngwladol. Gall Cymru, yn yr awr hon o arswyd annirnadwy, fod yn genedl fach yn gwneud datganiad pwerus iawn dros heddwch. Er mwyn eraill ac yn enw heddwch, cefnogwch y cynnig hwn heddiw os gwelwch yn dda.

17:35

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar Darren Millar i gyflwyno'r gwelliant. 

Gwelliant 1—Darren Millar, Hefin David, Alun Davies

Cefnogwyd gan Gareth Davies

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn condemnio'r ymosodiadau, y trais a'r codi braw a gyflawnwyd yn ddiwahân gan Hamas yn erbyn Israel ar 7 Hydref.

2. Yn cydnabod hawl pob gwladwriaeth sofran, gan gynnwys Gwladwriaeth Israel, i amddiffyn eu hunain a'u dinasyddion.

3. Yn credu y dylid cynnal rhyfel yn unol â chyfraith ryngwladol, gan gynnwys osgoi clwyfedigion sifil.

4. Yn gresynu at golli bywydau sifiliaid a chlwyfedigion yn Israel, Gaza a'r Lan Orllewinol.

5. Yn estyn cydymdeimlad dwysaf pobl ar draws Cymru i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid.

6. Yn cydnabod y risgiau pellach a berir gan yr argyfwng dyngarol sylweddol yn Gaza.

7. Yn galw am:

a) rhyddhau gwystlon;

b) atal gwrthdaro er mwyn caniatáu sefydlu coridorau dyngarol;

c) ailagor croesfan yr Rafah i alluogi sifiliaid, gwladolion tramor, gweithwyr cymorth a chyflenwadau dyngarol i groesi heb rwystr diangen;

d) i'r gymuned ryngwladol weithio gyda chynrychiolwyr Israel a Phalesteina i ddod â'r gwrthdaro i ben a thrafod setliad heddwch parhaol sy'n sicrhau diogelwch a ffyniant i bawb, yn seiliedig ar yr egwyddor datrysiad y ddwy wladwriaeth.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch, Lywydd. Fel un o ddilynwyr Iesu, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld ag Israel a Phalesteina ar sawl achlysur. Mae’r Wlad Sanctaidd yn lle hynod a hardd, ac rwy’n dal i gael gwefr bob tro y byddaf yn ymweld ag Eglwys y Geni ym Methlehem ac Eglwys y Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem. Ar fy ymweliadau, rwyf wedi cael y fraint o wneud ffrindiau gwerthfawr—Iddewon, Mwslimiaid a Christnogion, Israeliaid a Phalesteiniaid. Fy ffrind anwylaf yn y Wlad Sanctaidd yw Raed. Mae'n Gristion Palesteinaidd. Mae'n byw ym Methlehem gyda'i wraig Mary, o Nasareth, ac mae ganddynt dri o blant hardd, Jolien, Jonathan a Jivan. Mae'r mis diwethaf wedi bod yn ofnadwy iddynt. Maent wedi bod yn byw mewn ofn, maent wedi bod yn bryderus am y dyfodol, ac mae'r holl obaith a oedd ganddynt wedi diflannu.

Roedd fy ymweliad diwethaf â’r dwyrain canol ym mis Mehefin eleni. Ymwelais ag Amaan, Bethlehem, Ramallah a Jerwsalem, gyda Russell George. Cyfarfuom yno â chynrychiolwyr o Israel, Sefydliad Rhyddid Palesteina ac Awdurdod Palesteina ac arweinwyr eglwysig, ac yn ddieithriad, roedd pob un o'r rhai y cyfarfuom â nhw yn dyheu am heddwch a sefydlogrwydd. Nid oedd eisiau trais ar yr un ohonynt. Ond ar 7 Hydref, fe wnaethom ddeffro i’r newyddion ofnadwy fod Hamas wedi cyflawni ymosodiad terfysgol angheuol, diwahân ar Israel a dinasyddion Israelaidd o Gaza, tiriogaeth Balesteinaidd y tynnodd Israel allan ohoni yn 2005. Ac yn gynharach heddiw, mynychodd llawer o Aelodau’r Senedd hon sesiwn friffio gan Lysgenhadaeth Israel, a dangoswyd delweddau iasoer i ni a gafodd eu ffilmio gan y terfysgwyr eu hunain. Roedd yn anodd ac yn boenus iawn eu gwylio. Roedd difrifoldeb y trais corfforol a rhywiol diwahân a gyflawnwyd ar ddinasyddion Israel, yn hen ac ifanc, mor syfrdanol fel na feiddiaf ailadrodd rhywfaint o'r hyn a rannwyd. Dyma'r erchyllter gwaethaf a gyflawnwyd yn erbyn yr Iddewon ers yr Holocost. Ac yna, mae'r gwystlon—mae o leiaf 240 o bobl bellach wedi cael eu dal yn wystlon gan Hamas ers mis. A gadewch inni fod yn glir, mae Hamas yn sefydliad hiliol, hil-laddol, misogynistaidd a homoffobig sy'n benderfynol o greu terfysg. Ac mae pob un ohonom yn unedig yn y Siambr hon wrth gondemnio eu gweithredoedd ar 7 Hydref.

Ac mae gan Israel, fel sy'n wir am unrhyw wladwriaeth sofran, hawl i amddiffyn ei hun a'i dinasyddion yn wyneb barbareiddiwch o'r fath, a dyna pam fod Israel wedi cychwyn ar y genhadaeth hon i ddatgymalu Hamas mewn ymgais i atal ymosodiadau tebyg yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig nodi'r gwahaniaeth yma: mae Israel yn rhyfela yn erbyn Hamas, nid yw'n rhyfela â phobl Palesteina. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid iddynt gynnal y rhyfel hwnnw yn unol â chyfraith ryngwladol, gan gynnwys osgoi anafiadau sifil. Ac eto, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae pob un ohonom wedi arswydo wrth weld yr argyfwng dyngarol cynyddol sy'n datblygu yn Gaza, gyda mwy na 10,000 wedi'u lladd hyd yn hyn, llawer ohonynt yn fenywod a phlant diniwed; teuluoedd cyfan—nifer o genedlaethau weithiau—yn cael eu dileu mewn amrantiad, rai ohonynt wrth lochesu mewn eglwysi, mosgiau ac ysbytai. Lladdwyd nifer gan Hamas wrth iddynt geisio ymadael ar ôl rhybuddion gan luoedd amddiffyn Israel; eraill am eu bod wedi cael eu defnyddio'n ddiarwybod fel tariannau dynol gan Hamas, y gwyddom eu bod yn gweithredu o dwneli o dan ysbytai ac yn tanio rocedi o leoliadau drws nesaf i ysgolion a mannau addoli. Oherwydd, gadewch inni fod yn glir, nid yw Hamas yn poeni am fywydau sifiliaid Palesteinaidd. Mewn cyfweliad ar y teledu yr wythnos diwethaf, gofynnwyd i swyddog Hamas, Mousa Abu Marzouk, pam na ellid defnyddio'r mwy na 300 milltir o dwneli yn Gaza i lochesu sifiliaid. Ymatebodd, a dyfynnaf:

'Mae'r twneli ar ein cyfer ni'—

Hamas—

'Cyfrifoldeb y Cenhedloedd Unedig yw'r dinasyddion yn Llain Gaza.'

Mae'r ffiniau caeedig o amgylch Gaza hefyd wedi ychwanegu at yr argyfwng: maent wedi atal sifiliaid rhag ffoi i ddiogelwch; maent wedi atal bwyd, dŵr a chymorth meddygol hanfodol rhag cyrraedd y rheini sydd mewn angen; ac maent wedi llesteirio ymdrechion i ddarparu cymorth dyngarol yn ddifrifol. Nawr, diolch i Dduw fod croesfan Rafah wedi ailagor bellach, ac mae'n rhaid ei chadw ar agor, ac mae'n rhaid caniatáu mwy o gymorth i groesi. Ond mae'n rhaid i'r groesfan honno, er ei bod ar agor, beidio â bod yn agored i gael ei cham-drin. Ac mae'n peri pryder fod awdurdodau'r Unol Daleithiau wedi cadarnhau y penwythnos hwn fod ymdrechion i ddod â sifiliaid a anafwyd allan o Gaza yn cael eu hamharu am fod Hamas yn ceisio sleifio eu hymladdwyr a anafwyd allan yn lle sifiliaid.

Canfuwyd hefyd fod Hamas yn smyglo offer i mewn i Gaza i ddarparu ocsigen i'w rhwydwaith o dwneli mewn cyflenwad o fisgedi. Ac eto, er gwaethaf yr heriau hyn, mae angen gweithredu ar frys. Mae’r sefyllfa’n dorcalonnus ac ni ellir caniatáu iddi barhau. Mae perygl y bydd trais yng ngogledd Israel yn gwaethygu ymhellach gyda Hezbollah ac yn y Lan Orllewinol, lle gwyddom eisoes fod llu o Balesteiniaid diniwed wedi’u lladd. A Lywydd, mae bywydau Palesteiniaid yr un mor bwysig â bywydau Israeliaid, a dyna pam fod pob un ohonom yn y Siambr hon am weld diwedd ar y trais a diwedd ar y gyflafan. Ond mae Hamas wedi addo peidio byth â gostwng eu harfau. Ac yn ôl cyfaddefiad cyhoeddus un o'u huwch arweinwyr yr wythnos diwethaf, Ghazi Hamad,

'dim ond y tro cyntaf oedd 7 Hydref, a bydd ail, trydydd, pedwerydd tro'.

Aeth yn ei flaen yn y cyfweliad i'w gwneud yn glir fod Hamas yn benderfynol o ddinistrio Israel. A oes angen cadoediad arnom? Wrth gwrs fod angen cadoediad—mae pob un ohonom yn dymuno gweld diwedd ar y trais—ond ni all cadoediad fod yn llwyddiannus oni bai fod y ddwy ochr sy'n gwrthdaro yn ei barchu. Felly, er y gallwn ddyheu am un a gobeithio am un a gweddïo am un yma heddiw, y gwir amdani yw ei bod yn amhosibl gweld sut y gellir cyflawni un heb gael gwared â Hamas o Gaza. Mae Hamas yn rhwystr i’r heddwch hirdymor y mae pob un ohonom am ei weld, yn union fel y rheini yn Llywodraeth Israel sydd wedi sôn, yn beryglus, am y posibilrwydd o ymosodiad niwclear yn Gaza, a’r rheini sy’n gwrthwynebu unrhyw obaith o sefydlu gwladwriaeth Balesteinaidd hyfyw. Felly, rwy'n dweud hyn: mae'n rhaid i Hamas ryddhau eu gwystlon yn ddiamod a gostwng eu harfau. Mae'n rhaid i Israel wedyn roi'r gorau i fomio. Mae'n rhaid i groesfan Rafah fod ar agor i sicrhau mynediad at gymorth dyngarol a thriniaeth feddygol, ac mae'n rhaid i'r gymuned ryngwladol fynd ati i weithio gydag arweinwyr Palesteina ac Israel a phartneriaid rhanbarthol i ddarparu setliad heddwch parhaol a all sicrhau diogelwch a ffyniant, yn seiliedig ar egwyddor datrysiad dwy wladwriaeth. Mae'n rhaid inni beidio â gadael i Hamas chwalu’r freuddwyd honno.

17:45

Mae gormod o fy etholwyr yn teimlo poen colled bersonol neu bryder ynghylch pa erchyllterau fydd yn digwydd nesaf yn Gaza, Israel, Glan Orllewinol Palesteina, neu hyd yn oed yma yng Nghymru. Mae dulliau cyfathrebu modern yn golygu na all yr un ohonom anwybyddu'r drasiedi hon na dweud nad oeddem yn gwybod amdani. Diolch i ddewrder newyddiadurwyr, bob dydd ac mewn amser real, fe glywn ac fe welwn drawma'r galarwyr, poenau'r rhai a anafwyd, cri'r newynog a'r rhai sâl, yn ogystal â'r rheini sy'n ymdrechu'n daer i ddod â'u perthnasau a gymerwyd yn wystlon gan Hamas ar 7 Hydref yn eu holau.

Mae'r gwrthdaro annatrys hwn wedi bod yn mynd rhagddo ers dros 75 mlynedd. Ni allwn droi'r cloc yn ôl, ond mae'n rhaid inni edrych tua’r dyfodol nawr. Ar ôl erchyllterau dau ryfel byd yn yr ugeinfed ganrif, sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig i ddatrys anghydfodau drwy drafodaethau a chyfaddawdu. Roedd Prydain yn un o'r aelodau gwreiddiol. Tra bo hyn wedi sicrhau heddwch, fwy neu lai, yn Ewrop yn yr ugeinfed ganrif, ni stopiodd y rhyfela mewn mannau eraill—Affganistan, Angola, Cambodia, canolbarth America, Congo, Irac, Korea, Libanus a Fietnam, i enwi ond ychydig. Ni allwn fforddio parhau fel hyn yn yr unfed ganrif ar hugain, pan fo’r heriau a wynebwn yn sgil newid hinsawdd yn fygythiad dirfodol i’n bodolaeth ar y blaned hon.

Fel y dywedodd Sioned Williams ddoe, mae dyletswydd foesol arnom i sefyll dros heddwch. Mae'n rhaid inni wrando ar yr alwad am gadoediad gan y Cenhedloedd Unedig, Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, UNICEF. Nid wyf yn gweld sut y gallwn eu hanwybyddu. Mae'n rhaid iddynt fod yn rhan o'r ateb. Ond yn amlwg, nid cadoediad yw greal sanctaidd na therfyn ein huchelgeisiau am heddwch. Sut y gellir cyflawni cadoediad tra bo Hamas a Llywodraeth bresennol Israel yn parhau i ddweud nad ydynt am ei ystyried? Yn weithredol, caiff y ddwy ochr eu harwain gan bobl sydd wedi buddsoddi mewn parhau â'r gwrthdaro, yn hytrach na cheisio heddwch, fel y clywsom yn fanwl gan Darren Millar. Ond gwyddom hefyd fod Netanyahu ei hun, ym 1989, wedi annog aelodau plaid Likud i gefnogi Hamas er mwyn rhwystro unrhyw lwybr tuag at ddatrysiad dwy wladwriaeth i'r gwrthdaro. Felly, mae angen ymyrraeth gan eraill. Yn wir, mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken, wedi bod yn ddiflino yn ei ymdrechion i sicrhau cytuniad. Mae'n rhaid i Qatar, yr Aifft a gwledydd eraill yn y dwyrain canol ac yn Ewrop hefyd chwarae eu rhan, os nad ydym yn mynd i weld apocalyps llwyr.

Ni all troseddau rhyfel Hamas gyfiawnhau achosion tebyg o dorri confensiwn Genefa gan Lywodraeth Israel, ac ni all Llywodraeth y DU fod yn rhan o hynny, neu gallent hwythau orfod dod gerbron y Llys Troseddol Rhyngwladol hefyd. Mae grŵp blaenllaw o gyfreithwyr Prydeinig, dan arweiniad yr Arglwydd Neuberger, cyn-lywydd Goruchaf Lys y DU, yn rhybuddio, yn union fel y mae cyfraith ryngwladol yn darparu’r modd ar gyfer categoreiddio a throseddoli gweithredoedd anwaraidd Hamas, mae hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer llywodraethu sut mae'n rhaid i Israel ymateb. Mae unrhyw genedl sy'n ymgymryd ag unrhyw wrthdaro arfog, ni waeth beth fo'r achos, yn gyfreithiol rwym i gydymffurfio â holl gyfreithiau rhyfel.

Nid yw amser o'n plaid. Bydd babanod mewn crudau cynnal yn marw, yn ogystal â phlant sy'n yfed dŵr halogedig. Ni all teulu o saith, fel y dysgasom heddiw, oroesi ar bedwar darn o fara pitta. Bydd y 240 o wystlon yn marw ynghyd â gweddill poblogaeth Gaza oni bai fod y bomio parhaus yn dod i ben. Mae'r rhan fwyaf o'r gwystlon hyn yn blant sydd wedi'u trawmateiddio neu'n bobl oedrannus, yn sâl neu wedi'u hanafu. Mae digwyddiadau erchyll 7 Hydref yn ein hatgoffa na all fod unrhyw ddiogelwch heb heddwch, ac mae’r nifer o farwolaethau yn Gaza yn tanlinellu hynny. Os gall Yocheved Lifshitz ysgwyd llaw â'r sawl a'i cadwodd yn gaeth gyda'r gair 'shalom' neu 'heddwch' neu 'salam', mae'n rhaid i bobl a chanddynt gyfrifoldebau arwain ddilyn ei hesiampl. Mae methiant i weithredu ac ychwanegu at yr alwad am gadoediad yn debygol o arwain at farwolaethau nid miloedd, ond cannoedd o filoedd o bobl. Ni allwn gadw'n dawel ar y gwrthdaro erchyll hwn.

17:50

Nid oes gennym draddodiad o roi cymeradwyaeth i bob cyfraniad yn y Siambr hon. Mae'n iawn gennyf fod y cyfraniad diwethaf wedi cael cymeradwyaeth, ond rwyf am i'r Aelodau allu siarad—dyna pam ein bod yn cynnal y sesiwn hon—fel y gallaf alw ar gymaint o Aelodau â phosibl i siarad y prynhawn yma. Diolch yn fawr, beth bynnag. Diolch am eich diddordeb yn ein gwaith y prynhawn yma. Sioned Williams.

Diolch, Lywydd. Wrth wraidd y gwrthdaro hwn, mae'n rhaid inni gofio mai’r diniwed, i raddau helaeth iawn, sy’n dioddef—y gwystlon a ddelir a’r trais ffiaidd gan Hamas a’r ymosodiadau diwahân ar Gaza gan Lywodraeth Israel sydd wedi achosi dioddefaint sifiliaid diniwed, dioddefaint na ellir ei wadu na'i oddef. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud ei bod yn anodd dirnad lefel y marwolaethau a’r dioddefaint—mae 160 o blant bellach yn cael eu lladd bob dydd yn Gaza. O'r 10,000 o bobl yr adroddir eu bod wedi cael eu lladd ers i fomio dialgar Israel ddechrau, mae 40 y cant ohonynt yn blant. Mae'n rhaid inni feddwl am y plant. Mae Achub y Plant wedi datgan bod mwy o blant wedi’u lladd yn llain Gaza dros y tair wythnos diwethaf nag ym mhob gwrthdaro arfog arall yn flynyddol ers 2019. Dyna’r ffigurau. Ond mae'n rhaid inni hefyd ymateb i'r lluniau a welwn bob nos ar ein sgriniau teledu. Yr anafiadau erchyll ar y cyrff bach. Y poen ofnadwy ar yr wynebau bychain. Dagrau dryswch a phoen a braw, nos ar ôl nos. Y llieiniau amdo bychain. Dywed Achub y Plant fod un plentyn yn cael ei ladd bob 10 munud yn Gaza. Meddyliwch faint o blant fydd wedi marw wrth inni gael y ddadl hon. Ni all hyn barhau. Fel y dywedoch chi, Jenny, ni allwn gadw'n dawel.

Adroddir bod 1,000 o blant eraill ar goll, a bod mwy na 6,000 o blant wedi’u hanafu. A'r mamau, y mamau druan. Gwn pa mor agored i niwed y teimlwn wrth roi genedigaeth. Roeddwn mewn ysbyty llawn offer, roedd fy mam gyda mi, roeddwn yn mynd adref i dŷ braf a chynnes, gyda gŵr i ofalu amdanaf, digon o offer, pethau i sterileiddio popeth yr oedd angen i mi ei sterileiddio, ac ymwelydd iechyd i ddod i sicrhau fy mod yn iawn ac yn iach. Bydd 160 o fenywod Palesteinaidd yn rhoi genedigaeth bob dydd yn Gaza wrth i'r ymladd hwn barhau. Efallai ichi weld y fam newydd honno ar y BBC News at Ten neithiwr nad oedd yn gallu bwydo ar y fron am nad oedd wedi cael bara ers pum niwrnod. A'r tadau—yn ddiymadferth ac yn torri eu calonnau wrth gladdu eu plant.

Mae cannoedd o filoedd o bobl yn wynebu amodau byw ofnadwy. Mae adroddiadau’r Cenhedloedd Unedig yn awgrymu bod 42 y cant o dai yn Gaza wedi’u dinistrio’n llwyr. Mae pobl yn byw ar y strydoedd, mewn pebyll, mewn adeiladau gorlawn, a byth yn ddiogel. Mae'r gwrthdaro parhaus yn gwaethygu argyfwng ffoaduriaid sydd eisoes yn ddifrifol iawn yn y rhanbarth. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod oddeutu 1.4 miliwn o bobl wedi'u dadleoli'n fewnol yn Gaza, sef mwy na hanner y boblogaeth, gyda rhan fawr o’r boblogaeth honno’n byw mewn llochesi gorlawn, heb gyflenwad digonol, gyda bwyd, dŵr a thanwydd yn rhedeg allan, a gwasanaethau hanfodol sylfaenol yn dod yn fwy anhygyrch bob awr. Nid yw saib yn ddigon i fynd i’r afael â hyn, ac mae asiantaethau cymorth rhyngwladol yn cytuno.

Disgrifiodd Wafa Abu Hashish, gweithiwr iechyd ar gyfer gwasanaeth cynllunio teulu ym Mhalesteina, y llochesi ar gyfer Palesteiniaid sydd wedi'u dadleoli fel rhai sy'n dioddef o brinder dŵr, diffyg gofal meddygol a chynnydd yn nifer yr achosion o glefydau fel ffliw, heintiau ar y frest, wlserau'r croen, y clefyd crafu, llau ac afiechydon dolur rhydd. Rwy’n siŵr y gall pob un ohonom gytuno yma na ddylai unrhyw fod dynol orfod wynebu'r mathau hyn o erchyllterau wrth ffoi rhag rhyfel, yn enwedig plant ifanc diniwed, a dyna pam fod Plaid Cymru yn adleisio galwadau Prif Weinidog yr Alban, Humza Yousaf, am i'r DU dderbyn ffoaduriaid Palesteinaidd yn yr un modd ag a wnaed i bobl Wcráin. Mae Cymru wedi bod yn falch o alw ei hun yn genedl noddfa: noddfa yw’r hyn sydd ei angen ar bobl Gaza. Maent yn haeddu ein cymorth a dylid darparu llwybr diogel iddynt ddianc rhag yr uffern sy'n cael ei gorfodi arnynt, fel y gwnaethom ei gynnig i bobl Wcráin.

Felly, rwy'n erfyn arnoch i gefnogi ein galwad i annog Llywodraeth y DU i ddechrau ar unwaith ar y gwaith o greu cynllun adsefydlu ffoaduriaid ar gyfer pobl yn Gaza sydd am adael ac sy'n gallu gadael, er mwyn caniatáu i Gymru chwarae ei rhan fel cenedl noddfa. Ddoe, fe wnaeth pob un ohonom gytuno bod yn rhaid inni weithio dros heddwch a rhoi diwedd ar ryfel. Heddiw, mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn credu hynny o ddifrif, drwy ymuno â galwadau’r prif asiantaethau dyngarol ledled y byd am gadoediad ar unwaith—yr alwad a wnawn yn ein cynnig. Dyna'r cam cyntaf fel bod y cannoedd o wystlon Israelaidd brawychedig yn cael eu rhyddhau, ac fel y gellir rhoi diwedd ar ladd ac anafu degau o filoedd o sifiliaid Palesteinaidd. Mae cyfraith ryngwladol yn mynnu hynny, fel y mae plant Gaza ac Israel.

17:55

Rwy’n ddiolchgar i chi, Lywydd. Fel eraill yma, rwyf innau wedi ymweld â'r dwyrain canol yn ystod fy oes. Rwyf wedi ymweld ac wedi gweithio yn Israel, mewn tiriogaethau meddianedig, yng ngwlad yr Iorddonen, yn Libanus, yn Syria. Rwyf wedi eistedd mewn siopau coffi yn Amman ac wedi siarad â ffoaduriaid a gollodd eu cartrefi yn y Nakba. Rwyf wedi siarad â phlant yn Libanus a wnaed yn ddigartref gan ryfeloedd olynol. A thros yr amser hwnnw, rydych yn siarad â'r holl bobl wahanol hyn, ac rydych yn dysgu—rydych chi'n gobeithio eich bod yn dysgu—rhai pethau. Un peth a ddysgais, sy'n aros gyda mi yn glir iawn, yw nad oes hierarchaeth i ddioddefaint; nid oes hierarchaeth o boen, o alar, o golled. Rwyf wedi siarad ag Israeliaid sydd wedi colli aelodau o'r teulu, ac rwyf wedi siarad â Phalesteiniaid sydd wedi colli aelodau o'r teulu, ac rwy'n gweld yr un boen yn eu llygaid. Yn sicr, nid ailadrodd yr hen ddadleuon yw ein diben yma heddiw, ond ceisio adeiladu a chyfrannu at adeiladu heddwch newydd, heddwch cynaliadwy, heddwch cadarn, heddwch parhaol. Ni ellir ystyried yr hyn a ddigwyddodd ar 7 Hydref yn syml fel un amrantiad mewn cylch o drais; roedd yn ymosodiad ar Israel mewn ffordd nas gwelwyd ers degawdau lawer. Bu farw mwy o Israeliaid ar un diwrnod fis diwethaf nag a fu farw ers yr Holocost. Ni allwch anwybyddu hynny. Ni allwch anwybyddu'r hyn a ddigwyddodd. Ni allwch anwybyddu'r hyn a wnaed i'r bobl hynny, ac ni allwch ychwaith esgus y bydd dymuno am heddwch yn creu'r amodau ar ei gyfer.

Gadewch imi ddweud hyn: pe bawn yn credu am eiliad y byddai cadoediad heddiw yn creu heddwch yfory, buaswn yn pleidleisio drosto. Dduw mawr, buaswn yn pleidleisio drosto. Wrth gwrs y buaswn. A ydych chi'n credu, fel rhiant, nad wyf yn gweld yr un lluniau ag a welwch chi? A ydych chi'n credu nad wyf yn gweld fy mhlant yn yr wynebau hynny? A ydych chi'n credu nad wyf yn mynd i'r gwely gyda'r wynebau hynny ar fy meddwl? Ac a ydych chi'n credu nad yw pob un ohonom yn rhannu'r un synnwyr o ddyngarwch? Ond rwy'n dweud un peth arall wrthych. Yn fy mywyd, rwyf wedi bod yn dyst i hil-laddiad ac rwyf wedi gweld realiti'r pethau hyn gyda fy llygaid fy hun. Rydych chi'n sôn am y lluniau a welwch ar eich teledu; gallaf ddweud wrthych sut mae'n arogli. Yr un peth nad ydych yn ei weld ar y teledu ac nad ydych yn ei glywed ar y teledu yw'r sŵn o'ch cwmpas. Ni allwch arogli sut beth ydyw ar ôl ymosodiad neu ar ôl i bobl gael eu lladd. A phan welwch y lluniau o gyrff ar y ddaear, mae'n aros gyda chi. Gwelais rai o'r pethau hyn 30 mlynedd yn ôl, a gallaf eu gweld hyd heddiw.

Peidiwch â chredu am eiliad fy mod wedi gosod y gwelliant hwn, fy mod wedi cefnogi’r gwelliant hwn, am nad wyf am weld heddwch. Dduw mawr, rwyf am weld heddwch, ond rwyf am weld heddwch go iawn, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni gefnogi pobl Israel i ddileu seilwaith Hamas. Ni fydd unrhyw heddwch tra bo Hamas yn Gaza. Ni fydd heddwch i bobl Gaza. Roedd Hamas yn gwybod beth fyddai'n digwydd pan wnaethant ymosod ar Israel ar 7 Hydref. Roeddent yn gwybod y byddai marwolaethau yn Gaza. Roeddent yn gwybod y byddai dial. Roeddent yn gwybod beth fyddai'n digwydd, ond fe'i gwnaethant serch hynny, ac yna, maent yn defnyddio pobl Gaza fel tarian ddynol. Mae'r rhain yn bobl heb unrhyw ddiddordeb mewn heddwch, ac ni allwch greu heddwch â phobl nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn heddwch. Ni allwch greu cadoediad gyda phobl sydd am ddileu nid yn unig y wladwriaeth yr ydych yn digwydd byw ynddi, ond pwy ydych chi fel pobl. Nid yw Hamas eisiau cadoediad. Maent eisiau dileu nid yn unig gwladwriaeth Israel, ond pobl Israel hefyd. Ac ni allwn sefyll o'r neilltu a gadael i hynny ddigwydd—ni allwn wneud hynny.

Gadewch imi ddweud hyn: mae angen inni weld nifer o bethau’n digwydd, ac mae pobl eraill wedi’i ddweud yn fwy huawdl na mi y prynhawn yma. Ni chredaf fod gan Netanyahu ddiddordeb mewn heddwch ychwaith, fel mae'n digwydd, a chredaf ei fod wedi arwain Israel i sawl gwrthdaro olynol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn gadael ei swydd. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth newydd yn cael ei hethol yn Israel sydd wedi ymrwymo i heddwch. Rwy'n gobeithio y bydd yr Undeb Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig ac eraill yn cyflwyno cynllun Marshall ar gyfer pobl Palesteina, i greu’r amodau economaidd ar gyfer heddwch yn ogystal â’r amodau strwythurol ar gyfer heddwch. Rwy'n gobeithio y bydd arweinyddiaeth Awdurdod Palesteina yn cael ei disodli gan arweinwyr sy'n gallu sicrhau heddwch hefyd. Ond gadewch inni gael heddwch parhaol a heddwch gwirioneddol. Gadewch inni sicrhau, dros y dyddiau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf, fod cyflenwadau dyngarol yn gallu cyrraedd pobl Gaza. Gadewch inni sicrhau y gallwn gadw sifiliaid a phobl ddiniwed Gaza yn ddiogel. Gadewch inni sicrhau hefyd ein bod yn gallu lleihau'r nifer sy'n cael eu lladd a'u hanafu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ond gadewch inni hefyd sicrhau mai'r hyn a wnawn yw cyflawni a chwarae ein rhan i sicrhau heddwch nad yw'n heddwch sy'n seiliedig ar faril gwn, ond yn heddwch sy'n seiliedig ar gydfodolaeth pobl sy'n byw mewn heddwch gyda'i gilydd. Diolch.

18:00

Mae heno yn cynnig cyfle i Gymru ddweud, 'Rhaid i'r lladd ddod i ben, rhaid dychwelyd y gwystlon a rhaid datgan cadoediad brys'. Mae hwn yn wrthdaro na allwn ei ddeall heb bersbectif hanes, hanes hir dau grŵp o bobl a gafodd gam gan y byd, sy'n rannu'r un darn bach o dir anial, lle nad yw heddwch erioed wedi blodeuo. Mae camweddau dwfn ac annymunol wedi'u cyflawni drwy gydol eu hanesion, ond yn yr un modd ag y mae'r hanesion hynny wedi llywio ein presennol, rhaid inni ystyried yr hyn y bydd y dyfodol yn ei gynnig i'r rhanbarth. Bydd canlyniadau'r hyn y mae'r byd yn ei wneud nawr, wrth i wladwriaethau wylio ac wrth i restrau'r meirw dyfu'n hwy, bydd y canlyniadau hynny'n enfawr. Pryd y daeth 'cadoediad' yn air drwg? Pryd y daeth yn ddadleuol i alw am roi diwedd ar ladd? Pe na bai cadoediad wedi'i ddatgan yng Ngogledd Iwerddon, yng Ngwlad y Basg, byddai gan hanesion y ganrif ddiwethaf ddiweddglo llawer tywyllach. Ni wnaeth y cadoediadau hynny ddatrys eu problemau ar eu pen eu hunain, ond roeddent yn gam cyntaf ac yn creu gofod, bwlch yn y ddaear lle gellid hau hedyn o heddwch. Os na chymerir y cyfle hwnnw yma, os bydd y bwlch yn y ddaear yn cau, bydd y difrod cyfochrog yn cael ei gyfrif mewn cyrff a gleddir o dan y rwbel.

Roeddwn i'n arfer gweithio i ActionAid ac roedd gennyf gydweithwyr ym Mhalesteina. Yr wythnos diwethaf, cefais fy arswydo o glywed bod fy hen swyddfa wedi colli pob cysylltiad â fy nghyn-gydweithwyr yn Gaza. Parhaodd yr artaith am ddau ddiwrnod llawn, ac maent yn parhau i fod yn gaeth yn yr hyn sy'n prysur troi'n fynwent yn Gaza. Mae Rihan Jafari o ActionAid Palestine wedi anfon ychydig eiriau ataf, yn dweud bod llawer o deuluoedd yn ymwahanu, yn aros mewn gwahanol leoedd fel na fydd pob un ohonynt yn marw ar unwaith. Mae'r ysbytai ar fin colli trydan. Mae bywydau miloedd o gleifion, gan gynnwys babanod newydd-anedig mewn crudau cynnal, yn y fantol. Yr holl fywydau sy'n hongian rhwng bywyd a marwolaeth, ac mae miloedd o blant yn marw. Yn ystod y ddadl hon hyd yma, bydd tri phlentyn wedi cael eu lladd, ac mae'r gwystlon yn parhau'n gaeth ac mewn perygl. Mae pwysau hanes yn gwasgu'n drwm ar y gwrthdaro hwn, ond llygaid y dyfodol sy'n syllu arnom ni, yn ysu i ni wneud popeth yn ein gallu i atal artaith pellach. Mae angen cadoediad ac mae angen clirio lle yng nghanol y rwbel er mwyn i had bregus heddwch gael ei blannu a'i adael i flodeuo o'r diwedd, neu yng ngeiriau Eseia, 'Heddwch i'r pell ac i'r agos'.

18:05

Fel y mae llawer o'r Aelodau eisoes wedi'i grybwyll, mae'n dorcalonnus gweld y darllediadau ar y cyfryngau o'r digwyddiadau yn Israel a Gaza, ac yn arbennig, fel y dywedodd Sioned, yr effaith ar blant, mamau, mamau beichiog, babanod newydd-anedig. Mae'n sefyllfa ofnadwy, dychrynllyd ac arswydus. Gwelsom yr ymosodiadau ar Israel a gwystlon yn cael eu cymryd, digwyddiadau arswydus yr ydym i gyd yn eu condemnio, a nawr gwelwn Gaza'n cael ei fomio a'r gwarchae sy'n atal cyflenwadau dyngarol hanfodol, gyda nifer fawr o fywydau diniwed yn cael eu colli.  

Fel gydag Aelodau eraill, Lywydd, ymwelais â'r Lan Orllewinol—i mi, roedd hynny tua 20 mlynedd yn ôl—a gwelais yn uniongyrchol bryd hynny y tensiwn a'r gwrthdaro rhwng Palesteiniaid a lluoedd arfog meddiannol ac ymsefydlwyr Israelaidd. Roedd yn adeg pan oedd y wal wahanu'n cael ei hadeiladu, roedd y siecbwyntiau yn eu lle, roedd aneddiadau anghyfreithlon yn digwydd. Mae'r sefyllfa honno a sefyllfa Gaza wedi cael ei adael i fudlosgi, ac yn wir, i waethygu, dros y blynyddoedd dilynol. Yn y pen draw, nid oes unrhyw atebion milwrol i wrthdaro a rhyfel, dim ond rhai gwleidyddol. Yn hwyr neu'n hwyrach, bydd yn rhaid i'r lladd stopio ac fe fydd yn stopio. Po gynharaf y bydd hynny'n digwydd, y mwyaf o fywydau diniwed a gaiff eu hachub. Ddydd Llun, cafwyd datganiad ar y cyd gan gyrff mawr y Cenhedloedd Unedig a wnaeth alwad unedig am gadoediad dyngarol, gan ddweud 

'Mae poblogaeth gyfan dan warchae a than ymosodiad, wedi'u hamddifadu o hanfodion ar gyfer goroesi, yn cael eu bomio yn eu cartrefi, eu llochesi, eu hysbytai a'u haddoldai. Mae hyn yn annerbyniol.'

Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi pleidleisio mewn niferoedd mawr dros gadoediad dyngarol ar unwaith. Credaf fod yr Ysgrifennydd Cyffredinol, António Guterres, wedi dangos dyngarwch a phryder am natur gysegredig bywyd dynol ar bob ochr i'r gwrthdaro. Mae'n galw am gadoediad dyngarol, rhyddhau gwystlon a darparu cyflenwadau achub bywyd, gan nodi

'Rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb. Mae hon yn eiliad dyngedfennol. Bydd hanes yn barnu pawb ohonom.'

Hoffwn ddiolch i etholwyr a sefydliadau sydd wedi cysylltu â mi i egluro eu dicter moesol ynghylch y niferoedd disynnwyr o fywydau sy'n cael eu colli yn Gaza ac Israel. Mewn e-byst, mewn gorymdeithiau a ralïau, ac mewn mosgiau, maent wedi codi eu llais. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau o bob plaid am gefnogi'r datganiad barn, yn cofnodi pryderon y Senedd sy'n cynrychioli pobl Cymru, yn mynegi pryder mawr am y drasiedi sy'n parhau, a'n cydymdeimlad dwysaf â dinasyddion Cymru sydd wedi colli anwyliaid, gan alw am gyflenwadau dyngarol hanfodol, cadoediad ar unwaith a rhyddhau gwystlon, ac yn annog y gymuned ryngwladol i adnewyddu ymrwymiad a gweithredoedd i gyflawni datrysiad dwy wladwriaeth a heddwch parhaol. Rwy'n gobeithio y bydd y cynnig hwn yn cael ei basio heb ei ddiwygio i atgyfnerthu'r safbwynt hwnnw.

Lywydd, mae'n rhaid i'r gwallgofrwydd, y lladd a'r creulondeb yn Gaza ac Israel ddod i ben. Mae'n rhaid i'r bomio sy'n digwydd yn Gaza gan achosi dros 10,000 o farwolaethau, yn cynnwys dros 4,000 o blant, ddod i ben. Ac felly hefyd y dinistr i gartrefi a'r gwarchae ar gyflenwadau achub bywyd. Rhaid rhyddhau'r gwystlon. Lywydd, un hil ddynol ydym ni. Mae bywyd yn werthfawr ym mhob man. Rhaid adfer a chynnal dynoliaeth. Cefnogwch y cynnig os gwelwch yn dda.

18:10

Os na fydd y byd yn llwyddo i hwyluso cadoediad dros yr ychydig ddyddiau neu wythnosau nesaf, ceir tri chanlyniad tebygol, un yn anochel a dau yn debygol. Y canlyniad anochel yw marwolaethau sifil pellach, yn y miloedd, yn ôl pob tebyg, oherwydd nid oes llawer o arwydd wedi bod hyd yma fod Israel yn barod i ufuddhau i gyfraith ryngwladol o ran anghenraid na chymesuredd. Yr ail ganlyniad tebygol yw dwysâd rhanbarthol, gan ddechrau yn gyntaf mewn trydydd intifada ar y Lan Orllewinol, ac yna Hezbollah yn agor ail ffrynt ar hyd ffin Libanus, gan arwain, yn y senario waethaf, at ryfel rhanbarthol ar raddfa fawr yn cynnwys yr Unol Daleithiau ac Iran. Y trydydd canlyniad tebygol yw y bydd milwyr Israel yn meddiannu Gaza cyn cilio yn y pen draw, gan adael gwagle pŵer a fydd yn debygol o gael ei lenwi gan ddychweliad Hamas neu rywbeth gwaeth hyd yn oed. Mae osgoi'r tri chanlyniad hyn, i mi, yn rheswm pam fod cadoediad, nid yn unig yn rheidrwydd moesol, mae'n anghenraid pragmatig. Mae cadoediad yn rhoi cyfle inni ddad-ddwysáu a dechrau ar y broses o negodi—yn y lle cyntaf, i ryddhau'r gwystlon, yn ail, i ddadfilwrio, gan gynnwys galw lluoedd Israel yn ôl a datgymalu seilwaith milwrol Hamas, ac yn drydydd, i roi hwb i'r broses heddwch gyda'r nod o sicrhau datrysiad dwy wladwriaeth o'r diwedd. 

I gyflawni hyn, mae angen i'r gymuned ryngwladol ddod at ei gilydd i fynnu cadoediad, rhoi pwysau ar y ddwy ochr, brocera cyfres o gytundebau, ac yna goruchwylio eu gweithrediad. Anodd? Ydi. Amhosibl? Nac ydi. Rydym wedi gwneud hyn o'r blaen. Ym 1948, creodd y Cenhedloedd Unedig Sefydliad Goruchwylio Cadoediad y Cenhedloedd Unedig i oruchwylio'r cadoediad ym Mhalesteina ar y pryd. Mae'n dal i fodoli heddiw—380 o negodwyr medrus y Cenhedloedd Unedig, 75 mlynedd o brofiad. Nhw a berswadiodd Sefydliad Rhyddid Palesteina i adael Palesteina mewn gwirionedd—yr holl ymladdwyr—ym 1982. Nid oedd neb yn credu bod hynny'n bosib bryd hynny. Gadewch inni roi mandad newydd i'r sefydliad hwnnw sydd wedi'i leoli yn Jerwsalem.  Ac fel y mae De Affrica ac eraill wedi bod yn dadlau, gadewch inni gefnogi hynny â llu amddiffyn y Cenhedloedd Unedig i ddiogelu sifiliaid yn Gaza ac yn Israel. 

Ym mis Tachwedd 1956, pan wrthododd y Cyngor Diogelwch ymyrryd, ar yr adeg honno hefyd, mewn perthynas â rhyfel yn y dwyrain canol, camodd y Cynulliad Cyffredinol i'r adwy a chreu llu brys y Cenhedloedd Unedig i oruchwylio cadoediad, ac fe wnaeth hynny'n llwyddiannus drwy gydol ei fodolaeth. Os nad yw'r gymuned ryngwladol yn gweithredu nawr mewn ffordd mor bendant ag y gwnaeth bryd hynny, nid yn unig y bydd mwy o sifiliaid yn marw'n ddiangen, ond bydd y Cenhedloedd Unedig wedi profi ei fod mor ddibwrpas â Chynghrair y Cenhedloedd, yn anffodus, yn y cyfnod cyn yr ail ryfel byd. Mae pawb ohonom yn gwybod beth ddigwyddodd wedyn, felly does bosibl nad ydym yn gwybod beth sy'n rhaid iddo ddigwydd nawr.

18:15

Rwy'n croesawu'r areithiau sydd wedi'u gwneud hyd yma o bob rhan o'r Siambr. Rwy'n credu eu bod wedi cael eu gwneud gyda didwylledd ac wedi cael eu gwneud yn dda.

Rwy'n ddigon hen i gofio'r Prif Weinidog Yitzhak Rabin yn ysgwyd llaw Yasser Arafat yn y Tŷ Gwyn. Rwy'n cofio cytundebau Oslo. A chofiaf hefyd am lofruddiaeth y Prif Weinidog Rabin a Llywodraethau Israelaidd a ddilynodd, a wnaeth baratoi'r ffordd i Lywodraeth Benjamin Netanyahu y buom yn feirniadol ohoni heddiw. A hefyd rwy'n cofio'r drasiedi wrth i'r gymuned ryngwladol droi llygad ddall ar y pethau hyn. Rwy'n credu mai'r drasiedi fwyaf bryd hynny oedd i'r Prif Weinidog Rabin adael y llwyfan mewn ffordd mor greulon. 

Ond dylem geisio cofio'r gobaith a deimlem bryd hynny, y gobaith a deimlem pan welsom yr ysgwyd llaw ar lawnt y Tŷ Gwyn. Ac rwy'n credu y dylem gofio, drwy gydol y ddadl hon, fod y gobaith hwnnw'n dal yn bosibl, a bod gobaith yn gallu digwydd, ac rwy'n gobeithio y gallwn uno eto ar ôl i'r ddadl hon ddod i ben.

Felly, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw egluro efallai pam fy mod wedi cefnogi'r gwelliant, pam fod gwelliant yma. Ac nid yw'n ymwneud yn bennaf â mater y cadoediad yn fy marn i. Er fy mod yn llwyr gefnogi geiriau'r Prif Weinidog yn ei lythyr dyddiedig 30 Hydref at Gyngor Mwslimiaid Cymru lle y dywedodd,

'mae angen i gamau gweithredu ddigwydd, gan gynnwys adfer cymorth, trydan, tanwydd, bwyd a dŵr i Gaza ar unwaith, ond ni all hynny ddigwydd tra bo'r rhyfela yn parhau, a dyna pam rwyf eisoes wedi ymuno ag eraill i alw am saib ar unwaith yn yr ymladd i sicrhau bod cyflenwadau mawr eu hangen yn cyrraedd Gaza ac yn cael eu dosbarthu'n eang i helpu i greu'r amodau ar gyfer cadoediad llawn. Yng nghanol brys amgylchiadau enbyd heddiw, credaf mai'r ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o gynorthwyo'r rhai sydd mewn angen llethol yw ymuno ag eraill yn y gymuned ryngwladol drwy alw am saib ar unwaith. Ac rwy'n credu mai hwn yw'r cam sydd â'r cyfle ymarferol mwyaf o arwain at heddwch.'

Ac rwy'n cefnogi geiriau ein Prif Weinidog yn y llythyr hwnnw at Gyngor Mwslimiaid Cymru. Bwriad adran 7(b) y gwelliant yw caniatáu i'r rhai ohonom sy'n cytuno â'r Prif Weinidog, a'r rhai sy'n dymuno galw am gadoediad, gefnogi'r gwelliant. Ac mae Darren Millar yn nodio. Dyna yw bwriad y gwelliant. 

Yn fy marn i, mae'r broblem gyda'r cynnig yn ymwneud mwy â'r modd y mae gweddill y cynnig wedi'i fframio. Fel y dywedodd Alun Davies y bore yma, mae'n ymddangos bod cyfwerthedd rhwng Hamas ac Israel yn bodoli yn y cynnig ac nid yw hyn yn wir. Ar 7 Hydref, medd y cynnig, cafwyd ymosodiad ar sifiliaid Israelaidd. Fy nadl i yw ei fod mewn gwirionedd yn ymosodiad ar wladwriaeth Israel ei hun, a nod trais ac arswyd Hamas oedd dileu gwladwriaeth Israel yn y pen draw. Ac eto, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn gynharach, nid yw Hamas yn poeni faint o Balesteiniaid sy'n cael eu lladd wrth gyflawni'r nod hwnnw.

Credaf fod y gwelliant yn gwneud y gwahaniaethau hyn yn glir ac yn rhoi dyletswydd ar bawb, Llywodraeth Israel, y gymuned ryngwladol, i weithio tuag at setliad heddwch, a'r rhai yn Hamas a fyddai'n fodlon rhyddhau gwystlon i ddechrau ar y broses honno. Ac rwy'n credu, yn hynny o beth, fod gan y gwelliant fwy o gydbwysedd wrth gydnabod y cyfrifoldebau hynny. 

Ac efallai y byddwch yn dweud bod y datganiadau hyn yn amlwg, ac rwy'n hollol sicr fod y rhai sy'n cefnogi cynnig Plaid Cymru yn credu hynny'n llwyr. Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda'r rhai sy'n cefnogi'r cynnig, ac mae fy nghyd-Aelod, Sarah Murphy, sy'n eistedd wrth fy ymyl wedi dweud y bydd hi'n gwneud hynny. Rwy'n deall pam ei bod hi'n gwneud hynny. Ac rydym wedi cael y sgwrs honno ac yn cydnabod y pethau sydd gennym yn fwy cyffredin mewn gwirionedd. Ond nid wyf yn credu y gellir gwahanu datganiad clir o gefnogaeth i fodolaeth gwladwriaeth Israel a setliad dwy wladwriaeth. Rhaid dweud y ddau beth mewn un datganiad bob amser.

Rwyf fi ac Aelodau eraill o'r Senedd hon wedi cael ein difrïo am beidio â chefnogi cynnig Plaid Cymru. Mae un neges gan sefydliad sy'n galw eu hunain yn 'Welsh underground network'—mae'r rhain yn Gymry go iawn, er eu bod yn cuddio'n llwfr y tu ôl i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol—wedi dweud eu bod yn galw am gael gwared ar Seioniaid o'r Senedd. Nid ydynt yn credu bod gan y rhai sy'n cefnogi hawl y bobl Iddewig i hunanbenderfyniaeth le mewn senedd genedlaethol. Nid yw'r wrthsemitiaeth hon wedi'i chyfeirio ataf fi ac eraill yn y Siambr hon mewn gwirionedd, mae wedi'i chyfeirio at ein cymunedau Iddewig. Am y rheswm hwn, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn hollol glir nad yw unrhyw feirniadaeth o weithredoedd Llywodraeth Israel—ac mae yna lawer—yn feirniadaeth o wladwriaeth Israel. Dyna pam rwy'n cefnogi'r cynnig am fy mod yn credu ei fod wedi gwneud hynny'n gwbl glir. Mae ymraniad yn hunan-barhaus ac o reidrwydd, ein nod yn y Senedd hon yn gyffredinol yw dod â'n cymunedau ynghyd—gyda chymunedau Mwslimaidd ac Iddewig, a chymunedau Israelaidd a Phalesteinaidd yn allweddol yn eu plith.

Rwy'n gwerthfawrogi'r sgwrs a gefais gydag arweinydd Plaid Cymru yn gynharach a'r negeseuon y gwnaethom eu cyfnewid ddoe. Cawsom sgwrs adeiladol iawn gyda'r Llywydd yn bresennol ychydig cyn i'r ddadl hon ddechrau. Rwy'n llwyr dderbyn ei neges fod yn rhaid inni gondemnio pawb sy'n ceisio defnyddio'r sefyllfa ofnadwy hon fel ffordd o ffyrnigo teimladau gwrth-Iddewig a gwrth-Fwslimaidd. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Rwyf hefyd yn cytuno bod yn rhaid inni ddweud a gwneud popeth yn ein gallu i ddod â'r drasiedi anhraethol hon i ben wrth iddi barhau i ddatblygu. Nid wyf yn credu ei bod yn anghywir cael gwahaniaeth barn, gwahaniaethau barn bach, ynghylch y ffordd orau o sicrhau hynny.

Gallwn i gyd gytuno bod angen dod â'r drasiedi hon i ben heddiw, beth bynnag fydd canlyniad y ddadl, ac rwy'n gobeithio'n fawr, gyd-Aelodau, mai dyma'r ffordd y byddwn ni'n bwrw ymlaen.

18:20

Rwy'n sefyll yma yn ostyngedig iawn, mewn tristwch llwyr. Ni allaf ddychmygu pa mor amrwd a phoenus yw hi i gael eich heffeithio gan y gwrthdaro hwn. Mae gan y gwrthdaro ddimensiynau hynod bersonol a thrasig i lawer o unigolion yng Nghymru ac ar draws y DU sydd ag anwyliaid yn Gaza ac yn Israel. Rydym yn cydymdeimlo â phob un ohonynt. Rwy'n condemnio'r ymosodiadau terfysgol ofnadwy gan Hamas, a Hamas fel sefydliad, yn y termau cryfaf posibl.

Mae cipio a diraddio dros 200 o wystlon, gan gynnwys plant, yn warthus. Rydym yn sefyll mewn undod â'r gymuned Iddewig ledled y byd, sy'n teimlo ac yn wynebu cymaint o ofn a galar. Mae sifiliaid Palesteinaidd ac Israelaidd yn wynebu erchyllterau rhyfel na ellir eu dychmygu. Rwy'n adleisio geiriau uchel gomisiynydd hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, Volker Türk, pan ddywedodd,

'Mae wedi bod yn fis llawn o gyflafan, dioddefaint di-baid, tywallt gwaed, dinistr, dicter ac anobaith'.

Rwy'n falch o fod yma yn y Senedd, lle gallwn drafod a gwrando mewn tawelwch a pharch. Mae hynny'n teimlo mor bwysig i mi. Rhaid i'n blaenoriaeth fel gwleidyddion ac fel cenedl ymwneud â lleddfu dioddefaint. Dyna pam rwy'n galw ac yn cefnogi'r angen uniongyrchol am gadoediad. Nid wyf yn gwneud hynny oherwydd nad oes gan genhedloedd hawl i amddiffyn diogelwch a lles eu dinasyddion, rwy'n gwneud hynny i atal y drychineb hiwmanitaraidd sy'n digwydd o flaen ein llygaid. Rwy'n galw am gadoediad.

I mi, nid yw saib dros dro yn gwneud synnwyr. Ni fyddai saib o'r fath yn cynnig yr amser a'r diogelwch sy'n angenrheidiol i ddiwallu hyd yn oed anghenion sifil sylfaenol yn Gaza, ac yn fy marn i, byddai'n ddibwrpas pan fyddai'r rhyfela'n ailddechrau a seilwaith yn cael ei ddinistrio eto. Byddai sifiliaid yn cael eu gadael i frwydro i oroesi bron yn syth.

Rhaid inni beidio â derbyn sefyllfa lle rydym yn dychwelyd at y status quo ychwaith. Mae'n rhaid i'r Deyrnas Unedig, yn arbennig, arwain y gwaith o geisio heddwch parhaol. Rhaid i'r heddwch hwn ddarparu statws gwladwriaeth i'r miliynau o Balesteiniaid sy'n cael eu hamddifadu ohono ar hyn o bryd a gwarantu ffiniau saff a diogel i Israeliaid. Dim ond drwy fynd ati'n ddiflino i hyrwyddo heddwch cyfiawn y gellir sicrhau gwir gynnydd a chymod. Rwy'n gweddïo'n ostyngedig am yr heddwch hwnnw nawr. Diolch yn fawr iawn.

18:25

Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn siomedig o weld pynditiaid yn obsesu ynghylch yr hyn a elwir yn rhaniadau pleidiol ar y mater hwn, pan ddylai'r ffocws fod ar sut y mae pawb ohonom eisiau sicrhau heddwch ym Mhalesteina ac Israel a beth yw'r ffordd orau o gyflawni hynny. O dan Lafur Cymru, rydym yn ymdrechu i wneud Cymru yn genedl o heddwch, yn genedl noddfa a chymuned, lle mae pobl yn cyd-fyw ac yn cofleidio amrywiaeth anhygoel ein gwlad.

Mae'n anodd peidio ag arswydo wrth weld y lluniau a'r fideos ar ein sgriniau teledu a'n cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n troi'r newyddion ymlaen hanner ffordd drwodd, oherwydd ni allaf wynebu'r cyfan fy hun, ar hyn o bryd. Y lluniau a'r fideos yw realiti bywyd dyddiol nawr i Balesteiniaid yn Gaza. Mae miliynau o bobl yn byw mewn ofn cyson y gallai'r adeilad preswyl y maent yn byw ynddo neu'r ysgol, ysbyty, mosg, yr eglwys neu'r gwersyll ffoaduriaid lle maent yn cysgodi gael ei fomio gan gyrch awyr ar unrhyw adeg. I mi, dyma'r rheswm pam ei bod yn annoeth cynnig coridorau dyngarol yn hytrach na chadoediad, er bod y bwriad yn dda.

Pan fo Israel wedi bomio ysbytai a gwersylloedd ffoaduriaid, maent wedi gwneud hynny o dan yr honiad ei fod yn gymesur oherwydd bod Hamas yn defnyddio'r lleoedd hyn i warchod eu harweinwyr. Os yw'n wir fod Hamas yn defnyddio ysbytai a gwersylloedd ffoaduriaid i warchod personél milwrol ac offer, pam na fyddent hefyd yn gwneud hynny i ddefnyddio coridorau dyngarol fel arfau yn yr un ffordd? Ac os yw hynny'n digwydd, bydd yn rhoi golau gwyrdd i fomio coridorau dyngarol, gan eu gwneud yn ddiwerth. Yn wir, rydym eisoes wedi gweld nad yw croesfan Rafah ei hun yn gallu gweithredu fel porth digonol ar gyfer cymorth oherwydd bod de Gaza, gan gynnwys Rafah, yn dioddef cyrchoedd bomio helaeth.

Fel y dywedodd Sioned Williams yn gynharach, mae dros 10,000 eisoes wedi cael eu lladd mewn cwta dair wythnos, a 40 y cant ohonynt yn blant. Pa droseddau a gyflawnwyd gan y plant hyn? Mae pob un o'r plant hynny'n cynrychioli dyfodol a gollwyd: artistiaid, athrawon neu beirianwyr y dyfodol, na fyddwn byth yn gwybod am eu gwaith na'u creadigrwydd. Cawsant eu lladd am rywbeth nad oedd ganddynt unrhyw ran ynddo.

I'r rhai sy'n ddigon ffodus i oroesi, mae bywyd o drawma yn aros amdanynt. Bydd goroeswyr wedi cael eu heffeithio'n ddirfawr gan farwolaeth gyda llawer yn colli aelodau agos o'r teulu, neu mewn rhai achosion, eu teulu cyfan. Gwelais fideo torcalonnus o ferch ifanc Balesteinaidd a'i heiddo mwyaf gwerthfawr oedd ei llyfrau ysgol a'i thystysgrifau. Breuddwydiai'r ferch fach hon am fod yn beiriannydd, ac oherwydd y freuddwyd honno, roedd hi wedi sicrhau ei bod yn cadw ei llyfrau ysgol a'i thystysgrifau yn agos ati yn ystod y bomio, fel y byddai ganddi dystiolaeth o'i haddysg. Rwy'n mawr obeithio y bydd y ferch honno'n tyfu i fod yn un o'r peirianwyr sy'n helpu i ailadeiladu ei mamwlad fel rhan o wladwriaeth Balesteinaidd hyfyw a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Nid mwy fyth o drais, rhyfel a chreulondeb yw'r ateb i'r gwrthdaro hwn. Yr unig ateb yw ateb heddychlon. Dywedwyd wrthyf na fydd Llywodraeth Israel yn cefnogi cadoediad, felly rwy'n deall pam fod rhai o'r Aelodau'n credu y gallai saib dyngarol agor yr amodau i ystyried cadoediad yn fwy hirdymor. Ond yn y pen draw, mae unrhyw beth ond cadoediad hirdymor yn golygu mwy o farwolaeth a dinistr. Mewn gwirionedd, bydd unrhyw beth llai na chadoediad ar unwaith yn gwneud Israeliaid a Phalesteiniaid yn llai diogel, a bydd unrhyw beth llai na chadoediad ar unwaith yn difa mwy o'n dynoliaeth.

Cadoediad yn unig a ddaw â'r argyfwng hiwmanitaraidd i ben, a chadoediad yn unig a all ddarparu amser a gofod i waith heddwch fynd rhagddo. Mae seibiau dyngarol yn aml yn rhy fyr. Nid oes amheuaeth fod y gwrthdaro hwn yn un hirhoedlog a chymhleth, a dyna'n union pam fod diplomyddiaeth a thrafodaethau yn hanfodol i sicrhau heddwch. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig heb ei ddiwygio, ac rwy'n canmol pawb sy'n ei gefnogi heddiw. Er mwyn heddwch, er mwyn y ddynoliaeth, er mwyn Palesteina rydd ac Israel rydd, rydym angen cadoediad nawr.

18:30

Beth bynnag ydy'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn, nid lladd a dioddefaint cannoedd o filoedd o bobl, yn blant ac yn bobl fregus, ydy'r ateb. Pan fo Israeliaid yn mynd i'r gwely yn byw mewn ofn fod taflegryn am ddisgyn ar eu pennau, yna mae'n amlwg fod rhywbeth o'i le. Pan fod rhieni yn Gaza yn teimlo fod yn rhaid iddyn nhw ysgrifennu enwau eu plant ar rannau o'u cyrff er mwyn eu hadnabod nhw ar ôl ffrwydrad, yna mae'n amlwg fod rhywbeth mawr o'i le yn y byd.

Mae'r dwyrain canol wedi gweld sawl awr dywyll dros y 75 mlynedd diwethaf, a gwelwyd un o'r oriau tywyllaf 28 mlynedd yn ôl i ddydd Sadwrn diwethaf, pan lofruddiwyd Prif Weinidog Israel ar y pryd, Yitzhak Rabin, yn giaidd gan eithafwr adain dde oedd ddim eisiau gweld y broses heddwch, a ddechreuodd Rabin drwy gytundeb Oslo, yn dwyn ffrwyth. Doedd Rabin ddim yn heddychwr. Fo oedd arweinydd byddin Israel yn y rhyfel Arabaidd. Roedd o hefyd yn weinidog amddiffyn adeg yr intifada cyntaf. Ond fe welodd Rabin yr angen i adeiladu heddwch, a hynny drwy gydweithio efo Mahmoud Abbas a Yasser Arafat bryd hynny. Pwy fyddai'n meddwl, o enwi'r bobl yma, ein bod ni heddiw yn dyheu am weld gwladweinwyr tebycach heddiw? Ond gadewch inni ddilyn esiampl Rabin a pheidio â gadael i'r adain dde eithafol arweiniodd at ei lofruddiaeth o i gael goruchafiaeth. Gadewch inni hefyd beidio anghofio mai'r broses heddwch drwy gytundeb Oslo oedd sbardun cytundeb Gwener y Groglith yn chwe sir Gogledd Iwerddon. Felly, mae o'n bosib cael heddwch hirdymor. Ond mae cysgod tywyll llofruddiaeth Yitzhak Rabin yn gorwedd droson ni heddiw, ac mae'n rhaid inni beidio â gadael i'r llwfrgi yna a'i lofruddiodd o i ennill. Gadewch inni gofio Rabin heddiw ac ymladd i wireddu'r heddwch yr oedd o wedi dechrau arni. 

Gwn fod yna drafodaeth wedi bod ynghylch y gair 'cadoediad' ac mai seibaint sydd ei angen, fel rydyn ni wedi ei glywed, ond yr unig beth y bydd seibiant yn ei wneud ydy galluogi pobl i ddechrau lladd ei gilydd eto ar ôl rhyw gyfnod penodol. Dydy hynny ddim, a gall hynny ddim bod, yn ateb. Yr unig beth y mae lladd pobl yn ei wneud ac am ei wneud ydy creu cenhedlaeth o bobl sydd yn byw gyda thrawma erchyll ac arwain at ragor o bobl eisiau dial yn y dyfodol. Mae cymryd llygad am lygad yn ein gwneud yn ddall i ddioddefaint a phoen cynifer o bobl. Mae'r awydd i ddial yn reddf ddealladwy, ond dydy o ddim y datrys dim. Mae gweithio dros heddwch yn llawer anos. A dyna pam fod angen i'r gymuned ryngwladol ddod ynghyd i ddangos cefnogaeth i'r lleisiau yna oddi fewn Israel a Phalesteina sydd yn galw am heddwch. 

Gobeithio yn arw y bydd llais Cymru, er yn fach, yn cyfrannu at y galw yma am heddwch, ac yn rhoi nerth i'n chwiorydd a'n brodyr yn Israel ac ym Mhalesteina sydd yn galw ac yn gweithio dros heddwch. Dyna pam fod yn rhaid inni gefnogi'r galw am gadoediad yma heddiw. Heddwch, peace, salaam, shalom. 

Mae'r cyfraniadau heddiw wedi bod yn eithriadol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu'n fyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio bod awydd cyffredinol ar draws y Siambr i weld heddwch parhaol cyn gynted â phosibl i Balestiniaid ac Israeliaid. Nid oes gan unrhyw un yn y Senedd hon fonopoli ar alar nac yn poeni mwy am ddod â'r gwrthdaro i ben nag unrhyw Aelod arall. Rydym i gyd eisiau gweld diwedd ar y tywallt gwaed ar unwaith. Ac rwy'n sicr hefyd ein bod i gyd am weld cadoediad fel rhan o lwybr at heddwch. Ond y cwestiwn i ni a'r gymuned ryngwladol yn ei chyfanrwydd yw sut y gallwn annog y ddwy ochr i ddechrau dilyn proses heddwch newydd.

Nid wyf yn arbenigwr mewn cyfryngu dros heddwch ac nid wyf yn credu y gall unrhyw un ohonom honni ei fod, ond o'r hyn y gallais ei ganfod gan sefydliadau fel y Grŵp Argyfwng Rhyngwladol, mae'n debyg y bydd y llwybr at heddwch yn dechrau gyda saib dyngarol sy'n arwain at gadoediad. Ac fel y dywedodd Alun Davies, os mai cadoediad fyddai'r cam cyntaf mwyaf tebygol ac ymarferol i'w gytuno gan y ddwy ochr, rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn cefnogi'r alwad iddo ddigwydd ar unwaith. Ond mae llawer o arbenigwyr yn ystyried hyn yn afrealistig ac yn nodi mai saib dyngarol fyddai'n arwain at y cam cyntaf angenrheidiol yn y broses heddwch cyn gynted â phosibl. Rhywun sy'n gwybod cryn dipyn am heddwch yw'r cynghorydd diogelwch gwladol, Peter Ricketts, a ddywedodd:

'Os yw eich diddordeb mewn cynigion ymarferol fel cam cyntaf i gadoediad, mae'n rhaid i saib dyngarol fod yn flaenoriaeth'.

Lywydd, hoffwn i gefnogwyr y cynnig a'r cynnig diwygiedig fod yn glir gyda'r bobl sy'n gwylio heddiw ein bod i gyd eisiau diwedd i'r gwrthdaro cyn gynted â phosibl, a bod y modd y mae'r Aelodau yn pleidleisio ond yn adlewyrchu eu barn ynglŷn â sut i helpu'r broses i ddechrau ar unwaith, nid a ydym yn cefnogi un ochr dros un arall, neu a oes rhai yn y Siambr hon yn teimlo'n gryfach nag eraill am y marwolaethau erchyll.

18:35

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn ac yn falch o gael cyfle heddiw i ymateb i'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru a gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, oherwydd mae'n rhoi cyfle imi gadarnhau ein safbwynt ac i adrodd i'r Aelodau ar y camau yr ydym yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru, o fewn ein pwerau a'n cyfrifoldebau, gyda'n gwaith i estyn allan, gwrando a dysgu gan y bobl a'r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan y rhyfel erchyll hwn.

Mae'n amlwg o'r ddadl fod y Senedd hon yn unedig yn ein harswyd ynghylch y digwyddiadau yn Israel a Gaza dros yr wythnosau diwethaf. Mae ymosodiad erchyll Hamas ar sifiliaid diniwed yn Israel a'r modd yr aethant ati i gipio gwystlon sifil wedi bod yn sioc i bawb ohonom. Mae wedi gadael cenedl yn galaru a theuluoedd yn ysu am weld eu hanwyliaid yn dychwelyd yn ddiogel—fe'i condemniwyd yn briodol ledled y byd ac eto yma heddiw. Mae dioddefaint annirnadwy cymaint o sifiliaid diniwed a welwn nawr yn Gaza a'r trychineb dyngarol sy'n deillio o hynny yn warth ar ddynoliaeth. Mae pob bywyd dynol o werth cyfartal ac mae nifer y bywydau sy'n cael eu colli yn Gaza bob dydd, gyda miloedd o blant yn eu plith, fel y dywedwyd, yn hollol dorcalonnus.

Rydym yn glir ynghylch erchylltra'r trychineb dyngarol hwn, ond credaf ein bod hefyd yn glir ynghylch yr angen brys i sicrhau y gall cymorth gyrraedd y bobl sydd ei angen yn daer, gan gynnwys adfer trydan, tanwydd, bwyd a dŵr i Gaza. A dyna pam mae'r Prif Weinidog wedi ymuno â galwadau am saib dyngarol ar unwaith fel y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o ganiatáu i hyn ddigwydd, ond hefyd, yn hollbwysig, fel y llwybr a'r platfform mwyaf realistig ar gyfer cyrraedd cadoediad llawn cyn gynted â phosibl.

Rydym yn glir fod dod o hyd i ffordd o ddod â'r trais, dioddefaint a marwolaeth i ben yn gwbl hanfodol ac mae'n rhaid iddo barhau i fod yn ffocws, yn anad dim arall, i ddod o hyd i'r llwybr at heddwch. Fel y mae llawer wedi dweud yn y ddadl hon, rhaid i'r gymuned ryngwladol ymrwymo i gyflawni'r nod terfynol clir—heddwch parhaol i bawb yn y dwyrain canol. Credwn mai dim ond trwy gytundeb gwleidyddol y gellir cyflawni hyn yn seiliedig ar ddatrysiad dwy wladwriaeth, lle mae pobl yn Israel yn byw mewn diogelwch a'r Palesteiniaid yn gwireddu'r wladwriaeth annibynnol y maent wedi dyheu amdani ers tro. Ac mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'r ymrwymiad i gyflawni'r heddwch parhaol hwn.

Rydym hefyd yn cymeradwyo—ac mae wedi cael ei fynegi heddiw—y galwadau eang am barchu cyfraith ryngwladol gan bawb er mwyn rhoi pob amddiffyniad posibl i fywydau a chyfleusterau sifil. Mae hawliau dynol, cyfraith ryngwladol, rheolaeth y gyfraith ac anghyfreithlondeb troseddau rhyfel yn berthnasol i bawb ohonom. Nid oes unrhyw Lywodraeth, unrhyw unigolyn, unrhyw sefydliad wedi'i eithrio neu'n uwch na'r gyfraith, ac wrth gwrs, dylai pawb fod yn atebol am eu gweithredoedd.

Mae materion tramor wedi'u cadw'n ôl, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni'r cyfrifoldebau yn ein dwylo drwy wneud popeth yn ein gallu i gefnogi diogelwch cymunedol a hyrwyddo cydlyniant. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn ymgysylltu dros yr wythnosau diwethaf â chynrychiolwyr cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig yma yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn falch o gyfarfod â chynrychiolwyr ein fforwm cymunedau ffydd a hefyd i gael cyfle i ymweld ag addoldai i glywed yn uniongyrchol gan aelodau cymunedau yr effeithir arnynt am y boen eithafol a deimlir gan lawer o bobl yma yng Nghymru. Rydym wedi clywed mwy o enghreifftiau o hyn gan Aelodau heddiw. Mae'n cynnwys unigolion sydd â chysylltiadau personol a theuluol ag Israel neu Balesetina ac sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y digwyddiadau trasig hyn. Rydym am estyn ein cydymdeimlad dwysaf a chynnig ein cefnogaeth i'r bobl hynny, fel yr ydym yn ei wneud ar draws y Siambr hon.

Rydym hefyd wedi clywed yn glir iawn wrth inni estyn allan ac ymgysylltu a siarad â phobl sydd wedi cael eu heffeithio am yr ofn cynyddol o ragfarn a chasineb. Mae'n rhaid inni fod yn gwbl glir nad oes lle i gasineb yng Nghymru, a rhaid i bawb ohonom chwarae ein rhan a sefyll yn erbyn rhagfarn. Mae gan addysg rôl hanfodol, ac mae'r Gweinidog addysg a minnau wedi bod yn trafod gydag arweinwyr ffydd sut y gallwn wneud mwy i hyrwyddo dealltwriaeth a mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, Islamoffobia a phob math o gasineb sy'n seiliedig ar ffydd yn ein lleoliadau addysg. Mae ein canolfan gymorth troseddau casineb yng Nghymru, sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, yn gweithio ochr yn ochr â'r pedwar heddlu i fonitro am unrhyw gynnydd mewn troseddau casineb gwrthsemitig ac Islamoffobig yng Nghymru. Mae'r ganolfan yn parhau i ddarparu cefnogaeth ac eiriolaeth annibynnol am ddim wedi'i theilwra i bob dioddefwr troseddau casineb, 24 awr y dydd, bob diwrnod o'r flwyddyn.

Er nad ydym ar hyn o bryd yn gweld tystiolaeth o gynnydd mawr mewn troseddau casineb crefyddol trwy'r sianeli hyn, mae yna bryderon nad yw digwyddiadau'n cael eu hadrodd. Mae ein hymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru yn annog dioddefwyr a thystion i roi gwybod am unrhyw achosion o droseddau casineb drwy'r heddlu neu ganolfan cymorth troseddau casineb Cymru. Mae rhaglen cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cymru yn rhan bwysig o'n hymateb i faterion newydd ac annisgwyl sy'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru, ac mae'r rhaglen, fel y gwyddoch, yn cyflogi timau cydlyniant, sy'n gweithio ar draws ein holl awdurdodau lleol yng Nghymru, gan ddarparu ystod o weithgareddau, yn cynnwys monitro tensiynau cymunedol, ar-lein ac all-lein, gan gydweithio â phartneriaid fel yr heddlu i'w lliniaru. Yn ddiweddar mae hyn wedi cynnwys timau sy'n cysylltu ag arweinwyr ffydd yn y gymuned wrth i faterion godi, gan ddarparu cefnogaeth a thawelwch meddwl lle bo angen.

Mae hon wedi bod yn ddadl bwerus, wedi'i rhannu'n barchus, rwy'n credu, gan wrando ar ein gilydd gyda didwylledd ar draws y Siambr hon. Bydd Gweinidogion yn ymatal ar y cynnig a'r gwelliant heddiw yn unol â dull sefydledig Llywodraeth Cymru o ymatal ar gynigion sy'n ymwneud â materion tramor nad ydynt o fewn cylch gwaith y Senedd. Ond fe fydd gan y meinciau cefn Llafur bleidlais rydd ar y cynnig a'r gwelliant.

Yn olaf, Lywydd, rwyf am fyfyrio ar ddau ymweliad a wneuthum yr wythnos diwethaf â mosg a synagog. Fe wnaeth pobl ddweud wrthyf yn glir iawn am eu hofnau a'u pryderon, eu dicter a'u gofid, ond hefyd am bwysigrwydd ffydd i lawer yn yr amseroedd tywyllaf. Y neges o'r ymweliadau hyn oedd cael ffydd mewn gobaith a'r ddynoliaeth, nid anobaith. Gall ffydd ddod â chysur a nerth mawr i bobl, ond yn bwysicaf oll efallai, mae angen i ni gredu, gyda nhw, fod cynnydd yn bosibl a bod amseroedd gwell i ddod. Rwy'n credu y gallwn ymuno â'n gilydd mewn undod heddiw, pob Aelod ar draws y Senedd, ac adlewyrchwyd yr alwad hon am undod ar draws y Senedd yn y ddadl hon. Rwy'n credu bod yr Aelodau wedi adlewyrchu'r gobaith a rennir ganddynt am ddiwedd i'r rhyfel hwn, diwedd i'r argyfwng dyngarol sy'n datblygu ac yn anad dim, fel y gwelwyd ac y dywedwyd mor glir heddiw, am heddwch parhaol yn y dwyrain canol. Diolch.

18:40

Gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma heddiw? Buaswn i'n licio diolch hefyd i'r rheini sydd wedi dod yma i'r Senedd heddiw i wrando ar y ddadl yma a chymryd rhan mewn gwylnos yn gynharach. Mi fydd yna rai wrth gwrs yn gofyn pam ein bod ni wedi cyflwyno’r ddadl yma heddiw—pa hawl, hyd yn oed, sydd gennym ni i gyflwyno'r ddadl yma heddiw; pam ein bod ni yn trafod erchyllterau 3,000 o filltiroedd i ffwrdd mewn Senedd sydd ddim â chyfrifoldeb uniongyrchol dros faterion tramor. Mae’r ateb i fi'n eithaf syml: onid dyma pwy ydyn ni, fel cenedl? Y Gymru dwi yn ei hadnabod yw’r Gymru honno sydd wedi gwneud safiadau dro ar ôl tro dros heddwch a dros hawliau dynol.

Mae yna reswm arall hefyd: mae’r dioddefaint yn Israel a Gaza yn cael ei deimlo i'r byw mewn cymunedau ledled Cymru. Dwi'n gwybod y bydd pob un ohonon ni yn y Senedd heddiw yn cydsefyll efo'r cymunedau Iddewig a Mwslemaidd sy’n profi beth mae casineb yn gallu ei olygu, ac mi fyddwn ni yn y Senedd yma yn gwrthwynebu casineb ymhob ffordd.

Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, fe wnaethom gyflwyno'r cynnig yn yr ysbryd o allu sicrhau'r gefnogaeth ehangaf posibl. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai a atebodd yr alwad honno am undod drwy naill ai lofnodi neu gefnogi'r cynnig; dyna roeddem yn ei geisio. Rydym wedi clywed dadleuon heddiw dros y dewis amgen yn lle'r cadoediad a gynigiwyd gennym yn y cynnig, ac mae'n bwysig iawn mewn democratiaeth fod pobl yn gallu mynegi eu barn eu hunain. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni gadw hon yn ddadl agored ac yn ddadl onest. Mae'n rhaid imi wneud sylw ar fy siom yn yr Aelod dros Flaenau Gwent, a ddywedodd wrth BBC Radio Cymru bore yma er inni drafod yr union fater hwn mewn sgwrs ddoe:

'Nid yw Plaid Cymru yn dweud dim yn y cynnig am y gwystlon sy'n cael eu cadw.'

Mae'n amlwg nad yw hynny'n wir, fel y gwelir yn llinell gyntaf y cynnig yn condemnio Hamas ac yn galw am ryddhau'r gwystlon. Rydym yn unedig ar hyn; nid oes angen chwilio am y math hwnnw o raniad.

Ond yr hyn sydd gennym o'n blaenau nawr mewn gwirionedd yw dau gynnig nad ydynt yn annhebyg, mewn sawl ffordd: y cynnig gwreiddiol a'r gwelliant. Ond mae un gwahaniaeth amlwg a sylweddol iawn: mae'r cyntaf yn canolbwyntio ar yr alwad am gadoediad; mae'r ail yn hepgor yr alwad am gadoediad. Nawr, wrth gwrs, mae saib neu atal ymladd yn well na dim, ond i mi, i ni, nid dyna'r ateb, ac fel y dywedais yn gynharach, mae hynny'n awgrymu bod yna dderbyniad y bydd y lladd, neu y gallai'r lladd, ailddechrau wedyn. O dan gyfraith ryngwladol, ni ddylem orfod dibynnu ar saib i amddiffyn sifiliaid a chaniatáu i gymorth lifo. Gall saib a chadoediadau fod yn fregus fel ei gilydd, ond profiad gweithwyr cymorth o ryfeloedd eraill yw y gall oedi i greu coridorau diogel danio yn hytrach na dad-ddwysáu gwrthdaro.

Efallai fod rhai Aelodau eisiau defnyddio geiriau gwahanol yn y cynnig, ac rwy'n deall hynny. Mewn gwirionedd, mae'n debyg y gallai 60 Aelod feddwl am 60 o wahanol ffyrdd o ddod o hyd i'r geiriad ar gyfer yr un bwriad yn union; rwy'n gwybod ein bod wedi mynegi ein parodrwydd i edrych eto ar y geiriad, ond (1) sylweddolais y gall fod yn anodd alinio pethau weithiau, a (2) ni allem gyfaddawdu ar yr alwad am gadoediad.

Yr hyn y gofynnwn i'r holl Aelodau ei wneud yw cefnogi nod trosfwaol y cynnig—fod y Senedd hon sy'n cynrychioli pobl ein gwlad yn sefyll dros ddynoliaeth, fod yn rhaid i'r lladd ddod i ben, fod pob bywyd yn werthfawr, ac mai cadoediad sy'n rhagflaenu sgyrsiau heddwch, dod â marwolaethau sifiliaid yn Israel ac ym Mhalesteina i ben. Ac rydym wedi clywed safbwyntiau'n cael eu mynegi heddiw am anobaith y sefyllfa; mae'n hawdd teimlo'n anobeithiol. Dywedodd Darren Millar nad yw Hamas yn poeni am sifiliaid Palesteinaidd. Wel, fe allwn ni ddangos ein bod ni'n poeni am sifiliaid Palesteinaidd. Clywsom ddatganiadau ynglŷn â pha mor anodd, amhosibl, y mae'n teimlo, efallai, i gyflawni'r cadoediad yr ydym yn anelu at ei gyflawni. Ond ni allwn fforddio troi ein cefnau ar unrhyw gyfle i hyrwyddo heddwch. Ni ddylem roi'r gorau iddi gan fod bywydau'n cael eu colli'n ddiwahân. Ni allwn golli gobaith. Ni ddylai fod arnom ofn codi llais.

Dim ots pa mor anobeithiol mae'r sefyllfa yn ei theimlo, mae'n rhaid inni sefyll dros heddwch, dros benderfynoldeb rhyngwladol i ddod â'r dioddefaint i ben. Mae'n rhaid sefyll dros y cadoediad dŷn ni'n galw amdano fo yn y cynnig yma. 

Rwy'n eich annog i gyd i gefnogi'r cynnig.

18:50

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Cyfnod Pleidleisio

Ac rydyn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe awn ni'n syth i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ansawdd dŵr. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Mae'r cynnig wedi ei wrthod. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Ansawdd dŵr. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 16, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 fydd nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Gwelliant 1, felly. Pleidlais ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal, ac felly mi fyddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw ac yn defnyddio'r bleidlais hynny yn erbyn gwelliant 1, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei drechu o 28 pleidlais i 29 pleidlais yn erbyn. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Bydd y bleidlais nesaf ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Mae'r bleidlais yma yn gyfartal, felly byddaf yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 2. Mae canlyniad y bleidlais, felly, yn 28 o blaid, 29 yn erbyn. Felly mae gwelliant 2 wedi ei wrthod. 

Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 28, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0

Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).

Gwrthodwyd y gwelliant

Mae hynny'n golygu bod y cynnig a'r gwelliannau wedi eu gwrthod a dim byd wedi ei gymeradwyo o dan yr eitem yna.

Eitem 7 yw'r gyfres nesaf o bleidleisiau. Eitem 7 yw dadl Plaid Cymru ar wrthdaro yn Israel a Gaza. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, 13 yn erbyn, 19—. Na, mae'n ddrwg gen i. O blaid 24, 13 yn ymatal, 19 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn, ac felly fydd yna ddim rhagor o bleidleisiau. [Cymeradwyaeth.]

Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Gwrthdaro yn Israel a Gaza. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 24, Yn erbyn: 19, Ymatal: 13

Derbyniwyd y cynnig

9. Dadl Fer: A all gofalwyr fforddio gofalu?

Mae yna eitem arall o fusnes nawr i'w drafod. Yr eitem yna fydd y ddadl fer gan Sioned Williams. Cyn i Sioned gychwyn, mae'n bosib bydd rhai Aelodau yn moyn gadael y Siambr. 

Efallai y bydd rhai o'r Aelodau'n gadael. Os ydych chi'n gwneud hynny, a wnewch chi hynny'n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda? [Torri ar draws.] Fe ofynnaf i Sioned Williams ddechrau ar ei dadl fer ar ofalwyr pan fydd yr Aelodau wedi gadael. Sioned Williams. 

Diolch, Lywydd. Bydd y ddadl hon yn gofyn a all gofalwyr fforddio gofalu, a bydd yn canolbwyntio ar sut mae'r argyfwng costau byw yn effeithio'n anghymesur ar ofalwyr di-dâl yng Nghymru ac yn erydu eu hawliau. Fy nod yw tynnu sylw at raddfa ac effaith y mater hwn a chynnig rhai atebion y gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn eu hystyried. Byddaf hefyd yn rhoi amser i Sarah Murphy, Gareth Davies, Jane Dodds a Mabon ap Gwynfor siarad.

18:55

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

'Nid wyf yn gallu fforddio byw. Weithiau rwy'n teimlo y byddai'n llai o straen pe na bawn i yma, ond wedyn rwy'n meddwl, beth fyddai fy mhlentyn sy'n oedolyn yn ei wneud?'

Dyma eiriau gofalwr di-dâl. Geiriau a gynhwysir mewn adroddiad newydd gan Gofalwyr Cymru, adroddiad sydd wedi nodi bod 76 y cant o ofalwyr di-dâl sy'n derbyn lwfans gofalwyr yn cael trafferth gyda phwysau costau byw, tra bod bron eu hanner yn torri'n ôl ar bethau hanfodol, gan gynnwys bwyd a gwres. Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a gofal cymdeithasol, ac fel Aelod o'r Senedd sy'n cynrychioli ac yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, yr ardal awdurdod lleol sydd â'r gyfran uchaf o bobl yn darparu rhyw fesur o ofal di-dâl, y gyfran uchaf o bobl sy'n darparu 50 awr neu fwy o ofal yr wythnos a'r gyfran gydradd uchaf o bobl anabl yng Nghymru, rwy'n teimlo'n angerddol am wella cefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Mae gennyf brofiad personol hefyd o fod yn ofalwr, ac rwyf wedi gweld drosof fy hun yr ymdrech a'r straen y gall gofalu a diffyg cefnogaeth ei achosi i deulu.

Yng nghyfrifiad 2021, dywedodd dros 311,000 o bobl yng Nghymru eu bod yn darparu gofal di-dâl i aelodau o'r teulu neu ffrindiau; pobl sydd angen gofal oherwydd oedran, anabledd, salwch, oherwydd cyflwr iechyd meddwl neu ddibyniaeth. Mae 107,000 o bobl yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl am dros 50 awr yr wythnos. Bydd bywydau pob gofalwr di-dâl yn newid oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, ac mae'r rhan fwyaf o ofalwyr di-dâl yn fenywod.

Mae pobl yn gofalu oherwydd cariad, oherwydd dyletswydd, oherwydd tosturi tuag at eu teulu a'u ffrindiau, ond mae gofalwyr di-dâl mor agored i'r argyfwng costau byw wrth i gostau ychwanegol gofalu bentyrru ar ben y costau arferol a brofir gan y rhan fwyaf o bobl, ac nid yw hyn wedi cael sylw digonol. Mae biliau ynni yn aml yn uwch am fod yn rhaid iddynt weithredu offer, fel teclynnau codi neu gymhorthion cysgu, a'r unig ffordd o reoli sawl cyflwr yw drwy gynhesu'r cartref yn gyson ar dymheredd addas. Mae gofalwyr hefyd yn wynebu costau trafnidiaeth uwch drwy ddefnydd ychwanegol o danwydd neu wariant ychwanegol ar dacsis neu drafnidiaeth gyhoeddus i fynd â'r bobl y maent yn gofalu amdanynt i apwyntiadau meddygol mynych neu i weithgareddau grwpiau cymorth. Efallai y bydd yn rhaid i ofalwyr dalu am feddyginiaethau a thriniaethau penodol o'u pocedi eu hunain hefyd a gallant wynebu biliau bwyd uwch hyd yn oed, er mwyn darparu bwyd priodol i'r unigolyn y maent yn gofalu amdanynt. Ac wrth gwrs, mae gofalwyr wedi wynebu'r costau uwch hyn ers blynyddoedd lawer, ond mae'r argyfwng economaidd presennol wedi gwaethygu'r sefyllfa a chynilion wedi'u gwario eisoes. Mae costau tanwydd a chostau bwyd yn parhau i fod yn llawer uwch nag y buont. 

Yr haf hwn, ymatebodd dros 1,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru i arolwg 'Cyflwr Gofalu' Gofalwyr Cymru ac mae'r canlyniadau'n llwm: mae 60 y cant yn poeni am effaith eu gofalu ar eu cyllid; dywedodd 34 y cant eu bod yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd; dywedodd 58 y cant eu bod angen mwy o gymorth ariannol; mae 17 y cant mewn dyled o ganlyniad i ofalu. Ac wrth gwrs, mae llawer o ofalwyr di-dâl yn ei chael hi'n anodd, os nad yn amhosibl, gweithio ochr yn ochr â'u rôl ofalu, gyda llawer yn teimlo gorfodaeth i leihau eu horiau neu roi'r gorau i'w swyddi'n llwyr er mwyn darparu gofal.

Felly, pa gefnogaeth sydd ar gael i'r bobl sy'n chwarae rhan mor hanfodol yn ein cymdeithas? Wel, y prif fudd-dal ar gyfer gofalwyr di-dâl yw lwfans gofalwyr; mae'n werth £76.75 yr wythnos. Dyma'r budd-dâl isaf o'i fath ac mae ei feini prawf cymhwysedd yn golygu nad yw'r mwyafrif helaeth o ofalwyr di-dâl yn gallu ei hawlio. Ymhlith meini prawf eraill i'w hawlio, rhaid ichi fod yn darparu o leiaf 35 awr o ofal di-dâl yr wythnos a rhaid ichi fod o dan oedran pensiwn. Er y gall gofalwyr ennill hyd at £139 yr wythnos os oes ganddynt amser a gallu i weithio, mae hyn hyd yn oed, o'i ychwanegu at y lwfans gofalwyr, yn dal i'w gadael ymhell islaw'r cyflog byw cenedlaethol. Ac mae gofalwyr sy'n cael un geiniog yn fwy na'r terfyn o £139 yr wythnos yn fforffedu eu lwfans i gyd. Amcangyfrifir bod tua 57,000 o bobl yn derbyn lwfans gofalwyr yng Nghymru, ond lleiafrif bach o ofalwyr di-dâl yw hynny.

Yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai gofalwyr di-dâl sy'n derbyn lwfans gofalwyr yn gallu hawlio taliad cydnabyddiaeth unwaith ac am byth o £500. Roedd derbynwyr y lwfans gofalwyr hefyd yn gymwys ddiwedd y llynedd i hawlio £200 cynllun cymorth tanwydd Cymru sydd bellach wedi'i ddiddymu. Hefyd, gall gofalwyr di-dâl wneud cais am grantiau o hyd at £300 a ariennir gan gronfa gymorth i ofalwyr Llywodraeth Cymru, ac mae'r Care Collective yn un o'r sefydliadau sy'n derbyn ceisiadau am y grant hwn. Pan edrychais ar eu gwefan ddoe, roedd y ffurflen gais wedi cau, ac roedd y wefan yn nodi'r canlynol:

'Os ydych eisoes wedi derbyn grant Cymorth i Ofalwyr Llywodraeth Cymru gennym ers mis Rhagfyr 2022, peidiwch â gwneud cais eto.'

'Y cyfyngiadau a roddwyd i ni yw bod hon yn gronfa un cais i bob aelwyd'.

'Rydym wedi bod yn derbyn mwy nag un cais gan aelwydydd a cheisiadau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf'.

Felly, mae'r angen yn amlwg yno, ond nid yw'r gefnogaeth yn ddigonol. Mae'r pwysau hwn ar gyllid hefyd yn erydu a thanseilio hawliau gofalwyr, oherwydd mae gan ofalwyr hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a oedd i fod i wella llesiant defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, ond yn anffodus, ceir llawer o dystiolaeth sy'n awgrymu nad yw'r ddeddfwriaeth wedi cyflawni. Amlygwyd hyn gan ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon 2019, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn y ddeddfwriaeth

'gyda chamau gweithredu prydlon a phendant sy’n sicrhau bod yr hawliau a’r gefnogaeth a addawyd gan y Ddeddf yn cael eu cyflawni.'

Mae gwerthusiadau 'Olrhain y Ddeddf' a gynhaliwyd gan Gofalwyr Cymru, a gwerthusiad annibynnol o'r Ddeddf a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, hefyd yn dangos nad yw hawliau gofalwyr yn cael eu cefnogi'n ddigonol. Mae'r Ddeddf yn dweud bod gan bob unigolyn a chorff, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ac asiantaethau statudol eraill sy'n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf, ddyletswydd gyffredinol i hyrwyddo llesiant gofalwyr. Diffinnir y llesiant hwn fel rhywbeth sy'n cynnwys iechyd corfforol a meddyliol; lles emosiynol; perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol; hamdden a lles cymdeithasol ac economaidd. Ond mae llu o dystiolaeth, gan gynnwys o arolwg cyflwr gofalu 2023, yn awgrymu bod yr argyfwng costau byw yn erydu'r hawliau hyn yng Nghymru trwy ei gwneud hi'n anos byth i ofalwyr gynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain. Dywedodd 70 y cant o ofalwyr fod y cynnydd mewn costau byw yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol neu feddyliol. Dywedodd 81 y cant o ofalwyr eu bod yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, a'u bod wedi cyfyngu ar hobïau a gweithgareddau hamdden. Mae dwy ran o dair wedi cyfyngu ar weld teulu a ffrindiau.

Felly, beth sydd angen ei newid? Rwy'n siŵr fod llawer ohonoch wedi ymweld â grwpiau cefnogi gofalwyr yn eich ardaloedd, ac wedi clywed yn uniongyrchol, gobeithio, am yr heriau sy'n wynebu gofalwyr di-dâl, neu efallai eich bod wedi gweld y negeseuon wedi'u brodio ar y clytiau a arddangoswyd yn ddiweddar yn y Senedd fel rhan o ddigwyddiad 'Ymgyrchwyr Gofalgar trwy Grefft' Oxfam Cymru. Mae'n rhaid inni weithredu ar yr hyn a glywsom, ac mae'n rhaid inni ymateb i'r negeseuon hynny. Felly, i ddechrau, dylid cydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth wrth lunio a chyflawni pob ymyrraeth polisi gwrthdlodi yn y dyfodol, a rhaid cydgynhyrchu'r ymyriadau hyn yn iawn gyda gofalwyr di-dâl a'u sefydliadau cynrychioliadol. Gellid ychwanegu lwfans gofalwyr fel budd-dâl cymhwyso ar gyfer y cynlluniau gwella effeithlonrwydd ynni'r cartref a'r fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd, a ddylai fod yn weithredol erbyn diwedd y mis hwn. Er mwyn atal gofalwyr rhag cyrraedd pwynt argyfwng, gallai'r Llywodraeth flaenoriaethu cyrraedd gofalwyr di-dâl fel grŵp targed penodol mewn ymgyrchoedd gwybodaeth am gyngor ariannol a rheoli dyledion a gwasanaethau cynghori ledled Cymru. Cael arian i'r rhai sydd ei angen yw'r ffordd orau o atal argyfwng. Rhaid inni gael ffyrdd symlach a mwy cyson o gefnogi gofalwyr di-dâl. 

Gallai'r taliad gofalwr £500 y soniais amdano gael ei ailadrodd bob blwyddyn i gefnogi gofalwyr ar lwfans gofalwyr. Gellid ymestyn cymhwysedd i'w gael i gynnwys pobl sydd â hawl i daliad atodol gofalu y credyd cynhwysol, neu sydd â hawl sylfaenol i lwfans gofalwyr, megis pobl sy'n derbyn pensiwn y wladwriaeth. Byddai creu cronfa trallod ariannol newydd a sylweddol ar gyfer gofalwyr di-dâl, sy'n hygyrch i unrhyw ofalwr sy'n profi caledi ariannol, heb gyfyngiadau cyfredol y grantiau cymorth presennol, yn wych. Ac mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain gwaith gydag awdurdodau lleol i leihau anghydraddoldeb rhanbarthol a sicrhau gwell data ar ofalwyr di-dâl a'r pwysau ariannol sy'n effeithio arnynt, oherwydd, yn ôl ymchwil Gofalwyr Cymru, nid yw'r mwyafrif helaeth o ofalwyr yn cael asesiad o'u hanghenion nac yn cael y cymorth sydd ei angen, gyda dim ond 15 y cant o ofalwyr yng Nghymru wedi cael asesiad anghenion gofalwr, er bod hyn yn hawl. Byddai creu cofrestr genedlaethol o ofalwyr hefyd yn helpu i fynd i'r afael â hyn.

Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau fy nghyd-Aelodau ac at ymateb y Dirprwy Weinidog, ond nid wyf eisiau rhestr o bopeth rydych chi eisoes yn ei wneud, Ddirprwy Weinidog. Rwyf am wybod sut y bydd pethau'n gwella i ofalwyr. Ac yn olaf, rwyf am ddweud wrth ofalwyr di-dâl: rydym yn eich clywed, rydych chi'n amhrisiadwy, ni ddylid gadael ichi byth fod yn anweledig, a rhaid eich cefnogi'n well.

19:05

Diolch yn fawr iawn, Sioned Williams, am adael i mi siarad am funud heddiw. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ofalwyr ifanc. Mae llawer ohonoch wedi cyfarfod ag Ollie Mallin, sy'n aelod o'r Senedd Ieuenctid—mae llawer ohonoch yn nodio yma. Mae'n ŵr ifanc gwych—hollol anhygoel—ac yn amlwg bu'n siarad yn ein Siambr yn y Senedd Ieuenctid, ac mae'n cynrychioli'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yng Nghymru. Ac roeddwn eisiau darllen beth mae Ollie wedi'i ddweud am ei brofiad ei hun o fod yn ofalwr ifanc.

Dywedodd: 'Rwy'n gofalu am fy mrawd iau sydd â llawer o anghenion ychwanegol cymhleth. Rwyf wedi bod yn gofalu amdano er pan oeddwn yn bum mlwydd oed. Ni fuaswn yn dweud bod fy rôl ofalu'n effeithio ar fy mywyd; buaswn yn dweud mai dyna yw fy mywyd.

'Fodd bynnag, mae gofalu'n rhoi straen ar rannau eraill o fy mywyd. Mae'r ysgol wedi bod yn anodd i mi erioed, nid yw athrawon bob amser wedi deall fy mhrofiad ac mae fy rôl ofalu wedi ei gwneud hi'n anodd iawn i mi ddal i fyny gyda gwaith cwrs neu ganolbwyntio ar wersi.'

Felly, thema Llywodraeth Cymru eleni—gwneud amser i ofalwyr ifanc oedd thema Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc Llywodraeth Cymru, i annog mwy o oedolion a gweithwyr proffesiynol i wrando ar yr heriau sy'n wynebu gofalwyr ifanc. Felly, yn fy swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda chymorth a chefnogaeth Ollie a'i gyngor ar hyn, rwy'n rhedeg rhaglen profiad gwaith nawr yn benodol ar gyfer gofalwyr ifanc. Felly, mae'n golygu ein bod yn gweithio o gwmpas eu hamserlen nhw. Os nad ydynt yn gallu dod, mae hynny'n hollol iawn. Gallant ddod i mewn, ac weithiau maent am ganolbwyntio ar fod yn ofalwr ifanc, a'r hyn yr hoffent ei wneud dros ofalwyr ifanc eraill; weithiau, maent eisiau dod i mewn ac nid ydynt eisiau siarad am fod yn ofalwr o gwbl, maent eisiau bod yn nhw eu hunain. Rwyf newydd gael e-bost dilynol gan rywun a wnaeth y rhaglen profiad gwaith gyda mi, sydd am wneud cyfweliad gyda mi yr wythnos nesaf ynglŷn â pholisi digidol; i'r cyfeiriad hwnnw y mae'n mynd gyda hyn. 

Felly, roeddwn eisiau dod â rhyw fath o obaith, mae'n debyg, i hyn hefyd, oherwydd mae gofalwyr ifanc yn hollol anhygoel, ac ni allem wneud hebddynt. Mae'n meddiannu eu bywydau'n llwyr, ond rwy'n credu eu bod yn troi atom i weld beth sy'n bosibl a'u bod yn gallu codi llais. A hoffwn annog pawb i estyn allan a gweld a allant helpu gofalwyr ifanc i allu cael mynediad at raglenni profiad gwaith, oherwydd yn aml ni allant wneud hynny, oherwydd y cyfyngiadau amser sydd ganddynt. Diolch. 

Diolch hefyd i Sioned am y cyfle jest i siarad am un funud. 

Rwyf innau hefyd eisiau siarad am ofalwyr ifanc, ac rwyf am eu hysbrydoli, oherwydd rwy'n adnabod gofalwr ifanc sydd bellach yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol—y Democratiaid Rhyddfrydol ffederal. Ed Davey yw hwnnw. Fe gafodd mam Ed Davey ganser pan oedd yn wyth oed. Roedd ei dad eisoes wedi marw. Pan oedd yn 13 oed, bu'n rhaid i'w fam fynd i'r ysbyty a bu farw. Ac rwy'n cofio'r stori hon: a'r stori oedd mai Ed, a oedd hefyd yn gofalu am ei frawd iau, oedd yr unig berson a oedd yn eistedd wrth ei gwely pan fu farw. Dychmygwch hynny: rydych chi'n 13 oed ac mae eich mam yn marw a chi yw'r unig berson yno. Beth bynnag yw eich gwleidyddiaeth, rwy'n credu y byddech chi'n cytuno bod Ed wedi mynd yn ei flaen i wneud pethau go anhygoel. Ef bellach yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae'n ofalwr eto nawr. Mae ei fab, John, yn 13 oed, ac mae gan John anableddau corfforol difrifol. Mae gan ei wraig, Emily, sglerosis ymledol bellach ac mae hi'n defnyddio cadair olwyn. Felly, mae gan Ed brofiad o fod yn ofalwr yn blentyn ac yn ofalwr fel oedolyn, a'r hyn y mae'n sôn amdano, o ran y gost, yw'r gost emosiynol sydd i hynny, a'r angen am gefnogaeth, a'r angen i bawb ohonom ofalu am ofalwyr, i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cefnogi, nad ydynt yn ynysig, eu bod yn rhan o'n cymuned, a'n bod yn eu hystyried yn werthfawr iawn, yn ariannol, ond hefyd yn emosiynol. Diolch yn fawr iawn. 

Diolch yn fawr iawn i Sioned am ddod â'r ddadl yma ger ein bron ni. A dwi eisiau gwneud cyfraniad byr iawn yn sôn ychydig am werth gofalwyr i'r gwasanaeth iechyd yn benodol, y gwerth ehangach yna. Dŷn ni'n gwybod yr ystadegau yna fod Carers UK a Phrifysgol Sheffield wedi dangos bod y gwaith mae'r gofalwyr yn ei wneud yn ddi-dâl yn arbed £10.6 biliwn i'r gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol, a hynny yn ôl yn 2021 yn unig, oherwydd y gwaith di-dâl maen nhw'n ei wneud. Dŷn ni'n gwybod, hebddyn nhw, buasai'r gwasanaeth iechyd ar ei liniau yn llwyr, yn 'collapse-o' mewn gwirionedd. Felly, dŷn ni'n hynod o ddiolchgar am y gwaith yna maen nhw'n ei wneud. 

Ac y tu hwnt i hynny, mae'r gwaith gofal maen nhw'n ei wneud yn arbed ac yn atal eu hanwyliaid rhag mynd i'r ysbyty oherwydd y cariad a'r gofal yna maen nhw'n ei ddarparu adref, sydd, yn y pendraw, yn arbed hyd yn oed rhagor i'r gwasanaethau gofal a iechyd. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod y gwaith mae gofalwyr yn ei wneud trwy eu cariad at eu hanwyliaid nhw, ond mae'n rhaid inni gydnabod hynny drwy weld y cynnydd yma yn y cyfraniadau ariannol maen nhw'n eu gael, drwy weld mwy o gydnabyddiaeth. A dwi'n edrych ymlaen i weld os ydyn ni'n mynd i gael mwy o gydnabyddiaeth i ofalwyr, oherwydd nhw sy'n achub ein gwasanaeth iechyd ni ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn i ti, Sioned.

19:10

Diolch yn fawr iawn i Sioned Williams am godi'r pwnc pwysig hwn heddiw ac am roi munud i mi heno i siarad ar y mater. Hoffwn ddiolch hefyd i Gofalwyr Cymru am eu cyfathrebiadau a'u cefnogaeth gyda'r ddadl hon dros yr wythnos ddiwethaf. Ac rwyf wedi bod yn darllen eu hadroddiad ar gyflwr gofalu 2023, a chefais syndod o ddarllen yn yr ystadegau ar gyfer gogledd Cymru ac awdurdodaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod 37 y cant o ofalwyr yn torri'n ôl ar hanfodion fel bwyd a gwresogi; mae gan 11 y cant o ofalwyr ôl-ddyledion gyda biliau cyfleustodau; mae 35 y cant yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd; mae 56 y cant o ofalwyr, sy'n nifer syfrdanol, yn cyfyngu ar weld ffrindiau a theulu; mae 62 y cant yn cyfyngu ar hobïau a gweithgareddau hamdden; mae 72 y cant yn poeni am y dyfodol yn gyffredinol. Mae'r rhain yn ffigurau sy'n destun pryder ynghylch gofalwyr yng ngogledd Cymru ac yn realiti trist i bobl sy'n aberthu cymaint i ofalu am y bobl fwyaf bregus. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau gofalwyr a'u bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cynnal safon byw da. Gadewch inni ysgwyddo ein cyfrifoldeb a gwneud popeth yn ein gallu i'n gofalwyr.

Diolch, Sioned, am y cyfle i siarad yn y Siambr heddiw am ofalwyr di-dâl.

Mae'r hinsawdd ariannol heriol a sut rydym yn cefnogi gofalwyr di-dâl i barhau yn eu rôl hanfodol yn bwysig iawn i mi. Mae gofalwyr di-dâl yn darparu cyfraniad enfawr i'r bobl y maent yn gofalu amdanynt ac i'n cymunedau ledled Cymru. Rwy'n teimlo'n hynod falch o'r holl waith y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud ledled Cymru, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu. Ac rydym yn gwybod bod yna heriau sy'n effeithio'n anghymesur ar ofalwyr di-dâl.

Cynyddodd pandemig COVID-19 y pwysau ar ofalwyr di-dâl a lleihau'r cymorth sydd ar gael iddynt a'u hanwyliaid, oherwydd y cyfyngiadau a oedd ar waith ar y pryd. Ac rwyf wedi cael llawer o gyfarfodydd â gofalwyr di-dâl sydd wedi siarad am y straen o beidio â chael unrhyw wasanaethau i'w helpu yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mewn rhai achosion, mae gwasanaethau wedi bod yn araf iawn yn dychwelyd. A dyna un o'r materion sydd wedi ei ddwyn i fy sylw ar sawl achlysur gan ofalwyr di-dâl, nad yw'r gwasanaethau wedi dod yn ôl yn y ffordd yr oeddent yno cyn y pandemig, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n ceisio mynd i'r afael ag ef.

Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i leddfu'r pwysau mewn gofal cymdeithasol i oedolion, gan ein bod yn gwybod bod problemau staffio a rhestrau aros yn effeithio ar y rhai sydd angen gwasanaethau gofal a gofalwyr di-dâl. Felly, mae'r materion ehangach yr ydym yn eu trafod yn aml yn y Siambr hon yn cael effaith anghymesur ar ofalwyr di-dâl. Mae'r argyfwng costau byw wedi cael effaith sylweddol ar ofalwyr di-dâl, sy'n fwy tebygol o fod mewn aelwydydd incwm isel. Maent yn wynebu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r bobl y maent yn gofalu amdanynt yn dda: costau ynni, biliau bwyd a chostau cludiant uwch, fel y nododd Sioned yn ei haraith. Soniodd hefyd ein bod wedi dosbarthu taliad o £500. Aeth hwn i bron i 44,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, a'r bwriad oedd lleddfu'r caledi ariannol a brofwyd gan ofalwyr di-dâl o ganlyniad i'r pandemig a'r argyfwng costau byw. Felly, cyrhaeddodd hwnnw 44,000 o ofalwyr di-dâl.

Rydym hefyd yn parhau â'n cronfa gymorth i ofalwyr, ac rwy'n bwriadu i honno barhau, cyn belled â'n bod yn gallu fforddio ei pharhau, oherwydd rwy'n credu bod gofalwyr di-dâl yn flaenoriaeth, fel y dywedwch. Ac ers ei lansio, mae'r gronfa wedi helpu 24,000 o ofalwyr di-dâl ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol sylfaenol ac i gael gafael ar gyngor a gwybodaeth ariannol. Ac wrth gwrs, nid yw defnydd o'r gronfa hon yn ddibynnol ar fod yn derbyn y lwfans gofalwyr, oherwydd, wrth gwrs, mae'r lwfans gofalwyr, fel rydych chi wedi'i ddweud, yn eithaf isel, ac mae'n rhoi mynediad i chi at rai budd-daliadau eraill, ond nid yw'n—. Mae yna lawer o bobl nad ydynt yn gymwys i gael y lwfans gofalwyr ond sydd angen help yn yr un modd, ac rwyf wedi gweld bod cael y cynllun ychwanegol hwn wedi gallu eu cyrraedd. Ac yn ehangach, rydym wedi darparu ystod o fesurau ers dechrau'r argyfwng costau byw, a'r bwriad yw targedu'r rhai sydd fwyaf o angen cymorth yn y cyfnod anodd hwn, ac yn amlwg mae hynny'n cynnwys gofalwyr di-dâl. Mae dros £3 biliwn wedi'i ddyrannu i helpu gyda chost biliau hanfodol, fel bwyd a thanwydd, yn ogystal â chymorth brys i aelwydydd mewn argyfwng ariannol.

Fel y gwyddoch, mae'r sioc chwyddiant fis Hydref diwethaf yn golygu bod setliad Llywodraeth Cymru yn 2023-24 hyd at £900 miliwn yn is mewn termau real na'r disgwyl adeg adolygiad o wariant 2020-21. Felly, rydym dan bwysau ariannol mawr. Ond er gwaethaf y pwysau cyllidebol, rydym yn parhau â'n cefnogaeth i'r cyflog cymdeithasol, y polisïau a'r rhaglenni sy'n helpu i gadw arian ym mhocedi dinasyddion Cymru, ac mae hyn yn cynnwys cynlluniau fel ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor gwerth £244 miliwn a'n hymrwymiad i bresgripsiynau am ddim, nad ydynt yn cael eu darparu dros y ffin wrth gwrs. I bobl sy'n profi anawsterau ariannol eithafol, eleni rydym wedi darparu £38.5 miliwn o'n cronfa cymorth dewisol, ac rydym hefyd yn cefnogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i helpu aelwydydd sy'n talu am eu tanwydd ymlaen llaw. 

Un o'n prif ysgogiadau ar gyfer cefnogi aelwydydd y mae'r argyfwng yn effeithio arnynt yw pwyslais ar incwm, i helpu pobl i gael gwybod am yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl i'w gael, a chael mynediad ato. Ym mis Rhagfyr y llynedd, lansiwyd ein trydedd ymgyrch hawlio budd-daliadau i godi ymwybyddiaeth pobl o'r hyn y mae ganddynt hawl i'w gael. Ers hynny, mae cynghorwyr 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' wedi helpu dros 32,500 o bobl gyda dros 76,800 o faterion, ac wedi cefnogi pobl i hawlio dros £11 miliwn mewn incwm ychwanegol. Rwy'n credu bod yr ymgyrchoedd hyn i sicrhau bod pobl yn gwneud y mwyaf o'r incwm y mae ganddynt hawl iddo yn hynod o bwysig. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol yn ddiweddar a fydd yn cadw 71 o gynghorwyr 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yn eu gwaith tan fis Mawrth 2024 i helpu i fodloni'r galw a gynhyrchir gan yr argyfwng costau byw. Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu drwy gronfa gynghori sengl Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Y llynedd, roedd dros 83,000 o bobl a oedd yn defnyddio gwasanaethau'r gronfa yn dod o grŵp blaenoriaeth, gyda 64,000 yn hunanadrodd eu bod yn unigolion anabl neu fod ganddynt gyflwr iechyd hirdymor.

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid statudol a'r sefydliadau gofalwyr cenedlaethol i ysgogi cefnogaeth a gwelliannau pellach yn ein cynnig i ofalwyr di-dâl. Ac wrth gwrs, mae rôl y gofalwr di-dâl yn gwbl hanfodol pan fydd yr unigolyn y mae'n gofalu amdanynt yn mynd i'r ysbyty neu'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Pan ddechreuais yn y swydd hon gyntaf, cyfarfûm â grŵp o ofalwyr di-dâl a dyna oedd un o'r pethau mawr y gwnaethant eu dwyn i fy sylw—y newid pan fyddai eu hanwyliaid yn mynd i'r ysbyty neu'n dod allan a bod hwnnw'n gyfnod allweddol iddynt. Felly, mae ein canllawiau yn nodi'r ymgysylltiad, yr wybodaeth a'r cymorth y gall gofalwyr di-dâl ei ddisgwyl ar yr adegau hyn. Yn amlwg, mae cyfranogiad gweithredol y gofalwr di-dâl yn hanfodol i lesiant y claf, ac i sicrhau llif trwy ein system ysbytai i ganiatáu i gleifion gael eu rhyddhau'n amserol. Rydym wedi darparu cymorth pellach o £1 filiwn i fyrddau iechyd eleni i sicrhau bod y cymorth hwn i ofalwyr di-dâl ar waith. Rydym hefyd yn gwybod ei bod mor bwysig i ofalwyr allu cael seibiant o'u rôl ofalu, oherwydd y mater arall y mae gofalwyr yn ei ddwyn i fy sylw'n gyson yw bod angen seibiant arnynt. Ac felly, yn rhan o ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu, rydym wedi sefydlu cynllun seibiant byr arloesol. Rydym wedi buddsoddi £9 miliwn ychwanegol ar gyfer y cyfnod 2022-25, a'r nod yw cynorthwyo 30,000 o ofalwyr di-dâl i gymryd seibiant o ofalu a chael mwy o gyfleoedd i ymlacio, cymdeithasu a dilyn eu diddordebau eu hunain, oherwydd mae bywyd ochr yn ochr â gofalu yn hanfodol i ofalwyr a hefyd yn eu galluogi i barhau i ofalu, yn eu galluogi i ddal ati, oherwydd, fel chi, Sioned, rwyf innau wedi cael profiad o fod yn ofalwr ac rwy'n gwybod pa mor hanfodol yw cael y cyfnodau hynny o seibiant.

Yn gynharach eleni, cyhoeddais fod rhan o'r cyllid hwn wedi'i ddefnyddio i sefydlu cynllun grant trydydd sector o'r enw 'Amser'. Bydd hwn yn gwella'r ystod o opsiynau seibiant byr ar gyfer gofalwyr di-dâl o bob oed, ac mae'r gronfa seibiant byr hon yn ychwanegol at yr hyn y mae awdurdodau lleol eisoes yn ei ddarparu i ganiatáu seibiant i ofalwyr di-dâl. Y bwriad yw y bydd y cyfleoedd mwy personol a chreadigol a ddatblygir drwy'r gronfa hon yn cael eu mabwysiadu gan awdurdodau lleol yn rhan o'u darpariaeth arferol. Nawr, mae'r gronfa seibiant byr ar agor i ofalwyr ifanc hefyd, ac rwy'n falch iawn fod gofalwyr ifanc a bod Sarah a Jane hefyd wedi sôn am achosion unigol penodol o ofalwyr ifanc. Cyfarfûm â llawer o ofalwyr ifanc ym mis Awst pan ymwelais â'r ŵyl gofalwyr ifanc dri diwrnod o hyd a gynhaliwyd yn Llanfair-ym-Muallt. Daeth 330 o ofalwyr ifanc a'u cefnogwyr ynghyd i ymlacio, datblygu rhwydweithiau cymheiriaid ac i gael cefnogaeth, ac roedd yr adborth o'r digwyddiad hwn yn hynod gadarnhaol. Yr hyn a ddywedwyd wrthyf eto gan ofalwyr ifanc oedd eu bod eisiau gŵyl—roeddent eisiau rhywbeth fel hyn, gŵyl, lle gallent wneud pethau, gallent ymuno â'i gilydd, ac rwyf mor falch fy mod i wedi gallu cychwyn hyn. Dyma'r ail flwyddyn i ni gael hyn bellach, ac rwy'n gobeithio y byddem yn gallu parhau â hyn, oherwydd dyma beth oeddent ei eisiau. Roeddent eisiau cael hwyl, roeddent eisiau cael amser gwych, ac fe wnaethant.

Ond er gwaethaf yr enghreifftiau hyn o waith cadarnhaol sydd ar y gweill ac y bwriadwn ei barhau, rwy'n derbyn yn llwyr fod llawer mwy y mae angen i ni ei wneud. Fe wnaethom gomisiynu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gynnal adolygiad cyflym—

19:20

Roeddwn eisiau gofyn i chi'n benodol, gan ichi sôn am 'Amser' yno, ac unwaith eto, pan oeddwn yn edrych ar rai o'r gwefannau sy'n darparu'r grantiau hyn, roedd y ceisiadau i gyd ar gau—roedd yr holl ffurflenni ar gau. Ac fel y soniais, roedd y grant cymorth i ofalwyr, roedd y cais hwnnw ar gau. Byddai'n dda gennyf pe gallech chi edrych ar hynny. Rwy'n gwybod eu bod yn grantiau sy'n cael eu harwain gan y galw. Felly, rwy'n rhagdybio bod—. Roedd yn £4 miliwn, onid oedd, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf. Felly, a yw'r arian hwnnw wedi dod i ben, neu pam mae'r ceisiadau grant hyn ar gau?

Wel, nid oeddwn yn gwybod ei fod wedi dod i ben, ond yn sicr fe edrychaf ar hynny a dod â'r wybodaeth i chi. Diolch am dynnu fy sylw at hynny.

Felly, beth bynnag, fe wnaethom ofyn i'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol gynnal adolygiad cyflym o hawliau gofalwyr di-dâl yn ystod ac ar ôl y pandemig, ac mae'r adroddiad, sydd bellach wedi'i gyhoeddi, yn tynnu sylw at y nifer cymharol isel sy'n manteisio ar asesiadau anghenion gofalwyr, y sonioch chi amdanynt yn eich araith, a'r amseroedd aros a brofir gan lawer o ofalwyr di-dâl sydd wedi derbyn y cynnig i gael asesiad. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir nad yw gweithwyr proffesiynol a gofalwyr di-dâl bob amser yn gwbl ymwybodol o hawliau gofalwyr, ac mae hynny'n cynnwys gweithwyr proffesiynol yn ogystal â gofalwyr di-dâl eu hunain. Rwy'n derbyn yn llwyr nad yw pob gofalwr di-dâl eisiau asesiad, ond rwyf hefyd yn derbyn, yn aml, nad yw'r rhai sydd eisiau asesiad yn gallu ei gael mewn modd amserol. Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â'r prinder gweithwyr cymdeithasol i gynnal asesiadau, ac un o'r ffyrdd yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â hyn—mae yna arwyddion gobeithiol—yw ein bod wedi rhoi £10 miliwn tuag at gael mwy o fwrsariaethau i weithwyr cymdeithasol dan hyfforddiant, ac mae'n ymddangos bod mwy o bobl wedi gwneud cais i ddilyn y cwrs ym mis Medi eleni, felly, mae hynny'n galonogol iawn. Cawn weld sut mae'n mynd. Rwy'n gwybod y bydd yn cymryd rhai blynyddoedd i hyfforddi fel gweithiwr cymdeithasol, ond dyna un o'r ffyrdd yr ydym yn ceisio mynd i'r afael â chael mwy o weithwyr cymdeithasol i mewn, am mai prinder gweithwyr cymdeithasol sydd wedi achosi rhai o'r anawsterau hyn.

Beth bynnag, rwyf wedi gofyn i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr di-dâl sefydlu gweithgor i fapio canfyddiadau'r adolygiad yn erbyn cynllun cyflawni presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr. Felly, rwyf am sicrhau mai'r hyn a wnawn yw'r gorau y gallwn ei wneud gyda'r adnoddau sydd gennym, felly rydym yn mynd i edrych ar hynny i gyd eto a'i adolygu. Ac mae'r grŵp cynghori yn darparu profiad proffesiynol a phrofiad byw amhrisiadwy, oherwydd credaf mai pwynt arall a wnaeth Sioned oedd pa mor bwysig yw sicrhau, gyda gofalwyr ifanc, y gofalwyr a'r rhai sy'n derbyn gofal, y dylai eu lleisiau fod yn gwbl ganolog yn yr hyn a wnawn, ac rwy'n benderfynol iawn ein bod yn gweithio mewn ffordd gydgynhyrchiol a bod y grŵp cynghori yn un o'r ffyrdd allweddol o wneud hynny. A bydd y gweithgor a sefydlwyd gennym yn ein cynorthwyo i ailflaenoriaethu'r gweithgareddau a'r ffrydiau gwaith a gefnogwn.

Rwyf am i bob un ohonom godi ein hymwybyddiaeth o ofalwyr, gan eu galluogi i wybod mai dyna ydynt, a'u helpu i wybod am eu hawliau fel gofalwyr di-dâl a chael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Unwaith eto, mae'r gofalwyr ifanc yn aml mewn cartrefi sy'n ddibynnol ar fudd-daliadau lles ac efallai y bydd ganddynt fwy o rôl yn rheoli cyllid na phlant a phobl ifanc eraill eu hoedran. Nid oes amheuaeth fod yn rhaid iddynt ysgwyddo cyfrifoldebau mewn ffordd na fydd yn rhaid i bobl ifanc eraill ei wneud. Mae Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi derbyn cyllid o £1.4 miliwn rhwng 2020 a 2025 i weithredu prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr ar y cyd. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar nodi, parchu a chefnogi gofalwyr ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hefyd yn hanfodol fod gofalwyr di-dâl yn cael eu cefnogi i ofalu am eu hiechyd a'u lles. Rwy'n credu bod iechyd a lles y gofalwyr eu hunain yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno. Rydym yn ariannu Gofalwyr Cymru i gyflawni eu prosiect lles a grymuso gofalwyr, gyda £1.3 miliwn yn cael ei ddyfarnu ar gyfer y cyfnod 2020-25, a bydd y prosiect hwn yn hysbysu, cefnogi a grymuso gofalwyr di-dâl i ymdopi â'u rolau gofalu tra byddant hefyd yn gofalu am eu hiechyd a'u lles eu hunain.

Nid wyf yn bychanu maint yr her, ac rwyf wedi sôn am rai o'r pethau yr ydym yn eu gwneud neu'n bwriadu parhau i'w gwneud, ond rydym mewn cyfnod anodd iawn. I fynd ymlaen at gefnogaeth ariannol ddigonol, mae'n amlwg yn rhan hanfodol o gefnogi gofalwyr di-dâl. Rydym yn gwybod, fel y dywedoch chi, Sioned, fod budd-daliadau lles wedi'u cadw'n ôl ac mae lefel y lwfans gofalwyr yn denu llawer iawn o feirniadaeth gan ofalwyr di-dâl a'u heiriolwyr, ac rydym wedi codi hyn yn flaenorol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, gan brotestio a'u hannog i'w gynyddu. Rwy'n bwriadu gwneud hynny eto, ac mae'r ddadl hon, rwy'n credu, wedi helpu i dynnu sylw at y mater, oherwydd dyna'r prif fudd-dâl ac mae'n rhy isel. Wrth gwrs, fel y dywedoch chi, rwy'n credu, pan fydd rhywun yn derbyn pensiwn y wladwriaeth ac mae'n fwy na'r lwfans gofalwyr, efallai na fyddant yn cael y lwfans gofalwyr. Felly, yn sicr nid yw hyn yn helpu gofalwyr di-dâl i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Felly, hoffwn ddweud bod hwn yn faes sy'n bwysig iawn yn fy marn i, a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno'r ddadl hon. Ac fel y dywedais, diolch i Sarah a Jane am godi mater gofalwyr ifanc, ac i Mabon a Gareth am gyfrannu at y mater. Fel y dywedodd Sarah, rydym eisiau gobaith, ac rwyf innau eisiau bod yn gadarnhaol hefyd, oherwydd mae'r gofalwyr sy'n gofalu am eu hanwyliaid eisiau gwneud hynny, maent yn falch o'i wneud, a'n gwaith ni fel Llywodraeth, fel cymuned, fel dinasyddion ac fel Senedd yw gwneud popeth yn ein gallu i'w helpu yn y rôl honno. Ond rwy'n credu, fel y dywedodd Sarah, y bydd gofalwyr ifanc yn mynd ymlaen i gael dyfodol gwych, fel Ed Davey, ac mae'n rhaid inni feddwl yn gadarnhaol iawn oherwydd weithiau pan fyddwn yn trafod gofalwyr, bron na chawn ein llorio gan yr hyn sy'n ymddangos fel sefyllfa gwbl ofidus, ond mae yna atebion ac mae'n golygu bod yn rhaid inni eu gwneud yn flaenoriaeth. Hoffwn ddiolch i chi a gorffen drwy ddiolch yn ddiffuant i'r holl ofalwyr di-dâl. Felly, diolch yn fawr.

19:25

Daeth y cyfarfod i ben am 19:28.