Y Cyfarfod Llawn
Plenary
07/11/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf y prynhawn yma eto fydd y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Hefin David.
1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i adfer tomenni glo yn ddiogel yng Nghaerffili? OQ60191
Wel, diolch i Hefin David am y cwestiwn, Llywydd. Rydyn ni’n rhoi rhaglen arolygu a chynnal a chadw ar waith ac yn moderneiddio’r fframwaith deddfwriaethol. Dyma sail ein rhaglen ar gyfer sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghaerffili a ledled Cymru.
Diolch, Prif Weinidog. Yn fy etholaeth i, ceir tair tomen lo categori D sy'n eiddo i'r awdurdod lleol, sef Bedwas yn Nhretomas, glofa ganolog gogledd Bedwas a glofa gogledd Bedwas. Maen nhw wedi'u categoreiddio fel y risg uchaf. Nid oes unrhyw risg o berygl uniongyrchol ohonyn nhw, ond mae angen ei harchwilio yn rheolaidd, ac mae'r awdurdod lleol wedi fy sicrhau bod hynny'n digwydd. Fel y dywedais i, mae angen i mi bwysleisio nad oes unrhyw bryderon diogelwch uniongyrchol, ond mae swyddogion cyngor Caerffili wedi ffurfio rhan allweddol o'r grŵp technegol cynghori ar ddiogelwch tomenni glo dan arweiniad Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i gefnogi'r adolygiad o Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969, mewn partneriaeth â Chomisiwn y Gyfraith. Beth all deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol i gywiro ac adfer tomenni glo sydd mewn perygl? A hefyd, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried gweithio gyda chwmnïau preifat a allai roi mantais i'r sector cyhoeddus o ran adfer am gost lawer is?
Wel, Llywydd, diolch i Hefin David am y pwyntiau pellach yna. Mae'n iawn, wrth gwrs, bod gan Gaerffili grynodiad penodol o domenni glo segur. Mae gennym ni 40 y cant o'r holl domenni glo segur yn y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru—dros 2,500 ohonyn nhw—ac rydyn ni'n gwybod llawer iawn mwy amdanyn nhw o ganlyniad i waith y grwpiau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am gymorth swyddogion cyngor Caerffili i'n helpu i baratoi ar gyfer y Bil diogelwch tomenni segur, a fydd yn dod gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf. O ganlyniad i'r holl waith hwnnw, ceir rhaglen llawer mwy trylwyr o archwiliadau diogelwch tomenni erbyn hyn. Mae'r Awdurdod Glo wedi cynnal 92 o archwiliadau tomenni glo y gaeaf eisoes ers iddo ddechrau ei waith ar 9 Hydref, a bydd hynny yn cynnwys tomenni yn etholaeth Caerffili. Ceir dwy set wahanol o bethau, Llywydd, yr ydym ni'n eu gwneud. Bydd y Bil yn sefydlu system newydd sydd y gyntaf o'i math yn y byd o oruchwylio tomenni segur yma yng Nghymru, gan wneud y system yn addas ar gyfer cyfnod o newid yn yr hinsawdd. Ochr yn ochr â hynny, ac nid yn ddibynnol ar y Bil ei hun, rydym ni'n parhau i fuddsoddi £44.4 miliwn a ddarperir i awdurdodau lleol ar gyfer cynnal ac adfer tomenni glo yng Nghymru. Rydym ni'n canolbwyntio ar y bwlch sgiliau—mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei ddysgu gan ein cydweithwyr awdurdod lleol, bod angen i chi adeiladu capasiti awdurdodau lleol ar gyfer archwilio ac adfer y tomenni glo hynny—ac rydym ni'n defnyddio technoleg newydd ar gyfer monitro ac archwilio'r 70 tomen â'r sgoriau uchaf yng Nghymru. Bydd hynny yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu manteisio yn y dyfodol ar y posibiliadau technolegol newydd hynny a fydd yn helpu i gadw cymunedau'n ddiogel.
O ran cyfranogiad cwmnïau sector preifat yn y gwaith o adfer tomenni, nid oes gennym ni unrhyw wrthwynebiad, wrth gwrs, i hynny. Byddai'n rhaid iddyn nhw ddilyn yr un prosesau ag unrhyw sefydliad arall sy'n ceisio gwneud gwaith adfer, ac mae hynny fel rheol yn golygu cais cynllunio i'r awdurdod lleol, i wneud yn siŵr y bydd pa bynnag waith sydd wedi'i gynllunio yn cyfrannu'n wirioneddol at wella'r ardal, oherwydd mae adfer tomenni yn dod â chyfleoedd economaidd yn ogystal â chyfleoedd amgylcheddol yn ei sgil, ac mae'r system ar waith i wneud yn siŵr y gellir casglu'r manteision hynny ar gyfer cymunedau lleol.
Prif Weinidog, diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Roeddwn i'n gwrando'n astud iawn ar yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud wrth yr Aelod. Mae'n amlwg eich bod chi wedi darllen fy meddwl, gan fy mod i'n mynd i ddechrau drwy ddweud bod bron i 2,500 o domenni glo ledled Cymru, ac rwy'n siŵr y gallwn ni i gyd gofio'r digwyddiadau gwirioneddol ysgytwol yn Tylorstown yn ystod storm Dennis. Ers hynny, mae cymunedau ar hyd a lled y wlad sy'n byw ger tomenni glo wedi bod yn byw mewn ofn. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r nifer fawr o domenni glo segur sydd gennym ni, ac eto rydym ni'n dal i aros i gamau cadarn gael eu cymryd, er gwaethaf i adolygiad o ddeddfwriaeth tomenni glo segur gychwyn dair blynedd yn ôl. Prif Weinidog, gyda'r gaeaf ar y gorwel, mae'r ymdeimlad o ofn a phryder mewn cymunedau yn mynd i gael ei ddwysáu'n fawr, felly pryd allwn ni ddisgwyl gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu o'r diwedd a chyflwyno deddfwriaeth diogelwch tomenni glo yma yn Senedd Cymru?
Llywydd, bydd y ddeddfwriaeth honno yn dod gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf. Bydd yn mynd yn ehangach na diogelwch tomenni glo gan y bydd yn edrych ar y nifer o fathau eraill o domenni segur sydd, yn anffodus, yn nodweddiadol o gyfranogiad Cymru yn y chwyldro diwydiannol, ac, yn achos mwyngloddiau metel, yn mynd yn ôl ganrifoedd lawer cyn hynny hefyd. Nid yw Llywodraeth Cymru, Llywydd, wedi derbyn miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU i'w hadfer—dim o'r fath. Mewn gwirionedd, rydym ni'n dal i fod mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch y cyfraniad yr ydym ni'n ei gredu a ddylai ddod i Gymru yn briodol ar gyfer yr hyn sy'n ddiwydiant etifeddiaeth. Mae'r anawsterau y mae'n rhaid i ni eu hunioni yn rhagflaenu datganoli o bell, ac mae'r datganiad polisi ariannu, rwy'n credu, yn eglur, pan fydd rhwymedigaethau yn codi ar ôl datganoli sydd wedi'u gwreiddio mewn amgylchiadau cyn datganoli, bod Llywodraeth y DU yn dal i fod â chyfrifoldeb i gyfrannu at ariannu'r rhwymedigaethau hynny. Rydyn ni wedi gwneud dim—dim—cynnydd o gwbl gyda Llywodraeth y DU gyda'r ddadl honno hyd yma, ond rydym ni'n sicr yn parhau i'w gwneud.
Mae'r tomenni glo yn ein cymoedd yn rhywbeth gweledol sy'n ein hatgoffa bob dydd o sut rydyn ni wedi cael ein hecsbloetio, sut y gwnaeth ein cymunedau yn aml dalu pris marwol ar gyfer glo, ac, er i'r cyfoeth gael ei gludo'n syth allan o'r glannau hyn, cafodd y baw a'r budreddi eu gadael ar ochrau ein bryniau i staenio ein gorwelion. Ond maen nhw hefyd yn gallu cael eu gweld gan bobl, ac mae'r niwed seicolegol o boeni am domenni yn llithro mewn glaw trwm yn pwyso'n drwm ar lawer o bobl. Prif Weinidog, nid yw llawer o domenni yn peri unrhyw risg o lithro a dim ond dolur llygad ydyn nhw, ond fy mhrif bryder yw y tomenni sydd wir mewn perygl o ddymchwel hyd yn oed yn rhannol. Nawr, rwy'n gwybod ein bod ni'n disgwyl datganiad yr wythnos nesaf a fydd, hyderaf, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba waith sydd eisoes ar y gweill i gatalogio a dadansoddi unrhyw risg sy'n cael ei pheri gan domenni yn llithro. Mae hynny'n hanfodol bwysig, ac mae cost iddo. A allwch chi ddweud wrthyf i, os gwelwch yn dda, pa gam y mae eich Llywodraeth wedi ei gyrraedd mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â nhw'n talu tuag at unioni'r cam hwn a wnaed, fel y dywedwch chi, ddegawdau cyn dechrau datganoli? Mae'r tomenni glo hyn yn etifeddiaeth o esgeulustod a dirmyg Llywodraethau San Steffan i'n cymoedd. Mae'n rhaid iddyn nhw dalu i'w clirio.
Wel, rwy'n sicr yn cytuno â Delyth Jewell, Llywydd, bod hanes Cymru yn un o ecsbloetio ein hadnoddau naturiol, lle nid yn unig yr echdynnwyd glo ond echdynnwyd cyfoeth ac fe'i cymerwyd ymhell y tu hwnt i lannau Cymru, gan adael y cymunedau a gynhyrchodd y cyfoeth hwnnw ar ôl i ymdopi â'r canlyniadau. Dyna pam mae'r Aelod yn llygad ei lle, Llywydd, bod rhwymedigaeth ar Lywodraeth y DU i gynorthwyo i unioni camau'r gorffennol. Nid ydym ni'n disgwyl iddyn nhw ei wneud ar eu pennau eu hunain; mae Llywodraeth Cymru eisoes, fel y dywedais i, yn sicrhau bod £44.4 miliwn ar gael at y dibenion hyn. Yr hyn yr ydym ni'n dymuno i'r Trysorlys ei gytuno yw rhaglen hirdymor, wedi'i hariannu dros ddegawd. Dydyn ni ddim yn disgwyl symiau enfawr o arian mewn unrhyw flwyddyn unigol, ond yn gronnol, dros ddegawd, gallem ni ddechrau gyda'r tomenni hynny lle mae'r risg fwyaf, ac yna gweithio ein ffordd yn raddol i lawr y rhestr honno—mae'r rhestr, fel y dywedais i, mewn cyflwr llawer iawn gwell nag yr oedd cyn digwyddiad Tylorstown, y cyfeiriodd Natasha Asghar ato—ac yna troi'r pethau hynny, sy'n taflu cysgod dros gymunedau heddiw ac yn creu ofn ym mywydau pobl sy'n byw'n gyfagos, yn bethau a all fod yn asedau iddyn nhw.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith i liniaru llifogydd lleol yng nghanolbarth Cymru? OQ60194
Diolch i Russell George, Llywydd, am hynna. Rydym ni wedi darparu dros £75 miliwn ar gyfer gweithgarwch rheoli perygl llifogydd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda £5.25 miliwn mewn refeniw a £12 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i bob awdurdod llifogydd lleol arweiniol, gan gynnwys y rhai yn y canolbarth.
Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Wrth gwrs, un o'r ardaloedd arwyddocaol i helpu i liniaru llifogydd yn y canolbarth yw rheoli cronfeydd dŵr Clywedog ac Efyrnwy yn well. Ni fyddai'n datrys problemau yn gyfan gwbl, ond byddai'n gwneud hynny i raddau helaeth. Nawr, rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhan o'r gwaith o ran edrych ar y posibilrwydd o wella Clywedog i fod â mwy o gapasiti yn ystod misoedd y gaeaf. Felly, ceir y mater hwnnw, a hefyd ceir y mater o archwilio'r amseroedd tynnu i lawr i ganiatáu i ddŵr gael ei dynnu i lawr i roi llai o gyfle wedyn o weld digwyddiadau llifogydd ledled y canolbarth. I mi, mae'n bwysig bod asiantaethau ar ddwy ochr y ffin yn cydweithio—Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr, a hefyd Llywodraethau'r DU a Chymru hefyd, oherwydd bydd unrhyw waith sy'n cael ei wneud o fudd i ganolbarth Cymru a hefyd ardaloedd eraill i lawr yr afon yn Lloegr hefyd. Felly, rwy'n gobeithio, Prif Weinidog, y gallwch chi gadarnhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru a chithau yn gweithio gyda chymheiriaid dros y ffin a, lle ceir cyfle, wrth gwrs, am gyllid gan Asiantaeth yr Amgylchedd i helpu gwaith cydnerthedd yng nghanolbarth Cymru i helpu i liniaru llifogydd hefyd.
Wel, diolch i Russell George am hynna, ac rwy'n gwybod bod ganddo ddiddordeb hirsefydlog yn rheolaeth cronfeydd dŵr Clywedog ac Efyrnwy. Rwy'n gwybod ei fod wedi codi rhai o'r union bwyntiau y mae wedi eu codi heddiw yn ôl yn ystod y llifogydd yn 2020. Felly, gadewch i mi gymryd y ddau fater a gododd yn eu tro. Rwy'n dal i gredu bod problem yn ymwneud â thynnu dŵr o'r cronfeydd hynny, ac mae'n ddealladwy bod pobl ymhellach i lawr yn credu, ar adegau o lawiad uchel, os yw dŵr yn cael ei ollwng o'r argaeau, ei fod yn ychwanegu at berygl llifogydd yn y cymunedau hynny. Ac mae'n ymddangos i mi, gyda soffistigedigrwydd rhagolygon modern, y dylid gwneud mwy i baratoi ar gyfer digwyddiadau glawiad uchel. Dylid rhyddhau'r dŵr nid ar ôl y digwyddiad glawiad ond cyn iddo ddigwydd er mwyn creu'r capasiti ychwanegol hwnnw yng Nghlywedog ac yn Efyrnwy. Ac nid wyf i'n credu bod tystiolaeth ddigon da eto bod Asiantaeth yr Amgylchedd, sy'n gyfrifol am yr agwedd honno ar y cronfeydd dŵr yn y pen draw, yn gwneud digon i wneud yn siŵr bod pethau'n cael eu paratoi cyn tywydd garw yn hytrach nag ymateb i dywydd garw pan fydd yn digwydd.
O ran gwella capasiti'r cronfeydd dŵr, darllenais o bryd i'w gilydd ddyfalu yn hytrach nag unrhyw beth mwy pendant am gynlluniau i godi lefel yr argae fel y gallai ddal mwy o ddŵr yn ddiogel. Yn gwbl sicr, byddwn i'n disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn rhan o unrhyw drafodaethau o'r fath. Mae problemau. Rwy'n cofio Adam Price yn codi'r rhain gyda mi yn benodol am y cronfeydd dŵr hynny, am ble fyddai'r dŵr hwnnw yn mynd wedyn a sut y gallwn wneud yn siŵr bod buddiannau Cymru yn cael eu hamddiffyn yn briodol pe bai cynlluniau ar gyfer cynyddu capasiti'r cronfeydd dŵr ac i wneud defnydd o'r dŵr a gesglir ar gyfer cymunedau eraill y tu allan i Gymru. Nid oes gen i unrhyw anhawster gyda hynny, cyn belled ag y bo adnoddau Cymru yn cael eu cydnabod yn briodol ac, yn ôl yr angen, yn cael eu gwobrwyo.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Diolch i Russell George am godi'r mater hwn. Mae trigolion ar draws y canolbarth, gan gynnwys, i mi, drigolion yn Llanandras, yn Llanfechain, yn Abercraf, wedi codi pryderon ynghylch llifogydd yn eu hardaloedd, ac mae'n rhaid i ni i gyd gydnabod y rhan y mae'r argyfwng hinsawdd yn ei chwarae mewn llifogydd, a'n rhan, a dweud y gwir, yn anffodus yng nghyflymu hynny. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'u staff wedi gwneud gwaith anhygoel ar draws storm Babet a storm Ciarán o ran rheoli ac ymateb i argyfyngau. Ond, un o'r materion a godir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yw eu hadnoddau. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw tua 25 y cant yn is na'r hyn a fyddai'r lefel orau bosibl. Felly, meddwl oeddwn i tybed beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud er mwyn sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'u staff gwych yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i reoli llifogydd, nid yn unig yn y canolbarth a'r gorllewin, ond ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Jane Dodds am gydnabod yr ymdrechion rhyfeddol y mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu gwneud, nid yn unig yn y stormydd diweddaraf, ond pryd bynnag y mae cymunedau mewn perygl. Dyma'r unigolion yr ydych chi'n eu gweld allan yna ar lawr gwlad yn clirio pethau, yn gwneud yn siŵr bod cwlfertau yn gweithio ac yn y blaen, ac roedden nhw'n gweithio'n galed dros ben yn ystod yr wythnos ddiwethaf, pan ddigwyddodd y stormydd diweddar hyn. Ac rwy'n diolch i Jane Dodds hefyd am gydnabod bod y buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud drwy Cyfoeth Naturiol Cymru wedi atal llifogydd. Rydyn ni'n canolbwyntio, yn gwbl briodol, ar ble mae'r effeithiau gwaethaf yn cael eu teimlo—ac roedd effeithiau a deimlwyd ym Mhowys ac mewn rhannau eraill o Gymru yn y ddwy storm ddiweddar—ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif na ddioddefodd dros 1,000 o eiddo lifogydd yn y stormydd hynny oherwydd y buddsoddiad y maen nhw wedi gallu ei wneud. Mae pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn teimlo effaith dros ddegawd o gyni cyllidol, gyda llai o arian i wneud yr holl bethau y mae angen i ni eu gwneud. Mae'r Gweinidog wedi gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar eu cyllideb gyfan i wneud yn siŵr bod y buddsoddiadau yn cyd-fynd mor agos ag y gallan nhw â blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru a chymunedau Cymru, ac mae atal llifogydd—boed hynny'n atal llifogydd arfordirol neu'n atal llifogydd mewn afonydd—i fyny ar frig y rhestr o bethau yr ydym ni'n gwybod sy'n bwysig.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod o ohebiaeth ddiweddar a welwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig y bu'n ofynnol i wahanol Lywodraethau rannu negeseuon WhatsApp a negeseuon electronig eraill a ddefnyddiwyd i gyfleu deialog rhwng swyddogion a Gweinidogion yn ystod argyfwng COVID. Mae ymchwiliad COVID y DU wedi cyflwyno gorchymyn adran 21 i Lywodraeth yr Alban o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005. A yw Llywodraeth Cymru wedi cael gorchymyn tebyg, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi darparu'r holl ohebiaeth electronig y gofynnwyd amdani gan yr ymchwiliad COVID ar lefel y DU?
Llywydd, nid ydym ni wedi derbyn gorchymyn o'r fath ar hyn o bryd, ond mae hynny oherwydd bod modiwl 2A, sef y modiwl a fydd yn canolbwyntio ar brofiad yr Alban, yn dod cyn modiwl 2B—profiad Cymru—a fydd yn cael ei archwilio gan yr ymchwiliad, rydym ni'n credu, ym mis Chwefror ac i mewn i fis Mawrth. Mae cyfarfod, rwy'n gwybod, wedi'i drefnu rhwng y bobl hynny sy'n gyfrifol am redeg yr ymchwiliad a swyddogion yma a fydd yn siŵr o drafod y mater o ba ddeunydd sydd wedi cael ei ddatgelu i'r ymchwiliad. Ond rwyf i eisiau gwneud yn siŵr bod cyd-Aelodau yma yn gwybod, Llywydd, fy mod i wedi gwneud penderfyniad cynnar, ynghyd â'm cyd-Weinidogion, y byddai Llywodraeth Cymru yn datgelu'r holl ddeunydd y mae ymchwiliad COVID y DU yn gofyn amdano, gan gynnwys negeseuon WhatsApp. Cymerais wahanol safbwynt i Swyddfa'r Cabinet, a oedd yn credu, fel y gwyddoch chi, mai mater iddyn nhw oedd penderfynu pa ddeunydd fyddai'n berthnasol i'r ymchwiliad. Fy marn i yw mai mater i'r ymchwiliad yw gwneud y dyfarniad hwnnw. Rydyn ni'n rhyddhau'r holl wybodaeth sydd gennym ni y mae'r ymchwiliad yn gofyn amdani, ac yna rydym ni'n dibynnu arnyn nhw i benderfynu, o'r deunydd helaeth hwnnw—na fydd y cwbl, rwy'n credu, yn berthnasol i'w hymholiadau, ond rwy'n credu ei bod hi'n well iddyn nhw wneud y dyfarniad hwnnw. Ac felly rydyn ni'n darparu popeth sydd gennym ni, rydym ni'n ei wneud ar gael iddyn nhw, maen nhw'n penderfynu sut y gallan nhw wneud defnydd da ohono.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn amlwg, fe wnaethoch chi dynnu sylw at yr wybodaeth sydd gennych chi; un o'r meysydd a ystyriwyd yw dileu negeseuon ar ddyfeisiau electronig—a rhoddwyd cyfarwyddyd gan wahanol Lywodraethau i wneud yn siŵr na fyddai hynny'n digwydd drwy gyfnod argyfwng COVID. A ydych chi'n hyderus na ddefnyddiwyd mecanweithiau neu apiau dileu gan Weinidogion y Llywodraeth yma yng Nghaerdydd na swyddogion, fel bod gwybodaeth yn cael ei chadw i roi eglurder a chyfanrwydd ynghylch y broses o wneud penderfyniadau a wnaed drwy'r negeseuon WhatsApp neu electronig ar ddyfeisiau a ddefnyddiwyd gan Weinidogion neu swyddogion Llywodraeth Cymru?
Gadewch i mi wneud tri phwynt os caf i, Llywydd. Yn gyntaf oll, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ddibynnu ar ddulliau cyfathrebu anffurfiol er mwyn gwneud penderfyniadau yn ystod cyfnod COVID. Ni allaf feddwl am gyferbyniad cryfach rhwng y ffordd y cafodd busnes ei gyflawni y tu mewn i Lywodraeth Cymru ac o flaen y Senedd hon trwy gydol cyfnod COVID na'r hyn yr ydym ni wedi ei weld o flaen yr ymchwiliad yn ystod y dyddiau diwethaf. Yna hoffwn wneud y gwahaniaeth hwn: cyn gynted ag yr oeddem ni'n ymwybodol y byddai'r ymchwiliad yn dymuno i ddeunydd gael ei ddatgelu iddo, ni chyhoeddwyd cyfarwyddyd o unrhyw fath yn Llywodraeth Cymru y dylid dileu deunydd. Felly, cyn gynted ag yr oeddem ni'n gwybod bod yr ymchwiliad eisiau rhywbeth, nid oes unrhyw ddileu y tu hwnt i'r pwynt hwnnw. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod COVID ei hun, bydd llawer o gydweithwyr sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru wedi meddu ar ddyfeisiau â chyfarwyddiadau dileu arnyn nhw eisoes, ac efallai fod y pethau hynny wedi aros ar eu ffonau, oherwydd ar y pryd nid oedd neb, rwy'n credu—neb o gwbl—yn canolbwyntio ar ba un a fyddai angen y negeseuon hynny ar ryw adeg bell yn y dyfodol. Felly, cyn gynted ag yr oeddem ni'n gwybod bod gan yr ymchwiliad ddiddordeb ynddo, dim dileu. Ni allaf addo bod pobl nad oedd gan eu ffonau, yn ystod cyfnod COVID, drefniadau dileu ynddyn nhw a oedd wedi'u gwneud ymhell cyn COVID ac a barhaodd yn union fel y bydden nhw wedi ei wneud fel arfer.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A gaf i eglurhad, felly, ei bod hi'n rhesymol meddwl, hyd at adeg sefydlu'r ymchwiliad COVID, y byddai rhai negeseuon wedi cael eu dileu, a dim ond pan nododd yr ymchwiliad COVID y bydden nhw'n edrych ar negeseuon electronig, a oedd gryn amser i mewn i'r pandemig, y rhoddwyd y cyfarwyddyd neu'r trefniant gweithio hwnnw ar waith o fewn Llywodraeth Cymru, a'i bod hi'n deg dweud bod dileu negeseuon WhatsApp yn digwydd yn yr wythnosau a'r misoedd cynnar, oherwydd yn amlwg roedd dealltwriaeth efallai na fyddai'r wybodaeth honno yn berthnasol?
Rwy'n credu mai'r ffordd decach o'i ddweud yw y gallai dileu fod wedi digwydd. Rwy'n gwybod, yn fy achos i, ni fu gen i unrhyw drefniadau dileu ar y ffôn erioed, oherwydd ni fyddai gen i unrhyw syniad sut i wneud iddo ddigwydd. [Chwerthin.] Dydw i ddim yn defnyddio WhatsApp chwaith.FootnoteLink Yr hyn nad wyf i eisiau ei ddweud yw nad oedd rhai pobl a oedd yn gweithio yn Llywodraeth Cymru ac yn gweithio ar COVID nad oedd ganddyn nhw drefniadau a oedd eisoes yn bodoli a barhaodd ar ôl i COVID ddechrau. Ond, cyn gynted ag yr oeddem ni'n ymwybodol y byddai gan yr ymchwiliad ddiddordeb mewn deunydd o'r math hwnnw, a oedd wedi'i storio ar ffonau, nid oedd unrhyw gamau i'w ddileu unwaith yr oeddem ni'n gwybod y byddai'r ymchwiliad yn cymryd diddordeb ynddo.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mi fydd y Prif Weinidog, fel finnau, wedi bod yn edrych ymlaen, dwi'n siŵr, i weld beth oedd yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig heddiw, ac, fel finnau, wedi eu siomi.
Gwelsom yn San Steffan heddiw ymgais anobeithiol braidd i ailgynnau marwor olaf Llywodraeth Geidwadol y DU—gan ddefnyddio mwy o danwydd ffosil i wneud hynny, wrth gwrs. Gwelsom galedu ymrwymiad y Torïaid i wadu'r newid yn yr hinsawdd, ac anwybyddu Cymru yn llwyr ar adeg pan fo angen i ni weld mwy o degwch a mwy o uchelgais i'n cenedl. Byddai Plaid Cymru wedi blaenoriaethu pum Bil ar gyfer Araith y Brenin, pob un â'r bwriad o leddfu'r argyfwng costau byw a gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus: Bil ynni fforddiadwy i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd; Bil cyllido teg, cael gwared ar fformiwla Barnett, atal mwy o ladradau trên HS2; Bil i drosglwyddo pwerau cyfiawnder, gan greu system sy'n gweithio i Gymru; Bil nawdd cymdeithasol i drawsnewid bywydau pobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig; a Bil i ddod ag Ystâd y Goron o dan reolaeth Cymru, gan greu cronfa gyfoeth newydd a swyddi mwy gwyrdd, sy'n talu'n dda. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod y rhain yn flaenoriaethau gwirioneddol i Gymru, pwy bynnag sydd â'r allweddi i 10 Downing Street?
Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth, a dwi'n cytuno, wrth gwrs. Roedd y rhaglen ddeddfwriaethol o flaen Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi heddiw. Does dim byd yn y rhaglen sy'n mynd i wneud pethau ym mywydau'r bobl yma yng Nghymru, ac mae'n dangos Llywodraeth lle does dim uchelgais gyda nhw am y dyfodol.
Mae Araith y Brenin yn ddogfen hynod denau. Rwyf i fy hun yn credu ei bod hi'n ddogfen clirio'r-deciau-cyn-etholiad. A chafodd Cymru mo'i chrybwyll unwaith yn yr araith honno. Rwy'n sôn am hynny'n arbennig, oherwydd soniwyd am Northern Rail ynddi, ac eto ni soniwyd o gwbl am brosiect trydaneiddio uchel ei glod gogledd Cymru. O ran cynllun pum pwynt Plaid Cymru—cynllun pum pwynt arall, Llywydd; nid oes llawer o wythnosau yn mynd heibio heb un—yna, yn yr achos hwn, ceir cyfres o faterion a rennir, yn sicr ar yr ochr hon i'r Siambr. Datganoli Ystâd y Goron yw polisi Llywodraeth Cymru. Cyllido teg—rydym ni wedi dadlau ers blynyddoedd lawer dros ddisodli fformiwla Barnett gyda fformiwla yn seiliedig ar angen. Ac mae ynni ar gyfer y dyfodol ac ynni fforddiadwy yn un o'r cyfleoedd gwych sydd yno i Gymru yn y dyfodol. Felly, mae llawer yn y cynllun sy'n cael ei rannu ar yr ochr hon i'r Siambr. Bydd angen Llywodraeth Lafur arnom ni, oni fydd, os oes unrhyw un o'r pethau hyn yn mynd i ddigwydd mewn gwirionedd.
Mae'r Prif Weinidog yn dirmygu cynllun pum pwynt Plaid Cymru, fel mae'n ei alw. Ar ôl 24 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae'n rhaid i rywun fod yn cyflwyno syniadau da. Ond hoffwn ganolbwyntio, os caf i, ar y mater cyllido teg. Dywedodd rhagflaenydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn 2017:
"Ni all neb amddiffyn sefyllfa lle mae gennym fformiwla ariannu sydd dros 38 oed erbyn hyn, a oedd yn seiliedig ar y ffordd yr oedd pethau yn y 1970au."
Gallwn ni ddweud yn eithaf hyderus y byddai cyllido Cymru yn ôl yr angen yn arwain at gynnydd mawr ei angen mewn cyllid. Mae isafswm cyllido ar waith, ond disgrifiwyd hynny gan ei greawdwr, comisiwn Holtham, fel datrysiad lleiaf posibl yn unig. Felly, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai'r egwyddor syml hon o gyllid teg i Gymru fod ym maniffesto etholiad cyffredinol pob plaid, ac o ystyried iddo gael ei hepgor o Araith y Brenin hwn, a yw'n credu y dylai fod yn y nesaf?
Wel, yn sicr dydw i ddim yn synnu o weld nad oes ymrwymiad i ddiwygio Barnett yn Araith y Brenin presennol, ac, wrth gwrs, mae arweinydd Plaid Cymru yn iawn—gwnaeth Joel Barnett ei hun wrthod fformiwla Barnett lawer o weithiau, flynyddoedd lawer ar ôl iddi gael ei dyfeisio gyntaf. Roeddwn i'n falch o allu trafod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd rhywbeth a oedd yn debyg i isafswm Holtham, ond dyna'r isafswm sydd ei angen arnom; mae angen diwygiad llawer mwy trylwyr arnom o'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu hariannu. Ni ddylai'r arian sy'n dod i Gymru ddibynnu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn gyfan gwbl ar gyfer amgylchiadau yn Lloegr, a dyna sut mae fformiwla Barnett yn gweithio, fel y gwyddoch chi. Yr hyn sydd ei angen arnom yw fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion sy'n gwarantu bod lefel y gwasanaeth a allai fod ar gael mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yn un sy'n diwallu anghenion pobl sy'n byw yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig, a dyna fyddai dull diwygiedig o ariannu yn ei gynhyrchu.
Y ffordd o gael penderfyniadau gwariant annibynnol wedi'u gwneud gan Gymru yw cael Trysorlys annibynnol i Gymru, wrth gwrs, ond rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU newid y fformiwla ariannu. Ond o gofio, rwy'n tybio, ei fod yn gobeithio y bydd Araith nesaf y Brenin yn cael ei hysgrifennu gan Brif Weinidog Llafur, mae'r broblem sydd gennym ni yn un amlwg, nad yw Llafur yn gwneud unrhyw ymrwymiad i'w newid. Mae'n siomedig, fel rwy'n dweud yn aml, nad yw'r Prif Weinidog, fel y gwleidydd Llafur etholedig mwyaf grymus yn yr ynysoedd hyn, yn gallu perswadio arweinydd ei blaid yn San Steffan i wneud y peth iawn ar hyn a materion eraill sy'n ymwneud â thegwch i Gymru.
Nawr, yn ôl ym mis Mawrth, dywedodd Keir Starmer wrth aelodau Llafur ei bod hi'n bryd i Gymru 'gymryd rheolaeth yn ôl'. Roedd hynny yn ymwneud yn benodol â disodli cyllid yr UE, ond siawns na fyddai'r un egwyddor yn berthnasol i un arall o geisiadau Plaid Cymru heddiw, sef rheolaeth o Ystâd y Goron. Mae'n ymwneud â helpu Cymru i gyrraedd ei nodau sero net a chreu ffyniant ar yr un pryd. Felly, a yw'r Prif Weinidog cytuno â mi felly na ddylai'r cyfle a gollwyd heddiw i addo datganoli Ystâd y Goron gael ei ailadrodd gan Lywodraeth nesaf y DU?
Wel, Llywydd, gadewch i mi wneud un pwynt cyn mynd i'r afael â mater Ystâd y Goron. Nid wyf i erioed wedi dadlau na allai Cymru fod yn annibynnol oherwydd na allem ni ei fforddio. Rwy'n credu, os yw pobl yng Nghymru eisiau bod yn annibynnol, yna dyna'r penderfyniad y gallan nhw ei wneud. Ond mae'n rhaid i bobl sy'n gwneud y ddadl honno wynebu'r mater ein bod ni, yng Nghymru, yn gwario £13 biliwn y flwyddyn yn fwy nag yr ydym ni'n ei godi mewn refeniw. [Torri ar draws.] A—. Wel, mae gen i ofn nad yw'r 'bwrw i lawr' hwnnw, fel y'i gelwir, yn wir o gwbl mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod £13 biliwn yn ffigur y gellir ei brofi'n gywir. Ac os ydym ni'n mynd i fod yn annibynnol, fel y byddai'n dadlau, mater iddo ef yw esbonio o ble mae'r £13 biliwn hwnnw yn mynd i ddod, ac nid yw galw am gyllid teg gan rywun arall yn mynd i lenwi'r bwlch hwnnw o gwbl.
O ran Ystâd y Goron, fel y dywedais i yn fy ateb agoriadol, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi dadlau dros ddatganoli Ystâd y Goron sawl gwaith. Ni ddylai neb dwyllo ei hun gyda'r syniad, fodd bynnag, bod hwn yn fater syml, ac os ydych chi eisiau gwybod pa mor gymhleth ydyw, edrychwch ar y trafodaethau y bu'n rhaid i Lywodraeth yr Alban ymgymryd â nhw yn ei diwygiad o'r fframwaith cyllidol, lle mae bellach yn gorfod dychwelyd i’r Trysorlys—dychwelyd i'r Trysorlys—miliynau lawer o bunnoedd i gydnabod y ffaith bod Ystâd y Goron yn yr Alban wedi'i datganoli. Felly, ni ddylai neb gredu bod datganoli Ystâd y Goron yn rhyw fath o bas am ddim lle’r ydych chi'n cael cadw'r holl fanteision a chael dim un o'r anfanteision presennol. Rydym ni'n credu mewn datganoli Ystâd y Goron, oherwydd byddai'n caniatáu i ni gael mwy o gysondeb rhwng ein cyfrifoldebau a'n huchelgeisiau ar gyfer casglu ynni adnewyddadwy yn y môr Celtaidd, ac rydym ni'n credu y byddem ni'n gallu cysoni'r cyfrifoldebau hynny mewn ffordd a fyddai'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Nid yw mor syml ag ysgrifennu paragraff mewn cynllun pum pwynt, fodd bynnag; mae'n llawer iawn mwy cymhleth na hynny.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan bawb yng Nghanol De Cymru fynediad at feddyg teulu mor agos i'w cymuned â phosibl? OQ60184
Wel, diolch am y cwestiwn. Llywydd, polisi Llywodraeth Cymru yw gwneud yn siŵr bod cleifion yn gallu cael mynediad at y tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae hyn yn rhan o set gyfoes o ffyrdd i sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth cywir yn y ffordd gywir.
Diolch, Prif Weinidog. Mae ymgynghori ar fin dechrau ynglŷn â chau canghennau meddygfa Taff Vale yn Ynysybwl a Chilfynydd yn barhaol. Mae hyn yn bryderus dros ben i drigolion sydd eisoes yn cael trafferth cyrraedd apwyntiadau mewn meddygfeydd eraill os nad oes ganddynt gar, gan fod angen dal isafswm o ddau fws i'w cyrraedd. Mae lleihad wedi bod yn y gwasanaethau bws lleol ac mae'r gwasanaethau sydd yn rhedeg yn anghyson, gan olygu bod pobl yn barod yn hwyr i apwyntiadau neu'n methu â'u cyrraedd, er bod dirfawr angen yr apwyntiadau hyn arnyn nhw. A ydych chi'n credu y dylai byrddau iechyd fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw meddygfeydd mewn cymunedau ar agor er budd cleifion, ond hefyd y gwasanaeth iechyd, fel nad oes apwyntiadau yn cael eu colli?
Wel, Llywydd, wrth gwrs dwi'n cydnabod y ffaith pan fydd pethau'n newid mae hwnna'n codi pryderon gyda'r bobl leol. Ond yn yr achos mae'r Aelod wedi cyfeirio ato, mae proses ar gael, ac mae'n bwysig i'r bwrdd iechyd fynd ar ôl y broses mewn ffordd sy'n ymateb i'r pwyntiau mae pobl leol yn eu codi. Mae yn bwysig, dwi'n meddwl, i roi rhyw fath o gyd-destun i'r pwyntiau mae Heledd Fychan wedi'u codi.
Y ddau safle y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw, Llywydd, i fod yn eglur, mae'r ddau safle hynny wedi bod ar gau ers mis Medi 2022. Felly, nid yw hwn yn fater o gau yn sydyn dau safle a oedd yn cynnig gwasanaethau i'r poblogaethau hynny heddiw; maen nhw wedi bod ar gau ers ymhell dros flwyddyn. Ac mae'n wir hefyd bod nifer eithaf bach o wasanaethau yn cael eu darparu yn y lleoliadau hynny cyn y dyddiad hwnnw. Ers mis Medi 2022, mae safle Cilfynydd wedi dioddef llifogydd. Dioddefodd lifogydd ym mis Rhagfyr 2022, ac mae mewn cyflwr eithaf gwael. Mae gan y boblogaeth leol dri safle o hyd sy'n cael eu gwasanaethu gan ganolfan feddygol Dyffryn Taf: Ysbyty Dewi Sant ym Mhontypridd, y ganolfan yng Nglyncoch, a'r brif feddygfa yn Rhydyfelin.
Ond yr hyn sy'n bwysig, fel y dywedais i, yw bod y broses, sydd wedi cychwyn bellach, yn cael ei rhedeg yn iawn ac yn ofalus, y gwrandewir ar bryderon pobl, a lle mae atebion iddyn nhw, y gellir eu darparu. Mae'r pwyllgor meddygol lleol eisoes wedi dweud ei fod o blaid y cynigion, ac mae Llais, corff olynol y cynghorau iechyd cymuned, llais cleifion, hefyd wedi dweud ei fod yn cefnogi'r cynnig. Nawr, bydd lleisiau eraill a safbwyntiau eraill a dyna pam mae'r broses ei hun yn bwysig.
Prif Weinidog, fel rydych chi newydd sôn, mae meddygfeydd teulu Cilfynydd ac Ynysybwl wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers pandemig COVID, a chyda meddygfa Cilfynydd yn dioddef llifogydd bron i flwyddyn yn ôl, mae'n edrych yn fwyfwy annhebygol y bydd yn ailagor. Ond, fel mae fy nghyd-Aelod Heledd Fychan newydd sôn, mae'r gymuned yng Nghilfynydd yn bryderus iawn am y ffaith nad oes ganddyn nhw fynediad at feddygfa meddyg teulu leol hyd yn oed, ac maen nhw'n teimlo'n rhwystredig iawn am y diffyg cyfathrebu a gwasanaeth gan feddygfa Dyffryn Taf, ac mae hyn i gyd wedi ychwanegu'n sylweddol at eu straen a'u gofid. Yn amlwg, byddwn wrth gwrs yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod gan Gilfynydd feddygfa, ond gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried yr anawsterau yn gysylltiedig â thrafnidiaeth gyhoeddus yn y pentref, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithio gyda'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd i ddarparu gwell opsiynau trafnidiaeth, a hefyd i hyrwyddo'r defnydd o weithredwyr trafnidiaeth gymunedol fel dewis amgen byrdymor ymarferol, tra bod trigolion yn aros i'w meddygfa ailagor? Diolch.
Wel, rwy'n cymryd o ddifrif y pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud ynglŷn â chyfathrebu. Dyna pam wnes i bwysleisio, yn fy ateb i Heledd Fychan, bwysigrwydd dilyn y broses yn iawn, a'r cyfleoedd yno i bobl allu lleisio eu barn, ac mae cyfathrebu yn bwysig iawn yn hynny i gyd.
Ac nid wyf i'n synnu o glywed—ac rwy'n credu fy mod i eisoes wedi clywed gan y gymuned leol—bod trafnidiaeth gyhoeddus yn un o'r materion sy'n debygol o gael eu codi. Mae un o'r meddygfeydd 2 filltir i ffwrdd o un o'r tair meddygfa sy'n weddill, a'r llall yn 3 milltir, neu ychydig o dan 3 milltir, i ffwrdd o feddygfa arall. Felly, nid yw'r rhain yn bellteroedd enfawr. Pe baech chi'n byw mewn rhai rhannau eraill o Gymru, lle cefais i fy magu, byddai bod o fewn 2 filltir i feddygfa yn cael ei ystyried yn weddol freintiedig. Ond, ar gyfer y boblogaeth leol honno, bydd angen sicrwydd arnyn nhw y bydd y meddygfeydd hynny ar gael iddyn nhw, ac rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd wrando'n ofalus ar y pwyntiau y mae'r cyhoedd yn eu gwneud am gysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus.
4. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ60206
Llywydd, cyflwynir y strategaeth honno yn 'Llwybr Newydd', a gyhoeddwyd yn 2021.
Diolch, Prif Weinidog. Wrth i Lywodraeth Cymru symud tuag at bolisi o newid dulliau teithio, gan ein symud ni allan o'n ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, byddech chi'n meddwl y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu system trafnidiaeth gyhoeddus werth chweil i sicrhau y gallai hynny ddigwydd. Ond, yn anffodus, mae rhyfel Llywodraeth Cymru ar fodurwyr wedi arwain at ddull tebyg o ymdrin â thrafnidiaeth gyhoeddus. Nid yn unig y mae cymorthdaliadau ar gyfer bysiau wedi cael eu torri, gan arwain at leihau llwybrau ac amserlenni ledled Cymru, ond rydym ni hefyd wedi gweld y cynllun 20 mya diofyn yn achosi anhrefn gydag amserlennu bysiau hefyd. Dywedodd Arriva Bus, fis diwethaf, bod y terfyn newydd yn achosi 'amodau gweithredol heriol'. A siaradais â chwmni bysiau yn fy rhanbarth i, Adventure Travel, a oedd ond yn rhy hapus i ddweud bod 20 mya yn 'achosi problemau o ran amseroedd rhedeg', ac roedden nhw hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ddiwygio amserlenni o ganlyniad. Felly, Prif Weinidog, mae'n amlwg bod y polisi 20 mya hwn yn methu. Onid nawr yw'r amser i'w dynnu'n ôl?
Nage, Llywydd.
Yr wythnos diwethaf, cafodd llawer o wasanaethau bysiau yn fy rhanbarth i naill ai eu crebachu neu eu tynnu'n ôl yn llwyr, a dros y penwythnos, rhannodd mwy na 100 o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe eu safbwyntiau ar rai o'r newidiadau hyn gyda mi. Roedd y darlun a gyflwynwyd ganddyn nhw o'r ffordd y maen nhw'n dibynnu ar fysiau, sut maen nhw'n gwerthfawrogi'r gwasanaethau hyn, a sut y bydd toriadau yn cael effaith ofnadwy arnyn nhw. Er fy mod i wedi clywed gan etholwyr bod y bws 256 o Bontardawe i Gastell-nedd mor llawn bellach, oherwydd gwasanaeth cyfyngedig, bod pobl yn ofni am eu diogelwch, mewn ateb i gwestiwn a ofynnais i chi am wasanaethau, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith mai nifer y teithwyr yw un o'r prif ysgogiadau sy'n sail i'r argyfwng presennol. Felly, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi hwb i nifer y teithwyr ar fysiau? A ydych chi'n derbyn y bydd toriadau sy'n lleihau cwmpas daearyddol, amlder, dibynadwyedd ac yn achosi gorlenwi yn gwneud y dasg o hybu niferoedd teithwyr yn anoddach?
Fis diwethaf, cyhoeddodd pwyllgor hinsawdd ac amgylchedd Senedd Ieuenctid Cymru eu hadroddiad 'Ffyrdd Gwyrdd'. Pa ystyriaethau a wnaed o'r argymhellion, yn enwedig yr alwad am deithiau am ddim ar fysiau i bobl ifanc a sut y gallai hynny helpu i roi hwb i niferoedd teithwyr? Diolch.
Wel, Llywydd, pan ddywedais i wrth yr Aelod fod methiant y blwch arian tocynnau i ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig wedi bod wrth wraidd yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth bysiau ledled Cymru, y cwbl roeddwn i'n ei wneud oedd adlewyrchu ffeithiau'r mater. Mae llai o bobl yn defnyddio bysiau yng Nghymru heddiw nag oedd yn ôl yn 2019, ac mae hynny yn cael effaith sylweddol ar allu cwmnïau i barhau i redeg gwasanaethau a oedd yno pan oedd mwy o deithwyr. Mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, gan ein bod ni'n rhoi cymhorthdal i wasanaethau bysiau ledled Cymru i raddau mwy nag erioed o'r blaen. Bydd yr Aelod yn gwybod, yn ystod hynt y gyllideb ddiwethaf, bod Plaid Cymru wedi nodi tair blaenoriaeth yr oedden nhw'n dymuno i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ystyriaeth wrth lunio'r gyllideb honno. Un o'r rheini oedd rhagor o gymorth i'r diwydiant bysiau, a dyna pam rydym ni'n darparu £46 miliwn yn ychwanegol at y cymorthdaliadau a oedd eisoes yno ar gyfer y diwydiant hwn yn y flwyddyn ariannol hon.
Nawr, wrth gwrs, hoffwn pe bai pobl yn defnyddio'r bysiau yn y niferoedd yr oedden nhw'n ei wneud yn flaenorol. Mae'n batrwm cymhleth pam nad yw hynny'n wir. Mae'r gostyngiad mwyaf i nifer y teithwyr ymhlith pobl nad oedden nhw'n talu am deithio ar fysiau, ymhlith pobl a oedd wedi'u heithrio rhag talu am deithio gan eu bod nhw dros 60 oed neu mewn categori cymhwyso arall. Digwyddodd rhywbeth yn ystod COVID sy'n golygu nad yw'r bobl hynny yn dal i ailddechrau'r mathau o batrymau o fyw eu bywydau a oedd yno cyn i COVID daro. Ac er fy mod i'n awyddus iawn i annog pobl i ddychwelyd i'r bws, rwy'n credu y bydd yn cymryd ymdrech sy'n cynnwys gwasanaethau bysiau a chwmnïau bysiau eu hunain, ac effaith y Bil bysiau y byddwn ni'n ei gyflwyno gerbron y Senedd i'n caniatáu i ddefnyddio'r cymhorthdal a ddarperir i gael yr effaith fwyaf posibl.
Rwy'n credu bod annog pobl ifanc i ddefnyddio bysiau yn ffordd dda iawn o recriwtio defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus y dyfodol, a dyna'r pwynt a wnaeth y Senedd Ieuenctid yn eu sylwebaeth ar y mater hwnnw. Rydym ni eisoes yn rhoi cymhorthdal uniongyrchol i bobl o dan 25 oed o dan amodau penodol. Yn y pen draw, mae'r holl bethau hyn yn ddewisiadau, onid ydyn nhw? Rydym ni'n gwneud dewisiadau lle'r ydym ni'n defnyddio'r adnoddau cyfyngedig sydd gennym ni. Fe wnaethom ni ddewis, yn dilyn y drafodaeth honno ar y gyllideb, i gymryd un arall o dair blaenoriaeth Plaid Cymru i gynyddu lefel y lwfans cynhaliaeth addysg i bobl ifanc yng Nghymru, gan ei godi o £30 i £40. Gallai'r arian hwn fod wedi cael ei ddefnyddio at wahanol ddiben. Gallai fod wedi cael ei ddefnyddio i wneud mwy i roi cymhorthdal teithio i bobl ifanc yng Nghymru.
Yn anffodus, mae un swm o arian a llawer o flaenoriaethau cystadleuol y gellid ei ddefnyddio ar eu cyfer. Mae angen i ni barhau trafodaeth, fel y byddwn ni wrth i'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ddechrau cael ei ffurfio a gwneud ei ffordd drwy'r Senedd, o ran sut y gallwn ni ddefnyddio'r adnoddau cyfyngedig ac sy'n lleihau sydd ar gael i ni yn erbyn y nifer o wahanol ddibenion pwysig a theilwng y gellid eu nodi ar eu cyfer.
Rwyf i a Huw Irranca-Davies, yr AS dros Ogwr, wedi bod yn cyfarfod yn ddiweddar â llawer o bobl ifanc ar draws ein dwy etholaeth. Yn wir, fe wnaethom ni gyfarfod â grŵp o bobl ifanc, a drefnwyd gan Leonard Cheshire, tua 50 o bobl ifanc, ac roedd cyfle iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiwn yr oedden nhw ei eisiau i ni. Ac fe aethom ni hefyd i Ysgol Gyfun Cynffig yn y Pîl, a drefnwyd gan Tyler Thomas, i siarad â'r chweched dosbarth yno. Eto, roedd cyfle iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiynau yr oedden nhw ei eisiau. Am ddwy awr gyfan, y cwbl y gwnaethon nhw siarad â ni amdano oedd trafnidiaeth. Mae mor bwysig iddyn nhw. Maen nhw'n ei gysylltu'n fawr â'r newid yn yr hinsawdd hefyd, a'r amcanion sydd gennym ni fel Llywodraeth Cymru y maen nhw wedi galw arnom ni yn bennaf i'w cyflawni hefyd, ac maen nhw'n gwerthfawrogi hynny. Roedd cymysgedd o'r mathau o gwestiynau. Roedd rhai ohonyn nhw am wasanaeth—bysiau ddim yn cyrraedd, achosion o ganslo. Dydyn nhw ddim yn deall pam na allan nhw gael diweddariadau byw ar eu ffôn, a phethau fel hyn. Ond hefyd, dim ond am y ffaith nad oes rhai llwybrau masnachol mewn rhai ardaloedd a all ddyblu wedyn fel y gallan nhw eu defnyddio ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, y gallai'r rhan fwyaf ohonyn nhw ei weld oedd yn ffordd dda iawn ymlaen.
Felly, Prif Weinidog, gallaf weld hefyd heddiw fod gennym ni lawer o bobl ifanc yn yr oriel hefyd. Awgrymais hefyd y gallen nhw gynnal disgo distaw ar y teithiau bws o Ben-y-bont ar Ogwr i'r Senedd, yr oedden nhw i gyd yn meddwl oedd yn syniad gwych, i geisio cael pobl yn ôl ar y bws. Mae'n rhaid i ni ddechrau meddwl am syniadau mentrus yma. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi siarad â'n pobl ifanc, Prif Weinidog, a rhoi rhywfaint o obaith iddyn nhw ynglŷn â ble rydym ni'n mynd gyda hyn yn y dyfodol gyda'r Bil diwygio bysiau a sut mae hwn yn cyd-fynd â'n hamcanion cyfiawnder hinsawdd. Diolch.
Diolch i Sarah Murphy, Llywydd, ac rwy'n ei llongyfarch hi a Huw Irranca-Davies ar y sgyrsiau maen nhw wedi bod yn eu cael. Rwy'n lwcus fy hun i gael llawer o gyfleoedd, yn yr un modd â chyd-Aelodau eraill yma, i gael y sgyrsiau hynny. Ac rydych chi'n iawn, wrth gwrs—mae yna bethau sy'n digwydd bob tro. Dydw i byth yn cael sgwrs gyda phobl ifanc heb i'r mater iechyd meddwl gael ei godi gyda mi, a chael ei godi mewn cyd-destun ôl-bandemig hefyd. Ac fel y mae Sarah Murphy yn ei ddweud, Llywydd, mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn rhywbeth y mae pobl ifanc yn ei godi'n gwbl reolaidd gydag unrhyw un sy'n gallu gwrando arnyn nhw.
Rwy'n credu ein bod ni wedi clywed rhai syniadau yn y fan yna, Llywydd, ynglŷn â sut y gallen ni gynyddu nifer y teithwyr yn y ffordd yr awgrymodd Sioned Williams. Rwy'n credu y dylai cwmnïau bysiau fod yn defnyddio technolegau modern i sicrhau bod gwybodaeth dda ar gael yn hawdd i bobl. Rwy'n cymeradwyo Bws Caerdydd o ran hynny. Roeddwn i'n siarad â rhai pobl eraill, ychydig yn hŷn yn ddiweddar a ddywedodd fod defnyddio bysiau yng Nghaerdydd wedi ei drawsnewid iddyn nhw gan y ffaith nad oes angen i chi fynd at safle bws nawr a meddwl tybed a yw'r bws newydd fynd, neu faint y bydd hi cyn i'r un nesaf gyrraedd, oherwydd gallwch chi edrych ar eich ffôn ac amseru gadael eich tŷ, oherwydd eich bod chi’n gwybod pryd y bydd y bws hwnnw ar gael. O ran a fydd disgos tawel yn dod â llawer o'r bobl dros 60 oed nôl nad ydyn nhw bellach yn defnyddio'r bws, wel, gallwn i ddatgan buddiant a dweud nad wyf i'n sicr mai dyma'r peth a fyddai'n gwarantu y byddwn i'n ciwio amdano.
Ond rwy'n credu, o ran y darlun ehangach, y mae'r Aelod yn gofyn amdano, mae'r ateb i hynny i'w gael yn y Bil bysiau sydd ar ddod, oherwydd bydd yn caniatáu i ni gyfochri gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth ysgol â'i gilydd mewn ffordd llawer gwell, i sicrhau bod gwasanaeth mwy effeithlon i ddysgwyr. Rydyn ni eisoes yn gweld hyn yn digwydd. Rwy'n canmol gwaith Cyngor Sir Fynwy y mae Llafur yn ei reoli, sydd wedi bod yn arwain y ffordd yn hyn o beth, gan ddangos sut y gall rheolaeth gyhoeddus dros rwydweithiau bysiau ganiatáu i ni gyfochri gwasanaethau ar gyfer dysgwyr â'r cyhoedd, ac, yn y broses, bod â gwell gwasanaeth i bawb.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud tirfeddianwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnal a chadw ceuffosydd a ffosydd yn briodol ar gyfer atal llifogydd? OQ60190
Diolch yn fawr iawn Carolyn Thomas. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau rheoli risg. Maen nhw'n cadw golwg ar geuffosydd a ffosydd preifat. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer perchnogion glannau afon yn amlinellu eu risgiau a'u cyfrifoldebau. Drwy gadw at y canllawiau, mae perchnogion tir yn chwarae eu rhan i leihau perygl llifogydd.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Mae llawer yn disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru a'n cynghorau gynnal pob ffos a draen a bod bagiau tywod yn cael eu darparu. Efallai cyn cyni, ond gydag adnoddau cyfyngedig a llifogydd yn digwydd yn gynyddol, mae'n ormod heddiw. Mae angen ymdrech ar y cyd gan yr holl bartneriaid gan roi gwybodaeth glir o ran cyfrifoldeb. Bydd mapio yn helpu grwpiau cymunedol i wybod pa awdurdod neu berchennog tir sy'n gyfrifol am orfodi neu glirio. Mewn ardaloedd gwledig, mae angen i berchnogion tir fod yn gyfrifol am atal dŵr rhag draenio i'r priffyrdd. Felly, a fyddai modd cynhyrchu rhywfaint o wybodaeth gyson mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau i'w rhoi i berchnogion tir gan egluro eu bod yn gyfrifol am gynnal eu ffosydd a'u draeniau o dan gyfraith y glannau? Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud bod hynny'n cael ei ddarparu, ond pe bai gan gynghorau a Cyfoeth Naturiol Cymru daflen i'w dosbarthu hefyd, fel bod y cyfan yno, yn syml iawn, i'w rhoi trwy ddrysau, byddai'n arbed llawer o amser. Byddai hyrwyddo peidio â gorchuddio tir ag ardaloedd anhydraidd, cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd, grwpiau llifogydd cymunedol ar gyfer preswylwyr, a gwybodaeth am amddiffynfeydd rhag llifogydd, gan gynnwys bagiau tywod, yn helpu i egluro pethau i'n trigolion. Diolch.
Diolch i Carolyn Thomas am hynny. Rwy'n credu fy hun bod y mater yma yn fwy o fater cyfathrebu na gwybodaeth, oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer iawn o wybodaeth eisoes ar gael yn ymdrin â'r union bwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi.
Ar brynhawn Sadwrn gwlyb iawn, wrth i mi fynd drwy'r ffolder cwestiynau fel y gwnaf i, es i i edrych ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i weld pa wybodaeth oedd yno eisoes i berchnogion tir yn y ffordd y cafodd y cwestiwn ei ofyn. Fe wnes i ddod â'r canllaw gyda mi y prynhawn yma, nad oeddwn i, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i mi gyfaddef, erioed wedi'i weld o'r blaen. Ond pan gefais i gyfle i edrych drwyddi, rwy'n credu, mewn gwirionedd, ei bod yn ddogfen drefnus iawn ac yn llawn gwybodaeth: 'Canllaw i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau fel perchennog glannau afon yng Nghymru'. Ac roedd llawer mwy. Rwy'n ofni i mi dreulio mwy o fy mhrynhawn nag y dylwn i wedyn yn archwilio gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac edrych ar yr holl fapiau sydd ar gael yno a'r wybodaeth sydd ar gael i bobl sydd eisiau gwybod mwy am berygl llifogydd yn eu hardaloedd eu hunain.
Lle rwy'n cytuno â Carolyn Thomas yw, os nad oeddwn i erioed wedi clywed amdano na'i weld, yna rwy'n siŵr mai dyna yw profiad y rhan fwyaf o ddinasyddion Cymru, mae'n debyg. Felly, mae mwy y mae modd ei wneud yn sicr i sicrhau bod yr adnoddau rhagorol yr wyf i'n credu sydd erbyn hyn ar gael i bobl, gan ddefnyddio ffynonellau data a mapio soffistigedig iawn, yn fwy adnabyddus i bobl. Ac yn y modd hwnnw, gall Llywodraeth Cymru weithio gydag eraill i sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o'r wybodaeth honno ac felly yn gallu'i defnyddio'n well.
Rwy'n cyfeirio Aelodau at fy ffurflen datgan buddiant o ran perchnogaeth eiddo.
Fel y mae Aelodau'r Senedd yn ymwybodol—er nad ydw i wedi fy argyhoeddi'n fawr—mae ein cyrsiau dŵr wedi'u rhannu'n ddau gategori: prif afonydd a chyrsiau dŵr cyffredin. Rydyn ni wedi mynegi pryderon o'r blaen am brif afonydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a bod problemau mawr wedi codi mewn rhai achosion o lifogydd o ran cyrsiau dŵr cyffredin. Rydyn ni wedi ymgyrchu'n hir dros well gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cyfrifoldebau sydd gan berchnogion glannau afon. Yn wir, yn 2021, gwnaethom gynnig Bil llifogydd Cymru a oedd â sawl nod, yn anad dim i sicrhau bod ymgyrch barhaus i wella ymwybyddiaeth perchnogion glannau afon o'u cyfrifoldebau. Oherwydd, nid afonydd o reidrwydd ydyn nhw—gallen nhw fod yn geuffosydd, ffosydd, draeniau ar dir sy'n eiddo i'r perchnogion tir hyn. Ac roedden ni hefyd eisiau creu system gymorth sy'n nodi ac yn cynorthwyo perchnogion glannau afon nad ydyn nhw'n cyflawni eu cyfrifoldebau eu hunain.
Yn Aberconwy mae gennym ni rannau o gyrsiau dŵr cyffredin lle nad yw perchennog y glannau afon hyd yn oed yn hysbys, felly nid oes unrhyw waith cynnal a chadw yn digwydd ac mae hyn yn rhoi pwysau pan fo llifogydd. Felly, a wnewch chi ystyried hyn eto, Prif Weinidog, gyda'r Gweinidog, ac efallai gydweithredu â Chofrestrfa Tir EF i geisio creu cronfa ddata o'r holl berchnogion glannau afon cyfrifol yng Nghymru, ac yna eu gwneud yn ymwybodol o'r wybodaeth honno y bu'n rhaid i chi fynd i chwilio amdani ar wefan? Ac yna gobeithio y bydd hyn oll yn cyfrannu at beidio â gweld cymaint o'n hardaloedd cymunedol dan ddŵr. Diolch.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi nifer o bwyntiau pwysig yn y fan yna am gyfrifoldebau a bod pobl yn ymwybodol ohonyn nhw, ac, yn wir, pobl yn deall eu bod wir yn gyfrifol. Os ydych chi'n berchen ar eiddo o'r math hwnnw, mae hynny'n dod gyda hawliau, fel y mae dogfen Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei nodi, ond mae bendant yn dod â'r cyfrifoldebau y mae angen i bobl eu cyflawni. Fe gaf i sgwrs â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y syniad o gronfa ddata o berchnogion glannau afon i weld pa mor hawdd y byddai gwneud hynny ac a fyddai'r budd yn werth yr ymdrech.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o uwchraddio adrannau 5 a 6 yr A465 Blaenau’r Cymoedd? OQ60182
Ar hyn o bryd mae rhannau 5 a 6 o brosiect yr A465 dair blynedd i mewn i'w cyfnod adeiladu, ac er i'r prosiect ddechrau yn ystod anterth pandemig COVID, mae cynnydd da wedi'i gynnal. Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn haf 2025.
Prif Weinidog, mae'n siŵr mai deuoli'r rhan hon o ffordd Blaenau'r Cymoedd yw'r prosiect peirianneg sifil mwyaf trawiadol sy'n cael ei gyflawni yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd y gwaith yn gwella'r cysylltedd rhwng Hirwaun a Dowlais Top a bydd yn cael effaith drawsnewidiol ar ddiogelwch ar y darn hynod beryglus hwn. Mae'r gwaith adeiladu yn rhychwantu nifer o geunentydd heriol, ac mae hefyd yn cynnwys creu milltiroedd lawer o lwybrau cerdded, beicio a marchogaeth, cynlluniau rheoli cynefinoedd gofalus, rhwydwaith o gynlluniau lliniaru i wrthsefyll llifogydd, a phlannu dwy goeden am bob un y bu'n rhaid ei thynnu oddi yno. Rwy'n falch iawn o fod â'r prosiect hwn, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gynnal yn fy etholaeth i. Felly, Prif Weinidog, a hoffech chi ymweld â'r gwaith gyda mi i weld drosoch chi eich hun y rhagoriaeth beirianneg unwaith mewn oes ar raddfa fawr hon?
Diolch i'r Aelod am yr achos cymhellol hwnnw. Wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr â hi am y gamp beirianneg a'r manteision enfawr a ddaw yn y cyfnod adeiladu ei hun: dros 800 o bobl yn gweithio yn y prosiect yn byw yn ardaloedd y Cymoedd; bron i 100 o brentisiaethau wedi'u creu fel rhan ohono; 12,600 o goed wedi'u plannu eisoes; a 12,000 arall i ddod eleni.
Llywydd, yn ystod cyfnod yr etholiad yn arwain at ein hetholiad yn 2021, bûm ar ymweliad cofiadwy â'r Aelod dros Flaenau Gwent. Mae wir yn aros yn fy meddwl i, oherwydd aethom at bont a oedd yn cael ei hadeiladu dros ran o ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac roedd camp enfawr y beirianneg ei hun yn rhyfeddol. Ond ochr yn ochr â hynny, roeddem ni hefyd yn gallu gweld y gwelliannau diogelwch a ddaw yn sgil hynny, a'r cryn sensitifrwydd a oedd yn cael ei gymhwyso i effaith amgylcheddol y ffordd, a'r cyfleoedd a oedd yn dod gyda hynny yn y fan yna. Felly, mae'r ymweliad hwnnw wedi aros yn fy meddwl yn fyw iawn byth ers hynny, a byddwn i'n falch iawn o ddod i weld yr un effaith yn digwydd yn etholaeth Vikki Howells.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at driniaeth i gleifion yng ngogledd Cymru? OQ60209
Diolch i Darren Millar am hynny, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwell mynediad at fuddsoddiad mewn gwasanaethau newydd, hyfforddi staff â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol, gweithredu ffyrdd o weithio ar sail technolegau arloesol, a chefnogi'r bwrdd i gyflawni ei gyfrifoldebau.
Prif Weinidog, mae dau adroddiad brawychus wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf am oedi mewn triniaeth sydd wedi arwain at niwed sylweddol i gleifion yn y gogledd. Daethpwyd â'r cyntaf i'n sylw ni i gyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a ymchwiliodd i gŵyn—cŵyn a oedd wedi cymryd pedair blynedd i'r bwrdd iechyd ei hystyried cyn iddi gael ei throsglwyddo i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru—am oedi mewn triniaeth ar gyfer claf strôc, a wnaeth arwain ato fod yn barhaol ddall mewn un llygad a bod mewn poen cronig. Roedd hynny er gwaethaf y ffaith ei fod wedi mynd i adran frys ac y dylai fod wedi cael llawdriniaeth frys—llawdriniaeth daer ei hangen. Cymerodd hyn 11 mis cyn ei gael o'r diwedd.
Yn ogystal â hynny, mae crwner y gogledd wedi codi pryderon yn dilyn marwolaeth claf o niwmonia a sepsis ym mis Chwefror y llynedd. Bu farw oherwydd bod ei nodiadau meddygol wedi mynd ar goll. Roedd angen sganiau brys arni ac nid oedd yn gallu eu cael. Roedd y crwner mor bryderus am hyn nes iddi gyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd, a mynegodd y ffaith nad oedd hi'n teimlo bod unrhyw wersi wedi eu dysgu gan staff.
Nawr, rydych chi a minnau'n gwybod y gall unrhyw sefydliad sy'n ceisio gwella ei hun ond gwneud hynny os yw'n dysgu o'i gamgymeriadau. Yn amlwg, nid yw hynny wedi bod yn digwydd yn y gogledd. Ac rwy'n gofyn i chi, o ystyried mai bwrdd iechyd sydd mewn mesurau arbennig yw hwn, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i sicrhau nad yw cleifion yn dioddef y mathau hynny o ganlyniadau byth eto.
Rwy'n gyfarwydd, yn anffodus, â'r ddau achos y mae Darren Millar yn cyfeirio atyn nhw, ac mae darllen y ddau adroddiad yn sobreiddiol iawn. Rwyf i wedi gweld yr ymateb y mae'r bwrdd iechyd wedi'i gyhoeddi yn y ddau achos. Nid wyf i'n credu ei bod yn deg creu argraff nad oes gan y bwrdd ddiddordeb mewn dysgu gwersi. Ac, yn yr un modd ag y mae adroddiadau anodd iawn wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar, mae adroddiadau eraill, mwy calonogol, hefyd. Efallai nad yw'r Aelod wedi cael cyfle i weld adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a gafodd ei gyhoeddi heddiw, am ysbyty Llandudno. Ac rwy'n credu bod yr adroddiad hwnnw'n dangos bwrdd sydd wedi ymrwymo i ddysgu rhai o wersi'r gorffennol ac i roi'r gwersi hynny ar waith. Ac rydw i wir yn credu bod y prif weithredwr dros dro a chadeirydd y bwrdd yn dod i'w gwaith yn benderfynol iawn o sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu, a bod penodau sy'n gwbl annerbyniol, o'r math a amlygwyd gan yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus ac yn myfyrdodau y crwner hwnnw ar achos o fis Chwefror y llynedd—bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu'n systematig ar draws y bwrdd iechyd, a bod yr hyn sy'n cael ei ddysgu yn cael ei roi ar waith i'r defnydd gorau yn ein plith, fel y gwn i y bydd Darren Millar yn cydnabod, y miloedd hynny o staff ymroddedig iawn sy'n gweithio i'r bwrdd iechyd, ac sy'n dod i mewn bob dydd eisiau gwneud eu gorau glas dros gleifion yn y gogledd.
Y cwestiwn olaf, cwestiwn 8, Rhys ab Owen.
8. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau lleol i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)? OQ60202
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda chynrychiolwyr o’r byd busnes er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth. Mae canllawiau wedi cael eu llunio er mwyn helpu i roi’r gwaharddiadau ar waith, gan gynnwys ymgyrch gyfathrebu genedlaethol. Mae busnesau hefyd wedi gallu gofyn am gyngor drwy Busnes Cymru a’r bwlch—bwlch; blwch, sori—[Torri ar draws.]—bwlch electronig sydd gennym at y diben hwn.
Na, 'blwch'.
Blwch?
Ie, 'blwch'.
Roeddwn i eisiau dweud 'bwlch', ond 'blwch' yw e.
Mae dau air. Mae 'blwch' a 'bwlch', a 'blwch' oedd hwnna.
Blwch electronig—bocs electronig. [Chwerthin.]
Bocs. [Chwerthin.] Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog, ac i'r Llywydd am y wers.
Nid wyf i'n gwybod a yw'r Prif Weinidog yn mwynhau cyri a sglodion ar Stryd Caroline neu 'Chippy Lane', fel y mae rhai'n ei galw, ond mae llawer o'r perchnogion siopau cludfwyd yno yn cael trafferth gyda chost cynhyrchion cynaliadwy i weithredu'r ddeddfwriaeth bwysig iawn hon. Mae rhai perchnogion siopau yn adrodd cynnydd o dair gwaith o'i gymharu â'r cynhyrchion plastig untro yr oedden nhw'n eu defnyddio. Maen nhw'n honni mai mater o economeg syml ydyw. Yn syml, nid oes digon o gynhyrchion eco-gyfeillgar ar y farchnad i wneud y pris yn gystadleuol. Mae hyn nid yn unig yn effeithio ar y busnesau, wrth gwrs, ond mae'n cynyddu felly pris cyri a sglodion i ddefnyddwyr.
A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o annog gweithgynhyrchwyr dewisiadau amgen ecogyfeillgar i helpu i gefnogi busnesau Cymru, a helpu i gefnogi'r traddodiad pwysig o gyri a sglodion yng Nghaerdydd ar Stryd Caroline? Diolch yn fawr.
Wel, Llywydd, darllenais i adroddiad gan y BBC gan ohebydd a oedd wedi bod i Stryd Caroline, ac rwy'n credu'i fod wedi cael argraff eithaf gwahanol, nid yn unig gan ddefnyddwyr ond gan berchnogion siopau sglodion a thai cyri hefyd. Y gwir amdani yw, hyd nes y byddwch chi'n creu galw torfol am declynnau diblastig, ni fydd y gost yn gostwng. A dyna'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei wneud, a dyna pam y cafodd ei chefnogi mor bwerus yn y Siambr hon. Mae'n rhaid i ni sicrhau'r math hwnnw o newid lle nad plastigau untro bellach, er gwaethaf mantais eu pris ar hyn o bryd, yw'r ffordd arferol yr ydyn ni'n mynd ati i wneud pethau yma yng Nghymru. A thrwy greu marchnad dorfol ar gyfer ffurfiau diblastig o gyllyll a ffyrc ac yn y blaen, dyna'r ffordd y bydd prisiau'n gostwng hefyd. Ac fe gafodd hynny ei gydnabod gan lawer o berchnogion bwytai yn Stryd Caroline fel rhan o'r adroddiad hwnnw gan y BBC.
Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon, ac mae pob un ohonyn nhw wedi'u nodi ar yr agendâu sydd wedi'u cyhoeddi. Mae'r busnes drafft am y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog priodol Llywodraeth Cymru ar ymarferoldeb sefydlu arsyllfa genedlaethol i Gymru? Fe wyddoch chi fod hwn yn rhywbeth yr wyf i wedi ymddiddori ynddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n arbennig o awyddus i weld arsyllfa genedlaethol wedi'i sefydlu ym mryniau Clwyd, yn yr hyn fydd ein parc cenedlaethol newydd, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato. Es i ar ymweliad â Phrifysgol Wrecsam ddoe, lle y gwnes i gyfarfod â'r is-ganghellor. Roeddem ni'n trafod yr ymchwil a'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud yn Llanelwy, yn y ganolfan dechnoleg optoelectroneg yno, a fyddai, wrth gwrs, yn ddefnyddiol iawn o ran cymhwyso peth o'r wybodaeth a'r ymchwil honno i ddatblygu lensys ar gyfer telesgopau, er mwyn arsylwi awyr y nos. Ac mae'n ymddangos i mi fod llawer o synergedd yma gyda gallu sefydlu lleoliad ymchwil yn y gogledd, ym mryniau Clwyd, i fanteisio ar hyn, a allai ddod yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol. Mae prosiectau tebyg wedi eu cyflawni yng Ngweriniaeth Iwerddon. Ac rwy'n credu bod hyn, felly, yn rhywbeth y byddwn i'n gobeithio y gallem fynd ar ei ôl, ar y cyd â'r sector addysg uwch, gan weithredu hefyd fel atyniad i ymwelwyr. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru gynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn gweld a yw hyn yn rhywbeth y byddai modd ei ddatblygu?
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n credu mai fi fyddai'r Gweinidog mewn gwirionedd, oherwydd yn amlwg fi sy'n gyfrifol am y parc cenedlaethol newydd. Ond byddwn i'n hapus iawn i gael golwg arno, ac efallai cael trafodaeth gyda fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, i weld a fyddai hyn yn rhywbeth a fyddai'n werth ei wneud cyn i'r parc cenedlaethol newydd ddod i fodolaeth, sy'n datblygu'n dda iawn, dim ond i'r Aelodau fod yn ymwybodol, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlwg yn bwrw ymlaen â hynny. Ond rwy'n credu bod hwnna'n bwynt pwysig iawn a byddwn i'n hapus iawn i ystyried hynny.
Ym mis Awst cyhoeddodd 145 o awduron, newyddiadurwyr, academyddion a chyfranwyr eraill i gylchgronau a gwefannau o Gymru sy'n cael eu hariannu gan Gyngor Llyfrau Cymru lythyr agored wedi'i gyfeirio at Lywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a'r Cyngor Llyfrau. Y mater allweddol a gafodd ei godi oedd ynghylch gostyngiadau enfawr mewn grantiau craidd sy'n cael effaith ddinistriol ar amodau gwaith, ac mae hyn yn peryglu'r sector, gan wneud ei ddyfodol yn ansicr. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth am y trafodaethau y mae ei swyddogion wedi'u cael o ran y materion a gafodd eu codi a sut y mae'r rhain yn cael eu hymdrin â nhw?
Diolch. Fel y gwyddoch chi, yn ystod yr haf, a chyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi, roedd gennym ni benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud, a gan edrych ar gyllideb y flwyddyn nesaf hefyd, ac, yn amlwg, mae'r Dirprwy Weinidog wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn. Nid wyf i'n credu y byddai datganiad ynghylch trafodaethau y cafodd hi, na'i swyddogion, gyda rhanddeiliaid, yn briodol. Ond rwy'n credu mai'r hyn a fyddai o fantais, yn amlwg, wrth graffu ar y gyllideb yma yn y Siambr, yw y gellid gofyn cwestiynau.
Prynhawn da, Gweinidog. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cau meddygfa Belmont, sy'n gwasanaethu Crughywel, a hefyd maen nhw wedi colli'u gwasanaethau deintyddol GIG yno. Rydyn ni'n gwybod bod cymunedau gwledig yn arbennig yn wynebu heriau o ran cael gofal iechyd, a dyna pam mae colli meddygfa Belmont, gyda'i meddygon teulu, a gwasanaeth deintyddol y GIG, yn peri cymaint o bryder difrifol i'r gymuned leol benodol honno. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau bod gan y bobl leol yr adnoddau lleol hynny, ac rydyn ni'n gwybod sut mae'r ddarpariaeth leol mewn gwirionedd yn sicrhau eu bod yn cael y sylw sydd ei angen arnyn nhw. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ddatganiad gan y Gweinidog ar y cynlluniau i wella gofal iechyd gwledig yn ne Powys. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi o'r dechrau na ddylai neb, dim claf yng Nghymru fod heb fynediad at feddyg teulu, p'un ai yw hynny mewn ardal wledig neu mewn ardal drefol. Os oes unrhyw un yn cael trafferth wrth ddod o hyd i feddyg teulu y mae'n bosibl iddo gael mynediad ato, dylai gysylltu â'i fwrdd iechyd lleol. Rwy'n deall bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi rhoi cynllun lliniaru ar waith i leihau'r effaith ar fynediad at feddygon teulu o ganlyniad i gau meddygfa gangen Belmont. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud y gallai fod angen newid y model darparu lleol ar gyfer gofal sylfaenol weithiau i sicrhau gwasanaethau diogel a chynaliadwy i gleifion, ac mae byrddau iechyd wedi sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chynigion ar gyfer newidiadau i ddarparu gwasanaethau lleol sydd wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.
A gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y prynhawn yma ar ddeintyddiaeth y GIG yn Nyffryn Clwyd a'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i leddfu'r pwysau ar ddeintyddiaeth leol yn sir Ddinbych, yn enwedig cleifion sydd yn cael eu gwasanaethu gan Feddygfa Ddeintyddol Elwy yn y Rhyl, neu a arferai eu cael ganddi? Maen nhw wedi cysylltu â mi yn llu yn ddiweddar, gan ddweud eu bod nhw wedi cael eu dileu oddi ar restr y GIG heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain ac maen nhw nawr yn gorfod talu am driniaeth breifat. Ac mae hyn mewn cyfnod lle mae arian yn brin a'r ffaith bod gorllewin Y Rhyl, lle mae Practis Deintyddol Elwy wedi'i leoli, mewn ardal o amddifadedd uchel.
Felly, yr hyn sy'n ymddangos yn wir yw'r ffaith bod contract y GIG sy'n cael ei gynnig i ddeintyddion gan Lywodraeth Cymru yn anghystadleuol â'r sector preifat, ac mae gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth yn mudo o'r GIG i'r sector preifat i geisio cael gwell tâl, telerau ac amodau gwell a llai o fiwrocratiaeth. Felly, mae'n ymddangos ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fynd yn ôl o amgylch y bwrdd â'r sector a chreu contract GIG sy'n gystadleuol, a fydd yn helpu deintyddion i fynd yn ôl i'r GIG a darparu gofal y geg o'r radd flaenaf y mae pobl Y Rhyl a sir Ddinbych wedi arfer ag ef ac nad ydyn nhw'n ei dderbyn ar hyn o bryd. Felly, a gaf i ddatganiad am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y mater hwn a pha gyfarfodydd a thrafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda'r sector deintyddol i leddfu'r broblem gynyddol hon i fy etholwyr? Diolch.
Wel, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i swyddogion yn parhau i gynnal trafodaethau. Rwy'n credu mai dim ond teg yw nodi mai 24 yn unig o blith 413 o gontractau sydd wedi eu trosglwyddo yn ôl ers mis Ebrill 2022.
Diolch i'r Trefnydd.
Eitem 3 yw'r eitem nesaf. Mae'r eitem yma wedi ei ohirio ac i'w gyflwyno fel datganiad ysgrifenedig.
Mae eitem 4 yn eitem sydd wedi ei ohirio.
Eitem 5, felly, fydd nesaf, y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Cymorth i Aros. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Julie James.
Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun cymorth morgais Cymorth i Aros Cymru. Mae'r cefndir economaidd ar hyn o bryd yn cynnwys llawer o heriau. Ni ddylid diystyru effaith gronnol y cynnydd sylweddol o ran costau tanwydd, chwyddiant uchel, cynnydd ym mhrisiau rhent a thai, gydag incwm pobl heb fod yn cynyddu digon i ddiwallu eu hanghenion. Yn ystod 2022-23 a 2023-24, fe wnaethom ddyrannu cymorth gwerth mwy na £3.3 biliwn trwy raglenni wedi'u targedu a rhaglenni sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd. Fe fyddwn ni'n parhau i flaenoriaethu ein cefnogaeth ar sail ein hegwyddorion amlwg o ddiogelu gwasanaethau rheng flaen cystal ag y gallwn ni, gan gefnogi'r aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw a blaenoriaethu swyddi.
Mae 12 cynnydd ar ôl ei gilydd i'r gyfradd llog gan Fanc Lloegr yn ystod y 18 mis diwethaf wedi arwain at gostau cynyddol sylweddol o ran benthyca arian. Mae hwn yn bryder i lawer ac fe welir hynny ar draws y farchnad fenthyca boed hynny o ran benthyciadau morgais, cynydd mewn rhent preifat o ganlyniad i gynnydd i forgais prynu i osod, benthyciadau llog uwch i fusnesau neu o ran ariannu cartrefi cymdeithasol newydd. Yn ôl ffigyrau UK Finance, fe fydd tua 800,000 o forgeisi sefydlog yn dod i ben cyn diwedd eleni, ac 1.6 miliwn arall yn dod i ben yn 2024. Nid yw'r ffigurau yn cynnwys morgeisi cyfraddau amrywiol a morgeisi tracio, a fydd eisoes wedi codi yn gyflym iawn a hynny wedi arwain at daliadau uwch. Mae'r Resolution Foundation yn dweud y bydd ad-daliadau morgais blynyddol £15.8 biliwn y flwyddyn yn uwch erbyn 2026 o gymharu â mis Rhagfyr 2021, pan ddechreuodd y banc godi cyfraddau llog. Mae disgwyl i ad-daliadau blynyddol i bobl sy'n ailforgeisio yn y flwyddyn nesaf godi gan £2.9 biliwn ar gyfartaledd—mae'n ddrwg gen i, £2,900 ar gyfartaledd. Mae angen i mi gael fy seros mewn rhes yma. Mae ystadegau meddiant morgeisi a landlordiaid ar gyfer misoedd Ebrill hyd Fehefin 2023 yn dangos, o gymharu â'r un chwarter yn 2022, bod hawliadau meddiant morgais wedi cynyddu 15 y cant.
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Mae trafodaethau manwl am y farchnad forgeisi yn rhan o ymrwymiad y cytundeb cydweithio i archwilio cymorth morgeisi lleol wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth ni o'r bylchau yn y farchnad a'r mannau y gallwn ni gyfeirio cefnogaeth iddyn nhw. Mae gennym ni gyfle nawr i helpu mwy o bobl drwy ehangu ein cynnig achub morgeisi cyfredol i gefnogi'r rhain yn gynharach, nid dim ond y rhai sydd cael eu bygwth gan adfeddiannu. Mae hyn yn cynnwys rhoi cefnogaeth i'r rhai sy'n gaeth i gynnyrch amrywiol safonol ac nad ydyn nhw'n gallu trefnu morgais newydd sy'n fforddiadwy. Trwy weithredu nawr â rhagor o fuddsoddiad, fe allwn ni rwystro llawer o unigolion a theuluoedd rhag mynd i weithrediadau adfeddiant a bod yn ddigartref, gan ychwanegu at y rhestrau aros sydd eisoes dan straen a chostau llety dros dro uchel i'r awdurdodau lleol.
Mae swm o £40 miliwn o gyllid cyfalaf ad-daladwy wedi'i wneud ar gael dros y ddwy flynedd nesaf i gyflwyno cynlluniau ar gyfer darparu cymorth ariannol sy'n hyblyg, ac fe allaf i gyhoeddi heddiw lansiad cynllun cymorth morgais Cymorth i Aros Cymru a rhoi gwybodaeth i berchnogion cartrefi, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd. Cytunwyd ar hynny'n rhan o'r cytundeb cyllideb gyda Phlaid Cymru ar gyfer 2023-24. Fe fydd y cynllun Cymorth i Aros Cymru yn cynnig dewis i berchnogion tai sy'n ei chael hi'n anodd fforddio eu taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartrefi drwy gynnig ad-daliad rhannol o falans morgais cyfredol trwy fenthyciad ecwiti cost isel, a sicrheir drwy ail daliad, y tu cefn i fenthyciwr y taliad cyntaf, gan leihau ad-daliadau morgais diwygiedig hyd at gyfradd y gall yr ymgeisydd ei fforddio.
Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau cyfredol yn ei gwneud hi'n ofynnol i bobl fod mewn gweithrediadau adfeddiant eisoes i fod yn gymwys ar eu cyfer. Fe fydd Cymorth i Aros yn ymestyn hynny i gynnwys rhai sy'n wynebu gweithrediadau adfeddiant a/neu mewn caledi ariannol. Nid yw'r cynllun ar gael ond i aelwydydd cymwys sydd wedi archwilio'r holl fesurau eraill a gynigir gan y darparwr morgais drwy siarter morgeisi'r DU ac sydd wedi gofyn am gymorth drwy wasanaethau cyngor ar ddyledion.
Fe fydd perchnogion tai sy'n gymwys yn cael cyngor morgais rhad ac am ddim gan gynghorwyr dyledion arbenigol, gyda chostau hynny'n cael eu talu yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Fe fydd hyn yn sicrhau bod yr ymgeisydd wedi derbyn cyngor annibynnol ynghylch y dewisiadau sydd ar gael, ac yn cadarnhau bod pob trywydd arall wedi ei ddilyn, ac yn gwirio cyfraddau'r gwasanaeth dyled y gallai'r ymgeisydd ei fforddio yn rhesymol ar sail adolygiad o'i amgylchiadau ar hyn o bryd. Mae canllawiau llawn ar y cynllun, gan gynnwys y meini prawf ar gyfer cymhwysedd, ar gael erbyn hyn ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r partneriaid allanol ac arbenigwyr yn y sector sydd wedi ein cynorthwyo ni i ddatblygu'r cynllun hwn ar gyflymder. Mae eu cefnogaeth a'u gwaith caled wedi bod yn hanfodol i sefydlu'r meini prawf cymhwyso priodol a chefnogi'r prosesau hyn. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i UK Finance a'r benthycwyr hynny sy'n cefnogi'r cynllun. Rwy'n gobeithio y bydd mwy yn gallu rhoi eu cefnogaeth nhw dros yr wythnosau nesaf.
Fe fyddwn ni'n parhau i wneud popeth yn ein gallu gyda'r pwerau sydd gennym ni i helpu i amddiffyn aelwydydd sy'n agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw hwn. Mae cynllun newydd Cymorth i Aros Cymru yn ategu'r cymorth hwn ac fe fydd yn helpu i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i berchnogion tai sydd dan bwysau ariannol allu aros yn eu cartrefi eu hunain. Diolch.
Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod pawb ohonom ni'n ymwybodol iawn nawr pa mor anodd yw hi ar bobl, yn enwedig ar y rhai sydd â morgais a'r ymrwymiad rheolaidd hwnnw y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu bob mis. Fe fydd penderfyniad Banc Lloegr i ddal y gyfradd llog sylfaenol ar 5.25 y cant am yr eildro yn olynol yn ymestyn y cyfnod hwn o galedi, ond rydym ni i gyd yn gobeithio y daw rhywfaint eto o haul ar fryn. Mae pwyllgor polisi ariannol y banc, sy'n gwneud y penderfyniadau am y cyfraddau, yn disgwyl i chwyddiant arafu yn sydyn iawn hyd 4.8 y cant yn ffigyrau mis Hydref, ac rydym ni'n dal i obeithio y byddwn ni'n bwrw ymlaen â chyfraddau chwyddiant sy'n is.
Mae Llywodraeth y DU eisoes yn darparu cymorth hefyd i'r rhai sydd â morgeisi. Mae benthycwyr sy'n cwmpasu dros 75 y cant o'r farchnad wedi cytuno i siarter morgeisi newydd y Canghellor, gan estyn cefnogaeth i gwsmeriaid morgeisi preswyl, ac fe all unrhyw un sy'n poeni am ei ad-daliadau morgais ffonio'r benthyciwr—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i.
Anwybyddwch e, Janet, os gwelwch chi'n dda. Ewch ymlaen â'ch cyfraniad chi.
Fe all unrhyw un sy'n poeni am ei ad-daliadau morgais ffonio ei fenthyciwr am wybodaeth a chymorth heb effeithio ar ei sgôr credyd. Ni fydd cwsmeriaid yn cael eu gorfodi i weld adfeddiannu eu cartrefi o fewn 12 mis i'r taliad cyntaf y methwyd ei wneud, ac estynnir cyfle i gwsmeriaid sy'n agosáu at ddiwedd cytundeb cyfradd sefydlog allu cloi cytundeb am hyd at chwe mis i ddod, ac felly fe allan nhw wneud cais hefyd am gytundeb gwell hyd nes y bydd eu tymor newydd yn dechrau os oes un ar gael. Mae'r cytundeb newydd y cytunwyd arno rhwng benthycwyr, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a'r Llywodraeth yn caniatáu i gwsmeriaid drosglwyddo i forgais llog yn unig am chwe mis, neu hyd yn oed ymestyn tymor eu morgais er mwyn lleihau eu taliadau misol a newid yn ôl i'w tymor gwreiddiol o fewn y chwe mis cyntaf os ydyn nhw'n dewis gwneud felly. Gellir manteisio ar y ddau ddewis heb unrhyw wiriad fforddiadwyedd newydd nac effaith ar sgôr credyd.
Fe wyddom ni fod cefnogaeth ar gael nawr i gwsmeriaid sy'n gyfredol o ran eu taliadau i drosglwyddo i gytundeb morgais newydd ar ddiwedd eu cytundeb cyfradd sefydlog cyfredol heb unrhyw wiriad fforddiadwyedd arall. Ceir gwybodaeth ar yr amser priodol i helpu cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw pe byddai disgwyl i'w cyfradd bresennol ddod i ben, ac fe gynigir cymorth wedi ei deilwra i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd. Fe allai hyn olygu ymestyn tymor y morgais i leihau taliadau, a fyddai'n cynnig trosglwyddo i daliadau llog yn unig, ond ystod o ddewisiadau eraill hefyd fel gohirio taliadau dros dro neu i gyfran o log, ac ad-daliad rhannol. Ac rwy'n cytuno, mae angen i ni sicrhau bod pawb yn gwybod beth yw eu hawliau nhw os ydyn nhw'n cael trafferthion â'u morgais er mwyn teimlo yn ddigon hyderus i siarad â'u benthyciwr a deall y camau y gallan nhw ofyn amdanynt i gael cymorth.
Felly, yn ogystal â chyflwyno'r arian hwn, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i helpu i wella ymwybyddiaeth o'r siarter morgeisi yng Nghymru? Pam nad ydych chi wedi dewis cynllun sy'n caniatáu i landlordiaid cymdeithasol brynu cartrefi sydd dan fygythiad o'u hadfeddiannu er mwyn i berchennog y tŷ allu barhau i fyw yn yr annedd y bu'n ei ystyried yn gartref iddo am gryn dipyn o flynyddoedd yn ôl pob tebyg? Rwy'n ymwybodol bod y meini prawf cymhwysedd yn fanwl iawn, megis yr uchafswm o £300,000 yng ngwerth yr eiddo a £67,000 o uchafswm yn incwm y cartref. Sut y daethpwyd at y meini prawf hyn o ran cymhwysedd ac a ydych chi'n hyderus y bydd hynny'n arwain at estyn cymorth i'r rhai sydd ag angen gwirioneddol amdano? Diolch i chi. Diolch.
Wel, diolch i chi, Janet, am roi darlleniad i ni o gymorth honedig Llywodraeth y DU. Fel rwy'n siŵr y gwnaethoch chi sylwi pan oeddech chi'n ei ddarllen, y cyfan y mae hynny'n ei olygu yw gofyn i'ch benthyciwr chi naill ai ymestyn eich benthyciad neu eich helpu chi i gael un sydd hyd yn oed yn ddrytach. Wyddoch chi, ni fydd hynny'n helpu llawer iawn o bobl o gwbl. Rwy'n croesawu'r cyngor o ran cysylltu â'ch benthyciwr chi—rydym ni'n cyd-fynd â hynny. Yn bendant, cyn gynted ag y bydd rhywun o'r farn ei fod mewn unrhyw anhawster o gwbl gyda thaliad morgais, mae hi'n amlwg y dylai gysylltu â'i fenthyciwr ar ei union. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfres gyflawn o wasanaethau o ran cyngor ynglŷn â dyledion y dylai pobl gysylltu â nhw, oherwydd nid ydym ni'n awyddus i unrhyw un ddechrau llithro i golli taliadau morgais os oes yna unrhyw ddewis arall o gwbl yn bosibl.
Diben y cynllun hwn yw helpu'r bobl hynny na allan nhw fforddio talu eu morgais yn eu sefyllfa nhw a heb fod yn gallu gwerthu eu cartrefi yn drefnus, mewn pryd i allu canfod rhywle arall i fyw, a hynny oherwydd ystod eang o amgylchiadau. Fe geir amrywiaeth o amgylchiadau a allai amrywio llawer iawn ar gyfer pob teulu. Efallai eich bod chi ar flynyddoedd olaf cyfraddau uchel iawn o ofal plant, er enghraifft, ac, yn ystod y ddwy flynedd nesaf, mae hi'n ddigon posibl y byddwch chi mewn sefyllfa lle bydd eich plant yn yr ysgol amser llawn ac y bydd eich sefyllfa ariannol chi'n gwella o ganlyniad i hynny, ac yn y blaen. Felly, mae yna amrywiaeth enfawr o amgylchiadau y mae pobl yn cael eu hunain ynddyn nhw. Rwy'n credu, serch hynny, Janet, ei bod hi'n rhaid i chi dderbyn bod y sefyllfa bresennol, o ran chwyddiant a'r hyn a ddigwyddodd y llynedd gyda Llywodraeth Truss, wedi distrywio cyllid pobl yn llwyr. Nid wyf i'n credu mai pwynt gwleidyddol mohono erbyn hyn—fe wnaeth hynny mewn gwirionedd. Roedd pobl yn mynd oddi wrth gyfraddau llog sefydlog o 1.9 y cant i 6.2 y cant—ni all neb fforddio hynny. Mae hi'n gwbl gywilyddus.
I ateb un o'ch cwestiynau eraill chi, nid dyma'r unig gynnyrch sydd gennym ni; un cynnyrch yn unig yw hwn. Rydym ni'n llwyr yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau brynu pobl allan—pecyn achub morgais. Cymorth i Aros yw hwn, nid yw'n golygu prynu neb allan, ond fe hoffwn i bwysleisio bod hwn yn un o gyfres gyflawn o ymyriadau a wnaethom ni'n rhan o'r cytundeb cydweithio. Rydym ni wedi bod yn gweithio ar becyn achub morgeisi ers peth amser gyda Siân Gwenllian, yn rhan o'r pecyn hwn, oherwydd rydym ni'n awyddus hefyd i bobl aros yn eu cartrefi eu hunain. Ond y pwynt sylfaenol yn hyn o beth yw, pe byddai rhywun yn mynd yn ddigartref, nid ffordd o fyw y mae unigolyn yn ei dewis—wyddoch chi, ni allaf i gredu fy mod i wedi clywed hynny oddi wrth un o Weinidogion Llywodraeth y DU, a dweud y gwir. Am beth cwbl gywilyddus i'w ddweud. Y rheswm am hynny yw eich bod wedi profi cyfres o ddigwyddiadau anffodus, a dweud y lleiaf, ac fe allai hynny ddigwydd i unrhyw un ohonom ni—unrhyw un ohonom ni. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw mynegi, mewn termau dynol ac ariannol, ei bod hi'n llawer mwy caredig ac yn ariannol ddoeth hefyd i ni helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain. Yn arferol, mae teulu sy'n mynd yn ddigartref yn costio pum gwaith yn fwy i'w cadw, o ran dewisiadau tai, nag yr oedden nhw'r diwrnod cyn hynny, pan nad oedden nhw'n ddigartref. Felly, mae hwn yn ddefnydd da iawn o arian cyhoeddus, sy'n lleihau archollion pobl ac, mewn gwirionedd, mae hwn yn fuddsoddiad da iawn sy'n arbed arian yn y pen draw, oherwydd fe fydd yn helpu pobl i sefyll ar eu traed, ac aros yn eu cartrefi eu hunain, a phan fo rheidrwydd arnyn nhw i symud, fe fydd yn estyn cyfle iddyn nhw wneud hynny'n drefnus fel nad oes raid iddyn nhw wneud hynny'n frysiog, sy'n ddirdynnol iawn. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gynnyrch rhagorol, sy'n tarddu o set o benderfyniadau gwael dros ben gan Lywodraeth y DU.
Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y cyhoeddiad yma heddiw. Ar ran Plaid Cymru, dwi'n croesawu'n fawr y cynllun Cymorth i Aros a'r pecyn o £40 miliwn sydd wedi cael ei neilltuo ar ei gyfer drwy'r cydweithio efo Plaid Cymru.
Mae nifer cynyddol o bobl yng Nghymru yn wynebu ansicrwydd anferthol ac yn ofni digartrefedd yn sgil y chwyddiant anferthol sydd yn parhau a'r argyfwng costau byw. Bydd y pecyn cymorth yma'n sicrhau to uwchben nifer o'n teuluoedd yng Nghymru, ac mae hyn i'w groesawu. Mae hyn, wrth gwrs, yn wahanol iawn i'r Llywodraeth anfoesol sydd yn gweinyddu yn San Steffan. Chlywsom ni ddim byd tebyg yn Araith y Brenin heddiw a dwi'n hyderus na chlywn ni ddim byd tebyg yn natganiad yr hydref mewn pythefnos chwaith.
Ond mae'n amlwg mai ein blaenoriaeth ni yma, drwy'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, ydy sicrhau bod gan bobl do uwch eu pennau a bod pobl yn gallu byw mewn urddas a diogelwch. Mae’r gefnogaeth yma'n bosib oherwydd ein bod ni’n gweld sefydliadau Cymru yn cael eu defnyddio er lles pobl Cymru. Dyma ddatganoli, er gwaethaf mor gyfyngedig a thila ydy o, yn gweithio dros bobl Cymru, gan sicrhau cymorth i’r bobl hynny sydd ei angen yn ystod eu hawr fwyaf anghenus. Dyma Cymru yn lliniaru ar effeithiau niweidiol argyfwng a grëwyd yn San Steffan. Ystyriwch beth fedren ni ei gyflawni gyda’r grymoedd llawn a ddaw yn sgil annibyniaeth. Efo annibyniaeth, ni fyddai Cymru bellach ar drugaredd Ceidwadwyr ciaidd San Steffan, ond yn hytrach yn medru torri ein cwys ein hun yn llwyr a chreu'r polisïau economaidd tecach sydd eu hangen arnom ni er mwyn cael gwared ar ddigartrefedd a sicrhau bod pawb yn byw gydag urddas yng Nghymru. Ydy’r Gweinidog, tybed, yn cytuno efo’r dadansoddiad yma?
Mae gan Blaid Cymru hanes balch o gynorthwyo pobl yn y modd yma. Dŷn ni’n cofio gwaith gwych Jocelyn Davies pan oedd hi’n Weinidog tai nôl yn 2008 a’i chynllun achub morgeisi bryd hynny. Mae’r pecyn newydd yma, Cymorth i Aros, am fynd gam ymhellach na hynny a chynorthwyo pobl yn gynt yn y broses, nid dim ond pobl sydd o dan fygythiad uniongyrchol o golli eiddo yn syth. Mae hyn, felly, yn golygu y gall pobl aros yn eu cartrefi ac osgoi'r straen a’r gorbryder a ddaw yn sgil trafferthion talu morgais.
Mewn cyfnod fel hyn o bwysau economaidd difrifol ar aelwydydd, fe fydd ehangu'r gefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu adfeddiannu a chaledi ariannol yn lleihau nifer y perchnogion tai sydd mewn perygl o brofi adfeddiant a digartrefedd trwy roi amser iddyn nhw ddatrys eu problemau ariannol gwaelodol. Yn ei hanfod, fe fydd y cynllun yn helpu llawer i osgoi profiad ingol digartrefedd sy'n cynyddu, ac fe fydd yn helpu i ysgafnu'r pwysau ar wasanaethau llety dros dro, sydd dan straen aruthrol ar hyn o bryd, gyda'r ystadegau diweddaraf yn nodi bod 11,185 o unigolion mewn llety dros dro.
Fe fydd y cynllun sydd ger ein bron heddiw, wrth gwrs, yn gweithio ochr yn ochr â pholisïau eraill yr ydym ni wedi dadlau o'u plaid nhw ers cryn amser ac erbyn hyn, rydym ni wedi eu sicrhau nhw drwy'r cytundeb cydweithio, sef y gwaith ar ail gartrefi a thai gwag, deddfwriaeth newydd ar atal digartrefedd, a'r Papur Gwyn ar eiddo a rhenti teg. Mae Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur yn amlwg yn rhannu'r nod o sicrhau y bydd pawb yng Nghymru gyda diogelwch o fod â tho uwch eu pennau ac aelwyd yn gartref. Ac wrth groesawu lansiad y cynllun heddiw, fe fyddaf i'n parhau i ddadlau'r achos y dylai Llywodraeth Cymru gofleidio a gwreiddio'r hawl i annedd weddus yn y gyfraith yng Nghymru, i ysgogi'r newid yr ydym ni'n dyheu amdano.
Yn y pen draw, mae'r sefyllfa ansicr y mae llawer o ddeiliaid morgeisi yn ei hwynebu yn bodoli oherwydd strwythur presennol y farchnad dai, sydd yn ei hanfod yn golygu mai'r unig ddewis i'r rhan fwyaf o bobl ar gyfer prynu tŷ yw cael morgais am eiddo na ellir ei fforddio, yn y bôn. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud mewn gwirionedd yw cyflymu'r gwaith o adeiladu tai trefol i leihau costau, gan alluogi mwy o bobl i allu byw mewn tai diogel a fforddiadwy. Fe fydd y cynllun hwn yn mynd ffordd bell o ran helpu pobl ledled Cymru, ond mae'n rhaid iddo weithredu ochr yn ochr ag ystod o bolisïau eraill hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Mabon. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r gyfres olaf honno o sylwadau. Un rhan yw hon o gyfres o bolisïau, fel roeddech chi'n gywir i'w ddweud, ac fe fuom ni'n gweithio gyda'n gilydd ar lawer ohonyn nhw yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Nid y bwriad mewn unrhyw fodd yw disodli adeiladu cartrefi cymdeithasol, ac mae hi'n amlwg fod angen i ni wneud hynny, ond mae hyn yn deillio o'r un amgylchiadau â'r rhai sy'n achosi'r anhawster o ran adeiladu cartrefi cymdeithasol. Felly, roeddem ni'n arfer gallu adeiladu cartref cymdeithasol am rywbeth rhwng £175,000 a £195,000, a nawr y mae hynny rhwng £235,000 a £250,000. Felly, fe gollwn ni ddau ym mhob miliwn os ydych chi'n ystyried y peth fel yna. O ganlyniad i hynny, fe fydd nifer fawr o bobl a allai fod wedi bod yn wynebu'r math hwn o galedi ac a fyddai wedi gwneud cais am dai cymdeithasol ymhellach yn eu holau, am nad ydym ni'n gallu adeiladu'r tai hyn fel byddem ni.
Fe ysgogwyd hyn i gyd gan bolisïau cyllidol sobr o wael Llywodraeth y DU. Nid oedd angen o gwbl iddi fod fel hyn. Mae hon yn set drychinebus o amgylchiadau a ddaeth yn weithredol oherwydd anghyfrifoldeb cyllidol. Nid oes ffordd arall o fynegi'r peth. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau bod yr archoll a achosir gan hynny mewn llawer o gartrefi ledled Cymru yn cael ei lliniaru, ac, wrth gwrs, mae hon yn gyfres o bolisïau. Felly, ydym, rydym ni'n edrych yn hollol ar achub morgais lle bydd rhywun yn colli buddiant yr ecwiti sydd yn ei gartref ond yn parhau i fod yn gallu byw ynddo. Nid yw hynny'n ddelfrydol, ond serch hynny, mae'n llawer gwell na mynd yn ddigartref. Mae hyn yn eich galluogi chi i gadw eich troed ar yr ysgol eiddo.
Mae'r farchnad dai yn doredig ym Mhrydain—mae hynny'n hollol wir. Felly, mae'r mathau hyn o ymyriadau yn angenrheidiol i sicrhau ein bod ni'n cadw cymaint o bobl â phosibl yn eu cartrefi, felly mae hynny'n gyfran fawr o'r hyn yr ydych chi, Dirprwy Lywydd, wedi fy nghlywed i'n ei ddweud lawer gwaith o ran agenda ataliaeth. Nid ystyr hyn yn unig yw helpu pobl mewn trybini nad ydyn nhw wedi dewis ffordd o fyw fel hyn, ond sy'n ddi-fai yn y mwyafrif o achosion—fe fyddwn i'n mynd mor bell â dweud ym mhob achos, mewn gwirionedd—ac mae ar waith i wneud yn siŵr ein bod ni'n bwrw ymlaen â hynny ac yn ceisio atal hynny rhag digwydd. Mae pwysau ariannol fel hyn yn peri i deuluoedd chwalu. Dyna'r gwir amdani. Pwysau oherwydd dyledion yw un o achosion pennaf chwalfa deuluol. Felly, mae ceisio bwrw ymlaen yn hyn o beth yn un o brif amcanion y polisi hwn.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, adroddiad blynyddol 2022-23, a galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n ffaith ofnadwy fod trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i ddifetha bywydau, gydag aflonyddu, cam-drin a thrais yn rhywbeth sy'n digwydd yn ddyddiol i lawer un. Mae hi'n frawychus fod dwy fenyw bob wythnos ar gyfartaledd yn cael eu lladd gan bartner presennol neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn eglur o ran ein huchelgais i weld diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae hi'n broblem yn y gymdeithas, sy'n gofyn ymateb cymdeithasol, y byddwn ni'n ei arwain a'i ysgogi fel ei gilydd.
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi adroddiad blynyddol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2022–2023. Mae cyhoeddi'r adroddiad hwn yn ofyniad statudol yn unol ag adran 12 Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaeth Llywodraeth Cymru tuag at ei nod i weld diwedd terfyn ar drais ar sail rhyw. Mae'n cwmpasu'r gwaith a gwblhawyd rhwng 1 o fis Ebrill 2022 a 31 o fis Mawrth 2023, gan gyfeirio at y chwe amcan a nodir yn y strategaeth genedlaethol. Cyhoeddwyd strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mis Mai 2022, a hon yw'r ail strategaeth o'r fath i'w chyhoeddi yn unol â Deddf 2015.
Mae'r strategaeth yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn mynd i'r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhywiol a chasineb at fenywod. Mae'r adroddiad blynyddol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r cynnydd tuag at gyflawniad pob un o'r amcanion. Mae'n tynnu sylw at y gwaith pwysig a wneir yma yng Nghymru i sicrhau bod menywod a merched yn gallu byw heb ofn a bod pob tramgwyddwr a goroeswr yn derbyn y cymorth sydd ei angen. Mae'n cydnabod hefyd bwysigrwydd ymagwedd groestoriadol. Fe fydd hyn yn ein helpu ni i ddatblygu ein dealltwriaeth ni o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol hefyd ac yn mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu anghenion ac amrywiol pawb sy'n cael eu heffeithio arnyn nhw, gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl a chymunedau LHDTC+.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos y ffordd arloesol y datblygir y strategaeth hon drwy ddull y glasbrint, sy'n dwyn sefydliadau datganoledig a sefydliadau heb eu datganoli at ei gilydd, yn ogystal â grymuso'r bartneriaeth rhwng sectorau cyhoeddus, preifat ac arbenigol. Drwy gydol 2022-23, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Plismona yng Nghymru a'r sector arbenigol, i sefydlu strwythur glasbrint newydd ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn cyflawni'r strategaeth genedlaethol. Mae hyn yn adeiladu ar ein modelau glasbrint llwyddiannus ar gyfer cyfiawnder i fenywod a chyfiawnder i ieuenctid. Mae glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cynnwys chwe ffrwd waith sy'n adrodd i fwrdd rhaglenni gweithredol, sydd, yn ei dro, yn cael ei oruchwylio gan fwrdd partneriaeth cenedlaethol strategol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yr wyf i'n ei gadeirio gyda'r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn.
Rwyf i wedi ymrwymo i roi gwrando ar lais y goroeswr wrth galon y gwaith hwn. Yn ystod y cyfnod adrodd, cafodd panel craffu i wrando ar leisiau goroeswyr a rhoi cyfranogiad iddyn nhw ei sefydlu yn rhan o'r glasbrint, ac mae hwnnw'n sicrhau y bydd y gwaith glasbrint i gyd yn cael ei graffu arno gan oroeswyr cyn cael ei ystyried gan fwrdd partneriaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dim ond drwy ymgysylltiad gwirioneddol ac ar y cyd â goroeswyr y gellir gweld cynnydd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint ym mis Mawrth 2023. Mae hwnnw'n disgrifio diben pob un o'r ffrydiau gwaith ac yn nodi pob un o'u cynlluniau cyflawni lefel uchel. Mae sefydlu'r glasbrint wedi gosod sylfaen gref i weithio ar y cyd ac fe hoffwn i ddiolch i'n holl bartneriaid ni am eu hymrwymiad cyffredin i'r agenda hon. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd, drwy gyfuno ein harbenigedd a'n hadnoddau, y byddwn ni'n gallu mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a sicrhau y bydd pawb yn gallu cael cymorth, ac y gall atal liniaru niwed ac y bydd tramgwyddwyr yn gallu mynd i'r afael â'u hymddygiad nhw. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am y gwaith pwysig a wnaethon nhw yn eu hymchwiliadau i'r maes hwn o bolisi.
Yn ogystal â'r adroddiad blynyddol hwn ar y strategaeth genedlaethol, rydym ni newydd gyhoeddi diweddariad hefyd ar gynnydd ar y glasbrint. Yn ogystal â hynny, fe hoffwn i dynnu sylw at waith amhrisiadwy ein cynghorwyr cenedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sef Yasmin Khan a Johanna Robinson. Maen nhw'n cefnogi'r glasbrint, yn ogystal â'm cynghori a'm helpu i godi proffil y gwaith hwn a wneir ledled Cymru a'r tu hwnt. Maen nhw newydd gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol eu hunain, ac rwy'n ei gymeradwyo i Aelodau'r Senedd ac unrhyw un arall sy'n ymddiddori ym maes rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae rhai o'r cyflawniadau allweddol eraill a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad blynyddol ar y strategaeth genedlaethol yn cynnwys, ym mis Mawrth eleni, fy nghyhoeddiad o becyn cyllid ar gyfer BAWSO i ddarparu cefnogaeth i fenywod mudol sy'n ffoi rhag cam-drin nad ydyn nhw'n gallu hawlio arian cyhoeddus; ymgysylltiad helaeth â Llywodraeth y DU ar wahanol ddarnau o ddeddfwriaeth, gan gynnwys y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, i sicrhau bod natur ddatganoledig darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru yn cael ei hystyried; datblygiad a lansio ymgyrch Iawn, ymgyrch ymyrraeth gynnar ac atal ar gyfer dynion ifanc, gan eu hannog nhw i wneud dewisiadau personol adeiladol a dechrau sgyrsiau agored gyda'u cyfoedion; cafodd 21,500 o blant a phobl ifanc fwy o wybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o berthnasoedd iach drwy sesiynau Sbectrwm mewn ysgolion cynradd; caffael ar gyfer rhaglen hyfforddiant gwyliwr genedlaethol gyntaf Llywodraeth Cymru i herio agweddau cymdeithasol a chynyddu annerbynioldeb cam-drin ar sail rhywedd; ac, erbyn diwedd mis Mawrth 2023, roedd dros 342,000 o weithwyr proffesiynol yng Nghymru wedi cael hyfforddiant drwy'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol, gan sicrhau bod y wybodaeth a'r profiad ganddyn nhw i ymateb yn hyderus i'r rhai sy'n profi unrhyw fath o gam-drin ar sail rhywedd; a chefnogwyd dros 34,000 o ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod gan linell gymorth Byw Heb Ofn 24/7, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Rwy'n cyhoeddi'r adroddiad hwn yn y cyfnod cyn Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 o fis Tachwedd a'r 16 diwrnod o weithgarwch sy'n ei ddilyn. Y Rhuban Gwyn yw'r brif elusen yn y DU sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Ac rwy'n falch o adrodd, dros y cyfnod adrodd, fod Llywodraeth Cymru wedi adnewyddu ei hachrediad Rhuban Gwyn. Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth y DU neu adran lywodraethol i gael ei hachredu gan y Rhuban Gwyn.
Fel y gwelwch chi o'n hadroddiad blynyddol, mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac fe ddylem ni fod yn falch o'n henw da. Serch hynny, mae llawer i'w wneud eto, ac mae creu'r glasbrint yn dangos maint ein huchelgais ni'n eglur. Rydym ni wedi cyflawni llawer iawn ond mae heriau sylweddol iawn yn parhau ac fe fyddwn ni'n ymdrin â'r rhain yn uniongyrchol.
Yn 2023-24 fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'n gilydd yn ysbryd cydgynhyrchu a chydweithio i ddatblygu'r glasbrint ymhellach a chyflawni yn ôl strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ein hymrwymiad ni yw sicrhau y gall pawb fyw heb ofn, ac ni fydd Cymru yn sefyll yn ôl o ran gwrthsefyll trais.
Neithiwr, fe anfonodd Llywodraeth Cymru ddogfen i'r Aelodau, 'Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: adroddiad blynyddol 2022 i 2023 o gynnydd'. Pam mae hon yn wahanol i'r ddogfen 'Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: adroddiad blynyddol cynghorwyr cenedlaethol 2022 i 2023', a gyhoeddwyd fis diwethaf, o ran ei chynnwys a'i hamcanion fel ei gilydd? Ym mha le mae'r strategaeth gydlynol, gadarn sy'n manylu ar beth, sut, ym mha le, pa bryd, a phwy sydd am gyflawni yn ôl yr amcanion hyn? Mae'r adroddiad cynghorwyr cenedlaethol yn nodi, ac rwy'n dyfynnu:
'Darparodd Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr adroddiad cynhwysfawr yn 2022 "A Patchwork of provision: mapping report" sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr.'
Mae'n mynd ymlaen i ddweud:
'Amlygodd yr adroddiad hwn yr heriau o ran gallu dioddefwyr a goroeswyr i gael gafael ar gymorth cwnsela, roedd gwahaniaeth o 21 pwynt canran rhwng yr ardal orau (58% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr) a'r ardal waethaf (37% yng Nghymru).
Ymhellach, mae'n dweud:
'wrth geisio dwyn cyflawnwyr trais i gyfrif a gweithredu’r ymyriadau newid ymddygiad penodol, dywedodd 16% o oroeswyr yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr fod cymorth newid ymddygiad ar gael i’w camdriniwr, o'i gymharu â 3% yng Nghymru.'
Felly, sut ydych chi am lenwi'r bwlch hwn o ran mynediad at wasanaethau yma yng Nghymru? Mae'r adroddiad yn dweud hefyd:
'Mae ymgysylltu â goroeswyr a sicrhau bod unigolion sy'n arbenigwyr drwy brofiad yn rhan o'r gwaith o lunio polisïau a chraffu ar yr hyn sy'n digwydd ar bob lefel yn hanfodol.'
Fodd bynnag, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando arnyn nhw, ac yn dweud nad ydyn nhw o'r farn fod y Ddeddf yn cydweddu â natur hyblyg ac ymdriniaeth ag argyfwng y ddarpariaeth lloches. Ni fwriedir fyth i ddarpariaeth lloches fod yn gartref parhaol, ac mae goroeswyr yn byw yno wrth iddyn nhw ffoi rhag perygl o niwed difrifol neu farwolaeth sydd wrth law. Mae lloches yn dibynnu ar denantiaethau hyblyg, fel trwyddedau, er mwyn gallu symud y goroeswr ymlaen yn gyflym pan nad yw'r lloches yn briodol bellach. Mae'r ddeddfwriaeth hon, medden nhw, wedi trin y llety brys y mae lloches yn ei ddarparu fel cartref at ddibenion Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), a hynny'n amhriodol.
Maen nhw'n credu'n gryf y gallai'r Ddeddf dorri'r system lloches rhag trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Mae hi wedi achosi canlyniadau parhaol a dinistriol eisoes i oroeswyr a darpariaeth y gwasanaethau, chwedl nhw, ers ei rhoi ar waith. 'Codwyd pryderon ynglŷn â materion fel diogelu, risg, cymhlethdod statws tenantiaeth preswylwyr a baich gweinyddol ychwanegol ar ddarpariaeth lloches, sy'n ymdopi â galw mawr eisoes.' Diwedd y dyfyniad.
Er eu bod nhw wedi codi a thystiolaethu am eu pryderon nhw i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes gennych sylfaen dystiolaeth ddigonol ar gyfer newid deddfwriaethol nac ymgynghoriad cyhoeddus. Cyn pen-blwydd cyntaf ei weithrediad ar 1 o fis Rhagfyr, fe fydd Cymorth i Ferched Cymru yn cynnal digwyddiad heddychlon 'Cyrch ar y Senedd' ar 28 o fis Tachwedd, ac maen nhw'n gwahodd Aelodau i ddod draw i ddangos cefnogaeth. Rwy'n noddi digwyddiad galw heibio ar y cyd ar 13 o fis Rhagfyr ar y mater hwn. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi, neu a fydd gennych chi nawr gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i fynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol hyn ynghylch y Ddeddf, ac a wnewch chi ddod i'r naill neu'r llall o'r digwyddiadau hyn i glywed mwy am bryderon Cymorth i Ferched Cymru?
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gennych chi neithiwr yn nodi
'bod pobl anabl bron i deirgwaith yn fwy tebygol o brofi cam-drin domestig, ac eto mae cymaint o wasanaethau yn anhygyrch iddynt o hyd',
ac eto nid yw tîm trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru ond, dyfyniad,
'wrthi'n ystyried y dull gorau o ddeall pa gamau a mesurau y mae derbynwyr grant yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y prosiect/au a ariennir yn diwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr anabl'.
Pryd fydd hyn ar waith er mwyn galluogi monitro effeithiol? Mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at gynllun gweithredu i ddiwallu anghenion pobl hŷn. Pryd fydd hwnnw'n digwydd a sut caiff ei fonitro? Mae'r adroddiad hwn yn cyfeirio at gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc o bwysigrwydd cydberthynas iach a bod cam-drin yn anweddus pob amser. Mae'n cyfeirio hefyd at ddatblygu dull system gyfan i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnyn nhw. Er hynny, ar ôl dau ddegawd o siarad am hyn, pa gymorth a monitro penodol a gaiff ei roi ar waith i ddiwallu anghenion cymhleth plant a phobl ifanc sy'n agored i gam-drin domestig a thrais rhywiol?
Yn olaf, er mai gwrywod yw mwyafrif y tramgwyddwyr, mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi mai dynion a bechgyn yw un rhan o dair y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig. Sut felly y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y dioddefwyr a'r goroeswyr hyn yn gallu cael gafael ar gymorth sy'n ddiogel, yn addas ac yn arbenigol yn eu hardaloedd nhw?
Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod swyddogaeth ein cynghorwyr cenedlaethol, ac roeddwn i'n croesawu eu hadroddiad blynyddol nhw'n fawr iawn. Fe gawson nhw eu sefydlu dan ddarpariaeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, fel y gwyddoch chi, ac mae hi'n bwysig bod ganddyn nhw swyddogaeth annibynnol; mae ganddyn nhw swyddogaeth allweddol o ran cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch dilyn pwrpas y Ddeddf a mynd i'r afael â materion cysylltiedig. Rwy'n credu mai'r hyn sydd wirioneddol bwysig o ran ein cynghorwyr cenedlaethol—ac rwy'n gwybod bod nid yn unig y pwyllgor, ond Aelodau eraill y Senedd yn ymwybodol iawn o'n cynghorwyr cenedlaethol, yr arbenigedd, y profiad a'r annibyniaeth y maen nhw'n eu cyfrannu yn y swyddi hynny, ac mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw'n gallu darparu'r adroddiadau hynny. Mewnbwn annibynnol, cytbwys yw'r hyn—. Wyddoch chi, yn unol â thelerau eu penodi, ond gan gynnig yr arbenigedd a'r cyngor hwnnw i ni a'n helpu ni i lunio datblygiad a darpariaeth o ran polisi. A'r hyn sy'n bwysig iawn yw eu bod nhw â rhan allweddol yn y strategaeth hon a chyflawniad y strategaeth hon. Felly, maen nhw'n cadeirio ein ffrydiau gwaith ar y cyd ac maen nhw wedi bod yn rhan o sefydlu'r fframwaith a'r panel goroeswyr, oherwydd eu bod nhw'n ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl sydd â phrofiad byw o ganlyniad i'w swyddogaeth a'u harbenigedd annibynnol.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y gwaith a wnaethpwyd yn barod, yn enwedig o ran yr amcan, amcan 3, sy'n ymwneud â chanolbwyntio mwy ar ddwyn y rhai sy'n cyflawni camdriniaeth i gyfrif, gan gefnogi'r rhai a allai ymddwyn yn ymosodol neu dreisgar wrth newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu. Yn amlwg, mae'r adroddiad yn cofnodi'r hyn a wnaethpwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn wir yr hyn sydd o'n blaenau ni o ran yr amcanion. Mae hi'n bwysig iawn fod gennym ni ffrwd waith i ymdrin â throseddau, i gydnabod bod gennym dîm polisi o ran troseddau. Mae hwnnw'n gweithio gyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu. Er enghraifft, mae'n llunio ymateb ar sail Cymru gyfan i rybuddion amodol i dramgwyddwyr o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym maes ymyrraeth gynnar. Ond yr hyn sy'n bwysig iawn o ran y ffrwd waith yw ein bod ni'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu map o wasanaethau i nodi argaeledd gwasanaethau sy'n gweithio gyda thramgwyddwyr a rhai sy'n peri niwed i eraill, ar gyfer deall y dirwedd yng Nghymru yn well o ran newid ymddygiad a gweithgaredd.
Mae hi'n bwysig ein bod ni'n ystyried hyn o safbwynt rhyngblethol, a dyna'r hyn yr oedd y ffrydiau gwaith ac yn wir gyfarfod olaf y bwrdd gweithredu strategol, yr wyf i'n ei gadeirio, yn ei drafod. O ran croestoriad, rydym ni'n edrych ar ein gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o ran anghenion dioddefwyr anabl, i sicrhau nad oes unrhyw ddioddefwr yn mynd drwy'r rhwyd o ran darpariaeth gwasanaethau, yn enwedig y rhai sydd â risg uwch, ac mae hynny'n cynnwys dioddefwyr hŷn yn ogystal â phobl anabl. Un pwynt o ddatblygiad sy'n bwysig yw cronfa grant cyfalaf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n galluogi gwasanaethau arbenigol i addasu eu darpariaethau nhw neu brynu llety addas, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod gofynion pobl anabl o ran hygyrchedd yn cael eu cydnabod yn y ddarpariaeth honno o gymorth grant cyfalaf.
Mae amcan 2 yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, ac fe roddais i'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaethpwyd eisoes i estyn allan at blant a phobl ifanc, oherwydd yn amlwg mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ag effaith mor enfawr ar blant a phobl ifanc, ac mae gennym ni ffrwd waith sy'n arwain ar y pwnc hwn. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod hefyd yn ymgorffori dealltwriaeth a'r hyn a ddysgir. Fel y dywedais i, fe soniais i am brosiect Sbectrwm, sydd wedi datblygu adnoddau ar gyfer athrawon, gan weithio mewn ysgolion cynradd, ond sy'n ystyried gweithio gyda CCAUC hefyd, gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, o ran sicrhau bod staff a myfyrwyr yn ymgysylltu â hyn, i weld sut y gall prifysgolion a sefydliadau'r trydydd sector fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod o fewn lleoliadau prifysgol ar gyfer pobl ifanc. Mae gennym ni addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ofyniad statudol erbyn hyn yn fframwaith Cwricwlwm i Gymru, ac mae'n orfodol i ddysgwyr.
Rwyf i am wneud sylw terfynol mewn ymateb i'ch cwestiynau chi ynglŷn â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Er mwyn egluro unwaith eto i'r Aelodau, mae'r Ddeddf yn cydnabod ac yn diogelu hawliau'r rhai sy'n byw mewn tai sydd â chymorth, ac mae'n dilyn adolygiad sylweddol o'r defnydd blaenorol o drwyddedau mewn ystod o leoliadau, gan gynnwys llochesau, gan Gomisiwn y Gyfraith. Felly, mae Deddf 2016 yn rhoi sail gyfreithiol i lety â chymorth, gan ddarparu hawliau tebyg i unrhyw un arall sy'n byw mewn llety ar rent. Rwyf i wedi cwrdd â Chymorth i Ferched Cymru i drafod y materion hyn. Maen nhw wedi codi pryderon am weithrediad y Ddeddf ac mae'n rhaid i ni edrych ar hyn, ac yn wir rydym ni wedi gwneud hynny, ac fe wnes i hynny gyda'm cyd-Aelod Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am dai. Rwy'n credu mai ystyr hyn yw cydbwyso hawliau a buddiannau'r rhai sy'n byw mewn llochesau. Felly, mae ein swyddogion ni, gyda'i gilydd, yn trafod gyda Chymorth i Ferched Cymru ynglŷn â'u pryderon nhw sy'n ymwneud â'r Ddeddf.
Mae yna gynlluniau i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r effaith ymarferol drwy werthuso gweithrediad y Ddeddf, ac mae hynny ar y gweill ar hyn o bryd. Felly, da o beth yw ein bod ni'n casglu cymaint â phosibl o dystiolaeth o'r byd gwirioneddol o ran ystyried effaith y Ddeddf. Mae hi'n galonogol hefyd fod hyn yn cael ei rannu a'i graffu arno mewn ffordd sy'n agored a bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal a bod trafodaethau yn cael eu cynnal hefyd.
Rwy'n gobeithio y gwnewch chi gydnabod o'r adroddiad—yr adroddiad yr wyf i'n ei gyflwyno heddiw—y cynnydd a wneir, ac y byddwn ni'n cyhoeddi cylchlythyrau chwarterol hefyd oddi wrth ffrydiau gwaith sy'n ymgysylltu, yn bwysicaf i gyd, o ran y glasbrint. Mae gennym ni wasanaethau ac awdurdodau datganoledig a heb eu datganoli yn gweithio gyda'i gilydd. Wedi bod â rhan yn y maes hwn ers blynyddoedd lawer, o ddechrau datblygu Cymorth i Fenywod, oes, mae gennym ni gyfrifoldebau enfawr yn y gwasanaethau datganoledig, ond os na ellir rhoi hyn yng nghyd-destun cyfrifoldebau cyfiawnder troseddol, yn enwedig o ran plismona a'u swyddogaeth nhw, a Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r llysoedd, ni fyddwn ni'n gweld y newid y mae angen i ni ei weld.
I mi, mae hi'n rhwystredigaeth enfawr ac yn frawychus, fel y dywedais i, ar gyfartaledd, fod dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner presennol neu gyn-bartner yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n dwyn y dioddefwyr hynny i gof. Rydym ni'n parhau i gefnogi prosiect Dyn Cymru Ddiogelach, sy'n amddiffyn ac yn cefnogi pob dyn, gan gynnwys dynion hoyw, heterorywiol, deurywiol a thrawsryweddol, sydd wedi profi cam-drin domestig yng Nghymru. Ac, yn bwysig iawn, y ffaith fod prosiect Dyn yn gweithio i wella diogelwch a chynyddu llesiant drwy ddull cydweithredol gyda phartneriaid ledled Cymru.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae lefel trais a cham-drin domestig yn erbyn menywod, wrth gwrs, yn dal i fod yn gwbl annerbyniol, a'r cynnydd heb fod yn ddigonol i atal yr agweddau misogynistaidd yna sy'n arwain at drais ac ymddygiad sy'n peri cymaint o drawma a loes. Mae'n parhau, fel gwnaethoch grybwyll, efallai, yn fanna, i fod yn rhwystredig nad oes ffigurau penodol i Gymru ar gael oherwydd nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli, a gallwn ni ddim, felly, cael y darlun llawn o'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru hebddynt. Ydych chi'n cytuno, heb y ffigurau yma sy'n benodol i Gymru, ei bod hi'n anodd craffu yn iawn ar unrhyw strategaeth sy'n helpu mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gan ein bod yn ansicr a yw'r niferoedd yng Nghymru'n gwella ai peidio, mewn gwirionedd?
Mae angen hefyd asesiad gwell o'r croestoriadedd sy'n bodoli yn yr adroddiad yma, yn benodol sut mae'r argyfwng costau byw, er enghraifft, yn effeithio ar ba mor agored i niwed yw unigolion i gam-drin domestig a thrais rhywiol. Yng ngoleuni’r toriadau diweddar i'r gyllideb cyfiawnder cymdeithasol, a allwch chi, Weinidog, amlinellu os, a sut, y bydd y toriadau'n effeithio ar y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod plant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau arbenigol hollbwysig yna sydd eu hangen arnyn nhw, ac sydd, efallai, nawr dan fygythiad oherwydd toriadau mewn cyllid?
Hoffwn i adleisio'r pryderon ynghylch effaith Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar ddarpariaeth llochesi. Gwnaethoch chi sôn yn eich ateb chi i Mark Isherwood fod yna werthusiad o ryw fath yn cael ei wneud, a bod yna sgyrsiau yn digwydd gyda'r rhai sy'n darparu lloches ac sy'n cefnogi goroeswyr. Felly, allwch chi roi gwybod i ni pryd ŷch chi'n rhagweld y bydd y gwaith gwerthuso yna'n dod i ben? Mae'r pryderon yma'n rhai difrifol—mor ddifrifol bod Cymorth i Ferched Cymru yn gorfod dod i risiau'r Senedd er mwyn gwneud eu pwynt unwaith eto; maen nhw wedi bod yn sôn am y mater yma ers blwyddyn, ers i'r Ddeddf ddod i rym. Felly, os gallwn ni gael mwy o sicrwydd ynglŷn â phryd y byddwn ni'n gallu disgwyl gwybod pen draw'r gwaith gwerthuso yna.
Gwnaethoch chi hefyd sôn yn eich datganiad am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol dwi'n aelod ohono, a'i effaith ar strategaeth a gwaith y Llywodraeth yn y maes yma. Mae'n hymchwiliad diweddar ni wedi amlygu'r angen am ddarpariaeth gydweithio gynhwysfawr rhwng Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid, i nodi a blaenoriaethu rhaglenni atal effeithiol ar gyfer cyflawnwyr, sy'n cael yr effaith hirdymor yna ar atal trais ar sail rhywedd. Mae'n waith hanfodol, onid yw e, yn enwedig os ydym ni am atal hynny ar raddfa'r boblogaeth. Mae'n amlwg bod angen canllawiau ar sail tystiolaeth ar bartneriaid i'w helpu i benderfynu beth sy'n gweithio orau ac i bwy. Gwnaethoch chi sôn bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn, yn ceisio adeiladu rhyw fath o storfa o wybodaeth i roi ffocws ar gyfer datblygu tystiolaeth a gwerthuso. Felly eto, a allwn ni gael amserlen ar gyfer y gwaith pwysig yma?
Ac, wrth gwrs, wedyn, yr hinsawdd ariannol heriol yma sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd, mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â'r ffaith a oes yna gyllid digonol i asesu a gwerthuso effaith a chanlyniadau ymyriadau, fel rhaglenni ar gyfer cyflawnwyr, yn effeithiol. Ydyn nhw ar gael? Ydych chi'n cytuno bod y data hwn yn hanfodol bwysig er mwyn deall a yw strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru a'r dull glasbrint yn effeithiol? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi: rhwystredigaeth barhaus i ni yw peidio â bod â mynediad at y data llawn, i ddeall natur a chyfraddau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Ac, yn wir, mae hynny'n rhan wirioneddol fawr o'n gwaith ar gyfer datganoli cyfiawnder i Gymru, ac fe fyddwn ni'n gwneud diweddariad, gydag adroddiad cynnydd, ar ein 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', sef, wrth gwrs, adroddiad gan y Cwnsler Cyffredinol a minnau a gyhoeddwyd gennym ni'r llynedd. Rwy'n canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar y ffaith nad yw'r holl arfau i wneud y swydd ar gael i ni o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym ni'n defnyddio arddull y glasbrint, fel gwnaethom ni gyda'r fframwaith cyfiawnder ieuenctid ac, yn wir, y fframwaith troseddwyr benywaidd, lle ceir meysydd cyffredin eglur iawn rhwng y glasbrint troseddol benywaidd a'r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Fe wyddom ni fod llawer o'r menywod sydd yn y carchar, er enghraifft, yn oroeswyr, ac wedi profi trais domestig a cham-drin rhywiol, ond roedd y trawma sydd wedi effeithio ar eu bywydau yn cynnwys nid yn unig trais domestig, ond tlodi hefyd a chamddefnyddio sylweddau yn aml. Felly, mae croeso unwaith eto i'r alwad honno am y data hynny y mae eu hangen nhw arnom ni. Hynny yw, fe ddylid rhoi hyn i ni yn weithredol, heb sôn am unrhyw achos yr ydym yn ei wneud ar gyfer datganoli cyfiawnder a datganoli'r ddarpariaeth ac argaeledd y ffynonellau hynny o ddata.
Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â'r effaith ar fywydau menywod ac ar fywydau'r rhai yr ydym ni'n eu cefnogi nhw drwy ein gwasanaethau arbenigol o ran yr argyfwng costau byw. Ac i raddau helaeth iawn, unwaith eto, i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a'r gwaith a wnaethon nhw—y gwaith gwych ar fenywod mudol a sefyllfa menywod mudol a'r rhai nad oes hawl ganddyn nhw am arian cyhoeddus—a'r ffaith bod BAWSO yn sefydliad arbenigol gennym ni y mae'r diolch am hynny, ac roeddwn i'n falch iawn o allu ymateb yn uniongyrchol i'r argymhelliad hwnnw y dylem ni fod â chronfa i gefnogi'r rhai nad oes unrhyw hawl ganddyn nhw i dderbyn arian cyhoeddus. Ac mae hyn yn adeiladu ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud eisoes, gyda chynllun peilot gyda'r Swyddfa Gartref. Felly, dim ond dweud, fe wnaethom ni ariannu BAWSO ar gyfer cynllun peilot o flwyddyn yma yng Nghymru. Ystyr hyn mewn gwirionedd yw dysgu o'r cynllun peilot, ac fe geir gwerthusiad o gynllun cefnogaeth y Swyddfa Gartref i ddioddefwyr mudol, oherwydd pobl yw'r rhain a fyddai'n amddifad heb ymyrraeth fel hynny. Fe ddylai menywod mudol allu cael arian cyhoeddus heb wynebu amddifadedd o ganlyniad i'w statws o ran mewnfudo.
Rydych chi'n codi pwyntiau pwysig hefyd o ran sut y gallwn ni ymestyn allan a chyflawni er mwyn plant a phobl ifanc. Mae ffrwd waith y plant a'r bobl ifanc yn allweddol, ac mae honno'n ystyried materion economaidd-gymdeithasol hefyd—pob agwedd ar anghenion ac effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar blant a phobl ifanc. Fe gyfeiriais i at rai o'r ffyrdd yr ydym ni'n ceisio ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth o blant a phobl ifanc mewn ysgolion, yn ogystal â'u hathrawon, yr amgylchedd addysgol, hyd at addysg uwch. Oherwydd ystyr hyn yw ymyrraeth gynnar ac ataliaeth, mewn gwirionedd, a newid y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn dysgu sut i dyfu i fyny a pharchu ei gilydd. Y ffrwd waith plant a phobl ifanc honno, rwy'n credu y bydd cylchlythyrau yn cael eu hanfon yn chwarterol erbyn hyn ynglŷn â'r ffrydiau gwaith hynny. Ond rwyf i o'r farn fod yr ymyrraeth o ran plant a phobl ifanc yn bwysig iawn, ond cyfran hefyd o'r gwaith a wnaethpwyd, sy'n dod i'r amlwg yn yr adroddiad blynyddol—y canllawiau statudol ynglŷn â chadw dysgwyr yn ddiogel. Mae hwnnw'n ganllaw pellgyrhaeddol ar gyfer cefnogi lleoliadau addysg ynglŷn ag ataliaeth ac ymateb effeithiol i gam-drin plant yn rhywiol. Rydym ni'n ariannu Childline Cymru Wales, rydym ni'n ariannu llinell gymorth Byw Heb Ofn, ac rydym ni'n ariannu gwasanaeth Meic.
Roedd cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn beth da iawn hefyd—yn ogystal â'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol—ynglŷn â'u hymchwiliad nhw i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr ifanc, ac ystyried hyn yn gyfrifoldeb trawslywodraethol o ran adroddiad Estyn hefyd, a'r argymhellion a ddaeth oddi wrth Estyn, a gweithio gydag awdurdodau lleol o ran edrych unwaith eto ar fwlio, aflonyddu, gan roi gwybodaeth a sicrhau bod ysgolion â'r wybodaeth ddiweddaraf am arfer gorau.
Rydym yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid, ac rwyf wedi sôn am nifer y plant sydd wedi cael gafael ar wybodaeth ac wedi dod i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ond yn ogystal â hynny, mae'r arian yr ydym ni'n ei roi i Stori Cymru, er enghraifft, ar gyfer datblygu adnoddau ynglŷn âg addysg rhyw a chydberthynas mewn ysgolion. Rwy'n credu, hefyd, o ran ymyrraeth gynnar ac ataliaeth, i mi wneud sylwadau eisoes, yn amlwg, a ffrwd waith mynd i'r afael â chyflawniad, ond mae ymyrraeth gynnar ac ataliaeth a mynd i'r afael â chyflawniad yn allweddol yn y chwe amcan allweddol. Amcan 3 yw hwn, fel dywedais i. Ac rydym ni'n canolbwyntio ar hwn.
Dim ond gair byr am rai o'r camau gweithredu lefel uchel hynny, ac fe soniais i am gyfran o'r gwaith a gafodd ei wneud yn uniongyrchol gyda'r heddluoedd ynglŷn â rhybuddion amodol o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Heddlu De Cymru yw'r ardal heddlu gyntaf i ddechrau gyda'r cynllun peilot hwn yn ystod yr hydref eleni, a bydd Gwent yn dilyn. Rydym ni wedi cytuno i ddarparu cyllid, mewn gwirionedd. Unwaith eto, rydym ni'n ariannu gwasanaethau sydd heb eu datganoli. Rydym ni'n darparu cyllid i heddluoedd yng Nghymru ar gyfer dod ynghyd a defnyddio'r fframwaith rhybuddion amodol newydd sydd â dwy haen, am ein bod ni'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Ond mae gorchymyn amddiffyn cam-drin domestig newydd yn cael ei ddatblygu yn ardal cynllun peilot Gwent hefyd, ac rydym ni'n cyfranogi llawer, wrth gwrs, ar lefel y pedair gwlad, gan weithio ar draws ardaloedd i ganfod yr arfer gorau a fydd yn deillio o'r gorchymyn amddiffyn cam-drin domestig hwnnw.
Rwy'n credu bod yr ymyrraeth gynnar yn cynnwys yr holl waith a wnawn ni ynglŷn â chyfathrebu hefyd, ac rydych chi wedi gweld lansio ymgyrch Sain. Rydym ni'n nodi'r rhai ag ymddygiadau niweidiol cynnar a allai arwain at niwed pellach, ac yn herio ac yn cefnogi pobl er mwyn i ni fynd i'r afael yn uniongyrchol â dynion a bechgyn ifanc, a dyna pryd, wrth gwrs, y gallan nhw fod, hefyd, yn gyfryngau i newid. Rydym ni wedi gweld hynny drwy Sain, ac, wedyn, mae hynny'n amlwg iawn yn ein hymgyrch Rhuban Gwyn. Mae'n rhaid i ni fod yn eglur iawn ein bod ni'n grymuso mecanweithiau atebolrwydd—ac rwy'n credu mai hwnnw yw eich pwynt allweddol hi—ar gyfer sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau o ran ymyrraeth gynnar.
Fe roddais i sylwadau ar y Ddeddf rhentu cartrefi, a'r ffaith fy mod i wedi cael trafodaethau uniongyrchol, un wrth un, â phrif weithredwr Cymorth i Ferched Cymru, ac ymgysylltu â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a'i swyddogion a'i chynghorwyr hi, i sicrhau y gallwn ni ddeall effaith ymarferol gweithredu'r Ddeddf hon, a chysoni, unwaith eto, yr hyn sy'n ymwneud â hawliau a buddiannau, fel y dywedais i, a sicrhau bod ystyriaeth annibynnol fel hon yn cael ei rhoi i'r yr hyn y gallai hyn ei olygu o ran, yn sicr, peidio â chyfyngu ar hawliau ac atal digartrefedd hefyd.
Rydym wedi clywed gan y ddau lefarydd gyda'u cwestiynau, a'r ymatebion gan y Gweinidog, ac rydym eisoes wedi mynd dros ein hamser penodedig. Ac mae yna chwe Aelod sy'n dymuno gofyn cwestiynau hefyd. Byddaf yn eu galw, ond rwy'n gofyn i chi i gyd gadw o fewn eich terfyn amser o un munud i sicrhau y gall pawb ofyn eu cwestiwn. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gryno wrth ateb hefyd.
Gweinidog, mae heddiw'n nodi chwe blynedd ers i fy nhad farw yn yr amgylchiadau mwyaf trasig. Fel y bydd llawer yn y Siambr hon yn cofio, roedd yn ymgyrchydd diflino i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, gan sicrhau bod y Bil trais yn erbyn menywod yn cael ei basio yn y Senedd hon. Roedd hefyd yn ymgyrchydd angerddol ac yn gefnogwr i ymgyrch y Rhuban Gwyn a'i neges mai dynion sy'n gorfod newid. Dirprwy Lywydd, mae'r neges hon mor bwysig nawr ag yr oedd bryd hynny. Dyna pam rwy'n falch o fod yn llysgennad Rhuban Gwyn, i'w gefnogi. Gweinidog, beth gall Llywodraeth Cymru ei wneud i adeiladu ar waith ymgyrchu fy nhad, ac i sicrhau bod dynion ledled Cymru yn ymuno â mi ac yn ymrwymo i addewid y Rhuban Gwyn, ac yn cadw at yr hyn mae'n ei olygu?
Diolch yn fawr, Jack Sargeant. A gaf i ddweud, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr hon, ein bod ni gyda chi yn ein meddyliau, ein hatgofion am eich tad annwyl a'r cyn-Weinidog, a chwaraeodd ran mor allweddol? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cofio, ac wrth i mi wisgo fy mathodyn heddiw, y rhuban gwyn gyda baner Cymru, fe wnaeth ein hatgoffa ni unwaith eto. Ac felly, mae ein meddyliau gyda chi a'ch teulu. Ond hefyd, rwy'n gwybod y byddai Carl eisiau i ni fod yn siarad heddiw am beth arall y gellid ei wneud. Byddai mor rhwystredig ag yr ydym ni, nad ydym wedi dod â melltith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben. O ran ymgyrch y Rhuban Gwyn—ac mae Joyce yn eistedd wrth eich ymyl—rydyn ni'n dechrau ddydd Llun, a bydd gennym ddigwyddiad yn y Senedd. Ond rwyf eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith ein bod ni wedi ymrwymo iddo fel Llywodraeth Cymru, rydych chi'n llysgennad, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl ddynion yn y Siambr hon hefyd yn chwarae eu rhan yn ystod yr 16 diwrnod hynny o weithredu.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, a diolch i Jack hefyd. Hoffwn gadarnhau diolch y Gweinidog i'r cynghorwyr cenedlaethol hefyd, am eu gwaith. Fe wnaethant dynnu sylw at hyfforddiant cynhwysfawr ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus, y maen nhw o'r farn eu bod yn hanfodol i gynnydd ystyrlon ar y mater pwysig iawn hwn. Dywedodd Mahatma Gandhi, "Rhaid i chi fod y newid yr ydych am ei weld." Roedd hynny'n golygu na allwch ysbrydoli eraill i wneud pethau os na fyddwch chi yn eu gwneud yn gyntaf. Felly, rwy'n galw—a bydd aelodau fy mhwyllgor yn gwybod hyn—ar y Senedd i sefydlu hyfforddiant ynghylch trais yn erbyn menywod a merched i ni fel Aelodau o'r Senedd, ond hefyd i staff y Comisiwn. A tybed a fyddech chi'n cadarnhau eich ymrwymiad i sicrhau bod yr hyfforddiant a'r codi ymwybyddiaeth hynny ar waith. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr, Jane Dodds. A gaf i ddweud mai'r ffaith yw y gall y newid—fel mae Jack Sargeant wedi dweud—ddod gan ddynion, ac yn sicr ein Haelodau etholedig, ond gan bob un ohonom ni o ran unrhyw gyfrifoldebau sydd gennym ni? A gaf i ddiolch i chi? Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei weithredu gan y Comisiwn—mae gennych chi'r Comisiynydd yma heddiw. Ond y fframwaith hyfforddi cenedlaethol yw'r llwybr i hyn, rwy'n credu; mae'n fodiwl e-ddysgu, mae ar gael i bawb trwy fynediad i westeion. Mae dros 100,000 o ymweliadau wedi bod ers iddo agor ar gyfer mynediad i westeion. Ac ers iddo agor, yn 2015, mae wedi cael ei agor 314,000 o weithiau. Felly, a gaf i awgrymu bod hwn yn llwybr i mewn? Mae'n ddechrau, ac yna, wrth gwrs, gallwn fynd ymlaen i'r 'gofyn a gweithredu' ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'r contract ar gyfer hynny wedi ei ddyfarnu i Gymorth i Ferched Cymru. Rwy'n credu efallai y gallech chi ddilyn y ddau lwybr yna i'r hyfforddiant.
Cefais y fraint o weithio gyda Carl Sargeant ar y Bil VAWDASV, ac rwy'n siŵr y byddai'n cymeradwyo'r gwaith yr ydym yn ei wneud heddiw i roi blaenoriaeth mor uchel i hyn, gan ei fod yn gwbl endemig yn ein cymdeithas. Diolch i chi am sôn am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol; mae ein hymchwiliad ni yn amlwg yn gweithio ar yr adroddiad yr ydym yn mynd i'w roi gerbron y Senedd maes o law, felly nid wyf am ofyn am hynny heddiw. Fodd bynnag, mae'n siŵr bod y panel craffu a chyfranogiad llais goroeswyr yr ydych chi wedi'i sefydlu yn adleisio rhai o feddyliau goroeswyr y clywsom ni ganddyn nhw, nad ydyn nhw wir yn ymwneud â'n gwaith ar atal ac ymyrraeth gynnar. Rwy'n sôn am blant sydd wedi bod yn dyst i drais difrifol neu wedi ei ddioddef eu hunain, a'r angen i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth, fel bo'n briodol. Rwy'n gwybod bod ysgolion yn gwneud gwaith gwych wrth ddarparu cwnsela, ond weithiau, yn anffodus, mae angen gwasanaethau mwy arbenigol ar blant, ac mae eu hangen arnynt mewn modd amserol. Rwy'n ofni bod ysgolion yn aml yn adrodd, i blant cythryblus iawn, ei bod yn anodd iawn cael y gefnogaeth gywir trwy wasanaethau iechyd meddwl, a meddwl oeddwn i tybed pa waith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod plant yn cael y math hwnnw o gefnogaeth mewn modd amserol.
Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn heddiw ond hefyd am gadeirio'r ymchwiliadau hynny, ac edrychwn ymlaen at ganlyniad eich ymchwiliad presennol. Rwyf eisoes wedi sôn am y ffaith bod gennym ni ffrwd waith plant a phobl ifanc, ac rwy'n credu bod hyn hefyd yn effeithio ar y dangosyddion. Rydych chi'n gwybod ein bod ni nawr yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol hyn ac yn sicrhau eu bod yn gyfredol â'r strategaeth ddiwygiedig, ac o fewn y set o ddangosyddion sydd gennym yn awr mae codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc, iddyn nhw, bod cam-drin bob amser yn anghywir. Rwyf wedi sôn am y ffyrdd yr ydym yn ceisio codi'r ymwybyddiaeth honno, ond rwyf hefyd wedi ymateb i gwestiynau am y ffyrdd yr ydym yn estyn allan i ysgolion, i'r proffesiwn addysgu, a thrwy'r cwricwlwm bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth. Ond rwy'n gobeithio y bydd y ffrwd waith plant a phobl ifanc yn eu hadroddiadau chwarterol yn rhoi'r anogaeth a'r sicrwydd i chi ein bod yn edrych ar hyn yn sicr o safbwynt y plentyn a'r person ifanc.
Rwyf hefyd eisiau adleisio popeth a ddywedodd pawb am eich tad, Jack. Roedd Carl Sargeant yn arloeswr mawr wrth ddweud mai dynion sydd angen newid ar adeg pan nad oedd neb yn dweud hynny. Arweiniodd drwy esiampl, ac rydych chi'n parhau â'r etifeddiaeth honno.
Fy nghyfraniad i heddiw, Gweinidog, yw dweud fy mod yn croesawu'r adroddiad hwn yn fawr. Rwy'n credu, i bob un ohonom ni, mewn gwirionedd, ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod llawer o'r pethau yr ydym wedi bod yn eu codi gyda Llywodraeth Cymru wedi'u hymgorffori: cefnogaeth i fenywod mudol, eglurhad a gwybodaeth am y gwahanol ffrydiau gwaith, y croestoriadedd, tai, plant. Felly, hoffwn ddweud 'diolch' enfawr am hynny. Ac rwy'n credu, o'r menywod yr wyf i wedi siarad â nhw, yr wyf i'n eu cefnogi yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, eu bod nhw wedi dweud wrthyf, o ran mynd allan o'r perygl uniongyrchol hwnnw iddyn nhw eu hunain a'u plant, bod hynny wedi gwella'n aruthrol yng Nghymru. Mae'r gefnogaeth yno, mae'r cyllid yno. Felly, rwy'n teimlo bod Llywodraeth Cymru, yng Nghymru, yn cadw at y glasbrint ac yn gwneud cymaint ag y gall, ond nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU yn gwneud hyn, oherwydd yna beth sy'n digwydd yw eu bod yn gorfod mynd i'r system gyfreithiol yn y pen draw a, phan fyddant yn cyrraedd yno, mae'r trawma yn parhau gan sut y maen nhw'n cael eu trin pan fyddan nhw'n mynd trwy'r system gyfreithiol honno—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Felly, hoffwn wybod pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr adroddiad a gyflwynwyd ganddynt yn 2020 yn galw am weithredu i'w gwneud yn well i blant a mamau sy'n mynd drwy'r sefyllfa honno, oherwydd ar hyn o bryd mae'n ofnadwy ac mae'n cael ei ddisgrifio fel y cam-drin ar ôl gwahanu sy'n parhau mewn llysoedd teulu. Diolch.
Diolch. Yn sicr, hoffwn adrodd yn ôl ar gynnydd. Ar hynny yn benodol, dydw i ddim—. Gallaf godi hyn gyda'r comisiynydd cam-drin domestig pan fyddaf yn cwrdd â hi nesaf. Dyma reswm arall pam mae ein cynghorwyr cenedlaethol mor bwysig, oherwydd eu bod yn cyd-gysylltu'n uniongyrchol hefyd â Llywodraeth y DU. Ond fe wnaf waith dilynol ar hyn o ran beth sy'n gyfystyr â cham-drin o ran atal ac ymyrraeth gynnar i blant a phobl ifanc.
Ond a gaf i ddweud—ac nid wyf wedi ymateb, mae'n ddrwg gen i, Dirprwy Lywydd—ein bod wedi diogelu ein cyllid, sy'n bwysig iawn, i'r gwasanaethau arbenigol hynny yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw? Yn y cyfnod anodd hwn, pan fyddwn ni wedi gorfod dod o hyd i'r arian hwn oherwydd y toriadau i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU, rwyf wedi sicrhau ein bod yn diogelu ein cyllid VAWDASV, yn enwedig ar gyfer ein gwasanaethau arbenigol.
Hoffwn dalu teyrnged i Carl Sargeant. Gallaf ei gofio yn cerdded milltir yn eu hesgidiau, yn gwisgo'r sodlau uchel mwyaf chwerthinllyd i wneud pwynt, ac fe wnaeth y pwynt. Ond hoffwn ddiolch i'r Gweinidog. Mae llawer i'w groesawu yn yr adroddiad hwn. Ni wnaf eu hailadrodd, ond a allwch chi roi rhagor o fanylion am y prosiect Spectrum, os gwelwch yn dda, sy'n hyrwyddo perthnasoedd iach, yn enwedig y nifer sy'n manteisio ar yr elfen hyfforddi ar gyfer staff ysgolion a llywodraethwyr? Mae un o bob pump plentyn, rydyn ni'n gwybod, yn dyst i gam-drin yn y cartref, ac mae'r prosiect Spectrum, a gyflwynir gan Stori Cymru, yn offeryn pwysig ar gyfer helpu staff ac awdurdodau ysgolion i ddeall a rheoli'r effaith ar y plentyn. Felly, rwy'n awyddus i glywed sut mae'n cael ei weithredu.
Yn y cyfnod cyn Diwrnod y Rhuban Gwyn, byddaf yn ymgysylltu ag ysgolion yn ardal Rhydaman a'r Gwendraeth, felly byddwn i'n hapus i hyrwyddo a'u cyfeirio at adnoddau addas, os ydych chi neu'r Gweinidog addysg yn gallu fy helpu gyda hynny. Ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y cynnydd o ran bwrw ymlaen ag argymhellion Estyn ynghylch gwella'r ffyrdd y mae ysgolion yn casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu, oherwydd os ydym ni'n mynd i wneud unrhyw beth o ran lleihau a rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, yn sicr mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'r genhedlaeth nesaf. Rwyf i, fel chi, wedi bod yn ymgyrchu am 30 mlynedd, ond mae'r ystadegau yn dal yr un fath.
Diolch yn fawr, Joyce Watson, ac am eich arweinyddiaeth o ran ymgyrch y Rhuban Gwyn. Ddydd Llun nesaf, byddwn ni'n cyfarfod ac yn talu teyrnged i Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, sydd wedi gweithio gyda chi erioed, ac yna gyda BAWSO byddwn yn gorymdeithio i gynnau cannwyll mewn gwasanaeth aml-ffydd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Rwyf wedi ateb rhai o'r cwestiynau hyn, ond rydym yn parhau i ariannu Spectrwm. Mae hwn yn ymrwymiad trawslywodraethol, cydnabyddiaeth bod yn rhaid i ni edrych ar bob llinell ariannu. Rydym yn parhau i'w ariannu. Mae'n bwysig mewn gwirionedd dangos beth yw perthnasoedd iach—. Mae'n bobl ifanc yn dysgu am berthnasoedd iach, codi ymwybyddiaeth o Spectrwm, ond hefyd mae'n darparu hyfforddiant i staff a llywodraethwyr ysgolion, a bydd pob un ohonoch sydd wedi bod yn llywodraethwr yn gwybod bod y rhain yn faterion y mae'n rhaid i ni eu deall. Mae'n rhaid i ni ddeall y dull ysgol gyfan hwn o fynd i'r afael â cham-drin domestig, ac rwyf wedi sôn am Stori Cymru, y prosiect Spectrwm. Mae hyn yn ymwneud ag adnoddau, hyfforddiant ar-lein, deunydd wedi'i argraffu, sut rydym yn delio yn effeithiol â datgeliadau VAWDASV gan ddisgyblion.
Byddwn ni'n gwneud gwaith dilynol—. Rydych chi wedi gweld yn yr adroddiad ein bod wedi gofyn i awdurdodau lleol wella'r ffordd y maen nhw'n casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu gan ysgolion. Maen nhw ar flaen y gad, ac unwaith eto, mae hyn yn ymateb i'r pwyntiau y mae Sarah Murphy wedi'u gwneud. Os ydych chi'n darllen y bennod ar blant a phobl ifanc, mae gennym ni y ffrwd waith hon ar blant a phobl ifanc. Nid oedd gennym hon o'r blaen. Cyfarfu yn gynharach y flwyddyn hon. Mae ganddi gynllun clir ac mae ganddi bobl arni gydag arbenigedd a dealltwriaeth o anghenion plant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn symudiad go iawn i newid, o ganlyniad i'r ffordd rydyn ni'n ymdrin â hyn gyda cham nesaf y strategaeth hon, ers i ni weithredu—ac roedd llawer ohonom yma—y darn mwyaf arloesol o ddeddfwriaeth, y cyntaf yn y DU—Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Ond mae'n rhaid i ni nawr ei wneud i weithio i fenywod a dioddefwyr trais yng Nghymru.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Yn y grŵp trawsbleidiol ar les anifeiliaid ddoe, clywsom gan gynrychiolydd o'r grŵp Links. Dywedodd hi sut mae anifeiliaid anwes yn cael eu defnyddio'n aml i gamfanteisio, a hefyd y gall cam-drin anifeiliaid anwes fod yn arwydd o gam-drin plant neu rieni, ac fe welsom ni rai ffotograffau erchyll. Mae anifeiliaid anwes mor bwysig ar gyfer cysur ac yn aml ni fydd menywod yn eu gadael ar ôl, ac rydym yn gwybod nad yw llety rhent preifat yn aml yn caniatáu anifeiliaid anwes ac nid yw llochesi chwaith. A yw hyn wedi bod yn ystyriaeth ac a wnewch chi siarad â'r Gweinidog tai ynglŷn â mynd ag anifeiliaid anwes i lety rhent preifat? Diolch.
Diolch yn fawr iawn—cwestiwn pwysig iawn. Bydd ar gyfer y Gweinidog Newid Hinsawdd, ond hefyd y—. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliad yng Nghaerffili, a dweud y gwir, elusen sy'n gofalu am anifeiliaid anwes, cŵn yn arbennig, os oes rhaid i fenyw ffoi o'i chartref. Gellir eu defnyddio yn y ffordd honno, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn ystyried o ran mynediad i'r creaduriaid hollbwysig hynny ym mywyd person. Ac, wrth gwrs, mae'r anifeiliaid anwes hyn yn aml yn bwysig iawn i'r plant hefyd. Felly, diolch am godi'r cwestiwn hwnnw.
Diolch i'r Gweinidog.
Hanner cant y cant o fewn amser, 50 y cant ddim—rydyn ni'n dechrau llwyddo.
Eitem 7 yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi: parthau buddsoddi. A galwaf ar Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trafodaethau diweddaraf gyda Llywodraeth y DU ynghylch parthau buddsoddi. Dair wythnos yn ôl, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yr ydym yn ei wneud i gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol cryfach ledled Cymru. Yn y datganiad hwnnw tynnais sylw at gryfderau a chyfleoedd penodol ym mhob un o'n rhanbarthau a'r rôl y gallant ei chwarae wrth gynyddu twf tymor hir a chyflogaeth o ansawdd mewn economi fwy cytbwys. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o'r farn gadarn y dylid cyfeirio strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr yn y DU a gefnogir gan bolisïau macro-economaidd at y cyfleoedd hyn, mewn model sy'n rhoi'r hyder sydd ei angen i ddatgloi buddsoddiad mewn busnesau a swyddi mwy diogel.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi bod yn gyson o ran nodi bod dull tameidiog o ymdrin â pholisi economaidd rhanbarthol ar lefel y DU yn tanseilio cyfleoedd twf posibl ac nad yw'n cydnabod yr angen mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â thlodi. Rydym ni'n parhau i alw am ddychwelyd cyllid rhanbarthol ôl-UE i Gymru, a fyddai'n ein helpu i ddarparu polisi rhanbarthol mwy cydlynol ar gyfer pob rhan o Gymru.
Er gwaethaf yr heriau hyn, rwy'n hapus gyda'r dull adeiladol sy'n cael ei fabwysiadu gan adran ffyniant bro Llywodraeth y DU o ran datblygu cynigion ar gyfer parthau buddsoddi yng Nghymru. Mae hyn wedi adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus ac adeiladol a sefydlwyd gennym ni i gytuno ar raglen porthladdoedd rhydd Cymru. Gall y ddwy raglen gynnig cyfleoedd gwirioneddol i ddod ag ysgogiadau datganoledig ac a gedwir yn ôl ynghyd i gefnogi economi Cymru mewn partneriaeth gyfartal.
Mae'r dull pragmatig y mae'r ddwy Lywodraeth wedi ei fabwysiadu wedi caniatau i ni sicrhau bod blaenoriaethau polisi Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y dull gweithredu ar y cyd yr ydym ni wedi bod yn ei drafod dros y misoedd diwethaf. Fel gyda phorthladdoedd rhydd Cymru, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod buddsoddiadau yn cyfrannu at ein huchelgeisiau sero net, ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a hybu gwaith teg, gan gynnwys mynediad at undebau llafur. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw wanhau i hawliau gweithwyr mewn parthau buddsoddi. Mae hwn yn brawf hanfodol o egwyddor ac mae'n rhaid i hyn ychwanegu at ein cenhadaeth economaidd. Rydym ni hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd y dull rhanbarthol cydweithredol yr ydym ni wedi ei ddatblygu ledled Cymru a'r angen i symleiddio cynllunio a llywodraethu datblygu economaidd rhanbarthol drwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig statudol y mae'r Senedd hon wedi deddfu ar eu cyfer.
Mae'n bwysig nodi y bydd angen i Lywodraeth y DU wneud penderfyniad o hyd ar y cymorth y bydd yn ei ddarparu i barthau buddsoddi yng Nghymru cyn neu'n rhan o broses datganiad yr hydref. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau bod Cabinet Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod i drafod y cynigion sydd wedi bod yn cael eu datblygu. O ganlyniad, rwyf i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn dilyn ein hymgysylltiad adeiladol i nodi ein parodrwydd i ddefnyddio ysgogiadau ac arbenigedd datganoledig i gefnogi dau barth buddsoddi yng Nghymru.
Mae polisi parthau buddsoddi, wrth gwrs, wedi newid yn sylweddol ers 2022, yn ystod rhyngdeyrnasiad byr Truss a Kwarteng. Mae'r polisi presennol yn canolbwyntio ar nifer fach o glystyrau potensial uchel yn gysylltiedig â galluoedd ymchwil cryf. Ceir meysydd lle gall ein cryfderau cymharol hybu cynhyrchiant ehangach a thwf economaidd. Byddai'r canlyniadau hyn yn cyd-fynd â'n cenhadaeth economaidd a thystiolaeth a gyflwynwyd gan leisiau arbenigol blaenllaw, gan gynnwys y Resolution Foundation, ar yr angen i gryfhau manteision cymharol yn y DU. Mae fy swyddogion wedi gweithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU ar ddull ar y cyd o nodi meysydd potensial uchel sy'n adlewyrchu blaenoriaethau polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Fel y dywedais, rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda chyd-Weinidogion Llywodraeth Cymru wrth i'r trafodaethau ddatblygu i ystyried y goblygiadau trawslywodraethol ac i sicrhau proses gwneud penderfyniadau gydgysylltiedig. Yn seiliedig ar ein dadansoddiad o'r cyfleoedd ar gyfer twf mewn clystyrau potensial uchel, rydym ni'n cytuno bod dadl dros ddau barth buddsoddi yng Nghymru. Rydym ni'n ffafrio un parth buddsoddi yn y de-ddwyrain ac un yn y gogledd-ddwyrain, sy'n cynnwys sir y Fflint a Wrecsam. Mae hyn yn adlewyrchu'r cryfderau sectoraidd penodol a'r clystyrau presennol ym mhob rhanbarth, yn enwedig lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghasnewydd, â chysylltiad â Phrifysgol Caerdydd ac ardal ehangach y de-ddwyrain, a gweithgynhyrchu uwch gwerth uchel yn y gogledd-ddwyrain. Bydd y sectorau hyn ynddynt eu hunain yn rhan annatod o'r llwybr i dwf economaidd cryfach yng Nghymru a'r DU yn ei chyfanrwydd. Rydym ni eisiau gweld mwy o fuddsoddiad sector preifat mewn swyddi, sgiliau a chynhyrchiant o ansawdd uchel.
Nid yw nodi parthau buddsoddi posibl yn adlewyrchiad o bell ffordd o gyfyngiadau cyfleoedd economaidd na'r angen am fuddsoddiad uchelgeisiol mewn rhannau eraill o Gymru. Mae parthau buddsoddi yn cynrychioli un ymyriad yn unig, ac un a fyddai'n cael ei gryfhau pe bai'n dod o fewn y dull polisi diwydiannol ehangach yr ydym ni'n parhau i eirioli drosto. Mae ein cynnig yn deillio o ddyfarniad gwrthrychol yn seiliedig ar y meini prawf penodol ar gyfer parthau buddsoddi.
Bydd angen nawr i Lywodraeth y DU benderfynu a ddylid darparu'r cyllid a'r ysgogiadau a gedwir yn ôl i gefnogi parthau buddsoddi yng Nghymru. O'n rhan ni, rydym ni wedi nodi parodrwydd i weithio tuag at sicrhau bod ysgogiadau treth datganoledig a lleol ar gael i barthau buddsoddi, ac i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU ar ddarparu pecyn o gymorth buddsoddi, yn amodol ar gytuno ar gynlluniau o bob parth yn nodi sut y bydd y cymorth yn cael ei ddefnyddio i sicrhau manteision net i bobl Cymru.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau ariannol mawr ac mae ein parodrwydd i fwrw ymlaen â pharthau buddsoddi yng Nghymru yn seiliedig ar gynnig gan Drysorlys y DU sy'n talu costau disgwyliedig llawn ariannu pob parth buddsoddi. Bydd hyn yn cyfateb i gyllid ar gyfer parthau buddsoddi yn Lloegr.
Er gwaethaf y gwahaniaethau o ran dull, ceir cysondeb o ran agweddau ar bolisi economaidd rhwng ein Llywodraethau, gan gynnwys uchelgais i dyfu clystyrau potensial uchel, cynyddu buddsoddiad mewn sgiliau, ymchwil, arloesi a seilwaith, a chefnogi lefelau uwch o gynhyrchiant a mwy o swyddi sgiliau uchel. Rwy'n bwriadu cyflwyno fy mlaenoriaethau economaidd mewn datganiad i'r Siambr ar 28 Tachwedd, a fydd yn adeiladu ar ein cenhadaeth economaidd.
Os caiff parthau buddsoddi eu hariannu yng Nghymru, edrychaf ymlaen at weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a chydbwyllgorau corfforedig i sicrhau pwyslais eglur i fuddsoddiadau arfaethedig ddarparu twf, swyddi o ansawdd uchel, sgiliau a mwy o gynhyrchiant. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n croesawu'n fawr y cynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau parthau buddsoddi yma yng Nghymru. Mae'r manteision i'r gymuned fusnes yn gwbl amlwg a gall creu parthau buddsoddi yng Nghymru helpu i ysgogi buddsoddiad hirdymor a thwf economaidd. Rwy'n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n meddu ar lawer o'r ysgogiadau i sefydlu parthau buddsoddi, ond mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn o ran helpu i sicrhau bod parthau buddsoddi yn cael eu datblygu yma yng Nghymru, ac mae'r datganiad heddiw yn dweud ychydig mwy wrthym ni am swyddogaeth Llywodraeth Cymru yma.
Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r ymchwiliad parhaus i barthau buddsoddi gan Bwyllgor Busnes a Masnach Llywodraeth y DU, sy'n edrych ar eu perfformiad yn Lloegr. Yn ystod yr ymchwiliad hwnnw, fe wnaeth yr Athro Steve Fothergill ei gwneud hi'n eglur iawn, ac rwy'n dyfynnu,
'nid yw'n dda i ddim tynnu llinellau o gwmpas darnau o dir ar fapiau a dweud, "Dyna'r parth buddsoddi newydd". Mae'n rhaid i'r safleoedd fod yn barod i fynd. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn barod ar gyfer datblygiadau adeiladu. Mae'n rhaid i'r seilwaith fod yno.'
Aeth ymlaen i ddweud bod rhai o'r parthau menter mwyaf llwyddiannus yn y gorffennol wedi caffael y statws hwnnw ar ôl efallai degawd o waith paratoi yn troi safleoedd segur yn safleoedd parod i fynd. Gyda hynny mewn golwg, ac o ystyried yr wybodaeth yn natganiad heddiw, mae'n hanfodol bod gan gynigion i greu parthau buddsoddi y seilwaith angenrheidiol a'u bod yn barod i fynd.
Nawr, rwy'n sylweddoli bod y datganiad heddiw yn cadarnhau ffafriaeth i barth buddsoddi yn y de-ddwyrain ac yn y gogledd-ddwyrain yn cynnwys sir y Fflint a Wrecsam. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n hyderus bod gan y cynigion hyn y seilwaith eisoes ar waith i ddod yn barthau buddsoddi effeithiol.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at borthladdoedd rhydd ac eto er bod porthladdoedd rhydd wedi'u hadeiladu o amgylch porthladdoedd, mae parthau buddsoddi wedi'u canolbwyntio ar brifysgolion yn bennaf. Felly, mae'n gwbl hanfodol nid yn unig bod prifysgolion yn cefnogi unrhyw gynigion, ond eu bod nhw'n ganolog i'w datblygiad. Ac felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda phrifysgolion am y rhan y gallan nhw ei chwarae o ran bwrw ymlaen â'r cynigion hyn.
Mae parthau buddsoddi yn cynnig cyfle i harneisio'r rhan bwysig y mae prifysgolion a sefydliadau ymchwil lleol yn ei chwarae mewn twf lleol a chefnogi ffyniant bro. Ac felly mae angen i ni ddeall yn well y rhan y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae o ran hwyluso hynny ac adeiladu rhwydweithiau i sicrhau bod unrhyw geisiadau mor gryf â phosibl.
Nawr, mae rhywfaint o'r adborth ar barthau buddsoddi yn Lloegr wedi awgrymu nad yw'r cymhellion i fusnesau yn ddigon hirdymor. Mae'r cymhellion ariannol ar y parthau buddsoddi bron yn union yr un fath â'r cymhellion ariannol cyfatebol sydd ar gael mewn porthladdoedd rhydd, ac eithrio tollau tramor. Ond mae pum mlynedd yn gyfnod byr o amser i ddisgwyl effaith economaidd enfawr. Dadleuwyd bod manteision economaidd wedi bod yn fwy i raddau helaeth pan fo pecynnau ariannol wedi cael eu cyflwyno ar sail dymor hwy, fel y parthau menter a sefydlwyd ar ddechrau'r 1990au, lle'r oedd yr eithriad o ardrethi busnes am 10 mlynedd. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni a yw'n credu y dylai'r pecynnau hyn fod ar gael ar sail hirdymor, fel y gallan nhw gael effaith economaidd lawer mwy cadarnhaol.
Mae'r datganiad heddiw yn nodi bod y cyllid a'r ysgogiadau a gedwir yn ôl i gynorthwyo parthau buddsoddi yng Nghymru bellach yn nwylo Llywodraeth y DU, ond gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hysgogiadau ei hun i adeiladu ar y pecyn buddsoddi presennol gan Lywodraeth y DU. Gallai Llywodraeth Cymru, er enghraifft, ddewis adeiladu ar y rhaglen parthau buddsoddi drwy ymestyn ar unwaith y gwyliau ardrethi busnes i fusnesau yn rhai o'r ardaloedd hynny, ac felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni a yw hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn y dyfodol agos.
Nawr, mae creu swyddi yn gwbl hanfodol i ddatblygu parth buddsoddi effeithiol. Ceir pryderon ynghylch dadleoli swyddi pan gaiff parthau buddsoddi eu creu, ac mae'n bwysig bod y rhybuddion hynny yn cael sylw difrifol iawn. Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd ystyried ei phiblinell sgiliau a gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael ag unrhyw brinder. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym ni beth fyddai Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru unrhyw ddadleoli swyddi posibl yn ardaloedd cyfagos parth buddsoddi. Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a phwysleisio y gallai ac y dylai Cymru elwa o'r rhaglen parthau buddsoddi? Mae'r Gweinidog wedi nodi bod dau gais cryf yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gweld rhywfaint o gynnydd cadarnhaol o ran sefydlu'r parthau hyn yn y dyfodol agos iawn. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch. Rwy'n credu bod pedwar maes eang o gwestiynau yno. Fe wnaf i ymdrin â'r prifysgolion yn gyntaf. Ym mhob rhan o Gymru, rydym ni'n ymwybodol bod pobl wedi bod yn siarad am hyn ar draws cyd-bwyllgorau corfforedig, ardaloedd bargen dwf ac mewn ardaloedd llai, gan gynnwys gyda phartneriaid prifysgol. Felly, roedd trafodaethau posibl, rwy'n credu. Rwyf i wedi clywed nifer o bobl, rwy'n credu, mewn o leiaf pump os nad chwe rhan wahanol o Gymru, sydd wedi cael gwybod bod ganddyn nhw botensial ar gyfer parth buddsoddi. Mae rhywfaint o hynny wedi codi ysgyfarnogod. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn annefnyddiol, oherwydd nid oedd pump neu chwech o barthau buddsoddi erioed yn mynd i gael eu creu yng Nghymru. Ac fe wnaeth y cynnig symud i ddechrau o un i drafodaeth am y posibilrwydd o ddau yng Nghymru. Yn yr un modd wedyn, ag yn y rhaglen porthladdoedd rhydd, fe wnaethom ni ddechrau gyda phorthladd rhydd a allai ddod i Gymru i ddod i gytundeb ar gyfer dau wedyn. Felly, mae prifysgolion yn ymwybodol o'r hyn sydd ei angen ar y rhaglen, a byddwn yn disgwyl nawr, gan dybio bod Llywodraeth y DU yn cytuno â'n safbwynt ar ddau barth buddsoddi, y byddai angen achos busnes, gan ddod â'r partneriaid hynny at ei gilydd, sut y mae o fewn y strwythur cyd-bwyllgorau corfforedig—nid wyf i eisiau mathau o lywodraethu sy'n cystadlu neu amgen yng nghyswllt y rhain—ac yna bydd angen iddyn nhw nodi sut y byddan nhw'n gweithio ochr yn ochr â'r prifysgolion i wneud y gwaith ymchwil ac arloesi a fydd yn ofynnol.
Ar eich ail bwynt, rwy'n credu, am y buddsoddiad hirdymor, mae'r cynigion ar gyfer parth buddsoddi yn Lloegr, fel yr ydym ni'n eu deall nhw, yn y bôn, yn £80 miliwn o gyllid dros bum mlynedd. Felly, rydych chi'n iawn. Mae hwnnw'n swm cyfyngedig o arian. Yr her, fodd bynnag, yw pa un a fydd yn ein helpu i ddatgloi twf yn yr ardaloedd sy'n cael eu hystyried. Mae'n fuddsoddiad ar gyfer twf, yn hytrach na—a dyma ddewis Llywodraeth y DU—yn hytrach na ni yn dweud y bydd parthau buddsoddi yn rhan o weithgarwch economaidd ffyniant bro a buddsoddi yn ein cymunedau lleiaf cefnog. Nid dyna'r hyn y crëwyd y rhaglen parth buddsoddi ar ei gyfer. Felly, eto, mae'n fater ohonom ni'n dod o hyd i ffordd o weithio gyda menter bolisi Llywodraeth y DU a bod yn adeiladol wrth wneud hynny. Ond, ar eich pwynt ar fuddsoddiad hirdymor, yfory, wrth gwrs, gan wisgo het ychydig yn wahanol, byddwn yn siarad am y buddsoddiad hirdymor y gallwn ni ei ddarparu gyda chyn-gronfeydd strwythurol yng Nghymru, gan fabwysiadu dull rhanbarthol mwy cydlynol a chael tymor hwy i wario'r arian hwnnw. A'r dysgu a wnaethom dros nifer o flynyddoedd—. Ac rwy'n credu, mewn Senedd flaenorol, eich bod chi wedi bod ar bwyllgor sydd wedi edrych ar wersi a ddysgwyd o raglenni ariannu strwythurol blaenorol. Rydym ni'n credu mai'r math hwnnw o ddull, gan Lywodraeth y DU o ba bynnag fath, o ymdrin â'n cydlyniad tymor hwy yw'r peth iawn i'w wneud i ganiatáu i ni edrych yn fwy cydlynol ar draws Cymru gyfan lle'r ydym ni'n credu bod cyfleoedd, lle mae angen gweld datblygiad economaidd. Yn anffodus, mae'r dyluniad presennol yn fwy tameidiog nag yr hoffem ac mae'n fwy byrdymor nag yr hoffem. Byddwn yn siarad yn fanwl am y gronfa ffyniant gyffredin a chael terfynau amser gwario blynyddol yfory.
Ar eich trydydd pwynt ar ardrethi busnes, rwy'n gweld bod y Gweinidog cyllid yn edrych drosom ni yn y rhith-fyd, ac fe wnaf i wrthod eich awgrym cwrtais y dylwn i geisio gosod paramedrau ar gyfer y gyllideb nad yw wedi'i gosod eto. Mae angen i ni aros i ddeall yr hyn fydd yn digwydd yn natganiad yr hydref ar 22 Tachwedd, pa un a fydd hynny yn arwain at gynnydd net i gyllid yng Nghymru, neu pa un a ydym ni'n canfod, y tu ôl i'r penawdau, ein bod ni wedi dioddef lladrad ac nad yw mor hael ag y bydd y penawdau, rwy'n siŵr. Mae angen i ni ddeall hynny, ac yna mae angen i ni bennu cyllideb ar draws y Llywodraeth gyfan. Bydd angen cymryd unrhyw ddewisiadau ynghylch ardrethi busnes i ystyriaeth ar ôl datganiad yr hydref ac yn y gwaith y mae'r Aelod yn deall, rwy'n gwybod, sy'n digwydd rhwng Gweinidogion nawr.
Ac ar eich pwynt olaf, rhan o'r rheswm pam rydym ni wedi edrych ar y gogledd-ddwyrain, o amgylch Wrecsam a'r Fflint a gweithgynhyrchu gwerth uchel, y rheswm pam rydym ni wedi edrych ar led-ddargludyddion cyfansawdd yn benodol, wedi'u lleoli o amgylch Casnewydd gyda chysylltiad â Phrifysgol Caerdydd a gweithlu sydd eisoes yn dod o'r ardal ehangach, gan gynnwys y Cymoedd, yw oherwydd ein bod ni'n edrych ar y potensial ar gyfer twf, rydym ni'n edrych ar le mae seilwaith eisoes wedi'i sefydlu a dealltwriaeth sefydledig o'r hyn sy'n bosibl, a hefyd i geisio gwrthweithio'r potensial i fusnesau gael eu denu i symud ac i ddadleoli gweithgarwch—mae wedi bod yn un o'n pryderon erioed am borthladdoedd rhydd ac am barthau buddsoddi.
Felly, dewis canolfannau sefydledig sydd eisoes yn bodoli yw'r hyn sy'n rhannol yn sail i'n rhesymeg na ddylem ni, er enghraifft, geisio creu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd yng Ngheredigion. Er y gallai'r Llywydd feddwl bod hynny'n syniad gwych, mae hynny'n annhebygol o arwain at dwf sylweddol, ac mae'n llawer mwy tebygol o arwain at ddadleoli, pe bai modd perswadio pobl i fynd yno at y diben hwnnw. Felly, rydym ni'n canolbwyntio ar ardaloedd lle'r ydym ni'n gwybod bod gweithgarwch sefydledig a'r potensial i dyfu mwy.
Diolch am y datganiad, Gweinidog.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud ei bod hi'n bwysig bod y parthau hyn yn gwasanaethu'n llawn fuddiannau a dyheadau cymunedau a phobl y rhanbarthau y byddan nhw'n cael eu sefydlu ynddyn nhw. Mae profiad blaenorol wedi dangos, heb oruchwyliaeth gadarn ac eglurder strategol, y bydd mentrau o'r fath yn seiliedig ar le yn cael eu hecsbloetio gan gwmnïau amlwladol at ddibenion treth heb sicrhau buddion diriaethol o ran datblygu sgiliau lleol ac enillion cynhyrchiant. Er enghraifft, roedd y rhaglen parthau menter a arweiniwyd gan George Osborne ymhell o lwyddo i gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer creu swyddi. Er i'r Trysorlys ragweld yn wreiddiol yn 2011 y byddai creu'r parthau yn arwain at 54,000 o swyddi newydd erbyn 2015, dangosodd y gwaith dadansoddi dilynol yn 2017 mai dim ond 17,500 o swyddi yr oedd pum mlynedd o'r rhaglen wedi eu darparu, ac roedd o leiaf traean o'r rheini yn swyddi a oedd wedi cael eu hadleoli o rannau eraill o'r DU.
Roedd gan bolisi porthladdoedd rhydd trychinebus Llywodraeth Thatcher, y rhoddwyd pen ar ei thrafferthion yn y pen draw gan y Torïaid yn 2012, record debyg o dangyflawni ar gyfer yr economïau lleol y'i bwriadwyd ar eu cyfer. Ac nid yw'r wyth parth menter a grëwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012 wedi gwneud yn llawer gwell. Daeth adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar y pryd yn 2018 i'r casgliad nad oedd nodau gwreiddiol y polisi parthau menter yng Nghymru, o greu twf a swyddi, wedi cael eu cyflawni yn gyffredinol, tra hefyd yn codi amheuon am y diffyg data olrhain perfformiad rheolaidd.
Nawr, rwy'n mawr obeithio bod y Llywodraeth, felly, wedi dysgu o'i menter flaenorol i barthau menter ac wedi ymgorffori rhai o'r gwersi hynny a ddysgwyd o fethiannau blaenorol. Mae Cymru wedi bod yn dyst i lawer gormod o wawriau ffug o ran strategaethau economaidd. Felly, sut fydd y Llywodraeth yn dysgu o'r gwersi hynny, a beth sydd i ddweud na fyddwn ni yn yr un sefyllfa eto, lle nad yw'r canlyniadau yn cyfateb i'r uchelgais? A fyddwn ni hefyd yn cael y data rheolaidd, a amlygwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar y pryd, i allu craffu wedyn ar y perfformiad ac olrhain perfformiad y parthau menter newydd hyn, er mwyn dwyn y Llywodraeth i gyfrif?
Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni ystyried y ffactor ychwanegedd hefyd yn hyn—felly, i ba raddau y gall polisi buddsoddi seiliedig ar le ysgogi twf yn y ffynhonnell, yn hytrach nag ailgyfeirio datblygiad economaidd a fyddai wedi digwydd yn rhywle arall beth bynnag, fel yr amlygwyd eisoes gan lefarydd y Torïaid. Mae hyn hefyd wedi bod yn bryder i mi gyda'r cynigion ar gyfer porthladdoedd rhydd.
Nawr, rwy'n deall ateb y Gweinidog mewn ymateb i lefarydd y Torïaid ynghylch dewis canolfannau sefydledig. Ond nid wyf i'n credu ei fod yn esbonio'n llawn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i liniaru'r broblem bosibl o adleoli. Felly, faint o feddwl a wnaed yn ei gylch, a beth yw'r polisïau lliniaru penodol sydd gan y Llywodraeth ar waith? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni nid yn unig yn lliniaru dadleoli, ond yn ei fonitro trwy gydol oes y parthau menter hyn.
Wrth gwrs, rydym ni'n croesawu na fydd y Llywodraeth yn derbyn unrhyw wanhau o hawliau gweithwyr. Byddwn yn ei werthfawrogi, fodd bynnag, pe gallai'r Gweinidog nodi'n union sut y bydd y Llywodraeth yn amddiffyn rhag gwanhau hawliau gweithwyr. Beth yn union yw'r mecanweithiau ar gyfer monitro ac yna gweithredu os oes tor-cyfraith yn digwydd?
Yn olaf, Llywydd, dylem ni sicrhau nad yw'r cymhellion masnachol ar gyfer denu busnesau yn ffafrio corfforaethau mwy yn anghymesur ar draul menter ddomestig. Rwyf i wedi bod yn eglur ers cryn amser bod cefnogi twf yn ein sector busnesau bach a chanolig, a sicrhau bod cwmnïau domestig yn wydn, yn gystadleuol ac yn ddynamig, yn hanfodol fel ffordd o adfywio ein heconomi. Nawr, dylid gwneud pob ymdrech felly i sicrhau bod busnesau bach a chanolig lleol yn gyfranddalwyr gweithredol yn sefydliad parthau o'r fath, ac nad yw gwerth cyfleoedd parthau buddsoddi yn cael ei bennu gan faint y cwmnïau sy'n cymryd rhan. Felly, yn yr ystyr hwnnw, sut mae hyn yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig Cymru?
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe wnaf i ymdrin yn gyntaf â'r pwynt ynghylch gwaith teg. Rydym ni wedi bod yn eglur iawn ein bod ni'n disgwyl i hyn fod yn rhan o unrhyw achos busnes a ddarperir i ni. Byddai hefyd yn cynnwys rhai o'r pwyntiau yr ydych chi hefyd wedi eu trafod ynghylch sylfaen gychwyn gweithgarwch economaidd, ynghylch y safleoedd treth, pa fusnesau fyddai yno, y math o weithgarwch sy'n digwydd, a chael metrigau ar dwf fel y gallwn ni i gyd ddeall a yw hyn wir yn mynd i sicrhau twf. Rhan o'r her, fel y dywedais mewn ymateb i Paul Davies a hefyd yn fy natganiad, yw mai menter Llywodraeth y DU yw hon, lle mae gennym ni'r dewis o a ydym ni'n barod i weithio â hi i geisio dod o hyd i ffordd lle y gall o bosibl gyflawni ein hamcanion ni hefyd, neu a ydym ni'n barod i gael sefyllfa lle naill ai nad yw buddsoddiad yn cael ei wneud neu lle mae Llywodraeth y DU yn gweithio o'n cwmpas ni, gan ddefnyddio ysgogiadau a gedwir yn ôl yn unig. Rwy'n credu mai dyma'r dewis iawn ac mae'n ddewis pragmatig, lle'r ydym ni'n amlwg eisiau gweld mwy o dwf yn yr economi. Rydym ni eisiau gweld mwy o swyddi o ansawdd uchel ar gael, nid llai. Rydym ni hefyd eisiau gweld twf economaidd mewn ardaloedd y tu allan i barthau buddsoddi, lle mae gwir angen gweld mwy o weithgarwch economaidd.
Ar eich pwynt ar gadwyni cyflenwi ehangach, a busnesau bach a chanolig yn benodol, byddem ni eto'n disgwyl gweld rhywfaint o hynny yn cael sylw nid yn unig yn gwaith cynllunio busnes, ond o ran beth fydd ein disgwyliad ynghylch sut rydym ni'n gweithio gyda busnesau sy'n gweithredu yn y safleoedd hynny. Felly, byddwn i eisiau gweld pobl yn ymrwymo i gontract economaidd. Byddwn i eisiau gweld sut maen nhw'n edrych mewn gwirionedd ar adeiladu cadwyn gyflenwi yn yr ardal honno. A cheir enghreifftiau da o hynny eisoes: er enghraifft, GE ac Airbus—un yn y de, un yn y gogledd—y ddau â chadwyni cyflenwi sylweddol, gwerth sylweddol, ac maen nhw'n edrych yn ofalus iawn ar gadernid eu cadwyni cyflenwi a pha mor lleol ydyn nhw. Mae'r ddau ohonyn nhw wedi gwneud gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf i geisio gwneud yn siŵr eu bod nhw'n deall o le mae eu cyflenwyr yn dod ac maen nhw'n gwneud pwynt o ddeall sut maen nhw'n buddsoddi yn eu heconomi leol. Mae hynny yn eu helpu gyda'u gweithlu eu hunain yn ogystal â chyda cwmnïau eraill a'r effaith a'r gwerth economaidd ehangach. Rwy'n awyddus i weld dull sy'n adeiladu ar hynny hefyd.
Ar eich pwynt ar fuddsoddiad yn seiliedig ar le, rwy'n credu bod ganddo ran yn sicr. Yn sicr mae ganddo ran yn y dyfodol. Rydym ni wedi gwneud buddsoddiadau seiliedig ar le mewn amrywiaeth eang o ardaloedd. Mae'n rhan o'r rheswm pam rydym ni'n cael sgyrsiau gyda rhanbarthau economaidd ynglŷn â ble a sut i fuddsoddi, ac fe wnaf i roi dwy enghraifft i chi—na, tair enghraifft. Os meddyliwch chi am weithgynhyrchu, rydym ni wedi buddsoddi yn y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch; rydym ni wedi buddsoddi ochr yn ochr â phartneriaid eraill i fod eisiau ceisio angori mwy o weithgarwch economaidd yn yr ardal honno. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod mwy o fusnesau, ar draws y gogledd-ddwyrain gyfan ac yn genedlaethol, yn deall yr hyn y gallan nhw ei gael o hynny ac, er enghraifft, ein cefnogaeth i ganolfan ymchwil dechnegol uwch yn y gogledd-ddwyrain hefyd. Rydym ni'n adeiladu ar faes o gryfder sefydledig. Yn y de, mae lled-ddargludyddion yn enghraifft arall o ble'r ydym ni eisiau gweld gweithgarwch penodol yn cael ei dargedu a'i lenwi mewn ardal o gryfderau presennol. A'r trydydd un, lle'r ydym ni wedi gwneud rhywbeth newydd yn y ddau dymor diwethaf, yw'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth rheilffyrdd. Mae'n bleser gweld fy rhagflaenydd fel Gweinidog yr economi yn y Siambr heddiw, oherwydd, ar y pryd, nid wyf i'n credu bod pawb yn credu y byddai honno'n llwyddiannus, ac eto, mewn gwirionedd, ceir rheswm gwirioneddol i fod yn optmistig am ei dyfodol. Mae'n ddewis bwriadol ymyrryd mewn ardal benodol, ac rwy'n meddwl bod pob rheswm i gredu y bydd yn llwyddiannus. Pe na bai'r Llywodraeth wedi gwneud hynny, yna ni fyddem wedi gweld yr ymyrraeth honno yn digwydd yno, ac rwy'n credu y byddwn ni'n gweld dyfodol economaidd gwell i'r rhan honno o Gymru o ganlyniad uniongyrchol.
Ac, yn olaf, ar eich pwynt ar yr her bod yn rhaid tyfu ac nid dadleoli swyddi, dyna'n sicr y mae gen i ddiddordeb ynddo. Wrth gwrs, roedd yn ddiddorol bod Paul Davies wedi codi'r un pwynt. Dyna eto pam rydym ni'n bwriadu adeiladu ar feysydd cymharol o gryfder ac adeiladu ar y meysydd hynny o gryfder cymharol sydd eisoes wedi'u sefydlu yng Nghymru, yn hytrach na cheisio eu denu nhw i un gornel o Gymru o weddill y wlad. Rwy'n credu bod y cynnig yr ydym ni wedi ei gyflwyno yn rhoi'r gobaith gorau o wneud hynny.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad heddiw. Mae'n gadarnhaol bod y polisi presennol yn canolbwyntio ar nifer fach o glystyrau potensial uchel sy'n gysylltiedig â galluoedd ymchwil cryf. Y perygl bob amser yw eich bod chi'n gwasgaru'n rhy fân yn y pen draw ac nad oes unrhyw beth byth yn deillio ohono.
Mae'r Gweinidog yn iawn—ceir meysydd lle gall ein cryfder cymharol hybu cynhyrchiant a thwf economaidd ehangach. Mae diwydiannau a allai dyfu'n sylweddol yn cynnwys TGCh, gwyddorau bywyd, gwasanaethau cyllid a phroffesiynol, ac nid yw'r rhain wedi'u cyfyngu'n ddaearyddol. Os mai ein nod yw llwyddo yn y sectorau hyn, mae angen i ni ddysgu gan orllewin Ewrop a gogledd America a'r dinasoedd a'r rhanbarthau yn y rheini sy'n cael llwyddiant aruthrol yn y meysydd hynny.
Fel rhywun sy'n cynrychioli rhan o ddinas-ranbarth Bae Abertawe, rwy'n siomedig mai dim ond dau barth yw'r bwriad—un yn y de-ddwyrain ac un yn y gogledd. Ond dyna fel y mae hi. A yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi'n bwysig defnyddio prifysgolion yng Nghymru fel canolfannau i ysgogi arloesedd a buddsoddiad, gyda phrifysgolion yn creu parciau gwyddoniaeth ac arloesi, fel y gallwn ni fod mor llwyddiannus ag ardaloedd eraill yn Ewrop a Gogledd America?
'Ydw' yw'r ateb byr. I fod yn deg, mae Mike Hedges yn gwneud y pwynt yn rheolaidd am werth a phwysigrwydd prifysgolion yn rhan o'n seilwaith ymchwil ac arloesi a'r ecosystem yr ydym ni'n ceisio ei datblygu. Fe wnaeth bwyntiau tebyg, yn wir, pan oeddem ni'n trafod lansio'r strategaeth arloesi, ac mae'n iawn i wneud hynny. Ein her yw sut rydym ni'n gwneud yn siŵr bod gennym ni amgylchedd lle mae'r llwyddiant hwnnw'n cael ei gyflawni, trwy ymchwil, a'i roi ar waith wedyn fel gwerth a budd economaidd. Ac rwy'n credu mai rhan o hyn yw pwysigrwydd allweddol y datganiad a wnes i ychydig wythnosau yn ôl ar ddull cydlynol o ddatblygu economaidd, gan weithio gyda rhanbarthau fel partneriaid a deall y cryfderau penodol sy'n bodoli yn y rhanbarthau hynny, y bydd rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi'u cynnwys yn y sector prifysgol perthnasol.
Gweinidog, rwy'n croesawu'n arbennig eich sylwadau ar gwestiwn blaenorol am y Ganolfan Ymchwil Technoleg Uwch a'ch cefnogaeth i honno. Gan droi at y datganiad hwn, byddwch yn gwbl ymwybodol o'r nifer o weithiau yr wyf i wedi siarad yn y Siambr hon am yr heriau sy'n ein hwynebu i sicrhau sero net, y rhan sydd gan weithgynhyrchu uwch i'w chwarae o ran arloesi ac ysgogi cyfraddau cynhyrchiant. Rydych chi hefyd wedi cyfeirio yn eich datganiad at bwysigrwydd chwaraewyr allweddol, fel Airbus, fel yr AMRC, sydd eisoes yn dangos hynny. Gallai hyn fynd ymhellach a chael hwb pellach drwy ddarparu parth buddsoddi—ac rwy'n croesawu eich cefnogaeth i alwadau am barth buddsoddi yn y gogledd-ddwyrain—gyda chanolfan sgiliau a hyfforddiant wedi'i hymgorffori i helpu i ddarparu ymhellach y cenedlaethau nesaf o sgiliau. Tybed, gyda'ch cefnogaeth i un wedi'i lleoli yn sir y Fflint a Wrecsam, pa sgyrsiau y gallech chi eu cael gyda rhanddeiliaid fel Airbus a chwmnïau eraill o gwmpas yr etholaeth i gefnogi eu galwadau ar lefel y DU.
Byddwn yn hapus iawn i gael sgwrs gydag Airbus am unrhyw gynigion y maen nhw'n eu datblygu gyda phartneriaid ar gyfer canolfan sgiliau a hyfforddiant bwrpasol. Fy nealltwriaeth a'm hamlinelliad i yw nad ydyn nhw'n chwilio am rywbeth sydd ar gyfer Airbus yn unig, ond sydd â chyrhaeddiad ac effaith ehangach. Dyna un o'r pethau ydym ni eisiau eu gweld gan ein cwmnïau angori, i gael effaith ehangach na'u busnesau eu hunain, ac rydym ni wedi gweithio'n adeiladol gydag Airbus yn unigol ac, yn wir, gyda Llywodraeth y DU ar wneud dadleuon dros fuddsoddiad. Mae'n enghraifft dda iawn o faes lle ceir busnes â llawer o waith, gwaith o ansawdd uchel, sy'n gofyn am fuddsoddiad parhaus mewn sgiliau, a'n her yw sut rydym ni'n parhau i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn ymwybodol o'r cyfleoedd, nid yn unig yn Airbus a'r gadwyn gyflenwi ehangach, ond yr effaith ehangach y gall ei chael, yn enwedig yn y sector gweithgynhyrchu gwerth uchel, ac, wrth gwrs, y meysydd peirianneg cysylltiedig a mwy. Felly, byddwn yn fwy na pharod i ddatblygu'r sgwrs adeiladol honno gydag Airbus a'r rhanbarth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Roeddwn i eisiau siarad y prynhawn yma, oherwydd mae gen i ddiddordeb yn yr hyn y mae'r datganiad yn ei ddweud am bolisi economaidd Cymru. Er y byddwn yn croesawu'r datganiad cyn belled ag y mae'n mynd o ran y datblygiad a'r parthau buddsoddi y mae'r Gweinidog wedi'u cyhoeddi heddiw, mae gen i ddiddordeb mewn lle mae hynny'n ein gadael ni o ran y dull cyffredinol o ymdrin â pholisi.
Efallai fod y Gweinidog wedi ateb y cwestiwn, a dweud y gwir, wrth ateb llefarydd y Ceidwadwyr pan ddywedodd ei fod yn mynd i ganolbwyntio ar ardaloedd lle ceir potensial ar gyfer twf. Nawr, mae hwnnw wedi bod yn bolisi gan Lywodraeth Cymru o'r blaen ac mae wedi cyfeirio cyllid Llywodraeth Cymru a chymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnes i'r gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain. Yr hyn nad yw wedi'i wneud yw cyfeirio cyllid a chymorth y Llywodraeth i ardaloedd lle ceir tlodi ac ardaloedd lle mae methiant sylweddol yn y farchnad eisoes. Nawr, byddwn i'n dadlau y dylai fod gan Lywodraeth ymyraethol wahanol ddull, y dylai fod ganddi dull o ymdrin â pholisi economaidd sy'n cywiro methiant y farchnad, sy'n rhoi arian cyhoeddus ac adnoddau trethdalwyr yn y cymunedau hynny sydd ei angen fwyaf, nid yn unig yn yr ardaloedd hynny lle mae popeth ar gael yn rhwydd, lle gellir cyflawni'r canlyniadau gorau o fuddsoddiad lleiaf posibl. Mae'r farchnad eisoes yn gwneud hynny. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw hwn: sut fydd y dull hwn o fudd i'r cymunedau hynny lle nad yw'r farchnad yn darparu buddsoddiad, lle nad oes yr un potensial ar gyfer twf a lle mae'r tlodi yn fwy?
Rwy'n credu y byddwn i'n dweud dau beth cyffredinol. Y cyntaf, fel yr wyf i wedi ceisio ei nodi yn fy natganiad, yw nad parthau buddsoddi a'r polisi porthladdoedd rhydd yw cyfanswm yr hyn y mae'r Llywodraeth hon eisiau ei weld yn cael ei gyflawni. Rydym ni'n ymdrin ag ymyriadau gan Lywodraeth y DU, eu mentrau polisi, ac rydym ni'n gorfod gwneud dewisiadau ynghylch a ydym ni'n dymuno dod o hyd i ffordd y gallwn ni fyw gyda'r ymyriadau polisi hynny yng Nghymru gyda'r defnydd o ysgogiadau datganoledig, neu a ydym ni eisiau gadael Llywodraeth y DU i geisio gwneud rhywbeth yn gyfan gwbl ar wahân gyda phwerau a gedwir yn ôl.
Rwy'n credu, fodd bynnag, bod un o'r pwyntiau yn rhywbeth am naws, hefyd. Ni ddylem ni fod yn swil am fod eisiau cefnogi twf a sectorau twf. Y gwahaniaeth, fodd bynnag, yw na allwch chi ddweud y bydd yn digwydd lle mae'n digwydd, ac rwy'n credu mai dyma lle rwy'n sicr yn cytuno â'r Aelod. Rydych chi eisiau i bobl allu cael gafael ar y gwaith hwnnw ac edrych ar yr hyn sy'n ardal teithio i'r gwaith ehangach, rydych hefyd eisiau ymyrryd yn fwriadol mewn meysydd lle nad oes gweithgarwch economaidd sylweddol. Mae hynny, er enghraifft, yn meddwl am etholaeth yr Aelod ei hun, nid yn unig y cymorth cynhyrchiant yr ydym ni wedi ei ddarparu i fusnesau ym Mlaenau Gwent, ond y ffaith ein bod ni wedi cefnogi datblygiadau eiddo i ganiatáu i fwy o ardaloedd ddod o hyd i waith yn rhanbarthau Blaenau Gwent a rhanbarthau eraill y Cymoedd i wneud yn siŵr bod gweithgarwch economaidd yn digwydd. Mae'r ymyrraeth honno mewn marchnad na fyddai'n creu'r cyfleoedd hynny fel arall yn bwysig iawn.
Felly, i mi, mae'n dal i fod yn ymwneud â deall yr angen am ddull cydlynol o ddatblygu economaidd rhanbarthol a dealltwriaeth bod angen i ni ddeall yr hyn a all weithio ac a fydd yn gweithio ym mhob un o ranbarthau Cymru. Bydd angen a swyddogaeth i Lywodraeth ymyrryd bob amser i wneud yn siŵr nad oes gennym ni ddwy gornel o Gymru yn unig sy'n perfformio'n gymharol dda o'u cymharu â gweddill Cymru, ond mewn gwirionedd ni allwn adael gweddill Cymru i'w dynged. Nid dyna farn y Llywodraeth hon, nid dyna ein polisi, ac rwy'n gobeithio bod yr hyn y llwyddais i'w gyflwyno dair wythnos yn ôl ar ddatblygu economaidd rhanbarthol yn rhoi rhywfaint o gysur i'r Aelod ein bod ni o ddifrif am hynny.
Gweinidog, ar ran Aelodau ar draws y pleidiau yn y gogledd, a gaf i ddiolch i chi am y cyhoeddiad hwn heddiw? Rydych chi eisoes wedi cyflawni ar ran pobl y gogledd-orllewin gyda'r cytundeb dros y porthladd rhydd, sy'n hynod bwysig i economi Ynys Môn a Gwynedd, ac ar draws y gogledd o ran hynny. Heddiw, rydych wedi cyflawni ar ran cymunedau y gogledd-ddwyrain drwy gyhoeddi cais llwyddiannus gan bartneriaid rhanbarthol yno i helpu i sicrhau y gall Cymru, ynghyd â'r clwstwr de-ddwyreiniol, barhau i gadw i fyny â'r sectorau hynny lle rydym gryfaf.
Rwy'n credu bod hyn yn dangos, ac a fyddech chi'n cytuno bod hyn yn dangos gwerth cydweithio, ar draws pleidiau gwleidyddol ac ar draws sefydliadau hefyd? A fyddech chi hefyd yn cytuno ei fod yn adlewyrchu gwaith partneriaid yn y gogledd-ddwyrain sydd wedi gweithio mor gydweithredol dros y misoedd diwethaf? Mae llawer o bobl i'w diolch am y gwaith hwnnw, ond, yn benodol, a fyddech chi'n cytuno bod y broses hon yn dangos gwerth anhygoel Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint yn gweithio mor agos gyda'i gilydd? Gweinidog, yn olaf, a fyddech chi hefyd yn cytuno bod angen cytundeb cyflym gan Lywodraeth y DU dros y ddau barth yn awr ynghyd â sicrwydd y bydd cyllid cyfatebol ar gael i'r parthau hynny fel sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr? Diolch.
Diolch. Diolch am y geiriau caredig. Mae deall beth y mae'n bosibl ei wneud a chyflawni a deall sut i sicrhau twf mewn ffordd sy'n dal i gyd-fynd â'r hyn yr ydym am ei wneud â'n huchelgais economaidd bresennol wedi bod yn bwysig iawn yn y dewisiadau yr ydym wedi'u gwneud. Mae yna nifer o bobl sydd wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran cydweithio o fewn rhanbarthau. Nid yw'n berffaith, nid yw'n digwydd trwy ddamwain, mae angen i bobl allu eistedd gyda'i gilydd, dod o hyd i feysydd o gytundeb ac nid bob amser i chwilio am feysydd anghytuno. Rydym yn gweld mwy o gynnydd ar hynny ym mhob un o'r rhanbarthau yng Nghymru. Cadeirydd y fargen dwf yn y gogledd, y bwrdd uchelgais economaidd, yw arweinydd Gwynedd, ac eto rydym yn cyhoeddi heddiw ymyriad a fydd yn cael ei sefydlu yn Wrecsam a sir y Fflint, ond a fydd yn dal i fod â pherthynas â'r hyn y maent am ei wneud ar draws y gogledd-ddwyrain cyfan. Mae'n un o'r blaenoriaethau yng nghynllun y gogledd i weld dyfodol hyd yn oed yn well ar gyfer gweithgynhyrchu gwerth uchel.
Pan oeddwn i yn etholaeth yr Aelod yn ddiweddar, fe wnaethon ni gyfarfod â nifer o weithgynhyrchwyr gwerth uchel—rwy'n meddwl am Kronospan a'r bobl eraill y gwnaethon ni gwrdd â nhw pan oedden ni yno. Felly, rwy'n optimistaidd bod yna faes cryfder sy'n bodoli eisoes, ac un o'r pethau yr ydym wedi ymrwymo i'w wneud yw parhau i weithio gyda phartneriaid i gadw partneriaid gyda'i gilydd wrth symud ymlaen. Mae Llywodraeth y DU yn rhan o hyn ac mae angen iddynt barhau i fod yn bartner adeiladol yn y maes hwn. Rwy'n dymuno bod y cydweithio yma ar gael mewn meysydd eraill o weithgarwch gyda Llywodraeth y DU yr ydym wedi'u gweld yn rhai o'r meysydd y gallwn eu trafod heddiw. Rwy'n glir iawn na fyddem yn bwrw ymlaen â pharth buddsoddi yn unrhyw le yng Nghymru oni bai am yr ymrwymiadau yr ydym wedi'u sicrhau ar gydraddoldeb cyllid ar gyfer parthau buddsoddi yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, ac edrychaf ymlaen at benderfyniad cyflym ar gynigion parthau buddsoddi i ganiatáu i bob un ohonom symud ymlaen gyda'n gilydd.
Mae busnesau a'r sector cyhoeddus yng ngogledd-ddwyrain Cymru, roeddent wedi canolbwyntio ar weithgynhyrchu uwch, ond hefyd y diwydiannau creadigol a digidol. Rwy'n gweld cymaint o botensial i'r gogledd yn y diwydiant hwn sy'n tyfu'n gyflym. Mae gennym Theatr Clwyd, Glyndŵr Wrecsam a'r colegau yn gweithio gyda'i gilydd, ond ar y cyd, gallent ychwanegu cryn dipyn o gryfder ar gyfer ceisiadau. Ni wnaethoch sôn am greadigol a digidol; dim ond gweithgynhyrchu uwch a gwerth uchel y gwnaethoch chi sôn amdano. Ai hepgoriad ar eich rhan chi yn unig yw hynny, neu a yw hynny'n rhywbeth yr ydych chi'n gobeithio y gallwch chi ddod ag ef i'r ardal honno hefyd?
Rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn teg y mae'r Aelod yn ei ofyn, ac yn sicr mae'n ddefnyddiol egluro eto: rydym yn chwilio am genhadaeth benodol o amgylch parthau buddsoddi i adeiladu ar faes o gryfder cymharol. Nid yw hwn yn gynllun datblygu economaidd rhanbarthol cyfan; mae'n edrych ar un ardal gydag un set benodol o gyfleoedd economaidd yr ydym yn credu sy'n bodoli yno. Mewn gwirionedd, rydym yn parhau i weld twf yn y sector creadigol, ac ni fydd y cynnig hwn yn atal y twf sy'n digwydd yn y sector honno. Rydych chi'n iawn: mae cyfleoedd sylweddol ledled Cymru. Mae'n un o'r pethau y mae'r fargen dwf yn edrych arno, am sut i gefnogi twf y sector creadigol ymhellach, ac ni fydd hyn yn atal hynny rhag digwydd, a dyna'r pwynt rwyf wedi bod yn ceisio ei wneud—mewn ymateb i Alun Davies ac eraill—na ddylid ystyried y ddau gynnig parth buddsoddi fel cyfanswm yr hyn yr ydym am ei weld yn digwydd a'r hyn rydym yn barod i'w gefnogi. Mae'r gefnogaeth honno gennyf i a'r Dirprwy Weinidog am y cyfleoedd parhaus yn y sector creadigol yn bethau y byddwn yn dychwelyd atynt a gallwch ddisgwyl ein gweld yn parhau i gefnogi'r sector hwnnw, ac mae—fel yr ydych yn nodi—stori lwyddiant yn barod. Fodd bynnag, rwy'n credu ei fod yn tynnu sylw at y ffaith bod parthau buddsoddi eu hunain yn gallu gwneud rhai pethau ond nid popeth, a dyna pam mae angen dull cydlynol arnom o hyd o ddatblygu economaidd rhanbarthol y gellir ei wneud trwy weithio gyda phartneriaid yn unig.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf oedd i fod yr eitem ar ddigwyddiadau. Mae'r eitem yna wedi ei gohirio.
Felly'r eitem nesaf fydd eitem 9, datganiad unwaith eto gan Weinidog yr Economi ar Tata Steel. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ar 15 Medi, cyhoeddodd Tata Steel a Llywodraeth y DU gytundeb ar y cyd ar gynnig i fuddsoddi mewn gwneud dur ffwrnais arc trydan ar safle Port Talbot, gyda buddsoddiad cyfalaf o £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU o hyd at £500 miliwn.
Yn fy natganiad i'r Aelodau bryd hynny, tynnais sylw at bryderon Llywodraeth Cymru, gan groesawu'r buddsoddiad yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Yn benodol, tynnais sylw at effaith bosibl bargen o'r fath nid yn unig ar y gweithlu a'r diwydiant, ond ar yr economi leol, y gadwyn gyflenwi ehangach a'r cymunedau hynny sy'n dibynnu ar ddur. Llywydd, rydym wedi pwysleisio'r pryder y byddai hyn yn ei achosi i weithwyr a theuluoedd mewn sawl rhan o Gymru ac wedi egluro ei bod yn hanfodol bod Tata yn cynnal ymgynghoriad ystyrlon gyda'i weithwyr trwy eu cynrychiolwyr undebau llafur cydnabyddedig ynghylch eu cynigion.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bu dyfalu eang yr wythnos diwethaf, ar 1 Tachwedd, fod Tata yn bwriadu cyhoeddi ei fwriad i gau gweithrediadau trwm ym Mhort Talbot yn llwyr, gan gynnwys cau'r ddwy ffwrnais chwyth erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Bydd hyn yn arwain at golli miloedd o swyddi. Yn dilyn hynny, ni wnaeth Tata Steel gyhoeddiad ffurfiol yn dilyn eu cyfarfod bwrdd ym Mumbai. Mae hyn wedi gadael miloedd o weithwyr a'u teuluoedd, yn Tata Steel ac ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach, yn wynebu dyfodol ansicr yn y cyfnod cyn y Nadolig. Bydd y cymunedau lle mae'r gweithfeydd dur hyn wedi'u lleoli, yn rhai o'r rhannau lleiaf cefnog o'r DU, hefyd yn poeni ac yn bryderus.
Ar 1 Tachwedd, siaradais â'r Aelodau lleol dros Bort Talbot a'r undebau llafur dur, a lleisiodd pob un eu pryder enfawr ynghylch y cyhoeddiad posibl hwn. Siaradais hefyd ag uwch gynrychiolwyr o Tata Steel UK. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, pwysleisiais bwysigrwydd ymgynghori'n briodol â'r undebau llafur cydnabyddedig ac ystyriaeth lawn o'r adroddiad i opsiynau amgen y mae'r undebau llafur yn eu paratoi gyda Syndex, sy'n ymgynghoriaeth arbenigol gydag arbenigedd yn y sector dur.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi trosglwyddiad cyfiawn i sero net mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym yn pryderu nid yn unig am yr effaith ar weithwyr a chymunedau, ond hefyd i osgoi gwrthbwyso ein hallyriadau o Gymru i rannau eraill o'r byd. Mae angen ystyried allyriadau o gynhyrchu a thrafnidiaeth fel rhan o unrhyw asesiad. Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi cael trafodaethau pellach gyda'r cwmni a'r undebau dur yr wythnos hon. Byddaf wrth gwrs yn parhau i gadw llinellau cyfathrebu ar agor. Rydym yn barod i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt ar hyn o bryd, ac rwyf yn ailadrodd fy ngalwadau ar i Lywodraeth y DU weithio'n agosach gyda ni. Wrth gwrs, rwyf wedi ysgrifennu eto at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, yn gofyn am gyfarfod brys i drafod y mater a sut y gallai ein dwy Lywodraeth gydweithio.
Llywydd, rydym yn canolbwyntio ar fuddiannau'r miloedd lawer o weithwyr Tata, eu teuluoedd, y cymunedau ehangach a phawb sy'n ymwneud â gweithio gyda phum cyfleuster Tata yng Nghymru a'u cefnogi. Mae eu cyfraniad i'n heconomi yn anferthol, gan ddod â chyrhaeddiad gwirioneddol fyd-eang gydag ef. O gerbydau trydan a thyrbinau gwynt i duniau o ffa a chartrefi newydd, dur yw'r edau a fydd yn rhedeg trwy economi heddiw ac yfory. Mae'r diwydiant yn bwysig i dwf, diogelwch, sero net a lle'r DU yn y byd. Mae ein hymrwymiad hirdymor i'r sector yn seiliedig ar y realiti hwn. Byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos dros sector cryfach, gwyrddach, sy'n gallu manteisio ar y cyfleoedd enfawr y gellid eu hennill yma yng Nghymru. Diolch yn fawr, Llywydd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Rwy'n rhannu siom y Gweinidog nad oes datganiad wedi ei gyflwyno gan Tata ar ei gynlluniau ailstrwythuro yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac felly, rwy'n annog y Gweinidog i weithio mor adeiladol â phosibl gyda'r busnes nes ein bod yn gwybod mwy am ei sefyllfa bresennol a'i gynlluniau penodol ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod gweithwyr a'u teuluoedd ym Mhort Talbot yn poeni ac yn bryderus, a hynny'n ddealladwy, am yr hyn sydd gan y dyfodol ar eu cyfer nhw, ac rwy'n cytuno bod angen llawer mwy o ymgysylltu rhwng Tata a'i weithwyr. Mae'r Gweinidog wedi dweud ei fod wedi siarad yn uniongyrchol ag uwch gynrychiolwyr am ei bryderon, ac efallai y gallai ddweud wrthym pa fath o ymateb a gafodd ganddynt. Mae angen hanfodol i Tata gyfathrebu'n fwy agored â'i weithlu ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddeall yn wrthrychol pam mae'r cwmni wedi dewis cymryd rhan yn y ffordd yma fel y gall helpu i sicrhau bod unrhyw broses ymgynghori wrth symud ymlaen yn ystyrlon a bod rhyngweithio gwirioneddol rhwng y busnes a'i weithlu.
Yn ôl rhai adroddiadau, mae swyddogion gweithredol Tata wedi rhybuddio bod ei weithrediadau yn y DU yn colli mwy na £1 miliwn y dydd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cydnabod nad yw hyn yn gynaliadwy yn y tymor hir. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ddweud wrthym beth yw asesiad economaidd Llywodraeth Cymru o'r busnes a'i weithrediadau yng Nghymru mewn gwirionedd a sut olwg sydd ar ddyfodol Tata Steel yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.
Mae'n rhaid dweud bod Tata yn gyflogwr sylweddol iawn, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno y bydd yn rhaid i'r model busnes newid yn ddi-os wrth symud ymlaen er mwyn datgarboneiddio ei weithrediadau. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog eisoes wedi dweud ei fod yn gweithio gyda'r Gweinidog cyllid i weld beth y gellir ei wneud i gryfhau caffael Cymru ymhellach, a fydd, gobeithio, yn rhoi mwy o gyfleoedd i'n diwydiant dur. Felly, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariad sydd ganddo ar y gwaith hwnnw i gryfhau cyfleoedd caffael, yn ogystal ag amlinellu pa gyfleoedd sydd wedi'u canfod neu sydd o leiaf ar y gweill ar gyfer dur a gynhyrchir yn y DU.
Llywydd, mae angen i ni gofio mai safle Port Talbot yw'r allyrrydd carbon deuocsid mwyaf yn y DU, ac felly mae'n ddealladwy o dan bwysau, fel y dywedais i yn gynharach, i symud i ffurfiau gwyrddach, llai carbon-ddwys o wneud dur. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi honni mai ei ffocws yw archwilio pob llwybr i sicrhau dyfodol carbon isel llwyddiannus i ddur Cymru, ac mae'r datganiad heddiw yn ailddatgan hynny.
Mae'n ffaith bod ein bywydau yn dibynnu ar ddur o ansawdd da: dur i wneud pontydd, piblinellau a cheir. Mae hyd yn oed rhywfaint o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn dibynnu ar ddur. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog amlinellu pa gynigion o gefnogaeth, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i helpu'r busnes ar ei daith ddatgarboneiddio.
Mae'r Gweinidog wedi dweud y gallai sefydliadau yng Nghymru gymryd rhan yn y gwaith o ymchwilio a datblygu'r gwaith o wneud dur arc trydan, yn ogystal â defnyddio hydrogen yn fwy yn y broses. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud mwy wrthym am yr union waith y maent am ei weld sy'n digwydd yma a sut y dylid ariannu'r gwaith ymchwil a datblygu hwnnw. A yw hwn yn faes lle mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud rhywfaint o fuddsoddiad sylweddol, ac os felly, faint yw hynny? Wrth gwrs, wrth wraidd hyn mae angen i bartneriaeth a phleidiau ddod at ei gilydd—Tata fel busnes, Llywodraethau'r DU a Chymru, a'r gweithlu hefyd.
Wrth gloi, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Unwaith eto, ailadroddaf fy nghefnogaeth i helpu Tata i ddatgarboneiddio a chynhyrchu dur mewn ffordd llawer mwy gwyrdd yn y dyfodol. Hoffwn hefyd ailadrodd pa mor hanfodol yw hi i Tata gyfathrebu'n addas ac yn briodol â'i weithwyr cyn gynted â phosibl, er mwyn lleihau'r poeni a'r pryderon a deimlir gan y gweithwyr ac, yn wir, gan y gymuned gyfan. Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Dechreuaf gyda chwestiwn yr Aelod am sgyrsiau gydag uwch gynrychiolwyr Tata. Fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau gyfarfod ag uwch gynrychiolwyr Tata heddiw. Fe wnaethon ni drafod eto, heb ofyn am adroddiad manwl o'r hyn ddigwyddodd yr wythnos diwethaf, ond i ddeall effaith yr hyn a ddigwyddodd, i gydnabod bod hynny'n dal i fod yno o hyd. Nid yw wedi diflannu. Dydy pobl ddim wedi stopio poeni nawr. Roedd natur y briff a gyflwynwyd yn fanwl, ac mae pobl yn dal i bryderu am eu swyddi a'u dyfodol ar yr adeg waethaf yn y flwyddyn siŵr o fod.
Mae Tata wedi nodi'n glir eu bod am weld adroddiad Syndex, gyda'i argymhellion, i ddeall a oes cynigion gwahanol i gyflawni taith datgarboneiddio ar gyfer cynhyrchu dur ym Mhort Talbot. Dyna y mae'r undebau llafur wedi bod yn gofyn amdano. Mae'n gadarnhaol eu bod nhw'n dweud eu bod nhw'n mynd i aros i'r adroddiad hwnnw gael ei ddarparu—rwy'n deall ei fod ar fin digwydd—a byddem wedyn eisiau gweld ymgynghoriad gwirioneddol ystyrlon yn digwydd. Byddai angen amser i'r adroddiad hwnnw gael ei drafod, fel nad yw hynny'n golygu sbarduno'r broses gyfreithiol, gan y byddai hynny'n ei gwneud yn ofynnol i Tata gael cynigion cadarn ar gyfer newid swyddi. Credwn y byddai angen trafod hyfywedd unrhyw gynigion amgen a allai ddod o'r adroddiad Syndex hwnnw, ac mae'n bwysig bod yr amser ar gael i wneud hynny.
Gall hynny hefyd ddelio ag un o'i gwestiynau eraill am asesiad ariannol y cwmni. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad fforensig o asesiad ariannol y cwmni. Nid ydym mewn sefyllfa i wneud hynny. Ond mae gennym ddiddordeb, wrth gwrs, yn nyfodol y sector, y dyfodol i weithwyr, a dyfodol cymunedau, a'r ddealltwriaeth y bydd angen llawer mwy o ddur arnom yn ein dyfodol.
Roeddech chi'n sôn am allyriadau—yr allyriadau dur sy'n cael eu cynhyrchu ym Mhort Talbot heddiw o'i gymharu â sut y gellid cynhyrchu dur yn y dyfodol. Os gwelwn ddur sy'n cael ei fewnforio i'r DU, byddem hefyd am ddeall cost allyriadau'r dur hwnnw, ble bynnag y caiff ei gynhyrchu, yn ogystal â chostau cludo'r dur hwnnw o rannau eraill o'r byd i'r DU. Felly, mae'n bwysig peidio a meddwl bod un swm i'w wneud yma am y daith i ddatgarboneiddio, y mae'r undebau llafur dur a chyflogwyr dur yn cydnabod ei bod wedi bod yn angenrheidiol. Roedd honno'n sgwrs a gefais ar ddod yn Weinidog yr economi. Rwy'n gwybod bod honno'n sgwrs sydd wedi digwydd yn ystod cyfnod fy rhagflaenydd Ken Skates hefyd. Felly, rydym am weld trosglwyddiad gwirioneddol sydd ddim yn rhoi swyddi ar y môr ac allyriadau i rannau eraill o'r byd.
Rwy'n credu ei bod yn werth nodi hyn hefyd wrth orffen. Ym mhob un o'r heriau sydd gennym, roedd y cynnig buddsoddi a wnaed ar gyfer arc trydan yn cynnwys Tata a Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn dyfodol gwahanol. Rydym bob amser wedi dweud ein bod yn deall bod mwy o ddur arc trydan yn rhan o'r ateb, ond eisiau gweld pob ateb technoleg arall yn cael ei ystyried—felly, llai o haearn yn uniongyrchol fel dewis arall hefyd, pryd y gallai hynny fod yn bosibl. Ym mhob un o'r dyfodol hyn, serch hynny, parodrwydd Llywodraeth y DU i barhau i weithredu fel rhanddeiliad, i barhau i weithredu fel rhywun sy'n barod i fuddsoddi yn y dyfodol, yn enwedig os yw hynny'n darparu llwybr lle gallwch weld gostyngiad net mewn allyriadau, gan gynnwys sut y gallai allyriadau fod ar y môr, barhau i weld dyfodol i nifer fawr o weithwyr a allai golli eu swyddi fel arall, yn rhan o'r drafodaeth agored y mae angen i ni ei chael, gan Lywodraeth y DU i wneud hynny.
Ac mae'n deg dweud nad sgwrs yn unig yr wyf wedi bod yn ceisio ei chael gyda gwahanol Weinidogion y DU yw hon. Unwaith eto, rwy'n cydnabod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, sydd ar y sgrin—gyda phob un o'r gwahanol Brif Ysgrifenyddion i'r Trysorlys y bu'n rhaid iddi ddelio â nhw, mae hi wedi bod yn eiriolwr cyson i Lywodraeth y DU weithredu i gefnogi a buddsoddi yn nyfodol gwneud dur. Efallai na fyddwch yn clywed yr hyn a adroddir yn aml iawn, ond gwn fod hynny'n rhan o'r sgwrs a gawn. Ac yn wir mae'r Gweinidog newid hinsawdd yn cael sgyrsiau tebyg gyda'i chymheiriaid hefyd. Felly, mae barn Llywodraeth Cymru yn glir ac yn ddiamwys iawn, ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn bartner gweithredol sy'n barod i edrych eto ar yr hyn y maent yn barod i'w wneud i fuddsoddi yn y dyfodol, oherwydd credaf fod gwir reswm dros feddwl bod dyddiau da o'n blaenau ar gyfer gwneud dur a'i ddefnydd yma yng Nghymru a thu hwnt.
Ychydig dros fis yn ôl, fe ddysgon ni, fel yr amheuwyd ers peth amser, fod cytundeb Llywodraeth y DU gyda pherchnogion Tata Steel yn debygol o ddod am bris uchel sef colli 3,000 o swyddi, gyda'r mwyafrif llethol yn effeithio ar y safle ym Mhort Talbot. Bydd aelodau ar draws y Siambr hon yn ymwybodol iawn o oblygiadau dinistriol y senario hwn i'r gymuned leol, sydd, er eu bod wedi cyflenwi cenedlaethau o weithwyr i'r ffatri, wedi gorfod ymgodymu ers amser maith â'r ansicrwydd dirfodol sydd wedi amgylchynu diwydiant dur Cymru ers blynyddoedd lawer. Heb os, bydd yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn cynyddu teimladau o orbryder i lawer.
Yr hyn sydd wedi bod yn arbennig o ofidus, er nad yw'n syndod o ystyried dirmyg Llywodraeth y DU hon tuag at weithwyr, yw'r ffaith bod undebau llafur a'u cynrychiolwyr wedi cael eu cau allan o'r trafodaethau o'r cychwyn cyntaf. Dyma'r un driniaeth ddidwyll o weithwyr yr ydym wedi'u gweld yn parhau dros y ddau fis diwethaf tra bod Tata wedi bod yn datrys y pwyntiau manylach ar gyfer gweithredu'r fargen hon, ac roedd hynny i'w weld yr wythnos diwethaf. Mae cytundeb eang ymhlith yr undebau am yr angen i ddatgarboneiddio'r diwydiant a harneisio potensial Cymru fel canolbwynt ar gyfer yr esblygiad diwydiannol gwyrdd, ond fel rwyf wedi pwysleisio sawl gwaith, rhaid i'r newid i'r canlyniad hwn yr ydym i gyd eisiau ei weld fod yn gyfiawn, ac rwy'n gwrthod y rhagdybiaeth sylfaenol i'r fargen hon bod gosod y dechnoleg angenrheidiol yn gorfod cynnwys rhyw fath o fasnachu, gyda gweithwyr Cymru yn ddieithriad yn gorfod ysgwyddo'r costau.
Fel y mae'r Undeb Cymunedol wedi nodi'n briodol, mae rhywfaint o ragrith i safle Tata ar y trawsnewidiad gwyrdd, o gofio ei bod yn bygwth cau ei weithrediadau yng Nghymru heb y pecyn hwn o gefnogaeth ar gyfer gosod y ffwrneisi arc trydan newydd, gan barhau i allforio dur a weithgynhyrchir gan ffwrnais chwyth o safleoedd nad ydynt yn wyrdd yn India a'r Iseldiroedd. Yn y pen draw, os byddwn yn parhau i lawr y llwybr hwn, bydd gennym ddur budr, a thrwy hynny byddwn yn alldraethu allyriadau carbon yn y broses.
Mae gan ffwrneisi arc trydan rôl i'w chwarae, ond fel technoleg, dim ond un cog mewn peiriant cymhleth ydyw. Mae hydrogen yn ddatrysiad tymor hir, llai o haearn yn uniongyrchol yn garreg gamu gyflymach. Ymddangosodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru gerbron ETRA—Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig—a ymunodd aelod o'r pwyllgor newid hinsawdd ag ef hefyd, ac nid oedd yn credu bod hydrogen yn werth buddsoddi ynddo, gan nad oedd yn fasnachol hyfyw. Beth fyddai barn y Gweinidog ar hyn? Roedd yn agwedd eithaf brawychus, yn enwedig oherwydd yr awgrym yw nad rôl y wladwriaeth yw datblygu adnoddau strategol oni bai ei bod yn fasnachol hyfyw ar gyfer busnes preifat. Efallai mai dyma pam mae angen i ni feddwl am fodelau amgen o berchnogaeth ddiwydiannol yng Nghymru, oherwydd dyma'r realiti: mae wedi cael ei roi i mi sawl gwaith bod Tata yn gwmni preifat, ac os nad yw'n gwneud elw ym Mhort Talbot, yna ni all pobl ddisgwyl iddo barhau i weithredu yno. Byddwn i'n derbyn y rhagosodiad hwnnw pe baem yn siarad am gwmni a oedd yn cynhyrchu nwyddau moethus, ond nid dyna beth rydyn ni'n sôn amdano yma, onid e'? Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yma yw adnodd strategol.
Mae'n adrodd cyfrolau am y diffyg effaith sydd gennym yng Nghymru dros ein heconomi bod penderfyniadau ar ddyfodol un o'r gweithrediadau gweithgynhyrchu pwysicaf yn y wlad wedi'u gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig gan Lywodraeth y DU a chwmni rhyngwladol. Yn hytrach na derbyn y status quo, lle mae statws cymaint o swyddi yng Nghymru yn cael eu hystyried yn gynhenid i fuddiannau masnachol partïon nad ydynt wedi'u lleoli yng Nghymru, rhaid i ni ymdrechu am ddewisiadau gwell eraill, megis cefnogi amlhau cydweithredu, gan sicrhau, pan fo diwydiannau critigol yn cael eu peryglu drwy ailstrwythuro corfforaethol neu ailflaenoriaethu bod fframwaith cadarn ar waith i weithwyr gymryd rheolaeth gweithrediadau, ac felly'n cynnal eu presenoldeb yng Nghymru. Ac nid yw hyn, wrth gwrs, yn ddamcaniaethol: dyna'n union sydd wedi'i wneud yng Ngwlad y Basg. Felly, byddai gennyf ddiddordeb ym meddyliau'r Gweinidog ar hyn y tu hwnt, a chyda pharch, i ddweud, 'Yn syml, ni allwn ei fforddio', oherwydd os na fyddwn yn cymryd camau i ddiogelu'r sector dur yma yng Nghymru, yna bydd y costau yn y dyfodol yn llawer uwch. Ac nid wyf yn disgwyl iddo ddweud, i fod yn deg, 'Fe wnawn ni rywbeth yfory', ond siawns bod angen i ni ddechrau meddwl. Nid yw hyn yn gynaliadwy ac mae angen i ni feddwl o ddifrif am y dyfodol.
Byddaf yn gorffen, Llywydd, trwy ddweud, yn yr achos hwn, clod lle mae'n ddyledus. Mae Llywodraeth Cymru, ac yn enwedig y Gweinidog, rwy'n gwybod, wedi bod yn rhagweithiol wrth geisio sicrhau dyfodol y safle. Rwy'n gwybod, trwy waith y grŵp trawsbleidiol ar ddur, a dyna pam rwy'n estyn allan yma i ni weithio gyda'n gilydd, i ddatblygu dyfodol newydd i'r sector gyda'n gilydd. Yr hyn rwy'n ofni ein bod yn ei weld yma, mewn gwirionedd, yw Llywodraeth y DU sydd â dim uchelgais i'r sector dur, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU hefyd, a bydd hynny er anfantais i'n cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol, os na fyddwn yn dangos yr uchelgais nawr ac nad ydym yn cael hyn ar hyn o bryd.
Diolch am y sylwadau. Rwy'n credu bod llawer o feysydd lle roedd yna gysondeb yn fy natganiad ac, yn wir, fy ymateb i gwestiynau gan Paul Davies—y pwyntiau ynghylch proses bontio gyfiawn gyffredinol; yr angen i ymgynghori'n ystyrlon gydag undebau llafur; i gymryd o ddifrif adroddiad Syndex, sydd ar fin digwydd, rydyn ni'n ei ddeall; i ddeall gwirionedd ôl traed allyriadau. Os ydych chi'n bwriadu creu dur mewn rhannau eraill o'r byd, dymor hir, drwy broses ffwrnais chwyth, a'i fewnforio yma, mae angen i ni ddeall sut olwg sydd ar hynny. Mae angen i ni hefyd ddeall y cyfleoedd ar gyfer technolegau amgen hefyd, a pha mor agos ydyn nhw at fod wedi'u datblygu'n llawn.
Yr her yn hyn i gyd yw, a gyda pharch, rwy'n credu bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru—nid ei faes arbenigol ef yw hwn, ond nid wyf i'n credu ei bod hi'n deg dweud nad oes dyfodol i hydrogen. Mewn gwirionedd, mae'r buddsoddiadau eraill yn cael eu cynnal, ac os na fyddwch chi'n buddsoddi yn y rheini, yna ni fyddwch chi byth yn gwybod eich hun. Mae'n rhan o'r rheswm pam—ac nid fi a wnaeth hynny; rwy'n credu unwaith eto, mai fy rhagflaenydd Ken Skates, a fuddsoddodd arian mewn sefydliad metelau ym Mhrifysgol Abertawe, i ystyried y ffyrdd y gallwch chi gynhyrchu metelau, sut y gallwch chi gynhyrchu'r graddau a'u hansawdd nhw hefyd. Ac mae hynny'n bwysig mewn gwirionedd, ac mae hynny'n golygu partneriaeth, gyda Tata yn buddsoddi mewn gwneud hynny.
Byddwn i'n dweud, er hynny, ein bod ni'n dal i ddod yn ôl at her buddsoddiad Llywodraeth y DU. Faint maen nhw'n barod i'w fuddsoddi yn y dyfodol a beth yw eu disgwyliad ar gyfer yr hyn y bydd y buddsoddiad hwnnw'n ei gyflawni? Oherwydd yn hyn o beth, mae angen i ni gydnabod bod dur yn ased strategol nid yn unig i Gymru ond i'r DU gyfan. Ac ni allwch chi ymgymryd ag ased strategol y DU heb ystyried maint ac ansawdd y gwaith o gynhyrchu dur yma yng Nghymru. Mae'r newyddion o Scunthorpe ddoe wir yn bwysig, a dylai fod o bwys i bob un ohonon ni, oherwydd nid yw'r un cynnig eang i symud o gynhyrchu gan ddefnyddio ffwrnais chwyth i gynhyrchu gan ddefnyddio arc trydan yn golygu bod miloedd o weithwyr eraill yn poeni am eu swyddi—ac rwy'n credu y dylai pob un ohonon ni fod yn bryderus am hynny hefyd—ond, o safbwynt y DU, mae'n bosibl ei fod yn golygu na fyddai'r broses o wneud dur sylfaenol yn bodoli. Mae hynny wedyn yn golygu y bydden ni'n dibynnu ar rannau eraill o'r byd am wneud yr holl dur sylfaenol hwnnw, ac mae hynny'n rhan o'r her. Mae dewis strategol mawr i Lywodraeth y DU. Dyna pam y mae'r dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud mor bwysig y tu hwnt i'r gweithlu ym Mhort Talbot; byddan nhw'n bwysig i'r hyn y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru ac ar draws y DU.
Os ydych chi'n ystyried cyfleoedd yn y dyfodol, mae angen i ni feddwl—. Bydd angen dur plât arnoch chi i ddarparu rhai o'r cyfleoedd adnewyddadwy. Nid ydyn ni'n cynhyrchu hynny yn unman yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. A dweud y gwir, byddai hynny'n ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth y DU fod yn barod i siarad â'r sector a deall sut y gall fuddsoddi'n strategol, er mwyn cyflawni'r gallu hwnnw. Ac yna mae cyfle nid yn unig ar gyfer y DU ond ar gyfer y tu hwnt iddi hefyd, a dyna'r sgwrs yr wyf i eisiau gallu'i chael gyda Llywodraeth y DU. Hoffwn i gael y sgwrs honno gyda Llywodraeth bresennol y DU. Rwy'n credu y byddwn i yn cael y sgwrs honno pe bai Llywodraeth Lafur yn ei lle. Yr anhawster yw, a allwn ni aros tan etholiad cyffredinol, neu a fydd y dewisiadau hynny eisoes wedi'u gwneud? Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnaf i geisio gweithio gyda Llywodraeth bresennol y DU i gael y cytundeb gorau bosibl i Gymru. A dyna yr wyf yn barod i'w wneud, beth bynnag yw ein gwahaniaeth, oherwydd dyna y mae gweithwyr yn ei haeddu, rwy'n credu, ac rwy'n credu mai dyna y mae pobl Cymru yn ei haeddu.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, ond yn bwysicach fyth, diolch i chi am eich ymateb cyflym yr wythnos diwethaf, pan wnaethon ni glywed yr adroddiadau a'r trafodaethau y cawson ni brynhawn Mercher? Roedd y taranfollt y gwnaethon ni ei glywed o'r adroddiad hwnnw yn ddinistriol i'r gweithlu, eu teuluoedd a'r cymunedau ym Mhort Talbot a'r cylch, sy'n dibynnu ar yr incwm o'r swyddi yno. Ac nid dim ond y 3,000 y gwnaethon ni sôn amdanyn nhw, oherwydd maen nhw'n sôn am roi'r felin boeth a'r gweithfeydd castio parhaus o'r neilltu. Dyna swyddi'n cael eu colli am bedair blynedd, petai cynhyrchu dur yn dod yn ôl. Dyna'r contractwyr a'r holl gyflenwyr yn mynd hefyd, a'r holl fusnesau sy'n dibynnu ar y dynion a'r menywod hynny sy'n gweithio yno. Mae'n effaith enfawr, a gadewch i ni fod yn ddi-flewyn-ar-dafod: rydyn ni wedi sôn am broses bontio gyfiawn, ac rwy'n cytuno â chi—mae angen proses bontio gyfiawn arnon ni—ond nid proses bontio'n unig yw hwn, mae'n broses cau. Mae'n broses cau'r gweithfeydd hynny ac, os ydyn ni'n lwcus, efallai y byddan nhw'n penderfynu adeiladu ffwrnais arc mewn gwirionedd, oherwydd nid yw hynny'n sicr ar hyn o bryd. Maen nhw ond yn sôn am gau'r gweithfeydd ym mis Mawrth 2024, a phedair blynedd yn ôl pob tebyg cyn i unrhyw beth ddigwydd. Bydd y dynion hynny wedi mynd. Bydd y menywod hynny wedi mynd. Ni fydd unrhyw sgiliau yno. Mae hi wir yn bygwth proses gau i'r dref.
Felly, rwy'n ymwybodol o fy amser ac rwy'n ymwybodol o'r hyn yr wyf i'n ei ddweud yn aml wrth yr Aelodau, ond mae'n bwysig, rwy'n credu bod cyhoeddiad ddoe, sy'n tynnu sylw at golli cynhyrchu dur yn y DU, yn y bôn—dur sylfaenol—hefyd wedi'i gynnwys yma. Mae'n bwysig ein bod ni'n cael y neges i Tata a Llywodraeth y DU, ac rwyf i eisiau i chi anfon y neges gryf hon ein bod ni eisiau proses bontio gyfiawn, mae undebau eisiau proses bontio gyfiawn. Maen nhw'n derbyn y broses o symud i ddur gwyrdd, maen nhw'n derbyn y newidiadau, ond nid dyna y maen nhw'n ei gynnig ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i ni barhau i bwyso'r neges mai dyna yr ydyn ni ei eisiau. Rydych chi'n sôn am ddewisiadau eraill. Rydyn ni eisiau'r dewisiadau eraill, rydyn ni eisiau ffwrneisi haearn llai uniongyrchol, byddwn ni'n cymryd y ffwrneisi arc trydan, ond mae'n rhaid iddo fod wedi'i ganolbwyntio ar ymgynghori â'r undebau, nid cyfathrebu'n unig. Mae'n rhaid iddo fod yn ymgynghori ac yn ymgynghori ystyrlon gyda'r undebau. A wnewch chi sicrhau bod y neges honno'n cael ei chyfleu iddyn nhw, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr, David. Ac rwy'n diolch iddo am ei neges i mi ben bore yr wythnos diwethaf yn gofyn am gyfarfod. Edrychwch, mae David Rees wedi bod yn gefnogwr cyson i ddur. Byddech chi'n disgwyl iddo ef fod gyda'i etholaeth ef a'i fod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol. Ac mae'r pwyntiau mae e'n eu gwneud yn bwyntiau sydd wedi codi mewn sgwrs gydag undebau llafur dur, ac, yn wir, gyda Tata—sef yr angen am broses pontio gyfiawn, i ystyried gwirionedd allyriadau ac a ydyn ni ond yn anfon ein hallyriadau alltraeth ai peidio; yr angen i ystyried sut wedd sydd ar broses bontio gyfiawn o ran gweithwyr a'u swyddi, a dim ond o ymgynghori ystyrlon gyda'r undebau llafur dur cydnabyddedig y gall hynny ddod, a'r gwirionedd ei fod, a dweud y gwir, yn pontio i'r dyfodol lle bydd dal angen dur arnon ni. A'r dewis strategol y mae angen i nid yn unig Tata ei wneud am ei fusnes, ond mae angen i'r DU ei wneud yw: a ydyn ni'n barod ar gyfer dyfodol lle nad yw cynhyrchu dur sylfaenol yn rhywbeth y mae'r DU yn ei wneud? Ydyn ni'n barod i dderbyn ddyfodol lle mae'n rhaid i ni fewnforio o rannau eraill o'r byd yn gyson? Gall mewnforio'r dur hwnnw, i'w rolio yma, ddigwydd yn y tymor canolig, ond yr her yw, yn y tymor hir, a yw hynny'n caniatáu i ni wneud yr hyn y dylai economi fodern allu ei wneud i ymgymryd â'r holl gyfleoedd hynny, neu a fyddwn ni'n ildio'r cyfle i wneud ein dewisiadau strategol ein hunain? Rwy'n credu mai dyma'r dewis anghywir fyddai gwneud hynny. Mae honno'n neges yr ydyn ni wedi'i chael yn gyson gyda Llywodraeth y DU pan ydyn ni wedi gallu siarad â nhw, ac rydyn ni wedi nodi'n glir ein bod ni'n credu y byddai colli gwneud dur sylfaenol yn gamgymeriad o safbwynt y DU.
Rwy'n cydnabod y pryderon, os bydd ffwrneisi chwyth ar gau, faint o sicrwydd y gall pobl ei gael y bydd dur yn parhau i ddod i Gymru i fynd trwy gweithrediadau eraill sy'n gofyn am fewnforio dur. Ac nid Port Talbot yn unig yw hyn; mae yna safleoedd eraill o amgylch Cymru sy'n edrych yn bryderus am i'w dyfodol. Cafodd hynny'n ei wneud yn glir iawn i mi pan es i i Lanwern gyda John Griffiths ac aelodau o'r gymuned ac Unite. Felly, mae llawer o agweddau ar hyn y mae angen i ni eu deall, a gallaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n gwneud y pwyntiau hynny'n gadarnhaol ond yn glir ym mhob un o'n sgyrsiau, a dyna pam yr wyf i wir eisiau cael y sgwrs honno gyda Llywodraeth y DU hefyd, i ddeall a ydyn ni ar yr un ochr mewn gwirionedd, oherwydd, a bod yn deg, rwy'n credu bod Paul Davies yn gadarnhaol. Pe bai ymateb Llywodraeth y DU oedd hynny, rwy'n credu y bydden ni'n gallu gwneud rhywbeth i sicrhau dyfodol cryfach i'r sector dur.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Yn dilyn eich trafodaethau gyda Tata a'r undebau dur, a oes gennych chi unrhyw bryderon y gallai mynd ar drywydd ffwrneisi arc trydan danseilio'r cytundeb sydd wedi'i gytuno arno? Ers eich datganiad blaenorol yn dilyn y newyddion am y cytundeb rhwng Tata a Llywodraeth y DU, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi'r gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu diswyddo? Ac yn olaf, Gweinidog, gyda'r cyhoeddiad heddiw y bydd angen pedair gwaith y nifer o ffermydd gwynt ar Gymru er mwyn cyrraedd targedau ynni eich Llywodraeth. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod Port Talbot yn dod yn ganolbwynt ar gyfer cynhyrchu tyrbinau angenrheidiol? Diolch yn fawr iawn.
Ar y pwynt olaf, dyma'r hyn yr ydyn ni eisiau'i weld yn cael ei gyflawni—buddsoddi mewn seilwaith porthladdoedd. Mae'n rhaid i hynny ddod ochr yn ochr ag eglurder, a phiblinell ar gyfer y diwydiant alltraeth ei hun. Nid yw'r arwydd presennol o 4 i 4.5 GW o bŵer yn darparu digon i fusnesau fuddsoddi yn y tymor hwy. Mae'r potensial am bedair i bum gwaith cymaint yn bwysig iawn i'w ryddhau, ac yna rwy'n credu y byddwn ni'n gweld y mathau hynny o ddewisiadau buddsoddi yn cael eu gwneud. Hefyd, dyma pam mae'r dewisiadau seilwaith porthladdoedd, dewisiadau cynllun y diwydiant gweithgynhyrchu gwynt arnofiol ar y môr, sydd eto i'w gwneud i Gymru—mae'n bwysig iawn bod y buddsoddiad hwnnw'n cael ei wneud. Ac mae'n sail i'r cais porthladd rhydd Celtaidd. Mae angen i Bort Talbot a phorthladd Aberdaugleddau weld y dewisiadau buddsoddi hynny'n cael eu gwneud, ac a bod yn deg, unwaith eto, gwn i fod yna Aelodau ym mhlaid Altaf Hussain ei hun sy'n gwneud yr achos hwnnw. Mae'n bwysig iawn bod y penderfyniadau yn dod nawr, ac rwy'n gobeithio na fydd datganiad yr hydref yn gyfle wedi'i golli, oherwydd os yw Llywodraeth y DU yn cyhoeddi y bydd buddsoddiad yn dod i borthladdoedd Cymru, yna byddwn i'n un sy'n ei groesawu. Byddai'n caniatáu i ni wneud mwy a gweld swyddi'n cael eu creu.
Mae'r her, er hynny, yn parhau, os daw'r cynigion presennol i mewn ar gyfer gwneud dur arc trydan yn unig, yna mae hynny'n rhan o'r risg a welwn ar gyfer y newid mewn swyddi, ond hefyd y raddfa y byddai hynny'n digwydd arni. Nid ydyn ni'n gallu cael sgyrsiau penodol eto gyda phobl sydd wynebu risg cael eu diswyddo, oherwydd nid yw'r ymgynghoriad wedi dod i ben, ac mae'n bwysig iawn nad wyf i'n mynd ar goll wrth geisio rhoi ffigurau penodol ar golli swyddi sy'n digwydd, neu a allai ddigwydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gennyf i'r eglurder wrth ddweud bod angen i ni gael ymgynghoriad ystyrlon ar gyfer cynigion Syndex sy'n dod, ac y mae'r cwmni'n ymwybodol ohonyn nhw, i'w hystyried, eu trin yn ystyrlon ac o ddifrif, cyn cynnal unrhyw ymgynghoriad ffurfiol. Bydd hynny'n gofyn—. Os yw'n ofynnol i ni wneud pethau o'i amgylch, byddwn i'n gwneud hynny, ond yn sicr, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwmni a'r undebau edrych eto yr hyn a allai fod yn bosibl. Felly, rwy'n edrych ymlaen at dderbyn copi o'r adroddiad hwnnw pan gaiff ei ddarparu, ac edrychaf ymlaen at gael sgwrs gyda'r undeb o leiaf ynghylch beth allai'r dyfodol fod, a dyfodol gwell na'r un a oedd yn bosibl yr wythnos diwethaf.
Gweinidog, diolch i chi am sôn am holl weithfeydd Tata yng Nghymru, ac yn enwedig eich ymweliad â ffatri Llanwern i siarad â'r undebau a chlywed ganddyn nhw'u hunain. Fel y gwyddoch chi, mae Llanwern yn dal i fod yn rhan sylweddol o'r economi leol, ac mewn gwirionedd mae'r proffil oedran yn Llanwern erbyn hyn yn iau nag y bu ers cryn amser, sydd hefyd yn arwyddocaol o ran unrhyw ailstrwythuro sy'n digwydd. Yn amlwg, yn bennaf ym mhryderon yr undebau llafur yn Llanwern, Gweinidog, yw dyfodol Llanwern a sut mae'n cyd-fynd â'r darlun cyffredinol, a'r felin oer, er enghraifft, ac ofnau efallai na fydd unrhyw ddur sy'n cael ei gynhyrchu gan ffwrneisi arc trydan o'r ansawdd a fyddai'n cefnogi gweithrediad parhaus gweithfeydd Zodiac, er enghraifft. Felly, mae llawer o faterion penodol a materion neilltuol gan Llanwern, a'r gweithlu yno, fel rhan o'r sefyllfa gyffredinol honno sy'n ein hwynebu ni o ran dur yng Nghymru. Felly, dim ond fy apêl arferol, mewn gwirionedd, Gweinidog, nad yw Llanwern yn cael ei anwybyddu mewn unrhyw ffordd o ran y darlun ehangach wrth i faterion fynd yn eu blaen.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu sylw at natur cydgysylltiedig y dewisiadau sy'n cael eu gwneud o amgylch Port Talbot a'u heffaith uniongyrchol ar nifer sylweddol o swyddi mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys Llanwern. Ac roedd yn ymweliad addysgiadol iawn, nid yn unig cyfarfod â chynrychiolwyr undebau llafur o Community ac Unite, ond hefyd, wedyn, gweld rhywfaint o'r gweithredu hefyd. Mae ansawdd y dur sy'n dod i mewn yn bwysig iawn o ran y cynnyrch y mae'n bosibl iddyn nhw ei wneud yn y pen draw, a hyfywedd y gweithfeydd a'r swyddi sy'n cyd-fynd ag ef.
Rwy'n credu ei bod yn werth nodi, Llywydd, ar y pwynt y cafodd ei wneud ynghylch oedran cyfartalog y gweithlu. Mae oedran cyfartalog y gweithlu yn iau nag yr hyn rwy'n credu y byddai pobl yn tybio. Pobl, dynion a menywod yw'r rhain, sydd â chyfrifoldebau na fyddan nhw'n diflannu ymhen blwyddyn neu ddwy. Bydd ganddyn nhw alldaliadau ar gyfer teuluoedd a chartrefi a fydd yn cynyddu'r pryder y maen nhw'n ei wynebu, ac mae'n bwysig iawn deall hynny. Ac mae hynny'n sicr yn llywio'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill, ac mae hi wir yn ategu'n disgwyliadau bod ymgynghori yn ystyrlon ac rydyn ni eisiau cymaint o fuddsoddi â phosibl, a'r dyfodol gorau posibl i'r sector dur a'u gweithwyr.
Dwi eisiau cyfeirio nôl at yr ansicrwydd a'r pryder yna roeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, achos mae ansicrwydd a phryder yn drwch drwy'r cymunedau dwi'n eu cynrychioli. Mae busnesau a theuluoedd tu hwnt i'r gweithwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol yng ngwaith dur Port Talbot yn cael eu heffeithio gan y sïon yma, y sibrydion yma am y dyfodol, ac mae'n creu ing ac mae'n creu dicter. Felly hoffwn wybod sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau eu bod nhw'n cyfathrebu'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig ac o gylch byrddau busnes gyda'r gymuned ehangach sydd hefyd yn poeni am lewyrch eu hardal. A sut mae gwaith y bwrdd pontio, yn enwedig, yn ymgorffori cyfranogiad gan y gymuned ehangach?
Diolch am y cwestiwn.
Rwy'n credu y dylwn ni nodi bod heddiw yn ymarfer o ran cyfathrebu â'r gweithlu ehangach a'r gymuned ehangach sy'n pryderi. Rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn Llywodraeth Cymru yw parhau i fod yn froceriaid onest ac eiriolwyr onest â phawb yr ydyn ni'n siarad â nhw, i fod yn glir ynghylch pryd yr ydyn ni'n cael trafodaethau sy'n gyfrinachol, a bod yn glir am y cysondeb yr ydyn ni'n ei gael mewn trafodaethau â gwahanol bartneriaid, a'r hyn y gallwn ni ei ddweud ac na allwn ni ei ddweud wedyn mewn cynulleidfa ehangach.
Yr anhawster, wrth gwrs, yw peidio â gwybod beth yw'r cynigion terfynol, felly ar ôl cael y briff manwl sydd wedyn wedi cael ei adrodd arno ac yna nad yw hynny'n mynd yn ei flaen—. Wel, mewn gwirionedd, roedd y cynigion wir yn achosi pryder. Pe bydden nhw wedi mynd yn eu blaen byddai hynny wedi bod yn bryder mawr, ond mae pobl nawr yn byw gyda'r ansicrwydd o beidio â gwybod. Bydd cael adroddiad Syndex, deall sut wedd fydd ar hwnnw, eisiau dal Tata i'w hymrwymiad i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ystyrlon ynghylch hynny, yn bwysig iawn i ni.
Mewn sawl ffordd, y sefyllfa waethaf yw'r un yr ydyn ni ynddi. Pan fydd pobl yn dweud, 'Beth sydd wir yn mynd i ddigwydd?', mae gorfod dweud wrth rywun, 'wn i ddim' yn anodd iawn. Ac mae hynny'n anodd iawn i gynrychiolwyr undebau llafur hefyd. Felly, mae cynrychiolwyr GMB, Community ac Unite sy'n cael eu holi gan eu haelodau mewn gweithfeydd ar draws y sector dur, yn gorfod dweud wrth eu haelodau nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. A gall hynny fod yn anodd, oherwydd weithiau mae'ch aelodau'n tybio eich bod chi wir yn gwybod beth sy'n digwydd ac nad ydych chi eisiau dweud wrthyn nhw, ond mewn gwirionedd, nid oedden nhw'n ymwybodol.
Rwy'n credu, er hynny, mae bod â safbwynt unedig gan undebau llafur dur o amgylch adroddiad gan Syndex—os oes dewis arall hyfyw mae angen i ni sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried yn gywir. Dyna pam yr wyf i'n ailadrodd yr alwad unwaith eto ar i'r cwmni gymryd unrhyw gynigion eraill o ddifrif ac i Lywodraeth y DU fod yn barod i symud ymlaen o'u sefyllfa bresennol o ran faint o gymorth y maen nhw'n barod i'w ddarparu, a deall y gwerth y byddai modd ei golli os na allwn ni sicrhau'r nifer fwyaf o swyddi posibl a'r cyfleoedd economaidd ehangach sy'n dal i fodoli ar gyfer gwneud dur yma yn Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ar yr hyn sydd, wrth gwrs, yn ddiwydiant hanfodol i ni, fel rhan allweddol o economi Cymru ac o ran ein diogelwch cenedlaethol hefyd.
Rwy'n falch o glywed eich bod chi'n cadarnhau eich ymrwymiad i hydrogen fel dewis arall i'r pen trwm. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn absenoldeb strategaeth hirdymor glir a blaengar gan Lywodraeth y DU, fod Llywodraeth Cymru yn mynegi dewis arall y byddai modd ei gyflawni, o bosibl, naill ai gyda newid cyfeiriad gan Lywodraeth Dorïaidd bresennol y DU neu, ac yn fwy tebygol yn fy marn i, Llywodraeth Lafur fwy blaengar yn y dyfodol.
Fy nghwestiwn i chi y prynhawn yma: mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi tynnu sylw at nifer o bryderon ynghylch cynigion Llywodraeth y DU, gan gynnwys o ran gweithlu'r diwydiant dur, yr effaith amgylcheddol a'r effaith ar yr economi leol a chenedlaethol. Beth yw'ch ymateb i'r pryderon hyn fel y mae papur 'The Wrong Deal for Steel' yr ICA yn eu nodi?
Rwy'n credu mai'r pwynt cyffredinol yw ein bod ni'n rhannu nifer o'r pryderon ynghylch yr hyn a allai ddigwydd. Os ydych chi'n colli'r holl allu i wneud dur sylfaenol, rydych chi'n dibynnu wedyn ar fewnforio o wledydd eraill a'r prisiau y mae'n rhaid i chi eu talu. Mae hynny'n broblem ynddi'i hun. A fydd pawb wedyn yn barod yn y tymor hwy i barhau i fewnforio'r dur hwnnw i'w roi trwy felinau yng Nghymru, neu a fyddwch chi, mewn gwirionedd, yn symud tuag at y posibilrwydd bod y gwaith hwnnw'n newid? Oherwydd os yw'n newid, y risg yw y bydd y newid yn barhaol. Nawr mae hynny'n risg gwirioneddol sy'n cael ei drafod yn agored; mae'n rhan o'r pryder y mae teuluoedd sy'n gwneud dur yn ei ddeall rhyngddyn nhw eu hunain.
Rwy'n credu mai'r pwynt arall yw—. Y pwynt yr wyf i'n ceisio'i wneud am Lywodraeth y DU yw bod angen iddyn nhw wneud dewis, pa liw bynnag o Lywodraeth y DU sydd yna, i wneud dewis ynghylch beth sydd er budd strategol y Deyrnas Unedig o ran gwneud dur a chael y gallu hwnnw yma, a'r ffaith y bydd economi'r dyfodol yn dibynnu ar ddur. Gallwn ni naill ai ei wneud ein hunain, neu gallwn ni ei fewnforio, gyda'r holl risgiau sy'n gysylltiedig â hynny. Yna, os ydych chi'n barod i fuddsoddi ar y cyd gyda'r sector mewn dyfodol gwahanol, faint ydych chi'n barod i'w fuddsoddi a beth yw'ch disgwyliad o ran yr enillion ar hynny, o ran swyddi wedi'u sicrhau a chael dewisiadau technoleg gwahanol hefyd?
Rwy'n dal i feddwl bod lle i Lywodraeth y DU wneud y peth iawn, ac eisiau sicrhau gwell cytundeb i weithwyr dur yma yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai hynny o fudd ar draws y DU. Byddwn ni'n parhau i wneud yr achos hwnnw. Rwy'n credu y byddai gennym ni well gobaith o weld yr achos hwnnw'n cael ei wireddu pe bai Llywodraeth wahanol. Er hynny, ein cyfrifoldeb ni yw parhau i gyflwyno'r achos hwnnw i'r Llywodraeth bresennol, gan gydnabod y gallai eu dewisiadau bennu dyfodol y sector.
Efallai fod llawer ohonoch chi'n pendroni pam mae Aelod Canolbarth a Gorllewin Cymru yn sefyll yma yn gwneud sylwadau ar y mater penodol hwn. Oni bai eich bod chi heb sylwi, fel yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol, fi yw'r llefarydd ar bopeth. Yn fy rôl yma, fi yw'r llefarydd ar ran yr economi ac, os oedd yna berson o'r fath, y llefarydd ar hawliau gweithwyr. Fel cyn stiward llawr gwaith, mae'n ymddangos yn hollol ffiaidd i mi, y ffordd y mae Tata wedi trin eu gweithwyr. Y straen ychwanegol ar y gweithwyr hynny ar hyn o bryd—rydych chi wedi sôn am hynny, a nifer yma wedi hefyd.
Mae'n teimlo eich bod chi'n gwneud popeth y gallwch chi, ond meddwl oeddwn i—. Un o'r materion rwy'n ei godi yw mater o incwm sylfaenol trosiannol. Mae hynny'n gyfle i symud pobl sy'n gweithio mewn diwydiannau carbon-drwm, gan roi'r sicrwydd hwnnw iddyn nhw o incwm rheolaidd, i ddiwydiant gwyrdd, gyda'r sgiliau hefyd, ar ben popeth arall y mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw drwy unrhyw becynnau cyflogaeth. Felly, tybed a wnewch chi roi sylwadau ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar hyn o bryd i feddwl am incwm sylfaenol trosiannol o ran y senario hwn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Dylwn i gydnabod fy mod i'n gyn stiward llawr gwaith fy hun. Dylwn i hefyd gydnabod bod o leiaf un cyn-gyfreithiwr arall yr undeb llafur yn yr ystafell, ac o leiaf un arall llawn amser—na, dau gynrychiolydd undeb llafur llawn amser arall yn eu bywydau blaenorol hefyd.
Edrychwch, rwy'n credu mai'r her yw—[Torri ar draws.] Beth? Rwy'n credu mai'r her yw: sut allwn ni gefnogi'r gweithlu orau yn y cyfnod ansicr presennol, ac eisiau ei gwneud hi'n glir nad ydyn ni eisiau ond derbyn y bydd swyddi sylweddol yn cael eu colli yn y dyfodol agos? Rydyn ni eisiau gweld yr adroddiad sy'n cael ei gymryd o ddifrif. Dyna pam yr ydyn ni'n galw ar Lywodraeth y DU i fod yn bartneriaid mewn sgwrs am y dyfodol.
Os bydd swyddi yn cael eu colli, mae angen i ni edrych ar yr ysgogiadau sydd gennym ni ar gael ar hyn o bryd. Byddwch chi'n ymwybodol o'r cynllun peilot incwm sylfaenol presennol, ac rwy'n falch bod y Llywodraeth hon yn ei chyflawni. Mae'n ystyried yn benodol, pobl sy'n gadael gofal. Nid wyf i'n credu y gallen ni drosglwyddo hynny i'r materion presennol a allai grisialu dros y misoedd nesaf. Yr hyn sydd gennym ni, er hynny, yn fy adran i, yw'r gefnogaeth yr ydyn ni'n ei darparu drwy ein rhaglen ReAct+ a Cymunedau am Waith a Mwy, lle rydyn ni'n ceisio helpu pobl wrth drosglwyddo o un gyflogaeth i'r llall. Rydyn ni wedi gweld hynny wedi'i ddefnyddio gyda Tillery Valley Foods. Rydyn ni wedi'i weld yn cael ei ddefnyddio ynghylch 2 Sisters hefyd, i geisio defnyddio'r liferi sydd gennym ni.
Dyna pam mae'r gyllideb yn bwysig hefyd. Mae hon yn gyllideb sy'n cael ei harwain gan alw. Felly, bydd graddfa a maint yr hyn sy'n digwydd, a pha mor gyflym y mae'n digwydd, yn gwneud gwahaniaeth i'r math o gefnogaeth y gallwn ni ei darparu a pha mor effeithiol y gallwn ni ddarparu hynny. Felly, p'un ai yw'n cael ei alw'n incwm sylfaenol neu fel arall, y man cychwyn yw: pa gymorth y gallwn ni ei ddarparu, pa mor effeithiol y gall fod, sut ydyn ni'n deall y cyfleoedd am swyddi sy'n bodoli, ac yna sut mae helpu pobl i'w cyflawni'n ymarferol?
Gwnaeth fy nhad-cu, Patrick Murphy, o New Ross, Wexford, helpu i adeiladu gwaith dur Port Talbot yn y 1950au a gwnaeth weithio yno nes iddo ymddeol, fel y gwnaeth fy Nhad yn ei wyliau haf, a fy ewythrod a fy nghefndryd, a chafodd bob un ohonyn nhw eu magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr o ganlyniad i hyn. Felly, mae hon yn stori darddiad gyffredin iawn yn fy nghymuned i ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae gennym ni lawer o'r gweithlu yn byw yn fy etholaeth i o hyd, felly mae pryder enfawr, yn ogystal ag undod enfawr â'r holl weithlu ledled de Cymru.
Rwyf i wir eisiau ategu popeth y mae fy nghyd-Aelod David Rees wedi'i ddweud heddiw. Hoffwn i ddiolch i'r holl undebau llafur am sefyll dros y gweithlu—Cymuned, Unite, GMB—Stephen Kinnock, AS Port Talbot, a hefyd chi eich hun, Gweinidog. Oherwydd, fel yr ydych chi wedi ei bwysleisio heddiw, mae'n ymwneud â blaenoriaethu'r bobl hynny a'r teuluoedd hynny sydd wrth wraidd hyn.
Fy nealltwriaeth i yw bod Llafur y DU wedi ymrwymo addewid dur gwyrdd gwerth £3 biliwn i helpu i wella gweithfeydd yn y DU a chadw swyddi mewn proses bontio teg, proses bontio ystyrlon, a hefyd bod â diwydiant dur bron heb allyriadau erbyn 2035. Felly, mae'n ddrwg gen i, ond yr eliffant yn yr ystafell yn y fan yma yw fy mod yn sefyll yma heddiw yn clywed sut mae Llywodraeth y DU a Tata Steel wedi methu'n llwyr â dod o hyd i gytundeb sydd er budd gorau'r gweithlu a'n hamgylchedd a'n heconomi, ac yna mae gennym ni'r ymrwymiad hwn gan Lafur y DU sy'n uchelgeisiol ac rwyf i ond eisiau gofyn: a yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r unig ffordd i achub dur Prydain yw ethol Llywodraeth Lafur y DU yn yr etholiad cyffredinol nesaf cyn gynted â phosibl? Diolch.
Wel, hoffwn i ddiolch i'ch tad-cu, Patrick Murphy, am wneud y daith yma a helpu i fod yn rhan ohoni, nid dim ond stori Iwerddon, ond dyfodol Cymru, ac mae honno'n stori gyffredin y dylen ni fod yn barod i'w dathlu bob amser.
Ar eich pwynt o ran agwedd Llywodraeth bresennol y DU, fel rwyf i wedi'i ddweud dro ar ôl tro, byddwn i'n parhau i geisio gweithio ar gyfer y dewis amgen gorau posibl a pharhau i gyflwyno'r achos dros barhau i fuddsoddi mewn dyfodol arall. Ond o ran hyn a chymaint o bethau eraill, byddai'r rhagolygon o gyflawni proses bontio wirioneddol gyfiawn, gyda'r gwerth gorau posibl i weithwyr presennol a gweithwyr y dyfodol, yn cael eu gwella'n anfesuradwy pe bai yna Lywodraeth Lafur y DU, ac rwy'n edrych ymlaen at gynnal yr etholiad hwnnw cyn gynted â phosibl.
Gweinidog, fel y dywedoch chi wrth y cyfryngau, yn ystod cynhadledd newyddion gynnau, pe bai holl weithgareddau'r ffwrnais chwyth yn dod i ben heb ffordd arall o wneud dur sylfaenol, yna gallai'r DU fod yr unig wlad G7 nad yw'n gallu gwneud dur sylfaenol, ac yn y byd anwadal presennol, nid yw hyn yn synhwyrol nac yn ddiogel. Felly, mae'n hanfodol bod Tata nawr yn cymryd rhan mewn ymgynghori dwys ac ystyrlon gydag undebau llafur ac yn archwilio'n drylwyr y cyhoeddiad sydd ar ddod o adroddiad Syndex, sydd wedi bod yn archwilio dewisiadau arall i ddatgarboneiddio'r diwydiant.
Gweinidog, mae'r undebau llafur Community, GMB ac Unite yn amcangyfrif y gallai ffwrneisi arc trydan ym Mhort Talbot arwain at golli 3,000 o swyddi yn y gwaith dur a nifer o weithrediadau is Tata yng Nghymru, sy'n cynnwys Llanwern, cyflogwr pwysig yng Ngwent i gymunedau Islwyn, ochr yn ochr ag effeithiau economaidd sylweddol y gadwyn gyflenwi eilaidd. Gwnaethoch chi ddweud eich bod chi wedi cael trafodaethau eraill â Tata a'r undebau yr wythnos hon ochr yn ochr â'r Prif Weinidog, felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar eich cais brys i gwrdd wyneb yn wyneb ag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes a Masnach? Ac a wnewch chi ddatganiad brys arall i'r lle hwn pan gaiff Syndex ei gyhoeddi, fel bod Cymru'n parhau i wneud dur cynhenid, gan sicrhau diogelwch a chynhyrchiant yn y dyfodol a sicrhau swyddi dur gwyrdd Cymru nawr ac yn y dyfodol?
Rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i roi gwybod i Siambr y Senedd gan fod datblygiadau a meysydd sylweddol y gallwn ni wneud sylwadau defnyddiol arnyn nhw. Pan fydd adroddiad Syndex ar gael, rwy'n credu, bydd angen sicrhau bod eglurder y disgwyliad gan y Llywodraeth hon ac eraill bod ymgynghoriad ystyrlon yn digwydd ynghylch yr adroddiad hwnnw cyn bod unrhyw fath o grisialu ar gynigion yn bwysig, ac mae'r amser i hynny ddigwydd yno, a'r lle i hynny ddigwydd hefyd. Mae'n ddigon posibl mai dewis undebau llafur sy'n cynrychioli'r gweithlu yw bod sbel cyn gwneud datganiad arall yn y Siambr hon, ond rwy'n fwy na pharod i ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am unrhyw gynnydd ystyrlon sy'n cael ei wneud mewn sgyrsiau â Llywodraeth y DU neu yn wir am unrhyw gynigion, cynigion eraill, ein bod ni'n gallu eu hamlygu ar gyfer yr Aelodau yma, a gwn i fod Aelodau ar draws y Siambr yn mynegi barn oherwydd dealltwriaeth o gyrhaeddiad y sector dur hefyd. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n addewid defnyddiol i'w roi.
Yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd, a'r Gweinidog, diolch am y datganiad. Ni fyddai unrhyw un yn gwrthwynebu bod arc trydan yn rhan o'r cymysgedd o wneud dur yn y DU yn y dyfodol, ond oni fyddai'n hollol wrthun pe baem ni, ar hyn o bryd, lle mae brys, yn fyd-eang, i fod y cyntaf i'r farchnad wrth ddatblygu gwneud dur sylfaenol gwyrdd, yn gadael y gystadleuaeth honno? Ond yr hyn sydd ei angen yw cyfranogiad gweithredol y Llywodraeth, ochr yn ochr â Tata Steel, ochr yn ochr â'r gweithlu, ond mae angen Llywodraeth y DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru—rwy'n dweud hyn yn hollol onest, oherwydd fel arall byddwn ni'n ei golli, ac ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i ni amdano. Byddwn ni'n troi ein cefn ar wneud dur sylfaenol, a byddwn ni'n ei anfon alltraeth, ac ni fyddwn ni'n cael y fantais gystadleuol honno o fod y cyntaf i'r farchnad. A bydd, bydd yn costio. Efallai y bydd yn rhaid i ni edrych ar gostau ynni yn y ffordd y mae gwledydd Ewropeaidd eraill yn ei wneud. Efallai y bydd yn rhaid i ni edrych ar fuddsoddiad a chyllid grant i ddatblygu'r technolegau newydd. Wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ni. Felly bydd pobl eraill hefyd. Ond efallai na fyddwn ni'n ystyried swyddi'r gorffennol, ond swyddi'r dyfodol mewn dur gwyrdd. Felly, Gweinidog, a gaf i ofyn i chi: yn y cyfnod o oedi hwn yr ydyn ni ynddo nawr, a fydd ef yn gwneud ei orau glas i weithio gyda Tata Steel, Llywodraeth y DU, yr undebau, y gweithlu, edrych ar gefn yr adroddiad yr ydyn ni'n aros yn eiddgar amdano, a dadlau'r achos hwnnw dros strategaeth ddiwydiannol weithredol sy'n dweud y dylen ni fod yn arwain y byd wrth ddatblygu dur gwyrdd, dur sylfaenol gwyrdd, yn ogystal ag arc trydan? Oherwydd y byddai'n drychineb, ac ni fydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch i ni, nid yn unig am golli swyddi, ond am ddweud mai swyddi'r gorffennol yw'r rhain pan ddylen nhw fod yn swyddi'r dyfodol mewn gwirionedd a dylen ni fod yn arwain y ffordd.
Diolch i'r Aelod. Rwyf eisiau amlygu'n benodol ein bod yn cytuno bod gwneud dur arc trydan yn rhan o'r dyfodol. Y gwahaniaeth yw nad ydym yn credu mai dyma'r unig ddyfodol ar gyfer gwneud dur yn y DU. Byddwn yn parhau i gyflwyno'r achos hwnnw ym mhob un o'n hymrwymiadau. Mae'n ddewis i Lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd. Os ydyn nhw'n barod i ddweud eu bod eisiau i gynhyrchu dur sylfaenol ddigwydd a'u bod yn barod i gyd-fuddsoddi yn y dyfodol hwnnw, mae'n bosibl. Mae mwy y gallant ei wneud ac rwy'n falch bod yr Aelod wedi sôn am gostau ynni. Mae gwledydd Ewropeaidd eraill, yn nodweddiadol, wedi bod ag amgylchedd mwy cefnogol ynghylch ynni. Mae hynny'n bwysig i bawb, gan gynnwys—. Dylwn nodi bod o leiaf un gwneuthurwr dur yn fy etholaeth i sy'n gwneud dur arc trydan. Mae costau ynni yn broblem wirioneddol a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn a dylem edrych ar yr hyn y mae gwledydd eraill Ewrop yn ei wneud. Mae wedi bod yn alwad yn rheolaidd, pan arferai Cyngor Dur y DU gyfarfod, gan y sector ac undebau llafur, ac roedd Llywodraeth y DU yn deall yn dda iawn ei fod yn alwad lle gallech weld diffyg cywerthedd â gwledydd cystadleuol Ewrop.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi bod angen Llywodraeth weithredol arnom sy'n barod i gymryd perchnogaeth ac i ymyrryd i sicrhau bod gennym y gallu i fod yn berchen ar y dyfodol yn hytrach na'i fewnforio o rannau eraill o'r byd. Mae hynny'n rhan o'r hyn sydd yn y fantol heddiw.
Diolch i'r Gweinidog.
Bydd yn rhaid nawr cael cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu'r ddadl ar y cofio. Y Dirprwy Weinidog i wneud y cynnig hynny.
Yn ffurfiol i—
Cynnig NNDM8394 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8393 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn 7 Tachwedd 2023.
Cynigiwyd y cynnig.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol i wneud y cynnig i atal Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Heledd Fychan.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar y cofio a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog nawr i wneud y cynnig hynny. Hannah Blythyn.
Cynnig NNDM8393 Lesley Griffiths, Darren Millar, Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.
2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.
3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Dwi'n croesawu'r cyfle i ddod at ein gilydd unwaith eto yn y Senedd i nodi cyfnod blynyddol y cofio. Bydd llawer o ddigwyddiadau coffa yn cael eu cynnal dros y penwythnos mewn cymunedau ar draws y wlad. Dwi'n ddiolchgar hefyd am y gefnogaeth ar draws y pleidiau, fel ein bod ni'n gallu dod at ein gilydd i gofio am y rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sydd wedi gwneud yr aberth fwyaf.
Yn drist, fodd bynnag, mae'r ddadl heddiw yn digwydd yng nghanol gwrthdaro parhaus ar draws y byd. Rwy'n gwybod bod pobl a chymunedau yng Nghymru yn meddwl am anwyliaid yn ogystal â phobl nad ydyn nhw erioed wedi cwrdd â nhw ac na fyddant byth yn cwrdd â nhw, gan gynnwys yn Wcráin, Israel a Gaza. Mae digwyddiadau diweddar yn atgyfnerthu'r trallod yn llwyr, y trallod, y boen a'r galar y mae gwrthdaro yn ei achosi i bobl a lleoedd. Ac felly, er nad ydym yn anghofio neu'n lleihau hynny mewn unrhyw ffordd, mae'n briodol iawn ein bod yn manteisio ar y cyfle i ganolbwyntio ar y cyd ar y cofio a'r pwysigrwydd parhaus i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.
Gyda phob cyfnod coffa blynyddol a gyrhaeddwn, mae ein cenhedlaeth ail ryfel byd, er nad yw'n llai arwyddocaol, yn mynd yn llai. Erbyn hyn, ein cenhedlaeth gwasanaeth cenedlaethol yn bennaf yw carfan hynaf ein gwlad o gyn-filwyr. Yn ôl ym mis Mehefin, cefais yr anrhydedd o fynd i goffâd pen-blwydd 60 ar gyfer diwedd gwasanaeth cenedlaethol yn yr Ardd Goed Goffa Genedlaethol. Rhwng 1949 a 1963, cafodd mwy na 2 filiwn o ddynion eu gorfodi i ymuno â'r Fyddin Brydeinig, y Llynges Frenhinol neu'r Llu Awyr Brenhinol. Buont yn gwasanaethu ac yn ymladd mewn ymgyrchoedd ledled y byd, ym mharth camlas Suez, fel ceidwaid heddwch yng Nghyprus, ar weithrediadau gwrthchwyldroadaeth ym Malaysia, ymhlith eraill. Ac mae'r Aelodau yma wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fy mod wedi tyfu i fyny gyda straeon am wasanaeth cenedlaethol fy nhad-cu fy hun yn Nigeria ac wedi gweld y lluniau a anfonodd at fy nain, gyda negeseuon hoffus arnyn nhw, pan oeddent, fel yr oeddent yn ei alw yn y dyddiau hynny, yn 'canlyn'.
Bu milwyr cenedlaethol hefyd yn ymladd a marw yn rhyfel Korea, a barhaodd o 1950 i 1953. Dyma hanner canmlwyddiant arwyddocaol arall a gyrhaeddwyd eleni. Gall y blynyddoedd fynd heibio, ond mae cofio'n parhau i fod yn bwysig yng Nghymru, fel y bu erioed, a bydd yn parhau i fod yn ddarparwr sylweddol o bersonél y lluoedd arfog. Er bod gennym 5 y cant o gyfran poblogaeth y DU, daw 7 y cant o gryfder gwasanaethu'r gwasanaethau arfog o Gymru, a gwyddom o gyfrifiad 2021 fod un o bob 12—hynny yw, 8.1 y cant o aelwydydd yng Nghymru—â rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog o'r blaen. Mae tua un o bob 20, 4.5 y cant o boblogaeth Cymru, yn gyn-filwr.
Ac mae pwysigrwydd a maint y cofio yn amlwg o'r arddangosfeydd a'r gweithgareddau yn ein trefi a'n pentrefi, yn ogystal â'r gwasanaethau cofio niferus yr wyf yn disgwyl y bydd llawer o Aelodau yn mynd iddynt yr wythnos hon a thros y penwythnos, boed hynny mewn ysgolion, mewn ysbytai neu yn ein cofebion rhyfel niferus. Mae ein cofebion rhyfel yn ganolbwynt cymunedol yn ogystal ag yn ein hatgoffa o ganlyniadau rhyfel, ac mae'r ymateb cymunedol cadarnhaol i waith yr artist Tee2Sugars wrth ddarparu murlun cofio maint y tŷ fel cefndir i gofeb yn Abertyleri yn enghraifft o sut mae coffáu wedi'i wreiddio cymaint ar lefel leol.
Mae gwaith sylweddol a pharhaus y Lleng Brydeinig Frenhinol hefyd yn ganolog i weithgarwch cofio, ym mhwysigrwydd ei apêl pabi a gwaith casglwyr pabi gwirfoddol mewn cymunedau ledled Cymru sydd wedi bod allan ym mhob awr o'r dydd a hefyd ym mhob tywydd dros yr wythnosau diwethaf. Ac, wrth gwrs, eleni, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi newid i ddefnyddio pabi di-blastig cynaliadwy newydd, yr wyf yn ei wisgo gyda balchder y prynhawn yma. Mae'r arian a godir yn ystod cyfnod y cofio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gofalu am deuluoedd y rhai sydd wedi rhoi eu bywydau mewn gwrthdaro a'r rhai sydd wedi cael eu creithio am byth gan eu gwasanaeth.
Mae ein coffâd hefyd yn adlewyrchu'n briodol ein hamrywiaeth yng Nghymru. Mae gardd goffa'r Lleng Brydeinig yng nghastell Caerdydd yn cynnwys llu o nodwyr pren, croesau, cilgantau, sêr Dafydd a nodwyr eraill sy'n cynrychioli amrywiaeth a chydraddoldeb aberth mewn gwrthdaro yn y gorffennol. Ym Mhen-bre y penwythnos hwn, bydd y gymuned Bwylaidd yn cynnal coffâd ar feddau y saith awyrennwr o Wlad Pwyl a gollodd eu bywyd yn yr ail ryfel byd. Mae hefyd yn Ddiwrnod Annibyniaeth Cenedlaethol Gwlad Pwyl, felly bydd yn ddiwrnod o ddathlu yn ogystal â chofio.
Ddydd Sadwrn, bydd y Prif Weinidog yn bresennol yng nghoffâd Cymdeithas y Llynges Fasnachol wrth y gofeb yma y tu allan i'r Senedd, a'r wythnos nesaf bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, gyda Chyngor Hil Cymru a henuriaid Windrush yn y gwasanaeth coffa pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng ngerddi Alexandra. Mae'n saith deg pump o flynyddoedd ers Windrush, ac mae llawer o'r rhai a ddaeth drosodd o wledydd y Gymanwlad i fyw a gweithio yma yn rhai a oedd wedi gwasanaethu yn y gorffennol mewn rhyfeloedd byd. Mae coffâd Cymdeithas y Llynges Fasnachol hefyd yn gyfle i gofio'r amrywiaeth o forwyr a'u teuluoedd o gymunedau Caerdydd a phorthladdoedd Cymru a wasanaethodd.
Roedd eleni hefyd yn flwyddyn pan gafodd cyfraniad milwyr LHDTQ+ ei gydnabod yn ffurfiol o'r diwedd trwy adolygiad annibynnol yr Arglwydd Etherton. Roedd llawer yn y gymuned hon yn awyddus iawn i wasanaethu, ond cafodd gyrfaoedd eu torri'n fyr gyda loes ofnadwy a niwed wedi'i wneud. Roedd eraill yn gwasanaethu ond gyda bywydau yn cael eu byw yn gyfrinachol gydag ofn y byddai'r gwir yn cael ei ddatgelu gan arwain at eu diswyddo o swydd yr oeddent yn ei charu. Roedd ymddiheuriad cyhoeddus Prif Weinidog y DU yn y Senedd ym mis Mehefin yn gam cyntaf pwysig ar y ffordd i unioni camweddau'r gorffennol. Mae cyn-filwyr LHDTQ+ bellach yn gorymdeithio gyda balchder heibio'r senotaff yn Whitehall a byddant yn gwneud hynny y penwythnos hwn eto fel rhan o Fighting With Pride.
Mae hon hefyd yn flwyddyn pryd y dylem gofio ein cyn-filwyr prawf niwclear, gyda medal yn cael ei dyfarnu o'r flwyddyn hon i'r rhai a wasanaethodd yn y rhaglen profion niwclear rhwng 1952 a 1967. Mae'n elfen arbennig o wasanaeth ac aberth lle mae'r effeithiau wedi mynd trwy genedlaethau a'n bod ni'n cofio'r wythnos hon.
Mae cyfnod y cofio hefyd yn gyfle i adlewyrchu a chydnabod y rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu. O ran y rhai sy'n gwasanaethu, wrth gwrs, rydym yn meddwl am ein hunedau bathodynnau cap a'n llongau rheolaidd ymhlith ein 7 y cant o'n lluoedd arfog: y Cymry Brenhinol yn Tidworth, Gwarchodlu Dragoon y Frenhines yn Norfolk, y Gwarchodlu Cymreig yn Windsor, Llongau Ei Mawrhydi Cambria a'r Ddraig a'r criwserau sy'n eu gwasanaethu. Rydym yn meddwl am bresenoldeb y lluoedd arfog yng Nghymru yn RAF y Fali, yn Aberhonddu, Breudeth, Sain Tathan a mannau eraill, ac yn cofio am ein llu o filwyr wrth gefn ledled Cymru a'r cyflogwyr hynny sy'n eu cefnogi i reoli eu swyddogaethau deuol.
Rydym hefyd yn meddwl am deuluoedd y lluoedd arfog ar yr adeg hon. Rydym yn ymwybodol bod gennym lawer yng Nghymru sydd wedi colli anwyliaid ac y mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd iddynt. Yr adeg yma y llynedd cefais y fraint o orymdeithio i'r senotaff yn Whitehall gyda'r War Widows Association a gwrando ar eu straeon am falchder, cariad a cholled. Rydym yn aml yn dathlu milwyr a chyn-filwyr, ond nid plant milwyr i'r fath raddau, felly roeddwn yn falch o weld bod Sean a Rhia Molino o Wobrau Cyn-filwyr Cymru wedi trefnu digwyddiad newydd yn Aberhonddu ar 28 Hydref, i gydnabod plant y lluoedd arfog.
Wrth gwrs, mae ein milwyr sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn aml yn mynd ymlaen i wasanaethu ein cymunedau ac, fel Llywodraeth, rydym eisiau sicrhau y gall Cymru elwa ar y sgiliau y mae'r lluoedd arfog yn eu datblygu pan fyddant yn pontio'n ôl i fywyd sifil. Dyna pam rydym yn parhau â'n gwaith mewn partneriaeth â Brigâd 160 (Cymru), Career Transition Partnership, a'r Cymdeithasau Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid i ddod â chyfleoedd cyflogaeth i gymuned y lluoedd arfog trwy drydedd ffair gyflogaeth a gweithdy cyflogwyr blynyddol yng Nghymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd yr wythnos nesaf, 16 Tachwedd. Rydym yn disgwyl gweld 50 o gyflogwyr â chynigion swyddi gweithredol yn y digwyddiad, ac rwyf hefyd yn falch o weld y bartneriaeth rhwng Building Heroes a Choleg Caerdydd a'r Fro a'i chwrs newydd yn dychwelyd yr wythnos hon, gan ddarparu llwybr i'r lluoedd arfog i gyfleoedd adeiladu yng Nghymru.
Er bod gwasanaethu yn brofiad cadarnhaol i lawer, mae hwn yn amser pan fyddwn yn cofio'r rhai y mae cyfamod y lluoedd arfog yno ar eu cyfer i roi cymorth. Rydym yn parhau i ariannu GIG Cymru Cyn-filwyr i ddarparu llwybr iechyd meddwl mynediad agored ledled Cymru, ac er y gall cyn-filwyr gael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu, mae'r mynediad agored hwn yn caniatáu i gyn-filwr hunangyfeirio at y gwasanaeth neu i gael ei atgyfeirio gan ei deulu.
Ers y cyfnod cofio diwethaf, mae'r ddyletswydd o sylw dyledus wedi dod i rym, gan ei gwneud yn ofynnol ystyried anghenion cymuned y lluoedd arfog lleol ar y lefel leol wrth gynllunio, cyflawni ac adolygu polisi. Mae hyn yn effeithio ar ddarpariaeth leol mewn meysydd datganoledig gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn benodol, ac mae swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog wedi bod yn weithgar yn y maes hwn, yn ogystal â Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Cymru.
Gwn hefyd fod y trydydd sector yn allweddol wrth gefnogi cyn-filwyr ledled Cymru trwy hybiau, yn sefydlog ac yn symudol, trwy lety dros dro, trwy gyngor a phensiynau a hawliau a llawer mwy, a gwn fod llawer o Aelodau wedi cefnogi'r mentrau hynny yn eu cymunedau a'u hetholaethau eu hunain.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Yn olaf, dwi eisiau sôn am waith y comisiynydd cyn-filwyr, grŵp arbenigol Llywodraeth Cymru a grŵp trawsbleidiol y Senedd ar y lluoedd arfog a cadetiaid. Dwi'n gwybod ein bod ni'n benderfynol o weithio gyda'n gilydd i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru.
Mae'r craffu a'r her trwy'r grwpiau hyn yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae'n chwarae rhan wrth helpu i sicrhau bod gwasanaeth ac aberth cymuned y lluoedd arfog yn derbyn y sylw a'r gefnogaeth y maent yn eu haeddu'n briodol. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Sioned Williams i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 1—Heledd Fychan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r angen i ymdrechu am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel.
Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dwi’n cynnig y gwelliant.
Gyda Sul y Cofio yn agosáu, mae’n iawn ein bod yn myfyrio ar aberth a dewrder y rhai sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog yn y gorffennol. Ond dylwn hefyd fyfyrio ar y ffaith bod yna rai sy'n dal yn cael eu rhoi yn y sefyllfa erchyll ac annerbyniol o gael eu hanafu, eu trawmateiddio a'u lladd yn sgil y gwrthdaro sy'n codi oherwydd anallu dyn i fyw mewn heddwch â'i gyd-ddyn, yn sgil y ffaith bod dyn yn chwennych grym neu fynnu rheolaeth dros ei gyd-ddyn, bod dyn yn ceisio tiriogaeth neu adnoddau ei gyd-ddyn drwy drais.
Yr hyn sydd angen inni gofio wrth inni gofio yw rhybudd clir beirdd fel Wilfred Owen mai nonsens peryglus ac afiach yw'r sentiment y tu ôl i'r hyn sydd wedi ei ysgrifennu ar ormod o gofebau rhyfel ein cenedl: dulce et decorum est pro patria mori. Nid yw'n felys nac yn anrhydeddus, ac ni ddylai neb fyth gael eu gofyn i farw dros eu gwlad. Nid clodfori y meirw dylem ni, ond bwrw dagrau dros eu haberth sy'n deillio o fethiant dynoliaeth i fyw mewn heddwch; cofio eu dioddefaint, a thrwy hynny gofio pris annerbyniol rhyfel; ac addo iddynt, y milwyr ifanc a dalodd y pris drud hwn, y byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i greu a chynnal heddwch yn ein byd.
Fel yr amlinellir yng ngwelliant Plaid Cymru, dylem hefyd gofio’r llu o bobl sy'n cael eu niweidio yn gorfforol, yn feddyliol neu'n economaidd gan ryfel—boed yn filwyr, eu teuluoedd, neu’n bobl gyffredin—a phwysleisio’r angen i ymdrechu am atebion heddychlon i bob gwrthdaro a cheisio atal y gwrthdaro hwnnw godi yn y lle cyntaf. Disgrifiwyd y rhyfel byd cyntaf, a arweiniodd at ein traddodiadau modern o gofio, yn wallus ar y pryd fel y rhyfel i roi terfyn ar bob rhyfel. Ond yn anffodus, mae pob cenhedlaeth ers hynny wedi profi rhyfel a'i bris enbyd.
Fe fuodd fy mab, sy newydd droi'n 18, mas i feysydd y gad yng ngogledd Ffrainc yn ddiweddar i gymryd rhan mewn gemau rygbi rhwng timau gwahanol genhedloedd Ewropeaidd, fel arwydd o gyfeillgarwch rhyngwladol rhwng llanciau ifanc, a hynny ar dir lle buodd dynion ei oedran e yn gorfod lladd ac anafu eu cyd-ddyn yn eu miliynau. Dywedodd wrthyf i ar ôl dychwelyd ei fod yn synnu bod arysgrifau ar y cofebau rhyfel byd cyntaf a welodd ar y daith yn dweud ‘For our tomorrow they gave their today’, achos mae e'n gwybod o'i astudiaethau taw rhyfel a achoswyd gan filitariaeth ymosodol imperialaeth oedd y rhyfel erchyll hwnnw. Wrth gofio, rhaid i ni fod yn gadarn yn ein gwrthwynebiad yn erbyn yr hyn sy'n gallu arwain at ryfel, boed hwnnw yn deillio o imperialaeth neu o drin rhai grwpiau o bobl yn llai cydradd nag eraill.
Mae digwyddiadau diweddar wedi pwysleisio o'r newydd bod chwant y ddynoliaeth am ryfel yr un mor amlwg nawr ag yr oedd yn 1914. Mae ymosodiad anghyfreithlon Putin ar Wcráin wedi ein hatgoffa unwaith eto o erchyllterau rhyfel, gyda thrigolion Wcráin a miliwyr o Wcráin a Rwsia yn dioddef. Rydym hefyd wedi bod yn dyst i ddadleoli miloedd o Armeniaid o ranbarth Nagorno-Karabakh gan ymosodiad milwrol Azerbaijan. Ac yn ystod y mis diwethaf, wrth gwrs, mae erchyllterau wedi'u cyflawni gan Hamas a lluoedd arfog Llywodraeth Israel ar filoedd o sifiliaid diniwed, gyda'r sefyllfa yn Gaza yn mynd yn fwyfwy enbyd i bobl Palesteina a gwystlon Israel.
Yn wyneb y fath gyflafan, cawn ein hatgoffa o ddisgrifiad y bardd Hedd Wyn o erchyllterau rhyfel yn ei gerdd 'Rhyfel':
'Mae sŵn yr ymladd ar ein clyw, / A'i gysgod ar fythynnod tlawd.'
Dros ganrif yn ddiweddarach, mae gwirionedd ei eiriau yn canu yn ein clustiau. Gyda churiad di-baid drymiau rhyfel yn codi'n uwch, mae'n ddyletswydd foesol arnom ni i sefyll dros heddwch.
Mae hefyd yn bwysig ein bod yn sicrhau bod cyn-filwyr yng Nghymru yn cael eu cefnogi. Achos er gwaethaf rhai datblygiadau positif mewn gwasanaethau cymorth dros y blynyddoedd diwethaf, mae cyn-filwyr Cymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol mewn bywyd sifil. Er enghraifft, mae’r argyfwng tai yng Nghymru yn effeithio’n anghymesur ar gyn-aelodau o'r lluoedd arfog. Mae ymchwil gan y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi canfod bod oedolion o oedran gweithio sy'n gyn-filwyr yn fwy tebygol o ddioddef o afiechyd neu anabledd, ac mae hyn wedyn yn golygu bod y rhai sydd angen llety hygyrch yn gorfod aros yn hwy ar restrau aros tai cymdeithasol. Mae'r argyfwng costau byw hefyd wedi effeithio'n anghymesur ar gyn-filwyr, achos ar gyfartaledd mae pobl anabl yn wynebu costau ychwanegol o tua £584 y mis.
Fy ngobaith diffuant, wrth i ni nodi'r cyfnod pwysig a thrist, yw y gallwn symud ymlaen tuag at ddyfodol lle mae canlyniadau ofnadwy rhyfel yn cael eu bwrw i ebargofiant.
Hoffwn orffen gydag englyn y Prifardd Alan Llwyd, un o'm etholwyr, a gofyn i chi ei gofio wrth gofio y Sul hwn, a chofio am bawb sydd wedi dioddef yn sgil rhyfel:
'Er mawrhau'r meirw o hyd—ofer oedd / Eu llofruddio'n waedlyd, / Dan anfri daw, yn unfryd, / Eu rhegfeydd drwy'r garreg fud.'
Mae cyfnod y cofio yn gyfle i ni, fel y dywed y cynnig, dalu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd bellach yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, cydnabod gwaith sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru, yn helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddeall gwrthdaro'r gorffennol, Lle mae'r gorffennol yn llywio'r dyfodol, cofiwch bawb sydd wedi colli eu bywyd mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil, a chefnogi'r angen am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro.
Fel y clywsom, mae cofio'r flwyddyn hon yn nodi hanner can mlynedd ers y cadoediad a ddaeth â'r ymladd yn rhyfel Korea i ben—y rhyfel anghofiedig. Mae hefyd yn anrhydeddu cyfraniad y genhedlaeth mewn lifrai a ymgymerodd â gwasanaeth cenedlaethol, 60 mlynedd ar ôl i'r aelod olaf o'r lluoedd arfog gael ei ryddhau o'r fyddin. Roedd fy nhad yn filwr gwasanaeth cenedlaethol ddegawd cyn hynny, yn gwasanaethu yng Nghyprus a'r Aifft. Yn ystod rhyfel Korea, anfonwyd unedau o'r gatrawd Gymreig ar y pryd i Korea, yng nghwmni y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a phlatŵn o Gyffinwyr De Cymru. Lladdwyd 32 aelod o'r gatrawd Gymreig yn y gwrthdaro. Fel y clywsom, mae cofio 2023 hefyd yn nodi saith deg pum mlynedd ers i bobl o'r Caribî gyrraedd ar yr Empire Windrush, llawer ohonynt yn gyn-filwyr yr ail ryfel byd.
Wrth siarad yma ym mis Gorffennaf, amlygais yr ymgyrch Credit their Service a lansiwyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan alw am roi diwedd ar drin iawndal milwrol fel incwm ar draws profion modd budd-dal lles a phwysleisiodd yr angen am weithredu gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae tua 150,000 o aelodau o gymuned lluoedd arfog y DU yn derbyn iawndal milwrol a ddyfarnwyd i gefnogi costau parhaus salwch neu anaf a gafwyd yn ystod gwasanaeth. Canlyniad prawf modd yw bod rhai o aelodau tlotaf cymuned y lluoedd arfog yn cael eu hamddifadu o filoedd o bunnoedd o gymorth, tra bod iawndal sifil, megis ar gyfer anaf personol neu esgeulustod meddygol, wedi'i eithrio rhag hyn. Er ei fod yn fater ledled y DU, mae hyn yn cynnwys meysydd lle mae Llywodraeth Cymru yn arwain, ac felly rydym yn edrych arnyn nhw i ymateb.
Arweiniais ddadl fer yma ym mis Ionawr 2008 yn cefnogi ymgyrch Anrhydeddu'r Cyfamod, y Lleng Brydeinig Frenhinol, gan ddod i'r casgliad bod yn rhaid ymladd hyn nes iddo gael ei ennill, a chroesawais gyhoeddi cyfamod lluoedd arfog y DU ym mis Mai 2011. Llofnododd Llywodraeth Cymru a phob awdurdod lleol yng Nghymru y cyfamod a thanysgrifio i weithio gyda sefydliadau partner i gynnal ei egwyddorion, yn ogystal â byrddau iechyd, yr heddlu a busnesau ers hynny. Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn annog Llywodraeth nesaf y DU, pwy bynnag ydyw, i gryfhau dyletswydd cyfamod y lluoedd arfog. Mae hyn yn cynnwys ymestyn ei gyrhaeddiad i gwmpasu Llywodraethau'r DU a'r rhai datganoledig a phob mater polisi.
Yn y cyd-destun hwn, nodwyd, fel y clywsom, fod y canllawiau statudol ar ddyletswydd cyfamod y lluoedd arfog wedi'u cyhoeddi fis Tachwedd diwethaf, a luniwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymgynghoriad â'r Llywodraethau datganoledig, gan osod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau penodedig i roi sylw dyledus i egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog wrth arfer swyddogaethau statudol ym meysydd datganoledig gofal iechyd, addysg a thai. Nodir hefyd bod Llywodraeth y DU wedi lansio pecyn ariannu gwerth £33 miliwn ym mis Mawrth i gefnogi cyn-filwyr dros y tair blynedd nesaf, a'u bod wedi lansio Ymgyrch Op FORTITUDE ar gyfer cyn-filwyr digartref ym mis Gorffennaf—llinell gymorth gyntaf o'i math ac yn rhan o raglen ddwy flynedd gwerth £8.55 miliwn i gyflawni addewid Llywodraeth y DU i atal cyn-filwyr rhag gorfod cysgu allan.
Mae darparwyr tai, gan gynnwys Alabaré Homes for Veterans, wedi'u rhestru fel rhai sy'n derbyn atgyfeiriadau Op FORTITUDE. Mae Alabaré Homes for Veterans yn darparu cymorth pwrpasol i gyn-filwyr yn y gogledd a'r de—yn benodol Caerdydd, Pontypridd, Abertawe a Chonwy. Fel y gwnaeth cyn-filwr yn y fyddin Brydeinig sy'n byw yn y gogledd e-bostio'n ddiweddar, 'Mae gennyf i ffrindiau a chydweithwyr sydd wedi llithro drwy'r rhwyd ac sydd neu wedi bod yn ddigartref. Fel y gwyddom, mae canran fawr o bobl ddigartref y DU yn gyn-filwyr Lluoedd Arfog Prydain, sy'n annerbyniol o ystyried eu bod wedi rhoi eu bywydau i amddiffyn y deyrnas a'r wlad.
Mae'r elusen iechyd meddwl Adferiad wedi dweud wrthyf, er bod dau fentor cymheiriaid cyn-filwyr, Change Step, wedi'u hymgorffori ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—. Maen nhw a GIG Cymru i gyn-filwyr wedi dweud wrthyf fod angen penodi mentoriaid cymheiriaid i'r pum bwrdd iechyd arall nad oes ganddynt un. Maen nhw'n ychwanegu ei fod wedi dod yn loteri cod post nawr o ran mynediad cyn-filwyr at fentor cymheiriaid. Felly, pan fyddwn yn dweud, 'Ni â'u cofiwn hwy', mae'n rhaid i ni gofio beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Diolch yn fawr.
Dirprwy Lywydd, cefais y fraint o fod yn bresennol yn agoriad swyddogol Caffinaafi ychydig o benwythnosau yn ôl yn yr hyb cymunedol a chyn-filwyr sydd newydd ei lleoli yng Nghei Connah. Mae'n fan i bawb ddod at ei gilydd—cyn-filwyr a'u teuluoedd a'r gymuned ehangach—i gefnogi ei gilydd. Rwy'n gwybod bod cadeirydd grŵp trawsbleidiol y lluoedd arfog a'r cadetiaid, Darren Millar, wedi ymweld yn ddiweddar i glywed am y profiad, a hoffwn estyn gwahoddiad i'r Dirprwy Weinidog ymuno â mi dros baned gyda rhai cyn-filwyr yng Nghaffinaafi yng Nghei Connah i glywed profiadau gwrthdaro, lle buont mewn gwrthdaro. Gan fy mod yn credu, Dirprwy Lywydd, mai'r ffordd orau o anrhydeddu'r gorffennol yw gwrando a dysgu ohono. Ac yn y cyfnod anodd hwn mae'r neges honno'n un y dylem ni i gyd geisio ei chofio. Felly, rwy'n ddiolchgar am y cyfle eto i siarad yn ein dadl gofio flynyddol, i dalu teyrnged i bawb ledled Cymru sydd wedi gwasanaethu neu'n parhau i wasanaethu, i gofio'r rhai sydd wedi cael eu hanafu a'u lladd wrth wasanaethu, ac i gofio'r sifiliaid hynny a anafwyd hefyd. Ni ddylid anghofio eu haberth. Rhaid i'r fflam gofio losgi bob amser. Dyna pam rwyf bob amser eisiau talu teyrnged i'r rhai sy'n trefnu ein digwyddiadau cofio blynyddol yn lleol, yn enwedig y rhai ar draws fy nghymuned sy'n galluogi ein cornel o'r gogledd-ddwyrain i ddod ynghyd i gofio dros y penwythnos nesaf. Diolch.
Rydyn ni'n oedi heddiw o'n harferion arferol yn y Siambr er mwyn i ni ddod at ein gilydd a myfyrio ar y rhai yr effeithiwyd arnynt gan ryfel. Cafodd y rhyddid sydd gennym yma yng Nghymru i bleidleisio mewn etholiadau rhydd, siarad ein meddyliau'n agored, a byw heb ofni gormes, ei ffurfio trwy aberth anhunanol dynion a menywod cyffredin o bentrefi, trefi a dinasoedd ar draws ein cenedl. Ni fydd eu hamddiffyn dewr yn erbyn gormes yn cael ei anghofio. Er hynny, torrwyd dyfodol disglair gormod ohonynt yn fyr. Gadawyd gormod o deuluoedd yn galaru am y rhai nad oeddent yn dod adref. Cafodd gormod o filwyr eu hanafu neu eu creithio yn feddyliol gan eu gwasanaeth rhyfel anhunanol. Roedd y pris a dalwyd yn uchel, ac yn aros yn hir yn atgofion cymunedau ledled Cymru. Rydym yn anrhydeddu aberth a dewrder y rhai a wasanaethodd, nid yn unig trwy ein myfyrdodau heddiw, ond trwy ein gweithredoedd parhaus i hyrwyddo heddwch parhaol, i adeiladu byd lle nad oes mwy o fywydau yn cael eu colli mewn rhyfel, lle ceisir datrysiad wrth y bwrdd trafod, nid ar faes y gad.
Ar adegau, gall heddwch ymddangos yn rhy fregus—fflam fregus, fflachlyd. Gall ein hymdrechion i ddatrys gwrthdaro trwy drafod yn hytrach na thrwy dywallt gwaed ymddangos, weithiau, bron yn hurt pan wynebwn anhrefn a dinistr rhyfel. Er y gall heddwch deimlo allan o gyrraedd, ni allwn roi'r gorau i obaith na rhoi'r gorau i'n hymdrechion. Os byddwn yn rhoi'r gorau i geisio, os ydym yn esgeuluso gwaith caled meithrin clymau agosrwydd rhwng pobl, bydd dioddefaint yn y gorffennol wedi bod yn ddiystyr. Oherwydd mae bywydau diniwed wedi'u rhwygo gan ryfel, ac yn dal i gael eu rhwygo heddiw gan ryfel, y gobaith gwan hwn am heddwch yw'r cyfan y maent wedi'i adael. Rwy'n gorffen gyda dwy linell:
'Iôr, gwna fi’n offeryn dy hedd. / Lle bo casineb dof â’th gariad di.'
Diolch yn fawr iawn.
Yn gyntaf, amen i'r geiriau olaf yna. Rydyn ni i gyd eisiau byd heddychlon, ac eisiau bod yn asiantau heddwch ynddo. Rwy'n sefyll i dalu fy nheyrnged i'r rhai sydd wedi syrthio a'r rhai sydd wedi'u hanafu a phawb sydd wedi talu pris yn y gwrthdaro y mae'r ynysoedd hyn yr ydym yn byw arnynt wedi ei ddioddef dros y cenedlaethau. Ac wrth gwrs, byddaf yn bresennol ger y senotaff yn Abergele dros y penwythnos, er mwyn gosod torch, fel y bydd llawer o bobl yn ei wneud yn eu hetholaethau lleol eu hunain.
Rwy'n ei hystyried yn fraint cael cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid yma yn y Senedd, sy'n dangos sut y gallwn weithio gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol er budd y rhai sy'n parhau i wasanaethu, sy'n gweithio'n galed i'n cadw'n ddiogel, o ddydd i ddydd, rhag y bygythiadau sydd yn anffodus yn dal yno yn y byd, a hefyd i dalu teyrnged i'r cyn-filwyr hynny ac i gefnogi'r cyn-filwyr hynny sydd wedi rhoi cymaint o'u bywyd i'r gwasanaethau hefyd. Ac wrth gwrs, mae llu o sefydliadau gwych sy'n gweithio ledled Cymru i gefnogi teulu'r lluoedd arfog a'n cymuned cyn-filwyr: y Lleng Brydeinig Frenhinol, Woody's Lodge, Caffinaafi, a llawer o rai eraill, wrth gwrs, ledled y wlad—SSAFA a'r gweddill.
Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw parhau i ymgysylltu â nhw mewn ffordd gadarnhaol, trwy'r grŵp arbenigol sydd gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd yn gwneud gwaith gwych, ond hefyd yn cydnabod y bylchau hynny yn ein gwasanaethau y mae angen eu cau o hyd, mae angen eu gwella o hyd. Mae gennym rwydwaith rhagorol, wrth gwrs, o hyrwyddwyr y lluoedd arfog mewn llawer o'n cyrff cyhoeddus ledled Cymru. Mae gennym swyddogion cyswllt gwych y lluoedd arfog sy'n gwneud gwaith gwych. Nid oes gennym ddigon o bobl yn hyrwyddo cyfamod y lluoedd arfog yn ein gwasanaeth iechyd gwladol ar hyn o bryd. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen mynd i'r afael ag ef. Rydym yn dathlu llwyddiant GIG Cymru i Gyn-filwyr, ond mae angen mwy o adnoddau arno o hyd, yn anffodus. Ac wrth weithio gyda'n gilydd credaf y gallwn barhau i wella byd ein lluoedd arfog yma yn y genedl hon.
Mae angen i ni hefyd, wrth gwrs, sicrhau ein bod yn cofio'r rhan bwysig y gall cyflogwyr ei chwarae wrth gofio'r rhai sydd wedi syrthio yn eu sefydliadau a chefnogi'r cyn-filwyr sy'n gweithio iddyn nhw hefyd. A dylwn gofnodi fy mod yn aelod o fwrdd Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, ac rwyf yn gwisgo ei thei heddiw, ac wrth gwrs, maent yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod pobl yn cymryd rhan yn y cynllun cydnabod cyflogwyr, a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, a chynlluniau cydnabyddiaeth eraill hefyd, megis cynllun ysgolion y lluoedd arfog, sydd wedi cael cychwyn mor dda yng Nghymru, ac sy'n rhywbeth y gellir ei hyrwyddo hefyd.
Felly, a gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chydweithrediad wrth gyflwyno'r ddadl heddiw a dweud fy mod yn parhau i ddymuno gweithio gyda chi, o dan nawdd y grŵp trawsbleidiol, er mwyn gwneud bywyd yng Nghymru yn well i'n cyn-filwyr ac yn well i bawb sy'n gwasanaethu, yn enwedig mewn wythnos fel hon, Wythnos y Cofio?
Unwaith eto, rydyn ni'n nodi'r adeg hon o gofio ar adeg o ryfel. Rydyn ni'n gweld y delweddau o'r dwyrain canol ac o Wcráin, ac rydyn ni'n cofio eto beth mae rhyfela yn ei wneud i bobl a chymunedau. Roeddwn i'n myfyrio, Dirprwy Lywydd, nad taith trwy Ewrop yn unig yw taith i Wcráin, mae'n daith trwy hanes Ewrop. Rydych chi'n croesi ffrynt y gorllewin y rhyfel byd cyntaf mewn mater o 40 munud ar draffordd gyflym; rydych chi'n pasio'r holl ddioddefaint, yr aberth hwnnw, yr holl golled honno, mewn ychydig funudau mewn car cyflym. Rydych hefyd yn pasio trwy bob man y mae eu henwau yn atseinio i lawr y blynyddoedd.
Wrth deithio i Wcráin ychydig wythnosau yn ôl, fe wnes i aros mewn tref yn yr Iseldiroedd, s-Hertogenbosch, a gafodd ei rhyddhau gan Adran 53 (Cymreig), ac roeddem yno ar y diwrnod pryd yr oeddent yn cofio y milwyr Cymreig hynny yn rhyddhau'r dref. Ac wrth i ni fynd i mewn i'r dref, gwelsom faner Cymru yn cyhwfan, a gwelsom bobl yn ymgynnull wrth y gofeb, ac fe wnaethom ni ymuno â nhw, ac fe wnaethom ni ymuno â nhw yn dawel i gofio'r bobl hynny a aberthodd gymaint i'w rhyddhau gymaint o flynyddoedd yn ôl. Ond gallwch hefyd aros ar y daith honno i Wcráin mewn lle fel Dresden, lle gwelwch mewn dinas Almaenaidd fodern atgofion o'r noson ofnadwy honno ym mis Chwefror 1945, lle talodd poblogaeth bris rhyfel. Ac yna rydych chi'n aros eto yn Krakow, a'r wythnos diwethaf cymerais ychydig oriau i gerdded trwy geto Iddewig Krakow. Heddiw mae'n ddinas brysur, ond yr adeg honno, wrth gwrs, yn fan lle cafodd degau o filoedd o Iddewon eu casglu at ei gilydd cyn eu cludo i gael eu difodi. Ac mae'r cof yn aros gyda ni i gyd; 200 km i ffwrdd, rydych chi'n croesi'r ffin i Wcráin, lle nad yw rhyfel yn rhywbeth i'w gofio, ond mae'n rhywbeth sy'n ein hwynebu bob dydd.
Ac o'r herwydd, mae cofio'n beth personol iawn, ond mae hefyd yn weithred ar y cyd, ac nid gweithred oddefol yn unig yw'r distawrwydd yr ydym i gyd yn ei nodi ac yr ydym i gyd yn ei barchu at adeg y cofio, mae'n ddatganiad pwerus. Mae grym distawrwydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer myfyrio—myfyrio ar wrthdaro, myfyrio ar golled, ond hefyd myfyrio ar wasanaeth, gwasanaeth dynion a menywod a wnaeth yr aberth eithaf, ond hefyd gwasanaeth y dynion a'r menywod hynny nad yw rhyfel yn atgof iddynt, ond rhywbeth y maent yn byw gydag ef bob diwrnod o'u bywyd. Mae'r distawrwydd yn rhoi llais i'r myfyrdodau hynny, ond mae'n beth mwy pwerus na sŵn rhyfel: tawelwch sy'n adleisio i lawr y blynyddoedd ac i lawr y cenedlaethau.
Dirprwy Lywydd, rwy'n gweld fy mab fy hun bellach yn sefyll o flaen senotaff, fel y gwnaeth ei dad yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Ac eleni byddaf yn myfyrio ar y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu mewn gwrthdaro yn y blynyddoedd a fu. Byddwn, cyn bo hir yn cofio 80 mlynedd ers D-day ac 80 mlynedd ers i'r ail ryfel byd ddechrau dirwyn i ben. Ond gadewch i ni wneud y tawelwch hwn, nid yn dawelwch goddefol ond yn her bwerus i bob un ohonom gofio a byth anghofio beth mae rhyfel yn ei wneud i bobl a'r hyn y mae'n ei wneud i gymdeithas.
Wrth ddychwelyd o Wcráin yr wythnos diwethaf, neilltuais amser i ymweld ag Auschwitz. Ymwelais ag Auschwitz am y tro cyntaf fel myfyriwr, a sefais yno gydag Iddew Americanaidd a ffrind o Sri Lanka. Tynnodd y ddau sylw at y ffaith na fyddai'r naill na'r llall ohonynt wedi goroesi. Mae'r cof o sefyll gyda nhw yn aros gyda mi bob dydd o fy mywyd. Yn rhy aml o lawer, gwelwn ddrychiolaeth gwrth-Semitiaeth yn dechrau cerdded dros ein cyfandir a'n cymdeithas eto. Mae tawelwch a myfyrdod yn bwysig, ond mae gweithredu hefyd. Mae grym y distawrwydd yn grymuso pob un ohonom i fyfyrio, cofio, a dweud gyda'n gilydd na fyddwn byth eto yn caniatáu i'n cyfandir a'n byd syrthio, fel y gwnaeth bryd hynny. Ni ddylem fyth anghofio'r hyn a ddigwyddodd a rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein pwerau i sicrhau nad yw byth yn cael ei ailadrodd. Diolch.
Diolch i'r Llywodraeth hefyd am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Ac mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn gyfnod hynod bwysig yn ein calendr blynyddol, onid ydyw? Cyfnod lle rydyn ni'n dod at ein gilydd, yn unedig yn ein dymuniad cyffredin i gofio a rhoi teyrnged i'r dynion a'r menywod dewr hynny a roddodd bopeth, trwy'r gwrthdaro niferus dros hanes diweddar, er mwyn ein rhyddid parhaus—rhywbeth mor werthfawr, fel y gwyddom heddiw. Mae'r dyddiau nesaf yn ein galluogi i gasglu ein meddyliau a myfyrio nid yn unig ar y rhai sydd wedi gwasanaethu ein cenhedloedd dros y blynyddoedd ond hefyd y rhai sy'n dal i wasanaethu heddiw, yn barod i'n cadw'n ddiogel, yn enwedig ar yr adegau hyn o aflonyddwch byd-eang sydd mor sylweddol.
Yn ystod y gwasanaethau sydd i ddod, byddwn yn tawelu, gan feddwl am y rhai a wasanaethodd, a wnaeth yr aberth eithaf. Byddwn yn gwrando unwaith eto ar yr enwau ar ein senotaffau yn cael eu darllen, ac nid yw dwyster yr achlysur byth yn lleihau, wrth i ni geisio darlunio'r bobl hyn a safodd o'n blaenau ac a syrthiodd ar ein rhan. Mae'n anodd, fodd bynnag, onid yw, deall sut brofiad oedd hi iddyn nhw, yn enwedig yn eu dyddiau a'u horiau diwethaf? Mae'n anodd dychmygu eu sefyllfaoedd neu sut yr oedden nhw'n teimlo bob dydd yn y gwrthdaro hwnnw. Ond rydyn ni'n gwybod am eu gwroldeb a'u dewrder, a byddwn ni'n ddiolchgar iddyn nhw am byth.
Ac ar yr adeg hon, mae'n rhaid i ni hefyd feddwl am y llu o gyn-filwyr yn ein cymunedau, fel y clywsom, sy'n cario creithiau corfforol a meddyliol gwasanaeth gweithredol diweddar. Mae'n rhaid i ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi ym mha bynnag ffordd y gallwn. Mae cyfamodau'r lluoedd arfog mor sylfaenol bwysig i'r nod hwnnw, ac fel Senedd, dylem sefyll y tu ôl i bawb sy'n gwneud cymaint i gefnogi ein lluoedd arfog a'u cymunedau. Yn benodol, hoffwn ddiolch i'n swyddog cyswllt lleol, Lisa Rawlings, am bopeth y mae'n ei wneud, a hefyd i ddiolch i Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru, y Cyrnol James Phillips, am ganolbwyntio ar ein cyn-filwyr. Ac fel y soniais yn y Siambr hon ychydig flynyddoedd yn ôl, rwy'n dad i gyn-filwr a anafwyd yn Afghanistan. Rwyf i, fel llawer o rieni a chyn-filwyr, wedi gweld y creithiau meddyliol gwanychol y mae gwrthdaro yn eu gadael ar ein hanwyliaid, ac rwy'n lwcus, dychwelodd fy mab adref yn fyw. Ond mae llawer o deuluoedd heddiw, o fewn llawer o'n hetholaethau, sy'n byw o ddydd i ddydd gyda'r galar o golli eu meibion neu ferched, ac ar yr adegau hyn, rydyn ni'n meddwl amdanyn nhw hefyd, ac rydyn ni'n myfyrio ar eu colledion ac rydyn ni'n gweddïo drostyn nhw hefyd.
Rydym hefyd yn diolch i'r Lleng Brydeinig Frenhinol a llawer o elusennau eraill sy'n gwneud cymaint o waith gwych bob dydd i gefnogi ein cyn-filwyr. Yn fy etholaeth i, Trefynwy, mae Lleng Brydeinig Frenhinol Sir Gwent wedi bod yn gonglfaen i gyn-filwyr yn yr ardal ers 1921, gan weithio'n ddiflino i gadw'r fflam ynghyn, gan sicrhau nad anghofir byth fywydau'r rhai a gollwyd, a bod brwydrau ein cyn-filwyr yn cael eu cadw ar flaen ein meddyliau, ac mae elusennau fel nhw yn amhrisiadwy. Rydym yn ffodus o gael y lluoedd arfog sydd gennym, gyda milwyr a menywod o'r radd flaenaf, pobl sy'n gwbl ymroddedig i'r bobl y maent yn eu gwasanaethu. Yn y dyddiau nesaf, byddwn yn meddwl amdanynt a'r rhai sydd wedi mynd o'n blaenau ac wedi rhoi cymaint, ynghyd â'r rhai sy'n parhau i fyw gyda thrawmâu gwrthdaro. Maen nhw i gyd yn ein meddyliau. Diolch.
Mae pwysigrwydd parhaus y cyfnod coffa blynyddol i deuluoedd a chymunedau Islwyn yn amlwg iawn ym mhob stryd fawr yn fy etholaeth. Am wythnosau mae gwirfoddolwyr wedi bod mewn mannau cyhoeddus yn Islwyn yn addurno, dadorchuddio arddangosfeydd o gariad wedi eu cysegru gyda diolchgarwch am yr aberth eithaf a wnaed. Y penwythnos hwn mae gwasanaethau coffa yn cael eu cynnal ar draws Islwyn, ac rwyf hefyd eisiau diolch i bawb yn y Lleng Brydeinig Frenhinol, SSAFA, hyrwyddwyr a swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, ac yn enwedig y Cynghorydd Teresa Heron a'n holl wirfoddolwyr yn Islwyn.
Bydd pob un o'n cymunedau, o Bontymister i Faesycwmwr yn ymgynnull yn dawel, a hefyd mewn diolchgarwch, er cof am bawb sydd wedi syrthio, ac a syrthiodd i amddiffyn yr hawliau sylfaenol, yr hawliau dynol a'r rhyddid yr ymladdwyd yn galed amdanynt yr ydym i gyd yn y Siambr hon bob dydd yn eu mwynhau, yn rhydd o orthrwm a gormes. Ni fydd rhyfeloedd byd yr ugeinfed ganrif byth yn cael eu hanghofio, er ein bod yn gweld bob blwyddyn y rhai a roddodd bopeth, yn gorfforol maent yn cilio, ond ni fyddwn byth yn eu hanghofio, ac ni fyddwn yn anghofio rhyfel y Falklands, rhyfel Irac na'r rhyfel yn Afghanistan, neu achosion o wrthdaro niferus eraill y gwasanaethodd ein milwyr ynddynt. Ni fyddant yn cael eu hanghofio.
Mae'r rhyfeloedd a'r gwrthdaro presennol rhwng Wcráin a Rwsia a'r erchyllterau dynol ofnadwy sy'n cael eu profi ac yn datblygu'n ddyddiol ledled Israel a Phalestina yn dangos i ni i gyd mor uniongyrchol yr angen i ystyried pwysigrwydd swyddogaeth heddychwr, a hefyd pwysigrwydd arweinwyr gwleidyddol fel heddychwyr. Felly, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol am ei diweddariadau, ac am y gefnogaeth ymarferol sy'n cael ei darparu ar gyfer cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. Amlygodd adroddiad diweddar, mewn gwirionedd, o'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y lluoedd arfog, dan gadeiryddiaeth Darren Millar, ehangder y gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru, ac wrth gwrs, mae llawer i'w wneud o hyd. Yn wir, ar 16 Tachwedd byddwn yn gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffair gyflogaeth Cymru wrth iddi ddod â 130 o ddysgwyr a chyn-filwyr gwasanaeth ynghyd gyda 50 o gyflogwyr, pob un â swyddi ar gael, ac mae croeso mawr iddynt ar draws Islwyn i gefnogi'r rhai sy'n pontio o luoedd i fywyd sifil.
Byddwn yn eu cofio gyda'n gilydd, gyda'n gilydd byddwn ni, a chredaf fod penillion olaf cerdd Laurence Binyon 'For the Fallen' yn addas iawn, ac mae'n nodi:
'Fel y sêr sy'n serennog yn ein cyfnod o dywyllwch, / Hyd y diwedd, hyd y diwedd, maen nhw'n aros.'
Diolch.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog a'r Llywodraeth am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw, oherwydd rydym yn dod at ein gilydd i gydnabod ac anrhydeddu'r rhai sydd wedi gwneud yr aberth eithaf dros ein gwlad. Rydym yn dod at ein gilydd nid yn unig i goffáu eu dewrder a'u haberth, ond hefyd i fyfyrio ar bwysigrwydd cofio pawb sydd wedi syrthio mewn rhyfel.
Mae gan Gymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig, hanes cyfoethog o ddewrder ac aberth ar faes y gad. Mae straeon milwyr, morwyr ac awyrenwyr Cymreig sydd wedi gwasanaethu mewn gwrthdaro ledled y byd wedi'u hymgorffori yng ngwead ein cenedl, wrth iddynt roi eu bywydau fel y gallem fod yma heddiw. Fel llawer o Aelodau yn y Siambr hon, mae gan fy nheulu gysylltiadau cryf iawn â'r lluoedd arfog. Roedd fy hen dad-cu yn gapten llong danfor yn ystod y rhyfel byd cyntaf yn ystod dyddiau cynnar iawn rhyfela tanddwr—profiad brawychus iawn, iawn. Gwasanaethodd fy nhad-cu yn y llynges fasnachol, ac rwy'n falch iawn bod honno bellach wedi cael ei chydnabod gan y llynges am ei gwasanaeth hefyd. Cafodd ei daro ddwywaith gan dorpido o longau tanfor Almaenig a chafodd ei dynnu o'r dŵr ar y ddau achlysur. Roedd llawer o'i ffrindiau nad oeddent mor lwcus i gael eu tynnu o'r dŵr. A hefyd bu fy nhad-cu arall yn gwasanaethu gyda'r Magnelwyr Brenhinol, a gwasanaethodd fy nhad yn ystod yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon.
Ni siaradodd yr un ohonyn nhw, mewn gwirionedd, am yr hyn yr oeddent wedi ei weld na'i brofi, ond rwy'n falch iawn bod fy nheulu wedi sefyll yn erbyn ffasgaeth a therfysgwyr. Ac rwy'n falch o ddweud y byddaf yn gosod torch yn Aberhonddu ar y penwythnos i gofio fy nheulu a'r holl bobl hynny sydd wedi gwasanaethu neu sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog, a'r hyn y maent yn ei wneud i'n cadw'n ddiogel, o ddydd i ddydd. Nid defod flynyddol yn unig yw cofio yng Nghymru, ond mae'n fynegiant dwys o'n diolchgarwch a'n parch at y rhai sydd wedi gwasanaethu. Mae ein hanes wedi'i fritho â gweithredoedd di-ri o ddewrder ac anhunanoldeb, boed hynny ar gaeau Fflandrys, traethau Normandi, mynyddoedd Afghanistan, neu mewn llawer o achosion o wrthdaro eraill ledled y byd. Rydym yn cofio'r rhai a frwydrodd ac a syrthiodd, y rhai a anafwyd, y carcharorion rhyfel a'r rhai sy'n dwyn creithiau corfforol ac emosiynol gwrthdaro. Mae eu haberth yn ein hatgoffa o gostau dynol rhyfel, a dyna pam mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein cymuned o gyn-filwyr. Rwy'n gwybod bod gan gadeirydd ein grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog weledigaeth glir, fel sydd gennym ar y grŵp hwnnw, i gefnogi ein cymuned gyn-filwyr ledled Cymru.
Mae cofio hefyd wedi'i wreiddio yn ein holl gymunedau. Mae gennym gofebion rhyfel yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru, a gwerthwyr pabi ymroddedig sy'n mynd allan i godi arian i'r Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae ein hysgolion yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ddysgu hanes yr aberth a wnaed gan ein cenedlaethau blaenorol, oherwydd mae'n rhaid i ni ddysgu cenedlaethau'r dyfodol am yr hyn sydd wedi digwydd o'r blaen fel na allwn fyth brofi erchyllterau'r hyn a ddigwyddodd. Rhaid i ni beidio ag anghofio bod y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw wedi'i sicrhau trwy waed, chwys a dagrau'r rhai a ddaeth o'n blaenau, ac mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau nad yw'r aberthau hynny a wnaed ganddynt byth yn ofer.
Nid dyletswydd yw cofio; mae'n gyfrifoldeb. Mae'n gyfrifoldeb i drosglwyddo straeon o ddewrder ac aberthu i'r genhedlaeth nesaf. Felly, gadewch i ni gofio'r rhai a fu farw gyda diolchgarwch, y byw gyda chefnogaeth, a'r dyfodol gyda gobaith y gallwn fyw mewn byd heb ryfel a gwrthdaro.
Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i holl bersonél y lluoedd arfog yn y gorffennol a'r presennol sydd wedi rhoi eu bywydau i'n diogelu ni i gyd, miliynau o unigolion a wnaeth yr aberth eithaf fel y gallwn fwynhau'r rhyddid a gymerwn yn ganiataol heddiw. Rwy'n ferch i filwr a frwydrodd yn yr ail ryfel byd, ac rwy'n ymwybodol o gefnogaeth Cymru i'n gwasanaethau arfog. Mae bod yn garcharor rhyfel, fel oedd fy nhad am bedair blynedd, yn gadael creithiau meddyliol, a chreithiau corfforol hefyd. Felly, rwy'n falch iawn bod GIG Cymru i Gyn-filwyr wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2010 i helpu cyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig, gwasanaeth hynod bwysig i unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog ac a fydd yn profi problemau iechyd meddwl sy'n ymwneud yn benodol â'u gwasanaeth milwrol. Gall unigolion gyfeirio eu hunain, sy'n gwneud mynediad yn llawer haws, a hyd yn hyn maent wedi helpu 4,500 o bobl.
Ar ôl cynrychioli'r Senedd yng Nghymdeithas Seneddol y Gymanwlad am nifer o flynyddoedd, rwyf hefyd yn ymwybodol o'r aberth y mae eraill wedi'i wneud ar gyfer ein rhyddid. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gofio cyfraniad unigolion o wledydd y Gymanwlad, sy'n rhychwantu Affrica, Asia, America, Ewrop a'r Môr Tawel, yn ystod y ddau ryfel byd? Gwasanaethodd dros chwe miliwn o ddynion a menywod o'r Gymanwlad ochr yn ochr â lluoedd Prydain yn ystod yr ail ryfel byd yn unig. Roedd eu haberth a'u cyfraniad yn hollbwysig i sicrhau ein rhyddid—rhyddid a ddaeth ar gost enfawr. Byddaf yn mynd i wasanaeth yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd ddydd Mawrth nesaf i osod torch a choffáu milwyr a menywod o leiafrifoedd ethnig a'r Gymanwlad. Roedd yr unigolion hyn naill ai'n byw yng Nghymru neu'n dod yma i'n cefnogi yn ein cyfnod mwyaf anobeithiol o angen yn ystod y rhyfeloedd byd a rhyfeloedd blaenorol. Fel y dywedais, collodd llawer eu bywyd. Mae'n hanfodol ein bod yn cofio'r arwyr hynny sydd wedi syrthio. Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy ngwahodd i fod yn bresennol yn y gwasanaeth hwn, ac mae'n cael ei gynnal gan Race Council Cymru a Hanes Pobl Dduon Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Cymdeithas Frenhinol y Gymanwlad Cymru, lluoedd arfog Prydain a llawer o rai eraill. Rydym i gyd yn ymwybodol bod digwyddiadau coffa eleni yn digwydd yn erbyn cefndir o sefyllfaoedd torcalonnus yn Ewrop a hefyd yn y dwyrain canol.
Diolch am ganiatáu i ni drafod y mater pwysig hwn heddiw. Wel, roeddech chi'n gryf iawn ynghylch y tawelwch a gadewch i ni obeithio nad ydym byth yn dyst i dawelwch o ddiymadferthwch.
Y penwythnos hwn mewn eglwysi a ger cofebion rhyfel ar draws ynysoedd Prydain byddwn yn sefyll gyda'n gilydd ac yn cofio'r aberth a wnaed gan filwyr dewr a roddodd eu bywydau i amddiffyn ein rhyddid a'n cadw rhag gormes. Mae'n rhaid i ni eu cofio. Byddwn yn anrhydeddu eu haberthau. I wneud hynny, rydym yn falch o wisgo'r pabi. Nid yw hynny'n symbol ar gyfer gormes trefedigaethol; mae'n symbol gostyngedig, perthnasol o gofio a gobaith, gan gofio'r rhai a fu farw mewn gwrthdaro ac yn symbol o obaith am ddyfodol heddychlon.
Wedi'r cyfan, roedd y rhai a ymladdodd ac a fu farw yn yr holl frwydrau mawr yn dod o bob hil a ffydd. Ymladdodd pedwar can mil o filwyr Mwslimaidd dros Brydain yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Yn eu plith roedd Khudadad Khan, Mwslim o'r hyn a elwir bellach yn Pacistan, sef y milwr Indiaidd cyntaf i ennill Croes Fictoria, y wobr filwrol uchaf am ddewrder. Roedd yn beiriant-saethwr mewn catrawd yn cefnogi Llu Alldeithiol Prydain i atal milwyr Almaenig rhag cymryd porthladdoedd Boulogne yn Ffrainc a Nieuwpoort yng Ngwlad Belg. Er gwaethaf cael ei orlethu, cadwodd gwarchodlu Khan luoedd yr Almaen draw yn ddigon hir i ganiatáu i filwyr atgyfnerthu gyrraedd. Lladdwyd pob un heblaw am Khan, a oedd, er gwaethaf iddo gael ei anafu'n wael, yn parhau i ddefnyddio ei wn. Gadawyd ef dan yr argraff ei fod wedi marw, ond llwyddodd i ymlusgo i ddiogelwch. Fe wnaeth ei ddewrder achub llawer o fywydau.
Gan symud ymlaen i'r ail ryfel byd, dewisodd pobl o bob rhan o'r Gymanwlad ymladd o dan faner Prydain. Defnyddiodd Byddin Indiaidd Prydain 2.5 miliwn o bersonél a daeth yn rym gwirfoddol a oedd y mwyaf mewn hanes. Pan frwydrodd Prydain dros ryddhau de-ddwyrain Asia, fe wnaethom gynnull bron i filiwn o filwyr. Daeth mwyafrif helaeth y milwyr yn yr hyn a oedd yn Bedwaredd Fyddin ar Ddeg o India ac Affrica. Helpodd gwirfoddolwyr o mor bell â Sierra Leone a Nigeria i ryddhau Myanmar o feddiant Japan.
Felly, y penwythnos hwn, ni ddylai eglwysi yn unig fod yn cynnal gwasanaethau i gofio, ond hefyd y mosgiau, y gurdwaras, synagogau, temlau ac addoldai eraill. Fel y dywedodd Rabbi Laura Janner-Klausner, nid oedd y gwaed o feysydd y gad yn gwahaniaethu rhwng Sikhiaid, Mwslimiaid, Hindŵiaid, Cristnogion ac Iddewon. Felly rydym yn anrhydeddu'r rhai a frwydrodd gyda'i gilydd trwy eu cofio gyda'i gilydd. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig ac amserol hon wrth i ni gychwyn ar y cyfnod cofio hwn. Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon heno. Yn bersonol, nid wyf wedi gwasanaethu yn y lluoedd ond gwnaeth fy nhad-cu ei wasanaeth cenedlaethol rhwng 1948 a 1950, ac ef oedd yn gyfrifol am symud pobl Iddewig o Ewrop i Israel trwy Gyprus, ac roeddwn i'n meddwl y byddai hynny'n sylw amserol i'w wneud o ystyried y trafferthion presennol yn Gaza. Ac mae fy nhad-cu bob amser wedi bod yn falch o'i gyflawniadau yn ystod y cyfnod hwnnw, oherwydd, yn wir, felly hefyd rydym ni fel teulu, wrth helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn eu cyfnod o angen. A rhyfedd i raddau yw myfyrio'n bersonol ar y ffaith fod fy nhad-cu bellach yn 93 ac roedd yn rhy ifanc i wasanaethu yn yr ail ryfel byd. Felly, mae'n ffaith sobreiddiol bod arwyr sy'n goroesi o'r cyfnod hwnnw yn mynd yn brinnach yn anffodus. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn parhau i nodi'r adeg hon o gofio nawr ac yn y dyfodol, fel bod ein plant, eu plant a'u cenedlaethau y tu hwnt i hynny yn parhau i gofio'r rhai sydd wedi aberthu eu bywydau am y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw.
Yn lleol, yn Nyffryn Clwyd, gwirfoddolais yn Sainsbury's yn y Rhyl, gan werthu pabïau gyda fy mab ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol yn ystod toriad yr wythnos diwethaf, a byddaf yn ymuno â fy etholwyr dros y penwythnos i gofio am arwyr lleol sir Ddinbych a roddodd eu bywydau eto er mwyn y rhyddid sydd gennym heddiw. Byddaf yn mynd i wasanaeth yng nghadeirlan Llanelwy ddydd Sadwrn, Diwrnod y Cadoediad, ac i wasanaeth arall yn eglwys blwyf Prestatyn ddydd Sul, gyda thorchau yn cael eu gosod ar fy rhan ym mhob safle coffa arall yn yr etholaeth, oherwydd yn anffodus mae'n amhosibl bod ym mhobman ar yr un pryd.
Rwyf eisiau cau fy sylwadau drwy ddweud y llinell adnabyddus o'r gwasanaeth:
'Pan elo’r haul i lawr, ac ar wawr y bore / Ni â’u cofiwn hwy.'
Galwaf ar y Diprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw.
Rydym wedi dod ynghyd yn Siambr y Senedd heddiw i gydnabod y cysylltiadau teuluol niferus a gawsom ni, fel y clywsom gan James Evans, Peter Fox a Gareth yna yn y cyfraniad olaf. Mae Joyce Watson, wrth gwrs, yn ferch i filwr a oedd nid yn unig yn ymladd yn yr ail ryfel byd ond a gafodd ei ddal fel carcharor rhyfel hefyd, gyda'r holl greithiau a ddaw yn sgil hynny. Joyce, rwy'n sicr yn ymuno â chi i nodi cyfraniad personél y Gymanwlad ochr yn ochr â'n personél sy'n gwasanaethu yng Nghymru mewn gwrthdaro a sefyllfaoedd ar hyd y blynyddoedd.
Rydym hefyd wedi clywed am bwysigrwydd dod at ein gilydd gan Jane Dodds a chan Sioned Williams. Mae cofio hefyd yn gyfle i ddyblu ein hymdrechion tuag at heddwch, ac i gofio aberth pobl a phawb sydd wedi dioddef o ganlyniad i ryfel, ac i'n hatgoffa y dylem bob amser weithio gyda'n gilydd i ymdrechu dros heddwch a rhoi diwedd ar wrthdaro yn y dyfodol.
Darren Millar, gwn fod hwn yn un o'r meysydd lle gallwn ddod o hyd i dir a chytundeb cyffredin. Yn yr un modd, ar draws y DU, cwrddais ag aelodau cyfatebol o Lywodraeth yr Alban yn ddiweddar, ochr yn ochr â Johnny Mercer, Gweinidog y Cyn-filwyr, lle gallwn weithio gyda'n gilydd yn yr achos cyffredin hwnnw i gefnogi cyn-filwyr a sicrhau bod cefnogaeth mewn cymunedau ledled y wlad.
Bu Alun Davies yn siarad â ni drwy daith o'r gorffennol a'r presennol, a phwysigrwydd cofio a sut mae hynny'n ein gwasanaethu i'r dyfodol hefyd. Soniodd Rhianon Passmore ac Altaf ac eraill am y rôl y mae llawer o lengoedd o wirfoddolwyr yn ei chwarae mewn cymunedau ledled y wlad, wrth gofio'r enwau hynny sydd ar senotaffau a chofebion eraill ar hyd a lled Cymru.
I fy nghymydog agos a chymydog etholaethol, Jack Sargeant, byddwn yn fwy na pharod i ddod i ymweld â Chaffinaafi. Mewn gwirionedd, cawsoch eich curo gennyf mewn gwirionedd, oherwydd ar y diwrnod y buoch chi yno, roeddwn i mewn parti teulu yng nghlwb criced Cei Connah, ac roedd y Cynghorydd Gill Faulkner eisoes wedi ei godi gyda mi. Ond rwy'n fwy na hapus i ymweld. Ni fyddwn yn gorfod mynd yn bell.
Heddiw, rydym yn ymgasglu yma i gofio, ar gyfer y ddadl goffa. Ond, Dirprwy Lywydd, os caf, hoffwn achub ar y cyfle hefyd i gofio ein cyd-Aelod, Carl Sargeant, ar ben-blwydd ei farwolaeth drasig heddiw. Dilynais yn ôl troed Carl, nid yn unig fel rhywun arall a etholwyd o Gei Connah, ond wrth gael yr anrhydedd o arwain cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn, heddiw, ein bod ni hefyd yn myfyrio ar y rhan a chwaraeodd Carl a'r gwaith a wnaeth fel hyrwyddwr balch cyn-filwyr a'n cymuned lluoedd arfog. Mae'n fraint fawr i mi adeiladu ar y gwaith hwnnw heddiw.
Dirprwy Lywydd, i gloi, rwy'n gwerthfawrogi, i lawer mewn cymunedau ledled y wlad sy'n gwasanaethu, a chymunedau cyn-filwyr, pan glywir y caniad olaf mewn gwasanaethau, ac yn y distawrwydd dau funud sy'n dilyn, efallai daw wynebau arbennig i'r meddwl. Mewn cymunedau ar draws y wlad, bydd pobl yn cael eu cofio, a bywydau wedi'u torri'n rhy fyr o lawer. Felly, pan fyddwn yn stopio ac yn oedi ar Ddydd y Cadoediad, ar Sul y Cofio, fel y gwnaethom heddiw yn y Siambr hon, rydym yn cofio'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sydd wedi gwneud yr aberth eithaf. Er cof amdanyn nhw, rydyn ni'n ymroi i'n hachos o gael diwedd ar wrthdaro, a byddwn ni'n eu cofio.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn nawr yw: a ddylid derbyn y cynnig wedi'i ddiwygio?
Cynnig NNDM8393 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd parhaus cyfnod y Cofio i deuluoedd a chymunedau yng Nghymru.
2. Yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth unigolion o bob rhan o Gymru sydd yn gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.
3. Yn cydnabod gwaith diflino sefydliadau, unigolion a gwirfoddolwyr sy'n cefnogi cymuned a chyn-aelodau’r lluoedd arfog ledled Cymru.
4. Yn cefnogi'r angen i ymdrechu am ddatrysiadau heddychlon i bob gwrthdaro ac am ddiwedd ar ryfel.
5. Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys cwympiedigion sifil.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:15.