Y Cyfarfod Llawn
Plenary
25/10/2023Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yr eitem gyntaf fydd y cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog ac i'w ofyn gan Samuel Kurtz.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ60156
Diolch. Mae ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yn nodi amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni a fydd yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gwell, mwy dibynadwy a deniadol ar draws de-orllewin Cymru.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, ond beth ar y ddaear sy’n digwydd gyda gorsaf drenau Sanclêr? Ymwelais â’r safle yn ddiweddar gyda’r Aelod Seneddol lleol, Simon Hart, swyddogion o Gyngor Sir Caerfyrddin a dau gynghorydd sir lleol, gan yr ymddengys nad ydym wedi gwneud unrhyw gynnydd gydag ailagor yr orsaf hon. Mewn atebion ysgrifenedig i mi, mae’r penderfyniad i ailagor yr orsaf drenau bellach yn amodol, yn ôl pob golwg, ar leoliad yr ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru, er nad oedd hyn erioed yn rhan o’r achos busnes yn y lle cyntaf pan gytunodd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a’r gymuned leol gyda’i gilydd fod angen ei gorsaf drenau ar Sanclêr. Er bod chwyddiant wedi chwarae ei ran, mae sôn bod Llywodraeth Cymru wedi tanamcangyfrif y costau'n sylweddol. Felly, i ailadrodd fy nghwestiwn agoriadol, Ddirprwy Weinidog, beth ar y ddaear sy’n digwydd gyda gorsaf drenau Sanclêr?
Wel, yr her yw bod yr achos busnes wedi rhagdybio y byddai’n costio £6 miliwn i ailagor gorsaf Sanclêr. Mae’r gost honno bellach wedi dyblu, ond nid yw’r cyfraniad gan yr Adran Drafnidiaeth wedi dyblu. Mae eu cyfraniad yn parhau i fod yn £4.5 miliwn. Nawr, seilwaith rheilffyrdd yw hyn; nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli. Nawr, mae rhagdybiaeth o dan y cynllun hwn y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian cyfatebol, ac roeddem yn fodlon darparu arian cyfatebol ar gyfer y gost is. Yn syml iawn, nid oes gennym yr arian i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer y gost uwch. Felly, dyna wirionedd y sefyllfa, ac rydym yn cydnabod yr angen am orsaf yn Sanclêr ac yn llwyr gefnogi'r syniad, ac am i hynny ddigwydd. Credaf mai’r realiti a’r pethau ymarferol sy’n ein hwynebu a’r dewisiadau sydd gennym yma yw ein bod yn gwybod bod cynllun ar y gweill ar gyfer ysbyty mawr gerllaw, mae cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus â'r ysbyty hwnnw’n hollbwysig, a chredaf fod angen inni edrych ar y ddau ddatblygiad gyda'i gilydd. Ond os yw Llywodraeth y DU am gymryd ei chyfrifoldebau dros seilwaith rheilffyrdd o ddifrif a darparu cyllid pellach, byddem yn falch iawn o weithio gyda nhw.
Dirprwy Weinidog, wythnos diwethaf, fe fynychais i gyfarfod gyda'r Aelod dros Geredigion yn Llandysul i drafod dyfodol Fflecsi Bwcabus sydd yn darparu gwasanaeth yn rhannau o Geredigion, sir Benfro a sir Gaerfyrddin. Roedd y lle'n orlawn—yn agos i 100 o bobl yn bresennol—a beth oedd yn amlwg i ni ar y noson honno oedd y dystiolaeth real iawn am yr effaith y mae cael gwared ar y gwasanaeth yma yn mynd i'w chael ar fywydau pobl go iawn. Nid e-byst oedd y rhain, ond tystiolaeth fyw o sut mae pobl sy'n dioddef o epilepsi yn methu â mynd i glinigau; pobl sydd yn dibynnu ar ffisiotherapi wythnosol yn methu â mynd i glinigau ac i ysbytai, methu â mynd i siopa'n wythnosol; rhai yn sôn am orfod dod â swydd i ben oherwydd eu bod nhw'n methu â chyrraedd y swydd arbennig yna. Felly, o fewn pedair wythnos, neu gyda phedair wythnos o rybudd yn unig, fe ddaethoch chi â'r gwasanaeth hwnnw i ben. Sôn am cliff edge i bobl sydd yn gorfod cynllunio eu dyfodol personol nhw eu hunain. Nawr, pan godais i'r mater yma ryw fis yn ôl, fe ddywedoch chi y byddech chi'n gweithio gyda thrafnidiaeth gymunedol ac awdurdodau lleol i geisio achub elfennau o Fflecsi Bwcabus. Gaf i ofyn beth yw'r diweddariad ar hynny, a gaf i ofyn i chi ymateb i'r cais dwi a'r Aelod dros Geredigion wedi gofyn i chi amdano, sef cyfarfod brys rhyngom ni i gynllunio dyfodol Bwcabus yn yr ardaloedd hyn? Gaf i ofyn i chi am gyfarfod, os gwelwch yn dda?
Diolch. Wrth gwrs, buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod â chi a'r Aelod arall i drafod hyn. Nid oes ateb hawdd i'r mater, serch hynny, yn anffodus. Credaf ei bod yn annheg dweud inni roi rhybudd byr i ddod â’r gwasanaeth i ben. Roedd cyllid y rhaglen bob amser yn mynd i ddod i ben pan ddeuai'r cyllid Ewropeaidd i ben. Roedd hwn yn brosiect a ariannwyd gan Ewrop. Nawr, pleidleisiodd Cymru o blaid Brexit: mae canlyniadau i hynny. Dywedodd Llywodraeth y DU wrthym y byddem yn cael cyllid yn lle'r cyllid Ewropeaidd. Nid yw hynny wedi digwydd. A dweud y gwir, rydym £1 biliwn yn waeth ein byd o gymharu â chyn inni adael yr UE a’i raglenni, ac mae canlyniadau i hynny o ran ein gallu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Nawr, rwy'n ystyried bod gwasanaeth Bwcabus yn werthfawr, ac mae wedi ysbrydoli’r gwasanaeth Fflecsi yr ydym yn ei dreialu mewn rhannau eraill o Gymru ar hyn o bryd, felly nid oes angen fy argyhoeddi ynghylch gwerth y model. Ni chredaf fod nifer y teithwyr yn gryf iawn. Mae'n ddiddorol fod 100 o bobl wedi mynychu cyfarfod; byddai'n ddiddorol gwybod faint o'r rheini oedd yn ei ddefnyddio'n rheolaidd. Yn aml, nid yw pobl eisiau colli gwasanaeth, ond yn aml, ni fydd y bobl hynny'n cefnogi'r gwasanaeth. Felly, credaf mai un peth y mae angen i bob un ohonom ei ystyried wrth inni edrych ar ddyfodol bysiau yw sut y gallwn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny. Rydym yn darparu cryn dipyn o gyllid i wasanaeth TrawsCymru drwy Geredigion, sy’n wasanaeth rhagorol, gyda bysiau trydan modern, a thocynnau am bris isel, ac mae’n boblogaidd iawn. Felly, rydym yn buddsoddi llawer o arian mewn gwasanaethau bysiau yng nghefn gwlad Cymru. Yn anffodus, oherwydd y sefyllfa gyllido rydym yn ei hwynebu yn y tymor byr, nid ydym wedi gallu darparu cyllid yn lle cyllid yr UE, ac mae arnaf ofn fod honno'n ffaith nad oes ateb hawdd iddi.
Mae opsiynau, wrth gwrs, ac mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwasanaethau bysiau sy’n gymdeithasol angenrheidiol, ac mae ganddynt opsiwn i ddod o hyd i gyllid eu hunain, os yw mor werthfawr yn lleol ag y dywed yr Aelod. Ond maent yn wynebu sefyllfa gyllidebol debyg i ninnau. Felly, nid yw'n wir nad ydym yn gweld gwerth y gwasanaeth; yn syml, nid oes gennym arian i ariannu'r holl bethau y gwelwn eu gwerth. Ond rydym yn mynd i wneud ein gorau gyda Trafnidiaeth Cymru a thrafnidiaeth gymunedol i weld beth y gellir ei wneud lle mae gennym rywfaint o opsiynau, ond nid wyf am esgus nad yw hon yn sefyllfa anffodus iawn, sy’n drueni mawr. Ond rwy'n fwy na pharod i’w thrafod ymhellach gyda’r Aelod a’i gyd-Aelodau.
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw drafferthion sy'n cael eu hachosi gan y terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya?
Wel, fel y gŵyr yr Aelod, nid yw’n derfyn cyflymder cyffredinol, ac mae’n gwneud cam â hi ei hun a'r cod moeseg y mae pob un ohonom yn ymrwymo iddo yn y Siambr hon i fod yn onest ac yn gywir—[Torri ar draws.] Mae’n derfyn cyflymder diofyn, fel y mae hi'n gwybod. Dyma’r newid mwyaf ystyrlon i ddiogelwch ar y ffyrdd—
A gaf fi egluro ar gyfer y Cofnod fod y cwestiwn gwreiddiol yn ei alw'n 'derfyn cyflymder cyffredinol diofyn o 20 mya', ond nid dyna a ddarllenoch chi. Felly, byddai'n hwyluso pethau i'r Gweinidog os gallwch ddarllen y cwestiwn a gyflwynwyd gennych fel y'i hysgrifennwyd.
2. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw drafferthion sy'n cael eu hachosi gan y terfyn cyflymder cyffredinol diofyn o 20 mya? OQ60167
Wel, mae'n derfyn cyflymder diofyn, nid yw'n derfyn cyflymder cyffredinol, ac mae hwnnw'n wahaniaeth pwysig, gan fod hynny wedi'i gynllunio i gamarwain pobl, ac mae wedi peri cryn ddryswch ymhlith pobl y mae angen i'r Ceidwadwyr yma gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb amdano. Dyma’r newid mwyaf ystyrlon i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru ers degawdau, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i fonitro ei gweithrediad.
Ddirprwy Weinidog, mae pob un ohonom wedi gweld y gwrthwynebiad helaeth i'ch terfyn cyflymder cyffredinol newydd o 20 mya, o gwmnïau bysiau i wasanaethau brys, ac wrth gwrs, y 0.5 miliwn a mwy o bobl sydd wedi llofnodi’r ddeiseb. Yr wythnos hon, rydym hyd yn oed wedi gweld ynad yn ymddiswyddo dros y mater. Ddirprwy Weinidog, mae’r polisi hwn yn amlwg yn hynod amhoblogaidd gyda phobl Cymru, ac fel gwleidyddion etholedig, rydym yma i wasanaethu’r bobl, nid i orchymyn a gorfodi polisïau niweidiol ar eu bywydau. Ddirprwy Weinidog, mae'r problemau a achoswyd gan y polisi difeddwl hwn yn dal i bentyrru, ac nid oes diwedd i'w weld. Pryd y byddwch chi'n derbyn na all cymaint â hyn o bobl fod yn anghywir, ac ymrwymo i wrthdroi'r polisi aflwyddiannus a niweidiol hwn?
Wel, nid yw'n ddifeddwl; mae wedi cael ei ystyried a'i lunio'n ofalus ers dros bedair blynedd a hanner. Mae wedi cael ei gyflwyno mewn llawer o leoedd eraill—yn Llundain, yng Nghaeredin, yn Sbaen. Mae Cyngor Cernyw, o dan arweiniad y Ceidwadwyr, yn dymuno cyflwyno hyn yn eu hardal; yn sicr, nid ydynt yn meddwl ei fod yn ddifeddwl na'u bod yn ei orchymyn neu'n ei orfodi. Mae'r blaid gyferbyn yn mynd ati'n fwriadol i ddefnyddio iaith herfeiddiol, ragfarnllyd, nad yw'n seiliedig ar ffeithiau, i geisio creu ymateb cymdeithasol i dynnu sylw oddi ar y ffaith eu bod yn blaid heb syniadau, ac yn amddifad o bob moesoldeb hefyd. Gwyddom fod yr hyn a wnawn yn gweithio i leihau cyflymderau. Mae cyflymderau'n is, yn yr un modd ag ym mhobman arall lle cafodd ei gyflwyno. A chyda chyflymderau is, gallwn ddisgwyl gweld nifer yr anafusion yn gostwng—[Torri ar draws.]—llai o lygredd sŵn, a'r manteision a welwyd mewn mannau eraill. Nawr, mae Andrew R. T. Davies yn gweiddi o'i sedd. Mae enghraifft Belfast, y mae’n aml yn ei dyfynnu—. Nid wyf yn siŵr a yw wedi edrych ar yr astudiaeth. Rwy'n amau hynny'n gryf; nid yw ond wedi edrych ar y pennawd. Oherwydd nid yw'r astudiaeth yn dweud yr hyn y cred ef ei bod yn ei ddweud. Mewn gwirionedd, mae'n cefnogi’r un dull o weithredu â ninnau, gan ei bod yn galw am ddull gweithredu ardal gyfan, a ategir gan newid ymddygiad a normaleiddio. Felly, dylai ddarllen yr adroddiad yn iawn ac yn drylwyr—[Torri ar draws.] Wel, os yw wedi ei ddarllen, mae naill ai wedi ei gamddeall, neu mae’n ei gam-gyfleu.
O siarad â phobl, mae 90 y cant o bobl yn cefnogi 90 y cant o ffyrdd 20 mya. Ond mae rhywun wedi dweud wrthyf, 'Rwy'n yrrwr profiadol ac rwy'n gyrru'n unol ag amodau'r ffordd. Nid oes angen unrhyw derfyn cyflymder arnaf.' Un arall, 'Mae marwolaethau ac anafiadau difrifol yn bris gwerth ei dalu am deithio ar 30 mya.' Y mwyaf hurt yw bod '30 mya yn addas ar gyfer ffyrdd llai na 30 metr.' Yn anffodus, mae yna anghysondebau. A gaf fi awgrymu wrth y Gweinidog fod terfynau cyflymder ffyrdd A a ffyrdd B yn cael eu gadael i ddisgresiwn cynghorau, heb unrhyw ganllawiau gan Lywodraeth Cymru?
Wel, gallaf gadarnhau bod ffyrdd A a ffyrdd B wedi eu gadael i ddisgresiwn cynghorau lleol, ac mae hynny wedi’i nodi'n glir iawn yn y canllawiau. Ac mewn gwirionedd, cyfarfûm ag arweinwyr awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru ddoe i drafod y profiad y maent wedi'i gael o roi hyn ar waith. A'r hyn a oedd yn adrodd cyfrolau yw bod nifer fawr o arweinwyr wedi dweud mai ychydig iawn o ohebiaeth a gawsant dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â hyn, fod pobl yn addasu iddo, eu bod yn dod i arfer ag ef.
Credwn fod yna rai enghreifftiau, wrth edrych yn ôl a chael rhywfaint o brofiad, lle gwnaed penderfyniadau anghywir, ac rwyf wedi annog awdurdodau lleol i feddwl sut y gallant ddefnyddio eu pwerau disgresiynol i wneud eithriadau. Eithriadau fydd y rhain, nid y rheol. Felly, credaf y bydd yn golygu rhywfaint o waith tacluso, ond cawsom gyfarfod cadarnhaol ac adeiladol iawn gyda nhw ddoe.
Rydym yn mynd i wneud mwy o waith i ddeall a oes angen i’r canllawiau eu hunain newid, neu a oes angen helpu eu lefelau hyder o ran sut y maent yn rhoi'r canllawiau ar waith, gan weithio gydag awdurdodau eraill—credaf mai ei awdurdod ef, er enghraifft, sydd â'r nifer fwyaf o eithriadau yng Nghymru. Felly, yn amlwg, mae yna broses ar gyfer eithriadau; nid yw’n derfyn cyffredinol, oherwydd pe bai, sut y gallai Abertawe gyhoeddi cymaint o eithriadau? Ond mae'r dull gweithredu ledled Cymru yn anwastad, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nhw i geisio gweithio drwy hynny. Ond erys y ffaith bod cyflymderau cyfartalog yn is. Mae pobl yn pleidleisio â'u traed ac yn parchu'r terfyn cyflymder newydd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn ôl eich cyd-Aelodau, mae eich Llywodraeth mewn sefyllfa ariannol enbyd, gyda chyllidebau pwysig fel addysg, yr economi a chyllid yn cael eu torri o ganlyniad. Er hynny, nid yw'r ddelwedd dlawd honno y mae eich Llywodraeth yn ei disgrifio yn gwneud synnwyr i mi pan edrychwch ar y symiau syfrdanol o arian yr ydych wedi bod yn eu gwario ar brosiectau porthi balchder. Cymerwch y £33 miliwn ar derfynau cyflymder 20 mya, neu’r £120 miliwn sy’n cael ei ddefnyddio i ehangu’r lle hwn, neu’r £4.25 miliwn sy’n cael ei wario ar brynu ffermydd i ffrindiau. A ddyddiau’n unig yn ôl, clywn fod y Llywodraeth wedi dod o hyd i £125 miliwn ar ei choeden arian hud i’w roi i Trafnidiaeth Cymru, y gŵyr pob un ohonom ei fod yn eiddo i Lywodraeth Lafur Cymru. Felly, efallai y bydd rhai’n dweud bod hwn yn gam hynod o annisgwyl gan Lywodraeth sy’n ceisio’n galed i dynhau ei gwregys. Felly, Ddirprwy Weinidog, ar beth yn union y mae’r arian hwn yn mynd i gael ei wario? Ac a gyflwynodd Trafnidiaeth Cymru achos busnes, oherwydd, a dweud y gwir, rwy’n poeni bod Trafnidiaeth Cymru yn mynd yn debyg iawn i Faes Awyr Caerdydd, sydd wedi bod yn llyncu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr heb ddarparu unrhyw ganlyniadau cadarnhaol hyd yn hyn?
Wel, mae'n rhyfedd, onid yw, eich bod yn ystyried prosiect i achub bywydau yn brosiect porthi balchder. Nid wyf yn ei ystyried yn brosiect porthi balchder i leihau'r terfyn cyflymder ac achub bywydau pobl. A bydd cost cyflwyno hynny'n cael ei thalu'n ôl deirgwaith drosodd yn y flwyddyn gyntaf oherwydd llai o anafusion a llai o faich ar y GIG. Felly, rwy’n gwrthod disgrifiad yr Aelod o’r polisi hwnnw'n llwyr.
O ran yr arian ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, nid yw hwnnw’n adlewyrchiad o unrhyw benderfyniadau gwael neu gamreoli gan Trafnidiaeth Cymru na chan Lywodraeth Cymru. Yn syml, mae'n adlewyrchiad o'r ffaith bod y gyllideb a osodwyd wrth fasnachfreinio yn rhagdybio cynnydd dramatig iawn yn nifer y teithwyr. Nid yw hynny wedi bod yn bosibl gan ein bod wedi cael y pandemig, ac mae’r pandemig wedi lleihau nifer y defnyddwyr, ac mae hynny wedi creu bwlch ariannol yr oedd angen ei lenwi. A phe na baem yn ei lenwi, byddai llawer o'r rhwydwaith rheilffyrdd yn cau. Nawr, ymddengys nad oedd dymuno cau ein maes awyr yn ddigon iddi, a'i bod bellach yn dymuno cael gwared ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. A chredaf fod y safbwynt gwrthgyferbyniol y mae'r Aelod yn ei ddatgan—. Yr wythnos diwethaf, roedd yn dweud wrth bobl ei bod am i arian ychwanegol gael ei wario ar orsaf drenau newydd yng Nghaerllion. Yr wythnos hon, dywed wrthym fod gwario arian ar reilffyrdd yn wastraff arian.
Ddirprwy Weinidog, yn gyntaf, os gwelwch yn dda, peidiwch byth â chamddehongli fy ngeiriau; gwn yn union beth yr wyf wedi’i ddweud yn y lle hwn, ac rwyf bob amser wedi dweud y dylid gwerthu Maes Awyr Caerdydd, y dylai fod yn gwneud elw, ac y dylai fod yn gwneud cynnydd. Buaswn wrth fy modd yn gweld mwy o orsafoedd ledled Cymru, ond yn yr un modd, rwyf o dan yr argraff, ac rwy’n derbyn—ac rwyf wedi dweud hyn yn gyhoeddus ac yn breifat—os yw’r gwasanaeth iechyd yn methu, os yw addysg yn methu, rwy'n fwy na bodlon i'r arian hwnnw gael ei wario ar hynny, ond ni allaf ddirnad i ble mae'r £125 miliwn hwn yn mynd. Ond gadewch imi ofyn fy nghwestiwn, Lywydd.
Ddirprwy Weinidog, mae eich prosiect terfyn cyflymder 20 mya bellach wedi bod mewn grym ers ychydig dros fis. Er gwaethaf yr hyn yr ydych chi a’ch cyd-Aelodau yn ei ddweud dro ar ôl tro ar ôl tro, mae’n gwbl amlwg nad yw’r cyhoedd wedi'i dderbyn, ni waeth sut rydych chi'n paentio’r darlun hwn i mi. Cyn i derfynau cyflymder 20 mya gael eu cyflwyno, dangosodd arolwg barn fod 46 y cant yn cefnogi'r mesur, a 34 y cant yn ei wrthwynebu. Ac eto, yr wythnos diwethaf, datgelodd arolwg barn newydd fod y llanw wedi troi, gyda phobl bellach yn dechrau sylweddoli pa mor drychinebus yw eich cynllun mewn gwirionedd. Dangosodd yr arolwg barn newydd hwn fod bron i 60 y cant o bobl yn gwrthwynebu eich prosiect £33 miliwn, gyda dim ond 29 y cant o'i blaid. Fe ddywedoch chi, Ddirprwy Weinidog, ac rwy'n dyfynnu:
'rydym yn eithaf hyderus, wrth i bobl ddod i arfer ag ef, y bydd cefnogaeth i'r mesur yn cynyddu.'
Wel, mae'n gas gennyf fod yr un i ddod â chi nôl i'r blaned hon, Ddirprwy Weinidog, ond nid yw'r gefnogaeth yn cynyddu, gan nad yw pobl Cymru eisiau eich cynllun 20 mya. Ddirprwy Weinidog, a ydych chi bellach yn cyfaddef eich bod wedi gwneud camgymeriad ac wedi gwneud y peth anghywir gyda'r cynllun hwn?
Wel, rwy’n ofni nad yw llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr yn deall sut mae trafnidiaeth yn gweithio, ac mae honno’n broblem wirioneddol ar gyfer craffu a beirniadaeth wybodus yn y ddadl hon. Dywed nad yw'n dymuno cau'r maes awyr, ei bod yn dymuno'i werthu ac iddo wneud elw. Go brin fod unrhyw faes awyr yn y byd yn gwneud elw. Nid ydynt yn endidau sy’n gwneud elw, ac fe wnaethom ei achub rhag mynd i'r wal yn y sector preifat am ein bod yn meddwl bod angen maes awyr ar Gymru. [Torri ar draws.] Dywed Janet Finch-Saunders fod achub maes awyr yn wastraff arian trethdalwyr. Ac eto, mae’r maer Ceidwadol, Ben Houchen, sy’n cael ei glodfori ganddi hi a’i chyd-Geidwadwyr, wedi gwneud yr un peth yn union yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Mae angen cefnogaeth ar feysydd awyr, yn enwedig ar ôl COVID, pan leihaodd nifer y teithwyr yn sylweddol. Felly, mae'r syniad—. Nid oes unrhyw un yn dymuno prynu maes awyr sy'n gwneud colled.
Ond rydych chi'n ei gynnal.
Rydym yn rhoi cefnogaeth iddo am ein bod yn credu ei fod yn ddarn pwysig o seilwaith economaidd a thrafnidiaeth, a dyna pam ein bod yn gwneud hynny. Felly, os yw hi'n dweud, 'Gwerthwch ef', wel, byddai hynny'n golygu y byddai'n cau. Felly, dyna ganlyniad ei hagwedd hi, ac mae angen iddi gydnabod hynny.
Ar y terfyn cyflymder 20 mya, ychydig dros fis sydd wedi bod ers ei gyflwyno, a bydd yn cymryd amser i bobl ddod i arfer ag ef ac i bobl addasu. Dyna oedd y profiad yn Sbaen, dyna oedd y profiad yn Llundain, dyna oedd y profiad yng Nghaeredin, a dyna'r profiad rydym ni'n ei gael. Mae cyflymderau cyfartalog yn is. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cydymffurfio. Nid ydynt yn cadw at 20 mya, ond mae nifer y bobl sy'n gyrru dros 30 mya wedi gostwng yn ddramatig, ac mae hynny'n darparu'r enillion mawr o ran diogelwch ar y ffyrdd ac rydym yn hyderus mai dyma'r peth iawn i'w wneud.
Waw, Ddirprwy Weinidog, sôn am dwyllo eich hun heddiw. Ddirprwy Weinidog, rydych wedi honni dro ar ôl tro mai un funud yn unig y bydd cyflwyno 20 mya yn ei ychwanegu at daith. Ac eto, er gwaethaf eich honiadau, mae gweithredwr bysiau mawr wedi dweud bod eich cynllun yn ychwanegu 12 munud bob ffordd ar deithiau rhwng Caernarfon, Bangor a Llandudno. O ganlyniad, mae Arriva ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad mawr o’r rhwydwaith, gyda thoriadau a newidiadau yn yr arfaeth, am fod terfynau 20 mya yn cael effaith fawr ar brydlondeb. Ac wrth gwrs, nid trafnidiaeth gyhoeddus yn unig sy'n cael ei heffeithio gan y terfynau cyflymder 20 mya, mae'n effeithio ar amseroedd teithio pobl, yn niweidio bywoliaeth pobl, yn arafu gwasanaethau brys ac yn rhoi ergyd aruthrol o £9 biliwn i'r economi. Yn lle cefnogi bysiau, cefnogi trigolion gweithgar, cefnogi busnesau, cefnogi ein heconomi, rydych chi'n dewis eu cosbi â’r cynllun 20 mya, ac nid fi'n unig sy'n credu hynny. Edrychwch ar y ddeiseb sydd wedi torri pob record, y soniodd fy nghyd-Aelod Laura Anne Jones amdani, ac sy'n galw am gael gwared ar y cynllun 20 mya, deiseb sydd wedi casglu mwy na 460,000 o lofnodion, a’r protestiadau dirifedi sydd wedi'u cynnal ledled y wlad. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy’n derbyn yr hyn rydych wedi’i ddweud mai dim ond y mis cyntaf yw hwn, ond pryd fydd yr adolygiad nesaf yn cael ei gynnal? Ar ba bwynt y gwnewch chi sylweddoli a dweud, 'Wyddoch chi beth, mae'n bryd inni edrych yn ôl, pwyso a mesur a gwneud tro pedol ar y penderfyniad'? A hefyd, ar wahân i hynny, a wnewch chi wrando ar y cyhoedd yng Nghymru a chael gwared ar y cynllun hwn, cyn iddo wneud mwy o niwed diangen? Diolch.
Lywydd, mae'n rhaid imi ddweud, pe bawn yn siarad â Natasha Asghar yn y ffordd y mae'n siarad â mi, hi fyddai'r cyntaf i gwyno. Credaf fod lefel o gwrteisi yn y Siambr hon y dylem gadw ati. Gwn ei bod yn gwneud y perfformiadau hyn ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ond nid dyma'r ffordd orau o graffu, a hoffwn ofyn iddi ystyried ei hymddygiad.
Ar yr effaith ar lwybrau bysiau, rydym wedi bod yn gofyn i'r cwmnïau bysiau am ddata sy'n dangos yr effaith y mae cyflymderau is wedi'i chael ar eu perfformiad. Ychydig iawn o ddata a gawsom, ac rydym yn awyddus i weithio gyda nhw i ddeall hynny. Os oes coridorau penodol y mae’r llwybrau bysiau yn dibynnu arnynt lle mae’r cyflymder yn broblem, mae gan awdurdodau lleol opsiwn i edrych ar feini prawf ar gyfer eithrio wrth gwrs. Gallant edrych hefyd ar fesurau blaenoriaeth i fysiau, ac rydym yn awyddus i’w cefnogi gyda'r rheini, ac yn ariannu nifer fawr o’r rheini yn y flwyddyn ariannol hon i ganiatáu i fysiau ymdopi â’r tagfeydd a theithio’n gyflymach. Rwy'n credu mai’r gwir amdani yw bod nifer fawr o gwmnïau bysiau wedi cael trafferth gyda phrydlondeb yn y lle cyntaf oherwydd prinder gyrwyr bysiau, ac maent wedi achub ar y cyfle gyda'r newid i gyllid bysiau a’r 20 mya i ailraddnodi eu hamserlenni i greu gwasanaethau mwy gwydn a dibynadwy, oherwydd gallant fod yn hyderus o'u gallu i'w staffio. Ceir peth tystiolaeth i ddangos bod 20 mya yn effeithio ar amseroedd teithio mewn rhai ardaloedd, ond mae’r darlun yn anghyflawn, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant bysiau i’w ddeall yn well.
Er eglurder, ni chlywais unrhyw beth amhriodol yng nghyfraniad Natasha Asghar. Os na chlywais unrhyw beth penodol y dylwn fod wedi’i nodi, rwy’n siŵr y gwnaiff y Dirprwy Weinidog gysylltu â mi ar ôl y sesiwn hon.
Llefarydd Plaid Cymru nawr—Mabon ap Gwynfor.
Diolch, Lywydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod Cyngor Sir Wrecsam wedi pleidleisio ddwywaith yn erbyn eu cynllun datblygu lleol drafft, a fwriadwyd i arwain datblygiad yn y rhanbarth, gan gynnwys dyrannu lle ar gyfer miloedd o gartrefi newydd. Mae'r penderfyniad hwn i wrthod y cynllun wedi codi pryderon ynghylch dilysrwydd y data a oedd yn sail i'r cynllun, yn enwedig y diffyg gwybodaeth gyfredol am y twf a ragwelir yn y boblogaeth a ffactorau allweddol eraill a ddylai lywio unrhyw gynlluniau ar gyfer tai. Mae goblygiadau’r penderfyniad hwn yn mynd y tu hwnt i’r canlyniadau uniongyrchol, gan effeithio ar hyfywedd ac addasrwydd atebion tai am genedlaethau i ddod. Sut y gallwch gynllunio ar gyfer datblygiadau tai yn y dyfodol os nad ydych yn gwybod ble mae eu hangen, faint sydd eu hangen ac ar gyfer pwy y cânt eu hadeiladu? Felly, yng ngoleuni penderfyniad Cyngor Sir Wrecsam i wrthod y CDLl, yn rhannol oherwydd data sydd wedi dyddio, a all y Gweinidog ddarparu gwybodaeth am ba gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod gan awdurdodau lleol fynediad at y data mwyaf cywir a chyfredol wrth lunio eu cynlluniau datblygu i sicrhau bod tai yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?
Diolch, Mabon ap Gwynfor. Mae arnaf ofn fod cynsail eich cwestiwn yn anghywir. Mae proses y CDLl yn un lle mae cynllun, sef cynllun y cyngor ei hun, yn destun ymchwiliad cyhoeddus, caiff arolygydd ei benodi, ac mae'n mynd drwy bob un o’r camau; mae swyddogion y cyngor ei hun a’r arolygydd a benodwyd i graffu ar y cynllun oll wedi argymell y dylai’r cyngor ei dderbyn. Nid yw’r cyngor wedi derbyn ei gynllun ei hun—ni allaf bwysleisio digon mai ei gynllun ei hun yw'r hyn nad yw wedi’i dderbyn—ac mae bellach yn destun adolygiad barnwrol. Felly, rwy’n gyfyngedig o ran beth arall y gallaf ei ddweud oherwydd yr adolygiad barnwrol hwnnw. Fy nealltwriaeth i, fodd bynnag, yw nad yw’r cyngor yn gallu sicrhau amddiffyniad priodol i hynny, ac amser a ddengys beth fydd yn digwydd. Felly, mae arnaf ofn nad wyf yn derbyn cynsail eich cwestiwn, Mabon. Rwy’n fwy na pharod i gael trafodaeth gyda chi, fel rwyf eisoes wedi cael gydag aelodau eraill o’ch grŵp, ynglŷn â beth yn union sy’n digwydd, ond ni chredaf fod hyn yn rhywbeth y gallwn ei drafod yn fanwl yn y Cyfarfod Llawn.
Diolch am eich ymateb, ac rwy'n deall bod yr hyn y gallwch ei ddweud am hyn yn gyfyngedig. Fodd bynnag, pan ddywedwch fod y cyngor wedi gwrthod ei gynlluniau ei hun, mae’n gorff democrataidd, ac mae’r aelodau a etholwyd yn ddemocrataidd wedi gwrthod y cynnig drafft. Mae Cyngor Sir Wrecsam, yn amlwg, wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun datblygu lleol, yn rhannol am nad oeddent yn credu y byddai’n gwasanaethu anghenion cymunedau lleol. O ystyried bod y CDLl a ddaeth yn ôl gan arolygwyr ond yn cynnwys o 9 y cant o dai fforddiadwy, ni ddylai fod yn syndod ei fod wedi'i wrthod. Yr hyn sy’n amlwg i lawer—gan gynnwys ymgyrchwyr, cynghorwyr lleol a minnau—yw bod cyn lleied o ymrwymiad i dai fforddiadwy yn y cynllun fel ei fod, i bob pwrpas, yn rhoi rhwydd hynt i ddatblygwyr adeiladu tai anfforddiadwy sydd ond o fudd iddyn nhw, nid i'r cymunedau lleol. Hyd yn oed yn yr achos hwn, mae’n bosibl y gallai Llywodraeth Cymru orfodi’r cynllun ar y boblogaeth a'r cyngor lleol yn groes i ddymuniadau trigolion yn yr ardal. Mae'n rhaid defnyddio cynlluniau datblygu lleol fel arf i wasanaethu cymunedau, nid i roi rhwydd hynt i ddatblygwyr mawr. Mae'n rhaid i gynlluniau roi blaenoriaeth i ddarparu digon o dai sydd o ddifrif yn fforddiadwy er mwyn gwasanaethu anghenion cymunedau heddiw ac yfory. Felly, a yw’r Gweinidog yn cytuno â’r datganiad hwnnw?
Na, mae arnaf ofn nad wyf yn cytuno â'r datganiad hwnnw o gwbl. Y ffordd orau o atal datblygu tybiannol mewn ardal yw mabwysiadu cynllun addas. Diffyg cynllun sy’n achosi’r datblygu tybiannol, gan nad oes gan gyngor gynllun i brofi ei geisiadau cynllunio yn ei erbyn, ac mae hynny’n amlwg. Fel y dywedais, ni allaf drafod manylion y sefyllfa yn Wrecsam oherwydd y sefyllfa gyfreithiol yno, ond ni allaf bwysleisio digon fod hwn yn gynllun a aeth drwy holl systemau'r cyngor, drwy'r arolygiad, a chyrraedd y cam olaf cyn iddynt bleidleisio yn ei erbyn. Nid oes a wnelo hyn â democratiaeth o gwbl, mae a wnelo â chamddealltwriaeth arweinyddiaeth y cyngor hwnnw ynghylch y camau y maent wedi'u cymryd a'r canlyniadau i'w system gynllunio, sef nad oes cynllun ganddynt i fesur unrhyw gais cynllunio yn ei erbyn.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o hygyrchedd ynni adnewyddadwy i fusnesau? OQ60163
Mae ein targedau ynni adnewyddadwy yn ein hymrwymo i gynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy i gefnogi sero net, ein cymunedau a’n busnesau yng Nghymru. Rydym yn cefnogi cynllunio strategol i alluogi seilwaith i ddod â’r ynni hwnnw i’r man lle mae ei angen ac yn cefnogi busnesau eu hunain i fuddsoddi mewn technolegau ynni adnewyddadwy.
Diolch, Weinidog. Weinidog, mae digwyddiadau byd-eang diweddar, yn gwbl briodol, wedi codi diogeledd ynni i frig yr agenda. Mae cynllun sero net Llywodraeth Cymru wedi llywio’r ffocws tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ac rwy'n croesawu'r camau a gymerwyd i gryfhau ein gallu. Fodd bynnag, fel y gwyddoch o fy llythyr diweddar atoch am fferm solar a chynllun gwifrenni preifat yn fy etholaeth, un sy’n bwriadu cyflenwi trydan i fusnesau lleol mawr, mae’r mathau hyn o brosiectau lleol y mae angen inni eu gweld yn datblygu yn wynebu rhwystrau gwirioneddol rhag cael cytundeb cysylltu i allforio i'r grid.
Mae’r cynllun lleol yn fy ardal i wedi cael gwybod na fydd cytundeb cysylltu ar gael tan 2029. Yn wir, rwyf wedi clywed efallai y bydd yn rhaid i rai aros cymaint â 10 mlynedd neu fwy. Yn amlwg felly, mae'r rhwystrau hyn yn gwbl groes i ddisgwyliadau'r Llywodraeth ynghylch lleihau allyriadau carbon. Weinidog, sut y rhagwelwch y gellir datrys y broblem hon, ac a wnewch chi gysylltu â’r Grid Cenedlaethol i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau y gall prosiectau adnewyddadwy lleol symud ymlaen?
Diolch, Peter. Rydym yn gwneud llawer o waith gyda'r Grid Cenedlaethol, ac rwyf wrth fy modd, ar ôl blynyddoedd lawer o wrthsefyll y syniad o gael cynllun rhwydwaith cyfannol, fod y Llywodraeth Geidwadol o'r diwedd, ac ar y funud olaf, wedi sylweddoli bod grid wedi'i gynllunio yn rhywbeth sy'n angenrheidiol, ac nid yn un sy'n ymateb i geisiadau i gysylltu yn unig, sef yr hyn a oedd gennym hyd yma. Gwnaethom gyhoeddi adroddiad 'Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru' ym mis Gorffennaf eleni, ac roedd yr adroddiad hwnnw'n nodi'n glir iawn fod angen y seilwaith newydd hwn arnom a bod angen inni ailwifro'r wlad ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a bod angen i'r seilwaith hefyd fod wedi'i lunio'n dda a'i leoli'n sensitif.
Rydym yn defnyddio'r dystiolaeth i lywio rhaglenni cyflawni a chynlluniau rhwydweithiau trydan rhanbarthol a chenedlaethol, ac rwy'n obeithiol iawn, er nad yw wedi'i gadarnhau eto, y gallwn fod yn arddangoswr y dull hwnnw ar gyfer y DU. Cefais gyfarfod da iawn gydag Ofgem yn ddiweddar iawn ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai Cymru wneud hynny, ac rwy’n mawr obeithio y bydd hynny’n digwydd. Yn y cyfamser wrth gwrs, mae angen llawer mwy o fuddsoddiad ymlaen llaw gan y grid mewn seilwaith er mwyn inni allu lleihau'r amseroedd cysylltu chwerthinllyd o hir hyn. Rwy'n cydymdeimlo â’r Aelod am yr amser y mae’n ei gymryd i gysylltu â’r grid, ond mae arnaf ofn fod hyn yn ganlyniad i danfuddsoddi difrifol iawn gan Lywodraeth y DU yn y math hwn o seilwaith yn fwy cyffredinol.
4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynnydd o ran gosod cladin sy'n gwrthsefyll tân ar adeiladau yng Nghymru? OQ60135
Yng Nghymru, rydym yn parhau i ddatblygu ein rhaglen gyweirio. Mae’r rhaglen yn mabwysiadu dull adeilad cyfan mewn perthynas â diogelwch tân, nid un sy’n targedu cladin yn unig.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, a minnau'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, yma ym Mae Caerdydd, mae’n debyg mai gennym ni y mae’r trwch mwyaf o adeiladau y mae mater cladin tân yn effeithio arnynt. A allwch chi roi syniad o faint o adeiladau y mae’r gwaith cyweirio wedi dechrau arnynt y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi? A pha waith sy'n mynd rhagddo i estyn allan at adeiladau, ac yn enwedig y lesddeiliaid yn yr adeiladau hynny nad ydynt wedi gweld unrhyw gynnydd eto ar adfer cymhwystra'r adeiladau hynny ar gyfer credyd diogelwch tân?
Iawn, gallaf wneud hynny'n hawdd. Mae deg o ddatblygwyr tai preswyl mwyaf y DU wedi arwyddo cytundebau gyda Llywodraeth Cymru yn eu hymrwymo i wneud y gwaith diogelwch tân yng Nghymru. Mae gwaith wedi dechrau neu bydd gwaith wedi dechrau ar 28 o'r adeiladau hynny erbyn diwedd eleni, gydag amcangyfrif o ddyddiadau dechrau wedi'u rhoi ar gyfer 36 o adeiladau. Mae gwaith wedi'i gwblhau ar un adeilad, ac mae gwaith rhagarweiniol ac ymchwiliadau'n parhau ar y rhai sy'n weddill. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi’r cynllun peilot adeiladau amddifad. Mae hynny ar gyfer adeiladau lle mae'r datblygwr naill ai wedi rhoi'r gorau i fasnachu, yn anhysbys, neu lle cafodd yr adeilad ei ddatblygu dros 30 mlynedd yn ôl. Mae amserlenni gwaith yn cael eu datblygu cyn y gwaith cyweirio, a fydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym 30 o adeiladau wedi'u nodi yng ngharfan gyntaf yr adeiladau hynny. Ac yn y sector cymdeithasol, maent wedi derbyn cyllid i gyweirio'r holl broblemau diogelwch tân, gan gynnwys cladin ar adeiladau dros 11m o uchder. Hyd yn hyn, rydym wedi gwario £94 miliwn i wneud gwaith ar dros 100 o adeiladau yn y sector cymdeithasol. Yna, yn olaf, cyfarfûm â rhanddeiliaid yn Celestia, y gwn fod Andrew R.T. Davies wedi'i godi nifer o weithiau, yn ddiweddar iawn yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Cawsom gyfarfod cynhyrchiol iawn ac rydym yn datblygu nifer o bethau o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw.
5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer gwelyau glaswellt y môr? OQ60141
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adfer a gwella cynefinoedd morwellt, gan gydnabod eu pwysigrwydd i fioamrywiaeth, atafaelu carbon ac atal llifogydd. Mae cyfleoedd ariannu i gynyddu gwelyau morwellt eisoes ar gael drwy'r gronfa rhwydweithiau natur a'r cynlluniau grant rheoli ardaloedd morol gwarchodedig.
Diolch. Rydym yn gwybod, onid ydym, Weinidog, fod dros 30 gwaith yn fwy o anifeiliaid yn byw mewn morwellt o'i gymharu â chynefinoedd tywodlyd cyfagos. Er nad yw morwellt ond yn 0.1 y cant o wely'r môr, mae'n gyfrifol am hyd at 18 y cant o'r carbon organig sydd wedi'i gladdu yn y cefnfor. Fel y gwyddoch hefyd, rwy'n credu y gallwn gymryd camau breision tuag at gyflawni sero net drwy wneud yn fawr o forwellt a charbon glas. Mae rhwydwaith morwellt Cymru yn rhwydwaith o sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb a rôl yn y gwaith o fonitro morwellt, yr wyddoniaeth, diogelwch a gwaith adfer, neu unrhyw rwymedigaeth statudol yng Nghymru. Maent yn gwneud gwaith mor arloesol o dyfu morwellt a sicrhau ei fod yn ddychwelyd i ardaloedd peilot. Mae'n cynnwys Llywodraeth Cymru; Cyfoeth Naturiol Cymru; Ystad y Goron; Prifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor; dwy ardal cadwraeth arbennig arfordirol; yr Ymddiriedolaethau Natur; Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd; porthladdoedd; ac eraill. Rwyf am enwi Frankie Hobro o Sw Môr Môn, sy'n gweithio'n galed iawn ar yr adferiad morwellt ar sail wirfoddol. Felly, ar hyn o bryd, mae Prosiect Morwellt yn cadeirio'r grŵp, ond mae angen mwy o gyllid parhaus arnynt i gadw'r momentwm hwn i fynd. A wnewch chi ymrwymo? Rwy'n gwybod bod cyllid yn dynn, ond os ydym o ddifrif am gadwraeth morol a dyfodol di-garbon, dylem fod o ddifrif ynglŷn â darparu cymorth ariannol i rwydwaith morwellt Cymru, ac unrhyw un arall yn wir sy'n gweithio i adfer y glaswellt hanfodol hwn.
Ie. Diolch yn fawr, Janet. Rwy'n cydnabod yn llwyr fod gan gynefinoedd fanteision pwysig fel gwella bioamrywiaeth drwy gynyddu cyfleoedd bwydo a chynefinoedd meithrin, sy'n hanfodol i'n hymateb i'r hinsawdd a'r argyfwng natur yma yng Nghymru. Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â gwelyau morwellt ym Mhorth Dinllaen gyda Prosiect Morwellt, i weld a chynorthwyo gyda'r gwaith o gasglu hadau morwellt. Cyfarfûm â'r bobl ifanc fwyaf hyfryd yno, a oedd yn casglu'r hadau—1 filiwn o hadau morwellt i'w plannu o amgylch arfordir Cymru. Fe wnaethant ofyn cyfres o gwestiynau ac roeddent yn frwdfrydig iawn am y prosiect. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio opsiynau i nodi'r mecanwaith mwyaf priodol i gyflawni'r cynllun wedi'i dargedu ar gyfer adfer cynefinoedd morol, yn benodol ar gyfer morwellt a morfa heli, ac rydym yn gwneud hynny ar y cyd â Prosiect Morwellt, sy'n gwbl ganolog i hyn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud, ac y mae'r gwirfoddolwyr sy'n eu cefnogi yn ei wneud, i'n helpu ar hyd a lled Cymru.
Mae'r gronfa rhwydweithiau natur yn weithredol nawr, a hoffwn annog unrhyw sefydliad sydd â diddordeb i ystyried gwneud cais. Mae'r cyllid ar gael ar gyfer cyflawni prosiectau ac adeiladu capasiti, i gefnogi datblygiad nifer o brosiectau yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi sicrhau bod cyfleoedd ychwanegol ar gael, fel y dywedais eisoes, drwy gynllun grant rheoli ardaloedd morol gwarchodedig, a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â gwaith i nodi addasrwydd cynefinoedd ar gyfer nifer o wahanol fathau o gynefinoedd yn amgylchedd morol Cymru, gan gynnwys morwellt, i'n helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â lle y dylem dargedu gwaith adfer morwellt yng Nghymru, ac rydym yn gwneud hynny ar y cyd â Prosiect Morwellt. Rydym hefyd wedi cael rhestr o argymhellion allweddol gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd ar gyfer morwellt, ac mae fy swyddogion yn cyfarfod â nhw i drafod sut y gallwn fwrw ymlaen â syniadau. Felly, rwy'n credu y bydd gennym stori dda iawn i'w hadrodd am adfer morwellt, Janet, ac edrychaf ymlaen at fynd i snorclo gyda chi i edrych ar yr hadau'n tyfu rhyw ben yn fuan.
Bydd pawb ohonom eisiau gweld y lluniau. [Chwerthin.]
Cwestiwn 6. Mike Hedges.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer yr unedau tai cydweithredol? OQ60138
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi datblygiad tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru ac i alluogi pobl i gymryd mwy o reolaeth dros eu tai. Gan adeiladu ar gymorth hanesyddol, rydym wedi cynyddu cyllid drwy Cwmpas i £180,000 o gyllid refeniw am dair blynedd, felly 2022-23 i 2024-25, i'r dyfodol.
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae tai cydweithredol yn fath poblogaidd iawn o ddeiliadaeth ar draws Ewrop a gogledd America. Roedd John Lennon yn byw yn Adeilad Dakota, a oedd yn ddatblygiad tai cydweithredol. Mae'n llawer llai poblogaidd yng Nghymru na gweddill Prydain. Nid wyf yn credu y gallwn anwybyddu math o ddeiliadaeth sy'n boblogaidd ledled y byd pan fo gennym angen am dai. Mae gan bob un ohonynt gefnogaeth eu Llywodraeth, ac yn hollbwysig, cawsant gefnogaeth eu Llywodraeth o'r dechrau. Pa gymorth newydd y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i dai cydweithredol? Ac a wnaiff y Llywodraeth gefnogi model Efrog Newydd o droi adeiladau mawr, gwag yn dai cydweithredol?
Diolch yn fawr, Mike. Rwy'n rhannu eich brwdfrydedd ynglŷn â thai cydweithredol. Nid yw Llywodraeth Cymru erioed wedi rhoi'r gorau i gefnogi tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned, ac rydym wedi bod yn darparu cyllid i Cwmpas i gefnogi tai cydweithredol ers 2012. Ac yn 2019, fe wnaethom newid ein dull gweithredu i alluogi Cwmpas i ddarparu rhaglen ehangach o waith, gan gefnogi pob math o dai dan arweiniad y gymuned, ac mae hynny'n caniatáu i gymunedau lleol benderfynu ar y math gorau o dai dan arweiniad y gymuned ar gyfer eu hardal, a gallai hynny'n hawdd gynnwys addasu adeiladau mawr. Ers y newid yn 2019, mae rhaglen Cymunedau'n Creu Cartrefi Cwmpas wedi'i hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Nationwide, ac mae'n cynnig cefnogaeth i'r holl dai dan arweiniad y gymuned, gyda ffocws ar ymgorffori egwyddorion cydweithredol. Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn galonogol gweld y cais am gyllid gan Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gŵyr i'r gronfa datblygu tir ac adeiladau, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae'r prosiect yn datblygu. Bydd y prosiect, gobeithio, yn dangos prawf o gysyniad ar gyfer defnyddio'r gronfa datblygu tir ac adeiladau fel cyllid cyfalaf ar gyfer prosiect dan arweiniad y gymuned, ac felly'n darparu llwybr cyllido uniongyrchol ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned, yn ogystal â'r holl lwybrau presennol drwy ein grant tai cymdeithasol gyda phartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Ac mae hynny'n agos iawn at eich etholaeth, Mike, yn etholaeth ein cyd-Aelod Rebecca Evans, ac rwy'n siŵr y byddent yn croesawu ymweliad gennych chi.
Rydym i gyd yn gwybod beth yw'r broblem go iawn gyda'r cyflenwad tai yng Nghymru—y diffyg cyflenwad, yn bennaf. Felly, mae'n drueni fod cynghorau yng Ngorllewin De Cymru yn parhau i fethu cyrraedd targedau tai yn gyson. Yn ystod y chwarter rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, o dan gyngor Abertawe, 57 yn unig o anheddau newydd a gwblhawyd. Ond mae gwaeth i ddod. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y ffigur oedd 23, a dim ond 15 yng Nghastell-nedd Porth Talbot. Sut yn y byd y gellir ymddiried yn Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol i gefnogi tai cymdeithasol a thai cydweithredol pan na allant hyd yn oed gael y pethau sylfaenol yn iawn? Mae'r rheol cyflenwad a galw yr un mor berthnasol i dai. Mae angen atebion adeiladol arnom i ddiwygio'r system gynllunio ac adeiladu cartrefi carbon isel hardd y dyfodol. Mae tâp coch a'r fiwrocratiaeth gymhleth gyfredol yn golygu bod gan y chwaraewyr mawr fantais, gan gau cwmnïau lleol llai o faint allan, pan ddylai fod ganddynt ran enfawr i'w chwarae yn yr ateb. Felly, Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ei chyflawniad mewn perthynas â thai, gweithio gyda chynghorau i ddiwygio'r system, a bwrw ati i adeiladu'r tai y bydd cenedlaethau'r dyfodol eu hangen?
Wel, Lywydd, unwaith eto rwy'n gresynu at y ffaith nad yw'r Torïaid ond eisiau lladd ar bobl sy'n gwneud eu gorau glas mewn amgylchiadau anodd iawn, a achoswyd bron yn gyfan gwbl gan y Blaid Geidwadol ar lefel y DU, ar ôl iddynt ei gwneud bron iawn yn amhosibl i gael cyllid ar gyfer cartrefi yn unrhyw le. Gallai Llywodraeth San Steffan ein cynorthwyo hefyd drwy ein helpu i gael ein treth ar dir gwag drwodd, treth y maent wedi'i blocio'n gyson, a fyddai'n ein helpu i ddatgloi'r tir sy'n hanfodol er mwyn adeiladu'r math hwn o dai cymunedol. Efallai nad yw'r Aelod Ceidwadol wedi bod yn y blaid yn ddigon hir i gofio mai ei Lywodraeth ef a ataliodd gynghorau rhag adeiladu tai am bron i 45 mlynedd, a dim ond yn ddiweddar iawn y gwnaethant ryddhau'r capiau ar y cyfrif refeniw tai mewn awdurdodau lleol a fyddai'n caniatáu iddynt adeiladu'r tai yn y lle cyntaf. Rwy'n credu bod ein cynghorau yn gwneud gwaith gwych, ochr yn ochr â'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac yn wir, y sector cydweithredol a chymunedol, i fwrw ati i adeiladu tai, ac nid wyf angen unrhyw wersi ganddo ef ar sut i adeiladu cartrefi carbon isel, gweddus a sut i gynllunio ar eu cyfer yn unol â hynny.
7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ymhellach adeiladu tai cymdeithasol? OQ60150
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu ein 20,000 o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn ystod tymor y Senedd hon, cynllun sydd wedi'i ategu gan y lefelau uchaf erioed o gyllid—bron i £1.2 biliwn dros y pedair blynedd gyntaf o dymor y Senedd hon. Yn sir y Fflint, gwariwyd £12.6 miliwn yn 2022-23 ac mae dyraniad o £13.3 miliwn ar gyfer 2023-24 yn darparu'r cartrefi mawr eu hangen hynny.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'i hymrwymiad tuag at hyrwyddo tai cymdeithasol? Tai cyngor yn bennaf oedd i'w cael yn yr ardal y cefais fy magu ynddi, ac os edrychaf yn ôl nawr, rwy'n deall y gwahaniaeth roedd tai diogel a fforddiadwy o ansawdd da yn ei wneud i ddewisiadau bywyd a chyfleoedd bywyd preswylwyr. Weinidog, roeddwn yn falch o weld y newyddion ddoe ein bod unwaith eto yn gwella safonau tai, ac rwy'n eich llongyfarch ar y penderfyniad beiddgar hwn. Rhaid inni fod yn uchelgeisiol ynglŷn ag adeiladu mwy o dai cymdeithasol; mae gormod o bobl ar restrau aros mewn tai amhriodol, ansicr. Mae angen inni ddarparu'r sicrwydd y mae tai cymdeithasol yn ei gynnig i'r teuluoedd hynny. Weinidog, gall y system gynllunio fod yn anghyson mewn perthynas â cheisiadau tai cymdeithasol. Beth y gallwch chi ei wneud i sicrhau nad yw ceisiadau tai cymdeithasol yn cael eu trin yn llym ac yn cael eu gwrthod am resymau nad oes iddynt unrhyw rinwedd cynllunio gwirioneddol?
Rydym wedi bod yn glir iawn am yr effaith gadarnhaol y gall cartrefi fforddiadwy o ansawdd da ei chael wrth ddiwallu anghenion unigolion nawr ac yn y dyfodol. Gwyddom fod buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd ac yn helpu i sbarduno twf economaidd—dyna pam ein bod yn ceisio cynyddu'r ddarpariaeth o 20,000, ac rydym wedi nodi'r lefelau uchaf erioed o gyllid i gyflawni hyn, fel rwyf newydd ei ddweud, gan ddyrannu £1.2 biliwn dros y pedair blynedd gyntaf o dymor y Senedd hon. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd darparu cartrefi cymdeithasol drwy'r system gynllunio, ac mae ein polisi cynllunio cenedlaethol, 'Polisi Cynllunio Cymru', yn glir iawn ynglŷn â pholisïau Llywodraeth Cymru. Mae'r angen am dai cymdeithasol yn cael ei fynegi'n glir yn 'Dyfodol Cymru', ein cynllun cenedlaethol. Rydym yn disgwyl i bob awdurdod lleol baratoi cynllun datblygu lleol sy'n cynnwys polisïau ar ddarparu tai cymdeithasol, ac rydym yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud yn unol â'r cynlluniau hynny. Mae angen cymuned am dai cymdeithasol yn un o ystyriaethau pwysicaf y cynllun datblygu lleol. Rydym yn parhau i gefnogi a herio awdurdodau lleol wrth iddynt baratoi eu cynlluniau datblygu lleol, ac rydym yn parhau i sicrhau bod materion tai cymdeithasol yn cael sylw digonol ynddynt.
Weinidog, nid yn unig y mae'n rhaid inni annog adeiladu tai cymdeithasol fel mater o frys, mae'n rhaid inni sicrhau hefyd fod y tai a ddarperir yn addas ar gyfer y dyfodol. Weinidog, er fy mod yn nodi cyflwyno safon ansawdd tai newydd Cymru, rwy'n cwestiynu a yw'n mynd yn ddigon pell. Pa ystyriaeth rydych chi wedi'i rhoi i sicrhau bod yr holl dai yn y dyfodol yn cael eu hadeiladu i safon tŷ ynni goddefol er mwyn sicrhau biliau ynni isel, neu ddim biliau ynni o gwbl, yn ogystal â sicrhau bod modd addasu pob cartref yn hawdd i ddiwallu anghenion symudedd tenantiaid yn y dyfodol?
Diolch. Rydym eisoes yn mynnu bod pob tŷ cymdeithasol yn cael ei adeiladu i fodloni safonau carbon isel. Ceir tair safon wahanol, mae tŷ ynni goddefol yn un ohonynt, ond mae yna ôl traed carbon isel ar gyfer yr holl safonau a dderbyniwn ar gyfer adeiladau newydd. Rydym hefyd wedi gwneud hynny yn y sector preifat drwy newid rheoliadau adeiladu. Er nad dyna yw pwnc y cwestiwn, rydym yn gwneud hynny ar draws pob deiliadaeth. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod y dylid adeiladu tai sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud hynny gydag adeiladau newydd, ac yn wir, fel y clywsoch ddoe ddiwethaf yn fy natganiad, wrth godi tai sy'n bodoli'n barod i'r un safon.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ym mhwll glo Ffos-y-frân ym Merthyr? OQ60148
Gwnaf. Yn dilyn penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gyflwyno hysbysiad gorfodi i weithredwr y safle, mae'r cwmni wedi darparu ymrwymiad unochrog i'r cyngor y bydd yn atal gweithrediadau ar y safle erbyn 30 Tachwedd.
Diolch yn fawr, Weinidog. Ers dros flwyddyn bellach, mae'r gweithredwyr ym mhwll glo Ffos-y-frân wedi bod yn echdynnu glo yn anghyfreithlon, yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol ac yn gwbl groes i gyfreithiau cynllunio. Yn y gorffennol, rwyf wedi crybwyll yn y Siambr hon, oherwydd cyn lleied o arian—tua £15 miliwn—sydd wedi'i neilltuo gan y cwmni mwyngloddio i adfer y tir, rydym yn wynebu'r posibilrwydd real iawn y bydd diffyg o dros £100 miliwn ar gyfer glanhau'r safle hwnnw pan fyddant yn gadael yn y pen draw. Nawr, rwy'n sylweddoli bod yna achos cyfreithiol ar y gweill, ond hoffwn i'r Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ymrwymo i ymchwiliad cyhoeddus cyflym ar ôl yr achos hwnnw i edrych ar sut y caniatawyd i'r cwmni mwyngloddio osod cyn lleied o arian o'r neilltu ar gyfer gwaith adfer. Mae'r ffaith bod cyn lleied o arian wedi'i neilltuo wedi meithrin y tebygolrwydd y bydd y safle yn cael ei adael i fynd, gyda'r costau ar gyfer gwaith adfer yn dod o'r pwrs cyhoeddus. Felly, a allech chi roi sicrwydd i bobl Merthyr Tudful, os gwelwch yn dda, y bydd y cynllun adfer gwreiddiol a addawyd iddynt yn cael ei gwblhau, yn hytrach na fersiwn wedi'i chwtogi na fydd ond yn gwneud y safle'n ddiogel ac yn sicrhau nad yw'n llenwi â dŵr, oherwydd mae ein Cymoedd yn haeddu gwell na hynny? Ac a wnewch chi ymrwymo, Weinidog, i ymchwiliad cyhoeddus cyflym i ganfod sut y caniatawyd i'r sefyllfa hon ddatblygu yn y lle cyntaf?
Mae arnaf ofn fy mod yn gyfyngedig iawn, Delyth, o ran yr hyn y gallaf ac na allaf ei ddweud, oherwydd er gwaethaf yr ymrwymiad unochrog a grybwyllais, mae yna apêl fyw o hyd yn erbyn yr hysbysiad gorfodi, ac mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wrando ar yr apêl honno. Felly, rwy'n ystyried hynny ar hyn o bryd. Gallaf ddweud ein bod yn cefnogi'r cyngor i gydweithio ag CNC a'r Awdurdod Glo i ystyried y trefniadau wrth gefn sydd ar waith ac i ystyried beth fyddai'n digwydd pe bai'r pwll yn cael ei adael i fynd. Fodd bynnag, cyfrifoldeb gweithredwr y gwaith glo, sy'n dal i fod yno, yw'r gwaith adfer, ac mae'n ddrwg iawn gennyf, ond rwy'n gyfyngedig iawn o ran beth arall y gallaf ei ddweud.
9. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i adfer a gwerthu'r 22,000 a mwy o gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru i leddfu'r argyfwng tai? OQ60151
Rydym yn darparu ystod o fesurau a phecynnau cyllido i leihau nifer y cartrefi gwag hirdymor yng Nghymru, ac wrth wneud hynny, rydym yn cynyddu'r cyflenwad o gartrefi ar draws pob deiliadaeth.
Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o ddarllen y Papur Gwyn ar ddigartrefedd fel y gwyddoch, ond er bod hwnnw'n cael ei weithredu'n araf, mae pobl yn dal i'w chael hi'n anodd dod o hyd i lety, fel y gwyddoch yn iawn, ac yn yr achosion gwaethaf, yn marw ar y strydoedd. Mae Caerdydd wedi gweld cynnydd o 120 y cant yn y niferoedd sy'n cysgu allan. Mae'n gymaint o drueni, felly, fod 3,288 o gartrefi gwag yng Nghaerdydd yn unig, yn ôl data'r dreth gyngor eleni, gyda 1,897 o'r rheini wedi'u heithrio'n llwyr rhag treth gyngor. A wnaiff y Gweinidog ymchwilio i ailddefnyddio'r hen eiddo hyn fel tai, fel dewis arall gwyrdd yn lle adeiladu rhai newydd? Diolch yn fawr.
Wel, ie, yn hollol. Rydym yn cytuno bod cartrefi gwag yn bla ac yn gallu bod yn niwsans mewn cymunedau. Maent yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn achosi problemau iechyd amgylcheddol, ac yn cyfrannu at ddirywiad cyffredinol yn y cymdogaethau. Ond fel rydych yn ei ddweud yn gywir, Rhys, maent yn adnoddau gwastraffus, ac mae hynny'n arbennig o rwystredig, o ystyried y cyflenwad tai presennol. Rydym wedi rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi premiymau'r dreth gyngor o hyd at 300 y cant ar anheddau gwag hirdymor, yn ogystal ag ar ail gartrefi, ac rydym wedi buddsoddi £50 miliwn dros dair blynedd i ddod â 2,000 eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd, i gyflymu ein gwaith i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ac ategu ein cynlluniau presennol.
Mae hynny'n cynnwys bron i £43 miliwn o gyllid ailgylchadwy a roddwyd gennym i awdurdodau lleol i ddarparu benthyciadau eiddo di-log i landlordiaid a pherchnogion tai ar gyfer gwella cartrefi neu adnewyddu eiddo gwag i'w defnyddio unwaith eto. Ac mae hefyd yn cynnwys troi eiddo masnachol—eiddo masnachol gwag—yn dai neu fflatiau, gyda landlordiaid yn gallu cynyddu benthyciadau o hyd at £35,000 yr uned neu £250,000 fesul cais. Mae'r cynllun yn cael ei ddefnyddio i greu oddeutu 1,800 uned drwy ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ledled Cymru, ac mae wedi cefnogi gwelliannau i 1,600 o gartrefi eraill a oedd mewn perygl o gael eu gadael yn wag, oherwydd eu bod mewn cyflwr mor wael. Felly, mae cyfanswm o 3,400 uned wedi dod yn ôl i ddefnydd o dan y cynllun hyd yma. Mae gennym hefyd 330 o unedau preswyl canol y dref yn cael eu defnyddio unwaith eto—felly, y rhai uwchben y siopau sy'n aml yn wag—ac rydym yn dod â'r rheini yn ôl i ddefnydd drwy ein cynllun benthyca Trawsnewid Trefi. Euthum i Gasnewydd yn ddiweddar iawn a chael golwg ar y cynllun ardderchog o amgylch marchnad Casnewydd sydd wedi dod â rhai o'r tai hynny yn ôl i ddefnydd.
Fy unig sylw ar y niferoedd a ddyfynnwyd gennych yw ei bod yn eithaf anodd gwahaniaethu rhwng tai sydd ar werth a thai sy'n wag yn hirdymor o'r ffigurau hynny. Felly, bydd rhai o'r eithriadau treth gyngor, er enghraifft, yn bodoli oherwydd bod y tŷ ar y farchnad. Felly, rydym yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i wella'r data ar beth sy'n gartref sy'n wag yn hirdymor mewn gwirionedd—neu gartref sydd wedi ei adael i fynd, yn enwedig—neu un sydd ar werth ar y farchnad ac a allai fod wedi bod ar y farchnad ers peth amser.
Cwestiwn 10, yn olaf, Huw Irranca-Davies.
10. A wnaiff y Gweinidog ystyried cynigion newydd ac amgen yn unol â meini prawf yr adolygiad ffyrdd, yn dilyn y penderfyniad i atal cynnydd ar brosiect ffordd osgoi gwreiddiol Llanharan? OQ60137
Diolch. Ie, rwyf wedi dyfarnu £100,000 o'r gronfa drafnidiaeth leol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ailedrych ar yr achos busnes dros ffordd osgoi Llanharan, yn unol â'n hymateb i argymhellion yr adolygiad ffyrdd, a byddaf yn ystyried canlyniad y gwaith hwn.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog a'i swyddogion ac eraill a ymunodd â mi ac Andrew Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf, yn gynharach eleni yng ngoleuni'r penderfyniad gwreiddiol i atal yr adolygiad ffyrdd a'r effaith ar ffordd osgoi wreiddiol Llanharan, ac i edrych ar ffyrdd amgen ymlaen? A gallai'r ffyrdd amgen hynny ymlaen gynnwys mesurau blaenoriaeth bysiau, gallai gynnwys gwella'r cynigion presennol ynghylch teithio llesol, gallai gynnwys gwella, drwy drafod gyda phartneriaid lleol ar lawr gwlad, nid yn unig y cyfleusterau parcio a theithio yn yr orsaf drenau ond cyfleusterau beicio a theithio hefyd. Ond rydym angen pwynt i mewn ac allan i'r datblygiad hwnnw yn Llanilid er mwyn cydnabod ei botensial mewn gwirionedd, a gwireddu ei botensial fel datblygiad seilwaith arwyddocaol. Mae'n fwy na thai; mae yna ysgol newydd yno, a phethau eraill sy'n ddibynnol ar hyn. Felly, buaswn yn croesawu cyfle arall, gydag Andrew Morgan a chynghorwyr lleol, i drafod hyn, a gweld a allwn roi rhywbeth ar waith sy'n cyd-fynd â meini prawf yr adolygiad ffyrdd, sy'n lleihau'r galw, tagfeydd a llygredd aer, ond sy'n darparu ffordd gydlynol o ddyfeisio opsiynau teithio priodol i bawb yn y cymunedau hynny.
Diolch, ac mae'r Aelod yn gwneud achos da i atal y celwydd ein bod wedi gwahardd ffyrdd newydd, oherwydd yn amlwg nid dyna yw'r polisi ac nid dyna sy'n digwydd o'n profion adeiladu ffyrdd newydd. Ac yn achos y cynllun yn ei etholaeth, rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol—ac mae wedi sôn ein bod wedi cael cyfarfod adeiladol iawn—a bellach mae yna her i ni i gyd chwilio am ffyrdd mwy creadigol o ymdrin â thagfeydd a phroblemau trafnidiaeth gan hepgor y dull diofyn a welsom gymaint o weithiau yn y gorffennol, sef adeiladu ffordd fawr, sydd wedyn yn ail-lenwi â thraffig yn gyflym ac yn ychwanegu at ein hallyriadau carbon. Felly, mae yna gyfle nawr i Trafnidiaeth Cymru weithio'n greadigol gyda'r awdurdod lleol a'r timau rhanbarthol i edrych ar yr ystod o wahanol ddulliau teithio, bysiau, teithio llesol, rhannu ceir, yn ogystal â darparu ffordd fynediad, fel y soniodd yr Aelod. Ac rwy'n awyddus iawn i barhau sgwrs gydag ef i'n helpu i ddod o hyd i ffordd drwy'r her hon.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd.
Y cwestiynau nesaf fydd y cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg. Y cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y toriad o £75 miliwn i gyllideb ei adran ar dargedau addysgol y Llywodraeth a'i thargedau o ran y Gymraeg? OQ60152
Rwyf wedi diogelu gwasanaethau rheng flaen mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Mae gostyngiadau refeniw wedi cael eu nodi drwy adolygu cyllidebau seiliedig ar alw a chyllid heb ei ymrwymo ar draws fy mhortffolio. Er mwyn cyfyngu ar yr effaith ar wasanaethau, rwyf wedi penderfynu gostwng ar wariant drwy ailflaenoriaethu neu ohirio gweithgarwch, yn hytrach na thorri rhaglenni neu eu dwyn i ben.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Mae'r toriadau dwfn i'r gyllideb yn dangos y broblem fawr o ddiffyg rheolaeth a'r strwythur sydd gyda'r lle hwn dros y gyllideb. Rŷm ni'n orddibynnol ar benderfyniadau ar waelod yr M4, ond mater arall yw hynny.
Mae sawl adran yn y lle hwn wedi dioddef, ond mae'ch adran chi wedi cael ei tharo yn arbennig o wael. O gymharu â'ch £75 miliwn chi, mae toriadau'r adran economi yn £28 miliwn, llywodraeth leol yn £29 miliwn, ac amaeth yn £17 miliwn. Ydy prosiectau a dyheadau fel y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 o hyd yn gynaliadwy yn wyneb y fath doriadau o San Steffan? Diolch yn fawr.
Rwy'n diolch i'r Aelod am gydnabod y cyd-destun o ran y pwysau ar ein gwariant ni a'r rhesymau am hynny, ac mi fyddwn i'n cytuno â'i ddadansoddiad e o'r rhesymau. O ran y toriadau, mae'r ffigur o fy adran i, wrth gwrs, yn uwch mewn termau absoliwt oherwydd bod y gyllideb yn llawer uwch mewn termau absoliwt hefyd, ond fel canran mae e ychydig yn llai na rhai adrannau eraill. Ac roedd y Cabinet yn hapus i gytuno bod approach gwahanol yn hynny o beth.
Mae'r pwyslais rwyf wedi ceisio ei ddwyn ar y broses annymunol tu hwnt hon yn un lle roeddwn i'n edrych ar lle roedd tanwariant, yn hytrach na mynd i wneud toriadau penodol i'r math o gynlluniau roedd e'n sôn amdanyn nhw. Yn sgil hynny, rwyf yn ffyddiog bod y nod, fel roedd e'n sôn, o filiwn o siaradwyr, fod y cynlluniau sydd gennym ni ar waith sy'n cyfrannu tuag at y nod hynny ddim yn mynd i gael eu heffeithio yn andwyol gan y datganiadau rwyf wedi gorfod eu gwneud y flwyddyn hon.
Diolch, Weinidog, am roi rhywfaint o fewnwelediad i effaith y toriadau addysg. Fodd bynnag, mewn perthynas â'r targed o gyflwyno prydau ysgol am ddim, mae gennyf rai amheuon o hyd am y toriadau penodol o ganlyniad i'r gostyngiad yn y nifer sy'n eu derbyn. Gwyddom fod llawer o gynghorau yn rhagweld gorwariant sylweddol er mwyn gweithredu polisi'r prydau ysgol am ddim—gorwariant o £0.5 miliwn yn sir y Fflint, £0.5 miliwn yng Ngwynedd, rwy'n credu, a thua £300,000 yn sir Fynwy, i enwi rhai yn unig—gorwariant y gellir ei briodoli i gost gynyddol bwyd, y cynnydd yn y staff sydd eu hangen, a seilwaith parhaus. Mae cynghorau wedi dweud wrthyf yn bendant nad yw'r model cyllido yn gweithio, ac os na fydd hyn yn cael ei gydnabod rydych yn gofyn iddynt sybsideiddio costau cynyddol i ariannu eich targed prydau ysgol am ddim. Weinidog, a wnewch chi roi ymrwymiad llwyr heddiw i ariannu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r polisi prydau ysgol am ddim?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Gwn nad yw ef a'i blaid yn cefnogi'r polisi hwn o gwbl, ond er mwyn rhoi sicrwydd i'r rhai sy'n cefnogi'r polisi, mae'r cyllid sydd wedi'i ryddhau, sef £11.5 miliwn o gyllideb o £70 miliwn, yn ymwneud â'r ffaith bod hwn yn grant sy'n seiliedig ar alw i awdurdodau lleol, ac er gwaethaf y gostyngiad, mae digon o gyllideb o hyd ar gyfer y cynlluniau cyflwyno presennol, sy'n parhau i fod ar y trywydd cywir. Mae hyn yn rhannol yn adlewyrchu ein dull o gyflwyno'r cynllun yn raddol. Felly, rydym i bob pwrpas wedi adolygu'r galw a'r nifer sy'n manteisio ar y cynnig yn ystod yr wythnosau diwethaf i gadarnhau lefel y cyllid sydd ei angen nawr, a lefel y cyllid y gellid ei ddarparu yn ddiogel, os mynnwch. Felly, mae'r model cyllido sydd gennym wedi'i adeiladu i ddarparu ar gyfer cynnydd yn y galw, ac mae ein cynnig grant yn ein hymrwymo i dalu hawliadau gan awdurdodau lleol yn seiliedig ar nifer y bobl sy'n derbyn yn hytrach na'r nifer a ragwelwyd—felly, hyd yn oed lle mae'n uwch na'r ffigurau a ragwelwyd yn wreiddiol. Felly, rydym wedi caniatáu darpariaeth yn y gyllideb newydd i ddarparu ar gyfer twf o ran hynny, a bydd yr Aelod yn gwybod ein bod hefyd wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o gyfradd yr uned pryd bwyd, sy'n gysylltiedig â'r ymrwymiad, a byddwn yn cael canlyniad y dadansoddiad hwnnw yn ddiweddarach eleni, a byddaf yn gallu siarad â'n cydweithwyr llywodraeth leol am oblygiadau hynny ar yr adeg honno. Ond rwy'n cydnabod y pwynt y mae rhai arweinwyr awdurdodau lleol wedi'i wneud mewn perthynas â hynny.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canfyddiadau yn Adroddiad Blynyddol 2022-2023 Prif Arolygydd Estyn ? OQ60136
Mae Estyn yn darparu asesiad annibynnol blynyddol pwysig o ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y prif arolygydd wedi darparu cipolwg cynnar ar ganfyddiadau arolygu, fel y llynedd. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi amser i fyfyrio ar ganfyddiadau'r adroddiad cryno.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn amlwg, yn y canfyddiadau cynnar hyn mae'r prif arolygydd yn tynnu sylw pobl at y ffaith bod ei arolygwyr, mewn dros ddwy ran o dair o ysgolion uwchradd, wedi canfod problemau gyda gramadeg ac atalnodi. Yn eich ymateb i'r erthygl yn y wasg a oedd yn ymdrin â'r adroddiad interim, cafwyd cadarnhad fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau ar waith i wella'r ffigurau hyn mewn ysgolion uwchradd, ond nid oedd yn dweud beth oedd y gwelliannau hynny a beth oedd y mesurau hynny. A allwch chi egluro y prynhawn yma beth yn union rydych chi wedi'i wneud o ystyried bod cymaint o ysgolion uwchradd—fel y dywedais, dwy ran o dair—wedi dweud bod angen gwelliant dramatig mewn perthynas â gramadeg ac atalnodi? Rwy'n credu bod angen gweithredu ar frys yn y maes penodol hwn fel nad yw'r garfan o ddysgwyr yn colli'r cyfle i ragori yn yr ysgol.
Mae'r Aelod yn llygad ei le ynglŷn â pha mor bwysig yw llythrennedd yn gyffredinol, ac atalnodi a gramadeg fel rhan o hynny. Mae'n gwbl hanfodol fod ein pobl ifanc yn gallu gadael yr ysgol yn hyderus yn eu llythrennedd ac yn eu defnydd o atalnodi a gramadeg. Bydd yn cofio fy mod wedi gwneud datganiad i'r Senedd ychydig fisoedd yn ôl ar ein rhaglen llythrennedd yn ehangach, a byddaf yn darparu diweddariad pellach mewn perthynas â hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ond mae yna ymyriadau ar bob lefel o daith yr ysgol, gan gynnwys ôl-16. Bydd yn gwybod yn fwyaf arbennig am y fagloriaeth sgiliau uwch a gyflwynwyd ym mis Medi, a fydd yn cael ei dilyn gan y mwyafrif o ddysgwyr Safon Uwch 16 i 18 oed, er enghraifft, ac mae hynny'n cynnwys elfennau i gefnogi llythrennedd. Ond byddaf yn gallu dweud mwy am hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rwy'n gwegian rhwng syndod a sioc fod yna gred a rennir yn gyffredinol yn y Senedd ynghylch anffaeledigrwydd arolygwyr. Pa fecanwaith arolygu a rheoli ansawdd allanol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i sicrhau bod canlyniadau arolygu Estyn yn gyson ac yn deg?
Mae'r Aelod yn iawn: mae tegwch a chysondeb arolygiadau yn amlwg yn hanfodol i fagu hyder y cyhoedd yn system addysg Cymru. Mae'r Aelod yn amlwg yn gwybod bod Estyn yn gorff annibynnol, ond rwy'n ymwybodol fod gan Estyn ystod o brosesau ar waith i sicrhau cysondeb, sy'n cynnwys cyhoeddi cyfres o ddogfennau cyfarwyddyd arolygu sy'n nodi'r hyn y maent yn ei ddisgwyl, yr hyn y maent yn ei arolygu a sut y disgwyliant i arolygwyr wneud hynny, er mwyn darparu eglurder a thryloywder. Ond ceir rhaglen hyfforddi barhaus gadarn hefyd i sicrhau bod yr holl arolygwyr yn gweithredu'r fframweithiau'n gyson. Ceir diweddariadau blynyddol ar gyfer ei holl arolygwyr allanol. Fel y mae'n gwybod, addysgwyr cyfredol yw'r rhan fwyaf, sy'n cyflawni rôl arolygwyr cymheiriaid ar bob tîm. A cheir proses sicrhau ansawdd wedi'i harchwilio ar gyfer arolygiadau ac adroddiadau, sy'n cynnwys sicrwydd ansawdd ychwanegol a chymedroli lle bydd darparwr yn wynebu camau dilynol.
Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd. Weinidog, rwy’n siŵr eich bod chi, fel llawer ohonom ni, wedi mwynhau’r darllediadau gwych o Gwpan Rygbi’r Byd ar S4C. Mae gallu mwynhau camp rŷch chi yn ei charu yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth arbennig. Mae'n biti garw na wnaeth Cymru bara'n hirach yn y twrnamaint fel y byddwn i wedi gallu gweld rhagor ar S4C. Fodd bynnag, rôn i'n siomedig ynghylch y sylwadau a wnaed i Mike Phillips, o fy etholaeth i, sy'n gyn chwaraewr rhyngwladol, ynghylch safon ei Gymraeg gan, nawr, cyn uwch swyddog S4C. Bwrodd Mike Phillips y sylwadau o'r maes a pharhau i ddadansoddi'n ardderchog yn y Gymraeg. Fodd bynnag, gall sylwadau o'r fath fod yn ergyd i hyder y rheini nad yw eu Cymraeg o bosib yn Gymraeg coeth. Ac os ydym ni am wireddu targedau 2050, mae'n rhaid i’r fath agwedd ddod i ben. Pa gamau rydych chi yn eu cymryd i wneud yn siŵr nad yw agweddau o’r fath yn rhai cyffredin a bod siaradwyr Cymraeg o bob gallu yn cael eu hannog i ddefnyddio’r iaith heb gael eu barnu?
Gaf i ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw? Mae’n gyson gyda'r pwyslais y mae e yn ei roi, ac rwy’n ei gymeradwyo am hynny, i sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb a’n bod ni'n sicrhau croeso i bobl sydd yn ceisio dysgu a siarad y Gymraeg. Fel y mae e'n gwybod, rwy'n lladmerydd dros y syniad fod y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni, gan gynnwys y rhai sydd efallai yn gwybod ond ychydig o eiriau, ac eraill sy’n siaradwyr hyderus, ac mai'r peth pwysig yw sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r hyn o Gymraeg sydd gyda ni bob cyfle posib ac i bawb arall groesawu ymdrechion pobl i wneud hynny. Mae wedi bod yn gysur clywed mwy a mwy o Aelodau yn y Siambr hon yn defnyddio mwy a mwy o Gymraeg yn ein trafodaethau. Felly, mae angen sicrhau ein bod ni'n parhau i ddanfon y neges honno at siaradwyr ym mhob cyfathrebiad ac yn y ffordd rŷn i'n sôn am ac yn trafod yr iaith hefyd. Nid bod yn rhugl yn yr iaith yw'r peth pwysig, ond sicrhau ein bod ni'n defnyddio’r hyn sydd gyda ni a jest dysgu mwy a mwy o eiriau bob dydd os gallwn ni.
Diolch i ti, Weinidog, am yr ateb. Ar y pegwn arall wedyn, cawsom y sylw gan yr Athro Nigel Hunt o Brifysgol Wrecsam am arwyddion ffyrdd dwyieithog. Mae'r sylwadau hyn wedi eu beirniadu, yn gwbl briodol, ym mhob cwr, a deallaf nad yw'r athro bellach yn gweithio i’r brifysgol. Mae’r hyn a ddywedodd yn asesiad diog o’r sefyllfa ac yn arddangos anwybodaeth o statws yr iaith yng Nghymru. Fodd bynnag, ac yn anffodus, mae’r safbwyntiau hyn yn taro tant gyda nifer fach o bobl, yn aml y rheini sy’n byw mewn cymunedau sy’n agos at y ffin â Lloegr. Rwy'n anghytuno â nhw ac o'r farn bod yr iaith yn ein gwneud ni'n gryfach fel gwlad. Ond a yw'r Gweinidog yn credu mai diswyddo'r Athro Hunt oedd y cam cywir i'r brifysgol ei gymryd? A beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y rheini sy'n parhau i fod yn amheus ynghylch gwerth siarad Cymraeg i ymuno â phrosiect 'Cymraeg 2050'?
Mater i'r brifysgol yw'r camau penodol maen nhw wedi eu cymryd, ond, yn sicr, rwy'n anghytuno gyda sylwadau yr athro, fel y mae llawer iawn o bobl eraill wedi'i wneud. Ond beth fyddwn i'n ei ddweud yw, am bob person sy'n barod i chwilio am ffordd o feirniadu'r defnydd o'r Gymraeg, mae llawer mwy o bobl sy'n teimlo cynhesrwydd at yr iaith, a, pa un ai eu bod nhw'n siarad yr iaith ai peidio, yn dymuno clywed a siarad mwy a mwy ohoni. Felly, mae'n gyfle i ni ddathlu a'u croesawu nhw, ynghyd â hefyd sicrhau ein bod ni'n glir nad yw'r math yna o safbwynt yn dderbyniol.
Diolch i ti unwaith eto am yr ateb, Weinidog. Dros y dyddiau diwethaf, cyhoeddwyd bod yr ap iaith poblogaidd Duolingo yn rhoi'r gorau i sawl cwrs iaith, gan gynnwys y Gymraeg. Er na fydd y cwrs yn cael ei ddileu, mae'n golygu na fydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru, ac na fydd modd ychwanegu ato. Dywedodd Duolingo yn 2020 mai Cymraeg oedd yr iaith sy'n tyfu gyflymaf ar ei ap yn y Deyrnas Unedig, gyda dros 1.5 miliwn o bobl yn ei ddefnyddio i ddysgu Cymraeg. Mae'ch adran wedi bod mewn cysylltiad â'r cwmni. Gaf i ofyn pa gynigion y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud, ac oes unrhyw ymateb wedi dod i law gan reolwyr Duolingo?
Mae Duolingo yn un o'r ffyrdd y mae pobl yn ei defnyddio i ddod at y Gymraeg—un o'r amryw o ffyrdd, wrth gwrs—ac mae'n parhau i fod yn llwybr sydd yn atyniadol, am resymau y byddwn ni'n eu deall. Rwyf wedi ysgrifennu at Duolingo, yn gofyn iddyn nhw ailystyried y penderfyniad maen nhw wedi ei gymryd. Ond fel y gwnaeth yr Aelod ei ddweud, dyw'r Gymraeg ddim yn mynd i ffwrdd o'r platfform—bydd hi'n parhau i fod yna. Fel efallai y bydd e'n ei gofio, mae'r Gymraeg yn un o'r enghreifftiau prin—efallai yr unig enghraifft—lle nad gwirfoddolwyr sy'n creu'r cynnwys y tu hwnt i'r ap. Ers rhyw gyfnod nawr, mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu cynnwys yr ap yn y Gymraeg, yn adeiladu ar y gwaith gloyw a phwysig iawn y gwnaeth gwirfoddolwyr ei wneud cyn hynny. Felly, yn sgil hynny, fy nealltwriaeth i yw bod mwy o ddatblygiad cyflym wedi digwydd i'r cynnwys sydd ar yr ap yn y Gymraeg efallai nag mewn rhai ieithoedd eraill. Felly mae'n bosib y bydd yr effaith yn llai andwyol ar y Gymraeg nag ar rai ieithoedd eraill. Ond byddwn i yn hoffi gweld Duolingo yn newid eu penderfyniad, nid o leiaf am y ffaith bod gennym ni strwythur sydd wedi ei hariannu yma yng Nghymru sydd yn barod i allu parhau i ddatblygu cynnwys ar yr ap.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Weinidog, os caf i ddychwelyd at yr arbedion a ganfuwyd eleni, ac yn benodol o ran y gyllideb addysg gychwynnol i athrawon. Fel rydych chi'n ymwybodol, mae yna dri chynllun cymell ar gael i fyfyrwyr. Allwch chi amlinellu, os gwelwch yn dda, faint o arbedion a ganfuwyd, ac ym mha rai o'r tri chynllun cymell sydd ar gael?
Dyw'r ffigurau ddim o'm blaen i, ond byddwn i'n hapus i'w rhannu nhw â'r Aelod.
Diolch yn fawr iawn. Byddai hi'n fuddiol gwybod hynny, oherwydd yn amlwg mae dirfawr angen athrawon arnom ni—dyna pam mae'r cynlluniau hyn yn bodoli. Gan eich bod chi wedi canfod arbedion eleni, mi fyddai hi'n fuddiol gwybod pa un o'r tri, oherwydd yn amlwg rydym ni angen bod yn cael yr athrawon yn y meysydd hyn—mae yna bwrpas pam eich bod chi wedi rhoi cymaint o bwyslais ar hyn. Pam ydych chi'n meddwl bod y nifer sy'n manteisio ar y cymhellion hyn yn is na'r disgwyl, ac a ydych chi wedi asesu eto beth fydd goblygiadau hynny?
Wrth gwrs, mae rhyw berthynas rhwng darparu cymhellion a chynnydd mewn niferoedd—dyw e ddim yn gwbl glir, ond mae'r darlun cyffredinol yn dangos bod perthynas bositif rhwng y ddau. Byddwn i yn dweud mai dyma un o'r ffyrdd rydym ni'n annog pobl i ddod yn athrawon yn y Gymraeg, ac mewn pynciau eraill hefyd. Mae hi'n ffordd bwysig, a byddwn ni'n parhau'r cymhellion y flwyddyn nesaf, wrth gwrs, am y rhesymau hynny. Jest i ddweud, gwahaniaeth rhwng yr hyn roeddem ni'n ei ddarogan a fyddai'n digwydd a'r hyn a wnaeth ddigwydd ar lawr gwlad yw'r arbedion yn yr achos yma, felly dydym ni ddim wedi torri cyfle i unrhyw unigolyn i dderbyn y gefnogaeth hon. Ac mae'r hyn rydym ni'n ei ddarogan o flwyddyn i flwyddyn wrth gwrs yn symud—byddech chi'n disgwyl gweld hynny. Ond byddwn i'n hapus i rannu'r ffigurau penodol gyda'r Aelod.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) o wrthsemitiaeth i gael ei fabwysiadu gan y sector addysg bellach ac uwch yng Nghymru? OQ60147
Mater i brifysgolion a sefydliadau addysg bellach eu hunain yw mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth, sydd, fel y gŵyr yr Aelod, yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i wneud. Fodd bynnag, er fy mod yn parchu annibyniaeth sefydliadol, rwyf wedi bod yn glir gydag arweinwyr prifysgolion yr hoffwn eu gweld yn mabwysiadu diffiniad y gynghrair o wrthsemitiaeth.
Rwy'n falch iawn eich bod wedi nodi'n glir beth yw safbwynt y Llywodraeth ar hyn. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol adroddiad a ddangosodd gynnydd o 22 y cant mewn digwyddiadau casineb gwrthsemitig yn gysylltiedig â phrifysgolion dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn ôl yr Ymgyrch yn Erbyn Gwrthsemitiaeth, bu ymchwydd enfawr o 1,350 y cant mewn digwyddiadau gwrthsemitig ledled y DU ers dechrau'r ymladd sy'n parhau rhwng Israel a Hamas dros yr wythnosau diwethaf.
Rydym i gyd yn cytuno na ddylid goddef digwyddiadau casineb, yn enwedig mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus. Ond yn anffodus, yn wahanol i'r mwyafrif llethol o brifysgolion yn Lloegr a'r Alban, mae sector addysg uwch Cymru, a'r sector addysg bellach, ymhell ar ei hôl hi'n mabwysiadu diffiniad gwrthsemitiaeth Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost. Rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud, o safbwynt cyfreithiol, mai mater i brifysgolion Cymru yw penderfynu a ydynt yn mabwysiadu'r diffiniad ai peidio, ond y Llywodraeth sy'n dal llinynnau'r pwrs ar symiau sylweddol o incwm i'r sefydliadau hyn. Felly, a gaf fi ofyn i chi, a wnewch chi roi camau pellach ar waith nawr yn hyn o beth drwy ei gwneud yn ofynnol i bob coleg addysg bellach yng Nghymru a phob prifysgol yng Nghymru fabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost fel amod cyllido gan Lywodraeth Cymru?
Fel y credaf fod yr Aelod yn gwybod o'n trafodaethau blaenorol, cyfarfûm â'r Arglwydd Mann, sef cynghorydd Llywodraeth y DU ar wrthsemitiaeth, i drafod y dull gweithredu mewn perthynas â sefydliadau addysgol. Cyfarfûm hefyd ag Undeb y Myfyrwyr Iddewig, a chydag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru mewn perthynas â hyn, ac rwyf wedi codi hyn nid yn unig gydag is-gangellorion, ond gyda chadeiryddion prifysgolion hefyd. Mae'n gwybod beth yw fy safbwynt personol, a beth yw safbwynt y Llywodraeth. Mae prifysgolion yng Nghymru yn dilyn canllawiau Universities UK mewn perthynas â gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia.
Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â phwysigrwydd ymateb yn chwyrn i achosion o wrthsemitiaeth, ac Islamoffobia yn wir, yn ein system addysg yn gyffredinol. Mae rhwymedigaethau clir yn y cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol ar bob rhan o'n system addysg. Yr wythnos hon, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau'n cyfarfod â chynrychiolwyr y gymuned Iddewig yng Nghymru i drafod eu pryderon ynglŷn ag achosion o wrthsemitiaeth yn ein system addysg, a bydd yn gyfle pwysig i glywed eu safbwyntiau a beth arall y gallwn ei wneud i'w cefnogi yn hynny o beth.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ60154
Mae'r system anghenion dysgu ychwanegol yn newid y fframwaith cyfreithiol ac ymarfer i helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc ag ADY yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddiwallu eu hanghenion unigol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Canfu dadansoddiad cydraddoldeb diweddar Cymwysterau Cymru o ganlyniadau 2023 fod disgyblion ag ADY dair gwaith yn llai tebygol o gael gradd A/7 neu uwch. Mae'r canlyniadau hyn yn tanlinellu'r gred gyffredinol ein bod yn gwneud cam â disgyblion ag anghenion ychwanegol. Mae'n amlwg na allwn barhau ar y llwybr presennol. Weinidog, rydych chi wedi gwrthod galwadau am hyfforddiant gorfodol mewn anghenion dysgu ychwanegol i staff addysg. A wnewch chi ailystyried nawr? Sut y gallwn ni obeithio gwella addysg pobl ifanc ag ADY os bydd athrawon yn methu deall yr heriau sy'n wynebu'r 20 i 40 y cant o ddysgwyr sy'n ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd yn ein system addysg? Diolch.
Y canlyniadau ar gyfer 2022-23 fydd canlyniadau pobl ifanc nad ydynt eto wedi bod drwy'r system addysg ar ei ffurf ddiwygiedig, gyda gweithredu'r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol. Fel y gŵyr yr Aelod, rydym ddwy flynedd i mewn i raglen drawsnewid bedair blynedd o hyd, a fydd yn arwain at wella canlyniadau ar bob lefel i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, ac yn mynd i'r afael yn fanylach â'u hanghenion penodol.
Ar y cwestiwn ynglŷn â hyfforddiant gorfodol, mae hwn yn bwnc a drafodwyd yn y Siambr ar sawl achlysur. Rwy'n credu y byddwch yn gwybod o'r trafodaethau cynharach ein bod yn tynhau'r gofynion ar gyfer achredu addysg gychwynnol athrawon a sefydlu athrawon, a'n bod wedi buddsoddi mewn rhaglen fawr o ddysgu proffesiynol, gyda'r bwriad o gefnogi'r gweithlu mewn perthynas â gweithredu ADY.
Fel y bydd yn gwybod o adolygiad thematig Estyn yn ddiweddar rwy'n siŵr, mae rhai pwyntiau yn yr adolygiad hwnnw y byddwn yn eu hystyried mewn perthynas â pha hyfforddiant ac adnoddau pellach y gallwn eu darparu. Ac rwy'n bwriadu gwneud datganiad llawn ar ôl hanner tymor ynglŷn â sut rydym yn ymateb yn fwy cyffredinol i'n canfyddiadau ein hunain a'r rhai gan Estyn mewn perthynas â'r diwygiadau ADY yn ehangach.
Weinidog, rydym wedi gweld nifer o ddeisebau yn ddiweddar ynghylch cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd yna ystod eang o ddeisebau, yn galw am adolygiadau o'r Ddeddf, yn galw am ddiwygio'r Ddeddf a hefyd yn galw am gyllid ar gyfer darpariaeth arbenigol, fel cynlluniau cymorth penodedig. Rwy'n ymwybodol fod fy nghyd-Aelod Jayne Bryant yn arwain ymchwiliad i weithrediad y Ddeddf ADY, fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwy'n aros am yr argymhellion gyda diddordeb, Weinidog. Ond pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'r deisebwyr heddiw y bydd eu barn yn cael ei hystyried o ddifrif, wrth symud ymlaen?
Diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn. Rwy'n amlwg yn ymwybodol o'r ddeiseb ac ymchwiliad parhaus y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ddiwygio addysg. Ac i fod yn glir, rwy'n credu bod mewnwelediad rhieni a gofalwyr yn gwbl hanfodol a pha lefel bynnag o gefnogaeth y bydd deiseb yn ei chael, rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i wrando ar yr hyn rydym yn ei glywed ac ystyried hynny'n llawn. Fel y soniais nawr yn fy ymateb i Altaf Hussain, rydym tua hanner ffordd drwy weithredu'r rhaglen ddiwygio newydd. Ac rwy'n credu bod mewnwelediad rhieni a gofalwyr wedi bod yn hanfodol i'n helpu i ddeall sut mae hynny'n gweithio ar lawr gwlad, ac mae mewnwelediad y deisebwyr yn cyd-fynd â'r rhai a gawn gan randdeiliaid eraill a'r digwyddiadau rhieni y mae SNAP yn eu darparu ar ein rhan. Hefyd, mae rhai o'r pwyntiau a wnaed yn cyd-fynd ag adolygiad thematig Estyn, y soniais amdano hefyd.
Wrth glywed lleisiau rhieni a gofalwyr yn y ffordd rydym eisiau ei wneud, rwy'n credu bod yna feysydd yn amlwg yn y system ADY y mae angen eu gwella, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, gyda rhanddeiliaid addysg eraill, i rannu'r syniadau hynny'n ehangach ar draws y system ac i nodi'r heriau hynny, ond gan gael ein llywio'n bendant iawn gan lais rhieni a gofalwyr hefyd, fel y gallwn liniaru rhai o'r amrywiadau annisgwyl a welsom—bydd yna bob amser lefel o amrywio, ond rhai o'r amrywiadau annisgwyl—ac er mwyn inni allu datblygu atebion i'r heriau penodol hynny.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog plant a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd? OQ60166
Wel, mae llythrennedd yn ganolog yn y Cwricwlwm i Gymru fel un o'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol. Mae sgiliau llythrennedd yn allweddol i'n plant a'n pobl ifanc allu cael mynediad at ddysgu am oes ac i chwalu'r rhwystrau i gyrraedd eu potensial mewn addysg a thu hwnt.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rydym yn siarad yn aml am y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl. Gan fod darllen mor bwysig i bob dysgwr fel porth i ddysgu, mae rhinwedd mewn dilyn dull ysgol gyfan ar gyfer darllen a llythrennedd. Beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gyflawni hynny? A pha asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfraniad ffoneg i wella llythrennedd a llafaredd?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn mabwysiadu dull system gyfan ar gyfer llythrennedd a llafaredd, gan adlewyrchu'r pwynt y gofynnodd arweinydd yr wrthblaid yn ei gylch yn gynharach hefyd. Mae'r pecyn cymorth llafaredd a darllen, a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth, yn darparu cymorth i ysgolion ac addysgwyr, fel y gallant geisio nodi cyfleoedd i gyrraedd safonau uchel o wrando, siarad a darllen, a llythrennedd yn ehangach, lle mae cymuned yr ysgol gyfan yn gweithio gyda'i gilydd yn y modd y tynnodd cwestiwn yr Aelod sylw ato, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n gydgysylltiedig ac yn gyson, ac yn bwysig, mewn ffordd gynaledig iawn.
Ar ffoneg, mae fframwaith y cwricwlwm yn nodi dull polisi clir ar gyfer addysgu cychwynnol ym maes darllen a ffoneg systematig. Ond rwyf am sicrhau bod hynny'n cael ei bwysleisio'n ddigonol a'i wireddu'n llawn, os mynnwch, mewn ysgolion wrth iddynt gyflwyno'r cwricwlwm. Felly, rydym yn gweithio yn ystod tymor yr hydref gyda'r rhanbarthau a chydag eraill i nodi disgwyliad cyson o'r rôl y gall ffoneg ei chwarae yn rhan o gyfres ehangach o ymyriadau, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiad pellach mewn perthynas â hynny. Ond rwy'n credu bod rôl dull cenedlaethol cyson ar gyfer ffoneg fel rhan o gyfres ehangach o ymyriadau yn agwedd bwysig iawn ar sut y gall y dull ysgol gyfan gyflawni'n wirioneddol o ran llythrennedd i'n pobl ifanc.
Weinidog, roeddwn eisiau dod yn ôl at yr atebion a roddwyd gennych i arweinydd yr wrthblaid ynghylch sylwadau prif arolygydd Estyn yn ei adroddiad blynyddol interim. Nododd Andrew R.T. Davies, wrth gwrs, fod yr adroddiad yn sôn bod gormod o ddisgyblion cynradd yn gwneud camgymeriadau sylfaenol mewn gramadeg ac atalnodi nad ydynt yn cael sylw digonol drwy adborth athrawon. Mewn gwirionedd, roedd gan fwy na chwech o bob 10 o'r 28 ysgol uwchradd a arolygwyd ym mlwyddyn academaidd 2022-23 argymhelliad i wella effeithiolrwydd eu haddysgu, tra canfu Estyn fod gormod o anghysondebau yn ansawdd yr addysgu yn hanner yr holl ysgolion tair i 16 oed a arolygwyd, a chafodd tair o'r saith ysgol arbennig a arolygwyd argymhelliad yn ymwneud â gwella cysondeb ansawdd yr addysgu. Nawr, rwy'n adnabod llawer o athrawon, fel rwy'n siŵr eich bod chithau hefyd, ac maent yn gwneud gwaith rhagorol ar ran eu disgyblion, ond i mi, mae gormod o gyfeiriadau yn yr adroddiad interim am ansawdd yr addysgu, ac mae hynny'n bryder. Ac yn y pen draw, credaf fod Llywodraeth Cymru yr un mor gyfrifol am ansawdd addysgu ag am ddarpariaeth addysgu. Felly, yng ngoleuni'r sylwadau yn yr adroddiad hwn, pa gamau rydych chi'n eu cymryd i wella ansawdd yr addysgu y mae disgyblion yn ei gael?
Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu dyfynnu o'r adroddiad. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig dweud, mewn ymateb i'r pwyntiau y mae wedi'u gwneud ac y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'u gwneud, fod hyn yn rhan o asesiad cyffredinol o bob rhan o'n system addysg, ac yn ddealladwy efallai, mae'r Aelod yn tynnu sylw at rai o'r heriau, ond hoffwn annog pobl sydd â diddordeb i ddarllen yr adroddiad i weld yr ystod eang iawn o bethau cadarnhaol iawn am y gwaith y mae ein hathrawon yn ei wneud o ddydd i ddydd, gwaith y mae arolygiaeth Estyn hefyd yn ein hannog i roi sylw iddo.
Mae'n hynod o bwysig sicrhau bod ansawdd yr addysgu a'r dysgu mor uchel â phosibl. Mae ein hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol yn chwarae rhan gwbl sylfaenol yn sicrhau bod addysgwyr ledled Cymru yn gallu manteisio ar ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel drwy gydol eu gyrfa. Fel rhan o'r gwaith i wreiddio'r hawl honno, rydym yn cyflwyno proses ddilysu newydd a fydd yn sicrhau yn gynyddol fod yr holl adnoddau sydd ar gael o'r safon uchaf posibl. Mae llawer o gymorth ac adnoddau ar gael i athrawon nodi eu hanghenion hyfforddi yn unol â'r safonau proffesiynol fel gweithwyr proffesiynol. Nid ansawdd yr adnodd yw'r her yn fy marn i; weithiau mae'n ymwneud â llywiadwyedd—sut yr ewch chi ati i ddod o hyd iddo, mewn ffordd—lle gallai athrawon sy'n brin iawn o amser ystyried bod hynny'n heriol. Felly, mae gwaith eisoes ar y gweill mewn perthynas â hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd yn gwybod am y maes dysgu proffesiynol newydd ar Hwb sydd â'r nod o ddod â hynny i gyd at ei gilydd i'w gwneud yn haws i athrawon ddod o hyd iddo. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod yna adnoddau digonol ar gyfer datblygu athrawon, a datblygu addysgwyr yn fwy eang, ac fe fydd yn gwybod bod gennym gyllid pwrpasol a ddarparwn i ysgolion a hefyd amser i addysgwyr ymgysylltu â chyfleoedd dysgu proffesiynol, gan gynnwys diwrnod hyfforddiant mewn swydd dysgu proffesiynol cenedlaethol ychwanegol, a chyllid ar ei gyfer.
6. Sut mae’r Llywodraeth yn cefnogi darpariaeth gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg? OQ60164
Mae ein cynllun gweithredu 'Cymraeg 2050' yn amlinellu ein hymrwymiad i ehangu darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg. Rŷn ni'n parhau i weithio yn agos gyda'r Mudiad Meithrin a phartneriaid eraill i dyfu'r sector gofal plant cyfrwng Cymraeg, gan fuddsoddi yn y gweithlu ac adeiladu lleoliadau newydd ymhob rhan o Gymru.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb. Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ein cynllun i drawsnewid gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar ar draws Cymru. Un elfen o'r adroddiad yw darpariaeth cyfrwng Cymraeg a'i bod yn parhau i fod yn brin iawn dros y wlad. Mae ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg yn hanfodol er mwyn cyrraedd dyhead 'Cymraeg 2050'. Mae'r ystadegau yn glir: yn genedlaethol, dim ond 15 y cant o leoliadau sy'n darparu trwy gyfrwng y Gymraeg, a dim ond 10 y cant sy'n cynnig gofal dwyieithog. Mae gennym loteri ar gyfer mynediad dros y wlad at ofal cyfrwng Gymraeg, a does dim dewis gan rai rhieni ond defnyddio darpariaeth Saesneg. Dwi'n siŵr y byddech yn cytuno bod hyn yn gwbl annerbyniol. Dwi'n gobeithio y byddwch yn derbyn yr adroddiad a'r ymateb i'r argymhellion. Ond, sut ydych chi am wella darpariaeth i blant drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd dynnu sylw at y mater hwn?
Wel, byddai gennyf ddiddordeb mewn darllen yr adroddiad. Rwy'n rhannu, wrth gwrs, y flaenoriaeth y mae'r Aelod yn ei gosod ar bwysigrwydd hyn, am resymau y byddem ni'n eu rhannu ar y cyd, o ran ein huchelgais at yr iaith a hefyd ddarpariaeth i’n plant a’n pobl ifanc ni.
Ar ôl cyrraedd y targed blaenorol o 40 grŵp newydd yn y tair blynedd cyntaf, er gwaethaf COVID, mae’r rhaglen Sefydlu a Symud yn awr yn gweithredu i sefydlu 60 lleoliad yn ystod y Senedd hon. Agorwyd 17 lleoliad cyfrwng Cymraeg yn ystod 2022-23 o dan frand, os hoffwch chi, y rhaglen Sefydlu a Symud.
Ers 2022, mae cyllid ychwanegol o jest dan £4 miliwn wedi’i ddyrannu i Cwlwm dros dair blynedd, i ychwanegu at hyfforddiant yn y Gymraeg, gan gynnwys y gweithlu, ac ati. Felly, mae hynny’n cyfrannu tuag at y nod o staffio ychwanegol, ac mae rhyw £70 miliwn o gyfalaf penodol wedi’i ddyrannu i’r sector yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Y mis hwn, roedd 13,000 o blant yn cael mynediad i’r cynnig gofal plant yng Nghymru. O’r rhain, roedd jest dan 3,000, rhyw 22 y cant, yn cael y gwasanaeth hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gan ein bod ar bwnc y Gymraeg, hoffwn longyfarch staff a disgyblion Ysgol y Llys ym Mhrestatyn a chyfeillion y cylch meithrin ar eu llwyddiannau diweddar yng ngwobrau'r Mudiad Meithrin, a gynhaliodd ei seithfed seremoni wobrwyo yn ddiweddar. Holl amcan y Mudiad Meithrin, fel y gwyddoch, yw creu siaradwyr Cymraeg newydd drwy gynorthwyo plant a'u teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau addysg, chwarae a gofal plant amrywiol. Felly, a wnewch chi groesawu'r llongyfarchiadau i Ysgol y Llys ym Mhrestatyn a chyfeillion y cylch meithrin am y gwaith gwych y maent yn ei wneud ar hyrwyddo'r Gymraeg a gwella profiad o'r Gymraeg yn sir Ddinbych?
Wel, rwy'n siŵr y byddant wrth eu bodd gyda'r ffaith eich bod wedi rhoi sylw i hynny yn y Siambr heddiw—y gefnogaeth rydych chi'n ei rhoi i'ch ysgol leol—ac rwy'n hapus iawn i gefnogi a rhannu hynny. Llongyfarchiadau iddynt.
Diolch.
Yn ddiweddar, mynychais agoriad meithrinfa Wibli Wobli, sydd wedi'i lleoli yn Nhŷ-du yn fy etholaeth. Fe'i sefydlwyd gan Natasha Baker, a dyma'r feithrinfa gofal dydd Gymraeg gyntaf yng Nghasnewydd. Mae'n feithrinfa wych, ac nid oes angen i blant sy'n mynychu siarad unrhyw Gymraeg i ymuno, ond yn fuan byddant yn elwa o holl fanteision dysgu Cymraeg yn ifanc. Gyda phrinder gweithwyr gofal plant proffesiynol sy'n siarad Cymraeg, un o'r materion a gafodd eu dwyn i fy sylw yw'r amser y mae'n ei gymryd i hyfforddi. Rwy'n deall ei bod yn cymryd tua 18 mis i fod yn gymwys. A yw hyn yn rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno—a oes modd gweithredu rhyw fath o system llwybr cyflym? A sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i gefnogi'r gweithwyr gofal plant proffesiynol sydd eisoes â chymwysterau a allai fod eisiau newid i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg?
Wel, llongyfarchiadau i Wibli Wobli, ac rwy'n falch o'u clywed yn cael eu cydnabod yn y Siambr hefyd. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y rhai sy'n dymuno gallu ymarfer a darparu gwasanaethau pwysig drwy gyfrwng y Gymraeg yn wynebu cyn lleied o rwystrau â phosibl i wneud hynny. Byddaf yn hapus iawn i ystyried ymhellach gyda swyddogion a oes mwy y gallwn ei wneud ynghylch y fframiau amser y cyfeiriodd yr Aelod atynt er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i bobl wneud hynny.FootnoteLink
7. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y nifer sy'n manteisio ar brentisiaethau gradd? OQ60153
Cyfrifoldeb polisi Gweinidog yr Economi yw prentisiaethau lefel uwch, fel pob prentisiaeth arall, ond rydym yn gweithio'n agos ar draws y meysydd portffolio wrth gwrs. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd yn y nifer a ddechreuodd ym mlynyddoedd academaidd 2019 i 2022, ac yn ddiweddar fe wnaethom lansio gradd-brentisiaeth newydd mewn peirianneg rheilffyrdd y bydd pobl yn dechrau arni o fis Ionawr eleni.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb. Rydym i gyd yn gwybod nad yw mynd i'r brifysgol yn addas i bawb. Yn ddiweddar, ymwelais ag ysgol yn fy etholaeth, a siaradais â nhw yno am bwysigrwydd mynd i wneud graddau—neu radd-brentisiaethau fel opsiwn arall iddynt allu dechrau ym myd gwaith. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda rhai sy'n gadael ysgol i sicrhau eu bod yn gwybod am yr ystod o opsiynau sydd ar gael iddynt pan fyddant yn gadael ysgol, fel y gallant wneud graddau neu radd-brentisiaethau lle gallant ddysgu wrth weithio.
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Fe fydd, rwy'n siŵr, wedi darllen adroddiad Hefin David mewn perthynas â phontio o addysg i gyflogaeth, ar thema debyg iawn. Rwy'n gwybod ei fod yn rhannu'r farn honno ac rwy'n teimlo'n gryf iawn am hynny. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y cyngor unigol, pwrpasol gorau posibl wedi'i deilwra i ymwneud â'u hamgylchiadau personol a'u huchelgeisiau personol. Dylem ei gwneud yn gwbl glir fod gradd-brentisiaeth yn gyfle deniadol iawn i lawer o bobl ifanc. Bydd yn gwybod ein bod yn cryfhau'r gwaith o ehangu gradd-brentisiaethau i sectorau newydd ac yn cynyddu llwybrau presennol i gyflawni'r ymrwymiad sydd gennym yn y rhaglen lywodraethu. Rydym wedi blaenoriaethu buddsoddiad mewn prentisiaethau yn y sectorau y teimlwn y byddant yn gwneud y mwyaf i gefnogi twf economaidd a chydlyniant cymunedol, felly mae sero net a'r economi sylfaenol yn rhan o'r themâu sylfaenol ar gyfer rhai o'r rheini. Ac fe fydd yn gwybod, yn ogystal â'r gwaith ar brentisiaeth rheilffyrdd, ein bod ar hyn o bryd yn llunio'r brentisiaeth yn y sector adeiladu. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi cyfleoedd i lawer mwy o'i etholwyr a fy etholwyr innau ac eraill.
8. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wreiddio egwyddorion llythrennedd cefnforol mewn addysg? OQ60140
Mae dysgu am yr amgylchedd yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae cyfleoedd o fewn y cwricwlwm i ysgolion gynnwys dysgu am lythrennedd cefnforol, cynaliadwyedd ac effaith gweithredoedd dynol ar yr amgylchedd yn eu cwricwlwm.
Diolch. Felly, mae person sydd â llythrennedd cefnforol yn deall yr egwyddorion hanfodol a'r cysyniadau sylfaenol am y cefnfor. Gallant gyfathrebu am y cefnfor mewn ffordd ystyrlon a gallant wneud penderfyniadau gwybodus a chyfrifol ynghylch y cefnfor a'i adnoddau. Nawr, fe wnaeth prosiect y gweithiodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth yr Alban a Cyfoeth Naturiol Cymru arno ganfod bod bylchau gwybodaeth ymhlith pobl ifanc ynghylch sawl term morol. Er enghraifft, nid yw 'ewtroffeiddio', 'degawd gwyddorau'r môr y Cenhedloedd Unedig', 'carbon glas', 'cyfalaf naturiol', 'atafaelu carbon', 'llythrennedd cefnforol', 'dinasyddiaeth forol', 'asideiddio'r cefnfor', 'gwasanaethau ecosystemau' a 'datrysiadau seiliedig ar natur' wedi eu deall yn dda. Roedd llai na 50 y cant o'r ymatebwyr yn deall pob un o'r termau hynny. Felly, mae 43 y cant o bobl yn cael eu gwybodaeth am y cefnfor oddi ar y teledu neu'r radio a'r newyddion yn bennaf. Gallwn wneud yn well. Mae gan y Gymdeithas Genedlaethol Addysgwyr Morol a Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig adnoddau rhagorol ar-lein i ysgolion. Felly, pa gamau y gallech eu cymryd i wella llythrennedd cefnforol ar draws y cwricwlwm?
Wel, rwy'n cydnabod, yn sicr yn y gorffennol, fod yr heriau y mae'r Aelod wedi'u mynegi heddiw wedi bod yn real iawn. Ond rwy'n teimlo bod y llanw'n troi. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn gwybod bod gweithgor o Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru, a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y cyfeiriodd ato yn ei chwestiwn, yn drafftio strategaeth llythrennedd cefnforol i gysylltu pobl â'r amgylchedd morol a gwella ei reolaeth a'i gydnerthedd. Ac yn bwysig, mae'r meysydd gweithredu yn y strategaeth yn cynnwys gwella gwybodaeth a sgiliau ac ymgorffori llythrennedd cefnforol mewn addysg. Fe fydd hi hefyd, efallai, yn ymwybodol fod eco-ysgolion wedi datblygu cyfres o adnoddau o'r enw 'Ar Frig y Don', sy'n ymdrin â chefnforoedd a moroedd. Yn ogystal, mae fy swyddogion yn gweithio gyda Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru ar hyn o bryd i gyhoeddi cyfres o adnoddau ar newid hinsawdd a'i effaith arfordirol. Yn ei rhan hi o Gymru, mae consortia GwE yn gweithio gyda BP a gyda EnBW, sy'n datblygu ffermydd gwynt ar y môr, i gefnogi ysgolion â gwybodaeth am bynciau sy'n gysylltiedig â gwynt sefydlog ar y môr.
9. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi athrawon i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol o ansawdd uchel? OQ60145
Mae sicrhau addysgu o ansawdd uchel drwy ddysgu proffesiynol gydol gyrfa yn rhan annatod o'n gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddais broses gymeradwyo genedlaethol newydd i sicrhau ansawdd darpariaeth dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg. Yr Athro Ken Jones fydd yn arwain y gwaith hwn, gyda chymorth panel o arbenigwyr ac addysgwyr.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n croesawu eich datganiad ar 14 Medi a gwaith y panel cymeradwyo cenedlaethol sydd i'w sefydlu cyn bo hir. A ydych chi'n cytuno â mi, Weinidog, fod dysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn hanfodol bwysig i gefnogi'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd, gan ganiatáu i athrawon elwa'n barhaus ar ddatblygiadau a dulliau newydd ym maes addysg, a hefyd i ganiatáu rhannu arferion gorau drwy Hwb?
Rwy'n rhannu'r farn honno gydag ychydig o wyleidd-dra, o ystyried ei chefndir proffesiynol a'i gwybodaeth bersonol am hyn. Ond credaf fod yr hawl i ddysgu proffesiynol, sydd ychydig dros flwydd oed erbyn hyn, eisoes yn chwarae rhan bwysig ar y daith honno i sicrhau bod gan bob addysgwr fynediad at ddysgu proffesiynol o safon ac fel y gallant sicrhau bod eu hanghenion datblygu proffesiynol yn cael eu diwallu. Rwy'n credu mai'r heriau deublyg yr ydym yn ceisio eu datrys, yn rhannol drwy'r gwaith y bydd yr Athro Jones a'r arbenigwyr eraill yn ein helpu gydag ef, yw llywiadwyedd ar y naill law, i sicrhau y gellir llywio'n hawdd drwy'r llyfrgell enfawr o gynnwys sy'n bodoli fel y gall addysgwyr sy'n brin o amser ddod o hyd i'r hyn y maent angen dod o hyd iddo yn syml ac mewn ffordd sy'n cael ei churadu'n ddefnyddiol ar eu cyfer. Creu'r gofod newydd ar Hwb yw dechrau'r broses honno. Ond yn ail, mae'r syniad o sicrwydd, fel bod pob adnodd sydd ar gael drwy'r tudalennau ar Hwb yn y pen draw yn rhai lle gall addysgwyr fod yn hyderus ynddynt fel rhai sydd wedi cael eu hadolygu gan addysgwyr neu gan arbenigwyr eraill sydd wedi rhoi eu sêl bendith iddynt. Felly, rwy'n credu ei fod yn gam newydd cyffrous ar ein taith dysgu proffesiynol yng Nghymru, wedi'i sbarduno gan yr hawl honno, y dylwn ddweud hefyd ei fod ar gael i gynorthwywyr addysgu yn yr un ffordd ag y mae i athrawon, sydd hefyd yn ddatblygiad newydd.
Yn olaf, cwestiwn 10, Adam Price.
10. Pa drafodaethau diweddar mae'r Gweinidog wedi cael gyda sefydliadau addysg uwch ynghylch eu cynaladwyedd ariannol? OQ60159
Dros fisoedd yr haf, rwyf wedi cael sgyrsiau gyda chadeiryddion ac arweinwyr sefydliadau addysg uwch, a gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, am sefydlogrwydd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae swyddogion a Gweinidogion yn parhau i gael trafodaethau ar y mater pwysig iawn hwn.
Rwy'n cael ar ddeall, mewn cyfarfod diweddar o'r sector yr oeddech chi, Gweinidog, yn bresennol ynddo, mi oedd nifer o'r sefydliadau oedd yno wedi dweud eu bod nhw yn ystyried y posibilrwydd o uno mewn ymateb i'r sefyllfa ariannol heriol. Ydych chi'n gallu cadarnhau bod y wybodaeth honno'n gywir a beth yw safbwynt y Llywodraeth am uniadau pellach o fewn y sector addysg uwch yng Nghymru?
Does neb wedi rhoi'r cynnig hwnnw i fi. Mae trafodaethau, wrth gwrs, yn digwydd yn sgil y comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil ar sut y gall darparwyr o fewn y sector ôl-16 gydweithio yn well gyda'i gilydd mewn amryw o ffyrdd. Felly, mae hynny'n rhan o'r meddylfryd sydd wrth wraidd y diwygiadau hynny i sicrhau, er budd y dysgwr, fod llawer mwy o gydweithio a phartneriaethau yn digwydd ar draws y sector.
Diolch i'r Gweinidog am y sesiwn yna.
Eitem 3, felly, yw'r cwestiynau amserol. Mae dau gwestiwn wedi eu derbyn heddiw, a'r cyntaf o'r rheini gan Jack Sargeant.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi cymunedau yn dilyn effaith Storm Babet? TQ887
Rwy'n gwybod am y difrod y gall llifogydd ei achosi i gymunedau. Mae'r manylion llawn am effaith storm Babet ar gymunedau yng Nghymru yn dal i ddod yn amlwg, ond pan fyddant yn hysbys, byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau, fel yr ymrwymodd y Trefnydd yn ystod cwestiynau busnes y Cyfarfod Llawn ddoe.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw ac am ymrwymo i'r datganiad ysgrifenedig maes o law. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, dros y penwythnos, fod ardaloedd Sandycroft, Mancot, Brychdyn, Pen-y-ffordd a'r cymunedau cyfagos wedi cael eu heffeithio'n wael gan storm Babet. Nid dyma'r tro cyntaf i dai yn y cymunedau hyn ddioddef llifogydd. Yn dilyn digwyddiadau blaenorol yn 2021, yn fwyaf arbennig, lluniais adroddiad a oedd yn galw am nifer o gamau synhwyrol i liniaru'r posibilrwydd o lifogydd yn y dyfodol. Nawr, er bod gwaith wedi digwydd, mae'n amlwg na fu cynnydd digon cyflym. Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol, ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a'r cwmnïau cyfleustodau, ond mae angen adnoddau ychwanegol arnom i roi rhywfaint o sicrwydd i ddeiliaid tai am y dyfodol. Weinidog, mae angen hefyd inni gael gweithio cydgysylltiedig gan yr asiantaethau a restrais fel y rhai cyfrifol. Sut y gallwch chi ddefnyddio eich swydd yn y weinyddiaeth newid hinsawdd i sicrhau bod hyn yn digwydd?
Diolch am y cwestiwn, Jack Sargeant. Rydym yn amlwg yn gweithio'n agos iawn gydag CNC, gyda'r cwmnïau dŵr, gyda Llywodraeth y DU a chydag awdurdodau lleol yn eu rôl fel awdurdodau llifogydd arweiniol lleol i symud at amddiffyn rhag llifogydd ac erydu arfordirol ac at fesurau lliniaru hefyd. Fel y gwn fod Jack Sargeant yn gwybod, mae angen i'r awdurdod rheoli risg—neu'r cyngor lleol, fel y mae'n cael ei adnabod yn fwy cyffredinol gan bobl yn yr ardal—gyflwyno cynlluniau ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid. Gwn fod nifer o gynlluniau ar y gweill gan y cyngor lleol yno rhwng 2010 a 2018, ac maent wedi gwneud cais am un neu ddau o gynlluniau bach ers hynny, ond byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod ganddynt y llwybrau cywir ar gyfer y cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno.
O ran yr hyn y gall y gymuned ei wneud i helpu ei hun, rwyf am nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddechrau fforymau cydnerthedd llifogydd a sicrhau bod pobl yn ymwybodol o sut i wrando am rybuddion llifogydd os ydynt mewn ardal lle ceir perygl o lifogydd, a beth i'w wneud i sicrhau eu bod yn cadw'n ddiogel.
Rwyf am fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf â theuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau yn Lloegr a'r Alban dros y penwythnos, ac yn wir i fynegi fy niolch am y nifer fawr o staff gwasanaethau cyhoeddus a weithiodd ddydd a nos yn ystod y stormydd er mwyn ceisio cadw cymaint o bobl ag y gallent yn ddiogel.
Fe fyddwch yn ymwybodol, Lywydd, fy mod wedi cyflwyno cwestiwn brys ar y mater hwn ddoe a gafodd ei wrthod, ac rwy'n meddwl, os nad yw storm Babet, gyda'r holl farwolaethau ofnadwy a'r anafiadau ac ati, a'r ffaith ei fod mor ddinistriol—. Beth sy'n haeddu cwestiwn brys? Nawr, fe gollwyd bywydau, fel y nodwyd, ac mae fy meddyliau a fy ngweddïau gyda'r teuluoedd hynny. Cafodd trenau eu canslo, nid oedd modd teithio ar yr A483 ym Mhowys, yr A55 yn sir y Fflint a ffyrdd eraill. Cafodd y gwasanaeth tân nifer syfrdanol o alwadau. Nawr, yn Llandudno, lle ceir tir isel wrth gwrs, ac wedi'i waethygu gyda llanw uchel—. Cafodd tair ardal yn fy etholaeth yn Llandudno—wel, yn ardal Llandudno'n unig—eu heffeithio'n ddifrifol: trigolion yn gaeth, eraill wedi gorfod gadael eu heiddo, llawer yn ymladd i gadw dŵr yn ôl â thywelion, gwybodaeth anghyson am fagiau tywod, dim cynllun cydgysylltiedig ar lawr gwlad, a swyddog tân yn fy hysbysu na allai gael gafael ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Dŵr Cymru. Yr hyn a'm synnodd fwyaf, fodd bynnag, oedd y ffaith, er fy mod mewn cysylltiad ag arweinydd y cyngor yng Nghonwy, fod gwasanaethau achub eraill allan yn gwneud eu gorau glas, ond wrth siarad â Heddlu Gogledd Cymru a'r gwasanaeth tân, nid oedd hi'n ymddangos bod cynllun amlwg ar waith. Yn sicr, roedd yna fwlch o ran gwybodaeth a chyfathrebu. Nawr, rwyf eisoes wedi mynd ati fy hun i fynegi pryderon wrth arweinydd y cyngor, gyda'r bwriad o gynnal cyfarfod cydgysylltiedig rhithwir gyda'r holl dimau amlasiantaeth y byddech yn disgwyl eu bod yn gweithio'n agos iawn mewn sefyllfaoedd o'r fath.
Rydych wedi dweud o'r blaen, Weinidog, fod yna ganllawiau, fod yna gynlluniau ar waith, felly, i ailadrodd y cwestiwn gan Jack Sargeant: pa gamau rydych chi'n eu cymryd i weithio gyda'r holl asiantaethau partner i sicrhau bod meddwl mwy cydgysylltiedig a chynllun ar waith, dull strategol, pan fydd trychinebau o'r fath yn digwydd, ar gyfer nawr, neu'r tro nesaf, neu'n wir unrhyw stormydd yn y dyfodol, a hefyd sut y gallwn ni fel Aelodau gael ein hysbysu'n llawn ac yn gywir drwy gydol y dydd? Oherwydd clywsom lawer o sïon fod yr orsaf bwmpio wedi torri; nid oedd wedi torri, roedd wedi'i gorlethu. Ac ym 1993—rydym i gyd yn ofni bod y sefyllfa honno'n digwydd eto, ac mae pobl yn dal i gysylltu â mi nawr mewn ofn ynglŷn â'r hyn a welsant eto ddydd Gwener. Felly, rwy'n gofyn eto: mae angen cynllun strategol cydgysylltiedig arnom, a'r holl asiantaethau i gyfrannu ato, a buaswn yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth y gallwch ei roi. Diolch.
Diolch yn fawr, Janet. Fel y dywedais, rydym yn dal i gynnal yr ymchwiliad parhaus i'r ôl-effeithiau, fel rydym bob amser yn ei wneud bob tro y ceir stormydd difrifol. Rwyf am ei gwneud hi'n hollol glir na chollodd neb yng Nghymru eu bywyd. Rwy'n drist iawn am yr unigolion yn Lloegr a'r Alban lle digwyddodd hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn gywir ynglŷn â hynny.
Fe gawsom ymateb cydgysylltiedig. Fel y dywedaf, rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl ymatebwyr golau glas a staff CNC, staff Dŵr Cymru a staff Hafren Dyfrdwy, a fu'n gweithio, bawb ohonynt, drwy gydol y storm. Gweithiodd nifer o staff o'r cwmnïau trydanol drwyddi hefyd, gan geisio sicrhau bod gwasanaethau'n parhau wedi'u cysylltu. Roedd gennym y fforymau cydnerthedd lleol yn gweithredu hefyd, yn ogystal â nifer o'r sefydliadau Cymru-gyfan eraill. Roeddwn i'n cael adroddiadau sefyllfa drwy gydol y digwyddiad.
Ond, Lywydd, gallwn ddisgwyl rhagor o'r digwyddiadau hyn wrth i newid hinsawdd gynyddu. Ni fydd yn bosibl oni bai ein bod yn gweithredu cynlluniau lliniaru ac addasu newid hinsawdd sero net llym i wneud unrhyw beth am hyn. Ac rwy'n gwybod bod yr Aelod yn ddiffuant yn yr hyn y mae'n ei ddweud, ond nid yw'n helpu bod ei phlaid yn gwrthwynebu pob peth a wnawn byth i geisio lliniaru newid hinsawdd. Rhaid inni gadw tymheredd y byd i lawr islaw 1.5 gradd dros y sylfaen, neu byddwn yn gweld y math hwn o beth yn rheolaidd iawn. Felly, yn hollol, Lywydd, mae angen inni gael yr ymateb gorau pan fydd y pethau hyn yn digwydd, ond os ydym am liniaru hyn, mae'n rhaid inni weithredu gyda'n gilydd a bod yn fwy radical nag y byddai plaid yr Aelod am i chi ei gredu.
Fore Sul, ni chafodd amddiffynfeydd llifogydd yn Nhrefalun ger Wrecsam eu defnyddio'n llawn, gan adael cartrefi o dan ddŵr hyd at y fferau. Rwy'n gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio pam na chafodd yr amddiffynfeydd eu defnyddio'n llawn, ac mae trigolion yn gofyn yn ddigon teg pam na ddefnyddiwyd rhwystr delltog a phwmp, a ddefnyddir fel arfer cyn i lefelau dŵr godi. Nawr, byddai'n ddiddorol clywed beth yw eich dealltwriaeth o'r hyn a aeth o'i le yno, neu o leiaf erbyn pryd y disgwyliwch gael yr adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru am yr hyn a aeth o'i le yno. Ond un o'r pryderon ynghylch cynllun datblygu lleol Wrecsam, wrth gwrs, yw y bydd yn caniatáu datblygiadau tai mawr mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd. Dyna sy'n digwydd gyda safleoedd strategol allweddol ar y naill ochr a'r llall i Wrecsam, yn ogystal ag ar safle yn yr Orsedd sydd drws nesaf i'r tai a oedd yn llawn o ddŵr llifogydd dros y penwythnos. Felly, a ydych chi'n dal i gredu ei bod hi'n briodol gorfodi'r cynllun datblygu lleol a wrthodwyd yn Wrecsam ar yr ardal, o ystyried y pryderon cynyddol ynghylch llifogydd yn rhai o'r safleoedd sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun?
Wel, Lywydd, rwyf eisoes wedi ateb sawl cwestiwn ar gynllun datblygu lleol Wrecsam. Nid oes neb yn gorfodi unrhyw beth arnynt. Dyma gynllun datblygu lleol y cyngor ei hun. Fe wnaethon nhw a'r swyddogion fynd â'r cynllun datblygu lleol drwy'r holl gamau hyd at y pwynt olaf, a'r peth sy'n achosi iddynt beidio â gallu ymateb i ddatblygiadau tybiannol yw diffyg cynllun datblygu lleol. Felly, rwy'n ofni bod yr Aelod dan gamargraff mawr am effaith yr hyn sy'n digwydd pan na allwch fabwysiadu eich cynllun datblygu lleol eich hun.
Diolch yn fawr, Jack Sargeant, am godi hyn heddiw. Effeithiwyd ar fy eiddo i gan lifogydd, ac ni allwn gyrraedd adref ychwaith i wneud unrhyw beth amdano oherwydd bod y rheilffyrdd wedi dioddef llifogydd hefyd. Mae angen i dirfeddianwyr gymryd cyfrifoldeb. Mae angen iddynt sicrhau bod eu ffosydd a'u ceuffosydd yn cael eu clirio. Rwy'n gweld bod caeau, ffosydd a phopeth bellach yn arllwys ar briffyrdd, ac ni all draeniau priffyrdd ymdopi—y seilwaith Fictoraidd hen iawn honno.
Yn aml iawn, mae pobl yn rhoi'r bai ar y cyngor ac yn disgwyl i'r cyngor ddarparu bagiau tywod, ond nid eu cyfrifoldeb nhw yw hynny mewn gwirionedd. Wrth symud ymlaen, roeddwn yn meddwl tybed a allech edrych ar fapio draeniau. Rwy'n gwybod, ar un adeg, fod gweithwyr y cyngor yn arfer gwybod lle roedd yr holl ddraeniau a ffosydd, ond yn ystod 10 mlynedd o doriadau, nid yw'r wybodaeth honno wedi'i throsglwyddo. Nid ydynt yn gallu parhau i glirio ffosydd. Mae'r un peth yn wir am CNC; mae'n gostus iawn, yn ddrud iawn, a mater i dirfeddianwyr yw hynny o dan gyfraith glannau'r afon. Felly, pe gallem fapio lle mae'r ceuffosydd a'r ffosydd, pwy sy'n gyfrifol, a phe gallai CNC a'r cyngor gynhyrchu gwybodaeth i'w rhoi i dirfeddianwyr yn dweud, 'O dan gyfraith glannau'r afon, chi sy'n gyfrifol am gynnal eich ffosydd a'ch draeniau', rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol. Diolch.
Diolch, Carolyn. Eleni yn unig, rydym yn buddsoddi dros £74 miliwn mewn gwaith rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Dyna'r gwariant blynyddol uchaf erioed ar reoli risg llifogydd yng Nghymru hyd yn hyn. Rydym eisoes yn gwybod, fel y dywedoch chi, nad yw'n bosibl stopio neu atal pob erydu arfordirol a llifogydd, ond rydym yn cymryd camau i leihau'r canlyniadau a helpu i greu cymunedau mwy cydnerth ledled Cymru. Mae'n ddrwg gennyf glywed am eich profiad personol. Roeddwn yn dychwelyd o ogledd Cymru fy hun ddydd Gwener, ac nid oedd modd teithio ar gryn dipyn o'r rhwydwaith ffyrdd oherwydd llifogydd. Roedd yn storm ddifrifol iawn yn wir, ac rwyf am ddiolch i'r gwasanaethau brys am yr holl waith a wnaethant, fel rwy'n parhau i ddweud. Roedd yna weision cyhoeddus gwlyb tu hwnt allan yno'n dweud wrthym lle roedd y ffyrdd wedi cau a lle gallem fynd, a gwn eu bod yno am weddill y noson honno.
Rydym yn gwneud gwasanaeth mapio helaeth, a fydd, fel y nodwch, yn cefnogi gwell dealltwriaeth ac addasu ehangach i ddiogelu ein cymunedau rhag risg. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â deall sut mae eich cartref wedi'i leoli a beth yw eich cyfrifoldebau, os ydych yn agos at unrhyw fath o gwrs dŵr, i gadw'r cwrs dŵr hwnnw'n glir ac i sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn, ac yn wir i ddeall beth yw'r mecanweithiau rhybuddio os oes dilyw sydyn. Hynny yw, roedd dilyw ddydd Iau a dydd Gwener. Fe welsom rai o'r afonydd—. Ar ein taith yn ôl o ogledd Cymru, fe wnaethom wylio rhai o'r afonydd yn llenwi—roedd mor gyflym. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod yn creu cymunedau mwy cydnerth ledled Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar yr adnoddau ar wefan CNC, ac yn wir ar eu swyddogion cymunedol, i helpu i gael cymunedau mwy cydnerth ac i helpu pobl i ddeall yr hyn y gallant ei wneud eu hunain i gadw eu hunain yn ddiogel, a pha adnoddau llifogydd sydd ar gael. Wrth gwrs, byddwn yn ymchwilio i'r holl lifogydd a ddigwyddodd, gan geisio deall beth a'u hachosodd, a oedd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi'u gorlethu neu heb weithredu'n iawn, a'r hyn y gallwn ei wneud i wella'r addasiad.
Wel, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fod i wneud i gyrff cyhoeddus sydd wedi'u rhestru yn y Ddeddf, gan gynnwys awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a'i gilydd, ceisio atal problemau a meithrin ymagwedd fwy cydgysylltiedig. Fodd bynnag, fe wnaeth un o drigolion Coed-llai, sir y Fflint, anfon e-bost yn dweud, 'Er ei fod wedi'i ragweld, achosodd glaw eithafol ar 19 a 20 Hydref lifogydd a gofid i lawer, a niwed i'w heiddo a'u bywoliaeth. Un nodwedd sy'n bresennol drwy'r amser yw diffyg gwaith cynnal a chadw ar gwteri dŵr glaw, sydd fel arfer wedi'u blocio â dail a gwaddod. Er bod CNC, sy'n gyfrifol am y cwrs dŵr, wedi cael gwybod am hyn, ni lwyddon nhw i weithredu mewn unrhyw fodd.'
Ar ôl imi ymyrryd ar ran trigolion a brofodd lifogydd ym Mrychdyn, sir y Fflint, yn 2021, rhoddodd Cyngor Sir y Fflint fanylion am y camau y byddent yn eu cymryd, gan gynnwys y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i drigolion oedrannus a bregus a mannau y gwyddys eu bod yn agored i berygl llifogydd. Fodd bynnag, roedd un e-byst a ddaeth i law y penwythnos diwethaf ar ôl i'r un adeiladau ddioddef llifogydd unwaith eto yn ymwneud â rhiant sengl â sglerosis ymledol, ymysg eraill, ac yn gofyn pam na roddwyd mesurau ar waith i ddarparu bagiau tywod i'r preswylwyr yn y cartrefi lle ceid perygl o lifogydd.
Ac un enghraifft olaf: ar ôl i fflatiau llawr gwaelod yn yr Wyddgrug, sir y Fflint, ddioddef llifogydd eto, daeth e-bost i law gan gymdeithas dai a ddywedai, 'Gwyddom fod y draeniau'n annigonol ac rydym wedi gweld cynllun a luniwyd flynyddoedd lawer yn ôl a fyddai'n darparu ateb hirdymor.' Argymhellai'r astudiaeth ddichonoldeb hon yn 2017, a gomisiynwyd gan Gyngor Sir y Fflint, y dylid cyflwyno copi o'r adroddiad i Lywodraeth Cymru i gadarnhau bod cyllid grant ar gael, ond ni chafodd y cynllun ei weithredu byth. Felly, beth yw pwynt Deddf cenedlaethau'r dyfodol os caniateir i fethiannau y gellir eu hosgoi fel y rhain barhau i ddifetha bywydau?
Wel, diolch, Mark. Fel y dywedais sawl tro eisoes, mae'n ddyddiau cynnar. Rydym yn ymchwilio i'r holl faterion a ddigwyddodd drwy gydol y llifogydd, a oedd yn eang o ganlyniad i'r storm. Byddaf yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig pan fyddwn yn gwybod beth oedd y materion a gododd. Byddwn yn ymchwilio i'r holl faterion sy'n codi i weld a oedd amddiffynfeydd rhag llifogydd yn annigonol neu wedi'u gorlethu neu ddim yn gweithio, lle mae angen amddiffynfeydd ychwanegol rhag llifogydd, a byddwn yn siarad â'r awdurdodau lleol, yn rhinwedd eu gwaith fel awdurdodau rheoli risg, am y cynlluniau y maent yn eu cyflwyno ar gyfer llifogydd. Nid wyf mewn unrhyw sefyllfa eto i allu adrodd yn ôl ar hynny, gan mai dim ond ychydig ddyddiau sydd ers y storm.
Rwy'n falch fod Jack Sargeant wedi codi'r pwnc hwn heddiw, gan fod rhannau helaeth o fy etholaeth yn agored i stormydd, yn enwedig yn yr ardaloedd sy'n cyfochri ag afon Clwyd yn Rhuddlan, Llanelwy a gwaelod Dyserth hefyd, o ystyried bod rhaeadr yno ac afon gyfagos sy'n llifo drwy'r pentref. Ac mewn blynyddoedd blaenorol, ac yn wir dros y penwythnos diwethaf, cododd yr afonydd a'r dyfroedd, a thorri eu glannau, gan adael busnesau fy etholwyr a'u heiddo'n agored iawn i ddifrod bob tro y byddwn yn profi cyfnod parhaus o law. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi gwybod i fy etholwyr pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r realiti amgylcheddol hon yn Nyffryn Clwyd, a pha sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ac yn mynd i'w cael gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i leihau canlyniadau tywydd garw yn sir Ddinbych fel y gall fy etholwyr fod yn dawel eu meddwl fod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i liniaru'r risgiau hyn a darparu sicrwydd i'r cyhoedd wrth inni wynebu'r gaeaf.
Diolch. Felly, fel y dywedais nifer o weithiau nawr, Lywydd, rydym yng nghanol y broses o ddysgu gwersi yr ydym bob amser yn ei dilyn ar ôl digwyddiadau llifogydd difrifol. Hoffwn annog yr Aelodau serch hynny i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael. Mae gennym gyngor a chymorth ar sut i ymuno â grŵp llifogydd cymunedol, ynghyd â rhestr o sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth i grwpiau llifogydd, megis y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a fforymau cydnerthedd lleol. Maent i gyd ar gael ar wefan CNC. Mae gennym hefyd nifer o gynlluniau llifogydd cymunedol ledled Cymru—74 ar hyn o bryd. Mae 37 cymuned yn ne Cymru, 13 yn y canolbarth a 24 yng ngogledd Cymru yn gweithredu ar y cynlluniau llifogydd cymunedol hynny, felly, mae'n bosibl iawn fod gan yr Aelod raglen llifogydd gymunedol eisoes yn ei ardal, a hoffwn ei annog ef a'i etholwyr i fynd ar wefan CNC a sicrhau eu bod yn manteisio ar yr holl adnoddau sydd ar gael.
Yn olaf, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae arnaf ofn nad wyf yn llawn hyder o ganlyniad i'r ymatebion a glywais heddiw. Roedd gennyf ardaloedd yn fy etholaeth i hefyd a brofodd lifogydd dros y penwythnos diwethaf, llefydd fel Llanddulas, Mochdre, rhannau o Fae Colwyn, Pen-sarn yn Abergele, a llawer o ffyrdd yn y cymunedau gwledig. Mae'n fy nharo mai un o'r problemau fu cwtogi ar yr ymweliadau cynnal a chadw rheolaidd gan CNC â'r ardaloedd y maent yn gyfrifol amdanynt. Rydym yn gwybod y bydd yna adroddiadau adran 19 bellach ac yn amlwg, bydd angen i CNC gynnal adolygiad. Mae'n rhaid imi ddweud, un e-bost a gefais gan CNC, fel Aelodau eraill o'r Senedd, ers y digwyddiadau hyn. Nid yw hynny'n ddigon da. Nid ydym wedi cael cynnig unrhyw sesiynau briffio rhithwir gyda CNC yn sgil yr hyn a ddigwyddodd. Ac rwy'n gwybod eich bod yn dweud ein bod yn mynd i ddysgu gwersi ac y byddwch yn adolygu'r pethau hyn ac y bydd rhywbeth yn cael ei gyflwyno i'w drafod, ond cymerodd ddwy flynedd a hanner ar ôl y llifogydd yn 2020 a 2021 cyn cyflwyno adroddiad yn y Senedd hon. Nid wyf am aros dwy flynedd a hanner i weld beth y gellid bod wedi'i wneud i atal peth o'r llifogydd a brofwyd gennym i gyd y penwythnos diwethaf. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi inni, Weinidog, na fyddwn yn aros dwy flynedd a hanner, y bydd hwn yn ymarfer cyflym i edrych ar y materion sy'n codi a'r heriau sy'n wynebu pobl, fel y gallwn ddysgu gwersi'n gyflym ac yn bwysicach fyth, gweithredu'n gyflymach er mwyn diogelu eiddo pobl yn y dyfodol?
Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.
Wel, rwy'n credu, Darren, eich bod yn cymysgu rhwng dau fath gwahanol o adroddiad yno. Felly, yr adroddiad rydych yn sôn amdano oedd yr adroddiad trosfwaol i ddefnyddioldeb adroddiadau adran 19, neu fel arall—dyna y cymerodd amser i'w wneud. Nid oedd yr adroddiadau adran 19 eu hunain yn cymryd cymaint o amser wrth gwrs, ac ni wnaeth adroddiad CNC ychwaith, felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig peidio â chymysgu rhwng y gwahanol fathau o adroddiad y gwnaethom edrych arnynt. Mae'r un y cyfeiriwch chi ato, sef yr un gan yr Athro Elwen Evans KC, yn un a oedd yn adroddiad trosfwaol a edrychodd ar nifer fawr iawn o adroddiadau eraill ac a roddodd drosolwg ohonynt. Felly, rwy'n credu eich bod yn cymysgu rhwng dwy amserlen yno.
Lywydd, fel rwyf wedi dweud sawl gwaith, mae'n amlwg mai dim ond ychydig ddyddiau sydd ers storm Babet. Bydd angen inni sicrhau ein bod yn dysgu gwersi. Gallaf ddweud wrthych ein bod, hyd yma, yn gwybod bod 64 eiddo wedi'u cadarnhau fel rhai a ddioddefodd lifogydd o'u mewn. Roeddent yng Nghonwy, sir y Fflint a Phowys. Rydym wedi derbyn diweddariadau gan oddeutu hanner ein hawdurdodau lleol hyd yn hyn. Maent i gyd yn arwyddion cynnar. Mae'r pwyslais yn dal i fod ar ymateb. Ni chafodd y rhybudd llifogydd ei godi tan ddoe mewn rhai rhannau o Gymru, felly, mae'n ddyddiau cynnar iawn, ac wrth gwrs, byddwn yn disgwyl i'n gwahanol awdurdodau sector cyhoeddus a'n fforymau cydnerthedd gyflwyno eu hadroddiadau mewn da bryd, ond mae'n bwysig ei gael yn iawn a deall y gwersi sydd angen eu dysgu.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn amserol olaf gan Jane Dodds.
2. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod Dŵr Cymru yn cydymffurfio ag amodau ei drwydded weithredol yn dilyn pryderon ynghylch cydymffurfiaeth â'r trwyddedau gollwng? TQ889
Rydym wedi dweud yn glir iawn ein bod yn disgwyl i gwmnïau dŵr weithio'n galetach i ddarparu gwasanaethau rhagorol ar draws eu holl weithrediadau. Mae fy swyddogion a minnau’n gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru ac CNC, sef y rheoleiddwyr amgylcheddol ac sydd felly’n gyfrifol am gydymffurfiaeth cwmnïau dŵr â thrwyddedau.
Diolch, Weinidog. Cefais fy siomi, fel eraill, rwy’n siŵr, gan y datgeliad yr wythnos diwethaf fod Dŵr Cymru wedi bod yn dympio carthion heb eu trin yn anghyfreithlon o ddwsinau o weithfeydd trin dŵr gwastraff ers blynyddoedd. Mae'r diystyrwch llwyr hwn o'r rheolau, sydd i fod i warchod ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr a'n hiechyd, yn annerbyniol. Mae graddau methiant Dŵr Cymru yn syfrdanol. Mae’r ffaith bod bron i hanner eu gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn torri rheolau trwyddedau yn ddigon syfrdanol, ond mae’r sefyllfa yn Aberteifi yn arbennig o syfrdanol, lle mae carthion heb eu trin wedi eu gollwng ar yr arfordir am dros 200 diwrnod y flwyddyn ers 2019.
Mae pob un ohonom wedi cael yr ymateb gan Dŵr Cymru am yr adroddiad, sy’n dweud wrthym eu bod yn ymwybodol o'r problemau ac wedi bod yn ymchwilio ers nifer o flynyddoedd bellach, ond y gallai gwaith ar safle trin gwastraff newydd gymryd hyd at bedair blynedd—pedair blynedd arall o ollyngiadau anghyfreithlon a thrychineb i gynefinoedd. Nid oedd gennyf fawr o hyder cynt fod gan Dŵr Cymru grap ar y sefyllfa, a bellach, yn dilyn yr adroddiad gan y BBC, nid oes gennyf unrhyw hyder o gwbl. Mae'n codi cwestiwn ynghylch faint o weithfeydd eraill sydd yn y sefyllfa hon a beth arall nad ydym yn ei wybod.
Trafodais yr angen dirfawr am adolygiad annibynnol a chynhwysfawr o weithrediad a pherfformiad Dŵr Cymru gyda’r Prif Weinidog a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Hoffwn ofyn i chi, felly, Weinidog: a wnewch chi ymrwymo nawr i lansio ymchwiliad llawn, annibynnol i fethiannau Dŵr Cymru, gan fod y cyhoedd yn haeddu atebion? Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Jane. Rwy’n sicr yn disgwyl i gwmnïau dŵr yng Nghymru weithio’n galetach o lawer i ddarparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid ar draws eu gweithrediadau. Mae gennyf nifer o gyfarfodydd ar y gweill yr wythnos hon gyda Dŵr Cymru ac CNC, gan gynnwys un gyda’r ddau ohonynt gyda’i gilydd, i drafod nifer o faterion, yn cynnwys hyn.
Rwy'n siŵr eich bod yn gwybod—. Ac nid wyf yma i fod yn llefarydd ar ran Dŵr Cymru, dim o gwbl, ond rwy’n siŵr eich bod yn gwybod eu bod wedi cyfaddef bod yna broblemau'n ymwneud â materion technegol a gollyngiadau i ddŵr hallt yng ngwaith trin dŵr gwastraff Aberteifi a'u bod yn cynllunio buddsoddiad o £20 miliwn. Rwy'n credu eich bod newydd ddweud eich bod yn ymwybodol o hynny.
Rwyf am fod—. Heb wneud unrhyw esgusodion o gwbl drostynt, gan fy mod wedi fy mrawychu fel chithau, hoffwn fod yn siŵr, serch hynny, fod ein ffeithiau'n hollol gywir. Felly, i fod yn gwbl glir, mae dŵr ymdrochi traeth Poppit, sy'n agos iawn at y gwaith trin dŵr dan sylw, wedi cadw ei ddosbarthiad rhagorol, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir. Nid wyf am ddychryn pobl sy'n defnyddio'r dyfroedd hynny heb fod angen. Ond nid yw hynny'n ei esgusodi, serch hynny, Jane. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi nad yw hyn yn ddigon da, a bod angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch.
Ond fel gyda'r holl bethau hyn, mae cryn dipyn o wleidyddiaeth y tu ôl iddo. Y ffordd y mae buddsoddiad dŵr wedi'i drin dros y 14 neu 15 mlynedd diwethaf yw dweud mai dim ond os ydynt yn rhoi pris hynny ar filiau eu cwsmeriaid y gall y cwmnïau dŵr fuddsoddi. Nid dyna'r ffordd rydym yn buddsoddi mewn seilwaith arall. Nid ydym yn buddsoddi mewn ffyrdd yn y ffordd honno, er enghraifft, a byddai gwrthwynebiad mawr pe baem yn gwneud hynny, rwy’n siŵr. Felly, mae dewisiadau gwleidyddol yn cael eu gwneud yma gan y Llywodraeth Geidwadol sy'n achosi'r diffyg buddsoddiad, ac rwy'n mawr obeithio y cawn Lywodraeth a chanddi ddull gweithredu gwahanol i hynny, fel y gallwn wneud y buddsoddiad gwerth miliynau lawer o bunnoedd, biliynau o bunnoedd yn wir, yn ein seilwaith dŵr, buddsoddiad y mae ei angen yn fawr os ydym am ddiogelu ein hamgylchedd naturiol.
Gadewch inni fod yn onest yma, ni thâl pwyntio bys at Lywodraeth y DU. Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn wael o ran yr achosion o lygredd sydd gennym. Dim ond yn ddiweddar y mae Dŵr Cymru eu hunain wedi cyfaddef i'r BBC eu bod wedi gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon o ddwsinau o weithfeydd trin ers blynyddoedd. Mae rhwng 40 a 50 o weithfeydd trin dŵr gwastraff yn gweithredu'n groes i'w trwyddedau ar hyn o bryd. Gofynnodd yr Athro Hammond am ddata ar weithfeydd trin dŵr yng Nghymru, a chanfu fod 10 ohonynt wedi bod yn gollwng carthion heb eu trin ar adegau pan ddylent fod wedi bod yn ei drin. Roedd y data a ddarparwyd yn dangos nad oedd Aberteifi bron byth yn trin faint o garthion roedd i fod i'w drin; mae wedi gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon am gyfanswm cronnol o 1,146 o ddiwrnodau, o ddechrau 2018 hyd at ddiwedd mis Mai 2023. Yr hyn sy’n gwneud yr argyfwng hyd yn oed yn waeth yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwybod amdano ers wyth mlynedd. O ran Aberteifi, Weinidog, mae CNC wedi cyhoeddi hysbysiadau gorfodi, ond dim dirwyon. Fel rydym wedi'i ddweud eisoes, beth yw pwynt gorfodaeth os yw'r cwmnïau'n meddwl, 'O, gallwn gael rhybudd, gallwn gael cerydd', ond nid oes unrhyw gamau gwirioneddol yn cael eu cymryd yn eu herbyn—dim dirwyon? Mae CNC bellach yn edrych ar ddata o 101—
Janet, mae angen ichi ofyn y cwestiwn.
—o weithfeydd trin dŵr. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r methiant difrifol i gyhoeddi’r adroddiad ar orlifoedd stormydd? Roedd i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni. Ni allwn ganiatáu i’r llygredd hwn barhau. Ac o ystyried bod y sefyllfa’n waeth yng Nghymru, dylem roi’r gorau nawr i feio Llywodraeth y DU.
Wel, Janet, gallaf glywed nad ydych am feio Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs nad ydych, am eich bod yn eu cefnogi. Ond nid oes modd osgoi'r ffaith na allwn ddatrys y broblem hon heb y buddsoddiad mewn seilwaith sydd ei angen ar lefel y Llywodraeth. Yr unig ffordd y gall Dŵr Cymru fuddsoddi, neu unrhyw gwmni dŵr arall yn y DU gyfan, yw drwy ychwanegu arian at filiau; rwy'n siŵr mai chi fyddai'r cyntaf i ddweud nad ydych chi am i filiau fod yn ddrytach. Hefyd, mae’r mater yn Aberteifi yn un na ellir ei ddatrys heb fuddsoddiad sylweddol i uwchraddio’r seilwaith—mae pawb yn gytûn ar hynny.
Ar y mater penodol hwn, gwn y byddai’n well gan CNC weld y buddsoddiad yn mynd yn ôl i mewn i’r safle nag ar ddirwy. Ni fydd dirwy ond yn mynd â mwy o arian oddi ar Dŵr Cymru fel na allant fuddsoddi yn y seilwaith sydd ei angen arnom. Felly, fel arfer, Janet, mae arnaf ofn fod eich calon yn y lle iawn, mae'n debyg, ond mae eich ateb yn anymarferol ac yn annhebygol.
Fel rydym eisoes wedi'i glywed, mae pryderon cynyddol ynghylch cydymffurfiaeth Dŵr Cymru â'u trwyddedau gweithredol. Mae goblygiadau amgylcheddol unrhyw esgeulustod yn sylweddol, ac mae dicter y cyhoedd o weld carthion amrwd ac elifion yn cael eu pwmpio i mewn i’n moroedd a’n hafonydd yn gwbl ddealladwy. Mae'n hanfodol felly ein bod yn dwyn Dŵr Cymru i gyfrif, ac yn sicrhau bod mesurau angenrheidiol ar waith i warchod ein hamgylchedd a buddiannau pobl Cymru. Felly, mae'n amlwg fod angen gwelliannau i weithfeydd trin dŵr, fel rydym eisoes wedi'i glywed, ond maent hefyd yn gostus. Fodd bynnag, mae'n hanfodol nad yw unrhyw fuddsoddiadau cyfalaf yn y seilwaith trin dŵr yn cael effaith negyddol ar gwsmeriaid—ac mae hynny'n rhywbeth rydym eisoes wedi'i glywed gan y Gweinidog. Mae'n rhaid inni gael cydbwysedd rhwng diogelu ein hamgylchedd a sicrhau mynediad fforddiadwy at ddŵr glân i bawb.
Mae hefyd yn bryder—unwaith eto, rydym wedi eisoes clywed hyn—fod gan CNC, sef y rheoleiddiwr yn yr achos hwn, gyfyngiadau gwirioneddol ar ei adnoddau a'i gapasiti i orfodi cydymffurfiaeth. Yn sicr, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod CNC yn gallu amddiffyn ein hamgylchedd yn effeithiol. Felly, a allai’r Gweinidog egluro sut mae’n bwriadu sicrhau na fydd unrhyw fuddsoddiadau cyfalaf gan Dŵr Cymru yn arwain at gostau uwch i gwsmeriaid? A hefyd, sut mae'n bwriadu grymuso CNC i gymryd camau mwy pendant yn erbyn Dŵr Cymru pan fo materion cydymffurfio'n codi? A pha gymorth ariannol, os o gwbl, y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i alluogi Dŵr Cymru i gyflawni ei gyfrifoldebau amgylcheddol?
Diolch, Cefin. Ac unwaith eto, gallaf glywed eich pryder, a rhannaf eich pryder. Ond mae rhai problemau sylfaenol yma gyda'r ffordd y mae'r strwythur prisio ar gyfer dŵr yn gweithio. Mae gennyf gyfres o gyfarfodydd yn nes ymlaen yr wythnos hon, ac ymlaen i fis Tachwedd, gydag CNC a Dŵr Cymru, a Hafren Dyfrdwy yn wir—gyda’i gilydd ac ar wahân—a hefyd gydag Ofwat, er mwyn trafod hyn. Ond fel y mae strwythur presennol y diwydiant dŵr ledled y DU, yr unig ffordd o roi'r buddsoddiad i mewn yw cynyddu biliau cwsmeriaid. Felly, rydym yn trafod hynny gyda nhw drwy’r amser. Rydym yn sicrhau bod tariff cymdeithasol da ar waith ar gyfer y rhai na allant ei fforddio. Ond oni cheir newid Llywodraeth, a newid yn nealltwriaeth Llywodraeth y DU o sut y byddech yn gwneud gwelliannau seilwaith yn y diwydiant dŵr, mae arnaf ofn mai'r unig ffordd sydd gan y cwmnïau dŵr o wneud gwelliannau i'r seilwaith yw drwy'r arian y maent yn ei godi mewn refeniw, sef, wrth gwrs, y biliau y mae pob un ohonom yn eu talu.
Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gydag CNC a Dŵr Cymru i sicrhau bod eu llwybr ar gyfer yr hyn wnânt yn gyntaf, a beth yw'r difrifoldeb, a sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r problemau gwaethaf yn gyntaf, yn angenrheidiol. A chredaf ei bod yn bwysig sicrhau ein bod—. Rwy'n deall y dicter yn llwyr; rwy’n ei rannu fy hun, yn sicr, ond credaf ei bod yn bwysig sicrhau ein bod yn deall effaith pob un o’r gollyngiadau a beth y gellir ei wneud i’w oresgyn.
Fel y cofiwch mae'n siŵr, rwy’n lleisio pryderon yn rheolaidd am garthffosiaeth yn afon Tawe, lle mae dŵr storm yn cymysgu â charthion amrwd yng ngwaith trin Trebanos ac yna’n cael ei ollwng i afon Tawe. I atal hyn, rwyf wedi dweud sawl gwaith yn y Senedd fod angen erlyn a dirwyo Dŵr Cymru. Nid ydynt yn cael eu cosbi am ollwng carthion amrwd. Rwyf wedi darllen nad yw CNC yn erlyn Dŵr Cymru oherwydd y bygythiad y gallai costau gael eu dyfarnu yn eu herbyn.
A wnaiff Llywodraeth Cymru dalu'r gost o erlyn Dŵr Cymru i CNC? Ni allwn barhau fel hyn, gyda charthion amrwd mewn afonydd lle mae plant yn chwarae, lle mae pysgotwyr yn ceisio dal pysgod. Ni allwn barhau fel hyn. Fe wnaethant ddechrau unioni pethau yn yr ugeinfed ganrif; pam ein bod yn mynd tuag yn ôl?
Ie, Mike, rwy'n fwy na pharod i gyflwyno—. Wel, mewn gwirionedd, rwyf i fod i wneud datganiad llafar ar hyn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n codi hyn bryd hynny, ond rwy'n fwy na pharod i gylchredeg gwybodaeth am bolisïau erlyn CNC, sut maent yn gweithio a lle maent yn erlyn.
Yn y lle hwn, pan fyddwn yn trafod materion fel hyn, un o’r breintiau sydd gennym yw’r gallu i ddeddfu. Weinidog, rwy'n sylwi bod Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd yn Lloegr wedi rhoi rhybudd i Asiantaeth yr Amgylchedd, Ofwat ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig am yr un peth yn union ag y siaradwn amdano nawr. Ac ar bwynt diddorol, dywedant:
'O ganlyniad i'n hymchwiliadau hyd yn hyn, credwn y gallai rhai pwyntiau cyfreithiol allweddol fod wedi'u camddehongli. Craidd y mater yw pan fyddwn yn dehongli’r gyfraith i olygu mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, yn gyffredinol, y dylid caniatáu gollwng carthion heb eu trin, megis yn ystod glawiad anarferol o drwm, ymddengys y gallai’r awdurdodau cyhoeddus fod wedi dehongli’r gyfraith yn wahanol, gan ganiatáu gollyngiadau o’r fath i ddigwydd yn amlach.'
Nid problem yng ngorllewin Cymru yn unig mo hon; mae'n broblem yn Ogwr, yn broblem yn Abertawe, ac yn broblem yn y DU hefyd.
Mae WildFish hefyd, y mae gennyf gysylltiad â nhw, fel sydd gan fy nghyd-Aelod, oherwydd ein gwaith ar eogiaid a physgod gwyllt eraill, wedi rhoi rhybudd i Lywodraeth y DU. Tybed, Weinidog: beth yw eich dehongliad o’r gyfraith ar hyn? A oes dehongliad eang o hyn, ehangach nag y dylai fod, ac os felly, sut mae gwneud y canllawiau'n fwy llym ynglŷn â pha bryd y gall gollyngiadau ddigwydd?
Ie, diolch, Huw. Mae dau fater yn codi yma, ar agweddau cyfreithiol hyn, os mynnwch. Ceir gorlifoedd storm sydd â thrwyddedau, ac mae ganddynt amodau i'w trwyddedau, ac mae mater yn codi ynglŷn ag a ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer amod y drwydded ai peidio. A dyna lle mae'n ofynnol i'r cwmni dŵr ymchwilio a gwella perfformiad gorlifoedd carthffosiaeth gyfun gyda thrwyddedau. Ac mae'r trwyddedau—rydych chi'n llygad eich lle—yn dweud mai dim ond ar adegau lle maent wedi'u gorlethu gan y system y gallant ganiatáu gollyngiadau, ac mae pethau penodol am bob trwydded lle cânt wneud hynny.
Felly, mae materion yn codi lle mae pobl yn torri amodau eu trwydded. Ac wedyn, mae materion yn codi lle ceir gorlifoedd carthffosiaeth gyfun nad oes ganddynt drwydded, am na wyddys amdanynt neu am nad ydynt yn cael eu monitro. Ac mae gennym nifer fach iawn o'r rheini; gallaf ddarparu’r wybodaeth i’r Aelod os hoffai ei gweld.
Nid oes gorlifoedd carthffosiaeth gyfun newydd yn cael eu creu yng Nghymru. Rydym wedi gwneud systemau draenio cynaliadwy yn orfodol ar bob datblygiad adeiladu newydd—bron bob datblygiad adeiladu newydd, ar wahân i rai bach iawn. Diben hynny yw lleddfu’r pwysau ar y rhwydwaith drwy ailgyfeirio ac arafu pa mor gyflym y mae dŵr wyneb yn mynd i mewn i’r system garthffosiaeth. Ddoe ddiwethaf, fel rhan o safon ansawdd tai Cymru, dywedais wrth y Senedd ein bod yn gosod casgenni dŵr ar yr holl dai cymdeithasol sy'n cael eu hôl-osod. Mae 230,000 o dai cymdeithasol yng Nghymru, a hoffwn annog pawb arall i'w wneud hefyd, gyda llaw. Mae hynny, wrth gwrs, yn atal yr holl ddŵr sy'n taro toeau’r tai rhag mynd i mewn i’r system garthffosiaeth, gan ei fod yn ddŵr ffo, gyda'r nifer fawr o bobl sydd wedi gwneud pethau fel palmantu dros eu gerddi neu eu gerddi blaen. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i geisio lleihau faint o ddŵr ffo o'n systemau ffyrdd sy'n mynd i mewn i'n hafonydd.
A'r peth arall i'w ddweud hefyd yw nad wyf mewn unrhyw ffordd yn anwybyddu effaith y gollyngiadau hyn i mewn i'r afonydd, gan fod yr effaith yno, yn sicr. Ar bron i bob un o’n hafonydd ardaloedd cadwraeth arbennig, y llygrwr mwyaf yw dŵr ffo amaethyddol, ac nid gorlifoedd carthffosiaeth gyfun. Ac felly mae nifer o bethau eraill y mae angen inni eu gwneud i sicrhau bod ein hafonydd yn gallu gwella, ac un ohonynt yw mynd i’r afael â’r llygredd o ddŵr ffo amaethyddol.
Mae gennyf uwchgynhadledd ddiwedd mis Tachwedd, lle byddwn unwaith eto yn monitro'r cynllun gweithredu rydym wedi cytuno arno drwy'r grwpiau rheoli afonydd yn well a thrwy'r byrddau rheoli maethynnau. Mae gennym system gyfan o bethau ar waith yma yng Nghymru i wella ein sefyllfa. Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â hyn. Rydym wedi gofyn i bob sector roi'r gorau i bwyntio bys at sectorau eraill ac i edrych ar ei weithgarwch ei hun ac i sicrhau ei fod yn gwneud popeth yn ei allu. Mae’r cwmnïau dŵr ill dau yn rhan o’r uwchgynhadledd honno, a byddant yn cael eu dwyn i gyfrif yno, ac mae gennyf gyfres o gyfarfodydd gyda nhw dros y pedair i chwe wythnos nesaf. Ni chredaf ei fod yn gamddehongliad. Credaf ei fod yn seilwaith sy'n gwegian na all ymdopi â'r holl bethau y disgwylir iddo ymdrin â nhw heb unrhyw gynllun buddsoddi mewn seilwaith strategol priodol i gyd-fynd ag ef.
Fel rhywun sydd wedi byw yn Aberteifi, a'i theulu'n dal i fyw yno, rwy'n adnabod yr ardal yn dda iawn, a gwn hefyd ei bod yn gwasanaethu mwy na 7,000 o fy etholwyr, ac yn effeithio ar afon Teifi a bae Teifi, sydd ill dau wedi’u dynodi’n ardaloedd cadwraeth arbennig, ac nid oedd y gollyngiadau anghyfreithlon yn achosion unigryw. A hoffwn ddiolch i'r Athro Hammond am yr ymchwiliad sydd wedi tynnu ein sylw at hyn, oherwydd heb hynny, ni fyddem yn siarad amdano heddiw.
Rwy’n cydnabod, Weinidog, ac rydych chi wedi sôn, fod Dŵr Cymru ar fin dechrau gwaith uwchraddio gwerth £20 miliwn yn Aberteifi yn 2025, ac mae hynny’n newyddion da. Ond bydd unrhyw un sydd wedi byw yn yr ardal yn gwybod y gallwch arogli'r carthion os ydych chi'n cerdded ar hyd yr afon pan fo'n gollwng. Mae hynny'n ffaith. Byddant hefyd yn gwybod bod unigolion sydd wedi bod yn y dŵr ar yr adeg anghywir wedi bod yn sâl iawn. Felly credaf fod cwestiwn yma ynglŷn ag unigolion yn deall pryd y mae'r gollyngiadau hynny'n cael eu gwneud i'r afon—nid y môr ar draeth Poppit rydych yn sôn amdano, sef y bar, ond i mewn i'r afon ei hun—fel nad ydynt yn cael eu halogi eu hunain. Rwy'n credu bod hwnnw’n gwestiwn allweddol.
Rydych chi eisoes wedi dechrau sôn am SDCau a dŵr wyneb ffo. Yn gwbl amlwg, efallai y bydd mwy o ddealltwriaeth, gobeithio, wedi dod o’r holl drafodaethau hyn ar lifogydd heddiw, i atal y dŵr rhag mynd i mewn i’r system ddraenio yn y lle cyntaf. Pan fyddwch yn adolygu'r SDCau, Weinidog, fel y byddwch yn ei wneud—systemau draenio cynaliadwy trefol—gwyddom ar hyn o bryd fod cafeatau yno sydd wedi cael gwared ar rwymedigaethau adeiladwyr bach. A wnewch chi gael golwg ar hynny? Oherwydd mewn ardaloedd gwledig fel yr un rydym yn sôn amdani, bydd y rhan fwyaf o'r pethau ychwanegol sy'n llifo i'r systemau cyfunol—systemau dŵr, systemau carthffosiaeth—yr ydym yn sôn amdanynt nawr yn dod o'r adeiladau bach iawn hynny nad ydynt o reidrwydd yn digwydd ar raddfa fawr beth bynnag. Diolch.
Diolch, Joyce. Hoffwn gydnabod eich ymgyrch hirdymor i atal pobl rhag palmantu dros eu gerddi blaen yn enwedig, a’ch ymgyrch i ddod ag ymwybyddiaeth i bobl o’r hyn sy’n digwydd pan fyddant yn rhoi gorchuddion anhydraidd ar eu gardd flaen, fel bod y dŵr ffo'n mynd yn syth i mewn i'r cwteri, i mewn i'r ffordd, gan mai dyna ble mae'r problemau mwyaf. Fel y gwn eich bod yn gwybod yn iawn, ar eich cais chi, fe ysgrifennais at bob awdurdod lleol yng Nghymru i'w hatgoffa bod angen caniatâd cynllunio arnoch i balmantu dros eich gardd flaen, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yr Aelodau’n dweud hynny wrth unrhyw etholwr sy'n gofyn iddynt, ac efallai’n rhoi adnoddau ar eu gwefannau eu hunain ac yn cyhoeddi eu gwybodaeth eu hunain i ddweud wrth bobl am y difrod gwirioneddol sy’n digwydd pan fydd pobl yn palmantu dros eu gardd flaen ac yn cynyddu’r dŵr ffo hwnnw heb feddwl am y peth.
Rwy'n sicr yn adolygu'r SDCau. Cawsom ein beirniadu’n hallt gan y Ceidwadwyr a chan y cwmnïau adeiladu tai mawr pan gyflwynwyd SDCau gennym, ond yn bendant, dyna oedd y peth iawn i’w wneud. A chredaf eich bod yn iawn; rwy'n credu y dylem edrych ar y terfyn eithrio ac a oes angen inni ostwng hwnnw i sicrhau bod pobl yn gwneud yn siŵr, pan fyddant yn adeiladu tai, eu bod yn ymdrin â’r dŵr ffo. Ac yna, fel y dywedais hefyd—a gwn eich bod yn ymwybodol iawn o hyn, Joyce—mae angen inni fynd i'r afael â'r materion eraill yn ein hafonydd hefyd, ond mae gwir angen inni sicrhau bod ein cwmnïau dŵr yn cadw at eu haddewid.
Er gwybodaeth i’r Aelodau, ac mae’n amlwg nad yw hyn wedi bod yn ddigonol, ond er gwybodaeth iddynt, ym maniffesto Dŵr Cymru ar gyfer afonydd, maent yn cyflawni gwerth dros £840 miliwn o welliannau erbyn 2025, a £1.4 biliwn arall erbyn 2030, fel rhan o'u strwythur prisiau presennol. Rydym ar hyn o bryd yn yr adolygiad o brisiau cyfredol, lle rydym yn trafod faint o arian y gallant ei roi i fuddsoddi, ac o ble y daw’r arian hwnnw, a’r holl fater ynglŷn â thalwyr biliau'n talu. Ond heb newid mawr yn y polisi ar lefel Llywodraeth y DU, ychydig iawn y gallwn ei wneud i atal biliau rhag cynyddu os ydym am gael y math o fuddsoddiad mewn seilwaith sydd ei angen arnom mewn gwirionedd i atal y math hwn o lygredd echrydus rhag digwydd yn ein hafonydd.
Diolch i'r Gweinidog unwaith eto.
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac yn gyntaf Alun Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Efallai nad Roy Francis yw’r enw cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth restru ein mawrion rygbi, ac eto, ef oedd chwaraewr du cyntaf Prydain, a'r prif hyfforddwr du cyntaf ar dîm proffesiynol haen uchaf. Cafodd ei eni ym 1919, a dechreuodd chwarae rygbi'r undeb i Fryn-mawr. Yn 17 oed, ef oedd un o chwaraewyr du cyntaf rygbi'r gynghrair, pan newidiodd godau i ymuno â Wigan. Amharwyd ar ei yrfa chwarae gan y rhyfel, lle bu'n gwasanaethu drwy helpu i adsefydlu milwyr wedi'u hanafu. Yma y dechreuodd ddysgu rhai o'r technegau hyfforddi a fyddai'n diffinio ei waddol. Ar ddiwedd y rhyfel, ailymunodd â Barrow, ac arweiniodd ei berfformiadau at alwad i garfan Prydain. Ym 1947, daeth yn chwaraewr du cyntaf Prydain, gan sgorio dau gais yn erbyn Seland Newydd. Pan ymddeolodd fel chwaraewr ym 1955, gallai edrych yn ôl ar gyflawniad rhyfeddol o 229 o geisiadau mewn 356 o gemau. Ar ôl ei yrfa fel chwaraewr, bu'n hyfforddi Hull, a enillodd y bencampwriaeth ym 1956 a 1958, a Leeds a enillodd y Cwpan Her ym 1968. Ar ôl cyfnod yn Awstralia, dychwelodd at Leeds, a enillodd y gynghrair ym 1974.
Os oedd ei yrfa fel chwaraewr yn drawiadol, bu ei yrfa hyfforddi'n ddylanwad mawr ar y gêm, drwy ei ddefnydd o dechnegau ymhell o flaen ei amser, gyda deiet a ffilmio gemau a sesiynau hyfforddi yn rhai o'i ddatblygiadau arloesol. Ymddeolodd ym 1977, a bu farw ym 1989. Dros 30 mlynedd ar ôl ei farwolaeth, mae Roy Francis bellach yn cael ei gydnabod â cherflun yn ei dref enedigol. Yn 2018, cafodd ei gynnwys yn oriel anfarwolion chwaraeon Cymru. Daw hyn yn dilyn dadorchuddio cerflun o chwaraewyr rygbi’r gynghrair du eraill Cymru, Billy Boston, Clive Sullivan, ynghyd â Gus Risman, yng Nghaerdydd, ac mae’n ffordd addas o nodi Mis Hanes Pobl Ddu. Llongyfarchiadau i bawb ym Mryn-mawr a weithiodd yn galed i gofio Roy. Mae Roy wedi dod adref.
Fis nesaf, bydd gŵyl Gwrthryfel Casnewydd yn cael ei chynnal i goffáu gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd. Bydd yn cofio’r miloedd o Siartwyr a orymdeithiodd drwy Gasnewydd ar 4 Tachwedd 1839 mewn ymdrech i fynnu gwell hawliau pleidleisio ac i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Collodd o leiaf 22 o bobl eu bywydau y diwrnod hwnnw yn y frwydr dros ddiwygio democrataidd, ac er nas gwireddwyd y weledigaeth a gynigiwyd ganddynt ar gyfer democratiaeth, cymuned a mwy o gydraddoldeb yn uniongyrchol gan fudiad y Siartwyr, gellir dadlau iddynt osod y sylfaen ar gyfer yr hawl i bleidleisio yn y dyfodol. Felly, i dalu teyrnged i’r diwrnod arwyddocaol hwn yn hanes Cymru, bydd Gwrthryfel Casnewydd yn cynnal gŵyl am ei chweched flwyddyn. Mae’n ŵyl ddi-elw a gynhelir gan grŵp bach iawn o bobl a gwirfoddolwyr, a bydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, o gerddoriaeth a ffilm i sgyrsiau a gweithdai. Ac wrth gwrs, bydd yr orymdaith flynyddol yng ngolau ffagl yn dilyn llwybr y Siartwyr drwy Gasnewydd.
Mae'n ddathliad o Gymru a'n hanes lliwgar, o Gasnewydd a'i chymunedau, ac yn gyfle, efallai, i ni oll feddwl am rai o'r hawliau rŷm ni'n rhy dueddol o'u cymryd yn ganiataol. Felly, pob lwc i bawb sydd yn mynd i fod yn rhan o'r digwyddiad pwysig yma.
Ac yn olaf, Jayne Bryant.
Mae heddiw’n nodi Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Corachedd. Mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu ac i godi ymwybyddiaeth o'r heriau a wynebir o ddydd i ddydd. Heddiw, mae pobl â chorachedd ledled y byd yn dal i wynebu cymaint o rwystrau a all atal cyfleoedd a dewisiadau. Mae gan bobl â chorachedd bob hawl i fyw mor annibynnol a hyderus ag unrhyw un.
Dewiswyd 25 Hydref fel diwrnod ar gyfer ymwybyddiaeth o gorachedd am mai dyma oedd dyddiad pen-blwydd Billy Barty. Sefydlodd Little People of America ym 1957, sefydliad sy'n cefnogi pobl â chorachedd yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth. Yna, cyd-sefydlwyd Little People UK ym mis Ionawr 2012 gan yr actor Warwick Davis, ei wraig Samantha, a grŵp o unigolion gyda'r un nod: cynnig cyfeillgarwch a chefnogaeth i bobl â chorachedd, eu teuluoedd, eu ffrindiau, a helpu i adeiladu dyfodol cadarnhaol.
Mae Danielle Webb o Gasnewydd, is-gadeirydd Little People UK, yn ymgyrchydd gwych ac ysbrydoledig. Mae Danielle yn gweithio'n galed i rannu ei phrofiadau gyda phobl o'i chwmpas ac yn y gymuned i wneud lleoedd yn fwy parod i addasu. Mae Danielle hefyd yn awdur dau lyfr plant, Mummy There's a New Girl a Short Perspectives, sy'n annog plant ysgol i hyrwyddo amrywiaeth ac ymwybyddiaeth o anabledd mewn llenyddiaeth ac addysg plant. Mae’n anrhydedd imi gael noddi digwyddiad swyddogol cyntaf Cymru ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Corachedd yn y Senedd heno, gyda chymorth Danielle Webb. Yn y Senedd heno, rwy'n gobeithio y gallwn wrando a dysgu gan bobl fach, er mwyn deall beth sydd ei angen arnom i chwalu rhwystrau sy’n rhy aml o lawer yn eu hatal rhag cyflawni eu potensial llawn.
Eitem 5 yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar yr Holodomor, a galwaf ar Alun Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8381 Alun Davies, Darren Millar, Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod yr Holodomor yn drosedd a bennwyd ymlaen llaw, a gyflawnwyd ac a arweiniwyd gan Stalin a'r Llywodraeth Sofietaidd yn erbyn pobl Wcráin.
2. Yn ystyried bod yr Holodomor yn weithred o hil-laddiad.
3. Yn nodi rôl hollbwysig y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, wrth ddod â chreulondeb yr Holodomor i sylw'r byd.
4. Yn parhau i sefyll gyda phobl Wcráin wrth iddynt wynebu rhyfel anghyfreithlon Putin.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae cof am yr Holodomor yn atseinio ar hyd y blynyddoedd, wrth inni gofio trais Sofietaidd 90 mlynedd yn ôl a gweld ffyrnigrwydd ymosodiad Rwsia heddiw. Mae’r ddadl hon yn amserol, gan ei bod yn fwy nag ymarfer hanesyddol yn unig.
Gair Wcreineg yw Holodomor sy'n golygu achosi marwolaeth drwy newyn. Heddiw, rydym yn ei ddefnyddio i gyfeirio at yr ymgyrch Stalinaidd i ddileu'r genedl Wcreinaidd, a arweiniodd at newyn gorfodol 1932 a 1933, a laddodd filiynau o Wcreiniaid. Wrth gwrs, nid yw union nifer y bobl a gollwyd yn hysbys, gan i'r Undeb Sofietaidd wrthod caniatáu adrodd am y newyn, ond amcangyfrifir bod 7 miliwn, ac efallai cymaint â 10 miliwn, wedi marw yn Wcráin, gyda llawer mwy o farwolaethau yn y taleithiau Sofietaidd cyfagos. A gadewch inni fod yn gwbl glir, Ddirprwy Lywydd, nid trychineb naturiol oedd hwn, na gweithred gan Dduw nac anffawd ychwaith. Roedd yn bolisi bwriadol a luniwyd i ddileu poblogaeth wledig Wcráin, a oedd yn ymgorfforiad o ysbryd diwylliant a chenedligrwydd Wcreinaidd.
Dyma laddfa dawel Wcráin—trychineb erchyll bwriadol ar raddfa annirnadwy o ganlyniad i bolisïau Sofietaidd. Ar anterth y newyn, roedd 25,000 o bobl yn marw o newyn bob dydd, gan gynnwys plant a oedd yn rhy fach i fwydo eu hunain. Ceisiodd rhai pobl ladd eu hunain i osgoi gorfod marw o newyn. Roedd y rhai a oedd yn gwrthod dwyn neu adael yn marw o newyn. Roedd y rhai a oedd yn ceisio dwyn yn cael eu saethu. Roedd y rhai a oedd yn ceisio gadael yn gorfod dychwelyd i'w pentrefi i wynebu'r un dewisiadau amhosibl eto. Trodd pentrefwyr at ganibaliaeth i oroesi. Cafodd y meirw eu gadael heb eu claddu, a'r bobl sâl heb neb i ofalu amdanynt. Mae’r rhain yn bynciau anodd eu trafod ac yn bethau anodd eu clywed, ond mae’n hollbwysig ein bod yn sylweddoli ac yn deall maint y dioddefaint.
Prif nod y newyn artiffisial oedd cael gwared ag Wcreiniaid o ardaloedd helaeth o Wcráin drwy lanhau ethnig. A Ddirprwy Lywydd, gadewch inni fod yn glir mai hil-laddiad oedd hyn.
Ym 1948, yng nghysgod yr Holocost, mabwysiadwyd confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hil-laddiad a ddiffiniodd hil-laddiad fel gweithred a gyflawnwyd gyda'r bwriad o ddinistrio yn gyfan gwbl, neu'n rhannol, grŵp cenedlaethol, ethnig, hil neu grefyddol. Ni waeth pa ddiffiniad a fabwysiadwyd, mae hyn yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cael ei ystyried yn hil-laddiad, ac mae angen inni ddweud hynny ac mae angen inni ei ddweud yn glir fel Senedd y prynhawn yma. Yn yr un modd â'r rhyfel heddiw, roedd unigolyn amlwg yn gyfrifol am y newyn—Stalin ddoe a Putin heddiw. Cymhelliant Stalin oedd trawsnewid a llunio cenedl Wcráin yn ei ddelwedd ei hun ar unrhyw gost, ac adlewyrchir hynny yng myd-olwg imperialaidd ffiaidd Putin heddiw.
Ymdrechion cyfeiliornus a gwrthnysig Putin i ddileu hunaniaeth Wcráin o’r byd yw’r enghreifftiau diweddaraf o hoffter Rwsia o ymyrraeth, gorchfygiad, rhyfel ac erchyllterau. Mae ymosodiadau Rwsia ar genedligrwydd a hunaniaeth Wcreinaidd yn parhau hyd heddiw. Rydym yn parhau i weld yr ymosodiadau ar Wcráin. A dylem gofio, ers 2014, fod miloedd wedi'u lladd gan luoedd Putin. Ers yr ymosodiad llawn, mae dros 50 y cant o boblogaeth Wcráin cyn y rhyfel—21 miliwn—wedi gorfod cael cymorth dyngarol naill ai yn Wcráin neu’r tu allan. Dylem gofio maint effaith hyn ar bobl, ar gymunedau, ar bobl Wcráin, ond dylem hefyd gydnabod sut mae pobl ledled y byd wedi estyn allan at Wcráin er mwyn eu cefnogi ar yr adeg hon. Mae lluoedd Rwsia wedi ymosod ar ysbytai, ysgolion a chyflenwadau ynni Wcráin, gan adael dinasoedd yn adfeilion a phobl yn rhedeg am eu bywydau. Mae'n debyg iawn i'r 1930au o ran maint yr effaith a gafodd ar y boblogaeth ddynol.
Mae pwysigrwydd arbennig i’r ddadl hon y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd, oherwydd dewrder un Cymro, Gareth Jones, sy’n gyfrifol am lawer o’r hyn a wyddom. Heriodd Gareth Jones ymdrechion Sofietaidd i'w sensro, gan adrodd gwirionedd yr hyn a oedd yn digwydd i filiynau o bobl. Parhaodd y Kremlin, wrth gwrs, i wadu bodolaeth y newyn, ac eto, ni lwyddodd yr ymgyrch gelwyddog i geisio tawelu Gareth. Rydym yn ddiolchgar i’r newyddiadurwr Martin Shipton am ysgrifennu am ddewrder Gareth ac am y rhan a chwaraeodd Gareth yn dod â’r newyddion hwn i’r byd. Rydym yn ddiolchgar hefyd i'r rhai sydd wedi cofio Gareth, lle cafodd plac er cof amdano ei ddadorchuddio yn Kiyv yn gynharach yr hydref hwn.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru—. Ac rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am barhau i gefnogi’r gwaith i gofio'r hyn sy’n digwydd yn Wcráin. Rwy’n falch o arweinyddiaeth Mick Antoniw, sydd wedi arwain Llywodraeth Cymru a’r Senedd hon mor aml dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf wrth gefnogi a sefyll dros bobl Wcráin. Rwy’n falch hefyd o Aelodau ar bob ochr i’r Siambr hon sydd wedi dod ynghyd, wedi rhoi gwleidyddiaeth bleidiol a gwahaniaethau pleidiol i’r naill ochr, i sefyll dros bobl Wcráin. Mae’n bwysig, oherwydd os na wnawn wynebu trasiedïau hanes, rydym yn sicr o’u hailadrodd. Drwy gydol ei hanes, mae Wcráin wedi bod yn brwydro i oroesi yn erbyn Rwsia. Ceir patrwm o ymddygiad lle mae Rwsia wedi ceisio dileu Wcráin fel cenedl.
Ddirprwy Lywydd, ceisiodd wneud hynny 90 mlynedd yn ôl. Mae'n ceisio gwneud yr un peth heddiw. Oni bai ein bod yn deall y cyd-destun hanesyddol, nid ydym yn deall arwyddocâd yr hyn sy’n digwydd heddiw. Gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddangos undod diwyro â phobl Wcráin wrth gofio’r drasiedi hon, ac y bydd yn parhau i sefyll gydag Wcráin i amddiffyn ei sofraniaeth a hawliau ei phobl. Pan fyddaf yn teithio i Wcráin yfory, byddaf yn teithio gydag ewyllys da Aelodau o bob ochr i’r Siambr hon, a holl gymunedau’r wlad hon. Mae pobl Wcráin yn cydnabod ac yn ddiolchgar i bob un ohonom am y gefnogaeth honno ac am yr undod hwnnw. Mewn misoedd a blynyddoedd i ddod, bydd hynny’n cael ei brofi a bydd ei angen eto, ac rwy’n gwbl hyderus na fydd Aelodau ar bob ochr i’r Siambr hon yn brin o gefnogaeth. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am gyflwyno’r ddadl hon—roeddwn i’n falch o allu ei chefnogi—ond hefyd am y ffordd y gwnaeth o gyflwyno’r ddadl heddiw? Mae o’n bwysig eithriadol, fel dŷch chi’n amlinellu, ein bod ni’n cofio, a hefyd, byddai rhywun yn gobeithio, yn dysgu gwersi o’r gorffennol. Ond yn anffodus, dydy hynny ddim yn digwydd, a dyna pam dŷn ni’n gweld y sefyllfa bresennol fel mae hi.
Fel chithau, dwi’n meddwl ei fod o’n bwysig ein bod ni yn defnyddio’r gair priodol o ‘hil-laddiad’, oherwydd dyna oedd hyn, ac yn bwysig bod Seneddau fel y Senedd hon yn adlewyrchu hefyd y pwysigrwydd dewisiadau gwleidyddol a phenderfyniadau gwleidyddol, a beth mae hynny yn ei olygu i unigolion. Oherwydd dŷn ni’n gweld dro ar ôl tro fod pobl ddim, yn anffodus, yn dysgu gwersi. Dŷn ni’n gallu condemnio’r gorffennol, ond mi gawn ni ein barnu ar yr hyn sy’n digwydd yn y presennol.
Un o’r pethau y gwnes i adlewyrchu arno fo wrth siarad efo Sioned Williams yn gynharach oedd ein bod ni’n cydnabod, wrth gwrs, ddewrder Gareth Jones, a’r ffaith y gwnaeth o farw mor ifanc oherwydd ei ddewrder hefyd, a’i fod o’n llais unigol, yn amlwg, a’r heriau a fyddai wedi bod o ran cael y stori yna allan ar y pryd, a chyferbynnu hynny gyda’r presennol rŵan, lle dŷch chi’n gallu mynd ar y cyfryngau cymdeithasol a gweld, o fewn eiliadau, ddigwyddiadau, neu weld live stream, yn y presennol. A dŷch chi’n hoffi meddwl, os byddai pobl wedi gwybod, y byddai pethau’n wahanol. Mae’n rhywbeth dŷch chi’n gallu adlewyrchu arno fo pan dŷch chi’n dysgu am hanes yn yr ysgol. Beth fyddai wedi digwydd pe byddai pobl yn gwybod? Beth fyddem ni wedi’i wneud? Wel, mae hwn yn gwestiwn i ni i gyd adlewyrchu arno fo rŵan, a dwi’n meddwl bod y ffaith ein bod ni’n trafod fan hyn rhywbeth sydd wedi digwydd 90 mlynedd yn ôl, ac yn ei gysylltu fo efo’r presennol, yn eithriadol o bwysig. Oherwydd mae’r erchyllterau presennol â gwreiddiau llawer, llawer dyfnach yma, a dyna pam dŷn ni wedi bod eisiau sicrhau bod hanes ar y cwricwlwm ac ati, oherwydd eich bod chi’n gobeithio am fywyd gwell, a'ch bod chi’n mynd i obeithio bod erchyllterau fel hyn ddim yn mynd i ddigwydd, ond maen nhw.
O ran y gwirionedd, un o’r pethau y byddem ni’n gobeithio y gallwn ni ei wneud ydy parhau, wrth gwrs, i herio o ran yr hyn sy’n digwydd yn Wcráin rŵan, i wneud y cysylltiad yna gyda hil-laddiad, ond hefyd i sicrhau ein bod ni’n llais parhaus o ran y bobl hynny sy’n parhau i ddioddef, a hefyd, wrth gwrs, gyda chymaint rŵan wedi ymgartrefi yma yng Nghymru, a ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i’w hanwyliaid nhw. Felly, dwi’n falch ein bod ni’n cymryd yr amser yma i adlewyrchu heddiw, oherwydd adlewyrchu yr ydyn ni, ond gobeithio hefyd ein bod ni yn meddwl am bawb sydd yn parhau i ddioddef oherwydd dewisiadau gwleidyddol ledled y byd, a’n bod ni heddiw yn sicr ein bod ni ddim yn mynd i beidio â gwrando na chofio, na chwaith ddefnyddio ein llais rhyngwladol ni er mwyn mynnu gwell i bawb.
Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch i Alun Davies, Darren Millar a Heledd Fychan am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar ran pob prif blaid wleidyddol yn y Senedd. Rwy'n credu bod y gefnogaeth drawsbleidiol hon yn dangos undod ein cefnogaeth i bobl Wcráin a'n gwrthsafiad i ymosodiad Rwsia.
Ar y pedwerydd dydd Sadwrn bob mis Tachwedd, mae'r Holodomor yn cael ei goffa yn rhyngwladol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth a choffâu'r Holodomor, i gofio'r dioddefwyr ac i sefyll yn gadarn gyda phobl Wcráin, sydd erbyn hyn yn cael lloches yng Nghymru. Fis Tachwedd diwethaf, fe wnaethon ni nodi 90 mlynedd ers y Holodomor yn Wcráin gyda digwyddiad yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd, dan arweiniad y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Fe wnaethom ni gofio'r rhai a oedd wedi dioddef oherwydd gweithredoedd blaenorol gan lywodraeth ym Moskva.
Eleni rydym wedi trefnu digwyddiad yma yn y Senedd ar 25 Tachwedd a noddir yn garedig gan fy nghyd-Aelod Alun Davies. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfraniad gan y Prif Weinidog, Gweinidogion Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, arweinwyr crefyddol Wcreinaidd a Chymreig, Cymdeithas Wcreiniaid Prydain, a chynrychiolydd o llysgenhadaeth Wcráin. Bydd llawer o'n gwesteion Wcreinaidd yn y digwyddiad wedi cael noddfa yng Nghymru oherwydd y rhyfel. Byddwn yn gwrando ar seiniau hyfryd chwaraewyr bandura, offeryn cenedlaethol Wcráin. Byddwn yn gosod torchau ac ysgubau o wenith i'n hatgoffa o'r gwenith y gwnaeth cadfridogion Stalin ei ddwyn ac sy'n cael ei ddwyn heddiw gan oresgynwyr Putin. Wedyn, cawn ysbaid o dawelwch i fyfyrio a chofio am y miliynau a ddioddefodd newyn artiffisial Stalin.
Mae erchyllterau cyfredol Putin yn Wcráin yn rhan o batrwm hirdymor o ormes Rwsia ar Wcráin, sy'n ymestyn yn ôl ddegawdau lawer, a chanrifoedd yn wir. Mae nodi Holodomor yn y ffordd hon yn taflu goleuni ar hyn. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i ailddatgan ein cefnogaeth i Wcráin ac i dalu teyrnged i ddewrder pobl Wcráin. Byddwn hefyd yn cofio Holodomor drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cyfathrebiadau rheolaidd â gwesteion a lletywyr ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth.
Cafodd yr Holodomor—newyn o waith dyn a achosodd i filiynau farw—ei ddatgelu'n ddewr i'r byd, yn rhannol gan y newyddiadurwr Cymreig Gareth Jones. Roedd yn weithred o hil-laddiad, a dyna mae'r cynnig yn ei gydnabod.
Roedd yr Holodomor yn weithred o hil-laddiad. Голодомор був актом геноциду.
Mae'r cynnig hwn, yn ddiamwys ar ran pobl Cymru drwy'r Senedd hon, yn datgan bod Holodomor yn weithred o hil-laddiad. Ця ініціатива однозначно від імені народу Уельсу через цей парламент проголошує Голодомор актом геноциду.
Crëwyd y term 'hil-laddiad' gan y cyfreithiwr Iddewig Raphael Lemkin, a oroesodd yr Holocost, ac ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno a mabwysiadu y Confensiwn ar Atal a Chosbi Trosedd Hil-laddiad gan y Cenhedloedd Unedig—cytundeb rhyngwladol sy'n troseddoli hil-laddiad ac yn ei gwneud yn ddyletswydd i wladwriaethau fynd ar drywydd gorfodaeth i'w wahardd. Hwn oedd yr offeryn cyfreithiol cyntaf i godio hil-laddiad fel trosedd, a'r cytundeb hawliau dynol cyntaf a fabwysiadwyd yn unfrydol gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 9 Rhagfyr 1948, yn ystod trydydd sesiwn Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Daeth y confensiwn i rym ar 12 Ionawr 1951, ac roedd ganddo 152 o bartïon gwladwriaethol erbyn 2022.
Roedd Lemkin yn glir fod yr hyn a ddisgrifir gennym bellach fel yr Holodomor yn rhaglen fwriadol o newyn—trydedd elfen Rwsianeiddio Sofietaidd Wcráin. Ym 1953, mewn araith a roddodd yn Efrog Newydd, disgrifiodd Lemkin yr Holodomor fel un rhan efallai o'r
'enghraifft glasurol o hil-laddiad Sofietaidd, yr arbrawf hwyaf a mwyaf helaeth mewn Rwsianeiddio, sef difodi cenedl Wcráin'.
Aeth rhagddo i nodi nad Rwsiad yw'r Wcreiniad ac na fu erioed yn Rwsiad.
Gwelodd y newyddiadurwr o Gymro, Gareth Jones, y dioddefaint yn Wcráin a datgelodd y gwir am yr erchylltra y daeth ar ei draws. Roedd yn un o'r ychydig newyddiadurwyr gorllewinol a adroddodd ar y newyn yn Wcráin a'i achosion, ac mae'n dal i gael ei ystyried yn arwr yn Wcráin. Roeddwn yn falch o weld Gareth yn cael ei gofio a'i anrhydeddu yn ei dref enedigol, y Barri, gyda dadorchuddio plac coffa er anrhydedd iddo. Dyma un o bedwar plac a ddadorchuddiwyd er anrhydedd iddo, gydag eraill yn Aberystwyth, Milan ac ychydig wythnosau'n ôl yn unig, mewn seremoni yn y llyfrgell genedlaethol yn Kyiv. Byddwn yn coffáu Gareth Jones a phwysigrwydd ei waith yn y digwyddiad yn y Senedd fis nesaf. Ac wrth inni anrhydeddu cadernid a dewrder pobl Wcráin yn wyneb ymosodiadau Putin, rydym hefyd yn cadarnhau ein hymrwymiad i helpu Wcreiniaid yma yng Nghymru i gofnodi eu gwybodaeth am droseddau rhyfel a gyflawnwyd yn fwy diweddar.
Cafodd pawb ohonom ein syfrdanu gan greulondeb yr hyn a welsom ac a glywsom o Wcráin ers i'r goresgyniad mawr ddechrau. Ers mis Chwefror y llynedd, mae miloedd wedi cael eu lladd a miliynau'n rhagor wedi gorfod ceisio lloches. Mae Llywodraeth Cymru yn condemnio'r rhyfel hwn, ac fel cenedl, byddwn yn parhau i sefyll yn erbyn creulondeb ac mewn undod â'r rhai sydd ein hangen.
Cyn y gwrthdaro hwn, roedd Cymru'n gartref i tua 500 o Wcreiniaid. Rydym bellach wedi croesawu mwy na 7,000 o bobl sy'n ffoi o Wcráin. Rydym yn gwybod bod angen cymorth ar y rhai sy'n cyrraedd yma yng Nghymru yn chwilio am le diogel i aros. Mae nifer wedi ymgartrefu yn ein cymunedau yng Nghymru ac yn dod yn ffrindiau i ni, yn gydweithwyr, yn gyd-ddisgyblion, ac mewn rhai achosion, yn fwy tebyg i deulu. Rydym wedi eu croesawu ac wedi dysgu o'u profiad i gryfhau ein cymunedau. Mae'r ymateb hwn unwaith eto wedi dangos y tosturi ledled Cymru. Mae pobl Cymru wedi dangos y byddant yn camu i'r adwy ac yn ateb yr alwad i gyfranogi yn y genedl noddfa. Ac unwaith eto, rwy'n diolch i bobl Cymru am eu haelioni.
Rydym i gyd yn ymwybodol o'r cysylltiad hirsefydlog rhwng Wcráin a Chymru, ac rwy'n hynod falch o'r modd y parhawn i sefyll yn erbyn y gweithredoedd barbaraidd hyn a dangos haelioni diwyro. Felly, gwn y bydd yr holl Aelodau yn ymuno â mi i fynegi undod Cymreig â'r holl Wcreiniaid i nodi Holodomor. Mae Cymru yn genedl noddfa, yn genedl o heddwch. Слава Україні! Героям слава! Перемога!
Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi hefyd ddechrau drwy dalu teyrnged i waith Mick Antoniw—nid yn unig am ei rôl yma yn Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, ond am y rôl arweiniol y mae'n ei chwarae yn sicrhau bod llais pobl Wcráin yn cael ei glywed ar draws y genedl hon? A gaf fi ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelodau Heledd Fychan ac Alun Davies am allu cyd-gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw?
Gwn fod Alun wedi ymweld ag Wcráin sawl gwaith. Ymwelais â'r wlad un waith ers dechrau goresgyniad Rwsia, ac rwy'n gwybod faint mae pobl Wcráin yn gwerthfawrogi'r ymweliadau hynny. Wrth gwrs, rwy'n credu y bydd sefydlu'r grŵp trawsbleidiol newydd ar gyfer cyfeillion Wcráin yn helpu unwaith eto i ddangos cefnogaeth y Siambr i'r bobl hynny, sydd yng nghanol argyfwng. Mae angen inni eu cefnogi cymaint ag y gallwn.
Felly, edrychwch, mae hon yn ddadl bwysig iawn. Am amser rhy hir, mae'r Holodomor wedi cael ei anwybyddu. Mae wedi cael ei anwybyddu yn y cofnod o ddioddefaint ac anghyfiawnder dynol. Felly, rwy'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â phawb yn y Siambr hon a chyda phobl Wcráin wrth alw am gydnabyddiaeth ffurfiol gan y Senedd Gymreig hon i'r Holodomor fel hil-laddiad.
Rydym eisoes wedi clywed bod y rhain yn bethau a ddigwyddodd 90 mlynedd yn ôl, ac mae'n amhosibl dirnad eu maint. Ond mae meddwl bod hyd at ddwy neu hyd yn oed dair gwaith poblogaeth Cymru wedi marw o ganlyniad i newyn a grëwyd gan ddyn, a oedd yn bolisi bwriadol y Llywodraeth Sofietaidd ar y pryd, dan Stalin, yn gwbl erchyll.
Fe wyddom fod Holodomor yn golygu 'marwolaeth trwy newyn' yn yr Wcreineg, a da oedd clywed yr iaith Wcreineg yn cael ei defnyddio yn y Siambr heddiw. Ond ni ellir anwybyddu'r newyn a orfodwyd ar filiynau o bobl mwyach. Fe wyddom fod grawn a bwyd wedi cael eu cymryd oddi ar aelwydydd Wcráin gan eu gadael heb ddim byd o gwbl i'w fwyta. Cafodd pobl eu gorfodi i fudo hefyd. Bu farw miliynau o ddynion, menywod a phlant o newyn, gyda rhai'n ildio i'r arswyd o ganibaleiddio aelodau o'u teuluoedd eu hunain yn eu hysfa enbyd i oroesi.
Felly, roedd bwriad y polisïau hynny o dan Stalin yn glir: torri ysbryd pobl Wcráin ac atal unrhyw fath o wrthwynebiad, yn ogystal â thanseilio eu hunaniaeth genedlaethol. Roedd yn ymdrech systematig a bwriadol i ddileu cyfran enfawr o boblogaeth Wcráin. Ac mae hynny, gyfeillion annwyl, yn hil-laddiad—yn syml iawn, hil-laddiad yw hynny.
Ac mae'r dystiolaeth sy'n cefnogi cydnabyddiaeth o'r Holodomor fel hil-laddiad yn llethol. Nid yn unig y mae gennym gyfrif Gareth Jones o'r hyn oedd yn digwydd—ac mae'n wych ein bod yn talu teyrnged iddo ef yn y Siambr heddiw, ac nad anghofir ei waith yn datgelu arswyd yr Holodomor i'r byd—ond fe wyddom o gofnodion goroeswyr, sylwedyddion rhyngwladol, cofnodion hanesyddol; maent i gyd yn llunio darlun iasol o'r dioddefaint a ddioddefodd Wcreiniaid yn ystod y cyfnod hwn. Mae yna ffotograffau, mae yna lythyrau, mae yna ddogfennau swyddogol, pob un yn dangos natur fwriadol yr erchyllterau hyn.
A dyna pam y credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn sefyll gyda'n gilydd y prynhawn yma er mwyn gwneud y datganiad ffurfiol hwn yn Senedd Cymru fod yr Holodomor, yn wir, yn hil-laddiad. Wrth wneud hynny, bydd yn ein hatgoffa'n bwerus, nid yn unig o allu pobl i fod yn greulon a phwysigrwydd cydnabod camweddau'r gorffennol, ond bydd yn anrhydeddu'r cof am y miliynau o ddynion, menywod a phlant a fu farw yn ystod y bennod dywyll hon yn hanes Wcráin, gan roi'r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu iddynt.
Gwyddom hefyd, wrth gwrs, fod nifer o wledydd a Seneddau eisoes wedi cydnabod yr Holodomor fel hil-laddiad, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a llawer o wledydd dwyrain Ewrop, ac roeddwn yn falch o nodi, yn gynharach eleni, fod Tŷ'r Cyffredin hefyd hyd yn oed, er gwaethaf safbwynt Llywodraeth y DU ar y mater yn flaenorol, wedi datgan bod yr Holodomor yn hil-laddiad. A dyma pam ei bod hi'n bwysig iawn i ni wneud yr un peth, oherwydd fe welwn pa mor anodd yw hi ar Wcráin ar hyn o bryd—yn ymdrechu i oroesi yn erbyn ymosodiad anghyfreithlon gan Vladimir Putin a Rwsia, gan ailadrodd y cylch o ormes ar ei chymydog llai, Wcráin. Ac felly rwy'n falch o sefyll yn y Senedd hon heddiw i annog pob un ohonoch chi i sefyll wrth y datganiad yn y cynnig hwn, ni waeth beth yw eich lliw gwleidyddol, ni waeth a ydych chi'n aelod o'r Llywodraeth ai peidio, fel ein bod yn datgan mai dyma beth ydyw—hil-laddiad—ac rydym yn talu teyrnged i Gareth Jones a'i waith. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Heledd Fychan. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Eitem 6 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, data perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8390 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd data ystyrlon a thryloyw wrth wella gofal a diogelwch cleifion.
2. Yn gresynu at ganfyddiadau'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys nad yw prif ddata perfformiad adrannau brys wedi'u hadrodd yn gywir ers dros ddegawd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi ffigurau cyn-rhyddhau fel mater o drefn ar gyfer adrannau brys Cymru er mwyn deall perfformiad yn well a llywio'r broses o wneud penderfyniadau;
b) esbonio pam mae'n ymddangos bod y data perfformiad mewn ymatebion a ddarparwyd gan fyrddau iechyd lleol Cymru i'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a data perfformiad yr adran achosion brys a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn wahanol; ac
c) comisiynu adolygiad annibynnol o ddata cyhoeddedig i sicrhau eu bod yn debyg rhwng gwledydd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae hon yn ddadl bwysig iawn heddiw, oherwydd ein hadrannau damweiniau ac achosion brys yw'r rheng flaen, y pwynt cyswllt cyntaf, i lawer o unigolion sy'n wynebu argyfyngau, anafiadau a chyflyrau sy'n peryglu bywyd. Felly, mae cywirdeb a dibynadwyedd y data a gesglir ac a adroddir ar faint o amser y mae pobl yn ei dreulio'n aros yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys yn allweddol, nid yn unig i'r claf unigol, oherwydd gwyddom fod amseroedd aros hwy mewn adrannau brys yn uniongyrchol gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth i gleifion, ond hefyd i'r system gofal iechyd yn ei chyfanrwydd. Mae cael data damweiniau ac achosion brys cywir yn hanfodol bwysig, oherwydd mae'n caniatáu i reolwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol gynllunio ar gyfer cyfnodau o bwysau'r gaeaf.
Nawr, buaswn wedi meddwl bod yr hyn a ddywedais yn weddol amlwg, a buaswn wedi meddwl y gallem i gyd gytuno ar hynny. Ond nid yw'n ymddangos bod hynny'n wir, oherwydd mae canfyddiadau'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn dangos ac yn dweud wrthym fod y data a gyhoeddir yn gamarweiniol, gan nad yw data cyhoeddedig yn adlewyrchu graddau amseroedd aros hir sy'n digwydd yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, mae ein cynnig heddiw yn tynnu sylw at y methiannau i gasglu data mewn ffordd sy'n caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ragweld y pwysau'n iawn.
Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw. Mae gwelliant y Llywodraeth fwy neu lai'n dileu ein cynnig ni yn ei gyfanrwydd. Mae gwelliant y Llywodraeth:
'Yn nodi'r sicrwydd gan y byrddau iechyd bod data adrannau achosion brys wedi'u hadrodd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru'.
Mae'r Gweinidog yn nodio. Rwy'n cytuno. Ond mae'r Llywodraeth yn methu'r pwynt. Y ffaith amdani yw nad yw data perfformiad cyhoeddedig adrannau argyfwng yn adlewyrchu hyd yr amser y mae pobl yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a bod cofnodi data cleifion lle cymhwyswyd eithriad rhag torri targedau yn y categori aros am lai na phedair awr yn camliwio'r gwir ddarlun o berfformiad ac amseroedd aros. Nawr, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn methu'r pwynt o ran pryderon ac argymhellion y coleg brenhinol, neu efallai eu bod yn gwneud hynny'n fwriadol. Yn hytrach na gwrando ar y pwyntiau sy'n cael eu gwneud—a buaswn wedi meddwl mai dyna'r ymateb cywir i'r Llywodraeth, gwrando ar y pryderon a mynd i'r afael â nhw—mae'n ymddangos bod y Llywodraeth wedi ystyfnigo a honni bod pawb wedi cael hyn yn anghywir. Mae'r colegau brenhinol wedi'i gael yn anghywir, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi'i gael yn anghywir, mae Plaid Cymru wedi'i gael yn anghywir, mae'r BBC, sydd wedi archwilio'r sefyllfa'n annibynnol, wedi'i gael—rydym i gyd yn anghywir a dylem roi'r gorau i drafod a gofyn cwestiynau am y mater.
Mae pwynt 3 o'n cynnig heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i
'esbonio pam mae'n ymddangos bod y data perfformiad mewn ymatebion a ddarparwyd gan fyrddau iechyd lleol Cymru i'r Coleg Brenhinol...a data perfformiad yr adran achosion brys a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn wahanol'.
Nid yw'r Llywodraeth wedi ateb y cwestiwn er imi ofyn i'r Gweinidog sawl gwaith.
Felly, beth oedd y ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn ei ddweud wrthym? Roeddent yn dweud bod 45,757 o gleifion yn ystod chwe mis cyntaf 2023 wedi'u categoreiddio fel eithriadau, ac felly, nid oedd gwir hyd eu hamser aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi'i gofnodi, ei gynnwys na'i adlewyrchu yn y data perfformiad swyddogol. Mae eu presenoldeb a'u hamseroedd aros yn cael eu cofnodi yn—. Felly, mae hyn yn bwysig: cofnodir eu presenoldeb a'u hamser aros yn y data, ond yn y categori llai na phedair awr, pan fyddent wedi bod yno ers llawer mwy o amser mewn gwirionedd. Ers mis Ionawr 2012, nifer y bobl sydd wedi cael eu camddarlunio yn y modd hwn yn ôl dadansoddiad y coleg brenhinol, y buaswn yn cytuno ag ef, yw 673,000 o gleifion.
Nawr, er mwyn gweld y darlun llawn o'r hyn a wynebwn ledled Cymru, bu'n rhaid i'r coleg brenhinol gyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth. Mae hyn yn syfrdanol. Meddygon yn cyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth i ddarganfod gwir sefyllfa adrannau damweiniau ac achosion brys a pha mor hir y mae pobl yn aros, ac yna'n gwneud hynny er mwyn gallu cynllunio eu hunain. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb yn y ddadl hon heddiw ac yn esbonio'r data perfformiad yn ei hymateb a ddarparwyd gan fyrddau iechyd lleol Cymru i'r coleg brenhinol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r data perfformiad adrannau argyfwng a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru—ac egluro pam mae'r ffigurau hyn mor wahanol.
Rwyf am roi sylw i welliannau Plaid Cymru heddiw, ac rwy'n credu eu bod yn ychwanegu at ein cynnig, ac mae'n gywir fod gan bedair rhan o bump o arweinwyr clinigol a meddygon ymgynghorol a arolygwyd gan y coleg brenhinol farn negyddol am y polisi eithriadau, a dylai Llywodraeth Cymru wrando ar y gweithwyr iechyd proffesiynol wrth gwrs. Felly, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant 3 Plaid Cymru hefyd. Rwy'n credu mai dyna'r gwelliant sy'n dileu rhan o'n cynnig; buaswn wedi hoffi pe baech chi wedi ychwanegu at ein cynnig ni, ond mae'r pwyntiau a wnewch yn bwyntiau y buaswn yn cytuno â nhw, felly byddwn yn cefnogi'r rheini heddiw hefyd. Dylai Llywodraeth Cymru ddad-wneud y polisi eithriadau yn unol â dymuniadau'r coleg brenhinol, neu o leiaf gyhoeddi'r ddau ffigur fel y gallwn weld y sefyllfa go iawn.
Mae'r Gweinidog wedi dweud bod y byrddau iechyd yn cydymffurfio â'r canllawiau a gyhoeddwyd yn 2011, ac nid oedd hyn erioed yn destun cynnen, ac mae'n amherthnasol. Mae'r coleg brenhinol wedi datgan yn glir fod y polisi'n cael ei ddilyn yn gywir. Rwy'n cytuno bod y polisi'n cael ei ddilyn yn gywir—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, y broblem, Weinidog, yw bod y polisi ei hun yn anghywir.
'Pam?' Rwy'n clywed o rywle arall. 'Pam mae'r polisi'n anghywir?' clywaf. Roedd yn ymyriad bach, rwy'n credu, Lywydd, ond 'pam?' Mae'n anghywir oherwydd hyn: mae'r sefyllfa wedi newid. Mae'r polisi wedi bod yno ers 10 mlynedd, ond mae'r sefyllfa, Jenny, yn wahanol iawn i'r sefyllfa 10 mlynedd yn ôl. Mae ein hadrannau damweiniau ac achosion brys bellach mewn sefyllfa argyfyngus. Maent yn wynebu argyfwng, ac nid dyna'r sefyllfa yr oeddent ynddi 10 mlynedd yn ôl.
Mae'r polisi'n cael ei weithredu'n wahanol iawn rhwng byrddau iechyd. Dyma'r broblem arall. Felly, defnyddir disgresiwn dynol. Er mwyn cael syniad iawn o ba mor hir mae pobl yn aros mewn byrddau iechyd, mae'n anodd iawn gwybod rhwng un ysbyty a'r llall a rhwng un bwrdd iechyd a'r llall. Hefyd, Jenny, mae'n cymryd llawer iawn o amser gweinyddol bob wythnos pan fydd yn rhaid i staff clinigol neu staff gweinyddol fynd drwy a chael gwared, i bob pwrpas, ar faint o amser mae pobl yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys er mwyn cyhoeddi'r ystadegau hynny; amser y credaf y gellid ei dreulio mewn ffyrdd gwell. Mae'n debyg mai'r cwestiwn mawr yw: pwy na fyddai eisiau cael syniad cywir o ba mor hir y mae pobl yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys? Nid yw hyn yn dda i gleifion, nid dyma mae clinigwyr ei eisiau, felly yr unig bobl y buaswn i'n awgrymu nad ydynt am gael syniad cywir o amseroedd aros damweiniau ac achosion brys os ydynt yn waeth yw'r Llywodraeth yn wir.
Felly, nid rhywbeth sydd newydd ddigwydd nawr yw hyn; nid rhywbeth sydd ond wedi dod yn amlwg yn ystod yr wythnos ddiwethaf; mae hyn yn rhywbeth y mae'r coleg brenhinol wedi bod yn ei godi gyda'r Gweinidog mewn cyfarfodydd a gohebiaeth ers peth amser, ac mae'r Llywodraeth wedi methu mynd i'r afael â'r sefyllfa'n ddigonol dros gyfnod o amser. Felly, yn anffodus, mae angen inni gyrraedd sefyllfa lle mae gwybodaeth gyfredol a chywir yn cael ei darparu am yr hyn sy'n digwydd yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r sicrwydd gan y byrddau iechyd bod data adrannau achosion brys wedi’u hadrodd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Yn nodi bod y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau annibynnol wedi croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i roi sicrwydd ynghylch ansawdd yr ystadegau.
Yn nodi, yn seiliedig ar gydymffurfiaeth y byrddau iechyd â’r canllawiau sydd gennym yng Nghymru, yr ystyrir bod modd cymharu ystadegau Cymru ar gyfer adrannau achosion brys mawr â’r ystadegau ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys Math 1 yn Lloegr.
Yn nodi ymhellach bod gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau a chlinigwyr i adolygu'r ffordd yr ydym yn mesur ansawdd y gofal mewn adrannau achosion brys.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Ffurfiol.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan.
Gwelliant 2—Heledd Fychan
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2. ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod gan 82 y cant o arweinwyr clinigol a meddygon ymgynghorol a arolygwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys olwg negyddol ar y polisi torri eithriadau.
Yn gresynu bod amseroedd aros damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu ers i'r polisi gael ei gyflwyno dros ddeng mlynedd yn ôl.
Yn credu bod y polisi yn peryglu gallu'r gwasanaethau brys i gynllunio a rheoli eu hadnoddau yn effeithiol.
Gwelliant 3—Heledd Fychan
Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt b) a rhoi yn ei le:
dileu'r polisi torri eithriadau yn unol â dymuniadau'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.
Cynigiwyd gwelliannau 2 a 3.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y gwelliannau ac yn diolch i Russell George a’r Ceidwadwyr am y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth yma.
Wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf, a fydd yn anochel yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein GIG, mae'n hanfodol fod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i bob dull posibl o gefnogi gwasanaethau rheng flaen, ond mae'r ffordd y mae'r ddadl wedi cael ei fframio hyd yma wedi methu cyfleu'r darlun ehangach yn sylfaenol. Mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar semanteg y modd y mae data adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael ei gyflwyno, ond y gwir amdani yw nad yw'r polisi eithriadau ei hun yn addas i'r diben. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r Llywodraeth wedi rhoi amser i ddeall yn llawn y pryderon sy'n cael eu codi gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Pe baent wedi gwneud hynny, fel y gwnaethom ni, byddent yn gwybod nad oedd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn honni ar unrhyw adeg fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n fwriadol i dangofnodi data perfformiad adrannau argyfwng yn ei gyfanrwydd. Dyna pam fy mod yn credu bod ymateb Llywodraeth Cymru i'r stori a ymddangosodd yr wythnos diwethaf, a oedd yn awgrymu bod y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys wedi camddarlunio'r canllawiau ar eithriadau, yn eithriadol o ddi-fudd, ac yn nawddoglyd a dweud y gwir.
Mae Plaid Cymru wedi pwysleisio ers peth amser nad yw'r GIG yn ddim byd heb ei lleng o staff diwyd ac ymroddedig, a rhan o'r ethos hwn yw cydnabod mai'r bobl sydd yn y sefyllfa orau i werthuso rhinweddau cymharol polisïau iechyd yw'r rhai sy'n gweithio yn y GIG o ddydd i ddydd. Ac yn hyn o beth, mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys wedi bod yn glir fod y polisi eithriadau fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd yn peryglu gallu'r gwasanaethau argyfwng i gynllunio a rheoli eu hadnoddau. Adlewyrchir hyn gan wrthwynebiad helaeth ymhlith arweinwyr clinigol a meddygon ymgynghorol i'r defnydd o eithriadau, gydag 82 y cant o'r rhai a arolygwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn meddu ar farn negyddol ar y polisi.
Gofynnodd Jenny pam; nid yw'n anodd gweld pam. Mae eithriadau wedi creu ymdeimlad di-fudd o amwysedd ynglŷn â maint y galw ar adrannau argyfwng. Os yw'r cloc yn cael ei stopio wrth gofnodi hyd gofal brys cleifion am ba reswm bynnag a restrir yn y canllawiau ar eithriadau, nid yw'r polisi'n newid y ffaith eu bod yn aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys gyda'r goblygiadau i adnoddau a chapasiti sy'n deillio o hynny. Ar ben hynny, mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys wedi cadarnhau bod eithriadau'n cael eu cymhwyso'n anghyson ar draws byrddau iechyd Cymru oherwydd natur gynhenid oddrychol y meini prawf cymhwyso. Mae hyn wedi gwaethygu llwyth gwaith biwrocrataidd staff heb wella canlyniadau i gleifion yn sylweddol.
Yn y cyfamser, mae amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys wedi dirywio ar draws pob metrig ers i'r polisi gael ei gyflwyno yn 2011, a hynny er bod y ffigurau ar eithriadau wedi cael eu hepgor o'r data cyhoeddedig. Ym mis Awst 2011, roedd 8.8 y cant o gleifion Cymru yn aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys; ym mis Awst 2023, roedd y ffigur hwnnw'n 31 y cant. Ym mis Awst 2011, roedd 1.7 y cant o gleifion Cymru yn aros mwy nag wyth awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys; ym mis Awst 2023, roedd yn 17.4 y cant. Ym mis Ebrill 2013, roedd 2.7 y cant yn aros mwy na 12 awr am ofal argyfwng; erbyn mis Awst eleni, roedd y ffigur hwnnw'n 10.9 y cant.
Pan ofynnais i'r Gweinidog yr wythnos diwethaf am resymeg Llywodraeth Cymru dros lynu wrth bolisi sy'n cael ei wrthwynebu gan gynifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac nad yw wedi arwain at unrhyw welliant amlwg yn amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, ac a gafodd ei ollwng beth amser yn ôl gan wledydd eraill y DU, dywedodd y Gweinidog ei fod wedi cael ei gyflwyno ar gais clinigwyr yn 2011. Soniodd y Gweinidog hefyd fod y cynnydd mewn amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys sydd wedi'u profi dros y degawd diwethaf yn ganlyniad naturiol i boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru ac effaith y pandemig. Nawr, nid wyf yn anghytuno â'r dadleuon hynny ar eu pennau eu hunain, ond mae cyfuno'r ddau beth fel cyfiawnhad dros barhau â pholisi eithriadau yn anghyson ac yn anonest. Ni allwch dynnu sylw at y ffaith bod y pwysau sy'n wynebu adrannau argyfwng yn wahanol iawn ac yn fwy heriol nawr o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol a mynnu ar yr un pryd fod yn rhaid i farn gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o dros ddegawd yn ôl barhau i fod yn sail ar gyfer llunio polisïau heddiw. Yn hytrach nag ymroi i'r mathau hyn o gymnasteg feddyliol i gadw wyneb, dylai Llywodraeth Cymru wrando ar yr hyn y mae pobl fel y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn ei ddweud wrthynt nawr ynglŷn â sut i reoli'r heriau sy'n ein wynebu ni ar hyn o bryd yn effeithiol.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi addo ymgysylltu'n weithredol â chlinigwyr a defnyddwyr gwasanaethau i sbarduno gwelliannau yn ansawdd y gofal mewn adrannau argyfwng, gan gynnwys opsiynau ar gyfer ffyrdd mwy ystyrlon o fesur profiad a chanlyniadau cleifion, ond mae'n hanfodol nad yw hyn yn arwain at fwy o dincran ar yr ymylon, gyda phenderfyniadau a diwygiadau mwy sylweddol yn cael eu gosod i'r naill ochr, oherwydd mae'r holl dystiolaeth yn dangos i ni, yn gwbl glir, nad oes gennym unrhyw amser i'w golli wrth fynd i'r afael â'r problemau strwythurol dwfn yn ein gwasanaeth iechyd. Dyna pam mae Plaid Cymru yn falch o gyflwyno'r gwelliant heddiw, yn galw am ddiddymu'r polisi eithriadau, yn unol â dymuniadau datganedig y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.
Nid yw'n rhoi pleser i mi gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Er mor bwysig yw hi, ni ddylem orfod cael yr un sgwrs dro ar ôl tro. Er bod y ddadl hon ar yr wyneb yn ymwneud â phwysigrwydd data ystyrlon a thryloyw, ni allwn anghofio bod pob un o'r pwyntiau data hyn, fel y'u gelwir, yn bobl—pobl â gobeithion a breuddwydion, pryderon ac ofnau, yn union fel pob un ohonom yma yn y Siambr. Nid ydym yn sôn am gysyniadau haniaethol yma, nid ydym yn trafod cromliniau ystadegol, rydym yn sôn am fodau dynol—bodau dynol sydd ond eisiau byw bywydau iach a bodlon.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio iechyd fel cyflwr o lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyflawn, ac nid absenoldeb afiechyd neu wendid yn unig. Mae eu cyfansoddiad yn nodi bod barn wybodus a chydweithrediad gweithredol ar ran y cyhoedd o'r pwys mwyaf wrth wella iechyd y bobl. Mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb dros iechyd ei phobl, ac ni ellir ond ei gyflawni drwy ddarparu mesurau iechyd a chymdeithasol digonol. Yn ôl y diffiniad hwn, ac yn ôl unrhyw ddiffiniad rhesymegol, rydym yn methu.
Mae ein llwybrau gofal wedi torri, mae tagfeydd yn bodoli drwy'r system, sy'n gwaethygu bob tro y ceir tymor ffliw gwael. Nawr, gyda chymhlethdod ychwanegol COVID yn y gymysgedd, nid yw'n fawr o syndod fod gennym dros 27,000 o bobl yn aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth. Cymharwch hynny â GIG Lloegr, lle nad oes ond 300 o bobl yn aros am driniaeth. Mae'n anhygoel. Mae bron i 1 y cant o boblogaeth Cymru yn aros am flynyddoedd mewn poen ac anesmwythder, o'i gymharu â 0.001 y cant o boblogaeth Lloegr. Rydym yn gwario mwy y pen ar iechyd, felly beth sydd o'i le? Pam oedd gennym 16 ambiwlans yn ciwio y tu allan i ysbyty mawr yn fy rhanbarth? Pam oedd un o'r ambiwlansys hynny'n aros y tu allan i'r adran ddamweiniau ac achosion brys am 28 awr? Mae'r ateb lawn mor syml ag y mae'n gymhleth.
Wrth ei wraidd, mae cynllunio gwael a chamreoli. Daw'r cymhlethdod o edrych ar bwy sy'n gwneud y penderfyniadau gwael. Yn anffodus, mae'n wir am bob haen, o'r brig i'r gwaelod, o Lywodraeth Cymru i swyddogion llywodraeth leol. Dywedodd y Prif Weinidog wrthym ddoe fod digon o ambiwlansys ar y ffyrdd dros y penwythnos, ond bod y broblem gydag ysbyty Treforys yn ymwneud â'r llif i mewn i'r ysbyty. Mae'n gywir, wrth gwrs, ond nid yw'n gallu osgoi cyfrifoldeb. Ei Lywodraeth ef a fethodd gynllunio ar gyfer darpariaeth gymdeithasol ddigonol. Ei ddogma benodol ef sy'n arwain at gau darparwyr gofal preifat.
Mae Hollins Care Centre yng Nghimla yn cael ei gorfodi i gau er gwaethaf adroddiad arolygu da ychydig wythnosau'n ôl yn unig, heb unrhyw resymu cydlynol gan y cyngor ac er gofid i'r preswylwyr a'r staff. Cefais sioc fawr o weld adroddiadau bod trigolion hirdymor yn eu dagrau wrth iddynt gael eu llwytho ar ambiwlansys. Nid oes gennym ddigon o ddarpariaeth gofal, ac eto mae cynghorau ledled y wlad yn datgan rhyfel ar ddarparwyr preifat, wedi'u sbarduno gan fawr mwy na chasineb gwleidyddol o'r sector gofal preifat ym maes gofal.
Gwelsom y goblygiadau pan benderfynodd Rhondda Cynon Taf allanoli darpariaeth gofal hirdymor—roedd yr undebau'n gynddeiriog—ond yn y byd go iawn nid oes darpariaeth gofal sector cyhoeddus, ac o ganlyniad, mae'r digwyddiadau yn adran ddamweiniau ac achosion brys ysbyty Treforys, yn ôl y Prif Weinidog, yn fwy tebygol o ddigwydd. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i ystumio'r ffigurau, cyfaddef eu methiannau a bwrw ati i wella ein GIG. Diolch yn fawr.
Diolch. Gan ddilyn yr hyn roedd Altaf yn ei ddweud, os oes gennych ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau argyfwng fel roedd gennym yr wythnos diwethaf, mae'n amlwg fod angen ichi sicrhau bod y gwelyau ysbyty sydd gennym yn cael eu cadw ar gyfer y bobl sydd angen gofal eilaidd. Mae hynny'n golygu bod angen inni fod yn ofalus iawn ynghylch pwy rydym yn eu derbyn i'r ysbyty. Os yw staff yr ambiwlans wedi brysbennu'n gywir, mae'n debygol mai'r bobl hynny yw'r bobl sy'n cyrraedd mewn ambiwlansys, ond nid yw hynny o reidrwydd yn wir bob tro. Felly, rwy'n credu mai'r hyn rwyf eisiau ei ddarganfod yn y ddadl hon yw'r cymhellion annerbyniol, os oes rhai, dros dderbyn pobl er mwyn osgoi'r rhestrau aros pedair ac wyth awr sy'n rhaid eu llunio. Nid wyf yn derbyn dadl Russell ei bod yn cymryd llawer o amser i lunio rhestrau. Wrth gwrs ei bod yn cymryd amser i lunio rhestrau, ond gall gweinyddwr cymwys lunio'r ystadegau. Yr hyn sydd gennych chi yma yw polisi a sefydlwyd yn 2011, yn fuan ar ôl i chi a minnau gael ein hethol. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i'r holl gyfarwyddwyr clinigol i egluro mai'r rhai yr oedd angen eu dargyfeirio rhag bod ar restr aros gofal argyfwng oedd y rhai a oedd mor ddifrifol wael fel na ellid eu symud, y rhai a oedd angen gofal parhaus arbenigwyr mewn adrannau argyfwng, a'r rhai a oedd, er gwaethaf ymdrechion gorau clinigwyr, ar fin marw. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriad, Altaf.
Diolch yn fawr iawn, Jenny. Dylai pob adran ddamweiniau ac achosion brys fod â ward arsylwi o 30 i 50 o gleifion. Oni bai bod gennych chi'r ward honno, fe fydd y broblem hon gennych chi bob amser yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys—Rhif 1. Rhif 2, nid ydym yn gwybod am ran arall y gromlin: faint o feddygon sy'n trin y cleifion hynny ar unrhyw adeg benodol?
Diolch. Yn amlwg, mae angen bae arsylwi neu adran arsylwi. Os oes rhywun angen penderfyniad clinigol—. Yr ail gategori o bobl na ddylid eu symud yw pobl sydd angen cyfnod byr o archwiliad dwys i ddiystyru salwch difrifol, yn hytrach nag argyfwng iechyd dros dro sydd wedi'i ddatrys gan feddygaeth neu ryw ymyrraeth arall—rhywun y dylid arsylwi arnynt am ychydig oriau i sicrhau nad oes problem fwy difrifol a fyddai'n golygu bod yn rhaid iddynt gael eu derbyn i'r ysbyty. Os oes rhaid tawelyddu rhywun er mwyn ailosod ysigiad poenus neu rywbeth felly, efallai y bydd angen arsylwi arnyn nhw hefyd. [Torri ar draws.] Na, nid wyf am dderbyn unrhyw ymyriad. Rwyf am fwrw yn fy mlaen.
Mae yna hefyd bobl sydd wedi cymryd cyffuriau neu yfed alcohol i'r fath raddau fel y gallent fod mewn perygl o dagu ar eu cyfog eu hunain. Mae'r mathau hyn o bethau yn rhesymau pwysig pam mae angen inni arsylwi ar rai pobl. Efallai eu bod wedi cael mân anaf i'r pen. Gallai fod yn anaf bach, ond gallai fod yn gyfergyd, a allai fod yn fater mwy difrifol. Mae'r rhain yn benderfyniadau clinigol pwysig iawn y mae'n rhaid i feddygon eu gwneud, ac felly mae angen iddynt fod—
Nid ydych yn eu gweld.
Mae'n ddrwg gennyf, rydym yn siarad—[Torri ar draws.]
A allwch chi adael i'r Aelod gyfrannu?
Wyth awr heb weld clinigydd os oes gennych anaf i'r pen.
Nid ydym yn siarad am hynny; rydym yn siarad am y ffordd y rheolwn ein hadrannau argyfwng.
Mynychais y digwyddiad a drefnwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a gynhaliwyd yn y Senedd yn ôl ym mis Ionawr. Roedd Eluned Morgan yno, ynghyd â dau neu dri Aelod arall, ac nid wyf yn eu cofio nhw'n rhygnu ymlaen am y dull o benderfynu pwy y dylid arsylwi arnynt yn hytrach na rhai o'r materion eraill y gallaf eu rhannu gyda chi, os dymunwch.
Mewn gwirionedd, Jenny, os siaradwch chi â nhw eto, fe wnânt anfon copi atoch o'r ohebiaeth y gwnaethant ei hanfon at y Gweinidog ar hyn y llynedd, ac ymatebodd y Gweinidog y llynedd, yn ddi-fudd yn eu barn nhw. Felly, mae hwn yn fater y maent wedi bod yn ei godi gyda'r Gweinidog ers peth amser.
Ni wnaethant ei godi yn y cyfarfod pwysig hwn, ac rwy'n meddwl bod hynny'n ddiddorol iawn, lle buont yn siarad am yr angen am un meddyg ymgynghorol i bob 4,000, a'r ffaith bod gennym dros 7,500 o gleifion i bob meddyg ymgynghorol ar gyfartaledd, gyda'r adran argyfwng orau ag ychydig o dan 5,000. Felly, fe wnaethant dynnu sylw at y ffaith ein bod angen 100 o feddygon ymgynghorol ychwanegol mewn adrannau argyfwng erbyn 2027. Mae'r rhain yn faterion sylweddol a phwysig iawn.
Yr hyn rwy'n poeni amdano yw ein bod yn cael cymaint o drafodaeth am y fethodoleg ar gyfer diffinio pwy sy'n aros yn hytrach na phwy sy'n cael eu harsylwi'n glinigol, pan ddylem fod yn trafod rhai o'r materion llawer pwysicach, sef sicrhau bod gennym ddigon o bobl yn yr adran argyfwng i ymdrin â'r rhai sydd angen bod yno, yn hytrach na'r rhai sydd angen cymorth mewn gofal sylfaenol. Dyma'r heriau—ni ddylai fod gennym gymaint o bobl nad oes angen gofal eilaidd arnynt yn mynychu adran argyfwng mewn gwirionedd.
Rydym wedi gwneud llawer o bethau. Mae'r Llywodraeth wedi gwneud llawer o bethau i atal pobl rhag mynychu'r adran argyfwng yn ddiangen. Yn amlwg, roedd gennym ôl-groniad mawr o angen heb ei ddiwallu yn ystod COVID, ac rydym yn dal i gael trafferth gyda hynny, ond rwy'n credu bod gwir angen trafodaeth resymol am hyn, ac a yw'r ffordd rydym yn cyfrif y rhai yr arsylwir arnynt am resymau clinigol—
Jenny, rwyf wedi rhoi amser ychwanegol i chi ar gyfer ymyriadau. Mae angen i chi ddirwyn i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—yn mynd yn ffordd yr ystadegau go iawn sydd eu hangen arnom, neu a yw'n esgus dros feddygaeth amddiffynnol.
Diolch i Russell George am agor y ddadl bwysig hon. Ni ellir tanddatgan pwysigrwydd data ystyrlon a thryloyw wrth wella diogelwch cleifion a'u gofal. Heb yr atebolrwydd hwn, nid oes gennym unrhyw syniad sut mae ein GIG yn perfformio, a gall hynny olygu nad yw cleifion yn cael y gofal llawn y maent yn ei haeddu. Ac fel y clywsom, gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, am nad oes gennym ddarlun cywir, rydym yn camarwain ein hunain, y Llywodraeth, y bobl, ac mae hynny'n hollol anghywir. Mae meddygon eu hunain wedi rhybuddio bod hyn yn cuddio'r problemau sylfaenol yn ein GIG, ac nid ydym yn cael y darlun llawn o'r pwysau sy'n wynebu ein staff rheng flaen a'n cleifion.
Yn ddiweddar, mae'r Gweinidog iechyd wedi ceisio tynnu sylw oddi wrth y ffordd wael y mae Llafur wedi rheoli'r GIG drwy gymharu amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae pryderon ynghylch dilysrwydd data Llywodraeth Cymru a'u cofnodion yn bwrw amheuaeth ar hyn. Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig, fel y clywsom, sy'n cofnodi'r data yn y ffordd hon, ac fel rydym hefyd wedi'i glywed, mae clinigwyr o bob bwrdd iechyd wedi dweud y dylai'r Llywodraeth gyhoeddi ffigurau heb gymhwyso torri eithriadau, fel y gallwn gael darlun clir.
Fel y dywedodd Altaf, mae gennym 27,000 o bobl yng Nghymru o hyd—a gadewch inni roi hynny yn ei gyd-destun, o boblogaeth o 3 miliwn—yn aros am ddwy flynedd am driniaeth, cyfradd lawer uwch nag yn Lloegr, lle nad oes ond 300 mewn poblogaeth o 56 miliwn. Rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig tynnu sylw at y ffigurau hyn, o ystyried yr anawsterau ariannol y mae GIG Cymru yn eu hwynebu o ganlyniad i gamreoli ar ran y Llywodraeth.
Mae'n ffaith—ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen yn y lle hwn yn ddiweddar—fod y fframwaith cyllidol yn galluogi Llywodraeth Cymru i dderbyn 20 y cant yn fwy y pen i'w wario ar iechyd yng Nghymru nag a werir ar iechyd yn Lloegr. Ond fel y gwyddom, nid yw'r holl gyllid hwnnw'n cael ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd yma, ac nid yw hynny wedi digwydd ers blynyddoedd. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac rwyf am ei ddweud eto: pe bai Llafur wedi dyrannu mwy o'r cyllid gan Lywodraeth y DU i iechyd, byddai ein GIG yn meddu ar y cadernid y mae ei angen yn daer, ac ni fyddem yn y sefyllfa frawychus hon gyda rhestrau aros fel y maent yng Nghymru. Yn hytrach, mae ein byrddau iechyd bellach yn wynebu diffygion cyllidebol o gannoedd o filiynau o bunnoedd.
Mae'r pwysau hyn yn arwain at broblemau perfformiad ledled y wlad. Yn fy etholaeth fy hun, haid i 50.7 y cant o bobl aros am bedair awr i gael eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys—llawer uwch na'r cyfartaledd o 31 y cant ar gyfer Cymru. Ar ben hynny, roedd 20.8 y cant o gleifion yn aros dros 12 awr i gael eu gweld—10 y cant yn uwch na'r cyfartaledd ledled Cymru. Yn anffodus, mae Ysbyty Athrofaol y Faenor hefyd wedi gweld perfformiadau gwael o ran gofal strôc, gyda dim ond 22.85 y cant o gleifion yn cael eu derbyn i uned strôc o fewn pedair awr, gyda'r amser canolrifol i gael eu derbyn yn 9.5 awr.
Nid ein gweithwyr iechyd sy'n gyfrifol am y problemau hyn; maent yn gweithio y tu hwnt i'r disgwyl bob dydd. Maent yn wynebu pwysau cynyddol, ac yn gweithio'n ddiflino, bob awr o'r dydd, i ddarparu gofal. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol; mae'r cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau nhw. Ddirprwy Lywydd, dylai pobl Cymru allu disgwyl tryloywder ac atebolrwydd llawn am sefyllfa go iawn y system iechyd yma yng Nghymru. Mae angen iddynt wybod sut a phryd y gallant ddisgwyl i bethau ddychwelyd i sut y dylent fod—maent yn haeddu hynny. Mae angen i bobl ddeall pryd y gallant ddychwelyd i'r ffordd o fod yr oeddem i gyd yn arfer ei chymryd yn ganiataol flynyddoedd lawer yn ôl, ac sydd bellach wedi'i cholli, ac mae'n ymddangos ein bod wedi'i cholli am byth, hyd nes yr aiff y Llywodraeth i'r afael â'r sefyllfa hon. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein cynnig.
Mae fy nghyfraniad byr yma y prynhawn yma wedi'i fframio gan ymdeimlad o gythrudd a rhwystredigaeth. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn teimlo hynny, ac rwy'n siŵr fod y Gweinidog yn teimlo hynny hefyd. Rwy'n rhyw fath o gloi gydag apêl. Fis ar ôl mis, mae pobl Cymru wedi clywed am heriau ein gwasanaethau ambiwlans, yr amseroedd aros sylweddol y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys, a straeon arswyd pobl sy'n aros ac sy'n derbyn gwasanaeth cystal ag y gall ein staff ei ddarparu. Ond ni all pobl Cymru ond dod i'r casgliad fod ein GIG, ein GIG gwerthfawr, yn cwympo'n ddarnau. Ar draws y bwrdd, mae'r ffigurau'n parhau i fynd i'r cyfeiriad anghywir, ac os ydym am gredu'r hyn y mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn ei ddweud, ni allwn hyd yn oed ymddiried yn yr ystadegau swyddogol i adlewyrchu graddfa lawn yr argyfwng gofal brys.
Roedd y sefyllfa enbyd y penwythnos diwethaf a orfododd awdurdodau i ddatgan digwyddiad eithriadol yn brawf o'r anhrefn a'r boen y mae ein staff ambiwlans yn ei wynebu. Mae rhybuddio am yr argyfwng hwn dro ar ôl tro wedi mynd yn dasg ddiflas ac ailadroddus sy'n teimlo weithiau fel cri ddiobaith yn y tywyllwch. Mae perygl o hyd fod y ddadl hon y prynhawn yma yn methu'r pwynt yn llwyr mewn gwirionedd ac yn troi problem ddynol enbyd yn frwydr bleidiol arall rhwng y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr, rhwng Cymru a Lloegr.
Yn y pen draw, nid yw'r union ystadegau mor bwysig â'n penderfyniad unedig i weithredu gyda'n gilydd yn benderfynol yn wyneb yr argyfwng hwn. Os yw gwir raddfa'r argyfwng hyd yn oed yn fwy na'r disgwyl, mae'n rhaid i'n hymateb godi, mewn ffordd urddasol, i gyd-fynd â'r raddfa honno, neu byddwn yn parhau i ddilyn polisïau annigonol. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i frwydro i liniaru ei hargyfwng ei hun. Gyda chyllideb genedlaethol gyfyngedig iawn, a byrddau'r GIG yn destun craffu ariannol dwys, mae'r Llywodraeth yn gyfyngedig yn ei gallu i lunio ymateb effeithiol.
Mae siroedd gwledig fel Powys, lle nad oes ysbyty, yn dibynnu ar ofal trawsffiniol ac maent eisoes wedi'u llyffetheirio gan ddiffyg mynediad. Mae'r cymunedau hyn a'n holl gymunedau angen atebion i'r argyfwng hwn, atebion sydd wedi'u teilwra'n benodol i'w hanghenion. Mae'n rhaid inni roi hwb sylweddol i fuddsoddiad mewn gofal yn y gymuned a gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu'r math cywir o ofal ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Mae cleifion yn haeddu gofal cydgysylltiedig yn eu cymunedau lle bynnag y bo modd, nid teithiau pryderus i ysbytai pell pan nad yw gwasanaethau lleol ar gael neu'n wir, pan fo gwasanaethau lleol wedi'u gorlwytho. Byddai lleddfu'r pwysau ar ein meddygon teulu, gwrthdroi'r dirywiad mewn meddygfeydd lleol a hwyluso rhyddhau cleifion o ysbytai mewn modd effeithlon yn gymorth mawr i leddfu'r straen dwys ar ein ambiwlansys, ein hadrannau damweiniau ac achosion brys a'n staff. Mae'n amlwg fod y model gofal presennol yn gwbl anghynaladwy i gleifion a staff.
Rwy'n dal i bryderu ein bod yn gwleidyddoli gofal iechyd. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau, o bob plaid wleidyddol, i weithio gyda'i gilydd mewn ysbryd o gydweithrediad trawsbleidiol, yn hytrach na brwydro gelyniaethus. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sicrwydd, nid yn unig i ni yma yn y Siambr ond i bobl Cymru, y bydd yn ymrwymo i gydweithio'n drawsbleidiol i fynd i'r afael â'r argyfwng mynediad sy'n ein hwynebu a darparu'r gefnogaeth a'r diwygio credadwy y mae ein gwasanaeth iechyd ei angen. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i fy mhlaid a Darren Millar am gyflwyno'r ddadl hollbwysig hon heddiw. Mae amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â chanlyniadau gwaeth i gleifion. Ceir methiannau systemig yn y ffordd caiff ein hadrannau damweiniau ac achosion brys eu rheoli, ac mae hyn yn cael effaith niweidiol ar iechyd pobl Cymru. [Torri ar draws.] Wrth gwrs, fe wnaf dderbyn ymyriad.
A ydych chi'n cydnabod, serch hynny, nad problem adrannau argyfwng yw hon? Mae'n ddull system gyfan, er mwyn sicrhau bod gofal sylfaenol yn aros mewn gofal sylfaenol a bod yr ysbyty cyfan yn cymryd perchnogaeth ar bwy ddylai fod yn yr ysbyty a phwy sydd angen eu rhyddhau.
Yn hollol. Rwy'n derbyn eich pwynt, Jenny. Wrth gwrs mae'n rhaid inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd; mae angen dull cyfannol. Wrth gwrs, mae gwelyau yn cael eu blocio gan y rhai a allai gael eu rhyddhau i'r cymunedau yn gynharach ac yn gynt, ac mae hynny'n cael effaith ganlyniadol ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys. Ond yr hyn rydym yn edrych arno heddiw yw pwysigrwydd data sy'n ymwneud â hynny. Mae angen inni wybod beth yw'r niferoedd er mwyn datrys y broblem.
Rhaid i mi gofnodi fy niolch i staff gweithgar y GIG sy'n gweithio dan bwysau parhaus. Fodd bynnag, maent yn cael cam, Weinidog, gan arweinyddiaeth wleidyddol wael gan y Llywodraeth Lafur hon. Mae'r cyfrifoldeb ar eich ysgwyddau chi, Weinidog.
Gyda tharged wedi'i osod i dderbyn, trosglwyddo neu ryddhau 95 y cant o gleifion o fewn pedair awr, gadewch inni edrych yn fanwl ar y data diweddaraf sydd ar gael, oherwydd mae'n paentio darlun llwm iawn. Fel y mae fy nghyd-Aelod Russell George eisoes wedi'i amlinellu, mae cais rhyddid gwybodaeth diweddar gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys wedi dangos bod bron i 40 y cant o gleifion yng Nghymru wedi aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Fodd bynnag, pan gafodd yr achosion o dorri eithriadau eu cynnwys, fel sy'n digwydd yn ddiofyn yng ngwledydd eraill y DU, cododd y ffigur i 50 y cant. Weinidog, rydych chi a minnau'n gwybod bod hyn yn golygu bod degau o filoedd o bobl wedi eistedd mewn ystafelloedd aros ledled Cymru yn wynebu oedi hir i gael eu gweld, heb sôn am gael driniaeth. Ac rydym yn gwybod bod y darlun go iawn yn llawer gwaeth eto, gyda llawer o fy etholwyr yn aros am dros 12 awr fel y norm nawr.
Mae'n amlwg fod y Llywodraeth hon wedi bod yn chwarae gyda'r gwir, oherwydd mae amseroedd aros yng Nghymru o dan y Blaid Lafur eisoes yn eithriadol o uchel yn gyffredinol, ac mae ffigurau newydd yn awgrymu bellach mai amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru yw'r gwaethaf ym Mhrydain. Weinidog, mae hwn yn ystadegyn cywilyddus arall, ac mae'n rhaid ichi gydnabod bod eich Llywodraeth yn gwneud cam â phobl Cymru. Felly, gwnewch y peth iawn nawr—cymerwch berchnogaeth ar y camgymeriadau hyn, a chydnabod eich bod ar fai, a dywedwch wrthym beth mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud am y peth. Ond nid wyf am ddal fy ngwynt, oherwydd bydd y Llywodraeth Lafur hon yn gwneud popeth yn ei gallu i osgoi cymryd cyfrifoldeb. Dro ar ôl tro, rydym yn clywed Gweinidogion Llafur yn gwneud esgusodion ac yn gweld bai ar eraill.
Os edrychwn ar Ysbyty Athrofaol y Faenor yn fy rhanbarth yn Nwyrain De Cymru, lle mae gennym sefyllfa enbyd o ran amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys, nifer echrydus o ambiwlansys yn aros am oriau y tu allan, sydd wedyn yn cael ei waethygu gan y ffaith nad yw'r adeilad ei hun yn addas i'r diben, o ystyried na chafodd ei lunio at ddibenion adran ddamweiniau ac achosion brys. Mae hyn, ynghyd â'r amseroedd aros hir, yn creu pryder a golygfeydd real yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys nad wyf eisiau eu gweld eto yn uniongyrchol. Ac mae methiant Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i fynd i'r afael â hyn dro ar ôl tro yn gwbl annerbyniol.
Mae Cymru'n haeddu gwell na hyn. Mae fy etholwyr yn haeddu gwell na hyn. Mae data cywir yn gwbl hanfodol, fel y dywedais yn gynharach, er mwyn inni allu mynd i'r afael â hyn yn iawn. Mae'n hen bryd inni ddechrau cael cywirdeb, ymddiheuriadau a gweithredu gan y Llywodraeth hon. Mae'n bryd inni fod yn onest am amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys a chreu cynllun i gywiro hyn o'r diwedd. Rwy'n gobeithio gweld y Gweinidog yn gwneud hyn mewn ymateb i'r ddadl, ac rwy'n annog y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.
A galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bob un o'r bobl hynny sy'n gweithio ar y rheng flaen yn ein hadrannau achosion brys. Maent dan bwysau aruthrol drwy gydol y flwyddyn, ond maent dan bwysau arbennig yr adeg hon o’r flwyddyn, a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad anhygoel i’n GIG yng Nghymru.
Nawr, yn dilyn sylw diweddar yn y cyfryngau, rwy'n croesawu'r cyfle unwaith eto i egluro a chadarnhau sut mae eithriadau clinigol yn cael eu defnyddio wrth fonitro perfformiad, ac i wrthod yn llwyr yr honiad ein bod ni, rywsut neu’i gilydd, yn twyllo’r system drwy eithrio cleifion penodol o ystadegau ein hadrannau achosion brys, gan awgrymu nad oedd y byrddau iechyd yn dilyn y canllawiau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
Na wnaf. Awgrymodd sylw yn y cyfryngau fod yr ystadegau swyddogol ar berfformiad adrannau argyfwng Cymru wedi'u tanadrodd ers 2011, pan gyflwynwyd categori o'r enw 'eithriadau clinigol'. Roedd hynny’n anghywir a heb ei wirio, a hoffwn eich cyfeirio at ddatganiad y prif ystadegydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf—mae’r prif ystadegydd, gadewch i mi eich atgoffa, yn annibynnol ar ymyrraeth wleidyddol—a ddywedodd fod
'byrddau iechyd lleol wedi rhoi sicrwydd yr wythnos hon bod y data y maent yn eu cyflwyno…yn unol â’r canllawiau ar adrodd am eithriadau clinigol.
'Nid yw Llywodraeth Cymru…yn hepgor eithriadau clinigol o’r data'.
Nawr, mae rhai Aelodau y prynhawn yma wedi ceisio newid y pwyslais a symud y pyst gôl o'r anwiredd sylfaenol a ddywedwyd yr wythnos diwethaf. Nid oes, ac ni fu erioed, unrhyw ddiffyg eglurder ar ran Llywodraeth Cymru.
Felly, beth yw eithriadau clinigol? Mae eithriadau clinigol yn cyfeirio at yr adegau pan fo clinigwyr adrannau argyfwng wedi barnu bod angen cyfnod estynedig o arsylwi neu driniaeth ar gleifion. Cyhoeddwyd canllawiau yn 2011 i sicrhau nad yw cleifion yn cael eu derbyn i wardiau neu unedau asesu neu'n cael rhyddhau er mwyn cyrraedd targedau yn unig. Nawr, cyn i’r canllawiau gael eu datblygu, datblygodd gwahanol fyrddau iechyd eu dulliau eu hunain o eithrio cleifion, gan arwain at amrywio ac adroddiadau anghyson. Ar y pryd, clinigwyr a ofynnodd i lunwyr polisi ddarparu canllawiau i gefnogi gwell profiad i gleifion ac i osgoi aflunio ffigurau perfformiad.
Felly, beth mae'r canllawiau'n ei ddweud? Maent yn nodi y dylid cynnwys eithriadau clinigol mewn data a adroddir gan fyrddau iechyd, gyda phroses y cytunwyd arni ar gyfer sut y caiff amseroedd aros eu cyfrifo a’u hystyried wrth fonitro perfformiad. Nawr, yn dilyn cyhoeddi data a gasglwyd gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth, fe wnaethom geisio sicrwydd ar unwaith gan y byrddau iechyd fod y data y maent yn ei gyflwyno yn gyson â'r canllawiau. Cymerodd ychydig oriau inni gael y sicrwydd hwnnw, ac mae'n drueni nad arhosodd y cyfryngau inni wirio cyn cyhoeddi stori heb ei gwirio. Mae'r byrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddwyd yn 2011, ac rwy’n falch o nodi bod y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, sy'n annibynnol—ie, nodwch y gair ‘annibynnol’—wedi croesawu’r camau rydym wedi’u cymryd i ddarparu sicrwydd ynghylch ansawdd yr ystadegau.
Felly, pam ein bod wedi cyrraedd y sefyllfa hon? [Torri ar draws.] Pe baech yn rhoi’r gorau i fwmian y tu ôl i mi, efallai y byddem yn cyrraedd rhywle—
Russell, buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi'r gorau i'r sylwebaeth. Mae gan yr Aelod hawl i ymyrryd, ac mae gan y Gweinidog hawl i ddweud 'na’. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi'r gorau i'r sylwebaeth tra bo'r Gweinidog yn siarad, os gwelwch yn dda.
Felly, pam y digwyddodd hyn? Wel, fe ddigwyddodd am fod y cais rhyddid gwybodaeth gan y coleg brenhinol yn ddiffygiol. Roedd eu cais i'r byrddau iechyd yn nodi, yn anghywir, nad yw GIG Cymru ar hyn o bryd ond yn cyhoeddi ffigurau perfformiad ar ôl i gleifion gael eu heithrio a’u rhyddhau, a dyna a arweiniodd at y gamddealltwriaeth. Deallwn fod byrddau iechyd wedi darparu niferoedd derbyniadau dros bedair a 12 awr yn seiliedig ar ba bryd oedd cleifion yn cyrraedd ac yn gadael yr adran, ond mae’r dull swyddogol o gyfrifo amseroedd aros yn wahanol. Mae'n defnyddio amseroedd 'stopio'r cloc' penodol, gan adlewyrchu, mewn rhai achosion, pryd fydd clinigydd wedi penderfynu bod triniaeth claf wedi dod i ben yn hytrach na phan fyddant wedi gadael yr adran. Nawr, rwy'n mynd i roi enghraifft i chi. Ychydig flynyddoedd yn ôl, euthum â fy modryb 89 oed i’r adran argyfwng am ein bod yn pryderu am ei chalon. Fe wnaethant y profion cychwynnol, penderfynwyd pa feddyginiaethau oedd eu hangen arni, ac roedd ei thriniaeth wedi'i chwblhau, i bob pwrpas, o fewn awr neu ddwy. Ond roeddent eisiau ei chadw i mewn i gadw llygad arni am gyfnod hirach. Roedd y driniaeth wedi'i chwblhau, roedd y gwaith wedi'i wneud, ond roeddent yn awyddus i fod yn hollol siŵr, felly fe wnaethant stopio'r cloc. Roedd yr eithriad i’r targed yn golygu nad oedd unrhyw gymhelliad i’w derbyn heb fod angen, a allai fod wedi arwain at arhosiad hir a diflas yn yr ysbyty, ac nid oedd angen iddynt ei gwthio allan drwy’r drws cyn eu bod yn gwbl hyderus y byddai’n iawn heb dorri'r targed.
Nawr, ymddengys bod y coleg a’r BBC wedi camddehongli’r data ar sail camddealltwriaeth gychwynnol y coleg o’n polisi. A sylwaf fod y coleg bellach wedi newid ei safbwynt mewn datganiad diweddarach i'r wasg, ac rwy'n falch o ddweud bod y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn ymchwilio i'r mater mewn mwy o fanylder.
Nawr, gan droi at y polisi ei hun, i fod yn glir, nid ei bwrpas yw sicrhau gwelliannau i berfformiad yn erbyn y targed pedair awr. Mae'n datgan taw prif egwyddor y newid hwn yw sicrhau bod yn rhaid i benderfyniad clinigydd am ofal claf gael blaenoriaeth dros bopeth arall, hyd yn oed os bydd hwn yn cael effaith neu beidio ar y targed pedair awr. Felly, mae'n siomedig bod rhai Aelodau yn ymddangos fel eu bod nhw'n credu bod y polisi yma yn fwled arian i ddod dros yr heriau sy'n wynebu'r system gofal argyfwng a'i staff.
O ran yr effaith ar gynllunio at y gaeaf, y cwbl y gallaf i ei ddweud eto yw rhoi sicrwydd i Aelodau nad yw'r polisi hwn yn eithrio unrhyw gleifion rhag unrhyw gyfrifiad o'r galw.
Nawr, i droi at y dyfodol, roeddem ni eisoes yn gwybod bod gan y coleg bryderon am y defnydd o eithriadau clinigol. Felly, roeddem ni eisoes wedi ymrwymo i ystyried eu pryderon yn ein gwaith polisi parhaus. Roeddwn i'n falch iawn o siarad yn y cyfarfod cyntaf o arweinwyr adrannau achosion brys rhai wythnosau yn ôl. Eu gwaith nhw nawr yw ein helpu i lunio datganiad ansawdd a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a'r nod fydd disgrifio gofal da mewn adrannau achosion brys. Pan mae mesurau, targedau neu ddata yn cael eu casglu a'u cyhoeddi sydd ddim yn ychwanegu gwerth neu sy'n achosi canlyniadau anfwriadol i gleifion a staff, mae angen ystyried newidiadau o ddifri, a dwi wedi ymrwymo yn llwyr i wneud hynny.
Rydym yn barod am sgwrs ynglŷn â newid y canllawiau. Mae llunio'r datganiad ansawdd ar sut y dylai'r canllawiau edrych yn y dyfodol yn nwylo'r bobl yn y cynadleddau hynny, a byddwn yn cael y sgwrs honno pan fyddant yn cynnig eu hawgrymiadau.
Mae'n rhaid inni gofio, os cawn ni hynny, a newid y system i gasglu ystadegau mewn ffordd sylfaenol wahanol i lefydd eraill, fyddwn ni ddim yn gallu cymharu ein perfformiad ni â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Nawr, dwi'n gwybod bod y gallu i gymharu yn egwyddor bwysig i rai Aelodau, ac mae fy swyddogion wrthi'n trafod mesurau a gwelliannau â chydweithredwyr eraill o'r Deyrnas Unedig. Y peth sylfaenol yma, a'r hyn sydd bwysicaf i bobl Cymru, yw ansawdd, effeithlonrwydd a phrydlondeb gofal cleifion, yr hyn roedd Jane Dodds yn sôn amdano.
Weinidog, mae angen ichi ddirwyn i ben.
Mae ymroddiad, sgìl a gwaith caled y staff clinigol ac anghlinigol sy'n gweithio 24 awr y dydd, bob dydd mewn adrannau achosion brys, yn nodedig, ac maen nhw ar ddechrau tymor gaeaf fydd yn heriol dros ben. Maen nhw'n haeddu'r holl gymorth gallwn ni ei roi iddyn nhw, a dyw dadl am ystadegau, sy'n tynnu sylw oddi ar hyn, ddim yn helpu nhw na chleifion. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi gwrando’n ofalus iawn ar y ddadl hon, ac mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn synnu at ymateb y Gweinidog. Rydych wedi cymharu perfformiad adrannau argyfwng rhwng Cymru a Lloegr dro ar ôl tro, gan ddweud yn gyson fod Cymru’n perfformio’n well na rhannau eraill o’r DU. Yr hyn a wyddom o’r ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yw bod llawer o bobl sy’n treulio llawer mwy na phedair awr yn ein hadrannau argyfwng nad ydynt wedi’u cynnwys yn y ffigurau amseroedd aros pedair awr. A hoffwn ddyfynnu—. Fe ddywedoch chi mai amser targed ar gyfer triniaeth ydyw mewn gwirionedd; dyna'r hyn a awgrymwyd gennych yn eich ymateb i ni nawr—mae'n amser targed ar gyfer triniaeth, nid faint o amser y byddwch yn ei dreulio mewn adran argyfwng. Hoffwn ddarllen yr hyn y mae StatsCymru yn ei ddweud y mae’n ei adrodd, a dyfynnaf:
'Derbyniadau lle mae cleifion yn treulio llai o amser na’r amser targed yn yr adran achosion brys.'
Nid yw'n dweud yr amser cyn cael triniaeth, mae'n dweud:
'Derbyniadau lle mae cleifion yn treulio llai o amser na’r amser targed yn yr adran achosion brys.'
Gadewch imi roi un enghraifft i chi o fy mwrdd iechyd fy hun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn ôl StatsCymru, nifer y derbyniadau lle treuliodd cleifion lai na'r amser targed o bedair awr mewn adran achosion brys ym mis Mai eleni oedd 6,819 o gleifion. Ond yn ôl y cais rhyddid gwybodaeth, a ddychwelwyd, a oedd yn cynnwys yr eithriadau i'r targed pedair awr, y ffigur gwirioneddol oedd 9,844 o gleifion yn treulio mwy na phedair awr mewn adran achosion brys. Ac rwyf wedi darllen y cwestiwn a ofynnwyd ganddynt a'r ymateb, ac a dweud y gwir, nid yw'n egluro o hyd pam nad yw'r unigolion hynny wedi eu cynnwys. Nawr, rwy'n derbyn yn llawn y pwyntiau y mae Jenny Rathbone ac eraill wedi'u gwneud am y ffaith bod yn rhaid i chi, weithiau, dreulio mwy o amser mewn adran achosion brys i benderfynu a oes angen ichi gael eich derbyn ai peidio, er mwyn cael eich monitro. Rwy'n derbyn hynny; rwy'n deall hynny. Dyna pam fod gan ysbytai unedau asesu clinigol, lle maent yn mynd fel arfer ar ôl iddynt fod yn yr adran argyfwng, er mwyn aros am asesiad clinigol cyn penderfynu a ydynt am eu derbyn i ysbyty; dyna bwrpas yr unedau asesu hynny. Felly, ni ddylent fod yn eistedd mewn adran argyfwng yn aros am 12 awr neu fwy er mwyn cael canlyniadau profion ac er mwyn cael eu monitro.
Felly, rydych yn dweud bod arnoch eisiau—. Hoffwn allu cymharu ar draws y DU gan yr hoffwn wybod pa mor dda rydym yn perfformio o gymharu â rhannau eraill o—. Oherwydd os ydynt yn gwneud rhywbeth yn well, hoffwn ddysgu o hynny—boed hynny yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Ond yr hyn a wyddom yw nad oes unrhyw un o'r gwledydd eraill hynny'n eithrio pobl yn yr un ffordd ag y gwnawn ni, iawn? Felly, os ydym yn eithrio pobl fel hyn, ac nad yw'r cenhedloedd eraill yn gwneud hynny—. A gallaf eich clywed yn dweud, 'Maent yn gwneud hynny'. A hoffech ymyrryd ac esbonio i ni? Oherwydd y realiti—[Torri ar draws.] Rwy'n fodlon ichi esbonio, gan ein bod yn aros am yr esboniad, dyna holl hanfod y ddadl hon. Pam na ddywedwch chi wrthym?
Rydym yn dal i aros.
A yw'n digwydd mewn mannau eraill mewn gwledydd eraill? 'Na, nid yw'n digwydd', yw'r ateb, ac mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn gwbl ymwybodol o hynny, a dyna pam nad yw beirniadu pobl ddeallus iawn sy'n feddygon yn edrych yn dda iawn, a dweud y gwir, ac eto, dyna rydych chi wedi bod yn ei wneud dros yr ychydig wythnosau diwethaf ers i'r wybodaeth hon ddod yn gyhoeddus. Nid oes a wnelo hyn, Jane Dodds, â gwleidyddiaeth bitw. Mae'n ymwneud â—[Torri ar draws.] Na, nid yw'n ymwneud â hynny. Mae'n ymwneud â dymuno darganfod beth yw maint y broblem. Oherwydd, oni bai eich bod yn gwybod beth yw maint y broblem, ni allwch ddod o hyd i'r atebion i allu mynd i'r afael â'r broblem a newid y sefyllfa honno, fel y gall pawb yng Nghymru gael mynediad at y gofal amserol sydd ei angen arnynt ar ôl damwain neu mewn sefyllfa o argyfwng pan fyddant yn cyrraedd adran argyfwng yng Nghymru. Dyna yw eu pwrpas. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Diolch yn fawr am wneud hynny. Gobeithio mai dyma ddechrau eich cydweithio ar draws y pleidiau gwleidyddol. Gwn eich bod yn cwyno a’ch bod yn—[Torri ar draws.] Mae hyn mor bwysig i bob un ohonom ac i’r—[Torri ar draws.]
Rwy'n credu ei bod yn well gadael i’r Aelod roi'r ymyriad yn hytrach na sylwebaeth gan bob Aelod ar feinciau’r gwrthbleidiau.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf ei bod mor bwysig i bob un ohonom gydweithio, ac rwy'n derbyn eich pwynt, Darren. Rwy'n derbyn y pwynt eich bod yn awyddus i gael y ffigurau. Ond a gaf fi apelio arnoch i fod yn fodlon gweithio gyda’r Gweinidog Llafur er mwyn sicrhau ein bod yn cael gwell gwasanaeth iechyd, yn hytrach na pharhau i feio ein gilydd? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Rydym wedi cael enghreifftiau y prynhawn yma ohonom yn gweithio gyda'n gilydd i ddatgan bod yr Holodomor yn weithred o hil-laddiad, er enghraifft. Felly, ni chredaf ei bod yn deg awgrymu nad ydym yn gweithio gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol lle mae'n synhwyrol gwneud hynny. Ac wrth gwrs, rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i geisio gwella'r gwasanaeth iechyd. Rydym wedi bod yn gwneud awgrymiadau yn ddyddiol ac yn wythnosol yn y Siambr hon ers blynyddoedd lawer. Ond erys y pwynt, oni fydd gennych ddealltwriaeth o faint yr her, ni wnewch chi byth lwyddo i oresgyn yr her honno'n iawn.
Mae gennym sefyllfa ar hyn o bryd lle mae’r ffigurau a gyhoeddir ar yr amseroedd aros pedair awr yn ein hadrannau argyfwng yn gamarweiniol ac yn anghywir. Nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw'n ddigon da tanddatgan nifer y bobl yn Betsi Cadwaladr ym mis Mai 44 y cant. Felly, nid yw'n deg i'r Gweinidog wneud cymariaethau cyson â Lloegr—a chyda'r Alban a lleoedd eraill—fel y mae wedi bod yn ei wneud, a dweud, 'Rydym yn gwneud yn llawer gwell na chi dros y ffin.' Mae hi wedi dweud hynny dro ar ôl tro dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ers iddi gael ei phenodi, ac eto, mae'n gwybod ein bod ni'n gwybod, a bod y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn gwybod, nad yw hynny'n wir. Felly, dyna pam ein bod yn galw arnoch i gael gwared ar y polisi hwn yn gyfan gwbl, sicrhau bod y ffigurau’n dryloyw, sicrhau bod pawb yn deall yr hyn a adroddir, ac yna, wrth gwrs, fe wnawn weithio gyda chi, Weinidog, gyda chyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru, a hyd yn oed gyda’r unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y pentref, er mwyn inni allu datrys y broblem hon unwaith ac am byth er budd cleifion ledled Cymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar.
Eitem 7 heddiw yw Dadl Plaid Cymru, Trafnidiaeth Cymru. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8389 Heledd Fychan
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi ei bod yn bum mlynedd ers i Trafnidiaeth Cymru gymryd yr awenau dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru gyfan gan Trenau Arriva Cymru.
2. Yn gresynu:
a) bod darpariaeth gwasanaeth trenau ledled Cymru yn parhau i fod yn annerbyniol o annibynadwy a drud, gyda dim ond 57 y cant o wasanaethau yn cyrraedd yn brydlon rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023;
b) dim ond 29 y cant o deithiau a gaiff eu gwneud ar drenau newydd ar hyn o bryd, sydd ymhell islaw'r targed o 95 y cant a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023; ac
c) Trafnidiaeth Cymru sydd â'r graddfeydd boddhad cwsmeriaid isaf o holl brif weithredwyr rheilffyrdd y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed, a sicrhau gwelliannau o ran prydlondeb ac uwchraddio'r stoc, yn ogystal â chynllunio ar gyfer gwasanaethau digonol i gyd-fynd â digwyddiadau mawr yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. I ble rydym yn mynd gyda thrafnidiaeth yng Nghymru? I ba gyfeiriad rydym yn teithio? Rydym wedi galw'r ddadl hon am fod cymaint o gwestiynau o hyd am amserlenni'n gor-redeg, cysylltiadau'n cael eu methu a chynnydd yn cael ei rwystro. Mae cymaint o'n polisi trafnidiaeth ar chwâl, a cheir teimlad y gallem fod yn gwyro oddi ar y llwybr.
Felly, gadewch inni edrych ar y ffeithiau: mae £125 miliwn wedi'i gyhoeddi ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n croesawu buddsoddiad yn ein trafnidiaeth gyhoeddus. Carwn gofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn ag o ble y daeth yr arian hwnnw, i benderfynu a oes unrhyw arian wedi’i gymryd oddi ar wasanaethau bysiau i dalu am y rheilffyrdd, oherwydd, ar adeg pan fo 80 y cant o ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn teithio ar fysiau, mae gwir angen cymorth ar y gwasanaeth hwnnw hefyd.
Ond gan ddychwelyd at drenau, lansiwyd Trafnidiaeth Cymru gyda gweledigaeth ganmoladwy ynghylch datblygu system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy a hygyrch. Bydd unrhyw un sy'n cofio dyddiau tywyll Arriva yn cofio pa mor galonogol oedd y newid hwnnw. Rhoddwyd addewid i gwsmeriaid y byddent yn dechrau gweld gwell gwasanaethau o'r cychwyn cyntaf. Ac eto, bum mlynedd yn ddiweddarach, Trafnidiaeth Cymru sydd â'r lefelau boddhad cwsmeriaid isaf o blith holl wasanaethau rheilffordd y DU yn gyson, a chan orsafoedd yng Nghymru y mae'r cyfraddau uchaf o ganslo gwasanaethau.
Nawr, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dadlau'n gyson o blaid dod â'n rheilffyrdd i berchnogaeth gyhoeddus, fel bod anghenion teithwyr yn cael eu rhoi o flaen elw. Dyna pam fod angen inni ddatrys y problemau hyn sydd mor ystyfnig. Yn rhy aml, mae'r sefydliad newydd wedi cael ei weld fel Trenau Arriva Cymru gyda chôt newydd o baent ar yr hen drenau.
Nawr, i unrhyw Aelodau ar ochr Geidwadol y Siambr a allai ddweud bod hyn yn golygu nad yw perchnogaeth gyhoeddus yn fuddiol, buaswn yn eu hatgoffa sawl gwaith y mae eu Llywodraeth eu hunain yn Lloegr wedi gorfod dod â rheilffyrdd yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus oherwydd methiant cwmnïau preifat i gyflawni ar ran teithwyr. Mae preifateiddio'r rheilffyrdd wedi methu. Mae hynny y tu hwnt i amheuaeth. A dyna'n union pam fod angen inni ddatrys pethau. Rwyf am i'r trenau hyn wneud yn dda; rwy'n ysu am eu gweld yn llwyddo. Rwy’n dal y trên i’r Senedd bob wythnos ac rwy’n gweld drosof fy hun fod gormod o’r pethau hyn yn codi’n rhy aml. Mae lefelau boddhad cwsmeriaid yn isel. Yn aml, ceir cwynion am drenau wedi'u gohirio, seddi annigonol, amserlenni annibynadwy a diffyg cyfforddusrwydd yn gyffredinol ar y gwasanaethau.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Nawr, rwy’n sylweddoli ac yn cyfaddef bod llawer o’r tarfu ar wasanaethau ar hyn o bryd oherwydd, yn y de-ddwyrain o leiaf, y gwaith o baratoi traciau ar gyfer y metro a chyflwyno fflydoedd newydd. Rwy’n cydnabod y bydd hyn yn anochel yn cael effaith, ac efallai bod angen gwneud mwy i gyfleu hynny i deithwyr. Ond ni allwn ddianc rhag y ffaith bod tarfu ar wasanaethau yn arwain at ganlyniadau i fywydau go iawn. Gall pobl golli eu swyddi os nad ydynt yn cyrraedd y gwaith ar amser, neu os na allant gyrraedd y gwaith am nad yw eu trên yn rhedeg. Os ydym am annog mwy o deithwyr yng Nghymru i deithio’n fwy cynaliadwy—ac mae'n rhaid inni wneud hynny—mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael â pha mor ddibynadwy yw'r gwasanaethau a gawn.
Nawr, rwyf am ddweud ar y pwynt hwn, Lywydd, nad beirniadaeth o staff ymroddedig Trafnidiaeth Cymru yw hyn, boed yn gardiaid ar y trenau, yn yrwyr, yn beirianwyr neu bobl yn y swyddfa gefn. Gwn pa mor angerddol yw’r gweithwyr hyn am yr hyn wnânt, a’r amynedd a ddangosir gan eu tîm cyfryngau cymdeithasol wrth ymateb i negeseuon ar Twitter sy’n gallu bod yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn hollol anghwrtais ar adegau, mae hynny i’w ganmol. Gwn fod yn rhaid bod hyn yn ofnadwy o rwystredig i bob un ohonyn nhw hefyd. Nawr, nid yw'r trenau newydd a addawyd wedi eu darparu. Cafwyd addewid y byddai 95 y cant o drenau yn drenau newydd erbyn 2023; mae arnaf ofn fod y targed hwnnw wedi'i fethu'n llwyr. Dim ond 29 y cant o wasanaethau sy'n cael eu gweithredu gyda threnau newydd. A phan fydd y Gweinidog yn ymateb i hyn, buaswn yn falch o glywed pa mor hir y bydd yn rhaid i deithwyr aros am drenau digonol.
Rwy'n dod i'r gwaith o orsaf Abercynon, ond weithiau, os nad yw'r trên hwnnw'n rhedeg, rwy'n dal trenau o Ystrad Mynach yn lle hynny. Nawr, mae Ystrad Mynach ar reilffordd Rhymni ac mae ganddynt drenau hardd, hyfryd, gyda digon o le. Maent wedi'u goleuo'n dda, maent yn fodern; mae hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr i’r hen drenau gorlawn sy’n aml yn gollwng a gawn ar reilffyrdd Merthyr Tudful ac Aberdâr. Mae'n stori am ddwy reilffordd wahanol. Ac ydy, mae hynny'n rhoi gobaith i mi, pan fydd y gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno, y byddant yn cael eu croesawu. Rwy'n croesawu'r fflyd newydd ar reilffordd Rhymni. Ond am y tro, mae gormod o deithwyr yn gorfod dioddef trenau swnllyd, araf, hyll ac anghyfforddus. A hynny os ydynt yn cyrraedd ar amser, neu o gwbl. Mae pobl yn gorfod dioddef oedi a gorlenwi, diffyg cyfleusterau, ac weithiau, risgiau diogelwch gyda gorlenwi.
Nawr, ni ellir rhoi'r bai am yr holl broblemau hyn ar Trafnidiaeth Cymru na Llywodraeth Cymru. Mae bai ar San Steffan yma hefyd, gan mai San Steffan sy'n gosod ein cyfeiriad teithio. Mae gormod o benderfyniadau sy’n pennu faint o arian sydd gennym i’w fuddsoddi mewn trenau a thrafnidiaeth yn fwy cyffredinol yng Nghymru yn cael eu gwneud mewn gwlad arall. Ac ers gormod o amser, mae San Steffan wedi anwybyddu anghenion a dyheadau pobl Cymru. Rydym wedi gweld Llywodraethau olynol yn buddsoddi biliynau o bunnoedd yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, gan adael ein gwlad i ddioddef gyda seilwaith sy’n dadfeilio a gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu tanariannu. Mae prosiect rheilffordd gyflym arfaethedig HS2 yn un enghraifft o’r ffordd y mae San Steffan yn blaenoriaethu Lloegr ar draul Cymru.
Mae arnaf ofn fod y rhagolygon o ran sut y bydd Cymru yn gwneud yn y cyswllt hwn o dan Lywodraeth y DU dan arweiniad Llafur braidd yn niwlog. Tra bo'r Prif Weinidog yma wedi cefnogi galwadau i ailddosbarthu HS2 fel prosiect ‘Lloegr yn unig’, mae Keir Starmer wedi dweud nad yw’n mynd i wneud ymrwymiad o'r fath cyn yr etholiad. Nawr, mae’r diffyg ymrwymiad hwn i'n cenedl yn amddifadu Cymru o biliynau o bunnoedd o gyllid, ni waeth pa blaid sydd mewn grym. Dylai rhoi trefn ar ein system drafnidiaeth adfydus fod yn flaenoriaeth. Hoffwn alw ar yr Aelodau Llafur yma i herio Keir Starmer ar hyn, i weithio y tu ôl i’r llenni i newid eu meddyliau. Ond ni fyddwn byth yn wynebu’r cyfeiriad cywir hyd nes y gwneir y penderfyniadau hyn yng Nghymru. Rwy'n cytuno â’r Athro Mark Barry mai’r penderfyniad a wnaed gan Lafur yng Nghymru i beidio â gwthio am ddatganoli’r holl bwerau dros reilffyrdd yw’r camgymeriad mwyaf o bosibl ers dechrau datganoli, oherwydd cyhyd ag y bydd gwlad arall yn gosod y terfynau ar ein polisi trafnidiaeth, bydd Cymru yn aros yn ei hunfan.
Delyth, a wnewch chi ildio?
Gwnaf. Rwy'n fwy na pharod i ildio.
Mae hwn yn bwynt a gododd mewn darllediad a wneuthum gyda'n cydweithwyr newydd y noson o'r blaen. I chi, mae'n fater o'i ddatganoli, ac rwy'n deall. I mi, mae'n fater o, 'Datganolwch yr arian inni wneud hyn.' Oni fyddech yn cytuno mai’r peth hollbwysig i Lywodraeth Lafur neu unrhyw Lywodraeth ar ben arall yr M4 yw, ‘Rhowch y swm o arian i ni, ac yna gallwn fwrw ymlaen â'r gwaith’? Nawr, efallai fod datganoli yn rhan o hynny—. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n bwrw drwyddi. Gallai datganoli fod yn rhan o hynny, ond mewn gwirionedd, yr arian sydd ei eisiau.
Rwy'n dweud bod angen y ddau arnom. Yn sicr, nid oes unrhyw beth y buaswn yn anghytuno ag ef o ran bod angen yr arian arnom. Credaf yn gryf fod angen y pwerau hynny arnom yng Nghymru, gan na ddylem fod yn ddarostyngedig i fympwyon pa Lywodraeth bynnag sy’n digwydd bod mewn grym yn San Steffan a allai, fel y gwelsom yn rhy aml, geisio adfachu pwerau neu newid trefniadau ariannu. Cytunaf yn llwyr â chi, mae angen yr arian hwnnw arnom, ond mae angen y pwerau arnom mewn ffordd fwy cynaliadwy. Felly, diolch am eich ymyriad, Huw.
Hoffwn ailadrodd y byddwn yn aros yn ein hunfan, yn drosiadol, ac yn rhy aml o lawer yn llythrennol hefyd, hyd nes i hynny oll gael ei ddatrys. Nid yw’n rhy hwyr inni weithredu a mynnu'r arian hwnnw, mynnu’r pwerau hyn i gamu i gyfeiriad newydd.
Ac rwy'n gobeithio bydd ein dadl heno yn helpu i osod ffordd newydd ymlaen. Rwyf i'n edrych ymlaen at glywed beth sydd gan eraill i'w ddweud yn y ddadl.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod effaith perfformiad rheilffyrdd gwael diweddar ar deithwyr, gyda heriau'n cynnwys trenau sy'n heneiddio ac yn annibynadwy, gweithredu diwydiannol mewn cwmnïau a reolir gan Lywodraeth y DU, a'r pwysau ariannol parhaus a achosir gan COVID a chwyddiant.
Yn croesawu gwaith Trafnidiaeth Cymru i sefydlogi perfformiad trenau ers mis Awst.
Yn croesawu'r buddsoddiad o £1.1 biliwn yn llinellau craidd y Cymoedd a'r buddsoddiad o £900 miliwn mewn cerbydau rheilffyrdd ar draws rhwydwaith Cymru a'r gororau.
Yn edrych ymlaen at y newid sylweddol i deithwyr wrth i gerbydau rheilffyrdd newydd gael eu cyflwyno ar gyfer 95 y cant o deithiau erbyn 2024, yn unol â'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Diolch. Natasha Asghar nawr i gyflwyno gwelliant 2. Natasha Asghar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r achos busnes gan Trafnidiaeth Cymru i gyfiawnhau'r £125 miliwn o gyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu i'r cwmni yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddechrau drwy ailadrodd yr hyn a ddywedodd Delyth Jewell, sef rhoi clod llawn i’r holl staff rheng flaen sy’n gweithio yn Trafnidiaeth Cymru. Maent yn gwneud gwaith anhygoel, ac efallai nad ydynt yn cael clod am yr hyn a wnânt. Hoffwn wneud fy mhwynt hefyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gwneud cam â chymudwyr ym mhob cwr o’r wlad ers llawer gormod o amser, ac er bod Gweinidogion Llafur wedi taflu bron i £1 biliwn at Trafnidiaeth Cymru, rydym eto i weld unrhyw welliannau gwirioneddol. Anaml y bydd trenau'n cyrraedd ar amser, os o gwbl, a phan fyddant yn gwneud hynny, maent fel arfer yn llawn dop, gyda theithwyr yn cael eu gorfodi i sefyll mewn unrhyw ofod sydd ar gael, yn enwedig pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal. Rwy'n siŵr fod pob un ohonoch wedi gweld y lluniau rwy'n cyfeirio atynt ar y cyfryngau cymdeithasol—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rydych newydd ddweud:
'Anaml y bydd trenau'n cyrraedd ar amser, os o gwbl.'
A yw hynny'n wir mewn gwirionedd?
Os hoffech ddod i fy etholaeth, os siaradwch â rhai o’r trigolion—
Yn anaml, os o gwbl.
—sy'n gorfod defnyddio rheilffordd Treherbert, sydd wedi cael gwaith wedi'i wneud arni ers amser hir iawn, byddant—
Yn anaml, os o gwbl.
—yn cadarnhau i chi fod hynny'n wir. Mae hynny wedi bod yn wir, ac mae llawer o arian wedi’i wario ar wasanaethau bysiau yn lle trenau gan nad ydynt yn cyrraedd mewn pryd iddynt allu dod, ac fel y soniodd Delyth Jewell, i gyrraedd y gwaith i ennill bywoliaeth gonest.
Nawr, fel y soniais, mae dibynadwyedd gwasanaethau trên yn broblem fawr yma yng Nghymru, gyda'r data diweddaraf yn dangos mai dim ond 68 y cant o drenau sy'n cyrraedd o fewn tri munud i'w hamser cyrraedd cynlluniedig ar wasanaethau Cymru a'r gororau. Mae oedi a chanslo'n digwydd yn amlach, gyda nifer y trenau sydd rhwng un a phum munud yn hwyr yn cynyddu o 9.8 y cant yn 2018-19 i 14.7 y cant yn 2022-23. Oherwydd y gwasanaeth ofnadwy hwn, mae Trafnidiaeth Cymru wedi talu bron i £1 filiwn mewn iawndal yn 2022 yn unig.
Nid o ran dibynadwyedd gwasanaethau yn unig y mae Trafnidiaeth Cymru yn methu. Mae hygyrchedd yn broblem enfawr, gyda dim ond 18 o'r 223 o orsafoedd trên yng Nghymru yn cael eu hystyried yn rhai cwbl hygyrch, sy'n golygu bod ganddynt rampiau, mynediad at lifftiau, peiriannau tocynnau hygyrch a thoiledau hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae'n destun pryder nad oes gan saith gorsaf drenau yng Nghymru unrhyw fynediad i bobl anabl o gwbl. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid iddo newid.
O ystyried hynny oll, a chredwch fi, ceir mwy o enghreifftiau, a yw'n syndod pam mai Trafnidiaeth Cymru sydd â'r sgôr boddhad cwsmeriaid isaf o blith holl weithredwyr rheilffyrdd y Deyrnas Unedig? Dywedwyd wrthym, erbyn 2023, y byddai oddeutu 95 y cant o wasanaethau yng Nghymru ar drenau newydd, gyda buddsoddiad o £800 miliwn yn helpu i gyflawni’r garreg filltir hon, ac eto, cawsom wybod yn ddiweddar, fel y saif pethau, mai’r cyfanswm yw 29 y cant, nad yw'n agos at y targed. Addewid gwag arall yw hwn gan Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo i’r Llywodraeth Lafur. A dweud y gwir yn blaen, mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad sy’n methu, fel y saif pethau, gyda theithwyr yn talu’r pris yn y pen draw.
Ond peidiwch ag ofni, gan fod Gweinidogion Llafur wedi gwneud yr hyn a wnânt orau—taflu arian yn ddiamcan at y broblem a gobeithio y bydd yn datrys ei hun; mae £125 miliwn wedi’i bwmpio i mewn i Trafnidiaeth Cymru ar adeg pan fo cyllidebau'n cael eu torri drwyddi draw. Fel y dywedais yn gynharach yng nghwestiynau'r llefarwyr, mae’r sefyllfa hon yn ei chyfanrwydd yn rhoi déjà vu gwael iawn i mi. A yw Trafnidiaeth Cymru yn mynd yn debyg i Faes Awyr Caerdydd, ac yn llyncu arian trethdalwyr tra bo'n parhau i fethu perfformio’n llwyddiannus? Ym mis Mehefin eleni, torrodd Llywodraeth Cymru gyllid Trafnidiaeth Cymru, a nawr, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, maent yn rhoi £125 miliwn arall iddo. Mae hyn yn awgrymu bod rhywbeth wedi mynd o’i le yn ofnadwy yn Trafnidiaeth Cymru, ac mae Gweinidogion Llafur yn camu i’r adwy i achub y dydd gyda’u llyfr sieciau. Mae gwir angen inni weld achos busnes dros gyfiawnhau’r cyllid ychwanegol, a dylid ei wneud yn gyhoeddus fel y gall pobl ledled y wlad weld ble mae eu harian yn cael ei wario.
Ymddengys bod trenau’n cael rhyw fath o driniaeth arbennig, gyda bysiau’n cael eu hesgeuluso fel arfer, er bod tri chwarter y teithiau trafnidiaeth gyhoeddus yn digwydd ar fysiau yn hytrach na threnau. Gallai rhwng 20 a 25 y cant o wasanaethau bysiau gael eu torri y flwyddyn nesaf, sy'n achosi pryder gwirioneddol yn ein cymunedau, a hynny ledled y wlad, felly mae’n wirioneddol siomedig nad oes unrhyw gymorth ariannol yn cael ei bwmpio i mewn i’r diwydiant hanfodol hwn. Ar hyn o bryd, mae Trafnidiaeth Cymru yn methu cyrraedd y nod o ran darparu gwasanaeth o safon, ond nid oes raid i bethau fod felly. Mae angen inni weld Llywodraeth Cymru yn ailasesu eu blaenoriaethau ac yn mynd i’r afael â phroblemau cynyddol Trafnidiaeth Cymru unwaith ac am byth. Diolch.
Diolch, Lywydd. Roeddwn yn aros i'r microffon gael ei ddadfudo.
Er tryloywder, rwy'n credu y dylwn ddweud fy mod wedi rhannu taith o Abercynon i Gaerdydd gyda Delyth Jewell, ac roedd yn daith ddymunol iawn hefyd, lle roedd yn amlwg ein bod yn cytuno ar fwy na roeddem yn anghytuno yn ei gylch, a oedd yn bwysig ei gydnabod, ac rwy'n sicr yn cytuno â’r hyn a ddywed am reilffordd Rhymni.
Rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar hyn dros y saith mlynedd diwethaf i wella’r drafnidiaeth ar reilffordd Rhymni i Benarth, ac mae hynny wedi arwain at gyflwyno trenau dosbarth 231 newydd sbon a adeiladwyd gan Stadler, yn ôl eu cynllun trenau cyflym, ysgafn, rhyngddinesig a rhanbarthol. Cawsant eu cyflwyno yn gynnar yn 2023, a chredaf fod y Dirprwy Weinidog yno pan gawsant eu dadorchuddio. Mae'r 11 trên wedi'u hadeiladu yn y Swistir. Mae trenau tebyg wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus gan Greater Anglia a gweithredwyr eraill ledled Ewrop, felly mae’r rhain yn drenau o safon fyd-eang. Bydd y gwasanaethau'n cael eu trosglwyddo allan o reilffordd cwm Rhymni pan fydd y trenau dosbarth 756, sy'n debyg iawn, ar gael ac yn cael eu rhoi ar waith ar reilffordd cwm Rhymni, felly yr hyn y byddwch yn ei weld yw'r cynnydd enfawr a gweladwy a gawsom ar reilffordd Rhymni yn cael ei ymestyn ledled Cymru, cyn gynted ag y bydd y trenau dosbarth 756 hynny ar waith. Felly, pe baem yn cael y ddadl hon ymhen blwyddyn, rwy'n credu y byddai'n ddadl hollol wahanol ac y byddem yn gweld llawer mwy o gynnydd.
Un peth y buaswn yn anghytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd Delyth Jewell: ni chredaf fod y Gweinidog blaenorol, Ken Skates, na’r Gweinidog presennol erioed wedi dweud y byddai’r cynnydd yn digwydd yn syth ar ôl trosglwyddo Arriva i Trafnidiaeth Cymru. Credaf ei bod yn cymryd amser i adeiladu’r trenau eu hunain, gyda llawer ohonynt yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, a golyga hynny y bydd yn cymryd amser i gwblhau'r trosglwyddiad.
Gwelsom hefyd y gwaith sy'n cael e wneud ar drawsnewid rheilffordd Rhymni, ac mae wedi digwydd ar reilffyrdd eraill, felly ar hyn o bryd, maent yn gwneud gwaith gosod seilbyst ar reilffordd Rhymni i baratoi ar gyfer gosod cyfarpar llinellau uwchben a gwaith rheoli llystyfiant. Mae hyn oll yn achosi tarfu anochel ar y rheilffordd, a dyna pam fy mod yn dweud wrth Natasha Asghar eich bod yn gweld gwasanaethau bysiau yn lle trenau: oherwydd bod y rheilffyrdd yn cael eu paratoi ar gyfer y dyfodol, ar gyfer gwasanaeth trên o safon fyd-eang yn y dyfodol. Dyna pam eich bod yn gweld peth tarfu ar hyn o bryd. Mae’r tarfu hwnnw’n anochel er mwyn cael gwasanaeth gwell, ac wrth i amser fynd heibio, bydd y gwasanaeth hwnnw’n sicr yn efelychu’r gwasanaeth rhagorol a welwn rhwng Rhymni a Chaerdydd ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y bydd yr un peth yn digwydd yn Abercynon pan fydd y trenau tram ar gael ar gyfer y rheilffordd honno hefyd. Felly, byddwn yn gweld cynnydd.
Rwy'n derbyn y pwynt am wasanaethau bysiau cysylltiol. Credaf mai dyma ble mae’r Dirprwy Weinidog wedi nodi y bydd masnachfreinio'n galluogi cysylltu gwasanaethau bysiau â rheilffyrdd. Mae hwnnw’n gam hanfodol ymlaen, a hoffwn hefyd weld gwasanaethau un tocyn, fel y gallech brynu un tocyn ar gyfer bysiau a rheilffyrdd, gan gysylltu’r rheilffyrdd â’r gwasanaethau bysiau. Ers gormod o amser, rwy'n credu ein bod wedi gweld gwasanaethau bysiau yn rhedeg i Gaerdydd ochr yn ochr â gwasanaethau rheilffordd yn fy etholaeth. Mae hynny’n ddiangen mewn sawl ffordd lle mae digon o le, ac felly, drwy gysylltu ar draws y dwyrain a’r gorllewin, credaf y gallwn wneud rhywfaint o gynnydd. Felly, efallai yr hoffai'r Dirprwy Weinidog sôn am y Bil masnachfreinio arfaethedig a fyddai’n galluogi hynny.
Ac os caf ddweud un peth arall: cynhaliais weithdy gyda Trafnidiaeth Cymru dros yr haf lle daeth aelodau o'r cyhoedd i siarad am y problemau y maent yn eu cael gyda sŵn o ganlyniad i'r rheilffordd. Mae'n rhaid imi ddweud bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymgysylltu'n wych â phobl ac wedi egluro'r sefyllfa. Er y bydd y gwaith yn parhau i'r flwyddyn nesaf, roedd y gwaith mwyaf swnllyd yn digwydd ar hyn o bryd ac mae'n dod i ben at ei gilydd mewn sawl rhan o'r etholaeth.
Felly, rydym yn gweld cynnydd. Buaswn yn dychmygu y bydd pobl yn Trafnidiaeth Cymru yn siomedig wrth glywed y Ceidwadwyr yn dweud eu bod yn sefydliad sy'n methu; mae'n amlwg nad ydynt. Maent yn gwneud cynnydd, ac fel y dywedais ar y dechrau, yr adeg hon y flwyddyn nesaf, os cawn y ddadl hon eto, rwy'n credu y gwelwn wasanaeth rheilffordd gwahanol iawn ledled Cymru sy'n efelychu’r hyn sydd gennym yn fy etholaeth i.
Dwi'n mawr obeithio bod Hefin David yn mynd i fod yn gywir, oherwydd pwrpas y ddadl hon ydy ein bod ni eisiau sicrhau bod y gwasanaethau yma ar gael. Rydyn ni wedi clywed nifer o wleidyddion yn tan addo a—. Wel, mae nifer wedi dweud y dylai gwleidyddion tan-addo a gorgyflawni, ond yr hyn rydyn ni wedi ei weld yn rhy aml efo rheilffyrdd ydy'r gwrthwyneb, gyda nifer yn goraddo a thangyflawni, fel rydyn ni wedi ei weld gyda HS2. A does dim gwadu’r ffaith—a dwi'n falch bod Delyth Jewell wedi dechrau'r ddadl trwy ddweud hyn—fod y buddsoddiad sylweddol sy'n digwydd yn y rhanbarth dwi’n ei gynrychioli ar y funud yng Nghanol De Cymru difawr ei angen ac wedi bod llawer rhy hir yn dod. Felly, dwi yn croesawu'n fawr y gwaith sy'n digwydd, fel y mae nifer, wrth gwrs, o etholwyr.
Ond does dim gwadu ychwaith fod hwn wedi cael effaith anferthol ar drigolion, oherwydd, fel bydd nifer yn gwybod, ers Ebrill does yr un trên wedi rhedeg i Dreherbert ac mae hyn wedi cael effaith aruthrol ar drigolion yn y Rhondda. Mi oedd Delyth Jewell yn sôn ynglŷn â'r rhai sydd wedi colli swyddi oherwydd eu bod yn gyson hwyr i'r gwaith. Mae hynny'n realiti. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu mewn gwaith achos. Mae rhai eraill wedi gorfod rhoi'r gorau i swyddi gan eu bod nhw jest yn methu cyrraedd y gwasanaethau sydd yn angenrheidiol er mwyn eu cael i'r gwaith, a does yna ddim trafnidiaeth amgen ganddyn nhw. Rydyn ni'n gweld o ran y niferoedd bychain iawn sydd efo ceir mewn rhai ardaloedd ac yn methu fforddio cael ceir. Mae eraill yn hwyr i’r ysgol neu ddim yn cyrraedd yr ysgol o gwbl. Mi oedd y Gweinidog addysg ddoe yn sôn ynglŷn â phresenoldeb. Wel, pan does yna ddim trafnidiaeth amgen, mae hynny'n eithriadol o heriol. Ac apwyntiadau hwyr—roeddwn i'n gweld bod y Gweinidog iechyd wedi sôn yn ddiweddar ynglŷn â faint sy'n colli apwyntiadau meddygol. Faint o'r rheini sydd oherwydd bod gwasanaethau ddim yn rhedeg? Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych felly ar beth ydy effaith hyn ar gymaint o wasanaethau eraill, ac os ydyn ni'n edrych o ran gwastraffu arian, wel, yn sicr, pan fydd pobl yn methu â chyrraedd apwyntiadau ysbyty neu feddyg ac ati, mae hyn yn broblem ddyrys.
Mae busnesau hefyd wedi dioddef yn aruthrol, gyda llai o bobl yn ymweld â busnesau mewn llefydd megis Ton Pentre a Threorci, oherwydd problemau traffig dybryd wrth i waith arall gael ei wneud ar yr un pryd a chynnydd yn y nifer yn defnyddio ceir. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn onest hefyd: dydy'r system gwasanaethau bws amgen ddim wedi bod yn llwyddiant aruthrol. Oherwydd y problemau traffig, maen nhw'n cymryd gymaint yn hirach neu ddim yn troi i fyny o gwbl. Mae rhywun yn poeni hefyd pam bod yna leihad wedi bod yn y gwasanaethau bws yma oherwydd bod pobl ddim yn eu defnyddio nhw. Mae'n dangos bod yna broblem yn rhywle.
Mae pobl yn edrych ymlaen yn fawr at y gwaith yn cael ei gwblhau, ond yn barod mae yna bryderon yn cael eu mynegi. Fe addawyd iddynt deithiau cyflymach, mwy o gapasiti i deithwyr, gwasanaethau amlach a mwy dibynadwy, a chysylltiadau gwell. Ond ar hyn o bryd, deallaf mai hen drenau fydd yn cael eu defnyddio pan agorir y lein—gobeithio ym mis Chwefror. Mae amwysedd hefyd ynglŷn ag a oes bwriad i ymestyn yr amserlen wedi i’r gwaith gwblhau. Felly, yr ofn mawr ar y funud ydy na fydd gwasanaeth dim gwell wedi hyn i gyd ac felly na fydd y Rhondda yn gweld budd y buddsoddiad fel y dylai. Tybed all y Dirprwy Weinidog roi diweddariad ac unrhyw sicrwydd wrth ymateb heddiw.
Yn benodol hefyd, mae eraill wedi sôn ynglŷn â'r toriadau i wasanaethau bws o ran cysylltu â’r gorsafoedd. Wedi’r cyfan, un elfen o’r metro ydy'r trenau. Mae bysys a theithiau llesol yn rhan hanfodol hefyd. Tybed a allwn ni hefyd gael diweddariad o ran yr elfen hon, oherwydd mae honno'n mynd i fod yn allweddol bwysig.
Mae yna ddiffyg integreiddio a chydweithio wedi bod ar y prosiect cymleth hwn. Dwi'n gwybod bod y cyngor lleol wedi bod yn rhwystredig iawn. Maen nhw wedi gweld penderfyniadau yn cael eu gwneud ar hap, mewn brys, a'r cyfathrebu’n ddiffygiol yn aml. Felly, yr hyn yr hoffwn i ofyn hefyd ydy: pa wersi sydd wedi cael eu dysgu, oherwydd mae cyfathrebu'n hanfodol bwysig? Dwi ddim yn gwybod am unrhyw un arall sydd wedi trio deall os ydy bws yn rhedeg neu beidio ac edrych ar wefan Trafnidiaeth Cymru yn ystod y gwaith yma, ond dwi'n methu â gweithio'r peth allan o gwbl i wybod os oes yna drên yn rhedeg neu beidio. Felly, mae'n haws i chi neidio mewn car, os oes gennych chi'r opsiwn hwnnw. Ond lle nad oes gennych chi opsiwn, dwi'n meddwl bod yna waith mawr i'w wneud o ran cyfathrebu.
Felly, dwi'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn dysgu o'r prosiect hwn, a rhai o'r diffygion, er mwyn cynllunio'n well yn y dyfodol. Mae angen inni weithio'n galed i adfer y niferoedd sydd yn teithio ar drenau. Felly, gaf i ofyn hefyd i'r Gweinidog, wrth ymateb, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy yn defnyddio'r trenau wedi i'r lein ailagor hefyd? Mae'n allweddol bwysig ein bod ni'n gweld y buddsoddiad parhaus hwn, ond mae hefyd yn bwysig ei fod o'n fforddiadwy a bod y gwasanaethau yna nid dim ond i gysylltu'r Cymoedd i Gaerdydd, ond Caerdydd a Chymru i'r Cymoedd.
Mae’r ystadegau ar berfformiad Trafnidiaeth Cymru yn glir iawn i bawb eu gweld. Mae 22 y cant o bobl Cymru yn credu bod eu gwasanaethau trên yn wael—y lefel uchaf ym Mhrydain. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi methu cyrraedd hyd yn oed hanner ei darged o 95 y cant o wasanaethau’n cael eu gweithredu gan drenau newydd, a bu cymaint o oedi yn 2022 yn unig fel y bu’n rhaid talu bron i £1 filiwn mewn iawndal. Ac mae hynny oll yng nghyd-destun bron i £1 biliwn o gyllid, gyda chynnydd yn y gyllideb yr wythnos diwethaf, i'w ariannu. Mae'n llawer o arian trethdalwyr am wasanaeth mor wael.
Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De Cymru, mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â rheilffyrdd wedi bod yn druenus at ei gilydd: oedi cyson i system metro de Cymru, a ffars barhaus yr addewid mawr sydd eto i'w wireddu, sef gorsaf reilffordd Bracla. Yn y bôn, mae Llywodraeth Cymru wedi methu annog y cyhoedd yn gyffredinol i ddefnyddio trenau yn y lle cyntaf. Mae teithio ar drên yn llai cyffredin yng Nghymru nag ar draws y DU. Dim ond 1.6 y cant o gyfanswm defnydd gorsafoedd rheilffordd y DU oedd yng Nghymru yn 2021-22.
Felly, nid yw'n syndod fod y nifer helaeth o deithiau yng Nghymru yn dal i gael eu gwneud mewn car, a chyda pherfformiad y Llywodraeth hon ar reilffyrdd, pwy a all eu beio? Felly, yn y cyd-destun hwnnw, ymddengys yn hynod hunandrechol i Lafur a Phlaid Cymru barhau â'u rhyfel ar fodurwyr. Gyda’r holl ymdrechion a wneir i orfodi pobl allan o’u ceir drwy waharddiad ar ffyrdd newydd, cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd a therfynau cyflymder 20 mya diofyn, efallai y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi ystyried gwella trafnidiaeth gyhoeddus i’r bobl hynny ei defnyddio yn lle hynny. Un peth yw i Lywodraeth Cymru a'r Dirprwy Weinidog annog newid dulliau teithio, cael mwy o bobl ar drenau a bysiau, ond pan fo gwasanaethau mor wael, a allwch chi feio pobl mewn gwirionedd am beidio â chefnogi ei gynlluniau gwallgof? A hoffech chi wneud ymyriad?
Hoffwn, yn wir. Diolch yn fawr—fe wnaethoch ragweld y buaswn yn gofyn am gael gwneud ymyriad. A fyddech chi felly'n cefnogi—? Rwy’n anghytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedoch chi am y rhyfel ar fodurwyr—mae hynny'n nonsens poblyddol—ond a fyddech chi'n cytuno felly mai’r hyn y dylem ei wneud â’r gronfa gyfyngedig o arian yw sicrhau ein bod, dros amser, yn symud y buddsoddiad tuag at ddulliau trafnidiaeth eraill i wneud y dewisiadau hawdd hynny, ar fysiau, ar drenau ac ati, y dylem symud y buddsoddiad? Neu a ydych yn seilio'ch dymuniadau ar goeden arian hud?
Wel, yn gyntaf oll, ni fuaswn yn galw 0.5 miliwn o bobl yn llofnodi deiseb yn 'nonsens poblyddol'. Mae pleidleiswyr yn Ogwr—. Roeddwn ym Mhencoed yn gynharach yr wythnos hon yn siarad â phleidleiswyr, ac maent yn gandryll, a dweud y gwir, am derfyn cyflymder 20 mya diofyn Llywodraeth Cymru. Credaf fod angen mwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus—mae hynny’n glir iawn—ond ni allwn wneud un peth heb y llall. Mae'n hawdd iawn annog pobl i beidio â defnyddio'u ceir. Y rhan anodd yw darparu trafnidiaeth gyhoeddus addas, ac mae Llywodraeth Cymru wedi methu gwneud hynny'n llwyr.
Ond yn y pen draw, edrychwch, mae pobl yn gwneud dewis rhesymegol. Maent yn dymuno gallu dewis eu dull o deithio, yr un sydd fwyaf addas iddynt, heb i'r wladwriaeth refru arnynt neu ddweud wrthynt eu bod yn gwneud rhywbeth o’i le drwy beidio â defnyddio cynllun trafnidiaeth gyhoeddus gwarthus Llywodraeth Cymru. Mae pobl Cymru wedi ffurfio eu barn eu hunain ar ryfel Llafur ar fodurwyr. Nid nad ydynt eisiau teithio ar y y trên; ond bod eu polisi trafnidiaeth wedi dod oddi ar y cledrau'n llwyr. Nid nad ydynt yn gwybod eu bod wedi gwahardd ffyrdd; ond bod y Llywodraeth Lafur hon wedi rhedeg allan o ffordd. Ac nid nad yw pobl eisiau beicio i'r gwaith; ond bod y cyhoedd wedi penderfynu y dylai’r Dirprwy Weinidog hwn fynd ar ei feic.
Ac er mor eithafol yw Llafur ar hyn, mae'n bwysig cofio bod Plaid Cymru wedi bod y tu ôl iddynt bob cam o'r ffordd. Ni waeth beth a ddywedant wrth eu pleidleiswyr gwledig ynglŷn ag 20 mya neu unrhyw beth arall, pan fyddant yn dod yma i Fae Caerdydd, yn sydyn iawn, mae eu hagwedd yn newid yn llwyr. Pan ddaw'n fater o bleidleisiau a dadleuon yn y Senedd—[Torri ar draws.] Fe adawaf ichi ymyrryd mewn eiliad. Pan ddaw'n fater o bleidleisiau a dadleuon yn y Senedd sy’n effeithio ar bolisi’r Llywodraeth, ni waeth beth a ddywedant wrth eu hetholwyr, ymddengys bod Plaid Cymru bob amser yn cefnogi cynlluniau diweddaraf Llafur. Ond er mwyn iddynt allu honni wrth eu pleidleiswyr eu bod yn cynnig rhywbeth gwahanol, maent yn ceisio dod o hyd i ddewis arall. Bythefnos yn ôl, fe wnaethant gyflwyno cynnig anghredadwy i’r Senedd hon yn galw am drydaneiddio holl reilffyrdd Cymru. Pan ymyrrais yn y ddadl honno i ofyn i arweinydd Plaid Cymru a oedd wedi costio'r polisi hwnnw, nid oedd wedi gwneud hynny. Mae ein gwleidyddiaeth yn haeddu gwell na brand Plaid Cymru o boblyddiaeth genedlaetholgar. Felly, Heledd, mae croeso ichi ymyrryd i'n goleuo drwy ddweud wrthym faint y gallai trydaneiddio holl reilffyrdd Cymru ei gostio.
Fe benderfynaf i beth fydd fy ymyriad, diolch yn fawr iawn. Ar yr hyn roeddech chi'n ei ddweud, nid wyf yn deall yn iawn sut rydym wedi mynd o reilffyrdd i 20 mya, gan mai dadl sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus yw hon. Hoffwn wybod, serch hynny, sut y credwch y dylai Llywodraeth ymateb i’r argyfwng hinsawdd os nad drwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Rydych yn dweud mai'r 'car yw'r brenin' ac ati—dadl yw hon ar drafnidiaeth gyhoeddus a gweld y buddsoddiad hwnnw. Mae gan Lywodraeth rôl i gefnogi pobl i wneud y dewis i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle ceir.
Credaf mai'r peth pwysig yw nad ydym yn annog pobl i beidio â defnyddio eu ceir heb annog pobl—[Torri ar draws.] Ni ddylem annog pobl i beidio â defnyddio eu ceir heb fuddsoddi yn y drafnidiaeth gyhoeddus i ategu hynny. Mae'n amhosibl ei wneud fel arall. Dro ar ôl tro, clywn Blaid Cymru yn dod i mewn gyda'u—
Rydych yn gwrthwynebu eich dadl eich hun.
Buaswn yn croesawu pe bai arweinydd Plaid Cymru—
Gadewch i Tom Giffard barhau â'i gyfraniad, oni bai eich bod yn dymuno gwneud ymyriad.
Mae arweinydd Plaid Cymru yn gwneud honiadau o'i sedd, ond nid oedd ei honiad yn y ddadl honno bythefnos yn ôl i drydaneiddio holl reilffyrdd Cymru wedi’i gostio. Fe'i cyflwynodd ar lawr y Senedd hon heb ei gostio o gwbl.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid wyf am dderbyn ymyriad, gan fy mod chwe munud a hanner i mewn i'r ddadl, ac rwy'n siŵr na wnaiff y Llywydd ganiatáu hynny.
Parhewch, Tom.
Ond os hoffent rywfaint o gostio, a gaf fi awgrymu nad ydynt yn gwario £33 miliwn ar orfodi terfyn 20 mya diofyn neu £140 miliwn ar fwy o wleidyddion—dau bolisi sydd wedi cael sêl bendith Plaid Cymru? Ond boed yn rhoséd goch neu un werdd, dim ond esgus yw'r holl gemau hyn i geisio honni bod rhyw wahaniaeth ystyrlon rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur, oherwydd yn y pen draw, gŵyr pob un ohonom, ac mae pobl Cymru yn gwybod bellach, pan fyddwch yn pleidleisio dros Blaid Cymru, rydych chi'n cael Llafur.
Mae fy rhanbarth i, fel rŷch chi'n gwybod, yn rhanbarth enfawr iawn, ac yn cynnwys ardaloedd gwledig yn bennaf, ac rŷn ni wedi dod, yn anffodus, yn gyson gyfarwydd â diffygion mawr mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn y math yma o ardaloedd. Cyn lleied o'n trefi a'n pentrefi sydd wedi cael eu cysylltu gan reilffyrdd, ac rŷn ni felly yn gorfod dibynnu ar fysiau.
Rydw i wedi siarad yn barod heddiw ar fater Bwcabus, sydd yn ddarpariaeth eithriadol hanfodol i bobl mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. A thra bod y gwasanaeth trên yn derbyn £125 miliwn ychwanegol o'r gyllideb eleni, dwi'n sylwi does yna ddim un geiniog goch ychwanegol yn cael ei ychwanegu at ddarpariaeth bysys. Felly, sut yn y byd, Weinidog, mae pobl sydd heb allu mynd ar drên yn gallu cysylltu â'i gilydd a chysylltu cymunedau â'i gilydd?
Nawr, 60 mlynedd yn ôl, roedd adroddiad Beeching wedi golygu cau ein rheilffyrdd ni yng Nghymru. A hyd yn oed ers hynny, does yna ddim byd wedi digwydd. Mae'r gwasanaeth yn dal i fod yn annigonol, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig ni. Esiampl berffaith o hynny yw absenoldeb cyswllt rheilffordd rhwng, er enghraifft, Aberystwyth a Chaerfyrddin. Er gwaethaf ymgyrchu brwd gan nifer o bobl, mae'r sefyllfa'n gwbl hurt—45 milltir sydd yn rhannu y ddwy dref, ac eto, os ydych chi eisiau mynd ar drên o Gaerfyrddin i Aberystwyth, mae'n rhaid mynd drwy Henffordd ac Amwythig er mwyn mynd i Aberystwyth, taith o ryw chwe awr. Cwbl, cwbl afresymol.
Dros yr haf, rwyf wedi nodi yn y Siambr yma hefyd ddiffygion llinell Calon Cymru, lle mae yna drenau'n cael eu canslo, mae trenau'n rhedeg yn hwyr, mae pobl yn cael eu gadael yn Llanwrtyd i aros am ryw ddwy awr a hanner, a dim bws na dim byd i ddod ar eu cyfer nhw i fynd â nhw adref.
Dwi'n derbyn bod y Gweinidog wedi cyfaddef sawl gwaith yn y Siambr yma bod yna ddiffygion. Ond rŷn ni wedi clywed hynny cymaint o weithiau, rŷn ni bron wedi mynd i anobeithio bod unrhyw welliant yn mynd i ddod. Rŷn ni wedi clywed yn barod gan Delyth yn fan hyn mai dim ond drwy gael pwerau llawn, fel sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon dros eu rheilffyrdd, y mae modd i ni ddatblygu'r gwasanaeth yng Nghymru. Dyma'r unig ffordd y gallwn ni sicrhau y bydd yr arian—a dwi'n cytuno'n llwyr gyda Huw Irranca—yn dod gyda'r cyfrifoldeb hwnnw. Mae hynny'n werth rhyw £514 miliwn rhwng 2011 a 2020, yn ôl astudiaeth diweddar Canolfan Llywodraethiant Cymru. Ac mae'n golygu wedyn y gallwn ni gynllunio'n traciau ein hunain er budd ein cymunedau ni, yn hytrach na gwasanaethu budd a buddiant Llundain—a dyna'r ffordd mae'r traciau i gyd yn rhedeg.
Yn ein byd modern, dylai daearyddiaeth ddim fod yn rhwystr i'n galluogi ni i deithio, ac mae gan Blaid Cymru weledigaeth glir er mwyn creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar draws pob rhan o Gymru, i gysylltu gogledd a de, gorllewin a dwyrain. Bydd hyn yn cynnwys llinell newydd ar hyd arfordir y gorllewin i gysylltu Caerfyrddin a Bangor, ac, o ganlyniad, creu hwb sylweddol economaidd a chymdeithasol i'n hardaloedd gwledig.
Dirprwy Weinidog, does dim rhaid i ni setlo am wasanaethau digyswllt ac annibynadwy. Mae yna ddyfodol gwell i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ond mae'n rhaid i'r gwasanaeth yma fod yn integredig, ac yn cynnwys trenau a bysys. Dim ond trwy sicrhau'r pwerau a'r arian sydd yn ddyledus i ni y gallwn ni sicrhau hyn. Diolch yn fawr.
Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan hynod bwysig o adeiladu Cymru wyrddach a mwy cyfartal. Rwy’n teithio ar y rheilffordd o’r gogledd i’r de yn aml, yn achlysurol ar brif linell reilffordd y gogledd, Wrecsam i Bidston, a gwasanaethau eraill ledled y wlad a’r gororau. Yn ddiweddar, mae’r gwasanaethau wedi gweld mwy o orlenwi a chanslo, ac yn ddiweddar, roedd hynny oherwydd y tywydd, sy’n ddealladwy, ond hefyd oherwydd bod trenau’n torri neu'n cael eu gwasanaethu, ac argaeledd gyrwyr.
Mae llawer mwy o bobl eisiau teithio ar y penwythnos ac ar gyfer achlysuron cymdeithasol, ond nid oes gennym ddigon o gerbydau rheilffyrdd ar gael i'w symud o gwmpas. Deallaf y gallai fod yn anodd cael digon o yrwyr a bod trafodaethau ar y gweill drwy’r undebau ynglŷn ag oriau gwaith a’r wythnos waith i gynnwys dydd Sul o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Mae teithwyr hefyd wedi dweud wrthyf, os na fydd gwasanaethau ar gael, peidiwch â’u hysbysebu, fel eu bod yn gwybod bod angen iddynt ohirio'u taith tan y diwrnod wedyn, os yw hynny’n bosibl. Yn ein bywydau prysur, mae'n well cael trên sy'n rhedeg ar amser gyda'r anghyfleustra o ddewis diwrnod arall na'r anghyfleustra o wynebu canslo munud olaf, aros mewn gorsafoedd, neu orfod sefyll am amser maith ar drên gorlawn. Yn aml, mae goblygiadau ariannol i bobl; fodd bynnag, ni fyddem am i hyn ddod yn barhaol nac iddo ddigwydd yn aml fel arbediad cost i’r gweithredwr, fel y gwelwn gydag Avanti West Coast, sy’n gweithredu dros y ffin.
Rwy'n croesawu'r buddsoddiad enfawr o £900 miliwn mewn cerbydau trenau ar rwydwaith Cymru a’r gororau. Dywedwyd wrthyf ychydig fisoedd yn ôl fod y trenau 197 newydd i fod i gael eu cyflwyno erbyn diwedd 2023, ond darllenais yn ddiweddar y bydd hynny'n digwydd bellach erbyn diwedd 2024. Yn anffodus, rwyf wedi bod yn dweud wrth etholwyr pryderus, pan ddaw’r cerbydau ar waith ar ddiwedd 2023, y byddai'r problemau capasiti yn cael eu datrys. Felly, unwaith eto, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, a gawn ni reoli disgwyliadau a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am y rhesymau pam nad yw'n digwydd? Mae £125 miliwn o arian ychwanegol wedi'i ganfod ar gyfer rheilffyrdd, a £46 miliwn ar gyfer bysiau fel cronfa bontio. Mae’r cyllid hwn yn sicr yn daliad untro, ac nid yn gylchol, felly pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Trafnidiaeth Cymru? Nid yw nifer y teithwyr wedi dychwelyd i drafnidiaeth bysiau, ac rwy'n croesawu'r ffaith y bydd Trafnidiaeth Cymru yn hysbysebu ac yn hyrwyddo ymgyrch i’w lansio fis nesaf, a fydd yn aruthrol o bwysig, ac mae angen i bob un ohonom gymryd rhan yn honno. Mae angen sicrwydd arnom nad yw trafnidiaeth ar fysiau cyhoeddus yn cael ei thrin yn llai ffafriol, gan ei bod yn effeithio ar fwy o bobl, gan gynnwys mynediad at addysg, gwaith, apwyntiadau meddygol a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Mae’r wybodaeth am yr amserlen a’r wybodaeth olrhain drwy apiau amrywiol yn ardderchog ac yn ddefnyddiol, a hoffwn ganmol cymwynasgarwch staff Trafnidiaeth Cymru ar blatfformau ac ar drenau. Gwn y gall pobl archebu cymorth, ond gwelaf hefyd, ar y platfform, yn y swyddfa docynnau, staff yn gyffredinol yn helpu pobl gyda bagiau, cesys, pramiau a gwybodaeth. Gall llawer o bobl deimlo pryder wrth geisio dod o hyd i blatfform, pa drên i'w ddal, ac mae'r staff yn hynod o barod i helpu i feithrin hyder ymhlith teithwyr. Ac rwy’n falch iawn fod Trafnidiaeth Cymru wedi ystyried ymgyrch Boys Need Bins, gan weithio gyda Prostate Cancer UK, yn dilyn trafodaeth a gefais gyda defnyddiwr rheilffyrdd a chodi'r mater gyda Michelle o Transport Focus.
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth yn streicio am fod staff platfform, swyddfeydd tocynnau, a thocynwyr y DU yn cael eu had-drefnu. Nid yw hyn yn digwydd yng Nghymru, diolch byth. Ond bydd wedi golygu cost i’r gyllideb drafnidiaeth ac wedi cael effaith ar wasanaethau trawsffiniol, gan nad oes cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn ystyried ad-drefnu gwaith cynnal a chadw ac adeiladu rheilffyrdd newydd drwy ymdrechion Network Rail i wella effeithlonrwydd. Gallai hyn effeithio ar lifogydd, ar goed—mae gennym glefyd coed ynn, ac roedd problem paill coed gyda'r cerbydau 230 ar reilffordd Wrecsam-Bidston. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar y gwasanaeth. Ni allwn edrych ar Trafnidiaeth Cymru ar ei ben ei hun; mae angen i bobl sylweddoli bod hyn yn ymwneud â Network Rail a Trafnidiaeth Cymru, a bod y ddwy Lywodraeth yn gyfrifol am y gwasanaeth rheilffyrdd. Ac fel y dywedais, mae problemau hefyd gydag Avanti West Coast yn cael gwared ar drenau a gwasanaethau.
Bydd angen cymhorthdal ar drafnidiaeth gyhoeddus bob amser. Pan adeiladodd y Fictoriaid y rheilffyrdd, roeddent yn cystadlu am deithwyr, gyda llinellau dyblyg weithiau, nad oeddent wedi'u cysylltu. Mae Llywodraethau amrywiol, dros nifer o flynyddoedd, wedi rhoi cynnig ar wahanol opsiynau preifat a chyhoeddus gyda llwyddiant amrywiol. Bob tro y mae Llywodraeth wedi buddsoddi arian, mae Llywodraeth ganlynol wedi'i dorri a cheisio'i ad-drefnu. Mae arnom angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi o ddifrif yn ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a pheidio â’i leihau, a rhoi’r arian sydd ei angen arnom a’n cyfran deg i Gymru. Hefyd, mae arnom angen i Trafnidiaeth Cymru reoli disgwyliadau a bod yn agored iawn gyda'r wybodaeth ddiweddaraf, fel y gallant fynd â phobl gyda nhw ar y daith a rheoli disgwyliadau. Diolch.
Mae trenau wedi bod yn rhan o fy mywyd i erioed, o wneud cacennau mwd wrth y lein oedd yn mynd reit drwy ganol fy mhentref, i deithio ar y trên olaf aeth ar y lein honno ar ddiwedd y 1960au, pan ddaeth bwyell Beeching. Camgymeriad enfawr oedd gweithred Beeching o ddryllio'r rhwydwaith trenau, fel mae pawb yn ei gydnabod erbyn hyn. Mae gennym ni bellach wasanaeth trenau eilradd, annerbyniol yng Nghymru.
Yn gyd-destun i hyn mae blynyddoedd hir o ddiffyg buddsoddiad yn yr isadeiledd ers cyfnod Beeching—diffyg buddsoddi yn y traciau a'r signalau gan Network Rail. Un ar ddeg y cant o draciau, 1 y cant o'r buddsoddiad—mae hyn yn dweud y cyfan am esgeulustod dybryd y wladwriaeth Brydeinig o anghenion Cymru. Ac yna'r camgymeriad mawr yn 2005, y penderfyniad rhyfedd iawn gan Lywodraeth Cymru i beidio â derbyn y cynnig o ddatganoli'r isadeiledd i Gymru. Sut fedrwch chi greu system newydd pan fo dim ond hanner y pwerau gennych chi? Mae hi fel gwneud cacen efo dim ond hanner y cynhwysion—cacen fwd, efallai.
Mae'n rhaid gweld datgnoli'r isadeiledd i Gymru. Dydy hynny ddim ar agendau'r pleidiau unoliaethol, ond fe fydd Plaid Cymru yn parhau i wneud y ddadl honno. Byddwn ni'n parhau hefyd i ddadlau dros ein cyfran deg o arian HS2, er mwyn buddsoddi mewn system drafnidiaeth gyhoeddus integredig a safonol. Mi fyddwn ni'n parhau i ddadlau dros gysylltu ein gwlad—o'r de i'r gogledd, gyda rhwydwaith bwrpasol o drenau a bysiau. Mi fyddwn ni'n parhau i ddadlau dros ail-greu lein trên lawr y gorllewin, fel nad oes yn rhaid inni fynd allan o'n gwlad er mwyn teithio ar drên o un pen i'r llall; dros uchelgais, dros drenau modern, ffit i bwrpas ar gyfer ein pobl, a'r rhai sy'n ymweld i fwynhau ein tirwedd a'n harfordir hardd ar drên.
Yn y cyfamser, mae hi'n bum mlynedd ers i Drafnidiaeth Cymru gymryd drosodd gan Drenau Arriva Cymru—datblygiad pwysig i'w gymeradwyo. Dyna oedd sefydlu'r corff a gwladoli'r gwasanaeth. Ac mae yna sawl elfen bositif wedi dod yn sgil hynny—gwell amodau gwaith i'r gweithwyr, gwasanaeth sy'n arddel dwy iaith ein gwlad mewn ffordd weladwy a chlywadwy, mwy o wasanaethau ar gael, a'r gallu i ailfuddsoddi'r elw.
Ond, ond, ond, mae'n ddyletswydd arnaf i ar ran fy etholwyr i dynnu sylw at y problemau, ac, i adrodd o brofiad cyson fel defnyddiwr rheolaidd o'r gwasanaeth o Fangor i Gaerdydd, dydy o ddim digon da o bell ffordd: oedi, canslo cyson, diffyg glanweithdra, gwresogi annibynadwy—mae'n rhy oer neu mae'n rhy boeth—ac, yn ddiweddar, dim digon o le i bawb fedru eistedd, dim digon o gerbydau i ymateb i'r galw a dydy'r cerbydau presennol sy'n rhedeg o'r de i'r gogledd ddim digon da ar gyfer siwrneiau hir. Dwi'n llygadu efo eiddigedd rhai o'r trenau sydd ar lein y Rhymni, a da gweld rheini. Dwi'n llygadu'r trenau sy'n mynd i Lundain, a dwi hefyd yn gweld y rhai sy'n weithredol ar draws Ewrop ac yn cenfigennu. Does dim rhyfedd felly, nac oes, fod Trafnidiaeth Cymru efo'r graddfeydd boddhad cwsmeriaid isaf o holl brif weithredwyr rheilffyrdd y gwledydd yma. Mae'n rhaid i ni gadw at yr amserlen ar gyfer y gwella ac uwchraddio'r stoc erbyn 2024.
Fuaset ti'n cymryd ymyriad yn sydyn?
Iawn.
Rydym ni mewn cyfnod lle rydym ni yn poeni am niferoedd sy'n defnyddio trenau. Mae o'n bryder go iawn gen i fod y profiad mae pobl yn ei gael ar drenau sy'n rhedeg rhwng y de a'r gogledd, yn gorfod newid yng Nghaer ar siwrneiau syth drwodd, ac ati, yn gwneud i bobl benderfynu peidio cymryd y trên—fy merch fy hun ar ôl y ddwy siwrnai ddiwethaf lawr i Gaerdydd yn dweud 'Dwi'm yn gwneud hyn ar drên eto'. Dydyn ni ddim yn mynd i ddenu pobl i ddefnyddio'r trên.
Dy ferch, etholwyr di-rif yn dod ataf i yn dweud hynny—eu bod nhw wedi cael profiadau mor ddiflas na fyddan nhw'n mentro mynd ar y trên eto. Dwi'n dal ati. Dwi'n ffyddiog bod pethau yn mynd i wella, ond mae angen gwirioneddol rŵan rhoi'r ymdrech fawr yna i fewn i'r gwella yna er mwyn i ni fedru cyrraedd at sefyllfa lle rydym ni'n falch o'r gwasanaeth trên sydd gennym ni yma yng Nghymru, fel bod ni'n gallu meddwl ymlaen i'r dyfodol, a meddwl yn hyderus fod gennym ni rywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono fo i'r dyfodol.
Hoffwn ddechrau'r ddadl hon drwy ddweud, ar wahân i'r cyfeiriad at Lywodraeth y DU, fy mod i'n meddwl bod cyfraniad Carolyn Thomas—. Roedd yn gwneud i mi feddwl am bethau nad oeddwn i wedi meddwl amdanynt. Ac wrth gwrs, mae ein cyd-Aelod Siân Gwenllian wedi mynd yn ôl ychydig. Wel, mae gennyf gyfaddefiad neu ddau i'w wneud. Mae fy nhrwydded yrru wedi bod gennyf ers 46 mlynedd. Rwyf wrth fy modd yn gyrru o gwmpas yn fy nghar a gwae unrhyw un sy'n ceisio dweud wrthyf na chaf. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn gwrando ar ein Dirprwy Weinidog oherwydd, a dweud y gwir, pan fo'r trenau'n rhedeg, mae'n ddewis llawer gwell teithio o'r gogledd i'r de mewn trên, lle gallwch weithio, lle nad yw pobl yn tarfu arnoch drwy ffonio. Wel, maent yn tarfu arnoch drwy ffonio, ond mae'n haws ateb pan fyddwch chi ar drên, lle ceir signal, hynny yw.
Ond y pwynt yw fy mod i wedi gwrando arnoch chi, Ddirprwy Weinidog, ac rwyf eisiau defnyddio'r gwasanaeth trên. Rwyf eisiau defnyddio Trafnidiaeth Cymru, ond mae nifer y cwynion sy'n dod i mewn—. Nawr, rwyf wedi bod yma ers 12 mlynedd, ac mae'n rhaid imi ddweud, roedd yn eithaf da bryd hynny o'i gymharu â'r hyn sydd gennym nawr. Rwy'n cofio ar un achlysur, yn fy nhymor cyntaf, pan oeddent wedi tangyfrifo faint o bobl oedd yn mynd i gêm bêl-droed neu rygbi, ac roedd yna anhrefn. Ac rwy'n cofio cysylltu â rhywun yn Arriva Cymru ar y pryd, Ben Davies, a oedd yn adnabyddus i bobl yn y diwydiant rheilffyrdd ar y pryd. Ac rwy'n cofio—roedd hyn yn hollol ofnadwy—fe wnaeth fy nghredu ac fe ychwanegodd gerbyd arall yng Nghaer i helpu gyda'r bobl a oedd yn ymladd i fynd ar y trên. Roedd yn ofnadwy. Ond roedd hwnnw'n un profiad gwael mewn pum mlynedd, ond nawr, fel y bydd dilynwyr rheolaidd cofnod teithio Janet ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei wybod, fe fyddwch yn gwybod pan fyddaf yn cael taith wael. Ond yn eithaf aml—yn amlach na pheidio, yn anffodus—gwelwn deithwyr yn cael eu gwasgu i mewn, dim seddi, dim troli. Ac efallai ei fod yn swnio braidd yn wan, 'dim troli', ond yn yr haf, ar y trenau newydd hyn heb ffenestri, os ydych chi wedi anghofio prynu potel o ddŵr, hyd yn oed, gallwch deimlo'n eithaf sâl ar ddiwedd taith mewn tymereddau poeth. Wi-Fi ofnadwy. Dim ond 57 y cant o'r gwasanaethau sy'n cyrraedd ar amser. Ac nid fi'n unig sy'n cwyno, fel y clywsom heddiw. Mae 22 y cant o bobl Cymru yn credu bod eu gwasanaethau trên yn wael; dyna'r ganran uchaf ym Mhrydain. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn dangos yn benodol fod bodlonrwydd cwsmeriaid wedi gostwng 15 pwynt canran.
Er gwaethaf targed i gyflwyno 77 o drenau newydd erbyn y cyfnod hwn, dim ond 34 sydd wedi'u darparu, ac rydym wedi cael llawer o addewidion, Lee Waters. Rwyf wedi bod yn eithaf amyneddgar: 'Bydd yn gwella. Bydd yn gwella', ac rydym yn parhau i aros. Ond ar yr un pryd ag y cawsom y 77 trên newydd—ac nid ydynt i gyd yn rhedeg, gallaf ddweud wrthych—mae rhai wedi cael eu cymryd oddi arnom. Roeddwn gyda fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian un diwrnod pan welson lwyth ohonynt wedi eu parcio yn Crewe, os ydych chi'n cofio. Ac felly rwy'n cwestiynu pam eu bod yno, a pham nad ydynt ar y rheilffyrdd.
Pan fo hyd yn oed y Prif Weinidog yn cadarnhau bod Trafnidiaeth Cymru ar ei hôl hi gyda'r targed, ni ellir gwadu bod y gwasanaeth trên presennol yn drychinebus. Rwy'n un o gefnogwyr brwd rheilffordd dyffryn Conwy, ond mae Trafnidiaeth Cymru a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwrthod caniatáu i gynnydd ddigwydd. Byddai ymgyrchu dros wasanaeth uniongyrchol o Flaenau Ffestiniog i faes awyr Manceinion yn wych. Rwyf wedi ymgyrchu am wasanaeth trên hwyr gyda'r nos o Landudno i Flaenau Ffestiniog fel y gall y bobl sy'n byw yn ein dyffryn ni gael mynediad at swyddi, at dafarn, os ydynt eisiau mynd i'r dafarn gyda'r nos. Ond rydych chi wedi dweud, Weinidog,
'Yn ddiweddar, fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru ystyried y galw gan deithwyr ar draws y rhwydwaith, gan gynnwys y galw ar Reilffordd Dyffryn Conwy. Mae'r gwasanaeth olaf gyda'r nos yn gadael Blaenau Ffestiniog am 20:27 ac yn cyrraedd Llandudno am 21:44. Nid oes unrhyw gynlluniau i weithredu gwasanaeth hwyrach ar y rheilffordd hon.'
Nawr, er fy mod yn cydnabod y trên 20:27 sy'n teithio i'r gogledd, rydym angen rhywbeth llawer hwyrach na hynny sy'n teithio i'r de. Nid oes trafnidiaeth gyhoeddus arall tan y bore. Nid oes gennym wasanaeth bws.
Ar hyd a lled y dyffryn, rydym wedi clywed pryderon difrifol nad yw tocynwyr Trafnidiaeth Cymru yn darparu tocynnau i deithwyr ar gyfer eu taith, yn enwedig y rhai sy'n gymwys i deithio am ddim. Felly, Weinidog, hoffwn ofyn i chi esbonio'r rhesymeg y tu ôl i gael gwasanaeth trên lle nad ydych yn gwybod faint o bobl sy'n teithio ar y trên hwnnw mewn gwirionedd. Mae'r methiant i ddarparu tocyn yn golygu nad yw'r teithwyr yn teithio yn unol ag adran 6.1 o amodau teithio rheilffyrdd cenedlaethol, a ddaeth i rym ar 6 Chwefror 2022. Mae gwasanaeth bws yn lle trenau wedi bod ar waith ar 244 diwrnod dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, ac ar 18 diwrnod, nid oedd unrhyw wasanaeth trenau na gwasanaeth bws yn lle trenau, a dim ond tri ohonynt oedd oherwydd tywydd garw. Felly, perfformiad gwael oedd y rheswm dros y lleill. Felly, mae Trafnidiaeth Cymru gwneud cam â defnyddwyr rheilffordd dyffryn Conwy. Maent yn gwneud cam â'r union bobl sydd eisiau defnyddio eich trafnidiaeth gyhoeddus, ac yn rhy aml rwyf wedi clywed y Prif Weinidog, rwyf wedi eich clywed chi, yn dweud, 'O, lefelau pandemig—ni allwn eu codi yn ôl i fyny.' Fel y dywedwyd yma yn eithaf clir, os yw'r gwasanaeth yn wael bydd pobl yn ei ddefnyddio unwaith neu ddwy ac yna byddant yn rhoi'r ffidil yn y to. Byddant yn troi'n ôl at y car. Felly—
Rwyf wedi bod yn hael iawn gydag amser, Janet Finch-Saunders, felly a wnewch chi ddirwyn i ben?
Iawn. Felly, gwrandewch arnom, Ddirprwy Weinidog. Rydym eisiau sicrwydd y cawn daith ddiogel a phleserus pan fyddwn yn defnyddio'r gwasanaeth trên. Diolch yn fawr.
Y Dirprwy Weinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl—Lee Waters.
Diolch yn fawr, Lywydd. Cyn imi symud ymlaen i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau penodol a godwyd yn ystod y ddadl, rwyf am egluro unrhyw ddryswch ynghylch pam y dyrannwyd y £125 miliwn hwn i Trafnidiaeth Cymru. I fod yn glir, nid arian i achub eu crwyn yw hwn, fel y mae rhai wedi ei ddarlunio. Nid yw'n ymwneud â darparu cyllid newydd ar gyfer rheilffyrdd ar draul bysiau, fel y mae eraill wedi'i ddweud. Rydym wedi darparu £46 miliwn ychwanegol ar gyfer bysiau eleni, a gyhoeddwyd gennym eisoes, felly mae'n anghywir dweud nad oes cyllid ychwanegol ar gyfer bysiau. Ac nid yw'n gamreolaeth ariannol ar ran Trafnidiaeth Cymru, na Llywodraeth Cymru, o ran hynny. Yn syml iawn, pan wnaethom ddyfarnu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau i KeolisAmey, roedd yn seiliedig ar eu hamcanestyniad o dwf cyflym yn niferoedd teithwyr. Roedd y niferoedd yn uchelgeisiol iawn, ac roedd ein rhagdybiaethau cyllidebol yn seiliedig ar yr uchelgeisiau hynny, ac fel y gwyddom, cawsant eu chwalu gan COVID. Yn wir, fe chwalodd y fasnachfraint. Ond arhosodd y ffigurau yn y gyllideb. Fel y dywedodd James Price ei hun yn ddiweddar, yn y bôn, rydym wedi colli tair blynedd o dwf refeniw oherwydd COVID-19. Nawr, nid yw hynny'n unigryw i Gymru. Fel y gwelsom, fe wnaeth y pandemig chwalu'r model masnachfraint wedi'i breifateiddio ar gyfer rheilffyrdd yn Lloegr hefyd. Mae model preifateiddio'r Torïaid ar ddechrau'r 1990au wedi dod i ben. Mae wedi methu, yn union fel y mae'r model preifateiddio bysiau wedi methu.
Soniodd Janet Finch-Saunders fod gwasanaethau'n cael eu torri. Wel, mae'r gwasanaeth TransPennine wedi gweld toriad o fwy na 6 y cant i reoli prydlondeb, ac mae'r chwe thrên a gafodd eu haddo bob awr o Leeds i Fanceinion yn cael eu torri i dri. Felly, mae yna heriau ar draws y diwydiant rheilffyrdd, a hoffwn awgrymu wrth feinciau'r Ceidwadwyr y dylent fod ychydig yn fwy gwylaidd a chydnabod bod yr heriau a wynebwn yn deillio'n uniongyrchol o obsesiwn eu plaid gyda dod â'r farchnad rydd i mewn i wasanaethau cyhoeddus, ac mae wedi gwneud cam â'r cyhoedd.
Mae effaith y pandemig ar ymddygiad teithwyr yn sefydlogi bellach, diolch byth. Gallaf gadarnhau bod refeniw tocynnau wedi dychwelyd i lefelau cyn COVID. Mae hynny er gwaethaf y perfformiad gwael diweddar, sydd wedi'i restru, a'r ffaith bod llawer llai o bobl yn cymudo yn ystod dydd Llun i ddydd Gwener. A gadewch inni fod yn glir fod y perfformiad gwael hefyd wedi deillio o'r tanfuddsoddi a welsom mewn trenau newydd a gwaith cynnal a chadw traciau, sydd wedi deillio o breifateiddio'r rheilffyrdd o dan y Torïaid. Mae'n rhaid iddynt gymryd cyfrifoldeb am hyn. Mae'r Llywodraeth hon, mewn cyferbyniad, yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi cynyddu gwasanaethau 80 y cant ers 2018. Fe wnaethom gael gwared ar y trenau 'pacer' enbyd yn 2021, ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gael gwared ar y trenau dosbarth 175. Ym mis Rhagfyr, byddwn yn gallu cwblhau'r buddsoddiad o £70 miliwn yng Nglyn Ebwy, ar amser ac o fewn y gyllideb, er mwyn i wasanaethau fynd o Lyn Ebwy i Gasnewydd. Mae hwnnw'n waith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a'r cyngor lleol. A bydd rheilffordd Treherbert yn ailagor yn y flwyddyn newydd, yn dilyn y buddsoddiad mwyaf yn ei hanes. Ie, Huw.
Diolch i'r Gweinidog am ildio. Roeddwn eisiau dweud eich bod wedi anghofio un peth, sef ailgyflwyno gwasanaeth y Sul ar reilffordd Llynfi am y tro cyntaf mewn—. Nefoedd, fe gollon ni hwnnw 40 mlynedd yn ôl. Os gallwch chi ddarparu'r un bob hanner awr i ni nawr hefyd, fe godwn ni gerflun ohonoch hanner ffordd i lawr y lein.
Wel, am demtasiwn. [Chwerthin.] Rwyf wedi gadael llawer o welliannau allan; nid oes gennyf amser i gyfeirio at bob un. Gwelwyd gwelliannau sylweddol oherwydd ein buddsoddiad, hyd yn oed buddsoddiad mewn seilwaith, a ddylai fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, ond nid ydynt wedi gwneud hynny.
Ceir potensial enfawr nawr i gynyddu nifer y teithwyr wrth inni fuddsoddi mewn trenau newydd a gwasanaethau amlach a fydd yn gallu integreiddio'n briodol â bysiau pan fyddwn yn cyflwyno masnachfreinio, fel y soniodd Hefin David, a phrosiectau trawsnewidiol fel metro gwerth £1 biliwn de Cymru. Daw masnachfreinio bysiau ac integreiddio'r amserlen rheilffyrdd gan Trafnidiaeth Cymru ag addewid yn ei sgil o un tocyn, un rhwydwaith ac un amserlen. Delyth.
Mae'n ddrwg gennyf dorri ar eich traws cyn i chi gyrraedd diwedd y frawddeg, ond a wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Gwnaf.
Roeddech chi'n sôn am y trenau newydd. A allech chi egluro rhywbeth, Weinidog, gyda'ch gwelliant? A wyf fi'n ei ddarllen yn gywir, eich bod yn ymrwymo i ddarparu trenau newydd ar 95 y cant o wasanaethau trên erbyn diwedd eleni? Mae'n dweud 'erbyn 2024'. Felly, 1 Ionawr fyddai hynny, onid e? Dyna beth mae'n ymrwymo i'w wneud.
Wel, rwy'n credu bod y flwyddyn yn dechrau ym mis Ionawr, ond mae'n para hyd at ddiwedd y flwyddyn. Rydym wedi cael anawsterau gwirioneddol gyda nifer y trenau sy'n cael eu darparu i ni dan gontract gan y gwahanol ddarparwyr. Maent bellach yn dod oddi ar y llinellau cynhyrchu ac yn cael eu rhoi ar y cledrau bob saith i 10 diwrnod ar gyfartaledd. A Janet, y rheswm pam fod cymaint ohonynt wedi'u parcio yn Crewe yw oherwydd bod angen cynnal hyfforddiant gyrwyr ac oherwydd bod angen cynnal profion ar drenau. Rwy'n gwybod ei bod yn rhwystredig eu gweld wedi'u parcio yno, ond gallwch fod yn sicr eu bod ar y ffordd. Fel y crybwyllwyd gan nifer o siaradwyr, pan fyddwch yn cael eu profi, fel y gwneuthum ddydd Sadwrn—y trenau 197 newydd ar reilffordd Llanelli i Gaerdydd—mae'n newid sylweddol o ran profiad. Mae fel teithio mewn cerbyd dosbarth cyntaf.
Felly, rydym yn wynebu cyfres o heriau ym maes trafnidiaeth. Nid oes amheuaeth am hynny. Mae COVID, cyni a chwyddiant yn gwneud ein tasg o gynyddu lefelau trafnidiaeth gyhoeddus yn anodd iawn. Ond rydym ar daith, ac erbyn 2040, rydym eisiau gweld 45 y cant o deithiau yn cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, i fyny o 32 y cant ar hyn o bryd. Mae hynny'n golygu bod angen newid y system, ac ni fydd hynny'n digwydd dros nos. Ond rydym bellach yn gosod sylfeini rhwydwaith rheilffyrdd modern a system fysiau integredig wedi'i chynllunio'n briodol, ynghyd ag ymagwedd uchelgeisiol tuag at deithio llesol. Nid yw'r llwybr yn llyfn, ond mae'n glir, ac fe fyddwn yn cyrraedd. Ac os ydym am atal newid hinsawdd direolaeth, Lywydd, mae'n rhaid inni gyrraedd.
Delyth Jewell, nawr, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein dadl.
Agorodd Natasha drwy dalu teyrnged, hefyd, i staff rheng flaen Trafnidiaeth Cymru—mae hynny i'w groesawu. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cofnodi hynny pan fyddwn yn trafod y materion hyn. Yna nododd Natasha fod y broblem yn ymwneud â dibynadwyedd a hygyrchedd, gan nodi bod saith gorsaf reilffordd yng Nghymru heb fynediad ar gyfer pobl anabl. Efallai fod hynny'n rhan o gyfrifoldeb Network Rail, ond pwy bynnag sy'n gyfrifol, mae'n sefyllfa ofnadwy, ac nid yw'n dderbyniol.
Hefin, roedd y daith drên a rennais gyda chi o Abercynon yn hyfryd. Nododd Hefin y cynnydd a welwyd ar linell Rhymni—unwaith eto, rwy'n croesawu hynny. Yr hyn a ddywedwyd wrthym yw y byddem yn dechrau gweld cynnydd ar unwaith. Rwy'n dadlau fod llawer o deithwyr nad ydynt yn gweld y cynnydd hwnnw, ond Hefin, y tro nesaf y byddwn yn rhannu taith o Abercynon, rwy'n gobeithio y byddwn ar drên newydd.
Adleisiodd Heledd yr un gobaith yna, ond mae peryg, fel y dywedodd hi, y bydd goraddo a thangyflawni. Croesawodd hi'r gwaith sy'n digwydd, ond mae sgileffeithiau—gan gynnwys, yn arbennig, i'r bobl sydd yn byw yn y Rhondda, achos y ffaith bod dim trenau'n mynd i Dreherbert—colli apwyntiadau meddygol, colli swyddi a'r ffaith nad ydy'r gwasanaethau bws amgen sydd yna'n gweithio'n dda. Felly, roedd hynna'n siomedig i glywed, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n rili bwysig ein bod ni'n clywed hynna yn y ddadl.
Nododd Tom rai o'r ffigurau heriol i Trafnidiaeth Cymru ar foddhad isel cwsmeriaid. Rwy'n dadlau, Tom, y dylid buddsoddi arian trethdalwyr mewn trafnidiaeth gyhoeddus, mewn gwasanaethau cyhoeddus—dyna bwrpas ein trethi. Ac o ran gweddill eich cyfraniad—o, Tom, mae'n ymddangos bod ymdrechion y Torïaid i symud y naratif tuag at 20 mya yn ddihysbydd, ond roeddwn yn falch fod Heledd wedi ymyrryd i ofyn a yw'r Torïaid yn credu bod gan y Llywodraeth hon unrhyw rôl i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Os byddwn yn parhau i ddim ond gyrru, byddwn yn gyrru ein hunain dros y dibyn. Nawr, mae hon yn ddadl ddifrifol ac rwy'n credu ei bod yn haeddu gwell na'ch ymgais i'w throi'n ôl at ddadleuon eraill drwy'r amser.
Soniodd Cefin am ardaloedd cefn gwlad, sydd heb gysylltiadau trenau ac sydd yn ddibynnol ar fysys. Mynnodd Cefin wybod pam nad oedd mwy o arian cyfatebol sydd ar gael yn mynd i fysys. Fel yr oedd e'n dweud, mae cysgod Beeching ar yr ardaloedd hynny yn hir, ac ar ein gwlad. Dim ond trwy gael pwerau llawn, soniodd Cefin, y bydd sicrwydd o gael y buddsoddiad angenrheidiol yn ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae ein trenau ni i gyd, neu'n traciau ni i gyd, yn rhedeg i wlad arall—y traciau mawr. Mae'n amser i ni gael ffordd newydd, yn sicr.
Nawr, rhannodd Carolyn ei straeon am ei phrofiad o drenau gorlawn, trenau sydd wedi torri, wedi'u canslo a'r oedi cyn cyflwyno trenau newydd a'r ffordd y mae hynny wedi bod yn ddigalon i lawer o'i hetholwyr. Ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Carolyn, fod rheoli disgwyliadau'n bwysig, ond roedd hi'n canmol cymwynasgarwch staff ar blatfformau. Ac unwaith eto, nododd y modd y mae diffyg cyllid yn cael effaith niweidiol ar ein rheilffyrdd.
Rhannodd Siân atgofion o'i bywyd ar y trenau, gan gynnwys y cacennau mwd—rwy'n meddwl roeddwn i'n arfer creu cacennau mwd yn yr ardd, ac mae'n debyg roeddwn i'n arfer eu taflu nhw wrth wal y tŷ a byddai mam yn mynd yn wallgof am y peth. Ond esgeulustod y wladwriaeth Brydeinig sydd wrth wraidd ein problemau, fel y soniodd hi. Dyna ddigwyddodd gyda Beeching a dyna beth sy'n digwydd hyd at bolisïau heddiw. Roeddwn i'n rili hoffi'r trosiad yma—neu beth bynnag ydy 'simile' yn Gymraeg—mae cael dim ond rhai pwerau yr un peth â cheisio creu cacen gyda hanner y cynhwysion—neu gacen fwd. Roeddwn i'n rili hoffi'r simile hwnnw.
Rhannodd Janet ei hatgofion â ni hefyd, a dywedodd fod trenau'n ffordd lawer gwell o deithio pan fo'r trenau'n rhedeg. Rwy'n cytuno â chi. Er, o brofiad Janet o fod ar drenau poeth heb droli, na Wi-Fi, na thoiledau sy'n gweithio—mae hynny'n digwydd yn rhy aml. A chododd yr angen am wasanaethau sy'n rhedeg yn hwyrach gyda'r nos.
Nawr, nododd y Dirprwy Weinidog pam fod £125 miliwn ychwanegol wedi'i fuddsoddi yn Trafnidiaeth Cymru, gan nodi bod COVID wedi arwain at golli twf refeniw. Rwy'n cwestiynu felly pam na chafodd y ffigurau hynny eu diwygio'n gyflymach, oherwydd, fel y dywedodd Carolyn, mae rheoli disgwyliadau'n hanfodol gyda rhywbeth fel hyn. Ond rwy'n cytuno, mae preifateiddio wedi methu, a dyna pam mae angen i'r system newydd hon weithio. Roedd yn drueni clywed na fydd y targed o 95 y cant yn cael ei gyrraedd erbyn 2024, ond erbyn diwedd 2024, ond rwy'n edrych ymlaen at weld y trenau newydd hynny pan fyddant yn dod. Roeddwn yn aros i weld pwy fyddai'r cyntaf i ddefnyddio'r ymadrodd, 'Rydym ar daith' yn y ddadl hon, felly roeddwn yn falch ein bod wedi'i gael gan y Dirprwy Weinidog.
Nawr, dywedais yn gynharach, Lywydd—[Torri ar draws.] Ydym, rydym ar y llwybr cywir. [Chwerthin.]
Taro'r byffer.
Maen nhw'n llifo. [Chwerthin.] Wrth i'r griddfan ddechrau, rwyf am ddirwyn i ben. Dywedais yn gynharach, Lywydd, cyhyd â bod gwlad arall yn gosod y cyfyngiadau ar ein polisi trafnidiaeth, bydd Cymru'n sefyll yn ei hunfan. Nawr, mae angen inni sicrhau bod Cymru, er enghraifft, yn cael y £8.6 miliwn o'r cyhoeddiad ar gyllid bysiau yr wythnos diwethaf. Mae'r Trysorlys wedi honni nad yw hwnnw'n ddyledus i ni. Mae arnom angen setliad ariannu sy'n seiliedig ar angen, sy'n bwynt y mae Ben Lake a llawer o rai eraill wedi bod yn ei wneud. Nid yw'n rhy hwyr i ni weithredu, i hawlio'r pwerau hynny i ni ein hunain, i sicrhau na fydd sgandal arall fel HS2, a sicrhau mai ni sy'n penderfynu i ba gyfeiriad rydym yn mynd, fel y gallwn gymryd y camau cyntaf hirddisgwyliedig hynny o'r diwedd. Terry Pratchett a ddywedodd
'Mae pob cam yn gam cyntaf os yw'n gam i'r cyfeiriad cywir.'
Ac rydym yn gwybod pa gyfeiriad sy'n iawn i ni. Nid wyf eisiau i Gymru orfod aros am y trên olaf mewn gorsaf bengaead ar reilffordd i unman. Ni allwn aros i'r trên hwnnw ein gadael ar y platfform. Ar ein llwybr presennol, bydd Cymru'n parhau i ddibynnu ar wasanaethau sy'n hwyr, yn orlawn neu'n cael eu canslo. Rydym ar daith i unlle. Fel cenedl, mae'n bryd inni gymryd ein cam cyntaf nesaf, y cam anochel nesaf. Mae'n bryd inni newid ein llwybr; mae ein cyrchfan yn aros amdanom ni.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni ohirio'r pleidleisiau ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni symud yn syth i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais honno ar eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddata perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. [Anghlywadwy.] O blaid 14, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—Data perfformiad adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 sydd nesaf yn enw Lesley Griffiths, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Agor y bleidlais ar welliant 1. [Anghlywadwy.] Ac felly, fe fydda i yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1, sydd yn golygu bod 26 o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn, ac mae gwelliant 1 wedi cwympo.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 fydd nesaf, felly, yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yma eto'n gyfartal, felly 26 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw. Ac felly, mae 26 o blaid, 27 yn erbyn y gwelliant. Mae gwelliant 2, felly, yn cael ei wrthod.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 3, eto yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.]—ac felly mi fyddaf i'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 3. Dau ddeg chwech o blaid, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Mae gwelliant 3 wedi ei wrthod. Ac felly mae'r holl welliannau a'r cynnig wedi eu gwrthod o dan yr eitem yna.
Eitem 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig. Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Heledd Fychan: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Ac felly mae'r holl welliannau a'r cynnig wedi eu gwrthod o dan yr eitem yna.
Fe fyddwn ni'n symud ymlaen, felly, i ddadl Plaid Cymru ar drafnidiaeth, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan. Agor y bleidlais. [Anghlywadwy.]—gyfartal, 26 o blaid, 26 yn erbyn. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn y cynnig, ac felly mae'r cynnig heb ei ddiwygio wedi ei wrthod o 26 i 27 pleidlais yn erbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru—Trafnidiaeth Cymru. Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y cynnig
Gwelliant 1 fydd nesaf, felly, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal: 26 o blaid, 26 yn erbyn. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 1, ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod o 26 i 27 pleidlais.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Y bleidlais nesaf fydd pleidlais ar welliant 2 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yn gyfartal. Dwi'n defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 2, ac felly canlyniad y bleidlais yna yw 26 o blaid a 27 yn erbyn.
Eitem 7. Dadl Plaid Cymru. Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 26, Yn erbyn: 26, Ymatal: 0
Gan fod nifer y pleidleisiau yn gyfartal, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii).
Gwrthodwyd y gwelliant
Felly, mae'r holl welliannau a'r cynnig wedi eu gwrthod dan yr eitem yna hefyd, ac felly dyna ddiwedd ein cyfnod pleidleisio ni am heddiw.
Ond nid dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw, ac mi fyddwn ni'n symud ymlaen yn awr i'r ddadl fer. Huw Irranca-Davies sydd i gyflwyno'r ddadl fer hynny.
Os caf fi ofyn i'r Aelodau adael y Siambr yn dawel. Mae gennym un eitem o fusnes i'w chwblhau o hyd, sef y ddadl fer. A gall Huw Irranca-Davies ddechrau'r ddadl fer honno pan fydd yn credu bod y Siambr yn ddigon tawel iddo wneud hynny.
Diolch, Lywydd. Ac os caf fi, yn y ddadl fer hon, rwyf wedi rhoi amser i Joyce Watson ac i Mark Isherwood ar y diwedd. Hoffwn ddechrau drwy ailadrodd geiriau Fran o Bentre'r Eglwys ym Mhontypridd, a ymddangosodd yn ein grŵp trawsbleidiol yn ddiweddar. Mae hi wedi profi strôc ei hun. Dywedodd wrth y grŵp:
'Fe ddeffrais ac roedd fy wyneb yn teimlo'n od. Cefais ddiod bach ac roedd yn diferu i lawr fy wyneb, ond ni feddyliais ragor am y peth. Roeddwn yn meddwl fy mod wedi blino, felly euthum yn ôl i gysgu, am nad oeddwn eisiau bod yn ddramatig a tharfu ar fy ngŵr a fy mhlant. Pan ddeffrais yn y bore, euthum i lawr y grisiau. Ceisiais siarad â fy ngŵr, ond ni ddeuai unrhyw eiriau allan. Ceisiais siarad sawl gwaith, ond yna fe gefais bwl o banig. Roedd arnaf ofn ac nid oedd gennyf syniad beth oedd yn digwydd i mi.'
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Ac felly y dechreuodd taith Fran drwy strôc a bywyd ar ôl strôc. Mae strôc Fran wedi ei gadael gydag affasia, sy'n effeithio ar ei chyfathrebu ac sydd hefyd yn ei gadael wedi blino. Cawsom y fraint o gael Fran yn rhannu ei phrofiad gonest ac agored, ei stori, gyda ni yn y grŵp trawsbleidiol a ailgynullwyd yn ddiweddar, ac y caf y fraint o'i gadeirio gyda fy nghyd-Aelod Altaf Hussain yn is-gadeirydd. Ac mae'n gam arall ymlaen, wrth ailgynnull y grŵp hwn, tuag at godi ymwybyddiaeth o strôc, gwrando ar rai sydd wedi goroesi strôc a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gweithredu'r prawf wyneb, braich, lleferydd (FAST), ffonio 999 os ydych chi'n sylwi ar symptomau, a dyna fydd ffocws fy nadl heddiw.
Felly, mae'r ddadl heddiw yn canolbwyntio ar Act FAST a hefyd y fersiwn Gymraeg ohono, sef ymgyrch Cam NESA yng Nghymru. Mae'n fenter allweddol i godi ymwybyddiaeth o arwyddion strôc a beth i'w wneud os ydych chi'n credu bod rhywun wedi cael un.
Nawr, fe wyddom fod strôc yn gyflwr gwanychol. Mae'n effeithio ar filoedd o fywydau bob blwyddyn. Felly, mae ein hymdrechion i'w atal, ei ganfod, ymateb yn gyflym a'i reoli yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Ar hyn o bryd mae tua 70,000 o bobl yng Nghymru wedi goroesi strôc, yn ôl cofnodion eu meddygfeydd. Rwy'n adnabod sawl un fy hun.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhagweld cynnydd o 50 y cant yn nifer y bobl sy'n goroesi strôc dros y ddau ddegawd nesaf, felly, mae'n wirioneddol hanfodol ein bod yn gweithredu i atal strôc, i ganfod y cyflyrau risg uchel cyn gynted â phosibl ac i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl. A dyma lle mae ymgyrch Act FAST/Cam NESA yn bwysig. Ers ei sefydlu yn 2009, mae ymgyrch FAST y GIG wedi arwain at ganlyniadau trawiadol iawn. Mae wedi darparu miloedd o driniaethau thrombolysis, blynyddoedd bywyd wedi'u haddasu o ran ansawdd a thua £9 ar fuddsoddiad am bob £1 o wariant ar y cyfryngau. Mae'n dyst i bŵer ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd mewn gofal iechyd.
Ac ar fater ymateb cyflym i strôc am eiliad, fe wyddom fod triniaeth feddygol gynnar ar gyfer strôc nid yn unig yn achub bywydau, mae hefyd yn cynyddu'r cyfle i wella. Strôc yw pumed prif achos unigol marwolaeth yng Nghymru; dyma brif achos unigol anabledd cymhleth. Felly, mae oedi cyn cael triniaeth ar gyfer strôc yn lladd celloedd yr ymennydd ac yn anffodus, gall fod yn angheuol. Dyna pam ei bod yn bwysig gweithredu'n gyflym.
Roedd 'Adolygiad cenedlaethol o lif cleifion: taith drwy'r llwybr strôc', a gyhoeddwyd ym mis Medi, yn archwilio profiadau pobl sy'n cael mynediad at ofal a thriniaeth strôc ar bob cam, o ffonio'r ambiwlans, trosglwyddo i'r ysbyty, asesu, triniaeth cleifion mewnol, hyd at ryddhau o'r ysbyty, ac roedd yn cydnabod—roedd hynny'n cydnabod go iawn—fod y system gofal iechyd, fel y clywn yn aml yn y Siambr hon, yn wynebu galw sy'n fwy na'i allu i gyflawni ar hyn o bryd. Yn ystod gwaith maes Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, roedd bron bob un o'r ysbytai yr ymwelwyd â nhw'n gweithredu o dan bwysau eithafol lefel 4 yn y cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer uwchgyfeirio ac isgyfeirio pwysau argyfwng.
Ac mae'r galw cynyddol hwn yn effeithio ar allu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ymateb yn brydlon i alwadau brys, er gwaethaf ymdrechion arwrol timau llif cleifion mewn ysbytai ledled Cymru, sy'n gweithio'n ddi-dor i geisio gwella llif cleifion. Arsylwadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru oedd bod heriau llif cleifion yn effeithio'n negyddol ar bob cam o ofal strôc, ac roedd yr effaith hon yn ymestyn o'r angen cychwynnol am ofal iechyd gartref hyd at y pwynt rhyddhau o'r ysbyty. Fodd bynnag, roedd yn gadarnhaol canfod bod cleifion yr amheuid eu bod wedi cael strôc yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer trosglwyddiadau ambiwlans—dyma a welsant—i adran argyfwng yn brydlon yn unol â'r llwybr strôc. Felly, hyd yn oed o dan bwysau, maent yn ceisio gwneud y peth iawn. Canfuwyd hefyd fod adnabod strôc a'i atal yn faes allweddol sydd angen sylw ledled Cymru. Mae angen i ddarparwyr gofal iechyd y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wneud mwy i addysgu pobl am strôc, sy'n dod â ni'n ôl at FAST a Cam NESA.
Felly, drwy gydol mis Ebrill a mis Mai 2023, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ymgyrch Act FAST/Cam NESA. Defnyddiodd lwyfannau fel y teledu, radio, cyfryngau cymdeithasol. Cyrhaeddodd filiynau o bobl ar draws Cymru. Rydym yn gwybod hynny; mae wedi cael ei ddadansoddi. Cafodd hysbysebion teledu dwyieithog eu dangos ar ITV Wales ac S4C, a chawsant eu gweld dros 5 miliwn o weithiau. Roedd hysbysebion radio a hysbysebion fideo-ar-alw hefyd yn fyw yn ystod y cyfnod hwn. Cawsant eu gweld 10 miliwn o weithiau ac ychydig o dan 310,000 o weithiau yn y drefn honno. Aeth hysbysebion Act FAST yn fyw hefyd ar Facebook ac Instagram, gan gyrraedd 1 filiwn o bobl ledled Cymru. Go brin fod unrhyw un heb weld yr ymgyrch hon, ac roedd yr effaith yn glir. Dywedodd bron i 90 y cant o'r boblogaeth a arolygwyd wedi hynny eu bod yn deall pwysigrwydd deialu 999 pan fyddant yn gweld arwyddion strôc; roedd dros draean wedi gweld cyfathrebiadau'r ymgyrch; ac roedd y prawf FAST yn gyfarwydd i bron 80 y cant o'r ymatebwyr. Roedd gwybodaeth am lythrennau unigol yr acronym hefyd yn gyson uwch na 90 y cant: felly, wyneb, breichiau, lleferydd ac amser.
Neu, yn Gymraeg, nam ar yr wyneb: a yw’r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw’n gallu gwenu? Estyn: ydyn nhw’n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a’u cadw yno? Siarad: ydyn nhw’n cael trafferth siarad? Amser: mae ymateb yn amserol yn hollbwysig. Ffoniwch 999 os ydych chi’n gweld un o’r symptomau uchod.
Cafwyd tystiolaeth go iawn fod pobl wedi deall y negeseuon hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg. Er ei bod yn gadarnhaol gweld y niferoedd hyn a dysgu bod ymwybyddiaeth yn codi, mae'n amlwg o hyd y gellir ac y dylid gwneud mwy ar ymwybyddiaeth a hynny'n amlach ac yn fwy rheolaidd.
Gwnaeth adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o lif cleifion yr argymhelliad canlynol sy'n benodol ar gyfer atal strôc. Roeddent yn dweud y dylai byrddau iechyd ymgysylltu mwy â'i gilydd i ddysgu o'r arferion da ym maes addysgu cleifion sy'n digwydd ledled Cymru. Roeddent yn dweud y gallai hyn helpu gyda'r dysgu a rennir rhyngddyn nhw a chyda meddygfeydd yn lleol i addysgu cleifion yn well am beryglon strôc, er mwyn helpu i leihau nifer yr achosion o strôc ledled Cymru. Ac roeddent yn dweud hefyd y dylai Iechyd Cyhoeddus Cymru ystyried datblygu a hyrwyddo ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o strôc ac atal strôc yng Nghymru ochr yn ochr â'r ymgyrch Act FAST, a dylai hyn gynnwys canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o atal strôc mewn cymunedau du ac ethnig leiafrifol ac effaith anghydraddoldebau iechyd ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Ac roeddent yn dweud hefyd y dylai byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru weithio'n agos gyda chymunedau du ac ethnig leiafrifol a phobl yr effeithir arnynt gan anfanteision economaidd-gymdeithasol i ddeall yn well y problemau penodol y maent yn eu hwynebu gyda'u risg uwch o strôc ac wrth gael mynediad at y gofal ataliol i sicrhau bod ymgysylltiad parhaus â nhw i gefnogi canlyniadau iechyd gwell. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hynny.
Felly, mae'r Gymdeithas Strôc, sy'n cefnogi'r grŵp trawsbleidiol, ynghyd â llawer o bobl eraill, yn galw am ymgyrch Act FAST/Cam NESA bob dwy flynedd yng Nghymru i sicrhau bod pawb yn gwybod y dylid ffonio 999 ar yr arwydd cyntaf o strôc. Yn y pen draw, bydd cynnal ymgyrch FAST yn fwy rheolaidd yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o strôc drwy ymgyrchoedd cenedlaethol a chyda phwyslais arbennig ar ymgysylltu â chymunedau du ac ethnig leiafrifol a'r rhai yr effeithir arnynt gan amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Byddai ymgyrch Act FAST/Cam NESA benodedig bob dwy flynedd yng Nghymru hefyd yn caniatáu amser i gynllunio ac i'r holl randdeiliaid fod yn rhan o'r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau bod arian a roddir tuag at yr ymgyrch yn cael ei ddefnyddio'n dda. Mae'r trefniadau presennol sy'n dibynnu, ar sail ad-hoc fwy neu lai, ar ble y deuwn o hyd i arian dros ben, yn creu anhawster o ran ymgysylltu'n dda â'r holl randdeiliaid ac anhawster wedyn i ddefnyddio'r arian yn fwy effeithiol. Felly, rydym yn cefnogi eu galwadau am ymgyrch i sicrhau ymrwymiad y Gweinidog, yn y cyfnod anodd rydym ynddo, i Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnal yr ymgyrch Act FAST/Cam NESA o leiaf bob dwy flynedd yng Nghymru i sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch FAST, fel yr argymhellwyd gan adolygiad cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o lif cleifion. Ac yn ail i sicrhau bod yr holl randdeiliaid angenrheidiol o'r camau cynllunio cychwynnol a thrwy'r ymgyrch yn cymryd rhan lawn i wneud i'r arian fynd ymhellach.
Felly, ar nodyn terfynol, cyn imi gyflwyno cyd-Aelodau eraill sy'n dymuno cyfrannu, am bob munud na chaiff strôc ei drin, fe wyddom fod hyd at 2 filiwn o gelloedd yr ymennydd yn marw, a pho hwyaf y bydd hyn yn parhau, y mwyaf tebygol ydyw o arwain at niwed parhaol i'r ymennydd, anabledd gwaeth, a hyd yn oed marwolaeth. Felly, os gwelwch yn dda, i unrhyw un sy'n gwrando ar y ddadl hon, dowch i adnabod yr arwyddion a gweithredu'r prawf FAST. Peidiwch â theimlo eich bod yn faich ar y GIG, ac nad ydych am ffonio 999. Peidiwch â theimlo eich bod yn faich ar eich teulu. Mae eich gobaith o oroesi, gobaith eich teulu a'ch ffrindiau o oroesi, yn gwella os ydych chi'n gweithredu'r prawf FAST. Mae gwellhad ac adferiad a'r gobaith o wella yn cynyddu'n gyflym. Gweithredwch FAST. Cymerwch y cam NESA. Diolch yn fawr.
Hoffwn dynnu sylw at un achos yn unig. Oherwydd yr ymgyrch Act FAST y goroesodd yr unigolyn ifanc hwn mor llwyddiannus. Rwy'n credu mai'r un peth a oedd ar goll yw bod strôc yn gallu digwydd i unrhyw un, ar unrhyw oedran. Fe ddigwyddodd yr achos rwy'n mynd i'w roi i chi rai blynyddoedd yn ôl i ŵr ifanc 17 oed a oedd yn ymweld â'i ffrindiau yng Nghaerdydd. Roeddent yn gyfarwydd â FAST. Roeddent wedi gweld yr hysbysebion, ac roeddent yn adnabod y symptomau, er mai dim ond 17 oed oedd y gŵr ifanc. Fe wnaethant ffonio ambiwlans. Cafodd ei gludo i'r ysbyty athrofaol yng Nghaerdydd, lle cafodd driniaeth i dynnu clot. Digwyddodd hynny ar ddydd Gwener. Ar y dydd Llun, roeddwn yn digwydd bod yn ymweld â'r ysbyty a'r uned strôc honno. Cyfarfûm â'r gŵr ifanc dan sylw, cyfarfûm â'i deulu, a chyfarfûm â'r llawfeddygon hefyd. Roedd yn siarad â mi ac roedd wedi cael gwellhad llwyr. Roedd dau beth o'i blaid, ond y peth mwyaf oedd o'i blaid oedd bod ei gyfeillion wedi ymateb i'r hyn a welsant, yr ymgyrch roeddech chi'n sôn amdani ar y teledu, wedi gwrando arni ar y radio, ac nid oeddent yn amau'r hyn a welent, er mai dim ond 17 oed oedd y gŵr ifanc. Felly, rwy'n cefnogi eich galwad am yr ymgyrch, ar ôl gweld bywyd unigolyn ifanc yn cael ei achub a hefyd yn dychwelyd bron iawn i ble roedd yn flaenorol.
Drwy gyd-ddigwyddiad, arweiniais ddadl yma bron flwyddyn union yn ôl ar wasanaethau strôc, lle nodais:
'Mae'r Gymdeithas Strôc hefyd wedi galw am adnewyddu ymgyrch y prawf wyneb, braich, lleferydd, amser'
—y cam NESA—
'gan Iechyd Cyhoeddus Cymru... i wella ymwybyddiaeth o symptomau strôc ac annog y rhai sy'n profi'r rhain i ffonio 999 cyn gynted â phosibl. Mae gweithredu'n gyflym yn rhoi'r cyfle gorau i'r person sy'n cael strôc oroesi a gwella',
gan ychwanegu bod yr ymgyrch FAST wedi'i chynnal ddiwethaf yng Nghymru yn 2018, ond fe'i cynhaliwyd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2021, a chanfu dadansoddiad o'r ymgyrch yn Lloegr ei bod yn gosteffeithiol iawn.
Ym mis Mehefin, ymwelais â grŵp strôc Bwcle gyda'r Gymdeithas Strôc i ddysgu am eu profiad o strôc, ac wedi hynny fe wneuthum dynnu sylw at y materion y gwnaethant eu codi gyda mi. Ar ôl ymuno â'r grŵp trawsbleidiol ar strôc a gyfarfu yn gynharach y mis hwn, ac a lansiodd yr ymgyrch yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymrwymo i gynnal ymgyrch FAST reolaidd, rwy'n falch iawn o gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr a'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Rwy'n falch ei fod ef ac Altaf Hussain wedi ailsefydlu'r grŵp trawsbleidiol hwnnw, fel diolch am ymgymryd â hynny.
Strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru. Mae'n brif achos anabledd, ac mae'n newid bywydau mewn amrantiad. Mae wedi bod yn uchel ar yr agenda yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n croesawu'r cyfle unwaith eto i daflu goleuni ar bwnc pwysig iawn yn fy marn i. Gyda'r cymorth arbenigol cywir, gall pobl wella'n dda, a mynd ymlaen i ailadeiladu eu bywydau yn dilyn strôc. Ond fel y sonioch chi, mae amser yn hollol allweddol. Nid yw oedi cyn cael asesiad, diagnosis a thriniaeth i'w oddef ac mae'n arwain at ganlyniadau gwaeth. Weithiau nid yw pobl yn adnabod symptomau strôc, neu maent yn eu diystyru. Gall hyn arwain at oedi difrifol cyn cael triniaeth a all achub bywydau, neu atal neu gyfyngu ar ddifrifoldeb strôc neu anabledd sy'n gysylltiedig â strôc. Mae codi ymwybyddiaeth o arwyddion strôc a chynyddu gwybodaeth am strôc fel argyfwng meddygol yn faes allweddol y mae'n rhaid inni barhau i ganolbwyntio arno, gan ddefnyddio ymgyrchoedd fel ymgyrch FAST. Nawr, dangosodd y gwerthusiad o'r ymgyrch FAST—fe gyfeirioch chi at hyn yn eich cyfraniad—a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gynharach eleni, fod mwy o bobl yn adnabod yr acronym FAST ar ôl yr ymgyrch honno, ac yn deall pwysigrwydd deialu 999 pan welant arwyddion strôc. Felly, rwy'n gefnogol iawn i'r ymgyrch hon gael ei rhedeg mewn ffordd gynaliadwy, ac mae'n rhaid i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i ffordd o wneud i hyn ddigwydd. Ond fe wyddoch ein bod mewn cyfnod o bwysau digynsail ar gyllidebau Llywodraeth Cymru, felly mae'r byrddau iechyd yn wynebu penderfyniadau anodd tu hwnt i leihau'r diffygion a ragwelir. Ond nid wyf yn credu y gallwn gilio rhag y gwirioneddau hynny.
Ond gadewch imi droi at bwynt pwysig atal. Nawr, cyfarfûm yn ddiweddar â thîm y rhaglen strôc genedlaethol, a'r Gymdeithas Strôc, a synnais ganfod bod modd atal cynifer â naw o bob 10 strôc. Felly, er bod sicrhau bod cleifion strôc yn cael eu trin yn gyflym yn allweddol, gyda chost bresennol strôc i'r GIG yn £220 miliwn y flwyddyn, a bod disgwyl i nifer y bobl sy'n goroesi strôc gynyddu 50 y cant yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, mae'n hanfodol fod strôc yn cael ei atal yn effeithiol lle bo hynny'n bosibl, a bod cyflyrau risg uchel, fel pwysedd gwaed uchel a ffibriliad atrïaidd yn cael eu canfod a'u rheoli'n effeithiol.
Fe wyddom nad yw canlyniadau'n gyfartal i bawb, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi rhoi sylw i gyrraedd y gymuned ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Ac mae Llywodraeth Cymru yn rhoi camau ar waith yn drawslywodraethol i roi sylw i benderfynyddion cymdeithasol iechyd, ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, yn enwedig yn y gymuned ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Mae ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', er enghraifft, yn nodi ein gweledigaeth i leihau anghydraddoldebau deiet ac iechyd ar draws y boblogaeth, ac rydym yn parhau i hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, gan gynnwys annog pobl i gyrraedd a chynnal pwysau iach a bod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i'n model presennol ar gyfer rheoli strôc newid os ydym yn mynd i wireddu'r nodau a bennwyd yn y datganiad ansawdd ar gyfer strôc, a gyhoeddais yn 2021. Nawr, y newyddion da yw bod gwaith yn mynd rhagddo'n dda iawn ar ddatblygu'r model cynhwysfawr ar gyfer canolfannau strôc ranbarthol, ond rwy'n credu ei bod yn deg dweud na fydd hyn yn digwydd dros nos. Mae'r gwaith ar ddatblygu'r model hwn yn gymhleth, ond mae'n rhoi cyfle i edrych ar atebion rhanbarthol, ac i ystyried pethau fel natur wledig ardaloedd—a bydd gan Joyce Watson ddiddordeb arbennig yn hynny—a mynediad at wasanaethau, yn ogystal â'r angen i ddatblygu model gweithlu cynaliadwy. Rwy'n credu bod gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gweithlu yn hanfodol i ddyfodol gofal strôc effeithiol yng Nghymru.
Rwy'n credu bod datblygiadau digidol arloesol a chyffrous iawn yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru i wella'r llwybr strôc. A'r wythnos diwethaf, aeth technoleg deallusrwydd artiffisial arloesol yn fyw ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, gyda byrddau iechyd eraill, ac maent yn mynd i symud ymlaen i ddefnyddio'r dechnoleg hon yn ystod y misoedd nesaf. Felly, mae hyn yn cyflymu'r broses o gael diagnosis o strôc, gan helpu clinigwyr i wneud penderfyniadau clinigol cyflymach a nodi triniaethau priodol yn gyflym. Hefyd, mae ap brysbennu rhithwir cyn-ysbyty yn cael ei dreialu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ac mae'n profi'n llwyddiannus iawn wrth leihau oedi yn y llwybr strôc. A'r hyn a wnânt yw osgoi adrannau damweiniau ac achosion brys, a mynd â chleifion yn syth i'w sganio i gadarnhau diagnosis o strôc a chyflymu triniaeth. Ac mae hyn yn mynd i gael ei ddefnyddio ar draws Cymru nawr. Felly, rwy'n credu bod hyn yn wirioneddol dda. Dyma'n union y buom yn gofyn amdano. Bydd technoleg yn ein helpu yma.
Felly, yn ddiweddar, cafodd claf y tybid ei fod wedi cael strôc ei asesu gan barafeddyg, a ymgynghorodd ag arbenigwr strôc drwy'r ap Visionable. Roedd y penderfyniad asesu a thriniaeth cychwynnol a wnaed drwy fideo yn yr ambiwlans yn golygu bod clinigwyr wedyn yn gallu trefnu i'r claf gael sgan ymennydd o fewn hanner awr iddo gyrraedd, heb unrhyw oedi yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Felly, mae pethau'n symud yn eu blaenau. Rwy'n credu bod hynny'n eithaf cadarnhaol. Mae yna ffordd bell i fynd, ac mae angen inni gyflwyno hynny ar draws Cymru.
Nid wyf yn tanamcangyfrif yr heriau sydd o'n blaenau, ond rwy'n hyderus y bydd y gwaith sy'n cael ei arwain gan yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc, Dr Shakeel Ahmad, mewn cydweithrediad â sefydliadau'r GIG, a'r Gymdeithas Strôc yn benodol, sy'n gwneud gwaith gwych, yn mynd â ni i'r cyfeiriad cywir i gyflawni'r nodau a bennwyd yn y datganiad ansawdd.
Ac fel y dywedodd Joyce, mae'n berthnasol iawn i bobl o bob oed, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig, pan fydd strôc yn digwydd, fod cyfle gwych i oroesi a dychwelyd i fod yn annibynnol cyn gynted â phosibl. Y cyhoedd yw ein partneriaid, ac mae'n bwysig eu bod yn gallu adnabod arwyddion a symptomau strôc yn glir, ac felly rwy'n cefnogi ymgyrch FAST, ac mae gennyf ddiddordeb mewn sicrhau y gallwn gydweithio â phartneriaid i archwilio cyfleoedd i weld sut a phryd y gallwn redeg yr ymgyrch honno eto gyda'n gilydd yn y dyfodol. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog a diolch i Huw Irranca-Davies am y ddadl hon. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:50.